Y Cywyr Ddychwelwr:
Yn dangos y rhifedi bychan or rhai sydd yn gwir gredu.
Y RHAN GYNTAF:
Fod Duw, ar Duw ymma yn dra gogoneddus.
DYmma y gwirionedd duwiol cyntaf, ac mae y ddau ran ymma iw ystyried ynddo ef.
1. Fôd Duw.
2. Fôd y Duw ymma yn dra gogoneddus.
Myfi a ddechreuaf ar y rhan gyntaf, ac a brofaf (gan adel heibio [Page 2]lawer o ddadleuon Philosophyddaidd) fod Duw, iê gwir Dduw; Canys pôb cenedl yn y byd ganmwyaf hyd ddyfodiad Christ, oedd ganthynt amryw dduwyaw. Rhai yn addoli r haul, rhai r lleuad, yr hon a alwyd gan Ezeciel, Brenhines y nefoedd, i ba ûn y gwnae rai deisennau, rhai yn addoli r holl nefoedd, rhai yn addoli r tân, rhai 'r anifeiliaid gwylltion, rhai Baal, rhai Molock; Yr oedd gan y Rhufeiniaid (medd Varro) 6000 ô Dduwiau; Y rhai gan garcharu goleuni naturiaeth, a roddwyd i fynu i bechodau yn erbyn naturiaeth; naill ai i addoli delwau o ddychymygiad dŷn, fel y gwna 'r anwybôdus; neu Dduw ac angylion yn y Delwau rhe [...]ni, fel y gwnaeth y rhai dyscedig; Ond y rhai hyn oll ydynt gau Dduwiau.
Yn awr yr ydwyfi i brofi fôd un gwin Dduw, y Bod or pethau sydd yn bôd, neu y Bôd cyntaf. Er bôd profiad y pwngc ymma yn ymddangos yn afraid, o ran mae pawb ganmwyaf [Page 3]yn rhedeg gida r waedd, ac yn dywedyd fôd Duw; Etto ychydig sydd yn credu r pwngc ymma drwyddo; Canys mae llawer o blant Duw (y rhai a allant yn orau adnabod calonnau dynion, oblegid hwynt hwy sydd yn myfyrio ar hynny) yn clywed pwys y brofedigaeth ymma, yn gosod arnynt hwy weithie yn chwerw iawn, (sef) A oes Duw? fe fydd y cythrael weithiau yn cloddio oddi tanodd, gan geisio chwythu i fynu y muriau ar amddiffynfeudd cryfaf; Mae goleuni natur yn dangos fod Duw; ond pa sawlûn sydd, y rhai drwy ei pechodau ffiaidd yn erbyn ei cydwybodau, ydynt yn chwythu allan ac yn diffodd ganmwyaf holl oleuni natur? Ac oddiyma er na feiddiant hwy derfynu nad oes un Duw, oblegid bôd pêth goleuni ganthynt er ei fôd ef yn dywyll; Etto pe gwelent hwy ei calon, hwy a allent weled ei bôd hi yn ddirgel yn ammau ac yn ymholi, A oes Duw? Ond gadewch na bo nêb yn [Page 4]ammau 'r gwirironedd ymma, Etto nyni y rhai ydym adailadwyr, ni ddylaem ni fyned ynghyd a gwaith, heb ein hattegion an colofnau pennaf: fe all gan hynny ymddangos fôd Duw oddiwrth y sylfaenau hyn.
Yn gyntaf, Oddiwrth weithredoedd Duw, Rhuf. 1.20. Pan welom ni dŷ teg, er nad ydym ni yn gweled y gwr ai adailadodd ef, er nad ŷm ni hefyd yn gwybod yr amser yr adailadwyd ef, etto nyni a derfynwn fel hyn; yn siccir fe fu ymma ryw un doeth cylfyddgar yn gweithio; ac a allwn ni pan edrychom ni ar olygfa dêg y nefoedd ar ddaiar, derfynu yn amgenach, nad bûs, braich, a doethineb Duw y fu yn gweithio ymma; er nad ydym ni yn gweled yr hwn sydd anweledig, ac er nad ydym ni yn gwybod yr amser y dechreuodd efe adeiladu? Pôb creadur yn y nêf ar ddaiar sydd bregethwr croch or gwirionedd ymma: Pwy a osododd ŷ cannhwyllau, ar goleuadau rheini yn y [Page 5]nefoedd? Pwy a grogodd allan y llusernau rheini yn y nêf i oleuo r bŷd tywyll? Pwy a feidr wneuthur corpholaeth dyn, ond un cadarnach nar garreg allan o ba un y naddwyd ef? A fedrai neb lunio dyn, ond un doethach, a mwy na dyn? Pwy a ddyscodd ir adar adailadu ei nythod, ac ir gwenyn osod i fynu a threfnu ei gwladwriaeth? Pwy fydd yn danfon yr haul mor gyflym or naill gwr ir nefoedd ir llall, gan ddwyn gidaf ef gimmint miloedd o fendithion i gimmint miloedd o deyrnasoedd a phobloedd? Pa allu o eiddo dyn neu Angylion a allei wneuthur y glaswelltyn lleiaf, neu roddi hoedlir gwybedyn lleiaf, wedi iddo farw unwaith? Y mae ganhynny allu vwch law pôb gallu creuedig, yr hwn yw Duw.
Yn ail, oddiwrth air Duw; Mae r fath fawrhydi yn ymgynhyrfu, ar fath ddirgelwch wedi ei ddatcuddio yn y gair, oni bydd dynion yn ddeillion oi gwirfodd, nid allant hwy lai na gweiddi allan, lleferydd Duw, [Page 6]ac nid ll [...]f [...]rydd dŷn. Oddiymma y mae Caluin yn cymmeryd arno brofi drwy reswm yn erbyn yr holl rai di-dduw tan y nefoedd, fod yr ferythyr yn air Duw. Oni thybygaist di weithiau fôd y pregethwr ar ei bregeth yn dywedyd wrthit ti, ac nid wrth neb arall ond wrthit ti, gan bennodi y pethau y ddywedesit ti, ar pethau a feddyliaist di? Yn awr y gair hwnnw sydd yn dywedyd iti feddyliau dy galon, nid all fod ddim arall ond gair Duw yr hwn sydd yn gweled pôb pêth, ac yn chwilio r galon, H br. 4.12, 13. Drachefn y gair sydd yn bywhau r marw, sydd air Duw yn siccir, ond gair Duw yn gyffredinol drwy ei bregethu, yn nerth yspryd Duw, sydd yn bywhau r marw, mae efe yn gwneuthur ir dall weled, ir mûd ddywedyd, ir byddar glywed, ae ir cloff rodio, ar rhai ni chlywsant erioed ei pechodau yn ei llwytho, i alaru oi plegid, y rhai ni fedrent weddio erioed or blaen, i anadlu allau ochneidiau anrhaethadwy am ei pechodan.
[Page 7]Yn drydydd, oddiwrth y plant a anwyd o Dd [...]w; Canys ni allwn ddarllain yn nhalcennau dynion, er cynted ac y ganer hwynt y farn o farwolaeth.
Ac ni allwn weled drwy fucheddau dynion, pa galonnau uffern ol sydd ganthynt hwy; Canys pôb pren a adwaenir wrth ei ffrwyth, Matth. 12.33.
Yn awr mae amser yr hollawl newidir ac y gwneir o newydd rai or hilogaeth uffernol ymma o ddynion; Ac yna mao ganthynt hwy feddyliau newydd, opiniwnau newydd, deisyfiadau newydd, gweddiau newydd, llawenydd newydd, tristwch newydd, ymadroddion newydd, bucheddau newydd; 2 Cor. 5.17. ar fath ragoriaeth rhwng yr rhain ac eraill, hyd onid ydynt yn cael ei casau gan y rhai ai carei hwynt yn fawr tra fuont hwy yn caru ei pechodau, Ioan. 15.18, 19. O ba le y daeth y cyfnewidiad rhyfeddol ymma? Ai o honynt hwy ei hunain y mae ef? Nage; oblegid hwy [Page 8]a fuont yn casau y fywoliaeth newydd ymma, ar dynion newydd ymma unwaith ei hunain. Beth ynte? Ai fel y gallent hwy gael parch drwy hynny? Nage, maent hwy yn cael ei casau gan dadau a mammau a cheraint, ac yn cael ewyllysio yn ddrwg iddynt ymbôb man. Ai o eisiau synwyr y mae hynny, neu ydyw ei mennyddiau hwy wedi syfrdanu? Hwy a fuont unwaith yn ffyliaid ac myfi a brofaf ei bôd hwy oll yn ffyliaid yn ôl cymmeriad Solomon: Ond fe a adnabuwyd dynion ffol i fod yn ddoethach am y bŷd iw drin ef i Dduw, ac nid iw pleserau ei hunain, ar ôl ei gwneuthur hwynt o newydd. Ond yn ddiweddaf, ai caethiwus ofn uffern sydd yn gweithredu r cyfnewidiad ymma? Nid felly chwaith; maent hwy yn ffieiddio byw fel carcharorion a chaeth weision yn y cosp-dy i wneuthur pob peth wrth y fflangell.
Yn Bedwerydd, fe a wyddir fod Duw, oddiwrth yr yscryfennydd (ydd [Page 9]ymhob dŷn, sef cydwybod dŷn; Yr hon sydd yn dywedyd fod Duw; Ac er gallel o rai ei distewi hi weithiau, etto yn amser taranau, neu ryw blâ mawr arall, megis Pharaoh, neu ar ddydd marwolaeth; yna maent yn agos at frawdle Duw, pan fônt hwy yn ei gydnabod ef yn eglur. Dychryniadau ofnadwy y gydwybod sydd yn profi hyn, yr hon sydd fal swyddog y fae yn arrestio dynion am ddyled; gan hynny, mae rhyw echwynwr yn ei gosod hi ar waith; weithiau y mae hi yn debig i ddihenyddiwr y fae yn poeni dynion, gan hynny, mae rhyw farnwr rhyfedd a roes iddi y gorchymyn hwnnw. O ba le y mae r dychryniadau ofnadwy ymma yn codi mewndynion? Ai o honynt ei hunain? Nage yn siccir, mae pawb yn ewyllysio bod mewn heddwch, ac felly byw, a chysgu mewn croen cyfan. Ai Melancholi sydd yn ei beri? Nage; Canys mae Melancholi yn dyfod o fesur ychydig, Ond dychryniadau r gydwybod sydd yn ymaflyd [Page 10]yn yr enaid yn ddisymwth ar bregeth, neu ar ôl gwneuthur rhyw bechod yn y dirgel. Drachefn fe all Physygwriaeth iachau r pryddder Melancholaidd ymma? Ond mae llawer o Physygwyr wedi rhoddi r dynion ymma i fynu att Physygwyr eraill. Fe a ellir cydddwyn ar prydd-der Melancholaidd ymma, ond yspryd briwedig pwy all ei oddef? Dih. 18.14 fal hyn chwi a welwch fôd Duw.
Gwrthddywediad. Pwy erioed a welodd Dduw, fel y gallei bôb dyn fel hyn fôd cyn hyfed a dal allan fod Duw?
Atteb. Yn wir ni welodd un dŷn marwol wyneb Duw erioed, ond y tu cefn iddo ef a welwyd, sydd iw weled, ac a ellir i weled gan yr holl fŷd, megis ac y profwyd or blaen.
Yr ydis yn dwyn pob pêth i ben drwy ail achosion.
1. Beth er hynny? Ai nid oes ûn perchennog yn y ty, o ran bod y gweision yn gwneuthur yr holl orchwyl? Mae r Duw mawr ymma yn dal i fynu ei fawrhydi wrth wneuthur y cwbl ôll drwy ddarostyngiad [Page 11]y creaduriaid; etto weithiau ni allwn weiddi allan (wrth edrych ar ryw ddarnau enwedigawl oi waith ef ei hun,) Dymma sy s Duw.
2. Beth er bod y fath anrhefn yn y byd, a bôd sylldau yn sefyll am genhiogau, a chwntrysau yn sefyll am bunnoedd, y gwyr gorau yn cael ei prynnu ai gwerthu am iselbris, a rhai gwaeth na hwynt yn cael ei cyfrif ai cymmeryd oi blaen hwynt; Etto pe bae gennym ni lygaid i weled, ac i amgyffred y peth fel ac y mae ef, ni a gaem weled cyssondeb mawr yn yr anghyttundeb ymma o bethau. Duw sydd yr awr hon, fel saer doeth, yn naddu allan ei waith. Mae cymmysgedd ac anghydfod (dybyge rai) yn ein plith ni, ond gadewch ini aros hyd ddydd y farn, ac ni gawn weled anherfynol ddoethineb Duw yn eymhwyso r holl gwbl ymma iw ogoniant ei hun a daioni ei bobl ddewisol.
Gwrth. Ond os oes Duw pam nad yw efe yn gwrando gweddiau ei bobl? Paham [Page 12]y mae efe yn ei gollwng hwynt yn angof pan fo rheittiaf iddyn [...] hwy wrtho ef?
Atteb. Yr wyfi yn atteb; Nid yw colomen Noah yn dychwelyd yn ddiattreg a deilien oliwydden o heddwch yn ei ffig. Gweddi weithiau er iddi ffynnu yn dda, nid yw yn dychwelyd yn ôl yn bryssur, naill ai o eisiau cwmnhi ddigon i ddwyn ymmaith yr helaethrwydd o drugareddau sydd gan Dduw iw rhoddi. Mae r Arglwydd yn wastad yn rhoddi iddynt ei gofynniad, naill ai yn arian ai yn werth arian, naill ai r peth a ofynant, neu beth a fytho gwell. Mae r Arglwydd bob amser yn rhoddi ir rhai sydd daer arno ei dymunniadau, naill ai o fesur ychydig ac ychydig (megis yn genhiogau) neu o fesur punnoedd; Hîr y bydd efe lawer amser cyn iddo roddi, ond efe a dâl iddynt hwy am ei disgwyliad.
Dymma ddefnydd o argyoeddiad ir holl rai di-dduw mewn opiniwn neu ymarfer.
[Page 13]Yn gyntaf, mewn opiniwn, y fath ac sydd yn terfynu, neu yn drwg dybied nad oes Duw. Oh feddyliau cablaidd! Oes y fath ddynion? Dynion! Nage anifeiliaid, nage cythreuliaid, nage gwaeth na chythreuliaid, Oblegid maent hwy yn credu ac yn crynnu, Jago 2.19. Etto r ynfyd a ddywedodd yn ei galon nid oes un Duw, Psa. 14.1. Dynion a chanthynt bennau bychain, ac ychydig wydodaeth, heb galonnau (fel yscolheigion a gwan fennyddiau, wedi cyfarwyddo yn unig gan ei llyfrau) yn gweled y modd y mae pethau yn dyfod drwy ail achosion, Etto nid ydynt yn gallu derchafu i fynu ei meddyliau hurtion i edrych ar yr achos cyntaf. Dynion dichellgar cyfrwysddrwg ydynt debig i blant y fae yn sefyll ar ei pennau bôb amser, ac yn yscwyd ei sodlau yn erbyn y nef; Mae y rhai hyn yn tybied nad yw ffydd ond darn o gyfrwystra, i gadw pobl mewn ofn: 2. Cro. [...] 5.16. Dynion halogedig yn ewyllysio myned ymlaen yn ei pechodau, [Page 14]heb na rhwystr na senn am bechod, sydd yn diffodd holl oleuni naturiaeth, gan ddymuno na bae un Duw iw cospi hwynt, ac am hynny yn ewyllysgar i ddrwg dybied ac i ammau nad oes un Duw, ac nad yw y peth yn bôd fel ac y mae efe yn siccir. Yr un ffunyd y rheini hefyd a bechasant yn ddirgel, er nad yn amlwg yn erbyn naturiaeth, neu oleuni cydwybod; Mae Duw yn târo dynion am aniweirdeb, am odineb, am sodomiaeth, am hunan halogedigaeth, a thrwch ddallineb; Y rhai hefyd sydd hynod fydol, ac heb fod yn edrych ddim vwch nai hysguboriau, dim pellach nai siopau; y bŷd sydd faen gwerthfawr yn ei golwg hwynt; Y rhai hyn ni allant ganfod Duw.
Yn ddiweddaf, yr wyfi yn drwg dybied y dynion rheini ni chawsant allan erioed y lleidr ymma, y pechod ymma, yr hwn a aned ac a faged gida hwynt, ac heb ei weled ef erioed etto yn ei calonnau, mae efe yno yn llechu yn ddirgel mewn [Page 15]rhyw gongl dywyll or enaid ar fryd torri ei gwythi gwaed hwynt.
Y fath ymma o ddynion sydd weithiau yn ammau nad oes ûn Duw. O dymma bechod gofidus; Canys onid oes ûn Duw, yna nid oes na nef, nac uffern, na merthyron, na Phrophwydi, nac scrythyrau: Yna yr oedd Christ yn gelwyddog, ac yn dwyllwr: Mae pechodau eraill yn gwneuthur cam ac yn cythruddo Duw, ac yn ei friwo ef, ond mae r pechod ymma megis yn brathu hyd att galon Duw, ac yn taro att ei fywyd ef, ac am gimmint ac sydd yn sefyll mewn dyn pechadurus, yn farwolaeth i Dduw: Oblegid mae efe yn dywedyd, nid oes un Duw. Yn ail, mae hyn yn argyoeddi y rhai di-dduw mewn ymarfer, y rhai sydd yn dywedyd fôd Duw, ac heb ammau hynny, ond yn ei wadu ef ar ei gweithredoedd.
Yr hwn a dynnei r brenin oi orseddfaingc, sydd cynddrwg ar hwn a ddywed, nad yw efe frenin. Mae r' dynion ymma gan mwyaf cynddrwg [Page 16]ar rhai sydd yn meddwl nad oes un Duw: ni a gawn oddiwedd y fath bentyrrau llychlyd ar rhain ymhob congl, y rhai yn ei hymarfer a wadant Dduw. Dynion a osodant ei fynu dduwiau eraill yn lle Duw, sef, ei cyfo [...]th, ei hanrhydedd, ei difyrrwch, ei pleser, ei boliau, ai cefnau, i fôd yn dduw iddynt: Dynion cyn hyfed a gwneuthur yn erbyn y gwir Dduw yr hyn ni feiddiai Delwaddolwyr, i wneuthur yn erbyn ei delw Dduwiau, hynny ydyw, gwneuthur cam ac ef yn wastadol; Dynion heb geisio r hyn ôll sydd arnynt ei eisiau drwy weddi, gan Dduw, na dychwelyd yn ôl y cwbl drachefn i Dduw drwy ddiolchgarwch.
Yr ail defnydd sydd, er cyngor. O ymegniwch i weled ac i ganfod y gwir Dduw ymma.
A oes Duw, ac oni edrychi di arno ef yn hwylus? O dôs heibio ir holl afonydd, hyd oni ddelych di att y ffynnon o ba un y maent yn tarddu; Cerdda drwy yr holl greaduriaid hyd oni byddech di wedi boddi, [Page 17]a soddi, ath dynnu i lawr, ath lyngcu ei fynu gida Duw. Pan welych di r nefoedd, dywaid, pa le y mae r adailadudd mawr a wnaeth y rhain? Pan glywech di sôn am ryfeloedd a therfyscoedd mewn teyrnasoedd, dywaid, Pa le y mae Arglwydd y lluoedd, pen tywysog y byddinoedd ymma? Pan brofech di felyster yn y creaduriaid, neu yn ordinhadau Duw, dywaid, pa le y mae y melyster ei hun, y prydferthwch ei hun? Pa le y mae r môr, o ba un y mae y defnynnau ymma yn dyfod? Oh na wele ddynion y Duw ymma, bod yn y nêf ydiw edrych arno ef; yr wyti gan hynny ynghongl uffern, onid elli, onid wyt yn ei weled ef; Ac etto beth a adwaenir yn llai nac yr adwaenir Duw? Myfi a dybygwn pan glywe ddynion fôd Duw oi hamgylch hwy, neu mor agos attynt, y dylaent ymdreiglo yn y llwch oblegid ei ogoniant ef; Pe gwelai ddynion ef, hwy a lefarent am dano; Pwy sydd yn llefaru am Dduw? Nage, ni feidr dynion [Page 18]lefaru am Dduw nac wrth Dduw, ond fel y dyscodd rhai yn cardotta ei haraith, felly mae llawer dŷn gwedi dyscu gweddio.
Oh nid oes mo ddynion yn gweled Duw mewn gweddi, am hynny ni fedrant lefaru wrth Dduw drwy weddi. Mae dynion yn pechu, a Duw yn gwgu, yr hyn a wneiff ir cythreiliaid grynnu, Etto ni chrynna calonnau dynion, oblegid nad ydynt yn gweled Duw.
Oh dewis y Duw ymma i fôd yn Dduw i'ti. Beth er bôd Duw, oni bydd ef yn Dduw i'ti, ni byddi di gwell? I lawr gan hynny ath holl Ddelw-Dduwiau, a gosod i fynnu y Duw ymma. Os oes ûn creadur a wnaeth erioed ddaioni i'ti, yr hwn ni osododd Duw ef ar waith er daioni iti, câr hwnnw, a meddwl am dano ef megis dy Dduw, os oes dim all roddi i'ti gymmorth ar dy glaf-wely pan fyddech di yn treng neu pan fych di gwedi ymadel ar bŷd ymma, cymmer hwnnw i fôd yn Dduw i'ti, Ond nid oes [Page 19]dim a wnaeth ddaioni i'ti, nag a all fôd yn gymmorth i'ti yn dy ddydd olaf, ond Duw, ac am hynny car ef, dewis ef i fôd fyth yn Dduw i'ti.
Di allesit fôd wedi dy eni yn yr India, ac heb glywed erioed oddiwrth y gwir Dduw ymma, ond bôd yn addoli r cythrael megis dy Dduw. O gan hynny dewis ef yn unig i fôd yn Dduw i'ti; Dyro dy hun yn hollawl ac fyth iddo ef, ac fe ai rhydd ei hunan i ti yn dragywydd. Cais ef drwy wylofain ac di ai cei ef. Rhwym di dy hun drwy r cyngrair, ar rhwymedigaeth cryfaf mewn cyfammod, i fôd yn eiddo ef, ac fe a eiff mewn cyfamod ath di, ac felly i fod yn eiddoti, Jcr. 50.4.5.
Y pedwerydd defnydd, sydd ddefnydd o gyssur ir rheini sydd yn ymadel ar cwbl er mwyn y Duw ymma: Ni theflaist di ymmaith sylwedd am gysgodau, ond Cysgodau am ryw beth, Diha. 8.18. Pa [...] ballo pôb diddanwch iti, mae Du [...] ith ddiddanu di. Pan fych di heb [Page 20]gael dim gorphywystra ymma, mae Duw iti i orphywys arno. Pan fych di wedi marw, fe all Duw dy fywioccau di; Pan fych di yn wann, mae Duw yn gadarn: Pan adawo dy holl gyfeillion dydi, fe fydd Duw yn gyfaill siccr i'ti.
Hyn ymma am y rhan gyntaf or athrawiaeth, neu r gwirionedd duwiol ymma, sef, fôd Duw: Yn awr y mae yn canlyn ddangos i'chwi fôd y Duw ymma, yn Dduw tra gogoneddus, a hynny mewn pedwar peth; Sef
- 1. Yn ei HANFFOD.
- 2. Yn ei BRIODOLIAETHAU.
- 3. Yn ei BERSONAU.
- 4. Yn ei WEITHREDOEDD.
1. Mae efe yn ogoneddus yn ei hanffod.
1. Yn awr, beth yw y gogoniant ymma, ni bu, nid oes ac ni bydd fyth nac Angel, na dyn a gaiff wybod; [Page 21]nid all ei cregin bychain hwynt, gynnwys ynddynt y môr mawr ymma o hanffod Duw; Rhaid iddo fôd gantho ddoethineb Duw, ac felly bôd yn Dduw ei hun, cyn y cynhwyso efe hanffod Duw: Ond er nad ellir amgyffred, beth ydyw, etto ni allwn ddeall, ei fôd ef yn gyfryw ac nad ellir ei amgyffred ef, ac yn dra-gogoneddus; yr hyn a bair iw ogoniant ef fôd yn fwy rhyfeddol. Megis ac yr ydym ni yn rhyfeddu yn fwy wrth ddisglairdeb yr haul, o ran ei fôd ef yn gimmint ac nad allwn ni edrych arno ef.
2. Mae Duw yn ogoneddus yu ei briodcliaethau, y rhai ydynt ei dduwiol Berffeithiadau neu gyflawnderau ei berffeithrwydd ef, drwy ba un y mae efe yn ei wneuchur ei hun yn adnabyddus i'ni. Yr hyn briodoliaethau nid ydynt gyneddfau yn Nuw, ond ei naturiaeth ef, Doethineb Duw, ydiw Duw ei hunan, gallu Duw ydiw Duw ei hunan, &c. Nid yw ei briodolaethau ef amryw bethau [Page 22]yn Nuw, ond maent yn amryw yn unig oblegid ein dealltwriaeth ni, ac o ran ei hamryw weithrediadau ar amryw bethau. Duw yn cosbi r annuwiol ydiw cyfiawnder Duw: Ond cymmeryd trugaredd ar y truan, ydiw ei drugaredd ef: Yn awr Priodoliaethau Duw ydynt y rhai hyn.
1. Yspryd yw efe, neu Dduw ysprydol, Joan 4.24. gan-hynny mae efe yn ffieiddio pob addoliad, a phob dyled-swyddau a gyflawnir, oni byddant yn ysprydol, neu drwy rinwedd ei yspryd ef. Sef pan fych di yn cyfaddef dy bechodau heb na pryddder na chywilydd, neu yn dywedyd dy bader heb ddealltwriaeth, neu yn gwrando r gair yn unig fel y gellych di wybod mwy, ac nid fel y gellych di garu Duw yn fwy; Oh yr yscerbydau ymma o ddyled-swyddau, sydd aberthau câs ger bron yr Arglwydd.
2. Mae efe yn Dduw byw, drwy yr hyn y mae ef yn byw o hono ei hun, ac yn rhoddi bywyd i bôb peth [Page 23]arall. Cais fyned gan hynny ath galon farw att y gwreiddin ymma o fywyd ith fywhau di fel y gallo ei nerth holl alluog ef dy dynnu di oth fedd, a dattod dy amdo fel y gellych fŷw.
3. Mae efe yn Dduw anhersynol, drwy yr hyn y mae efe heb derfynau o hanffod, 2 Cron. 6.18. Ofnadwy gan hynny ydiw y pechod lleiaf sydd yn târo att y fath Dduw mawr anherfynol a hwn; Gofidus gan hynny ydiw cyflwr yr holl rai y mae r Duw ymma yn ddigllon wrthynt; mae anherfynol ddaioni ith adel di, a gallu a digofaint anherfynol iw osod yn dy erbyn di. Edrych gan hynny am ymgymmodi a Duw.
4. Mae efe yn Dduw tragywyddol, heb na dechreu na diwedd ar ei fôd ef, Psa. 80.1. Mawr gan hynny ydiw ynfydrwydd y dynion rheini sydd yn dewis ychydig bleser byrr o flaen y Duw tragywydol ymma, yn debig i Esau yn gwerthu ei dragywydol anedigaeth fraint am ychydig [Page 24]gawl côch, am wael drachwant y bŷd ai bleser.
5. Mae efe yn Dduw holl-ddigonol, Genes. 17.1. Beth sŷdd arnoch chwi ei eisiau y rhai a fynnech gael y Duw ymma, a chariad y Duw ymma, ond mae yn anhawdd gennych chwi gymmeryd y boen iw geifio, neu fyned ir draul iw bwrcasu ef a cholled or cwbl? Ymma y mae tragywyddol, anfesurol, a phrefennol hyfrydwch, Daioni, gras, gogoniant, a thrugaredd, iw gael yn y Duw ymma. Paham y cerddwch chwi o fynydd i fryn, Paham y gweriwch eich arian, eich meddyliau, eich amser, eich egni, ar bethau ni ddigonant monoch?
Dymma y lle i'ti i orphywyso, sef, ar Dduw. Fe all dy ddillad dy gynhesu dí, ond nid allant dy borthi di; fe all dy fwyd dy borthi di, ond nid all ef dy iachau di; fe all Physygwriaeth dy iachau di, ond nid all Physygwriaeth moth faentimio di; fe all dy arian dy faentimio di, ond nid allant dy gyssuro [Page 25]di, pan ddelo cyfyngder cydwybod gofid calon arnati; Ond y Duw ymma sydd lawenydd mewn pryddder, goleuni mewn tywyllwch, bywyd mewn marwolaeth, nef yn uffern. Ymma y mae r hyn oll a welodd dy lygad di erioed, yr hyn ôll a ddymunodd dy galon di erioed, ac a ddychymygodd dy feddwl di erioed. Goleuni i gid sydd yn yr haul ymma, dwfr i gid sydd yn y môr ymma, allan o ba un fel o ffynnon o rissial, y cei di yfed puredig felyster yr holl greaduriaid yn y nef ar ddaiar yn dragywyddol. Mae r holl fŷd yrowan yn chwilio ac yn ceisio iddynt ei hunain orphywysfa, ond ymma yn unig y mae hi iw chael.
6. Mae efe yn Dduw hollalluog, drwy yr hyn y gall efe wneuthur a fynno, ymrowch gan hynny iddo ef, ac na sefwch mewn pechadurus, neu gyfrwys gynhaliad o un pechod yn erbyn y Duw ymma r hwn sydd mor alluog, ac y gall efe dy falurio di wrth ei ewyllys.
[Page 26]7. Duw yw efe yn gweled y ewbl; efe a wyr beth bynnag a ellir ei wybod; gan hynny gosod di dy hun yn brofedig ir Duw ymma yn unig yn dy holl ffyrdd, 2 Tim. 2.15. Nid waeth beth a ddywedo a farno neu a feddylio dynion am danati, nid waeth bêth a dybio dy gyd-chwaryddion di ar olygfa y bŷd ymma am danati; Duw yw y golygwr mawr sydd yn dy ganfod di ymhôb lle. Duw yw yr hwn sydd yn edrych arnati, ac yn cymeryd ystyriaeth gyflawn o holl weithredoedd dy fywyd di; ac maent gwedi ei printio yn y nêf, ar golygwr ar barnwr mawr ymma ai hegur hwy ar ddydd mawr y farn ddiweddaf, ac ai derllyn hwynt yn amlwg lle y clywo r holl fŷd. Ofna gan hynny bechu yn ddirgel, oni fedri gael rhyw dwll tywyll lle ni bo llygaid yr Arglwydd yn gallu dy ganfod di; (peth ni chei di byth.) Job 34.21, 22. Alara gan hynny am dy ddirgel esceulusiad o ddyledswyddau sanctaidd. Alara am dy [Page 27]ddirgel-ragrich, dy butteindra, ath halogedigaeth, ac a chywilydd yn dy wyneb tyred o flaen y Duw ymma am bardwn a thrugaredd; a rhyfedda oblegid ei ddioddef-garwch ef, ac efe yn dy weled di na fuasei efe yn dy ddamnio.
8. Mae efe yn Dduw g [...]irwir, drwy yr hyn y mae efe yn meddwl gwneuthur fal y mae efe yn dywedyd, gwybydded pôb plentyn i Dduw hyn iw gyssur; mae pa beth bynnag sydd gantho efe dan addewid, y cyflawnir hynny iddo ryw ddydd. A gwybydded yr holl ddynion drygionus, mae pa fygythion bynnag a adroddodd Duw, pa saethau bynnag sydd ar ei linin ef, hwy a ehedant allan ryw ddydd, ac a gyrhaeddant, ac a darawant yn ddwfn, a pha hwyaf y bo r Arglwydd yn tynnu yn ei sŵa, dyfnaf y fydd briw ei saeth ef, (hynny ydiw ei fygythion ef.)
9. Mae efe yn Dduw sanctaidd, na fydded arnati gan hynny gywilydd o sancteiddrwydd heb yr hwn ni [...] [Page 28]neb wyneb yr Arglwydd, Hebr. 12.14. Yr hwn sancteiddrwydd eiff vwchlaw gonestrwydd cyffredin y bŷd, fe ai cyfri y bŷd dall ef yn wallgof ac yn ynfydrwydd: Os braidd yr achubir y cyfiawn (hynny ydiw, y rhai sancteiddiolaf) Pa le yr ymddengys yr anuwiol ar pechadur, 1 Pet. 4.18. Pa le? Nid oflaen Angylion, na Seinctiau, o ran sancteiddrwydd ydiw ei celfyddyd hwy, nid o'flaen wyneb y dyn Christ Jesu, canys sancteiddrwydd oedd ei fwyd ef ai ddiod, Joan 4.34. Nid oflaen y Duw sanctaidd, oblegid sancteiddrwydd ydiw ei naturiaeth ef, Leui. 11.44. Josh. 24.19. Nid yn y nêf, canys ni ymlusga yno ddim aflan, Datc. 21.27. Esa. 35.8. Ni welant byth na Duw, na Christ, nac Angylion, na Seinctiau, na nêf iw diddanwch, y rhai nidydynt sanctaidd. Gwisc gan hynny yrowan megis dy goron, yr hyn a fydd dy ogoniant di yn y nef, ar ol y bywyd ymma: Os bod yn wael yw hyn ynghyfri r [Page 29]bŷd, bydd etto yn waelach, 2 Sam. 6.22.
10. Mae efe yn Dduw cyfiawn a thrugarog; cyfiawn ynddo ei hun, ac felly efe a gosbiff bob pechod; Trugarog yn wyneb Christ, ac felly ni chosba ef ûn pechod yn ei blant, gan ddarfod iddo ef yn barod ddwyn ein cospedigaethau ni am danynt. Duw cyfiawn yn erbyn pechadur ca [...]on galed, a Duw trugarog tuag att bechadur edifeiriol. Nid yw Duw, yn drugaredd i gid, ac heb ddim cyfiawnder, nac yn gyfiawnder i gid heb ddim trugaredd. Ymddarostwng iddo, ai drugaredd ath gofleidia di; gwrthwyneba ef, ai gyfiawnder ath erlid ti. Pan fo plentyn ei Dduw wedi ei wirddarostwng, yn gyffredinol mae efe yn gwneuthur Duw yn Dduw calon galed creulon, anodd gantho faddeu, Ac a ddywaid, a all y fath bechadur a myfi gael maddeuant? Ond mae r dŷn drygionus sydd erioed heb ei ddarostwng yn gwneuth [...] Duw yn Dduw o gadachau [...] [Page 30](er iddo ddywedyd geiriau trymion, etto mae efe yn Dduw trugarog, ac) ni wna fel y mae efe yn dywedyd, ac nid yw yn cael yn waith anodd yn y bŷd iddo gredu cael maddeuant am y pechod mwyaf. Tybiwch gan hynny o honaw ef, (sef o Dduw) i fod ef, fel y clywsoch amdano ef yn y priodoliaethau a henwyd.
Yn drydydd, mae Duw yn ogoneddus yn ei Bersonau, y rhai ydynt dri, y Tad yn conhedlu, y Mâb gwedi ei genhedlu, ar yspryd glan y trydydd Person yn deilliaw.
Ymma y gelwir y Tâd, Tâd gogoniant, Eph. 1.17. Christ a elwir Arglwydd y gogoniant, 1 Cor. 2.8. Ar Yspryd a elwir Yspryd y gogoniant, 1 Pet. 4.14. Mae r tad yn ogoneddus yn ei waith mawr o etholedigaeth; Y mâb yn ogoneddus yn ei waith mawr o brynedigaeth; Ar Yspryd glan yn ogoneddus yn ei waith o gymhwysiad; Mae r Tâd yn ogoneddus yn dewis y tu, y Mâb yn ogoneddus yn [Page 31]prynnu r tu; Ar Yspryd glan yn ogoneddus yn bŷw yn y tu, hynny ydiw, ynghalon pechadur truan edifeiriol, Esa. 57.15.
Yn Bedwerydd, mae efe yn ogoneddus yn ei weithredoedd, yn ei waith o gadwedigaeth yn ei waith o raglinia [...]th, ac o lywodraeth; rhyfedda gan hynny fôd yn wiw gan y Duw gogoneddus ymma edrych ar y fâth bryfed, y fáth dommennydd, y fath wahangleifion ac ydym ni, i raglunio, 1 amddiffin, ac i ladd ei fâb, i alw, i ymegnio, i ddisgwyl, iw roddi ei hunan, ar hyn oll a dâl efe i [...]ni.
O ofnwch y Duw ymma pan ddeloch oi flaen ef mewn gweddi; mae pobl yn dyfod o flaen Duw mewn gweddi, fel o flaen ei cymdeithion, neu o'flaen delw. Nid yw pobl yn crynnu wrth lêf Duw yn ei air; fe fynn Brenin neu Benaeth i wasanaethu mewn parch. Etto mor anhymhoredd ac mor drwysgwl y mae dynion yn myned ynghylch pob dyled-swyddau sanctaidd? Hyn ymma [Page 32]am y pwngc cyntaf a phennaf, fòd ûn Duw tra gogoneddus.
Yn awr yr ydym ni i fyned ymlaen att yr ail.
PEN. II. Ddarfod ir Duw ymma ar y cynt af wneuthur holl ddynol rŷw yn debig iddo ei hun, mewn cyflwr tra gogoneddus a dedwydd.
AThuag at agoryd yr hyn adroddiad myfi a dewisais y testyn ymma, Pregethwr 7.29. Wneuthur o Dduw ddyn yn uniawn. Yr hyn sydd yn dangos yn eglur, wneuthur o Dduw holl ddynol rŷw ar y cyntafyn Adda, mewn cyflwr tra gogoneddus, happus, a chyfiawn; Yr oedd dyn pan ddaeth ef o folt neu o fint Duw yn gyntaf, yn disgleirio yn dra gogoneddus. Mae rhyfeddol ogoniant yn yr holl greaduriaid, (gweision a dodrefn tŷ dyn) gan hynny roedd mwy gogoiant [Page 33]mewn dyn, er mwyn pa un y gwnaethpwyd hwy: Yr oedd Duw yn galw cymanfa ac yn casglu cyngor ynghyd, pan oedd dŷn iw wneuthur; gan ddywedyd, deuwch gwnawn ddŷn ar ein delw ein hun; fel pe buasei holl ddoethineb y Drindod i ymddangos yngrheadigaeth dŷn.
Gwrth. Ymha beth yr ymddangosodd gogoniant a happusrwydd dŷn.
Atteb. Yn derbyn argraffiad Delw Dduw arno ef, Gen. 1.26. a all fod mwy gogoniant i Joseph, iddeiliad, na bod yn debig iw dywysog.
Gwrth. Beth oedd Ddelw Duw?
Atteb. Mae gan yr ysgolwyr ar tadau lawer o holiadau manylaidd, (Etto rhai angenrheidiol) ynghylch hyn, er ei bôd yn gwestiwnau caledion. Ond mysi a adawaf heibio yr eiddynt hwy, ac a fynegaf i'chwi yn unig beth yw barn yr Apostl Paul. Eph. 4.24. Col. 3.10. allah o ba ley cyffredinol ddescrifiad ymma o ddelw Duw a ellir ei gasglu fel hyn Y ddelw ymma yw perffeirhrwydd [Page 34]Dŷn ai sancteiddrwydd, trwy ba un yn unig yr oedd dyn yn rhyngu bôdd Duw.
Canys yr holl greaduriaid eraill, oeddynt yn dwyn nodau ac ôl gallu, doethineb, a daioni Duw, trwy ba rai yr ymddangosodd yr holl briodoliaethau ymma. Ond un or priodolaethau pennaf, sef o sancteiddrwydd, y mynnei Duw i ddŷn yn unig ymddangos ynddo, ai wneuthur yn amlwg drwy ddyn, ei greadur pennaf is law yr angylion, megis y mae doethineb a haelioni brenin yn ymddangos yn ei waith ef yn llywodraethu achosion ei deyrnas; Ond ei frenhinawl ai dywysogawl, ai berffeithrwydd godidoccaf sydd yn ymddangos yn wyneb ac yn nhueddiad ei fâb, yn nesaf tano ef ei hun. Ond yn fwy neilltuol mae delw Dduw yn ymddangos yn y pedwar peth neilltuol hyn.
1. Yn nealltwriaeth dŷn: yr hon oedd debig ir eiddo Duw.
Yn awr delw Dduw a gynhwyswyd yn bennaf yn y peth hyn, [Page 35]hynny yw, megis yr oedd Duw yn ei weled ei hun, ac yn canfod ei anherfynol ogoniant ei hun, ai odidawgrwydd; felly dyn oedd gydnabyddus a godidawgrwydd Duw, ac a ganfu Dduw yn fwyaf gogoneddus; fel y darfu i Moses er i fod ef yn ddyn pechadurus weled Duw wyneb yn wyneb, mwy a lawer Adda, yr hwn oedd ddŷn perphaith; Duw gan ei fod ef yn caru dŷn, ni alle lai nai ddatcuddio ei hun i ddŷn.
2. Yn nhueddiad ei serch: Delw Dduw a ymddangosodd yn bennaf mewn dau beth.
1. Fel yr oedd Duw drwy ei weled ei hun yn ei garu ei hun: felly Alda drwy weled Duw, oedd yn caru Duw yn fwy nar bŷd, ie yn fwy nac ef ei hunan; fel haearn wedi ei roddi yn tân, nid yw yn ymddangos yn ddim ond yn dân. Felly Adda drwy fôd Duw yn ei garu ef, a drowyd yn fflam o gariad i garu Duw drachefn.
2. Fel ac yr oedd Duw yn ymhyfrydu ynddo ei hunan: felly yr oedd [Page 36] Adda yn ymhyfrydu yn Nuw, ac yn cymmeryd hyfryd orphywysfa ym monwes Duw. Myfi a dybygwn fy môd i yn gweled Adda wedi i gippio i fynu a gwastadol dderchafiadau, am fôd gantho y fâth Dduw a hwn.
3. Yn ei ewyllys: Delw Dduw a ymddangosodd mewn dau beth yn bennaf.
1. Fel yr oedd Duw yn ei ewyllysio ei hunan yn unig, megis ei ddiben eithaf: felly yr oedd Adda yn ewyllysio Duw, megis ei ddiben eithaf, nid fel y mae dŷn yrowan.
2. Fel ac yr oedd Duw heb ewyllysio dim ond daioni; felly yr oedd Adda heb ewyllysio dim (er nad yn anghyfnewidiol) ond daioni, oblegid ewyllys Duw oedd ei ewyllys ef.
4. Yn ei fywyd, yr oedd Delw Dduw yn ymddangos fel hyn: fel y buasei Dduw yn bŷw oddi allan, pe cymmerasei ef arno natur dŷn; felly yr oedd Adda. Canys fe fuasei Dduw yn bŷw yn ôl ei ewyllys, [Page 37]ai gyfraith, ai reol ei hun, ac felly yr oedd Adda. Corph Adda oedd y llusern trwy ba ûn sancteiddrwydd, megis lamp yn llosgi yn ei galon, a ddisgleiriodd; Dymma ddelw Duw, drwy ba un (fel y dywedir yn y descrifiad) yr oedd efe yn rhyngu bôdd Duw; Canys Cyffelybrwydd yw sail cariad. Ac oddiyma yr oedd Duw yn ei garu ef yn anwylaf, ac yn ei anrhydeddu ef yn uchel i fôd yn arglwydd ar yr holl greaduriaid: ped fuafei efe yn aros yn y cyflwr hwnnw, nid oedd dim drwg a allasei ei niweidio ef; nid oedd ymma ddim prydd-der, dim clefyd, dim dagrau, dim ofn, dim marwolaeth, dim uffern, nac y fuafei byth ped fuasei efe yn sefyll.
Gwrth. Pa fôdd yr oedd y cyflwr ymma yn eiddom ni?
Atteb. Fel ac yr ydis yn cyfrif cyfiawnder Christ ir hwn sydd yn credu, er na chyflawnodd efe erioed mono ei hun. Felly cyfiawnder Adda ai ddelw, a gyfrifwyd i'ni; Oblegid Adda [Page 38]a dderbyniodd ein rhan an cyn ysgaeth ni iw chadw drosom ni, ac iv throsglwyddo i'ni. Ac oddiyma e [...] yn prisio yn fangcrwpt, ninnau a gollasom ein cynysgaeth. Yr oedd hi i'ni yn ei ddwylo ef, fel plenty [...] ymddifad yr hwn a fae iddo ystâ [...] ddâ wedi ei gadel, er na dderb yniodd efe erioed un geiniog o hon [...] gan yr hwn oedd olygwr arno, Yr hwn a ddylasei ei chadw hi drosdo ef, ai throsglwyddo hi iddo ef.
Gwelwch ymma erchyll naturiaeth pechod, yr hwn fydd yn tynnu dŷn i lawr erbyn ei glustiau o [...] orsedd faingc, oi berpheithrwydd, er maint ydoedd; fe allasei Adda ddadleu drosto ei hun, a dywedyd: Er darfod i'mi bechu, etto nid yw ond ûn bai, ar bai cyntaf hefyd. Arglwydd gwêl mae myfi yw dy gyntaf anedig di. Oh cymmer drugaredd ar fy hiliogaeth druain, y rhai a anrheithiwyd byth oni faddeui di.
Etto gwelwch yr ûn pechod ymma yn ei bwyso efi lawr ai holl hiliogaeth [Page 39](fel y cewch chwi glywed) i dragywyddol ddestryw. Dysgwch oddiyma, mor gyfiawn y gall Duw ofyn perphaith ufudd-dod iw holl gyfraith, oddiar law pôb dŷn, ai felldigo, os efe ni all gyflawni hynny: Oblegid yr oedd dŷn ar y cyntaf wedi ei wneuthur mewn cyflwr gogoneddus, ymha ûn y rhoddesid iddo allu i ryngu bôdd Duw yn berffaith; fe all Duw gan hynny ofyn y ddyled ymma o berffaith ufudd-dod. Yn awr mae dŷn wedi torri allan, ac yngharchar, ac yn uffern y mae yn rhaid iddo orwedd byth, os efe ni all dalu, neu gael ai talo drosto ef, oblegid fe ymddiriedodd Duw iddo am y fath ddefnydd, or hyn pe gwnaethei efe y gorau, efe allasei dalu'r cwbl.
Gwelwch pa achos sydd i bob dŷn i aluru oblegid y cyflwr y mae efe gwedi syrthio iddo yr awr-ho [...] Nid yw cimmint gweled plant bedlemmiaid yn bŷw yn grwydriaid, ac yn dlodion, a gweled plant tywysogion yn dyfod ir cyflwr hwnnw; [Page 40]Nid yw cynddrwg gan un ni bu erioed mewn cymmeriad gida 'r tywysog, na fae efe mewn cymmeriad, a chan yr hwn a fu, ac a daflwyd allan o ffafr ei dywysog. Mae Duw yrawron yn taflu ymmaith ddŷn, y [...] hwn yr ydoedd efe or blaen yn ei garu: Mae efe yrawron yn cyrwydro hyd y hŷd, yr hwn a fu unwaith yn arglwydd ac yn dywysog ar yr holl fŷd. Dymma un achosi drymhâu tristwch y rhai damnedig; Oh y gobeithiau, y moddion, y trugareddau y gawsom ni unwaith▪ A feidr y rhai hyn, a ydyw y rha [...] hyn yn alaru am y golled oi gobaith noeth yn unig, ai cyffredin drugareddau? O Arglwydd, pa galonnau gan hynny sydd gan ddynion ni fedrant, nid ydynt, ac ni fynnant alaru am y golled or fáth enwedigawl ac uchel drugareddau y rhai sydd wedi myned ymmaith yn awr, y rhai unwaith y gawsent hwy▪ Yr ydis yn dywedyd, ir rheini [...] welsent ogoniant y deml gyntaf wylo, pan welsont hwy ogonían [...] [Page 41]yr ail deml rhag mor anhebig oedd ir gyntaf; Chwy-chwi y rhai naill ai sydd a theml Dduw wedi dechreu eihadferu ynoch, neu heb eiddechreu etto, Oh meddyliwch am y deml gwedi ei llosgi, a gogoniant Duw yrawron gwedi diflanu a cholli.
Mae hyn yn llefaru cyssur i holl bobl Dduw. Os oedd holl hiliogaeth Adda yn berffaith gyfiawn ynddo ef, yna tydi r hwn wyt or gwaed brenhinol, ac ynghrist, wyt fwy perffaith gyfiawn ynddo ef; o gimmint ac y mae cyfiawnder yr ail Adda yn rhagori ar yr Adda cyntaf, o gimmint a hynny yr wyti yn fwy happus, yn fwy dedwydd yn yr ail Adda, nac y fu'r cyntaf erioed ynddo ei hunan; fe allei efe golli er gyfiawnder, ond yr ail Adda nid all golli, ac ni ddarfu iddo ef golli mo [...] gyfiawnder; felly os gellir damnio Christ, fe a ellir dy ddamnio dithau, [...]c onide, ni ellir.
Mae hyn yn argyoeddi tri math [...]r bobl.
1. Y rhai sydd arnynt gywilydd [Page 42]o sancteiddrwydd: Arglwydd, i ba fath Amseroedd yr ydym ni wedi syrthio yrawron, Delw Dduw yr hon oedd unwaith ogoniant dynion, ydyw ei cywilydd hwy yn awr. A phechod, yr hwn ydyw cywilydd dynion, ydyw ei gogoniant hwy yr awr-hon. Mae r byd wedi codi i fynu lawer o lysenwau ar ymarferion sanctaidd, gan ei galw yn ffolineb, a medrusrwydd, a balchder, a rhagrith, a pha ymddangosiadau bynnag a wnelont hwy oddiallan (medd rhai) etto maent hwy cynddrwg ar gwaethaf, pe bae ei pechodau wedi ei yscrifennu yn eu talcennau. Oddiymma mae yn dyfod, fôd llawer dŷn, yr hwn sydd ganmwyaf gwedi i berswadio i fôd yn ddŷn newydd, ac i droi dalen newydd, ni feiddia, ni wna, ac ni ddechreu ar ymarferion crefyddol, rhag cywilydd a gogan y bŷd. Beth a dybygant hwy o honofi o ran hynnny (medd efe:) mae yn gywilydd gan ddynion wrthod carowsio, ac oddiymma hwy a geisiant gynnal [Page 43]fôd hynny yn gyfreithlon. Mae ar ein gwyr gwychion ni gywilydd drigo ddim yn fyrr or ffassiwn: Ac oddiymma hwy a amddiffynnant ddwyfronnau noethion ac agored, a gwisgoedd dieithr fel pêthau hardd; O wasanaethwyr yr amser! y rhai sydd ganthynt bêth cydwybod i ewyllysio bôd yn onest, a chael ei cyfri felly, ac etto yn e [...] cydffurfio ei hunain i bôb cymdei thas; Os clywant rai yn tyngu, mae yn gywilydd ganthynt ei hargyoeddi hwynt; Mae arnynt gywilydd ddechreu un ymddiddan sanctaidd mewn cwmnhi diffaith. A hwy a gymmerant arnynt fôd yn synhwyrol yn hyn, ac na wasanaetha iddynt daflu perlau oflaen moch; Ond gwreiddin y matter ydyw, Mae arnynt gywilydd o fôd yn sanctaidd. O beth ofnadwy! Ai cywilydd ydyw bôd yn debig i Dduw? O drueiniaid pechadurus! Ai parch ydyw bôd yn ddim ond yn grefyddol, a chida llawer crefydd sydd bêth cywilyddus: yr wyfi yu [Page 44]rhyfeddu a pha wyneb y beiddi di weddio, neu a pha olwg yr edrychi di ar Arglwydd y gogoniant yn y dydd diweddaf, yr hwn sydd yn gywilydd gennit ef yr awron, yr hwn y bydd yr holl ddynion, angylion, a chythreiliaid yn rhyfeddu oi blegid ef yr amser hwnnw? A wyti yn edrych am gyflog gan Grist, yr hwn sydd arnat gywilydd berchennogi Christ, neu wisgo ei lifrai ef?
2. Mae hyn yn argyoeddi y rhai sydd yn casaû sancteiddrwydd, yr hyn sydd fwy na bôd arnynt gywilydd oi blegid.
3. Mae hyn yn argyoeddi y rhai sydd yn ei bodloni ei hunain ac ychydig fesur o sancteiddrwydd, perffaith sancteiddrwydd oedd Ddelw Adda trwy ba un yr oedd efe yn rhyngu bôdd Duw, ac a gaiff ychydig sancteiddrwydd dy fodloni di?
Yn awr mae tri mâth o honynt hwy.
1. Y dyn sydd gantho ffurf oddiallan, yr hwn sydd yn ei fodloni ei hun a chimmint o sancteiddrwydd [Page 45]ac a ennill barch iddo.
Y rhith neu r henw o grefydd sydd weithiau yn anrhydedd; ond y grym neu r ymarfer, mae hynny yn faich; oddiymma mae dynion yn cymeryd i fynu r cyntaf, ac yn ysgwyd ymmaith yr ail, ar rhan fwyaf sydd yn cymmeryd y ffordd ymma, oblegid os byddant hwy heb ddim daioni ynddynt, hwy a fyddant yn gywilydd, ac yn wradwydd, ac yn fwrddchwedl yr amseroedd; Am hynny fe fyn llawer er mwyn ei hanrhydedd, gael y rhîth ymma o Dduwioldeb. Ar Rhith ymma fydd yn ôl y folt lle bwrier y dyn ynddi: Os ei gydnabyddiaeth ef a fyddant wŷr moesawl, efe a fydd yn debig iddynt; Os byddant hwy yn myned tu hwnt i hynny, sef i weddio, i ddarllain, i ymddiddan ynghyd ambethau ysprydol, ni erys ef fodfedd yn fyrr iddynt hwy. Os bôd yn well nai gymdei [...]on, os dwyn y glôch oi blaen hw [...]nt a ennill barch iddo ef, efe fydd felly bêth bynnag a gostio iddo ef, Ond [Page 46]ni fydd efe byth mor fanwl am ei grefydd fal y paro hynny iddo gael ei gasaû or achos, Oddieithr idd [...] ef ddeall y gall y câsineb y mae efe yn ei gael gan rai pobl, gael ei obrwyo a mwy o gariad, ac o barch gida rhai eraill: Mae efe yn ymrithio yn ôl y lleoedd ar gymdeithas y dêlo efe iddi. Yr oedd y brenin Joas yn wr da, tra fu Jehoida r offeiriad yn fŷw.
Os ychydig grefydd a wasanaetha i ddwyn parch i ddynion, fe geiff hynny wasanaethu dros yr amfer hwnnw; os bydd yn rhaid ychwaneg o grefydd mewn lle arall, chwi ai cewch hwy yn canmol gwyr da, pregethau da, llyfrau da, ac chwi a gewch glywed rhai ymadroddion da yn diferu oddiwrthynt hwy; beth gan hynny y dybir o honynt hwy? Maent hwy yn ei gorchguddio ei hunain ar ffigusddail ymma o gyffredin onestrwydd i guddio ei noethni; maent yn abwydo ei holl ymarferion ar gonestrwydd gweledig ymma, fel y gallont [Page 47]ddal y pysgodyn, oblegid pysgotta y maent yn unig am barch a chymmeriad. Ond fe allei ddŷn gael allan bêth yw 'r bobl ymma fel hyn; dilynwch hwy iw tai ei hunain, chwi ai cewch hwynt yno yn fydol, yn ddigllawn, ac yn rhyddion yn ei hymddygiad; dilynwch hwy iw stafelloedd, chwi ai cewch hwy yno yn gyffredinôl yn esgeuluso, ac yn rhuglo ei dyled-swyddau yn ôl ei meddyliau ei hunain, yn y gwisgdy ymma chwi a gewch weled yr ystaids-chwareyddion ymma ai ffenestri yn gae [...]d, ac yno braidd y c [...]ir gweled dim gonestrwydd, na Duwioldeb, oblegid nid oes nai bydd, nai cymmeriad yn dyfod i few [...] drwy y drws ymma lle nid oes ne [...] yn gweled. Gadewch ir gwenidog neu un ewyllysiwr da ffyddlawn chwilio, profi, datcuddio, cyhuddo, ac evog farnu y dynion ymma megis pyst pydrion, (er ei bod wedi ei goreuro) ie a bod ei calonnau hwy (druain) yn wâg ao yn amhûr, hwy a chwyddant fel flyffaint, [Page 48]ac a chwythant fel nadroedd, ac fel cŵn hwy a gyfarthant y rhai ai hargyoeddant hwy fel hyn, oblegid iddynt ei hysbeilio hwynt am ei Duw (sef ei parch ai cymeriad) yr hwn a wasanaethasant; ac oblegid bod ei bydd hwy drwy hynny yn myned ymmaith.
2. Os pechadur sydd yn eu euogfarnu ei hunan, yr hwn sydd yn myned ymhellach nar hwn sydd gantho rith Duwioldeb, ac etto efe ai bodlona ei hun a chimmint o Dduwioldeb ac ai llonyddo ef, ac oddiymma y canlyn fod gan yr holl genhedloedd ryw fâth ar grêfydd, oblegid fod ganthynt ryw fath ar gydwybod iw trallodi, y dŷn ymma, os bu efe fyw mewn rhyw bechodau ffiaidd, ac os yw efe yn dechreu cael ei ddryllio ai drallodi oi plegid hwynt, yna efe a gyffessa ac a ymwrthyd ar pechodau rhuadwy ymma; Ond pa fodd? fel ac y mae 'r ci am ei fwŷd, nid oblegid ei fod ef yn casâu ei yscerbwd, ond oblegid ei fôd ef yn ofni r llawffonn, os efe a [Page 49]ymmur arno; Mae efe yn cyflawni dyled-swyddau, nid oblegid y mynne efe ei harfer hwynt, ond o ran bôd yn rhaid iddo ei harfer hwynt, pe amgen ni chae efe mor heddwch. Os y gydwybod a fydd llonydd, efe a esceulusa ddyled - swyddau, sanctaidd: Os y gydwybod a waedda ac a gynhyrfa, efe eiff yngŷd a dyled-swyddau sanctaidd, felly mae gantho ei oriau o Dduwioldeb, fel y mae gan ei gydwybod ei chynnhyrfiadau. Maent hwy yn ymorfoleddu ac yn beio ar ragrithwyr, oblegid nad ymddangosiad noeth yn unig ydiw y sancteiddrwydd sydd ganchynt hwy; fe alle nad' ê, ond er hynny dy sancteiddrwydd di sydd yn unig i attal llefain dy gydwybod, yr wyti yn gwobrio, ac felly yn distewi (y Baili) sef dy gydwybod, ac yn llonyddu ei llefain hi, drwy dy waith yn gwed [...]io, yn gwrando, ac yn alaru; ond mae gan Dduw dy farnwr di bechau trymmion iw rhoddi yn dy erbyn di, o flaen [...]a [Page 50]un y mae yn rhaid itti ar fyrder gida dychryn ymddangos.
3. Y cystuddiol ar defosunol ragrithiwr, yr hwn gan ei fôd ef yn cael ei erlid ag ofn uffern, sydd yn myned ymhellach, ac yn ymegnio yn union am gimmint o sancteiddrwydd ac all ei gadw ef yn ei dŷb ei hun, ai ddwyn ef ir nêf yn y diwedd, felly y daeth y gŵr iefangc yn yr efengil att Grist ar gofynniad mawr hwnnw, ar hyn ofynniad y mae llawer calon amhur yn dyfod att y gweinidogion yn y dyddiau ymma.
Gan ddywedyd, Beth a wnawn ni fel yr etifeddom fywyd tragywyddol. Mae r bobl ymma yn gosod i fynu yn ei meddyliau ryw un am wr or gonestaf, ac yn gyfryw ac y fydd yn gadwedig yn ddiammau, ac oddiymma hwy ai cymerant ef i fôd yn battrwm ac yn eilun iddynt, ac hwy a wnânt ei gorâu ar wneuthur fel y gwnelo yntef, ac i fŷw yn union fal y bo yntef bŷw, ac i ddal yr un opiniwnau ac y [Page 51]ddalio yntef, ac felly hwy a obeithiant fod yn gadwedig hwy a ymofynnant yn ddigon mânwl, bethydyw r mesur lleiaf o ras, ar gronyn lleiaf o ffydd, ac nid y pregethau gorau gida hwynt hwy ydyw y cyfriw rai ac sydd yn ei darostwng hwy fwyaf. Ond y cyfriw rai ac ai gwenheithiant hwy fwyaf; ymha rai y gallant hwy glywed mor gymeradwy gida Duw ydyw dymuniadau da; yr hyn os clywant ei bôd hwy or fâth rinwedd i allu ei cadw hwynt, fe a geiff Duw ei wasanaethu yn unig ai dymuniadau, ac fe a geiff y cythrael ei wasanaethu ai gweithredoedd dros holl amser ei bywyd.
Fel hyn hwy a wnânt ir peth a fynnont wasanaethu i Dduw; nid ymegniant am gimmint o sancteiddrwydd ac a anrhydeddiff Grist, ond yn union am gimmint o sancteiddrwydd, ac ai dycco hwy ir nêf, ac ai hachubo hwy yn ei tyb ei hunain. Canys dymma un or rhagoriaethau mwyaf rhwng plenryn i Dduw a rhagrithiwr, Sef; [Page 52]yn ei hufydd-dod, mae un yn cymmeryd i fynu ddyled - swyddau, allan or cariad sydd gantho i Grist, ac iw gael ef, ac mae efe yn alaru beunydd oblegid nad yw Christ yn ennill mwy o anrhydedd drwyddo ef; Ar llall allan or cariad sydd gantho ef iddo ei hunan, yn unig er mwyn cadw ei enaid ei hunan.
Ac oddiymma mae efe yn alaru am ei bechodau, oblegid hŵy a allant ei ddamnio ef. Cofiwch gan hynny y lle hwnnw yn llythyr Paul att y Corinthiaid, 1 Cor. 15.58.
Yn ddiweddaf, ymegniwch i geisio adnewyddu delw Dduw ynoch chwi drachefn. fe wna gwyr gonest ei gorau ar dalu ei dyledion, dymma ddyled i Dduw. Chwi a welwch fel y gwna dynion ei gorau ar ganlyn y ffassiwn, a gwell yw bôd allan o'r byd (meddant) nac allan o ffawssin: ffassiwn y nef ydiw bod yn debig i Dduw, a ffassiwn angylion, a hynny a fydd mewn ffassiwn ryw ddydd, pan ymddangoso r Arglwydd Jesu yn ei ogoniant, Ar [Page 53]amser hwnnw os bydd argraff n ddelw yr cythrael arnaci, ac n delw Dduw, ni pherchennoga Duw yng hist mo honoti y diwrnod hwnnw. Ymegnia gan hynny am gael Delw Dd w gwedi ei hadferu ynoti drachefn, a delw cythrael gwedi ei golchi ymma [...]th, ac na cheisiwch fel y gwna llawer bwrcâsu rhyw râs yn gyntaf: ond,
1 Ymegniwch ar farweiddio a darostwng y pechod hwnnw yr hwn sydd yn eich calonnau chwi yngwrthwyneb ir gras hwnnw: yn gyntaf, rhoddwch heibio r he [...] d [...]ŷn, ac yna gwisgwch am danocl y dŷn newydd, Eph. 4.24.
2. Ymegniwch am galon dynê doddedig am y pechod lleiaf. Cym hwysaf ydyw yr aur i dderbyn y argraff, pan fo efe yn doddedig a yn dynêr; felly pan fo dy galon [...] gwedi ei gwresogi wrth wrando pregeth, Gwaedda allan, Arglwydd taro yr awr hon, ac argraffa dy ddelw dy hun arnafi.
3. Ymegnia i weled yr Arglwydd [Page 54] [...] ei ogoniant. Fel ac y mae [...] on anuwiol yn edrych ar [...]rwg ensampl rhai mowrion yn y [...]yd ymma, ac yn myned yn debig [...] iddynt mewn dihirdra. Felly yr [...] nig olygiad ar y gogoneddus râs [...] sydd yn Grhist, yr Arglwydd mawr [...] ymma o ogoniant, sydd yn cyfnewi [...] dynion yn gyffelib iw Ddelw ef, [...] r. 3.18. Fel y mae drŷch a [...] r yn hollawl gyferbyn ar haul, [...] yn unig yn derbyn ei beludr [...] y mae pôb corff tywyll, ond ei [...] nefyd ai ddelw: felly y deall [...] riaeth ac wyneb agored yn craffu [...] r Grist, a newidir i ddelw Christ, [...] a wneir yn gyffelib iddo ef. Mae [...] ion yn y dyddiau ymma yn e [...] ych yn unig ar fywyd y gwyr go [...] au, ac yn edrych pa fo dd y rhodiant [...] hwy ac yno yn gorphywyso. Oh e [...] drych yn uwch ar fendigedig wyneb [...] uw yn Ghrist, fel yr eiddoti dy [...] n. Fel y mae gosodiad y sêl ar y [...] yr, yn argraffu ei llun; felly e [...] ch ar râs Christ, fel yr eiddoti dy [...] sydd yn argraffu ei Ddelw ef [...] yf yn dy enaid di.
[Page 55]Yr ydwyfi yn dyfod yn awr att y trydydd pwngc pennaf mewn trefn, ac a sâfaf arno allan or Rhuf. 3.23.
PEN. III. Fôd holl ddŷnol ryw wedi syrthio drwy bechod allan or ystâd ogoneddus y gwnaethpwyd hwy ynddi i gyflwr tra gresynol a thostûrus.
Y Cythrael yn camarfer y sarph a dŷn yn camarfer ei ewyllys rhydd ei hun, hynny a daflodd Adda i lawr oi ddedwyddwch, ac ynddo ef ei holl hiliogaeth drwy bechod. Gen. 3.1, 2, 3. &c.
Yn awr mae trueni dŷn yn ymddangos yn y ddau beth hyn.
1. Ei drueni o herwydd pechod.
2. O herwydd y pethau sydd yn dilyn y pechod.
1. Ei drueni o herwydd ei bechod sydd yn ymddangos yn y pethau neilltuol hyn:
[Page 56]1 Pôb dyn bŷw ŷdd wedi ei eni yn euog o bechod Adda. Yn awr cy fiawnder Duw, yn rheddi r pecbod ymma yn erbyn pôb dŷn, er na wei [...]hredodd yr un o hiliogaech Adda mono yn be [...]sonol, sydd yn ymddangos fel hyn.
Yn gyntaf, pe buasei Adda yn sefyll, holl ddynol rŷw a safasei; Yna mae yn gyfiawn, ac efe yn syrthio, iw holl hiliogaeth ef syrthio gidag ef. Yr oedd ein holl ystad ni gwedi ei mentrio yn y llong ymma. Gan hynny os cawsem ni fôd yn gyfrannogion oi ennill ef, pe buasei efe yn aros yn ddiogel, yna cymmwys yw ini sôd yn gyfrannogion oi golled ef, gan iddo ef gwympo.
Yn ail, yr oeddym ni ôll yn Adda, fel y mae r holl wlad yn y gŵr a ddewisont hwy i eistedd drostynt yn y Parliament, yr holl wlâd sydd yn gwneuthur y peth y mae efe yn ei wneuthur. Ac er na w naethom ni ûn dewis neillcuol o Adda i sefyll drosom ni, etto r [Page 57]Arglwydd ai gwnaeth drosom ni; Gan mae efe yw daioni ei hunan, mae efe yn dwyn mwy o ewyllys da i ddŷn, nac a alle ddŷn ei ddwyn iddo ei hûn; A chan mae efe yw doethineb ei hûn, efe a wnaeth dewis doethaf, ac a gymmerth ffordd orau er daioni i ddŷn: Car yr oedd hyn yn gweithio yn swyat tuag at ddiogelwch dynion ai llonyddwch; Oblegid pe buasei ef yn sefyll, pôb ofn o golli ein dedwyddwch a ddiflannasei; ac yn y gwrthwyneb, pe buasei bôb dŷn wedi ei adel iddo ei hûn i sefyll neu i syrthio, fe fuasei dŷn fŷth mewn ofn o syrthio.
A thrachefn hon oedd y ffordd siccraf i gadw yn ddiogel holl ystâd dynion; Oblegid gan fod arno ef y gofal am ystâd yr holl rai ac oedd i fŷw yn y bŷd, yr oedd o hynny iddo fwy o achos i edrych oi amgylch, ac i fôd yn fwy gwili [...]dwrus rhag iddo adel ei dwyllo ai yspeilio ei hûn, ac felly anrheithlo ac ennill melldithion cimmint o filoedd [Page 58]yn ei erbyn. Adda oedd ben holl ddŷnol rŷw, a hwythau yn ôl naturiaeth ydynt aelodau or pen ymma; Ac os y pen a ddychymmyga ac a weithreda fradwriaeth yn erbyn y brenin neu r llywodraeth, fe a wneir yr holl gorph yn euog, a rhaid ir holl gorph ddioddef. Adda oedd y gwenwynllyd wreiddin ar ffynnon o holl ddynol ryw; yn awr y canghennau ar Frydiau gan ei bôd yn y gwreiddin ar ffynnon o herwydd ei dechreuad, ydynt wedi ei llychwino ai difwyno ar un gwyddorion gwenwynllyd.
Onid yw y pethau hyn yn bod [...]ni dynion, mae gan Dduw [...]diwrnod yn dyfod, ymha ûn y dat [...]uddia efe ei gyfiawn farn ei hunan oflaen dynion ac angylion. Rhu. 2.4.
Oh nad ystyriei ddynion y pechod ymma, fel y bae r ystyriaeth o hôno [...]f yn darostwng calonnau dynion! Os oes nêb yn alaru am bechod, [...]an mwyaf am bechodau gweith [...]edol or eiddynt ei hunain y maent [Page 59]yn alaru, ychydig sydd yn alaru am y pechod ymma yr hwn a wnaeth y torriad cyntaf, ac a ddechreuodd yr anghyttundeb rhwng Duw a dŷn.
Yn nessaf att y pechod yn erbyn yr yspryd glan, a diystyrwch or efengil, dymma r pechod mwyaf, yr hwn sŷdd yn llefain uchaf ynglhustiau Duw ddydd a nôs am ddialedd, ar y bŷd o annuwolion. Oblegid yr awr hon pechodau dynion ydynt yn unig yn erbyn Duw, yn y cyflwr y cwympasant iddo; ond y pechod ymma a wnaed yn erbyn Jehouah, pan oedd dŷn yn y man uchaf oi anrhydedd.
Nid yw gwrthryfel bradwr ar y dommen, cimmint a gwrthryfel ûn y fâe mewn cymmeriad yn y llŷs. Pechodau bychain yn erbyn gwybodaeth a goleuni, a gyfriflr, ae a wneir yn echryslon, ac a gospir y [...] dôst. Ni phechodd nêb erioed yn erbyn y fàth oleuni ac oedd gan Adda. Dymma r pechod cyntaf a anfodlonodd Dduw erioed. Mae [Page 60]meddwdod yn ysbeilio Duw am y gogoniant o sobreiddrwydd; Putteindra, am ei ogoniant o ddiweirdeb; ond mae r pechod ymma yn [...]ywyllu r haul ei hun, ac yn dini [...]rio hôll Ddelw Duw yr hon oedd [...]goniant dyn, a gogoniant Duw [...]ewn dŷn; dymma r pechod cyn [...]af a wnaeth erioed itti niwed. Y [...]chod ymma fel tywysog galluog [...] [...]sglodd ynghyd yr holl dor [...] ar heidiau ymma o bechodau [...] yrawron yn cymmeryd gafael [...]ati. Nid rhaid itti ddiolch ond [...]chod ymma am y galon garreg [...]d genniti, ac am yr uffernol dy [...]yllwch sydd wedi dy orchguddio. Hwn a gyfododd i fynu Satan, [...]rwolaeth, barn, uffern, ar nef [...]yd yn dy erbyn di:
Gwelwch y drwg a ddygodd y [...]chod ymma gidag ef:
1. Ymadawiad ofnadwy oddi [...]th Dduw yn debig ir cythrel.
2. Gwrthryfel echryslon yn erbyn [...] gan daro gida'r cythrael ge [...]yaf Duw.
[Page 61]3. Gr [...]synol anghrediniaeth gan ammau nad oedd bygythion Duw yn wir.
4. Cabl [...]dd ofnadwy, gan dybied fôd y cythrel (gelyn mwyaf Duw, a llofrydd dŷn) yn fwy geirwir yn ei brofedigaethau na Duw yn ei fygythion.
5. Balchder erchyll, gan dybied myned gam ne rîs yn uwch, ac yn debig i Dduw ei hûn, drwy wneuthur y pechod ymma o fwytta ffrwyth y pren gwaharddedig.
6. Diystyrwch ofnadwy ar Dduw, gan wneuthur cyn hyfed a rhuthro ar gleddyf bygythiad Duw. yn ddirgel, heb ofni mor plaeau a adroddasid yn ei herbyn.
7. Erobyll anniolchgarwch, gwedi i Dduw roddi iddo ef hôll brennau r ardd, ond un pren, etto fe fyddei raid iddo ef fod yn ymmyr redd a hwnnw hefyd.
8. Lledrad anferth, yn cymmery y peth nid oedd eiddo.
9. Ffiaidd Ddelw-addolia [...] garu r creadur yn fwy nar creawdwr [Page 62]yr hwn sydd fendigedig yn dragywydd. Chwy chwi gan hynny y rhai a ddywedwch yrawron, nid oes nêb all ddywedyd wrthych, du yw eich llygad, chwi a fuoch fyw yn eich tŷb eich hûn yn weddol eich holl ddyddiau; edrychwch ar yr ûn pechod gofidus ymma; cymmerwch lawn olygiad arno, yr hwn ni ddarfu i'chwi wylo ûn deigryn oi blegid ef erioed etto, a gwelwch eich trueni drwyddo ef, a rhyfeddwch am ddioddef-garwch Duw yr hwn ach arbedodd chwi cyhyd; y rhai oeddych wedi eich geni yn llawn or pechod ymma, ac a fuoch fyw yn euog o hôno, ac a dderfydd am danoch oi blegid ef, os yr Arglwydd or nefoedd ni tho [...]turia wrthych: Ond nid dymma r cwbl. Ystyriwch yn ail ddarfod geni pob dŷn yn farw mewn pechod, Eph. 2.1. ai fôd ef wedi ei eni yn wâg o bob gwreiddin o fywyd ysprydol oddimewn, ac yn wâg o bob grâs, ac heb yntho ddim mwy daioni (beth bynnag y mae efe y n [Page 63]ei dybied) nac mewn yscerbwd marw. Ac oddiymma mae efe tann allu pechod, fel y mae dŷn marw tan allu marwolaeth, ac heb allu cyflawni un weithred o fywyd: Mae ei cyrph hwy yn eirch bywion i ddwyn eneidiau meirwon i fynu ac i wared. Mae yn wir (yr wyfi yn cyfaddef) llawer o ddynion drygionûs yn gwneuthur llawer gweithred dda, megis gweddio, gwrando, a gweithredoedd elusengar eraill, ond nid ydynt yn dyfod oddiwrth ddim gwreiddin o fywyd oddimewn. Annogaethau oddiallan (fel pwysau clocc, yr hwn er i fod yn farw etto y mae wedi ei wneuthur yn gelfyddgar) sydd yn ei gosod hwy i redeg. Yr oedd Jehu yn llawn zêl, ond yn unig y ennill teirnas. Yr oedd y Pharisaeaid yn elusengar, ond yn unig fal y gallent hwy gael i gweled gan ddynion. Os yscrifenna ûn ewyllys neu lythyr cymmun a llaw gŵr y fo gwedi marw▪ ni saif yr ewyllys hwnnw mewn un [Page 64]gyfraith yn y bŷd, oblegid nid ei ewyllys ef ydoedd, o ran ni yscrifennasid mono gantho ef, drwy un gwreiddin o fywyd oddi mewn oi eiddo ei hunan. Mae balchder yn peri i ddynion bregetbu, a balchder yn peri i ddynion wrando, a gweddio weithiau.
Mae hunan-gariad yn cynhyrfu i fynu ddymuniadau rhyfedd mewn dynion., etto ni allwn ddywedyd, nad yw hynny ddim o waith gras yn yr enaid drwy rinwedd yspryd Duw, ond Balchder, a chariad arnynt ei hunain. Dygwch ddŷn marw at y tân, a thwymnwch a rhwbiwch ef, chwi a ellwch beri peth cynnhesrwydd yntho ef drwy weithio felly arno ef oddiallan: ond cymmerwch ef oddiwrth y tân drachefn, efe a oera yn fuan: felly y mae llawer dŷn y fo yn bŷw tan weinidogaeth pregethwr ffyddlon, a than wialennodiau a dyrnodiau cydwybod ge [...]yddgar, ac ymdrechiadol, mae peth gwrês ynddo, pêch dymmuniadau da, peth cystudd [Page 65]gwedi ei gynnhyrfu ynddo; etto cymmerwch ef oddiwrth y gweinidog, ai gydwybod gythryblus, ac efe a eiff yn oer yn ddiattreg, yr achos yw, o ran bôd arno eisiau gwreiddin o fywyd oddimewn oi eiddo ei hunan.
Yr hyn bêth a alle beri i'ni gymmeryd i fynu alarnad chwerw dros bôb dyn naturiol. Fe a ddywedir yn Exod. 12.30. Fôd gweiddi mawr yn yr Aipht, obl [...]gid nad oedd tŷ ar nad oedd un marw yutho. O Arglwydd, mewn rhai trefi a theuluoedd pa liaws or rhain sŷdd! Gwŷr meirwon, gwragedd meirwon, plant meirwon, yn rhodio i fynu ac i wared, ai pechodau (megis y dywaid rhai fôd dynion ar ôl marwolaeth yn gwneuthur) fel bêdd-wiscoedd am danynt, a Duw a wyr pa ûn a wnant ai bywio byth ai peidio. Beth am fel yr alara dynion oblegid y golled am ei cyfeillion a fuant feirw! Oh mae gennit enaid gwerthfawr yn dy fonwes yn farw eusus, gan hynny alara o achos dy gyflwr [Page 66]dy hun, ac ystyria dy gyslwr yn ddifrifol.
1. Yn gyntaf, nid all dŷn marw gychwyn, na chynnig cychwyn; Ni feidr dŷn drygionus ddywedyd un gair dâ, neu wneuthur un weithred ddâ, pe bae r nef yn colli onis gwnai, na chynnig ysgwyd ymmaith ei bechodau, na meddwlûn meddwl dâ; yn siccir fe all siarad a meddwl am bethau da, ond ni all fôd gantho, nac ymadroddion da, na meddyliau da. Fel y gall gwr duwiol feddwl am bethau drwg, megis pechodau r amseroedd, etto mae ei ddiben ef yn meddwl am y pethau ymma, yn dda, ac nid yn ddrwg. felly yn y gwrthwyneb, y gall dŷn drwg feddwl am bethau da, ac etto ei feddwl ef yn ddrwg.
2. Yn ail, ni ofna dŷn marw bêrigl yn y byd, er maint fytho, ac er agosed atto. Gadewch ir gweinidog ddwŷn newyddion i ddŷn naturiol, agosed yw plaeau dinistriol Duw atto, nid ofna ef monynt.
3. Yn drydydd, ni ellir dwyn [Page 67]dŷn marw i groesafu y cynnig gorau. Gadewch i Grist ddyfod or nêf, a syrthio ar wddf dŷn naturiol, ac a dagrau yn ei lygaid attolwg iddo gymmeryd ei waed ef, ei gymmeryd ef ei hûn, ai deyrnas ef, a gadel ei bechodau, ni fedr efe dderbyn mor cynnig ymma.
4. Yn Bedwerydd, mae dŷn marw yn ddall, ni wêl efe ddim, ac yn fyddar, ni chlyw efe ddim, ac ni archwaetha efe ddim: felly mae pôb dyn wrth naturiaeth yn ddall, ni wêl efe na Duw, na Christ, na digofaint y goruchaf, na gogoniant y nêf. Mae efe yn clywed llais dŷn, ond ni chlyw efe lais Duw mewn pregeth, nia yw efe yn synnied y pethau sydd o Dduw.
5. Yn Bummed, mae yn marw yn ddi-deimlad, nid yw efe deimladwy o ddim. Felly teflwch fynyddoedd o bechodau, ar ddyn anuwiol ni chlyw efe ddim niwed hyd oni thorro allan fflammau tân uffern arno ef.
6. Yn chweched, mae dŷn marw [Page 68]yn ddileferydd, ni fedr efe lefaru na siarad; felly o ran lleferydd gwir ysprydol, ni feidr dyn cnawdol lefaru mewn gweddi, oddieithr fel y perod.
7. Yn seithfed, mae efe yn ddŷn diânadl; fe all dŷn naturiol ddywedyd gweddi allan o ryw lyfr da, neu lunio gweddi allan oi gôf ai synnwyr ei hun, neu fe all fôd gantho ychydig fyr-chwyth ewyllysiau; ond ni feidr efe dywallt allan ei enaid mewn gweddi i fynwes yr Arglwydd, gidag ochneidiau anrhaethadwy. Nid yw ryfedd gennif weled cimmint o deuluoedd heb weddiau yn ei teulu; Paham? Dynion meirwon ydynt, ac yn pydru yn ei pechodau.
8. Yn wythfed, mae dyn marw gwedi colli ei holl degwch: felly y mae dŷn llwyr naturiol gwedi colli ei holl ogoniant; mae efe yn greadur anferth yngolwg Duw, yngolwg dynion da, ac yngolwg angylion, ac mae r dydd yn dyfod y byddant hwy yn ffieidd-dra gan [Page 69]bôb cnawd, Esa. 66.24.
9. Yn nawfed, dŷn marw sydd gantho ei bryfed yn ei gnoi: felly dynion naturiol sydd ganthynt bryf y gydwybod yrawron yn magu ynddynt, yt hwn y fydd yn ei cnoi hwy ar fyrder.
10. Yn ddiweddaf, nid oes ar ddynion meirwon eisiau dim ond ei taflu ir bedd: felly nid oes dim yn ôlir dyn naturiol ond ei daflu i uffern. Megis yr oedd Abraham yn caru Sarah yn fawr tra fu hi yn fŷw, etto pan fu hi farw, Mae efe yn ceisìo meddiant beddrod gan feibion Heth i gladdu ei farw allan oi olwg, Gen. 23.4. Felly fe all Duw ollwng allan ryw farnedigaeth ofnadwy, a dywedyd wrthi, Cymmer yr enaid marw ymma allan om golwg i, &c. Yr oedd yn rhyfedd gweled Lazarus yn bŷw drachefn, er na buasei efe yn gorwedd ond pedwar diwrnod yn y bedd; O rhyfedda dithau, os gâd Duw fŷth i'tifŷw, yr hwn a fuost yn pydru yn dy bechod Ʋgiain, deg ar ar hugiain, [Page 70]ac ond odid dri-ugiain mlyned ynghyd, neu chwaneg.
3. Pôb gŵr neu wraig naturiol a aned yn llawn o bechod, Rhu. 1.29. cyn llawned ac yw r llyffant dafadennog o wenwyn; y meddwl, yr ewyllys, y llygad, y genau, pôb aelod oi gorph ef, a phôb rhan oi enaid ef, sydd yn llawn pechod; Ei calonnau hwy sydd ysgubellau o bechod, oddiymma mae Solomon yn dywedyd, ffolineb sydd yn rhwym ynghalon plentyn, Dihar. 22.15. Trysorau cyfan o bechod, Dŷn drwg (medd Christ) allan o drysor drwg ei galon, a ddwg allan bethau drwg; Math. 12.35. Ie moroedd cynddeiriog o bechod; ie bydoedd o bechod, y tafod bŷd o anghyfiawndor ydyw, Jaco. 3.6. Beth ydyw r galon gan hynny? Canys allan o helaethrwydd y galon y mae y genau yn llefaru, Math. 12.34. Luc. 6.45. Felly edrych oth amgylch a gwêl, pa bechodau bynnag sydd yn dyfod ac yn rhedeg allan o galon ûn dyn iw fywyd ef drwy yr holl fŷd, [Page 71]mae'r holl bechodau rheini yn dy galon di; Dy feddwl di sydd nyth or holl ffiaidd opiniwnau, a heresiau, a chwythwyd allan erioed gan ûn dŷn; dy galon di sydd sybwll drewllyd o bôb Didduwiaeth, Sodomiaeth, cabledd, llofruddiaeth, putteindra, godineb, hudoliaeth; felly os oes gennit ddim daioni ynot, nid yw ond fel defnyn o ddwfr y Rôs mewn llonaid phiol o wenwyn, ymha le pan syrthio, mae efe i gid yn llygru; Gwir yw, nad wyti yn clywed mor rhain i gid yn ymgynhyrfu ynoti ar unwaith, mwy nag yr oedd Hazael yn tybied y byddei efe y cyfriw sugnwr gwaed, pan ofynnodd efe ir prophwyd Eliseus, Ai ei ydwyfi? Ond maent hwy ynoti fel nythlwyth o nadroedd mewn hen glawdd. Er nad ydynt yn torri allan ith fywyd di, etto maent hwy yn llechu yn dy galon di, maent hwy fel gwaddod brwnt mewn baril, yr hwn nid yw yn rhedeg allan; Oblegid (ond odid) nid wyt'i yn cyfarfod ag un [Page 72]brofedigaeth neu achlysur i agori ac i ollwng allan y drwg yr hwn sydd yn dy galon di, neu oblegid fod grâs Duw yn dy wahardd di, drwy ofn, a chywilydd, dygiad da i fynu, a chwmnhi da; Francis Spira. Ac am hynny pan ddaeth ûn i gyssuro y llûn hynod hwnnw, y pattrwm ar coffadwriaeth o gyfiawnder Duw, drwy saith mlynedd o ddychryn, a gofidus ing cydwybod: Pan ddywedodd ûn iddo na wnaethei efe y fath bechodau ac a wnaethei Manasses, ac am hynny nid efe oedd y pechadur mwyaf er y greadigaeth, mal yr oedd efe yn tybied; efe a attebodd, y buasei efe yn waeth nac y bu Manasses erioed, pe buasei efe yn byw yn ei amser ef, ac yn eistedd ar ei orsedd-faingc ef.
Nid edryche Mr. Bradford ûn amser ar fuchedd ddrygionus nêb ag ûn llygad, heb ddychwelyd yn gyflym iw fynnwes ei hûn ar llygad arall, a dywedyd, yn y galon ddihir ymma or eiddo fi y mae yn aros y pechod accw, yr hwn oni bae ras enwedigol Duw, a [Page 73]wnaethwn i yn gystadl ac yntef.
O myfi a dybygwn y galle hyn dynnu i lawr feddyliau uchel dynion am danynt ei hunain, yn enwedig y fâth ac sydd yn dal i fynu ac yn ei cyssuro ei hunain yn ei gonest, ei llyfn, ai gweddol fywyd oddiallan, y fáth ac sydd drwy ei dygiad i fynû wedi ei golchi oddiwrth bob pechod ffiaidd, ni halogwyd monynt hwy erioed a phutteindra, a thyngu, a meddwdod, neu halogedigaeth oddiallan, ae yn awr maent yn ei tybied ei hunain mor ddiogel, ac na chlyw Duw ar ei galon feddwl am ei damnio hwynt.
O Ystyria r pwngc ymma, yr hwn alle beri i'ti dynnu dy wallt oddiar dŷ benn, a throi dy ddillad i sachliain, a rhedeg i fynu ac i wared a syndod ac a glesni yn dy wyneb, ac a dychryn yn dy gydwybod, ac a dagrau yn dy lygaid; Beth er bod dy fywyd di yn llyfn, beth er bôd y tŷ allan i'ti, megis bedd wedi ei wyngalchu? O yr wyti oddi mewn yn llawn o by dredd [Page 74]pechod: Yn euog, nid o flacn dynion, fal y mae pechodau dy fywyd yn dy wneuthur di, ond o flaen Duw or hôll bechodau sydd yn heidio ac yn rhûo yn yr holl fŷd y dydd heddiw: canys Duw sŷdd yn edrych ar y galon; Euog gan hynny wyti o butteindra calon, o Sodomiaeth calon, o ddelw-addoliaeth calon, o orthrymmu eraill yn dy galon, o gabledd calon, o feddwdod calon, o ymlosgach calon; ac dymma r pechodau sydd yn ddychrynnedig yn annog digofaint yr holl alluog Dduw yn dy erbyn di, Esa. 57.17. Am anwiredd ei gybydd-dod (medd ein cyfieithiad ni) y tarewais ef; ond mae r Hebreaeg yn ei adrodd ef yn well, am anwiredd ei drachwant, yr hwn (ydyw pechod ei galon ef ai naturiaeth) y tarewais ief. Falac y bydd Brenin yn ddig, ac yn byddino ynghyd ei lû yn erbyn gwrthryfelwyr, nid yn unig y rheini sydd yn dwyn ei milwyr allan i ymladd, ond y rhai hefyd sydd yn cadw milwyr [Page 75]yn ei hamddiffynfeydd yn barod i ymladd.
Y pechodau ymma yn dy galon di sydd yn barod wedi ei harfogi i ymladd yn erbyn Duw ar y gair cyntaf, neu yr alarwm cyntaf a ddêl oddiwrth un brofedigaeth; ie myfi a anturiwn wirhau a phrofi, fôd y pechodau ymma yn annog Duw i ddigio, ac ydynt cynddrwg, onid ydynt yn waeth, na phechodau dy fywyd di: oblegid,
1. Pechod dy galon, neu dy naturiaeth, efe ydyw r achos, y bru sydd yn cynnwys, yn magu, yn dwyn allan, yn maethu r holl dorllwyth, yr holl dorfeydd ymma o bechodau y rhai ydynt yn dy fywyd di, ac am hynny gan ei fôd ef yn rhoddi bywyd a bôd ir holl bechodau eraill, efe ydyw yr pechod mwyaf.
2. Mae pechod yn helaethach yn dy galon nac yn dy fywyd. Nid yw pechod gweithredol ond torriad bychan wedi ei wneuthur gan y mor mawr o bechod sydd yn dy [Page 76]galon di, lle mae r holl bechod, yr holl wenwyn wedi ymgymmysgu ac ymgyfwrdd ynghyd; Nid yw pechod gweithredol ond megis cerpyn wedi ei dorri oddiwrth y dwfnder mawr o bechod sydd yn dy galon di; am hynny y dywed Christ, O helaethrwydd y galon y mae r genau yn llefaru, ac allan o drysser drwg y galon yr ydym ni yn dwyn allan bethau drwg, Mat. 12. Gŵr yn gwario arian (pechod yn ei fywyd yr wyfi yn ei feddwl) nid yw ddim wrth y trysor o bechod sydd yn ei galon.
3. Mae pechod yn wastadol yn dy gâlon, pechodau gweithredol ein bywyd ni sydd yn ehedeg allan fel gwreichion, ac yn diffoddi; ond mae y pentewyn ymma yn llosgi yn wastadol oddi mewn: Mae r llyffant dafadennog yn poeri gwenwyn weithie, ond mae efe yn cynnwys ac yn cadw ynddo naturiaeth wenwynllyd bôb amser; oddiyma y mae r Apostl yn i alw ef, pechod yr hwn sydd yn trigo ynofi; hynny [Page 77]ydyw yr hwn sydd yn gorphywys ac yn aros yn wastad ynofi: Felly o herwydd pechodau dy galon, yr wyti yn rhwygo yn ddrylliau ac yn torri, 1. holl gyfreithiau Duw, 2. ar unwaith, 3. bob munyd oth fywyd. Oh! mi a dybygwn y galle ddwys ystyriaeth or peth hyn dorri calon o graig yn ddrylliau, wrth feddwl fy môd i yn digio Duw bôb amser, beth bynnag a wnelwyf, Mat. 7.18. Yn bedwerydd, pechodau gweithredol ydynt yn unig yn y bywyd, ac or tŷ allan ir porth; Pechodau 'r galon ydynt or tu fewn ir tŷ; ûn gelyn yn y dref sŷdd waeth na llawer oddi allan; bradwr ar yr orseddfaingc sŷdd waeth na bradwr y ny maes allan. Y galon ydyw gorseddfaingc Christ, A gwaeth yw bod môch yn yr ystafell orau nac yn y tŷ oddi allan. Mwy a allwn i ddywedyd, ond fel hyn di a wêli nad yw pechôdau dy fywyd di cynddrwg, nag yn annog digofaint Duw mor greulon yn dy erbyn di, a phechodau dy galon di.
Gan hynny na alara yn gimmint, na buosti yn gynddrwg ar gwaethaf, ond edrych ar dy draed duon, edrych i fewn ith galon dy hun, (ac alara o herwydd y pechôdau sŷdd yno) fe allei dy fôd di yno cynddrwg ar gwaethaf, na alâra yn gimmint yn unig am ddarfod i'tti bechu, ond hefyd am fôd genniti naturiaeth mor bechadurus, a bod dy naturiaeth di i fôd yn falch, a bôd dy naturiaeth di i fod yn ofer, ac yn dwyllodrus, a ffieiddia nid yn unig dy bechodau, ond dy hunar hefyd am bechod, gan dy fôd di yr llawn hyd yr ymmyl o anghy fiawnder. Ond nid dymma r cwbl, ystyria yn bedwerydd,
4. Fôd, pa beth bynnag a wnelo dŷn naturiol, yn bechod; fel ac y mae r tŷ fewn yn llawn, felly nid yw r tŷ allan ddim arall ond pechod, (or hyn lleiaf) yngolwg y Duw sanctaidd, er nad yngolwg dynion deillion pechadurus. Yn siccir fe all wneuthur llawer o bethau, y rhai oi rhan ei hunain ydynt ddu, [Page 79]megis rhoddi elusenau, gweddio, ymprydio, dyfod ir llan i wrando 'r gair, ond fel y maent yn dyfod oddiwrtho ef, maent yn bechod; megis y gall ûn adrodd geirian daionus, ond nid allwn aros i wrando arno ef, oblegid ei anadl drewllyd yr hwn sydd yn ei halogi hwynt: Mae rhai gweithredoedd yn ei naturiaeth gyffredinol heb fod nag yn ddrwg nag yn dda; Ond pôb gweithred a wneler mewn pwyll, ond ei hystyried hi ynddi ei hun gida ei holl berthynasau, megis amser, lle, annogaeth, a fernir naill ai yn dda, ai yn ddrwg; yn dda, mewn dynion da, yn ddrwg, mewn dynion drwg, heb i geni o newydd: O ran gadewch i'ni edrych ar weithredoedd neilltuol dynion drygionus.
1. Holl feddyl-fryd ei calonnau sŷdd yn unig yn ddrygionus bôb amser, Gen. 6.5.
2. Ei holl eiriau ydynt bechadurus, Psa. 50.16. Bedd agored y w ei ceg, Rhu. 3.13. Yr hwn fydd [Page 80]yn swyro yn ddiffaith pan agorer ef.
3. Ei holl weithredoedd cyffredin hwynt sydd bechod, megis ei gwaith hwy yn bwyta, yn yfed, yn prynnu, yn gwerthu, yn cysgu, yn aredig, Dih. 21.4.
4. Ei holl weithredoedd crefyddol hwynt ydynt bechadurus, megis dyfod ir llan a gweddio, Dih. 15.8, 9.28.9. Ei hymprydio ai halaru; llefa a gwaedda allan o honot dy hun hyd ddydd y farn mae r cwbl yn bechod, Esa. 58.
5. Ei holl weithredoedd hwy, yr rhai y bo mwyaf o Zel ynthynt, ydynt bechadurus, fel Jehu r hwn a laddodd holl offeiriaid Baal; yr oedd ei weithred ef oddi allan ynddi ei hun yn dda, am hynny fe ai gwobrwyodd Duw ef a bendithion amserol; ond yr oedd gantho ef lygad gwalch i geisio, ac i sefydlu teyrnas iddo ei hûn drwy 'r moddion hyn, ac felly yr oedd efe (mewn modd ysprydol) ai weithred yn ddrwg, gan hynny mae Duw yn bygwth [Page 81]ymddial arno, Hosca 1.4.
6. Ei Doethineb hwynt sydd bechod. O yr ydis yn fynych yn canmol dynion am ei doethineb, ei synwyr, ai donniau, etto r synwyr ar doethineb hwnnw or eiddynt hwy sydd bechod, Rhu. 8. Doethineb y cnawd sydd elynieth i Dduw.
Fel hyn y mae r hyn oll sydd ganthynt ac a wnant yn bechod; Canys pa fodd y gall nêb wneuthur gweithreď dda yr hwn sŷdd ai gorph yn aflan; Nid all pren drwg ddwyn ffrwyth da, Math. 7.18, 34. Yr wyti allan o Grist, gan hynny dy holl bethau daionus, ar hôll gymmwynasau neu r caredigrwydd y wnaethosti ir Arglwydd, fel yr wyt'i yn tybied, ydynt gas gantho ef. Gadewch i wraig geisio rhoddi iw gŵr yr hôll fodlonrwydd a all fôd yn bossibl iddi, nid o gariad yn y byd arno ef, ond yn unig o gariad i ŵr arall, mae efe yn ffieiddio yr hyn ôll y mae hi yn ei wneuthur. Pôb dŷn drygionus sydd arno eisieu gwreiddin o gariad oddifewn [Page 82]att Dduw a Christ, ac am hynny er iddo geisio anrhydeddu Duw yn gimmint ac a allo, yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur yn bod o gariad iddo ei hunan, mae Duw yn ffieiddio yr hyn y mae efe yn ei gyflawni. Yr holl Bethau da y mae dŷn drygionus yn ei wneuthur, ydynt er ei fwyn ei hunan, naill ai er parch iddo ei hunan, ai er esmwythdra iddo ei hunan, ai er bodlonrwydd iddo ei hunan, ai er diogelwch iddo ei hunan; Mae efe yn cyscu, yn gweddio, yn gwrando, yn llefaru, yn proffessu iddo ei hunan yn unig; Oddiymma gan el fod yn gweithredu r cwbl yn wastadol iddo ei hunan, mae efe yn gwneuthur y radd ûchaf o ddelwaddoliaeth, ac yn tynnu Duw allan oi orseddfaingc, ac yn ei wneuthur ei hun yn Dduw, oblegid iddo ei wneuthur ei hun yn ddiben eithaf ymhob gweithred: O'ran mae dŷn yn ei osod ei hun yn lle Duw yn gystadl drwy ei wneuthur ei hun yn ddiben eithaf, a phe gwnai efe ef ei [Page 83]hun yn ddechreuad cyntaf. Pechod ydyw gwrthodiad neu ymadawiad oddiwrth Dduw, yrawron mae pob dŷn naturiol yn aros mewn cyflwr o wahaniaeth oddiwrth Dduw, o'ran i fod ef yn hollhawl heb gwlwm Ʋndeb, sef ffydd: mae efe yn wastadol yn pechu, a melldith Dduw yn gorphywys arno ef, gan hynny nid yw ef yn dwyn allan ddim ond drain a mieri.
Gwrth. Ond ti a ddywedi, os ydyw ein gwaith ni yn gweddio, ac yn gwrando yn bechod, pa ham yr arferwn ni y dyled-swyddau ymma? Ni wasanaetha i'ni bechu.
Atteb.
1. Dyled-swyddau daionus ydynt dda ynddynt ei hunain, ond ond fel y maent hwy yn dyfod oth galon ddrygionus di, maent yn bechodau.
2. Mae yn llai pechod ei gwneuthur hwynt, nai hesceuluso, neu ei gadel hwy heb ei gwneuthur; gan hynny os ei di i uffern, dos ar hyd y llwybr teccaf y gellych di yno.
3. Mentria a phrawf, fe alle y [Page 84]gwrendu Duw arnati, nid er mwyn dy weddi, ond er mwyn ei enw ei hun. Fe a helpiodd y Bàrnwr anghyfiawn y wroig weddw dlawd, Luc. 18.5. Nid o'ran ei fod efe yn ei charu hi nai hymbiliad, ond o herwydd ei thaerder; Ac felly bŷdd dithau siccir na chei di ddim oni cheisi di: Bêth er dy fod di yn gi, yr wyti etto yn fyw, ac yr wyti yrawron tan y bwrdd, na ruthra att Grist, na chippia moi fara ef, ond disgwyl hyd oni roddo Duw ef i'ti; fe alle i'ti ei gael ef ryw ddydd. Oh rhyfedda gan hynny wrth ddioddefgarwch Duw, gael o honoti fyw ûn diwrnod yn hwy, yr hwn a ddarfu itti yn holl amser dy fywyd, fal llyffant gwenwynllyd aflan boeri dy wenwyn yn wyneb Duw, fal na chafodd efe erioed lonyddwch genniti: Oh edrych ar yr yscrifen hagr ddû honno a roddir yn dy erbyn di ar y dŷdd mawr hwnnw o gyfrif, lle y bydd rhaid itti atteb a fflammau tân ynghylch dy glustiau, nid yn unig am dy feddwdod, dy [Page 85]lwon gwaedlyd ath butteindra, ond hefyd am holl weithredoedd dy fywyd, ac yn union cinnmint o weithredoedd ac a wnaethost, cimmint a hynny o bechodau fydd arnati. Fe ddarsu i'tti (ond odid) orchguddio dy wyneb yrawron, a dyled-swyddau daionus, ac ychydig ewyllysiau da; Ac mae ychydig onestrwydd ymysc rhai dynion mewn cimaint cyfrif, ac mor odidawg, na fedrant hwy lai na thybied fod Duw yn rhwymedig iddynt hwy, os gall efe gael ûn we [...] thred dda oddi wrthynt; Ond pan ddyger dy wyneb paintiedig di oflaen tân digofaint Duw, yna 'r ymddengys dy holl fryntni di oflaen dynion ac angylion: Oh gwybydd, fel na wnaethost di ddim arall ond pechu, felly y mae Duw yn pentyrru i fynu ei ddigofaint erbyn ofnadwy ddŷdd y digofaint.
Hyn ymma am drueni dyn o herwydd pechod.
Yn awr y canlyn ei drueni ef o herwydd y peth sydd yn dilyn [Page 86]pob pechod y rhai ydynt.
- 1. Pethau presennol.
- 2. Pethau i ddyfod.
1. Yn gyntaf, trueni presennol dŷn, yr hwn sydd yn gorphywys arno ef am bechod, ydynt y saith ymma; sef,
Yn gyntaf, mae Duw yn elŷn ofnadwy iddo ef, Psa. 5.5, 6.
Holi. Pa fodd y gall dŷn adnabod un arall i fod yn elyn iddo.
Atteb.
1. Wrth ei olwg. 2. Wrth ei fygythion. 3. Wrth ei ddyrnodiau. Felly, yn gyntaf, mae Duw yn cuddio ei wyneb oddiwrth bôb dyn naturiol, ac nid edrych arno ef, Esay. 59.2.
Yn ail, mae Duw yn bygwth, nage yn melldigo, pôb dŷn naturiol.
Yn drydydd, mae Duw yn rhoddi iddynt wialennodiau trymmion gwaedlyd ar ei heneidiau ai cyrph.
Na cheisiwch ddywedyd i'mi gan hynny fod Duw gwedi eich bendithio [Page 87]chwi yn eich stâd oddi allan, nid oes ûn arwydd siccrach o ddigo faint Duw yn dy crbyn di, nac ir Arglwydd roddi i'tti dy rwyfc, megis tâd yr hwn nid edrych ar ôl mâb afreolus, ond efe âd iddo redeg lle y mynno: Ac os bydd Duw yn elyn i'tti, yna pob creadur a fydd felly hefyd i'ti, yn y nêf ar ddaiar.
2. Yr ail achos o drueni presennol dyn a ellir i weled yn yr ail bennod att yr Ephesiaid ar ddeuddegfed wers. Fel ac y maent yn estroniaid oddi wrth ammodau r addewid, heb obaith ganthynt, ac heb Dduw yn y bŷd: Yr ydis yn dywedyd yn amser y newyn mawr yn Samaria, fôd yn gwerthu tom colemmennod am bris mawr, oblegid bod yno eisiau bâra. Oh mae dynion yn byw, ac yn curio ymmaith heb Dduw, ac heb fâra, ac am hynny mae 'r dom o fodlonrwydd bydol mewn cimmint cŷfrif gida hwynt: Ti a gollaist bresennoldeb Duw, a chariad Duw, ac yspysol gadwedigaet [...] [Page 88]Duw; mae cospedigaeth Cain yn gorphwys arnati yn dy gyflwr naturiol, yr wyti yn cyrwydro oddiwrth wyneb Duw, ac ni chei di wêled moi wyneb ef. Te wallgofodd llawer wrth wêled ei tai wedi ei llosgi, ai dâ wedi ei colli. Oh, mae Duw y daioni mwyaf wedi colli. Y golled ymma a wnaeth i Saul mewn cyfyngder cydwybod weiddi allan, 1 Sam. 28.15. Y Philistiaid a ryfelasant yn fyerbyn, ar Arglwydd a gili [...]dd oddi wrthif: bod heb hyfryd bresennoldeb yr hwn dros ychydig amser yn unig, a wnaeth ir Arglwydd Jesu weiddi allan, fy Nuw, fy Nuw pa ham im gad waist. Yr wyti wedi colli Duw holl amser dy fywyd; Oh mae genniti galon o brês, nad wyti yn alaru am ei fod ef yn absennol oddiwrthit cyhyd o amser. Y rhai damnedig yn uffern a gollasant Dduw, ac a wyddant hynny, ac felly mae 'r plaeau o ofid anobeithiol yn gorphywys arnynt hwy; Ty di a gollaist Dduw ymma, ond ni wyddost ti, ac mae plâ o [Page 89]galon galed yn aros arnat ti gan nad wyti yn alaru am y golled ymma.
Yn drydydd, dynion damnedig ydynt hwy gwedi ei barnu, fe ai barnwyd hwynt yn llŷs cyfiawnder Duw gan y gyfraith, yr hon sŷdd yn gweiddi, teyrnfrad, Teyrnfrâd yn erbyn y Duw goruchaf; fe ai barnwyd hwynt yn llŷs ei drugaredd ef gan yr Efengil, yr hon sydd yn gweiddi, llofruddiaeth, llofruddiaeth yn erbyn mâb Duw, Joan 3.18. fel hyn y mae pôb dŷn naturiol gwedi ei felldigo yn y nef, ac ar y ddaiar. Duw ydyw dy farhwr ofnadwy di, yr hwn sydd yn gweled yr hyn oll yr wyti yn ei wneuthur. Dy gydwybod ydyw dy gyhuddwr di, a thŷst trwm yn dy erbyn di: Y bŷd ymma ydyw dy garchardy, dy chwantau cnawdol dy lyffetheiriau di. Yn y bibl ymma (sef gair Duw) yr adroddwyd ac yr yscrifenwyd dy farin di, marwolaeth ydyw dy ddihenyddiwr, ar tân yr hwn ni ddiffyd [...] [Page 90]byth ydyw dy boenau di. Yr Arglwydd oi anfeidrol ddioddefgarwch ath oedodd di dros amser: O cymmer ofal, a chais faddeuant cyndyfod dydd y dihenyddiaeth arnati.
Yn bedwerydd, wedi dy farnu, fe a ddywedir, Ceidwad y carchar cymmer ef, mae efe yn gaethwas i Satan, Canys ei weision ef yaych, yr hwn yr ufuddhasoch iddo, medd Christ, Joan 8.34. Mae pôb dŷn naturiol yn gwneuthur gwasanaeth ir cythrael, ac yn dwyn ei faich ef; A pha fodd bynnag y mae efe yn dywedyd i fod ef yn ffieiddio ac yn ymmwrthod ar cythrael, etto mae efe yn pechu, ac felly yn gwneuthur ei waith ef. Satan a orchfygodd ac gwncweriodd holl ddynion y bŷd yn Adda, ac am hynny maent dan ei gaethiwed ai reolaeth ef. Ac er nadiall efe drais-gymmell dŷn i bechu oi anfodd, etto mae gantho ef allu; yn gyntaf, i osod o'flaen dyn bechod, ac i hudo calon dŷn drwy brofedigaethau pechadurus.
[Page 91]Yn ail, iw gynllwyn ef a nhwy, o bydd efe yn swrn an-hŷ ar y cyntaf, ac yn swrn anodd gantho ei derbyn.
Yn drydydd, iw aflonyddu ac iw gythryblu ef oni ymrû ef, fal y gellid dangos drwy lawer o resymmau ac ensamplau.
Yn bedwerydd, heb law hynny, efe a wyr oddi wrth ei hympwy hwynt. Fel boneddigion tlodion a ymwelant ai cyfneseifiaid yn ei hangen (etto mewn rhith caredigrwydd) mae efe yn ei gymhwyso ei hûn iddynt hwy, ac felly yn ei hennill hwy, fel yr eiddo ei hun. O mae efe mewn caethiwed, ofnadwy yr hwn sydd dan Arglwyddiaeth Satan, yr hwn yn gyntaf, sydd elyn dirgel i'tti.
Yn ail, yn elyn twyllodru i'tti, yr hwn a wna i ddŷn goelio (fel y gwnaeth ef i Efa, ie yn ei pherpheithrwydd) i fôd ef mewn ffordd dêg pan fo ei gyflwr ef yn resynol ac yn enbyd.
Yn drydydd, mae efe yn elyn neu yn Arglwydd creulon ar yr rheini [Page 92]sydd yn gaeth weision iddo ef, 2 Cor. 4.4. Mae efe yn ei cosp ffrwyno hwynt fel na fedrant siarad (mal y dŷn hwnnw yr hwn oedd gantho gythrael mûd) nac am Dduw, nac wrth Dduw mewn gweddi; Mae efe yn ei newŷnu hwynt, fal nad all un bregeth wneuthur iddynt ddim daioni byth; Mae efe yn ei hyspeilio hwynt ain yr hyn oll a gaffont hwy yn ordinhadau Duw, ofewn tair awr wedi darfod y farchnad, neu 'r bregeth.
Yn bedwerydd, mae efe yn elŷn cadarn i'ti, Luc. 11.21. Yn gimmint as os gall holl gythreuliaid uffern gadw dŷn rhag dyfod allan oi bechodau, efe ai gwnâ: Mae efe cyn gryfed gelyn, ai fôd ef yn cadw dynion oddiwrth gimmint ac ochneidio neu riddfan tann ei beichiau ai caethiwed. Pan fo gŵr cryf arfog yn cadw ei neuadd, mae r hyn oll sydd gantho mewn heddwch.
Yn bummed, efe a daflwyd ir tywyllwch eithaf. Fel creulon geidwaid carcharau y rhai a fyddant arfer [Page 93]o roi ei carcharorion, yn y daiardai gwaethaf; felly mae Satan yn gwneuthur a dynion naturiol, 2 Cor. 4.3, 4. Nid ydynt yn gweled na Duw, na Christ: Nid ydynt yn gweled dedwyddwch y sainct yn y goleuni, Nid ydynt yn gweled mor poenydiau ofnadwy rheini, y rhai a ddylei yrawron yn y dydd ymma o râs i deffroi ai darostwng hwynt.
Oh y traws lwybrau rheini r hyd pa rai y mae miloedd yn crwydro oddiwrth Dduw, nid oes ganthynt ûn llusern neu oleuni iw traed i ddangos iddynt pa le y maent yn cyfeiliorni. Dydi 'r hwn wyt yn dy gyflwr naturiol, wyt wedi dy eni yn ddall, ar cythrael a ddallodd dy lygaid di yn fwy drwy bechod, a Duw yn ei gyfiawnder ai dallodd hwynt yn waeth am bechod: felly yr wyti ynghongl uffern, oblegid dy fod di yn y tywyllwch eithaf, lle nid wyti yn cael dim llewyrch o ûn gwirionedd, sydd yn perthyn i iechydwriaeth.
[Page 94]Yn chweched, Maent hwy yn rhwym ei tra d ai dwylo yn y cyflwr ymma, ac nid allant ddyfod allan o hôno, Rhuf. 5.6. 1 Tim, 2.26. Canys pôb math ar bechodau fel cadwynau, ydynt wedi rhwymo holl rannau a chynneddfau dŷn, fal y mae efe yn ddigon siccir, nad all ef gychwyn; ac maent yn grŷf iawn ynddo, ac mor anwyl gantho ai aelodau ei hûnan, ie ai fywyd ei hun, Col. 3.7. Felly pan ddechreuo dŷn ymadel ai ffyrdd ai ymarferion drygionus, ac amcânu bod yn ddŷn newydd; Y cythraeliaid ai dygant ef yn ei ôl; Y bŷd ai huda ef, ac ai cloiff ef i fynu; y cnawd a ddywed, Oh mae hyn yn helynt rû gaeth, yn iach ddyddiau a chymydeithas ddigrif ar ôl hyn. Oh ti a elli ewyllysio a dymuno dyfod allan weithie, ond ni fedri roddi nerth ith ewyllys, nai oddef ef chwaith. Ti a elli wyro dy ben fel brwynen am bechod, ond ni fedri wir edifarhau am bechod; Ti a elli ryfygu, ond ni elli gredu; Ti elli [Page 95]ddyfod hanner y ffordd, ac ymadel a rhai pechodau, ond nid ath holl bechodau; Tydi a elli ddyfod a chûro wrth borth y nef, fel y gwnaeth y morwynion angall; ond nid elli ddyfod i mewn a myned drwy r porth: Ti a elli weled tir Canaan, a chymmeryd poen fawr yn myned i Canaan, ac a elli brofi grawn-swppiau y tir da hwnnw, ac heb fyth fyned i mewn i Canaan, ir nef; ond gorwedd yn rhwym dy draed ath ddwylo yn y cyflwr gofidus ymma, ac yna mae yn rhaid i'ti orwedd a ffydru, fel celain farw yn ei bedd, hyd oni ddelo r Arglwydd a threiglo ymmaith y garreg, ac erchi itti ddyfod allan a byw.
Yn ddiweddaf, maent yn barod bob mynudyn i ddescyn i uffern; mae Duw yn dan yssol yn dy erbyn di, ac nid oes ond y pâred pappur oth gorph di rhwng dy enaid ti a thragywyddol flammau.
A pha gyn gynted y gall Duw attal dy anadl di? Nid oes ond hynny rhyngotiac uffern; pe bae hynny [Page 96]o anadl gwedi myned heibio, yna ffarwel fyddei ir cwbl oll: Yr wyti gwedi dy farnu, ar dihenyddiwr o flaen dy lygaid, a Duw ai gŵyr pa gyn gynted y gellir troi r yscol; ac nid wyti yn crogi ond megis wrth un edef bwdr oth fywyd vwch ben flammau tân uffern bôb awr.
Hyn ymma am drueni presenol dŷn.
Yn awr y canlyn y trueni sydd i ddyfod arno ar ol hyn.
Rhaid iddynt farw naill ai drwy farwolaeth ddisymmwth, annaturiol neu anobeithiol, Psa. 89.48. Yr hon er ei bod yn gwsg hyfryd i blenryn i Dduw, etto mae yn felldith ofnadwy ir drygionus, yn deilliaw oddiwrth ddigofaint Duw, o ba le fel llew cryf, efe a rwyga y corph oddiwrth yr enaid: Mae marwolaeth yn dyfod dan chwythu arnynt hwy, mal draig danllyd, a cholyn o ddialedd yn ei safn: ac mae hi yn gwneuthur diben ar ei holl fodlonrwydd bydol hwynt, y rhai y mae yn [...]haid iddynt ymadel a nhwy yr [Page 97]amser hwnnw, ac heb ddwyn dim ymmaith gida hwynt ond amdo pwdr. Dechreuad ei gwae ai holl ddialedd ydiw marwolaeth, hwnnw ydiw r tywysog sydd yn târo y dyrnod cyntaf, ac yno mae lluoedd o wâeau di-ddiben yn canlyn ar ei ol ef, Dat. 6.2. Oh gwell a fuasei i'ti fod yn llyffant neu yn gi, na bod yn ddyn, os ti a fyddi marw yn dy gyflwr naturiol; Canys dyna ddiben ar ei cystudd hwynt, pan fônt gwedi meirw, a myned ymmaith: Ond mae dynion cnawdol heb i haileni, yn syrthio fel cerrig ar hyd bryn llibin, heb wybod i ba le: Mae edifeirwch yrawron yn rhy ddiweddar, yn enwedig os buosti fyw dân foddion or blaen, nid yw ond naill ai edifeirwch oer, neu edifeirwch rhagrithiol, yn unig rhag ofn uffern, (pan fytho r galon yn glaf, ar corph gwedi myned yn wan) am hynny ti a ddywedi, Arglwydd trugarha wrthif, a derbyn fy enaid; nage yn gyffredinol yr amser hwnnw y bydd calonnau dynion [Page 98]galettaf, ac am hynny mae dynion yn meirw fel wyn, ac heb ofni moi cyflwr, hyd oni bytho rhy hwyr; yna y bydd anhawdd tynnu dy enaid di o grafangau r cythrael, i ba un y rhoddaist ti ef holl ddyddiau dy fywyd drwy bechod; A phe câet ti ef yn ei ôl, yr hyn beth sydd amhossibl, a wyt ti yn tybied y cymmer Duw weddill y cythrael; yn awr mae dy ddiwrnod di wedi myned heibio, a thywyllwch sydd yn dechreu myned dros dy enaid di, yn awr mae r cythreiliaid yn ymdyrru ith ystafell di, i ddisgwyl am dy enaid ti, i ruthro arno ef, fal Mastiff pan agorer y drws: A dymma r achos paham y mae y rhan fwyaf yn meirw yn esmwyth, y rhai y fuont fyw yn ddrygionus, oblegid mae r cythrael gwedi perchennogi hwynt or blaen fel yr eiddo ei hun; yn debig i yspeilwyr ar fôr, y rhai adawant i long y fo yn wag o ddâ fyned heibio, ac a saethant att y llong a fo yn llwythog o gyfoeth; y Christianogion mewnrhyw ran or brif eglwys [Page 99]gynt, a gymmerent y cymmun bôb dydd, o ran yr oeddynt yn edrych am farw bôb dydd; Ond yr amseroedd ymma, ymha rai yr ydym ni yn byw, ydynt gwedi ei gwenwyno, ai gorchfygu felly gan ddiofalwch, hyd onid yw yn beth rhyfedd weled dyn yn edrych marwolaeth yn wastadol yn ei hwyneb ûn awr or ûntŷ; Ond fe a rydd marwolaeth ddyrnod chwerw ar yr rhain ryw ddydd.
Yn ail, ar ôl marwolaeth rhaid iddynt ymddangos o flaen yr Arglwydd mewn barn, Heb. 9.27. Ei cyrph hwy yn ddiau a bydrant yn y bedd, ond rhaid iw heneidiau hwy ddychwel gar bron yr Arglwydd, Pregethwr 12.7. Y farn gyffredin a fydd ar ddiwedd y byd, pan fytho yn rhaid ir enaid ar corph ymddangos gar-bron brawdle Christ, ar holl fyd i roddi cyfrif; Ond mae barn neilltuol yr hon a gyferfydd pob dyn a hi ar ôl y bywyd ymma yn ddiattreg, a [...] ddiwedd ei fywyd ef, lle y bernir ei enaid ef [Page 100]oflaen yr Arglwydd; chwi ellwch ddeall beth yw y farn neilltuol ymma, fel hyn.
1. Y dylei bôb dŷn farw y dydd cyntaf y ganer ef, sydd eglur: Canys cyflog pechod yw marwolaeth, Rhuf. 6.23. v. 12. Mewn cyfiawnder gan hynny fe ddylid talu r ddyled ymma, gan bôb creadur pechadurus, pan ei ganer ef gyntaf.
2. Fel hyn y byddei ir holl ddynion drygionus, oni bae ddarfod i Grist bwrcasu ei hoedl iddynt dros amser, 1 Tim. 4.10. Efe ydiw achubwr yr holl ddynion, hynny ydiw, nid achubwr ô gadwedigaeth tragywyddol, allan o uffern, ond achubwr o gadwedigaeth amserol, rhag cwympo i uffern.
3. Yr ennyd ymma o amser gwedi ei bwrcasu fel hyn gan Grist, ydiw y pryd, ymha un y gall dŷn wneuthur i heddwch a Duw, yr hwn sydd anfodlon iw bechod ef.
4. Oni wna dynion fel hyn, o fewn y dryll ymma o amser, yna [Page 111]marwolaech ai cippia hwynt ymmaith, barn yn unig sydd yn ôl iddynt hwy; Dydd ei hedifeirwch hwynt sydd wedi darfod, ac yna r farn o farwolaech dragywyddol sydd wedi passio arnynt, yr hon nid ellir moi galw yn ôl drachefn; a dymma farn ar ôl marwolaeth; Yr hwn ai i [...]wn farno ei hun, medd yr Apostl, 1 Cor. 11.31. ni fernir gan yr Arglwydd. Yn awr dynion drygionus ni euog-farnant monynt ei hunain yn y bywyd ymma, gan hynny yn niwedd y byd Duw ai barna hwynt; Yr holl ddynion naturiol ydynt gwedi ei cyfrgolli yn y bywyd ymma; Ond fe a ellir ei cael ai amddiffin hwy drachefn; Ond colled dŷn drwy farwolaeth, sydd heb obaith ei chael yn ôl fyth, canys nid oes dim moddion ar ol marwolaeth iw dychwel hwynt yn ol; Nid oes ûn cyfaill i berswadio, nid oes ûn gweinidog i bregethu, drwy ba fodd y gweithir ffydd, ac y mae rhai yn arferol o ddyfod att Grist; nid oes dim gallu i ddychwelyd neu [Page 102]i edifarhau y pryd hynny; canys y nôs a ddaeth, ar dydd aeth heibio.
Dràchefn y gospedigaeth sydd drom; dioddef digofaint yn wastadol sydd raid iddynt, hyd oni bytho ei holl serch ai meddyliau wedi ei cymeryd i fynu ar pwys hwnw, ac am hynny yr oedd y glwth goludog yn gweiddi allan, fe am poenir i yn y fflam hon; O nad alle r ystyriaeth or pwngc ymma ddeffroi pôb pechadur diofal; Beth a ddaw oth enaid anfarwol di pan fych di farw; Tia ddywedi nis gwn i, yr wyfi yn gobeithio r goreu; Myfi a ddywedaf iti gan hynny y peth a allei dy yrru di ith dŷ dan alaru, ac ith fedd dan grynnu. Os ti a fyddi marw yn y cyflwr ymma sef heb dy ail-eni, ni chei di farw fel ci, nac fel llyffant; Ond ar ôl marwolaeth fe ddaw barn; yna rhaid canu yn iâch i Dduw, i gyfeillion, ac ir cwbl pan fych di marw; Yr Arglwydd a agôro eich llygaid chwi yn awr i weled poenau ofnadwy 'r farn [Page 103]neilltuol ymma; Yr hyn pei gwelych chwi (oni byddech chwi allan och cof) fe a wnai d'chwi dreilio nosweithiau, a diwrnodiau cyfan, i wneuthur yn union rhyngoch chwi a Duw.
Myfi a ddangosaf i chwi yn fyrr fodd a naturiaeth y farn neilltuol ymma.
Yn gyntaf, dy enaid di a rwygir allan oth gorph, fel allan o garchar drewllyd, gan y cythrel, i ryw fan o fewn ymysgaroedd y drydydd nefoedd, ac yno fe fydd rhaid i'ti sefyll yn noeth oth holl gyfeillion, o'th holl ddiddanwch, or holl greaduriaid, o'flaen presennoldeb Duw, Luc. 9.27.
Megis ar amser sessiwn, yn gyntaf y swyddog a ddwg allan ei garcharorion.
Yn ail, yna y rhoddir goleuni yn dy enaid ti, drwy ba ûn y caiff ef weled gogoneddus bresennoldeb Duw; Megis carcharorion a llygaid ac a chalonnau euog a edrychant yn ofnus ar y barnwr; Yn [Page 104]awr nid wyti yn gweled ûn Duw yn y byd, ond yr amser hwnnw ti a gei weled yr holl-alluog Jehovah; yr hon olwg ath deru di ag ofn uffernol, ac a dychrynniadau anserth anoddefol, hyd oni byddych di yn gweiddi ar y mynyddoedd ar creigiau am dy guddio di; o greigiua, gr [...]igiau, cuddiwch fi oddiwrth wyneb yr oen, Datc. 6.17. Jer. 10.10.
Yn drydydd, yr holl bechodau a wnaethost, neu a wnei di, a ddeuant ith gof di yn newydd, ac yn eglur; Megis pan ddelo carcharor o'flaen yr ustus, yna ei gyhuddwyr a ddygant i fewn ei profedigaeth, neu ei tystion; Dy gydwybod gysglud a fydd yr amser hwnnw, yn lle mîl o dystion, a phob pechod ai berthynasau, a roir mewn trefn, yn arfog a digofaint Duw, oth amgylch di, Psa. 50.21. Megis llythyrennau a scrifenner a sûg orainds, nid ellir ei darllain, nes ei dwyn yn agos ir tân, ae yna hwy a ymddangosant yn amlwg; felly ni fedri dithau ddarllain y bil gwaedlyd hwnnw [Page 105]o gyhuddiad, y mae dy gydwybod yn ei roddi yn dy erbyn di yn awr; ond pan ymddangosych di yn agos o'flaen Duw, yr hwn sydd dân yssol, yna pa gyfriftrwm, tost, a ymddengys i'ti; Nid hwyrach ddarfod i'ti ymadel a llawer o bechodau yrawron, a myned cyn belled a chynyddu felly, na feidr un christion dy ddirnad neu dy adnabod di; Nage, yr wyti yn dy dybied dy hun mewn cyflwr diogel, ond etto mae un twnn yn dy long di, yr hwn ath sudda di; Mae un pechod dirgel cuddiedig yn dy galon di, yn yr hwn yr wyti yn byw, (fel y mae pob dyn llygredig) yr hwn ath gondemnia di; yr wyfi yn dywedyd i'ti, cyn gynted ac y byddych di mârw; yna di gei weled pa le yr oedd y cwlwm yn dy rwymo di, pa le yr oedd dy bechod di r hwn yrawron ath anrheithiodd di byth, ac yno di a wallgofi wrth feddwl; O gwae fi na welais erioed y pechod ymma, yr hwn a gerais i, ac y bum i ynbyw ynddo, [Page 106]drwy ba un y dychmygais i, ac y cyflawnais i fy nhragywyddol ddestriw hyd yrawron, pan ydiw hi yn rhy hwyr i wellhau.
Yn bedwerydd, yna r Arglwydd a gymmer ei dragywyddol ffarwel a thydi, ac a wneiff i'ti wybod hynny hefyd; Yn awr mae Duw wedi ymadel a thi yn y bywyd ymma, ond fe all ddychwelyd attati mewn trugaredd drachefn; ond pan ymadawech di oddiyma, os ti a fyddi yn dy gyflwr naturiol, fe a ymâd yr Arglwydd a thi, yr hwn ai holl ddioddefgarwch oedd yn disgwyl am danati; Ac ni chynnygir Christ it'i chwaith byth ond hynny; ag ni ymdrecha yr yspryd glan a thi mwy; ac felly barn a roddir arnati, er nad mewn geiriau ond odid, etto mewn effaith, neu yn ffrwythol, yr Arglwydd a ddywed, Ewch chni rai melldigedig; Yn ddiau ti a weli ogoniant Duw, y peth y mae eraill yn ei fwynhau, ond er mwy o gystydd iti, ni chei di byth brofi o honaw, Luc. 13.28.
[Page 107]Yn Bummed, yna r Arglwydd a rŷdd i fynu dy enaid gwrthodedig i ddwylo r cythreiliaid, y rhai, a nhwy yn geidwaid i'ti, fydd raid iddynt dy gadw di hŷd y dydd mawr o gyfrif; fal ac y mae dy gyfneseifiaid yn ymdynnu am dy dda di, ar pryfed am dy gorph; felly y bydd y cythreiliaid yn ymdynnu am dy enaid di; canys er cynted y bô dŷn drygionus farw, mae efe naill ai yn y nef ai yn uffern; Nid yn y nef, canys ni ddaw yno ddim aflan, Esa. 30.8. Os yn uffern, yna ymysc y cythreiliaid, ac dyna lle bydd ei lettu tragywyddol ef; Ac oddiymma dy enaid gwrchodedig di a fydd yn gorwedd yn alarus, o herwydd yr amser aeth heibio, yrowan mae hi yn rhy ddiweddar iw alw ef yn ôl drachefn: Nid oes dim ond griddfan tann anoddefol boenau o ddigofaint presennol Duw, a synnu o herwydd tragywyddoldeb y trueni, ar cystydd sydd i ddyfod, gan ddisgwyl am yr awr ofnadwy hono, pan utcano [Page 108]r utcorn, ac yno r enaid ar corph a gŷd ymgyfarfyddant i oddef y digofaint hwnnw, ar tân hwnnw yr hwn ni ddiffydd yn dragywydd. Oh gan hynny meddwl ac ofna r gwaethaf am danat dy hûn yrowan; Ni ddarfu i'tti (ond yn anfynych, neu ond odid) erioed gythryblu dy ben ynghylch yr achos ymma, pa ûn a wna Christ ai dy achub di ai peidio; Mae genit i ond odid y fath obeithiau cadarn, ar fath ymddiried yn barod yr achub efe dydi; Ond gwybydd, fod yn bossibl i'ti gael dy dwyllo; Ac os felly, pan wypech di dy farn ar ôl marwolaeth, ni chei di un awr mwy i wneuthur dy dangnhefedd, ped wylit ti ddagrau o waed; Os bydd naill ai gorchudd o anwybodaeth o flaen dy lygaid ti, fel napcin ynghylch wyneb un wedi ei fwrw iw golli, neu os wyti wedi dy rwymo ac ûn trachwant, neu os wyti yn llunnio maddeuant i'ti dy hun, ac yn cyhoeddi heddwch ith enaid dy hun, (o'ran bôd ychydig drymder [Page 109]arnati am dy bechodau, ac yn ymroi na wnelych di byth y fath beth drachefn) ûn wyti a fydd rhaid iddo ar ôl marwolaeth ymddangos ger bron yr Arglwydd mewn barn; Tydi yr hwn wyt fel hyn wedi dy farnu yrawron, ac yn marw felly, tydi a ddeui ith farn ofnadwy ar ôl marwolaeth.
Fe fydd barn gyffredinol ar enaid a chorph ynghyd a hynny yn niwedd y bŷd; ymha amser y cânt hwy ei barnu ai condemnio oflaen brawdle Christ, 2 Cor. 5.10. Jud. 14.15. Clywed son am y farn i ddyfod a wnaeth i Felix grynnu, Act. 24.25. Nid oes dim fwy ei rinnwedd ai allu i ddeffroi pechadur diofal, na meddyliau dwys am y dŷdd tanllyd ymma.
Ond ti a ofyni, pa fodd y gellir profi y bydd y fath ddydd?
Myfi attebaf, cyfiawnder Duw sydd yn galw am dâno, yn y byd ymma y mae amynedd, Dioddefgarwch, a haelioni Duw yn ymddangos tuag at ddynion, ac oddiwrth [Page 110]hyn mae pawb yn cyfaddef ac yn tybied (ô herwydd iddynt wybod drwy brofiad oddiallan) fod Duw yn drugarog; ond mae cyfiawnder Duw yn cael ei ammau; Mae dynion yn tybied fôd Duw yn drugaredd i gid, heb ddim cyfiawnder; Môl ei gid, heb ddim colyn; yn awr mae r drygionus yn llwyddo yn ei holl ffvrdd, ac heb ddioddefdim cos [...]edigae [...]h un amser, ond byw a marw yn heddychlawn; pan yw y rhai Duwiol yn cael ei cystuddio ai gwradwyddo beunydd: Am hynny o ran bod y priodolaeth ymma or eiddo Duw yn goddef megis ei dywyllu yn holl-hawl gan mwyaf yrawron, rhaid yw dyfod dŷdd ymha ûn y bydd rhaid iddo ddisgleirio oflaen yr holl fyd yn ei ogoniant, Rhuf. 2.5.
Yr ail rheswm sydd oddiwrth ogoniant Christ; fe ai cyhuddwyd ef, fe ai daliwyd, ac fe ai barnwyd gan ddynion Joan 5.27. canys dymma ddarn arferedig ô ragluniaeth Duw tuag at ei blant; yr ûn caledi [Page 111]y mae efe yn ei bwrw hwynt iddo yrawron, y mae efe yn ei derchafu nhwy ir gwrthwyneb ddaioni yn ei amser ei hûn, yr hwn yw 'r amser gorau; megis ac yr oedd yr Arglwydd yn amcânu gwneuthur Joseph yn llywodraethwr ar yr holl Aipht; ond yn gyntaf efe ai gwnaeth ef yn gaeth-wâs; yr oedd gan Dduw feddwl i wneuthur Christ yn farnwr ar ddynion, am hynny mae efe yn dioddef iddo ef gael ei farnu gan ddynion.
Ond pa bryd y bydd dydd y farn ymma?
Er na fedrwn ni ddywedyd y dydd ar awr yn neilltuol, etto mae yn siccir gennym hyn, pan alwer yr etholedigion i gid oll, er mwyn pa rai y mae r byd yn sefyll, Esa. 1.9. pan dynner ymmaith y colofnau ymma, yna gwae ir byd; megis pan gymmerwyd Lot allan o Sodoma, yna Sodoma a losgwyd, Gen. 19.24. Yn awr nid yw debygol y daw mor amser ymma ennyd etto; canys yn gyntaf, rhaid iw difetha yr Anghrist, a rhaid iw galw, [Page 112]nid yn unig yr Iddowon gweledig y rhai sydd ar wasgar, ond hefy holl gorph yr Israeliaid, a chae eglwys ogoneddus ymma ar y ddaiar Ezec. 37. Yr hon eglwys yr yscrythyr a rheswm a gadarnhânt y bydd hi; A phan alwer hi, ni bydd arni ddiwedd cyn gynted ac y gâner hi; Ond hi a erys dros lawer blwyddyn.
Ond pa fodd y bydd y farn ymma?
Mac 'r Apostl yn ei osod ef allan, 1 Thess. 4.16.17.
Yn gyntaf, Christ Jesu a dyrr allan or drydydd nef, ac y welir yn yr awyr, cyn ir meirw gyfodi, a hyn sydd gida gida gwaedd ryfeddol; Megis pan fo brenin yn dyfod i orfoleddu ymmysc ei ddeiliaid, neu ar ei elynion.
Yn ail, yna y clywir llais yr Archangel; yrowan yr Archangel ymma ydiw Christ Jesu ei hunan, me gis y mae r scrythyr yn deongl; o [...] a rydd waedd eglur lle clywo r holl fŷd, hyd oni bo r nefoedd yn yscwyd; [Page 113]gan ddywedyd, cyfodwch y meirw a dowch ir farn, yr un modd ac y galwodd ef ar Lazarus, Lazarus tyred allan, Joan 11.43.
Yn drydydd, yr utcorn a gân, yn yr un modd ac wrth roddi, r gyfraith, Exod. 19. yr ydis yn dywedyd ir utcorn ganu; vwch o lawer y cân ef yrowran pan ddel yr Arglwydd i farnu dynion a dorrasant y gyfraith.
Yn bedwerydd, yna y cyfyd y meirw; Cyrph y rhai y fuant feirw yn yr Arglwydd a gyfodant yn gyntaf, yna 'r lleill y fônt yn fyw a symmudir, fel Enoch, ac a gyfnewidir, 1 Ccr. 15.51, 52.
Yn bummed, pan fo 'r barnwr ar y faingc fal hyn, ar ustusiaid ar ddeheulaw Christ ar ei gorsedd-feing [...]iau, yna y dygir allan y carcharorion euog, ac nhwy a ddeuant o [...] beddau fel llyffaint aflan erbyn ydemhestl ofnadwy ymma; yna y ceiff yr holl rai drygionus y fu erioed ac a fydd byth, sefyll dan grynnu o flaen y barnwr gogoneddus [Page 114]ymma, ar un cyrph, traed, a dwylo, i dderbyn ei barn.
Oh ystyria, y diwrnod ymma, tydi yr hwn wyt yn byw yn dy bechodau yrowan, ac etto wyt yn ddiogel ac yn ddiofal: mae diwrnod yn dysod ymha ûn y cei di dy farnu.
Yn gyntaf, ystyria pwy a fydd dy farnwr; trugaredd, tosturi, daioni ei hunan, ie Jesu Grist yr hwn lawer amser a ddaliodd allan ymysgaroedd ei dosturiaethau tuag attatt ti: Plentyn i Dduw all ddywedyd, daccw fy mrawd, fy nghyfaill, am priod; Ond di a elli ddywedyd, daccw fy ngelyn; efe all ddywedyd y diwrnod hwnnw, daccw ef yr hwn a gollodd ei waed im achub i, tithau a elli ddywedyd, daccw ef yn dyfod, calon yr hwn a drywenais am pechodau, gwaed yr hwn a ddirmygais; hwynt hwy allant ddywedyd, O tyred Arglwydd Jesu, a gorchguddia ni dan dy adenydd; Ond tydi a fyddi yn gweiddi allan, o greigiau syrthiwch [Page 115]arnafia chuddiwch fi oddiwrth wyneb yr oen.
Yn ail, ystyria 'r modd ei daw ef, 2 Thess. 1.7, 8. Fe a ddaw mewn tan fflamllyd; y nefoedd a fyddant ardan, ar defnyddiau a doddant fel plwm poeth arnati; Pan fo ty yn myned yn boeth ar hanner nôs mewn tref pa lefain ofnadwy a wneir yno; Pa faint mwy o lefain a fydd pan fo r holl fyd yn gweiddi tân, tân, ac yn rhedeg i fynu ac i wared am noddfa iw cuddio ei hunan, Ond ni allant gael moni, ond gorsod dywedyd, Oh dymma r diwrnod tywyll o waed a than wedi dyfod, dymma i'mi dâl am fy malchder, dymma i, mi am fy llwon a dymma gyflog imi am fy meddwdod, am fy niofalwch, ac am esgeuluso dyled-swyddau Duwiol.
Yn drydydd, ystyria yr achwynion neu r cyhuddiadau trymion a ddaw yn dy erbyn di y diwrnod hwnnw: Nid oes ûn dyn drygionus yn y bŷd ganmwyaf er tecced y mae efe yn ymddwyn, na wnaeth [Page 116]ryw amser neu ei gilidd y fath ddirgel bechod anferth, yr hyn pe gwyddei rai eraill oddiwrtho, efe a fyddei yn barod iw grogi ei hunan rhag cywilidd; Megis dirgel butteindra, hunan-halogedigaeth, trythyllwch yn y meddwl, gwyr gida gwyr, gwragedd gida gwragedd, megis y mae 'r Apostl yn dywedyd, Rhuf. 1.27. Ar y diwrnod ymma r holl fŷd a gânt weled a chlywed yr holl droeau dihir a wnaed yn y dirgel, y dydd ymma yr agorir y llyfrau.
Ni chymmer dynion mewn llaw, ac ni therfynant chwaith mo lawer achos yn ddirgel; Am hynny fe fydd diwrnod o wrandawiad cyhoedd, ac nid rhyglo pethau i fynu a wneir ar y diwrnod ymma, fel, y mae meddyliau cnawdol yn dychymmig, (sef) Ar y diwrnod ymma yn gyntaf Christ a gyfyd y meirw, ac yna y gwneir didoliad, ac yna y rhoddir y farn olaf, ac yna yn ddisymwth dyna ddydd y farn wedy darfod; Nage, nage, [Page 117]rhaid iddo gymmeryd i fynu ryw fesur mawr o amser, fel y gallo r holl fyd weled dirgel bechodau dynion drygionus y byd, ac am hynny fe a ellir profi, or holl sgrythyr, a thrwy reswm, y peru y diwrnod hwnnw o swydd frenhinawl Christ yn barnu r byd yn hwy ond odid, nag ydiw ei ddirgel weinidogaeth ef yr awr hon yn llywodraethu r byd, (ymha ûn y mae ef yn llai gogoneddus yngolwg dynion) Dychryna di 'r hwn wyt yn gwasanaethu 'r amser, dychryna di ragrithiwr dychryna di r hwn wyt yn byw mewn ûn dirgel bechod o'flaen golwg y barnwr ymma r hwn sydd yn gweled y cwbl; dy gydwybod dy hun yn ddiau a fydd yn Dyst digonol yn dy erbyn di i ddatcuddio dy holl bechodau di yn amser dy farn neilltûol ar ôl dy farwolaeth; Ond yr holl fyd a gant weled yn aml w [...]ith dragywyddol gywilydd (y diwrnod ymma o farn gyffredin) holl helynt y tywyllwch, yr oeddi [...] yn ddirgel yn ei ddilyn.
[Page 118]Yn bedwerydd, ystyria r farn ofnadwy a roddir arnati yr amser hwnnw, Dos ymmaith dy di greadur melldigedig ir tân tragywyddol yr hwn a baratowyd i ddiawl ac iw angylion, Math. 25.41. Yna ti a weiddi allan o trugaredd Arglwydd, o ychydig drugaredd, nachewch (medd yr Arglwydd Jesu) yn ddiau myfi ac cynnygiais ichwi unwaith, ond chwi ai gwrthodasoch. Am hynny ewch ymmaith; Di a ddadleui drachefn, Arglwydd, os rhaid i'mi fyned ymmaith. etto bendithia di fi cyn fy myned, Nage, dôs ymmaith tydi felldigedig: Ond o Arglwydd, os rhaid i'mi ymadel yn felldigedig, gâd i'mi fyned i ryw le da; Nage dos ymmaith tydi felldigedig ir tân tragywyddol; O Arglwydd dyna boen nid alla fi moi dioddef. Ond os felly y bydd rhaid, Arglwydd gad i'mi ddyfod allan drachefn yn fuan, na chei ddim dos ymmaith tydi felldigedig ir tân tragywyddol, O Arglwydd os hynny yw dy ewyllys di, mae yno y bydd [Page 119]rhaid i'mi aros gâd i'mi gael rhyw gymydeithion da gida myfi; ni chei di hynny chwaith, dôs ymmaith dydifelldigedig ir tân tragywyddol yr hwn a baratowyd i Ddiawl ac iw Angylion; Dymma dy farn di, gwrandawiad pa ûn alle beri ir creigiau hollti; felly, dôs ymlaen yn dy bechod, a llwydda; diystyra, gwatwara weinidogion Duw, a llwydda, ffieiddia rym ag ymarfer grefydd, megis helynt rû fedrus, a llwydda; Etto gwybydd fod diwrnod yn dyfod, pan fo rhaid i'ti gyfarfod a barnwr ofnadwy, ac a barn echryslawn; yn awr y mae dy ddiwrnod di i bechu, ond fe fyn Duw [...] fyrder ei ddiwrnod yntau i gondemnio.
Yn bummed; pan ddarfydd dydd y farn, yna ofnadwy ddigofai [...] Duw a dywelltir allan; ac a bontyrrir ar ei heneidiau ai cyrph, ac anadl yr Arglwydd fel afon o frwmstan a fydd yn ei ennynnu▪ ac ni ddiffodda nêb ef byth, ond yno y bydd rhaid i'ti orwedd yn llosgi yn [Page 120]dragywydd. Dymma ddihenydd pechadur ar ôl y farn, Datc. 21.8.
Yn awr y digofaint ymma or eiddo Duw, sydd yn sefyll yn y pethau hyn, sef
1. Dy enaid di a ddidolir oddiwrth wyneb a bendigedig hyfryd bresennoldeb Duw, a Christ, ac ni chei di byth mwy weled wyneb Duw. Yr ydis yn dywedyd, Act. 20.25, 38. ddarfod iddynt wylo yn dôst am na chaent weled wyneb Paul mwyach: Oh, ni chei di byth mwy weled wyneb Duw, nag wyneb Christ, na Seinctiau, nag Angylion, O, farn drom, i newynu, ac i gurio ymmaith yn dragywydd heb un tammaid o fâra ith gyssuro di, nag ûn wên oddiwrth Dduw ith ddadebru; rhaid yw can i fynu ddynion a fythont ai briwiau yn cerdded arnynt o wŷdd dynion iach: Oh, mae dy bechodau fel cornwydydd y plâ, yn cerdded arnati, am hynny rhaid yw dy gau di allan fel ci o bresennoldeb Duw ai hol bobl, Datc. 22.15.
[Page 121]Yn ail, Duw ai gesyd ei hun fel tân yssol anfeidrol yn dy erbyn di, ac ath sathr di dan ei draed, yr hwn y ddarfu i'tti drwy dy bechod ei sathru ef ai ogoniant tan draed dros dy hôll fywyd: fe all dŷn ddychymygu poenau creulon i un arall, a nerth mawr a all beri i ffonnig fechan roddi dyrnodiau trymion; ond gallu mawr gwedi ei gynhyrfu (gan lidiawgrwydd mawr, a digofaint) i daro, sydd yn peri r dyrnod yn farwol. Yr wyfi yn dywedyd i'ti, y bydd holl ddoethineb Duw yr amser hwnnw wedi ei osod yn dy erbyn di, i lunnio allan boenau i'tti, Mich. 2.3. Ni theimlwyd erioed, nag y feddyliwydam y fath ddigofaint ac a ddychymygodd yr Arglwydd yn dy erbyn di, yr hwn wyt yn byw ac yn marw yn dy gyflwr naturiol, am hynny y gelwir y digofaint hwnnw, dig [...]faint i ddyfod, 1 Thess. 1.10. Y poenau a lunia doethineb Duw, ac a ddyru ei hollalluog allu ef yn dy erbyn, yr rhai hefyd a fydd rhaid [Page 122]itti ei dioddef, ni bu erioed moi cyffelib; yn gimmint ac na welwyd erioed mor fath allu yngwneuthuriad y byd, ac a welir yn hyn, sef, yn dal y creadur truan tan y digofaint ymma, yr hwn sydd yn dal i fynu 'r enaid ar naill law, ac yn ei guro ef ar llaw arall, gan losgi yn dragywydd fel tan yn erbyn y creadur, ar creadur hwnnw, sef yr enaid heb ei losgi byth i fynu er hynny, Rhuf. 9.22. Datc. 20.10. Na thybia mai creulondeb ydyw hyn, cyfiawnder ydyw; pa brûs sŷdd gan Dduw am y fâth ffiaidd ddryg ddŷn yr hwn nid all dim ei wneuthur yn ddâ, tra fô efe fŷw. Os byddwn ni yn hîr yn cymynu pren, ac heb allu gwneuthur ûn llestr cymmwys o honaw ef, nai roddi ef mewn un defnydd da i'ni ein hunain, yr ydym ni yn ei daflu ef ir tân: Mae Duw yn dy gymmynu di drwy bregethau, drwy glefyd, drwy golledion, a gwrthwynebion, drwy farwolaeth ddisymwth, a thrueni, a hefyd drwy drugareddau, [Page 123]ac etto nid yw dim yn dy wneuthur di yn well; Beth a wna Duw a thydi, ond dy daflu di oddiymma ir tán. Oh meddwl am y digofaint ymma, cyn ei deimlo ai glywed ef. Gwell oedd gennif fi fôd yr holl fŷd yn llosgi o amgylch fy nglhustiau, na chael un ŵg oddiwrth fendigedig wyneb y Duw anherfynôl, ac ofnadwy: Nid elli ddoddef y boenedigaeth oddiwrth ychydig dân cêgin ar benn dy fŷs dros ûn hanner awr or ûntu: Pa fôdd y dioddefi di lidiawgrwydd y tân yssol anherfynol ymma ar dy gorph ath enaid yn dragywydd.
3. Pryfy gydwybod yr hwn ni bydd marw byth ath boenydia di (fel pe buasit ti wedi llyngcu yn fŷw neidr yn llawn gwenwyn) yr hwn bryf a erys dan gnoi a brathu dy galon am dy bechodau aethant heibio, nôs a dŷdd. Ar pryfymma ath boenydia di drwy ddangos i'tti r achos oth drueni, a hynny ydyw, na ofelaist di erioed am dano ef, yr hwn a fynnasei dy achub [Page 124]di: drwy ddangos i'tti hefyd dy bechodau yn erbyn y gŷfraith, drwy ddangos i'tti dy ddiogi, drwy ba ûn y collaist dy ddedwyddwch. Yna dy gydwybod ath gnû di wrth feddwl gimmint o nosweithiau yr aethosti ith welly (fel anifail) heb ûn weddi, gimmint o ddiwrnodiau a dreuliaist dy yn gwledda, ac mewn chwaryddiaeth ynfŷd. O, pe buaswn i yn treulio hanner yr amser a gam-dreuliais i (medd dy enaid di) mewn gweddiau, a myfyrdodau, mewn ffydd yn yr Arglwydd Jesu ac alar am fy mhechodau, accw yn y nêf y buaswni. Drwy ddangos hefyd y moddion a gawsit ti unwaith i ochel y trueni ymma; Y Gweinidog ar gweinidog a glywais i unwaith yn pregethu, yr hwn a ddywedodd i'mi fy mhechodau neilltuol, fel pe buasid gwedi dywedyd iddo am danafi; y cyfaill ar cyfaill am perswadiodd i unwaith i droi dolen newydd: yr wyfi yn cofio gimmint o ddyrnodiau a roes Duw wrth y galon haiarn ymma or [Page 125]eiddo fi, cimmint o drugareddau a anfonodd yr Arglwydd i geisio gennif ddychwelyd atto; ond oh, nid oedd moddion yn y bŷd a alle beri i'mi wellhau, nac a dycciai i'mi. Yn ddiweddaf, drwy ddangos i'tti mor hawdd y gallesit ti ochel y trueni ymma. Oh, mi fûm agos unwaith a chymmeryd fy mherswadio i fôd yn gristion mewn gwirionedd, ond mysi a oddefais im calon farwhau drachefn, ac a syrthiais i gwmnhi ofer, ac felly myfi a gollais y cwbl. Yr Arglwydd Jesu a ddaeth i ddrws fy nghalon i ac a gûrodd, a phe gwnaethwn i er Christ (yr hyn a wneuthym i er y cythrel lawer gwaith) sef agori y drws wrth ei ddyrnodiau ef, myfi a fuaswn gadwedig. Mîl or fâth frathiadau ar rhain a rŷdd y prŷf ymma ith galon di, yr eyn a wna i'ti weiddi allan, o amser, amser! O y pregethau, y pregethau! O fy ngobeithiau am cynnorthwyon ydynt wedi colli yn awr, y rhai unwaith a gawsw [...] [...] amddiffyn fy enaid colledig!
[Page 126]4. Rhaid i'tti gymmeryd i fynu dy letty yn dragywydd gida chythreiliaid, a hwynt hwy a fyddant dy gymydeithion di: efe r hwn a wasanae [...]haist di ymma, gida hwnnw y cei di aros yno; (sef yn y byd sydd ar ôl hwn) Rhuf. 6.16 Mae dynion gan mwyaf yn gwallgofi wrth weled y cythrael (fel y maent hwy yn tybied) pan fyddont hwy ei hunain; ond pa ofid a dychryn a leinw dy enaid di, pan fyddych di wedi dy ddidol o gymydeithas Angylion, a dyfod i gymdeithas cythreiliaid yn dragywydd.
5. Tydi a lenwir ac anobaith tragywyddol di ddiben. Os bydd gŵr yn glaf annial fe fydd yn gyssurus gantho wrth feddwl na pheru efe felly yn hir. Ond os dywaid y physygwr iddo y bydd rhaid iddo ef fyw yn y dialedd ymma dros holl amser ei fywyd, mae efe yn tybied y cardottyn tlottaf mewn gwell cyflwr nag ef ei hun: Oh fe fydd gwaeith galon di wrth feddwl, pan fyddych di filoedd o flynyddoedd yn [Page 27]dy bruddder ath ofid, nad wyti ddim nês i gael diben ar oddef dy drueni, na phan ddaethosti gyntaf i mewn. Oh ti a ddywedi, myfi allaswn gael trugaredd a Christ, ond nid oes dim gobaith yrowan byth o gael gweled ei wyneb-pryd ef, nag un olwg ddaionus oddiwrtho ef mwy.
6. Dydi a dywellti allan lŵon cablaidd a rhegfŷdd yn wyneb Duw 'r tâd yn dragywydd, a thi a felldigi 'r Arglwydd Jesu yr hwn ni chollodd ûn dafn oi waed ith waredu di, a thi a regi Dduw 'r yspryd glân yr hwn aeth heibio i'ti ac ni alwodd di erioed, Datc. 16.21. Ac ymma y cei di orwedd, ac wylo ac yscyrnygu dy ddannedd o gynddaredd yn erbyn Duw ath di dy hunan, gan rûo a gwallgofi am fôd yn rhaid i'ti orwedd tann felldith Duw yn dragywydd: fel hyn meddaf y cei di, orwedd yn cablu, a digofaint Duw fel clydair o dân yn llosgi ar dy enaid di, a llifddyfroedd, iê môroedd, ie mwy na moroedd [Page 128]a wyli di o ddragrau, (canys rhaid i'tti orwedd byth yn wylo) ac byth ni ddiffoddi di mor tan ymma. Ac ymma tuâ pha lê bynnag yr edrychych di, ti a gei weled achos o dragywyddol gystydd. Edrych i fynu tua 'r nêf, ac yna di a gei weled (oh) fôd Duw wedi myned ymmaith yn dragywydd: Edrych o'th amgylch di a gei weled y cythreiliaid yn crynnu ac yn rhegi Duw: A miloedd, ie myrddiŵnau o greaduriaid pechadurus damnedig, yn crio ac yn rhuo allan a chregleisiau dolurus ofnadwy: Oh y diwrnod hwnnw ddarfod erioed fyngheni i ynddo: Edrych ar yr amser aeth heibio, oh y dyddiau euraid rheini o râs, ar amserau hyfryd o drugaredd ydynt wedi colli yn llwyr a myned ymmaith: Edrych ar yr amser sydd i ddyfod, ynâ di a gei weled drygau, lluoedd a heidiau o dristwch a gwaeau a thonau terfysgus, a llifeiriant o ddigofaint yn dyfod dann lefain arnati: Edrych ar yr amser presennol, Oh ni bydd [Page 129]ûn awr o esmwythdra na seibiant, Ond holl felldithion wedi ymgyfwrdd ynghyd, ac yn ymborthi ar un enaid colledig anfarwol, yr hwn nid ellir byth ei ennill ef yn ôl drachefn! Ni bydd na Duw, na Christ, nag yspryd glan ith ddiddanu, na gweinidog i bregethu itti, na chyfaill i sychu ymmaith dy ddagrau gwastadol di, na haul i lewyrchu arnati, na thammaid o fara, a llymmaid o ddwfr i oeri dy dafod: Edrych or tû fewn i'tti, mae yno gydwybod euog yn cnoi.
Dymma dreuni pôb dŷn naturiol. Yn awr na fwrw mor peth oddi wrthit dy hûn, a dywedyd, Mae Duw yn drugarog. Gwir ydyw, ond mae efe felly i ychydig Jawn, megis ag y profir. Mîl i ûn os byddi di byth ûn or rhyfedi bychan hwnnw yr hwn a ddewisodd Duw i fywyd tragywyddol, neu i ddiaingc rhag y digofaint sydd i ddyfod, Os tydi ni fedri gael Christ wedi dioddef y digofaint ymma trosot ti, Cân yn iach i Dduw, i G'rist, ac i drugaredd [Page 130]Dduw yn dragywydd; Pc buasei G'rist yn colli moroêdd o waêd, dyro dy galon mewn esmwythdra; nid oes ûn defnyn o hôno i'ti, hyd oni ddelych i weled, ac i deimlo, ac i riddfanu dann y cyflwr truan yr hwn yr wyti ynddo, a phawb eraill hefyd wrth natur, Eph. 2.3. Yr wyfi yn dywedyd i'tti, Mae cimmint rhwng Christ ath achub di ai fôd ef yn elŷn i'tti: pe bae grist ymma ar y ddaiar, a dywedyd o hôno dymma fy ngwaed i'ti, os tydi a syrthi i lawr, ac a aleri dann y baich oth drueni, ac etto er ei holl ymadroddion ai wahoddion caredig, dy lygaid sychion ni wylant, dy galon afrywiog ni ymrû, ac nid alara, megis i ddywedyd, Oh! yr wyfi yn bechadurus, yn golledig, gwedi fy marnu yn greadur marw melldigedig: Pa beth a wnafi? Onid wyti yn tybied y troe efe ymmaith ei wyneb oddiwrthit ti, a dywedyd, Oh! tydi garregog, galon-galed greadur, a fynnit ti imi dy achub di oddiwrth dy [Page 131]drueni, ac etto ni riddfeni, ni ochneidi, ac ni alêri am ymwared gennifi, allan oth drueni? Os wyti yn hôffi dy gyflwr cystadl, ac yn fy mrhisio i cyn lleied, darfydded am danati yn dy drueni yn dragywydd.
Oh! Ymegnia i ymostwng ddydd a nôs tann dy gyflwr gresynôl ymma. Yr wyti yn euog a bechod Adda; r dyrr hyn dy galon di? Na wna. Yr wyti yn farw mewn pechod, ac yn llawn hŷd yr ymyl o bôb pechod; A dyrr hyn dy galon di? Na wna. Pa bêth bynnag a wnaethofti, yr wyti yn ei wneuthur, neu a wnelych di, tra fŷth di yn aros yn y cyflwr ymma, pechod yw, a dyrr hyn dy galon di? Na wna. Mae Duw yn elŷn i'ti, ac di ai collaist ef, a dyr hyn dy galon di? Na wna. Yr wyti wedi dy farnu i farw yn dragywyddol; Satan ydyw dy geidwad ti, yr wyti yn rhwym dy draed ath ddwylo yn y bŷllt oth bechodau, a chwedi dy daflu ir tywyllwch eithaf, ac yn [Page 132]barod bôb mynudyn i gwympo i uffern, a dyrr hyn dy galon di? Na wna. Rhaid i'tti farw, ac ar ol hynny ymddangos ger bron yr Arglwydd mewn barn; ac yno dioddef digofaint anoddefol Duw, yr hyn a rwyga, r creigiau, ac a lysg i lawr hyd waelod uffern; a dyrr hyn dy galon di? Na wna. Yna cân yn iach i G'rist yn dragywydd, nag edrych byth am weled Christ, hyd oni ddelych di i gael teimlad oth drueni allan o Grist. Gan hynny ymegnia am hyn, ar Arglwydd a ddatcuddia i'ti y sarph brês, pan fyddech di yn dy deimlad dy hûn gwedi dy frathu i farwolaeth, gan dy seirph tanllyd dy hunan, sef dy bechodau, felly yr wyfi yn dyfod i agoryd y pedwerydd rhan Arbennig.
PEN. IV.Mae yr Arglwydd Jesu G'rist ydyw yr unig foddion o brynnedigaeth ac ymwared allan or cyflwr ymma.
Ymha ûn y mae i'ni brynnedigaeth drwy ei waed ef, Eph. 1.7. Yr hyn sydd yn dangos yn eglur, mae
A dymma 'r athrawiaeth y safaf fi arni yr awr hon.
Pan oedd yr Israeliaid mewn caethiwed a thrueni, mae efe yn danfon Môses iw gwaredu hwynt. Pan oeddynt hwy yn Babilon, mae efe yn cynhyrfu Cyrus i agoryd drysau y carchar iddynt hwy; Ond pan fytho hollddynol-ryw dann ysprydol drueni, mae efe yn danfon yr Arglwydd Jesu, Duw a dŷn iw [Page 134]prynnu hwy, ac iw cadw, Act. 4.12.
Pa fôdd y mae Christ yn gwaredu pobl allan or trueni ymma?
Drwy dalu gwerth drosdynt hwy 1 Cor. 6.10. trugaredd Dduw a ymddengys yn achub rhai, ai gyfiawnder ef a fyn ei fodloni drwy gael bodlonrwydd neu iawn wedi ei wneuthur ai dalu dros bechodau y dynion theini a achubir.
Oddiymma mae Christ yn bodloni cyfiawnder Duw.
Yn gyntaf, drwy sefyll yn lle yr holl rai y mae trugaredd gwedi ei rhag-ordeinio iw cadw. Y meichiau sŷdd yn sefyll yn lle 'r dyledwr, Hebr. 7.22. Megis ac yr oedd yr Adda cyntaf, yn sefyll yn lee 'r holl ddynol rŷw a syrthiasant. Felly Christ sydd yn sefyll yn lle 'r holl rai sydd yn codi, ac sydd iw dychwelyd yn ôl drachefn.
Yn ail, Trwy gymmeryd oddiwrthynt hwy, yn lle pa rai yr oedd efe gwedi sefyll, dragywyddol euogrwydd yr holl bechodau rheini iddo ei hunan, 2 Cor. 5.21. Am hynny [Page 135]y dywedodd Luther, mae Christ oedd y pechadur mwyaf, mewn, neu drwy gyfrifad.
Yn drydydd, Trwy ddioddef melldith a digofaint Duw yr hwn sydd wedi ei ennyn yn erbyn pechod. Mae Duw mor sanctaidd, a phan welo bechod yn glynu yn unig drwy gyfrifad wrth ei fâb ei hun ni arbed efe mo honaw ond rhaid iddo ef ddioddef ei ddigofaint ai felldith ef, yr hwn oedd gwedi ei ennyn erbyn pechod, Gal. 3.13. Mae Christ wedi yfed y cwppan o lidiawgrwydd oedd ddyledus ir holl etholedigion ar ûn waith, yr hon y buasent hwy yn ei llymmeitian, ac yn ei hyfed, ac yn ei poen ydio ag hi fyrddiwnau o flynyddoedd.
Yn bedwerydd drwy ddwyn i bresennoldeb Duw gyfiawnder perphaith. Am hynny hefyd yr oedd cyfiawnder Duw yn gofyn perphei [...]hiad, a chyd-ffurfioldeb ir gyfraith, yn gystadl a (pherffaithlawn fodlo [...] rwydd) sef, dioddef am y cam a gynnygiesid i roddwr y gyfraith. [Page 136]Cyfiawder fel hyn yn gofyn y pedwar peth ymma, mae Christ yn bodloni cyfiawnder Duw, drwy ei cyflawni hwynt, acfelly yn talu r prîs.
2. Christ sŷd Brynnwr drwy law gadarn, y prynnedigaeth cyntaf drwy werth a ddiweddwyd ymherson Christ, yn ei adgyfodiad, yr ail a dechreuir drwy 'r yspryd glan yngalwiad ffrwythol dŷn ac a ddiweddir ddydd y farn; Megis ac y byddir yn gyntaf yn talu arian dros ûn a fyddir wedi ei ddal yn gaethwas yngwlad y twrc, ac yna o ran nad all efe ddyfod yn ôl ei hun at ei dywysog, efe a gyrchir ymaith a llaw gadarn.
Dymma annogaeth ir pechadur gwathaf, a chyssur ir pechadur colledig digymmorth ynddo ei hunan, yr hwn a dreuliodd ei holl arian, ai amser, ai egni, ar ydyled-swyddau ar ymdrechiadau rheini y rhai ai fuont ond physygwyr dyles iddo ef. O edrych i fynu ymma ar yr Arglwydd Jesu, yr hwn a all dy iachau [Page 137]di mewn mynudyn, yr hyn nid all yr holl greaduriaid i wneuthur mewn llawer o flynyddoed, ie ni allant hwy fyth iachau mohonoti.
Pa fûllt, pa lyffetheriau cryfion, pa chwantau afreolus bynnag, a phrrfedigarthau a thrueni yr wyti wedi dy gloi ynddynt? Gwêl y gwaredwr wedi dyfod allan o Sion, gwedi bod loni cyfiawnder Duw, a thalu y gwerth i ryddhau y caethion truain, Luc. 4.18. ac agoriadau r ref, uffern ath galon afreolus di yn ei law, ith gyrchu di allan a thrugaredd fawr, ac a llaw gadarn. Pwy a wŷr nad tydi dlawd garcharor uffern, dydi dlawd gaethddŷn y cythrael, dydi bechadur truan llyffetheiriog, all fôd yn ûn or rheini y daeth efe i edrych am danynt. Oh edrych i fynu atto ef, ochneidia ir nefoedd am ymwared gantho ef, ac ymlawenycha ac ymhyfryda ar ei ddyfodiad ef.
Hyn a ddylei daro dychryn i [...] rheini, 2. fnydd er bod moddion o ymwared [...] etto a fyddant byw yn ei trueni [Page 138]heb riddfanu, heb ochneidio [...] Arglwydd Jesu am am ymw [...] ie, y rhai sydd yn blino ar y [...] rediad, ie, y rhai sŷdd yn llaw [...] chu yn ei caethiwed, ac yn my [...] tann ddawnsio yn ei bŷllt i uffer [...] Y rhai sŷdd megis pe baent yn e [...] stedd yn y cyffion tra fônt ar wed [...] y rhai sŷdd yn dyfod allan or lla [...] pan fo'r bregeth wudyn (yn ei m [...] dd [...]l hwy) yn rhedeg [...]chyd dros yr awr, fel carcharorio [...] alla o garchar, y rhai sydd yn diystyr [...] r Arglwydd Jesu pan fytho efe y cynning agoryd i drysau, ac fell ei gollwng hwnt allan or cyflw truan hwnnw, yr hwn y mae [...] ynddo. Oh greaduriaid truain [...] a oes moddion o ymwared, ac wyti yn ei esgeuluso ef, nage, y [...] ei ddiystyru ef? Gwybydd, [...] fŷdd hyn yn archolli dy galon di ryw ddŷdd, pan fych di yn crogi yn dy sibedau yn uffern, ac yn gweled eraill yn sefyll ar ddeha [...] law Dduw, Gwedi ei gwared [...] drwy Grist; Di allesit tithau fôd [...]
[...]digaeth; ond Duw r mab ath derŷ di, ar diddanydd ei hun a ymysyd yn dy erbyn di, am i'ti ddiystyru moddion a chyngion iechadwriaeth. Nid allasei y Cythreiliaid, byth gael trugaredd, ond di a boenydir mewn ing a gofid, a chynddared calon, wrth feddwl, myfi a allaswn gael Crist, fe y cynhygiwyd ef imi: Trugaredd a daer ymbiliodd ar falch wrthnysig galon ymma i ymroi.
Ond o graig Adamant oeddwn i l chynhyrfodd dim monofi. Oh ffo ynte yrowan ar frys ir ddinas noddfa ymma (sef Christ) rhag i ddialudd y gwad dy ôddiw [...]dd di.
Ymaith gan hynny allan o honoch eich hunain i mewn ir Arglwydd Iesu. Defnydd Nef a daiar ath adawant di, ac ath wrthodant di: yn-aw-r nid oes ond un a eill ddaioni i'ti, a gwared dy enaid oddiwrth dristwch tragywyddol: dos atto, ymafel ynddo, nid a llaw rhyfig, a chariad i'ti dy hunan, ith achub dy hunan, ond a llaw ffydd, a chariad [Page 162]iddo ef iw anrhydeddu ef.
Gwrth∣ddyw. Gwrthddyw. Yr wyfi or goreu yn barod; beth a sonniwch chwi am Grist wrthifi.
Atteb. Dymma r pechod sydd yn damnio dynion yn y ddydiau hyn; Atteb. Pan gynhygir Crist iddynt, gan ragddywedyd iddynt am y digofaint sydd ar ddyfod arnynt, onis derbyniant ef, hwy a ddywedant, ei bod hwynt or gorau yn barod; ac am nad ydynt yn dioddef dim barn ymma, nid ofnant ddim digofaint ar ol hyn; Ac oddiymma gan eibôd yn ei tybied ei hunain yn ddigon da ei cyflwr, ni welant arnynt ddim eisiau Crist; Ac hyd yn amser angau ni cheisianr allan am achubwr. Ni ddaw dynion ir arch sydd yn barod wedi ei wneuthur cyn y diluw. Mae r byd yn gwneuthur Cimmint or rhai y maent yn ei fagu ei hunain, hyd onid ydynt yn anewyllysgar i ddyfod ir nefoedd, pan alwer hwynt i ddyfod adref.
Gwrth∣ddyw. Ond fe alle na phrynnodd Crist Gwrthddyw. [...]
[...] [Page 183]33. 31, 32, 33. Ie di a elli wrando mal y darbyniech lawenydd a diddanwch yn gwrando, ie i gredu ac i ymaflyd yngrhist, a dywedyd a thybied ei fod ef yn eiddoti, ac etto heb fod yn gadwedig megis y ddaiar garregog, Mat. 13, y rhai a glyby r gair gida llawenydd a thros amser a gredasant:
Gwrth 5 Yr wyfi yn darllain yr scrythyr yn fynych.
Atteb. Hyn a elli di wneuthur hefyd, ac etto bod yn golledig.
Megis y Pharisaeaid, y rhain oedd mor yspus ar yr scrythurau, na bydd ei raid i Grist, ond yn unig ddywedyd, yscryfonnwyd neu dynetproyà yn yr hen amser, Math. 5. canys hwy wyddent y testyn ar lle yn ddigon hynod er nad oedd Christ yn ei henwi hwynt.
Gwrth 6 Ond mae yn flin arnaf, yr ydwyf yn alarus, ac yn edifarha oblegid fy mhechodau a bassiodd.
Atteb. Indas a wnaeth felly: Math. 27.3. fe a edifarhaodd ac edifeirwch cnawdol, rhag ofn uffern, neu [Page 184]galar naturiol am ddeilio mor anghyweithas a Christ, drwy fradychu nid yn unig waed, ond gwaed gwirion hefyd: Gwir ostyngeiddrwydd sydd, bob amser yn myned ynglyd a dywygiad ac adnewyddiad calon.
Gwrth. 7 Oh yr wyfi yn caru gwir da ai cymdeithas.
Atteb. Felly y carodd y pump morwgn angal gymdeithas y rhai call, ac yn amser trallod hwy a gaewyd allan o bŷrth trugared er hynny i gid, o herwydd nad oedd ganthyat olew yn ei llestri ei hunain: Math. 25.
Gwrth. 8 Ond Duw a roes i'mi fwy o wybodaeth nac i eraill ie nac oedd gennif fy hun unwaith.
Atteb. Hyn a elli di gael, a bod yn abli ddyscu eraill hefydd, a meddwl felly am danat dy hunan, ac etto bod yn golledig. Rhu. 2.18, 23.
Gwrth. 9 Ond yr wyfi in cadw Dydd yr Arglwydd yn sanctaidd.
Atteb. Felly yr oedd yr Iddewon, y rhai etto y mae Christ yn ei condemnio, ac a gollwyd.
Gwrth. 10 Mae gennif lawer o ddymniadau a, ac o egniad i geisio y nef.
Atteb. Ti a llawer eraill gida thydi a elli gael yd cyfriw, ac etto colli r nefoedd, llawer a geisiant fyned i mewn ir porth cyfing, ac nis gallant: Luc. 13.24.
Gwrth. 11 Gwir ydyw (meddi) mae dyion yn cyflawni llawer o ddledwyddaw, ond heb ddim zel na bywyd; ond yr wyfi yn llawn zel:
Atteb. Tydi [...] [...]lli fod felly, ac na byddy [...] gadwedig er hyn, megis Jehu; Paul oedd yn llawn zel pan [...]edd efe yn Pharisaead, ac os oedd [...]fe felly am gau grefydd, ac am [...]chos drwg, mwy o lawer y gelli di fod felli dros achos da, ie ti a elli fod cimmint dy zel, ac nid yn uni [...] i lefain allan yn erbyn annuwioldeb mewn dynion drygionus, ond yn erbyn rhai eraill, y rhai nid ant ddim pellach nag ymddygiad gweddol o flaen dynion, [...] rhai eraill, ie yn erbyn oerni y rhai gorau o blant Duw. Ti a elli [Page 186]fod fal march blaenâf yn y wê, a blaenor ymarferion da ymmhlit [...] y gwyr gorau (megis Joash brenin anuwiol oedd y cyntaf a achwynodd oblegid esceulusdra y swyddogion goref wrth ail adeiladu 'r deml) ac felly ei cynhyrfu hwynt att daioni: Ie, Ti a elli fod mor rith-wresog ac i ddiodef dy erlid, heb ymroi modfed, na darfod wrth dy hogi, ond Tydi a elli sefyll allan yn wrol ac yn hŷf yn amser erlydigaeth, megis y ddaiar ddreinniog. Math. 13. Mor wresog y gelli di fod, a hoffi ac ymhyfrydu ynghymdeithas y rhai goreu, ac ymgyrredd att y pregethwyr mwyaf ei zêl, y rhai a chwiliant gydwybodau dynion goref, megis yr ymgasclodd holl wlad Iudaea att weinidogaeth Ioan Math. 3.7.
Ac a hoffasant glywed y gair dros amser. Ie, Tydi a elli fod mor wresog o zel a chymeryd hyfrydwch digrif yn gwneuthur yr holl bethau hyn. Esa. 58.2, 3. Ymhyfrydant yn nessau a [...] Dduw, etto [Page 187]dyfod yn fyrr or nef.
Gwrth. 12 Ond di a ddywedi, Gwir yw: llawer ûn sydd yn marchogaeth (megis yn Bôst) ac yn torri ei wynt y [...] y diwedd, llawer ûn sydd yn wresog dros amser, ond ei dân ef a ddifodd yn fuan, ai zêl a ddersydd, ni ddaliant allan; lle yr wyfi yn ddianwadal ac yn parhau mewn gweithredoedd daionus.
Atteb. Felly y gwnaeth y gwr iefangc, hwn er hynny oedd anraslon. Mat. 19.20. Hyn oll a gedwais i om iefcngctid. Beth sydd yn eisiau immi etto?
Gwrth. 13 Gwir iw, fe all Rhagrithwyr fyned ymmhell ond hwy a wyddant ei bod ei hunain yn ddrwg ar hŷd yr amser, ac felly maent yn twyllo eraill; Ond, mae hyder genniff fy mod i yn ffafr Duw, ac mewn cyflwr diogel dedwydd, gan fy mod i yn gwneuthur y cwbl a chalon dda dros Dduw ac i Dduw.
Atteb. Hyn a elli di ei feddwl am danat dy hûn, ac etto dy dwyllo dy hûn a bod yn ddammnedig byth, a [Page 188]myned at Ddiafol yn y diwedd. Mae ffordd (medd Solomon) sydd dda yngolwg dŷn ei hûn, ond ei diwedd hi wy ffyrd mar wolaeth, Diha. 14.12 Canys rhagrithiwr ydyw nid yn unig yr hwn sydd yn ymddango [...] oddiallan y peth nid yw ef, ond hefyd yr hwn sydd gantho wirlyn y peth ond y pêth mewn gwirionedd nid yw gantho: Y fach gyntaf o ragrithwyr sydd yn twylloeraill, ond yr ail gan fod ganthynt rŷw waith cyffredin oddi mewn ydynt on ei twyllo ei hunain; Jago. 1.26. Os oes neb yn eich plith chwi yn cymmeryd arno fod yn grefyddol (megis ac y mae llawer, ac felly yn twyllo r byd) ond fe a chwanegir gan dwyllo ei heneidiau ei hunain: Ie tydi a elli fynd mor dôg a bŷw mor honest, a bôd y Christnogion goreu oth amgylch di yn meddwl yn dda am danat'i, ac heb dy ammeu: Tydi a elli fyned trwy 'r bŷd, a marw a chyssur twyllodrus drwy dybied y cei di fyned ir nefoedd, a chael dy [Page 189]alw yn sanct ar ôl marwolaeth, a bod byth heb wybod mae ragrithiwr wŷt nes i Dduw dy ddwyn di ith holiad ath gyfrif diweddog, ac felly derbyn y farn ofnadwy honno gan yr Arglwydd. Ewch chwi rai melldigedig. Felly yr oedd gida r pum morwyn angall, nis datcuddiwyd monynt gan y rhai doeth; na chanthynt ei hunain, hyd oni châewyd porth y grâs rhagddynt: Onid oes gennit'i ddim gwell siccrwydd iw ddangos drosot dy hûn, fod dy gyflwr di yn dda, na'r rhai hyn, ni rown i ben nodwydd am yr holl gâuwenheithgar obaith sydd gennit y y byddi cadwedig: Ond fe alle na ddaethosti erioedd cyn belled a hyn, ac onid dô, Arglwydd, Beth a ddaw o honot'i? Ammen di dy hûn yn fawr, a phan welych di yn y llong-drylliad ymma o eneidiau, gynnifor o filoedd yn soddi llefa allan, a dywed, Rhyfoddod o ryfeddodau, a mill i ûn, os deûi di byth yn ddiogel it lan.
Oh! Ymdrecha gan hynny i fod yn ûn or rhai a fyddant cadwedig, er costio i'ti dy waed, a cholli o honot y cwbl a feddi. Ymegnia i fyned ty hwynt ir rhai fydd yn myned oyn belled, ac etto yn [...] fod am danynt yn y dywedd: Na ddywed, o ran nad oes ond ychydig in gadwedig, mae hyn yn fy nigalonni i rhag ceisio, oblegid ond odid fe fydd fy holl lafur i yn ofer. Ystyria fod Christ yn y testyn hwn, yn gwneuthur gwell defnydd or athrawiaeth ymma, Luc. 13.24. gan mae llawer a geisiant fynd i mewn ac ychydig ânt, gan hynny (medd ef) ymdrechwch am fyned i mewn ir porth cyfing i mentria a phrawf beth y wneiff yr Arglwydd drosot'i.
Hol. Mewn pa beth y mae plentyn iDduw yn myned (ac felly pa fodd y gallaf finnau fyned) ty hwnt ir Rhagrithwyr sydd yn myned cyn belled.
Atteb. Mewn tri pheth yn bennaf (sef) yn gyntaf nid oes ûn dŷn naturiol, er pelled yr elô, er maint a wnelo, [Page 191]nad yw yn bŷw mewn rhyw bechod neu ei gilidd, dirgel neu gyhoedd, bychan neu fawr. Iudas aeth ymhell, ond yr oedd efe yn gybyddus, Herod aeth ymmhell ond yr oedd efe yu caru ei goeg ddigrifwch; Mae gan bôb cî ei ganêl, a chan bôb hŵch ei chwtt, a chan bôb dyn drugionus i chwant canys nid oes gan ûn dyn ar sydd heb ei ail eni fwynhâd o Dduw iw fodloni: Rhaid ei galon pob dyn gael Rhyw ddaioni iw bodloni, yr hwn ddaioni sydd iw gael un unig yn flynnon pob daioni (sef) Duw, nid yn y pydewau (sef) y creaduriaid: oddiymma gwedi i ddŷ n golli llawn fodlonrhwydd yn Nuw, mae efe yn cymmeryd bodlonrhwyd yn y creadur, yr hwn y mae efe yn ei wneuthur yn Dduw iddo; [...]e ymma y mae yn gorwedd yn ei chwant ai bechod ymhâ ûn y mae yn rhaid iddo fŷw. O ran hyn, os gofynnwch ir rhai sydd yn myned cyn belled, ac yn cymmeryd ei ceiniog am arian da, ac yn oi [Page 190] [...] [Page 191] [...] [Page 192]ranmol ei hunain am ei dymudiadau dâ: Meddaf, gofynnwch iddynt, onid oes bechod ynddynt? Oes meddant hwy, pwy all fyw heb bechod? ac felly maent yn rhoi lle ir pechod, ac am hynny yn bŷw yn y pechod; Ie gan mwyaf holl ddyledswyddau, gweddiau, gofal, a zel, y rhagrithiwyr gorau ydynt i guddio rhyw chwant, (megis y buttain yn y Diharebion, yr hon oedd yn sychu ei safn, ac yn myned ir Deml i dalu ei haddunedau) neu i borthi ei chwant, megis zêl Jehn yn erbyn Baal, i geifio teyrnas iddo ei hun: Mae gwreiddin chwerwedd yn y rhagrithwyr goref, yr hwn, pa fod bynnag y torrir ef ymmaith trwy glefyd, neu ddychryn cydwybod, a bod gan ddŷn fwriadau na phechô efe byth ond hynny, etto yno y mae yn llechu, ac er tybied ei rwymo, ai orchfygu gan y gair, neu trwy weddi, neu trwy groesau oddiallan, neu tra fô llaw Duw ar ddŷn. Etto mae ei nerth ai rym yn aros yn wastadol [Page 193]oddi mewn:
Ag am hynny pan ddel profedigaethau (megis philistiaid cryfion) arno ef eilwaith, fe a dyrr ei holl addunedau, ai addewidion, ar rhwymedigaethau a wnaeth efe a Duw, ac a achub fywyd ei bechod.
Atteb. Yn ail, Nid yw na meibion na merhed heb ei hail-ni, fyth yn dyfod i fod yn dlawd yn yr yspryd, ac felli i gael ei dwyn allan oi holl ddyled-swydau at Grist canys ped fae bossibl iddynt dorri yn rhydd oddi wrth bôb pechod, etto ymma y safant mal yr Scrifenyddion ar Pharisaeaid, ac felly megis Paul yn llawn o zel cyn ei droad, hwy a ymprydiasant, ac a weddiasant, ac a gadwasant y saboth, ond hwy a orphywysasant or y cyfiawnder sydd or ddeddf, ac yn y cyflawniad or rhain ar fâth ddyledswyddau: Cymmerwch y rhagrithiwr goref yr hwn sydd gantho y tŷb cryfaf fod Duw yn ei garu, a gofynnwch iddo paham y mae efe yn gobeithio [Page 194]bod yn gadwedig fe a ettyb, y [...] wyfi yn gweddio yn gwrando, yn darllen, yn caru gwyr da, ac yn crio allan yn erbyn pechodau r amser. A dywedwch iddo eilwaith, fod rhagrithiwr yn dringo 'r grisiau hynny, ac yn myned cyn belled; Efe ettyb, Gwir ydiw, ond nid ydynt hwy yn gwneuthur mo hynny a chalon union, ond er mwyn ei gweled gan ddynion. Delwch sylw, yn awr, pa fodd y mae y dynion hyn yn clywed ynddynt ei hunain golonnau da ymhob peth y maent yn ei wneuthur, ac am hynny ni chlywant arnynt eisiau pob daioni, yr hyn yw tlodi yn yr yspryd, ac am hynny maent yn dyfod yn fyrr, Esa. 66.2. Yr oedd amryw rhagrithwyr yn wresog am wasanaeth Duw yn adailadaeth y deml, ond mae Duw yn ei ffieiddio hwynt, oblegid nad ydynt dlawd yn yr yspryd; iddynt hwy yn unig y mae r addewid. Ac attynt hwy yr edrych Duw. Myfi a welais lawer o broffesswyr yn bryffur iawn [Page 195]ynghylch ddled-swyddau Daionus, ond mor anwybodus o Grist pan holid a phan nithid hwynt, ar pren; canys onid edwyn dŷn Grist (ac ychydig ai hedwyn) rhaid iddo orphywys yn ei ddled-swyddau, o ran nad iw efe yn adnabod Christ, att yr hwn y mae yn rhaid i ddŷn fyned, os bydd efe yn gadwedig fyth. Mi a glawais sôn am ddŷn yr hwn gwedi i gondemnio ai farnu i farw, oedd yn meddwl cael ei achub rhag ei grogi drwy ddawn o chwibianu yr hon yr oedd efe ynei ddywedyd ei fod gantho, felly y mae dynion yn ceisio ei hachub ei hunain, drwy ei donniau o wybodaeth, ei doniau o goffadwriaeth a doniau o weddi. A phan welont mae rhaid iddynt farw am ei pechodau, dymma ddinistr llawer enaid, er iddo ymadel ar Aipht, ai bechodau, ai grochanau cîg ynô, ac na bydd efe byth, mal y bû; etto ni ddaw efe byth i Ganaan, ond efe ai colliff ei hûn mewn anialwch o lawer o ddyled swyddau, ac yno y derfydd am dano.
Atteb. 3 Yn drydydd, os dâw yn dŷn naturiol att Grist, nid eiff efe byth i Grist, hynny ydiw, ni chymmer efe ei orphymystra tragywyddol, ai letty parhaus yn Jesu Grist yn unig: Iudas a ganllynodd Grist am y pwrs, efe a fynnei Grist ar pwrs hefyd. Y gwriefangc a ddaeth att Grist i fod yn ddisgybl iddo, ond efe a fynnei Grist ar bŷd hefyd; ni fodlonant monynt ei hunain a Christ ei hun, nac ar bŷd ei hun, ond hwy a wnant ei marchnad allan or ddau, mal putteinwraig yr hon sydd yn ceisio bodloni ei gwr ac eraill hefyd; Os ceiff dynion mewn ing cydwybod ryw gyssur oddiwrth Grist, maent yn fodlon; Os cânt waredigaeth rhag uffern drwyddo, maent yn wir-fodlon, ond ni fodlona Christ ei hun monynt hwy. Nid yw rhagrithiwr yn myned cyn belled a hyn. A hyn am yr Athrawiaeth gyntaf a dynnwyd allan or teltyn. Yr wyfi dyfod yn awr att yr ail. (sef)
Ath∣raWieth 2 Y rhai a achubir, a fyddant gadwedig [Page 197]drwy lawer o galedi, a chyfyngder. (neu) Mae yn galed ryfeddol bod yn gadwedig.
Cyfing yw r porth, ac [...]m hynny rhaid i ddyn chwysu ac ymdrechu i fyned i mewn: Mae r cychwnniad i mewn ar mynediad ymlaen i iechy dwrieth yn anodd. N [...] cheir Iesu Christ er glwychu bŷs: Nid oer ewylysio a dymuno bod yn gadwedid, Marc. 6.20. a ddwg ddynion ir nefoedd. D. h. 13.4. Mae safn uffern yn llawn or fâth ddymuniadau da. Math.y. 21. Nid gollwng deigr dan bregeth, neu dychan yrowan ac yn lleigus mewn congl, neu redeg dros weddiau a chrio trugaredd Dduw am dy bechodau, ath achub di. Nid Arglwydd trugarha wrthym, a wneiff lês i'ti. Nid dyfod yn wastadol ir llan; peth hawdd ydiw hyn; ond gwaith caled, ie anodd ryfeddol yw bod yn gadwedig. 1 Petr. 4.18. O ran hyn y cyffelybir y ffordd ir nefoedd i yrfa, lle mae yn rhaid i wr osod allan ei holl nerth, ystyn pobaelod, ar cwbl i [Page 196] [...] [Page 197] [...] [Page 198]fyned ymlaen. Oddiymma y cyffelybir bywyd bywyd Christion i ymdrych. Eph. 6.12. Mae holl ddichell a nerth uffern wedi ymosod yn erbyn Christion, am hynny rhaid iddo edrych atto ei hyn, onid 'e efe a syrth; oran hyn y cyffelybir bywyd Christion i yndrechiad, 2 Tim. 4.7. Rhaid i ddŷn ryfêlâ yn erbyn diafol, y bŷd, ac efe ei hûn, y rhai sydd yn saethu saethau gwenwynllydd at ei enaid, lle y mae yn rhaid i ddyn ladd neu gael ei ladd. Ni ddyblodd Duw y ffordd at Grist a melfed, ac ni thanodd frwyn ar hyd-ddi. Ni phortha efe fyth syrthni mewn dŷn yr hwn a achubir. Pes diferei Christ or nefoedd i safnau dynion, a phei gallei ryw rai ddwyn ei côst hwy yno drostynt; pe prynnid Christ ac ychydig oerfwriadau, a diog ddymmuniadau, fe fyddei Grist o ychydig gyfrif ymmysc dynion, hwy a ddywedent, ysgafn y daeth, ysgafn eled; Gwir ydiw mae iau Grist yn ysgafn ynddi ei hûn, a phan fyddo [Page 199]dyn wedi dyfod unwaith i mewn [...] Grist nid oes dim mor felus: ond anhawdd ydiw i galon gnawdol, dynnu ymlaen dan iau Christ; Canys mae pedwar porth cyfing sydd raid i bob dŷn fyned trwyddynt cyn myned ir nef.
1. Yn gyntaf, Mae porth cyfing gostyngeiddrwydd: Nid yw Duw yn achyb neb heb iddo yn gyntaf ei dorostwng hwynt: Anhawdd ydiw mynd trwy bŷrth a flammau uffern; caled yw i galon mor sŷth ar pren yw blygu, i galon mor galed ar garreg i waedu am bob pigiad; nid galary am ûn pechod, ond am bôb pechod, ac nid galaru dros amser, ond dros holl einioes dŷn: Oh caled ydiw i ddŷn ddioddef i lwytho a phechod, ai wascu megis i farwolaeth am bechod felly, fal na châro ef byth bechod ar ol hynny, onid poeri yn wyneb y pechod yr hwn y bu efe yn ei garu unwaith mor annwyl ai fywyd; Hawdd ydiw gollwng deigr, neu ddâu, a bôd yn glaf dan bregeth. [Page 200]Ond anhawdd ydiw cael calon gwedi ei rhwygo am bechod, ai rhwygo oddiwrth bechod, yr hyn yw gostyngeiddrwydd.
2. Yn ail, Porth cyfing, ffydd, Eph. 1.19. Hawdd yw rhyfygu ond anhawdd yw credu yngrhist. Hawdd ydiw i ddŷn sydd heb ei ddarostwng erioed, gredu, a dywedyd, nid yw ond credu: Ond anhawdd ydiw i ddŷn gwedi ei ddarostwng, pan welo efe ei holl bechodau mewn trefn ger ei fron, a Diafol, ai gydwybod yn rhûo arno, ac yn llefain allan yn ei erbyn, a Duw yn ymddangos yn yn ddigllawn tuag atto, yn awr g [...] lw duw yn dad sydd anhawd iawn, Anhawdd yw gweled Christ megis craig i sefyll arni, pan fo dŷn wedi, orchguddio a thristwch calon am bechod, Gwell oedd gan Iudas i grogi ei hun na chredu; Anhawdd iw prisio Crist, uwch law deng-mil o fydoedd o ber lau yn y cyflwr hwnnw. Anhawdd ydiw dymuho Christ, a dind ond Christ: [Page 201]Anhawdd yw canlyn Christ ar hyd y dydd a bôd heb fôd yn llonydd nes ei gael ef yn dy freichiau; ac yno gida Simeon dywedyd. Yn awr Arglwydd y gollyngidy wâs mewn tangnhedddyf. Luc. 2.29.
Yn drydydd, Porth cyfing edifeirwch. Hawdd ydiw i ddyn gyfaddeu i fôd yn bechadur a llefain ar Dduw am faddeuant dan yr amser nessaf:
Ond cael tristwch chwerw am bechod, ac felli troi oddiwrth bechod, a dychwelyd at Dduw ai holl ffyrdd; yr hyn sydd wir edifeirwch, sydd anhawdd;
Yn bedwerydd, Porth cyfing gwrth-osodiad yn erbyn, y cythraeliaid, y bŷd, a dŷn ei hûn, y rhai ydynt barod i daro dŷn i lawr, pan dechreuo efe gychwyn, neu wynebu tuag at Grist ar nefoedd.
Dyscwch oddiymma, Defn. 2 Petr. 3.17, 18. Mae pob ffordd esmwyth ir nef, sydd-ffordd enbyd, dwyllodrus, er i bregethwyr ei phregethu hi oi Pulpyd, neu [Page 202]pe byddei i Angylion ei chyoeddr hi allan or nefoedd. Esay. 8.10. Gal. 1.8.
Yn awr mae naw fford esmwyth ir nefoedd (mal y mae dynion yn tybied) y rhai sydd yn arwain i uffern.
Yn gyntaf, 1. Y fford lydan. Y fford lydan gyffredin, ar hyd pa ûn y geill plwyf i gîd fyned megis ystlys yn ystlys. Dywedwch ir dynion hyn, mae pobl golledig ydynt, yna ei hatteb hwy fydd, Gwae ynte i lawer heb ein llaw ni.
Yn ail, 2. Fford dygiad i fynu da. Ffordd dygiad da i fynû, drwy ba ûn y mae llawer nattur wyllt yn cael ei dofi o fesur ychydig ac ychydig. Ac mal bleid diaid yn cael ei oadwyno i fynu tra font yn ieuangc.
Yn drydydd, 3. Fford dymuniadau. Fordd Balaam o ddymuniadau da, drwy ba ûn y mae dynion yn cyfaddef ei hanwybodaeth, ai hangof, ac na fedrant hwy ymddangos mor dêg a rhai eraill, ond i Dduw y bytho 'r diolch, mae ei calonnau hwy yn [Page 203]dda (os gellir ei coelio hwynt) ac mae Duw oi ran ef (meddant hwy) yn derbyn yr ewyllys am y weithred, ac fy mâb moes i'mi dy galon; y galon sydd ôll yn ôll, a thra bônt felly maent yn gobeithio y gwânt or goref. Och greaduriaid tlodion gwediei hudo, mâent yn meddwl torri trwy luoedd ô bechodau, Cythreiliaid, profedigaethau, ac agoryd pyrth y nef drwy ei hychydig ddymmuniadau da, maent yn meddwl dyfod i ben ei siwrne heb goesau, heb fywyd sanctaid, oblegid fod ganthynt (meddant hwy) galonnau da i Dduw.
Ond gwelwch beth a ddywed yspryd Duw am y galon. Gen. 6.5. Ier. 17.9. Mat. 15.19.
4. Yn bedweryd, 4. Fford Rhith duwioldeb. Ffordd rhith duwioldeb, pan fyddo dynion yn gorphywys yn hyn, sef eu bod yn cyflawni llawer neu y rhan fwyaf oi dyled-swyddau oddiallan, heb fywyd oddi mewn:
Rhaid i bob dŷn gael ryw grefydd, rhai dail ffygysbren guddio [Page 204]ei noethni. Rhaid ir grefydd ymma fod ûn ai yn wir, neu yn gâu grefydd: Os y wir grefydd, rhaid yw bod ei grym hi, (ond ni bydd mo hynny canys mae efe yn bwysfawr) neu rith or wir grefydd ymma. A chan fod hon yn esmwyth, pob dŷn ai derbyn megis ei Dduw, a gwell gan ddynion golli [...]i [...]yd agos nar rhith grefydd [...] pan dderbyniont hwy hi ûnw [...] ▪ y Rhith ymma o grefydd ydiw y grefydd esmwythaf yn y bŷd▪ yn gyntaf o ran ei bod hi yn esmwthau dynion oddiwrth ofid cydwybod, gan ei llonyddu hi; Tydi a bechaist medd cydwybod; ac fe ddigiodd Dduw, cymmer lyfr a gweddia, cadw dy gydwybod yn well, a dwg lyft gida thydi ir llan, yn hyn mae r gydwybod wedi dlstewi drwy y rhith grefydd ymma Megls y dywedir fôd yn gyrru r cythrael i ffoi drwy yr dwfr bendigaid; Yn ail, oblegid mae y rhith grefydd ymma yn dwyn clôd i ddŷn. Yn drydydd oran mae y [Page 205]rhith grefyd ymma yn esmwyth ynthi ei hûn; Mae hi yn ysgafn iw dwŷn, gan nad oes ond cysgod a llûn yn lle gwir grefydd, megis yrowan, peth Hawdd yw dyfod ir llan. Hwy a wrandawant (or lleiaf oddi allan) yn ddigon astud, awr neu ychwaneg, ar hwy a droantatt yr ferythyrau, ac a blygant ddalen i llawr: Esa. 58.2.
Dymma y Rhith, Ond treulro y nôs oflaen y Sabboth, ar hyd boreu y dydd Sabboth i daclu 'r lamp, ac i geisio olew yn y galon i gyfarfod y priodfab y dŷdd nessaf, ac yno dychrynnu dan y gair wrth lais Duw, a sugno r bronnau, tra fônt yn cerdded, ac ar ol gwrando, myned or nailltû i gnoi cîl ar y gair, ac yno i dristau drwy ddagrau am yr holl feddyliau ofer yn y dyledfwyddau, ac marweidd-pra yn gwrando.
Hyn sydd anhawdd, oblegid dymmâ rym Duwioldeb. Nichymmer dynion hyn i fynu: oblegid mae yn groes iw nattur ai cnawd [Page 204] [...] [Page 205] [...] [Page 206]hwynt. Yn yr ûn modd am wedd nailltuol, Hawdd iawn ydiw i ddy [...] redeg dros ychydig weddiau allan o ryw lyfr da, neu ail-adrodd rhyw hen weddi a ddyseodd efe ar ei dafod leferydd, pan oedd efe fachgen, neu gael ychydig ddymuniadau byrrion am drugaredd Dduw foreu a nôs; y Rhith hyn sydd hawdd ac esmwyth: Ond i baratoi 'r galon drwy ddifri syfyrdod o Dduw, ac o ddyn ei hun cyn gweddio, ac yno dyfod att Dduw a chalon ddrylliedig, noeth, newynllydd, nid yn unig a dymmuniad, ond a gwarant, Rhaid i'mi gael y drugaredd ar drugaredd, ac yno ymaflyd a Duw (awr neu ddwyar unwaith) am fendith, mae hyn yn rhy anhawdd; Mae dynion yn meddwl nad oes neb yn gwneuthur felly, ac am hynny ni wnant hwythau mo hynny chwaith:
Yn bummed, 5. Fford Rhyfig. Fford Rhyfig, ymha ûn ar ôl ei ddynion weled ei pechodâu maent yn cippio gafael yn esmwyth ar drugaredd Dduw, ac yn [Page 207]cippio cyssuron kyn ei hestyn iddynt. Nid oes un gair o gyssur yn llyfr Duw) (sef yr scrythyr) gwedi fwriadu ir sawl sydd yn edrych ar anwiredd yn ei galon iw borthi ef yn hynny, er nad ydynt yn ei weithredu iw weled oddi allan yn ei fywyd: Psa. 66.11.10.9.31. Dih. 21.27. eu hunig gyssur ai ddiddanwch yw na ddarfu cyhoeddi barn dawmedigaeth yn ei herbyn hwynt etto:
Yn chweched, 6. Fford Diogi. Fford diogi, drwy ba ûn y mae dynion yn gorwedd yn llonyd, ac yn dywedyd rhaid i Duw wneuthur y cwbl oll:
Pe gosodei Dduw Bulpyd, yn nrŵs ŷ dafarn, fe alle y gwrandawent yn fynychach: os tarâna Duw bôb amser, hwy a weddiant bob amser; Os trawa Duw hwynt a dolur, hwy a dalant adref i Dduw eiriau têg, ac addewidion helaeth, y byddant bŷw yn well rhag llaw os cânt eu heinioes: ond tra parhao eu heddwch, hwy a redant mor bryssur ac y gallont i [Page 208]uffern; ac oni ddeil Duw hwynt nis gwaeth ganthynt hwy, ac nis dychwelânt. Jer. 8.6.
Yn seithfed, 7. Ffordd Diofalwch. Ffordd diofalwch: pan gaffo dynion amriw rwystraw, hwy ânt trwy lawer o honynt, ond nid trwy r cwbl, ar peth ni chaffont hwy yrowan maent yn ei porthi ei hunain a gau-obaith y cânt ar ol hyn, maent yn fodlon i gymeryd ei galw yn ffyliaid, ac yn ddynion pen-sigog, ond mae arnynt eisiau calon ddrylliedig; hwy a weddiant (ond odid) am dâni, ac ânt heibio ir rhwyftr hwnnw; ond ni chadwant yn wastadol mor briw yn agored, ni riddfanânt am gymmorth heb roi r maes i fynu, na rhoi gorphywystra iddynt ei hunain nes cael ei calonnau gwedi ei dorostwng: Hyn nid allant oddef, mae yn rhy galed ganthynt. Mae gan y rhain enw o fôd yn fyw ond marw ydynt. Datc. 3.1.
Yn wythfed ffordd cymmedroldeb neu bwyll gonest, 8. Ffordd cymedroldeb. yr hon yn wir nid yw ond claearwch enaid. [Page 209] Datc. 3.16. A hynny ydiw pan fyddo dŷnyn torri allan iddo ei hun y fâth fford ir nêf, ac na byddo iddo gael ei gassau gan neb, ond bodloni pawb, a gwneuthur pob peth am fywyd llonydd, a chyfgu mewn croen iach: fe a ddywedodd St. Pa [...]l. Pwy bynnag a ewyllysio fyw yn dduwiol yngrhist Jesu a erlidir. 2 Tim. 3.12. Nagê, nid felly, Siccir yw (meddant hwy) ped fae ddynion yn ddoeth ac yn bwyllog, bwy allent droi heibio lawer o flinder a gwrthwyneb mewn ym [...]rferion da; y dŷn ymma a genmyl y sawl sydd ar zêl fwyaf ganthynt, ped faent ond yn ddoeth: Os cyferfydd efe a thyngwr safnddu ni argyoedda efe môno rhag ei anfodloni: Os cyferfyddd ef a gŵr gonest, efe a rydd lê i bob peth a ddywedo ef, fel y canmolo efe ef: A phan gyfarfyddo ef ar ddau or unwaith, hwy a gânt groeso ill dau iw dŷ ai fwrdd (be [...] bynnag yw ei feddwl) oblegid efe a fynnei fod mewn heddwch a phawb;
[Page 210]Yn nawfed ac yn olaf ffordd hunan gariad ymha ûn y mae dŷn yn ofni yn ddychrynedig rhac iddo gael ei ddamnio, yw arferu pob moddion drwy ba rai y mae iddo fod yn gadwedig: Dymma i rhwystr cryfaf or cwbl, sef i ddyn rwyfo yn erbyn y ffrwd a gasâu ei hun, ac yno canlyn Crist yn hollawl:
Yr wyfi yn dyfod yn awr atty chweched pwngc cyffredinol, gwedi ei osod mewn trefn iw ystyried.
PEN. VI. Yr achos mawr o dragwydol ddinistr dynion, a phaham y mae cimint yn damnedig a chyn lleied yn gadwedig drwy Grist, sydd o honynt ei hunain.
PAham y byddweh chwi feìrw. Ezek. 33.11. Yr achos mawr paham y mae cynifer o bobl yn meirw, ac yn darfod am danynt yn [Page 211]dragywydd, ydiw o herwydd nhwy a fynnant hynny, pôb dŷn colledig sydd ddihenyddwr neu leiddiad iddo ai hunan, Hosea 13.9. O Israel dydi ath dimistraist dy hûn, dyma r pwngc yr ydym ni yn pwrpasu i ganlyn yr awr-hon, yr holiad yn y lle yma a fydd pa fodd y mae dynion yn bwriadu ac yn dwyn i ben eu distriw eu hunain.
Drwy 'r pedwar modd arbennig hyn y rhai ydynt y pedair craig fawr y mae y rhan fwyaf yn hollti wrthynt, ac mae'n anghenrheidiol i bob dŷn ei hadnabod hwy; oblegid, pan datcuddier y powdwr frad, dyna'r perigl gan mwyaf wedi darfod, yr wyfi yn dywedyd fôd, y pedwar achos ymma o dragwyddol gwymp dŷn, y rhai a drinaf fi yn helaeth, gan wneuthur defnydd o bôb rheswm pennodol pan agorer, ac y dibenner ef, fe ddestrywir dynion gan hynny.
1. Yn gyntaf oblegid ei tywyll ai llofrudiog anwybodadeth drwy b [...] ûn y mae miloedd yn aros yn anwybodus [Page 212]iawn oi cyflwr ysbrydol heb wybod pa fodd y mae 'r achos yn sefyll rhwng Duw ai heneidia i, ond gan ei tybied ei hunain yn ddigon dâ yn barod, ni cheisiant byth ddyfod allan oi trueni, hyd oni ddarfyddo am danynt ynddo.
2. Yn ail, Oblegid ei diofalwch cnawdol, drwy bellhau y dydd drŵg oddiwrthynt, o herwydd yr hyn beth nid ydynt yndimladwy oi caethiwed ofnadwy, ac felly nid ydynt ûn amser yn griddfan am gael dyfod allan o gaethiwed pechod a Satan.
3. yn drydydd, Oblegid ei hymddyried knawdol, drwy ba ûn y maent hwy in ceisio ei cadw ei hunain drwy gyflawniad ei dyledswyddau ei hunain, pan fônt hwy yn deimladwy oi caethywed.
4. Yn bedwerydd, oblegid ei hyf-ryfig, drwy ba ûn y maent hwy yn croppian ac yn ceisio ymlusco iw cadw ei hunain, drwy y rhith honno, o fydd sudd ganthynt yn ei golwg ei hunain, pan welont hwy [Page 213]'r annigonedd fudd mewn dyledswyddau, anheilyngdod sudd ynddynt ei hunainr i gael i hachub.
Myfi a ddechreuaf ar yr achos, neu y rheswm cyntaf ac y ddangosaf y ffordd gyntaf pa fodd y mae dynion yn ei distrywio ei hunain; y môdd ydiw hyn, ni adwaenant moi trueni, na 'r cyflwr melldigedig colledig ofnadwy hwnnw ymha ûn y maent yn aros, ond tybied, a dywedyd, y diangant hwy yn gystal, ac eraill, ac am hynny os cais ûn ewyllysiwr da ei perswadio nhwy i ddyfod allan o hono, a dangos iddynt y perigl sudd o aros yn y fath-gyflwr, ei hatteb, hwy a fydd; Rwyfi yn deysyf arnoch chwi gadw eich anadl i oeri eich pottes, safed pôb llestr ar ei waelod ei hûn, gadewch rhyngofi, rwyfi yn gobeithio fôd gennif; enaid iw gadw yn gystal a chwithau, ac a fyddaf mor ofalus am dano ac a fyddwch neu a ellw [...]h chwithau fôd, nid rhaid i chwi mor atteb dros fy enaid i, ŷr wyfi yn [Page 214]gobeithio y gwna fi yn gystal ar Sancteiddiolaf o honoch chwi oll, yr ûn modd os y gweinidog a ddywaid iddynt hwy, ei bai hyd adref, nhwy ânr ymmaith ai calonnau yn llawn ac yn barod i lefain yn erbyn y gŵr, ai tafodau yn chwerwon yn erbyn y ddysgeidiaeth, ar gwirionedd, Duw a fo trugarog wrthym ni, os yw hyn oll yn wîr, dymma athrawiaeth dôst, digon er gyrrw dŷn oi gôf, a pheri i ni anobeithio, fel hyn nid ydynt yn adnabod ei trueni, ac heb ei adnabod Creaduriaid colledig ydynt gwedi ei heuog-farnu dan dragwyddol ddigofaint Duw, nid ydynt hwy ûn amser yn ceisio, yn gweddio, yn ymdrechu, nag yn arfer y moddion drwy ba rai y gallent ddyfod allan, oi cyfliwr gresynol, ac o eisiau hynny yn darfod am danynt ynddo ac heb ystyried nag adnabod ei trueni un amser hyd oni ddeffrônt hwy a flammau tân uffern o amgylch ei clustiau, mae llawer o honynt a [Page 215]gyfaddefant, eni pôb dŷn mewn cyflwr tra gresynol, ond nid ydynt ûn amser yn gosod attynt ei hunain yn neilltuol nar gwirionedd cyffredinol ymma, gan ddywedyd myfi ydiw y dŷn, yr ydwify yr awr hon dan ddigofaint Duw, ac a ellir sy nghippio î ymmaith gan farwolaeth bôb awr, ac yno fe amhanrheithiwyd ac am collwyd i yn dragywydd.
Yn awr y mae daû fath ar bobl y rhai ydynt anwybodus ai trueni.
Yn gyntaf mâth gyfredin, o bobl anwybodus halogedig.
Yn ail, mâth ar broffesswyr gweigion am herffaith yn edrych yn dêg oddiallan a chanthynt falchder y paûn, ac yn ei tybied ei hunain yn dêg, ac mewn cyflwr or gorau, er na bo ganthynt ûn bluen gywir or eiddynt ei hunain i ymffrostio o honi,
Myfi a ddechreuaf ar y fâth gyntaf, ac a ddangosaf yr achos paham y maent yn anwybodus oi trueni a hynny sydd, am y pedwar rheswm ymma.
[Page 216]Yn gyntaf, weithiau mae arnynt eisiau y moddion anghenehreidiol o wybodaeth, nid oes ûn gweinidog ffydlawn, ûn Lot dosturus iw rhybuddio am y tân ar brwmstan or nefoedd sydd i ddiscyn arnynt am ei pechodau.
Nid oes ûn Noah iw rhagrybuddio hwynt or diliw, nid oes ûn gennad i ddwyn iddynt newyddion or lluoedd rheini o blaeau dinistriol, a digofaint Duw sudd yn nesau attynt hwy, nid oes ganthynt ûn llywydd i dangos iddynt ei creigie, ai peryglon, naill ai nid oes ganthynt un gweinedog iw dysgu, oblegid naill ai mae r plwyf yn rhydlawd, neu mae y rhênt yn ormod i faentimmio gweinidog ffyddlawn, (mae 'r Assyunod cryfaf yn carrio 'r pynnau mwyaf.) O bysygyyr truain, weithiau hwy a fyddant mor halogedig, ac na fedrant moi iachau ei hunain, ac weithiau yn anwybodus ni wyddant pa beth a bregethant, oddieithr iddynt ganlyu llwybrau ffreier Mr. [Page 217] Latimer, neu or hyn gorau hwy a saethant ychydig ergydion yn erbyn rhyw bechodau anferth, neu os dangosant hwy i ddynian ei trueni, hwy ai llyfant hwy yn holliach drachefn ag ychydig ymadroddion cyssurus heb ei hiawn gymhwyso (ond y'r wyfi yn gobeithio pethau gwell o honoch chwi (fy mrodyr,) os dewed efe yn angenach fe alle y cydduga ei blwyfolion ef, neu fe a ddywed yn gyfredinol, Di a bechaist, ymgystura ac na anobeithia, fe a ddioddefodd Christ, ac fel hyn yn croini 'r briw, ac yn gadel iddo fadru oddi-fewn o eisiau ei dorri, yn ddyfnach, yr wyfi yn dywedyd, gan hynny, oblegid bôd arnynt eisiau neu o achos gwiliedydd flyddlawn i weiddi Jân tân, yn y cyflwr cysglyd hwnnw o bechod a thywyllwch ymha ûn y maent yn aros, am hynny trefi cyfan a phlwyfudd, a chenedlaethau [...] bobl sydd yn cael ei llosgi i fynu, ar yn darfod am danynt yn rêsynol, Galernad 2.14.
[Page 218]Yn ail, o herwydd nad ydynt yn cymeryd mor amser i ystyried ei trueni, pan gaffont hwy y moddion iw datcuddio iddynt, megis ffelix, Act. 24.25. Iob. 13.36. Mae llawer dŷn, yn cael llawer tammaid chwerw gwedi ei roddi iddo wrth wrando ar bregeth, ond nid yw efe yn cymmeryd dim ennyd iw ail gnoi ef, un gŵr sydd yn cael i gymeryd i fynu ai gyfraith, un arall gwedi ei fwytta i fynu gan mwyaf a meichnieth, a gofalon, pa fodd i dalu ei ddyledion, ac i ddarbod dros ei eiddo, un arall fydd arno ofyn mawr ac ychydig gyfneseifiaid iw helpu, ac fe a ddywed fôd y bŷd yn galed, ac oddiymma fel twrch daiar, fe a diria yn y ddaiar, wythnosau osabbothau; y bŷd fel hyn yn ei galw hwy ar y naill dŷ, a chwan tau cnawdol ar y tŷ arall, nid ydynt yn cael mor ennyd i feddwl am farwolaeth nag am y cythrel nag am Dduw, nar nêf nag uffern, nag am danynt ei hunain, mae 'r gwedinidog, yn [Page 219]llefain ac yn curo oddiallan, ond mae 'r fâth sŵn a chymysgedd o chwantau terfysgaidd, a meddyliau ofer yn ei pennau ai calonnau, yn gimmint ac nad yw 'r holl feddyliau dâ ond megis llettyfwyr pruddion heb groeso yddynt, yn cael ei curo i lawr yn bryssnr.
yn drydydd, os cânt hwy ennyd, mae arnynt ofn adnabod ei trueni ac oddiymma mae 'r bobl yn a chwyn fôd y gweinidogion, yn damnio 'r cwbl ac ni wrandawant arnynt ond hynny, ac ny fyddant hwy y fâth ffyliaid, a choelio pôb pêth a ddywetto ei bâth hwy, y rheswn, pam y maent hwy yn dywdyd fel hyn, yw hyn ymma, mae arnynt ofn gwybod y gwaethaf arnynt ei hunain, mae arnynt ofn torri a chwilio a charthu 'r briw, ac am hynny nid allant aros y meddig, maent yn tybied mae 'r ffordd fawr i anobaith ydiw bôd yn gystuddiedig yn ei meddyliau, megis y mae rhai eraill, ac os clywant ryw chwedl, fel y darfu i un walgofi ar [Page 220]ôl gwrando pregeth, ne i ei foddi, neu ei grogi ei hûn, fe fydd hynny yn arwydd, neu yn rhybydd iddynt, tra fônt hwy byw, na flinant ac na thrallodant hwi moi calonnau ynghylch y sâth fatterion dynion a chydwybodau euog a ddiengant oddiwrth wyneb Duw, fel carcharorion rhag y barn-wr, neu ddyledwr oddiwrth 'r echwynwr, ond os Arglwydd y lluoedd ach deil chwirhaid i chwi, ac chwi a gewch deimlo drwy ddychryndod calon 'r hyn yr ydych chwi yn ofni ychydig arno 'r awr-hon. Dih. 1.27.
Yn bcdwerydd, os byddant hwy yn rhydd oddiwrth yr ofn ymma, ni feddrant ganfod moi trueni, oblegid ei bôd yn edrych ar ei cyflwr drwy drychau twyllodrus, ac oblegid llawer sail dwyllodrus yn ei meddyliau, maent yn ei twyllo ei hunain.
Yr hyn sylfaenau twyllodrus ydynt y rhai hyn yn bennaf, ni wnaf ond ei henwi nhwy.
Yn gyntaf, maent yn tybied na [Page 221]fydd y Duw yr hwn ai gwnaeth hwyut, mor greulon ai damnio nhwy.
Yn ail, oblegid nad ydynt yn daimladwy o ûn trueni (ond yn ei tybied ei hunain yn ddigon da) gan hynny nid ydynt yn ofni ûn trueni.
Yn drydydd, o herwydd bôd Duw yn ei bendithio hwy yn ei stâd oddiallan, yn ei hâd, ei plant, ei galwedigaethau, ei cyredigion, ai cyfeillion;
A fendithiei Dduw hwynt fel hyn, oni bai ei fôd ef yn ei caru hwy?
Yn bedwerydd, oblegid ei bôd yn tybied nad yw pechod ddrŵg mawr yn y byd canys mae pawb yn bechyduriaid, felly nid all hynny niweidio monynt.
Yn bummed, maent yn tybied fod trugaredd Dduw uwchlaw ei holl weithredoedd, ac er bôd pechod yn frwnt, etto tybied y maent fôd Duw yn drugaredd i gŷd, yn fêl i gŷd, heb ddim cyfiawnder, gan [Page 222]hyny maenr yn ei hunain yn ddigon dâ ei cyflwr.
Yn chweched, o herwydd ei bôd yn tybied, i grîst farw dros bob pechadur; ac felly cafadde y maent ei bod nhwythau yn bechadurieid mawrion.
Yn seithfed, maent yn gobeithio yn ddâ, ac am hynny tybied y maent y cânt hwy yn dda.
Yn wythfed, am ei bôd yn gwneuthur fel y gwnelo y rhan fwyaf, y rhai ni waeddasant allan eriod o herwydd ei pechodau tra fuont fyw ac er hynny a fuont feirw fel ŵyn yn y diwedd, nid ydynt yn ammau oi rhan ei hunain, ond gwneuthur fel y gwnaeth y rheini, ac a byddant hwy feirw yn happus fel y gwnaeth y rheini, ac eraill hefyd.
Yn nawfed, o ran bôd ei dymuniadau ai calonnau yn dda fell y maent yn tybied.
Yn ddegfed, o ran ei bôd yn gwneuthur yn gystal ac y rhotho Duw y grâs iddynt, ac felly Duw sydd ar y bai, os derfydd am danynt.
[Page 223]Dymma y rhesymmau, ar sylfaenau ar ba rai y mae 'r bobl halogedig anwybodus yn cael ei twyllo.
Yn awr y mae yn canlyn dangos y sylfaenau, ar ba rai y mae mâth, ar bobl syd deccach ei hymddangosiad oddiallan yn tramgwyddo.
Yn ail, proffesswyr gweigion sydd yn siommi ac yn twyllo ei heneidiau ei hunain, mae yn ein heglwys ni, megis y mae mewn hên goed, lle maellawer o brennau têg, etto torrwch a chwiliwch nhwy hyd 'r eithaf, fe a ceir nhwy yn ddi gynhwyllin yn ddisugyn, yn y n wegion ac yn amhur, ac felly y mae yn bod gida llawer o broffesswyr.
Mae 'r bobl ymma yn nyddu ei distriw ei hunain ag edef sydd feinach, ac a fedrant hudoli yn well nar bobl gyffredin, a bwrw niwl o flaen ei llygaid ei hunain, ac felly twyllo ei heneidiau ei hu [...], Gwaith cyntaf y gweinidogion yw troi pobl o dywyllwch i o [...]uni. [Page 224] Act, 26.18. a gwaith cyntaf ysbryd Duw yw argyoeddi dynion o bechod, Joan. 16.9. ac am hynny gwaith anghenreidiol i bobl yw gwybod y gwaethaf arnynt ei hunain.
Yn awr 'r achosion o gam gymeriad y bobl hyn, ydynt dri;
Yn gyntaf, Anghof ysbrydol a meddwdod ei dealldwriaeth hwy.
Yn ail, gau-heddwch fastardaidd gwedi ei ymddwyn ai fagu yn y gydwybod.
Yn drydydd, cyfrwys a dirgel adhymmer 'r ewyllys.
Yn gyntaf mae 'r saith feddwaidd anhymmer hyn, yn y dealltwriaeth, neu ymmeddwl dŷn, drwy ba rai y mae efe yn dyfod i gael ei dwyllo yn resynol.
Yn gyntaf, Balchder neu uchder y dealldwrieth, ni chewch chwi weled bŷth ŵr gostyngedig a gwael yn ei olwg ei hûn gwedi ei dwyllo, Psal. 25.9. ond gŵr neu wraig falch a dwyllir yn fynych, oddiymma yroedd Haman yn tybied yn [Page 225]siccir mae efe oedd y gŵr anrhydedei 'r brenin, Esther 6.6. pan oedd y pêth mewn gwirionedd gwedi ei fwriadu i Mordecai dlawd, oblegid balchder gwedi ymdanu unwaith dros y meddwl, mae gantho y briodolaeth ymma yn canlyn, fe a wneiff i geiniog sefyll am hûnt, gwreichionen a chwythir i fynu i fôd yn fflam, mae yn gwneuthur defnydd mawr o ychydig ymddagosiad o ras, ac am hynny y Pharisead balch, pan aeth ef i fwrw ei gyfrif, fe a gymmerth ei gwntrysen dlawd; hynny yw, nid wyfi fel dynion eraill, nag fel y pwblican hwn chwaith. Luc. 18.11. ac ai rhoes hi i lawer megis am fîl o bynnau, hynny ydiw mae efe yn ei gyfrif ei hûn yn ŵr cyfloethog lawn oblegid ei gwntrysen neu ei gyfiawnder ei hunan, felly llawer dŷn o ran bôd gantho ryw beth da ynddo ei hûn, megis hyn, mae efe yn dosturiol wrth y tlawd, mae efe yn ŵr gonest er ei fôd ef yn ŵr tlawd, ni ymdrodder [Page 226]ef erioed i win neu i wragedd, felly y mae efe yn ei fawrhau ei hûn, oblegid 'r enw hwn sydd gantho, ac yn y modd hyn yn ei dwyllo, ac yn gwneuthur cyfrif rhy uchel o hono ei hunan; mae llawer o dwyll-wyr yn twyllo dynion gwladaidd (y rhai sydd yn ewyllysio bôd yn wychion) a cherrig Bristow y rhai sydd debig ir diamond, eisie gwybod y rhagorieth sydd rhyngthynt, felly mae llawer yn dymuno bôd yn onest, a chael ei cyfrif felly, heb wybod bêth ydiw gwir râs, am hynny mae cerrig Bristow yn berlau yn ei barn hwynt, mae ychydig eurllyw-grâs yn dysgleirio mor oleu yn ei golwg hwynt ai bôd yn cael ei hudo drwyddo ef i feddwl yn uchel am danynt ei hunain, er nad ydynt ond fel llûn disglair dlysau yn rwwŷn hŵch, yr oeddid yn amser y newyn mawr yn Samaria yn gwerthu câb o dom clomennod am brîs mawr, 2 Bren. 6.25. ac felly os bydd dŷn yn byw yn y fâth fan, lle y bo pawb oi [Page 227]gwmpas ef naill ai yn anwybodus neu yn halogedig, neu yn llonydd, ychydig onestewydd moesawl (tom iw gyffelibu i wir râs a gyrredd ymhell ac sydd o gyfrif mawr, ac mae efe yn onested gŵr ar gonestaf yn fyw, dŷn a fo yn edrych drwy wydr côch, mae pôb pêth yn ymddangos iddo yn gôch, dŷn yn edrych arno ei hûn drwy ryw spectalau têg, drwy ryw beth da sydd gantho ynddo ei hunan, mae efe yn ymddangos yn dêg iddo i hûn, yr ydis yn dywedyd yn yr 20. o Luc. ar 47. fôd y Phariseaid yn llwyr fwytta tai gwragedd gweddwon, oni allasei godi gormod o ardrethion beri iddynt ammau, neu holi ei cyflwr, na-allei, pa ham, yroeddynt hwy yn ei hesgysodi ac yn ei cyfiawnhau ei hunain dan rîth hîr weddio.
Yn yr ûn modd mae llawer o ddynion a feddwant weithiau, ond mae yn ddrŵg ganthynt, ni fedrant ond pechu, ond mae ei dymuntadau hwynt yn dda, maent yn [...] rad [Page 228]yn ofer, ond maent yn byw yn onest, ac heb ganthynt falais ddrŵg i nêb, maent yn gwneuthur yn ddrwg weithiau, ond maent yn meddwl yn dda, os gellir ei coelio hwynt, fel hyn pan welont hwy ryw beth daionus ynddynt ei hunain, nhwy a chwthir i fynu a balchder ac a thûb rhû uchel o hono, ac felly maent yn twyllo ei heneidiau ei hunain.
Yn ail, gwrthnysigrwydd y deallwriaeth, Joan. 8.33. drwy ba un y mae 'r meddwl wedi ei wreiddio cyhyd yn y'r opiniwn ymma, ei fod ef mewn cyflwr da, ni oddefiff ef moi ddiwreiddo allan or dûb ymma.
Yn awr yr hên broffesswyr pydron, ydynt gwedi tyfu yn hîr, mewn tyb dda o honynt ei hunain, ni chredant moi bôd yn ffyliaid holl amser ei bywyd, ac am hynny bôd yn rhaid yn awr ei tynnu i lawr, a gosod a sylfaen o newydd, ac oddiymma chwi a gewch lawer yn dywedyd am weinidog ffyddlawn, a fo yn ei hargyoeddi ac yn ei heuogsarnu [Page 229] nhwy ai cyflwr i fôd ef yn dra gresynol, pa beth (meddant) a geiff y fâth newyddiau fy nysgy ei, ydiw efe yn meddwl gwneuthur imi ddawnsio ar ol ei bibell ef, a thybied fod fy holl weddiau, fy ffidd, am elusenau, erioed hyn heddiw yn ffiaidd ac yn aflan gar bron Duw? nid oes dŷm a all beri i ddŷn daflu ymmaith ei hên draddodiadol opiniwnau, ai ddychymygion, drwy ba rai y mae efe yn ei dwyllo ei hunan, hyd oni ddelo gwaed Christ i wneuchur hynny, 1 Pet. 1.18. ac o ran hŷn gwrthddywedodd y wraig o Samaria yn erbyn Jesu Grist, fôd ei hên dadau nhwy yn addoli yn y myngydd hwnnw.
Ac am hynny ei fôd ef yn gystadl lle a chaer-salem, y lle o wîr addoliad Duw, Ioan. 4.23. Mae dynion yn tyfu yn wargeimion, ac yn oedrannus mewn tŷb dda o honynt ei hunain, ac anfynych neu odid fyth ni ellir ei hunioni hwy drachefn, y fath ymma o bobl er iddynt chwennych cael ei cymeryd yn lle c [...]tinogion [Page 230]crefyddol gonest, etto ni wnant gimmint ac ammau ei cyflwr ei fod yn ddrŵg, nag a allant hwy oddef i nêb arall ei chwilio, neu ddrwg-dybied ei bod nhwy yn bwdr yn y gwreiddin, ac onid yw y wâr ar farsiandieth honno iw drwg-dybied yn fawr? ie i allu ter fynu ei bod hi yn ddifaith iawn, yr hon y fynnei y gwerthwr ei gwthio ar y prymwr heb ei gweled nai hedrych ynghyntaf: rheswm cadarn yw yr ydym ni yn ei roddi yn erbyn y grefydd bapistaid i beri ei hammau ei bod yn ddrwg, o ran ei bod yn gwthio ei opiniwnau ar ei dilynwyr, iw credu heb ddim amheueth neu ddadl yn ei cylch, na chynt na chwedi iddynt ei derbyn.
Yn siccir nid yw dy hên ffydd dy hên w [...]ddiau, dy hên onestrwydd neu rîth o dduwioldeb ond wâr dwyllodrus, nid allant oddef ei chwilio, o herwydd na fynni di moth yrru allan or dŷb ymma, sef, yr wyfi mewn cyflwr da, mia fûm [Page 231]yn hîr or meddwl da ymma, ac am hynnu ni ddechreuaf si ammau yrowan, mae iw ofni yn fawr, fod y fâth bobl megis ac y creffais i yn fynych, naill ai yn hynodol anwybodus, neu gwedi syrthio ryw amser neu gilidd i ryw ddirgel ânferth bechodau anafus, megis putteindra, gorthrymder, neu 'r cyffelib, euogrwyd, 'r hyn bethau yn gorwedd ar ei cydwybodau, sydd yn peri iddynt ddiancg oddiwrth oleuni gwirionedd Dvw, 'r hwn ai cae nhwy allan, gan gwerylu yn ei erbyn ef, ac yn erbyn y gweinidogion sydd yn ei bregethu, Rhu. 2.8.
Ac am hynnu mae gida hwynn hwy, megis ac y mae gida lladron pan gaffont hwy ddim dâ lledrad gwedi ddwyn i fewn iw tai, ni fynnant nai chwilio nai hammau, ond nhwy a ddywedant, ei bod cyn onested gwŷr a nhwythau, sef, y rhai y fo yn dyfod iw chwilio nhwy, oblegid mae arnynt ofn os deuir o hŷd iddynt nhwy a chael y [Page 232]lledrad gida hwynt, y dygir hwynt gar bron ûstus, ac y bydd anodd iddyn [...] ddiaincg ai hoedl, felly mae llawer o hên broffesswyr, pan ddelo y gweinidog iw chwilio hwynt, nhwy a drawant y drŵs ymhyd yn erbyn y gŵr, ar gwirionedd hefyd, ac a ddywedant eu bod yn gobeithio bod yn gadwedig yn gystal ar gorau o honynt oll, y rheswm yw, maent yn euog, ac mae yn wrthwynebus ganthynt ei trallodi ai taflu i lawr drwy weled y gwaethaf arnynt ei hunain, ac maent yn tybied fod yn anhawdd iddynt fyned ir nêf a bôd yn gadwedig, os buont hwy allan or ffordd holl amser ei bywyd: calon onest a waedda or ol y moddion gorau, Arglwydd chwilia fi, Jo. 3.20. Psa. 139.23. ac a egur 'r holl ddrysau i groesafu y gwirioneddau cyfyngaf, a thostaf.
Yn drydydd, tywyllni y dealltwrieth, neu anwyhodaeth o anherfyn ol uniondeb, a gogoneddus burdeb, a hollawl berffeiddrwydd cyfraith [Page 233]Dduw, oddiwrth yr hyn dywyllwch mae yn dyfod fod y lamp ymma, neu ddisglair haul cyfraith Dduw wedi machludo ai thywyllu yn ei meddyliau, a phwdr oleuadau ei cyfiawnder ei hunain, gan wneuthur rhyw bethau yn ol cyfraith Dduw, yn tywynnau, ac yn disgleirio yn ogoneddus yn ei golwg hwy, yn nhywyll-nôs ei hanwybodaeth, drwy wneuthur yr hyn bethau, maent yn tybied eu bôd yn bodloni Duw, a bod ei cyflwr yn ddigon da, yr oeddwn i yn fyw, medd Paul, Rhuf. 7.9. heb y gyfraith, ac mae efe yn rhoddi y rheswm o hynnu, o ran nad oedd pechod ond cysgu ynddo ef fell llofrudd mewn tŷ, lle mae 'r cwbl yn llonydd.
Cyn dyfod y gyfraith, nid oedd tfe yn gweled y marwol ddirgel gynhwillin hwnnw o lygredigaeth ar torllwyth hwnnw o wrthryfelgarwch oedd yn llechu yn ei galon ef, ac am hynny yr oedd efe yn tybied yn uchel iawn o hono ei hun [Page 234]oblegid ei gyfiawnaer ei hunan.
Drych yw 'r Efengil i dda [...]gos i ddynion wyneb [...]uw yrgrist, 2 Cor. 2.17. y gyfraith ydiw 'r drych sydd yn dangos i ddŷn ei wyneb ei hûn, a phêth ydiw i hûn yr awr-hon os cymmerir y drŷch ymma ymmaith, a ffeidio ai rol ef o flaen calon wrthyn, pa fodd y gall dŷn amgenach nai dybied ei hun yn dêg yr olwg arno, a dymma y rheswm paham y mae dynion gweddolffurfiol, ie pôb un gan mwyaf, yn tybied yn well o honynt ei hunain nag ydynt yn ddiau, o ran ei bod yn gwneuthur ei cyfrif heb ei lletteûwr (hynny ydiw) maent yn barnu o ryfedi, a natur, a m [...]intioli ei pechodau wrth ei llyfrau ei hunain, wrth ei rhefymau ei hunain, nid edrychent hwy lyfr cyfrif Duw nai gyfr ithiau union drostynt ai mesuro ei hunain wrth ei gyfteithiau ef, pei gwnaent, fe a wnai hynny ir galon stowtiaf ddychrynnu, a thynnu i lawr ei hadenydd, a dywedyd, a oes un drugaredd cimmint a myned [Page 235]heibio ir fâ [...]h bechodau, a rhoi heibio ac anghofio 'r fâth gamm [...]u a madd u 'r fâth dlyledion, un o ba [...]ai a l [...]i, fy rnrheithio i mwy o [...]aw [...]r cynnifer ac y wneuthum i.
Yn bewerydd, diofalwch neu gysg [...]d [...] y dealltwrieth, o ba herwydd nid yw dynion yn edrych yn ôl ar ei gweithredoedd ei hunain, nag yn ei mesuro wrth y rheol; er bod ganthynt wybodaeth o gyfraith Ddwu, etto maegida hwynt megis ac y mae gida dynion y fae ganthynt ddrŷch têg oi blaen, ond heb ei hedrych ei hunain erioed ynddo, nid ydynt un amser yn gweled ei brychau; dymma wae y rhan fwyaf o ddynion sydd heb eu hail-eni, mae arnynt eisiau gallu a geleu [...]i i edrych yn ôl iw barnu ei hunain wrth ddrych cyfraith Dduw, Jerem. 8.6.
Chwi ai cewch nhwy ar breget h yn myfyrio, dymma ir fâth ar fâth, a hwn a hwn a gyrhaeddwyd ymma, pan (ond odid) fod yr un rhyw bregeth yn perthynu yn bennaf iddynt hwy, ond ni ddywedant [Page 236]un amser, Mae hyn yn perthyn imi, fe am caed i allan drwy ddaioni Duw y dydd heddiw, ac yn siwr nid oedd y gwr yn llefaru wrth nêb ond wrthi si, meg is pe buase ryw un gwedi dywedydiddo pa beth a wneuthum i.
Oddiymma chwi a gewch lawer o gristanogion cloffion, y rhai a gyfaddefant, ac a ymroant ir holl wirioneddau a adrodder mewn pregeth, ac ai canmolant hi hefyd, ond nhwy ânt ymmaith ac a ysgydwant yr holl wirioneddau y fo yn ei hargyoeddi hwynt, ac oddiymma llawer o ddynion pan elont hwy iw holi ei hunain yn gyffredinol, pa un a wna ai bôd ganthynt râs ai peidio, pa un a wnant ac bôd yn caru Christ ai peidio, nhwy a dybiant ei bôd, a hynny ai holl galonnau, etto nid oes nar grâs ymma, nag yr un arall ganthynt, beth bynnag a dybiant hwy; oblegid bôd arnynt eisiau goleuni yn plygu ac yn edrych yn ôl i farnu o bethau cyfredin yn ôl ei helynt neilltuol ei hunain, dywedwch ir [Page 237]dynion ymma, i fôd ef, 'r hwn sydd yn caru un arall yn gywir, yn meddwl yn fynych am dano, yn siarad am dano, yn llawenychu yn ei gymdeithas ef, ac ni wneiff, gam ag ef yn ewyllysgar yn y peth lleiaf, yn awr gofynnwch yddynt hwy, os ydynt hwy yn caru Christ fel hyn, os oes ganthynt ddim gôleuni i edrych yn iawnt arnynt ei hunain, nhwy a gânt weled lle mae ganthynt ûn meddwl am Grist, mae ganthynt fîl am bethau eraill, yn lle bôd yn llawenychu ynghrist, maent yn blino ar ei gymdeithas ef mewn gair a gweddi. Amos 1.4,5.
Ac nid ydynt yn unig yn gwneuthur cam ag ef, ond gwneuthur defnydd ysgafn o hynnu ar ôl ei wneuthur, ac meddant pawb sydd bechaduriaid, ac nid all nêb fyw yn ddi-bechod, fel dŷn yn cysgu yn ddiofal (er bôd tân yn llosgi gwellt ei welu ef) nid yw efe yn gweiddi allan, pan fytho eraill o hirbell yn gweled, ac yn dosturus ganthynt ei gyflwr, ond heb allel [Page 238]ei helpu. Isa. 42.25. fe a all dŷn a fo yn myned iw grogi y dydd nessaf freuddwydio y nôs or blaen y bydd efe yn frenin, paham? am ei fôd ef yn cysgu, ac nad yw efe yn edrych yn ôl a no ef ei hun, ti a elli fynd at ddiawl, a bôd yn damnedig, ac etto tybied a breuddwydio Iôd bôb peth yn oda gida thydi, nid oes gennit ddim goleuni yn plygv yn ôl îth [...]ar [...]u dy hunan yn iawn, gweddiwch gan hynnu ar ir Arglwydd droi eich llygaid chwi i mewn i edrych pa fodd y mae yn sefyll gida eich eneidiau chwi eich hunain, ac na edewch i ddiawl ai hudoliaeth eich cau chwi allan och tai eich hunain, rhag gweled pa hwndrwd yr ydis yn ei gadw yno beunydd.
Yn bumned, annuwioldeb y dealltwriaeth. drwy pa ûn y lleiheir, ac y distyrir ogoneddus râs Duw mewn arall, o ba le y mae yn canlyn, fôd yr enaid hudoledig ymma heb ganffod, neb chwaith llawer gwell nag ef ei hûn, ac felly mae [Page 239]efe yn casglu, os bydd nêb yn gadwedig, yn ddiammau myfi a fyddaf ûn. Esa. 47.8, 9.
N [...]d edrych dynion ar fawrhydi Daw ym mywyd ei bobl; llawe [...] dŷn rhy ysgafn, etto yn ewyllysi [...] bod yn gymmera dwy, ai pwysiff ei hûn gida 'r b bl orau, ac a feddwl pa beth sydd ganthynt hwy nad oes gnnif finnau, pa beth y maent hwy yn ei wneuthur nad wyfi finnau yn ei wneuthur, ac os gwêl efe hwynt yn myned tu hŵnt iddo ef, yna efe a drû ei glorian ei hun ai fûs, ac ai gwneif [...] nhwy yn rhy ysgafn, fel wrth hynny gall efe fynd ei hun am bwysau.
Ac wneuthur yn goegi fel hyn yn dany [...]t hwy, ai grâs gan ei barnu hwy nad ydynt o well defnydd na rhai eraill, sydd yn ymddangos yn y t [...]i peth arbennig hyn.
Yn gynt af, maent yn codi gau chwedlau celwyddog ar bobl Dduw, ac yn magu nythlwyth o ddrwg dyhiau am danynt hwy: os gwyddant ûn Qechod a wnaeth yr un o [Page 240]honynt hwy, yna nhwy a gasglant, dymma fel y maent hwy i gŷd; oni welant hwy un pechod niweidiol yn ir ûn o honynt, yna fe ai cyfrifir hwynt yn swp o ragrithwyr, oni byddant mor anghariadus (o ran nad oes ganthynt ûn sail) etto nhwy a broffwydant y byddant cyn y bo hîr cynddrwg ac eraill, er ei bôd hwynt yn blodeuo yn dêg yrawr-hon.
Yn ail, os barnant yn dda o honynt hwy, yna nhwy ai cyffly bant ei hunain iddynt hwy, drwy gymeryd cip o olwg yn unig ar y tŷ allant iddynt hwy a thrwy'r pêth y maent yn ei weled ynddynt hwy, ac felly, fel plant, yn gweled sêr o hirbell, nid ydynt yn ei tybied hwy ddim mwy na dim disgleiriach na chanhwyllau yn gwreichioni. Mae llawer rhyntghynt a gweled y tŷ mewn i blentyn Duw, nid ydynt hwy yn gweled gogoniant Duw yn llenwi'r deml honno na 'r hyfrydi belydr y maent yn ei dderbyn or nefoedd, ar gynddeithas honno sydd rhynthynt [Page 241]ai Duw, ac am hynnu nid ydynt yn barnu ond yn wael iawn o hynynt hwy.
O herwydd y ty allan ir Christion yw y rhan waethaf o hono ai ogoniant ef sydd yn disgleirio yn bennaf oddifewn iddo. P(a. 45.13.
Yn drydydd, os gwelant hwy bobl Dduw yn rhagori arnynt: hwy, a bôd ganthynt well bywyd, gwell calon, a gwell gwybodaeth, etto ni choeliant na bo ganthynt: hwythau beth grâs, er nad oes gantho mor cyfriw argraff ac sydd gan râs rhai eraill;
Ond dymma r tro a chwrânt hwy, maent yn tybied fod gan y gwyr ar gwyr da fwy mesur, a gradd uwch o râs nac sydd ganthynt hwy, etto hwy a feiddiant fod mor hyf a thybied a dywedyd, fod ei Calonnau mor union, er nad nad ydynt mor berffaith ac y ma [...] rhai eraill: ac fel hynt y maent yn gwaelhau y grâs sydd yn disgleirio mewn e raill, ie yn y gwyr [Page 242]mwyaf ei grâs, drwy wneuthur, ir aŵr ymma ragori oddiwrth ei copr hwynt nid yn sylweddol, ond yn.raddol, (hynny yw, nid na bo ganthynt hwy ei hunain wir râs, ond bod gan eraill fwy grâs,) ac oddiymma maent yn ei twyllo ei hunain yn resynol; nid wyfi yn dywedyd na bo (ûn seren) neu gywir gristion yn rhogori ar ûn arall mewn gogoniant: ond dywedyd yr wyfi am y dynion rheini yn unig, y rhai ni ddarfu iddynt hwy erioed gyrrhaeddyd i fod a gwîr onestrwydd ganddynt, etto maent hwy yn cam derfynu, ei bôd yn gystadl am ei mesur, ond na dderbyniasant y fâth fesur o râs ac y dderbyniodd eraill.
Yn chweched, delw-addolioth y ddealltwrieth; drwy ba un y mae 'r meddwl yn gosod i fynu, ac yn plygu i lawr, i gau ddelw o râs, hynny ydiw, y meddwl yn bôd yn anwybodus o uchder a godidawgrwydd gwîr râs, sydd yn cymmeryd cipp o olwg arno, ac felly yn [Page 243]dychymygu ac yn llunio iddo ei hunan, y fâth fesur o gyffredin ras i fod yn wîr râs, yr hwn ar enaid gwedi ymgyrredd iddo yn esmwyth, mae efe yn tybied i fôd ef ef hûn mewn cyflwr grâs, a thrwy hynny mae efe yn ei dwylly ei hûn yn resynol, Rl uf. 10.3. ac mae 'r meddwl yn dyfod i osod i fynu ei ddelw ei Lûn o ras fel hyn.
Yn gyntaf, yr ydis yn bygwth, ac yn cynllwyn y meddwl a chythryblus ofn poenau uffern, y g ydwybod yn dywedyd ddarfod iddo y ceiff ef farw, ac angeu yn dywedyd iddo y cyfwrdd ac ef ar fyrder; ac os cymerir ef ymaith yn ei bechodau, yna y daw dydd dû o gyfrif am 'yr holl ddirgel gastiau, dydd o waedd, dychryn, barn, a thân, lle nid all ûn creadur ei gyssuro ef, oddiymma fe ddywaid Arglwydd cadw fi rhag y trueni ymma, mae efe yn gobeichio na fydd cynddrwg gidag efe, ond mae arno ofn, y bydd.
Yn ail, mae efe yn ewyllysioheddwch [Page 244]ac esmwythdra a pheth siccrwydd o ryddhâd oddiwrth y drygau ymma oblegid uffern ar y ddaiar yw bôd yn wastadol ar y fath dirdra o boenus ofnau.
Yn drydydd, fel y gallo efe gael esmwythdra a llonyddwch yn ofer deifl moi drubwl ymaith, nac y fawdd ef mono yng-waelod ei gwppan, ni theifl efe mono ymmaith gida ei ddisiau, nac y chweru ef chwaith mono i ffordd ar ei gardiau, ond fe a dymuna beth grâs (ac yn gyffredin y rhan leiaf o hono hefyd.)
Ac am hynny efe a wrendw y fath bregethau, ac a dderllyn y fath lyfrau ac a all ei fodloni yn orau ynghylch y mesur lleiaf o râs; Canys, pechod yn unig sydd yn ei drallodi ef, grâs yn unig a all ei wneuthur ef yn holliach: felly, grâs, yn hwn sydd fwyd a diod i galon Sanctaidd nid yw ond physygwriaeth ir cyfriw bobl a rhain, iw esmwythau hwynt oi hofn ai [...]rallodau.
At oddiymma gan fòd yn anwybodus [Page 245]o uchder gwirrâs, mae efe yn llunio iddo ei hun ryw fesur o gyffredin râs i fôd yn wir râs. Megis hyn, os bydd efe yn ei weled ei hun yn anwybodus or peth sydd yn ei flino ac yn ei drallodi ef, cimmint a hynny o wybodaeth a gais ef os bydd rhyw bechodau anferth yn ei ymarfer yn ei drallodi ef, efe a deifl y rhain ymmaith ac felly efe a wellhâ: os esceulusiad o ddyled-swyddau a fydd yn ei flino, fe a wrendy yn well, ac a bryn ryw lyfr gweddi da, ac a weddia yn fynychach. Ac os bydd efe gwedi i berswadio fôd y gwr ar gŵr yn ddigon gonest yna efe a ymegnîa i wneuthur fel y gwnelo hwnnw; ac yr awr-hon mae efe gwedi ei lonyddu. Pan gyrhaeddo ef y pennod ymma or eiddo ei hunan, yn awr mae efe yn ei dybied ei hun yn dechreu 'r bŷd o newydd, ac yn ûn yn dechreu yn dda hefyd; felly os marw a wneiff ef, mae efe yn meddwl yr ymderu ef yn abl; Os ceiff efe ei hoedl, mae efe yn gobeithio [Page 246]cynnyddu a gwellhau: a phan ddelo efe fel hyn iw bennodei hun, mae efe yn rhoddi ei ff [...] ar lawr megis gwedi i lawn fodloni, ac yr awr-hon os cymhellir ef i fyned i gyflwr grâs ei atteb ef yw, nid yw hynny iw wneuthu [...] yr awrhon, mae yn diolch i 'Dduw, mae 'r g sal hwnw gwedimyned heibio gidag ef.
Y gwirio [...]edd yw (fy nharedidigion) mae gwir râs yn rhy uchel iddo; nid allei ei goesau ef ei hun byth i ddwyn ef yno, ei holl râs ef sydd yn dyfod drwy ei waith ef ei hun, nid drwy holl-alluog allu Duw. Gadewch i ddŷn gael pwysau twyllodrus, fe a ellir ei sommi ef yn res [...]nol ag awr ysgafn; paham? oblegid [...]ôd ei bwysau yn rhy ysgafn: felly y dynion ymma sydd ganthynt bwysau rhy ysgafn i farnu o bwys gwir râs;
Am-hynny fe ai twyllir hwynt a darnau o awr ysgafn, clippiedig, bregus sef a rhith ras yn lle gwir ras: oddiymma chwi a gewch y [Page 247]dynion rheini yn canmol dynion a fytho heb na chinhwillin, na fug ysprydol o ras yn ei heneidiau am wyr or gonestaf ar y fwytaesant fara erioed; paham? maent yn union yn gyfattebol iw pwysau ysgafn hwy ei hunain, oddiymma nid wyfi yn rhyfeddu yn fawr wrth glywed rhai yn ceisio maentimmio y gall dŷn syrthio ymarth oddiwrth wir râs: y rheswm yw hyn: maent yn gosod i fynu iddynt ei hunain y fâth gyffreddin waith o râs i fod yn wir râs; oddiwrth ba ûn nid yw ryfedd i ddŷn er galln syrthio, oddiymma y dywaid Belarmin, yr hyn sydd wîr râs, yngwirionedd ei sylwedd yn unig, a ellir ei golli, ond nid y grâs hwnnw yr hwn sydd gywir yngwirionedd ei siccir gadarnhâd: y diweddaf gwedi i iawn d deall, a ellir ei alw grâs enwedigol, megis y gellir galu y llall cyffredin râs. Oddiymma hefyd chwi a gewch lawer o broffesswyr gwedi gwrando cant o bregethau, ac erioed heb ei cynhyrfu i gynnyddu nac i wellhau.
[Page 248]Ac oddiymma yr un modd chwi a gewch, weled ein pregethwyr cyffredin ni yn cyssuro pôb ûn gan mwyaf, er a welont hwy yn gythryblus yn ei meddyliau, oblegid maent yn tybied yn y man, fod ganthynt wir râs: yn awr maent yn dechreu bôd yn bruddion o herwydd ei pechodau; maent yn union yn, ôl ei pwysau ysgafn hwy ei hunain, er mwyn yr Arglwydd cymerwch ofal rhag y dwyll ymma▪ Yr wyfi yn dywedyd i chwi, mae perl anaml yw gwir râs, haul gogoneddus gwedi ei guddio oddiwrth lygaid pawb oll ond y sawl ai meddianant, Datc. 2.17. Rhyfeddol, holl-alluog waith Duw ar yr enaid yw gwir râs, yr hwn nid all ûn gallu creedig ei ddwyn i ben; a chimmint rhagor yn y mesur lleiaf o hono, oddiwrth y radd uchaf o gyffredin râs, ac sydd rhwng cythrel ac angel: canys Christ ydiw ef yn byw, yn anadlu, yn rheoli, yn ymladd, ac yn gorchfygu yn yr enaid i lawn gan hynny [Page 249]ach delw râs eich delw-onestrwydd, nid yw gwir râs yn lefelu at bennod un amser, mae yn ymgyredd yn unig at berffeithrwydd, Phil. 3.12, 13. ac am hynny mae Chrysostom yn galu St. Paul, rheibus anigonal wasanaethwr ac addolwr yr hollalluog Dduw.
Yn seithfed, cyfriliorniad y dealltwrieth sydd achos arall o ddestriw dŷn, a hynny sydd iw weled yn bennaf yn y pum peth hyn, sef y pum cyfeiliornad hyn, ueu gau dybiau.
Yn gyntaf, drwy farnu rhyw drymder meddwl, rhyw ysgafn dristwch am bechod i fôd yn wir edifeirwch; ac felly yn tybied ei bôd yn edifarhau, ac yn gobeithio y byddant gadwedig, canys pechod sydd fel gwenwyn melus; tra fo dŷn yn ei yfed ef, mae llawer o bleser ynddo; ond ar ôl ei wneuthur mae colyn yntho, Dih. 23.31, 32. yna mae 'r amser yn dyfod pan weithio 'r gwenwyn ymma, gan wneuthur ir galon chwyddo gan [Page 250]ofid; mae yn ddrwg gan ei calonnau meddant, oi herwydd; ar llygaid yn diferu, ar gwr y wnaeth y pechod drwy ddifyrrwch sydd yn awr drwy brwdd-der yn gweiddi allan yn chweruder ei enaid, gan ddywedyd, O na buaswn i (y fath anifail wyfi) erioed heb ei wneuthur ef: Arglwydd, trugarcdd tragaredd, Dih. 5.3, 4.11, 12. ie fe alle, yr ymprydiant ac yr ymostyngant, ac y cystuddiant ei heneidiau yn ewyllysgar am bechod, ac yn awr maent yn tybied ei bod gwedi edifarhau, Esa. 58.3. ac ar ol hyn pan glywant hwy, y bydd rhaid i bawb a bechant farw, hwy a gar iad hânt fod hyn yn wîr yn ddian, oddieithr i ddŷn edifarhau, ac felly maent yn tybied ei bod hwy gwedi gwneuthur hynny yn barod, Ezek. 18. Mae hyn yn wir, pa bryd bynnag ybo yn edifar gan bechadur ei bechod o ddyfnder ei galon, mi a ollyngaf dros gôf ei holl anwiredd ef: (medd 'r Arglwydd) ond nid hwn yw 'r edifeirwch hwnnw, pan [Page 251]fo dŷn ag ychydig dristwch yn ei feddwl am bechod, ond pan dde [...]o ef i alaru am bechod fel y drwg mwyaf, megis ped fae efe yn gweled ei holl dda ar dân poe [...]h o flaen ei wyneb; a hynny nid am ryw bechodau, ond am bob math ar bechodau bychain a mawrion; a hynhy nid dros amser, dros ychydig a chwedi hynny diogi (llif cornant o brudd-der) ond fel ffy [...]non heb sychu un amser, ond rhedeg yn wastadol holl amser [...]ywyd dŷn.
Yn ail, drwy farnu ymdrechiad y gydwybod yn erbyn pechod, i fod yn ymdrechiad y cnawd yn erbyn yr ysbryd; oddiymma mae yn dyfod yr ymadroddion ymma oddiwrth ddynion cnawdol ceg-dduon; Mae 'r ysp [...]yd yn barod ond y cnawd sydd wan. Ac oddiymma mae dynion yn tybied, ei bod gwedi ei cyd-dymheru ai cydgymysgu o gnawd ac ysbryd, ai bod gwedi e [...] hail-eni, ac heb fod mewn dim gwaeth cyflwr na phlant Duw ei hunain- Megis ar ryw amser y bum [Page 252]i yn siarad a gwr, yr hwn ydoedd yn tybied yn lle gwir fod Pilat yn ŵr or gonestaf, o herwydd, i fod ef mor anewyllysgar i groeshoelio Christ; yr hyn anewylly sgarwch a gododd ynddo ef oddiwrth attallieth neu wrth-wyneb oedd gan y gydwybod yn erbyn y weithred, felly, mae llawer o ddynion yn barnu yn dda; etto yn ynfyd ddigon am danynt ei hunain ar y fath sail, maent yn dywedyd ei bod yn ymdrechu yn erbyn ei pechydau, ond yr Arglwydd a fo trugarog wnthynt, meddant; mae 'r cnawd yn wann; ac oddiymma mae Arminiws yn gwneuthur deongliaid neilltuol ar y sethf [...]d bennod att y Rhufriniad, oddiwrth ddysgawdwyr cyffredinol; ymha le y mae Paul yn dywedyd ymhêrson y dŷn ailanedig o herwydd iddo ganfod llawer o ddynion di — ras (megis y mae efe ei hûn yn dywedyd) gwedi syrthio, ac yn syrthio beunydd i bechodau yn erbyn cydwybod, yn dwyn y bennod ymma iw hamdiffin, [Page 253]ai cyssur, oblegid ei bod yn gwneuthur y peth nid oedd fodlon ganthynt, 15. wers ac felly nid hwynt hwy oedd yn gwneuthur hynny ond y pechod yr hwn oedd yn aros ynddynt hwy.
Felly, mae llawer yn ein mysg ni yn y dyddiau ymma, a wyddont y dylaent fod yn well, ac ymdrechu am gynnydu yn well, ond o herwydd grym pechod nis gallant; cydwybod sydd yn dywedyd iddynt na ddylaent bechu, ei calonnau ai chwantau cnawdol sydd yn dywedyd y bydd rhaid iddynt bechu; ac dymma yn ei tŷb hwy gnawd ag ysbryd: Oh nagê, dymma gydwybod a chwant cnawdol yn unig ynghŷd erbyn y clustiau, yr hyn ymdrechiad Herod, Pilat, Balaam, neu y rhai gwrthodedig gwaethaf yn y bŷd, a allent ei gael, nid yw y fath ryfel yn profi fod dim grâs yn y galon, ond yn hyttrach mwy o nerth llygredigaeth, a mwy o allu pechod ynoti: megis ac nad yw ryfeddod yn y [Page 254]bŷd weled march yn diaingc dan fo yn rh [...]dd; ond pan fo y ff wynam ei ben ef, ar haiarn yn ei safn, yr amser hwnnw rhedeg ymaith a bôd yn wylit, sydd yn arwyddoccau ei fod ef yn hollawl heb ei ddofi nai ddarostwng: cymerwch ofal gan hynny rhag barnu eich cystwr ei fod ef yn dda, o ran bod rhyw wrthwyneb yn eich calennau i wneuchur rhyw bechodau, er na bont ond pechodau hychain; canys fe allef dy bechodan di fôd, ac mae yn sccir, ei bôd hwynt ynoti yn fwy nerchol, nac mewn eraill y rhai nid oes ynddynt y fâth ymdrechiadau, nac yn cael y fath geryddon yn y gydwybod ac yr wyti yn ei gael ich attal, gwybydd gan hynny mae ymdrechiad yr ysbryd yn erbyn y cnawd, sydd yn erbyn pechod, O herwyd ei fôd ef yn [...]od; [...]gis y mae dŷn yn casâu llyffant dû, er na ddarfu iddo ei wenwyno ef erioed: ond ymdrechiad dy gydwybod di yn erbyn pechod, sydd yn unig yn erbyń [Page 255]pechod, oblegid ei fôd efe yn bechod cythry blus ac yn dwyn damnedigae [...]h; ymdrechiad yr ysbryd yn [...]rbun y cnawd, sydd oddiwrth gasineb marwol i bechod, Rhuf. 7.15. ond ymdrechraid dy gydwyb d di yn erbyn pechod, sydd yn unig oddiwrth ofn y perigl sydd yn ddyledus ir pechod. Canys ir o [...]dd gan Balaam feddwl i regy 'r ysraeliaid er mwyn ei arian; ond pei cawsei ef dŷ yn llawn o awr ac arian ('r hyn sydd beth daionus yngolwg y c [...]bydd) yr ydis yn dywedyd, Na f [...]id [...]iei ef [...] m [...]i rh [...]gi hwynt.
Yn d ydydd, drwy farnu purdeb y ga [...]on, wrth ryw dueddiad neu serchiad dâ yn y galon. Oddiymma mae llawer enaid siommedig yn ymresymmu ac ef ei hûn fel hyn: rhaid imi fôd naill ai yn ddŷn halogedig drygionus, ne [...] [...]n rhag [...] thiwr, neu yn ŵr union, nid wyfi halogedig a drygonus, i Dduw yr wyfi yn diolch, canys nid wyfi yn ymroddi i butteindra, i feddwi, i [Page 256]orthrymu, i dyngu, ac yw rhagrithwr, herwydd yr wyfi yn casâu yr ymddangosiadau ymma, nid allaf fi aros ymddangos yn well oddiallan nac yr ydwyfi oddi mewn; gan hynny 'r wyfi yn ddyn o galon gywir uniawn. Paham? Oh, am fòd fynghalon i yn dda; fy serchiadau am dymuniadau oddi fewn, ydynt well nam bywoliaeth i oddiallan; a pheth bynnag y mae eraill yn ei farnu o honofi, myfi a adwyn fynghalon fy hûn, ar galon yw 'r cwbl y mae Duw yn ei ewyllysio, ac yn edrych am dano. Fel hyn y maent hwy yn ei ffoli ei hunain, Dih. 28.26. Dymma un or achosion mwyaf o gamgymmeriad ymysg y dynion sydd yn tybied yn oraf o honynt ei hunain. Nid ydynt abl i wneuthur rhagoriaeth rhwng dymuniadau da iddynt i hunain yn unig, ar serchiadau cryfion sydd yn cyfodi oddiwrth gariad i Jesu Grîst.
Cariad dyn iddo ei hun neu hunangariad a wneiff i ddŷn geisio ei [Page 257]ddiogelwch, ai ddaioni ei hû; oddiymma hunan-gariad a dynn ddŷn allan oi wely yn foreu, ac ai geilw ef i fynu i weddio; fe ai cymer ef ac ai dŵg iw ystafell tua 'r hwyr, ac yno yn ddirgel efe a wneiff iddo geisio, a gweddio, a chrefu yn galed am bardwn am Grist, am drugaredd; Arglwydd, yn wastadol dyro imi 'r bara yma! Ond cariad Christ a wneiff i ddŷn ewyllysio Christ ai anrhydedd er mwyn Christ ei hûn, a phôb peth arall er mwyn Christ hefyd. Máe yn wîr, fod dymuniadau y [...]hai sydd blant ynghrist drwy ffydd, yn gymmeradwy bôb amser; ond ewyllys gweision (dynion a fônt yn gweithio yn unig am gyflog) allan o Grist nid ydynt yn gymmeradwy.
Yn bedwerydd, drwy farnu o gariad Duw iddynt ei hunain, drwy fod yn cyfeirio weithiau att ogoniant Duw.
Ydiw hyn bossibl, fod i ddŷn gyfeirio att agoniant Duw; ac yn gyffredin hefyd: fe a eill dŷn fod [Page 258]weinidogaeth, bod yn barod a sefyll dros bethau daionus, o ba le fe all fod heb ammau nad ydiw Duw yn ei garu ef: ond dymma y rhagorieth, er gallu o ddŷn [...]nuwiol wneuthur gogoniant Duw yn ddiben iddo yn rhyw bethau yn neilltuol, etto nid yw efe un [...]mser yn ei wneuthur yn ddiben [...]ithaf a diweddaf yn ei helynt gy [...]fredin; fe all prentis cyfrwys wneuthur holl waith ei feistr, ond fe all hefyd gymeryd y bydd iddo oi hûn, neu ei rannu rhwng ei feistr [...]g ef ei hunan, ac felly fe all na bo [...]nd dihirwr, er manyled y bo efe [...]n ymddangos: felly calon gy [...]wys (etto yn galon ddihîr) all adel yr holl fŷd, fel y gwnaeth Judas, ai rhymo ei hûn ir holl ddyledswyddau y mae Duw yn ei gofyn oddiallan ar ei dwylo hi, ac felly gwneuthur gweithredoedd da; ond beth yw ei ddiben eithaf ef? ei ddiben eithaf ef yw, fel y gallo fe ennill bûdd, parch, neu le, neu fel y gallo Christ gael rhyw [...]an or gogoniant, ac yntau eu hûn [Page 259]yn haelionus ir tlawd, mantimio 'r ran arall, fe roe Simon Magus gynt yr arian a fynnid er iddo allu gweddio cystadl, gwybod cimmint, a gwneuthur megis yr oedd eraill yn gwneuthur, etto ei ddiben diweddaf oedd er ei fwyn ei hûn: pa fodd y gellwch chwigredu, Jo. 5.44. oni cheisiwch chwi y gogoniant hwnnw sydd yn dyfod oddiwrth Dduw yn unig medd Christ? mae llawer yn ceisio anrhydedd Christ; ond ydych chwi yn ceisio ei anrhydedd ef yn unig? ai hynny ydiw eich diben diweddaf chwi, lle 'r ydych chwi yn gorphwyso ac heb geisio dim ychwaneg ond hynny [...] Os mynni di wybod a wyti yn gwneuthur gogoniant Christ yn ddiben diwedaf, craffa ar y rheol ymma: Os yw yn fwy gofidus gennit am fod cwmwl ar dy anrhydedd dy hûn, ac am dy golledion dy hûn, nac am y golled o anrhydedd Duw; mae yn arwydd eglur nad wyti yn caru anrhydedd Duw fel y dyliti, nac yn ei ddymuno megis dy ddaioni pennaf, ac megis dy [Page 260]ddiben diweddaf, ac am hynny nid wyti yn caru anrhydedd Duw yn y lle cyntaf a phennaf. Yr oedd ei bechod yn blino Paul yn fwy na holl blaau a gofidiau 'r bŷd, yn ddiau os llychwinir dy enw di ag anair, ath ewyllys yn cael ei groefi, fe fydd ei galon di yn ofidus ac yn aflonyd ond fe all yr Arglwydd golli ei anrhydedd beunydd drwy dy bechodau di dy hûn, a rheini sydd oth amgylch di, heb un deigryn, ûn ochenaid, ûn griddfanniad wrth ganfod y fath olwg: cyn ficcred a bôd 'r Arglwydd yn fyw, os wyti felly, nid wyti yn ceisio enw neu anrhydedd r Arglwydd megis dy ddaioni pennaf.
Yn bummed, drwy farnu nad yw grym pechod ddim ond gwendid yn ynig. Canys os tralloda dim ddýn an-ail-anedig, a pheri iddo ammau ei gyflwr, pechod ai gwna, naill ai y pechod ynddo ei hûn, neu yn ei rym yn awr pechod ynddo ei hûn nid all beri iddo ammau ei gyflwr, canys mae y rhai goraf a hynny gwedi ei adel ynddynt, hynny ai [Page 261]daronstwng hwynt, ac a wneiff iddynt fŷw drwy flydd; gan-hynny grym pechod yn unig a all drallodi dŷn fel hyn.
Yn awr as barna dŷn nad yw Arglwyddiaeth pechod ond gwendid, yr hyn beth y mae y rhai goref gwedi amgylchy ag ef, nid all ef amgenach na gorwedd i lawr yn ddiofal, a thybied yn dda hono ei hûn: ac os bydd y camsynniad ymma gwedi ei sefydlu mewn ûn ni bytho yn byw mewn ûn pechod cyhoedd, mae yn anhawdd iawn i symmud oddiwrth ef; Canys gadeweh ir pregethwr daflu gweichion uffern yn ei hwynebau hwynt, a chyhoeddi barnedigaethau Duw yn ei herbyn, nid ydis nês iw cyfroi hwynt: Paham? oblegid ei bod yn meddwl, dymma a chwi y rhai ydych yn byw mewn pechod, ond am danynt ei hunain, er bod ganthynt bechodau, etto maent yn ymdrechu yn ei herbyn, ac yn methu ymadel a hwynt er hynny; sanys, rhaid ini gael pechod tra [Page 262]fôm ni byw ymma, meddant. Yn awr, creffwch, nid oesûn arwydd siccrach o ddŷn dan reolaeth gwaedlyd ac Arglwyddiaeth ei bechodau ai chwantau cnawdol, hynny ydiw, rhoi lle i bechod (er lleied ac er mor sathredig y fytho yngolwg dynion) hwy allant fod wedi trallodi ychydig arnynt am bechod (ond nid oes arnynt fawr flinder oi achos.) Nid wyfi yn gwadu na bo y rhai gorau yn pechu beunydd; ond dymma reol St. Paul a phob plentyn i Dduw, nid oeddynt hwy yn allaru llai, ond mwy o herwydd y pechodau rheini, nid oeddynt yn gallu yn hollawl ei darostwng, ai bwrw allan, ai gorchfygu. Megis ac y mae y carcharwr yn galaru yn fwy am ei fod ef yn rhwym ar fath lyffetheiriau nad all ef moi torrii, felly mae pôb ûn ac sydd wir deimladwy oi gaethiwedd gresynol drwy bechod; dymma y rhagor mawr sydd rhwng y pechod cynddririog yr ymadawei ddŷn ag ef yn [Page 263]unig oblegid cnofendd cydwybod, neu gywylydd, neu ofn uffern; a phechod o wendid ni fedr dŷn ymadel ag ef; pechod o wendid yw y sâth bechod ag yr ewyllysiei ddyn o wîr gariad i Dduw ond nid all ac ni fedr dŷn ymadel ag ef, ac am hynny mae efe yn galaru mwy oi blegid. Pechod cynddririog terfysgus yw y fâth bechod, ac y dymunei ddŷn ond odid ymadel ag ef weithiau o achos y gwiolennodiau y mae efe yn ei gael gan ni gydwybod, ond nid all, ac oddiymma, mae efe yn galaru llai oi herwydd, ac felli yn rhoddi lle, a ffordd neu gynhwysiad i bechod. Yn awr er mwyn yr Arglwydd, cymerwch ofal rhag y dwyll ymma; canys yr wyfi yn dywedyd ichwi, y pechodau rheini iw y rhai ni fedrwch chwi y madel a hwynt.
Oni riddfenwch chwi nôs a dydddan eich baich (gan ddywedyd, o Arglwydd helpa fi, canys rwyfi yn blino arnaf fy hûn, ac ar fy oedl) hwy ach anrheithiant chwi yn dragywydd. [Page 264]Chwi a ddywedwch, na fedrwch chwi ond siarad yn segur, a meddwl yn ofer, a gwneuthur yn ddrwg weithie, fal y mae pawb yn gwneuthur; yr wyfi yn dywedyd i chwi, y pechodau rheini a feddant yn gadwynau i'ch dal chwi yn dragwyddol dan reolaeth y cythrel, hyd farn y dydd mawr ofnadwg. A hyn ymma a ddywedaf am lygredigaeth y dealltwriaeth, trwy ba ûn y twyllir profeswyr, yn awr y canlyn yr ail Achos.
Yn ail fe ai twyllir hwy, o herwydd y gau-heddwch fastardaidd sydd gwedi ei chenhedlu yn y gydwybod. Pam y crynnei y gwersyll pan fo 'r gwilwyr yn cysgu, neu yn rhoi gair siomgar, pan fo 'r gelynion yn agos; Mae y rhan fwyaf o ddynion yn tybied ei bôd mewn cyflwr diogel, o herwydd na fuont hwy erioed mewn cyflwr cythryblus, ac os buont hwy, oblegid iddynt gael pêth heddwch a chyssur ar ei ôl.
Yr-awran yr heddwch fals ymma [Page 265]a genhedlir yn y galon drwy 'r pedwar mod hyn.
- 1. Druy Satan.
- 2. Drwy gau-athrawon.
- 3. Drwy ysbryd twyllodrus.
- 4. Drwy gam gymhwyso gwîr addewidion Duw.
1. Drwy Satan, teyrnas pa ûn a syrthiei ped fae tû gwedi ymrannu, ac yn wastadol ar derfysg; ac oddiymma mae efe yn ymegnîo am heddwch, Luc. 11.21. pan fo gŵr cryf arfog yn cadw ei neuadd, mae 'r hyn sydd gantho mewn heddwch; hynny ydiw, pan fo Satan gwed [...] eî arfogi a lluoedd o ddichellion ac ymresymmiadau cnawdol, yn meddiannu eneidiau dynion, maent mewn heddwch.
Yn [...] wr, edrychwch megis ac y mae meistred yn rhoddi heddwch iw gweision, felly 'r ûn modd y mae 'r cythrel:
Yn gyn [...]af drwy symmud oddiwrthynt bob peth ai blina hwynt: [Page 266]ac yn ail drwy iddynt bôb peth, ai llonyddei hwynt, ac ai cyssurei hwynt hefyd, megis bwyd a diod, gorphwystra, llettu, &c. Felly mae Satan yn gwneuthur ai gaethion ac ai weision yntau.
Yn 1. drwy symmud y pechodau rheini a drallodant y gydwybod: canys fe all dŷn fyw mewn pechod, ac etto bôd erioed heb ei drallodi am y pechod hwnnw; oblegid pechod yn erbyn goleuni 'r gydwydod sydd yn trallodi 'r gydwybod: megis plant y fo yn ymdreiglo ac yn chwarae yn y llŵch, nid yw 'r llŵch yn ei hanesmwythau, ond yn hythrach, maent yn cymmeryd pleser yn ymdroi ynddo; ond yn unig hynny (pa un bynnag y fo ai bychan ai mawr) a ddescynno yn ei llygaid. Ac oddiymma y daeth y gŵr ifangc hwnnw att Grist dan ymffrostio, ddarfod iddo gadw 'r holl orchmynion oi ievengtid; Ond fe acth ymmaith yn athrist, o herwydd y llŵch hwnnw, y pechod hwnnw y bu efe fyw ynddo or blaen [Page 267]drwy ddifyrrwch, a syrthiodd iw lygaid ef yr awrhon, ac am hynny efe a drallydwyd. Yn awr creffwch ar y dwyll sydd gan y cy [...]hrel, pan allo efe beri i ddŷn fyw, ac ymdreiglo, a chymmeryd di [...]yrrwch yn ei bechodau, ac felly ei wasanaethu ef; er hynny ni oddefiff iddo fyw mewn ûn pechod yn erbyn ei gydwybod, drwy ba ûn y, gallei efe gael ei drallodi, a thrwy hynny ceisio dyfod allan oi gyflwr gofidus, (mae yn siccir gantho mae efe piau' y dŷn ymm [...];) ac yrowan mae 'r eneidie truein siommedig ymma yn myned i fynu ac i wared, heb ammau na byddant hwy yn gydwedig; Paham? o herwyd bôd ei cydwybodau (i Dduw y diolchant) yn lân, ac ni adwaenant hwy ûn pechod y maent yn byw ynddo, ni wyddant ddim arnynt ei hunain a allei beri iddynt ammau fôd ei cyflwr yn ddrwg, Matth. 9.13. ni ddaethym i alw y rhai cyfiawn, hynny yw, y fâth ddŷn ac sydd yn holliach yn ei dŷb ei hûn, pôb pechod. [Page 268]sydd glefyd i blentyn i Dduw, nid yw efe ûn amser heb ryw fâth ar dristwch: ond mae rhai pechodau yn bôd yn glefyd i ddŷn naturiol, y rhaîn gwedi ei symmud, mae efe yn gwellhau ac yn dychwelyd yr tristwch'r oedd efe ynddo or blaen, ac yn myned yn iach drachefn, neu or hyn lleiaf yn ei dybied eu hûn felly: Ond ni ddaeth yr Arglwydd Jesu erioed i achub y fâth, am hynny mae Satan yn cadw meddiant ynddynt hwy: er mwyn yr Arglwydd edrychwch a ty cyfrwystra ymma; mae llawer yn ei tybied ei hunain mewn cyflwr digon da, oblegid na wyddant mor pechod pennodol y maent yn byw ynddo; o ba herwydd y gall Satan gael siccrach meddiant ar y fâth ac ydynt gwedi ei rhwymo ai gadwynau anweledig ef, pan yw rheini y fytho yn clywed ei byllt yn gwasgu arnynt, yn fwy tebygol ei ddiaingc.
Yn 2. drwy roddi ir enaid ryddid iw ddifyrru ei hûn mewn rhyw ymarfer pechadurus ymha ûn y gall [Page 269]llygad y gydwybod fod heb ei bigo ai anafu, gweision pan rodder hwynt yn wastadol ar waith, ac heb gael myned i rodio ûn amser, a flinant ar y gwaith ar meistr: ar meistr hwnnw ai boddheiff hwynt yn orau, a roddo iddynt fwyaf o rydddid, bôd gwedi ei câu i fynu drwy 'r dydd yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw, yn gwilio, yn gweddio, yn ymryson, yn erbyn pôb pechod, mae hyn yn faich, ma [...] hyn yn rhŷ gaeth; ac o ran nad allant oddef hynny, maent yn meddwl nad yw 'r Arglwydd Jesu yn edrych am dano oddi-ar ey dwylo hwynt. Yrowran mae Satan yn rhoddi rhydddid i ddynion yn ei hymarferion pechadurus; ar rhydddid ymma sydd yn dwyn heddwch, ar heddwch ymma sydd yn peri i ddynion dybied yn dda am danynt ei hunain. 2 Pet. 2.19. Mae llawer o broffesswyr pydron yn y dyddiau ymma, y rhai yn wir ni agorant moi genau yn erbyn gwîr bobl Dduw, etto hwy a rodiant [Page 270]yn rhyddion, ac a gymmerant or mod rhydd-did yn ei geiriau, rhydddid yn ei meddyliau, rhydd-did yn ei dymuniadau ai pleserau, rhydddid yn ei cymdeithas ai digrifwch, a hynny weithiau dan enw o rhydddid christianogawl; ac heb ei blino ei hunain ûn amser ar gwrth-ddadleuon di-anghenrhaid ymma felly maent hwy yn ei barny, sef i ba ddiben, neu ymha fodd yr ydwyfi yn arfer y pethau ymma? lle mae y gŵr cyfiawn yn ofni yn wastadol, Dih. 28.14. gan ystyried fôd iddo fagl ymbôb rhydd-did christianogawl cyfreithlawn: onid allafi bechu yn fy llawenydd, yn fi siarad, yn fy nghyscu? Oh! y rhydd-did ymma y mae 'r cythrel yn ei roddi, ac y mae 'r bŷd yn ei gymeryd, sydd yn penfeddwi dynion ag opiniwn ynfyd fôd pôb pêth yn dda gida hwynt.
Yn drydydd, drwy roddi ir enaid ymborth da, bwyd a diod ddigon, ar saig a chwenycho efe oran, gadewch i feistr roddi rhydd-did, [Page 271]etto nid yw y gwâs fodlon, oni cheiff ef ymborth a bwyd, a diod: felly nid oes ûn dŷn drygionus dann y nefoed, ond sel ac y mae efe yn cymmeryd gormod rhydddid yn yr arfer o bethau cyfreithlawn, felly mae efe yn porthi ei galon trhyw chwant ddirgel anghyfreithlawn, er ei fôd ef yr holl amser y mae efe yn byw ynddo, ond-odid, heb ei adnabod. Luc. 16. Yr oedd gan y glŵth goludog ei saig, ei bethau dâ, ac felly efe ai sûodd ei hûn i gyscu, ac a barodd iw enaid gymmeryd esmwythdra: ie creffwch, mae 'r abwyd ymma gwedi wenwyno ynddo ei hunan, ond gwedi ei ganmolir enaid megispeth iachus, dâ, a chyfreithlawn. Maent yn bedyddio pechod a henw newydd, fel y mae 'r Pabau yn cael wrth ei hethol iw lleoedd; os drwg y fydd efe, weithiau hwy ai galwant ef yn dduwiol, os llwfr-wâs, hwy ai galwant ef, llew, &c. Felly cupydddei sydd hysmonnaeth ddâ meddant; cadw cymdeitbas, cymmydogaeth [Page 272]ddâ; celwydd i achub ei geirda, esgus taclus: ac oddiymma mae r enaid yu myned ymlaen yn heddychol, ac yn credu ei fôd ef mewn cyflwr dâ.
Yn bedwerydd, drwy roddi ir enaid orphywystra a chysgu, hynny ydiw, seibiant weichiau oddiwrth y weithred o bechod; oddiymma mae yn anhawdd peri iddynt goelio ei bod yn byw mewn pechod, oblegid ei bod hwy ar amserau yn gadel ymmaith y weithred o bechod; megis nad yw neb bôb amser yn tyngu, phôb amser yn feddw, nag yn ddiyllawn, bôb amser maent yn tybied nad yw ei gwaith hwy yn y rhain, neu 'r cyffelib bechodau, [...]nd llithriadau a chwympau y mae y rhai gorau yn ei cael wei [...]hiau, ac etto yn bôd yn blant anwyl i Dduw. Oh! ni rydd Satan ddynion ar ei waith yn wastadol: oblegid ped fae dynion ai cuppaneidiau yn ei dwylo pob amser, ai dihirogod yn ei brechiau bob amser, ped fae 'r cybudd yn cloddio yn y ddaia [...] yn wastadol, [Page 273]ac heb weddio ûn amser, na chael ûn meddwl dâ, na chadw ûn Sabboth erioed, ped fae ddŷn yn siarad yn ofr bôb amser, ni fyddei ei gwydwybod ef yn gael iddo ddim llonydd, ond ei ysgwyd ef yn wastadol am y peth y mae efe yn ei wneuthur; ond drwy roddi iddo beth seibiant oddiwrth bechu dros amser mae Satan yn cael cadarnach meddiant ar ôl hynny; pan elo 'r ysbrŷd aslan allan o ddŷn, efe a ddychwel yn waeth, &c. Matth. 12.43. Yr oedd nerth Sampson yn aros, yn wastadol, felly mae nerth pechod yn y dŷn naturiol, ond nid yw efe yn ymddangos hyd oni ddelo profedigaeth.
Yn bummed, drwy roddi ir enaid addewidion têg or nêf ac o fywyd tragwyddol ai siccrhau nhwy ar y galon. Mae y rhan fwyaf o ddynion yn ddiogel ganthynt ei bod mewn cyflwr digon dâ; ac er i Dduw ei lladd hwynt, etto hwy a ymddiriedant ynddo, ac ni churir monynt oddiwrth hyn. Paham? [Page 274] Satan aillygadtŷnod hwynt: canys fel ac ydywedodd efe wrth Evah drwy 'r Sarph, na bydd hi farw; felly mae efe yn danfon ei resymmau ir enaid, eriddo fyw mewn pechod, na fydd efe farw, ond y gwna efe yn gystadl ar manylaf o honynt. Fel hyn y mae Satan yn rhoddi geiriau têg, ond cyflog yn llawn gwae, sêfy tragwyddol boenau uffern.
2. Yn ail, drwy gau athrawon, y rhai mewn rhan drwy ei siamplau rhyddion, ac mewn rhan drwy ei d [...]sgeidiaeth wenhcithus ar gyhoedd, ai cariad helaeth yn ddirgel, drwy blastrio neu briddo i fynu bôb ûn (yn enwedig os bydd efe gydymaith dâ iddynt hwy.) am bobl onest grefyddol; ac os byddant hwy wedi ei trallodi ond ychydig hwy roddant gyssur iddynt yn ddiattreg, ac felly hwy a iachant y rheini a ddylent gael ei briwo heb ddywedyd iddynt hyd adref am ei Herodias ei pechod anwylaf, megis y gwnaeth Joan fedyddiwr a Herod, ar hyn hwy ai barnant ei hunain yn [Page 275]onest, oblegid ei bôd yn cael geirda gwenheithus gan y gweinidog; ac felly maent yn myned allan or bŷd ac yn meirw fel wŷn, gwedi ei twyllo yn resynol, Matth. 24.11. Edrychwch ar lêd yn y bŷd, gwelwch beth yw 'r achos y mae cimmint yn porthi eu calonnau a hyder y byddant cadwedig, ac etto ei bywyd yn ei heuog-farnu, ei calonnau somgar er hynny yn ei ryddhau hwy, y rheswm yw; y fâth ar sâth weinidog eiff ir tŷ tafarn, ac nid yw efe yn gweddio ûn amser yn ei deulu, ac nid yw efe 'r ûn or bobl fanwl, boe [...]hion ymma, ac etto yn onested gŵr ar gonestaf yn fyw, ac ysgolhaig da hefyd: fe a dwyllwyd Ahab yn resynol gan bedwar cant o gaubrophwydi; tra so 'r gweinidog o fywyd rhŷdd neu aflan ei hûn, fe a gyd-ddwg ag eraill ac ai biau rhag iddo wrth ei hargyoeddi hwy ei euog-farnu ei hunan, ac i eraill ddywedyd wrtho y meddig iacha di dy hûn. Lladdron or ûn cwmnhi ni ledrathant y [Page 276]naill oddi ar y llall, rhag iddynt ddwyn trwbl arnynt ei hunain wrth hynny ac oddiymma mae llawer dall weinidog yn rhoddi i eraill gardiau ffeilsion iw hwylio wrthynt sef rheolau twyllodrus i fyw wrthynt: ei anghywybodus gariad helaeth (fel gagendor yn llyngcu llongau) all fod yn achos o ddestriw i lawer o eneidiau y rhai sydd yn cael ei haflonyddu gan demhestloedd ei pechodau ac oddiymma sef oddiwrth ei cariat perfaith hwy (fal yr henwir ef) pysgod yw 'r cwbl a ddelo iw rhwyd hwy (hynny yw abl yw 'r cwbl) ae am hynny mae pawb yn tybied felly am danynt ei hunain, ei bod yn abl da ei cyflwr.
3. Yn drydydd, drwy ysbryd twyllodrus, dymma 'r trydydd achos sydd yn peri heddwch ffals. Fel ac y mae 'r gwir ysbryd yn tystiolaethu i' n ysbryddoedd ni cin bôd bôd ni yn feibion i Dduw, Rhuf. 8.16. felly mae gau ysbryd, yn union or un fâth ar gwir ysbryd, [Page 277]yn tystiolaethu iddynt ei bod yn blant i Dduw yn y, 1 Joan. 4.1. yr ydis yn peri i ni brofi 'r ysbrydoedd: yn awr oni bae sôd yr ysbrydoedd yma yn debig i wîr ysbryd Duw, paham y byddae raid ei prosi hwyut? Megis, pam oedd raid prosi pa ûn y wna tom ai bod yn awr ai peidio, y rhaisydd mor anhebygol y naill ir llall? Ar ysbryd ymma, yr wyfi yn i gymeryd i fod gwedi i osod ar lawr yn Math. 24.23.
Yn awr edrychwch fel y mae 'r gwîr yspryd yn tystiolaethu felly y mae 'r gau ysbryd, gan fod yn debigiddo, yn tystriolaethu hefyd.
Yn grntaf, mae ysoryd Duw yn darostwng yr enaid. Felly cyn i ddynion gael tystiolaeth y gau ysbryd, maent gwedi ei taflu i lawr yn anial yn ei heneidiau, ac ar hyn maent yn gweddîo am esmwythdra, ac yn bwriadu dilyn buchedd newydd, ac yn taflu ymmaith yr arfau, ac yn ymddarostwng. Psa. 66.3.
Yn ail, ysbryd Duw yn yr Efengil sydd yn datcuddio Jesu Grîst ai [Page 278]ewyllysgarwch i achub; felly mae 'r gau ysbryd yn datcuddio godidawgrwydd Christ, ai barodrwydd i dderbyn, os efe a ddaw i mewn. Mae gida 'r enaid ymma, megis y mae gida mesur wyr tiroedd, y rhai sydd yn cymeryd craff olygiad ar diroedd rhai eraill, o ba rai ni feddianant byth droedfedd.
Felly y gwnaeth Balaam, Num. 24.5, 6. ac felly y gau ysbryd ymma sydd yn dangos iddynt ogeniant nêf, a dedwyddwch pobl Dduw.
Yn drydydd, ar hyn mae 'r enaid yn dyfod i serchi, ac i brosi daioni a melystra Jesu Grist, megis ac y gwnaeth y rhei ni yn Hebr. 6. arenaid yn torri allan i ryfeddu: Oh! fôd erioed obaith ir fâth ddŷn truan ac wyfi, ac y fûm i ac felly yn llawenychu yn fawr, fel dŷn gwedi ei hanner gippio ir nêf.
Yn bedwerydd, ar hyn yr enaid yn cael ei gyssuro ar ôl iddo gael ei friwo, mae efe y rowan yn galw Duw, fy nuw i; a Christ, fy hyfryd [Page 279]achwbwr i; ac yn awr nid yw efe yn ammau na bydd efe yn gadwedig; Paham? am imi dderbyn cyssur mawr, ar ôl llawer o brudd-der ac amheuon. H s. 8.2, 3. ac etto yn aros yn greadur truan siommedig.
Ond yma creffwch ar y rhagor sydd rhwng tystiolaeth y ddau ysbryd sydd yn peri i ddyn goelio ei fod ef mewn cyflwr grâs, ac y bydd efe cadwedig, o herwydd iddo brofi o Grist, ac felly y cafodd efe ei gyssuro, a hynny yn helaeth: ond y gwir ysbryd sydd yn perswadion dyn fod ei gyflwr ef yn dda, ac yn ddîogel, o herwydd ni ddarfu iddo ef yn unig brofi, ond prynnu 'r Christ ymma; fel y marsiandwr doeth yn yr Efengil, Matth. 13.46. yr hwn a lawenychodd ddarfodd iddo gael y perl, ond nid yw efe yn aros ymma, ond mae efe yn gwerthu 'r cwbl oll, ac yn prynnu 'r perl. Fel dau farchnatta-wr y faent yn dyfod i brynnu gwîn o mae ûn yn i brofi ef, ac yn myned [Page 280]ymmaith yn ben ysgafn ac yn tybied mae efe y piau 'r gwîr. Felly mae 'r dŷn sydd ar gau ysbryd gantho, yn gwneuthur: ond y dŷn gwir ysbrydol nid yn efe yn unig yn profi 'r gwîn, ond mae efe yn ei brynnu êf, er nad yw efe yn yfed mor cwbl pan yw efe yn dyfod iw brofi êf; etto mae efe wrth ei brofi ef yn ei glywed ef yn ddâ, a thrwy hynny yn cael annogae [...] iw brynnu ef, ac yrowan mae efe yn ei alw ac yn gymmeryd êf fel ir eiddo ei hûn: felly plentyn i Dduw gwedi profi ychydig o Dduw, ac ychydig o Grist, ac ychydig or addewidion ar ei droad cyntaf, er nad yw efe yn archwaethu 'r holl felystra sydd yn nuw; etto mae efe yn gadel ymmaith y cwbl am Dduw, am Grîst, ac felly yn ei cymmeryd hwy yn gyfreithlawn fel yr eiddo ei hûn.
Drachefn, mae 'r gau ysbryd gwedi iddo roddi cyssur a heddwch yn dioddef i ddŷn orphwyso yn y cyflwr hwnnw; ond y gwîr yspryd ar ôliddo wneuthur ir enaid brofi o [Page 281]gariad yr Arglwydd, sydd yn cyffroi ac yn cynhyrfu yr enaid i weithio yn rymmiol dros yr Argwydd. Yn awr mae 'r enaid yn gweiddi allan; Pa beth a wnaf fi er mwyn Christ, yn hwn y wnaeth rysod odau cr fi mwyn i? Ped fae bôb blewyn o wallt fy mhen i yn dafod i adrodd ei ddaioni ef, fe a fyddei yn rhŷ fychan. Neh. 8.10. llawenydd 'r Arglwyd yw ein nerth ni. Psa. 51.12. ath hael yspryd cynnal fi; neu fel y mae 'r esponniad caldeaeg yn ei ddal ef allan, dy frenhinawl yfpryd; nid yspryd gwasaidd, yw yspryd mabwysiad ym mlhentyn Duw, ni ddioddef iddo orwedd i lawr, a gweiddi, mae fy nymuniadau i yn ddâ, ond y cnawd sydd yn wann; nage, ysyryd brenhinawl ydiw on llywodraethu pa le bynnag y bytho efe yn byw.
Yn bedwerydd, drwy gam gymbwyso gwîr addewidion Duw, a hynny ydiw 'r achos diweddaf o gau heddwch, a phan gaffo dŷn [Page 278] [...] [Page 279] [...] [Page 280] [...] [Page 281] [...] [Page 282]yspryd Duw oddimewn iddo, a llaw Dduw ai addewid (fel y mae efe yn tybied) am ei gyflwr; yn awr mae efe yn tybied fod y cwbl yn ddiogel; fel hyn y gwnaeth yr Iddewon; hwy a ddywedasant, mae gennym ni Abraham yn dâd i ni; ac felly o herwydd fod ai hwy cyfrifasant ei hunain yn ddiogel, Duw gwedi gwneuthur addewid iddynt, mi a fyddaf yn Dduw iti, ac ith hâd, ond dymma y rhagor sydd rhwng plentyn i Dduw yn cymhwyso 'r addewidion iddo ei hûn, ar dŷn drygionus.
Mae 'r cyntaf yn ei cymhwyso hwynt felly iddo ei hûn, gan fôd hefyd yn byw arnynt, ac nid ar ddim ond arnynt hwy; ac i bwy y mae 'r fron yn perthyn, ond ir plentyn sydd yn byw arni; mae 'r llall yn byw ar ei chwantau cnawdol, ai greaduriaid ac etto yn cippio gatael ar yr addewid.
D [...]wy 'r pedwar modd hyn y cenhedlir gau heddwch fastardaidd.
[Page 283]Hyn ymma am yr ail achos pa fodd y mae dynion yn ei twyllo ei hunain, sef trwy fod yn magu gau heddwch yn y gydwybod.
Yn awr y canlyn y tryddyd nodd.
3. Llygredigaethau ac anhymerau 'r [...]wyllys, yr hyn yw 'r trydydd achos paham y mae dynion yn ei twyllo ei hunain, ac or rhain y mae llawer, myfi a henwaf yn unig.
Yn gyntaf, pan fo 'r ewyllys yn rhoddi ei frŷd ar fyned ymlaen mew [...] [...]marfer pechadurus, ac yno [...] gosod dealldwriaeth ar waith [...] ymdiffin o ba le o mae yn [...] gida 'r enaid, megis gida [...] y fo yn dyfod i chwilio am [...] lledrad, yr hwn gwedi der-byn gwobr ymlaen - law, sydd yn chwilio pôb mann ond lle mae 'r peth, ac felly nid ydis byth yn adnabod y gŵr, i fôd ef yn ddiffaithwr fel ac y mae; felly dŷn gwedi archwaethu o felystra ymarfer pechadurus (yr hyn bleser sydd yn ei obrwyo ef) mae efe yn fodlon i [Page 284]chwilio pob congl oi galon, ac iw brosi ei hûn, fel y mae llawer yn gwneuthur, ond yn unig y fann honno lle mae ei chwant anwyl êf yn llechu; mae efe yn eistedd ar hwnnw, ac yn ei guddio êf yn ewyllysgar oddiwrth ei lygad ei hûn, fel, y gwnaeth Rachel ar y duwiau lledrad, drwy eistedd arnynt) ac felly nid yw efe bŷth yn ei gael ei hun allan. Joan, 3.20.
Gŵr y fo yn bwriadu cyfgu yn esmwyth, efe a bair dynnu 'r llenni ynghŷd, ac o adewiff i ychydig oleuni ddyfod i mewn, ond efe a gau allan gimmint ac a rwystro iddo gysgu: felly dŷn a fo yn amcanu cysgu mewn rhyw ymarfer pechadurus, pan gaffo efe ennyd, efe ai chwilia ei hunan, ac adewiff i bêth goleuni ddyfod iw feddwl êf, ond nid cunmint ac ai chwystro rhag mynd ymlaen yn ei bechod.
Ac oddi mma mae llawer o ddynion haloged [...]g rhai a wyddant lawer, (mae e [...] opiniwnau yn union, ai hym [...]diddanion yn flasus) etto [Page 285]ychydig a adwaenant hwy arnynt ei hunain, nac ar y pechodau rheini nar chwantau sydd yn ei cynllwyn, y rhai y dylâent hwy ymadel a [...]wynt; oblegid bôd y goleunl ymma yn ei trallodi hwynt, mae efe yn rhwystro iddynt gysgu yn ddiofal yn y cyflwr y maent ynddo, ac am hynny maent yn tynnu 'r llenni dros y goleuni ymma: oddiymma mae llawer o dynion yn byw yn y pechodau rheini o usuriaeth mwyaf, ac yn cael y bydd, ac yn archwaethu melyster y pecho [...] hwnnw, a ddarchlennant yr hol lyfrau, ac ânt att y gweinidogio [...] rheini y maent yn tybied, sydd y [...] dal fod usuriaeth yn gyfreithlawn ac felly hwy ddewisant ac y dyrran [...] resymmau i amddiffin cyfreithlondeb y pechod, ac felly o herwydd na fynnant iddo fôd yn becho [...] maent yn cael allan resymmau drwy ba rai y maent yn tybied nad yw efe bechod; ond gwreiddin y matter ydiw hyn, ei hewyllys y gafodd y gwobr, ac y rowran mae y [Page 286]dealltwriaeth fel y cyfreithiwr yn dadleu dros y pechod: ac oddiymma mae dynion yn byw mewn pechodau amlwg, ac yn siccir i ddarfod am danynt, o herwyd na fynnant wybod ei bôd mewn cyfeyliornad.
Yn ail, pan roddo 'r ewyllys y dealltwrieth ar waith i esgusodi ac i leihau pechod: canys llawer pan welont ei pechodau, hwy ai gwnant yn fychain gan edrych arnynt drwy y pen gwrthwyneb iw yspien-ddrych, ac felly maent yn tybied na wna y fâth bethau bychain wahaniad rhwng yr Argwydd ai hedeidiau, oddiymma nhwy a ddywedant, mae 'r cyfiawn yn pechu seithwaith yn y dydd; a phwy a all ddywedyd, glân yw frnghalon? beth yw 'r achos fod plentyn Duw yn cael cyn lleied heddwch, lawer amser, ar ôl gweithredu rhyw bechodau bychain? Oh! Oblegid ei bôd yn gweled y naturiaeth erchyll sydd yn y pechod lleiaf; cammau bychain yn erbyn cyfaill [Page 287]mor fawr ac mor anwyl ac ydiw 'r Arglwydd sydd yn torri ei calonnau: Etto calon gnawdol ni thrallodir moni ûn amser am y pechodau mwyaf, oblegid nad ydynt yn gwneuthur ond peth ysgafn o [...] nynt.
Yn drydydd, gwir-fodd ne [...] wyllysgar anwybodaeth o ddy [...] rynllyd ddigofaint Duw; o ba [...] wydd y mae dynion yn rhuthr [...] ymlaen yn y pechod, fel y march ir frwydr. Oddiymma nid iw dynion ûn amser yn ofni ei cyflwr, oblegid nad ydynt yn adnabod digofaint Duw yn crogi uwch ei pennau. Y nadroedd oeraf, pan fôm gwedi rhewi gan anwyd, ni frathant, ac ni friwant nêb, fe all ûn ddwyn nythlwyth o honynt yn ei fonwes: ond dygwch hwynt at y tân, yna nhwy a chwythant, ac a frathant; felly pechod, pan ddyger éf yn agos at ddigofaint Duw, (y tân yssol hwnnw) fe a wna i ddynion weiddi allan, yn awr myfi a anrheithiwyd! Oh creadur colledig ydwyf [Page 288]i! ac heb ei twymno fel hyn, nid yw pechod ûn amser yn peri iddynt weiddi allan llefain yn ddychrynllyd.
Dymma 'r achosion sydd yn peri i ddynion fôd yn anwybodus oi cyflwr gresynol; yr hyn anwybodaeth yw 'r graig gyntaf, neu 'r powdr-frâd, sydd yn anrheithio miloedd.
Etto mae tair o rai mwy peryglus, am ei bôd yn fwy dirgel.
Yn awr y canlyn yr ail achos o ddistryw dynion o herwydd diofalwch cnawdol dŷn, drwy ba ûn nid yw trueni dynion yn cael minio ar ei cydwybodau, na chimmint a chalonnau ganthynt i ewyllysio dyfod allan oi trueni, pan adwaenant hwy ef: canys os deall meddwl dŷn ei drueni, etto os bydd y galon yn gyscyd, neu yn galed, ac heb ei chyrhaeddyd, ac llwytho, ai briwo, ai darostwng, a gwneuthur iddi ochneidio tano, ni bydd gantho fŷth fawr ofal am ddyfod allad oi drueni, Esa. 29.9.10. Yn awr [Page 289]dymma gyflwr llawer enaid; Mae efe yn adnabod ei drueni, ond o harwydd y cysglyd, ddiofal, ddideimlad yspryd trwm-gwsg sydd ynddo, nid yw efe yn deimladwy o hono ûn amser, nag yn alaru dar ac felly nid yw efe yn dyfod alla [...] hono.
Yn awr achosion y diofalw ymma ydynt y rhaîhyn.
Yn gyntaf, Oblegid nad yw Duw yn tywallt allan gyflawn fesur oi ddigofaint ar ddynion, o herwydd nad yw efe yn ennyn y dâs o ddigofaint sydd yn gorphywys ar ddynion, ond mae efe gwedi ei gadw ai gyfreinachu, heb ei d [...]tcuddio or nefoedd; ac yn y cyf-amfer, gadewch i Dduw ŵgu, gweinidogion fygwth a barnedigaethau y fytho llai ddescyn, etto er hyn i gŷd, ni cheisiant hwy noddfa yng-rhist, ond cysgu yn ei pechodau, hyd oni lawio Duw lyfeiriant o dychryndod, gwaed, a thân, hyd onilŷno saethau Duw ynghalonnau dynion, ni cheisiant hwy allan o honynt ei [Page 290]hunain at Grist Jesu, Prege. 8.11. cyhyd ac yr oedd plaeau Duw ar Pharaoh yr oedd efe yn rhoddi geiriau têg, a rhaid oedd danfon Moses i weddio dresto ef; ond pan dynnei Dduw ei law, fe a galedei calon Pharaoh, tra fo cleddy Duw yn ei wain, mae gan ddynion y fâth galonnau afrywiog nad ymrôant hwy bŷth; rhaid i Dduw friwo, a thorri yn dwfn, a brathu, a thrywanu 'r galon, onidê nid ymrû dynion fŷth, ac ni ddestrôant; hyd oni bytho dyrnodiau Duw o amgylch ei clustiau, ac yn ei llusgo hwy at y sang-bawl, ni ddeffru dynion a gweiddi am bardwn ac ymwared ollan oi cyflwr gresynol:
Yn ail, Os byddant mewn rhan yn deimladwy, ac felli yn ofni digofaint Duw, etto nhwy a bellhânt y dydd drŵg oddiwrthynt, maent yn gobeithio y gwnânt hwy yn well ar ôl hyn, ac yr edifarhânt ryw amser arall, ac am hynny nhwy a ddywedant, fy enaid, bwyta, ŷf, [Page 291]canlyn dy ddigrifwch, dy guppaneidiau, dy ddihirogod, mae genniti drysor o amser yr hwn ni threulir mewn llawer o flynydoedd, Esay 22.12.13. mae gida hwynt fel ac y mae gida 'r cwŷr, er haused i feddalu, ac er gwresocced yw 'r tân, etto oni ddygir ef yn agos att y tân, ai ddal ef wrth y tân, ni thawdd efe byth ond aros yn galed y wna: felly y mae ymma, er anhawsed, ac er mor addfwyn y fô gŵr neu wraig, ac er poethed y fô digofaint Duw, ac er mor ofnadwy yw ei farnedigaethau, etto os y nhwy ni welant ef yn barod bôb awr i ddesgin ar ei calonnau, nid ydynt hwy nês i doddi, ond aros y maent yn galon galed, yn ddiofal, yn drueniaid cysglyd, ac fyth ni ochneidiant am ddyfod allan oi cyflwr gresynol; a dymma 'r achos paham y mae llawer o ddynion, a chanthynt gydwybodau euog, er bod ganthynt lawer o fwriadan, ac ewyllysiau dirgel i fod yn well, etto nid ydynt [Page 292]ûn amser yn gweddi allan o honynt ei hunain, nac yn taergeisio am drugaredd, hyd oni ddelont i orwedd ar ei claf-wely; ac yna, oh 'r addewidion y maent hwy yn ei wneuthur i Dduw! prawf fi ac adferafi unwaith ychwaneg im bywyd am hiechyd etto, ac di a gei weled mor ddiolchgar a fyddaf fi, yr achos iw, o ran ei bod hwy yrowran yn canfod digofaint a thrueni megis yn agos attynt. H b. 3.13.
Yn dryddyd, Oblegid ei bod yn tybied y gallant hwy oddef digofaint Duw, er ei bod yn deall ei fôd ef yn agos gerllaw iddynt, ie wrth y drysau; mae dynion yn meddwl nad yw uffern mor boeth, nar cythrel mor ddû, na Duw mor ofnadwy, ac y mae efe yn wir, ac am hynny chwi a ellwch ddal sulw fel y mae 'r prophwydi yn gysod allan ddigofaint Duw o flaen golwg y bobl fel peth annoddefol, megis drwy hynno y gallent hwy ddistoddi 'r holl felldigedig gamdybiau rheini yn y bobl o fod yn abl i oddef [Page 293]digofaint Duw. Nahum. 1.9. ac oddiymma chwi a gewchlawer yn echryslon yn terfynu hyn, y mynnant hwi ei llam yn y pechod, ac os derfydd am danynt, maent yn gobeithio y byddant hwy yn abl i oddef hynny, nid iw ond damnedigaeth, meddant, ac am hynny maent yn myned ymlaen yn ddiofal; och y drueni! mae 'r cythrel yn brawychu ac yn peri ir holl sŷd ofni, ac mae 'r cythreuliaid yn crynnu wrth ddigofaint Duw, ac etto dynion diofal nid ofnant, nid ydynt yn tybied fod uffern yn lle mor ofnadwy ac mor erchyll.
Yn bedwerydd, o ran nad adwaenant hwy ûn cyflwr gwell, ac oddiymma er iddynt fod yn deimladwy oi cyflwr truan gresynol, etto nid ydynt yn dymuno dyfod allan o hono. Er i ddynion gael lletty caled yn y bŷd, amseroedd caledion, etto nhwy a ymdrawant fel yr happio iddynt ymma hyd oni ddelont hwy i uffern: canys er i ddŷn fôd yn cael ei erlid yn y bŷd gan [Page 294]drueni oddi allan, a blinderau oddi mewn, etto efe a glyw arno aros yn y bŷd, oh ddŷn truan, sydd yn clywed arno wneuthur pôb ymdrawieth i aros ymma, hyd oni ddelo ef i uffern, a thra fo efe byw heb ddeffroi i geisio, ac i gael gafael ar Grist, nhwy allant glywed ynghylch dedwydd gyflwr plant Duw, ond heb wybod oddiwrth yn brofiadol, maent yn gorphwys yn y cyflwr y maent ynddo yn barod, Job. 4.14.
Cymerwch blentyn i dywysog, a dygwch ef i dŷ gwael tlawd, nid ymgyrred ef byth ar ôl teyrnas neu goron; felly dynion, gwedi nythu yn y bŷd ymma, heb adnabod ûn cyflwr gwell, nid ydynt hwy ûn amser yn bwrw ei traul pa fodd i geisio etifeddiaeth sydd well nar hon y maent yn ymgribinnio ymma am dani, gwragedd a alarant am ei gwŷr annwyl os byddant yn hiraros oddi cartref, o herwydd ei bod yn ei hadnabod hwy ai gwerthfawrogrwydd, ond fe a all Duw [Page 295]ei ddieithro ei hûn oddiwrth ddynion, wyt nosau, misoedd, a blynyddoedd, ond nid yw dynion yn yn wylo ûn deigryn am dano, oblegid ni archwaethasant erioed hyfrydwch ei bresenoldeb ef, mae yn rhyfedd gweled dynion yn cymeryd mwy difyrrwch yn ei cwppaneidiau, ai cardiau, eî pottiau ai pibellau, ei cŵn a i gweilch, nag ynghymdeithas Duw ynghrist, yn y gair, mewn gweddi, mewn myfyrdodau, yr hyn ordinhadau ydynt feichiau a charcharau iddyn [...] hwy. Pa beth yw y rhesum o hyn ai nid oes dim mwy hyfrydwch yn rhesennoldeb Duw yn gwenu ynghrist, nag mewn dihirog neu buttain? Oh oes, ond nid adwaena [...] mor gwerthfawrogrwydd nar hyfrydwch, nar daioni sydd yn Nuw i fodloni 'r enaid.
Mae rhai pysgod mor (meddant hwy) os deuant hwy unwaith ir dwfr croyw, ni ddychwelant yn ôl byth drachefn, o herwydd iddynt brofi y rowan y rhagor sydd rhwng [Page 292]ynt ûn amser yn gweddi-allan o honynt ei hunain, nac yn taergeisio am drugaredd, hyd oni ddelont i orwedd ar ei claf-wely; ac yna; oh 'r addewidion y maent hwy yn ei wneuthur i Dduw! prawf fi ac adferafi unwaith ychwaneg im bywyd am hiechyd etto, ac di a geiweled mor ddiolchgar a fyddaf fi, yr achos iw, o ran ei bod hwy yrowran yn canfod digofaint a thrueni megis yn agos attynt. H [...]b. 3.13.
Yn dryddyd, Oblegid ei bod yn tybied y gallant hwy oddef digofaint Duw, er ei bod yn deall ei fôd ef yn agos ger llaw iddynt, ie wrth y drysau; mae dynion yn meddwl nad yw uffern mor boeth, nar cythrel mor ddû, na Duw mor ofnadwy, ac y mae efe yn wir, ac amhynny chwi a ellwch ddal sulw fel y mae 'r prophwydi yn gysod allan ddigofaint Duw o flaen golwg y bobl fel peth annoddefol, megis drwy hynno y gallent hwy ddistoddi 'r holl felldigedig gamdybiau rheini yn y bobl o fod yn abli oddef [Page 293] [...] [Page 294] [...] [Page 295]ei ddieithro ei hûn oddiwrth ddynion, wyt nosau, misoedd, a blynyddoedd, ond nid yw dynion yn yn wylo ûn deigryn am dano, oblegid ni archwaethasant erioed hyfrydwch ei brefenoldeb ef, mae yn rhyfedd gweled dynion yn cymeryd mwy difyrrwch yn ei cwppaneidiau, ai cardiau, eî pottiau ai pibellau, ei cŵn a i gweilch, nag ynghymdeithas Duw ynghrist, yn y gair, mewn gweddi, mewn myfyrdodau, yr hyn ordinhadau ydynt feichiau a charcharau iddynt hwy. Pa beth yw y rhesum o hyn? ai nid oes dim mwy hyfrydwch ymrhesennoldeb Duw yn gwenu ynghrist, nag mewn dihirog neu buttain? Oh oes, ond nid adwaena [...] mor gwerthfawrogrwydd nar hyfrydwch, nar daioni sydd yn Nuw i fodloni 'r enaid.
Mae rhai pysgod mor (meddant hwy) os deuant hwy unwaith ir dwfr croyw, ni ddychwelant yn ôl byth drachefn, o herwydd iddynt brofi y rowan y rhagor sydd rhwng [Page 296]dyfroedd heilltion rheini ar croyw: felly mae ymma, ped fae ddynion ond gwedi profi yn iâwn unwaith o happusrwydd pobl Dduw, ni fynnent er mîl o fydoedd fod ûn hanner awr yn ei môr gorwyllt rhydd ei hunain drachefn.
Yn bummed, os adwaenant hwy gyflwr sydd well, etto ei pleserau pyesennol, ei diog [...] sydd gwedi hudo hwynt, a gommeddion Duw iddynt hwy weithiau, pan geisiont hwy ef, sydd yn digalonni hwy cyn belled, hyd onid ydynt yn cysgu yn ddiofal yn y cyflwr hwnnw. Calon ddiog gwedi i llygadtyno ag esmwythdra presennol, a phleserau a difyrrwch, yn ystyried mae llawer deigryn, llawer gweddi sydd raid iddo ef ei gwneuthur, llawer nôs y bydd rhaid iddo ef golli ei gysgu, a llawer cam blîn y fydd rhaid iddo i roddi tua 'r nef a Christ, os efe a ddaw bŷth yno, wrrh ystyried hyn mae efe yn digalonni, ac yn marweiddio, ac yn caledu ei galon mewn cyflwr cysglyd, a gwell [Page 927]gantho ûn ader yn mewn llaw, na dau yn y llwyn, Diha. 1.34. Jer. 48.11. yr oedd yr Israeliaid yn dymuno bôd gida 'r winiwns ar garlleg drachefn yr yn Aiphr. Onid oedd Canaan iw chael? Oedd, ond yr oeddynt hwy yn dymuno bod yn yr Aight, o herwydd bod ynghanaan gaerau gwedi ei had [...]iladu hyd y nef, a cheiri meibion Anac yn y wlâd, a llawer o anhawstra iw orchfygu i galonnau diog!
Yn ail, o herwydd bod Duw weithiau yn rhoddi rhyw gyfyngderau arnynt; ac yn ei nag-hau hwynt or peth y byddent yn ei geisio, hwy a fyddent or fath yspryd gwyllt, annynad, digus, oblegid nad oedd yr Arglwydd yn ei cynnal hwy ar ei liniau yn wastadol, hwy a redent ymmaith: Felly, mae llawer dŷn yn cyffwrdd a threistwch ddigon yn ei ymchwydd pechadurus, ai gyflwr meddwaidd, ac y mae efe yn clywed sôn am y nêf, ac am gyflwr sydd well, etto pam yr 'r â efe att ei chwantau cnawdol [Page 298]ar crochanau cîg drachefn? Oh! am fod cimmint o anhawftra, aco rwystrau yn ei f [...]ordd, ac o herwydd ei fod yn gweddio weithiau ac heb gael esmwythdra, am hynny mae efe yn bwytta, yn yfed, yn chwerthin, yn gwawdio, ac yn cysgu rhag llaw yn ei gyffwr truan gresynol, Math. 7.15. am hynny mae efe yn rhodio yn y ffordd lydan, o herwydd bod y ffordd arall sef, y ffordd sydd yn arwain ir bywyd, yn gyfing ac yn gûl; mae yn bla yn faich ac yn garchar gan ddynion fod gan gaethed arnynt; gwell oedd gan ddynion gan mwyaf eistedd awr yn y cyffion, na bod awr ar ei gweddi; gwell ganthynt fod yn ddamnedig yn y diwedd, na chwyscu yn rhedeg yr yrsa i dderbyn coron: ac ar yr achos ymma mae dynion yn aros yn ddiofal.
Yn chueched, o herwydd rhyfeddol gadarn rym y bechod, yr hwn sydd gantho 'r fath reolaeth ar eneidiau dynion, a bod yn rhaid iddynt er wasanaethu ef, fel carcharorion [Page 299]yn ymostwng iw ceidwad, fel milwyr y fyddent wedi cymeryd ei cyflog (ei pleser o bechod) rhaid iddyrt ei ganlyn ef megis ei blaenor, er ei bod yn myned ymla [...] i dragwyddol ddestriw; ie pe byddei dydd y farn y foru, etto rhaid iddynt hwy wasanaethu ei chwantan, fel y Sodomiaid, pan darawyd hwy a dallineb, yr hyn oedd yn poeni ei llygaid hwynt, fel ped fuasid yn ei pigo hwynt a drain (canys felly mae 'r gair Hebreaeg yn arwyddoccau) ie 'r amser hwnnw pan oedd destryw yn agos, nhwy a ymbalfalasant am y drws. Ni fedr dynion ond pechu er darfod am danynt oi blegid; oddiymma maent yn aros yn ddiofal.
Yn seithfed, anobaith o drugargaredd Dduw; ac oddiymma fel Cain, ma [...] dynion yn rhedeg oddiwrth wyneb Duw; mae dynion yn tybied na chânt hwy byth drugaredd, ar ol iddynt wneuthur cimmint ac a allant, ac oddiymma maent yn myned yn bechadurus [Page 300]anobeithiol, fel y seneddwyr rheini or Ital y rhai gan fod yn anobeithiol oi bywyd, pan oedd ef wedi ei addo iddynt ar ei hymddarostyngiad, etto gan fod yn euog yn ei cydwybodau oi dihirwch hwy a wnaethant wledd odidog, ac ar ei diwedd nwy a yfasant bôb ûn ei gwppaneid o wenwyn ac felly hwy ai lladasant ei hunain: felly dynion gan fôd yn deimladwy oi calonnau c [...]ledion, ac yn gwybod ei bod hwy eu hunain yn euog o bechodau hynodol, maent yn taflu ymmaith ei bywyd, ar nefoedd, ai eneidiau hefyd, am bechod a chwant cnawdol, ac felly yn darfod am danynt yn resynol, o herwydd iddynt fyw yn anobeithiol; ac felly yn ddiofal.
Yn wythfed, Oblegid bod dynion yn magu dall, gau, wenheithus obaith o drugaredd Dduw: oddiymma mae llawer a hwy yn gwybod, neu or hyn lleiaf yn ammau, fod pob peth yn ddrŵg gida hwynt, ac etto mae ganthynt ryw [Page 301]obaith y gallant fod m [...]wn cyslwr digon da; ac y gall Duw fod yn ei carw hwynt; oddiymma maent yn gorwedd i lawr yn ddiofal, ac yn gorphywys yn ei gobaith wenheithus, oddiymma deliwch sylw, y bobl rheini nid ydynt yn dyfod ond yn anfynych ir pennod ymma, sef, ei bod hwy naill ai mewn ystâd grâs, neu allan o hono, nid ydynt ûn amser yn dysodd i ymdeimlo ai cyflwr, ond aros y maent yn ddiofal yn y cyflwr y bônt yntho, maent yn hwyaf yn dysod ir terfyniad ffrom- wyllt ymma; ei bod yn gobeithio y bydd Duw yn drugarog wrthynt; ac oni bydd ef, nid allant hwy wrth hynny i fel y gŵr oedd gantho ar ei darirn lûn Duw a llûn y cythrel: dan y cyntaf yr oedd efe gwedi yscrifennu, oni fynni di fi; dan y llall yr oedd efe gwedi yscryfennu, dymma ûn am cymmer i.
Yn nawfed, oblegid nad yw dynion yn dwyn ei calonnau dan forthwyl gair Duw iw dryllio oblegid [Page 302]nad ydynt ûn amser yn dwyn ei cydwybodau iw torri.
Oddiymma maent yn myned ymlaen rhag llaw yn ddiofal a chydwybodau grawnllyd ganthynt. Mae dynion yn ei gosed ei hunain ûwch law 'r gair, ai calonnau ûwchlaw 'r morthwyl, nid ydynt yn dyfcd i gael or gweinidog drwy allu Duw ei darostwng hwynt, ond i roddi eu barn am dano ef, neu i bigo rhyw beth gwych allan or gair, ac felly aros yn ei diofalwch, ac ymsoccio ynddo dros ei holl ddyddiau: canys os dryllir dy galon di byth, ac os deffroir dy gydwybod di, y gair sydd raid iddo wneuthur hynny: ond mae poblmor ddibris ganthynt bregethau, hyd onid yw ei calonnau, fel llwybrau traed, gwedi ymgaledu dan y gair.
Yn ddegfed, Oblegid nad yw dynion yn ystyrio beunydd ddigofaint Duw, nar naturiaeth erchyll sydd yn y pechod: nid yw dynion yn chwennych cnôi y tammeidiau ymma; ac am hynny nid ydynt byth [Page 303]yn deffroi nag yn dyfod i ym wrando ai cyflwr. Y Defnydd. Eph. 5.14.
Deffrowch gan hynny chwi oll greaduriaid cysglyd diofal; ymwrandewch ach trueni, fel y galloch ddyfod allan o hono. A wyddost di fod dy gyflwr yn ddrŵg, ac y bydd dy ddamnedigaeth yn ofnadwy os derfydd am danat di fyth; ac ydiw dy galon dan y fath farweidddra damnedig, mor galed ddi [...]beithiol, ac nad wyti yn ceisio dyfod allan o hono. Pa beth? ai nid oes ûn ochenaid, na dim dagrau? ai meddwl yr wyti y gelli di ddwyn dy holl bechodau ar dy gefn, fel y dygodd Sampson byrth y ddinas, a gwneuthur defnydd ysgafn o honynt? A wyti yn gweled tân uffern oth flaen, ac er hynny dia bechi? a wyti yn waeth nag anifail yr hwn nid allwn ni nai guro nai yrru-ir tân, os bydd ûn ffordd iddo i ochel? O cais ddwyn dy galon i dristhau ac i alaru dan dy drueni, ac yna pwy a wyr na thosturia 'r Arglwydd wrthit ti? ond o galon galed! [Page 304]di a fedri alaru am golledion, a gwrthwynebion, am losgi dy dda ath deiau, etto er bod Duw gwedi ei golli gennit, ai ddelw ef gwedi ei llosgi, ar cwbl gwedi myned, etto ni fedri di alaru. Pe byddei dy galon di yn wir deimladwy, clystog dy obennydd y gae ei golchi gan dy ddagrau di, ar wraig yn dy fonwes fyddei dŷst oth galon-doriad di yn nyfnder nôs am y pechodau rheini, y rhai a barasont dristwch i yspryd Duw, lawer gwaith, ni chait ti gysgu yn llonydd nag yn gysturus heb beth siccrwydd cywir o feddeuant ped faech chwi yn gleision iawn, fe a gae 'r physygwyr glywed oddiwrthych, a phe byddech chwi gwedi eich darostwng am eich pechodau, ni ach caem chwi yn gweiddi allan yn chwerwder eich yspryd; pa beth y wnawn ni? ond gwybyddwch, y bydd rhaid ichwi alaru ymma, neu yn uffern ar ol hyn. Os torrodd Duw esgyru Dafydd am ei odineb, a chefnau, 'r angylion am ei balchder; os yr Arglwydd ath [Page 305]geidw di byth efe a dyrr dy galon dithau hefyd.
Holiad. Ond di a ddywedi pa fodd gwnaf i ddwyn fy nghalon i fod yn deimladwy om trueni.
Atteb. Yn gyntaf, Cymmer lawn olwg ar dy drueni.
Yn ail, Cymmer ystyriaeth enwedigol o barodrwydd ac ewylysgarwch yr Arglwydd ith dderbyn di i drugaredd etto; Oblegid dau beth sydd yn caledu 'r galon, 1. gau obaith, drwy ba ûn y mae dŷn yn gobeithio nad yw efe cynddrwg ac y mae efe yn wîr. 2. anobaith, drwy ba ûn y mae dŷn. pan welo efe ef ei hûn mor hynodol drygionus, mae efe yn tybied nad oes dim ewyllysgarwch yn yr Arglwydd i bardynu neu dderbyn y fath anghensil o ddyn iw drugaredd; ond all nar morthhyl dorri dy galon garregog di, na haul-dywynniad trugaredd ei thoddi hi, y mae gennit ti galon sydd waeth na chan gythrael, ac yr wyti yn ddrych or trueni mwyaf, o herwydd pechod. o herwydd digofaiut Duw.
[Page 306]Yn gyntaf, O herwydd pechod di a bechaist a hynny yn echryslawn yn erbyn Duw mawr, [...]hid wytî yn gwneuthur fawr ddefnydd o hyn: ond er nad yw efe yn faich itti, mae efe yn faich ar galon yr Arglwydd, Esay 1.24. ac efe a ddaw 'r amser ymha ûn y gwna efe ir holl fŷd pechadurus drwg a fonydd o dân a gwaed, wybod pa fath ddrwg yw pechod.
Canys 1. ymhôb pechod yr wyti yn ei wnewthur yr wyti yn taro Duw, ac megis yn ergydio dager at ei galon êf.
2. Ymhob pechod yr wyti yn poeri yn wyneb Duw o ran os bydd ond ûn unig beth ymha ûn y gallei ddŷn wneuthur amhleser iw gysaill, oni byddei ymma goegni mawr yn ymddangos os efe a wnae 'r peth hwnnw? Yn awr dywaid imi, oni bu 'r Arglwydd yn garrdig itti? dywaid imi ymha beth y gelli di foddhâu 'r cythrel, ac anfodd-hâu Duw, ond drwy bechod? etto o galon galed, nid wyti yn gwneuthur dim cyfrif o hynny. Ond ystyria yn [Page 307]drydydd, mae ymhob pechod yr wyti megis yn tynnu Duw oi orseddfaingc, ac yn dy osod dy hûn, uwch-law Duw, canys ymhob pechod yr ydis yn rhoddi yr holiad neu 'r cwestiwn ymma ar lawr, ewyllys pwy a gyflawnir, ewyllys Duw ynte ewyllys dŷn? Yn awr dŷn drwy bechod sydd yn gosod i fynnu ei ewyllys ei hûn uwch-llaw ewyllys yr Arglwydd, ac felly yn fathru Duw (bendigedig yn dragywydd yr hwn a addolir gan fyrddiwnau o seinctiau ac angylion) dan ei draed pa beth, oni thyrr hyn eich calonnau chwi?
Ystyriwch gan hynny ddigofaint Duw; mor siccir ac mor anoddefadwy, ac mor fiwr yw efe o ddes [...]yn arnati, os dydi a fyddi farw yn dy bechodau, ath gyflwr diofal; Canys pan fo dynion yn gweiddi heddwch, heddwch, 1 Thes. 5.3, 4. yna y daw dinistr diswmwth ar ei gwartha, pryd na byddont yn ei ddisgwyl: gweddia gan hynny ar Dduw am iddo ddatcuddio hyn stti, [Page 308]fel y gallo dy galon di dorri wrth i ystyried. 1 Cor. 5.12. Yn ail, ystyria drugaredd yr Arglwydd ai barodrwydd ith gadw di, 'r hwn a barattodd drugaredd, ac sydd yn deisif arnatiei dderbyn, ac yn disgwyl bob dydd am danati ir diben hwnnw.
Y trydydd achos o ddinistr dŷn, ydiw y cnawdol hyder hwnnw, drwy ba ûn y mae dynion ei oeisio ei cadw ei hunain, ymlusgo allan oi truenus gyflwr trwy y pethau y mae nhwy yn i cyflawni, ai dyled-swyddau ei hunain, pan deimlont hwy ei hunain mewn trueni: mae 'r enaid yn gwneuthur fel y gwnaeth Ephraim Hoseae 5.13. dynion pan friwer a phan dralloder hwynt, nid edrychant ar ôl yr Arglwydd Jesu, ond nhwy ânt att ei dyfroedd ei bunain iw hiachau; fel yr hyddod wrth ei hymlid pan fo 'r saeth ynddynt, Rh [...]. 9.31, 32.
Tuag at agorydd y pwngc ymma, myfi a ddangosaf ichwi y ddau beth hyn.
Yn gyntaf, Ymha beth y mae 'r ymddiriedd ymma mewn dyled swyddau ym ymddangos.
Yn ail, pam y mae dynion yn gorphywys yn ei dyled-swyddau.
Yn gyntaf, Yr ymddiried ymma mewn dyledswyadau sydd yn yuddangos yn ydêg gradd ymma sydd yn ganlyn:
1. Enaid pechadur truan, yn enwedig os bydd efe gwedi ei fagu ai ddwyn i fynu yn anwybodus, sydd yn gorphywys yn hyderus mewn ofer-goelus wagedd, gofynnwch i Bapist defofionol pa fodd y mae efe yn gobeithio bod yn gadwedig; efe a ettyb, drwy ei weithredoedd da, ond gofynnwch ymhellach beth yw 'r gweithredoedd da ymma? Nid yw y rhan fwyaf ond dychmygiadau ofer-goelus or eiddynt ei hunain, (canys mae 'r frân yn tybied ei chiw ei hûn yn lanaf) megis ei chwippio ei hunain, pererindod, ymprydio, mwmlian ei padêrau drostynt, ac ymgrymmu i ddelwau a chroesau.
[Page 310]2. Yn awr ond cael y rhain ei diwladu or eglwys ac or deyrnas, yna mae dynion yn sefyll or ei henwol broffes or gywir grefydd er ei bod yn debig i gythreiliaid yn ei bywyd ai hymerweddiad, edrychwch ar hyd y deyrnas i fynu ac i wared, chwi a gewch weled rhai yn rihuo, yn meddwi, yn chwarae disiau a chardiau, putteinio, mewn tafarnau a chwrw-dai; eraill yn blytheirio allan ei llŵon, ai cegau fel moroedd terfysgus, yn ewynnu allan ei nymadroddion buddraid; eraill fel Isma [...]l, gwatwar y gwyr mwyaf ei daioni: etto mae yn hyderus gan y rhain y byddant cadwedig. Paham? (nhwy a ddywedant) nad ydynt hwy Bapistiaid os bydd rhaid iddynt ddioddef i crogi, nhwy a fyddant hwy feirw dros ei sfydd ai crefydd, a gwell ganthynt ei llosgi na throi drachefn, fel hyn yr oedd yr Iddewon yn ymffrostio ei bod o hâd Abraham felly mae ein pobl gnawdol ni yn ymffrostio: onid wyfi yn Brotestant da? ohid [Page 311]wyfi yn byw yn yr eglwys? ac am hynny gan orphywyso ar hyn, maent yn gobeithio bod yn gadwedig: Yr wyfi cosio ŷstus, pan oedd ûn yn dadleu ag ef am ei hoedl fel na chrogid ef, oblegid ei fod ef yn ŵr bonheddig; yr ŷstus ai hattebodd ef, o ran ei fod ef felly y cae efe wneuthur y crog-pren yn uwch iddo: felly pan ddadleuech di yr ydwyfi yn gristion, ac yn Brotestant da, (etto di a feddwi, ac a dyngi, ac a butteini, ac a esgeulusi weddio, ac a ddiystŷri bregethau a gair Duw, ac a dorri 'r Sabbo [...]) ac am hynny a obeithi fod yn gadwedig, yr wyfi yn dywedyd itti, fe a fydd dy ddamnedigaeth di yn fwy, ath blaeau di yn uffern yn drymach.
3. Oni bydd dynion yn cael dim heddwch ymma, yna nhwy a ddiengant at y daioni sydd or tu fewn iddynt: ac a orphywysant yno: chwi a gewch lawer o ddynion, y rhai os canlynwch chwi hwynt iw ystafelloedd, chwi ai cewch hwy yn ddefosionol iawn, ac nhwy a weddiant [Page 312]yn galonnog am drugaredd Dduw a maddeuant pechoday: ond canlynwch nhwy allan oi yslafelloedd, a gwiliwch ar ei hymddiddanion, ac chwi a cewch hwynt yn ysgafn ac yn ofer, ac weithiau gwedi ei cymmysgu a llwon iw ffydd, ac iw gwirionedd, a bryntion ymadroddion eraill. Creffwch arnynt pan groeser hwynt, ac chwi a gewch ei gweled hwy fel y caccîon, ac yn chwyddo o ddîg fel twrci, ac felly yn poeri allan ei gwenwyn fel y dreigiau. gwiliwch hwynt yn ei hymdeithiau, ac chwi a gewch eî gweled hwy yn taro ir dafarn ac yn gloddestu, ac yn bod yno yn gymdeithgar ag ofer ac halogedig ddynion y wlâd, ac yn hanner meddw weîthiau hefyd. Gwiliwch hwyn [...] ar ddydd yr Arglwydd; a phan ddelont hwy allan or llan gyntaf, a rhoi heibio ei dillad gorau, ni byddant ond 'r un fath ac amser arall; ac o herwydd nad allant weithio, na gloddestu y diwrnod hwnnw, maent yn tybied y gallant hwy a chydwybod [Page 313]dda gysgu yn hwy 'r borau. Yn awr gofynnwch ir fath ddynion pa fodd y maent yn gobeithio bod yn gadwedig, gan weled fod ei bywolaeth cynddrwg; nhwy, a ddywedant, er nad ydynt yn gwneuthur mor fath ymddangosiadau odoiallan ac sydd gan rai eraill, etto nhwy a wyddant pa weddiau da y maent yn ei wneuthur yn ddirgel, ac mae ei calonnau, yn dda, meddant; Yr wyfi yn dywedyd ichwi fy mrodyr, y sawl ddymuniadau da eî hunain, ac sydd yn gorphywys arnynt, sydd ynfydd. Myfi a glywais sôn am ddyn a ddilynei chwareûon ac hafarn-dau, a phutteindai, yn llyndain drwy 'r dydd; ond nid feiddiei efe fyned allan y borau heb ei weddi neilltuol, ac yno efe a ddywedei wrth fyned allan, yn awr diafol gwna dy waethaf; ac felly yn arfer ei weddiau, megis y gwna llawer) yn unig fel swynion yn erbyn y cythrel sydd morllwfr ac mor druan, yn ei tŷb hwy, na feiddia ef niweidio mo hwynt, tra [Page 314]fyddo ganthynt hwy galonnau da oddifewn iddynt, a gweddiauda yn, ei ystafelloedd; Ac oddiymma nhwy ânt yn agos i gablu 'r pregethwr am Athro tost, oni chyssura ef nhwy a hyn, fod yn gymmeradwy gan Dduw ei dymuniadau da hwynt.
4. Onnid all ei calonnau da (fel y maent yn tybied) ei llonyddu hwynt, ond bod y gydwybod yn dywedyd iddynt ei bod yn afiach oddiallan, ac yn bwdr ynyn cynhwyllin oddimewn, yna nhwy ânt ynghylch gwellhau ei bucheddau; nhwy a adawant eî putteinio, ai meddwi, aicogio, ai chwarae, ai cadw oymdeithas ddrwg, ai tyngu, ar fath bechodau rhuadwy; ac yn awr mae 'r holl wlâd yn dywedyd, efe aeth yn ddyn newydd, ac mae efe ei hun yn tybied y bydd efe cadwedig, 2 Pet. 2.20. maen [...] yn diaingc oddiwrth halogedigaeth y byd, fel môch y fae gwedi ei golchi oddiwrth ei budreddi oddiallan, etto mae 'r naturiaeth fochaidd yn aros [Page 315]yn wastadol; fel mor-wyr anghyfarwydd a fyddei yn myned i ryw le peryglus, heb wybod oddiwrtho, os daw temhestloedd arnynt, nid ydynt yn myned yn ôl, ond taflu a wnant allan yr holl dda y fytho yn peryglu ei llong, ac felly myned ymlaen rhagllaw: felly mae llawer un yn myned ymlaen tuag uffern, ai gydwybod yn ei gymmell ac yn peri iddo ymadel ai bwrw ymmaith rhai chwantau cnawdol a phechodau; ond myned y mae efe ymlaen er hynny i gid ar hyd yr un ffordd ac yr oedd efe or blaen. Yr anifeiliaid gwylltaf (megis ceirw) os cedwir hwy yn hîr heb gysgu, nhwy a ddofant: Felly cydwybod heb roddi i ddyn ddim llonydd am ryw bechodau y mae efe yn byw ynddynt, mae efe or diwedd yn dofi; yr hwn oedd wrbonheddig gwyllt or blaen, yr un gwr efe etto, yn unig efe a ddofwyd ychydig arno yr awrhon, (hynny ydiw) mae efe yn weddol ac yn esmwyth yn ei holl helynt, ac oddiymma maent yn [Page 316]ymddiried yn ei gwellhâd: Yr hyn wellhâd yan mwyaf, sydd yn unig oddiwrth ryw bechod cythryblus anoddefol, ac o herwydd ei bod y [...] tybied mae gwell iddynt ganlyn [...]i celfyddyd o bechod mewn rhyw farchnad arall, ac oddiymma chwi a gewch rai dynion wedi gadel ei meddwi, ai putteinio, ac a droant yn gybyddion, o herwydd bod mwy bydd iw gael yn y farchnad honno; ac weithiau mae 'r gwellhâd ymma gida hwynt, o ran bod pechod gwedi ei gadel nhwy, megis hên ddynion y rhai ni allant ddilyn pechod yn hwy, megis ac y buont yn ei ddilyn.
5. Oni chânt hwy ddim esmwythdra ymma, yna nhwy a geisiant ryw noddfa arall, hwy ânt, iw dorostwng ei hunain i edifarhau, i wylo, i ymdristau, i gyfaddef eu pechodau. Maent yn clywed, nad all dŷn fod yn gadwedig drwy adnewyddu a gwellhau ei fuchedd, oddieithr iddo ddyfod i gystuddio ei enaid hefyd; rhaid iddo dristhau ac [Page 317]wybo ymma, [...]eu weiddi allan yn uffern ar ol hyn. Ac ar hyn nhwy a gyrchant att ei tristwch, ai dagrau, ac i gyffaddei ei pechodau; ac yn awr mae 'r gwynt gwedi gostegu, ar demhestl gwedi myned heibio, ac maent yn ei gwneuthur ei hunain yn ddiogel. Matth. 11.21.
Hwy a edifarhasent; hynny yw, 'r cenedloedd, medd Beza, pan fyddei ddim digofaint gwedi i ennyn or nef, nhwy aent att ei sach-liain, ai tristwch, a thrwy hynny 'r oeddynt yn tybied ei bod yn gostegu digofaint Duw drachefn, ac or hyn ymma 'r oeddynt yn gorphywyso: felly y mae gida llawer dŷn; Mae llawer o bobl yn cael llawer o iâsau [...]lwyfus a gwasgfeydd cydwybod, ac yna nhwy a wnant fel y brain, y rhai fyddant yn rhoddi iddynt ei hunain chwdiad, neu arloesiad drwy lyngcu rhyw garreg pan fônt yn gleifion, ac yna hwy a fyddant iach drachefn; Felly pan fo dynion wedi ei trallodi am oi pechodau nhwy ânt i geisio ei esmwythâu ei [Page 318]hunain drwy weddi, cyfaddef ei pechodau, ac ymostwng, Esay 58.5. oddiymma mae llawer rhai pryd na fedrant gael dim daioni drwy 'r Physygwriaeth ymma, drwy ei prudd-der, ai dagrau, yn taflu 'r cwbl ymmaith drachefn; Canys gwedi iddynt wneuthur y rhain, yn Dduw ac yn Grist idynt, wrth weled nad allant ei hachub hwynt, maent yn ei gadel hwy ymmaith, Mat [...]h. 3.14. mae mwy yn cael ei gyrru at Grist, drwy deimlad o bwys caledwch, marweidd-dra, dallineb, a bryntni ei calonnau, na thrwy deimlad o dristwch, oblegid mae dyn yn arfer ymddiried yn y naill; sef; mewn tristwch, ond mae efe yn crynnu ac yn diaingc allan o hono ei hûn pan fo efe yn deimladwy or llall:
Fel hyn mae pobl yn gorphywys ar eî hedifeirwch, ac ir pwrpas ymma mae gan Awstin ymadrodd odiaeth, ond ei fod ef yn seinio yn arw, fod edifeirwch yn damnio mwy na phechod; gan feddwl fod [Page 319]miloedd yn darfod am danynt drwy ymddiried yn [...]i hedifeinwch; Ac oddiymma ni a welwn ymysg llawer o bobl, os bydd ganthynt serchiadau, neu gariad helaeth, nhwy a dybiant ei bod mewn ffafr gida Duw, ac os byddant yn ddeffygiol o honynt, yna hwy a dybiant ei bod yn anghymmeradwy, pan na fedrant alaru na bod ganthynt y fath serchiadau megis y bu or blaen, a hynny oblegid ei bod yn ymddiried ac yn gorphywys yn y pethau hyn.
6. Oni chânt hwy ddim esmwythdra ymma, yna hwy a droânt yn dynion deddfol hynny ydiw, yn fanwl anial yn holl ddyled-swyddau 'r gyfraich foesawl, yr hyn sydd fwy matter nar gwellhâd cyntaf, neu 'r ymddarostyngiad cyntaf, hynny ydiw, maent yn myned yn gyfiawn anial, ac yn union yn ei marchnadoedd a phawb, ac yn fanwl dros ben yn nyled-swydan y llech gyntaf tuag att Dduw: megis ymprydio, gweddio, gwra [...]do, darllain, [Page 320]cadw 'r Sabboth: Ac fel hyn yr oedd y Phariseaid. Cymerwch ofal rhag ichwi fy-nghamgymeryd i, nid wyfi yn dywedyd yn erbyn manuldra ac uniondeb, nid yn erbyn ymddiried yn hynny; oblegid oni bydd eich cyfiawnder yn hela [...] thach nar eîddynt hwy, nid [...]wch chwi mewn i deyrnas Dduw. Chwi a gewch y dynion ymma yn diaingc oddiwrth ddynion drygionus, fel oddiwrth dai y fae ar plâ ynddynt, ac yn canmol y llyfrau gorau, ac yn gweiddi yn erbyn pechodau 'r amser, ac yn erbyn dynion ni y fyddant gwedi mynd or tu hwnt i ymddygiad gweddol oddiallan, (nid yw 'r llygad yn gweled mono ei hûn) ac yn gweiddi i fynu zêl a pharodrwydd, siaredwch a hwynt ynghylch llawer o ddyledswyddau y rhai ydynt iw gwneurhur tuag att Dduw neu ddŷn, ac nhwy a siaradant yn odiaeth ynghylch ei godidawgrwydd ac mor anghenienrhaidiol ydynt, o herwydd ei celfyddyd ai cyfarwyddyd drwy ba [Page 321]ûn y maent maent yn gobeithio cael ei bywyd, ac ennill bywyd tragywyddol, sydd yn sefyll yn hyn: ond siaredwch a nhwy ynghylch Christ, a byw drwy fydd ynddo ef, ac oddiwrtho ef, a gwaelodi 'r enaid ar yr addewidion, (rhannau o gyfiawnder Efengylaidd) efe 'r hwn sydd yn gyfarwydd ymhob pwngc o ymddadleueth, sydd gan-mwyaf mor anwybodus ac anifail, pan holer ef ymma.
Oddiymma os y gweinidogion a bregethant yn erbyn pechodau 'r amser, nhwy ai canmolant hi am bregeth odidawg, (fel os happid 'r haeddei hi hynny hefyd) ond gadewch iddo ddywedyd ynghylch ûn pwngc ysprydol o waith Duw yn yr enaid, nhwy ânt ymmaith ac y ddywedant, ei fod ef yn ei barn hwy yn ddyras ac yn dywyll, oi rhan hwy nid ydynt yn ei ddeall, (fy nharedigion) mae lluniau yn bethau tlusion i edrych arnynt ac dyna y daioni sydd iw gael oddiwrth luniau, ac felly mae y dynion [Page 322]ymma megis lluniau teg yr olwg i edrych arnynt, a dyna ei holl odidowgrwydd hwy, yr ydis yn dywedyd yn yr Efengil ddarfod i Grist edrych ar y gwr ievangc hwnnw, Marc. 10.21. ai hossi ef, ac er hynny y gwr ievangc aeth ymaith, ac nis canllyn odd ef mor Arglwydd; Chwi a wyddoch yn amser y diluw, foddi pawb nid oedd yn yr arch, er iddynt ddringo a myned i bennau 'r mynyddoedd uchaf; Felly ymegniwch i ddringo cyfuwch ac y galloch mewn deddfo [...]wydd, a dyledswyddau'r ddwy lêch, os dydi nid ei i arch Duw, fel er Arglwydd Jesu Grist, mae yn siccir y derfydd am danati yn dragywydd.
Y os y nhwy ni chânt ddim gorphywystra ymma yn ei deddfolrwydd, nhwy a ânt yn wresog oddi mewn a chanthynt zêl ryfedd am achosionac ymarferion da, ac yno hwy arhosant ac a ymdwymnant wrth ei tân ei hunain: fel hyn yr oedd zêl gan Paul, ac yno yr oedd efe yn gorphywys, ni fyddant hwy [Page 323]fyw megis ac y mae llawer, fel malwod yn ei cegyrn, ond yn hytrach nag y b yddant hwy yn damnedig o ddiffig gwneuthur, maent yn fodlon i ymadel ai holl olud, ai plant, a phob peth ganmwyaf er cael maddeuant am bechod yr enaid, Mich. 6.7.
8. Os bydant hwy heb gael dim help oddiwrth hyn, ond bod yn rhaid iddynt ganfod a dywedyd, ar ol iddynt wneuthur y cwbl, ei bôd yn weision anfuddiol, ai bod yn pechu yn yr hyn oll y maent yn ei wneuthur; yna hwy a orphywysant yn yr hyn sydd debig i ufudddod efangylaidd, maent yn meddwl bodloni Duw drwy alaru am ei deffygion ai llithreiodau mewn dyledswyddau daionus, gan ewylly ssio bôd yn wêll, ac addo bôd felly yn yr amser sydd i ddyfod, ac ar hynny maent yn gorphywys, Deut. 5.22.
9. Os byddant hwy yn deimladwy or diffig sydd yn yr holl bethau ymma, yna nhwy a gloddiant iddynt [Page 324]ei hunain am nerth i adel pechod, a nerth i fod yn fwy sanctaidd a gostyngedig, ac felly tybied mewn amser ei gweichio ei hunain allan or cyflwr ymma, ac felly cloddio y maent am feini gwerthfawr yn ei tommennau ei hunain, ac ni fyddant hwy rwymedig ir Arglwydd Jesu, i fyw arno yn y diffig or cwbl; maent yn meddwl ei gosod ei hunain i fynu ai defnydd ei hunain, heb Jesu Grist, ac felly fel y mae 'r Prophwydd Hosea yn dywedyd 14.3, 4. meddwl y maent ei hachub ei hunain drwy. farchogaeth ar feirch, (hynny yw) drwy ei nerth ai gallu ei hunain.
10. Oni byddant hwy yn cael dim help ymma, yna nhwy ânt at Grist am râs, a-nerth i adel pechod ac i wneuthur yn well, drwy ba beth y maent yn gobeithio ei hachub ei hunain; ac felly maent yn byw ar Grist fel y gallent fyw o honynt ei hunain; nhwy ânt att Grist; ond nid ydynt yn ceisio byw ynghrist, Psal. 78.34, 35. fel cyflog-ddynion [Page 325]y fae yn myned am ddefnyddiau i wneuthur ei gwaith, fel y gallent ennill ei cyflog. Plentyn i Dduw sydd yn ei fodloni ei hûn, ac yn byw ar yr etifeddiaeth yn unig, yr hon y mae 'r Arglwydd oi drugaredd rhâd wedi ei roddi iddo ond yn awr creffwch, ac nia gawn weled llawer o gristianogion truein yn rhedeg arhŷd yr ûn ffordd ac y mae 'r Papistiaid defosionol yn myned rhyd-ddi i uffern.
Yn gyntaf, Fe addesiff y Papist ei drueni, ai fôd ef, (a phawb oll) wrth natur yn blentyn digosaint, a than gaethiwed pechod a Satan.
Yn ail, Maent yn dal mae Christ yw 'r unig achubwr.
Yn drydydd, nad yw 'r iechydwriaeth ymma drwy 'r cyfiawnder sydd ynghrist, ond drwy gyfiawnder oddiwrth Grist, yn unig drwy roddi i ddŷn nerth a gallu i weithredu, ac yna drwy wlychu gweithredoedd dynion yn ei waed ef, maent yn haeddit cael bywyd fel hyn y mae y rhai doethaf [Page 326]a mwyaf defosionol o houynt yn professu, fel y gallafi wneuthur yn dda; felly yn union y mae llawer o gristonogion yn byw, yn gyntaf, maent yn ei teimlo ei hunain yn llawn o bechod, ac yn deffygio weithiau ac yn blino ar ei bywyd, oblegid ei calonnau drygionus; ac nid ydynt yn cael dim nerth iw helpu ei hunain. Yn ail, ar hyn maent yn clywed, mae Christ yn unig a all ei hachub hwynt, maent yn myned at Grist i geisio symmudo 'r pechodau rheini sydd yn ei blino ac yn ei llwythy hwy, ac iw nerthu hwy 'r fyw yn well nag y byddent or blaen. Yn drydydl, Os y nhwy a gânt gaethiwo a symmud y pechodau rheini, a chael hefyd nerth i fyw yn well, yna hwy a obeithiant y byddant hwy yn gadwedig: lle y gelli di fyned att ddiafol, a bod yn ddamnedig yn y diwedd, er itti ochelyd halogedigaeth y byd, a hynny nid oddiwrth dy nerth dy hûn, ond oddiwrth wybodaeth o Jesu Grist, 2 Petr. 2.20. Yr wyfi [Page 327]yn dywedyd, gwae chwi yn dragywydd os byddwch chwi feirw yn y cyflwr ymma;
Mae 'r Christianogion yn ein plith ni yn hŷn o bêth yn debig ir eiddew, yr hwn sydd yn ymblethu ac yn tyfu o amgylch y pren, ac yn tynnu sûg or pren, ond nid yw efe yn tyfu yn ûn gida 'r pren, o herwyd nad yw efe wedi ei wreiddio nai impio yn y pren: felly y mae llawer enaid yn dyfod att Grist i dynnu sûg oddiwrtho i saentimio ei grawn ei hunain, (ei cynysgaeth ei hunain o râs) ond nid yw efe ond eiddew er hynny i gid nid yw efe nag aelod na chaingc or pren ymma, ac oddiymma nid yw efe byth yn cynnyddu i fôd yn ûn gida Christ.
2. yn awr y rhesymmau paham y mae dynion yn ymddiried yn ei dyled-swyddau ydynt y rhain ymma.
Yn gyntaf, O ran bôd yn naturiol i bôd dŷn allan o Grist wneuthur felly. Adda ai holl hiliogaeth oedd i fod yn gadwedig drwy weithredu, gwna hyn a byw fyddi, [Page 328]gweithia ac dymma dy gyflog di, ennill fywyd gweisg ef. Oddiymma mae ei holl heppil ef hyd y dydd heddiw yn ceisio bôd yn gadwedig drwy weithredu, y mab fel y tâd, yn awr i ddyfod allan o ymddiried ymhob dyled-swyddau yn hollawl att Grist, nid oes unwaith gimmint a lliw o hyn, yn yr ystâd o ddiniweidrwydd, llaio lawer yn yr ystâd o lygredigaeth; yn yr hon y mae pob dŷn ynddi wrth natur.
Oddiymma mae dynion yn cyrchu attynt ei hunain am nerth iw hachub ei hunain.
Yn awr megis ac y mae gida marsiandwr y fae gwedi myned yn fancrupt, pan fo ei holl ddefyndd ef wedi darfod, ai ystâd wedi colli yn gynt nag y tiû êf yn brentis drachefn, neu fŷw ar ûn arall, efe a dru yn siopywr i farsiandiaethau bychain, ac felly efe a ganlyn ei hûn gelfyddyd a llai defnydd: Felly mae dynion yn naturiol i ganlyn ei hên gelfyddyd o weithredu, ac yn gobeithio ennill ei bywyd y ffordd [Page 329]honno: Oddiymma dynion heb gael dim prawf neu adnabyddiaeth o farchnatta a Christ drwy ffydd, ydynt yn byw o honynt ei hunain. Er ei Sampson, Barn. 16.20. golli ei nerth ei gid ôll, etto efe ar iw ysgwyd neu iw brofi ei hûn megis y byddau ef arfer ar amseroedd eraill: Felly pan ballo holl nerth dynion, a Duw ai râs wedi colli ganthynt, etto hwy a ânt ac a brofant pa fodd y gallant fŷw drwy ymdaro a gweithio drostynt ei hunain.
Yn ail, O herwydd bôd dynion yn anwybodus o Jesu Christ ai gyfiawnder; oddiymma nid yw dynion yn myned atto ef, oblegid nad ydynt yn ei ganfod ef, oddiymma hwy a ymdrawant yn orau y gallont drostynt ei hunain drwy ei dyled-swyddau, Joan. 4.10. fe a gais dynion ei hachnb ei hunain drwy ei gwaith yn nofio, pan na welont hwŷ ûn rhâff wedi ei bwrw allan iw helpu hwynt.
Yn drydydd, O herwydd dymma [Page 330]'r ffordd hawsaf i gyssuro 'r galon, ac i heddychu 'r gydwybod, ac i fodloni Duw, fel y mae 'r enaid yn tybied; oblegid drwu yr moddion ymma nid yw dyn yn myned ddim pellach nag ef ei hunain.
Yn awr yr enaid a elo ir nef, rhaid iddo fyned yn hollawl allan o hôno ei hunan a phôb dyled-swyddau, (sef allan o orphywys arnynt) ac am hynny mae yn rhaid iddo ef ddisgwyl lawer blwyddyn, a hynny am ychydig ond-odid. Yn awr os bŷdd gan ddŷn ffaintiedig gyfeiti wrth erchwyn ei wely, nid a efe att y marsiandwr iw geisio, dynion y fo ganthynt gyfaredd or eiddynt ei hunain iw hiachau ei hun am nid ânt att y physygwr.
Yn bedwerydd, Oblegid drwy rinwedd y dyled-swyddau ymma, fe all dŷn guddio ei bechod, a byw yn ddistaw yn ei bechod, a chael ei gifrif yn ŵr gonest, fel y buttain yn y Diharebion 7.14. gwedi iddi dalu ei haddunedau hi alle ddenu [Page 331]heb ddrwg dŷb gan ddynion na cheryd gan ei chydwybod; felly yr oedd yr Scrifennyddion ar Pharisaeaid yn gybyddaidd erchyll; ond yr oedd ei gweiddiau hirion yn cuddio ei gwrthini, Matth. 23.14. ac oddiymma mae dynion yn rhoddi uwch prîs ar ei dyled-swyddau nag a dâlant (gan dybied y gallant ei hachub hwynt) o herwydd ei bôd mor fuddiol iddynt. Dyled-swyddau ysprydol maent hwy yn cadw dŷn rhag ei adnabod megis ag y galle ddillad newydd godw dŷn y fae grŷ, a llefain yn myned ar ei ol; Am hynny cymmerwch ofal rhag ymddiried mewn dyled-swyddau; Dyled-swyddau da ydynt arian dynion, heb y rhai maent yn ei tybied ei hunain yn dlodion ac yn resynol; Ond eymmerwch ofal rhag i chwi ach arian ddarfod am danoch ynghyd. Gal. 5.4. Act. 8.20. nid oes ond dau lwybyr i uffern. Y cyntaf yw y llwybr o bechod, yr hwn sŷd ffordd fudr.
[Page 332]Yr ail, Yw y llwybr o ddyledswyddau (os nyni a roddwn ein hyder arnynt) yr hwn nid yw ddim gwell ond ei fod ef ychydig yn lânach. Pan oedd yr Israeliaid mewn caethiwed, mae 'r Arglwydd yn peri iddynt fyned att y Duwiau y wasnaethasent, Barn. 10.14. felly pan fyddech di ar dy glaf wely yn udo, fe a ddywaid yr Arglwydd; ewch at eich gweddiau da, ar pethau y buoch yn i cyflawni, ar dagrau, y rhai a dywaltasoch, ymha rai yr oeddych chwi yn ymddiried, ac nid yn yr Arglwydd Jesu. Oh ni byddant ond diddanwyr anghyssurus y diwrnod hwnnw.
Ond yr wyfi yn meddwl y dywedi, nad oes ûn gwir gristion yn gobeithio bôd yn gadwedig drwy ei weithredoedd da ai ddyled-swyddau, ond yn unig drwy drugaredd Dduw, a haeddedigaethu Christ.
ûn peth ydiw ymddiried o fôd yn gadwedig drwy ddyled-swyddau, a pheth arall yw gorphywys mewn dyled-swyddau.
[Page 333]Mae dyn yn ymddiried iddynt pan fo ef or opiniwn ymma, mae dyled-swyddau da yn unig a allant ei gadw ef. Mae dŷn yn gorphwys mewn dyled-swyddau, pan fo ef or dŷb ymma, mae Christ yn unig a all ei achub ef, ond yn ei ymarfer y mae efe yn myned ynghylch ei gadw ei hûn. Mae 'r doethaf or Papystiaid fel hyn hyd y dydd heddiw. Ac felly y mae ein Protestant cyffredin ni hefyd. A dymma fawr ddichell neu dwyll y galon, hynny yw, pan fo dŷn yn tybied nad all efe mor bôd yn gadwedig drwy ei weithredoedd da, ai ddyled-swyddau, ond yn unig drwy Grist: Yna mae efe yn gobeithio, oblegid ei fod ef or dŷb ymma, mae ar ôl iddo wneuthur y cwbl, nad yw efe ond gwâs anfuddiol, o ran hynny mae efe yn gobeithio bôd yn gadwedig, oblegid ei fôd ef or dŷb ymma, yr hyn dŷb nid yw ond gweithred or dealltwriaeth gwedi ei iawn oleuo, ac fe all ûn gael goleuni yn ei ddealltwriaeth am y peth ni bo gwir ffydd gadwedigol [Page 334]o hono wedi ei weithredu yn ei enaid. Marc. 5.7, 8, 9.
Ond oblegid bod yn anhawdd adnabod pa brŷd y bŷdd dŷn yn gorphywys mewn dyled-swyddau, a bod ychydig ddynion yn ei cael ei hunain yn euog or pechôd ymma, yr hyn yw yr achos o ddestryw cynnifer o bobl, am hynny myfi a ddangosaf ddau beth.
Yn gyntaf, Yr arwyddion o dd ŷn yn ymddiried mewn dyled — swyddau.
Yn ail, Anigonedd holl ddyledswyddau i gadw dynion; fel drwy hynny y rhwystrir ymlaen y rhai a gaffer yn euog or pechod ymma.
Yn gyntaf, Am yr arwyddion drwy ba rai y gall dŷn wybod yn siccir, pa brŷd y bo efe yn gorphywys yn ei ddyled-swyddau; Yr hyn os gwnâ (megis y mae ychydig iawn o broffeswyr nad ydynt yn ei wneuthur) efe a dderfydd am dano yn dragywydd.
Yn gyntaf, Y rheini ni welsont erioed ddarfod iddynt ymddiried [Page 335]yn ei dyled-swyddau, ac ni clywsant erioed yn bêth anhawdd dyfod allan o hwynt, sef fal na byddont yn gorphywyso ynddynt. Canys mae yn naturiol i ddŷn lŷnu ynddynt, oblegid bôd natur yn gosod dynion ar ddyled-swyddau, ac am hynny mae yn bechanhawdd dyfod i gyflwr ysbrydol, na byddo dyn yn gorphywys ynddynt.
Canys dan beth, sydd yn cadw dynion oddiwrth Grist, yn gyntaf pechod, yn ail hunan.
Yn awr megis ac yr ydis yn torri dŷn oddiwrth bechod, drwy ei ganfod ai ystyried ai adnabod, a thrwy fod yn deimladwy or drŵg ar dialedd sŷd yn digwydd am pôb pechod, felly yr ydis yn torri dŷn oddiwrtho ei hun. Canys gwell gan ddynion bôb pêth agos, na dyfod att Grist, o herwydd bod cimmint o hunan ynddynt hwy, gan hynny onid oes gennit ti ddim profiad, ddarfod itti ûn amser orphywys gormod ar dy ddyled-swyddau, ac yno ddarfod itti ochneiddio am [Page 336]gael dy waredu or rhwydau ymma, (nid wyfi yn meddwl oddiwrth ei gwneuthur hwynt, ni byddei hynny ond flamilistiaid a halogedigaeth, ond oddiwrth ymddiried ynddynt wedi i cyflawni) yr wyti yn hyderu ar dy ddyled-swyddau hŷd heddiw.
Yn ail, Mae y rheini yn ymddiried yn ei dyled-swyddau, y rhai sydd yn prisio hyn yn rhyfeddol sef i bod yn cyflawni dyled-swyddau; o ran y dyled-swyddau rheini sŷdd yn dy ddwyn di att Grist allan o honot di dy hunan, sŷdd yn gwneuthur itti brisio Christ, ac nid y dyled-swyddau. Yn awr dywaid i'mi a wyti yn ymogoneddu ynoti di hunan? Gan ddywedyd, yr awron yr wyfi yn rhyw ûn. Yr oeddwn i yn anwybodus, yn ddrwg fy nghof, yn galon galed, ond yr wysi yn awr yn deall ac yn cofio yn well, ac a fedraf dristau am fy mhechodau; Os wyti on gorphywys ymma, ni ddygodd dy ddyled-swyddau mo honoti erioed [Page 337]ddim pellach nath di dy hunan. A fyddi di yn meddwl ar ol itti weddio a pheth bywyd, yn awrmi a wneuthum yn dda. Ac yrawron yr wyti yn tybied yn siccir (oblegid dy ddyled — swyddau) y ceidw yr Arglwydd dydi er na ddaethosti erioed att Grist, ac yr wyti yn dywedyd fel y dywedodd hwnnw mewn achos arall, Barn. 17.13. Yn awr y gwn y guna 'r Arglwydd ddaioni imi gan fôd lefiad gennifi yn offeiriad. A wyti yn uchel brisio dyled-swyddau fel hyn, hyd onid wyti yn dottio arnynt, yna yr wyfi yn adrodd oddiwrth Dduw, yr wyti yn gorphywys ynddynt. Y pethau rheini (medd Paul) y gyfrifais i yn elw, (hynny ydiw) cyn ei ymchweliad, yr wyfi yn ei cyfr [...] hwynt yn golled. A dymma 'r achos, pa ham y mae plentyn i Dduw yn fynych ar ôl ei holl weddiau, ai doagraw, ai lafur yn cyfeddef ei bechodau, yn ammau yn fawr o gariad Duw tuag atto ef eihun: lle y mae 'r dŷn arall yr hwn sydd yn [Page 338]syrthio yn fyr o hono ef, heb ammau ei gyflwr ûn amser; Mae 'r cyntaf yn gweled llawer o bydredd ac o waeledd yn ei ddyled-swyddau gorau, ac am hynny yn barnu yn wael iawn o hono ei hunain, ac oi holl ddyledswyddau; ond y llall gan fod yn anwybodus iawn oi gwaeledd hwynt, sydd yn prisio ac yn tybied yn uchel lawn o honynt hwy.
Ac felly gan osôd cyfuwch prîs arnynt, efe all ei cadu hwynt iddo ei hûnan; oblegid nad yw yr Arglwydd yn derbyn y fâth yn gymeradwy, nag yn ei prynnu ar brîs cyn uched.
Yn drydydd, Y rheini ni ddaethant erioed i fod yn deimladwy ai tlodi ai hollawl wegni o bôb daioni: Oblegid cyhyd ac y bo gan ddŷn geinniog yn eibwrs, hynny ydiw, Luc. 1.53. Datc. 3.17, 18. tra fo efe yn clywed dim da ynddo ei hûn, ni ddaw efe byth i gardotta yn iawn att yr Arglwyd Jesu, ac am hynny mae efe yn gorphywys [Page 339]ynddo ei hunain. Yn awr a ddarfu itti yn amser dy deimlo dy hûn yn y modd hyn yn dlawd, sef, yr ydwyfi mor anwybodus ac ŷn anifail, a chyn ddihired ac ûn cythraul; O Arglwydd pa nyth o bechod, a pha dorlwyth o wrthryfelgarwch sydd yn llechu yn fy nghalon i yr oeddwn i unwaith yn tybied fod fynghalon i am dymuniadau yn dda or hyn lleiaf, ond yn awr nid wyfi yn clywed dim bywyd ysprydol yn fy enaid. O galon farw, myfi ydiw y creadur tlottaf, gwaelaf, diyftyraf, a dallaf yr a fu erioed yn y bŷd. Dih. 30.2. Ond wyti fel hyn yn dy deimlo dy hûn yn dlawd, ni ddaethosti erioed etto allan o hyderu ac o ymddiried yn dy ddyled-swyddau; Oblegid pan ddycco 'r Arglwydd ûn dŷn att Grist, mae efe yn ei ddwyn ef yn wâg, fel drwy hynny y gallei ef ei wneuthur ef yn rhwymedig i Grist am bôb ffyrling.
Yn bedwerydd, Y rhai nid ydynt yn cael dim cyfiawnder Efangylaidd drwy ddyled — swyddau, [Page 340]ydynt yn gorphywys yn ei dyledswyddau; ac lle y mae cyfiawnder Efangylaidd, R [...]uf. 15.1. 1 Jo. 1.3. fe a ganlyn hyn, sef, mwy o brisio ar gydnabyddiaeth or Arglwydd, gyddag ewyllysio, caru, ag ynhyfrydu mewn undeb ar Arglwydd Jesu Grist. Canys fe all dŷn cyfiawn yn ol y ddeddf gynyddu mewn deddfol gyfiownder, (Matth. 13. Luc. 8.14. Matth. 23.23. Ruf. 9.31, 32. fel yr oedd hâd y tir carregog a dreiniog yr hwn a eginodd ac a dyfodd) ac etto gorphywys mewn dyled-swyddan yr holl amser ymma. Oblegid fel y mae gida marchnatwyr, maent hwy yn ym sodloni i bod yn prunu ac yn gwerthu, er nad ydynt yn gwneuthur dim elw weithiau oi gwaith yn marchnatta. Yn awr Christ Jesu yw elw y Christion Phil. 1.21. ac oddiymma mae plentyn i Dduw yn ymofyn ac ef ei hun ar ôl gwrando pregeth, ar ôl gweddi, ac ar ôl derbyn y Sacrament, pa bêth a enillais i o Grist yrawron? a gefais i fwy gwybodaeth o Grist, [Page 341]a mwy o achos i rhyfeddu ac i fawrhau yr Arglwydd Jesu?
Yn awr calon cnawdol y fo yn gorphywys mewn dyled-swyddau, sydd yn unig yn ymofyn beth y wnaeth ef, fel y dywedodd y Pharisaeaid, i Dduw yr wysi yn diolch nad wysi fel dynion eraill, yr wyfi yn ymprydio ddwy-waith yn yr wythnos, yr wyfi yn roddi elusen ar cyfrelib. Luc. 11.11, 12.
Mae efe yn siccir y bydd ef cadwedig, oblegid ei fod ef yn gwrando, yn gweddio; yn gwellhau, ac yn alaru am ei bechodau, hynny ydiw, nid oblegid iddo ennill Christ yn y ddyled-swydd, ond o herwydd yn unig ddarfod cyflawni y ddyled-swydd: ac felly maent yn debig i ddŷn y glywais i sôn am dano, yr hun oedd yn tybied yn ddiau y byddae efe yn ddigon cyfaethog, o herwydd iddo ef gael gwaled i gardotta: felly dynion, oblegid ei bôd yn cyflawni dyled-swyddau, ydynt yn tybied y byddant gadwedig. Nid oes dim or fâth bêth; gedewch i ddŷn [Page 342]fôd gantho ystên o aur, ydiw efe yn tybied cael dwfr o ran bod gantho ystên? na cheiff, na cheiff, rhaid iddo ei gollwng hi i'r pydew, a thynnu dwfr i fynu a hi: felly mae yn rhaid i tithau ollwng dy holl ddyled-swyddau i Grist, a thynnu goleuni a bywyd oi lawndra ef, onideuer bôd dy ddyled-swyddau di yn euraid, fe a dderfydd am danati heb Grist. Pan fo gan ŵr fâra yn ei waled, a chael dwfr iw ystên, fe all ddywedyd yn hŷf, tra parhao y rhain, ni byddafi farw o newyn: felly y gelli dithau ddywedyd, pan geffych di Grist wrth gyflawni ûn ddyled-swydd i cyhyd ac y parhatho bywyd Christ, mi a gâf finnau fywyd; cyhyd ac y bo gantho ef ddoethineb na gallu, cyd a hynny y câf i fy nghyfarwyddo am nerthu i wneuthur daioni.
Yn bummed, Os gwneiff dy ddyled-swyddau i'tti bechu yn hyfach, yna yr wyti yn ymddiried yn dy ddyled-swyddau, Dih. 7: 14.15.
Oblegid y dyled-swyddau rheini [Page 343]sydd yn dwyn dŷn att Grist allan o hôno ef ei hunain, sydd bôb amser yn dwyn nerth gida hwynt yn erbyn pechod; ond y dyled-swyddau y bytho dŷn yn gorphywys yndynt, sŷdd yn ei arfogi ef, ac yn ei amddiffyn ef yn ei bechod, megis yr oedd y Pharisaeaid dan rith hîrweddio yn llwyr-fwytta tai gwragedd gweddwon. Matth. 23.14.
Menn neu gert ni bo genthi ddim olwynion i orphywys arnynt fe fydd anodd i thynnu ir dom, ond ûn y fytho ag olwynion dani a ddaw yn llwythog drwy 'r dom; Felly plentyn i Dduw ni bo gantho ddim olwynion, ddim dyled-swyddau i orphywys arnynt ni ellir oi fodd ef moi dynnu ef ir pechod, ond dŷn arall er i fod yn llwythog o bechod (ie weithiau yn erbyn ei gydwybod) etto oran bod gantho ddyled-swyddau iw ddwyn ef allan nid yw efe yn gwneuthir esgyrn yn y byd o bechod, ond myned ymlaen yn hŷf yn ei helynt bechadurus: Pan welom ni ddŷn gwael yn coegi [Page 344]tywysog mawr, ac yn ei daro ef, ni a ddywedwn yn siccir, na feiddie efe wneuthur hynny, oni bae fod gantho rŷw ûn iw ddwyn ef allan, ar ba ûn y mae efe yn hydêra ac yn gorphywys, ac yn rhoddi ei ymddiried ynddo: Felly pan welom ni ddynion yn pechu yn erbyn y Duw mawr, ni allwn dybied yn siccir, na feiddient hwy wneuthur hynny, oni bae fôd ganthynt ryw ddyledswyddau iw dwyn hwynt allan ac iw cefnogi yn ei ffyrdd, ymha rai y maent yn ymddiried. Oblegid cymmerwch ddyn halogedig, pa beth fydd yn peri iddo ef feddwi, tyngu, chwarre, a phutteinio? Ai nid oes ûn Duw iw gospi ef? Ai nid oes ûn uffern ddigon poeth iw boenydio ef? Ai nid oes dim plaeau iw ddinistrio ef? Oes, paham yntau y mae efe yn pechu fel hyn? Oh! Mae efe yn gweddio ar Dduw am faddeuant, ec yn alaru ac yn edifarhau yn ddirgel (fel y mae efe yn dywedyd) a hyn sydd yn ei gynnal ef i fynu yn ei droeau dihir.
[Page 345]Cymmerwch ddŷn cyfiawn ol yn y ddeddf, efe a wŷr fôd gantho ef ei lithriadau, ai bechodau, fel y mae gan y rhai gorau; Paham y mae efe gan-hynny heb symmud y pechodau rheini ymaith? Mae efe yn ei cyfaddef hwynt i Dduw bôb borau pan gyfodo ef; Paham gan hynny nad yw efe yn fwy darostyngedig oblegid ei bechodau? Y rheswmyw, mae efe yn arfer gweddi forau a hwyr, ac yna fe fŷdd yn crefu am faddeuant am ei lithriadau, a thrwy hynny mae efe yn gobeithio ei fod ef yn gwneuthur ei heddwch a Duw; Ac oddiymma mae efe yn pechu yn ddiofn, ac yn cyfodi ar ol ei gwympau ir pechod yn ddidristwch. Fel hyn y maent yn gweled ac yn maentimio ei pechodau drwy ei dyled-swyddau, gan-hynny maent yn ymddiried yn ei dyled-swyddau.
Yn chweched, Y rheini sydd heb weled ond ychydig o fryntni ei calonnau drwy ddyled-swyddau, s ydd etto yn gorphywys yn ei dyledswyddau; [Page 346]Oblegid osdaw dŷn yn nês at Grist, ac at y goleuni, drwy ddyled-swyddau, mwyaf a wêl efe o frychau ynddo ei hunan; Oblegid pa ûn fwyaf y bo dŷn yn gyfrannog o Grist, oi iechyd ef, ac oi fywyd, mwyaf y mae efe yn ei weled o frynti ac o glefyd pechod.
Fel Paul pan oedd efe yn gorphywys yn ei ddyled-swyddau, o flaen ei droead, cyn ir gyfraith ei ddarostwng ef, yr oedd efe yn fyw, hynny ydiw yr oedd efe yn ei dybied ei hûn yn holliach, oblegid bod ei ddyled-swyddau fel dail y ffigusbren yn cuddio ei bechodau, gan hynny gofyn i'th galon dy hûn, os bydd hi yn gythryblus weithiau, o herwydd pechod, ac os bydd hi ar ôl dy weddio ath dristwch yn myned yn iach drachefn, ac yno di a fyddi yn dy dybied dy hûn yn ddiogel, ac heb dy deimlo dy hûn yn fwy gwael a llygredig; os wyti fel hyn, yr wyfi yn dywedyd, nid yw dy ddyled-swyddau di ond fel dail fligus i guddio di noethni; ar Arglwydd [Page 347]ath geiff di allan, ac ath ddinoethu di ryw ddydd, a gwae dydi os derfydd am danati ymma.
Yn ail, Gwelwch gan-hynny annigonedd sydd yn ein holl ddyled-swyddau yn hachub ni; Yr hyn a ymdengys yn y tri pheth ymma, y rhai a henwaf fi, fel y galloch chw [...] ddyscu ar ôl hyn na orphywysoch byth mewn dyled-swyddau.
Yn gyntaf, Ystyria fôd dy ddyled-swyddau gorau di wedi ei llychwino, ai gwenwyno, ai cymmyscu a rhyw bechod, ac am hynny maent yn ffiaidd yngolwg Duw m r Sanctaid (ond ei ystyried hwy yn unig fel y maent hwy ynddynt ei hunain) oblegid os yw gweithredoedd gorau plant Duw yn fudron fel y maent yn dyfod oddiwrthynt hwy, yna byddwch siccir fod holl weithredoedd dynion drygionus, yn llawer mwy budr a halogedig gan bechod: ond mae 'r cyntaf yn wir, fôd ein holl gyfiownder ni fell brattiau budron. Esa. 46.6. Oblegid fel ac y mae 'r ffynnon, felly mae 'r gofer; [Page 348]ond ffynnon neu wreiddin ein holl weithredoedd da ni, sef, y galon, sydd gwedi ei chymysgu mewn rhan a phechod, ac mewn rhan a gras yn y rhai ailanedig, am hynny mae pob gweithred ar rhan dyn yn gyfrannog o ryw bechod, yr hyn bechodau ydynt yn myned megis dagerau att galon Duw, ie pan fo efe yn crefu am eifywyd; gan hynny nid oes dim gobaith o fod yn gadwedig drwy ddyled-swyddau.
Yn ail, Pe gellici ei cyflawni hwy yn ddi-bechod, etto ni elli di ddal allan yn gwneuthur felly, Esay 40.60. Pôb cnawd sydd wellt, ai odidaugrwydd fel blodeuyn y maes. Felly dy weithredoedd gorau di a wywent yn fuan, oni byddent hwy yn berphaith: ac oni elli di barhau yn cyflaw ni dy holl ddyled-swyddau yn berphaith, fe ath anrheithiwyd di yn dragywydd, er i'tti wneuthur felly dros amser, a byw fel angel, a disgleirio yn y byd fel yr haul, ac ar y fûn ddiweddaf, fôd gennit ond ûn meddwl ofêr, neu wneuthur [Page 349]y pechod lleiaf, yr ûn graig honno ath sudde di er dy fod yn y borthladd er cyfaethocced y fae dy lwyth;
ûn pechod fel ychydig dan yn y tô ath lŷsg di, ûn weithred o draeturiaeth, sydd ddigon er peri dy grogi di, ûn pechod megis cyllell worth di galon di ath drywâna di, er mor ddefosionol y buosti fyw or blaen. Ezec. 18.24. Canys bywoliaeth gam ydiw hi, oni bydd holl rannau llinin dy fywyd di yn union ger bron yr hollalluog Dduw.
Yn drydydd, Bwriada y gelliti barhau, etto mae yn eglur ddarfod i'tti bechu yn echryslawn yn barod, ac a wyti yn tybied y gall dy ysydddod tros yr amser sydd i ddyfod fodloni 'r Arglwydd am yr holl ardrethion sydd yn ôl, hynny ydiw am dy holl bechodau y rhai sydd gwedi myned heibio? Megis a all gŵr y fo yn talu ei ardreth yn onest bob blwyddyn, fodlonî drwy hynny am yr hên ardreth oedd heb ei dalu er ys ugiain mlyned? Nid yw [Page 350]dy holl ofudd-dod di ond dyled newydd, yr hon nid all fodloni am ddyledion a gerddasant yn barod. Yn wîr fe all dynion faddeu neu ollwng dros gôf, gammau a dyledion, o ran nad ydynt ond terfynol; ond mae 'r pechod leiaf yn ddrwg anherfynol, ac am hynny rhaid i Dduw gael ei fodloni am dano. Fe all dynion faddeu dyledion, ac etto aros yn ddynion; ond yr Arglwydd gwedi iddo ddywedyd, yr enaid a becho a fyddmarw Ezec. 18.4. a chan mai ei wirionedd ef yw efe ei hunan, nid all efe aros yn Dduw, os maddeuiff ef bechodau heb fodlonrwydd drostynt. Rhuf. 3.25, 26.
Gan hynny nid yw dyled-swyddau ond baglau pydrion ir enaid i orphywys arnynt.
Ond i ba ddiben yntau yr arferwn ni ddyled-swyddau? Onid all dŷn fod yn gadwedig drwy ei weddiau da, nai drwy dristwch, nai edifeirwch? I ba beth y gweddiwn ni ond hynny? Gadewch i'ni daflu [Page 351]ymmaith ein holl ddyled-swyddau, os ydynt hwy ôll heb fôd i bwrpas yn y byd ein hachub ni, cystadi i'ni chwarae am ddim, a gweithio am ddim.
Er nad all dy ddyled-swyddau da dy gadw di, etto dy weithredoedd drwg di allant dy ddamnio di. Nid wyti gan hynny i daflu ymmaith dy ddyled-swyddau, ond i daflu ymmaith yr ymddiried sydd gennit ti ynddynt: Ni ddylit ti daflu monynt ymmaith, ond ei taflu hwynt i lawer wrth draed yr Arglwyd Jesu Grist, fel y gwnaeth yr henuriaid ei coronnau, Datc. 4.10, 11. gan ddwedyd, os oes dim daioni na dim gras yn y dyled. swyddau ymma, eiddoti yw efe Arglwydd: Canys ffafr y tywysog sydd yn derchafu dŷn, nid ei ddoniau ef ei hûn; hwy a ddaethant oddiwrth ei ewyllys da ef.
Ond ti a ddywedi, i ba bêth y cyflawnaf fi ddyled-swyddau onid allaf fi fod yn gadwedig drwyddynt hwy?
Ir tri diben ymma.
Yn gyntaf, Ith ddwyn di att yr Arglwydd Jesu yr unig achubwr, Hebr. 7.25. efe yn unig a all gadw (ac nid dyled-swyddau) yr holl rai a ddêlont att Dduw (wrth arfer moddion) drwyddo. Gwrando bregeth, ith ddwyn di at Jesu Grist: Ymprydia a gweddia, a chais dy lenwi o gariad ith ddwyn di at yr Arglwydd Jesu Grist, hynny yw i geisio mwy o serch iddo ef, mwy o adnabyddiaeth arno, mwy o undeb ac ef: [...]elly galara am dy bechodau, fel y gellych di fôd yn gymhwysach i ogoneddu Grist, fel y gellych di brisio Christ yn fwy; arfer dy ddyled-swyddau fel y gwnaeth colommen Noah ei hadenydd, ith ddwyn di att arch yr Arglwydd Jesu Grist, ymha le yn unig y mae gorphywystra. Ped fuasei hi heb arfer ei hadenydd, hi a gwympasei yn y dyfroedd: Felly os dydi ni arferi ddyled-swyddau, ond ei taflu hwy ôll ymmaith, yr wy [...] yn siccir i ddarfod am danat. [Page 353]Neu fel y mae gida gŵr tlawd y fac i fyned dros ddwfr mawr am drysor y fyddei ar y lan arall, er nad all efe gyrchu atto 'r bâd, etto mae efe yn galw am dano; ac er nad oes dim trysor yn y bâd, etto mae efe yn arfer y bâd megis moddion lw ddwyn ef att y trysor: Felly Christ sydd yn y nêf, a thithau ar y ddaiar, nid yw efe yn dyfod attati, ac ni elli dithau fyned atto ef; Yn awr galw am fâd: Er nad oes dim grâs, dim daioni, dim iechydwriaeth mewn dyled-swydd ddigynhwyllin, etto arfer hiith ddwyn di drosodd att y trysor, sef, yr Arglwydd Jesu Grist. Pan ddelych di i wrando. dywed, trosodd am fi yn y bregeth ymma att yr Arglwydd Jesu, felly pan ddelych i weddio, dywed, trosodd am fi yn y weddi ymma at yr achubŵr Jesu. Ond dymma trueni llawer o bobl, fel gwŷr yn caru ynfyd, pan ddelont i garu 'r Arglwyddes, hwy a syrthiant mewn cariad ar llawfo [...] wyn.
[Page 354]Yr hon oedd yn unig iw harwain hwy att yr Arglwyddes: Felly mae dynion yn syrthio mewn cariad ac yn dottio ar ei dyled-swyddau ei hunain, ac yn gorphywys yn fodlon ar y cyffawniad noeth o honynt hwy, yr hyn bethau ydynt yn unig lawforwynion i arwain yr enaid at yr Arglwydd Jesu Christ.
Yn aîl, Arferwch ddyled-swyddau megis eglurhad o dragywyddol gariad Duw tuag attoch chwi pan fyddoch chwi ynghrist; Oblegid rhadau a dyled-swyddau pobl Dduw, er nad ydynt achosion, etto maent yn wystlon o iechydwriaerh i ûn yngrhist: Nid ydynt yn cadw dynion, etto maent yn dilyn ac yn canlyn y fâth ddŷn ac y fydd cadwedig. Hebr. 6.9. Gadewch i ddŷn ymfrostio oi lawenydd, ei deimladau, ai roddion, ai yspryd, ai râs, os efe a fydd yn gwfeithrediad, yn gweithrediad ûn pechod, neu yn gadêl ûn ddyled-swydd a edwyn ef heb ei gwneuthur, neu yn gyflawni dyled-swyddau yn anhymhoraedd, [Page 355]ac yn wrthyn, yr wyfi yn dywedyd, nad all hwnnw gael dim ficcrwydd oi iechydwriaeth heb wenheithio iddo ei hunan, 2 Petr. 1.8.9, 10. dyled-swyddau gwir ysprydol gan ei bôd yn dystion ac yn wystlon o iechywriaeth, arferwch hwynt ir diben hwnnw, a gwnewch yn fawr o honynt o ran hynny; Fel gŵr y fae gantho yscrifen dêg neu siccrwydd am ei arglwyddiaeth, a deifl efe honno ymmaith, oblegid na phwrcasodd ef ag y hi moi arglwyddiaeth? Na wna, na wna, oblegid ei bod hi yn eglurâd iw siccrhau ef, fod yr arglwyddiaeth yn eiddo ef; Ac felly iw amddiffyn ef yn erbyn pawb ôll a geisiant ddwyn yr arglwyddiaeth oddiarno ef efe a geidw yr ysgrifen yn fwy gofalus: Felly ai o ran nad all dy ddyled-swyddau dy gadw di, a defli di hwynt ymmaith? Na wna mo hynny, Canys maent yn dystion (os wyti yngrist) fôd yr Arglwydd ai drugaredd yn eiddori dy hûn. Ni theifl gwragedd ymmaith [Page 356]mor arwyddion a gowsant hwy gan ei gwyr, er na haeddodd; nac a ennillodd y pethau rheini gariad ei gwŷr tuag attynt, ond o herwydd ei bod yn arwyddion oi cariad hwynt, am hynny hwy ai cadwant yn ddiogel.
Yn drydydd, Arferwch ddyledswyddau, fel y gallo tâd ein Arglwydd Jesu Grist gael ei anrhydeddu drwy gyflawniad y dyled-swyddau ymma: Christ ai rhoddes ei hûn drosom ni in prynnu ni oddiwth bôb anwiredd ac in puro ni iddo ei hûn yn bobl briodol awyddus i weithredoedd da. Titus 2.14. Nid fel yr achubid ein eneidiau ni drwyddynt hwy. O na adewchi waed Christ fod wedi ei golli yn ofer! Gras a dyled-swyddau ydyw coron y Christion; Pechod yn unig sydd yn gwneuthur ûn yn ddistadl ac yn wael: Yn awr a deifl brenin ei goron ymmaith, oblegid na phrynnodd efe moi frenhiniaeth ag y hi? Na wna.
Ei harddiwch ai ogoniant ef ydyw [Page 357]ei gwisgo hi pan wneler ef yn frenin; Felly yr wyfi yn dywedyd, wrthit tithau, gwell ydyw bod Christ yn cael ei ogoneddu ai anrhydeddu na bod dy enaid di yn gadwedig. Fel hyn arfer dy ddyledswyddau, ond na oryhywys yn dy ddyled. swyddau; Ie dôs allan o bob ymddiried sydd gennit yn dy ddyled swyddau, a dyweddio dy enaid ar Arglwydd Jesu: Cymmer ef er gwell ac er gwaeth, felly bydd fyw ynddo ef ac arno ef holl ddyddiau dy fywyd.
Yn bedwerydd, O herwydd pengryf ryfig dŷn, neu ei gau ffydd, drwy ba ûn y mae dynion yn ceisio ei hachub ei hunain drwy gippio gafael ar Grist, pan welont hwy yr any gonedd sydd mewn dyled-swyddau iw helpu hwynt, ai gweled ei hunain yn anheilwng o drugaredd: Canys dymma 'r graig ddiweddaf a pheryoclaf or ba ûn y mae dynion yn yr amseroedd ymma yn cael i dryllio. Mae dynion yn gwneuthur pont or eiddynt ei hunain iw dwyn [Page 358]att Grist. Fy meddwl yw, nid ydynt yn edrych ar ôl ffydd gwedii gweithredu yn yr enaid drwy holl alluog allu, yr hon sydd raid i dragywyddol yspryd Duw ei gweithredu ynddynr hwy; Ond maent hwy yn i bodloni i hunain o ffydd oi ffurfiad ac oi dychymygiad ei hunain, ac yn tybied yn siccir, ac yn credu, mae Christ Jesu ydiw ei hyfryd achubwr hwynt, ac felly heb ammau nad ydynt yn ddiogel, pryd nad oes dim or fâth bêth, ond fel cŵn y fyddae yn cippio bara 'r plant ac yn eael ei cae allan or drysau, (allan or nefoedd ar ôl hyn yn dragy wydd) am ei poen. Mae pawb agos or opiniwn ymma, nad oes dim iechydwriaeth ond drwy haeddedigaethau 'r Arglwydd Jesu Grist; Ac o ran ei bôd hwy yn dal yn dynn yn yr opiniwn ymma, am hynny maent yn tybied ei bod yn dal yn gadarn Grist Jesu yn llaw ffydd, ac felly maent yn darfod am danynt drwy [Page 359]gymmeryd gafael ar ei gafael ei hunain, ac nid ar Grist, a thrwy bwyso âr ei ffansi ai cysgod ei hunain, ac nid ar Grist. Rhai eraill sydd yn cippio gafael arno ef (fel y mae llŵch ar siacced ûn, yr hwn a ysgwyd yr Arglwydd ymmaith, neu fel mieri, neu gynga y fae yn glynu yngwisc ûn, y rhai a sathra yr Arglwydd dan ei draed) ac yn awr hwy a ddywedant i Dduw y maent yn diolch iddynt gael cyssur drwy yr moddion ymma, ac er i Dduw i lladd hwynt, etto hwy a ymddiriedant ynddo ef, Micah. 3.11. Oblegid hyn mae yn anhawsach dychwelyd dŷn ir wir ffydd yn y gwledydd ymma nag yn yr India, o herwydd nad oes ganthynt hwn yno mor fâth amddiffynfeydd yn erbyn ein pregethau ni, i ddywedyd i bôd yn credu yn barod, fel y mae y rhan fwyaf yn ein plith ni yn gwneuthur: Nid allwn ni gadw ymmaith ddwyllo dynion rhag cippio gafael ar Grist ai ffydd gnawdol eu hunain; Fel cwmnhi o ladron yn yr heol, chwi [Page 360]a gewch weled yno gant o ddwylo yn ymgribinio am ûn tlŵs neu berl y fo wedi syrthio o rai ni byddo iddynt fawr, ie ddim a wnelant ag êf. Mae pôb dŷn agos yn dywedyd yr wyfi yn gobeithio fôd Christ yn eiddo fi, yr wyfi yn rhoddi fy hôll hyder am hymddiried ynddo ef, ac ni fynnant moi curo oddiymma. Pa bêth ai annobeithio a wna dŷn? Ond rhaid i ddŷn ymddiried yngrhîst? Fel hyn y gobeithio ac yr ymddiried y rhan fwyaf o ddynion yngrhist? Er nad oes ganthynt ûn sylfaen, nag ûn grâs i brofi y gallant hwy ddal gafael a hawl ar Grist. Y gobaith gwâg ymma, (yr hwn a yrrir ryw ddydd allan or pwyll esmwyth cysglyd sydd gantho,) a fu achos o gondemniad miloedd, oblegid yr wyfi yn credu, pe gwelei ddynion nhwy ei hunain yn greaduriaid heb Christ, yn gystadl ac y maent yn ei gweled ei hunain yn greaduriaid pechadurus, nhwy a waeddent allan, Arglwydd pa beth a wnawn ni i fod yn gadwedig. [Page 361] Act. 16.30. Y wîr ffydd ymma sŷddffydd werthfawr. 2 Pet. 1.1. Pethau gwerthfawr a gostiant lawer, ac ni a roddŵn brîs mawr arnynt; Os yw dy ffydd di felly, hi a gostiodd i'ti lawer gweddi, llawer ochenaid, a llawer deygryn hallt. Ond gofynnwch i ddynion pa fod y daethant hwy iw fydd yngrhist? Hwy a ddywedant, yn ddigon hawdd. Pan fo 'r llew yn cysgu, fe all dŷn orwedd a chysgu yn ei ymyl ef; Ond dan ddeffrotho ef, gwae 'r dŷn a wnelo felly: Yr ûn môdd tra fo Duw yn amyneddgar ac yn ddistaw, di a elli dy ffoli dy hunan drwy feddwl dy fôd di yn ymddiried yn Nuw; Ond gwae dy di pan ymddangoso 'r Arglwydd yn ei ddigofaint, fel y gwneiff efe ryw ddydd; A thrwy rinwedd y gau ffydd ymma, y mae dynion yn pechu ac yn cymmeryd Christ fel cadach llestri iw glanhau drachefn, a dymma 'r hôll ddefnydd syd ganthynt iw wneuthur oi ffydd. Maent yn pechu yn wîr, ond maent [Page 362]yn ymddiried i Grist am drugaredd, (meddant) ac felly yn gorwedd yn yn wastadol yn ei pechodau: Ond fe a ddial Duw a gwaed, a thân ac a phlaeau or nefoedd am y diystyrwch echryslawn ymma. Mae llawer o honôch chwi yn ymddiried i Grist, fel y mae mâth ar brennau y rhai sydd yn bwrw ei pwys ar y mûr, ond gwedi ei gwreiddio yn gadarn yn y ddaiar: Felly yr ydych chwithau yn bwrw eich pwys ar Grist am iechydwriaeth, ond gwedi eich gwreiddio yn y bŷd, gwedi eich gwreiddio yn eich balchder, gwedi eich gwreiddio yn eich bryntni yn wastadol. Gwae chwi os byddwch chwi feirw yn y cyflwr ymma, Duw ach cymmyna chwi i lawr megis tanwydd iw ddigofaint, pa obaith gwallgofus bynnag sydd gennych chwi y byddwch cadwedig drwy Grist.
Hyn ymma gan-hynny yr ydwyfi yn ei gyhoeddi i'chwi oddiwrth Dduw y nefoedd ar ddaiar.
Yn gyntaf, Y Chwi y rhai ni [Page 363]theimlasoch mo honoch eich hunain mor ddinerth i gredu a dŷn marw iw godi ei hunain, nid oes gennych chwi etto ûn ffydd.
Yn ail, Y chwi y rhai a fynnech gaei ffydd, rhaid i'chwi yn gyntaf fod yn deimladwy och ffrwythdra i gredu: Ac na chyrchwch mor gangen ymma och gardd eich hunain, rhaid iddi dyfod or nef i'ch eneidiau chwi, os byddwch chwi bŷth yn gyfrannogion o honi.
Pethau eraill a ddylaswn i lefaru ar y pwngc helaeth ymma, ond mae yn gorfod i'mi ddiweddu ymma yn fyrr; Na rodded yr Arglwydd mor pechod ymma yn ei herbyn hwynt y rhai a attaliasant fy ngenau, gan ymmegnio i ddal y gwirionedd mewn anghyfiawnder. Rhuf. 1.18. A bendigedig y fyddo y Duw daionus yr hwn a safodd ger llaw ei wâs anheilwng cyhyd, gan fy nerthu i i'ch tywys chwi cyn belled, ac i ddangos i'chwi y creigiau ar peryglon ar eich ffordd wrth fyned trwodd i fŷd arâll.