❧Psalmau Dafydd o'r vn cyfieithiad a'r Beibl cyffredin.
A oes neb yn esmwyth arno? caned Psalmau.
ANNO. 1588.
Psalmau Dafydd.
Beatus vir qui non abijt. Psal. j.
GWyn ei fyd y gŵr ni rodiodd yng-hyngor yr annuwolion,Boreuol weddi. ac ni safodd yn ffordd pechaduriaid, ac nid eisteddodd yn eisteddfa gwatwar-wŷr:
2 Onid bod ei ewyllys ef yng-hyfraith yr Arglwydd: a mefyrio o honaw yn ei gyfraith efddydd a nôs.
3 Canys efe a fydd fel prēn wedi ei blannu ar lann dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei brŷd: a'i ddalen ni ŵywa, a pha beth bynnac a wnêl, efe a lwydda.
4 Nid felly y bydd yr annuwiol, onid fel mân vs yr hwn achwâl y gwynt ymmaith oddi ar wyneb y ddaiar
5 Am hynny yr annuwolion ni safant yn y farn, na'r pechaduriaid yng-hynnulleidfa y rhai cyfiawn.
6 Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn, a ffordd yr annuwolion a ddifethir.
Quare fremuerunt. Psal. ij.
PAham y terfysca y cenhedloedd? ac y bwriâda y bobloedd yn ofer?
2 Y mae brenhînoedd y ddaiar yn codi i fynu, a'r pennaethiaid yn ymgynghori yng-hyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef.
3 Drylliwn eu rhwymau hwy: a thaflwn eu rheffynnau [Page] oddi wrthym.
4 Yr hwn sydd yn presswylio yn y nefoedd a chwardd: yr Arglwydd au gwatwar hwynt.
5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lîd, ac yn ei ddigllonrwydd y dychryna efe hwynt.
6 Minne a osodais fy Mrenin ar Sion fy mynydd sanctaidd.
7 Mynegaf y ddeddf yr hon a ddywedodd yr Arglwydd wrthif: fy Mab yd wyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais.
8 Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti: a therfynau y ddaiar i'th feddiant.
9 Briwi hwynt â gwialen haiarn, maluri hwynt fel llestr pridd.
10 Gan hynny 'r awr hon ô frenhinoedd byddwch synhwyrol, barn-wŷr y ddaiar cymmerwch ddysc.
11 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn: ac ymlawenhewch mewn dychryn.
12 Cussênwch y mâb rhag iddo ddigio, a'ch difetha chwi o'r ffordd, pan gynneuo ei lîd ef ddim: gwyn eu byd pawb a ymddyriedant ynddo ef.
Domine quid multiplicati sunt. Psal iij.
ARglwydd mor aml yw fy nhrallod-wŷr! llawer sy yn codi i'm herbyn.
2 Llawer sy yn dywedyd am fy enaid, nid oes iechydwriaeth iddo yn ei Dduw. Selah.
3 Tithe Arglwydd ydwyt darian i mi: fyng-ogoniant, a derchafudd fy mhenn.
4 A'm llef y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a'm clybu o'i fynydd sanctaidd. Selah.
5 Mi a orweddais, ac a gyscais, ac a ddeffroais: canys yr Arglwydd a'm cynhaliodd.
6 Nid ofnaf fyrddiwn o bobl: y rhai o amgylch a ymosodâsant i'm herbyn.
[Page]7 Cyfot Arglwydd, achub fi fy Nuw, canys tarewaist fy holl elynnion ar garr yr ên: torraist ddannedd yr annuwolion.
8 Iechydwriaeth sydd eiddo 'r Arglwydd: dy fendith sydd ar dy bobl. Selah.
Cum inuocarem. Psal. iiij.
GWrando fi pan alwyf ô Dduw fyng-hyfiawnder, mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf: trugarhâ wrthif, ac erglyw fyng-weddi.
2 O feibion dynnion pa hŷd y troiwch fyng-ogoniant yn warth? yr hoffwch wêgi, ac yr argeisiwch gelwydd? Selah.
3 Gwybyddwch hefyd i'r Arglwydd ethol y duwiol iddo ei hun: yr Arglwydd a wrendu pan alwyf arno.
4 Ofnwch, ac na phechwch, meddyliwch yn eich calon ar eich gwely, a thewch. Selah.
5 Aberthwch ebyrth cyfiawnder, a gobeithiwch yn yr Arglwydd.
6 Llaweroedd sy yn dywedyd, pwy a ddengys i ni ddaioni? Arglwydd dercha arnom lewyrch dy wyneb.
7 Rhoddaist lawenydd yn fyng-halon, er pan yr amlhâodd eu hŷd, ai gwin ai holew hwynt.
8 Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti Arglwydd yn vnic a'm cyfleaist mewn diogelwch.
Verba mea auribus percipe. Psal. v.
GWrando fyng-eiriau Arglwydd: deall fy myfyrdod.
2 Erglyw ar lêf fyng-waedd, fy Mrenin, a'm Duw: canys arnat y gweddiaf.
3 Yn foreu Arglwydd y clywi fy llêf: yn foreu y cyfeiriaf attat, ac y disgwiliaf.
4 O herwydd nad wyt ti Dduw yn ewyllysio anwiredd: drwg nithrig gyd â thi.
[Page]5 Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithred-wŷr anwiredd.
6 Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd, a'r twyllodrus,
7 A minne a ddeuaf i'th dŷ di yn amlder dy drugaredd: ac a addolaf tu a'th Deml sanctaidd yn dy ofn di.
8 Arglwydd arwain fi yn dy gyfiawnder o achos fyng-elynnion: a gwastadhâ dy ffordd o'm blaen.
9 Canys nid oes iniondeb yn eu genau, eu ceudod sydd lwgredigaeth, bedd agored yw eu gwddf hwynt, gweniaithant ai tafod.
10 Destruwia hwynt ô Dduw, syrthiant oddi wrth eu cynghorion, gyrr ymmaith hwynt yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelâsant i'th erbyn di.
11 A llawenhaed y rhai oll a ymddyriedant ynot, yn dragywydd y canmolant, am i ti orchguddio trostynt hwy: a'r rhai a gârant dy enw a orfoleddant ynot.
12 Canys ti Arglwydd a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis tarian y corôni di ef.
Domine ne in furore. Psal. vj.
Prydnhawnol weddi. ARglwydd na cherydda fi yn dy lidiawgrwydd, ac na chospa fi yn dy lîd.
2 Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys llesc ydwyfi: iachâ fi ô Arglwydd, canys fy escyrn a gystuddiwyd.
3 A'm henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithe Arglwydd pa hŷd i'm cystuddi?
4 Dychwel Arglwydd, gwaret fy enaid: iachâ fi er mwyn dy drugaredd.
5 Canys yn angeu nid oes goffa am danat: yn y bêdd pwy a'th fawl?
6 Deffygiais gan fy ochain, pob nos yr ydwyf yn gwneuthur fyng-wely yn foddfa: yr ydwyfi yn gwlychu [Page] fyng-orweddfa a'm dagrau.
7 Tywyllodd fy llygad gan ddigter: heneiddiodd o her wydd fy holl elynnion.
8 Ciliwch oddi wrthif holl weithred-wyr anwirredd: canys yr Arglwydd a glywodd lêf fy ŵylofain.
9 Clybu 'r Arglwydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fyng-weddi.
10 Fy holl elynnion a wradwyddir, ac a drallodir yn ddirfawr: dychwelir, a chywilyddir hwynt yn ddisymmwth.
Domine Deus in te speraui. Psal. vij.
ARglwydd fy Nuw, ynot yr ymddyriedais: achub fi rhag fy holl erlid-wŷr, a gwaret fi.
2 Rhag iddo larpio fy enaid fel llew: gan eirwygo, pryd na byddo gwaredudd.
3 Fy Arglwydd Dduw os gwneuthum hyn, od oes anwiredd yn fy nwylaw:
4 O thêlais ddrwg i'r neb oedd heddychol â mi: oni waredais y rhai a'm gwyrthwynebent heb achos:
5 Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded fi: sathred hefyd fy mywyd i'r llawr, a gosoded fyng-ogoniant i drigo yn y llŵch. Selah.
6 Cyfot Arglwydd yn dy ddigllonedd, ymddercha o herwydd llid fyng-elynnion: deffro hefyd drosof yn y farn a orchymynnaist.
7 Felly cynnulleidfa y bobloedd a'th amgylchynant: er eu mwyn dychwel dithe i'r vchelder.
8 Yr Arglwydd a farn y bobloedd: barna di fi ô Arglwydd yn ôl fyng-hyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof.
9 Darfydded weithian anwiredd yr annuwolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau, a'r arennau.
10 Fy amddeffyn sydd yn Nuw, iachawdur y rhai [Page] iniawn o galon.
11 Duw sydd farnudd cyfiawn, a Duw sydd ddigllon beunydd wrth yr annuwiol.
12 Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hôga ei gleddyf, efe a annelodd ei fŵa, ac a'i paratôdd.
13 Paratôdd efe hefyd iddo arfau anghefol, efe a weithiodd ei saethau yn erbyn yr erlid-wŷr.
14 Wele efe a ymddwg anwiredd, canys beichiogodd ar gamwedd, ac efe a escor ar gelwydd.
15 Cloddiodd bwll, trychodd ef, syrthiodd hefyd yn y destruw a wnaethe efe.
16 Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ef ei hun: a'i gamwedd a ddescyn ar ei goppa ei hun.
17 Clodforaf yr Arglwydd yn ôl ei gyfiawnder: a chan-molaf enw'r Arglwydd goruchaf.
Domine Dominus noster. Psal. viij.
ARglwydd ein Iôr ni, mor ardderchog yw dy enw yn yr holl fŷd! yr hwn a roddaist dy ogoniant vwch y nefoedd.
2 O enau bechgyn, a rhai yn sugno y peraist nerth o achos dy elynnion: i ostegu y gelyn, a'r ymddialudd.
3 Pan edrychwyf ar y nefoedd gwaith dy fysedd, sef y lloer a'r sêr y rhai a ordeiniaist,
4 Pa beth yw dŷn i ti iw goffau? a mab dŷn i ti ymweled ag ef?
5 Gwnaethost ef ychydig îs nâ'r angelion: corônaist ef hefyd â gogoniant, ac â phrydferthwch.
6 Gwnaethost ef i arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo: gosodaist bôb [...]eth dann ei draed ef.
7 Defaid, ac ŷchen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd:
8 Ehediaid y nefoedd, a physc y môr: y rhai a ydynt yn trammwyo llwybrau y moroedd.
9 Arglwydd ein Iôr mor ardderchog yw dy enw yn yr holl fŷd.
Confitebor tibi Domine. Psal. ix.
CLodforaf yr Arglwydd â'm holl galon:Bore [...]ol weddi. mynegaf dy holl ryfeddodau.
2 Llawenychaf, a gorfoleddaf ynot: canaf i'th enw di y Goruchaf.
3 Tra y dychwelir fyng-elynnion yn eu hôl, y llithrant, ac y difethir hwynt o'th flaen di.
4 Canys gwnaethost fy marn a'm matter yn dda: eisteddaist ar orsedd-faingc ô farnudd cyfiawn.
5 Ceryddaist y cenhedloedd, destruwiaist yr annuwiol: eu henw hwynt a ddelêaift hefyd byth bythol.
6 Hâ elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd, diwreiddiaist y dinasoedd, darfu eu coffadwriaeth gyd â hwynt.
7 Yr Arglwydd a erys yn dragywydd: efe a baratôdd ei orsedd-faingc i farn.
8 Canys efe a farn y bŷd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn iniondeb.
9 Yr Arglwydd hefyd fydd amddeffyn i'r truan, a nawddfa mewn prŷd, sef mewn cyfyngder.
10 A'r rhai a adwaenant dy enw a ymddyriedant ynot: canys ni adewaist ô Arglwydd y rhai a'th geisient.
11 Canmolwch yr Arglwydd yr hwn sydd yn presswylio yn Sion: a mynegwch i'r bobloedd ei weithredoedd ef.
12 Canys pan ymofynno efe am waed, y cofia efe am danynt: ac nid anghofia waedd y tlodion.
13 Trugarhâ wrthif Arglwydd, fy nerchafudd o byrth angeu: gwêl fy mlinder gan fyng-haseion,
14 Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Sion: ac y llawenychwyf yn dy iechydwriaeth.
15 Y cenhedloedd a soddasant yn y ffôs yr hon a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eutroed hwynt.
[Page]16 Adweinir yr Arglwydd, canys efe a wnaeth farn: yr annuwiol a faglwyd yng-weithredoedd ei ddwylo. Higaion Selah.
17 Y rhai drygionus a ymchwelant i vffern: sef yr holl genhedloedd a anghofiant Dduw.
18 Canys nid anghofîr y tlawd byth, gobaith y trueniaid ni chollir byth.
19 Cyfot Arglwydd, na orfydded dŷn: barner y cenhedloedd ger dy fron di.
20 Gosot Arglwydd ofn arnynt, gŵybydded y cenhedloedd mai dynnion ydynt hwy. Selah.
Vtquid Domine recessisti. Psal. x.
PAham Arglwydd y sefi o bell, yr ymguddi yn yr amseroedd pan ydym mewn cyfyng-der?
2 Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn ydichellion a ddychymmygasant.
3 Canys yr annuwiol a ffrostiodd wrth ewyllys ei galon: a'r cybydd a ymfendithiodd: diystyru y mae efe yr Arglwydd.
4 Yr annuwiol gā ei falchder ni chais Dduw: nid ydyw Duw yn ei holl feddyliau ef.
5 Ei ffyrdd ef ydynt flîn bôb amser, vchel yw dy farnedigaethau oi olwg ef: efe a chwyth yn erbyn ei holl elynnion.
6 Dywedodd yn ei galon ni'm symmudir, o herwydd ni byddaf mewn dryg-fyd hyd genhedlaeth, a chenhedlaeth.
7 Ei enau sydd yn llawn melldith, a dichel, a thwyll: tann ei dafod y mae camwedd, ac anwiredd.
8 Y mae efe yn eistedd yng-hynllwynfa yr heolydd, mewn cilfacheu y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremmiant ar y tlâwd.
9 Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau, bwriadu y bydd i dreisio yr tlawd: treisia efe y [Page] tlawd gan ei dynnu iw rwyd.
10 Efe a ymgystuddia, ac a ymostwng: fel y cwympo tyrfa trueniaid ym mysc ei gedyrn ef,
11 Dywedodd yn ei galon, anghofiodd Duw: cuddiodd ei wyneb, ni wêl efe byth.
12 Cyfot Arglwydd Dduw, der cha dy law: nac anghofia y tlodion.
13 Pa ham ycabla 'r annuwiol Dduw? gan ddywedyd yn ei galon, nad ymofynni.
14 Gwelaist hyn, canys ti a genfyddi anwiredd, a cham, i roddi tâl a'th ddwylo dy hun: arnat ti y gedu y tlawd ei obaith, ti ydwyt gynnorthwy-wr yr ymddifad.
15 Torr fraich yr annuwiol, a'r drygionus: cais ei ddrygioni ef, ac nis cei.
16 Yr Arglwydd sydd Frenin byth, ac yn dragywydd: dinistriwyd y cenhedloedd oi dîr ef.
17 Arglwydd clywaist ddymuniad y tlodion, cyweiria di eu calon hwynt: gwrandawed dy glust arnynt.
18 I farnu yr ymddifad a'r tlawd: fel na chwanego dŷn daiarol beri ofn mwyach.
In Domine confido. Psal. xj.
YN yr Arglwydd yr ydwyf yn ymddyried, pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, eheda i'ch mynydd fel aderyn?
2 Canys wele y drygionus a anelâsant fŵa, paratoâsant eu saetheu tu a'r llinin, i saethu mewn dirgelwch y rhai iniawn o galon.
3 Canys y seiliau a ddinistriwyd: pa beth a wnaeth y cyfiawn?
4 Yr Arglwydd sydd yn Nheml ei sancteiddrwydd, gorseddfa yr Arglwydd sydd yn y nefoedd, y mae ei lygaid ef yn gweled y tlawd: ei amrantau yn chwilio meibion dynnion.
[Page]5 Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr câs gan ei enaid ef y drygionus, a'r hwn sydd hoff ganddo anwiredd.
6 Ar yr annuwolion y glawia efe faglau, tân, a brwmstan, a gwynt ystormus fydd rhan eu phiol hwy.
7 Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder: ai wyneb a genfydd y rhai iniawn.
Saluum me fac Domine. Psal. xij.
Prydnhawnol weddi. AChub Arglwydd, canys darfu y rhai trugarog: o herwydd pallodd y ffyddlonniaid o blith meibion dynnion.
2 Ofêredd a ddywedant bôb vn wrth ei gymmydog, â gwefus wenhieithgar: ac â chalon ddau ddyblyg y llefârant.
3 Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gwenhieithus, a'r tafod a ddywedo fawrhydry.
4 Y rhai a ddywedant, â'n tafod y gorfyddwn: nyni a allwn ddywedyd a fynnom, pwy sydd Arglwydd arnom ni?
5 O herwydd anrhaith y rhai cystuddiedic, ac o herwydd vchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr medd yr Arglwydd: rhoddaf mewn iechydwriaeth yr hwn y magleriddo.
6 Geiriau yr Arglwydd ydynt eiriau purion, fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seith-waith.
7 Ti Arglwydd ai cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd.
8 Yr annuwolion a rodiant o amgylch: pan eu derchefir, gwarth fydd i feibion dynnion.
Vsquequo Domine obliuisceris. Psal. xiij.
PA hyd Arglwydd i'm anghofi? ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof?
[Page]2 Pa hŷd y gosodaf gynghorion yn fy meddwl, a blinder beunydd yn fyng-halon? pa hŷd y derchefir fyng-elyn arnaf?
3 Edrych, a chlyw fi ô Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid rhag i'm hûno yn yr angeu.
4 Rhag dywedyd o'm gelyn, gorchfygais ef: canys fyng-wrth wyneb-wŷr a lawenychant os llithraf.
5 Minne hefyd a ymddyriedais yn dy drugaredd di, fyng-halon a ymlawenycha yn dy iechydwriaeth: canaf i'r Arglwydd, am iddo synnio arnaf, îe mi a ganaf i'r Arglwydd goruchaf.
Dixit insipiens in corde suo. Psal. xiiij.
YR ynfyd a ddywedodd yn ei galon, nid oes vn Duw: ymlygrâsant, a ffieidd-waith a wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni.
2 Yr Arglwydd a edrychodd o'r nefoedd ar feibion dynnion, i weled a oedd neb deallgar yn ymgeisio â Duw.
3 Ciliodd pawb, cŷd-ymddifwynâsant, nid oes a wnêl ddaioni, nac oes vn.
4 Bedd agored yw eu gwddf, âi tafodau y fiomment: gwenwyn lindis y sydd dann eu gwefusau.
5 Eugenau sydd yn llawn o felldith, a chwerwedd: eu traed sy fuan i dywallt gwaed.
6 Destruw, ac anhap sydd ar eu ffyrdd, a ffordd tangneddyf nid adnabûant: nid oes ofn Duw yn eu golwg.
7 Oni ŵyr holl weithred-wŷr anwiredd, eu bod yn bwytta fy mhobl fel y bwyttaent fara? ni alwâsant ar yr Arglwydd.
8 Yno y dechrynant gan ofn lle nid oedd ofn, am fod Duw yng-henhedlaeth y cyfiawn.
9 Cyngor y tlawd a wradwyddech chwi, am fod yr Arglwydd yn obaith iddo.
10 Pwy a ddyru iechyd i Israel o Sion? pan ddychwel [Page] yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr hyfryda Iacob, ac y llawenhâ Israel.
Domine quis habitabit. Psal. xv.
Boreuol weddi. ARglwydd pwy a drîg yn dy babell: pwy a bresswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd?
2 Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnêl gyfiawnder, ac a ddywed wîr o'i galon:
3 Heb absennu ai dafod: heb wneuthur drwg iw gyfell, ac heb dderbyn enllyb yn erbyn ei gymmydog.
4 Yr hwn sydd ddirmygus a diystyr yn ei olwg ei hun, ac a anrhydedda y rhai a ofnant yr Arglwydd: yr hwn os twng, (ie iw niwed ei hun) etto ni newidia.
5 Yr hwn ni roddes ei arian ar vsuriaeth, ac ni chymmer obr yn erbyn y gwirion [...] wnêlo hyn ni lithr yn dragywydd.
Conserua me Domine. Psal. xvj.
CAdw fi ô Dduw, canys ynot yr ymddyriedais.
2 Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd, fy Arglwydd ydwyt ti: fy nâ nid yw ddim i ti.
3 Ar y sainct y rhai ydynt ar y ddaiar, a'r rhai rhagorawl, y mae fy holl ewyllys.
4 Gofidiau a amlhânt i'r rhai a fryssiant ar ôl duw dieithr: eu diod offrwm o waed ni offrymmaf fi: ac ni chymmeraf eu hen wau yn fyng-wefusau.
5 Yr Arglwydd yw rhann fy etifeddiaeth a'm phiol: ti a gynheli fyng-hoelbren i.
6 Etifeddiaeth a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ac y mae i mi etifeddiaeth dêg.
7 Bendithiaf yr Arglwydd yr hwn a'm cynghôrodd: fy arennau hefyd a'm dyscant drwy 'r nôs.
8 Gosodais yr Arglwydd bôb amser ger fy mron: canys y mae efe ar fy neheu-law fel na lithraf.
9 O herwydd hynny y llawenychodd fyng-halon, [Page] ac yr ymhyfrydodd fyng-ogoniant: fyng-nhawd hefyd a orphywys mewn gobaith.
10 Canys, ni adêwi fy enaid yn vffern, ac ni adewi i'th Sanct weled llwgredigaeth.
11 Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron: ar dy ddeheu-law y mae digrifwch yn dragywydd.
Exaudi Domine iustitiam. Psal. xvij.
CLyw Arglwydd gyfiawnder: ystyrria fy llefain, gwrando fyng-weddi o wefusau didwyll.
2 Deued fy marn oddi ger dy fron, edryched dy lygaid ar iniondeb.
3 Profaist fyng-halon, gofwyaist fi y nôs, chwiliaist fi, ni chefaist ynof anwiredd: bwriêdais na throsedde fyng-enau.
4 Tuagat am weithredoedd dynnion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais o lwybrau yr speiludd.
5 Cynnal fyng-herddediad yn dy lwybrau fel na lithro fy nhraed.
6 Mi a elwais arnat, canys gwrandewi arnafi ô Dduw: gostwng dy glust attaf, ac erglyw fy ymadrodd.
7 Dangos dy ryfedd drugaréddau, ô achubudd y rhai a ymddyriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheu-law.
8 Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd di fi dann gyscod dy adenydd,
9 Rhag yr annuwolion y rhai a'm gorthrymment: rhag fyng-elynnion y rhai am yr enaid a amgylchant i'm herbyn.
10 Caeâsant gan frasder, ai genau a lefarant mewn balchder.
11 Ein cynniweirfa ni a gylchynâsant hwy yr awr hon, gosodâsant eu llygaid i dynnu i'r ddaiar.
12 Eu dull sydd fel llew yr hwn a chwennyche sclyfaethu, [Page] ac megis llew ieuangc yn aros mewn lloches.
13 Cyfot Arglwydd, achub flaen iddo, a chwympa ef: gwaret fy enaid rhag yr annuwiol yr hwn yw dy gleddyf di.
14 Oh Arglwydd gwaret fi oddi wrth ddynnion dy law, sefoddi wrth ddynnion y bŷd, y rhai y mae eu rhann yn y bywyd ymma, ac yn llenwi eu boliau â'th guddiedic dryssor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill iw rhai bychain.
15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: pan ddihunwyf, digonir fi gan dy ddelw.
Diligam te Domine. Psal. xviij.
Prydnhawnol weddi. CAraf di Arglwydd fyng-hadernid.
2 Yr Arglwydd yw fyng-hraig, a'm hamddeffynfa, a'm gwaredudd, fy Nuw fyng-hadernid, ynddo ef yr ymddyriedaf: fy nharian, a chorn fy iechydwriaeth, a'm noddfa.
3 Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly i'm cedwir rhag fyng-elynnion.
4 Gofidion angeu a'm cylchynâsant: ac afonydd y fall a'm dychrynnâsanti.
5 Gofidion vffern a'm gogylchynâsant: maglau angeu a achubasant fy mlaen.
6 Yn fyng-hyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef o'i Deml, a'm gwaedd ger ei fron ef a ddaeth iw glustiau ef.
7 Yna y cynhyrfodd, ac y crynodd y ddaiar, a seiliau y mynyddoedd a gyffroâsant: ac a ymsiglâsant, am iddo ef ddigio.
8 Derchafodd mŵg o'i ffroenau, a thân a yssodd o'i enau ef: glô a enynnâsant ganddo ef.
9 Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddescynnodd: [Page] athywyllwch oedd tann ei draed ef.
10 Marchogodd efe hefyd ar y Cerub, ac a ehedodd: ie efe a ehedodd ar adenydd y gwynt.
11 Efe a osododd y tywyllwch yn ddirgelfa iddo ef, ai babell oi amgylch: sef tywyllwch y dyfroedd, a chwmylau yr awyr.
12 Gan y discleirdeb yr hwn sydd ger ei fron ef, cwmylau a aethant heibio: cenllysc a marwor tanllyd.
13 Yr Arglwydd hefyd a darânodd yn y nefoedd: a'r Goruchaf a roddes ei lef: cenllysc a marwor tanllyd.
14 Anfonodd hefyd ei saethau, a gwascârodd hwynt: amlhâodd hefyd ei fellt, a dinistriodd hwynt.
15 Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y bŷd a ddinoethwyd gan dy gerydd di ô Arglwydd, a chan chwythad anadl dy ffroenau di.
16 Anfonodd oddi vchod, cymmerodd fi, a thynnodd fi o ddyfroedd lawer.
17 Efe a'm gwaredodd oddi wrth fyng-elyn cadarn, a rhag fyng-haseion: canys y maentyn drech nâ mi.
18 Achubâsant fy mlaen yn nydd fyng-ofid: ond yr Arglwydd oedd yn gynhaliad i mi.
19 Dûg fi i ehangder, gwaredodd fi: canys ymhoffodd ynof.
20 Yr Arglwydd a'm gobrwya yn 'ôl fyng-hyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y tâl efe i mi.
21 Canys ced wais ffyrdd yr Arglwydd: ac ni wneuthum yn annuwiol yn erbyn fy Nuw.
22 O herwydd ei holl farnedigaethau ef ydynt ger fy mron i: a'i ddeddfau ni fwriais oddi wrthif.
23 Bum hefyd yn berffaith gyd ag ef: ac ymgedwais rhag fy anwiredd.
24 A'r Arglwydd a'm gobrwyodd yn ôl purdeb fy nwylo oflaen ei lygaid ef.
25 A'r trugarog y gwnei drugaredd: a'r gŵr perffaith [Page] y gwnei berffeithrwydd.
26 A'r glân, y gwneilendid: ac a'r cyndyn yr ymgyndynni.
27 Canys ti a warêdi y bobl gystuddiedic: ac a ostyngi olygon vchel.
28 O herwydd ti a oleui fyng-hannwyll: yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch.
29 O blegit ynot ti y rhedaf trwy fyddin: îe yn fy Nuw y llammaf dros fûr.
30 Duw sydd berffaith ei ffordd, gair yr Arglwydd sydd buredic: tarian yw efe i bawb a ymddyriedant ynddo.
31 Canys pwy sydd Dduw heb-law yr Arglwydd? a phwy sydd graig eithr ein Duw ni?
32 Duw a'm gwregyssodd â nerth: ac a roddes fy ffordd yn berffaith.
33 Gosod y mae efe fy nhraed fel traed ewigod: ac ar fy vchel-fannau i'm sefydlodd.
34 Efe sy yn dyscu fy nwylo i ryfel: fel y dryllid bŵa dûr yn fy mreichiau.
35 Rhoddaist hefyd i mi darian dy iechyd wriaeth, a'th ddeheu-law a'm cynhaliodd: a'th fwynder a'm lluosogodd.
36 Ehengaist fyng-herddediad tanaf: fel na lithrodd fy sodlau.
37 Erlidiais fyng-elynnion, ac ai goddiweddais: ac niddychwelais nes i mi eu difa hwynt.
38 Archollais hwy fel na allent sefyll: syrthiasant dann fy nhraed.
39 Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel: cwympaist tanafy rhai a ymgododd i'm herbyn.
40 Rhoddaist hefyd i mi warrau fyng-elynnion: fel y difethwn fyng-haseion.
41 Gwaeddâsant, ac nid oedd achubudd: sef ar yr Arglwydd, [Page] ond nid attebodd efe hwynt.
42 Maluriais hwynt hefyd fel llŵch o flaen y gwynt: melais hwynt megis pridd yr heolydd.
43 Gwarêdaist fi rhag cynhennau y bobl, gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl ni's adnabum a'm gwasanaethent.
44 Pan glywant, gwrandawant arnaf: meibion dieithr a gymmerant arnynt ymddarostwng i mi.
45 Meibion dieithr a ballant: ac a ddychrynant oi carchârau.
46 Byw fyddo 'r Arglwydd, a bendithier fyng-hraig: a derchafer Duw fŷ iechydwriaeth.
47 Duw sydd yn rhoddi i mi allu ymddial: ac a dywys y bobloedd tanaf fi.
48 Fyng-waredudd oddi wrth fyng-elynnion ydwyt: canys ti a'm derchefaist hefyd oddi wrth y rhai a gyfodent i'm herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws.
49 Am hynny y moliannaf di ô Arglwydd ym mhlith y cenhedloedd: ac y cânaf i'th enw.
50 Efe sydd yn mawrhau iechyd wriaeth ei frenin, ac yn gwneuthur trugàredd iw eneiniog, i Ddafydd, ac iw hâd ef byth.
Coeli enarrant. Psal. xix.
YNefoedd sy yn dadcanu gogoniant Duw: a'r ffurfafen sy yn mynegu gwaith ei ddwy-law ef.Boreuol weddi.
2 Dydd i ddydd a draetha ymadrodd: a nôs i nôs a ddengys ŵybodaeth.
0 Nid oes air nac ymadrodd, lle ni chlywyd eu lleferydd hwynt.
4 I bob tir yr aeth eu sain hwynt, aigeiriau hyd eithafoedd bŷd: i'r haul y gosododd efe babell ynddynt.
5 Ac efe fel gŵr priod a ddaw allan oi stafell: ac a ymlawenhâ fel cawr yn rhedeg gyrfa.
[Page]6 O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, ai amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wrês ef.
7 Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith yn troi yr enaid: testiolaeth yr Arglwydd sydd siccr, ac yn pêridoethineb i'r ehud.
8 Deddfau yr Arglwydd ydynt iniawn yn llawenhaû y galon: gorchymyn yr Arglwydd sydd bûr, ac yn golêuo y llygaid.
9 Ofn yr Arglwydd sydd lân, ac yn parhau yn dragywydd: barnau 'r Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt eu gyd.
10 Mwy dymunol ynt nag aur, îe nag aur coeth lawer: melysach hefyd na'r mêl, ac na diferiad diliau mêl.
11 Ynddynt hwy hefyd y dyscir dy wâs: oi cadw y mae gobr lawer.
12 Pwy a ddeall ei gamweddau? glanhâ fi oddi wrth fy meiau cuddiedic:
13 Attal hefyd dy wâs oddi wrth bechodau rhyfygus, na arglwyddiaethant arnaf: yna i'm perffeithir, ac i'm glanheir oddi wrth anwiredd lawer.
14 Bydded ymadroddion fyng-enau, a myfyrdod fyng-halon yn gymmeradwy ger dy fron, ô Arglwydd fyng-hraig, a'm gwaredudd.
Exaudiat te Dominus. Psal. xx.
GWrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Iacob a'th ddeffynno.
2 Anfoned i ti gymmorth o'r cyssegr: a nerthed di o Sion.
3 Cofied dy holl offrymmau: a bydded fodlon i'th boeth offrwm. Selah.
4 Rhodded i ti wrth fodd dy galon: a chyflawned dy holl arfaeth.
5 Gorfoleddwn yn dy iechydwriaeth di, a derchafwn [Page] faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau.
6 Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog, ac y gwrendu arno ef o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheu-law ef.
7 Ymddyried rhai mewn cerbydau, ac eraill mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw.
8 Hwynt a gwympasant, ac a syrthiasant: a nynneu a gyfodasom, ac a safasom.
9 Cadw Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.
Domine in virtute tua. Psal. xxj.
ARglwydd yn dy nerth y llawenycha y brenin: ac yn dy iechyd wriaeth yr ymhyfryda efe yn ddirfawr.
2 Deisyfiad ei galon a roddaist iddo: a dymuniad ei wefusau ni's gommeddaist. Selah.
3 Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.
4 Gofynnodd oes gennit: a rhoddaist iddo hir-oes byth ac yn dragywydd.
5 Mawr yw ei ogoniant yn dy iechyd wriaeth: gosodi arno ogoniant a phrydferthwch.
6 Canys gosodi ef yn fendithion tragywyddol, llawenychi ef â llawenydd dy wyneb.
7 O herwydd bod y brenin yn ymddyried yn yr Arglwydd, ac yn-hrugaredd y Goruchaf ni lithr efe.
8 Dy law a gaiff allan dy holl elynnion: dy ddeheulaw a gaiff allan dy gaseion.
9 Gosodi hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr Arglwydd yn ei ddigllonedd ai difa hwynt, a'r tân ai hyssa hwynt.
10 Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaiar: a'i hâd o blith meibion dynnion.
[Page]11 Canys bwriadasant ddrwg i'th erbyn: meddyliasant amcan heb allu o honynt ei gwplau.
12 Canys gosodi hwy ar naill du: yn dy linynnau y paratoi saethau yn erbyn eu hwynebau.
13 Ymddercha Arglwydd yn dy nerth: canwn, a chan-molwn dy gadernid.
Deus, Deus meus. Psal. xxij.
Prydnhawnol weddi. FY Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gadewaist? pell ydwyt oddi wrth fy iechydwriaeth, a geiriau fy llefain.
2 Fy Nuw llefain yr ydwyf y dydd, ac ni attebi: y nôs hefyd, ac nid oes oysteg i mi.
3 A thithe moliant Israel ydwyt yn parhau yn sanctaidd.
4 Ein tadau a obeithiàsant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt.
5 Arnat ti y llefâsant, ac achubwyd hwynt: ynot yr ymddyriedâsant, ac ni's gwradwydd wyd hwynt.
6 A minne yd wyf fel pryf, ac nid gŵr: gwarthrudd dynnion, a dirmyg y bobl.
7 Pawb a'r a'm gwêlant a'm gwatwârant: llaesant wefl, ac escydwant bennau gan ddywedyd,
8 Ymddyriedodd yn yr Arglwydd, gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn ddà ganddo.
9 Canys ti a'm tynnaist o'r grôth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam.
10 Arnat ti i'm bwriwyd o'r brû: o grôth fy mam fy Nuw ydwyt.
11 Nac ymbellhâ di oddi wrthif, o herwydd cyfyngder sydd agos: ac nid oes gynnorthwy-wr.
12 Bustych lawer a'm cylchynâsant: gwrdd deirw Basan a'm hamgylchâsant.
13 Agorâsant arnaf eu gênau: fel llew rheipus, a rhuadwy.
[Page]14 Fel dwfr i'm tywalltwyd, a'm hescyrn oll a ymwahanâsant: fyng-halon sydd doddedic fel cŵyr ynghanol fy mherfedd.
15 Fy nerth a ŵywodd fel pridd-lestr, a'm tafod a lŷnodd wrth daflod fyng-enau: ac yn llŵch angeu i'm cyfleaist.
16 Canys cŵn a'm cylchynâsant, a chynnulleidfa y drygionus a'm hamgylchynâsant: cloddiâsant fy nwylaw a'm traed.
17 Gallaf gyfriffy holl escyrn: y maentyn tremmio, ac yn edrych arnaf fi.
18 Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysc: ac ar fyng-wisc y maent yn bwrw coel-bren.
19 A thithe Arglwydd nac ymbellhâ: fynghadernid bryssia i'm cynnorthwyo.
20 Gwaret fy enaid rhag y cleddyf: fy vnic enaid o feddiant y ci.
21 Achub fi rhag safn y llew: o blith cyrn vnicorniaid atteb fi.
22 Mynegaf dy enw i'm brodyr: yng-hanol y gynnulleidfa i'th folaf.
23 Y rhai sy yn ofni'r Arglwydd molwch ef, holl hâd Iacob gogoneddwch ef: holl hâd Israel ofnwch ef.
24 Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd, ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno y gwrandawodd ef.
25 Fy mawl fydd o honot ti yn y gynnulleidfa fawr: fy addunedau a dâlafger bron y rhai ai hofnant ef.
26 Y tlodion a fwyttant, ac a ddiwellir, y rhai a geisiant yr Arglwydd ai moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd.
27 Holl derfŷnau y ddaiar a gofiant, ac a ddychwelant at yr Arglwydd: a holl dylwythau y cenhedloedd a addôlant ger dy fron di.
[Page]28 Canys eiddo 'r Arglwydd yw 'r deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ym mhlith y cenhedloedd.
29 Yr holl rai breision ar y ddaiar a fwyttânt, ac a addôlant: y rhai a ddescynnant i'r llŵch a gwympant ger ei fron ef: hyd yn oed yr hwn ni fywhâ ei enaid.
30 Eu hâd ai gwasanaetha ef: cyfrifir ef i'r Arglwydd yn genhedlaeth.
31 Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i'r bobl a enir: gan iddo ef eu gwneuthur.
Dominus regit me & nihil. Psal. xxiij.
YR Arglwydd yw fy mugail: ni bydd eisieu arnaf.
2 Efe a bar i'm orwedd mewn porfeudd gwelltoc: efe a'm tywys ger llaw dyfroedd tawel.
3 Efe a ddychwel fy enaid, ac a'm harwain ar hŷd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.
4 A phe rhodiwn ar hŷd glynn cyscod angeu nid ofnaf niwed, o herwydd dy fod ti gyd â mi: dy wialen, a'th ffon a'm cyssurant.
5 Ti a arlwyi fort ger fy mron yn erbyn fyng-wrthwyneb-wŷr: îraist fy mhen ag olew, fy phiol sydd lawn.
6 Daioni, a thrugâredd yn ddiau a'm canlynant oll ddyddiau fy mywyd: a phresswyliaf yn nhŷ 'r Arglwydd yn dragywydd.
Domini est terra, et plenitudo. Psal. xxiiij.
Boreuol weddi. EIddo yr Arglwydd y ddaiar, a'i chyflawnder: y bŷd, ac a bresswylia ynddo.
2 Canys efe a'i seiliodd ar y môroedd: ac a'i paratôdd ar yr afonydd.
3 Pwy a escyn i fynydd yr Arglwydd? a phwy a saif yn ei lê sanctaidd ef?
4 Y diniwed ei ddwylo, a'r glân ei galon: yr hwn ni dderchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo ei gymmydog.
[Page]5 Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawnder gan Dduw ei iechydwriaeth.
6 Dymma genhedlaeth y rhai a'i ceisiant ef: sef y rhai a geisiant dy wyneb di ô Iacob. Selah.
7 O byrth derchefwch eich pennau, ac ymdderchefwch ddrysau tragywyddol: a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn.
8 Pwy yw yr Brenin gogoneddus hwnnw: yr Arglwydd nerthol, a chadarn? yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel.
9 O byrth derchefwch eich pennau, ac ymdderchefwch ddrysau tragywyddol, a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn.
10 Pwy yw 'r Brenin gogoneddus hwnnw? Arglwydd y lluoedd, efe yw Brenin y gogoniant. Selah.
Ad te Domine leuaui animam. Psal. xxv.
ATtat ti ô Arglwydd y derchafaf fy enaid.
2 Fy Nuw, ynot ti 'r ymddyriedais, na'm gwradwydder: na lawenyched fyng-elynnion o'm plegit.
3 Hefyd pawb a'r a obeithiant ynot ti ni wradwyddir hwynt: gwradwyddir y rhai a drosseddant heb achos.
4 Par di i mi ŵybod dy ffyrdd ô Arglwydd: dysc i mi dy lwybrau.
5 Tywys fi yn dy wirionedd, a dysc fi: canys ti yw Duw fy iechydwriaeth, ynot y gobeithiais ar hŷd y dydd.
6 Cofia Arglwydd dy dosturiaethau, a'th drugareddau: canys erioed y maent hwy.
7 Na chofia bechodau fy ieuengctid, na'm camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di am danaf er mwyn dy ddaioni Arglwydd.
8 Dâ ac iniawn yw yr Arglwydd: o herwydd hynny y dysc efe bechaduriaid yn y ffordd.
[Page]9 Y rhai difalch a hyffordda efe mewn barn: ai. ffordd a ddysc efe i'r rhai gost [...]ngedic.
10 Holl lwybrau'r Arglwydd ydynt drugaredd, a gwirionedd i'r rhai a gadwant ei gyfammod, ai destilaethau ef.
11 Er mwyn dy enw A [...]glwydd madden di fy anwiredd: canys mawr yw.
12 Pa ŵr yw efe sy yn ofni yr Arglwydd? efe ai dysc ef yn y ffordd a ddewiso.
13 Ei enaid ef a erys mewn daioni: ai hâd a etifedda y ddaiar.
14 Dirgelrwydd yr Arglwydd a ddatcuddir i'r rhai ai hofnant ef: ai gyfammod hefyd iw cyfarwyddo hwynt.
15 Fy llygaid ydynt yn wastad ar yr Arglwydd: canys efe a ddŵg fy nhraed allan o'r rhwyd.
16 Trô attaf, a thrugarhâ di wrthif: canys vnic, a thlawd ydwyf.
17 Gofidion fyng-halon a ymehangasant: dwg fi allan o'm cyfyngdêrau.
18 Gwêl fyng-hystudd, a'm helbul: a maddeu di fy holl bechodau.
19 Cenfydd fyng-elynnion, canys amlhausant: â chasineb traws hefyd i'm cassausant.
20 Cadw fy enaid, ac achub fi: na'm gwradwydder, canys ymddyriedais ynot.
21 Cadwed perffeithrwydd, ac iniondeb fi, canys gobeithiais ynot.
22 O Dduw gwaret Israel o'i holl gyfyngdêrau.
Iudica me Domine. Psal. xxvj.
BArn fi Arglwydd, o herwydd rhodio o honof mewn perffeithrwydd, ac ymddyried o honof yn yr Arglwydd, ni lithraf.
2 Hôla fi Arglwydd, a phrawf di fi: chwilia fy arennau, [Page] a'm calon.
3 Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: am hynny y rhodiais yn dy wirionedd.
4 Nid eisteddais gyd â dynnion celŵyddoc: a chyd a'r rhai dichellgar nid aethum.
5 Casseais gynnulleidfa y drygionus: a chyd a'r annuwolion nid ydwyf yn eistedd.
6 Golchaf fy nwylo mewn gwiriondeb: a'th allor ô Arglwydd a amgylchŷnaf,
7 I draethu mewn llef clodforedd: ac i fynegu dy holl ryfeddodau.
8 Arglwydd hoffais drigfan dy dŷ: a llê presswylfa dy ogoniant.
9 Na chascl fy enaid gyd a'r pechaduriaid: na'm bywyd gyd a'r dynnion gwaedlyd:
10 Y rhai y mae scelerder yn eu dwylo: ai deheulaw yn llawn gobr.
11 Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwaret fi, a thrugarhâ wrthif.
12 Fy nhroed sydd yn sefyll mewn iniondeb: yn y cynnulleidfaoedd i'th glodforaf ô Arglwydd.
Dominus illuminatio. Psal. xxvij.
YR Arglwydd yw fyng-oleuni,Prydnhawnol weddi. a'm iechyd wriaeth, rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?
2 Pan nessaodd y rhai drygionus, sef fyng-wrthwyneb-wŷr, a'm gelynnion i'm herbyn i fwytta fyng-nhawd: hwynt a dramgwyddâsant, ac a syrthiâsant.
3 Pe gwerffylle llu i'm herbyn, nid ofne fyng-halon: pê cyfode câd i'm herbyn, er hyn mi a fyddwn hydêrus.
4 Vn peth a ddeisyfiais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf, sef caffel trigo yn nhŷ 'r Arglwydd holl ddyddiau [Page] fy mywyd: i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymweled ai Deml.
5 Canys yn y dydd drwg efe a'm cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei bresswylfod y cuddia efe fi, ar graig i'm dercha efe fi.
6 Ac yn awr y dercha efe fy mhen goruwch fyng-elynnion o'm hamgylch: am hynny 'r aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd: canaf a chan-molaf yr Arglwydd.
7 Clyw ô Arglwydd fy lleferydd, trugarhâ hefyd wrthif, a gwrando arnaf pan lefwyf arnat.
8 Y mae fyng-halon yn ymddiddan â thi fel hyn, ceisiwch fy wyneb: dy wyneb a geisias ô Arglwydd.
9 Na chuddia dy wyneb oddi wrthif, nafwrw ymmaith dy wâs mewn sorriant: fyng-hymmorth i fuost: gan hynny na âd fi, ac na wrthot fi ô Dduw fy iechydwriaeth.
10 Er i'm tâd, a'm mam fyng-wrthod: etto yr Arglwydd a'm derbynnie.
11 Dysc i mi dy ffordd Arglwydd: ac arwain fi ar hŷd llwybr iniondeb, o herwydd fyng-elynnion.
12 Na ddyro fi wrth ewyllys fyng-wrthwyneb-wyr: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster a gyfodâsant i'm herbyn.
13 Deffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni 'r Arglwydd yn nhir y rhai byw.
14 Disgwil ŵrth yr Arglwydd, ymwrola, ac efe a nertha dy galon: ac ymddyriet yn yr Arglwydd.
Ad te Domine clamabo. Psal. xxviij.
ARnat ti Arglwydd y galwaf, fyng-hadernid na fydd fyddar wrthif: rhag o thewi yna i'm cyffelybir i rai yn descyn i'r pwll.
2 Erglyw lef fy ymbil, pan waeddwyf arnat, pan dderchafwyf fy nwylo tu ag at dy gafell sanctaidd.
[Page]3 Na thynn fi gyd a'r annuwolion, a chyd â gweithred-wŷr anwiredd, y rhai a lefârant heddwch wrth eu cymmydogion, a drwg yn eu calon.
4 Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychymmygion, dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo: tâl iddynt eu gobr.
5 Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adailada hwynt.
6 Bendigêdic fyddo 'r Arglwydd: canys clybu lêf fyng-weddiau.
7 Yr Arglwydd yw fy nerth a'm tarian, ynddo ef yr ymddyriedodd fyng-halon, ac i'm cynnorthwywyd: o herwydd hyn y llawenychodd fyng-halon, ac ar fyng-hân y clodforaf ef.
8 Yr Arglwydd sydd nerth i'r cyfryw rai, a chadernid iechydwriaeth ei eneiniog yw efe.
9 Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dercha hwynt yn dragywydd.
Afferte Domino filij Dei. Psal. xxix.
MOeswch i'r Arglwydd chwi feibion cedyrn: Moeswch i'r Arglwydd hyrddod ieuaingc, moeswch i'r Arglwydd ogoniant, a nerth.
2 Moeswch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei gyssegr.
3 Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd, Duw y gogoniant a darâna: yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion.
4 Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llêf yr Arglwydd mewn prydferchwch.
5 Llef yr Arglwydd sy yn dryllio y cedr-wŷdd: îe dryllia 'r Arglwydd cedr-wŷdd Libanus.
6 Efe a wna iddynt lammu fel llô: Libanus a Syrion fel llwdn vnicorn.
[Page]7 Llef yr Arglwydd a wascâra y fflammau tân.
8 Llef yr Arglwydd a ddychryna yr anialwch: yr Arglwydd a ddychryn anialwch Cades.
9 Llef yr Arglwydd a wnaeth i'r ewîgod lydnu, ac a ddinoethodd y coedydd: gan hynny ei holl bobl yn ei Deml ef a draethant ei ogoniant.
10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant, yr Arglwydd hefyd a eistedd yn Frenin yn drag [...] wydd.
11 Yr Arglwydd a ddyru nerth iw bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangneddyf.
Exaltabo te Domine. Psal. xxx.
Boreuol weddi. MAwr ygaf di ô Arglwydd, canys derchefaist fi: ac ni lawenhêaist fyng-elynnion o'm plegit.
2 Arglwydd fy Nuw, llefais arnat: a thithe a'm hiachêaist.
3 Arglwydd derchefaist fy enaid o vffern: cedwaist fi yn fyw oddi wrth y rhai sy yn descyn i'r pwll.
4 Cenwch i'r Arglwydd ei sainct ef: a chlodforwch ger bron coffadwriaeth ei sanctaiddrwydd ef.
5 Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid, ac yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: tros brŷd nawn yr erys ŵylofain, ac erbyn y boreu y bydd gorfoledd.
6 A mi a ddywedais yn fy llwyddiant, ni'm syflir yn dragywydd.
7 O'th ddaioni Arglwydd y cyfleaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bum helbulus.
8 Yna arnat ti Arglwydd y llefais: ac â'r Arglwydd [Page] yr ymbiliais.
9 Pa fudd sydd yn fyng-waed pan ddescynnwyf i'r ffôs? a glodfora y llwch di? neu a fynêga efe dy wirionedd?
10 Clyw Arglwydd, a thrugarhâ wrthif: Arglwydd bydd gynnorthwy i mi.
11 Troaist fyng-alar yn llawenydd: dattodaist fy sach-wisc, a gwregysaist fi â llawenydd.
12 Am hynny fy nhafod a gân i ti, ac ni thau: ô Arglwydd fy Nuw yn dragywyddol i'th glodforaf.
In te Domine speraui. Psal. xxxj.
YNot ti Arglwydd yr ymddyriedais, na'm gwradwydder yn dragywydd: gwaret fi yn dy gyfiawnder.
2 Gogwydda dy glust attaf, bryssia i'm gwarêdu: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddeffyn i'm cadw.
3 Canys fyng-hraig a'm castell ydwyt ti: gan hynny er mwyn dy enw, tywys fi, ac arwain fi.
4 Dwg fi allan o'r rhwyd yr hon a guddiâsant i'm herbyn: canys ti yw fy nerth.
5 I'th law y gorchymynnaf fy yspryd: gwaredaist fi ô Arglwydd Dduw y gwirionedd.
6 Caseais y rhai sy yn cadw ofer-wagedd: minne hefyd a obeithiaf yn yr Arglwydd.
7 Ymlawenhaf, ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd, yr hwn a welaist fy adfyd: adnabuost fy enaid mewn cyfyngder.
8 Ac ni warcheaist fi yn llaw y gelyn, onid sefydlaist fy nhraed mewn ehangder.
[Page]9 Trugarhâ wrthif Arglwydd canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygaid, fy enaid, a'm bol gan gystudd:
10 Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a'm blynyddoedd gan alar: fy nerth a syrthiodd o herwydd fy anwiredd, a'm hescyrn a bydrâsant.
11 Yn warthrudd yr ydwyf gan fy holl elynnion, a hynny yn ddirfawr gan fyng-hymmydogion: ac yn ddychryn i'r rhai a'm hadwaenant, y rhai a'm gwelent allan a gilient oddi wrthif.
12 Anghofiwyd fi allan o feddwl, fel vn marw: yr ydwyf fel llestr methedic.
13 Canys clywais ogan llaweroedd, dychryn oedd o bob parth: pan gyd-ymgynghorâsant yn fy erbyn, yr amcanâsant fy nieneidio.
14 Ond mi a obeithiais ynot ti Arglwydd, dywedais, fy Nuw ydwyt.
15 Yn dy law di y mae fy amsêrau: gwaret fi oddi wrth law fyng-elynnion, ac oddi wrth fy erlidwŷr.
16 Llewyrcha dy wyneb ar dy wâs: achub fi yn dy drugaredd.
17 Arglwydd na wradwydder fi, canys gelwais arnat: gwradwydder yr annuwolion, torrer hwynt i'r bedd.
18 Gosteger eu gwefusau celwyddoc, y rhai a ddywedant yn galed drwy falchder, a diystyrwch yn erbyn y cyfiawn.
19 Morr fawr yw dy ddaioni yr hwn a roddaist i gadw i'r sawl a'th ofnant, ac a wnaethost i'r rhai a ymddyriedant ynot ger bron meibion dynion!
20 Cuddi di hwynt yn ddirgel ger dy fron rhag balchder dynnion: cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafôdau.
[Page]21 Bendigêdic fyddo 'r Arglwydd, canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn.
22 A mi a ddywedais yn fy ffrwst, fo'm bwriwyd allan o'th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fyngweddiau pan lefais arnat.
23 Cerwch yr Arglwydd ei holl sainct ef: yr Arglwydd a geidw ei ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i'r neb a wnant falchder.
24 Ymnerthwch oll a'r sydd yn gobeithio yn y [...] Arglwydd: ac efe a gryfhâ eich calon.
Beati quorum. Psal. xxxij.
GWyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drossedd: ac y cuddiwyd ei bechod.Prydnhawnol weddi.
2 Gwyn ei fyd y dŷn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd: ac ni bo dichell yn ei yspryd.
3 Tra y tewais, heneiddiodd fy escyrn gan fy rhuad bob dydd.
4 Canys trwmhâodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a droiwyd yn sychter haf, Selah.
5 Cydnabyddaf fy mhechod wrthit, a'm hanwiredd ni chuddiais: dywedais, cyffessaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i'r Arglwydd, a thi a faddeuaist boen fy mhechod. Selah.
6 Am hynny y gweddia pob duwiol arnat ti yn yr amser i'th geffir: eithr yn llifeiriant dyfroedd mawrion ni chânt nessau atto ef.
7 Ti ydwyt loches i mi, cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniâdau ymwared, Selah.
8 Cyfarwyddaf di, a dyscaf di yn y ffordd yr elech: a'm llygad arnat i'th gynghoraf.
9 Na fyddwch fel march neu fûl heb ddeall yr hwn y mae rhaid attal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei [Page] [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] ddinesau attar.
10 Gofidiau lawer fydd i'r annuwiol, a'r neb a ymddyriedo yn yr Arglwydd trugaredd a'i cylchŷna ef.
11 Y rhai cyfiawn byddwch lawen, a hyfryd yn yr Arglwydd: a'r rhai iniawn o galon oll, clodforwch.
Exultate iusti in Domino. Psal. xxxiij.
YMlawenhewch y rhai cyfiawnyn yr Arglwydd: i'r rhai iniawn gwedddus yw diolchgarwch.
2 Molwch yr Arglwydd ar y delyn: cênwch iddo ar y nabel, ac ar y dectant.
3 Cênwch iddo ganiad newydd: cênwch yn gerddgar, ac yn soniarus.
4 Canys iniawn yw gair yr Arglwydd, ai holl weithredoedd ydynt ffyddlon.
5 Efe a gâr gyfiawnder, a barn: o drugaredd yr Arglwydd y mae y ddaiar yn gyflawn.
6 Trwy air yr Arglwydd y gwnaethpwyd y nefoedd: ai holl luoedd hwy trwy yspryd ei enau ef.
7 Casclu y mae efe ddyfroedd y môr yng-hyd, megis yn ben-twrr: gan roddi y dyfnderoedd mewn tryssorau.
8 Ofned yr holl ddaiar yr Arglwydd: holl drigolion y byd arswydant ef.
9 Can ys efe a ddywedodd, at felly y bu: efe a orchymynnodd, a hynny a safodd.
10 Yr Arglwydd sydd yn diddymmu cyngor y cenhedloedd: y mae efe yn diddymmu amcannion pobloedd, ac yn llysu cyngor ty wysogion.
11 Cyngor yr Arglwydd a saif yn dragywydd: a meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth.
12 Gwyn ei fyd y genedl yr hon y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi: a'r bobl a ddetholes efe yn etifeddiaeth iddo ei hun.
13 Yr Arglwydd sy yn edrych i lawr o'r nefoedd: ac yn gweled holl feibion dynnion.
[Page]14 O bresswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaiar.
15 Yr hwn a gyd-lunniodd eu calon hwynt: gan ddeall eu holl weithredoedd.
16 Ni warêdir brenin gan liaws llu: ni ddiangc cadarn drwy amlder cryfder.
17 Palledic yw 'r march i ymwared: nid achub efe neb drwy ei fawr-gryfder.
18 Wele lygad yr Arglwydd ar y rhai ai hofnant ef: sef ar y rhai a ymddyriedant yn ei drugaredd ef,
19 Er mwyn gwaredu eu heneidiau rhag angeu: ac iw cadw yn fyw yn amser newyn.
20 Ein henaid sydd yn disgwil am yr Arglwydd: efe yw ein porth a'n tarian.
21 Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, o herwydd i nî obeithio yn ei enw sanctaidd ef.
22 Bydded dy drugaredd Arglwydd arnom ni, megis yr ymddyriedom ynot.
Benedicam Domino. Psal. xxxiiij.
DIolchaf i'r Arglwydd bob amser: ei foliant fydd yn fyng-ênau yn wastad.
2 Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedic a glywant hyn, ac a lawenychant.
3 Mawrygwch yr Arglwydd gyd â mi: a chyddderchafwn ei enw ef.
4 Ceisiais yr Arglwydd, ac efe a'm gwrandawodd: gwaredodd fi hefyd o'm holl ofn.
5 Edrychant arno, a hwynt a eglurir: ai hwynebau ni chywilyddir, eithr dywedant:
6 Y tlawd hwn a lefodd, a'r Arglwydd ai clybn, ac ai gwaredodd oi holl drallodau.
7 Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai ai hofnant ef, ac ai gwared hwynt.
8 Profwch, a gwelwch morr ddâ yw 'r Arglwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddyriedo ynddo.
[Page]9 Ofnwch yr Arglwydd ei sainct ef: canys nid oes eisieu ar y rhai ai hofnant ef.
10 Y mae eisieu, a newyn ar y llewod, a'r sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisieu dim daioni.
11 Deuwch feibion, gwrandewch arnaf: dyscaf i chwi ofn yr Arglwydd.
12 Pwy yw 'r gŵr a chwennych fywyd, gan garu hîr ddyddiau i weled daioni?
13 Cadw dy dafod rhag drwg: a'th wefusau rhag traethu twyll.
14 Ymwrthot a'r drwg, a gwna ddâ: ymgais a thangneddyf, a dilyn hi.
15 Llygaid yr Arglwydd ydynt ar y rhai cyfiawn: ai glustiau ydynt yn agored iw llefain hwynt.
16 Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg: i dorri eu coffa oddi ar y ddaiar.
17 Y rhai cyfiawn a lefâsant, a'r Arglwydd a glybu, ac ai gwarêdodd oi holl drallodion.
18 Agos yw 'r Arglwydd at y rhai drylliedic o galon: ac efe a geidw y rhai briwedic o yspryd.
19 Llawer o ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr Arglwydd ai gwared ef oddi wrthynt oll.
20 Efe a geidw ei holl escyrn: ni ddryllir vn o honynt.
21 Drygioni a ladd yr annuwiol: a'r rhai a gasânt y cyfiawn a anrheithir.
22 Yr Arglwydd a warêda eneidiau ei weision: a'r rhai oll a ymddyriedant ynddo ef nid anrheithir hwynt.
Iudica Domine. Psal. xxxv.
Boreuol weddi. DAdle Arglwydd a'i rhai a ddadleuant i'm herbyn: rhyfêla yn erbyn y rhai a ryfêlant â mi.
2 Ymâfel yn y tarian a'r astalch, a chyfot [Page] i'm cymmorth.
3 Dwg allan y waiw-ffon, ac argaea yn erbyn fy erlid-wŷr: dywet wrth fy enaid, myfi yw dy iechyd.
4 Cywilyddier, a gwradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn eu hôl, a gwarthaer y sawl a fwriadant fy nrygu.
5 Byddant fel vs o flaen y gwynt: ac angel yr Arglwydd yn eu gwascâru.
6 Bydd eu ffordd yn dywyllwch, ac yn llithrigfa: ac angel yr Arglwydd yn eu hymlid.
7 Canys heb achos y cuddiasant bydew ai rhwyd i mi: heb achos y cloddiasant bydew i'm henaid.
8 Deued arno ddestruw ni ŵypo, ai rwyd yr hon a guddiodd efe ai dalio: syrthied yn y destruw hynny.
9 Eithr llawenyched fy enaid yn yr Arglwydd: ac ymhyfryded yn ei iechydwriaeth ef.
10 Fy holl escyrn a ddywedant, ô Arglwydd, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo trêch nag ef? y truan hefyd a'r tlawd rhag y neb ai hyspeilio?
11 Tystion gau a gyfodasant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho.
12 Talâsant i mi ddrwg dros dda, gan yspeilio fy enaid.
13 A minne pan glefychent hwy oeddwn a'm gwisc o sach-len, gostyngais fy enaid ag ympryd: a'm gweddi a ddymchwelodd i'm mynwes fy hun.
14 Ymddygwn fel pe buase yn gyfaill, neu fel pe buase yn frawd i mi: ymostyngwn mewn galar-wisc fel vn yn galâru am ei fam.
15 Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i, ac ymgasclasant, ymgasclodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn: min-gammasant fi, ac ni pheidient.
16 Ym mysc y rhag-rithwŷr yr oedd gwattwarwyr mwys-air yn escyrnygu eu dannedd arnaf.
[Page]17 Arglwydd hyd pa brŷd yr edrychi di ar hyn? gwaret fy enaid rhag eu destruw hwynt, fy vnic enaid rhag y llewod.
18 Yna i'th glodforaf mewn cynnulleidfa fawr: moliannaf di ym mhlith pobl lawer.
19 Na lawenyched fyng-elynnion i'm herbyn yn anghyfiawn: y sawl a'm casânt yn ddiachos nac amneidiant â llygad.
20 Can nad ymddiddanant yn dangneddyfus: eithr dychymmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai llonydd ar y ddaiar.
21 Lledâsant eu safn arnaf, gan ddywedyd: ffei, ffei, gwelodd ein llygad.
22 Gwelaist hyn Arglwydd, na thaw dithe: nac ymbellhâ oddi wrthif ô Arglwydd,
23 Cyfot, a deffro i'm barn sef i ddadle gyd â mi, fy Nuw, a'm Harglwydd.
24 Barn fi Arglwydd fy Nuw, yn ôl dy gyfiawnder: ac na lawenhânt o'm plegit.
25 Na ddywedant yn eu calon, ô ein gwynfyd: ac na ddywedant, llyngcasom ef.
26 Cywilyddier, a gwradwydder hwy eu gyd y rhai sy lawen am fy nryg-fyd: gwiscer â gwarth, ac â chywilydd y rhai a ymfawrygant i'm herbyn.
27 Caned a llawenyched y rhai a hoffant fyng-hyfiawnder, a dywedant hefyd yn wastad, mawryger yr Arglwydd yr hwn a gâr lwyddiant ei wâs.
28 Fy nhafod inne a fyfyrria ar dy gyfiawnder, a'th foliant bob dydd.
Dixit iniustus. Psal. xxxvj.
YMae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fyng-halon, nad oes ofn Duw o flaen ei lygaid ef.
2 O herwydd ymwenheithio y mae efe iddo ei hun, yn ei olwg ei hunan, nes cael allan ei anwiredd ef yr hwn sydd iw gassâu.
[Page]3 Geiriau ei enau ydynt anwiredd, a thwyll: peidiodd a bod yn gall i wneuthur daioni.
4 Anwiredd a ddychymmyg efe ar ei wely, efe ai gesyd ei hun ar ffordd nid yw ddâ: ni wrthyd efe ddrygioni.
5 Dy drugaredd Arglwydd sydd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd yr wybrennau.
6 Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder, dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dŷn, ac anifail a achubi di Arglwydd.
7 Morr werth-fawr yw dy drugaredd ô Dduw, am hynny 'r ymddyried meibion dynnion yng-hyscod dy adênydd.
8 Llenwir hwynt â brasder dy dŷ: ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt.
9 Canys gyd â thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwêlwn oleuni.
10 Estyn dy drugaredd i'r rhai a'th adwaenant, a'th gyfiawnder i'r rhai inawn o galon.
11 Na ddeued troed balchder i'm herbyn: ac na syfled llaw y rhai annuwiol fi.
12 Yno y syrthiodd gweith-wŷr anwiredd, gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.
Noli aemulari. Psal. xxxvij.
NAc ymddigia o herwydd yr annuwolion,Prydnhawnol weddi. ac na chenfigenna wrth y rhai a wnant anwiredd.
2 Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i'r llawr fel glas-wellt, ac y gwywant fel gwyrdd lyssiau.
3 Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna ddâ: trig yn y tîr, â thi a borthir yn ddiau.
4 Ymddigrifa yn yr Arglwydd, ac efe a ddyru i ti ddymuniadau dy galon.
5 Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddyriet [Page] ynddo, ac efe a gyflawna dy ewyllys.
6 Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni: a'th iniondeb di fel yr haul hanner dydd.
7 Disgwil yn ddistaw wrth yr Arglwydd, ac ymddyriet ynddo: nac ymddigia wrth yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, nac wrth y gŵr yr hwn sydd yn gwneuthur ei amcan.
8 Paid â digofaint, a gad ymmaith gynddaredd: nac ymofidia chwaith i ddrygu.
9 Canys torrir ymmaith y drwg-ddynnion, a'r rhai a ddisgwiliant wrth yr Arglwydd, hwyntwy a etifeddant y tîr.
10 Am hynny etto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol, a thi a edrychi am y lle y bu efe, ac ni bydd dim o honaw.
11 Eithr y rhai gostyngedic a feddant y ddaiar, ac ai diddenir gan liaws tagneddyf.
12 Yr annuwiol a amcâna yn erbyn y cyfiawn, ac a escyrnyga ei ddannedd arno.
13 Yr Arglwydd ai gwatwar ef, canys gwelodd fod ei ddydd ar ddyfod.
14 Yr annuwolion a dynnâsant eu cleddyf, ac a annelâlant eu bŵa, i fwrw i lawr y tlawd, a'r anghenog, ac i ladd y rhai iniawn eu ffordd.
15 Eithr eu cleddyf a aiff yn eu calon eu hunain, ai bwâu a ddryllir.
16 Gwell yw prinder y cyfiawn, na mawr olud yr annuwolion cedyrn.
17 Canys breichiau 'r annuwolion a ddryllir: a'r Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn.
18 Yr Arglwydd a edwyn ddyddiau y rhai perffaith, ai hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd.
19 Ni's gwradwyddir hwy yn amser y dryg-fyd, ac yn amser newyn y cânt ddigon.
20 Eithr collir yr annuwolion, a gelynnion yr Arglwydd [Page] fel braster ŵyn a ddiflannant: sef gyd a'r mŵg y diflannant.
21 Yr annuwiol a echŵyna, ac ni thâl adref: a'r cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi.
22 Canys y rhai a fendîgo efe a etifeddant y tir: a'r rhai a felldithio efe a dorrir ymmaith.
23 Yr Arglwydd a fforddia gerddediad gŵr: a da fydd ganddo ei ffordd ef.
24 Er iddo gwympo, ni fwrir ef ymmaith: canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef ai law.
25 Mi a fum ieuangc, ac yr ydwyf yn hên: ac ni welais er ioed y cyfiawn wedi ei adu, nai hâd yn cardota eu bara.
26 Pob amser y mae y cyfiawn yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg: ai hâd a fwynhâ y fendith.
27 Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna ddâ, a chyfannedda yn dragywydd.
28 Canys yr Arglwydd a gâr farn, ac ni edu ei sainct: cedwir hwynt yn dragywydd, a hâd yr annuwolion a dorrir ymmaith.
29 Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaiar, ac a bresswyliant arni yn dragywydd.
30 Genau y cyfiawn a fynêga ddoethineb, ai dafod a draetha farn.
31 Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef, ai draed ni lithrant.
32 Yr annuwiol a graffa ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.
33 Ni âd yr Arglwydd ef yn ei law ef, ac ni âd ef yn euog pan ei barner.
34 Gobeithia yn yr Arglwydd, a chadw ei ffordd ef, ac efe a'th dderchafa fel yr etifeddech y tir: gwêli pan ddifether yr annuwolion.
35 Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigoc, fel y lawryfgwŷrdd▪
[Page]36 Er hynny efe a aeth ymmaith, ac wele nid oedd mwy o honaw: â mi ai ceisiais, ac ni cheid ef.
37 Ystyr yr hyn sydd berffaith, ac edrych ar yr iniawn, canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangneddyf.
38 Canys y trawsion a gŷd-ddestruwir, a diwedd yr annuwolion a ddiwreiddir.
39 Ac iechydwriaeth y rhai cyfiawn fydd gan yr Arglwydd: efe fydd eu nerth hwynt yn amser trallod.
40 Canys yr Arglwydd ai cymmorth hwynt, ac ai gwared, efe ai gwared hwynt rhag yr annuwolion, ac ai ceidw hwynt, gan iddynt ymddyried ynddo.
Domine ne in furore. Psal. xxxviij.
Boreuol weddi. ARglwydd na cherydda fi yn dy lid: ac na chospa fi yn dy ddigllonedd.
2 Canys dy saethau a ddescynnasant ynof: a'th law a ddescynnodd arnaf.
3 Nid oes iechyd yn fyng-nhawd o herwydd dy ddigllonedd: ac nid oes heddwch i'm hescyrn o blegit fy mhechod.
4 Canys fyng-hamweddau a aethant dros fy mhen, megis baich gorthrwm y maent yn rhy drwm i mi.
5 Fyng-hleisiau a bydrâsant, ac a lygrâsant gan fy ynfydrwydd.
6 Crymmwyd a darostyngwyd fi 'n ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alârus.
7 Canys fy lwynau a lawnwyd o boethder, ac nid oes iechyd yn fyng-nhawd.
8 Gwanhauwyd, a drylliwyd fi 'n dramawr: rhuais gan ofid fyng-halon.
9 O'th flaen di Arglwydd y mae fy holl ddymuniad, ac ni chuddiwyd fy vchenaid oddi wrthit.
10 Fyng-halon sydd yn cynhyrfu, fy nerth a'm gadâwodd, a llewyrch fy llygaid nid yw ychwaith gennif.
11 Fyng-haredigion, a'm cyfeillion a safent oddi ar [Page] gyfer fy mhlâ, a'm cyfneseifiaid a safent o hir-bell.
12 Yna y rhai a geisient fy enaid a osodasant faglau, a'r rhai a geisient fy niwed a draethent anwirêddau, ac a ddychymmŷgent ddichellion beunydd.
13 A minne fel byddar ni clywn, eithr oeddwn fel mudan heb agorid ei enau.
14 Felly 'r oeddwn fel gŵr yr hwn ni chlywe, ac heb argyoeddion yn ei enau.
15 O herwydd i'm obeithio ynot Arglwydd, ti fy Arglwydd Dduw a wrandêwi.
16 Canys dywedais, edrych rhag llawenychu o'm gelynnion i'm herbyn, pan lithre fy nhroed, ymfawrygent i'm herbyn.
17 Yn ddiau i ddialedd i'm paratoiwyd, a'm dolur sydd ger fy mron yn wastad.
18 Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y prydêraf o herwydd fy mhechod.
19 Ac y mae fyng-elynnion yn fyw, ac yn gedyrn, amlhawyd hefyd y rhai a'm cassânt ar gam:
20 A'r rhai a dâlant ddrwg dros ddâ a'm gwrthwynêbant: am ddilyn o honofddaioni.
21 Na ad ti fi ô Arglwydd fy Nuw, nac ymbellhâ oddi wrthif.
22 Bryssia i'm cynnorthwyo ô Arglwydd fy iechyd.
Dixi, custodiam vias. Psal. xxxix.
DYwedais, cadwaf fy ffyrdd rhag pechu a'm tafod: cadwaf ffrwyn yn fyng-enau tra fyddo 'r annuwiol yn fyng-olwg.
2 Tewais yn ddistaw, îe tewais a dywedyd daioni: a'm dolur a gyffrôdd.
3 Gwresôgodd fyng-halon o'm mewn: tra y myfyriais, enynnodd tân, a mi a leferais a'm tafod,
4 Arglwydd gâd ti i mi ŵybod fy niwedd, a pheth yw niser fy nyddiau: gad ti i mi ŵybod o ba oedran y byddaf fi.
[Page]5 Wele rhoddaist fy nyddiau fel dyrnfedd, a'm henioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pôb dŷn byw. Selah.
6 Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cyscod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac ni's gŵyr pwy ai cascl.
7 Ac yn awr beth a obeithiaf ô Arglwydd: fyng-obaith sydd ynot ti.
8 Gwaret fi o'm holl gamweddau: ac na osot fi yn wradwydd i'r ynfyd.
9 Aethum yn fûd, ac nid agorais fyng-enau: canys ti a wnaethost hyn.
10 Tynn dy bla oddi wrthif: canys gan ddyrnod dy law y darfûm i.
11 Pan gospit ddyn â cheryddon am anwiredd, dattodit fel gŵyfyn ei ardderchawgrwydd ef: gwagedd am hynny yw pôb dŷn. Selah.
12 Gwrando fyng-weddi Arglwydd, a chlyw fy llef, na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithudd yd wyf gyd â thi, ac alltud fel fy holl dadau.
13 Paid ti â mi, fel y cryfhauwyf cyn fy myned: ac na bydd wyf mwy.
Expectans expectaui. Psal. xl.
DIsgwiliais yn ddyfal am yr Arglwydd, ac efe a ostyngodd ei glust attaf: ac a glybu fy llefain.
2 Cyfododd fi hefyd o'r pydew terfyscus, allan o'r pridd tomlyd: ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fyng-herddediad.
3 A rhoddodd yn fyng-enau ganiad newŷdd o foliant i'n Duw ni: llawer a wêlant hyn, ac a ofnant, ac a ymddyriedant yn yr Arglwydd.
4 Gwyn erfyd y gŵr yr hwn a osodo 'r Arglwydd yn ymddyried iddo: ac ni thrŷ atfeilchion, nac at y rhai a droant at gelwydd.
5 Lluosog y gwnaethost ti fy Arglwydd Dduw dy [Page] ryfeddodau, a'th amcannion i ni, ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: mi ai mynegwn, ac ai traethwn hwynt, eithr amlach ydynt nag y gellir eu rhifo hwynt.
6 Aberth a bwyd offrwm ni's ewyllysiaist, eithr agoraist i'm glustiau: poeth offrwm a phech aberth ni's gofynnaist.
7 Yna y dywedais, wele 'r ydwyf yn dyfod, yn rholy llyfr yr scrifennwyd am danaf.
8 Ewyllysiais wneuthur dy fodd fy Nuw: a'th gyfraith sydd o fewn fyng-halon.
9 Pregêthais dy gyfiawnder yn y gynnulleidfa fawr: wele nid attaliaf fyng-wefusau, ti Arglwydd ai gwyddost.
10 Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fyng-halon, treuthais dy wirionedd a'th iechydwriaeth: ni chelais dy drugâredd na'th wirionedd yn y gynnulleidfa luosog.
11 Tithe Arglwydd nac attal dy drugarêddau oddi wrthif: cadwed dy drugaredd, a'th wirionedd fi bŷth.
12 Canys drŷgau anifeiriol a gylchynâsant o'm hamgylch, fy mhechodau a'm daliasant fel na allwn edrych i fynu: amlach ydynt nâ gwallt fy mhen, am hynny y pallodd fyng-halon gennif.
13 Rhynged bodd it Arglwydd fyng-waredu: bryssia Arglwydd i'm cymmorth.
14 Cyd-gywilyddier, a gwradwydder y rhai a geisiant fy enioes iw difetha, troer yn eu hôl, a chywilyddier y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg.
15 Diffeithier yn lle gobrwy eu gwradwydd, y rhai addywedant wrthif, ffei, ffei.
16 Llawenyched, ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a'th geisiant di: dyweded y rhai a garant dy iechydwriaeth bôb amser, mawryger yr Arglwydd.
17 Er fy mod i yn wann, ac yn druan, yr Arglwydd a feddwl am danaf, fyng-hymmorth a'm gwaredudd ydwyt ti: fy Nuw na hir drîga.
Beatus qui intelligit. Psal. xlj.
Prydnhawnol weddi. GWyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd, yr Arglwydd ai gwared ef yn amser adfyd.
2 Yr Arglwydd ai ceidw, ac ai bywhâ, gwynfydedic fydd ar y ddaiar: na ddod tithe ef wrth ewyllys ei elynnion.
3 Yr Arglwydd ai nertha ef ar ei glaf-wely: cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd.
4 Mi a ddywedais, Arglwydd trugarhâ wrthif: iachâ fy enaid, canys pechais i'th erbyn.
5 Fyng-elynnion a lefarent ddrŵg am danaf gan ddywedyd: pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?
6 Ac os daw i'm hedrych efe a ddywed gelwydd, ei galon a gascl ynddo anwiredd: efe a aiff allan, ac ai traetha.
7 Fy holl gaseion a gyd-hustyngant i'm herbyn: ac a ddychymmygant ddrwg i mi.
8 Aflwydd a dywalltwyd arno ef: a'r hwn sydd yn gorwedd ni chyfyd mwy.
9 Hefyd y gŵr annwylaf gennif, yr hwn yr ymddyriedais iddo, ac a fwytaodd fy mâra, a dderchafodd ei sodl i'm herbyn.
10 Eithr ti Arglwydd trugarhâ wrthif, a chyfot fi, fel y talwyf iddynt.
11 Wrth hyn y gwn hoffi o honot fi: am na chaiff fyng-elyn orfolaethu i'm herbyn.
12 Ond am danaf fi yn fy mherffeithrwydd i'm cynheli, ac i'm gosodi ger dy fron yn dragywydd.
13 Bendigedic fyddo Arglwydd Dduw Israel o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb, Amen, Amen.
Quemadmodum desiderat. Psal. xlij.
FEl y brefa 'r hŷdd am yr afônydd dyfroedd: felly 'r hiraetha fy enaid am danat ti ô Dduw.
[Page]2 Sychedic yw fy enaid am Dduw, sef am Dduw byw: pa bryd y deuaf, ac yr ymddangosaf ger bron Duw?
3 Fy neigr oedd fwyd i'm ddydd a nôs: pan ddywedyd wrthif bôb dydd, pa le y mae dy Dduw?
4 Tywalltwn fy enaid wrthif fy hun pan gofiwn hynny: sef mai gyd a'r gynnulleidfa 'r awn, ac y cerddwn gyd â hwynt hyd tŷ Dduw mewn sain cân, a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl.
5 Pa ham fy enaid i'th ddarostyngir, ac yr ymderfysci ynof? gobeithia yn Nuw, o blegit moliannaf ef etto am iechyd wriaeth ei wyneb-pryd.
6 Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di o dir yr Iorddonen, a Hermon y mynydd bychan,
7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a'th lifeiriant a aethant trosofi.
8 Yr Arglwydd a orchymyn i mi ei drugaredd liw dydd, ai gân liw nôs, sef gweddi ar Dduw fy enioes.
9 Dywedaf wrth Dduw fyng-hadernid, pa ham yr anghofiaist fi, pa ham y rhodiaf yn alârus trwy orthrymder y gelyn?
10 Taro â chleddyf trwy fy escyrn y mae fyng-wrthwyneb-wŷr a'm gwradwyddent, pan ddywedant wrthif bôb dydd, pâ le y mae dy Dduw?
11 Pa ham i'th ddarostyngir fy enaid? a pha ham y terfysci ynof? ymddyriet yn Nuw, canys etto y moliannaf ef, sef iechyd wriaeth fy wyneb, a'm Duw.
Iudica me Deus. Psal. xliij.
BArn fi ô Dduw, a dadle fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anrhugarog: gwaret fi rhag y dŷn twyllodrus, ac anwir.
2 Canys ti yd wyt Dduw fy nerth, pa ham i'm ffieiddiaist? pa ham yr âf morr alarus trwy orthrymder y gelyn?
[Page]3 Anfon dy oleuni, a'th wirionedd, tywysanthwy fi, ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i'th bresswylfod.
4 Yna 'r âf at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fyng-orfoledd, ac mi a'th foliannaf ar delyn ô Dduw, fy Nuw.
5 Pa ham i'th ddarostyngir fy enaid? a pha ham y terfysci ynof? gobeithia yn Nuw, canys etto y moliannaf ef, sef iechydwriaeth fy wyneb, a'm Duw.
Deus auribus nostris. Psal. xliiij.
Boreuol weddi. DVw clywsom a'n clustiau, ein tadau a fynegâsant i ni y gweithredoedd a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt.
2 Ti a'th law a orescynnaist y cenhedloedd, ac ai plennaist hwythau, ti a ddygaist y bobloedd, ac ai cynnyddaist hwythau.
3 Canys nid ai cleddyf eu hun y gorescynnasant y tîr, nid eu braich a barodd iechyd wriaeth iddynt, eithr dy ddeheu-law di, a'th fraich, a llewyrch dy wyneb, o herwydd it eu hoffi hwynt.
4 Ti Dduw yw fy Mrenin: gorchymyn iechyd wriaeth i Iacob.
5 Ynot ti y difethwn ni ein gelynnion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i'n herbyn.
6 O herwydd nid yn fy mŵa 'r ymddyriedaf, nid fyng-hleddyf hefyd a'm hachub.
7 Eithr ti a'n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwyneb-wŷr, ac a wradwyddaist ein caseion:
8 Am hynny y moliannwn Dduw bôb dydd: ac y clodfôrwn dy enw yn dragywydd. Selah.
9 Ond ti a giliaist, ac a'n gwradwyddaist ni, ac nid wyt yn myned allan gyd a'n lluoedd ni.
10 Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a'n [Page] caseion a anrhaithiâsant ein da ni iddynt eu hun.
11 Rhoddaist ni fel defaid iw bwytta, a gwasceraist ni ym mysc y cenhedloedd.
12 Gwerthaist dy bobl heb êlw, ac ni chwanêgaist olud oi gwerth hwynt.
13 Gosodaist ni yn warthrudd i'n cymmydogion, yn watwargerdd, ac yn ddiystyrwch ym mhlith y rhai ydynt o'n hamgylch.
14 Gosodaist ni yn ddihareb ym mysc y cenhedloedd, ac yn rhai i escwyd pen arnynt ym mysc y bobloedd.
15 Fyng-warthrudd sydd beunydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a'm tôdd.
16 Gan lais y gwarthrudd-ŵr, a'r cabl-wr, o herwydd y gelyn, a'r ymddial-wr.
17 Hyn oll a ddaeth arnom: etto ni'th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfammod.
18 Ni thrôdd ein calon yn ei hôl, ac ni lithrodd ein cerddediad o'th lwybr di.
19 Er i ti ein cûro i drig-fa dreigiau, a thoi trosom â chyscod angeu.
20 Os anghofiasom enw ein Duw: neu estyn ein dwylo at Dduw dieithr:
21 Oni chwilia Duw hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgêloedd calon.
22 O herwydd mai er dy fwyn di i'n lleddir beunydd, ac i'n cyfrifir fel defaid iw lladd:
23 Cyfot i fynu, pa ham y cysci ô Arglwydd? deffro, na chilia yn dragywydd.
24 Pa ham y cuddi dy wyneb, ac yr anghofi ein cystudd, a'n gorthrymder?
25 Canys gostyngwyd ein henaid i'r llwch: glŷnodd ein bol wrth y ddaiar.
26 Cyfot yn gynnorthwy i ni, a gwaret ni er mwyn dy drugaredd.
Eructauit cor meum. Psal. xlv.
TRaethodd fyng-halon beth dâ, dywedyd yr ydwyf am fyng-weithredoedd i'r Brenin, fy nhafod sydd fel pin scrifennudd buan.
2 Tegach ydwyt na meibion dynnion, tywalltwyd rhâd ar dy wefusan, o herwydd i Dduw dy fendithio di yn dragywydd.
3 Gwregysa dy gleddyf ar dy glûn ô gadarn, sef dy ogoniant, a'th harddwch.
4 Llwydda hefyd a'th ogoniant, marchog di ar air y gwirionedd, a lledneisrwydd a chyfiawnder: a'th ddeheu-law a ddysc i ti bethau ofnadwy.
5 Pobl a syrthiant tanat: o herwydd dy saethau llymmion yn glynu yng-halon gelynnion y brenin.
6 Dy orsedd di ô Dduw a beru byth, ac yn dragywydd: teyrn-wialen iniondeb yw teyrn-wialen dy frenhiniaeth di.
7 Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny i'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di ag olew llawenydd yn fwy na'th gyfeillion.
8 Arogl Myrr, Aloes, a Chasia sydd ar dy holl wiscoedd: pan ddelech o'r palâsau Ifori, lle i'th lawenhausant,
9 Merched brenhinoedd oedd ym mhlith dy bendefigesau, safe y frenhines ar dy ddeheu-law mewn aur coeth o Ophir.
10 Gwrando ferch, a gwêl hefyd, a gostwng dy glust: anghofia dy bobl, a thŷ dy dâd.
11 A'r brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Ior di: ymmostwng dithe iddo ef.
12 Merch Tyrus hefyd a chyfoethogion y bobl a ymbiliant a'th wyneb ag anrheg.
13 Merch y brenin sydd oll yn anrhydeddus o fewn: gem-waith aur yw ei gwisc hi.
[Page]14 Mewn gwaith edyf a nodwydd y dygir hi at y brenin: y morwynion y rhai a ddeuant ar ei hôl yn gyfeillesau iddi a ddygir attat ti.
15 Mewn llawenydd, a gorfoledd y dygir hwynt, ac y deuant i lŷs y brenin.
16 Dy feibion fyddant yn lle dy dadau: gosodi hwynt yn dywysogion ym mhob gwlâd.
17 Coffâf dy enw ym mhob cenhedlaeth, ac oes: am hynny y bobl a'th foliannant byth, ac yn dragywydd.
Deus noster refugium. Psal. xlvj.
DVw sydd obaith, a nerth i ni, hawdd ei gael mewn cyfyngder.
2 Am hynny nid ofnem pe syfle y ddaiar, a phe symmude y mynyddoedd i ganol y môr.
3 Peterfysce, a chymmysce ei ddyfroedd, pe cynhyrfe y mynyddoedd gan ei fordwy ef. Selah.
4 Ffrydiau ei afon ef a lawenhânt ddinas Dduw: sef cyssegr presswylfeudd y Goruchaf.
5 Duw sydd oi mewn hi, nid yscog hi: Duw ai cynnorthwya yn foreu iawn.
6 Y cenhedloedd a derfyscâsant, y teyrnasoedd a yscogâsant pan roddes efe ei lef, toddodd y ddaiar.
7 Y mae Arglwydd y lluoedd gyd â ni: y mae Duw Iacob yn amddeffynfa i ni. Selah.
8 Deuwch, gwelwch weithredoedd yr Arglwydd pa anghyfannedd-dra a osododd efe ar y ddaiar.
9 Gwnaiff i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaiar, efe a ddryllia 'r bŵa, ac a dyrr y waiw-ffon, ac a lysc y cerbydau â thân.
10 Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw: derchefir fi ym mysc y cenhedloedd, derchefir fi ar y ddaiar.
11 Y mae Arglwydd y lluoedd gyd â ni: amddeffynfa i ni yw Duw Iacob. Selah.
Omnes gentes. Psal. xlvij.
Prydnhawnol weddi. YR holl bobl curwch ddwylo: llafar-genwch i Dduw â llef gorfoledd.
2 Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy: a Brenin mawr ar yr holl ddaiar.
3 Efe a ddwg y bobl tanom ni: a'r cenhedloedd tann ein traed.
4 Efe a ddethol ein etifeddiaeth i ni, sef ardderchawgrwydd Iacob, yr hwn a haffodd efe. Selah.
5 Derchafodd Duw mewn gorfoledd, fef yr Arglwydd â sain vdcorn.
6 Cenwch, cenwch i Dduw: cenwch, cenwch i'n Brenin.
7 Canys Brenin yr holl ddaiar yw Duw: cenwch yn ddeallus,
8 Teyrnasodd Duw ar y cenhedloedd: eisteddodd Duw ar orsedd-faingc ei sancteiddrwydd.
9 Pendefigion y bobl a ymgasclâsant at bobl Duw Abraham: canys tariannau y byd ydynt eiddo Duw, dirfawr y derchafwyd ef.
Magnus Dominus. Psal. xlviij.
MAwr yw 'r Arglwydd, a thra moliannus yn ninas ein Duw ni, sef yn ei fynydd sanctaidd.
2 Tegwch bro a llawenydd yr holl wlâd yw mynydd Sion yn ystlysau y gogledd: sef dinas y Brenin mawr.
3 Duw yn ei phalâsau a adwaenir yn amddeffynfa.
4 Canys wele y brenhinoedd a ymgyfarfuant: ac a aethantyng-hyd.
5 Hwynt a welsant, felly y rhyfeddâsant: brawychâsant ac aethant ymmaith ar ffrŵst.
6 Dychryn a ddaeth arnynt hwy yno, a dolur megis gwraig yn escor.
7 A gwynt y dwyrain y drylli longau y môr.
8 Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd [Page] y lluoedd, sef yn ninas ein Duw ni: Duw ai siccrhâ hi yn dragywydd. Selah.
9 Disgwiliasom ô Dduw am dy drugaredd o fewn dy Deml.
10 Megis y mae dy enw ô Dduw, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tîr: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheu-law.
11 Llawenyched mynydd Sion: ac ymhyfryded merched Iuda, o herwydd dy farnedigaethau.
12 Amgylchwch Sion, a chylchŷnwch hi, rhifwch ei thŷrau hi.
13 Ystyriwch ar ei magŵyr, cadarnhewch ei phalâsau, fel y mynegoch i'r oes a ddêlo yn ôl.
14 Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth, ac yn dragywydd: efe a'n tywys ni hyd angeu.
Audite hæc omnes. Psal. xlix.
CLywch hyn yr holl bobloedd, gwrandewch hyn holl drigolion y bŷd.
2 Yn gystal gweryn a boneddigion, cyfoethog a thlawd yng-hyd.
3 Fyng-enau a draetha ddoethineb: a myfyrdod fyng-halon fydd am ddeall.
4 Gostyngaf fyng-hlust at ddihareb, fy nammeg a ddatganaf gyd a'r dêlyn.
5 Pa ham yr ofnaf yn amser adfyd, pan ymgylchyno anwiredd fy sodlau i?
6 Rhai a ymddyriedant yn eu golud: ac a ymffrostiant yn lluosogrwydd eu cyfoeth.
7 Gan warêdu ni wareda neb ei frawd: ac ni all efe roddi iawn trosto ef i Dduw.
8 (Canys gwerth-fawr yw prynniad eu henaid, fel y gorfyddo peidio â hynny byth
9 Fel y byddo efe byw byth, ac na welo 'r bedd,)
10 Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw, y cyddderfydd am ffôl, ac ynfyd: ac y gadawant eu golud i [Page] eraill:
11 Eu meddwl yw y peru eu tai yn dragywydd, ai trigfeudd hyd genhedlaeth, a chenhedlaeth: am hynny yr henwasant eu henwau eu hun ar eu tiroedd.
12 Eithr nid erys dŷn mewn anrhydedd: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.
13 Dymma eu ffordd yn ynfydrwydd iddynt: etto eu hiliogaeth ydynt fodlon iw hymadrodd. Selah.
14 Fel defaid y gosodir hwynt yn vffern, angeu a ymborth arnynt a'r rhai cyfiawn ai llywodraethant y boreu: ai tegwch aiff i ddarfod i'r bedd oi cartref.
15 Etto Duw a wared fy enaid o feddiant vffern: canys efe a'm derbyn i, Selah.
16 Nac ofna pan gyfoethogo vn, pan chwanêgo gogoniant ei dŷ ef.
17 Canys wrth farw ni ddwg efe ddim, ac niddescyn ei ogoniant ar ei ôl ef.
18 O herwydd yn ei fyw iddo wneuthur yn fawr am ei enioes: can-molant dithe o byddi ddâ wrthit dy hun.
19 Efe a aiff at genhedloedd ei dâdau, ac ni welant oleuni byth.
20 Dŷn mewn anrhydedd, ac heb ddeall, a gyffelybir i anifeiliaid a ddifethir.
Deus deorum Dominus. Psal. l.
Boreuol weddi. DVw y duwiau, sef yr Arglwydd a lefarodd, ac a alwodd y ddaiar o godiad haul hyd ei fachludiad.
2 O Sion mewn perffeithrwydd tegwch y llewyrchodd Duw.
3 Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd ddistaw, tân a yssa oi flaen ef: a themhestl fydd oi amgylch ef yn ddirfawr.
4 Geilw am y nefoedd oddi vchod: ac am y ddaiar i [Page] farnu ei bobl.
5 Cesclwch fy sainct attafi, y rhai a wnaethant gyfammod â mi trwy aberth.
6 A'r nefoedd a fynêgant ei gyfiawnder ef, canys Duw ei hun sydd farn-wr. Selah.
7 Clywch fy mhobl, a mi a lefaraf, testiolaethaf i'th erbyn dithe Israel: Duw sef dy Dduw di yd wyf fi.
8 Nid am dy aberthau i'th geryddaf, na'th boeth offrymmau am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.
9 Ni chymmeraf fustach o'th dŷ, na bychod o'th gorlannau.
10 Canys holl fwyst-filod y coed ydynt eiddo fi: a'r anifeiliaid ar fîl o fynyddoedd.
11 Adwen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt gyd â mi.
12 Os bydd newyn arnaf ni ddywedaf i ti: canys y bŷd ai gyflawnder sydd eiddo fi.
13 A fwyttafi gig teirw? neu a ŷfaf fi waed bychod?
14 Abertha foliant i Dduw, a thâl i'r Goruchafdy addunedau.
15 A galw arnafi yn nydd trallod, yna i'th waredaf, a thi a'm gogoneddi.
16 Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, beth sydd i ti a fynêgech ar fy neddfau mau fi? ac a gymmerech ar fyng-hyfammod yn dy enau?
17 Canys ti a gaseaist addysc, ac a deflaist fyng-eiriau i'th ôl.
18 Pan welaist leidr, rhedaist gyd ag ef: a'th gyfran oedd gyd a'r godineb-wŷr.
19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni, ac â'th dafod y cydblethaist ddichell.
20 Eisteddaist, a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam.
[Page]21 Hyn a wnaethost, a mi a dewais, tybiaist dithe fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a'th argyoeddaf, ac a osodaf yr hyn a wnaethost o flaen dy lygaid.
22 Dehallwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw, rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredudd.
23 Yr hwn a abertho foliant a'm gogoneddafi: a'r neb a osodo ei ffordd yn iawn dangosaf iddo iechydwriaeth Dduw.
Miserere mei Deus. Psal. lj.
TRugarhâ wrthif ô Dduw yn ôl dy drugarogrwydd: yn ôll lliaws dy dosturiaethau delea fy anwireddau.
2 Golch fi yn llwyr-ddwys oddi wrth fy anwiredd: a glanhâ fi oddi wrth fy mhechod.
3 Canys adwen fyng-hamweddau: a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron.
4 Yn dy erbyn di dy hunan y pechais, ac y gwneuthum yr hyn oedd ddrwg yn dy olwg di: fel i'th gyfiawnhaer pan leferech, ac y byddit bûr pan farnech.
5 Wele mewn anwiredd i'm llunniwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.
6 Wele ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi ŵybod doethineb yn ddirgel.
7 Glanhâ fi ag Yssop, a mi a lanheuir: golch fi, a byddaf wynnach na'r eira.
8 Pâr di i mi glywed gorfoledd, a llawenydd fel y llawenycho 'r escyrn a ddrylliaist di.
9 Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau: a delea fy holl anwireddau.
10 Crea galon lân ynof ô Dduw, ac adnewydda yspryd iniawn o'm mewn.
11 Na fwrw fi ymmaith oddi ger dy fron: ac na chymmer dy Yspryd sanctaidd oddi wrthif.
12 Dwg trachefn i mi orfoledd dy iechydwriaeth: ac [Page] a'th hael Yspryd cynnal fi.
13 Discaf dy ffyrdd i rai anwir: a phechaduriaid a droant attat.
14 Gwaret fi oddi wrth waed ô Dduw sef Duw fy iechydwriaeth: a'm tafod a gân o'th gyfiawnder.
15 Arglwydd agor fyng-wesusau, a'm genau a fynega dy foliant.
16 Canys ni chwennychi aberth, pe amgen, mi ai rhoddwn, a phoeth offrwm ni fynni.
17 Aberthau Duw ydynt yspryd drylliedic: calon ddryllioc gystuddiedic ô Dduw ni ddirmygi.
18 Bydd ddâ wrth Sion o herwydd dy ewyllyscarwch: adailada furau Ierusalem.
19 Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder sef poeth offrwm, ac aberth llosc: yna'r offrymmant fustych ar dy allor.
Quid gloriaris in malicia. Psal. lij.
PA ham yr ymffrosti ô gadarn mewn drygioni? gan fod trugaredd Dduw beunydd?
2 Dy dafod a ddychymmyg scelerder: ac fel ellyn llym sydd yn gwneuthur twyll.
3 Hoffaist ddrygioni yn fwy nâ daioni: a chelwydd yn fwy nâ thraethu cyfiawnder. Selah.
4 Hoffaist bob geiriau destruw, ô dafod twyllodrus.
5 Duw a'th ddestruwia dithe yn dragywydd, a'th ddryllia, ac a'th ddelea o'th babell: ac a'th ddiwreiddia o dir y bywyd. Selah.
6 Y cyfiawn a wêlant hyn, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben gan ddywedyd,
7 Wele 'r gŵr ni osododd Dduw yn gadernid iddo: eithr ymddyriedodd yn lluosogrwydd ei olud, ac ymnerthodd yn ei ddrygioni.
8 Minne a fyddaf fel oliwŷdden werdd yn nhŷ Dduw: ymddyriedais yn nhrugaredd Dduw byth, ac yn dragywydd.
[Page]9 Clodforaf di yn dragywydd, o herwydd i ti wneuthur hyn: gobeithiaf hefyd yn dy enw: canys dâ yw hyn ger bron dy sainct.
Dixit insipiens. Psal. liij.
Prydnhawnol weddi. DYwedodd yr ynfyd yn ei galon nid oes Duw: ymlygrâsant a gwnaethant ffiaidd anwiredd, nid oes vn yn gwneuthur daioni.
2 Edrychodd Duw i lawr o'r nefoedd ar feibion dynnion, i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw.
3 Ciliase pob vn yn ŵysc ei gefn, cyd-ymddifwynasent, nid oedd a wnéle ddaioni nac oedd vn.
4 Oni ŵydde gweithred-wŷr anwiredd eu bod yn bwytta fy mhobi fel y bwytaent fara? ni alwâsant ar Dduw.
5 Yno 'r ofnasant gan ofn, lle nid oedd ofn: canys Duw a wascârodd escyrn yr hwn a'th warchâodd, gwradwyddaist hwynt, am i Dduw eu gwrthod hwy.
6 Oh na roddit iechydwriaeth i Israel o Sion, pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl, yna y llawenycha Iacob, ac y gorfoledda Israel.
Deus in nomine tuo. Psal. liiij.
AChub fi ô Dduw yn dy enw: a barna fi yn dy gadernid.
2 Duw clyw fyng-weddi, gwrando ymadrodd fyng-enau.
3 Canys dieithriaid a gyfodâsant i'm herbyn: a chedyrn a geisiâsant fy enaid, y rhai ni osodâsant Dduw oi blaen. Selah.
4 Wele Duw sydd yn fyng-hynnorthwyo: yr Arglwydd sydd ym mysc y rhai a gynhaliant fy enaid.
[Page]5 Efe a dâl ddrwg i'm gelynnion: torr di hwynt ymmaith yn dy wirionedd·
6 Aberthaf it yn ewyllyscar, clodforaf dy enw ô Arglwydd canys dâ yw.
7 Canys efe a'm gwaredodd o bob trallod, a'm llygad a welodd ei wynfyd ar fyng-elynnion.
Exaudi Deus. Psal. lv.
GWrando fyng-weddi ô Dduw, ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad.
2 Grando arnaf ac erglyw fi, cŵynfan yr ydwyfyn fyng-weddi, a thuchan.
3 Gan lais y gelyn, a chan orthrymder yr annuwiol, o herwydd iddynt ddywedyd celwydd arnaf, a'm gwrthwynebu yn llidioc.
4 Fyng-halon a ofidia o'm mewn: ac ofn angeu a syrthiodd arnaffi.
5 Ofn, ac arswyd a ddaeth arnaf: a dychryn a'm gorchguddiodd.
6 Adywedais, ô na bai i mi adenydd fel colommen: yna 'r ehedwn, ac y gorphywyswn.
7 Wele cyrwydrwn ym mhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Selah.
8 Bryssiwn i ddiangc rhag y gwynt ystormus, a'r demhestl.
9 Dinistria ô Arglwydd, a gwahan eu tafodau, canys gwelais drawsder, a chynnen yn y ddinas.
10 Dydd a nôs yr ymgylchant hi ar ei muriau, ac y mae anwiredd a blinder oi mewn.
11 Anwireddau ydynt oi mewn, ac ni chilia twyll a dichell oi heolydd hi.
12 Nid gelyn yn ddiau a'm difenwodd, canys dioddefâswn hynny: nid fyng-has-ddyn a ymfawrygodd i'm herbyn, canys ond odit mi a ymguddiaswn rhagddo ef.
13 Eithr tydi fyng-hydymmaith, fy fforddwr, a'm cydnabod.
[Page]14 Y rhai oedd felys gennym gyd gyfrinachu: ac a rodiasom yn gymydeithgar yn nhy Dduw.
15 Rhuthred marŵolaeth arnynt: fel y descynnant i vffern yn fyw, canys drygioni sydd yn eu cartref oi mewn.
16 Myfi a waeddaf ar Dduw, a'r Arglwydd a'm hachub i.
17 Hwyr a boreu, a hanner dydd y gweddiaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd.
18 Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel yr hwn oedd i'm herbyn: canys llawer oedd gyd â mi.
19 Duw a glyw, ac ai darostwng hwynt yr hwn sydd yn teyrnasu er ioed, Selah: am nad oes symmudiadau iddynt, am hynny nid ofnant Dduw.
20 Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oeddynt heddychlon ag ef, ac a dorrodd ei gyfammod.
21 Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn: a rhyfel yn ei galon, tynêrach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion.
22 Bwrw dy ofal ar yr Arglwydd, ac efe a'th faetha di, ni âd i'r cyfiawn syrthio byth.
23 Tithe Dduw ai descynni hwynt i bydew llwgr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau, onid myfi a obeithiaf ynot ti.
Miserere mei Deus. Psal. lvj.
Boreuol weddi. TRugarhâ wrthif ô Dduw, canys dŷn a'm llyngce: beunydd yr ymladd, ac i'm gorthrymma.
2 Beunydd i'm llyngce fyng-elynnion, canys llawer ydynt yn rhyfela i'm herbyn ô Dduw goruchaf.
3 Y dydd yr ofnwn, mi a ymddyriedwn ynot ti.
4 Duw a glodforaf o herwydd ei air, yn Nuw y gobeithiaf, [Page] ac nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi.
5 Beunydd i'm cystuddiant a'm geiriau fy hun, eu holl feddyliau ydynt i'm herbyn er drwg i mi.
6 Hwynt a ymgasclant, a lechant, ac a wiliant fyng-hamrau, pan ddisgwiliant am fy enaid.
7 A ddiangant hwy am eu hanwiredd? descyn y bobloedd hyn ô Dduw yn dylidiawgrwydd.
8 Ti a gyfrifaist fy symmudiad, gosot fy nagrau yn dy gostrel: onid yw hyn yn dy lyfr di?
9 Y dydd y llefwyf arnat yna y dychwelir fyng-elynnion yn eu gwrthol: hyn a wn am fod Duw gyd â mi.
10 Yng-air Duw y gorfoleddaf, yng-air yr Arglwydd y gorfoleddaf.
11 Yn Nuw 'r ymddyriedais, nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.
12 Arnafi ô Dduw y mae dy addunedau: talaf i ti foliant.
13 Gan waredu o honot fy enaid rhag angeu, a'm traed rhag llithro, fel y rhodiwyf ger bron Duw yng-oleuni y rhai byw.
Miserere mei Deus. Psal. lvij.
TRugarhâ wrthif ô Dduw, trugarhâ wrthif, canys ynot y gobeithiodd fy enaid: îe yng-hyscod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hyn heibio.
2 Galwaf ar Dduw goruchaf, sef ar y Duw a gwplâ â mi.
3 Efe a enfyn o'r nefoedd, ac a'm gwared, oddi wrth warthrudd yr hwn a'm llyngce Selah: denfyn Duw ei drugaredd, ai wirionedd.
4 Fy enaid sydd ym mysc llewod, gorwedd yr wyf ym mysc dynnion poethion: ai dannedd fel gwaiw-ffyn, neu saethau, ai tafod fel cleddyfllym.
5 Ymddercha Dduw vwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.
6 Darparâsant rwyd i'm traed, crymmwyd fy enaid, [Page] cloddiâsant bydew o'm blaen, a syrthiâsant yn ei ganol, Selah.
7 Parod yw fyng-halon o Dduw, parod yw fyng-halon: canaf, a chan-molaf.
8 Deffro fyng-ogoniant, deffro Nabl a thêlyn, deffroaf yn foreu.
9 Clodforaf di Arglwydd ym mysc y bobloedd: canmolaf di ym mysc y cenhedloedd.
10 Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd yr wybrau.
11 Ymddercha Dduw vwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.
Si verè vtique. Psal. lviij.
AI cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi ô gynnulleidfa? ac a fernwch chwi iniondeb ô feibion dynnion?
2 Anwiredd yn hyttrach a weithredwch yn eich calon: trawster y mae eich dwylo yn ei drino ar y ddaiar.
3 O'r groth yr ymddieithrodd y rhai annuwiol, o'r brû y cyfeiliornasant gan ddywedyd celwydd.
4 Gwen wyn sydd ganddynt fel gwenwyn sarph: megis y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau.
5 Yr hon ni wrendu ar lais y rhin-wŷr, na'r cyfarwydd swyn-wr swynion.
6 Dryllia ô Dduw eu dannedd yn eu geneuau: dinistria ô Arglwydd gïl-ddannedd y llewod ieuaingc.
7 Todder hwynt fel dwfr, a diflannant, a phan saethant eu saethau, byddant fel pe torrid hwynt.
8 Aed ymmaith fel malwoden dawdd, new erthyl gwraig: ac na wêlont yr haul.
9 Cythryblied ef megis mewn llid, fel peth amrwd cynni'ch crochanau glywed gwrês y mieri.
10 Y cyfiawn a lawenycha pan wêlo ddial: ac a ylch ei draed yng-waed yr annuwiol.
[Page]11 Yna y dywed dŷn, diau fod ffrwyth i'r cyfiawn: diau fod Duw a farna ar y ddaiar.
Eripe me Domine. Psal. lix.
FY Nvw gwaret fi oddi wrth fyng-elynnion:Prydnhawnol weddi. amddeffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant i'm herbyn.
2 Gwaret fi oddi wrth weithred-wŷr anwiredd: ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlŷd.
3 Canys wele cynllwynâsant yn erbyn fy enaid, ac ymgasclodd cedyrn i'm herbyn: nid ar fy mai na'm pechod mau fi ô Arglwydd.
4 Rhedant ymbarâtoant heb anwiredd ynofi: cyfot tithe i'm cyfarfod, ac edrych.
5 A thi Arglwydd Dduw 'r lluoedd sef Duw Israel, deffro i ymweled a'r holl genhedloedd: na thrugarhâ wrth neb a'r a wnânt anwiredd yn falisus. Selah.
6 Ymdroant gyd a'r hŵyr, cyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.
7 Wele llefarant ai genau, a chleddyfau fyddant yn eu gwefusau: canys pwy meddant a glyw?
8 Ond tydi ô Arglwydd ai gwattwari hwynt, ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.
9 I ti y cadwaf ei nerth ef: canys Duw yw fy amddeffynfa.
10 Fy Nuw trugarog a'm rhagflaena: Duw a wnâ i mi weled fy ewyllys ar fyng-elynnion.
11 Na ladd hwynt rhag i'm pobl anghofio hynny, eithr gwascar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt ô Arglwydd ein tarian.
12 Am bechod eu genau, ac ymadrodd eu gwefusau y delir hwynt yn eu balchder: canys melldith, a chelwydd a draethant hwy.
13 Difa hwynt yn dy lid, difa fel na byddant hwy [Page] mwyach: ac y gŵybyddant mai Duw sydd yn llywodraethu yn Iacob, ac hyd eithafoedd y ddaiar· Selah.
14 Ahwy a droant gyd a'r hwyr, ac a gyfarthant fel cŵn, ac a amgylchant y ddinas.
15 Hwynt a gyrwydrant i fwytta, ac onis digonir, grwgnach a wnânt.
16 Minne a gânaf am dy nerth, ac a ddadcanaf dy drugaredd yn foreu: canys buost yn amddeffynfa i mi, ac yn noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf.
17 I ti synerth y canaf: canys Duw yw fy amddeffynfa, sef fy Nuw trugarog.
Deus repulisti nos. Psal. lx.
O Dduw ffieiddiaist ni, gwasceraist ni, a sorraist: dychwel attom.
2 Gwnaethost i'r ddaiar grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau, canys y mae yn siglo.
3 Dangôsaist i'th bobl galedi: diodaist ni â gwîn madrondod.
4 Rhoddaist faner i'r rhai a'th ofnant, i fuddugoliaethu o herwydd y gwirionedd. Selah.
5 Fel y gwarêder dy rai annwyl: achub a'th ddeheu-law, a gwrando fi.
6 Duw a lefârodd yn ei sancteiddrwydd, (am hynny y llawenychaf) rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.
7 Eiddo fi yw Gilead, ac eiddo fi Manasses: Ephraim hefyd yw nerth fy mhen, Iuda yw fy neddf-wr.
8 Moab yw fyng-hrochan golchi: ar Edom y bwriaf fy escid, Palestina ymorfoledda di ynofi.
9 Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn? pwy a'm harwain hyd yn Edom?
10 Onid tydi Dduw 'r hwn a'n ffieiddiaist? ac nid eit ti allan ô Dduw gyd a'n lluoedd?
11 Dod ti i mi gynhorthwy rhag cyfyngder: canys ofer yw ymwared dŷn.
[Page]12 Yn Nuw y gwnawn wroldeb, canys efe a sathr ein cystudd-wŷr.
Exaudi Deus. Psal. lxj.
CLyw ô Dduw fy llefain, a gwrando di fyng-weddi.
2 O eithaf y ddaiar y llefaf attat, pan lesmeirio fyng-halon: arwain fi i graig a fyddo vwch nâ mi.
3 Canys buost obaith i mi, a thŵr nerthol rhag y gelyn.
4 Presswyliaf yn dy babell byth: a'm ymddyried fydd dann orchudd dy adenydd. Selah.
5 Canys ti Dduw a glywaist fy addunedau, rhoddaist etifeddiaeth i'r rhai a ofnant dy enw.
6 Hir-oes a roddi i'r brenin, ei flynyddoedd fyddant lawer oes.
7 Efe a bresswylia byth ger bron Duw: darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwant ef.
8 Felly y can-molaf dy enw yn dragywydd: gan dalu fy addunedau beunydd.
Nónne Deo subiecta. Psal. lxij.
WRth Dduw yn vnic y disgwil fy enaid,Boreuol weddi. o honaw ef y daw fy iechydwriaeth.
2 Efe yn vnic yw fyng-hraig, a'm hiechydwriaeth: a'm hamddeffyn: am hynny ni'm mawr yscogir.
3 Pa hŷd y bwriedwch aflwydd i bawb? lleddir chwi oll, a byddwch fel magwyr ogwyddedic, neu bared ar ei ogwydd.
4 Ymgynghorâsant yn vnic iw fwrw ef i lawr oi fawredd, hoffâsant gelwydd, ai geneuau y bendithiâsant, ac oi mewn y melldithiâsant. Selah.
5 Oh fy enaid ymlonydda yn Nuw yn vnic, canys ynddo ef y mae fyng-obaith.
6 Efe yn vnic yw fyng-hraig a'm hiechydwriaeth: [Page] a'm hamddeffynfa, am hynny ni'm, hyscogir.
7 Yn Nuw y mae fy iechydwriaeth a'm gogoniant: sef craig fyng-hadernid: yn Nuw y mae fyng-obaith.
8 Gobeithiwch ynddo ef bob amser ô bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: Duw sydd obaith i ni. Selah.
9 Gwâgedd yn vnic yw meibion dynion, geudab yŵ meibion gwŷr: pan gyfodant yn y clorian yscafnach ydynt hwy eu gyd na gwêgi.
10 Nac ymddyriedwch mewn camwedd, ac mewn trawsedd na ddiflennwch: os cynnydda, golud, na roddwch eich calon arno.
11 Vn-waith y dywedodd Duw', clywais hynny ddwy-waith, mai eiddo Duw yw cadernid.
12 Trugaredd hefyd sydd eiddo ti ô Arglwydd: canys ti a dêli i bawb yn ôl ei weîthred.
Deus Deus meus. Psal. lxiij.
TI ô Dduw wyt fy Nuw mau fi, yn foreu i'th geisiaf, sychêdodd fy enaid am danat, hiraethodd fyngnhawd am danat mewn tîr crâs a sychêdic heb ddwfr.
2 Felly i'th welais megis mewn cyssegr, wrth weled dy nerth, a'th ogoniant.
3 Canys gwell yw dy drugâredd di na'r bywyd, fyng-wefufau a'th folianant di.
4 Felly i'th glodforaf yn fy mywyd, ac y derchafaf fy nwylo yn dy enw.
5 Megis â mêr, ac â brasder y digonir fy enaid: a'm genau a'th fawl â gwefusau llafar:
6 Pan i'th gofiwyf ar fyng-wely, mefyriaf am danat yn y gwiliadwriaethau.
7 Canys buost gynnorthwy i mi, am hynny ynghyscod dy adenydd y gorfoleddaf.
8 Fy enaid a lŷnodd wrthit, a'th ddehaulaw a'm cynhaliodd.
[Page]9 A'r rhai a geisiant fy enaid i ddestruw, a ânt i isselderau y ddaiar.
10 Syrthiant ar fin y cleddyf: a rhan llwynôgod fyddant hwy.
11 Ond y brenin a lawenycha yn Nuw: gorfoledda pob vn a dyngo iddo ef, canys caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd.
Exaudi Deus. Psal. lxiiij.
CLyw fy llef ô Dduw yn fyng-weddi: cadw fy enioes rhag ofn y gelyn.
2 Cuddia fi rhag cyfrinâch y rhai drygionus, a rhag terfysc gweithred-wŷr anwiredd.
3 Y rhai a hogâsant eu tafod fel cleddyf, ac a saethasant saeth geiriau chwerwon:
4 I seuthu 'r perffaith yn ddirgel, yn ddisymmwth y saethant ef, ac nid ofnant.
5 Ymnerthant mewn peth drygionus, ymchwedleuant am guddio y rhwydau: dywedant, pwy ai gwêl hwynt?
6 Chwiliasant allan anwireddau, a chwplasant y dirgelwch, a chwiliwyd yng-heudod a dyfnder calon pob vn o honynt.
7 Eithr Duw ai saetha hwynt â saeth ddisymmwth, fel yr archoller hwynt.
8 Ac hwy a wnant iw tafodau eu hun syrthio arnynt: pob vn ai gwêlo a giliant.
9 Pob dŷn ai gwêlo a fynêgant mai gweithred Duw yw hyn: canys deallant mai ei waith ef yw hyn.
10 Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd, ac a obeithia ynddo ef: a'r rhai iniawn o galon oll a orfoleddant.
Te decet hymnus. Psal. lxv.
Prydnhawnol weddi. MAwl a'th erys di yn Sion ô Dduw: ac i ti y têlir yr adduned yn Ierusalem.
2 Ti 'rhwn a wrandewi weddi, attat ti y daw pob cnawd.
3 Pethau an wir a'm gorchfygâsant, ti a drugarhei wrth ein camweddau.
4 Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nessâech attat: efe a drig yn dy gynteddoedd, ac ni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy Deml sanctaidd.
5 Attebi i ni bethau ofnadwy yn dy gyfiawnder ô Dduw ein iechydwriaeth: gobaith holl gyrrau y ddaiar, ac eithafoedd y môr.
6 Yr hwn a siccrhâ y mynyddoedd yn ei nerth, ac a wregyssir â chadernid.
7 Yr hwn a ostêga dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysc y bobloedd.
8 A phresswyl-wŷr eithafoedd y bŷd a ofnant rhag dy arwyddion, gwnei i derfyn boreu a hwyr dy glodfori.
9 Yr wyt yn gofwyo y ddaiar, ac yn ei dwfrhau hi, yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr, afon Duw sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, canys felly y darperaist hi.
10 Gan ddwfrhau ei rhychau, a gostwng ei chwysau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnŵd hi.
11 Corôni yr ydwyt y flwyddyn a'th ddaioni, a'th lwybrau a ddifêrant fraster.
12 Difêrant ar lanherchoedd yr anialwch: a'r brynnau a ymwregysant â hyfrydwch.
13 Y dolydd a wiscir â defaid, a'r dyffrynnoedd a orchguddir ag ŷd, am hynny y bloeddiant, ac y cânant.
Iubilate Deo. Psal. lxvj.
YMlawenhewch yn Nuw yr holl fŷd.
2 Dadcenwch ogoniant ei enw: gosodwch ei foliant yn ogoneddus.
3 Dywedwch wrth Dduw, mor ofnadwy ydwyt yn dy weithredoedd: o herwydd amlder dy nerth y cymmer dy elynnion arnynt fod yn ddarostyngedic i ti.
4 Yr holl fyd a ymostynganti i ti, ac a gânant i ti, îe canant i'th enw. Selah.
5 Deuwch, a gwêlwch weithredoedd Duw, ofnadwy yw yn ei weithred tu ag at feibion dynnion.
6 Trôdd efe y môr yn sychdir, aethant drwy 'r afon ar draed: yna y llawenychâsom ynddo.
7 Efe a lywodraetha yn ei gadernid byth, ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd, y rhai annufydd nid ymdderchafant. Selah.
8 Oh bobloedd molwch ein Duw, a phêrwch glywed llais ei fawl ef.
9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni âd i'n troed lithro.
10 Canys profaist ni ô Dduw, a choethaist ni fel coethi arian.
11 Dygaist ni i'r rhwyd, gosodaist wascfa ar ein lwynau.
12 Peraist i ddynnion farchogeth ar vcha ein pennau, aethom drwy yr tân, a'r dwfr: a thi a'n dygaist allan i le diwall.
13 Deuaf i'th dŷ ag offrymmau poeth, talaf it fy addunedau,
14 Y rhai a addawodd fyng-wefusau, ac a ddywedodd fyng-enau yn fyng-hyfyngder.
15 Offrymmaf it boeth offrymmau breision ynghyd ag arogl-darth hyrddod: aberthaf ŷchen, a bychod. Selah.
16 Deuwch, gwrandewch y rhai oll a ofnwch [Page] Dduw: a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid.
17 Llefais arno a'm genau, ac efe a dderchafwyd a'm tafod.
18 Pe edrychaswn ar anwiredd yn fyng-halon, ni wrandawse 'r Arglwydd.
19 Duw yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fyng-weddi.
20 Bendigedic fyddo Duw 'r hwn ni fwriodd fyng-weddi oddi wrtho, nai drugaredd ef oddi wrthif inne.
Deus misereatur. Psal. lxvij.
DVw a drugarhao wrthym, ac a'n bendithio, a thywynned ei wyneb arnom, a thrugarhaed wrthym. Selah.
2 Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaiar, a'th iechydwriaeth ym mhlith yr holl genhedloedd.
3 Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl dy di.
4 Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn iniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaiar. Selah.
5 Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl di.
6 Yna 'r ddaiar a rydd ei ffrwyth: a Duw sef ein Duw ni a'n bendithia.
7 Duw a'n bendithio, a holl derfynau'r ddaiar ai hofnant ef.
Exurgat Deus. Psal. lxviij.
Boreuol weddi. CYfoded Duw a gwascerir ei elynnion: ffoed ei gaseion oi flaen ef.
2 Chweli hwynt fel chwalu mŵg: fel y tawdd cŵyr wrth y tân difether y rhai annuwiol o flaen Duw.
3 Ond llawenycher y rhai cyfiawn, a gorfoleddant ger bron Duw: a byddant hyfryd o lawenydd.
[Page]4 Cenwch i Dduw, can-molwch ei enw, derchefwch yr hwn sydd yn marchogeth ar y nefoedd, yr Arglwydd yw ei enw: gorfoleddwch ger ei fron ef.
5 Tâd yr ymddifaid, a barn-wr y gweddwon yw Duw yn ei bresswylfa sanctaidd.
6 Duw sydd yn gosod rhai i fod yn gydtun mewn tŷ, ac yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau: ond y rhai cyndyn a bresswyliant gras-dir.
7 Pan aethost ô Dduw o flaen dy bobl: pan gerddaist trwy yr anialwch, Selah.
8 Y ddaiar a grynodd, a'r nefoedd a ddiferâsant o flaen Duw: felly Sinai yntef o flaen Duw, sef Duw Israel.
9 Dihidlaist law graslawn ô Dduw ar dy etifeddiaeth: ti ai gwrteithiaist wedi ei blîno.
10 Dy gynnulleidfa di sydd yn trigo ynddi, yn dy ddaioni ô Dduw yr wyt yn darparu i'r tlawd.
11 Yr Arglwydd a roddes y gair, mawr oedd mintai y rhai a bregethent.
12 Brenhinoedd byddinoc a ffoasant, ac a yrrwyd i gilio: a'r hon a drigodd yn tŷ a rannodd yr yspail.
13 Er gorwedd o honoch rhwng y crochânau, byddwch fel escyll colomen wedi eu gwisco ag arian, ai hadenydd o aur melyn.
14 Pan wascarodd yr Holl-alluog frenhinoedd ynddi, yr oedd hi cyn wynned ag eira yn Salmon.
15 Mynydd Duw sydd fel mynydd Basan, yn fynydd cribog fel mynydd Basan.
16 Pa ham y llemmwch chwi fynyddoedd cribog? y mynydd hwn a chwenychodd Duw ei bresswylio, ac a bresswylia 'r Arglwydd byth.
17 Cerbydau Duw ydynt vgain mil, sef miloedd o angelion: a'r Arglwydd yn eu plith megis yng-hyssegr Sinai.
18 Derchefaist i'r vchelder, caeth-gludaist gaethiwed, [Page] derbynnaist roddion i ddynion: a'r rhai cyndyn hefyd a gaethiwaist, gan bresswylio ô Arglwydd Dduw yno.
19 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd beunydd, yr hwn a'n llwytha ni â daioni: sef Duw ein iechydwriaeth ni. Selah.
20 Efe yw ein Duw ni sef Duw iechydwriaeth: a thrwy 'r Arglwydd Dduw y mae diangc oddi wrth farwolaeth.
21 Duw yn ddiau a archolla benn ei elynnion, a choppa walltoc yr hwn a rodio yn ei gamweddau.
22 Dywedodd yr Arglwydd, dygaf fy mhobl trachefn megis o Basan, dygaf hwynt yn eu hôl megis o ddyfnder y môr.
23 Fel y trochech dy droed mewn gwaed, a thafod dy gŵn yn y gwaed yr hwn a ddaw oddi wrth y gelynnion.
24 Gwelsant dy fynediad ô Dduw, sef mynediad fy Nuw a'm Brenin yn y cyssegr.
25 Y cantorion a aethant o'r blaen, a'r cerddorion ar ôl: yn y canol yr oedd y llangcêsau yn canu tympanau.
26 Clodforwch Dduw yn y cynnulleidfaoedd, clodforwch yr Arglwydd y rhai ydych o ffynnon Israel.
27 Yno y mae Beniamin fychan eu llywydd, a thywysogion Iuda eu cynnulleidfa: tywysogion Zabulon, a thywysogion Nephthali.
28 Dy Dduw a ordeiniodd nerth i ti, cadarnhâ ô Dduw yr hyn a wnaethost ynom ni.
29 Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg er mwyn dy Deml yn Ierusalem.
30 Difetha dyrfa y gwaiw-ffyn, sef cynnulleidfa gwrdd deirw, ym mysc lloi y bobl, fel y delont yn ostyngedic â darnau arian: gwascar y bobl a ewyllysiant ryfel.
[Page]31 Yna pendefigion a ddeuant o'r Aipht, Ethiopia a estyn ei dwylo yn bryssur at Dduw.
32 Teyrnasoedd y ddaiar cênwch i Dduw, can-molwch yr Arglwydd, Selah.
33 Yr hwn a ferchyg ar y nefoedd goruchaf o'r dechreu: wele efe a ddyru ai leferydd sain nerthol.
34 Rhoddwch i Dduw gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, ai nerth yn yr wybrennau.
35 Ofnadwy wyt ô Dduw o'th gyssegr, Duw Israel yw efe, yn rhoddi nerth, a chadernid i'r bobl: bendigedic fyddo Duw.
Saluum me fac. Psal. lxix.
AChub fi ô Dduw,Prydnhawnol weddi. canys y dyfroedd a ddathant hyd at fy enaid.
2 Glŷnais yn y domm dyfn, lle ni chawn sefyllfa: deuthum i ddyfnder y dyfroedd, a'r ffrŵd a lifodd trosof.
3 Blinais yn llefain, sychodd fyng-hêg, a phallodd fy llygaid: a mi yn disgwil wrth fy Nuw.
4 Amlach na gwallt fy mhenn yw y rhai a'm casânt heb achos: cedyrn yw fyng-elynnion y rhai a'm difethent ar gamm: yna y têlais yr hyn ni chymmerais.
5 O Dduw ti a adwaenost fy ynfydrwydd, ac nid yw fyng-hamweddau guddiedic oddi wrthit ti.
6 Na chywilyddier o'm plegit i y rhai a obeithiant ynot ti Arglwydd Dduw y lluoedd: na wradwydder o'm plegit i y rhai a'th geisiant ti ô Dduw Israel.
7 Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, ac y tôdd cywilydd fy wyneb,
8 Euthym yn ddieithr i'm brodyr, ac fel estron gan blant fy mam.
9 Canys zêl dy dŷ a'm hyssodd, a gwradwyddiad y rhai a'th wradwyddent di a syrthiodd arnafi.
Wylais gan gystuddio fy enaid ag ympryd, a bu [Page] hynny yn wradwydd i mi.
11 Gwiscais hefyd sach-liain, ac euthym yn ddihareb iddynt.
12 Am danafi y chwedleue y rhai a eisteddent yn y porth, ac y gwnae y rhai meddwon wawd.
13 Ond mi a wnaf fyng-weddi attat ti ô Arglwydd mewn amser cymmeradwy ô Dduw, yn lluosogrwydd dy drugaredd: gwrando fi yng-wirionedd dy iechydwrieth.
14 Gwaret fi o'r domm fel na soddwyf, rhyddhaer fi oddi wrth fyng-haseion, ac o'r dyfroedd dyfnion.
15 Na lifed y ffrŵd ddwfr trosof, ac na lyngced y dyfnder fi: na chaeued pydew ychwaith ei safn arnaf.
16 Clyw fi Arglwydd, canys dâ yw dy drugaredd: yn ôl amlder dy dosturiaethau edrych arnaf.
17 Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy wâs, canys y mae cyfyngder arnaf: bryssia, gwrando fi.
18 Nesâ at fy enaid, a gwaret ef, rhyddhâ fi o herwydd fyng-elynnion.
19 Ti a adwaenost fyng-warthrudd, a'm cywilydd, a'm gwradwydd: fy holl elynnion ydynt ger dy fron di.
20 Gwarthrudd a ddrylliodd fyng-halon, yr ydwyf yn gofidio: canys disgwiliais am rai i dosturio wrthif, ac nid oedd neb: ac am gyssur-wŷr, ac ni chefais neb.
21 Eithr rhoddâsant fustl yn fy mwyd, ac a'm diodâsant yn fy syched â finegr.
22 Bydded eu bwrdd hwythau yn fagl ger eu bron, ai llwyddiant yn dramgwydd.
23 Tywyller eu llygaid fel na welont, a gwna iw cefnau grymmu bob amser.
24 Tywallt dy ddig arnynt, a goddiwedded llidiawgrwydd dy ddigofaint hwynt.
25 Bydded eu presŵylfod yn anghyfannedd, ac na fydded a drigo yn eu pebyll:
[Page]26 Canys erlidiâsant yr hwn a darawsit ti, ac am ofid y rhai a archollaist ti y crybwyllant.
27 Dod ti anwiredd ar anwiredd iddynt, ac na ddelont yn dy gyfiawnder di.
28 Tynner hwynt ymmaith o lyfr y bywyd: ac nac scrifenner hwynt gyd a'r rhai cyfiawn.
29 Pan fyddwyf druan, a gofidus, dy iechydwriaeth di ô Dduw a'm cyfyd fi.
30 Moliannaf enw Duw ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl.
31 A hyn fydd gwell gan yr Arglwydd nag ŷch, neu fustach corniog, carnol.
32 Y trueniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau y rhai a geisiwch Dduw a fydd byw.
33 Canys gwrendu 'r Arglwydd ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorrion.
34 Nefoedd, a daiar, y môr a'r hyn oll a ymlusco ynddo a'i molant ef.
35 Canys Duw a achub Sion, ac a adailada ddinasoedd Iuda, fel y triger yno, ac y meddianner hi.
36 Ie hiliogaeth ei weision ai meddiannant hi: a'r rhai a hoffant ei enw ef a bresswyliant ynddi.
Deus in adiutorium. Psal. lxx.
O Dduw pryssura i'm gwarêdu, bryssia Arglwydd i'm cymmorth.
2 Cywilyddier, a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl, a gwradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi.
3 Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant, ha, ha.
4 Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a'th geisiant, a dyweded y rhai a gârant dy iechydwriaeth yn wastad, mawryger Duw.
5 Minne ydwyf druan a thlawd, ô Dduw bryssia attaf, fyng-hymmorth a'm gwaredudd ydwyt ti ô Arglwydd [Page] na hîr drig.
In te Domine speraui. Psal. lxxj.
Boreuol weddi. YNot ti ô Arglwydd y gobeithiais, na'm cywilyddier byth.
2 Achub fi, a gwaret fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glust attaf, ac achub fi.
3 Bydd i mi yn graig gadarn, i ddyfod iddi bob amser: addewaist fy achub, canys ti yw fyng-hraig a'm hamddeffynfa.
4 Gwaret fi ô Dduw o law 'r annuwiol, o law y trofaus, a'r traws.
5 Canys ti yw fyng-obaith ô Arglwydd Dduw, sef fyng-obaith o'm ieuengctid.
6 Wrthit ti i'm cynhaliwyd o'r bru, ti a'm tynnaist o grôth fy mam: fy mawl fydd yn wastad am danat ti.
7 Oeddwn i lawer megis yn anghenfil, eithr ty di wyt-fyng-hadarn obaith.
8 Llanwer fyng-enau a'th foliant, dy ogoniant a ddadcanafbeunydd, a'th anrhydedd.
9 Na fwrw fi ymmaith yn amser henaint: na wrthot fi pan ddarfyddo fy nerth.
10 Canys fyng-elynnion ydynt yn chwedleua i'm herbyn, a'r rhai a ddisgwiliasant am fy enaid, a gyd-ymgynghorâsant
11 Gan ddywedyd, Duw a'i gwrthododd ef, erlidiwch, a deliwch ef, canys nid oes gwaredudd.
12 O Dduw na fydd bell oddi wrthif, fy Nuw bryssia i'm cymmorth.
13 Cywilyddier, a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid, â gwarth ac â gwradwydd y gorchguddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.
14 Minne a obeithiaf yn wastad, ac a'th foliannafdi fwy-fwy.
15 Fyng-enau a fynêga dy gyfiawnder a'th iechydwriaeth [Page] beunydd: canys niwn rifedi arnynt.
16 Yng-hadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf, dy gyfiawnder di yn vnica a gofiaf fi.
17 O'm ieuengctid i'm dyscaist ô Dduw, am hynny y mynegaf dy ryfeddodau hyd yn hyn.
18 Na wrthot fi ychwaith ô Dduw mewn henaint, a phen-llwydni, hyd oni fynegwyf dy nerth i'r genhedlaeth hon, a'th gadernid i bob vn a ddelo.
19 Dy gyfiawnder ô Dduw a aeth yn vchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion, pwy ô Dduw sydd fel tydi?
20 Yr hwn a wnaethost i mi weled aml a drygionus gystudd, etto dychwelaist a bywheaist fi, dychwelaist a chyfodaist fi o orddyfnder y ddaiar.
21 Amlhei fy mawredd, troi hefyd a chyssuri fi.
22 Minne a'th foliannaf ô Dduw ar offeryn nabl am dy wirionedd: cânaf it a'r delyn ô Sanct Israel.
23 Fyng-wefusau fyddant hyfryd pan ganwyf i ti, a'm henaid yr hwn a warêdaist.
24 Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd, o herwydd cywilyddio, ac am wradwyddo y rhai a geisiant niwed i mi.
Deus iudicium. Psal. lxxij.
O Dduw dod ti i'r brenin dy farnedigaethau: ac i fab y brenin dy gyfiawnder.
2 Yna y barn efe dy bobl mewn cyfiawnder: a'th drueniaid mewn iniondeb.
3 Y mynyddoedd a ddygant heddwch i'r bobl, a'r brynnau gyfiawnder.
4 Efe a farn drueniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghênus: ac a ddryllia y gorthrymmudd.
5 Tra fyddo haul a lleuad i'th ofnant, yn oes oesoedd.
6 Efe a ddescyn fel glaw ar gnû gwlân, fel cafodydd [Page] yn dyfrhau y ddaiar.
7 Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn, ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad.
8 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd derfynau y ddaiar.
9 Oi flaen ef yr ymgrymma trigolion yr anialwch: ai elynnion a lŷfant y llŵch.
10 Brenhinoedd Tharsis, a'r ynysoedd a dâlant anrheg, brenhinoedd Saba, ac Arabia a ddygant rodd.
11 Ie 'r holl frenhinoedd a ymgrymmant iddo ef: yr holl genhedloedd ai gwasanaethant ef.
12 Canys efe a wared yr anghênog pan waeddo, a'r truan hefyd, a'r hwn ni byddo cynnorth-wr iddo.
13 Efe a arbed y tlawd a'r rheidus: ac a achub enaid y rhai anghenus.
14 Efe a wareda eu henaid oddi wrth dwyll, a thrawsder: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef,
15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Arabia: gweddiant hefyd atto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef.
16 Bydd dyrned o ŷd ar y ddaiar ym mhen y mynyddoedd, ei ffrwyth a escwyd fel Libanus: a phobl a darddant o'r ddinas fel gwellt y ddaiar.
17 Ei enw fydd yn dragywydd, ei enw a beru tra fyddo haul, yr holl genhedloedd a fendithir ynddo ef, ac ai clodforant ef.
18 Bendigêdic fyddo 'r Arglwydd Dduw sef Duw Israel, yr hwn yn vnic sydd yn gwneuthur rhyfeddodau.
19 Bendigedic hefyd fyddo enw ei ogoniant ef yn dragywydd: a'r holl ddaiar a lanwer oi ogoniant, Amen, Amen.
YMMA y gorphennir gweddiau Dafydd fab Isai.
Quam bonus. Psal. lxxiij.
YN ddiau dâ yw Duw i Israel:Prydnhawnol weddi. sef i'r rhai glân o galon.
2 Etto braidd na lithrodd fy nhraed, prinn na thrippiodd fyng-herddediad.
3 Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol.
4 Canys heb ofid y deuant iw marwolaeth, ai cryfder sydd heini.
5 Nid ydynt mewn blinder dynawl, ac ni ddialeddir arnynt hwy gyd à dynnion eraill.
6 Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisc trawsder am danynt fel dilledyn.
7 Eu llygad a saif allan gan frasder, aethant tros feddwl calon o gyfoeth.
8 Y maent yn llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawsder: ac yn dywedyd yn vchel.
9 Gosodâsant eu genau yn erbyn y nefoedd, ai tafod a gerdd trwy 'r ddaiar.
10 Am hynny y dychwel ei bobl ef ymma, ac y gwescir iddynt ddwfr phiol lawn.
11 Dywedant hefyd, pa fodd y gwŷr Duw, a oes gwyvodaeth gan y Goruchaf?
12 Wele dymma y rhai annuwiol, a'r rhai ydynt iwyddianus yn wastad: ac a amlhâsant olud.
13 Diau mai yn ofer y glanhêais fyng-halon, ac y golchais fy nwylo mewn gwiriondeb.
14 Canys ar hyd y dydd i'm maeddwyd, fyng-hosp a ddeue bôb boreu.
15 Os dywedwn, mynega fel hyn, wele â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam.
16 Pan amcânwn ddeall hyn, blîn oedd hynny yn fyng-olwg mau fi,
17 Hyd onid euthum i gyssegr Duw: yna y deallais [Page] [...] [Page] [...] [Page] eu diwedd hwynt.
18 Diau osod o honot hwynt yn llithric, a chwympo o honot ti hwynt i anghyfannedd-dra.
19 Morr ddisymmwth yr aethant yn anghyfannedd, y pallhâsant, ac y darfuant yn aruthrol!
20 Fel breuddwyd wrth ddihuno vn, y gwnei eu gwedd hwynt yn ddirmygus yn y ddinas ô Arglwydd.
21 Diau lidio fyng-halon: a'm trywanu trwy fy arennau.
22 Canys yr oeddwn i yn ynfyd, ac heb ŵybod dim: anifail oeddwn o'th flaen di.
23 Etto yr oeddwn yn wastad gyd â thi: ymaflaist yn fy llaw ddehau.
24 Yn dy gyngor i'm harweini: ac wedi hynny i'm cymmeri i ogoniant.
25 Pwysydd gennifi yn y nefoedd ond ty di? ac ni ewyllysiais ar y ddaiar neb gyd â thydi.
26 Pallodd fyng-nhawd a'm calon, nerth fyng-halon, a'm rhan yw Duw yn dragywydd.
27 Canys wele difethir y rhai a bellhânt oddi wrthit, peraist dorri ymmaith bôb vn a butteinio oddi wrthit.
28 Minne, nessau at Dduw sydd dda i mi, yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fyng-obaith, i dreuthu dy holl weithredoedd ym mhyrth merch Sion.
Vt quid Deus. Psal. lxxiiij.
PA ham Dduw y ciliaist yn dragywydd? ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?
2 Cofia dy gynnulleidfa 'r hon a brynaist gynt, a llwyth dy etifeddiaeth yr hwn a warêdaist: sef mynydd Sion yr hwn y presswyliaist ynddo.
3 Dercha dy draed i ddinistrio yn dragywydd bôb gelyn, yr hwn a wnaeth niwed yn dy gyssegr.
4 Dy wrthwynebwŷr a ruâsant o fewn dy gynnulliedfa: gosodasant eu banêrau yn arwyddion.
5 Hynod fydde (fel vn yn dwyn peth i odidogrwydd) [Page] yr hwn a gode fwyîll mewn dyrys-goed,
6 Ac yn awr y maent yn dryllio ei cherfiadau eu gyd â bwyîll, ac â morthwylion.
7 Bwriasant dy gyssegroedd yn tân, hyd lawr yr halogâsant bresswylfa dy enw.
8 Dywedàsant yn eu calonnau, cyd-anrheithiwn hwynt, felly y lloscâsant holl Demlau Duw yn y tîr.
9 Ni welwn ein harwyddion, nid oes brophwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr ddim mwyach.
10 Pa hŷd Dduw îth warthrudda 'r gwrthwyneb wr? a gabla 'r gelyn dy enw yn dragywydd?
11 Pa ham y tynni yn ei hôl dy law? sef dy ddeheulaw? tynn hi allan o ganol dy fonwes, a difetha hwynt.
12 Canys Duw yw fy Mrenin o'r dechreuad, gwneuthur-wr pôb iechydwriaeth o fewn y tîr.
13 Ti yn dy nerth a barthaist y môr, drylliaist bennau dreîgiau yn y dyfroedd.
14 Ti a ddrylliaist ben Lefiathan, rhoddaist ef yn fwyd i'r bobl yn yr anialwch.
15 Ti a holltaist y graig i fod yn ffynnon, ac yn afon, ti a ddiyspyddaist afonydd cedyrn.
16 Y dydd sydd eiddo ti, y nôs hefyd sydd eiddo ti: ti a baratoaist oleuni, a haul.
17 Ti a osodaist holl derfynau 'r ddaiar, ti a luniaist hâf, a gaiaf.
18 Cofia hyn, y gelyn a gablodd yr Arglwydd, a phobl ynfyd a ddifenwasant dy enw.
19 Na ddyro enaid dy durtur i gynnulleidfa y gelynnion, nac anghofia gynnulleidfa dy drueniaid byth.
20 Edrych ar y cyfammod, canys llawnwyd tywyll-leoedd y tìr o gorlannau trawster.
21 Na ddychweled y tlawd yn wradwyddus, molianned y truan, a'r anghênus dy enw.
22 Cyfot ô Dduw dadleu dy ddadl, coffa dy gabledd [Page] [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] yr hon a dderbynni gan yr ynfyd beunydd.
23 Nac anghofia lais dy elynnion, dadwrdd y rhai a godant i'th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.
Confitebimur tibi. Psal. lxxv.
Boreuol weddi. CLodforwn dydi ô Dduw, clodforwn, canys agos yw dy enw: dy ryfeddôdau a fynêgant hynny.
2 Pan dderbynnwyf y gynnulleidfa, mî a farnaf yn iniawn.
Ymddattododd y ddaiar, ai holl drigolion: a mi a siccrhêais ei cholofnau. Selah.
4 Dywedais wrth y rhai ynfyd, nac ynfŷdwch: ac wrth y rhai annuwiol, na dderchêfwch eich corn.
5 Na dderchêfwch eich corn yn vchel, na ddywedwch yn war-syth.
6 Canys nid o'r dwyrain, nac o'r gorllewyn, nac o'r dehau y daw goruchafiaeth.
7 O herwydd Duw sydd yn barnu, efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.
8 O blegit y mae phîol yn llaw 'r Arglwydd, a'r gwîn fydd gôch yn llawn cymmysc, ac efe a dywalltodd o hwnnw: etto holl annuwolion y tîr a wascant, ac a yfant ei waelodion.
9 Minne a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i Dduw Iacob.
10 Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol: a chyrn y rhai cyfiawn a dderchefir.
Notus in Iudæa. Psal. lxxvj.
HYnod yw Duw yn Iuda, a mawr yw ei enw ef yn Israel.
2 Ei babell hefyd sydd yn Salem, ai drîgfa yn Sion.
3 Yna y drylliodd efe y saethau, y bŵa, a'r tarian: y cleddyf hefyd a'r frwydr. Selah.
4 Discleiriach wyt ti, a chadarnach nâ mynyddoedd [Page] yr yspeil-wŷr.
5 Yspeiliwyd y cedyrn galon, hunâsant eu hûn, a'r holl wŷr cedyrn o nerth ni chawsant ddim.
6 Gan dy gerydd di ô Dduw Iacob, y rhoed y cerbyd a'r march i gyscu.
7 Tydi, tydi wyt ofnadwy, pwy a saif o'th flaen pan enynno dy ddigter?
8 O'r nefôedd y cyhoeddaist dy farn, ofnodd, a gostegodd y ddaiar.
9 Pan gyfododd Duw i farnu, ac i achub holl rai llednais y tîr. Selah.
10 Canys cynddaredd dŷn a'th folianna di, a gweddill eu cynddaredd a ostêgi di.
11 Addunedwch, a thêlwch i'r Arglwydd eich Duw: y rhai oll ydych oi amgylch ef dygwch anrheg i'r ofnadwy.
12 Efe a dynn ymmaith yspryd tywysogion, ac efe sydd ofnadwy i frenhinoedd y ddaiar.
Vocemea ad Dominum. Psal. lxxviij.
A'M llef y gwaeddaf ar Dduw: â'm llef y gwaeddaf ar Dduw, ac efe a'm gwrendu.
2 Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd, fy archoll a rododd liw nôs, ac ni pheidiodd: fy enaida wrthododd ei ddiddânu.
3 Meddyliwn am Dduw pan i'm cythryblid, gweddiwn, pan derfyscid fy yspryd. Selah.
4 Deliaist fy llygaid yn nefiro, fe synnodd arnaf, dychrynnais fel nad allwn lefaru.
5 Yna 'r ystyriais y dyddiau gynt, a blynyddoedd yr hên oesoedd.
6 Meddylio yr ydwyf am fyng-hân, y nôs yr ydwyf yn myfyrio wrthif fy hun: fy yspryd sydd yn chwilio fel hyn:
7 Ai yn dragywydd y cilia 'r Arglwydd: ac oni bydd efe bodlon mwy?
[Page]8 A ddarfu ei drugaredd ef tros byth? a balla gair ei addewid ef yn oes oesoedd?
9 A anghofiodd Duw drugarhaû, a gaeuodd efe ei drugareddau mewn soriant? Selah.
10 A dywedais, dymma fyng-wendid, etto cofiaf flynyddoedd deheu-law y Goruchaf.
11 Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd, îe cofiaf dy wrthiau gynt.
12 Myfyrriaf hefyd am dy holl weithredoedd, ac am dy ddychymmygion y chwedleuaf.
13 Dy fford ô Dduw sydd mewn sancteiddrwydd, pa Dduw sydd morr fawr a'n Duw ni?
14 Ti Dduw ydwyt yn gwneuthur rhyfeddod, yspysaist dy nerth ym mysc y bobloedd.
15 Gwarêdaist y bobl yn nerthol, sef meibion Iacob, ac Ioseph, Selah.
16 Y dyfroedd a'th welsant ô Dduw, y dyfroedd a'th welsant, ac a ofnasant: y dyfndêrau hefyd a gynhyrfwyd.
17 Y cwmylau a bistyllasant ddwfr, yr wybrennau a roddâsant dwrwf: dy saethau hefyd a gerddâsant.
18 Twrf dy daran a glywyd o amgylch, mellt a oleuâsant y bŷd: cyffrôdd, a chrynodd y ddaiar.
19 Dy ffordd sydd yn y môr, a'th lwybrau yn y dyfroedd mawrion: ac nid adweinir dy ôl·
20 Tywysaist dy bobl fel defaid drwy law Moses, ac Aaron.
Exurgat Deus. Psal. lxxviij.
Prydnhawnol weddi. GWrando fyng-hyfraith fy mhobl, gostyngwch eich clust at eiriau fyng-enau.
2 Agoraf fyng-enau mewn dihareb, a thraethaf ddammegion o'r cyn-fyd.
3 Y rhai a glywsom, ac a wybûom, ac a fynêgodd ein tadau i ni.
4 Ni chêlwn rhag eu meibion, eithr mynegwn i'r oes nelaf foliant yr Arglwydd ai nerth, ai ryfeddodau, y rhai a wnaeth efe.
5 Fel y cyfododd efe destiolaeth yn Iacob, ac y gosododd gyfraith yn Israel: y rhai a orchymynnodd efe i'n tadau eu dyscu iw plant.
6 Fel y gwybydde 'r oes nesaf, sef y plant a ênyd, a phan gyfodent y mynegent hwy iw plant hwythau.
7 Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei-orchymynnion ef.
8 Ac na byddent fel eu tadau yn genhedlaeth gyndyn, ac annufydd, yn genhedlaeth nid yw iniawn ei chalon, ac nid yw ei hyspryd ffyddlon i Dduw.
9 Meibion Ephraim yn arfog ac yn saethu â bŵa adroesant yn nydd y frwydr.
10 Ni chadwâsant gyfammod Duw, eithr gwrthodâsant rodio yn ei gyfraith ef.
11 Ac anghofiâsant ei weithredoedd, ai ryfeddodau y rhai addangosâse efe iddynt.
12 Efe a wnaethe wrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aipht, ym maes Zoan.
13 Efe a barthodd y môr, ac aeth â hwynt drwodd, gwnaeth hefyd i'r dwfr sefyll fel pen-twr.
14 Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt mewn cwmwl, ac ar hŷd y nos wrth oleuni tân.
15 Holltodd efe y creigiau yn yr anialwch, a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfndêrau dirfawr:
16 Canys efe a ddug lifeiriant o'r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.
17 Er hynny chwanegâsant etto bechu yn ei erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffaethwch:
18 A themptiâsant Dduw yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blŷs.
19 Llefarâsant hefyd yn erbyn Duw, ac a ddywedâsant, [Page] a ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
20 Wele efe a darawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd, a ddichon efe roddi bâra hefyd? a ddarpara efe gîg iw bobl?
21 Am hynny y clybu 'r Arglwydd, ac y digiodd,a thân a enynnodd yn Iacob, a digofaint hefyd a gynneuodd yn Israel,
22 Am na chrêdent yn Nuw, ac na obeithient yn ei iechydwriaeth ef.
23 Er hynny efe a orchymynnase i'r wybrennau oddi vchod, ac a agorâse ddrysau ŷ nefoedd:
24 Ac a lawiase Manna arnynt iw fwytta: ac a roddâse iddynt lynniaeth o'r nêfoedd.
25 Dŷn a fwyttaodd fara angelion, anfonodd iddynt lynniaeth o'r nêfoedd.
26 Gyrrodd y dwyrein-wynt hyd y nefoedd: ac yn ei nerth y dûg efe ddeheu-wynt.
27 Glawiodd hefyd gîg arnynt fel llwch: ac adar ascelloc fel tyfod y môr.
28 Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwerssyll, o amgylch eu presswylfeudd.
29 Felly y bwyttasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt, ac efe a barodd eu dymuniad iddynt.
30 Ni omeddwyd hwynt o'r hyn a flysiasant, er hynny tra yr ydoedd bwyd yn eu safnau,
31 Digllonedd Duw a gynneuodd yn eu herbyn hwynt, ac efe a laddodd o'r rhai brasaf o honynt, ac a ostyngodd etholedigion Israel:
32 Er hyn oll pechâsant etto, ac ni chredâsant iw ryfeddodau ef.
33 Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, ai blynyddoedd mewn dychryn.
34 Pan lladde efe hwynt, os ceisient ef, a dychwelyd, a cheisio Duw yn foreu:
35 Os cofient mai Duw oedd eu craig, mai y Goruchaf [Page] Dduw oedd eu gwaredudd,
36 Er iddynt ragrithio iddo ef ai gênau, a dywedyd celwydd wrtho ai tafod,
37 Ai calon heb fod yn iniawn gyd ag ef, nai bod yn ffyddlon yn ei gyfammod ef:
38 Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: eithr trôdd ymmaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lîd.
39 Eithr efe a gofie mai cnawd oeddynt hwy, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.
40 Pasawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffaethwch?
41 Canys troasant, a phrofasant Dduw, a themptiasant Sanct yr Israel.
42 Nichofiasant ei nerth ef, na'r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.
43 Yr hwn a osododd ei arwyddion yn yr Aipht, ai ryfeddodau ym maes Zoan.
44 Ac a drôdd eu hafonydd ai ffrydau yn waed, fel na allent yfed.
45 Anfonodd gymmysc-blâ yn eu plith, ac ai difâodd hwynt: a llyffaint iw difetha hwynt.
46 Efe a roddodd eu cnŵd hwynt i'r Locust, ai llafur i'r celioc rhedyn.
47 Destruwiodd eu gwin-wŷdd â chenllysc, ai Sycomor-wŷdd â chesair.
48 Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i'r cenllysc, ai cyfoeth i'r mellt.
49 Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiawgrwydd, a digter, a chyfyngder, trwy anfon angelion drwg.
50 Cymhwysodd ffordd iw ddigofaint, nid attaliodd eu henaid oddi wrth angeu: ai bywyd a roddodd efe î'r haint.
51 Tarâwodd hefyd bôb cyntaf-anedic yn yr Aipht, sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Cam.
[Page]52 Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac ai harweiniodd hwynt fel praidd trwy 'r anialwch.
53 Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel fel nad ofnasant: a'r môr a orchguddiodd eu gelynnion hwynt.
54 Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd: i'r mynydd hwn a ennillodd ei ddeheulaw ef.
55 Ac efe a yrrodd allan genhedloedd ei blaen hwynt, ac a rannodd iddynt eu rhan-dir hwynt yn etifeddiaeth: a gwnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.
56 Er hynny temptiâsant, a digiâsant Dduw goruchaf, ac ni chadwâsant ei destiolaethau.
57 Eithr ciliâsant a buant anffyddlon fel eu tadau: troâsant fel bŵa twyllodrus.
58 Digiâsant ef hefyd ai huchel-fannau: a llidiasant ef ai cerfiedic ddelwau.
59 Clybu Duw hyn ac a ddigiodd, ac a ddiystyrodd Israel yn ddirfawr.
60 Gadawodd hefyd dabernacl Silo, y babell a osodase efe ym mysc dynnion.
61 A rhoddes ei nerth mewn caethiwed, ai brydferthwch yn llaw'r gelyn.
62 Rhoddes hefyd ei bobl i'r cleddyf, a digiodd wrth ei etifeddiaeth.
63 Tân a yssodd ei wŷr ieuaingc, ai forwynion ni phriodwyd.
64 Ei offeiriaid a laddwyd a'r cleddyf, ai wragedd gweddwon nid ŵylasant.
65 Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel vn o gyscu: fel cadarn yn bloeddio wedi gwîn.
66 Ac efe a darawodd ei elynnion yn eu hôl: rhoddes iddynt warth trgywyddol.
67 Gwrthododd hefyd babell Ioseph, ac ni etholodd lwyth Ephraim.
68 Ond efe aethôlodd lwyth Iuda, sef mynydd Sion yr hwn a hoffodd efe.
[Page]69 Ac a adailadodd ei gyssegr fel llŷs vchel: fel y ddaiar yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.
70 Etholodd hefyd Ddafydd ei wâs, ac ai cymmerth o gorlannau y defaid.
71 Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Iacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth.
72 Yntef ai porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon, ac ai trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.
Deus venerunt. Psal. lxxix.
Y Cenhedloedd ô Dduw a ddaethant i'th etifeddiaeth,Boreuol weddi. halogâsant dy Deml sanctaidd, a gosodâsant Ierusalem yn garneddau.
2 Rhoddâsant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd, a chîg dy sainct i fwyst-filod y ddaiar.
3 Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Ierusalem, ac nid oedd ai cladde.
4 Yr ydym ni yn warthrudd i'n cymmydogion, dirmyg, a gwatwargerdd i'r rhai ydynt o'n hamgylch.
5 Pa hŷd Arglwydd? a ddigi di yn dragywydd? a lysc dy eiddigedd di fel tàn?
6 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd, y rhai ni'th adnabuant: ac ar y teyrnasoedd y rhai ni alwâsant ar dy enw.
7 Canys yssasant Iacob, ac a wnaethant ei bresswylfa ef yn anghyfannedd.
8 Na chofia 'r anwireddau gynt i'n herbyn, bryssia, a rhacflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesc iawn ydym.
9 Cynnorthwya ni ô Dduw ein iechydwriaeth er mwyn gogoniant dy enw: gwaret ni hefyd, a thrugarhâ wrth ein pechodauer dy enw.
10 Pa ham y dywed y cenhedloedd, pa lê y mae eu [Page] Duw hwynt? bydded hyspys ym mhlith y cenhedloedd yn ein golwg ni, pa ddial a ddaw am waed dy weision yr hwn a dywalltwyd.
11 Deued vchenaid y carcharorion ger dy fron, yn ôl mawredd dy nerth cadw blant marwolaeth.
12 Tâl i'm cymmydogion ar y seithfed iw monwes y gabledd, drwy 'r hon i'th gablâsant di ô Arglwydd.
13 A ninneu dy bobl, a defaid dy borfa a'th foliannwn di yn dragywydd: ac à ddadcanwn dy foliant o genhedlaeth i genhedlaeth.
Qui regis Israel. Psal. lxxx.
GWrando ô fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Ioseph fel defaid: ymddiscleiria yr hwn wyt yn eistedd ar y Cerubiaid.
2 Cyfot dy nerth a flaen Ephraim, Beniamin a Manasses, a thyret yn iechydwriaeth i ni.
3 Dychwel ni ô Dduw, a llewyrcha dy wyneb, ac ni a achubir.
4 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd, pa hŷd y sorri wrth weddi dy bobl?
5 Gwnaethost iddynt fwytta bara dagrau, a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr.
6 Gosodaist ni yn gynnen i'n cymmydogion, a'n gelynnion a'n gwatwarent yn eu mysc eu hun.
7 O Dduw 'r lluoedd dychwel ni, a thywynna dy wyneb, ac ni a achubir.
8 Mudaist win-wydden o'r Aipht, bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi.
9 Arloesaist oi blaen, a pheraist i'r gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tîr.
10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chyscod: ai changhennau oeddynt fel cedrwŷdd rhagorol.
11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, ai brig hyd yr afon.
12 Pa ham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb [Page] a'r a elo heibio ar hŷd y ffordd ei grawn hi?
13 Y baedd o'r coed ai turriodd, a bwyst-fil y maes ai pôrodd,
14 O Dduw 'r lluoedd dychwel attolwg: edrych o'r nefoedd a chenfydd: ac ymwel a'r win-wydden hon,
15 A'r winllan yr hon a blannodd dy ddeheu-law, ac a'r planhigin yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun.
16 Lloscwyd hi à thân, a thorwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt.
17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheu-law: a thros fab dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun.
18 Ac ni chiliwn ni oddi wrthit ti, bywhâ ni, ac ni a alwn ar dy enw.
19 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd trô ni: llewyrcha dy wyneb, ac ni a achubir.
Exultate Deo. Psal. lxxxj.
CEnwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cênwch yn llawen i Dduw Iacob.
2 Cymmêrwch psalm, a moeswch dympan, telyn fwyn, a nabl.
3 Vd-cênwch vdcorn ar loer newydd, ar amser nodedic, yn nydd ein vchel-ŵyl.
4 Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i Dduw Iacob.
5 Efe ai gosododd yn destiolaeth yn Ioseph: pan aeth efe allan o dir yr Aipht lle y clywais iaith ni ddeallwn.
6 Tynnais ei yscwydd oddi wrth y baich, ei ddwylo a ymadawsant a'r crochanau.
7 Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a'th waredais: gwrande wais di yn nirgelwch y dâran, profais di wrth ddyfroedd Meribba. Selah.
8 Clyw fy mhobl, a mi a destiolaethaf i ti Israel, os gwrandewi arnaf,
9 Na fydded ynot Dduw arall, ac nac ymgrymma i Dduw dieithr.
[Page]10 Myfi 'r Arglwydd dy Dduw yw 'r hwn a'th ddûg i fynu o dîr yr Aipht: llêda dy safn, ac mi ai llanwaf.
11 Ond ni wrandawe fy mhobl ar fy llef, ac Israel nid vfuddhâe i mi.
12 Yna y gollyngais hwynt yng-hyndynrwydd eu calon, aethant wrth eu cyngor eu hunain.
13 Oh na wrandawe fy mhobl arnaf fi: na rodie Israel yn fy ffyrdd mau fi.
14 Buan y gostyngwn eu gelynnion: ac y troiwn fy llaw yn erbyn eu gwrthwyneb-wŷr.
15 Caseion yr Arglwydd a gymmerant arnynt ymostwng iddo ef, ai hamser hwythau fydde yn dragywydd
16 Bwydid ef hefyd â brasder gwenith: ac â mêl o'r graig i'th ddiwallwn.
Deus stetir in Syna. Psal. lxxxij.
Prydnhawnol weddi. DVw sydd yn sefyll yng-hynnulleidfa duwiau: ym mhlith duwiau y barn efe.
2 Pa hŷd y bernwch ar gam? ac y cymmerwch blaid y rhai annuwiol? Selah.
3 Bernwch yn iniawn y tlawd a'r ymddifad, cyfiawnhewch y truan a'r rheidus.
4 Gwarêdwch y tlawd a'r anghênus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol.
5 Ni ŵyddant, ac ni ddeallant, mewn tywyllwch y rhodiasant: a holl sylfaenau y ddaiar a symmudwyd oi lle.
6 Myfi a ddywedais, duwiau ydych chwi: a meibion y Goruchaf ydych chwi oll.
7 Diau y byddwch feirw fel dynnion, ac fel vn o'r tywysogion y syrthiwch.
8 Cyfot ô Dduw, a barna 'r ddaiar, canys ti a etifeddi 'r holl genhedloedd.
Deus quis similis. Psal. lxxxiij.
O Dduw na ostêga, na thaw, ac na fydd lonydd ô Dduw.
2 Canys wele dy elynnion sydd yn terfyscu, a'th gaseion yn cyfodi eu pennau.
3 Ymgyfrinachâsant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgynghorâsant yn erbyn dy raî dirgel di.
4 Dywedâsant, deuwch, a difethwn hwynt fel na byddant yn genhedlaeth, ac na chofier enw Israel mwyach.
5 Canys ymgynghorâsant yn vn-fryd, ac ymwnaethant i'th erbyn.
6 Pebyll Edom, a'r Ismaeliaid, y Moabiaid a'r Hagariaid.
7 Y Gebaliaid, a'r Ammoniaid, a'r Amaleciaid, y Philistiaid gyd â Phresswyl-wŷr Tyrus.
8 Assur hefyd a ymgwplysodd â hwynt, buant fraich i blant Lot. Selah.
9 Gwna di iddynt fel i Madian, megis i Sisara, ac megis i Tabin wrth afon Cizon.
10 Yn Endor y difethwyd hwynt, ac y buant yn dail i'r ddaiar.
11 Gosot hwy ai boneddigion fel Oreb, a Zeb, ai holl dywysogion fel Zeba, a Salmunah.
12 Y rhai a ddywedâsant, gorescynnwn i ni gyfanneddau Duw.
13 Gosot hwynt ô fy Nuw fel olwyn, ac fel sofl o flaen y gwynt.
14 Fel y llysc tân goed, ac fel y goddeithio ffiam fynyddoedd:
15 Felly erlit ti hwynt a'th demhestl, a dychryna hwynt a'th gor-wynt.
16 Llanw di eu hwynebau â gwarth, fel y ceisiant dy enw ô Arglwydd.
17 Cywilyddier, a thralloder hwynt yn dragywydd: [Page] gwradwydder hefyd, a difether hwynt.
18 Fel y gwypont mai tydi yn vnic yr hwn wyt Iehofa wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaiar.
Quàm dilecta tabernacula. Psal. lxxxiiij.
MOr hawddgar yw dy bebyll di ô Arglwydd y lluoedd!
2 Fy enaid a chwennychodd, ac a flysiodd hefyd am dy gynteddau di ô Arglwydd: fyng-halon a'm cnawd a orfoleddant yn Nuw byw.
3 Aderyn y tô hefyd a gafodd dŷ, a'r wennol nŷth iddi, lle y gesid ei chywion: sef dy allorau di ô Arglwydd y lluoedd fy Mrenin a'm Duw.
4 Gwynfyd presswylwŷr dy dŷ: yn wastad i'th foliannant. Selah.
5 Gwyn ei fyd y dŷn y mae ei gadernid ynot, a'th ffyrdd yn ei galon.
6 Y rhai sydd yn myned trwy ddyffryn wylofain, ai gosodant yn ffynnon, a'r glaw a leinw y llynnau.
7 Aant o nerth i nerth, ac ymddengys pob vn ger bron Duw yn Sion.
8 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd clyw fyng-weddi gwrando ô Dduw Iacob. Selah.
9 O Dduw ein tarian gwel, ac edrych wyneb dy eneiniog.
10 Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mîl: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw o flaen trigo ym-mhebyll annuwioldeb.
11 Cynys haul, a tharian yw 'r Arglwydd Dduw, yr Arglwydd a rydd râd a gogoniant: ni attal efe ddaioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.
12 O Arglwydd y lluoedd gwynfyd y dyn a ymddyriedo ynot.
Bene dixisti Domine. Psal. lxxxv.
GRas-lawn wyt ô Arglwydd i'th dir, dychwelaist gaethiwed Iacob.
[Page]2 Maddeuaist anwiredd dy bobl: a chuddiaist eu holl bechod. Selah.
3 Tynnaist ymmaith dy holl lid, troaist oddi wrth lidiawgrwydd dy ddigter.
4 Troa ni ô Dduw ein iechydwriaeth: a thorr dy ddigofaint wrthym.
5 Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?
6 Oni throi di a'n bywhau ni: fel y llawenycho dy bobl ynot ti?
7 Dangos i ni Arglwydd dy drugaredd: a dôd ti i ni dy iechydwriaeth.
8 Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw am danaf fi: canys efe a draetha heddwch iw bobl, ac iw sainct, fel na throant i ynfydrwydd.
9 Diau fod ei iechid ef yn agos i'r rhai ai hofnant ef: fel y trigo gogoniant yn ein tîr ni.
10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfûant: cyfiawnder a heddwch a ymgusanâsant.
11 Gwirionedd a dardda o'r ddaiar, a chyfiawnder a edrych o'r nefoedd.
12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni, a'n daiar a rydd ei chnŵd.
13 Cyfiawnder a aiff oi flaen ef: ac efe a esid ei draed ar y ffordd.
Inclina Domine. Psal. lxxxvj.
GOstwng ô Arglwydd dy glust,Boreuol weddi. a gwrando fi: canys truan a thlawd ydwyf fi.
2 Cadw fy enaid canys duwiol ydwyfi: achub di dy wâs ô Dduw 'r hwn sydd yn ymddyried ynot.
3 Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys arnat y llefaf beunydd.
4 Llawenhâ enaid dy wâs, canys attat y dderchafaf fy enaid.
[Page]5 Canys ti ô Arglwydd ydwyt ddâ, a thrugarog: ac o fawr drugaredd i'r rhai oll a alwant arnat.
6 Clyw Arglwydd fyng-weddi: ac ystyria ar lais fy ymbil.
7 Yn nydd fyng-hyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi.
8 Nid oes fel tydi ym mysc y duwiau: nac fel dy weithredoedd di ô Arglwydd.
9 Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di ô Arglwydd: ac a ogoneddant dy enw.
10 Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau: ti yn vnic wyt Dduw.
11 Dysc i mi dy ffordd ô Arglwydd, ac mi a rodiaf yn dy wirionedd di: vna fyng-halon â thi, fel yr ofn wyf dy enw.
12 Moliannaf di ô Arglwydd fy Nuw a'm holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd.
13 Canys mawr yw dy drugaredd tu ag attafi, a gwaredaist fy enaid o vffern issod.
14 Rhai beilchion a gyfodâsant i'm herbyn ô Dduw, a chynnulleidfa y cedyrn a geisiasant fy enaid, ac ni'th osodasant di ger eu bron.
15 Eithr ti ô Arglwydd Dduw ydwyt drugarog, a gras-lawn: hwyrfridic i lid, ac aml o drugaredd a gwirionedd.
16 Edrych arnaf, a thrugarhâ wrthif: dod ti dy nerth i'th wâs, ac achub fab dy wasanaethferch.
17 Gwna di i mi arwydd daioni, fel y gwelo fyng-haseion, ac y gwradwydder hwynt, am i ti ô Arglwydd fyng-hynnorthwyo a'm diddânu.
Fundamenta eius. Psal. lxxxvij.
EI sail a osodwyd ar y mynyddoedd sanctaidd.
2 Yr Arglwydd a gâr byrth Sion yn fwy nâ holl bresswylfeudd Iacob.
[Page]3 Gogoneddus bethau a ddywedir am danat ti ô ddinas Dduw. Selah.
4 Coffâf Rahab a Babilon wrth fyng-hydnabod: wele Palestina a Thyrus yng-hyd ac Ethiopia: yno y ganwyd hwn.
5 Ac am Sion y dywedir, llawer gŵr a anwid ynddi, a'r Goruchaf ei hun ai siccrha hi.
6 Yr Arglwydd a gyfrif pan scrifenno y bobl eni hwn yno. Selah.
7 Y cantorion a'r cerddorion a'th folant, fy holl ffynhonnau ydynt ynot ti.
Domine Deus salutis. Psal. lxxxviij.
O Arglwydd Dduw fy iechydwriaeth, gwaeddais o'th flaen ddydd a nôs.
2 Deued fyng-weddi ger dy fron, gostwng dy glust at fy llefain.
3 Canys fy enaid a lawnwyd o ddrygau, a'm henioes a aeth i'r beddrod.
4 Cyfrifwyd fi gyd a'r rhai a ddescynnent i'r pwll: oeddwn fel gwr heb nerth.
5 Yn rhydd ym mysc meirw, fel rhai wedi eu harcholli yn gorwedd mewn bedd: y rhai ni chofiaist mwy, canys hwynt a dorrwyd oddi wrth dy law.
6 Gosodaist fi yn y pwli issaf mewn tywyllwch, ac yn y dyfnder.
7 Arnaf y pwysa dy ddigofaint, ac a'th holl donnau i'm cystuddiaist. Selah.
8 Pellheaist fyng-hydnabod oddi wrthif, a gosodaist fi 'n ffieidd-dra iddynt: gwarchawyd fi fel nad awn allan.
9 Fyng-olwg a ofidiodd gan fyng-hystudd, llefais arnat Arglwydd beunydd: ac estynnais fy nwylo attat.
10 Ai i'r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y meirw a'th foliannu di? Selah.
11 Adreuthir dy drugaredd di mewn bedd? a'th wirionedd [Page] yn nestruw?
12 A adwaenir dy ryfeddod mewn tywyllwch? a'th gyfiawnder yn nhîr anghof?
13 Ond myfi a lefais arnat Arglwydd: yn foreu y daw fyng-weddi o'th flaen.
14 Pa ham Arglwydd y gwrthodi fy enaid? ac y cuddi dy wyneb oddi wrthif?
15 Truan ydwyfi, ac ar drangedigaeth o'm hieuengctid, dygais dy ofn, ac yr yd wyf yn pettruso.
16 Dy sorriant a aeth trosof, dy arswyd a'm torrodd ymmaith.
17 Fel dwfr i'm cylchynâsant beunydd: ac i'm cydamgylchâsant.
18 Pellhêaist bob câr a chyfaill oddi wrthif: fyng-hydnabod ydynt yn ymguddio.
Misericordias Domini. Psal. lxxxix.
Prydnhawnol weddi. TRugareddau 'r Arglwydd a ddatcanaf byth, â'm genau y mynêgaf dy wirionedd di o genhedlaeth hyd genhedlaeth.
2 Canys dywedais yr adailedir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y cadarnhei dy wirionedd.
3 Gwneuthum ammod a'm etholedig, tyngais i'm gwâs Dafydd.
4 Yn dragywydd y siccrhâf dy hâd ti: ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adailadaf dy orfedd-faingc di. Selah.
5 Am hynny ô Arglwydd, y nefoedd a foliannant dy ryfeddod, a'th wirionedd yng-hynnulleidfa y sainct.
6 Canys pwy yn yr wybrennau a gystedlir a'r Arglwydd? pwy a gyffelybir i'r Arglwydd ym mysc y duwiau?
7 Duw sydd ofnadwy iawn yng-hynnulleidfa 'r sainct: ac iw arswydo yn ei holl amgylchoedd.
[Page]8 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd pwy sydd fel tydi yn gadarn Ior, a'th wirionedd o'th amgylch?
9. Ti ydwyt yn llywodraethu ymchwydd y môr, pan gyfodo ei donnau ti ai gostegi.
10 Ti a drybaeddaist yr Aipht fel vn lladdedic: drwy nerth dy fraich y gwascêraist dy elynnion.
11 Y nefoedd ydynt eiddo ti, a'r ddaiar sydd eiddo ti: ti a seiliaist y bŷd ac sydd ynddo.
12 Ti a greaist ogledd a dehau: Thabor a Hermon a lawenychant yn dy enw.
13 Ymae i ti fraich, a chadernid, cadarn yw dy law, ac vchel yw dy ddeheu-law.
14 Cyfiawnder, a barn yw trigfa dy orseddfaingc: trugaredd â gwirionedd a ragflaenant dy wyneb.
15 Gwyn ei fyd y bobl y rhai a fedrant lawenychu ynot: yn llewyrch dy wyneb ô Arglwydd y rhodiant hwy.
16 Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd, ac yn dy gyfiawnder yr ymdderchafant.
17 Canys godidawgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti, ac o'th ewyllys dâ y derchefi ein cyrn ni.
18 Canys o'r Arglwydd y mae ein tarian, ac o Sanct Israel y mae ein Brenin.
19 Yna 'r ymddiddenaist mewn gweledigaeth â'th sainct, ac a ddywedaist, gosodais gymmorth ar vn cadarn: ac a dderchefais vn etholedic o'r bobl.
20 Cefais Ddafydd fyng-wasanaeth-wr, ac eneiniais ef a'm holew sanctaidd.
21 Yr hwn y cadarnheuir fy llaw gyd ag ef: a'm braich ai nertha ef.
22 Ni orthrymma y gelyn ef, a'r mab anwir nis cyffuddia ef.
23 Canys coethaf ei elynnion oi flaen, ai gaseion a darawaf.
24 Fyng-wirionedd hefyd, a'm trugaredd fyddant [Page] gyd ag ef: ac yn fy enw y derchefir ei gorn ef.
25 A gosodaf ei law ar y môr, ai ddeheulaw yn yr afonydd.
26 Efe a'm geilw gan ddywedyd, ti yw fy Nhâd, fy Nuw a chraig fy iechydwriaeth.
27 Minne ai rhoddaf yntef yn gynfab, goruchaf ar frenhinoedd y ddaiar.
28 Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd: a'm cyfammod fydd ffyddlon iddo ef.
29 Gosodaf hefyd ei hâd yn dragywydd: ai orseddfaingc fel dyddiau y nefoedd.
30 Os ei feibion a adawant fyng-hyfraith: ac ni rodiant yn fy marnedigaethau,
31 Os fy neddfau a halogant: a'm gorchymynnion nichadwant,
32 Yna gofwyaf eu camwedd â gwialen, ai hanwiredd â ffrewyllau.
33 Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho ef: ac ni phallaf o'm gwirionedd.
34 Ni thoraf fyng-hyfammod: ac ni newidiaf yr hyn addaeth allan o'm genau.
35 Tyngais vn-waith i'm sancteiddrwydd na phallwn i Ddafydd gan ddywedyd:
36 Bydd ei hâd ef yn dragywydd: ai orseddfaingc fel yr haul ger fy mron i.
37 Siccrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel y tystion ffyddlon yn yr wybr. Selah.
38 Ond ti a ffieiddiaist, ac a ddiystyraist, ac a ddigiaist wrth dy eneiniog.
39 Diddymmaist gyfammod dy wâs, halogaist ei goron gan ei thaflu i lawr.
40 Drylliaist ei holl gaeau ef, gosodaist ei amddeffynfeudd yn adwyau.
41 Yr holl fforddolion ai hyspeiliasant ef: aeth yn warthrudd iw gymmydogion.
[Page]42 Derchefaist ddeheu-law ei wrthwynebwŷr ef, a llawenheaist ei holl elynnion ef.
43 Troaist hefyd fîn ei gleddyf, ac ni chadarn-heaist ef mewn rhyfel.
44 Peraist iw lendid ddarfod, a bwriaist ei orseddfaingc i lawr.
45 Byrhêaist ddyddiau ei ieuengctid, a thoaist gywilydd trosto ef. Selah.
46 Pa hŷd Arglwydd yr ymguddi? ai yn dragywydd? a lysc dy ddigofaint ti fel tân?
47 Cofia pa oes sydd i mi, pa ham y creaist holl blant dynnion yn ofer?
48 Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? ac a wared ei enaid o feddiant vffern? Selah.
49 Pa lê y mae dy hên drugareddau ô Arglwydd, y rhai a dyngaist i Ddafydd yn dy wirionedd?
50 Cofia ô Arglwydd wradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy monwes gan yr holl bobloedd fawrion.
51 A'r hwn y gwarthruddodd dy elynnion dydi ô Arglwydd, y rhai a gablasant ôl troed dy eneiniog.
52 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd yn dragywydd, felly y byddo, ac Amen.
Domine, refugium. Psal. xc.
TI Arglwydd fuost yn bresswylfa i ni o genhedlaeth i genhedlaeth.Boreuol weddi.
2 Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunnio o honot y ddaiar, a'r bŷd, ti hefyd oeddit Dduw o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb.
3 Troi ddŷn iddinistr, trachefn y dywedi, dychwelwch feibion dynnion.
4 Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi'r êl heibio, ac fel gwiliadwriaeth nôs.
[Page]5 Pan wascarech hwynt megis a llifeiriant y byddant fel hûn: yn forau fel llyssieun y cyfnewidiant.
6 Y boreu y blodeua, ac yr adnewydda, eithr pryd nawn y torrir ef ymmaith, ac y gwywa.
7 Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiawgrwydd ein brawychwyd.
8 Gosodaist ein anwiredd ger dy fron, a'n dirgel bechodau yng-oleuni dy wyneb.
9 Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di, treuliasom ein blynyddoedd fel lleferydd.
10 Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng-mhlynedd a thrugain, ac os o gryfder y cyrheuddir pedwar vgain mhlynedd, yna eu nerth sydd boen, a blinder: canys ebrwydd y derfydd, ac yr ehedwn ni ymmaith.
11 Pwy a edwyn nerth dy sorriant di? canys fel y mae dy ofn y mae dy ddigter.
12 Dysc ni felly i gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.
13 Dychwel Arglwydd, pa hŷd y sorri? cymmer drugaredd ar dy weision.
14 Diwalla ni yn foreu a'th drugaredd, fel y gorfoleddom, ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau.
15 LLawenhâ ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a'r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd.
16 Gweler dy waith tu ag at dy weision, a'th odidawgrwydd tu ag at euplant hwy.
17 A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni, a threfna weithred ein dwylo ynom ni, ìe trefna waith ein dwylo.
Qui habitat. Psal. xcj.
YR hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf a erys yng-hyscod yr Holl-alluoc.
2 Dywedaf wrth yr Arglwydd, fyng-obaith a'm, hamddeffynfa ydwyt, yn fy Nuw y gobeithiaf.
3 Canys efe a'th wareda di o fagl yr heliwr: ac oddi [Page] wrth haint echrysion.
4 Ai ascell y cyscoda efe trosot, a thann ei adenydd y byddi diogel: ei wirionedd fydd darian, ac astalch i ti.
5 Nid ofni rhag dychryn nôs, na rhag y saeth a eheto 'r dydd.
6 Na rhâg yr haint yr hwn a rodio yn y tywyllwch, na rhag y dinistr a ddinistrio hanner dydd.
7 Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng-mil wrth dy ddeheu-law: ond ni ddaw yn agos attat ti.
8 Etto canfyddi a'th lygaid, a gwêli dâl y rhai annuwiol.
9 Canys ti ô Arglwydd wyt fyng-obaith: vchel y gosodaist dy bresswylfa.
10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw plâ yn agos i'th babell.
11 Canys efe a orchymyn iw angelion am danat ti, dy gadwyn dy holl ffyrdd.
12 Ar eu dwylo i'th ddygant, rhag taro dy droed wrth garrec.
13 Ar y llew, a'r asp y cerddi: ar genw llew, a'r ddraig y sethri.
14 Gwaredaf ef hefyd am roddi o honaw serch arnaf: derchafaf ef am adnabod o honaw fy enw.
15 Efe a eilw arnaf, a mi ai gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gyd ag ef, y gwaredaf ef, ac y gogoneddaf ef.
16 Digonaf ef â hir ddyddiau: a dangosaf iddo fy iechydwriaeth.
Bonum est confiteri. Psal. xcij.
DA yw moliannu 'r Arglwydd: a chanu i'th enw di y Goruchaf.
2 A Mynegu y boreu am dy drugaredd, a'th wirionedd y nosweithiau.
3 Ar ddec-tant, ac ar nabl, ac ar delyn yn fyfyrriol.
4 Canys llawenychaist fi ô Arglwydd a'th weithreb: yng-waith dy ddwylo y gorfoleddaf.
[Page]5 Mor fawredic ô Arglwydd yw dy weithredoedd! dwfn iawn yw dy feddyliau.
6 Gŵr annoeth ni ŵyr, a'r ynfyd ni ddeall hyn.
7 Pan flodeuo y rhai annuwiol fel llysieun, y blagura holl weithred wŷr anwiredd iw dinistrio byth bythoedd.
8 Tithê Arglwydd wyt dderchafedic yn dragywydd.
9 Canys wele dy elynnion ô Arglwydd, wele dy elynnion a ddifethir: gwascerir holl weithred-wŷr anwiredd.
10 A'm corn a dderchefi fel vnicorn, ag olew îr i'm taenellir.
11 Fyllygad hefyd a wêl fyng-wynfyd ar fyng-wrthwyneb-wŷr: fyng-hlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i'm herbyn.
12 Y cyfiawn a flodeua fel palm-wŷdden, ac a gynnydda fel cedr-wydden yn Libanus.
13 Y rhai a blannwyd yn nhŷ 'r Arglwydd a flodeuant yng-hynteddoedd ein Duw.
14 Ffrwythant etto yn eu henaint, tyrfion, ac iraid [...] fyddant,
15 I fynegu mai iniawn yw 'r Arglwydd fyng-hraig: ac nad oes anwiredd ynddo.
Dominus regnauit. Psal. xciij.
Prydnhawnol weddi. YR Arglwydd sydd yn teyrnasu, ac a wiscodd ardderchawgrwydd, gwiscodd yr Arglwydd, ac ymwregysodd â nerth: y bŷd hefyd a siccrhaodd efe fel na syflo.
2 Darparwyd dy orseddfaingc er ioed: ti ydwyt er tragywyddoldeb.
3 Y llifeiriaint ô Arglwydd a dderchafasant, y llifeiriaint a dderchafasant eu twrwf: y llifeiriaint a dderchafasant eu tonnau.
[Page]4 Cadarn yw tonnau 'r môr gan dwrwf dyfroedd lawer, cadarnach yw 'r Arglwydd yn yr vchelder.
5 Siccr iawn yw dy destiolaethau, sancteiddrwydd a wedde i'th dŷ ô Arglwydd byth.
Deus vltionum. Psal. xciiij.
O Arglwydd Dduw yr dial, ô Dduw 'r dial ymddiscleiria.
2 Ymddercha farn-wr y bŷd: tâl eu gwobr i'r beilchion.
3 Pa hŷd Arglwydd y llawenycha yr annuwolion? pa hyd y gorfoledda y rhai drygionus?
4 Yr ymfawryga holl weithred-wŷr anwiredd? y siarâdant, ac y dywedant yn galed?
5 Dy bobl Arglwydd a faeddant: a'th etifeddiaeth a gystuddiant.
6 Y weddw a'r dieithr a laddant, a'r ymddifad a liasant.
7 Dywedâsant hefyd, ni wêl yr Arglwydd: ac ni ddeall Duw Iacob hyn.
8 Ystyriwch chwi rhai annoeth ym mysc y bobl: a'r ynfydion, pa bryd y deallwch?
9 Oni chlyw 'rhwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygaid?
10 Oni cherydda 'rhwn a gospa y cenhedloedd: oni ŵyr yr hwn sydd yn dyscu gwybodaeth i ddŷn?
11 Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dŷn, mai gwagedd ydynt.
12 Gwyn ei fŷd y gŵr yr hwn a gospi di ô Arglwydd, ac addysci yn dy gyfraith,
13 I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau dryg-fyd, hyd oni chloddier ffôs i'r annuwiol.
14 Canys ni âd yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthid efe ei etifeddiaeth.
15 Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder, a'r holl rai iniawn o galon a ânt ar ei ôl ef.
[Page]16 Pwy a gyfyd gyd â mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyd a mi yn erbyn gweithred-wŷr anwiredd?
17 Oni buase 'r Arglwydd yn gymmorth i mi, braidd na thrigâse fy enaid mewn distawrwydd.
18 Pan ddywedwn, llithrodd fy nhroed, dy drugaredd di ô Arglwydd a'm cynhalie.
19 Yn amlder fy meddyliau o'm mewn, dy ddiddanwch di a lawenyche fy enaid.
20 A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfaingc yr anwir: yr hwn a lunnia anwiredd yn lle cyfraith?
21 Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn: a gwaed gwirion a farnant yn euog.
22 Eithr yr Arglwydd sydd yn amddeffynfa i mi, a'm Duw yw craig fy ymddyried.
23 Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac ai tyrr ymmaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw ai tyrr hwynt ymmaith.
Venite exultemus. Psal. xcv.
Boreuol weddi. DEuwch, canwn i'r Arglwydd, ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd.
2 Deuwn ger ei fron ef â diolch: cânwn yn llafar iddo psalmau.
3 Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a Brenin mawr ar yr holl dduwiau.
4 Yr hwn y mae gorddyfnder y ddaiar yn ei law: ac vchelder y mynyddoedd yn eiddo ef.
5 Yr hwn y mae'r môr yn ei eiddo, canys efe ai gwnaeth: aiddwylo a luniasant y sych-dir.
6 Deuwch, addolwn, ac ymgrymmwn, gostyngwn ger bron yr Arglwydd ein gweithydd.
7 Canys efe yw ein Duw ni, a ninne yn bobl ei borfa, ac yn ddefaid ei ddwylaw, heddyw os gwrandewch ar ei leferydd,
[Page]8 Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch.
9 Lle y temptiodd eich tadau fi, y profâsant, ac y gwelsant fyng-weithredoedd.
10 Deugain mhlynedd yr ymrysonais â'r genhedlaeth hon, a dywedais, pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy: canys nid adnabûanthwy fy ffyrdd.
11 Am y rhai y tyngais yn fy llid na ddelent i'm gorphywysfa.
Cantate Domino. Psal. xcvj.
CEnwch i'r Arglwydd ganiad newydd: cênwch i'r Arglwydd yr holl ddaiar.
2 Cênwch i'r Arglwydd, a bendigwch ei enw ef: cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iechydwriaeth ef.
3 Dadcenwch ym mysc y cenhedloedd ei ogoniant ef, ac ym mhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.
4 Canys mawr yw 'r Arglwydd, a chanmoladwy iawn, ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.
5 Canys holl dduwiau'r bobloedd ydynt eulynnod, yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.
6 Gogoniant, a harddwch ydynt oi flaen ef, nerth a hyfrydwch sydd yn ei gyssegr.
7 Tylwythau y bobl rhoddwch i'r Arglwydd: rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant a nerth.
8 Rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant ei enw, dygwch fwyd offrwm, a deuwch iw gynteddoedd.
9 Addolwch ger bron yr Arglwydd mewn prydferth sancteiddrwydd: yr holl ddaiar ofnwch rhagddo ef.
10 Dywedwch ym mysc y cenhedloedd, yr Arglwydd sydd yn teyrnasu: a'r byd a siccrhaodd efe fel nad yscogo: efe a farna y bobl yn iniawn.
11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaiar: rhûed y môr ac sydd ynddo.
12 Gorfoledded y maes, a'r hyn oll sydd ynddo: a holl brennau'r coed a gânant o flaen yr Arglwydd:
[Page]13 Am ei ddyfod, am ei ddyfod i farnu yr ddaiar: efe a farna yr bŷd drwy gyfiawnder, a'r bobloedd yn ei wirionedd.
Dominus regnauit. Psal. xcvij.
YR Arglwydd sydd yn teyrnasu, gorfoledded y ddaiar, a llawenyched ynysoedd lawer.
2 Niwl a thywyllwch ydynt oi amgylch ef: cyfiawnder, a barn yw sail ei orseddfaingc ef.
3 Tân aiff allan oi flaen ef, ac a lŷsc ei elynnion ef o amgylch.
4 Ei fellt a lewyrchâsant y byd, y ddaiar a welodd, ac a ofnodd.
5 Y mynyddoedd a doddasant fel cŵyr o flaen yr Arglwydd: sef o flaen Arglwydd yr holl ddaiar.
6 Y nefoedd a fynegâsant ei gyfiawnder ef: a'r holl bobl a welsant ei ogoniant.
7 Gwradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedic, y rhai a orfoleddant mewn eulynnod: addolwch ef yr holl dduwiau.
8 Sion a glywodd, ac a lawenychodd: a merched Iuda a orfoleddasant o herwydd dy farnedigaethau di ô Arglwydd.
9 Canys ti wyt Arglwydd goruchaf ar yr holl ddaiar: dirfawr y derchafwyt ti goruwch yr holl dduwiau.
10 Casewch drygioni y rhai a gerwch yr Arglwydd: yr hwn sydd yn cadw eneidiau ei sainct, ac ai gwared o law y rhai annuwiol.
11 Hauwyd goleuni i'r cyfiawn, a llawenydd i'r rhai iniawn o galon.
12 Y rhai cyfiawn llawenychwch yn yr Arglwydd: a moliennwch goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
Cantate Domino. Psal. xcviij.
Prydnhawnol weddi. CEnwch i'r Arglwydd ganiad newydd, canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: âi ddeheulaw, ac âi fraich sanctaidd y parodd iddo ei hun iechydwriaeth.
[Page]2 Yspyssodd yr Arglwydd ei iechydwriaeth, a dat-cuddiodd ei gyfiawnder yng-olwg y cenhedloedd.
3 Cofiodd ei drugaredd, ai wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaiar a welsant iechydwriaeth ein Duw ni.
4 Cênwch yn llafar i'r Arglwydd bob daiar: llefwch, ac ymlawenhewch, a chênwch.
5 Cênwch i'r Arglwydd gyd a'r delyn: sef gyd a'r delyn â llef canmoliaeth.
6 Cênwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin ar yr vdcyrn, a sain trwmpet.
7 Rhûed y môr ac sydd ynddo, y bŷd a'r rhai a drigant oi fewn.
8 Cured y llifeiriaint eu Dwylo: a chydganed y mynyddoedd
9 O flaen yr Arglwydd, canys efe a ddaeth i farnu y ddaiar: efe a farna 'r bŷd mewn cyfiawnder, ar bobloedd mewn iniondeb.
Dominus regnauit. Psal. xcix.
YR Arglwydd sydd yu teyrnasu er maint a ymderfysco y bobloedd: eistedd y mae rhwng y Cerubiaid er maint a ymsiglo y ddaiar.
2 Mawr yw 'r Arglwydd yn Sion, a derchafedic yw efe goruwch yr holl bobloedd.
3 Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy, canys sanctaidd yw.
4 A nerth y brenin a hoffa farn, ti a ddarperaist iniondeb, barn, a chyfiawnder a wnaethost ti yn Iacob.
5 Derchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymmwch o flaen ei stôl draed ef, canys sanctaidd yw efe.
6 Moses ac Aaron oeddynt ym mhlith ei offeiriaid ef: a Samuel ym mysc y rhai a alŵent ar ei enw, galwasant ar yr Arglwydd, ac efe ai gwrandawodd hwynt.
[Page]7 Llefarodd wrthynt mewn colofn o niwl, cadwasant ei destiolaethau, a'r ddeddf a roddodd efe iddynt.
8 Gwrandewaist arnynt ô Arglwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, pan ddielit am eu gweithredoedd.
9 Derchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymmwch ar ei fynydd sanctaidd, canys sanctaidd yw 'r Arglwydd ein Duw.
Iubilate Deo. Psal. c.
CEnwch yn llafar i'r Arglwydd yr holl ddaiar:
2 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch oi flaen ef â chân.
3 Gwybyddwch mai 'r Arglwydd sydd Dduw: efe a'n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.
4 Ewch iw byrth ef â diolch, ac iw gynteddau â mawl: clodforwch ef, a bendithiwch ei enw.
5 Canys dâ yw 'r Arglwydd, ai drugaredd sydd yn dragywydd, ai wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
Misericordiam & iudicium. Psal. cj.
DAdcanaf drugaredd a barn: i ti Arglwydd y canaf.
2 Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith hyd oni ddelech attaf: rhodiaf mewn perffeithrwydd fyng-halon o fewn fy nhŷ.
3 Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid, câs gennifwaith y rhai cildynnus, ac ni lŷn wrthif.
4 Calon gyndyn a gilia oddi wrthif, nid adnabyddafddŷn drygionus.
5 Torraf ymmaith yr hwn a enllibio ei gyfaill yn ddirgel, y balch o olwg a'r vchel galon ni allaf ei ddioddef.
6 Fy llygaid fyddant ar ffyddlonniaid y tîr, fel y trigant gyd â mi: yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith [Page] hwnnw a'm gwasanaetha fi.
7 Ni thrig o fewn fy nhŷ yr vn a wnelo dwyll, ni chadarnheuir yn fyng-olwg yr vn a ddywedo gelwydd.
8 Yn foreu y torraf ymmaith holl annuwolion y tîr: gan ddiwreiddio holl weithred-wŷr anwiredd o ddinas yr Arglwydd.
Domine exaudi. Psal. cij.
ARglwydd clyw fyng-weddi,Boreuol weddi. a deled fy llêf attat.
2 Na chudd dy wyneb oddi wrthif, yn nydd fyng-hyfyngder gostwng dy glust attaf: yn y dydd y galwyf, bryssia, a gwrando fi.
3 Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mŵg: a'm hescyrn a boethasant fel pentewyn.
4 Fyng-halon a darawyd: ac a wywodd fel llyssieun: fel yr anghofiais fwytta fy mara.
6 Gan lais fy nhuchan y glŷnodd fy escyrn wrth fyng-nhawd.
6 Tebyg wyf i belican mewn anialwch, ydwyf fel dylluan mewn diffaethwch.
7 Gwiliais, ac ydwyf fel aderyn y tô vnic ar benn y tŷ.
8 Fyng-elynnion a'm gwarthruddasant beunydd: y rhai a ynsydant wrthif a dyngasant yn fy erbyn.
9 Canys bwytteais ludw fel bâra: a chymmyscais fy niod ag wylofain,
10 A hynny gan dy lid a'th ddigofaint: canys codaist fi, a theflaist fi i lawr.
11 Fy nyddiau a aethant fel cyscod wedi cilio, a minne fel glas-welltyn a wywais.
12 Tithe Arglwydd a barhei yn dragywyddol: a'th goffad wriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.|
13 Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Sion: canys madws [Page] yw trugarhau wrthi, o herwydd dyfod yr amser nodedic.
14 O blegit y mae dy weision yn hoffi ei meini hi: ac yn tosturio wrth ei llŵch hi.
15 A'r cenhedloedd a ofnant enw 'r Arglwydd: a holl frenhinoedd y ddaiar dy ogoniant,
16 Pan adailado yr Arglwydd Sion, a phan weler ef yn ei ogoniant.
17 Edrychodd ar weddi y gwael: ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.
18 Hyn a scrifennir i'r genhedlaeth nessaf, a'r bobl a ênir a foliannant yr Arglwydd.
19 Canys edrychodd o vchelder ei gyssegr: yr Arglwydd a edrychodd i lawr o'r nefoedd,
20 I wrando vchenaid y carcharorion: ac i ryddhau plant angeu.
21 Fel y mynegent enw 'r Arglwydd yn Sion, a'i foliant ef yn Ierusalem,
22 Pan gesclid y bobl yng-hyd, a'r teyrnasoedd i wasanaethu 'r Arglwydd.
23 Gostyngodd efe fy nerth ar y fford, a byrhaodd fy nyddiau.
24 Dywedais, fy Nuw na chyfot fi ymmaith ynghanol fy nyddiau: dy flynyddoedd di ydynt yn oes oesoedd,
25 Yn y dechreuad y seiliaist y ddaiar, a'r nefoedd ydynt waith dy ddwylo,
26 Hwynt a ddarfyddant a thi a barhei, îe hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn: fel gwiscy newidi hwynt, ac y newidiant.
27 Tithe 'r vn ydwyt, a'th flynyddoedd ni ddarfyddant.
28 Plant dy weision a bresswyliant, ai hâd a gadarnheuir ger dy fron di.
Benedic anima mea. Psal. ciij.
FY enaid bendithia 'r Arglwydd, a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd.
2 Fy enaid bendithia 'r Arglwydd, ac nac anghofia ei holl ddonniau ef.
3 Yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau: a'r hwn sydd yn iachaû dy holl lescedd.
4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddestruw, yr hwn sydd yn dy gorôm â thrugaredd, ac â thosturi.
5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni: fel yr adnewydder dy ieuengctid fel yr eryr.
6 Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder, a barn i'r rhai gorthrymmedic oll.
7 Yspyssodd ei ffyrdd i Moses, a'i weithredoedd i feibion Israel.
8 Trugarog, a gras-lawn yw 'r Arglwydd: hwyrfrydic i lid, a mawr o drugarogrwydd.
9 Nid byth yr ymrysson efe, ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint.
10 Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe i ni, ac nid yn ôl ein anwireddau y tâlodd efe i ni.
11 Canys cyfuwch ac yw'r nefoedd vwchlaw 'r ddaiar y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai ai hofnant ef.
12 Cyn belled ac yw'r dwyrain oddi wrth y gorllewyn y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym.
13 Fel y tosturia tâd wrth ei blant, y tosturiodd yr Arglwydd wrth y rhai a'i hofnant ef.
14 Canys efe a adwaene ein defnydd ni: cofiodd mai llŵch oeddem ni.
15 Dyddiau dŷn ydynt fel glas-welltyn: megis blodeun y maes y blodeua efe.
16 Pan êl gwynt trosto, yna ni bydd mwy o honaw: ai le nid edwyn ddim o honaw ef mwy.
17 Ond trugaredd yr Arglwydd fydd o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb ar y rhai a'i hofnant ef:
[Page]18 Ai gyfiawnder i blant plant y rhai a gadwant ei gyfammod ef: ac a gofiant ei orchymynnion iw gwneuthur.
19 Yr Arglwydd a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd: ai frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bôb peth.
20 Bendithiwch yr Arglwydd ei angelion ef, cedyrn o nerth yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.
21 Bendithiwch yr Arglwydd ei holl luoedd ef: sef ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys.
22 Bendithiwch yr Arglwydd ei holl weithredoedd ef, ym mhob mann oi lywodraeth. Fy enaid bendithia 'r Arglwydd.
Benedic anima mea. Psal. ciiij.
Prydnhawnol weddi. FY enaid bendithia 'r Arglwydd, ô Arglwydd fy Nuw tra mawr ydwyt: gwiscaist ogoniant, a harddwch.
2 Yr hwn sydd yn gwisco goleuni fel dilledyn: ac yn tânu y nefoedd fel llenn.
3 Yr hwn sydd yn tylathau yn y dyfroedd, yn gosod y cwmylau yn gerbyd iddo: ac yn rhodio ar adenydd y gwynt.
4 Yr hwn sydd yn gwneuthur ysprydion yn gennadon iddo: ai wenidogion yn dân fflamllyd.
5 Efe a seiliodd y ddaiar ar ei sylfeini: fel na siglo byth, nac yn dragywydd.
6 Toaist hi â gorddyfnder megis â gwisc: y dyfroedd a safant ar y mynyddoedd.
7 Gan dy gerydd di y ffoant, rhag sŵn dy daran y rhedant yn frawchus.
8 Fel mynyddoedd yr ymgodant, fel glynnoedd y descynnant i'r lle yr hwn a seiliaist iddynt.
9 Gosodaist derfyn fel nad elont trosodd, fel na ddychwelont i orchguddio 'r ddaiar.
[Page]10 Yr hwn a yrraist ffynhonnau i'r afonydd y rhai a gerddant rhwng y mynyddoedd.
11 Diodant holl fwyst-filod y maes: yr assynnod gwylltion a dorrant eu syched ynddynt.
12 Adar y nefoedd a drigant ger llaw iddynt, ac a leisiant oddi rhwng y cangau.
13 Y mae efe yn dwfrhau y mynyddoedd oi vchelder: a'r ddaiar a gyflawnir o ffrwyth dy weithredoedd.
14 Y mae yn peri i'r gwellt dyfu i'r anifeiliaid, a llyssiau i wasanaethu dyn: gan ddwyn bara allan o'r ddaiar.
15 A gwîn hefyd y llawenycha efe galon dŷn, gan beri i wynêbau ddiscleirio ag olew: ac â bara y cynnal efe galon dŷn.
16 Prennau 'r Arglwydd ydynt lawn o sugn: sef cedr-wydd Libanus y rhai a blannodd efe.
17 Lle y nytha'r adar: y ffynnidwydd yw tŷ y Ciconia.
18 Y mynyddoedd vchel sydd i'r geifr, a'r creigiau yn lloches i gwnningod.
19 Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedic: yr haul a edwyn ei fachludiad.
20 Gosodi dywyllwch a nôs fydd: ynddi 'r ymlusca pôb bwyst-fil coed.
21 Y llewod a rûant am sclyfaeth, ac a ânt i geisio eu bwyd gan Dduw.
22 Pan godo haul yr ymgasclant, ac y gorweddant yn eu llochesau.
23 Dŷn a aiff allan iw waith, ac iw orchwyl hyd yr hwyr.
24 Mor lluosog yw dy weithredoedd ô Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb, llawn yw 'r ddaiar o'th gyfoeth.
25 Felly mawr, a llydan yw 'r môr: yno y mae ymlusciaid heb rifedi, a bwyst-filod mawrion a bychain.
[Page]26 Yno 'r aiff llongau: a'r Lefiathan yr hwn a luniaist i chware ynddo.
27 Hwynt oll a ddisgwiliant wrthir am roddi eu bwyd yn ei bryd.
28 Casclant pan roddech iddynt: pan agorech dy law diwellir hwynt â daioni.
29 Pan guddiech dy wyneb y dychrynnant, pan gasclech dy yspryd y trengant, ac y dychwelant iw llwch.
30 Pan ollyngech dy yspryd y creuir hwynt, ac yr adnewyddi di wyneb y ddaiar.
31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd.
32 Yr hwn a edrych ar y ddaiar, a hi a gryna, ac a gyffwrdd a'r mynyddoedd, a hwynt a sygant.
33 Canaf i'r Arglwydd yn fy mywyd, canaf i'm Duw tra fyddwyf.
34 Bydd melys ganddo fy myfyrdod: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd,
35 Derfydd y pechaduriaid o'r tîr, ni bydd yr annuwolion mwy: fy enaid bendithia di 'r Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
Confitemini Domino. Psal. cv.
Boreuol weddi. CLodforwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ym mysc y bobloedd.
2 Cenwch iddo, can-molwch ef: treuthwch am ei holl ryfeddodau ef.
3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd, llawenyched ealon y rhai a geisiant yr Arglwydd.
4 Ceisiwch yr Arglwydd ai nerth: Cesiwch ei wyneb bôb amser.
5 Cofiwch ei ryfeddodauy rhai a wnaeth efe: ei wrthiau, a barnedigaethau ei enau.
6 O hâd Abraham ei wâs ef: ô meibion Iacob ei [Page] etholedigion.
7 Efe yw 'r Arglwydd ein Duw ni, ei farnedigaethau ef ydynt trwy 'r holl ddaiar.
8 Cofiodd ei gyfammod bôb amser: a'r gair a orchymynnodd efe i fîl o genhedlaethau.
9 Yr hyn a ammododd efe ag Abraham, ai lŵ i Isaac,
10 A'r hyn a osododd efe yn ddeddf i Iacob, ac yn gyfammod tragywyddol i Israel,
11 Gan ddywedyd, i'ti y rhoddaf dîr Canaan rhandir eich etifeddiaeth.
12 Pan oeddynt anaml ac ychydig, a dieithriaid ynddi,
13 Pan rodiasant o genhedlaeth i genhedlaeth: o'r naill deyrnas at bobl arall:
14 Ni adawodd i neb eu gorthrymmu, onid ceryddodd frenhinoedd oi plegit gan ddywedyd:
15 Na chyffyrddwch a'm rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhrophwydi.
16 Galwodd hefyd am newyn ar y tîr: a dinistriodd holl gynhaliaeth bara.
17 Anfonodd ŵr oi blaen hwynt, Ioseph a werthwyd yn wâs.
18 Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: daeth yr haiarn hyd ei enaid,
19 Hyd yr amser y daeth ei air ef i ben, gair yr Arglwydd a'i profodd ef.
20 Y brenin a anfonodd, ac ai gollyngodd ef, a llywodraeth-wr y bobl ai rhyddhâodd ef.
21 Gosododd ef yn Arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth,
22 I athrawiaethu ei dywysogion ef wrth ei ewyllys, ac i ddyscu doethineb iw henuriaid ef.
23 Yna 'r aeth Israel i'r Aipht, ac Iacob a ymdeithiodd yn nhîr Ham.
24 Ac efe a gynnyddodd ei-bobl yn ddirfawr: ac ai [Page] gwnaeth yn gryfach nai gwrthwyneb-wŷr.
25 Trôdd eu calon hwynt i gasaû ei bobl ef, ac i wneuthur yn ddichellgar ai weision ef.
26 Yna 'r anfonodd efe Moses ei wâs, ac Aaron yr hwn a ddewîsase efe.
27 Gosodâsant eiriau ei arwyddion ef yn eu plith hwynt: a rhyfeddodau yn nhîr Ham.
28 Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufyddhasant hwy ei air ef.
29 Efe a drôdd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pyscod hwynt.
30 Eu tîr a heigiodd lyffaint yn stafelloedd eu brenhinoedd.
31 Efe a ddywedodd, a daeth cymmysc-bla, a llau yn ei holl frô hwynt.
32 Efe a roddes eu glaw hwynt yn genllysc, ac yn fflammau tân yn eu tîr.
33 Tarawodd hefyd eu gwinwŷdd, ai ffigus-wydd: ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.
34 Efe a ddywedodd, a daeth y celioc rhedyn a'r lindis yn anneirif,
35 Y rhai a fwytâsant yr holl las-wellt yn eu tîr hwynt: ac a ddifâsant ffrwyth cyntaf-anedic yn eu tîr hwynt, sef blaen-ffrwyth eu holl nerth hwynt.
37 Ac ai dug hwynt allan ag arian, ac ag aur: ac heb vn llesc yn eu llwythau hwynt.
38 LLawenychodd yr Aipht pan aethant allan, canys syrthiase eu harswyd arnynt hwy.
39 Efe a estynnodd gwmwl yn dô, a thân i oleuo liw nôs.
40 Gofynnasant, ac efe a ddug sofl-ieir, ac ai diwallodd â bara nefol.
41 Efe a holltodd y graig, a'r dwfr a ddelifodd, ac afonydd a gerddâsant ar hŷd lleoedd sychion.
[Page]42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei wâs,
43 Ac a ddûg ei bobl allan mewn llawenydd: ai etholedigion mewn gorfoledd.
44 Ac a roddes iddynt dîr y cenhedloedd: a gorescynnasant lafur y bobloedd.
45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.
Confitemini Domino. Psal. cvj.
CLodforwch yr Arglwydd canys dâ yw:Prydnhawnol weddi. o herwydd ei drugaredd a beru yn dragywydd.
2 Pwy a draetha gadernid yr Arglwydd? ac a fynega ei holl fawl ef?
3 Gwyn eu byd a gadwant farn: a'r hwn a wnêl gyfiawnder bôb amser.
4 Cofia fi Arglwydd yn ôl dy raslonrwydd i'th bobl, ymwel â mi a'th iechydwriaeth.
5 Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, gan lawenychu yn llawenydd dy genhedlaeth: a chan orfoleddu gyd a'th etifeddiaeth.
6 Pechasom gyd a'n tadau, gwnaethom gamwedd, anwir fuom.
7 Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aipht, ni chofiasant lusogrwydd dy drugareddau: eithr annufydd fuant wrth y môr, sef y môr coch.
8 Etto efe ai hachubodd hwynt er mwyn ei enw: i beri adnabod ei gadernid.
9 Ac a geryddodd y môr coch fel y sychodd efe: a gwnaeth îddynt fyned trwy 'r dyfnder megis trwy 'r anialwch:
10 Achubodd hwynt hefyd o law y digasog: ac ai gwarêdodd o feddiant y gelyn.
11 A'r dyfroedd a doâsant eu gwrthwyneb-wyr: ni [Page] adawyd vn o honynt.
12 Yna y credâsant iw eiriau ef: ac y canâsant ei fawl ef.
13 Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef, ni ddisgwiliasant am ei gyngor ef.
14 Eithr blyssiâsant yn ddirfawr yn yr anialwch: a themptiâsant Dduw yn y diffaethwch.
15 Ac efe a roddes eu dymuniad îddynt, ac a anfonodd gulni arnynt.
16 Cyffroasant hefyd Moses yn y gwerssyll: ac Aaron sanct yr Arglwydd.
17 Y ddaiar a agorodd, ac a lyngcodd Ddathan, ac a orchguddiodd gynnulleidfa Abiram.
18 Cynneuodd tân hefyd yn eu cynnulleidfa hwynt: fflam a loscodd y rhai annuwiol.
19 Llô a wnaethant yn Horeb: ac ymgrymmasant i'r ddelw dawdd.
20 Felly y troâsant eu gogoniant i lûn eidion yn poru glas-wellt.
21 Anghofiasant Dduw eu hachub-wr, yr hwn a wnelse bethau mawrion yn yr Aipht.
22 Pethau rhyfedd yn nhîr Ham: pethau ofnadwy wrth y môr coch.
23 Ac efe a ddywedase am eu dinistrio hwynt, oni buase i Moses ei etholedig ef sefyll ar yr adwy oi flaen ef, i droi ei lidiawgrwydd rhag eu dinistrio.
24 Diystyrasant hefyd y tir dymunol: ac ni chredâsant ei air ef.
25 Grwgnachâsant hefyd yn eu pebyll: ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd.
26 Yna y derchafodd efe ei law yn eu herbyn hwynt, iw cwympo yn yr anialwch,
27 Ac i gwympo eu had ym mysc y cenhedloedd, ac iw gwascâru hwynt drwy 'r tiroedd.
28 Ymgymharâsant hefyd â Baalpeor, a bwyttasant [Page] ebyrth y meirw.
29 Felly y digiasant ef âi dychymmygion eu hunain: ac y tarawodd plâ yn eu mysc hwy.
30 Yna y safodd Phinehes, ac a iawn farnodd: a'r plâ a attaliwyd.
31 A chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder: o genhedlaeth i genhedlaeh byth.
32 Llidiâsant ef hefyd wrth ddyfroedd y gynnen: a drygwyd Moses oi plegit hwynt.
33 O herwydd cythruddo o honynt ei yspryd ef, fel y cam-ddywedodd âi wefusau.
34 Ni ddinistriâsant y bobloedd, megis y dywedase 'r Arglwydd wrthynt.
35 Eithr ymgymmyscâsant â'r cenhedloedd: a dyscâsant eu gweithredoedd hwynt.
36 A gwasanaethâsant eu gau dduwiau hwynt, y rhai a fuant yn fagl iddynt:
37 Aberthâsant hefyd eu meibion, ai merched i gythreuliaid.
38 Ac a dywalltâsant waed gwirion sef gwaed eu meibion, ai merched, y rhai a aberthâsant i gau dduwiau Canaan, ac a halogwyd y tîr â'r gwaed.
39 Felly 'r ymhalogâsant yn eu gweithredoedd eu hun, ac y putteiniasant gyd ai dychymmygion.
40 Am hynny y cynneuodd dîg yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, ac y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth.
41 Ac efe ai rhoddes hwynt yn llaw 'r cenhedloedd, ai caseion a lywodraethâsant arnynt.
42 Eu gelynnion hefyd ai gorthrymmâsant, a gostyngwyd hwynt tann eu dwylo hwy.
43 LLawer gwaith y gwarêdodd efe hwynt, hwythau ai digiâsant ef âi cyngor eu hun: a hwynt a gystuddiwyd am eu hanwiredd.
44 Ond efe a edrychodd pan oedd ing arnynt: pan glywodd eu llefain hwynt.
[Page]45 Ac efe a gofiodd ei gyfammod a hwynt, ac a dosturiodd yn ôl lluosogrwydd ei drugareddau.
46 Ac ai rhoes hwynt i gael trugaredd o flaen y rhai oll a'u caethiwasent hwy.
47 Achub ni ô Arglwydd ein Duw: a chynnull ni o blîth y cenhedloedd, i glodfori dy enw sanctaidd: ac i orfoleddu yn dy foliant.
48 Bendigedic yw Arglwydd Dduw Israel er ioed, ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, felly y byddo. Molwch yr Arglwydd.
Confitemini Domino. Psal. cvij.
Boreuol weddi. CLodforwch yr Arglwydd canys da yw: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
2 Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law'r gelyn,
3 Ac a gasclodd efe o'r tiroedd, o'r dwyrain, ac o'r gogledd, ac o'r dehau.
4 Cyrwydrâsant yn yr anialwch ac mewn diffaethwch allan o'r ffordd: heb gael dinas i aros ynddi.
5 Yn newynog ac yn sychedig eu henaid a lewygodd ynddynt.
6 Yna y llefâsant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder: ac efe ai gwaredodd oi gorthrymder.
7 Ac ai tywysodd hwynt ar hŷd ffordd iniawn, i ddyfod i ddinas gyfanneddol.
8 Cyffessant o flaen yr Arglwydd ei drugaredd ef, ai ryfeddodau a wnaeth efe i feibion dynnion.
9 Canys diwallodd efe yr enaid sychedig, ac a lanwodd yr enaid newynog â daionî.
10 Y rhai a bresswyliant dywyllwch a chyscod angeu, yn rhwym mewn cystudd a haiarn.
11 O herwydd annufyddhaû o honynt eiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf.
12 Yntef a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiâsant, [Page] acnid oedd cynnorthwy-wr.
13 Pan waeddâsant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder: efe ai hachubodd oi gorthrymder.
14 Dug hwynt allan o dywyllwch, a chyscod angeu: a drylliodd eu rhwymau hwynt.
15 Cyffessant hwythau o flaen yr Argiwydd ei drugaredd, ai ryfeddodau a wnaeth efe i feibion dynnion.
16 Canys efe a dorrodd y pyrth prês, ac a ddrylliodd y barauheirn.
17 Ynfydion o blegit eu camweddau, ac o herwydd eu hanwireddau a gystuddir.
18 Eu henaid a ffieiddie bôb bwyd: a daethant hyd byrth angeu.
19 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder: ac eie ai hachubodd oi gorthrymder.
20 Anfonodd efe ei air, ac iachâodd hwynt: ac ai gwaredodd oi methiant.
21 Cyffessant hwythau o flaen yr Arglwydd ei drugaredd ef: ai ryfeddodau a wnaeth efe i feibion dynniō,
22 Aberthant hefyd aberth moliant: a mynêgant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.
23 Y rhai a ddescynnant mewn llongau i'r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion:
24 Hwynt a welsant weithredoedd yr Arglwydd: ai ryfeddodau yn y dyfnder.
25 Canys dywedodd efe, a chyfododd temhestlwynt: ac a dderchafodd ei donnau.
26 Y rhai a escynnasant i'r nefoedd, ac a ddescynnasant î'r dyfnder, fel y toddodd eu henaid gan flinder.
27 Ymdroâsant, ac ymsymmudâsant fel meddwyn: a methodd eu holl ddoethineb.
28 Yna y gwaeddâsant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder, ac efe ai dygodd hwynt allan oi gorthrymder.
29 Gwnaeth i'r storm sefyll yn dawel: ai tonnau a ostegâsant.
[Page]30 Yna y llawenhausant am eu gostêgu, ac efe ai dug i'r porthladd a ddymunasent.
31 Cyffessant hwythau o flaen yr Arglwydd ei drugaredd ef ai ryfeddodau a wnaeth efe i feibion dynion.
32 A derchafed cynnulleidfa y bobl ef, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.
33 Efe a osododd y llifeiriant yn ddifaethwch: a ffynhonnau dyfroedd yn ddispydd.
34 A thîr ffrwyth-lawn yn ddiffrwyth: am ddrygioni y rhai a drigent ynddo.
35 Gosododd yr anialwch yn llynn dwfr: a'r tîr crâs yn ffynhonnau dwfr.
36 Ac yno y gwnaeth i'r newynog aros: ac y darparasant ddinas gyfanneddol.
37 Ac yr hauàsant feusydd, ac y plannâsant winllannoedd, ac y dugâsant ffrwyth toreithiog:
38 Canys bendithiâse hwynt fel yr amlhâsant yn ddirfawr, ac ni adawodd iw hanifeiliaid leihau.
39 Wedi hynny y lleihauwyd hwynt, ac y gostyngwyd gan gyfynder dryg-fyd a chŷni:
40 Tywalltodd ddirmyg ar foneddigion, a gwnaeth iddynt gyrwydro mewn anialwch heb ffordd.
41 Ond efe a gododd y tlawd o gystudd, ac a osododd ei deuluoedd fel praidd.
42 Y rhai iniawn a wêlant, ac a lawenychant: a phob anwiredd a gaea ei safn.
43 Pwy sydd ddoeth fel y cadwo hyn? ac y deallant drugareddau 'r Arglwydd?
Paratum cor meum. Psal. cviij.
Prydnhawnol weddi. PArod yw fyng-halon ô Dduw, parod yw fyng-halon|: canaf a chanmolaf â'm gogoniant.
2 Deffro dithe fyng-ogoniant, deffro y nabl a'r delyn, deffroaf yn foreu.
[Page]3 Clodforaf di Arglwydd ym mysc y bobloedd: canmolaf di ym mysc y cenhedloedd.
4 Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd, a'th wirionedd hyd yr wybr.
5 Ymddercha ô Dduw vwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.
6 Fel y gwareder dy rai annwyl: achub a'th ddeheu-law, a gwrando fi.
7 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd (am hynny y llawenychaf) rhannaf Sichem, a messuraf ddyffryn Succoth.
8 Eiddo fi yw Gilead, ac eiddo fi yw Manasses: Ephraim hefyd yw nerth fy mhen: Iuda yw fy neddf-wr:
9 Moab fydd fyng-hrochan golchi, ar Edom y taflaf fy escid: buddugoliaethaf yn erbyn Palestina.
10 Pwy a'm dŵg fi i'r ddinas gadarn? pwy a'm dŵg hyd yn Edom?
11 Onid tydi ô Dduw 'r hwn a'n ffieiddiaist, ac nid eit ti allan ô Dduw gyd an lluoedd.
12 Dyro i mi gynnorthwy rhag y gelyn, canys gau yw ymwared dyn.
13 Trwy Dduw y gwnawn wroldeb, ac efe a sathr ein gorthrym-wŷr.
Deus laudem. Psal. cix.
NA thaw di ô Dduw fy moliant.
2 Canys genau 'r annuwiol, a genau y twyllodrus a ymagorâsant arnaf: â thafod gau y llefarasant i'm herbyn.
3 Cylchynasant fi hefyd â geiriau câs, ac ymladdasant â mi heb achos.
4 Am fyng-hariadigrwydd i'm gwrthwynebasant: minne a arferais weddi.
5 Gosodasant hefyd i'm herbyn ddrwg am dda: a châs am fyng-hariad.
6 Gosot tithe vn annuwiol arno ef, a safed Satan [Page] wrth ei ddeheu-law ef.
7 Pan farner ef, eled yn euoc, a bydded ei weddi yn bechod.
8 Ychydig fyddo ei ddyddiau: a chymmered arall ei escobaeth ef.
9 Bydded ei blant yn ymddifaid: a'i wraig yn weddw.
10 Gan gyrwydro hefyd cyrwydred ei blant ef, a chardottant: ceisiant hefyd eu bara oi hang-hyfannedd leoedd.
11 Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo: ac anrheithied dieirhriaid ei lafur ef.
12 Na fydded neb a estynno drugaredd iddo: ac na fydded neb a drugarhâo wrth ei ymddifaid ef.
13 Bydded ei hiliogaeth ef yn ddinistr, delêer ei enw yn yr oes nessaf.
14 Coffaer anwiredd ei dadauo flaen yr Arglwydd: ac na ddelêer pechod ei fam ef.
15 Byddant bob amser ger bron yr Arglwydd: a thorred efe ddydd eu coffadwriaeth o'r tîr.
16 Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr erlid o honaw y truan a'r tlawd, a'r cystuddiedic o galon iw ladd.
17 Hoffodd felldith, a hi a ddaeth iddo ef: ni fynne fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho ef.
18 Ie gwiscodd felldith fel dilledyn, a hi a ddaeth fel dwfr iw fewn, ac fel olew iw escyrn.
19 Bydded iddo fel dilledyn yr hwn a wisco efe, ac fel gwregys a wregyso efe yn oestadol.
20 Hyn fyddo tal fyng-wrthwyneb-wyr gan yr Arglwydd: a'r rhai a ddywedant niwed yn erbyn fy enaid.
21 Tithe Arglwydd Dduw gwna â mi yn ôl dy enw, am fod yn dda dy drûgaredd, gwaret fi.
22 Canys truan a thlawd ydwysi, a'm calon a archollwyd [Page] o'm mewn.
23 Euthum fel cyscod pan gilio, fel celiog rhedyn i'm hescydwyd.
24 Fyng-liniau a aethant yn egwan gan ympryd, a'm cnawd a guriodd a eisieu brasder.
25 Gwarthrudd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent eu pennau.
26 Cynnorthwya fi ô Arglwydd fy Nuw, achub fi yn ôl dy drugaredd.
27 Fel y gwypant mai dy waith di yw hyn: ac mai ti Arglwydd ai gwnaethost.
28 Melldithiant hwy, tithe a fendithi, cywilyddier y rhai a gyfodant i'm herbyn: a llawenycher dy wâs.
29 Gwiscer fyng-wrthwyneb-wŷr â gwarth, ac ymwiscani yn eu cywilydd megis â chochl.
30 Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr a'm genau: a moliannaf ef ym mysc llawer.
31 O herwydd efe a saif ar ddeheu-law 'r tlawd: iw achub oddi wrth y rhai a sarnant ei enaid ef.
Dixit Dominus. Psal. cx.
DYwedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd,Boreuol weddi. eistedd ar fy neheu-law hyd oni osodwyf dy elynnion yn faingc i'th draed.
2 Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Sion: llywodraetha di ym mysc dy elynnion.
3 Dy bobl a offrymmant yn ewyllyscar, yn nydd dy nerth mewn harddwch sanctaid: o groth y wawr y mae gwlith dy anedigaeth i ti.
4 Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarhâ efe: ti ydwyt offeiriad yn dragywyddol yn ôl vrdd Melchisedec.
5 Yr Arglwydd ar dy ddeheu-law a archolla frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint.
6 Efe a farn ym mysc y cenhedloedd, lleinw lawer lle â chelanedd: archolla benn llawer gwlad.
[Page]7 Efe a ŷf o'r afon a'r y ffordd, am hynny y dercha efe ei benin.
Confitebor tibi. Psal. cxj.
CLodforaf yr Arglwydd a'm holl galon: yn nirgelfa y rhai iniawn, ac yn y gynnulleidfa.
2 Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd: hyspys i bawb ai hoffant.
3 Gogoniant a harddwch yw ei waith ef: ai gyfiawnder sydd yn parhau byth.
4 Gwnaeth goffa am ei ryfeddodau, gras-lawn a thrugarog yw 'r Arglwydd.
5 Rhoddodd ymborth i'r rhai ai hofnant ef, efe a gosia ei gyfammod yn dragywydd.
6 Mynegodd iw bobl gadernid ei weithredoedd gan roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
7 Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylaw ef: ei holl orchymynnion ydynt ffyddlon:
8 Wedi eu siccrhau byth yn dragywydd, ai gwneuthur mewn gwirionedd, ac iniawnder.
9 Anfonodd ymwared iw bobl, gorchymynnodd ei gyfammod yn dragywyddol: sancteiddiol, ac ofnadwy yw ei enw ef.
10 Derhreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: deall da sydd gan y rhai ai harferant hwy, y mae ei foliant ef yn parhau byth.
Beatus vir. Psal. cxij.
GWyn ei fyd y neb a ofno 'r Arglwydd, ac sydd yn hoffi ei orchymynnion ef yn ddirfawr.
2 Ei had fydd cadarn yn y tîr, cenhedlaeth y rhai iniawn a fendithir.
3 Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: ai gyfiawnder sydd yn parhau byth.
4 Cyfododd goleuni i'r rhai iniawn yn y tywyllwch: trugarog,, a ihosturiol, a chyfiawnyw efe.
5 Gŵr dâ fydd trugarog, a chymmwynascar: wrth [Page] farn y llywodraetha efe ei eiriau.
6 Canys byth nid yscogir ef, y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth.
7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg, ei galon sydd yn ddisigl yn ymddyried yn yr Arglwydd.
8 Attegwyd ei galon fel nad ofno efe hyd oni wêlo ei ewyllys ar ei elynnion.
9 Rhannodd, a rhoddodd i'r tlodion, ai gyfiawnder sydd yn parhau byth: ei gorn a dderchefir mewn gogoniant.
10 Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia, efe a escyrnŷg [...] [...]i dannedd, ac a dawdd ymmaith: derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.
Laudate pueri. Psal. cxiij.
GWeision yr Arglwydd molwch: îe molwch enw 'r Arglwydd.
2 Bendigêdic fyddo enw'r Arglwydd o hyn allan yn dragywydd.
3 O godiad haul hyd ei fachludiad moliannus yw enw'r Arglwydd.
4 Yr Arglwydd a dderchafwyd ar yr holl genhedloedd: ei ogoniant ef sydd goruwch y nefoedd.
5 Pwy sydd fel ein Harglwydd Dduw ni, yn presswylio yn vchel?
6 Ac yn ymddarostwng i edrych pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaiar?
7 Yr hwn sydd yn codi y tlawd o'r llwch: ac yn derchafu yr anghenus o'r tommennau,
8 Iw osod gyd â phendefigion: îe gyd â phendefigion ei bobl.
9 Yr hwn sydd yn gosod yr amhlantadwy yn dylwythoc, ac yn llawen-fam plant, canmolwch yr Arglwydd.
In exitu Israel. Psal. cxiiij.
Prydnhawnol weddi. PAn ddaeth Israel o'r Aipht, a thŷ Iacob oddi wrth bobl ang-hyfiaith.
2 Iuda oedd ei sancteiddrwydd ef: ac Israel ei arglwyddiaeth.
3 Y môr a welodd hyn, ac a giliodd: yr Iorddonen a drôdd yn ôl.
4 Y mynyddoedd a neidiasant felhyrddod, a'r brynnau fel ŵyn defaid.
5 Beth a ddarfu i ti ô fôr pan giliaist? tithe Iorddonen pa ham y troaist yn ôl?
6 Pa ham fynyddoedd y neidiech fel hyrddod? a'r brynnau fel ŵyn defaid?
7 Ofna di ddaiar rhag yr Arglwydd: sef rhag Duw Iacob.
8 Yr hwn sydd yn troi 'r graig yn llynn dwfr, a'r gallestr yn ffynnon ddwfr.
Non nobis Domine. Psal. cxv.
NId i ni ô Arglwydd, nid i ni, onid i'th enw dy hun dod ti ogoniant o herwydd dy drugaredd a'th wirionedd.
2 Pa ham y dywed y cenhedloedd, pa le yn awr y mae eu Duw hwynt?
3 Canys ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.
4 Eu del wau hwy ydynt o aur, ac arian, sef o waith dynnion.
5 Genau sydd iddynt, ac ni lefarant, llygaid sydd ganddynt, ac ni welant.
6 Y mae clustiau iddynt, ac ni chlywant, ffroenau sydd ganddynt, ac ni aroglant.
7 Dwylo sydd iddynt, ac ni theimlant: traed sy iddynt, ac ni cherddant: ni leisiant ychwaith ai gwddf.
8 I rhai ai gwnânt ydynt fel hwythau, a phob vn a [Page] ymddyriedo ynddynt.
9 Tŷ Israel ymddyriet ti yn yr Arglwydd, efe yw eu porth, ai tarian.
10 Tŷ Aaron ymddyriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth, ai tarian.
11 Y rhai a ofnwch yr Arglwydd, ymddyriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth, ai tarian.
12 Yr Arglwydd a'n cofiodd ni, efe a'n bendithia, bendithia efe dŷ Israel: bendithia efe dŷ Aaron.
13 Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwydd, fychain, a mawrion.
14 Yr Arglwydd a chwanêga ei ddonniau arnoch, sef arnoch chwi, ac ar eich plant.
15 Bendigêdic ydych chwi gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar.
16 Y nefoedd, îe'r nefoedd ydynt eiddo yr Arglwydd: efe a roddes y ddaiar i feibion dynnion.
17 Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na'r rhai oll a ddescynnant i ddistawrwydd.
18 Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd o hyn allan yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.
Dilexi quoniam. Psal. cxvj.
DA gennif wrando o'r Arglwydd ar fy llef a'm gweddiau.Boreuol weddi.
2 Am ostwng o honaw ef ei glust attaf, llefaf tros fy nyddiau arno ef.
3 Maglau angeu a'm cylchynâsant, a gofidiau vffern a'm daliâsant, ing a blinder a gefais.
4 Ond mi a alwaf ar enw 'r Arglwydd, attolwg Arglwydd gwaret fy enaid.
5 Trugârog yw 'r Arglwydd, a chyfiawn, a thosturiol yw ein Duw ni.
6 Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a'm hachubodd.
[Page]7 Dychwel ô fy enaid i'th orphywysfa, canys yr Arglwydd fu ddâ wrthit.
8 O herwydd it waredu fy enaid oddi wrth angeu, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a'm traed rhag llithro.
9 Rhodiaf o flaen yr Arglwydd yn nhîroedd y rhai byw.
10 Credais, am hynny y lleferais: cystuddiwyd fi yn ddirfawr.
11 Mi a ddywedais yn fy ffrwst, pob dyn sydd gelwyddoc.
12 Beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddaioni i mi?
13 Phiol iechydwriaeth a gymmeraf, ac ar enw 'r Arglwydd y galwaf.
14 Fy addunedau a dalafi'r Arglwydd, yn awr o flaen ei holl bobl ef.
15 Gwerth-fawr yng-olwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei sainct ef.
16 Wele ô Arglwydd, o herwydd mai dy wâs di ydwyfi, (dy wâs di ydwyfi, sef mab dŷ wasanaeth-wraig,) y dottodaist fy rhwymau.
17 Aberthaf i ti aberth moliant: a galwaf ar enw 'r Arglwydd.
18 Talaf fy addunedau i'r Arglwydd yn awr o flaen ei holl bobl,
19 Yng-hynteddoedd tŷ 'r Arglwydd o'th fewn di ô Ierusalem. Molwch yr Arglwydd.
Laudate Dominum. Psal. cxvij.
MOlwch yr Arglwydd yr holl genhedloedd: clodforwch ef yr holl bobloedd.
2 O herwydd ei drugaredd ef wrthym ni sydd fawr: a gwirionedd yr Arglwydd a beru yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.
Confitemini Domino. Psal. cxviij.
CLodforwch yr Arglwydd, canys dâ yw, o herwydd ei drugaredd a beru yn dragywydd.
[Page]2 Dyweded Israel yr awr hon mai daionus yw efe, ac mai yn dragywydd y peru ei drugaredd ef.
3 Dyweded tŷ Aaron yn awr, mai yn dragywydd y peru ei drugaredd ef.
4 Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr Arglwydd mai yn dragywydd y mae ei drugaredd ef.
5 Mewning y gelwais ar yr Arglwydd, yr Arglwydd a'm clybu, ac a'm gosododd mewn ehangder.
6 Yr Arglwydd sydd gyd â mi, nid ofnaf beth a wnel dŷn i mi.
7 Yr Arglwydd sydd gyd â mi ym mhlith fyng-hynnorthwy-wŷr: a mi a gâf weled fy ewyllys ar fyng-haseion.
8 Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, na gobeithio mewn dŷn.
9 Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, na gobeithio mewn tŷwysogion.
10 Yr holl genhedloedd am hamgylchynasant: ond yn enw 'r Arglwydd y torraf hwynt ymmaith.
11 Amgylchynâsant fi, îe amgylchynâsant fi, ond yn enw 'r Arglwydd y torraf hwynt ymmaith.
12 Amgylchynâsant fi fel gwenyn, diffoddâsant fel tân drain: o herwydd yn enw 'r Arglwydd y torrafhwynt ymmaith.
13 Gan wthio y gwthiaist fi i syrthio: a'r Arglwydd a'm cynnorthwyodd.
14 Yr Arglwydd yw fy nerth a'm cân: ac sydd iechydwriaeth i mi.
15 LLefgorfoledd, ac iechydwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw 'r Arglwydd sydd yn gwneuthur grymmusder.
16 Deheu-law 'r Arglwydd a dderchafwyd, deheulaw 'r Arglwydd sydd yn gwneuthur grymmusder.
17 Ni byddaffarw eithr byw fyddaf: a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd.
[Page]18 Gan gospi i'm cospodd yr Arglwydd: ond ni'm rhoddodd i farwolaeth.
19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder fel yr elwyf iddynt, ac y clodforwyf yr Arglwydd.
20 Dymma borth yr Arglwydd, y rhai cyfiawn a ânt iddo,
21 Clodforaf di, o herwydd i ti fyng-wrando, a'th fod yn iechydwriaeth i mi.
22 Y maen a wrthododd yr adailad-wŷr a aeth yn benn congl.
23 O'r Arglwydd y daeth hyn, hynny oedd ryfedd yn ein golwg ni.
24 Dymma 'r dydd a wnaeth yr Arglwydd, gorfoleddwn, a llawenychwn ynddo.
25 Attolwg Arglwydd achub yn awr, attolwg Arglwydd pâr yn awr lwyddiant.
26 Bendigedic yw a ddelo yn enw'r Arglwydd: bendithiâsom chwi o dŷ 'r Arglwydd.
27 Yr Arglwydd sydd Dduw, ac a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau wrth gyrn yr allor.
28 Fy Nuw ydwyt ti, am hynny i'th glodforaf, derchafafdi fy Nuw.
29 Clodforwch yr Arglwydd canys da yw: o herwydd yn dragywydd y peru ei drugaredd ef.
Beati immaculati. Psal. cxix.
Prydnhawnol weddi. GWynfyd y rhai perffaith eu ffordd: y rhai a rodiant yng-hyfraith yr Arglwydd.
2 Gwyn-fyd y rhai a gadwant ei destiolaethau ef: ac ai ceisiant ef ai holl galon.
3 Yn ddiau y rhai ni wnant anwiredd a rodiant yn ei ffordd ef.
4 Ti a orchymynnaist gadw dy orchymynnion yn ddyfal.
5 O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfan.
[Page]6 Yna i'm gwradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchymynnion.
7 Clodforafdi mewn iniondeb calon, pan ddyscwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.
8 Cadwaf dy ddeddfau: na âd fi'n dragywydd.
In quo corriget.
9 PA fodd y glanhâ llangc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.
10 A'm holl galon i'th geisiais, na âd i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchymynnion.
11 Cuddiais dy ymadroddion yn fyng-halon, er mwyn na phechwn i'th erbyn.
12 Ti Arglwydd wyt fendigedic: dysc i mi dy ddeddfau.
13 A'm gwefusau y treuthais holl farnedigaethau dy enau.
14 Bu mor llawen gennif ffordd dy destiolaethau a'r holl olud.
15 Yn dy orchymynnion y myfyrriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.
16 Yn dy ddeddfau 'r ymddigrifaf, ac nid anghofiaf dy air.
Retribue seruo tuo.
17 BYdd ddâ wrth dy wâs, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.
18 Dadcuddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd yn dy gyfraith
19 Dieithr yd wyfi yn y tîr, na chudd di rhagof dy orchymynnion.
20 Drylliwyd fy enaid gan âwydd i'th farnedigaethau bob amfer.
21 Ceryddaist y beilchion: melldigedic yw y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchymynnion.
22 Trô oddi wrthif gywilydd a dirmyg, o blegit dy destiolaethau di a gedwais.
[Page]23 Tywysogion hefyd a eisteddâsant: ac a ddywedâsant i'm herbyn, dy wâs dithe a fefyrrie yn dy ddeddfau.
24 A'th destiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a'm cynghor-wŷr.
Adhaesit pauimento.
25 GLŷnodd fy enaid wrth y llwch, bywhâ fi yn ôl dy air.
26 Fy ffyrdd a fynêgais, a gwrandewaist fi: dysc i mi dy ddeddfau.
27 Gwna i mi ddeall ffordd dy orchymynnion, ac mi a fyfyrriaf yn dy ryfeddodau.
28 Diferodd fy enaid gan ofid: bywhâ fi yn ôl dy air.
29 Cymmer oddi wrthif ffordd y celwydd, ac yn drugarog dod ti i mi dy gyfraith.
30 Dewisais fford dy wirionedd: gosodais dy farnedigaethau o'm blaen.
31 Glŷnais wrth dy destiolaethau: ô Arglwydd na'm gwradwydda.
32 Ffordd dy orchymynnion a rêdaf, pan ehangech fyng-halon.
Legem pone.
Boreuol weddi.33 DYsc i mi ô Arglwydd ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hihyd y diwedd.
34 Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith: îe cadwaf hi a'm holl galon.
35 Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchymynnion: canys ynddo y mae fy ewyllys.
36 Gostwng fyng-halon at dy destiolaethau: ac nid atgubydd-dra.
37 Tro heibio fy llygaid rhag gweled gwagedd: a bywhâ fi yn dy ffyrdd.
38 Cyflawna dy air i'th wâs, fel yr ymroddwyf i'th ofn di.
39 Tro heibio fyng-wradwydd yr hwn a ofnais: canys [Page] dy farnedigaethau ydynt ddâ.
40 Wele awyddus ydwyf i'th orchymynnion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.
Et veniat super me.
41 DEued i mi dy drugaredd Arglwydd, a'th iechydwriaeth yn ôl dy air.
42 Yna 'r attebaf i'm cabludd: o herwydd yn dy air y gobeithiais.
43 Na ddwg dithe air y gwirionedd o'm genau yn llwyr: o herwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais.
44 A'th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd.
45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder, o herwydd dy orchymynnion di â geisiaf.
46 Ac am dy destiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni'm cywilyddir.
47 Onid ymddigrifaf yn dy orchymynnion y rhai a hoffais.
48 A'm dwylo a dderchafaf at dy orchymynnion y rhai a gêrais, ac mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau di.
Memor esto verbi tui.
49 COfia dy air i'th wâs yn yr hwn y peraist i mi obeithio.
50 Dymma fyng-hyssur mewn cystudd, mai dy air di a'm bywhâ fi.
51 Y beilchion a'm gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di.
52 Cofiais ô Arglwydd dy farnedigaethau er ioed, ac ymgyssurais.
53 Ofn a ddaeth arnaf o blegit yr annuwolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.
54 Dy ddeddfau oeddynt fyng-hân yn nhŷ fy mhererindod.
55 Cofiais dy enw Arglwydd liw nôs, a chedwais [Page] dy gyfraith.
56 Hyn oedd gennif, amgadw o honofdy orchymynnion di.
Portio meo Domine.
57 O Arglwydd fy rhan ydwyt, meddyliais gadw dy air.
58 Gweddiais ger dy fron a'm holl galon: trugarhâ wrthif yn ôl dy air.
59 Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy destiolaethau di.
60 Bryssiais, ac nid oedais gadw dy orchymynnion.
61 Minteioedd yr annuwolion a'm hyspeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di.
62 Hanner nôs y cyfodaf i'th foliannu am farnedigaethau dy gyfiawnder.
63 Cyfaill ydwyfi i'r rhai oll a'th ofnant, ac ir rhai a gadwant dy orchymynnion.
64 Llawn yw'r ddaiar o'th drugaredd ô Arglwydd: dysc i mi dy ddeddfau.
Bonitatem fecisti.
65 GWnaethost yn dda a'th wâs ô Arglwydd yn ôl dy air.
66 Dysc i mi iawn ddeall, a gŵybodaeth, o herwydd yn dy orchymynnion di y credais.
67 Cyn fy narostwng yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.
68 Da ydwyt, a daionus, dysc i mi dy ddeddfau.
69 Y beilchion a glyttiasant gelwydd i'm herbyn: minne a gad waf dy orchymynnion a'm holl galon.
70 Cyn frased a'r bloneg yw eu calon: minne a ymddigrifais yn dy gyfraith di.
71 Da yw i mi fy narostwng, fel y dyscwn dy ddeddfau.
72 Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o ddarnau aur, ac arian.
Manus tuae fecerunt me.
73 DYddwylo a'm gwnaethant,Prydnhawnol weddi. ac a'm lluniasant: pâr i mi ddeall fel y dyscwyf dy orchymynnion.
74 Y rhai a'th ofnant a'm gwelant, ac a lawenychant, o blegit gobeithio o honof yn dy air di.
75 Gwn Arglwydd mai cyfiawn yw dy farnedigaethau: a chystuddio o honot fi yn ffyddlon.
76 Bydded attolwg dy drugaredd i'm cyssuro yn ôl dy air i'th wasanaeth-wr.
77 Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyfbyw: o herwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch.
78 Cywilyddier y beilchion, canys ar gam i'm plygent: ond myfi a fyfyrriaf yn dy orchymynnion di.
79 Troer attafi y rhai a'th ofnant di, a'r rhai a adwaenant dy destiolaethau.
80 Bydded fyng-halon yn berffaith yn dy ddeddfau, fel na'm cywilyddier.
Defecit anima mea.
81 DEffygiodd fy enaid am dy iechydwriaeth, wrth dy air yr ydwyf yn disgwil,
82 Y mae fy llygaid yn pallu yn edrych am dy air gan ddywedyd: pa bryd i'm diddeni?
83 Canys ydwyf fel costrel mewn mŵg: ond nid anghofiais dy ddeddfau.
84 Pa nifer yw dyddiau dy wâs? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a'm herlidiant?
85 Y beilchion a gloddiâsant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di.
86 Dy holl orchymynnion ydynt wirionedd, ar gam i'm herlidiasant, cymmorth fi
87 Braidd na'm difasant fi ar y ddaiar, a minne ni adewais dy orchymynnion.
88 By whâ fi yn ôl dy drugaredd: fel y cadwyf destiolaeth dy enau.
In aeternum Domine.
89 DY air ô Arglwydd sydd yn parhau byth yn y nefoedd.
90 Dy wirionedd sydd dros genhedlaeth: seiliaist y ddaiar, a hi a saif.
91 Wrth dy farnedigaethau y safant heddyw: canys dy weision ydynt oll.
92 Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuse yna am danaf yn fyng-hystudd.
93 Byth ni anghofiaf dy orchymynnion: canys â hwynt i'm bywheaist.
94 Eiddo ti ydwyfi, achub fi ô herwydd dy orchymynnion a geisiais.
95 Y rhai annuwiol a ddisgwiliasant am danaf i'm difetha, dy destiolaethau di a ystyriaf.
96 Yr ydwyf yn gwêled diwedd ar bob perffeithrwydd, ond dy orchymyn di sydd dra ehang.
Quomodo dilexi.
97 MOr gu gennif dy gyfraith di: hi yw fy myfyrdod beunydd.
98 A'th orchymynnion yr ydwyt yn fyng-wneuthur yn ddoethach na'm gelynnion: canys byth y maent gyd â mi.
99 Deallais fwy na'm holl athrawon: o herwydd dy destiolaethau ydynt fy myfyrdod i.
100 Deallais yn well na'r henuriaid, am gadw o honof dy orchymynnion di.
101 Atteliais fy nhraed oddi wrth bobllwybr drwg, fel y cadwn dy air di.
102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau, o herwydd ti a'm dyscaist.
103 Mor felus yw dy eiriau i'm genau: melusach na mêl i'm safn.
104 Trwy dy orchymynnion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.
Lucerna pedibus meis.
105 LLusern yw dy air i'm traed:Boreuol weddi. a llewyrch i'm llwybr.
106 Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.
107 Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi ô Arglwydd yn ôl dy air.
108 Attolwg Arglwydd bydd fodlon i ewyllyscar offrymmau fyng-enau, a dysc i mi dy farnedigaethau.
109 Y mae fy enaid yn fy llaw yn oestadol: er hynny nid anghofiais dy gyfraith.
110 Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchymynnion di.
111 Cymmerais dy orchymynnion yn etifeddiaeth dros byth: o herwydd llawenydd fyng-halon ydynt hwy.
112 Gostyngais fyng-halon i wneuthur dy ddeddfau byth hyd y diwedd.
Iniquos odio habui.
113 DYchymmygion ofer a gaseais, a'th gyfraith di a hoffaisi.
114 Fylloches a'm tarian ydwyt: wrth dy air y disgwiliais.
115 Ciliwch oddi wrthif rai drygionus: canys cadwaf orchymynnion fy Nuw.
116 Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyfbyw: ac na phâr i mi gywilyddio am fyng-obaith.
117 Cynnal fi, ac iach fyddaf, ac yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf yn wastadol.
118 Sethraist y rhai oll a gyrwydrent oddi wrth dy ddeddfau: canys ofer oedd eu dichell hwynt.
119 Gwnaethost i holl annuwolion y tîr ddarfod fel sothach: am hynny 'r hoffais dy destiolaethau.
120 Dychrynnodd fyng-nhawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.
Feci iudicium.
121 GWneuthum farn, a chyfiawnder: na ad fi i'm gorthrym-wŷr.
122 Par i'th wâs roddi ei fryd ar ddaioni: ac na âd i'r beilchion fyng-orthrymmu.
123 Fy llygaid a ballasant yn edrych am dy iechydwriaeth, ac am dy ymadrodd cyfiawn.
124 Gwna i'th wâs yn ôl dy drugaredd: a dysc i mi dy ddeddfau.
125 Dy wâs ydwyfi, pâr i mi ddeall: fel yr adwaenwyf dy destiolaethau.
126 Amser yw i'r Arglwydd wneuthur barn: torrasant dy gyfraith di.
127 Am hynny 'r hoffais dy orchymynnion yn fwy nag aur, îe nag aur coeth.
128 Am hynny y cyfrifais yn iniawn dy orchymynnion eu gyd oll: ac y caseais bob gau lwybr.
Mirabilia.
129 RHyfedd yw dy destiolaethau, am hynny y cadwodd fy enaid hwynt.
130 Agoriad dy air a rydd oleuni, gan beri deall i rai annichellgar.
131 Agorais fyng-enau a dyheais, o blegit awyddus oeddwn i'th orchymynnion di.
132 Edrych arnaf a thrugarhâ-wrthif: yn ôl dy arfer i'r rhai a garant dy enw.
133 Cyfarwydda fyng-hamrau wrth dy air, ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf.
134 Gwaret fi oddi wrth drawsedd dynnion: felly y cadwaf dy orchymynnion.
135 Llewyrcha dy wyneb ar dy wâs, a dysc i mi dy ddeddfau.
136 Afonydd o ddyfroedd a ddescynnasant o'm llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.
Iustus es Domine.
137 CYfiawn ydwyt ti ô Arglwydd, aciniawn yw dy farnedigaethau.
138 Gorchymynnâist gyfiawnder yn dy destiolaethau: a gwirionedd yn ddirfawr.
139 Fy Zêl a'm difaodd, o herwydd i'm gelynnion anghofio dy eiriau di.
140 Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: a'th wâs ai hoffodd hwynt.
141 Bychan ydwyfi, a dirmygus, ond nid anghofiais dy orchymynnion.
142 Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth: a'th gyfraith sydd wirionedd.
143 Adfyd a chystudd a'm goddiweddasant: a'th orchymynnion oeddynt fy nigrifwch.
144 Cyfiawnder dy destiolaethau a beru yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.
Clamaui in toto corde meo.
145 LLefais a'm holl galon,Prydnhawnol weddi. clyw fi ô Arglwydd, dy ddeddfau di a gadwaf.
146 Llefais arnat, achub fi: a chadwaf dy destiolaethau.
147 Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais, wrth dy air y disgwiliais.
148 Fy llygaid a achubasant flaen gwiliadwriaethau ynos, i fyfyrio yn dy air di.
149 Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd, Arglwydd bywhâ fi yn ôl dy farnedigaethau.
150 Y rhai a ddilynant scelerder a nessasant arnaf: ac a ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di.
151 Tithe Arglwydd bydd agos: canys dy holl orchymynnion ydynt wirionedd.
152 Er ystalm y gwyddwn am dy destiolaethau, selio o honot hwynt yn dragywydd.
Vide humilitatem.
153 GWêl fyng-hystudd, a gwaret fi, canys nid anghofiais dy air di.
154 Dadle fy nadl, a rhyddhâ fi: bywhâ fi o herwydd dy air.
155 Pell yw iechydwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: o herwydd na cheisiasant dy ddeddfau di.
156 Dy drugareddau Arglwydd ydynt aml: bywhâ fi yn ôl dy farnedigaethau.
157 Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fyngwrthwynebu: er hynny ni throais oddi wrth dy destiolaethau.
158 Gwelais y trosedd-wŷr, a gressynnais am na chadwent dy air di.
159 Gwêl hoffi o honof dy orchymynnion di: Arglwydd by whâ fi yn ôl dy drugaredd.
160 Gwirionedd yw dechreuad dy air: a'th holl gyfiawn farn a beru yn dragywydd.
Principes persecuti sunt.
161 TYwysogion a'm herlidiasant heb achos, er hynny fyng-halon a gryne rhag dy air di.
162 Llawen ydwyfi o blegit dy air, fel vn yn cael sclyfaeth lawer.
163 Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a'th gyfraith di a hoffais,
164 Seith-waith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori: herwydd dy gyfiawn farnedigaethau.
165 Heddwch mawr fydd i'r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt.
196 Disgwiliais wrth dy iechyd wriaeth di ô Arglwydd: a gwneuthum dy orchymynnion.
167 Fy enaid a gadwodd dy destiolaethau: a hoff iawn gennif hwynt.
168 Cedwais dy orchymynnion a'th destiolaethau: am fod fy holl ffyrdd ger dy fron di.
Appropinquet deprecatio.
169 NEssaed fyng-waedd o'th flaen Arglwydd: gwna i mi ddeall yn ôl dy air.
170 Deued fyng-weddi ger dy fron gwaret fi yn ôl dy ymadrodd.
171 Fyng-wefusau a draethant dy foliant pan ddyscech i mi dy ddeddfau.
172 Fy nhafod a ddatcân dy air: o herwydd dy holl orchymynnion ydynt gyfiawnder.
173 Bydded dy law i'm cynnorthwyo: o herwydd dy orchymynnion di a ddewisais.
174 Awyddus ydwyf ô Arglwydd i'th iechydwriaeth: a'th gyfraith yw fy hyfrydwch.
175 Bydded byw fy enaid fel i'th folianno di: a chynnorthwyed dy farnedigaethau fi.
176 Cyfeiliornais fel oen wedi colli: cais dŷ wâs, o blegit nid anghofiais dy orchymynnion.
Ad Dominum. Psal. cxx.
AR yr Arglwydd y gelwais yn fyng-hyfyngder: ac efe a'm gwrandawodd i.Boreuol weddi.
2 Arglwydd gwaret fy enaid oddi wrth wefusau celwyddoc, ac oddi wrth dafod twyllodrus.
3 Beth a rydd dy dafod twyllodrus i ti? neu pa beth a chwanega efe arnat?
4 Geiriau fel llymmion saethau cawr yng-hyd a marwor mêryw.
5 Gwae fi bresswylio o honofym Mesech: a chyfanneddu o honof ym mhebyll Cedar.
6 Rhy-hir y trigodd fy enaid gyd a'r hwn oedd yn casaû tangneddyf.
7 Heddychol ydwyf, ond pan ddywedwyf am hedd, hwynt a godant i ryfel.
Leuaui oculos. Psal. cxxj.
DErchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd o'r lle y daw fyng-hymmorth i.
2 Fyng-hymmorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar.
3 Ni âd efe i'th droed lithro, ac ni huna dy geidwad.
4 Wele ni huna, ac ni chwsc ceidwad Israel.
5 Yr Arglwydd yw dy geidwad, yr Arglwydd yw dy gyscod ar dy ddeheu-law.
6 Ni'th deru 'r haul y dydd, na'r lleuad y nôs.
7 Yr Arglwydd a'th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid.
8 Yr Arglwydd a geidw dy fynediad, a'th ddyfodiad o'r pryd hyn, hyd yn dragywydd.
Laetatus sum. Psal. cxxij.
LLawenychais pan ddywedent wrthif, awn i dŷ 'r Arglwydd.
2 Ein traed ni a safant o fewn dy byrth di ô Ierusalem.
3 Ierusalem a adailadwyd fel dinas yn cydtuno ynddi ei hun.
4 Canys yno 'r escynnodd yllwythau, sef llwythau 'r Arglwydd, yn destiolaeth i Israel, i foliannu enw 'r Arglwydd.
5 Canys yno y gosodwyd gorsedd-feingciau barn: sef gorsedd-feingciau tŷ Dafydd.
6 Dymunwch heddwch Ierusalem: llwydded y rhai a'th hoffant.
7 Heddwch fyddo o fewn dy ragfur: a ffynniant yn dy balassau.
8 Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr, llwyddiant fyddo i ti.
9 Er mwyn tŷ 'r Arglwydd ein Duw y ceisiaf i ti ddaioni.
Ad te leuaui oculos. Psal. cxxiij.
ATtat ti y derchefais fy llygaid, yr hwn a bresswyli yn y nefoedd.
2 Wele fel y mae llygaid gweision ar law eu meistred, neu fel y mae llawforwyn ar law eu meistres: felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni.
3 Trugarhâ wrthym Arglwydd, trugarhâ wrthym, canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr.
4 Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.
Nisi quia Dominus. Psal. cxxiiij.
DYweded Israel yr awrhon, oni buase i'r Arglwydd fod gyd â ni:
2 Oni buase 'r Arglwydd gyd â ni pan gyfododd dynnion yn ein herbyn.
3 Yna ein llyngcasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i'n herbyn.
4 Yna y dyfroedd a'n boddasent ni: afon a aethe tros ein henaid.
5 Yna 'r aethe tros ein henaid ddyfroedd chwyddedig:
6 Bendigedic yw 'r Arglwydd, yr hwn ni roddodd ni yn sclyfaeth iw dannedd hwynt.
7 Ein henaid a ddiangodd fel aderyn o faglau 'r adarwŷr: y fagl a dorrwyd, a ninneu a ddianghasom.
8 Ein porth ni sydd yn enw 'r Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar.
Qui confidunt. Psal. cxxv.
Y Rhai a ymddyriedant yn yr Arglwydd fyddant fel mynydd Sion: yr hwn ni syfl, ond a beru yn dragywydd.
2 Fel y mae Ierusalem a'r mynyddoedd oi hamgylch: felly y mae 'r Arglwydd o amgylch ei bobl o'r pryd hyn hyd yn dragywydd.
[Page]3 Ni orphywys gwialen annuwoldeb ar etifeddiaeth y rhai cyfiawn: rhag i'r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd.
4 Oh Arglwydd gwna ddaioni i'r rhai daionus: ac i'r rhai iniawn yn eu calonnau.
5 Ond y rhai a ymdroânt yn eu trofeudd yr Arglwydd ai gyrr gyd â gweithred-wŷr anwiredd, a bydd tangneddyf ar Israel.
In conuertendo. Psal. cxxvj.
PAn ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Sion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio.
2 Yna y llawnwyd ein gênau â chwerthyn, a'n tafod â gorfoledd: yna y dywedâsant ym mysc y cenhedloedd, yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i'r rhai hyn.
3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hynny 'r oeddem yn llawen.
4 Dychwel Arglwydd ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y dehau.
5 Y rhai ydynt yn hau mewn dagrau a fedant mewn gorfoledd.
6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn ŵylo, gan ddwyn hâd gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dann gludo ei yscubau.
Nisi Dominus. Psal. cxxvij.
OS yr Arglwydd nid adailada y tŷ, ofer y llafuria ei adailad-wŷr wrtho: os yr Arglwydd ni cheidw 'r ddinas, ofer y gwilia y ceidwad.
2 Ofer i chwi foreu-godi, orwedd yn hwyr, a bwytta bara gofidus: felly y rhydd efe hûn iw annwylyd.
3 Wele plant ydynt yn etifeddiaeth yr Arglwydd, ei obr ef yw ffrwth y groth.
4 Fel y mae saethau yn llaw cadarn, felly y mae [Page] plant ieuengtid.
5 Gwyn ei fyd y gŵr yr hwn a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: ni's gwradwyddir hwy pan ymddiddanant a'r gelynnion yn y porth.
Beati omnes. Psal. cxxviij.
GWyn ei f [...]d pob vn y sydd yn ofni 'r Arglwydd: sef yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.
2 Canys mwynhe i lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd, a dâ yw it.
3 Dy wraig fydd fel gwin-wŷdden ffrwythlawn ar hŷd ystlysau dy dŷ: a'th blant fel planhigion oliwydd o amgylch dy ford.
4 Wele fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno 'r Arglwydd.
5 Yr Arglwydd a'th fendithia o Sion, fel y gwelech Ierusalem mewn llwyddiant holl ddyddiau dy enioes.
6 Ac y gwelech blant dy blant, a thangneddyf ar Israel.
Saepe expugnauerunt. Psal. cxxix.
LLawer gwaith i'm cystuddiasant o'm hieuengtid, (y dichon Israel ddywedyd yn awr)
2 Llawer gwaith i'm cystuddiasant o'm hieuengctid, etto ni'm gorfuant.
3 Yr arddwŷr a arddasant ar fyng-hefn, ac a estynnasant eu cwysau yn hirion.
4 Yr Arglwydd cyfiawn a dorodd raffau y rhai annuwiol.
6 Y rhai a gasânt Sion gŵradwydder hwy oll, a chiliant yn ôl.
7 A'r hwn ni leinw y pladur-wr ei law: na'r hwn fyddo yn rhwymo yr yscubau, ei fonwes.
8 Fel na ddywed y rhai a ânt heibio, bendith yr Arglwydd arnoch: bendithiwn chwi yn enw 'r Arglwydd.
De profundis clamaui. Psal. cxxx.
O'R dyfnder y gelwais arnat ô Arglwydd.
2 Arglwydd clyw fy llefain, ystyried dy glustiau wrth leferydd fyng-weddiau.
3 Os creffi ar anwireddau Arglwydd: ô Arglwydd pwy a saif?
4 Onid y mae gennit tifaddeuant fel i'th ofner.
5 Disgwiliais yr Arglwydd, disgwiliodd fy enaid Ef, ac yn ei air ef y gobeithiaîs.
6 Fy enaid sydd yn disgwil am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y boreu wilwŷr yn gwilied am y boreu.
7 Disgwilied Israel am yr Arglwydd o herwydd y mae trugaredd gyd a'r Arglwydd, ac aml ymwared ganddo.
8 Ac efe a wareda Israel oddi wrth ei holl anwiredd.
Domine non est. Psal. cxxxj.
O Arglwydd nid ymchwyddodd fyng-halon, ac nid ymdderchafodd fy llygaid.
2 Ni rodiais ychwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy ryfedd i mi.
3 Eithr gosodais, a gostêgais fy enaid fel vn wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel vn wedi ei ddiddyfnu.
4 Disgwilied Israel wrth yr Arglwydd o'r pryd hyn hyd yn dragywydd.
Memento Domine. Psal. cxxxij.
Boreuol weddi. O Arglwydd cofia Ddafydd ai holl flinder.
2 Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd, ac yr addunodd i rymmus Dduw Iacob, gan ddywedyd:
3 Nid âf i fewn pabell fy nhŷ, niddringaf ar erchwyn fyng-wely.
4 Ni roddaf gwsc i'm llygaid, na hun i'm amrantau,
[Page]5 Hyd oni chaffwyf le i'r Arglwydd: sef presswylfod i rymmus Dduw Iacob.
6 Wele clywsom am dani yn Ephrata: cawsom hi ym meusydd y coed.
7 Awn iw bebyll ef, ymgrymmwn o flaen ei faingc draed ef.
8 Cyfot Arglwydd i'th orphywysfa, ti ag Arch dy gadernid.
9 Gwisced dy offeiriaid gyfiawnder: a gorfoledded dy sainct.
10 Er mwyn Dafydd dy wâs na wrthot wyneb dy eneiniog.
11 Tyngodd yr Arglwydd wirionedd i Ddafydd, ni thrŷ efe oddi wrth hynny: o ffrwyth dy groth y gosodaf ar dy orsedd-faingc.
12 Os ceidw dy feibion fyng-hyfammod a'm testiolaeth y rhai a ddyscwyf iddynt: eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orsedd-faingc.
13 Canys dewisodd yr Arglwydd Sion, ac ai dymunodd yn drigfa iddo ei hun gan ddywedyd,
14 Dymma fyng-orphywysfa yn dragywydd: ymma y trigaf canys chwennychais hi.
15 Gan fendithio y bendithiaf ei llynniaeth, ac mi a ddiwallaf ei thlodion â bara.
16 Ei hoffeiriaid hefyd a wiscaf ag iechydwriaeth: ai sainct dann ganu a ganant.
17 Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: canys darparais lusern i'm heneiniog.
18 Ei elynnion ef a wiscafi â chywilydd, arno yntef y blodeua ei goron.
Ecce quàm bonum. Psal. cxxxiij.
WEle mor ddaionus, ac mor hyfryd yw trigo o frodyr yng-hyd.
2 Y mae fel olew gwerthfawr ar y penn yn descyn [Page] ar hŷd y farf, sef barf Aaron: yr hwn oedd yn descyn ar hyd ymyl ei wiscoedd.
3 Ac fel gwlith Hermon yr hwn sydd yn descyn ar fynydd Sion: canys yno y gorchymynnodd yr Arglwydd y fendith a'r bywyd yn dragywydd.
Ecce nunc benedicite. Psal. cxxxiiij.
WCle holl weision yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd: y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ 'r Arglwydd y nôs, sef yng-hynteddoedd tŷ yr Arglwydd.
2 Derchefwch eich dwylo tu a'r cyssegr: a bendithiwch yr Arglwydd.
3 Yr Arglwydd yr hwn a wnaeth nefoedd, a daiar, a'th fendithio di o Sion.
Laudate nomen. Psal. cxxxv.
MOlwch enw 'r Arglwydd, gweision yr Arglwydd molwch ef.
2 Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ 'r Arglwydd ynghynteddoedd tŷ eîn Duw ni.
3 Molwch yr Arglwydd canys da yw 'r Arglwydd: cenwch iw enw canys hyfryd yw.
4 O blegit yr Arglwydd a ddetholodd Iacob, ac Israel yn bobl vnic iddo ef.
5 Canys mi a wn mai mawr yw 'r Arglwydd, a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwian.
6 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynne yn y nefoedd, ac yn y ddaiar, yn y môr, ac yn yr holl ddyfndêrau.
7 Y mae yn codi mwgdarth o eithafoedd y ddaiar, mellt a wnaeth efe yng-hyd a'r glaw: gan ddwyn y gwynt allan oi dryssorau.
8 Yr hwn a darawodd holl gyntaf-anedic yr Aipht, yn ddyn ac yn anifail.
9 Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i'th ganol di 'r Aipht, ar Pharao, ac ar ei holl weision.
[Page]10 Yr hwn a darawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion:
11 Sehon brenin yr Amoriaid: ac Og brenin Basan: a holl frenhiniaethau Canaan.
12 Ac a roddodd eu tîr hwynt yu etifeddiaeth, sef yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.
13 Dy enw ô Arglwydd a beru yn dragywydd: dy goffadwriaeth ô Arglwydd a fydd o genhedlaeth i genhedlaeth.
14 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, ac a dosturia wrth ei weision.
15 Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dŷn·
16 Genau sydd iddynt, ac ni lefarant: llygaid sydd ganddynt, ac ni welant.
17 Y mae clustiau iddynt, ac ni chlywant: nid oes ychwaith anadl yn eu genau.
18 Fel hwynt y mae y rhai ai gwnelont, a phob vn a ymddyriedo ynddynt.
19 Tŷ Israel bendithiwch yr Arglwydd: bendithiwch yr Arglwydd tŷ Aaron.
20 Tŷ Lefibendithiwch yr Arglwydd: y rhai a ofnwch yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd.
21 Bendithier yr Arglwydd o Sion, yr hwn sydd yn trigo yn Ierusalem. Molwch yr Arglwydd.
Confitemini Domino. Psal. cxxxvj.
CLodforwch yr Arglwydd canys da yw,Prydnhawnol wedi. o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
2 Clodforwch Dduw 'r duwiau: o blegit ei drugaredd sydd yn dragywydd.
3 Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
4 Yr hwn yn vnic sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
[Page]5 Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
6 Yr hwn a estynnodd y ddaiar ar y dyfroedd: o blegit ei drugaredd sydd yn dragywydd.
7 Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
8 Yr haul i lywodraethu 'r dydd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
9 Y lleuad, a'r sèr i lywodraethu 'r nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
10 Yr hwn a darawodd yr Aipht, ai chyntaf-anedic: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
11 Ac a ddug Israel oi mysc hwynt: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
12 A llaw gref, ac â braich estynnedic: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
13 Yr hwn a rannodd y môr côch yn ddau: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
14 Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
15 Ac a escyttiodd Pharao ai lû yn y môr côch: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
16 Ac a dywysodd ei bobl drwy 'r anialwch: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
17 Yr hwn a darawodd frenhinoedd mawrion: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
18 Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
19 Sehon brenin yr Amoriaid: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
20 Ac Og brenin Basan: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
21 Ac a roddodd eu tîr hwynt yn etifeddiaeth: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
22 Yn etifeddiaeth i Israel ei wâs: o herwydd ei [Page] drugaredd sydd yn dragywydd.
23 Yr hwn yn ein cystudd a'n cofiodd ni: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
24 Ac a'n hachubodd ni oddi wrth ein gelynnion: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
25 Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bôb cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
26 Clodforwch Dduw 'r nefoedd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
27 Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
Super flumina. Psal cxxxvij.
WRth afonydd Babilon yr eisteddasom, ac yno 'r ŵylasom pan feddyliasom am Sion.
2 Ar yr helyg oi mewn y crogasom ein telynau.
3 Yna pan ofynnodd y rhai a'n caethiwasent i ni gân a llawenydd yn ein griddfan gan ddywedyd, cenwch i ni rai o ganidau Sion:
4 Pa foddeb ni y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr?
5 Os angofiaf di Ierusalem, anghofied fy neheulaw ganu.
6 Glyned fy nhafod wrth daflod fyng-enau onichofiaf di: oni chodaf Ierusalem yn benn llawenydd i mi.
7 Cofia Arglwydd blant Edom yn nydd Ierusalem: y rhai a ddywedent, dinoethwch, dinoethwch hi hyd ei sylfaen.
8 Oh anrhaithiedic ferch Babilon, gwyn ei fyd a dalo i ti fel y telaist i ninnau.
9 Gwyn ei fyd, a gymmero, ac a darawo dy blant wrth y meini.
Confitebor tibi Domine. Psal. cxxxviij.
CLodforaf di a'm holl galon: yng-ŵydd y duwiau y canaf it.
2 Ymgrymmaf tu a'th deml sanctaidd: a chlodforaf [Page] dy enw am y drugaredd a'th wirionedd: o blegit ti a fawrheaist dy enw a'th air vwch-law pôb dim.
3 Y dydd y gelwais arnat i'm gwrande waist: a chadarnheaist nerth yn fy enaid.
4 Holl frenhinoedd y ddaiar a'th glodforant di ô Arglwydd: canys clywsant eiriau dy enau.
5 Canant hefyd a'm ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd.
6 O herwydd vchel yw 'r Arglwydd, ac efe a edrych ar yr issel, a'r balch a edwyn efe o hirbell.
7 Pe rhodiwn yng-hanol cyfyngder, ti a'm bywhauit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fyng-elynnion: a'th ddeheulaw a'm hachube.
8 Yr Arglwydd a gyflawna ei drugaredd â mi: dy drugaredd Arglwydd sydd yn dragywydd: nac esceulusa waith dy ddwylo.
Domine probâsti. Psal. cxxxix.
Boreuol weddi. ARglwydd chwiliaist, ac adnabuost fi.
2 Ti a adwaenost fy eisteddiad, a'm cyfodiad: dealli fy meddwl ym mhell o'r blaen.
3 Amgylchynaist fy llwybr a'm gorweddfa: ac yspys wyt yn fy holl ffyrdd.
4 Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele Arglwydd ti ai gŵyddost oll.
5 Lluniaist fi yn ôl, ac ym mlaen: gosodaist dy law arnaf.
6 Dymma ŵybodaeth ry ddirgel i mi: vchel yw, ni fedraf oddi wrthi.
7 I ba le 'r âf oddi wrth dy yspryd? ac i ba le y ffoaf o'th ŵydd?
8 Os dringaf i'r nefoedd yno y byddi di: os gorweddaf yn vffern wele di yno.
9 Yno pe cymmerwn adenydd y wawr, a phe trigwn [Page] yn eithafoedd y môr:
10 Yna hefyd i'm tywyse dy law, ac i'm cynhalie dy ddeheu-law.
11 Pedywedwn, etto tywyllwch a'm cuddia: yna y bydde y nos yn oleuni o'm hamgylch.
12 Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti, ond y nôs a oleua fel dydd: vn ffunyd fydd tywyllwch a goleuni i ti.
13 Canys ti a feddiannaist fy arennau, toaist fi ynghroth fy mam.
14 Cloforaf dydi canys ofnadwy, a rhyfedd i'm gwnaed, rhyfedd yw dy weithredoedd, a'm henaid a ŵyr hynny yn dda.
15 Ni chuddiwyd fy escyrn oddi wrthit, er fyng-wneuthur yn ddirgel, a'm llunio yn isselder y ddaiar.
16 Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd, ac yn dy lyfr di yr scrifennwyd hwynt oll y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr vn o honynt.
17 Am hynny mor werth-fawr yw dy gynghorau gennif ô Dduw? mor fawr yw eu swm hwynt?
18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach fyddent na'r tywod: pan ddeffroiwyf, gyd â thi 'r ydwyfi yn wastad.
19 O Dduw na leddit yr annuwiol, a'r gwŷr gwaedlyd, wrth y rhai y dywedais, ciliwch oddi wrthif.
20 Y rhai a ddywedant scelerder am danat, dy elynnion a gymmerasant dy enw yn ofer.
21 Onid câs gennif ô Arglwydd dy gaseion di? a ffiaidd gennif y rhai a gyfodant i'th erbyn?
22 A châs cyflawn y casehais hwynt: fel pe byddent i mi yn elynnion.
23 Chwilia fi ô Dduw, a gŵybydd fyng-halon: prawf fi, a gŵybydd fy meddyliau.
24 A gwêl, a oes ffordd annuwiol gennif: a thywys fi yn ffordd tragywyddoldeb.
Eripe me Domine. Psal. cxl.
GWaret fi ô Arglwydd oddi wrth y dynnion drwg, cadw fi rhag y gwŷr traws.
2 Y rhai ydynt yn bwriadu drygioni yn eu calon: ac yn ymgasclu beunydd i ryfel.
3 Golymmasant eu tafodau fel sarph: gwenwyn asp sydd tann eu gwefusau. Selah.
4 Cadw fi ô Arglwydd o ddwylo 'r annuwiol, a chadw fi rhag y gwŷr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed.
5 Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynnasant rwyd wrth dannau ar ymmyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Selah.
6 Dywedais wrth yr Arglwydd, fy Nuw ydwyt ti, clyw ô Arglwydd lef fyng-weddiau.
7 Arglwydd Dduw nerth fy iechydwriaeth gorchguddiaist fy mhenn yn nydd brwydr.
8 Na chaniadhâ Arglwydd ddymuniad yr annuwiol: na chwpla eu drwg feddwl rhag eu balchio hwynt. Selah.
9 Y pennaf a'm hamgylchyno, blinder eu gwefusau ai tôa hwynt.
10 Syrthied marwor arnynt, a bwried efe hwynt yn tân: ac mewn ceu-ffosydd fel na chyfodant.
11 Dŷn siaradus ni wastateuir ar y ddaiar: drwg a hêla y gŵr traws iw ddestruw.
12 Gwn y dial yr Arglwydd y truan, ac y barna efe y tlodion.
13 Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai iniawn a drigant ger dy fron di.
Domine clamaui. Psal. cxlj.
ARglwydd gelwais arnat, bryssia attaf: clyw fy llais pan lefwyf arnat.
2 Cyfei [...]ier fyng-weddi i'th ŵydd di fel arogldarth, a derchafiad fy nwylo fel offrwm prydnhawnol.
[Page]3 Gosot Arglwydd gadwriaeth o flaen fyng-enau: cadw ddrws fyng-wefusau.
4 Na ostwng fyng-halon at ddim drwg i ddychymmygu dychymmygion mewn drygioni gyd a'r gwŷr a weithredant anwiredd: ac na ad ti i mi fwyta oi danteithion hwynt.
5 Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi: ond na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fyng-weddi fydd etto yn erbyn eu drygioni hwynt.
6 Tafler eu barn-wŷr i lawr mewn lleoedd carregoc, fel y clywant fyng-eiriau, canys melus ydynt.
7 Y mae ein hescyrn ar wascar ar fîn y bedd, megis vn yn torri, neu yn cymmynu coed ar y ddaiar.
8 Eithr arnat ti ô Arglwydd Dduw yr edrych fy llygaid: ynot ti y gobeithiais, na fwrw fy enaid allan.
9 Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi: a hoenynnau gweithred-wŷr anwiredd.
10 Cyd-gwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun, hyd onid elwyfi heibio.
Voce mea ad Dominum. Psal. cxlij.
GWaeddais a'm llef ar yr Arglwydd:Prydnhawnol weddi. â'm llef yr ymbiliais â'r Arglwydd.
2 Tywelltais fy myfyrdod oi flaen ef: a mynegais fyng-hystudd ger ei fron ef.
3 Pan ofidiodd fy yspryd o'm mewn, tithe a adwaenit fy llwybr, yn y ffordd y rhodiwn y cuddiasant i mi fagl.
4 Edrychais ar y tu dehau, ac wele, ac nid oedd gydnabod gennif: pallodd nodded i mi, nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid.
5 Llefais arnat ô Arglwydd, a dywedais, ti yw fyng-obaith, a'm rhann, yn nhîr y rhai byw.
6 Ystyr wrth fyng-waedd, canys truan iawn ydwyf, [Page] gwaret fi oddi wrth fy erlid-wŷr, canys trêch ydynt nâ mi.
7 Dŵg fy enaid allan o garchar i foliannu dy enw: y rhai cyfiawn a'm cylchynant pan fyddech dâ wrthif.
Domine exaudi. Psal. cxliij.
ARglwydd clyw fyng-weddi, a gwrando ar fy neis [...] fiad: erglyw fi er mwyn dy wirionedd, a'th gyfiawnder.
2 Ac na ddos i gyfraith a'th wâs, o herwydd ni chyfiawnheuir neb byw ger dy fron di.
3 Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid, curodd efe fy enaid i lawr, a gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch, fel y rhai a fuasent feirw er ystalm.
4 Yna 'r ymofidiodd fy yspryd o'm mewn: ac y synnodd fyng-halon ynof.
5 Cofiais er hynny y dyddiau gynt, myfyrriais ar dy holl waith: ac yng-weithredoedd dy ddwylo y myfyriaf.
6 Lledais fy nwylaw attat: fy enaid fel tir sychedic sydd yn hiraethu am danat.
7 Oh Arglwydd gwrando fi yn ebrwydd: pallodd fy yspryd, na chuddia dy wyneb oddi wrthif, rhag fy mod yn gyffelyb i'r rhai a ddescynnant i'r pwll.
8 Pâr i mi glywed dy drugaredd yn foreu: o herwydd ynot ti y gobeithiais, pâr di i mi ŵybod pa ffordd y rhodiaf, o blegit attat ti y derchefais fy enaid.
9 Gwaret fi oddi wrth fyng-elynnion ô Arglwydd: canys gyd â thi 'r ymguddiais.
10 Dysc i mi wneuthur dy ewyllys di: canys ti ydwyt fy Nuw: tywysed dy Yspryd daionus fi i dir yr iniondeb.
11 Bywhâ fi ô Arglwydd er mwyn dy enw, dwg fy enaid allan o ing er mwyn dy gyfiawnder.
12 Ac er dy drugaredd dinistria fyng-elynnion, a difetha [Page] holl wrthwyneb-wŷr fy enaid: o blegit dy wâs di ydwyfi.
Benedictus Dominus. Psal. cxliiij.
BEndigedic fyddo 'r Arglwydd fy nerth,Boreuol weddi. yr hwn sydd yn dyscu fy nwylo i ymladd, a'm byssedd i ryfela.
2 Fy nhrugaredd a'm hamddeffynfa, fy nhŵr, a'm gwaredudd, fy amddeffynnudd yw efe, ac ynddo y gobeithiais: yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl tanaf.
3 Arglwydd beth yw dŷn, pan gydnabyddit ef? neu fab dŷn pan wnaeit gyfrif o honaw?
4 Dyn sydd debyg i wagedd, fel cyscod y mae eiddyddiau yn myned heibio.
5 Arglwydd gostwng dy nefoedd a descyn, cyffwrdd a'r mynyddoedd a mygant.
6 Gwna fellt, a gwascar hwynt, gyrr dy saethau, a difa hwynt.
7 Anfon dy law oddi vchod, achub a gwaret fi o ddyfroedd mawrion, sef o law plant estron.
8 Y rhai y llefarodd eu genau wagedd, ac y mae eu deheu-law yn ddeheu-law ffalster.
9 Canaf i ti ô Dduw ganiad newydd, ar y nabl, a'r dectant y canaf i ti.
10 Efe sydd yn rhoddi iechydwriaeth i frenhinoedd, ac yn gwaredu Dafydd ei wâs oddi wrth gleddyf niweidiol.
11 Achub fi, a gwaret fi o law meibion estron, y rhai y llefarodd eu genau am wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheu-law ffalster.
12 Fel y byddo ein meibion fel plan-wŷdd yn tyfu oi hieuengctid, a'n merched fel conglfaen nadd yn adailadaeth teml.
13 Fel y byddo ein conglau yn llawn, ac yn aml o [Page] amryw bethau, a'n defaid yn dwyn miloedd, a myrddiwn yn ein heolydd.
14 A'n hŷchen yn gryfion i lafurio, heb na rhuthro i mewn, na myned allan, na gwaedd yn ein heolydd.
15 Gwyn ei fyd y bobl y mae felly iddynt, gwyn ei fyd y bobl y mae'r Arglwydd yn Dduw iddynt.
Exaltabo te Deus. Psal. cxlv.
DErchafaf dy di fy Nuw a'm Brenin: a bendithiaf dy enw byth, ac yn dragywydd.
2 Beunydd i'th fendithiaf, a'th enw a folafbyth, ac yn dragywydd.
3 Mawr yw 'r Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ac ar ei fawredd nid oes ddiben.
4 Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynegant dy gadernid.
5 Ardderchawgrwydd gogoniant dy fawl a'th bethau rhyfedd a fyfyrriaf.
6 Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegafinne dy fawredd.
7 Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant: a'th gyfiawnder a ddadcanant.
8 Graslawn, a thrugarog yw 'r Arglwydd: hwyrfrydic i ddig, a mawr ei drugaredd.
9 Daionus yw 'r Arglwydd i bawb: ai drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd.
10 Dy holl weithredoedd di a'th glodforant ô Arglwydd: a'th sainct a'th fendithiant.
11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth: a thraethant dy gadernid,
12 I beri i feibion dynnion adnabod ei gadernid ef: a gogoniant ardderchawgrwydd ei frenhiniaeth.
13 Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragywyddol: a'th lywodraeth a beru yn oes oesoedd.
14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant: ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd.
[Page]15 Llygaid pawb a ddisgwiliant wrthit, ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd:
16 Gan agorid dy law, a diwallu pob peth byw a'th ewyllys da.
17 Cyfiawn yw 'r Arglwydd yn ei holl ffyrdd: a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.
18 Agos yw 'r Arglwydd i'r rhai oll a alwant arno: sef i'r holl rai a alwant arno mewn gwirionedd.
19 Efe a wnaiff ewyllys y rhai ai hofnant: gwrendu hefyd eu llefain, ac ai hachub hwynt.
20 Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb ai carant ef, a'r holl rai annuwiol a ddifetha efe.
21 Traethed fyng-enau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.
Lauda anima mea. Psal. cxlvj.
FY enaid mola di'r Arglwydd.
2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i'm Duw tra fyddwyf.
3 Na hyderwch ar dywysogion nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iechyd wriaeth ganddo.
4 Ei anadl a aiff allan, efe a ddychwel iw ddaiar: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcannion ef.
5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Iacob yn gymmorth iddo: ac y sydd ai obaith yn yr Arglwydd ei Dduw
6 Yr hwn a wnaeth nefoedd, a daiar, y môr a'r hyn oll sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw ei wirionedd yn dragywydd.
7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i'r rhai gorthrymmedic, ac yn rhoddi bara i'r newynoc: yr Arglwydd sydd yn gollwng carcharorrion yn rhydd.
8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion, yr Arglwydd sydd yn codi y rai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.
9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid, efe a gynnal [Page] yr ymddifad a'r weddw: ac a ddryssa ffordd y rhai annuwiol.
10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth: dy Dduw di Sion fydd dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.
Laudate Dominum. Psal. cxlvij.
Prydnhawnol weddi. MOlwch yr Arglwydd, canys da yw canu i'n Duw ni: o herwydd hyfryd yw, îe prydferth yw mawl.
2 Yr Arglwydd sydd yn adailadu Ierusalem, efe a gascl wascaredigion Israel.
3 Yr hwn sydd yn iachau y rhai briwedic o galon, ac yn rhwymo eu doluriau.
4 Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr, geilw hwynt oll wrth eu hen wau.
5 Mawr yw ein Harglwydd, ac aml ei nerth: anneirif yw ei ddoethineb.
6 Yr Arglwydd sydd yn cynnal trueniaid, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr.
7 Cenwch i'r Arglwydd mewn clodforedd: cenwch i'n Duw a'r delyn.
8 Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chwmylau: ac yn paratoi glaw i'r ddaiar: gan beri i'r gwellt dyfu ar y mynyddoedd, a llysiau i wasanaeth dŷn.
9 Yr hwn sydd yn rhoddi i'r anifail ei borthiant: ac i gywion y gig-fran pan lefant.
10 Nid oes ewyllys ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn ysceiriau gŵr.
11 Yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai ai hofnant: sef y rhai a ddisgwiliant wrth ei drugaredd ef.
12 Ierusalem mola di'r Arglwydd, Sion molianna dy Dduw.
13 O herwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth, ac a fendithiodd dy blant o'th fewn.
[Page]14 Yr hwn sydd yn gosod dy fro yn heddychol, ac a'th ddiwalla di â braster gwenith.
15 Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddaiar: ai air a rêd yn dra buan.
16 Yr hwn sydd yn roddi eira fel gwlân: ac a dâna rew fel lludw.
17 Yr hwn sydd yn bwrw iâ fel tammeidiau, pwy a erys gan ei oerni ef?
18 Efe a enfyn ei air, ac ai tawdd hwynt, âi wynt y chwyth efe, a'r dyfroedd a lifant.
19 Y mae efe yn mynegu ei eiriau i Iacob: ei ddeddfau a'i farnedigaethau i Israel.
20 Ni wnaeth efe felly ag vn genedl: ac nid adnabuant farnedigaethau 'r Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
Laudate Dominum. Psal. cxlviij.
MOlwch yr Arglwydd o'r nefoedd: molwch ef yn yr vchelder.
2 Molwch ef ei holl angelion ef: molwch ef ei holl luoedd.
3 Molwch ef haul a lleuad: molwch ef yr holl sêr a goleuni.
4 Molwch ef nef y nefoedd: a'r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.
5 Molant enw 'r Arglwydd: o herwydd efe a ddywedodd y gair, a hwynt a wnaed, efe a orchymynnodd, a hwynt a greuwyd.
6 A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis trosseddir hi.
7 Molwch yr Arglwydd ar y ddaiar, y dreigiau a' [...] holl ddyfnderau.
8 Tân a chenllysc, eira, a tharth: a gwynt ystormus yn gwneuthur ei air ef.
9 Y mynyddoedd a'r brynnau oll, y coed ffrwythlawn a'r holl cedr-wŷdd·
[Page]10 Ybwyst-filod, a phob anifail: yr ymlusciaid, ac adar ascelloc.
11 Brenhinoedd y ddaiar a'r holl bobloedd, tywysogion a holl farn wŷr y byd.
12 Gwŷr ieuaingc a gweryfon hefyd: henaf-gwŷr a llangciau:
13 Molant enw 'r Arglwydd: o herwydd ei enw ef yn vnic sydd dderchafadwy: ei ardderchawgrwydd ef sydd vwch law daiar a nefoedd.
14 Ac efe sydd yn derchafu corn ei bobl, yn foliant iw holl sainct, sef i feibion Israel pobl agos iddo. Molwch yr Arglwydd.
Cantate Domino. Psal. cxlix.
CEnwch i'r Arglwydd ganiad newydd: bydded ei foliant efyng-hynnulleidfa y sainct.
2 Llawenhaed Israel yn yr hwn a'i gwnaeth: gorfoledded meibion Sion yn eu Brenin.
3 Molant ei enw ef ar y dawns: cânant iddo ar dympan a thelyn.
4 O herwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais ag iechydwriaeth.
5 Gorfoledded y sainct mewn gogoniant: a chânant yn eu gwelau.
6 Bydded ardderchog weithredoedd Duw yn eu genau: a chledd yf dau sinioc yn eu dwylo,
7 I beri dial ar genhedloedd, a chosb ar bobloedd:
8 I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau: ai pendefigion â gefynnau heirn.
9 I wneuthur arnynt farn scrifennedic: yr ardderchawgrwydd hyn fydd iw holl sainct ef. Molwch yr Arglwydd.
Laudate Dominum. cl.
MOlwch Dduw yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth.
[Page]2 Molwch ef yn ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd.
3 Molwch ef â llais vd-corn: molwch ef â nabl, ac â thelyn.
4 Molwch ef â thympan, ac â dawns: molwch ef â thannau, ac ag organ.
5 Molwch ef â symbalau soniarus: molwch ef â symbalau llafar.
6 Pob perchen anadl molianned yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.