Rheol o gyfarwyddyd im harfer wrth ymweled ar Clâf.
Yr offeiriad ar i fynediad cyntafir lle y byddo y Clâf yn gorwedd a ddywed.
TAngneddyf fyddo yn y ty hwn, ac i bawb y sydd yn trigo ynddo, Amen.
Yno gan nessau at y Clâf y gostwng efe ar ei liniau at sawl oll a fyddo gydag ef, ac a ddywed.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
Christ trugarhâ wrthym.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd. Sancteiddier dy enw. Deued dy deyrnas. Bîd dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. Amaddeu i ni yn dyledion fel y maddeuwn ni in dyledwyr. Ac nac [Page] arwain ni i brofedigaeth: Eithr gwared ni rhag drwg. Canys ti biau 'r dernas, a'r nerth, a'r goginiant yn oes oesoedd, Amen.
Gweddiau dros y Clâf.
O Arglwydd Ddûw Holl-alluog yr hwn nid wyt yn dirmygn ochneidiau calonnau drylliog cystuddieddig, derbyn yn gweddiau yrhai yr ydym yn eū hoffrwn i'th ddwywol fawredd: Edrych i lawr attolwg i ti ar dy wasanaeth-wr hwn sydd ofidûs gan ddolur. Bydd iddo yn dŵr amddiffin yn erbyn holl ruthrau ei elynnion: Ti biau obriodoldeb, ô Arglwydd, yn wastad drugarhau ac iachau y rhai drylliedig ô galon: Arglwydd attolygwn i ti ddanfon iddo ddiddanwch dy gymmorth yn ei gyfingderan hyn, mal pa vn bynnag a wnêl a'i byw ai marw, y llawenycho ynot ti, trwy Iesu Grist eni Arglwydd, Amen.
Vn arall.
O Arglwydd edrych i lawr o'r nefoedd, golyga. ymwel, ac esmuytha ar dy wâs clwyfus hwn. Edrych arno à golwg dy drugaredd Dyro iddo gyssur, a diogel ymddiried ynot, amdd ffin êf rhag perigl y gelyn, a chadw êf mewn tangneddyf dragwyddol, a diogelwch, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, Amen.
Gweddi aral.
DUw yr vnig noddfa ymmhôb anghenion a chyfingderau, yr vnig gymmorth yn amser gwendid a llescedd, derbyn attolwg ein gweddiau gostyngedig, y rhai'r ydym yn eu hoffrwm gar dy fron tros dy wasanaethwr clwyfus hwn: ymwel ag ef o Achubudd bendigedig megis yr ymwelaist ag Ezechias, â mam gwraig Petr, ac â gwâs y Captaen: felli ymwel a dyro i'r Clâf hwn ei gynnefin iechyd od yw dy fendigedig ewyllys a'th fodlonrhwydd di, neu ddyro iddo râs i gymeryd felly dy ymweliad, fel y bo iddo yn ôl diweddu y fuchedd boenedig hon, allu gorphywys gyd â thi yn y fuchedd dragwyddol twry Iesu Grist, i'r hwn gyd a'r Tâd a'r Yspryd glân y byddo pob gallu, a gogoniant ag Arglwyddiaeth yr awr' honag yu dragwyddol, Amen.
Gweddi arall.
O Arglwydd IESU GRIST yr hwn ywt iechyd pob dyn byw, a bywyd tragwyddol yrhai ydynt yn marrw mewn ffydd, nyni dy ostyngedig weision wedi ymgynnull ymma gan fôd yn ddiogel genym na all y peth a orchmynner ith ddwylo di fôd yn golledig ydym yn gorchymyn i ti o nefol Dâd dy wasanaethwr ymma sydd ofidus gan ddolur: gan attolwg iti gryfhau ei enaid ef [Page] yn erbyn pōb mâth ar brofedigaethau, ai gadw ai amddiffin rhag holl gynllwynion Diafol: nid oes ynddo ddim haedde digaethau, na dim arall iw roddi trosto neu hyder arno, ond yn vnig dy ddirfawr a'th dyner drugareddau di. Fe ath aned ti Arglwydd trugarog er ei fwyn ef: Ti â weddiaist, ac â ymprydiaist er ei fwyn ef: Ti â bregethaist ac â athrawiaethaist er ei fwyn ef: Ti â newynaist ac â sychedaist er ei fwyn ef: Ti â wnaethost bob gweithredoedd da er ei fwyn ef: Ti â ddioddefaist boenau anguriol, ac arteitheau: Ac yn ddiweddaf a roddaist dy werthfawroccaf gorph i farw, a'th waed iw dywalle ar y groes er ei fwyn êf. Yr awrhon, o Arglwydd, yr awr'hon o drugaroccaf Achubwr, bydded yr holl bethau hyn yn fuddiol ac yn dycciamus, yrhui a roddaist ti iddo, yr hwn a roddaist hyd yn oed dyhun trosto. Golched a glanhaed dy waed ti aflendid a brynti ei bechodau ef, bydded dy gyfiawnder di yn cuddio ac yn gorchguddio ei anghy fiawnder ef: Bydded haeddedigaethau dy ddioddefaint chwerw yn iawn tros ei bechodau ef. Dyro iddo râs na byddo ffydd ac iechydwriaeth yn dy werthfawroccaf waed byth yn amheûs ac yn pallu ynddo, ond bôd yn gadarn ac yn ddiyscog: na lescao gobaith o drugaredd a bywyd tragwyddol byth ynddo ef: nad oero cariad byth ynddo: Ac yn ddiweddaf, na orchfyger gwendid y cnawd gan ofn marwolaeth Caniadha, o caniadha drugaroccaf Achubwr pan fwrio angeu y cêl tros [Page] lygaid ei gorph ef, allu o lygaid ei enaid graffu yn ddiyscog ac edrych arnat ti: pan ddygo angeu oddiwrtho ei barabl, ai leferydd er hynny allu'oi galon lefain a dywedyd, i'th ddwylo di Arglwydd y gorchmynnâf fy enaid. Felly Arglwydd Iesu tyred yn fuan, Amen, Amen.
Ymaddroidion cyssurol a myfyrdodau iw hadrodd wrth y Clâf gan yr Offeiriad yn sefyll yn ei ymyl.
GAredig frawd (neu chwaer) y mae yn rhaid i ti ystyried fod Duw yn danfon y cerydd hwn ar dy gorph megis meddiginiaeth i iachau dy enaid, drwy dy gymmell di (yr hwn wyt glaf o bechod) i ddyfod trwy edifeirwch at Grist y meddig i feddiginiaethu dy enaid. Y mae yn rhaid iti yssyried nad yw y clefyd trymma ar a allech i odef ddim iw gyffelybu ar poenau, ac a'r arteithiau a ddioddefodd Iesu Grist dy Achubwr trosot. Ac am hynny gan iddo ef ddioddef cymmaint dros dy brynnedigaeth di, dy ddylêd titheu iw ddwyn yn oddefus ychydig glefyd iw fodlonr ynteu. Ti â ddylit gofio fod dy glywf a'th ddolur pan fo mwyaf ei angerdd yn llai o lawer nag a haeddodd dy bechodau Canys dy gydwybod dy hun a ddywaid iti haeddu o honot ar law dduw waeth na'r hyn yr wyt yn awr ynei oddef: Yllyriaeth o hyn a ddylei ddyscu iti ymattal rhag grwgnach ac anfodlonrhwydd yn erbyn Duw, ond wrth symied dy amryw ath [Page] aml bechodau rhoddi mawr ddiolch iddo na ddialeddir arnat â chospedigathau trymmach o lawer. Meddwl mor ewyllysgar fyd. dei yrhai damnedig yn vffern i oddef y boen iwyaf sydd arnat ti tros fil o flynyddoed, tan ammod bôd iddynt obaith yn vnig o esmwythdrâ oddiwrth ei poenau tragwyddol yn ôl cynnifer o flynyddoedd. Gan hynny gan mai trugaredd Dduw ydiw gael o honot yn hytrach dy geryddu na'th ddifetha, ti a ddylit ddwyn yn oddefus ei gospedigaeth amserol ef oherwydd yr amcanfryd yw dy achub oddiwrth ddamned gaeth dragwyddol. Y mae yn rhaid iti feddwl nad oes dim yn d'gwyddo iti yn yr achosion hyn ond y cyfriw bechau ac a dd gwyddodd fynychaf i'th frodyr ynghrist, y rhai ag hwy yn weision auwyi a ffyddlon i Ddûw tra fuont fyw yma ar y ddaiar, ydynt yn awr yn Seintiau gwynfydedig, a gogoneddus gyd ag ef yn y nefoedd, megis Iob, Dafydd, Ioseph, Lazarus ac eraill. Hwy â fuont tros amser yn griddfan tan y cyffelib faich, ond y maent hwy yr awr hon weddi eu gwaredu oddiwrth ei holl drueni, trallodau, ac adfydwch. Ac felly yn yr vnffunyd cyn nēmawr o ddyddiau (os arhosi yn oddefgar wrth yr Arglwydd) ith rydheir ditheu hefyd o'th glwyf a'th ddolur, naill ai trwy roddi i ti dy gynefin iechid fel i Iob gynt, neu (yr hyn sydd well o lawer) drwy dy dderbyn megis Lazarus ir orphwysfa nefol: Yn ddiweddaf cofia na roddes Dûw mo honot yn nwylo dy gaseion [Page] i'th gospi, eithr efe (dy Dâd earedig) a'th gerydda ai drugarog law ei hûn. Y brenin Dafydd wedi cael ar ei ddymuniad ddewis ei gospedigaeth ei hûn, a ddewisodd dderbyn ei gerydd ar law Dduw yn hyttrach nag mewn môdd arall yn y bŷd, gan ddywedyd: Gâd i mi syrthio yn awr yn llaw yr Arglwydd (canys aml yw eu drugareddau ef) fel na chwympwyt yn llaw dŷn; Ac am hynny ych dylêd chwi yw cymerûd y cystûdd hwn yn groesawys gan ei fôd yn dyfôd oddiwrth law Ddûw, oddiwrth yr hwn nyni â wyddom nad oes dim ond daioni yn dyfod. Dy gystudd hwn sydd yn dyfod oddiwrth law dy nefol Dâd, yrhwn nis danfonei byth oni bai ei fôd yn gweled mai anghenrhaid, a buddiol yw i ti.
Yn ail y mae yn rhaid i ti ystyried oddiwrth pa ddrygau ac aflwydd y daw marwolaeth i'th achub ac i'th ryddhau. Yn gyntaf, hi a'th ryddhâ oddiwrth gorph llygradwy yr hwn a gaed mewn pechod, ac ni ddichon wneuthur dim amgen ond pechu. Yn ail hi a'th ryddhâ oddiwrth dy ymcanion ofer, a'th fwriadau anfuddiol, yrhai ydynt ddrygionus bob amser, a darostyngedig i aflendid, rhagrith meluswidd, swyddymgais, gwâg-ogoniant drwg-fwriad, dial, cybydd-dra, trachwant, meddwdod, anghymedrolder, tyngu, annuwioldeb, balchder, gorthrymder, a mil or cyffelyb drueni, a'r rhain y trallodir ein eneidiau truein tra yr arhosant o fewn carchar-dai ein cyrph. Yn drydydd, marwolaeth ath rhydda di rhag pechu, ac a wna ddiben ar bob adfydwch a ddigwydd i bechod, [Page] yn gymmaint ag yn ôl marwolaeth in bydd dim tristid mwyach, na llefain, ac ni bydd dim dolur mwy, canys Dûw a sych ymmaith bob deigr oddiwrth ein llygaid. Yn bedwerydd drwy farwolaeth i'th ddidolir odd wrth gyfeillach dynion drygionus ac in phr [...]swyll mwy ym Mesheck, ac ni thrigi ym mhebyll Cedar. Ac yn ddiweddaf oll, lic mae yn corph helbulus yma yn byw mewn byd o ddrygioni, yn gymmaint ac na ddichon yr enaid truan edrych allan ar llygad, na gwrando ar giust, na chyffwrdd ar llaw, nac aroglau ar ffroenau, nac archwaethu ar tafod yn ddyberigl, rhag digwyddo iddo ryw brofedigaeth, neu lygrediaeth bydded hyspys iti y gwaredir dy enaid trwy farwolaeth rhag y caethiwed yma ac y gwrscir dy gorph llygradrwy ag anllygredigaeth, ar marwol hwn ag anfarwolaeth. O dedwydd a thraddedwydd yw'r farwolaeth honno yn yr Arglwoydd yr hon an gwareda oddiwrth fŷd mor [...]rygonus ac anrhyddâ oddiwrth y cyfryw gorph o gaethiwed a liygredigaeth.
Yn drydydd y mae yn rhaid iti ystyried pa lesâd â ddŵg marwolaeth dduwiol. Yn gyntaf hi â ddwg dy enaid i fwynhau cyfundeb digyfrwng gyd a'r fendigedig Drindod mewn tragwyddol ddedwyddwch a gogoniant. Yn ail, hi a drosgiwydda dy enaid allan o drueni y byd hwn, ac odd wrth gymdeithas pechaduriaid i ddmas y Duw byw y Hierusalem nefol, a chymanfa llawer myrddiwn o Angylion ac a ysprydoedd y cyfiawn, ac at Iesu cyfryngwryt [Page] Testament newydd. Ac yn drydydd, marwolaeth a ddyru dy enaid mewn cwbl-gyflawn feddiant or holl etifeddiaeth a'r dedwydd a addawodd Christ iti yn ei air, neu a bwrcasodd trosot ai waed. Dyma 'y llesâd ar dedwyddwch i'r hwn ith dwg marwolaeth fendigedig. Ac am hynny da fydd iti pan nesao amser dy ymadawiad, yn ewyllyscar ac yn llawen orchymyn a rhoddi dy enaid i gadw i ddwylo Iesu Grist dy vnig Iachawdwr a'th brynnwr.
Wedi gorphen y cyngor, yr Offeiriad, ar gynnlleidfa gyd ag ef, a benliniant ac a weddiant mal hyn.
O Drugarog Dâd yr hwn ywt Arglwydd a rhoddwr bywyd, ag ir hwn y perthyn dîgwyddiadau marwolaeth, nym dy blant wedi ymgynnull yma ynghyd, ydym yn cydnabod nad y'm ni deilwng oherwydd ein amrafael bechodau i ofyn ar dy ddwylaw ddim bendith i ni ein hunain chwaethach bod yn erfynwyr tros eraill at dy fawredd di: Etto o herwydd gorchymmyn o honot i ni weddio tros ei gilydd, yn enwedig tros y Clâf, ac a addewaist y byddeigweddiau y Cyfiawn yn gymeradwy gyd â thi. Gan hynny mewn vfydddod ith orchymmyn ac ymddiried yn dy raslawn addewid yr ydym yn hyderu bôd yn eiriolwyr gostyngedig at dy dduwrol fawredd tros hwn yma ein anwyl frawd (neu chwaer) yr hwn yr ymwelaist ag ef a chospedigaeth dy dadol law dy hûn gan attolwg i ti er mwyn Iesu Grist, ac er haeddedigaeth ei ofidusfarwolaeth [Page] [...] [Page] [...] [Page] ai ddioddefaint (yr hwn a ddioddefodd efe trosto ef) bardynu â maddeu iddo ei holl bechodau, yn gystad y pechod hwnnw ym mha vn y lluniwyd ac y gaued ef ar holl gamweddau ar trofeddau, y rhai erioied hyd y dydd hwn ar awr â wnaeth ar feddwl, gair, neu gweithred, yn erbyn dy ddwmol fawredd. Tafl hwynt ymaith or tu cefn i ti O Arglwydd bwrw hwynt oddrwrthit cyn belled ag ywr dwyrain oddiwrth y Gorllewm. Gollwng hwynt tros gôf, na ddyro hwynt iw erbyn ef. Golch hwynt ymaeth yngwaed Crist fel nas gweler mwyach, a gwared ef oddiwrth yr holl farnedigaethau dyledus iddo am ei bechodau, na byddont mwy yn cythryblu ei gydwybod, nac yn codi mewn barn yn erbyn ei enaid, a chyfrif iddo gyfiawnder Ies. Crist drwy'r hwn yr ymddangoso efe yn gyfi awn yn dy olwg di. Ac yn ei ddirfawr ofid ar hyn o amser O Arglwydd, ymch wanega ei ffydd, ac naill ai yscafnhâ ei ddolur, neu ddyro iddo ymchwaneg o amynedd i oddef dy wynfydedig ewyllys di ath fodlonrhwydd; Ac na ddyro arno Arglwydd daionus amgenach baich nac y gallo drwy r nerth a roddech di iddo yn hawdd ei ddwyn. Cyfot ef i fynu attat dy hun ag ocheneidiau a griddfan anhraethadwy. Gwna iddo yn awrgydnabod beth iw gobaith ei alwedigaeth, a pheth yw rhagorol fawredd dy drugaredd athnerth tuag at yrhai â gredant ynot, ac yn ei wend d ef dangos di O Arglwydd dy nerth. Oh achubei enaid ef a cherydda Satan a gorchymmyn i'th Angelion sanctaidd gastellu o'i amgylch iw amddeffyn yn erbyn [Page] pob drwg fwriadau a phrofedigaethau, ac i yrru ymath ym mhell oddiwrtho bôb mâth ar ysprydion drygionus, a mweidus: Par iddo fwy-fwy gasâu y bŷd ymma, a deisyfu ei ddatod a bôd gyd â Christ. A phan ddêl yr awr ddaionus honno y bwriedaist di alw am dano allan or bywyd presennol hwn dyro iddo tâs i orchymmyn ei enaid yn heddychol ac yn llawen i'th drugarog ddwylo di, a derbyn ef ith drugaredd, a dyged dy Angelion gwynfydedig ef i'th deyrnas nefol, yno i ganu mawl a chauniadau ysprydol i'th enw bendiged'g gyd a'r gwynfydedig Saint a'r Angelion yn dragywydd, Amen.
Yna yr Offeiriad yn sefyll i fynu â ddwg ar gof ir dyn Clâf y. 5. peth hyn sydd yn canlyn.
YN gyntaf, na ddaeth Crist i alw y cyfiawn ond pechadûriaid i edifeirwch; mai pechadur yw efe, ac am hynny y daeth iw alw ef.
2 Yn ail, mae Crist oedd wîr oen Duw yr hwn a ddaeth i dynnu ymmaith bechodau'r byd: fôd ynddo ef bechodaû lawer, ac am hynny y daeth i dynnu ymmaith yr eiddo ef.
3 Yn drydydd, fôd Crist yn nodded i bawb a'r y sydd yn flinderog, ac yn l'wythog: mai blinderog yw efe, ac am hynny fôd Crist yn nodded iddo.
4 Yn bedwerydd, mai Crist yw yn cyfiawnderm ac yn agos at bawb â alwo arno, ei fôd [Page] efe yn awr yn galw, ac amhynny fôd Christ yn agos atro ef.
5 Yn bummed, os byw y mae, byw y mae ir Arglwydd, os marw y mae marw y mae ir Arglwydd, pa vn bynnag â wnêl ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydyw.
FFûrf ar gyffes iw harfer ir Clâf ar ddull ymofynion, o ba rai y pwngc cyntaf sy ynghylch proffes (neu gyfaddefiad) ein ffydd, ar ail ynghylch cyffessu pechodau.
Quæstiwnau ynghylch ffydd.
AWyt ti yn credu yn Nuw Tâd Holl-alluog Creawdwr nêf a daiar? Ac yn Iesu Grist ei vn mâb ef ein Harglwydd? A'i genhedlu or yspryd glân? a'i cnio Fair forwyn? Iddo ddioddef tan Pontius Pilatus, ei groeshoelio, ei farw, a'i gladdu? Descyn o honaw i vffern, a'i gyfodi y trydydd dydd ac escyn ir nefoed, a'i fôd yn eistedd ar ddeheu-law ddûw Tâd Holl-alluog: ac odd yno y daw efe yn niwedd y byd i farnu byw a meirw? A wyt ti yn credu yn yr yspryd glân, yr Eglwys lân Gatholic, Cymmun y Sainct, maddeuaint pechodau, Adgyfodiad y Cnawd, a bywyd tragwyddol gwedi angeu?
Atteb.
Hyn oll yr wyf yn ei gredu yn ddilys.
- 1 A ydych chwi yn cyfaddeu i'r Holl-alluog Ddûw wneuthur ohonoth gamweddau dirfawr, a gorthrwn drwy ych holl einioes?
- 2 A ydych chwi yn cydnabod bechu o honoch mewn balchder calon, gan fod yn anniolarhgc [Page] i roddwr pob daioni am ei ddonniau?
- 3 A ydych chwi yn cydnabod bechu o honoch drwy falchder mewn dillad, balchder o gryfder, glendid pryd, cyfoeth, a'ch bôd am hynny yn gofyn i Ddûw faddeuaint?
- 4 Bechu o honoch drwy genfigen wrth glywed canmol, neu wybod fod yn caru rhyw vn arall yn fwy na chwychwi am yr hyn yr ydych yn gofyn i Dduw faddeuaint?
- 5 Ddarfod ichwi bechu drwy lîd, a cheisio ymddial, wedi ymgyffroi yn ddiachos, am yr hyn yr ydych yn gofyn i Dduw faddeuaint?
- 6 Bechu o honoch drwy ddiogi, drwy drymder meddwl, mewn gwâg feddyliau ac oferfwridau, drwy esceuluso gweddi, a myfyrdod, am yr hyn yr ydych yn gofyn i Dduw faddeuaint?
- 7 Ddarfod i chwi bechu drwy gybydd dra, drwy chwant anghyfreithlawn i gyfoeth, a golûd bydol, ac na thostûriasoch wrth gyflwr trueniaid megis y dylasech, am yr hyn yr ydych yn llefain ar Dduw am faddeuaint?
- 8 Bechu o honoch drwy annigonol fwytta ac yfed, drwy fynych ormodded, am yr hyn yr ydych yn gofyn i Dduw faddeuaint?
- 9 Bechu o honoch drwy aflendid buchedd, meddyliau anniwair ac ymadroddion serth anfoesawl, am yr hyn yr ydych yn gofyn i Dduw faddeuaint?
- 10 Na ddarfu i chwi gynghori y rhai oedd arnynt cisieu cyngor, ddyscu yr anwybodus a maddeu ir sawl a wnaethant ich erbyn; am yr hyn yr ydych yn llefain ar Dduw am faddeuaint?
- [Page]11 Ddarfod i chwi bechu drwy droseddu y dêg gorchymmyn, na charasech Dduw yn fwyaf dim, ac na addolasoch ef yn ddiledrith, ac na anrydeddasoch ei enw sanctaidd, eithr ai cymmerasoch yn ofer ar lwon diddefnydd, na chadwasoch yn sanctaidd ei Sabbothau ef, ac na roesoch ddyledus barch i'ch rhieni, a'ch lywodraethwyr, chwi a ddugasoch ddigasedd dybryd ac a fuoch fyw yn anniwair, chwi a ddy gasoch dda eich cymmydog â enllibiasoch ei enw da ef, ac a chwenychasoch yr hyn oedd wrthwyneb i gyfraith Dduw; am yr hyn oll yr ydych chwi yr awr' hon yn gofyn i Dduw faddeuaint?
- 12 A ydych chwi yn cydnabod na ddarfu i chwi arfer donniau yr yspryd glân i anrhydedd Duw, dawn deall, dawn cyngor, dawn doethineb, dawn cadernid, dawn gwybodaeth, dawn ofn; am yr hyn yr ydwyt yn gofyn i Dduw faddeuaint?
I'r qwæstiwnau ymma a ofynno yr offeiriad, attebed y dyn clâf gan ddywedyd ar ei ôl ef mal hyn.
Atteb y Clâf.
AM yr holl bechodau a'r camweddau hyn, neu bôb mâth a'r bechod arall gwybodedig neu guddiedig a wneuthym erioed er pan i'm ganed hyd y dydd heddiw yr wyf fi a chalon edifeiriol yn gofyn i Dduw faddeuaint, ac yn attolwg iddo fyngwared rhag fyngelyn ysprydol a maddeu imi fy holl bechodau trwy ryglyddon ei fâb Iesu Grist fy vnig Iachawdwr [Page] a'm Pryndwr, yn enew yr hwn y gweddiaf megis i'm dyscodd. Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.
Yna y gweddia yr Offeiriad mal hyn.
GWrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfngder, Enw Duw Iacob a'th amddeffynno. Anfoned iti gymorth or cyssegr, a nerthed di o Sion. Rhodd [...]d it wrth fodd dy galon, a chyflawned dy holl arfaeth. Ymddiried rhai mewn cerbydau, ac eraill mewn meirch, ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Dûw. Cadw Arglwydd. gwrandawedy bremn nefol arnom yn y dydd y llefom. Gosoded yr Iesu mâb Duw byw ei ddioddefaint ei hûn rhwng dy bechodau di, ar barnedigaethau i ddyfod, Amen.
Wedi gorphen y weddi yr offeiriad a â rhagddo yn ei gwæstiwnau, ac a ofyn ir dyn Clâf fel hyn.
AYdwyt ti o eigion dy galon yn ewyllysio ymgymmodi a Duw yn Iesu Grist ei wynfededig fâb ef a'th fendigedig Achubwr ditheu a'th gyfrwngwr: yr hwn sydd yr awr' hon yn eistedd ar ddeheu-law Dduw yn y nefoedd ac yn eiriol arno ef tros dy enaid ti?
Atteb. Ydwyf.
A wyt ti in in credu yn ddiammeu, ac yn gobeithio bôd yadwedig drwy vning haeddedigaethau [Page] y far wolaeth a'r dioddefaint gwaedlyd a ddioddefodd dy Iachewdwr Iesu Grist trosot? heb fod gennit ddun gobaith Iechydwriaeth yn dy ryglyddon dy hyn, nac mewn cyfryngau eraill, neu mewn creaduriaid? drwy fod yn gwblsicer gennit, nad oes vn enw arall tan y nêf drwy'r hwn y mae yn rhaid dy iachau, ond enw Iesu Grist?
Atteb. Ydwyf.
A wyt ti o eigion dy galon yn maddeu pob syrhaed, a chamwedd, a wnaed neu a gynnigwyd iti gan nêb rhyw ddŷn?
Atteb. Ydwyf.
A wyf ti yn fodlongâr ac o ewyllys dy galon yn gofyn maddeuaint i'r sawl y gwnaethost gam a hwynt mewn moddd yn y byd ar feddwl, gair, neu weithred?
Atteb. Ydwyf.
A wyt ti yn bwrw allan oth galon bob drwgfwriad, a digasedd a ddeliaist yn erbyn nêb, fel y gallech ymddangos ger bron Iesu Grist mewn cariad perffaith a chymmodlonedd?
Atteb. Ydwyf.
A yw yn ddrwg gan dy galon droseddu o honot gyfreithiau a gorchmynnion Dûw, esceuluso ei ddwywol wasanaeth ef a'i addoliant, a chanlyn cymmaint ar drachwantau dy gnawd dy hun, ac oferddigrifwch y byd?
Atteb. Y mae yn ddrwg gennif.
A fyddit ti fyw o hyn allan yn dduwiolach, ac yn sancteidiach, pe rhy [...]gei bodd i Dduw eslyn dy enoies?
Atteb. Gwnawn drwy nerth Dûw.
Yma yr Offeiriad a rybuddia y Claf i fod yn wiliadwrus, ac yn ddyfal i wrando ac i gredu y peth a ddywedo ef wrtho fel hyn.
ANwyl frawd bydded hyspys iti, mai Gwenidog Iesu Grist wyfi, ac vn o'r rhai y rhoes Crist iddynt wemdogawl allû, ac awdurdod, i'th ollwng yn rhydd oddiwrth dy bechodau trwy rym yr awdurdod yr hwn sydd yn ddywedyd: I bwy bynnag y maddeuoch ei pechodau, maddeuwyd iddynt, I bwy bynnag ir atalioch hwy a attallwyd.
Gwybydd gan hynny (Garedig frawd) os yw y broffes fydd a wnaethost yn bur, ac yn fywiol: a'r gyffes a wnaethost o'th bechodau yn dyfod o'th galon yn edifeiriol ac yn ddiragrith yna y bydd y geiriau a adroddwyt wrthit yn y fan yn tueddu yn iniawnwir ac yn ddiball i'th iechydwriaeth dragwyddol. Atteb fi gan hynny â yw dy fydd yn fywiol, a'th edifeirwch yn gywir ac yn ddiledrith?
Atteb. Yr wyf fi yn credu yn ddiymmod holl byngciau y ffydd Gristianogol: ac y mae yn ddrwg gennyf o eigion fynghalō tros fy holl bechodau.
Yna y gesyd yr Offeiriad ei lawddehau ar ben y dyn Clâf ac y traetha iddo y gollyngdod hwn.
EIn Harglwydd Iesu Grist yr hwn â adawodd feddiant iw Eglwys i ollwng pob pechadûr a fyddo gwir-cdifeiriol ac yn credu ynddo ef o'i fawr drûgaredd a faddeuo iti dy gamweddau: a thrwy ei awdurdod ef a ganiadhawyd i mi i'th ollyngaf o'th holl bechodau yn enw'r Tâd, a'r mâb, a'r yspryd glân, Amen.
Yn ôl y gollyngdod y dyry yr Offeiriad i'r Clâf Osculum Pacis (gusen tangneddyf) gan ddywedyd.
YR Arglwydd Iesu a gatwo dy gorph a'th enaid i fywyd tragwyddol, Amen.
O Drugaroccaf Dduw yr yn ôl lluosaw gwrydd dy drugaredd ywt felly yn dueupechodau y rhai sydd wîr edifeiriol, fel nad ydwyt yn eu cofio mwy, agor lygad dy drugaredd ar dy wasanaethwr yma, yr hwn o wîr ddifrif sydd yn dymuno gollyngdod a maddeuaint. Adnewydda ynddo garedig Dâd beth bynnac a lescawyd trwy ddichell a malis y cythraul, neu drwy ei gnawdol ewyllys ei hun ai wendid. Cadw a chynnal yr aelod clwyfus hwn o fewn vndeb dy Eglwys: Ystyria wrth ei wir edifeirwch, derbyn ei ddagrau, yscefnhâ [Page] ei ddolur môdd i gwelech di fôd yn orau ar ei lês: Ac yn gymmaint ai fôd ef yn rhoddi cwbl o'i ymddiried yn vnig yn dy drugaredd di, na liwia iddo ei bechodau or blaen, eithr cymmer ef i'th nodded trwy ryglyddon dy garediccaf fâb Iesu Crist, Amen.
Darfyddo ir Offeiriad mal hyn gyflawni ei swydd yn cymmodi y dyn Clâf â Duw ynghrist, yn nessa peth efe a ddylei ei gynghori ef fel cynghorodd Esay, Ezechias, i osod i dy mewn trefn drwy wneuthur ei ewyllys, ai lythr Cymmun onis gwnaethpwyd eusys, ac ynghyloh hynny o beth ydywed yr Offeiriad wrth y dyn Clâf fel y canlyn.
ANwyl frawd, dy gynghori yr wyf i wneuthur dy ewyllys cyn i'th glefyd drymhau, ac ith gof wanhau. Ni wna hynny nath bellhau di oddiwrth dy dda, na byrrhau dy enioes ddim cynt, ond yscafnhau llawer ar dy fiddwl drwy dy ryddhau o lawer o drafferth pen fyddo rheitiaf iti gael llonyddwch. Oblegit darfyddo vnwaith gosod dy dŷ mewn trefn, e fydd haws iti osod dy enaid mewn trefn, ac ymgymmwyso i gymeryd dy daith tu ar wlâd nefol.
Anwyl frawd, o chynyscaeddodd Duw dydi ag helaeth rwydd o dda bydol y mae yn ddyledus arnat yn arwydd oth ddiolchgarwch i Dduw fôd yn haelionus ac yn syber wrth y tlawd. Oherwydd y neb a roddo i'r tlawd sydd yn rhoddi echwyn i'r Arglwydd; ac o herwydd mai bendigedig yw'r dyn a roddo i'r tlawd ar [Page] anghenus, yr Arglwydd ai gwared ef yn amser trallod. Yr Arglwydd ai ceidw ac ai bywhâ, gwynfydedig fydd ar y ddaiar: ni ddyru yr Arglwydd ef wrth ewyllys ei elynion. Yr Arglwydd a'i nertha ef ar ei glâf wely, ac a gyweiria ei holl wely ef yn ei glefyd, fel y tystiolaetha yr yspryd glân.
Anwyl frawd os dy gydwybod a ddwg ar gôf iti gymmeryd o honot ddim trwy drawsder, a'th fod yn ei attal rhag-llaw oddiar wraig weddw, neu blant ymddifaid, neu oddiar nêb arall pwy bynnac fyddo, bydded diogel iti hyn, os tydi nis teli drachefn fel gwnaeth Zaccheus i'r gwir berchennog y da, a'r tîr â ddygaist (o bydd cymmaint ar dy helw) ni elli wir edifarhau. ac heb wir edifeirwch, ni elli fod yn gadwedig, nac edrych ar Grist yn ei wyneb pan ymddangosech ger bron ei orseddfaingc ef. Ystyria beth a wnelych; oblegyd y mae dy iechydwriaeth yn gaeth ac mewn enbydrwydd o ran y pwngc hwn.
Y Clâf wedi mal hyn esmwythau ar ei gydwybod drwy wneuthur ei lywodraeth a chael gollyngdod o'i bechodau, yr Offeiriad â ddylei ei gyngori i gymeryd y Sacrament bendigedig o swpper yr Arglwydd iw gadarnhau ef ei ffydd, a gwanhau y Cythraul yn ei gyn llwynion: gan mai y Sacrament hwn yw megis y geilw Cymmanfa gyngor Nicen ef Viaticum ymdeithfwyd yr enaid ar ei ffordd ir nefoedd. Wedi darfod y Cymmun aed yr Offeiriad rhagddo yn ei weddiau fel y mae yn canlyn.
[Page] O Argwlydd Dduw yr hwn orchmynnaist i mweddio tros ei gilydd yn gystal mewn clefyd ac iechyd gan addaw bendith yn y cyfingderau mwyaf, nyni bechaduriaid truein ydym yn ymddangos ymma ger bron dy fawredd di tros dy wasanaeth wr gofidus hwn ymweledig gan dy law di: Attolygwn iti Arglwydd dasonus selio a siccrhau yn ei galon ef drwy dylân yspryd faddeuaint o'i holl bechodau. Pâr i feluschwaith a phereidd flâs ffydd fywiol ddiflasu a laru ar yr holl lygredigaethau aflan sydd ynddo fei i byddo ei enaid ai gorph wedi ei bresentio iti yn bûr ac yn ddifrycheulyd yngwaed dy Fâb. Arglwydd na ddyro yn ei erbyn ef yr hyn a ddywedodd neu a wnaeth ar fai erioed drwy holl ystod ei fywyd; eithr dercha ef mewn gobaith: Dywaid yn gyssŷrus wrth ei enaid, arwain ef drwy dy yspryd i dryssordŷ dy drugareddau. Cymmer ymmaith oddiwrtho ddychryn, a thrymder marwolaeth. Gwrthneba gynllwynion ei elynnion ysprydol yrhai a ymosodasant o amgylch ogylch iddo: Dyro iddo nerth yn erbyn rhuthrau y cythraul fel y caffo fuddugoliaeth berffaith. Bydded y gwybodaeth o honot ti yr awr' hon yn ffrwythlawn ynddo, ac yn fuddiol iddo. Cryfhâ ei ffydd ef fel y gallo gael gwîr edifeirwch, a chyflawni tu ag attat vfydd-dod dyledus, a diolchgarwch diragrith am beth bynnac â vsodech arno. Dyro iddo (O Arglwydd) brawf o'th ogoniant ac o'r llawenydd â baratoaist iddo, mal drwy gyssur oddiwrtho [Page] y gallo ymdrechu ymdrech têg gangadw y ffydd, a phan ddêl amser ei ymadawiad, ymwrthod yn cwyllysgar a'r byd presennol drygionus hwn, a byw gyd a thi yn dragywydd. Camadhâ hyn o Arglwydd er mwyn Iesu Grist ein vnig Arglwydd a'n Iachawdwr, Amen.
ORasusaf Arglwydd a charediccaf Dâd, yr hwn wyt weithiau yn rhoddi iechyd i beri i ni yn well dy gydnabod di a'th ymgeledd tu ag attom, weithiau yn danfon clefyd i'n galw yn ôl i well-hau yn buchedd darfyddo i ni bechu yn dy erbyn: nyni dy ostyngedig weision, tros dy wasanaethwr hwn, a phawb eraill a gystuddir mal hyn, ydym yn attolwg i ti yn ostyngedig na ddwg ef ir farn dôst am ei fuchedd a'i helynt â aeth heibio, eithr gan gosto dy drugaredd maddeu iddo ei bechodau, a thrwy yr iawn a dalodd dy fâb rhyddhâ ef odd wrth dy farnedigaethau. Yscafnhâ, o Arglwydd, yr holl gysingderau y rhai a ddichon nau a i gorthrymder ei bechodau wrth ei cofio, neu chŵerwoer ei ofidiau wrth i dioddef, neu ddichell y gelyn cyffredin, neu ofn marwolaeth eu dwyn arno, ac na ddôd mwy arno, o Arglwydd, na ddôd mwy arno nag â allo ei ddwyn. Dywed yn gyssurus wrth ei enaid ef fel y gwnaechost i'r rhai oll â geisiasant ei iechyd corphorol gennit ti. Cyfarwydda, a chynnyrefa ei galon ef idderbyn y Tadol gerydd ymma, a'r graslawn ymweliad mewn amynedd, ffydd, cussur, a gwir ddarostyngeiddrwydd i'th wynfededig ewyllys [Page] i fyw, neu i farw. Gosot, o Arglwydd wrth enaid dy greadur truan hwn sancta [...]d ac iachus feddiginiaethau dioddefaint, marwolaeth, ac adgyfodiad dy fâb, yn erbyn dychryn, ofn, gwendid, petrusedd, ac annobaith. Cymmer ymmaith oddiwrtho angerdd ei ddolur▪ emwythâ ef ofidiau, cyw [...]iriaeiwely, sych ef holl ddagrau odd wrth ei lygaid, ac yscafnhâ ar ei gydwybod gythryblus. Cyssura ef ar awr ei ymadawiad pan alwech am dano, agor iddo ddrysau trugaredd, lleda dy freichiau iw dderbyn i'th nodded fel pan ddê yr amser, yr elo iw fedd mewn heddwch gan ymgynual wrthit ti mewn siccrwydd o râd-faddeuaint am ei holl bechodau, a gobaith o adgyfodiad wynfydedig. Ac yn y cyfamser, o Arglwydd, gwastadhâ ei synwyrau ef fel na byddont yngwibio, neu yn traws-redegan i gynnyrfiadau afreolus. Cadw iddo ei gôf yn ddiball fel nath anghofiodi, ond beunydd a phôb awr meddwl o honaw am danat yr hwn wyt angor ei ddiogelwch ef. Cadw ei dafod rhag ymleferydd a gwâg siaradach, a'i galon rhag pob dychryn, ac amddeffyn ef tan dy adenydd Bydd drûgarog wrthym ni y rhai megis cyd-aelodau ystyriol or vn corph ydym yn addolf dy enw sanctaid, ac yn dymuno dy ddwywol gymmorthith wasanaethwr hwn; a dysced yr Esampl ymma i ni fwy gostyngeiddrwydd, ofn, a pharch, tu ag attat ti yr awr hon ac yn dragywydd. Gwrando ein gweddiau, o Arglwydd, er mwyn Iesu Grist, Amen.
Ymodd y gorchymmyn yr Offeiriad y dyn Clâf i ddwylaw Duw, fel y canlyn.
DVw Tâd yr hwn a'th greawdd, Dûw fâb yr hyn a'th brynnodd, Dûw yr yspryd glân yrhwn a dywalleodd ei rad ynot a'th gymmortho yn dy holl brofedigaethau, ac a'th dywyso ar hyd y ffordd i dangneddyf tragywyddol.
Atteb. Amen.
Crist yr hwn â fû farw trosot a'th gatŵo rhag pob drwg.
Atteb. Amen.
Crist yr hwn a'th brynnodd, a'th gryfhao ym mhôb profedigaethau.
Atteb. Amen.
Crist yr hwn a'th garodd mor anwyl a drugarhao wrthit.
Atteb. Amen.
Crist Iesu yr hwn â gyfododd oddiwrth y meirw y trydydd dydd â gyfodo dy gorph a'th enaid yn adgyfodiad y cyfiawn.
Atteb. Amen.
Crist yr hwn sydd yn eistedd ar ddeheulaw Dûw yn y nefoedd, a'th dygo i lawenydd tragwyddol.
Atteb. [Page] Amen.
Dûw Tâd ath caiwo, ac a'th ymgeleddo; Dûw fâb a'th gymmortho, ac a'th nertho: Yspryd bendigedig yr Arglwydd Ddûw, yr yspryd glân fyddo gyd a thi: y Drindod gyssegr-lân a'th gynnorthwy mewn enioes ac angeu.
Atteb. Amen.
Dûw â ganiadhao iti le ym monwes Abraham.
Atteb. Amen.
Dûw â ganiadhao iti weled dy Achubwr bendigedig mewn cyflwr gogoniant.
Atteb. Amen.
Duw â ganiadhao fôd dy farwolaeth yn werthfawr yn ei olwg ef, yn yr hwn y mae i ti orphywys yn dragywydd.
Atteb. Amen.
Aed yr Offeiriad rhagddo fel y canlyn, gan ddywedyd.
DRugaroccaf Dâd yr ydym yn gorchymmyn iti dy wâs hwn, gwaith dy ddwylaw dy hun: yr ydym yn gorchymmyn iti ei enaid ef yn rhyglyddon Crist Iesu ei brynnwr. Derbyn o Arglwydd, dygreadur dy hun: maddeu attolwg beth bynnac â droseddwyd drwy wendid dynol: A gorchymmyn i'r Angelion ei ddwyn ef i dir tragwyddol râs.
Atteb. Amen.
Cadw Arglwydd enaid dy wâs fel y cedwaist Noah yn y diluw.
Atteb. Amen.
Cadw o Arglwydd enaid dy wâs fel y cedwaist Lot rhag tân Sodom.
Atteb. Amen.
Cadw o Arglwydd enaid dy wâs fel y cedwaist Iob yn ei holl adfyd.
Atteb. Amen.
Cadw o Arglwydd enaid dy wâs fel y cedwaist yr Israeliaid rhag nerth Pharaoh a gorthrymder yr Aeipht.
Atteb. Amen.
Cadw o Arglwydd enaid dy wâs rhag ystryw Satan fel y cedwaist Ddafydd rhag ei holl elynnion.
Atteb. Amen.
Cadw o Arglwydd enaid dy wâs fel y cedwaist Ddaniel rhag safn y llewod.
Atteb. Amen.
Cadw o Arglwydd enaid dy wâs fel y cedwaist y tri llangc rhag y fflammau tanllyd.
Atteb. Amen.
[Page]Cadw o Arglwydd enaid dy wâs fel y cedwaist Elias rhag y gau brophwydi â geisient ei ddifetha ef.
Atteb. Amen.
Cadw o Arglwydd enaid dy wâs, a gwared ef fel y gwaredaist dy Apostolion Paul a Barnabas allan o garchar ar hanner nôs.
Atteb. Amen.
Oddiwrth y tywyllwch eithaf.
Gwared ef o Arglwydd.
Oddiwrth felldith tragwyddol.
Gwared ef o Arglwydd.
Drwy dy enedigaeth.
Gwared ef o Arglwydd.
Drwy dy ympryd a'th weddiau.
Gwared ef o Arglwydd.
Drwy dy newyn a'th syched.
Gwared ef o Arglwydd.
Trwy dy groes a'th ddioddefaint.
Gwared ef o Arglwydd.
Trwy dy ddescynniad i vffern.
O Arglwydd gwared ef.
Trwy dy adgyfodfad o feirw y trydydd dydd.
O Arglwydd gwared ef.
Trwy dy escynniad ir nefoedd.
O Arglwydd gwared ef.
Trwy dy eisteddiad ar ddeheu-law y Tâd mewn gogoniant.
Amen.
[Page]ITh drugarog ddwylo di o nefol Dâd yr ydyn yn gorchymyn enaid dy wasanaithwr yn awr yn terfynu; Cydnebydd attolwg ddafad oth gorlan dy hun, oen o'th braidd dy hun: Derbyn ef ymreichiau dy drugaredd, gan wybod nas gall y peth a orchymynner i'th ymgeledd di fod yn golledig: O drugaroccaf iachawdwr derbyn attolygun i ti ei yspryd ef mewn heddwch, Amen.
Y dull a'r modd y bendithia yr Offeiriad y dyn Clâf pan fyddo ym mron terfynu.
IEsu Grist a'th ollyngo oddiwrth dy holl bechodau.
Atteb. Amen.
Iesu Grist â faddeuo yr holl ddrwg a wnaethost drwy dy glywed, trwy dy weled, trwy dy gyffyrddiad, a thrwy dy archwaethiad pa fodd bynnac.
Atteb. Amen.
Iesu Grist yr hwn â fu farw trosot a ddileo dy holl gamweddau.
Atteb. Amen.
Iesu Grist yr hwn sydd yn dy alw a'th dderbynnio iw deyrnas nefol.
Atteb. Amen.
Yr Arglwydd ath fendithio ac a'th gatwo: [Page] llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat: derchafed yr Arglwydd ei wyneb arnat, a rhodded it adgyfodiad llawen i fywy tragwyddol.
Atteb. Amen.
Ymado o enaid cristianogawl yn enw Duw Tâd yr hwn a'th greawdd, Duw fâb yr hwn a'th brynnodd, Duw yr yspryd glân yr hwn a'th sancteiddiodd, vn Duw byw ac anfarwol, i'r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd, Amen.
Gweddi iw harfer pan fyddo Cristion o ddyn ar derfynu, neu eusys wedi terfynu.
HOll-alluog a thragwyddol Dduw, yn gymmaint a rhyngu bodd iti gymmeryd dy wasanaethwr hwn allan o drueni byd pechadurus i'th nefol deyrnas, bendithier o Arglwydd dy enw di byth ac yn dragywydd: pâr i ninnau, ni attolygwn iti yrhai ydym etto yn aros ar y ddaiar fôd yn feddylgar o'n marwoldeb, fel y rhodiom o'th flaen di mewn cyfiawnder a sancteiddrwydd holl ddyddiau ein bywyd: A phan ddêl amser ein ymadawiad oddi ymma, y gallom orphywys ynot fel y mae ein gobaith fôd dy wasanaethwr hwn modd y gallon ni gyd â'n brawd hwn, a phaŵb eraill â ymadawsant ar bŷd mewn gwir ffydd yn dy enwbendigedig gyd-lawenychu yn dy dragwyddol a byth-barhaus deyrnas, trwy Iesu Grist ein Arglwydd, Amen.
Moliant i Dduw.