At Plwyfogion Llanddyfri, Llan-fair ar Brin a Llanedi yn Shir Gaer-fyrddyn.

Boneddigion a Chyffredyn,

CAniattaed yr Arglwydd Dduw Holl-allu­og a thrugarog i Chwi ac i'ch Teuluoedd ras trwy Jesu Grist, fel y galloch i wasa­naethu a'i ogoneddu ef yn y byd hwn; ac fel y galloch fôd ar y ffordd i gael eich gogo­neddu gantho ef yn y byd a beri byth. A Ben­dithied yr Arglwydd chwi yn eich holl feddian­ne, yn ol dimuniadau eich calonnau; cyn belled ag y mae eich dymuniadau chwi yn gyttun a'i ewyllys ef.

Yr wyfi 'n gwneuthur yn eon i'ch cofio chwi, nid all e fôd yn anhyspys i fagad o honoch chwi, ag a fu yn byw dan weinidogaeth (y parchadig a'r duwiol weinidog i Grist) Mr. Rees Prichard, y môdd yr oedd ef yn gwneuthur ei oreu (trwy bregethu 'i Efengyl, a thrwy ei siampl dda yn ei fuchedd) i'ch troi chwi oddiwrth eich p [...]chodau, i fôd yn bobl i Dduw trwy Grist; gan eich gwa­hodd chwi i gredu ynddo, i fôd yn edifeiriol, ac i ymroi i fyw yn dduwiol, yn sobr ac yn gyfiawn yn y byd presennol; gan ddangos i chwi y de [...] ­wyddwch y ganlynei hynny, a'r aflwyddian [...] y ddigwyddei o esgeuluso wneuthur felly. Medu vn gair, fe ddododd fywyd ac ange [...] o flaen eich lly­gaid chwi, a'r ffordd i gael yr [...]n ac i ddime [...] Ac etto er hyn i gyd fel hyn y mae ef [...]n [...]yn,

Duw gwêl drwmmed yw fy'nghalon
Weled faint pengaledrwydd dynion,
Cais i harwain tua 'r nefodd,
Hwyntau ânt i'r tân heb ddiffodd.
Gwae fy 'nghalon drom gan hynny,
Na buasse Duw 'n ewyllyssu
Fi rhoi 'n Fūgail ar Dda Gwlltion,
Cyn rhoi im
Tan fy law, im gofal.
shiars y cyfryw ddynion.

Ac with dre llanddyfri fel hyn y mae e'n dyw­edyd

Cefaist rybydd lawer pryd,
Nid yw cyngor 'moethyn id:
Nid oes lûn it wneuthur esgus;
O! Gwae di y dre anhappus.
Boreu codais gida 'r ceiliog,
Hîr ddilynais byth yn d'annog
Droi at Dduw oddiwrth, dy frynti,
Ond nid oedd ond ofer im mi.

Fy ngharedigion, er mwyn Christ na fyddwch anfodlon i mi'ch cofio chwi am y pethau hyn;2 Cor. 13.3. Heb. 11.4. ac ymrowch y nawr i wrando ar lais Jesu Grist yn eich Bugail sydd yn llefaru wrthych, yn ei waith a adawodd ef ar ei ol. Ac na chaledwch eich calonnau trwy aros yn eich pechodau (megis Bydoldeb, Balchder, esgeuluso gweddio ar Dduw yn ôl ei ewyllys ei hun (ar neilldu ac yn eich teuluo­edd,)

Tyngu, Rhegi, halogi 'r Sabboth (trwy fynd i'r pebyll, i'r Twmpath chware ac i'r Tafarne pan nad yw anghenrheidiol) Anvfydd dod i Rieni, ma­lis, cynfigen, ymladd, Gloddest, Meddwdod, Coeg­ddigryfwch, Maswedd, Putteindra, Aflendid, Godi­neb, [Page] Segyru, Anghyfiawnder, twyllo a gorthrymmu i gilydd, Gwascaru 'r cwbwl a gadel y Gwragedd a'r Plant mewn eisieu, chware cardie a dishe er mwyn ennill da i gilydd, Crwsseddu ac ymgyfreitha am ddi­ffrwythder, a chadw Gwirionaid (megis dynion simpl angnhabyddus, a'r Gwragedd gweddwon a'r ymddifaid) oddiwrth eu heiddo (trwy ffalstedd a nerth arian, a chyngor drwg Gyfreithwyr di­gidwybod, a thricks cyfraith yn erbyn goleuni cydwybod) Occor afresymol ac anghyfreithlon, stade neu weithredoedd twyllodrus ar feddianne 'r meirw, Testamentau neu Ewyllysiau ffallst, Celwydd, Tyngu 'n anvdon, ffrôst, sclawndro ac enllîbio, chwennych Tai, gwragedd, gwasanaeth pobl a da cymmydogion, o [...]d tuhwnt i ddim gwrthod dyfod at Dduw trwy Grist â chalon edifeiriol, yn credu ynddo, ac yn ymroi i fôd yn vfydd iddo rag llaw! 1 Cor. 6.9, 10. Mat. 16.15.16. Date. 22.8 Mat. 25.41. Act. 3.19. hwnnw yw'r pechod o bechodau; Gwae'r dyn y fo byw a marw ynddo) Bydded hyspys i chwi, fôd yr Arglwydd yn llefa­ru, nad a'r cyfryw ag y fo byw a marw yn eu pe­chodau, gan wrthod y grâs a gynniccer iddynt yn yr Efengyl byth i Deyrnas nefoedd: ond y caiff eu rhan hwy fôd yn y llyn sydd yn llosci â thân a brwmstan (gida 'r Diawl a'i angylion) yr hwn yw 'r ail farwolaeth.

Cymrwch rybydd gan hynny, ac edifarhewch fel y maddeuir eich pechodau ar gyfrif Christ Jesu, ac y boch cadwedig. A meddyliwch taw nid peth bychan yw colli'r enaid. Mae'n Prynwr yn dy­wedyd, pa leshâd i ddyn os ennill efe yr holl fyd a cholli ei enaid ei hun? fel ac y gallwn gasglu oddi­wrth hynny,

Fôd vn enaid yn werthfawroccach nâ'r holl, fyd. A chan fod y peth felly, Ma [...] genym achos i ry­feddu, [Page] fôd pobl ag sydd yn gofalu yn fawr am eu cyrph, eu da, eu cyffyle, eu môch, a'u cwn, &c. etto yn y cyfamser yn gwbwl ddiofal am eu heneidiau, heb ystyried beth a ddaw o honynt yn y byd y beri byth.

Yr wyfi'n dywedyd o'm calon (Duw sydd dyst) fy mod i 'n gobeithio, nad yw pawb o honoch chwi y cyfryw bobl.Heb. 3.11. Cynta pwy sydd euog cymrent rybydd mewn pryd, rhag i'r Arglwydd dyngu yn ei lid na chaent ddyfod i mewn i orphwysfa ef.

Dihar. 1.28. Hi fydd [...]hy hwyr pan byddir yn vffern i wei­ddi am râs a thrugaredd; ni cheir yno gymmaint a gronyn o ddwfr ar flaen bys vn i oeri 'r tafod yn y flam; llai o lawer y ceir dyfod allan oddi­yno i gael esmwythder i'r enaid a'r holl corph: a'r rheswm o hynny yw hyn, o herwyd fod e [...] a Duw ni (yn erbyn pa vn yr ydym yn pechu) nid yn vnig yn anfeidrol ac yn annherfynedig yn ei hanffod neu sylwedd, ond hefyd (megis yn ei holl briodoliaethau, felly yn enwedig yn ei gyfi­awnder) yn anghyfnewidiol. A chan fod ein Duw ni y cyfryw vn,ac. 1.17. nid rhyfedd y bydd cospe­digaeth ei elynion ef yn anfeidrol, yn anherfy­nedig, ac yn anghyfnewidiol.

Y Farn â pha vn y bernir y geifr melldigedig y fydd yn y geiriau hyn,

Ewch oddi-wrthif rai melldigedig i'r tân tra­gwyddol, yr hwn a baratowyd i ddiafol, ac iw angylion.

Mat. 25.41.

Yn gymmaint gan hynny taw i'r tân tragwy­ddol y bernir y fâth bobl, ni ellwn ddywedyd, taw dedwydd y fyddent hwy, pe caent ddyfod allan oddi-yno, ar ôl bôd yno cnifer mîl o flynyddoedd ag sydd o wellt glâ ar wyneb y ddaiar, ag sydd o dy­wod ar lan y môr, ag sydd o sêr yn y ffurfafen; [Page] o herwyd fe fyddei diwedd ar hynny o amser ryw-bryd; Ond ni bydd byth diwedd i dragwyddol­deb. Fel hyn gan hynny y dichon difes neu vn dyn arall yn vffern ddywedyd,

Pa cawn rydd-did o'm holl boene,
Am ben can-mil o flynydde,
By ddei hynny gynffordd im mi;
Ond dros fyth mae 'n rhaid im boeni.
Y gair byth sy'n torri 'nghalon,
Y gair byth sy'n cnoi 'ngholyddion,
Y gair byth sy'n peri im mi
Fwytta 'mreiche a gwall-gofi.

Oh! na bae 'r ystyriaeth o hyn yn hollti 'n [...]llonnau ni,2 Cor. 5.10, 11. a pheri i ni feddwl am geisio diangc llid a digofant yr Arglwydd. I'n hannog ni i hyn ystyriwn, Fod possiblrwydd i gael ymwared rhag damne [...]g [...]eth tragwyddol,Luc. 1 [...].1 [...]. Canys daeth Mâb y dyn i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid; ac nid oes ei [...]eu na gallu na gwllys yn ein Prynwr Christ i gadw y gwaetha o bechaduriaid a ddewant atto, 1. A chalon ddrylliog am eu pechodau, 2.Act. 3.19. A ffydd yn credu ynddo, 3.Heb. 5.9. A gwir bwrpas a llawn fryd i roi vfydd-dod iddo mewn Sancteiddrwydd a chy­ffawnder holl ddyddiau eu bywyd, o ddydd eu troedigaeth allan.Luc. 1.74, 75. Heb. 13.8 Am ei allu ef i gadw pecha­duriaid, yr vn ydyw e heddyw, ac yr vn y fydd chyn ddiwedd y byd ag yr oedd e gynt. Yn yr am [...]er gynt, pan yr oedd ef ar y ddaiar, yr oedd ei allu e gymmaint yn hyn o beth, ag y [...]wodd e y Publicanod a'r Pechaduraid mwya a [...] eu [...] atto gidag edifeirwch a ffydd. Mat. [...] Luc. 7.50. Luc. 19.9.10. Heb. 7.25.

Ac i ddangos ei ewyllysgarwch i-ga [...] pecha­duriaid, [Page] y mae ef yn gyntaf, yn daer yn ein gwa­hodd ni i ddyfod atto ef i gael ein cadw gantho, ac yn addaw i'n derbyn ni os dawn ni, Mat. 11.28. Dat. 22.17. Jo. 7.37. Esay 55.1, 2, 3.

2 Yn ail, Ni wrthododd ef erioed vn pechadur ag a ddaeth mewn gwirionedd i geisio trugared a chadwedigaeth oddiwrrho, ac y mae e'n addaw na wrthyd e byth o'r cyfryw, Joan 6.37.

3 Yn drydedd, Y mae ef yn ei gyfrif e megis ym­borth idd i enaid ef, i dderbyn ac i gadw pech­aduriaid. Joan 4.34. a'r 6.39, 40.

4 Yn bedwaredd, Y mae e yn llawenhau yn ddir­fawr i weled pechadur yn dyfod yn edifeiriol i gael ei gadw gantho, Luc. 15.7.

5 Yn bummed, Y mae ef yn edrych ar gadwe [...] ­gaeth pechaduriaid megis ffrwyth ei holl chwys a'i trafel,Esay 53.11 a'i boen, a'i Angeu: Ac y mae'n ho­ffach gantho ef weled y nefoedd yn llawn o'r cy­fryw, ar ol ei holl boen, nag y mae genym ni i weled ein ydlannodd a'n yscuboriau yn llawn o'r yd a'r llafyr goreu, ar ol ein holl boen a chost yn ei gylch ef. Ie, y mae e yn hiraethu yn fwy am ein jechydwriaeth ni, yn ol y poen y gymmarth e yn ei gylche, nag y mae y gweithwr tlawd am ei hir, ar ol chwysu a blino i ennill e olyw Grist megis yn dywodyd wrthit, moes fy hîr bechadur; dere attafi i gael dy gadw;Jac. 5.4.troedigaeth dy enaid i yw fy hîr i; a'i peth cyfiawn yn dy olwg di, yw ca­dw hir y gweithwr oddiwrtho? onid oes gwae wedi gyhoeddi yn erbyn y cyfryw? Gan hynny bechadur na chadw fy hir oddiwthif. Yr oedd Esay yn Pro­phwydo, y byddei i Grist yn gymmaint na throe pechaduriaid atto achwyn wrth ei dad fel hyn,

Esay 49 4.
Yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuli­ais
[Page]
fy nerth: er hynny mae fy marn gida [...]
Arglwydd, a'm gwaith gida 'm Duw.

Ac ar hyn, i gyssuro ei Fâb,Esay 6. mae 'r Tâd yn addaw iddo droedigaeth y cenhedloedd, pan na throe atto ond rhai ym-mysc yr Iddewon. Ni gallwn weld wrth hyn, pa fath hiraeth sydd yng halon yr Arglwydd Jesu am dychweliad a chadwediga­eth pechaduriaid.

Yn chweched ac yn ddiweddaf,6. Yr oedd i ga­lon e 'n toddi o'r tu fewn iddo, ac yr oedd e n wylo 'r dagrau hallton, waith fôd pechaduriaid yn caledi eu calonnau, trwy aros yn eu pechodau,Luc. 19. [...] a gwrthod dyfod atto i gael i cadw gantho.

Ac yn awr, Gan nad oes eisieu na gwllys na gallu yn ein jachawdwr Christ in cadw ni, ymrown ninne i ddyfod atto. Fel y mae ef yn Dduw y mae ef yn bresennol ym mhob man fel nad yw raid gofyn ble cawn ni gwrdd ag ef.Psal. 139 Galwn arno ef gan hynny yn ostyngedig, yn ein stafelloedd dirgel, yn y maesydd, ac yn y llannodd. Psal. 95.6. Mat. 6.6. Gen. 24.63. 1 Tim. 2.8. a gw­nawn fel hyn. 1. Cyfaddefwn ein pechodau o'i flaen ef, Luc. 15.21.Luc. 18.13 Hol. 14. [...]. [2. Cywylyddiwn oi plegid hwynt, Jer. 3.25. [3. Galerwn am danynt hwy, Jac. 4.9. [4. Fsieidiwn hwynt, a'n hunain o'u parthed hwynt, Ezek. 36.31. [5. Barnwn ein hunain yn annheilwng o'i ffafor a'i râs a deisyfwn faddeuant, Luc. 15.21. [6. Bwrwn ein hunain trwy ffydd arno, gan gredu ac ymddiried, y bydd [...]i Dduw'r Tad (er mwyn ei ddioddefaint a'i gyfiawn­der ef yn vnig, sef ei anwyl Fab.) 1. Faddeu i ni ein pechodau, Eph. 1.7. [2. Y bydd idd [...] n cyfrif ni'n gyfiawn, Rhuf. 5.1, 19. [3. Yn cym­meryd ni yn lle plant iddo hun, Jo. 1.12. [4. Bod [Page] mewn heddwch a ni Rhuf. 5.1. [5. Yn cadw ni rhag damnedigaeth, Rhuf. 8.1. [6. Ar y diwedd yn derbyn ny i'r nefoedd, ble bydd mwy o orphwysfa, llawenydd a gogoniant, nag y welodd llygad nag y glyw­odd clûst, nag y ddaeth i galon dyn i ddychymig. Mat. 25.34. 1 Cor. 6.9.Esay 55.7 Luc. 1.47, 75. [7. Ymrown pan delom ni felly atto ef, o lwyr fryd calon i fwrw ym­maith ein pechodau, mewn meddwl, gair a gwei­thred, ac i wasanaethu ef mewn cyfiawnder a sancteiddrwydd holl ddyddiau ein bywyd o hyn­ny allan. A gwybyddwn yn siccr oni ddawn ni yn y môdd a'r ffordd hyn (mewn rhyw râdd neu fesur ar y lleiaf) at Jesu Grist, ni fyddwn colledig pôb enaid o honom ni, yn gystal y cyfoethog a'r tlawd, yr ieuangc a'r hên, y gwyr a'r gwragedd, y dysge­dig a'r anniscedig, y pregethwyr a'r gwrandawyr, y boneddigion a'r cyffredyn, y Rheolwyr a'r rhai a reolyr; O herwydd nid oes dim derbyn wyneb gi­da Duw wrth farnu. 1 Pet. 1.17. Ac os colledig y fyddwn ni, Gwae ni yn geni erioed. Ond diolchwn i neb ond i ni 'n hunain os hynny fydd ein diwedd ni. Fel hyn y mae yr Arglwydd yn dywedyd,Hos. 13.9. O Israel, Tydi a'th ddinistriaist dy hun. Ewyllys yr Arglwydd yw i ni ddychwelyd a byw. Fel mai byw fi medd yr Arglwydd, Ezek. 33: 11. nid ymhoffaf ym marwolaeth yr annuwiol, ond troi o'r annuwiol oddi­wrth ei ffordd a byw: dychwelwch, dychwelwch oddi­wrth eich ffyrdd ddrygionus; canys ty Israel pa­ham y byddwch feirw?

Ac am danoch chwi y rhai ieuangc (sydd we­di tyfu fynu ar ol ymmadawiad Mr. Prichard) Bydded hyspys i chwi, os rhodio yn ffyrdd ddrwg eich Teide a wnewch, ac ymfodloni ynddynt, gan esgeuluso rhoi eich hunain i fynu i'r Ar­glwydd [Page] Jesu trwy edifeirwch, ffydd, a sancteidd­rwydd buchedd; Fe fydd i'r Duw cyfiawn ymwe­led ag anwiredd eich Tadau, arnoch chwi y plant, byd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth, o'r rhai a'i casant. Ac am hynny yn enw yr Arglwydd Jesu yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwi,

Edifarhewch a chredwch yr Efengyl. Mar. 1.15. Yr ydwyf yn galw Duw yn dyst (o flaen pa vn y gorfydd arnom ni ôll roi cyfrif rwy ddydd am ein holl feddyliau,Rhuf. 14.10, 12. geiriau a gweithredoedd) mai o gariad di-ragrith at eich eneidiau chwi y scrifennais hyn attoch; ac am hynny cymmer­wch y cwbwl mewn part neu ystyr da oddiwrth

Ewyllyssiwr da i'ch enei­diau chwi, S. H.

Llythyr at y Cymru a ddarllenant y llyfyr hwn.

Fy Anwyl Gidwladwyr,

YR vdwyf yn awr yn danfon trydydd ran o Waith Mr. Prichard o Llanddyfri ich mysc chwi, gan obeithio am yr vn rhyw fendith arno, ag y ganlynodd y ddau ran arall: ar ôl printio pa rai, fe ddyscodd llaweroedd ddarllain cym­raeg, ac y brynasant Destamentau a Biblau; ac felly fe gynyddodd gwybodaeth a duwioldeb yng Hymru. Fe ellyd casclu o'r tri llyfr y rhan fwy­af o Gwyddo­rion. Brifannau crefydd, gwedi hegluro felly, ag y dichon yr annysgedig eu deall hwynt. Peth canmoladwy ydyw, i Ddisgawdwyr ddarostwng yn [Page] eu hathrawiaeth a'u hymmadroddion (fel y gw­naeth yr Awdwr) i ddealldwriaeth y cyffredyn, ac nid llefaru a scrifennu yn y cymmylau; oblegid dyna 'r ffordd (trwy fendith Duw) os efengyl Christ a draethir, i droi pechaduriaid at Dduw, ac i adeiliadu y duwiol yn eu ffydd sanctaidd. Os traethir pethau Duw mewn geiriau ac mewn môdd, tu hwnt i synwyr a dealltwriaeth y bobl, ni bydd y Disgawdwyr a'u gwrandawyr a'u dar­llenwyr ond barbariaid y naill i'r llall, heb gael, yr vn, na gwybodaeth nag adeiliadaeth, na 'r lleill gysur yn y byd oddiwrth eu gweinidogaeth. O herwydd hyn gwell oedd gan Paul (er maint ei ddysc a'i ieithoedd) yn yr Eglwys lefaru pum gair fel y dyscei eraill nâ Deng mil. myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr. 1 Cor. 14.6, 9, 11, 12, 18, 19.

Dalwch sulw ar yr holl athrawiaethau iachus yng waith yr Awdwr, ond tu hwnt i ddim ar y rhai y ganlynant,

1. Fôd dyn mewn cyflwr o golledigaeth, nid yn vnig trwy ei bechodau gweithredol ei hun, ond he­fyd trwy bechod Adda; canys yr oeddem ni ôll yn ei lwynau ef yn pechu, pan bwyttaodd ef y ffrwyth gwaharddedig. Rhuf. 6.23. a'r 5.12, 19.

2. Nad yw dyn trwy ei waith ei hun (o herwydd bôd ei weithredoedd goreu ef yn ammherffaith) na thrwy waith vn creadur neu ddyn arall (megis Mair, Pedr, Paul, Dewi, Clement, &c.) yn abl ymddangos yn gyfiawn yng olwg Duw, ac felly haeddu bywyd tragwyddol: ond bôd cyfiawnhâd a iechydwriaeth i'w cael yn vnig (trwy ffydd) yn ein Prynwr Christ Jesu. Psal. 143.2. Gal. 2.16. Esay 64.6. Phil. 3.7, 8, 9, 12. Rhuf. 7.18, 21. Act. 4.12. Jo. 3.16.

3. Fôd y ffydd honno (trwy ba vn y mae 'r pechadur yn cymmeryd gafel ar Grist,Eph. 3.17. 1 Pet. 1.21. a thrwy ba vn y mae ef yn ymddiried yn Nuw, a caiff ef, ar gyfrif y iawn a roddodd ei Fâb Christ iddo (trwy off [...]wm ei hun ar y groes yn aberth o arogl peraidd dros becho­dau ei bobl) ac ar gyfrif ei gyfiawnder ef, faddeuant pechodau, cyfiawnhâd, heddwch Duw, bôd yn blentyn iddo, ymwared rhag damnedigaeth a bywyd tragwyddol yn y nefoedd) Fod y ffydd honno (meddaf i) nid yn ffydd farw heb weithredoedd da yn ei chanlyn hi, ond ei bôd hi a'r grasussau hyn gida hi,

Yn gynta, Rhuf. 1.8. ar 6.21. cywylydd, Luc. 7.44, 50. tristwch a galar am bechod, Rhuf. 7.15 casineb at bechod, Act. 15.9. Gal. 5, 24. gwir bwrpas i droi oddiwrth bechod, ac Rhuf. 8.10 ar 6.14. ymmadawiad a phôb pechod (ag ydys yn ei nabod) cyn belled, ag nad yw pechod yn teyrnasu yn yr enaid ble bo 'r ffydd honno.

Yn ail, gwir gariad at Dduw, yr hyn sydd yn ymddangos trwy ofal i gadw ei orchym­mynion ef, trwy fyw yn dduwiol, yn sobr ac yn gyfiawn. Luc. 7.50. ar 47. Joa. 14.15. ar 10.21. Tit. 2.11, 12. Gal. 5.6.

Yn drydydd, 2 Thes. 1.3 Cariad 1 Pet. 1.21, 22. diragrith at y sawl sydd yn Psal. 15.4 [...] ofni Duw, trwy ba vn yr ydys yn Psal. 16.3. ymhyfrydu ynddynt hwy, a Mat. 5.44, 45. Gal. 6.10. Jo. 10.27. chariad o dosturi tuag at bawb, da a drwg trwy ba vn yr ydys yn dymuno yn dda idd­ynt, ac yr ydys yn barod mewn rhyw fesur neu gilydd (yn ôl y gallu y roddodd Duw) i Mat. 25.35 hyd yr 41. cynnorthwyo hwynt yn eu blinderau a'u hadfyd. Nid oes lle y nawr i ymhe­laethu ac i agorid y scrythurau hyn. Gair i [Page] gall sydd ddigon. Ynghylch y wir ffydd fel hyn y mae 'r Awdwr yn dywedyd,

Ni bydd tàn heb wres lle bytho,
Ni bydd Dwr heb wlybrwydd yntho,
Ni bydd 'fallen dda heb fale,
Na bywiol ffydd heb fywiol ffrwythe.
Onid yw dy ffydd yn fywiol,
Yn dwyn gair a gweithred rasol,
Nid yw hon ond ffydd mewn enw,
Ffydd na ddichon byth dy gadw.

Ac eisieu bôd gan ddynion y fâth ffydd a hon, y mae ef ymmhellach yn dywedyd,

Prynodd Christ a gwaed ei galon
Yr holl fyd o'u poenau trymmion,
Llawer mîl o'r byd er hynny
Ant i vffern eisieu credu.

Craffwch a'r y pethau a ddywedyr yma ynghylch y wir ffydd, oblegid fôd llaweroedd yn tybied, fôd y ffydd gyffredyn sydd ganthynt (trwy ba vn y maent yn credu, fôd Duw, fôd Christ yn Fâb Duw, fa­rw o hono ef drosom ni, ac y ceir bywyd tragw­yddol trwyddo, &c.) yn ddigonol i iechydwriaeth, er nad oes gida hi nac edifeirwch, na gwellâd buchedd na gofal yn y byd i ryngu bodd Duw. Ond gwy­bydded y cyfryw rai yn hollol, nad ydynt ond twyllo eu heneidiau eu hun. Mae 'r Scrythur yn dangos yn eglwr, na wasanaetha mo'r ffydd hon­no i iechydwriaeth. Jac. 2.14, 19, 20, 26.

Nid ydwyf i ddim o farn yr Awdwr ynghylch rhyw bethau bychain yn ei waith ef; ond nid ydwyf yn ei weld e'n gymmwys i henwi hwynt yma; canys nid i fwrw ascwrn o ymrafel ym mysc pobl y danfonwyd allan y papyrau hyn; Mae [Page] gormodd o hynny (ysowaeth) eisioes. Am bri­fannau crefydd, yr ydwyf i yn myned law yn llaw, yn gyttun gida 'r Awdwr. Ond ble mae ef yn cynghori 'r claf i ddanfon i geisio Gweini­dog. ffeirad iw gynghori ac i weddio trosto, mi ddeisyfwn arno ddanfon i geisio y sawl sydd ddeallus ac yn ofni Duw. Os dwlyn dall annuwiol y ddaw iw gyng­hori ef, cofied beth mae Christ yn ddywedyd; Os y dall y dywys y dall y ddau y syrthiant yn y ffôs. Mat. 15.14. Dihar. 15.8. a meddylied fôd aberth yr annuwiol yn ffiaidd gan yr Arglwydd: ond gweddi 'r vniawn sydd hôff gan­ddo. Ac yr ydwyf i yn tybied mewn prussurdeb, pyt fae Mr Prichard yn y byd, a dodei fe ei law wrth y peth hyn ag ydwyf i yn ei gynghori y'r clâf; canys fel hyn y dywedodd ef mewn Pre­geth yn Llanedi

Dodi 'r dall ar ben disgwylfa,
Dodi 'r dwl i ddyscu tyrfa,
Dodi 'r diddysg wrth y
Stern llong. wrth llyw yr Eglwys iw rheoli.
llyw,
Dodiad dyn, nid dodiad Duw.

O bydd neb o honoch chwy a chwant prynu yr ymarfer o dduwioldeb, y llwybyr hyffordd i'r nefoedd, Catechism Mr Perkins, a'i Agoriad byrr ef ar we­ddi'r Arglwydd, ac Hanes y ffydd neu 'r ffydd ddi­ffuant yn gymraeg, ymofynnwch yn y shioppe ble 'r ydys yn gwerthu llyfrau, am danynt hwy: Ac o bydd y Marsiandwyr yn gweled, fôd tybygoli­aeth y gwerthir bagad o'r llyfrau hynny, odid na bydd i rai o honynt hwy osod allan eu harian, tu­ag at eu printio hwynt. Ac am y bibl cymraeg, hi fydd hir cyn printier ef, oni fydd i wyr arianog osod allan fil o bynne tuag at ei brintio; Canys, Medd Gwerthwyr llyfrau yn Llyndain, ni ddodwn ni mo'n harian i maes i'r gwaith hwn, o herwydd fe fydd [Page] printiad neu Impressiwn o chwech mîl o fiblau cym­raeg vgain mlynedd, neu bedair blynedd ar ddeg yn eu gwerthu (ble 'r ydym ni 'n gwerthu ynghylch deng mil ar hugain o Fiblau saesneg bob blwyddyn) ac ni allwn ni sy'n byw wrth ein crefftau aros cyd, i gael ein harian i mewn. Ac am hynny fyng hid­wladwyr deisyfwch ar y Gwyr mawrion, ar yr Es­cobion, ac ar y Gweinidogion ar Marsiandwyr ari­anog, i ddodi eu harian allan (od oes gida nhwy ddim cariad at Grist ac eneidiau pobl) tuag-at y gwaith da hwn, fel na bo i chwi gael eich dife­thu o eisieu gwybodaeth, Hos. 4.6.

Mi gynghorwn i'r sawl sydd heb Mae e iw gael ar werth yn Llyndain gan Philip Chetwind yn heol Al­denforte, yng [...]aer­fyrddyn gan Mr. Goff. catechism Escob Vsh [...]r i brynu ef, mae llawer o bethau da ynddo; er fôd llythyr chwerw chwerw o'i flaen ef, ym mha vn, y mae 'r cyfieithudd yn taflu dom yn ddiachos yn wyneb rhai dynion da, yn gystal ac ar achos yn wyneb y drwg. Ond cerydded yr Arglwydd ef am hynny.

Od oes beiau yn y print gwellhewch hynny ach pen scrifennu; a derbyniwch hyn mewn cariad oddiwrth,

Eich Gwasanaethwr yn yr Arglwydd, S.H.

Fe werthir y llyfr hwn a sail grefydd, gan Mr. Goff yng-haer-fyrddyn. Mr. Vertue yn Aberga­ [...]nny. Mr. Mathew Jones yn Abertawe. Mr. Tho­ [...] Joseph ym mhen y bont ar ogwr.

Genedigaeth, bywyd a marwolaeth Christ Jesu ein Jachawdwr.

POb rhyw Gristion ag sy'n caru
Nabod Christ y fu'n ei brynu,
Clywch fi'n adrodd genedigaeth
Prynwr Crêd, a'i brydd farwolaeth.
Y Gair Mâb Duw oedd o'r dechreuad,
Jo. 1.1, 3, 10. Dihar 8.22 &c. Jo. 5.7 Phil. [...]
Cyn bôd nef na daer na dailad,
Yn ail berson o'r glân Drindod;
'Rhwn y wnaeth y byd mor barod.
Yr oedd e'n Arglwydd cuwch a'i Dâd,
Yn y nefoedd yn llawn o râd,
Yn rhioli 'r holl Angelion,
Cyn i ddwad at blant dynion.
Roedd e'n Dduw galluog grymmus,
Rhuf. 9.5
Roedd e'n Arglwydd anrhydeddus,
Roedd e'n fr [...]nin mawr ei râd,
Roedd e 'mhôp pwynt cuwch a'i Dâd,
Pan daeth o'r nef i brynu dyn,
Phil. Joh. Heb Ma [...]
Fe gymmerth arno 'n lliw a'n llûn;
A'n gwir gnawd o Fair ei fam,
Rhon oedd
Mat [...].18.
wyryf bûr, ddinam.
Hi feichiogodd arno yn rhyfedd,
O rad yr ysbryd glân a'i rinwedd,
Heb fôd iddi wnel na nabod
Gwr erioed, [...] bôd yn briod.
[...]
[...]
Ac felly 'r aeth Mab Duw yn ddyn,
O naturiaeth Mair ei hûn,
Luc. 1.35.
Heb ei halogi a dim pechod,
Yn y grôth trwy râd y Drindod.
Dwy naturiaeth amlwg
Ydynt. Rhuf. 1.3, 4.
yn,
Sydd i'n prynwr Duw a dyn:
Vn o'i Dâd, a'r llall o'i fam,
Dwy whahanol, dwy ddinam.
Mâb i Dduw, a mâb i ddyn;
Heb vn person iddo ond vn:
Mâb i ddyn, o fam heb dâd,
Mâb Duw mawr heb fam y câd
Cafwyd.
.
O ran ei ddyndod mae 'n fy mryd,
I ddangos iwch ar hyn o bryd,
Y dull a'r môdd y ganed Iesu,
Pan y daeth o'r nêf i'n prynu.
Pan daeth Mair i fethlem
Carneidd. Luc. 2.
hygar,
I dalu trêth i'r Emprwr
Brenin.
Cesar,
Daeth ei hamser hi Escori,
Fel y traetha 'r fengyl inni.
Ond waith cymmaint oedd y Cwmpni,
Oedd yn gorwedd ym-mhôb Ostri,
Luc. 2.7.
F'orfu ar Fair yn fawr ei gofal,
Fynd i escori hwnt i'r stabal.
Yno ym-mhlith y mûd Nifeilod,
Heb ddim
Gwebdra.
stade Duw 'n i wybod,
Fe escorodd Mair wen ddiddig,
Ar ein prynwr ddydd Nadolig.
Gwedi geni 'n Prynwr hyfryd,
Heb fôd arni boen na gofyd,
Yn dra llawen hi a rwyme
Brenin nefoedd mewn cadache.
Gwedi rwymo, hi rhoi orwedd,
Yn y preseb yn ddiryfedd,
Ac y fydde bodlon ddigon,
I bôb peth oedd Duw 'n i ddanfon.
Yno cyn i'r wawr gael torri,
Fe ddanfonei Dduw gwmpeini
O fugeiliaid, mewn gwiriondeb,
Luc. 2.
I addoli e yn y preseb;
'Rhai ddanfonwyd gan Angelion,
Yn dra llawen iawn eu calon,
I dre Fethlem o wir bwrpas,
I gael gweled y Messias
Yr eneiniog Christ.
.
Ac i
Gyhoeddu.
Faneg i bawb hefyd,
Fel y dwetse 'r Angel hyfryd,
Mae fe oedd Christ y gwir Geidwad,
'Rhwn addawsid o'r dechreuad.
Ac y byddei fawr lawenydd,
I'r hôll fyd o'r chweddel newydd,
O ran geni 'r borêu hwnnw,
Y Jachawdwr y ddoy 'n cadw.
Yno y dawe lû o Angelion,
Ag y ganen
Caniadau.
hymnau mwynion,
I'r Tâd nefol o'r vchelder,
Am roi i ddynion y faeth fwynder.
Ar hyn fe'm-ddangosse Seren,
Rymmus, rasol, yn yr wybren;
'Rhon y ddywedei a'i goleuni,
Fôd y Prynwr gwedi eni.
Yno y dawe hên wyr doethion,
O'r Dwyrain-dir yn dra vnion,
Mat. 3.
I Judea, wrth y Seren,
I ymof yn Christ yn llawen.
'Rhai y geisient gael
wybodaeth
copinod,
Gan y Brenin creulon Herod,
Ble genassid Christ y cyfion,
Brenin grasol yr Iddewon.
Yno y dywede 'r ffeiriaid mwya,
Mae ym-Methlem trêf o Juda,
Y suwr enid y Messias,
Mich. 5.2.
Medde 'r Prophwyd hên Micheas.
Pan y clowe 'r doethion hyn,
Daethont yn faith ac yn dynn,
I dre Fethlem wrth y Seren,
Dan ymofyn Christ yn llawen.
Ond pan daethont hwy yn agos,
Mat. 2.9.
I'r ty, lle 'roedd Christ yn aros,
Fe ddiscynne 'r Seren dlws
Teg.
,
Ac arhosse vwch ben y drws.
Yno, yr aent i mewn yn llawen,
Lle roedd Mair, a Christ yn fachgen,
Ac y gwympent ar eu daulin,
I addoli 'r grasol frenin.
Rhoddent hefyd
Rhagorol.
rial roddion,
Y berthyne' i Grist yn
Cyttûn.
gysson,
Aur, a ffrancwmsens o'r gore,
A Myrh gwerthfawr, teg ei 'rogle.
Mat. 2.
Herod ynte pan y clywas,
Eni Christ y gwir Fessias,
Efe fynnei lâdd, e'n blentyn
Bâch, yn sugno yn ei rwymyn.
Os fe helodd lû o fwytswyr
Gwaedlyd, creulon, dig difesur,
I lâdd yr hôll blant bâch o doyru
Cyn y methe ladd y Jesu.
Hwyntau laddsont yr hôll fechgin,
Oedd ym Methlem etto 'n egin,
Fach a mawr dan dwy-flwydd oedran,
A mab Herod gas ei hunan.
Yno y gorfu ar Fair fyned,
Genol nôs i ddechre cerdded,
Tua 'r Aipht a'i phlentyn ganthi,
Lle archasai 'r Angel iddi.
Yno y bu Christ yn aros,
Gida 'r Sibswns lawer wythnos,
Nes cael clywed marw Herod,
Oedd yn ceisio 'i ladd heb wybod.
Yn ôl marw Herod greulon,
Fe ddoe Grist i wlad Iddewon,
Ac y fyddei ostyngedig
I Fair ac i Ioseph ddiddig.
Luc. 2.51.
Pan yr oedd e'n ddeuddeg oed,
Luc. 2.42, 46, 47.
Peth rhyfedda y fu erioed,
Efe
Ymressym­mau.
bwngcie a Doctoriaid,
Nes bae 'r doethion arno 'n synniaid
Rhyfeddu.
.
Yno yn ddeg ar hugein oedran,
Pan bedyddiwyd ef gan Ioan,
Fe ddescynnei arno yr ysbryd,
Luc. 3.
Ar lûn clommen
C [...]r [...]eidd.
hygar hyfryd.
Ac fe lefe Dduw ei hunan,
Fri o'r nef lle clywe 'r
C [...]mp [...].
cumpan,
Hwn yw f' vnig fab aberthwyd,
Yndo ef ym llwyr foddlonwyd.
Gwedi 'r ysbryd ddescyn arno,
Fe ddoe 'r Cythrael ynte i demptio,
Ond er maint oedd cyrch y cythrael,
Mat. 4.
Rhows Christ iddo
Cu [...]p.
ffwyl ddiogel.
Mat. 4.23.
Yn ol hyn fe ai i bregethu,
Yr efengyl wen o doytu,
Ac i ddechre gwneuthur gwrthiau,
Ym-mhob tir a ffordd y cerddau.
Joan 2.
Fe drows y dwr yn gynta 'n win,
Fe lwyr Jachaws pob clefyd blin,
Mat. 11.5.
Ac fe wnaeth i'r deillion weled,
Ac i'r byddar clyst-drwn glywed.
Ynte rodiodd ar y mor,
Gan ostegu ei
Gormodedd.
rwyf a'i rôr
Swn.
,
Ac fe wnaeth i'r storom wynt,
Mar. 6.
Beidio a chwythu yn ei hynt.
I ddangos ini, i fod yn Dduw,
Fe gododd tri o farw i fyw,
Luc. 7. & 8. Jo. 11.
Merch i Jairus, mab i'r weddw,
Lazar gwedi drewi a marw.
Mat. 14.
Porthodd pum mil a phum torth,
Mawr o'i bwer, da o'i borth,
Luc. 5.
Llanwodd ddwy long o'r pysc mwya,
Pan y methe ar bawb eu dala.
Mat. 4.24.
Bwriodd lawer cythrael allan,
O'r rhai cleifion, lloerig, egwan,
Luc. 22.
A chlûst Malchus gwedi dorri,
Y Jachaws ef toc
Yn ebraydd
heb eli.
Llawer gwithie gida hyn,
Y wnaeth ein Prynwr Jesu gwyn,
Cyn i Suddas frwnt i werthu,
I'r Jddewon, a'i fradychu.
1 Pet. 2.22. Jo. 8.46.
Ni chaed twyll erioed o'i enau,
Nid oedd vn dyn a'i hargoeddau,
'Roedd e'n ddiddrwg fel yr oen,
Yn fach ei barch, yn fawr ei boen.
Pan daeth yr awr oedd Duw 'n ei osod
I aberthu e dros ein pechod,
Fe ddoe Suddas ac a'i gwerthe,
I'r Iddewon am geinioge.
Ni chas ddim ond hanner Coron,
Mat. 26.15.
Am i roi e'n llaw 'r Jddewon,
I fynd ag e'n rhwym at Gaiphas,
Gwedi holi yn dôst gan Annas.
Yn y man y daeth at Gaiphas,
Fe ddoe tystion ffalst o'i gwmpas,
Ac y fynnent brwfio arno,
Llawer peth nas gwydde oddiwrtho.
Mat. 26.
Caiphas yntef a'i
Holan.
hexamnau,
Yn galed iawn ar fil o bethau,
Ac a'i tyngau trwy 'r Duw byw,
Mat. 26.63.
I addef o'r doedd e'n fab Duw.
Ac am i'r Jesu adde 'n
Eglur.
glur,
Mae fe oedd Christ mab Duw yn wir,
Mat. 26.
Braidd na fynnei pawb i lethu,
A'i labyddio cyn ei farnu.
Yno y poerwyd yn ei wyneb,
Bwbach-dallwyd mewn ffolineb,
Mar. 14.6 [...]
Ffystwyd ei ben a gwielyn,
A chernodiwyd yn ysscymmyn.
Greul [...]n.
Ar y boreu yr holl Jddewon,
Mar. 15.
A'r Offeiriaid, a'r gwyr mawrion,
Y ddoent a Christ gwedi glwmmu,
At Bilatus idd i farnu.
Pilat gwedi ei holi yn galed,
Hêb gael yndo fai na niwed,
Dan lanhau a golchi ei ddwylo,
Mat. 17.
Y rows barn marwolaeth arno.
Cynta peth y farnei Pilat,
Oedd i chwippio heb ei ddillad,
Yn ôl hynny i groes-hoelio,
Ar y crog-pren nes
Nes marw.
departo.
Felly chwippiwyd Christ yn dôst,
O hewl i hewl, o bôst i bôst:
Ac ni adewid modfedd arno,
Oi ben i draed heb ei
Fslangellu.
scwrgio
Gwedyn dewe filwyr Pilad,
Ac hwy
Dihatru.
stripient Christ o'i ddillad,
Ac a'i gwiscent e'n cyn frafed,
Mewn hen fantell gôch o scarled.
Yn ol hyn fe blethe rhain,
Anfad Goron fawr o ddrain,
Ac a'i gwiscent ar arleisie
Christ, nes rhedei waed yn bibe.
Rhoddent hefyd yn ei Law
Gorsen, dan ymgrymmu draw,
A'i watwaru a geiriau mwynion,
Dydd-dawch Brenin yr Iddewon.
Gwedi diosc
Dihatru.
Christ drachefen,
Jo. 19.17.
Rhoesont y groes ar ei gefen,
Iddo i llysco i'r Benglogfa,
Lle croeshoeliwyd ar ei hycha.
Pan yr aethont iw groes-hoelio,
Tyllwd eu draed a'i ddwy ddwylo,
Ac hwy hoeliwyd yn filinig,
A thair hoel o haiarn ffyrnig.
Er maint oedd ei boen a'i loesau,
Etto er hyn ni gore o'i enau,
Act. 8.32.
Ac ni yngane wrth y Poenwr,
Mwy na'r Ddafad dan law 'r Cneifi [...].
Ond fe offrwmme ar y groes
[...]an oedd chwerwa a blina 'r loes,
Ei enaid gwyn a'i waed i gyd,
Eph. 5.2.
Yn aberth dros bechodau 'r byd,
Ac orchmynne ei enaid gwirion,
Luc. 23.34, 46.
Yn llaw ei Dad y barnwr cyfion,
Dan ymhwedd arno am fadde,
I'r Iddewon a'u croes-hoilie.
Felly y bu farw'r Jesu,
Ar y pren croes wrth ein prynu,
Ac y rhows ef waed ei galon,
Dros eneidiau 'r gwir Gristnogion.
Felly y rhows Duw ei Anwylyd,
I groes-hoelio trwy fawr beryd,
Er mwyn p [...]ynu ein eneidiau,
Fe waredir y sawl y grede yntho, ac y ddychwelant atto a'u holl galonna [...] od­diw i h [...]en pe­chodau 'i was­naethu ef mewn cyfiawn­der a Sanct­eiddrwydd o hynny allan holl ddyddiau eu byywyd. Luc 1 74, 7 [...]. Jo. 3.36 [...]. 11.23. Esay 55.7.
A'u gwaredu ou' hôll boenau.
Rhoddwn ninnau foliant iddo,
Ddydd a nôs heb ddim deffygio,
Am ei gar [...]ad a'i drugaredd,
Yn prynu enaid dyn mor rhyfedd.
Diolch mawr a moliant hefyd,
Y fo i'r Tad, a'r M [...]b, a'r ysbryd,
Am brynu enaid dyn mor britted
Ai ddwyn i'r nêf o côst gathiwed.

Cyngor i wr ieuangc.

F' Anwyl Blentyn cês dy lythyr
Serchog, Sanctaid, ll [...]vn o Synwyr,
Sy'n dymyno cyngor ffyddlon,
Ith gyfrwyddo fyw fel Cristion.
Argol Gras yw'th weld cyn Janged,
Mor fawr dy chwant, mor brydd dy syched,
I Nabod Duw, i ddyscu 'r Scrythur,
I ddofi 'r Cnawd a
Drwg chwant.
nwyfiant Nattur.
I gyflawnu dy ddymyniad,
Derbyn hyn o gyngor difrad,
I gyfrwyddo dy holl fuchedd,
O'th fabolaeth hyd dy ddiwedd.
Preg. 12.1.
Yn dy ieungctid F'enaid cofia,
Wir wasnaethu Duw gorucha,
Ac addoli dy Greawdwr,
Cyn i wendid waethu 'th gyflwr.
Dechre ddyscu trech yn blentyn,
Nabod Duw a'th Brynwr pur-wyn,
Hoffi ei Air a chadw ei gyfraith,
Dihar. 22.6.
Hynny a'th wna yn hen-wr perffaith.
Tempra 'th lester tra fo'n newydd,
A'r gwir
Gwin.
win o dduwiol grefydd,
Fe arogla hyd dy ddiwedd,
A gwynt peraidd dy lan fuchedd.
Planna yn gynnar yn dy galon,
Had pob gras a'th wnel yn Gristion,
Rhag i'r gelyn blannu 'r efrau,
Eisie i hau a had Rhinweddau.
Cais flodeuo yn dra chynnar,
Gida 'r
Gwanwyn.
Spring fel Almond hygar:
Y pren na ddwcco blodau'r gwanwyn,
Trwy 'r cynhaiaf fe fydd difwyn.
Mae Duw 'n gofyn gan ei dylwy [...]h,
O flaen pob peth gael y blaen ffrwyth,
Ac ni fyn y Duw goruchaf,
Gan ei blant na'r Ail na'r olaf.
Rho gan hynny flaen dy gryfdwr,
I wasnaethu dy Greawdwr,
Ac na ddyro trech yn blentyn,
Flaen ffrwyth d'oes i wasnaethu 'r gelyn
Drwg it roddi 'r Gwin i Satan,
A rhoi i Grist y gwaddod aflan,
Rhoi dy nerth i
ryngu bodd.
blessio 'r drwg [...]r
A rhoi 'th wendid i'th Greawdwr.
Melldigedig yw'r dyn ynfyd,
A ro i'r gelyn rym ei fywyd,
Ac na rotho i brynwr diddig,
Ond yr henaint gwann methedig.
Gwachel arfer ddrwg yn blentyn,
Arfer ddrwg a'th nyrdda 'n Scymmyn,
Ac a dry yn ail naturiaeth,
Nes yr elech beunydd waeth waeth.
Os Arferu bechu yn blentyn,
A dibrisio Duw yn llengcyn,
Yn hen nid haws it wella hyn,
Jer. 13.23.
Nag i'r
Dynio [...] duon.
Moyrys fynd yn wyn.
Rho gan hynny gorph ac ysbryd,
Yn dy ieungctid yn dra hyfryd,
I wasnaethu dy Greawdwr,
Ac i ymladd a'th wrthnebwr.
Megis Daniel trech yn llengcyn,
Dan. 1.
Gwrthod win a chwrw melyn,
Ac na ro' dy fryd ar foethau,
Ond ar nabod Duw a'i ddeddfau.
Disc fel Samuel trech yn fachgen,
Sefyll o flaen Duw yn llawen,
Ac ŷmwrando o Air y bywyd,
Beth y ddywetto 'r Arglwydd wrthyd.
[...]. 22.1, 2.
Fel Iosias yn llangc bychan,
Rhodia yn vnion o wyth allan,
A rho'th fryd ar gadw 'r gyfraith,
Ofni Duw, a byw yn berffaith.
Dysc y Scrythur lan o'th febyd,
2 Tim. 3.15
Megis Timoth yn dra pharffid,
Honno'th wna di 'n ddoeth anianol,
Yn grystnogaidd ac yn dduwiol.
Luc. 4.16. Luc. 2.
Dos fel Christ bob Sul i'r Eglwys,
Gida'th Dad a'th Fam a'th Fagwys,
Ac o ddeuddeg oedran Fenaid,
Dechre ymddiddan a'r Doctoriaid.
Gwrando 'r 'fengyl, Gwrando 'r gyfraith,
Dysc bob vn o'r ddau yn berffaith,
A chais fyw yn gynnil cynnil,
Yn ol cyfraith Duw a'i fengyl.
Mewn tywyllwch 'rwyti 'n rhodio,
Psal. 119.105.
Cymmer Lantern Duw 'th oleuo,
Heb oleuni 'r 'Scrythur hyfryd,
Nid air byth i dir y bywyd.
Er bod Duw yn y nefoedd ucha,
Mae yn ei Air a thi 'n chwedleua,
Ac yn dangos ei holl 'wllys,
Yn y Scrythur itti yn hyspys.
Jo. 5.39.
Edrych dithe yn y Scrythur,
Beth a fyn dy Dduw it wneuthur,
Gwna beth bynnag fo'n orchymyn,
Ac na fedla fo e'n wrafyn.
Rhuf. 6.23. Deut. 28.15.
Gwachel dorri 'r Pwnccie lleiaf,
O holl gyfraith Duw goruchaf,
Y mae 'r lleia 'n haeddu Angeu,
Melldith Duw, a
Tragywy­ddol.
didrangc boeneu.
Fe fyn Duw y Barnwr cyfion,
Ezek. [...]
Am bob pechod y wnel dynion,
Naill ai Angeu 'r dyn a becho,
Neu Angeu Christ yn daliad drosto.
Ac lle pechaist fil o weithe.
Yn erbyn Duw nes haeddu ange,
Edifara am bob pechod,
A chais bardwn gan y Drindod.
Act. 3.19.
Adde 'th Bechod gar bron Duw,
fawr a bychan o bob rhyw,
Dihar. 28.13
Ac 'mofydia am dy wegi,
Nes maddeuo 'r Arglwydd itti.
Edifara am dy wendid,
A'th holl
Drwg chwantau. Luc. 13.3.
nwyfiant yn dy ieungctid,
Oni wylu 'r dwr yn heli,
Duw a'th farna am y rheini.
Ni chas Ephraim nes cwilyddio,
Ni chas Dafydd nes ochneidio,
Jer. 31.19, 20. Psal. 32.5.
Fadde nwyfiant ieungctid iddyn,
Nis cei dithe nes i ganlyn.
Gwachel oedi hyd y foru,
Rhag it farw heno wrth gyscu,
Jac. 4.14.
Ac i'r Angeu glas dy lysco,
I'r farn yn llangc, cyn
Ymbaratoi.
ymgweirio.
Mae yn vffern fil o filiodd,
O wyr Ifaingc y
Afwria­dodd.
bwrpassodd,
Yn eu henaint brydd ddifaru,
Heb gael arfod wneuthur felly.
Edifara 'nawr gan hynny,
Ni wyis pwy a fydd y foru,
Cymmer Barchell tra cyniccer,
Rhag nas caffech pan y ceisier.
Ac lle 'rwyti 'n pechu beunydd,
Edifara bob diwedydd,
Rhag i'r Dwr sy'n
[...] [...]yfod i mewn.
sio 'n sceler,
Ecisie ei
Ddispyddu.
blwmpo soddi 'r llester.
Gwedi gwir ddifaru vn-waith,
Gwachel nyrddo 'th draed yr eil-waith,
2 Pet. 2.22.
Na thro gida 'r hwch i'r dommen
A'r ci i fwytta 'th hwd drachefen.
Eph. 4.22, 23, 24. 1 Pet. 1.14▪ 15, 17.
Ond cais ddilyn buchedd newydd,
Trwy Sancteiddrwydd a gwir grefydd,
A chall dreulio 'th einioes fychan,
Mewn duwiolder prydd ac ofan.
Dod dasg arnad nos a boreu,
Foli Duw ar ben dy linieu,
Psal. 55.17.
Nad ddiwarnod fyned drosod,
Heb addoli 'r sanctaidd Drindod.
Ac i'th helpu fynd yn dduwiol,
Psa. 19.7, 8. Rhuf. 8.13, 14.
I orchfygu 'nwyfiant cnawdol,
Cymmer gyfraith Dduw i'th ddysgu,
A 'i lan ysb [...]yd i'th gyfnerthu.
Cyfraith Dduw sydd daran rymmus,
I droi'r enaid cyfeiliornus,
Psal. 119.9, 104.
Ac i roddi dysg a deall,
I'r rhai Jfaingc annoeth angall.
Gwna beth archo 'r gyfraith itti,
Gwrando 'r cyngor y foi 'n roddi,
Psal. 119.99, 100.
Os dilynu 'r gyfraith gysion,
Hi'th wna 'n ddoethach na'th Athrawon.
Cadw afel siccir yndi,
Plyg dy warr ymostwng iddi,
Hi ry ras a pharch a phwer,
Psal. 19.11.
O'i chadw hi mae gwahar lawer.
O'r arferu fyw yn berffaith,
Nawr yn llangc yn ol y gyfraith,
Fe fydd hawdd trwy fawr lawenydd,
It fyw [...]n sanctaidd yn dragywydd.
Anrhydedda Dduw dy dadau,
1 Sam. 2.30.
Duw a'th anrhydedda dithau,
O dirmygu di ei wasnaethu,
Fe ddirmyga dy ddiwallu.
Os gwasnaethu Dduw yn blentyn,
Duw 'th wasnaetha dithe yn hen-ddyn,
Ac a bair i'r brain dy borthi,
1 Bren. 17.6
Cyn bo arnad faw [...] galedi.
Ni'th ddanfonwyd i'r byd ymma,
I wasnaethu 'r byd na'r bola:
Ond i wasnaethu Duw yn weddaidd,
Esay 43.7.
Fel y gwna 'r Angelion Sanctaidd.
Pan y codech gynta o'th wely,
Psa. 139.18
Cofia Dduw a chwymp i wasnaethu,
Ac na ddos o'th stafell allan,
Nes ei addoli â pharch ac ofan.
Er Maint a fo dy fusnesson
Achosion.
,
A'th
Cofidiau.
glamwri, a'th orchwylion,
Na ddod law ar un o'r rheita,
Nes addoli Duw yn gynta,
Ni bydd llwyddiant, ni bydd llonydd,
Ier. 10.15.
Ni bydd comffordd, na llawenydd,
Lle bo trafferth o bob rh [...]w,
Heb ddim pris am foli Duw.
Er bod busnes fawr gan Ddaniel,
Dan. 6.10.
Yn y
Llys.
cwrr dan Frenin Babel,
Tair gwaith beunydd y gweddie,
Yn ei stafell ar ei linie.
Pan yr elech o'r drws allan,
At vn gorchwyl fawr na bychan,
Cais gan Dduw dy brydd fendithio,
A rhoi rhad ar waith dy ddwylo.
Fel y llwyddodd Duw orchwylion,
Gen. 39.3. Dan. 6.3.
Joseph gynt a Daniel dirion,
Felly llwydda d'orchwyl dithe,
Os gweddii arno 'n ddie.
Ple bynna bech, beth bynna wnelech,
Ai da, ai drwg, y mann y mynnech,
Psal. 139.7. Jer. 16.17.
Duw mhob man sy'n disgwyl arnad,
Gwachel bechu yng-wydd ei lygad.
Gwna i eraill bob daioni,
Mat. 7.12.
Y ddymynyd wneuthur itti,
Na ro i arall waeth fesurau
Nag a fynit roi i tithau.
Na wna wei [...]hred er dy gyffro,
Na bo Duw yn
Yn rhoi rhydd-did.
warant iddo,
Ac na allech yn ddi-wawd,
Gyfri am dano ar ddydd
Barn.
brawd.
Gwna 'r Duw byw yn wir Dduw itti,
Ac yn
Ofalus.
garcys cais i addoli,
Galw arno, a molianna,
Psal. 34.10.
Felly yn wastad fe'th ddiwalla.
Gwachel gymryd ar vn amser,
Enw 'r Arglwydd mawr yn ofer;
Cans nid gwirion gantho hwnnw,
Gam arfero ei sanctaidd enw.
Treulia 'r Sabboth ôll yn llwyr,
Mewn sancteiddrwydd fore a hwyr,
Ac na ddoro ran na chyfran,
O ddydd Duw i
Ryngu bodd.
blessio Satan.
Anrhydedda dy Rieni,
Parcha,
Llawenhd.
llonna, swccra rheini,
Felly hestyn Duw dy ddyddie
Ac y parcha d'eppil dithe.
Gwachel gytcam ddigalonni,
Na rhoi ammarch i'th Rieni,
Od [...] gwelod diwedd dedwydd,
Dihar. 16.18 Dih. 30.17.
I Ferch falch neu fâb anvfydd.
Gwachel rhag godineb ffiaidd,
Cadw'th gorph yn lester sanctaidd,
1 Thess. 4.3, 4. 1 Cor. 6.15.
Ac na wna er golud Rhufain,
Aelod Christ yn Aelod puttain.
Gorwedd gida'th wraig dy hûn,
Na chais arall wrth dy
Trachwant
wyn,
Ac na chytcam wneuthur Temel,
Ysbryd Duw, yn wâl i'r cythrel.
1 Cor. 6.19. Esay 28.1, 7, 8. Dihar. 23.29, &c. Mar. 22.
Er mwyn Iesu gwachel feddwdod,
Gwaeth yw hwn nag vn rhyw bechod,
Mae 'n troi dyn i gyflwr cythrel,
Vgain gwaeth nag vn anifel.
Câr a'th galon bôb rhyw ddyn,
Fel y carech di dy hûn:
Ac na wna i vn dyn niwed,
Ar air, meddwl nac ar weithred.
Gwna i bôb dyn ore ac allech,
Gal. 6.10
Gwna yn ffyddlon 'r hyn a wnelech,
Ond na chytcam er mwyn vn dyn,
Wneuthur dim a fo Duw 'n
Yn gwa hardd. Deut. 5. [...]
wrafyn.
Gâd i Gyfraith Dduw 'th reoli,
Ym-mhôb gorchwyl y fo itti,
Nid oes vn rhyw orchwyl perffaith,
Ond yr vn sy'n ôl y gyfraith.
Cofia f' enaid nad oes genyd,
Ddydd
Siccr.
certennol ar dy fywyd,
Treulia bob dydd mor ddigamwedd,
A pha bae ef ddydd dy ddiwedd.
Cofia 'r Nôs dy waith y dydd,
Lle gwnaethost gam, gwna jawn yn brydd,
O digiaist Dduw cais
Maddeuant
bardwn gantho,
Os cefaist râs rhô foliant iddo.

Myfyrdod Foreuol.

MEddwl fal y gallse Satan,
Yn dy gwsc dy ladd heb yngan,
A'th ddwyn i'r farn yn amharod,
Oni
[...]aseu.
basse i Grist dy warchod.
Meddwl fal y gallse 'r Gelyn,
Oni basse i Grist dy amddiffyn,
Ladd dy blant, a dwyn dy gyfoeth,
Lloscy 'th dy, a'th flino boenoeth.
Cofia fal y gallse 'th daro,
Ag ynfydrwydd nes gwall-bwyllo,
Fal na allassydd ddim or cyscu,
Oni basse i Grist ei nadu.
Bydd gan hynny dra diolchgar,
I'th wir Geidwad am ei ffafar,
Yn dy gadw mewn esmwythder,
Rhag y Gelyn yn ddibryder.

Diolch am amddiffyniad ac esmwythder.

O Fyng Heidwad, o fy Mugel,
Rhwn am cedw [...]st yn dy gafel,
Neithwr rhag i'r [...],
Rwi o'm calon i'th glo [...].
Dan dy adain Christ di'm cedwaist,
Yn dy fraiche di am cofleidiaist,
Rhoddaist imi brydd esmwythder,
Rwi 'n ddiolchgar am dy fwynder.
Nedaist Satan im difethu,
Nedaist ddynion im gorthrymmu,
Nedaist dan a gwynt fy speilio,
Nac anhunedd im dyhuno.
Bendigedig a fo d'enw,
Christ fyng Heidwad am fyng hadw,
A gogoniant itti rodder,
Am roi imi 'r faeth esmwythder. Amen.

Mor enbydus yw cyscu mewn Esmwythder y maes o ffafar Duw.

MWy yw
enb [...]
perig dyn sy'n cyscu,
Yn ei wely heb
an [...]
nawdd Jesu,
Nag oedd perig Daniel hynod,
Gynt wrth gyscu rhwng y llewod.
Y mae'r Scrythur yn manegi,
Fôd y Diawl yn troi o bobtu,
Ddydd r nôs yn ceisio llarpio,
Megis llew pwy bynnag allo.
Sicc [...]
Pwy sy'n rhwystro 'r llew i'n llyngcu,
Ond ein ceidwad mawr Christ Jesu,
Psal. 121.4.
'Rhwn sydd nos a dydd heb heppian,
Yn cadw ei braidd rhag rhythreu Satan.
O gan hynny bydd ddiolchgar,
I'th wir Geidwad am ei ffafar,
Yn dy gadw mor ddibryder,
Rhag y llew mewn mawr esmwythder.
Pa bae Iddew yn dy warchod,
Tra 'iti yn cyscu rhwng bwystfilod,
Di roid ddiolch fil o weithie,
Am dy gadw o'u crafange.
Er bod Christ ei hun i'th warchod,
Trech yn cyscu rhwng y llewod
Sydd bob awr yn ceisio 'th llyngcu,
Ni roi ddiolch iddo er hynny.
Agor d'olwg, gwel ei ffafar,
Cymmer rybydd, bydd ddiolchgar,
A rho ddiolch ar dy ddau-lin
I Grist Jesu am dy amddiffyn.
Felly ceidw Christ di yn wastod,
Ac y tann ei adain drosod,
Ac i'th geidw mewn esmwythd [...]r,
Rhag pob perig yn ddibryder.

Rhybydd i ddyn wrth ddillattu y corpio, I weddio am ddillad ac arfau i'r enaid

PAn y bech yn gwisco 'th ddillad,
Cais arfogaeth Duw am danad,
Fal y gallech ymladd yndyn,
Megis Cristion a phob gelyn.
Nid wyd nes er Dillad twymglyd,
I guddio cnawd, i ddyor anwyd,
Oni bae it gael pilynod,
I ddyor bai, I guddio pechod.
Cais gan hynny holl arfagaeth,
Duw, i'th gadw rhag gelyniaeth,
Eph. 6.11.
Ac rhag pechod, ac rhag trafel,
Twyll y byd, a'r cnawd, a'r cythrel.
Heb y rhain nid ym ond noethion,
I ryfela a'n gelynion,
Ac nid possib i neb hebddyn,
Gael y trecha ar vn gelyn.

GWEDDI.

G [...]sc dy
Arfau.
Armwr oll am danaf,
O fyng Heidwad galluoccaf,
Fel y gallwyf megis Cristion,
Ymladd yndynt am gelynion.
Nâd o'm coryn hed fyng wandde,
Vn rhyw aelod heb ei arfe,
Rhag fy nghlwyfo gan y Temptiwr,
Lle bo eisie vn rhyw armwr.
Nad i'r byd a'i ofer bethau,
Nad i'r cnawd a'i nwyfys chwantau,
Nad i'r Diawl a'i rythreu Scymmyn,
Beri immi bechu yn d'erbyn.
Ond rho immi rym a chryfdwr,
I orchfygu pob gwrthnebwr,
Ac i ymladd dan dy faner,
Nes ym dygech i'th esmwythder.
Felly beunydd yn ddibryder,
Miryfelaf dan dy faner,
Ac y roddaf itti foliant
Of y Nuw tra ynnwi chwythiant.

Cyngor i ddilyn cyn Myned at ein gorchwylion.

CYn yr elech i'r drws allan,
At vn gorchwyl, mawr na bychan,
Cais gan Dduw dy brydd fendithio,
A rhoi rhad
Bendith.
ar waith dy ddwylo.
Duw sy'n rhoddi rhâd a llwyddiant,
Duw sy'n danfon ffawd
Dedwydd­wch.
a ffyniant,
Lle'i cyfarcher fe ry bendith,
Lle'i anghofier, fe ddaw'r felldith.
Cais ei ysbryd i'th gyfrwyddo,
Cais ei râs i'th gynorthwyo,
Cais ei fendith ar bob gweithred,
Felly daw it' rad o'i barthred.
Dechre 'r gwaith yn enw 'r Jesu,
Cais ei gyfnerth i ddibennu,
Yn ei ddiwedd cais ei ogoniant,
Felly cae o'th weithred ffyniant.
Fel y llwyddodd Duw orchwylion
Joseph gynt, a Daniel ffyddlon,
Felly llwydda d'orchwyl dithau
Os gweddii arno 'n ddiau.
Oni wnei dy weddi 'n addas,
Di gae adail bvth fel Jonas,
Luc. 5.5.
A physcotta megis Peder,
Ac heb ddala dim vn amser.
Di gae
Bod [...] ddi­orphwys.
drwttan a thrafaelu,
Ac ymrwyfan a thraferthu,
Dydd a nôs a phoeni 'n ofer,
Heb fôd dim yn well vn amser.
Ofer codi ar y wawr ddydd,
Ofer bwytta bara cystydd,
Ofer gwiliad hir nos aia,
Os yr Arglwydd ni'n bendithia.
Ofer adail Teieu newydd,
Ofer cadw caereu trefydd,
Ofer poeni trwy rymystra,
Os yr Arglwydd ni chidweithia.
Rhag i'th
Trafel.
Lafur fynd yn ofer,
O gweddia 'n brydd bob amser,
Ar i'r Arglwydd dy fendithio,
Felly ffynia gwaith dy ddwylo.

Cyngor ynghylch bwytta ac yfed.

GWachel eiste i lawr i fwytta,
Nes bendithio 'r bwyd yn gynta,
Gwachel godi pan eisteddech,
Nes rhoi diolch am y fwyttech.
Dyfal chwilia di 'r Scrythyrau,
Di gae weled yno Siamplau,
Mat. 14. [...]
Modd y darfu Grist fendithio
'Rymborth, cyn ymborthu arno.
Paul ym-mysc y morwyr diolchodd,
Act. 27.35.
Am yr hyn y baratoôdd
Y Duw mawr i dorri newyn,
Pam y peidiwn ninne yn scymmyn?
Nid oes Sôn am râs cyn bwytta,
Nac am fefidith Duw gorucha,
Nac am ddiolch gwedi porthi,
Mwy na'r môch y fae 'n eu pesci;
Er bôd Duw yn rhoi gorchymmyn,
I bawb yn ôl torri newyn,
Deut. 8.10.
Roddi moliant ar yr eitha
I'r Duw mawr am lanw eu bola.
Gwachel fwytta ond dy ddigon,
Na fydd chwanog i ddainteithion;
Mwy nâ rhaid o ffâr lysseulyd,
Bair i'r cnawd orchfygu 'r ysbryd.
Os rhoi i'r cnawd fwy na 'i gyfraid,
Rwiti 'n porthi gelyn diriaid,
Os rhoi iddo lai na digon
Rwiti 'n lladd cydymmaith ffyddlon.
Nac yf Ddiod tuhwnt i fessur,
Gronyn bâch a wsnaeth Nattur,
Diod gadarn sydd yn peti,
I wyr nerthol gwympo deni.
Gen. 9.21. Gen. 19.33.
Gwin a wnaeth i Noe ymnoethu,
Gwin a yrrodd Lot i ymloscu,
Gwin a dorrodd gwddwg llawer,
Gwin a orchfygoedd Alexander.
Wrth dy ford bydd di yn
Disgwyl.
waetan,
Ddydd a nôs rhag rhwydeu Satan,
Rhwn y gais a'th fwyd dy faglu,
Wrth ginawa a swpperu.
Mae dau lygad yr ychedydd,
Yn en gwaith wrth fwytta ei fwydydd,
Vn yn gweld ei ymborth hyfryd,
Llall yn gwarchod rhag y barcyd.
Luc. 14.13, 14.
Galw hefyd weinaid tlodion,
I gael cyfran o'th ddainteithion,
Felly gelwir dithe ar fyrder,
I gael rhan or nefawl Swpper.

Cynhyrfiad i ddiolchgarwch am ymborth.

COdwn bawb ein pen a'n
Wynebpryd.
ffriw
At Grist 'rhwn yw 'n
Y sydd yn paratoi dro­som.
profeier,
A chanlynwn arno e'n ein daer,
Roi fendith âr ein Swpper.
Mae e'n porthi pôb peth byw,
Er maint o'i rhyw a'i nifer,
Psa. 145.15
Ac yn rhoi i'r rhain i gyd,
Eu bwyd mewn pryd a themper.
Nid yw vn o Adar tô
Yn descyn na bô 'i fwynder,
Yn partoi i hwn ar
Frys.
hast,
Ei ginio, breckffast, swpper.
Pa faint mwy na
Ofaln.
charcca Duw,
Am ddyn rhwn yw ei
Ei lun a'i ddelw:
bickter,
A rhoi iddo'i raid bob tro,
Ond bwrw arno ei hyder?
Mae e'n rhoddi i ddyn, y fwyd,
Y grewyd ar ei feder,
Llysse, llafyr, nifail glan,
Pysc, adar mân heb nifer.
Ni wnaeth Duw vn gene 'r ioed
Mewn tir, mewn coed, mewn dyfnder,
Nes partoi ei ymborth tyn
I'r geneu cyn ei ganer.
Llawer rhyw o Nifail glan,
A physcod mân ac ader,
Y rows Duw i borthi dyn,
A'i lladd bob vn cyn bwyter.
[...] nad ystyr dynion hyn?
A rhoddi cyn y cymrer,
Glod a moliant prydd bob tro,
I'r Arglwydd ginno a swpper.
Duw agoro 'n llygaid dall,
I weld heb
Esgeulus­dra.
wall a rodder,
A'n geneue ar bob cam,
I foli am ei fwynder.
Clod a moliant bob yr awr,
I'r Arglwyd mawr y rodder,
Am ddiwallu 'n cylla gwag,
Ar ginno ag ar swpper.
Rhown soliant prydd bob amser,
I'r Arglwydd ginno ar Swpper,
Am rhoi ymborth in mor hael,
Heb adel
Diffyg.
ffael na phrinder.
Rhown iddo Diolch hyfryd,
Am dan ein bwyd a'n Jechyd,
A'n llawenydd a'i fawr ras
In cadw i maes o ofyd.
A cheisiwn gantho 'n rasol,
Er mwyn ei fab sancteiddiol,
Borthi 'r enaid yn ei bryd,
A'i air a'i ysbryd nefol:
A thywallt ei fendithion,
A'i ras yn ddyfal arnom,
Fel y gallom nos a dydd,
I foli 'n brydd o'r galon.
Gwyr a gwragedd, gweision, plant,
Rhown foliant am ein porthi,
I'r hael Dduw * s'o bryd, y bryd
Yn rhoi maeth hyfryd inni.
Mae 'n diwallu pob peth byw,
Bob pryd a rhyw ddaioni,
Ac o'i law, a'i râs, a'i rodd,
Yn rhoddy modd i'n peri.
Mae 'n rhoi bara inni o'r ddar,
A gwyllt a
Dôf.
gwar i'n pesci,
Pysc o'r mor, a mel o'r graig,
A llawer saig heb enwi.
Mae e'n porthi pob rhyw gnawd,
Fel vn dan sawd i costi,
Heb anghofio 'r Adar mân,
Na'r llew, nar fran sy'n gweiddi.
Psal. 147.8.
Mae e'n porthi dyn yn rhin,
A chann a gwin yn
Foethus.
ddeinti,
A brwd a rhost o lawer rhyw,
Heb neb ond Duw yn i peri.
O rhown ninne foliant prydd,
Bob nos, bob dydd heb dewi,
I'r hael Dduw am dan ei borth
Help.
,
Sy'n rhoi 'r faeth ymborth inni.

GWEDDI.

Duw nad inni fwytta o'th ddonie,
Fel y bwytty 'r môch afale,
Heb dderchafu pen na llygad,
I weld o ble maent yn dwad.
Ond par inni godi 'n penne,
A chydnabod fòd y donie,
Oll yn dwad, sydd i'n porthi,
Oddiwrthyd tâd goleuni.
A phar inni foli d'enw,
Am dy fwynder yn ein llanw,
A'th fendithio yn dragywydd
Am ein jechyd a'n llawenydd.

Grâs cyn bwyd.

LLygaid pob creadur bywiol,
sydd yn edrych Arglwydd grasol,
Ac yn
Ymddiried.
trusto cael i porthi,
gennyd Rhoddwr pob daioni.
Rwyti 'n agor dy law rasol,
Ac yn porthi pob peth bywiol,
gan roi ymborth wrth ei nattur,
Yn ei bryd i bob creadur.
O bendithia ni dy weision,
A'r holl fwydydd a'r dainteithion,
Y bartoist ti ar ein meder,
I'n digoni, ginnio a swpper.
A rho inni ras i fedru,
Bawb yn ddyfal dy glodforu,
Am dy
Gofal.
garcc a'th rodd a'th fwynder,
Yn ein porthi ginnio a swpper.

ARALL

Duw dod fendith ar ein hymborth,
Duw rho iddynt rym a chymmorth,
I'n digoni a gwir gryfdwr,
I'th wasnaethu di 'n creawdwr.
Er bod Llawer bwyd yn
Foethus.
ddainti,
Nid oes yndynt rym in porthi,
Nac i dorri dim o'n newyn,
Oni roi dy fendith arnyn.
O gan hynny, Duw bendithia
Yr holl fwydydd a roeist ymma
Fel y byddo pwer yndyn,
Borthi 'n cyrph a thorri 'n Newyn,
Lle mae llawer * sort o fwydydd,
Yn troi yn eri yn ein colydd,
Am eu cymryd yn afradlon,
Ac yn magu câs glefydion:
Rho di ras in ni Arglwydd sanctaidd,
Gymryd pob bwyd yn dymheraidd,
Fel y gwnelont lessiant in ni,
Ac na fagont haint na swrthni.
Rho rym ynddynt i'n cyfnerthu,
Yn ein galwad i'th wasnaethu,
Ac i foli d'enw 'n wastad,
Er mwyn Jesu Grist ein ceidwad.

ARALL.

Duw mawr o'r nef Sancteiddia,
Ni oll a'r ymborth ymma,
Wyti 'n roddi wrth ein rhaid,
I'th blant a'th ddefaid borfa.
A phar i ni gydnabod,
Fod pob daioni 'n dyfod,
Oddiwrthyd (grassol wyd)
Yn oed y bwyd a'r ddiod.
A dysc inn bawb foliannu,
Dy enw a'th glodforu,
Am ein porthi 'n well na neb,
Bob amser heb ei haeddu.
Ac er mwyn d'anwyl blentyn,
Yr ym ni 'n daer yn canlyn,
Arnad roddi bara a dwr,
I'r neb sêb swccwr ganthyn:
A rhoddi gras i minne,
D'wsnaethu nos a bore,
Nes ein dwccer lle mae 'n
Chwan.
blys,
I'th nefawl
Neuadd­dy.
lys a'th Artre:
Lle mae gwir fwyd a diod,
Yn para byth heb ddarfod,
Datc. 7.15, 16.
Yn dy blas lle mae dy blant,
Heb arnynt chwant na thrallod.

Gras yn ol bwyd.

DI lenwaist Christ ein cylla,
Ag ymborth o'r daintithia,
Llanw eneu pawb o'th blant,
A moliant am ei bara.
Yn foethus iawn di 'n porthaist,
Yn rasol di 'n diwallaist
Rho inni weithian ras bob cam,
I'th foli am y roddaist.
Di roddaist inni 'n Cinnio,
Ac ymborth i'n
Cynnal.
maintaenio,
Rym ni 'n rhoddi nos a dydd,
I't foliant prudd am dano.
Mae dyled arnom roddi,
It' foliant am ein porthi,
Oh rho galon inni a chwant,
I roi mawr foliant itti.
Pob bol ag wyt' yn lanw,
Clodforent byth dy enw,
A bendithient ar bob cam,
Dy fawredd am ei cadw.

ARALL.

Duw pam yr wyt ein porthi?
Mor foethus ac mor ddeinti,
Yn wastadol heb ddim trai,
A gadel rhai mewn tlodi.
Pa ham yr wyt yn danfon?
I ni dy waelaf weision,
Fwy nag sydd raid i ni ym-hell,
A gado 'n gwell yn llwmon.
Cans yr ym yn cyffessu,
Nad ydym neb yn haeddu,
Cael mwy swccwr ar dy law,
Na'r neb sy draw 'n newynu.
Ond dy fod ti o'th fwynder,
A'th gariad a'th drugaredd,
Yn rhoi inni fwy ym-hell,
Na'r sawl sydd well ei buchedd:
Ar hyder y rhoem ninne,
Fwy ddiolch byth i tithe,
Na'r sawl sydd mor llwm ei ffar
I'th foli ar ei glinie.
I ti gan hynny rhodder,
O'n geneu ni bob amser,
Glod a moliant tra ynom chwyth,
Ar ginio byth a Swpper.

ARALL.

Derbyn Arglwydd loi 'n gwefusedd,
Am dy ffafar a'th drugaredd,
Yn ein porthi mor ddigonol,
A'r creaduriaid sydd bresenol.
Derbyn Ddiolch ar ein dwylo,
Am roi inni gystal cinio,
Er nad ydym yn ei haeddu,
Mwy na'r sawl sydd yn newynu.
Rhoed pob gene ag y borthaist
Foliant itti am y roddaist,
Ninne roddwn itt ogoniant,
Yn dragywydd am ein porthiant.
Psalm

Psalm. 23.

FY mugail yw 'r Goruchaf,
Pa fodd gan hynny ffaelaf?
Trwi 'n ymddiried yndo fe,
Ni edy eisie arnaf.
Y mae ef im Castellu,
A'i ras, a'i rym o doetu,
Fel na ddychon gwr na gwraig,
Na Diawl, na draig fy nrygu.
Y mae ef im porfela,
Mewn dolydd or
Hyfryda.
areilia,
Lle mae dyfroedd tawel iawn,
A thir yn lawn o borfa.
Pan elw'i dros ei lwybre,
Fe'm cyrch i eilchwaith adre,
Ac er mwyn ei enw ei hun,
Fe'm tru i'r vn sydd ore.
Ac o'r digwydda weithe,
Im rodio yng hyscod Ange,
Nid rhaid immi ofni vn,
Cans Duw ei hun am cadwc.
Y mae ef yn bresenol,
Im hachub'yn wastodol,
A'i wialen wenn a'i ffonn,
Am gwna i 'n
Llawen iawn.
llonn anianol.
Er cynffordd im a chyffyr,
O Anfodd fyng wrthnebwyr,
Rhows im ford gyfoethog iawn,
A Seigie yn llawn o suwgyr.
Eneiniodd F'arglwydd hefyd,
Fy mhen ag * oyl yn hyfryd,
Ac fe wnaeth fy mwttri 'n llawn,
A'i radlawn ddawn a'i olyd.
Ei fwynder a'i drugaredd,
Am dilyn hyd y diwedd,
Yn ei Demel tro ynwi chwyth,
Y bydd fy Nyth am
Trigfa
hannedd.
I'r Tad, i'r Mab, i'r ysbryd,
I'r Drindod, vndod hyfryd,
Y [...] clôd a Moliant mawr,
Bob Dydd, bôb Awr, bôb Ennyd.

Cyngor i gymmodi a Duw, Cyn myned i gyscu.

GWel fel y mae dy oes yn darfod,
Mae 'n llai beunydd o ddiwarnod,
Rwyti 'n nês y leni i'th ddiwedd,
O vn flwyddyn nag y llynedd.
Gwachel fynd vn nos i gyscu,
Yn dy bechod nes 'difaru,
A chymmodi a'r Duw cyfion,
Cyn y cayech dy olygon.
Nad vn nos i'r Hawl fachludo,
Eph. 4.25.
Ar dy lid yn ol it ddigio,
Gwell it' gyscu gid ag Arthes,
Nag a malis yn dy fynwes.
Llawer dyn sy'n mynd i wely,
Heb ddihuno mwy ond hynny,
Nes y galwo 'r vdcorn aethlyd
Hwynt i'r farn i ddwyn ei penyd.

Gweddi mewn Cyfyngder rhag Gorthrwmder.

DIhun Dihun, pa ham y cyscaist?
Erioed hyd hyn, fy Nuw, ni heppiaist▪
Nid Baal wyt: o danfon swccwr!
Tynn dy wâs o dôst gyfyngdwr.
Sych fy neigreu, Tor fy Magal,
Gwared F'enaid, llaesa 'ng ofal,
Gwel fynghystydd, clyw fynghwynfa [...]
Barn fy
Achwyn.
hawl, rhyddha fi weithian.
Fynghraig i wit, o nad fi syrthio!
Fyn
Twr.
hwr cadarn; nad f'anrheithio,
Fy Nuw, fy
Arglwydd.
Ner, o dere im helpu!
Fy Nefawl dad, Nad fyngorthrymmu.
Galluog wyt, di allu helpu,
Vnig ddoeth, y modd di medru,
Trugarog dād, oh dere a swccwr!
Psal. 46.1.
Hawdd yw'th gael mewn tost gyfyngdwr.
Gwradwydda fwriad fy ngelynion,
Attal.
Tola falchder fy nghaseion,
Gwascar gyngor tyrfa waedlyd,
Er mwyn Christ Rhyddha fi o'm penyd.

ARALL.

Duw fy ngrhaig, am Twr, am
Amddiffyn­fa.
Nodded,
Duw fy Jechyd am ymddiried,
Gostwng glust a gwrando 'ng weddi,
Mewn cyfyngder a gofydi.
Duw rhoist gennad i'm gelynion,
Fy ngorthrymmu heb achosion,
Am difethu 'n llwyr gan mwya,
Os dy di ar frys ni'm helpa.
Di roist gennad i estroniaid,
Lwyr amcanu difa f'enaid,
A'r sawl nad wi 'n nabod etto,
Lwyr amcanu fy anrheithio.
Rhai na wn o ble y henyn,
Rhai na wnaetho 'i ddim i herbyn,
Rhai na chanfu erioed fy llygaid,
Sydd yn ceisio spilo f'enaid.
Arglwydd maent hwy gwedi'm maglu,
[...] yn barod im difethu,
Oni ddoi di ymrhyd a swccwr,
Im gwaredu om cyfyngdwr.
Deffro o gyscu f'vnig Geidwad,
Mae fy llong mewn trallod eirad,
O Cyrydda 'r gwynt a'r tonneu,
Rhag im soddi yn ei rhwydeu.
Nad im llong am
Rhaffau llong.
taccal dorri,
Bydd di borth ac Angor immi,
Lleisa 'r
Tywydd garw.
storom sy'n fy mlino,
Moes dy Law a nad fi
Boddi. Psal. 50.15.
singco.
Erchaist immi ddwadd attad,
Yn fy nhrallod, anwyl Geidwad,
Attad ti fy Nuw 'rwi 'n
Dyfod.
trottan,
Danfon im ymwared weithian.
Di Addewaist wrando yng-weddi,
Yn fy nhrallod ond im weiddi;
Gweiddi arnad yr wi 'n wastod;
Arglwydd weithian tynn fi om trallod▪
Di wrandawaist weddi Ionas,
Gynt o fola'r morfil atgas,
Di achubaist o'i flindereu;
Gwrando yng waedd, ac achub finneu.
[...] warediaist Dafydd frenin,
Oddiwrth Saul oedd yn ei ddilyn,
Gwared finne om trallodion,
Ac o ddwylo fy ngelynion.
1 Bren. 19.
Di waredaist hên Elias,
O law waedlyd gwreigin ddiras;
Gwared finne yn fy nolyr,
O law waedlyd fyng wrthnebwyr.
Mat. 7.15.
Di dostyriaist yn dra diddig.
Gynt wrth Dâd y plentyn
Gwallgofus.
lloerig;
O tostyria wrth yf inne,
Syn dy ganlyn megys ynte.
Mat. 15.
Di roist help i'r wraig o Ganan,
Y fu'n daerllyd yn i feggian;
O rho nerth a help i minne,
Sydd am cais mor daer a hithe.
Er nad oes ym-hwer vn-dyn,
Rwymo 'r Ddraig
Cythrael.
sy'n codi im herbyn:
Etto Arglwydd mawr di allu
Rwymo hon a'i llwyr ddirymmu.
Cymmer yn dy law dy waywffon,
Cyfod, ymladd am gelynion,
Torr hwy ymmaith yn ei gwegi,
Nad hwy wneuthur trallod immi.
Gyrr dy Angel i wascaru,
Sawl sy'n chwennych fyng orthrymmu,
Gyrr dy saetheu a difetha
Sawl sy a'i bwriad ar fy nifa.
Duw di elli'r môdd y mynnech,
Fyn rhyddhau y maes o ortrech,
Er dy fawredd dere a chomffordd,
A gwir rydd-did im yn rhyw-ffordd.
Nad im Gelyn gael fy llyngcu,
Na'm gwradwyddo, na'm gorthrymmu,
Nad i'r Byd ychwaith gael dwedyd
Iddo gaffel arnai ei wynfyd.
Dangos immi eglur arwydd
O'th ddaioni a'th garedigrwydd,
Fel y gwelo 'r byd o bobtu,
Mae ty di sydd yn fyng haru.
Nid wy'n ceisio help Gwyr Mawrion,
Na Phenaethiad, na Thwssogion:
Ond yn vnig cymmorth difrad
Gennyd ti fy Nuw am Ceidwad.
Nâd i minne gael fy nhwyllo,
Lle rwi 'n hollol itti yn
Ymddiried.
trusto;
Dere weithian ag ymwared;
Ynot ti mae f' holl ymddiried.
Mae fy llygaid o'r dechreuad,
Dydd a nôs yn disgwyl arnad,
Dere weithian im diddanu,
Arglwydd nad im llygaid ballu.
Dere Arglwydd, dere bryssia,
Gwared f'enaid o gyfyngdra,
Fel y gallwyf dy foliannu,
Trwy lawenydd am fy helpu.

Diolch am ymwared o ddwylo Gelynion.

ANgelion Duw a meibion Dynion,
Nef a Daiar a'r Trigolion,
Molwch Dduw ar eithach gallu,
Ddydd a nos am fyng waredu.
[...] * Ing, trallod, a chyfyngdwr,
[...] gweddiais ar fy mhrynwr,
Ac o'r Nêf o blith Angelion
Clybu lef fy nghwyn hiraethlon.
Sarph ossododd fagal embaid,
A chroglathe i ddala f'enaid,
Rhwyd a chroglaeth Duw a'u torrwys,
F'enaid inne fe gwaredwys.
Helodd Angel im dad-dryssu,
Rhows ei ysbryd im diddanu,
Tannodd drosswi Adain hyfryd,
Ac fe'm tynnodd om holl ofyd.
Duw a glybu yng waedd iradys,
Christ
Ymbiliodd.
eiriolodd drosswi 'n rymmys,
A'r glan ysbryd am diddanodd,
Ac om trallod fe'm gwaredodd.
O molianned pob creadur,
F'arglwydd mawr yn ôl ei nattur,
Am ei gymmorth a'i dosturi,
Yn fyng wared om gofydi.
Teirw Basan am cylchynnodd,
Nadredd tanllyd am herlidiodd:
Bleiddiaid blin ac vnicorniaid
Amcanassant ddifa f'enaid.
Duw a barodd i'r rhain darfu,
Pan oedd mwya eu chwant i'm llyngcu;
Duw a dorrodd gyrn a dannedd
Y Bwystfilod hyn o'r diwedd.
O molianned pob creadur
F'arglwydd mawr a chalon bryssur,
Am ei
Gosal.
garc yn achub f'enaid,
O rhwng cyrn yr vnicorniaid.
Gwyr digrefydd, gwragedd gwaedlyd
Y gynllwynodd am fy mywyd,
Ac amcansont fy
Nas [...]
andwyo,
Difa f'enaid am anrheithio.
Duw ddatguddiodd eu dychellion,
Duw ddiddymmodd eu amcanion,
Duw a ddryssodd eu bwriade,
Duw waredodd f'enaid inne.
O molianned pob creadur
Duw fy nghraig a chalon bryssur,
Am ddwyn f'enaid o drallodion,
A gwradwyddo fy ngelynion.
Clôd a gallu, Diolch, Moliant,
Gwir Anrhydedd a Gogoniant,
Y fo nôs a dydd i'r Drindod,
Am fy'n hynnu maes o drallodd. Amen.

Arall byrrach.

MEgis Daniel rhwng y llewod,
Megis Jonas rhwng Morfilod,
Y gweddiais ar yr Arglwydd,
Ac o'r nef fe'm clybu 'n ebrwydd.
Caeodd.
Stoppodd safneu 'r llewod rheipus,
Ffrwynodd ên y
Morbysg mawr.
whâl afradus,
Torrodd awch y Sarph am llyngceu,
Tynnodd f'enaid o'u crafangeu.
Nefoedd, Daiar, Dwr, ac Awyr,
Tân a gwynt a phôb creadyr,
Molwch f'arglwydd mawr yn wastod,
Am fy'n hynnu maes o drallod.

Cyngor i'r clâf.

PAn ith drawer gynta a chlefyd,
Ystyr o ble daeth mor danllyd,
A phwy helodd clefyd attad,
A pha ham ei dodwyd arnad?
Deut. 28.22.
Duw ei hun sy'n danfon clefyd,
Oddiwrth Dduw y daw mor aethlyd,
Am ein Beiau mae 'n ei hela,
I geisio genym droi a gwella.
Hos. 6.1.
Edifara am dy feiau,
Deisif Bardwn ar dy liniau,
Cais gan Dduw dosturio wrthyd,
Fe'th gyssura yn dy glefyd.
Os nynnodd llid dy Dduw yn d'erbyn,
Nes rhoi arnat glefyd scymmyn,
Gwaed yr oen a'th
Heddycha.
reconseila,
Er raw gwa­ed Christ yw'r iawn am bechod, 1 Pet. 1.18, 19. etto mae'n rhad ir sawl a ddis­gwyliant am leshad odiwrtho, gredu yntho a bod yn edifeiriol, waith bod Duw wedi gorchymym i ni ddyfod y modd hynny atto trwy ei fab: Jo. 14.6. 1 Jo. 3.23. Jac. 4.9. Ond er y dylem ni a­laru, etto na thybygwn fod ein deigre yn iawn am ein pechodau.
Deigreu hallton ai dad-ddigia.
Gostwng iddo, mae'n drugarog,
Mat. 7.7.
Cais ei râs fe rhy yn serchog,
Edifara, ynte faddeu,
Act. 3.19.
Wyla di, Tosturia ynteu.
Psal. 32.5.
Addef iddo dy gamweddau,
Barn dy hunan am dy feiau,
Cwymp o'i flaen a deisyf bardwn,
Di gae râs ac
Rhyddhâd.
Absoluwsiwn.
Tro di atto, ynte a'th dderbyn,
Er ei ddigio, rhy dy ganlyn,
A phan gwelo hallton ddeigrau,
Fe bair laesu dy flinderau.
Duw ei hun sy'n danfon clefyd,
Deut. 28.2.
Cennad Duw yw nychdod aethlyd,
Oddiwrth Dduw y daw clefydon,
Ni all neb ond Duw eu danfon.
Nid o'r Moroedd, nid o'r mynydd,
Nid o'r ddaer, na'r
Awyr, awel.
Aer, na'r corsydd,
Y Daw clefyd ar blant dynion,
Ond oddiwrth yr Arglwydd cyfion.
Gwrês a gwayw, crâch, cornwydon,
Crûd a haint a syndra calon,
Nychdod, Nodau, Mâll, difflanniad
S'oddwrth Dduw ei hun yn dwad.
Ni all
Pennaethi­aid vwch na thywysogion.
Empyrwyr mawr er holl fyd
Ddanfon haint na thynnu clefyd:
Nid oes neb a'i tynn neu danfon,
Ond Duw mawr y Barnwr cyfion.
Nid aiff clefyd ffwrdd wrth
Arch.
bwintment
Loe nac Antwn, Cât na Chlement,
Witch na dewin, Swyn na phlaned,
Nes cennado Duw ei fyned.
Os o
Diotta, bwytta gor­modd.
Swrffet, os o Anwyd,
Neu Dy afiach y ceist glefyd,
Duw ei hun sydd yn dy daro,
Pa fodd bynna daethost iddo.
Nid wrth
Shiawns.
ddam vain, nid wrth fforten,
Nid wrth dreiglad lloer na seren,
Y daw clefyd mawr na bychan;
Ond wrth 'bwintment Duw ei hunan.
[...] [...]ais edrych fal dyn ynfyd,
[...]rwy pa fodd y daeth y clefyd:
Gwell it' edrych tua'r nefodd,
Ar dy Dduw a'r llaw a'th drawodd.
[...]s. 6.1.
Duw a'th drawodd, Duw a'th wella,
Duw a'th glwyfodd, Duw'th elia,
Duw sy'n cospi di gnawd diriaid,
[...]b. 12.10.
I Jachau dy gorph a'th enaid.
Derbyn Gennad Duw 'n ressawgar,
Ymddwyn dano yn ddioddefgar;
[...]eb. 12.6.
Neb a garo Duw fei cospa,
Pôb mab annwyl fei gwialenna.
Hos. [...]5.10, [...].
Bydd ddioddefgar dan dy drwbwl,
Ffôl a wingad ar ben Swmbwl,
Duw a'th drawodd mor ddolyrus;
Ofer it' wrthnebu ei' wllys.
Deut. 28.
Am ein pechod a'n drwg fywyd,
Y mae Duw yn danfon clefyd:
Ac yn
Cystyddio.
gryddfu meibon dynion
Am drosseddu ei orchmynion.
Darn o gyflog pechod aethlyd
Ydyw nychdod ac afiechyd;
Pechod a ddaeth wrth ei gynffon
A phôb clefyd ar blant dynion.
Torri 'r Sabboth, tyngu yn rhigil,
Cashay 'r Eglwys a'r Efengyl,
Dissang ffeiriaid a swyddogion
A bair Lawer o glefydion.
Meddwdod, Maswedd a phytteindra,
Rhegu, loetran a lledratta,
Gwledda, Gloddest, treisio tlodion,
Sy'n dwyn clefyd a thrallodion.
O'r ceist glefyd, o daeth moe [...],
Pechod helodd hwn i'th ddala,
Ac a barodd i Dduw ddigio,
A rhoi 'r clefyd hwn i'th daro.
[...]edi [...]y
Chwilia 'n fanol dy gydwybod,
A chais gwrdd a'th ffiaidd bechod,
Llwyr groeshoelia dy anwiredd,
Ac ymbilia am drugaredd.
Os difaru am dy feieu,
Acts 3.19.
A llwyr droi at dduw yn foreu,
Fe faddeua Dduw dy bcchod,
Ac a'th
Os bydd hynny er daioni i'th enaid ti.
dynn i maes o'th nychdod.
Cais gan Dduw Leihau dy ddolur,
Dofi i'th boen a gwella 'th gyssur,
Cais yn daer esmwythder gantho,
F'all ei [...] yr awr y mynno.
Pa ryw bynnag yw dy ddolur,
[...]e all Duw ostegu ei wayw-wyr,
A'th iachau y modd y mynno,
Bid e'r dolur mwya fytho.
Fe iachaws y claf o'r parlys,
Gwraig o'r lasc, a'r crippil nafys,
Job o'i grach a Naman glafwrllyd,
A'r rhai cleifion o bôb clefyd.
Mat. 4.24.
Nid yw clefyd ddim ond cennad,
Wrth arch Duw sy'n dwad attad,
Fe ladd, fe baid, pan archo ei berchen,
Fe ddaw, fe aiff fel gwas y capten.
O gan hynny galw yn daerllyd,
Ar dy Dduw sy'n danfon clefyd,
Cais ei
Amddi­ffyniad.
Nawdd er mwyn dy Brynwr,
Di gei gantho help a swccwr.

Gweddi 'r clâf.

ARglwydd cyfion, Tâd fy iechyd,
Barnwr pawb a'i helpwr hyfryd,
Gwrando weddi dyn clafecca
Er mwyn Christ, ac edrych arna.
Yn glâf mewn corph, yn drist mewn enaid,
Yn drwm mewm meddwl ac ychenaid,
Rwi 'n ymlysco, o 'yng-rheawdwr,
Attad ti i geisio Swccwr.
Exod. 34.6, 7.
Grassol wyt a llawn trugaredd,
Hwyr dy lid, a mawr dy amynedd,
Hawdd i'th gael mewn tôst gyfyngdwr;
Er mwyn Christ tosturia yng-hyflwr.
Di roeist eichyd im es dyddie,
Nawr di dwgaist am fy meie,
Ac y helaist boen a nychdod,
Im cystyddio am fy mhechod.
Duw mi haeddais rwi 'n cyfadde
Vn oedd drwmmach er es dyddie:
Yn dra chyfion Duw goruchaf,
Y rhoist hyn o Nychdod arnaf.
Di allassyd ddanfon clefyd
Immwngc, câs, i ddwyn fy mywyd,
Am troi i vffern i boenydio,
Heb roi amser im
Edifaru.
repento.
Etto 'n fwyn fel Tâd trugarog,
Di roist arnaf glefyd serchog,
Im rhybyddio am fy niwedd,
Am cyfrwyddo wella muchedd.
Psal. 119.71
Rwi'n ei gymryd megis arwydd
o'm
[...] on [...] bwyst [...] yw o fod wedi yn cimryd trwy Grist i fod yn blant i Dduw) yw ffydd yn Grist, galar am bechod, troad oddiwrth be­chod, gwir ga­riad at y sawl sydd yn ofni Duw ynghyd a chadw ei or­chymynion ef: oni fydd dyn mewn rhw fe­sur a'r pethau hyn yndo, ni ddichon ef gas­glu oddiwrth ei glefyd a'i gystydd ei fod ef yn blentyn i Dduw. Jo. 1.12. Mat. 5.4. 1 Jo. 3.8, 9, 10▪14. ac 1 Jo. 2.3, 4.
mabwysiad a'th gredigrwydd,
Yn fyng-hospi am correcto,
Rhag im pechod fy andwyo.
Da yw'th waith o Arglwydd cyfion
Yn cospi'r corph a'r faeth drallodion,
Lle roedd f'enaid er es dyddie
Yn dra chlâf gan ormodd foethe.
Tra cês iechyd ni chês weled
Om pechodau er eu hamled,
Ond yn awr, gwae fi, mewn nichdod
[...]d wi 'n gweled ond fy mhechod.
[...] bwy nifer o bechode
Wnaethoi yn d'erbyn, Duw gwae finne;
Maent yn amlach mewn rhifedi
Nag yw'r Sêr, o'r ceisiai cyfri.
Pa faeth Elyn gwyllt y fuo,
Yn d'wrthnebu megis Pharo,
Gynt pan oeddyt yn ymhwedd
Am im droi a gwella myched.
Arglwydd grassol rwi'n cydnabod,
Immi haeddu cant mwy nychdod,
Ac im bechu yn escymmyn,
Om Mabolaeth yn dy erbyn.
Etto gwn dy fôd ti 'n rassol,
I bwy bynna fo difeiriol,
Ac yn barod iawn i fadde
I'r Alarus eu camwedde.
Er na haeddais ond trallodion,
A dialau a chlefydion;
Gwna a mi yn ôl dy fawr drugaredd
Ac na edrych ar f'anwiredd.
[...]er Angeu Christ a'i vfydd-dod,
Yn dâl itti am fy mhechod,
Cladd fy meie yn ei
[...]n.
weli;
Er ei fwyn bydd rassol immi.
Nad im farw yn fy mrynti,
Cyn im wneuthur dim daioni:
Ond rho amser o'th drugaredd
Immi etto wella muchedd.
Dal dy law, gostega nolur,
Llaesa mhoen, lleiha fyng-wayw-wy [...],
Ac na ossod arnai boeneu,
Fwy nag allo yng-horph eu goddeu.
Er bôd f'enaid weithie yn dwedyd
Dere Christ, a derbyn f'ysbryd,
Mae fy nghawd er hyn yn crio,
Duw tro 'r cwppa chwerw heibio.
Y mae 'r cnawd a'r ysbryd etto,
Yn a mharod i ymado,
Duw rho amser im eu trefnu;
O bydd d'wllys yn cennadu.
Nid wi'n ceisio genyd amser
I fyw yn foethus mewn esmwythder,
Ond i dannu dy anrhydedd,
Ac i wella peth om buchedd.
Duw o'r gweli fôd yn addas
Ystyn f'oes fel Ezekias,
Doro immi ryw gyfrwyddyd
Im iachau a thorri yng-hlefyd.
Ond o'r gweli fôd yn ore,
Etto yng-hospi dros fwy ddyddie,
Duw dy wllys di gyflawner,
Ond cyfnertha fi 'r cyfamser.
Yn iach ni wnaethym ond dy ddigio,
Yn glaf ny allai ond ochneidio,
Oni roi dy nefawl ysbryd
Im diddanu yn fy nghlefyd.
Arglwydd cymmorth fi 'n fy mlinder,
Llaesa mhoen am han-esmwythder:
Dwed wrth f'enaid y'n halaeth,
Mifi yw dy iechadwriaeth.
Tydi Christ yw'r mwyn Samariad,
Luc. 10.
Minne yw 'r claf trafaelwr irad,
Cweiria nolur, rhwym f'archollion,
Dofa mhoen, cryfha fy nghalon.
Mae dy law yn orthrwm arnaf,
Etto ynod mi ymddiriedaf,
A pha lleddit fi a thrallod,
Job 13.15.
Duw mae f'hôll ymddiried ynod.
Gennyt ti mae 'r hôll allweddeu,
Datc. 1.18.
Sydd ar fywyd ac ar Angeu;
Ni baidd Angeu edrych arnaf,
Nes danfonech (Christ) ef attaf:
Gwna fi 'n barod cyn y delo,
Pār im ddisgwyl byth am dano;
Fel y gallwi fynd yn addas,
Wrth ei scil i'th nefawl deyrnas.
Nad i bethau 'r byd anwadal,
Na'th gyfiawnder ddydd y dial,
Nac i ofan Angeu im rhwystro
Ymbartoi i rwydd ym [...]do.
Tynn om calon ofan Angau,
Pār im wadu 'r byd a'i bethau;
Golch a'th waed fy mhechod sceler,
Cûdd fy mrynti a'th gyfiawnder.
Rho im ffydd yn dy Brommeision,
Gobaith cryf am gael y Goron,
Dioddefgarwch yn fy nghlefyd,
Phil. 1.23.
Chwant dwad attad a dattodyd.
Christ rho d'ysbryd in diddanu,
A'th Angelion im castellu,
Gwna 'r awr ola fy awr ore
2 Tim. 4.8.
Rho mi 'r Goron ar awr Ange.
Christ fy Mugail cadw f'enaid,
Nâd i'r llew o'th law ei scliffiaid
Cipio a'i dryllio.
,
Tydi prynaist yn ddryd ddigon,
Dwg e i'r nêf at dy Angelion.

Rhybydd i'r clâf i alw am wenidog i gynghori ef, ac i weddio drosto.

Pan clafychech cais Offeirad,
Yn ddiaros ddwad attad,
I weddio dros dy bechod,
A'th gyfrwyddo fod yn barod.
Christ y bwintiodd yr offeiriaid,
Yn Bessugwyr doeth i'r enaid,
Ac a roddwys iddynt eli,
I wrthnebu pôb drygioni.
Adde' th bechod wrth y ffeiriad,
Fe ry itti gyngor difrad,
Fel y gallo roi cyfrwyddyd,
Yn ol naws a rhyw dy glefyd.
Pan lefaro 'r gwenidog allan o air Duw, mae Christ yn lle­faru trwyddo
Crêd beth bynna ddwetto 'r ffeirad
O air Duw, yn brydd am danad,
Cans llais Christ ei hun yw hynny,
Ith
Geryddu.
rebycco neu 'th ddiddanu.
Deisyf arno brydd weddio,
Ar i'r Arglwydd dy
Wella.
recyfro,
A roi itti gyflawn iechyd,
Neu yn rassol dderbyn d'ysbryd.
Mae Duw yn addo gwrando 'r ffeirad,
Jaco. 5.14, 15, 16. [...] ond aberth y [...] annuwiol sydd ffiaidd. Diha [...]. 15.8.
Pan gweddio yn ôl ei alwad,
Christ a ddyru ei ganlyniaeth,
Oni phwyntiodd dy farwolaeth.
Deisyf arno dy gyfnerthu,
Rhag i Satan dy orchfygu,
A llonyddu dy gydwybod,
Pan i'th fliner gan dy bechod.
Godde
Chwilio.
lawnso dy gornwydon,
Godde i'r Gair frynaru 'r galon,
Fel y gallo fwrw yndi
Wîn ag olew gid ag Eli.
Gwell it adel i'r offeiriad
Ddangcs.
Faneg itt dy ddrwg ymddwgiad,
Fal y gallech edifaru,
Nag oi blegid gael dy ddamnu.
Di gae gyngor rhag dy bechod,
I lonyddu dy gydwybod:
Di dae gomffordd gan y ffeirad,
Os mewn pryd ei gelwi attad.
Nâd y ffeirad heb ei alw,
Ni bydd y claf nes i fod yn gadwedig [...]r cael cyngor y gwenidog oni wna ef a [...] ei ol e Jac. 1.22. Ac oni fydd y cyn­gor yn gyngor Duw hefyd.
Nes ei bech yn hanner marw,
Ni all ffeirad y pryd hynny,
Na nêb arall dy ddiddanu.
Oh! pa nifer o Fruttanniaid
Sydd yn meirw fel Nifeilaid,
Eisie ceisio nerth y ffeirad
I gyfrwyddo eu madawiad,
Er bod Duw yn abal cadw
Rhuf. 1.16.
Sawl a fynno heb ei galw,
Rhuf. 10.17
Nid yw' n cadw maw o enaid,
Trwy brege­thiad y gair y mae f [...]y [...]d a [...] fford [...] [...] yn dyfod ac am [...] clafychu fe ddylit arferu gwrando 'r gair, rhag ofn y bydd [...] [...]hy hwyr yn ein clefyd i wneuthur felly. Ni ddylem ni oedi, a thybied taw pethau bychain yw ffydd ac edifeirwch a gwellhâd buchedd, o herwydd mae pob vn o'r rhain yn anghenrheidia i jechyd­w [...]iaeth, [...]oan. 3.36. Luc. 13.5. 1 Cor. 6.9. Heb. 12.14. Er mwyn Christ ystyriwch y pedwar lle hyn o'r Scrythur, a bernwch ynoch eich hunain, gan na el [...]ir bod yn gadwedig heb Edifeirwch a ffydd a newydd-deb buchedd (fel y mae 'r Sy [...]thurau hyn yn dangos yn eglur) onid yw yn ynfydrwydd i adel y pethau hyn heb eu ceisio hyd am­ser ein clefyd? Fe fydd yr enaid y pryd hwnnw yn ymwrando â dolur ag afiiechyd y corph; ac o herwydd hynny yn anghymmwys iawn i w ando cyngor y gwenidog, ac i wneuthur yn ei ol fel y dylai. Nid ydym yn darllen ond am vn (sef y lleidir ar y groes) ag a wir edifa rhaodd yr awr ddiwethaf: am vn yr ydym yn darllen hynny, fel nad amheuo neb; ond nid ydym yn darllain ond am vn, fel na ryfygo neb a bod yn eon i oedi troedigaeth at Dduw hyd y [...] awr ddiwethaf.
Ond trwy Swydd a gwaith offeiraid.
Cais g [...]n hynny gynta ag allech
[...]eir [...]d attad pan glefycheth,
[...] pwrg yn yn erbyn pechod
Rhwn yw achos dy holl nychdod.

Cyngor ir clâf i ddanfon am Bessugwr.

YN ôl cyngor yr Eglwyswr,
Cais gyfrwyddyd y Pessugwr,
Duw a roes i hwn
Meder.
gelfyddyd
I'th iachau o lawer clefyd.
Duw ordeiniodd yr offeiriaid
I
I fod yn offe­renau i iachau [...]r enaid.
iachau doluriau 'r enaid,
A'r Pessugwyr a'r Meddygon
I ymgleddu cyrph y cleifon.
Llawer dyn sy'n marw yn
Frwnt.
fydyr,
Eisie cymmorth y Pessugwyr,
Gan fyrau eu hoes ai hamser
Yn embeidys eisie eu harfer.
Corph pôb dyn yw ty ei enaid,
Rhaid
adnewyddu.
rheparo hwn a'i drefnaid;
Rhaid i bôb dyn hyd y gallo
Gadw ei dy ar draed heb gwympo.
Arfer gymmorth pessugwriaeth,
Yn dy glefyd trwy gristnogaeth,
Duw ordei [...]iodd [...]on yw gyssur
I blant dynion rhag pob dolur.
Y neb wrthotto pessugwriath,
Y roes Duw er iech [...]dwriaeth,
Mae 'n gwrthnebu maeth ei
Nattur.
Anian,
Ac yn
Lladd.
mwrddro ei gorph ei hunan.
Y llyssewyn salwa welech,
Ar Cyfrwyddyd waela g [...]ffech,
All rhoi help a iechyd itti,
Os rhy Duw ei fendyth arni:
Swp o ffigys, os bendithia,
Esay 38.21
All iachau y [...] cornwyd mwya,
Ar Gyfrwyddyd ni thâl vn-rhith
All rhoi help, ond cael ei fendith.
Ond pa caet ti Balm a Nectar,
Cennin Peder, Cerrig Bezar,
Olew a Myrh a gwin a gwenith,
Ni wnânt lês heb gael ei fendith.
Cais gan hynny fendith hyfryd,
Gan dy Dduw ar bôb cyfrwyddyd,
Heb ei fendith ni wna 'r benna
Ond troi 'n wenwyn yn dy gylla.
Nac ymddiried i'r pessugwyr,
Nac i vn
Cy'rwyddyd 2 Cron. 16.12.
fetswn fônt yn wneuthyr,
Rhag dy farw megis Asa,
Eisie ymddiried i'r Gorucha.
Nid oes rhinwedd ar lysseuach,
Grym mewn Eli na diodach
I leihau o'n cûr a'n poenfa,
Os yr Arglwydd nis bendithia.
Duw sy'n rhoddi
Bendith.
rhâd ar lysseu,
Grym mewn eli a
Cyfrwyddyd.
chyfyrddoneu,
Lle bendithio Duw hwy lwyddant,
Lle ni fynno Duw ni thycciant.

Gweddi 'r claf cyn cymmeryd pessugwriaeth.

Awdwr iechyd, lluniwr llysseu,
Rhoddwr rhinwedd, Rhwymwr Angeu,
Tywallt fendith, rhad a iechyd,
Ar y fetswn wyfi 'n gymryd.
Di ordeiniaist amryw llyssiau,
Diod, Eli a chyferddonau
I ymgleddu meibon dynion
Yn eu gwendid a'u clefydion.
Yn ôl d'wllys a'th ordeinaeth,
Rwyfi 'n cymryd pessugwriaeth,
I ostegu peth o'm didri;
Rho dy fendith Arglwydd arni.
Gwn na ddychon vn creadyr,
Na chyfrwyddyd laesu yng waywyr,
Oni byddi di 'n bendithio
Rhyn a roir, a'r hwn a'i cymro.
O gan hynny prydd fendit [...]
Y gyfrwyddyd a gymmera,
Fel y rhoddo hon im gyssur,
Ac y llaeso fy holl waywyr.
Pereist gynt i'r ffigys diflas
Jachau cornwyd Hezekias,
Par o Arglwydd i'r gyfrwyddyd
Hon roi minne gyflawn iechyd.
De iachaist olwgon Tobi,
Gynt ag Asu 'r pysc annigri:
O iach [...] fy nolyr inne
A rhai hyn dy gyfrwyddone.
Fel y peraist i ddwi Jordan
Olchi ffwrdd wahanglwyf Naman:
2 Bren. 5.
Felly pâr i'r ddiod ymma
Dynnu ffwrdd fyng hûr am poenfa.
Fel y peraist gynt i'th Boeryn
Roddi golwg i'r Cardottyn:
Mar. 8.23.
O par Arglwydd i'r cyfrwyddyd
Hon roi minne gyflawn iechyd.
Gwn y gallu trwy 'r faeth foddion
Neu heb vn iachau clefydion:
Llaesa nolyr yn ol d'allu
[...] bydd d'wllys yn cennadu.
O [...] pwyntiaist ti fy niwedd,
An llwyr dynnu i'th drugaredd:
Duw dy wllys di gyflawner,
Rwi 'n ymostwng itt bob amser.
Ond rho immi râs a phwer,
Grym a gally y cyfamser,
Ddwyn fy nolyr yn ddioddefdar.
Megis Criston yn ddidrwdar.
Nac [...], cyfnerthu,
[...] fy mlinder i'th foliannu,
Cy [...]ro [...] 2 [...]
Ac i ddwyn dy groes a'th wialen,
Yn wllysgar ac yn llawen.
A phâr immi fôd yn barod,
Ddwad attad ac ymddattod,
A rhoi f'enaid yn wllysgar,
Yn dy ddwylo Arglwydd hygar.
O fy Arglwydd gwn y gallu,
Fy iachau yr awr y mynnu:
Oni fynnu laesu mlinder,
Duw dwg f'enaid i'th esmwythder.

Rhybydd ir claf i ochelyd ceisio cym­morth Swynwyr a dewiniaid.

Deut. [...]8.10 11, 12. Luc 19.31. 2 Bren. 1.16
GWachel geisio help gan swynwyr,
Yn dy flinder tôst a'th ddolyr,
Gado Duw mae'r cyfryw ddynion,
Ac addoli 'r gau dduw Eccron.
Na chais help i'r corph mor embaid,
Gan y Diawl sy'n llad yr Enaid,
Nid oes vn Pessugwr allan
Waeth na'r Diawl i helpu 'r egwan.
Nid yw Swyn ond
Tw [...]ll.
hûg i'th dwyllo,
Gwedi Satan ei
dychymmyg
defeisio,
I ddifetha d'enaid gwirion,
Pan y Swyner y'th glefydion.
Nid yw'r Swynwr ond
Cennad.
Apostol
Ffal [...] i'r Diawl i dwyllo'r bobol
Oddiwrth Grist, mewn poen a thrafel
I butteinia a'r ôl y cythrel.
Twyllo 'r corph a lla [...]
Digio Duw, boddloni [...]
Gwrthod Christ a'r maint sydd eiddo,
Y mae'r Swyn a'r sawl ai cretto.
Ceisio 'r cythrel yn Bessugwr
Ydyw ceisio help gan Swynwr,
Ceisio'r Diawl i ddarllain tesni
Yw a dewin ymgynghori.
Ceisio Gwir gan dâd y celwydd
Yw ymofyn a drogenydd,
Ceisio help i ladd yr enaid
Ydyw ceisio Swyn
Twyllwyr.
Hudoliaid.
Na châr Swynwr mwy nâ chythrel,
Mae 'n dy demptio yn dy drafel:
Glun wrth Grist, er maint yw'th flinder:
Cais ei nerth di gei esmwythder.

Gweddi fyrrach i'r claf i harferu yn ei glefyd.

DUw trugarog, Tâd diddanwch,
Awdwr iechyd, Pen dedwyddwch,
Gwrando waedd pechadyr nychlyd,
Sydd yn beggian cymmorth genyd.
Daeth fy mhechod yn dy olwg,
Am hôll fuchedd oedd yn cynddrwg,
A chan gymmaint oedd fy
Ba [...]chder d [...]rm [...]g.
nhraha,
Di ddanfonaist glefyd arna.
Haeddais Arglwydd drwmmach benyd,
Dostach dwymyn, cassach glefyd,
Blinach ddolur, byrrach amser,
Bym talassyd wrth gyfiawnder.
[...] [...]gwddwg,
[...] fy mhechod oedd yn cynddrwg,
Neu fy moddi, neu fy * mwrddro,
Heb roi amser imi ymgweirio.
Nawr rwi'n gweld dy gariad attaf,
Yn rhoi clefyd criaidd arnaf,
Im ceryddu am f' anwiredd,
Ac im cyffro wella muchedd.
Bzek. 33.11.
Nid wllyssu Duw 'r holl gyssyr
Ddrwg farwolaeth vn pechadur,
Ond yn hyttrach gwelia ei fychedd
I gael bywyd a thrugaredd.
Amos. 4.10.
Trwy'r faeth glefyd blin corphorol,
Mich. 6.9.
Rwyt im cofio môd yn farwol:
A thrwy flinder tost a thristwch,
Rwyt im gwawddi edifeirwch.
Psal. 6.1 [...]
Er im haeddu dy ddigofaint,
A'th lidawgrwydd tost yn cymmaint,
Arglwydd grassol na cherydda
Fi a'th lid a'th gerydd mwya.
Mae dy saethau gwedi yng chlwyfo
Mae fy escyrn gwedi briwio,
Mae fy ysbryd gwedi gryddfu;
Arglwydd dere im diddanu.
Tydi 'm clwyfaist am fy mhechod,
Minne haeddais hyn o drallod▪
Nid oes neb fy Nuw am hynny,
Ond Tydi all fyngwaredu.
2 Sam. 2.6.
Tydi sy'n lladd ac yn bywhau,
Hos. 6.1.
Tydi sy'n clwyfo a iachau,
Yn dwyn i'r Bedd, yn adgyfodi,
Yn trugarhau, ac etto yn cospi.
Tydi o Dduw sy'n danfon [...]
Tydi yn unig all rhoi iechyd,
Nid oes neb all llaesu nolur,
Ond tydi na rhoi im gyssur.
Er dy fwynder a'th drugaredd,
Er dy Enw a'th Anrhydedd,
Maddeu mhechod: llaesa nolur:
Gwared f' enaid: rho im gyssur.
Oni phwintiaist fy marwolaeth,
A diweddu fy milwriaeth,
Arglwydd llaesa ar fy mlinder,
A rho immi beth esmwythder.
Dymchwel Arglwydd im diddanu,
O fy Nuw pa hyd y Sorri?
Gwel fy mhoen, a chlyw fyng hwynfan,
Tor dy lid, Jacha fi weithian.
Cweiria yng-wely yn fyng hystydd,
Tro fy nhristwch yn llawenydd,
Rhwyg fy sach, a sych fy Neigrau,
Llaesa mhoen, Jacha noluriau.
Maddeu mhechod, Torr fy nghlefyd,
Tynn fi o'r ffoes a rho im iechyd,
Fel y gallwyf dy glodforu,
Yn fy mywyd am holl allu.
Yn y Bedd oh Dduw pwy 'th goffa?
Yn Hir Angeu pwy 'th glodfora?
Arbed
Sparia mywyd Arglwydd grassol,
I'th glodforu gida 'r bywi [...]l:
Psal. 30.9, 12.
Felly canaf itt yn hyfryd
Glod a moliant am fy mywyd:
A thro ynof rym a chwythiant,
Mi ddatcanaf dy ogoniant.

[...] cyffroi'r claf i fôd [...] ddioddefgar.

ONi bae fôd yn anghenrhaid
Dofi 'r Corph i wella 'r enaid,
Ni ddanfonei Dduw glefydion,
Byth ar vn o'i anwyl feibion.
Yr oedd Duw yn gweled d'enaid,
Yn glâf iawn o bechod diriaid,
Nid oedd lûn i gadw ei fywyd,
Nes dy gospi a'r faeth glefyd.
Oni basse 'r cwppa chwerw,
Fe allasse d'enaid farw,
Yn ddisymmwyth heb repento
Edifaru.
,
A mynd dros fyth i boenydio
Trwy gystydd corph a chlefyd
Tost. Psal. 119.67, 70.
diriaid,
Y mae Duw 'n iachau dy enaid,
Ac yn d'arwain trwy ddifeirwch
At dy Grist i gael ei heddwch.
Trwy glefydion mae Duw 'n tynnu
Dyn i geisio cymmorth Jesu,
A gwir iechyd idd i enaid,
Rhag i fynd i vffern embaid.
A chlefydion bāch amserol,
Mae 'n rhag-achub poen tragwyddol,
Ac wrth gospi 'r corph mor ddiriaid
Dofi 'r cnawd a chadw 'r enaid.
Nid clefydion ond dialau
Blin a haeddodd dy bechodau,
Dwg gan hynny yn ddioddefgar
Y faeth glefyd criaidd hygar.
Fe allasse dorri d' [...]
Am dy fuchedd oedd [...]
A'th roi i vffern i boe [...]
Heb roi amser itt repen [...]
Rho gan hynny yn ddiweg [...]
Ddiolch iddo am dy gosp [...]
Lle gallasse dy lwyr ddifa,
A'th roi † Frwylian yn Gehen [...]
Fe allasse Dduw dy roddi,
Dan law Gelyn cas i'th gospi,
Lle mae 'n rassol iawn yr-wan,
Yn dy gospi a'i law ei hunan.
Nid yw'r Arglwydd yn dy † blago,
Megis gelyn i'th * andwyo,
Ond yn dirion yn dy faethddryn
Megis Tâd yn trin ei blentyn.
[...] edife [...] fydd wy [...] Duw yn dy ga­ru di a chariad o hyfrydwch; os drwg-ddyn a chariad o dosturi: ac felly, o herwydd cynddrwg yw'th gyflwr trwy bechu, mae e trwy glefydon, megis trwy amryw foddion eraill, yn ceisio'th droi di atto ei hunan, gan dosturio wrth dy enaid, ac felly yn ceisio 'th wella, fel nad elot i vffern. Os caledi dy galon a wnei di fel Pharo dan farnedigaethe Duw, gan esceuluso credu yn Grist ac edifarhau am dy bechod, a throi oddi­wrthynt hwy, heb ofal gennit i fyw yn dduwiol yn sob [...] ac yn gy­fiawn, yna disgwyl am ddigofaint a dialeddau y fo mwy yn y byd hwn, Lev. 26 18. Ac os arbedir y cyfryw bobl ymma, bydded [...]ys­pys iddynt hwy, na ddihangant hwy ddim o ddialedd Duw yn y byd y ddaw. 1 Thest. 5.3. Luc. 13.5.
Er bôd d'arglwydd yn dy faeddu,
Mae er hynny yn dy garu,
Pôb gwialenod ag a roddo
Sydd fel plaster i'th elio.
Ni ry Duw sydd mor ddaionus,
Na'th dâd nefawl sydd mor
Ofalus.
garccus,
Glefyd arnad na chaledi
Na wnel itti fawr ddaioni.
[...] dy ddolur,
[...] naws, dy nattur,
[...] ol dy gyflwr,
[...] vchlaw dy gryfdwr.
[...]n beth chwerw,
[...] dyn rhag marw:
[...]d yn dy flino,
[...] y achub rag dy ddamno.
[...] [...]iliodd yn † Gehenna,
[...] ddwgent fwy o boenfa
[...]s fil filiodd o flynydde,
[...]a caent rydd-did o'u poenydie.
Rho gan hynny yn ddiwegi
Ddiolch i Dduw am dy gospi,
Lle gallasse dy lwyr ddifa,
A'th roi frwylian yn Gehenna.
Arwedd teg o'i râs a'i ffafar
Yw cael cosp trwy glefyd hygar,
Sydd yn gwneuthur dyn yn barod
Cyn yr el o flaen y drindod.
Clefyd sydd fel chwip i'th gospi,
Nid fel cledde llym i'th dorri,
Swmbwl awchlym i'th ddihuno,
Ac nid bwyall i'th ddistrywio.
Fûst i ddyrnu ffwrdd dy ffwlach,
gwyntyll.
Ffann i nithio dy holl sothach,
Ffwrn i buro dy amrhyddion,
Chwip i'th gospi yw clefydion.
Nid da mêl i'r llawn digonol,
Nid da Gwynfyd i'r annuwiol,
Nid da Gwin i'r poeth ei
Cylla.
golydd,
Nid da iechyd i'r anufydd.
Nid oes arnad gy [...]
Ag a fu ar rai o'rh frod [...]
Sydd yr-wan mewn esm [...]
Yn y nefoedd gwedi'r bli [...]
Bu ar Lazar glefyd flimach [...]
Bu ar Job ddolurian drwm [...]
Bu ar Grist ei hun fwy flinde [...]
Maent yr-wan mewn esmwyth [...]
Ac os tithe fydd ddioddefgar.
Fe ry Duw itt hyn o ffafar;
Fe wna naill a llaesu 'th flinder,
Ai fe 'th gymmer i esmwythder.

Ymddiddanion cynfforddys rhwn y clâf 'Duwiol a'i enaid yn er­byn ofn Angeu.

O Fy Enaid pam i hofni
Fynd at Grist fu 'n dy brynu,
Ag a gollodd waed ei galon,
I'th ryddhau o law d'elynion?
Ni ddichon y dyn diras ddywedyd fel hyn wrth ei enaid, o her­wydd os bydd ef marw yn ei bechod hed ffydd ac edifeir [...] [...] chaiff ef fyned i'r nefoedd 1 Cor. 6.9, 10. ac ám hynny tra fo yn aros ac yn byw yn ei bechod mae gantho achos i ofni. Edifa­rha gan hynny a bydd ddyn newydd grasol gan ymheddychu a Duw trwy Grist, ac yno ti elli ddywedyd, O fy enaid pam i hofni, &c.
Pam i hofni fynd i'r nefodd,
Lle mae Christ yr hwn a'th brynodd,
A'th dâd nefawl a'r glan ysbryd,
A'r holl Sainct mewn braint a bywyd?
[...] eusiwys,
[...] [...]wn am prynwys;
[...] d'aelod attad,
[...]nyf ddwad.
[...]el dy Brynwr,
[...]ad a'th Jachawdwr,
[...]wn, gwêl dy Artre,
[...]'r hwn a'th bie.
[...] rych ar dy bechod,
[...] yr Oen a Laddwyd drossod:
[...] a ofna wedd y Barnwr,
[...]rist ei fâb yw dy Ddadleuwr.
Ac na ofna'r Angeu melyn,
Christ a dynnodd ffwrdd ei golyn:
Ni all Angeu ond dy symmyd
O'r byd hwn i dir y bywyd.
Luc. 16.22.
N [...]c aswydda rythreu Satan,
Gwel Angelion Duw
I ddisgwyl wrthyt.
i'th waetan,
A Christ Jesu a saith llygad
Ddydd a nos bob awr i'th wiliad.
Ac nac ofna'r Bedd llydylyd,
Gwely Christ yw hwn f'anwylyd,
Y mae 'r Prynwr gwedi dwymo
I bob Cristion nes cyfotto.
Na wna bris o vffern boenau,
Datc. 1.18.
Gwêl gan bwy y mae'r allweddau;
Gan dy Grist y mae cadwriaeth
Allwedd vffern a marwolaeth.
Oh gan hynny cwyn dy galon,
Pam ir ofni mor echryslon;
Gwel fâb Duw a'i waed a'i weli,
Fe dynnodd ffwrdd oedd raid itt ofni.
Cymmer gyssur, cw [...]
Dring vwch law pob [...]
Gwel y ef a brynwyd [...]
A'r Tifeddiaeth sydd it [...] [...]
Gwel dy orsedd, Gwel [...]
Gwel dy † Baline i'th w [...]
Rhai a brynodd Mâb Duw [...]
Fry yn heyrnas y goleuni.
Gwêl dy Grist a'i holl Angelion,
Gwêl y Sainct a'r holl rai cyfion,
Yn dy ddisgwyl ddwad attyn,
Ac yn barod bawb i'th dderbyn.
Gwêl dy delyn, Gwêl dy † seiol,
Gwêl dy wers a'th ganiad nefol,
Fry yn dy ddisgwyl fynd i ganu
I'th Jachawdwr am dy brynu.
Llêf gan hynny am d'ymddattod
I gael mynd at Grist dy briod,
O garchardy 'r corph a'th lygrwys,
I gael trigo ym Mharadwys.
Lle mae Duw a'i holl Angelion,
Christ a'i Sainct a'i Apostolion,
Mewn Gogoniant a Rhialtwch
Yn teyrnassu mewn dedwyddwch.
Nid oes yno ddim Anghyssur,
Poen, na chlefyd, cwrp na dolur,
Datc. 21.4.
Na marwolaeth na dim tristwch,
Ond llawenydd a dedwyddwch.
Oh hiraetha am gael hedfan
I'r wlâd lawen hon y [...]an,
At dy Brynwr Christ a'th Briod,
Mae dy Neithor yndi yn barod.
[...] dlwsse,
[...] addas,
[...] briodas.
[...]ynnon Dafydd
[...] daigreu cystydd,
[...] gwir ddifeirwch,
[...] [...]ist, Gwiriondeb, Heddwch.
[...] nid oes neb yn cael lleshad oddiwrth [...] sydd yn credu yntho ac sydd yn alarus [...] pechodau, ac mewn pryssurdeb yn ymroi [...] ffyrdd drygionus ac i fyw yn sanctaidd ac [...] ol ei ewyllys ef; Er mewn Christ na Thwyllwch [...] trwy ddywedyd heddwch wrthych eich hunain [...] Duw yn dywedyd felly. Datc. 1.5. Rhuf. 5.1. Act. [...]at. 5.4. Esay. 55.7. Heb. 5.9. Esay 57.21.
Gwisc Sancteid drwydd Christ am danad,
A'i Gyfiawnder yn lle trwssiad;
Pleth dy wallt mewn gras a gobaith,
Hardda 'th frest a chariad perffaith.
Mat. 25.
Cais dy lamp a Nynn dy Ganwyll,
Dwg 'th lusern olew didwyll,
Gwilia, Gwarchod a Gweddia
Nes dêl Christ, na chwsc na
Heppian.
slwmbra.
Deffro, disgwyl am dy Briod,
Llef am dano nes i ddyfod;
Fel yr Hydd na orphwys freifad,
Nes del Christ dy Briod attad.
Dywaid wrtho dere weithian,
Dere Arglwydd, dere yn fuan,
Dere Jesu Grist fyng hariad,
Dere tynn fy enaid attad.
[...] hydorus offrwm dy enaid [...] i'r nefoedd, Act. 7.59. L [...] [...] heb roi vfydd-dod ir Arg [...] [...] hwy; ewch ymmaith oddiw [...] [...] wiredd. Luc. 13.27, 28. Gair [...]
I'th ddwy ddw [...]
Yr wi yn brydd yn [...]
Cans ti prynaist Duw [...]
Dwg ef weithian i'th [...]

Ymddiddan arall rhwng y [...] a'i enaid am ofni marwo [...]

O Fy Enaid dywaid immi
Mewn pryssurdeb, pam ir ofni
Fynd at Grist a'i wir Angelion,
Or byd brwnt a'i holl drallodion?
Tost a thrwm yw gorfod gadel
Gwraig a phlant a ffryns a chenel,
Tai a Thir a Da a Dodren,
Heb eu gweled mwy arachefen.
O f' anwylyd cymmer gyssur,
Di gae olud mewn mwy fessur,
Siccrach.
Suwrach ffryns a gwell cyfeillion,
Gida Christ a'i wir Angelion.
Os dy Blant a ofna 'r Arglwydd,
A'i wasnaethu mewn Sancteiddrwydd,
Di gae weld dy Blant drachefen,
Mewn Gogoniant yn dra llawen.
Yn lle ffryns a mwyn gyfeillion,
Di gae 'r Sainct a'r holl Angelion
i'th fawthan a'th gywir garu,
A'th Blant eilchwaith i'th ddiddami.
[...] bobol
[...]
[...] Tâd ymddifad
[...] Alwad.
[...] dy olud,
[...] sydd gennyd:
[...] dy feder
[...] [...]lexander.
[...] neuadd lwyd-las,
[...] oedd dai o * dôpas,
[...] o berls i gwneuthur
[...] fel y gwydyr.
[...] [...]aetha am dy diroedd,
[...] Berllanneu na'th winllannoedd:
[...]ae 'Mharadwys dir sydd deccach,
[...]frwyth sydd well a gardd † araulach.
Na wna * gownt am Aur nac Arian,
Mae 'n y nefoedd Aur i † ddamsian,
Perls a Gemms yn gweithio 'r gwelydd;
[...].21.
Aur yn pafio 'r holl heolydd
Na wna bris am vn o'th swydde,
Mae 'n y nefoedd fwy o radde:
Datc. 1.6.
Y mae'r gwaetha fyndi'n ffeiriad
Ac an frenin mawr ei alwad.
Na wna bris am ddillad gwychion,
Datc. 19.8.
Mae ym-haradwys wiscoedd gwynion;
Yn disclerio ar dy gefen,
Mat. 13.43.
Mewn Gogoniant fel yr haul-wen.
Datc. 22.
Na wna bris o'th fwyd newynllyd,
Mae ym-haradwys bren y bywyd,
Manna yn fwyd, 'qua-vitae
Dwfr y by­wyd.
'n ddiod,
Gwledd heb ddiwedd, oes heb ddarfod.
Na wna bris [...]
Rhwn sydd ym [...]
Mae 'n y nefoedd [...]
Sydd yn para yn [...]
Na wna gownt o d [...]
Ond ymgweiria am [...]
Fyng yn rhwydd trwy [...]
I lawenydd Christ d [...]
Lle mae mwy o wir esmw [...]
A dedwyddwch ar dy fed [...]
Nag all calon dyn chwennyc [...] [...]
Nac vn tafod i fanegu.
Dôs gan hynny, dôs yn llawen,
Dôs at Christ dy Ben dy Berche [...]
Gado'r byd a'r maint sydd yntho
Mam a thâd i fyned atto.
Yn lle 'r pethau darfodedig
A † geist ymma gantho eu benthig,
Di gae bethau na ddarfyddant
I Meddiannu mewn gogoniant.
Di gae iechyd heb ddim nychdod
Ac esmwythder heb ddim trallod,
Gwir Lawenydd heb ddim tristwch,
Oes heb ddiwedd mewn dedwyddwch.
Ni chaiff clwyf na haint na dolur,
Datc. 21.4.
Newyn, syched nac Anghyslur,
Trallod, Tristwch, ochain, wylo
Nac vn gelyn mwy dy flino.
Di gae fyw mewn mawr Lawenydd
A dedwyddwch yn dragywydd,
Ym-mlith milioedd o Angelion,
I foliannu d'Arglwydd tirion.
[...]cha.
[...]awe
[...] bethe?
[...]ddu,
[...] cennadu.
[...] au lygad
[...] Christ dy Geidwad:
[...]ryd i'th gyfrwyddo
[...] fyned atto.

[...] [...]rr yn erbyn ofn Angeu: Ar daioni [...] fod oddiwrth [...] y [...] hyn yn canlyn mar­wo [...]aeth y rhai drwg. dduwiol farwolaeth.

[...]! na wyddad dyn pa ddonieu
[...] Sydd yn dwad oddiwrth Angeu,
[...]th nid ofnei o'i ddyfodiad;
Ond fe lefe am ei ddwad.
Y mae Angeu 'n gwneuthur diwedd
Ar ein cystydd a'n hanwiredd:
Ac yn dwyn o Fôr trafferthwch
Ddyn i'r Porthladd o ddedwyddwch.
Y mae Angeu 'n tannu 'n gwely,
Gwedi 'n trafferth inni gyscu;
Ac yn rhoddi mawr esmwythder
Gwedi 'r trallod tôst a'r blinder.
Y mae Angeu 'n claddu 'n beiau,
Ein clefydion a'n doluriau,
Fal na ddichon pechod mwyach
Nac vn clefyd flino ym-hellach.
Y mae Angeu [...]
Lawer pryd rhag g [...] [...]
A ddigwydda yn [...]
Ar eu gwlâd ac ar [...]
Mae e'n tynnu rhai [...]
Sydd ym-misc câs [...]
Rhag ir rhain eu hud [...] [...]
Ac i weithio 'r peth nas [...]
Y mae Angeu 'n diosc dynion [...]
O'u hen frattieu sarnllyd brwn [...]
I ddillattu 'r rhain yn halaeth, [...]
Mewn hardd wiscoedd Jechydwri [...]
Mae 'o rhyddhau yr enaid hyfryd
O'r carchardy tywyll tomlyd,
I gae i gweld goleuni 'r Arglwydd,
Ai wasnaethu mewn perffeithrwydd.
Y mae Angeu * toc yn dattod
Enaid o'r corph caeth i bechod,
Ac heb aros yn cysylltu
Hwn a'i Briod mawr Christ Iesu.
Phil [...]
Y mae Angeu 'n tynnu dynion
I'r nef ole at Angelion,
2 Cor. 5. [...].
O'u ty candryll sydd es dyddie,
Ym-mron cwympo ar eu penne.
Mae e'n tynnu maes o Sodom
I'r mynydd-dir rhag y
Temestl.
Storom,
Ac yn mynd o'r Aipht i Ganaan
A'r rhai duwiol yn ddiofan.
Y mae Angeu 'n tynnu dynion
O'r byd hwn i gael y Goron,2 Tim. 4.6, 8.
A bwrcassodd Christ trwy Angeu
I'r rhai ffyddlon a'i gwasnatheu.
[...] yd,
[...]
[...] ch,
[...] ddedwyddwch.
[...] Angeu
[...] or ddeheu
[...] allod,
[...] lys y drindod?
[...]ns di rinwedde,
[...]od ofni Ange:
[...]ned vn † gwir gristion,
[...] Ange i gael ei Goron.

[...] Iawr glôd ddydd marwolaeth y cyfiawn.

DYdd ein
[...] yn y [...] hon­ [...] [...] [...]edd ri [...] ­oedd yr Israeliaid a wstlwyd yn dyfod yn rhydd i'r perchnogion▪ Ac hwyntau eu hunain yn dyfod allan yn rhyddion oddi tan ddw [...] eu meistred. Lev. 25.
Iubil a'n gollyngdod,
Dydd ein rhydd-did o bôb trallod,
Dydd sy'n gollwng ein eneidie
O'r carchardy yw dydd Ange.
Dydd ein Neithor a'n Priodas
A Christ Jesu 'r gwir Fessias,
Dydd ein gwledd a'n
Dydd i gael y goron.
coronasiwn
Yw 'n dydd diwedd os ystyriwn.
Dydd sy'n gorphen ar ein gyrfa,
Dydd sy ein tynnu o gyfyngdra,
Dydd sy'n talu ein Cyfloge,
Dydd y
Nad pen ir yrfa redeg.
gôl yw dydd ein Ange.
Dydd sy ein [...]
At fab Duw yr h [...] [...]
Dydd sy'n rhoddi [...]
Yw dydd Ange i † [...]

Gweddi yn cyfar [...] pethau rheita i ceis [...] [...] arnynt mewn [...]

DUw'r diddanwch llaesa [...]
Tâd tosturi rho imi esm [...]
Meddig pôb clwyf Jacha nolu [...]
Jesu mab Duw rho im gyssur.
Tyn fi o dywyll Deyrnas Satan,
Ac o bôb dallineb allan,
Fal y gallwi weld fy mhechod
A llonyddu fyng hidwybod.
Gwna fel Dafydd im
Pl [...] Jan [...]
repento,
Gwna fel Magdalen imi wylo,
Gwna fel Ninif mi gydnabod
A 'mofydio am fy mhechod.
Gwna 'mi geisio
Maddeu [...] 2 Chron. 33.12.
pardwn gennyd
[...] Manasses yn ei ofyd,
Ac ymbilio am drugaredd,
Megis Peder am f'anwiredd,
Gwna 'mi gredu fôd im bardwn,
Ephes. 1.7.
Gwedi selu a gwaed dy
Dioddefa­i [...].
bassiwn,
A bôd F'enaid gwedi olchi
Yn dy waed oddiwrth ei frynti.
[...] [...]inder.
[...]
[...] [...]ed gennyd
[...] [...]efyd,
[...]
[...] yn ore.
[...] Ezekias
[...] [...]ibio a'i berthynas,
[...] [...]eb at y pared
[...] y holl ymddiried.
[...] [...]wl am y cyfri
[...] sydd raid im roddi
[...]aith a'r geiriau ofer,
[...]isaf râs mewn amser.
[...] im wrando ar dy fengyl,
[...] * bromeision yndi yn rhigil:
Gwna im ddala gafel ffyddlon
Ar dy addewid a'th bromeision.
Gwna im feddwl am y bywyd
Yr âf iddo ar fyrr ennyd,
Lle mae Sabboth o esmwythder
Heb na chûr na phoen na blinder.
Gwna im wadu 'r byd twyllodrys,
A'i oll wagedd anwireddys
Ac ymgweirio ddwad attad
Yn ddiaros (anwyl Geidwad.)
Gwna im offrwm heb ddeffygio
Gorph ac enaid yn dy ddwylo,
Ac ymbilio hyd y diwedd
Am dy ffafar a'th drugaredd.

Diddanwch rh [...] [...] yn erbyn [...]

O Fy Enaid pan [...]
Faint dy bech [...] [...]
Lle bu 'r Jesu farw [...]
I'th ryddhau oddwrth [...]
Pam i hofni farn y Bar [...] [...]
Christ yw'th Twrneu a'th [...]
Mab y Jestys trwy farwolaet [...]
A'th ryddhaodd o ddamned [...]
Ni chondemn th dragwyddol
Vn a gretto i Grist yn fywiol:
Ond hwy * bassant, wrth eu sym [...]
O farwolaeth i wir fywyd.
O fy Enaid ymlonydda,
Dy Dduw grassol a'th gyfiawna:
Pwy all gwedyn dy gondemnio?
Mae Christ drossot gwedi hoelio.
Christ a'i waed a ylch dy bechod,
Ac a'th wnayff mor wynn ar manod;
Er dy fôd mor gôch ar scarled
Christ a'th ylch mor wynn at foled.
Yr haul a rywlla 'r cwmwl tewa,
Sebon ylch y dillad brynta:
Rhinwedd Christ a gudd dy frynti,
Mat. 26.75. Psal. 51. ar, 2 Sam. 22.13. 2 Chron. 33.12, 13.
Ei waed a'th ylch mor wynn ar lili.
Duw faddeuodd bechod peder,
Rhyfyg dafydd a'r mab [...]fer,
Rhwyf Manasses ai hôll feie,
Duw a fadde 'th bechod
Os fel hwyn­tau edifar­hau ai, ac y creau di.
dithe.
[...]
[...] [...]oelion,
[...] [...]de;
[...] [...]e.

[...] [...]m faddeuant [...] [...]dau.

[...] [...]n am creaist,
[...] [...]eidwad 'rhwn am prynaist;
[...] [...]ryd, O'r gwir drindod,
[...] maddeu mhechod.
[...] 'rhwn am prynodd,
[...] peth a'th foddlonodd,
[...] oll a chwbwl
[...] [...]hoi maes o'th feddwl.
[...] i waed fy mai am Mrynti:
[...] fy mhechod yn ei weli:
[...]dd fyng wradwydd a'i gyfiawnder:
[...]dde im fy hôll ddiffeithder.
[...] fy enaid o gylch gwmpas
[...] [...]isc sanctaidd y briodas,
[...] fi'n barod ddwad attad,
O fy Nghrist mewn gweddys drwssiad.
Dôd dy Angelion im castellu,
Nâd i Satan fyng orchfygu,
Cadw f'enaid yn dy ddwylo
Nâd Grist i'r llew i
I thorri yn vffton.
llarpio.
Pan i delwi i'r
O flaen yr orsedd­fainge.
Barr i atteb,
Gar dy fron am f'annuwioldeb,
Gwared f'enaid er mwyn Jesu,
Na ro i mi o'r farn wi'n haeddu.
Cymmer Ange [...] [...]
Yn iawn itti am [...]
Pe gondemnwyd [...]
Er ei fwyn na dda [...]
Haeddais Angeu, ha [...]
Haeddais farn rhagr [...] [...]
Duw na ddoro 'r hyn [...]
Rho i mi 'r hyn a haed [...]
Fe gyflawnodd drosswi [...] yg [...]
Fe 'th foddlonodd drosswi yn [...]
Fe groes hoeliwyd am fy mry [...]
Er ei fwyn rho bardwn immi.
Nid oes genni na Sancteiddrwydd,
Na chyfiawnder, na pherffeithrwyd
Nac ymwared, iawn, na swccwr
Ond sydd gennyd Christ fy Mrhynw [...]
Christ yw yng homffordd, Christ yw yn
Christ yw yng obaith yn fyng waywyr,
Christ yw fhelpwr ar awr Ange
Christ yw yng Heidwad ddydd diale.
Fe fu farw yn anhyfryd,
Er pwrcassu immi fywyd:
Er yr Ange a ddioddefwys,
Duw dwg f'enaid i Baradwys.

Gweddiau byrron i'r clâf iw har­feru fel y bô achos.

DUw rho glûst i wrando yng weddi,
Am Esmwythder
Duw rho d'ysbryd im comfforddi,
Duw rho olwg ar fy nolur,
A'th law rassol llaesa yng waywyr.
[...],
[...] fodi.
[...]wnder,
[...] dy ddigter:
[...] fy mhechod,
[...] Hydwybod.
[...] Angeu gwirion,
[...] farn echryslon,
[...] dod rhwng cyfiawnder
[...] am diffeithder.
[...] waed gwna heddwch etto,
[...]th Dâd sydd gwedi digio,
[...] iffodd ei ddigofaint,
[...]do mlinder cymmaint,
[...] yf o Grist cryfhâ fi,
[...] ann a chlaf fy Nuw Jacha fi,
[...] wm a thrist ac ofnus ddigon
[...] ha fy ffydd a chwyn fyng halon.
[...] 'r diddanwch llaesa mlinder,
[...] [...]osturi Rho i mi 'smwythder,
[...] dyg pob clwyf Jachâ nolur,
Jesu mab Duw rho im gyssur.
Llaesa mlinder,
[...] haws­wad.
dofa nolur,
Gwêl fy mhoen, athorr fyng waywyr,
Trefna niwedd, penna 'n rhallod,
Dwg fi attad, rwi 'n dy warchod.
Am nerth ysbrydol.
O fy nghrist cerydda Satan,
Cadw f'enaid rhag ei safan,
Cynnal fi a'th hael-wych ysbryd
Dwg fi attad i'r gwir fywyd.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.