BEDYDD GWEDI AMLYGU.
PAn 'r ydwyt wrth ddarllen yn myned i chwilio allan feddwl duw gâd ith lêf fôd, Arglwydd eneinia fy Lygaid ag eli Lygaid fel y gwelwyf; ag os bu hi yn ddydd o nerth 'r Arglwydd ar dy Enaid, nid osnaf na roi di groeso i'r gwirionedd, ymmha drwssiad bynnag y dêl, ag y feddyli fwy am y peth sudd gynwysedig yn y Lythyren; nag 'r osni wael drwssiad y gennad: yn enwedig gan ei ddyfod oddiwrth un, enw 'r hwn yw 'r Duw mawr. Wrth drîn gân hynny 'r Gwirionedd hŷn, (hynny ŷw) Bedydd y Credadŷn, fel 'r ymmarferwyd ef gan Grist a'r brîf Eglwysi, fy mawr ddeusyfiad arnat yw: am iti ddarllen yr hyn a ddywerpwyd yn ddibartiol a pheth bynnag a geffych yn cytûno a'r gwirionedd derbynniwch fel yr hŷn sudd mwy [Page 2]gwerthfawr nach bowyd, a bernwch amdano yn ôl yr Scrythurau Sanctaidd, canys pan ddarffo dywedŷd yr hyn ôll â ellir ddywedŷd; rhaid iddŷnt hwy farnu ym hob gwrth-ddadl o grefudd ag fel y mae Crist yn syluaen ar yr hwn pwy bynnag a adeilado ni chant eu gwradwyddo; mi ga gan hynny ddal sulw ar rai pethau y berthŷn i Grist yn ei fedŷdd; ag yn hyn y gellwch ddalsulw mor fanwl y mae 'r Scrythurau Sanctaidd, i ossod i lawr 'r Amgylchiadau oi Fedŷdd ef.
BENNOD. I. Grist a Fedyddiwyd yn Afon 'r Jorddonen.
AM Fedŷdd 'r Arglwydd Jesu Grist, y gellwch ddarllen yn helaeth, Mat. 3.13. Yna y daeth 'r Jesu o Galiloea i'r Jorddonen att Joan yw Fedyddio ganddo. Mae pob gair yn bwysfawr (yna) cyn iddo ddechreu ar y Wenidogaeth gyhoeddus fel y gwelwch Mat. 4.17. O'r prud hynny y dechreuodd 'r Jesu bregethu, (fe ddaeth) fe allasau orchymmŷn Joan i weini iddo; ond mewn arwydd oi ostyngeiddrwydd, fe a ddaeth [Page 3](o Galiloea) lawer o filltiroedd, ag y mae yn dybygol ar ei draed; pob cam â gerddom dros dduw sydd gymeradwy ag a gaiff ryw ddiwrnod ogoneddus obrwy: i'r Jorddonen lle 'r oedd afon lle bedyddwyd miloedd ynddi ag oedd Le cyfaddas i Joan drochi Christ ynddi: fely ceir gweled yn òl llaw, y nawr mi ga ddal sulw ar wŷth o bethau ynghŷlch bedydd Crist.
Yn gynta ynghŷlch ei oedran fe ddywedir Luc. 21. Jesu gwedi ei fedyddie adnod 23. Ar Jesu ei hun oed ynghylch dechre ei ddengmlwydd ar hugain oed; chwi welwch yma i Grist ei hun gael ei fedyddio pan oedd yn oedrannus; pa gallasau neb gael e'u bedyddio yn ei Ievengtyd pam na allosau Christ. Gristnogion na chwilyddiwch ych Atho aeth och blaen 'r oedd ef yn 30 oed, pan y bedŷddiwyd nid oes ar Grist gwilydd ych galw chwi yn frodyr Heb. 2.11.
Yn ail; peth arall in i ddal sulw ymmedydd christ yw 'r gwenidog o'r ordinhâad sanctaidd hon Joan; fe gyfaddefodd amdano ei hun Nad odd ef deilwng i ollwng careion ei scudiau ef, Mark. 1.7. Y nawr os derbynnau Christ fedydd oddiwrth y fath offerin anheilwng [Page 4]na ddibrissiwch byth o'r ordinhâad o herwydd anheilyngdod y gwinidogion; bydded ych Lug [...] ar Grist ych siampal.
(3) Yn drydydd markciwch y neccaad a Joan a or afynnodd iddo Mat. 3.14. ni ddylauanhawstra 'r ddyledswydd fôd yn escus; ni ddylem ni gymerŷd yn gwahard o ganlyn ar ôl duw, ymdrechwch am fyned i mewn i'r porth cyfing.
(4) Yn bedwaredd, markiwch resum Joan mae arnaffi eisiau fy medyddio genit ti ag a ddeui di attafi: ni fyn rhai moi bedyddio oni bydd anghenrheidrwydd; y rhesswm cnawdol yw: oni allaf fynd ir nefoedd er na chaffwyf fedŷdd, a yw è yn anghenrheidiol i Jechydwriaeth; â ydyw hyn debig ich Arglwydd ach athro, onid oedd ef yn jachawdwr perffaith, onid oedd 'r yspryd gwedi eu dywallt arno yn anfessurol nid oedd arno ddim pechod i olchi ymmaith gan hynnŷ gwelwch ych siampal nid yw ef yn gwneuthyr mohono o angen, ond o yfuddod i ewyllys ei dâd.
(5) Yn bummed Marckiwch 'r enwau godidog y mae ef yn i roddi i'r ordinhâad hon o fedydd (1) fe ai gal wyff yn gyfiawnder Mat. 3.15. Mae yn [Page 5]gyfiawn ag yn weddus fy môd i ynghylch gwaith fynhâd; 2. Mae yn beth gweddus, mae yn weddus i ni; o y mae yn beth gweddus Jawn ymmhlant duw i edrych at hôll orchymynion duw (3.) Y Gysulltiad (ni) di, afi, am hôll ddilŷnwyr Joan, 12.26. Os gwasaneutha neb fi dilyned fi a lle 'r wi fi yno bydd fyngweinidogion hefyd (4) (Cyflawnder) y mae e yn gyflawniad 2 Cor. 10.4. Ganŷs arfau yn milwriaeth ni, nid ydynt gnawdol ond ysprydol adnod 5. gan gaethrwo pob meddwl i ufudd dod Christ (a [...]nod 62) ag yn barod gennym ddial ar bob anufydd dod pan gyflawnir ych ufudd dod chwi: ufudddod fŷdd raid cyflawni (5.) yr enw cyffredinol (pôb) bedydd yw un o bob mae Christ yn ei gyfrif os felly: ni elli rodio yn yr holl orchmynion os hwn â adewir.
6. Markciwch yn fedydd Christ ffurf y weinidogaeth Mat. 3. ag yn y fan fe aeth i fynu o'r dwfr, oherwydd fod bedydd unwaith yn drochi (i fynu) oni buassau fe i lawr ni ddywedassyd fe aem i fynu (fe aeth) ni chariwd mewn breichiau fel yr ydis yn cario plant (o'r dwfr) os aeth ef allan o'r dwfr yna fe fu ynddo: ni ddywedwn un amser i un [Page 6]fyned allan o'r ty, pan na fu erioed i mewn, felly ni allasyd dywedŷd i Grist ddyfod allan o'r dwfr oni buassau ynddo, deth i fynu ohono, pe dygasyd ychydig ddwfr atto mewn cawg, ni ddywedassyd iddo fyned i fynu o'r dwfr, y dwfr hŷn oedd afon 'r Jorddonen. Mae Christ yn ymmostwng i bethau bychain am i fod yn ordinhâad.
7. Markciwch am fedydd Crist bodlonrwydd y tád Mat. 3.16.17. (y nefoedd) agorwyd: rhai o ddilynwyr Christ a gawsont agoriadau gogoneddus am y nof yn y bedydd, (yr yspryd a ddescynnodd) yr un hynnŷ a ddawfyd i'r rhai sydd yn credu yn y bedydd Actau. 2.38. Ediferhewch a bedyddier pob un ohonoch a Chwi â derbynniwch ddawn yr yspryd glân. Gwrthddadl. A ydyw pob un a fedyddier yn derbŷn yr yspryd glân? Atteb. Nid yn y bedydd y mae 'r diffig onid yn edifeirwch a ffŷdd, heb y rhai nid oes un ordinhâad yn effeithiol (ag wele lêf o'r nef hwn yw fy anwyl fâb) Christ fel pen a Sealwyd: ag yn y bedydd mae duw yn selio mabwsiad i aulodau (yn yr hwn im bodlonwyd) nid yn unig yn yr hyn ôll a wnaeth ag y mae yn i wnouthur, ond hefyd yn y [Page 7]weithred o ufudd-dodi fyngwyllys gogoneddus. Ceusym fodlonrwydd, ag felly y câedd 'r Arglwydd fodlonrwydd yn y weithred o ufudd-dod y mha un 'r ydim yn ufuddhâu o'r galon i ffurf o athrawieth a draddodwyd i ni Rhuf. 6.17. Yr un Lyferydd a gafodd bendigedig fâb duw yn y mynydd Luc. 9.36. Hwn yw fy anwyl fâb; gwrandewch arno ef. Gwrandewch arno yn ei orchymynion, gwran dewch arno y nawr yn ei fedydd. oh medd Christ fel hyn y gweddau ini: y chwi sydd a'm tâd i yn dâd i chwi: chwi fŷdd a'm Duw i yn Dduw i chwi, fel hyn y gweddau i ni gael ein bedyddio ag i gyflawni pob cyfiawnder; oh mae è yn fâb anwyl gwrandewch arno ef.
8. Marckiwch fel y mae 'r drindod megis yn cyfarfod ymmedydd Christ y tâd gida Lyferydd, y mâb gwedu i fedyddio yn ei berson, yr yspryd glân yn descŷn fel Clommen: ac yn siccir mae è yn un rhesswm enwedigol paham yr arferir bedydd yn enw yr tâd a'r mâb a'r yspryd glân: am fôd y neb a fedyddier ag a fo yn Cowir gredu, mau'r holl drindod y tâd a'r mâb a'r yspryd yn gyfran iddo, a'r gogoneddus undeb o'r drindod ymmedydd Crist atgofier ymmedydd pob credadŷn.
BENNOD. II. Am y Gorchymmyn mawr am fedydd y credadŷn.
Fel y clywsoch beth am ych patrwn mawr 'r Arglwydd Jesu: felly y nawr y câf ddangos i chwi ryw beth ynghylch ei orchymmŷn ef, Mat. 21.19. Ag mi a ddeussyfiaf dalwch sulw beth a ddywedir am 'r Arglwydd Jesu Acts. 1.1. fe ddywedir am Grist iddo wneuthur yn gystal a dyscu; mae yn dda i Athrawon dybygu iw Harglwydd i wneuthur, yn gystal a dyscu; adnod 2. Derbynnŷwd ef i fynu, wedi iddo trwy 'r ysprŷdroddi Gorchymynion iw Apostolion; o'r cyfriw orchmynion, hwn o fedydd y credadŷn yn siccir sydd yn un, ag fel y gwelwch Mac. 28.18.19.20. Y Duw mawr ai rhoddodd i fôd yn Athro, ag yn arwinudd iw bobl Jsai. 55.4. Mau Christ yn rhôdd fel yn gorchmynnwr; O pwy fath drugaredd ydyw cael fath Athro doeth; gorchmynion pa un, i'r credadwy nid ydŷnt drymmion: o gadw ei orchmynion mae gwobr lawer. Bsul. 19.11. Nawr yn y gorchymyn hwn mae wyth O bethau yn enwedigol i graffu arnŷnt.
1. Yn gvnta dalwch sulw o ba le y daeth Christ paham y daeth allan o'r bedd, Jesu gwedi gyfodi, a duw ai cyfododd oddiwrth y meirw ag ai danfonodd in bendithio ni Acts. 3.26. Yn ddiau ni ddarparassau y bendigedig Jesu ddim ond oedd dda iw bobl, mau ef-yn Jesu bendigedig ag y mae ef yn rhoddi gorchmynion bendigedig; gwyn ei bŷd y Rhai sy yn gwneuthur ei orchymynion ef; fel y byddo iddynt fraint ymmrben y bowyd ag y gallont fyned i mewn trwy'r pŷrth i'r ddinas. Datc. 22.14.
2. Yn ail Marckiwch Crist a ymddangossodd ag a ddaeth attŷnt, nawr ped ymddangossau Angel a gorchymmŷn i fedyddio pobl pwy ai gwrthsefau. ond y mae gennŷch ymma ogoneddus fâb Duw yn ei berson ei hunan yn ymddangos ag yn dywedŷd, ewch dŷscwch a bedyddiwch.
3. Yn drydydd craffwch gida pa fâth awdyrdod y mae ef yn dyfod, Mat. 28.18. Rhoddwyd ymi bob awdurdod yn y nêf ag ar y ddaiar; pob gallu i orchymmŷn a roddwyd i mi yn gystal yn y nêf ag a'r y ddaiar; pob gallu i gyfrannu y nefoedd a'r ddaiar pob gallui ymddiffin: y mae angelion a dynion-wrth fyngorchymmŷn; [Page 10]yr wi yn abl ich amddiffin ag i sefull gida chwi: ag i fod gida chwi yn gystal yn y tân ag yn y dwfr, pob gallu fŷdd gennyfi; ewch gan hynnŷ dyscwch a bedyddiwch nag ofnwch neb gelynion; Ewch dyscwch a bedyddiwch.
4. Yn bedwaredd Craffwch ar y gorchymmŷn ei hunan Mat. 28.19. Medd Christ, ewch gan hynnŷ dyscwch a bedyddiwch; Ni wnaeth Crist ond dywedŷd, wrth leng ewch Mat. 8.32, a hwy a ruthrassant yn fuan ag oni fydd i'r Credadwy fód yn bobl ewyllysgar yn nŷdd ei nerth; ni wnaeth y Canwriad ond dywedŷd ewch wrth ei weision a hwy authant ni wnaeth ef ond dywedŷd deuwch a hwy a ddaethant, ag ni wnaeth ef ond dywedŷd gwneuch hŷn a nhwy ai gwnaethant, ag a fydd gweision Crist yn waeth iddo ef nag oedd gweision y Canwriad; Crist sŷdd yn dywedŷd, ewch.
5. Yn bummed craffwch beth sydd ragflaenor i'r bedydd: ewch dyscwch, mae yn rhaid fod dŷsceidiaeth, yspryd ŷw duw Rhaid i'r rhai ai haddolant ef ei addoli mewn yspryd à gwirionedd, Canys y cyfriw y mae 'r tâd yn geisio iw addoli ef Joan. 4.24 Gan hynnŷ [Page 11]mae yn rhaid i'r ddysceidiaeth fyned o flaen bedyd, onidè nid addolant ef bŷth mewn yspryd a gwirionedd: ewch dyscwch a bedyddiwch. yr wi fi yn cyfadde fôd Llawer o bobl yń dywedŷd fôd y gair dyscwch yn y groeg yn cynwys gwnewch ddyscyblion ag ni feiddia fi ddywedŷd yn erbŷn hynnŷ canys yr wŷf yn ei gael yn arferedig gan Jesu Christ fe a wnaeth ddyscyblion yn gŷnta ag ai bedyddiodd gwedin Joan. 4.1. Jesu a wnaeth ag a fedyddiodd fwy o ddyscyblion nag Joan, ymma yn gynta yr oedd gwneuthur dyscyblion a gwedin eu bedyddio nhwy ond pa nifer o eneidiau truain sydd mewn anwybodaeth yn bedyddio y rhai na wnaed erioed yn ddyscyblion; ond Crist addywed dyscwch a bedyddiwch hwy.
6. Yn wheched Craffwch Helaethrwydd y gorchymmŷn dyscwch y'r holl genhedloedd a bedyddiwch hwy. Ewch at bob cenedl pa un bynn [...] fo'r wlâd hynnŷ ai twym ag oer Jddewon a chenhedloedd gwriw a beniw pan ddarffo i chwi eu dyscu nhwy gwedi hynnŷ bedyddiwch nhwy nawr y mae'r ganol fûr o wahanieth gwedi ei thorri lawr, nawr nid ŷw Duw dderbynniwr wyneb, nawr [Page 12]na thybied neb i ymffrostio fôd Ahraham yn dâd iddŷnt; nage, nage; ewch at bob cenedl cyhoeddwch newyddion da 'r efengil i bob creadur Marc. 16.15.16. Y nêb a gredo ag a fedyddier a fydd cadwedig ewch dyscwch bob cenedl gan eu bedyddio hwy: pan ddarffo i chwi eu dyscu nhwy gwedin bedyddiwch hwy.
7. Yn seithfed craffwch [...] yr drefen Mat. 28.19. gan eu bedyddio yn enw' [...] tâd, y cyfriw ag a dderbynnio 'r Arglwydd Jesu ar ammodau 'r efengil fe fydd Duw yn dâd iddŷ it, 2. Cor. 6.17. Ewch rhoddwch alwad arnŷnt, deuwch allan o fŷsc y'r angredadwy, ag ymddidolwch, a mysi a fyddaf yn dâd i chwi a chwithau gewch fôd yn feibion ag yn ferched imi. Sefwch ennyd a rhyfeddwch ymma: chwi y rhai ydych yn cyfri'r fendigedig ordinhâad o fedydd yn beth diddim, mae pethau gida ni yn awdŷrdodol a wneler yn enw'r brenin, ond ymma [...] enw'r Duw mawr ie mae enw'r dd [...]geledig drindod ymma; y tad y mab, ar yspryd glân; ag a wyt ti yn meddwl nad oes dim mewn bedydd, sydd a'r gogoneddus enw hynny yw addoli ai rufeddu: ewch bedyddiwch hwy yn enw gogoneddus y tâd a'r mâb a'r yspryd glân.
[Page 13]8. Yn wythfed Marciwch ar yr Addewid fendigedig sydd gyssyltedig, ewch bedyddiwch, a mi a fydda gida chwi mae Crist yn gufaill da, chwi y rhai ydych yn caru ei gymdeithas; Ceisiwch ef Le'r addawodd ei hun; gofynnwch am y'r bên Lwybrau Le mae Fordd dda, a rhodiwch ynddi [...] a chwi a gewch orphwysdra ich eneid [...] [...] gorphwysdra i'r enaid o'r tu ymma i Grist nag oes, nag oes, yn ei bressenoldeb mae digonolrwydd o lawenydd, a fynnwch chwi gael ei bressenoldeb gwnewch fel Zachews, ewch i'r ffordd credwch a chymerwch ych be dyddio Canys y mae ef yn dyfod a'r hŷd y ffordd hon (bedyddiwch) a mi a fyddaf gida chwi bob amser hyd ddiwedd y bŷd amen, mae amen yn canlyn, geiriau ffarwel y cyfeill gorau ydŷnt bedyddiwch á myfi á fyddaf gida chwi. Amen.
BENNOD. III. SIAMPLAU.
AM lawer o filoedd a fedyddiwyd mewn afonudd y rhai ôll a wnaethant gyffes o'i hedifeirwch ai Fydd [Page 12] [...] [Page 13] [...] [Page 14]ag oeddynt o oedran yn abal i atteb drostynt ei hunain.
1. Siampal Cynta am y rhai a ddywedir i Crist fedyddio Joan. 4.1, 2. fe ddywedpwyd iddo i gwneuthur hwy yn ddyscyblion ai bedyddio hwy; yn gynta maent hwy yn ddyscyblion, gwedin yn cael e'u bedyddio: fe ai gwnaethpwyd yn ddyscyblion nis causont eu geni yn ddyscyblion; hynny yw, fe ai gwnaethpwyd yn ddyscyblion trwy bregethiad gair Duw, à gwedin bedyddiwyd hwynt.
2. Yr ail Siampal, Mae gennych Siampal yn Act. 2.41. Yna y rhai a dderbynniassant ei air ef yn ewyllysgar a fedyddiwyd: y'r achosion o hŷn y gewch chwy Adnod 37. hwy a ddwysbigwyd yn e'u calon: ni wyddent beth a wnaent, y'r oedd pwys y pechod yn gorwedd yn drwm arnŷnt, mae 'r Apostol yn mynegu iddynt, y dylent edifarhâu a chymeryd ei bedyddio a gwedin y caent dderbŷd y'r yspryd glân, yna y rhai â dderbynniassant y gair yn ewyllysgar a fedyddiwyd y mae trugaredd yn felis i'r enaid Archolledig ag ni attal y cyfriw enaid oddiwrth un ddyledswydd, nawr fe gymmer ei drochi mewn dwfr wrth orchymmyn Crist adnod, 41 a [Page 15] chwanegwyd attŷnt y dwthwn hwnnw ynghylch tair mil o Eneidiau.
3. Siampal: Siampal arall y gewch Act. 8.12. Eithr pan gredassant i Phillip yn pregethu y pethau y berthynent i deyrnas Dduw ag enw 'r Jesu, hwy a fedyddiwyd yn wŷr ag yn wragedd: a phan y crèdassant adnod. 5. hwy o Samaria, ag er dim a wyddom ni Rhai ô rheini a fynnasau yr discyblion ychydig o'r blaen alw am dân o'r nêf arnŷnt Luc. 9.52.54. er hynny pan ddaeth y rhai hyn i gredu hwy a fedyddiwyd, yn wŷr ag yn wragedd; oh er agossed at uffern, os credi a chymeryd dy fedyddio mae trugaredd ti.
4. Siampal. Mae gennych Siampal arall am fedyddio 'r credadwy yn Acts. 8.5. Phillip a bregethodd ir efnuch, yr Jesu, adnod 36. Hwy a ddaethant at ryw ddwfr ar Efnuch a ddywedodd wele ddwfr beth sydd yn Luddias fy medyddio, ag adnod 37. A Phillip a ddywedodd os wyt ti yn credu a'th holl galon fe à ellir; 'r os hwn, yw'r os, yr ydin ni yn sefyll arno: er tylotted, er gwauled ydwyt: os Duw a wnaiff unwaith i ti gredu yna y gellir dy fedyddio: nid ei rieni duwiol nid ei ddarlleniad, nid ei ddyfoddiad i Gaesalem i addoli, nid ei ewyllysgarwch i fedyddio [Page 16] ond os ydwyt yn credu di ellu; medd y Groeg mae'n gyfreithlon mae'n gytun a chyfraith Crist adnod 38. hwy a aethant ill dau i wared i'r dwfr, Phillip ar efnuch a fe ai bedyddiodd ef. wele wr oedd dryssorwr mawr Brenhines Ethiopia: gwr goludog; gwr anrhydeddus, gwr crefyddol; gwr mae yn debig oedd à Llawer yn gweini wrth ei gerbŷd, mae ef yn i hattal hwy e'u gŷd ag yn gorchymmŷn i bawb sefull yn Llonŷdd hud oni roddau ef yfudd-dod iw Arglwydd ai Athro yn y bedydd dwfrllyd: fe ddichon yn nawr fyned i lawr i'r dwfr er ei fwyn ef, yr hwn a ddaeth i wared o'r nêf er ei fwyn yntef; nid yw yn cyfrif yn ddianrhydedd ufuddhâu Crist trwy ei weinidog tlawd Philip: oh ddarostŷngeiddrwydd yr eneidiau fydd wir rasol; nid oes dim rhesummau yn gweithio fel cariad, gan hynnŷ os cerwch fi cedwch fyn gorchymynnion. Ymma mae myned ei wared, a dyfod i fynu, yn gyffelib i ffurdd gogoneddus Crist: mae e yn gynta yn taflud i lawr, gwedin yn cyfodi i fynu, yn gynta yn dwyn i'r bêdd, gwedin yn dywedyd dychwelwch chwi blant dynion; adnod 39. ag efe a aeth ar hŷd y ffordd ei hun yn Llawen; oh pafarh orfoledd sudd yn ffurdd Christ; wrth gadw 'er nid am [Page 17]gadw ei orchymynnion ef y mae yn gystal ag y bydd gwobr lawer. (fe aeth âr hyd y ffordd) Job. 17.9. Y cyfiawn hefud a ddeil y ffordd a'r glân ei ddylaw a chwanega gryfdwr. Pa nifer a attaliassant yn e'u fordd a wylassant yn e'u ffordd, a ollwngassant yn e'u ffordd, ond pan gawsant e'u bedyddio; aethant a'r hŷd y ffordd yn Llawen: fe allasau fôd a chalon drist, er ei fôd yn dryssorudd goludog, golud ni thyccia: pan ei bedyddiwŷd fe aeth ar hŷd y ffordd yn Llawen; ceidwad y carchar pan ei bedyddiwyd a lawenhâodd gan gredu yn Nuw ai holl deulu.
5. Siampal. Y Siampal nessa a ddawn atto yw bedydd y'r Apostol Enwedigol Paul Acts. 22.16. Ag y'r awr hon bcth y'r wyt tiyn ei aros: cyfod bedyddier di, a golch ymmaith dy bechodau: a fynnu di gael dy enaid yn gyflawn o lawenudd, a gaiff Crist fôd yn Athro iti cyfod; ynte pa beth y'r wyt ti yn aros, a bedyddier di, yr hwn a ymddangossodd iti a'r y ffordd pan oeddit yn erlidiwr: ag ath attaliodd Rag myned i uffern pan oeddit yn rhedeg; am danfonodd, medd Ananias. Acts. 9.15. Ag yr awr b [...] i ba beth yr Arossû cyfod a bedyddier di. A [...]ts. 22.16. Di fuost yn erlidiur, ag y'r awr hon y dangosaf iti fod [Page 18]yn rhaid iti fôd yn bregethwr: ag yn ddioddefwr; fel yn Acts. 9.15, 16. Gan hynnŷ cyfod i ba beth y'r arossi, a bedyddier di: oh derbyn ammodau a chynygion trugaredd, gwna groeso i drugaredd ond na ossod ef heibio dros un diwrnod i beth y'r arossi? awyt ti yn tybied dy hun yn anheilwng ag am hynny yn aros? nâd i hynnŷ dy rwystro; mynegaf iti oddiwrth y'r Arglwydd dy fôd yn lester etholedig, Act. 9.15. Gan hynny cyfod i ba beth y'r arossu à bedyddier di; mae 'r arglwydd yn fodlon i faddeu dy holl bechodau gynt, ag ith dderbin ar ammodau 'r efengil, ag yr awr hon i ba beth y'r arossi cyfod a bedyddier di, a golch ymmath dy bechodau.
6. Siampal: Siampal arall am fedydd y credadŷn yw bedydd ceidwad y carchar Act. 16.30.31.32. Fe aeth i'r gwelu yn ei bechodau ag allasau ddihuno yn uffern ond grâs ai ragflaenodd pan oedd ef yn tynnu ei gleddyf, ag y mae Duw trwy offerŷn gogoneddus yn gweiddi na wna it dy hun ddim niwed, mae iti le i obeithio ag ynteu mewn dychrin a Lefodd, beth a wnafi? yr enaid a ddychrynogerbron y'r holl alluog Dduw a waeddyff nid yn unig beth a gafi ond [Page 19]beth a wnafi: crêd, medd Paul, crêd yn y'r Arglwydd Jesu; ag er amlygu ei ewyllŷsgarwch i roddi ufuddod i'r Arglwydd Jesu ag i'w derbŷn ar ammodau 'r Efengil bedyddiwyd ef 'r awr honno o'r nos adnod 33. ag os Marciwch adnod, 34. ei eiddo ef ôll a gredassant ag a fedyddiwyd.
7. Siampal arall sydd i chwi am Lydia. Act. 16.14. Gwraig dduwiol, gwraig erfyngar, Duw agorodd ei chalon i ddal a'r y gair a lefarwŷd gan Paul a chan ei bod ar lan yr afon bedyddiwyd hi: pan fo'r galon ynghaead, mor belled yn ol yw eneidiau i ufuddhâu Crist; un tynniad gan Grist a wnaiff ir enaid redeg Caniddau 1.4. Yr Arglwydd agorodd eichalon a hi a fedyddiwyd.
8. Siampal sydd yn Act. 18.8. Crispus pennaeth y synagog a gredodd yn y'r Arglwydd ynghyd ai holl deulu; a Llawer o'r Corinthiaid pan glywsant a gredassant ag a fedyddiwyd; Crispus y gredodd, ei deulu a gredodd, mae'r cwbl vn rhedeg ar gredu, ag wedin hwy a fedyddiwyd. fel hŷn y cewch batrwn, a gorchymmyn, os gorchymmŷn a fiampal sydd rymmus; dymma 'r ddau.
BENNOD. IIII. Bedydd ŷw trochi neu gyddio tan y dwfr.
1. Y Gair groeg Baptizo, iblwnsio i danu drosto, fel hŷn plwnsiwyd Crist yn y dwfr, Mat. 16. fel hŷn y plwnsiwyd neu y gorchguddiwyd ef yn ei Gystudd, Luc. 12.50.
2. Y Dwtch gyfieuthiad a ddarllenir Math. 3. Yn y dyddiau hynnŷ y daeth Joan y plwnsiwr, Joan 3.23. yr oedd Joan yn plwnsio yn Ainon Lle'r oedd Llawer o ddwfr, beth oed raid wrth lawer o ddwfr onid i drochi.
3. Hwy fedyddiasant mewn afonydd. Mat. 3.6. Hwy ddaethant at Joan a bedyddiwyd hwy yn afony'r Jorddonen. Joan. 3.23. Joan oadd yn bedyddio yn Ainon Lle'r oedd Llawer o ddwfr; pa raid oedd bod mewn afon ag Lle 'r oedd Lawer o ddwfr: oni wasanaethau ychydig mewn Cawg i dy wallt ar yr wyneb.
4. Mae bedydd yn Arwyddocâu claddedigaeth Crist Rhuf. 6.3. Claddwyd ni gan bynnŷ gydag ef trwy fedydd Col. 2.12. wedi ych cŷd-gladdu ag ef yn y bedydd y nawr ni chyfrifwn hwnnw wedi gladdu sydd ag ychydig o bridd wedi danellu [Page 21]ar ei wyneb: ond y mae gwedi gladdu pan guddier ef: fel hŷn ich claddur yn y bedydd.
5. Dioddefiadau Crist a alwyr vn fedydd. Luc. 12 50. Mae gennyf fedydd i'm bedyddio ag ef: ag mor gyfyng yw arnaf hyd oni orffenner; pan ddioddefodd Crist fe drochwyd mewn poenau: a ddescynnodd ei ddiodefiadau ar ei ben neu ar ei dalcen yn unig: na ddo, na ddo, nid oedd un rhan yn rhydd; yr oedd oi ben hyd ei draed mewn poenau, ei ben gwedi goranu a drain blaenllyd: eu ddwylaw a'i draed gwedi hoelio wrth y groes; gwedi estŷn allan fellŷ ar y groes ag y gallau un rifo ei holl escurn Ps. 22.17. nid oedd ûn rhan yn rhydd; dyn a bechodd, ei gorph ei enaid ai yspryd, Grist a fedyddiwyd mewn poenau, a ddrochwyd mewn tristwch nid oedd ûn-rhan yn rhŷdd: hŷn mae ef yn galw ei fedydd; fel hŷn y mae un a fedyddier yn cael eu drochi tan y dwfr i ddangosfel y trochwyd Crist, mewn tristwch er ein mwyn ni.
6. Bedydd ŷw gwisco Crist amdanom Rhuf. 13.14. Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd i Crist a wiscassoch Grist, felly Gal. 3.27. Ag fel y mae gwâs yn gwisco trwsiad ei arglwydd yr hwn drwsiad [Page 22]sydd yn ei amlygu ef i fôd yn wâs i'r cyfriw Arglwydd, fel hŷn mewn bedydd yr ym ni yn gwisco amdanom drwsiad yr Arglwydd, mae è yn dilladu o'r pen ir draed, fellu ni trwy 'r bedydd a wiscwn Grist.
7. Gwedi bedyddio Crist fe ddaeth allan o'r dwfr, Mat. 3.16. A'i ychydig ddwfr, wedi danellu ar ei wyneb yn unig oedd hynny? wrth hynny ni fuassau yn y dwfr, gan hynny gwedi ei fedyddio fe ddaeth allan o'r dwfr, Acts. 8.38. A hwy a aethant ill dau i'r dwfr (ag yno yn y dwfr) fe ai bedyddiodd ef. A phan ddarfu ei fedyddio fe ddaeth i fynu allan o'r dwfr.
8. Yr Arch oedd gyfflybiaeth yn dala allan fedydd, 1. Pedr. 3.21. Yr Arch yn ddiau ar yr hon y glawiodd hi ddeigen dydd a deigen nôs oedd gwedi gwlychu yn ddigonol drosti i gid; A hi dan y dwfr dan gymmulau, o ddwfr.
9. Ysrael vn y môr-côch, 1. Cor. 10.1.2. Pan oeddŷnt yn y môr a than y cwmmwl fe ddywedir iddynt gael e'u bedy ddio dan y cwmmwl fellu 'r neb a fedyddier ydynt dan y dwfr; fel hŷn y gwelwch y lle bedyddiwyd hwy ynddo oedd afon; y gwaith oedd myned i wared i'r dwfr, yno yn y dwfr fe bedyddiwyd hwy: hyn oedd lle 'r oedd llawer o ddwfr, y [Page 23]diben oedd i ddala allan gladdedigaeth Crist; nawr oni bydd claddedigaeth dan y dwfr ddala allan gladdedigaeth Crist y mae mawr ddiben 'r ordinhâad yn eisiau; eithr claddwyd ni trwy 'r bedydd.
Gof. Eithr paham na wasanaeuthau tanelliad y dwfr yn gystal a gorchguddio dan y dwfr'a oes rhinwedd ragorach mewn llawer o ddwfr i olchi ymmaith bechod nag y sydd mewn ychydig o ddwfr?
Atteb. Tanelliad ni wasanaeutha yn gystal a throchi tan y dwfr.
1. Oherwydd bod Duw yn Dduw euddigis, ag yn craffu ar bethau bychain mewn addoliad; y mae yn debig i Nadab ac Abihu feddwl os hwy a ofodau dân yn y Thuffer y gallau hynny wasanaethu, er nad oedd ef y tân oddiar 'r allor; onid Duw ai galwyff yn dân dieithr, ag am hynnŷ mae ef yn eu Llosci hwy a thân dieuthr, Levit. 10.2.3. ag y mae Moses yn chwanegu adnod 3. dymma 'r hŷn â lefarodd 'r Arglwydd gan ddywedŷd mi â sancteiddir yn y Rhai. ôll a nessâant attof a cherbron yr holl bobl i'm gogoneddir. Duw a archodd i Moses ddywedŷd wrth y graig eithr Moses a darawodd y graig ag oherwydd hynnŷ yr oedd yn rhaid iddo ef farw cyn mynd i Ganâan Num. 20.11.12.
[Page 24]2. Ni wasanaetha tanelliad oherwydd wrth hynnŷ yr ydys yn colli diben yr ordinhâad yr hon sydd i ddangos marwolaeth, Claddedigaeth, a chyfodiad Crist Rhuf. 6.4. Claddwyd ni gan hynnŷ gyd ag ef trwy fedydd i farwolaeth fel megis ac y cyfodwyd, &c.
3. Ni wasanaetha tanelliad oherwydd mae nid hynnŷ a ddarparodd Duw: fe dybassau Naman y gwanglwyfus fòd dyfrodd Damascus a'r ûn rhinwed (neu yn well) na dyfrodd Jsrael, 2. Brenhi, 5.12. Oni allaf ymmolchi ynddŷnt hwy ag ymlanhâu, Duw a orchymynnodd iddo ymdrochi yn y'r Jorddonen, nid am fod mwy o rinwedd yn y dwfr hynny ond Duw a orchmynnodd, iddo ymdrochi yn y'r Jorddonen: ag efe a ymdrochodd ag a lanhâwyd: ymdrochiad yw gorchymŷn Duw.
4. Ni wasanaetha tânelliad am nad yw è yn ol y dull, Christ a aeth i wared i'r dwfr: Philip, a'r Eunuch, a aethant i wared i'r dwfr, Act. 3.38. Exod, 25.40. Ond gwybydd dy fôd yn gwneuthur Pôb peth yn ôl y portreaid.
5. Ni wasanaetha tanelliad; am fod yn rhaid i ni gadw'r ordinhâdau megis y traddodwyd hwy i ni, 1. Cor. 11.2. Y nawr bedydd a draddodwyd i ni yn y [Page 25]dull cyntaf trwy drochiad: ag nid trwy dannelliad, hwy aethant i wared i'r dwfr.
6. Ni wasanaetha tannelliad am ei fôd yn rhyfig mawr i newid ordinhâdau Duw, onid ŷw vn ddigon doeth i ordeinio ei addoliad ei hun pa fôdd y cyflawner ef Jsa, 24.1. Y ddaiar hefyd a balogwyd canys newidiasant fy neddfau.
7. Ni wasanaetha tannelliad am nad yw tannelliad yn fedydd, nid yw ef y'r peth a ddarparwyd gan Dduw, bedydd yw trochiad new blwnsiâd. Tannelliad nid yw fedydd am hynnŷ ni wasanaetha tannelliad, Luc. 7.29.30. Cyngor Duw yw bedydd neu drochiad.
BENNOD. V. Yn tystio bedydd â dwfr byd ail ddyfodiad Jesu Grist.
FEL y dichon hŷn amlygu fôd bedydd â dwfr i barháu ag yw arfer y nawr gan y sawl sŷ'n credu, Cymerwch y whech ystyriaethau hyn.
1. Ystyriwch fôd bedydd â dwfr wedi orchymmyn ûnwaith, ag heb 1 ommedd erioed etto; ag nid oes ûn awdyrdod a ddichon alw yn ôl orchymmyn [Page 26]Crist, ond awdyrdod Crist, trwy ba un y rhoddwyd ef allan Jud, adnod 3. ymdrechwch ymhlaid y ffydd a roddwyd unwaith ir sainct.
2. Ystyriwch fôd bedydd â dwfr gwedi ei arferyd or blaen, a gwedi adgufodiad Jesu Grist; i fedydd â dwfr, gael ei arferyd yn ôl adgufodiad Crist darllen, Act. 8.38. hwy aethant ill dau i wared i'r dwfr yn gystal Phillip a'r eunuch ag yna fe ai bedyddiodd ef. Act. 10.47. Aall nêb Luddias dwfr fel na fedyddier y rhai a dderbynniassant yr yspryd glân fel ninau yna fe orchymynodd eu bedyddio hwy. Y'r oedd ymma ddwfr ag yn orchymynedig gan Apostol a ddanfonwyd gan Grist, Act. 16.13.14. Yr oedd Lydia ar lan afon ymmha afon y bedyddiwyd hi.
3. Ystyriwch fod bedydd â dwf [...] wedi orchymmŷn ar ôl adgyfodiad Crist Mat. 28.19. Ewch dyscwch y'r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy, pa darluassau fedydd â dwfr gida marwolaeth Crist, ni buassyd yn ei orchymmyn ag yn ei arfer ar ôl ei adgyfodiad ef.
4. Ystyriwch fôd diben y'r ordinhâad yn parhau megis yn supper y'r Arglwydd, ei diben hi ŷw dangos allan marwolaeth y'r Arglwydd oni ddelo, ag i wneuthur hŷn er côf am Crist, cyhyd ag y [Page 27]boni i adgofio marwolaeth Crist mae è iw wneuthur mewn coffadwrieth o Crist hyd ei ail ddyfodiad: y'r un Ffynyd mae 'r bedydd i ddangos marwolaeth, claddedigaeth, ag adgyfodiad Crist. Ruf. 6.3.4.5. Gan fod y diben yn parhâu hyd ei ail ddyfodiad ef.
5. Ystyriwch fel y cad ei adferŷd gan yr holl gristnogion yn yr holl oesoedd oddiar pan gadawodd Jesu Grist ei orchymmyn gida ei sainct.
6. Ystyriwch oni ddichon 'r un rhesswm ag sydd yn bwrw i lawr fedydd â dwfr; os caniateir ef, fwrw i lawr 'r hol ordinhâdau: canys os caniadwch pan ddelo 'r yspryd fod y bedydd yn darfod; oni ellwch yn gystal ddywedyd: pan ddel yr yspryd, fôd pregethiad gwedi darfod a gweddi gwedi darfod; hŷn sydd oherwydd calon Lygredig dyn, medd Crist, dyscwch iddynt gadw pôb peth ar a orchmynnais i chwi Mat. 28.19.20. ac yr ydwyffi gida chwi bôd amser hyd ddiwedd y bŷd.
BENNOD. VI. Nad oes un messur o râs neu o'r yspryd yn rhesswm dig [...]nol i gadw nêb oddiwrth fedydd â dwfr.
NAd oes un messur o râs neu o'r yspryd yn achos digonol i gadw oddiwrth fedydd a ddengis yn eglir.
1. Os ystyriwch fôd bedydd o'r nef fel y gwelwch Mat. 21.25. Nawr beth a ddyleu gadw oddiwrth orchymmyn nefol.
2. Ystyriwch yr oedd gan yr Arglwydd Jesu bob grâs a'r sypryd yn anfesurol Joan 3.34. ag er hynnŷ bedyddiwyd ef yn afon y'r Jorddonen fel y gellwch weled Mat. 3.13. onid yw Christ yn siampal dda ir credadŷn iw ddilin.
3. Ystyriwch pale mae Duw gwedi gwardd y rheini y sydd wrth ychydig o râs neu ychydig o'r yspryd: nage, yn y gwrthwyneb oni Addawodd Duw ei yspryd fel y cadwent ei ddeddfau ag y gwnelont hwynt yn, Eze. 11.19.20.
4. Ystyriwch fôd yr Apostol y gwneuthur derbynniad 'r yspryd yn ddefnydd o annogaeth i fedydd, Act. 10.47. â all neb Luddias dwfr fel na fedyddier y rhai [Page 29]a dderbynniassant yr Yspryd glân fel ninnau. y nawr os cofiwch, fe fedyddiwyd y rhai hyn fellu a'r yspryd fel y Llefaraassant a thafodau ag y prophwydassant; gwaith dieithŷr i brophwydo a Llefaru a thafodau: y cyfriw fessur o'r yspryd nid yw yn ein dyddiau ni; er hynnŷ gorchmynnodd i bedyddio hwy adnod. 48.
BENNOD VII. Bedydd y credadwy yn ordinhâad fawr.
MOr fawr ŷw 'r ordinhâad o fedydd y credadwy a ymddengis os ystyriwch y'r wŷth ystyriaethau hŷn.
1. Ystyriwch fôd bedydd yn ordinhâad fydd ar patrwn mawr iddi: Awdwr yn Jechydwriaeth ni ai arferodd hi eihun; fel y gwelwch Mat. 3.13. Yna daeth yr Jesu i gael ei fedyddio; os gwasnaetha neb [...] medd Crist canlyned fi; a lle y'r wyf fi yno y bydd fy ngwenidog hefyd. Joun, 12.26. Crist yw'r siampal mawr.
2. Ystyriwch yr enw mawr yn y'r hwn y mae 'r bedydd yn cael ei weinidogaethu, Mat. 28.19.20. bedyddiwch hwy yn enw 'r tâd a'r mâb ar Jspryd glân. ni ellir cymeryd 'r enw ymma yn ysgafn, enw mawr ydŷw.
[Page 30]3. Ystyriwch y sêl fawr oedd ir bedydd, pa fôd y seâlwyd 'r Arglwydd Jesu pan y bedyddiwyd ef, Mat. 3.17. Y nefoedd a agorwyd a Llêf a glubwyd yn dywedyd hwn yw fy anwyl fâb yn y'r hwn i'm bodlonwyd; mae'r drindod yn cyfarfod ymmedydd Crist.
4. Ystyriwch mawr waith y bedydd, fe a elwyr yn gyfiawnder; Cyfiawnder fydd beth mawr mae Crist yn i alw yn beth gweddus Mat. 3.15. felhŷn y gwedd i gyflawnini pôb cyfiawnder; mae è yn gyflawnder o bob cyfiawnder.
5. Ystyriwch fôd bedydd yn orchymmyn mawr: mae è yn ûn o orchmynnion diweddaf ein bendigedig Jachawdwr yn ôl ei adgyfodiad ychydig cyn ei escynniad fel yr ymddengis Mat 28.19.20. Ewch dyscwch a bedyddiwch.
6. Ystyriwch fod Addewidion mawr i fedydd Mat, 28.19.20. Ewch dyscwch a bedyddiwch a mi a fyddaf gida chwi; dymma addewid o bressenoldeb ogoneddus Crist; yna cewch addewid o'r yspryd glân: ediferhewcha bedyddier chwi, à chwi a dderbynniwch 'r Yspryd glân, Act. 2.38.
Yna cewch addewid neu siccrwydd o olchi ymmaith ych pechodau, Act. 22.16. Cyfod, a bedyddier di a golch ymmaith dy bechodau.
[Page 31]Gwedi hynny cewch addewid o Jechadwriaeth yn gyssulltedig a bedydd Marc. 16.16. Y neb gretto ag a fedyddier a fydd cadwedig; pressenolded Crist, y [...] yspryd glân, maddeuant am bechod a [...]chadwriaeth mae rhain eu gyd yn addewidion mawr.
7. Ystyriwch odidawgrwdd y bedydd: mae holl eiriau Duw yn bur eithr y bedydd a elwyr yn gyngor Duw. Luc. 7.29.30. Hwy a ddiystyrassant gyngor Duw yn eu herbŷn eu hunain heb eu bedyddio ganddo; onid ŷw cyngor Duw yn beth mawr.
8. Ystyriwch er pan dderchafodd Crist i'r nêf fe orchmynnodd y bedydd Act, 8.29. fe archodd yr yspryd i Phillip nessau at y cerbyd yr hŷn a ddengis yn eglir mae er mwyn pregethu Crist a bedyddio 'r eunuch, a gwedi ei fedyddio fe aeth ar hŷd y fford yn Llawen; dymma ûn galwad or nêf. Gorchymmyn arall o'r nêf i fedyddio yn ddiau yn ôl derchafiad Crist cewch yr Arglwydd Jesu yn danfon Ananias at Paul, Act. 9.19. Ar Arglwydd a alwodd Ananias mewn gweledigaeth ag ai danfonodd at Paul; â phan daneth fe ddywedodd, Act. 22.16. Ag yr awr hon beth yr wyt ti yn ei aros cyfod â bedyddier di a golch ymmaith dy bechodau. [Page 32]hyn a ddywedodd Paul oedd geiriau Ananias; mae genych ymma alwad arall o'r nef i fedyddio. gwedi hynnŷ y cewch, Act. 10.4.5. Fe gafodd Cornelius alwad o'r nef i ddanfon am Petr 'r hwn a Lefare eiriau wrtho fel y bydde gadwedig: cafodd Pedr alwad o'r nef i fyned at Cornelius adnod 19.20. Dôs gan hynny heb amme dim, ag ymma mae Pedr yn cael galwad o'r nêf i Lefaru geiriau fel y bydde Cornelius gadwedig, a phan ddaeth at Gornelius chwi gewch adnod, 48. Fe orchmynnodd i bedyddio. hwy, fel hyn y gwelwch fôd bedydd yn orchmynnedig yn ôl derchafu Crist; hyn ei gid a ddengis fôd bedydd yn ordinhâad fawr.
BENNOD. VIII. Attebion yr gwrthddadlau Cyffredin.
MAe 'r fâth Lygredigaeth ynghalon dŷn: fel y mae ef yn gwneuthur gwrthddadlau yn erbyn y gwirioneddau eglura ymmendigedig air Duw; a pha ûn o wirioneddau Duw, ie oni chafodd Duw i hûn ei wrthddadlu yn ei erbyn: eithr gallaf, ddywedŷd am fedydd fel y [Page 33]dywedodd ynte ûnwaith ni wnaed mor pethau bŷn mewn cornel. yr wi yn rhoi yn ynig y scrythurol wageliad hyn, caeàsant eu Llygaid rhag iddŷnt weled a chael eu troi ac i mi eu biachaû hwynt; gwagelwch gae ych Lygaid, ag yna bydd siccir gennyf y byddi ewyllysgar yn nydd nerth Duw, eythr os mewn cydwybod yr ewyllyssi gael bodlonrwydd, ystyria yr atteb Tr gwrthddadlau a ganlynant
Gwrthddadl. 1.
Rhai amheua Lle dywedir, Mat. 28.19.20. Hyd ddiwedd y byd; hynny yw byd ddiwedd yr oes honno.
Atteb 1.
Ir hyn yr wi yn atteb; Ni ddichon hyn fôd ystŷr y text: yn gynta oherwydd i Crist erchi i'r Apostolion ddyscu iddŷnt gadw pob peth ar à orchmynnodd, Mat. 28.20. Nawr a feddyliwch fôd pob peth ag oedd i'r Apostolion yn i ddyscu iddŷnt gadw, i barhâu hyd ddiwedd yr oes honno yn unig: mae Crist yn gorchymmyn iddynt edifarhâu, bod yn sanctaidd, cymerud eu bedyddio, ag a ydym ni i edifathâu, credu a bod yn sanctaidd, ddim pellach na diwedd y'r oes honno: yn ail mae Crist yn addo ei bressenoldeb hyd ddiwed y bŷd, Mat. 28.20. Mi a fydduf gida chwi hyd ddiwedd [Page 34]y bŷd nawr â addawodd Crist ei bressennoldeb onid hyd ddiwedd yr oes honno: hŷna fyddau athrawiaeth ofnadwy, Josh. 5. Fe a ddywedodd nith adawaf ag nith wrthodaf chwaith; fel y mae addewid ei bressenoldeb i barhâu trwy'r hôlloesoedd fel y gellir cymeryd y gair: mi a fyddaf gida chwi yn oes oesoedd, neu hyd ddiwedd y bŷd, gan hynny cedwch bob peth hyd ddiwedd y byd.
Gwrthddadl. 2.
2. Eith'r bedydd Joan oedd y bedydddwfrllud.
Atteb.
A oedd bedydd Joan o'r nef neu o ddynion? Y'r oedd bedydd Joan o'r nef, Mat. 21.25. Ymmellach, Eithr Joan oedd i baratoi fford Crist, Luc. 1.16. A thy di ei o flaen wynob yr Arglwydd i baratoi ei ffordd, felly ni wnaeth Joan onid paratoi fford Crist: hŷn gan hynny oedd ffordd Crist nid fford Joun, Eithr ymmellach oni orchmynnodd Crist, ag oni arferodd 'r eglwysi fedŷdd a'r ol marwolaeth Joan, ag adgyfodiad Crist, oni ddywedodd Crist, ewch dyscwch a bedyddiwch; ag a ddywedi di hwn ŷw bedydd Joan.
Gwrthddadl. 3.
3 Eithr ewwaediad a dienwaediad nid ŷw ddim onid creadir newŷd.
Ir wi yn Atteb.
Y'r oedd enwaediad unwaith yn ryw beth pan fynne yr Arglwdd lâdd Moses Oherwydd yr enwediad fel yn, Exo. 4.19. A phan ddywedodd, yr Arglwydd mae pwy bynnag oedd heb enwaedu arno a dorrid ymmaith o blith y bobl, Gen. 17.14. Y nawr tan yr efengil nid yw ddim am i fod gwedi ei ddeleu, Gal. 5.1. Os enwaedir chwi; ni leshâ Crist ddim i chwi: eithr a ddywedi di fôd cyngor Duw yn ddim; bedydd Cyngor Duw yduw, Luc. 7.29. Ag a ydyw hŷn ddim; bedydd gorchymŷn yr Arglwydd Jesu ydyw Mat. 28.16. Ag a ydyw ei orchymŷn ef ddim.
Gwrthddadl. 4.
4. Fe medyddiwyd âr yspryd yr hwn yw'r sylwedd, nid yw'r bedydd dwfrllyd ond Cysgod.
Ir wi yn Atteb.
Di elli yn gystal ddywedyd felly am yr hôll ordinhâdau eraill: nid ydŷnt ond cuscodau. nid yw'r swpper ond cuscod; gweddi, gwrandawiad a phregethiad, nid ydŷnt ond cyscodau, ag wedin i bale y rhedi din; gwedi' ymmhellach nid yw 'r gofynniad beth na ei fôd yn gysgod; â ydyw ynorchymnyn, nag amheua awdyrdod Crist rhag iddo ddigio: [Page 36]eythr ymmellach, galw fedydd â dwfr yn gysgod etto ystyria i Grist ymmostwng iddo; a phwy ydwyti, a fyddidi yn ddoethach na Christ: ag ymmellach, Act. 10.47. hwy a fedyddiwyd i'r yspryd ag a Lefarâssant a thafodau, ag er hynnŷ a fedyddiwyd mewn dwfr: Cofia 'r neb sŷdd ffyddlon yn ychydig sŷdd ffyddlon mewn Llawer.
Gwrthddadl. 5.
5.Oni ddaeth bedydd yn lle enwaediad?
Yr wi yn Atteb.
Na ddaeth yn siccir: Canis nid ŷw gair Duw am y fâth beth yn un lle, ag ni ddylit ti fôd yn ddoeth, Uwchlaw yr hŷn a scrifenwyd, 1. Cor. 4.6. Ag hefyd ystyria enwaediad oedd yn perthŷn yn unig ir gwrwod eithr, Act. 8.12. Pan gredassant hwy a fedyddiwyd yn wŷr ag yn wragedd.
Gwrthddadl. 6.
6. Onid oes gwŷr dyscedig Jawn am fedydd plant.
Yr wi yn Atteb.
Luc. 7.29.30. Y phariseaid a'r cyfreithwŷr (gwŷr dyscedig y'r amserau) a ddiysty rassant gyngor Duw yn eu herbŷn eu hunain heb eu bedyddio ganddo na ddywed fel y dywedassant hwy; pa rai o'r penaethiaid a gredodd ynddo [Page 37]gwrando atteb Crist Mat. 11.25. Jesu attebodd yr wi yn diolch i tîo dâd Arglwydd nefodd a daiar i ti guddio 'r pethau hŷnoddiwrth y doethion ar duallus ai datguddio i rai bychain; ag ymmellach, pa bae dysceidiaeth yn blêad yn yr achos hŷn onid oes Llawer o Gardinals a Jesuits yn wŷr dyscedig.
Gwrthddadl. 7.
Eythr onid oes wŷr duwiol ragorol, athrawon Eglwysi yn dala bedydd plant.
Yr wi yn Atteb.
Nid ydych i ganlyn Apostol ymmellach nag y canlyno ef Grist, 1. Cor. 11.1. byddwch ddylynwyr i mi megis yr wyfinnaw Grist. drachefn na ddygwch siamplau gwŷr da yn erbŷn gair amlwg, mae gennych air amlwg, Act. 8.12. Pan gredassant, hwy â fedyddiwyd yn wŷr ag yn wraged: yr oedd Elias yn wr da, fe alwodd am dân or nef Eithr ni ddylem ni wneuthir fellu, y'r oedd Jehosapat yn frenin da: eithr yr ychel-feydd oedd heb i symmyd: na ddilynwch un siampal yn erbyn y gair, 1. Bren. 12.42. Na chanlyn liaws i wneuthr drwg, Exo. 23.2.
Gwrthddadl. 8.
8. Eithr nid oes ûn gan yn erbyn bedyddie plant.
Yr wi yn Atteb.
Llocwyd Nadab ag Abihu â thân am iddŷnt [Page 38]wneuthur ypeth na orchmynodd yr Arglwydd, Levit. 10.2.3. drachefn os ystyriwch wrth air; gair amlwg. Yna pale y cewch air. Na chei fedyddio clychaw. fel y darllenwch yn Llyfr y Merthyron iddŷnt wneuthur: pale mae gennych air yn dywêdŷd, ni chei di ddodi poiri, bufen, neu halen yn y bedydd fel, y gwna y Rhufeinwyr: Eithr mae yn rhaid i chwi wybod mae digon yn eibŷn bedydd plant yw nad yw yn orchmynedig.
Gwrthddadl. 9.
9. Eithr oni fedyddiwyd teuluoedd yn gyfan?
Yr wi yn Atteb.
I ddywedŷr yn amlwg, hwy ôll a gredassant, Act. 16.33. Ag efe a fedyddiwyd a'r eiddo ôll, ag adnod, 34. â buont Lawen gan gredu i dduw fe ai hôll deulu, Act. 18.8. Crispus yr Arch synagogudd a gredodd yn yr Arglwydd ai bôll dŷ; a Llawer o'r Corinthiaid o gredassant ag a fedyddiwyd. Lydia a fedyddiwyd ai holl dŷ: nid oes ymma ddim sôn am wr na phlant; beth bynnag oedd hi a merch neu widw, yn unig galwir hwy yn frodur adnod; 40.
Gwrthddadl. 10.
9. Yr oedd plant unwaith yn aelodau o'r Eglwys, ag ni amlygir eu torri hwy ymmaith.
Yr wi yn Atteb.
I dorri ymmaith y canghennau naturiol trwy eu hangredinieth; ag os deuant i gredu fe ellir eu himpio hwy i mewn drachefn, eithr hyd hŷnnŷ mae nhwy gwedi eu torri ymmaith, Ruf. 11.20.21. drachefn y nawr yn yr efengil mae'r fwyell gwedi gossod ar wreiddin y pren, a phob pren na dducco allan ffrwyth da y dorrir i lawr ag a daflir ir tân, Mat. 3.9.10. Gan hynnu na feddŷliwch chwi ddywedŷd fôd gennych Abraham neu gredadŷn yn dâd i chwi; hwn yw siccir air Duw: ag fel hŷn y gellwch weled wrthod y Saduceaid pan dybient y gellynt ddywedŷd fôd Abraham yn dâd iddynt hwy, Mat. 3.7.8. Ag ymmellach y'r oedd plant yn aelodau o Eglwys gennedledig y'r Iddewon eithr pale y'r oeddŷnt erioed yn aelodau o Eglwys neilltuol tan y'r efengil, pan oedd plant yn aelodau, yna gweison a brynassyd ag arian oeddŷnt eu gŷd yn aelodau, Gen. 17.12. Yr hwn nid ŷw oth hâd di: Mae Duw y nawr tan yr efengil yn ceisio yr cyfriw iw addoli ef, ag ai haddolo ef mewn yspryd a gwirionedd Joan. 4.23. Ag ymmellach yr oedd y pryd hynnŷ y ganol-fur o wahaniaeth eithr y ganol-fur hon o wahaniaeth, y dorrwyd i lawr, Eph. 2.14. Ag y nawr [Page 40]nid yw Duw dderbynwr wyneb eithr ymhob cenedl y sawl ai hofno ef ag a weithredo gyfiawnder sydd gŷmeradwy ganddo ef. Act. 10.35.
Gwrthddadl. 11.
11. Eithr a ydyw rhagorfraint plant y credadwy yn Llai tan yr efengil nag yr oedd tan y ddeddf?
Atteb.
Beth a feddyli wrth ragorfraint? A oedd hi yn rhagorfraint i fôd tan y ddeddf, neu a ydyw hi yn rhagorfraint i fôd y nawr tan yr Efengil: neu a wŷt ti yn meddwl wrth ragorfraint y cei di yr addewidion am y rhai mae 'r Aposto [...] yn cyrbwyll i chwi amdanynt, Ruf. 9.8 y rhai ag sydd blant y cnawd nid ydynt blan [...] yr Addewyd: neu a ydwŷt yn meddw [...] wrth ragor fraint i fôd yn gyfrannog o' [...] ordinhâad weledig o enwaediad; ag a ydyw hŷn y fâth ragorfraint y mae'r Apostol, Act. 15.10. yn ei alw yn Jau [...] na allau na nŷ ni, na'n tadau eu dwyn, a [...] dymma'r ragofraint yr ydwyt ti yn [...] fedwl?
Gwrthddadl. 12.
12. Eithr yr oedd yr bâd yn y gyfammod Duw a wnaeth gyfammod ag Abraham ag aihâd.
Atteb.
Beth yr ydwyt ti yn i feddwl wrth gyfammod? a wyt ti yn meddwl y gyfammod a wnaed ar fynydd Sinai: cyfammod o weithredd: neu a wyt ti yn meddwl cyfammod o râs y mha un mae Duw yn addo bôd yn dduw iddŷnt hwy: ag a wneu di yr gyfammod hon o râs i fôd yn ammodol; ag a wyt ti yn barnu fôd Ishmael, Saul, Ieroboam, fab Nebat, ag Abas, eu gŷd yn y gyfammod o râs, neu a ferni di iddŷnt golli eu hawl yn y gyfammod o râs, ag fellŷ yn ddiau ei wneuthur yn gyfammod o weithredoedd: gan hŷnnŷ ystyria, Duw a wnaeth [...] mod ag Abraham ag ai hâd i roddi iddŷnt wlâd Canâan, Gen. 17.7.8. Eithr oblegid yr Addewid o fowyd ac Jechydwriaeth, hon a wnaed i Abraham ag iw hâd, Gal. 3.16. Nawr i Abraham ag iw hâd y gwnaed yr Addewidion, fe a ddywedodd uid i hâdau megis am Lawer: ond megis am un ag [...]th hâd di yr hwn ŷw Crist. Os credwch chwi 'r text hwn nid oes ond ychydig anhawstra yn y Gwrthddadl, Ruf. 9.8. Plant yr addewid a gyfrifir yn hâd.
Gwrthddadl. 13.
Eithr yr oeddynt hwy ein belled yn y gyfammod fel y rhoddes iddŷnt hawl yn yr or dinhâad.
Atteb.
Yr oedd enwaediad gwedu ei rwymo i Abraham ag iw hâd, ag iw weision; Eithr pa le yr oedd bedydd gwedi ei rwymo ar blant cnawdol y credadwy; yr oedd 'r offeiriadaeth gwedi rhwymo trwy gyfamod a'r Lwyth Levi ai hâd fel y gellwch ddarllen, Josh. 1.8.7. Num. 25.13. Ag a fynnwch chwi y nawr rwymo 'r weinidogaeth a'r bregethwŷr ai hâd cnawdol: Eithr o barthed y pwnc o fedydd: onid oeddŷnt lawer a ddaethant i gael eu bedyddio ag Joan a ddywedoedd na feddyliwch ddywedŷd fôd Abraham yn dâd i chwi, Mat. 3.9. Yn dangos yn eglir fôd eu hawl gnawdol gwedi thorri ymmaith trwy r' efengil; y nawr maer fwyell gwedi gossod ar wreiddiwy pren pob pren na dducco allan ffrwyth da a dorrir i lawr ag a daflir ir tân, a chraffwch ymmellach, yr oedd gan. Abraham air i warrantu yr enwaediad a'r eu hâd; eithr pa le y mae gair am fedyddio plant.
Gwrthddadl. 14.
14. Fe ddywedodd Crist gadewch i blant bychain ddyfod attaf fi canis eiddo y cyfriw rai ŷw teyrnas nefoedd.
Atteb.
Mae'r text yn dywedŷd wrthych yn eglir ni ddygassid hwy ŷw bedyddio [Page 43]Eithr fel y byddau i Crist offod ei ddwylo arnŷnt a gweddio drostŷnt, Mat. 19.13. Marc. 10.16. nid oes ymma ddim am fedydd.
Gwrthddadl. 15.
15. Eithr fe ddywedir, Act. 2.39. Maer Addewid i chwi ag ich plant.
Atteb.
Gwna gymmaint o gyfiawnder ith enaid a darllen y text i gŷd: a chwi ai cewch gwedu dywedŷd. yr addewidion-sŷdd i chwi ac ich plant ac i bawb ag sŷdd ymmhell, cynifer ag a alwo yr Arglwydd ein Duw ni atto: Ymma y gwelwch maer cyfriw ydŷnt ac a alwyr, nawr os dywedwch nad ŷw 'r gair galwad ymma yn perthŷn i'r plant eithr i'r rhai sŷdd ymmhell. Atteb. Mae yn angenreidiol iddo berthŷn i'r plant ai rhieni ag i bawb ymmhell: o achos maer Addewid ydyw adnod. 16.17. hyn ydyw 'r peth a ddywedpwyd gan Joel y Prophwyd, mi a dwalltaf fy yspryd a'r bob cnawd, ar eich meibion, ach merched, ag ar y gweddillon a alwo'r Arglwydd, adnod. 32. Nawr os ŷw addewid or yspryd i plant er na chawsont eu galw yna naill mae'r addewid yn Ffaylu, à pheth ofnadwy yw hŷnny ŷw dibied: neu ynte mae hôll blant y credadwy yn gyfrannog o'r yspryd gogoneddus [Page 44]hwn: Eithr mae beunyddiol brofiad yn dangos y gwrthwyneb; fôd llawer o blant y credadwy yn gnawdol heb yr yspryd; ag yn cael i gyflawnu yn unig i'r cyfriw ag a alwo yr Arglwydd ein Duw.
Gwrthddadl. 16.
Eithr myfi a gefes fy medyddio yn fy Jevenctyd gan hynny pa raid i mi gael fy medyddio drachefn.
Atteb.
Fel y dywed ûn am briodas nid y gwelu sydd yn gwneuthur priodas canys felly y byddau godineb yn briodas, eithr cydtundeb cyfreithlon trwy gyfammod sydd yn gwneuthur priodas; felly y dywedaf am fedydd nid y dwfr a dwalltir ar yr wyneb sydd yn gwneuthur bedydd eithr cyttundeb ewyllysgr ag ymmostyngiad i Crist yn ôl y rheol sydd yn gwneuthur bedydd; nawr pan oeddit yn blentyn ni roddest ddim cydtundeb, ni wyddost ddim i ddywedyd am y fâth beth; onid trwy air ni wyddest pa brŷd y bu; nid oedd gennyt Ffŷdd yn y weithred: a pheth bynnag nad yw o ffydd pechod ŷw, felly ni chefest etto dy fedyddio: ni gawn drachefn yn, Act. 19. Am fod diffig yn y bedydd: Hwy a fedyddiwyd drachefn; hwy a fedyddiwyd gan ddywedŷd [Page 45]fôd yn rhaid iddŷnt gredu yn yr ûn ag oedd i ddyfod fel adnod 4. eithr Crist oedd gwedi dyfod gan hynny hwy a fedyddiwyd drachefn adnod. 5. eithr ystyria pwy ddiffygion oedd yn dy fedydd babanaidd di: yn gynta: nid oedd un rheol ith fedyddio di tra fuost yn faban; bryd hynny nid oeddit yn Jawn wrthrych, canis dy lassit gredu a chymerŷd dy fedyddio y pryd y cafest tidanelliad yn unig, ag nid claddedigaeth mewn bedydd, fely cafodd Crist ag y gorchmynnodd; Nawr a elwi di hwnnw yn fedydd ag oedd draddodiad gwedi dderbŷn oddiwrth dy hên dadau; pan ddarfu i'r Arglwydd Jesu golli ei waed gwerthfawr ith ryddh [...]u di oddiwrth draddodiad dy dadau gŷnt [...]. Petr 1.18.19.
Gwrthddadl. 17.
17. Eithr mae Llaweroedd yn gossod cymmaint o bwys a'r y bedydd, yr hŷn sydd yn ein pellhâu ni o ddiwrtho.
Atteb.
A oes mwy o bwys gwedi gossod gan neb nag y sydd gan Grist yr hwn a ddywedodd iddŷnt ddiystyru cyngor Duw yn herbin eu hunain heb eu bedyddio, Luc. 7.20.30. Ag onid ydyw yn ddyledswydd i ni ymdrechu ymblaid y ffydd a roddwyd unwaith i'r sainct.
Gwrthddadl. 18.
18. Eithr plant y credadwy ydynt sanctaidd gan hynny hwy a ddylent gael eu bedyddio.
Atteb.
Fel y dywedir fod y plant yn sanctaidd fellu y dywedir fôd y gwr angrediniol yn sanctaidd neu gwedi sancteiddio trwy 'r wraig grediniol; mae 'r sancteiddrwydd ymma yn gwbwl at ddenfŷdd y briodas Canŷs mae'r Apostol yn y Lle hynny, 1. Cor. 7. Yn dywedŷd, am briodas; a peth yddylau y rhai sydd yn credu fyw gida y gwŷr angrediniol: neu i gossod hwy heibio fel, 1. Cor. 7.13. Ag fellu yr sancteiddrwydd a ddywedir amdano ymma sydd yn gwbwl i'w hachos hwy: fe ddywedir, Zach. 14.20. A bydd sancteiddrwydd ar gluchau 'r Meirch a bydd pob crochan yn nhŷ'r Arglwydd yn sancteidd; yr awr hon a dybygwch chwi fôd hŷn yn warrant ddigonol i fedyddio clychau fel y darllenwch yn Llyfr y Merthyron iddŷnt wneuthur: eithr y mae sancteiddrwydd i achos y credadŷn fel y mae pob creadur gwedi ei sancteiddio trwy air Duw a gweddi; ag i'r glân mae pob peth yn lân; hynnŷ yw iw defnudd hwy fel hŷn y mae plant yn sanctaidd a gwyr anghrediniol gwedi sancteiddio iw defnydd hwy. Eithr os [Page 47]ydych yn tybied fôd plant y crediniol yn etifeddu sancteiddrwydd onid ŷw ych profiad yn dywedd wrthych yr gwrthwyneb: oni welwn ni wŷr da yn cael plant anuwiol a gwŷr drwg yn cael plant sanctaidd, fellŷ mae'n hwy yn sancteidd yn unig iw defnydd hwy, ni chawsant eu geni mewn aflendid.
Gwrthddadl. 19.
19. Pan enwaedwyd gŷnt gwŷt oedrannŷs a enwaedwyd; eithr gwedi hŷnnŷ enwaedwyd a'r blant bychein; fellu yn y'r efengil pun gafodd bedŷdd y weinidogaeth gŷnta: bedyddiwyd gwŷr a gwragedd: eithr gwedi hynnŷ bedyddiwyd plant bychein.
Atteb.
Pan orchmynnod Duw enwaediad gynta fe orchmynnodd fôd eu weinidogaeth ef ir plant, Gen. 17.10. pob plentyn gwriw, eithr pan orchmynnodd Crist fedydd fe orchmynnodd i dyscu hwy ag iddŷnt gredu a chaeleu bedyddio, ag ni roddes erioed orchymmŷn i fedyddio plant, gan hŷnny ystyriwch mae gennym ni farweddiad a gweithredoedd yr Apostolion ar brif eglwysi dros amriw flynyddau: ag heb un plentŷn yn cael ei fedyddio. Paul a ddychwelwyd ryw amser yn ôl derchafu Crist, ag oedd 14. o flynyddoedd yn Grist, 2. Cor. 12.2. yn y [Page 48]14 ymma fe aned rhai plant yn ddiau er hynny ni fedyddiwyd yr un ohonynt.
Gwrthddadl. 20.
Ethnicciaid oedd y rhai a fedyddiwyd yn nyddiau yr Apostol
Atteb.
Ai ethnie oedd yr Arglwydd Jesu? fe bedyddiwyd ef; yr Eunuch Addolwr y gwir Dduw, Corneliws gweddiau ag elissennau yr hwn oed gwedi dyfod mewn coffadwriaeth ger bron Duw: ai dymma 'r ethnicciaid, nage onid ŷw y rhai sydd yn bedyddio plant bâch yn bedyddio ethnicciaid, Eph. 2.3. Yr ydŷn ni yn blant digofaint wrth naturiaeth: y chwi sydd yn pledio am fedyddio cenhedloedd, yr ydim ni yn pledio, am fedyddio 'r crediniol.
Gwrthddadl. 21.
21. Eithr mae Paul yn dywedyd, 1. Cor. 1.17. Ni ddanfonodd Crist mohonofi i fedyddio ond i efangylu.
Atteb.
I Paul fedyddio, Darllen, 1. Cor. 1.14.15. fe fedyddiodd Crispus a Gajus, A theulu Stephanus: nawr y peth a wnaeth ef fe ai gwnaeth naill ai trwy orchymmŷn neu trwy ryfugaeth; eithr ni wnaeth mohono trwy ryfugaeth gan hynny fe ai gwnaeth trwy ordinhâad, fe ddanfonwyd i [Page 49]Efangylu; yr oedd bedydd yn cynwis mewn rhan or weinidogaeth ei Efangyliad ef, yr oedd Philip gwedi ddewis yn ddiacon, er hynny fe fedyddiod yr Eunuch, fe a ddaeth bedydd i mewn fel rhan oi waith Act. 8. fellu nid ŷw raid i'r neb a gaffo alwad i Efangylu gael galwad i fedyddio; mae'r Llall yn dyfod i mewn megis ei waith ef.
Gwrthddadl. 22.
22. Eithr fe fedyddiwyd tair mîl mewn un diwrnod pa fodd y gallau 'rhain i gŷd gael eu plwnsio mewn un diwrnod; hwy allent gael tannelliad eithr nid plwnsiad.
Atteb.
Hwy allasent yn hawdd gael eu plwnsio, canys yr oedd deuddeg Apostol a thrigein a dêg o ddiscyblion megis Luc. 10.1. hynny ŷw pedwar igein a dau, fe allaiay rhain yn dda fedyddio tair mîl mewn diwrnod.
BENNOD. IX.
Y Cyfflybieth rhwng bedydd y credadŷn a bedŷdd plant bâch.
- 1. Mae gorchymmŷn am fedydd y credadyn, Mat. 28.19.20.
- [Page 50]2. Mae gan fedydd y credadŷn lawer o siamplau, Act. 8.12. Pen. 2.37.41.42.
- 3. Mae bedydd y credadŷn or nêf, Mat. 21.25.
- 4. Cyngor Duw yw bedydd y credadŷn Luc. 7.29.30.
- 5. Fe gafodd bedydd y credadŷn i selio yn ogoneddus, Mat. 3.
- 6. Ymmedydd y credadŷn mae'r sawl a fedyddier yn gossod Fŷdd ar waith.
- 7 Ymmedydd y credâdŷn mae'r dŷn yn ymmostwng mewn gweithredoedd o yfudd dod.
- 8. Ymmedydd y credadŷn mae'r [Page 51]Credadŷn yn gwybod pa bryd y mae ef yn cael ei fedyddio.
- 9. Mae'r crediniol yn cofio pa bryd y caiusant i bedyddio.
- 10. Mae'r Rhuf. 6.3. Crediniol gwedi eu claddu gida Christ yn eu bedydd.
- 11. Mae'r hôll gre diniol ag y sŷdd gwedi eu bedydio yn y gyfammod o râs.
- 12. Mae'r hôll grediniol ag a fedyddier yn derbyn maddeuant pechodau, Act. 2.37.38.
- 13. Duw a ddaw odd fôd i bawb a greddau ag a fedydder fôd yn gadwedig Marc. 16.16.
- 14. Mae'r crediniol [Page 52]yn Llawenhâu pan eu bedyddier hwy, Act. 28.16.
- 15. Mae gan fedydd y crediniol air Duw yn eglir, Mat. 28.19.
- 16. Fe ddichon yr hôll fŷd siccrhau yn ddiammau ir crediniol gael eu bedyddio gan yr Apostolion, Act. 8.12.
- 17. Mae pawb ag sŷdd yn bedyddio plant yn cyfadde fedyddio 'r crediniol.
- 18. Mae'r crediniol gwedi eu bedyddio, yn gyfreithlon i fod yn gyfrannog o swpper yr Arglwydd.
- 19. Mae'r holl grediniol a fedyddiwyd yn feini cymwys y buwiol [Page 53]dy dduw, 1. Ped. 2.5.
- 20. Mae'r crediniol a fedyddier yn adeiladu ar Grist trwy eu ffydd eu hunain.
- 21. Ni cyfargollir byth or sawl a fedyddier ar eu ffŷdd eu hunain.
- 22. Ycrediniol a fedyddiwyd a ddychwelwyd ag ni ddeuant bŷth i ddamnedigaeth.
- 23. Y crediniol a fedyddier nid ydynt plant digofaint, Joan. 3.36.
- 24. Y crediniol a fedyddiwyd a wyddant fod yr Arglwydd Jesu yn werthfawr, 1. Ped. 2.7.
- 25. Maer crediniol yn caru Crist ag yn cadw eu orchymŷnion [Page 54]ef, Joan. 14.15.
- 26. Maer crediniol a fedyddier yn addoli duw mewn yspryd a gwirionedd ar cyfriw mae Duw yn i geisio iw addôli ef, Jo. 4.23.
- 27. Mae'n rhaid ei fedŷdd y crediniol sefŷll Cyhŷd ag y afo gair Duw, Mat. 5.15.
- 28. Fe ddichon bedŷdd y crediniol yrru satan ymmaith fel y gwnaeth Crist gan ddywedŷd mae yn scrifennedig hwy a gredassant ag a fedyddiwyd.
- 1. Nid oes ûn gorchymmyn am fedydd plant bâch.
- [Page 50]2. Nid oes un siampal am fedydd plant.
- 3, Bedydd plant bâch sydd o ddynion.
- 4. Nid oes am fedydd plant bâch ond cyngor dynion.
- 5. Ni chafodd bedydd plant bâch erioed i selio gan Dduw.
- 6. Eithr ymmedydd plant bâch nid ŷw 'r plentin yn gossod dim ffŷdd ar waith.
- 7. Eithr ymmedydd plant bâch nid ŷw 'r plent ŷn yn amlygu un weithred o yfud-dod.
- 8. Eithr ni wŷr plant bychein ddim ynghŷlch [Page 51]eu bedydd.
- 9. Plant buchain nid ydŷnt yn cofio eu bedydd.
- 10. Ni chafodd plant bychein eu claddu, hwy a dânellwyd yn unig.
- 11. Nid ŷw 'r holl blant bychein ag sydd gwedi eu bedyddio yn y gyfammod o râs.
- 12. Eithr ni dderbynniodd yr hôll blant bychein a fedyddiwyd faddeuant pechodan.
- 13. Ni addawod Duw y byddau 'r hôll blant buchein gadwedig y fedyddier.
- 14. Nid yw plant buchein [Page 52]yn Llawenhâu eithr yn arferol yn wylo pan ei tannellir.
- 15. Bedydd plant bâch sydd a chanluniaethau dynol ganddo yn ynig.
- 16. Eithr ni ddichon yr hôll fŷd Certennu i un plentyn bâch gael ei fedyddio gan ŷr Apostolion.
- 17. Eithr pawb a fedyddiodd y crediniol sydd yn gwadu fedyddio 'r plant bâch.
- 18. Plant bâch gwedi bedyddio nid ydŷnt lwfedig i fôd yn gyfrannog o swpper yr Arglwydd.
- 19. Eithr nid ŷw yr hôll blant buchein a fedyddier yn gerrig bywiol cymwys [Page 53]i dŷ Dduw.
- 20. Eithr mae 'r cyfriw y sydd yn bedyddio plant yn adeiladu ar ffydd un arall.
- 21. Eithr y cyfriw a fedyddier ar ffŷdd rhai erraill a allant gael eu cyfargolli.
- 22. Eithr plant bâch gwedi bedyddio ni ddychwelwyd, ag â allant ddyfod i ddamnedigaeth.
- 23. Eithr plant buchain gwedi eu bedyddio a allant fôd tan ddigofaint etto, Jo. 3.36.
- 24. Eithr plant buchein a fedyddivyd ni wyddant fôd Christ yn werthfawr.
- 25. Eithr nid ŷw plant buchain a fedyddier yn caru Crist ag yn cadw ei ormynion [Page 54]ef.
- 26. Eithr ni wŷr plant bâch beth a addolant.
- 27. Rhaid ei fedydd syrthio am nad oes gair Duw ganddo.
- 28. Eithr ni ellwch chwi yrru satan ymmaith gan ddywedŷd mae yn scrifenedig plant bychein a fedyddiwyd; canŷs nid ŷw yn scrifenedig.
BENNOD X.
SCrythurau eglir ynghylch bedŷdd heb ddim canllŷniadau dynol oddiwrth ddoethineb dŷn, Mat. 3.13. Yna daeth yr Jesu at [Page 55] Joan. ŷw fedyddio ganddo adnod 15. a'r Jesu a ddywedodd gâd yr awr hon canys fel hŷn y mae yn weddus i ni gyflawni pôb cyfiawnder adnod, 16. ar Jesu wedi ei fedyddio a aeth yn y fan i fynu o'r dwfr, Mat. 21.25. Bedydd Joan o bale yr oedd e ai or nef? a'i o ddynion os dywedwn or nêf? fe a ddywed wrthyn a phaham gan hynnŷ nas credassoch ef? Luc. 20.6. Ond os dywedwn o ddynion y bobl a'n Llabyddiant, Luc. 7.29. a'r Pwblicaned a gyfiawnhasant Dduw gwedi eu bedyddio adnod. 30. eithr y Pharisaeaid ar Cyfreithwŷr yn eu herbin eu humain a ddiystyrassant gyngor Duw heb eu bedyddio ganddo, Mat. 2 [...].19. Ewch dyscwch yr holl genhed [...]oedd gan eu bedyddio yn enw 'r tâd a'r Mab ar yspryd glân, Act. 2.38. Ediferhewch a bedyddier pob un ohonoch yn enw Jesu Grist, Act. 2.41. yna y rhai a dderbŷnniassant ei air ef yn ewyllysgar a fedyddiwyd, Marc. 16.16, Y neb y gretto ag a fedyddier a sydd cadwedig, Act. 8.12. eithr pan gredassant hwy a fedyddiwyd yn wŷr ag yn wragedd, Act. 8.36. yr efnuch a ddywedodd wele ddwf [...] beth sydd yn Lluddias fy medyddio? Mat. 8.37. A Phillip a ddywedoedd os wŷt ti yn credu fe a Ellir, Mat. 8.38. A [Page 56]hwy a aethant i wared ill dau ir dwfr Phillip a'r Efnuch ac fe ai bedyddiodd ef, Act. 9.18. a Saul a gyfododd ag a fedyddiwyd, Joan. 3.22. Wedi y pethau hŷn daeth yr Jesu ai ddiscyblion i wlad Judea. ag arossodd yno ag a fedyddiodd, Joan. 4.1. Jesu a wnaeth ag a fedyddiodd mwy o ddiscyblion nag Joan, Act. 10.57. A all neb luddias dwfr fel na fedyddier y rhai hŷn y rhai a dderbŷnniassant yr yspryd glân fel ninnau, Act. 10.48. Ag fe orchmŷnnodd eu bedydio hwy yn enw'r Arglwydd Act 18.8. A Chrispus yr Arch-fynagogydd a gredodd yn yr Arglwydd ai hôll dy a Llawer o'r Corinthiaid wrth wrando a gredassant ag a fedyddiwyd, Act. 22.16. ag yr awr hon beth yr wyt ti-yn aros? cyfod bedyddier di a golch ymmaith dy bechodau gan alw ar enw 'r Arglwydd, Ruf. 6.4. Claddwyd ni gan hynny gidag ef trwy fedydd, Gal. 2.7. canis cynifer un ag â fedyddiwyd i Grist a wicasant Grist, 1. Ped. 3.21. Cyfflybieth cyfatebol yr hwn sydd yn ein hachyb ni sef bedydd, 1. Cor. 12.13. trwy un yspryd y bedyddiwyd ni ôll yn un Corff, Act. 16.33. Ag efe ai cymmerth hwy yr awr honno o'r nos ag a olchodd eu briwiau ag efe a fedyddiwyd ar eiddo ôll yn y man adnod, 34. [Page 57]gan gredu i Dduw efe ai hôll deulu, Luc. 3.21. a'r y Jesu yn ei fedyddio agorwyd y nef, Luc. 3.23. Ar Jesu ei hun oedd ynghylch dechre ei ddengmlwydd ar higain oed, Joan. 3.23. A Joan oedd yn agos i Salim Canys dyfroedd Lawer oedd yno.
BENNOD. XI. Ystyriauthau trwy ffordd o ddibenniad.
1. YStyria Mae pan fo eneidiau yn cwilyddio yna bydd i Dduw ddangos iddynt Ordinhâdau a dull ei dy, Eze. 43.11. Mae gan yr Eglwys Evangylaidd ei threfniadau.
2. Ystyria pan fo Duw yn rhoi i un rhyw enaid galon newydd: mae hynny er ei wneuthur ef yn gymwys i ordinhâdau Duw, Eze. 11.19.20. Yspryd newydd a roddaf iddŷnt tynnaf hefyd y galon gîg; fel y rhodiant yn fy ordinhâdau ag y gwnelont hwynt.
3. Ystyria pa môr embydus ydyw i wrthsefyll ordinhâad Duw. darllen Ruf. 13.2. Luc. 7.29.30. a hwy a ddiystyrassant gyngor. Duw heb eu bedyddio ganddo.
[Page 58]4. Ystyria pa farnedigaethau a ganlynassant a'r newidiad ordinhâdau Duw, Isai. 24.1. Wele yr Arglwydd yn gwneuthur y ddaiar yn wâg ag a ddâd-ymchwel ei hwyneb hi: dyna newidiad; ond paham adnod 5. Newidiasant y deddfau; pan fo Christ yn gorchymmŷn credwch a bedyddier chwi; a phobl yn bedyddio plant bâch nad ydŷnt yn credu: pa un a'i bôd hŷn yn newidiad o'r ordinhâad bernwch Chwi.
5. Ystyriwch beth a ddigwyddodd i Nadab ag Abibu plant Aron, Levit. 10.1.2. Hwy a offrwmmassant y peth na orchmynnodd yr Arglwydd nid oedd wâharddedig eithr nid yw hynny ddigon nid oedd è yn orchmynnedig nid ŷw bedydd plant bâch yn waharddedig: eithr mae yn beth ni orchmynnodd yr Arglwydd.
6. Ystyriwch mae Lle yr oedd camgymeriad yn y bedydd yna cewch weled y cyfriw yn cael eu bedyddio drachefn darllenwch, Act. 19.1.2.3.4.5.6. Nawr os yn dy fedydd baban nid oeddit yn addas nag mewn Jawn ddull yna dylit gymeryd dy fedyddio drachefn.
7. Ystyria os y peth a dderbynniest yn dy Jevengctud nid oedd fedydd: ag ni chafest dy fedyddio gwedin yna ir wyt ti [Page 59]yn byw mewn esceulysdod o ordinhâad fawr Evangulaedd: a elwi di hynny yn ufudd-dod nad oedd dy weithred di, ag ni chafodd di yn fodlon ag ni wyddest amdano nag elli gofio pa bryd y gwnaethpwyd, ag heb ddim ffydd yndo ag a elwy di hwnnw yn fedydd; nad oedd oth yfudd-dod di, eithr ewyllys dy rieni.
8. Ystyria fôd yn rhaid cadw 'r ordinhâdau megis y traddodwyd hwy 1. Cor. 11.2. eithr bedydd a draddodwyd ir crediniol ag nid i blant; Duw yn ddiau a draddododd enwaediad i blant bâch: eithr ni roddes eriod fedydd i blant bach.
9. Ystyria fôd Llaweroedd na fedyddiwyd er pan gredassant yn gommedd Bedydd iw plant, gadewch y mi ofyn ir cyfriw os oedd eu bedydd baban yn ddigonol iddynt: os ydynt yn i ommedd iw plant paham y cyfrifant eu bedydd baban eu hunein yn ddigonol Pa hyd y cloffwch rhwng dau feddwl.
10. Ystyriwch i fod é y maes o bob ammau ir crediniol gael eu bedyddio, Act. 8.12. bedydd plant bäch ar y gorau nid yw ond amheuol. bedydd plant bäch y gafod yn fynuch ymholiad: eithr pa bryd yr ymholwyd bedydd y crediniol, Mae gwedi eu amlygu mewn geiriau eglir, hwy a gredasant ag a fedyddiwyd; nawr onid yw yn well myned ar hyd ffordd ddiamheuol nag ar hyd ffordd dywyll.
11. Ystyria fôd lliaws o siamplau o fedydd y crediniol: gwel yr. 12. ddalen or Llyfr hwn, eithr nid oes un Siampal o fedydd plant bâch.
12. Ystyria pe buassau jechadwrieth dy enaid yn sefull ar yr ymholiad hwn; pa un ai 'r credi niol oedd yn cael eu bedyddio neu blant buchain oeddid yn eu fedyddio oni ddywedassit ti yn siccir y crediniol.
[Page 60]13. Ystyria megis oedd genedigaeth fraint yn roddi hawl yr enwaediad tan y gyfraith felly yr oedd genedigaethfraint yn roddi hawl ir offeiriadaeth: nawr chwi fynnwch glymmu bedydd heb un gair i hâd y crediniol paham gan hynny na chlymmwch y weinidogaeth wrth hâd y gweinidogion oni fyddau hynny yn ganlyniaeth neu logick dieithr ddywedyd fôd hâd y pregethwyr tan yr efengil yn cael Llai [...] ragorfraint nag oedd ir offeiriaid tan y ddeddf.
14. Ystyna nad ydym ni i dybied am neb ywchlaw yr hyn sydd yn scrifennedig, 1. Cor. 4.6. Nawr onid yw bedydd plant bâch wedi scrifennu fel ordinhâad na fernwch mohono i fôd yn ordinhâad.
15. Ystyria fod Crist yn ffyddlon yn ei hôll dy heb, 3.5.9. Pe buassau ewyllys ei dâd gael o blant bâch eu bedyddio yn siccir fe fuassau mor ffyddlon a gadel ini un gair yn ei scrythurau bendigedig.
16. Ystyria Moses gwnaeth y cwbwl yn ôl y protreiad a ddangosswyd yn y mynydd, Exo. 25. adnod. 40. ag oni Chaiss gwasanaethwyr yr Arglwydd wneuthur y cwbwl yn ôl y portreiad a ddangossodd ef ini yn y testament newydd? y portreiad a adawyd yn argraffedig yw; hwy a gredassant ag a fedyddiwyd, Act. 8.12.
17. Ystyria beth na bydd y rhai hyn sydd yn hyderu ar ganllyniaethau heb un text eglir i ganiatau i bapistiaid ag eraill yr un canllyniaethau am allorau a gwiscoedd gwynion; fôd pob peth iw wneuthir yn weddaidd â hwy a ddywedant fôd gwiscoedd gwynion yn weddaidd, a bôd coed o gwmpas y byrddau, yn weddaidd.
18. Ystyria: gan fôd yr scrythur mor gymwys yn gossod i lawr yr amriw amgylchiadau am y rhai a fedyddier, Act. 16.13.14. Yr amser, y sabbath; y Lle wrth ystlys afou; y cwstwm, [Page 61] gweddioedd arferedig iw gwneuthur; y cwmpeini; gwragedd; yr enw, Lud [...], y grefft; un yn gwerthu porphor; Lle yr oedd hi yn aros; yn y ddinas Thyatira; ei chrefydd un yn addoli Duw; ei gwaith, yr oedd hi vn gwrando gair Duw; yr Arglwydd agorodd ei chalon; yr offeryn, geiriau a Lefarwyd gan Paul, fellu, Act. 26.27. Cynifer o amgylchiadau; eithr nid un gair yn un Lle, gwedi ei Lefaru i un plentyn bâch gael erioed ei fedyddio, paham y gadewyd e allan pe buassau ewyllys Duw ar ei wneuthyd.
19. Ystyria, un rhoddwr cyfraith sydd yr hwn a ddichon gadw a cholli: Jage. 4.22. Yr Arglwydd yw ein barnwr yr Arglwydd yw ein deddfwr Jsa. 33.32. y nawr pa le rhoddodd yr Arglwydd ymma ddeddf i fedyddio plant bâch? ni roddodd yr un rhoddwr cyfraith ymma un ddeddf am fedyddio plant bâch.
20. Ystyria pa un a'i dyfod bedydd plant bâch, tadau bedydd, a mammau bedydd, y groes yn y bedydd yr addewidion ar addynedau a wneir dros blant bâch i mewn eu gyd trwy ddychmygion dynol yn yr un amser neu ar un resymmau.
21. Ystyria pa un a'i bôd yn ddiogel iroi Lle i ganllyniaethau yn erbyn y datguddiedig reol, Mat. 28.19. dyscwch a bedyddiwch.
22. Ystyria pa un ai gaiff y rhain sydd yn bedyddio plant bâch ddywedyd Wrthynt hwy gan yr Arglwydd ûn diwrnod megis yn, Jsai. 1. 12. Pwy a ofynnodd y pethau hyn ar eich dwylo c [...]w [...].
23. Ystyria beth na bôd am nôb o'r ordinhâdau evangylaidd cynifer o eiriau eglir ac sydd am fedydd y crediniol.
24. Ystyria pa un a'i dyfôd di wrth gymeryd dy fedyddio yn cyfiawnhau Duw; ac oth ran dy hun heb gymeryd dy fedyddio yn diystyru cyngor Duw Luc. 7.29.30.
[Page 62]25. Ystyria pa un a'i bôd y rhai hynny ag sydd yn dala bedydd plant bâch yn pregethu fôd bedydd yn arwydd o'r ail enedigaeth, a pheth na bôd pawb neu neb or plant bâch a fedyddiwyd gwedi eu haileni.
26. Ystyria beth na bydd cwilydd ar y rhai hynny un diwrnod na edrychant ar hôll orchmynion Duw, Psa. 119.6.
27. Ystyria Pa un a'i meiddiau Abraham enwaedu ar ei blentyn heb air y gorchymmyn gan hynny pa fôdd meiddi fedyddio dy blentyn heb y gair.
28. Ystyria pa un a'i ein bôd ni i gyrchu ar ôl purdeb yr ordinhâdau a pha un a'i bôd yr ordinhâdau hynny ag sydd iddynt yn rheol datcuddiedig yn fwy pûr.
29. Ystyria pa un a'i hwy, a hwy yn unig, a fwynhâant y groeso da hynny ar ddyfodiad Christ y rhai a wnaeth y peth a orchmynnodd ag fel y gorchmynnodd.
Y nawr mi a ddeisyfaf arnat ti i ystyried beth a ddywedpwyd yn y matter hwn A Duw gogoneddus y gwirio [...]d a roddo i ti yspryd y gwirionedd yr hwn a ddichon dy arwein di i bob gwirionedd ath adeiladu di i fynu a rhoddi i ti gyfran ymmysc y rhai a sancteiddiwyd: ag fel mewn purdeb gida didwyl gariad tuag at Dduw ath enaid dithau y scrifennwyd y pethau hyn felly yr unig Dduw a thâd ein Harglwydd Jesu ath Sancteiddio di yn gwbwl mewn Corph enaid ag yspryd ag a roddo i ti galon i chwilio pa un a [...] bod y pethau hyn felly.