EGLVRHAD HELAETH-LAWN [...]r Athrawaeth Gristnogawl, i'r sawl sy'n discu Plant, a rhai erailh anyscedig i'w harfer.
[...] gyfansodhwyd ar dhulh Dialogydieth neu [...]mdhidham rhung yr ATHRO a'i DYSCIBL.
[...]a beth yw'r Athrawaeth Gristnogawl, a pha rai ynt y rhanneu pennaf o honi? PENNOD. 1.
GAN ym dheualht fod yn angenrhaid gwybod yr Athrawaeth Gristnogawl, i gael iechydwrieth; attolwg eglurhewch pa beth [Page 2] yw'r Athrawaeth Gristnogawl.
Crynnodeb yw'r Athrawaeth Gristnogawl, o'r holh betheu a dhyscodh yn Harglwydh Iesu Grist i ni, er mwyn dangos y phordh i iechydwrieth.
Pasawl rhan pennaf ag angenrheitiaf sydh yn yr Athrawaeth honn?
Pedair, sef, y Gredo, y Pader noster, y deg'Orchymmyn, a'r saith Sacrafenneu.
Paham y mae pedair, heb na mwy, na lhai?
Am fod y tair rhinwedh Theolygawl, Fydh, Gobaith, a Chariad-perffeith, gida grâs Duw y [...] angenrheidiol i iechydwrieth: Y Gredo sydh angenrhaid er mwyn Fydh am ei bod yn dyscu i ni'r peth a dhylem ei gredu: Y Pader noster sydh angenrhaid, er mwyn Gobaith, o ran [Page 3] ei fod yn dangos i ni beth a obeithiwn: Y deg'Orchymmyn sydh angenrhaid, er mwyn Cariad-perffeith, o achos eu bod yn dyscu i ni beth sydh y'w wneuthur, i ryngu bodh i Dhuw: A'r Sacrafenneu hefyd ynt angenrheidiol; canys cyfryngau ydynt, neu strymentau, ag ermigion drwy'r hain, y ceir, ag y cedwir, grâs Duw, a'r rhinwedheu hynn a henwassom.
Hyfryd iawn a fydhe gennyf pei dangosegh i mi ryw gyphelybiaith, fal i galhwn dheualht yn welh, y pedair rhan hyn o'r Athrawaeth Gristnogawl.
Mae sant Awstyn yn rhoi i ni gyphelibiaith o Dy;August. ser. 22. de verbis Domini. Canys megys ag i deiladu Ty, rhaid yw yn gyntaf ossod y Sylfaen, ag ar ol hynny codi'r Murien ar paradwydh i fynu, ag o'r diwedh, rhoi arno Dô, a'i wneuthur yn dhidhos. Ag i weithio hyn olh [Page 4] mae' n rhaid cael Trec-seiri, sef ermigion neu strymentau-gweithio. Felhy i wneuthur yn yr enaid yr adeilad o iechydwrieth; mae'n rhaid i ni wrth Fydh, megys sylfaen; Gobaith megys mûr; a Chariad-perffeith megys tô, a nen y ty: A'r strymentau neu'r ermigion i wneuthur hyn o waith, ydynt y Sacrafenneu glân-santaidh, saith rhinwedh yr Eglwys.
Eglurhâd o'r arferedic ymgroesi ag arwydh y Grôg. PENNOD. 2.
CYN dechreu a'r rhan gyntaf o'r Athrawaeth, lhawen a fydhe gennyf, gael megys tammed-praw, o'r petheu sydh raid eu credu, drwy dhangos o honoch i mi'n grynno, y dirgeledhion angenrheitiaf a gynhwysir yn y Gredo.
Rheswm yw hynny, ag felhy [Page 5] i gwnaf: Rhaid i chwithe wybod, mae dau dhirgeledh arbennig sydh yn eyn Fydh; a phôb vn o'r dhau, a gynhwysir yn yr ymgroesiad arferedic ag arwydh y Grôg. Y dirgeledh cyntaf, yw vndod a Thrindod duw: yr ail, yw ymgnawdolieth a diodhefaint eyn Iachawdwr.
Beth y mae vndod a Thrindod Duw yn ei dhwyn i ni ar dheualh?
Petheu goruchaf yw rhain, a eglurir o fesur ychydic ag ychydic wrth fyned rhagom yn yr Athrawaeth. Eythur dros hyn o bryd, digon i chwi dhyscu'r henwae, a deualh hyn a alhoch o honyn. Vndod Duw sy'n dwyn i ni ar dheualh, fod heb law'r holh betheu gwneuthuredic, vn peth heb dhechreuad, yr hwn a fu bob amser, ag a fydh byth; yr hwn a wnaeth yr holh betheu erailh igyd, ag sy'n eu cynnal, ag yn eu lhywodraethu hwynt [Page 6] yn oestadol; yr hwn sydh vwchlaw ag vwchpen yr holh betheu eraylh yn oruchaf, yn anrhydedhusaf, yn odidocaf, yn alhuocaf, ag yn holhawl berchennog o bob rhyw beth; a hwn a elwir Duw: yr hwn sydh vnic-vn, am nas geilh fod ychwaneg nag vn gwir dhuwdod, sef vn vnic naturiaeth,Essence. sudh neu fodedigaeth; o alhu, doethineb, a daeoni &c. di-derfyn ag anfesurawl. Etto er hynny y duwdod hyn a geir mewn tri pherson, a elwir y Tâd, y Mâb, a'r Yspryt glân; a'r tri pherson hyn ydynt vn vnic Dhuw: am fod ganthynt yr vn DuwdodEssence. sudh neu fodedigaeth; megys pette yma ar y dhaear dri pherson, a elwid Peder, Pawl, ac Siôn; ag vdhynt vn vnic enaid, ag vn corph; fe a'u gelwid yn dri pherson, vn Peder, y lhalh Pawl, a'r trydydh Siôn; ag etto ni bydhent hwy dri o wyr, am nas bydhe [Page 7] ganthynt dri chorph, a thair enaid, ond yn hytrach vn gwr a fydhent, gan na bydhe gāthynt ond vn vnic gorph, ag vn enaid. Peth am-mhossibl yw hyn ymysc dynion; o herwydh bôd pennod a therfynæ i natur dyn, fal nas cyrredh fôd mewn nifer o bersoneu. Ond bodedigaeth Duw sydh anherfynawl; o herwydh yr hyn y dichon fod, ag y mae yn y Mâb a'r Yspryt glân, yr vn bodedigaeth a'r vn duwdod, yr hon sydh yn y Tâd: Gan hynny, tri pherson ydynt; o blegyd vn yw'r Tâd, vn [...]ralh yw'r Mâb, a'r trydydh yw'r Yspryt glân, ag etto vn vnic dhuw ydynt: [...]m fod ganthynt ilh trioedh, yr vn Duwdod, yr vn bodedigaeth neu essence yr vn galhu, yr vn doethineb, daeoni &c.
Dywedwch i mi belhach, beth ydiw ymgnawdolieth a diodhefaint eyn Iachawdwr?
Gwybydhwch dharfod i'r ai person duwfol (yr hwn fal i dywedassom, a elwir y Mâb) gyda ei fodedigaeth duwfol, yr hon oedh gantho erioed cyn gwneuthur y byd, ie er's oes oesoedh, gymeryd hefyd gnawd, ag enaid dyn (sef y cwbl-olh o'n naturieth ni) yng-hrôth gwyrf-Forwyn o'r buraf: Ag felhy, yr hwn nyd oedh gynt dhim ond Duw, a dhechreuod [...] gyda bod yn Dhuw, fod hefyd yndhyn [...] Ag ar ôl idho fyw ym-mhlith dynion dair blynedh ar dheg ar vgein, yn dyscu vdhynt phordh iechydwrieth, ag yn gwneuthur bagad o wrthieu; godhefodh yn y diweth ei hoelio ar y Grôc; ag ar hon ei bu farw, i wneiuthur iawn i Dhuw am bechode'r holh Fyd: A'r trydydh dydh y cwnnodh, ag y cyfododh o farw i fyw. Ag ym-mhen y deugein nhiwrnod, derchafodh i'r nefoedh, fal y dangosaf i chwi, wrth [Page 9] eglurhau'r Gredo. Ag fal dyma i chwi [...] gnawdolieth a diodhefaint eyn Ia [...]awdwr.
Paham y mae'r hain yn ben [...]af dirgeledhion o'n Fydh ni?
Am fod y cyntaf yn cynnwys, y pen-dechreu, a'r pennod-diwedh ei [...]hyn: a'r ail yn cynnwys, yr vnic a'r [...]rtholaf fodh neu gyfrwng sydh i [...]ael gwybodaeth o awdwr-dhechreuad dyn, ag i dhyfod o hyd i'r diwedhb [...]nnod sydh idho. Ag o herwydh mae drwy iawn-gredu a chyffessu'r dhau dhirgeledh hyn, yr ydym yn ymdhangos eyn hunain, yn wahanedic-neulhtuol odhiwrth yr holh sectau ffeilsion; Cynhedloedh, Tyrciaid, Idhewon, ag Hereticiaid: Ag yn dhiwedhaf, o herwydh nas galh neb fôd yn gadwedic, heb gredu a chyfessu'r dhau dhirgeledh hyn?
Pa fodh y cynnhwysir y dirgelion [Page 10] hyn o fewn arwydh y Grôg.
Arwydh y Grôg a wneir ga [...] dhywedyd, Yn enw'r Tâd, a' [...] Mâb, a'r Yspryt glân, drwy dhódi a rhoi'r lhaw dheheu ar y talcen pryd y dyweder, Yn enw'r Tâd Ag o dhyno tan y dhwyfron, pryd [...] dyweder, a'r mâb; ag yn y diwed [...] o'r yscwydh assw hyd at yr yscwyd [...] dheheu, pryd y dyweder, a'r Yspry [...] glân. Hefyd y gair hwn Yn enw [...] sy'n dangos vndod Duw: gan nas dywedir, yn enweu, ond yn enw [...] Ag wrth y gair hwn yn enw, y deulhir y galhu a'r awdurdod duwfol, syd vnic-vn ym-mhôb vn o'r tri pherson A'r geiriau erailh. Y Tâd a'r Mâb a'r Yspryd glân: sy'n dangos Trindod y persone. Bod lhûn a dulh y Grog yn yr ymgroesiad hyn, sy'n coffau i n [...] dhiodhefaint Crist, ag yn dhylynol, ymgnawdolieth Mâb duw. Y smudo'r [Page 11] lhaw o'r yscwydh assw i'r dheheu, yn [...]ad nag o'r dheheu i'r yscwydh [...]with, sy'n arwydho mae trwy dhio [...]efaint eyn harglwydh, yr ysmuded [...] o'r pechod i râs, o'r petheu trance [...]c i'r tragwydhol, ag o farw i fyw.
I ba beth a gwneir arwydh Grôg?
Yn gyntaf i dhangos eyn bôd [...] Gristnogion, sef, milwyr eyn pen [...]erodr Crist: Canys megys baner, [...]u lifre yw'r arwydh hwn, sydh yn hynnodi, ag yn peri adnabod milwyr Crist, rhagor holh elyniō y lân Eglwys, sef Cynhedloedh, Idhewon, Tyrciaid, [...]g Hereticiaid. Heblaw hynny gw [...]eir arwydh y Grôg, i erfyn ag attolwr cymorth duw i'n holh weithredoedh; [...] herwydh drwy'r arwydh hwn, yr ydis [...]n galw ar y drindod santeidhiaf, er [...]wyn a thrwy gyfryngiad diodhefaint eyn Iachawdr. Ag am hynny [Page 12] yr arferant Cristnogion da wneuth [...] yr arwydh hwn,Tertul. de corona mil. c. 3. wrth godi neu gw [...] nu o'u gwely, wrth fyned i faes al [...] o'r ty, wrth dhechreu bwytta, w [...] fyned i gyscu, ag yn-nechreuad [...] rhyw orchwylh aralh a fo ganthy i'w wneuthur. Ag (i fyrhau i chw [...] yr hwn a wneir i fod yn arfôg yn er [...] holh brofedigaetheu, a thentasiwne [...] Cythreul: am fod y Cythreul yn [...] ni'r arwydh hwn, ag yn phoi rhagd [...] megys y gwnànt dynion diriaid, wr [...] ganfod y crôc-pren. A lhawer gwa [...] y mae dyn yn diainc yn dhiniwed [...] dhiwrth fagad o beryglon yspryd [...] a chorphorol, drwy arwydh y Grôg [...] wnelir mewn Fydh; ag ymdhir [...] yn-nhrigaredh Duw, a rhyglydhiad Crist eyn achubwr.
Eglurhâd y Gredo. PENNOD. 3.
YN AWR i dhyfod at y rhan gyntaf o'r Athra [...]eth, mi a chwenychwn dhyscu'r [...]edo.
Gredo sy'n cynnwys deu [...]eg rhan, y rhai a elwir pynciau: a [...]dheg sydh o honynt yn ôl rhife [...] dheudheg Abostl, a wnaethont y [...]redo: A'r pynciau ydynt yr hai hyn.
1. Yr wyfi'n credu yn Nuw'r Tâd holhalhuawg, Creawdr Nef a [...]ear.
2. Ag yn Iesu Grist ei vnic Fâb [...]f eyn Harglwydh ni.
3. Yr hwn a enilhwyd o'r Yspryd lân, ag a aned o Fair forwyn.
4. A dhiodhefodh dan Bontius [...]ilatus, a groes-hoeliwyd, a fu farw, [...]g a gladhwyd.
[Page 14]5. A dhescynnodh i vffern trydydh dydh y cododh o farw i fy [...].
6. A dherchafodh i'r nefoe [...] sy'n eistedh ar dheheu-law Duw'r T [...] holh-alhuawg.
7. Odhiyna y daw i farnu'r b [...] a'r meirw.
8. Yr wyfi'n credu yn yr Ysp [...] glân.
9. Yr Eglwys lân Gathôlic. C [...] fre dinrwydh y saint.
10. Madheuant pechodeu.
11. Adgyfodiad y cnawd.
12. Y bywyd tragwydhawl.
Erduw eglurhewch i n [...] [...] pwnc cyntaf air-yngair. Beth a arw [...] dha. Yr wifi'n credu?
Mae'n arwydhau fy môd [...] cwbl-goelio megys gwir di-amm [...] hyn olh a genhwysir yn y dheudh [...] bwnc hyn: a'r rheswm yw, am dh [...] fod i dhuw eihûn dhyscu'r gwersi h [...]|'r [Page 15] Apostolion santaidh, a'r santaidh [...]ostolion i'r Eglwys; a'r Eglwys [...]lh yn eu dyscu i ninneu. A chan [...]l yn am-hossib i Dhuw dhyscu neu [...] odh dim amgen na'r gwir; am hyn [...]'r wyf yn credu'r petheu hyn yn dhi [...]heuach, na'r petheu'r ydwyf yn eu [...]nfod am lhygaid, ag yn eu teimlo am wylaw.
Beth a arwydha'r gair ynNuw?
Mae'n arwydau y dylem gredu'n dhiogel fod Duw, er nad ydym [...]n ei weled a'n lhygaid corphorol: A'r [...]w hvvn sydh vnic-vn: Ag am hyn [...] y dywedir Yn-Nuw: Ag nyd Yn Nuwieu. Ag ni dhylechi fedhwl [...]w yn debig i dhim corphorol, er [...]int neu er teced a fytho. Eythr [...]aid i chwi gredu mae peth ysprydol [...] Duw: yr hwn a fu yn oestadol, ag sydh byth-bythol, yr hwn a wnaeth [Page 16] y cwbl-olh, sy'n thenwi'r cwbl-olh, ag yn lhywodraethu'r cwbl-olh: Yr hwn sy'n gwybod ag yn gweled pôb peth. Ag i fyrhau, pa rith bynnag corphorol a ymdhangoso garbron eych lhygaid, neu'ch medhwl; dywedwch yn hyf, nad eych Duw chwi ydiw y rhith hwnnw; oblegyd peth rhagor-welh anianol heb fesur ydiw Duw.
Paham yr ydis yn dywedyd fod Duw yn Dâd?
O achos ei fod ef yn wir-dâd i'w vnic-enedic Fâb, o'r hwn y traethwn yn yr ail pwnc, ag o ran ei fod ef hefyd yn dâd i'r holh rai da, nyd trwy naturieth, ond trwy adhewisiad. Ag yn olaf, o ran ei fod ef yn dâd i'r holh greaduriaid, nyd trwy naturieth, nag adhewisiad, ond trwy greadwrieth; fal i dangosaf ar fyrder cyn gorphen, pwnc hwn.
Paham y gelwir Duw yn holhalhuawg?
Am fod yr holh alhuawg yn henw pyiodawl iawn i Duw. Ag er bod idho fagad o rai priodawl erailh, megys tragywydhol, an-herfynol an-fesurol, ag erailh; etto yn hyn o fan, cymhwysaf olh oedh grybwylh ei fod ef yn holh-alhuawg fal na bydhe anawdh gennym gredu, dharfod idho fe, wneuthyr nef a daear o dhim: fal y mae'r geiriau nessaf olh yn dywedyd. Oblegyd nas geilh dim fod yn anawdh i'r hwn a dhichon wneuthyr hyn olh a fynno, ag am hynny sydh holhalhuawg. A phei dywedech, nas galh Duw na marw, na phechu, a [...] o ran hynny fod yn gyphelib, nas galh ef wneuthyr pob peth? Mi a'ch attebwn, nad gwîr-alhu yw galhu marw, a galhu pechu, ond gwendid a difficalhu. Megys pan dhyweder am ryw filwr grymmys a dewr, geilh ef orfod, [Page 18] a gorchfygu pawb-olh, ond nas geilh ef gael ei orfod gan neb, na bod yn orchfygawl eihun; ni bydhe'r geiriau hyn yn dwyn dim anglod i'r dewr: o herwydh nad grymmysdra a chryfdwr yw galhu bod yn orch-fygawl, ond yn hytrach gwendid a diffic-alhu.
Beth a arwydha'r gair Creawdr?
Mae'n arwydhau mae Duw a wnaeth bôd peth o dhim, ag mae efe yn vnic a eilh eu troi eilwaith i dhim. Gathant yr Angylion, Dynion, a'r Cythreuliaid hefyd wneuthyr a dadwneuthyr rhyw beth; ond nys galhant mo'i wneuthyr ond o ryw dheunydh, neu fatter oedh gantho fod o'r blaen yn y byd: ag nys galhant hwy dhadhwneuthyr vn peth, drwy ei droi yn dhim, ond trwy newid y peth hwnnw i ryw beth aralh. Megys ag na dhichon Saer-maen adeiladu ty, o [Page 19] dhim: ond rhaid idho gael cerrig, calch, a choed; na'i dhifetha chwaith, drwy ei droi yn dhim, ond trwy adel cerrig, lhwch, coed, a'r cyffelib. Gan hynny Duw yn vnic a elwir, ag y sydh Greawdr; oblegyd efe yn vnic yw hwn, nyd rhaid idho wrth dheunydh, i wneuthyr y peth a fynno.
Paham y gelwir Duw yn Greawdr nef a daear? Oni wnaeth ef hefyd yr Awyr, a'r Dwfr, y Cerrig, y Coed, Dynion, a phôb peth aralh?
Wrth y geiriau: Nef a Daear: y deuelhir hyn olh sydh yn y nef a'r dhaear: Megys y gwr a dhywede fod gan dhyn gorph ag enaid, ei fedhwl a fydhe dhywedyd, fod gantho'r holh betheu sy'n y corph; sef gwythi, escyrn, gewyn, a'r cyffelib; a'r holh betheu sy'n yr enaid, sef deualhedh, ewylhyssedh, cofedh, y synhwyreu odhifewn, ag odhialhan &c. Gan [Page 20] hynny, wrth y gair Nef y deuelhir yr awyr hefyd a'r adar, a'r holh betheu uwch ben (lhe mae'r cymyleu, a'r sêr: Ag am hynny y gelwir nhwy yn y lhadin, adar y nêf, cymyleu'r nef, a sêr y n [...]f: Ag heblaw y rhai hyn, yr Angylion hefyd Wrth y gair Daear, y deuelhir hyn olh y mae'r awyr yn ei amgylchu sef dyfroedh y môr, a'r afonydh syd [...] yn nyfuder y dhaear; a chyda hynny yr holh amfeiliaid, y planwydh, y cerrig, meini-meteleedh, a'r holh betheu erailh, sydh o fewn cylch a chwmpas y Tîr a'r Môr Gan hynny, Duw a elwir yn Greawdr Nef a Daear: oblegyd y dhau hyn ydynt y rhanneu pennaf o'r byd, y nailh odhiarnodh lhe mae'r Angylion yn aros, a'r lhalh odhitanodh, lhe mae dynion yn gwladychu; yr hai ynt y dhau greadur odidocaf olh o'r cwbl, ag anrhydedhuaf; i'r hai y mae'r lheilh [Page 21] y gyd yn gwneuthyr gwasanaeth, megys ag y maent hwytheu yn rhwymedic i wasnaethu Duw; yr hwn a'u gwnaeth o dhim, ag a'u gossododh yn y cyfryw vchel-radh.
Eglurhâd yr ail pwnc.
Yn rhodh eglurhewch i mi yn awr yr ail pwnc: Beth a arwydha Ag yn Iesu Grist ei vnic Fab ef eyn Harglwydh ni?
I'r Duw holhalhuawg, o'r hwn y trenthassom yn y pwnc cyntaf, y mae vn gwîr fâb naturiol, hwn a elwir Iesu Grist. Ag fal y galhochi frith dheualh, y modh y cenhedlodh Duw y mâb hwn, cymerwch geffelybiaeth drych: Pan ymedrycho dyn mewn drych, fe a ganfydh yno yn dhisymmwth ei lûn a'i dhelw eihunan, cyn debycced idho, na bydh dim hragor rhwngthynt: o herwydh y cyscoddhelw [Page 22] a fydh debing i'r dyn, nyd vnic yn ei bryd a'i wedh; ond yn ei holh fenudieu a'i symmudiadeu, oblegyd os ysmudo a wna'r dyn, symmudo a wna'r dhelw hefyd: A'r dhelw hon cyn deby [...]ed i'r dyn, a wneir yn dhiboen, heb orfod aros mo'r amser, na bod rhaid cael vn ermig neu gyfrwng i'w gweithio; ond hi a wneir yn dhisymmwth ag vn golwc, neu droead lhygad. Felhy drwy fod Duw a lhygad ei dheualhedh, yn ymedrych ei hun yn y drych gloyw o'i Dhuwdod, rhoes fod i dhelw lhawn-debig idho ef ei hunan. Ag am rodhio Dhuw i'r dhelw hon ei holh sylwedh, a'r fodedigaeth eihun (y peth nys galhwn ni mo'i wneuthur wrth ymedrych mewn drych) am hynny mae'r dhelw honno yn wîr fâb i Dhuw, er na bo'n delweu neu'n cyscod ni a wnelom mewn drych, yn feibion i ni. Ag o hyn y mae i chwi [Page 23] gasclu, fod mâb Duw yn Dhuw, megys y mae'r Tâd; ag mae'r vn Duw ydyw ef a'i dâd, gan fod gantho yr vn sylwedh ag y sydh gan y Tâd. Hefyd mae i chwi gasclu, nad ydyw Mâb Duw dhim iengach na'r Tâd; ond bod o honno ef bob amser, megys y bu'r Tâd; o ran ei gael a'r genhedlu, yn vnic drwy fod Duw yn ymedrych eihun; a Duw bob amser erioed oedh yn ymedrych eihun. Yn olaf mae i chwi gasclu, nad trwy gynhorthwy gwraig, y caed, neu y cenhedled Mâb Duw, nag mewn talm o amser, na thrwy dhyfyrwch cnowdol, na thrwy'r cyfryw am-herffeidhrwydh aralh. Herwydh, fal y dyweded o'r blaen, efe a genhedlwyd o'r Tâd eihun, drwy ymedrych eihunan, a phûr lygad ei dhuwfol dheualhedh.
Paham y gelwir yr hwn Fâb Duw yn Iesu Grist?
Yr henw Iesu, sy'n arwydho Iachawdwr a Grist (yr hwn yw ei gyfhenw) sy'n arwydhocau Archoffe [...]riad, a Brenin y Brenhinoedh: Herwydh fal y dywedais wrth eglurhau arwydh y Grôc; Mâb Duw a wnaeth ei hûn yn dhyn, i'n rhy-brynu ni a'i waed, ag i'n harwaen i'r iechydwrieth tragwydhol. Ag felhy pan dhoeth ef yn dhyn, cymerodh yr henw hwn (Iachawdr) i dhangos dhyfod o hono fe i'n iachau, a'n hachub ni: A'i Dâd nefawl a'i vrdhodh ef, a braint Arch-offeiriad a Brenin goruchaf. Ganys hyn olh y mae'r henw Crist yn ei arwydhocau, ag o'r henw hwn yr henwir ninneu Cristnogion.
Paham y mae pawb yn diosc odhiam eu penneu, neu'n ymostwng, pryd yr henwer yr Iesu; y peth nys gwneir i'r henwae erailh sydh i Dhuw?
O achos mae henw priodawl i [Page 25] Fâb Duw, yw'r henw hwn Iesu, a'r lheilh ydynt henwae cyffredinawl: Hefyd, yr henw hwn sy'n coffau i ni, fal y darfu i Dhuw ymdharostwng eihun er eyn mwyn ni, gan ei wneuthur ei hûn yn dhyn; am hynny ninneu, er moliant, a diolchgarwch, ydym yn ymostwng idho yntef: Ag nyd ny-nî dhynion yn vnic; ond Angylion y Nef hefyd, a Chythreuliaid Vffern a ymostyngant i'r henw hwn; yn nailh, er cariad, a'r lheilh, o'u gwîr anfodh: am fod ewylhys Duw yn mynnu i holh greaduriaid rhesymol, ymostwng i'w Fab ef; ynghyfer yr ymostwng a wnaeth yntef, er eyn mwyn ni i farw ar y Grôc.
Paham y dywedir fod Iesu Grist yn Arglwydh i ni?
O achos mae efe ynghyd a'i dâd a'n creawdh ni? am hynny eyn perchennog, a'n Harglwydh ni ydiw [Page 26] ef, cystal a'r Tâd; ag am dharfod idho fe drwy ei boen, a'i dhiodhefaint, yn rhydh-hau ni o gaethiwed y Cythreul, fal y dangosaf i chwi ar fyrder.
Eglurhâd y trydydh pwnc.
Mae'n calyn i chwi eglurhau y trydydh pwnc. Yr hwn a enilhwyd o'r Yspryt glân, a aned o Fair forwyn.
Y pwnc hwn sy'n dangos y modh newydh, gwrthfawr, rhyfedhawl, o ymgnawdolieth Mâb Duw. Chwi a wydhoch y genir dynniō erailh o dâd, a mam; a'r fam ni bydh dim hwy yn forwyn, a'r ôl cael beichiogi, a dwyn plentyn. Eithr Mâb Duw, pan fu wiw gantho ei wneuthur eihun yn dhyn, ni fynnodh gael tâd ar y dhaear; ond mam yn vnic, a'i henw Mair; yr hon a barhâdh bob amser yn forwyn wyrf o'r buraf: oblegyd yr Yspryt glân [Page 27] (yr hwn yw'r trydydh berson duwfol, a'r vn Duw ag ydiw'r Tâd a'r Mâb) drwy ei alhu diderfyn, a lumodh o waed pur y Forwyn hon, o fewn ei chroth bendigedic hi, gorph bachgenyn howdhgar o'r perffeidhiaf; ag a greawdh, yr vn amser, enaid odidowgwych, gan ei chyssulhtu hi ynghyd a chorph y bachgenyn; a hyn olh a gyssylhdodh Mâb Duw ynghyd a'i berson eihun. Ag falhyn Iesu Grist (yr hwn o'r blaen nyd oedh dhim ond Duw) a dhechreuodh gida bod yn Dhuw, fod hefyd yn dhyn: Ag felhy yr hwn oedh gantho dâd heb fam, fal yr oedh yn Dhuw; sydh gantho yn awr fam heb dâd, fal y mae yn dhyn.
Mi a chwenychwn gael rhyw sampl, neu gyfflybiaeth, i dheualh pa fodh y galh morwyn wyryf fod yn feichiog, a pherhau er hynny yn forwyn.
Rhaid yw credu dirgelion [Page 28] Duw, pei rhon nas cerhendhech eu deualh; o herwydh Duw' alh wneuthur mwy nag a alhwn ni ei dheualh: Ag am hynny y dywedir yn-nechreuad y Gredo, fod Duw yn helhalhuawg. Er hynny mae i ni gyfflybiaeth gymmwys yng-hreadwriaeth y Byd. Chwi a wydhoch nad yw arferoli'r tîr dhwyn yd, nys cael yn gyntaf ei ardhu, ei hau, a'i wlychu gan y glaw, a'i wresogi gan yr haul: Ag etto y tro cyntaf yn-nechreuad y byd, dygodh y dhaear yd (megys morwyn yn ei rhyw hi) yn dhisymwth, heb na'iredig, na'i hau, na'i gwlychu, na'i gwresogi; dim ond ar erchymmyn yr holhalhuawg Dhuw, a thrwy ei râd, ai rinwedh ef: Felhy gwyryfol a morwynaidh groth y fendigedig Fair; heb gyfeiliach gwr, ar orchymmyn Duw yn vnig, drwy râd a gwaith yr Yspryt glân, a dhûg i'r byd y gronyn yd gwerthfawr, sef [Page 29] corph byw mâb Duw.
Os câd ag enilhwyd Iesu Grist drwy râd, a gwaith yr Yspryt glân; mi a debygwn y gelhyd dywedyd, mae yr Yspryd glân yw ei dâd ef, fel y mae ef yn dhyn.
O, nyd gwîr yw hynny; Oblegyd i fod yn dâd, nyd yw dhigon gwneuthur y peth, ond rhaid y diw ei wneuthur o sylwedh y gwneuthurwr ei hûn; ag o ran hynny y dywedwn, nad tâd y ty yw'r saer a'i gwnelo, am idho ei wneuthur o goed, a cherrig; ag nyd o'i gnawd, a'i sylwedh ei hûn. Felhy yr Yspryt glân, a wnaeth gorph Mâb Duw; ond efe a'i gwnaeth o bûr waed y Forwyn, ag nyd o'i sylwedh eihun: Ag am hynny nyd yw Fâb Duw, yn Fâb i'r Yspryt glân, ond Mâb ydiw i Dhuw'r tâd, fel y mae'n Dhuw; a Mâb hefyd ydiw ef i'r Forwyn, fel y mae'n dhyn; oblegyd gan honn y cafodh [Page 30] ef ei gnawd dynawl.
Paham y dywedir mae'r Yspryt glân a wnaeth y weithred honn o'r ymgnawdolieth? Ond oedh y Tâd a'r Mâb yn ei chyd-weithio hi?
Y peth a wnelo vn person Duwfol, mae pôb vn o'r dhau berson eraith yn ei gyd-weithio: am fod ganthyut, yr vn galhu, doethineb, a daeoni. Etto er hynny gweithredoedh o alhu a ardhodir i'r Tâd, y rhai o dhoethineb i'r Mâb, a'rhai o gariad i'r Y spryd glân. A chan fod y weithred honn, yn dangos maint cariad Duw i dhyn, hi a ardhodir am hynny i'r Yspryt glân.
Mi a chwenychwn gael rhyw gyfflybiaeth i dheualh y modh y cydweithiant y tri pherson yr ymgnawdoliaeth, heb ymgnawdoli yr vn o honynt ond y Mâb yn vnic.
Pan fo dyn yn gwisco dilhedyn [Page 31] amdano, a dau erailh yn rhoi cymorth idho i hynny, tri a fydh yno yn cydwisco; ag etto ni bydh ond vn ar wisc amdano: felhy pôb vn o'r tri pherson Duwfol, oedhent yn cydweithio ymgnawdolieth Mâb Duw, ag etto'r Mâb yn vnic sydhwedi ei ymgmawdoli a'i wneuthur yn dhyn.
Paham y cysselhted yn y pwnc hwn y darn aralh. A aned o Fair forwyn.
Am fod y geiriau hynn yn cynnwys dirgeledh, a rhyfedhod or mwyaf; fal y doeth Mâb Duw i faes alhan o groth ei fam, ym-mhen y nowmis; heb na phoen, na dolur i'w fam, heb wneuthur dim niwed i'w morwyndod hi, heb adel nag ôl, nag arwydh o'i enedigaeth a'i dhyfodiad alhan: yn y cyfryw fodh, ag y doeth alhan o'r bedh cayad, wrth gwnnu, a chodi, o farw i fyw; ag fel yr aeth i mewn, ag [Page 32] alhan o'r stafelh, lhe yr oedh y dyscyblion, er bod y drysse yn gayad. Ag o achos hyn y dywedir fod mam eyn Harglwydh Iesu Grist bob amser yn Forwyn wyryf; cyn escor, wrth escor, a chwedi escor.
Eglurhâd y pedwerydh pwnc.
Beth' arwydhant y geiriau sy'n calyn yn y pedwerydh pwnc? A dhiodhefodh dan Bontius Pilatus a groes-hoeliwyd, a fu farw, ag a gladhwyd.
Y pwnc hwn sy'n cynnwys y dirgeledh budholaf oth o'n prynedigaeth ni; yr hwn yn grynno yw fal hyn: We di byw o Grist yn y byd-yma ynghylch tair blynedh ar dhêg ar vgein; a chwedi idho adrodhi, a dangos phordh iechydwrieth, drwy ei santeidhiaf fuchedh, drwy ei Athrawaeth, a'i wrthieu; parodh Pontius [Page 33] Pilatus (yr hwn ydoedh lywodraethwr Iudea) ei flangelhu yn anghyfion greulon, a'i hoelio ar bren Croes; ar yr hwn y bu farw; a rhai o'r gwyr duwiol a'i cladhasson ef.
Ynghylch y dîrgelwch hwn, mi a glywaf ymbelh betrussaidh, neu frith ammheueth, yn goflino sy medhwl: ag a chwenychwn gael gennych chwaneg o'i eglurhâd, fel y galhwyf wrth ei dheualh yn welh, fod yn dhiolchgarach i Dhuw, am y cyfryw dhirfawr gymwynas. Dywedwch ithe i mi yn rhodh, os Mâb Duw holhalhuawg yw Crist, pam nas gwaredodh ei Dâd efe o Dhywylaw Pilatus? neu os ydiw Crist eihun yn Dhuw paham nad achubodh ef eihunan.
Galhasse Crist dhianc a'i wared ei hûn fil ofodhion pei mynnasse; ie ni alhasse'r holh fyd wneuthur idho fe dhim niwed o'i anfodh. A hyn sydh [Page 34] eglur, oblegyd ef a wydhe ymlaenlhaw, ag a ragdhywedodh i'w Dhyscyblion, fod yr Idhewon yn ceisio ei hoedlef; ag fel y flangelhent, ag ei gwatwarent, ag ar y diwedh, fal y rhodhent hwy fe i farwolaeth: Ag er hynny nyd ymgudhiodh ef dhim, ond fe aeth i gyfarfod eu gasseuon; a phan oedhent a'u bryd ar ei dhalef, heb ei adnabod; efe eihun a dhywedodh vdhynt, mae ef oedh y gwr yr oedhent yn ei geisio: ag yn yr vn cyfamser, er eu bod nhwy gwedi cwympo ynwysc eu cefneu, yn gorwedh fel rhai meirw, nyd aeth ef ymmaeth, fel y galhasse, ond discwyl vdhynt godi; a chwedi hynny godhef odh ei dhal, a'i rwymo, a'i dhwyn fel oen gwirion i'r fann a fynnassont.
Gan fod Crist yn wirion didhrwg, am ba achos y godhefodh ei groes-hoelio, a'i ladh felhy ar gam?
Am lawer o achosion; yr achos pennaf oedh i fodloni, ag i wneuthur iawn i Dhuw, am eyn pechode, a'n camwedhe ni. Canys gwybydhwch y mesurir m'aintioleth y camwedh, wrth fesur mowredh, a gradh yr hwn y bo'r camwedh yn ei erbyn: ag yn y gwrthwyneb, maintioledh yr iawndal a fesurir, wrth fesur teylyngdra'r hwn a fo'n gwneuthur yr iawn. Mal (er cyfflybiaeth) pe rhoe wasnaethwr gernod, neu fonclust i'w Dywyssog; cyfrifid hynny yn dhirdra o gam, ag yn ammarch dirfawr; o ran mowredh y Tywyssog. Eithr os y Tywyssog a roe'r dyrnod i'r gwas, ni bydhe'r matter ond bychan, yn ei herwydh; o ran gwaeledigaeth y gwasnaethydh. Yn y gwrthwyneb, os gwasnaethwr a dhiosc ei hettan, a'i fonet i'r Tywyssog, ni bydh fawr bris o hynny: Eithr os diosc y Tywyssog odhiam ei ben i'r gwâs, [Page 36] bydh hynny yn fawrhâd nodedig yn ôl y rheol a'r rheswm a dhywedassem. Gan yntau i'r dyn cyntaf gynt, ag i ninneu olh gydag ef, bechu yn erbyn Duw (mowredh ag vchel-radh yr hwn sydh dhigymar, ag anfeidrol heb fesur) yr oedh yr ammarch a'r camwedh yn gofyn bod o'r iawn-dal hefyd yn anfeidrol dhi-fesur: A chan nad oedh na Dyn nag Angel mor deilwng a hynny; daeth Mâb Duw eihûn i'r byd, yr hwn oedh Dhuw, o fowredh anfeidrol; A chwedi idho ymwisco mewn cnawd marwoledig, ef a ymroes, ag a ymostyngodh er anrhydhedh i Dhuw, i ange, a marwolaeth y Groes; ag felhy drwy ei boen, a'i dholurie, y gwnaeth iawn helaeth-gyflawn, am eyn camwedheu ni.
Am ba achos aralh y rhyngodh fodh i Grist dhiodhe marwolaeth mor dost-lem?
I dhyscu i ni drwy ei sampl ei hun, v rhinwedhe hyn: Godhefgarwch, Gostyngeidhrwydh, Vfudhdra, a Chariat Perffeith. Y rhai ydynt y pedair rhinwedh, a arwydhocaed ym mhedwar pen y Groes. Canys ni eilh fod Godhefgarwch berffeidhiach, na diodhef ar gam, farwolaeth mor wradwydhys: Na Gostyngeidhrwydh berffeidhiach, nag oedh i Arglwydh yr holh Arglwydhi, ymostwng i fod ynghrôg yn y canol, rhwng dau leidr: Nag vfudhdra berffeidhiach, na bod yn fodlon i farw, yn gynt na gadel gorchymmyn ei dâd heb ei gyflowni: Na Chariad perffeth berfieidhiach, na rhodhi ei ennioes eihun, i achub a gwared ei elynion. A gwybydhwchi hyn, yr ymdhengys Cariad perffeith lhel bo, yn welh drwy weithredoedh, nag ar eiriau; ag yn welh wrth diodhe, nag wrth w [...]euthur. Ag felhu [Page 38] Crist yr hwn ni bu dhigon gantho wneuthur i ni gymwynasse anirif, nys idho-dhiodhe hefyb a marw er eyn mwyn, a dharfu idho dhangos yn eglur, eifod ef yn eyn caru alhan o feser.
Gan fod Crist yn Dhuw, ag yn Dhyn; fal y dywedassochi eusus; a chan fod yn gyffelyp, nas geilh Duw na dhiodhe, na marw; pa fodh yr ydym yn dywedyd dharfod idho fe dhiodhe, a marw?
Yn hytrach o ran hynny, am fod Crist yn Dhuw agyn Dhyn, y galhodh ar vnwaith dhiodhe, a bod heb dhiodhe; marw, a bod heb farw: fel y mae'n Dhuw, nys galhodh na diodhe, na marw; fel y mae'n Dhyn, galhodh dhiodhe a marw. Ag am hynny y dywedais dharfodidho (ag yntef yn Dhuw) ei wneuthur yn Dhyn, er mwyn gwneuthur iawn am eyn pechode [Page 39] ni; drwy dhiodhe gloesion ange, yn ei santeidhiaf gnawd eihun: y peth nys galhasse dhim o'i wneuthur, oni buasse ei wneuthur ef yn Dhyn.
Os darfu i Grist wneuthur iawn-dâl i'w Dâd am bechodae'r holh dhynion, paham y mae'r fath nifer o dhynion y golhedig, ag yn rhaid i ninneu hefyd benydio am eyn pechodæ?
Gwnaeth Crist iawn-dâl helaeth-lawn am bechodae pôb dhyn: ond mae'n angenrhaid megys cymhwyso, ag arblygu'r iawn-daledigaeth hon'i bôb dyn, ar ei ben ei hun; i hwn-yma, ag i hwn-accw: yr hyn awneir drwy'r ffydh, drwy'r Sacrafennu, a thrwy weithredoedh da, ag yn enwedig drwy benyd. Ag am hynny mae'n rhaid penydio, a gwneuthur gweithredoedh da, er darfod i Grist dhiodhe, a gweithio trossom. Ag o ran hyn, y mae bagad yn golhedig, neu'n perhau yn [Page 40] elynion i Dhuw. Rhai am nas derbyniant y ffydh, mal Idhewon, Tyrciaid, ag Haeredigiaid: rhai erailh eisie derbyn y Sagrafenneu, sef y sawl nys mynnant gael bedydh, neu gyffes, neu wneuthur y penyd, a alhont am eu pechode; a'r sawl nyd ymrodhant i fyw yn ôl cyfreith Dhuw.
Mi a chwenychwn gael rhyw gyffelybieth i dheualht hyn.
Cymerwch gyfflybieth o wr, a fae gwedi ennilh drwy dhygen boen, chwys, a lhafur, y fath bentwr mawr o arian, ag a wasnaethe'n dhigonawl i dalu holh dhyledion y dhinas hon; a chwedi rhodhi yr arian hynny mewn tryssor-dy cyffredin; i'w rhannu wrth ei raid, a'i eisie i bob rhyw dhyn, a dhele i'w cesio, ag arwydh odhiwrth y gwr pendefig hwnnw. Ni bydhe dhim yn ôl (o ran y cyfryw wr) nas todhid, ag nas telid a'r tryssor hwnnw, [Page 41] holh dhyledion y dhinas: ag etto er hynny, galhe fagad berhau mewn dyled rhaglhaw, eisie myned i ofyn yr arwydh, a'i arwain i'r tryssordy, i dherbyn yr arian, nailh ai o falchder, neu o wir dhiogi, neu o ran rhyw achos aralh.
Eglurhâd y pummed pwnc.
Er mwyn cael deualh y pummed pwnc sydh yn dywedyd, Descynnodh i vffern, y trydydh dydh y cododh o farw i fyw. Yr wyf yn chwenych câel gwybod, beth' arwydha Vffern yn hynn o fann?
Vffern, yw'r fangre issaf, a dyfnaf olh yn y byd; sef canol-berfedh y dhaear. Ag o herwydh hyn, mae'r Scrythur lân mewn bagad o fanneu, yn crybwylh y nef, megys y lhe gwrthwynebaf olh i vffern; am fod y nailh yn vchaf olh, a'r lhalh yn dhyfnaf, ag [Page 42] yn issaf olh o gwbl.S. Tho. in 4 d. 45. q. 1. a. [...]. Eithr yn y dyfndra yma o'r dhaear, mae pedair megys ogofe mowrion aruthr, ag eheng: Vn i'r colhedig, yr hon yw'r dhyfnaf olh o gwbl; mal y gwedhe'n dha i'r Cythreuliaid beilchion, ag i dhynion eu canlynwyr, fod yn y fan issaf, a phelhaf odhiwrth Baradwys, a alhe fod: Yn yr ail ogo, yr hon sydh beth uwch, mae'r eneidiau sy'n diodhe poenae'r Purdan: Yn y drydedh, yr hon sydh etto ychydig uwch, y maent eneidiau'r Plantos, a fuont feirw heb fedydh; y rhai nyd ydynt yn diodhe cospedigaeth gan dân; ond yn vnic eu colhedigaeth byth bythol o'r dedwdhwch, a'r gwnfyd tragwydhol. Yn y bedwaredh, yr hon yw'r vchaf, yr oedhent gynt eneidiau'r Patriarchiaid, a'r Prophwydi, ag erailh o'r Saint a fuassent feirw cyn dyfodiad Crist. Oblegyd er nad oedh gan yr eneidiau santaidh hynny dhim [Page 43] i'w buro; etto ni alhent fyned i mewn i'r gwynfydol ogoniant, nys darfod i Grist drwy ei farwolaeth egoryd porth y bywyd tragwydhol. Am hynny yr oedh eu trigfa yn y lhe vchaf, a elwid Lymbo'r Tadeu santeidh, neu fynwes Abraham; lhe nyd oedhent yn diodhe dim poen, ond yn hidtrach yn medhiannu gorphwysfa esmwyth; drwy fawr lawenydh yn dyscwyl dyfodiad eyn Harglwydh. Ag felhy yr ydym yn darlhen yn yr Efengyl, arwain or Angylien enaid y cardottyn santaidh Lazarus i orphywys ymmynwes Abraham,Luc. 16. lhe ei canfu'r glwth goludog hi; yr hwn, fel yr oedh yn lhosci yn y fflammae vffernol, a gododh ei olwg i fynu, ag a ganfu o hirbelh Lazarus; mewn lhe oedh uwch o lawer, yn lhawen drosben, ag yn lhawn didhanwch, yn medhiannu ffrwyth ei amynedh, a'i dhiodhefgarwch [Page 44] gynt.
I ba vn o'r pedair rhan hyn o vffern y descynnodh Crist ar ôl idho farw?
Di-ammeu yw dharfod idho dhiscyn i Lymbo'r Tadeu; ag idho yn dhysymwth i gwneuthur nhwy'n dhedhwydh, a'u harwain ar ol hynny gydag ef i deyrnas y nefoedh. Ymdhangossodh hefyd i'r manneu erailh o vffern, fel gorescynwr gorfoledhus yn peri braw, a dychryn ir cythreuliaid; fel vstus, neu yngnat goruchaf yn bygwth y rhai colhedig, mal cyfryngwr, a gwaredwr yn cyssuro, a didhanu'r eneidiau ym-mhurdan. Descynodh yntef Crist i vffern, megys pette frenin weithiau yn discyn i garchar, i ymweled ar carchorion, i roi nawdh a madheuant i'r sawl a fynne ef.
Os oedh Crist y pryd hynn yn farw, a'i gorph ef yn gorwedh yn [Page 45] y bedh, ni dhescynnodh yntau Crist yn gyfa i vffern, onid enaid Crist yn vnig. Pam gan hynny y dywedir dhiscyn o Grist i vffern?
Bu ange mor nerthol a galhu yscar, a gwahanu enaid Crist, odhiwrth ei gorph ef; etto nys galhodh dhidôli, ag yscar na'r enaid, na'r corph, odhiwrth berson duwfol yr vn Crist: Ag'am hynny y creawn, fod person Duwfol Crist, ynghyd a' i gorph yn y bedh, a discyn or vn person ynghyd a'i enaid i vffern.
Pa dhelw y gwirheir godi o'n Harglwydh o farw y trydydh dydh, gan nad oes o bryd-nhawn hwyr dhic-Gwener (pryd y cladhwyd ef) hyd y plygai [...] dhie-Sûl (pryd y cyfododh) mor dheudhydh gyfa?
Nyd ydym yn dywedyd godi o Crist ar ôl tridie cyfan, ond y trydydh dydh, yr hyn sydh wir-iawn. [Page 46] Oblegyd efe a fu yn y bedh dhie-Gwener, yr hwn oedh y dythwn cyntaf, [...]r na bu ef yno y diwrnod cyfa hwnw; [...]u yno hefyd dhie-Sadwrn trwy'r dydh (yr hwn oedh yr ail dythwn) ig a fu yno dharn o dhie-Sûl, yr hwn oedh y trydydh. Oblegyd y diwrnod naturiol sy'nYr vn vvedh, er dechreu'r divvrnod hanner nos, gan godi' on Hargvvydh ar ôl hanner nos, fe a gododh y trydydh dydh. dechreu fin y nos, a'r awr nessaf ar ôl machlad haul, yw'r awr gyntaf o'r dythwn a fo'n caulyn.
Am ba achos nas cododh Crist yn fyw, yn y mann ar ôl marw, ond mynnu discwyl y trydydh dydh?
O achos ei fod ef yn chwenychu dangos ei fod gwedi marw o dhifri, ag yn dhigon gwîr; am hynny y rhyngodh fodh idho aros yn y bedh, cy hyd o amser ag a wasnaethe i brofi yn dhigonawl hynny o wirionedh. Mi a ewlhyssiwn hefyd i chwi ystyrio, mae fel y bu Crist yn byw ym-mhlith dynion, dair, neu bedair blynedh ar dhêg [Page 47] ar vgein, fely y bu wiw gantho aros ym-mhlith y meirw, or hyn lheiaf, dair neu bedair awr ar dhêg ar vgein. Oblegyd hynny yw rhifedi'r orieu, o rhowchi ynghydDrvvy gyfri fod y divvrnod yn darfod gyda machlad haul; ond os cyfri o'r hanner nos, yr oedh mvvy or Gvvener a pheth o'r Sûl. vn awr o dhie-Gwener (gan ei gladhu ef cyn machlâd haul) pedair awr ar vgein y Sadwrn, ag wyth awr, neu naw, o'r Sûl; oblegyd cyfodi o Grist gwedi hanner nos, ynghylch dechreuad y wawr dhydh.
Paham y dywedir am Grist, Ef a gododh, ag am y meirw erailh, mal Lazarus, a Mâb y wraig wedhw, fe a dhywedir yn hwy a dodwyd o feirw?
Am dharfod i Grist (ag yntef yn Fâb i Dhuw) gyfodi o hono eihun, sef drwy nerth a grym ei dhuwdod, adgyssulhtu ei enaid ynghyd a'i gorph; ag fel hynny ail-dhechreu byw o newydh. Ond y meirwon erailh, nys galhant dhynchwelyd i fyw, drw [...] [Page 48] eu nerth, a'u grym euhunain; ag an hynny y dywedir, gael o honynt hwy e [...] codi gan erailh; mal y cawn ni bad [...] dyn, yn codi dhydh farn gan Grist.
Oes dim rhagorieth aralh, rhwng adgyfodiad Crist, ag adgyfodiad rhai erailh, a dheuthant o'i flaen ef ailwaith i fyw?
Oes hyn o ragor, gyfodi o'r lheilh yn farwoladwy,Rom. 6. ag am hynny buont feirw drachefn; ond Crist a gododh yn anfarwol, fel nas geilh farw byth ond hynny.
Eglurhâd y chweched pwnc.
Awn belhach ynghyd ar chwechèd pwnc, yr hwn yw ynghylch y derchafiad. Mi a chwenychwn gael gwybod, pahyd y trigodh eyn Harglwydh ar y dhaear, ar ôl ei adhyfodiad; ag am ba achos y trigodh cyhyd.
Deugein nhiwrnod y trigodh [Page 49] ef, mal y gelhwch ystyrio wrth gyfri'r dydhie o'r Pasc, digwyl yr Adgyfodiad, hyd dhigwyl y derchafael. Ar achos paham y trigodh cyhyd, ydoedh, am fod Crist yn mynnu sicrhau, a gwneuthur yn dhiammeu, amhettrus [...]y dirgeledh o'i wîr Adgyfodiad; drwy ymdhangos euhun fagad, ag amryw o weithiau. Canys y dirgelwch hwn yw'r anhowsaf olh yn ei herwydh; a'r neb a gredo hwn, ni bydh anhawdh idho gredu'r lheilh. Oblegyd yr hwn a adgyfododh o farw i fyw, ispus yw ei fod o'r blaen yn farw, a hwn a fu farw, oedh gwedi ei eni yn gyntaf. Ag felhy, hwn a gredo Adgyfodiad Crist, hawdh idho gredu ei farwolaeth a'i enedigaeth. Ag yn yr vn phunyd, gan nad ydiw'r dhaear drigfa gymhwys, na chyfadhas i'r cyrph gogonedhus; ond y nefoedh, am hynny, yr hwn a gredo Adgyfodiad eyn [Page 50] Iachawdr, hawdh a fydh idho gredu ei dherchafiad i'r nefoedh.
Mi a chwenychwn gael gwybod, paham y dywedir am Grist Derchafodh i'r nefoedh; y peth nys dywedir am ei fam santeidhiaf, ond ei chymeryd hi i fynu i'r nefoedh?
Hawdh yw atteb hynny, Am [...] dharfod i Grist (ag yntef yn Dhuw, ag yn dhyn) dherchafu drwy ei nerth a'i rym eihun, megys ag yr adgyfododh o farw, drwy ei nerth eihunan. Eithr ei fam, gan nad oedh hi ond Creadur, er ei bod yn deilyngef olh o honynt, a godwyd o farw i fyw, ag a arweinwyd i'r deyrnas nefawl; nyd trwy ei nerth hi eihun; ond trwy nerth a galhu'r goruchaf Dhuw.
Beth yw arwydh-hâd y geiriau hyn: Sy'n eistedh ar dheheulaw Dhuw'r Tâd holhalhuawg?
Na fedhyliwch fod y Tâd ar [Page 51] law assw'r Mâb, na bod y Tâd yn y canol chwaith, megys pette'r Mâb ar ei law dheheu, a'r Yspryt glân ar y haw assw, yn gorphorawl. Canys mae'r Tâd cystal a'r Mâb, a'r Yspryt glân ym-mhob ryw fan, o ran eu Duwdod: Fel nas gelhir dywedyd mewn ymadrodh briodawl, gyfadhas, fod yr vn o honynt ar y lhaw dheheu, [...]ag ar y lhaw assw i'w gilydh.Greg. Nazian. orat. 34 quae est de Nat. Domini. Amb. in ep. 82 ad Eccles. Vercell. Eithr [...]od ar y lhaw dheheu, sy'n arwydhau [...]n y pwnc hwn, bod yn gydradh mewn [...]cheldra, gogoniant, a mowredh. Oblegyd yr hwn a fo ystlys yn-ystlys ag [...]n aralh, ni bydh nag vwch nag îs [...]ag ef. Ag i beri i ni dheualh y cyfryw fath o ymadrodh, mae'r Scrythur lân vn y Psalm 109. sy'n dechreu Dixit Dominus Domino meo. Mewn vn fan yn dywedyd, fod y M âb yn eistedh ar law dheheu'r Tâd, ag mewn man aralh yn dywedyd, fod y Tâd ar law [Page 52] dheheu'r Mâb, i yspyssu i ni, eu bod nhwy in gydradh mewn vcheldra, mowredh: mal y dywedassom eusus Gan hynny Crist pan dherchafodh i' [...] nefoedh, a dherchafodh uwch-la [...] holh Goreu a gradheu'r Angylion, a uwchlaw'r holh eneidiau santaidh (y oedh yn eu harwein cantho) ag dhaeth i'r orsedhfainc vchaf olh sy' eidho Duw: Ag yno y gorphwysodh heb na derchafu uwchlaw'r Tâd, na aros îs ei law; ond lheteû (os cenna dywedyd felhy) wrth ystlys ei Dâd megys yn gwbl-gyfiwch, ag yn gydradh idho, mewn gogoniant, a mawrolieth.
Gan fod Crist yn Dhuw, ag yn Dhyn; mi a chwenychwn gael gwybod, ydiw ef yn vnic fel y mae fe'n Dhuw, yn eistedh ar dheheu law'r Tâd; yntau mal y mae hefyd yn Dhyn.
Crist fel y mae fe'n Dhuw [Page 53] sydh gydfraint a'r Tâd a lhai na'r Tâd, fel y mae fe'n Dhyn: Etto er hynny, gannad ydiw Crist Duw a Dyn dhau Grist, nag yn dhau berson; [...]nd yn vn vnic Grist, ag vn vnic berson; am hynny y dywedir fod Crist Duw a Dyn yn eistedh ar dheheulaw Duw'r Tâd: Ag felhy mae dynoliaeth [...]yn Harglwydh (sef ei gnawd a'i [...]naid) yn y Dhuwfol orsedh-fainc, [...]g ar dheheulaw Duw'r Tâd, nyd [...]rwy dylyngdra priodawl or eidhynt hwy; ond o ran eu bod yn gynglyn a pherson gwîr a naturiol Fâb y goruchaf Dhuw.
Mi a chwenychwn gael cyffelybiaeth i dheualh hynny?
Cymerwch gyfflybiaeth porphor brenhinawl. Pan fo'r brenin mewn gwisc o'r porphor, yn eistedh yn ei gader, neu ar ei orsedh-fainc frenhinawl a holh dywyssogion y deyrnas, [Page 54] yn eistedh is ei law ef; bydh porphorwisc y brenin yn uwch ei lhe, na'r tywyssogion; am ei bod hi ynghader y brenin ehun, nyd o ran ei bod hi o dylyngdra yn gyd freiniol a'r brenin, on [...] am ei bod hi gwedi ei chyssulhtu ynghyd a'r brenin, megys ei wisc briodawl ef. Felhy cnawd ag enaid Crist, sy'n eistedh uwch-law'r holh Gherubmiaid, a'r Seraphiniaid ynghader Duw eihun, nyd o ran tylyngdra e [...] naturiaeth; ond o ran eu bod gwedi eu cyssulhtu, a'u cyfuno ynghyd a Duw, nyd yn vnic megys y wisc am y brenin; ond trwy ymglymmiad lhawer cynglynach nês, a diogelach, sef drwy gyssylhtiad a chyfundeb personawl mal y dywedwyd vchod.
Eglurhâd y seithfed pwnc.
Odhyno y daw i farnw byw a meirw. Pa bryd y bydh hyno [Page 55] dhyfodiad eyn Harglwydh?
Yn-niwedh y byd: Canys deuelhtwch hyn, fod y byd hwn i dhiwedhu, ag i'w dhifethu gan dhiliw o dân: yr hwn a lysc yr holh betheu sydh ar y dhaear. Ag ni bydh ar ôl hynny, na dydh, na nôs; na phriodi,Mat. 24. 2. Pet. 3. Marc. 13. na merchnatta, na dim aralh a welwch ynawr. Gan hynny yn-nydh diwedh y byd (yr hwn dhydh in wyr neb na'i negosed, na'i belhed) Crist a dhaw o'r nef, i wneuthur y farn fawr gyffredin. A'r geiriau hyn: Odhyno y daw, ydynt i'n rhybudhio, na chredom i neb aralh, a'i galwo eihun yn Grist, ag amcano'n twylho ni, fel y gwna'r Anghrist, tua diwedh y byd. Oblegyd y gwîr Grist nys daw o ryw lwyn dirgel, neu loches dhierth, ond or nefoedh vchaf, yn y fath eglur ogoniant, a mawrhydi, nas galho neb amme, nad efe a fydh: megys y [Page 56] mae'r haul, pan gotto, yn dyfod a'r fath oleuni cantho, nas geilh neb amme, nad yr haul ydiw'r hwn sy'n ymdhangos, ag yn tywnnu:
Paham y dywedwn, y berniff y byw, a'r meirw? Oni fydh pawb y pryd hynny gwedi marw, a chwedi adgyfodi drachefn yn fyw?
Y rhai byw, elhir eu deualh y rhai da, sy'n fyw drwy ennioes ysprydol; a'r meirw y rhai drwg, sy drwy bechod yn Ysprydolfeirw. Ond gwîr yw hefyd, y daw Crist, i farnu'r byw, a'r meirw corphorol: Oblegyd y dythwn hwnnw, lhaweroedh a fydhant gwedi marw, a lhaweroedh erailh a geir yn fyw; a'r hain er eu bod yn fyw,Aug l. 20. de ciuit. Dei c. 20. y dythwn diwedhaf hwnnw, ie, a bagad o honynt yn eingaidh, neu'n blant, etto ynhwy'fydhant feirw bado dyn, mewn mynudyn awr, i dalu'r dheled i ange, ag a adgyfedant ebolydh [Page 57] yn y mann.
Mi a glywais dhywedyd yn fynech, fod pwy bynag sy'n marw mewn pechod marwol, yn myned yn y man, ag yn dhi-aros, i Vffern; a bôd pwy bynag sy'n marw yngrâs Duw, a'i râd, yn myned yn y man, ag yn gyndrychol, i'r Purdan, neu i'r Nefoedh. Pa fodh yntau gan hyn, y mae pawb olh i gael ei barnu dhydh brawd, gan fod y farn wedi ei rhodhi'n barod?
Pôb dyn wrth farw, sy'n cael, ar ei ben eihûn, farn ei enaid, pan elo hi alhan o'r corph; etto gwedi hyn, ar y dydh diwedhaf, bydh barn gyffredin, a chyhoedh i'r holh fyd; o herwydh lhawer o achosion. Yn gyntaf, er anrhydedh i Dhuw; am fod bagad yrowron (wrth ganfod rhai drwg yn lhwydho, ag yn cael eu gwnfyd; a rhai da mewn helbul, ag adfyd) yn medhwl, nad ydiw Duw yn darbod yn [Page 58] dha o'r byd, nag yn ei lywodraethu yn iawn, fel y gwedhae. Ond y pryd hynny, y ceir gweled yn eglur, fod Duw wedi canfod, a nôdi pôb rhyw bêth; ag fel y darfu idho, drwy dhirfawr gyfiownder, rodhi ymbelh wnfyd amserol i rai drwg, yn daledigaeth, a gobrwy, am ryw weithredoedh da, a wnaethent, ni ryglydhent fawr; ag yntef ar odhe, ag ar fedr rhoi vdhynt, ar ôl hynny, boenae tragwydhol, am eu pechodeu marwol. Ag yn y gwrthwyneb, fel y darfu idho drefnu adfyd amserol i rai da, er mwyn eu puro odhiwrth rhyw bechod madheuol, neu i rodhi vdhynt dhefnydh-achos o benyd, ag yntef ar fedr, ar ôl hynny, eu cyfoethogi nhwy, a thryssor anf [...]idrol o ogoniant, am eu gweithredoedh daeonys. Yn ail, er anrhydedh i Grîst, oblegyd gan idho fe gael ei farnu, a'i fwrw drwy anghyfiownder, a [Page 59] bod heb ei adnabod, na'i anrhydedhu gan fagad, fel y buasse gwedhy [...]; cymwys iawn, a rhesymol ydoedh, dhyfod rhyw dhydh, pryd y caphe ei adnabod, a'i anrhydedhu gan yr holhfyd, megys gwîr frenin ag Arglwydh y cwbl olh, nailh o'u hanfodh, neu o gariad. Yn drydydh, er anrhydedh i'r saint, fel y galho pawb weled, fel y darfu i Dhuw ogonedhu'r sawl a gowssont eu herlid, a'u dragio yn y byd yma. Yn bedwerydh, er gwradwydhiad, cywilidh, a gwarthrudh i elynion beilchion Duw. Yn bumed, i gael o'r corph ynghyd a'r enaid ei farn, nailh ai i ogoniant, neu i boenæ tragwydhol.
Eglurhâd yr wythfed pwnc.
Yr wythfed pwnc sy'n dywedyd. Yr wyf yn credu yn yr Yspryt glân. Pa beth ydiw'r Yspryd glân?
Yma'r yspyssir y trydydh person o'r santeidhiaf Drindod, megys yr yspysswyd y person cyntaf, yn y pwnc cyntaf, a'r ail yn y chwêch erailh. Ag nyd ydiw'r Yspryd glân na'r Tâd, na'r Mâb, ond y trydydh person, yr hwn sydh yn dyfod, ag megys yn deilio, neu'n goferu o'r Tâd, ar Mâb; ag y mae'n wîr Dhuw, megys agy mae'r Tâd, a'r Mâb, ie yr vn Duw ag ydynt hwytheu, am fod idho'r vn duwdod, ag sydh i'r Tâd, a'r Mâb.
Mi a chwenychwn gael rhyw gyfflybiaeth, i dheualh hynny.
Y petheu Duwfol hynn, ni elhir mo'u egluro, yn gyflawn, wrth samplau petheu creadigawl; ag yn enweding wrth y rhai corphorol; etto er hynny cymerwch gyfflybiaeth lhyn, a fydho yn cael ei dhwfr gan ryw afônic a'r afon honno gan ryw ffynnon; ag etto, yr vn yw dwfr pôb vn o'r tri. [Page 61] Felhy yn ei herwydh, mae'r tragwydhol Dâd megys ffynnon, yn rhoi ei sudh, a'i sylwedh i'r Mâb, megys i afon, a'r Tâd efo'r Mâb, megys ffynnon, ag a fon, yn cyd-rodhi ei sudh, a'i sylwedh i'r Yspryt glân, megys i lynn: ag etto er hynny, y Tâd, a'r Mâb a'r Yspryt glân nyd ydynt dri Duw, ond vn vnic Dhuw.
Paham yr ydis yn galw'r trydydh person o'r Drindod yn Yspryt glân? Ond ysprydion hefyd, a glânsantaidh yw'r holh Angylion, a'r holh eneidiau bendigedig?
Trwy ragorfraint y gelwir Duw yn Yspryt glân; o ran ei fod ef yn bennaf Yspryd, ag yn lân-santeidhiaf; Ag o ran ei fod ef yn awdur yr holh Ysprydion erailh creâdic, a phôb glân-santeidhrwydh. Ag megys y mae ymysc dynion fagad o dadeu, o wyr santeidh nailh ai o ran eu swydh, [Page 62] neu dhaeoni eu buchedh: sef lhaweroedh o Esgobion daeonys, neu'ffeiriadeu, neu grefydhwyr; ag etto ni elwir yr vn o honynt y Tâd santaidh, ond y Pâb yn vnic; am fod yr henw hwn, drwy ragorfraint, yn gyfadhas idho fe yn vnie, o ran ei fod ef yn benn ar y tadeu erailh igyd; ag oblegyd y dylae fod yn santeidhiaf olh o gwbl, drwy dhaeoni buchedh, megys ag y mae yn vchaf olh wrth ei swydh, yn cyndrychôli, adbresennu, neu'n rhoi ger-bron eyn medhwl berson Crist.
Os ydiw henw'r Yspryt glân yn gyfadhas i Dhuw, drwy ragorfraint; pam yr ydis yn ei ardhodi i'r Yspryd glân yn vnic? Ond Yspryt, a glân-santaidh hefyd drwy ragorfraint yw'r Tâd, a'r Mâb?
Gwîr iawn: Etto, herwydh bod i'r person cyntaf henw priodawl idho eihûn, sef, y Tâd; ag i'r ail [Page 63] person henw aralh priodawl idho yntef, sef, y Mâb; gadawyd i'r trydydh person, megys yn briodawl, yr henw cyffredin, i'w neulhtuo odhiwrth y dhau erailh. Gwybydhwch hefyd, pan alwer y trydydh person yn Yspryd glân, mae vn henw ydiw, wedi ei wneuthur o'r dhau air: Megys pan alwer gwr Ioan-Maria vn henw yw'r dhau air Ioan Maria; er eu bod yn arfer o fod weithiau erailh yn dhau henw: Ioan, a Maria.
Paham y lhunir yr Yspryt glân yn rhith Colommen; yn enwedig uwch ben Crist, ag uwch ben yr Arglwydhes Fair?
Na fedhyliwch fod corph i'r Yspryd glân, nag y gelhir ei weled a lhygaid corphorol: etto'r ydis yn ei lunio felhy, fel y galhom dheualh y petheu, y mae fe'n eu gweithio mewn dynion. Ag o ran bod y Clommen yn [Page 64] wirion, yn bûr, yn zelaidh, ag yn ffrwythlawn; am hynny, ei lhunir uwch ben Crist, a Mair, fel y galhom dheualh, fod Crist a Mair yn lhawn o râd, a rhodhion yr Yspryd glân; ag yn enwedig o santaidh-wiriondeb, puredh, zêl eneidiau, a ffrwythlondra ysprydol, drwy'r hai, yr enilhassont anirif o blant; sef, yr holh ffydhloniaid, a'r Cristnogion da.
Paham y lhunir yr Ysprydglân uwch ben yr Apostolion, yn rhith tafodæ tanlhyd?
Am dhiscyn o'r Yspryd glân ar yr Apostolion, dheng-nhiwrnod ar ôl derchafiad eyn Harglwydh; a'u cyflenwi hwynt a gwybodaeth, cariad perffeith, a pharabl-dhoethineb; gan dhyscu vdhynt barablu ym-mhôb tafod-iaith, fel y galhent bregethu'r ffydh santaidh trwy'r holh Fyd. Ag yn arwydh o'r gweithredoedh rhyfedh [Page 65] hyn, parodh i'r tafodau tanlhyd hynny ymrithio: oblegyd goleuni'r tân sy'n arwydhocau'r a gwybodaeth, a'r doethdra; gwrês y tân sy'n arwydhocau cariad perffeith, a lhûn y tafod sy'n arwydhau'r ffraethineb. Ag am wneuthur o Dhuw ar hyn, gymwynas hyles, a budhfawr i'r Eglwys; am hynny'r ydis yn cadw'r gwyl parchedig, a elwir y Sulgwyn, neu dhigwyl yr Yspryd glân.
Beth' arwydha hyn a dhy wedir yn y nawed pwnc: Yr Eglwys lân Gathôlic, Cyffredinrw y dh y Saint?
Dymma dhechreu'r ail rhan o'r Gredo: y rhan gyntaf sy'n perthyn i Dhuw; a'r ail i'r Eglwys, priod ferch Dhuw. Ag fel yr ydym yn credu, bôd yn Nuw vn Duwdod, a thri pherson; felhy yn yr Eglwys, yr ydym yn credu, ei bôd hi yn vn Eglwys, a [Page 66] bôd idhi dair brif-rhodh rhagorawl: y gyntaf yn perthyn i'r enaid, sef, madheuant pechodeu; yr ail, i'r corph, sef, adgyfodiad y cnawd; a'r drydedh i'r corph a'r enaid ynghyd, sef y bywyd tragwydhol: mal y cawn weled yn y pynciau sy'n canlyn.
Eglurhewch i mi, er Duw, air-yng air y pwnc cyfan, ag yn gyntaf, Beth' arwydha'r gair hwn. Yr Eglwys?
Mae'n arwydhocau Cyd-alwa, neu Gynnulheidfa o dhynion gwedi eu bedydhio, yn cyfadhe, ag yn pryffessu ffydh, a chyfreith Crist, dan vfudhdod y pen-bugail, Escop Rhufain. Ehi'elwir Cyd-alwa, am nas ganed neb o honom yn Gristnogion, mal yn ganed ni yn Gymru, rhai erailh yn Italiaid, ffrancod, neu o ryw wlâd aralh: Ond yn galw a wnaeth Duw, i fod yn Gristnogion. Ag i'r gynnulheidfa [Page 67] hon yr ydym yn dyfod i mewn, drwy fedydh; yr hwn yw megys porth, neu dhrws yr Eglwys: Ag i fod o fewn yr Eglwys, nyd yw dhigon cael bedydh, ond rhaid yw credu hefyd, a chyfadhe ffydh a chyfreith Grist, mal y dyscont i ni y Bugeiliaid, a Phregethwyr yr Eglwys hon; ag nyd yw hyn chwaith lawn-dhigon, ond rhaid yw gyda hynny, fyw dan vfudhdod Pâb Rhufain, megys tan Vicar Crist, sef ei gydnabod a'i gyfri yn bennadur vchaf, yn lhe Crist ar y dhaear.
Os cynnulheidfa odhynion yw'r Eglwys, padhelw ne ym-mha ystyr y gelwir yr adeiladau'n Eglwys, lhe i dywedir Offeren a gwassanaeth Duw?
Am fôd y ffydhloniaid (yr hai ydynt y wîr Eglwys) yn arfer o ymgyfarfod ynghyd, yn yr adeiladau hynny, i gyflowni rhan, a dyled-swydh [Page 68] Cristnogion; am hynny, gelwir yr adeiladau yn Eglwysi hefyd; yn enwedic pan font wedi eu hardhodi, a'u cyssegru i wassanaeth Duw. Eithr yn y pwnc hwn o'r Gredo, nyd ydym yn crybwylh nag yn sôn am yr Eglwys a wneir o goed, ag o gerrig; ond am yr Eglwys fyw, sef, y rhai ffydhlon a fedydhiwyd, ag sy'n vfudh i Vicar Crist, fel y dywedassom:
Paham y dywedir y Eglwys, yn anad yr Eglwysi; gan fod bagad o Gynnulheidfeudh o'r ffydhloniaid, mewn amryw fanne o'r byd?
Am nad ydiw yr Eglwys ond vn, er ei bod hi'n cynwys yr holh ffydhoniaid, sydh ar lêd trwy'r holh fyd: Ag nyd yn vnic yr hai sydh yrowron yn fyw, ond y rhai a fuont, er dechre'r byd; a'r hai a fydhant hyd ynniwedh y byd. Ag am hynny, dywedir fod yr Eglwys nyd yn vnic yn vn, [Page 69] ond y Gathôlic hefyd, sef Cyffredinol, yn cerheudhyd i bôb mann, ag yn cylchu'r holh amseroedh.
Pa reswm sydh i alw'r Eglwys yn vnic vn, a hithe yn cynwy y fath niferoedh o dhynion?
Ehi'elwir yn vn, am fod idhi vn vnic penn, yr hwn yw Crist, ag yn ei lê. Pâp Rhufain: Ag o ran ei bod hi hefyd yn byw trwy'r vn vnrhyw Yspryd, a than yr vn vnrhyw gyfreith. Megys y gelwir Teyrnas yn vn, a fo idhi vn vnic frenin, a'r vn vnrhyw gyfreit [...]; er bôd yndhi fagad o wledydh, a lhawer mwy o dhinassoedh, a threfydh.
Paham y dywedir fod yr Eglwys hon yn lân, neu'n santeidh, gan fod yndhi fagad o dhynion diriaid, drwg?
Ehi'elwir yn lân santaidh, am dri achos; Yn gyntaf, am fod ei [Page 70] phen hi (yr hwn yw Crist) yn lanaf, ag yn santeidhiaf olh: megys y dywedir fod gwr, yn wr glân howdhgar, o bydh ei wyneb ef felhy; er bod idho ryw fys gwyrgam, neu ryw graith hagr, a macul ar ei dhwyfron, neu ar ei yscwydh. Yn ail, am fod yr holh ffydhloniaid yn santaidh yn eu ffydh, a'u pryfess; gan fod genthynt yr vn wîr a duwfol ffydh, a'u bod yn pryfessu'r Sacrafenneu, a'r dhedf, neu'r gyfreith gyfiownaf olh, yr hon nyd yw yn gorchymmyn dim, ond petheu daeonys, nag yn gwahardh dim, ond petheu drwg. Yn drydydh, am fod yn yr Eglwys bôb amser, rai gwîr santaidh, nyd o ran eu ffydh, a'u pryffess yn vnic; ond o ran eu rhinwedhe da hefyd, a'u cenhedhfeu: lhe ni alh fod yr vn gwir sant ymysc Tyrciaid, Haredigiaid, a'r cyfryw boblach, sy'n byw alhan o'r Eglwys.
Beth yw ystyr Cyffredinrwydh y Saint?
Dangos bod yr Eglwys gwedi ei chyfuno, yn y cyfryw fodh, ag y mae pôb aelod yndhi hi, yn gyfrannog o dhaeoni'r aelodeu erailh. Ag fethy er maint y rhifedi o Gristnogion mewn gwledydh pelh, ag er nad adwaenon monynt, er hynny mae eu fferenne, a'u gwedhie, eu gwassanaeth a'u gweithredoedh da nhwy, yn gynhorthwy hefyd i ninnau. Ag nyd ar y dhaear yma yn vnic, y mae'r cyffredinrwydh hyn; eythr mae'n Offerenne, eyn gwedhie; a'n gweithredoedh da ni, yn cynhorthwyo hefyd y sawl sy'n y Purdan: Agwedhi'r sawl sydh ym-Mharadwys sy'n gynhorthwy i ni, ag i eneidiau'r Purdan.
Os gwir hynny, nyd rhaid na gwedhio dros neb ar ei ben eihûn, na pheri dywedyd Offerē dros enaid hwn, [Page 72] neu'r lhalh ym-Mhurdan, gan fod y daeoni igyd yn gyffrêdin.
O nyd gwir mo hynny, o herwydh er bod y'fferen, a'r wedhi, a gweîthredoedh da erailh mewn modh, ag ystyr, yn gyffrêdin i bawb; etto er hynny maent yn ychwâneg o gynhorthwy i'r sawl y gwneler nhwy trosdynt, ar eu penneu euhunain; nag i rai erailh.
Beth am rai gwedi eu'scymuno? Ydynt hwythen hefyd yn gyfranogion o dhaeoni'r ffydhloniaid, ynte nyd ydynt dhim?
Am hynny 'gelwir hwynt yn esgymmun, am eu bod alhan, a maes o gymmun, neu gyffredinrwydh y Saint; a'u bôd megys canghennau gwedi'scythru odhiwrth y pren byw, neu aelodau gwedi eu gwahânu, a'u torri ymeith odhiwrth y corph, y rhai nyd ydynt gyfrannog o'r sugun da, a [Page 73] rennir rhwng y canghennæ erailh, neu rhwng yr aelodau, sydh ynglyn wrth y corph. Ag o hyn y maei chwi gynnulh, faint y brî,Cypr. de vnit. Eccles. a'r brâw a dhylai fod o'scymundod; gan na dhichon y neb ni bo'r Eglwys idho'n Fam, gael mo Dhuw idho'n Dâd.
Wrth hynny, mae'r yscumunedig alhan, a maes o'r Eglwys, megys yr Idhewon, a rhai anffydhlon erailh.
Gwîr iawn; Ond hyn sydh o ragor, fod yr I dhewon alhan o'r Eglwys, am das deuthant i mewn idhi erioed, gan na chowssont fedydh. Yr Haeredigiaid, yr hai a gowssont, ond a golhassont eu ffydh, ydynt alhan; am vdhynt ffoi ymeith i faes, a myned alhan, o'u gwaith euhunain; ag o herwydh hynny mae'r Eglwys drwy amryw gospedigaeth, yn eu cymmelh i dhychwêlyd ailwaith i'r iawn ffydh, [Page 74] fel y bydh bugail a'i ffon, yn peri i'r dhafad droi yn ei hôl, a fydho wedi ffo ymeith odhiwrth y praidh defaid, neu alhan o'r gorlan. Eythr yr escymunedig, am gael o honynt fedydh, a bod genthynt ffydh, a dheuthant i mewn, ag nyd aethont alhan o honynt euhunain, ond eu taflu alhan a wnaed, heb yn dhiolch vdhynt; megys y teifl bugail alhan i faes y dhafadan glwyfys, glafr lhyd; i fod yn fwyd a phorthiant i fleidhiaid. Ond nad ydiw'r Eglwys yn bwrw alhan yr escymunedic, arfedr vdhynt drigo alhan yn oestadol, ond i'w denu i edyfeirwch am eu han-vfudhod, fel y delont yn ostyngedic, i ymbil am ymchwelyd, ag am gael eu derbyn i fynwes i mam, i gymmun, a chyffredinrwydh y Saint.
Eglurhâd y degfed pwnc.
Beth yw ystyr a deualh y geiriau [Page 75] hyn; Madheuant pechodæ. Yr [...]ai ydynt y degfed pwnc?
Dymma'r cyntaf o'r tri prif [...]haeoni, a geir yn y lân Eglwys: Er mwyn yr hyn, rhaid i chwi wybod, y genir yr holh dhynion yn bechaduri [...]id, ag yn gasseuon i Dhuw; a'u bod fel y cynydhont, yn myned waethwaeth beunydh, nys vdhynt (drwy râs Duw) gael madheuant o'u pechodæ, a dyfod i fod yn anwylion, ag yn blant i Dhuw. A'r grâs dirfawr hon, nyd ydiw i'w chael yn vnlhe alhan o'r lân Eglwys: yn yr hon y mae'r Sacrafenneu santaidh, yn enwedig Bedydh a Phaenyd, megys medhiginiaethæ, a chyfaredhau nefawl, yn gwared dynion o'r holh glefyde'sprydol, yr hai ydynt eu pechodeu.
Eglurwch er Duw, yn fanylach, faint y daeoni hyn o fadheuant pechodæ.
Nyd oes yn y byd dhrwg, n [...] dyhirwch sydh fwy, a gwaeth na phechod; nyd yn vnic, o ran bôd holh dhrygæ erailh y byd hwn, a'r byd nessaf, yn ei dhilyn, ag megys yn tardhu, ag yn cynhyrchu alhan o hono; ond an fod y pechod hefyd, yn gwneuthu [...] dyn yn gâs-dyn i Dhuw; yr hwn'eilh wneuthur a fynno, heb dhichon o ne [...] ei wrthwynebu, na sefylh yn ei erbyn. Pwy'eilh dhiffyn, a s [...]fylh ar blaid y dyn, y bo Duw yn dhiglhon wrtho? Ag yn y gwrthwyneb, nyd oes yn y byd dhaeoni mwy, a gwelh na bôd mewn grâs a ffafor Duw; o herwydh pwy'eilh niwed i'r neb, y bo Duw ar ei blaid i'w dhiffynnu, gan fod pôb peth ar law yr vn Duw? Ag i fyrhau, chwi'wydhoch nad oes ymysc y petheu corphorol, dhim anwylach, nag anhowsach eich ei hepcor, nar ennioes, a'r hoedlbyw; o ran ei fod yn sylfaen [Page 77] o'r holh betheu da hoff-anwyl erailh; [...]g nad oes dim gassach nag ange, a [...]arwolaeth; o ran ei bôd yn wrthwy [...]eb i'r ennioes: Felhy, gan fod pechod [...]n farwolaeth ysprydol i'r enaid; a ma [...]heuant pechôdæ yn rhoi ennioes i'r [...]nrhyw enaid; hawdh i chwi fedhwl [...]aint y daeoni, a dherbynnir yn yr [...]glwys, yn yr hon yn vnic y mae ma [...]heuant pechodæ.
Eglurhâd yr vnfed pwnc ar dhêg.
Beth yw Adgyfodiad y cnawd. Yr hwn yw'r vnfed pwnc ar dhêg?
Dyna ail brif-dhaeoni'r lân Eglwys, sef bôd dychweliad ailwaith i fyw i'r heini olh, a fônt wedi cael madheuant o'u pechodæ.
A'r sawl sydh alhan o'r Eglwys, neu heb gael madheuant o'u pechôdæ, oni dhychwêlant hwythe hefyd [Page 78] ailwaith i fyw?
1. Cor. 15.Pawb olh y rhai da, a'r hai drwg a dhychwêlant i fyw'r bywy [...] naturiol: Eythr o ran bôd y rhai drwg i adgyfodi i boene tragwydhol, heb fod i fwynhau dim cyssur,Amb. de fide resur. Iob. 1. na dae oni fyth: o herwydh hynny, en byw nhwy a elwir marwolaeth oestadol, yn hytrach na gwîr fywyd. Ag felhy, y gwîr adgyfodiad i fywyd dymunedig, blyssadwy, a berthyn yn vnic i'r hai da, a font yn dhi-bechod wrth adgyfodi.
Mi a chwenychwn gael gwybod, ai yr vn cyrph ag sydh gennym ynawr, a adgyfodan drachefn, ynt au cyrph erailh tebig i'r hain?
Diamme yw mae'r vn cyrph a adgyfodant, ag oni bae hynny, ni bydhe hi wîr adgyfodiad, oni chyfode'r vn corph ag a gwympodh, ag om dychwele i fyw yr vn hwnnw, ag a fu farw. Drachefn, yr adgyfodiad a [Page 79] wneir i gael o'r corph fod yn gyfrannog o'r gobrwy, neu'r gospedigaeth; fel y bu'n gyfrannog o'r gweithredoedh da, neu'r pechôdæ: wrth hynny, rhaid idho fod yr vn corph, oblegyd ni rygledhe gorph aralh na'r gospedigaeth, na'r gobrwy.
Pa fodh y mae; n bossibl, a galhadwy i'r corph hwnnw dhychwelyd i fyw, a losced, ag a wasgared ei ludw gyda'r gwynt, neu gyda ffrydæ'r afonydh?
Am hyn y dyweded yn-nechreu'r Gredo, Aug. l. 22. de Ciuit. Dei c. 21. fod Duw yn holh alhuawg; am ei fod yn galhu gwneuthur y peth a fo'n ymdhangos yn analhadwy, neu am-mhossibl yn eyn golwc ni. Eythr os ystyriwch wneuthur o Dhuw nef, a daear o dhim; ni bydb anawdh i chwi gredu, y geilh ef aildrefnu, y peth a wneithid yn lhudw.
Mi a chwenychwn gael gwybod, [Page 80] a adgyfodant gwyr yn wyr, a gwragedh yn wragedh, yntau'r cwbl yr vn ffunyd?
Aug. l. 22. de Ciuit. Dei c. 21.Angenrhaid yw credu y bydh gwyr yn wyr, a gwragedh yn wragedh; Oblegyd oni bae hynny, ni bydhent yr vn cyrph ag oedhent o'r blaen: Ag ni a dhywedassom eusys, y bydhent yr vn cyrph. Gwîr yw, na bydh yn y byd nessaf, dhim cenhedlu plant; na gwyr a gwragedh yn briod a'u gilydh. Er hynny, fe fydh y rhagorieth sydh ynawr, rhwng meibion a merched, fel y capho pôb vn fwynhau gobrwy cyfadhas i'r rhinwedheu, a arferodh yn ei ryw a'i rith eihûn. Ag fel y bydh hyfryd y golwg, weled vrdhuniant y Merthyri, a'r Cyffessoriaid: Felhy hefyd, gwych a fydh gweled gogoniant y Gweryfon, ag uwch law pawb, Mam eyn Harglwydh.
Er Duw dywedwch i mi, ymmha [Page 81] oedran, a mainttoli corphorol, yr adgyfodwn ni; gan fod rhai yn marw yn blantos, rhai erailh yn wyr iefenc, a rhai erailh yn gleiriachod hên?
Pawb a adgyfodant yn y maint a fu, neu a fuasse genthynt yn oedran tair ar dhêg ar vgein; sef, yn yr oed yr adgyfodh eyn Harglwydh. Ag felhy'r plant a adgyfodant o'r maint a fuasse genthynt, pei daethent i oed tair ar dhêg ar vgein; a'r henafgwyr a adgyfodant ym-mlodae'r oedran a fu genthynt, pan oedhent yn dair a'r dhêg ar vgein. A'r nêb a fu yn y byd yma yn dhalh, yn grwmm, neu'n gorryn, neu ag arno ryw anaf gwrthyn aralh, a adgyfyd yn holh-wych, dhianaf, ag yn gyflawn berffeith: oblegyd gweithredoedh Duw sydh berffeith. Ag felhy yn yr adgyfodiad (yr hon a fydh ei weithred briodawl ef eihun, [Page 82] efe a welha holh feiau, a diffic natur.
Eglurhâd y deudhegfed pwnc.
Beth yw ystyr a deualh, y Bywyd tragwydhol: yr hwn yw'r pwnc diwethaf?
Mae'n arwydhocau cyflawn dhedwdhwch enaid a chorph, yr hwn yw'r prif-dhaeoni pennaf, a'r pennod-diwedh eithaf, a gerheudhir, ag a dheir o hyd idho, wrth fod o fewn yr Eglwys.
Er Duw adrodhwch i mi yn fanwl, pa fath dhaeoni a fydh yn y bywyd tragwydhol.
Mi adrodhaf i chwi'r dirgeledh hwn, wrth gyfflybiaeth petheu daeorol. Chwi'wydhoch, yn y byd yma, y chwenychir cael corph iach, gwedhus, bywiog, a grymmys; ag enaid dhoeth, bwylhog, a dyscedic, o ran y deualhedh; ag o ran yr ewlhys, [Page 83] ei chael hi yngyflawn o bob rhinwed. Athiwnt i hyn, fe'chwenychir cael y da odhialhan, cywaeth, anrhydedh, galhu a dyfyrwch. Yn y bywyd tragwydhol bydh i'r corph yn lhe iechyd, an-farwoledigaeth, gyda bôd yn anodhefadwy; sef, yn y modh na alho dim idho niwed; yn lhe gwedhusdra, a glendid, bydh idho egluredh, sef dyscleirio megys yr haul: yn lhe bywiogrwydh, bydh idho'r fath rodh o fuandra cyflym, fel y dichyn yssymyd mewn mynudyn awr, ie mewn lhai na throead lhaw, o'r nailh gwrr eithaf o'r byd, i'r cwrr aralh; ag odhiar y dhaear i vcheldra'r nefoedh, heb dhim blindra; yn lhe grymysdra, bydh idho'r fath gryfdwr, fel y galho wasneuthu'r yspryd, yn dhi-boen, ymmhôb peth a fo rhaid, heb orfod na bwytta, nag yfed, na chyscu, na gorphywys; heb ofni, nag arswydo dim. [Page 84] Ag o ran yr enaid, bydh y deualhedh, yn lhawn gwybodaeth; o herwydh idho fod yn gweled achos yr holh betheu, yr hwn yw Duw: Yr ewlhys a fydh mor gyflawn o dhaeoni, a chariad perffeith, mal nas dichon byth mwy, dramgwydho i bechod madheuol. Cywaeth y gwynfydedig Saint a fydh bôd yn dhi-angen,Luc. 2. Apoc. 5. cap. 20. dhi-eisie, yn medhu yn-Nuw pôb daeoni. Eu anrhydedh nhwy a fydh, bod yn etifedhion i Dhuw, ag yn gydradh i'r Angylion, bod yn Frenhinoedh a'ffeiriadau ysprydawl yn dragywydh. Eu galhu nhwy a fydh, bod yn berchennogion-Arglwydhi o'r cwbl olh,Aug. l. 22 de Ciuit. Dei c. 30. a galhu gwneuthur hyn olh a fynnont; o herwydh ynhwy fydhant yn vn a chyttun ag ewlhys Duw, yr hon ni eilh dim ei gwrthwyneb, na'i hattal, na'i rhwystro. I fyrhau'r chwedl, eu dyfyrrwch a fydh anianol, an-adrodhadwy; oblegyd [Page 85] pôb galhuedh or eidho'r enaid, a'r corph, a geiff fwynhau ei gyfarbeth cyfadas; o'r hyn y digwydh vdhynt, fodlonrwydh cyflawn, hedhwch a thannhefedh, ni chaed erioed dhim praw o'u chyffelyb; dyfyrrwch, cyssur, a lhawenydh tragwydhol.
Os ceiff pawb y petheu hyn i gyd olh, ag o bydh pôb vn yr vn modh yn lhawen-dhifir, ag yn lhawn fodlon; wrth hynny ni bydh ym-Mharadwys neb dhedwdhach na'u gilidh.
Bydh yn dhiammeu: A'r hwn a ryglydhodb fwy yn y byd yma, a geiff yno'r gobrwy, a'r tâl yn fwy, a bôd yn dhedwdhach. Etto er hynny, ni bydh na chenfigen, nag an fodlonrwydh gan neb: Oblegyd pôb vn a fydh cyn lhowned ag a ganno. Eythr mwy a enniff, ag a wedh yn y rhai a ryglydhassont fwy, ag felhy'r heini a fydhant fwy eu gogoniant. Megys pette [Page 86] dâd, ag idho fagad o blant, heb fod o'r vn faint a'u gilidh; ond y nailh yn fwy ag yn dalach na'r lhalh, yn ôl rhagor eu hoedran; a chwedi trefnu i bôb vn o honynt wisc o frethyn-aur gymwys, a chym-mhesur i bôb vn, wrth ei hyd a'i faint: Di-amme y bydhe wisc y rhai mwyaf yn fwy, ag yn dhruttach; ag etto pôb vn a fydhe fodlon o'i wisc, a'i dhilhad eihun, heb flyssio, na chwenychu o'r hai lheiaf newid am wisc y rhai mwyaf, gan nas bydhe gymmen a chymwys vdhynt.
Paham y gelwir dedwdhwch Paradwys, yn fywyd tragwydhol? Oni bydh y colhedig hefyd yn vffern, yn byw yn dragwydhol?
Y petheu a font yn galhu symud o honynt eu hunain, a dhywedir eu bod yn fyw, mewn priodawl ymadrodh; Ag felhy'dywedir mewn math ar destyn, fod dwfr ffynnon oer yn [Page 87] dhwfr byw, am ei fod yn yssymud; a bod dwfr y pylheu, yn farw, am ei fod yn aros yn ei vnlhe, heb yssymud. Felhy'dywedir fod i Saint y nef fywyd tragwydhol, am eu bôd a phôb galhuedh sydh eidhynt, odhimewn, ag odhialhan, yn galhu gwneuthur a fynnont, yn dhi-rwystr; a'u bod felhy, yn oestadol, yn eu harfer wrth eu bodh, ag fel y chweny-chont. Eythr y rhai colhedig yn vffern, er eu bod yn byw, am na dherfydh byth vdhynt nychu, a chael marw; er hynny, e dhywedhir fod vdhynt farwolaeth tragwydhol; am eu bôd ynglyn a'r tân, a'r gospedigeth, ag yn gorfod vdhynt, dhiodhe'n oestadol y peth nys mynnent; heb alhu vn amser wneuthur dim a chwenychent. Gan hyn y Saint yn y nef, sy'n mwynhau pôb daioni, heb gymysc o dhrwg, na malhedh, ar colhêdig yn vffern, sy'n gorfod arnynt [Page 88] dhiodhe pôb drwg, ag an-esmwythdra, heb alhu fyth arfer, na chyflowm dim cyssurol a chwênychont.
Beth yw ystyr Amen ynniwedh y Gredo?
Dangos y mae Amen yn hyn o fan, mae dyna'r gwirionedh; sef; hyn olh a dhywetpwyd sydh wîr diogel, am-mhetrys, di-amme.
Eglurhâd Gwedhi eyn Harglwydh. PENNOD. 4.
DYSCAIS trwy râd a grâs Duw, yr hyn sydh i mi gredu; a blyssio'r wyf i chwi adrodh i mi ynawr, hyn sydh i mi i'w obeithio, a'i dhymuno ne'i ofyn, a thrwy ba gyfrwng y mae i mi gael fyng-ofyn, a dyfod o hyd i'm dymuniad.
Gwedhi eyn Harglwydh, yr hon a elwir y Pader Noster, sy'n cynnwys hyn olh, yr ydych ynawr yn ei chwenych. Oblegyd yn y wedhi hon, y dangosir beth a dhylem ei dhymuno, a'i ofyn; a chan bwy mae i ni ofyn; a'r vn wedhi hon ehun, yw'r cyfrwng a'r modh i gael eyn gofynniad.
Pa vn yw gwedhi eyn Harglwydh?
Hon yw hi. Eyn Tâd ni, yr hwn wyt yn y nefoedh, Santeidhier dy enw di: Delid dy deyrnas di: Gwneler dy'wlhys di, megys yn y Nef, hefyd ar y Dhaear. Dod i ni hedhiw eyn bara beunydhol: A madhe i ni eyn dyledion, megys yr ydym inneu yn madhe [...]'n dyledwyr. Ag na dhwg nyni i brofedigaeth. Ond gwared ni rhag drwg. Amen.
Am ba achos yr ydychi yn [Page 90] gwneuthur mwy o gyfri o'r Pader, nag o'r holh wedhiæ erailh?
Yn gyntaf, am dharfod i Grist eihûn (yr hwn yw'r prif dhoethineb) wneuthur, a chyfansodhi'r wedhi hon. Yn ail, am fod y wedhi hon yn ferr, ag o ran hynny, yn haws ei dyscu, ar dafod laferydh, a'i dal yn eyn côf; a chyda hynny, am ei bod yn lhawn sylwedh,Aug. ep. 121. c. 12. a deunydh: Canys ei bôd yn cynwys hyn a dhyleid ei dhymuno,Conc. Tolet. 4. c. 9. Conc. Rheinens. can. 2. Cyp. ser. 6. Aug. Enchir. 71. a'i ofyn gan Dhuw. Yn drydydh, am ei bôd yn hyles ffrwythlonaf gwedhi olh, gan fod yr hwn a'i gwnaeth, yn gyfryngwr trossom, gyda bôd yn farnwr, neu ustys arnom; ag o ran hynny, yn yspys-gyfarwydh o'r modh rheitiaf, a goreu i ni ofyn; i fod yn dhi-nâg o'n arch, a'n gofynniad. Yn bedwerydh, am ei bôd yn angrheitiaf gwedhi olh, gan fod pôb Cristion yn rhwymêdig o'i medru, a'i [Page 91] harfer bôb dydh: o herwydh yr hyn, y gelwir hi Gwedhi beunydhol; sef, gwedhi i'w dywedyd beunydh.
Dechreuwch ithe (yn enw Duw) eglurhau i mi'r geiriau cyntaf hynny. Eyn Tâd ni, yr hwn wyt yn y nefoedh.
Megys rhaglith ferr yw hyn o eiriau, neu dharpariad, ag ymbarattoiad i'r wedhi. Oblegyd wrth dhywedyd fod Duw yn dâd i ni, yr ydym yn cynhydhu mewn hyfodra, a hyder i wedhio arno: Wrth dhywedyd i fod ef yn y nefoedh, yr ydym yn cofio fod yn rhaid myned atto, yn fawr eyn hofn, a'n gostyngeidhrwydh; gan nad Tâd daearol ydiw, ond Tâd nefawl. Hefyd wrth dhywedyd ei fôd ef yn Dâd, ni ystyriwn ei fod ef yn ewlhys gar barod, i genhiadu'r peth yn bôm a'n bryd ar ei ofyn; wrth dhywedyd ei fod ef yn y nefoedh, mal Arglwydh, a [Page 92] pherchennog yr holh fyd, yr ydym yn deualh y dichon wneuthur hyn a fynno. Ag i fyrhau'r ymadrodh, wrth dhywedyd ei fod ef yn Dâd, ni a gofiwn eyn bod yn blant idho, ag yn etifedhion Paradwys: wrth dhywedyd ei fod ef yn y nefoedh, ag ystyrio'n bôd ninneu ar y dhaear; y cofiwn nadydym etto mewn medhiant o'n etifedhiaeth, ond fel dieithred yn ymdeithio yng-wlâd eyn gelynion: ag o ran hynny, mewn angen o'i gymhorth a'i gynhorthwy.
Er Duw Moeswch i mi gael adhysc ag adrybedh o bôd gair ar ei ben eihun.
Y gair Tâd, er ei fôd yn gyfadhas i Dhuw, fel y mae fe'n Dâd i'r holh betheu, drwy greadwriaeth; er hynny yn y wedhi hon, e dhywedir am Dhuw, fel y mae fe'n Dâd i Gristnogion da, drwy ansodhiad. [Page 93] Gwîr yw, y geilh pechaduriaid,Cyp. Ser. 6. Aug. Ser. in monte. c. 8. Greg. Nyss. ora. 2. de ora. Dominica. Hier. in ep. ad Damasū de filio Prodigo. a font yn chwenych ymadel a'u pechod, ag ymchwelyd yn blant i Dhuw, dhywedyd hefyd Eyn Tâd ni: Yr heini yn vnic ni alhant dhywedyd y Pader Noster yn iawn (a dywedyd y gwîr) y sawl nyd ydynt, ag nyd oes yn eu bryd, mor bôd yn blant i Dhuw, ond byw heb fedhwl dim am droi atto.
Pam y dywedir Eyn Tâd ni. Ag nyd Fy-Nhâdi?
Dywedir Eyn Tâd ni. Fel y deualhom, eyn bôd igyd yn frodur, ag y dylem, megys brodur, garu'r nailh y lhalh, a bôd yn gyttûn, pawb ai gilidh;Cypr. ser. 6. Amb. lib. 1. de Epist. ad Corn. c. 9. gan eyn bôd yn blant i'r vn Tâd. Dywedir hefyd Eyn Tâd ni. l'n dyscu, mae gwelh yw gwedhi gyffrêdin, na'r neulhtuol, a budholach i'r gwedhiwr eihun. O herwydh pan fo pawb yn dywedyd Eyn Tâd ni; bydh pôb vn, yn gwedhio dros bawb; a phawb yn gwedhio [Page 94] dros bôb vn.
Pam y dywedir: Yr hwn wyt yn y nefoedh? Onid ydiw Duw ym-mhôb man?
Dywedir fod trigfa Duw yn y nefoedh,Greg. Nyff. ora. in orationem Dominicam. Chrys. in Matth. 6. nyd o ran nad ydiw Duw ym-mhôb rhyw fangre; ond o ran bod y nef yn odidocaf man ar fyd, lhe i dyscleiria fwyaf olh fowredh, galhuedh, a doethineb Duw. Ag i orphen, yno mae fe'n ymdhangos eihun i'w weled, wyneb-yn-wyneb i'r Angylion, a Dynion gwynfydedig. Gelhir hefyd dhywedyd fod Duw yn y nefoedh, am ei fod yn preswylio, ag yn aros mewn modh enwedig yn yr Angylion, a'r Saint o Dhynion, yr hai ydynt nefoedh ysprydawl.
Awn belhach ynghyd a'r Arch neu'r Gofynniad cyntaf; Beth yw astyr Santeidhier dy henw di?
Henw, yn hyn o fan sy'n arwydhocau'r [Page 95] glôd, ar gair a fo ar lêd, neu'r cydnabydhiaeth; fel pan dhywetom, fôd gwr yn fawr ei henw, neu'n enwog, am fod bagad yn ei adnabod; neu fôd idho enw da, neu enw drwg, wrth fel y bo'r glôd, a'r gair am dano, nailh, ai da, ai drwg; pan fydho'n gyhoedh i fagad, a lhaweroedh yn ei foliannu, fel pendefig, a gwrda; neu yn ei dhychan, a'i ogânu, fel dyn drwg, a gwâs diffaeth. Gan hynny, Santeidhio enw Duw, Aug. l. 2. de ser. in monte. Cassian. col. 9. Ber. ser. 6. de Quadr. nyd yw dhim amgen na hau ar lêd, a gwneuthur yn gyhoedh trwy'r byd, wybodaeth, a chydnabydhiaeth o Dhuw, a chadw'r vn wybodaeth o hono yn bûr, ag yn lân-santaidh yng-halonnae, a geneu dynion, fel y mae hi'n bûrlan yndhi eihunan. A chan fod yn y byd fagad o anffydhloniaid, y rhai nyd adwaenant mo Dhuw, a lhaweroedh o Gristnogion malh, a drwg, yn ei gablu [Page 96] a'i dhifenwi; am hynny plant Duw (yr hai sydh ofalys a mawr eu zêl am anrhydedh eu Tâd) a wedhiant yn ystig, ag yn daer-chwenychys am gael o'i enw ef ei santeidhio, sef gael o hono ei adnabod trwy'r holh fyd; ei adhôli, ei gyffessu, ei foliannu, a'i glôd-fendithio megys ag y gwedhe.
Os chwenych yr ydym gael o Dhuw ei adnabod, a'i foli gan Dhynion; Ond nês, a gwelh a fydhe ofyn, ag erchi hynny gan Dhynion, na chan Dhuw?
Ni dhichon dyn o hono eihun, nag adnabod, na moliannu Duw: ag am hynny, yr ydym yn erfyn, ag attolwg ar Dhuw, fod yn wiw gantho fe weithio, trwy ei santaidh râd, yn y cyfryw fodh, ag yr ymchwelont anffydhloniaid, a pherchaduriaid erailh atto, fely galhont wedi vdhynt droi; dhechreu cydnabod, a chlôd-fôli ei [Page 97] enw santaidh ef.
Paham y dechreuir y wedhi drwy dhymuno a gofyn gael o enw Duw ei santeidhio?
Yr ydym yn rhwymedig i garu Duw o flaen, ag uwch-pen pôb peth, îe yn fwy na ny-ni eyn hunain: Ag am hynny y peth cyntaf a'r mynychaf a dhylem ei chwenych, yw gogoniant Duw; er mwyn yr hyn y creawyd ni, ag y rhodhwyd i ni resswm, fel y galhem adnabod, a moliannu Duw; yn yr hyn beth y cynhwysir eyn prif-dhaeoni, a'n gwnfyd pennaf; mal yr adrodhaf cyn nemor o ennyd.
Eglurhewch i mi ynawr yr ail arch. Deled dy deyrnas.
Yn y gofynniad yma, yr ydym mewn pryd ag amser cyfadhas, yn dymuno eyn iechydwriaeth eyn hunain, ar ol dymuno gogoniant Duw yn y cyntaf.
Beth yw Teyrnas Dhuw?
Teyrnas Dhuw a ethir ei deualh dair phordh. sef, Teyrnas o naturiaeth, Teyrnas o râd, a Theyrnas y gogoniant. Y Deyrnas o naturiaeth, yw'r hon lhe mae Duw yn rheoli, ag yn lhywodraethu'r holh greaduriaid, megy [...] prif Arglwydh, a pherchennog yr holh betheu. Oblegyd er bod dynnion drwg yn gwneuthur drigioni, heb gadw cyfreith Dhuw, er hynny mae Duw'n teyrnassu arnynt, o herwydh pan fynno, mae fe'n attal, ag yn rhwystro eu bwriadeu, a'u hamcan [...]u. Ag er godhe honof vdhynt weithiau gael eu hwlhys, etto ar ol hynny, mae f [...]'n eu cospi nhwy [...]yd-adref; ag nyd oe s neb a eilh wrthwynebu, neu ymoreth yn erbyn ei'wlhys ef, na gwneuthur dim ond hyn y bo fe'n ei drefnu, n [...]u'n ei gynwys, a't odhe. Trwy'r D [...]yrnas o râd, y mae Duw yn rheoli, [Page 99] ag yn lhywodraethu eneidiau, a chalonnae Cristnogion da, gan rodhi ysprydolieth, a grâs i'w wasneuthu ef yn ewlhysgar, ag i argeisio ei ogoniant ef o flaen pôb peth. Teyrnas y gogoniant, a fydh yn y byd nessaf, ar ôl dydh farn; herwydh y pryd hynny y teyrnassa Duw, a't holh saint ar yr holh greaduriaid heb dhim rhwystr, na gwrthwyneb vdhynt. Canys y pryd hynny y dygir odhiar y Cythreuliaid a dynion drwg, bôb galhuogrwydh, ag a'u caethiwir hwynt, mewn carchar tragwydhol yn vffern: Y pryd hynny hefyd, y dyffodhir marwolaeth, a lhygredigaeth, gyd a holh dentasiwnæ, a phrofedigaetheu'r byd, a'r cnawd; y rhai ynawr ydynt yn tralhodi, ag yn traflino gweision Duw. Ag fal hyn y bydh y deyrnas honno yn hedhychlawn dawelog, trwy fedhiannu yn dhiofal dhedwdhwch perffaith tragwydhol.
Cyril. cath. 5. myst. Chrys. in c. 6. Matt. Aug. lib. 2. de Ser. Domini in monte. Hier. in c. 6. Matth. Cass. coll. 9.Am ba vn or tair Teyrnas y mae'r son a'r crybwylh yn y gofyniad hyn?
Nyd am y gyntaf; Canys nyd ydiw honno i dhyfod: eithyr hi a dhaeth yn barod; nag am yr ail chwaith; oblegyd fe a chwedleued am honno yn y gofyniad cyntaf, ag y mae hithe hefyd, gan mwyaf, gwedi dyfod eusys. Ond am y drydedh deyrnas y mae'r son yma; yr hon sydh etto i dhyfod, ag a dhyscwiliant yn awydhys y sawl sy'n adnabod trueni, trafferth a blinder y byd hwn. Ag felhy yn yr arch a'r gofyniad yma, y dymunir eyn prif-dhaeoni, a'n dedwdhwch ni, a gogoniant perffeith yr enaid a'r corph.
Os teyrnas Dhuw (yr hon yr ydym yn ei chwenych, ag yn ei dymuno ar idhi dhyfod yn fuan) sydh i [Page 101] dhechreu ar ôl dydh farn; gan hynny yr ydym yn chwenych, ag yn dymuno i'r byd hwn dharfod yn fuan, ag ar dhyfod o dhydh farn hefyd yn fuan.
Gwir yw; o herwydh er na eilh dhamwein newydh gwaeth i'r sawl sydh a'u serch ar y byd hwn, na chlywed crybwylh dydh farn; er hynny dinaswyr y nefoedh, yr hai sy'n byw ynawr ar y dhaear yma, megys dieithred, a gwyr ar gîl alhan o'u gwlâd, ni dhymunant dhim yn fwy. Ag felhy medh Sant Awstyn:In Psal. 118. conc. 20. Megys eyn dyfod Crist i'r byd, yr oedh holh dhymuniadae'r seintiau o'r hên dhedhf, yn cyfeirio at y dyfodiad cyntaf i Grist; felhy ynawr holh dhymuniade'r seintiau o'r gyfreith newydh, sy'n cyfeirio at yr ail dyfodiad i'r vn Crist, yr hon a dhwg i ni berffeith dhedwdhwch.
Moeswch i ni fyned ynghyd [Page 102] a'r trydydh gofyniad. Beth yw ystyr y geiriau hynny. Gwneler dy' wlhys di, megys yn y nef, hefyd ar y dhaear?
Yn y geiriau hyn y dymunir grâs, i gadw cyfreith Dhuw yn dhiesceulys: oblegyd gwedi erfyn yn yr ail gofyniad, y bywyd dedwdhol, yr hwn yw pennod diwedh dyn, cymwys a chyfadhas oedh ofyn yn nessaf, y prif gyfrwng, trwy'r hwn y cerheudhir y pennod diwedh hwnnw: a'r prif gyfrwng hwn yw cadw gorchmynion Duw. Canys felhy y dywedodh eyn Harglwydh.Mat. 19. Os mynni di fyned i fywyd tragwydol, cadw'r gorchmynion. Ag o ran na alhwn ni, o honom eyn hunain, gadw'r holh orchmynion fel y dylem, am hynny y dymunwn ar law Duw, wneuthur o honomi ei'wlhys ef; sef, ar idho rodhi i ni râs i gyflowni ei'wlhys ef, drwy [Page 103] vfudhau ei santaidh orchmynion, yn holhawl, ag ym-mhôb peth.
Mi a chwenychwn gael gwybod hyn ychwaneg. Gyda chyflowni' wlhys Duw trwy gadw ei orchmynion, ydymi hefyd yn rhwymedig i b [...]ygu a dwyn eyn hwlhys i fod yn gyttûn ag ewlhys Duw, pan fo'n danfon i ni adfyd, a thralhodau?
O'r hyn lheiaf yr ydym yn rhwymedig, i fod heb na murmur,Cyp. ser. de mortalitate Aug Ser. 109. de temp. na gwrwgnach yn erbyn darbodiad, a threfn y goruchaf: oblegyd hyn olh a dhanfono i ni, neu a gynhwyso yn eyn herbyn, a fydh gwedi ei drefnu, a'i dharbod ar eyn lhês ni, ag ar fwriad a diwedh da; nailh ai er mwyn cael o honom dheunydh ag echlysur i ryglydhu ychwaneg, o bydhwn ni rai da; neu i'n puro, a'n glanhau, o bydhwn ni drwg
I ba beth y cyssylhtwyd y [Page 104] geiriau hyn: Megys yn y nef, hefyd ar y dhaear?
Cyril. cath. 5. mystag. Chrys. in c. 6. Matt. & alij supra cit. except. Tertul. & Cyp.I dhwyn ar dheualh i ni y dylem roi eyn lhawn fryd, ar geisio vfudhau i Dhuw, a chadw ei orchmymon santaidh ef, trwy'r fath berffeidhrwydh, parodrwydh, ag hyfrydwch, ag y mae Angylion y nef yn vfudh-hau idho: yr hai ni dharfu vdhynt dramgwydho erioed, i'r diffic lheiaf alhe fod, am gyflowni holh orchmynion Duw. Gelhir hefyd dhywedyd,Cyp. Ser. 6. eyn bod ni'n desyfu, ag yn dymuno ar i bechaduriaid (a dheuelhir wrth henw'r dhaear) vfudhau i Dhuw, megys yr vfudhant y seintiau (a dheuelhdir wrth enw'r nef) Neu ar i'r holh Eglwys (yr hon a arwydha'r dhaear) vfudhau yn holhawl i Dhuw,Aug. l. 2. de ser. in monte. cap. 1. megys yr vfudhodh Crist, yr hwn a arwydha henw'r nef.
Awn ynghyd ar bedwaredh [Page 105] arch. Beth yw ystyr: Dôd i ni hedhiw eyn bara beunydhiol?
Rheswm yw gofyn y bara sy'n cynnal y bywyd, ar ôl gofyn grâs, yr hon yw'r bywyd, a'r gwir ennioes: Oblegyd cyntaf peth a chwenych hwn a fo'n dechreu byw, yw bwyd, i borthi a chynnal y bywyd. Eithr gwybydhwch mae'r bara ysprydol, yr hwn yw porthiant yr enaid, a dhymunir yn bennaf yn y wedhi hon, ag yn ail y bara corphorol; yr hwn yw bwyd a phorthiant y corph. A'r bara'sprydol yw'r santeidhiaf Sacrafen yr Alhor; yr hon sydh fara nefawl, a duwfol, yn peri i fywyd yr enaid gynhydhu yn rhyfedhol; Bara' sprydol hefyd yw gair Duw, yr hwn wrth wrando pregeth, neu dharlhein lhyfre'sprydol, sydh gynhorthwy mawr i gynbydhiad yr vnrhyw fywyd, ag ennioes yr enaid: Ag yn olaf bara' sprydol hefyd yw ysprydoliaeth, [Page 106] neu anadliad Duw o'n mewn, gwedhi, a phob peth aralh, a fo'n gymorth i gynnal, a chwanegu grâs Duw ynommi, yr hon (fel y dywetpwyd) yw ennioes yr enaid. Wrth enw bara corphorol, y deuelhir hyn olh sydh angenrhaid i gynnal bywyd ag ennioes y corph; yr hwn yw megys ermig i'r enaid i wneuthur gweithredoedh da.
Paham y gelwir ef eyn bara ni?
O ran dirgelwch mawr y gelwir y bara hwn yn eidhom-mi; oblegyd os sôn a wnawn am y sagrafen santeidhiaf, eyn bara ni yw hwnnw; Canys er mwyn eyn iechydwrieth ni, y lhuniwyd, ag y moldied ef, trwy waith y glân-Yspryd, ynghroth y fendigedig Forwyn, ag y cafodh megys ei grasu, yn ffwrn y Grôg lân santaidh, a'i arlwyo i ni ar fordh yr Alhor trwy [Page 107] law'r Offeiriad. Hefyd eyn bara ni ydiw,Cyp. ser. 6. am ei fod yn fara priodawl i'r [...]lant; ag ni dhylid ei rodhi i'r cwn; sef i'r anffydhloniaid, nag i'r sawl a font mewn pechod marwol. Os son yn [...]au, am yr Athrawaeth, yr ydym yn gofyn eyn bara ni, sef hwn a ran [...]ant y gwir bregethwyr: blant y lân Eglwys; ag nyd bara dieithr, sef hwn a rodhant Hæredigiaid i'w dilynwyr; yr hwn sydh fara lhygredig, gwenwynlhyd. Ond os son am y bara corphorol, erfyn yr ydym gan Dhuw, ar idho rodhi i ni eyn bara ni, ag nyd bara rhai erailh; sef ariah [...] 'n cymorth i ennilh eyn bywyd yn gyfion, ag yn gyfreithlawn. Ag hefyd ar idho fendigo a rhoi ffyniant i hyn a fo ar eyn helw, i'n tiroedh, a'n holh lafuriæ, fel y galhom fyw heb na thwylh, na lhedrad.
Pam y gelwir y bara hwn, [Page 108] bara beunydhol?
Cyp. ser. 6. Chrys. in cap. 6. Matth.Bara beunydhol y gelwir ef sef bara pôb dydh: Oblegyd nyd ydyn yn dymuno petheu gormodawl, na rh [...] am-mheuthyn: ond y lhunieth, a' [...] cynhalieth a fo digonawl o fesur y dydh i'r corph, megys i'r enaid, y [...] enwedig gan fod yn yspys gennym, nad ydym and perindotwyr, a dieithred yn y byd hwn.
Pam y dywedir: Dôd i ni?
I dhwyn i ni ar dheualh, e [...] maint y boen a gymerom, i geisio ennilh eyn bywyd, a'n bara, yr ysprydo [...] a'r corphorol; mae ofer er hynny, [...] gwâg y fydh eyn gwaith, a'n lhafur; oni bydh i Dhuw a'i râd eyn lhwydho, a rhoi ffyniant i'n gorchwylion: fel yr ydym yn canfod yn dra-mynech, fod drudaniaeth yn digwydh am bechodæ'r byd, er maint y boen a'r drafferth a gymero dynion, yn hau, ag yn medi. [Page 109] Dymuno hefyd yr ydym ar Dhuw,Aug. ep. 135. rodhi a dodi i ni eyn bara: sef ar idho nyd yn vnic yn lhwydho, a'n cynnor [...]hwyo i'w argeisio, a'i gael; ond ar idho gyda hynny, ei fendigo; fel y gwnelo i ni fowrles, ag y bydho budhol i'n eneidiau, ag i'n cyrph.
Pam y dywedir y gair, hedhiw?
Y gair hedhiw sy'n arwydho holh bryd ag oes y byd amserol hwn:Cyril. cath. 5. mystag. Aug. ep. 121. c. 11. ag felhy dymuno'r ydym ar i Dhuw eyn cynnal a bara ysprydol, a chorphorol, tra barhatho hyn o ymdaith, a pherindotta; nys i ni gerheudhyd, a dyfod i'n gwlâd a'n cartref nefawl; lhe ni bydh rhaid i ni mwy wrth na Sacrafenneu na phregetheu, nag ymborth corphorol chwaith. Gelhir dywedyd hefyd, eyn bod yn dymuno ar Dhuw roi i ni'r bara hwn hedhiw, Cyp. ser. 6. Chrys. in cap. 6. Matth. o ran nas gofalwn am dranoeth, neu'r [Page 110] peth a fydh y foru:Marth. 6. gan nas gwydhom a fydhwn y foru yn fyw: Ag felhy dyscodh Crist ni n'a thra ofalem an gyfreidie, nyd ydynt bresennol. [...] chan hynny, y barra a wasnaetho ag a fo digonawl i ni dros hedhiw, yr ydym yn ei ofyn hedhiw, a hyn y f [...] rhaid wrtho dros y foru, ni ai gofynnwn y foru.
Braidh yr wyf yn deualh vn peth a dhywedasoch; oblegyd os gofal [...] nys dylem am dhim ond y presennol, pa fodh nad yw'r heini ym-mhelh ar fai sy'n arlwyo, ag yn pentyrru ymmlaen-lhaw gimint o yd, a gwîn, ag [...] anrheidiau erailh, ag a wasnaetha dros yr holh flwydhyn gyfan.
Amcan a bryd eyn Harglwydh wrth dhyscu i ni na ofalem, ond am y presennol, oedh eyn gwared ni odhiwrth y gwâg, a'r gormod gofalion, a fydhant arfer o attal, a rhwystro lhawer, [Page 111] ar wedhiæ, a phetheu [...]railh o bwys, perthynassol i ennilh y bywyd tragwyd [...]ol. Ag am hynny, pryd na bo'r m [...]dhwl am betheu dyfodawl, yn ormod gofal; ond angenrheidiol, megys trefnu a pharatoi mewn pryd, ag amser cymwys, y petheu a dhywedasoch, nyd yw dhrwg medhwl, darbod, a blaen-ofalu am y peth sydh i dhyfod; i'e nyd medhwl am dranoeth yw hynny, ond medhwl am hedhiw; canys trwy oedi hyd tranoeth, ni a golhem y pryd a'r amser cyfadhas.
Ma [...]'n calyn y bummed gofynniad. Beth yw; A madhe i ni eyn dyledion, megys yr ydym inneu yn madhe i'n dyledwyr?
Ar ôl i ni yn y pedair gofyniad aeth heibio, dhymuno gan Dhuw, ar idho rodhi i ni bôb daeoni, y tragwydhol, a'r amserol; ynawr yn y tair gofyniad sy'n canlyn, yr ydym yn dymuno [Page 112] ar idho, eyn gwared odhiwrth bôb rhyw dhrwg; y drwg aeth heibio, y drwg presennol, ar drwg ardhyfodawl. Felhy gwelwch fod yn wîr y peth a dhywedais o'r blaen, fod y wedhi hon yn cynnwys hyn holh a elhir ei dhymuno: yr ydym gan hynny yn y wedhi hon, vn dymuno ar Dhuw, eyn gwared ni odhiwrth y drwg aeth heibio, sef odhiwrth y pechodæ a wnaethom:Matth. 6. Canys felhy y dehonglodh eyn Harglwydh i'r saintaidh Apostolion, pryd y dyscodh vdhynt y wedhi hon, fel y dyleid deualh pechodæ, dan henw dyledion.
Am ba achos y gelwir pechodæ yn dhyledion?
Am dri achos, yn gyntaf, am fod pôb vn a becho, yn gwneuthur cam i Dhuw, ag amarch arno; ag am hynny yn dhyledwr i wneuthur iawn i Dhuw, am y camwedh a wnaeth. Yn [Page 113] ail am fod yr hwn a becho, yn torri cyfreith Dhuw; a chan fod y gyfreith hon yn adho gobrwy, i'r sawl a'i catto; a chospedigaeth i'r sawl a'i torro; am hynny mae'r hwn a'i torro, yn dhyledwr rhwymedig i dalu a godhe'r gospedigaeth. Yn drydydh, gan fod pôb vn o honom yn rhwymedig i lafurio gwinlhan ei enaid, ag i anrhegu Duw a'r ffrwyth o weithredoedh da; am hynny mae'r hwn ni wnelo weithredoedh da, a (lhawer mwy) yr hwn a wnelo weithredoedh drwg yn lhe rhai da, yn dhyledwr i Dhuw; yr hwn yw'r gwîr berchennog o'r holh winlhannæ. A chan fod pawb o honom, yn methu gennym wneuthur, neu'n gwalhu'r peth a dhylem i wneuthur, ag yn gwneuthur lhawer peth nys dylem: Am hynny cymwys yw i ni yn fynech bob dydh wedhio ar Dhuw, yn ostyngedig iawn, ar idho fadhe i ni eyn dyledion.
Pam y dodwyd y geiriau hyn: Megys yr ydym-inneu yn madhe i'n dyledwyr?
Yma hefyd dan henw dyledion, y deuelhir y cammeu, dinystriad, a'r ammarch, a gowsom ar dhwylaw eyn cymdogion: a dymuno yr ydym, ar i Dhuw bardynu a madhe i ni'n camwedheu, megys yr ydym inneu yn madhe i'r sawl a wnaeth a ni gam, neu ammarch: oblegyd fel y mae'r hwn sy'n lhwyr-fadhe i'w gymdogion y cammeu a wnaethont idho, yn dharparottach i dherbyn nawdh, pardwn, a madheuant o'r camwedhae a wnaeth ef yn erbyn Duw; felhy yn y gwrthwyneb, mae'r neb ni fynno fadhe'r camme a wnaeth ei gymydog ag ef, yn ei wneuthur eihun yn anheilwng i gael o hono yntef nawdh, a madheuant gan Dhuw. Yn olaf, wrth dhywedyd [Page 115] eyn bod yn madhe i'n cymdogion eu beiau; yr ydym yn dangos,Greg. Nyssen. in orat 5. de orat. Dominica. eyn bod yn hoffi trugaredh: ag yn cyfri fod madhe, a phardynu, yn beth calonnog ardherchawc, fel na bo i Dhuw (pan dhelom i ofyn ei nawdh, a'i drugaredh) gyfle i'n hatteb fel hyn. Pa-dhelw y mynni-di i mi dhangos i ti drugaredh, a thithe yn gâs gennyt drugaredh? Pa-dhelw y gofynnidi nawdh, a madheuant gennyfi, a thithe'n cyfri, fod rhoi nawdh a madheuant, yn beth a berthyn i fedhwl gwael-egwan, neu galon goeg, lhwfrgiaidh, trasalw?
Eglurwch i mi belhach y chweched gofyniad: Ag na dhwg ni i brofedigaeth.
Yn yr arch a'r gofyniad hon, dymuno yr ydis gael cymorth gan Dhuw, yn erbyn y drwg sydh ar dhyfod; sef yn erbyn profedigaethæ, a [Page 116] thentasiwnæ,Cyril. cath. 5. mystag. Amb. lib. 5. de Sac. cap. 4. yr hai ydynt echlussure'n peri i ni gwympo mewn pechod. A gwybydhwch er eyn bod ni yn bennaf dim, yn dymuno yma ar Dhuw, nas gadawo i ni golhi'r maes, a chael [...]yn gorchfygu gan y tentasiwne; etto gan fod profedigaethe'n beryglys iawn, a'r orchest yn amheus; am hynny'r ydym yn erfyn hefyd na chynhwyso ini gael eyn tentio yn enwedig,Hilar. & Hier. in c. 26. Mat. Aug. ep. 121. pryd y gwelo, na bydh y maes a'r orchest yn eidhom-mî ond yn eidho'r cythreul.Greg. Nyss ora. 5. Cyp. ser. 6. Chrys. in c. 6. Mat. Ag o dhyma mae i ni dhyscu gwers odidawg, sef na dhichon y cythreul na'n gorchfygu, na'n tentio chwaith; oni bydh i Dhuw gynnwys a gadel idho hynny.
Nyd wyf yn deualh yn iawn mor geiriau. Na dhwg ny-ni i brofedigaeth. Herwydh mi a debygwn eu bod yn arwydho, fod Duw yn arfer o dhwyn, ag arwain dynion i brofedigaethæ, [Page 117] neu dentasiwnæ, a'n bod ninneu yn gwedhio arno, na wnelo dhim o hynny.
Dwyn neu arwayn dyn i dentasiwn, pa vn bynnag ai drwy ei dentio i'r drigioni, ai trwy wneuthu'r idho gwympo mewn pechod, sydh beth priodawl i'r Cythreul;Iac. 1. ag ni pherthyn mewn modh yn y byd i Dhuw, yr hwn sydh gâs anianol gantho'r pechod. Eythr yn y modh arferol o ymadrodh yr Y scrythur lân, wrth sôn am Dhuw, dwyn neu arwayn dyn i brofedigaeth, a thentasiwn, nyd yw yn arwydho dim, ond ei fod ef yn gadel ag yn cynnwys i dhyn gael ei dentio a'i brofi, neu gael hefyd ei orfod a'i orchfygu gan y tentasiwn. Ag felhy ystyr y gofyniad nyd yw amgen nag a dhywedasom; sef, eyn bod ni (trwy gydnabod eyn gwendid, a'n breuder eyn hunain, gyda deualh mor nerthol, a [Page 118] dichelhgar yw'r Cythreul) yn gwedhio ar Dhuw, nyd yn vnic na chenhwyso i ni gael eyn gorchfygu gan dentasiwn, ond na chynhwyso chwaith i ni gael eyn tentio [...]onys gwyl yr enilhwn y maes, ag y bydhwn orchestwyr budhugol.
Y gofyniad diwethaf sydh etto yn ôl: Ond gwared ni rhag drwg. Para dhrwg yr ydis yn ei grybwylh yn yr arch a'r gofyniad yma?
Mae'r gofyniad yma yn cadarnhau yr eirch, a'r gofyniadeu erailh ag yn dodi attynt beth ychwaneg.Cyp ser. 6. Aug. l. 2. de ser. in monte. Beda & Rup. in c. 6. Marth. Ag am hynny yn dywedyd: Ond gwared ni rhag drwg. Sef, nyd wyf yn vnic yn dymuno arnat, fadhe i ni'r pechôdæ aeth heibio, a'n ymdhiffyn rhag y rhai dyfodawl, ond hefyd, ar i ti'n gwared odhiwrth bob drwg presennol. A deliwch ar hyn yn graff dhichlin, mor dhoeth-synhwyrol y [Page 119] mae'n Harglwydh yn dyscu i ni ofyn gael eyn gwared odhiwrth dhrwg, yn gyffredinol; heb geisio crybwylh drwg yn y byd ar ei ben eihun, megys tylodi, clefydæ, erlidiaeth neu dralhodeu, a'r cyffelyb. Oblegyd mynech y tebygwn ni, fod y peth yn dha i ni, yr hwn y bydh Duw yn gweled ei fod i ni'n dhrwg; ag yn y gwrthwyneb, mynech y tebygwn fod y peth yn dhrwg i ni, yr hwn y mae Duw yn ei weled ei fod i ni'n dha. Ag am hynny fel y dyscodh cyn Harglwydh i ni, yr ydym yn dymuno ar Dhuw eyn gwared odhiwrth yr hyn olh y mae fe'n ei weled fod yn dhrw i ni, pa vn bynag a fydho ai gwnfyd, ai adfyd.
Beth yw ystyr yr Amen?
Gair Haebræaeg yw hwnnw, yn arwydho (fel y dywedais i chwi eusys) felhy bô, neu felhy mae. Ag megys yn-niwedh y Gredo, ystyr ag [Page 120] arwydhâd Amen, yw dywedyd felhy mae, neu felhy yr wyf yn credu; yn y cyffêlyb fodh, Amen yn-niwedh y Pader, sy'n arwydhau, felhy bô, felhy yr wyf yn dymuno, ag felhy yr wyf yn gwedhio ar i ti gyfloni.
Eglurhâd yr Aue Maria. PENNOD. 5.
GAN dharfod i chwi eglurhau'r Pader Noster, dymuno'r wyf arnoch egluro i mi hefyd yr Aue Maria.
Mi a wnaf hynny o wîr ewlhys fynghalon, oblegyd mi a fynwn i chwi fod yn gofwedhol grefydhgar iawn tuag at yr Arglwydhes Fair. Yr Aue Maria yn gymraeg yw fal hyn.
Henphych welh Fair gyflawn o ras, mae'r Arglwydh gydath di; [Page 121] Bendigedig wyti ym-mysc y merched: a bendigedic yw ffrwyth dy grôth di Iesu. O santeidhiol Fair, mam Dhuw, gwedhia drosom yrowron, ag yn awr Angæ. Amen.
Paham y mae'r Aue Maria yn hytrach nag vn wedhi aralh, yn myned ynghyd ag megys ynglyn wrth y Pader Noster?
Am nad oes i ni gerbron Crist ganlhaw, na chyfrwng galhuocach na'i fam; am hynny ar ôl i ni dhywedyd y wedhi a dhyscodh Crîst i ni, yr ydym yn cyfeirio a'n gofunedh at ei fam, fel y galho hi drwy ei chyfryngiad, a chan fod yn eiriol drosom, eyn cynorthwyo i gael y peth a dhymunassom, wrth dhywed y Pader. Megys y mae arfer yn y byd yma, ar ôl ystyn lhythyrdysyf i law'r brenin, ail orchymyn y neges i'r galhuocaf, a [Page 122] mwyaf ei gymheriad yng-howrt a lhys y brenin.
Pwy a gyfansododh yr Aue Maria?
Duw eihun a'i cyfansododh, er nas dyscodh moni i ni a'i eneu eihunan, eithr trwy eneu'r Archangel Gabriel, Elisabeth Santes, a'r lân Eglwys; oblegyd y geiriau hyn: Henphych welh Fair gyflawn o ras, Mae'r Arglwydh gydath di, bendigedig wyt ymysc y merched; a lefarodh yr Archangel Gabriel: ond ef a'u lhefarodh hwynt, megys cennad-vrdhol ordhiwrth Dhuw; ag am hynny ef a dhywedodh y geiriau yn enw Duw ag odhiwrth Dhuw a Duw a'u dywedodh drwy eneu ei gennadvrdhol. Ag Elisabeth santes a dhywedodhy geiriau erailh hyn: Bendigedig yw ffrwyth dy groth di. Ond hi a'u dywedodh nhwy,Luc. 1. pryd yr [Page 123] oedh hi'n lhawn o'r Yspryd glân, fel y mae Sant Luc Efangylwr yn dangos. A chan hynny yr Yspryt glân a'u dywedodh drwy eneu'r santes Elisabeth. Y darn aralh a osododh y lân Eglwys, yr hon y mae'r Yspryd glân yn ei lhywodraethu, a'i hyffordhi. Yn y cyfryw fodh ag y gelhir dywedyd yn hydha, mae yn nessaf at y Pader Noster (yr hwn a dhyscodh Crist i ni, a'i enau eihun) godidocaf gwedhi sydh i'w chael, yw'r Aue Maria; gan i'r vn Duw ei chyfansodhi, a'i dyscu i ni, drwy eneu ei weision.
Moeswch i ni dhyfod at yr eglurhâd. Paham y dywedir Henphych welh Fair?
Cyfarchiad yw hwn yr ydym yn ei rodhi idhi, er mwyn dangos eyn bod yn garedigiō cynabydhys o'r eidhi; ag am hynny cyn hyfed, a dyfod i ymdhidhan a hi; Ag arfer yr ydym [Page 124] eiriau'r Angel drwy wybod fod yn hyfryd iawn genthi, glywed yn fyne [...] y newydhion da hynny, a dhûg y [...] Angel idhi, pen dhywedodh wrthi y [...] vn-rhyw eiriau. Mae'n hoff-lawe [...] genthi hefyd, eyn bod ni yn coffau, a [...] yn dhiolchgar i Dhuw, am gymwynas morfudhfawr.
Beth yw bod yn gyflawn râs?
Tri pheth yn enwedig a wn [...] grâs Duw mewn enaid dyn; Yn gyntaf, golchi ymeith holh frynti pechodæ, y rhai ydynt megys bryche [...] budron-hagr yn gwrthuno'r enaid: Yr ail, adhurno, neu wych-drwsiadu' [...] enaid a rhodhion, ag a rhinwedheu: Ag yn olaf, rhoi idhi nerth a galhu i wneuthur gweithredoedh da, rhyglydhys a chymeradwy gan y Duwfol fowredh. Yr Arglwydhes Fair sydh gyflawn o ras; herwydh o ran y peth [Page 125] cyntaf o'r hain,Cant. 4 ni bu yndhi hi erioed frycheun yn y byd o bechod, na gwreidhiol, na gweithredol; na marwol, na madheuol: Ag o ran yr ail peth, hi a gafodh holh ruinwedheu, a rhedhion y glân Yspryd yn y radh vchaf: Ag o ran y trydydh, hi a wnaeth weithredoedh mor gymeradwy gan Dhuw, ag mor rhyglydhys, fel yr heudhodh, ag y bu deilwng o gael ei chymeryd i fynu, mewn corph ag enaid, uwch ben holh radheu, a choreu'r Angylion.
Ni welafî fod gan yr Arglwydhes Fair fwy o râs, na chan saint erailh, gan i mi glywed dywedyd yn dra-mynech, fod San Stephan, a saint erailh yn lhawn grâs.
Er dywedyd fod saint erailh yn lhawn grâs, etto er hynny, cafodh yr Arglwydhes Fair fwy o râs na'r holh saint; am i Dhuw ei gwethur hi, [Page 126] fel y gwedhe, ag y ganne yndhi fwy o râs, nag mewn yr vn o'r saint erailh: megys pette (er cyfflybiaeth) fagad o lestri, y nailh yn fwy na'r lhalh, a lenwid i gyd a Balm-olew; pôb vn o'r lhestri a fydhe'n lhawn, ag etto mwy fydhe o'r Balm yn y lhestr mwyaf, nag yn y lheilh. A'r rheswm o hyn yw, an fod Duw yn gwneuthur dynion, modh y ganno mwy neu lai o râs yndhynt, wrth fel y bo'r swydh a drefno vdhynt. Ag am na rodhwyd erioed i greadur pûr swydh, a braint oedh uwch na bod yn fam i Dhuw; am hynny y gwnaed yr Arglwydhes Fair fel y ganne yndhi fwy o râs, ag a'i lhenwed hi a mwy nag vn bur-greadur aralh.
Beth a arwydha, Mae'r Arglwydh gydath di?
Fal Dyma foliant aralh ragorawl i'r fendigedig forwyn, yn dangos [Page 127] fod eyn Harglwydh gyda'r Arglwydhes Fair er y tro cyntaf yr enilhed hi yng-hroth ei mam, mewn modh nodedig yn ei lhywodraethu hi, yn i hwylio, a'i cyfarwydho hi, ag yn ei diffin hi yn oestadol. Ag o hyn y digwydhodh idhi, na phechodh hi erioed, ar fedhwl, gair,Aug. de nat. & gra. c. 36. na gweithred. Ag felhy ni bu dhigon gan Dhuw adhurno a thymorheidhio'r forwyn santeidhiaf a phôb grâs; ond fe a fynnai hefyd, fod gyda hi yn oestad; megys ceidwad dyfal o'r fath drysor gwerthfawr.
Beth a arwydha Bendigedig wyti ym-mysc y merched?
Dyna drydedh glod-foliant yr Arglwydhes Fair, yn dangos ei bod hi yn gyflawn nyd yn vnic o bôb grâs a dhygymydh a morwyn, ond hefyd o bob grâs cyfadhas i wraig briod, ag felhy ei bod hi'n rhagori yn-holhawl [Page 128] hyn a fu, ag a fydh o wragedh a merched. Benedithiad gwragedh priod yw planta, ag ni bu ar y fendigedig forwyn dhiffic am hynny, gan dhwyn o honi i'r byd blentyn o fâb, a dale fwy na chan mil o feibion. Gelhir hefyd dhywedyd yn hydha, hi bod hi yn fa [...] i anirif o blant, gan fod yr holh Gristnogion da yn frodyr i Grist, ag felhy yn blant i'r Arglwydhes Fair, nyd [...] ran cenhedlaeth a natur, canys y modh hwnnw, Crist yw ei hunig fâl hi; ond o ran ei chariad a'i mammawl anwyldra tuag at bawb olh o honom▪ Ag am hynny teilwng iawn y dywedir, ei bod hi yn fendigedig ym-mysc y [...] holh ferchet. Oblegyd merched er ailh ni chowsant ond nailh ai braint morwyndod, heb escor ar vn plentyn, neu fendithiad planta, heb gadw eu morwyndod: chi yn vnic drwy nodedig rodh Duw, a gyssyldodh frain morwyndod [Page 129] perffeith ynghyd a bendithiad planta, neu ffrwythlondeb o'r fath dhedwdhaf.
Beth a arwydha'r geiriau; A Bendigedic yw ffrwyth dy groth di Iesu?
Dyna'r bedwaredh glôd-foliant a rodhir i'r Arglwydhes Fair, sef fod braint ag anrhydedh yn deilwng idhi, nyd yn vnic er mwyn y peth sydh yn eidhi hi ehunan; ond hefyd er mwyn y peth sydh yn eidho ffrwyth ei chroth hi: oblegyd clôd y ffrwyth a berthyn i'r pren, ag vrdhuniant y mâb a berthyn i'r fam. A chan fod Iesu nyd yn vnic yn wîr dhyn, ag yn fendigedic ym-mhlith dynion; ond hefyd yn Dhuw bendigedig uwch-law pob peth,Rom. 9. fel y mae Sant Paul yn adrodh: am hynny ei fam ef sydh f [...]ndigedig, nyd yn vnic ymysc merchet; ond yn fendigedig hefyd ymysc holh [Page 130] greaduriaid nef a daear.
Eglurhewch y darn sy'n ôl o'r Aue Maria.
Yn y geiriau sy'n canlyn mae'r lân Eglwys yn adrodh prif-glodfoliant yr Arglwydhes Fair, sef ei bod hi yn fam i Dhuw, a chan dhangos y dicho [...] hi gael hyn olh a fynno ar law Duw, mae hi'n gwedhio ar idhi fod yn eiriotrosom, sydh fawr eyn rhaid, a'n hangen; gan eyn bod yn bechaduriaid, ag ar idhi eyn cynorthwyo bôb amser, tra fom byw; ag yn enwedig yn ing yr Angæ, pryd y bydh mwyaf eyn perigl.
Hyfryd a fydhe gennyf gae [...] gwybod, pam y toncir cloch yr Aue Maria, deir-gwaith yn y dydh: sef, y bore glâs, yn y cyfnos, neu fin yr hwyr, a lhygad hanner dydh.
I dhwyn i ni ar dheualh, fod yn angenrhaid i ni argeisio yn fynech [Page 131] am gymorth Duw, a'i saint; gan eyn bod ynghanol gelynion gweledig, ag an-weledig; ag na bo digon genym ymgais ag arfæ gwedhi, yn-nechreuad eyn gorchwylion, ond y dylem wneuthur hynny hefyd wrth eu dilyn, ag wrth eu gorphen. Mae hefyd dhirgeledh aralh yn y toncian deir-gwaith i'r Aue Maria: sef, y lân Eglwys a chwenyche i ni gofio yn oestadol, y tri brif-dhirgeledh o'n prynedigaeth: yr ymgnawdoliaeth, yn diodhefaint, a'r adgyfodiad: Ag am hynny hi a fynne i ni gyfarch yr Arglwydhes Fair, y bore, er mwyn cofio adgyfodiad [...]yn Harglwydh, a chanol dydh er mwyn coffa'r diodhefaint, ag ym-min yr hwyr, er mwyn cofio'r ymgnawdolieth. Oblegyd megys ag yr ydym yn credu yn lhe gwîr di-amme, rodhi Crist ar y groes ganol dydh, ag adgyfodi o hono'r bore; felhy mae'n gyfflybol [Page 132] bol iawn mae ynghylch dechreunos a gwnaethpwyd yr ymgnawdoliaeth.
Eglurhâd dêg Orchymmyn Duw. PENNOD. 6.
GAN ymdheualh yn awr y Credo, a'r Pader Noster, gyda'r Aue Maria; mi a dhymunwn arnoch egluro im dheg Orchymmyn cyfreith Dhuw Oblegyd hon yw'r drydedh brif rann [...]'r Athrawaeth Gristnogawl fel y dyweda och wrth dhechreu.
Rheswm i chwi fod yn ewlhysgar awydhys i dhyscu, a deualh [...]n yspys dheg orchymyn cyfreith Dhuw: Oblegyd ffydh a Gobaith, heb Gariad perffeith, ag heb gadw'r gyfreith, nyd ydynt dhigonawl i wneuthur dyn yn gadwedig.
Gan fod yn y byd, ag yn yr [Page 133] Eglwys gynnifer g [...]freithiau, a gorchmynion, p [...]m y mae braint y gyfreith hon o'r deg air dedhf, neu r deg orchymyn yn rhagôr i'r lheilh eugyd?
Bagad o resymæ elhir i dwyn i dhangos godidowgrwydh, a rhagorieth y gyfreith hon. Yn gyntaf, am ei Dhuw ei gwneuthur hi a'i scrifennu hi r tro cyntaf, ynghalonnæ dynion; a chwedi hynn ar dhwy lêch o faen, neu gerrig nâdh Yn ail,Exod. 31.34. am fod y gyfreith hon yn hynaf o'r holh gyf [...]eith [...]e, ag megys yn ffynnon o'r hon y goferodh y lheilh igyd. Yn drydydh, am od y gyfreith hon yn gyffredinaf cyfreith sydh i'w chael; gan e [...] bod yn rhwymo nyd yn vnic y Cristnogion, ond yr Idhewon hefyd, a'r Cenhedloedh, meibion, a merchet; y c [...]waethog a'r tylawd: y tywysogion a'r tylawd; y trwysogion a'r deiliaid gweryn; y dyscedic, a'r an yscedic. [Page 134] Yn bedwerydh,S. Thom. 1. 2. q. 100 art. 2. o ran bod y gyfreith hon yn berhaus dhi-newid, fel nas dichon neb na'i dad-wneuthur, na'i chyf-newidio, na'i rhydhau. Yn bummed o rhan bod hon yn angenrheidiol i bawb a fynno gael iechydwriaeth, fel y dyscodh eyn Harglwydh Iesu Grist i ni'n fynech,Matth. 19. yn ei santaidh Efengyl. Yn olaf, am ei chyhoedhi drwy fawrhydri rhagorol ym-Mynydh Sinai, Exod. 12. drwy swn vdcyrn, neu drompedæ, Angylaidh, drwy felht dychrynlhyd o'r nef, a tharanæ erchylh o'r hai mwyaf, yngwydh holh bobul Dhuw.
Cyn egluro pob gorchymyn ar ei ben o'r neulhtu, hyfryd a fydhe gennyf dheualh yn dal-fyrr grynnodeb, a threfn y gorchmynion hyn.
Pennod yr holh orchmynion yw Chariad perffeith tuag Dhuw,1. Tim. 1. Rom. 13. a'n cymydog: Canys eu bod nhwy eu gyd [Page 135] yn dyscu i ni na wnelom dhim yn erbyn Duw, na'n cymydog:Clem. Alexan. strom. 6. Aug q. 71. in Exod. & ep. 119. cap. 11. Ag o herwydh hyn y rhanned nhwy yn dhwy ran, ag a'u scrifenned (fel y dywedais) ar dhwy lech. Y rhan gyntaf syn cynwys tri gorchymyn, yr hai sy'n dangos i ni eyn dyled-swydh tuag at Dhuw; yr ail sy'n cynwys y saith erailh: y rhai sy'n dyscu i ni eyn dyled-swydh tuag eyn cymydog. Ond rhaid i chwi wybod, er nad oedh ond tri gorchymyn yn y nailh lechen, a saith yn y lhalh; fod er hynny y dhwy lech o'r vn faint, ag yn gyflawn idh dywedh o'r yscrifen. Oblegyd bod y tri gorchymyn cyntaf gwedi eu scrifennu yn helaethach, a mwy o eiriau, a'r saith erailh a lhai: ag felhy yr oedh y saith orchymyn byrraf, yn gyhyd, ag yn gyd-faint, o ran yr yscrifen, i'r tri gorchymyn hwyaf.
Am ba achos y mae gorchmynion [Page 136] y lhechen neu'r dafûlan gyntaf yn dri?
O ran eu bod yn dyscu i ni garu Duw a'r galon, a'r tafod, ag a gweithred.
Paham y mae saith orchymyn yn yr ail dafulan?
Am fod vn yn dyscu i ni wneuthur daeoni i'n cymydog, a'r chwech erailh yn dyscu i ni na wnelom idho dhim drwg, yn gyntaf, yn ei berson; yn ail, yn ei fraint, a'i enw da; ag yn olaf yn ei gywaeth; a hyn nag arweithred, nag a thafod, nag ar galon.
Awn belhach at y gorchmynion eihunain; ag yn gyntaf adrodhwch i mi'n rhodh yr vnrhyw eiriau ag yr yscrifennodh Duw nhwy ar y tafulae, neu'r lhechæ hynny.
Yr hain yn grynno yw'r geiriau. My-fi yd wyf dy Arglwydh Dhuw di; yr hwn ath dhygais di [Page 137] alhan o wlâd yr Aipht, Exod 20. Deut. 5. o dy'r caethiwed.
- 1. Na fydhed it Dhuw aralh ger fy-mronî.
- 2. Na chymer enw Duw yn ofer.
- 3. Cofia santeidhio'r dydh Sabboth.
- 4. Anrhydedha dy dâd ath fam.
- 5. Na ladh.
- 6. Na wna odineb.
- 7. Na ledratta.
- 8. Na dhwg gam destiolaeth yn erbyn dy gymydog.
- 9. Na chwenych wraig dy gymydog.
- 10. Na flys-chwenych dhim o'r eidho dy gymydog.
Beth yw ystyr y geiriau sydh o flaen y gorchmynion.
Yn y geiriau hynny yr ydis yn dangos drwy bedair rheswm, y [Page 138] galhe Duw rodhi cyfreith i ni, a'n bod ninneu yn rhwymedig i'w chadw. Y rheswm gyntaf sydh yn y geiriau hynny. My-fi ydwyf dy Arglwydh. Oblegyd fod Duw yn bennaf ag yn brif-Arglwydh i ni, yr hwn a'n creawdh o dhim; di-amme yw y galhe fe rodhi cyfreith i ni, megys i'w dheiliaid eihun. Yr ail rheswm, sydh yn y gair Duw; yr hwn sydh yn arwydho fod eyn Harglwydh ni hefyd, yn benustys, brenin, a lhywodraethydh: ag am hynny, yn dichon rhodhi cyfreith, a pheri cospedigaeth i'r sawl a'i torro hi. Y drydedh reswm, sydh yn y gair di: oblegyd heb law eyn bod yn rhwym i vfudhau i Dhuw, megys deiliaid i'w Harglwydh, a gweryn i'w hustys, a'i brenin; mae arnom rwymedigaeth aralh, o ran y cyfammod y mae Duw yn y Bedydh santaidh, yn ei wneuthur a ni, a ninneu ag yntef. Oblegyd [Page 139] yn y Bedydh, mae Duw yn eyn cymeryd ni yn ansodh-blant idho eihun, a ninneu yn ei gymeryd yntef yn dâd priodawl i ni: megys ag y mae hefyd yn cymeryd yr holh ffydhloniaid yn bobul yspryssol idho eihun, a'r ffydhloniaid yn cymeryd Duw yn Dhuw, ag eyn Arglwydh priodawl idhun eihunain. Y bedwaredh reswm, sydh yn y geirian hynny. Yr hwn ath dhygais di alhan o wlâd yr Aipht o dy'r caethiwed. Oblegyd gyda'r holh rwymedigaethæ erailh, mae arnom y rhwym hwn o dhiolgarwch; am i Dhuw eyn gwared ni o gaethiwed y Cythreul, a phechod: yr hon gaethiwed, yr ydoedh y gaethiwed aralh tan Pharao yn yr Aipht, yn ei harwydhocau, o'r hon y gwaredodh yr vn Duw, gynt yr Idhewon.
Eglurhâd y Gorchymyn cyntaf.
Eglurhewch i mi belhach y gorchymyn cyntaf.
Mae'r gorchymyn cyntaf yr cynwys tair rhan. W [...]th y gyntaf, yr ydym yn rhwymedig i wneuthur cyfri o Dhuw megys Duw. Yr ail sy'n gwahardh na wnelom gyfri o dhim aralh megys o Dhuw. Y drydedh sy'n gora-fun, ag yn gwahardh i ni wneuthur pob rh w'eidol, sef pob math ar goegeulun a gwag-dhelw a gyfrifer yn Dhuw; ag na adholer chwaith mor cyfr [...]w ei holion, neu gau dhuwiæ.
Eglurwch i mi y rhan gyntaf.
Duw a fynn ei gyfri (fel y mae) yn wîr Dhuw. Yr hyn a wneir drwy ymarfer a phedair rhinwedh, ynghyfer ei dhuw fel fowredh, ffydh, Gobaith, Cariad perffeith, a Chrefydh. Y neb sy'n credu yn iawn [Page 141] yn-Nuw, sy'n cyfri Duw yn Dhuw; am ei fod yn ei gymeryd, ag yn ei gyfri ef yn bennaf gwirion [...]ah. Ag yn erbyn hyn y mae'r Hæreticiaid yn pechu, yr hai nyd ydynt yn credu yndho yn iawn. Y neb a fo'n gobeithio yn-Nuw, ag yn rhoi ei oglyd, a'i hyder arno, sydh yn cyfri Duw yn Dhuw; am ei fod yn ei gyfri ef yn ffydhlonaf olh ei air, yn drugarocaf, ie ag yn alhuocaf: gan ei fod yn hyder-goelio y geilh ef, ag y bydh ef ewlhysgar i'w gynorthwyo, yn ei holh angenrheidiæ. Ag yn y gwrthwyneb i hyn, y mae diffig, a phechod y sawl sy'n drwg-obeithio trugaredh Duw, a'r sawl sy'n rhoi eu goglyd, a'u hyder ar dhyn, yn fwy nag ar Dhuw, neu'n gimint, ag ar Dhuw. Y neb sy'n caru Duw uwchlaw pôb peth, sy'n cyfri Duw yn Dhuw, am ei fod yn ei gyfri ef yn brif-dhaeoni. Ag yn erbyn hyn, y mae pawb yn [Page 142] pechu sy'n caru creadur yn fwy na Duw, neu'n gystal a Duw; a mwy ydiw pechod y sawl sydh gâs ganthynt Dhuw. I orphen, y neb sy'n adholi Duw a'r vrdhuniant pennaf, fel y mae rhinwedh Crefydh, neu Gredhyf yn eyn dyscu, sy'n cyfri Duw yn Dhuw, am ei fod yn ei gyfri ef yn brif-dhechreuad, ag yn ben-awdur pôb rhyw beth. Ag yn y gwrthwyneb i hyn y mae'r heini yn pechu, sydh dhifraw, a di-bris o Dhuw; a'r sawl sy'n gwneuthur ammarch ar y petheu y gyssegrwyd idho; megys Eglwysi, Careglæ, offeiriaid, a'r cyfflêlyb; a'r sawl sy'n rhoi cimaint o anrhydedh, ag vrdhuniant i dhynion ag i Dhuw, neu fwy nag y maent yn ei rodhi i Dhuw.
Eglurhewch i mi'r ail rhan o'r gorchymyn hwn.
Yn yr ail rhan, mae Duw yn ewlhyssio ag yn gorchymyn, na chyfrifom [Page 143] i ni dhim creuedig yn Dhuw. Ag yn erbyn hyn yr oedh y Cenhedloedh gynt yn arfer o bechu; heb gydnabod gwîr-Dhuw, ond cyfri, ag adhôli megys Duw, fagad ag amryw o greaduriaid; fel yr haul, y lheuad, neu ryw dhynion meirw. Ag fel hyn hefyd y mae rheibiaid, a'r coeg-swynydhion yn pechu, y lhygatynwyr, y dewiniaid, a'r sawl sy'n codi cythreuliaid: y rhai sy'n rhoi i dhiawl vffernol yr anrhydedh ar vrdhuniant dhyledus i Dhuw. A rhai o'r hain syn adholi'r peth diffaeth, y falh, ag yn ei gyfri ef yn lhe Duw; gan ymgredu ag ef, af ofergoelio y galhant drwy ei gyfrwng a'i gynhorthwy ef, dhewino, amfrudo ym-mlaen-lhaw, a rhagdhywedyd petheu damweiniol a'r dhyfod, a chyfrinacheu, neu gael tryssoreu cudhiedig, neu gyflowni rhyw fudr-ewlhys a chwenychont o anlhadrwydh. Am fod [Page 144] y Cythreul yn elyn glâs i bôb rhyw dhyn, mae fe'n dhyfal i hudo, ag i dwylho'r fath boblach druein a'r hain, drwy beri vdhynt a'i ofer-goelion, dramgwydho mewn anirif o bechodæ; ag y pen diwedh drwy beri vdhynt golhi eu heneidiau, ag yn dra-mynech eu [...]yrph hefyd.
Eglurhewch y drydedh ran.
Yn y drydydh ran mae Duw yn gorchymyn i ni, nyd yn vnic na chyfrifom dhim creu [...]dig yn Dhuw, fel y dywetpwyd; ond na wnelom chwaith lûn dim olh i'w gymeryd, a'i adholi megys Duw: yn yr [...]yn pechodh gynt y Cenhedloedh, y rhai a fuont cyn dhalhed, a gwneuthur edholion, sef coegeulynnod, ne wâg-dhelwæ o aur, neu arian; o goed, neu o gerrig, gan beri i bobul goelio, mae duwiæ oedhent, yn enwedig o ran bod Cythr [...]uliaid vffern yn fynech yn myned o'u mewn, ag [Page 145] yn peri vdhynt chwedleua, ag yssymud lhe, ag wrth hynny y deuthant i aberthu vdhynt, ag i'w adhôli hwynt. Ag am nas gwnaent y Merthyri santeidh yr vn rhyw beth, y gwnaethont vdhynt drwy dhiodhe pôb artaith, a diheunydh greulon, boeni hyd angæ.
Oes dim aralh yn y gorchymyn hwn?
Cyssylhdodh Duw ynghyd a'r gorchymyn fygythiad dhechrynlhyd yn erbyn y sawl a dorrent y gorchymyn, gydag adhewid dêg brydferth i'r sawl a'u cadwent. Canys ar ôl dodi'r gorchymyn, Duw a lefarodh fel hyn. Yr wyfi yn Dhuw eidhigus, yn cospi nyd yn vnic yr hai am cassaant; eythr eu heppul hwynt hefyd, hyd y bedwaredh genedlaeth; ag yn gwneuthur daeoni i'r sawl am caro, hyd at fil o genedlaethe. Nodwch yma yn graph, fod eyn Harglwydh yn ei [Page 146] alw eihun yn Dhuw eidhigus, fel y galhom dheualh, y geilh es gossi'n dôst, o ran ei fod ef yn Dhuw; ag na fydh arno dhiffic ewlhys i gospi'n drwm, o ran ei fod ef yn eidhigus o'i anrhydedh eihun, o'r iawn a'r cyfiownder: Ag am hynny ni dhichon ef gyd-dhwyn a drigioni, ag anwiredh. Yr hwn beth sydh fawr aruth yn erbyn y sawl sydh beunydh yn pechu, ag etto'n byw yn lhawen-dhigri, dhiofal, megys pette Dhuw heb dhal, na thremmu arnynt. Ond wrth a dhywedasom, y gwelwch fod Duw yn dal yn graph ar eu gweithredoedh, fel y dengys pan dhêlo'r amser.
Beth yw ystyr bod Duw yn cospi'r sawl a wnelont dhrwg, hyd y bedwaredh genhedlaeth, ag yn rhoi gobrwy i'r sawl a wnelont dhaeoni, hyd at fil o genedlaethæ?
Mae Duw yn cospi hyd at y [Page 147] bedwaredh genedlaeth, oblegyd nad ydiw dyn (y rhan fynychas) arfer o fyw, ond i weled ei arwyrion, neu o'r hyn hwyaf, ei orescennydh; ag nyd y diw Duw yn ewlhyssio cospi, ond yr heppul, a alho'r pechadur eu gweled. Ond o ran gobrwyo, a gwneuthur daeoni, mae Duw yn ystyn ei haeldra i gyrheudhyd nyd hyd at y bedwaredh genhedlaeth, ond hyd at fîl, pette'r fath rif o honynt: Oblegyd mae'n fwy tuedh, ag awydh eyn Harglwydh i roi gobrwy, a thrugaredh, nag i gospi, rhag mor rhyw ydiw i'w dhaeoni ef rodhi gobrwy; Ag am hynny mae fe'n gobrwyo yn ewlhysgar tros ben: ond y gospedigaeth, y cerydh, a'r dial sy'n tyfu o'n pechodæ ni, ag am hynny yn dyfod odiwrth Dhuw, megys o'i anfodh pan fo'n drigioni a'n dyhirwch ni yn peri, yn annog, ag yn cymmelhwascu arno, eyn cospi.
Pam y cyssylhded y bygythiad a'r adhewid hynny wrth y gorchymyn cyntaf yn vnic?
Oblegyd mae hwn yw'r gorchymyn pennaf, a mwyaf ei dheunydh, ag am ei fod ef yn gyntaf. Canys yr hyn a dhywedir am dorri, neu gadw'r cyntaf, a elhir ei dheualh o'r lheilh eu gyd sy'n canlyn.
Mi a chwenychwn gael gwybod, pa fodh nad ydiw yn erbyn y gorchymyn hwn, yr vrdhuniant, y parch, a'r anrhydedh yr ydym yn ei roi i'r Saint, i'w Creiriau, ag i'w delwæ: Oblegyd mi a debygwn eyn bod ni yn adhôli'r petheu hyn eugyd; gan eyn bod yn penlino, ag yr gwedhio ger eu bron, megys gerbron Duw.
Dywedhi anwyl-gu a phriodferch Duw yw'r lan-Eglwys,1. Tim. 1. Ephes. 5. a'r Y spryd glan sydh idhi yn Athro: ag am hynny, nyd rhaid vno, nag ofni y twylhir [Page 149] hi byth, nag y gwna hi dhim a fo'n erbyn gorchymyn Duw, na dyscu i aralh ei wneuthur. Yr ydym mi yn anrhydedhu'r Saint,Aug. l. 20. contra Faust. ca. 21. ag yn galw arnynt yn eyn gwedhi, megys ar anwylion i Dhuw, a alhant lawer o gymorth i ni ger ei fron ef, drwy eu rhyglydhid, a'u gwedhiæ. Ond nyd ydymmi yn eu cyfri nhw'n dhuwiæ, mag yn eu adhôli hwynt fel duwiæ. Am y penlino, neue'r gostwng ar eyn gliniæ, nyd yw hynny vrdhuniant priodol i Dhuw yn vnic, o darferol, a chynefin o'i gwneuthur i greaduriaid a font o fraint, a gradh go-uchel megys i'r Pâp: A chrefydh-wyr mewn bagad o fanneu, a ostyngant ar eu glîn i'w pennaethiaid (yr hwn beth a wna plant i'w rhieni, a gweryn i'w brenin) Pa ryfedhod yntau yw gwneuthur i'r Saint, sy'n teyrnassu gyda Christ yn y nef, y peth a wneir yn dhifarn, [Page 150] ag yn dhi-fai i ryw dhynion ar y dhaear.
Ond beth a dhywedwnni am Greiriau'r Saint, petheu heb dheualh? ag etto'r ydym yn penlino vdhynt ag yn gwedhio ger eu bron.
Nyd ydym yn gwedhio dim ar y Creiriau, oblegyd digon da y gwydhom, nad oes genthynt dhim synwyr, na deualhedh: ond perchi, ag anrhydedhu'r Creiriæ'r ydym fel hoff-betheu, a fuont gynt yn ermigion, neu stryfenneu i'r eneidiæ santeidh, i wneuthur lhawer o weithredoedh da: ag a fydhant drachefn, pan dhêl yr amser, gyrph byw gogonedhys: ag ynawr yr ydym yn eu cadw fel arwydhion cu o gariad y Saint i ni.Amb. lib. de vid. Hier. cōt. Vigil. Ag am hynny yr ydym yn gwedhio ar y Saint, gerbron neu gyferbyn a'u Creiriæ, gan erfyn ag attolwg ar y Saint, trwy'r anwyl arwydhion hyn yr ydym [Page 151] yn eu cadw o'r eidhynt, ar vdhynt gofio eyn cynorthwyo ni, fel yr ydym inneu yn cofio am eu anrhydedhu nhwythau.
Yr vn peth yn ei herwydh a elhir yscatfydh ei dhywedyd am y delwæ.Concil. Nic. 2.
Gwir iawn; Oblegyd nyd ydym yn cyfri delw Grist, na delw Fair,S. Io. Damasc. o [...]oe de Imag. na delwæ'r Saint yn dhuwiæ; ag am hynny ni elhir mo'u galw'n eidholion, fel yr oedh rhai'r Cenhedloedh gynt: Ond eu cyfri'r ydym yn dhelwæ lhuniaidh, sy'n peri i ni gofio Crist, a Mair, ag erailh o'r Saint: ag felhy maent yn gwasneuthu yn lhe lhyfræ i'r sawl ni fedrant dharlhein:Greg. [...]p. ad Serenum. Oblegyd fod y fath bobul wrth weled lhuniæ yn dyscu bagad o dhirgeloedh o'n ffydh santaidh, a buchedh hefyd, a marwolaeth bagad o Saintiæ. A'r vrdhuniant yr ydym yn ei roi i'r hain, nyd ydym yn ei roi o [Page 152] ran, nag er mwyn eu deunydh, am eu bod yn lhuniæ ar bapyr, neu ar fettel, neu am eu bod yn dêg eu lhiwiæ, neu gwedi eu lhunio'n gowraint: ond am eu bod yn cyndrychôli, yn ail-bresennu, ag megys yn rhoi ger eyn bron, Crist, neu Fair, neu aralh o'r Saint. Ag o ran eyn bod yn gwybod, nad ydiw'r delwæ betheu byw, ond gwaith lhaw dyn, heb alhu na gweled, na chlywed, na deualht, nyd ydym yn gofun dim ganthynt,Conc. Trid. sess. 25. ond gwedhio yr ydym gyferbyn a nhwy, ar y rhai y maent yn eu dwyn ar gôf, a'u hailbresennu i ni, sef Crist, neu Fair, neu ryw vn o'r Saint.
Gan nad ydiw'r Creiriæ, na'r delwæ yn deualh, pa fodh y maent yn gwneuthur y fath rifedi o wrthiæ ar y sawl a font yn offrymmu vdhynt, neu'n ei hannerch, a'u gorchymyn eu huuain attynt?
Duw sy'n gwneuthur yr holh wrthiæ; ond ei fod ef fagad o weithiau, yn eu gwneuthur drwy gyfrwng, a gwedi'r Saint, yn enwedig ei fam fendigedig. Amynech y gwna Duw ei wrthiæ ar y sawl a fônt yn gwedhio ar y Saint, gyferbyn a'u Creiriau, neu eu delwæ: Ag ymbelh weithiae mae fe'n cymeryd y Crewiae, a'r delwæ yn lhe ermigion, neu stryfenneu i weithio'r cyfryw wrthiæ, i dhangos i ni fod yn gymeradwy gantho'n, gofunedh defosionol tuag y Saint, a thuag at eu Creiriau, a'u delwæ.
Wrth hynny pan dhyweder dharfod i dhyn offrwm neu ei orchymyn eihun i'r Crair a'r Crair, neu i'r dhelw a'r dhelw, a derbyn y rhodh a'r grâs yr oedh yn ei ofyn, rhaid yw deualh dharfod idho offrwm, a'i orchymyn eihun i'r sant y bo'r Crair, neu'r [Page 154] dhelw yn perthyn idho; a darfod i Dhuw genhiadu y rhodh honno, a'r grâs drwy wedhi'r sant hwnnw, a thrwy gyfryngiad y Crair, neu'r dhelw.
Gwir iawn; A lhawen gennyf dheualh o honoch yn gystal hyn olh a adrodhais i chwi.
Mi a chwenychwn yn olaf, gael gwybod, pam yr ydis yn payntio Duw'r tâd, megys gwr hên; yr Yspryd glân megys Colomen, ar Angylion megys gwyr iefenc, ag adenydh; gan fod Duw a'r Angylion yn Ysprydion, heb na dulh, na dim lhûn corphorol vdhynt, a alho payntiwr eilunio a'i liwiæ, fel y geilh lunio delw dyn.
Pryd y peyntir Duw'r tâd yn rhith hên wr, a'r Yspryd glân yn rhith Colomen, a'r Angylion yn rhith gwyr iefenc, nyd y dis dhim yn payntio'r peth ydynt hwy yndhyn euhunain; oblegyd [Page 155] fel y dywedasoch, ysprydion ydynt hwy heb vdhynt gorph: ond payntio a dangos yr ydis y rhith, yn yr hon y darfu vdhynt weithiæ ymrithio, ag ymdhangos: Ag felhy Duw'r tâd yr ydis yn ei bayntio megys henawgwr; oblegyd yn y [...]yfryw rith yr ymdhangosodh i Dhaniel y Prophwyt mewn gweledigaeth:Dan. 7. Ar Yspryd glân yr ydis yn ei bayntio yn rhith Clomen,S. Tho. in 4. d. 48. q. 5. art. 2. am idho ymdhangos yn y rhith honno uwch ben Crist, pryd yr oedh Siôn fedydhiwr, yn ei fedydhio fe. A'r Angylion yr ydis yn eu payntio'n rhith gwyr iefenc, am dharfod vdhynt ymrithio,Gen. 18.19. Tob. 5. & 12. ag ymdhangos felhy yn fynech. Gwybydhwch hyn ychwaneg; fod yn payntio, ag yn lhunio bagad o betheu, i dhangos, ag i dhwyn i ni ar dheualh, nyd beth ydynt yndhyn euhunain, ond pa rinwedh, neu gynhedhfeu sydh ganthynt, a pha beth y bydhant arfer o'i [Page 156] weithio. Felhy yr ydis yn payntio ffydh yn rhith merch, a charagl yn ei lhaw; a Chariad perffeith a bagad o blant bychein o'i hamgylch; etto er hynny, chwi a wydhoch nad merchet yw ffydh a Chariad perffeith, ond rhinwedæ. Felhy gelhir dywedyd, fod yn payntio Duw'r tâd yn rhith henawgwr, i dhwyn i ni ar dheualh, ei fod ef yn heneidhiaf olh; sef, heb fod idho erioed, dhechreuad, a'i fod ef er's oes-oesoedh, o flaen pob peth creuedig. A'r Yspryd glân a beyntir yn rhith Colomen, i arwydhocau'r doniæ, a'r rhodhion O Wiriondeb, Puredh, a Santeidhrwydh a weithia'r Yspryd glân o'n mewn. A'r Angylion a beyntir yn rhith gwyr iefenc; o ran eu bod nhwy bôb amser yn dêg eu pryd, ag yn nerthol; ag adenydh, am eu bod yn gyflym-barod i dramwy i'r fan a fynno Duw; mewn gwiscoedh claer-wniō, [Page 157] ag ystolæ santaidh, am eu bôd yn burwirion, ag yn wenidogion or eidho'r duwfol fowredh.
Eglurhâd yr ail Gorchymyn.
Awn ynghyd a'r ail Gorchymyn. Na chymer enw Duw yn ofer. Beth yw ystyr a deualh y geiriau hynny?
Treuthu mae'r Gorchymyn hwn yr anrhydedh, a'r am-march a wneir i Dhuw ar eiriau: sef, gorchymyn yr ydis yr anrhydedh, a gwahardh yr amarch. A'r Gorchymyn a elhir ei rannu yn bedair rhan; oblegyd mewn pedwar modh y gelhir anrhydedhu; neu am-merchi Duw ar eiriau. Yn gyntaf, Duw a anrhydedhir wrth ei henwi, a'i grybwylh yn fynech o wîr serch tuedh, a chariad tuag atto; ag a'i am-mherchir wrth ei fynech henwi heb achos, aim ond o wîr orwagrwydh, [Page 158] neu fursendod. Yn ail, Duw a anrhydedhir a lhw gwîr, cyfiawn, a chymwys; ag a'i amherchir wrth dyngu anudon. Yn drydydh, Duw a anrhydedhir, wrth wneuthur adhuned o beth da, nen roi diofryd peth drwg; ag a'i amherchir wrth dorri'r cyfryw adhuned, neu dhiowryd. Yn bedwerydh, Duw a anrhydedhir drwy alw arnofe, a'i foliannu; ag a'i amherchir drwy ei gablu, a'i dhifenwi.
Eglurhewch i mi y rhan gyntaf.
Henwi Duw, neu, Fair, neu sant, yn symlig heb dhim ond ei henwi, a elhir ei wneuthur yn dha, neu'n dhrwg: Oblegyd y sawl sy'n caru Duw yn anwyl, ag yn dirion, a'i coffant ef, ag a'i crybwylhant yn fynech, a hynny a wnant mewn gofunedh defosiwn, a gwir gariad; fel y mae i'w weled yn lythyræ neu Epistôlae Sant Pawl; yn [Page 159] yr hai y darlhennir yn fynech-fynech henw Iesu Crist. Canys gan fod Crist yn anwyl gan Sant Pawl yn ei galon, hoff a melysaidh oedh gantho, ei henwi fe hefyd a'i eneu. Ond mae rhai erailh a henwant Dhuw, neu ryw sant yn fyrr-bwylh mewn rhyw gyffro, digofaint, neu ar gelhweir; o ran drwgarfer, fel y peth cyntaf, a dhêl ar gip ar eu tafod, heb geisio fawr dhal ar y peth y bônt yn ei dhywedyd: a hyn sydh dhrwg, sef math ar dhysturu, a dirmygu enw santaidh y goruchaf Dhuw: megys pette (i roi sampl o beth gwaelach) wr a chantho ryw dhilhedyn drud-werth, ag a'i gwiscai beunydh ym-mhôb rhyw fan, heb ei arbed na'i eiriach vn amser.
Eglurhewch i mi'r ail rhan sy'n perthynu ai dyngu.
Tyngu neu roi lhw, nyd yw amgen na dwyn Duw yn dyst o'r gwirionedh. [Page 160] I wneuthur hynny yn iawn, rhaid i'r lhw fod yn gyfymwasc a thri o gefeilhion:Hier. 4. sef Gwirionedh, Cyfiowndra, a Barnedigaeth. Ag fel y mae'r lhw a fydho felhy yn gynglo a'i amgylchion dyledys, yn anrhydedhu Duw, drwy gyhoedh bryffessu, a chyfadhe fod Duw yn canfod pôb peth, a'i fod yn bennaf geirwir, a diffynnydh y gwirionedh: felhy yn y gwrthwyneb, y gwneir amarch dirfawr ar Dhuw, o bydh ar y lhw dhiffic Gwirionedh, Cyfiowndra, neu Farnedigaeth; oblegyd fod y dyn a dyngo felhy, megys yn tenuru na wyr Duw dhim o'r petheu, neu ei fod ef yn caru'r celwydh, ag yn cyd-dhwyn ag an-wiredh.
Eglurhewch i mi etto'n fanylach, beth yw tyngu mewn Gwirionedh.
I dyngu mewn Gwirionedh, rhaid i dhyn, na fanego dhim yn lhe [Page 161] gwîr, ar ei lw, ond y peth a wypo'n dhi-amme ei fod yn wîr: ag na adhawo dhim a lhw, ond y peth a fo'n ei fryd ei gyflowni. Wrth hynny, anudonwyr yn pechu'n orthrwm, yw'r sawl a fanegant ar ei lhw, yn lhe gwîr, y peth a wydhont ei fod yn amgen na'r gwîr, neu'r peth nys gwydhont beth yw a'i gwîr, a'i celwydh, a'r sawl sy'n adho a lhw, y peth nyd oes yn eu bryd mo'i gywiro.
Beth yw tyngu gyda Chyfiownder?
Nad adhawo dyn a lhw wneuthur dim ond a fo cyfiawn, a chyfreithlawn. Ag am hynny mae'r sawl yn pechu'n orthrwm, sy'n adho a lhw dhial eu cammeu, neu wneuthur rhyw beth aralh a fo'n adfodloni Duw. A'r cyfryw adhewidion, ni dhyleid mo'u cyflowni, ag nyd ydynd yn rhwymo, mewn ffordh yn y byd; am nas geilh [Page 162] dyn fod yn rhwymêdig i wneuthur drwg, gan fod cyfreith Dhuw yn ei rwymo i beidio a'i wneuthur.
Beth yw tyngu trwy Farnedigaeth?
Tyngu trwy bwylhedh diamryfus, ag adhfedrwydh, drwy gofio, a dyfa [...] ystyr, nad yw gymwys galw Duw yn dyst, ond mewn petheu angenrheidiol, ag o bwys: ar pryd hynny, nyd yn dhi-arswyd; ond trwy ofn, ag vrdhuniant dirfawr. Ag am hynny y pechant y sawl a dyng ant mewn mân-betheu, ie mewn celhwair, a chware: yr hai o ran y dhrwg-arfer o fynech dyngu, a dramgwydhant yn hawdh i'r tyngu an-udon: yr hwn yw vn o'r pechôdæ gorthrymmaf. Ag felhy mae'n Harglwydh yn yr Efengyl,Matth. 5. Iac. 5. a sant Iaco yn ei Epistol, yn gorchymyn i ni na thyngom: sef yn dhir [...]d. A rhai o'r saint sy'n rhoi hyn o [Page 163] reswm,Aug. l. 1. de ser. Domini in monte. Chry. ho. 36. 37. 38. ad pop. Antioch. o herwydh darfod dychymig lhw, i fod yn gyfaredh yn erbyn gwendid crediniaeth dyn; am fod yn anawdh gan dhynion gredu'r nailh y lhalh: am hynny y dylid arfer lhw megys medhiginiaeth, y peth nys cymerir ond anfynycha fyth y gelhir.
Eglurhewch y drydedh ran ynghylch Adhuned.
Adhuned yw adhewid a wneleir i Dhuw o beth da cymeradwy gan ei Dhuwfol fowredh ef. Ar yr hyn mae i chwi ystyr, a dal ar dri pheth; y cyntaf,S. Tho. 2. 2 q. 48. art. 2. bod yn rhaid i Adhuned fod yn adhwid; ag felhy i wneuthur Adhuned o beth nyd yw dhigon bwriadu, neu, roi o dhyn ei lawn fryd, ar wneuthur peth, neu chwenychu i wneuthur; ond mae'n rhaid manegu, neu espryssu adhewid a'r geneu, neu o'r hyn lheiaf a'r galon. Nodwch hefyd y gwneir yr adhewid hon i Dhuw, i'r [Page 164] hwn yn briodol y perthynant yr holh Adhunedæ: A phan glywochi grybwylh gwneuthur Adhuned i Fair, neu i'r Saint, rhaid i chwi dheuath fod yn gwneuthur yr Adhuned honno yn bennaf i Dhuw, gydag anrhydedhu Mair, neu'r Saint, yn yr hai y mae Duw yn aros mewn modh rhagorol, godidocach nag mewn creaduriaid erailh. Ag felhy yr Adhuned a wneler i sant, nyd yw dhim amgen nag adhewid i Dhuw o anrhydedhu a pherchi coffa'r sant a rhyw anrheg, neu offrwm; hynny yw anrhydedhu a pherchi Duw yn ei sant. Yn drydydh rhaid i chwi wybod, na elhir gwneuthur Adhuned, ond o beth da, cymeradwy, ag wrth fodh Duw, megys o Dhiweirdeb santaidh, o dylôdiwlhysgar, a'r cyffêlyb. A chan hynny pwy bynag a amcane Adhuned, o wneuthur rhyw bechod, neu ryw orchwyl [Page 165] am-mherthynas i wassanaeth Duw, neu o ryw beth daeonys, a alhe er hynny rwystro, a lhesteirio daeoni a fae fwy, ni bydhe'r adhewid o beth cymeradwy, ag wrth fodh ei dhuwfol fowredh ef; ag am hynny, nys anrhydedhe'r dyn hwnnw Dhuw,S. Tho. 2 2. q 13. ond ei am mherchi, ag efe a beche yn erbyn y gorchymyn hwn; fel y mae'r neb hefyd yn pechu'n orthrwm yn erbyn yr vn gorchymyn, a wnelo Adhuned heb ei chyflowni gynta galho. Canys mae Duw yn yscrythur lân, yn gorchymyn i'r ne ba wnelo Adhuned, Deut. 25. Eccles. 5. nyd yn vnic gofio am ei chyflowi, ond gyda hynny, nas hir oedo am ei chyflowni.
Eglurwch i mi y rhan dhiwethaf, sy'n treuthu moliant y goruchaf Dhuw, a'r modh y ceblir, ag ei difenwir ef.
Yn y rhan dhiwethaf o'r ail gorchymyn hwn, mae Duw yn gwahardh [Page 166] ei dhifenwi; ag yn y gwrthwyneb, yn gorchymyn ei foli: Ag yn gyntaf, am a berthynt o i'r moliant, nyd oes dim anhowsedh, gan fod yn eglur mae rhesymol, ag iawn yw môli, a bendith anrhydedhu Duw, ymmhob rhyw beth gan yr hwn yr ydym yn cael pôb daeoni, a chan fod holh weithredoedh Duw yn lhawn doethineb, cyfiownder, a thrugaredh. Ag am y difenwi, neu gablu, rhaid i chwi wybod, nad yw difenwad, neu gabl, dhim amgen na gwneuthur ar eiriau, lhwyr-gam, ag amarch ar Dhuw, nailh ai yndho eihun, neu yn ei Saint. Ag y mae chwech math o gabl, a difenwad; Y gyntaf, pan ardhoder i Dhuw beth anghyfadhas, anwedhol, megys dywedyd bod idho gyrn, neu'r cyfryw anwedhol wrthyni. Yn ail, pan fo dyn yn gwadu bod gan Dhuw, y peth sydh berthynassol idho; megys [Page 167] Galhuedh, Doethineb, Cyfiowndra, neu ryw odidowgrwydh aralh, megys dywedyd, na eilh Duw wneuthur peth, neu nad ydiw ef yn gweled petheu, neu nad yw ef gyfiawn. Y drydedh, pan ardhoder i greadur y peth fydh briodol i Dhuw; fel y mae'r sawl yn gwneuthur, sy'n dywedyd, fod y Cythreul yn gwybod pôb peth sydh i dhyfod, neu y geilh ef wneuthur gwir-wrthiæ. Y bedwaredh, pan reger, neu pan felhdidhier Duw, neu Fair, neu ryw sant aralh. Y bummed, pan henwer mewn amarch ryw aelod, neu fan ar gorph Crist, neu sant; megys pette'r fath beth yn wradwydhys yn dhyn hwy, fel y maent ynom mi. Y chweched, pan henwer rhyw fan o gorph Crist, neu'r Saint i'w bochsachu, neu mewn gwatwor, fel dywelyd mewn celhwair di ystyr: At farf Crist, neu farfan Peder sant, neue'r [Page 168] cyffelyb ymadrodh, a dhychmygodh cenfigen y Cythreul, a drigioni dynion.
Mi a chwenychwn wybod pa fath bechod ei faint yw'r cablu, a difenwi.
Mae'n bechod mor orthwm, nad oes yn ei herwydh, odid o bechod yn y byd orthrymach. A hyn elhir ei dheualh wrth y dial, a'r gospedigaeth a ryglydha. Canys yn y Destafen hên, gorchmynodh Duw gael o'r difenwyr eu lhabydhio a cherrig, gan yr holh bobul:Leuit. 24. Iustin. Nouella 77. lib. 4. dial. c. 18. Ag wrth y gyfreith Ymerodrol, marwolaeth yw difenwi. Ag y mae Sant Gregor yn scrifennu, fel y digwydhodh i fachgennyn pummlwydh oed (a dhyscasse gablu a difenwi Duw) farw'n dhysymmwth ymmreichiæ ei dâd: yr hwn am nas cerydhadh ei blentyn, a ganfu'r Cythreuliaid mewn rhith weledig anhowdhgar, [Page 169] yn lhusco'r enaid, i'r tân a'r lhoscfa vffernol. Peth ni dharlhennir ei dhigwydh erioed, am bechod aralh yn y byd. Ag am hynny, wrth raid oedh i ni fod yn dhyfal dhi esceulys, ar ymgadw eyn hunain rhag pechod mor orthrwm sydh yn erfyn y Duwfol fowredh. Ag nyd anawdh gochêlyd y pechod hwn, yn anad vn; gan nad ydyw arfer o dhwyn gydag ef na lhês na di fyrrwch i'n lhithio, fel y bydh rhyw bechodæ erailh arfer o'n hudo, ond drigioni'r pechod megys yn noeth. Ag etto cofiwch hefyd, na dhyle neb fyth bechu i ennilh mowrles, nag i fwynhan y difyrrwch mwyaf a dhichon pechod ei arwain ne'i gynnig.
Eglurhâd y trydydh Orchymyn.
Deulhteys erbyn hyny dhau orchymyn cyntaf, attolwg eglurwch i mi y trydydh ynavvr.
Y trydydh gorchymyn yr hwn sy'n peri santeidhio a chadw dydhiæ gwylion yn barchedig, sydh a pheth rhagor rhyngtho, a'r lheilh. Oble gyd y lheilh eugyd, sef y dhau o'r blaen, a'r saith sy'n ôl, ydynt naturiol trwydhynt; ag yn rhwymo nyd Cristnogion yn vnic, ond yr Idhewon hefyd, a'r Cenhedlaid. Eythr y trydydh hwn, sydh o'r nailh du yn naturiol, ag yn rhwymo pob dyn; ag o'r tu aralh heb fod yn naturiol, ag heb rwymo pawb. Oblegyd santeidhio gwyl, sef cadw rhyw dhiwrnod yn santaidh barchedig; yr hwn a dhylid ei dreulio mewn gorchwylion buchedhol, ag yn bennaf mewn gwassanaeth Duw, sydh orchymyn naturiol; am fod rheswm naturiol, yn rhoi hynny o dhysc i bôb rhyw dhyn; ag felhy ym-mhôb rhyw fan ar fyd, yr ydis yn cadw rhyw dhiwrnod yn wyl Ond nodi ar ei ben y nailh dhiwrnod [Page 171] i'w gadw yn wyl, rhagor diwrnod aralh, nyd yw yspys, drwy'r gorchymmyn naturiol; am hynny ymmhlith yr Idhewon y gwyl pennaf oedh y Sabboth ar dhie-Sadwrn, a'r Sûl a gedwir ym-mhlith Cristnogion.
Am ba achos y gorchmynodh Duw i'r Idhewon gadw'r Sadwrn yn wyl, yn anad rhyw dhiwrnod aralh?
Dau achos a rheswm enwedig sydh o hynny; y gyntaf o ran darfod i Dhuw ar y Sadwrn, orffen ydeilad yr holh fyd; ag am hynny y mynnodh gadw'r dythwn hwnnw'n wyl, er mwyn coffa'r fath dhirfawr gymwynas, o greadwrieth y byd. Yr hyn oedh yn gwasneuthu hefyd i dhadwreidhio, ag i chwynny ymeith gamsyniad rhai or philosophydhion gynt, a deurent yn gelwdhog, fod y byd hwn ers oes oesoedh: Oblegyd trwy gadw gwyl er coffa creadwrieth y byd, y [Page 172] daeth dynion i gyfadhe gael o'r byd hwn dhechreuad: Yr ail rheswm, oblegyd gwedi i dhyn flino ei wenidogion, a'i nifeiliaid yn lhafurio, ag yn gweithio chwe-diwrnod o'r wythnos, mynnodh Duw y seithfed dydh, sef y Sadwrn, gael o'i wenidogion orphywys, a'i nifeiliaid; ie hyd yn oed yr ych a'r assen; fel y galhent perchen tai dhyscu bod yn drugarog, a gresynnol wrth eu gweithwyr, ie ag wrth eu nyfeiliaid hefyd, a pheidio a bod yn greulon, daeogaidh, di-resyn.
Pam wrth hynny, nad ydym inneu hefyd y Cristnogion, yn cadw'r Sadwrn yn wyl, cystal a'r Idhewon, gan fod y fath reswm da i'w gadw?
Duw a newidiodh y Sabboth, gan ysymud gwy y Sadwrn i'r Sûl, am fagad o resymæ; fel y troes [...]f hefyd y Cylch-doriad i'r Bedydh, yr Oen Pasc i Sagrafen yr Alhor, a'r holh [Page 173] betheu da erailh o'r hên Destâfen, i betheu erailh gwelh yn y Destâfen newydh. Oblegyd os rheswm oedh gynt gadw'r Sadwrn yn wyl, er mwyn coffa creadwriaeth y byd, am orphen a pheidio a'r gwaith y dythwn hwnnw; mwy o reswm sydh i gadw'r Sûl yn wyl,Iustin. Apol. 2. Leo. Ep. 81. ad Dioscor. i goffa'r vn creadwriaeth; gan dhechreu o Dhuw'r creadwriaeth, ar y Sûl. Ag os yr Idhewon oedhent yn rhoi i Dhuw y diwrnod diwethaf yn yr wythynos, gwelh y mae'r Cristnogion yn gwneuthur, ar rodhi idho'r cyntaf. Gyda hynny ar y Sûl y coffeir tri chymwynas rhagorol o'n prynedigaeth: Oblegyd ar y Sûl y ganed Crist; Ar y Sûl yr adgyfododh o farw i fyw; Ag ar y Sûl y danfonodh ef yr Yspryd glân ar yr Apostolion. Yn olaf, y Sadwrn oedh yn arwydho gorphwysfa'r eneidiau santaidh yn Lymbo, neu fynwes Abraham; a'r Sûl sy'n arwydho'r [Page 174] gogoniant sydh ynawr gan yr eneidiæ santaidh, ag y fydh ar ol hyn gan eu cyrph hefyd yn y nefoedh. Am hynny yr Idhewon oedhent yn cadw'r Sadwrn, am eu bod nhwy wrth farw, yn myned i'r Lymbo i orphywys: Eythr Cristnogion a barchant y Sûl, am eu bod wrth farw yn myned i wynfydedig ogoniant y Paradwys nefawl: sef, o bydh ganthynt weithredoedh da, fel y mae'r gyfrieth santaidh a roes Duw vdhynt, yn gofyn.
Ai rhaid cadw dydhiæ gwylion erailh heb law'r Sûl?
Rhaid yw cadw bagad o dhydhiæ gwylion erailh; sef dydhiæ gwyl eyn Harglwydh, dydhiæ gwyl yr Arglwydhes Fair, a dydhiæ gwyl erailh o'r Saint, sef, yr heini bado vn, a barodh y lân Eglwys eu bod yn orchmynedig. Ond ni a dreuthasom yn enwedig o'r Sûl, oblegyd ei fod yn hynaf [Page 175] vn o'r dydhiæ gwylion; ag yn wyl y gedwir yn fynychaf vn or cwbl olh: megys yr oedh ym-mysc yr Idhewon, fagad o dhydhiæ gwylion, ond hynaf vn, a mynychaf yn dyfod i'w gadw, ag vchafgwyl o'r cwble, oedh Sabboth y Sadwrn: Ag am hynny yn y deg orchymyn, nyd ydis yn crybwylh yr vn erbyn ei enw, ond y Sabboth; yn lhe'r hwn (fel y dywedassom) y daeth y Sûl i Gristnogion.
Beth sydh raid ei wneuthur i gadw'r dydh gwyl?
Dau beth sydh angenrheidiol: Yn gyntaf peidio a phôb caeth-orchwyl, sef y gorchwylion y bydh gwenidogion, a chrefftwyr, neu gelfydhydion arfer o'u gweithio, yr hai a arferant lafurio y rhan fynychaf a'u cyrph. Oblegyd y gwaith neu'r gorchwyl, yn yr hwn y bo'r deualhedh yn bennaf yn gweithio, ni elhir mo'i alw'n gaeth-waith, [Page 176] neu'n orchwyl gwenidogawl, er bod y tafod, neu'r lhaw, neu ryw dharn aralh o'r corph, yn cyd-weithio i roi cymorth i'r deualhedh. Yr ail peth, yw eyn bod ni bob gwyl gorchmynedig, yn rhwym o fod yn bresennol ger bron yr aberth bendigedig, i wrando 'fferen. Ag er nad ydyw'r lân Eglwys yn eyn rhwymo ni i Dhim chwaneg; etto cymwys a gwedhol iawn y fydhe i ni dreulio'r dydh gwyl cyfa, neu'rhan fwyaf o hono, yn gwedhio Duw, a darlhein lhyfræ sprydol, yn ymweled a'r Eglwysi yng rando pregethæ, ag yn gwneuthur y cyffelyb arferæ buchedhol. Canys ar y cyfryw destyn y parwyd y tro cyntaf gadw dydhiæ gwylion.
Onys gelhir ar dhydh gwyl wneuthur gorchwyl, neu waith gwenidogawl, gan hynny ni elhir na chanu clych, na hilio byrdhæ, na thrvvysio [Page 177] bwyd; oblegyd gorchwylion gwenidogawl yw'r hain i gyd.
Y gorchymyn hwn o beidio a gorchwylion gwenidogawl, a dheuelhir tan dhau ammod: Y cyntaf, na bo'r petheu'n angenrheidiol i gynnal ennioes dyn; ag am hynny yr ydis yn cenhiadu'r arlwyo bwydydh mewn cegin, paratoi'r byrdhe, a'r cyfryw betheu, yr hai ni elhir mo'n gwneuthur yn iawn y dythwn o'r blaen. Yr ail, na bo'r petheu yn angenrheidiol tuag at wasneuthu Duw: Ag o ran hyn y cynhwysir canu'r clych, a gwneuthur gorchwylion erailh yn yr Eglwys: yr hai nys gelhir eu gwneuthur yn iawn, ar dhiuwrnod aralh. Ag heb law'r dhau ammod hyn, mae'n rhydh hefyd gweithio gorchwylion gwenidogawl, pan rodho'r Peruglor neu'r Praelat, gennad i weithio o herwydh rhyw achos a fo rhesymol.
[Page 178]Eglurhâd y pedwerydh gorchymyn.
Mae belhach y pedwerydh gorchymyn yn canlyn, yr hwn sy'n peri anrhydedhu Tad a Man. Mi a chwenychwn gael gwybod, paham y mae gorchmynion yr ail dafulan yn dechreu ag anrhydedh yn rhieni.
Gorchmynion yr ail dafulan sy'n perthyn i'r cymydog, fel y mae rhai'r dafulan gyntaf, yn perthyn i Dhuw: A chan fôd Tâd a Mam dyn, yn gyfnessaf olh idho, ym-mhlith yr holh gymdogiō, a ninneu yn rhwymedicach vdhynt, nag i gymydog aralh yn y byd, gan yr hai y cowsom sylfaen pob daeoni amserol, sef y bod a'r byw sydh gennym; am hynny rheswm da oedh dhechreu'r ail dafûlan, ag anrhydedh y Tâd a'r Fam.
Pa beth a dheulhir wrth yr [Page 179] anrhydedh hon sydh dhyledys ir Tâd, ag i'r Fam?
Tri pheth a dheulhtir; Cynhortwy, Vfudhdod, Pharchvrdhuniant. Hier. in cap. 15. Matt. yn gyntaf yr ydym yn rhwymedig i roi cymorth, a chynhorthwy, i'n Tâd ag i'n Mam. A'r cymorth hwn neu ymgeledh a elwir yn y Scrythur lân Anrhydedh. Arheswm yw i'r plant (gan gael o honynt eu henioes gan eu Tâd a'u Mā) wneuthur eu goreu ar gynnal, a mantimio'r vn-rhyw ennioes yndhyn hwythe, drwy ymgeledh. Heb law hyn, yr ydyn yn rhwymedig i vfudhau i'n Tâd a'n Mân ym-mhob peth, yn eyn Harglwydh, Colos. 3. Ephes. 6. medh San Pawl: sef ym-mhôb rhyw beth a fo'n gyttûn ag ewlhys eyn Harglwydh. Oblegyd pan orchmynno tâd, neu fam i ni beth gwrthwynebawl i'wlhys Duw. y pryd hynny rhaid [Page 180] yw,Matt. 10. Luc. 14. yn ôl gorchymyn Christ, cassau Tâd, a Mam: sef nad vfudhom vdhynt, ag nas gwrandawom arnynt, mwy na phettent gelynion i ni. Y olaf, yr ydym yn rhwymedid i'w perchi, drwy dhangos mewn ymdhygiad, eyn bod yn gwneuthur bri, a chyfry anwyl o honynt, drwy eu anrhydedhu a'n geiriau, ag a'n gweithredoedh odhialhan, fel y mae gwedol. A'r fath gyfri a wnaeth Duw a hyn, yn yr hên destafen, fel y gorchmynodh ladh yn farw, pwy bynag a fedhie regu,Leuit. 20. new felhdidhio ei dâd neu ei fam.
Nyd wyf etto'n craffu'n iawn, paham y mae cyfreith Dhuw yn gorchymyn i'r plant, gynorthwyo, ag ymgledhu tâd, a mam; heb angênyd gair o orchymyn i'r tâd, a'r fam, am gynorthwyo, ag ymgledhu eu plant, yn enwedig tra font yn fychein, [Page 181] pryd y mae angenrhaid vdhynt wrth goleth, ag ymgeledh.
Gwîr yw fod pôd vn o'r dhwy blaid yn rhwymedig i'w gilidh, ag fel y mae'r plant yn rhwymedid i roi cymorth, parch, ag vfudhdod i'r tâd, a'r fam; felhy mae'r hain yn rhwymedig i drefnu i'r plant, nyd yn vnic bwyd, a diod, a dilhad; ond hyffordhiad hefyd, adhysy, ag iawn athrawaeth. Ond mae serch a chariad y tâd a'r fam, tuag at eu plant, mor duedhol, mor rhyw-naturiol, ag mor gyffredin, nad oedh raid wrth gyfreith aralh scrifennedig, i dhwyn ar gôf vdhynt eu rhwymedigaeth tuag at eu plant. Eythr yn y gwrthwyneb, rhy-fynech y gwelir (yssywaeth) fod y plant heb gyf-atteb, na thalu'r gwyth adref a gariad, a serch tuag eu rhieni: Ag am hynny, digon rhaid oedh wrth y gorchymyn [Page 182] hwn, i dhwyn ar gôf vdhynteu rhwymedigaeth. Ag ni bu dhigon gan Dhuw roi'r gorchymyn, megys yn noeth, ond i beri ei gadw, fe' assiodh wrtho adhewid a bygythiad.
Hyfryd fydh gennyf gael gwybodaeth o'r adhewid, a'r bygythiad hynny.
Yngeyn wrth y pedwerydh gorchymyn y gyssododh Duw y geiriau hyn: fel y bydhech di hir hoedlog ar y dhaear: i dhangos mae gobrwy'r sawl a anrhydedhant eu rhieny, a fydh cael hîr-hoedl. A'r sawl nys anrhydedhant monynt, gyda chospedigaetheu erailh, y gânt y byrroes yn enwedid. A chymwys iawn yw'r gospedigaeth, a'r dial; oblegyd nyd yw reswm i'r dyn hwnnw gael mwnhaw ei hoedlyn hîr, a amharcho'r sawl a roesont idho yr ennios a'r hoedl.
Mae'n dyfod arnaf flys gofun i chwi vn peth. Ydyw'r hyn a dhywetpwyd am dâd a mam, i'w dheualh hefyd, am bennaethiaid erailh sydh i ni megys tadæ.
Da tros-ben yw gofyn felhy; oblegyd gwîr yw fod yn rhaid ystyn y gorchymyn hwn, fel y cyrheudho at yr holh bennaethiaid; yr Eglwysic, a'r hai bydol.
Eglurhâd y pummed gorchymyn.
Eglurhewch i mi ynawr y pummed gorchymyn.
Y gorchymyn hwn sy'n gwahardh Lhofrudhiaeth neu Gyflafan; self lhadh dynion: oblegyd lhadh petheu erailh nyd yw wahardhedig yn y gorchymyn hwn: A'r rheswm yw, canys y petheu byw hynny a greuwyd er mwyn dyn, ag am hynny pan [Page 184] ryngo bodh, ei wasneuthu eihun au hoedl nhwy, mae'n rhydh idho eu lhadh. Eythr y nailh dhyn ni chreuwyder mwyn, ag ar fedr dyn aralh, ond er mwyn gwasneuthu Duw: ag am hynny, nyd yw'r nailh dhyn berchennog, o hoedl dyn aralh; ag felhy nyd rhydh idho mo'i ladh ef.
Gwelwn er hynny fod Tywysogion, ag Vstusiaid, yn peri lhadh lhadron, a drygwyr erailh; ag etto dynion yw'r hain: ag nyd ydys yn cyfry eu bod ar hyn yn gwneuthur dim drug, ond gweithred dha.
Y Tywysogion, a'r Vstusiaid, yr hai sydh ganthynt gyhoedh awdurdawd, sy'n lhadh, ag yn dwyn ennioes y drygwyr, nyd fel perchennogion eu henioes; ond fel swydhogion tan Dhuw,Rom. 13. fel y dywed San Pawl: oblegyd fod Duw yn mynnu, ag yn ewlhyssio cerydhu rhay drwg, ie a [Page 185] dwyn eu hoedl odhiarnynt, pan font yn heudhu, fel y gelhont rhai da fod yn dhi-ofn, a byw yn hedhychol. Ag i hynny y rhodhes yr vn Duw y cledhe i law'r Tywysogion, a'r Vstusiaid, i wneuthur cyfiownder, drwy dhiffyn y rhai da, a chospi rhai drwg: Ag wrth hyn, pan dhyger ei hoedl odhiar y drygwas, drwy gyhoedh awdurdod, ni elwir dim o hynny yn lhofrudhiaeth, [...]na lhadh celaine; eythr gweithred o gyfiownder: A lhe mae gorchymyn Duw yn dywedyd, Na ladh; rhaid yw ei dheualh, na ladher neb trwy awdurdod neulhtuol dyn eihun.
Braidh yr wyf yn medru deualh vn peth, sef beth yw ai bod y gorchymyn hwn yn gwahardh i dhyn ei ladh eihun, megys y mae'n gwahardh idho ladh dyn aralh.
Di-amme yw fod y gorchymyn [Page 186] hwn yn gwahardh i dhyn ei ladh eihun;Aug. l. 1. de ciuit. Dei c. 17. & sequē tibus. oblegyd nad oes neb yn rhydh berchennog òi hoedl eihun, gan nas gwnaed dyn er ei fwyn, a'i fympwy eihun, ond ar fedr gwasneuthu o hono Dhuw. Ag am hynny nyd yw rydh i neb truy ei awdurned eihun fwrw ei hoedl heibio. Ag odigwydhod ymbeth sant, neu santes wneuthur amgen trwy ei lhadh euhunain, rhag colhi eu Fydh, neu eu dyweirdeb, rhaid i ni fedhwl, gael o honynt gennad arbenning gan Dhuw i hynny, a rhyw amnaid eglur oi wlhys: ag oni bae hynny, ni elhid mo'u escusodi nhwy odhiwrth bechod gorthrwm. Oblegyd mae pwy bynnag sydh yn ei ladh eihun, yn lhadh dyn, ag wrth hynny yn gwneuthur lhofrudhiaeth, yr hwn yw'r pechod yr ydis yn y pummed gorchymyn or gyfreith, yn ei wahardh yn bennaf.
Pam y dywedassoch yn bennaf?
Oblegyd nyd lhadh yn vnic yr ydis yn ei wahardh, ond yr anâfu hefyd, yr anrheithio, a'r ffusto, a phôb rhyw gam-niwed a wneler yn erbyn hoedl neu berson y cymydog. Ag felhy mae Crist eyn Harglwydh yn yr Efengyl,Matt. 5. wrth egluro'r gorchymyn hwn, yn gwahardh hefyd y dirmyg, cassineb, lhîd, a drygeiriau, a'r cyfryw dhrygnaws, a drwg anwydæ, a arferant o fod ynwraidh, ag yn egin achos lhofrudhiaeth: ag yn y gwrthwyneb, yn ewlhyssio i ni fod yn adhfwynion, ag yn howdhgar, drwy geisio byw mewn clyfaredh hedhych lawn, a chytundeb tyngnhedhol a phôb rhyw dhyn.
Eglurhâd y chweched gorchymyn.
Beth a gynwys y chweched gorchymyn?
Mae'n cynwys yn gyntaf gwahardhiad Godineb, sef pechu gyda gwraig briod gwr aralh. Oblegyd gannad oes dim yn y byd, a wneir mwy a gyfri am dano, yn nessaf at yr ennioes, na'r vrdhas, a'r anrhydedh; am hynny yn nessaf at y gorchymyn sy'n gwahardh lhofrudhiaeth, rheswm da oedh wahardh y Godineb, sy'n dwyn odhiar dhynion eu hurdhas, a'u anrhydedh.
Pam y dywedasoch yn gyntaf.
Oblegyd gan fod y deg orchymyn yn gyfreith o gyfiownder; yr ydis yndhynt, yn gyntaf dim, yn gwahardh y cyfryw bechôdæ sydh [Page 189] egluraf eu bod yn erbyn cyfiownder:Aug. q. 71. in Exod. a'r fath bechod yw Godineb. Ond er hynny yr ydis yn gwahardh yn ail, pôb math a rhywogaeth aralh ar bechodæ cnowdol; megys Cyssegrlwgr, sef pechu gyda dyn a gyssegrwyd i Dhuw: Ymloscach, sef pechu ynghyd ag vn cyfagos o fewn gradhæ cerenydh: Di-flodeuad, sef pechu trwy halôgi morwyn dhiwair. Gordherchiad, neu Aniweirdeb, sef pechu ynghyd a merch rydh lygredid, megys dyhirog o wraig wedhw, neu butten; a rhywogaetheu erailh dyhirach a phieidhiach, y rhay ni dhylid cimint a'u henwi ym-mhlith Cristnogion.
Er fy mod yn credu, mae canol y gwir yw hyn ol a dhywedasoch; etto da fydhe gennyf dheualh y gwreidhin a'r sylfaen, pam y mae Gordherchiad ag Aniweirdeb, yn [Page 100] bechod, gan nad yw chwaith hynod iawn, ag amlwg fod Aniweirdeb symlig neu Ordherchiad yn gwneuthur colhed, na cham niwed i neb.
A Aniweirdeb a wahardhwyd ym mhob dedhf, a chyfreith. Yn y dhedhf a'r gyfreith naturiol, yn y dhedhf scrifennedig, ag yn y dhedh o râs. Wrth gyfreith natur, mae yw gael, fel y mynne gynt y Patriarch Iuda,Gen. 38. dhwyn hoedl gwraig a elwid Thamar, (a fuasse ei waudh, neu ei ferch yn y gyfreith, dim ond am idhi feichiogi, a hithe'n wedhw. Wrth yr hyn mae'n hawdh gweled, fod dynion y pryd hynny, cyn rhoi cifreith Moyses, yn gwybod, wrth dhysc ag athrawaeth natur; fod Aniweirdeb yn bechod. Ar ol hynny ynghyfreith Moyses, Deut. 23. 1. Cor 6. Gal. 5. Ephes 5. 1. Thes 4 Heb. 12. yr ydis yn gwahardh Aniweirdeb mewn bagad o fannæ. Ag yn Epistolæ San Pawl, [Page 191] yr ydym yn darlhein yn fynech, na chant [...]r Aniwair fyned i mewn i ogoniant Paradwys. Ag nyd gwîr nad yw Aniweirdeb symlig in gwneuthur colhed, na cham niwed i neb; oblegyd ma'n perid colhed i'r wraig eihun, yr hon, wrth hynny a fydh gyfatgen i bawb, ag yn dhi enw da; Mae'n drygu, ag yn gwneuthur niwed mawr i'r plentyn, yr hwn a enir yn fasterdyn, neu blentyn gordherch: Mae'n gwneuthur cam a Crist, Oblegyd gan eyn bod ni igyd yn aelodeu i Grist,1. Cor. 6. mae'r neb a wnelo Aniweirdeb yn gwneuthur aelod Crig yn aelod i buttein. Ag yn dhiwethaf, mae'n gwneuthur cam y'r Yspryd glân; oblegyd mae'n cyrph ni yn demlau i'r Yspryd glân, ag felhy mae'r neb a dhifwyno ei gorph a budredhi Aniweirdeb, yn holôgi telm yr Yspryd glân.
Ydiw'r chweched gorchymyn hwn yn gwahardh dim aralh, ond rhywogaethae'r pechod a dhywedasoch?
Mae'n gwahardh hefyd pob a flendid aralh, a fo'n denu ne'u tywys dyn i Anlhadrwydh, Aniweirdeb, neu Odineb; megys y golw [...] drwg-serchaidh, yr a aflan ymgussanu, a'r cyffelyb; ag felhy mae'n Harglwydh yn eyn dyscu yn yr Efē. gyl:Mat. 5. lhe i mae'n dywedyd (wrth egluro'r chweched gorchymyn hwn) fod y neb a edrycho ar wraig i'w drwg-chwenychu hi, gwedy godinebu a hi eusys yn ei galon. Ag am hinny, angenrhaid yw i'r neb a fynne mewn difri ochelyd y cyfryw bechodæ, fod yn dhyfal, ag yn dhi-esceulys, ar gadw ei bum-synhwyr, yn enwedig ei lygaid: yr hai ydynt megys trwy'r hai, y mae marwolaeth yn [Page 193] dyfod i mewn i'r enaid.
Eglurhâd y seithfed gorchymyn.
Beth y mae'r seithfed orchymyn yn ei gynwys?
Mae'n cynwys gwahardhiad lhedratta, sef cymeryd y da 'fo'n eidho dyn aralh, yn erbyn ewlhys y perchennog. Ag mewn pryd ag amser cyfadhas y gwahardhed Lhedrad, ar ôl gwahardh Lhofrudhiaedh, a Godineb. Oblegyd ym-mhlith holh betheu anwyl y byd hwn, yn nessaf at yr hoedl, anwylaf peth yw'r anrhydedh, ag yn nessaf at yr anrhydedh, anwylaf peth yw'r golud, a'r cywaeth.
Passawl modh y gwneir yn erbyn y seithfed gorchymyn hwn?
Mewn dau fodh enwedig, at yr hai y perthynant yr holh fodhion erailh: Y modh enwedig cyntaf, yw [Page 194] dwyn yr eidho aralh yn dhirgelgudhiedig; a'r modh hwn a elwir yn briodol Lhedhrad. Yr ail modh enwedig, yw dwyn yr eidho aralh yn gyhoedhys, trwy drais, fel y gwnant y sawl a speiliant ar fin ffordh, o'r modh hwn a elwir Crib-dheiliad, neu Drais-yspail. Ag er nad yw'r gorchymyn yn henwi ond y cyntaf, gan dhywedyd; Na ledratta. Etto fe a dheuelhir ei fod yn gwahardh yr ail hefyd: oblegyd gwahardh y drwg lheiaf, yw gwahardh hefyd yn dhiamme, y drwg y fo mwy.
Pa bechodæ y [...]r heini a berthynant at ledrat, a speilio, sydh wahardhedig yn y gorchymyn hwn?
Yr hain yn gyntaf, pôb twylh, a somiant, a wneler wrth brynu a gwerthu, a'r cyffêlyb fargeinio, a masnach.Aug. q. 17. in Exod. A'r hain a berthynant at edrat. Oblegyd bod y neb a wnelo'r [Page 195] cyfryw dwylh, yn dwyn yn gudhiedic odhiar ei gymydoc, mwy nag sydh dhyledys idho. Yn ail, pob vsuriaeth, sef lhôg, neu occer a wneler wrth fenthygio arian, ne'u gwerth, tan ammod cael y nechwyn adref, gyda hyn a hyn ychwaneg o lôg. A hyn a berthyn at yspeilio, am fod y lhogydh a'r ocrwr, yn gofyn yn gyhoedh fwy nag a fenthygiodh. Yn drydydh, yr holh golhedion a wneler i'r cymydog, er na bo'r neb a barodh y golhea dim cywoethach o i herwydh: fel pan fo dyn o'i fodh yn lhosci ty ei gymydoc. A hyn a berthyna nailhai at ledrat, neu at yspeilio, wrth fel y gwneler y golhed, tan gudh, yntau yn gyhoedh. Yn bedwaredh, y sawl ni thalant, ag ni rodhant adref i'r cymydog, y peth y bont yn rhwymedig i'w dalu, a'i drefnu adref, a bechant yn erbyn y gorchymyn hwn, ag yr vn ydiw yn [Page 196] ei herwydh, a dwyn ynlhedrat; gan ei fod yn cadw, ag yn dal yn ei law yr eidho aralh, yn erbyn ewlhys y perchennog. Yn bummed, mae'r neb a gaffo'r peth a golhodh dyn aralh wrth ei gadw idho eihun yn pechu'n erbyn y gorchymyn hwn. Dywedais y peth a golhodh dyn aralh, oblegyd nyd yw bechod gymeryd y petheu ni bont yn eidho neb fel rhy wdlws neu faen gwerth fawr, y gapher ar lân y môr. Yn chweched, at ledrad neu speilio y mae'n perthyn perchennogi megys yr eidho dyn eihun y peth y dhylae fod yn gyffrêdin i fagad oblegyd speilio'r cyffredinrwydh yw hynny, neu dhwyn odhiarnynt yn lhedrad y peth sydh eidhynt.
Mi a chwenychwn gael gwybod, ydiw lhedrad yn bechod mawr gorthrwm?
Pôb pechod marwol, a elhir [Page 197] yn hydha ei alw yn bechod mawr, ag yn orthrwm: am eu bod yn peri i dhyn golhi'r bywyd tragwydhol. Eithr hyn sydh megys priodawl ir lhedrad ei fod yn denu, ag yn lhithio dyn i lawer mowr dhrwg. Ag felhy gwelwn fel y dyg wydhodhi Sudhas, am idho gymeryd megys yn eidho eihun y peth a roesid i wasneuthu rhaid gyffredin eyn Harglwydh, a'r Apostolion santaidh; adel o hono ei hudo or diwedhi i fradychu ei Athraw santeidhiaf. A [...] ni a welwn beunydh fel y bydh [...]peilwyr arfer o ladh y dynion nys gwelson erioed o'r blaen a'u lhygaid, er na bo dim cas, na gelynastra [...]hyngthint a nhwy; dim ond er chwant medhu'r tippin cywaeth a fo centhynt. Ond ni bydh Duw arfer o genhiadu i'r sawl a dhyco'r eidho aralh eifedhu chwaith hîr Ag felhy Sudhas ar ol y brad, a ymgrogodh [Page 198] eihun yn ebrwydh, ag anfynech y dianc lheidr rhag y cebystr a'r crocpren or diwedh.
Eglurhâd yr wythfed gorchymyn.
Beth y ma [...]'r wythfed gorchymyn yn ei gynwys?
Traetassom hyd yn hyn o'r cammæ a wneir i'r cymydog ar weithredoedh; ynawr y caulynant y cammæ a wneir idho ar eiriau: ag am hynny, yr wythfed gorchymyn sy'n gwahardh camdystoliaeth: yr hwn yw vn o'r cammæ pennaf ag anferthaf a wneir ar eiriæ.
Mi a chwenychwn wybod ydiw yn erbyn y gorchymyn hwn dhywedyd ffûg, neu gelwydh, heb wneuthur niwed i neb.
Fe a dhigwydh dhyn dhy [...]edyd amgen na'r gwîr, mewn tri modh; Y cyntaf trwy dhrygu ei gymydog, [Page 199] megys pan fo dyn gerbron vstys, neu ynâd, yn dwyn tystiolaeth yn erbyn vn aralh, sef dharfod idho ledretta, neu ladh celain, trwy wybod yn dhigon yspys, nad yw hynny wîr, a hwn elwir; Celwydh drygawl maleusys. Yr ail, trwy gynhorthwyo'r cymydog, fel pan d [...]ywetto dyn i escusodi, i achub, a gwared ei gymydoc rhag rhyw berigal: A hwn a elwir: Celwydh Cymwynasel. Y trydydh, heb wneithur idho na drwg, na da, sef trwy dhywedyd peth di-les di-niwed, y fo amgen na'r gwîr; a hwn a elwir Celwydh gwagawl, segurlhyd. Y cyntaf o'r modhion hyn, yw'r priodawl wahardhedig wrth y gorchymyn hwn: Canys hwnw sydh dystiolaeth nyd celwdhog yn vnic, ond ar gam hefyd, ag anghyfion. Y dhau erailh er nas cynhwysant dim anghyfiownder, [Page 200] ag nad ydynt bechodæ mor anferth a'r cyntaf;Aug. lib. contra mendacium. etto er hynny, gwîr bechodæ ydynt, or hyn lheiaf madheuol. Ag am hynny, er dim a fo, nyd yw rydh dywedyd celwydh.
A gynwys y gorchymyn hwn dhim aralh, ond gorafun y celwydh?
Mae'n cynwys tri rhywogaeth aralh o bechodæ a wneir a'r tafod, ag a elhir eu deualh tan henw Cam-dystiolaeth: a'r hain ydynt, Gwarth, neu Wradwydhiad; Cysswyn, enlhib, neu dhrwg absen; a Rhegu, neu Felhdithio.
Beth yw Gwarth a Gwradwydhiad.
Gair dirmygys angyfion, a dhyweder er ammarch ar gymydoc: megys dywedyd wrtho ei fod yn angalh, gwan ei synwyr, gwadl, di-enw da, a'r cyffêlyb. A body cyfryw air yn bechod gorthrwm, pam dhyweder [Page 201] y gair ar fedr cythrudho dyn, a gwneuthur idho gam,Matt. 5. ma [...]'n Achubwr yn yr Efengyl santaidh yn dangos; lhe i mae'a dywedyd, fod y sawl a alwo ei gymydog yn ffol, neu ynfyd, yn euog o dân vff [...]rn. Dywedais pan dhyweder y gair ar fedr cythrudho dyn a gwneuthur idho gam. Canys pan dhyweder yr vn gair mewn celhwair, neu er mwyn rhybydh a cherydh, fel y dywedant y rhieni weithiau wrth eu plant, a'r Athro wrth ei dhyscyblion, heb fedhwl eu drygu, na gwneuthur vdhynt dhim cam, yno nyd gwarth, na gwradwdhiad yw, na phecod chwaith, odhigerth yscatfydh idho fod yn bechod madheuol.
Beth yw Cysswyn, neu dhrwg Absen?
Cysswyn neu dhrwg Absen yw dwyn odhiar y cymydog ei [Page 202] enw da, drwy dhywedyd rhyw dhrigioni am dano: a hynny a wneir, nailh ai trwy deuru rhyw dhrwg, yn gelwdhog, neu trwy anirgelu, datgudhio, a manegu'r gwîr-dhrwg cyfrinachawl, gan beri idho golhed ar hynny o'i enw da, a'i gymheriad, gyda'r sawl ni wydhent dhim odhiwrth y pechod. A'r drwg-absen hyn sydh aml, ag arferol trosben ymmhlith dynion, ag y mae'n bechod gorthrwm, peryglys. Oblegyd anwylach yw'r enw da, na chywaeth, ie peth anwylach yw gan lawer vn, ei enw da; na'i enioes. Ag am hynny mowr-dhrwg yw peri idho ie golhi. A chida hynny, lhe mae hawdh cael i dhrygæ erailh gyfaredh, a medhiginiaeth; vn o'r petheu anhowsaf yn y byd, yw ail-drefnu i dhyn ei enw da: Ag etto maer sawl a'i dûg odhiar ei gymydog, drwy dhrwg-absen; yn [Page 203] rhwymedig i'w ail-drefnu idho drachefn. Am hynny cyngor hyles, a budhol yw dywedyd y goreu bôb amser am bawb; phryd ni bo dim da i'w dhywedyd, tewi.
Beth yw rhegu a melhdithio?
Rhegu yw rhoi rhyw felhdith i'r cymydog, megys dywedyd Melhdith idho; neu dhymuno ag erchi dyfod idho amryw rywogaetheu o feldithion; megys dywedyd: Deled it y drwg a'r drwg. A'r rhegu hyn sydh bechod o'r gorthrym if, pan dyfo alhan o gâs, a phryd y bo dyn yn dymuno a gwir ewlhys ei galon ar dhiscyn or drygæ hynny ar y cymydog: Ond pan dhigwydho i'r rhegfa fod heb gâs, ag heb fod y galon yn chwenych idho'r drwg, y bo'r tafod yn ei grybwylh, nail ai mewn celhwair, neu o ran bod y tafod [Page 204] yn lhithrig, neu mewn rhyw dhigofaint bach disymwth, megys yn amryfus yn dianc alhan o'r geneu, hed fawr dhal ar y gair a dhyweder, mae'n lhai'r drwg: Ond etto'n dhrwg bôb amser am na dhyle dhyfod alhan o enau Cristion (yr hwn sydh ansodh-fâb i Dhuw) dhim ond bendithion.
Eglurhâd y nawed gorchymyn.
Beth y mae'r nawed gorchymyn yn ei gynwys?
Mae'n gwahardh chwenychu gwraig y cymydog; oblegyd er gorafun y Godineb yn y chweched gorchymyn, mynne Duw er hynny, wahardh o'r neulthu, i dhyn chwenych y Godineb, i dhangos fod pob vn o'r dhaw yn bechod.
Mi a debygwn nad ydis yn y gorchymyn hwn, yn gwahardh i [Page 205] wraig chwenychu Godineb gyda gwr priod gwraig aralh; ond gorafun yn vnic i wyr chwenychu'r Godineb a wneir gyda gwraig gwr aralh, gan ei fod yn dywedyd. Na chwenych wraig dy gymydoc.
Nyd gwir: Oblegyd yr ydis yn gorafun Godineb i'r wraig, cystal ag i'r gwr. Canys er bod y gorchymyn yn dywedyd. Na chwenych wraig dy gymydog, er hynny y peth yr ydis yn ci dhywedyd wrth y gwr, sydh raid ei dheuath, fod yn ei barablu hefyd wrth y wraig; am fod y gwr megys y godidocaf, yn cynwys y wraig. A phob dyn a wyr, fod Godineb y wraig yn wrthunach, ag yn warthusach, o'r lheiaf yng-olwe y byd; nag yw Godineb y gwr, fel y mae rhinwedh Diweirdeb a lhedneisrwydh, yn heudhu mwy o glôd, mewn gwraig, [Page 206] nag mewn gwr. Wrth hynny gan fod yn wahardhedig i wr, chwenychu gwraig ei gymydog; di-ame yw fod yn wahardhedig i wraig, chwenychu gwr ei chymdoges.
Chwi a dhywedasoch vchod, fod yn gorafun pob rhywogaeth aralh o bechodæ cnowdol, wrth wahardh o gorafun y Godineb. Mi a chwenychwn wybod, ai'r vn cyffêlyb sydh i ni i'w dheualh am chwenychu.
Nyd amme nad ydis wrth wahardh chwenychu Godineb, yn gorafun hefyd chwenychu Gordherchiad, a phôb Aniweirdeb aralh, ag Anlhadrwydh. Oblegyd yr vn rheswm sydh am yr holh bechodæ hynn.
Mi a chwenychwn gael gwybod, ydiw pob chwenychu gwraig gwr aralh, yn bechod, er na bo'r [Page 207] ewlhys yn cytûno ag yn cydsynnu a gwyn y cyfryw dhryg-chwant.
Mae San Gregor y Pâp,S. Greg. respons. ad. q. Aug. cap. vltimo. yn rhoi i ni hyn o dhysc fod tri gris, neu dair gradh yn y drwg chwenychu: Y gyntaf yw Lhith, yr Annog, neu Echrys; Yr ail, Deleithiad, neu Ymdhyfyrwch; Y drydhed, Cyd-syniad, neu Gytundeb yr ewlhys. Lhith yw, pan fo'r cythreul yn gwthio i mewn, rhyw fedhwl aniweir, i fynwes y galon; gyda'r hwn fedhwl, y bydh arfer o dhyfod fel cefailh, yn gynglyn, megys dechreuad disymwth o'r drwg-chwenychu. Ag os y Lhithiad hyn a wrthwynebir yn gyflym dhi-aros, yn y modh nas cerheudho gyfwrdh a dim o'r Ymdhyfyrwch, nyd yw'r dyn yn pechu dim, ond yn hytrach yn rhyglydhu gerbron Duw. Eythr os y Lhith a'r echrys, a geiff gennad [Page 208] i nynnu, ag i fyned rhagdhi yn danlhyd, heb ei diffodhi, nys dyfod i beth cnowdol Ymdhyfyrwch, a deleithiad; ag etto heb Gydsyniad, a chyflawn Gytundeb y rheswm, a'r ewlhys: y pryd hynny nyd yw dyn yn dianc heb ryw be [...]hod madheuol. Ond os y Lhith a'r dyfyrwch a gânt vnwatth Gydsyniad, a chyflawn Gytundeb y rheswm, a'r ewlhys, drwy fod y dyn yn gweled, ag yn dal ar y d [...]yg-beth, y bo'n ei fethwl, a'i chwenychu, ag etto o'i wir fodh yn ewllysgar ymaros yn y cyfryw dhrwg-chwenychiod; dyna f [...]'n pechu pechod marwol. Ag fel dyna'r peth a wahardhed yn briodol yn y gorchymyn hwn.
Eglurhâd y degfed orchymyn.
Beth y mae'r degfed orchymyn yn ei gynwys?
Mae'n gwahardh chwenychu da bydol o'r eidho rhai erailh, yn gystal y di-gynyrchol, megys eu tai, a'i tiroedh, a'r cynyrchol; megys eu haur, a'u harian, eu anifeiliaid, eu ffrwythydh, a'r cyffêlyb betheu erailh. Ag fel hyn y cyflownir cyfiowndra perffeith, pryd nys gwnelom gam-niwed i'n cymydog, nag a gweithred, nag a gair, nag a drwg fedhwl, neu dra-chwenychu.
Vn peth sydh anian ryfedh gennyf, gan dharfod i Dhuw orafun, a gwahardh Lhofrudhiaeth Godineb, a Lhedrad; paham nas gwahardhe chwenychu'r Lhofrudhiaeth, megys y mae'n gwahardh chwant y Godineb a'r Lhedrad.
Y rheswm yw hyn; am na bydh dyn arfer chwaith mynech o chwenychu ond y peth a fo âr dhwyn idho ryw dhaeoni, neu o'r hyn [Page 210] lheiaf rith daeoni; ag felhy chwenych dyn y Godineb, am ei fod ar dhwyn idho dhyfyrwch: fe a chwenych y Lhedrad, am ei fod ar dhwyn idho elw. Ond y Lhofrudhiaeth a'r lhadh celain, ni dhwg dhaeoni yn y byd: ag am hynny, nyd ydis arfer o'i chwenych er ei fwyn ei hun; ond yn vnic er mwyn godhiwes y Godineb, neu'r Lhedrad, neu ryw dhrwg-amcan aralh, y bo dyn yn ei chwenych. Am hynny er bod chwenychu Lhofrudhiaeth, yn bechod anferth; er hynny, ni welodh Duw fod yn rhaid ei orafyn ar ei ben ei hun, rhag howsed oedh dheualh ei fod yn wahardhedig, wrth wahardh y Lhofrudhiaeth eihun. Duw hefyd wrth gloi'r drws rhag tra-chwenychu difyrwch, ag elw; a gauodh alhan chwant y Lhofrudiaeth; yr hwn nys chwenychir chwaith mynech, [Page 211] ond nailh ai i gael rhyw elw bydol, new dhyfyrwch.
Mi a chwenychwn gael gwybod, pam na weled erioed wrth gyfreithiæ dynion, or afyn chwenychu'r drwg, fel y gwelir ei fod yn wahardhedig wrth y gyfreith hon or eidho Duw.
Y rheswm o hynny sydh eglur: Oblegyd nad yw dynion (er eu bod yn Bapæ, neu Emerodrwyr) yn canfod y galon odhimewn, ond y petheu odhialhan yn vnic; am hynny nys galhant na barnu'r medhyliæ, a'r chwantæ, na'u cerydhu. Ag felhy nyd gwiw, na gwedhol vdhynt ymyrryd a'u gwahardh. Eythr Duw yr hwn a fedr dharlhein calon pôb dyn, a dhichon gerydhu y drwg fedhyliæ, a'r trachwantu; ag o herwydh hynny, mae fe'n ei gyfreith santaidh yn eu gwahardh.
Eglurhâd Gorchmynion yr Eglwys. PENNOD. 7.
HEBLAW Gorchmynion Duw, mi a chwenychwn gael gwybod, oes gorchmynion erailh yn y byd sydh raid eu cadw.
Oes gorchmynion yr Eglwys; sef y rhai hyn.
1. Gwrando'fferen yn gyndrychol lhei i bo, bob gwyl gorchmynedig.
Y Gvvener sydh ympryd hefyd, lhe bo'r arfer yn rhvvymo, fel yn Lhoegr' a Chymru. 2. Ymprydio'r Grawys, y Catgoriæ, a phôb noswyl gorchmynedig, ag ymwrthod a chig y Gwener a'r Sadwrn.
3. Cyffessu o'r hyn lheiaf vnwaith yn y flwydhyn.
4. Cymuno, o'r hyn lheiaf [Page 213] ynghylch y Pasc.
5. Talu degymæ i'r Eglwys.
6. Na wneler neithiar priodas ar amseroedh gwahardhedig, sef o'r Sûl cyntaf yn Adfent, neu dhechreu'r Grawys gayaf, hyd ar ol yr ystwylh. Ag or dythwn cyntaf o'r Grawys, sef Mercher y lhudw, hyd ar ol y Pasc bychan.
Ond nyd oes yn fy-mryd adrodh dim ychwaneg ynawr o'r gorchmynion hyn, am eu bod yn hawdh eu deualh, ag am fy mod yn amcanu treuthu peth o'r Offeren, o Gyffes, a Chymun, ag o'r Ympryd hefyd, pan dhelom i grybwyl, ag i sôn am y Sacrafennæ santaidh.
Eglurhâd y Cynghorion Efangylawl. PENNOD. 8.
YR wyf yn chwenych cael gwybod, os oes heb law gorchmynion ein Harglwydh rai cynghorion gwedi idho eu rhoi, tuag at fyw yn berffeithiach.
Oes, fagad o gynghorion santaidh, hyles, a chynorthwyawl tuag at gadw'n berffeidhiach y gorchmynion; ond y rhay pennaf yw tri, sef Tylôdi 'wlhysgar, Dyweirdeb, ag Vfudhdod.
Pa fodh y calhynir y cyngor o Dylôdi?
Trwy fod odhyn heb fedhu dim bydol ar ei helw, ar ol idho rannu i'r tylodron ei holdi-ha byd, neu eu rhodhi i fod yn gyffredin i'r Cyfen: [Page 215] Canys math ar rannu da i dylodion, yw gwneuthur felhy. A'r cyngor hwn a dhyscodh Grist i ni, nyd yn vnic ar eiriau, ond trwy ei sampl eihun; a'i dhily na wnaethont yr Apostolion santaidh, a'r holh Gristnogion hefyd, oedhent yn byw yn Hierusalem, neu Gaerselem,Act. 4. ynnechreuad y gyssefin Eglwys. Ag i orphen yr holh rai o grefydh ydynt yn gwneuthur adhuned ganlyn y cyngor hwn o Dylôdi 'wlhysgar.
Pa fod y canlynir y cyngor o Dhiweirdeb?
Trwy ymroi o fod yn dhiwair yn oestadol, gan ymattal, ag ymwrthod, nyd yn vnic a phechodæ cnowdol, ond a phriodas hefyd. A'r cyngor hwn hefyd, a dhyscodh eyn Harglwydh i ni, ar air,Matt. 19. ag a'i sampl ei weithred: a'i dhilyn a wnaethont yr Arglwydhes Fair, Siôn Fedydhiwr, [Page 216] a'r holh Apostolion ar ol i Grist en galw nhwy i swydh yr Apostoliaeth. Ag ar eu hôl nhwythæ, yr holh rai o grefydh, syn gwneuthur adhuned ar bennig o'r vn peth, a'r holh Eglwyswyr a fo ganthynt gyssegr-lan vrdhæ.
Pa fodh y canlynir y cyngor o Vfudhdod?
Trwy ymwrthod o dhyn a'i farn, ag a'i'wlhys eihun; gan ganu'n iach vdhynt, dros fyth (yr hyn a elwir yn yr Efengyl ymwadu o dhyn eihunan) a'i ossod eihun i fyw tan ewlhys ei bennaeth,Matt. 16. ym-mhob peth ni bo'n erbyn Duw. A'r cyngor hwn a dhyscodh Achubwr y byd i ni, nyd yn vnic ar eiriau, ond trwy ei sampl hefyd; gan vfudhau i'w dâd tragwydhol, ym-mhob rhyw beth; a byw pan oedh yn fachgen, tan vfudhdod i'w Fam, ag i Sant Ioseph; [Page 217] yr hwn yr oedhid yn ei gyfri yn dâd idho,Luc. 2. am ei fod yn briod a'r Arglwydhes Fair; er nad oedh ef wir dâd idho dhim, gan ei eni [...]f o fam oedh Forwyn bur-wyryf bob amser. Agfel dyna'r trydydh cyngor y mae rhai o grefydh yn ymrwymo eihunain ag adhaned o'i gadw.
Paham y mae tri cyngor enwedig heb fod y chwaneg?
Am fod y cynghorion enwedig yn gwasneuthu i orchfygu, ag i dhadwreidhio rhwystron perffeidhrwydh, sef rhwystron Cariad perffeith: A thri rhwystr arbennig sydh, sef, Serch ag awydh i dha'r byd; yr hwn a orchfygir, ag a dhadwreidhir drwy Dylodi: serch neu chwant dyfyrwch cnowdol; yr hwn a orchfygir, ag a dhadwreidhir drwy Dhiweirdeb: serch ag awydh anrhydedh, a gallhued; [Page 218] yr hwn a orchfygir, ag a dhadwreidhir drwy Vfudhdod. Gyda hynny, ganna fedh dyn ond tri mathar dhaeoni; sef Enaid, Corph, a Golud bydol: wrth roi i Dhuw ei Olud, drwy Dylodi; ei Gorph drwy Dhiweirdeb; a'i Enaid, drwy Vfudhdod; mae'n aberthu i Dhuw, hyn olh sydh ar ei helw: Ag felhy yn ei dharparu eihun i gerheudhyd perffeidrwydh Cariad-perffeith, yn y modh goreu sydh bossibl, a galhadwy yn y byd yma.
Eglurhâd Sagrafenneu'r lan Eglwys. PENNOD. 9.
DYscais trwy râd eyn Harglwydh, dair o'r rhannæ pennaf i'r Athraweth Gristnogawl: Mae'n ôl i chwi eglurhau'r bedwaredh; yr hon (os da fynghôf) [Page 219] sy'n cynwys 7. Sagrafen yr Eglwys.
Hyles iawn, a budhol yw' rhan hon o'r Athraweth: ag am hynny, da gwedhe i chwi, ei dyscu hi, yn dhyfal trosben, ag yn dhysceulus. Gan hynny, rhaid'i chwi wybod,Cone. Trident. praef. sess. 7. fod yn yr Eglwys drysor mawr o'r Sagrafenneu santaidh, drwy rym, a rhinwedh yr hain, yr ydym yn cael Grâs Duw, ag yn ei chadw, a'i chwanegu; îe ag yn dyfod o hyd i'w chael hi ailwaith, wedi digwydho i ni ar eyn bai eyn hunain ei cholhi. Am hynny, yr wyf ar fedr eglurhau i chwi; Beth yw Sagrafen? Passawl vn sydh o honynt? pwy a'u trefnodh? ag ymbelh betheu erailh; a chwedi hynny, egluraf bob vn o honynt ar ei phen eihunan.
Dechreuwch ithau yn enw Duw egluro i mi. Beth yw Sagrafen? Canys mawr yw fy-mlys am gael deualh [Page 220] hynny.
Dirgeledh gyssegr lân yw Sagrafen, drwy'r hony mae Duw yn rhodhy i ni ei râs;Chrys. hom. 83. in Matt. gan gyndrychôli, rypresennu, a gossod gerbron eyn golwc y dirgel effeith, a'r gwaith y mae Gras yn ei weithio odhimewn, yn yr enaid. Oblegyd pettem-mi ysprydion heb gyrph, megys y mae'r Angylion, Duw a rodhe ei ras i ni yn ysprydol. Ond gan eyn bod wedi eyn cyfonsodi o enaid a chorph, am hynny mae Duw mewn modh cyfadhas i'n natur ni, yn rhodhi i ni ei ras drwy gyfrwng gweithredoedh corphoral yr hai (fel y dywedais) sydh gyda hynny, drwy gyffelybiaetha [...] corphorol, yn egluro i ni waith ag effeith grâs odhimewn. Megys, er sampl, y Bedydh santaidh, (yr hwnyw vno Sagrafenneu'r Eglwys) a wneir trwy wlychu, neu olchi'r [Page 221] corph, a thrwy henwi hefyd y Drindod santeidhiaf: Trwy gyfrwng y dedhfawl olchiad hynny, mae i Duw yn rhoi ei râs, ag yn ei gossod hi o fewn enaid y dyn a fedydhier: gan dhwyn i ni ar dheualh, mae megys ag y mae'r dwfr hunw yn golchi'r corph, felhy mae grâs yn golchi ag yn glanhau'r enaid odhiwrth bob pechod.
O deuelhais î yn iawn; tri pheth sydh angenrhaid i wneuthur Sagrafen; Yn gyntaf ei bod yn Ceremoni, neu dhedhfawl weithred olygawl; Yn ail, bod o Dhuw yn barod i roi grâs, drwy gyfrwng yr vnrhyw; Yn drydydh, bod cyffelybiaeth rhwng y Ceremoni, neu'r dhedhf, a gwaith, neu effeith grâs; modh y galho'r Sagrafen gyndrychôli ag arwydhocau odhialhan, yr vn gwaith gras odhimewn.
Odieth yw deualh felhy, mae i chwi i'w wybod o chwaneg, fod Saith o'r Sacrafenneu hyn: sef
- Conc. Tr [...]d sess. 7. can. 2.1. Bedydh.
- 2. Chrysm neu Fedydh-Escob.
- 3. Sagrafen yr Alhor.
- 4. Paenyd, neu Gyffes.
- 5. Olew, neu'r Eneiniant olaf.
- 6. Vrdhæ.
- 7. Priodas.
Y rheswm o'u bod yn Saith; yw, am weled o Dhuw yn dha, idho fyned rhadho i rodhi'r enios ysprydol, megys ag y mae'n arfer o roi'r enioes corphorol. Ag am ennioes y corph, Yn gyntaf, mae'n rhaid Geni; Yn ail, rhaid yw Cryfhau a chynydhu. Yn drydydh, mae'n rhaid wrth Borthiant, a chynaliad. Y n bedwerydh, o digwydh cael briw, neu glefyd, mae'n rhaid wrth Fedhiginiaeth, [Page 223] a chyfaredh i ail drefnu'r iechyd. Yn bummed, pan fo achos i ymladh, mae'n rhaid wrth Arfæ. Yn chweched, mae'n rhaid wrth Reolwyr, a Lhywodraethwyr, i lywodraethu'r sawl a aned, ag aethont yn gryfion. Yn seithfed, rhaid yw bod Rhai i gymeryd gofal am aml-hau y dynol-ryw: Oblegyd oni bae fod rhai erailh yn dyfod i'r byd, yn lhe'r sawl sy'n meirw, buan y darfydh am genhedlaeth dyn. Felhy o ran yr enioes yspry dawl; Yn gyntaf, rhaid yw Geny grâs Duw ynom, a hynny a dhigwydh drwy Fedydh; Yn ail rhaid i'r Gras hyn Gynydhu, a chael Ymgryfhau, a hynny a geir drwy'r Crysm, neu Fedydh-Escop; Yn drydydh rhaid i'r Grâs gael Porthiant, a Chynhaliad; a hynny'geir drwy Sacrafen yr Alhawr. Yn bedwerydh, rhaid [Page 224] yw Ail argeisio grâs, pan dhigwydho i dhyn ei-cholhi, a hynny a wneir drwy Fedhiginiaeth Pænyd. Yn bummed yn ing yr Angæ, [...]ngenrhaid i [...]hyn fod yn Arfog, yn erbyn y gelyn vffernawl: yr hwn a fydh y pryd hynny, yn bryssurach nag vn amser aralh, i daro'n dost yn cyn herbyn; ag Arfog a fydhwn drwy'r Olew, a'r Eneiniant olaf. Yn chweched, wrth raid oedh fod yn yr Eglwy [...], ryw dhynion i'n Cyfarwydho ni mewn buchedh ysprydawl, ag i'n Lhywodraethu; a hynny'g ir drwy Vrdhæ: Rhaid hefyd oedh fod yn yr Eglwys rai a gymerent Ofal santaidh, am aml-hau dynion, i gael felhy chwanegu rhifedi'r Cristnogion; a hynny a wneir drwy Sagrafen Priodas.
Pwy a dhychmygodh, ag a drefnodh betheu mor rhyfedhawl?
Y Sacrafenneu rhyfedhawl hyn nys galhe neb eu dychymig,Conc. Trid. sess. 7. can. 1. ond y doethineb nefawl; na neb eu trefnu, a'u darparu, ond Duw eihun, yr hwn pia rhoi Grâs. Ag felhy Crist eyn Harglwydh ni, yr hwn sydh Dhuw a Dyn, a'u dychmygodh nhwy, ag a'u trefnodh. Heb law hyn, megys rhyw bibelhau yw'r holh Sacrafennæ, trwy'r hain y gofera attomi râd, a rhinwedh diodhefaint yr vn Crist. A di-amme yw na eilh neb fod yn gyfranog o drysor, a ffrwyth diodhefaint Crist, ond trwy'r modhion, a'r cyfryngau, a drefnodh, ag a dharparodh Crist eihun.
Gwych a fydhe gennyf wybod oedh Sacrafennæ yn y byd, yn amser yr hên Destafen; a pheth oedhent, ai bod mor odidawg ag ydiw eyn rhai ni.
Yr oedh yn yr hên Destâfen [Page 226] fagad o Sacrafennæ; ond bod rhagor rhwng eyn rhai ni a'r heini,Conc. Trid sess. 7. can. 7. Aug. ep. 116. mewn pedwar peth. Yn gyntaf, yr oedh yn fwy y rhifedi o honynt, nag rhai ni. Yn ail, yr oedh anhowsach eu cadw, a'u harfer; nag ydiw arfer, a chadw eyn rhai ni. Yn drydydh, yr oedhent yn dywylhach, ag felhy yn an-amlach rhai a dheualhteu beth yr oedhent yn ei arwydhocau, lhei mae arwydhâd eyn rhai ni mor eglur, ag y galho pob dyn ei dheualh. Yn bedwerydh, nyd oedh yr heini yn rhoi Grâs, fel y gwna eyn rhai ni, ond yn vnic yn rhag dhangos, ag yn rhoi adhewid o'r Grâs oedh i dhyfod. Ag felhy mae'n Sacrafennæ ni y lhawer godidocach, gan eu bod yn lhai eu rhifedi, yn howsach, yn eglurach, ag yn fwy eu rhinwedh, nag oedh yr heini.
Da hefyd a fydhe gennyf [Page 227] wybod, pa vn ym-mlhith eyn sayth Sacrafenneu ny, yw'r mwyaf olh a'r godidocaf.
Mawr a godidawg ydynt eugyd, ag etto pob vn o honynt sydh genthi fowredh, a godidowgrwydh priodol idhi'hun. Godidocaf olh a mwyaf, yw Sacrafen yr Alhawr; am ei bod yn cynwys o'i mewn Awdr gras, ag Awdr pôb daeoni, yr hwn yw Crist eyn Harglwydh. Ond os sôn, pa vn reitiaf wrthi; angenrheitiaf ydynt Bedydh, a Phænyd. Os sôn am oruchafiaeth y sawl alhant drîn y Sacrafenneu, godidocaf rhai ydynt Chrysma, neu Fedydh-Escop, ag Vrdhæ. Am na dhichon neb yn gyffredinol, ond Escop drîn, a rhodhi'r vn o'r hain. Os sôn am eu howsedh, howsaf vn ei derbyn, yw'r Olew; am fod yn madhe pechodæ trwy hôn, heb flinder pænyd. [Page 228] Os sôn am yr Arwydhocâd, mwyaf, a godidocaf, yw Priodas; am ei bod yn arwydhocau y cwlwm diogel, a'r vndeb cyfymwasc, sydh rhwng Crist, a'r Eglwys.
O'r Bedydh.
Dechreuwch (o rhynga fodh i chwi) eglurhau'r Sagrafen gyntaf, ag yn gyntaf peth, dywedwch i mi hyn, paham y gelwir hi Bedydh?
Yr henw hwn Bedydh, sy'n goferu o air groeg yn arwydho golchiad; A'r lan Eglwys a welodh yn dha arfer o'r gair hwn, am fod yr enw, a'r gair Golchiad, yn rhy sathredig, gan fod yn ei arfer beunydh i arwydho petheu o'r gwaelaf. Ag am hynny er mwyn cael o'r Sagrafen hon henw priodol, a'i hadnabod yn welh a'i pherchi, hi a alwed Bedydh.
Beth sydh angenrhaid i [Page 229] wneuthur Bedydh?
Tri pheth o'r hyn leiaf, sydh mor angenrhaid na elhir mo'u hepcor, a deliwch arnynt yn grâff i'w dyscu; Canys mewn ymbelh dhamwein, a chyflwr o angen, pôb rhyw dhyn a wasnaetha i roi Bedydh; fel y dangosaf ar fyrder. Ag am hynny, da i bawb wybod pa fodh y mae ei wneuthur. Y gyntaf peth, mae'n rhaid cael gwir dhwfr naturiol; ag a hwnnw gwlychu, neu drochi'r dyn a fo i'w fedydhio. Yn ail, yr vn cyfamser, ag y gwlycher y dyn a'r dwfr, rhaid yw dywedyd y geiriau hyn: Yr wyf yn dy fedydhio dy, yn enw'r Tâd, a'r Mâb, a'r Ysprid glân. Yn drydydh, mae'n rhaid i'r dyn a fo'n rhoi, neu'n gwneuthur y Bedydh, fod yn ei fryd fedydhio, sef rodhi, neu wneuthur y Sacrafen, a drefnodh ag a dharparodh Crist, ag y [Page 230] mae'r Eglwys yn ei harfer, a'i rhoi, pryd y bo hi'n bedydhio. Canys o bydhe heb dhim ym-mryd y dyn a wnae'r weithred hon, ond celhwair, neu olchi ymeith ryw fudredhi'r corph yn vnic, y pechod a fydhe orthrwm, a'r truan o dhyn, a fydhe heb gael y gwyr Fedydh.
Pa beth y mae'r Bedydh yn ei weithio?
Tri effeith, neu dri math o betheu. Yn gyntaf mae'n adnewydhu dyn, yn berffeidhiol, drwy rodhi rhâd, a grâs Duw idho, drwy'r hon y mae fe'n dyfad o blentyn i dhiawl, i fod yn blentyn i Dhuw, o bechadur, i fod yn dhy cyfiawn; ag yn glanhau'r enaid, nyd yn vnic odhiwrth holh frychæ pechod, ond ei gwared hefyd odhiwrth holh boenæ vffern, a phurdan; yn y cyfryw fodh ag y cae dhyn fyned yn dhi-aros i'r nefyn vniawn, [Page 231] pe digwydhe idho farw yn dhisymwth ar ôl cael y Bedydh, megys a phe buasse heb pechu dim erioed. Yn ail, mae Bedydh yn gadel yn yr enaid, fath ar nôd-arwydh ysprydol, yr hwn ni elhir byth i dynnu ymeith; ag wrth hwnnw y bydh hynod yn dragwydhol, ei yn y sawl a elont i vffern, gael o'r dyn hwnnw Fedydh, a'i fod ef vnwaith yn vn o dhefaid Crist; fel yr adweinir yn y byd hwn, ag y gwydhis, pwy pia'r ceithion, neu'r anifeiliaid, wrth nôd, a marc y perchennog. Ag fel dyma'r achos, paham na eilh dyn gymeryd Bedydh ond vnwaith, am nas gelhir fyth mo'i golhi, gan fod effeith a nôd o waith y Bedydh, yn oestadol yn aros megys wedi ei stampydhu, a'i fathu'n yr enaid. Yn drydhydh, mae dyn drwy'r Bedydh; yn dyfod i mewn i'r Eglwys, ag yn gyfrannog o'i holh dhaeoni [Page 232] hi, fel plentyn o'r eidho'r lân Eglwys, ag y mae'n pryfessu bod yn Gristion, a bod yn barod i vfudhau i'r sawl sy tan Grist, yn lhywodraethu'r Eglwys.
Pwy pia'r swydh, neu i bwy' perthyn yn briodl roi'r Bedydh?
Mae'n peth I 'ffeiriad wrth ei swydh, yn enwedig i'r sawl a fo a chûr eneidiau ar eu dwylaw. Ond lhe ni bo'ffeiriad, e berthyn i Dhiagon: ag mewn angen mawr, sef pan fo dyn mewn perigl o farw heb Fedydh, mae'n perthynu i-bob rhyw dhyn rodhi Bedydh; pwy vn bynag a fo'n y fan, ai'ffeiriad, ai lhyg; ai gwr, yntau gwraig; ond trwy gadw bob amser hyn o drefn, ag ordr dha, na fedydhio gwraig, na merch; o bydh gwr, neu fâb, iw gael, na lhyg yngwydh gwyr Eglwysig; ag ym-mhlith yr Eglwyswyr, yr issaf eiradh o [Page 233] Vrdhæ, a rydh le i'r vchaf.
Go-ryfedh gen [...]yf, fod yn rhoi Bedydh i blant newydh eni, y rhai ni wydhant dhim odhiwrth y peth y maent yn ei gymeryd.
Mae Bedydh mor angenrhaid,Ioan. 3. na eilh neb fyned i'r nefoedh heb ei gymeryd, neu o'r hyn lheiaf ei dhymuno: a chan fod plantos bychain yn hawdh vdhynt feirw, ag etto heb synwyr ganthynt i chwenychu cael y Bedydh; am hynny wrth raid yw eu bedydhio gyntaf gelher, ag er nas gwydhant beth y maent yn ei gymeryd, mae'r Eglwys yn cyflowni trosdynt, hyn olh sydh raid; yr hon drwy gyfrwng Tad bedydh, neu'r Fam fedydh, sydh yn atteb trosdynt a hynny a wasneutha, ag ysydh dhigonawl: Canys megys ag y cwympassom mewn pechod, ag y colhassom râd, a grâs Duw, drwy gyfrwng a [Page 234] gwaith Adha, heb wybod o honomi dhim odhywrth y peth; felhy mae Duw yn fodlon i ni gael gwared o'r pechod, a dymchwêlid i'w râs drwy gyfrwng, a gwaith y Bedydh, a'r Eglwys, er na bom yn gwybod dim odhiwrth y peth.
Beth yw'r Tâd bedydh, a'r Fam fedydh, a dharfu i chwi eu crybwylh, a pha swydh sydh vdhynt?
Hên arfer yr Eglwys yw rhoi'r Bedydh, drwy gymorth Gwr, neu Fâb, a elwir yn Dâd Bedydh, am ei fod megys yn ail Dâd; ag weithiau hefyd drwy gymorth Gwraig, neu Ferch,S. Dion. Eccles. Hier. c. vltimo fine. a elwir Mam Fedydh, am ei bod megys ail Mam. A'r dhau hyn neu vn o honynt, a fydh yn dal y plentyn wrth ei fedydhio, ag yn atteb trosdo, pan ofyno'r Offeiriad i'r plentyn, a fynn ef ei fedydhio; ag ydiw [Page 235] ef yn credu pynciau'r ffydh, a'r cyffelyb. A chwedi hynny, pan dhelo'r plentyn i oedran, maer Tâd, a'r Fam Fedydh yn rhwymedig i ofalu am gael o'r plentyn Athrawaeth, ag adhysc o'r iawn ffydh, a chynedhfæ da; o digwydh e i'r Tâd, a'r Fam esgluso hynny. Ag yma da fydh nodi, fel ag y mae trwy'r Bedydh gerennydh ysprydawl, neu gyfathrach yn tyfu rhwng hwn a fedydhier, ei dâd a'i fam, o'r nailh blaid, a hwn a rodho'r Bedydh, a'r Tad bedydh a'r Fam fedydh or blaid aralh.
O'r Chrysm neu fedydh Escop.
Ni a draethasom dhigon o fedydh, dywedwch i mi ynawr beth yw Crysma, neu Fedydh Escop, yr hon yw'r ail Sagrafen?
Henw'r ail Sacrafen yn lhadin yw Cōfirmatio; sef Cadarnhâd; [Page 236] canys effeieth a gweithiad y Sagrafen hon yw cryfhau, a chadarnhau dyn yn y ffydh, fel y dywedwn ar fyrder. Hi a elwir hefyd Crysma, yr hwn sydh air groec yn arwydhocau eneiniad, am fod yn y Sagrafen hon yn eneinio talcen y dyn a gymero'r Sagrafen; Oblegyd megys ag yn y Bedydh, y golchir y dyn a fedydhier a dwfr, i arwydh o fod Grâs Duw yn golchi'r enaid o frynti ei holh bechodæ; felhy wrth roi Sagrafen Crysma neu Fedydh Escop, yr eneinir y talcen, i arwydho fod Grâs yn eneinio'r enaid, ag yn ei chyssuro, a'i chryfhau, fel y galho hi ymladh yn erbyn y cythreul, a chyfadhe'r ffydh santaidh yn hydha, heb arswydo nag arteith, na dihenydh marwolaeth, neu angeu.
Pa amser y dyleid cymeryd y Sagrafen hon?
Cymeryd hon a dhyleid, pan dhelo dyn gyntaf ei oedran, a synwyr: oblegyd y pryd hynny y mae fe n dechreu pryfessu'r ffydh, ag wrth raidh idho gael ei gryfhaw, a'i gadarnhau yngrâs Duw.
A wna'r Sacrafen hon effeith, neu wayth aralh, ond nerthu, a chryfhau'r enaid?
Mae hi'n bathu nod-arwydh megys stampedig yn yr enaid, yr hwn ni elhir byth bythol ei dhiflannu, na'i grafu ymeith, ag am hynny ni elhir cymeryd y Sagrafen hon ond vnwaith.
Pam y rhaid bathu nôd-arwydh aralh yn yr enaid, pan alhe nôd y Bedydh wasneuthu'n dhigonawl?
Nyd heb achos yr ydis yn bathu'r ail nôd hwn yn yr enaid; oblegyd wrth y nôd cyntaf, ni wydhis dim, ond bod dyn yn Gristion; sef o [Page 238] deulu Crist Eythr wrth yr ail nôd hwn, yr adweinir fod dyn yn filwr i Grist; ag am hynny mae'n arwein yn ei enaid, arfæ ei Gapten, megys y gwna milwr y byd yma ar ei dhilhad; a r sawl a elont i vffern gwedi vdhynt gymeryd y Sagrafen hon, a gant gwilidh mawr, a gwarth; oblegyd pob dyn afydh yn gweled dharfod vdhynt hwy bryffessu bod yn filwyr i Grist a chwedi hynny, tro'n frwnt i wrthryfela yn ei erbyn
O'r Eucharist neu Sagrafen yr Alhawr.
Eglurwch i mi ynawr y drydedh Sagrafen, ag yn gyntaf dywedwch i mi beth yw ystyr y gair Eucharist?
Gair groec yw hwn hefyd, yn arwydhocau coffa diolchgar, neu rodhiad diolch: am fod yn y dirgelwch [Page 239] hwn, yn gwneuthur coffa, ag yn rhoi diolch i Dhuw, am y gymwynas odidocaf olh o dhiodhefaint eyn Achubwr: A chyda hynny, yn rhodhi i ni wir gorph, a gwaed eyn Harglwydh. Am yr hyn yr ydym yn rhwymedig i rodhi diolch i Dhuw yn oestadol.
Eglurwch i mi'n gyflownach, hyn olh a gynhwysir yn y Sagrafen santaidh hon, fel y galhwyf trwy gydnabod ei gadidowgrwydh, ei anrhydedhu hi yn barchedicach.
Yr aferlhaden a welwch ar yr Alhor, cyn ei chyssegru, nyd yw dhim ond ychydig fara, a grased yn rhith tisennau dene, neu waffrysen; Eythr er cyflymed, ag y darpho i'r Offeiriad dhywedyd y geiriau cyssegredigawl, mae'n rhith yr aferlhaden honno, wir gorph eyn Harglwydh. A chan fod gwir gorph eyn Harglwydh ynawr yn fyw, ag ynglyn [Page 240] gysunedic wrth y Duwdod, ymmherson Mâb Duw; am hynny, gyda'r corph, mae'r gwaed hefyd, a'r enaid, a'r Duwdod, ag wrth hynn y cyfa o Grist, Dhuw a dyn. Yr vn modh yn y caregl, cyn y cyssegriad, nyd oes dim ond ychydig wîn, y gymesced ag ymbelh dhefnyn o dhwfr. Ond er cynted ag y darfo gorphen y cyssegriad, mae gwir waed Crist yn y caregl, a chan nad ydiw gwaed Crist yn awr alhan o'i gorph, am hynny, mae yn y caregl ynghyd a'r gwaed, gorph, ag enaid, a Duwdod yr vn Crist, ag fel hynny y cyfan a Grist Duw a Dyn.
Mi a welaf er hynny, fod i'r aferladen arôl ei chyssegru, rith bara, megys or blaen a bod rhith gwin i'r peth sydh yn y caregl, arôl y cyssegriad, megys o'r blaen.
Gwir yw fod yr aferlhaden [Page 241] yn perhau ag idhi yr vnrhith, a lhûn, yr vn lhiw, a blâs y bara, ag oedh o'r blaen: ond nyd oes yndhi dhim o sudh, o sylwedh y bara oedh o'r blaen; ag felhy nyd oes dim bara daearol yndhi, ond corph eyn Harglwydh tan lûn, a rhith y bara. Ag i dheualh hynny yn welh, mi a rôf i chwi gyffelybrwydh.Gen. 19. Chwy a glywsoch droi, a chyfnewid gwraig Loth gynt, yn dhelw o halen. Pwy bynnag yntau a wele'r dhelw honno, fe a ganfydhe lûn, a rhith gwraig Loth, ag etto heb ei bod yn wraig, ond halen tan lûn, a rhith gwraig. Felhy megys ag y darfu yn y gyfnewid honno, newid y sylwedh odhimewn, gan barhau yr vn lhun, ar vn rhith odhialhan; felhy yn y dirgelwch hun, y newidir sylwedh y bara odhimewn, yn gorph eyn Harglwydh, drwy barhau odhialhan, yr vn rhith bara, ag oedh [Page 242] y tro cyntaf. Yr vn cyffelyb sydh i'w dheualh o'r caregl, sef fod yno rith gwîn, lhun, a lhiw, blâs, ag aroglau gwin; ag etto nyd oes yno dhim o sylwedh y gwîn, ond gwaed eyn Harglwydh yn rhith y gwin.
Rhyfedhod mawr gennyf, alhu o gorph o faint yr eidho'n Harglwydh, enni, agymgynnwys, mewn rhith, a lhe cyn lheied, ag ydiw'r a ferlhaden gyssegredic.
Di-amme yw, mae peth rhyfedh-fawr ydiw; ond mawr hefyd a rhyfedh yw galhu Duw; yr hwn a alh wneuthur mwy nag a alhwn-ni ei dheualh. Ag felhy Crist pan dhywedasse yn yr Efengil santaidh, y galhe Duw wneuthur i Gamel (sef anifel sydh fwy ei faint,Matt. 19. na chephul) fyned trwy grau nodwydh-dhûr, a dhrwedodh y chwaneg, fod y petheu hyn yn am-mhossibl, ag an-alhadwy i [Page 243] dhynion; ond bod pôb peth yn bossibl, a galhadwy i Dhuw.
Gwych fydhe gennyf gael rhyw gyffelybrwydh, i dheualh pa fodh y geilh yr vn corph o'r eidho'n Harglwydh, fod ar vnwaith yn y fath rifedi o aferthadæ cyssegredic, ag ysydh yn y fath nifer o Alhoræ.
Gwrihiæ Duw nyd angenrhaid eu cyflawn dheualh, ond digon yw eu credu yn ffydhlawn; oblegyd bod yn dhi-amme gennym na ailh Duw mo'n sommi: etto er cyssur, a didhanwch i, cymerwch gyfflybiaeth. Di-amme yw, mae vn peth vnic, a di-dharn, yw enaid dyn; a'i bod hi yn gyfa yn y corph cyfa, ag yn gyfa hefyd ym-mhôb rhan, a man o gorph y dyn. Mae'r enaid gyfa yn y pen, ar vn enaid gyfa yn y traed, ag felhy yn gyfa yn y derryn byw lheiaf o gorph dyn: Ai rhyfedh yntau wrth hynny, [Page 244] alhu o Dhuw wneuthur i gorph ei fab, fod mewn lhawer o aferlhadæ, gan ei fod yn gwneuthur bod yr vn enaid gyfan, a dhi-dharn, yr vnwaith yn yfath nifer fannæ o gorph dyn, ag yn y rhannæ sydh cym-mhelhed odhywrth eugilidh. Darlhein yr ydis ym-Muched Sant Antoni o Badua, fel y digwydhodh ar vnwaith i'r sant hwn, yn y cyfamser, ag yr ydoedh yn pregethu mewn Dinas o'r Eidal; fod hefyd ar yr vn pryd drwy nerth, a galhu'r goruchaf, yn gwneuthur daeoni aralh o fewn teyrnas Portugal. O galhe Duw wneuthur i Sant Antoni, fod ar vnwaith yn ei rith eihun, mewn dau le cym-mheled odhiwrth eugelidh; pam nas geilh yr vn Duw wneuthur fodo Grist mewn bagad o aferlhadæ, yn rhith yr aferlhade euhunain.
Dywedwch i mi yn rhodh [Page 245] ydiw Crist yn ymadel a'r nef, pryd y, mae'n dyfod i'r aferlhaden, yntau ydiw ef yn aros yn y nef hefyd?
Pan dhechreuo Crist fod yn yr aferlhaden, nyd yw ef yn ymadel a'r nef; ond y mae, yr vn amser yn y nef, ag yn yr aferlhaden hefyd. Cymerwch gyfflybrwydh yr vn enaid. Tra fo plentyn heb nemor o dhydhiæ o oedran, nyd yw ei gorphyn, fel y gwelwch, ond bachigin; ag wrth fesur, ni bydhe fawr fwy na rhychwant neu droedfedh o hyd; or ol hynny, fe a gynydha i fod yn dhau cimint, ag yn dhaw hwy, nag oedh y [...]ro cyntaf, ag wrth fesur, fe a fydh in fwy na dwy droedfedh o hyd. Yno y gofynaf i chwi hyn, yr enaid oedh y tro cyntaf, mewn vn troedfedh o gorph yn vnic beth a wnaeth hi, ai ymadaw a'r droedfedh gyntaf, i fyned i r ail droedfedh, yntau peidio? Diamme [Page 246] ywenad ymadawodh hi dhim, ag nas darfu idhi mor ymysl yn ei hun, i fod yn helaethach: am ei bod yn beth symlig, di-dharn, di-dhrylh; gan hynny, heb ymadaw a'r droedfedh gyntaf, hi a dhechreuodh fod yn yr ailh droedfedh hefydh. Felhy eyn Harglwydh nyd yw ymadaw a'r nef, i fod yn yr aferlhaden, nag yn ymadaw a'r naild aferlhade, i fyned i vn aralh: ond y mae fe ar vnwaith yn y nef, ag yn yr holh aferthadæ cyssegredic hefyd.
Dyscais beth a gynhwysir yn y Sagrafen hon, ynawr y chwenychwn wybod, beth sydh raid i dherbyn y Sagrafen hon, yn deilwng.
Tri peth sydh angenrhaid, Yn gyntaf cyffessu o dhyn ei bechodæ, a rhoi cais ar fod mewn Grâs Duw, pan 'elo i gymuno, a derbyn y Sagrafen; Canys vn achos o roi'r Sagrafen [Page 247] hon i ni, yn rhith bara, oedh i beri i ni dheualh ei rhoi hi i rai byw, ag nyd i rai meirw, i chwanegu, a chynydhu Grâs Duw ynom. Yr ail peth angenrhaid, yw bod dyn ar ei gythlwng; sef or hyn lheiaf, er hanner nos, heb gorphi dim, ie heb gymeryd cimint a lhymeidyn o dhwfr. Y trydydh peth angenrhaid, yw fod o'r dyn yn deualh y peth y boyn ei wneuthur, fel y bo gantho dhefosiwn, a gofunedh tu ag at y cyfryw dhirfawr dhirgeledh. Ag am hynny, nyd ydis yn rhoi'r Sagrafen hon i blantos, nag i ynfydion, nag i rai erailh di-synwyr.
Pasawl gwaith y dylemî gymuno, a derbyn y Sagrafen hon?
Rhwymedigaeth y lân Eglwys,Cap. omnis vtrius (que) sexus de poenitentia & remiss. yw cymuno vnwaith yn y flwydhyn, o'r hyn lheiaf, a hynny ynghylch y Pasc: ond hyles, a chymwys [Page 248] yw, cymuno yn fynychach, fel y cynghoro'r Tâd enaid.
Eglurwch i mi ynawr y ffrwyth, y geir gan y Sagrafen hon, ag er mwyn para amcam, neu bennoddiwedh y trefnwyd hi.
Er mwyn tri achos y trefnodh Crist yr odidocaf Sagrafē hon; Yn gyntaf i fod yn fwyd, a phorthiant i'r eneidiau. Yn ail i fod yn Aberth o'r gyfreith newydh. Yn drydydh i fod yn goffa tragwydhol o'i dhiodhefaint, ag yn wystl-arwydh anwyl-gu oi gariad tuag attom.
Pa beth a weithia hi o fewn yr enaid, fel y mae hi yn fwyd?
Y cyffelyb peth ag a weithia bwyd corphorol yn y corph, ag am hynny y rhoed hi yn rhith bara: oblegyd megys y mae'r bara yn cynnal y gwres naturiol; ar yr hwn y mae enioes y corph yn sefylh: Felhy'r Sagrafen [Page 249] hon pan gymerer hi yn deilwng, sy'n cynnal, ag yn chwanêgu cariad perffeith, yr hon yw iechyd yr enaid.
Beth a wna'r Sagrafen hon, fel y mae hi yn Aberth?
Mae hi yn hedhychu Duw tuag an y byd,Chry. in psal. 95. Aug. l. 1. contra Aduers. Leg. & Prophetar. c. 10. ag yn peri idho rodhi lhawer cymwynas, nyd yn vnic i rai byw, ond hefyd i'r meirw, sy'n y Purdan. Rhaid i chwi wybod fod yn yr hên Destâfen, yn aberthu i Dhuw amryw offrwm o'nyfeiliad; ond yn y Testâfen newydh, yn lhe'r holh offrymmæ hynny, y daeth Aberth yr Offeren, yn yr hon, drwy dhwylaw yr Offeiriad yr offrymir i Dhuw, yr Aberth cymeradwyaf o gorph, a gwaed ei fâb ef, yr hwn yr oedh holh offrymmæ yr hên Destâfen yn ei arwydhocau.
Beth a weithia'r Sagrafen hon, fel y mae hi yn goffa, a gwystlarwydh [Page 250] o gariad eyn Harglwydh tuag attomi?
Mae hi yn eyn gwneuthur ni yn fedhylgar o'r fath dhirfawr gymwynas, ag yn cynne cariad ynomminnau tuag at y neb a'n carodh ni, mor hoff-anwyleydh. Ag felhy megys ag y mynnodh Duw, yn yr hên Destâfen i'r Idhewon, nyd yn vnic fwytta'r Manna a dhanfonodh vdhynt,Exod. 16. o'r nef, ond cadw hefyd lhoned lhester, er mwyn coffa'r holh gymwynasseu, a wnaethe Dhuw vdhynt, wrth eu dwyn alhā o'r Aipht. Felhy'-mynodh Crist nyd yn vnic, fod o'r Sagrafen hon i ni yn fwyd, ond ei chadw hefyd ar yr Alhawr, a'i harwain weithiau mewn ymdeithgylch, a phryfessi, fel y galhom bob amser y gwelom hi, gofio ei gariad anfesurol tuag attom. Ond yn enwedig, crynnodeb yw'r Offeren santaidh [Page 251] o holh fuchedh eyn Harglwydh, fel nad elo byth alhan o'n medhwl.
Da fydhe gennyf gael gwybod, pa fodh y mae'r Offeren yn grynnodeb o holh fuchedh Crist: Canys bydh hynny gynorthwy i beri i mi fod a mwy o dhefosiwn gennyf, a gofunedh, wrth ei gweled, a'i gwrando.
Dangosaf i chwi hynny yn dal-fyrr. Yr Introitus sef dechreuad yr Offeren, sy'n arwydho hireath yr hên Dadeu gynt, am dhyfodiad Crist i'r byd. Y Kyrie eleison, syn arwydho'r lhefain yr oedh yr vn rhai. Y Patrieirch, a'r Prophwydi ar Dhuw gan daer-ymbil am yr vn dyfodiad dymunedig honno. Y Gloria in excelsis, sy'n arwydho Genedigaeth eyn Harglwydh. Y Gwedhiæ nessaf ar ol hynny, Presenniad, [Page 252] ag Offrymiad Crist yn y Deml. Yr Epistol a dhywedir wrth ys [...]lys assw'r Alhawr, sy'n arwydho pregethiad Siôn fedydhiwr; hwn oedh yngwahadh dynion at Grist. Y Gradual sy'n arwydho troead y bobul, trwy bregethe Sant Siôn. Yr Efengyl yr hwn a dharlhenuir wrth yr ystlys deheu i'r Alhawr, sy'n arwydho pregethiad eyn Harglwydh, yr hwn sydh ynyssymud ni, o'r lhaw assw, i'r lhaw dheheu: sef odhiwrth petheu amserol, i'r tragwydhol, ag odhiwrth bechod, i ras. Canhwylheu hefyd a arweinir, ag arogl-darth a arferir, wrth ganu'r Efengyl, i arwydho mae'r Efengyl a oleuodh y byd, ag a'i lhenwodh ag arogle têg gogonedhus i Dhuw. Y Gredo sy'n arwydho troead yr Apostolion santaidh i'r ffydh, a Dyscyblion erailh o'r eidho Crist. Y Gwedhiæ dirgel [Page 253] y rhai a dhechreuant ar ol y Gredo, sy'n arwydho bwriadæ cyfrinachol yr Idhewon yn erbyn Crist. Y Præfas, neu'r rhag-dhywediad, yr hwn a genir a lhef vchel, ag a dhywedhir ar geiriau hyn, Hosanna in excelsis, sy'n arwydho'r modh gogonedhus, yr aeth Crist i mewn i Gaer-Selem, ar dhythwn y blodeu. Y Gwedhiæ dirgel o'r Canon, sy'n canlyn, a arwydhant dhiodhefaint eyn Harglwydh: A derchafiad neu godiad yr aferlhaden, sy'n arwydho, fel y codwyd Crist i'r awyr, wedi ei groes-hoelio ar y Grôg. Y Pader noster sy'n arwydho'r wedhi a wnaeth Crist, pryd yr oedh ynghrôg ar y Groes. Torriad yr aferlhaden, sy'n arwydho briw, ag archolh yr ystlys, o waith y waiw-ffon. Yr Agnus Dei sy'n arwydho wylofain, a galar-nad y tair Mair, wrth dynnu [Page 254] Crist i lawr odhiar y Groes. Cymun yr Offeiriad, sy'n arwydho'r cladhedigaeth. Y Post-Comunio; sef y Gwedhiæ ar ôl cymuno, yr hai a genir yn lhawen, sy'n arwydho'r Adgyfodiad. Bendith yr Offeiriad sy'n arwydho dyfodiad yr Yspryd glân. Yr Efengyl diwethaf ar dhiwedh yr Offeren, sy'n arwydho pregethiad yr Apostolion, pryd (a nhwy'n lhawn o'r Yspryd glân) y dechreuassont bregethu'r Efengyl, trwy'r holh fyd, a throi'r Cenhedloedh i'r ffydh.
O Sacrafen Pænyd, neu Gyffes
Mae'n canlyn ynawr y bedwared Sagrafen, yr hon a elwir Pænyd, eglurwch i mi beth yw'r Sagrafen hon?
Mae Pænyd yn arwydho tri pheth. Yn gyntaf mae'n arwydho [Page 255] rhinwedh arbennig; trwy'r hon y bydh dyn yn ediferhau am ei bechôdæ: A'r camwedh gwrthwyneb a elwir An-edyfeirwch; sef pryd nys mynno dyn ediferhau, ond mynnu perhau ag ymaros yn ei bechod. Yn ail, Pænyd y gelwir pob poen, a blinder a gymero dyn, er mwyn gwneuthur iawn i Dhuw, am y drygæ, awnaeth yn ei erbyn. Ag ar y testyn hwn y dywedir fod rhyw dhyn yn gwneuthur Pænyd mawr, am ei fod yn poeni'r corph, trwy ymprydio, dirwest, a gweithredoedh erail geirwon, an-esmwyth ag atgas i'r corph. Yn drydydh, mae Pænyd yn arwydho Sagrafen, a dharfu i Grist ei darparu, a'i threfnu i fadhe pechodæ'r sawl, a golhent Râs Duw, wedi cael Bedydh, pan fydhe edifar genthynt bechu, gan chwenych ymchwelyd i râs Duw eilchwel.
Ar ba ryw beth yn bennaf, y mae'r Sagrafen hon yn sefylh?
Ioan. 20.Ar dhau beth, Cyffes y pechadur, ag Absolfeniad, neu rydhâd yr Offeiriad: Oblegyd Crist a wnaeth yr Offeiriad yn swydhogion ag ynfarn wyr, ar y pechodæ a wneler ar ôl Bedydh, ag a roes vdhynt awdurdod tano eihunan, i rydhau, a madhe'r pechodæ; os y pechadur a'u cyffesu, ag a'i darpara eihun fel y gweahe, i gael madheuant. Ag felhy ar hyn y mae'r Sagrafen hon yn sefylh; sef, megys y bo'r pechadur odhialhan, yn adrodh geiriau'r Absolfeniad, a'r rhydhâd felhy mae Duw odhim [...]wn, drwy gyfrwng y geiriau hynny o'r eidho'r Offeiriad, yn rhydhau'r enaid honno, odhiwrth glymmæ, a rhaffeu pechod, oedhent yn ei rhwymo; ag yn rhoi idhi ailwaith ei râs, gan ei gwared odhywrth [Page 257] y rhwymedigaeth oedh arni, o gael ei thaflu i waelodion vffern.
Pa beth sydh angenrhaid i gymeryd y Sagrafen hon?
Tri pheth sydh angenrhaid, Cystudh, Cyn-nhoriant, neu Gydfriw calon, Cyffes geneu, ag Iawn-waith gweithred: y rhai ydynt dair rhan Pænyd.
Beth yw Cystudh, Cynnhoriant, neu Gyd-friw calon?
Bod o galon neu fedhwl y pechadur, yn fedhalaidh, ag yn torri, ag ymdhrylhio yn gandrylh, o wir ofid, ag edifeirwch; am dharfod idho wneuthur yn erbyn Duw; ond dau beth enwedig sydh raid wrthynt, i fod gan dhyn Gynhoriant, neu Gyd-fryw calon. Yn gyntaf, rhaid yw bod yn wir edifar gan y pechadur, yr holh bechodæ a wnaeth ar ol Bedydh; ag am hynny rhaid idho [Page 258] fanwl-chwilio, ystyrio, ag ymholi yn dhyfal ei holh weithredoedh, a gofeidio yn edyfeiriol, nas gwnaeth monynt wrth reolaeth cyfreith Dhuw, Yn ail rhaid yw bod gan y pechadur fwriad, a lhawn-fryd, ar na phecho byth mwy.
Beth yw Cyffes?
Na bo digon gan y pechadur, fod gantho Gyd-friw, a Chystudh calon; ond ymostwng o hono hefyd, wrthdraed yr Offeiriad (fel yr ymostyngodh Mair fadlen gynt, wrth draed Crist) gan fanegu,Luc. 7. a chyfessu ei bechodæ Mewn gwirionedh, heb na'u chwanegu, na'u lhaihau, na chymyscu dim celwydh. Yn Symlig-wirion, heb escusodî eihunan, na bwrw'r bai ar rai erailh, nag omlhau chwaith gormod o eiriau heb raid. Yn gyfan, drwy fanegu ei bechodæ eugyd bado vn, heb gelu [Page 259] dim o wladeidhdra, ond dangos rhywogaeth, a rhifedi pôb vn, gyda'r holh amgylchion gorthrym-bwys, nessaf galho, hyd y dêl yn ei gof. Ag yn olaf Drwy gwilydh, a gostyngeidhrwydh; ag nyd manegu ei bechodæ fel dyn yn dywedyd rhyw stori, neu hen-chwedl: ond eu cyffessu, fel petheu gwradwydhys, cwilydhgar, ag anwedhol i Gristion eu gwneuthur, gan ymbil yn daer-ost ynhedig ambardwn a madheuant-am danynt.
Beth yw'r iawn-waith?
Bod ym-mryd y pechadur benydio, ag am hynny derbyn yn ewlhysgar y pœnyd-waith a rodho'r Tâd enaid arno, a'i chyflowni gyntaf galho, drwy ystyrio, fod Duw yn dā gos trugaredh o'r fwyaf, wrth fadhe idho'r poenæ vffern tragwydhol, a'i fodloni ei hun a phoen amserol lhawer [Page 260] lhai naga ryglydhod ei bechodæ.
Dywedwch i mi para ffrwyth y geir odhywrthy Sagrafen hon?
Pedwar ffrwryth rhagorawl y geir odhywrth y Sagrafen hon. Y ffrwyth cyntaf, yw'r hwn a henwais eusys; bod Duw yn madhe i ni'r holh bechodæ a wnaethom ar ôl Bedydh, ag yn cyfnewid poen vffern dragwydhol i ryw boen amserol, i'w dhiodhe nailh ai yny byd hwn, neu'n y Purdan. Yr ail, bod y gweithredoedh da a wnaethom mewn gras Duw (ag y golhasom drwy'r pechod ar ôl eu gwneuthur) yn ymchwelyd i ni ailwaith, drwy gyfrwng y Sagrafen hon. Y trydydh, eyn bod ni yn cael eyn rhydhau adhywrth gwlwm a rhaff yscymundod, o digwydha i ni fod yn rhwym a'r cyfryw gaeth gwlwm. Canys gwybydhwch mae cerydh, a chospedigaeth drom drist [Page 261] yw'r escymyndod, yr hon sy'n pery na bom gyfrannogion o wedhi 'r lân Eglwys, na th [...]ylwng i dherb [...]n y Sagrafennæ, nagi fwynhau cymdeithas y ffydhloniaid, nag i gael cladhedigaeth mewn daear gyssegr. Ag odhywrth y gospedigaeth ofnadwy hon, yr ydym yn cael rhydhid drwy Sagrafen Pænyd, wrth fel y bo'r awdurdod a fo gan y Tâd enaid, odhywrth yr Escop, neu'r Pâb. Etto gwir yw hefyd, y gethir rhydhau ag absolfennu dyn odhywrth escymundod heb Sagrafen Pænyd, ag er na bo'r Prælat, neu'r Pennaeth yn offeiriad. Y pedwerydh ffrwyth, ar olaf, yw bod yn eyn darparu ni, i fod vn barod ag yn gymmwys i dherbyn a mwynhau'r Madheuannæ, neu'r Pardynæ y bydh Pabæ arferol o'u cyfrannu yn fynech.
Beth yw'r Madeuanne a'r [Page 262] Pardynæ hynny?
Math ar haelioni y mae Duw yn ei dhangos i'w ffydhloniaid, drwy gyfrwng ei Vicar a'r swydhog Eglwysig, gan bardyn, a madhe vdhint, beth neu'r cwbl o'r boen amserol, yr oedhent yn rhwymedig o'i diodhe, nailh ai yn y byd hwn, ai yn y Purdan.
Beth sydh angenrhaid i gael mwynhau'r Medheannæ, a'r Pardynæ hyn?
Angenrhaid yw bod dyn mewn grâs Duw, ag am hynny rhaid yw i'r sawl, a fo mewn pechod, gyffessu yn gyntaf; a chyflowni gyda hynny, y peth y bo'r Pâp yn orchymyn, wrth genhiadu'r Madheuannæ.
Passawl gwaith y mae angenrhaid gymeryd Sagrafen Pænyd?
Gorchymyn y lân Eglwys yw i bawb gyffessu vnwaith yn y flwydhin o'r hyn lheiaf.Cap omnis vtrius (que) sexus de poenitentia & remiss. Eythr gyda hynny, ang [...]nrhaid i dhyn gyfessu bob gwaith yr elo gymuno, obydh et gydwybod yn euog o bechod marwol, ag yn yr vn modh, pryd y bo ar fron marw, neu ar dhechreu taith, neu orchwyl a'i dygo mewn perigl am ei hoedl. A chyda'r rhwymedigaethæ hyn, godidawg o'r da yw cyffessu yn fynech, a chadw'r gydwybod yn burlan; yn enwedig rhag anhowsed i'r sawl a gyffessant yn an-fyn [...]ch, wneuthur ei cyffes yn iawn.
Mae' n ôl i mi gael gwybodaeth gennych, parai yw'rgweithredoedh da, cym [...]radwy gan Dhuw yn lhe iawn am bechodæ.
Gelhir eu cynnwys tan y tri hyn, Gwedhi, Ympryd, a Luseni. Oblegyd felhy 'dyscodh yr Angel [Page 264] Raphael i Tobias; Tob. 12. a'r rheswm yw felhyn. Gan fod gan dhyn enaid, corph, a da bydol: trwy'r Wedhi, mae'n offrymu i Dhuw beth o dhaeoni'r enaid; trwy'r Ympryd peth o dhaeoni'r corph, trwy' Luseni, peth o'i dha bydol. A than enw Gwedhi, y cynhwysir wrando 'fferen hefyd, dywedyd y saith Salm edyfeiriol, gwasanaeth y meirw, a'r cyffêlyb. Tan enw Ympryd y deuelhir pôb lhafur, a dirwest penol i'r corph, megys gwisco rhawn, ei flangelhu a gwiel, cyscu ar y lhawr, perindotta, a'r cyffêlyb. Tan enw Luseni, y deulhir pôb gweithred o drugaredh, a phôb gwasanaeth, a chymwynas a wneler i'r cymydoc, er mwyn ag er cariad ar Dhuw.
Beth sidh angenrhaid i gadw'r ymprydyn iawn?
Tripheth sydh angenrhaid: [Page 265] na fwytatho dyn ond vn pryd yn y dydh, a'r pryd hwnnw ynghylch canol dydh (a goreu po hwyraf) ag na fyttether dim cîg; nag wye chwaith o fewn y grawys, na lhaethfwyd. Odhigerth bod arfer gyfreithlawn rhyw wlâd, neu gennad yr Eglwys yn cyd-dhwyn a'r gwrthwyneb.
Pa vn oreu i dhyn ai ceisio eihun wneuthur iawn dal i Dhuw trwy'r gweithredoedh hyn; yntau cymeryd y Madheuannæ.
Gwelh i dhyn eihun geisio gwneuthur iawn-dal, drwy'r gweithredoedh hyn; obleg yd trwy'r Madheuannæ, ni wneir ond cyflowni, a gwneuthur iawn am y boen amserol, oedh yn ôl i ni i'w dhiodhe. Ond trwy'r gweithredoedh da, gyda'r iawn-dal, a dianc y poenæ, fe a ryglydhir hefyd y bywyd tragwydhol: ond [Page 266] y goreu o gwbl, yw arfer pôb vn o'r dhau gynhorthwy hyn, drwy wneuthur o dhyn eihun hyn a alho o iawndal, a bod yn of alys i ennilh y Madheuannæ hefyd.
O'r Olew, neu'r Eneiniad olaf.
Pa beth yw Olew, neu'r Eneiniad olaf.
Olew, neu'r Eneiniad olaf yw Sagrafen, a drefnodh ag a dharparodh Crist, er mwyn y cleifion. Hi a elwir Eneiniad, am fod yn ei gwneuthur drwy encinio, neu iro'r claf-lesc, ag olew bendigedig, gyda dywedyd rhai gwedhiæ vwch ei ben. Hi a elwir yn Olaf, am ei bod yn olaf vn o'r holh eneiniadæ arferedic mewn Sagrafennæ'r Eglwys. Oblegyd yr Olew, a'r eneiniad cynt af a arferir wrth roi Bedydh; yr ail, wrth roi Crysma, neu Fedydh Escop; [Page 267] y trydydh, wrth roi Vrdhæ; yr olaf a rodhir i dhyn, ar ei glaf wely; ag a elhirei galw'r Eeneiniad dhiwethaf, am fod yn ei rhoi ar dhiwedh yr enioes.
Pa beth a weithia'r Sagrafen hon.
Tri pheth a weithia hi; Yn gyntaf madhe'r pechodæ, a fydhant weithiau yn perhau yn yr enaid ar ol cael Sagrafennæ erailh; sef yr heini aethent yn angof gan y dyn, neu'r hai nys edwyn, a phe adwaene, neu pe delent i'w gôf, fe fydhe' wlhysgar i ediferhau am danynt, ag i'w cyffessu. Yr ail lhawenychu'r dyn clâf, a rhoi cyssur idho, pryd y ho îng y clefyd, gyda brawfeu, a phrofedigaetheu'r Cythreul yn ei fl [...]n-wascu: Y trydydh ail drefnu idho iechyd corphorol, pryd y bo hynny da ar lês enaid y dyn clâf, tuag at iechydwriaeth [Page 268] tragwydhol A'r tri effeith hyn, y mae'r Olew yn ei harwydho, yr hwn vr ydis yn ei arfer yn y Sagrafen hon; Canys Olew a gryfhâ, a esmwythâ, ag a wna friw yn iach.
Pa amser y dyleid cymeryd y Sagrafen hon?
Ar hynny mae bagad yn camsynnu'n aruthr, y rhai ni fynnant gymeryd y Sagrafen hon, hyd oni bont yn trengu. Eythr yr amser cyfadgas i'w chymeryd yw pryd y bo'r physygwyr yn barnu bod y clefyd yn beryglys, ag yn gyfflybol genthynt, na dhichon cyfaredh dynawl achub yr hoedl. Oblegyd y pryd hynny, mae'n fadwys ceisio cyfaredhæ nefawl. Ag felhy y digwydh yn fynech i'r claf-lesc dhianc marwolaeth drwy gyfrwng yr Olew bendigedig. Ag am hynny ni dhyleid nag ymgais am gael y Sagrafen hon, nys bod perigl [Page 269] marwolaeth; nag oedi chwaith ei chymeryd, nys darfod yr holh obaith o alhu byw. Ag fel dyma'r achos, pam nad ydis yn rhoi'r Sagrafen hon i'r sawl a font yn myned i dhiodhe marwolaeth, drwy orchymyn y swydhog, am nad ydynt gleifion, na gobaith vdhyn er hynny alhu cael byw.
O Sagrafen Vrdhæ.
Beth yw Sagrafen Vrdhæ?
Sagrafen yw Vrdhæ, yn yr hon y rhodhir awdurdod i gyssegru'r Eucharist santeidhiaf, sef Sagrafen yr Alhawr; ag i roi'r Sagrafennæ erailh i'r bobul; neu awdurdod i wasneuthu (wrth ei swydh briodol) y sawl sydh genthynt y cyfryw awdurdod. Ag hi a elwir Vrdhæ, neu Ordr, am fod yn y Sagrafen hon fagad o radhæ, y nailh tan y lhalh, megys [Page 270] Offeiriaid, Diagoniaid, ag erailh îs eu gradhæ. Ond ynghylch y Sagrafen hon, nyd rhaid egluro i chwi dhim ychwaneg; oblegyd nad ydiw hi yn perthyn i bawb; ond yn vnic i wyr a fo ag oedran a dysceidiaeth genthynt; y rhai nyd rhaid vdhynt wrth dherbyn adhysc o'r Athrawaeth Gristnogawl, am fod yn eidhynt hwy ei dyscu hi i rai erailh.
O Sagrafen Priodas.
Beth yw Sagrafen Priodas?
Sagrafen Priodas yw cyfreithlawn gyssylhdiad, ag ymglymiad gwr a gwraig, yn briod i'w gilidh.Ephes. 5. Yr hon gyssylhdiad sy'n arwydho, rypresennu, new gyndrychôli y cyfundeb, a'r ymglymiad cyfym wasc sydh rhwng Crist, a'r Eglwys, drwy gyfrwng yr ymgnawdoliaeth; [Page 271] a'r cyssylhdiad sydh rhwng Duw ag enaid dyn drwy gyfrwng grâs.
Pa beth a weithia'r Sagrafen hon?
Mae hi yn gyntaf yn rhoi grâs a'r gwr a'r wraig briod i gydfod a'u gilidh yn wedhol, ag i garu'r nailh y lhalh yn ysprydol, megys y câr Crist yr Eglwys, a Duw yr enaid ffydhlawn, a chyfiawn. Yn ail, mae bi yn rhoi grâs i fedru, ag i fynnu meithrin eu plant, a'u dwyn i fynu mewn ofn Duw. Yn drydydh,1. Cor 7. mae hi yn gwneuthur y cyfryw gaeth gwlwm a rhwymedigaeth rhwng y gwr priod a'i wraig, nad yw alhadwy mewn modh yn y byd ei dhattod, a'i rydhau, mwy na dattod, gwneuthur yn rhydh y cwlwm diogel sydh rhwng Crist a'r Eglwys. A hyn sy'n peri na dhichon neb genhiadu i wr priod ymadel a'i wraig gyntaf a chymeryd [Page 271] vn aralh, nag i wraig briod ymadel a'i gwr cyntaf, a phriodi gwr aralh.
Beth sydh angenrhaid i wneuthur Priodas?
Tri pheth sydh angenrhaid: Yn gyntaf eu bod nhwy ilh deuwedh yn dhynion cymwys, ag abl i alhu ymgyssylthu, a myned ynghyd, sef rhai a font mewn oed, gyfreithlawn, heb na chyfathrach rhyngthynt o fewn y bedwaredh radh; ag na bo'r vn o'r dhau gwedi gwneuthur adhuned solem o dhiweirdeb, na'r cyffelyb. Yn ail mae'n rhaid gwneuthur y Briodas vngwydh dau neu dri o dystion, o'r hyn lheiaf; ag yn enwedig yngwyd Peruglor cyfreithlawn, neu 'ffeiriad y plwyf.Con. Trid. sess. 24. c. 1. Yn drydydh, mae'n rhaid i bôb vn o'r dhwy-blaid, gydsynnu a chytuno o'u gwir fodh i briodi, heb eu gyrru, o'u cymmelh i [Page 273] hynny, trwy fraw, ag ofn dirfawr; ag y mae'n rhaid vdhynt yspyssu'r cyfryw gyd-syniad, nailh ai a geiriau, neu ag amnaid yspus, ag amlwg. Ag yn-niffig yr vn o'r tripheth hyn, ni bydh hi Briodas a dheil. Odhigerth bod y diffic yn yr ail pwnc. Canys yn y gwledydh lhe nys darfu etto gyhoedhu'r Cwnseli o Drent, Conc. Tol. 3. c. 10. Later. 2. 6. 51. er bod priodi heb Offeiriad yn bechod marwol, a ryglydha gerydh, a chospedigaeth gan yr Eglwys; er hynny y Briodas sydh gadarn dhi-yscaredig.
Pa vn oreu ai priodi, ai ymgadw yn dhiwair yn dragwydhol?
Darfu i San Pawl egluro hyn o amheueth, drwy 'scrifenu fod y neb sy'n ymglymmu mewn Priodas, yn gwneuthur yn dha;1. Cor 7. ond bod y sawl sydh heb ymglymmu, er mwyn [Page 274] cadw Morwyndod yn gwneuthur ynwelh.Amb. I. de virgin. A'r rheswm yw; Canys, peth dynawl yw Priodas, peth Angylaidh yw Morwyndod: Peth cyfadhas i naturiaeth yw Priodas, peth vwch ben natur yw Morwyndod. Ag nyd y Morwyndod yn vnic, sydh welh na Priodas; ond y Gwedhdod hefyd. Am hynny lhei dywedodh eyn Achubwr mewn parobl, dhwyn o'r hadyd,Matt. 13. a heuessid mewn tir da,Cyp. de habitu virg. Hier l. 1. in Iouin. Aug. ser. de virginit. c. 44. dheg ar vgein yn y nailh, trigiein yn y lhalh, a chant mewn vn aralh; Athrawon, a Doctoriaid yr Eglwys, a dharfu vdhynt esplygu, ag egluro, mae'r ffrwyth deg-arvgein yw Priodas, ffrwyth y trigiein yw Gwedhdod, a ffrwyth y cant, yw Morwyndod.
O'r Rhinwedheu yn gyffredinawl. PENNOD. 10.
GAN dharfod i chwi egluro'r pedair rhan bennaf o'r Athrawaeth Gristnogawl, da 'fydhe gennyf wybod os dim mwy i'w dhyscu.
Y pethe angenrheidiol eu gwybod, oedh y pedwar peth hynny, a eglurais i chwi eusys: Mae ymbelh beth aralh da eu gwybod, er mwyn cerheudhyd y nôd, yr ydym yn ceisio cyfeirio atto; sef yr iechydwriaeth tragwydol. A'r hain yw Rhinwedhæ, a Chamwedhæ, Gweithredoedh da, a Phechodæ. Oblegyd er darfod i ni grybwylh yr hain, megys o'r abedh, ag ar gip, wrth egluro'r Gredo, a'r Gorchmynion, [Page 276] etto e'r hynny hyles iawn, a budhawr fydh treuthu pôb vn o'r hain o'r neulhtu, ag ar eu penneu euhunain.
Dywedwch ithau i mi yn rhodh, beth yw Rhinwedh?
Rhodh neu dhawn, ag megys Camp Ysprydol yw Rhinwedh, yr hon a dherbynnir yn yr enaid, ag sy'n gwneuthur bod dyn yn dha, ag yn rhinwedhol. Ag fel y gwna gwybodaeth dhyn y Philosophydh a chelfydhyd dhyn yn gelfydh, neu gref twr da; felhy Rhinwedh a wna vn yn dhyn da: a chyda hynny, mae hi'n peri idho wneuthur y daeoni, yn howsach, yn barottach, ag yn berffeidhiach. Ond hwn y fo heb y Rhinwedh, er galhu o hono weithiau wneuthur peth di, ni wna mono, er hynny ond yn anawdh, ag yn am-mherffeith. Ag er mwyn rhoi i [Page 277] chwi gyfflybrwydh tebig yw Rhinwedh i gelfydhyd, a'i harfer. Chwi'welwch o byth gan dhyn gelfydhyd, ag arfer ganu crwth, neu delyn fe a wna gysson a cherdh, a dalo ei chlywed: a hynny yn hawdh, heb orfod idho dremmu, nag edrych ar y tannæ; the o bydhe dhyn anghel ydh, ag arno dhiffic y gel ydh, neu'r marfer a hi cyfwrdh y tannæ a dhichon, a pheri rhyw swn; ond nys gwna yn hyfedr nag yn felysaidh. Felhy'r neb a fo gantho Rinwedh, megys Tymheredh, er sampl; ef a ymprydia yn hawdh ag yn hyfryd, pan fo rhaid, ag yn berffeith, gan dhiscw [...]l ag aros am yr awr gyfadhas i fwytta: a'r pryd hynny, gan gymeryd bwydydh cynwysedig; a'r hain vnwaith yn y dydh. Ond y neb ni bo gentho y rhinwedh hon, neu yn y gwrthwyneb, a fo dhyn glwth, ni [Page 278] waeth gantho ei ladh, na gorfod arno ymprydio: ag o digwydh idhô ymprydio, rhy-hir gantho aros pryd ciniewa; chwedi hynny, pan dhel yr hwyr, yn lhe 'rychydic fara a diod, sydh arferedig, ef a ymlenwa, yn y modh na bydh fawr yn ôl i'w dhiotta, o fod yn gryn swpper cyflawn, neu gwynos cyfan.
Pasawl rhinwedh sydh?
Rhifedi mawr sydh o rinwedhæ; ond y rhai pennaf, a than yr hain y cynhwysir y lheilh, ydynt sayth:1. Cor. 13. Sap. 8. Isa. 11. Matt. 5. Matt. 25. sef, y tair Theolygawl; ffydh, Gobaith, a Chariad perffeith: a'r pedair prif-rinwed a elwir Cardinaliaid; sef, Pwylhedh, Cyfiownedh, Grymyssedh, a Thymheredh. Ag yn yr vn rhif, saith rodh sydh o'r Yspryd glân, gyda'r wyth dedwdhwch Efangylaidh, sy'n cyfarwydho dyn i berffeidhrwydh [Page 279] buchedh Gristnogawl: Saith hefyd yw'r gweithredoedh o'Luseni corphorol, a sayth yw'r gweithredoedh o 'Luseni ysprydol. O'r hain eugyd, mae yn fym-mryd rodhi i chwi Athrawaeth dalferr.
O'r Rhinwedhæ Theolygawl. PENNOD. II.
PA beth yw ffydh?
Fydh y'w'r gyntafo'r Rhinwedhæ Theolygawl; sef o'r hai sy'n dhigyfrwng, yn cyfeirio at Dhuw; a swydh priodawl Fydh, goleuo'r deualhedh, a'i dherchafu i gredu'n gadarn dhi-amme, hyn olh a anirgelodh Duw, drwy gyfrwng yr Eglwys: er bod y peth yn anawdh, ag yn vwch na rheswm naturiol.
Am ba achos y mae rhaid [Page 280] credu pynciau ffydh mor gadarn, dhi-serfylh?
Yr achos yw, am fod ffidh yn ymgynnal a'i phwys ar wirionedh dhibalh, dhidwylh. Oblegyd hyn olh y mae ffydh yn ei ossod ger eyn bron i'w gredu, a dharfu i Dhuw ei anirgêlu; yr hwn yw'r gwirionedh eihun. Ag ammhossibl, ag an-alhadwy yw i'r peth a fanego, neu'anirgelo Duw, fod yn amgen na'r gwîr. Ag felhy, pan fo ffydh yn cymmelh arnom gredu'r peth a fo'n ymdhangos fel pette yn wrthwyneb i reswm, megys perhau o forwyn yn wyryf, ar ôl escor, a geni idhi blentyn; rhaid i ni ymroi i gyfadhe, fod rheswm dynawl yn egwan, ag yn hawdh ei sommi; Eythr Duw ni eilh na sommi, na bod yn sommedig.
Pa beth sydh angenrhaid [Page 281] ei gredu a Rhinwedh ffydh.
Angenrhaid yw credu yn yspyssawl holh bynciau'r Symblen neu'r Gredo, a dharfu i ni ei heglurhâu vchod; ag yn enwedig y pynciau o'r sawl y mae'r Eglwys yn cadw dydh gwyl, ryw amser o'r flwydhyn; megys Ymgnawdoliaeth, Genedigaeth, Diodhefaint, Adgyfodiad, a derchafiad eyn Harglwydh: dyfodiad yr Yspryd glan; y Drindod santeidhiaf. Rhaid hefyd yw bod yn barod i gredu, hyn olh a egluro'r lân Eglwys i ni. Ag yn dhiwethaf, ym-mhob ymdhygiad, neu ymwredhiad o'r tu alhan, rhaid yw ymgadw odhywrth y petheu sydh arwydhion o fod y'n Anghredadyn, megys ym wisco fel Twrc, neu Idhew; yssu, neu fwyta cîg y Gwenerau, fel y gwnânt yr Haereticiaid, a'r cyffelyb. Oblegyd [Page 282] angenrhaid yw nyd yn vnic a'r galon,Rom. 10. Tit. 1. a'r geneu; ond a'r gweithredoedh odhialhan hefyd gyfadhe, a chyffessu'r wîr ffydh, ag ymdhangos yn estron, a dierth, i bob s [...]ct gwrthwynebawl i'r lân Eglwys.
Beth yw Gobaith?
Gobaith yw'r ail o'r Rhinwedhu Theolygawl, ag a'i gelwir felhy, am ei bod hithau a'i golwc, yn cyfeiria at Dhuw yn dhi-gyfrwng. Oblegyd megys ag y credwn yn-Nuw trwy ffydh, felhy trwy Obaith yr ymdhiriedwn, ag y gobeithiwn yn-Nuw.
Beth yw swydh Gobaith?
Swydh Gobaith yw derchafu'r ewlhys i obeithio'r dedwdhwch tragwydhol. Ag am fod y dedwdhwch hwn yn gyfiwch daeoni, nad oedh bossibl, a galhadwy i nerth dynawl ei gerheudhyd, na chyfeirio [Page 283] atto; am hynny mae Duw yn rhoi i ni y rhinwedh vwch-naturiol hon, fel y galhon trwydhi hi obeithio, ayfod o hyd i'r fath dhaeoni dirfawr.
Ar ba beth y mae Gobaith yn sefylh, ag yn ymgynnal eiphwy?
Mae hi'n sefylh, ag yn ymgynnal ei phwys, ar an-herfynol dhaeoni a thrugaredh Duw; or hon mae gennym arwydhion di-amme, gan rodhi o Dhuw i ni ei fâb eihun, a'n cymeryd ninneu trwy gyfrwng hwn, yn ansawdh-feibion o'r eidho, gan adho i ni etifedhiaeth teyrnas nef, os gwnaem weithredoedh cysson, a chyfadhas i'r cyfryw fraint, a gowsom gantho; a rhodhi gras i ni a chynhorthwy digonawl, i alhu cyflowni'r cyfryw weithredoedh.
Beth yw Cariad perffeith?
Cariad perffeith yw'r drydedh Rhinwedh Theolygawl; sef a [Page 284] gyfeiria a'i golwc at Dhuw yn dhigyfrwng; oblegyd trwy hon y derchefir yr enaid i garu Duw, ynfwy na dim, neu o flaen, ag vwch ben pob peth, nyd yn vnic megys Creawdr, ag awdr eyn daeoni, a'n cymwynasseu naturiol; ond hefyd fel trefnydh, a rhodydh grâs, a gogoniant, yr hai ydynt dhaeoni, a chymwynasse vwch-naturiol.
Mi a fynnwn wybod a gyrredh Cariad perffeith i garu creaduriaid hefyd?
Priodawl iawn i Gariad perffeith gerheudhyd i garu pob dyn îe i garu pôb peth a wnaeth Duw; ond a hyn o ragor, sef fod yn rhaid caru Duw, er ei fwyn eihun, gan ei fod yn dhaeoni an herfynawl; a charu pôb peth aralh (sydh raid i garu) er mwyn, ag er cariad ar Dhuw. Ag yn enwedig rhaid yw [Page 285] caru'r cymydog, yr hwn a wnaeth Duw ar ei dhelw eihun, megys y gwnaeth ninneu'n hunain. A than henw cymydog, rhaid i ni dheualh, a chyfri, nyd eyn ceraint, a'n cyfeilhon yn vnic, ond pob rhyw dhyn, pe rhon idho, a bod i ni yn elyn, canys delw Duw yw pôb dyn, ag er mwyn hynny iawn yw i ni ei garu.
Ai rhinwedh fawr yw Cariad perffeith?
Y rhinwedh fwyaf yw hi o'r cwbl olh, a daeoni mor dhirfawr, na eilh y neb a fo gantho hon ona bod yn gadwedig, odhigerth idho ei choli hi yn gyntaf, a'r neb a fo heb Gariad perffeith, nyd oes fodh idho, fod yn gadwedig, pette gantho'r holh rinwedhæ crailh, a holh dhoniæ, a rhodhion Duw.
O'r pedair prif rinwedh a elwir Cardinaliaid. PENNOD. 12.
BETH yw Pwyledh neu Galh-dhoethedh?
Y gyntaf yw hi o'r pedair prif rinwedh, a elwir Cardinaliaid: yr hai a ryglydhant yr henw hwn, am eu bod yn bedair o'r rhinwedhæ pennaf, ag megys yn ffynnonae'r holh rinwedhae dynawl neu gynedhfawl. Cany Pwyledh sy'n lhywodraethu'r deualhedh; Cyfiownedh sy'n lhy wodraethu'r ewlhys; Tymheredh sy'n attal, ag yn lhywodraethu'r chwantau, nwy, a gwniae Cynghybydiaeth, a Grymysedh sy'n ffrwyno, ag yn lhywodraethu'r Dhiglhonedh.
Beth yw swydh Pwyledh?
Swydh Pwyledh, yw dangos ym-mhob gweithred y diwedh bennod y dylid cyfeirio atto, y modhion, a'r cyfryngae cyfadhas i'w gerheudhydh, a'r holh amgylchion; sef yr amser, a'r odfa, y cyfle, y modh gwiw, a chymwys i'w geisio, a'r cyffêlyb, fel y bo'r weithred yn dhifai, ag yn holhawl yn dha: Ag am hynny y gelwir hi yn Athrawes, neu feistres rhinwedhæ erailh: Ag y mae hi megys y lhygad i'r corph, megys yr halen i'r bwyd, ag megys yr haul i'r byd olh.
Pa rai yw'r Camwedhæ gwrthwynebawl i Bwylhedh?
Rhinwedh a fydh bob amser yn y canol; ag am hynny mae idhi dhwy gamwedh gwrthwynebawl, yn y dhau pen eithaf. Vn Camwedh a bai gwrthwynebawl i Bwylhedh, yw Am-mhwylhedh, neu Ang-halledh, [Page 289] sef Gwalh ystyr, a bod yn dhi-dharbod eisie rhag-edrych, ag ystyrio'r peth a fo i'w wneuthur: A'r bai hwn sydh ar y sawl a font heb fwrw golwc ar y pennod-diwedh, neu heb arfer y modhion, a'r cyfryngæ cymwys i'w gerheudhyd. Camwedh a bai aralh gwrthwyneb i Bwylhedh, yw Cyfrwysdra, dichelhedh, neu Galhineb cnowdol. A'r bai hwn sydh ar y sawl sy'n dyfal dharbod, ag yn dhigon dwys, a diesceulys, am bennod-diwedh y gweithredoedh y maent yn eu trîn, a'r modhion, neu'r cyfryngæ cymwys i'w cerheudhyd, ond eu bod yn troi'r cwbl olh, fel y bo goreu ar lês eu budh a'u helw bydol eu hunain, ag am hynny y rhont eu bryda'u cais, yn dhichelhgar ar dwylho eu cymydoc, yn gynt na methu o'u hamcan. Ond yn y diwedh y ceir gweled, fod y [Page 290] rhai hyn yn a'ngalh, ag yn dhibwylh; gan vdhynt golhi'r daeoni godidocaf, er mwyn rhyw dhaeoni gwael, di-sylw.
Beth yw Cyfiownedh? A pha swydh idhi?
Rhinwedh yw Cyfiownedh, yn rhoi i bawb yr eidho; ag felhy ei swydh hi yw cyflowni petheu, a gwnethur vniondeb gymwys mewn masnacheu dynion: yr hwn beth yw sylfaen a gwreidhin hedhwch, a thyngnefedh. Oblegyd pe bydhe bawb fodlon i'r eidho eihun, heb argeisio'r eidho aralh, ni bydhe fyth na rhyfel, na chynneu, rhwng neb a'u gilidh.
Pa rai yw'r Rhinwedhæ gwrthwynebawl i Gyfiownedh?
Dwy gamwedh sydh idhi yn wrthwyneb; y nailh Ang-hy fiowneth, sef, pan gymero dyn yr [Page 291] eidho aralh, neu fynnu mewn masnach a bargen, roi lhai nag a dhyle, neu dherbyn mwy nag a dhyle. Y lhalh yw Gormod Cyfiownedh, sef, pryd y bo dyn mor dost-ffyrnig, a mynnu gwneuthur, neu gael yr eithaf o Gyfiownedh, yn daerach ag yn drachach, nag y bo rheswm. Canys mewn lhawer cyflwr a damwein, rhaid yw cymyscu Cyfiownedh a pheth Gresyndod neu Dostûri trugarog: megys, o bydh rhyw dhyn truan tylawd heb alhu talu y dhylêd gyfa 'fo arno, yn dhisymwth, ag ar rybydh byrr, heb adfyd anianol, a dirfawr golhed; rheswm, a chyfion yw, cenhiadu idho ychwaneg o amser, a'i necau fe o hynny a fydhe wneuthur yr eidhaf, a gwascu gormod ar Gyfiownedh.
Beth yw Grymysedh? a pha swydh sydh idhi?
Rhinwedh yw Grymysedh, a'n gwna ni'n hyfedr barod i orchfygu pôb anhowsedh, a fo'n rhwystr i weithredoedh da, hyd yn oed godhe marwolaeth, o bydh rhaid, er mwyn gogoniant i Dhuw, neu er mwyn na bom yn ôl am eyn dyled-swydh. Ag felhy drwy gyfrwng y Rhinwedh hon, yr aethont y Merthyri santaidh a'r maes, yn orfoledhys, odhyar eu herlydwyr. Ag yn y cyffelyb, trwy gyfrwng yr vn rhinwedh, yr aethont y milwyr dewrion yn ogogenydhys, yr hai a dharfu vdhynt ymdaro, ag ymdhangos euhunain yn rymmys, mewn rhyfael cyfreithlawn.
Pa rai yw'r camwedhæ gwrthwynebys i rinwedh Grymysdra.
Lhyfrdra neu Ormod ofn; a Rhyfic byr-bwylh, neu [Page 293] Drahyder gwaedwylht. Oble [...]yd y gormod ofn a wna i dhyn ymroi yn rhy hawdh, yr hwn a dordha o dhiffic Grymysedh: Rhyfic a gormod hyder a wna i dhyn ym wthio ei hun m [...]wn peryglon eglur, a goleu; heb fod yn rhaid: a hynny yw megys bod yn rhymmys; ag ni heudha dhim clôd, na mawl, ond gogan, a dychan: ag am hynny nyd rhinwedh, ond bai, a chamwedh yw.
Beth yw Temheredh, a pha swydh idhi?
Rhinwedh yw Temheredh, sy'n attal, ag yn ffrwyno difyrrwch cnowdol. Gan beri i dhyn na chymero dim dyfyrrwch, ond a f [...] cymhesur, a rhes [...]mol.
Pa rai yw'r Camwedh [...] gwrthwynebawl i Demheredh?
An Nhymheredh, a Hurtrwydh, [Page 294] neu An-synwyroldeb. An-Nymhered yw, pryd y bo dyn gwedhi ymroi yn ormod i dhyfyrrwch; ag am hynny yn gormesu, neu'n cymeryd gormod bwyd, neu dhiod; neu'r cyffêlyb: yr hyn a wna niwed i'r enaid, ag i'r corph, Ansynwyroldeb, neu Hurtrwydh, yw pan elo dyni'r peneithaf aralh, gan wrthod dyfyrrwch y synhwyræ mor holhawl, nas mynu ef fwytta'r petheu, sydh angenrheidiol i gynnal yr iechyd, rhag mwynhau'r tippin dyfy rwchblâs sy'n canlyn bwydydh cyfadhas yn naturiol. Ond etto amlach, a chenfinach yw bai'r An-Nhymeredh, na'r cyfr [...]w Hurtrwydh: ag am hynny y darfu i'r saint olh, cyn hannog trwy air, a gweithredh i ymprydio, i gospi, a marw-hau'r cnawd.
O Saith rodh yr Yspryd glân. PENNOD. 13.
PA rai yw rhodhion a doniæ'r Yspryd glân?
Y rhai a dhyscodh Esai'r prophwyt i ni;Isa. 11. sef Doethineb, Deualh, Cyngor, Grymysedh neu Gadernid, Gwybodaeth, Hygaredh, ag Ofn Duw.
Pa gymorth a gawn gan y rhodhion a'r donîæ hyn?
Cymorth i gerheudhyd perffeidrwydh buchedh Cristnogawl; Canys megys grisiau, neu yscal ydynt, i ni dhringo o stât, a chyflwr pechod, trwy amryw gradhæ, nys dyfod i nen, a brîg perffeidhrwydh. Ond rhaid i chwi wybod rifo o'r Prophwyt y gradhæ, hyn, gan dhescyn ar iwared; am idho weled megys yscal [Page 296] yn dyfod o'r nef; Ond my-ni a'u rhifwn yn y gwrthwyneb, ar ifynu; fel y gwasnaethont i dhringo odhyar y dhaear i'r nefoedh. Gan hynny y gradh, neu'r grîs cyntaf, yw Ofn Duw, yr hwn a bâr dhychryn a braw, mewn pechâdur, wrth fedhwl fod Duw holh-alhuawg yn elyn idho. Yr ail gradh, yw Hygaredh; Canys y neb a fo'n arswydo, ag arno ofn y boen, a'r gospedigaeth, y mae Duw yn ei fygwth i'r pechadur a dhechreu dhyfod yn Hygar dhuwiol, gan chwenychu vfudhau, a gwasneuthu Duw, drwy gyflowni ei santaidh ewlhys ym-mhôb rhyw beth. Y trydydh gradh, yw Gwybodaeth; oblegyd y neb a chwenycho gyflowni'wlhys Duw, a ymbil, ag a dhymuna ar Dhuw, dhys [...]u idho ei orchmynion santaidh: Ag yno Duw trwy'r Pregethwyr, trwy lyfræ, [Page 297] a thrwy ysprydawl anadlad o'i fewn, a drefn a idho hyn o adhysc a fo angenrhaid. Y pedwerydh gradh yw Grymysedh, neu Gadernid; oblegyd y neb a wypo pa fodh y mae idho wasneuthu Duw, ag a chwenycho ym-mhob beth ei wasneuthu, a geiff gyfarfod a lhawer anhowsedh, a profedigaetheu, neu dentasiwnæ'r byd, y cnawd, a'r cythreul. Ag am hynny Duw a rydh idho wrth eiraid, rodh o Gadernio, a Grymysedh, fel y galho orchfygu pob anhowsedh. Y pummed gradh, yw Cyngor; Canys pan welo'r cythreul, na dhichon orfygu trwy nerth, yno y try at dhichelhion, gan roi cais ar beri i'r dyn cyfiawn gwympo i'r drwg, tan rith, lhiw, a chyscod rhyw dhaeoni. Eythr Duw nyd ymâd ag ef, ond a rydh idho rodh a dawn o Gyngor, fel y galho dheualht a gorchfygu dichelhion [Page 298] y gelyn. Y chweched yw rodh a dawn o Dheualth; oblegyd gwedi i dhyn hir ymgenfino ag ymarfer yn dha, a Buchedh Gweithgar, a chael lhawer gorchest, a maes ar y Cythreul; Duw a'i dena, ag a'r derchafa i'r Fucedh fyfyriawl; a thrwy'r dhawn a Deualth, fe a rydh idho fedru ystyrio, a deualht dyfnder y dirgeledhion duwf [...]l. Y seithfed yw rhodh o Dhoethineb, yr hon yw cyflowniad perffeidlrwydh. Canys hwnnw sydh dhoeth, a edwyn y cyntaf, ar prif-achos; ag a drefna ei holh weithredoedh yn ôl hwnnw. Y peth nys geilh neb ei wneuthur, ond y sawl a gyssylhto ynghyd a'r rhodh, neu'r dhawn o Dheualth; berffeidhrwydh Cariad perffeith. Oblegyd a'r Dheualth yr adweinir y prif-achos, ag a Chariad perffeith y trefnir, ag y cyfarwydhir [Page 299] pob peth i gyfeirio atto, fel at y pennod-diwedh. Ag o ran bod Doethineb yn cwplyssu, ag yn cyssylthu hoffedh yr ewlhys, ynghyd a'r deualhedh, am hynny y gelwir Doethineb yn lhadin, Sapientia, sef wrth Athrawaeth Sant Bernard; Saporita Scientia. Gwybodaeth flasus, neu wybodaeth synhwyrol.
O'r wyth dhedwdhwch. PENNOD. 12.
Matt. 5.BETH yw'rwyth dhedwdhwch a dhyscodh cyn Harglwydh i ni yn yr Efengyl?
Yscal aralh ydynt, i dhringo i berffeidhrwydh, cyffelyb i'r lhalh o rodhion yr Yspryd glân; oblegyd mewn sayth gwers, y cynhwysir sayth gradh i dhringo, a dyfod i dhedwdhwch; a'r wythfed sy'n rhoi [Page 300] arwydh i gael gwybod, a dhringodh dyn yr yscal hon, yntau nattô.
Eglurwch i mi yn grynno, yr yscal, gradhæ hyn.
Yn y tri gradh cyntaf, mae Duw yn dyscu i ni dorri ymeith rwystron perffeidhrwydh, drwy'r hon y deuir i dhedwdhwch. Y rhwystron cyffredin arferolh yw. Chwant da byd, Chwant anrhydedh, a Chwant dyfyrrwch. Am hynny y dywedodh Crist yn y gradh cyntaf: Dedwydh yw'r tylodion o yspryd. Sef y rhai a dwystyrant yn ewlhysgar, ag a fo dibris genthynt am dha'r byd. Yn yr ail y dywedodh, Dedwydh yw'r adhfwyn; sef, y rhai a rodhont le i bawb, heb ymdynu, nag ymdrechu a'r neb a ymwthio o'r blaen, gan eu gadel nhwy ar yr ôl. Yn y trydydh y dywedodh, Dedwydh yw y rhai galarus; sef, [Page 301] y rhai nyd argeisiant am dhyfyrwch, a digrifwch y byd hwn; ond ymroi i wneuthur pænyd, ag i wylo am eu pechodæ. Yn y dhwy radh nessaff, mae fe'n dyscu i ni berffeidhrwydh y Buched Gweithgar; yr hon sy n sefylh ar gyflowni hyn olh y bomî rwymedig i'w wneuthur o ran Cyfiownder, ag o ran Cariad perffeith: Am hynny yn y pedwerydh gradh y dywedodh: Dedwydh yw'r sawl sydh arnynt newyn, a sychedh am gyfiownder: ag yn y pummed, y dywedodh: Dedwydh vw'r hai trugarog. Yn y dhaw radh dhiwethaf, mae fe'n tynnu at berffei [...]hrwydh Buchedh myfyrgar ag am hynny y dywedodh yn y chweched. Dedwydh yw y rhai glân eu calon, canys y nhwy a welan [...] Dhuw: sef, am y cânt ei weled yn y byd nessaf mewn gogoniant, ag a [Page 302] gant ei adnabod yn y byd hwn drwy rodh a grâs Myfyrdawl. Yn y seithfed y dywedodh: Dedwydh yw'r hedhychiaid: oblegyd y nhwy a elwir vn blant i Dhuw. Sef, dedwydh yw'r sawl gwedi vdhynt gyssylhtu Cariad perffeith ynghyd a'u Myfyrdawd, a drefnassent eu holh betheu yn-Nuw, ag a dharfu vdhynt hedhychu holh deyrnas eu henaid, ag felhy a fydhant blant i Dhuw, santaidh a pherffeith, cynhebig iw tâd Yn yr wythfed wers, nys cynhwysed vn gradh newydh o berffeidhrwydh, ond (fel y mae Sant Awstyn yn dangos yn hyda) egluro'r ydis i ni arwydh yspys i wybod,Aug. l. 1. de ser. Domini n monte. a fo dyn wedi dyfod o hyd i ber +ffeidhrwydh; a'r arwydh hwn yw godhe erlid anghyfion yn ewlhysgar oblegyd megys ag y profir aur yn y ffwrnes, felhy'r dyn cyfiawn perffeith, [Page 303] mewn tralhod ag adfyd.
O saith weithred y drugraredh, Corphorol; a'r saith Ysprydol. PENNOD. 15.
MAE'N ôl i chwi egluro gweithredoedh y drugaredh; y rhai corphorol, a'r hai'sprydawl.
Saith sydh o weithredoedh y drugaredh, corphorol; a chwech o o honynt a g [...]ybwlhir yn yr Efengyl santaidh.
- Matt. 25.1. Rhoi bwyd i'r dyn nywynog.
- 2. Rhoi diod i'r Sychedig.
- 3. Dilhadu'r Noethion.
- 4. Lhetyfu'r Pelhennig.
- 5. Ymweled a Chleifion.
- 6. Cyssuro Carchorion.
A'r seithfed. Cladhu'r Meirw. a [Page 304] dhyscodh Tobias Sant, Tob. 1. & 12. a'r Angel Raphael i ni. Saith hefyd yw gweithredoedh y drugaredh, ysprydol.
- 1. Cyfarwydho, hyffordhi, a rhoi dysc i'r anghyfarwydh.
- 2. Rhoi cyngor hyles i'r ammheus.
- 3. Rhoi cyssur i'r sawl a fo mewn blinder, a lhudhed.
- 4. Rhoi cerydh, a rhybydh i'r pechadur.
- 5. Rhoi nawdh, a madheuant am y cammæ, a'r niwedh a gowsom.
- 6. Godhe yn amynedhgar dhrygnaws, ag anwydæ rhai erailh.
- 7. Gwedhio a'r Dhuw tros y byw a'r meirw.
Os achos yn y byd, a escusoda dyn, rhag bod yn rhwymedig i wneuthur y gweithredoedh hyn o [Page 305] drugaredh?
Tri achos a'u hescusodant, Y cyntaf, pryd y bo dyn heb fodh ido eu cyflowni.Luc. 16. Ag felhy y cardottyn duwiol Lazarus; yr hwn a grybwylhir yn yr Efengyl, ni wnaeth nemor o weithredoedh y drugaredh corphorol, am ei fod yn byw mewn angen, ag eisie eihun, o'r hai hynny agos eugyd. Ag felhy am ei amynedh, a'i dhiodhefgarwch, y cafodh ef ei gorôni. Ag fel dyma drefn, ag ordinhâd Duw, alhu o'r cywaethogion fod yn gadwedic, trwy wneuthur eluseni, a dangos trugaredh: a'r tylodion drwy amynedh, a bod yn ahiodhefgar. Felhy'r neb ni bo gântho na dysc, na phwlhedh, nyd yw rwymedic i roi na dysc, na chyngor i aralh. Yr ail achos a escusoda, yw pryd y bo dyn yn gwasneuthu Duw mewn ansawdh, stat, a chyflwr [Page 306] go-uwch nag ydiw'r Fuchedh Weithgar; ag o ran y stât, ar cyflwr hwnnw, heb fod idho echlusurau, ag odfa, i wneuthur bagad a weithredoedh y drugaredh: felhy'r Meudwy santaidh, a fo yn yr amalwch, gwedi ymgau eihun mewn Celh, a chilfach o'r neulhtu, i fyfyrio petheu nefawl; nyd yw rhymedig i ymadaw a'i arfer buchedhol, i fyned ar lêd, i argeisio am rai angheus, i wneuthur vdhynt weithredoedh elusen o drugaredh. Y trydydh achos escusodawl yw, pryd y bo dyn heb gyfarfod, na tharo ar neb, a fo mewn angen nodedig o'i lusêni, a'i drugaredh. Oblegyd nyd ydym rwymedig i gynorthwyo, ond y sawl nys galhant eu cynorthwyo euhunain, ag a font heb neb aralh a alho, ag a fo parod i roi cymorth vdhynt. Etto gwir yw, na chais perffeithrwydh [Page 307] trugaredh, a luseni, dhiscwyl ag aros am îng, ag amser rhwymedigaeth; ond hi a fydh parod i roi cymorth, yn y modh goreu y galho, ag i bawb olh y galho.
Mi a debygwn y geil pawb wneuthur y weithred olaf o drugagaredh, sef gwedhio Duw dros y cymydoc.
Gwir iawn, ag am hynny geilh hyd yn oed y meudwy santaidh, wneuthur gweithredoedh y drugaredh; am ei fod yn gwedhio ar Dhuw, ar idho genhiadu ei ras i bawb a fo rhaid vdhynt vrthi.
O gamwedheu, a pechodeu yn gyffredinawl. PENNOD. 12.
MADWS i chwi belhach dhyscu i mi [Page 308] beth yw Camwedh, bai, a phechod; fel y galwyf eu gochelyd; megys ag y darfu i chwi egluro i mi y rhinwedheu, a'r gweithredoedh da, fel y galhwn eu hargeisio.
Pechod yw gwneuthur peth yn ewlhysgar, neu adel peth yn ewlhysgar heb ei wneuthur, yn erbyn cyfreith Dhuw. Ag yma mae i chwi i'w graffu arno; fod tri pheth yn myned i wneuthur pechod. Yn gyntaf, gwneuthur o dhyn beth gwahardhedic, neu adel heb wneuthur beth gorchmynedic. Megys (er sampl) Difenwi yw gwneuthur peth gwahardhedig: a bod heb wrando'fferen, dhydh gwyl, gadel peth gorchmynedic heb ei wneuthur. Yn ail, rhaid i'r gwneuthur, neu'r gadel heb wneuthur, fod yn erbyn cyfreith Dhuw: oblegyd cyfreith Dhuw, ydiw'r rheoledigaeth o weithio'n dha; megys y [Page 309] mae celfydhyd Saer maen, yn rheolaeth idho fe i wneuthur mûr yn iawn: ag am hynny, megys nad ydiw dyn Saer maen da, onis gwna'r mur yn iawn, ag wrth reol y gelfydhyd: felhy nyd y diw dyn yn byw yn dha, nag yn dhyn da, onys calyn gyfreith Dhuw. A than henu cyfreith Dhuw, ni deuelhir mo honno yn vnic, a rodhes ef eihunan, megys y deg orchymyn; ond honno hefyd y mae yn ei roi i ni drwy gyfrwng y Pâp, a phenaethiaid erailh, y rhai ysprydol, a rhai bydol. Oblegyd swydhogion i Dhuw ydynt y rhai hyn eugyd: a chantho ef y cowsont eu awdurdod. Yn drydhydh, rhaid i'r peth a wneler, neu'adawer heb er wneuthur, fod yn ewlhysgar, ag o fodh. Oblegyd heb gyttundeb a chydsymad yr ewlhys, nyd pechod ydiw: megys (er sampl) pette dhyn, trwy [Page 310] ei hun, yn difenwi, ag yn cablu yn ei gwsc; neu cyn dyfod i oedran a synwyr; neu heb wybod fod y gair y mae'n ei arfer, yn dhifenwad: yn y cyfryw dhamweyn, ni phecha dhyn dhim, am nad oes mor ewlhys yn cyttuno.
Deuelhais beth yw pechod dywedwch i mi belhach beth yw Camwedh?
Camwedh yw'r ymarferiad, a'r ymgenfiniad a dyfodh mewn dyn, drwy fynech bechu; yr hon sy'n peri i dhyn bechu yn howsach, yn hyfach ag yn lhawenach; megys (er mwyn rhoi sampl) ni a dhywedwn fod vn yn dhifenwydh, neu'n chwareydh, a fo'n arfer o dhifenwi, neu chware. Ag felhy difenwi yw'r Pechod, a bod yn dhifenwydh, yw'r Camwedh, a'r cyffelyb a alhwn ei dywedyd am bob pechod aralh.
Ai mowrdhrwg yw pechod.
Y mowr-dhrwg mwyaf yw pechod, a eilh fod, îe yn ei herwydh yr vnic beth drwg; ag yn anfodloni Duw, yn fwy nâ phob rhyw dhim. Yr hyn sydheglur-yspys, wrth weled, ag ystyrio, nad arbedodh Duw 'r petheu godidocaf oedh gantho; ond eu difethu, a'u anrheithio er mwyn cospy pechod. Pette frenyn a chantho lestr prydferth, gwerthfawr o aur, neu arian; ag am ganfod o'i fewn ryw dhiodhan dhrewlhyd; a fydhe mor ffiaidh gantho'r lhestr a pheri ei dhrylhio, a'i daflu ymeith i waelod y môr; chwi a dhywedech yn hydha dhi-amme, fod yn gas anianol gan y brenin y dhiodan honno. Duw a wnaeth dhau lestr gwerth-fawr, godidowgwych; y nailh megys o arian, sef Dyn; a'r lhalh megys o aur, sef Ang [...]l: ag am idho ganfod peth mor [Page 312] dhrewlhyd, a phiadh, ag yw pechod, ym-mhôb vn o'r dhau lestr hynny, fe a dhrylhiodh ag a daflodh i waelodion vffern i'r trueni tragwydhol, yr hold Angylion, a dharfu vdhynt bechu; [...]g y mae beunydh yn taflu i'r vnfangre o golhedigaeth, yr holh dhynion sy'n meirw yn eu pechod. Ag vnwayth am bechodæ'r byd, danfonodh dhilyw, o dhwfr, ag a fodhodh hyn olh oedh o dhynion ar y dhaear, ond Noe eihun, a'i deulu, a dharfnasse idho ymgadw yn gyflawn.
Pasawl math ar bechod sydh?
Mae dau fath: oblegyd vn a elwir Pechod gwreidhiawl, neu dhechreuawl; A'r lhalh Pechod gweithredawl. Ag o'r Pechodæ gweithredawl, mae dau fath hefyd. Rhai sydh bechodæ marwol, a rhai Madheuol.
O'r Pechod gwreidhiawl. PENNOD. 17.
PA beth yw'r Pechod gwreidhiawl, neu Dhechreuawl.
Pechod gwreidhiawl, a dechreuawl, yw'r pechod yn yr hwn y genir ni, hwn sy'n digwydh i ni yn olynol, megys etifedhiaeth, odhywrth eyn tad cyntaf Adha. Canys gwybydhwch, pryd y gwnaeth Duw'r gwr cyntaf a elwid Adha, a'r wraig gyntaf, a elwid Efa; rodhi o hono vdhynt saith rodh. Yn gyntaf rhoes vdhynt ei Râs, trwy'r hon yr oedhent yn gyfiawn, ag yn anwylion i Dhuw, ag yn ansawdh-blant o'r eidho. Yn ail, rhoes vdhynt Wybodaeth, fawr, i wybod pa fodh y gwnaent y da, ag y gochelent y drwg. [Page 314] Yn drydydh, rhoes vdhynt Vfudhdod y cnawd i'r yspryd, mal nas cynhyrfe trwy wyn, i chwenychu dim anghyfreithlawn yn erbyn rheswm. Yn bedwerydh, rhoes vdhynt Barodrwydh, hyfedr, a howsedh fawr i wneuthur y da, a gochêlyd y drwg: heb roi vdhynt ond vn gorchymyn i'w gadw, a hwnnw o'r fath howsaf. Yn bummed, Ef a'u gwaredodh odhywrth bob poen lhafur, ag arswyd; Oblegyd y dhaear o honi eihun, oedh yn dwyn ffrwyth digonawl, i gynnal bywyd dyn; ag nyd oedh dim alhe wneuthur niwed i dhyn. Yn chweched, fe a'u gwnaeth nhwy Yn anfarwoledig; sef fel na buassent fyth feirw, oni bae vdhynt bechu. Yn seithfed, ei amcan a'i fryd oedh mewn amser, eu symudo nhwy odhiar y dhaear, i'r nefoedh i'r fath fywyd tragwydhol; a [Page 315] gogonedhus, ag sydh gan yr Angylion. Ond y gwr cyntaf, ar wraig cyntaf, gwedi i'r Cythreul eu sommi, a dorrassont y gorchymyn; ag felhy drwy bechu yn erbyn Duw, nhwy a a golhassont y sayth rodh a henwais. Ag am roi o Dhuw y rhodhion hynny vdhynt hwy, nyd yn vnic o'u rhan euhunain; ond i dhiscyn trwydhynt hwy, i'w heppil, a'u holh hiliogaeth: am hynny nyd oedh y golhed o'r rhodhion, vdhynt hwy yn vnic, ond y nhwy a'u colhassont i ninneu hefyd, ag a'n gwnaethont yn gyfrannogion o'u pechod, a'u trueni; megys ag y buassem gyfrannogion o'u Grâs a'u daeoni, pe buassent heb vdhynt bechu. Fal dyma gan hynny'r Pechod gwreidhiawl, neu dhechreuawl; sef gelyniaeth rhyngom a Duw, a difedhiant o'r grâs a amcanesid i ni; a'r hwn dhifedhiant y genir ni; ag [Page 316] alhano hono y mae'n tard [...]u Anwybodaeth, drwg-dued, a gogwydhiad i dhrigioni, Anhowsedh i wneuthur daeoni, a Howsedh i wneuthur drwg, y Boen, y lhafur, a'r blinder i geisio cynnal y bywyd; yr Ofn, yr arswyd, a'r peryglon yr ydym yndhynt; Angeu, a morwolaeth di-amme'ir corph, ie a marwolaeth tragwydhol yn vffern, oni bydh i ni cyn marw gael eyn gwared odhywrth y pechod, a dymchwêlyd i hoffedh grâs Duw.
Pa gyfaredh a medhiginiaeth sydh i ni yn erbyn y pechod hwn?
Dywedasom vchod eusys, mae diodhefaint, a marwôlaeth Crist eyn Harglwydh oedh y gyfaredh. Canys mynne Duw i'r neb a gychwnne wneuthur iawn am bechod Adha, fod eihun yn dhibechod, ag [Page 317] felhy yn Duw ag yn Dhyn; fel y bydhe gymeradwy alhan o fesur i Dhuw: ag idho vfudhau nyd mewn peth hawdh, fel yr oedh y peth a orch mynesid i Adha; ond mewn peth o'r anhowsaf, sef marwolaeth gwarthus y Grôg. A'r gyfaredh, neu'r fedhiginiaeth hon, a arblygir, a gyfleuir, ag a gymhwysir i ni trwy'r Bedydh, fel y dywetpwyd. Ag er na welodh Duw yn dha, ail drefnu i ni y saith rodh hynny, a henwais; etto mae fe'n rhodhi y rhodh bennaf, sef ei ras, drwy gyfrwng yr hon, yr ydym yn gyfiawn, yn onwyliaid, ag yn blant i Dhuw; ag yn etifedhion teyrnas nef. Y rhodhion erailh, y roir i ni yn y byd nessaf, ag ennilh mawr os ymdhygwn eyn hunain yn dha, yn y byd hwn yma.
O'r pechod Marwol, a'r Madheuol. PENNOD. 15.
EGLVRHEWCH i mi ynawr, pa beth yw'r Pechod gweithredawl: a phafodh y mae rhai pechodæ yn Farwol, a rhai yn Fadheuol.
Pechod Gweithredol yw'r hwn a wnelom a'n ewlhys eyn hunain, ar ol i ni dhyfod i oedran, a synwyr: megys Lhedrad, Lhofrudhiaeth, Tyngu anudon, a'r cyffêlyb petheu gwrthwynebawl i gyfreith Dhuw. A'r pechod hwn sydh farwol, pan dhygo odhiarnom a'n difedhu o râs Duw, yr hon yw ennioes yr enaid: ag a wna fod dyn yn heudhu marwolaeth dragwydhol yn vffern: Madheuol yw'r pechod, [Page 319] pryd y bydho dyn yn codhi, ag yn anfodloni Duw; etto nyd cym-mhelhed a dwyn odhiarnom ei râs, a hwn a ryglydha gospedigaeth, drom, ond nyd yn dragwydhol.
Pa fodh yr adweinir y pechod Marwol, rhagor y Madheuol?
I wybod pa bryd y bo'r pechod yn Farwol, rhaid i chwidhal, a chraffu ar dhwy reolaeth: y naild bod o'r pechod yn wrthwynebys i'n Cariad perffeith tuag at Dhuw, neu tuag at eyn Cymydog; y lhalh bod o hono, drwy gyflawn gyttundeb, a chydsyniad yr ewlhys; oblegyd o bydh y pechod heb y nailh, neu'r lhalh o'r hain, nyd Marwol a fydh, ond Madheuol. Ag yno y dywedir fod y pechod yn erbyn Carriad perffeith, pryd y bydho'n wrthwyneb i'r gyfr [...]ith, mewn achos a matter obwys; [Page 320] fel y bo'r bai yn dhigonawli dorri cymdeithas. Eythr pryd y bo mewn achos neu fatter bychan, ni bo digonawl i dorri gymdeithas; yno nyd yw'r pechod yn wrthwyneb i Gariad perffeith; ond fe a dhywedir, nad yw gyttunawl a Chariad perffeith; ond megys yn myned heibio idhi. Ag yn y cyffelyb fodh, y cyntaf adhywedir ei fod ynwrthwyneb i'r Gyfreith, am ei fod yn wrthwyneb i Gariad perffeith; yr hon yw pennod-diwedh y gyfreith; a'r ail y dhywedir, nad yw wrthwyneb i'r gyfreith, end megys ym myned heibio i'r gyfreith, heb gyttuno a hi, am nad ydiw wrthwynebawl i Gariad perffeith: ond megys heibio idhi, heb gyttuno a hi. Cymerwch sampl; pechod Marwol yw Lhedratta swm mawr o arian, am ei fod yn wrthwyneb i gyfreith Dhuw, ag mewn matter o bwys, [Page 321] digonawl y golwg a barn pawb, i dorri cymdeithas; agfelhy mae'n wrthwyneb i Gariad perffeith: ond lhedratta hatling, neu nodwydh-benn neu'r cyffelyb, nyd yw bechod Marwol, ond Madheuol; am ei fod mewn matter bychan, ag er nad ydiw gyttunawl a Chariad peth; etto nyd ydiw wrthwynebawl idhi: am nad ydiw o gimint pwys, ag a fo rhesymol i beri torriad cymdeithas. Yn y cyffêlyb fodh y dywedwn, o'r bod Yn ewlhysgar: Pan fo'r peth yn wrthwyneb i'r gyfreith, mewn o bwys; ag yn Gyflawn ewlhysgar, ag o'i wir fod, mae'r pechod yn farwol: ond o digwydh idho fod o'i frith anfodh, sef heb fod o'r dyn yn Gyflawn ewlhysgar: megys o trawe mewn dyn fedhwl neu chwenychiad o Ladh, neu Ledratta, neu Dhifenwi, yn dhisymwth ag yn amry [Page 322] fus; a'i daflu ymeith yn gyflym, cyn i'r ewlhys gyttwno'n gyflawn, ni bydhe'r pechod ond Madheuol. Am hynny wrth raid oedh i bawb, fod ar ei geidwad, ag er cyflymmed, ag y canfydho dyn y medhwl drwg, neu'r chwant drigionys, ei daflu ymeith yn dhi-ymaros, cyn rhoi o'r ewlhys ei chydsynniad.
O'r saith bechod pennaf, a elwir hefyd, y sayth bechod marwol, neu'r sayth brifbechod. PENNOD. 19.
MI a chwenychwn gael gwybod pa rai yw'r Pechodæ pennaf olh, i alhu i gochelyd yn dhisceulys.
Rhai pechodæ sydh Bennaf; am ei bod megys penn ffynnonæ, [Page 323] a gwraidh pechodæ erailh; ag am hynny eu gelwir yn bechodæ Pennaf; a saith sydh o honynt. Rhai erailh sydh yn Bennaf, am fod yn anhowsach cael nawdh, a madheuant am danynt, ag a'u gelwir pechodæ yn erbyn yr Yspryd glân; a Chwech sydh o honynt. Yn dhiwethaf, rhai sydh Bennaf, am fod ei gorthrymder yn amlwg-yspysach, ag yn erbyn pob rheswm, ag am hynny y dywedir eu bod yn gweidhi hyd at y nef, am dhial; a Phedwar sydh o honynt.
Pa rai yw'r sayth bechod pennaf?
Y rhai hyn ydynt.
- S. Greg. 31. Mor. cap. 17. alias. 31.1. Balchedh (yr hon a eilw rhai Gwagonedh).
- 2. Cybydhdra.
- 3. Godineb, neu Aniweirbeb.
- 4. Cenfigen.
- 5. Glothineb.
- [Page 324]6. Lhid, Digofaint, neu Irlhonedh.
- 7. A Diogi.
Pam y gelwir y rhai hyn yn Bechodæ pennaf?
Ni elwir monynt yn Bennaf, o ran eu bod yn bechodæ marwol: Oblegyd mae lhawer o bechodæ marwol, heb fod yn Bechodæ Pennaf. Megys, Difenwad, Lhofrudhiaeth: a bagad sydh o'r rhai Pennaf, heb fod bob amser yn bechodæ marwol; megys rhyw gyffro bach o Dhig, ychydig Lothineb, neu dippin o Dhiogi. Y nhwy yntau a elwir yn Bechodæ pennaf, am eu bod yn Bennæ i fagad o bechodæ erailh, sy'n blaguro alhan o honynt, fel canghennæ o'r gwraidh, neu yn goferu odhywrthynt, megys afonydh odhywrth y pen-ffynnonæ.
B [...]th yw Balchedh? Pa [Page 325] bechodæ y mae hi ynei genhedlu, a pha gyfaredh, a medhiginiaeth sydh yn ei erbyn?
Balchedh yw pechod, trwy'r hwn y mae dyn yn tybied ei fod yn fwy nag ydiw, ag a fynn am hynny fod vwch ben bawb, heb fod neb yn vwch, nag yn gyfiwch, neu gydradh ag ef: Y pechodæ y mae yn ei genhedlu, yw Gwag-ffrostio, a gorwagonedhu, ymdeuru, ymdynu, ag ymdrechu ag erailh, Cynnen, Cyndynrwydh, Ymrafael, Anvfudhdod, a'r cyffelyb. Y gyfaredh yw ymroi yn holhawl, ag ymgeisio yn dhyfal a Gostyngeidhrwydh santaidh; sef, ceisio cydnabod y dim yw dyn o hono eihun, a deualh mae rhodh, a dawn Duw yw hyn olh sydh gennym, a medhwl fod pawb yn welh na ny-ni ag am hynny cyfri eyn hunain yn lhai na phawb, gan ymroi i [Page 326] fod odhifewn yn is na phawb, a charodhi anrhydedh, a pharch ohdialhan, ynôl eu gradh, a'u cym-mheriad. Cawn gymorth hefyd o fefyrio [...]od Balched yn gwneuthur dyn yn debig i dhiawl, a'i bod yn digio,1. Pet. 5. Iac. 4. ag yn an fodloni Duw, yn dhirfawr: Canys mae'n scrifennedic fod Duw yn gwrthwynebu'r beilchion, ag megys yn ymogwydho i roi grâs i'r vfydh ostyngedig yr hain a fawrhyga, a'r lheilh a difroda fe, ag a ommedh.
Beth yw Cybydhrad? pa bechodæ erailh a dardhant o'r pechod hwn, a pha gyfaredh sydh yn ei erbyn?
Cybydhdra yw trychwant, a gormod tuedh i gasclu golud, a chywaeth bydol. Ag y mae'n sefylh ar dri pheth. Yn gyntaf, blyssio, a chwenychu'r da sydh y [...] Eidho dyn [Page 327] aralh, heb fod yn fod on a'r eidho eihun: Yn ail, chwenychu mwy o dha byd, nag a fo digonawl; heb fod yn ewlhysgar i roi'r gwedhilh, a hyn a alhom ei hepcor, i'r tylodion, fel yr ydym yn rhwymedig. Yn drydydh, gormod hof fi'r da'fydho'n eidho dyn eihun, er na bo ond hyn a fo digenrhaid idho wrtho: a hyn a wydhis, ag a dheuelhir, pryd ni bo dhyn yn barod i golhi ei holh dha byd, yn y cyfryw dhamwein, ag y bo anrhyde [...]h Duw yn peri hynny. A hynny a wnaeth i Sant Pawl alw Cyhydhdra Eidhol-adholiaeth; Ephes. 5. am fod y Cybydh yn rhoi mwy o fraint, ag o fri i'w olud, nag i Dhuw: gan ei fod yn fodlon i ymwrthod a Duw, yn gynt nag ymadel a'i dha bydol. O Gybydhdra y tyfant, ag y genir bagad o bechodæ; Lhedrad, Yspeiliad, Twylh, a Somiant wrth brynu, a gwerthu; [Page 328] Creulondeb wrth dylodion, a'r cyffelyb. Y gyfaredh yw ymarfer, ag ymgenfino a rhinwedh Haelioni, gan ystyr nad ydym ond dieithred pelhenigion ar eyn taith, a'n siwrnæ yn y byd hwn, ag am hynny hyles yw i ni, na bom lhwythog o gywaeth, a da byd; ond ei gyfrannu rhwng eyn cymdeithion a chefeilhiaid eyn taith, a'n siwrnæ; y rhai a'i harweiniant trossom i'n gwlâd: Ag felhy po yscafnaf olh, a difaich y bydhom, rhwydhoch. ag esmwythach y cyflownwn eyn hymdaith.
Beth yw Aniweirdeb? pa bechodæ a dardhant alhan o'r pechod hwn, a pha gyfaredh neu fedhiginiaeth sydh yn ei erbyn?
Aniweirdeb yw gormod serch ag awydh i'r cnowdol dhifyrrwch, a digrifwch. Y pechodæ yn [Page 329] tardhu alhan o'r pechod hwn, yw Dalhineb medhwl, Gwaedwylhtineb; Anwadalwch, a chyda hynny Godineb, Gordherchiad, Geiriau diflas, a phôb Anlhadrwydh, ag Aflendid aralh. Y gyfaredh a'r medhiginiaeth yw ymgenfino, ag arfer o ympryd, a Gwedhi, ag ymwrthod a phob drwg gyfeilhach, a phob peth aralh a fo'n denu dyn i'r Maswedh. Oblegyd dyna'r modhion a'r cyfryngeu i warchad a chadw diweirdeb: ag yn anad dim, nad ymdhiriedo dyn idho eihun; nag i'w rinwedh, a'i santeidhrwydh, ond ymgadw o hir-belh odhywrth y peryglon, a dyfal warchad ar y pum synwyr, gan ystyrio dharfod i'r pechod a'r camwedh hwn, dwylho, a meglu Sampson, er ei gryfed; Dafyd, er ei dhuwioled; a Salomon, er ei dhoethed; [Page 330] gan eu tywys i Dhalhineb medhwl dirfawr: yn enwedig Salomon; yr hwn adawodh ei dywys, a'i hudo i adholi holh eidholien, a gaudhuwiæ ei ordherch-wragedhas.
Beth yw Cenfigen? pa bechodæ a dardhant alhan o'r pechod hwn, a pha gyfaredh sydh yn ei erbyn?
Pechod yw Cenfigen, trwy'r hwn y bydh dyn yn drist, yn anfodlon, neu yn dhrwg gantho, am dhaeoni dyn aralh; am fod y daeoni hynny yn ymdhangos idho fe, megys yn lheihau peth ar ei fowredh ef eihunan. Eythr ystyriwch ar hyn; pryd y bo drwg gennych am y peth da, a fo gan aralh, am nad yw deilwng o'i fedhu, neu am nad yw yn ei arfer yn dha, nyd yw hynny bechod. Yr vn modh, pryd y bo drwg gennych, na bae gennych it hau hefyd [Page 331] y peth da sydh gan aralh, ag yn enwedig rhinwedh, megys Gofunedh, neu dhefosiwn; ar cyffêlyb, nyd yw hynny bechod chwaith, ond math ar Genfigen santaidh, neu Edhigedh ganmoladwy. Ond o bydh drwg gennych fod gan dhyn aralh beth da, am fod hynny yn eych tyb chwi, yn tywylhu, neu'n gyscodi'ch gogoniant chwi; ag nys mynnech fod yn eidho, rhag i'r pêrchen fod yn gydradh a chwi, neu yn vwch a mwy ei barch, fel dyna bechod Cenfigen; o'r hwn y tardha bagad o bechodæ erailh, sef Cam-farnu, Ymlawenu o'r drwg a'r gwrthwyneb a dhigwydho i aralh, Grwgnachu, a Murmuro yn ei erbyn, Cysswyno, neu dhywedyd Drwg-Absen am dano. Canys y Cenfigennys a fydh a'i bîg, a'i gais yn aestad ar leihau, a duo enw [Page 332] da ei gymydog. Ag ei dhiwedhu, Cenfigen weithiau a fydh yn annog, ag yn hudo dyn i'r Lhofrudhiaeth, fel y digwydhodh gynt i Gain, yr hwn o ran Cenfigen a ladhodh ei frawd eihun yn farw-celain; a'r Idhewon trwy Genfigen a barassont ladh Crist eyn Harglwydh. Y gyfaredh yw arfer, ag ymgenfino a brawdol Garriad perffeith, a myfyrio'n fynech, fod Cenfigen yn gwneuthur mwy o niwed i'r Cenfigennys, n [...]g i'r dyn a genfigenner: am fod y Cenfigennys ym ymstino eihun, ag megy [...] yn ymgnoi ei berfedh o'i fewn. A Duw yn dra-mynech a fydh arfer o fawrhygu a derchafu'r dyn, a genfigenner trwy'r vn cyfrwng, ag y bo'r Cenfigennys yn ceisio ei dharostwng. Felhy gwelwn, fel y parodh y Cythreul gynt i dhyn o wir Genfigen golhi'r Paradwys [Page 333] daearol, a Duw a gymerodh hynny o achos, o gyfrwng i dhanfon Crist i'r byd, i drefnu i ni'r Paradwys nesawl. Brodur y Patriarch Ioseph a'i gwerthassont o wir Genfigen; a Duw a gymerodh y gwerthiant hynny yn gyfrwng i wneuthur Ioseph yn Arglwydh, ag yn bennaeth ar ei frodur. Y brenin Sawl o Genfigen a erlidiodh Dhafydh; a Duw a wnaeth i Sawl golhi'r deyrnas, ag a'i rhoes hi i Dhafydh
Beth yw Glothineb? pa bechodæ a dardhant alhant o'r pechod hwn, a pha gyfaredh sydh yn ei erbyn?
Glothineb yw rhyw fâr, rhaib, neu ormod awydh i swyd, a diod; a'r pechod hwn sy'n sefylh ar fwytta, neu yfed mwy nag a fo cymwys, neu argeisio bwyd a diod rhy foethys, a gwerth-fawr; neu fynnu [Page 334] cîg ar wener, neu Sadwrn; neu na fedro dyn aros y pryd a'r amseron enwedig, o bydh ympryd, ag yn dhiwedhaf, ar fwytta yn rhy awydhys, ag yn wancus. O'r Glothineb y tardhant Tywylhwch medhwl, Coeg-lawenydh, Gormod siarad, a Dwndwr; ag yn dramynech o Lothineb y tyfant Aniweirdeb, a hyn olh o bechodæ sy'n tardhu alhan o honi hithe. Y gyfaredh yw ymroi i fod yn Ar-dymherus, a Chriedh, o'r hyn y ceir cymorth i'r enaid, a'r corph. Ag yn enwedig hyles iawn yw ystyr ofyrred o amser y peru dyfyrrwch Glothineb, gan adel yn fynech ar ei ôl dholuriæ a berhant yn hîr o'r cylha, a'r pen, a'r cyffêlyb.
Beth yw Lhid, a digofaint? pa bechodæ aralh a dardhant o'r pechodæ hwn, a pha gyfaredh [Page 335] sydh yn ei erbyn?
Lhid neu dhigofaint yw gormod awydh neu chwant cael dial: Ond gwybydhwch fod math ar dhîg yn dha; s [...]f y dig y fo cymwys, cyfiawn, a chymhesur ei wedh a'i drefn; ag am hynny mae'r Salm yn dywedyd.Psal. 4. Basil in orat. de Ira. Digiwch ag na fynnwch bechu. A thebig (medh Sant Basil) yw Digofaint i'r ci, yr hwn sydh dha os cyfarth yn erbyn y g [...]lynion; ag nyd pan wnelo niwed hefyd i'r caredigion. Tri peth a wna i'r digofaint fod yn fai, neu alhan o fesur, a threfn iawn. Y cyntaf, ewlhyssio dial ar y dyn nis haedhe dhim cerydh, ag ny gwnaeth dhim yn eyn her [...]yn. Yr ail, ewlhysio dial wrth awdurdod briodawl dyn eihun; Oblegyd dial, a cherydhu rhai diriad, ni pherthyna i n [...]b ond i bennaeth; sef i'r Brenin, i'r Tywysog, neu i'w Swydhogiō: Ag [Page 336] am fod Duw yn frenin goruchaf, am hynny mae fe'n dywedyd mae idho fe'n bennaf a perthyn dial.Rom. 12. Y trydydh, mynnu dial o gâs, ag nyd o Zêl, ag er mwyn cyfiownder, neu'n ffyrnicach, mewn modh, neu ryw amgylchion erailh, amgenach nag y gwedhe. Y pechodæ a dardhant o'r digofaint beius, Ymrysson, Cynnen, ag Ymrafael, Geiriæ lhidiog bustleidh camwedhus, Dinystriad am-mharchus, Mingammu a gwneuthur munudiæ anwedhol, Cythrwdh, Cyndheiriogrwydh, a Chyndharedh gwylht mewn ymdhygiad, megys pette dyn gwedi gwalh-gofi, a gorffwylho: oblegyd nyd anhebig dyn diglhon i ynfyd. Y gyfaredh a'r fedhiginiaeth, yw ymgenfino ag Amynedh, Mwyneidhdra, ag ymgospi'r drwg anwydæ, gan ystyrio [Page 337] siamplau'r saint, a Christ eihun: yr hay t [...]wy amynedh ostyng [...]dig, a godhefgarwch, a dharfu vdhynt orfoledhu yn ogonedhusach, nag y gwnaent y dynion bydol, trwy ym gais am gael dial ar eu gelynion.
Beth yw Diogi? pa bechodæ erailh a dardhant o'r pechod hwn, a pha gyfaredh sydh yn ei erbyn?
Diogi a elwir yn y groeg Acidia; sef gair yn arwydho megys Swrthni, Trist-flinder, Gofid a phieidhdra: Ag y mae yn vn o'r saith brif-bechod, pryd y bo'n phiaidh, ag yn swrth gan dhyn, wneuthur daeoni; ag yn ofid anfodlonawl gantho, orfod idho gadw gorchmynion Duw; ag ymdeithio âr hyd lhwybræ rhinwedhawl. Y pechodæ sy'n tardhu alhan o Diogi, yw Bychanu, Dibrisio, a dirmygu [Page 338] gorchmynion Duw, Ymroi i gamwedhæ a drigioni; Drwg obeithio galhu gwn [...]uthur daeoni; Cassau, a lhysu'r neb a'i cynghoro, neu a'i cymhelho i ymwrthod a phechod, ag i dhilyn ffordh iawn. Y gyfaredh, y [...] ymgadw rhag bod yn segur, darlhein lhyfræ da, myfyrio'r gobrwy mawr godidowgwych, y mae Duw yn ei adho i'r sawl a font yn dhyfal, ag yn dhiesceulys yn cadw ei orchmynion, a'r tragwydhol gospedigaeth aniodhefadwy; a dharpared i'r diog esceulys.
O'r pechodæ yn erbyn yr Yspryd glân. PENNOD. 20.
PA rai yw'r pechodæ'n erbyn yr Yspryd glân, a phasawl vn sydh o honynt?
Chwech sydh o honynt.
- 1. An-obeithio trugaredh Duw neu iechydwriath tragwydhol.
- 2. Rhyfig, neu hyder o fod yn gadwedig, heb geisio ei ryglydhu.
- 3. Gwrthwynebu'r gwir cydnabydhys.
- 4. Cenfigenu dawn, a grâs Duw mewn dyn aralh.
- 5. Cyndynrwydh mewn pechodæ.
- 6. Trengu a gorphen yr oes mewn An-ydyfeirwch.
Pam y gelwir y rhai hyn, yn bechodæ yn erbyn yr Yspryd glân?
Am fod yneu gwneuthur o wir falhedh, malais, a drigioni; yn enwedig y trydydh; yr hwn sydh briodolaf vn o'r cwbl yn erbyn yr Yspryd glân: sef pryd y bo dyn yn gwybod y gwirionedh; ag etto er hynny yn mynnu dadle'r gwrthwyneb, [Page 340] yn daer-gyndyn, ag ymrysymu yn ystyfnig nad ydiw'r gwir yn wir. Pechu o falhedh, a malais, a dhywedir ei fod yn erbyn yr Yspryd glân; am fod yn ardhodi Daeoni i'r Yspryd glân; a bod Daeoni yn wrthwyneb i Falhedh, a malais: megys y dywedir fod pechu yn Dhi-arwybod, neu o dhiffic gwybodaeth yn bechod yn erbyn y Mâb, i'r hwn yr ardhodir Doethineb; a phechu o wîr Freuder a gwendid, a dhywedir ei fod yn bechod yn erbyn y Tâd, i'r hwn yr ardhodir y Galhu.
Beth sydh briodol, a neulhtuol i'r hai hyn, neu o ragor rhynthynt a phechodæ erailh?
Hyn sydh neulhtuol i'r hain,Matt. 12. nas madheuir monynt, nag yn y byd hwn, nag yn y byd aralh; fel y mae Crist yn yr Efengil, yn eyn rhybudhio. Yr hyn a dheuelhtir, fod yn [Page 341] anawdh ei madhe: am fod yn beth anawdh, ag an aml i'r dyn a gwym o i'r p [...]chodae hyn, dhyfod i gael gwir edifeirwch: megys y dywedwn fod rhyw glwy, yn an-niengawl, neu ang-huradwy, nyd am nas gelhir mewn modh yn y byd, cael cûr a medhiginiaeth i dhianc yn iach odhywrtho: ond am fod cûr y fath glwy yn anawdh, ag yn an-aml, anghynefin i'r dynion dhianc fyth yn iach, a glefychant o hono.
O'r pechodæ sy'n gweidhi i'r nef. PENNOD. 21.
PA rai yw'r pechodæ sy'n gweidhi hyd at y nef? a phasawl vn sydh o honynt?
Gen. 4. Gen. 18. Exod. 21. Iac 5. Eccles. 5.Pedwar sydh o honynt.
- 1. Lhofrudhiaeth, neu ladh celain yn ewlhysgar ag o wir fodh [Page 342] dyn.
- 2. Pechod cnowdol yn erbyn rhyw, a naturiaeth.
- 3. Gorthrymmu neu fod yn dost-lym, ffyrnig wrth dylodion; yn enwedig plant ymdhifad, a gwragedh gwedhwon.
- 4. Twylho neu dhifudhio'r dyn cyflog, o'i gyflog.
Pam y dywedir eu bod yn gweidhi hyd at y nef?
Am fod dihirwch, ag anghyfiownder y p [...]chodæ hyn, mor eglur-amlwg, ag yspus, na elhir mewn modh yn y byd mo'u cudhio, na'u escusodi.
O'r pedwar peth diwedhaf, PENNOD. 22.
MI a chwenychwn ryw gyfared, ag adhysc [Page 343] gyffredyn i ochelyd pechod.
Cofia (medh y gwr doeth) y petheu diwedhaf ag ni phechi byth. A'r petheu diwedhaf, yw pedwar.
- 1. Angæ, neu farwolaeth.
- 1. Dydh y farn fawr gyffredin.
- 3. Vffern.
- 4. A Nef.
Pam y gelwir y pedwar hyn yn betheu diwedhaf?
Am fod Angæ yn diwedh yr ennioes, ag yn dhiwedhaf peth a dhigwydh i ni yn y byd hwn. Dydh farn gyffredin, ywr farn dhiwedhaf ag olaf o'r holh farnedigaetheu, a rodhir: ag am hynny nyd oes dim Apelydhu odhywrthi, na gobaith dianc yn waredol, drwy farn aralh ar ei hol hi. Vffern yw'r drug diwedhaf; a gant y rhai diriaid, yn yr [Page 344] hwn y bydh vdhynt aros, a pherhau byth, heb dranc, heb drai, heb dhim cyfnewid tuag at esmwythdra, yn dragywydh. Y Nef yw'r daeoni diwedhaf a dhigwydh i'r hai da, yr hwn nys galhant byth mo'i golhi.
Da fydhe gennyf gael rhyw ystyriaeth i ymarfer, ag ymgenfino fyhun yn y petheu diwedhaf hyn; oblegyd trwy fynech gofio'r hai hyn, ni phechaf mwy, fel y dywedodh y gwr doeth a grybwylhassoch.
Am Angæ, a marwolaeth ystyriwch y pedwar pwnc hyn: Yn gyntaf nyd oes dim sicrach, ag mor dhi-amme a marwolaeth; ag ni eilh neb dhianc rhag marw. Yn ail, awr angæ a dhaw, ni wydhis pa bryd, yn dhi-arwybod, a bagad sy'n meirw beunydh, pan fo amheua genthynt fod yr awr yn agos. Yn drydydh gyda'g Angæ y derfydh holh helyntiæ [Page 345] dyn a'i amcanion bydol; ag yno y ceir gweled, ag adnabod yn ole, oferedh a choeg-wagedh y byd. Yn bedwerydh, bydh edifar gan bob dyn ar farw, y drwg a wnaeth, ar daeoni a esceulusodh ei wneuthur pan oedh yn galhu. Ag am hynny mawr yw'r ynfydrwydh i dhyn, wneuthur y peth wyr yn dhi-ammi 'fydh edifar idho. Am y farn gyffredin chwi elhwch ystyrio'r pynciau hyn. Yn gyntaf, y farn hon y fydh o beth dirfawr ei bwys, o'r daeoni godidocaf, ag o'r drwg gorthrymaf. Yn ail, y farn hon a rydh yr vstys a'r ynad goruchaf, yr hwn a wyr yn yspys bob rhyw beth, a'r hwn ni eilh neb ei wrthwynebu. Yn drydydh, y farn hon a rodhyr yngwydh yr holh fyd, ag am hynny ni eilh neb ymgudhio rhagdhi. Yn bedwerydh, ni bydh dim gobaith alhu dianc y farn hon, na [Page 346] ffo rhag cyfl [...]wniad y Duwfol gyfiownder. Am vffern ystyriwch ei bod yn helaeth, yn hîr, yn vchel, ag yn dhyfn. Mae hi yn helaeth, o ran ei bod yn cynnwys pob math ar boen, a chospedigaeth, ar a elhir ei dhychymig. Mae hi yn hîr, o ran bod y poenæ eugyd olh, yn dragwyahol. Mae hi yn vchel, o ran bod yr holh boenæ yn erchylhaf, a gerwinaf a dhichon fod. Mae hi yn dhyfn, oblegyd fod y poenæ yn bur, heb dhim cymysc math ar gyssur. Am y nef, ystyriwch ei fod yn helaeth, am ei fod yn cynnwys hyn olh o dhaeoni, a elhir ei dhychymig, ie mwy o dhaeoni a hyfrydwch, nag a alhun ei dheualh, n [...]'i fedhwl, na'i chwenych. Mae heyfyd yn hîr; oblegyd fod yr holh dhaeoni hynny i berhau yn dragwydhol. Mae'n vchel, o ran bod y daeoni yn ardherchawg, a godidowgwych. [Page 347] Mae'n dhyfn oblegyd fod y daeoni yn bûr heb dhim cymysc math ar dhrwg. Ag yma y gelwch ystyrio ychwaneg, megys nad yw yn cydfod a daeoni'r byd hwn, yr vn o'r cynhedhfeu hyn. Oblegyd nad ydynt ond an-aml, byr-berhaus, bychain, a phob amser yn gymysclyd a lhawer o flinder, adfyd, a thralhod: Ag yn yr vn modh, nyd yw drygæ'r byd hwn yn eu herwydh, neu wrth eu cyffelybu i dhrygæ vffern; ond an-aml, byrrion, bychain, a phob amser yn gymisc a rhyw gyssur. Gan hynny, gelhwch dhywedyd yn hydha fod yr heini eugyd wedi gwalhgofi, ag yn wann eu mennydh a'u synwyr, sydh er mwyn, ag er serch ar gyscod, a rith daeoni'r byd hwn, neu rhag ofn adfyd a thralhodau presennol, yn colhi'r anirif dhaeoni, sydh ar dhyfod, ag yn cwympo i'r drygæ an-ysparthol, [Page 348] sydh i fod yn y byd nessaf yn dhidranc dhi-orphen, dragwydhol.
Moliant i'r Iesu ag i'w fam fendigedig Mair bur-forwyn; a'r Gyfarchiad yr hon, y gorphenned hyn o gyfieithiad o'r Italaeg.
25. Martij. 1618.