RHANN O PSALMAE DAFYDD BROPHWYD JƲ Ʋ CA­nu ar ôl y dôn arferedig yn Eglwys Loegr.

Simon Stafford a'i printiodd yn LLunden dros T. S. 1603.

❧ At fyngharedigion wlâd-wyr y Sawla gârant Ogoniant yr Arglwydd, ag ymgeledd ei gwlad­iaith.

WRth weled mor ofalus ydiw ieithyddi­on eraill am ei gwlad-iaith, a chynnydd yr Efengil drwy oll grêd, a bôd y Sae­son mor gymwynascar iw gelynion y Spaeniaid ag iddynt brintio bagad o lyfre yn yr Yspaen-iaith ai danfon y­mysc y gelynion ar feddwl ei hynnill at Dduw, ar rhai a aeth a'r llyfre rheini at y gelynion, a fentriasant nid yn vnig ei dâ ai trafel ond ei hoedl hefyd ar fedr gwneuthur llês i Estron-Genedl.

Pa faint mwy y dylem-mi ymgeleddu eyn hiaith eyn hunain yr honn a ddeffynnodd y Goruchaf dduw yn yr vn-lle yn y deyrnas honn ers seith-gant-a'r-higen o fly­nyddoedd ag y chwaneg ymysc cyn-niuer o amrafaelion Genhedloedd, terfyscoedd a dinistroedd a fu i'n mysc er yr amser hwnnw i geisio difa a dinistrio yr iaith ai phobl yn llwyr. Yr hynn beth ni all vn nasiwn nag iaith ar sydd dann Grêd a Bedydd heddyw ddoedyd y cyffelib. Am yr hynn yrydym-mi yn fwy rhwymedig i'r Arglwydd nag oll Bobloedd y byd: ag nyni yn ôlaf ag yn ddiweddarat am osod allan Ogoniant Duw yn eyn iaith eyn hu­nain.

Ag wrth weled a chlywed mor brydferth ag mor hy­fryd rydys yn moliannu Duw yn yr holl Eglwysille ma­er Efengil yn cael rhyddid, ond Ynghymru yn vnig, [Page] wrth ganu Psalmae Dafydd, hynny a wnaethi mi (Er Go­goniant i'r Arglwydd, a Chariad i'm Gwlâd) ddangos fy wyllys dâ yn cychwyn hynn o waith ar ddechre cyngha­neddu hynn o Psalmae yn nesa ag ellais at feddwl yr Y­spryd glân, fel y cefais hwynt yn scrifennedig yn y Scry­thurav.

Mi a rois y Psalmae prôs ar gyfer y Gynghanedd, ag a adewais lê rhwng pôb Vers ai gilidd o'r Gynghanedd fel i gallo rhai celfyddach gymhennu a pherpheithio hynn a wneuthym i ofrâs-nâddiad, er prâw yn vnig, ag er annog eraill (a fedrant yn well) ei hailddiwygu hwynt.

Gann ddamuno arnoch bawb yn ol ei allu hyfforddi fy wyllys dâ i a'ch cyngor a'ch cymorth, i amlygu i'r byd eych serch a'ch cariad i Dduw a'ch Gwlâd. Yr hynn bêth os gwnewch, chwi a ogoneddwch yr Arglwydd, chwi a fawrhewch eych gwlâd, ag a'm cyssurwch innau, nid yn vnig i fynd trwodd a holl gorff y Psalmae yn yr vn-rhyw gynghaneddiad (yr hwnn fesur gynghanedd sydd gym­wysaf ei ganu gann yr oll Gynlleidfa ar vn-waith) ond he­fyd i lêshau fy ngwlâd ymhellach ar ól hynn mewn pethau dnwiol eraill o'r Scrythur lân.

Drwy obeithio gann gadw o dduw nyni a'n hiaith mor gryno ag mor ddi-lwgr dros gyd o amser, fôd gann yr Arglwydd dduw ryw orchest-waith a gorchafi [...]eth tu ag at amlhâd ei ogoniant ei hûn ym-mysc yr hên Frutaniaid a gadwodd ef mor wyrth-fawr mewn rhyddid a diogelwch hyd yn hynn.

A chan eyn bôd yn byw yn yr Oes honn dann ard­derchockaf Vrenhines o'n gwlâd eyn hunain, yr honn sydd yn canhiadu i ni gael y Scrythur lân yn eyn hiaith eyn hunain, ag oll gyfreidiau eraill ar a ddamunem ei cael tu ag at amlhau Gogoniant Duw, a mawrhâd eyn hiaith: (Yr hynn bêth ni a attolygwn i dduw ei hîr-gynnal i ni rhag-llaw) O fy anwyl wlad-wyr, tra fo duw yn canhiattau i ni, y rhwydd-deb, yr heddwch, a'r rhyddid y rydym y­rowron yn ei gael, na chollwn yr am [...]er presennol, ond yn [Page] hytrach gwaredwn yr hîr-amser a gollasom yn barod, a dangoswn i'r byd, eyn bôd yn prisio mwy am Ogoniant Duw, am Orchafiaeth a derchafiad eyn Gwlâd a'n hiaith, ag am ddi-dranck lywenydd ag iechy dwriaeth eyn Enei­diau eyn hunain, nag yr ydym am ddarfodedig fwnws y byd hwnn, yr hynn nid oes im ond byrr amser iw fwyn­hau.

Ag ar hynn mi a ddamunwn ar bôb gwir Gymro na rodde hûn iw lygaid, na heppian iw amrannau (fel y do­edodd y Prophwyd Dafydd) nês gweled Gogoniant yr Arglwydd, drwy hy-fforddi gorffenniad y Gorchwyl du­wiol yma yn ei wlad-iaith ei hunan.

Yr oll-alluawg dduw yr hwn yn vnig a roes y meddwl ynofi i gychwyn hynn o waith, a gynnhyrfo ynoch chwi­thau wyllys i gymorth yr vnthyw, tu ag att helaethiad Go­goniant Duw, mawrhâd eyn Priod-iaith, a chyssur eyn Eneidiau erbyn y dydd a ddâw.

Yr eiddoch iw orchymyn yn- Christ Iesu: Edward Kyffin.

ā ē ī ō ū w̄ y ̄

LLe gweloch y llythrennau v­chod a'r nôdau hynn dros ei pen­nau rhaid fydd ei llefaru hwynt yn hîr.

Psal. 1.

DŶn ni rodio dedwydd yw
ynghyngor an-nuw ddynion:
Yn fordd pechadwyr ni sai,
nistēddai'n stōl gwatworion
2
Ond ei holl ddifyrwch sydd
yng-hyfraith Arglwydd nefol:
Ag yn vnthyw gyfraith rȳdd
mae beunydd yn fyfyriol.
3
Fel prenn glann-ddwr dw̄g ffrwyth prȳd,
ei ir-ddail clyd ni wywa:
Pa beth bynnag wnēl ei lāw
hynny drāw a lwydda.
4
Nid vn-fāth y di-dduw trw̄ch,
fel ūs a llwch i gwelir:
Oddar wyneb dayar faith
gann yrrwynt daith a chwelir.
5
Am hynn nisai enwir lū,
wrth farnu'r ddeu-lu 'n iniawn.
Nar pechadwyr diriaid blā
mysc y gynlleidfa gyfiawn.
[...]
6
Herwydd ffordd y cyf [...]awn rhwydd
ebrwydd duw ai hedwyn:
A difethir hwnt ar llēd
ffordd ddi-grēd annvwiol-ddyn.
I'r nefol dâd Moliant gân,
i'r Mâb, ag i'r glân Yspryd:
Fel i bû, Yrowron sydd,
a bydd yn anniwedd-fyd.

Psal. 2.

PAm i cōdant Derfysc floedd
Genhedloedd o gynddaredd:
Ar Iddeon bobl gan
ai brȳd ar wau oferedd.
2
Brenhinoedd a phennaethiaid bŷd
maent yn cyd-gynghori:
Yn erbyn yr Arglwydd rhawg,
ai Grist eneiniawg Geli.
3
Drylliwn (Meddant) rwymau rhain,
ai coelfain gyrt-reffynnau:
Taflwn ymaith yr iau ddysc
eiddynt fyse eyn gwarrau.
4
Ond presswyludd Nē [...] a chwardd
am benn ei hanardd fwriad:
Duw ai gwarwar am ei gw [...]g,
ai diffaith gilwg hy-frad.
5
Yna wrthynt yn ei lid
llefarid y Gorucha:
Ag yn ei dōst ddigllonrwydd
yr Arglwydd ai dychrynna.
6
Mi osodais fy-Mrenin
ar fy nillin fynydd
Sion Sanct lle ceiff barhād
a thrigiad yn dragywydd.
7
Mynegaf y Gyfraith rw̄ydd
a ddoedai'r Arglwydd wrthy:
Fy Māb ydwyt, myfi dduw
gwnn heddyw dy genedly.
8
Gofyn i mi, rhōf ar goedd
Genhedloedd ith tifeddiaeth
A therfynau Dayar fȳd
cei hefyd ith feddiannaeth.
9
Briwi hwynt (ith gyfion farn)
a gwialen hayarn odifri:
Ag fel llestr priddin ddyll
yn gann-dryll hwynt maluri
10
Gann hynny byddwch synhwyrol
Frenhinoedd reiol rowron:
Barnwyr dayar cymrwch ddysc
(dduwiol addysc ffrwythl [...]n.)
11
Gwsneythwch yr Arglwydd dduw
mewn iown-ryw ofn a berthyn:
Ag ym-lawenhewch dann gō
iddo mewn parch-ddychryn.
12
Cussenwch y Māb rhag ei ddig,
chydig oi lid pann gneuo
A'ch difetha o'r ffordd rwydd:
dedwydd sawl ai 'mddiriedo.

Psal. 3

ARglwydd amled ydyw'r gwyr
y fydd drallodwyr i mi:
Llawer o gaseion tynn
im herbyn sydd yn cōdi.
2
Llawer doedant yn ddi-baid
am f'enaid eiriau rhy-gaeth:
Nid oes iddo yn ei dduw
vn-rhyw iechydwriaeth.
3
Tithe Arglwydd goreu-lan
ydwyt darian i mi:
Fyngogoniant wyt am būdd,
fy-mhenn-dderchafudd wedi.
4
Gelwais ar yr Arglwydd Nēf
am liēf o ddyfnder calon:
Ag ef a glybu 'nghystudd
oi sanctaidd fynydd tirion.
5
Gann fy-mhwyll mi orweddais,
ag a gyscais iownfodd:
A deffroais, o herwydd
yr Arglwydd am cynnhaliodd.
6
Nid ofnaf fyrdd niferoedd
o bobloedd am amgylchant:
Ag i'm herbyn o lawn frȳd
a gȳd-ymosodasant.
7
Cyfod fy-Nuw, achub fi,
trewaist ri 'ngelynion
Ar garr yr ēn: torraist wēdd
ddannedd annvwolion.
8
Oll yn eiddo 'r Arglwydd aeth
iechyd wriaeth Dynion:
Ti a renni dy fendith
ymhlīth dy bobl wirion.

Psal. 4.

GWrando fi pann alwyf dduw,
wir-dduw fynghyfiawnder:
Trugarhā, erglyw fyngweddi,
ehengaist fi 'nghyfyngder.
2
O feibion dynion pa hȳd
i trowch fyngh [...]yd-ogoniant
Yn warthād? gorwēgi hōffwch,
arge [...]s [...]wch gelwydd somiant?
3
Gwybyddwch i'r Arglwydd ethol
y duwiol iddo ei hunan:
Pann alwyf ar fy nuw cū
ef a wrendu 'nghwynfan.
4
Ewir-ofnwch, ag na phēchwch,
meddyliwch yn eych calon:
Ar eych gwely difarhewch,
distewch (fel rhai vfuddion.)
5
Aberthwch i dduw ebyrth pēr
Cyfiawnder (gwiw-offrymiad)
A gobeithiwch (yn hy-lwydd)
yn yr Arglwydd hael-dād.
6
Llaweroedd sy 'n ddo [...]dyd, pwy
A ddengys mwy ddā i ni:
Arglwydd dercha arnom gyrch
lewyrch dy wyneb heini.
7
Rhoist lawenydd im calon,
(cynnhesaist fy mronn ddū-rew)
Er pann amlhādd ei hȳd,
ai gwin ei gȳd, ai holew.
8
Mewn heddwch y gorweddaf,
a hūnaf yn ddi-ebwch:
Cans ti Arglwydd yn vnig
a'm trīg mewn diogelwch.

Psal 5.

Gwrando Arglwydd, (w̄yf yn gwav)
fyng-eiriav attat vchod:
Ag ydolwg fy-nuw call
deall fy myfyrdod.
2
Erglyw ar lēf fyng-waedd-drīn
fy-Mrenin dduw goruchaf:
Ystyr wrth fyng-alar-nād,
cans arnad y gweddiaf.
3
Yn foreuol Arglwydd nēf
clywi fy llēf ddifrifaf:
Yn fore cyfeiriaf attad
ag am dy rād disgwiliaf.
4
O herwydd nad wyt ti dduw,
yn wyllysio rhȳw an wiredd:
Y drw̄g ni thrīg gida thī,
ni fynni ef ith gydwedd.
5
Ni safant ynfydion drw̄g
yn dyolwg pur-wedd:
Cāseist oll an-nuwiol wȳr,
gweithred-wyrpōb an wiredd.
6
Difēthi rhai ōll a wnānt
ag a ddoedant gelwydd:
Yr Arglwydd ffieiddia fȳd
gw̄rgwaedlyd a'r twyllod-rydd.
7
Minne ddōf ith dūy fy nēr
yn amlder dy drugaredd:
Ag addolaf yn dy ofn
ith deml ddofn sancteidd-wedd.
8
I'th gyfiawnder arwain fi,
o achos sī 'ngelynion:
Gwastadhā dy ffordd o'm blaen,
(er a wnaen ynfydion)
9
Iniondeb iw safn nid aeth,
llygreidiaeth yw ei ceudod:
Ei gwddf sȳdd agored fēdd,
gweniaith mēdd ei tafod.
10
Duw distrywia hwynt ai chwant,
syrthiant o'i cynghorion:
Yn amlder ei cammau tynn,
i'th erbyn gwrth-ryfelson.
11
Dy-'mddiriedwyr llawenhānt,
cān-mōlant di 'n dragywydd:
Cār-wyr, d'enw orfoledd
ynot, ei hēdd ai gorchudd.
12
Cans ti Arglwydd grasuslawn
y cyfiawn a fendithi:
A chredigrwydd cyuhes-lān
fel tarian ef coroni.

Psal. 6.

NA cherydda fi Arglwydd
yn dy lidiowgrwydd tosta:
Ag (oth fawr drugaredd bid)
fi yn dy līd na chospa.
2
Arglwydd wrthif trugarhā
cans llesca wyf a'r ānwyd:
Iachā fi ō Arglwydd chwyrn
cans f'escyrn a gystuddiwyd.
3
A'm henaid a ddychrynnwyd nawr
yn ddirfawr gann dy ofni:
Tithe Arglwydd rhōlwr bȳd
pa hȳd i'm poen-gystuddi.
4
Dychwel Arglwydd, trō i'm plaid,
a gwared f'enaid gwaelēdd:
Iachā fi o nenn hyd lawr
er mwyn dy fawr drugaredd.
5
Cans yn-nȳdd Angau dūa
nid oes gōffa am danad:
Ag yn y Bēdd gor-ddwfn hawl
pwy ath fawl ar gāniad.
6
Dyffygiais gann f'ochain frȳ,
fyng-wely gwnāf yn foddfa:
Fy heilltion ddagrau bōb nōs
sy 'a llif dros fyng-orweddfa.
7
Gann īng-ddigter arwa gād
fy lygad a dywyllod:
Herwydd fy hōll elynnion
fyngolwg llonn heneiddiodd.
8
O ddiwrthif ciliwch ar fyrr
oll weithred-wyr anwiredd:
Cans yr Arglwydd clywodd ef
fyng-riddfan lēf wylofedd.
9
Ef a glybu 'r Arglwydd dād
fy neisyfiad difri:
Yr Arglwydd hefyd a fynn
dderbyn fymhrudd-wēddi.
10
F'oll elynion gwradwyddir,
trallodir hwynt yn ddirfawr:
Dychwelir hwynt drwy gwilydd rhw̄th
yn ddisymwth vn-awr.

Psal. 7.

ARglwydd fy nuw clȳw fy llais
ymddiriedais ynot:
Rhag f'erlid-wyr oll ar llēd
gwared fi wyf eiddot.
2
Rhag iddo larpio fy enaid
yn safnaid, fal llēw rheibudd:
Gann ei scythru ai rwygo
pryd na byddo gwaredudd.
3
F'arglwydd dduw y rwy 'n erfyn
os gwneuthym hynn nai dybiaw:
Od oes hefyd (niwed wēdd)
anwiredd yn fy nwylaw.
4
O thelais ddrw̄g ir nēb oedd
mewn hēddoedd a mi 'n aros:
Oni waredais rhai a'm
gwrthnebent gam heb achos.
5
Gelyn f'enaid iddo bīd
f'erlid a'm goddiwedd:
Sathred fy mywyd i'r llawr,
i'r llwch-lawr fyng-ogonedd.
6
Cyfod i'th ddīg ō Arglwydd
o herwydd llīd gelynion:
Ym-dderch, deffro droso 'n ffēst
i'r farn orchmynnest inion.
7
Felly oll gynlleidfaoedd
y bobloedd ath amgylchant:
Dychwel dithe er ei mwyn
ith fwyn vchelder feddiant.
8
'R-Arglwydd a farn bobl ri
barn fi yn fyng-hyfiawnder:
Ag yn ōl (lle deli gōf)
sydd ynof o berffeithder.
[...] (part 2 Yr Ail Rhann.) 9
DArfydded drw̄g an-nuwion,
Cyfiownion cyfarwydda:
Duw cyfiawn y Cal [...]nnau
a'r arennau chwilia.
10
Fy amddiffin oll y sȳdd
beunydd yn-nuw cyfiawn:
Cans ef yw iachawdur llonn
y rhai o galonn iniawn.
11
Y gwir-dduw gogoneddus
sydd eustus farnudd cyfion:
A duw beunydd wrth (rai ffōl)
anuwiol, y sydd ddigllon.
12
Oni ddychwel yn ei ōl
annuwiol, Clēdd a hōga:
(Yn dra-seliad) paratōdd
ag annelodd fw̄a.
13
Gwnaeth yn barod (ar ei stōl)
iddo angeuol arfau:
Yn erbyn erlid-wyr (trōdd,)
ef a weithiodd saethau.
14
Wele, ym-ddw̄g anwiredd,
ar gamwedd y beichiogodd:
(Ag o'r diwedd oi fol-chwydd)
ar gelwydd yr escorodd.
15
Cloddiodd gor-bwll, trychodd ffōs,
(i aros cael fy-mhriddaw:)
Syrthiodd ei hūn (nid oedd waeth)
i'r Distruw wnaeth ei ddwylaw.
16
Ei anwiredd ar ei benn
a ymchwel (penn fo 'mhena:)
Ei gam-wedd ef (ai hoynyn)
a ddescyn ar ei goppa.
17
Yn ōl ei gyfiawnder rhw̄ydd
yr Arglwydd a glōdforaf:
A chān-mōlaf Enw llw̄ydd
yr Arglwydd goruchelaf.

Psal. 8.

1
ARglwydd Iōr, mor ardderchawg
yw d'enw rhawg yn holl-fyd!
Rhwn a roddaist (dann warant)
d'ogoniant vwch nefoedd-fȳd.
2
O enau rhai bāch sugno
peraist it gō yn nerthudd
Achos dy gās: i ostegu
y gelyn dū, a'r dialudd.
3
Pann edrychwyf ar nefoedd
rhai ydoedd waith dy fyssedd:
Sef, y lloer, a'r sēr (medraist)
a ordeiniaist o'r dechredd.
4
Pa bēth yw dȳn (gwael-ddyn gau)
it iw goffāu ai wilied?
A māb dȳn (dayaryn lēf)
i ti ag ēf ymweled?
5
Gwnaethost ef ychydig is
gōr-is yr Angylion:
Gogoniant a phrydferthwch
rhoist i ddȳn llw̄ch yn gōron
6
Ar weithredoedd dy ddwylo
rhoist fo i arglwyddiaethu:
Gosodaist bōb pēth ar a wnaed
dann ei draed iw mēddu.
7
Defed, ychen, oll a gaid,
Maes-anifeiliaid llown-fyd:
8
Hediaid awyr, a phȳsc mōr
sy'n tramwy dyfn-fōr hefyd.
9
O Arglwydd eyn Iōr enwawg
mor ardderchawg ydwyd!
A maint arderchowgrwydd dw̄
yw d'enw yn yr holl-fȳd!

Psal. 9.

CLōdforaf yr Arglwydd Iōn
a'm holl galon ddiau:
(I'm bȳw ddȳdd dy fōli wnāf)
mynegaf d'oll ryfeddau.
2
Ynot Arglwydd llawen hāf,
a gorfoleddaf (iown-dw̄:)
A beunydd dduw goruchaf
i canaf ith lān enw.
3
Tra ddychwelid (gau-ddynion)
fyng-elynion iw gwrth-ōl:
Llithrant, difeir hwynt (lle 'r āen)
oth flaen fyng-wīr-dduw grasol.
4
Cans gwnaethost yn ddā fy marn,
a'm matter iown-farn iniawn:
'Steddaist ar orsedd-fainck fūdd,
ō Arglwydd farnudd cyfiawn.
5
Ceryddaist Genhedloedd ffōl,
yr annuwiol destruwiaut:
Ei henw hwynt ōll ar ōl
byth bythol a ddi-leaist.
6
Hā elyn, darfu ddinistr ddŷdd
yn dragywydd weithian:
Diwreiddiaut ddinasoedd wlād,
hwynt ai coffād darfuan.
7
Ef a erys yr Arglwydd
yn dragywydd wastad:
Ef a baratōdd ei fainck
orsedd-fainck i wīr-farniad.
8
Cans ef a farn y bȳd derr
mewn cyfiawnder wir-deb:
Efe a farn y bobloedd
(ai gweithoedd) mewn iniondeb.
9
Hefyd e fŷdd yr Arglwydd
amddiffin rhw̄ydd i'r truan:
A phrīf-nawddfa fȳdd mewn prŷd,
sef, mewn cyfyng-fȳd gwynfan.
10
A'r rhai adwaenant D-'Enw
ynōt nhw [...]mddiriedant:
Cans ni 'dewa [...]st ō Arglwydd
y rhai ath hylwydd-geisiant.
(part 2 Yr Ail Rhann.) 11
MÔlwch yr Arglwydd (dann gō)
hwn fy 'n presswylio Sion:
A mynegwch i'r bobloedd
ei weit, redoedd tirion.
12
Cans pann ofyn ef am waed
ddaed y cofia 'm danynt
Ag ef nid anghofia waedd
y tlodion (maedd) lle 'r ydynt.
13
Trugarhā wrthif Arglwydd,
fy-nerchafudd o angau:
Gwēl fy mlinder (arwa dōn)
gann fy 'nghaseion innau.
14
Fel mynegwyf d'ōll foliant
ym-mhyrth dy sant Merch Sion:
Ag y llawenychwyf (ffraeth)
yn d'iechydwriaeth rhadlon.
15
Soddai'r Cenhedloedd vn-nōs
yn y ffōs a wnaethant:
Ei troed ei hūn a ddaliwyd
yn y rhwyd a guddiasant.
16
Adweinir Arglwydd iown-farn,
cans ef a wnaeth farn ero:
Yr an-nuwiol a faglwyd
yn rhwyd-weithred ei ddwylo.
17
Y rhai oll drygionus (gern)
i vffern a ymchwelant:
Sef, yr holl Genhedloedd ryw
y gwir-dduw a anghofiant.
18
Nid anghofir y tlawd bȳth
(yn nuw sy 'n sȳth ymddiriaid)
Diau bȳth ni chollir chwaith
gobaith y trueniaid.
19
Cyfod Arglwydd gogoned,
na orfydded dȳn-fāb:
Y Cenhedloedd (caeth) barner
hwynt ger dy fronn duw arab.
20
Gosod Arglwydd arnynt ofn,
(dōd ddwyf-ofn fel dychrynnynt:)
Gwybydded caeth-genhedloedd
mai dynnion priddoedd ydynt.

Psal. 10.

ARglwydd pam y sefi o bell?
o hir-bell yr ymguddi?
Yn yr amser pann ydym
mewn tra-llym gyfyngderi?
2
Yr annuwiol mewn balch līd
a erlid y tlawd truan:
Dalier hwynt iw dichellion
(cyfrwysion) a ddychmygan.
3
Cans yr An-nuw a ffrostiodd
wrth wyllys fodd ei galon:
A'r cybydd ym-fendithiodd:
di-styrodd fowr-dduw cyfion.
4
Yr An-nuw gann ei falchder
ni chais hyder arddu vmau:
Nid ydiw duw, (aeth ar goll)
yn ei holl feddyliau.
5
Ei ffyrdd ef bōb awr sy flīn,
vchel yw rhīn dy farnau
Oi olwg ef: chwȳth yn dynn
Yn erbyn ei elynnau.
6
Doedodd yn ei galon chwydd
ni'm smūdir (herwydd gwall-faeth:)
Cans ni byddaf mewn dryg-fyd
ge [...]hedl-fȳd a chen [...]edlaeth.
7
Ei enau sy 'n llawn melltith,
a dichell chwīth, a thwylledd:
Taun ei dafod hefyd mae
camweddae ag anwiredd.
8
Mae ef yn ei eisteddfa
yng-hynllw [...]nfa heolydd:
Mewn cilfach llādd wirioniaid,
ar dlawd ei lygaid dre [...]n-fydd.
9
Ef cynllwyn mewn dirgelau
fel llēw iw ffau, bwriadu
Bydd i dreisio dyn go-dlawd:
trais dlawd, iw rwyd oi dy [...]nu.
10
Ef a ymgystuddia ( [...]wng)
ag ymostwng (dwyll-fyrn)
Fal y cwympo tyrfa haid
trueniaid mysc ei gedyrn.
(part 2 Yr Ail Rhann.)11
EF yn ei galon a ddoedodd
anghofiodd duw fy-nrygwaith:
Cuddiodd ei wyneb (dann gēl)
byth ni wēl (dwrn dif [...]aith.)
12
Cyfod Arglwydd dduw, (na thāw)
dercha dy lāw (amddiffin:)
Na anghofia Arglwydd Iōn
dy bobl dlodion werin.
13
Pa ham y ceiff yr An-nuw
gaol [...] duw? gann ddoedyd
Yn ei galonn (waela fri)
nad ym-ofynni (fyth-fyd.)
14
Gwelaist an-wiredd a cham,
ath ddwylo tāl am gabledd:
Tlawd, ei obaith arnat gād,
i'mddifad w [...]yt gymorthedd.
15
Torr fraich yr annuw strywys
a'r drygionus enwir:
Cais drāw ei ddrygioni fe
nis cei (ei lē nai fro-dir.)
16
Yr Arglwydd sydd frenin bȳth,
ag oes-fyth yn dragywydd:
Dinistriwyd cenhedloed (frēf)
oi ran-dir ef ai wlēdydd.
17
Ti a glywaist Arglwydd dād
ddamuniad tlodion (waeled:)
Cweiria di ei calon hwynt,
dy glūst arnynt gwrandawed.
18
I farnu'r ymddifad, a'r
tlawd hīr-alar bellach:
Fel na phāro dȳn ar ōl
dayarol, mor ofn mwyach.

Psal. 11.

YN yr Arglwydd (a'm hōll grēd)
wyf yn ymddiried (ddi-gryn)
Pa ddoedwch wrth fy enaid prūdd
i'ch mynydd hēd fel deryn?
2
Wele y drygionus blā
ei bw̄a annelasant,
Tu a'r llinin (cadarn crau)
ei saethau paratoysant:
3
I seythu mewn dirgelion
y rhai o galon iniawn.
Cans y seiliau 'n ddinistraeth:
pa bēth a wnaeth y cyfiawn?
4
Duw sy'n ei Sanct-Deml ddā,
Nēf yw gorseddfa 'r Arglwydd:
Gwēl ei lygaid dlawd (aifrāw:)
ei 'mrantau'n chwiliaw dȳn-wȳdd.
5
Yr Arglwydd y cyfiawn prāw:
ond cās drāw gann ei enaid
Y drygionus, a'r hwn fō
hōff ganddo yr an-wiriaid.
6
Ar yr An-nuwolion gau
glawia faglau: tān yssōl,
Brwmstan, ag ystormus-wŷnt,
iddynt fydd rhann ei phīol.
7
Cans yr Arglwydd cyfiawn gwār
fŷth a gār Gyfiawnder:
Ai wyneb-prȳd tirion iawn
a genfydd rhai iniawn-ber.

Psal. 12.

A Chub ni ō Arglwydd cū,
cans darfu rhai trugarog:
Herwydd pallodd ffyddlonion
o blīth dyn-feibion geuog.
2
Doedant wāg-oferedd lūn
bōb ūn wrth ei gymydog,
A gwenhieith-gar wefus fant:
(lle'r ānt) a chalon ddyblog.
3
Torred yr Arglwydd yn glau
holl wefusau gwenhieithus:
A'r tafod a ddoedo 'n hȳ
fawrhydry (rhy-falch eusus.)
4
Y rhai ddoedant (warr-sȳth nōd)
a'n tafod y gorfyddwn:
Gallwn ddoedyd a fynnom,
pwy'n benn arnom a ofnwn?
5
Am anrhaith cystuddus blaid,
ag vchenaid y tlodion,
Codaf mēdd duw: rhof yn rhȳdd
rhwn beunydd a faglason.
6
Geiriau duw ȳnt eiriau pūr,
fel arian a gūr-goethid,
Mewn ffwrn brīdd (dān-boeth-liw faith)
yn yr honn seith-waith pūrid.
7
R-eiddot Arglwydd cedwi hwynt
(rhag rhuthr-hynt dynion di-lwydd:)
cedwi hwynt, (dragywydd faeth)
rhag honn-Genhedlaeth efrydd.
8
Amgylch-ogylch (Satan-blant)
y rhodiant an-nuwolion:
Pann dderchefir (di-rās gād)
gwarthād fȳdd i faib-dynion.

Psal. 13.

PA hȳd i'm anghōfi Arglwydd?
[...]i 'n dragywydd weithian?
Pa hȳd cuddi (eglurdeb)
rhagof dy wyneb eirian?
2
Pa hȳd blinir fyng-halon,
gynghorion tra feddyliaf?
Pa hȳd y derchefir (gwȳn)
fyng-arw-elyn arnaf?
3
Edrych, ō Arglwydd, a chlŷw
fi, fy nuw: goleua
Fy llygaid, rhag imi bo
hūno yn angau dūa.
4
Rhag doedyd o'm gelyn lais,
gorchfygais ef: o herwydd
Fyng-wrthneb-wyr llawenhānt
os llithrant drāw fy sodlydd.
5
Fy-'mddiried i'th drugaredd sydd,
fy llawenydd i'th iechyd:
I Dduw am synnio arnaf
cānaf, cānaf dragwydd-fyd.

Psal. 1.

GWyn ei fyd y gwr ni rodiodd yng­hyngor yr anuwolion ac ni safodd yn ffordd pechaduriaid, ac nid eisteddodd yn eistedd­fa gwatwar-wyr:

2 Onid bod ei ew­yllys ef yng-hyfraith yr Arglwydd: a myfyrio o honaw yn ei gyfraith ef ddydd a nôs.

3 Canys efe a fydd fel prenn wedi ei bla­nnu ar lann dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrw­yth yn ei bryd: a'i dda­len ni wywa, a pha beth bynnac a wnêl, efe a lwydda.

4 Nid felly y bydd yr annuwiol, onid fel mân-vs yr hwn a chwâl y gwynt ymmaith oddi ar wyneb y ddaiar.

5 Am hynny yr ann­uwolion ni safant yn y farn, na'r pechaduriaid yng-hynulleidfa y rhai cyfiawn▪

[...]

[Page]6 Canys yr arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn, a ffordd yr annuwolion a ddife­thir.

Psal. 2.

PA ham y terfysca y cenhedloedd? ac y bwriâda y bobloedd yn ofer?

2 Y mae brenhî­noedd y ddaiar yn codi i fynu, a'r pennaethiaid yn ymgynghori yng­hyd, yn erbyn yr Argl­wydd, ac yn erbyn ei Grist ef.

3 Drylliwn eu rhw­ymau hwy: a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym.

4 Yr hwn sydd yn presswylio yn y nefo­edd a chwardd: yr Ar­glwydd au gwatwar hwynt.

5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lîd, ac yn ei ddigllonrwydd y dy­chryna efe hwynt.

6 Minne a osodai [...] fy Mrenin ar Sion fy mynydd sanctaidd.

7 Mynegaf y dde­ddf yr hon a ddywe­dodd yr Arglwydd wrthif: fy Mab ydwyt [...]i, myfi heddyw a'th genhedlais.

8 Gofyn i mi, a rho­ddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti: a therfynau y ddaiar i'th feddiant.

9 Briwi hwynt a gwialen haiarn, maluri hwynt fel llestr pridd.

10 Gan hynny'r awr hon ô frenhinoedd byddwch synhwyrol, barn-wyr y dda [...]ar cymmerwch ddysc.

11 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn: ac ymlawenhe­wch mewn dychryn.

12 Cussênwch y mâb rhag iddo ddigio, a'ch difetha chwi o'r ffordd, pan gynneuo e [...] lîd et ddim: gwyn eu byd pawb a ymddyriedant ynddo ef.

Psal. 3.

ARglwydd mor aml yw fy nhrallod-wyr! llawer sy yn codi i'm herbyn.

2 Llawer sy yn dywe­dyd am fy enaid, nid oes iechydw riaeth iddo yn ei Dduw. Selah.

3 Tithe Arglwydd ydwyt darian i mi: fyng-ogoniant, a der­chafudd fy mhenn.

4 A'm llef y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a'm clybu o'i fynydd sanctaidd. Selah.

5 Mi a orweddais, ac a gyscais, ac a dde­ffroais: canis yr Argl­wydd a'm cynhali­odd.

6 Nid ofnaf fyrddi­wn o bobl: y rhai o amgylch a [...] yn osodâ­sant i'm herbyn.

7 Cyfod Arglwydd, achub fi fy Nuw, canys tarewaist fy holl elynn­ion ar garr yr ên: torr­aist ddannedd yr annu­wolion.

8 Iechydwriaeth sydd eiddo 'r Argl­wydd: dy fendith sydd ar dy bobl. Selah.

Psal. 4.

GWrando fi pan al­wyf ô Dduw fyng­hyfiawnder, mewn cy­fyngder yr ehengaist arnaf: trugarhâ wrthif, ac erglyw fyng-weddi.

2 O feibion dynni­on pa hyd y troiwch fyng-ogoniant yn wa­rth? yr hoffwch wêgi, ac yr argeisiwch gel­wydd? Selah.

3 Gwybyddwch hefyd i'r Arglwydd e­thol y duwiol iddo ei hun: yr Arglwydd a wrendu pan alwyf ar­no.

4 Ofnwch, ac na phechwch, meddyli­wch yn eich calon ar eich gwely, a thewch. Selah.

5 Aberthwch e­byrth cyfiawnder, a go­be [...]hiwch yn yr Argl­wydd.

6 Llaweroedd sy yn dywedyd, pwy a dden­gys i ni ddaioni? Arg­lwydd dercha arnom lewyrch dy wyneb.

7 Rhoddaist lawe­nydd yn fyng-halon, er pan yr amlhâodd eu hyd, ai gwin ai holew hwynt.

8 Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hûnaf: canys ti Arg­lwydd yn vnic a'm cyfleaist mewn diogel­wch.

Psal. 5.

GWrando fyng-eiri­au Arglwydd: deall fy myfyrdod.

2 Erglyw ar lêf fyng-waedd, fy Mre­nin, a'm Duw: canys arnat y gweddiaf.

3 Yn foreu Argl­wydd y clywi fydlêf yn foreu y cyfeiriat attat, ac y disgwiliaf.

4 O herwydd nad wyt ti Dduw yn ewy­llysio anwiredd: drwg ni thrig gyd â thi.

5 Ynfydion ni sa­fant yn dy olwg: case­aist holl weithred-wyr anwiredd.

6 Difêthi y rhai a ddy­wedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gwr gwaedlyd, a'r twy­llodrus.

7 A minne a ddeuaf i'th duy di yn amlder dy drugaredd: ac a ad­dolaf tu a'th Deml san­ctaidd yn dy ofn di.

8 Arglwydd arwain fi yn dy gyfiawnder o achos fyng-elynnion: a gwastadhâ dy ffordd o'm blaen.

9 Canys nid oes in­iondeb yn eu genau, eu ceudod sydd lwgredig­aeth, bedd agored yw eu gwddf hwynt, gwe­niaithant ai tafod.

10 Destruwia hw­ynt ô Dduw, syrthiant oddi wrth eu cyngho­rion, gyrr ymmaith hwynt yn amlder en cam­weddau: canys gwrth­ryfelâsant i'th erbyn di.

11 A llawenhaed y rhai oll a ymddyrie­dant ynot, yn dragy­wydd y canmolant, am i ti orchguddio trost­ynt hwy: a'r rhai a gâ­rant dy enw a orfole­ddant ynot.

12 Canys ti Argl­wydd a fendithi y cyfi­awn: a charedigrwydd megis tarian y coroni di ef.

Psal. 2.

ARglwydd na che­rydda fi yn dy lidi­awgrwydd, ac na chos­pa fi yn dy líd.

2 Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys llesc ydwyfi: iachâ fi ô Argl­wydd, canys fy escyrn a gystuddiwyd.

3 A'm henaid a ddychrynwyd yn ddir­fawr: tithe Argllwydd pa hyd i'm cystuddi?

4 Dychwel Arglw­ydd, gwaret fy enaid: iachâ si er mwyn dy drugaredd.

5 Canys yn angeu nid oes goffa am da­nat: yn y bêdd pwy a'th fawl?

6 Deffygias gan fy ochain, pob nos yr yd­wyf yn gwneuthur fyng-wely yn foddfa: yr ydwyfi yn gwlychu fyng-orweddfa a'm da­grau.

7 Tywyllodd fy llygad gan ddigter: he­neiddiodd o herwydd fy holl elynnion.

8 Ciliwch oddi wr­thif holl weithred-wyr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lêf fy wylofain.

9 Clybu 'r Arglw­ydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fyng-weddi.

10 Fy holl elynnion a wradwyddir, ac a dra­llodir yn ddirfawr: dychwelir, a chywily­ddir hwynt yn ddisym­mwth.

Psal. 7.

ARglwydd fy Nuw, ynot yr ymddyrie­dais: achub fi rhag fy holl erlid-wyr, a gwa­ret fi▪

2 Rhag iddo larpio fy enaid fel llew: gan ei rwygo, pryd na byddo gwaredudd.

3 Fy Arglwydd Dduw os gwneuthum hyn, od oes anwired yn fy nwylaw:

4 O thêlais ddrwg i'r neb oedd heddychol â mi: oni waredais y rhai a'm gwyrthwyne­bent heb achos:

5 Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedd­ed fi: sathred hefyd fy mywyd i'r llawr, a go­soded fyng-ogoniant i drigo yn y llwch. Selah.

9 Cyfod Arglwydd yn dy ddigllonedd, ymddercha o herwydd llid fyng-elynnion: de­ffro hefyd d [...] yn y farn a orchy [...]aist.

7 Felly cynnulleid­fa y bobloedd a'th am­gylchynant: er eu mw­yn dychwel dithe i'r v­chelder.

8 Yr Arglwydd a farn y bobloedd: bar­na di fi ô Arglwydd yn ôl fyng-hyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithr­wydd sydd ynof.

[...]

9 Darfydded wei­thian anwiredd yr a­nnuwolion, eithr cyfar­wydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau, a'r arennau.

10 Fy amddiffyn sydd yn Nuw, iachaw­dur y rhai iniawn o ga­lon.

11 Duw sydd far­nudd cyfiawn, a Duw sydd ddigllon beun­ydd wrth yr annuwiol.

12 Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hô­ga ei gleddyf, efe a ann­elodd ei fwa, ac ai pa­ratôdd.

13 Paratôdd efe hefyd iddo arfau ang­hefol, efe a weithiodd ei saethau yn erbyn yr erlid-wyr.

14 Wele efe a ym­ddwg anwiredd, canys beichiogodd ar gam­wedd, ac efe a escor ar gelwydd.

15 Cloddiodd bwll, trychodd ef, syrthiodd h [...]fyd yn y destruw a wnaethe e [...]e.

16 Ei anwiredd a yn chwel ar ei ben ef ei hun: a'i gamwedd a ddescyn ar ei goppa ei huu.

17 Clodforaf yr Arglwydd yn ôl ei gy­fiawnder: a chan-mo­laf enw'r Arglwydd goruchaf.

Psal. 8.

ARglwydd ein [...]ôr [...]i, mor arderchog yw dy enw yn yr holl fyd! yr hwn a rodd­aist dy ogoniant vwch y nefoedd.

2 O enau bechgyn, a rhai yn sugno y per­aist nerth o achos dy e­l [...]nnion: i ostegu y ge­lyn, a'r ymddialudd.

3 Pan e drychwyf ar y nefoedd gwaith dy fysedd, sef y lloer a'r sêr y rhai a ordeiniaist.

4 Pa beth yw dyn i ti iw goffau? a mâb dyn i ti ymweled ag ef?

5 Gwnaethost ef y­chydig îs na'r angeli­on: corônaist ef hefyd â gogoniant, ac a phry­dferthwch.

6 Gwnaethost ef i arglwyddiaethu ar we­ithredoedd dy ddwy­lo: gosodaist bôb peth dann ei draed ef.

7 Defaid, ac ychen oll, ac anifeiliaid y ma­es hefyd

8 Ehediaid y nefo­edd, a physc y môr: y rhai a ydynt yn tra­mmwyo llwybrau y­moroedd.

9 Arglwydd eyn Iôr mor ardderchog yw dy enw yn yr holl fyd.

Psal. 9.

CLodforaf yr Argl­wydd a'm holl ga­lon: mynegaf dy holl ryfeddodau.

2 Llawenychaf, a gorfoleddaf, ynot: ca­naf i'th enw di y Go­ruchaf.

3 Tra y dychwelid fyng-elynnion yn en hôl, y llithrant, ac y di­fethir hwynt o'th flaen di.

4 Canys gwnaethost fy marn a'm matter yn dda; eisteddaist ar or­sed-faingc ô farnudd cyfiawn.

5 Ceryddaist y cen­hedloedd, destruwiaist yr annuwíol: eu henw hwynt a ddelêaist hef­yd byth bythol.

6 Hâ elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd diwreiddiaist y dinaso­edd, darfu eu coffadwri­aeth gyd â hwyni.

7 Yr Arglwydd a erys yn dragywydd: efe a baratodd ei orsedd­faing [...] i farn.

8 Canys efe a farn y byd mewn cyfiawn­der: efe a farn y boblo­edd mewn iniondeb.

9 Yr Arglwydd he­fyd fydd amddeffyn i'r truan, a nawddfa mewn pryd, sef mewn cyfyng­der.

10 A'r rhai a adwa­enant dy enw a ymddyriedant ynot: canys ni adewaist ô Arglwydd y rhai a'th geisient.

11 Canmolwch yr arglwydd yr hwn sydd yn presswylio yn Sion: a mynegwch i'r boblo­edd ei weithredoedd ef.

12 Canys pan ym­ofynno efe am waed, y cofia efe am danynt ac nid anghofia waedd y tlodion.

13 Trugarhâ wrthif Arglwydd, fy nercha­fudd o byrth angeu: gwêl fy mlinder gan fyng-haseion.

14 Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mh­yrth merch Sion: ac y llawenychwyf yn dy iechydwriaeth.

15 Y cenhedloedd a soddasant yn y ffôs yr hon a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed hwynt.

16 Adweinir yr Ar­glwydd, canys efe a wnaeth farn: yr annu­wiol a faglwyd yng­weithredoedd ei ddw­ylo. Higaion Selah.

17 Y rhai drygio­nus a ymchwelant i v­ffern: sef yr holl gen­hedloedd a anghofiant Dduw.

18 Canys nid ang­hofîr y tlawd byth, go­baith y trueniaid ni chollir byth.

19 Cyfod Arglw­ydd, na orfydded dyn: barner y cenhedloedd ger dy fron di.

20 Gosot Argl­wydd ofn arnynt, gwy­bydded y cenhedloedd mai dynnion ydynt hwy. Selah.

Psal. 10.

PA ham Arglwydd y sefi o bell, yr ymgu­ddi yn yr amseroed pan ydym mewn cyfyng­der?

2 Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y dichellion a ddy­chymmygasant.

4 Canys yr annu­wiol a ffrostiodd wrth ewyllys ei galon: a'r cybydd a ymfendithi­odd: diystyru y mae efe yr Arglwydd.

4 Yr annuwiol gan ei falchder ni chais Dduw: nid ydyw Duw yn ei holl feddyliau ef.

5 Ei ffyrdd ef ydynt flin bob amser, vchel yw dy farnedigaerhau o [...] olwg ef: efe a chw­yth yn erbyn ei holl e­lynnion.

6 Dywedodd yn ei galon ni'm symmudir, o herwydd o [...] byddaf mewn dryg fyd hyd genhedlaeth, a chen­hedlaeth.

7 Ei enau sydd yn llawn melldith, a dich­el, a thwyll: tann ei da­fod y mae camwedd, ac anwiredd.

8 Y mae efe yn ei­stedd yng-hynllwynfa yr heolydd, mewn cil­facheu y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremmiant ar y tlâwd.

9 Efe a gynllwyna mewn dirgelwch me­gis llew yn ei flau, bw­riadu y bydd i dreisio yr tlawd: treisia efe y tlawd gan ei dynnu iw rwyd.

10 Efe a ymgystu­ddia, ac a ymostwng: fel y cwympo tyrfa tru­eniaid ym mysc ei ged­yrn ef.

11 Dywedodd yn ei galon, anghofiodd Duw: cuddiodd ei wyneb, ni wel efe byth

12 Cyfod Arglwydd Dduw, dercha dy law: nac anghofia y tlodi­on.

13 Pa ham y cabla'r annuwiol Dduw? gan ddywedyd yn ei galon nad ymofynni.

14 Gwelaist hyn, canys ti a genfyddi an­wiredd, a cham, i roddi tâl a'th ddwylo dy hun: arnat ti y gedu y tlawd ei obaith, ti ydwyt gy­nnorthwy-wr yr ym­ddifad.

15 Torr fraich yr annuwiol, a'r drygio­uus: cais ei ddrigioni ef, ac nis cei.

16 Yr Arglwydd sydd Frenin byth, ac yn dragywydd: dinistri­wyd y cenhedloedd oi dîr ef.

17 Arglwydd cly­waist ddymuniad y tlo­dion, cyweiria di eu ca­lon hwynt: gwranda­wed dy glust arnynt.

18 I farnu yr ym­ddifad a'r tlawd: fel na chwanego dyn da­iarol beri ofn mwyach.

Psal. 11.

YN yr Arglwydd yr ydwyf yn ymddyri­ed, pa fodd y dywed­wch wrth fy enaid, ehe­da i'ch mynydd fel ade­ryn.

2 Canys wele y drygi­onus a annelâsant fwâ, paratoasant eu saetheu tu a'r llinin, i saethu mewn dirgelwch y rhai iniawn o galon.

3 Canys y seiliau a ddinistriwyd: pa beth a wnaeth y cyfiawn.

4 Yr Arglwydd sydd yn Nheml ei sanc­teiddrwydd, gorseddfa yr Arglwydd sydd yn y nefoedd, y mae ei ly­gaid ef yn gweled y tlawd: ei amrantau yn chwilio meibion dy­nnion.

5 Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr câs gan ei enaid ef y drygionus, a'r hwn sydd hoff ganddo anwi­redd.

6 Ar yr annuwolion y glawia efe fagleu, tân, a brwmstan, a gwynt ystormus fydd rhan eu phiol hwy.

7 Canys yr Arglw­ydd cyfiawn a gâr gyfi­awnder: ai wyneb a genfydd y rhai iniawn.

Psal. 12.

Achub Arglwydd, canys darfu y rhai trugarog: o herwydd pallodd y ffyddlonni­aid o blith meibion dy­nnion.

2 Ofêredd a ddywe­dant bob vn wrth ei gymmydog, â gwefus wenhieithgar: ac â cha­lon ddau ddyblyg y lle­fârant.

3 Torred yr Argl­wydd yr holl wefusau gwenlneithus, a'r tafod a ddywedo fawrhydry.

4 Y rhai a ddywe­dant, â'n tafod y gor­fyddwn: nyni a allwn ddywedyd a fynnom, pwy sydd Arglwydd arnom ni.

5 O herwydd an­rhaith y rhai cystuddi­edic, ac o herwydd v­chenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr medd yr Arglwdd: rhoddaf mewn iechydwriaeth yr hwn y magler iddo.

6 Geiriau yr Argl­wydd ydynt eiriau pu­rion, fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro se­ith-waith.

7 Ti Arglwydd ai cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhed­laeth hon yn dragy­wydd.

8 Yr annuwolion a rodiant o amgylch: pan eu derchefir, gwarth fyddi feibion dynnion.

Psal. 13.

PA hyd Arglwydd [...]m anghofi? ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rha­gof?

2 Pa hyd y gosodaf gynghorion yn fy me­ddwl, a blinder beu­nydd yn fyng-halon? pa hyd y derchefir fyng­elyn arnaf.

3 Edrych, a chlyw fi ô Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid rhag i'm hûno yn yr angeu.

4 Rhag dywedyd o'm gelyn, gorchfygais ef: canys fyng-wrth wyneb-wyr a laweny­chant os llithraf.

5 Minne hefyd a ymddyriedais yn dy drugaredd di, fyng-ha­lon a ymlawenycha yn dy iechydwriaeth: ca­naf i'r Arglwydd, am iddo synnio arnaf, ie mi a ganaf i'r Arglw­ydd goruchaf.

Terfyn ar hynn: hyd oni threfno Duw Gymmorth ymhellach.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.