[...]OSPARTH BYRR AR Y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg ḷe cair ḷaụer o bynciau an­hepcor i vn a chụen­nychai na doedyd y gymraeg yn ḍilediaith, nai scrifennu'n iaụn.

‘A orchfygo yma, a goronir fry.’

1567. Primo Martij.

  • Beth yụ gramadeg, a phessaụl rhann ar­benig syḍ idi. Cap. 1. dol. 8
  • Iaunscrif. aphessaul punc syḍ o i'striau yn i chylch. a phump peth pyrthynassol i ly thyren oi draethu. Cap. 2. dol. 13
  • Lun henụau a nifer y ḷythrenn­au. Cap. 3. dol. 16
  • Gụahaniad rhụng y ḷythrēnau. Cap. 4. dol. 22
  • Dosparth ar y dyphdongiaid a'r cysseiniaid. Cap. 5. dol. 24
  • Siḷafiaeth. s. y phorḍ syḍ i ụneuthur silaf au o gyssụḷt y ḷythrennau. Cap. 6. dol. 52
  • Vyth arụyḍ guahaniaetb y'maḍroḍ. Cap. 7. dol. 65
  • Phugrau iaunscrifennydiæth, a descrei­fiad pob vn o honynt. Cap. 8. dol. 69
  • Cyssiḷafiaeth. s. moḍ i ụneuthur geiriau o'r siḷafau. Cap. 9. dol. 72

[...]R IAITH GYMRAEG yn erchi gan ḍuụ, lụiḍiant, a hyfryd gynnyḍ meụn gras, anrhydeḍ, a gogoniāt iụ hanrhydeḍussaf bennadur, ai dibaḷ noḍed Viliam Harbart Iarḷ o Benfro, ag Arglụyḍ o Gaer ḍyḍ.

VRth fyngụeled fyhun, er ys­ḷauer o flynyaḍoeḍ, heb bris gan neb arnaf trụy dir cy­mru, na chụaith ḍim genn­yf meụn scrifen a phrụyth ynḍo i hyphorḍi meụn dysg, a daụn fyngharedigion bobl: mi a ḍybiais (f'an­rhydeḍfaur Bennaeth) mae da oeḍ ymy, fyned trụy ụledyḍ Europa i edry­ch ymysc ieithoeḍ eraiḷ a gaid yrū cyn ḍiystyred i chyflụr a mi, ag mor ḍiles [Page] i'r bobl sy'n i doedyḍ. ond ụedi ymy gerḍed o fraiḍ benn yr hyspaē trụy phra­inc, Phlandria, ag Alemania, a'r Ei­dal hyd yn eithaf Calabria tan ymo­fyn ymhob ḷe am gyflụr, braīt, a helynt yr ieithoeḍ syḍ tu draụ i hynny, ni fe­draisí ụeled, na chụaith gloụed oḍiụr­th yrụn; na bai yn cael gụneuthur yn faụr o honi ymysc paub, syḍ o naturi­æth yn i doeḍyḍ. Ag ụrth fod pob vn o honynt yn cael i'mgeleḍ, ai pherchi gē i phohl, hithau drachefn i ụneuthur iaụn, am y caredigrụyd a gafoḍ sy'n traethu iụ phobl bob peth, a fo gụiụ i ụybod; hyfryd i gloụed, a gogoneḍus i ụneuthur. Canys nyd oes nag ystori i ḍyscu henafiæth, na chylfyḍyd o enu, a ḷes, na gụybodaeth o ḍim, a dalai i ḍysgu nas darfu i'r hyspaniaith, phrangeg, a'r eidaliaith i tanu, ai hau ymysc gụ­yr [Page] i gụlad, i dalu am i magụriæth ai'­mgeled. Pan ụelais innau hynny, e fu ryfeḍ iaụn gēnyf, fod y cymru morḍi­ḍarbod amdanaf; a minnau mor ḍi­fuḍ iḍynhụythaụ. yn anụedig ụrth ụe­led fod fynghymnru i, o athrylith a sy­nụyr yn abl i'mgystadlu a'r rhai gor­au yn imysc nhụy, a minnau mor ḷa­ụnḷythr im scrif'enu, cyn gyfoethocced o eiriau, cyn hyned fynechreuad a'r falchaf o'r ieithocḍ a hēuais. Ynol hir ymgynghori, a dyfal fyfyrio e farnụyd nad oeḍ foḍ i mi godi fynghefn i fynu i ụneuthur ḷes i'r gụyr imtrefnoḍ duụ iḍynt, nes cael onof yn ganḷaụ ag yn noḍed ym, ụr, ai eụyḷys yn damuno da ymy. ag ai bụyḷ yn abḷ i ụeled y phorḍ a fyḍai im dyrchafu, a hefyd, o rym yn gaḷu dụyn i benn y peth a ḍamunai, ag a farnai yn ḍa ar fy ḷes. feḷy ụrth fụrụ [Page] fy ḷyfrau, ag edrych ple caụn y fath ganḷaụ, a gynghorụyd ymmy i cheissio mi a ụelaf fod yn ych arglụdiaeth chụi, bob vn o'r tri phụnc, syḍ anghenraid i mi ụrthyn. Canys e ụyr hoḷ gymru, a ḷoegr faint ych serch i'r fruttaniaith, pryd na ḍoedech ụrth gymro, ond cymraeg, ie, ymysg penaduriaid y deyrnas: mal y cloụais fagod o ụyr yn doedyd, tan faụr ḍiolch i duụ ụeled i penna­eth meụn graḍ, a ḷe cyn vched, yn dangos dirf aụr serch oi ụlad naturiol, ar i'mḍygiad ai'madroḍ. A bid diau gē ­nych (f'arglụyḍ vrḍassol) fod callon pob gụir Gymro yn crychnneittio yn i gorph o ụir laụenyḍ, pan gloụo ụr o'ch anrhydeḍ chụi, yn doe dyd i iaith: cāys nid oes dim i enniḷ calonnau adeiliaid yn gystal, ag ymgleḍụ i hiaith, a siar ad ụrthyn bob vn yn i iaith natụriol. Hyn [Page] ny a ụnaeth fod Mithridates mor, en­ụog, gụr oeḍ, a dụy deyrnas arhugain tano, ag yntau yn medru ymḍiḍan a phaụb yn i dafod ihun. hynny a ụnaeth i Garolus y bumed, fod cimaint i aḷu, am nad oeḍ raid iḍo ụrth vn ieitbyḍ, i'mḍiḍā ai hol adeiliaid er i bod o am­rafael genedloeḍ, hynn a ụnaeth ich anrhydeḍ chụithau, fod cimaint i ga­riad ynghymru, am ych bod mor gariadus ir gymraeg, agyn i medru mor hyfedr. Tu ag at am bụyḷ, i ḍyfeisio phy­rd, i'm gossod i rhagof, a grym i ụneu­thur y peth a ụelech yn ḍa, mae paụb yn gụybod nad oes moi diphig ynoch, gan fod yn eglur, nid o feụn ḷoegr yn ụnig, eithr ymhob mann y mae son amdani, nad oes dim a phruyth ynḍo yn perthynu at stad y deyrnas meụn he­ḍụch, a rhyfel, ond a luniụyd trụy'ch [Page] cyngor, ag a ụnaethbụyd trụych grym a'ch cymorth, a'ch anorphụys lafur.

Am hynny mae gennyf obaith yroụron y byḍuch ymy yn arglụyd da, i'mdiphin rhag argoụeḍ, a drụg, ag im helpu ụr­th geissio ymossod aḷā i ḍangos f'ụyneb ymysc yrieithoeḍ eraiḷ nid ydynt ụeḷ i braint no minnau: ond cael o honynt imgeleḍ, ai moụrhau gan bennaduri­aid, a boneḍigion i gụlad. ag ụrthynny gadel laụer arnafi, a fum cyd heb nag ymgeleḍ, na moụrhaad. Etto pe caun ynaụr ḍechrau'mdrụssio tan ych aden chụi, a gụeled o baụb fod ụyneb yn pē ­naeth tu ag attaf, e fyḍai bob cymro barod im studio, im cyfoethogi ag i'm gụneuthur yn hylụybr, ag yn berphaith. Yrh­ụnn beth os cenhiada ych daioni chụi ymy, mi a obeithiaf, cyn nemaur o en­nyd y gụelir o'mgụaithi ymysg y cym­ru [Page] laụer pụnc o ḍysg, a gụybodaeth nieḷais moi ḍangos iḍynt hyd yn hynn. Canys ụrth y cydnabod a gefais ag iei­thoeḍ er aiḷ, yn hụyr yroụron mi a'ḷaf pan fynnụyf gael genthynt bob peth a berthyn at gampau, a chynnedfau gụyr rhinụeḍol, gynghordioleḍ gam­radeg, flodeuau retorigyḍiæth, ystriụ dialectigyḍiæth, coụreinrhụyd meḍy­gon, pụyḷeḍ dinassụyr, gụybodaeth phi­losophyḍion, gorchestion milụyr, dụ­ụioldeb theologyḍiæth i ḍyscu, helpu, didanu a pherpheiḍio gụyr fyngụlad ymhob peth a fo golud iḍynt, hyglod yngolụg y byd, a chymr adụy gar bron duụ. Yn hynn o orchụyl, os ych anrhy­deḍ chụi a fyḍ aụdur, noḍed a chyn­horthụy ymy, chụi a geụch yn ḍiogel glod tra barha iaith y bruttaniaid, a gụasanaeth ụfyḍ, didụyḷ gēthynt i chụi [Page] a'ch etifeḍion yn y byd yma, a thal didranc gan duụ yn y byd sy'n doụad. Yrhụn a danfonoiuch rụyḍdeb, a chynnyrch ymhob laụenyḍ a daioni ụrth foḍ ach caro.

Ych phyḍlonaf laụ forụyn yr iaith gymraeg.

IAITH GAMBR YN annerch yr hygar ḍarḷeyḍ.

ARistoteles, gụr o ragoriaeth meụn dysc, a gụybodaeth, a doụad am bob celfyḍyd, mae bychan, ag anrhefnus fyḍ i dechreuad; ag yna bob ychydig tyfy ag ymdacclu a ụna, nid ar vnụa ith ond o amser i amser trụy fod eraiḷ, yn gụeled, ag yn bụrụ at y dechreuad, ryụ beth nis canfu na'r cyntaf, na'r ail, Er bod y dechrau fynychaf yn ḷai no'r ḍarn a roessụyd ụrtho: etto mae'n galettach, ag yn fụy clod, ḍychmygu ychydig o neụyḍ, nog yụ trefnu hyny, ai chụanegu yn helaethụych. Am hyn­ny na fid diystr, na diflas gennyt, fyn­gụeled i yn ymḍangos mor ḍisas, ag mor āhylụybr, canys hōn yu'r aụr gyn­taf yr amcanụyd fynụyn i lụyhr celfy­ḍyd. [Page] Yr yḍoeḍ y beirḍ rhyd cymru yn ceissio fynghadụ rhag coḷi ne gymyscu a'r saefnaeg. Ond nid oeḍ genthynt phorḍ yn y byd, nag i ḍangos yn fyrr, ag yn hyphord yr odidoụgrụyḍ syḍ ynof rhagor nog meụn laụer o ieithoed, na chụaith i fanegirhessom am fagod o ḍirgelion a gaid i gụeled, ond chụilio yn fanụl amdanynt, mal y mae gra­madegrụyr da yn gụneuthụr, paub in i iaith ihun. O herụyḍ hynn, gan nad ụyf ond dechrau etto, rhaid iti (ḍarḷe­yḍ hoụḍgar) pan ụelych, ar hynn o gais ḍim a aḷessid i ḍoedyd, ụedi adel aḷan, ne ryụ beth ụedi gyfleu aḷan oi ḍyledus le, ne ḍiphig meụn rhyụ phorḍ araḷ, beidio a gụradụyḍo'r neb, o eụyḷys da ymy a'mcanoḍ fynụyn i fraint celfy­ḍyd. Eithr os perpheiḍid di y peth a ḍechreụaụḍ ef, heb ḍoedyd iḍo mor abfē, [Page] nes dụyn hynny i benn, mae ytty faụr ḍiolch gennyfí, a chantho yntaụ. canys nid ydyụ ef yn tybied fod hynn yn agos ir perpheiḍrụyḍ y gụeḍai iḍo fod, eithr i geisssio denu rhai ai medrai yn ụel ef a ụnaeth orau gaḷoḍ, yn y drapherth ar blinder y mae ynḍo heb gael ennyd im taclufí mal y damunai. a heb gyn­figen ụrth neb a ụnelo yn ụeḷ nog ef, ond diolch yn gynt iḍo, am dụyn i ben y peth a ụnaethai ef ihun pes gaḷas­sai. Naryfeḍa chụaith ụeled cima­int o fiaụ ụrth brintio. canys yr ydoeḍ y dynion oeḍ yn gụeithio, heb fod nag yn gyfarụyḍ yn yr iaith, nag yn ḍisceulus ar i gorchụyl, nag yn rhoụiog oi trin, ag i gụeirio'r pethau a fethai genth­hynt. heb laụ hynn yr oeḍ annynt eissie ḷythrennau, ag amryụ nodau, afuas­sai raid ụrthynt i brintio yn gyflaụn [Page] bob pụnc a berthynai attaf. rhaid ymy ḍamuno ar bob cymro bonheḍig, a rho­ụiog, na bo mụy annaturiol i mi, nog yụ pobl eraiḷ i iaith i mammau. E fyḍ ụeithiau 'n dostur fynghalon ụrth ve­led ḷauer a anụyd ag a fagụyd im doedyd, yn ḍiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymụrthod a mi, ag ymgystlụng ag estroniaith cyn adnabod ḍim honi. Canys chụi a geụch rai yn gyttrym ag y gụelant afon Hafren, ne glochdai, ymụithig, a chloụed sais yn doedyd ụnuaith good moroụ, a dechreuant oḷung i cymraeg tros gof, ai doedyd yn faụr i ḷediaith. i cymraeg a fyḍ saesnigaiḍ, ai saesneg (duụ a ụyr) yn rhy gy­mreigaiḍ. A hyn sy'n dyfod naiḷ ai ụir pholder, yntau o goeg falchder a gorụ­agrụyḍ. Canys ni ụelir fyth yn ḍyn cy­ueithas, rhinụeḍol mo'r neb a ụado [Page] nai dad, nai fam, nai ụlaḍ, nai iaith. Eithr mi a obeithia o hynn aḷan trụy nerth duụ, athrylith, diụdrụyḍ a gụiụ fyfyrdod fynghymru cariadus, y byḍ genthyn nhụy fụy o serch i mi, a chan innau fụy o ḍiḍanụch a golud idynt hụythau: oblygyd hynn yḍụyf yn adolụg i bob naturiol gymro dalu dyledus ga­riad i'r iaith gymraeg: fal na aḷo neb ḍoedyd am yr vn o honynt mae pech­od oeḍ fyth i magu ar laeth bronnau cymraes, am na ḍamunent ụeḷ ir gym raeg.

Byḍ ụych.

Y PRYLOG NE'R RHA­gḍoediad yn cynnụys yr achos a fu i son am y gymraeg ag i'mrys­symu ynghylch y gra­madeg.

Gr.

Mae yn esmụythach arnom o be­th, ag yn ḷai'r boethfa, er pan ḍoethom ir ụinḷan hon, nog ydoeḍ tra fuom yn ty gartref. Canys yno'r oeḍ gụres ano­sparthus i'n poeni, a myḷni (o eisiau aụyr a gụynt) ḍygon i fygu dynnion: Ond yma, mae cangau a daily gụi­nụyḍ i'n cadụ rhag pelydr yr haul, a'r gụynt ar af aiḍ o'r gogleḍ yn oeri, ag yn difyḷu y rhodfa a'r eisteḍfa hon, fal na bo cyn flined arnom ganol dyḍ, ag a fu y dyḍiau aeth heibio.

Mo.

Er­bod yn deg y fangre ḷe'r ydym, ag yn hyfryd gụeled y dail gụrḍleision yn gyscod [Page 2] rhag y tes, ag yn ḍigrif cloụed yr aụel hon o'r gogleuụynt yn chụythu tā frig y gụinụyḍ i'n ḷaụenychụ yn y gụ­res anrhysymol hụn, syḍ drụm ụrth baụb a gafoḍ i geni ai meithrin meụn gụlad cyn oered ag yụ tir cymru: etto mae arnaf hiraeth am laụer o beth­au a gaid ynghymru, i fụrụ'r amser heibio yn ḍifyr, ag yn ḷaụen, ụrth ochel y tes hirḍyḍ haf. Canys yno, er poethed fai'r dymyr, ef a gaid esmụythdra, a diḍanụch i bob bath ar ḍyn. Os byḍai vn yn chụennychu digrifụch, e gai bu ror ai delyn i ganu mụyn bynciau, a datceiniad peroslau i ganu gida thāt, hụn a fynnychụi ai maụl i rinụeḍ, yn­tau gogā i ḍrụgcampau. Os mynnych chụithau gloụed arfer yụlad yn am­ser yn teidiau ni, chụi a gaech henaf­gụyr briglụydion a ḍangossai iụch ar [Page 3] dafod laferyḍ bob gụeithred hynod, a gụiụglod a ụneithid trụy dir cymruer ys talm o amser. Ond os myfyrio a ḍa­munych ne ḍarḷain ar ych pen ych hū, chụi a gaech ḍeụis ḷe cymụys i hynny, er maint fyḍa i boethni'r tes; naiḷ ai meụn tai gleission hafaiḍ, ne gar laụr dufr rhedegog meụn glyn ag irgoed, ne meụn dyphryn ḷysseuaụg, ne ar ael doldir meiḷionaug, ne meụn cadlas o fedụ, ne o ynn planedig, ne ar fynyḍ amlụg aụelog, ne meụn rhyụ gyfle ar­aḷ, le ni byḍai na blinder na ḷuḍed ụr­th ụres yrhinon. Ond ynghylch y dref hon, nid oes dim tebig; canys os i ogo y cyrchụch, ne i gilfach heb haul yn toụynnu vnamser arni, chụi a geụch oer­fel angheuaụl, os yntau meụn ḷe am­lụgy trigụch, y brydni a daụḍ frain ag adar, os aros a ụneụch yn ty, chụi a fy [Page 4] gụch gē fyḷni, a'r gụinḷannau o'r fath yma, er i bod yn deg yr olụg arnyn, ag yn hyfrydach aros ynḍyn nog meụn mā noeḍ eraiḷ o'n hamgylch: etto ni chyn­hessa calon cymro ụrthynt, megis y gụnai ụrth lan dyfrḍuy, ne laụr dyphryn clụyd, ne ụrth aml o leoeḍ a fedrụn i henụi o faenol ḍeụi i gaerg ybi ym mō. A phe bai'r ḷe ohono ihun yn gystal ar fan ore ynghymru, etto e laụenychai fynghaloni yno yn gynt vrth gloụed y gog yn canu, nog a ụnai yma vrth gloụed perbynciau'r eos, ne fụynlais brō ­fraith, nè lathreiḍg an mụyalch, ne pe gụnaid musig cysson cyfang an o gyd­lais paradụyssaiḍ hoḷ adar y byd yn yr vnḷe.

Gr.

ych dirfaụr gariad i'r ụlad syḍ yn peri hynny: gụir feḷy a doụad y phylosòphyḍ, na byḍ vniaụn barn ḷe bo cariad negas yn rheoli. Canys dig asseḍ [Page 5] a ụyl fai ḷe ni bo, a chariad ụeithiau a farna'r bai yn rhinụeḍ. Vrth hynny tra fo cimaint ych serch i gymru, an­oḍ iụch fod yn vstus cyfiaun rhyng thi ag estrōụḷad yn y byd. Feḷy, am fod cyn hophed gennych y ụlad ar bobl, ni ụe­lụn i ḍim ụel i ḍifyrru'r amser na sia­rad am bethau cymreig, ag edrych be th a ụnai les iḍynt, a fyḍai ar ych ḷaụ chụi i ḍụyn i ben.

Mo.

Gụir iaụn a ḍoedụch, am hynny moessuch ụeled a fyḍai bossibl ini ụneuthur mal y gụnaeth ḷaụer o'r groegụyr, ar ḷadinụyr gynt, pan yrrid nhụy ar darfysc i ryụ gilfach neuḷtuaụl i dario: yno'r scri­fonnent hụy ryụ beth i hyphorḍi gụyr i gụlad meụn rhinụeḍ, dysc, ne bethau eraiḷ, a fyḍai les, vrḍas, a gogoniant iḍyn, fal y gụnaeth Tụlliụs i lyfrau o philosophyḍiaeth gan mụyaf igyd.

Gr.
[Page 6]

Nid gụiụ ini edrych am ụneuthur yn debig i'r gụyr o'r amser, a'r gụledyḍ hynny, gan nad oes yn y to syḍ heḍiụ un synụyr abl i'm gystadlu ar athrylith oeḍ genthynt hụy. Heblau hyn mae arnom mi eisiau [...]aụer peth oeḍ gen­thynhụy yn baroa oi cynhorthụyau pā fyḍent meụn cyfinggyngor. Canys yr ydoeḍ genthynt yn i hiaith ihunan, i gyfeḍach, ag imgynghori a hụynt, ra­madegụyr celfyḍ,ymryssymụyr ystroụ­gar, areithụyr ymadroḍus, ḍadleuụyr parablḍoeth, philosophyḍion dyfnḍysc fyḍygon coụraint, gyfreithụyr arḍer­chaụg, ḍinasụyr pụyḷaụg, ryfelụyr en­ụog, a gụyr godidaụg ymhob celfyḍyd, graḍ, a trheigl syḍ yn damụain ymysc dynion, fal y gaḷent gael, pan chụennychent ụybodaeth am bob peth a ḍamunent, a chloụed dyledus henụau pob cyfriụ [Page 7] beth, gen baụb yn i gylfyḍyd ihun A ninnau syḍ heb yrun o'rhain gen­nym, nachụaith (am yn bod cyn beḷed o ḍicartref) foḍ i graphu ar yr iaith sathredig ymysc y cyphredin. O herụyḍ hyn, pe gaḷem gael gụybodaeth ụr­th ḍarḷen ḷyfrau o ieithiau er aiḷ, am laụer o bethau a dalent i dyscu ai treuthu, etto, e fyḍ caledi maụr pan geissi­er cyfieuthu a trhoi yr vnrhiụ hethau i'r gymraeg, am fod yn brin y geiriau gēnym, erbod yr iaith o honi ihum cyn gyfoethocced ag un araḷ

Mo.

Gedụ­ch iḍo, er nas gaḷom ụneuthur yn gy­stal ag y damunem; e faḷe y bernir yn eụyḷys ni yn ḍa am ụneuthur a aḷem: canys ḷe paḷo'r grym eụyḷys da a hae­ḍa glod. Hefyd gụeḷ, rhag bod yn segur, ag i difyrru'r amser, sia­rad am y gymraeg, yn gynt nog am [Page 8] ofereḍ gan na ad y brydni anfei­draụl i ni yr oụr an, studio dim a phrụ­yth ynḍo.

Gr.

Yn enụduụ, gyfynnuch y peth a fynnoch, minnau a'ttebaf yn orau mettruyf. Ond, yn fymarni, go­rau oeḍ yn gyntaf son am ramadeg: Canys o ḍyno byḍai ḍechrau, os myn­nem i'r iaith gynnyḍu yn ḷụydiannus. Etto gan nad yụ i'n bryd, ond son o'ra beḍ amdani gofynnụch y peth cyntafa ryngo boḍ iụch grybụyl o honof.

Mo.

Minnau a ḍechreuaf gē hynny a gramadeg, ag yno mi a ụnaf fal y gụelụ­yf achos.

Beth yụ gramadeg a phessaul rhann arbennig syḍ iḍi. Cap. 1.

DOedụch ithe feḷy, yn enụ ḍuụ, beth yụ gramadeg.

Gr.

Gramadeg yụ celfyḍyd, i ḍoedyd ag i'scrifennu pob yma­droḍ [Page 9] yn goụir, ag yn gyfaḍas.

Mo.

Pessaụl rhan arbennig syḍ i ramadeg?

Gr.

Pedair, a, rhain a elụir pedair co­lofn Gràmadeg. Iaụnscrifenyḍiæth, Cyfiachyḍiæth, Tonyḍiæth.

Mo.

Beth yu Iaunscr?

Gr.

Rhan o Ramadeg yn dyscu a pha lythrennau y dylid scrifennu a siḷafụ pob gair.

Mo.

Beth yụ Cyfiach.?

Gr.

Rhan o Ramadeg yn dangos megis iachau pob gair ar i bē ihun aḷan o blethiad ymadroḍ: mal manegi tadogæth epil, cenedl, rhif, treigliad gair cyn i roi meụn cymlheth ym adroḍ.

Mo.

Gen ḍechrau onoch, moessụch gloụed descreifiad y ḍuy go­lofn eraiḷ. Beth yụ Cystraụiæth?

Gr.

Rhan o ramadeg yn hyphorḍi vn i gyssyḷdu yn iaụn ag yn gysson ymrafael ramau o'madroḍ ynghyd ụrth y cyn­ghordiadau ai perthynas.

Mo.

Be­lach [Page 10] i ụneuthur pē ar y pedair colofn, doe dụch beth yụ Tonyḍiaeth?

Gr.

Rhā o ramadeg i gyfrụyḍo dyn i adnabod iaụn dō, a chymụys fessurau ymadroḍ. At y, rhan hon y perthyn pob dosparth ar gynghaneḍ a messurau cerd dafod

Mo.

Ai digon gụybod y pedair rhan yma, i ụneuthur vn yn rhamadegụr perphaith? Pam nad digon? Canys os medr vn scrifennu'n goụir, a siḷafu'n iaụn bob gair, ag adnabod i hanes, i dreigl, ai eppil yn gyntaf ar i ben ihun ụedi hynny yn hyphorḍ cystraụennu'r geiriau yn gynhordiaụl i ụneuthur, perpheiḍbleth ymadroḍ, a chidahyn dosparthu ton, accen, meidir, a messu­rau damụyniaụl i'madrod ai rhnnau ni byḍai ḍim yn ol a berthynai at sụyḍ gramadegụr arderchaụg.

Mo.

Yn ụir nid oes dim amgen oi ofyn ar i laụ [Page 11] ef. Ond yroụrā ụedi iụch ḍangos me­ụn ychydig ò eiriau, beth yụ grama­deg ai phedair colofn, chụi a yrrasoch arnaf flys cloụed desparth manylach ar bob un o honyn, i gyfrụyḍo un a chụennychai scrifennu cymraeg, ai doe­d [...]d yn iaun, ag i gadu yn hiaith rhag i mynd ar gyfyrgoḷ.

Gr.

Anaụḍ ini yma ụneuthur hynny yn berphaith, oblegid y drapherth syḍ i'n gorthrymu Hefyd yrydym ymheḷ aḷan on gụlad, ag a fuom yn hir, fal na aḷom na go­fyn cyngor eraiḷ na dal ar yr iaith yn hunain. nid oes chụaith gennym neb a'mcanoḍ y ḷụybr hụn yn y gymraeg on blaen ni, fal y geḷid ụrth ol i droed, gael peth cyfrụyḍyd. feḷy nid gụiụ i ninnau ar hyn o amser amcanu, a dy­feissio phorḍ a ḷụybr neụyd, ai ḍuyn i ben perphaith a'runuaith, ag nis ga­ḷoḍ [Page 12] (meḍ Aristotiles) yr vn gụr erioed ḍychmygu celfyḍyd oi dechrau, ai gụ­neuthur yn berphaith hefyd.

Mo.

Gụir diamau yụ'r peth a ḍoedassoch, erhynny rhyglyḍus yụ cychụyn gụaith da, ernas gaḷo dyn i ḍụyn ef i'r pen y damunai, Hefyd meụn ieithoeḍ era­iḷ, nid oeḍ i bob celfyḍyd ond dechrau disas, ag ynol i dechrau vnụaith, er aiḷ o amser i amser ai trefnoḍ hụynt, ag ai chụanegoḍ nes i dụad o ḍechreuad bychā amherphaith, ir perpheithrụyḍ y maent ynḍo yroụran. Ni byḍai hụy­rach ond dechrau onochụithau ar y gramadeg cymraeg, y canlhynai eraiḷ a ụnai ben ar y gụaith, ag ai trụssiai le methai gennychụi.

Gr.

Ni aḷafinnau mo'r gụad, nad yu'r ḍihareb yn ụir, dechrau'r gorchụyl yụ hanner y gụa­ith, a phan ụeler cychụyn peth moliannus [Page 13] rhagḍo pob dyn dihụstr a fyḍ pa­rod i gymorth, Amhynny, gan ụeled ych bod chụi yn chụennych, mi a ụnaf or au gaḷuyf: gụeḷ gēnyf ụeled onochụi ụrth fyngụaith, fod diphig gaḷu ynof, na thybied ohonoch fod eisie eụyḷys i ụneuthur a orchmynnoch. Ag feḷy edrychụn beth aḷom i ḍoedyd ynghylch y golofn gyntaf i ramadeg, ni a oedụn i tair eraiḷ nes cael mụy o ennyd a sei­biant.

Mo.

Moessụch, yn enụ duụ, y rhan yma yn gyntaf, a phan darpho yụch ụneuthur pē ar hon, ni siariadụn am yḷaiḷ.

Iaunscrif. aphessaul punc syd oi'styriaụ yn i chylch. a phump peth pyrthyn­assol i lythyren oi draethu. Cap. 2.

BEth syḍ raid i fanegi ụrth dreuthu [Page 14] Iannscr.

Gr.

O heruyḍ bod yn scrifen nu pob gair a [...]ythyrennau, yn gyntaf dim rhaid yụ gụneuthur dosparth byr ar y ḷythyrēnau, ag ụedi hynny son am y siḷafau ar geiriau.

Mo.

Pessaul pụ­nc syḍ oi'spyssu ụrth ḍosparth y ḷythy­rennau?

Gr.

Pump, [...]n gyntaf dim da oeḍ fanegi, beth yụ ḷythyren; yn yr ail fan gụeḍus oeḍ ḍoedyd y nifer syḍ o honynt, yn y trydyḍ ḷe cyfaḍas yụ dan­gos henụ pobun; ynol hynny cymhesur oeḍ ḍụyn ar ḍalt, pa vahan syḍ rhyn­gthynt, yn ḍiụaetha o, r cụbl y bydai foḍus yspyssu y moḍ syd yụ cyssyḷdu nhụy i ụneuthur siḷafau.

Mo.

Beth yụ lythyren. Canys am hynny mae'n rhaid, ụrth a ḍoedassoch, cael adrybeḍ yn gyntaf.

Gr.

lythyren yụr, elfen leiaf meụn ymadroḍ.

Mo.

Beth yụ elfen? Gr. Rhan ḍiụahanrhedaụl o beth cy­sansoḍeḍig, [Page 15] a fo mor sengl na eḷir moi pharthu i amrafaelion rannau eraiḷ y ḷadinụyr ai geilụ elementū: y cymru elfyḍ, ne elfen.

Mo.

Ʋrthynny nid ydiụ dd.ph.ch.th.ll. lythyrennau, o her­ụyḍ i cyfansoḍi o dụy elfen.

Gr.

ydynt erhynny igyd. Canys nid oes ond galụ vn ḷythyren gan bobun o honynt, er i' scrifennu a dụy elfen, eisie i'r cymru ḍychmygu vn fath ar elfen i ụasneu­thu tros bobûn megis y gụnaeth y groegụyr yn ḷe ph, th, a'r vn phunud yn ḷe dd, ag, ch. A phe buassai sain. ll. genth­ynt, in adousid dim honihithau heb i ḷun sengl o'r neuḷtu. Ond am gael onō mi yn ḷythyrēnau gan y ḷadinụyr, e or­fu clyttio hyn o ḍiphig, naiḷ ai trụy fụ­rụ, h, at lythyren, ne truy ḍyblu'run, mal y mae'r arfer fụyaf etto, yn y dụy yma, dd. ll. Ond cynnhụyssach yụ, (yna­nụedig [Page 16] os mynnem breintio dim) roi titl dan odre.d.yn le dd.dan odre. l. yn ḷe.ll.ag.fely tā odre.u.yn ḷe'r chụeched fogail; mal, ḷaụ ḍuụ:ne ryụ nod hynod meụn man araḷ, imụared a gụrthun­dra i dyblụ.

Lun henụai a nifer. y ḷythrennau. Cap. 3.

Mo.

Maer ḷun ar henụ syḍ i bob lythyren?

Gr.

Vrth y dafụlan yma e geir gụybod pobun o honynt. Ond e fuassai raid yn gyntaf ḍoedyd pessaụḷ vn syḍ o'r lythy­rennau igyd, Canys hynny oeḍ yr ail bụnc a'ḍaụyd i fanegi ynghylch y ḷy­thyrennau: etto gan ofyn onoch yn gyntaf am i ḷuniau, ai heụau, mi a ụnaf ynol ych dysyfiant chụi delluch yn ḍa ar y dafulan yma ag chụi a geụch ụe­led [Page 17] pobun o'r ḍau. s. yụ i lụniau ai henụau igyd.

AaaLeḷ
BbbeMmem
CcceNnen
CHchcheOoo
DddePppe
DḍeRrer
EeeSses
FffeTtte
GggeTHththe
IiiƲuu
HhheV
LlelYyy

Mae heblau'r rhain dair eraiḷ, nid ydyn lythyrennau cymraeg. s. penrh. Q X.Z. cyphr. q.x.z. henụau, cuụ, ecs, zed. etto rhaid vrth y dụy gyntaf i'scrifennu [Page 18] ymbeḷ air ḷadin, ag ụrth y ḍiụa­ethaf i siḷafu rhyụ air groeg a fenthy­cier ụeithie.

Mo.

mae'r phorḍ i ḍaḷt y dafụlan yma.

Gr.

Chụi a ụelụch dair rhes i bob ḷythyren, yn y gyntaf mae ḷuniau maụr iḍynt, a'rheini a elụir pen rheithiaụl, yn yr ail res mae ḷuniau bychain, a'rheini a elụir ḷythyrennau cyphreḍinaụl, yn y drydeḍ y mae henụ­au pob vn.

Mo.

Paham y gụnaụd dau lun i hobun o honynt? a oes le ụrth iaunscr. y dylid scrifennu'r naiḷ a go­chel y ḷaḷ?

Gr.

Oes: ynnechrau pob rhessụm cyflaụn gụeḍusoeḍ scrifennu 'rhai mụyaf, a hefyd pob henụ prio­dauḷ a ḍylid i ḍechrau ag vn or pērheithiaul, mal, Iesu. Mair. Gruphyḍ ḷun­dain. Hafren: ag am i bod yn bennaf ụrth ḍechrau 'rhain, ei gelụir pen­rheithiaụl ond y rhai mán a scrifen­nir [Page 19] ymhob man araḷ, am hynny cyphredinaụl y geluir nhụy oblegid nad oes un le nodedig yḍynt, mụy noigiliḍ.

Mo.

Beth a ụnaeth ichui neụiḍio henụau rhai o'r cysseiniaid, mal. eg yn ge, ec, yn ce; eḍ, yn ḍe, ag feḷy rhai er aiḷ hefyd.

Gr.

Am fod yn haụs gụybod ụrth yr henụau yma, pa rai o honynt syḍ fudiaid a pha rai syḍ hanner seiniaid: canys ụrth galyn yr henụau yma iḍynt pobun syḍ ag e, ynnechrau i henụ, a gyfrifir yn hannersain, a'r cysseiniaid eraiḷ syḍ yn fudiaid. Ond pe cedụid yr henụau hen, ni ụasnaethai mor rheo­ledigæth yma ḍim, a haụs a fyḍ rhoi rheoledigaethau byrrion erail, onid i galụ nhuy fal hyn.

Mo.

Beth a ụna­eth K, yn ych erbyn chụi, pan daflech yhî aḷan o fysc y ḷythrennau cymraeg, a hyd y bu hi vn o honynt?

Gr.

Am [Page 20] fod, c, yn ḍaḍigon yn i ḷe hi. Ag nid ia­ụn oeḍ adel aḷan. c; syd ụeḍussacb i ḷun yn gymhuyssach i ḷe, yn haus i'scri­fennu, ag yn gymoraduy ymhob iaith y ma'r elfyḍion ḷadin yn arferedig yn­ḍi, a'r K, nid yụ ond aḷdudes ymhob vn, oḍieithr y saesnaeg ag ieithoeḍ Germania, ḷe cafaụḍ y saæsnæg i dechre­uad.

Mo.

Aụasnaetha, c. ymhob gair ḷe y gụasnaetha K, fal y gaḷer i galụ vn aḷu a hi?

Gr.

Ymhob gair cymra­eg maent iḷdụeḍ vn aḷu yn ḍifaḍe. Ond meụn geiriau ḷadin a chuenny­cher i ḷaferu yn ḷadinaiḍ c; o flaen. e, ne. i. a fyḍ vn aḷu ag. s. gannuyaf. Ond ḍa oeḍ yn y mannoeḍ hynny roi'r nod yma tan i throed hi, mal y mae'r phrancod yn gụneuthur, Cyprianus, syd raid i ḍoedyd Syprianus etto pan ḍarpho gụneuthur gair ḷadin yn gymreu­gaụl, [Page 21] a rhoi iḍo megis i fraīt yn y gymraeg, e geidụ y ḷythyren hon yr vn ga­ḷu o flaen pob bogail, mal cælo, celu, ca­no, canu, cenais, cecini. yr vn peth syḍ oi farnu ynghylch g; megis y doedais am c: canys hithau yn y ḷadin a neụi­dia i galụ oflaen. e. ag i,.

Mo.

A gy­frifir. h. ymysc y lythyrēnau?

Gr.

Nid yụ hi lythyrē ḍim, ond arụyḍ chụthiad ne anadl cryf ar y fogail ne'r ḍyph­ḍong ai canlhyno; mal hael, haus: ụei­thie hi a bar grychu, ag anadlu y gys­sain a fo oi blaen; mal, ymlhith, rhai, ynnhy duụ.

Mo.

Pessaul ḷythyren syḍ yn y gymraeg ụrth hynny?

Gr.

Nid oes ond pedair arhugain angenrhei­diaụl i'scrifennu pob gair cymraeg: canys e ḍarfu difeḍu.h.o fraint ḷythy­ren. Tu ag at am y tair eraiḷ diuaetha fo ḍoettụyd or blaē nad rhaid ụrthynt [Page 22] ond meụn geiriau groegne ladin.

Mo.

Gen ḍarfod doedyd digon ynghylch tri o'r pum peth oeḍ oi traethu ụrth ḍosparth y ḷythyrennau; madụs beḷach yụ son am y ḍaụ erail.

Gụahaniad rhụng y ḷythrennau. Cap. 4.

Ma'r gụahan syḍ rhyngthynt, canys hyn ny yu'r pedụeryḍ peth?

Gr.

Yn gyn­taf ei rhennir nhụy yn fogeiliaid, ag yn gysseiniaid.

Mo.

Pabeth yụ bogail ne gyssain?

Gr.

Bogail yụ ḷythyren, a ụna ar i phen ihun lafar perphaith. A chyssain yụ pob vn, ni ụna lafar per­phaith yn y byd heb gymorth bogail i gydseinaụ a hi.

Mo.

Pessaụl bogail syḍ yn y gymraeg? Saith. a; e; i; o; u; ụ; y. ond e ụna rhai ụyth, o herụyḍ bod dau lafar i y, vn toụyḷ mal y mae. iḍi [Page 23] yn y geiriau hyn, phyḍ, crefyd, yf, a phob amser y bo yn y silaf diụaethaf i air: canys yna nid oes eglur rhagor rhyngthi ag. u. ond pan fo hi meụn si­ḷafau er aiḷ, o flaē y ḍiụaethaf, ef a fyḍ eglurach i ḷais a'r rhagor rhyngthi ag u. mal yma, phyḍlon, crefyḍol yfed. Am hynny y gelụir hi yn y cyfleoeḍ yma, y eglursain, ne y agored: yn y ḷeoeḍ eraiḷ o, r blaen, ef ai henụir. y, doụyḷ, ne y ga­uedig.

Mo.

Mi a ụn ụrth a ḍoedas­soch o'r blaen pam y gelụir hi eglur, ne doụyl: Ond ni ḍoedassoch etto pam yr henụir hi. y. agored, ne. y. gauedig.

Gr.

Pan fo hi a sain doụyl iḍi, rhaid caụ muy ar y gụefussau ụrth i doedyd hi: eithr pan fo hi yn eglursain, rhaid agori'r guefussau yn ḷed, ag ynol hyn ny y cafoḍ amrafael henụaụ.

Dosparth ar y dyphdongiaid. Cap. 5.

MO.

Aeḷir cyssyḷdu dụy fogail i ụneu­thur vn siḷaf?

Gr.

Geḷir, ag ụeithiau dair, a'r rheini a elụir dyphdongiaid.

Mo.

Beth yụ dyphdong?

Gr.

Dụy fo­gail ne dair ynghyd, yn gụneuthur vn siḷaf a sain cyfansodedig.

Mo.

Pa foḍ y parthir y dypḍongiaid yma?

Gr.

Eirhennir nhụy yn ḍyphḍongiaid rhoụiaụg, ag yn ḍyphḍongiaid afroụiaụg.

Mo.

Pam y geluir nhuy dyphḍoniad rhouiog?

Gr.

Yrhain syḍ ḍyph­ḍōgiaid rhoụiog? a fyḍant ụedi i cys­syḷtu o ḍụy fogail yn vnig, a'r flaenor yn cael i chụbl-lais, a'r ḍylynaul hefyd heb goḷi moi ḷafar hithau chụaith, mal, ai, ei.

Mo.

Beth yụ bogail flae­nor, a bogail ḍylynaụl.

Gr.

Ygyntaf or ḍụy fogail meụn dyphḍong a elụir [Page 25] blaenor, yr ail a henuir dylynaụl.

Mo.

Pessaul dyphḍong roụiog y syḍ?

Gr.

Pedair arḍeg. vi y mae. ụ. yn ḍylynaụl ynḍynt, a thair y mae. i, yn diụaethaf, dụy y mae. e.a dụy y mae. ụ; yn can­lhyn ag. y. syḍ ḍylynaụl meụn vn yn vnig; a; ag. o, ni byḍant ḍylynaụl byth meụn dyphḍong roụiog.

Mo.

Mi a ụelaf nad oes ond pum bogail a eiḷ fod yn ḍylynaụl meụn dyphḍong roụiog. s. ụ; i; e; u; y; doedụch pessaụl blaenor a fyḍ i bobū.

Gr.

Fal dyma'rmoḍ i ụeled.

 a ḷaụ    
 e leụ a rh [...]
blaenorimalḷiụ3. blaenoremal,rhei [...]
ụ.o oụi,o rh [...]
 u duụ    
 y yụ2. flaenor e,amalae [...]
    ooe [...]
 a aur    
flaenor mal     
u.e euthum1 flaenormal [...]
    y.   
Mo.
[Page 26]

Onid ydiụ e, yn flaenor i y, hefyd, mal yn y gair yma teyrnas?

Gr.

Nid dyph­ḍong ydyụ ey yno, eithr dụy silaf ụaha­hanedig. etto erhynny, ụrth fesuro ce­rḍ ni byḍ fynychaf ond ymraint vn siḷaf, megis hoeụ, gloeụ.

Mo.

Mi ach cloụais chụi amser araḷ yn doedyd, mae vn siḷaf oeḍ hoeụ a gloeụ.

Gr.

Feḷy y doụad y prydyḍion i minnau. Ond yn hyn o beth gụeḷ gennyf gan­lhyn y ḷadinuyr, a farnāt yn amrafael siḷafau, ḷe bo amryụ accennau, megis y mae yn y geiriau yma, vn ar hoe, a honno yn ḷem, ne yn ḍyrchafiaụl, vn araḷ ar ụ, a honno syḍ bụl, ne dyscynni­aụl: yr vnphunyd y mae barnu am y gair gloeụ, mal y cair gụeled rhagḷaụ pan elom i ḍosparth yr accennau.

Mo.

Ʋrth of yn, hyn, mi ach dugum chụi oḍrụith y peth oeḍ oi draethu. s. blae­norion [Page 27] y. Beth am a, yn y gair yma ba­ych, ne yn hụn baytio.

Gr.

Nid feḷy y dylyd i'scrifennu nhụy, eithr, baich baetio, mal y gụelir rhagḷaụ.

Mo.

Mi ach cloụais yn son am dyphḍon­giaid talgrynnion, guib, ḷeḍfau, a ḍie­ithr, beth yụ pob vn o'rheini.

Gr.

Nid yma mae dosparth y'rheini, eithr yn y rhan ḍiụaethaf, a elụir tonyḍiæth. ca­nys at y cynghaneḍion y perthynant yn gynt nog at iaunscr. A digon yụ son yma am bynciau anhepcor i ụr, a chụē nychai ḍyscu scrifennu yn goụir. etto, i dorri ych blys chụi rhaid yụ doe dyd pa rai ydynt. Talgron y gelụir, au, a phob dyphḍong roụiog y bo, u, dylynaụl ynḍi a hefyd ymbeḷ dyphḍōg a froụiog, mal, gụas, gụin, gụych. Pob dyphḍong roụi­og aral, a elụir ḷeḍfau.

Mo.

Beth yụ dyphḍong afroụiog, ne dieithr, Canys [Page 28] maer ḍau henu hụnnụ iḍi hi.

Gr.

Pob dyphḍong y bo, ụ. ne. i. yn flaenoriō, heb gael nai sain, nai haccē ond yn egụan doụyḷ, a'r ḍylynaụḷ yn myned a phob vn or ḍaụ ganmụyaf igyd, mal gụan, gụaith, gụyḍ, chụyn, chụith, iar, iaith. Chụi a ụelụch fod. ụ. ag. i. ụedi toḍi i haccen ai ḷafar. Ag am i bod yn diei­thro o ḍiụrth natur dyphḍong roụiog, a ryḍ ran o'r accen a'r ḷafar i'r flae­nor yn gystal ag i'r ḍylynaụl, ei gelụir, dieithr, ne a froụiog.

Mo.

Pessaụl peth syḍ yn gụahan y naiḷ odiụrth y ḷaḷ.

Gr.

ḷaụer ond tri yn anụedig; yn gyntaf, ni byḍ meụn vn roụiog fyth ond dụy fogail: yn yr afroụiog ụeithi­au e gair, tair, mal, iaith heblaụ hynny y roụiog a ryḍ i rhan o'r ḷafar a'r ac­cen i'r flaenor ag ir ḍylynaụl yn gyslal bobun aigiliḍ. yr afroụiog a ryḍ y rhan [Page 29] fụyaf ir fogail, ne i'r ḍyphḍong ḍyly­naụl. Hefyd ụrth ganu, ni chydodla'r roụiog ond a hi i hunan, yr afroụiog a gydodla ụeithiau a bogail sengl ne a dyphḍong roụiog.

Mo.

Pessaụl blae­nor a eiḷ fod i ḍyphḍong afroụiog?

Gr.

dụy, i, ne ụ. Ni chair ụ fyth heb naiḷ ai ch, yntau. g. oi blaen mal chụith, gụan.

Mo.

Pessaụl dylynaụl syḍ i'r ḍụy flae­nor yma?

Gr.

Pob dyph ḍong roụiog, gan muyaf a phob bogail sengl, megis y mae oi gụeled yn y dafụlan yma.

ụ oflaen bogaila gụan
e gụen
imal,gụin
y chụyn
o gloeụon
[Page 30]
V. o flaen dyphḍongau gụaụḍ
ai chụain
ae chụaer
aumal,gụau
ei gụeini
eu gụeuyḍ
oụ gụoụdyḍ
i o flaen bogaila iar
e lerụerth
omal,ior
 iụrch
y iyrchod
i o flaen dyphḍongai iaith
ae iaeth
au iau
aụmal,iaụn
ei ieithyḍ
oụ ioụnach
[Page 31]

Veithiau e gymrir. i.o flaen y bogeiliaid ner dyphḍongiaid hyn a'r i phen ihun ag yna nid dyphḍong eithr dụy filaf fyḍant mal yma, priod, dial a da oeḍ yn y cyphelib leoeḍ, roi dau ditl uụch i pennau falhyn prïod, dïal.

Mo.

Pa­ham y rhoessochụi ụy ymysc y dyphḍ. rhouiog: a chụedi hynny chụi ai bụrias soch ymlhith y rhai afroụiog.

Gr.

Am fod ganthi ḍau sain: canys nid vn alụ yụ hi yn y geiriau yma gụyn, cụyn, gụyḍ, gụyd, celụyḍ, arụyḍ.

Mo.

Oes foḍ, î'ḍnabod pa bryd y byḍ hi yn rho­ụiog, a pha bryd yn afroụiog?

Gr.

Os afroụiog a fyḍ hi, ni sai hi ond yn ni­ụeḍ gair a phan ystynner y gair, nes i bod yn aildiụaetha hi a dry yn. ụ. mal gụynn gụnnach; gụinụyḍ, gụinụḍen celụyḍ, celụḍog: etto pan fo'n ḍyphḍ. roụiog hi a drig ymhom man cystal ai [Page 32] giliḍ mal, cụyn, cụynaụ, gụyḍ gụyḍau arụyḍ arụyḍhau.

Mo.

Mi aụelaf yn ioụnḍa beth yụ bogail, a phessaụl un syḍ o honynt, a pha foḍ i gụnair dyph­dongiaid oi cyssụlt nhụy. Moessụch beḷach ḍosparth ar y cysseiniaid: ag o flaen pob peth doedụch beth yụ cyssain.

Gr.

ḷythyren ne elfen ni ụna fyth lafe­ryḍ perphaith ar i phen i hụn, heb gy­morth bogail.

Mo.

Pessaụl vn syḍ o honyn?

Gr.

Dụy ar bymtheg. chụech a eḷir i galụ hanner ḷaferaug ne han­ner bogeiliaid: l.ḷ.m.n.r.s. a'rvn arḍeg eraiḷ a gyfrifir yn fudiaid: ag o'rhain mae tri theulu mud anghenrhaid i gụybod.

Mo.

Airhaid dosparthu yn fanylach na hyn y cysseiniaid yma?

Gr.

Rhaid yn ụir, os myn dyn ụybod y ḷụybr syḍ i' scrifennu ne i ḍoedyd cymraeg yn ḍilediaith: Am hynny y byḍ da [Page 33] dyscu yn fyfyr y gụhā a'r henụau syḍ iḍynt. ụrth yrhain y geḷir rhoi rheole­digaethau byrrion i ḍangos pa foḍ y neụidir y naiḷ lythyren a'r ḷaḷ ụrth gystraụennu'r geiriau ynghyd. Ag o eis­siau gụybod y pethau hyn, y mae cymanint o floescni a ḷediaith ar y saessō ụrth ḍoedyd cymraeg. Canys in neuidiāt hụy mo'r ḷyth [...]ren gyntaf i'r gair, ond i chadụ ymhob man, a hynny syḍ yn er­byn tegụch a phriodoldeb yn hiaith ni, a diflas ynglhust cymro: megis pe doe­dai vn, pen, fy pen i, dy pen di, a pen y bryn. Os yn gymreigaiḍ i doedid, rhaid oeḍ neụidio. p. falhyn, pen fymhen, dy ben, a pheb y bryn. Arun peth syd ra­id i ụneuthur meụn geiriau a ḍechreuant, a ḷythyrennau eraiḷ, megis y dā ­gossaf rhag ḷaụ.

Mo.

I bessaụl rhan y gụahenir y cisseiniaid yn gyntaf, ụrth [Page 34] hyn?

Gr.

yn ḍuy ran: canys mae pob cyssain naiḷ ai yn ḷefn, yntau yn grech Crychion y gelụir pob vn a fo a grym h. ynḍi; ysef yụ, yn anadlog ụrth i ḷafe­ru, megis. ch.ph.th.d.f.rh.lh.ḷ. a'r cy­phelib, y ḷaiḷ igyd a elụir ḷyfnion.

Mo.

Pessaụl bath syḍ ar lythrennau cry­chyion?

Gr.

Rhai o honynt syḍ o na­turiæth yn grychion, ag ai gelụir cry­chion anianaụl: mal.ch.ph.th. erail o naturiæth syḍ lyfnion, ond o ḍamụain nhụy a gant anadl cryf ụeithiau: mal. lh.rh. megis yma, fymlhaid, fymrhen. Heblau r'hain mae rhai ag anadl ys­cafnach ynḍynt nog syḍ gen y crychiō anianaụl nid o ḍamụain, ond o natu­riæth, ag ai geḷụir yscasngrychiō. mal, ḍ.f. eithr. rh.ag.lh.a eḷir i galụ crychiō damụeiniaul. A hefyd da oeḍ nodi hynnyma, nad oes vn gair cymrae gaụl [Page 35] ai ụreiḍiaụl yn l, ne r, lefn od oes yroụron vn gair ymysc y cymru ai ụreiḍiaụl yn r.lefn:ne yn l.mal ladl. Roger: diau yụ mae estron ydyụ heb gael moi fraint dyledys yn y frutanniæth, ond bratho onof i meụn heb ụybod pa foḍ. Yr hen Gymraegụyr pan fenthycient gan y ḷadinụyr air yn dechrau ag l. ne r'lefn, nhụy a ụnaent yrheini yn grychion i'r cymru.mal, liber, ḷyfr; laboro ḷafurio; lapidare, ḷabyḍio; latinum, ḷadin, Roma Rhufain, rebello, rhyfelu, rete, rhụyd: megis y doedaf yn helae­thach, os rhyḍ duụ iechyd a seibiant i ụneuthur traethiad, a dosparth ar y moḍ syḍ i droi ḷadin i'r gymraeg.

Mo.

Gen son ohonoch am lythyren ụreidiḍiol i air, doedụch beth yu honno?

Gr.

y gyntaf i bob gair cyn i roḍi meụn cymlheth ymadroḍ, megis yn y geiriau [Page 36] yma pen, bụyd; caụs, P, b, c, syḍ lythren nau gụraiḍ. Ag ni aḷ fod i'r vn gair, ond vn ụreiḍiaụl, ond e fyḍ ụeithiau laụer o lythrennaụ cyrch iḍo.

Mo.

Beth yụ ḷythyren gyrch?

Gr.

y ḷythyrē, a ḍel yn ḷe'r ụreidiol ụrth gystrauen­nu'r gair meụn cymlheth ymadroḍ: mal yn ḷe.p.e ḍaụ ụeithiau. b, ụeithiau eraiḷ ph, ag ụeithiau mh, megis pen o ben, a phen, fymhen. Ag feḷy y mae i'r p; dair cyrchfa; megis y mae i'r c ag i'r t.mal y dangossaf ebohir yn eglu­rach.

Mo.

Ni fedraf ond gofyn pet­hau sy amherthynassol i'r dosparth a gychụnned, oblegid fy chụennocced i gloụed pob peth: madụs yụ beḷach son am y cysseiniaid ḷyfnion, gen ḍarfod iụch fanegi hynny oeḍ angenrheidiol i ụybod ynghylch y rhai crychion.

Gr.

e farnụyd o'r blaē bob cyssain yn ḷefn [Page 37] ni bo grym.h.ynḍi. Ag megis y rhan­nụyd y rhai crychion, yn annianaụl ag yscafngrychion, feḷy y perthir yrhain hefyd canys mae tair ohonynt yn fudi­aid trymion, tair eraiḷ yn fudiaid ys­cafn, a thair yn ḷythrēnau taụḍ: y tair tromlefn yụ p.c.t.y. tair yscafnlefn.b.g d.y, t air taụd yụ. l.n.r. canys yrhani a doḍant ụ ag.y.pen ḍelont oi blaen me­ụn rhyụ siḷaf au, mal na chyfrifer mo­nynt meụn messur cerḍ, ag ụrth î ḷafe ru hefyd ni chant faụr oi sain megis y gụelir yn y geiriau yma, gụnaeth gụ­raig, tylaụd.

Mo.

Digon yụ hyn yng­hylch y ḷythrennau taụḍ, ond mae'n rhaid cloụed mụy o son am y muḍiaid oblegid chụi a ḍoedassoch ymlaen ḷaụ fod tri theulu onynt.

Gr.

Fely y mae, age gaiph pob vn o'r tri thelu i henụ o'r fan ar y genau, ne'r ermig a fo mụyaf [Page 38] i gụaith yn i ḷaferu hụynt, y teulu cyntaf a henụir gụefussaụl, am fod yn doe dyd pob vn o honynt ụrth nerth y gụefussau yn bennaf, megis.p.b.f. ph. m.o'r ail deulu y mae.t.d.ḍ.th.n.ag ei gelụir ḷythrennau deintiaụl, am fod y tafod ar y danneḍ ụrth i henụi hụynt. y trydyḍ teulu sy'n cynnụys y ḷythren­nau tafloḍaụl c.g.ch.o herụyḍ bod y ta­fod, ụrth i ḷaferu hụynt; ynnhaflod y genau.

Mo.

Os tri theulu mud yụ'rhain pam y rhoḍụyd.m.yn y cyntaf, ag.n. yn yr ail syḍ bob vn onyn yn hanner ḷafe­raụg.

Gr.

O herụyḍ dau beth, y cyntaf yụ bod yn i doedyd trụy nerth yrvn er­mygion ar teulu mud, y maent ynḍo. s. m, ụrth nerth y gụefussau; n. truy. rym y danneḍ. Ar ail achos yụ, body mu­diaid o'r teulu cyntaf, pan font hụy gụ reiḍiol, yn cyrchu at.m.ne.mh.mal bu­yd [Page 39] fymụyd, pen fymhen A'r vnphu­nyd y mudiaid deintiaul a gyrchant. at.n.ne.nh.mal daint, fynaint: ty, fyn­hy. Ag am i bod yn cyfeḍach ar mudi­aid falhyn, heb fod o'r vn genedlaeth a hụynt, ei gelụir gụesteion mud, maḷ y maen haụḍ i ụeled yn y dafụlan issod.

 TromlefnyscafnlefnyscafngrechCrechan­ianaulGuestai yscafnlefnGuestau tromlefn
Gụefussaulp.b.f.ph.m.mh.
Deintiaụlt.d.d,th.n.nh.
Taflodlaụlc.g. ch.ng.ngh.

Mae. tair rhes yn y dafụlan: vn i bob teulu, ag ymhob vn mae'r gyntaf yn drō ­lefn, yr ail yn yscafnlefn; y drydeḍ (yn y ḍau deulu gyntaf) yn yscafngrech; y [Page 40] bedụareḍ, ymhobvn yn grechāianaụl, y bumed yn ụestai yscafnlefn, y chụe­ched yn ụestai tromlefn.

Mo.

Chụi a ḍangosassoch o'r blaen, pam y gelụir rhai yn ḷyfnion, rhai yn grychion doe­dụch pam yḍydych yn galụ'r tair syḍ yn y bumed fan ir dafụlan ymhob teulu yn ụestai yscafnlefn?

Gr.

Guesteion ydyn am i bod nhụy, syḍ o rouiogæth araḷ, yn dyfod megis i uesta i'r fāle'r oeḍ mud yn ụreiḍiol ag yn feḍiannaul Ond am na chyrch mud yn y byd, ond yscafnlefn at yrheini, yr ydys yn i galụ nhụy gụesteion yscafnlefn.

Mo.

Os gụir yụ hynny, pob gair sy a b, yn ụrei­ḍiol a gyrch at.m,d.at n,g,at ng:ag ni chyrch gụreiḍiol araḷ yn y byd at yr heini. Gr. Diamau yụ hynny, mal y ma­er geriau yma yn dangos. bara, fyma­ra. duụ fynnụ gụr fyngụr.

Mo.

Oni [Page 41] chyrch yrun, at ụestai tromlefn, o ḍie­ithr y tair tromlefn.p.t.c. sy yn gyntaf yn y dafụlan?

Gr.

Na chyrch ḍim a phob gair sy ai ụreiḍiol yn vn o'r tair tromlefn a eiḷ gyrchu, at i ụestai o'r teulu y bo'r dromlefn ynḍo.mal.p. at, mh; paụl. fymhaul t.at nh. ty. fynhy. c. at ngh, cylch. fynghylch.

Mo.

A gyrch ḷythyren o'r naiḷ deulu, at vn o deulu araḷ: yntau pob cyrchfa a fyḍ rhụng y rhai o'r vn teulu?

Gr.

Ni chyrch gụreiḍiol ụefussaụl fyth, ond at lythyren ụefussaụl, na deintiaụl ond at ḍeinti­aụ na chụaith taflodaụl onid at daflo­daụl.

Mo.

Pessaụl cyrchfa, a eiḷ fod i'r vn ụreiḍiol?

Gr.

i bob tromlefn y mae tair, vn at i'scafnlefn ihun, araḷ at i chrech anianaụl, y drydeḍ at i gụestai.

Mo.

Paryụ henụau a rodụch a'r y cyrchfau hyn?

Gr.

y gyntaf a eḷir i [Page 42] galụ, cyrchfa o, oblegid pan ḍoder: o. yr arḍodiad o flaen gair yn dromlefn i ụreiḍiol, e gyrch y ụreiḍiol at i'scafn­lefn. mal prē, darn o bren. caụs, tamed o gaụs, tir, ḷain o dir. yr ail a elụir cyr­chfa a, oherụyḍ bod pob tromlefn ụre­idiaụl yn cyrchu at i chrech anianaụl, pan roḍer a,'r cyssyḷtiaụl cyssyḷtedig o­flaen y gair hụnnụ mal ḷyssau a phren­niau eig, a chaụs daear, a thir y dry­deḍ gyrchfa i dromlefn a eḷir i galụ, cyrchfa, fy: canys bod y dromlefn ụrei­diol, pan roer fy, o flaē y gair yn cyrchu at i gụestai mal, fymrhen, fyngaus, fyn hir. Dau beth syḍ raid i'styriaụ yn y gyrchf a yma, vn yụ, bod yn orau scri­fennu fy. yn vn a'r gair, nid yn ụaha­naụl: canys rhy anoḍ yụ siḷafu, fy ngụaith, fy nghaus. oḍieithr i cyssyltu nhụy ynghyd. yr ail beth syḍ oî farcio yma, [Page 43] yụ bod yn rhaid, pan del l.ne.r, ar ol tromlefn ụreiḍiol, cyfleu, h. yn y gyrch­fa yma: nid yn nessa at m.megis meụn geiriau eraiḷ, ond ụedi r.ne.l.mal pren fymrhen, nid fymhren. plaid, fymlhaid nid fymhlaid clyst, fynglhyst. crinder, fyngrhinder, trino, fynrhino. tlodi fyn­lhodi.

Mo.

Digon yụ hyn ynghyḷch tair cyrchfa tromlefn. Pessaụl cyrch­fa a fyḍ i'scafnlefn ụreiḍiol?

Gr.

dụy. s.cyrchfa.o.at i, scafngrech, a chyrch­fa.fy. at i gụestai. mal, bụyd, tamed o fụyd, fymụyd. gụraig laụer o ụrageḍ, fyngụraig dụr galụyn o ḍụr fynụr.

Mo.

ond oes i'r yscafnlefn gyrchfa a, megis i'r dromlefn?

Gr.

Ni sylf scafn lefn ụreiḍiol er rhoi a, oi blaen, mal, di od a buyd, a gụraig a dụr am hyn nid oes iḍi vn gyrchfa a.

Mo.

Meḍyliụch yn ḍa dau beth ar a ḍoedassoch or blaē [Page 44] vn, fod cyrchfa o, i'r yscafnlefn at i'­scafngrech ihun y ḷaḷ na chyrch ḷythy­ren o vn teulu, at vn o deulu araḷ. Mi a velaf nad gụir yrun o'r ḍau yn y teulu taflodaụl: canys nid oes yno un yscafngrech, fal y gaḷo'r yscafnlefn gyrchu atti ynghyrchfao. A hefyd yn­ghyrchfa fy. e gyrch.g.at ng.ag. n. syḍ or teulu deintiaul.

Gr.

Gụir yu'r ḍi­hareb, ḷe ni bo dim oi gael e gyḷ y bre­nin i haụl. Diryfeḍ feḷy i.g.na aḷo gyr­chu at yscafngrech, onid oes yrun yn i theulu.etto mae cyn gassed genthi roi i ḷe i vn o deulu araḷ ag y byḍai ụeḷ genthi fod i ḷe yn ụag ynghyrchfa o.no dụ yn benthig gen deulu estronaụl: mal gụlad gụr o ụlad. gụyḍe, tair e ụyde, tu ag at am ng. mae.g.yno yn peri i.n.fod yn fyngus i sain, Amhynny, er i bod hi a'r i phē i hun yn ḍeintiaụl, pan ḍoder [...] [Page 45] ilḍueḍ ynghyd nhụy a fyḍant dafloda­ụl. Nid oes vn gyrchfa a,i'r yscafnle­fn vreiḍiol. Am nad yscig pan roḍer a, oi blaen: gụḷad, tref a gụlad, duụ a dyn: diod a bụyd.

Mo.

Paham y doe­dụchi hynny, onid yụ'r yscafnlefn yn y geiriau yma a chyrchfa a, genthi? dan a than y dụr. beth a pheth syḍ yna? gentho, a chentho.

Gc.

Gureiḍiol yrhain syḍ drymion, od yscrifennir nhụy yn iaụn: mal tan. peth. centho. Ond nid gụiụ gụad fod yn arfer i'scrifennu nhụy ai doedyd, megis pettai yn yscafn lefn i gụraiḍ Hynny a ḍechreuoḍ, o heruyḍ bod yr hen gymru yn arfer i dan.i gā.pa beth. ag.i.a pha. syd yn mynnu ar ihol gyrchfa o. bob amser: mal pa ben.pa gig. pa ḍyn.i ben y bryn, i, gaer ḷeon i dy duụ. Ond yn y geiriau vchad yḍydys yn fynych, ụrth ḍoedyd [Page 46] ag meụn scrifen yn torri pa, ag i ymaith, ag yn gadel pob ḷyth yren aral, mal pe baent heb i torri i phorḍ fe [...]y hefyd yn y geiriau ym a fal: tros i fal. fe­gis: tros i fegis gydagef: tros i gydagef. Tair phord syḍ i'scrifennu'r fath ei­riau, a phob vn yn goụir: tan, i ḍan, dā mal i fal. fal. tros, i dros, dros. peth yu ef? pabeth, beth ond yn y drydeḍ phorḍ mae yn rhaid dealt pa.ne.i.i beri'r ụretḍiol neidio i gyrchfa o.

Mo.

Mi a velaf fod i dromlefn dair cyrchfa, a pha rai ydynt: a bod dụy i'scafnlefn. Doedụch beḷach, pessaụl cyrchfa syḍ i'r yscafngrech, ag i'r grechanianaụl.

Gr.

Nid oes yrun, na chụaith. i n, nag. is. canys ni neụidian hụy fyth pan font yn vreiḍiol, odieithr yn y gair feḷy. s, ni vna na bod yn gyrchfa i vreiḍiol araḷ na chyrchu at vn araḷ, pan fo hi gụreiḍiol.

Mo.
[Page 47]

Beth am m.l.ḷ.r.

Gr.

m, ụ­reiḍiol syḍ a chyrchfa o, iḍi yn vnig at f mal, mynyḍ o fynyḍ, yrū gyrchfa syḍ i.ḷ. vreiḍiol at l.mal, ḷaụ, o laụ. A he­fyd i rh. at r. mal, Rhufain o rufain. Tu ag at am l. ner.lefn, ni byḍant gu­reiḍiauḷ byth meụn gair cymr aeg aụl.

Mo.

Moessuch yn grynno gimaint, ag, a ḍoedassoch ar vascar ynghylch pob cyrchfa.

Gr.

Vrth y dafụlan syḍ yn canlhyn y mae i chụi ụeled ar un olụg y cụbl.

Mo.

Cyn dyfod at y dafụ lan, da oeḍ vybod pessaụl gair o flaen y ụreiḍiol a vna iḍi neidio i gyrchfa, o.

Gr.

Lauer iaụn, eithr gụneuthur heḷaethfaur ḍosparth a'r yrheini a berthyn at Gystrauiæth, nid, at y fan yma. Digon yụ doedyd yroụron fod pob gair syḍ yn dyfyn vn ḷythyren at cyrchfa, o, ne a.ne. fy yn peri i'r ḷythrennau eraiḷ [Page 48] fyned at yrū cyrchfau, ynol i teulu ai braintnhụy mal, dy, a fyn gyrchfa o; bid y ụreiḍiol a fynner: dy ben, dy dir, dy ụlad; feḷy na, a ḍyfyn bob gụreiḍiol i. gyrchfa, a os byḍ yrun iḍi mal nid oes na phen, na throed, na chlust gyfa iḍo.

Mo.

Beth am gyrchfa, fy, oes vn gair araḷ yn gụysso'r ụreiḍiol at honno?

Gr.

oes, yn; ụeithie, mal ymhen y ty, ymrig y pren, ynnhy ḍuụ etto, e doe­dir meụn amrafel ḍeaḷt, yn dy i ḍuụ, yn ben i'r bryn; a hefyd mae ef yn ty: mal i dangossụn o sonniụn am Gystraụiæth Mae yn amser beḷach edrych ar y dafulan yrhon syḍ yn cynnụys hoḷ ḍosparth y cysseiniaid gụreiḍiol, cyrchi­aụl, ai cyrchfau,

Mo.
[Page 49]

Aneụiadia 'r lythyrēnau ar ol o, a, ne fy, mal y doedassoch, hyd na bo dim ar aḷo i rhụyflro vn amser?

Gr.

Nid oes dim a rụystra fy, rhag cyrchụ yn y moḍ y doedais, na chụaith o, ne a, odie ithr i cyfansoḍi a'r rhagụas 'r, ne ar ryụ raghenụ, mal, o'r pen, nid o'r ben. ath gap, nid ath chap. Canys yn y cy­fansaụd yma, nid y blaenor, ond y dy­lynaụl a gaiph i gyrchfa. O'r, syḍ ụe­di i ụeueuthur o o, yr arḍodiad ag yr, y rhagụas. yrhụn a fyn y ụreiḍiol ar i ol, os byḍ y gair o genedl ụrụy Ag ath, a gyfansodụyd o a, a dy y rhaghenụ meḍiannaụl. a hụn syḍ bob amser yn­gyrrụ'r vreiḍiol at gyrchfa o, dy gap, dy laụ, dy glust. ond hyn a ụelir yn eglurach yn y gair. oi, a ḍarfu i gyfansoḍi o o, ag i: ụrth fod. i, veithiau tros y gụ­rụy vnig, ụeithiau tros y fanyụ vnig, [Page 50] ụeithiau tros y ḷiossaụg rif: ag ymhob vn o'r mannau hynny yn mynnu am­rafael gyrchfa. Oi a ụna 'run peth yn y cyfryụ leoeḍ; mal o flaen y gụrụy, i gap, i laụ, i glust: feḷy darn oi gap, oi laụ, oi glust ag falhynny meụn geiriau eraiḷ nhụy a fynnant gyrchfa. o.

Eithr pan font tros y genedl fanyụ nhụy a darfant y ụreiḍiol at gyrchfa: a, mal am ụraig, i phen, oi phen, i chlufl oi chlust, i chap darn oi chap. Tros y ḷiossaụg rif, bid ef gụrụy, bid ef banyu y ụreiḍiol a sai ar i hol nhụy i pennau, i cappiau, i clustiau nhuy.

Mo.

Ma­e'n haụḍ gụeled ụrth, a ḍoedassoch fod i bob gụreiḍiol anụadal gyrchfa. o, i bob yscafnlefn gyrchsa o, a chyrchfa fy. Ag feḷy oni phar o, ir ụreiḍiol gyr­chu at vn araḷ, ni phar gair yn y byd iḍi neụidio. Mi a velaf hefyd ụrth y [Page 51] dafụlan fod pedair ni chyrchan at neb, pump in byḍan gụreiḍiol vn am­ser, a phump ni byḍant fyth gyrchfaụ. Manegụch beḷach pa les syḍ er gụy­bod yrhain igyd.

Gr.

Y gyrchfa ne'r ụreiḍiol a ḍengys yn fynych synụyr rhyụ ressum, a pha'mser y byḍ gair yn henụedigaụl i'r ferf, pamser yn achu­siad ne'n ḍerbyniaụl; mal e draụoḍ gur, homo percussit. e draụoḍ ụr, per­cussit hominem. Ag ụeithiau e ḍengys y genedl, gur glan, march penụyn, ych corniog, gụraig lan, casseg benụen bu­ụch gorniog. Pā roḍer henụ gụan ba­nyụ i ganḷaụ ar ol i ganḷaụ yn nessaf, i ụreidiaụl ef a dyn at gyrchfa o, os byḍ y ganlaụ o rif vnig. Eithr os gu­rụy fyḍ i ganḷau, ne liossaụg, ni sylf y ụreiḍiol fal, merch deg, gụr teg, mer­ched teg. Ʋrth y cyrchfau hyn y mae [Page 52] ini roi rheoledig aethau i gystraụenu ag i ḍoedyd i geiriau cymreig yn gyn­ghorḍiaụl ag yn ḍilediaith. Ar neb a fettro g [...]fleu pob cyrchiaụl a chyrchfa yn i dyledus le, a eiḷ ḍoedyd fod gentho y peth clettaf a rheitiaf ụrtho yn y gy­straụiæth gymreig.

Mo.

Oes vn gyr­chfa i fogail ne i ḍiphdong pā fo gair yn dechrau ag vn onynhụy.

Gr.

Nag oes ḍim, etto pan fo henụ a bogail ne ḍiphḍong yn ụr aiḍ iḍo, e roir h, oi blaen pan el. i, y rhaghenu banyụ perchnogaụl, ne yn, syḍ yn arụyḍhau noster yn ḷadin; oi flaen ef, mal aelụyd, i haelu­yd hi, yn haelụyd ni, annerch, i han­nerch hi, yn hanaerchni.

Siḷafiæth .s. y phorḍ syḍ i ụneuthur sila­fau o gyssụḷty y ḷythrennau. Cap. 6.

MO.

Mae'n fadụs beḷach iụch son am [Page 53] y siḷafau a'r geiriau. Canis hyn oeḍ y pumed peth a'ḍoụssoch i fanegi yng­hylch yr iaụnscrifenyḍiæth.

Gr.

Rhy fachgennaiḍ im yma son pa foḍ y gụ­nair pob siḷaf megis meụn agụyḍor. Digon in grybụyḷ pynciau anaụḍ i gụybod, a pherthnassaụl hefyd at y rhan yma i ramadeg. E ụyr paụb y byḍ me­ụn fiḷaf ụeithiau vn ḷythyren, mal a, e, i, arc. ụeithiau ḍụy, megis ab, ai, bo: vethiau dair, fal tir, ụeithiau bedair, i­fal trum, tair. ụeithiau bump. mal trump. ymbeḷ ụaith chụech, fal gura­ig, gụnair, gụnaeth. ag meụn rhyụ vn saith, fal trụmpls.

Mo.

Beth a ḍoe­dụchụi feḷy am y siḷafau syḍ galed ag anhepcor i vn a fynnai gael dysc i scrifennu brutaniaeth yn gylfyḍaụl.

Gr.

Yn gyntaf da oeḍ edrych pa foḍ yr'scrifennir siḷafau trymion ag yscafn, fal [Page 54] y capher gụybod ụrth i, scrifenniad pa vn syḍ drom a pha vn syḍ yscafn. Trō yụ pob siḷaf y bo grym dụy gyssain or vn fath ar ol bogail ynḍi, mal carr phlamm, tonn, dụll, gụenn. a'r siḷafau yma a laferir yn ḷym ag yn grụn. Yscafn fyḍ y siḷaf a fo nerth vn gyssain ar ol bog ail ynḍi, ai ḷafar hi syḍ hirḷaes, mal phram, car, dol, gụen.

Mo.

Ma­er moḍ yr scrifennir siḷaf drom yn gel­fyd?

Gr.

Rhai a fynnant ḍybblu'r vn gyssain, fal tann, ḷann. Eithr hyn syḍ ụrthun a rheir, hefyd anharḍ yụ gụeled dụy o'r vnrhyụ gysseimaid yniueḍ gair. Am hynny rhai a fyn nad yscri­fenner ond vn gyssain inniụeḍ gair, a gadel i baụb ụrth i glust ag arfer ụy bod pabryd y bo'r siḷaf yn drom ne'n yscafn. ond mae hyn yn rhy amherpha­ith yn y frutaniaith, syḍ o naturiæth [Page 55] mor ḷaụnḷythyr ag eithoeḍ eraiḷ. Rhai eraiḷ a roḍant deitl naiḷ ai uụ­ch ben y gyssain ne'n i hystlys, yn ụir maen anhaụḍ cymryd vn phorḍ dref nus oi chadụ ymhob ḷe.

Mo.

Doedụch pessaụl cyssain a eiḷ, yn yr vn siḷaf, ụas­neuthu, i fogail, o rhyn mụyaf.

Gr.

Dụy oi blaen hi, ag ụeithiau ar i hol hi bedair, mal trụmpls; veithie dair malcụḷtr, yn fynych dụy, mal tant, parc, meidr, meigr, cụpl, anadl. A phan fo'n canlhyn bogail ne ḍiphdōg fud a thaụḍ ynghyd, megis meụn ḷei­dr, a'r siḷafau vchod, ef a elụir y siḷa­fau hynny, yn siḷafau cedyrn.

Mo.

Oni byḍai or au roḍi. y, ag ụeithiau ụ, rhụng y fud ar daụḍ mal ḷeidyr, mei­gyr, meidyr, pụyntyl, cụpụl, trụmplys.

Gr.

Na orau ḍim: canys nid yụ'r gei­riau yma ond vn siḷafog. Eithr pan [Page 56] fon dausiḷafog, rhaid yụ rhoi vn o'r bogeiliaid rhyng thynt mal trestel, nid trestl.

Mo.

Pa foḍ y cair gụybod pa bryd y maēt vnsiḷafog, pa bryd yn ḍụy siḷaf.

Gr.

Pe rhoid siḷaf at ḍiụeḍ y gair e ụelid hynny yn eglurach, canys am­lyccach fyḍ sain bogail ynghanol gair, nog yn y siḷ af diụæthaf. trestelau, chụe dl chụedlau, ḷeidr ladron, cụpl cyplau. Pe biassai'r cyntaf yn ḍụy siḷaf, e fu­assai 'r ail ymhob vn yn dair, am roi siḷaf o yst yn ynḍo. Feḷy eụythr, dụy siḷaf, eụythryḍ tair silaf, hefyd dieithr diei­thred. Pe biassai y, o flaen; r, ne l, cyn ystyn y gair. e fuassai yn yr a ilḍiụae­thaf ar ol i ystyn ef. ond rhaid yụ ymḍieithro oḍiụrth yrhain, ḷythr, vn sila­fog; ḷythyren, tair siḷaf,

Mo.

Pan roḍer siḷaf yn ḍarn at obenyḍiad gair, a drig y fogail ne'r ḍiphḍong oeḍ yn y ḍiụaethaf [Page 57] o'r blaen, yn yr ailḍiụaethaf pan ystynner y gair mal y gụelaf yn yrhain yma, anụedig anụedigaụl; tre­stel, tresteḷau?

Gr.

Na fyḍ ḍim ca­nys bogeiliaid a diphḍengiaid a gair yn fynych meụn silaf ḍiụaethaf. Ond pan el honno ụrth ystyn y gair yn ail ḍiụaethaf, nhụy a neụidian yn y moḍ sy'n canlhyn.i, o flaen g, yn y, fal dir­mig dirmygu, benthig benthygiaụ etto pob cyfranniad yn dig, a geidụ i, mal caredig, caredigion, ar henụ boneḍig bonheḍigaiḍ. ụ, a droir yn; y, mal golụg golygon, drụg drygụas, dụfn dyfnder, manụl manylach. Eithr pan ḍel; ụ, o flaen. r, heb gyssain yn nessaf ar ihol hi a daring yn yr ailḍiụaethaf, mal bụ­rụ buriaụḍ, gụr gụrol; feḷy ei cair hi yn yr ailḍiụaethaf os byḍ. ụ, sengl, yn y ḍiụaethaf, mụdụl mụnụgl. Ond ynhụy [Page 58] igyd a droir yn; y, pan ystynner y geiri­au hyn nes bod bogail araḷ yn y pen di­ụaethaf, mynyglụen, mydylu, cyplyssu. Os byḍ cyssain ar ol. r, ụeithiau ni sylf ụ, dụrd dụrdiaụ, tụrstan. Ond fynych­af hi a dry yn y, mal dụrn dyrnod, tụrf tyrfa. ụy diphḍong afroụiog a dro ir yn y mannoeḍ hyn yn ụ, dedụyḍ de­dụḍụch, gụinụyḍ gụinụden, diụyd diụ drụyḍ. Yụ yn oụ, mal byụ boụiaụg, rhyụ rhoụiog clyụ cloụed. Ond mae, r ḷyfrau hen yn dal yn ụestad er ystyn y gair, mal byụ, byụiaụl. etto gụeḷ i ni galyn yr arfer syḍ ymysc y bobl yn hamser ni. Aụ yn oụ; rhoụiaụg rhoụioụgrụyd, ne yn o, mal tlaụd tlodi. Ai, yn; ei, mal ga­ir, geiriau, tail teilo, ḷigaid lygeidiog, iaith ieithoeḍ. Au, yn eu, mal dau deu deg aur, eur aụg, euraid. Y gaiedig yn, y agored mal dyḍ ḍyḍiau, phyḍ phyḍlon, [Page 59] beunyḍ beunyḍaụl. Arhain a eḷir i galụ bogeiliaid ne ḍiphḍongiaid goben­nyḍgar, am na fynnant fan yn y byd ond y siḷaf diụaethaf o ḍieithr yn an­fynych iaụn.

Mo.

Doedụch cyn yma­do ar siḷaf au, pessaụl bogail a eiḷ foḍ fụyaf meụn vn siḷaf.

Gr.

Tair, mal iaith, iaụn, gụaith, gụaụd, gụan, chụ­aer arc. ḷe bo diphḍong roụiog dylyna­ul meụn diphdong afroụiog.

Mo.

oni byḍ tair bogail meụn siḷaf o dieithr bod diphḍ. afroụiog yndi?

Gr.

Byḍ ụei­tbiau, pan ḍel l, n, ner, ar ol. ụ; ne y, a diphḍong roụiog yn i canlhyn, mal ty­laụd er bod yn i'scrifennu ef ụeithiau tlaụd, gụnnaeth gụneuthum, gụraig, gụraiḍ. yrydys yn toḍi ganmụyaf ụ, ag y, ag yn rhoḍi'r accē a'r ḷafar ir diph­dong sy ar ol y ḷythyren daụḍ.

Mo.

A eiḷ cyssain ar i phen ihun ụneuthur [Page 60] dim vn amser?

Gr.

Geiḷ, uerthiau hi a fyḍ tros rif, mal.i.tros vn.v.tros bu­mp, x. tros ḍeg.l.tros ḍeg a deug ain. c. tros gant. M. tros fil. D. tros bumcāt. Amser araḷ hi a fyḍ. ond i'scrifennu yn benrheithiaụl dros henụ gụr, ne le mal. H. ụythfed. E. y chụeched. Caer. ḷ. caer. l. H. tros Harri E. tros Edụart. ḷ. yn ḷe ḷeon. l. tros luḍ. etto ni vasnaetha arfer mo hyn, ond pan fo'r henụ hụn­nụ yn hynod yn y cyfle y byther yn i'scri fennu ef. feḷy e fyḍir ụeithiau yn rhodi s. gyphredin tros, ys ef yụ.

Mo.

Beḷach e ḍarfu iụch son am y pum peth a'ḍo­ụssoch ụrth ḍechrau. Oes dim anghenrhaid i iaụnscrifynyḍiæth, heb nai a­ḍo nai fanegi?

Gr.

Oes yn gyntaf dim y tair accen, ụedi hynny gụahaniadau 'madrod; yn drydyḍ da oeḍ fanegi pa foḍ y dieithir oḍiurth y phorḍ faụr fy­nychaf [Page 61] i thramụy, a hynny ụrth phu­gr. Achida hynny son am y gyssiḷafiæth iaụn a threfnus.

Mo.

Ynghylch accē pessaụl peth syḍ raid i'styrriau?

Cr.

Tripheth, yn gyntaf i hennuae, yn ol hynny i ḷuniau, yn diụaethaf sụyḍ, a gaḷu, a chyfle pob vn.

Mo.

Doedụchụ­ithau pa foḍ y gelụyr nhụy?

Gr.

Ac­cen, ne don a elụir naiḷ ai dyrchafedig dyrchafiaụl, ḷem: yntau dyscynedig dy­scynianaụl, pụl, trụm: ne amgylchedig, amgylchaụl, cymhedrol, hirḷaes.

Mo.

Mi a ụelaf fod ir accen lem dri henụ a phedụar ir accen bụl, achimint a­raḷ ir gymhedrol, mae beḷach y ḷun­niau syḍ i bob vn o honynt.

Gr.

Lun accen lem yụ guialennig uụch ben bo­gail ne diphḍong yn codi tu ar ḷaụ ḷe­au, mal á.é.í.û. y. ó. uy arc. Lun accen bụl syḍ ụyrthụyneb i hon yn gostụng ar [Page 62] y ḷaụ ḍeau, mal. à.è.ì.ò.ù. Lun accen gymhedrol a ụnair o gyssụḷt y ḍụy yma ynghyd, mal. a.ai.au, tan. lain.

Mo.

Mae sụyḍ a chyfle pob accen, oblegid mae hynny och aḍeụiḍ chụi yn ol?

Gr.

Sụyḍ ylem yụ dyrchafu a chodi y siḷaf y bo uụch i phen yn grassach i ḷais nor ḷaiḷ, mal dîgon pennod, gụaefi, dydí. Sụyḍ y bụl yụ gostụng yn issel lafar y si­laf y bo uụch i phen yn is i ḷais nog un a fai lem i haccen, mal y gụelụch yn y siḷafau yma, digon, isseḷ. Ar gymhedrol syḍ yn peri i'r siḷaf danihi fod yn uch el ag yn hirḷaes i ḷafar mal tan, gụn­aeth, glan: a phob gair vnsiḷafog y bo diphḍong roụiog ynḍo, ne fogail ysca­fn. s. heb rym dụy gyssain ar i hol, mal phram, dol, arc. Yr accen bụl a fyḍ ym hob ḷe ni bo yrun o, r ḍuy erail, er nad yscrifennir dim honi vn amser, etto i [Page 63] grym hiafyḍ yno, am nad ydys yn dyr­chafu y cyfriụ siḷafau. Y dụy eraiḷ a fyḍant yn vnig ar vn o'r ḍụy ḍiụae­thaf, mal difai diḍaụn, myfi, myfy, di fai, guaethaf. Pā goder diphḍ. roụiog yn uụch no'r ḷail, cymhedrol fyḍ yr ac cen, mal difai, diḍaụn, phraethder. ond os bogail sengl a ḍyrchefir meun gair amlsiḷafog yn yr ailḍiụaethaf heb phael ḷem fyḍ yr accē, mal iyrchod ḷundain, Ierụerth, siarad. Ʋeithiau yn y ḍiụaethaf e fyḍ accen gymhe­drol uụuch ben bogail sengl, mal tan, gụiụlan ne ụiụlan.

Mo.

Pa foḍ y ge­lụir y geiriau syḍ ag accen lem ar i ḍiụaethaf?

Gr.

Geiriau blaenḷymiō, ag os y lem a fyḍ ar yr ail ḍiụaethaf; ail flaen ḷym yu'r gair. Yrun phunyd y gelụir hụynt. blaengymhedrol, ne fla­embụl, ag ail gymhedrol ne eiḷbụl pan [Page 64] fo'r accennau yma uụch ben y cyfriụ siḷafau.

Mo.

Ai rhaid yscrifennu 'rhain uụch ben pob siḷaf y damụei­niant iḍi, megis canụyḷ.

Gr.

Nid rha­id fyth scrifennu mo'r bụl, ond bụrụ i bod hi ḷe nid oes yrun o'r ḷaiḷ, ag nid gụiụ chuaith scrifennu bob amser mo'r ḷaiḷ. Digon yụ gụybod mae accen lem syḍ i'r siḷaf a dyrchafer yn fein­gras, a chymhedrol i honno a goder yn hirḷaes. etto os byḍe vn gair a eḷid i ḍeaḷt amryu phyrd, da oeḍ scrifen­nu'r accen i dynnu'r petruster yma­ith os geḷyd, mal, tál, tal, cûl, cul.

Mo.

Digon yụ hyn am yr accennau: moessụch gloụed peth ynghylch gụa­haniadau 'madroḍ.

Ʋyth arụyḍ guahaniaeth y' maḍroḍ. Cap. 7.

GR.

Mae tu ag ụyth o arụyḍion i iaụn ụahanu 'madroḍ, a elụir falhyn: per­pheithnod gụhannod, rhagụahannod, gofynnod, dieithrsang, anorphennod, scythrnod, didolnod.

Mo.

Beth yn pob vn ohonyn?

Gr.

Perpheithnod a'scri­f'enir fal hynn,. ag syḍ arụyḍ ụneuthur pen ar ressụm perphaith. Gụahannod a ụnair o ḍau deitl mal.: ag a ḍengys ressum megis hanner perphaith. Rha gụahānod syḍ o'r fath yma;, yn arụy­ḍo bod yn y ḷe hụnnụ uahā, ond amherphaith. Ar tri a eḷir i ụeled yn y pēniḷ yma, Ti yu'r gụan, taụ ar y guir: arri­an da a ụrandeụir. Gofynnod syḍ a'r luniau yma ido,? Yn arụyḍhau fod yn gofyn rhyu beth ụrth y claụs hynny, mal yn y penniḷ hụn. Ple try hediụ, pla­id [Page 66] rhoḍion, preseb sais heb Rys ab siō? Dieithrsang a'scrifennir a'r ḍeunod yma. () i ḍuyn ar ḍeaḷt fod y claụs syḍ rhụng y rhain megis peth dieithr ụedi i sengi yna, heb fod yn angenrha­id i gyfloụni synụyr yr ymadroḍ hōno, mal yma, blaiḍ ag oē (ble 'ḍa gụānur) yntuy ḍau aen gynt i ḍụr. Anorphen­nod a lunnijr falhyn, ynniueḍ ḷîn ne res i rybuḍio fod y gair yn anorphen yno, a bod y ḍarn araḷ ynnechrau'r ḷin syn canlhyn. Scythrnod a ụnairdụy phord, ụeithiau ai gyrn tu ar ḷaụ ḍe­au, mal. '.ụeithiau araḷ tu a'r laụ as­sai, mal.'. ụrth y nod yma yr yspissir fod ụedi scythru a thorri ymaith fogail ne diphḍōg, naiḷ ai i ochel drygsani yntaụ i achub messur meụn penniḷ. Odid iḍo fod ynunḷe onḍ pan ḍel dụy fogail yn­ghyd, un ynnụed gair, a'r ḷaḷ ynnechrau'r [Page 67] gair a ganlhyno, mal yn ḷe ai i yr ụlad? a'i'r ụlad, tros, o ymadroḍ, o'­madrcd, ueithi ai laụ, ụyth a loụiai, tros ụeithiau; blaiḍ ag oen ble'ḍa gụa nụr tros bleyḍa: a phob amser e ḍoedir y ḍau air yn vn, megis pe baent vn gair mae'n, tros mae yn, taro'r gụr, tros taro y gur.

Mo.

Pam yḍydys yn neụidio y, yn 'r, meụn manoeḍ o'r fath yma, yụ'r peth, mae'r gụr, tros yụ y pe­th, mae y gụr.

Gr.

Iochel drygsain, canys anụeḍaiḍ a diflas fyḍ ḷafar ci­maint o fogeiliaid ynghyd. Amhynny e dynnụyd. y, rhagụas yr henụ, ymaith, agfal y geḷid gụybod y dylai ef fod yno, e ḍodụyd r, ḷe dylassai ef fod, a pha bryd hynnag yr scythrir y, rhagụ­as yr henụ, e roḍir r, yn i le.

Mo.

Pes saụl mod yr scrifēnir y rhagụas yma?

Gr.

Naiḷ ai y, yr, ne'r, pan ḍel cyssain [Page 68] ynnessaf oi flaen ef ag ynnessaf ar i ol hefyd. y, a'scrifennir, mal doeth y gụr, os cyssain a ḍaụ o'r blaen, a bogail ne diphd ar yr ol, yr, a gyfleir; mal gụas yr arḍụr, ne pan ḍel gair yn dechrau ag st, sc, ne, sp, ariol, mal yr stalụyn, yr scyphthr, yr spodol. etto rhai a ryḍ y, yn­nechrau'r cyfriụ eiriau, mal yr ysta­lụyn. Ond os bogail a fyḍ o flaen ag ò ol i'r rhaguas, ne oi flaen ynvnig, teccaf oeḍ scrifennu'r 'r, mal da'r gụr, plu'r adar. Cyrn yr schthrnod bob amser a fyḍ tu ag at y gair a goḷoḍ i fogail, mal ụed'imi ḍyfod, gụae'r neb ai gụe­lai.

Mo.

Digon yụ hyn am yr scythr­nod; beth yu'r deḍolnod sy'n ol.

Gr.

Didolnod a scrifennir uụch ben dụy fogail falhyn, aï, i ḍangos na chyme­rir mor bogeiliaid hynny ynghyd me­gis vn ḍiphḍong ond bod yn i didoli [Page 69] nhụy i ụneuthur dụy siḷaf, mal prïo­das, cyrchfau.

Mo.

Mi a ụelaf beth yụ gụahaniadau'madroḍ, mae syḍ an ghenrhaid i ụybod ynghylch y phu­grau.

Phugrau iaunscrifennydiæth a de­screifiad pob vn honynt. Cap. 8.

GR.

Yn gyntaf, beth yụ phugr, ụedi hyn ny pessaụl vn syḍ o honyn yn pyrthynu at y rhan yma o ramadeg.

Mo.

Feḷy Beth yụ phugr?

Gr.

Lụybr ne fath ar ḍoedyd ag scrifennu ụedi dieithro yn ḍifarn ag yn gelfyḍus oḍiurth y phorḍ gyphredin.

Mo.

Pa bryd y dieithrir yn ḍifarn o ḍiar y phorḍ vnion?

Gr.

Pan fo i arḍel gentho o ụr aụduredig ne henafiæth, ne o arfer a chytūdeb gụ­yr dyscedig. Canys ni eḷir barnu ar neb a ganlhyno aụdurdod gụr hynoḍ yn y [Page 70] gylfyḍyd, a defod hir o amser, ag ol traed gụyr cyfarụyḍ.

Mo.

Pamser y dieithrir yn gylfyḍus o ḍiar y briphorḍ

Gr.

Pā aḷo gụr roḍi rhessụm trosto yn hynny o beth, megis i ochel drygsain, i achub penniḷ, ne i ryụ beth araḷ a fy­ḍai ressymol.

Mo.

Pessaụl vn syḍ yn pyrthynu at Iaụnscr.

Gr.

Etto digon i ni son am ụyth syḍ reitiaf ụrthyn: o'r hain, tair a ryḍ ir gair chụaneg o ḷy­thrennau ne siḷafau. s. gụraiḍdyfiad, gurth drychiad, brigdyfiad; tair eraiḷ syḍ ụrthụyneb i rhain, ag a dynnant ymaith lythyren, ne siḷaf o'r gair, mal gụraiḍdorriad, trychiaḍ, brigdorriad dụy a neụidia ḷythrennau, fal troselfe niad, traụsmansaụḍ.

Mo.

Beth yụ guraiḍdyfiad?

Gr.

Phugr ne phorḍ i roḍi at ḍecrau'r gair ḷythyren ne si­ḷaf, mal yr yscrifen. tros yr scrifen; ydụ [Page 71] yf, tros ụyf.

Mo.

Beth yụ gụrthdrych­iad?

Gr.

Moḍ i frathu ḷythyrem ne siḷaf ynghanol gair, mal oḍiụrth, tros o iụrth; ḷeụrch tros leụych; oḍigartref tros o igartref.

Mo.

Beth yụ brigdy­fiad?

Gr.

Phorḍ iḍodi ḷythyren, ne si­ḷaf at ḍiueḍ gair, maḷ annogi, tros annog.

Mo.

Beth yụ gụraiḍ dorriad?

Gr.

Moḍ i dorri ymaith ḍarn o ḍe­chrau'r gair, mal menyn, tros ymenyn sprydol, tros ysprydol; ab sion yn ḷe fab sion.

Mo.

Bet yụ trychiad?

Gr.

Phorḍ i dynnu aḷan lythyren ne siḷaf o berfeḍ gair mal ḷythrennau, tros ḷythyrēnau; rhoi, tros rhoḍi; cael, tros caphaeḷ, my­nd, tros myned.

Mo.

Beth ụrthynny yḍyụ brig doreiad?

Gr.

Phugr yn torri i phorḍ ben y gair, mal gofyn, dyfyn, tros gofynnu, dyfynnu; canys o'r gair mynnu, y cyfansoḍụyd y ḍau.

Mo.
[Page 72]

Moessụch ụeled dyscreifiad troselfyn­niad.

Gr.

Hō syḍ phugr yn gossod vn elfen ne lyth yren yn le'r ḷaḷ, mal meneginiæth, tros meḍeginiæth, sarthes, tros sarphes: canys o'r gair meḍig a serpēs y maent yn dyfod.

Mo.

I ụneuthụr pē ar y phugrau, doedụch beth yụ traụ­symansaụḍ ne draụsymsymud?

Gr.

Phorḍ i droi, din drospen, y naiḷ lythy­ren yn ḷe'r ḷaḷ, a'r ḷaḷ yn i ḷe hithau, mal ḷassụyr, tros saḷụyr, or gair psal­terium.

Cyssiḷafiaeth. s. moḍ i ụneuthur geiriau o'r silafau. Cap. 9.

MO.

Doeḍụch beth ynghylch cyssiḷa­fiæth, ag yno hi a fyḍ madụs yn gadụ nosụyl.

Gr.

Siḷafu yụ o'r lythrennau yn gymụys, gụneuthur siḷafau. ond cys­fiḷafu [Page 73] y byḍ vn pan fo yn gụneuthur gairo gyssụḷt amrafael fiḷasau. ụrthyn ny cyssi [...]afiæth a dengys pa ryụ siḷafau a scrifenir ynghyd, a pharai a roir yn ụahannedig, mal pa vn a scrifennir ai ụrth [...]fi, yntau ụrthy fi. rheir a fyḍai son yma am bob gair ar i ben ihun, ne ụneuthur dosparth manụl a'r hyn o bụnc. Digon yụ ystyriaụ tri pheth yro­ụran: vn yụ, pa bryd y cyfansoḍir rhagụas ai bennaeth ynghyd, yrail, pam­ser y rhoir y rhagụas ynglyn ụrth i ber thynas; y trydyd yụ, pan ḍel dau air araḷ i gyfarfod, a eḷir i cyfansoḍi, pob vn o'r ḍau, nei cymeryd ar ụahan pa vn a ụnair ai scrifennu nhụy megis vn gair, yntau ar i pennau i hunain.

Mo.

Doedụch yn gyntaf beth yụ rha­gụas.

Gr.

Gair heb arụyḍhau dim, ond yn vnig gụasneuthu i ryụ air araḷ. [Page 74] a fo pennaeth iḍo, ụeithiau i henụ mal y gụr, yr arth, ne'r amser; ụeithiau e vasnaetha i ferf, mal yr ụyf, y mae, Ifan a drauoḍ ḍafyḍ. Chụi a ụelụch nad yu, y, ag. a, yn arụyḍo dim, ond y, veithiau yn gụasneuthu i henụ, ụei­thiau i ferf; a, i ferf ynvnig y ladinụ­yr a eilụ hụn articụlụs.

Mo.

A gyssyl dir hụn ai bennaeth vn amser?

Gr.

Pan fo berf yn bennaeth iḍo; ni lefys ef gyfụrḍ a hi vn amser, nag a henụ ond yn anfynych, megis yma yroụrō, tros yr aụr hon. Eithr pan fo rhaghenụ yn bē ­naeth iḍo, e fyḍ hyfach i'mụascu ag ef mal hụn, yrhụn, yrhon, yrhyn, yrhain, yrheini, ne ụrth ụraiḍdorriad ei cụt­toccir nhụy mal rhụn, rhain, rheini. Pa bryd y gụnair hyn, mae'n haụs ụr­th y glust farnu, nag ụrth reoledigae­thau i draethu.

Mo.

Beth am raghe­nụ, [Page 75] a eḷir doedyd yrun peth amdano?

Gr.

Rhaid yn gyntaf gụybod y byḍ yn byrthynas i raghenụ, ụeithiau henụ, amser araḷ arḍodiad, ag ụeithiau be­rf. Ni roḍir dim onof ynglyn ụrth he­nụ, odieithr fy, yn vnig, pan fō gụestai mud yn i galyn, a hynny a fyḍ ymhob gair y bo trōlefn ne 'scafnlefn yn ụrei­ḍiol ynḍo, mal fymhen, fynhir, fyngl­hust, fymarf, fynyn: fyngụlad. Ond os arḍodiad fyḍ i byrthynas, ei cyssyltir fynychaf, mal attaf, attafi, attafinau: feḷy ith ụlad, im gụlad, ich gụlad, in gụlad, iụ, ne oi ụlad, megis y cair gụe­led yn helaethach (os daụ arnom son am yr ụthran o'madroḍ) ụrth ḍospar th rhagenụ, ag arḍodiad. Tu ag am y ferf, mae yn anaụḍ cymryd phorḍ rụ­yḍ ḍibaḷ a chyphredin, oblegid meụn aml o leoeḍ ef a eḷir roi'r rhaghenụ yn [Page 76] vn ar ferf, mal gụelafi, gụelụchụi gụelanhuy; meụn mannoeḍ er aiḷ ni eḷir cyn gynhụssed, gụyl ef, ni velais ti.

Mo.

Doedụch pessaụl phorḍ y geḷir scrif'enu'rhain, a'r phorḍ or au yn ych meḍul chụi.

Gr.

Tair phorḍ syd i scrifēnu'rhain, mal gụelafi, guelaf i, guelaf fi, gụelụchụi, gụelụch ụi, gụelụch chụi; gụelantụy, guelanhụy, guelant yntuy ne ynnhụy ne huynt.

Mo.

Maer moḍ gorau yn ych barn chụi i scri­fennu'nhụy.

Gr.

O'r phyrḍ yma igyd, honno syḍ raid i barnū yn orau, a fo yn fyrraf iụ scrifennu, yn rhụyḍaf iụ ḷaferu, ag yn nessaf at y moḍ syḍ arfe­redig fụyaf ymysc y cymru ụrth sia­rad, tā gadụ'r iaith erhyny mor ḷaụ­nlythr ag y geḷid. I ḍechrau feḷy a'r berson gyntaf, gụelaf fi, o guelais si, mi a ụelais fi, pe gụelụn ni; e droir; f, ụei­thiau [Page 77] yn y rhaghenụ fi, i'r ḷythyren nes saf oi blaē, yn rhyụ le, i.s. mal o guelais si; meụn ḷe araḷ i; n, mal o gụelụn ni. Etto ni sylf.f, yn y cyfryụ fannoeḍ, os rhoid. mi, o flaē y ferf, mal mi a ụelais fi, mi a uelụn fi yn ḍa. Yn yr ail berson hefyd da oeḍ scrifennu'r rhaghenụ ar neuḷtụ, mal gụelî di, guelaist di, pe gụelyd di. Aphan fo; d, ynniụeḍ y ferf, e fyḍ d, yn y rhaghenụ a galụ. t, gēthi; ag fely meụn geiriau er aiḷ ḷe bo.d, yn diụeḍu vn gair ag vn dechrau'r nes­saf, fal tynged dyn, ei doe dir megis tynged tyn. Diau am y dryded bersō, mae gorau i gụahanu 'nhuy, fal yma, gụyl ef gụeloḍ ef, os gụelai ef yrunphunyd am y gyntaf liossog mal gụelụn ni, pe guelē mi, tan droi. n, yn. m, i ochel dryg sain, ni a ụelsom ni, o gụelsom mi; pryd na ḍybler mo'r rhaghenụ o bopparth [Page 78] ir ferf, e droir. n. yn, m, yn y fan yma, mal yn y diụaethaf, o gụelsom mi. ond n. ni sylf pan ḍoder. ni, o flaen y ferf, ni a glousom ni, megis y doedassom am. f. yn y gyntaf ụnig. Yr ail liossaụg a eḷid yn ụeḷ i scrifennu ynghyd a'r rhagenụ bob amser, mal gụelụchụi, pe gụelych­ụi, gụelsochụi, a hyn oeḍ fyrach, a digō gụeḍaiḍ. Etto nid gụiụ didoli mo hon oḍiụrth y personaụ eraiḷ, ag nid yụ'r phorḍ yma mor laụnḷythr a phed scri­fennid y rhaghenụ ar i ben ihun. Am hynny gorau ag egluraf yụ i scrifēnu 'nhụy yn vahanrhedaụl, a hyn syḍ ha­ụḍ i gadụ ymhob ḷe; eithr ynghyd e fyḍ ụeithiau rheir y geiriau, mal schri­fennụchụithau. Yrun peth syḍ iụ far­nu am y drydeḍ liossog. Ond od scrifennir. t, ar ol. n, mal guelsont, teccach fyḍ huynt, ne hụy; mal gụelfont hụy, ne gụelant [Page 79] hụynt. Eithr pan adaụer.t, aḷan, rhụyḍach a ḷyfnach, iụ laferu, fyḍ nh­ụy mal guelson nhụy. Rhaid yn bēnaf dim yma a hefyd ụrth scrifennu'r geiriau eraiḷ, edrych yn ḍyfal pa rai a'­mụascan yng hyd yn gymụys, yn ḍigy­meḷ, yn deg i cyflafar, ag yn esmụyth iụ doedyd: a hyn sy haụs dal arno, ụr­th ymḍiḍan, scrifennu, a darlain; nai draethu meụn scrifen i fodloni paụb.

Mo.

Moessụch air ne ḍau cyn ymado ynghylch cyfansaụḍ geiriau a rhānau eraiḷ o'madrod.

Gr.

Yn, pen fynno ar i ol ụestai mud a ḍodir yn vn ar gair; mal ynnhy, ynnuụ, ynnyn, ymlhith, ym­ol, ymhob, yngụlad for gan, ynghaer ḷe­on, Heblaụ hynrhaid yụ gụybod fod yn toḍi.n.pan ossoder. yn, o flaen gụeflai ụefussaụl ne daflodaụl, mal ymhob, yma­rn Siō, ynghalon y pren. Canys gurth­yn [Page 80] fyḍ dụy. m, yn yrun gair, a dirym yụ. n, o flaen. ng. Ond. m. ynghanol gair a laferir▪ bobamser yndrụm, ag hefyd ynniụeḍ gair fynychaf, mal tamed, a ḍoe dir tammed; feḷy trụm, a laferir trụmm, ymhob a leissijr ymmhob, yma­rn sion, a ḍoedir ymmarn, ernad scri­fennir ond vn. m, oherụyḍ gụeḍeiḍdra 'r scrifen. Pan ḍel dau air ynghyd, o vn siḷaf bob vn, os byd yr accen ar y gyntaf yn bennaf, gorau yụ i cyssyḷtu nhụy, os ar y ḍiuaethaf y byḍ y don gryfaf, cymrer nhụy yn ụahannedig; mal gụiụlan gụiụ lán; ụythran, ụyth rán; meingoes, main goes; seithbunt, saith būt. Ond pan fo'r diụaethaf o'r hain yn amlsiḷafog ni ụasnaetha mo'r rheoledigaeth yma ḍim; mal yma; ail­ḍiụaethaf, gụraiḍdyfiad. Da hefyd oeḍ ḍodi 'rhain yngyd; ụrthyn, ganhyn [Page 81] ganhynny, amhynny, amhyn, pam pa­ham, pamser, palé; ne (ụrth drychi­ad) ple, ynamser, trospen, ynaur, yroụ­ron. A ḷaụer o'r fath yma mal y byḍ eglur i'r neb a chụennycho fyned trụ­y'r ụythran o'madroḍ ai styrriaụ yn ḍisceulus ag yn estyd, ag edrych pa phorḍ or au a theccaf; rụyḍaf a byr­raf i scrifennu pob gair.

Mo.

Mi a ḍeuheḷdais ụrth a doedassoch or dechrau hyd yma, beth yụ ḷythyren, a pha foḍ y rhannir ḷythrennau yn fogeiliaid, ag yn gysseiniaid, ụedi, mi a ụe­lais y phorḍ i ụeneuthur diphdongiaid rhoụiog ag afroụiog o gyssụlt y bogeili­aid, a bod or cysseiniaid rai yn grychi­on, rhai yn ḷyfnion rhai yn yscafngry­chion, rhai yn hanner ḷaferog rhai yn fudiaid, rhai yn ụesteion mud; a pha bryd y byḍ cyssain; a pha rai o honynt, [Page 82] yn ụreiḍiol ne yn gyrchf a meụn gair, a phessaụl cyrchfa syḍ i bob gụreiḍiol. Heblau hyn mi a ferciais ḍeubeth ne dri anghenrhaid i ụneuthur yn iaụn siḷafau o gyssụlt y ḷythrēnau. ynnolhyn­ny mi a nodais a ḍoedassoch ynghylch yr ụytb arụyḍ syḍ i ụahanu'madroḍ yn drefnus. Gida hyn igyd, mi a gre­phais yn oụnḍa ar a ḍoedassoch am yr ụyth phugr pyrthynassol at Iaụnscr. a bod tair onyn yn rhoḍi chụaneg, tair eraiḷ yn tynnu ymaith, dụy yn neụidio ḷe ḷythrēnau. yn ḍiụaethaf o'r cụbl mi a gefais beth ḍysc ụrth a ḍoedassoch am gyssyḷafiæth. Ond yn y rhan yma chụi a fuoch fyrrach nog y mynnassun iụch fod. Canys fy'ụyḷys si oeḍ gael clo­ụed dosparth helaeth a manụl i'm hy­phorḍi yn gyfarụyḍ i gyssilafu pob rhā o'madrod.

Gr.

Ni eḷir gụneuthur dos­parth [Page 83] ar gyssilafiæth mor berpaith a hynny, nes traethu yn gyntaf o gyfachyḍiaeth, yno y cair gụeled y moḍ syḍ i scrifennu'r ụythrā o'madroḍ o'r naiḷ gụr hyd y ḷa [...].

Mo.

Feḷy mae'n rhaid bod yn fodlon ar hyn o amser, ïr dos­parth byr yma. Ond yn gyttrym ag y rhoḍo duụ seibiāt, ag amser cyn gym­hụyssed a hụn a goụssom mi naụr, ni a roḍụn gais ar fynd trụy gyfiachyḍi­æth.

Gr.

Chụi a ụydoch nad oes dim hyfrydach genyfi, no son am y gymraeg a phettai yn boenus phorḍ aral, ych dysyfiad chụi ai gụnai yn hyfrydlon.

Mo.

Ni ụasnaetha i ni fyned hyd adref fal hynn megis dau ḍyn mud heb ḍoe­dyd vn gair on pennau rhyd y phord. Gụeḷ ynny, (am na ụydom pa bryd y caụn rhyụ fath odfa drachefn a chi­maint o seibiant i'mḍiḍan) sō am vn [Page 84] o'r tair rhann eraiḷ i ḍifyrru'r phorḍ oḍyma i'n ḷetty. pechod yụ coḷi miḷdir o dir heb na phrụyth na diḍanụch, ag yn gaḷu siarad ynghylch ḷaụer o bethau a fyḍai hyfryd gennyfi i cloụed, a diboen i chụithau grybụyl amdanynt.

Gr.

Amhossibl i ni fyfyrio yn ḍyfnḍụys a chụilio yn fanụl am ḍim a fo na rhụy­strus na dụfn i ystyriæth tra fom yn cerḍed y phorḍ yma syḍ mor arụ a ch­ynn ḷoụned o gerrig, torlānau, a thụm­pathau. Canys ni byḍ estyd myfyrdod, o dieithr meụn ḷe neuḷtual, dirgel, a didụruf, mal na bo dim i lestr gofeg, a medụl dyn i'mroi yn gụbl i'styriaụ'r peth, a fo oi studiaụ. Eithr tra fom yn myned rhyd y fath lụybr mae'n anaụd i'r meḍụl selyfyn ystig ar ḍim yn y byd rhụng edrych dan draet rhag tripio, a chyfarch gụel i'r phor ḍolion syḍ gimaint [Page 85] o honynt yn cyfarfod a ni. Amhyn­ny harḍach yn oedi'r peth, a gobeithio y denfyn duụ fan ag amser cymhessu­rach i son am yrheini ag iụ dosparth yn fanụl.

Mo.

Bodlon, ar hydr feḷy cael diụrnod i'mryssymu ynghylch cy­fiach. syḍ nessaf ụrth gụrs yn canlyn, mi a gloụn arnaf oedi y rhann honno tros heḍyụ. Ond rheir iaụn gēnyf ḍis­gụyl am ḍiụrnodiau ynol hynny i fy­ned truy'r ḍụy golofn eraiḷ ag anhoụssed ych cael chụi aḷan o'ch phau tra fo'ch meistr yn ych cadụ i meụn cyn gaethed. Amhynny bụrụch megis go­ụni ar gystrauiæth, a thonyḍiæth i dor­ri peth ar fymlys i, rhag ym goḷi fyme­ichiogi.

Gr.

Nid iaụn i mi naghau i chụi ḍim a ofynnoch ymy: gan nad oes ḍim ar fy helụ ond a gefais truochụi. ni a nodụn bụnc ne dau ymhob vn o'r [Page 86] ḍụy; erbyn ḍarpho hynny ni a fyḍụn ymhē y dref, mal na aḷom siarad mụy yn gyntaf dim rhaid yụ deaḷt, mae ụr­th y ḷythrennau gụreiḍiol, cyrchriaụl, ai cyrchfau y rhoir y rhann fụyaf o'r rheoledigaethau i gystranenu'r gym­raeg yn gynhordiaụl. Amhynny onis medrir yn rhugl, ag yn fyfyry dosparth a ụnaethom o'r blaen ar yrhain, y. 40. ḍolen nid gụiụ amcanu ar ḍim yn y gystraụiæth fruttanụl.

Mo.

A oes yn y gymraeg dri chynghordiad megis meụn ieithoeḍ erail.

Gr.

Oes vn rhūg y ferf ai henụedigaụl, araḷ rhụng yr henụ damụeiniaụl ai sylụeḍaụl, y try­dyḍ rhụng y cofhadigaụl ai flaenor.

Mo.

A. guttuna'r ferf bob amser ai henụedigaụl meụn rhif, a pherson?

Gr.

cyttuna, odieithr veithiau y dry­deḍ berson liossog. Canys yn fynych he­nụ [Page 87] ḷiossaụg a ụasnaetha i ferf o'r rhif vnig, ond rhaghenu pa berson bynnag fo, a fyḍ vn rif, a pherson ai ferf bob amser, mal, doeth y gụyr adref, diēga­ụḍ y cyrcharorion.

Mo.

Beth am he­nụ damụeiniaụl, a fyḍ ef vn genedl, a rhif, ai sylụedaụl bob amser? canys nid oes gan y gymru mo'r achosiaid a eil­u'r ḷadinụyr casus.

Gr.

am y genedl mae'n ḍifaḍe y cyttunant. Ond ụeith­iau e fyḍ y damueiniaụl o rif vnig er bod i ganḷau ar iol, o if ḷiossaug, mal; onḍ gụych y gụyr? ne ond gụchiō y gụ­yr? mae'r rhann fụaf o'r henụau damụeiniaụl heb ragor rhụng gụrụy a ba­nyụ na chụaith rụng vnig a ḷiossog mal; teg. glan. ụeithiaụ e fyḍ y ganlau vnig. a'r damụeiniaụl ḷiossaụg mal tri gụr tair guraig.

Mo.

Bet yụ canlaụ damụeiniaul.

Gr.

I [Page 88] sylụedaụl, a chanḷaụ berf yụ i henụe­digaụl, a chāḷaụ cofhadigaụl yụ i fla­enor.

Mo.

meụn pessaụl peth y cyn­ghordia'r cofhadigaụl ai flaenor?

Gr.

meụn cenedl, rhif, a pherson, mal; mair yrhonn, oeḍ fam ḍuụ; o Iessu yr­hụnn a ḍioḍefaist trossom: myfi'rhụnn a delais amdano, a ḍylụn gael y mar­ch.ag ụeithiau e ụasnaetha; a ne; y, rhagụas berf yn ḷe'r cofhadigaụl; rh­ụn, mal: Christus qui est filius Dei, passus est, pro nobis, Crist y syḍ fab i ḍuụ, a ḍiodefoḍ trossom. Peccator qui con uertetur ad Deum, misericordiā consequetur. y pychadur a dro at ḍuụ a gaiph trugareḍ. Mae yn ḍigon haụd i'r cymru gyfieithu; qui, ne, quem, tra font henụedigaụl ne ḍerbyniaụl i ferf. Onḍ cuius, cui, per quē, a quo syḍ an­hoụssach i troi yn gymreigaiḍ, ag yn [Page 89] gyfattebaụl i'r ladin. Nid oes i ni ḍim yn y cyfryụ leoeḍ ond ceissio adroḍi rh­essum yr ymadroḍ ladin tann gadụ priodoldeb yn hiaith ynhun mal: Deus cuius ē misereri. duụ yrhụnn syḍ ryụ iḍo trugarhau, Ego cuius liber iste est. myfi'rhụn syḍ eiḍof y ḷyfr ne'rneb pie'r lyfr'ne, perchen y lyfr yma. Ego cuius est tibi in omnibus obedire. myfi yrhụn a ḍylụn fod yn vfyḍ yt ymhob peth. arc. Ego cui nemo obedit myfi yrhụn nid yụ neb yn vfyḍ ymy. tu, Cui omnes obe­diunt, tydi y mae paụb yn vfyḍ yt. Ille cui omnia seruiunt. efo y mae pob peth yn gụasnaethu iḍo, ne, y mae pob peth yn i ụasnaethu. fely hefyd; ille a quo accepi: efo, y neb ne'rhụn, y cefais gan­tho. Ego a quo accepisti, myfi, y neb y cefaist gennyf. Tu a quo acceperunt, tydi y neb y coụssant gennyt. Eithr y fath [Page 90] bethau a hynn ni pherthynant at gystraụiæth. Ond at y ḷụybr syḍ ir cymrụ i gyfieithu ḷadin.

Mo.

gụir: ni a son­niụn am hynny amser araḷ. mae'r moḍ ụrth y ḷythrennau syḍ i roi rheoledigæ­thau?

Gr.

yn gyntaf dim, pa ryụ air bynnag a fyno cyrchfa; ò, ar i ol, meụn vn ḷythyren, y gair hụnnụ a fynn yr vn gyrchfa, bid y ụreiḍiol a fynnochụi. Ymbeḷ arḍodiad a ḍyfyn y ụreiḍiol i bob gair, ar i ol, mal: meụn ty, meụn caer. gar ḷaụ gar bron. y rhann fụyaf a fynnāt gyrchfa; o, mal: trụy loegr, tān laụ, ụrth bren, ar gefn, i dy ḍuụ arc. Y dyrbiniaụl, a eilu'r ḷadinụyr Accusa­tiuum patientis, os roir ef yn nessaf ar ol i ferf, a dry i ụreidiol i gyrchfa; o, mal: guelais ferch; curais ụr, canoḍ bē nil, etto os byḍ y ferf o'r moḍ āherfyn­nedig ni sylf y ụreiḍiol mal: gụeled merch; [Page 91] curo gụr Canu penniḷ. Ond pā ro­ther arḍodiad, ne rhagụas, ne raghe­nu rhụng y ferf ai dyrbyniaụl, y gyrchfa a fyḍ ynol y gair hunnụ nid ynol naturiæth y ferf mal: torri pen, torri i pē nau nhụy, i phenn hi, i benn ef, fymheni, canu pēniḷ canu, dau bennil, canu tri phennil, canu ar delyn, canu a the­lyn, canu fynhelyn. ai gụir ḍarfod iḍo daro gur? ai gụir daro honofe ụr

Mo.

pa eiriau a fynnant gyrchfa, ò

Gr.

pob arḍodiad ganmụyaf, y rhaghenụ, dy, mal: dy laụ, a laụer o eiriau eraiḷ syḍ reir i cyfrif ar hyn o amser pob peth a prisir a gaiph ụreiḍiol i bris ar i ol mal pot ceiniog, march trigain, menig dụy geiniog. feḷy y peth a perchnogir am i berchennog. lyfr Gruphyḍ merch daf­yḍ, ond pāroḍer gair araḷ rhyngthynt hunnụ a fynn i gyrchfa mal ḷyfr i ru­phyd, [Page 92] merch i ḍafyḍ, ty i ḍuụ.

Mo.

di­gon yụ hynn yroụrō am gystrauiæth ni a luniụn ụrth yrhain reoledigæthau eraiḷ pan gapher mụy o ennyd a ḷonyḍ.

Gr.

os byḍ anaụḍ gụybod meụn rhyụ eiriau pa ḷythyren syḍ ụreiḍiol, rhoer; a, ne; o, o i flaē, ag ụrth y gyrchfa e fyḍ eglur y ụreiḍiol. mal: dā, gan, gida, be­th, mal: arno a thano gennyfi, a chan fymrraụḍ. A pheth syḍ yna? Pabryd bynnag y bo crech anianaụl yn gyrch­fa; a, ef a fyḍ tromlefn yn ụreidiol: pā fo yscafnlefn yn gyrchfa; o, yụreiḍiol syḍ dromlefn hefyd.

Mo.

mi a ụelaf­urth y dosparth a ụnaethoch o'r blaen ynghylch yḷythrennau cyrch, pa foḍ y mae chụilio am ụraid, a chyrchfa pob gair beḷach rhaid teụi gāyn dyfod i'r dref, pan, ḍelom i'r ty ni a sonniụn air ne ḍaụ am tonyḍiaæth tra fon yn rho i'r ḷien ar y bụrḍ.

Tafụlan o hoḷ dosparth y cys­seimaid, gụreiḍiol, cyrchiaụl, ai chyrchfau. Cyrcfa o, at i iscafnlefnp, bpen,oben.
 t,atdtir,odir.
 c, gcaer,ogaer.
   At dair cyrchfa, megis pob trom­lefn a eiḷ gael.Cyrchfa, a at i chrech­anianaụlp, phpen,aphen.
   t,atthtir,athir.
   c, chcaer,achaer.
    Cyrchfa fy. at i gụestaip, mhpen,fymhen.
    t,atnhtir,fynhir.
    c, nghcaer,fynghaer.
     b, fbuyd,ofuyd.
    Gyrchfa o at i'scafn­grech.d,atdụr,oḍụr.
  Anụadal ne gyrchi­aụl naiḷ ai,At ḍụy gyrcbfa megis pob yscafn­lefn syḍ genthi.g,adaụḍ eisie yscafngre­ch oi theulu ihun.
 Vreiḍiol. s. aḷant fod yn gyntaf meụn gair ar i ben i hun, a rhai o'rhain syḍ   b, mbụyd,fymụyd
   Gyrchfafy. at i gụestaid,atndur,fynụr
   g, nggụlad,fyngụlaḍ
    ḷ, lḷaụ,olaụ
  At vn yn vnig, megis y tair, yma, a fynGyrchfa. o.m,atfmis,ofis
   rh, rrhụyd,orụyd
Or cysseini aid, rhai y syḍ.      phphyḍ,ophyḍ
 Dianụadal, ne anghyrchiaụl, am na chyrchant pan fon gụreiḍiol at lythrennau yn y byd. malchchụyn,ochụyn
 nnad,onad.
       ssir,osir
          
 Angụreiḍiol, am na fydāt fyth gyntaf meụn gair cymraeg, cyn noi roi meụn cymlheth ymadroḍ. malf      
 th     p
 l  tair trom­lefnc
    r  t
   yrhain a fydant ụreiḍiol, ond ni byḍan fyth gyrchfau i vreiḍiol       
       dụy  
         rh

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.