DEFFYNNIAD FFYDD Eglwys Loegr.
HIr a hen yw‘r cwyn er yn amseroedd cyntaf y Patrieirch a'r Prophwydi, wedi ei gynnal drwy Scrifenadeu a Thestiolaetheu pob oes,Tertul. in Apolog. fod y Gwirionedd yn crwydro mal estron yn y byd hwn, ag ymhlith ei anghydnabod yn hawdd iddo gael gelynion a cham gyhyddwyr. Yr hyn beth er na choelia rhyw rai ysgatfydd, od oes rai ni ddaliassant graff sylw arnaw (yn gymaint a bod holl rywiogaeth dyn o wir Naturiaeth ag o'i waith eu hunan heb Athro, in ymgais a'r Gwir: a Christ eyn Prynwr pan oedd ef yn byw ymmysc dynion, yn mynnu ei alw y Gwirionedd, fegis henw cymhwyssaf iddo, i ddangos ag i ddeongl ei holl nerth Duwiol) Nyni er hynny, ysawl a'marferassom a'r Scrythurau glan, ag a ddarfu ini ddarllen, a gweled beth a ddamweiniodd i bawb duwiol agos ymhob amser: i'r Propwydi, i'r [Page 2] Apostolion, i'r Merthyron sanctaidd, i Grist ei hun, pa fodd y rhegwyd, y goganwyd, ag y cablwyd nhwy, yn vnig er mwyn y Gwir; ydym yn cydnahod nad ydyw hyn yr vn o'r ddau nog yn beth newydd nag yn anhawdd ei goelio, eythr o ddechreu [...]d byd yn gymeradwy ag yn arferedig. Ie rhyfeddach o lawer ag anhowsach ei goelio fydde,Ioan. 8. ped fai Lad y Celwyddau a gelyn pob gwirionedd (y Cythrel) yr awr hon yn y diwedd, ag yn ddi-symmwth wedi newidio ei hen gyfrwysdra, gan obeithio allu ohonaw mewn modd amgēach na thrwy ddoedyd celwydd orchfygu'r Gwir, Neu geisio o honaw yrowron gadarnhau ei deyrnas drwy ddicheilion eraill ag amgen nag a arferasseu ef erioed hyd heddiw.
Canys er pan oes cof am ddim, braidd i medrwn gael vn amser, nag wrth gynnydd cyntaf y ffyd, nag yn ei gwastadfod, na chwaith ym mhryd ei had gyfodiad, yn yr hyn ni wnawd llwyr-gam trahaus a'r Gwir, ag a Gwiriownder. Herwydd diau fod Diawl yn gwe [...]ed nad di-ogel iddo ef, ag na ddichyn ga [...]w'r elddo, tre fo'r Gwir [...]wn diogelwch.
Am hynny na rhoem na chrybwyllem am yr h [...]n [...]ch a'r Prophwydi, y rhai ni threigiailem un darn oi heinioesyn [Page 3] rhydd oddi wrth gam-ogan adycban: Nyni a wyddom ddarfod i rai yn yr amseroedd gynt,Cornel. Tacitus. ddoedyd a phregethu yn gyffredinawl, fod yr hen lddewon, (y rhai nid amheuwn nad oeddynt addolwyr yr vnig ar gwir Dduw) yn addoli y naill ai Hwch ai Assyn yn lle Duw, Tertul. in Apolog. cap. 7. C. Plinius. ag nad ydoedd ei holl grefydd nhwy ddim amgen onid erch yllddirmyg a di-ystyrwch ar bob Duwiolaeth. Ni a wyddom pan oedd mab Duw a'n Prynwr Ieso Grist yn dyscu'r Gwir i ddynion, gael o honaw ef ei gymeryd yn Hudol, yn gyfareddwr, yn Samaritan, Ioa. 7.9.10 Mar. 11. yn Beelzebub, yn Dwyllwr y bobl, yn feddwyn, ag yn fwyttawr.
A phwy ni wyr beth a ddoetpwyd gynt am Sainct Paul (ydoedd owchysaf bregaethwr a diball gynhaliwr y gwir) fod honaw weithieu yn ddyn blin cyffrous yn codi terfysg, ag yn gwneuthyr gwrth-ryfel, weithieu ei fod ef yn Heretic: weithieu yn ynfyd?Act. 26. Epiphanius. ag withieu eraill o wir gynnen a chyndynrwydd yn cablu cyfraith Dduw ag yn dirmygu deddfau yr hen dadeu: Hefyd, pwy ni wyr pa fodd y gwnaethpwyd a S. Stephā yr hwn pan ddaroedd iddo a llawn ag a llawen enaid gofleidio 'r Gwirionedd, a dechre onaw ef, fal y dyle, ei bregethu yn hy-lwyb'r ai ossod allā yn ddihafarch, ef a alwyd yn y [Page 4] fan i gymeryd barn am ei hoedl, megis vn a ddoedasse Drawsder a thraha yn-nerbyn y Gyfraith, yn nerbyn Moyses, ynerbyn y Dem'l eg yn-nerbyn Duw? Neu pwy nis gwyr fod rhai yn yr amseroedd gynt a roent ogan,Marcion ex Tertull. gan ddoedyd fod oferedd yn y Scrythur lan a'i bod yn cynnwys petheu amlwg amrafaelus ag yngwrthwyneb eu gilidd?Ælius c Lactant. A bod Apostolion Crist bob vn yn ymrysson ar llall, a Phawl yn anghymmod a nhwy i gyd? Ag er nad adroddom y cwbl (herwydd hynny fydde anniben) pwy ni wyr pa wawd a gwradwydd a wnaed am ben eyn teidiau ni yrhai a ddechreuassant gyntaf gyd-addef a chymeryd arnynt enw Crist gan haeru arnynt gydfwriadu wrthynt eu [...]unain,Eusebius lib. 5. cap. 2 Tertull. in Apollog. 3.1.2.3. & 7.8.9. ag ymgynghori yn ddirgel yn nerbyn stad y deyrnas, ag o ran hynny eu bod nhwy yn mynych gyfarfod cyn lliw dydd yn y tywyllwch i ladd plant ieuaingc, i ymlenwi a chig dynnion, ar ddull anifeiliaidd i yfed eu gwaed: Yn y diwedd, fod eu harfer o ddiffoddi'r canhwylleu a gwneuthyr godineb yn eu mysc eu hunainLlosc-ach. a gwarthus affendid y naill ar llall, brod yr yn gorwedd gida'u chwiorydd, meibion gida'u mammeu, heb perchu gwaed na charennydd, beb genthyn ddim math ar grefydd, na dim [Page 5] meddwl am Dduw, cas elynion rhywiogaeth dyn; na ddylent gael gweled goleu'r dydd, na ddylēt gael byw yn y byd: yr holl gam weddau hyn a haerwyd gynt ar dylwyth Dduw ar Grist Iesu, ar Bawl Apostol, ar Stephan, ar bawb o'r sawl bynna'g yn y derhreuad a dderbyniassent wirionedd yr Efengyl, ag oeddynt fodlon adel eu henwi'n Gristnogion,Tertul. in Apolog. cap. 3. yr hwn ydoedd henw d [...]gon atcas y pryd hynny ymblith y cyffredin; ag er nar oedd y petheu hyn yn wir, etto yr oedd Diawl yn tybied may digon fydde iddo ef allu peri coelio eu bod hwy yn wir a chashau o bawb y cristnogion, a cheisio eu dihenydd yn hollawl. Am hynny wedi gyrru'r fath chwedleu ar rhain ym-mhenneu Brenhinoedd a Thwysogion, nhwythau a laddassant Brophwydi Duw heb adel i'r vnddianc: Esai a farnwyd iw ladd a llif: Hieremias a cherrig: Daniel, ymhlith Llewod: Amos, a throssol hayarn: Pawl, a chleddyf: a Christ, ar y Groes:Sueton: Tranquil. in Nerone. ag a fwriwyd yr holl Gristnogion i Garcharoedd; i boenau tostion, i Grogprennieu; iw taflu bendra mwnwgl i lawr o gribau creigieu, o fanneu vchel, ag o ffaeneu elltydd; iw difa a'u llarpio gan anifeiliaid gwylltion: iw llosgi; ag a wnaed dan-llwythi mowrion o dan o'i cyrph [Page 6] byw nhwy, yn vnig er rhoddi goleuad liw nos, ag o wir watwarwch arnynt: heb wneuthyr bri amgenach onynt, no'g o'r sorod gwaethaf, llysnafedd bryntaf, a phetheu gwatwargerdd yr holl fyd. Llyma (fal i gwelwch) y triniwyd yn oestadol Athrawō ag addefwyr y Gwir. Oherwydd pa ham, Nyni y sawl a gymerassom arnom goel a chyfaddef Efengyl Crist, a ddylem sod yn hannerewynach gennym os trinijr ni yn yr vn modd ā yr vn achos: A'n bod ni heddyw fal eyn tadeu gynt, yn cael eyn herlid a gogā, ymserthiadeu, ag a chelwyddau: a hynny nid trwy haeddedigaeth o'r eiddym eyn hū eithr yn vnig am eyn bod yn adrodd ag yn addef y Gwir. Yrydis yn llefain yn groch arnō heddiw ym hob man eyn bod ni y gyd yn Hereticiaid, ddarfod i ni ymwrthod a'r ffydd, a thrwy goel newydd, ag athrawieth annuwiol, wahanu cytundeb yr Eglwys: eyn bod ni yn dwyn drach gefn ag yn adgyfodi o vffern, yr hen heresiau a farnessid ag a fwriessid er ys llawer o amser: a'n bod ni yn gossod allanCam-blei dicu. Sectæ ag yn hau gwreichion llid a chynnennau, na chlywyd erioed o'r fath: fod o honom eusys wedi eyn gwahan yn blediau, ag yn argoeliadeu. gwrthwyneb iw gilidd: a methy gennym erioed etto mewn modd yn y hyd gytuno yn eyn mysc eyn hunain: eyn bod ni 'n ddynion [Page 7] melldigedig, ag fal y cowri gynt, vn rhyfela yn-nerbyn Duw ei hun: a'n buchedd, heb na bri na gofal am Dduw: eyn bod yn dirmygu bob gweithred dda: nad oes gennym na dysg na dawd rhinwe [...]d, nachyfreithieu na moesseu, ag nad ym yn gwneuthyr ysturiad ā ddeddfolaeth, nag am drefu nag am iniownder, nag ā gyfiownder: eyn bod ni'n gyllwng y ffrwyn i bod diffeithwch ag yn ā nos y vo [...]l i bob math a 'r rydid ag ālladrwydd: eyn bod ni'n bwriadu ag yn ceisio bwrwi lawr braint llywodraethwyr a brēbinoedd fal y gellid ymchwelyd y cwb'l dā reoledigaeth yr āwadol gyffredin a'r gynlleidfa annyscedig: ddarfod ini gilio mewn cynnwrf a therfysg oddiwrth yr Eglwys gatholic, ag ini o achosYmwahunus ymrwygiad oddiwrthy weledig Eglwys. Scism Cythreulig wneuthyr ymrafael a blinder, drwy'r holl fyd; a thrwy gyffro a thrall [...]d aflonyddy heddwch cyffredinol a thāgneddyf gwastadol yr Eglwys: a megis y gwnaeth Da [...]hā ag Abirō gynt a Moyses ag â [...] Aron, Num. 16. felly ddarfod i ninneu heddiw ymado ag ym neulltuo oddiwrth Bab Rhufain, bob achos cyfiawn yn y byd: nad ydym yn gwneuthyr dim bri o awdurdod yr heu dadeu a'r hen Gymanfa Gynghorau o'r amseroedd gynt: ddarfod ini o wir falchder ag afroldeb ddileu 'rArfer, neu ddefod Eglwysig. Ceremoniæ sanctaidd oeddynt deilwng a chymeradwy gā eyn Tadeu a'n [...]eidie [...] [Page 8] er ys llawer cann mylynedd pan oedd cyneddfeu dynion yn dda, ar byd hefyd yn well nag ydyw yrowron.
A darfod i ni yn ddifadde o'n hawdurdod neulltuol eyn hun heb farn cyssegr Gymanfa-Gyngor benrheithiawl, ddwyn i mewn i'r Eglwys ddeddfodeu newy ddion? a gwneuth yr onom hyn y gyd nid o ran crefydd, erthr o wir awydd i amrafael.
Ond tu-ag-at amdanynt eu hun, doedyd y maent eu bod nhwy heb gyfnewid dim, eithr yn cadw ag yn cynnal er ys llawer oes hyd heddyw; bob peth yn yr vn modd ag y darfuasse ir Apostolion eu rhoddi ag ir hen dadeu gynt eu harfer. A rhag rybied wneuthyr hyn o drin yn vnig er cas a cham-ogan arnom, a bod o wir genfigen wrth ym yn hau hyn mewn congleu a chilfacheu, ef a ddarfu i Babau Rhufain yn ffyrnig iawn denu dan law, wyr digon cymmen ag nid annyscedig y chwaith, i ganhorthwy yr achos efrydd hwn, gan ei drwssiadu ai ossod allan mewn llyfreu a hir ymadroddion, megis drwy 'r fath gymhendod ag odidowgrw ydd iaith, y gellid peri i ddynion annyscedig amheuo fod rhyw beth mawr yn yrachos.
Yn wir nhwy a wybuant fod eu masnach ymhob man yn mynd i lawr, fod pawb [Page 9] yrowron yn gweled eu dichellion, ag yn gwneuthyr llai o fri amdan yn fod eu cymmorth beunydd yn egwanhau, a bod arnynt anghenrhaid am ddadleuydd ymblaid eu hachos. O'r petheu y maent yn eu heuru arnom-mi llawer sydd gelwyddeu dybryd ag fell y wedi cael eu gadel, au bwrw ymmarn y rhai au doedassant; a rhyw fath a'r betheu er bod onynt yn gelwyddeu hefyd, etto mae'r fath liw a llun gwirionedd arnynt, ag y bydd hawdd magly a siommi'r darllenydd anghyfarwydd ynddynt: ag yn enwedig wrth ddarllen cymhleth a chymmendod eu hymadrodd nhwy. Ond rhyw betheu eraill a'r y maent yn eu doedyd amdanom, ydynt o'r cyfryw destyn, na ddylem na'u gwrthod na'u gwadu megis cam-weddau, eithreu haddef a'u cymeryd arnom fal gweithredoedd iownus a chyflownus o wir ystyriaeth. Canis o ddoedyd y gwir ar fyreirieu, goganu y maen-nhwy y cwbl ynom-mi, ie y petheu ni allant wad eu hun nad ydynt v [...]iawn a gweddaidd, a megis na bae ddim yn eu wneuthyr na'u adrodd gennym-mi 'n iawn, y maent o fwriad drwg, yn goganu yr holl eirieu a gweithredoedd eyddom.
Cymwys a f [...]asse gymeryd llwybr vniwnach, a myned yn howddgarach i weithio, [Page 10] od ydoedd vn eu bryd nhwy galyn gwirionedd: eithr yrowron fal rhai nid gwaeth genthyn am wirionedd, nag am foddion ag arferau cristionaidd, gossed arnō yn ffel-ddirgel y maent, ar fedr eyn gwyrthladd grwy nerth cellwyddeu, dan gam [...]droi dalline [...] ag anghyfrwyddyd y bobl, [...]hefyd anwybodaeth Twyssogion, i'n cassau ni ag i orthrechy'r Gwir. Dymma, wele, alluowgrwydd y tywyllwch, a galluowgwrydd gwyr yn rhoi mwy hyder ar hurtrwydd y gynnulleidfa anwybodol ag ar y tywyllwch, nag yn y Gwir a'r goleuni A rhai (fal i mynegodd Sainct Hieronimus) yn doedyd yn amlwg yngwrthwyneb y gwir, ag yn cau eu llygeid o'r gwir gwaith ddioddef rhag gweled. Eithr ni a ddiolchwn i'r goreu a'r goruchaf Dduw fod cystal a chyfryw e [...]n achos ni, yn erbyn yr hyn ni ellent (pan oedd fwyaf eu hawydd) ddoedyd dim gogan, ar nas gellent yn yr vn modd ei droi yn-nerbyn yr hen dadau sanctaidd, ynnerbyn y Prophwydi, yn-nerbyn yr Apostoliō, yn-nerbyn Pedr, yn-nerbyn Pawl, ag yn-nerbyn Crist ei hun. Gan hynny os rhydd iddyn-nhwy fod yn ffraeth ag yn gynunen i ddoedyd drygioni, Nid cymwys i ninneu fod yn fud i wneuthyr gwir-atteb ymhlaid eyn hachos sydd ragorol o ddayōi. [Page 11] Herwydd cāpeu dynion difraw eu huchedd, ag o wir ddiofalwch ag annuwioldeb yn cau eu llygeid wrth wneuthyr cam a henw Duw, ydyw bod yn ddifraw genthyn beth a ddoetter amdanynt eu hun a'u hachos (pe rhoem ai fod yn anwir ag yn gaw-ogan) ag yn enwedig pan fae o'r cyfryw destyn, ag yn yr hyn y gorthrechid goruch-fowredd Duw, a braint crefydd. Canys er gallu o ddyn llariaidd cristnogawl gyd ddwyn a bod heb gymeryd arno gael rhyw gam ar all mawr lawer gwaith, etto 'r neb ni chymero arno wybod y gogan a gaffo o ran Heresi, ni ddichyn hwnnw (medd Ruffinus) fod yn Grestion. Oblegid pa hā, ni a wnawn ninneu yrowron y peth y mae pob cyfraith a gwir leferydd Naturiaeth yn ei erchi, a'r peth a wnaeth Crlst eu hunan yn y cyffelib achos pan ymserthwyd ag ef, fal y gallom fwrw heibio oddi wrthym eu cam gyhuddiad gogangllyd hwynt,Ioan. 8. ag ymddiffin yn gywir ag yn gymhedrol eyn hachos a'n Gwiriondeb eyn hun. Canys, pā ydoedd yr Iddewon yn cyhuddo Crist o Swyngyfaredd, megis fod cymdēithas rhyngtho ef a chythreliaid, a thrwy eu canhorthwy nhwy fod onaw ef yn gwneuthyr llawer o betheu: Nid des (eb ef) Gennyf gychrael, ond yr wyf yn perchi fyn-Nhad, ag yr ydch [Page 12] itheu yn fy amherchi inneu. A phan watwar wyd Pawl megis dyn ynfyd gan Ffestus y Rhaglaw:Act. 26. o arderchoccaf Ffestus (eb ef (nid ydwyfi ynfyd. fal y rwyd ti'n tybied. eithr geirieu 'r Gwirionedd a phwyllineb yr wyfi yn eu adrodd. A'r hen Gristnogion gynt pan gam-gyhuddid nhwy geyr bron y bob'l, o Gelanedd, Godineb,erchyll aflendid. allosc-ach, a'u bod nhwy hefyd yn gwneuthyr terfysg ymhlith y cyffredin: Nhwytheu pan welsant y gellid trw y'r fath ogan ddwyn mewn ammeu ag argywedd y crefydd yr hwn yr oeddynt yn ei addef: yn enwedig os cymryd ernyn dewi a wnaent a hanner cyfaddef y camweddeu hyn:Quadratus, Iustinus, melito. Tertul &c. rhag ofn i hynny rwystro ag afrwyddo ffordd yr Efengyl, nhwy a wnaethant Araithiau ag a scrifennassant lyfreu a llythyreu ymbil gan vfudd attolwg i'r Ymerodreu ag i'r Twysogion ar gael onynt eu hymddiffyn eu hunain a'u cymdeithion yngolwg ag ar osteg y byd.
Ond gan i lawer miloedd o'n brodyr ni o fewn yr vgein mylynedd ymma ddwyn testiolaeth i'r Gwir, a hynny mewn dirfawr boeneu o'r tostaf a'r a ellid en dychymig: A chan i Benrheithiaid drwy fwriadu llawer ffordd, etto fethy ou hamcan ar attal cynnudd yr Efengyl, a bod agos yr [Page 13] holl fyd yrowron yn dechreu egor eu llygeid i weled y goleuni: Ni a allwn wneuthyr cyfri ddarfod i'n hachos ni er ys-dyddiau gael digon o ddadleuad a deffynniad: ag o ran bod yr achos mor eglur-loyw yn doedyd drosto ei hun, nad rhaid i ni bellach wrth y chwaneg o eirieu.
Canys pe bae Pabau Rhufain yn mynny neu'n medry meddylio wrrhynt eu hun am holl gyffwr yr achos ag am ddechreuad a chynnyddiad eyn crefydd ni, pa fodd yn eu herwydd y drwg dycciodd ag y methodd eu holl fasnach nhwy heb neb yn gwahardd iddynt nag yn gwrthladd yr edddynt: or tu arall, pa fodd y llwyddodd ag y cynnyddodd eyn hachos ni o'r dechre, drwy anfodd Ymerodreu, drwy anfodd Brenhinoedd, er gwaethaf Pabau Rhufain, a chan mwyaf heb ddiolch i bawb: pa wedd, fessur ychydig i‘r amlhaodd eyn crefydd ni 'mhob gwlad ag y daeth yn y diwedd i lyssoedd a phalassau brenhinoedd: mi a dybygwn, y dyle hyn y gyd hynodi ag arwyddocau iddynt fod Duw et hun yn ymladd yn eyn plaid ni, ag yn chwerthin o'r Nef amben eu hamcanion hwy: a bod cymaint grym y Gwir, na ddychyn na nerth dynion, na phyrth vffern mo'i ddadwreiddio. Herwydd nid ydynt heddyw ynfydion [Page 14] y gyd, gynnifer o ddinassoedd rhyddion, o frenhinoedd, o dwysogion a'r a giliassant oddi wrth orsedd:fa Rhufain, ag yn hytrrach a'mgyssylltiassant ag Efengyl Crist
Ag er na bu hyd heddyw hamdden na seibiant gan Babau Rhufain i fanwl-ysturio ag i astud feddylio am y petheu hyn, Neu er bod yrowron ryw of alion eraill yn llestair vddynt neu 'n gwascu arnynt: neu eu bod nhwy 'n tybied may di-ystur ag anghyfaddas ydyw i radd a goruchafiaeth y Pab fyfyrio 'r fath fan betheu cyffredinol: erto nid yw hynny resswm pa ham y dyle 'n hachos ni gael tybied yn waeth o honaw. Neu os uhwy ysgatfydd ni fynnant weled y peth y maent yn ei gwbl ganfod namyn gwrthwynebu 'r Gwirionedd amlwg a ddylaem mi am hynny gael eyn gadel a'n galw yn Hereti [...]iad, o ran nad ydym yn rhyngy bodd ag yn ymvfuddhau iw hewyllys nhwy?Pius. 4. Pe buasse 'r Pab Pius, yr vn o'r ddau, na'r fath vn ag y mae efe mor ddirfawr yn chwennychu ei gyfrif, na'r fath vn chwaith a'n cymerasse ni fal ei frodyr, neu or hyn lleiaf fal dynion, ef a wrā dowsai ag a fynnasse holi eyn haddefod a'n hattebion, beth yr oeddym i'n ei ddoedyd, a pheth a ellid ei ddoedyd yn eyn herbyn, ag [Page 15] nid mor ehud trwy gam dyb, barnu a bwrw yn euog (yn ei lythyr o escymundod dan lun Cymanfa Gyngor) y rhan fwyaf o'r byd, cynnifer o ddynion dysgedig Duwiol, cynnifer o ly wodraethau-cyffredin, o frenhinoedd, o Dwysogion, a hynny heb wrando 'n hachos, na gwybod pa ham. Ond gan iddo fal hyn eyn gwneuthyr yn hynod i'r byd, rhag eyn cymryd yn euog os tewi a wnawn, ag yn enwedig gan na chawn er modd yn y byd gael eyn gwrando mewn cymanfa-Gyngor gyffredin, lle ni fyn y Pab fod yn rhydd i neb byw gael adrodd ei feddwl, eithr i'r rhai a dyngant ag a'm rwynant ar gadw ei oruchafiaeth ef: o'r hyn beth ni a gowssom ormod hysbyssrwydd oddi wrth y cymanfa-Gyngor diwaethaf a gynhaliwyd yn-rhef Tridentum, lley caewyd allan o'r Gymanfa, Gennadeu-vrddol a Difinyddiaid y Twysogion a'r Dinassoedd rhyddion o Germania: Ni allwn i y chwaith etto ollwng dros gof ddarfod i Iulius y trydydd Pab o'r henw, er ys mwy no Dengmylynedd, wahardd mewn scrifen arbennig, yn- [...]nad dim, na chae neb o'n ffydd ni ei wrando yn y Cymanfa-Gyngor, oddieithr ryw fath ddyn ysgarfydd a'madawe ag a ddardroe oddi wrth ei grefydd.
Am hynny'n bennaf dim, y gwelsom yn dda adrodd mewn scrifen, sylwedd a hanes eyn ffydd, gan atteb yn gywir ag yn gyhoeddedig, i'r petheu a rowd yn gyhoeddedig ag yn gyhuddedig i'n herbyn, megis y gallo'r holl fyd weled a gwybod canghau a gwraidd yr Athrawiaeth a ddarfu i gynnifer o wyr da golli ei hoedleu amdeni: a hefyd fal y bo hysbys i bawb, pa fath ddynion a pha beth y maent yn eu dybied am Dduw a chrefydd, ydyw yr rhai a ddarfu i Bâb Rhu [...]ain eu barnu a'u bwrw yn Hereticiaid drwy amhwyll ag anghyfiownder (peth ni wnawd erioed o'r blaen) cyn galw-amdanynt i atteb drostynt eu hun, eithr yn vnig am i'r Pab glywed doedyd eu bod nhwy heb fedry dygymmod a rhyw buncieu crefydd gydag ef, ai blaid.
Ag er na fynne Sainct Hieronimus i neb gymryd yn ddioddefgar pan amheuid ef amGau-grefydd. Heresi: etto nyni yn hyn o beth a'mddygwn eyn hun yn ddi-chwerw ag yn ddi-sen heb na llid na digofaint, pe rhown na ddyle gael ei adel nag yn chwerw nag yn sen-gar a ddoetto 'r Gwir: Nyni adawn y fath ffraethder a honno i'n gwrthwynebwyr, yr rhai beth bynnag a ddoettont yn eyn herbyn ni, er chwerwed a serthed fyddo, etto tybied y maent mae digon [Page 17] cymmwys a chymedrol ydyw; a pha wi ai gwir, ynte celwydd fo, nid gwaeth genthynt. Nid rhaid i ni (y rhai ydym yn ymddiffyn y Gwir) wrth y fath ddichellion ar rhain Gyda hyn, o dangosswn fod cyssegrlau Efengyl Duw, ar hen Escobion, a'r Brif-Eglwys, yn pwysso ar eyn tu ni, ag na ddarfu i ni heb achos cyfiawn ymadel a nhwynt-hwy, a dychwelyd at yr Apostoliau a'r hen Athrawon Catholic; a gwneuthyr o honom hynny nid yn ddirgel neu'n ddichellgar, eithr yn ffyddlon geyr bron Duw, yn wirion, yn vnion, yn eglur, ag yn amlwg: Ag os hwynt-hwy (y rhai sy'n gochel eyn hathrawiaeth ni, gan fynny eu galw eu hunain yn Gatholic) a gant weled yn hysbys fod yr holl ddanghossion Henaflaeth, o'r hyn y maent yn gwneuthyr cymaiut ffrost, wedi yscydwyd allan o'u dwylo nhwy, a bod mwy o rym a nerth yn eyn hachos ni nag a dygassent: Gobeithio'r ydym nad oes yr vn o honynt mor ddi-ofal ar les ei enaid, na feddylio'n y diwedd pa blaid orau iddo'i gymryd
Mi-ammeu, oddieithr iddo gwbl gallettau ei galon, ag na fyn ef wrando, ni bydd edifar gantho ddal sylw ar eyn hamddyffyniad ni, a chraffu pa fath beth yr ym mi yn ei adrodd, a chymhwysed ydyw i'r Grefydd [Page 18] Gristnogawl. Canys lle y maent i'n galw'n Hereticiaid, y mae hynny'n far mor gas ag mor erchyll, fal onis gwelir ef yn amlwg, oni ellir ei deimlo a dwylo, a'i glywed dan fyssedd (yn ei herwydd,) ni ddylid hawdd-goelio mo'naw ar Gristion yn y byd. Herwydd Heresi ydyw ym-wrthod ag Iechydwriaeth, bwrw ymaeth Rhad Duw, ag ymadel a chorph ag âg yspryd Grist. Eithr hyn ydoedd yn oestadol arferedig a chymeradwy genthyn-nhwy a'u plaid, o bae i neb achwyn neu feio ar eu hamryfyssedd nhwy, a damuno dad-ymchwelyd at iawn Grefydd, nhwytheu'n ebrwydd a farnent ag a fwrient y rheini yn Hereticiaid, ag yn ddynion blin cyffrous. Canys nid am achos arall yn y byd y galwyd Crist ei hun yn Samaritan, eithr am dybied ei fod ef wedi methlu mewn ffydd newydd, a Heresi. A Phawl Apostol Crist, a alwyd i farnedigaeth, i atteb am Heresi: Act. 24. Myfi (hebr ynte) ynol y ffordd y maen-nhwy'n ei galw yn Heresi ydwyf yn addoli Duw fy-nhadeu, gan gredu yr holl bethau ar y sydd scrifennedig yn y Gyfraith a'r Prophwydi Ar fyrr o eirieu, ye holl grefydd y mae cristnogion heddyw yn ei haddef,Tertul in Apolog. a alwyd gynt gan yr anghredediniaid yn Sect ag yn Heresi. Ar fath lysenweu [Page 19] a'rheini, y llenwent glustieu Twysogion, megis pā ddaroedd iddynt hwytheu drwy gam-gymeriad o'r blaen eyn cassau ni a thybied nad oedd beth bynnag a ddoetem, ddim amgen no chynnwrf ag Heresi; y camarwenid nhwy fal na chaent wybod yr achos, na dealld y gwirionedd. Eithr gā mor erchyll a gwrthyn ydyw cyneddf Heresi, gan hynny y dylid ei brofi drwy resymmeu cryfach ag eglurach, ag yn enwedig y pryd ymma, wedi dechreu o ddynion roi llai coel ar a ddoeront hwy, a chwilio'n fanylach eu hathrawiaeth nhwy, nag a oeddynt arferedig. Canys mae llawer o ragor rhwng dysceidiaeth Pob'l Dduw yrowron, ag ydoedd o'r blaen pan oeddid yn cymryd beth bynnag a ddoette'r Pab fal Efengyl, a'r holl grefydd yn cwbl-orphwys ar awdurdod Pâb Rhufain. Y mae heddyw ar led yr Scrythurau glan, ac scrifennadeu'r Apostolion a'r prophwydi, drwy 'rhai y gellir profi pob gwirionedd ag athrawiaeth gatholic, a gorchfygu pob Heresi. A chan nad ydynt yn dwyn dim o'r rhain drostynt en hun ag er hynny, nid anllai, yn mynny eyn galw ni'n Hereticiaid, y rhai ni chwympassom oddi wrth Grist, na'r Apostolion, na'r Prophwydi; y mae hyn yn gam mawr ag yn dost anianol.
Math. 4.Ar cleddeu hwn y tarawodd Crist heibio'r cythrel,2. Cor. 10. pan ydoedd yn ceisio cael niethel arno: Ar arfau hyn y gorfydd gwthio i lawr a gwrth-ladd pob goruchder a'i derchafo ei hun yn nerbyn Duw. Canys Yr h [...]ll Scry [...]hur (medd Pawl Apostol) sydd wedi ei rhoddi gan ysprydoliae [...]h Dduw, 2. Tim. 3. ac sydd fuddiol i athrawiae [...]hu, i argy [...]eddu, i gospi, ag i addysco, fal y byddo dyn Duw yn be [...]ffai [...]h wedi ei gymhwysso i bob gwei [...]h [...]ed dda. Felly 'n oestadol yr ymladdo [...]d y Tadeu duwiol yn-nerbyn Hereticiaid, De vnitate Eccle. c. 3. & contra maximinū Arrianorū Episc. lib. 3. cap. 14. In 1. caput. Aggei. nid trwy nerth arall na'g amgenach no'r Scrythurau glan. Pan ddadleuodd Saint Awstin yn-nerbyn Perilianus yr Heretic o'r Donatistiaid: Na ad glywed (hebr ef) rhyngom mi y geirieu ymma: Fal hyn rydwyfi ‘n doedyd, neu rwyd ti ‘n doedyd; Eithr doettom, fal hyn y maer Arglwydd yn doedyd; Gedwch i ni geisio‘r Eglwys yn y man hwnnw, ag y [...]o ymddadienwn eyn hachos.
Ag medd Hieronimus, y mae cleddyf gair Duw yn torri ‘r holl bethau yr ydis heb destioiaeth yr Scruth [...]r lan yn teuru eu traddodi gan yr Apostolion.
Sainct Ambronius hefyd a ddoedodd wrth Gratianus yr Ymerodr: Gofynner (eb ef) i‘r Scrythurâu glan: Gofynner i'r Apostolion [Page 21] Gofynner i, r Prophwydi: Gofynner i Grist: Nid oedd ammeu'r pryd hynny gan yr hen D [...]deu a'r Escobion Catholic allu cwbl brofi eyn crefydd ni oddi fewn y Scrythurau glan. Ag erioed nid oeddynt yn beiddio ba [...]nu neb yn Heretic. a'r ni allēr argyoeddu ei amryfyssedd drwy rym yr un-rhyw Scrythureu glan; a hynny 'n ddigon hynod ag yn amlwg.
Nyni a'ttebwn fal y gwnaeth Saint Pawl: ynol y ffordd y maent hwy'n ei galw'n Heresi yr ydym-mi'n addoli Duw Tad eyn harglwydd Iesu Grist,Act. 24. ag yn cofleidio'r holl betheu sydd scrifennedig, pa vn bynnag ai yn y ddeddf, ai yn y Prophwydi, ynte yn llyfreu'r Apostolion. Am hynny od ydym-mi Here [...]iciaid, od ydynt hwytheu (megis y mynnant eu galw) Gatholiciaid, pa ham nad ydynt yn cymeryd yr vn llwyb'r ag a ddarfu i'r Catholic Dadeu ei gymeryd? Pa ham nad ydynt yn gorchfygu eyn hathrawiaeth ni Drwy nerth y Scrythureu glan? Pa ham nad ydynt yn eyn galw drach-refn i'n holi wrth y rheini? Pa ham nad ydynt yn dangos ddarfod i ni ymwrthod a Christ, a'r Prophwydi: a‘r Apostolion, ag a‘r Tadeu Sainctaidd? Pam y maent yn oedi gwneuthyr hyn: Pam y maent yn rhusso: Duw [Page 22] piau'r Achos: Pa ham i'r amheuant ei holi ai dreio wrth air Duw: Od ydym-mi Hereticiaid y sawl ydym yn dwyn eyn holl ymrafaelion i'w huniowni wrth air Duw, ag ydym yn mynny eyn barnu wrth y gwir eiriau y gwyddom ddarfod iddynt ddeilliaw oddi wrth Dduw ei hunag ydym hefyd yn dewis y rheini o flaen yr holl betheu ar a aller en dychymmig: Beth ynte amdanyn-nhwy, pa fodd y mae'n weddus eu galw, y rhai ydynt yn ofni barn y Scrythurau glan, sef, barn Duw eu hunan? ag yn dewis, yn hyttrach eu breuddwydion a'u hoerllyd ddychymygion eu hun, o flaen gair Duw? ag o ran cadw, achynnal, eu Tradoddiadeu eu hunain, a ddarfu iddynt er ys talm o oesoedd, ddi fwyno a di-ysturu deddfodau Crist a'r Apostolion: Doedyd yr ydis am Sophocles Prydydd y trychni, pan ydoedd ef wedi heneidddio, a darfod yw feibion ef ei gyhuddo, a dangos geyr bron y Barnwyr fod onaw ef yn amhwyllo ag yn ynfydu, megis dyn nid oodd waeth gantho beth a ofer-dreulie, na pha fodd y bwrie ymmaith ei dda a'i ddodrefn, a bod yn rhaid iddo wrth vn i of alu amdano, ag i w ymgyleddu: ddyfod o honaw yntef iw ddiheuru ei hun o'r peth a heurid arno, gar bron y [Page 23] barnwyr, ag wedi iddo draethu Owdl trychineb a elwid Oedipus Coloneus yr hon a wnaethai ef yn orchestol iawn, ag yn gynghaneddgar dros ben, y pryd y doetpwyd arno fod yn ynfyd: gofyn o hono i'r Barnwyr oi waith ei hun, ydoedd gyffelybus y medre ddyn ynfyd wneuthyr y fath gerdd?
Felly ninneu, er mwyn bod eyn gwrthwynobwyr yn tybied ddarfod i ni ynfydu gan haern arnom Heresi, megis pe byddem mi heb hanfod o Grist nag o Eglwys Dduw: Ni a dybiassom nad ydoedd nag anghymwys, nag anfoddiol, ossod allan yn amlwg, a datcan yn eheng, sylwedd y ffydd yr ydym yn sefyll ynddi, ar holl obaith sydd gennym yng Hrist Iesu: negis y gallo pawb weled beth yw'n meddwl ni am bob rhan o Grefydd Crist, ag y gallent sarnu'n eu meddylieu eu hin, pa vn ai rhyw gynddeiriogrwydd dinion yn ynfydu, a chyd-fwriad Heretitiaid, ai nid ef, ydyw'r ffydd yr hun a gaffant ei gweled wedi ei chadarnhai drwy eiriau Crist ei hun, scrifennadei'r Apostolion, testiolaeth yr hen dede [...] Catholic, a dygymmod llawer o oesoidd.
Credu yrydym gā hynny, fod vn Anian a [Page 24] Gallu Duwiol yr hwn yr ym iw alw yn Dduw, a hwnnw, meddwn sydd wahanedig yn dri, sef, yn Dad, yn Fab, ag yn Ysbryd glan: ar tri hyn mor gyfrannog bob vn ai gilidd, o aliu, o fowredd o dragwyddoldev, o dduwdod, ag o sylwedd.
Ag er bod y tri hynny mor wahanedig, ag nad ydyw'r Tad yn fab, nar Ma [...] yn Ysbryd glan, nag yn Dad y chwaith Etto vn Duw ydynt, yr hwn Dduw a wnaeth y nef, ar ddayar, a phob pe [...]h sydd o fewn amgylchiad y Nef. Credu'r ydym ddarfo [...] i Iesu Grist vnig fab y Tragwyddol [...]duv (megis yr arfaethessid cyn pob dechreuad) pan ddaeth cyflownder amser, gymery [...] arno gnawd, a phob a [...]in dynol o'r wynfydedig bur wyryf, fal y galle ef ddango [...] i ddynion, dirge [...]edig a chyfrinachol ewyllys ei dad: yr hon ewyllys a fuasse guddiedig er ys cyn nefoedd a ch [...]nhedlaethau, ag fal y galle fo ynghnawdoliaeth dyn gwpla [...] dirgelwch eyn dat-bry [...]niad a h [...] elio ar y groes eyn pechodeu, a'r llaw scrifen a scrifenessid i'n herbyn.
Credu yr ym iddo farw o'n plegid ni, ai gladdu: mynd o honow ef i wared i vffem: iddo ddychwelyd i fywyd gan adgyfodi y trydyd dydd: ag a [...] ol deugain niwrrod ddariod iddo yngwydd ei ddysbyblion ymdderchafu [Page 25] ir Nef, er cyflowni pob peth: ddarfod hefyd iddo ef gyfleu mewn mowredd a gogoniant y corph hwnnw,Aug. Tract. 50. in Ioan yn yr hwn y ganwyd ef, yn yr h'wn y cyniwerodd a dynion, [...]n yr hwn y gwarwarwyd ef, yn yr hwn y diodefodd boenau o'r tostaf a chreulonaf angeu, yn yr nwn yr adgyfddodd, yn yr hwn i'r ymdderchafodd a [...] ddeheulaw'r Lad, goruwch pob Penrdeithiad, a Gallu, a Nerth, ag Arglwyddiaeth. a goruwch pob he [...]w a henwer nid yn vnig yn y byd ymma, eithr yn y byd a ddaw: May yno y mae yn eistedd:Act. 3. ag yr eistedd ef nes gorphen pob peth. Ag er hod mowredd a Duwdod Crist yn wascaredig ymbob man, etto fod yn rhaid (fal y dywed Sainct Austin) iw gorph ef fod mewn vn lle: ag er rhoddi o Grist fowredd iw gorph,Aug. tra 3. in Ioan. etto na ddygudd o ddiarno Naturiaeth edroh: na ddylem-mi felly ddoedyd may Duw yw Crist, fel y gwadem may dyn yw, Ad Dardä. Ag fal y doedodd y Merthyr Vigilius, ddarfod i Grist ymadel a ni,Contra Eurichen lib. 1. o ran ei gnawdoliaeth, eithr nad ymadawodd ddim a ny ni [...]erwydd ei dduwiolaeth? Ag er ei fod ef ymhell oddi wrthym megis y mae ef ddyn,Fulgentius ad Regem Thrasimundum. Etto ei fod ef yn oestadol gida ni megio y mae ef Dduw. Or man hwnnw credu yr ym y daw Crist drach-gefn i wneuthyr [Page 26] y farn gyffredin, yn gystal ar y sawl a gaffo ef yn fyw yn ei cyrph, ag ar y rhai meirw. Yr ydym yn credu yn yr Yspryd glan, yr hwn ydyw'r trydydd yn y gyssegrlan Drindod: ei fod ef yn wir Dduw, yn ddi-wneuthyredig, yn ddi-greadedig, yn ddi-genedledig, eith'r yn deilliaw oddiwrth bob vn or ddau, sef y Lad a'r Mab, mewn modd na fedr dynion na'i wybod na'i adrodd. May ei gyneddf ef ydyw meddalhau caledrwydd calon dynpan dderbynier efe i ddwyfronnen dynion, ynaill ai trwy iachus bregaeth yr Efengyl, ai ynte drwy ba agwedd bynnag arall: ei fod ef yn eu goleuo ag yn eu cyfrwyddo nhwy i wybodaeth Duw, gan eu cwbl harwain i bob ffordd gwirionedd, i newydd-dod holl suchedd, ag i dragwyddol obaeth Iechydwriaeth. Credu'r ydym fod vn Eglwys Dduw, ag nad yw honno, megis gynt, ymhlith yr Iddewon wedi ei chau a'i chilfachu mewn vn gōgl neu deyrnas, eithr ei bod yn Gatholic, ag yn gyffredin, wedi ei gwasgaru trwy'r holl fyd: megis nad oes achos i Genhedlaeth yn y hyd gwyno'r owron eu bod nhwy wedi eu cau allan heb allu perthynu i Eglwys ag i dylwyth Dduw: fod yr eglwys hon yn deyrnas, yn gorph, ag yn briodasferch i Grist: fod [Page 27] Crist yn voig dwyssog y deyrnas honno? yn vnig Ben y corph hwnnw: yn vnig briod i'r briodasferch honno. Fod amryw radd eu gweinidogion yn yr Eglwys hon, rhai'n Ddiaconiaid, rhai yn Offeiriaid, eraill yn Escobion i'r sawl yr ymddiriedwyt hyfforddi'r bobl ag astud-ofalu am dwf a chynnyddiad crefydd: ag er hynny, nad oes, ag na ddychyn bod vn dyn daiarol a eill gael cwbl-oruchafiaeth ar hyn o gyffredinoldeb. Herwydd bod Crist yn oestadol gida'i Eglwys, ag nad rhaid iddo wrth Raglaw, yn ei le, megis i etifeddu'r cwbl oi gyfoeth, nad oes vn dyn byw ym-meddwl yr hwn y gall enny'r Eglwys gyffredinol, sef, pob mangre, a phob darn o'r holl fyd: nag vn dyn a ddichō drefnu, a llywodraethu'r cwbl mewn cyfiownder a chymwysder:De simplitate Praelatorum. fod yr holl Apostolion (fal y dywed S. Cyprianus) o'r vn awdurdod y naill a'r llall: fod pob vn onyn [...] yr vn peth ag ydoedd Pedr: darfod i Crist ddoedyd wrthynt y gyd, Porthwch: a doedyd wrth bob vn o honynt gystal ai gilydd, Ewch i'r holl fyd: adoedyd wrthynt bado vn, Dys [...]wch yr Efēgyl i bawb. Ad Euagrium. Ag (fal y dy wed Sanct Hieronimus) fod yr holl Escohion or vn oruchafiaeth ag o'r vn fath offeiriadeth, pa le bynnag yn y byd oll y byddant, ai yn Rhufain, ai'n Eugubium, [Page 28] ai‘ngh Constantinopl, De simplitate Praelatorum. ai ynte'n Rhegium. Ag (fal y dywed Cyprianus) nad oes [...]id vn Escobaeth, a bod pob Escob yn dal darn pyb yr o honno, Doedyd yr ym hefyd ynol barnedigaeth y Gymanfa-Gyngor a fu'n y dref Nicea, nad oes i Escob Rhufain mwy o Rwysg a goruchafiaeth ar Eglwys Dduw, nag sydd i'r Patrieirch eraill, sef o Alexandria, ag o Antiochia. Ag am Bab Rhufain, yr hwn a fyn yrowro [...] alw pob peth geir ei fron ei h [...]n, oni wna ef a ddyle onis gwasnaetha ef y Sacramenteu, onis hyffordda ef y bobl, oni rybuddia, ag oni ddwsc ef nwhy? doedyd y rydym nad yw iawn mo'i alw, nag yn Escob, nag yn offeiriad. Canys fal y dywed S. Awstin) henw gwaith, ag nid anrhydedd yw Escob: herwydd ef a fynne ir gwr hwnnw gydnabod ag efo'i hun, nad Escob mo'naw a gais ddwyn rhwysg iddo'i hun heb wneuthyr llesaad i eraill. Na ddichyn na'r Pab, na neb arall yn y byd, fod yn ben i'r holl Eglwys, neu'n Escob hollawl vniuersalaidd neu gyffredinol, mwy no bod yn Briod, yn Ole [...]ni, yn Iechyd, ag yn Fywyd i'r Eglwys, Canys y rhagorfraint, ar henwau hyn, ydynt yn briodol, ag yn vnic yn gyfaddas i Grist ei bun, ag nid i neb arall. Hefyd na adawodd vn, Escob [Page 29] Rhufain erioed mo'i alw gerfydd y fath benw balch, cyn amser Phocas yr Ymerodr, yr hwn (fal y gwyddom) amdderchafodd ei hun i'r Ymerodraeth drwy frad ag echrysedd, gan ladd ei feistr Morys yr Ymerodr: yr hyn oedd ynghylch y chwechanfed a'r drydedd flwyddyn ar ddeg ar ol geni Crist. Hebl [...]w hynny, ddarfod i'r Gymanfa-Gyngor a gynhaliwyd yn rhef Carthago wahardd yn eglur na chai Escob yn y byd mo'i henwi vn Escob-goruchaf: nag yn ben-offeiriad. A chā fod Escob Rhufain y pryd hyn yn mynny ei alw felly, gan gymeryd arno Bennaethiad nid yw eiddo ef, heblaw iddo'n amlwg wrth-wynebu 'r hen Gymanfa-Gynghorau ar Tadeu, yn y chwaneg i hyn,Gregorius lib. 4. epast 76.78.80. & lib. 7. Epist. 69. o myn ef goelio Gregorius ei Gydymaeth ei hun, cymeryd arno y mae ef hew balch annuwiol, echruslawn, angl ri inogawl? A doedyd yr ydym may efe yw Brenhin y Balchder, may efe yw Lucifer sy'n ei wthio'i hun o staen ei frodyr: darfod iddo ymadel a'r ffydd, ag may efo yw Rhagflaenorwr Anghrist.
Doedyd yr ydym may dyledus yw drwy alwedigaeth ddeddfol a gweddus drefn, gyffen Gweinidog i lywodraethu Eglwys Dduw, ag na ddychyn neb frathu i mewn i'r gyssegr wenidogaeth, wrth ei amcan a'i [Page 30] drachwant ei hun: ag o ran hynny, mwy o lawer yw'r cam ymaen-nhwy yn ei wneuthyr a nyni, gan na thawant a doedyd nad ydis yn gwneuthyr dim yn eyn plith ni mewn trefn, na gweddeidd-dra, eithr pob peth yn ambwyllys ag yn heodra-mwnwgl: a bod yn gymeradwy gennym-mi adel i bob math ar ddyn fod yn offeiriad, fod yn Athro, fod yn ddiheoglydd yr Scrythur lan.
A doedyd ymhellach yr ym, rhoddi o Grist iw wenidogion gwb'l allu i rwymo, i ryddhau, i gau, ag agoryd: Ag nad yw'r swydd i Ryddhau ddim amgen, onid y naill ai cynnig o'r gweinidog (drwy bregaeth yr Efengyl) haeddedigaetheu Crist, a gollyngdod o'u pechoden, ir sawl a fo gostyngedig eu calonneu mewn gwir edifeirwch, gan draethu iddynt ddiau faddeuant a gobaeth Iechyd tragwyddol: ai ynte, enill o'r gweinidog drachefn, a dwyn adref a dad-roddi i fewn teulu ag vndod y rhai ffyddlon, y sawl ydifarhaus a anfodlonassant galonneu eu brodyr drwy gamwedd hynod a chyhoeddys, wedi iddynt ymneullduo am hynny, ag ymddieithro (yn ei herwydd) oddi wrth cyffredin gymdeithas yr Eglwys, a chorph Crist.
Ag y rydym i'n doedyd, fod vn yn arfer yr awdurdod i rwymo, cyn fyn yched ag y cauo efe borth Teyrnas Nefoedd yn-nerbyn yr Anghredinieid a'r rhai cyndyn, gyda thraethu o honaw ef iddynt lwyr ddial Duw, a thragwyddol gospedigaeth; Neu ynte cynifer gwaith ag y cauo efe allan o fynwes a chofleidiad yr Eglwys, y rhai a escumunwyd yn gyhoeddus. Diau pa farn bynnag, yn y modd hyn, a roddo gweinidogion Duw, fod hynny mor gwbl gymeradwy a chyn fodloned gan Dduw ei hun, ag iddo ynte Ryddhau, a Rhwymo, yn y Nefoedd, pob peth a Ryddheuir neu a rwymir drwy eu gwaith nhwy ar y ddayar.
Yr ydym mi'n doedyd may agoriadeu a'r rhai y gellir cau neu agorud Teyrnas Nefoedd, ydyw gwybodaeth y Scrythurau, megis hefyd y mae Chrisostom yn doedyd: yw dehonglad y Gyfraith (fal y mynegodd Tertullian:) yw Gair Duw (fal y testiolaetha Eusebius:) A choelin y rydym gaffael o ddyscyblon Crist y gallu hyn, nid i wrando dirgel gyffes, a sissial y bobl, fal y mae'r offeiriaben offerenllyd yr amser hwn yn arfer ymhob man (ag felly 'n arferu megis na bae rhinwedd na rhaid wrth yr [Page 32] agoriadeu i ddim arall yn y byd ond i hynny'n vnig) eithr fal y gallent fyned i ddyscu ag i gyhoeddi yr Efengyl i bawb, megis y byddent arogl bywyd i fywyd i'r Crediniaid, ag arogl marwolaeth i farwolaeth, i'r Angrehdiniaid a'r rhai anffyddlo [...]: Ag fal yr agorid a gair Duw (megis agor drws ag agoriad) feddylieu'r rhai duwiol cu [...]uddiedig: gan ydifarhau o honynt eu beiau a'u buchedd o'r blaen, a'r ol iddynt ddechre gweled goleuni'r Efengyl a chredu'ng Hrist. A thu-ag-at am y rhai annuwiol cyndyn ni fynant gredu nag ymchwel o gyfeiliorni, ei gadel nhwy megis yn gloedig wedi eu cau allan, fal y ffynnam waeth waeth, megis y mynegodd Sainct Pawl.
2. Tim 3.Hyn meddwn-ni yw dealld yr agoriadeu, ag yn y modd hyn y mae cau neu agoryd cydwybodeu dynion: Cyfadden'r ydym mae'r offeiriad sydd farnwr yn yr achos hwn: eithr etto er hynny, nad dyledus iddo (fal y dywed Sainct Ambros) roi hawl a'r oruchafiaeth ag awdurdod fal pe [...] te yn eiddo ef:De Peniten. Dict. 1. cap. verbum Dei. Ag am hynny y rhodd Crist sen i'r Scrifennyddion a'r Pharisæaid Iddewaidd (o herwydd eu esceulustra hwy'n dyscu'r bobl)Luc. 11. Math. 23. Gwae chwi (bebr ef) Scrifenyddion a Pharisæaid y rhai addygasoch [Page 33] y math agoriadeu'r gwybodaeth ag a gauasoch Deyrnas Nefoedd o flaen dynion. Pa beth yw ysturiaeth yr Aygoriad. A chan nad yw‘r agoriad, a‘r hwn yr agorir i ni ffordd i deyrnas Dduw ddim amgen onid gair yr Efengyl a dehenglad y Gyfraith a‘r Scrythurau glan, doedyd y rydym, yn ddifadde, lle ni bo‘r gair hwn nad oes yno mor agoriad y chwaith. A chan na roddwyd ond gair o‘r vn fath i bawb, ag nad oes ond vn vnig agoriad yn perthyn i bawb, Nid oes hefyd meddwn-ni onid vn vnig allu i bawb o‘r gwenidogion i gau ag i agorryd. Am Bâb Rhufain, er bod ei ragrithwyr yn atcanu iddo vn wenieuthus y geiriau hyn, Mi a roddaf i ti agoriadeu teyrnas Nefoedd, Math. 16. (fal pe na bae gyfaddas y geirieu hynny o‘r Efengyl i neb byw arall ond i'r Pab ei hun,) doedyd y rydym, oni phair ef i gydwyboden dynion ddarostwng yn ystwyth i air Duw; nad ydyw ef nag yn agorud, nag yn cau, ag nad perchē yr agoriadeu mo‘naw. Aphe rhoem ei fod yn dyscu ag yn hyfforddi'r bobl, (yr hwn beth ni a fynnem pes gwnai ef o‘r diwedd yn ddihocced: neu pe bae wiw gantho feddwl vnwaith fod hynny yn ddyledus arno, ag yn ddarn oi swydd:) Etto er hyn [...]y, nid ydyw meddwn-ni, ei agoriad ef nag yn well, nag yn hyttrach, nog ogoriadeu [Page 34] rhai eraill. Herwydd pwy a wnaeth ragor rhyngtho ef ar lleill? Pwy a ddyscodd iddo ef agoryd yn gyfrwyddach, neu ryddhau yn well, nog eraill o'i frodyr
Doedyd y rydym mae sanctaidd ag anrhydeddus yw Priodas ymbob rhyw, a math ar ddynion, sef, yn y Patrieirch, yn y Prophwydi,Chrisost. in Epi. ad Titum hom. 11. yn yr Apostolion, yn y Merthyron, yngwenidogion yr Eglwys, ag yn yr Escobion. Ag fal y dywed Chrisostomus, may rhydd a gweddus ydyw i wr priod gymeryd arno mewn priodas,Theophil. ad Titū 10 radd ag vrdde Escob. Hefyd, fegis y dywed Sozomenus am Spiridion, Eus. lib. 18 cap. 5. a Nazianzenus am ei Dad ei hun, nad dim gwaeth, eithr gwell o lawer y gwasnaetha Escob astud dayonus yn ei wenidogaeth, o ran bod yn briod. Athrawiaeth cythreulied meddwn-ni (fal y dywed Sainct Pawl) ydyw'r gaeth Gyfraith honno sydd yn dwyn rhydid dynion oi hanfodd oddiarnyn,1. Tim. 4 gan beri iddynt fyw heb priodi. Ag er y pryd y dechreuodd y Gyfraith a'r gaethiwed hon, ddarfod digwydd peth rhyfedd o feieu a brynti ymmuchedd gwenidogion Duw, drwy ymrafael erchyll ddrygioni: megis y cyfaddef yr Esgob o Awgusta a Faber, a'r Abbad Panormitan, a Latomus, a'r gwaith trirhannog wedi ei gyssylltio wrth yr ail Gyfran o'r Cynghorion: ag fal y mae gweissō [Page 35] dewriō eraill ymhlaid y Pab, ag y fluriaeth yr achos, a hefyd pob ystori yn eglur-ddangos. Herwydd gwir a ddoedodd Pius yr ail, Platina in Pij 2 Vita. Pab Rhufain, ganfod onaw ef lawer achos pa ham y dygid wragedd priod oddiar offeiriaid: eichr gweled o honaw ef fwy o achossion rhesymmol, ag angērheidiol, pa ham y dylid rhoi iddynt eu gwragedd drachgefn.
Derbyn a choffeidio 'r ydym yr holl Scrythurau cyssegr-lan, o'r hen a'r newydd Destament; gan gwbl ddiolch i'n gwir Dduw a drefnodd i ni hyno oleuad yw gael yn oes tadol garbron eyn llygaid: rhag ofn i ddichellion dyn, neu fagleu Diawl eyn dal a'n dwynymmaeth i gelwyddeu a chyfeiliorni. Y Scrythurau hyn meddwn-ni ydynt leissieu a llefaredd nefawl, drwy'r rhai y darfu i Dduw hyspussu ini ei ewyllys ef: yn y rhai yn vnig y dichyn calon dyn gwbl orphwys; fod wedi cynnwys yn y rheini yn aml-gyflawn, ag yn ddigonol, bob peth rheidiol i‘n hiechydwriaeth ni, fal y darfu i Origines, Awstin, Chrisostom, ag i Cyryllus draethu: May'r heini ydynt rym, a nerth Duw i gael Iechydwriaeth: May rheini ydynt wadnaua seiliau'r prophwydi a'r Apostoliō, ar yrhai yr adeiladwyd Eglwys Dduw: May hwynt hwy ytynt gwbl Iniownder drw‘r yn y gellir gweled a gwybod o ydyw‘r Eglwys yn gogwyddo mewn f [...]ryfyssedd, ai nid yw: [Page 36] ag at y rhai y dyleid alw holl athrawiaeth yr Eglwys i wneuthyr cyfri. Ag yn bendifadde na ddylid gwrando ar gyfraith, na threfn, na deddfod yn y byd, yn erbyn y Scrythurau glan; pe rhoem a dyfod S. Pawl ei hun, neu angel or nefoedd, i ddyscu dynion yn amgenach i hyn.
Derbyn a chofleidio rydym Sacramēteu'r Eglwys, sef yw hynny, y sawl gyssegr arwyddion a'r Ceremoniæ y rhai a fynnodd Crist i ni eu harfer, megis yn y rheini y gossode efo o flaen eyn llygeid ni, ddirgelwch eyn hiechydwriaerh, fal y galle ef hefyd gadarnhau yn fywioccach y ffydd sy gennym yn ei waed ef, gan blannu ei rad yn eyn calonneu: Ag, fal y dywed Tertullianus, Origenes, Ambros, Awstin, Hieronimus, Chrisostomus, Basilius, Dionisios ag eraill o'r Tadeu catholic, felly meddwn ninneu, nad yw‘r Sacramenteu hynny ddim amgen onid llunieu, arwyddion, nodeu, printiadeu, euluneu, elfenneu, selieu, llaw-nodeu, cyfflybiaetheu, tebig-betheu, lluniadeu, meddyliadeu, a rhag-cofiadeu. Nid amheuwn y chwaith gyfadde gyda ‘r tadeu sanctaidd vchod. may talm o eirieu canfodedig neu gweledig, ydiw‘r Sacramenteu hynny, may Selieu cyflownder, ag arwyddion rhadeu ydynt. Thraethu [Page 37] hefyd yr ydym yn hyffordd, fod yn rhoddi i‘r rhai crediniol, yn Swpper yr Arglwydd, gorph a gwaed yr Arglwydd Grist, sef cnawd mab Duw, yr hwn sydd yn bywioccau eyn heneidiau ni: y bwyd sydd yn dyfod oddi fry: porthiant y difarwolaeth; Rhad, Ewirionedd, a Bywyd. Ag may cummun corph a gwaed Crist yw‘r Swpper hwnnw, drwy gyfranniad yr hwn be [...]h, rydym yn cael ail fywyd, nerth, a phorthiant i dragwyddoldeb: a thrwy hynny yn cael eyn cyssylltio, eyo cyd-gnawdy, a‘n gwneuthyr yn vn a Christ, fal y gallom aros yntho ef, ag ynteu ynom ninneu.
Eithr cydnabod a chyfadde‘rydym ddau Sacrament, yrhai yn eyn barn ni a ddylent gael eu galw wrth yr henw priodol hwnnw, sef. Sacrament y Bedydd, a r llall a elwir Swpper yr Arglwydd. Y cynnifer hyn o Sacramenteu a welwn wedi eu rhoddi au cyssegru gan Grist: ag oeddynt gymeradwy hefyd gan Ambros ag Awstin yr hen Dadeu. Y Bedydd, meddwn-ni, sydd Sacrament, o ollyngdod pechodeu, ag o‘r ymolchiad sydd eiddom yngwaed Crist. Oddi wrth yr hwn Sacrament ni ddylid gwahardd neb a fynne gymeryd arno henw Crist; yn gymaint ag nad rhydd gwahardd plant iefainc y cristnogion, er [Page 38] mwyn eu geni mewn pechod, a'u bod yn deuryd i dylwyth Dduw.
Doedyd y rydym fod Swpper yr Arglwydd yn Sacrament, sef, yn arwydd neu wystyl hynod corph a gwaed Crist: yn yr hyn rydys yn rhoi fegis geyrbron eyn llygeid marfolaeth ag adgyfodiad Crist, a pheth bynnag a wnaeth ef yn ei gnawdoliaeth: fal y rhoddem ddiolch herwydd ei farfolaeth ef, a'n gwarediad ni. Ag felly y gallem wrth fynnych arfer y Sacramenteu, adnewyddu beunydd coffaedigaeth am hyn: fal y gallem hefyd gael eyn porthi a chorph ag a gwaed Crist i obaith yr adgyfodiad, ag i fywyd tragwyddol, gan fod yn gwbl-ddiau gennym may'r vn peth i borthi eyn heneidieu yw corph a gwaed Crist, ag ydyw'r bara a'r gwin i borthi'n cyrph. Ir wledd hon yn eyn barn ni y dylid gwahadd pobl Dduw fal y gallēt bawb fod yn gyfrānogion yn eu mysc eu hun gan amlwg ddangos a thesteolaethu y gobaeth a'r gymdeithas sydd genthynt bawb gida'i gilidd yng-Hrist Iesu. Ag am hynny o bae neb a fynneu ddim onid edrych ar y cymmun sanctaidd heb fod yn gyfrannog o honaw:Chrisost. ad Ephes. ser. 3. hwnnw a gae'i escymuno gan yr hen daden ag Escobion Rhufain yn y brif-Eglwys, fegis dyn echruslawn heb gred gantho. Yr hyn [Page 39] beth ydoed arferedig cyn clywed son am offeren neulltuol yn y byd. Nid oedd Gristion y pryd hynny a gūmune wrtho'i hun a'r lleill yn edrych arno.De consc dist. 1. ap omnes. Dist. 2. cap. seculares. Am hynny y gwnaeth Calixtus drefn ag ordinhad ar gummuno o bawb bwyn-gyntag y derfydde cyssegru, oddieithr hod yn well ganthynt sefyll o'r tu allan i ddrws yr Eglwys:De cousc. dist. 2. cap. Peracta. Herwydd felly (hebr ef) yr archodd yr Apostolion ag y mae'r sanctaidd Eglwys Rhufain in cadw rhegddi. Hefyd pan ddel y bobl i gummuno, e ddylid rhoi'r Sacramēt iddynt dan y ddeuryw (sef bara, a gwin) oblegit felly y gorch mynoodd Crist; felly y barfu i'r Apostolion drefny,De consc. dist, 2, cap, competimus, a‘r hen dadeu a‘r Escobian catholic a gadwassant ag a gal y nassāt y ffordd hon. Ar neb a wnelo'n amgenach i hyn, sydd euog o gyssegr-ledrad sal y dywed Gelafius: Am hynny diffaith iawn y mae eyn gwrthwynebwyr ni yn myned rhagddynt, ag nid amgen no speiliwyr ydynt am draws wthio allan, a chwbl wahardd y cummun sainctaidd: a hynny'ngwrthwyneb gair Duw, heb awdurdod vn hen Gyma [...]fa-Gyngor, heb vn hen Athro catholic, heb gyffelybrwydd o'r fath beth yn y Brif-Eglwys, heb y sturiaeth yn y byd; gan gadw, a chynnal, neulltuol-fferēneu, a lliaws o Sacrāmenteu, yn-erbyn diau orchymyn ag archiad Crist: a hefyd yn erbyn holl henefiaeth
Y Bara a‘r Gwin hwnnw (meddwn-ni) ydynt sancteiddiol a Nefol ddirgeledigaetheu corph a gwaed Crist, ag rydis yn y Sacrament hwn yn rhoddi i ni Grist ei hun yr hwn sydd wir fara y bywyd tragwyddol, yr hwn r [...]dis yn ei roi i ni mor gwbl, ag mor gyflawn, ag nad oes dim wirach na bod o honom yn cymeryd ei wir gorph ai waed ef drwy ffydd. Nid ydym y chwaith yn doedyd hyn, fegis pettem yn tybied ddarfod cwbl newidio a di-ddimio rhywiogaeth y bara, ar gwin; fal y darfu i lawer freuddwydio‘n yr oesoedd diwaetha hyn, heb fedru onynt erioed etto gyttuno rhyngthynt eu hun ynghylch y breuddwyd hwn. Ag n [...]d hynny oedd feddwl Crist, fwrw o‘r bara gwenith ymmaeth ei rywiogaeth ei hun, a chymeryd math ar dduwiolaeth newydd:In Ioan. cap. 6. eithr yn hyttrach, fal y galle ef eyn newid ni, a‘n tros-lunio iw gorph ei hun, fegis y dywed Thophilactus. Beth a ellir ei ddoedyd yn hynodach nog a draerhodd Ambros, De sacra lib. 4. ca. 4. sef, Fod y bara a'r gwin yr vn fath ag a oeddynt o‘r blaen, ag er hynny e [...] bôd hwy wedi newidio i beth arall: Neu y peth a ddoedodd Gelasius, Nid yw sy wedd y bara, a rhywiogaeth y gwin yn pe [...]io, In dialogis 1 & 2. neu‘n diflannu: Neu y peth a dd [...]edodd Theodoretus: Ar ôl sancteiddio'r [Page 41] Arwyddion dirgeledig, nid ydynt yn bwrw ymmeth eu rhywiogaeth eu hunain: (Herwydd aros y maent yn y sylwedd llun, a‘r rhyw, oedd genthynt o‘r blaen.) Neu, y peth a deoedodd Awstin: [...]ara ar caregl, yw‘r peth a welwch, In sermone ad infan. Decosecra. Dist. 2. cap. Qui manducat. a hyn y mae'r llygeid yn dangos: eithr y peth a fyn eych ffydd chwi ei ddyscu, yw hyn: may corph Crist ydiw‘r Bara, a‘i waed ef ydiw‘r caregl. Neu‘r peth a ddoedod Origenes, Y Bara yr hwn rydis yn ei sancteiddio drwy air Duw, tu-ag-at am ddeunydd bara. myned i‘r bol y mae ef, Origen. in Math. Hom. 15. ag fo‘i bwrir allan i‘r dommen: Neu‘r peth a ddoedodd Crist, nid yn vnig cyn cyssegru‘r caregl, eithr wedi‘r cummun: Nid yfaf ond hynny o‘r ffrwyth ymma o‘r winwdden. Luc. 22. Hawdd yw gwybod ynte, may gwin, ag nid gwaed ydyw ffrwyth y winwdden. Ag wrth ddoedyd hyn, nid ydym mi yn di-ysturu Swpper yr Arglwydd, neu‘n dyscu i eraill nad yw‘r S [...] crament hwn amgen no ceremoni oerllyd heb lesaad ynthi, fal y mae llawer yn camheuru arnom. Herwydd doedyd y rydym may diau, a gwir iawn ydyw, fod Crist yn ei roi ei hunan ini yn ei Sacramenteu: sef, yn y Bedydd, fal y gallom ei wisco ef amdanom: ag yn y Swpper, fal y gallom drwy ffydd ag ysprydoliaeth ei fwyta ef, a chael [Page 42] bywyd tragwyddol drwy rinwedd ei Groes a'i waed ef. Ag nid ydym yn adrodd hyn yn egwan, oerllyd, nam yn fal coel ffrwthlawn-wirionedd: Oblegid er nad ydym yn cyffwrdd corph Crist a safneu ag a danedd, etto mae gennym afael arno, a'i fwytta rydym drwy ffydd, gwybodaeth, ag yspryd. Diau nad ofer mo'r ffydd hōno sydd yn rhoi llawn afael a'r Grist; ag nid oer-wagaidd y cymerir, y peth a gymerer drwy wybodaeth, affydd, ag Yspryd. Canys yn y cyssegr ddirgeledigaetheu neu‘r Sacramenteu hyn rynnig a rhoddi rydis i ni Grist eu hun yn gwbl-ollawl, fal y gallem wybod yn hyspus mae cig oi gig, ag esgyrn oi esgyrn ef ydym; a bod Crist yn aros ynom i, a ninneu yntho ynteu.
Am hynny wrth drin y Sacramenteu hyn, da rydis yn rhybuddio'r bobl cyn dyfod onynt i Gumuno,De conse. dist. 1. cap. Quando. gan erchi iddynt dderchafu eu calonneu a chodi eu meddy lieu tu ar Nef; o blegid yno y mae ef, dwy'r hwn y gorfydd i ni gael llawn borthiant a bywyd.
Ad object. Theodoreti. Rhaid i ni (medd Cyrillus) pan ddelom i dderbyn y Sacrament hwn, roi diofryd medylieu bydol, ag amcanionn ofer. A'r Gymāfa-Gyngor yn Nicea fal y mae rhai'n ei hadrodd yngroegiaith, sydd yn gwahardd [Page 43] i ni fod ag issel feddylieu gēnym, neu grymmu o honom tuag-at y bara a'r gwin a roer geyr eyn bron. A doedyd rydym fal y scrifennodd Chrisostom yn gyfaddas iawn, May cnawd Crist ydyw'r corph marw, a ninne ydym yr Eryrod: Chrisost. in 10. ad Corinth. Ysturiaeth yr hyn beth, ydyw fod yn rhaid i ni hedeg yn vchel o mynnwn ddyfod at gorph Crist. Canys (medd Crisostom) bwrdd yr Eryrod ag nid bwrdd y cogfrain yw hwn. De Coena Domini. A megis y mynegodd Cyprianus; Bwyd yr enaid ydyw'r bara ymma ag nid bwyd y bol. A [...] medd Awstin, pa fodd y cymeraf afel arno-fo sydd absen? In Ioan. tract. 50. Pa fodd yr estynnaf fy illaw i'r Nef i gael gafael arno-fo sydd yn eis [...]edd yno? Attebodd, Estyn dy ffydd hyd yno, a thi a gefaist afael arno.
Ni allwn-ni ddioddef o fewn eyn Heglwsi ni, ffeirieu, a marchnadoedd, a phryny a gwerthy fferenneu, Na hefyd dwyn o amgylch ag addoli'r bara na'r fath Eulun-addoliaeth a choeg gabledd: yr hyn betheu nid oes yr vn o'n gwrthwynebwyr a ddichyn doedyd ddarfodd i Grist na'i Apostolion eu hordeinio a'u gadel i ni. Nid heb achos yr ydym yn beio ar Escobion Rhufain am iddynt heb air Duw, heb awdurdod y Tadeu sanctaidd, heb arfer henafiaeth, eithr ar ol [Page 44] ffordd newydd, nid yn vnig ossod bara'r cymmun geyr bron y bobl iw addoli fegis Duw,Liber de Ceremonijs Eccl. Roman. namyn hefyd peri dwyn y bara hwnnw ar geffyl rhygyngog gyda hwynt ymhob taith, megis y bu arferedig gynt ddwyn amgylch ogylch tan y Persiad, a chrarr y dduwies a elwid I [...]is: felly, nhwytheu a ddarfu iddynt ddwyn Sacramenteu Crist i blith chwrenddion, iw dangos i'r bobl, nid er dim ond llenwi llygeid y gynlleidfa drwy ryfeddiadd lled-ynfyd a choeg oferedd; a hynny'n peth y dylid curo i'n calonneu ni farfolaeth Crist, ag yn yr hyn y dylid cwplau dirgelwch eyn dat-brynniad drwy barch a sangeiddrwydd. Heblaw hynny, lle y maen nhwy'n doedyd, ag yn peri i rai ansynwhyrol goelio, allu onynt hwy drwy rinwedd eu F [...]erenneu, ranny, a chyfleu, fal y mynnont eu hun, er lles i ddynion, holl ryglyddiad marfolaeth Crist: (nid anllai er na wyr nemor vn beth y maent arno) nid yw eu helynt hwy yn hyn o beth ddim onid gwatwarwch, a chwimp paganaidd, ag ynfydrwydd. Herwydd nid gwaith yr offeiriad fferenilyd, eithr eyn ffydd eyn hunain, syn cyfroddi croes a marfolaeth Crist er budd, a lles ini. Medd Awstin, y ffydd sy gan ddynion yn y Sactamenteu, ag nid y Sacramenteu ay [Page 45] cyfiownhâ hwynt. Ag medd Origenes, Ad Rom. cap. 3. li. 3. Crist sydd offeiriad ag ef yw'r offwm, ag efo ydiw'r cymmod-iawn, yr hwn gymod iawn sydd yn dyfod i bawb drwy ffydd. Felly‘n y modd hyn (meddwn-ni) ni wna'r Sacramenteu les yn y byd i'r rhai byw, heb ffydd: a llai o lawer i‘r rhai meirw. A thu-ag-at am eu ffrost hwy ynghylch eu Purdan, er cyfadde o honom nad ydyw hwnnw beth bwyr iawn wedi codi'n eu plith nhwy: nid yw ef er hynny,Aug. in Psalm. 85. in Encherid. ca. 6.7. De ciuita. Dei lib. 21. cap. 26. Contra Pelagianos lib. Hipogno. sticon 5. ddim amgē onid ffolder, a choel gwrach yn y lludw.
Yn wir Awstin sy weithie yn doedyd fod y fath le a'r purdan hwnnw: weithie eraill nid yw ef yn gwadu na ddichon bod y fath le: weithie ammeu, ag weithie drach-gefn gwadu y mae ef, nad oes mor fath beth: gan dybied ddarfod twyllo dynion yn hynny, drwy'r anwyl serch y maen nhwy'n ei ddwyn i'r rhai meirw oedd hoff genthynt. Er hynny oll, o'r vnig amryfyssedd hyn, y tyfod cymaint twf a chyn hayaf o fferen-ffeiriadeu a phan oedd arferedig werthu fferenneu ymhob cilfach, Temleu Duw a ddigwyddassant yn dafarneu gwerth: gan wneuthyr i ddynion truain goelio, nad oedd ddim angen-rheitiach eu pryny: Gwir yw, nad oedd ddim yn dwyn mwy elw i‘r offeiriaid o'i werthu, [Page 46] no fferenneu. Tu-ag-at am luosowgrwydd y ceremoniæ ofer, ni a wyddom ddarfod i Awstin gwyno'n dost o herwydd hynny'n ei amser ef;Ad Ianu. Epist. 119. achus pa ham y darfu i ni dorri ymaeth llawer onynt, er mwyn gwybod onom fod cydwybodau dynion mewn trafferth, ag Eglwys Dduw mewn gorthrech o'u plegid. Cadwassom gyda ni, er hynny, mewn parch nid yn vnig y petheu a wyddom ei traddodi o'r Apostolion i ni, eithr petheu eraill hefyd yr rhai a dybiassō y gallent eu dioddef yn ddiniwed i'r Eglwys o ran fod gofal genym (fal yr erchis Pawl) am gwplan pob peth yn y gyssegr gynlleidfa drwy drefn a gweddustra. Pob peth a'r ydoedd gau-oddoliaeth, neu ddifudd, neu frynti, neu watwarwch, neu ynnerbyn y Scrythurau glan, neu'n anghyfaddas i ddydiō pwyllus, fal y mae heddyw aneirif o betheu ynghrefydd y Pab: y rheini a ddarfu i ni eu bwrw ymaeth yn bēdifa dde er mwyn na chlowem ar eyn calonneu adel llugru gwir wasaneth Dduw drwy'r fath ofregedd. Doedyd eyn gweddieu rydym, fal y maen gymwys, yn yr iaith ymae'r bobl yn ei deualld, fegis (ynol cyngor S. Pawl) y gallo'r bobl gael lles cyffredinol drwy gyffredinol weddieu; modd yr arferodd holl dadeu duwiol a'r Escobion catholic [Page 47] yn yr hen a'r newydd destament, bob vn o'r ddau, weddio eu honain, a dyscu i'r bobl weddio: rhag ini (fal y doedodd S. Awstin) fegis yr adar Parateu, a'r Mwyeilch, gymeryd arnom ddoedyd y peth nis gwyddom.
Nid oes gennym Gyfryngwr na Gweddiwr arall drwy'r hwn y down at Dduw, onid Iesu Grist; yn enw'r hwn yn vnig, mae'i Dad ef yn canniattau pob peth. Eithr peth cywilyddus, a llawn o anghrediniaeth ydyw'r hyn sy gyffredinol ym hob, man, yn Eglwysi eyn gwrthwynebwyr fynny onynt gael rhyfedi anneirif o Seinteiu i weddio drostyn, a hynny'n ollawl heb awdurdod gair Duw, a bod fal y doedodd y Prophwyd Hieremias, Hieremias 2. & 11. cynnifer o Seintieu ag sydd o ddinassoedd neu y chwaneg, a'r bobl (druain gwerin) ni wyddant pa'r Saint ore iddynt ymgais ag ef. A hefyd er bod cymaint nifer o Seintieu na ellir mo'u rhifo, Etto'r gwyr hyn a ossodassant goppinod o ddyledus gamp, a chyfaddas swydd pob vn onynt, nid amgen no pheth a ddyle'r Seintieu ei geisio ar law Duw, a pheth a ddylent ei roddi, a'i gwplau, o'u gwaith ei hun.Bernardus Heblaw hyny [...]yd galw y maent (nid yn vnig yn annuwiol, eithr yn ddigwilidd) ar Fair forwyn mam Crist, gan erchi iddi goffau ei bod hi'n fam, a bod yn [Page 48] gymmessur iddi orchymmyn ei mab a chymeryd erni allu ag awdurded Mam ar eithifedd.
Cyfodde'r ydym e [...]i pob dyn mewn pechod, a bod pawb yn treiglo'u heinioes mewn pechod: na ddichyn neb ddoedyd (mewn gwirionedd) fod calon lan gantho: doedyd rydym nad yw'r dyn cyf [...]n wna onid gwas di-fudd: hefyd may perffaeth ydyw cyfraith Dduw, a mynny o honi gael vfudd dod perffaeth gennym-mi: Na allwn-ni mewn modd yn y byd, gyflowni'r Gyfraith hon yn y bywyd ymma: Ag nad oes vn dyn a ddichyn cael ei gyfiawnhau drwy ei haeddedigaetheu ei hun ger bron Duw: Ag am hynny, nad oes gennym Nodded, na chyrchfa arall i ddianc etti, eithr yn vnig at drugaredd Dduw'n Tad drwy Iesu Grist, dan gadarn-goelio a hyfforddi'n meddy lieu, may efe sy'n cael maddeuant ini o'n pechodeu: A golchi yn lan holl frynti'n pechodeu ni yn ei waed ef: ddarfod iddo fo heddychy pob peth drwywaed ei Groes: ddarfod iddo fo gwplau a chyflowni pob peth drwy'r vnig Aberth hō no a offrymmodd ef vnwaith a‘r y Groes. Ag am l ynny, pan rodd ef yr yspryd i fyny, y doedodd efe Gorphennwyd, fegis mynny onaw ef arwyddoccau ddarfod [Page 49] yr owr‘on gwbl-dalu pris a phridwerth dros bechodau boll rywiogaeth ddyn. Od oes neb yn tybied na wa snaetha yr Aberth bon, elont a'r nawdd Dduw a cheissiont vn arall a fo gwell. Nyni'n wir, oblegid gwybod onom may hon yw'r vnig aberth, ydym fodlon gennym hi yn vnig, heb edrych am vn arall. Ag oblegid nad oedd hon ond vnwaith iw hoffrymmy nid ym-mi yn peri adnewyddy'r offrwm hwnnw drachgefn; Ag o herwydd bod yr Aberth hon yn gyflawn ag yn berffaith ymhob rhan ag ysturiaeth, nid ydym-mi yn gossod yn lle honno mor Abertheu i barhau'n wastad yn-ol ei gilydd.
Yn ychwaneg, er doedyd o honom nad oes i ni ddim gobrwy drwy eyn gweithredoedd eyn hunain, eithr gossod onom holl hanfod eyn hiechydwriaeth yng Hrist ei hun, etto er hynny nid ydym yn doedyd y dlae dynion fyw mewn rhydid a maswedd, fegis na bae raid i gristion ddim amgen no'i Gred, ai fedydd, ag na cheisyid ond hynny gantho: canys ffydd gywir sydd fywiog a ffrwythlawn, ag ni ddichyn fod yn seugurllyd. Llyma wele'r modd rymni'n dyscu'r bobl; ddarfod i Dduw eyn galw ni, nid i loddest ag anlladwrydd, eithr fal y doedodd S. Pawl i weithredoedd [Page 50] da mal y gallem rodio ynddynt: a darfod i Dduw eyn dwyn ni oddiar allu'r Tywyllwch, i wasnaethu Duw hyw. Megis y gallem dorri ymmaeth holl weddillion pechod, a gweithio eyn hiechydwriaeth mewn ofn a chrynfa, fal y no bynod fod yspryd y Sancteiddrwydd yn eyn cyrph, a Christ ei hū drwy ffydd yn trigo o fewn eyn calonneu.
Ymhellach, credu yr ydym am y cnawd ymma, yn yr hwn yr ym yn byw, er iddo ar ol marwolaeth fynd yn bridd, etto yn y dydd diwaethaf y dychwel ef i fywyd drwy waith yspryd Crist sy'n trigo ynom: a diau ydyw, beth bynnag a ddiodde fom er mwyn Crist yn y cyfamser, y sychef y pryd hynny pob dagr wylofain o'n llygeid; ag y cawn ni drwyddo ef fwynhau bywyd tragwyddol, a bod byth gydag efo mewn gogoniant. Amē.
Llymma wele'r echrslawn Heresi honno, am yr hyn y may Pab Rhufain yr awr hon, yn barnu ag yn bwrw ar goll y darn mwya o'r byd. heb wrādo erioed etto ysturiaeth eu hachos hwync-Cymhwyssach fuasse iddo, erlyn cyfraith yn-nerbyn Crist a'r Apostolion, a'r Tadea sanctaidd; herwydd o honynt hwy nid yn vnig may hanfod, eithr dechre, a dosparch y grediniaeth hon: oddieithr i'r Pab a'i blaid ddoedyd (fal y gwnat y scatfydd) nad ordeiniodd Crist y Cummun [Page 51] sanctaidd iw ranny ymysc y rhai ffyddlon; Neu ddarfod i Grist, a'r Apostolion, a'r hen dadeu, ddoedyd offerenneu neulltuol ymhob congl o'u Temleu, weithie deg, weithie vgain, mewn vn diwrnod: neu ddarfod i Grist a'r Apostolion wahardd yr holl gyffredin-bobl oddiwrth Sacrament ei waed ef: Neu nas galwodd Gelasius (en harbro hwynt) yn gyssegr-leorad y peth y maent hwy yn ei wneuthyr heddyw ymhob man, gan farnu yn Heretic y neb a wnelo amgen. Neu na ddoedodd Ambros, Awstin. Gelasius, Theodoretus, Chrisostomus, ag Origines, y geirieu hyn: Y Bara a'r gwin yn y Sacrament ydynt yr vn rhyw ag oeddent o‘r blaen: y Peth yr ydis yn ei weled a'r y bwrdd sainctaidd, Bara ydyw: Nid ydyw sylwedd y Bara, a naturiaeth y Gwin yn peidio: Ni newidiwyd mo sylwedd a naturiaeth y Bara: y Bara hwnnw, cimaint ag a hanyw oddeunydd bara, sy‘n mynd i‘r bol, ag a fwryir allan ir dommen; Neu na weddiod Crist a‘r Apostolion, a‘r Tadeu sanctaidd, yn yr iaith y galle‘r bobl ei deall: Neu na chwpplaodd Crist y cwbl drwy‘r vnig Aberth honno, a offrymmodd ef vnwaith: Neu may amherffaith oedd yr Aberth honno, a bod yn rhaid i ni'r amser ymma wrth vn arall.
Hyn y gyd a orfydd i'r Pabyddiaid ddoedyd, oni bydd gwell genthynt (ond odid) ddoedyd yn y modd ymma: fod pob cyfraeth a chyfiownder wedi ei gau a‘i gloi o fewn cist-dwyfron y Pab; Ag fal ni bu blyg ar dafod vn o'i weision a'i wenieithyddion ef ddoedyd y dichyn y Pab roddi cennad a chyd-ddwyn yn-nerbyn yr Apostolion, Dist. 36 [...]ector, in Glossa. yn-nerbyn Cyngor, yn-nerbyn Rheoledigaetheu'r Apostolion: ag nad ydyw‘r Pab rwymedig i sefyll wrth sampleu,Dist. 82. Presbiter. a deddfau, a chyfreithieu Crist. Nyni a ddyscassom y petheu hyn gan Grist, gan yr Apostolion, a chan y Tadeu Sanctaidd: ag ydym yn ffyddlawn yn dyscu'r vn-rhyw i dylwyth Dduw; o achos pa ham, mae pen Escob y crefydd yn eyn galw ni, y pryd hyn, yn Hereticiaid. O dragwyddol Dduw! a aeth Crist ei hun, wrth hynny, a‘r Apostolion, a chynifer o daden sanctaidd, ar gyfeiliorn? wrth hynny, ydoedd Origines, Ambros, Awstin, Chrysostom, Gelasius, Theodoretus, ymwrthodwyr a‘r ffydd gatholic: wrrh hynny, ydoedd cyttundeb cynnifer o Escobion a gwyr dyscedig ddim am [...]en onid cydfwriad Hereticiaid? Neu ydyw‘r pryd ymma, ddamnedig ynom-mi, y peth ydoedd y pryd hynny, ganmoledig ynddynt hwy? Neu‘r peth ydoedd yr amser [Page 53] hwnnw, gatholic ynddynt hwy, ai Scism yw hynny'rowron ynom-ni, a hyn o herwydd newidio meddylieu dynion? Neu er mwyn nad yw'n rhyngy bodd iddynt hwy, ai anwir heddiw y [...]w‘r peth oedd wir gynt? dan [...]ossa [...]t hwy [...]heu wrth hynny Efengyl arall, neu adroddont yr achossion pam y gorfydd di [...]en yr awr-hon yn y diwedd, y petheu a gadwyd a [...] a fuout gymeradwy gyhyd ag mor gyff [...]edinol yn Eglwys Dduw. Ni a wyddom yn dda am y gair yr hwn a hynododd Crist, ag a danodd yr Apostolion ar lled, ei fod ef yn ddigon grymmus i gadw ag i gynnal eyn hiechydwriaeth a phob Gwirionedd, a hefyd i wrth-ladd pob Heresi.
Drwy 'r gair hwnnw‘n vnig,euog-farnu condemnio yrydym ni bob math o‘r hen Hereciaid, a‘r y mae eyn gwrthwynebwyr yn haeru arnom en galw a‘u hadgyfodi o vffern; nid amgen no‘r Arriaid, Eurychiaid, Marcioniaid, Ebionæaid, Valen [...]iniaid, Carpocratiaid, Tatianaid, Nouatiaid, ag ar fyrr eirieu pob vn o‘r sawl oeddynt y [...] tybied yn annuwio o Dhuw‘r Tad, neu o Grist, neu o‘r Ysbryd glan, neu o ryw ran arall o grefydd Crist: oblegid argyoeddu o‘r Efengyl nhwy, doedyd yr ym i'me eu bod hwy yn ddynion echruslawn, wedi d [...]rfod [Page 54] amdanynt, gan eu cassau a'u ffieddio hyd ymhyrth vffern: Ag nid ym yn vnig yn eu gadel nhwy felly, eithr o digwydd iddynt darddu allan ar lled yn vn-lle, gwascu'r warrog arnynt yr ydym drwy nerth cyfraith a chospedigaetheu corphorol.
Yn wir, cyfadde'r ydym hwyn-gynta'g y cododd yr Efengyl, godi hefyd yn y byd Sectæ newyddion ni chlywyd son am eu bath: sef, yr Anabaptistiaid, Libertiniaid, Menoniaid, Zoenkfeldiaid. Eithr i Dduw i diolchwn, fod yr holl fyd yn gweled na ddarfu i ni ddwyn i'r byd, na dyscu, na magu'r petheu erchyll hyn. Darllen,, adolwg, pwy bynnag wyt eyn llyfreu ni, y maent ymhob man ar werth. Beth a scrifennodd vn o'n teuleu ni erioed, ar a alle gytuno'n amlwg ag ynfydrwydd yr Hereticiaid hyn:
Neu'n hyttrach, nid oes vn Goror y dydd heddyw cyn rhydded oddiwrth y pla-heintieu hyn, ag ydyw'r gwledydd lle yr ydis yn dyscu'r Efengyl yn llwybraidd, ag yn gyffredinol. A phette'n gwrthwynebwyr ni'n gwneuthyr iawn ysturiaeth or achos tal y dylent, prawf mawr yw hyn, may dymma wirionedd yr Efengyl, yr [Page 55] hon rydym-mi yn ei dyscu i‘rbobl: antyr i ler dyfu ond gyda gwenith, odid dyfu peiswyn heb yd. Pwy ni wyr er yn amseroedd yr Apostolion eu hunain, pa sawl Heresi a gyd-godassant yn y man hwyn-gynta‘g y tanwyd yr Efengyl ar lled?
Pwy erioed a glowse son o'r blaen am Simon, Menander, Saturnius, Basilides, Carpocrates, Cherinthus, Ebion, Valentinus Secundus, Marcosius, Colorbasius, Heracleo, Lucianus, a Seuerus? Beth a wnawn ni'n coffau‘rhain? Epiphanius a gyfrifodd bedair-vgain amriw Heresi: Ag Awstin yntef lawer amriw Heresi ychwaneg, a ddarfuasse iddynt gydtyfu gyda'r Efengyl. Beth er hynny? Ai‘r Efengyl nid ydoedd Efengyl er mwyn geni Heresieu gyda hi: Neu ai Crist nid ydoedd Grist, am yr vn achos?
Etto er hynny (fal y doedassom o‘r blaen) nid yw‘r cnwd hwnnw yn egino gyda nyni, y sawl ydym yn dyscu‘r Efengyl i‘r bobl yn llwy braidd, ag yn gyffredinol. Ymhlith eyn gwrthwynebwyr ni, mewn dallineb a thywyllwch, may‘r gwenwynig betheu hyn yn codi, ag yn cael cynnydd a nerth, lle‘r ydis drwy greulondeb yn gorthrechu‘r [Page 56] gwirionedd fegis na cheir clywed mo honi oddieithr mewn cilfacheu, a dirgel ymgyrchiadeu. Treiont yn hydda: canhiadant y ffordd yn rhydd i‘r Efengyl: tywynned Gwirionedd Iesu Grist, ag estynned ei belydyr disglair i bob man; a nhwy a gant weled yn y fan, modd y difanai'r cyscodeu vchod wrth lewyrch yr Efengyl yr vn agwedd, a thywyllwch y nos wrth ddiscleiriad yr haul. Canys, yn y cyfamser, tre fo'r gwyr hyn yn eistedd, a‘u bryd ar beth arall, rhwystro a gwrth-ladd beunydd rym-mi'r holl Heresieu doededig, yr rhai maen-nhwy'n cam-haeru arnom eu magu a‘u mowrhau.
Lle maent hwy‘n doedyd eyn bod ni wedi eyn gwahan yn Sectæ, a bod rhai onom yn mynny‘n galw‘n Lutheranaid, ag eraill yn Zwingliaid; ag na fedrassom-mi etto gyttuno yn eyn mysg eyn hunein ynghlch sylwedd athrawiaeth y ffydd: beth a ddoedassent hwy pe y buasent yn amseroedd cynta‘r Astostolion a‘r Tadeu sanctoidd? pa [...] ddoede vn, ar du Paul rydwyf fi, ar du Cephas medde‘r llall rydwyf inne [...], a minnef medd‘r trydydd, yn dal gyda‘g Apollo: pan oedd Pawl yn ceruddy Podr: pan ar sorriant yr ymadawodd Barnabas a Phawl: pan oedd y Cristnogion [Page 57] fal y doedoddd Origines wedi eu gwahan mewn cynnifer o bleidieu, ac nad oedd gan-thynt ddim tebig i Gristnogion ond yr henw yn vnig, a'u bod nhwy ymhob peth arall yn anhebig i Gristnogion; a'r bobl, fal y doedodd Socrates, yn gwneuthyr gwawd a gwatwar cy boedd am eu penneu nhwy'n y chwareufaeu, oblegid eu cynhennau a‘u Sectæ; hefyd (fal y mynegodd Constantin yr Ymerodr) fod y pryd hynny cymmeint amriw ymrysson ag ymsennu yn yr Eglwys, nad oedd yr holl drallod a‘r blinfyd a fuasse ymlaen-llaw, ddim cyffelib iddo: pan ymryssone Theophilus, Epiphanius, Chrisostom, Awstin, Ruffinus, Hieronimus, y rhai oeddynt Gristnogion a Thadeu catholic, bob vn yn-nerbyn ei gilydd, heb ddiben na dosparth o‘u chwerwedd a‘u hamrafaelion; pan oedd aelodau o‘r vn corph (fal y doedodd Nazianzenus) yn difa ei gilydd: Pan oedd gwahaniaeth rhwng y gwyr Eglwysig o‘r Dwyrain, a‘r lleill o‘r Gorllewin, ynghylch bara lefeinllyd, ag amser y Pasc, yr hyn betheu nid oeddynt fawr iawn i wneuthyr trin amdanynt: A phan ymhob cymanfa-Gyngor y gwneid Credo newydd a dedd [...]eu newyddion yn oestadol, Beth a ddoedase'r bobl ymma (dybygwch'i) yn yr amseroedd [Page 58] hynny? yna pa blaid a gymerassent hwy‘n benna? a pha blaid a wrthodasent hwy? Pa Efengyl a gredasent hwy? Pa rai a henwasent hwy‘n Hereticiaid, a pha rai‘n Gatholiciaid? Ag etto, pa drin a thrallod, maen nhwy‘n ei wneuthyr y pryd hyn, ynghylch dau enw, Lutherus, a Z [...]inglius; megis oblegid darfod i‘r ddau ymma anghytuno yn rhyw beth, am hynny y dylem-mi goelio eu bod nhwy'll dau mewn amryfyssedd; nad oedd yr Efengyl gan yr vn o'r ddau: ag nad oedd yr vn o'r ddau yn dyscu'r Gwir yn iawn?
Eithr o Dduw dayonus! pa fath ddynion ydyw‘r rhain sy‘n beio arnom-mi am ymrafaelion? ag ydynt hwy eu hunain (dybygwch chwi) yn cytuno yn dda? yw Pob rhai o honynt hwy‘n ddi-ammeu genthynt beth a galynant? Oni bu erioed ddim ymrysson, ddim ymrafaelion, yn eu plith nhwy? Pa ham ynte nad ywr Scoristiaid, Thomistiaid; yn cytuno‘n well yn eu mysc eu hun, ynghylch y peth y maent hwy‘n ei alw Meritum congrui a Meritum condigni, ynghylch pechod dechreuadol yn y wynfydedig Fair, ag ynghylch Addunedau, sef, Votum solonne, & votum simplex? Pam y mae'r Cannonistiaid yn doedyd ddarfod ordeinio y gyffes-glust [Page 59] drwy gyfraith ddyn, a'r yscolheigwyr nhwythe, yn doedyd doarfod ei hordeinio drwy gyfraith Dduw? Pa ham y mae amrafael rhwng Albertus Pighius, â Chaietanus; rhwng Thomas, á Lombardus; rhwng Scotus; a Thomas; rhwng Occanus, a Scotus; rhwng Alliensis, ag Occanus; rhwng y Nominaliaid, a'r Realiaid? Ag nid wyf fi‘n crybwyll etto am gynnifer amrafaelion y ffrierod ar Mynachod, fod rhai o honynt yn cyfleu sancte ddrwydd mewn bwyta pyscod, eraill mewn bwyta llysieu: rhai mewn gwisco escidieu, eraill mewn Sandalieu; rhai mewn gwisc lien, eraill mewn gwisc wlan; rhai o honynt yn gwisgo dillad gwnion, eraill dillad duon: rhai wedi eillio‘u corynneu yn llettach: eraill yn gyfyngach: rhai'n myned a gwadneu dan ei traed, eraill yn draednoethion: rhai a gwreguseu amdanynt, a rhai eraill heb wreguseu,
Nhwy a ddylent goffa hefyd;Stephan. Gard. in Diabolia Sophista fod rhai o'u plaid nhwy hunain yn doedyd fod corph Naturiol Crist yn Swpper yr Arglwyd; drach-gefn, y mae rhai eraill onynt o‘r un blaid yn doedyd y gwrthwyneb:Rich. Faber. Mae rhai onynt yn doedyd eyn bod ni‘n dryllio ag yn vriwo a‘n danedd gorph [Page 60] Crist yn y Cummun cyssegredig:Recant. Berēgarij Schola & Glossa cui mundus de conser. dist. 2. Ego Beren. yr hwn beth mae rhai eraill o‘r vn blaid yn ei wadu; Mae rhai onynt yn scrifenny fod corph Crist Quantum in Eucharista, sef, fod ei gwbl saintioli ef yn y Sacrament; a rhai eraill o ho [...]ynt yn doedyd nad yw. Mae rhai yn doedyd ddarfod i Grist gyssegru drwy nerth ei allu Duwiol: Thomas Aquinas. eraill o honynt yn doedyd gyssegru ono-fo drwy fendithio: rhai'n doedyd may drwy nerth pum gair detholedig; ag eraill o honynt may drwy ddoedyd eilwaith y pum gair hynny, y cysegrodd ef: Mae rhai o honynt, yn tybied may‘n y pum gair hynny, Hoc, (y rhagenw-dangos) oedd yn arwyddoccau y bara gwenith; ag eraill yn well genthynt goelio fod Crist yn meddwl, yn hynny, ryw indiuidu [...]m vagum; (fal y galwant hwy'r peth:) Mae rhai o honynt yn doedyd y dichyn cwn,Gardinerus. a llygod, wir-fwytta corph Crist: eraill yn gwadu hynny'n syth iawn. Mae rhai eraill yn doedyd y dichyn lliw,De conc. dist. 2. species Glossa. a llun, a hyd, a lled y ba [...]a, a'r gwin borthi: a rhai yn doedyd fod sylwedd y bara, yn ymchwel drachgefn. Pa raid son ychwaneg? Rhyhir a gormod poen fydde coffa a chyfri pob peth, rhag mor amheuys ag ymrafaelgar hyd yn hyn o amser yw dull holl crefyd y gwyr hyn yn eu plith [Page 61] eu hunain, lle y cadd y crefydd hwn faeth a dechreuad. Antur iddynt a chytuno vn amser yn eu mysc eu hun, oddieithr‘ysgatfydd fal y Pharisæaid ar Saduceaid: neu fal Herod a Philat, yn-nerhyn Crist. Goreu peth fydde iddynt wneuthyr heddwch yn eu plith eu hun gartref. Ag yn wir nid oes ddim harddach a gweddusach i grefydd, nag vndeb a chyttynniad. Etto nid yw hyn nod addas, diamheuol, o Eglwys Dduw: Canys cytundeb mawr oedd ym-mysc y sawl a addolodd y llo euraid; ag ym-mysc y rhai a gyd-lefas [...]nt yn groch yn erbyn eyn prynwr Iesu Grist, Croes-holia ef. Ag ni ddylem-mi dybied oblegid bod amrafaelion ymysc y Corinthiaid, neu ddigwyddo peth anghydfod rhwng Pedr a Phawl, neu fod ymrysson rhwng Barnabas a Phawl, neu er mwyn nad oedd y Cristnogion yn medry cytuno pawb a‘i gilydd, ynghylch rhyw beth, wrth ddechreuad yr Efengyl, may am hynny nad oedd Eglwys Dduw yn eu plith nhwy? Tu-ag-at am y rhai y maen- [...]hwy o wir gas yn eu galw yn Zuingliaid ag yn Lutheranaid; digon gwir yw bod y ddeuryw hynny yn Gristnogion, yn hoff genthynt eu gilydd, ag yn frodyr. Nid yw‘r amrafael rhyngthynt hwy hynghylch [Page 62] gwraidd a dechreuad eyn crefydd ni, ag nid ynghylch Duw, na Christ na‘r Yspryd glàn, na pha fodd i‘n cyfiownir, nag ynghylch Bywyd tragwyddol, y maent hwy‘n anghytuno; eithr yn vnig ynghylch vn pwnc, a hwnnw heb fod chwaith dwys na mawr iawn. Ag nid oes annobaith nag ammeu gennym, na bydd cytundeb rhyngthynt ar fyr o amser. Ag ddoes rai onynt a choelion amgenach genthynt nag a wedde, di-ammeu y rhoddant heibio eu gwyr-feddylieu au henweu pleidieu, cyn y bo hir; ag y hynnoda Duw iddynt hyn: megis ag wrth ysturio'r achos yn well, ai chwilio yn fanylach, (fal y darfu gynt yn y Gymanfa-gyngor yng-Halcedonia) y tynnir o‘r gwraidd, ag y cleddir byth mewn angof, holl egin ag achossion anghytundeb; a phod gwir fo.
Ond trymma peth yw hyn, eu bod nhwy‘n doedyd amdonom may dynion bryntion a [...]nuwiol ydym, wedi bwrw ymaeth yn ollawl ofalu am grefydd: Ag etto ni ddyle hyn mo‘n trymhau nemor chwaith, gan eu bod nhwy hunain y rhai a haurassant hyn arnom. yn gwybod mor oganllyd, ag mor ffals ydyw. Canys Iustinus y Merthyr sy‘n testiolaethu,Eusebius lib. 4. pan ddechreuwyd pregethu‘r Efengyl a gossod [Page 63] allan henw Crist. may peth cyffredin y pryd hynny oedd alw'r holl Gristnogion [...], sef, dynion di-Dduw. A phan oedd Policarpus yn sefyll yw farnu, yna yr annoge‘r bobl y Rhagbenrhaith i ladd a difa cymain-hun y sawl a addefent yr Efengyl, gan ddoedyd fal hyn [...] sef, gwna ben am y dynion melltigedig ymma sy [...]eb Dduw genthynt. Ag nid ydoedd hyn o drin, o herwydd bod yn wir nad oedd Dduw gan y Cristnogion, eithr o herwydd nad addolent hwy gerrig, a cypullion. chyffion, y petheu a addolid y pryd hynny megis. Duwiau. Ond mae‘r holl fyd bellach yn gweled yn ddigon amlwg, beth a ddioddefasom-mi, a‘n cyd-frodyr, gan y gwyr hyn, er mwyn crefydd ag vn [...]g achos eyn gwir Dduw. Nhwy a‘n bwriasont-ni‘r carchareu, i‘r dyfroedd, i‘r Lan, ag a‘m drybaeddasant yn eyn gwaed ni; a hynny, nid oblegid eyn bod ni 'n odinebwyr, neu'n ladron, neu‘n lladd dynion, namyn yn vnig er mwyn eyn bod ni‘n cyfaddef Efengyl Iesu Grist, ag yn gobeithio yn y Duw byw
Ag er mwyn i ni achwyn, (Duw ti ai gwyddost) nid heb achos rhy gyfiawn a rhy gywir, ddarfod iddynt dorri cyfraeth Dduw o ran eu Tradoddiadeu coegion [Page 64] en hunain: a bod eyn gwrthwynehwyr ni'n gas iawn genthynt yr [...]fengyl, ag yn elynion i Groes Crist, oblegid iddynt drwy lawn wybodaeth ag o'r gwirgwaith-ddioddef mewn cyndynrwydd ddirmygu gorchmynion Duw.
Gan hynny, pan welsont hwy na ellid cael achos cyfiawn i feio ar eyn hathrawiaeth ni, yna rhoi llownfryd a wnaethant ar oganu'n buchedd, gan haeru arnomeuog-farnu ddamnio pob gweithred dda, agoryd y drussieu i bob anllywodraeth ag anlladrwydd, a cham-arwain onom mi'r bobl allan o holl lwybrau rhinwedd. Ag o ddoedyd y gwir, nid ydyw, ag ni bu erioed fuchedd dynion (pe rhown a‘n bod nhwy, n dduwiol, ag yn gristnogion) cyn bured na ellid cael peth gwall yn ymddygiad y rhai goren a‘r rhai diweiriaf: hefyd, mae'r Cyfriw naturiaeth ym hob math ar ddyn i ogwyddo at ddrygioni, a chyn howsed hefyd gan bawb ddrwg dybied; ag y gellir clywed doedyd, a pheri coelio, y petheu ni wnaethpwyd erioed, ag nid amcanwyd en gwneuthyr. Ag fal y cenfyddir y smotyn lleiaf yn y dilledyn gwnnaf, fell y hawdd yw craffu ar y gronyn lleiaf o frynti yn y fuchedd lanaf. Nid ym-mi'n tybied eyn bod ni'n hunein [Page 65] (neu'r cynifer a dderbyniodd athrawiaeth yr Efengyl) fal Angylion, ag yn byw'n ddi-feius ag yn ddifrycheulyd: ag ni thybiwn-ni chwaith, allo o‘r gwyr hyn fod mor ddall nas canfyddant hwy drwy‘r rhigol lleia, od oes ddim ynom a ellir craffu arno: na'u bod nhwy mor howddgar ag y cymerant hwy ddim or eiddym-mi yn y rhan goreu: nag etto mor rhywiog eu hysturiaeth, ag y bydd gwiw genthynt droi eu golwg yn ol, i edrych arnynt eu hun, a chyd-bwyso eyn buchedd ni gyda‘r eyddynt eu hunain. Od aem-mi i chwilio yn fanwl, hyn o beth o‘r dechreuad, ni a wyddom fod yn amser yr Apostolion, ddynion Cristuogion, drwy'r rhai y ceblid enw‘r Arglwydd ag y gogenid ef ymhlith y cenedloedd.
Constantin yr ymerodr (fal y scrifennodd Sozomenus) a gwynai gynt fod llawer yn mynd waeth-waeth ar ol cymeryd ernynt grefydd Crist. Cyprianus ynte,De lapsis. mewn Araith alarus a ossododd allan lygredigaeth ei amser ef. Segurwch a hir Dangnefydd (hebref) a lugrodd yr athrawiaeth yr hon a draddododd yr Apostolion i nl. Pob vn yn myfyrio am helaethu ei dref-tad, a chan ollwng drôs gôf bob vn or ddau, beth a wnaeth y crediniaid gynt dan [Page 64] [...] [Page 65] [...] [Page 66] yr Apostolion, a hefyd beth a ddyle pôb Cristion ei wneuthyr byth: nhwy a roddassant eu llawn ofal ar amylhau eu da bydol, drwy fawr awydd cybydd-dra annigonawl. Nid oes ddim cywir-Grefydd yn yr offeiriad: nid oes mor ffydd gyfan yn y gwenidogion; nid oes dim trugaredd mewn gweithredoedd; na dim addysc ymmoeseu dynion; y gwyr a aethant yn wrageddaidd; a‘r gwragedd a beintiasant eu hwyneb-pryd. Achyn amser Cyprianus y doedodd Tertullianus; O mor druain ydimmi a elwir y Cristnogion y pryd hyn! byw rydym ar ôl dull y Cenedloedd dan enw Crist. A chwedi hynny (nid er cofio‘r holl storieuwyr) Gregorius Nazianzenus a ddoedodd fal hyn am y druanaidd gyflwr yn ei amser ef: Mae ini (heb'r ef) gas a dygasedd ym-mysc y Cenedloedd, er mwyn eyn cam-weddeu. A hefyd, nyni aethom yn rhyfeddod, nid yn vnig i Angylion, ag i ddynion, eithr yn ollawl ir holl rai annuwiol. Llymma'r cyflwr yr oedd Eglwys Dduw yntho, pan ddechreuodd yr Efengyl gyntaf oleuo, a phan nid oerasai etto gynddeiriowgrwydd y traws-Bennaethied, ag ni thynnessid etto mor cleddyf oddiar warreu'r Cristnogion. Sef, gwir iawn nad peth newydd yw bod dynion yn ddynion, ie [Page 67] er cael onynt eu galw gerfydd henw Crstinogion. Ond tra fo‘r gwyr hyn mor atcas yn eyn cyhuddo ni, a feddyliant hwy yn y cyfamser ddim amdanynt eu hun? A thra font yn cael hamdden i edrych cym-mbelled beth a wneler yng Germania ag yn Lloegr; ai gyllwng dros gof a wnaethant, ai ynte canfod nis gallant, beth rydis arno yn Rhufain? Ai‘r gwyr hyn yw‘n cyhuddwyr ni, y rhai ni ddichyn neb grybwyll am eu buchedd yn ddiwarth, ddi-gwilidd? Ni chymerwn i arnom ar hyn o amser ddangos a chyhoeddi i‘r byd y petheu a ddylent gael eu cuddio au claddu gyda‘r sawl a‘u gweithiodd. Nid yw hynny gysson a'n crefydd ni, ag ni wedde fo chwaith i'n lledneisrwydd a‘n gwladeiddrwydd ni. Eithr etto y Pab Rhufain. gwr sy‘n gorchymyn ei alw ei hunan yn Vicar Crist, ag yn Ben a'r yr Eglwys, ag ydyw‘n clywed, ag yn gweled, ag yn goddef, (ni ddoedwn ni ddim chwaneg) gwneuthyr petheu drwg yn Rhufain, efo a ddichyn yn hawdd rhyngtho ag efo‘i bū, feddwl pa fath betheu ydyw'rhai hynny: Deled yw gof ef yn bydda, a meddylied, may Canonistiaid o‘r eiddo ef yw‘rheini a ddyscasant i‘r bobl nad pechod ydyw godineb rhwng meibion a merched: fegis, pe dyscassent yr athrawiaeth hon gan Mitio yn llyfr Terens, lle [Page 68] mae ef yn doedyd fal hyn: Nid yw bechod (coelia fi) er i fab hel puteinieid. Meddylied may'r eiddo fo yw‘r rhai a wnaethant ddeddf na ddylid symmy: offeiriad o‘i le am odineb. Galwed iw gofddarfod i Gardinal Campegius, Albertus Pighius, ag i lawer eraill oi blaid ef,3. ques. 47. lata. extra. De Bigamis, Quia circa. ddyscu i'r bobl fod yr offeiriad a g [...]two gordde [...], neu fyr [...]ones, yn by w‘n sancteiddiach ag yn ddiweiriach o lawer, na‘r neb a fo a gwraig briod gantho. Gobeithio na oil yngodd ef dros gof fod llawer mil o buteinieid yn Rhufain, a‘i fod ef ei hunan yn casclu ardreth oddiwrthynt, ynghylch Nowmil o Bunneu bo [...] blwyddyn; ag na all ef allwng dros gof, fod onaw ef yn cadw putteindra cyffredin yn Rhufain, ag ar gwobr brynta, trwy frynti a direidi, yn porthi eu chwanteu eu hun. Ai pur a sanctaidd ydoedd pob peth yn Rhufain pan oedd Ioanna, Siwon Bab. Mae delw'r wraig ym ma yn es [...]or: eto yw gwel [...]d yn Rhufain. gwr [...]ig gymedrolach o oedran, nag o fuchedd, yn Bâb Rhufain, ag yn cymryd erni fod yn hen ar yr Eglwys? Ag ar ol iddi chware‘r butteyn ddwy flyn [...]dd yn yr Eiesteiddfa sanctaidd, er diwedd wrth fynd mewn prosessiwn amgylch y dref, yngwydd y Cardi-n [...]liaid ar Esco [...]ion, hi escorodd ar blentyn ar ganol yr heol yngolwg pawb? Pa raid dwyn ar gof gordderchion a llataion [Page 69] pechod cyffredinol elw-gar yw hwnnw yn Rhufain y pryd hyn. Eistedd yno mae puteyniaid yr amser ymma, nid fai yr eistedden [...] gynt o‘r tu allan i‘r dref,Gen. 38. wedi gorch-guddio eu penneu a‘u hwynebeu, eithr [...]igo y maent mewn plasseu,In concilio Dilect. Cardinalium. to 3. a thai gwchion, gan fynd wrth eu bodd, i‘r llys, a‘r heol, a'u hwynebeu yn ddi-guddiedig; fegis na bae hyn o helynt yn v [...]ig yn rhydd, namyn hefyd yn ganmoliaeth iddynt. Pa raid y chwaneg? Mae brynti eu [...]uchedd hwynt yrowron yn hynod ir holl fyd. Bernardus a scrifennodd y gwir yn ddira [...]rith am dylwyth ty Escob Rhufain, a hefyd am yr Esco [...] ei hun:De consideratione ad Eugenium. Dy Blâs di (be [...]r ef) sy'n derbyn dynion da i mewn ond heb wneuthyr vn da [...]yno mae y rhai drwg yn tyccio, a‘r rhai da yn tryccio. A phwy bynnag ydoedd hwnnw a scrifennodd y gwaith trirhannog a gyssylltiwyd a‘r Cyngor-La [...]eranense, cymaint rhyfyg (medd ef) ag anllywodraeth sydd heddyw, nid yn vnig yn yr yscholheigion a‘r offeiriaid, eithr hefyd yn y Præl [...]tiaid, a‘r Escobion, ag y mae'n er [...]hyll clywed son am dano.
Ar petheu hyn nid ydynt yn vnig arferedig, ag wrth hir gydfod a hwynt yn gymeradwy, fegis eu holl helyntieu eraill gan-mwya, namyn bellach wedi mynd yn [Page 70] hen ag yn hwdr addfed. Canys, pwy nis gwyr pa ddialedd a wnaeth Petrus Aloisius (mab y Pàb Pawl y trydydd) a Chosmus Ch [...]rius Escob Efanensis? A‘r peth a wnaeth Ioannes Casa Archescob Beneuentanus, ydoedd genadwr dywrth y Pab, at Bennaethieid tref Venis, yr hwn Archescob a scrifennodd yng-hanmoliaeth pechod ffiaidd erchyll, yr hwn ni ddylid crybwyll amdano, ag ai gosodod ef allan a geirieu or fath serthaf, mewn cymhendod melldigedig? Pwy ni chlywodd mor ddiffaith ag mor echryslawn y lladdodd Alphonsus Diazius (ydoedd Spaniard) ei frawd Ioannes Diazius, gwrgwirion santeiddiol drosben, oblegid ddarfod i‘r Ioannes hwnnw dderbyn Efengyl Iesu Grist, ag na fynne ef ddyfod i Rufain ond hynny; o achos pa ham y danfonessid yr Alphonsus vchod o Rufain i Germania yw ladd ef? Ond fo alle, yr attebant hwy y dichyn y fath bethau a‘r hain weithieu ddigwydd lle y bo goreu llywodraeth, a hynny'n erbyn ewyllys y llywodraethwyr: a bod cyfreithieu da i gospi y cyfriw gam-weddeu.
Gedwch i hynny fod; ond trwy ba gyfraith dda y cospwyd y petheu bryntion hyn? Petrus Aloisius a‘r ol gwneuthyr onaw ef y diffeithwch a grybwyllwyd or [Page 71] blaen, a gafodd yn wastad wedi hynny ei goledd fal anwylyd ym-mynwes ei Dad y Pab Pawl y trydydd. Diazius yntef, a'r ol iddo ladd ei frawd, a ddiangodd drwy waith y Pâb fal na chai‘r gyfraith dda afael arno iw gospi. Ag am Ioannes Casa Archescob Beneuentanus, mae'r gwr hwnnw etto'n fyw: ie, a byw y mae efe yn Rhufain yngwydd y Pâb sancteiddiol, a cheyr bron ei lygeid ef. Nhwy a laddassant beth anneirif o'n brodyr ni heb achos yn y byd, ond am gredu o honynt yn Iesu Grist drwy wirionedd a duwioldeb. Eithr o gymaint llu o butteynieid, o rai aflan, ag o odinebwyr, pa vn a ddarfu iddynt vn amser, ni cheissai ddoedyd ei ladd, namyn pa vn a ddarfu iddynt ei escummuno vnwaith, neu roi dwylaw arno? Ai Anlladrwydd, Godineb, Putteindra, lladd cerynt,Lloscach. gwarthus aflendid rhwng cerynt, a ffieidd-dra mwy na hynny, nid ydynt bechodeu yn Rhufain? Neu os pechodeu ydynt, ai rhydd i'r Pâb sydd Vicar Crist, sy'n dwyn swydd Pedr Apostol ag sydd sancteiddiolaf Dad, ai rhydd (meddaf i) iddo ef mor howddgar, ag mor yscafn eu dioddef, fal na baent bechodeu mo honynt; a hynny hefyd yn-rhef Rufain, ag ynghastell y Sancteiddrwydd?
O Scrifenyddion a Pharisæaid sanctaidd! y rhai ni wybuont beth oedd y sancteiddrwydd hyn! O Sancteiddrwydd! O yr ffydd Gatholic! Nid y fath betheu a‘rhain addyscodd Pedr i bobl Rufain: Nid oedd Bawl yn byw yn Rhufain yn y modd hyn. Nid oeddynt hwy‘n cynnal Puteindra cyffredin. Nid oeddynt hwy‘n mynny treth ag ardreth bob blwyddyn gan Butteinnieid: Ni ddioddefent hwy i odinebwyr, a lladdwyr hynod, fyw yn ddigospedigaeth: Ni chymerent hwy mor fath ddynion iw mynweseu, nag iw cyngor, nag iw teulu, nag i gynylleidfa‘r cristnogion. Ag am hynny ni buase raid ir gwyr hyn wneuthyr cymaint twrwf a thrin am eyn buchedd ni. Synhwyrolach fuase, y naill ai profi yn gyntaf peth, fod eu buchedd nhwy eu hun yn dda: neu ynteu guddio eu buchedd, au beiau, y chydig yn ddirgelach.
Canys mae gida nyni etto mewn llawn grym a nerth, yr hen gyfreithieu gynt, a chym-mhelled ag y galler (yr amser sydd oni‘rowron, pan yw buchedd dynion a phob peth wedi llugru) gossod allan rydym yr addysc Eglwysig yn astud ag yn ddiragrith. Nid oes gennym-mi deie cyffredin putteinllyd, na llu o ordderchion, a godinebwyr: [Page 73] Nid ym-mi chwaith yn gossod allan godineb o flaen priodas, nag yn ym-arfer a brynti anifeiliaidd; nag yn casclu ardreth oddi wrth butteindra, nag yn cynnwys godineb ym-mysc cerynt, nag erchyll aflendid, nag yn gadel heb gospedigaeth, y cyfriw laddwyr ag ydoedd Aloisius, Casa, a Diazius. Oblegid ni buase raid i ni ymado a chymdeithas y gwyr hyn, pe buase fodlon gennym y petheu gwenwynllyd ymma, y rhai sydd gyda hwynt-hwy mewn clod a chymeriad. Ag ni buase raid i ni chwaith o ran ymadel a nhwynt-hwy gael cas dynion, a bod hefyd mewn enbydrwydd anescorawl. Nid oes etto alwer Mis er pan ydoedd gan y Pâb Pawl, y pedwerydd fagad o ffrierod Awstiniaid, llawer o Escobion, a rhif mawr o wyr duwiol eraill yngharchar am achos crefydd: ef a‘u rhoes nhwy mewn poenau, ag a fu yn ymholi a hwynt, ag a dreiodd bob modd i beri iddynt gyfedde: Ond yn y diwedd pesawl dyn anllad, pesawl putteiniwr, pesawl godinebwr, pesawl bryntyn a alle ef gael yn eu plith nhwy y gyd? I'n Duw ni bo‘r diolch, er nad ydym fal y dylem, ag fal yr ym mi'n cymeryd arnom fod, etto pwy ddynion bynnag ydym, os cystedlir ni a hwynt-hwy, di-ammeu may [Page 74] hawdd y dihaera‘n buchedd a‘n gwiriondeb ni y petheu y maent hwy'n eu camhaeru arnom. Annog y bobl i bob rhinwedd a dayoni rydym-mi, nid yn vnig drwy lyfreu, a phregetheu, eithr drwy sampleu, a buchedd. Hefyd, dyscu iddynt rydym mi nad ffrost gwybodaeth ydyw‘r Efengyl, namyn cyfraith y bywyd; ag na ddyle cristion fal y dywed Tertullianus) ddoedyd yn anrhydeddus,In Apologetico 45. namyn byw yn anrhydeddus; a hefyd nad gwrandawyr, namyn gweithwyr y Gyfraith a gyfiownheir geyr bron Duw. Heblaw'r petheu ymma a haerasant hwy arnom, eu harfer yw doedyd hyn hefyd, a‘i helaethu drwy bob rhyw ddirmyg a dychan amdanom; sef, may dynion blin trallodus ydym, yn dwyn rhol a llywodraeth oddiar frenhinoedd; gan gyffroi a rhoi arfeu yn-nwylaw'r bobl, bwrw i lawr Eistedd-faeu barnedigaeth; torri cyfreithieu; gwneuthyr hafog o bob meddiant; gostwng Brenhinoedd; a chodi'r cyffredin, bwrw pob peth bē-dra-mwnwgl; ag ar fyr o eirieu,Tertull. in Apologer. 1.2. & 3. na fynnwn ni na threfn, na chyfander, mewn Deyrnas. O (Dduw) pesawl gwaith dwy'r geirieu hyn y cynneuhasant hwy lid Twysogion i'n herbyn, megis y galle'r rheini nhwytheu ddiffoddi goleu'r Efengyl, yn ei thwf a‘i hegin cyntaf, [Page 75] ag y gallent gassau yr Efengyl cyn gwybod beth ydoedd. A hefyd fal y galle‘r Swyddog dybied ganfod onaw ef ei elyn glas, bob gwaith ag y canfydde fo vn o honom mi!
E fydde ofid tost ini gael eyn cyhuddo mor wenwynllyd o ddirfawr drauturiaeth, oni bae wybod onom-mi gael o Grist ei hun, a'r Apostolion, ag anneirif o bobl dda, a christnogion gynt, eu caffau au cenfigenny am yr vn affaith, yn ei herwydd. Canys er erchi o Grist roddi i Cæsar y peth oedd eiddo Cæsar, er hynny fo'i cyhuddwyd ef o gynnwrf, gan haeru arno fwriadu a chwenychy'r deyrnas. Ag am hynny y llefwyd yn groch yn ei erbyn ef geyr bron y browdle, gan ddoedyd, O gollyngi di hwn yn rhydd nid wyt ti garedic i Cæsar. A'r Apostolion er iddynt yn wastad, ag yn ddyfal, ddyscu i ddynion y mufuddhau i‘r Swyddogion, a bod yn rhaid i bob perchen enaid ym-ddarostwng i'r Awdurdodeu vchel, a hynny nid yn vnig herwydd llid, a dial, eithr er mwyn cydwybod; Etto, nid anllai, yr haerwyd arnynt gyffroi'r bobl, ag annog y gynnylleidfa i wneuthyr gwrthryfel. Fal hyn yn bennaf dim, y parodd Haman i frenin Assuerus gassau enw a rhiwogaeth y'r Iddewon, gan ddoedyd,Hester. [Page 76] may pobl wrth-ryfelgar gyndyn oeddynt yn dirmygu gorchmynion Tywysogion. Ahab frenin afradlawn a ddoedodd wrth Elias brophwyd Duw,1. Reg. 18. Tydi yw‘r hwn sy'n blino Israel. Amazia offeiriad Bethel a gyhuddodd y prophwyd Amos o gyd-fwriadaeth,Amos. 7. geyr bron y brenin Ieroboam; Wele (hebr ef) Amos a gyd-fwriadodd yn d'erbyn di ynghanol ty Israel. Ar fyrr o eirieu, peth arferedig (medd Tertullianus yn ei amser ef) ydoedd y cyhuddiad hwn yn-nerbyn yr holl Gristnogion,In Apolog. 37. sef, may Trauturieid Gwrth-ryfelwyr, a gelynion rhywiogaeth ddyn oeddynt. Am hynny od yw‘r Gwir yn yr vn agwedd yn cael gogan y pryd hyn; a chan fod y Gwir yr vn fath beth ag ydoedd yr amser hwnnw, od yw efe yn cael yr vn fath ddirmig a di ysturwch yr awr hon ag yr oedd ef arferedig o‘i gael gynt, er bod hyn yn ofid ag yn adfyd, etto ni ddylem-mi dybied o honaw, fal peth a fae newydd, a dieithr. Hawdd oedd iddynt ddeugain mylynedd i heddyw, neu y chwaneg, ddychmygu y petheu melldigedig hyn, a gwaeth no hyn, yn eyn herbyn ni; pan ynghanol tywyllwch yr oes honno y dechreuodd godi a thywynny beth pelydr o‘r Gwir, nid adweinid ag ni clowsid son amdano‘r pryd hynny: pan ddaeth gyntaf i [Page 77] wybodaeth yr Efengyl, Martin Luther, a Hulderic Zuinglius, deu-wr ragorawl iawn a ddarfuase i Dduw eu danfon i oleuo‘r byd; pan oedd yr athrawiaeth yn newydd, ag yn anawdd gwybod pa fodd y cynnydde: pan oedd meddylieu dynion yn llawn amme a rhyfeddod, au clustieu yn lled agored i wrando pob anair ag anwir: a phan ni ellid dychymmig rhemp mor erchyll, na bae'r bobl yn ei goelio yn ebrwydd, o ran newydd-der a dieithrwydd y peth. Llymma‘r mudd gynt y cychwynnodd Symmachus, Celsus, Iulianus, Porphirina, hen elynion yr Efengyl, gyhuddo yr holl Gristnogion o derfysg a thrauturiaeth, cyn gallu nag o‘r Pennaethied, nag o‘r bobl wybod, pa beth yr oeddynt yn ei gredu; na pha beth a fynnent. Eithr yrowro'n ar ol i‘n gelynion ni weled, ag na allant wad, ddarfod i ni bob amser drwy air ag yscrifen yn ddyfal iawn goffau'r bobl am y peth a wedde iddynt, sef ymufuddhau iw Tywysogion a'u swyddwyr (pe rhoem au b [...]d nhwy'n annuwiol) a chan fod hyn mor hynod drwy hir arfer a phrofiad, ag y mae llygaid pawb, (pwy bynnag ydynt a ph'le bynnag y bont) yn ei lwyr ganfod, ag yn testiolaethu gida ni; brwnt iawn y gwnaethant hwy roi‘r [Page 78] petheu hyn i'n herbyn; a chwedi methy genthynt graffu ar ddim beieu newydd yn hwyr o amser, yna hwdiwch chwi nhwytheu i geisio'n dwyn mewn cas a chenfigen drwy'r hen gelwyddeu diflannedig gynt.
I‘n Duw ni bo‘r diolch yr hwn piau'r achos hyn, na ddamweiniodd erioed etto na therfysg, na Thrauturiaeth, yn yr vn o‘r Teyrnasoedd, na'r Arglwyddiaetheu, na llywodraetheu, a dderbyniasant yr Efengyl. Ni ddarfu i ni ddinistr vn deyrnas nag anrheithio Arglwyddiaeth neb, na gwneuthyr cynnwrf mewn llywodraeth gwlad yn y byd. Aros yn eu haddas radd au hen oruchafieth, y mae Brenhinoedd Lloegr eyn gwlad ni, Brenhinoedd Denmark, Brenhinoedd Swetia, y Duciaid o Saxonia, y‘r Ieirll Palatin, y Marquessiaid o Brandeburgh, y Lansgrauiaid o Hessia, Llywodraetheu cyffredin y Swisseriaid ar Rhetiaid, ar dinassoedd rhyddion a elwir Argentina, Basilea, Francfordia, Vlma, Augusta, Norinberga; y rhain y gyd sy yn yr vn cymeriad a'r awdurdod yr oeddynt ynddo o‘r blaen, Neu‘n rhagorach, gwell yw eu cyflwr nhwy herwydd bod eu pobl yn vfuddach drwy rinwedd yr Efengyl.
Elont, y doiwg, i‘r manneu hynny lle yr ydis drwy ddayoni Duw yn pregethu'r Efengyl: ym-mha le mae mwy braint a llae trowsedd y [...]wysogion? ym-mha fan rydis yn rhoi mwy o anrhydedd i'r Pennaeth? Pa le mae‘r bobl yn llai en hafrol? Ag ym-mha fan y mae llywodraeth y cyffredin ar Eglwys yn howddgarach?
Nid hwyrach y doedwch chwi wneuthyr o bobl y wlad gynnwrf a therfysg ymhob man yng-Germania, wrth ddechreuad athrawiaeth yr Efengyl. Gedwch i henny fod; etto Martin Luther cyhoeddwr yr athrawiaeth hon, a scrifennodd yn owch-lym iawn ag yn hagraidd drosben yn eu herbyn hwynt, ag au dygodd nhwy drach-gefn i heddwch ag vfudddod.
Ond lle y mae dynion anghyfarwydd yn doedyd weithie'ngwrthwyneb i hyn, dan son am newidiad llywodraeth y Swisseriaid, lladdiad Leopoldus y Duc o Awstria, a dad roddi rhydd-did i‘r wlad, e wnaethpwyd hynny fal y testiolaetha‘r holl ystoriaeu, ychwaneg i ddeucant a thrigain mylynedd i heddyw, dan y Pab Bonifacius yr wythfed, pan oedd fwyaf rhwysc a [Page 80] phennaf llywodraeth Pâb Rhufain; ynghylch deucan mylynedd cyn yr vn or ddau, na dechreu o Huldericus Zuinglius bregethu'r Efengyl, na‘i eni ef ychwaith Ag er y pryd hynny etto, e fu bob peth genthynt hwy yn heddychlawn ag yn dangneddefol heb na thwrwf gelynion dieithr na therfysc yn eu plith eu hunain. Ag os ydoedd hyn bechod yn y Swisseriaid, ryddhau onynt eu gwlad eu hun oddi dan lywodraeth Estron-genedl, ag yn enwedig pan oeddynt yn cael eu gorthrechu drwy ddirfawr falchder a throwsder; etto anghyfiawn ag anrhesymmol yw bwrw beieu rhai eraill arnom-mi, neu fwrw arnynt hwy theu feieu eu henafieid.
Eithr o Dduw tragwyddol! wrth hynny ynte, a gyhudda Pab Rhufain nyni o drauturiaeth? A ddysc ef ir bobl y mufuddhau a rhyngy bodd iw Pennaethieid? Neu yw ef yn gwneuthyr bri yn y byd am fraint a mowredd Twysogion?August. steuchus Anton. de Rosellis. Pa ham y mae ynte (y peth ni wnai yr vn o hen Escahion Rhufain gynt) yn gadel iw wenieith yddion ei alw ef yn Arglwydd yr Arglwyddi, fegis mynny ono-fo i'r holl frenhinoedd a‘r Twysogion pwy bynnag ydynt, a ph'le bynnag y maent, fod yn weision chwibanogl iddo ef? Pa ham y mae [Page 81] ynte yn gwneuthyr ffrost may Brenhin y Brenhinoed ydyw ef, a bod iddo frenhinol lywodraeth ar ei ddeiliaid? Pa ham y mae ef yn peri i‘r holl Ymerodreu, ar Twysogion, roi ll [...]s ffyddlōdeb, ag vfndd-dod iddo ef? Pa ham y mae efe yn ffrostio fod yn hwch ei radd ef no gradd yr Ymerodr agos y deucan cymaint: a hynny'n enwedig oblegid i Dduw wneuthyr dau oleuad yn y Nef;De maior. & obed. solit. ag er mwyn iddo wneuthyr y Nef ar ddayar, nid mewn dau ddechreuad▪ eithr mewn vn? Pa ham y darfu iddo ef, a‘i galynwyr, yn ol dull yr Anabaptistiaid a‘r Libertiniaid, De maior. & obedi. vnam sanctam. fwrw‘r Iau heibio ag ymryddhau oddi dan pob awdurdod yn y hyd, fal y gallent hwy foelstotta‘n henrhyddach, ag ynddi-ogelach? Pa ham y mae gantho ef Gennadwyr, sef yw hynny, Spiwyr ffel iawn, yn dirgel-ddisgwyl ofewn llyssoedd, cynghorau, a chyfrinach flafelleu pob brenin? Pa ham y mae ef pan fynno fo yn rhoi‘r Twysogion Cristnogaidd yn erbyn eu gilydd, ag wrth ei chwanteu ei hun, yn aflonyddu'r holl fyd, drwy gynnwrf a chynhenneu? Pa ham y mae ef yn escumuno ag yn peri cymeryd fal Ethnic, a Phagan, pob Twysog o Gristion a ymwrthodo a‘i lywodraeth ef? A pha ham y mae ef yn addo enaid rhydd a phardyneu [Page 82] cyn haeled, a chyn helaethed, i bwy bynnag a‘r a laddo vn oi elynion ef, mewn ffordd yn y byd? ydyw ef yn cynnal Ymerodraetheu, a Brenhiniaetheu, neu yw ef vnwaith yn chwenychy heddwch cyffredin? Ti a ddylid, ddarlleydd duwiol, fadde i ni, er dy fod yn rybied adrodd o honom-mi y petheu hyn yn chwerwach, ag a geirieu duach, nog a wedde i wyr Eglwysig eu harfer; Oblegid mae‘r deffyn mor wradwyddus, ag awydd y Pab i ddwyn rhwysc yn y byd, mor anrhaith-ddioddef, ag na ellir traethu hyn yn llarieiddach,Clement. 5. in concil Viennensi. Leo Papa. nag a geirieu amgenach. Canys nid oedd gywilydd arno, na gwladeiddrwydd yntho, ddoedyd mewn cymanfa-Gyngor, may efe'i hun yw atteg holl awdurdod yr holl frenhinoedd. Ag o ran porthi ei chwant awyddus ef, i lywodraethu ag i deyrnassu fal Brenin, ef a ddrylliodd yn ddarneu Ymerodraeth Rhufain, ag a rwygodd holl Gred drwy drallod a therfysc. Diffaith ag fal bradwr y gwnaeth ef ryddhau'r Rhufeinieid, ar Italiaid, ag efo‘i hun hefyd, o'r llwf a gymerasai ef a nhwytheu, i fod yn gywir i Ymerodr Graecia, gan wyr-droi deiliaid yr Ymerodr oddi wrtho; a galw Carolus Magnus Martellus, o Ffrainc i Italia, af wneuthyr ef yn Ymerodr; yr hyn beth ni welsid erioed [Page 83] mo'r fath.Zachur. Papa. Ef a fwriodd Chilpericus brenin Ffrainc (yr hwn nid ydoedd dwysog drwg) allan o‘i deyrnas, yn vnig er mwyn nad oedd ef yn rhyngy bodd iddo-fo, ag a wnaeth Pipinus yn frenin yn ei le ef. Ag ar ol iddo fwrw allan brenin Philip Dêg, ef a ordeiniodd ag a farnodd (pe y gallase ef gwplau ei amcan) frenhiniaeth Ffrainc i Albertus brenin y Rhufeinieid. Clemens Papa. 7. Ef a anrheithiodd yn llwyr ddifadde ddinas a llywodraeth Florentia ei wlad ei hun: ef a'i dygodd hi o rydd-did a thangneddyf, ag ai dododd dan reolaeth vn gwr fal y galle hwnnw wneuthyr pa lywodraeth a fynne ef, wrth ei ewyllys a'i drachwant ei hun.Idem Clement Efe a osododd yr Ymerodr Carolus y 5, o‘r naull du, a Francis brenin ffrainc o‘r tu arall, i ddinistr Duciæth Sauoy cyn llwyred, ag na adawyd ir Duc aflwyddianus braidd vn ddinas i ioi ei ben ynddi.
Blin ydym yn adrodd y fath betheu ar rh [...], a phoenus iawn fydde goffau holl gampau gwchion Pabau Rhufain. O ba blaid y dolwg oedd y sawl a wenwynodd yr Ymerodr Henri‘r. 7-fed, wrth Gumuno? ag a wenwynodd y Pab Victor yn derbyn y caregl? ag a wenwynodd Ioan brenin y deyrnas ymma wrth yfed diod? [Page 84] Pwy bynnag, ag o ba blaid bynnag yr oeddynt, dia [...] nad oeddynt bwy na Lutheranaid, na Zuingliaid. Pwy heddyw sy'n cynnwys Brenhinoedd a T [...]wysogion galluawg i gussan [...] ei draed bendigaid ef? Pwy sy'n peri i'r Ymerodr sefyll wrth ben ei farch;Sabellicus. ag yn gorchymyn i Frenin Ffrainc ddal y warthol iddo? Pwy a rwymodd mewn cadwyni Francis Dandalus yr hwn ydoedd Ddûc o Venis, b [...]enin Creta, a brenin Cypres, ag a‘i taflod ef dan ei fwrdd,Coelestinus Papa. i gnoi escyrn ymblith cwn? Pwy, nid a‘i law, ond a‘i droed, a goronodd yr Ymerodr Henri'r 7-fed, ag a‘r vn troed a fwriodd y goron oddiar ben yr Ymerodr gan ddoedyd, allu a h [...]-fo wneuthyr ymerodreu, o‘u d [...]-w [...]thyr bwynt, fal y mynne efe?Hildebrad: Papa. Pwy a barodd i Henri‘r mab godi mewn arfeu yn nerbyn yr Ymerodr Henri y pedwe [...]ydd oi dad ef, ag a wnaeth i‘r mab ddal ei dad ei hun yn garcharor; a phwy wedi c [...]ei [...]io a dirmygu'r Ymerodr, a wnaeth ei f [...]w ef mewn Myn [...]hlog, lle, drwy [...], a nychdod, a thrymder, y bu ef f [...]r [...]? Pwy mor frwnt aruthrawl a rod [...] ei dr [...] wddf yr Ymerodr Frederic, [...] hynny ddigon trabaus, ef a draethadd yn y [...]hwaneg y geirieu hyn o‘r Psalmeu, Ar yr Asp a'r [Page 85] Basilisc y [...] dan dy draed, y Llew a‘r Ddraic: y fath ddirmyg a diystyrwch ar fraint a m [...]wredd Twysog ni chlywyd [...] amdano m [...]wn oes yn y byd, na chynt na chwedi; oddieithr y peth a wnaeth Ta [...]berlan Brenin Sc [...]hia, yr hwn ydoedd wr ffrom-wyllt di-ddysc di-ddawn; neu'r hyn a wnaeth Sapores Brenin Persia?
Pahau ydoedd y rhain cymain vn, a phob vn yn cadw eisteddle Pedr Abostol, a phawb o honynt oeddynt Sancteiddiolaf a hefyd rhaid cymeryd amryw eirieu pob vn o honynt fegis amriw Efengylon.
Od ydym mi drauturieid y sawl ydym yn anrhydeddu'n Twysogion, ag yn ymmufuddhau iddynt fegis y mae Gair Duw yn ei erchi, a hefyd yn gweddio drostynt; Pa fath ddynion ynie, ydynt hwy, y rhai heblaw gwneuthyr onynt y cwbl o‘r petheu rhag-ddoededig, y mae hefyd yn gymeradwy genthynt y fath betheu, fegis pettent weithreddedd da drof ben? ydynt hwy ynte yn dyscu'r bobl fal rydym i, i ym-ufuddhau iw Penaethied; neu a allant hwy drwy one [...]rwydd haeru arnom, may dynion cynnurfus ydym, yn terfyscu'r heddwch cyffredin, ag heb fri gennym ar fraint a mowredd Twysogion? yn wir, [Page 86] nid ydym-mi'n vwrw ymmaeth Iau'r ufudd-ddod oddi-arnom; nag yn cyffroi Teyrnassoedd: nag yn gwneuthyr, nag yn dadwneuthyr Brenhinoedd; nag yn newidid llywodraetheu; nag yn rhoi gwenwyn i'n Brenhinoedd iw yfed: nag yn estyn eyn traed iddynt iw cyssanu; na thrwy anfeidrol ddirmygwch yn gossod eyn traed ar gyrn eu gyddfeu hwynt.Chrisost. in 13. cap. ad Romanos. Chwaethach hyn yw'n haddysc a‘n hathrawiaeth ni, may dyledus i bob perchen enaid o ba alwedigaeth bynnag fyddo, ai Mynach. ai Efengylwr, ai Prophwyd, ai Apostol, ymddarostwng i'r Brenhinoedd a‘r Pennaethiaid; Ag y dyle'r Pab ei hun alw a chyfadde‘r Ymerodr yn Arglwydd arno,Gregorius Papa saepe in Epist. ag yn feistr iddo; megis y gwnai Escobion Rhufain gynt yn y byd a fu; oddieithr mynny o‘r Pab gael ei gymeryd yn uwch o radd na‘r Efengylwyr, na'r Prophwydi, ag na‘r Apostolion. Dyscu i‘r bobl yn gyffredinol rydym-mi, may rhaid iddynt ymufuddhau iw Twysogion, fegis i wyr wedi eu danfon oddi wrth Dduw ei hun; a phwy bynnag a safo yn eu herbyn hwynt, sefyll y mae ef yn-nerbyn ordinhaad Duw. Hyn yw addysc eyn hyscol ni: hyn sydd alwg iw weled ag iw glywed yn eyn llyfreu a‘n pregetheu ni; a hefyd ymmuchedd [Page 87] ag yn llarieidd-ymddygiad eyn pobl ni. A lle maent hwy'n doedyd ddarfod i ni ymado ag vndeb yr Eglwys Gatholic, peth atcas iawn yw hyn; a hefyd; er nad gwir mo‘naw, etto y mae lliw a llun Gwirionedd arno. Herwydd y cyffredin a‘r gynylleidfa anwybodus, ni choeliant yn vnig y petheu sydd wir a di-amheuol, eithr hefyd y petheu a ddamweiniant yn debig i wir. Ag am hynny ni a welwn, beth yn oestadal a wnai'r rhai ffel-gyfrwys, oblegid nad oedd wirionedd ar eu tu hwynt, ymddadle ag ymrafael a wnaent ymhlaid petheu cyfflybus i wir, fegis y twyllid drwy ryw eulun, a chyffelybrwydd gwir, y rhai ni allent weled gwaelod ag eigion yr achos. Yn yr amseroedd gynt pan weddie'r cristnogion cyntaf eyn henafiaid ni,Tertul. in Apolog. cap. 16. gan droi eu hwynebeu'tu ar dwyrain, yr oedd rhai a ddoede arnynt eu bod nhwy'n addoli'r haul yn lle Duw. Ag er mwyn doedyd o‘n henafleid oi gynt, tu-ag-ar am fywyd tragwyddol difarwol, nad oedd gēthynt fodd i fyw ond ar gig a gwaed yr oen di-amliw, sef, eyn harglwydd Iesu Grist; yna y rhai cenfigennus, gelynion croes Crist, nid oedd arnynt ofal mwy na pha fodd y gallent ddwyn y Grefydd Grist [...]ogaidd bob ffordd mewn cam-ogan, a wnaent i'r bobl goelio, [Page 88] may petheu e [...]ruflawn oeddynt hwy, yn aberthy cig dynion, ag yn yfed eu gwaed. Ag er mwyn doedyd o‘r Cristnogion gynt nad oedd [...]er-bron Duw,Tertul. in Apolog. cap. 7. 8. 9. na gwryw, na banyw, na gwahan-ragoriaeth yn y hyd rhwng dynion, tu-ag-at-am allu dyfod i‘r vniownder; ag o [...]a [...] iddynt alw bawb ei gilydd yn frodyr, ag yn chwe [...]rydd, wrth ym [...] y [...]re [...] yna, rhai [...] [...]ae [...]ent, y pryd hy [...] [...]r y Crist [...]nogion, nad nedd yn eu plith nhwy ddim gwahan, nag o oed, nag o rywiogae [...]h; eithr cyd-orwedd onynt bawb gyda‘i gilydd yn ddiwaharddedig fal anifeilieid.Idē ca. 39. A phan ymglarfydde‘r Cristnogion, yn fynych, mewn lleoedd dirgel neulltuol, o ran gweddio ynghyd a gwrando pregethu gair Duw, ag er mwyn bod gwrth-ryfelwyr yn arferu ymgunnull yn ya vn modd, fe roed y gair allan, may cydfwriadu, a chyd-ymgynghori yr oeddynt, y naill ai i ladd y Pennaethieid, ai ynte i ddadwreiddio'r [...]lywodraeth gyffredin. A phan gymerent hwy fa [...]a, a gwin, i gwplau‘r Sacrament gyssegr-lan, yn-ol defod Crist, Augustin. contra Faustum. lib. 20. cap 13. llawer a dy [...]iassant nad oeddynt yn addoli Crist, namyn, Ceres, a Bachus; er mwyn arferu o'r bobl E [...]hnic, a bara, ag a gwin, [...]ddoli i'r [...]eg dduwieu hynny, yn y gyffelib agwedd, drwy gam-grediniaeth. [Page 89] Yr oedd llawer yn coelio‘r petheu hyn, nid o ran eu bod hwynt yn wir, (canys beth a alle fod yn anwirach?) eithr o blegid eu bod hwy'n debyg ir gwir, a thrwy lun gwir [...]onedd yn hawdd iddynt dwyllo'r anghyfarwydd.
Felly y maent hwy‘n cambaeru arnom, eyn bod ni yn Hereticiaid, a darfod i ni ymadel ag Eglwys, ag a chymdeithas Crist: Nid er mwyn eu bod nhwy‘n coelio fod hyn yn wir (oblegid nid mawr genthynt am hynny) ond o herwydd y galle y rhai anghyfarwydd dybied drwy ryw fodd, ysca [...]fydd, mae gwir ydyw. Canys nid ymadowsom-mi ag Eglwys Grist ynol arfer yr Hereticiaid, eithr ymadel a wnaethom a dynion drwg, ag a rhagrithwyr, fal y dyle bob rhai da, rhag ofn gwaethygu o honom wrth fod ynghyd a nhwy. Etto er hynny, gwneuthur ffrost a rhodres ryfedd y maent hwy, gan ddoedyd may hwynt-hwy ydyw'r Eglwys: may eu Heglwys nhwy ydyw Priodas-ferch Crist, Colofn y Gwirioneddd, Arch Noe, allan o‘r hon nid [...]es obaith cael dim Iechydwriaeth. Or tu arall, doedyd amdanom-mi y maent hwy, ddarfod ini eili [...] ymaeth; ddarfod i ni rwygo gwisc Christ; ddarfod eyn tynny ni y ffordd oddi wrth [Page 90] gorph Crist; a darfod i ni wrthod y ffydd Gatholic. Ag er na adowsont hwy ddim heb ddoedyd, ar a ellid drwy anwiredd ag enllib ei gani-hauru arnom; Etto ni allant hwy fyth ddoedyd (a doedyd y gwir) ddarfod i ni ymadel a gair Duw, nag a‘r Apostolion, nag ar Brif-Eglwys.
Ni a farnassom y Brif-Eglwys o‘r eiddo Crist, a‘r Apostolion, a‘r Tadeu sanctaidd, yn Eglwys Gatholic; Nid amheuwn y chwaith alw‘r Eglwys honno, yn Arch Noe; yn Briodas-ferch Crist; yn Golofn ag yn gynhaliaeth y Gwirionedd: Ag nid ammeu gennym hefyd gyfleu ynthi hi holl hanfod eyn hiechydwriaeth,
Di-ammeu may peth gwrth-gas yw ymadel a chymdeithas y sawl y buoch chwi gynefin a hwynt, ag yn enwedig a‘r rhai a gant eu gadel a‘u galw yn Gristnogion, er nad ydynt. Ag o ddoedyd y gwir, nid ydym-mi‘n dirmygu Eglwys y gwyr hyn (pa drefn bynnag sydd arni yr owro'n) er mwyn ei henw cristnogaidd, a hefyd er mwyn i Efengyl Iesu Grist gael gynt ei gossod allan yn yr Eglwys honno, drwy burdeb a gwirionedd Ag nid ymadowsemmi ag y hi chwaith, oni buase mewn anghenrhaid, ag o‘n hanfodd. Ond beth ynte, o gossodwyd i fyny Eulun yn Eglwys [Page 91] Dduw, a bod y diffaethwch hwnnw a brophwydodd Crist amdano, yn sefyll yn amlwg yn y lle sanctaidd? Beth os yspeilydd, neu birat, sy'n meddianu Arch Noe drwy drais: Y dynion hyn cyn fynyched ag a crybwyllant hwy, am yr Eglwys, meddwl y maent hwy, may nhwy eu hun yn vnig ydyw‘r Eglwys; gan gyfroddi holl henwau'r Eglwys iddynt eu hun; a ffrostio fal y rhal gynt a lefent Teml yr Arglwydd Teml yr Arglwydd: Neu fal y Pharisæaid a‘r Scrifenyddion y rhai a wnaent ffrost eu bod nhwy yn etifeddion i Abraham. Ioan. 8.
Llyma ichwi trwy goeg-wych ymddangos, fal y maent hwy'n twyllo‘r rhai anwybodus. ag yn ceisio rhoi bachell ysgwyddi ni drwy nerth henw‘r Eglwys yn vnig: yr vn agwedd a lleidr ar ol iddo vnwaith frathu y fewn ty gwr arall, ag y naill ai gwthio allan, ai ynte lladd perchen y ty, a ddoede gwedi hynmy, may efo 'i hun pioedd y ty, ag a gadwe‘r aer allan o feddiāt-Neu yn yr vn modd a phe y dywede Anghrist ar ol ei ddyfodiad i fewn teml Dduw, bellach fyn-nhy i yw hwn, nid oes i Grist ddim a wnel ag efo. Canys y gwyr hyn, er na ddarfu iddynt adel dim yn Eglwys Dduw sydd gyffel y bus i'r Eglwys, etto nhwy a fynnēt gael eu cymeryd yn ymgeleddwyr, ag yn ymddeffynwye yr Eglwys: [Page 92] Ar ol y cyfryw ffo [...]dd ag yr ymddiffynne Grachos, gy [...]t, y cy [...]beth cyffredin vn Rhufain, pan drwy e [...]od- [...]raul, a gwario lledynfyd, ni dda [...]f [...]a [...]e iddo ef adel dim o‘r cyfoeth heb wneuthyr pen amdano.
Ni [...]u dim erioed etto mor annuwiol, ag mor anrhesymol, na ellid ei hilio a'i ymddiffin, dan enw'r Eglwys. Canys e wna‘r cackwn ddilieu mel, fal y gwenyn: a chynnulleidfaeu sy gan y rhai an [...]uwiol; segis gan Eglwys Dduw. O blegid nid ydynt, yn ebrwydd, yn bobl Dduw, yr holl rai a elwir yn bobl Duw; Ag nid Israeliaid mor cwbl a ddaeth o‘r tad Israel. Yr Arriaid, nid anllai er eu bod nhwy 'n Hereticiaid, etto ffrostio a wnaent may hwynthwy'n vni [...] oeddynt Gatholiciaid, ag a elwent bawb eraill; weithe'n Ambrosiaid, weithie'n Athanasiaid, weithie'n Ioanniaid. August. Epist. 48. ad Vincen. Ag er bod Nostorius yn [...]e'n Heretic, (fal y doedodd Theodoreius) etto er hynny, ef a fedre ei bilio'i hunan [...], sef, yw hynny, dan ryw rith a gorchudd y ffydd gywir Er bod Ebion o‘r vn seddwl ar Samaritaniaid, etto (fal y doedodd E [...]iphanius) ef a fynne ei alw yn Gristion. Y Mahometistiaid heddyw, er bod yr holl ystoriaeu'n dangos, a nhwy eu hunain hefyd ni allant wad, ddyfod dechreuad [Page 93] eu holl reini hwynt o Agarra y gaeth-forwyn, etto er mwyn yr enw, a‘r genedl-lwyth, gwell ganthynt eu galw yn Saraceniaid, segis peteut wedi dyfod o Sara y wraig rydd. yr hon ydoedd briod i Abraham.
Felly‘r gau-brophwydi o bob oes, y rhai a‘mosodassant yn-ner [...]yn Prophwydi Duw, yn-nerbyn Esai, yn-nerbyn Hieremi, yn-ner [...]yn Crist, ag yn-nerbyn yr Apostolion, nid oeddynt vn amser yn bostio o ddim cymaint, ag o henw‘r Eglwys. Ag nid oeddynt mor aruthrawl yn ymgynddeiriogi wrthynt, ag yn eu galw nhwy'n williaid, ag yn Apostatiaid, am achos arall yn y hyd, ag am iddynt ymadel au cymdeithas nhwy, ag na chadwent ddefodeu'r benaffaid. Am hyn [...]y [...]e y calynem ni‘n unig farn y gwyr hyn, a [...]e [...]y [...] yn rheoli‘r Eglwys y pryd hwnnw, au no cheisiem wneuthyr ysturiaeth o Dduw, nag o'i air, nag o ddim arall; yna ni ellir gwad nad yn gyfreithlawn a [...] [...] cyfiawn y condemniwyd y [...], am iddynt ymddidoli oddi [...] ar offeiriaid (yr hyn yw, m [...]da [...] [...]wy oddiwrth yr Eglwys Gatholic) ag am iddynt newid a newyddhau lawer peth yn [...] Grefydd, o anfodd yr Escobion a'r offeiriaid, ag ar eu [Page 94] bod nhwy yn doedyd yn erbyn hynny. Am hynny fal y gorfu i Hercules gynt wrth ymeulyd ag Anteus y cawr, ei windio ef oddiar y ddayar ei fam, cyn gallu ohonaw orchfygu‘r cawr, felly mae‘n rhaid gwindio'n gwrthwynebwyr ni, oddiwrth eu mam nhwy, sef yw hynny, oddiwrth goeg eulyn a chyscod yr Eglwys; drwy'r hyn y maent yn ym-rithio ag yn ymddyffin eu hun; ag onid e, ni ellir peri iddynt roi lle'i air Duw. o ran hyn y doedod Ieremi‘r prophwyd, Na wnewch cymaint rhodres fod Teml yr Arglwydd gyda chwi; nid yw hyn ond coeg hyder: canys celwyddeu yw‘r geirieu hynny. Ag medd yr Angel yngweledigaeth Ioan Efengylwr; Doedyd y maent hwy may Iddewon ydynt, eithr Synagog Sathan ydynt. A Christ a ddoedodd wrth y Pharisæaid, pan ffrostient eu bod nhwy o genedlaeth a gwaedogaeth Abraham, Ioan. 8. Och Tad Diawl (heb‘r ef) yr ydych chwi, nid tebig monoch i‘ch tâd Abraham. Cymaint oedd hyny a phe y doedase fo, nid ydych‘i mor dynion a fynnech mor chwannog gael eych cymeryd: twyllo‘r bobl yr ydych trwy ofer henweu; a cham-arfer yr ydych'i henw‘r Eglwys, i gwbl anrheithio‘r Eglwys. Rhan eyn gwrthwynebwyr ni a fuase gan hynny, yn gyntaf dim [Page 95] wneuthyr prawf gwir di-amheuol, fod Eglwys Rufain yn Eglwys iawn hyffordd [...] dig y gwir Dduw. a‘i bod hi'n y modd y mae hi'n cael ei llywodraethu'r pryd hyn, yn gyfattebol i Brif-Eglwys Crist, a‘r Apostolion a‘r Tadeu sanctaidd, yr hon Brif-Eglwys nid amheuwn nad ydoedd y wir Eglwys Gatholic.
Amdanom-mi, pe y barnesem y gellid rhyngy bodd i Dduw ag ennill Iechydwriaeth tragwyddol, drwy anwybodaeth, amryfyssed, coel-fuchedd, addoliaeth eulynnod, a thrwy ddychmygion dynion, a'r rheini‘n fynych yn gwrthwynebu‘r Scrythur lan: Ne pe y medrasem ym-roi i goelio ddarfod scrifenny gair Duw dros fyrn o ffynyddodd yn ynig, ag y bwri [...]d ef heibio wedi hynny: Neu pe y meddyliasem fod yn rhaid i archiad a gorchmynion Duw ymddarostwng i ewyllys dyn; Neu beth bynnag a ddoette, neu a arche Duw, na ddylid cymryd mo‘naw nam yn fal peth di-ddim di-ddoededig, oddieithr i Bâb Rhufain orchymyn, ag erchi‘r vn peth; Ye y clywsem-mi (meddaf) ar eyn calonneu goelio a chredu‘r petheu ymma, cyfaddef yr ydym na buase achos yn y hyd i ni ymadel a chymdeithas y gwyr hyn. Ond am a wnaethom-mi, sef, ymadel a'r eglwys hōno ydoedd a‘i hamryfysedd yn amlwg wedi ei [Page 96] destiolaethu ir byd, a chwedi darfod iddi gyfeliorni oddiar ffordd gair Duw; Ag ymadel onom, nid oddiwrth yr Eglwys, namyn oddi wrth ei hamryfysedd, a hynny nid mewn cynnwrf, neu‘n anweddus, eithr drwy dangneddyf a llarieiddrwydd: Ni wnaethom-mi'n hyn o beth, ddim gwrthwyneb i Grist, na‘r Apostolion. Herwydd nid ydyw Eglwys Dduw‘r fath beth na dichyn llwch, a brycheu, ddigwydd arni, neu nad rhaid un amser ad-gyweirio mo honi: pette hi felly, pa raid fydde wrth cynnifer Gymāsaeu a Chynghoreu, y rhai (medd Aegidius) ni all ffydd Grist sefyll hebddym?In latera. concil. sub Iulio. Herwydd cyn fynyched ag y peidier a dysyn cy manfa-Gynghoreu, cynnifer-gwaith y mae'r Eglwys yn cael ei gadel heibio gan Grist.
Neu, onid rhaid v [...]on na ddichyn dim tramgwydd ddamwain i‘r Eglwys, pa raid ynte wrth henweu di-les yr Escobion, fal y maent ymblith eyn gwrthwynebwyr ni‘r pryd hyn? Canys, pa ham rydis yn eu galw nhwy'n s [...]eiliaid, onid oes mor defaid a allant fyned a‘r wascar? Pa ham y gelwir nhwy‘n warcheidwad, onid oes vn ddinas a ellir eu bradychu? Pa ham y maen-nhwy‘n cael eu galw yn Golofneu, onid ydynt yn attal dim rhag syrthio [Page 97] i lawr? yn ebrwydd, ar ol creadwriaeth y byd, y dechreuodd Eglwys Dduw gynnyddu, ag yna, fei cynnyscaeddwyd hi a‘r gair nefawl, yr hwn a lefarodd Duw oi enau ei hun, Ei dodrefnwyd hi a defodeu duwiol: hi a gafodd ei dyscu gan yr Yspryd glan, gan y Patrieirch, ar Prophwydi, ag felly y parhaodd bi, hyd yr amser i'r ymddangossodd Crist ei hun yn y cnawd. Eithr o Dduw tragwyddol! mor fynych, ag mor erchyll, yn y cyfamser, y tywyllwyd ag y difwynwyd hi! herwydd ym-ha le yr oedd yr Eglwys y pryd hynny, pan ddarfuase i bob cnawd ar y ddayar aflanhau ei ffordd ei hun? Ym-ha le‘r oedd hi, pan o holl anneirif bobl y byd, nid oedd onid wythnyn o ddynion (na‘r rheini chwaith y gyd yn ddiwair ag yn dduwiol) y rhai a synne Duw eu cadw a‘i coledd yn fyw, oddiwrth yr aruthrawl gelanedd a‘r farwolaeth a fu o‘r holl fyd?1. Reg. cap. 19. Pa le yr oedd hi pan gwynodd y Prophwyd Elias mor alarus ag mor dost, na adowsid ond efo‘i hun, o holl ddynion y byd, yn addoli Duw‘n gywir ag yn gyflawn? A phan ddoedodd y Prophwyd Esay, Fod arian pobl Dduw (sef yr Eglwys) wedi myned yn sothach: Esay. 1. a bod y ddinas honno a fuasse ffyddlon gynt, wedi myned yn butteyn: Ag nad oedd [Page 98] ynddi fan iach drwy'r holl gorph, o wastad y pen, hyd wadn y troed? Neu pan ddoedodd Crist ddarfod i‘r Pharisæaid, Math. 21. a‘r Offeiriaid, wneuthyr ogof ladron o dy Dduw? Gwir ydyw am yr Eglwys, yn yr vn modd ag am faes yd, onis erddir, onis llafuryir, onis triniir, ag onis trwssiir, yn lle gwenith fe a dyf yscall, ller, a danadl. Am hyn y danfonodd Duw‘n gynefinawl Brophwydi, ag Apostolion, ag vn ddiwaethaf o‘r cwbl, ei fab ei hun, i ddwyn y bobl i‘r ffordd vniawn o gyfeliorni, a hefyd i adnewyddu adail, ag i gryfhau gwendid a gogwyddiad yr Eglwys. Ond rhag i ryw rai ddoedyd ddarfod i hyn ddamwain yn vnig yn amser y ddeddf, ar cyscodeu, ag iefieingtyd, pan guddiid y Gwirionedd dan arwyddion a ceremoniæ, pan nid oedd dim etto wedi ei ddwyn i berffeiddrwydd, pryd [...]id oedd [...] ddeddf wedi ei scrifenny ynghal [...]nneu [...]yn [...] [...]eithr mewn lecheu o gerrig; [...] yw hyn ond doediad lledffol) herwydd yn y dyddieu hynny yr oedd yr vn Duw ag sydd yrowr'on, yr vn Yspryd, yr vn Crist, yr vn ffydd, yr vn athrawiaeth; yr vngobaith, yr vn etifeddiaeth, a‘r vn nerth, a rhinwedd i air Dnw: A hefyd medd [...]sehius: [...]ib. 1. cap. 1 yr holl rai ffyddlawn, o Adda hyd yn amser Crist, oeddynt y gyd [Page 99] yn Gristnogion (er na elwid mo‘nynt felly) Ond, meddaf, rhag i ryw rai ddoedyd y fath beth a hyn, Pawl Abostol a ganfu yr vn fath amryfyssed a chwympiadeu yn ei amser ef, pan oedd yr Efengyl mewn perffeiddrwydd a golenad, hyd oni orfu iddo scrifenny fal hyn at y Galatiaid, y rhai a ddarfuase iddo eu hyfforddi o‘r blaen; Mae arnaf ofn amdanoch rhag darfod i mi gymeryd poen yn ofer yn eych plith, ag i chwi wrando‘r Efengyl yn ofer, fymhlant bychein, y rhai yr wyf fi yn eu hail escor hyd oni ffurfer Christ ynoch.
Ag am Eglwys y Corinthiaid pa wedd yr oedd hi wedi ei thrabaeddu mewn brynti, nid rhaid crybwyll. Wele ynte gan hynny, a alle Eglwysi‘r Galatiaid a‘r Corinthiaid ogwyddo, a mynd a‘r fai, ag Eglwys Rûfain yn vnig ni ddichyn na gwyro na gogwyddo? Crist yn ddiau a ddoedodd, gyhyd o‘r blaen,Math, 24. am ei Eglwys ef, y deue amser pan safe ddiffaethwch yn y lle sanctaidd.2. Thess. 2.
A Phawl a ddoedod y gossode Anghrist ei babell ynheml Dduw:2. Tim. ag y deue‘r amser pryd na ddioddefe dynion athrawiaeth iachus, namyn troi a wnaent at chwedleu, [Page 100] a hynny yn yr Eglwys hefyd. A Phedr a ddoedodd y bydde athrawon celwyddeu yn Eglwys Grist.1. Pet. 2. A Daniel y prophwyd wrth fynegy am amseroedd diwaethaf Arghrist,Daniel. 8. y Gwir (hebr ef) a fwryir dan draed y pryd hynny, ag a sethrir arno yn y ddayar. A Christ a ddoedodd, y bydde cymaint gofid a gorthrymder yn y byd,Math. 24. a phe bydde bossibl y dygid y rhai etholedig mewn amryfyssedd. Ag y deue hyn y gyd i ben, nid ym-mysc y Paganaid neu'r Turciaid, eithr yn y lle sanctaidd, ynheml Dduw, yn yr Eglwys, ag ynghynnulleidfa, a chymdeithas, y rhai a gyd-addefent enw Crist.
Er gallu o hyn yn vnig o rybudd wasnaethu i ddyn synhwyrol, na adawo ef ar fyrbwyll mo‘i dwyllo drwy henw'r Eglwys, fegis na bae iddo edrych y ymhellach o‘r plegit yngair Duw; Etto heblaw hyn y gyd, llawer o Daden, a llawer o wyr dyscedig Duwiol, a gwynasant yn dost iawn, ddarfod digwyddo'r holl betheu hyn, yn eu hamseroedd n [...]wy. Herwydd ynghanol niwl y tywyllwch, e fynne Dduw fod rhai, er na roddent oleuni gloyw-amlwg, etto a gynneuent fegis rhyw wreichionen fal y galle'r dynion yn y tywyllni ei chanfod. Hilarius pan oedd petheu Eglwysig yn ddilugredig, yn ei herwydd, ag yn ddiwall; [Page 101] Drwg (hebr ef) y gwnaethoch chwi garu'r parwydydd: Contra Auxentiū Drwg yr ydych chwi yn addoli Eglwys Dduw, gan eych bod iw haddoli hi mewn tai ag adailadeu; Drwg yr ydych yn dwyn i mewn henw Tangneddyf dan fargodeu. Ai amheuol ydyw nad eistedd Anghrist yn yr adail hyn? diogelach, dybygwn i, yw r Mynyddoedd, a 'r Coedydd, a‘r llynnoedd, a‘r Carchareu, a‘r Suglennydd; oblegid y Prophwydi, y naill ai yn aros, ai ynte wedi boddi yn y lleoedd hynny, a brophwydasant drwy yspryd Duw. Gregorius fal un oedd yn gweled ag yn canfod o‘r blaen yn ei feddwl, ddestruwiad pob peth, a scrifennodd at Ioan escob Constantinopl, yr hwn ydoedd y gwr cyntaf o'r cwbl a orchmynnodd ei alw‘i hun yn Ben-Escob Eglwys Crist drwy'r holl fyd; Os ar vn gwr, (hehr Gregorius, In registro Epist. ad Mauriciū lib. 4. epist. 32.) y rhoir pwys yr Eglwys hi a gwymp y gyd i lawr. A phwy nid yw'n gweled, ddarfod cwplau hyn er ys-talm byd? Herwydd hir iawn ydyw, er pan fynnodd Pab Rhufain i‘r holl Eglwys orphwys arno fo'i hunan; ag am hynny nid rhyfedd ddarfod iddi gwympo y gyd er ys talm o amser. Bernardus yr Abad, er ys mwy na phedwar can mylynedd i heddyw, a scrifennodd fal hyn: Nid oes yrowron ddim yn bur ag yn berffeith [Page 102] yn y gwyr Eglwysig: Nid oes bellach yn ol, onid datguddio dyn y pechod. Ar vn rhyw Barnardus a scrifennodd yn y llyfr a wnaeth ef o Droadigaeth Pawl i'r ffydd: Cyffelyb yw (hebr ef) ddarfod peidio bellach ag erlid: Nag e, cyffelib yw may dechre erlid yr owron y mae'r rhai sy'n dwyn penna rhwysc yn yr Eglwys. Dy hoff-ddynion ath gymydogion a ym-nesasant ag a safasant yn d'erbyn di; O wado dy droed hyd yngwastad dy ben, nid oes vn fan iach. Enwiredd sy'n deilliaw oddi wrth yr Henuriaid, a‘r Barnwyr, a‘r rhag-Bennaethiaid, y rhai sydd yn cymryd arnynt lywodraethu dy bobl. Ni allwn i ddoedyd yrowron, fal y mae'r bobl, felly mae‘r offeiriaid: oblegid nid yw‘r bobl cynddrwg ag ydyw'r offeiriaid. Och, ôch, Arglwydd Dduw! yr vn gwyr hynny sydd bennaf ith erlid ti, yr rhai a welir yn hoffi'r lle pennaf, ag yn dwyn y llywodraeth penna‘n d‘Eglwys di. Sermone 33. Yr vn Barnard hefyd, ar ganiadeu Selef ddoeth, a scrifennodd fal hyn: Dy hoff-ddynion ydynt y gyd, ag er hynny dy elynion ydynt y gyd; maent hwy y gyd yn gerynt it, ag er hynny dy wrthwynebwyr ydynt y gyd: ydynt wasnaethwyr Crist, yn gwasnaethy Anghrist. Wele, yn fyngorphwys fy chwerwedd sydd chwerwaf
Hwn a eilw rhai ymlhith y Cymry, Dafydd ddu o Hiraddug. In libello de Idiomate linguarum. Rogerus Bacon gwr enwog iawn, ar ol iddo mewn araith hagr ossod allan pa fyd diffaith gresynol oedd o honi yn ei amser ef, Y cymaint hyn (medd ef) o Amryfysedd, sy'n [...]aer-ofyn ag yn edrych am Anghrist. Mae Gerson ynte‘n [...]wynfau yn ei amser ef, ddarfod troi holl rym a myfyrdod cyssegrlan dduwioldeb i goeg philoreg, ag i chwenychy clod trwy ffrost-ynnafael pwy oreu ei synwyr. A‘r mynachod o Lions, gwyr diddrwg o ran ei buchedd, oeddynt arfer o ddoedyd yn hyderus, may Eglwys Rufain (oddi wrth yr hon yn vnig yr oeddid yn ceisio pob cyngor a threfn y pryd hynny) ydoedd y Butteyn o Babilon, a‘r llu o gythreilieid y rhai y mae'r brophwydoliaeth yngweledigaeth Ioan Efengylwr mor hynod yn son amdanynt. Mi a wn yn hysbus na wna eyn gwr [...]hwynebwyr ni fawr fri ar awdurdod y gwyr hyn. Beth ynte, o dygaf fi'n dystion y rhai yr oeddynt hwy'u hunain arfer o'u harhydeddu.Platina. Beth o doedafddarfod i Adrain Escob Rhufain gyfadde'n rhwydd may o oruch-eisteddfa‘r Pab y deuthe'r drugioni hyn gyntaf Pighius hefyd sy'n addef ddarfod gwneuthyr ar fai,Pighius. ddwyn cymaint o gam-arferau i r offeren; yr hon offeren a fynne efe (oni bae hynny) gael ei gadel yn beth sanctaidd parchadwy,
Gerson.E ddoedodd Eerson ddarfod drwy luosogrwydd ceremonie coegion, ddiffoddi holl rinwedd yr Yspryd glan, yr hwn a ddyle lawn-weithio ynom, a hefyd ddarfod diffodd pob duwioldeb. Holl wledydd Grecia, ag Asia, sy'n cwyno ddarfod i Babau Rhufain drwy ffeirieu en Purdan, a‘u Pardyneu, dreisio cydwybodeu dynion ac y speilio‘u pyrseu.
Tu-ag-at am drowsedd Pabau Rhufain, a‘u banfeidral falchder Perfianaidd (er na sōniom am eraill y rhai y scatfydd, y mae'r Pabau'n eu cymeryd yn elynion, oblegid iddynt, yn hyf, ag yn diragrith, ddangos eu drug-campeu,) nid amgen no‘r gwyr ymma, sef, [...]aurentius Valla, Marsilius Patauinus, Francis Petrarcha, Hieronimus Sauanarola; yr Abad Ioachimus, Baptista Mantuanus, ag o‘n blaen nhwytheu, yr Abad Barnard, y rhai hyn y gyd (meddaf) a gwynasant yn fynych, ag yn ddirfawr iawn, ar y Pa [...]au. A'r gwyr hyn oedd ynt yn dwyn ei hyd yn Rhufain, yn y dref sanctaidd, yngolwg y sancteiddiolaf Dad, ag oeddynt yn gallu gweled holl gyfrinacheu'r Pabau: A‘r rhain nid ymadowsont ddim a‘r ffydd gatholic: ie a chen eych cennad, nhwy a roent weithie ar ddealld i‘r bobl, may'r Pab eu hun ydyw'r Anghrist; [Page 105] pwy vn ai gwir, ai celwydd a ddoedasant, ni cheisiwn-ni yngen: ond diau ddoedyd onyn-nhwy hynny'n ddiarswyd. Ni ddichyn neb ddoedyd may dyscyblon Luther, neu Zuinglius, oedd y rhai hyn: Herwydd yr oedd y rhai hyn nid yn vnig syrn o flynyddoedd, eithr syrn o oeseu cyn clywed gair son am henweu Luther a Zoinglius. Nhwy a welsent, y pryd hynny, ddarfod i amryfysedd ymlysco i‘r eglwys, ag oeddynt yn chwennych cael dywygiad o honāw. Ag o ddoedyd y gwir, pa ryfeddod er bod yr Eglwys, yr amser hwnnw‘n enwedig yn llawn amryfyssedd, pryd nad oedd na‘r Pab (ydoedd yn dwyn yr holl rwysc ei hunan) na neb arall yn gwneuth yr y petheu oeddynt ddyledus, nag y chwaith yn gwybod beth oedd ddyledus iddynt ei wneuthyr. Prin y gellir coelio tre'r oeddynt hwy‘n segyrllyd, fod diawl ynte hyd yr amser hwnnw, y naill ai'n cyscu heb ddeffro, ai'n segyr heb orchwyl. Eithr beth yr oeddynt arno yn y cyfamser, ag mor ffyddlon yr oeddynt yn gofalu am dy Dduw, er tewi onom-mi,Ad Eugenium. etto gwrandawont Barnard eu cyfell nhwy eu hun.
Nid yw'r Escobion (hebr ef) sy'n rheoli'r Eglwys y pryd hyn ddyscawdwyr, ond twyllawdwyr nid ydynt fugeiliaid, namyn [Page 106] hudoliaid; nid Prela [...]iaid, eithr Pilatiaid ydynt. Llymma fal y doedodd Barnard am y Pâb yr hwn oedd yn galw‘i hun yn ben escob ar y cwbl; a llymma i feddwl ef am yr Escobion eraill a oeddynt yn lly wodraethu'n yr amser hwnnw. Nid ydoedd Barnard yn Lutheran, nid ydoedd ef Heretic, nid ymadowse efo a‘r Eglwys gatholic; etto er hyn y gyd, ni russodd ef alw'r Escobion a‘r oeddynt y pryd hynny, yn dwyllodwyr, yn Hudoliaid, ag yn Bilatiaid. Gan hyn pan oeddid yn amlwgdwyllo‘r bobl, ag yn bwrw hud ar lygaid y cristnogion, a phan oedd Pilat yn eistedd ar farnedigaeth, ag yn barn [...] Crist a‘i aulodau iw lladd ag yw llosgi, O Dduw dayonus, ymha gyflwr yr oedd Eglwys Grist yr amser hwnnw! Eithr o gymaint nifer o gamweddeu aruthrol a hyn, pa vn erioed etto a ddarfu iddynt ei ddiwygu? Neu pa gamwedd a ddarfu iddynt vnwaith ei gydnabod ai gyfaddef? Ond gan eu bod nhwy'n doedyd may nhwy piau meddiant yr Eglwys gatholic trwy'r holl fyd, ag er mwyn iddynt eyn galw ni yn Hereticiaid, am nad ydym yn coelio fegis y maent hwy, moeswch weled ar nawdd Duw, pa nod neu arwydd sydd gan yr Eglwys honno o'r eyddynt hwy, modd y gellir [Page 107] gwybod may Eglwys Duw ydyw. Diau nad yw cyn anhowsed adnabod a chael Eglwys Dduw, od aiff dyn yn astud ag mewn llownfryd yw cheisio. Canys y mae Eglwys Dduw wedi gossod mewn lle vchel amlwg ar ben bryn, a chwedi ei hadail ar wadnau aSeiliau. sylfeini‘r Apostolion a‘r Prophwydi.
Ceisiwn yno'r Eglwys, (medd Awstin) Treiwn e yn hachos yno; August. de vnitate Ecclesiae cap. 3. Ag (fal y doedodd ef mewn lle arall) rhaid yw dangos y [...] Eglwys allan o‘r Scrythurau glan canonedig; a‘r hon ni ellir mo‘i dangos allan o honynt hwy, nid yr Eglwys mo honi. Cap. 4 Er hyn y gyd, ni wn i pa fodd, pwy yn ai o barch, ai o gydwybod, ai ynte o ddrwg obai [...]h gellu gorfyd; (fal y lleidr am y crog-pren,) y maent hwy'n arswydo ag yn cilio oddi wrth air Duw Ag yn wir nid rhyfedd mo hynny: herwydd fegis y doedir y bydd marw y Cantharus yn gyttrym ag y gossodir ef mewn Balm, nid anllai er bod Balm o honaw ei hun yn enaint arogl-ber iawn; felly'r gwyr hyn a welant ddinistr a darfod am eu hachos nhwy yngair Duw, yr vn agwedd ag mewn gwenwyn. Am hynny'r Scrythurau glan yr rhai a ddarfu i'n prynwr Iesu Grist nid yn vnig eu harfer yn awdurdod ymbob ymadrodd, [Page 108] eithr hefyd eu selio yn y diwedd a'i waed ei hun; y mae y gwyr hyn, ar hyder gallu ymlid y bobl oddi wrthynt, ag ychydig o boen, fegis oddiwrth peth yn llawnenbydrwydd. Albernus Pighius in Hierarch. perigl a niwed, yn arfer o‘u galw yn Lythyren noethlyd, amheuys, ddiles, fud, llythyren yn lladd, a llythyren farw: yr hyn rydym-mi'n ei ddeualid fegis pe doedent nad yw‘r Scrythurau i ddeunydd yn y byd; ag nad ydynt ddim, yn ei herwydd. Ag yn ychwaneg i hyn, y mae genthynt gyffelybiaeth nid addas iawn moni, sef, fod y Scrythurau'n debig i drwyn o gwyr: y gellir eu troi, a'u plygu bob ffordd, i wasnaethy ewyllys pawb. Ai ni wyr y Pab may ei anwyl-ddynion ef a ddoedodd y petheu hyn? Neu, ai nid yw efe yn deualld fod gantho‘r fath ymddeffynnwyr a'r rhain? Gwrandawed ynte mor sanctaidd ag mor dduwiol ynghylch hyn o beth y scrifennod Hosius, (Escob ym-Mholonia fal y mae eu eirieu ef ei hun yn dangos) yr hwn yn wir ydoedd wr ymadroddus ag nid anyscedig, a hefyd ydoedd ymddeffynnwr owch-lym dihafarch y mhlaid y Pab. E ryfedde vn, dybygwn i, pa fodd y galle wr da dybied mor amharchus, neu scrifenny mor ddirmygus, am y geirieu hynny, y rhai a wydde ef ddarfod iddynt ddeilliaw o [Page 109] enau Duw; ag yn enwedig scrifenny onaw ef yn y fath agwedd, na ellid tybied may ei farn ef yn vnig oedd hynny,Hosius in libro de expresso verbo Dei Hyn a scrifennodd Hosius yn dichellgar fegis nid o hono 'i hun, eithr yn enw arall, er doedud o honaw yn llathraidd yr vn peth mewn modd amgenach yn yr vn llyfr. eithr may coel pawb o'r tu hwnnw.
Nyni (medd ef) a barwn roi heibeio'r Scrythurau hynny; o'r rhai y gwelwn gymeryd, nid yn vnig cymaint amryw ddeualld, eithr gwrthwynebus ddirnad; a gedwch i ni glywed Duw'n ymadroddi, rhagor na chyrchy onom at yr elfennau noethlymmion hyn, a chyfleu'n hiechydwriaeth ynddynt. Nid rhaid i ddyn fod yn gyfarwydd yn y ddeddf, a'r Scrythur; eithr rhaid iddo gael ei ddyscu gan Dduw. Ofer yw'r boen a gymerer yn y Scrythureu. Herwydd creadur a llythyren noeth lom yw'r Scrythur.
Dymma ddoediad Hosius; drwy'r vn yspryd, a'r meddwl yn ollawl, ag oedd gynt gan Montanus, a Marcion, y rhai y mae'r gair pan wrthodent hwy 'n drahaus iawn y Scythurau glan, arferu onynt o ddoedyd, eu bod nhwy'n gwybod llawer peth mwy, a gwell, nog a wybu, na Christ, na'i Apostolion. Beth ynte a ddoeda'i ymma wrth hynny? O chwychwi golofnau crefydd! O chwychwi Arch-lywodraethwyr Eglwys Crist! Ai dymma'r parch sydd gennych i air Duw? y Scrythurau [Page 110] glan, y rhai (medd Sainct Pawl) ydynt wedi eu hanadlu o Dduw, y rhai a hynododd Duw drwy gymaint o wrthieu, yn yr rhai y mae gwir ol, ag olrhen, cerddediad Crist, yr rhai y darfu ir holl [...]en dadeu sanctaidd a‘r Apostolion, a‘r Angylion, a hefyd i Grist ei hun mab Duw, eu dwyn yn brofiaid, ag yn destiolaeth, cyn fynyched ag yr oedd rhaid; a berwrh chwi droi ymmaeth yr rhain. fegis na thalen-nhwy gael eu gwrando gennych? sef yw hynny, a berwch‘i i Dduw dewi, sy‘n doedyd yn eglur iawn wrthych, yn y Scrythur lan? Neu'r gair hwnnw drwy'r hwn yn vnig medd Pawl i'n cym-modir a Duw; a‘r hwn (medd y prophwyd Dafydd) sydd air sanctaidd, pur, ag a barhaa byth bythoedd, a elwch'i hwnnw ddim amgen no llythyren noeth-lom farw [...] Ne [...], a ddoedwch'i may ofer yw‘r holl boen a gymrom-mi yn y gair, yr hwn a erchis Crist i ni ei ddyfal chwilio, a‘i fynny'n wastad gerbron eyn lly [...]aid: Neu, a ddoedwch'i fod Grist a‘i Aposthlion yn ceis [...]o twyllo‘r byd, pan annogent hwyr bobl i ddarllen y Scrythurau glan, fal y gallent brwy‘r rheini fod yn llaw [...] [...]oethineb a gwybodaeth?
Nid dim rhysedd er i'r gwyr hyn eyn [Page 111] di-ysturu ni. a phob peth a wnelom, gan iddynt wneuthyr bri cyn lleied o Dduw ei hun, ag o‘i wir ymadrodd. Etto, wele, gwall synwyr oedd arnynt, pan wnaennhwy‘r fath lwyrgam a gair Duw, o wir fwriad drwg i ni.
A megis na bae hyn ddigon dirmygwch, ymaent hwy‘n llosci y Scrythurau glan (fal y gwnae gynt y brenin annuwiol Aza, ag Antiochus, a Maximinus) gan eu galw nhwy‘n lyfrau Hereticiaid: A diau iawn, er dim a ellir ei weled, eu bod nhwy‘n ceisio gwneuthyr y fath beth ag a wnaeth Herod gynt fal y galle ef gadw‘n ddiogelach ei rwysc a‘i lywodraeth yn I [...]dea. Herwydd yr Herod ymma,Eusebius. er bod ei hanfod ef o Idumaea ag nad oedd ef ond gwir-estron i genedlaeth a gwaedogaeth yr Iddewon, etto er hynny, chwennych yr oedd ef gael ei gymeryd yn Iddew, ar hyder y galle ef felly gadarnhau iddo‘i hun, iw vil, a‘i eppil, frenhiniaeth gwlad yr Iddewon; yr hon a gowse efo gan Augustus Cæsar yr Ymerodr. Er mwyn hyn, y parodd ef ddileu a llosci holl achau‘r Iddewon, rhag ofn adel dim i ddangos ar-ol-llaw may estron-waed ydoedd ef. Yr hyn acheu a gedwesid drwy ofalwch ymhlith yr Iddewon, yn y Trysor-dy [Page 112] er yn amser Abraham, o blegid yn yr achau hynny y gellid gweled a gwybod yn hawdd, ag yn ddi-amheuol, o ba lwyth a chenedlaeth yr oedd pawb o honynt yn dyfod. Felly'r gwyr hyn nhwytheu yn gwbl, gan geisio parch a chymeriad iw holl ofergoelion eu hunain, megis pettent wedi traddodi o'r Apostolion, neu ynte o Grist ei hun, rhag ofn adel dim yn vn-lle a alle argyoeddu'r fath freuddwydion a chelwyddeu sydd genddynt; eu harfer ydyw, ynaill ai llosci'r Scythurau glan, ai ynte eu gwneuthyr ymmaeth oddiar ffordd y bobl.
Gwir iawn a digon cymmwys y mae Chrisostomus yn doedyd amdanyn hwy;Chrisost. in opere imperfect. Yr Hereticiaid (medd ef) a gauant y drussieu yn erbyn y gwir: Canys nhwy a wyddant yn dda, pe bae'r drussiau'n agored, na bydde'r Eglwys ddim yn eiddyn-nhwy. A Theophilactus a ddoedodd may Gair Duw ydiw'r ganwyll, wrth oleu'r hon y cenfyddir y lleidr. Medd Tertullianus ynte, Y Scrythur-lan sy'n eglur-ddangos twyll a lledrad yr Hereticiaid. Canys pa ham y maent yn cuddio, ag yn cadw i lawr yr Efengyl, a fynne Crist ei phregethu yn groch o ben y ty? Pa ham y maen-nhwy yn rhoi dan hobaid, y ganwyll a ddyle [Page 113] sefyll mewn canwyll-pren? Pa ham y maent hwy'n rhoi mwy hyder mewn diwybodaeth, a dall anghyfrwyddid y bobl, nog mewn dayoni eu hachos? Ai tyb [...]ed y maen-nhwy nad ydis bellach yn cwbl weled eu ffled, a'u dichellion nhwy? Neu allo onynt y pryd hyn fyned yn ddi-ganfodedig, fegis pe bae modrwy Gyges genthynt, ag wrth wisco honno na ellid mo'u gweled? May pawb bellach yn gweled digon, ag yn ddigon-amlwg, pa ddeunydd sydd ynghist-dwyfron y Pab. Fe a ddichyn hyn fod yn braw goleu nad oes na gwirionedd, na dim yn iawn, yn y peth y maennhwy arno. Da y dyle'r achos hwnnw gael ei ddrwg dybio, a gilio oddiwrth treiadigaeth ag a ofno'r goleun [...]. Herwydd fal ydoedodd Crist, ceisio'r tywyllwch, a chasau'r goleuad, y mae'r neb a wnel ddrwg. Cydwybod gwirion a ymddengis yn ddigon parod, fal y gellir gweled y gweithredoedd sy'n hanfod o Dduw. Nid ydynt hwytheu chwaith cyn ddalled na welant yn amlwg ddarfod am eu teyrnas hwy, o chaiff y Scrythur lan vnwaith y llaw'n vchaf: Ag fal yr ydis yn doedyd am Eulunod y cythreullaid gynt, gan yr rhai yr oeddid arfer o gael atteb ymhob cyfinggyngor y pryd hynny, eu myned nhwy'n [Page 112] [...] [Page 113] [...] [Page 114] fudion yn ddi-symmwth, wrth welediad Crist, ar ol iddo ddyfod i'r byd ymma; yn yr vn ffunyd maen-nhwy'n canfod y cwymp en holl ddichel [...]ion nhwy i lawr yn y man wrth welediad yr Efengyl. Herwydd ni fwryir Anghrist i lawr ben-dra-mwnwgl, ond wrth ddiscleiriad dyfodiad Crist.
Amdanom eyn hun, nid ydym-mi'n rhedeg at y ran i losci dynion am grefydd, fegis y mae arfer y gwyr hyn: eithr rhedeg yr ydym-mi at y Scrythurau glan; Nid ydym-mi chwaith, yn eu hamgylchu nhwy a dur ag a hayarn, eithr a gair Duw. A hwnnnw, fal y doedodd Tertullian, rymmi'n porthi eyn ffydd: drwy hwnnw rydym mi'n codi eyn gobaith, ag yn cadarnhau eyn hyder. Herwydd ni a wyddom may Efengyl Iesu Grist ydyw galluowgrwydd Duw i iechydwriaeth, ag may yn yr Efengyl y mae bywyd tragwyddol. Ag fal y mae Pawl i‘n rhyhuddio, ni wrandawn-ni pette fo Angel Duw'n dyfod o‘r Nef, o chais ef yn tynny ni oddi wrth vn darn o'r athrawiaeth hon. Ie ag y chwaneg i hyn, (fegis y doedodd lustin y Merthyr sancteiddiolaf amdano'i hun,) ni roem-mi ddim coel i Dduw ei hun, pe bae ef yn mynny dyscu i ni Efengyl arall [Page 115] amgenach. O blegid lle mae'r gwyr hyn yn peri troi ymmaeth y Scrythurau glan, fal petheu mud, diffrwyth, gan arwain y bobl yn rhagorach at Dduw ei hun, sydd yn siarad yn yr Eglwys ag mewn Cynghorau; sef yw hynny, i wrando ar eu chwedlau, ag i goelio eu rhingcynnau nhwy: Dyna wrth geisio'r gwirionedd, ffordd yw honno anhyfedr iawn, a pheruglus aruthr, ie yn ei herwydd, ffordd led-ynfyd, yr hon ni bu erioed gymeradwy gan y Tadeu sanctaidd.
Chrisostomus a ddoedodd fod llawer yn gwneuthur ffrost o'r Yspryd glan; eithr y sawl sy'n doedyd ar eu penneu eu hun, celwyddys yw eu ffrost nhwy fod genddynt yr Yspryd glan. Canys, hebr ef, megis y gwadodd Crist ei fod ef yn doedyd o honaw ei hunan pan oedd ef yn trauthu allan o'r ddeddf a'r Prophwydi; felly row'ron o cheisiir gwthio arnom yn enw yr Yspryd glan ddim amgenach no'r Efengyl, ni ddylem-mi goelio mo honaw. Herwydd fegis y mae Crist yn gyflownder y ddeddf a‘r Prophwydi, felly'r Yspryd glan sydd gyflownder yr Efengyl-Hyn yw meddwl Chrisostomus.
Ag ymma nid hwyrach y doedent bwy, er nad oes mor Scrythurau glan genthynt, [Page 116] Etto scatfydd y mae gyda nhwy'r hen Athrawon, ar Tadeu sanctaidd. Yn hyn y bu fawr iawn eu ffrost nhwy a'i rhodres erioed sef, fod holl henafiaeth ag oestadol gytundeb yr boll oesoedd yn pwyso ar eu tu nhwy. Ag nad yw holl bynciau'n crefydd ni, onid petheu newyddion, diweddar, a phetheu hyd ychydig or blynyddoedd diwaetha ymma, ni chlowsid erioed son amdanynt.
Diau na ellir doedyd dim atcassach yn erbyn crefydd Dduw no'i gyhuddo o newyddwch, fal peth newydd ddyfod. Canys fegis nad oes dim o newydd yn-Nuw ei hun, felly ni ddyle bod na newid na newyddwch yn ei grefydd ef. Ond etto er hyn, ni wyddom-mi- pa fodd, ni a welwn yn wastad may peth arferedig ydyw er y dechreuad, cyn fynyched ag yr enynnodd Duw ei wirionedd ag yr eglurhaodd ef fo i ddynion, er bod y Gwirionedd nid yn vnig o'r benafiaeth niwyaf, eithr o holl dragwyddoldeb, etto yr rhai melldigedig annuwiol, a'r gelynion, a'i galwent ef yn beth diweddar, wedi ei newydd wneuthyr. Haman gythreulig greulon yn ceisio gwneuthyr i frenin Ass [...]erus fod yn gaserchyll gantho'r Iddewon ef a u cyhuddodd nhwy wrth y brenin yn y modd hyn; Y mae [Page 117] ymma (hebr ef) gennyd ti (o frenhin) bobl a chenddynt fâth a'r gyfreithiau newydd; eithr cyndyn a gwrth-ryfelgar ydynt ynnerbyn dy gyfreithiau di. Pan ddechreuodd Pawl gyntaf bregethu a dihengly'r Efyngyl yn Athens, ei galwed ef yn ymadroddwr Duwieu newydd, sef yw hynny, crefydd newydd Oni allwn-ni (eb yr Atheniaid) gael gwybod gennyd-ti pa athrawiaeth newydd yw hon?
Celsus ynte, pan oedd ef o wir lownfryd yn scrifenny'n erbyn Crist, fal y galle fo drwy draha, watwar yr Efengyl, dan ei galw'n beth newydd, Ai (hebr ef) ar ol cyn [...]ifer o oesoedd, yrowr'on yn ydiwedd, mor hir ag mor hwyr y daeth hyn ynghof Duw? Y mae Eusebius hefyd yn testiolaethu fod yn arferedig er y pryd cyntaf o alw'r grefydd Gristnogawl drwy wir gas, a chenfigen, yn [...], sef yw hynny, yn beth dierth, newydd. Llymma i chwi'r modd y mae'r gwyr hyn yn barny ag yn bwrw pob peth o'r eiddom-mi yn ddierth, ag yn newydd, ond nhwy a fynnant ganmol yr eiddynt ei hun, bech bynnag font, fal petheu o'r henafiaeth hwyaf. Yn yr vn-ffunyd a'r Swynwyr, ag a'r Cyfareddwyr y pryd hyn, y rhai (gan fod iddynt a wnelont a chythreuliaid,) ydynt [Page 118] arfer o ddoedyd, fod eu llyfreu, au holl gyssegr-ddirgelion nhwy, wedi dyfod oddiwrth Athanasius, Cyprianus, Moeses, Abel, Adda, a hefyd oddi wrth yr Archangel Raphael, segis o ran deylliaw eu celfyddyd nhwy oddi wrth y fath athrawon a diffynnwyr a'r rhain, y gellid eu barnu yn ardderchoccach, ag yn dduwiolach. Ar ol yr vn rhyw agwedd, y gwyr hyn er mwyn mynny onynt yn howsach, ag yn rhagorach beri i'r rhai ffolion, ag i'r sawl nid mawr genthynt beth a wneler, goelio a chofleidio y crefydd hwnnw o‘r eiddynnhwy (a ddar [...]u iddynt eu hunain ei ddwyn i‘r hyd, na hynny erys chwaith hir o amser mo honaw) y maent hwy a [...]fer o ddoedyd, gael onyn-nhwy ei crefydd oddi wrth Awstin, Hieronimus, Chrisostomus, Ambrosius, oddi wrth yr Apostolion, ag oddi wrth Crist ei hun. Canys nhwy a wyddant yn hysbys nad oes dim groesawach, na chynefinach, gan y cyffredin-bobl, no'r henweu hyn. Ond beth o cheir gweled may'r hyn y maen-nhwy'n ei alw'n newydd, yw'r petheu hynaf o'r cwbl? Or tu arall, am y petheu y maen nhwy'n eu gossod allan drwy fraint henafiaeth; beth, ar ol eu dyfal-chwilio, a'u manwl chwalu, o cheir gweled yn y diwedd, nad yw'r holl betheu [Page 119] hynny gan-mwyaf ond petheu newydd, wedi eu dychymig yn hwyr o amser? Diau iawn, am gyfreithieu a deddfodau'r Iddewon, na ddichyn vn dyn a fae mewn pwyll vniawn, dybied may newydd oeddynt er darfod i Haman haeru hynny; herwydd e ddai fuessid eu scrifenny mewn llecheu hen iawn o henafiaeth. Ag er i lawer dybied ddarfod i Grist gymryd llwybr amgenach no'g a gymerase Abraham a'r hen Dadeu, a dwyn o honaw ef i blith y bobl ryw fath newydd a'r grefydd, yn ei enw ei hun, etto ef a'u hattebodd yn vniawn: Pettech yn coelio Moses, chwi am coeliech inne hefyd. Nid yw f'athrawiaeth i cyn newydded agy rydych yn ei chymeryd. Herwydd Moses yr Athro hynaf ei henafiaeth, i'r hwn yr ych'i, yn rhoi coel am bob peth efe a fynegodd amdanaf fi A S. Pawl a ddoedodd er bod llawer yn barnu may peth newydd ydyw [...]fengyl Iesu Grist, etto y mae genthi destiolaeth henaf y ddeddf, a'r Prophwydi. Ond am eyn hathrawiaeth ni, (neu'n hyttrach yr hon allwn ei galw'n athrawiaeth gatholic Crist) y mae hi cymmhelled oddi wrth newyddwch, a darfod i Dduw (yr hynaf o‘r cwbl) a thad eyn harglwydd Iesu Grist, ei gadel hi 'ni yn yr Efengyl, ag yn llyfreu'r Prophwydi a'r Apostolion, [Page 120] yr rhai sydd vchel-fraint holl henafiaeth. A chan hynny, ni ddichyn neb bellach dybied may newydd yw'n hathrawiaeth ni, oddieithr y neb a dybio fod ffydd y Prophwydi, ar Efengyl, a Christ ei hun yn newydd. Os yw eu crefydd nhwy o gymaint a chyhyd henafiaeth, ag y mynnen-nhwy i'r byd goelio, pa ham ynte nad ydynnhwy'n profi hynny'n wir, drwy sampleu‘r Brif-eglwys, a'r hen Dadeu, a'r cymanfa. Gynghorau o henafiaeth gynt? Pa ham y mae achos cyn hyned yn aros gyhyd yn y llwch heb ddadleuydd? yr oedd tan, a dur a hayarn, genthynt garllaw'n oestadol, eithr am yr hen Gymanfa-Gynghorau, a'r Tadeu, mawr yw'r gosteg. Yn wir anrhessymmol iawn y gwnaethont ddechreu a'r moddion llidiog creulon hyn, pe y medrassent gael ffyrdd eraill a fuase howsach. a hynowsach eu trammwy. Ag os ydynt o ddifri yn bwrw cymaint hyder at lyfreu henafiaeth, pa ham ofewn ychydig o flynyddoedd a aeth heibio, y darfu i Ioan Clement gwr o'n gwlad ni, yngwydd gwyr da, a ddylent gael ei coelio, rwygo a bwrw ir tan syrn o ddolennau allan o lyfr Thodoretus, vn o'r Tadeu o henafiaeth ag Escob yng-Grecia, yn yr hyn ddolenneu yr oedd yr Escob yn dangos yn eglur, ag [Page 121] yn dyscu iddynion yn hyffordd, nad ydyw naturiaeth y bara yn y Cummun yn mynd ymaeth, nag yn diflannu? A hynny a wnaeth Ioan Clement gan dybied nad cedd vn copi arall o lyfr Theodoretus onid hwnnw'n vnig. Pa ham y doedodd Albertus pighius, ddarfod i'r hen Dad Awstin dybied ar gam ynghylch pechod gwreiddiol?Distin. 27. Quidam. Ag iddo gam-gymryd drwy gelwydd a ffals ddialectigydiæth, oblegid doedyd o honaw am briodas ar ol adduned a diofryd or blaen,August de bono Vidu cap. 10. may priodas deilwng ydyw, ag na ellir mo'i dattod? Heblaw hyn hefyd, pan rowsont hwy ymrhint yn hwyr o amser, y llyfr a scrifennase'r hen Dad Origenes ar Efengyl Ioan, pa ham y gadowsont hwy allan y chweched bennod yn ollawl? lle maen gyfflybus,Liber hodie extat & circumsertur mutilus. neu chwaethach, yn ddiau, ag yn ddi-ammeu, ddarfod i Origenes scrifenny llawer am y Sacrament, yngwrth wyneb ewyllys y gwyr hyn; a nhwy a'i gossodasant ef allan yn amherffaith felly, wedi ei anafu rhag ofn y beiase fo ar eu hamryfysedd nhwy. Ai rhoi hyder yn henafiaeth y gelwch'i rwygo, ddarnrguddio, anafu, a llosci llyfreu'r hen Dadeu sanctaidd? Ag am y Tadeu yr rhai y maen-nhwy'n gwneuthyr ffrost o honynt, sef eu bod yn pwyso ar eu tu nhwy; [Page 122] odieth yw gweled mor hyfryd o ran crefydd, y maent yn cyttuno ar rheini. Yr hen Gymanfa-Gyngor Elibertin awnaeth ddeddf,Cap. 3. na bae rydd peintio yn yr Eglwysi ddim ar y bo'r bobl yn ei addoli. Yr hen Dad Epiphanios sy'n doedyd may peth erchyll a diffeithwch annioddefol yw gossod llun peintiedig yn Eglwysi'r Cristnogion, ie pette fo lun Crist ei hunan. Etto y maen nhwytheu yn llenwi pob Eglwys a phob cilfach o'r eiddynt a delwau ag a llunniau, fegis na thale'r Grefydd ddim heb ddynt.Origen in Leuiticum cap. 16.
Yr hen Dadau, Origenes, a Chrisostom, sy‘n annog y bobl i ddarllen y Scrythurau glan,Chrisost. in Mat. 1. hom. 2. Idem in Ioan. 31. i bryny llyfreu, ag i'mresymmu, gwyr a gwragedd, tadeu a phlant, gartref rhyngthynt eu hunain ynghylch petheu duwiol. Nhwytheu ydynt yn bwrw'r Scrythurau yn elfennau meirw, a chymaint byth ag allont yn gwahardd ag yn cadw'r bobl oddiwrthynt.Cypr. epi. 11. lib. 1. Epipha. contra Apost. Heres. 61. Hieronimus ad Demetriadem. Medd y Taden sanctaidd, Cyprianus, Epiphanius, a Hieronimus, am y neb a wnelo adduned ag a roddo ddiofryd priodas, a chwedi hynny a fo'n byw'n aniwair heb allu diffodd tan y chwan [...]au cnowdol, may gwell iddo briodi, a byw'n ddiwair mewn priodas. Ag y mae'r hen Dad Awstin yn barnu'r briodas [Page 123] honno yn berffaith gymeradwy, ag na ddylid moi dattod. Nhwytheu am y neb a rwymo'i hun vnwaith a llwf, ag a diofryd, er ei fod ef yn llosci wedi hynny, er ei fod yn ymarfer a phuteiniaid, er iddo lugru, a halogi ei fuchedd, yn frwnt anrhaith-ddioddef, etto er hynny, ni adawant hwy iddo mor priodi: Neu. o damwain iddo scatfydd briodi, etto nid ydyw hynny briodas m'oni yn eu dysc nhwy. A gwell, a sancteiddiach meddant, yw cadw gordderch, a phutteyn,Ad Ianuarium. na byw'n briod yn y modd hwnnw. yr hen Dad Awstin oedd yn cwyno ag yn beio ar y lluosogrwydd o ceremoniæ o'r rhai yr oedd ef yn gweled fod gormod llwyth ar feddylieu a chydwybodau dynion y n ei amser ef. Eithr y gwyr hyn fegis na bae Duw'n gwneuthyr ysturiaeth o ddim onid ceremoniæ, a ddarfu iddynt amylhau yr rheini i beth mor anfeidrol, nad oes gan-mwyaf ddim arall amgenach wedi ei adel yn eu heglwysi au capelau nhwy.De opere monachorum. Hefyd medd yr hen Dad Awstin nid rhydd i fynach dreulio'i oes yn fuscrell ag yn segurllyd, a byw ar eraill dan gymryd arno liw a llun sancteiddrwydd. A phwy bynnag a fo byw felly, tebig yw ef i leidr, medd yr hen Dad Apollonius
Ond genthynt hwytheu, y mae, pa vn a ddoeda'i ai llawer gyrr, ai llawer mintai o fynachod, yr rhai er nad ydynt yn gwneuthyr dim, nag y chwaith yn cymryd ar [...]ynt nag ail na chyffelybiaeth sancteiddrwydd, etto nid ydyn-nhwy'n vnig yn byw, namyn hefyd yn gloddest ar dda eraill. Yr hen Gymanfa-Gyngor yn Rhufain a ordeiniodd na bae rydd i neb ddyfod i wrando'r gwasanaeth a ddoede'r offeiriad,Concil. Rom. ca. 3. yr hwn y gwyddid arno yn hysbus ei fod ef yn cadw [...]ordderch. Eithr y gwyr hyn, sy'n llogi gordderchion iw offeiriaid, ag yn chwaneg i hyn, yn gyru'r bobl o'u hanfodd i wrando'r melldigedig wasanaeth a ddoetto'r offeiriaid hynny. Canoneu hen yr Apostolion sy'n peri symmyd o'i swydd yr Escob hwnnw a fynne fo'd yn Swyddog llyg,Can. 8. a hefyd yn wr Eglwysig. Etto hwynthwy ydynt, ag a fynnant wasnaethy bob vn or ddau. A chwaethach i hyn hefyd, nid ymyran-hwy ar vn o'r swydde, yr hon a ddylent ei dwyn yn bennaf, ag etto nid oes neb yn gorchymyn eu symmyd nhwy o'u lleoedd.
Yr hen Gymanfa-Gyngor Gangrense sy'n peri na wnelo [...]eb y fath ragoriaeth rhwng offeiriaid priodol, ag ambriodol, a bod iddo dybied fod ynaill o ran amhriodoldeb [Page 125] yn sancteiddiolach no'r llall. Eithr y mae'r gwyr hyn yn gwneuthyr cymaint rhagoriaeth, a bod onynt yn tybied yn y man,In nouellis constit. 123. & 146 ddarfod dwyno eu holl sanctaidd wasanaeth, os gwr duwiol priod a fydd yn ei gylch ef. Yr hen Ymerodr Iustinian a orchmynn odd draethu pob peth yn y gwasanaeth bendigaid, a llaferydd rhwydd, vchel, llathraidd, megis y galle'r bobl dderbyn ffrwyth o honaw. Nhwytheu fal na allo'r bobl ddim o'u dealld, nid yn vnig sissial eu gwasanaeth y maent mewn llaferydd issel afrwydd, namyn hefyd mewn iaith ddeithr ddi-ddealld. Yr hen Gymanfa Gyngor yngh Carthago a orchmynnodd na ddarllennyd dim ynghynlleidfa Crist onid y Scrythurau glan canonedig:Concil. Carthi. 3. cap. 47. eithr darllen y mae'r gwyr hyn yn eu heglwysi, y petheu y gwyddant hwy eu hunain may celwyddeu a choeg chwedleu ydynt.
Ond, od oes neb yn tybied fod yr awdurdodeu a fynegwyd o'r blaen, yn llesg ag yn ddiffrwyth, herwydd darfod eu gossod, a'u gorchym yn, trwy archiaid Ymerodreu ag Cscobion go-issel, a chymanfa-Gynghorrau nid o‘r fath gyflownaf; a bod yn hyfrydach gantho o lawer, gael testiolaeth, yn enw a than awdurdod y Pab, bid hynod ynte i'r neb a fo o'r meddwl hwnnw, erchi [Page 126] o'r Pab Iulius yn anad dim,De consc. dist. 2. Cū enim nemo. na wlyche'r offeiriaid mor bara yn y caregl, wrth wasnaethy'r Cummun. Nhwytheu yngwrthwyneb gorchymyn Iulius y Pâb, ydynt arfer o ranny a gwlychy'r bara yn y gwin.
Medd y Pàb Clemens nid rhydd i escob ddwyn pob un or ddau gleddyf (sef, awdurdod llyg, ag awdurdhd llen) Herwydd (heb'r ef) O mynni di'r ddau gleddyf, ti ath dwylli dy hun, a'r sawl a'mufuddhaont itti. Ond y mae'r Pâb y pryd hyn yn rhoi hawl ar y ddau gleddyf, ag yn mynny dwyn bob vn o'r ddau; ag am hynny y gellir tybied yn llai rhyfeddod, ddamwain or peth a ddoedodd Clemens, nid amgen, no bod y Pâb yn ei dwyllo'i hun, ag yn twyllo'r sawl sy'n y'mufuddhau iddo. E ddoedodd y Pâb Leo na ddylid doedyd onid vn offeren, yn vn dydd, mewn vn Eglwys; ag etto arfer y gwyr hyn yw doedyd weithie deg, weithie vgain, yn fynych iawn deg ar hugain, ag weithie eraill mwy na hynny o'fferēnau, fegis na wyr y truan a edrycho arnynt, pa ffordd oreu iddo ymdroi. Medde'r Pâb Gelasius peth diffaith a chyssugrledrad yw gwahanu'r Cūmun dan gymryd y naill ryw, a pheidio a'r llall. Eithr hwynt hwy yngwrthwyneb i air Duw, ag yngwrthwyneb i'r Pâb Gelasius, ydynt yn [Page 127] peri iw offeiriaid na roddont ir bobl onid vn rhyw yn vnig o'r Cummun, a thrwy hyn y maent hwy'n gwneuthyr eu offeiriaid yn euog o gyssegr-ladrad
Ond o doedant hwy ddarfod heneiddio a diflannu'r holl betheu hyn, ag nad ydynt berthynasol ir amser sydd oni‘r owr‘on: Etto, segis y gallo pawb weled pa goel sydd iw roi i'r gwyr hyn, ag ar ba obaith yr ydynt arfer o ddyfyn Cymanfa-Gynghorau: Moeswch weled ar fyr o eirieu mor drefnus y maent hwy yn cadw y rheithieu a ddarfu iddynt eu hunain eu gwneuthyr yn sanctaidd, au gorchymyn o ddifri, mewn Cymanfa-Gyngor reithlawn, a hynny'n hwyr o amser, o fewn y blynyddoedd diwaethaf, yr hyn sydd gof iawn gan ddynion. Yn y Cymanfa-Gyngor diwaethaf a gynhaliwyd yn-nrhef Tridentum, (nid oes er hynny namyn prin pedair blynedd ar ddeg,) fe a ordeiniwyd drwy fodd a bodlondeb pob gradd, na bae rydd roddi i vn gwr ddwy offeiriadaeth ynghyd a'r vnwaith. Pa le'r owro'n y mae'r ordinhaad honno? Yw hitheu hefyd wedi heneiddio a diflannu cyn gynted? Canys chwi a welwch eu bod nhwy'n rhoi, nid yn vnig ddwy offeiriadaeth, ond yn fynych llawer Mynachlog, ie weithie, [Page 128] dwy Escobaeth, weithie tair, weithieu pedair, i vn gwr, a hwnnw, nid yn vnig yn annyscedig, eithr hefyd y rhan fynychaf yn wr o Ryfel. A hefyd yn y Cymanfa-Gyngor honno, yr ordeiniwyd orfod i bob Escob bregethu'r Efengyl. Nhwytheu nid ydynt nag yn pregethu nag yn mynd vnwaith i'r pulpyt, nag y chwaith yn tybied fod hynny 'n perthyn dim iw swydd nhwy. Pa beth, wrth hynny, yw'r gwychder ar rhodres y maen-nhwy'n ei gynnal ynghylch henafiaeth? Pa ham y maen nhwy'n gwneu [...]hyr ffrost o henwau'r ben Dadeu, a‘r Cymanfa-Gynghorau, hen, a newydd? Pa ham y cymerant arnynt roi hyder yn awdurdod yr hen Dadeu, ar Cynghorau, y rhai y maent pan fynnont hwy, weithie eraill, heb wneuthur pris amdanynt?
Ond mae arna fi chwant ymliw ychydig a'r Pab ei hun, a doedyd hyn wrth ei wyneb ef. Doedwch chwithe ini (sancteiddiol Bab) gan eych bod chwi‘n ffrostio cymaint o benafiaeth, ag yn bostio fod pawb yn rhwymedig yn vnig i chwi,De maior. & obedientia. Vnam sanctan [...] In Extrau. Bonifa. 8. pwy erioed o'r holl hen Dadeu a'ch galwodd chwi'n Brelat vchaf, neu'n Escob pennaf trwy'r holl fyd, neu'n ben ar yr Eglwys? Pwy onynt erioed a ddoedodd ddarfod rhoddi'r ddau gleddyf i chwi? Pwy o honynt erioed [Page 129] a fynegodd may iawn i chwi, a bod awdurdod gennych, i ddyfyn Cymanfa-Gynghorau? Pwy onynt erioed a sonniodd nad yw'r holl fyd onid eych Dioeces chwi?Darandus. Pwy onynt a grybwyllodd ddarfod i'r holl Escobion dderbyn och cyflownder chwi? Pwy onynt a yngenodd ddarfod rhoddi i chwi holl alluowgrwydd yn y nef,Concil. Lateranē se sub Iulio 2. Dist. 9. Innocentij yn gystal ag ar y ddayar? Pwy onynt a draethodd na alle na Brenhinoedd, na'r holl wyr Eglwysig, na'r holl fyd y chwaith mo'r barnu arnoch'i? Pwy onynt a ddoedodd fod Brenbinoedd ag Ymerodreu, drwy ewyllys a gorchymyn Crist, yn cymryd eu hawdurdod gennych? Pwy onynt, drwy mor ystrowgar gyfrwyddid mathematicaidd, a ddangosodd eych bod chwi ddeng-waith a thrugain saith-waith mhwy no'r Brenhinoedd mwyaf?De maior. & obedien. solite. Pwy onynt a fynegodd ddarfod rhoi i chwi mwy o allu ag awdurdodd, nag i'r Patrieirch eraill? Pwy o honynt a sonniodd may chwychwi yw'r Arglwydd Dduw? neu,Extra. Ioā. 22. Cum inter. In Glossa. in editione impressa. Parsijs 1503. nad oeddych yn vnig o rywiogaeth dyn, eithr rhyw sylwedd wedi ei wneuthyr a'i dyfu ynghyd, o Dduw, ag o ddyn? Pwy o honynt a grybwyllodd may chwychwi yw prif ffynnon boll Gyfraith? Pwy o honynt a yngenodd fod ichwi alluowgrwydd ag awdurdod [Page 130] ar y Purdan? Pwy o honynt a draethodd y gellwch'i orchymyn Angylion Duw fal y mynnoch eych hunan?Antonius de Rosellis. Pwy dnynt erioed a ddoedodd may chwychwi yw Brenin y Brenhinoedd, ag Arglwydd yr Arglwyddi? Nyni a allwn fynd etto ymmhellach a chwi'n yr vn modd? Pwy erioed o gynnifer holl hen Escobion a Thadau, a odyscodd i chwi na doedyd offeren neulltuol, tre-fae'r bobl yn llygeid rythu arnoch, na chwaith codi'r Sacrament uwch eych pen, yn yr hyn y mae'ch holl grefydd chwi'rowro'n yn sefyll? Neu pwy a ddyscodd i chwi gwttogi Sacramentau Crist, a sommi'r bobl am y naill ran, yn-nerbyn ordinhâd a gwir eiriau Crist ei hun? Ag fal y gallom-mi vnwaith wneuthyr pen: Pa vn o'r holl hen Dadeu a ddyscodd i chwi gyfanny a chyfroddi gwaed Crist, a haeddedigaetheu'r Merthyron gwynfydedig, a gwerthy'ch pardynau, a holl stafellau a chyfleoedd y purdan, fegis marsiandieth yn y farchnad: Y mae arfer y gwyr hyn o siarad llawer am ryw fath a'r ddirgel athrawiaeth, ag am lawer amryw fath a'r ddysc a darlenad sydd genthynt. Danghosant hwytheu ryw beth y pryd hyn, fal y caer gweled ddarfod iddynt ddarllen, a'n bod nhwy'n gwybod peth. Nhwy [Page 131] a lefasant yn groch ym hob man amgylch ogylch, fod pob darn o'u crefydd nhwy'n hen anianol, wedi wneuthyr yn gymeradwy, a'i gadarnhau, nid yn vnig drwy luosowgrwydd, eithr hefyd drwy gyttundeb, a chyd-barheuad holl genedloedd ag amseroedd.
Danghosant hwytheu, yr henafiaeth honno o'r eiddynt, vnwaith yn ei hoes. Moesont gael gweled yn amlwg y petheu y maen-nhwy'n gwneuthyr cymaint rhodres yn eu cylch, pa fodd y cowsont gynnydd gyhyd a chyn helaethed. Adroddant pa fodd y darfu i'r holl genedloedd Cri [...] nogaidd gyttuno drwy fodlondeb i'r crefydd hwn or eiddyn-nhwy. Eithr yn hyttrach, fal y mynegasom-mi o'r blaen, cilio y maent oddi wrth eu rheithieu ei hun: ag e ddarfu iddynt dorri drach-gefn, a di-ddimio mewn byr amser, yr vn rhyw betheu ag a ordeiniasent hwy o fewn ychydig flynyddoedd o'r blaen i barhau byth.
Pa ddelw ynte y gellir eu coelio nhwy yn llyfreu'r Tadeu, yn yr hen Gynghorau, ag yn y Geirieu a ddoedodd Duw ei hun? Nid oes genthynt, (O Dduw dayonus) nid oes genthynt, mor petheu y maent yn gwneuthyr cymaint rhodres yn eu cylch: Nid des genthynt na henafiaeth, nag [Page 132] ollawl-feddiannaeth, na chwaith cyttundeb holl wledydd ag amseroedd. Ag er eu bod nhwy yn chwennych cymryd arnynt, etto nhwy a [...]y [...]dant hyn yn ddigon hysbys; ie ag ni russant hwy weithieu gyfaddef cymai [...] [...] hyn yn gyhoeddedig. Ag o ran hyn y doedant am reithieu'r hen gymanfa Gynghoreu a'r hen Dadeu nad ydynt amgenach, nas gellir eu newid weithie, ag mae rhaid wrth amryw ordinhád bob amryw amser yn yr Eglwys. Dymma i chwi fal y maen-nhwy'n chware mic ymguddio dan enw'r Eglwys, ag yn twyllo'r truain-gwerin drwy goeg rithio. A rhyfedd ydyw fod pobl, y naill ai mor ddall na welant hyn, ai ynte mor ddioddef-gar os ydynt yn gweled, a gallu onynt cyn llonydded gyd-ddwyn ar cwbl.
Eithr lle y darfu iddynt beri adel ymmaeth y rheithieu a'r trefnadeu vchod fal petheu di-rymmus wedi gormod heneiddio, nid hwyrach ossod onynt yn lle'r rheini, rai eraill gwell a chymwysach ar les dynion. Eu harfer nhwy yw doedyd, pette Grist a'r Apostolion eilwaith yn fyw, na ellent lywodraethu'r Eglwys yn well neu'n dduwiolach nag yw eu llywodraeth nhwy yr amser sydd oni yrow r'on. Ond nhwy a ossodasant yn lle'r [Page 133] rheini, rai eraill; gwir iawn, Peiswyn a ddarfu iddynt ossod yn lle'r Gwenith, fal y doedodd y Prophwyd Ieremi. A'r fath betheu ag ni cheisiodd Duw erioed genthynt, fal y dywed y Prophwyd Esay. Nhwy a argauasant (heb'r ef) holl nentydd y dyfroedd byw, ag a gloddiasant i bobl Dduw byllau twyllodrus, tomlyd, yn llawn brynti, a budreddi; yn yr rhai nid oes dim dwfr glan, ag ni allant ddal dwfr glan y chwaith. Nhwy a gipiasont o ddiar y bobl y Cymmun sanctaidd, a gair Duw, yn yr hwn y mae ceisio pob diddanwch. Nhwy a gipiasont ymaeth wir addoliaeth Duw, ag iawn arfer y Sacramenteu, a Gweddiau: nhwy a rowsont i ni or eyddynt eu hun, i‘n dihuddo yn y cyfamser, halen, dwfr, blychau-olew, poeriadau, canghenneu blodeu, bullae, iubileau, pardyneu, croeseu, arogl-dar [...]h, a pheth anneirif o goeg ceremoniæ, a chwareudd betheu, i beri chware. (fal y doedodd Plautus.) Yn y petheu hyn y darfu iddyn-nhwy gyfleu crefydd yn ollawl: gan ddyscu i‘r bobl may trwy‘r petheu hyn y gellir cwbl-fodloni Duw, gyrru ymmaeth ysprydion, ag esmwythau cydwybodau dynion. Dymma, wele, liwieu hyfryd, ag Arogl-eneiniau crefydd Gristnogaidd. Yr rhain yw'r [Page 134] petheu y mae Duw yn edrych arnynt, ag yn ei cymeryd yn ddiolchus; mae'n rhaid dyfod yr rhain i gael addoliant, a throi ymaeth deddfodeu Crist a'r Apostolion. A megis gynt y gwnaeth brenin Ieroboam annuwiol, pan ddygodd ef oddiar y bobl wir wasanaeth Duw, gan eu harwainnhwy i addoli lloyeu euraid; yna rhag ofn iddynt a'r ol hynny newidio'u meddyliau, a neulltuo oddiwrtho ef, a myned i Gaer-Selem i deml Dduw: Ef au hannogodd nhwy drwy hir araith, i fod yn ddi-anwadal: gan ddoedyd fal hyn; O Israel y lloyeu ymma yw dy Dduwieu di: yn y modd ymma y gorchmynnodd Duw i chwi ei addoli ef. Herwydd blinder a lludded mawr fydde i chwi gymeryd taith gyhyd gan fynd i fyny i Gaer-Selem bob blwyddyn i wasnaethu ag i addoli eych Duw yno. Yn yr vn-ffunyd (er da'r holl fyd) wedi darfod ir gwyr hyn nhwytheu, ddiffrwytho vnwaith cyfraith Dduw, drwy eu traddodiadeu eu hun: rhag ofn i'r bobl egorud eu llygeid ar ol hynny, a llithro ymmaeth gan geisio ryw ffordd arall fodd siccrach o'u hiechydwriaeth; O Dduw, mor fynych y llefasant hwy'n groch, Dyma'r Gwasanaeth sydd fodlon gan Dduw a'r hwn a fyn ef ei gael gennym, [Page 135] ag er mwyn yr hwn, y try ef ei ddigofaint oddi wrthym! Trwy'r moddion hyn y cedwir cytundeb yr Eglwys: drwy'r rhain y rhydd-heuir holl bechodau, ag yr esmwythir holl gydwybodeu; a phwy bynnag a'mwrthodo a'r petheu hyn, nid oes iddo ddim gobaith o gael ei achub yn dragywydd. Herwydd (meddant hwy) blinder a lludded mawr fydde i'r bobl ymchwelyd drach-gefn at Grist, at yr Apostolion, ag at yr hen Dadeu, gan ddyfal-graffu'n wastad beth y maen-nhwy'n ei orchymyn. Ai hyn (edrychwch) yw arwain pobl Dduw oddiwrth lesg-elfenneu'r byd, oddi wrthLefen. fur-does y Scrifennyddion a'r Pharisæaid, ag oddiwrth traddodiadeu dynion? At cymwys ydoedd symmyd ymmaith orchmynion Crist a'r Apostolion, a gossod yr rhain yn eu lle nhwy? Wele, ynte, achos cyfion gwych, pa ham y dileuid yr hen athrawiaeth ydoedd gymeradwy lawer oes, ag y dygid i mewn i Eglwys Dduw fath newydd o'r Grefydd! Ag etto pa fath bynag ydyw, llefain y maennhwy nad rhaid newid dim o honaw, herwydd fod hyn yn cwbl-fodloni meddylieu dynion, a darfod i Eglwys Rufain ordeinio hyn: a hefyd na ddichyn Eglwys Rufain mo'r cam-gymeryd. Canys (medd Siluester [Page 136] Prierias) Eglwys Rufain yw vniownder a Rheoledigaeth y Gwir, a darfod ir Scrythurau glan gael coel ag awdurdod oddiyno. Athrawiaeth Eglwys Rufain (heb'r ef) yw di-amheuol Reolegiaeth y ffydd, oddi wrth yr hon Eglwys, y mae‘r Scrythur lan yn cymryd n rth. Ag ni hysbysswyd i ni mo'r pardyneu drwy awdurdod y Scrythur lan, eithr en hysbysswyd nhwy drwy awdurdod Eglwys a Phabau Rhufain, yr hyn sydd fwy. Nid amheuodd hefyd Pighius ddoedyd na ddylid credu mor Scrythur rwyddaf, ag egluraf, heb archiad Eglwys Rufain. Yr vn agwedd a phe bae vn o'r rhai ni fedrant ddoedyd lladin pur gowir, (ag er hynny a fedrant yn ddigon parod ag yn ddi-rwystr floesc-siarad peth or fath gyfraith-ladin ag sydd arferedig yn y llys) yn dal dadl may dyledus yw i bawb eraill ddoedyd ar ol yr vn ffordd ag y doedodd Catholicon a Mametrectus er ys llawer blwyddyn deg; (yr hwn fath ar ddoediad sydd arferedig etto yn eu plith nhwy wrth ddadleu'n y llys;) oblegid felly y gellir dealld yn ddigonol beth a ddoetter, a chyflowni ewyllysau dynion; ag may ffolder yrow'ron yn y diwedd, yw gwneuthyr trin a thrallod yn y byd, drwy fath newydd a'r ymadroddiad, dan adgyfodi drachgefn, [Page 137] yr hen burder a'r odidowgrwydd gynt ydoedd arferedig yn lladin gan Cicero ag Iulius Caesar yn eu hamser nhwy. Felly yr vn faint y mae'r gwyr hyn nhwytheu, yn rhwymedig i anwybodaeth a thywyllwch yr oesoedd a aeth heibio. Y mae llawer peth (fal y doedddd vn,C. Plinius.) mewn parch a chymeriad er mwyn darfod eu rhodd-offrymmy vnwaith i demlau'r Duwieu paganaidd. Felly, ni a welwn yr amser sydd yrowron fod y gwyr hyn yn gwneuthyr bri a phris ar lawer peth, nid o ran eu bod nhwy'n barnu y dylid gwneuthyr cymaint cyfri o'r fath betheu, eithr yn vnig er mwyn darfod eu derbyn drwy hir arfer, a darfod eu rhodd-offrymmy i deml Dduw.
Ni ddichyn (meddant amdanyn eu hun) eyn heglwys ni, na chyfeiliorni, na chamgymryd: Doedyd hyn (dybyga'i) ymaennhwy, fegis yr oedd arfer y Lacedemoniaid o ddoedyd gynt, na ellid cael vn godinebwr o fewn eu holl lywodraeth nhwy; lle'n hyttrach, o ddoedyd y gwir, godinebwyr eeddynt y gyd, heb ddim gwastadfod yn eu priodasseu, euthr eu holl wragedd yn gyffredin i bawb o honynt. Neu, fal y mae arfer y Canonistiaid, er mwyn eu bolieu,Summa Angelica Dist. Papa. o ddoedyd y pryd hyn am y Pab, gan ei fod ef yn Arglwydd o bob bywyd Eglwysig, [Page 138] er iddo werthy Escobaetheu.Theodericus de Schismate Mynachlogydd, ac offeiriadaetheu, ag nad ymadawo fo a dim yn rhâd; etto gan eu fod ef yn doedyd may fo piau hyn y gyd, am hynny na ddichyn bod simmoni yntho fo. pe rhown ag iddo chwenychy simmoni fwya ag alle. Eithr ni fedrwn-ni etto ganfod mor gadarn ag mor gyf-attebol i reswm y gallant hwy ddoedyd hyn, oddieithr ddarfod iddyn-nhwy doeri edenydd y Gwir; fal yr oedd arfer y Rhufeiniaid o wneuthyr gynt a'u duwies Victoria, Plutarchus. (Gorfodaeth) sef, wedi iddi unwaith ddyfod attynt, dorri eu hedenydd fegis na alle hi fyth mwy hedeg oddi wrthynt, a'r vn rhyw edenydd hynny. Ond, beth os dywed y Prophwyd Ieremi wrthynt (fal y mynegasom-mi o'r blaen) may celwyddeu yw‘r rhain? Beth os dywed yr vn Prophwyd mewn man arall, may'r gwyr a ddylent fod yn warcheidwaid ar y winllan, a ddarfu iddynt sathru ag anrheithio gwinllan yr Arglwydd? Beth os dywed Crist ddarfod i'r gwyr a ddylent yn bennaf ofalu am y Deml, wneuthyr Ogof lladron o deml yr Arglwydd? Os gwir na ddichyn Eglwys Rufain gyfeiliorni nag amryfysso, diau ynte, may rhaid fod happussrwydd yr Eglwy [...] yn fwy no'u pwyllin [...]b nhwy. [Page 139] Herwydd o'r cyfryw ydyw eu buchedd a'u hathrawiaeth, au hastudrwydd, na alle'r Eglwys yn vnig gyfeiliorni, eithr hefyd gael ei difa a chwbl ddarfod ādeni erddynt hwy. Yn wir o dichyn yr Eglwys honno gyfeiliorni, a ddarfu iddi ymadel a Gair Duw, a Gorchmynion Crist, a Threfnadeu'r Apostolion, a'g Arferau'r Brif-Eglwys, a Rheoledigaetheu'r hen Dadeu a'r Cynghorau; yr hon hefyd a ddarfu iddi ymadel ai deddfodeu ei hun, a'r hon ni ellir dal mo honi, o fewn cyfreithieu'n y byd, na hen na newydd, nag o'r eiddi ei hun, nag o'r eiddo eraill, nag o fewn cyfreitheu Duw, nag o fewn cyfriethieu dyn: yna, diau, a di ammeu iawn, ydyw, nid yn vnig allu o Eglwys Rufain gyfeiliorni, eithr darfod iddi gyfeiliorni yn wradwyddus ag yn frwnt aruthr.
Amdanom mi y doedant, chwi a fuoch gynt on crefydd a'n cymdeithas ni, ond yr owr'on e ddarfu i chwl ymadel, ag ymwahanu a ni. Gwir ydyw, ddarfod i ni ymadel a nhwy, ag mae genym ddiolch i'r goruchaf Dduw, a llawen iawn ydym, ar eyn rhan eyn hun, wneuthyr onom-mi hynny. Ond etto ni ddarfu r ni mor ymadel ar brif Eglwys, nag a'r Apostolion, nag a Christ. E'n dygpwyd ni fyny gyda'r gwyr hyn mewn [Page 140] tywyllwch, ag mewn gwall gwybodaeth am Dduw, fal y cafodd Moeses ei ddysca'i ddwyn i fyny yn athrawiaeth ag ymmynwes yr Aiphtiaid. Ni a fuom (medd Tertullian) o'ch cymdeithas chwi; rwy‘n cyfaddef ag nid oes dim rhyfeddod, (medd ef:) Herwydd nid yw dynion yn Gristnogion wrth enedigaeth, eithr wrth wneuthuriad. Ond, pam y dolwg, y darfu iddynnhwy sydd ddinâswyr Rhufain, symyd, a dyfod i lawr i drigo i'r Gwastad a elwirCampus Martius. Maes Mars, o ddiar y saith bryn ar y rhai yr oedd Rhufain yn sefyll gynt? Nid hwyrach y doedan-nhwy, may am ballu a sychu yn y brynniau hynny y cwndidau dwr, heb yr rhai ni ellent hwy mor byw yno'n iawn. Rhon nhwytheu (ar nawdd Dduw) i ni, wrth geisio dwr y bywyd tragwyddol, yr vn fath gennad ag a fynnan-nhwy gymryd eu hunain wrth geisio dwr y pydew. Oblegid, yn wir, e ballase'r dwr yn eu plith nhwy; Yr henuriaid (medd Ieremi a ddanfonasont eu rhai bychain i'r dyfroedd, nhwytheu druein yn meirw o syched, gan na fedrent gael dwr, a'mchwelasant a'u llestri‘n wâg. Yr anghenus a‘r rhai tlodion (hebr Esay) a chwiliasant o amgylch am ddwr, ond ni fedren nhwy gael dim yn vnlle: yr oedd eu tafodeu nhwy wedi gwywo [Page 141] o dra syched. Felly'r gwyr hyn a dorrasant yn gandryll yr holl bibellau a'r cwndidau dwr: nhwy a argauasant yr holl ffrydiau, ag a lenwasant ffynnon y dwr byw â thom ag â brynti. A megis yn Rhufain y gwnaeth Caligula gynt am gau a chloi'r holl yscyborieu yd, gan beri'n y modd hwnnw newyn a drudaniaeth cyffredinol ymhlith y bobl, felly'r gwyr hyn nhwytheu, wrth gau a phridd-lenwi holl ffynnoneu gair Duw, a wnaethant ar y bobl syched gresynol. Nhwy a barasant newyn a syched ar ddynion (fal y doedodd y Prophwyd Amos,) nid newyn bara, na syched dwr, ond newyn, a syched, gwrando gair Duw. Y truein gwerin a aethant amgylch ogylch, dan geisio rhyw wreichionen o oleuni duwiol, i lawenhau eu cydwybodau, eithr y goleuni hwnnw oedd wedi diffodd cyn llwyred na fedren-nhwy gael vn gronyn. Llymma'r cyflwr, llymma'r drefn ressynol, oedd ar Eglwys Dduw. Anhyfryd ydoedd byw ynddi heb yr Efengyl, heb oleuni, heb ddiddanwch yn y byd.
Wrth hynny, er bod yn erwin genthynt ddarfod i ni ymado a nhwy, etto hwy a ddylent ystyrio mor gyfiawn ydoedd yr achos a wnaeth i ni ymadel. O doedannhwy [Page 142] nad rhydd mewn modd yn y byd i neb adel y gymdeithas lle y dycpwyd ef y fyny; nhwy a allant felly yn eyn cyscod ni gondemnio'r Prophwydi a'r Apostolion, a Christ ei hun. Canys pam na ach wynant hwy hyn befyd, fyned Lot allan o Sodom, fyned Abraham ymmaeth o wlad Caldea, fyned yr Hebræaid allan o'r Alphs, fyned Crist oddi wrth yr Iddewon, a myned Pawl oddi wrth y Pharisæaid? Herwydd oni ddichyn bod achos cyfiawn i neb ymadel (na chynt na chwedi) ni welwn-ni resswm pam na ellir cyhuddo Lot, Abraham, yr Hebræaid, Crist, a Phawl Abostol, o gynnwrf a gwyr bleidiaeth yn gystal ag eraill
Ag od yw'r gwyr hyn yn mynny'n hwrw ni'n Hereticiaid, er mwyn nad ydym yn gwneuthyr pob peth wrth eu harehiad nhwy: Pwy, (er Duw) pa rai, neu pa fath ddynion a ddylent hwy hunain gael eu gadel, sy'n dirmygn gorchmynnion Crist a'r Apostolion? Od ydym-mi Scismaticiaid oblegid ddarfod i ni eu gadel nhwy; gerfydd pa henw yn [...]e y gelwir nhwy hunain a ddarfu iddynt ymadel a'r Groegiaid, (gan y rhai y cowsont hwy eu ffydd gyntaf) ymadel a'r Brif-Eglwys, â Christ ei hun, ag â' [...] Apostolion, [Page 143] fal yr ymadawe plant au tadau ag a'u mameu? Canys am y Groegiaid, heddyw, sy‘n cyfadde crefydd ag enw Crist: er bod llawer peth wedi llugru‘n eu plith nhwy, etto y mae genthynt, fyth, ran fawr o'r hyn a gowsant gan yr Apostolion. Nid oes genthyn-nhwy na fferenneu neulltuol, na Sacramenteu wedi darngwttogi, na Phurdan, na Phardyneu chwaith.
Am stiloedd goruch Escobion a'r fath henweu ffrost-feilchion; y mae cymaint serch genthynt i'r rheini, a pwy bynnag fydde a gymre arno'r cyfryw henwau, gan beri ei alw nag yn Escob goruchaf trwy'r holl fyd, nag yn ben a'r yr holl Eglwys; ni russent hwy ddoedyd amdano, ei fod ef yn ddyn balch anianol, trahaus yn-nerbyn ei frodyr yr Escobion eraill; ag yn Heretic cynhwyno [...].
A chan fod hyn mor eglur-hynod na ellir dim gwâd o honaw, ddarfod i'r gwyr hyn gwympo ymmaeth oddi wrth y Groegiaid, gan y rhai y cowsont hwy'r Efengyl, y ffydd, eu crefydd a‘u Heglwys; beth yw'r achos na allan-nhwy 'rowr'on aros mo'u galw adref, drach-gefn at yr rheini, fegi [...] at eu dechreuad?
Pam y maent yn ofni cymeryd sampleu wrth amseroedd yr Apostolion a'r hen Dadeu, fegis bod yr rheini heb ganfod dim a wedde? Ai tybied fod y gwyr hyn yn canfod mwy, neu'n gwneuthyr mwy cyfri o Eglwys Dduw no'r rhai a draddodasant i ni y petheu sy gennym? Ni a'madowsom yn wir, a'r Eglwys honno, yn yr hon ni ellem-mi na chael gwrando gair Duw'n buraidd, nâg iawn weinidogaeth y Sacramenteu, na galw ar enw Duw fal y dylid; yr hon Eglwys hefyd, y maen-nhwy eu hun yn cyfaddef fod llawer bai erni: ag yn yr hon nid oedd dim a alle attal dyn synhwyrol yn y byd, a fae'n gofalu am ei ddiogelwch ei hun. Heblaw hynny, ni'madowsom a'r Eglwys honno, yn y cyflwr y mae hi'r ow'ron, nid fal yr oedd hi gynt: ag ni a aethom oddi wrthi fal yr aeth Daniel o Ogo'r llewod, a'r tri meibion allan o'r tan. Ag o ddoedyd y gwir, nhwy a'n bwriason-ni ymmaeth, drwy felldithion, a sennau, chwaethach na mynd o'nom oddi wrthynt o'n gwaith eyn hun.
Ag ni a ddaethom at Eglwys arall, yn yr hon ni allant wadeu hun (o doedannhwy'r gwir a wyddant) fod yn llywodraethu pob peth mewn parch a gweddeidd-dra, ag yn nessa i gallom am yr [Page 145] einioes, i't drefn ydoedd arferedig yn yr hen amser. Cystadlon-nhwy 'n heglwysi ni, a'u heglwysi eu hun; a nhwy a gânt weled ddarfod iddynt hwy'n frwnt aruthr ymadel a'r Apostolion; ag i ninneu, nid heb achos mawr iawn, ymado a nhwytheu. Canys rhoi'r ydym-mi'r cwbl Gymmun i'r bobl, yn ôl y modd y gwnaeth Crist a'r Apostolion, a'r Tadeu sanctaidd: Nhwytheu yn-nerbyn yr holl hen Dadeu, yn-nerbyn yr Apostolion, yn-nerbyn Crist ei hun, ydynt (fal y doedodd-Gelasius) drwy anrheithiol gyssegr-ledrad yn gwahanu'r Sacrament, ag heb roddi namyn y naill ddarn i'r bobl.
E ddarfu i ni ddwyn drach-gefn Swpper yr Arglwydd i ordinhâd Crist, ag a fynnwn fod y Cymmun, yn ol yr henw priod (gymaint fwya ag a aller) yn gyffredin ag yn gyfrannedig i lawer iawn o bobl ar vnwaith. Nhwythau yn-nerbyn ordinhaad Crist, a newidiasant y cwbl, gan wneuthyr offeren neulltuol o'r Cymmun cyssegr-lan: ag yn y modd hyn rydymmi'n rhoi gwir Swpper yr Arglwydd i'r bobl; a nhwytheu'n rhoi iddynt goeg degan i edrych arno. Doedyd yr rym-mi (gyda thadeu'r henafiaeth) nad yw'n bwyta corph Crist onid y rhai ffyddlon, y sawl a [Page 146] gynnyscaeddwyd ag yspryd Crist. Eithr eu hathrawiaeth nhwy o'r tu arall, ydyw, na ddichyn yn vnig yr rhai echryslawn anffyddlon, fwyta gwir gorph Crist yn ddeunyddiawl, ag yn sylweddawl, (fal y doedan nhwy,) namyn hefyd (peth erchyll iw adrodd) y dichyn cwn a llygod fwyta'r vn rhyw gorph yn yr vn modd.
1. Cor. 14.Gweddio rydym-mi'n yr Eglwysi, yn-ol archiad S. Pawl, fal y gallo'r hobl ddealld beth y bom-mi'n ei weddio, ag atteb Amen drwy gyffredin gyttundeb: Ond y gwyr hyn, fegis tongcio pres, ydynt yn swnnial yn eu heglwysi nhwy eirieu dieithr anghydnahyddus, heb wybodaeth, heb ysturiaeth, heb ddysc, heb ddawn; a hyn y maen-nhwy arno o'r gwir gwaith ddioddef fal na chaffo'r bobl ddealld vn gronyn.
Eithr nid er mynegu bob pwnc o ragoriaeth rhyngom-n [...] a nhwy, herwydd peth anneirif gan mwya fydde hynny? yr ydym mi'n cy [...]euthu'r Scrythur lan ymhob iaith▪ Nhwythau braidd y gadawan nhwy'r Scrythur lan i fod mewn iaith yn y byd. Gwahadd y bobl yr ydym-mi i ddarllen ag i wrando gair Duw: eu hymlid nhwy ffo [...]dd y maen nhwytheu. Chwē nych yr ydym-mi gael o bawb wybod [Page 147] eyn hachos: cilio oddi wrth farn y maennhwy [...]heu. Bwrw'n pwys ar wybodaeth rydym-i: pwyso ar anwybodaeth y maennhwytheu. Rhoi'n hyder yn y goleuni yr ydym mi: hyderu'n y tywyllwch y maennhwytheu. Perchu (fal y gwedde) scrifennadeu'r Apostolion a'r Prophwydi rydym-mi; au llosci nhwy y maen-nhwytheu. Yn ddiwaethaf o'r cwbl, yn achos Duw, sefyll wr [...]h farn Duw ei hun e fynown-ni: sefyll wrth en harn eu hunain a fynnan-nhwytheu. Am hynny, os nhwy a ystyriant hyn y gyd â meddwl pwyllys, parod i wrando, ag i ddyscu, ni bydd yn vnig cymeradwy genthynt y ffordd a gerddassom-mi (gan i ni gilio oddiwrth amryfyssedd, a chalyn Crist a'r Apostolion,) eithr hefyd nhwy a'm wrthodant a nhwy hunain ag a ddônt ar eyn tu ni o'u gwaith eu hun.
Ond, yscarfydd, nhwy a ddoedant nad rhydd oedd i ni gychwyn yr helynt hon, heb gyfarch Cymāfa a chyssegr-Gyngor yn yr hyn y mae holl rym yr Eglwys: a darfod i Crist addo y bydde efgymmorth a chanorthwy yn y cyfryw gynnulleidfa. Ag etto nhwy hunain heb aros am Gymāfa-gyngor a dorrasant orchmyn on Duw, a deddsodeu'r Apostolion. Ag fal y doedasom-mi [Page 148] o'r blaen, nhwy a anrheithiassant agos holl reithieu, ag a ddwynasont athrawiaeth y Brif-Eglwys.
Lle y mae'n-nhwy'n doedyd, nad rhydd gwneuthyr newidiad heb Gymāfa-Gyngor, pwy a wnaeth i ni'r cyfryw gyfreithieu? Neu o ba fan y cawd hyn o orchymyn?Plutarchus. Digon ffol oedd ben y brenin Agesilaus, wedi cael o honaw atteb cyflawn beth ydoedd meddwl ag ewyllys Iupiter alluawg; pan ae fo drach-gefn at Apollo am yr vn achos, i ofyn ydoedd ef o'r vn meddwl a'i dad. Eithr ffolach o lawer fydde'n penneu ni, os ar ol i ni glywed Duw ei hun yn doedyd yn ddigon rhydd wrthym yn y Scrythurau glan, lle y gallom gael llawn ddealld o'i feddwl a'i ewyllys ef; od aem-mi ar-ol-llaw (fegis na bae hyn yn talu dim) i geisio treio'n hachos geyr-bron Cymanfa Gyngor: yr vn agwedd a phe baem-mi'n gofyn i ddynion ai cymwys (dybygen-nhwy) yw'r peth y mae Duw‘n ei dybied yn gymwys; Neu, ofyn ai gwiw gan dddynion, drwy eu hawdurdod nhwy, wneuthyr gorchmynion Duw‘n gymeradwy. Pam, y dolwg, ai nid Gwir ydyw‘r gwir, neu nid Duw ydyw Duw, oddieithr i‘r Cymanfa-Gyngor fynny erchi hynny? Pe y buase Grist yn Darpar y [Page 149] cyfryw helynt o‘r dechrenad, ag na wnaethe fo na dyscu, na doedyd dim o anfodd yr Escobion, eithr cymmwyso'i athrawiaeth wrth foddd Annas a Chaiaphas, ple y buase ynte'r ffydd Gristnogawl y pryd hyn? neu pwy, fyth, a gowse glywed pregethu'r Efengyl? Pedr Abostol (yr hwn sydd fynychach yngenau'r Pâb ag yn cael mwy o barch gantho nog Iesu Grist,) a safodd yn ddigon hyf yn-nerbyn cyssegr Gymanfa-Gyngor, gan ddoedyd may cymmwyssach ydyw ymufuddhau i Dduw, nag i ddynion. Pawl Abostol, hefyd, ar ol iddo vnwaith dderbyn yr Efengyl yw galon, a hynny nid oddi wrth ddynion, na thrwy waith dyn, eithr drwy ewyllys Duw‘n vnig, ni cheisiodd ef gymryd cyngor gan gnawd a gwaed, na dwyn y matter geyr-bron ei gerynt a'i frodyr, ond ef aeth yn gyflym i Arabia i bregethu'r dirgeledigaetheu sanctaidd drwy awdurdod Duw.
Yn wir, nid ydym-mi‘n dirmygu cynghorau, na chymanfaeu, na chyd-ddadlenau Escobion a gwyr dyscedig; ag ni ddarfu i ni wneuthyr, y chwaith, mo'r hyn a wnaethom, yn ollawl heb Escobion, a heb Gyngor. E ddarfu drwy hir ymgynhori gwbl-ddadleu am yr achos mewn Parlament lluosawg ag mewn cyflawn [Page 150] Gymanfa. Ond am y Gymanfa-Gyngor y mae'r Pab Pius yn cymeryd arno ei dyfyn yr amser hwn, lle yr ydis yncondemnio. euogfarnu, mor ebrwydd, yr rhai ni chowsant na'u galw, na'u gweled, na'u clywed; hawdd yw dychymig beth a ellir edrych amdano, a pheth sydd iw obaith o'r fath Gyngor.
Pan welodd Nazianzen gynt yn y fath Gymanfaeu a‘r rhain, fod gwyr mor ddall ag mor gyndyn, a chwedi ymroi cymaint iw meddylieu eu hun, may ceisio gorfod yr oeddynt, chwaethach na cheino'r Gwirionedd: ef a draethodd yn gyhoeddedig na welse fo erioed ddiben dayonus o vn o'r Cymanfa-Gynghorau. Beth a ddoede fo pe bae ef fyw yn yr amser ymma, wrth ganfod, a gwybod, trin a dichellion y gwyr hyn? Herwydd, er bod calyn pleidiau y pryd hynny, etto yr oeddid yn gwrando achos pob plaid ag yn gwrthladd amryfyssedd hynod pob plaid, drwy eiriol fodd a bodlo [...]deb pawb. Y gwyr hyn, nhwythau, ni fynnant na bod yn rhydd dwyn yr achos i fewn dadl, na chwaith newid dim amryfyssedd er maint fyddo.
Canys eu harfer nhwy ydyw ffrostio yn ddi [...]wilydd na ddichyn eu heglwys nhwy syrthio mewn amryfyssedd; nad oes ddim [Page 151] bai ynthi; ag nad rhaid iddynt roi'r goreu i ni mewn dim. Neu od oes fai, yr Escobion a'r Abhadeu a ddylent fod yn farnwyr arno; oblegid nhwy piau ryf vniowni achossion, a hwynt-hwy ydynt Eglwys Dduw. Medd Aristoteles ni ddichyn dinas fod o blant gordderch: Eithr pwy vn a wna Eglwys Dduw ai gallu hod o'r gwyr hyn ai peidio, ystyrion [...] hwy hunain Diau, nad yw'r Abbadau gyfreithlawn Abbadau: na'r Escobion, chwaith, Escobion naturiol. Ond nhwynt hwy [...]w'r Eglwys; gedwch i hynny fod: G [...]andawer nhwy yn y Cynghorau, bydded genthynnhwy'n vnig, awdurdod wrth ddadl i wneuthyr a fynnont: Etto'n yr hen amser pan oedd Eglwys Dduw'n cael ei choledd a‘i llywodraethu 'n dda iawn, (o chystedlir hi a'u heglwys nhwy) yr oeddid (medd Ciprianus) yn galw henuriaid, a Diaconiaid, a s [...]rn o'r cyffredin bobl hefyd, ag yn e [...] gwneuthyr nhwy'n gydnabyddus ag achossion eglwysig.
Eithr beth od yw'r Abhadeu, a'r Escobion hyn, heb ddim gwybodaeth genthynt? Beth, od ydyn-nhwy heb ddealld pabeth yw crefydd, na pha fodd y dylemmi feddwl am Dduw? Beth o darfu pallu llaferydd a gwenidogaeth y ddeddf [Page 152] yn yr offeiriaid, a phallu cyngor hefyd yn yr Henuriaid? Beth (fal y doedodd y Prophwyd Mcheas) os nos sydd iddynt yn lle gweledigaeth, a thywyllwch yn lle prophwydoliaeth? Neu (fal y doedodd y prophwyd Esay) od yw holl wilwyr y ddinas wedi mynd yn ddall? Beth o diffasodd yr halen gan golli ei hallter? Ag (fal, y doedodd Crist na thal ef ddim, ie, na thâl ef mo'i daflu i'r dommen?
Wele, etto, nhwy a fynnant ddwyn pob peth [...]yr bron y Pab, yr hwn ni ddichyn ga [...]-gymryd dim. Yn gyntaf, llymma ynfydrwydd mawr yw hyn, dybied fod yr Yspryd glan yn hedeg yn gyflym o'r Cymanfa-Gyngor i Rufain, fegis o bae ef yn ammeu, neu'n rhusso mewn dim, y galle ef gymryd cyngor gan ni wn i pa yspryd arall a fae a mwy o ddysc gantho nog ef. Herwydd, os felly y mae'r helynt, pa raid fuase i gynnifer o Escobion drwy gymaint o draul, a chyhyd teithiau, gynnyll Cymanfa 'r pryd byn yn-nhref Tridentum? Synhwyrolach, a gwell fuase, neu ynte byrrach, a chymw [...]sach fuase, ddwyn y cwbl geyr-bron y Pâb, a myned yn vnion deg, i geisio atteb a chyngor gan ei ddwyfron fendigaid ef. Yn ail peth, anghyfiownder mawr ydyw coethi'n hachos ni [Page 153] oddi wrth cynnifer o Escobion, ag Abbadeu a'i ddwyn o'r diwedd i gael ei drein geyr bron vnFâb Rhufain. gwr yn vnig; yr hwn wr, yn enwedig, a ddarfu i ni ei gyhuddo o ddrygcampen erchyll ag y mae ef etto heb atteb i'r hawl: yr hwn wr hefyd, sydd wedi 'n bwrw ni'n euog (heb farn gyfieithlon) cyn cael onom na'n galw, na'n gwrando.
Beth meddwch, ae tybied may dychymig yr ydym y petheu hyn? Ond dymma helynt y Cymanfa-Gynghorau y pryd hyn? Ond ydis arfer o symmyd yr holl ddadl o'r Cymanfa-Gyngor, a'i dwyn ger-vron y Pab yn vnig? A megis na ddarfuesid (yn ei herwydd) ddibenny dim drwy farn a chyttundeb cynnifer o wyr, y mae'n rhydd iddo ef yn vnig, ychwanegy, newid, lleihan, di-ddimio, gossod yn gymeradwy, rhyddhau, a chaeth-rwymo beth bynnag a fo ewyllys ganthu fo? Ag onid e, geirieu pwy ynte, yw'r rhain; a pham y darfu i'r Escobion a'r Abbadeu yn hwyr o amser orphenny 'r Cymanfa-Gyngor diwaethaf yn-nrhef Trideniū gan ddoedyd y geirieu hyn: Namyn bod yn rhag-gadwedig bob amser Awdurdod yrSef yw hynny awdurdod y Pàb ei hun ei [...]eddfa Apostolaidd? Neu, pam y d [...]rfu i'r Pàb Paschalis scrifenny mor falchiaidd o honaw ei hun, fegis (medd ef) allu o Gymanfa-Gyngor [Page 154] yn y byd rot rheoledigaetheu i Eglwys Rufain; De electione & electi potestate, cap. Significasti. gan gaff [...]el o'r holl Gymanfa-Gynghorau eu grym a‘u gwneuthoriad drwy awdurdod Eglwys Rufain: Ag ymhob ordinhâd a wnelo‘r Cymanfa-Gynghorau, bod yn rhag-gadwedig awdurdod Páb Rhufain? O mynnant hwy i'r petheu hyn sefyll mewn grym, i ba ddeunydd ynte yr ydis yn dy fyn Cymanfa-Gynghorau? O'r tu arall, os yn betheu diffrwyth y maent yn cymeryd yr rhain, pa ham ynte'r ydis yn eu gadel nhwy yn llyfreu'r gwyr hyn, fegis yn gwbl safadwy?
Bid felly wrth hynny, moeswch fod Pâb Rhufain yn vnig yn vwch no'r Cymanfa-Gynghorau; sef yw hynny, gedwch fod vn dernyn yn fo [...]y no'r cwbl; moeswch fod onaw ef yn alluoccach, ag yn ddoethach na'r holl blaid o'r eiddo.Hieron. ad Euagrium Ag yn-nerbyn gwaechaf i Hieronimus, meswch fod awdurdod (Rhufain) vn ddinas, yn fwy nag awdurdod yr holl fyd. Beth ynte, os y Pab ni wyr oddi wrth hyn; ag na ddarllennodd ef erioed na'r Scrythurau glan, na llyfreu'r hen Dadeu, na'r Cynghorau o'r eiddo'i hun chwaith? Beth o bydd ef yn dal gyda'r Arrianaid fal yr oedd y Pàb Liberius gynt? Neu'i fod ef a meddwl erchyll gantho [Page 155] yn tybied yn frwnt anheilwng o'r bywyd a ddaw, ag oddi farwolaeth yr eneidieu, fal yr oedd Pâb Ioan, yn tybied, o fewn yr ychydig o flynyddoedd aeth heibio?
Neu, o ran gallu onaw gynnyddu ei oruchafiaeth ei hun, beth os llugru a ffalsdroi a wna ef y Cynghorau eraill, fal y gwnaeth y pâb Zosimus am y Cyngor Niçen [...]m gynt, a doedyd ddarfod i'r Tadeu sanctaidd wneuthyr ag ordeinio y petheu ni feddyliodd eu ca [...]onneu nhwy erioed? Ag ar hyder allu onaw ef gael llawn rwysc awdurdod, beth o chynnig ef gam a throwsedd i'r Scrythurau glan megis (medd Camotensi [...]) yr oedd Pabau Rhufain arfer o'i wneuthyr yn fynych? Beth o gwrthyd ef y ffydd Gristnogawl, a mynd yn apostata, fal y gwnaeth llawer Pab, medd Liranus? Etto er hyn y gyd, ai tybied y daw'r Yspryd glan yn gyflym i daro 'i ddwyfron ef, ag ennyn goleuni i'r Pab o'i anfodd; ie, erbyn diolch iddo, fal na allo fo gam-gymryd na cham-wneuthyr? Ai efo, yn y man, fydd pen ffynnon yr vniownder? ag a geir holl drysor doethineb, a gwybodaeth yntho ef, wedi eu rhoi i gadw fegis mewn cist? Neu, os hyn [Page 156] nid yw yntho, a ddichyn ef ynte, roi barn gyfiawn gymwys yn achossion or maint hyn? Neu, os efo ni ddichyn farnu, a fyn ef er hynny ddwyn pob peth geyr ei fron ef yn vnig?
Eithr beth meddwch, os yw dadleyddion y Pab, a'i Abbadeu, a'i Escobion, yn ddiragrith wedi ym-ddangos yn gwbl-elynion i'r Efengyl, heb fynny gweled mo'r peth a welant, gan wneuthyr traws-amharch i'r Scrythurau glan? A'u bod nhwy wrth weled a gwybod, yn llugru, ag yn llwyr ddiwyno gair Duw, gan gam-droi a dirnad i'r Pab drwy annuwiol weniaith y petheu a ddoetpwyd yn ddiau, ag yn briodol iawn, am Grist ei hun, ag ni ellir mewn modd yn y byd ddeualld m'enynt am neb arall?Host. Cap. Quanto. Abbas Pano. de elect. cap. venerabilis. Cornelius Episcopus in Concilio Tridentino. Durandus Beth o doedant may'r Pab yw pob peth yn ollawl, ag vwch ben yr holl betheu? Neu allu onaw ef wneuthyr pob peth ag allo Crist: ag may'r vn farn-eisteddfa, a'r vn Gynghorfa sydd ir Pab ag i Grist? Neu may'r Pab yw' [...] Goleuni hwnnw a ddeue i'r byd? Yr hyn eirieu a lefarodd Crist amdano'i hun yn vnig; a hefyd may drwg weithredwr yw pwy bynnag a gilio, gan ochel y goleuni hwnnw? Neu, ddarfod i'r holl Escobion eraill dderbyn o gyffownder y Pab? Ar [Page 157] fyrr o eirieu, beth o gwnant hwy reithieu a deddfau yn gwbl wrthwyneb i wir air Duw, a hynny, nid yn guddiedig eithr yn gyhoeddedig ag yn amlwg: etto, ai anghenrhaid ydyw, yn y man, May Efengyl yw beth bynnag a ddoetto‘r gwyr hyn? Ai nhwy ydyw llu Duw? Neu a fydd Crist yn eu plith nhwy yno gar-llaw? A leinw'r Yspryd glan yn eu tafodeu nhwy: neu allant hwy ddoedyd yn ddiffuc, Yr yspryd glan a ninne a dybiassom fal hyn? Yn wir, ni russodd Petrus a Soto, Hosius contra Brentium lib. 2. a'i gydymaeth Hosius ddoedyd fod Yspryd Prophwydoliaeth, a'r Yspryd glan, ag Yspryd y Gwirionedd, gan y Cyngor hwnnw yn yr hwn i barnwyd Crist iw farfolaeth. Ag nad yr vn o‘r ddau, nag anwir, nag ofer chwaith, oedd, y peth a ddoedodd yr Escobion hynny, Y mae gennym-mi Gyfraith, ag wrth y Gyfraith honno ef a ddyle farw; a darfod iddynt wrth ddoedyd hynny farnu gwirionedd y farnedigaeth. Herwydd felly medd Hosius, ag may barn gwbl-gyfiawn oedd yr hon a rowsont gan lefaru fod Crist yn haeddu marwolaeth. Y mae'n rhyfedd, dybygwn'i, na ddichyn y gwyr hyn ddoedyd drostynt eu hun, ag ymddiffyn eu hachos, ond rhaid iddynt hefyd gymryd plaid gyda'g Annas a Chaiaphas. Canys y rhai a [Page 158] ddoedant may Cyngor cyfiawn cyfreithlawn ydoedd hwnnw yn yr hwn y barnwyd mab Duw i wradwyddus farfolaeth: pa Gyngor, ynte, gan hynny, a alwant hwy‘n ddrwg ag yn anghyfiawn? Ag etto y cyfryw fath yw eu Cynghorau nhwy gan-mwyaf y gyd, na allent hwy amgen no llefaru hyn am y Cynghor hwnnw a gynhaliodd Annas a Caiaphas. Eithr, a gawn-ni ddi-wygiad ar yr Eglwys gan y gwyr hyn, yr rhai ydynt euog eu hunain, a barnwyr hefyd? Ai tybied, y lleihaant hwy ddim ar eu balchder, a‘u chwant i ddwyn rhwysc? a fwriant hwy eu hachos i lawr, neu a farnant hwy yn eu herbyn eu hun may rhaid iddynt beidio a bod yn Escobion ānyscedig, peidio a bod yn folieu muscrell, peidio a phen-turru offeiriadetheu, peidio ag ymddwyn eu hunain fal Twysogion, a pheidio hefyd a rhyfela? Ag am yr Abbadeu, yr rhai ydynt anwylyd-feibion y Pab, ai tybied y barnant hwy, may carn lleidr yw'r mynach, nid ennyllo'i fywyd ei hun. Neu, nad rhydd adel i'r cyfryw ddyn fyw, nag mewn tref, nag yn y wlad, nag ar gynhaliaeth eraill? Neu, may dyledus i fynach orwedd ar y ddaiar, a byw'n galed ar lyssieu, a phys, myfyrio‘n ddyfal, dadleu duwioldeb, gweddio, [Page 159] gweithio a‘i ddwylaw, a pharatto‘i hun i weinidogaeth yr Eglwys? yn wir, yr vn agwedd fydde disgwyl gan y Pharisæaid a‘r Scrifenyddion adnewyddu teml Dduw, a‘i dad-roddi i ni‘n dy gweddi, o Ogof ladron. E fu rai onynt eu hun a feiasont ar lawer o amryfysedd yn yr Eglwys: nid amgen no‘r Pâb Adrianus, Aeneas Sylvius, y Cardinal Pool, Pighius, ag eraill fal y mynegasom-mi or blaen. Nhwy a gynhaliosant Gyngor wedi hynny yn-rhef Trindentum lle yr ydis wedi dyfyn Cymanfa-Gyngor y pryd hyn. Yna y daeth ynghyd lawer o Escovion ag Abhadeu, a rhai eraill rheidiol. Yno yr oeddyn-nhwy wrthynt eu hunain; beth bynnnag a wnelent, nid oedd neb i ddoedyd gair yn eu herbyn, oblegide ddarfuase iddynt gau allan a gwahardd o'u Cymanfa y sawl oedd o‘n plaid ni. Yno yr eisteddasant hwy yngyd chwe-blynedd, a llawer o ddisgwyl oedd arnynt. Yn y chwē mis cyntaf, nhwy a ordeiniasant lawer o vetheu yn rhith angenrheidiol yngylch y gyssegr-lā Drindod, y Tâd, a' [...] Mab a‘r Yspryd glân: a‘r ordeiniadeu hynny oeddynt dduwiol yn siccyr, ond nid oedd cyn rheithied wrthynt yr amser hwnnw. Eithr, yn y cyfamser, o gymain āryfysedd goleu di-ymg [...]dd, yr hyn a ddarfuase iddynt ei gyfaddef mor [Page 160] fynych; moeswch weled pa vn pwnc a fu gwiw genthynt ei ddi-wygu? oddi wrth pa vn fath ar addoliaeth eulynod y dechwelasant hwy'r bobl? Pa vn pwnc o Gam-grediniaeth a ddileuasant hwy? Pa vn darn o'u trowsedd a'u balch-wchder a leiasont? Rhag na bae'r byd bellach yn gweled may cyd-fwriadaeth, ag nid cyngor yw'r Gymanfa hon, a bod yr Escobion a ddarfu i‘r Pab alw ynghyd y pryd hyn wedi rhoi mowr-llwf ffyddlondeb ag vfudd wasanaeth iddo, ag na wnelont hwy byth ddim ond a fo‘n rhyngy bodd iddo ef, a chynnyddiad iw awdurdod, fal y mynne efo ‘i hun: Neu, nad ydyw fwy genthynt am rif y sawl sy‘n doedyd gyda nhwy, nog am y peth a ddoetto‘r sawl hynny; Neu, nad oes ond y trecha treisied, ar gwanna gwaedded.
Ag am hynny, ni a wyddom ddarfod i lawer o wyr da, ag Escobion catholic, aros gartref, a pheidio a dyfod i‘r cyfryw Cymanfaeu, lle y bydde‘r fath amlwg ddilyn pleidieu, a gwasanaethu turnau: oblegid di-ammeu oedd genthynt, na bydde iddynt onid colli eu poen heb wneuthyr lles yn y byd, gan weled a gwybod fod wynebau a meddylieu ei dygassogion mor ollawl iw herbyn. Pan ddyfynwyd [Page 161] Athanasius yn enw'r Ymerodr,Theodoretus lib. 1 cap. 28. i ddyfod i'r Gymanfa-Gyngor yn Cæsarea, ef a nagcaodd ddyfod er mwyn gwybod onaw'n hysbys od ae ef yno, y gorfydde iddo fod ym-mysc ei elynion llidiog. Yr vn Athanasius hefyd pan ddaeth ef i'r Cyngor yn Syrmium, a gweled o honaw ymlaen-llaw wrth gas a dygassedd eu elynion, pa helynt a geid yno; ef a barodd cludo'i ddodrefn ag aeth ymaeth yn gyflym.Hist. Tripar. lib. 10. cap. 13. Er i'r Ymerodr Constantius mewn pedwar llythyr orchymyn i Ioan Chrisostom ddyfod i Gymanfa-Gyngor yr Arriaid, etto ef a drigodd gartref ag a beidiodd a dyfod.Eusebius lib. 1. co. 17 Pan oedd Maximus Escob Caer-Selem yn eistedd yn y cyngor Palestinum; yr henuriad Paphnutius a'i cymerth ef gerfydd ei law, ag a‘i harwenodd ef allan gan ddoedyd fal hyn:Tripar. Sozomen. li. 5. ca. 15. Nid rhydd i ni gyd-ddadleu â gwyr annuwiol, y petheu hyn. Hefyd ni ddoe Escobion y Dwyrain ddim i'r Cyngor yn Syrmium, wedi clywed onynt vnwaith ddarfod i Athanasius fynd ymmaeth oddi yno. Cyrillus a srifennodd lythyreu, i nol rhai drach-gefn oddiwrth Cymanfa-Gyngor y rhai a elwid Patropassiani. Paulinus Escob Treuirensis a llawer eraill a wrthodasant ddyfod i'r Cymanfa-Gyngor ym-Mylan, pan wybuont hwy pa drin [Page 162] a llywodraeth yr oedd Auxentius yn ei gynnal yno. Herwydd nhwy a welsont may ofer oedd iddynt fyned ir man lle yr oedd trechach cyd-bleidio na chyd-resymmy: a lle yr oedis Dadl ag ymryson nid am vniawn farn yr achos, eithr pwy oedd fwya 'i blaid a'i gymeriad.
Ag er bod iddynt y cyfryw elynion yn llawn cas a chy [...]dynrwydd, etto, o'r hyn lleiaf, nhwy aliassent gael rhydid i adrodd ei meddylieu yn y Cymāfa-Gyngor. Ond yr owr'on gan na chaiff neb onom-mi nag eistedd, nag ymddangos vnwaith yn euSeneddau. heisieddfaeu nhwy, na gallu chwaith cael ei wrando'n hynaws: a chan fod cēnadeu'r Pab, y Patrierch, Archescobion, Escobion a'r Abbadau (y gyd wedi cyd-fwriadu, y gyd yn yr vn-rhyw affaith, y gyd wedi tyngu'r vn llwf,) yn eistedd mewn Cyngor wrthynt eu hunain, ag awdurdod genthynt eu hunain i lunio'r ordinhaad a fynnont: ag etto yn y diwedd wedi darfod iddynt wneuthyr goreu ag allont, gorfod onynt fegis na wnaethent ddim, ddwyn a darostwng eu holl farnedigaetheu i ewyllys y Pâb iw rholi wrth ei chwant ef ei hun, fal y gallo fo o honaw ei hun lafaru ei farn ef, (yr hwn a ddyle'n rhagorach wneuthyr atteb i'r achwyn sydd arno:) [Page 163] A hefyd, gan ddarfod dwyn ymmaeth or Gymanfa-Gyngor yr hen rydid Cristnogawl a fae gymhesur ei bod yn enwedig ymhob Cyngor Cristnogaidd: Er mwyn yr holl achossion hyn (medda'i) ni ddyle gwyr doethion duwiol mor rhyfeddu wneuthyr onom-mi'r pryd hyn, yn yr vn modd ag y gwelant ddarfod i gynnifer o Dadeu ag Escobion catholic wneuthyr gynt yn y cyffelib achos: sef, fod yn well gennym aros gartref, a rhoi'r cwbl ar Dduw, chwaethach na chymeryd hir-da [...]th arnom, i fynd yno iw Cymanfa nhwy, lle ni chynhwysir mo'nom a lle ni thyccia dim ar a wnelom: A hefyd lle ni allwn ni gael mo'n gwrando chwaith, lle nid ydis yn gwneuthyr ond gwatwarwch am ben cennadwwri Twysogion, a lle'r ydin wedi'n condemnio ni cyn treio'n hachos, segis darfod ymlaen-llaw wneuthyr pen a threfn ar bob peth.
Amdanom eyn hun, nyni allwn ddioddef yn llariedd, ag yn llonydd, y cam rydis yn ei wneuthyr a ni: eithr pam y maent yn gwahardd Brenhinoedd Cristnogawl a Thwysogion duwiol o'u Cymanfa? Pam y maent mor afrowiog, neu ynte o wir gas, yn eu gadel nhwy allan, heb fynny iddynt gael gwybodaeth yn y [Page 164] byd am achos y Grefydd Gristnogawl, na dealld cyflwr eu heglwysi; megis nad Cristnogion m'onynt, neu na wyddant ddim oddi wrth y fath beth? Neu, o digwydd i'r Brenhinoedd a'r Twysogion hynny ddangos eu hawdurdod gan wneuthyr y petheu a allant, y petheu a orchmynnodd Duw ddynt, y petheu a ddylent, a'r petheu a wyddom-mi a wnae brenhin Dafydd, brenin Solomon, a'r holl dwysogion da gynt: sef yw hynny, os nhwy (tre fo'r Pab a'i Brelatiaid, y naill ai'n cyscu mewn diogi, neu ynte'n gwrthladd pob dayoni) a fustachant drythyllwch yr offeiriaid, gan eu gyrru nhwy iw gwaith, a'u cadw yn eu dyledus swydd: Neu, os y Brē hinoedd a'r Twysogion a [...]wriant i lawr Eulunod, a delwau, Neu, a droant heibio Gau-grediniaeth, dan ossod drachgefn mewn braint, ag adnewyddu, gwir Grefydd a gwasanaeth Dduw: yna pam y mae arfer y Pab a'i blaid o weiddi'n groch arny [...]t, a doedyd eu bod nhwy'n bwrw pob peth ben-dra-mwnwgl drwy ymwthio i fewn swyddau gwyr eraill; a‘u bod nhwy yn gwneuthyr llwyr warth a gwradwydd? Pa ddarn o'r Scrythur-lan sy'n gwahardd Twysog Cristnogawl o gael hysbysrwydd yn y cyfryw achossion? Pwy [Page 165] onid nhwy hunain erioed a wnaeth y fath gyfreithieu?
Nhwy a ddoedant, y scatfydd, ddarfod i Dwysogion a Phenaduriaid llyg ddyscu pa fodd y triniant lywodraetheu cyffredin a rhyfel; eichr nad ydyn-nhwy'n dealld dirgeledigaetheu crefydd. Os gwir hynny, beth amgenach no Brenhin a Thwysog ydyw'r Pàb y pryd hyn? Beth ydyw'r Cardinaliaid, yr rhai ni allant fod amgenach no meibion Brenhinoedd a Thwysogion? Beth amgen yw'r Patrieirch, a'r Archescobion fynychaf, a'r Escobion, a'r Abbadeu? Beth ydyn-n [...]wy y gyd ymrenhiniaeth y Pab y pryd hyn, onid Twysogion bydol, onid [...]uciaid, onid Ieirll, a chynnulleidfa o wyr gwchion ar eu hol, i ba le bynnag yr elont, mewn cadwyni a cholerau aur y rhan fynychaf? weithie e fydd genthynt fath a'r drwss adeu godidawg, croeseu, colofneu, heriau, mi [...]reu Simurau. palla [...], yr hyn wchder ni bu erioed gan yr hen Escobion, Chrisostomus, Augustinos; ag Ambrosius. Ond aed hyn y gyd heibio; beth y maent hwy'n ei ddyscu? beth y maent hwy'n ei ddoedyd? Pa beth y maent hwy'n ei wneuthyr? Pa fodd y maent yn byw, fal y bae weddaidd nid yn vnig i Escob, eithr i ddyn Cristion? ydyw [Page 166] gymeint gorchest wrth hynny i wr ddwyn stil ofer, ag na bae ond newid dillad, a chael yn y man, ei alw'n Escob?
Yn wir, os rhoi'r cwbl a wneid dan eu rhol a‘u llywodraeth nhwyn‘n vnig, y rhai ni wyddant, ag ni fynnant wybod ddim oddi wrth y petheu hyn, ag nid ydynt yn gwneuthyr gwerth hatling o bris ar vn pwnc o Grefydd, oddieithr am a berthyno iw bolieu ag i‘mgyfeddach: a hefyd os nhwy'n vnig a wneid yn farnwyr, ag fal gwyr deillion a ossodid i wilied ar ben twr: O'r [...]u arall, o gorfydde i Dwysog Cristno [...]aidd cyfiowngall sefyll fal cyff, ne bawl, ag na bae rydd iddo mewn Cymanfa-Gyngor adrodd na'i farn na'i feddwl, eithr yn vnig (fal vn a fae allan o'i bum synwyr) disgwyl beth a fynnent ag a barent hwy: a derbyn yn gymeradwy eu gossodigaetheu nhwy: (dan gyflowni drwy ddallineb beth bynnag archent, er maint cabledigaeth ag annuwioldeb fydde, ie pettent yn erchi iddo lwyrddestrywio'r holl Grefydd, ag eilwaith groes-hoelio Crist ei hun,) E fydde hynny‘r fath drowsedd, a dirmig, a balchder, ag anrhaith, na ddyle Twysogion pwyllus Cristnogawl na'i gyd-ddwyn na chydddioddef mo'naw.
Pam adolwg, a ddichyn Annas a Chaiphas ddealld rhol a llywodraeth, ag ni ddichyn brenhin Dafydd, a brenhin Ezechias? Ai rhydd i Gardinal a fo rhyfelwr ag yn llawn chwant gwaed, eistedd mewn Cymanfa-Gyngor, ag nid ydyw rydd i Ymerodr neu i Frenin Cristnogawl? Diau nad ydym-mi'n rhoi mwy rhydid ag awdurdod i'n Pennaethiaid nog a wyddom fod wedi caniattau, iddynt yn y Scruthur lan, a hefyd wedi ei gadarnhau iddynt drwy sampleu ag arfer y llywodraethau cyffredin goref. Herwydd heblaw rhoddi o Dduw bob vn o ddwy lech y Gorchmynnion dan ddwylaw bob Twysog ffyddlon, megis y galle efo ddealld fod yn perthyny iw swydd ef, nid yn vnig achossion llyg, eithr hefyd petheu cyssegr eglwysig: heblaw hefyd fod Duw'n fynych drwy ei Brophwydi 'n erchi'r Brenin, yn anad dim, dorri y llwynau, bwrw i lawr a dryllio delwau ag allorau‘r Eulunod; a scrifenny llyfr y ddeddf iddo'i hun: a heblaw doedyd o'r Prophwyd Esay may rhaid ir Brenhin fod yn ymddiffynnwr ag yn dad-maeth i'r Eglwys: Heblaw hyn y gyd (medda'i) ni a welwn wrth ddarllen ystoriaeu a sampleu'r amseroedd goref, ddarfod i bob Twysog duwiol [Page 168] erioed wneuthyr cyfri fod gwenidogaeth yr Eglwy [...]i'n berthynasol iw swydd ef. Moeses yr hwn ydoedd Cennadur llyg a thwyswr y bobl,Exod. 32. a dderbynniodd gen Dduw, ag a ddododd i‘r bobl, yr holl drefn am Grefydd ag Abertheu: ag a rodd gerydd hagr-dost i'r Escob Aaron am wneuthyr y llo euraid ag am ddioddef llugru crefydd Dduw.Iosu. 1. Iosuah hefyd, er nad ydoedd ef ddim amgen no Phennaeth llyg, etto hwyn gynta'g y darfuase i Dduw ei ddewis ef a'i ossod yn lywodraethwr ar y bobl, ef a gafodd orchmynnion yn enwedig ynghylch crefydd a gwasanaeth Dduw. Ar ol darfod i frenhin Saul ānuwiol wneuthyr llwyr ddifrod ar yr holl Grefydd,1. Chr. 13. brenin Dafydd a ddygodd Arch Dduw adref drach-gefn; sef yw hynny, ef a ail gododd i fyny fraint crefydd; a heblaw fod o honaw ei hun yn rhoi cyngor a chanhorthwy i hynny o waith, ef a wnaeth hefyd ag a ordeiniodd Psalmeu ag Odleu iw canu: ef a ossododd y teuluoedd mewn trefn, efo'i hun a luniodd yr holl wchder, ag ydoedd (yn ei herwydd) yn ben olygwr ar yr offeiriaid.2. Chro. 6.
Brenin Salomon a adailadodd i'r Arglwydd y deml a amcanase ei Dad Dafydd ei hadial: a chwedi gorphen y deml, ef a [Page 169] draethodd ymadrodd odidawg geyr bron y bobl ynghylch gwir grefydd a gwasanaeth Dduw; wedi hynny ef a symmydodd ymaeth yr offeiriad Abiathar, 3. Reg. 8. ag a ossododd Sadoc yn ei le ef. Ar ol hyn, wedi darfod halogi'r deml yn warthus ag yn wradwyddus, drwy ddiffeithwch ag esceulustra'r offeiriaid; yna, Brenin Ezechias a orchmynnodd ei glanhau eilwaith,2. Chro. 29 a dwyn allan o honi yr holl sothach a'r brynti: gan beri i'r offeiriaid oleuo canhwyllau, llosci arogl-darth, a thrin y cyssegr wasanaeth yn ol yr hen ddeddfod: Hefyd, e barodd y Brenin hwnnw dynny i lawr a malurio'r Sarph bres i'r hon yr oedd y bobl yn gwneuthur addoliaeth annuwiol.4. Reg. 18. Brenin Iehosophat a dynnodd i lawr ag a dorrodd yr vchelfeudd, a'r llwynau;1. Chro. 17 drwy'r hyn y canfu ef rwystro gwasanaeth Duw, a dal y bobl drach eu cefneu mewn camgrediniaeth neulliuol, oddi wrth y deml gyffredin yr hon oedd yng Haer-Selem: i'r hwn le yr oedd yn ddyledus arnynt dramwyo bob blwyddyn o bob man o'r deyrnas.4. Reg. 12. Brenin Iosias drwy ddyfal astudrwydd a ddygoddd a‘r gof i‘r offeiriaid a‘r Escobiou eu dyledus swydd. Brenin Iohas a wrthladdodd drythyllwch a goruch-falchder yr offeiriaid bwyreig.4. Reg. 10. Brenhin Iehu a ddihenyddiodd [Page 170] y Prophwydi-annuwiol. Ag o wneuthyr pen a'r ddwyn sampleu o'r Scrythurau glan, nyni a'styriwn pa wedd er pan anwyd Crist y cafodd yr Eglwys ei llywodraethu yn amser yr Efengyl. Yr Ymerodreu Cristnogawl a ddyfynnent Gymanfa-Gynghorau o'r Escobion gynt. Constantinus a ddyfynnodd Gymanfa-Gyngor yn Niçea; Theodotius y cyntaf, a alwodd y Cymanfa-Gyngor yng-Constantinopl; Thodotius yr ail, a ddyfynnodd y Gymanfa-Gyngor yn Ephesus; Martianus a alwodd y Gymanfa-Gyngor yngh Calcedonia. A phan adroddod Ruffinus yr heretic Senedd neu Gymanfa-Gyngor, yr hon dygase, efe ydoedd yn pwyso ar ei du ef, yna y doede Hieronimus iw wrthwynebu ef fal hyn; Mynega (heb'r ef) pa‘r Ymerodr a orchmynnodd galw neu ddyfyn y Gymanfa-Gyngor honno? Yr vn Hieronimus ym-Marwnad Paula, sy'n crybwyll am lythyreu‘r Ymerodreu yr rhai oeddynt yn gorchymyn dyfyn Escobion Greçia ag Italia i Gymanfa-Gyngor yn Rhufain. Yn wastad, yngod pum can mylynedd, yr Ymerodr yn vnig oedd yn peri galw a dyfyn Cymāfaeu Eglwysig ag yn hynodi Cynghoreu Escobion. Am hyn y mae'n rhyfeddach gennym [Page 171] fod Pâb Rhufain mor anrhesymmol, yr hwn gan wybod onaw beth oedd awdurdod yr Ymerodr tre'r oedd yr Ymerodraeth yn gwbl-gyfan, a bod hynny bellach yn gyfiownder cyffredinol bob Twysog: (yn gymeint a bod brenhinoedd y pryd hyn yn meddiannu amryw froudd yr holl Ymerodraeth) etto, fynny onaw ef mor fyrr-hwyllus gyfroddi'r swydd honno iddo'i hunā: a hefyd ei fod ef yn tybied may wrth ddyfyn Cymanfa-Gyngor, nad rhaid iddo roi hysbysrwydd amgenach o hynny i'r gwr syddYr Ymerodr. ben Twysog or holl fyd, nog a roe fo iw was ei hun. Ag er bod lledneisrwydd a llarieiddrwydd yr Ymerodr Ferdinando gymaint ag iddo allu dioddef hyn o gam, oblegid nad yw ef yn dealld yn iawn mo ddichellion y Pâb, etto ni ddyle'r Pâb o'i sancteiddrwydd gynnig mor fath gam, na chwaith gymryd iddo'i hun swydd a chyfiownder gwr arall.
Eithr rhyw vn a ettyb, yscatfydd, ddarfod i'r Ymerodr ddyfyn Cymanfaeu, a Chyngorau y pryd hynny, er mwyn nad ydoedd Escob Rhufain etto wedi tyfu i'r maint y mae ef yr owr'on, ag etto nid anllai, nad ydoedd yr Ymerodr arfer yr amser hwnnw o eistedd gyda'r Escobion yn y Cymanfa-Gynghorau, [Page 172] na chwaith o ddwyn na rhwysc nag awdurdod yn eu plith nhwy. Ond nid gwir mo hynny:Histo. Eccles. lib. 1. Cap. 5. Herwydd medd Theodoretus heblaw eistedd o'r Ymerodr Constantinus ei hun gyda'r Escobion yn y Gymanfa-Gyngor a gynhaliwyd yn Niçea, ef a ddangosodd iddynt y ffordd oreu i ddealld yr achos wrth scrifennadeu'r Apostolion a'r Prophwydi. Wrth ddadleo (heb'r ef) am Dduwiolaeth, neu Ddifiniti, y mae gennym wedi ossod o'n blaen iw ddilyn, athrawiaeth yr yspryd glan. Canys llyfreu‘r Efengylwyr a‘r Apostolion, ag areithieu‘r Prophwydi a‘n cwbl hyfforddant ni, Socrates lib. 1. cap. 5 beth a ddylem-mi dybied am ewyllys Dow. Y mae Socrates yn testiolaethu eistedd o'r Ymerodr Theodosius ymhlith yr Escobion; a mwy no hynny, fod onaw ef yn ben rholwr a'r y ddadl, ag may efe'i hun a ddrylliodd lyfreu'r Hereticiaid, ag a offododd yn gymeradwy goel a barn y Catholiciaid.
Yn y Gymanfa-Gyngor yngh Calçedonia. Pennadur o wr llyg, a farnodd a'i enau ei hun yn Hereticiaid yr Escobion Doscorus, Iunenalis, a Thalasius, ag a wnaeth ordinhad iw bwrw nhwy allan o'u gradd yn yr Eglwys.Act. 1. Yn y drydedd Gymanfa-Gyngor yngh Constantinopl yr [Page 173] eisteiddodd Constantinur, yr hwn ydoedd Bennadur llyg, ymhlith yr Escobion; ag heblaw hynny, ef a scrifennodd ei henw gyda nhwy. Canys (heb'r ef) e ddarfu i ni ddarllen, a scrifenny eyn henweu. Yn yr ail Gymanfa-Gyngor a elwir Araosicanum, y gwyr anrhydeddus yr rhai oeddynt Gennadeu yno oddi wrth Dwysogion, a wnaethant bob vn or ddau, sef adrodd eu meddwl ynghylch pynciae crefydd, a hefyd scrifenny eu henweu gyda'r Escobion. Herwydd dymma fal mae'n scrifennedig yn-niwedd y Gymanfa-Gyngor honno: Y gwyr ardderchocaf Petrus, Marçellinus, Felix, a Liberius, anrhydeddus Rag-bennaethiaid Ffrainc o brif waedogaeth y Deyrnas, gan gyd-synnio a scrifennasant eu henweu. A hefyd, y gwyr enwoccaf Syagrus, Opilio Pantagathus, Deoda [...]us, Cariatho, a Marçellus a scrifennasant eu henweu nhwythau
Gan fod hyn ynte, gan allu o'r Rhagbennaethiaid a'r gwyr mwy a‘u gwaedogoeth gyd-scrifenny'n y Gymanfa-Gyngor, oni alle Ymerodreu, a Brenhinoedd, wneuthyr y cyfryw? Yn wir ni buase raid i ni wneuthyr cybyd ymadrodd mewn achos moreglur, oni bae fod i ni a wnelom a'r fath wyr ydynt arfer (er mwyn gwrhydri) o wadu pob peth er eglured fyddo; [Page 174] ie yr petheu y maent yn eu canfod geyr eu bronneu, ag yneu gweled a‘u llygeid eu hunain. Yr Ymerodr Iustinianus a wnaeth gyfraith i ddiwygu buchedd, ag i drwyn-ffrwyno balchder y gwyr eglwysig a'r offeiriaid. Ag er bod yr Ymerodr hwnnw'n Dwysog Cristnogawl catholic, etto ef a fwriodd ddau Bâb, Syluerius, a Vigilius, allan o'r Pabaeth; a hynny, nid anllai, er bod onynt yn Vicariad Crist, ag yn cynnal swydd Pedr Abostol.
Gedwch i ni ystyrio bellach a thalfyrru hyn o ymadrodd: y gwyr sydd ag awdurdod genthynt ar yr Escobiō: yr rhai a dderbyniasant orchmynion oddi wrth Dduw ynghylch gwir grefydd; y rhai sydd yn dwyn Arch Dduw adref drachgefn: yn gwneuthyr Psalmeu sanctaidd; yn olygwyr ar yr offeiriaid: yn adeiladu Temleu; yn traethu ymadroddiō o wasanaeth Duw; yn ail-lanhau'r Demleu: yn bwrw i lawr vchelfeudd: yn llosci llwyneu'r Eulunod; yn dyscu'r offeiriaid eu swyddeu, ac yn scrifenny rheoledigaetheu iddynt i arwain eu vuchedd; yn lladd y Prophwydi annuwiol; yn symmyd yr Escobion o' [...] lleoedd: yn galw Cymanfa-Gynghorau Escobion: yn eistedd gyda‘r Escobiō ag yn eu hyfforddi nhwy: yn barnu Escob heretic iw gospedigaeth; [Page 175] yn mynny eu gwneuthyr yn gydnabyddus ag achossion Crefydd, a‘r rhai dan scrifenny eu henweu, ag adrodd eu meddylieu mewn Seneddau, ydynt yn cwplau hyn y gyd, nid drwy archiad ag awdurdod arall, eithr yn eu henw eu hunan: A ddoedwn-ni am y rhai hyn, nad yw'n perthyny iddynt ymyrryd ag achossion Crefydd? Neu am y Pennaeth, o wr llyg, a fo iddo a wnelo a'r petheu hyn, a ddoedwn-ni ei fod ef yn gwneuthyr yn ddrwg, neu'n rhyfygus, neu'n echryslawn? Yr Ymerodreu a'r Brenhinoedd cristioneiddiaf a mwyaf eu henafiaeth a'mfrussurent gynt yn yr achossion hyn; ag etto ni ddoetpwyd erioed arnynt, o ran hynny, na'u bod yn echryslawn, nag yn rhyfigus chwaith. A phwy a gais ymofyn am Dwysogion catholiccach, neu am sampleu ardderchoccach? Gan hynny, os rhydd oedd iddyn-nhwy wneuthyr hyn, yr rhai nid oeddynt amgenach no Phēnaethieid o wyr llyg yn llywodraethu Teyrnassoedd; pa fai a wnaeth eyn Twysogion ni'r amser ymma, nad rhydd iddyn-nhwytheu wneuthyr y cyfryw, [...]an fod onynt yn y cyfryw radd? Neu, pa nerth gorchestol o ddysc, a baru, a sancteiddrwydd, sydd yn eyn gwrthwynebwyr ni, pryd na fynnant i Dwysogion Cristnogawl gael gwybodaeth o'r achos eithr eu gwahardd [Page 176] o'u Seneddau: a hynny'n ollawl yn erbyn deddfod yr hen Escobion catholic, yr rhai oeddynt arfer ynghylch crefydd o'mgyd-gynghori a Thwysogion ag a Phennaethiaid? Wele, y mae'n abl eu helynt nhwy, drwy hyn o fasnach geisio siccurhau eu braint a'u brenhiniaeth; yr hyn a welant a ddiflanne‘n fuan oni bae hynny. Herwydd pette‘r rhai a ossododd Duw'n y radd vchaf yn gweled ag yn gwybod dichellion y gwyr hyn, pa fodd y maent yn dirmygu gorchmynnion Crist: yn tywyllu ag yn diffoddi goleu‘r Efengyl: a pha fodd, drwy gyfrwysdra y maent hwy'n eu twyllo nhwy‘n hunain, ag yn eu sommi heb wybod iddynt, dan gwbl afrwyddo a dyr rysu‘r ffordd i deyrnas Nef o‘u blaen nhwy: ni bydde fyth cyn howsed genthynt ddioddef na'u dirmygu mor drahaus, na‘u gwatwa [...] mor wradwyddus gan y rhain. Ond yr ow'on drwy eu di-wybodaeth a‘u dallineb eu hunain, y mae'r gwyr hyn wedi eu hieuo hwynt, a chwedi cael methel arnynt.
Nyni fal y doedassom o‘r blaen, dan newid crefydd, ni ddarfu i ni wneuthyr dim ar fyr-bwyll nag o falchder; na dim chwaith namyn drwy hir hamdden, a phwyllineb. Yr hyn beth hefyd ni feddyliasse‘n [Page 177] calonneu ni fyth mo ‘i wneuthyr, oni buase o anghenrhaid ymufuddhau i wir ewyllys Duw sydd hynodedig i ni ‘n y Scrythurau glan, a bod yn gorfod arnom hyn̄ o raū achub eyn heneidieu. Herwydd er darfod i ni ymadel a‘r Eglwys honno, yr hon y maent hwy‘n ei galw'n Gatholic, a‘u bod nhwy o ran̄ hynny ‘n peri i ni gas a chenfigen gen yr rhai ni wyddant farnu ‘n iawn; etto digon cennym-mi, (a digon a ddyle hyn fod gan bob dyn call duwiol a fo ‘n meddwl am fywyd tragwyddol,) ddarfod i ni ‘madel a‘r Eglwys honno yr hon a alle gwympo mewn amryfyssedd, a‘r hon y doedodd Crist amdeni (yr hwn ni ddichon amrysysso) y cwympe hi mewn amryfyssedd; a‘r hon a welwn ni ‘n amlwg a‘n llygeid ddarfod iddi gwympo a chilio oddiwrth y Tadeu sanctaidd, oddi wrth yr Apostoliō, oddi wrth Crist eu hun, ag oddi wrth y Brif-Eglwys gatholic. Ag ni a ddaethom yn nessa ‘g allassom at Eglwys yr Apostolion a ‘r hen Escobion, a‘r Tadeu catholic; yr hon Eglwys nyni a wyddom barhau oni hyd yn hyn, yn bur ag yn berffaith, ag yn forwyn wyryf ddiwair (fal y doedodd Tertullianus) heb na llwgr delw addoliaeth, na bai gwarthus yn y byd arni. Ag e ddarfu i ni vniowni, nid eyn hathrawiaeth [Page 178] yn vnig, eithr y Sacramenteu hefyd, a gwedd eyn gweddieu cyffredin, yn ol iawn ddeddfodeu ag arferau y rhai sanctaidd vchod. Ag fal y gwyddom-mi wneuthyr o Grist ei hun a'r holl rai duwiol, ni a ddygassom drach-gefn i'r dechreuad, a'r drefn gyntaf, y crefydd yr hwn a ddarfuase i'r gwyr hyn fod yn ddiddarhodus amdano, a'i ddi-fwyno yn anrhaith-ddioddef. Oblegid ni a dybiassom may cymhessur oedd geisio di-wygiad crefydd, or man hwnnw, lle y gossodessid gwraidd a gwadneu crefydd gyntaf o'r cwbl: herwydd, fal y doedodd yr hynaf Dad Tertullianus, mawr yw grym a nerth y rhession yma yn-nerbyn pob Heresi; sef Beth bynnag ydoedd o'r dechreuad, hwnnw yw'r gwir: a pheth bynnag a ddaeth gwedi hynny, sydd anwir. Mynych iawn y cyrche Iren [...]u, ar yr hen Eglwysi oeddynt nessaf i amser Crist, a'r rhai yr ydoedd yn anhawdd coelio allu bod mor amryfyssedd ynddynt. Pa ham nad ydis yn cymryd y ffordd honno'r pryd hyn? Pam na baemni [...]t dychwelyd ar gyffelybiaeth yr hen Eglwys gynt? Pam n' allwn ni gael clywed doedyd yr amser sydd oni'rowro'n y peth a ddoedddd cynnifer o Escobion, a Thadeu catholic gynt, heb neb iw gwrthwynebu'n [Page 179] y Gymanfa Gyngor yn Niçea; nid amgen, [...]? sef yw hynny, Cedwch yn wastadol yr hen ddeddfodeu. Pan oedd Esdras ar fedr ail adailadu dinistriad Teml Dduw, ni cheisiodd ef mor danfon i Ephesus, er bod yno Deml Diana o‘r adail gwchaf, a‘r gwaith cywreinia'g alle fod: A phan aeth ef ynghylch adnewyddu Aberthau, a gweddus çeremoniae Duw, ni ddanfonodd ef ddim i Rufain, pe rhown, (y scatfydd) a chlywed onaw ef, fod yno'r Aberthau a elwid Hecatombae, ag eraill a henwid Solicaurilia, a Lectisternia, a bod yno hefyd ymbil-weddiau a llyfreu çeremoniawl Numa Pompilius. Efe a dybiodd may digon cymwys oedd iddo ef roigeyr ei fron a chalyn cyffelybiaeth yr hen Deml, yr hon a adailasse Solomon o‘r dechreuad yn y modd i darfuasse i Dduw ln̄ nio; a hefyd yr hen ddeddfodeu a'r çeremoniae a scrifēnasse Duw ei hun yn anad peth i Foyses. Ar ol darfod i Esdras ail-adailadu'r Deml, ag y galle'r bobl dybied fod iddynt achos ddigon cyfiawn i'mlawenychu d'u rhan eu hun, am gael onynt gymaint dayoni gan y goruchaf Dduw; Nid anllai'r Prophwyd Aggeus a wnaeth iddynt y gyd wylo'r dagrau hidl, oblegid y sawl a oeddynt ecto‘n fyw ag a welsent [Page 180] yr adail cyntaf o‘r Deml, cyn darfod i‘r Babiloniaid ei dinistr, a gofiassant fod etto wall llawer o hyfryd-tegwch rhagor ag a fuasse or blaen ynddi gynt. Yna, wele, y tybiasent hwy adnewyddu ‘r Deml yn berffaith, pe y buase hi ‘n gyfattebol i hen gyffelybiaeth, ag ardderchowgrwydd yr hen Deml. Sainct Pawl o ra [...] ̄ di-wygu Swpper yr Arglwydd, yr hwn a ddarfuase i‘r Corinthiaid ddechre ‘i lugru y pryd hynny; a ddododd o u blaen [...]hwy Ordinhaad Crist fal y gallent ei ddilyn; gan ddoedyd; Mi a roddais i chwi ‘r peth a dderbyniais i o‘r blaen gen yr Arglwydd.
A Christ, gan wrthwynebu amryfyssedd y Pharisaeaid; Rhaid heb‘r ef, yw dechwelyd at y Dechreuad; Nid felly yr oedd o‘r Dechreuad. A phan oedd ef yn argyoeddu aflendid buchedd yr offeiriaid a‘u cybydddra, gan geisio glanhau ‘r Deml, y Ty yma (heb‘r ef) yn y Dechreuad ydoedd dy gweddi, lle y galle ‘r bobl weddio ynghyd yn dduwiol-sanctaidd: ag felly yw'ch rhan chwi o ‘i gynnal of y pryd hyn hefyd. Herwydd nid adailadwyd mo honaw i fod yn Ogof ladron.
A hefyd, yr holl Dwysogion duwiol clodfawr y mae ‘r Scruthurau glan yn mynegy amdanynt, a gaent yn enwedig ganmoliaeth [Page 181] yn y cyfryw eirieu a‘r rhain: ddarfod iddynt rodio yn ffyrdd eu tâd Dafydd; sef yw hynny, am iddynt ddechwelyd at y drefn gyntaf a ‘r prif ddecrheuad; gan ddwyn drach-gefn a dattroi crefydd i‘r perffeiddrwydd lle y gadowse y Brenin Dafydd ef. Felly pan welsom-minneu ddarfod i‘r gwyr hyn sathru bob peth dan eu traed, ag nad oedd ddim wedi adel yn heml Dduw, onid ôl, a thrist-olwg dinistr ag anrhaith: nyni a dybiasom may callaf cyngor a allem-mi gymryd oedd roi geyrbron eyn llygeid, fraint yr Eglwysi hynny, yr rhai a wyddem-mi ‘n hyspys na ddarfuase iddynt amryfysso, ag na buase erioed genthynt na fferenneu neulltuol na gweddiau mewn estran-iaith barbaraidd, na llugru Sacramenteu, na dim o ‘r fath ofregedd.
A phan oeddem yn chwēnychu newydd adeilado teml yr Arglwydd, ni cheistassommi sail arall, ond a wyddem mi ddarfod i‘r Apostolion ei ossod gynt; sef, eyn hachubwr ni Iesu Grist. Yn gymaint hefyd a chlywed onom-mi Dduw ei hun yn doedyd wrthym yn y Scrythur lan, a chanfod o honom samp [...]eu godidawg yr hen Brif-Eglwys: gan weled hefyd may gwaith aniben oedd ddisgwyl Cymanfa-Gyngor, [Page 182] ag annibennach o lawer ydoedd edrych pa helynt a geill wrth hynny: Ag, yn bennaf dim, gan eyn hod yn canfod yn ddigon hysbys [...]eth oedd ewyllys Duw, ag yn gwybod n [...]d rhydd oedd i ni ymorawl na gofalu am farn dynion; ni allassom-mi ymbellach geisio cyngor gan gnawd a gwaed, chwaethach gwneuthyr y peth oedd ddyledus, a'r peth a wnaeth gwyr duwiol, a llawer o Escobiō catholic yn fynych; sef yw hynny, di-wy [...]u eyn heglwysi drwy waithProuincialis Synodus. Senedd-Gymanfa o'n gwlad eyn hun.
Herwydd nyni a wyddom fod arfer yr hen Dadeu o dreio'r ffordd ymma, cyn dyfod o honynt ir cyffredin Gymanfa-Gyngor o‘r holl fyd. Y mae etto iw gweled y pryd hyn Reoledigaerheu scrifennedig yn y Cymanfa-Gynghorau a gynhaliwyd yn y dinassoedd rhyddion: nid amgen, yn-ninas Carthago dan Cyprianus; yn Ançyra, yn Neoçiseria; yng Gangria, a hefyd-yn-ninan Paphlagonia; a hynny, fal y mae rhai ‘n rybied, cyn clywed crybwyll yn y byd am y gyffredin Gymanfa-Gyngor fawr yn Niçea. Llymma‘r modd gynt y cyferf [...]ddid yn ebrwydd a'r Hereticiaid a elwid Pelagianaid a Donatistiaid, a hynny drwy ddadleuad neull [...]uol cartrefig, [Page 183] heb Gymanfa-Gyngor gyffredin. Yn y modd hyn hefyd pan gymerodd yr Ymerodr Constantius (yngwydd paw [...]) blaid Auxentius Escob o'r teulu A [...]riaidd, yna'r Escob Cristnogawl Athanasius a nawdd-giliodd, nid at y Gymanfa-Gyngor gyffredin, lle'r oedd ef yn canfod na ellid cael lles yn y byd (o ran y rhwys [...] yr oedd yr Ymerodr yn ei ddwyn, a'r ymbleidio oedd yno) eithr at ei ddyscedi [...]o [...] a'i bobl ei hunan; sef yw hynny, ar Senedd-Gymanfa yn ei wlad ei hun. Felly y gwnawd ordinhaad yn y Gymanfa-Gyngor yn Niçea, ar i'r Escobion ymgynull ag ymgasclu ynghyd ymbob vn o‘u broudd, o'r hyn lleiaf, vnwaith bob blwyddyn; yr hyn ordinhaad a wnawd (medd y Gymanfa-Gyngor a gynhaliwyd yngh Calçedonia) fegis hwyn gynta'g y dechreue amryfyssedd neu gamweddeu darddu allan yn vn lle, y gellid ar y cais cantaf eu gwrthladd nhwy'n y fodfedd lle y dechreuent.
Felly hefyd pan wrthododd P [...]lladius a Secundus y Cyngor yn Aquila, er mwyn nad oedd ef Gyngor cyffredin; e attebodd Ambrosius Escob Mylan na ddyle neb dybied may peth n [...]wydd dieithr oedd glywed fod Escobion y Gorllewin yn [Page 184] dyfyn Sen [...]ddeu, a chynlleidfaeu, yn egwledydd eu hun. Herwydd peth cynefinol fuase hynny ymlaen-llaw gen Escobion y Gorllewin, a pheth a arferasse Escobion Graeçia ei wneuthyr yn fynych iawn. Felly, y mynnodd yr Ymcrodr Carolus Magnus gynnal Cyngor neu Senedd yngwlad Germania, i droi delwau ymmaeth yn nerbyn yr ail Gymanfa-Gyngor yn Niçea. Ag yn wir, yn eyn plith ni'n hunain, nid newydd na dieithr mo hyn o belynt. Herwydd e fu gēnym-mi ymma'n Ll [...]egr Senedd-Gymanfaeu cyn hyn; ag ni a lywodraethasom eyn heglwysi drwy nerch cyfreithieu cartrefig. Pa raid y chwaneg? diau, am y Cymāfa-Gynghorrau mwyaf a lluosoccaf a'r a fu erioed, o'r rhai y mae'r gwyr hyn yn gwneuthyr cymaint ffro [...] a rhodres; o chystedlir nhwy a holl Eglwysi'r holl fyd, sy'n cydnabod ag yn cyfaddef henw Crist, beth a ellir tybied amdanynt amgenach no'n bod nhwy'n Gyngorau Escobion neulltuol ag yn Seneddau gwledydd ar eu penneu eu hun? Oblegid pe rhoem ag ymgynnull yngbyd o Italia, Ffrainc, Hispaen, Lloygr, Germania, Denmark, a Scotland; etto er hynny, o bydd diffic o Asia, Graçia Armenia, Perria, Media Mesopotamia, yr Aipht, Ethiopia, India, [Page 185] a Mauritania (yn yr holl amryw wledydd hyn, y mae llawer o ddynion Cristnogion, a llawer o Escobion hefyd,) pa fodd y dichyn neb a fo'n ei gof a‘i synwyr dybied may Cymanfa-Gyngor penrheithiawl drwy'r holl fyd yw r Cyngor hwnnw? Neu, lle y mae 'o eisieu cynnifer darn o'r byd, pa fodd y gallan-nhwy ddoedyd, yn lle gwir, fod cyd-synniad yr holl fyd genthynt? Neu pa ryw fath a'r Gyngor, dybygwch chwi, oedd y [...] hwn a gynhaliwyd ddiwaethaf yn-rhef Tridentu [...]? neu pa fodd y gellid galw hwnnw yn benrheithiol drwy'r holl fyd pan nid ymgynnullasse iddo o holl deyrnassoedd a chenedloedd Cred, onid deugain o Escobion yn vnig, a rhai o'r rheini mor gymmen, ag y buasse gymhessur eu danfon-nhwy adref drachgefn i ddyscu Gramadec, a hefyd mor ddyscedig na ddarllennassent hwy erioed mor Scrythurau glan?
Beth bynnag ydyw, nid yw Gwirionedd Efengyl Iesu Grist yn mynny cael dal pwys cefn iddo gan Gymanfa-Gynghorau, neu gan farn dynion marwol, fal y doedodd Pawl. Ag os y rhai a ddylent fod yn ofalgar am Eglwys Dduw, ni cheisiant mor synhwyroli, eithr esculusso'r peth a wedde iddynt, a chalettau eu calonneu [Page 186] yn-nerbyn Duw a‘i Grist ef, a cherdded rhagddynt gan wyr-droi ffyrdd v [...]iawn yr Arglwydd; e wna Duw i'r cerrig godi a chyffroi ag a wna'r plant iefanic yn [...]ymmen, fal na bo (vn amser) eisieu rhyw rai neu gilydd i w [...]hladd eu celwyddeu nhwy. Oblegid e ddic [...]yn Duw (nid yn unig heb Gymanfa-Gynghorau, eithr beth bynnag a wnel y Cymanfa-Gynghorau ay mynny ay peidio (ddiffyn a goruch-gynnyddu ei deyrnas ef.
Llawer o feddylieu (medd Solomon) sydd vnghalon dyn, eithr Cyngor yr Arglwydd a saiff yn ddi-anwadal. Herwydd nid oes na doethineb, na gwy bodaeth, na chyngor, a ddichyn bod yn-nechyn yr Arglwydd. Nid parhans (medd Hilarius) mo'r pethen y mae dynion yn eu adailad; rhaid yw adailadu, a chadw adailad 'eth yr Eglwys, mewn modd arall; oblegid e ddarsu gossod yr Eglwys ar wadnau a gwaelod-feini'r Apostolion, a‘r Prophwydi; a ‘i chy [...]nal ynghyd y mae‘r Congl-faen vnig, yr hwn yw Iesu Grist. Eithr godidawg dros ben, a chymwys iawn i‘r amseroedd hyn, yw geirieu Sainct Hieronimus; Hieroni. in Prophetam Naum. cap. 3. Pa rai bynna ‘g (meddef) a ddarfu i Ddiawl eu twyllo gan eu denu i gyscu fegis drwy felys-gan melldigedig y mor-fyrynnion, deffro ‘r heini [Page 187] y mae gair Duw, gan ddoedyd wrthynt: Cyfod ti, yr hwn wyd yn cy cu, ymdderchaf i fyny, a Christ a rydd i ti Oleuni. Ag am hynny yn-nyfodiad Grist, yn [...]yfodiad gair Duw, yn-hyfodiad yr Athrawieth eglwysig, ag yn nyfodiad amser cwbl-ddes [...]wiad Dinas Niniue, a‘r bu [...]e yn decca‘i phryd a‘i gwedd, yna y cod [...] i fyny ybobl a fuase mewn trym-gwsc o‘r blaen dan eu Meistred, a nhwy a fro [...]iant i fyned i fynyddoedd y Scrythurau glan: ag yno y caant hwy y mynyddoedd Moeses, ag Iosuah fab N [...], mynyddoedd eraill hefyd, sef yw‘r heini, y Prophwydi, a mynyddoedd y Testament newydd, sef, yr Apostoliō, a‘r Efangylwyr. A phā fo‘r bobl yn ffo am noddfa i'r mynyddoedd hyn, a phan font eynennol yn-narllead y cyfryw fynyddoedd hynny, er na fedront hwy gael neb iw dyscu (herwydd mawr sydd y cynhayaf ag ni bydd nēmawr o weithwyr) etto ewyllys da‘r bobl a haedda glod, er mwyn ffo [...] o hony [...]t i‘r cof yw fynyddoedd; ag esculu [...]ra eu Meistred a argyoeddir. Dymma ddoediad Hieronimus, a hynny mor hawdd ei ddealld nad rhaid dihoenglu mo'naw. Oblegid y mae ef nior gyf-attebol i‘r petheu a welwn-ni y rowr o‘n a'n llygeid, wedi dyfod i ben; ag y gellit [Page 188] tybied fod yn ei fryd ef brophwydo ymlaen-llaw, a rhoi‘n amlwg geyr-bron eyn hwynebau ni (drwy ryw yspryd prophwydoliaeth) holl helynt a chyflwr y byd sydd oni rowr'on, destruwiad y botteyn Babilon yn llawn gwchder; adnewyddiad braint Eglwys Dduw; dallineb a muscrellni 'r Escobion; ag ewyllys da a chwannogrwydd y bobl. Herwydd pwy sydd mor ddall ag na wyl ef may'r gwyr hyn yw 'r meistred hynny, dan yr rhai (medd Hieronimus) yr arweiniwyd y bobl i amryfyssedd, ag y dycpwyd nhwy i guscu? Neu, pwy nid yw'n canfod Rhufain, sef, y Niniue or eiddynt hwy, yr hon a beintiessid gynt â lliwieu hyfryd, eithr yr owr'on gan dynny ei miswrn, y mae'n haws yr olwg ag yn llai'r bris arni? Neu, pwy ni wyl gan ddeffroi gwyr da o'n trym-gwsc, wrth oleuni'r Efengyl ag wrth glywed llais Duw, ddarfod iddynt gymryd y ffordd yn vniawn i fynyddoedd y Scrythurau glan heb geisio mor ymaros am Gynghoreu y cyfryw feistred?
Ond trwy'ch cennad (medd rhyw vn) ni ddylessid cychwyn ynghylch y petheu hyn heb orchmynniad Pâb Rhufain: yn gymeint ag may efo'n vnig yw cwlwm a rhwymyn y Gymdeithas Gristnogawl: [Page 189] May efe 'i hunan yw'r offeiriad hwnnw o vrdd Leui, a fynegodd Duw yn y Deutronomium; oddi wrth yr bwn y dylid ceisio cyngor mewn anghyflwr, a chyrchu barn Gwirionedd. A phwy bynnag nid ymufuddhao iw farn ef, may rhaid ydyw llad hwnnw yngwydd ei frodyr; Na ddichyn neb byw'n y byd, mo'i farnu ef, beth bynna'g a wnelo: fod Crist yn teyrnassu'n y Nef, ag yntef ar y ddayar. Gallu onaw ef yn vnig wneuthyr beth bynnag allo Crist, neu Dduw ei hun, er mwyn bod gantho ef yr vn cynghor-dy ag sydd i Grist: hefyd nad oes hebddo ef, na ffydd, na Gobaith, nag Eglwys; A'r neb a'madawo ag efo, fod hwnnw'n ymadel ag yn ymwrthod a'i iechydwriaeth ei hun. Llymma'r siarad sydd gan y Cannonistiaid, coeg wenieithwyr y Pâb, heb gywilydd na gwladeiddrwydd arnynt. Canys braidd y gallent ddoedyd y chwaneg, a diau na ellent ddoedyd dim anrhydeddussach, am Grist ei hun.
Tu-ag-at amdanom-mi, nid ymadowsom-mi ddim a Phâb Rhufain, o ran achos nag ystur, nag elw bydol. Neu'n hyttrach, ni a fynnem pette gystal ymddygiad y Pâb na bae raid mor ymadel ag efo; Eithr yn y cyfryw gyflwr yr oeddem-mi, na [Page 190] allem mor dyfod at Grist, o ddieithr i ni ymadel o'r Pab. Ag ni wna ef yr owr'on na chymmod na chlyfaredd,1 Reg. 11. yn y byd a ni, ond y fath a wnaetho gynt Nahas brenin yr Amonitiaid a dinasswyr Iabes; a hynny oedd, dynny allan llygad debeu bob vn o honynt. Felly y mynne 'r Pab dynny o ddiwrthym minne'r Scrythurau glan, Efengyl eyn hiechydwriaeth, a'r holl obaith sydd gennym yng Hrist Iesu; a than ammod amgenach nothyn, ni chymmyd ef ddim a nyni.
Oblegid lle mae rhai'n gwneuthyr rhodres may'r Pab yn vnig sydd berchen eisteddle Pedr Abostol, a megis o ran hynny fod yr yspryd glan gantho'n ei fynwes fal na ddichyn ef ddigwydd mewn amryfyssed; nid yw hyn onid chwedyl ofer a pheth heb ddim. Rhad Duw a addawyd i feddwl da duwiol a fo yn gwir-ofni Duw ag nid i Gadeirieu, nag i eisteddleoedd. Cyfoeth (medd Hieronimus) a ddichyn gwneuthyr vn Escob yn alluoccach no'r lleill; ond er hynny y mae'r holl Escobion pa wyr bynna‘g fyddont, yn perchenogi eisteddleodd yr Apostolion. Onid rhaid wrth ddim amgen namyn y lle, a chyssegredigaeth, yna ynte, Manasses a ddigwyddodd yn lle brenin Dafydd, [Page 191] a Chaiphas yn lle Aaron. A mynych y gwelwyd Eelun-ddelw yn-Heml Dduw.
Archidamus v Lacedemonian gynt a wnae lawer o rodres amdano'i hun, sef, ei fod ef o waedogaeth Hercules; eithr vn Nicostratus a dorrodd grib ei falchder ef yn y modd hyn: Nid ydyw gyffelib (heb'r ef) dy fod ti'n hanfod o Hercules: Herwydd Hercules oedd yn difa dynion drwg, tithe wyt yn gwneuthyr dynion drwg o ddynion da. A phan ffrostie'r Pharisæaid o'u hachau, a'u bod nhwy o genedl a gwaedogaeth Abraham, Chychwi (heb'r Crist) ydych yn ceisio fy lladd i yr hwn a ddoedodd i chwi ‘r gwir, modd y clywais i gan Dduw: Ni wnaeth Abraham mo hyn erioed: yr ydych o'ch tad Diawl, ai ewyllys ef a fynnwch ‘i gyflowni.
Etto er hynny, moeswch ganiattau peth i'r Gyfeisteddle; ai‘r Pàb yn vnig a ddaeth ynghyfle Pedr Apostol? Ymha herwydd (y dolwg)? ymha Grefydd? ymha Swydd? ymha vn pwnc buchedd y ddaeth y Pâb yn ei gyfle ef? Doedwch pa vn peth irioed ydoedd gan Bedr Apostol yn debig ir Pab? Neu gan y Pâb yn debig i Bedr? o ddiethr yscatfydd iddynt atteb fal hyn: [Page 192] Na cheisiodd Pedr erioed pan oedd ef yn Rhufain ddyscu'r Efengyl i ddynion: na phorthodd ef erioed mo'r Praidd: dwyn onaw ef ymmae [...]h oriadeu teyrnas Nef: darfod iddo ef [...]uddio cyfoeth ei Arglwydd: na w [...]aeth ef ddim onid yn vnig eistedd yn ei gastell a elwir S [...]n [...] Ioan Lateran, a dangos drwy arwyddoccaad a'i fys, holl leoedd Purdan ag amryw gospe [...]gaetheu: rhoddi onaw ryw rai eneidieu truain mewn dirfawr boenau, a rhyddhau onaw ef rai eraill er gwerth (yn ddisymmwth) ar ei amcan ei hun; neu wneuthyr onaw ef ord [...]nh [...]ad ar ddoedyd fferenneu neullt [...]ol ymhob congl: neu, swnnial onaw ef y gwasanaeth bendigaid mewn llais issel, ag iaith estronaidd: neu ddarfod iddo ef ossod i fyny y Sacrament ymhob teml, ag ar bob allor: a hefyd mynny dwyn y Sacrament amgylch ogylch o'i flaen ef ar farch rhygyngog â chlych ag â chanhwylleu, pa ffordd bynna'g yr ele: Neu, gyssegru onaw ef a'i anadl bendigaid, Olew, cwyr, gwlan, clych, careglau, eglwysi, ag allorau: Neu, ddarfod iddaw ef erioed wer [...]hy Inhileau, chadau, rhyddollyngiadau, adfowsoneu, blaen-ddamweinieu, ffrwythydd cyntaf, Simurau. pallau, gwiscadaeth pallau, bullae, maddeuant pechodeu [Page 193] a Phardyneu; Neu fynny onaw ef ei alw yn ben ar yr Eglwys, yn Escob goruchaf, yn Escob yr Escobion, ueu'u vnig Sancteiddiolaf: neu gymryd onaw ef drwy drais, rol ag awdurdod Eglwysi gwyr eraill arno‘i hun; neu ddarfod iddo ef ymryddbau ei hun oddi dan awdurdod bob Pennaeth a swyddog llyg: Neu, wneuthyr onaw ef ryfel, a gossod y Twysogion ben ben a'u gilydd: neu, dan eistedd mewn cader aur a choron tair-coronawg ar ei ben, mewn gwchder anfeidrol Persianaidd, (a chantho deyrn wialē frenhinawl a Diadem enraid disclaeredig yn llawn main gwerthfawr) mynny onaw ef farchogaeth felly ar ysgwyddau pendefigion. Tebig iawn may hyn oedd helynt Pedr Abostol yn Rhufain gynt; a rhoi onaw ef ar bawb, o vn hwy i gilydd, a ddele'n ei le ef, gynnal y cyfriw helynt. Herwydd, llymma 'r helynt sydd gan Bahau Rhufain y pryd hyn: a hynny mor gymeradwy ag mor ganmoladwy, fegis na bae rydd na gweddaidd helynt yn y byd amgenach. Neu‘n y gwrthwyneb, nid hwyrach may gwell gan y gwyr hyn atteb fod y Pâb yr amser ymma yn gwneuthyr yr holl betheu a wyddom-mi wneuthyr o Bedr Abostol gynt; sef, ei fod ef yn cerdoed pant a thalar [Page 194] ymhob gwlad i bregethu'r Efengyl; bob vn o'r ddau, yn gyffredinol, ag yn neulltuol hefyd, o dy i dy: hefyd fod y Pâb yn astud iawn, mewn amser, ag allan o amser, mewn tymmor, ag anhymmor: ei fod ef yn gwneuthyr rhan Efangylwr, yn cwplau gweinidogaeth Crist; may efo yw Gwiliwr, a Gwarcheidwad ty Israel; ei fod ef yn cael attebion ag ymadroddion o enau Duw, ag yn adroddi i'r bobl yr vn rhyw betheu ag a gafodd: may efe yw halen y ddayar, a Goleuni 'r byd: nad ei borthi ei hunan namyn porthi'r Praid y mae ef: nad ydyw ef yn ym-rwystruso yngorchwilion a gofalion bydol y bywyd hwn: nag yn arglwyddiaethu a'r bobl Dduw, nag yn ceisio gan eraill ei wasnaethu ef, eithr efo'i hun (rhagorach) yn gwasnaethu eraill: ei fod ef yn cymeryd yr holl Escobion yn gymdeithion iddo, ag yn gystalgwyr ag efo 'i hunan: may ymddarostwng y mae ef i Dwysogiō, fegis i wyrwedi ei danfon oddi wrth Dduw; a'i fod ef yn rhoddi i Cæsar y peth sydd eiddo Cæsar: a di-ammeu 'i fod ef yn galw'r Ymerodr yn Arglwydd arno, ag yn feister iddo, fal y gwnae'r ben Escobion gynt. Os y Pabau y pryd ymma nid ydynt yn gwneuthyr y pethau hyn; neu ynte, onis gwnaeth Pedr Abostol y pethau [Page 195] rhag-ddoededig o'r blaen; nid oes achos y y byd o ffrostio a rhodressu cymaint, ynghylch henw a chyf-eisteddle Pedr Abostol. A llai achos o lawer sydd iddynt gwyno am i ni ymadel oddi wrthynt, neu geisio'n dattroi ni drach-gefn iw crefydd a'u crediniaeth nhwy. E ddoetpwyd am vn Cobilon a hannoedd o wlad Laçedemonia, pan ddanfonwyd ef yn Gennad-vrddol at frenin Persia, ynghylch clyfaredd a chyfammod Tangneddyf, a damwain iddo gael tylwyth llys y brenin yn chware disieu; yna, droi onaw ef yn y fan adref drachgefn heb wneuthyr dim o'i frussurdeb. A phan ofynnwyd iddo pa ham y darfuase iddo escaeluso'r peth a orchmynesid (drwy awdurdod cyffredin) iddo'i wneuthyr: ef attebodd, nad oedd fodd yn ei dyb ef, na buase'n warth a gwradwydd mawr iw wlad ef, pe y gwnelse fo glyfaredd a chyfāmod a chwreuddiō disieu. Ond os nyni a glywem ar eyn calonneu ddychwelyd eilwaith at y Pâb a'i amryfyssedd pabaidd; a gwneuthyr cyfammod, nid a chwreuddion disieu, eithr a rhai gwaeth diffeithiach o lawer na chwreuddion; e fydde hynny, bob vn o‘r ddau, beth goganllyd gwradwyddus, a hefyd dirfawr enbydrwydd o gynneu llid Duw i'n herbyn, drwy orthrymmy [Page 196] a gorthrechy ‘n cydwybodau. Herwydd, o ddoedyd y gwir, nyni a‘madowsom a‘r hwn a welsom-mi ddarfod iddo ddallu ‘r holl fyd er ys llawer can-mylynedd. Ni a‘mwrthodassom a‘r hwn ydoedd arfer mewn gormod rhyfig a gorwagedd o ddoedyd na alle efo ddigwydd mewn amryfyssedd yn y byd; a pheth bynna ‘g a wnele ef, na alle neb byw farnu mo‘naw; sef, na Brenhinoedd, nag Ymerodreu, na‘r holl wyr Eglwysig, na‘r holl bobl y chwaith; ie pe rhown ag iddo ddwyn gyda‘g ef fil o eneidieu i vffern. E ddarfu i ni ymadel a‘r hwn oedd yn cymeryd arno awdurdod, a gallu onaw ef orchymyn nid dynion yn vnig, eithr Angylion Duw i fyned ag i ddyfod, i ddwyn eneidieu i‘r Purdan, a‘u dwyn nhwy oddi yno drach-gefn pan fynne fo: yr hwn y doedodd Gregorius yn ddigon hynod amdano may efe yw rhag-flaenwr a llumanydd Anghrist, a darfod iddo gwympo ymaeth oddiwrth y ffydd gatholic: oddiwrth yr hwn, eyn blaenoriaid ni, yr rhai sydd yr owr ‘on yn gwrthwynebu‘r Efengyl ag yn gwrthladd y Gwir a wyddant, a giliassant ymaeth cyn hyn, cymein hun, o'u gwaith eu hunain ag o wir fodd eu calonneu: a nhwy a gilient yn chwannog oddi wrtho etto drach-gefn, oni bae [Page 197] rhag cywylidd a gogan anwadalwch, a hefyd bod y bri y mae 'r bobl yn ei wneuthyr o honynt, iw rhwystro. O ddibenny, ni a'madowsom a'r hwn, nid oeddem-mi rwymedig iddo, a'r hwn nid oedd ddim gantho i ddoedyd drosto'i hunan, onid ni wn i pa ryw ysprydoliaeth (a fyn ef fod) yn y lle y mae fo'n trigo, a chyhyd barhaad y Gyf-eisteddle.
Heblaw hynny, nyni (yn henna rhai) a'madowsom ag efo yn gyfiawn ag yn gymhessur iawn; oblegid eyn brenhinoedd ni, yr rhai oeddynt fwy a 'u gofal a' [...] goglud ar ffydd ag awdurdod Escobion Rhufain, hwynt hwy a glywsant drymder yr iau, ag a welsant drowsedd brenhiniaeth Pabau Rhufain. Canys Pabau Rhufain a ddugasant goron Henri ‘r ail, Brenin y deyrnas hon, o ddiar ei hen, ag a wnaethont iddo roi heibio holl oruchafiaeth, a myned fal gwr heb fri yn y hyd arno drwy ostyngeiddrwydd ag vfydd-ymbil at eu cennadwr nhwy; a hynny fegis peth i beri iw holl ddeiliaid ef chwerthingwatwar am ei ben Hefyd nhwy a gyffroasant ag a godassant mewn arfau yr holl Escobion, Myneich, a rhai or Pendefigion, yn-erbyn brenin Ioan, brenin y deyrnas hon: a nhwy a ryddhauasant y bobl oddi wrth y llwf a [Page 198] ddarfuase iddynt dyngu ar fod yn gywirffyddlon iw brenin: yn ddiwaethaf, ag yn erchyllaf or cwbl, nhwy a speiliassant y brenin hwnnw, nid o'i frenhiniaeth yn vnig, eithr o'i einioes hefyd, drwy fawr greulondeb. Heblaw hyn hefyd, nhwy a escumunassant, ag a felldithiasant frenin Henri 'r wythfed yr hwn ydoedd dwysog anrhydeddusaf, ag a gyffroasant yn ei erbyn ef, weithie'r Ymerodr, weithie eraill brenin Ffrainc, gan wneuthyr (gymeint ddim byth a'r allent) wyr ddifrod ag anrhaith o'r deyrnas hon. Etto digon ynfydion oedd eu penneu nhwy feddwl yr vn or ddeubeth, na gallu onynt drwy waith bwbachod a rhygl-grwyn yrru braw ar frenin mor alluawg ag oedd ef, na chwaith trassynen (fegis ar vn tamed) frenhiniaeth mor brif ardderchawg a hon.
A megis na bae ddigon genthynt hyn y gyd, nhwy a fynnassont wneuthyr yr holl deyrnas ymma 'n deyrn-gedawl iddynt hwy, a chodi ar y wlad hon dreth ag ardreth anrhaith-ddioddef bob blwyddyn. Llymma i chwi mor ddrud y prynassommi gymdeithas dref Rufain. Am hynny, gan ddarfod iddyn-nhwy eyn cribddeilio ni am y pethau hyndrwy dwyll a dichellion, ni welwn-ni achos yn y byd, na bae [Page 199] rydd i ni drwy foddau cyfiawn, a threfnau cyfreithlawn ddwyn oddi arnynt y cyfryw bethau drach-gefn. Ag os eyn Brenhinoedd ni ynghanol tywyllwch yr amseroedd gynt, o'u gwir garedigrwydd a'u haelder eu hunain a rowsont y pethau hyn iddynt er mwn crefydd, (ag o ran darfod hudo coel a chrediniaeth y Brenhinoedd drwy ffuc-sancteiddrwydd y gwyr hyn) etto 'r owr'on wedi dosparthu niwl yr amryfyssedd y dichyn Brenhinoedd y pryd hyn, yr rhai ydynt o'r vn allnowgrwydd a'r lleill o'r blaen, ddwyn oddiarnynt yr vn rhyw betheu. Canys ni thal dim y rhodd a'r ni bo wedi siccurhau drwy ewyllys y rhoddwr: ag ni ellir tybied may ewyllys perffaith yw'r hwn a fo wedi tywyllu a'i gaethiwo mewn amryfyssedd.
Ti a weli bellach,Y Destyn, a thalfyrriad ystyriaeth hyn o lyfr. ddarlleydd Cristnogawl, tu-ag-at am Grefydd Crist a orescynnwyd drach-gefn yn hwyr, ag sydd wedi geni eilwaith, nad pech dieithr anghynefinol yw cael o'r crefydd hwn ei oganu a'i wradwyddo; yn gymeint a chael o Grist a'r Apostolion yr vn rhyw sarhaad. Ond er hynny, rhag ofn iti adel dy gam arwain a'th sommi wrth glywed y modd y mae'n gwrthwynebwyr [Page 200] ni yn croch-weiddi arnom, e ddarfu i ni ddosparthu yn hyn o lyfr holl agwedd a grym eyn crefydd; sef, beth yw'n coel am Dduw‘r Tad, am Ddnw‘r vnig fab Iesu Crist, am Dduw‘r Yspryd glan, am yr Eglwys, am y Sacramenteu, am weinidogaeth, am y Scrythurau glan, am ddeddfodeu eglwysig. ag am bob darn o'n crediniaeth yng Hrist Iesu. Ni a fynegassom eyn bod ni drwy ddirfawr gas a dygasedd yn ffleddu (megis pla-heintiau bryntion a gwenwyn e [...]eidiau) yr holl hen Heresiau y'r rhai ydyntgondemniedig. euog-farnedig pa vn byn nag ai trwy eirieu ‘r Scrythurau glan, ai ynte trwy waith yr hen Gymanfa-Gynghorau gynt: a‘n bod ni oreu byth ag allom am yr hoedl, yn ceisio cyffleu drachge [...]n a gossod mewn braint, gwir addysc ag athrawiaeth yr Eglwys; yr hyn a ddarfu i‘n. Gwrthwynebwyr ni eu cwbl ddinerthu a‘n di-eneidio: A‘n bdd ni drwy nerth hen Gyfreithieu, a thost-hagrwch mwya‘g allom (fal y dylem,) yn llwyr-gospi holl ryfig, anlladrwydd, ag anllywodraeth buchedd. A‘n bod ni‘n cadw braint ag yn cyn [...]al bri Brenhiniaetheu, yn yr vn cyflwr a chymeriad, ag y cowsom-mi nhwy, heb na lleihau, na newidio dim, gan roddi i'n Twysogion gwbl barch a goruch-fowredd [Page 201] yn fwyaf ag yn hyttraf y gallom. A darfod i ni gilio ymmaeth oddi wrth yr Eglwys honno yr hon a ddarfuase iddynt hwy ei gwneuthyr yn Ogof ladron, yn yr hon ni adowsont hwy ddim yn ddilugredig ar a fae cyffelyb i Eglwys Dduw; a't hon a addefassant hwy hunain ddarfod iddi lithro lawer ffordd mewn amryfyssedd. O hon ynte, y ciliassom-mi, fal y ciliodd Lot gynt o Sodom, neu Abraham o‘r wlad a elwid Chaldea; a hynny nid o ran chwant ymrafael, eithr wrth archiad a rhybyddiad Duw ei hun: A darfod i ni geisio'n y Scrythurau glan di-dwyllodrus, a thynny allan 'onynt, math a ffurf siccur ar Grefydd, dan ddychwelyd drach-gefn at Brif-Eglwys yr hen Dadeu a'r Apostolion; sef yw hynny, at y dechreuad a'r drefn gyntaf, fegis at sylfaenau a gwaelod-ffynnonnau'r Eglwys. Ag, o ddoedyd y gwir, ni cheisiassom-mi'n hyn o achos ddisgwyl am awdurdod a chyd-synniad y Gymanfa-Gyngor yn-rhef Tridentum, lle y gwelsom-mi nad oeddid yn gwneuthyr dim mewn trefn iawn; lle hefyd yr oedd pawb yn tyngu ar gynnal braint vnY Pab oedd y g [...] hwnnw. gwr: lle ni wneid bri na phris yn y hyd ar Gennadeu-vrddol eyn Twysogion ni, lle ni chae vn Difinydd na gwr eglwysig o'n crefydd [Page 202] ni mo'i wrando: eithr lle'r oedd ymbleidio ag ymdrechu am oruchafiaeth: O herwydd pa ham, ni a wnaethom yn y modd y gwnae'r Tadeu Duwiol gynt a'n henafiaid ni'n fynych, sef, di-wygu anghyflwr eyn heglwysi drwy waith Senedd-Gymanfa o'n gwlad eyn hun: gan yscwyd oddiar eyn guddfeu (fal y dylem) iau, a thraws-orthrechiad Pâb Rhufain, i'r hwn, lid oeddem-mi rwymedig; a'r hwn nid oedd gantho ddim cyffelib nag i Grist, nag i Bedr, nag i vn Apostol, na dim chwaith cyffelyb i Escob. Yn ddiwaethaf oll, doedyd yr ydym eyn bod ni yn cydfod ag yn cyttuno i'n plith eyn hunain ynghylch holl wraidd a sylwedd crefydd: a'n bod ni, megis ag vn enau, vn anadl, ag vn yspryd, yn anrhydeddu Duw, tad eyn Harglwydd Iesu Grist.
Gan hynny; (ddarlleydd duwiol Cristnogawl) yn gymmeint ath fod ti yn gweled yr achos a'r ystyr a wnaeth i ni bob vn or ddau, ddwyn crefydd drach-gefn iw fraint dyledus, a hefyd ymadel ag ymwrthod ar gwyr hyn; ni ddylayt ti mor rhyfeddu ddarfod i ni ddewis ymufuddhau i'n meistr Crist, rhagor nog i ddynion dayarol. Pawl Abostol a'n rhybyddiodd ni na adawem mo'n cam-harwain drwy‘r amryw [Page 203] athrawiaetheu hynny: ag ar gilio o honom yn enwedig oddiwrth yr rhai a hauent ymrysson ag amrafaelion yngwrthwyneb i'r addysc a dderbyniassent gen Grist a'r Apostolion. Y mae twyll a dichellion y gwyr hyn er ys talm o amser bellach, yn diflannu ag yn cilio 'n ôl, geyr fron golwg a goleuad yr Efengyl; yr vn agwedd a'r dylluan, wrth godiad a thywynniad yr haul. Ag er darfod iddynt adailadu a chodi eu twyll-hudoliaeth cyfywch a'r wy [...]r, etto y mae ef yn cwympo i lawr drachgefn fegis mewn tro llaw, ag o'i waith ei hun, yn ei herwydd. Canys ni ddylit ti dybied ddigwyddo'r holl bethau hyn drwy antur, ag nad oes wybod pa fodd: Ewyllys Duw oedd fynny tanu Efengyl Iesu-Grist ar lled trwy'r byd yr amser ymma, a hynny gan-mwyaf yn-nerbyn ewyllys pawb. Ag am hynny wedi i eiriau Duw erchi iddynt, y troodd dynion, o'u gwir-fodd at athrawiaeth Crist. O'n rhan eyn hunain, yn wir Dduw, ni cheisiassommi gael oddi wrth hyn o beth, na chyfoeth, na thrachwanteu, nag esmwythdra, oblegid digon aml yw'r perhau hyn gan eyn gwrthwynebwyr ni; a phan oeddym-mi ar eu tu nhwy, yr oedd yn ehengach arnom [Page 204] o lawer am gaffaeliad a mwynhaad y fath bethau bydol a'r rhain. Nid ydym mi y chwaith yn gwrthod cymmod a heddwch, eithr o ran heddychu a dyn, ni fynnwn i mor rhyfelaf a Duw. Melys a hyfryd yw henw Heddwch, (medd Hilarius) ond etto vn peth yw heddwch (heb'ref) a pheth arall yw caethiwed. Herwydd o caen-nhwy 'r helynt a fynnent, sef, peri i Grist dewi: bradychu gwirionedd yr Efengyl; rhagrithio amryfyssedd gwar [...]us; bwrw hud ar lygeid y Cristnogion; a gwneuthyr cydfwriadaeth goleu yn-nerbyn Duw; nid Cymmod-heddwch, eithr cam-ammod caethiwed, fydde hynny. Rhyw fath ar heddwch sydd ddi-les (medd Nazianzenus,) a thrachefn, mewn rhyw fath a'r anheddwch y mae lles. Chwennychu heddwch yn ammodol a ddylem-mi, cymhelled ag y bae deilwng geyr-bron Duw, a chymaint fwya'g allom. Herwydd amgenach no hyn, nid Heddwch, ond Cleddyf, a ddygodd Crist i'r byd. A chan hynny o myn y Pâb i ni gymmod ag ef, ei ran ef yw ceisio gan Dduw gymmodi ag efo 'i hun yn gyntaf. Dechre twf Scismau, (medd Cyprianus,) ydyw eisieu myned dynion at y pen, a dychwelyd at ffynnon y Scrythurau glan, ag eisieu cadw gossodigaetheu a gorchmynion yr Athro [Page 205] Nefawl. Canys eisieu gwneuthyr hyn sydd Ryfel, ag nid Heddwch (medd ef). Ag nid cyssylltedig a'r Eglwys mor neb sydd wahanedig oddi wrth yr Efengyl. Ond am y gwyr hyn eu harfer nhwy yw gwneuthyr marc [...]nad a marsiandiaeth o henw Heddwch. Herwydd nid amgen no Thangneddyf holieu segyrllyd yw'r heddwch hwnnw y maen-nhwy'n ei geisio mor chwannog. Hawdd fydde gwneuthyr cymmod a chlyfaredd rhyngthynt hwy a ninne, oni bae fod chwant goruchafiaeth, a glothineb, ag anllywodraeth yn ei rwystro
Llymma i chwi pam y mae 'r tuchan, eu bryd nhwy sydd ar eu bolieu. Eu holl nad au trin ydyw am gadw drwy gywilydd a gwarth, a enillassant hwy drwy wradwydd. Achwyn arnom-mi'r pryd hyn y mae Pardynnwyr y Pâb, a'i Roddwyr, Ardrethwyr, llattaion, ag eraill yr rhai sy'n tybied may elw bydol yw duwioldeb; heb wasnaethu Crist, eithr eu bolieu eu hun. Gynt gyntoedd y bu elw annianol i'r fath ddynion a'r rhain; a thybied y maent eu bod nhwy'n colli, beth bynnag y mae Crist yn ei ennill. Am hynny mae'r Pàb yn cwyno ddarfod i gariad perffaith oeri, a fferru; er mwyn nad ydis yn talu ardreth iddo ef cyn helaethed ag yr oeddid [Page 206] arfer. O ran hyn y mae ef yn peri‘n cassau ni fwya ddim byth a'r allo, gan regu arnom, a'n bwrw yn euog o Heresi: fegis y tybio'r sawl nid ydynt gydnabyddus a'n hachos, nad byw mo'n gwaeth ni. Etto er hyn y gyd, yn y cyfamser, nid oes mor cywylidd arnom, ag ni ddylem mor cywylyddio o achos yr Efengyl. Herwydd mwy gennym am ogoniant Duw nog am fri dynion. Nyni a wyddom may gwir yw'r holl bethau rydym-mi'n dyscu; ag ni allwn-ni na mynd yn-nerbyn eyn cydwybodau eyn hunain, na dwyn testiolaeth ynnerbyn Duw. Canys o gwadwn-ni ddarn yn y byd o Efengyl Iesu Grist geyr-bron dynion, ynte a'n gwada ninne geyr bron ei Dad. Ag od oes rai a fynnant fyth gymryd achos anfodlondeb, ag na allant ddioddef athrawiaeth Crist, deillion (meddwnni) a thwyswyr deillion yw'r rhai hynny: etto, nid anllai, rhaid i ni bregethu a gossod allan y Gwirionedd o flaen pob peth, a hefyd disgwyl trwy ddioddefgarwch am farn Duw. Yn y cyfamser edryched y gwyr byn beth a wnelont, a meddyliont am eu hiechydwriaeth; peidiont a chassau, ag erlid Efengyl mab Duw, rhag ofn iddynt ryw amser gael di-wygwr a dialwr onaw ef yn ei achos ei hun. Ni ddioddefa Duw [Page 207] mo'i watwar. Y mae dynion yn canfod er ys-dyddieu bellach, beth yr ydis arno. Am y fflam ymma, pa fwyaf y cedwer hi lawr, fwy fwy y cyfyd ag y cynnydda hi. Ni wna eu hanffyddlondeb nhwy mo ffyddlon addewid Duw yn ofer. Ond os nhwy ni fynnant roi heibio hyn o galedrwydd calon, a derbyn Efengyl Crist, diau ynte yr aiff Publicanaid a phechaduriaid o‘u blaen nhwy i wlad teyrnas nef.
Duw Tad eyn Harglwydd Iesu Grist a egoro eu llygeid nhwy y gyd, i allu gweled y gobaith sanctaidd i'r hwn y darfu eu galw, fal y gallom-mi y gyd yn vn, ogoneddu'r vn hwnnw sydd wir Dduw, a'r vn Iesu Grist yr hwn a ddanfonodd ef i lawr attom or Nef: i'r hwn, ynghyd a‘r Tad, a‘r Yspryd glan, y rhodder holl anrhydedd a gogoniant yn ollawl dragowydd. Amen.