LLYFR GWEDDI Gyffred …

LLYFR GWEDDI Gyffredin, a Gweni­dogaeth y Sacramentau, ac eraill gynneddfau a Ce­remoniau yn Eglwys Loegr.

¶Printiedig yn Llun­dain gan Ddeputiaid Chri­stopher Barker Printiwr i ardder­choccaf Fawrhydi y Frenhines. 1599.

Cum gratia & priuilegio Regiæ Maiestatis.

[...]

¶Almanac tros 45. o flynyddoedd.

Oedran yr Arglwydd.Y Prif.Llythyr y Sûl.SeptuagesimaY dydd cyntaf o'r grawys.Dydd Pasc.Wythnos y Gweddieu.Dyrchafael.Sulgwyn.Sûl Adfent.
1597.iiB23. Ionawr.9. Chwef.Mawr. 27.2. Mai.5. Mai.15. Mai.27. Tach.
1598.iiiA12. Chwefror.1. Mawr.Ebrill. 16.22.25.4. Mehef.3. Rhagf.
1599.iiiiG4. Chwefror.21. Chwef.8.14.17.27. Mai.2.
1600.vF E20. Ionawr.6.Mawr. 23.28. Ebr.1.11.30. Tach.
1601.viD8 Chewfror.25.Ebrill. 12.18. Mai.21.31.29.
1602.viiC31. Ionawr.17.4.10.13.23.28.
1603.viiiB20. Chwefror.9. Mawr.24.30.2. Mehef.12. Mehef.27.
1604.ixA G5.22. Chwe.8.14.17. Mai.27. Mai.2. Rhagf.
1605.xF27. Ionawr.13.Mawr. 31.6.9.19.1.
1606.xiE16. Chwefror.5. Mawr.Ebrill. 20.26.29.8. Mehef.30. Tach.
1607.xiiD1. Chwefror.18. Chwef.5.11.14.24. Mai.29.
1608.xiiiC B24. Ionawr.10.Mawr. 27.2.5.15.27.
1609.xiiiiA12. Chwefror.1. Mawr.Ebrill. 16.22.25.4. Mehef.3. Rhagf.
1610.xvG4.21. Chwef.8.14.17.27. Mai.2.
1611.xviF20. Ionawr.6.Mawr. 24.29. Ebr.2.12.1.
1612.xviiE D9. Chwefror.25.Ebrill. 12.18. Mai.21.31.29. Tach.
1613.xviiiC31. Ionawr.17.4.10.13.23.28.
1614.xixB20. Chwefror.9. Mawr.24.30.2. Mehef.12. Mehef.27.
1615.iA5.22. Chwe.9.15.18. Mai.28. Mai.3. Rhagf.
1616.iiG F28 Ionawr.14.Mawr. 31.6.9.19.1.
1617.iiiE16. Chwefror.5. Mawr.Ebrill. 20.26.29.8. Mehef.30. Tach.
1618.iiiiD1.18. Chwef5.11.14.24. Mai.29.
1619.vC24. Ionawr.10.Mawr. 28.3.6.16.28.
1620.viB A13. Chwefror.1. Mawr.Ebrill. 1622.25.4. Mehef.3. Rhacfy.
1621.viiG28. Ionawr.14. Chwef.1.7.10.20. Mai.2.
1622.viiiF17. Chwefror.6. Mawr.21.27.30.9. Mehef.1.
1623.ixE9. Chwefror.26. Chwe.13.19.22.1.30. Tach.
1624.xD [...]25. Ionawr.11.Mawr. 28.3. Mai.6.16. Mai.28.
1625.xiB13. Chwefror.2. Mawr.Ebrill. 17.23.26.5. Mehef.27.
1626.xiiA5.22. Chwe.9.15.18.28. Mai.3. Rhagf.
1627.xiiiG21. Ionawr.7.Mawr. 25.30. Ebr.3.13.2.
1628.xiiiiF E10. Chwefror.27.Ebrill. 1319. Mai.22.1. Mehef.30. Tach.
1629.xvD1.18.5.11.14.24. Mai.29.
1630xviC24. Ionawr.10.Mawr. 28.3.6.16.28.
1631.cviiB6. Chwefror.23.Ebrill. 10.16.19.29.27.
1632cviiiA C29. Ionawr.20.1.7.10.20.2. Rhagf.
1633.xixF17. Chwefror.6. Mawr.Ebrill. 21.27.30.9. Mehef.1.
1634.iE2. Chwefror.19. Chwef.6.12.15.25.30. Tach.
1635.iiD25. Ionawr.11. Chwef.Mawr. 29.4.7.17. Mai.29.
1636.iiiC B14. Chwefror.2. Mawr.Ebrill. 17.23.26.5. Mehef.27.
1637.iiiiA5.22. Chwe.9.15.18.28. Mai.3. Rhagf.
1638.vG21. Ionawr.7.Mawr. 25.30. Ebr.3.13.2.
1639.viF10. Chwefror.27.Ebrill. 14.20. Mai.23.2. Mehef.1.
1640.viiE D2.19.5.11.14.24. Mai.29. Tach.
1641.viiiC21. Ionawr.10 Mawr.25.313. Mehef.13. Mehef.28.

☞ Nota, fod cyfrif blwyddyn oedran yr Arglwydd, yn Eglwys Loegr, yn dechreu y xxv. o fis Mawrth, yr hwn a dybur ei fod y dydd cyntaf y crewyd y byd arno, a'r dydd yr Ymddygwyd Christ ym mru Mair forwyn.

❧ Ionawr y sydd iddo xxxj. o ddyddiau.

Haul yn
  • cyfodi.
  • mach­lud.
awr.
  • 8. min. 34.
  • 4. min. 26.
Boreuol weddi.Pryd­nhawn weddi.
Psalmau.i. Llîth.ii. Llîth.i. Llîth.ii. Llîth.
iAKalend.Enwaediad.Gen. xviiRhuf. ii.Deut. x.Colos. ii.
iibiiii No. Gen. i.Matth. i.Gen. ii.Rhuf. i.
iiiciii No. iiiiiiiiiii
iiiidPrid. No. viiiviiii
veNonas. viiiiiiviiiiiii
vifviii Id.Ystwyll.Esai. xl.Luc. iii.Esa. xlix.Ioan. ii.
viigvii Id. Gene. ix.Matth. v.Gen. xii.Rhuf. v.
viiiAvi Id.Lucian.xiii.vixiiiivi
ixbv Id. xvviixvivii
xciiii Id. xviiviiixviiiviii
xidiii Id. xixixxxix
xiiePrid. Id.H. yn y dyfr.xxixxxiix
xiiifIdus.Hitar.xxiiixixxiiiixi
xiiiigxix. kl.Chewfror.xxvxiixxvixii
xvAxviii. kl xxviixiiixxviiixiii
xvibxvii kl. xxixxiiiixxxxiiii
xviicxvi kl. xxxixvxxxiixv
xviiidxv kl.Prisca.xxxiiixvixxxiiiixvi
xixexiiii kl. xxxvxviixxxviii. Cor. i.
xxfxiii kl.Fabian.xxxviiixviiixxxixii
xxigxii kl.Agnes.xlxixxliiii
xxiiAxi kl.Vincent.xliixxxliiiiiii
xxiiibx kl. xliiiixxixlvv
xxiiiicix kl. xlvixxiixlviivi
xxvdviii kl.Ymchweli­ad S. Paul.Doeth. 5Act. xxii.Doeth. 6Act. xxvi
xxvievii kl. Gē. xlviiiMat. 23.Gē. xlix.i. Cor. 7.
xxviifvi kl. lxxiiiiExod. i.viii
xxviiigv kl. Exod. ii.xxviiiix
xxixAiiii kl. iiiixxvivx
xxxbiii kl. viixxviiviiixi
xxxicPrid. kl. ixxxviiixxii

¶ Chwefror y sydd iddo, xxviij. o ddyddiau.

Haul yn
  • cyfodi.
  • mach­lud.
awr.
  • 8. mi. 34
  • 4. mi. 26
Boreau weddi.Pryd­nhawn weddi.
Psalmau.i. Llîth.ii. Llîth.i. Llîth.ii. Llîth.
idKalend.Ympryd.Exod. xi.Marc. i.Exod. xii.i. Cor. xiii.
iieiiii No.Pur. Mair.Doeth. ix.iiDoeth. xii.xiiii
iiifiii No.Blasu.Exod. xiii.iiiExod. xiiii.xv
iiiigPrid. No. xviiiixvixvi
vANonas.Agath.xviivxviiiii. Cor. i.
vibviii Id. xixvixxii
viicvii Id. xxiviixxiiiii
viiidvi Id. xxiiiviiixxiiiiiiii
ixev Id. xxxiiixxxxiiiv
xfiiii Id. xxxiiiixLeuit. xviiivi
xigiii Id. Leuit. xix.xixxvii
xiiAPrid. Id. xxvixiiNum. xi.viii
xiiibIdus.H. yn y Pysc.Num. xii.xiiixiiiix
xiiiicxvi kl.Mawrth.xiiiixiiiixvix
xvdxv kl.Valentin.xviixvxxxi
xviexiiii kl. xxixvixxiixii
xviifxiii kl. xxiiiLuc. di. i.xxiiiixiii
xviiigxii kl. xxvdi. i.xxviiGalat. i.
xixAxi kl. xxxiixxxiii
xxbx kl. xxxiiiiixxxviii
xxicix kl. xxxviiiiiDeut. i.iiii
xxiidviii kl. Deut. ii.viiiv
xxiiievii kl.Ympryd.iiiivivvi
xxiiiifvi kl.S. Matthi.Doeth. xixviiEccles. i.Ephes. i.
xxvgv kl. Deut. vi.viiiDeut. vii.ii
xxviAiiii kl. viiiixixiii
xxviibiii kl. xxxiiiii
xxviiicPrid. kl. xiixixvv

❧ Mawrth sy iddo xxxi. o ddyddiau.

Haul yn
  • cyfodi.
  • mach­lud.
awr.
  • 6. mi. 18.
  • 5. mi. 42.
Boreuol weddi.Pryd­nhawn weddi.
Psalmau.i. Llîth.ii. Llîth.i. Llîth.ii. Llîth.
idKalend.Dewi.Deut. xvi.Luc. xii.Deut. xviiEph. vi.
iievi. No.Ced.xviiixiiixixPhili. i.
iiifv. No. xxxiiiixxiii
iiiigiiii. No. xxiixvxxiiiiiii
vAiii No. xxvxvixxviiiii
vibPrid. No. xxviixviixxviiiColos. i.
viicNonas.Perpetu.xxixxviiixxxii
viiidviii Id. xxxixixxxxiiiii
ixevii Id. xxxiiixxxxxiiiiiiii
xfvi Id. Iosu. i.xxiIosu. ii.i. Thes. i.
xigv Id.H. Maharen.iiixxiiiiiiii
xiiAiiii Id.Gregor.vxxiiiviiii
xiiibiii Id. viixxiiiiviiiiiii
xiiiicPrid. Id. ixIoan i.xv
xvdIdus. xxiiiiixxiiiiii. Thes. i.
xviexvii kl.Aprilis.Barn. i.iiiBarn. ii.ii
xviifxvi kl. iiiiiiiiiiiiii
xviiigxv kl.Edward.vvvii. Tim. i.
xixAxiiii kl. viiviviiiii. iii
xxbxiii kl. ixviixiiii
xxicxii kl.Benedict.xiviiixiiv
xxiidxi kl. xiiiixxiiiivi
xxiiiex kl. xvxxviii. Tim. i.
xxiiiifix kl.Ympryd.xviixixviiiii
xxvgviii kl.Cenn. Mair.Ecclu. ii.xiiEccl. iiiiii
xxviAvii kl. Barn. xix.xiiiBarn. xx.iiii
xxviibvi kl. xxixiiiiRuth. i.Titus. i.
xxviiicv kl. Ruth. ii.xviiiii. iii.
xxixdiiii kl. iiiixvii. Sam. i.Phile. i.
xxxeiii kl. i. Sam. ii.xviiiiiHebr. i.
xxxifPrid. kl. iiiixviiivii.

❧ Ebrill sy iddo xxx. o ddyddiau.

Haul yn
  • cyfodi
  • mach­lud
awr
  • 5. mi. 15
  • 6. mi. 45.
Boreuol weddi.Pryd­nhawn weddi.
Psalmau.i. Llîth.ii. Llîth.i. Llîth.ii. Llîth.
igKalend. i. Sam. 6Ioa. xix.i. Sa. viiHebr. 3.
iiAiiii No. viiixxixiiii
iiibiii No.Richard.xxxixiv
iiiicPrid. No.Ambros.xiiAct. i.xiiivi
vdNonas. xiiiiiixvvii
vieviii Id. xviiiixviiviii
viifvii Id. xviiiiiiixixix
viiigvi Id. xxvxxix
ixAv Id. xxiivixxiiixi
xbiiii Id.Haul yn yxxiiiiviixxvxii
xiciii Id.Tarw.xxviviiixxviixiii
xiidPrid. Id. xxviiiixxxixIaco. i.
xiiieIdus. xxxxxxxiii.
xiiiifxviii. kl.Maii.i. Sam. ixiii. Sā. ii.iii
xvgxvii kl. iiixiiiiiiiiii
xviAxvi kl. vxiiiviv
xviibxv kl. viixiiiiviiii. Pet. i.
xviiicxiiii kl. ixxvxii
xixdxiii kl.Alpheg.xixvixiiiii
xxexii kl. xiiixviixiiiiiiii
xxifxi kl. xvxviiixviv
xxiigx kl. xviixixxviiiii. Pet. i.
xxiiiAix kl.S. Georg.xixxxxxii
xxiiiibviii kl. xxixxixxiiiii
xxvcvii kl.Marc. Efan.Preg. iiiixxiiPreg. v.i. Ioan. i.
xxvidvi kl. ii. Sā. 23xxiii2 Sā. 24ii
xxviiev kl. 1. Bren. i.xxiiii1 Bren. 2iii
xxviiifiiii kl. iiixxviiiiiiii
xxixgiii kl. vxxviviv
xxxAPrid. kl. viixxviiviii2. 3. Ioa.

❧ Mai sy iddo xxxj. o ddyddiau.

Haul yn
  • cyfodi.
  • mach­lud.
awr.
  • 4. mi. 36.
  • 7. mi. 24.
Boreuol weddi.Pryd­nhawn weddi.
Psalmau.i. Llîth.ii. Llîth.i. Llîth.ii. Llîth.
ibKalend.Phil. & Iac.Preg. 7.Ac. viii.Preg. ix.Iud. i.
iicvi. No. i. Bren. ixxxviii1. Brē. x.Rhuf. i.
iiidv. No.CaffaeliadxiMatth. i.xiiii
iiiieiiii No.y Groc.xiiiiixiiiiiii
vfiii No. xviiixviiiii
vigPrid. No.Iohn Port.xviiiiiixviiiv
viiANonas. xixvxxvi
viiibviii Id. xxivixxiivii
ixcvii Id. 2. Brē. i.vii2. Bren. iiviii
xdvi Id. iiiviiiiiiiix
xiev Id. vixvix
xiifiiii Id.Haul yn yviixviiixi
xiiigiii Id.Gefellion.ixxixxii
xiiiiAPrid. Id. xixiixiixiii
xvbIdus. xiiixiiixiiiixiiii
xvicxvii kl.Iunii.xvxiiiixvixv
xviidxvi kl. xviixvxviiixvi
xviiiexv kl. xixxvixxi. Cor. i.
xixfxiiii kl.Dunstan.xxixviixxiiii
xxgxiii kl. xxiiixviiixxiiiiiii
xxiAxii kl. xxvxixi. Esd. ii.iiii
xxiibxi kl. i. Esd. iii.xxiiiiv
xxiiicx kl. vxxivivi
xxiiiidix kl. viixxiiixvii
xxveviii kl. ii. Esd. i.xxiiiii. Esd. ii.viii
xxvifvii kl.Augustin.iiiixxiiiivix
xxviigvi kl. vixxvviiix
xxviiiAv kl. ixxxvixxi
xxixbiiii kl. xiiixxviiHest. i.xii
xxxciii kl. Hest. ii,xxviiiiiixiii
xxxidPrid. kl. iiiiMark. i.vxiiii

❧ Mehefin sy iddo xxx. o ddyddiau.

Haul yn
  • cyfodi
  • mach­lud
awr.
  • 4. mi. 34
  • 8. mi. 26.
Boreuol weddi.Pryd­nhawn weddi.
Psalmau.i. Llîth.ii. Llîth.i. Llîth.ii. Llîth.
ieKalend. Hester. 6.Marc. ii.Hest. vii.i. Cor. xv.
iifiiii No. viiiiiiixxvi
iiigiii No.Nichomed.Iob i.iiiiIob ii.ii. Cor. i.
iiiiAPrid. No. iiiviiiiii
vbNonas.Bonifac.vviviiii
vicviii Id. viiviiviiiiiii
viidvii Id. ixviiixv
viiievi Id. xiixxiivi
ixfv Id. xiiixxiiiivii
xgiiii Id. xvxixviviii
xiAiii Id.Barnab. apoEccle. x.Act. xiiii.Eccl. xii.Act. xv.
xiibPrid. Id.Haul yn yIob 17.18Mar. xii.Iob xix.ii. Cor. ix.
xiiicIdus.Cranc.xxxiiixxix
xiiiidxviii kl.Iuliixxiixiiiixxiiixi
xvexvii kl. xxiiii.xxv.xv26.27.xii
xvifxvi kl. xxviiixvixxixxiii
xviigxv kl. xxxLuc. i.xxxiGala. i.
xviiiAxiiii kl. xxxiiiixxxiiiii
xixbxiii kl. xxxiiiiiiixxxviii
xxcxii kl.Edward.xxxviiiiixxxviiiiii
xxidxi kl. xxxviiivxxxixv
xxiiex kl. xlvixlivi
xxiiifix kl.Ympryd.xliiviiDihar. i.Ephe. i.
xxiiiigviii kl.Ioā. FedyddMala. iii.Mat. iii.Mala. 4.Mat. 14.
xxvAvii kl. Dihar. ii.Luc. viii.Dihar. iiiEphe. ii.
xxvibvi kl. iiiiixviii
xxviicv kl. vixviiiiii
xxviiidiiii kl.Ympryd.viiixiixv
xxixeiii kl.S. Pet. apo.Ecclu. xv.Act. iii.Eccl. xix.Act. iiii.
xxxfPrid. kl. Dihar. x.Luc. xii.Dihar. xi.Ephe. vi.

❧ Gorphenhaf sydd iddo xxxi. o ddyddiau.

Haul yn
  • cyfodi.
  • mach­lud
awr.
  • 4. mi. 18.
  • 8. mi. 42.
Boreuol weddi.Pryd­nhawn weddi.
Psalmau.i. Llîth.ii. Llîth.i. Llîth.ii. Llîth.
igKalend. Dihar. xiiLuc. xiii.Dihar. 13Phil. i.
iiAvi No. xiiiixiiiixvii
iiivv No.Marthin.xvixvxviiiii
iiiiciiii No. xviiixvixixiiii
vdiii No. xxxviixxiColoss. i.
viePrid No.Dechreu dy­ddiau 'r ci.xxiixviiixxiiiii
viifNonas.xxiiiixixxxviii
viiigviii Id. xxvixxxxviiiiii
ixAvii Id. xxviiixxixxixi. Thess. i.
xbvi Id. xxxixxiiPreg. i.ii
xicv Id. Preg. ii.xxiiiiiiiii
xiidiiii Id.Haul yn yiiiixxiiiiviiii
xiiieiii Id.Llew.viIoan i.viiv
xiiiifPrid. Id. viiiiiixii. Thes. i.
xvgIdus.Swithun.xiiixiii
xviAxvii kl.August.xiiiiiiIere. i.iii
xviibxvi kl. Iere. ii.viiii. Tim. i.
xviiicxv kl. iiiivivii. iii.
xixdxiiii kl. viviiviiiiii
xxexiii kl.Margaret.viiiviiiixv
xxifxii kl. xixxivi
xxiigxi kl.Magdalen.xiixxiiiii. Tim. i.
xxiiiAx kl. xiiiixixvii
xxiiiibix kl.Ympryd.xvixiixviiiii
xxvcviii kl.Iaco. Apo.Eccl. xxi.xiiiEccl. xxiiiiiii
xxvidvii kl.Anna.Ier. xviii.xiiiiIere. xix.Titus i.
xxviievi kl. xxxvxxiii. iii.
xxviiifv kl. xxiixvixxiiiPhile. i.
xxixgiiii kl. xxiiiixviixxvHebre. i.
xxxAiii kl. xxvixviiixxviiii
xxxibPrid. kl. xxviiixixxxixiii
[...]
[...]

❧ Awst sydd iddo xxxj. o ddiwrnodau.

Haul yn
  • cyfodi.
  • mach­lud.
awr.
  • 4. min. 34.
  • 7. min. 26.
Boreuol weddi.Pryd­nhawn weddi.
Psalmau.i. Llîth.ii. Llîth.i. Llîth.ii. Llîth.
icKalend.Lammas.Iere. xxx.Ioan xx.Iere. xxxi.Hebr. iiii.
iidiiii No. xxxiixxixxxiiiv
iiieiii No. xxxiiiiAct. i.xxxvvi
iiiifPrid. No. xxxviiixxxviivii
vgNonas. xxxviiiiiixxxixviii
viAviii Id.Ymrithiadxliiiixliix
viibvii Id.Enw Iesu.xliivxliiix
viiicvi Id. xliiiivixlv.xlvi.xi
ixdv Id. xlviiviixlviiixii
xeiiii Id.Laurens.xlixviiilxiii
xifiii Id. liixliiIaco. i.
xiigPrid. Id. Galar. i.xGalar. ii.ii
xiiiAIdus.Haul yn yiiixiiiiiiii
xiiiibxix kl.forwyn. sepvxiiEzech. ii.iiii
xvcxviii kl. Ezek. iii.xiiiviv
xvidxvii kl. viixiiiixiiii. Pet. i.
xviiexvi kl. xiiiixvxviiiii
xviiifxv kl. xxxiiixvixxxiiiiiii
xixgxiiii kl. Dan. i.xviiDan. ii.iiii
xxAxiii kl. iiixviiiiiiiv
xxibxii kl. vxixviii. Pet. i.
xxiicxi kl. viixxviiiii
xxiiidx kl.Ympryd.ixxxixiii
xxiiiieix kl.Barth. Apo.Eccl. xxv.xxiiEccle. 29.i. Ioan i.
xxvfviii kl. Dan. xi.xxiiiDan. xii.ii
xxvigvii kl. xiiixxiiiixiiiiiii
xxviiAvi kl. Osea. i.xxvOsea. 2.3.iiii
xxviiibv kl.Augustin.iiiixxviv. vi.v
xxixciiii kl.Lladd penviixxviiviii2.3. Ioan
xxxdiii kl.Ioan fedyddxxxviiixIud. i.
xxxiePrid. kl. xiMatth. i.xiiRhuf. i.

❧ Medi sy iddo xxx. o ddyddiau.

Haul yn
  • cyfodi
  • mach­lud
awr.
  • 5. mi. 36.
  • 6. mi. 24.
Boreuol weddi.Pryd­nhawn weddi.
Psalmau.i. Llîth.ii. Llîth.i. Llîth.ii. Llîth.
ifKalend.Silm.Olea. xiii.Matt. ii.Ose. xiiiiRhuf. ii.
iigiiii No. Ioel. i.iiiIoel. ii.iii
iiiAiii No. iiiiiiiAmos. i.iiii
iiiibPrid. No. Amos. ii.viiiv
vcNonas.Diwedd dy­ddiau 'r ci.iiiivivvi
vidviii Id.viviiviivii
viievii Id.Gened. Eli.viiiviiiixviii
viiifvi Id.Gen. Mair.Abdia. i.ixIonas. i.ix
ixgv Id. Iona. 2.3.xiiiix
xAiiii Id. Michea. i.xiMiche. iixi
xibiii Id. iiixiiiiiixii
xiicPrid. Id.Haul yn yvxiiivixiii
xiiidIdus.Fantol.viixiiiiNahū. i.xiiii
xiiiiexviii kl.Derch y groNahum. 2xviiixv
xvfxvii kl.Cyhydedd.Abac. i.xviAbac. ii.xvi
xvigxvi kl. iiixviiZopho. i.i. Cor. i.
xviiAxv kl.Lambert.Zoph. ii.xviiiiiiii
xviiibxiiii kl. Agge. i.xixAgg. ii.iii
xixcxiii kl. Zach. i.xxZach. 2.3.iiii
xxdxii kl.Ympryd.iiii.v.xxiviv
xxiexi kl.S. Matth.Eccle. 35.xxiiEccl. 38.vi
xxiifx kl. Zach. vii.xxiiiZach. viiivii
xxiiigix kl. ixxxiiiixviii
xxiiiiAviii kl. xixxvxiiix
xxvbvii kl. xiii.xxvixiiiix
xxvicvi kl.Ciprian.Mala. i.xxviiMala. ii.xi
xxviidv kl. iiixxviiiiiiixii
xxviiieiiii kl. Tobi. i.Marc. i.Tobi. ii.xiii
xxixfiii kl.S. Michael.Eccl. 39.iiEccl. 44xiiii
xxxgPrid. kl.HieromTobi. iii.iiiTob. iiiixv

❧ Hydref sy iddo xxxi. o ddyddiau.

Haul yn
  • cyfodi.
  • mach­lud.
awr.
  • 6. min. 34.
  • 5. min. 26.
Boreuol weddi.Pryd­nhawn weddi.
Psalmau.i. Llîth.ii. Llîth.i. Llîth.ii. Llîth.
iAKalend.Remig.Tobi. v.Marc. iiii.Tob. vi.i. Cor. 16
iibvi. No. viivviiiii. Cor. i.
iiicv. No ixvixii
iiiidiiii No. xi.viixiiiii
veiii No. xiii.viiixiiiiiiii
vifPrid. No.S. ffydd.Iudith. i.ixIudith. iiv
viigNonas. iiixiiiivi
viiiAviii Id. vxivivii
ixbvii Id.Dennis.viixiiviiiviii
xcvi Id. ixxiiixix
xidv Id. xixiiiixiix
xiieiiii Id.ha. yn Sarph.xiiixvxiiiixi
xiiifiii Id.Edward.xvxvixvixii
xiiiigPrid. Id. Doeth. i.Luc. di. i.Doeth. iixiii
xvAIdus. iiidi. i.iiiiGala. i.
xvibxvii kl.Nouemb.viiviii
xviicxvi kl.Etheldred.viiiiiviiiiii
xviiidxv kl.Luc. Efang.Eccl. li.iiiiIob. i.iiii
xixexiiii kl. Doeth. 9vDoeth. xv
xxfxiii kl. xivixiivi
xxigxii kl. xiiiviixiiiiEphes. i.
xxiiAxi kl. xvviiixviii
xxiiibx kl. xviiixxviiiiii
xxiiiicix kl. xixxEcclu. i.iiii
xxvdviii kl.Crispin.Ecclu. ii.xiiiiv
xxvievii kl. iiiixiivvi
xxviifvi kl.Ympryd.vixiiiviiPhil. i.
xxviiigv kl.Sim. a Iud.Iob. 24.25.xiiiiIob. 42.ii
xxixAiiii kl. Ecclu. 8.xvEccl. ix.iii
xxxbiii kl. xxvixiiiii
xxxicPrid. kl.Ympryd.xiixviixiiiColos. i.

¶ Tachwedd y sydd iddo xxx. o ddyddiau.

Haul yn
  • cyfodi
  • mach­lud.
awr.
  • 8. mi. 12.
  • 3. mi. 48.
Boreuol weddi.Pryd­nhawn weddi.
Psalmau.i. Llîth.ii. Llîth.i. Llîth.ii. Llîth.
idKalend.Holl SainctDoeth. iii.Heb. xi.xii.Doeth. v.Gwel. 19
iieiiii No.Ael-haiarn.Ecc. 14.Luc. xviiiEccl. xv.Colos. ii.
iiifiii No. xvixix.xviiiii
iiiigPrid. No. xviiixxxixiiii
vANonas. xxxxixxii. Thes. i.
vibviii Id.Leonard.xxiixxiixxiiiii
viicvii Id. xxiiiixxiiixxv ☞iii
viiidvi Id. xxviixxiiiixxviiiiiii
ixev Id. xxixIoan. i.xxxv
xfiiii Id. xxxiiixxxiiii. Thes. i.
xigiii Id.S. Marthinxxxiiiiiixxxiiiiii
xiiAPrid. Id.H. yn y Scith.xxxviiiixxxviiii
xiiibIdus.Brisus.xxxviivxxxviiii. Tim. i.
xiiiicxviii kl.Rhacfyr.xxxixvixlii. iii.
xvdxvii kl.Machut.xli.viixliiiiii
xviexvi kl. xliiiviiixliiiiv
xviifxv kl.Dechreuxlvixxlvivi
xviiigxiiii kl.teyrnas Eliz.xlviixxlviiiii. Tim. i.
xixAxiii kl. xlixxilii
xxbxii kl.Edmūd fre.lixiiBaruc. i.iii
xxicxi kl. Baruc. ii.xiiiiiiiiii
xxiidx kl.Cicili.iiiixiiiivTitus i.
xxiiieix kl.Clement.vixvIsa. i.ii. iii.
xxiiiifviii kl. Isai. ii.xviiiiPhile. i.
xxvgvii kl.Katherin.iiiixviivHebre. i.
xxviAvi kl.Linus.vixviiiviiii
xxviibv kl. viiixixixiii
xxviiiciiii kl. xxxxiiiii
xxixdiii kl.Ympryd.xiixxixiiiv
xxxePrid. kl.Andreas apoDihar. xx.Act. i.Diha. xxivi

☞ Noda, y gorfydd darllen dechreu y xxvi. Pen. o Ecclesi. hyd y xiiii. gwers. gyd a'r xxv. Pen.

❧ Rhagfyr sydd iddo xxxj. o ddyddiau.

Haul yn
  • cyfodi
  • mach­lud
awr.
  • 8. mi. 12.
  • 3. mi. 48.
Boreuol weddi.Pryd­nhawn weddi.
Psalmau.i. Llîth.ii. Lîth.i. Llîth.ii. Llîth.
ifKalend. Esa. xiiii.Act. ii.Esa. xv.Heb. 7.
iigiiii No. xviiiixviiviii
iiiAiii No. xviiiiiiixixix
iiiibPrid. No. xx. xxivxxiix
vcNonas. xxiiivixxiiiixi
vidviii Id.Nicho. Esc.xxvdi. viixxvixii
viievii Id. xxviidi. vii.xxviiixiii
viiifvi Id.YmddwynxxixviiixxxIaco. i.
ixgv Id.Mair.xxxiixxxxiiii
xAiiii Id. xxxiiixxxxiiiiiii
xibiii Id. xxxvxixxxviiiii
xiicPrid. Id.H. yn yr Afr▪xxxviixiixxxviiiv
xiiidIdus.Lluci.xxxixxiiixli. Pet. i.
xiiiiexix kl.Ionawr.xlixiiiixliiii
xvfxviii kl. xliiixvxliiiiiii
xvigxvii kl.O sapientia.xlvxvixlviiiii
xviiAxvi kl. xlviixviixlviiiv
xviiibxv kl. xlixxviiilii. Pet. i.
xixcxiiii kl. lixixliiii
xxdxiii kl.Ympryd.liiixxliiiiiii
xxiexii kl.S. ThomasDihar. 23.xxiDih. 24.i. Ioan. i.
xxiifxi kl. Esai. lv.xxiiEsa. 56.ii
xxiiigx kl. lviixxiiilviiiiii
xxiiiiAix kl.Ympryd.lixxxiiiilxiiii
xxvbviii kl.Nata. Crist.Esai. ix.Luc. ii.Esai. 7.Titus 3.
xxvicvii kl.S. StephanDihar 28.Act. 6.7.Preg. 4.Act. 7.
xxviidvi kl.S. Ioan.Preg. v.Gwel. 1.Preg. 6.Gwe. 22
xxviiiev kl.GwirionieitIere. 31.Act. 25.Doeth. i.i. Ioan. v
xxixfiiii kl. Esai. lxi.xxviEsa. lxii.ii. Ioan.
xxxgiii kl. lxiiixxviilxiiiiiii. Ioan.
xxxiAPrid. kl.Siluest. Es.xlvxxviiilxviIud. i.

❧Bod cadw y rhai hyn yn ddyddiau Gwyliau, ac nid yr un arall.

SEf yw hynny, Yr holl Suliau yn y flwyddyn. Gwyliau, Enwaedi­ad ein Hanglwydd Iesu Grist. Yr Ystwyll. Puredigaeth y wyn­fydedig Fair forwyn. S. Matthias Apostol. Cyfarchiad y wynfydedig forwyn. S. Marc yr Efangelwr. S. Philip ac Iaco yr Apostolion. Dyrchafael ein Harglwydd Iesu Grist. Genedigaeth S. Ioan fedy­ddiwr. S. Petr yr Apostol. S. Iaco yr Apostol. S. Bartholomeus Apostol. S. Matthew Apostol. S. Michael Archangel. S. Luc efen­gylwr. S. Simon ac Iud yr Apostolion. Gwyl yr holl Sainct. S. Andreas Apostol. S. Thomas Apostol. Natalic ein Harglwydd Iesu Grist. S. Stephan y Merthyr. S. Ioan Efengyl-wr. Gwyl y Gwir­ioniaid. Dydd Llun, a Dydd Mawrth Pasc. Dydd Llun, a Dydd Mawrth Sul-gwyn.

Y Sul cyntaf yn Adfent fydd y Sul ar ôl Gwyl Linus: yr hwn sydd ar y 26. o Dachwedd.

¶Hyspysrwydd byrr pa bryd y dechreu ac y terfyna pob Term yn Westmynstr.

TErm y Pasc sy bob amser yn dechreu xviii. nhiwrnod gwedi 'r Pasc, gan gyfrif Dydd Pasc yn vn, ac yn terfynu ddydd Llun ne­saf gwedi 'r Dyrchafel.

Term y Drindod sy yn dechreu xii. diwrnod gwedi y Sul-gwyn, ac yn parhau xix. diwrnod.

Term Mihangel sy yn dechreu y ix. neu'r x. dydd o Hydref, ac yn diweddu yr xxviii. neu'r xxix. o Dachwedd.

Term Hilar sy yn dechreu y xxiii. neu'r xxiiii. o Ianawr, ac yn terfy­nu y xii. neu'r trydydd ar ddeg o Chwefror.

Y RHAG-YMADRODD.

NI bu erioed ddim wedi ei ddychymmygu mor ddiball, neu wedi ei gyfnerthu mor gadarn, drwy synnwyr dyn, yr hwn trwy yspaid amser nis llygrwyd: megis ym-mhliih pethau eraill y mae yn eglur ddigon iw ganfod, wrth y gweddiau cyffredin yn yr Eglwys, y rhai a elwir yn sathredic Gwasa­naeth Duw. Bonedd a dechreuad cyntaf pa rai, os chwilijd ym-mysc gwaith yr hen dadau, e geir gweled nad ordeiniw­yd y gwasanaeth hwnnw, onid er amcā daionus, ac er mawr dderchafiad duwiol­deb. Canys hwynt hwy a drefnasant y matter felly, fel y darllenid yr holl Fibl trosti, (neu y rhan fwyaf o honi) vn-waith yn y flwyddyn: gan amcanu wrth hynny, fod i'r Gwyr llên, ac yn enwedic i'r sawl a fyddent weinidogion y Gynnu­lleidfa, allu (trwy fynych ddarllen a myfyrio gair Duw) bod wedi 'r ymddarparu i dduwioldab, a bod hefyd yn ablach i annog eraill trwy ddysceidiaeth iachus i'r vn peth, ac i allu gorthrechu dadl y rhai a wrthwynebent y gwirionedd. Ac ym­mhellach, fel y galle yr bobl (trwy glywed beunydd ddarllen yr Scrythur lan yn yr Eglwys) ymgynnyddu yn wastad fwy-fwy mewn gwybodaeth am Dduw, a dy­fod i garu yn gynhesach ei wîr Grefydd ef. Onid er ys talm o flynyddoedd, y darfu newidio, torri, ac escaeluso y dwywol a'r weddus drefn hyn yma o waith yr hên Dadau, gan blannu i mewn yn eu lle, Historiau amheus, Legendau, Attebion, Gwersi, Adwersi gweigion, Coffadwriaethau, a Seneddolion, megis yn gyffredi­nol pan ddechreuid vn llyfr o'r Bîbl, cyn darfod darllen tair neu bedair pennod o honaw, y cwbl o nid hynny fydde wedi ei adu heb ei ddarllen. Ac yn y sutt hyn y dechreuid llyfr Esai yn yr Adfent, a llyfr Genesis yn Septuagesima: eithr eu de­chreû a wneid yn vnic, heb orphen ei darllen byth. A'r vn ffunyd yr arferid am lyfrau eraill or Scrythur lân, A chyd â hynny lle mynne Sanct Paul, fod y gy­fryw iaith iw dywedyd wrth y bobl yn yr Eglwys ar a allent hwy ei deall, a cha­ffael lleshâd o'i chlywed; y gwasanaeth yn yr Eglwys hon o Loegr (er ys llawer o flynyddoedd) a ddarllenwyd yn lladin i'r bobl, yr hwn nid oeddent hwy yn ei ddeall: ac felly yr oeddynt yn vnic yn clywed â'u clustiau, ond eu calonnau, a'u hyspryd, a'u meddwl oedd yn ddiadailedic oddi-wrtho. Ac heb law hynny, er dar­fod i'r hôn Dadau barthu y Psalmau yn saith ran, a phob vn o honynt a elwid Nocturn: yn-awr, er yn hwyr o amser ychydig o honynt a ddywedid beunydd, gan eu mynych ad-ddywedyd, a gadu y darn arall heibio, heb yngen vn-gair. Gyd â hynny, nifeiri a chaledrwydd y Rheolon y rhai a elwid y Pica, ac amrafael gyf­newidiau y gwasanaeth, oedd yr achos, fod mor galed ac mor rhwystrus droi at gyfnodau y llyfr yn vnic; megis yn fynych o amser y bydde mwy o drallod yn chwilio am y peth a ddarllenid, nag yn ei ddarllen wedi ei gael. Felly wrth ysty­ried ar yr anghymhwyssrwydd hynny, fe a osodir yma y gyfryw drefn, fel y cywei­rir yr vn-rhyw betheu. Ac er mwyn parodrwydd yn y matter yma, y tynnwyd Calendar i'r vn-rhyw bwrpas, yr hwn sydd eglur a hawdd ei ddeall, ym-mha vn (hyd y gellid) y gosodwyd allan, wêdd i ddarllen yr Scrythur lân, fel y gwneler pob peth mewn trefn, heb wahanu vn darn oddi-wrth ei gilydd. Ac o blegit hyn y torred ymmaith, Anthemau, Respondau, Insitatoriau a chyfryw wâg bethau amherthynasol ar oedd yn torri cwrs cyfan ddarlleniad yr Scrythur. Etto gan nad oes fodd amgen, na byddo angenrheidiol bod ymbell reol; am hynny y go­sodwyd yma ryw reolau, y rhai megis nad ydynt onid ychydigion o nifer, felly y maent yn rhwyddion, ac yn hawdd eu deall. Wrth hynny y mae i chwi yma ffurf ar weddio (tu ag at am ddarllen yr Scrythur lân) yn gwbl gysson â meddwl ac [Page] amcan yr hên Dadau, ac o lawer mwy proffidiol, a chymmwynasol nâ yr vn o­eddid yn ddiweddar yn ei arferyd. Y mae yn fwy proffidiol, achos bod yma yn ga­du allan lawer o bethau, o basawl y mae rhai heb fod yn wîr, rhai yn amheus, rhai yn wâg ac yn syfrdan, ac nid ydys yn ordeinio darllen dim onid Pur-wîr air Duw, yr Scrythur lân, neu yr cyfryw a sailir ar ni yn eglur, a hynny yn y cyfryw iaith a threfn, ag y sydd esmwythaf a hawsaf eu deall gan y darllen-wyr, a'r gw­randaw-wyr.

Y mae hefyd yn fwy cymmwynasol, yn gystal o herwydd ei fyrder, ac o her­wydd eglurder ei drefn, ac o herwydd bod y rheolau o ychydig nifer ac yn hawdd. A chyd â hynny, trwy waith y drefn hon, nid rhaid i'r Curadiaid vn llyfr arall iw gwasanaeth cyffredin, onid y llyfr hwn a'r Bibl. O herwydd pa ham, nid rhaid i'r bobl fyned mewn cymmeint o draul am lyfrau ag y byddent amser a fu.

Ac lle bu ym-mlaen llaw amrafael mawr wrth ddywedyd a chanu yn yr Eglw­ysi o fewn y Deyrnas hon, Rhai yn canlyn arfer Salesburi, rhai arfer Henffordd, rhai arfer Bangor, rhai arfer York, a rhai eraill arfer Lincoln: yn-awr o hyn allan ni bydd i'r holl deyrnas ond vn arfer. Ac o barna neb fod y ffordd hon yn fwy poenus, achos bod yn rhaid darllen pob peth ar y llyfr, lle o'r blaen o herwydd rhyw fynych ad-ddywediad y gwyddent lawer peth ar dafod leferydd, eithr os y cyfryw rai a gyd-bwysant eu llafur, gyd â'r budd a'r gwybodaeth a gaffant beu­nydd wrth ddarllen ar y llyfr, ni wrthodant hwy y boen wrth weled meint y budd a dyf o hyn yma.

Ac yn gymmaint ag nad ellir gosod dim gan-mwyaf mor eglur, ag na chyfoto petruster wrth ymarfer o honaw: I ostêgu pob cyfryw amrafael (o chyfyd yr vn) ac am ddosparth pob rhyw betruster yng hylch y modd a'r wedd y mae deall, gw­neuthur, a chwplau pob peth a'r y sydd gynnwysedic yn y llyfr hwn: y partiau a fyddont yn dowtio felly, neu a fyddont yn cymmeryd dim mewn amrafael foddi­on a ânt at Escob yr Escobaeth, yr hwn wrth ei ddoethineb a rydd drefn, er llony­ddu, ac heddychu y ddadl, oddi eithr na byddo y drefn honno yn wrthwyneb i ddim y sydd o fewn y llyfr hwn. Ac o bydd Escob yr Escobaeth mewn dim pe­truster, yna y gall efe anfon am hyspyfrwydd at yr Archescob.

Er bod yn osodedic yn y Rhagymadrodd a scrifennwyd o'r blaen, fod pob peth o'r a ddarllenir neu a genir yn yr Eglwys yn iaith Camber-aec, er mwyn adeilad ir Gynnulleidfa: er hynny nid ydys yn meddwl, pan ddywedo neb Blygain a Go­sper wrtho ei hun, na dichon efe eu dywedyd ym-mha iaith bynnac a ddeallo.

A phob Offeiriad a Diacon fydd rwymedic i ddywedyd beunydd y foreuol, ar Bryd-nhawnol weddi yn-aill ai yn ailltuol ai ar osteg, oddi-eithr bod rhwystr ar­nynt gan bregethu, studio difiniti, ai o ran achos arall tra anghenrheidiol.

A'r Curad [sef y periglor] a fo yn gwasanaethu ym-hob Eglwys blwyf neu Ga­pel, ac efe gartref, heb luddias rhesymol arno, rhaid iddo ddywedyd y gwasana­eth hwnnw, yn yr Eglwys blwyf neu yr Cappel lle y bo efe yn gwasanaethu, a bod canu cloch iddo ar amser cymhesur, cyn iddo ddechreu, modd y gallo y neb a sy­ddo ganddo ddefosion, ddyfod i wrando gair Duw ac i weddio gyd ag ef.

¶Y Drefn pa wedd heb law'r Psalmau y dosparthwyd bod darllain y'rhan arall o'r Scruthur Lân.

YR hen Destament a osodwyd yn llithoedd cyntaf ar foreu, a phryd­nhawn weddi, ac a ddarllennir trwyddo bob blwyddyn vn-waith, oddieithr rhyw lyfrau, a phennodae, y rhai ynt leiaf yn adeilad, ac a ellid yn oreu eu hepcor, ac am hynny a edir heb ddarllain.

Y Testament newydd a osodwyd yn ail llithoedd ar foreu a phryd­nhawn weddi, ac a ddarllenir drosto yn drefnus bob blwyddyn dair­gwaith, heb law'r Epistolau a'r Efengylon: oddieithr Gwelediga­eth Ioan, o'r hon y gosodwyd bod rhyw Lithoedd ar amrafael wyliau priod.

Ac i wybod pa lithoedd a ddarllennir bob dydd: mynn gael y dydd o'r mis yn y Calendar sy yn canlyn, ac yno y cei ddeall y llyfreu a'r pennodau a ddarlleunir yn llithoedd ar foreu, a pryd-nhawn weddi.

A rhaid bod nodi hyn yma, pa bryd bynnag y bydd neb Psalmau priod, neu lithoedd wedi'r osod ir Suliau, neu i ryw wyl symmudol neu ansymmudol: yna y Psalmau a'r Llithoedd gosodedig yn y Calendar a faddeuir tros yr amser hynny.

Rhaid yw i ti nodi hefyd, fod y Colect, yr Epistol a'r Efengyl, y rhai a osodir ar y Sul, yn gwasanaethu yr holl wythnos rhag llaw, o ddieithr digwyddo rhyw wyl y bo iddi rai priod.

Pan aller parthu blynyddoedd yr Arglwydd yn bedwar parth cyfnifer, yr hyn fydd bob pedair blynedd: yna y neidia llythyr y Sul, a'r flwyddyn hono y Psalmau a'r llithoedd, y rhai a wasanaethant i'r 23. o Chwefror, a ddarllennir drachefn y dydd nesaf, o ddieithr ei fod yn ddydd Sul, yr hwn sydd iddo Lithoedd priod o'r hen Destament gosodedig yn y Tabl sy yn gwasanaethu i'r defnydd hynny.

Hefyd p'le bynnag ni bo dechreu y Llith, Epistol, neu Efengyl we­di 'r yspysu: yna y bydd rhaid dechreu yn-nechreu 'r Bennod.

A pha le bynnag nid hyspyser pa gyn belled y darllenner, yna bod darllen hyd ddiwedd y Bennod.

Hefyd cyn fynyched ac y darllenner y Bennod gyntaf o S. Mat­thew, yn llith neu yn Efengyl, dechreuer ar y 18. wers. A genediga­eth Iesu Grist oedd fel hyn &c. A'r drydedd bennod o Efengyl S. Luc a ddarlleuir hyd y 23. wers. Mab (fel y tybid) i Ioseph &c.

¶Llithiau priavvd, ivv darllen yn llithiau cyntaf ar foreu weddi, a phryd­nhawn weddi ar y Suliau trwy'r holl flwy­ddyn, a rhai o'r ail llithiau.

 Plygain.Gosper.
Suliau yn Adfent.  
Y cyntaf.Esai. i.Esai. ii.
iivxxiiii
iiixxvxxvi
iiiixxxxxxii
Suliau gwedi'r Natalig.  
Y cyntaf.xxxviixxxviii
iixlixliii
Suliau gwedi'r Ystwyll.  
Y cyntaf.xliiiixlvi
iililiii
iiilvlvi
iiiilviilviii
vlixlxiiii
Septuagesima.Gene. i.Gen. ii.
Sexagesima.iiivi
Quinquagesimaixxii
Grawys.Plygain.Gosper.
Y sûl cyntaf.Gene. xix.Gene. xxii.
iixxviixxxiiii
iiixxxixxlii
iiiixliiixlv
vExod. iii.Exod. v.
viixx
Dydd Pâsc.  
Llith gyntaf.Exod. xii.Exod. xiiii.
Ail llith.Rhuf. vi.Act. ii.

Suliau gwedi'r Pasc.

 Plygain.Gosper.
Y sûl cyntaf.Nume. xvi.Nume. xxii.
iixxiii.xxv
iiiDeut. iiii.Deut. v.
iiiivivii
vviiiix
Sûl gwedi Dyr­chafel.Deut. xii.Deut. xiii.
Sul-gwyn.  
i. Llith.Deut. xvi.Doeth. i.
ii: Llith.Act. x. 34. Yna yr agorodd Petr ei enau &c.Act. xix. (hyd) Gwedi cyflaw­ni hyn. gwers. 21.
Sûl y Drindod.  
i. Llith.Gene. xviii.Iosuah. i.
ii. Llith.Mat. iii. 

Suliau gwedi'r Drindod.

 Plygain.Gosper.
Y cyntaf.Iosuah x.Iosuah. xxiii.
iiBarn. iiii.Barn. v.
iiii. Sam. ii.i. Sam. iii.
iiiixiixiii
vxvxvi
viii. Sam. xii.ii. Sam. xxi.
viixxii.xxiiii
viiii. Bren. xiii.i. Bren. xvii.
ixxviii.xix
xxxi.xxii
xiii. Bren. v.ii. Bren. ix.
xiixxviii
xiiixixxxiii
xiiiiIerem. v.Ierem. xxii.
xvxxxvxxxvi.
xviEzech. ii.Ezech. xiiii.
xviixvi.xviii
xviiixxxxiiii
xixDan. iii.Daniel. vi.
xxIoel. ii.Miche. vi.
xxiAbacuc ii.Dihar. i.
xxiiDihar. ii.Dihar. iii.
xxiiixixii
xxiiiixiiixiiii
xxvxvxvi
xxvixviixix

Llithiau priod neu nailltuol i bob dydd gwyl

 Plygain.Gosper.
Sant Andreas.Dihar. xx. xxiii.Dihar. xxi. xxiiii.
S. Thomas Apostol.
Natalic Christ.  
i. Llith.Esai. ix.Esai. vii.x.
  A'r Arglwydd a chwanegodd &c.
ii. Llth.Luc ii. (hyd) Ac i ddynion ewy­llys da. gwers. 14Titus iii.iiii. Wedi i ddaioni Duw &c.
S. Stephan.  
i. Llith.Dihar. xxviii.Eccle. iiii.
ii. Llith.Act vi. & vii.Act. vii.xxx.
 Stephan yn lla­wn ffydd a nerth &c. pen 6. 8. (hyd) Ac wedi cyflwni daugain &c. pen. 7. 30.Ac wedi cyflaw­ni dau'gain mhlynedd &c. (hyd) Ac efe yn gyflawn o'r Ys­pryd glân &c. gwers. 55.
S. Ioan Efan.  
i. Llith.Eccle. v.Ecclesi. vi.
ii. Llith.Gweledig. i.Gweledig. xxii.
Gwyl y Gwiri­oniaid.Ierem. 31. (hyd) Clywais Ephra­im. gwers. 18.Doethineb. i.
Dydd yr En­waediad.Genesis. xvii.Deut. x. dechreu xii. Ac yr awr hon
i. Llith. Israel &c.
ii. Llith.Rhuf. ii.Colos. ii.
Ystwyll.  
i. Llith.Esai. xl.Esai. xlix.
ii. Llith.Luc. iii. (hyd) Mab fel y tybid i Ioseph. gwers. xxiii.Ioan. ii. (hyd) Gwedi hynny efe a aeth i wa­red. gwers. xii.
Troad Sant Paul.  
i. Llith.Doethin. v.Doethineb. vi.
ii. Llith.Act xxii. (hyd) A hwy a'i &c. gwer. xxii.Act. xxvi.
Puredigaeth Mair forwynDoethin. ix.Doethineb. xii.
S. Matthias.Doethin. xix.Eccle. i.
Cennadwri Mair forwyn.Eccle. ii.Eccle. iii.
Dydd Merchur cyn y Pâsc.Osea. xiii.Osea. xiiii.
Dydd Iou cyn y Pâsc.Daniel. ix.Ierem. xxxi.
Dydd Gwener y Croglith.Genesis. xxii.Esai. liii.
Nos Bâsc.Zacha. ix.Exod. xiii.
Dydd llun Pâsc.  
i. Llith.Exod. xvi.Exod. xvii.
ii. Llith.Matth. xxviii.Actau. iii.
Dydd Mawrth Pâsc.  
i. Llith.Exod. xx.Exod. xxxii.
ii. Llith.Luc. xxiiii. (hyd) Ac wele dan o honynt. gwers. xiii.i. Cor. xv.
Sant Marc.Eccle. iiii.Eccle. v.
Sant Philip ac Iacob.Eccle. vii.Eccle. ix.
Dydd Dyrcha­fel.Deut. x.ii. Bren. ii.
Dydd llun Sul­gwyn.Genesis xi. (hyd) Dymma genhe­dlaethau Sem. gwers. x. i. Cor. xii.Num. xi. 16. Yna y dywedodd yr Arglwydd (hyd) A Moses a aeth &c. gwers. 30.
Llith gyntaf.
Ail llith.
Dydd Mawrth Sulgwyn.i. Sam. xix.Deut. xxx.
Felly Dafydd a ffodd. gwers. 18 
S. Barnabas.  
i. Llith.Eccle. x.Eccle. xii.
ii. LlithAct. xiiii.Act. xv. (hyd) Gwedi ennyd o ddyddiau. gw. 36
S. Ioan fedydd. 
i. Llith.Mala. iii.Mala. iiii.
ii. Llith.Mat. xiii.Mat. xiiii. (hyd) A phan blybu 'r Iesu. gwers. xiii.
Sant Petr. 
i. Llith.Ecclu. xv.Ecclu. xix.
ii. Llith.Act. iii.Act. iiii.
Saint Iaco.Ecclus. xxi.Ecclus. xxiii.
S. Bartholom.xxvxxix.
S. Matthew.xxxvxxxviii.
S. Michael.xxxix.xliiii.
Saint Luc.li.Iob. i.
Simon a Iud.  
i. Llith.Iob. xxiiii. & xxv.xlii.
Yr holl Saint.  
Y llith gyntaf.Doeth. iii. (hyd) Canys dedwydd yw'r am-mhlan­tadwy. gwer. 13.Doeth. v. (hyd) Efe a gymer ei­ddigedd. gwe. 18.
Yr ail llith.Hebr. xi. & xii. Sainct trwy ffydd. pen. 11. 33. (hyd) Os godde­fwch. pen. 12. 7.Gwel. 19. (hyd) Ac mi a welais Angel yn sefyll. gwers. 17.

Psalmau priod ar ryw ddyddiau.

 Plygain.Gosper.
Dydd Natalic.Psal. xix.lxxxix.
Psal. xlv.Cx
Psal. lxxxv.Cxxxii
  [...]iCxiii
Dydd Pasc.lviiCxiiii
 CxiCxviii
 viiixxiiii
Dyrchafel.xvlxviii
 xxiCviii
 xlvLiiii
Sul-gwyn.lxviiLxlv

Act am vnffurfiad Gweddi Gyffredin, a gwasanaeth yn yr Eglwys, a ministriad y Sacramentau.

LLe yr ydoedd ar farwolaeth ein diweddar ardder­chawg Arglwydd Brenin Edward y chweched, vnffunyd drefn ar gyffredin wasanaeth a gweddi, a ministriad y Sacramentau, Rhithiau, a defo­dau yn aros yn Eglwys Loegr, yr hon drefn a osodasid allan yn vn llyfr, a elwid, Llyfr gweddi gyffredin, a ministriad y Sacramentau, a Chynneddfau eraill a Ceremoniae yn Eglwys Loegr: wedi eu haw­durdodi drwy Act o Barliament wedi ei gynnal yn y bummed ar chweched flwyddyn o'n cynt ddywededic ardderchawg Arglwydd Frenin Ed­ward y chweched, tituledic, Act am vnffurfiad ar Gyffredin weddi, a ministriad y Sacramentau, yr hon a repeliwyd, ac a gymmerwyd ymmaith drwy Act o Barliament yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad ein hardderchawg Arglwyddes Frenhines Mari, i fawr adfail dyledus anrhydedd Dduw, ac yn anghyssur i bro­ffesswyr gwirionedd Crefydd Crist.

Enacter gan hynny drwy awdurdod y Parliament presennol hwn, fod y ddy­wededic statut o Ddirymiad, a phob dim cynnwysedic ynddi o ran y dywededic lyfr yn vnic, a'r gwasanaeth, a ministriad y Sacramentau, cynneddfau, a Cere­moniau cynnwysedic neu osodedic yn, neu gan y dywededic lyfr, yn wag, ac yn ddirym, o, a gwedi gwyl Genedigaeth S. Ioan Fedyddiwr nesaf yn dyfod. A bod y dywededic lyfr, a threfn y Gwasanaeth, a ministriad y Sacramentau, cyn­neddfau a Ceremoniau, ynghyd a chyfnewidion, ac ychwanegion a ychwanegwyd ynddo, ac a ossodwyd drwy yr statut hon, yn sefyll, ac yn bod, o'r ac wedi y ddy­wededic ffest o Enedigaeth Sanct Ioan Fedyddiwr mewn cyflawn rymm ac effect, yn ol tenur ac effect yr statut hon: Er dim ar y sydd yn y ddywededic statut o ddirymmiad i'r gwrthwyneb.

A phellach enacter gan vchelder y Frenhines, ynghyd a chydsynniad yr Arglw­yddi a Chyffredin, y rhai ydynt wedi ymgynnull i'r Parliament presennol hwn, a chan awdurdod yr vn-rhyw, i bob vn, ac i gwbl o'r Gwenidogion ym-mhob Eglwys Gadeiriol, a phlwyfol neu mewn lle arall o fewn y Deyrnas hon o Loegr, Cymbru, ac ardaloedd y'r vn-rhyw, neu eraill o arglwyddiaethau y Frenhines, o'r ac wedi Gwyl Genedigaeth Sanct Ioan Fedyddiwr nesaf yn dyfod, fod yn rhwymedic i ddywedyd ac i arfer y Plygain, Gosper, gweinidogaeth Swpper yr Arglwydd, a ministriad pob vn o'r Sacramentau, a'i holl Gyffredin, a chyho­edd weddi, yn y cyfryw drefn a ffurf ac a adroddir yn y dywededic lyfr, felly wedi ei awdurdodi gan Barliament yn y dywededic bummed a'r chweched flwyddyn o deyrnasiad Brenin Edward y chweched, gyd ag vn aralliad, neu anghwanegiad o ryw Lithon iw harfer ar bob Sul yn y flwyddyn, a ffurf y Letani wedi 'r ara­llu a'i gorrectio, a dwy sentens yn vnic wedi 'r anghwanegu wrth ddelifro y Sa­crament i'r Cymmunolion, ac nid arall, neu ym modd amgen. Ac o bydd i neb ryw Berson, Vicar, neu arall pa Finister bynnac, a ddyle, neu a fydd iddo ganu, neu ddywedyd y weddi gyffredin, a goffawyd yn y dywededic lyfr, neu finistrio y Sacramentau, o, ac wedi Ffest Nadalic S. Ioan Fedyddi-wr nesaf yn dyfod, wr­thod arferu y dywededic weddiau cyffredin, neu finistrio y Sacramentau yn y cyfryw Eglwys Gadeiriol, neu Eglwys blwyfol, neu leoedd eraill, ac y dyle efe finistrio yr vn rhyw, yn y cyfryw ffurf a threfn ac a adroddir, ac a ddatcenir yn y dywededic lyfr, a'i yn ewyllysiol, neu o anhydynder (gan sefyll yn hynny) arferu o ryw eraill gynneddfau a Ceremoniau, Trefn, ffurf neu wedd ar weinidogaeth Swpper yr Arglwydd ar gyhoedd neu yn ddirgel, a'i Plygain, Gosper, ministri­ad y Sacramentau, neu eraill weddiau ar osteg, amgen nac yr adroddir ac a dde­clarir yn y dywededic lyfr (Gweddi ar osteg yn a thrwy yr holl Act hon, a ddeallir yr hon y sydd i eraill ddyfod i'w gwrando, ai yn Eglwysau cyffredin, ai Capelau dirgel, ai Oratoriau, yr hon a elwir yn gyffredin Gwasanaeth yr Eglwys) neu bregethu, declario, neu lefaru [Page] dim oll er dirymmio, neu ddrygu y dywededic Lyfr, neu ddim ar y sydd ynddo, neu ryw barth o honaw, a bod o hynny yn gyfraith-lawn farnedic, yn ol cyfreithiau y Deyrnas hon, trwy verdict deuddeng wyr, neu trwy ei gyffes et hun, neu trwy hynod eglurdab y weithred, efe a gyll ac a fforffettia i vchelrwydd y Frenhines, ei hetifeddion, a'i successoriaid, am ei gamwedd cyntaf, broffit ei holl renti ysprydawl neu bromosionau yn dyfod, neu yn cyfodi yn y flw­yddyn nesaf ar ol ei gonuictiad: A bod hefyd i'r neb a gonuictier felly, sef am yr vn rhyw gamwedd ddioddef carchar yspaid chwe-mis, heb bayl na maynprys. Ac i'r cyfryw vn, wedi ei gonvictio vn-waith am neb camwedd herwydd y pethau a grybwyllwyd, os bydd iddo gwedi ei gonuictiad cyntaf, drachefn droseddu a bod o hynny yn y ffurf ddywededic yn gyfreith lawn wedi ei gonvictio, yna bod ir vn rhyw ddyn am ei ail Camwedd ddioddef carchar hyd yspaid vn flwyddyn gyfan, a hefyd bod ei ddepreifio Ipso facto, o'i holl bromosionau Ysprydol. A bod yn gy­freith-lawn i bob Patron, neu ddoni-wr yr holl, a phob vn o'r promosionau ys­prydol hynny, neu neb vn o honynt, bresentio, neu golatio i'r vn-rhyw, megis pe byddei y nebun, neu yr neb rhai yn troseddu felly wedi marw. Ac o bydd i neb vn, neu i neb rhai yn ol ei gonuictio ddwy-waith yn y ffurf ragddywededic, droseddu yn erbyn neb vn o'r rhagbwylledigion y drydedd waith, a bod o hynny yn y ffurf ragddywededic yn gyfreith-lawn wedi ei gonvictio, yna y neb a droseddo felly, ac a gonfictier y drydedd waith, a ddepreisir Ipso facto, o'i holl bromosionau ysprydol, a hefyd gorfod iddo ddioddef carchar tra fyddo byw.

Ac os bydd y neb a drosedda, ac a gonuictier yn y ffurf rag ddywededic o blegit y premissen, heb rent iddo, ac heb ganddo bromosioneu ysprydoi: Yna bod i'r vn­rhyw wr hwnnw a drossedda felly, ac a gonvictier, am y trosedd cyntaf ddioddef car­char tros flwyddyn gwbl yn nesaf ar ol ei ddywededic gonfictiad, heb na bayl na mainpris. Ac os y cyfryw vn, heb iddo ddim promosioneu ysprydol, wedi ei gonuic­tiad cyntaf, a drosedda trachefn mewn dim o blegid y premisseu, ac yn y ffurf ddy­wededic yn gyfreithlawn a gonuicter o hynny, yna bod i'r cyfryw vn hwnnw, am ei ail drosedd ddioddef carchar tra fyddo byw.

Ac fe a ordeiniwyd, ac a enactiwyd drwy yr awdurdod a ddywedpwyd vchod, o bydd i ryw vn, neu ryw rai, pwybynnac, wedi y ddywededic wyl o Enedigaeth Ioan Fedyddiwr nesaf yn dyfod, mewn vn rhyw Enterlud, Chwareuon, Cania­dau, Rhimmynnau, neu drwy araill eiriau agored, ddeclario neu ddywedyd dim ryw beth er diddymmiad, diystyriad a dirmig ar yr vn-rhyw lyfr, neu ddim a gyn­hwysir ynddo, neu neb rhan o honaw, neu drwy ffact agored, gweithred neu drwy fygythiau agored, gymmell neu beri, neu ryw fodd arall brocurio neu gynnal neb Person, Vicar, neu Finistr arall, mewn vn Eglwys Gadeiriol, neu Eglwys blwy­fol, neu mewn Capel, neu mewn vn lle arall i ganu, neu i ddywedyd Gweddi gy­ffredin ac agored, neu i Finistrio vn Sacrament, yn amgenach neu mewn gwedd arall a ffurf, nac a osodwyd yn y dywededic lyfr, neu drwy yr vn o'r dywededic fo­ddion, yn anghyfraithlawn rwystro, neu luddias i neb Person, Vicar neu Finistr arall, mewn vn Eglwys Cadeiriol, neu blwyfol, Capel, neu mewn vn lle arall, i ga­nu neu ddywedyd Gweddi gyffredin ac agored, neu Finistrio y Sacramentau, neu neb o honynt, yn y cyfryw wedd a ffurf ac a grybwyllwyd yn y dywededic lyfr: Y­na bod i bob rhyw vn, wedi yn gyfreithlawn ei gonuictio o hynny, yn y ffurf ddy­wededic, fforffettio i'r Frenhines ein Goruchel Arglwyddes, ei heitifeddion, a'i suc­cessoriaid am y trosedd cyntaf, gan-Morc.

Ac os bydd i ryw vn, neu i ryw rai, a gonuictwyd vn-waith am y cyfryw drosedd, droseddu trachefn yn erbyn neb vn o'r troseddion diwethaf a adroddwyd, ac iddynt fod yn y ffurf ddywededic yn gyfreithlawn wedi en confictio, Yna bod i'r vn-rhyw vn felly yn troseddu ac yn gonfictiedic, am yr ail drosedd fforffettio i'n Goruchel Ar­glwyddes Frenhines, ei hetifeddion, a'i successoriaid bedwar cant o forciau. Ac o bydd i neb, wedi iddo yn y ffurf ddywededic fod ddwy-waith yn gonfictiedic o neb trosedd yn perthynu i'r troseddiō diwethaf a adroddwyd, droseddu y drydedd waith, a bod o hynny, yn y ffurf vchod, yn gyfreithus wedi ei gonfictio: bod yna i bob vn yn trosseddu felly, am ei drydedd drosedd fforffettio i'n Goruchel Arglwyddes Fren­hines ei holl dda a chateloedd, a dioddef carchar yn ei fyw. Ac o bydd i ryw vn, neu i ryw rai, yr hwn am ei drosedd cyntaf o herwydd y premissen gael ei gōfictio yn y ffurf ddywededic, na thalo y swm taladwy o rym ei gonfictiad, yn y cyfryw wedd a ffurf ac y dirper talu yr vn-rhyw, o fewn chwech wythnos nesaf yn ol ei gonfictiaid, bod yna i bob vn a gōficter felly, ac heb dalu yr vn-rhyw, am y trosedd cyntaf, yn lle y swmm dy­wededic, ddioddef ei garcharu dros yspaid chwe-mis, heb bayl na maynpris. Ac o [Page] bydd i ryw vn, neu i ryw rai, yr hwn am yr ail drosedd herwydd y premissen, a gōfictier yn y ffurf ddywededic, na thalo y swmm ddywededic taladwy drwy rym ei gōfictiad, a'r Statut hon yn y cyfryw wedd a ffurf ag y dyleir talu yr vn rhyw, o fewn chwech wythnos cyntaf ar ol ei ail confictiad: bod yna i bob rhyw vn felly a gonfictiwyd, ac heb felly talu yr vn-rhyw, am yr vnrhyw ail drosedd yn lle y dywededic swmm, gael dioddef ei garcharu yspaid 12. mis, heb na bayl na maynpris. Ac oddi-wrth, ac we­di y dywededic ffest Natalic Sanct Ioan Fedyddi-wr nesaf yn dyfod fod i bawb oll yn gwbl, ar y sydd yn presswylio o fewn y deyrnas hon neu le arall o arglwyddiaethau Mawredd y Frenhines yn ddiescaelus, ac yn ffydd-lawn, oddi eithr bod escus cyfrei­thiol a rhesymmol i fod ymaith, ymddarparu i fynychu iw Heglwys blwyf, neu Ga­pel defodedic, neu o ran rhwystr resymmol rhag hynny, i ryw fan arferedic, lle y by­ddo Gweddi gyffredin, a chyfryw wasanaeth Duw yn arferedic, yn y cyfryw am­ser rhwystr, ar bob Sul a dyddiau eraill ordinedic ac arferedic iw cadw megis yn wiliau: ac yna, ac yno aros yn drefnus, ac yn bwyllog ar hyd amser y weddi gyffre­din, pregethau neu arall Wasanaeth Duw, a arferer, neu a finistrer yno, dan boen poenedigaeth gan Censurau yr Eglwys, a hefyd dan boen, fod i bob vn yn trose­ddu felly fforffettio am bob cyfryw drosedd ddeuddec cenniog iw codi o'r wardeini­aid yn yr Eglwys y gwneler y cyfryw drosedd, i fwyniant y tlodion o'r vn-rhyw blwyf, o dda, tiroedd, a thyddynnau y cyfryw drosedd-wr, drwy ffordd atafael. Ac er mwyn iawn gyflawni y pethau hyn, y mae rhagorawl Fawredd y Fren­hines, yr Arglwyddi temporal, a'r holl gyffredin cynnulledic yn y Parliament presennol, yn Enw Duw yn ddifrifol yn archi, ac yn gorchymyn i'r holl Arch-esco­bion, Escobion, ac eraill Ordinariaid, ar iddynt ymosod hyd yr eithaf o'u gwy­bodaeth ar fod y dyledus a'r gwir gyflawniad o'r petheu hyn yn gwbl trwy eu holl Escobaethau, a'u Curian, fel y byddo iddynt atteb ger bron Duw, am gyfryw ddrygau a phlaau, a'r rhai y gall yr holl-gyfoethog Dduw yn gyfiawn boeni ei bobl, am ddirmygu ei ddaionus a'i iachus Gyfraith. Ac er awdurdod yn yr achos hyn, Bydded ym mhellach enactiedic gan y ddywededic awdurdod, fod i bawb oll o'r Arch-escobion, Escobion, a phawb eraill o'u swyddogion hwy, yn arferu Eglwysic feddiant, yn gystal mewn lleoedd esempt ac anesempt o fewn eu hes­cobaethau, gael llawn feddiant ac awdurdod gan yr Act hon i adffurfio, cospi, a phoeni wrth Censurau yr Eglwys, oll a phob dyn a droseddant o fewn yr vn o'u swyddogaethau, neu o'u hescobaethau hwynt, wedi y dywededic ffest Nadalic Sanct Ioan Fedyddi-wr nesaf yn dyfod yn erbyn yr Act hon ac Statut: Er neb arall gyfraith, Statut, Prifileg, braint, neu ragweliad cyn na hyn yn wneuthu­redic, caffaeliedic, neu ddioddefedic i'r gwrthwyneb yn ddiwrthladd.

Ac fe a ordeiniwyd ac a enactiwyd gan y rhacddywededic awdurdod, bod i bawb oll o'r Iustusiaid Oyer a Determiner, neu Iustusiaid Assis gael cwbl feddiant ac awdurdod ym-mhob vn o'u agored, a'u cyfredin Sessionau, i ymofyn, gwrando, a therfynu pob rhyw drossedd a gommitier, neu a wneler yng-wrthwyneb i vn bann a gynhwyser yn yr Act gyndrychiol hon, o fewn terfynau y Commissiwn a roddir iddynt, a gwneuthur process i esecutio yr vn-rhyw, megis ag y gallant wneuthur am neb vn a enditier ger eu bron hwy am sarhaed, neu yn gyfreithlawn a gonfictiwyd o hynny.

Profidier yn wastad, ac enacter gan yr awdurdod ddywededic, fod i bawb oll o'r Archescobion, ac Escobion allu bob amser ac amserau wrth eirydd-did a'i fodd, ym­wascu ac ymgyssylltu, gan rym yr Act hon, a'r dywededic Iustusieid o Oyer a De­terminer, neu a'r dywededic Iuslisiaid o Assis, ym mhob vn o'r dywededic agoret a chyffredin Sessiwnan cynnaliadwy mewn neb rhyw le o'i Escobaeth, er, ac i ymo­fyn, gwrando a therfynu y camweddau dywededic.

Profidier hefyd, ac Enactier trwy yr awdurdod ragddywededic, bod y llyfrau y sy o'r dywededic wasanaeth ar gost a siars plwyfolion pob plwyf ac Eglwysau Ca­deiriol, yn ddarparedic ac wedi eu caffael cyn y dywededic ffest Natalic Ioan Fe­dyddi-wr nesaf yn canlyn, a bod i'r holl gyfryw blwyfen ac Eglwysi Cadeiriol neu leoedd eraill, lle y darparer, ac y caffer y dywededic lyfran cyn ffest Nadalic Sanct Ioan Fedydd-wr o fewn tair wythnos wedi darpar a chaffael y dywededic lyfrau, ymarfer o'r dywededic wasanaeth, a'i fynychu yn ol yr act hon.

Ac enactier ym-mhellach wrth yr awdurdod ddywededic, na byddo vn amser rhag llaw, rhwystro neb-vn, neu neb rhai, nac ymmodd arall ei folestu, neu am neb o'r camweddau a gofiwyd vchod, a gommittier neu a wneler rhag llaw, yng-wrth wyneb i'r Act hon, oddi eithr iddo ef, neu hwynt yn troseddu felly, fod o hynny yn ditiedic yn y Sessiwn gyffredin nessaf, cynnaliadwy ger bron y cyfryw Iustusiaid [Page] o Oyer a Determiner, neu Instusiaid o Assis, yn nesaf yn ol committio rhyw brosedd yng-wrthwyneb 1 Denur yr Act hon.

Profidier yn wastad, ac ordeinier, ac enactier trwy yr awdurdod ragddywededic am gwbl oll o Arglwyddi o'r Parliament, am y drydedd drosedd a gofiwyd vchod, bod eu treio hwy trwy en pirieid.

Profider hefyd, ac ordeinier, ac enacter gan yr awdurdod ragddywededic, fod i Faior Llundain, ac i Faiorau eraill, Bailtaid a pheuswyddogion eraill, o bawb oll o'r dinasoedd, Boroucheu, a Threfi corphoredic o fewn y deyrnas hon, Cymru, a marsoedd yr-vn-rhyw, i'r rhai nid yw Iustusiaid o Assis yn cyrchn yn gyffredin, ga­ffael cwbl feddiant ac awdurdod gan rinwedd yr Act hon, i ymofyn, gwrando a therfynu y troseddau a ddywedpwyd vchod, a phob vn o honynt yn flynyddawl, o fewn pumtheng-nhiwrnod wedi ffest y Pasc, a Sanct Michael Archangel, yn y cyfryw fodd, a ffurf ag y mae yr Iustusiaid o Assis, ac o Oyer a Determiner yn ga­llu gwneuthur.

Profidier yn wastad, ac ordeinier, ac enactier trwy y ragddywededic awdurdod, fod i'r holl, ac i bob Archescob ac Escob, a phob vn o'u Canghell-wyr, Commissa­riaid, Archddiaconiaid ac eraill Ordinariaid, y rhai sy iddynt ohanredawl swyddo­gaeth Eglwysic, gael cwbl feddiant ac awdurdod trwy rym yr Act hon yn gystal i ymofyn yn eu Visitation, Seneddau, neu mewn lle arall o fewn eu swyddoga­eth ar ryw amser arall a lle, i gymmeryd cyhuddiadau ac infformasiwnau am oll, a chwbl a goffawyd vcho, a wnaethpwyd, a gommittiwyd, neu a berpetratiwyd o fewn terfynau eu swyddogaethau au hawdurdod, ac i boeni yr vn-rhyw trwy ry­budd, escymmundod, secwestrasion, neu ddepreifasion, ac eraill Censurau a phro­cessau, yn y cyfryw ffurf ag ym-mlaen llaw a arferwyd yn y cyffelyb ddigwyddi­on gan Eglwysic gyfreithiau y Frenhines.

Profidier hefyd yn wastad ac enactier, bod i bawb pwy bynnac a droseddo yn y premissau, ac yn gyntaf a dderbynnio gospedigaeth gan yr Ordinari a thestiolaeth ganddo o hynny tann sel y dywededic Ordinari, Na byddo am yr vn drosedd ei ail confictio ger bron yr Iustusiaid. A'r vn modd, ac efe yn derbyn am y dywededic dro­sedd yn gyntaf boen gan yr Iustusiaid, ni bydd iddo am yr vn trosedd ail derbyn poen gan yr Ordinari: heb fod dim a gynhwysir yn yr Act hon i'r gwrth-wyneb, yn sefyll.

Profidier yn wastad, a bid yn actiedic, bod y cyfryw addurnau yr Eglwys a'i Gwenidogion, iw hattal a'u cadw yn arfer, fel yr oedd yn yr Eglwys, hon o Loegr drwy awdurdod Parliament, yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Brenin Edward y chweched, hyd oni gymmerer trefn arall yn hynny gan awdurdod Mawredd y y Frenhines, yng-hyd a chyngor ei Chomissionariaid, gosodedic ac awdurdodedic dan insel fawr Loegr, am achosion Eglwysic, neu sel Metropolitan y Deyrnas hon. A hefyd o damwain arferu rhyw ddirmyg neu ammarch yn Ceremoniau a chyn­neddfau yr Eglwys, gan gamarfer y trefnau a ossodwyd yn y llyfr hwn: bod i Orucheldab y Frenhines allu trwy gyngor y dywededic Gommissionariaid, neu yr Metropolitan, ordeinio, a chyhoeddi y cyfryw anghwaneg Ceremoniau neu gyn­neddfau ar a fyddont fwyaf er derchafiad gogoniant Duw, adailad ei Eglwys, a dyledus barch ar sanctaidd ddirgeledigaethau Crist, a'i Sacramentau.

Ac ym-mhellach enacter gan yr awdurdod ragddywededic fod holl gyfreithiau, statutau ac ordinadau yn y rhai, ne drwy yr rhai y mae rhywfath wasanaeth arall, ministriad y Sacramentau, neu Gyffredin weddi wedi eu terfynu, eu cadarnhau, neu eu gosod allan iw harferu o fewn y Deyrnas hon, neu arall o arglwyddiaethau, neu wledydd y Frenhines, o hyn allan yn llwyr weigion, ac heb ddim grym.

Act am gyfieithiad y Beibl, a'r Llyfr Gweddi gyffredin i'r iaith Gam­ber-aeg, yr hon a wnaed yn y bummed flwyddyn o deyrnasiad ein grasusaf Arglw­yddes Frenhines Elizabeth.

LLe y darfu i ardderchocaf Fawrhydi y Frenhines, fel duwiolaf a rhinweddolaf dywysog (o flaen dim yn edrych ac yn ysty­ried anrhydedd, a gogoniant Duw, ac ie­chydwriaeth eneidiau ei deiliaid) yn y flwy­ddyn gyntaf o'i theyrnasiad drwy awdur­dod ei goruchel lys o Barliament, wedi ei alw yn bennaf o'r achos hynny; osod allan Lyfr Gweddi gyffredin, a threfn gweinido­gaeth y Sacramentau yn yr iaith Saeson-aeg, i'w arferu trwy ei holl deyrnas o Loegr, Cymru, a'u hardaloedd; megis felly y galle annwyl ddeiliaid ei Goruchder hi (gan ddeall yn eu tafod-iaith eu hu­nain yr aruthrol a'r ofnadwy fygythiau a draethir yn Llyfr Duw yn erbyn yr enwir, a'r drwg-weithredwyr, a'r hyfryd a'r didwyll adde­widion a wnaethpwyd i'r etholedig a'r ddewisedig gynnulleidfa, gydag iawn drefn i reoli ac i arwain eu buchedd yn ol gorchymynnion Duw) yn well o lawer ddyscu caru, ac ofni Duw, a gwasanaethu ac vfyddhau eu tywysog, ac adnabod eu dyled tu ac at eu cymydogion. Yr hwn lyfr a dderbyniwyd megis annwyl-dlws gwerth-fawr, a llawenydd an-nrhaethadwy gan gynnifer oll o'i deiliaid hi ac a oe­ddynt neu ydynt yn deall y Saeson-aeg, yr hon iaith nid ydys yn ei deall gan y rhan fwyaf o nifer holl annwyl ac vfyddion ddeiliaid ei Mawrhydi hi, y rhai ydynt yn preswylio o fewn llywodraeth ei go­ruchder hi yngwlad Gymru, yr hon nid yw ran fechan o'r deyrnas hon, y rhai gan hynny ydynt yn llwyr ymddifaid o sanctaidd air Duw, ac ydynt yn arhos yn y cyffelyb, neu yn hytrach mewn mwy tywy­llni ac anwybodaeth nag yr oeddynt yn amser Pabaidd grefydd. En­acter gan hynny gan ein hardderchog Arglwyddes Frenhines, a'r Arglwyddi ysprydol a llygol, a'r cyffredin sy wedi ymgasclu yn y Parliament presennol hwn, a thrwy awdurdod yr vn-rhyw, bod i'r Escobion o Henffordd, Dewi, Elwy, Bangor a Llandaf a'u Suc­cessoriaid gymmeryd y cyfryw drefn yn eu plith eu hunain am iechy­dwriaeth eneidiau y cynnulleidfaoedd a orchymmynnwyd tan eu [Page] gofal hwynt o fewn Cymru, fel y byddo 'r holl Beibl yn cynnwys y Testament newydd a'r hen, gyd a'r Llyfr Gweddi gyffredin a gwei­nidogaeth y Sacramentau megis yr awrhon yr arferir yn Saeson­aeg yn y deyrnas hon, wedi eu cyfiaithu yn gywir ac yn ddyfal yn iaith y Brutaniaid a'r Cymru, a bod y rhai hyn (wedi eu cyfiaithu felly ganddynt hwy, ac wedi eu darolygu eu hystyried a'u happrwfo) yn brintiedig hyd ynghyfryw nifer o'r lleiaf, fel y byddo i'w cael o'r ddeuryw vn i bob Eglwys Gadeiriol, Colegiat, a phlwyfol, a chappel o esmwythdra, yn y cyfryw leoedd a gwledydd o'r dywededig Esco­baethau lle yr ydys yn dywedyd neu yn arferu yr iaith honno yn gy­ffredin; o flaen y dydd cyntaf o Fawrth, yr hwn fydd yn y flwyddyn o oedran ein Harglwydd Dduw M.D. lxvi: a bod o'r dydd hwnnw allan arferu a dywedyd holl wasanaeth Duw gan y Curadiaid a'r Gw­einidogion yn iaith y Brutaniaid a'r Cymru trwy 'r holl ddywededic Escobaethau, lle yr ydys yn gyffredinol yn arferu y Gamber-aeg, yn y cyfryw ddull a modd ac yr ydys yr awr hon yn ei arfer yn Sae­son-aeg, ac heb ddim amrafael rhyngtho a'r Llyfr Saeson-aeg mewn trefn a ffurf. Am y rhyw lyfrau felly wedi eu printio y plwyfolion o bob rhai o'r plwyfydd hynny a dalant y naill hanner, a'r Person, a'r Ficar o bob vn o'r plwyfydd hynny, lle byddo y ddau, neu 'r naill o honynt lle ni bo ond vn, a dalant yr hanner arall. Gwerth y rhyw lyfrau a ddognir ac a appwyntir gan y dywededig Escobion a'u Successoriaid, neu gan dri o honynt o'r lleiaf. Yr hyn bethau os y rhag-ddywededig Escobion a'u Successoriaid a es­ceulusant eu gwneuthud, yna bod i bob vn o honynt fforffettio i Fa­wrhydi y Frenhines ei hetifeddion a'i Successoriaid y swm o ddeu­gain punt, iw codi ac iw cymmeryo o'u da ac o'u catteloedd. Enac­ter ym-mhellach drwy y rhag-ddywededig awdurdod i bob Gwei­nidog a Churad o fewn yr Escobaethau vchod lle yr arferir y Gam­ber-aeg yn gyffredin (o, a chwedi Gwyl y Sul-gwyn nesaf yn canlyn hyd y dywededig ddydd cyntaf o Fawrth yr hwn fydd yn y flwyddyn o oedran ein Harglwydd Dduw 1566) bob amser dde­clario a darllen yr Epistol a'r Efengyl o'r dydd yn Gamber-aeg i'w blwyfolion ym-mhob vn o'r dywededig Eglwysi neu Gappelau: a hefyd fod iddynt vn-waith yn yr wythnos o'r lleiaf ddarllen a dat­can yn Gamber-aeg iw plwyfolion yn y dywededig Eglwysi, We­ddi 'r Arglwydd, Pyngciau y ffydd Gristionogawl, y Deg gor­chymmyn, a'r Letani, megis y maent wedi eu gosod allan yn Sae­son-aeg, gyd a chyfryw ran arall o'r Weddi gyffredin a'r Dwywol [Page] wasanaeth, megis ac yr appwyntier gan Escob yr Escobaeth tros yr amser presennol. Cydnabydder er hynny bob amser ac enacter trwy 'r awdurdod ddywededig bod prynu a chael vn llyfr yn cyn­nwys y Beibl, a llyfr arall o'r weddi gyffredin yn Saeson-aeg ym­mhob Eglwys trwy Gymru, lle y gorfydd cael hefyd y Beibl a'r llyfr Gweddi gyffredin yn Gamber-aeg trwy rym yr Act hon (onid oes yno rai eusys) cyn y dydd cyntaf o Fawrth yr hwn fydd yn oedran yr Arglwydd 1566. A bod y llyfrau hyn yn arhos mewn cyfryw leoedd cymmwys yn yr Eglwysi hynny, fel y gallo pawb o'r a'u deallo hwynt gynniwer attynt, ac fel y gallo hefyd y rhai ni ddeallant yr iaith honn wrth gyd-ystyried y ddwy-iaith ddyfod yn gynt i wybodaeth y Saeson-aeg; er dim a'r y sy yn yr Act hon i'r gwrth-wyneb.

Septuagesima.cyn Pâsc.ixwythnos.
Sexagesima.viii
Quinquagesima.vii
Quadragesima.vi
Wythnos y gwe­ddieu.wedi Pâsc.vwythnos.
Sul-gwyn.vii
Sul y Drintod.viii

Y drefn ym-mha le yr arferir, ac y dywedir y Boreuawl a'r Pyrnhawnawl weddi.

Y Boreuawl a'r Pyrnhawnawl weddi a arferir yn y defo­dic le o'r Eglwys, Capel, neu Gangell; oddi eithr i'r Ordinari derfynu yn amgenach am y lle. A bod y Co­rau yn aros megis ydd oeddynt yr amser a aeth.

A bid honeit hyn yma, i'r Gwenidog arbryd Cymmun, ac ar bob pryd arall ymarfer o gyfryw wiscoedd, neu a­ddurne yn yr Eglwys ac a oeddynt mewn arfer her­wydd awdurdod y Parliament yr ail flwyddyn o deyr­nasiad Brenin Edward y chweched yn yr Act o Barlia­ment ossodedic yn nechreu y llyfr hwn.

Trefn am weddi foreuol bob dydd trwy 'r flwyddyn.

Ar ddechreu y weddi foreuol, ac yr vn ffunyd ar y weddi Bryd-nhawnol, darllenet y Gwenidog â llef vchel rai o'r synhwyreu hyn o'r Scrythur lân, y rhai ydynt yn canlyn. Ac yno dywedet yr hyn sydd scrifennedic ar eu hôl.

PA bryd bynnac y bo yn edifar gan be­chadur ei bechod o ddyfnder ei ga­lon,Ezec. 18. mi a ollyngaf tros gof yr holl enwiredd a'r a wnaeth ef, medd yr Arglwydd.

Ydd wyf yn cydnabod fy enwiredd,Psal. 51. a'm pechod sydd yn wastad yn fy erbyn.

Psal. 51.Ymchwel dy wyneb oddi-wrth fy-mhechodau, Arglwydd, a dilêa fy holl gamweddau.

Psal. 51.Yspryd cystuddiedic y sydd aberth i Dduw, na thre­myga Arglwydd Dduw galōnau vfydd cystuddedig.

Ioel. 2.Rhwygwch eich calonnau, ac nid eich dillad, ac Ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw, canys ti­rion a thrugarog ydyw, efe sydd ddioddefgar a mawr ei drugaredd, a chyfryw vn ac sydd ofidus ganddo dros eich blinder.

Dan. 9.Ti Arglwydd bieu tosturi a maddeuaint, canys aethom Ymaith oddi-wrthit ac ni wrandawsom ar dy leferydd, modd y gallem rodio yn dy gyfreithieu y rhai a osodaist i ni.

Ierem. 10.Cospa ni Arglwydd, ac etto yn dy farn nid yn dy gynddaredd, rhac na bo dim mwy o honom.

Mat. 3.Gwellhewch eich buchedd, canys bod teyrnas Dduw yn agos.

Luc. 15.Mi a âf at fy-Nhâd, ac a ddywedaf wrtho: fy-Nhâd mi a bechais yn erbyn y nefoedd, ac yn dy erbym di, ac mwyach nid wyf deilwng i'm galw yn fâb i ti.

Psal. 143.Na ddwg i'r farn dy weision, Arglwydd, can nad byw neb cyfiawn yn dy olwg di.

1. Ioan 1.Os dywedwn ein bod heb pechod, ydd ŷm yn ein twyllo ein hunain, ac nid oes wirionedd ynom.

FY anwyl gariadus frodyr, y mae yr Srythur lân yn ein cynhyrfu mewn amrafael fannau, i gydna­bod ac i gyffessu ein aml bechodau a'n anwiredd, ac na wnelem nai cuddio nai cêlû yng-wydd yr Holl­alluog Dduw ein Tâd nefol, eithr eu cyffessu â go­styngedic, isel, edifarus, ac vfydd galon, er mwyn ca­ffael o honom faddeuaint am danynt trwy ei anfei­drol ddaioni a'i drugaredd ef. A chyd dylem ni bob amser addef yn ostyngedic ein pechodau ger bron Duw: Etto ni a ddŷlem yn bennaf wneuthur hyn­ny [Page] pan ymgynhullom i gyd-gyfarfod, i dalu diolch am yr aml ddaioni a dderbyniasom ar ei law ef, i ddatcan ei haeddedicaf foliant, i wrando ei sanctai­ddiaf air ef, ac i erchi y cyfryw bethau ac a fyddo cym­mwys ac anghenrheidiol, yn gystal ar lês y corph a'r enaid. O herwydd paham myfi a erfyniaf ac a ato­lygaf i chwi, cynnifer ac y sydd yma yn bressennol, gyd-tuno â myfi, â chalon bûr, ac â lleferydd ostynge­dic, hyd yng-orseddfa y nefol râd, gan ddywedyd ar fy ôl i.

Cyffes gyffredin iw dywedyd gan yr holl gynnulleidfa ar ôl y Gwenidog, gan ostwng ar eu gliniau.

HOll alluog Dduw, a thrugarocaf Dâd, Ni a ae­thom ar gyfeiliorn allan o'th ffyrdd di, fel defaid ar gyfrgoll; Nyni a ddilynasom ormodd ar amcaniō, a chwantau ein calonnau ein hunain; Nyni a w­naethom yn erbyn dy sancteiddiol gyfreithiau: Nyni a adawsom heb wneuthud y petheu, a ddylesem eu gwneuthur; ac a wnaethom y pethau ni ddylesem eu gwneuthur: Ac nid oes iechyd ynom, Eithr tydi ô Arglwydd, cymmer drugaredd arnom ddrwg-wei­thred-wŷr truain: Arbet ti hwyntwy, o Dduw, y rhai sy yn cyffessu eu beiau. Cyweiria di y sawl y sydd yn edifarus; yn ôl dy addewidiō a espysswyd i ddŷn, yng-Hrist Iesu ein Harglwydd. A chaniattâ drugarocaf Dâd er ei fwyn ef, fyw o honom rhac llaw; mewn duwiol, vnion, a sobr fuchedd, i ogoni­ant dy sancteiddiol Enw: Amen.

Y Gollyngdod iw datcan gan y gwenidog yn vnic.

YR Holl-Alluog Dduw, Tâd ein Harglwydd Ie­su Grist, yr hwn ni ddeisyf farwolaeth pechadur, eithr yn hyttrach ymchwelyd o honaw oddi wrth ei anwiredd, a byw: ac a roddes allu a gorchymyn iw [Page] wenidogion, i ddeclario a mynegu iw bobl sydd yn e­difarus, absolusion a maddeuaint am eu pechodau: Efe a bardŷna, ac a ollwng hwyntwy oll y sy wîr e­difeiriol, ac yn ddiffûant yn credu iw sancteiddiol E­fangel ef. Herwydd pa ham nyni a attolygwn iddo ganiadtau i ni wîr edifeirwch, a'i Yspryd glân, fel y byddo boddlon ganddo y pethau ydd ydym y pryd hyn yn eu gwneuthur, a bod y darn arall o'n bywyd rhac llaw yn bûr, ac yn sancteiddiol, megis y dêlom o'r diwedd iw lawenydd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Attebed y bobl, Amen.

Yna y dechreu y Gwenidog weddi yr Arglwydd â llef vchel.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw: Deuet dy deyrnas: Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd: Dyro i ni he­ddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyle­dion fel y maddeuwn ni i'n dyled-wŷr. Ac nac ar­wain ni i brofedigaeth: Eithr gwaret ni rhag drwg: Amen.

Y Gwenidog yn yr vn lleferydd a ddyweid.

Arglwydd agor ein gwefusau.

Atteb.

A'n geneu a fynega dy foliant.

Offeiriad.

Duw bryssia i'n cynnorthwŷo.

Atteb.

Arglwydd prysura i'n cymmorth.

Offeiriad.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn oes oessoedd. Amen.

Molwch yr Arglwydd.

Yna y dywedir, neu y cênir y psalm sy 'n canlyn.

DEuwch, canwn i'r Arglwydd:Venite exul­temus Do­mino. Psal. 95. ymla­wenhawn yn nerth ein hiechyd.

Deuwn ger ei fron ef â diolch: ca­nwn yn llafar iddo Psalmau.

Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr: a Brenin mawr ar yr holl dduwiau.

Oblegyt yn ei law ef y mae gorddyfnder y ddaiar: ac ef biau vchelder y mynyddoedd.

Y môr sydd eiddo, canys efe a'i gwnaeth: a'i ddwy­law a luniasant y sych-dir.

Deuwch addolwn, ac syrthiwn i lawr, a gostyng­wn ger bron yr Arglwydd ein gwneuthur-wr.

Canys efe yw ein Duw ni: a ninne ŷm bobl ei borfa ef, a defeid ei ddwylaw.

Heddyw o gwrandewch ar ei leferydd, na chale­dwch eich calonnau: megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch.

Lle y temptiodd eich tadau fi, y profâsant fi, a gwelsant fyng-weithredoedd.

Deugain mhlynedd yr ymrysonais â'r genhed­laeth hon, a dywedais, pobl gyfeiliornus yn eu ca­lonnau ydynt hwy: canys nid adnabuant fy ffyrdd.

Wrth y rhai y tyngais yn fy llîd: na ddelent .

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân:

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn oes oesoedd. Amen.

Yn ôl hyn y dilyn ryw Psalmau mewn trefn, megis yr ap­pwyntiwyd hwy yn y tabul a wnaethbwyd er mwyn hynny; oddieithr bod Psalmau priawd i'r diwrnod hwnnw. Ac ar ddiwedd pob Psalm drwy yr flwyddyn, a'r vn modd ar ddiwedd Benedictus, Benedicite, Magni­ficat, a Nunc dimittis, y dywedir. Gogoniant i'r Tâd ac i'r Mâb, &c.

Yna y darlleir dwy lith yn llawn llythyr, â lleferydd vchel, fel y gallo y bobl ei glywed. Y gyntaf o'r hên Desta­ment; yr ail o'r newydd, megis ac yr appwyntiwyd wrth y Calendar, oddi eithr bod llithiau priod wedi'r asseinio i'r dydd hwnnw. Y gwenidog a ddarllêno y llith, safed, ac ymchweled felly, megis y galler ei glywed gan bawb oll a'r a fo yn y fan. Ac o flaen pob llith, dyweded y gwenidog fel hyn. Y bennod neu yr Capitul cyntaf, yr ail, y trydydd, &c. o Genesis, o Exodus, Mathew, Marc, neu'r cyfryw vn, megis yr appwyntiwyd yn y Calen­dar. Ac ar ddiwedd pob pennod neu capitul, dyweded: Yma y terfyna y cyfryw bennod o'r cyfryw lyfr.

Ac er mwyn cael o'r bobl glywed yn well mewn cyfryw leoedd ac y byddir yn arfer o ganu, bid yno ddarllen y llithiau mewn tôn eglur, ar wedd darlleniad llawn lly­thyr, a'r vn modd yr Epistol a'r Efangel. Yn ôl y llith gyntaf y canlyn Te Deum laudamus yn Gamber-aec, beunydd trwy'r holl flwyddyn.

Te Deum laudamus.

TI Dduw a folwn: ti a gydnabyddwn yn Arglwydd.

Yr holl ddaiar a'th fawl di: y Tâd tra­gywyddawl.

Arnat ti y llefant yr holl Angelion: y ne­foedd a'r holl nerthoedd o'u mewn.

Arnat ti y llefant Cherubin a Seraphin: â lleferydd dibaid.

Sanct, Sanct, Sanct: Arglwydd Dduw Sabaoth.

Nefoedd a daiar sydd yn llawn: o'th ogoniant.

Gogoneddus gôr yr Apostolion: a'th fawl di.

Moliannus nifer y prophwydi: a'th fawl di.

Ardderchawg lu y Merthyri: a'th fawl di.

Yr Eglwys lân trwy'r holl fyd: a'th addef di.

Y Tâd: o anfreidrawl fawredd.

Dy anrhyddedus wir: ac vnic Fâb.

Hefyd yr Yspryd glân: y diddan-wr.

Ti Crist: yw Brenin y gogoniant.

Ti yw tragywyddol Fab y Tâd.

Pan gymmeraist arnat waredu dŷn: ni ddiystyraist frû y wyryf.

Pan orchfygaist holl nerth angeu: yr agoraist deyr­nas nef i bawb a gredant.

Ti sydd yn eistedd ar ddeheu-law Duw: yng-ogoni­ant y Tâd.

Ydd ym ni yn credu mai tydi a ddaw: yn farn-wr arnom.

Can hynny yr attolygwn i ti gynnorthwyo dy weisi­on: yr hai a brynaist â'th werth-fawr waed.

Par iddynt gael eu cyfrif gyd â'th Sainct: yn y go­goniant tragywyddol.

Arglwydd cadw dy bobl: a bendithia dy etifeddiaeth.

Llywia hwy: a dercha hwy yn dragywydd.

Beunydd: ac fyth y clodforwn dydi.

Ac anrhydeddwn dy Enw: byth ac yn oes oesoedd.

Teilynga Arglwydd ein cadw y dydd hwn yn ddibe­chod.

Arglwydd trugarhâ wrthym: trugarhâ wrthym.

Arglwydd poed dy drugâredd a ddêl arnom: megis ydd ym yn ymddiried ynot.

Arglwydd ynot yr ymddiriedais: na'm gwradwy­dder yn dragywydd.

Neu'r caniad hwn: Benedicite omnia opera Domini Domino.

CHwychwi holl weithredoedd yr Argl­wydd, bendithiwch yr Arglwydd: mo­lwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi Angelion yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi nefoedd, bendithiwch yr Arglwydd: [Page] molwch ef a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi yr dyfroedd y sydd vwchben y ffyrfa­fen, bendithiwch yr Arglwydd, molwch ef a mawr­hewch yn dragywydd.

Chwychwi nerthoedd yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef a mawrhewch yn dragy­wydd.

Chwychwi haul a lleuad, bendithiwch yr Ar­glwydd: molwch ef a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi sêr y nefoedd, bendithiwch yr Arglw­ydd: molwch ef a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi gafodau a gwlith, bendithiwch yr Ar­glwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi wyntoedd Duw, bendithiwch yr Ar­glwydd: molwch ef a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi dân a gwrês, bendithiwch yr Arglw­ydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi aiaf a hâf, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi wlîthoedd a rhewoedd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef a mawrhewch yn dragy­wydd.

Chwychwi rew ac oerfel, bendithiwch yr Arglw­ydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi iâ ac eira, bendithiwch yr Arglw­ydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi nosau a dyddiau, bendithiwch yr Ar­glwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi oleuni a thywyllwch bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi fellt ac wybrennau, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef a mawrhewch yn dragywydd.

Bendithied y ddaiar yr Arglwydd: moled ef, a mawrhaed yn dragywydd.

Chwychwi fynyddoedd a brynniau, bendithiwch [Page] yr Arglwydd: molwch ef a mawrhewch yn dragy­wydd.

Chwychwi oll wyrddion bethau ar y ddaiar, ben­dithiwch yr Arglwydd: molwch ef a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi ffynhonnau, bendithiwch yr Arglw­ydd: molwch ef a mawrhewch, yn dragywydd.

Chwychwi foroedd a llefeiriaint, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef a mawrhewch yn dragy­wydd.

Chwychwi for-filod, ac oll a'r sydd yn ymsymmu­do yn y dyfroedd, bendithiwch yr Arglwydd: mo­lwch ef a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi oll adar yr awyr, bendithiwch yr Ar­glwydd: molwch ef a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi oll anifeiliaid ac yscrubliaid bendi­thiwch yr Arglwydd: molwch ef a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi blant dynion, bendithiwch yr Arglw­ydd: molwch ef a mawrhewch yn dragywydd.

Bendithied Israel yr Arglwydd: moled ef a maw­rhaed yn dragywydd.

Chwychwi offeiriaid yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef a mawrhewch yn dragy­wydd.

Chwychwi wasanaeth-wŷr yr Arglwydd, bendi­thiwch yr Arglwydd: molwch ef a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi ysprydion ac eneidiau y cyfiawnion, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef a mawrhe­wch yn dragywydd.

Chwychwi y rhai sanctaidd a gostyngedig o ga­lon, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef a maw­rhewch yn dragywydd.

Chwychwi Ananias, Azarias a Misael, bendi­thiwch [Page] yr Arglwydd: molwch ef a mawrhewch yn dragywydd.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân:

Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen.

Ac yn ôl yr ail llith, arferer, a dyweder, Benedictus yn Gamber-aec, megis y mae yn canlyn.

Benedi­ctus. Luc. 1.68. BEndigedic fyddo Arglwydd Dduw'r Israel: canys efe a ymwelodd, ac a brynodd ei bobl.

Ac a dderchafodd iechydwriaeth ner­thol i ni yn nhŷ Ddafydd ei wasa­naeth-wr.

Megis y dywedodd trwy enau ei sanctaidd broph­wydi, y rhai oeddent o ddechreuad y bŷd.

Yr anfone efe i ni ymwared rhag ein gelynion, Ac oddi-wrth ddwylo pawb o'n digasogion.

Y gwnae efe drugaredd á'n tadau, ac y coffâe ei san­taidd gyfammod:

A'r llw yr hwn a dyngodd ef wrth ein Tâd Abra­ham: sef bod iddo ganiadtau i ni gwedi ein ymwa­red oddi wrth ddwylo ein gelynion allu i wasanae­thu ef yn ddiofn,

Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd.

A thithe fâb a elwir yn brophwyd i'r Goruchaf, canys ti a eî o flaen wyneb yr Arglwydd i baratoi ei ffyrdd ef,

Ac i roddi gwybodaeth iechydwriaeth iw bobl ef, gan faddeu eu pechodau,

O herwydd tiriondeb trugaredd ein Duw, trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o'r vchelder:

I roddi llewyrch i'r rhai sy yn eistedd mewn ty­wyllwch a chyscod angeu, i gyfeirio ein traed i ffordd tangeddyf.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân: Megis yddoedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.

Neu yr Psalm a ganlyn.

CEnwch yn llafar i'r Arglwydd yr holl ddaiar:Iubilate Deo. Psal. 100. Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch yn ei ŵydd ef mewn gorfoledd.

Gwybyddwch mai yr Arglwyd sydd Dduw: efe a'n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym a defaid ei borfa.

Ewch i mewn iw byrth ef â diolch, ac iw lysoedd â moliant gennwch, diolchwch iddo a chlodforwch ei Enw.

Canys daionus yw yr Arglwydd, a'i drugaredd sydd yn dragywydd, a'i wirionedd a beru o genhed­laeth i genhedlaeth byth.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân:

Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, &c.

Yna y dywedir y Credo gan y Gwenidog, a'r bobl yn eu sefyll.

CRedaf yn Nuw Dâd oll gyfoethawg, Creawdr nef a daiar. Ac yn Iesu Grist ei vn Mâb ef, ein Harglwydd ni: Yr hwn a gâed trwy yr Yspryd glân, a aned o Fair forwyn: A ddioddefodd dan Pontius Pi­latus; a groes-hoeliwyd, a fu farw ac a gladdwyd, Descennodd i vffern, y trydydd dydd y cyfododd o fei­rw. Ascennodd i'r nefoedd, ac y mae yn eistedd ar dde­heu-law Dduw Dâd oll gyfoethawg. Oddi yno y daw i farnu byw a meirw. Credaf yn yr Yspryd glân, yr Eglwys lân gatholic, Cymmun y sainct, Maddeuaint pechodau. Cyfodiad y cnawd, a'r by­wyd tragywyddol. Amên.

Ac yn ôl hynny, y gweddiau y sy yn calyn, yn gystal ar brydnhawn weddi, ac ar forau weddi: a phawb yn go­stwng yn ddefosionol. Y Gwenidog yn gyntaf yn lla­faru â llef vchel.

Yr Arglwydd a fo gyd â chwi.

Atteb.

A chyd â'th Yspryd dithau.

Y Gwenidog.

Gweddiwn.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Christ trugarhâ wrthym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Yna y Gwenidog, yscolheigion, a'r bobl a ddywedant weddi yr Arglwydd yn Camber-aec â lleferydd vchel.

Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

Yna y Gwenidog yn ei sefyll a ddywaid.

Arglwydd dangos dy drugaredd arnom.

Atteb.

A chaniadhâ i ni dy iechydwriaeth.

Offeiriad.

Arglwydd cadw y Frenhines.

Atteb.

A gwrando ni yn drugarog pan alwom arnat.

Offeiriad.

Gwisc dy wenidogion ag iawnder.

Atteb.

A gwna dy dde wisol bobl yn llawen.

Offeiriad.

Arglwydd cadw dy bobl.

Atteb.

A bendithia dy etifeddiaeth.

Offeiriad.

Arglwydd dyro dangneddyf yn ein dyddiau.

Atteb.

Can nad oes neb arall a ymladd trosom, onid tydi Dduw yn vnic.

Offeiriad.

Duw glanhâ ein calonnau ynom.

Atteb.

Ac na chymmer dy Yspryd glân oddi wrthym.

Yna y canlyn tri Cholect. Y cyntaf o'r dydd, yr hwn a fydd yr vn ac y appointir ar y Cymmun. Yr ail, am dangneddyf. Y trydydd, am râd i fyw yn dda. Ar ddau Golect ddiweddaf ni chyfnewidir byth; onid eu dywe­dyd beunydd ar foreuol weddi, trwy yr holl flwyddyn, fel y canlyn.

Yr ail Colect am dangneddyf.

DVw, yr hwn wyt Awdur tangneddyf, a charwr cydundeb, yr hwn o'th iawn adnabod y mae ein buchedd dragywydd yn sefyll arnaw, a'th wasaneth yw gwir fraint: Amddeffyn nyni dy ostyngedig wei­sion, rhag holl ruthrau ein gelynion; hyd pan allom trwy gwbl ymddyried yn dy amddeffyn di, nac ofnom allu neb gwrthwyneb-wŷr; trwy nerth Iesu Grist ein Harglwydd. Amên.

Y trydydd Colect am gael rhâd.

O Arglwydd nefol Dâd, holl-alluog, a thragy­wyddol Dduw, yr hwn a'n cedwaist yn ddiang­ol hyd ddechreu yr dydd heddyw, amddeffyn nyni ynddo â'th gadarn allu, a chaniadhâ na syrthiom y dydd hwn mewn vn pechod, ac nad elom mewn neb rhyw bericl, eithr bod ein holl weithredoedd we­di eu trefnu a'u llywiaw wrth dy lywodraeth, i wneuthur yn wastad y peth y sydd gyfiawn yn dy olwg di, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, Amên.

¶Y drefn am Bryd-nhawnol weddi trwy gydol y flwyddyn.

Yr offeiriad a ddywed.

Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd &c.

Ac efe yn yr vn ffunyd a ddywed.

Arglwydd agor ein gwefusau.

Atteb.

A'n geneu a fynega dy foliant.

Offeiriad.

Duw bryssia i'n cynnorthwyo.

Atteb.

Arglwydd pryssura i'n cymmorth.

Offeiriad.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen. Molwch yr Arglwydd.

Yna y Psalmeu mewn trefn megis yr apwyntiwyd hwy yn y Tabul y Psalmau, oddi eithr bod Psalmau priod wedi appwyntio i'r dydd hwnw. Yna llith o'r hên Desta­ment, megis ac yr appwyntiwyd hefyd yn y Calendar, oddi eithr bod llithiau priod wedir' appwyntio i'r dydd hwnnw. Yn ôl hynny Magnificat yn Gamber-aec, megis y canlyn.

Magnificat Luc. 1.46. FY enaid a fawrhâ yr Arglwydd, a'm hyspryd a lawenychodd yn Nuw fy Ia­chawdur.

Canys efe a edrychodd ar ostyngei­ddrwydd ei wasanaethyddes.

Oblegid wele o hynn allan yr oll genhedlaethau a'm geilw yn wynfydedic.

Canys yr hwn sydd Alinog a wnaeth i mi faw­redd: a sanctaidd yw ei Enw ef.

A'i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a'i hof­nant ef.

Efe a ddangosodd nerth â'i fraich, efe a wascarodd y rhai beilchion ym-mwriadau eu calonnau.

Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o'u heisteddfae ac a dderchafodd y rhai isel-râdd.

Efe a lanwodd y rhai newynog â phethau da: ac efe a anfonodd ymmaith y rhai goludog mewn ei­siau.

Efe a gannorthwyodd ei wâs Israel, gan gofio ei drugaredd: (fel y dywedodd wrth ein tadau, Abra­ham a'i hâd) yn dragywydd.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon, ac y bydd yn oes oessoedd. Amen.

Ai ynteu y Psalm a ganlyn.

CEnwch i'r Arglwydd ganiad ne­wydd,Cantate Domino. Psal. 98. canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: â'i ddeheu-law, ac â'i fraich sanctaidd y parodd iddo ei hun iech­ydwriaeth.

Yspyssodd yr Arglwydd ei iechyd­wriaeth, a datcuddiodd ei gyfiawnder yng-olwg y cenhedloedd.

Cofiodd ei drugaredd, a'i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaiar a welsant iechydwriaeth ein Duw ni.

Cenwch yn llafar i'r Arglwydd yr holl ddaiar: llef­wch, ac ymlawenhewch, a chenwch.

Cenwch i'r Arglwydd gyd â'r delyn: sef gyd â'r de­lyn â llef canmoliaeth.

Cenwch yn llafar o flaen yr Argiwydd y Brenin, ar yr vd-cyrn, a sain trwmpet.

Rhued y môr ac sydd ynddo, y byd a'r rhai a dri­gant o'i fewn.

Cured y llifeiriaint eu dwylo: a chyd-ganed y my­nyddoedd o flaen yr Arglwydd, canys efe a ddaeth i farnu y ddaiar.

Efe a farna yr bŷd mewn cyfiawnder: a'r bobloedd mewn vniondeb.

Gogoniant i'r Tâd ac i'r Mâb ac i'r Yspryd glân.

Megis ydd oedd yn y dechreu, &c.

Yna llith o'r Testament newydd. Ac yn ôl hynny Nunc di­mittis yn Gamber-aec, megis y canlyn.

Nunc di­mittis. Luc. 2.29. YR awr hon Arglwydd y gollyngi dy wâs mewn tangneddyf yn ôl dy air.

Canys fy llygaid a welsant dy ie­chydwriaeth,

Yr hon a baratoaist gar bron wy­neb yr holl bobl,

I fod yn oleuni i oleuo y cenhedloedd, ac yn ogoni­ant i'th bobl Israel.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon, &c.

Neu yr Psalm hon.

Deus mise­reatur. Psal. 67. DVw a drugarhao wrthym, ac a'n ben­dithio, a thywynned llewych ei wyneb arnom, a thrugarhaed wrthym. Selah.

Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaiar, a'th iechydwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd.

Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl dy-di.

Llawenhaed y cenhedloedd a byddant hyfryd, ca­nys tydi a ferni y bobl yn vniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaiar. Selah.

Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl dydi.

Yna yr ddaiar a rydd ei ffrwyth: a Duw sef ein Duw ni, an bendithia.

Duw a'n bendithia, a holl derfynau yr ddaiar a'i hofnant ef.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân:

Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae yr awr, &c.

Yna y canlyn y Credo, a gweddieu eraill, megis yr ap­poyntiwyd ym-laen ar y foreu-weddi, ar ôl Benedictus. Ac â thri Cholect. Yn gyntaf o'r dydd; yr ail, o dangneddyf. Y trydydd am gynhorthwy yn erbyn pob pericl, fel y can­lyn yma rhac llaw. A dau or Colectau diwethaf a ddy­wedir bob dydd ar bryd-nhawn weddi heb gyfnewid.

Yr ail Colect ar bryd-nhawn weddi.

DVw oddi wrth ba vn y daw pob adduned sanc­taidd, pob cyngor da, a phob gweithred gyfiawn, dyro i'th wasanaeth-ddynion y rhyw dangneddyf a'r na ddichon y bŷd ei roddi; modd y gallo ein calon­nau ymroi i vfyddhau i'th orchymynnion; a thrwy dy amddeffyniad i ni rhag ofn ein gelynion, allu o honom dreulio ein amser mewn heddwch a thang­neddyf, drwy haeddedigaethau Iesu Grist ein Ia­chawdur. Amen.

Y trydydd Colect am gynnorthwy yn erbyn holl bericlon.

GOleua ein tywyllwch, ni a attolygwn i ti o Arglwydd; a thrwy dy fawr drugaredd amdde­ffyn nyni rhag pob pericl ac enbydrwydd y nôs hon; er serch ar dy vn Mâb ein Iachawdur Iesu Grist. Amên.

Ar dydd Nadalic Crist, dydd-gwyl Ystwyll, dydd-gwyl Fathias; dydd Pasc, y Derchafael, y Sul-gwyn, dydd-gwyl Ioan fedyddi-wr, Sainct Iacob, Sainct Bartholomeus, S. Mathew, S. Simon ac Iud, S. [Page] Andreas, a sul y Drindod; y cenir neu y dywedir yn nesaf vn ar ôl Be­nedictus, y gyffes, neu'r addefiad hyn o'n ffydd Cristionogawl.

PWy bynnac a fynno fod yn gadwedic: o flaen dim rhaid iddo gynnal y ffydd ga­tholic.

Yr hon ffydd, onis ceidw pôb dyn yn gyfan, ac yn ddihalog: diammeu y collir ef yn dragywydd.

A'r ffydd gatholic yw hon: bod ini addoli vn Duw yn Drindod, a'r Drindod yn vndod.

Nid cymmyscu o honom y personeu: na gwaha­nu y sylwedd.

Canys vn person sydd i'r Tâd, arall i'r Mâb: ac a­rall i'r Yspryd glân.

Eithr Duwdod y Tâd, y Mâb, a'r Yspryd glân sydd vnryw: gogoniant gogyfuwch, mawrhydi go­gydtragywyddol.

Vn-ryw a'r Tâd, vnrhyw yw'r Mâb; vnrhyw yw'r Yspryd glân.

Digreuedic Dâd, digreuedic Fâb: digreuedic Y­spryd glân.

Ammesuredig Dâd, ammesuredig Fâb, ammesu­redig Yspryd glân.

Tragywyddol Dâd, tragywyddol Fâb: tragy­wyddol Yspryd glân.

Ac etto nid ydynt dri tragywyddolion; onid vn tragywyddol.

Ac fel nad ynt dri ammesuredigion, na thri digre­uedigion: onid vn digreuedic, ac vn ammesuredig.

Felly yn gyffelyb, holl-alluog yw'r Tâd, holl-allu­og yw'r Mâb: holl-alluog yw'r Yspryd glân.

Ac etto nid ynt dri holl-alluogion: onid vn holl-a­lluog.

Felly y Tâd sydd Dduw, y Mâb sydd Dduw: a'r Yspryd glân sydd Dduw.

Ac etto nid ynt drî duwiau: onid vn Duw.

Felly y Tâd sydd Arglwydd, y Mâb sydd Arglw­ydd; a'r Yspryd glân sydd Arglwydd.

Ac etto nid ynt drî Arglwyddi; namyn vn Ar­glwydd.

Canys fel i'n cymhellir trwy gristianogaidd wi­rionedd: i gyfaddef bod pob person o honaw ei hûn yn Dduw, ac yn Arglwydd

Felly i'n gwaherddir trwy'r Gatholic Crefydd: i ddywedyd, bod trî Duwiau, na thri Arglwyddi.

Y Tâd ni wnaethbwyd gan neb: ni's creuwyd, ac ni's cenhedlwyd.

Y Mâb y sydd o'r Tâd yn vnic: heb ei wneuthur, na'i greû, eithr wedi ei genhedlu.

Yr Yspryd glân y sydd o'r Tâd a'r Mâb: heb ei wneuthur, na'i greu, na'i genhedlu, eithr yn dei­lliaw.

Wrth hynny vn Tâd y sydd, nid tri thaid, vn Mâb, nid tri Mâb; vn Yspryd glân, nid tri Yspry­dion glân.

Ac yn y Drindod hon, nid oes vn cynt, neu gwedi ei gilydd: nid oes vn mwy na llai na'i gilydd.

Eithr yr holl dri phersonau ydynt gogydtragy­wyddol: a gogyfuwch.

Ac felly ym mhob peth fel y dywedpwyd vchod: yr vndod yn y Drindod, a'r Drindod yn yr vndod sydd i'w addoli.

Pwy bynnac gan hynny a synn fod yn gadwedic: synied felly o'r Drindod.

Y mae hefyd yn anghenrhaid er mwyn tragywy­ddol iechydwriaeth: credu o ddyn yn ffyddlawn am gnawdoliaeth ein Harglwydd Iesu Grist.

Canys yr iawn ffydd yw, credu, a chyffessu o ho­nom: fod ein Harglwydd ni Iesu Grist, Fâb Duw; yn Dduw ac yn ddŷn.

Duw, o sylwedd y Tâd, wedi ei genhedlu, cyn nac oesoedd: a dyn, o sylwedd ei fam, wedi ei eni yn y byd.

Perffaith Dduw, a pherffaith ddŷn o enaid rhe­symol: a dynol gnawd yn hanfod.

Gogyfuwch a'r Tâd o blegit ei Dduwdod: a llai nâ'r Tâd, o blegit ei ddyndod.

Yr hwn, er ei fod efe yn Dduw, ac yn ddyn: er hyn­ny, nid yw efe ddau, onid vn Crist.

Vn, nid trwy ymchwelyd y Duwdod yn gnawd: onid gan gymmeryd y dyndawd yn Dduw.

Vn i gyd oll, nid gan gymmyscu y sylwedd: onid trwy vndod person.

Canys fel y mae yr enaid rhesymol a'r cnawd yn vn dŷn: felly Duw a dŷn sydd vn Christ.

Yr hwn a ddioddefodd tros ein iechydwriaeth: a ddescennodd i vffern, a gyfododd y trydyd dydd o feirw.

Ascynnodd i'r nefoedd, ac y mae yn eistedd ar dde­heu-law Dduw r' Tâd, holl-alluog: oddi yno y daw i farnu byw a meirw.

Ac ar ei ddyfodiad, y cyfyd pob dŷn yn eu cyrph eu hunain: ac a roddant gyfrif am eu gweithredoedd priawd.

Ar' rhai a wnaethont dda, a ânt i'r bywyd tragy­wyddol: a'r rhai a wnaethont ddrwg, i'r tân tragy­wyddol.

Hon yw'r ffydd gatholic: yr hon pwy bynnac a'r ni's creto yn ffyddlon, ni all efe fod yn gadwedic.

Gogoniant i'r Tâd, &c.

Megis yr oedd yn y dechreu, &c.

Fel hyn y terfyna y foreuol a'r brydnhawnol weddi trwy 'r flwyddyn.

¶Yma y canlyn y Letani iw arfer ar y Suliau, y Merchurau, a'r Gwenerau, ac ar amserau eraill pan oruchmynner y gan yr Ordinari.

DVw Tad o'r Nef: trugarhâ wrthym wîr bechaduriaid.

Duw Tâd o'r nef trugarhâ wrthym, &c.

Duw Fâb bryn-wr y byd: trugarhâ wrthym wîr bechaduriaid.

Duw Fâb bryn-wr y byd trugarhâ wrthym, &c.

Duw Yspryd glân, yn deilliaw oddi-wrth y Tâd a'r Mab; trugarhâ wrthym wîr bechaduriaid.

Duw Yspryd glân, yn deilliaw oddi-wrth, &c.

Y gogoned, lân, fendigaid Drindod, tri pherson, ac vn Duw: trugarha wrthym wîr bechaduriaid.

Y gogoned, lân, fendigaid Drindod, tri pherson, &c.

Na choffa Arglwydd ein anwiredd, nac anwiredd ein Rhieni, ac na ddyro ddial am ein pechodau: ar­bet nyni Arglwydd daionus, arbet dy bobl a bryna­ist â'th werth-fawr waed, ac na lidia wrthym yn dragywydd.

Arbet ni Arglwydd daionus.

Oddi-wrth bob drwg ac anffawd, oddi-wrth be-chod, oddi-wrth ystryw a chyrch y cythrael, oddi-wrth dy lid, ac oddi-wrth farnedigaeth dragywyddol.

Gwaret ni Arglwydd daionus.

Oddi-wrth bob dallineb calon, oddi-wrth falch­der, a gwâg ogoniant, a ffûg sancteiddrwydd, oddi-wrth genfigen, digasedd, a bwriad drwg, a phob anghariadoldeb.

Gwaret nyni Arglwydd daionus.

Oddi-wrth anniweirdeb, a phob pechod marwol, ac oddi-wrth oll dwyll y byd, y cnawd, a'r cythrael.

Gwaret ni Arglwydd daionus.

Oddi-wrth fellt a themestl, oddi-wrth blâ, haint y nodeu, a newyn, oddi-wrth ryfel ac ymladd, ac oddi-wrth angau dysysyd.

Gwaret nyni Arglwydd daionus.

Oddi-wrth bob terfysc a dirgel frâd, oddi-wrth bob fals ddysceidiaeth ac opinion annuwiol, oddi-wrth galedrwydd calon, a dirmyg ar dy air a'th orchy­myn.

Gwaret nyni Arglwydd daionus.

Trwy ddirgelwch dy gnawdoliaeth, trwy dy sanc­taidd enedigaeth, a'th enwaediad, trwy dy fedydd, dy vmpryd, a'th brofedigaeth.

Gwaret nyni Arglwydd daionus.

Trwy dy ddirfawr ing, a'th chwys gwaedlyd, drwy dy grôg a'th ddioddefaint, drwy dy wyrthfawr angau a'th gladdedigaeth, drwy dy anrhydeddus gyfodiad, a'th escynniad, a thrwy ddyfodiad yr Yspryd glân.

Gwaret nyni Arglwydd daionus.

Yn holl amser ein trallod, yn holl amser ein gwyn­fyd, yn awr angeu, ac yn-nydd y farn.

Gwaret nyni Arglwydd daionus.

Nyni bechaduriaid a attolygwn i ti ein gwrando ô Arglwydd Dduw, a theilyngu o honot gadw, rheoli, a llywodraethu dy lân Eglwys yn hollawl yn y ffordd vnion.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot gadw a nerthu i'th wîr addoli me­wn iawnder a glendid buchedd, dy wasanaethyddes Elizabeth ein grasusaf Frenhines a'n pen-llywydd.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot lywodraethu ei chalon yn dy ffydd, ofn, a chariad, ac iddi ymddiried byth ynot, ac ymgais yn wastad a'th anrhydedd, a'th ogoniant.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot ei hamddeffyn a'i chadw, gan roddi iddi y fuddugoliaeth ar ei holl elynnion.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot lewyrchu yr holl Escobion, Buge­iliaid a Gwenidogion yr Eglwys ag iawn wyboda­eth a deall dy air: ac iddynt hwy trwy eu pregaeth [Page] a'u buchedd, ei fynegu a'i ddangos yn ddyladwy.

Nyni a attolygwni ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot gynnyscaeddu Arglwyddi'r Cyng­or, a'r holl fonedd, â grâs, doethineb, a deall.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot fendithio a chadw y pen-swyddo­gion, gan roddi iddynt râs i wneuthur cyfiawnder, ac i faentumio yr gwîr.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot fendithio a chadw dy holl bobl.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot roddi i bob cenhedlaeth, vndeb, tangneddyf a chyd-gordio.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot roddi i ni galon i'th garu a'th of­ni, a byw yn ddiesceulus yn ôl dy orchymynnion.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot roddi i'th bobl ychwaneg o râd, i wrando yn vfydd dy air, a'i dderbyn o bur ewyllys, a chynhyrchu ffrwyth yr Yspryd.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot ddwyn ir ffordd wîr, pawb ar a aeth ar gyfeiliorn ac a dwyllwyd.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot nerthu y rhai sy yn sefyll, a chon­fforddio a chynnorthwyo y rhai sy â gwan galon, a chyfodi ysawl a syrthiant, ac o'r diwedd curo i lawr Satan tann ein traed.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot gymmorth a helpio, a diddanu pawb ar y sydd mewn perigl, anghenoctid a thrw­blaeth.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot gadw pawb a'r sydd yn ym­ddaith ar fôr na thîr, pob gwraig wrth escor plant, pob clwyfus a rhai bychain, ac i ti dosturio wrth [Page] bawb a fyddo mewn caethiwed na charchar.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot amddeffyn ac ymgoleddu y plant amddifaid, a'r gwragedd gweddwon, a phawb y sydd yn vnic, ac yn goddef pwys plaid orthrech.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot drugarhau wrth bob dŷn.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot faddeu i'n gelynnion, erlyn­wŷr, ac sclandr-wŷr, a throi eu calonnau.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot roddi a chadw er ein llês, amse­rol ffrwythau y ddaiar, modd y caffom mewn amser dyledus eu mwynhau.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot roddi i ni wîr edifeirwch, a maddeu i ni ein holl bechodau, escaulustra, a'n an­wybod, a'n cynhyscaeddu â rhad dy Yspryd glân, a gwellhau ein buchedd yn ôl dy air sanctaidd.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Mâb Duw: attolygwn i ti ein gwrando.

Mâb Duw: attolygwn i ti ein gwrando.

Oen Duw, yr hwn wyt yn deleu pechodau yr bŷd.

Caniadhâ i ni dy dangneddyf.

Oen Duw, yr hwn wyt yn deleu pechodau yr byd.

Trugarhâ wrthym.

Crist clyw nyni.

Crist clyw nyni.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Crist trugarhâ wrthym.

Crist trugarhâ wrthym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

Ac na thywys ni ym-mhrofedigaeth.

Eithr gwaret ni rhag drwg. Amen.

Gwersic.

Arglwydd na wna â nyni yn ôl ein pechodau.

Atteb.

Ac na obrwya ni yn ôl ein anwiredd.

Gweddiwn.

DVw Tad trugarog yr hwn nid wyt yn tremygu vchenaid calon gystuddiedic, nac adduned y gor­thrymmedic: cynnorthwya yn drugarog ein gwe­ddiau, y rhai ydd ŷm ni yn eu gwneuthur ger dy fron, yn ein trallod a'n blin-fyd, pa bryd bynnac y gwascant arnom: a gwrando ni yn rasusol, hyd pan fo i'r drygau hynny, y rhai y mae ystryw a dichell diafol neu ddyn yn eu gwneuthur i'n herbyn, fyned yn ofer, a thrwy luniaeth dy ddaioni di, iddynt fod yn wascaredic, modd na'n briwer dy weision drwy er­lyn neb, a gallu o honom byth ddiolch i ti yn dy lân Eglwys, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Arglwydd cyfot, cymmorth ni, a gwaret ni er mwyn dy Enw.

O Dduw ni a glywsom â'n clustiau, a'n tadau a fy­negasant i ni y gweithredoedd ardderchawg a wn­aethost yn eu dyddiau, ac yn y cynfyd o'u blaen hwy.

Arglwydd cyfot, cymmorth ni, a gwaret ni er dy anrhydedd.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae, &c. Rhag ein gelynion amddeffyn ni, Crist.

Yn rasol edrych ar ein poenedigaethau.

Yn dosturus ystyria wrth drymder ein calonnau.

Yn drugarog maddeu bechodau dy bobl.

Yn garedigol gan drugaredd gwrādo ein gweddiau.

Iesu Fab Dafydd, trugarhâ wrthym.

Yr awr hon a phob amser teilynga ein gwrando ô Grist.

Yn rasol clyw ni o Grist, Yn rasol clyw nyni ô Arglwydd Grist.

Gwersic.
[Page]

Arglwydd dangos dy drugaredd arnom.

Atteb.

Fel ydd ŷm yn ymddiried ynot.

Gweddiwn.

NYni a attolygwn i ti ô Arglwydd Dad, yn dru­garog edrych ar ein gwendid, ac er gogoniant dy Enw, ymchwel oddi-wrthym yr holl ddrygau ar a ddarfu i ni o wîr gyfiawnder eu haeddu, a chaniad­hâ bod ini yn ein holl drallod ddodi ein cyfan ym­ddyried a'n gobaith yn dy drugaredd, a byth dy wasa­naethu mewn sancteiddrwydd a phurdeb buchedd, 'ith anrhydedd a'th ogoniāt, trwy ein vnic gyfryng­wr a'n dadleu-wr Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Gweddi tros fawreiddrwydd y Frenhines.

O Arglwydd ein Tâd nefol, goruchel, a galluoc, Brenin y Brēhinoedd, Arglwydd yr Arglwyddi, vnic lywiawdur y Tywysogion, yr hwn wyt o'th ei­steddle yn edrych ar holl drigiolion y ddaiar, ni a at­tolygwn, ac a erfynniwn i ti, edrych o honot yn ddar­bodus ar ein grasusaf ddaionus Arglwyddes Fren­hines Elizabeth, ac felly ei chyflawni hi o rad dy san­ctaidd Yspryd, hyd pan fo iddi yn wastadol bwyso i'th feddwl, a rhodio yn dy ffordd, cynnyscaedda hi yn ehelaeth â donniau nefol, caniadhâ iddi mewn llwy­ddiant ac iechyd, hir-hoedl, nertha hi, modd y gallo orescyn a gorchfygu ei holl elynnion, ac o'r diwedd yn ôl y fuchedd hon, bod iddi fwynhau llawenydd a deddwyddyd tragywyddol, trwy Iesu Grist. &c.

HOll-gyfoethog a thragywyddol Dduw, yr hwn wyt yn vnic yn gwneuthur rhyfeddodau, dan­fon i lawr arein Escobiō a Churadiaid, a'r holl gyn­nulleidfaon a orchymynnwyd tann eu gofal hwynt, iachol Yspryd dy rad, hyd pan fo iddynt wîr ryngu bodd i ti, tywallt arnynt ddyfal wlîth dy fendith: Ca­niadhâ hyn Arglwydd, er anrhydedd ein dadleu-wr, a'n cyfryng-wr Iesu Grist. Amen.

Gweddi o waith Chrysostom.

HOll-alluog Dduw, yr hwn a roddaist i ni râd y pryd hyn drwy gyfundeb, a chyd-gyfarch i we­ddio arnat, ac wyt yn addo pā ymgynnullo dau neu dri yn dy Enw, bod i ti ganiadhau eu gofynnion: cy­flawna yr awr hon ô Arglwydd, ddymuniad, a deisy­fiad dy weision, fel y bo mwyaf buddiol iddynt, gan gāiadhau i ni yn y byd hwn wybodaeth am dy wiri­onedd, ac yn y byd a ddaw, bywyd tragywyddol. Amē.

RHad ein Harglwydd Iesu Grist, a serch Duw, a chymydeithas yr Yspryd glan, a fyddo gyd â ni oll byth bythoedd. Amen.

Gweddi am gael glaw pan fyddo angenrheidiol.

O Dduw nefol Dad, yr hwn drwy dy Fab Iesu Grist, a addewaist i bawb a geisio dy Deyrnas a'i chyfiawnder, bob peth sydd angenrhaidiol iw cyn­haliaeth corphorol: danfon i ni wrth ein hāgenoctid, ni a attolygwn i ti, gyfryw dywydd a chafodydd ar­dymherus, modd y gallom gael ffrwythau y ddaiar i'n mwyniāt ni, ac i'th vrdduniāt titheu, trwy Iesu Grist. &c.

Am hinon neu dywydd teg.

ARglwydd Dduw, yr hwn am bechod dyn a fo­ddaist vnwaith yr holl fyd, oddi eithr wyth-nŷn o bobl, ac yn ôl hynny o'th fawr drugaredd a addewaist na's destruwit felly byth trachefn: ni a attolygwn i ti, er i ni am ein anwiredd haeddu y blâ hon o law a dyfroedd, etto wrth ein gwîr edifeirwch, danfon i ni y cyfryw dywydd a hînō, fel y gallom dderbyn ffrwy­thau yr ddaiar mewn amser dyladwy, a dyscu trwy dy gospedigaeth wellhau ein bucheddau, ac er dy warder roddi i ti foliant a gogoniant, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Ar amser drudaniaeth a newyn.

O Dduw Tad o'r Nef, drwy ddawn pa vn y descyn y glaw, ac y mae y ddaiar yn ffrwyth-lawn, yr [Page] hilia anifeiliaid, ac yr amlhâ yr pyscod: edrych atto­lwg ar adfyd dy bobl, a chaniadhâ am y prinder ar drudaniaeth (ydd ŷm ni yr awrhon yn ei ddioddef yn gwbl gyfion am ein anwiredd) iddo drwy dy drugar­og ddaioni ymchwelyd yn rhâd ac yn helaethrwydd, er cariad ar Iesu Ghrist ein Harglwydd, i ba vn, gyd â thy-di a'r Yspryd glân, y bo moliant yn oes oesoedd. Amen.

Ar amser rhyfel.

HOll-alluog Dduw, Brenin yr holl-frenhinoedd, a phen-llywiawdur pob peth, yr hwn ni ddichon neb creadur wrthladd ei nerth, i'r hwn y perthyn o gyfiawnder gospi pechaduriaid, a bod yn drugarog wrth y rhai a fyddont wîr edifeiriol: Cadw a gwa­ret nyni (yn ostyngedic ni a attolygwn i ti) rhag dwy­law ein gelynion, gostwng eu balchter, tôla eu dryg­ioni, a gwradwydda eu bwriadau, modd y gallom yn arfogion gan dy amddeffyn, fod byth yn gadwedic rhag pob perigl, i'th ogoneddu di yr hwn wyt vnic rodd-wr pob buddugoliaeth a goruchafiaeth drwy haeddigaethau dy vn Mâb Iesu Grist. &c.

Yn amser plâ cyffredin, neu haint cynhwynol.

HOll-alluog Dduw, yr hwn yn dy lid yn amser y Brenin Dafydd, a leddaist â phlâ y nodau ddeng­mîl, a thrugain mîl, ac yn lleigys gan goffa dy druga­redd, a faddeuaist y lleill: trugarhâ wrthym wîr be­chaduriaid, y rhai a ddarfu i ddirfawr haint a mar­wolaeth ym weled â ni; fel megis ac y gorchymyn­naist i'th Angel beidio a chospi; felly bod yn awr yn deilwng gennit wrthladd oddi-wrthym y blâ a'r go­fidus haint yma, trwy Iesu Crist. &c.

O Dduw, yr hwn biau o naturiaeth a phriodoldeb drugarhau yn wastad, a maddeu, derbyn ein v­fydd weddiau: ac er ein bod ni yn rhwym gan gae­thiwed cadwynau ein pechodau, er hynny datoder ni, gan dosturi dy drugaredd, er anrhydedd Iesu Grist ein cyfryng-wr a'n dadleu-wr. Amen.

❧Y Colectau, yr Epistolau, a'r Efengylon a arferir ar amser gwei­nidogaeth Swpper yr Arglwydd a'r Cymmun bendigedig trwy 'r flwyddyn.

Y Sûl cyntaf yn Adfent.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, dyro râd i nyni i ymwrthod â gweithredoedd y tywyllwch ac i wisco arfau yr goleuni, yn-awr yn amser y fuchedd farwol hon (pryd y daeth dy Fab Iesu Grist i ymweled â nyni mewn mawr ostyngeiddrwydd) fel y byddo i ni yn y dydd di­weddaf (pan ddelo efe drachefn yn ei ogoneddus fa­wredd i farnu byw a meirw) gyfodi i'r fuchedd an­farwol, trwyddo ef, yr hwn sydd yn bywoccau, ac yn teyrnasu gyd â thi a'r Yspryd glân, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

Yr Epistol.

Rom. 13.8. NA fyddwch yn nylêd nêb o ddim, oddi­eithr o garu pawb ei gilydd: canys yr hwn sydd yn caru arall a gyflawnodd y gyfraith. Canys hyn, Na odineba, na lâdd, na ladratta, na ddwg gam dystiolaeth, na thrachwanta, ac os oes [vn] gorchymmyn arall, y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, Câr dy gymydog fel ti dy hun. Cariad ni wna ddrwg i'r cymmydog, am hyny, cariad yw cyflawnder y ddeddf. A hyny gā we­led yr amser, ei bôd hi weithian yn brŷd ini i ddeffroi o gyscu. Canys yr awran y mae ein iechydwriaeth yn nês, nâ phan gredasom. Y nôs a aeth heibio, a'r dŷdd a ddaeth yn agos. Am hynny bwriwn ymmaith [Page] weithredoedd y tywyllwch, a gwiscwn arfau y go­leuni. Rhodiwn yn weddus megis wrth liw dŷdd: nid mewn cyfeddach, a meddwdod, nid mewn cydor­wedd, ac anlladrwydd, nid mewn cynnen, a chenfi­gen: eithr gwiscwch am danoch yr Arglwydd Iesu Grist, ac na fydded eich gofal tros y cnawd, er mwyn porthi ei chwantau.

Yr Efengyl.

Matt. 21.1. A Phan ddaethant yn gyfagos i Ieru­salem, a'u dyfod hwy i Bethphage i fynydd yr Oliwydd, yna yr anfon­odd yr Iesu ddau ddiscybl, gan ddy­wedyd wrthynt, ewch i'r dref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch assyn yn rhwym, ac ebol gyd â hi: go­llyngwch hwynt yn rhŷdd, a dygwch attafi. Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch fod yn rhaid i'r Arglwydd wrthynt, ac yn y man ef a'u gollwng hwynt ymmaith. A hyn oll a wnaethpwyd er cy­flawni yr hyn a ddywedasid trwy 'r prophwyd, gan ddywedyd, Dywedwch i ferch Sion, wele dy fren­hin yn dyfod attat yn llaryaidd, ac yn eistedd ar ass­yn, ac ebol, llwdn assyn arferol â 'r iau. Y discyblon a aethant, ac a wnaethant fel y gorchymmynase 'r Iesu iddynt. Ac hwy a ddugasant yr assyn, a'r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a'i gosoda­sant ef i eistedd ar hynny. A thyrfa ddirfawr a dana­sant eu dillad ar y ffordd: eraill a dorrasant gangau o'r gwydd, ac a'u tanasant ar hyd y ffordd. A'r dyrfa bobl y rhai oeddynt yn myned o'r blaen, a'r rhai oe­ddynt yn dyfod ar ôl a lefasant, gan ddywedyd: Ho­sanna i Fâb Dafydd: bendigedig yw 'r hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd: Hosanna yn y goruch­elder. Ac wedi ei ddyfod ef i Ierusalem, y ddinas oll a gynnhyrfwyd gan ddywedyd, pwy yw hwn? A'r [Page] bobl a ddywedasant, hwn yw 'r Iesu, y prophwyd o Nazareth yn Galilêa. A'r Iesu a aeth i mewn i Deml Dduw, ac a'u taflodd hwynt oll allan y rhai oeddynt yn gwerthu ac yn prynu yn y Deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau y newid-wyr arian, a chadeiriau y rhai oeddynt yn gwerthu colommenn­od. Ac efe a ddywedodd wrthynt, y mae yn scrifenne­dig, tý gweddi y gelwir fy-nhŷ i, eithr chwi a'i gwn­aethoch yn ogof lladron.

Yr ail Sul yn Adfent.

Y Colect.

Y Gwynfydedic Arglwydd, yr hwn a beraist yr holl Scrythur lân yn scrifennedic er mwyn ein ath­rawaeth, an addysc ni: Caniadhâ fod i ni mewn cy­fryw fodd ei gwrando, ei darllain, ei chwiliaw, a'i dy­scu, ac i'n mewn ei mwynhâu, hyd pan allom trwy ddioddefaint a chonffordd dy gyssegredic air, ymgo­fleidio ac ymgynnal gan fendigaid obaith y fuchedd dragywyddol yr hon a roddaist i ni, drwy en Iachaw­dur Iesu Grist. Amen.

Yr Epistol.

Rom. 15.4. Y Pethau a scrifennwyd ym-mlaen llaw er addysc i ni yr scrifennwyd hwy, fel y gallem trwy ammynedd a chysur yr Scrythurau gael gobaith. A Duw'r ammynedd a'r cysur a roddo i chwi sy­nnied yr vn peth bawb â 'i gilydd yn ôl Christ Iesu: Megis o gyttundeb, ac o vn genau y galloch foliānu Duw, a Thâd ein harglwydd Iesu Ghrist. O her­wydd pa ham, derbyniwch bawb ei gilydd, megis y derbyniodd Christ ninnau i ogoniant Duw. Ac yr ydwyf yn dywedyd wneuthur Iesu Ghrist yn wein­idog i'r enwaediad er mwyn gwirionedd Duw, er cadarnhau 'r addewidion a wnaethpwyd i 'r tadau: [Page] ac fel y rhodde 'r cenhedloedd ogoniant i Dduw am ei drugaredd: fel y mae yn scrifennedig: Am hyn i'th gyffessaf ym-mhlith y cenhedloedd, ac y canaf i'th enw. A thrachefn y dywed, ymlawenhewch genhed­loedd gŷd â 'i bobl ef. A thrachefn, Molwch yr Argl­wydd yr holl genhedloedd, a chlodforwch ef yr holl bobloedd. A thrachefn Esaias a ddywed, fe fydd gwreiddyn Iesse, a'r hwn a gyfyd i lywodraethu 'r cenhedloedd, yn hwnnw y gobeitha y cenhedloedd. A Duw'r gobaith a'ch cyflawno o bob llawenydd, a thangnheddyf, gan gredu, fel y'ch amlhaer yng-ob­aith trwy nerth yr Yspryd glân.

Yr Efengyl.

Luc. 21.25. A Bydd arwyddion yn yr haul, a'r lleuad, a'r sêr, ac ar y ddaear ing cenhedloedd gan gyfyng-gyngor, am fod y môr a'r rhy­ferthwy yn dadseinio, a bod dynion yn llewygu gan ofn, a disgwil am y pethau a ddeuant ar y byd, oblegid nerthoedd y nefoedd a yscydwir. Ac yna y gwelant fâb y dyn yn dyfod mewn cwmwl gyd â gallu a gogoniant mawr. A phan dde­chreuo 'r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fynu, a chodwch eich pennau, canys y mae eich ymwared yn agos. Ac ef a ddywedodd wrthynt y ddammeg hon, edrychwch ar y ffigus-bren, a'r holl brennau, pan ddeiliant hwy weithian, chwy-chwi yn gweled a wyddoch o honoch eich hunain, fôd yr hâf weithi­an yn agos. Felly chwithau, pan weloch wneuthur y pethau hyn, gwybyddwch fod Teyrnas Dduw yn agos. Yn wîr, meddaf i chwi, nid aiff yr oes hon heibio, nes gwneuthur y pethau hyn oll. Y nêf, a'r ddaear a ânt heibio, ond y geiriau maufi nid ânt heibio ddim.

Y trydydd Sul yn Adfent.

Y Colect.

ARglwydd, attolygwn i ti glust-ym wrando â'n gweddiau, a thrwy dy radlawn ym weliad, gole­ua dywyllwch ein calonnau, trwy ein Harglwydd Iesu Christ. Amen.

Yr Epistol.

1. Cor. 4.1. CYmmered dŷn nyni fel hyn, megis gweinidogioni Grist, a gorchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw. Am ben hyn, gofynnir gan ygorch wylwyr gael vn yn ffyddlon. Eithr am danafi, lleiaf dim gennif fy marnu gennych chwi, neu gan farn dŷn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hunan. Canys ni wn fy môd yn euog o ddim, ond yn hyn ni'm cyfiawnheuir, eithr yr Arglwydd yw'r hwn sydd yn fy marnu. Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, oni ddelo 'r Arglwydd, yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura feddyliau y ca­lonnau, ac yna y bydd y glod i bawb gan Dduw.

Yr Efengyl.

Matt. 11.2. A Phan glybu Ioan yngharchar am wei­thredoedd Christ, efe a ddanfonodd ddau o'i ddiscyblon, ac a ddywedodd wrtho, Ai ty-di yw'r hwn sydd ar ddyfod, ai disgwil a wnawn am arall? A'r Iesu a attebodd, ac a ddy­wedodd wrthynt, ewch a mynegwch i Ioan y pe­thau a glywch, ac a welwch: y mae'r deillion yn gweled eil-waith, a'r cloffion yn rhodio, a'r cleifion­gwahanol wedi eu glanhau, a'r byddariaid yn cly­wed, y mae y meirw yn cyfodi a'r tlodion yn cael pre­gethu 'r Efengyl iddynt. A dedwydd yw'r hwn ni rwystrir o'm plegid i. Ac a hwy yn myned ymmaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y dyrfa am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych [Page] am dano? ai corsen a ysgydwid gan wynt? Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai dŷn wedi ei wisco â dillad esmwyth? wele, y rhai sy 'n gwisco dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent. Eithr pa beth yr aethoch chwi allan i'w weled? ai proph­wyd? iê, meddaf i chwi, a mwy nâ phrophwyd. Ca­nys hwn yw'r neb y mae yn scrifennedig am dano, Wele yr wyf yn danfon fynghennad o flaen dy wy­neb, yr hwn a barottoa dy ffordd o'th flaen.

Y pedwerydd Sûl yn Adfent.

Y Colect.

ARddercha Arglwydd attolwg i ti dy gadernid, a thyred i'n plîth, ac â mawr nerth cymmorth ni, ac am y rhwystr a'r lluddias y sydd arnom, o ran anwiredd ein pechodau, bydded i'th ddaionus râd ti ein gwared ni yn ebrwydd, trwy ddiwygiad dy Fâb ein Harglwydd: i ba vn gyd â thi a'r Yspryd glân, y byddo anrhydedd a gogoniant, yn oes oesoedd. Amē.

Yr Epistol.

Phil. 4.4. LLawenhewch yn yr Arglwydd yn oe­stadol, a thrachefn meddaf, llawenhe­wch. Bydded eich hynawsedd yn hys­pys i bob dŷn. Y mae 'r Arglwydd yn agos. Na ofelwch am ddim: eithr ym­mhob dim dangoser eich dymuniad i Dduw mewn gweddi a deisyf gŷd â diolch. A thangnheddyf Dduw yr hwn sydd vwch law pob deall a geidweich calon­nau a'ch meddyliau yn-Christ Iesu.

Yr Efengyl.

Ioan. 1.19. A Hon yw tystiolaeth Ioan, pan anfo­nodd yr Iddewon offeiriaid, a Lefi­aid o Ierusalem i ofyn iddo, pwy yd­wyt ti? yntef a gyffessodd, ac ni wa­dodd, ac efe a addefodd, nid myfi yw'r Christ. A hwyntau a ofynnasant [Page] iddo, beth yntef? ai Elias ydwyt ti? dywedodd yntef, nag ê: ai 'r prophwyd yd wyt ti? ac ef a attebodd, nag ê. Yna y dywedasant wrtho ef, pwy ydwyt ti, fel y rhoddom atteb i'r rhai a'n hanfonodd ni? beth meddi di am danat dy hun? Eb yr efe, myfi ydwyf lêf vn yn gwaeddi yn y diffaethwch, Vniawnwch ffordd yr Arglwydd, fel y dywedodd Esay y prophwyd. A'r rhai a anfonasid oeddynt o'r Phariseaid. A hwynt a ofynnasant iddo ef, ac a ddywedasant wrtho, pa ham gan hynny yr ydwyt ti yn bedyddio, onid wyt ti y Christ, nac Elias, na'r prophwyd? Ioan a'u hat­tebodd hwynt, gan ddywedyd: my-fi sydd yn bedy­ddio â dwfr, ond y mae vn yn sefyll yn eich plith chwi, yr hwn nid adwaenoch. Efe yw 'r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn oedd o 'm blaen i, yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddattod carrei ei escid. Y pe­thau hyn a wnaethpwyd yn Bethabara, y tu hwnt i'r Iorddonen, lle 'r oedd Ioan yn bedyddio.

Dydd Natalic Christ.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, yr hwn a roddaist i ni dy vn Mâb i gymeryd ein anian arno, a'i eni heddyw o forwyn bûr: Caniadhâ i ni fod wedi ein hadgen­hedlu, a'n gwneuthur yn blant i ti trwy fabwys a rhâd, a pheunydd ein hadnewyddu trwy dy lan Ys­pryd, trwy yr vn-rhyw ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a fywocâ ac a deyrnasa gyd â thi yn oes oeso­edd. Amen.

Yr Epistol.

Heb. 1.1. DVw lawer gwaith, a llawer modd gynt a ymddiddanodd â 'r tadau yn y prophwydi: y dyddiau diweddaf hyn ef a ymddiddanodd â nyni yn ei Fâb, yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth trwy 'r hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd: yr hwn [Page] (am ei fod yn llewyrch y gogoniant, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi golchi ein pechodau ni trwyddo ef ei hun) a eisteddodd ar ddeheu-law y mawredd, yn y goruchel­der: yr hwn a wnaethpwyd yn well nâ 'r Angelion, o gymmaint ac yr etifeddodd efe enw rhagorach nag hwynt-hwy. Canys wrth bwy o'r Angelion erioed y dywedodd efe, fy Mâb ydwyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais di. A thrachefn, Myfi a fyddaf yn Dad iddo ef, ac yntef fydd yn Fab i minne. A thrachefn pan ydyw yn dwyn ei Fâb cyntaf-anedig i'r bŷd, y mae yn dywedyd, Addoled hefyd holl Angelion Duw ef. Ac am yr Angelion hefyd y mae yn dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei gennadon yn yspryndion, a'i weinidogion yn fflam dân. Ac wrth y Mâb, Dy orsedd-faingc, ô Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrn­wialen vniondeb yw teyrn-wialen dy deyrnas di. Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd: am hynny Duw sef dy Dduw di a'th enneiniodd ag o­lew gorfoledd tu hwnt i'th gyfeillon. Ac, Tydi yn y dechreuad, ô Arglwydd, a seiliaist y ddaear, a gwaith dy ddwylaw di yw y nefoedd. Hwynt-hwy a ddarfy­ddant, tithe a barhei: iê, hwynt-hwy oll a heneiddi­ant fel dilledyn: megis gwisc hefyd y plygi di hwynt, ac hwy a newidiant: eithr yr vn ydwyt ti, a'th fly­nyddoedd ni phallant.

Yr Efengyl.

Ioan. 1.1. YN y dechreuad yr oedd y gair, a'r gair oedd gŷd â Duw, a Duw oedd y gair. Hwn oedd yn y dechreuad gŷd â Duw. Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth, ac hebddo ef ni wnaed dim o'r a wnae­thpwyd. Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd oedd oleuni dynion. A'r goleuni sydd yn llewyrchu yn y [Page] tywyllwch, a'r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred. Yr oedd dŷn wedi ei anfon oddiwrth Dduw, a'i enw Ioan. Hwn a ddaeth yn dystiolaeth fel y tystiolae­the efe am y goleuni, fel y crede pawb trwyddo ef. Nid efe oedd y goleuni hwnnw, eithr [efe a anfo­nasid] i dystiolaethu am y goleuni. Hwnnw oedd y gwir oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dŷn o'r sydd yn dyfod i'r byd. Yn y bŷd yr oedd efe, a'r bŷd a wnae­thwyd trwyddo ef, a'r bŷd nid adnabu ef. At ei ei­ddo ei hun y daeth efe, a'i eiddo ei hun nis derbynia­sant ef. Ond cynnifer ac a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i'r sawl a gredant yn ei enw ef. Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw. A'r gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni (ac ni a welsom ei ogo­niant ef, megis gogoniant yr vnig-anedig Fâb yn dyfod o ddiwrth y Tâd) yn llawn grâs, a gwirio­nedd.

Dydd gwyl Sanct Stephan.

Y Colect.

CAniadhâ i ni Arglwydd ddyscu caru ein gelyni­on, drwy esampl dy ferthyr Sanct Stephan, yr hwn a weddiodd tros ei arteithwŷr arnat ti, yr hwn wyt yn byw yn oes oesoedd. Amen.

Yna y canlyn y Colect o'r Natalig, yr hwn a ddywedir yn oestad hyd Dydd Calan. Yr Epistol.

Act. 7.55. AC Stephan yn gyflawn o'r Yspryd glân a edrychodd yn ddyfal tu â'r nef, ac a we­lodd ogoniant Duw, ac Iesu yn sefyll ar ddeheulaw Duw. Ac efe a ddywedodd, wele, mi a welaf y nefoedd yn ago­red, [Page] a Mâb y dŷn yn sefyll ar ddeheulaw Duw. Yna y gwaeddasant â llef fawr, ac y cauasant eu clu­stiau, ac y rhuthrasant ar vn-waith arno. Ac a'i bw­riasant allan o'rddinas, ac a'i llabyddiasant: a'r ty­stion a ddodasant eu dillad wrth draed dŷn ieuangc a elwid Saul. Ac hwy a labyddiasant Stephan, ac ef yn galw ar Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy yspryd. Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llêf vchel: Arglwydd, na ddôd y pechod hyn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.

Yr Efengyl.

Matt. 23.34. WEle yr ydwyf fi yn anfon attoch broph­wydi, a doethion, ac Scrifennyddion, a rhai o honynt a leddwch, ac a groes­hoeliwch, a rhai o honynt a ffrewyll­wch yn eich Synagogau, ac a erlidi­wch o dref i dref: fel y dêl arnoch chwi yr holl waed gwirion a ollyngwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd waed Zacharias fâb Barachias yr hwn a laddasoch rhwng y Deml a'r allor. Yn wir, meddaf i chwi, daw hyn oll ar y gēhedlaeth hon. Ie­rusalē, Ierusalē, yr hon ydwyt yn lladd y prophwydi, ac yn llabyddio y rhai a ddanfonir attat, pa sawl gwaith y mynnaswn gasclu dy blant ynghŷd, megis y cascl yr iâr ei chywion tan ei hadenydd, ac ni's mynnech. Wele yr ydys yn gadel eich tŷ i chwi yn anghyfannedd. Canys, meddaf i chwi, ni'm gwel­wch yn ôl hyn, hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw'r hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd.

Dy'gwyl Ioan Efangylwr.

Y Colect.

ARglwydd trugarog attolygwn i ti fwrw dy ddis­claer belydr goleuni ar dy Eglwys, hyd pan fo [Page] iddi, wedir oleuo gan athrawiaeth dy wynfydedic Apostol ac Efangelwr Ioan, allu dyfod i'th ddoniau tragywyddol, trwy Iesu Ghrist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

1. Iohn 1.1. YR hyn oedd o'r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom a'n llygaid, yr hyn a edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo o air y bywyd, (canys y by­wyd a ymddangosodd, ac ni a welsō, ac yr ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi y bywyd tragywyddol, yr hwn oedd gŷd â'r Tâd, ac a ym­ddangosodd i ni) yr hyn, meddaf, a welsom ac a glywsom, yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y byddo i chwithau hefyd gymdeithas gŷd â ni, ac fel y by­ddo ein cymdeithas ni hefyd gŷd â'r Tâd a'i Fâb Ie­su Ghrist. A'r pethau hyn yr ydym yn eu scrifennu attoch fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. Hyn yw'r gennadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei adrodd i chwi, mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch. Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwy­ddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwir. Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas â'i gilydd, a gwaed Iesu Ghrist ei Fâb ef sydd yn ein glanhau o ddiwrth bob pechod. Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a'r gwi­rionedd nid yw ynom. Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe, a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y'n glanhao oddiwrth bob anwiredd. Os dywedwn na pechasom, yr ydym yn ei wneu­thur ef yn gelwyddog, a'i air nid yw ynom.

Yr Efengyl.

Ioan. 21.19. IEsu a ddywedodd wrth Petr, canlyn fi. Yna troes Petr, a Gwelodd y discybl yr oedd yr Iesu yn ei garu, yn canlyn, yr hwn hefyd a bwysase ar ei ddwyfron ef ar swpper, ac a ddywedase, Arglwydd, pwy yw'r hwn a'th fradycha di? Gan hynny pan welodd Petr hwn, ef a ddywe­dodd wrth yr Iesu, Arglwydd, beth am hwn? Yr Iesu a ddywedodd wrtho, os ewyllysiaf iddo arhos oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? Canlyn di fy-fi. Yna'r aeth y gair hwn ym-mhlith y brodyr, na fydde y discybl hwnnw farw: eithr ni ddywedase 'r Iesu wrtho, Ni bŷdd efe farw; ond, Os ewyllysiaf iddo arhos hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? Dymma'r discybl hwnnw, yr hwn sydd yn tystiola­ethu am y pethau hyn, ac a scrifennodd y pethau hyn, ac ni a wyddom fod ei dystiolaeth ef yn wir. Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai pe scrifennid eb-ado-vn, nid wyf yn tybieid y cynhwyse y bŷd y llyfrau a scrifennid.

Dy'gwyl y gwirioniaid.

Y Colect.

HOll-gyfoethog Dduw, yr hwn a ddarfu i'r gwi­rioniaid dy dystion, ar y dydd hwn gyffessu dy foliant, nid gan ddywedyd, onid gan farw: Mar­weiddia, a lladd bob rhyw anwiredd ynom: fel y byddo yn ein ymwreddiad, i'n buchedd fynegu dy ffydd, yr hon ydym â'n tafod yn ei chyffessu, trwy Ie­su Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

Gwel. 14.1. AC mi a edrychais,ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Sion, a chŷd ag ef bedair mil a saith vgain mil, a chanddynt henw ei Dâd ef yn scrifennedig yn eu talcennau. Ac mi a glywais lais o'r nêf fel llais llawer o ddyfroedd, ac fel llais taran fawr, ac mi a glywais lais telynorion yn canu ar eu telynau. Ac hwy a ganasant megis caniad newydd gar bron yr orseddfaingc, a char bron y pedwar anifail, a'r he­nuriaid: ac ni alle neb ddyscu y caniad hwnnw, ond y pedair mil, a'r saith vgain mil, y rhai a brynasid o'r ddaear. Y rhai hyn ydynt y sawl ni halogwyd â gwragedd, canys gweryfon ydynt, y rhai hyn sy yn dylyn yr Oen pa le bynnag yr aiff, y rhai hyn a brynwyd oddiwrth ddynion, yn flaen-ffrwyth i Dduw, ac i'r Oen. Ac ni chaed twyll yn eu genau hwynt, canys y maent yn ddifai gar bron gorsedd­faingc Duw.

Yr Efengyl.

Mat. 2.13. ANgel yr Arglwydd a ymddangosodd i Ioseph trwy ei hun, gan ddywedyd, cyfod, cymmer y mâb-bychan a'i fam, a ffô i'r Aipht, a bydd yno hyd oni ddywe­dwyf i ti, canys ceisio a wna Herod y mâb-bychā i'w ddyfetha. Yntef pā gyfododd, a gym­merth y mâb-bychan a'i fam o hŷd nos, ac a giliodd i'r Aipht. Ac yno y bu hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedodd yr Arglwydd trwy'r prophwyd, gan ddywedyd, O'r Aipht y gelwais fy Mâb. Yna Herod pan weles ei dwyllo gan y doethon a ffrommodd yn aruthr, ac ef a ddanfonodd, ac a la­ddodd yr holl fechgin y rhai oeddynt yn Bethlehē, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed, a thā hynny, wrth yr amser am yr hwn y gofynnase efe yn fan wel i'r [Page] doethion. Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid trwy Ieremias y prophwyd, gan ddywedyd, Llêf a glywyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr: Rachel yn wylo am ei phlant, ac ni fynne hi ei chyssuro am nad oeddynt.

Y Sul gwedi y Natalig.

Y Colect.

O Llalluog Dduw'r hwn a roddaist i ni &c. Megis ar Ddydd Natalig Christ.

Yr Epistol.

Galat. 4.1. HYn yr wyf yn ei ddywedyd, tra fyddo yr etifedd yn fachgen, nid oes gwaha­niaeth rhyngtho a gwâs, er ei fod yn arglwydd pob dim: eithr y mae efe tan ymgeledd-wŷr, a llywodraeth­wyr hyd yr amser a osodes y tad. Ac felly ninnau, pan oeddym fechgin yr oeddym gaethion tan wyddorion y bŷd. Eithr wedi dyfod cyflawnder yr amser, anfo­nodd Duw ei Fâb wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur tan y ddeddf, fel yr adbryne y rhai oe­ddynt tan y ddeddf, fel y caem dderbyn mabwriaeth. Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw Yspryd ei Fâb i'ch calonnau, yr hwn sydd yn llefain, Abba, y Tâd. Ac felly nid wyt mwy yn wâs, ond yn fâb, ac os mâb, etifedd hefyd i Dduw trwy Ghrist.

Yr Efengyl.

Mat. 1.1. LLyfr cenhedliad Iesu Ghrist, fâb Da­fydd, fâb Abraham. Abraham a gen­hedlodd Isaac, ac Isaac a genhedlodd Iacob, ac Iacob a genhedlodd Iudas a'i frodyr. Ac Iudas a genhedlodd Phares, a Zara, o Thamar: A Phares a genhed­lodd [Page] Esrom, ac Esrom a genhedlodd Aram. Ac A­ram a genhedlodd Aminadab, ac Aminadab a gen­hedlodd Naasson, a Naasson a genhedlodd Sal­mon: a Salmon a genhedlodd Booz o Rachab, a Booz a gēhedlodd Obed o Ruth, ac Obed a genhed­lodd Iesse. Ac Iesse a genhedlodd Ddafydd frenhin, a Dafydd frenhin a genhedlodd Salomon o'r hon a fuase wraig Vrias. A Salomon a genhedlodd Roboam, a Roboam a genhedlodd Abia, ac Abia a genhedlodd Asa. Ac Asa a genhedlodd Iosaphat, ac Iosaphat a genhedlodd Ioram, ac Ioram a genhed­lodd Ozias. Ac Ozias a genhedlodd Ioatham, ac Ioatham a genhedlodd Achaz, ac Achaz a genhed­lodd Ezechias. Ac Ezechias a genhedlodd Manasses a Manasses a genhedlodd Amon, ac Amon a gen­hedlodd Iosias, ac Iosias a genhedlodd Iechonias a 'i frodyr ynghylch amser y tramudiad i Babylon. Ac yn ôl y tramudiad i Babylon, Iechonias a gen­hedlodd Salathiel, a Salathiel a genhedlodd Zoro­babel. A Zorobabel a genhedlodd Abiud, ac Abiud a genhedlodd Eliacim, ac Eliacim a genhedlodd A­zor. Ac Azor a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a gen­hedlodd Achim, ac Achim a gēhedlodd Eliud. Ac Eli­ud a genhedlodd Eleazar, ac Eleazar a genhedlodd Matthan, a Matthan a genhedlodd Iacob, ac Ia­cob a genhedlodd Ioseph gŵr Mair, o'r hon y ganed Iesu yr hwn a elwir Christ. Yr holl oesoedd gan hynny o Abraham i Ddafydd ydynt bedair cenhed­laeth ar ddêg: ac o Ddafydd hyd y tramudiad i Ba­bylon, pedair cenhedlaeth or ddêg: ac o'r tramudiad i Babylon hyd Ghrist, pedair cenhedlaeth ar ddêg. A genedigaeth Iesu Ghrist oedd fel hyn: wedi dywe­ddio Mair ei fam ef ag Ioseph, cyn eu dyfod hwy yn ghŷd, hi a gafwyd yn feichiog trwy 'r Yspryd glân. Ac Ioseph ei gŵr hi am ei fod ef yn gyfiawn, ac heb [Page] ewyllysio ei hortio hi, a amcanodd ei rhoi hi ym­maith yn ddirgel. A thra yr ydoedd efe yn bwriadu hyn, wele Angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo ef trwy ei hûn, gan ddywedyd, Ioseph, Mâb Da­fydd, nac ofna gymmeryd Mair dy wraig, oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o'r Yspryd glân. A hi a escor ar fâb, a thi a elwi ei enw ef Iesu, oble­gid efe a achub ei bobl rhag eu pechodau. A hyn oll a wnaethpwyd i gyflawni yr hyn a ddywedodd yr Arglwydd trwy 'r prophwyd, gan ddywedyd, Wele y forwyn a fydd feichiog, ac a escor ar fâb, a hwy a alwant ei enw ef Emmanuel, yr hyn, os cyfiaithir, yw, Duw gŷd â ni. Ac Ioseph pan dde­ffroes o'i gŵsc a wnaeth megis y gorchymynnase Angel yr Arglwydd iddo ef, ac a gymmerodd ei wraig. Ac nid adnabu efe hi oni escorodd hi ar ei Mâb cyntaf-anedig: a galwodd ei enw ef Iesu.

Dydd Calan, neu Enwaediad Christ.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, yr hwn a wnaethost ith wyn­fydedic Fâb dderbyn enwaediad, a bod yn vfydd i'r ddeddf er mwyn dŷn: Caniadhâ i ni iawn en­waediad yr yspryd, hyd pan fo ein calonnau, an holl aelodau wedi eu marwolaethu oddi wrth fydol a chnawdol anwydau, allu ym-mhob ryw beth vfyddhau i'th wynfydedic ewyllys, trwy'r vn-rhyw dy Fâb Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

Rom. 4.8. DEdwydd yw'r gŵr ni chyfrif yr Ar­glwydd bechod iddo. A ddaeth y de­dwyddwch hyn ar yr enwaediad, ynte ar y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cy­frif ffŷdd i Abraham yn gyfiawnder. [Page] Pa fodd gann hynny y cyfrifwyd hi? ai pan oedd yn yr enwaediad, ynte yn y dienwaediad? nid yn yr en­waediad, onid yn y dienwaediad. Ac ef a gymmerth arwydd yr enwaediad yn insel cyfiawnder y ffŷdd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad, fel y bydde efe yn dâd pawb a gredent yn y dienwaediad, fel y cyfri­fid y cyfiawnder iddynt-hwythau hefyd, ac yn dâd yr enwaediad, nid iddynt hwy yn vnig, y rhai ydynt o'r enwaediad, onid i'r sawl hefyd a gerddant lwy­brau ffŷdd ein Tâd Abraham, yr hon oedd yn y dien­waediad. Canys nid trwy y gyfraith y daeth yr a­ddewid i Abraham, neu i'w hâd, y bydde efe yn eti­fedd y bŷd, eithr trwy gyfiawnder ffŷdd. Canys os y rhai sy o'r ddeddf yw'r etifeddion, gwnaed ffŷdd yn ofer, a'r addewid yn ddirym.

Yr Efengyl.

Luc. 2.15. A Bu er cynted yr aeth yr angelion oddi­wrth y bugeilddynion i'r nêf, ddywe­dyd o honynt wrth ei gilydd, awn nin­nau hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hyn a ddarfu, yr hyn a hyspysodd yr Ar­glwydd i ni. A hwynt a ddaethant ar frŷs, ac a gaw­sant Mair, ac Ioseph, a'r dŷn bach yn gorwedd yn y preseb. A phan welsant, hwy a gyhoeddasant yr hyn a ddywedasid wrthynt am y mab-bychan hwnnw. A phawb o'r a'u clywsant, a ryfeddasant am y pe­thau a ddywedasid gan y bugeiliaid iddynt. Eithr Mair a gadwodd, y pethau hyn oll, gan eu hystyried hwynt yn ei chalon. A'r bugeiliaid a ddychwyla­sant, gan ogoneddu, a moliannu Duw, am bob peth o'r a glywsent, ac a welsent, fel y dywedasid wrth­ynt. A phan ddaeth yr wythfed dŷdd i enwaedu ar y mâb-bychan, galwyd ei enw ef Iesu, yr hwn a hen­wasid gan yr Angel, cyn ei genhedlu ef yn y groth.

Os bydd sul rhwng yr Ystwyll a'r Calan, Yna'r arferir [Page] yr un Colect, Epistol, ac Efengyl ar y Cymmun, ac a ddywetpwyd ar Ddydd Calan.

¶Dy'gwyl Ystwyll.

Y Colect.

DVw, yr hwn trwy dywysogaeth seren a ddan­gosaist dy vn Mâb i'r cenhedloedd: Caniatha yn drugarog i ni y sawl ydym i'th adnabod yr awr hon drwy ffydd, allu yn ôl y fuchedd hon gael mwyni­ant dy ogoneddus dduwdod, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

Eph. 3.1. ER mwyn hyn yr wyf fi Paul yn garcharor Christ Iesu trosoch chwi y cenhedloedd, os clywsoch am orchwyliaeth grâs Duw, yr hon a roddwyd i mi tu ag attoch chwi: canys trwy weledigaeth yr hyspysodd efe y dirgelwch hwnnw i mi (megis yr scrifennais o'r blaen ar ychydig eiriau, wrth yr hyn pan ddarllenoch y gellwch ŵybod fy-ne­all yn-nirgelwch Christ) yr hwn yn oesoedd eraill nis eglurwyd i feibion dynion, fel y mae'r awr-hon wedi ei ddatcuddio i'w sanctaidd Apostolion a Phro­phwydi trwy'r Yspryd; sef, bod y cenhedloedd yn gyd­etifeddion hefyd, ac yn gyd-gorph, ac yn gyfrannogi­on o'i addewid ef yn Ghrist trwy 'r Efengyl, i'r hon i'm gwnaed i yn wenidog trwy roddiad grâs Duw, yr hwn a roddwyd i mi trwy nerth ei feddiant ef. I mi y lleiaf i gŷd o'r holl sainct y rhoddwyd y grâs hyn, i efengylu ymmysc y cenhedloedd anchwilia­dwy olud Christ, ac i egluro i bawb beth yw cymdei­thas y dirgelwch yr hwn oedd guddiedig o ddechre­uad y bŷd yn-Nuw, yr hwn a wnaeth bob peth trwy Iesu Ghrist. Fel y byddo 'r awron yn hyspysol trwy 'r eglwys i'r tywysogaethau, a'r awdurdodau yn y nefolion bethau, amryw fath ddoethineb Duw, yn ôl yr arfaeth dragywyddol yr hon a weithiodd efe yn-Ghrist [Page] Iesu ein Harglwydd, yn yr hwn y mae i ni rydd-did, a dyfodfa mewn hyder trwy ei ffŷdd ef.

Yr Efengyl.

Matt. 2.1. YNa pan aned yr Iesu yn Bethlehem di­nas o Iudêa yn nyddiau Herod frenhin, wele, doethion a ddaethant o'r dwyrain i Ierusalem, gan ddywedyd, pa le y mae brenhin yr Iuddewon yr hwn a anwyd? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom i'w addoli ef. Pan glywodd Herod frenhin hyn, efe a gyffroes, a Ierusalem oll gŷd ag ef. Ac wedi casclu o honaw ef yr holl Archoffeiriaid, ac scrifennyddion y bobl, efe a ymofynnodd â hwynt pa le y genid Christ. Ac hwy a ddywedasant wrtho ef, yn Bethlehem Iu­dê a, canys felly yr scrifennwyd trwy 'r prophwyd. Ti­the Bethlehē gwlâd Iuda, nid lleiaf wyt ym-mhlith tywysogion Iuda: canys o honot ti y daw y tywysog yr hwn a fugeilia fy-mhobl Israel. Yna Herod wedi galw y doethiō yn ddirgel, a'u holodd hwynt yn fan­wl am yr amser yr ymddangosase y seren. Ac efe a'u danfones hwynt i Bethlehem, gan ddywedyd: ewch, ac ymofynnwch yn fanwl am y mâb-bychan, ac wedi i chwi ei gaffael ef, mynegwch i mi drachefn, fel y gallwyf finne ddyfod, a'i addoli ef. Hwythau wedi clywed y brenhin a aethant, ac wele, y seren yr hon a welsent yn y dwyrain a aeth o'u blaen hwynt hyd o­ni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle 'r oedd y mâb-by­chan. A phan welsant y seren, llawenhau a wnae­thant â llawenydd mawr tros ben. A phan ddaeth­ant i'r tŷ, hwy a gawsant y mâb-bychan gŷd â Mair ei fam, a chan syrthio i'r llawr hwy a'i haddolasant ef, ac a egorasant eu trysorau, ac a offrymmasant iddo anrhegion, sef aur, thus, a myrr. Ac wedi eu rhybu­ddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd, na ddychwe­lent at Herod, hwy a aethant drachefn i'w gwlâd ar hyd ffordd arall.

¶Y Sul cyntaf gwedi'r Ystwyll.

Y Colect.

ARglwydd nyni a attolygwn i ti dderbyn yn drugarog weddiau dy bobl y sydd yn galw ar­nat: a chaniadhâ iddynt, ddeall a gwybod yr hyn a ddylent ei wneuthur, a chael hefyd râd a gallu i wneuthur yr vn-rhyw, trwy Iesu Grist ein Har­glwydd. Amen.

Yr Epistol.

Rom. 12.1. AM hynny yr wyf yn attolwg i chwi frodyr er trugareddau Duw roddi o honoch eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, cymmeradwy gan Dduw, yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth. Ac na chyd-ymffurfiwch â'r bŷd hwn, eithr ymnewidiwch gan adnewyddiad eich me­ddwl, fel y galloch brofi beth yw ewyllys Duw, yr hwn sydd dda, a chymmeradwy, a pherffaith. Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y grâs a roddwyd i mi, wrth bob vn sydd yn eich plith, na byddo i neb ddeall vwch-law y dyler deall, onid deall o honaw i fod yn sobr, fel y rhannodd Duw i bob vn fesur ffydd. Canys megys y mae i ni lawer o aelodau mewn vn corph, ac nad oes i'r holl aelodau yr vn swydd: felly ninnau er ein bod yn llawer, ydym vn corph yn-Ghrist, a phôb vn yn aelodau i'w gilydd.

Yr Efangyl.

Luc. 2.41. RHieni'r Iesu a aent i Ierusalem bob blwyddyn, ar ŵyl y Pâsc. A phan oedd efe yn ddeuddeng-mlwydd oed, hwynt a aethant i fynu i Ierusalem yn ôl de­fod yr ŵyl: ac wedi iddynt orphen y dy­ddiau, a hwynt yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Ierusalem: ac ni ŵydde Ioseph a'i fam ef. Eithr gan dybied ei fôd ef yn y fintai, myned a wnae­thant daith diwrnod, ac hwy a'i ceisiasant ef ym-mhlith [Page] eu cenhedl a'u cydnabod. A phryd na chaw­sant ef, hwy a ddychwylasant i Ierusalem gan ei geisio ef. A bu yn ôl tridiau gael o honynt hwy ef yn y Deml yn eistedd ynghanol y Doctoriaid, yn gw­randaw arnynt, ac yn eu holi hwynt. A synnu a w­naeth ar bawb o'r a'i clywsant ef, am ei ddeall, a'i attebion. A phan welsant ef, aruthro a wnaethant; a'i fam a ddywedodd wrtho, fy mâb, pa ham y gw­naethost felly â ni? Wele, dy dâd a minne yn ofidus a'th geisiasom di. Ac ef a ddywedodd wrthynt, pa ham y ceisiech fi? Oni ŵyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthynant i'm Tâd? Eithr hwynt ni ddeallasant y gair a ddywedodd efe wr­thynt. Ac efe a aeth i wared gŷd â hwynt, ac a dda­eth i Nazareth, ac a fu vfydd iddynt. A'i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon. A'r Iesu a gynnyddodd mewn doethineb, a chorpholaeth, a ffafor gŷd â Duw, a dynion.

Yr ail Sul gwedi 'r Ystwyll.

Y Colect.

HOll-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn wyt yn llywiaw pob peth yn y nef a'r ddaiar, clyw yn drugarog airchion dy bobl, a chaniadhâ i ni dy dan­gneddyf holl ddyddiau ein bywyd. Amen.

Yr Epistol.

Rom. 12.6. CAn fod i ni amryw ddoniau yn ôl y grâs a roddwyd i ni, os prophwydoli­aeth, bydded yn ôl cyssondeb y ffŷdd: neu os swydd, dylynwn y swydd: neu os a­thro, rhodded athrawiaeth: neu os cynghorwr, edryched ar y cynghor: yr hwn a gyfran­no, cyfranned mewn symlrwydd: a lywodraetha, llywodraethed yn ddiesceulus: a drugarhao, trugar­haed yn llawen. Bydded cariad heb ragrith. Case­wch [Page] yr hyn sydd ddrwg, a glynwch wrth yr hyn sydd dda. Mewn cariad brawdol byddwch garedig i'w gilydd, gan flaenori ei gilydd yn rhoddi parch, Heb fod yn ddiog mewn astudrwydd, yn frydion yn yr Yspryd, yn gwasanaethu 'r Arglwydd, yn llawen mewn gobaith, yn ddioddef-gar mewn cystudd, yn barhaus mewn gweddi, yn cyfrannu wrth gyfreidi­au 'r sainct, ac yn dylyn rhoddi llettŷ. Bendithiwch y rhai sy yn eich ymlid, bendithiwch meddaf, ac na felldithiwch. Byddwch lawen gŷd â 'r llawen, ac yn ŵylo gŷd â 'r wylofus. Byddwch yn vn-fryd â 'i gi­lydd. Na fyddwch vchel-feddwl, eithr yn gyd-ostyn­gedig â 'r rhai isel-râdd.

Yr Efangyl.

Ioan. 2.1. A'R trydydd dydd yr oedd priodas yn Cana Galilea: a mam yr Iesu oedd yno. Galwyd, yr Iesu hefyd a'i ddiscyblon i'r briodas. A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes ganddynt mor gwin. Yr Iesu a ddywe­dodd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi wraig? Ni ddaeth fy awr i etto. Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaeth-wŷr, Beth bynnag a ddywedo ef wr­thych, gwnewch. Ac ydd oedd yno chwech o ddwfr­lestri meini wedi eu gosod, yn ôl defod puredigaeth yr Iuddewon, y rhai a ddalyent bob vn ddau ffyr­cyn, neu dri. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, llen­wch y dwfr-lestri o ddwfr: a hwynt a'u llanwasant hyd yr emyl. Ac ef a ddywedodd wrthynt, Gollyng­wch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd: a hwy a ddugasant. A phan brofodd llywodraeth-wr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni ŵydde o ba le y cawsid, ond y gwasanaeth-wŷr y rhai a ollyn­gasent y dwfr a ŵyddent) llywodraethwr y wlêdd a alwodd ar y priod-fâb, ac a ddywedodd wrtho, Pôb dŷn a osyd y gwîn da yn gyntaf, a phan yfont yn dda, [Page] yna vn a fyddo gwaeth: tithe a gedwaist y gwîn da hyd yr awrhon. Hyn o ddechreu gwrthiau a wna­eth yr Iesu yn Cana Galilea, ac a eglurodd ei ogo­niant, a'i ddiscyblon a gredâsant yntho.

Y Trydydd Sûl gwedi 'r Ystwyll.

Y Colect.

HOll-aluog a thragywyddol Dduw, edrych yn drugarog ar ein gwendid; ac yn ein holl beryglō, ac anghenion, estyn dy ddeheu-law i'n cymmorth, ac i'n hamddeffyn, trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

Rom. 12.16. NA fyddwch ddoethion yn eich tŷb eich hunain. Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg: darperwch bethau onest yn-go­lwg pob dyn. Os yw bossibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlawn â phôb dŷn. Nac ymddielwch, rai anwyl, onid rhodd­wch le i ddigofaint: canys y mae yn scrifennedig, I mi y mae dial, mi a'i talaf, medd yr Arglwydd. Am hynny os dy elyn a newyna, portha ef: os sycheda, dyro iddo ddiod: canys os gwnei hyn ti a bentyrri farwor ar ei ben ef. Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.

Yr Efengyl.

Matt. 8.1. GWedi dyfod yr Iesu i wared o'r myn­ydd, llawer o bobloedd a'i dylynodd ef. Ac wele vn gwahā-glwyfus a ddaeth ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Ar­glwydd, os mynni, ti a elli fy-nglan­hau. A'r Iesu a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, mynnaf, glanhaer di: ac yn y fan ei wahan-glwyf ef a lanhâwyd. Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, gwêl na ddywedech wrth neb, eithr dos ac ymddangos i'r offeiriad, ac offrymma y rhodd a or­chymynnodd Moses er tystiolaeth iddynt. Ac wedi [Page] dyfod yr Iesu i mewn i Capernaum, daeth atto ef Ganwriad, gan ddeisyf arno, a dywedyd, Arglwydd, y mae fy-ngwâs yn gorwedd gartref yn glâf o 'r par­lys, ac mewn poen ddirfawr. A'r Iesu a ddywe­dodd wrtho ef, mi a'i hiachâf ef pan ddelwyf. A'r Canwriad a attebodd, ac a ddywedodd, Arglwydd, nid ydwyf deilwng i ddyfod o honot tan fyngrhong­lwyd, eithr yn vnig dywed y gair, a'm gwâs a ia­cheir. Canys dŷn ydwyf finneu tan awdurdod, ac y mae gennif fil-wyr tanaf, a dywedaf wrth hwn, cer­dda, ac efe a aiff, ac wrth arall, dyred, ac ef a ddaw, ac wrth fy-ngwâs, gwnâ hyn, ac ef a'i gwnâ. A'r Iesu wrth glywed hyn a ryfeddodd, ac a ddywe­dodd wrth y rhai oeddynt yn canlyn, yn wir, med­daf i chwi, ni chefais gymmaint ffŷdd, naddo yn yr Israel. Ac yr wyf fi yn dywedyd i chwi, y daw lla­wer o'r dwyrain, a'r gorllewin ac a eisteddant gŷd ag Abraham, ac Isaac, ac Iacob yn-nheyrnas ne­foedd. A phlant y deyrnas a deflir i'r tywyllwch ei­thaf, yno y bydd wylofain, a rhingcian dannedd. Yna y dywedodd yr Iesu wrth y Canwriad, dos ymmaith, a megis y credaist bydded i ti. A'i wâs a iachawyd yn yr awr honno.

¶Y pedwerwydd Sul gwedi'r Ystwyll.

Y Colect.

DVw, yr hwn a wŷddost ein bod wedi ein gosod mewn cymmaint a chynnifer o beryglon, ac o herwydd gwendid dynol na allwn sefyll bob amser yn vniawn: caniadhâ i ni iechyd enaid a chorph, hyd pan fo am yr hyn oll ydd ym ni yn ei oddef am be­chod, allu o honom drwy dy borth di eu gorfod a'u gorchfygu, trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

Rom. 13.1. Y Mddarostynged pob perchen enaid i'r aw­durdodau goruchel, am nad oes awdurdod anid oddiwrth Dduw, a'r awdurdodau sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr aw­durdod, sydd yn gwrthwynebu ordeinhâd Duw: a'r rhai a wrthwynebant a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i'r rhai drŵg. A fynni nad ofnech yr awdurdod? gwnâ 'r hyn sydd dda, a thi a gei glôd gantho. Canys gweinidog Duw ydyw er llês i ti. Eithr os gwnei'r hyn sydd ddrŵg, ofna: am nad yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: canys gweni­dog Duw yw efe, i ddial llid ar yr hwn a wnelo ddrŵg. Herwydd pa ham anghenrhaid yw ymdda­rostwng, nid yn vnig o herwydd llid, ond er mwyn cydwybod. Canys am hynny y telwch deyrn-ged: oblegid gwasanaeth-wŷr Duw ydynt, yn ymroi i'r peth ymma. Telwch gan hynny i bawb eu dyledion: teyrn-ged i'r neb a ddyle deyrn-ged: toll i'r hwn a ddyle doll: ofn i'r hwn a ddyle ofn: parch i'r hwn a ddyle barch.

Yr Efengyl.

Mat. 8.23. AC wedi iddo fyned i'r llong, ei ddiscyblon a'i canlynasant ef. Ac wele, cynnwrf mawr a gyfodes yn y môr, fel y cuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cyscu. A daeth ei ddiscyblon atto, ac a'i deffroesant, gan ddy­wedyd, ô Arglwydd, cadw ni, darfu am danom ni. Ac ef a ddywedodd wrthynt, pa ham yr ydych yn ofnus, ô chwi o ychydig ffŷdd? yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd, a'r môr, a bu tawelwch mawr. A'r dynion a ryfeddasant gan ddywedyd, pa [Page] ryw vn yw hwn, canys y gwyntoedd a'r môr ydynt yn vfyddhau iddo ef? Ac wedi ei ddyfod ef i'r lan a­rall i wlâd y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o'r monwentau yn dra creu­lon, fel na alle neb fyned y ffordd honno. Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu Fâb Dafydd, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti ym­ma i'n poeni cyn yr amser? Ac yr oedd ym mhell oddiwrthynt genfaint o fôch lawer yn pori. A'r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, os bwri ni allan, gâd i ni fyned i'r genfaint fôch. Ac ef a ddywedodd wrthynt, ewch: ac hwy gwe­di myned allan, a aethant i'r genfaint fôch: ac we­le, yr holl genfaint fôch a ruthrodd tros y dibyn i'r môr, ac a fuant feirw yn y dyfroedd. Yna ffoawdd y meichiaid, ac wedi eu myned hwy i'r ddinas, hwy a fynegasant bob peth, a pha beth a ddar­fuase i'r rhai yr oedd y cythreuliaid ynddynt. Ac wele, 'r holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â 'r Iesu: a phan ei gwelsant, attolygasant iddo yma­del o'u cyffiniau hwynt.

Y pumed Sûl gwedi 'r Ystwyll.

Y Colect.

ARglwydd attolwg i ti gadw dy Eglwys'ath dŷ­lu yn wastad yn dy wîr grefydd, fel y gallont hwy oll, y sawl ydynt yn ymgynnal yn vnic wrth dy nefol rad, byth gael nawdd dy ddiogel amddeffyn, trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

Coloss. 3.12. MEgis etholedigion Duw, sanctaidd, ac an­wyl, gwiscwch ymyscaroedd tosturiaeth, cymmwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, lla­ryeidd-dra, ac ymaros: gan gyd-ddwyn a'i gilydd, [Page] a maddeu i'w gilydd os bydd gan vn gweryl yn er­byn neb, megis y maddeuodd Christ i chwi, felly gwnewch chwithau. Ac vwch ben hyn oll, gwi­scwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd. A llywodraethed tangnheddyf Duw yn eich ca­lonnau, i'r hwn y'ch galwyd yn vn corph, a by­ddwch ddiolchgar. Preswylied gair Christ ynoch yn helaeth ym-mhôb doethineb, gan eich dyscu, a'ch cynghori eich hunain mewn psalmau, a hymnau, ac odlau ysprydol, gan ganu yn eich ca­lon i'r Arglwydd mewn grâs. A pha beth byn­nag a wneloch ar air, neu weithred, gwnewch bob dim yn enw 'r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a'r Tâd trwyddo ef.

Yr Efangyl.

Mat. 13.24. TEyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddŷn a hauodd hâd da yn ei faes. A thra yr oedd y dynion yn cyscu, y daeth ei e­lyn ef, ac a hauodd efrau ym-mhlith y gwenith, ac a aeth ymmaith. Ac wedi i'r egin dyfu, a dwyn ffrwyth, yna 'r ymddangosodd yr efrau hefyd. A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Ar­glwydd, oni heuaist ti hâd da yn dy faes? o b'le gan hynny y mae 'r efrau ynddo? Yntef a ddywedodd wrthynt, y gelyn ddŷn a wnaeth hyn: a'r gwei­sion a ddywedasant wrtho, a fynni di gan hynny i ni fyned a'u casclu hwynt? ac efe a ddywedodd, na fynnaf, rhag i chwi wrth gasclu 'r efrau ddiwreiddio 'r gwenith gŷd â hwynt. Gadewch i'r ddau gŷd-tyfu hyd y cynhayaf, ac yn amser y cynhayaf mi a ddy­wedaf wrth y medel-wŷr, cesclwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch yn yscubau i'w llosci, a ches­clwch y gwenith i'm yscubor.

Y chweched Sûl (o bydd cynnifer) yr arferir yr vn Col­lect, yr vn Epistol, a'r vn Efangel, ac ar y pummed Sûl.

Y Sûl a elwir Septuagesima.

Y Colect.

ARglwydd attolygwn i ti wrando yn ddarbodus weddiau dy bobl, fel y byddo i ni y rhai a gy­fiawn boenir dros ein camweddau, allu yn drugarog gael ein ymwared gan dy ddaioni di, er gogoniant dy Enw, trwy Iesu Ghrist ein Ceidwad, yr hwn a fywia, ac a wladycha yn oes oesoedd. Amen.

Yr Epistol.

1. Cor. 9.24. ONi ŵyddoch chwi am y rhai sy yn rhedeg mewn gyrfa, fod pawb yn rhedeg, ond bôd vn yn myned â'r gyngwystl? felly rhedwch fel yr enni­lloch y gyngwystl. Hefyd, y mae pôb vn a ymdrecho am gamp, yn ymgadw rhag pob dim, ac hwynt er mwyn cael coron ddarfodedig, a ninnau vn annarfodedig. Am hynny yr wyf fi felly yn rhedeg, nid megis ar amcan, felly yr wyf yn ymdrechu, nid fel vn yn curo 'r awyr. Ond yr wyf fi yn cospi fy-nghorph, ac yn ei ddarostwng i wasanaeth, rhag mewn vn modd wedi i mi brege­thu i eraill, fy môd fy hunan yn anghymmeradwy.

Yr Efengyl.

Mat. 20.1. TEyrnas nefoedd sydd debyg i ddŷn o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau, i gyflogi gweith-wŷr i'w win-llan. Ac wedi iddo gytuno â'r gweith-wŷr er ceiniog y dŷdd, ef a'u hanfonodd hwy i'w win-llan. Ac efe a aeth allan [Page] ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn se­fyll yn segur yn y farchnadfa, ac efe a ddywedodd wrthynt, ewch chwithau hefyd i'r winllan, a pha beth bynnag a fydd cyfiawn mi a'i rhoddaf i chwi, ac hwy a aethant ymmaith. A thrachefn ef a aeth allan ynghylch y chweched a'r nawfed awr, ac a wnaeth yr vn môdd. Ac efe a aeth allan ynghylch yr vnfed awr ar ddêg, ac a gafas eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, pa ham yr ydych chwi yn sefyll ymma ar hŷd y dŷdd yn segur? Dywedasant wrtho, am na chyflogodd neb nyni: yntef a ddywedodd wrthynt, ewch chwithau he­fyd i'r win-llan, a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a'i cewch. A phan aeth hi yn hwyr, Arglw­ydd y win-llan a ddywedodd wrth ei oruchwiliwr, galw'r gweith-wŷr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechrau o'r rhai diwethaf hyd y rhai cyntaf. A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr vnfed awr ar ddêg, cafodd pob vn geiniog. A phan dda­eth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy: eithr hwythau a gawsant bob vn geiniog. Ac we­di iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ, gan ddywedyd, vn awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a'u gwnaethost hwynt yn gystal â ninnau, y rhai a ddugasom bwys y dŷdd, a'r gwrês. Yntef a attebodd i vn o honynt, ac a ddywedodd, y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi: ond er ceiniog y cytunaist â mi? cymmer yr hyn sydd eiddot ti, a dos ymmaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn megis i tithe. Onid cyfraith­lawn i mi wneuthur a fynnwyf am yr eiddof fi? a ydyw dy lygad di yn ddrŵg am fy môd i yn dda? felly y bydd y rhai olaf yn flaenaf, a'r rhai blaenaf yn olaf. Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychy­dig wedi eu dewis.

Y Sûl a elwir Sexagesima.

Y Colect.

O Arglwydd Dduw, yr hwn a weli nad ydym ni yn ymddyried mewn vn weithred a wne­lom: Caniadhâ yn drugarog fod i ni drwy dy nerth, amddeffyn rhag pob gwrthwyneb, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

2. Cor. 11.19. YR ydych yn dioddef ffyliaid yn llawen, gan fôd eich hun yn synhwyrol. Ca­nys goddefwch pe caethiwe vn chwi, pe bai vn i'ch llyngcu, pe bai vn yn dwyn oddiarnoch, pe bai vn yn ym­dderchafu, pe tarawe vn chwi ar eich ŵyneb. Am amharch yr ydwyf yn dywedyd: megis pe bua­sem weiniaid: eithr ym-mha beth bynnag y byddo neb hŷf (yr wyf yn dywedyd yn ffôl) hŷf wyf finne hefyd. Hebrêaid ydynt, felly finne: Israeliaid ydynt, felly finne: hâd Abraham ydynt, felly finne: gwei­nidogion Christ ydynt, (yr ydwyf yn dywedyd yn ffôl) mwy wyf fi: mewn poenau yn amlach: mewn gwialennodiau tros fesur: yngharcharau yn am­lach: ym-mron angau yn fynych. Gan yr Iudde­won pum-waith y derbyniais ddeu 'gain gwialen­nod onid vn. Tair-gwaith i'm curwyd â gwiail: vn-waith y'm llabyddiwyd: teir-gwaith y torrodd llong arnaf: diwrnod a noswaith y bûm yn y dyfn­fôr. Mewn teithiau yn fynych: ym-mheryglon llif-ddyfroedd: ym-mheryglon lladron: ym-mhery­glon fy-nghenedl fy hun: ym-mheryglon gan y cen­hedloedd: ym-mheryglon yn y ddinas: ym-mhery­glon yn yr anialwch: ym-mheryglon ar y môr: [Page] ym-mheryglon ym-mhlith brodyr gau: mewn blin­der, a lludded: mewn anhunedd yn fynych: mewn newyn, a syched: mewn ymprydiau yn fynych: mewn anwyd, a noethni. Heb law y pethau sy'n digwydd oddiallan, y mae yr ymosod beunyddol ar­naf, sef y gofal tros yr holl eglwysi. Pwy sy wan, nad wyf finne wan? pwy a rwystrir, na loscwyf finne? Os rhaid i mi orfoleddu, mi a orfoleddaf yn y pethau sy yn perthyn i'm gwendid. Duw a Thâd ein Harglwydd ni Iesu Ghrist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dy­wedyd celwydd.

Yr Epistol.

Luc. 8.4. GWedi i lawer o bobl ymgynnull yng­hŷd, a chyrchu atto o bob dinas, efe a ddywedodd ar ddammeg. Yr ha­uwr a aeth allan i hau ei hâd, ac fel yr oedd ef yn hau, peth a syrthiodd ar ymmyl y ffordd, ac a sathrwyd, ac ehediaid y nêf a'i bwytaodd. A pheth arall a syr­thiodd, ar y graig, a phan eginodd, y gŵywodd, am nad oedd iddo wlybwr. Ac arall a syrthi­odd ym-mŷsc drain, a'r drain a gyd-tyfasant, ac a'i tagasant ef. Ac arall a syrthiodd ar dîr da, ac a eginodd, ac a ddûg ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, ef a lefodd: y neb sydd â chlustiau iddo i wrandaw, gwrandawed. A'i ddi­scyblon a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, pa ddammeg oedd hon? Yntef a ddywedodd, i chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw, eithr i eraill ar ddamhegion, fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant. Ac dymma 'r ddammeg, yr hâd yw gair Duw. A'r rhai ar ymmyl y ffordd ydyw y rhai sy yn gwrando, [Page] wedi hynny y mae diafol yn dyfod, ac yn dwyn ym­maith y gair o'u calonnau hwynt, rhag iddynt gan gredu fod yn gadwedig. A'r rhai ar y graig yw y rhai pan glywant a dderbyniant y gair yn llawen: eithr y rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai ydynt yn credu tros amser, ac yn amser profediga­eth yn cilio. A'r hwn a syrthiodd ym-mŷsc drain, yw y rhai a wrandawsant, ac wedi iddynt fyned ym­maith, hwy a dagwyd gan ofalon, a golud, a melus­wedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth. A'r hwn a syrthiodd ar y tîr da, yw y rhai â chalon ry­wiog dda, ydynt yn gwrando 'r gair, ac yn ei gadw, ac ydynt yn ffrwytho trwy ymmynedd.

Y Sûl a elwir Quinquagesima.

Y Colect.

O Arglwydd, yr hwn wyt yn dyscu i ni, na thâl dim ein holl weithredoedd a wnelom heb gariad perffaith, anfon dy Yspryd glân, a thywallt yn ein calonnau ragorol ddawn cariad perffaith, gwir rwymyn tangneddyf, ac holl rinweddau da, heb yr hwn pwy bynnac sydd yn byw a gyfrifir yn farw ger dy fron di: Caniadhâ hyn er mwyn dy vn Mâb Iesu Grist. Amen.

Yr Epistol.

1. Cor. 13.1. PE llefarwn â thafodau dynion, ac angelion, a mi heb gariad gennif, yr wyf fel efydd yn seinio, neu cymbal yn tingcian. A phe bydde gennif broph­wydoliaeth, a gŵybod o honof y dirge­lion oll, a phob gŵybodaeth, a phe bae gennif yr holl ffŷdd, fel y gallwn symmudo mynyddoedd, ac heb fôd gennif gariad, nid wyfi ddim. A phe porthwn y tlodion am holl dda, a phe rhoddwn fy-nghorph i'm [Page] llosci, ac heb gariad gennif, ni wnai hyn ddim llesâd i mi. Cariad sydd ddyoddefus, cariad sydd gymmwy­nasgar, cariad ni chenfigenna, cariad nid yw an­hydyn, nid yw yn ymchwyddo, nid yw yn gwneu­thur yn anweddaidd, nid yw yn ceisio 'r eiddi ei hu­nan, ni chythruddir, ni feddwl ddrŵg, nid yw lawen am anghyfiawnder, onid cŷdlawenhau y mae â'r gwirionedd. Y mae yn goddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim. Cariad byth ni chwymp ymmaith, er pallu pro­phwydoliaethau, a pheidio tafodau, a diflannu gŵybodaeth. Canys o ran y gŵyddom, ac o ran yr y­dym yn prophwydo. Eithr pan ddelo yr hyn sydd ber­ffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddeleuir. Pan oeddwn yn fachgen, fel bachgen yr ymddiddanwn, fel bach­gen y deallwn, fel bach gen y meddyliwn: ond pan aethym yn ŵr, mi a rois heibio fachgenneiddrw­ydd. Canys gweled yr ydym yr awrhon trwy ddrŷch mewn dammeg, ac yna y gwelwn ŵyneb yn ŵyneb: yn awr yr adwaen o ran, ond yna yr adnabyddaf me­gis y'm hadwaenir. Yr awron y mae yn arhos, ffŷdd, gobaith, a chariad; y tri hyn, a'r mwyaf o'r rhai hyn yw cariad.

Yr Efengyl.

Luke 18.31. YR Iesu a gymmerth atto y deu-ddeg, ac a ddywedodd wrthynt, wele ni yn myned i fynu i Ierusalem, a chyflawnir i Fâb y dŷn bob peth o'r sydd yn scrifennedig trwy 'r prophwydi. Canys ef a draddodir i'r cenhedloedd, ac a watwo­rir, a gwneir yn drahaus ag ef, ac a boerir arno. Ac wedi iddynt ei fflangellu, lladdant ef, eithr ef a ad­gyfyd y trydydd dŷdd. Ac ni ddeallasant hwy ddim o'r pethau hyn, a'r gair hwn oedd guddiedig oddi­wrthynt, ac ni ŵybuant y pethau a ddywetpwyd. Bu hefyd, ac efe yn nessau at Iericho, i ryw vn [Page] dall fod yn eistedd gar llaw 'r ffordd, yn cardotta. A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofyn­nodd, pa beth oedd hyn. Ac hwy a fynegasant iddo mai Iesu o Nazareth oedd yn myned heibio. Yntef a lefodd, gan ddywedyd, Iesu Fâb Dafydd, trugar­hâ wrthif. A'r rhai oeddynt yn myned o'r blaen a'i ceryddasant ef i dewi: yntef a lefodd fwy-fwy, Mâb Dafydd, trugarhâ wrthif. A'r Iesu a safodd, ac a orchymynnodd ei ddwyn ef atto: a phan dda­eth efe yn agos, ef a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, pa beth a fynni i mi ei wneuthur i ti? yntef a ddy­wedodd, Arglwyd, cael fy-ngolwg. A'r Iesu a ddy­wedodd wrtho, cymmer dy olwg, dy ffŷdd a'th ia­chaodd. Ac yn y man ef a gafodd ei olwg, ac a'i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw: a'r holl bobl pan welsant hyn, a roesant foliant i Dduw.

Y Dydd cyntaf o'r Grawys.

Y Colect.

HOll gyfoethog a thragywyddol Dduw, yr hwn ni chashêi ddim a wnaethost, ac a fadde­ui bechodau pawb y sy edifeiriol; crêa a gwna ynom newydd a drylliedic galon; hyd pan fo i ni gan ddyledus ddoluriaw am ein pechodau, a chyfa­ddef ein trueni, allu caffael gennit Dduw yr holl drugaredd, gwbl faddeuaint a gollyngdod, trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

Ioel. 2.12. DYchwelwch attafi â 'ch holl galon, mewn ympryd, mewn ŵylofain, ac mewn galar. A rhwygwch eich ca­lonnau, ac nid eich dillad, ac ymchw­elwch at yr Arglwydd eich Duw: o herwydd graslawn, a thrugarog yw efe, hwyrfry­dig [Page] i ddigofaint, ac aml o drugaredd, ac edifeiriol am ddrŵg. Pwy a ŵyr a dry efe, ac edifarhau, a gwedd­illo bendith ar ei ôl, sef bwyd offrwm, a diod offrwm i'r Arglwydd eich Duw chwi? Cenwch vdcorn yn Sion, gosodwch ympryd, gelwch y gynnulleidfa. Cesclwch bobl, gosodwch gymmanfa, cynnhull­wch henuriaid, cesclwch blant, a'r rhai yn sugno bronnau: deued y priod-fâb allan o'i stafell, a'r briod-ferch allan o stafell ei gwely. Wyled yr offei­riaid, gweinidogion yr Arglwydd, rhwng y porth a'r allor, a dywedant: arbed dy bobl ô Argl­wydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i ly­wodraethu o'r bobloedd arnynt: pa ham y dywe­dant ym-mhlith y bobloedd, pa le y mae eu Duw hwynt?

Yr Efengyl.

Mat. 6.16. PAn ymprydioch, na fyddwch ŵyneb­sarrig fel rhagrith-wyr, canys anffur­fio eu hwynebau a wnânt, er ym­ddangos i ddynion fod yn ymprydio: yn wîr meddaf i chwi, y maent yn der­byn eu gwobr. Eithr pan ymprydiech di, ennei­nia dy ben, a golch dy ŵyneb, rhag ymddangos i ddynion dy fod yn ymprydio, onid i'th Dâd yr hwn sydd yn y dirgel, a'th Dâd yr hwn a wêl yn y dir­gel, a dâl i ti yn yr amlwg. Na chesclwch dryso­rau i chwi ar y ddaear, lle y mae gwyfyn, a rhŵd yn llygru, a lle mae lladron yn cloddio trwodd, ac yn lladratta. Eithr cesclwch i chwi drysorau yn y nêf, lle nid oes na gwyfyn na rhŵd yn llygru, a lle ni's cloddia lladron drwodd, ac ni's lladrattant. Canys lle y mae eich trysor, yno y bŷdd eich calon hefyd.

Y Sûl cyntaf yn y Grawys.

Y Colect.

O Arglwydd, yr hwn er ein mwyn a ymprydiaist ddeugain nhiwrnod, a deugain nhôs, dyro i ni râd i ymarfer o gyfryw ddirwest, gan ostwng ein cnawd i'r Yspryd, fel y byddo i ni byth vfyddhau i'th dduwiol annog, mewn iawnder a gwîr sanctei­ddrwydd, i'th anrydedd, a'th ogoniant, yr hwn wyt yn byw, ac yn teyrnasu yn oes oessoedd. Amen.

Yr Epistol.

2. Cor. 6.1. NY-ni gan gyd-weithio ydym yn cyn­ghori i chwi, na dderbynioch râs Duw yn ofer. (Canys, mêdd efe, yn amser cymmeradwy y'th wrāde wais, ac yn-nydd iechydwriaeth y'th gyn­horthwyais: wele yn awr yr amser cymmeradwy, wele yn awr ddŷdd yr iechydwriaeth) Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, rhag beio ar y weini­dogaeth. Eithr gan ein gosod ein hun allan ymhob peth fel gweinidogiō Duw, mewn ymynedd mawr, mewn cystuddiau, mewn anghenion, ac mewn cy­fyngderau, mewn gwialēnodiau, mewn carcharau, mewn terfyscau, mewn poenau, yngwiliadwriae­thau, mewn ymprydiau, mewn purdeb, mewn gwy­bodaeth, mewn hir-ymaras, mewn tiriondeb, yn yr Yspryd glân, mewn cariad diragrith, yngair gwiri­onedd, yn nerth Duw, mewn arfau cyfiawnder ar y llaw ddehau, ac ar y llaw asswy, mewn parch ac am­harch, mewn anghlod, a chlôd: megis twyllwyr, ac er hynny yn eir-wir: megis anadnabyddus, ac er hynny yn adnabyddus: megis yn meirw, ac wele ni yn fyw, megis wedi ein cospi, ac heb ein llâdd: megis yn dristion, ac etto yn wastad yn llawen: megis yn dlodion, ac etto yn cyfoethogi llawer: megis heb ddim cennym, ac etto yn meddiannu pob peth.

Yr Efengyl.

Mat. 4.1. YNa 'r arweiniwyd yr Iesu i'r ynialwch gan yr yspryd i'w demptio gan ddiafol. Ac wedi iddo ymprydio ddeu'gain nhiwrnod, a deu'­gain nôs, yn ôl hynny efe a newynodd. Yna y daeth y temptiwr atto ef, ac a ddywedodd, os ti yw Mâb Duw, arch i'r cerrig hyn fod yn fara. Yntef a attebodd, ac a ddywedodd, y mae yn scrifennedig, Nid trwy fara yn vnig y bydd byw dŷn, ond trwy bob gair sydd yn dyfod o enau Duw. Yna y cymm­erth diafol ef i'r ddinas sanctaidd, ac a'i gosodes ef ar binacl y Deml, ac a ddywedodd wrtho os mâb Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr: canys scrifennedig yw, y rhŷdd efe orchymmyn i'w angelion am danat, ac hwy a'th ddygant yn eu dwylo, rhag taro o honot dy droed wrth garreg. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, y mae yn scrifennedig trachefn, na themptia 'r Ar­glwydd dy Dduw. Trachefn y cymmerth diafol ef i fynydd tra vchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrna­soedd y bŷd a'u gogoniant, ac a ddywedodd wrtho, hyn oll a roddaf i ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i. Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Ymmaith Satan: canys scrifennedig yw, Yr Arglwydd dy Dduw a a­ddoli, ac ef yn vnig a wasanaethi. Yna y gadawodd diafol ef, ac wele, angelion a ddaethant, ac a weina­sant iddo.

Yr ail Sûl o'r Grawys.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, yr hwn wyt yn gweled nad oes gennym ddim meddiant o'n nerth ein hun­ain i'n cymmorth ein hunain: cadw di ni oddi-fewn ac oddi-allan, sef enaid a chorph: ac amddeffyn ni rhag pob gwrthwyneb a ddigwyddo i'r corph, a rhag pob drwg feddwl a wnâ niwed na chynnwrf i'r en­aid, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

1. Thess. 4.1. YR ydym yn attolwg i chwi frodyr, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, ar i chwi gynnyddu fwy-fwy, megis y derbynia­soch gennim, pa fodd y dylech rodio, a bodloni Duw. Canys gwyddoch pa orchymmynion a roddasom i chwi trwy 'r Arglwydd Iesu. Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sanctei­ddiad chwi, ac ymgynnal o honoch oddiwrth odineb, a gŵybod o bob vn o honoch pa fodd y meddianna ei lestr mewn sancteiddrwydd, ac anrhydedd, nid me­wn gwŷn trachwant, megis y cenhedloedd, y rhai nid adwaenant Dduw: Na fydde i neb orthrymmu, na thwyllo ei frawd mewn masnach: canys yr Ar­glwydd sydd ddialudd ym-mhob cyfryw beth, megis y rhag-ddywedasom i chwi, ac y tystiasom. Oblegid ni 's galwodd Duw nyni i aflendid, onid i sanctei­ddrwydd. Am hynny y neb a escaeluso y pethau hyn, nid dŷn y mae yn ei escaeluso, onid Duw yr hwn a roddes ei Yspryd glân ynom.

Yr Efengyl.

Mat. 15.21. YR Iesu aeth oddi yno, ac a giliodd i due­ddau Tyrus a Sidon. Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o'r cyffiniau hyn­ny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, trugarhâ wrthif, ô Arglwydd fâb Da­fydd: y mae fy merch yn ddrŵg ei hwyl gan gyth­raul. Eithr nid attebodd efe iddi vn gair: yna y daeth ei ddiscyblon atto, ac a attolygasant iddo, gan ddy­wedyd, gollwng hi ymmaith, canys y mae hi yn lle­fain ar ein hôl. Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, nim danfonwyd onid at ddefaid colledig tŷ 'r Israel. Er hynny hi a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddy­wedyd, ô Arglwydd cymmorth fi. Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, nid da cymmeryd bara 'r plant, a'i [Page] fwrw i'r cenawon cŵn. Hithe a ddywedodd, gwîr yw ô Arglwydd, canys y mae 'r cenawon cŵn yn bwytta o'r briwsion sydd yn syrthio oddiar fwrdd ei harglwyddi. Yna 'r attebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, ha wraig mawr yw dy ffydd, bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio: a'i merch a iachawyd yn yr awr honno.

Y trydydd Sûl o'r Grawys.

Y Colect.

NI a attolygwn i ti Holl-alluog Dduw edrych o honot ar weddiol oglud dy vfydd weision, ac est­yn ddeheu-law dy fawredd i fod yn ymwared i ni, yn erbyn ein gelynion, trwy Iesu Grist ein Harglw­ydd. Amen.

Yr Epistol.

Epe. 5.1. BYddwch ddylyn-wŷr Duw, fel plant anwyl, a rhodiwch mewn cariad, fel y carodd Christ ninnau, ac a'i traddo­dodd ei hun trosom yn offrwn ac yn a­berth i Dduw o arogl peraidd. Eithr godineb, a phob aflendid, neu gybydd-dra, na henw­er chwaith yn eich plith, megis y gwedde i saint, na serthedd, na geiriau ffôl, na choeg-ddigrifwch, yr hyn nid ydynt weddus, eithr yn hytrach diolch-gar­wch. Canys yr ydych yn gŵybod hyn, am bob pu­ttein-wr, neu aflan, neu gybydd (yr hwn sydd dde­lw-addolwr) nad oes iddynt etifeddiaeth yn-nheyr­nas Christ, a Duw. Na thwylled neb chwi â geiriau ofer, canys, oblegid y pethau hyn y daw digofaint Duw ar blant yr anufydd-dod. Gan hynny na fydd­wch gyd-gyfrannogion â hwynt. Canys yr oeddych chwi gynt yn dywyllwch, ac yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd, rhodiwch fel plant y goleuni, (ca­nys ffrwyth yr yspryd sydd ym-mhob daioni, a chyfi­awnder, a gwirionedd) gan brofi yr hyn sydd gym­meradwy [Page] gan yr Arglwydd. Ac na fydded i chwi gy­feillach â gweithredoedd anffrwyth-lawn y tywyll­wch, eithr yn hytrach argyoeddwch hwynt. Canys brwnt yw adrodd y pethau a wnânt hwy yn ddirgel. Eithr pob peth wedi 'r argyoedder, a eglurir gan y goleuad: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleu­ad yw. O herwydd hynny y mae efe yn dywedyd, deffro di yr hwn wyt yn cyscu, a chyfod oddiwrth y meirw, a Christ a oleua i ti.

Yr Efengyl.

Luc. 11.14. YR Iesu oedd yn bwrw allan gythraul, yr hwn oedd fûd. A bu wedi i'r cythraul fyned allan, i'r mûd lefaru, a rhyfeddu a wnaeth y bobl. A rhai o honynt a ddy­wedasant, trwy Beelzebub pennaeth y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid. Ac eraill gan ei demptio ef a geisiasant ganddo ar­wydd o'r nêf. Yntef yn gwŷbod eu meddyliau hw­ynt, a ddywedodd wrthynt, pob teyrnas wedi ei rhannu yn ei herbyn ei hun a anrheithir, a thŷ rhannedig yn ei erbyn ei hun a syrthia. Ac os Sa­tan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bod yn dywedyd mai trwy Beelzebub yr wyf fi yn bwrw allan gyth­reuliaid. Ac os trwy Beelzebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farn-wŷr arnoch chwi. Eithr os my-fi trwy fŷs Duw ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diamm­au ddyfod teyrnas Dduw attoch chwi. Pan fyddo y crŷf yn arfog yn cadw ei neuadd, y mae 'r hyn sydd ganddo mewn heddwch. Ond pan ddêl vn cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, ef a ddŵg ymmaith ei holl arfogaeth ef, yn yr hon yr oedd yn ymddiried, ac a ran ei anrhaith ef. Y neb nid yw gŷd â mi, sydd yn [Page] fy erbyn, a'r neb nid yw yn casclu gŷd â mi sydd yn gwascaru. Pan êl yr yspryd aflan allan o ddŷn, ef a dramwya trwy loedd sychion, gan geisio esmwyth­dra: a phrŷd na's caffo, ef a ddywaid, mi a ddychwe­laf i'm tŷ o'r lle y daethym allan. A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei yscubo, a'i drefnu. Yna yr aiff efe ac y cymmer atto saith yspryd eraill gwaeth nag ef ei hun, a phan elont i mewn, yno yr arhosant, a di­wedd y dŷn hwnnw fydd gwaeth nâ'i ddechreuad. A bu fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, godi o ryw wraig o'r dyrfa ei llêf, a dywedyd wrtho, Gwyn­fŷd y grôth a'th ddûg di, a'r bronnau a sugnaist. Ynt­ef a ddywedodd, yn hytrach gwyn-fŷd y rhai ydynt yn gwrandaw gair Duw, ac yn ei gadw.

Y Pedwerydd Sûl o'r Grawys.

Y Colect.

CAniadhâ ni a attolygwn i ti Holl-alluog Dduw, fod i ni y rhai a boenir yn rhyglyddus am ein drwg weithredoedd, trwy gonffordd dy rad ti, allu yn drugarog gael hawshâd, trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Amen.

Yr Epistol.

Gal. 4.21. DYwedwch i mi y rhai a fynnwch fôd dan y ddeddf, oni chlywch y ddeddf? Canys y mae yn scrifennedig fôd i A­braham ddau fâb, vn o'r wasanaeth­wraig, ac vn o'r wraig rŷdd. Eithr hwn oedd o'r wasanaeth-wraig a aned yn ôl y cnawd, a hwn oedd o'r wraig rŷdd a aned o herwydd yr adde­wid. Yr hyn bethau a arwyddoccânt beth arall: ca­nys y rhai hyn ŷnt y ddau destament: vn yn ddiau o fynydd Sina, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Agar, (Canys Agar yw Sina mynydd yn Arabia, ac y mae yn cyfatteb i Ierusalem yr hon sydd yn [Page] awr) ac y mae yn gaeth hi a'i phlant. Eithr y Ieru­salem vchod sydd rŷdd, yr hon yw ein mam ni oll. Canys scrifennedig yw, Llawenhâ di yr ammhlan­tadwy, yr hon nid wyt yn planta: torr allan a llefa, yr hon nid wyt yn escor, canys i'r ddi-wriog y mae llawer mwy o blant nag i'r hon y mae iddi ŵr. Nin­nau, frodyr, ydym yn blant yr addewid vn wedd ag Isaac. Eithr megis y prŷd hynny hwn a aned yn ôl y cnawd a erlidie yr hwn a aned yn ôl yr Yspryd, felly y mae yr awr hon hefyd. Ond pa beth a ddywed yr Scrythur? Bwrw allan y wasanaeth-wraig, a'i mâb, canys ni bŷdd mâb y wasanaeth-wraig yn eti­fedd gŷd â mâb y wraig rŷdd. Felly, frodyr, nid ydym blant i'r wasanaeth-wraig ond i'r wraig rŷdd.

Yr Efengyl.

Ioan. 6.1. YR Iesu a aeth tros fôr Galilêa, yr hwn yw môr Tiberias. A thyrfa fawr a'i canlynodd ef, oblegid iddynt weled ei arwyddion y rhai wnaethe efe ar y clei­fion. A'r Iesu a aeth i fynu i'r mynydd, ac ef a eisteddodd yno gŷd â'i ddiscyblon. A'r Pâsc, gŵyl yr Iddewō oedd yn agos. Yna 'r Iesu a dderch­afodd ei lygaid, ac a ganfu fod tyrfa fawr yn dyfod atto ef, ac a ddywedodd wrth Philip: o ba le y pryn­wn ni fara, fel y gallo y rhai hyn fwytta? (Ac ef a ddywedodd hyn i'w brofi ef, canys efe a wydde beth a wnai.) Philip a'i hattebodd ef, Gwerth dau cant ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pob vn o honynt gymmeryd ychydig. Vn o'i ddiscy­blion a ddywedodd wrtho ef, Andreas brawd Si­mon Petr, Y mae ymma ryw fachgennyn, yr hwn sydd ganddo bump torth haidd, a dau byscodyn: ond beth yw hynny rhwng cynnifer? A'r Iesu a ddywedodd, perwch i'r dynion eistedd i lawr (ac yr o­edd glas-wellt lawer yn y fan honno) A'r gwŷr a ei­steddasant [Page] i lawr ynghylch pum-mîl o nifer. A'r Ie­su a gymmerth y bara, ac a ddiolchodd, ac a'i rhann­odd i'r discyblon, a'r discyblon i'r rhai oeddynt yn ei­stedd: felly hefyd o'r pyscod cymmeint ag a fynna­sant. Ac wedi eu digoni hwynt, ef a ddywedodd wrth ei ddiscyblon, cesclwch y briw-fwyd sydd yng­weddill, fel na choller dim. Yna hwynt a'i cascla­sant, ac a lanwasant ddeu-ddeg basced â'r briw-fwyd o'r pump torth haidd, a weddillasid gan y sawl a fw­yttâsent. Yna y dynion pan welsant yr arwydd a wnaethe yr Iesu, a ddywedasant, yn ddiau hwn yw 'r prophwyd yr hwn oedd ar ddyfod i'r bŷd.

Y pummed Sûl o'r Grawys.

Y Colect.

NI a attolygwn i ti Holl-alluog Dduw, edrych o honot yn drugârog ar dy bobl: ac iddynt trwy dy fawr ddaioni a'th lywodraeth fod byth yn gadwe­dic enaid a chorph, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

Heb. 9.11. CHrist yn dyfod yn Arch-offeiriad y daio­ni a fyddent rhag llaw trwy dabernacl mwy, a pherffeithiach, nid o waith dwylo, hynny yw, nid o'r adeiladaeth ymma, nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun yr aeth efe vnwaith i mewn i'r cyssegr, ac a gafas dragywyddol ollyng­dod o gaethiwed. Oblegid os ydyw gwaed teirw, a geifr, a lludw anner wedi ei danu ar y rhai haloge­dig yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd, o ba faint mwy y pura gwaed Christ (yr hwn trwy 'r Yspryd tragywyddol a'i hoffrymmodd ei hun yn ddifai i Dduw) eich cydwybod chwi oddiwrth feirwon wei­thredoedd, i wasanaethu y Duw byw? Ac am hynny [Page] y mae efe yn gyfryng-wr y cyfammod newydd, me­gis trwy fod marwolaeth yn ymwared oddiwrth y troseddau y rhai oeddynt tan y cyffamod cyntaf, y derbynie y rhai a alwyd addewid yr etifeddiaeth dragywyddol.

Yr Efengyl.

Ioan. 8.46. PWy o honoch chwi a'm hargyoedda i o be­chod: od wyf fi yn dywedyd y gwîr, pa ham nad ydych yn credu i mi? Y mae 'r hwn sydd o Dduw yn gwrando geiriau Duw, am hynny nid ydych chwi yn gwrando am nad yd­ych o Dduw. Yna attebodd yr Iddewon, a dyweda­sant wrtho ef: ond dayr ydym ni yn dywedyd mai Samaritan wyt ti, a bod gennit gythraul? Yr Iesu a attebodd, nid oes gennif fi gythraul, ond yr wyf yn anrhydeddu fy-Nhâd, ac yr ydych chwithau yn fy-ni­anrhydeddu i. Ac nid wyf fi yn ceisio fy-ngogoniant fy hun, y mae a'i cais ac a farn. Yn wir, yn wir, me­ddafi chwi, os ceidw neb fy-ngair i, ni wêl efe farw­olaeth bŷth. Yna dywedodd yr Iddewon wrtho ef, yr awron y gŵyddom fôd gennit gythraul. Bu A­braham farw, a'r prophwydi, ac meddi di, os ceidw neb fy-ngair i, nid archwaetha efe farwolaeth bŷth. Ai mwy wyt ti nâ'n Tâd Abraham, yr hwn a fu fa­rw? a'r prophwydi fuant feirw: pwy 'r wyt ti yn dy wneuthur dy hun? Attebodd yr Iesu, os my-fi wyf yn fy-ngogoneddu fy hun, nid yw fy-ngogoniant ddim: fy-Nhâd yw 'r hwn sydd yn fy-ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd mai eich Duw chwi yw efe. Ond nid adnabuoch chwi ef, eithr my-fi a'i hadwen ef, ac os dywedaf nad adwen ef, mi a fyddaf debyg i chwi yn gelwyddog. Ond mi a'i had wen ef, ac yr wyf yn cadw ei air ef. Gorfoledd oedd gan eich tâd Abraham weled fy-nýdd i, ac ef a'i gwelodd, ac a lawenychodd. Yna dywedodd yr [Page] Iddewon wrtho ef, nid wyt ti ddeng-mhlwydd a deu'gain etto, ac a welaist ti Abraham? Dywedodd yr Iesu wrthynt, yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, cyn bôd Abraham yr wyf fi. Yna hwynt-hwy a go­dasant gerrig i'w taflu atto ef: a'r Iesu a ymguddi­odd, ac a aeth allan o'r Deml.

Y Sûl nesaf o flaen y Pâsc.

Y Colect.

HOll-gyfoethog a thragywyddol Dduw, yr hwn o'th garedigol serch ar ddŷn a ddanfonaist ein Iachawdur Iesu Grist i gymmeryd arnaw ein cnawd, ac i ddioddef angau ar y groes fel y gallai bob rhyw ddŷn ddilyn esampl ei vfyddtod ef: Caniadhâ o'th drugaredd bod i ni ganlyn esampl ei ddioddef­aint, a bod yn gyfrannogion o'i gyfodiad, trwy yr vn rhyw Iesu Grist ein Arglwydd. Amen.

Yr Epistol.

Phil. 2.5. BYdded yr vn meddwl ynoch ac oedd yn Christ Iesu, yr hwn pan oedd yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfu­wch â Duw: eithr efe a'i dyddymmodd ei hûn, gan gymmeryd arno agwedd gwâs, a'i wneu­thur yn gyffelyb i ddynion, a'i gael yn ei ddull fel dŷn. Ef a ymostyngodd gan fôd yn vfydd i angeu, sef angeu y groes. O herwydd pa ham Duw a'i tra­derchafodd yntef, ac a roddes iddo enw, yr hwn sydd goruwch pob enw. Fel y bydde yn enw 'r Iesu i bôb glin blygu yn gystal nefolion, daearolion, a than­ddaearolion bethau: ac i bob tafod gyffesu mai Iesu Ghrist yw 'r Arglwydd, er gogoniant Duw Tâd.

Yr Efengyl.

Mat. 26.1. AC fe a ddarfu wedi i'r Iesu orphen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblon, chwi a ŵyddoch mai wedi dau-ddydd y mae [Page] 'r Pâsc, a Mâb y dŷn a draddodir i'w groes-hoelio. Yna y casclwyd yr Arch-offeiriaid, a'r Scrifenny­ddion, a henuriaid y bobl i neuadd yr Arch-offeiriad, yr hwn a elwid Caiphas. Ac hwy a gyd-ymgyng­horasant pa fodd y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. Eithr hwy a ddywedasant, nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ym-mhlith y bobl. Ac fel yr oedd yr Iesu yn Bethania, yn-nhŷ Simon wa­han-glwyfus, fe ddaeth atto wraig a chŷd â hi flŵch o ennaint gwerth-fawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford. A phan we­lodd ei ddiscyblon, hwy a lidiasant, gan ddywedyd, pa raid yr afrad hyn? Canys fe a allesid gwerthu yr ennaint hwn er llawer, a'i roddi i'r tlodion. A'r Iesu a ŵybu, ac a ddywedodd wrthynt, pa ham yr ydych yn gwneuthur blinder i'r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf. Obegid y tlodi­on a gewch bob amser gŷd â chwi, a mi ni's cewch bob amser. Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy-nghorph, a wnaeth hyn i'm claddu i. Yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl hon yn yr holl fŷd, hyn ymma hefyd a wnaeth hi a fynegir, er coffa amdani hi. Yna 'r aeth vn o'r deu­ddeg, yr hwn a elwid Iudas Iscariot at yr Arch-o­ffeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, pa beth a ro­ddwch i mi, a mi a'i traddodaf ef i chwi? ac hwy a dalasant iddo ddêg ar hugain o arian. Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i'w fradychu ef. Ac ar y dŷdd cyntaf o ŵyl y bara croyw, ei ddiscy­blon a ddaethant at yr Iesu gan ddywedyd wrtho, pa le y mynni i ni barottoi i ti fwytta 'r Pâsc? Ac yntef a ddywedodd, ewch i'r ddinas at y cyfryw vn, a dywedwch wrtho, y mae 'r Athro yn dy­wedyd, fy amser sydd agos, gŷd â thi y cynhaliaf y Pâsc, mi a'm discyblon. A'r discyblon a wnae­thant [Page] y modd y gorchymmynnase yr Iesu iddynt, ac a barottoesant y Pâsc. Ac wedi ei myned hi yn hwyr, ef a eisteddodd gŷd â'r deuddeg. Ac fel yr oeddynt yn bwytta, ef a ddywedodd, yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, y bradycha vn o honoch fi. Yna 'r aethant yn drist dros ben, ac a ddechreu­asant bob vn ddywedyd wrtho: ai my-fi, Arglw­ydd, yw hwnnw? Ac ef a attebodd, ac a ddy­wedodd, yr hwn sydd yn trochi ei law gŷd â mi yn y ddyscl, hwnnw a'm bradycha i. Mâb y dŷn yn ddiau sydd yn myned fel y mae yn scrifennedig am dano, eithr gwae 'r dŷn hwnnw trwy 'r hwn y bradychir Mâb y dŷn: da fuase i'r dŷn hwnnw pe na's ganesid. Ac Iudas, yr hwn a'i bradychodd ef, a attebodd, ac a ddywedodd, ai my-fi yw efe, Athro? Yntef a ddywedodd wrtho, ti a ddywedaist. Ac fel yr oeddynt yn bwytta, yr Iesu wedi iddo gym­meryd bara a bendigo, a'i torrodd, ac a'i rhoddes i'r discyblon, ac a ddywedodd, cymmerwch, bwytte­wch, hwn yw fy-nghorph. Ac wedi iddo gymme­ryd y cwppan a diolch, ef a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, yfwch bawb o hwn. Canys hwn yw fy-ngwaed o'r Testament newydd, yr hwn a dyw­elltir tros lawer er maddeuant pechodau. Ac yr yd­wyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrw­yth y win-wydden, hyd y dŷdd hwnnw, pan yfwyf ef yn newydd gŷd â chwi yn-nheyrnas fy-Nhâd. Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fy­nydd yr Olewydd. Yna y dywedodd yr Iesu wrth­ynt, chwy-chwi oll a rwystrir heno o'm plegid i: canys scrifennedig yw, Tarawaf y bugail, a de­faid y praidd a wascerir. Eithr wedi fy adgyfodi, mi a âf o'ch blaen chwi i Galilêa. A Phetr a atte­bodd, ac a ddywedodd wrtho, pe rhwystrid pawb o'th blegid ti, etto ni'm rhwystrir i bŷth. Yr Iesu [Page] a ddywedodd wrtho, yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai 'r nos hon cyn canu 'r ceiliog i'm gwedi dair­gwaith. Petr a ddywedodd wrtho, pe gorfydde i mi farw gŷd â thi, ni'th wadaf ddim: a'r vn môdd hefyd y dywedodd yr holl ddiscyblon. Yna y daeth yr Iesu gŷd ag hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddy­wedodd wrth ei ddiscyblon, eisteddwch ymma tra 'r elwyf a gweddio accw. Ac efe a gymmerth atto Petr, a dau fâb Zebedeus, ac a ddechreuodd dristau, ac ym­ofidio. Yna efe a ddywedodd wrthynt, athrist yw fy enaid hyd angeu, arhoswch ymma, a gwiliwch gŷd â mi. Ac efe a aeth ychydig pellach, ac a syrthiodd ar ei ŵyneb, ac a weddiodd, gan ddywedyd, fy Nhâd, os gellir aed y cwppan hwn oddiwrthyf, er hynny, nid fel yr ewyllysiwyf fi, ond fel yr ewyllysiech di. Ac ef a ddaeth at ei ddiscyblon, ac a'u cafas hwy yn cy­scu, ac efe a ddywedodd wrth Petr: felly oni all­ech chwi wilied vn awr gŷd â mi? Gwiliwch, a gweddiwch rhag eich myned mewn temtasiwn, yr yspryd yn ddiau sydd barod, eithr y cnawd sydd wann. Efe a aeth trachefn, ac a weddiodd, gan ddywedyd, fy-Nhâd oni's gall y cwppan hwn fy­ned oddiwrthif, heb orfod i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys. Ac ef a ddaeth, ac a'u cafas hwy yn cyscu trachefn, canys eu llygaid hwy oeddynt drymion. Ac ef a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith trach­efn, ac a weddiodd y drydedd waith, gan ddywe­dyd yr vn geiriau. Yna y daeth efe at ei ddiscyblon, ac a ddywedodd wrthynt, cyscwch bellach a gor­phywyswch: wele, y mae 'r awr wedi dyfod yn a­gos, a Mâb y dŷn a draddodir yn-nwylo pechadu­riaid. Codwch, awn, wele, y mae ger llaw yr hwn a'm bradycha. Ac efe etto yn dywedyd hyn, wele, Iudas vn o'r deuddeg a ddaeth, a thyrfa fawr gŷd ag ef, â chleddyfau, a ffynn oddiwrth yr [Page] Arch-offeiriaid, a henuriaid y bobl. A'r hwn a'i bradychodd ef a roese arwydd iddynt, gan ddywedyd, pa vn bynnag a gusanwyf, hwnnw yw, deliwch ef. Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henphych well, Athro, ac a'i cusanodd ef. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a'i daliasant ef. Ac wele, vn o'r rhai oedd gŷd â'r Ie­su a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ei glûst ef. Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, dôd dy gle­ddyf drachefn yn ei le, canys pawb o'r a gymmerant gleddyf, a ddyfethir â chleddyf. A ydwyt ti yn tybi­eid na's gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy-Nhâd fel y rhodde efe fwy nâ deu-ddeg lleng o angelion i mi? Pa fodd yntef y cyflawnir yr scrythyrau, y rhai a ddywedant mai felly y gorfydd bôd? Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y dyrfa, chwi a ddaethoch allan megis at leidr â chleddyfau, a ffynn im dala i: yr oeddwn beunydd yn eistedd gŷd â chwi, ac yn dyscu yn y Deml, ac ni'm daliasoch. A hyn oll a wnaethpwyd er cyflawni scrythyrau y prophwydi. Yna 'r holl ddiscyblon a'i gadawsant ef, ac a ffoasant. Hwythau a ddaliasant yr Iesu, ac a aethant ag ef at Caiphas yr Arch-offeiriad lle 'r o­edd yr Scrifennyddion, a'r henuriaid wedi ymga­sclu ynghŷd. A Phetr a'i canlynodd ef o hir-bell hyd yn neuadd yr Arch-offeiriad, ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gŷd â'r gweision i weled y diwedd. A'r arch-offeiriaid, a'r henuriaid, a'r holl gynghor a gei­siasant gau-dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i'w roddi ef i farwolaeth: ac ni's cawsant: iê er dyfod yno gau-dystion lawer, ni chawsant: eithr o'r diwedd fe a ddaeth dau gau-dŷst, ac a ddywedasant, hwn a ddywedodd, mi a allaf ddistrywio Teml Dduw, a'i [Page] hadeiladu mewn tri diwrnod. A chyfododd yr Arch-offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, a attebi di ddim? Pa beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn di? A'r Iesu a dawodd. Yna 'r attebodd yr Arch-offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy 'r Duw byw, ddywedyd o ho­not i ni os ty-di yw Christ Mâb Duw. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, ar ôl hyn y gwelwch Fâb y dŷn yn eistedd ar ddeheu-law gallu Duw, ac yn dyfod yn wybrennau 'r nêf. Yna y rhwygodd yr Arch-offeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, ef a gablodd: pa raid i ni mwyach wrth dystion, wele clywsoch yr awrhon ei gabledd ef. Beth dybygwch chwi? hwythau gan atteb a ddywedasant, y mae efe yn euog i farwolaeth. Yna y poerasant yn ei ŵyneb, ac a'i bonclustiasant, eraill a'i cernodiasant ef, gan ddywedyd, prophwyda i ni, ô Christ, pwy yw 'r hwn a'th darawodd? A Phetr oedd yn eistedd allan yn y neuadd, a daeth rhyw for­wyn atto, ac a ddywedodd, yr oeddit tithe gŷd a'r Ie­su o Galilea. Ac ef a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, ni's gwn beth yr wyt yn ei ddywe­dyd. A phan aeth efe allan i'r porth gwelodd mor­wyn arall ef, a hi a ddywedodd wrth y rhai oeddynt yno, yr oedd hwn hefyd gŷd â'r Iesu o Nazareth. A thrachefn ef a wadodd, gan dyngu, nid adwen i y dŷn. Ac ychydig wedi hynny y daeth atto y rhai oe­ddynt yn sefyll gar llaw, ac a ddywedasant wrth Petr, yn wir yr wyt ti yn vn o honynt, canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo. Yna y dechreuodd efe ymregu a thyngu, gan ddywedyd, nid adwen i y dŷn, ac yn y man y canodd y ceiliog. A Phetr a go­fiodd eiriau 'r Iesu yr hwn a ddywedase wrtho, cyn canu 'r ceiliog, ti a'm gwedi dair-gwaith. Ac ef aeth allan,Mat. 27. ac a ŵylodd yn chwerw-dôst. A phan ddaeth y [Page] boreu cyd-ymgynghorodd yr holl arch-offeiriaid, a henuriaid y bobl yn erbyn yr Iesu fel y rhoddent ef i farwolaeth. Ac hwy a aethant ymmaith ag ef yn rhwym, ac a'i rhoesant at Pontius Pilatus y rha­glaw. Yna pan weles Iudas, yr hwn a'i brady­chodd ef, fyned barn yn ei erbyn ef, fe a fu edifar ganddo, ac a ddûg trachefn y dêg ar hugain arian i'r arch-offeiriaid, a'r henuriaid, gan ddywedyd, pe­chais gan fradychu gwaed gwirion: hwythau a ddywedasant, pa beth yw hynny i ni? edrych di. Ac wedi iddo daflu 'r arian yn y Deml, ef a ymadaw­odd, ac a aeth, ac a ymgrogodd. A'r Arch-offeiriaid a gymmerasant yr arian, ac a ddywedasant, nid cy­freithlon eu bwrw hwynt yn y trysor-dŷ, canys gwerth gwaed ydyw. Ac wedi iddynt ymgynghori, hwy a brynasant ag hwynt faes y crochenydd yn gladdfa dieithreid. Am hynny y galwyd y maes hwnnw, maes y gwaed, hyd heddyw. (Yna y cy­flawnwyd yr hyn a ddywetpwyd trwy Ieremias y prophwyd, gan ddywedyd, ac hwy a gymmerasant y dêg ar hugain o arian, gwerth y gwerthedig yr hwn a brynnasant gan feibion Israel: ac a'u rhoe­sant am faes y crochenydd, megis y gosodes yr Ar­glwydd i mi.) A'r Iesu a safodd gar bron y rha­glaw, a'r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, a'i ti yw brenhin yr Iddewon? a'r Iesu a ddywe­dodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. A phan gyhudd­wyd ef gan yr arch-offeiriaid, a'r henuriaid, nid atte­bodd ef ddim. Yna y dywedodd Pilatus wrtho, oni chlywi faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolae­thu yn dy erbyn? Ac nid attebodd efe iddo i vn gair, fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr. Ac ar yr ŵyl honno yr arfere y rhaglaw ollwng yn rhŷdd i'r bobl vn carcharor, yr hwn a fynnent. Yna 'r oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas. [Page] Wedi yddynt gan hynny ymgasclu ynghŷd, Pilatus a ddywedodd wrthynt, pa vn a fynnwch i mi ei oll­wng yn rhŷdd i chwi? Barabbas, ai 'r Iesu yr hwn a elwir Christ? Canys ef a ŵydde mai o genfigen y traddodasent ef. Ac efe yn eistedd ar yr orseddfaingc, ei wraig a ddanfonodd atto gan ddywedyd, na fydd­ed i ti ddim a wnelech â'r cyfiawn hwnnw, canys goddefais lawer heddyw mewn breuddwydion o'i achos ef. A'r arch-offeiriaid, a'r henuriaid a berswa­diasant y bobl i ofyn Barabbas, a dyfetha 'r Iesu. A'r rhaglaw a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, pa vn o'r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwythau a ddywedasant, Barabbas. Pila­tus a ddywedodd wrthynt, pa beth gāhynny a wnâf i Iesu 'r hwn a elwir Christ? hwy oll a ddywedasant wrtho, croes-hoelier ef. Yna y dywedodd y rhaglaw, ond pa ddrŵg a wnaeth efe? hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, croes-hoelier ef. Pan welodd Pilatus na thyccie dim, ond bôd y cynnwrf yn codi yn fwy, ef a gymerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo gar bron y bobl, gan ddywedyd, dieuog ydwyf fi oddi­wrth waed y cyfiawn hwn, edrychwch chwi. A'r holl bobl a attebodd, ac a ddywedodd, bydded ei wa­ed ef arnom ni, ac ar ein plant. Yna y gollyngodd ef Barabbas yn rhŷdd iddynt, ac ef a fflangellodd yr Iesu, ac a'i traddodes i'w groes-hoelio. Yna milwyr y rhaglaw a gymmerasant yr Iesu i'r dadleu-dŷ, ac a gynhullasant atto yr holl fyddin. Ac hwy a'i dios­casant, ac a roesant amdano fantell o scarlad, ac a blethasant goron o ddrain, ac a'i dodasant ar ei ben, a chorsen yn ei law-ddeheu, ac a blygasant en gliniau gar ei fron ef, ac a'i gwatwarasant, gan ddywedyd, henphych well, Brenhin yr Iddewon. Ac hwy a bo­erasant arno, ac a gymmerasant gorsen, ac a'i taraw­sant ar ei ben. Ac wedi iddynt ei watwar hwy a'i [Page] dioscasant ef o'r fantell, ac a'i gwiscasant ef â'i ddi­llad ei hun, ac a aethant ag ef i'w groes-hoelio. Ac fel yr oeddynt yn myned allan hwy a gawsant ddŷn o Cyren, a elwid Simon, hwn a gymmhellasant hwy i ddwyn ei groes ef. A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn yw y Benglogfa, hwy a roesant iddo i'w yfed finegr yn gymmyscedig â bustl: ac we­di iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed. Ac wedi iddynt ei groes-hoelio ef, hwy a rannasant ei ddillad, ac a fwri­asant goel-brennau, er cyflawni y peth a ddywed­pwyd trwy'r prophwyd, Hwy a rannasant fy-nillad yn eû plith, ac ar fy-ngwisc y bwriasant goel-bren­nau. Ac hwy a eisteddasant, ac a'i gwiliasant ef yno. Ac hwy a osodasant vwch ei ben ef ei achos yn scri­fennedig, HWN YW IESV BRENIN YR IDDEWON. Yna y croes-hoeliwyd dau leidr gŷ'd ag ef, vn ar y llaw ddehau, ac arall ar yr asswy. A'r rhai oeddynt yn myned heibio a'i cablasant ef gan yscwyd eu pennau, a dywedyd, Ti'r hwn a ddistry­wi'r Deml, ac a'i hadeiledi mewn tri-diau, cadw dy hun, os ti yw Mâb Duw, descyn oddiar y groes. A'r vn modd yr arch-offeiriaid a'i gwatwarasant ef gŷd â 'r scrifennyddion, a'r henuriaid, ac a ddywedasant, Ef a achubodd eraill, ni's gall ef ei achub ei hun: os Brenhin Israel yw efe, descynned yr awr hon oddiar y groes, ac ni a gredwn iddo. Ef a ymddiriedodd yn-Nuw, rhyddaed efe ef yr awr hon os myn efe ef: ca­nys ef a ddywedodd, Mâb Duw ydwyf. Yr vn peth hefyd a edliwiodd y lladron, y rhai a grogasid gŷd ag ef, iddo ef. Ac o'r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear, hyd y nawfed awr. Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llêf vchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lamma sabachthani? hynny yw, fy-Nuw, fy-Nuw, pa ham i'm gadewaist? A rhai o'r sawl oeddynt yn sefyll yno, pan glywsant, a [Page] ddywedasant, y mae hwn yn galw ar Elias. Ac yn y fan vn o honynt a redodd, ac a gymmerth yspwrn, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i dodes ar gorsen, ac a'i rhoes iddo i'w yfed. A'r llaill a ddywedasant, gâd ti iddo: edrychwn a ddaw Elias i'w waredu. Yna y llefodd yr Iesu trachefn â llêf vchel, ac a ymadawodd â'r yspryd. Ac wele, llen y deml a rwy­gwyd yn ddau, o'r cwr vchaf hyd yr isaf, a'r ddaear a grynodd, a'r main a holltwyd. A'r beddau a yma­gorasant, a llawer o gyrph y sainct, y rhai a huna­sent, a gyfodasant, ac a ddaethant allan o'r beddau ar ol ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer. Pan we­lodd y Canwriad, a'r rhai oeddynt gŷd ag ef yn gwi­lied yr Iesu, y ddaear-gryn, a'r pethau a wnaethid, hwy a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, yn wir Mâb Duw ydoedd hwn. Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hir-bell, y rhai a ganlyna­sent yr Iesu o'r Galilaea, gan weini iddo ef. Ym­mhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iaco, ac Ioses, a mam meibion Zebedeus.

Dydd Llûn nesaf o flaen y Pâsc.

Yr Epistol.

Esay 63.1. PWy yw hwn yn dyfod o Edom, yn gôch ei ddillad o Bozra? hwn sydd hardd yn ei wisc, yn ymdaith yn amlder ei rym? myfi yr hwn a lefaraf mewn cyfia wn­der, ac ydwyf gadarn i iachâu. Pa ham yr ydwyt yn gôch dy ddillad, a'th wiscoedd fel yr hwn a sathre mewn gwin-wrŷf? Sethrais y gwin­wrŷf fy hunan, ac o'r bobl nid oedd vn gŷd â mi, am hynny y sathraf hwynt yn fy nîg, ac y mathraf hw­ynt yn fy llidiawgrwydd, a'u gwaed hwynt a dae­nillir ar fy nillad, a'm holl wiscoedd, alychwinaf. [Page] Canys dŷdd dial wrth fodd fy-nghalon a blwyddyn fy-ngwaredigion a ddaeth. Canys edrychais hefyd, ac nid oedd gynnhorthwyudd, rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr, yna fy mraich a'm hachubodd, a'm llidiowgrwydd a'm cynhaliodd. felly y sathraf bobl yn fy-nîg, ac y meddwaf hwynt yn fy llidiaw­grwydd: a'u goruwchafiaeth a ddescynnaf i'r llawr. Coffâf drugaredd yr Arglwydd, a moliant Duw, megis am yr hyn oll a dalodd Duw i ni, ac amlder llesâd tŷ Israel, yr hyn a dalodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau, ac yn ôl amlder ei drugareddau. Ac efe a ddywedodd, diau fy mhobl i ydynt hwy, meibion ni ddywedant gelwydd, ac efe a aeth yn iachawdur iddynt. Yn eu holl gystudd hwynt nid oedd cystudd, ac Angel ei gydrycholdeb a'u hachubodd hwynt, er mwyn ei gariad, ac er mwyn ei drugaredd y gwa­redodd efe hwynt: efe a'u cludodd hwynt, ac a'u har­weiniodd bob amser. A hwythau oeddynt wrth-ry­fel-gar, ac a ofidiasant ei Yspryd sanctaidd ef, fel y trôdd efe yn elyn iddynt, ac yr ymladdodd efe yn eu herbyn hwynt. Yna y cofiodd Israel ddyddiau Mo­ses gynt, a'i bobl, gan ddywedyd, mae'r hwn a'u dy­godd hwynt i fynu o'r môr gŷd â bugeiliaid ei braidd? mae'r hwn a osododd ei Yspryd sanctaidd o'i fewn ef? Yr hwn a'u tywysodd hwynt â deheu-law Mo­ses, ac a'i ogoneddus fraich, gan hollti y dyfroedd o'u blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun enw tra­gywyddol, gan eu harwain hwynt trwy y dyfnde­rau, fel march yn yr ynialwch heb dramgwyddo o honynt. fel y descyn anifail i'r dyffryn y gwnaiff Y­spryd yr Arglwydd iddo orphwys: felly y tywysaist dy bobl, i wneuthur i't enw gogoneddus. Edrych o'r nefoedd, a gwêl, sef o annedd dy sancteiddrwydd, a'th ogoniant: mae dy zêl, a'th gadernid, lluosogrw­ydd dy dosturiaethau, a'th drugareddau? hwynt a [Page] ymattaliasant oddiwrthif? Canys ti yw ein tâd ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na'n cydnebydd Is­rael, ti Arglwydd fyddi dâd i ni, a'n gwaredudd: dy enw sydd erioed. Pa ham Arglwydd y gwnaethost i ni gyfeiliorni o'th ffyrdd? ac y caledaist ein calon­nau oddiwrth dy ofn? dychwel er mwyn dy weisi­on, sef llwythau dy etifeddiaeth. Tros ychydig en­nyd y meddiannodd dy bobl sanctaidd dy gyssegr, ein gwrthwyneb-wŷr a fathrasant dy gyssegr di. Ny-ni oeddem eiddot ti erioed, pryd nad oeddit ti yn arglwyddiaethu arnynt hwy, ac na elwid dy enw arnynt.

Yr Efengyl.

Marc. 14.1. WEdi deu-ddydd yr oedd y Pâsc, a gŵyl y bara croyw: a'r arch-offeiri­aid, a'r scrifennyddion a geisiasant pa ffordd y dalient ef trwy dwyll, ac y rhoddent ef i farwolaeth. Eithr dywedasant, nid ar yr ŵyl, rhag bôd cynnwrf ym-mhlith y bobl. A phan oedd efe yn Bethania yn-nhŷ Simon y gwahan-glwyfus, ac efe yn eistedd i fwyta, daeth gwraig a chanddi flŵth o ennaint o spicnard gwerth-fawr, a hi a dorrodd y blŵch, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef. Ac yr oedd rhai yn anfoddlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, i ba beth y gwnaed y golled hon ar yr ennaint? O ble­gid fe a allesid gwerthu hwn vwch law trychan cei­niog, a'i roddi i'r tlodion, a hwy a ffrommasant wr­thi hi. A'r Iesu a ddywedodd, gedwch iddi, pa ham yr ydych yn peri blinder iddi hi? hi a weithiodd wei­thred dda arnaf fi: canys bob amser y cewch y tlo­dion gŷd â chwi, a phan fynnoch y gellwch wneu­thur da iddynt: ond my-fi ni chewch bob amser. Hon a wnaeth hyn a allodd, hi a enneiniodd fy-ng­horph [Page] ym-mlaenllaw erbyn y claddedigaeth. Yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adro­ddir er coffa amdani. A Iudas Iscariot vn o'r deu­ddeg a aeth ymmaith at yr arch-offeiriaid i'w frady­chu ef iddynt. A phan glywsant hyn, llawen oedd ganddynt, ac hwy a addawsant roddi arian iddo: yn­tef a geisiodd pa fodd y bradyche ef mewn amser cym­mwys. A'r dŷdd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan la­ddent y Pâsc, dywedodd ei ddiscyblon wrtho: i ba le yr wyt yn ewyllysio i ni fyned i barottoi i ti fwyta 'r Pâsc? Ac ef a anfonodd ddau o'i ddiscyblon, ac a ddy­wedodd wrthynt, ewch i'r ddinas, a chyferfydd dŷn a chwi yn dwyn steneid o ddwfr, dylynwch ef: a pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ, fôd yr Athro yn dywedyd, Pa le y mae y lletŷfa, lle y ga­llwyf gŷd â'm discyblon fwytta 'r Pâsc? Ac ef a ddengys i chwi oruwchstafell fawr wedi ei thanu, ac yn barod, yno parotowch i ni. A'i ddiscyblon a aeth­ant ymmaith ac a ddaethant i'r ddinas, ac a gaw­sant megis y dywedase ef ŵrthynt, ac a barottoasant y Pâsc. A phan aeth hi yn hwyr ef a ddaeth gŷd â'r deu-ddeg. Ac fel yr oeddynt yn eistedd wrth y ford, ac yn bwytta, dywedodd yr Iesu, yn wîr meddaf i chwi, vn o honoch a'm bradycha i, yr hwn sydd yn bwytta gŷd â mi. Hwythau a ddechreuasant dri­stau, a dywedyd wrtho bob yn vn: ai my-fi? ac arall, ai my-fi? Ac ef a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, vn o'r deu-ddeg, yr hwn sydd yn trochi gyd â mi yn y ddyscl yw efe. Mâb y dŷn yn wîrsydd yn myned fel y mae yn scrifennedig am dano, ond gwae 'r dŷn hwnnw trwy 'r hwn y bradychir Mâb y dŷn, da fuase i'r dŷn hwnnw pe na's genesid. Ac fel yr oe­ddynt yn bwytta, yr Iesu wedi iddo gymmeryd ba­ra, a bendigo, a'i torres, ac a'i rhoddes iddynt, ac a [Page] ddywedodd, cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fy-nghorph. Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoi diolch, ef a'i rhoddes iddynt, ac hwynt oll a yfasant o honaw. Ac ef a ddywedodd wrthynt, hwn yw fy-ngwaed o'r Testament newydd, yr hwn a dywelltir tros lawer. Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwyach o ffrwyth y win-wy­dden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef yn newydd yn-Nheyrnas Dduw. Ac wedi iddynt ganu ma­wl hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd. A dy­wedodd yr Iesu wrthynt, chwy-chwi oll a rwystrir o'm hachos i y nôs hon. Canys scrifennedig yw, Tarawaf y bugail, a'r defaid a wascerir. Eithr we­di i mi adgyfodi mi a âf o'ch blaen chwi i Galilaea. A Phetr a ddywedodd wrtho, pe rhwystrid pawb, etto ni rwystrir fi. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti: heddyw, o fewn y nôs hon, cyn canu o'r ceiliog ddwy-waith, y gw­edi fi deir-gwaith. Ac ef a ddywedodd yn gadar­nach o lawer, pe gorfydde i mi farw gŷd â thi ni 'th wadaf. Yr vn modd hefyd y dywedasant oll. Ac hwy a ddaethant i le yr hwn y mae ei enw Geth­semane, ac ef a ddywedodd wrth ei ddiscyblon, ei­steddwch ymma tra fyddwyf yn gweddio. Ac ef a gymmerth gŷd ag ef Betr, ac Iaco, ac Ioan, ac a ddechreuodd frawychu ac ymofidio. Ac ef a ddywe­dodd wrthynt, y mae fy enaid yn athrist hyd an­geu, arhoswch ymma, a gwiliwch. Ac ef a aeth ychydig pellach, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddiodd, o bai bossibl ar fyned yr awr honno o­ddiwrtho. Ac ef a ddywedodd, Abba, Dâd, pob peth a elli di, tro ymmaith y cwppan hwn oddi­wrthif, er hynny nid fel yr ewyllysiwyf si, ond fel yr ewyllysiech di. Ac ef a ddaeth, ac a'u cafodd [Page] hwynt yn cyscu, ac a ddywedodd wrth Petr: Si­mon, ai cyscu 'r wyt? oni allit wilio vn awr? Gwi­liwch, a gweddiwch, rhag eich myned mewn temtasiwn: yr Yspryd yn ddiau sydd barod, eithr y cnawd sydd wann. Ac wedi iddo fyned ymma­ith drachefn, ef a weddiodd, gan ddywedyd yr vn ymadrodd. Ac wedi iddo ddychwylyd, ef a'u cafodd hwynt yn cyscu drachefn, (canys yr oedd eu lly­gaid hwynt yn drymion) ac ni ŵyddent beth a at­tebent iddo. Ac ef a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, cyscwch weithian, a gorphy­wyswch: digon yw: daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mâb y dŷn i ddwylo pechaduriaid. Cyfodwch, awn: wele, y mae 'r hwn sydd yn fy mradychu yn agos. Ac yn y man, ac efe etto yn llefaru, daeth Iudas, yr hwn oedd vn o'r deu-ddeg, a chŷd ag ef dyrfa fawr, â chleddyfau, a ffynn oddi­wrth yr Arch-offeiriaid, a'r scrifennyddion, a'r henuriaid. A'r hwn a'i bradychodd ef a roddase arwydd iddynt, gan ddywedyd, pwy bynnag a gu­san wyf, hwnnw yw, deliwch ef, a dygwch ymma­ith yn siccr. A phan ddaeth, yn ebrwydd ef a aeth atto, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi, ac a'i cusa­nodd ef. Hwythau a roesant eu dwylo arno, ac a'i daliasant. A rhyw vn o'r rhai oeddynt yn sefyll gar llaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glust ef. A 'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, chwi a ddaethoch allan fel at leidr, â chleddyfau, ac â ffynn i'm dala i. Beunydd yr oeddwn gŷd â chwi yn athrawiaethu yn y Deml, ac ni'm da­liasoch, ond er cyflawni 'r scrythyrau y mae hyn. Yna hwynt-hwy oll a'i gadawsant ef, ac a flo­esant. A rhyw ŵr ieuangc oedd yn ei ddylyn ef, [Page] wedi ymwisco â lliain main ar ei gorph noeth, a'r gwŷr ieuaingc a'i daliasant ef. Yr hwn a adawodd y lliain, ac a ddiangodd yn noeth o ddiwrthynt. Ac hwy a ddugasant yr Iesu at yr Arch-offeiriad: a'r holl arch-offeiriaid, a'r henuriaid, a'r scrifennyddi­on a ymgasclasant gŷd ag ef. Petr hefyd a'i dylynodd ef o hir-bell, oni ddaeth ef i mewn i neuadd yr Arch­offeiriad, ac yr oedd yn eistedd gŷd â'r gwasanaeth­wŷr, ac yn ymdwymno wrth y tân. A'r arch­offeiriaid, a'r holl gyngor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i'w roi ef i farwolaeth, ac ni chaw­sant. Canys llawer a ddugasant gau-dystiolaeth yn ei erbyn ef, eithr nid oedd eu tystiolaethau hwynt yn gysson. Rhai hefyd a gyfodasant, ac a dduga­sant gau-dystiolaeth yn ei erbyn ef, gan ddywedyd: Ni a'i clywsom ef yn dywedyd, mi a ddinistriaf y Deml hon o waith dwylo, ac mewn tri-diau mi a a­deiladaf arall heb fôd o waith llaw. Ac etto nid oedd eu tystiolaeth hwynt gysson. Yna y cyfododd yr Arch­offeiriad i'r canol, ac a ofynnodd i'r Iesu, gan ddy­wedyd, Ond attebi di ddim? beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? Yntef a dawodd, ac nid attebodd ddim. Trachefn yr Arch-offeiriad a o­fynnodd iddo, ac a ddywedodd wrtho: ai ty-di yw Christ Mâb y Bendigedig. A'r Iesu a ddywedodd, my-fi yw, a chwi a gewch weled Mâb y dŷn yn ei­stedd ar ddeheu-law gallu Duw, ac yn dyfod yng­hymmylau'r nêf. Yna'r Arcch-offeiriad gan rwygo ei ddillad a ddywedodd: pa raid i ni mwyach wrth dy­stion? Chwi a glywsoch ei gabledd ef; beth dybygwch chwi? hwythau oll a'i condemnasant ef i fôd yn euog o farwolaeth. Yna dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei ŵyneb, a'i fonclustio a dywedyd wrtho, Prophwyda. A'r swyddogion a'i cernodiasant. Ac fel yr oedd Petr yn y neuadd i wared, daeth vn o forwy­nion [Page] yr Arch-offeiriad: a phan ganfu hi Petr yn ym­dwymno, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Tithe hefyd oeddit gŷd â'r Iesu o Nazareth. Ac ef a wad­odd, gan ddywedyd, nid adwen i ef, ac ni wn beth yr wyt ti yn ei ddywedyd. Ac ef a aeth allan i'r porth, a'r ceiliog a ganodd. A phan welodd y forwyn ef drach­efn, hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oeddynt yn sefyll yno, y mae hwn o honynt. Ac ef a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oeddynt yn sefyll gar llaw a ddywedasant wrth Betr drachefn, yn wir yr wyt o honynt, canys Galileâd wyt, a'th leferydd sydd debyg. Yntef a ddechreuodd regu, a thyngu, nid adwen i y dŷn hwn, yr hwn yr ydych yn ei ddywedyd. Yna y canodd y ceiliog eilchwyl: a Phetr a gofiodd y gair a ddywedase yr Iesu wrtho, cyn canu o'r ceiliog ddwy-waith, ti a'm gwedi deirgwaith. A chan ruthro allan ef a ŵylodd.

Dydd mawrth nesaf o flaen y Pâsc.

Yr Epistol.

Esa. 50.5. YR Arglwydd Dduw a agorodd fy-gnhlust, a minne ni wrthwynebais, ac ni chiliais yn fy ôl. Fy-nghorph a roddais i'r cur-wŷr, a'm cernau i'r cernod-wŷr, ni chuddiais fy ŵyneb addiwrth wradwydd, a phoeredd. O her­wydd yr Arglwydd Dduw a'm cymmorth, am hyn­ny ni'm cywilyddiwyd, am hynny gosodais fy ŵyneb fel callestr am y gŵyddwn na'm cywilyddid. Agos yw 'r hwn a'm cyfiawnhâ, pwy a ymryson â mi? saf­wn ynghŷd, pwy a ymgyfreithia â mi? nessaed attaf. Wele 'r Arglwydd Dduw a'm cynnhorthwya, a phwy yw 'r hwn a'm anghyfiawnhâ? wele hwynt oll a heneiddiāt fel dilledyn, gŵyfyn a'u hyssa hwynt. Pwy yn eich mŷsc sydd yn ofni 'r Arglwydd? gwran­dawed lais ei wâs ef, yr hwn a rodiodd mewn tywy­llwch, [Page] ac heb lewyrch iddo, gobeithed yn enw 'r Ar­glwydd, ac ymddirieded yn ei Dduw. Wele chwi oll yn cynneu tân, ac yn ymwregysu â gwreichion: rhodiwch wrth lewyrch eich tân, ac wrth y gwreich­ion a gynneuasoch, o'm llaw i y mae hyn i chwi, mewn gofid y gorweddwch.

Yr Efengyl.

Mar. 15.1. AC yn y man y boreu ymgynghorodd yr arch-offeiriaid gŷd â 'r henuriaid, a'r scrifennyddion, a'r holl seneddr, ac wedi iddynt rwymo 'r Iesu, hwy a'i dugasant, ac a'i traddodasant i Pilatus. A gofynn­odd Pilatus iddo, ai ti wyt frenhin yr Iuddewon? Yntef gan atteb a ddywedodd wrtho, yr wyt ti yn dywedyd. A'r arch-offeiriaid a achwynasant arno ef am lawer o bethau. A Philatus drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, ond attebi di ddim? wele gymm­aint y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn. A'r Ie­su er hynny nid attebodd ddim, megis y rhyfeddodd Pilatus. Ac ar yr ŵyl honno y gollynge ef yn rhŷdd iddynt vn carcharor, yr hwn a ofynnent. Ac ydd oedd vn a elwid Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gŷd â'i gyd-terfysc-wyr, y rhai yn y derfysc a wnaeth­ent lofruddiaeth. A'r dyrfa gan lefain a ddechreu­odd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethe bob am­ser iddynt. Pilatus a attebodd iddynt, gan ddywe­dyd: a fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi frenhin yr Iddewon? (Canys ef a ŵydde mai o gen­figen y traddodase yr arch-offeiriaid ef) A'r arch-off­eiriaid a annogasent y bobl i geisio yn hytrach oll­wng o hono ef Barabbas yn rhydd iddynt. Yna Pi­latus gan atteb a ddywedodd drachefn wrthynt: beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthyd i 'r hwn yr ydych yn ei alw brenhin yr Iddewon? Hwy­thau [Page] a lefasant trachefn, croes-hoelia ef. Yna Pila­tus a ddywedodd wrthynt: ond pa ddrŵg a wnaeth efe? Hwythau a lefasont fwy-fwy croes-hoelia ef. A Philatus yn chwennych bodloni 'r bobl a ollyngodd yn rhŷdd iddynt Barabbas, ac a draddododd yr Iesu wedi iddo ei fflangellu i'w groes-hoelio. A'r milwyr a'i dugasant ef ymmaith i fewn y llŷs, yr hwn yw 'r dadleu-dŷ, ac hwy a alwasant ynghŷd yr holl fyddin: ac a'i gwiscasant ef â phorphor, ac wedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a'i dodasant am ei ben, ac a ddechreuasant gyfarch iddo: Hanphych well, Bren­hin yr Iddewon. A hwynt a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu glin­iau i lawr a'i haddolasant ef. Ac wedi iddynt ei wa­twar ef, hwy a ddioscasant y porphor oddi am dano, ac a'i gwiscasant ef â'i ddillad ei hun, ac a'i duga­sant allan fel y croes-hoelient ef. Hefyd hwy a gymm­hellasant vn Simon o Cyren, yr hwn oedd yn myn­ed heibio, fel yr oedd efe yn dyfod o'r maes (tâd Alex­ander a Rufus) i ddwyn ei groes ef. Ac hwynt a'i harweinasant ef i le a elwid Golgotha, yr hwn yw o'i gyfiaithu, Penglogfa. Ac a roesant iddo i 'w yfed wîn myrhllyd, eithr efe ni's cymmerth. Ac wedi iddynt ei groes-hoelio ef, hwy a rannasant ei ddill­ad ef, gan fwrw coel-brennau am danynt beth a ga­ffe bob vn. A'r drydedd awr oedd hi pan groes-hoel­iasant ef. Ac yr oedd scrifen ei achos wedi ei har­graphu, BRENHIN YR IVDDEWON. A hwynt a grogasant ddau leidr gŷd ag ef, vn ar y llaw ddehau, ar llall ar yr asswy. A'r scrythyr a gyflawnw­yd, yr hon a ddywed, Ac ef a gyfrifwyd gŷdâ rhai anwir. A'r rhai oeddynt yn myned heibio a'i cablent ef, gan yscwyd eu pennau, a dywedyd: och ty-di yr hwn a ddinistrit y Deml, a'i hadeiladu mewn tri­diau, gwared ti dy hun a descyn oddiar y groes. Yr [Page] vn ffunyd yr arch-offeiriaid gan ei watwar ef wrth ei gilydd, gŷd â'r scrifennyddion, a ddywedasant: eraill a achubodd efe, ac ni ddichon ei achub ei hun. Descynned Christ, Brenhin Israel yr awran oddi­ar y groes, fel y gwelom, ac y credom: a'r rhai a grogasid gŷd ag ef a ddannodasant iddo hefyd. A phan ddaeth y chweched awr, bu tywyllwch ar yr hollddaear hyd y nawfed awr. Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llêf vchel, gan ddywedyd Eloi, Eloi, lamma sabachthani? yr hyn yw o'i gyfiaithu, fy-Nuw, fy-Nuw, pa ham i'm gadewaist? A rhai o'r rhai oeddynt yn sefyll gar llaw pan glywsant, a ddy­wedasant, wele, y mae yn galw ar Elias. Ac vn a redodd, ac a lanwodd yspwrn o finegr, ac a'i dodes ar gorsen, ac o'i rhoddes iddo i yfed, gan ddywedyd, gedwch iddo, edrychwn a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr. A'r Iesu a lefodd â llêf vchel, ac a ymada­wodd â 'r yspryd. A llenn y Deml a rwygwyd yn ddwy o'r pen vchaf hyd yr isaf. A phan welodd y Canwriad yr hwn oedd yn sefyll gar llaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â 'r y­spryd, ef a ddywedodd, yn wir, Mâb Duw oedd y dŷn hwn. Ac yr oedd gwragedd hefyd yn edrych o hir-bell, ym-mhlith y rhai yr oedd Mair Magda­len, a Mair (mam Iaco fychan, ac Iose) a Sa­lome: Y rhai hefyd pan oedd efe yn Galilea, a'i dylynasant ef, ac a weinasant iddo, a llawer eraill y rhai a ddaethent ar vn-waith gŷd ag ef i fynu i Ierusalem. A phan ydoedd hi weithian yn hwyr, am ei bôd hi yn ddarparwyl, (sef y dŷdd cyn y Sabboth) daeth Ioseph o Arimathea, cyng­horwr pendefigaidd (yr hwn oedd hefyd yn edrych am deyrnas Dduw) ac a aeth yn hŷf i mewn at Pilatus, ac a ofynnodd gorph yr Iesu. A rhy­fedd oedd gan Pilatus o buase efe farw eusys, [Page] ac wedi iddo alw y canwriad atto, gofynnodd iddo, a oedd efe wedi marw er ysmeityn. A phan wŷbu ef y gwirionedd gan y canwriad, ef a roddes y corph i Ioseph. Ac ef a brynodd liain-main, ac a'i tynnodd ef i lawr, ac a'i hamdôdd yn y llain-main, ac a'i dodes ef mewn bedd a naddasid o graig, ac a dreiglodd faen ar ddrŵs y bêdd. A Mair Magdalen, a Mair mam Iose a edrychasant pa le y dodid ef.

Dydd merchur nesaf o flaen y Pâsc.

Yr Epistol.

Heb. 9.16. LLe byddo testament rhaid yw digwy­ddo marwolaeth y testamentudd. Ca­nys o'r meirw y caiff y testament ei rym: oblegid nid oes nerth ynddo etto tra yw byw y testamentudd. O ba achos ni chyssegrwyd y cyntaf heb waed. Canys wedi traethu o Moses y gorchymmyn oll i'r bobl oll yn ôl y gyfraith, efe a gymmerodd waed lloi, a geifr, gŷd â dwfr, a gwlân porphor, ac isop, ac a'i taenellodd ar y llyfr, a'r bobl oll, gan ddywedyd, hwn yw gwaed y testament, yr hwn a orchymy­nnod Duw i chwi. Y tabernacl hefyd, a holl lestri y gwasanaeth a daenellodd efe â gwaed yr vn môdd. A phob peth gan mwyaf wrth y gyfraith a burir trwy waed, ac heb ollyngdod gwaed nid oes ma­ddeuant. Am hynny angenrheidiol oedd i bortrei­adau y pethau sy yn y nefoedd gael eu puro â'r pe­thau hyn: a'r pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell nâ 'r rhai hyn. Canys nid i gyssegr o waith llaw yr aeth Christ yr hwn sydd bortreiad i'r gwir gyssegr: eithr efe a aeth i'r nefoedd i ymddangos yn awr gar bron Duw trosom ni. Ac nid i'w offrymmu ei hun yn fynych, fel y mae 'r arch-offeiriaid yn [Page] myned i mewn i 'r cyssegr bob blwyddyn a chan­ddo waed dieithr. Pe amgen rhaid fuase iddo ddyoddef yn fynych o ddechreuad y bŷd, eithr yr awr hon vn-waith yn-niwedd y bŷd yr ymddangoses efe i ddeleu pechod trwy ei aberthu ei hun. Ac megis y gosodwyd i ddynion farw vn-waith, ac yn ôl hynny bod barn, felly Christ hefyd a aberthwyd vn waith i ddwyn ymmaith bechodau llawer, yr ail waith heb pechod yr ymddengys efe i'r rhai sy yn ei ddisgwil er iechydwriaeth.

Yr Efengyl.

Luc. 22.1. GWyl y bara croyw oedd yn agos yr hon a elwir y Pâsc A'r arch-offeiriaid, a'r scrifennyddion a geisiasant pa fodd y lladdent ef, oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl. A Satan a aeth i mewn i Iudas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi 'r deuddeg. Ac ef a aeth ymmaith, ac a ymddidd­anodd â 'r arch-offeiriaid, a'r llywodraeth-wyr, pa fodd y bradyche efe ef iddynt. Ac yr oedd yn llawen ganddynt, ac hwynt-hwy a gytunasant ar roddi ari­an iddo. Ac ef a addawodd, ac a geisiodd amser cyfa­ddas i'w fradychu ef iddynt yn absen y bobl. A daeth dŷdd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd raid llâdd y Pâsc. Ac ef a anfonodd Petr ac Ioan, gan ddywe­dyd, ewch a pharottowch i ni'r Pâsc, fel y gallom ei fwytta. A hwy a ddywedasant wrtho ef, pa le y mynni i ni ei barottoi ef. Ac ef a ddywedodd wr­thynt, wele, gwedi eich myned i mewn i'r ddinas, cyferfydd â chwi ddŷn yn dwyn steneid o ddwfr, canlynwch ef i'r tŷ yr êl efe i mewn. A dywedwch wrth ŵr y tŷ, y mae 'r Athro yn dywedyd wrthit [Page] ti, pa le y mae y lletŷfa, lle y bwytawyf y Pâsc gŷd â 'm discyblon? Yntef a ddengys i chwi oru­wchstafell fawr wedi ei thanu, parotowch yno. Ac hwy a aethant ymmaith, ac a gawsant fel y dywedase efe wrthynt, ac a barottoesant y Pâsc. A phan ddaeth yr awr ef a eisteddodd i lawr, a'r deu-ddeg Apostl gŷd ag ef. Ac ef a ddywedodd wr­thynt, mi a chwennychais yn fawr fwytta 'r Pâsc hwn gŷd a chwi cyn dyoddef o honof. Ca­nys yr wyf yn dywedyd i chwi na fwytaf fi mwy­ach o honaw, hyd oni chyflawner yn-nheyrnas Dduw. Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoddi diolch, ef a ddywedodd, cymmerwch hwn, a rhennwch yn eich plith. Canys yr wyf yn dyw­edyd i chwi nad yfaf o ffrwyth y win-wydden, hyd yn y ddêl teyrnas Dduw. Ac wedi iddo gymm­eryd bara, a rhoddi diolch, ef a'i torres, ac a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, hwn yw fy-ngh­orph, yr hwn yr ydys yn ei roddi trosoch, gwne­wch hyn er coffa am danaf. Yn yr vn modd he­fyd wedi iddo swpperu, ef a gymmerth y cwppan, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw 'r Testament newydd yn fy-ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt trosoch. Eithr wele, llaw 'r hwn a 'm bradycha i sydd gŷd â mi ar y bwrdd. Ac yn wir y mae Mâb y dŷn yn myned megis y mae yn derf­ynedig, eithr gwae 'r dŷn hwnnw trwy 'r hwn y bradychir ef. Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hun, pwy o honynt oedd yr hwn a wnai hynny. A bu ymryson yn eu plith, pwy o ho­nynt a dybygid ei fod yn fwyaf. Ac ef a ddywedodd wrthynt, y mae brenhinoedd y cenhedloedd yn ar­glwyddiaethu arnynt, a'r rhai sy mewn awdurdod arnynt a elwir yn bendefigion. Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith, bydded [Page] megis y lleiaf, a'r pennaf megis yr hwn sydd yn gweini. Canys pwy vn fwyaf ai 'r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai 'r hwn sydd yn gwasanae­thu? ond mwyaf yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mŷsc fel yr hwn sydd yn gwasanaethu. A chwy-chwi yw y rhai a arhosa­soch gŷd â mi yn fy mhrofedigaethau. Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy-Nhâd i minne. Fel y bwyttaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orsedd­feudd yn barnu deu-ddeg-llwyth Israel. A'r Arglw­ydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a'ch ceisiodd chwi i'ch nithio fel gwenith. Eithr mi a weddiais trosot na ddiffygie dy ffŷdd di: dithe, pan y'th droer cadarnhâ dy frodyr. Ac efe a ddywedodd wrtho, ô Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gŷd â thi i garchar, ac i angeu. Yntef a ddywedodd, yr wyf yn dywedyd i ti Petr, ni chân y ceiliog he­ddyw nes i ti wadu dair-gwaith yr adwaeni fi. Ac ef a ddywedodd wrthynt, pan y'ch anfonais heb bwrs, na chôd, nac escidiau, a fu arnoch eisieu dim? a hwy a ddywedasant, Na ddo ddim. Yntef a ddywedodd wrthynt; ond yn awr, y neb sydd gan­ddo bwrs, cymmered; a'r vn modd gôd: a'r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi fôd yn rhaid etto gyflawni ynof fi y peth hyn a scrifennwyd, sef, A chŷd â 'r anwir y cyfrifwyd ef: canys y mae diwedd i'r pethau a scrifennwyd amdanaf fi. A hwy a ddywe­dasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf ymma, ac ef a ddywedodd wrthynt, digon yw. Ac wedi iddo fy­ned allan, ef a aeth (yn ôl ei arfer) i fynydd yr Olew-wydd, a'i ddiscyblon a'i canlynasant ef. A phan ddaeth efe i'r man, ef a ddywedodd wrthynt, gweddiwch nad eloch mewn temtasiwn. Ac ef a [Page] dynnwyd oddi wrthynt tu ag ergyd carreg, ac a ddodes ei liniau i lawr ac a weddiodd, gan ddywe­dyd, fy-Nhâd, os ewyllysi, symmud y cwppan hwn oddiwrthif: er hynny, nid fy ewyllys i, ond dy ewy­llys di a wneler. Ac angel o'r nef a ymddangosodd iddo yn ei gadarnhau ef. Eithr efe mewn ymdrech meddwl a weddiodd yn ddyfalach, a'i chwŷs ef oedd fel deigrau gwaed yn descyn ar y ddaear. A phan gododd efe o'i weddi, a dyfod at ei ddiscyblon, ef a'u cafodd hwynt yn cyscu gan dristwch. Ac ef a ddy­wedodd wrthynt, pa ham yr ydych yn cyscu? co­dwch, a gweddiwch rhag eich myned mewn tem­tasiwn. Ac efe etto yn llefaru, wele dyrfa, a'r hwn a elwid Iudas, vn o'r deu-ddeg, a aeth o'u blaen hwynt, ac a nesâodd at yr Iesu i'w gusanu ef. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Iudas, ai â chu­san y bradychi di Fâb y dŷn? A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, ô Arglwydd, a darawn ni â chleddyf? Ac vn o honynt a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorodd ymmaith ei glûst ddehau ef. A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, goddefwch hyd hyn. Ac efe wedi iddo gyffwrdd â 'i glust ef a'i hiachâodd ef. A'r Iesu a ddywedodd wrth y rhai a ddaethent atto ef, sef, yr arch-offeiriaid, a llywo­draethwŷr y Deml, a'r henuriaid: ai fel at leidr y daethochwi allan â chleddyfau, a ffynn? Pan oe­ddwn beunydd gŷd â chwi yn y Deml, nid estyn­nasoch eich dwylo i'm herbyn, eithr hon yw 'ch awr chwi, a gallu 'r tywyllwch. Ac hwy a'i dalia­sant ef, ac a'i harweinasant, ac a'i dugasant ef i mewn i dŷ 'r Arch-offeiriad. A Phetr a ganlynodd o hir-bell. Ac wedi iddynt gynneu tân ynghanol y neuadd, a chyd-eistedd, eisteddodd Petr hefyd yn eu plith. A phan ganfu rhyw langces ef yn eistedd [Page] wrth y tân a dal sylw arno, hi a ddywedodd, yr oedd hwn hefyd gŷd ag ef. Yntef a'i gwadodd ef, gan ddywedyd, ha-wraig, nid adwen ef. Ac y­chydig wedi, arall a'i gwelodd ef, ac a ddywedodd, a thithe wyt vn o honynt. A Phetr a ddywedodd, ô ddŷn nid ydwyf. Ac ynghylch pen awr yn ôl hyn­ny, vn arall a daerodd gan ddywedyd, yn wir yr oedd hwn gŷd ag ef, canys Galilêad yw efe. A Phetr a ddywedodd, y dŷn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd: ac yn y man, ac efe etto yn llefaru, canodd y ceiliog. Yna troes yr Arglwydd, ac edrychodd ar Petr: a Phetr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedase efe wrtho, cyn canu 'r ceiliog y gwedi fi deir-gwaith. A Phetr a aeth allan, ac a ŵylodd yn chwerw-dôst. A'r gwŷr a ddaliasent yr Iesu, a'i gwatwarasant ef, gan ei daro. Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, tarawsant ef ar ei ŵyneb, ac a ofynnasant iddo, gan ddywe­dyd, prophwyda pwy yw 'r hwn a'th darawodd. A llawer o bethau eraill a ddywedasant yn ei erbyn ef, gan gablu. A phan ddyddhaodd hi ymgynnhu­llodd henuriaid y bobl, a'r arch-offeriaid, a'r scri­fennyddion: ac a'i dugasant ef i 'w seneddr, gan ddy­wedyd, ai ti yw Christ? dywed i ni: ac ef a ddywe­dodd wrthynt, os dywedaf i chwi ni 's credwch. Ac os gofynnaf i chwi nid attebwch fi, ac ni'm go­llyngwch ymmaith. Yn ôl hyn y bydd Mâb y dŷn yn eistedd ar ddeheu-law gallu Duw, A hwy oll a ddywedasant, ai ti gan hynny yw Mâb Duw? ac ef a ddywedodd wrthynt, yr ydych chwi yn dywe­dyd fy môd. Hwythau a ddywedasant, pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth: canys clywsom ein hu­nain o'i enau ef ei hun.

Dydd Iou nesaf o flaen y Pâsc.

Yr Epistol.

1. Cor. 11.17. HYn yr ydwyf yn ei ddywedyd heb eich canmol, eich bod yn ymgynnull nid i wellau, ond i waethygu. Ca­nys yn gyntaf pan ymgynnulloch yn yr eglwys, yr ydwyf yn clywed fod anghydfod yn eich mŷsc chwi, ac o ran yr wyt fi yn credu. O herwydd rhaid yw he­fyd bod yn eich mŷsc heresiau, megis y byddo yn eglur y rhai cymmeradwy yn eich plith chwi. Am hynny pan ddeloch ynghŷd i'r vn-man ni cheir bw­yta swpper yr Arglwydd. Canys pawb a fwytty ei swpper ei hun o'r blaen, ac vn sydd a newyn ar­no, ac arall sydd yn feddw. Onid oes gennych dai i fwyta, ac i yfed ynddynt? ai dirmygu yr ydych chwi eglwys Dduw? ac a ydych chwi yn gwra­dwyddo y rhai nid oes ganddynt? pa beth a ddy­wedaf wrthych? a ganmolaf chwi? yn hyn nid wyf yn eich canmol. Canys gan yr Arglwydd y derbyniais i y peth a draddodais i chwi, bod i 'r Arglwydd Iesu y nôs y bradychwyd ef, gymmeryd bara, ac wedi iddo ddiolch, ef a 'i torrodd, ac a ddywedodd, cymmerwch, bwytewch, hwn yw fy­nghorph yr hwn a dorrir trosoch, gwnewch hyn er coffa am danaf. A'r vn modd efe a gymmerodd y cwppan wedi swpper, gan ddywedyd, y cwp­pan hwn yw 'r Testament newydd yn fy-ngwa­ed, gwnewch hyn cynnifer gwaith ac yr yfoch er coffa amdanaf. Canys cynnifer gwaith ac y bw­ytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwppan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni dde­lo. Am hynny pwy bynnag a fwytao y bara hwn, [Page] ac a yfo gwppan yr Arglwydd yn an-nheilwng, euog fŷdd o gorph, a gwaed yr Arglwydd. Eithr profed dŷn ef ei hun, ac felly bwytaed o'r bara, ac yfed o'r cwppan. Canys yr hwn sydd yn bwyta, ac yn yfed yn an-nheilwng, sydd yn bwyta, ac yn yfed dam­nedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corph yr Arglwydd. Oblegid hyn y mae llawer yn weniaid, ac yn llêsc yn eich mysc, a llawer yn huno. Canys pe iawn farnem ni ein hunain, ni 'n bernid. Eithr pan y'n bernir, y'n cospir gan yr Alglwydd, rhag ein damnio gŷd â 'r bŷd. Am hynny fy-mrodyr, pan ddeloch ynghŷd i fwyta, arhoswch ei gilydd. Ei­thr os bydd newyn ar neb, bwytaed gartref, rhag i chwi ymgasclu i ddamnedigaeth. Ac am bethau er­aill mi a'u trefnaf pan ddelwyf.

Yr Efengyl.

Luc. 23.1. YNa y cyfododd yr holl liaws o ho­nynt, ac a'i dugasant at Pilatus. Ac hwy a ddechreuasant achwyn arno, gan ddywedyd, ny-ni a gawsom hwn yn gŵyr-droi 'r bobl, ac yn gwahardd rhoddi teyrn-ged i Cêsar, gan ddywedyd mai efe yw Christ Frenhin. A Phila­tus a ofynnodd iddo, gā ddywedyd, ai ti yw Brenhin yr Iddewon? Yntef a attebodd iddo, ac a ddywedodd, yr wyt ti yn dywedyd. A dywedodd Pilatus wrth yr arch-offeiriaid, a'r bobl, nid wyf fi yn cael dim bai ar y dŷn hwn. Ac hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, y mae efe yn cyffroi'r bobl, gā ddyscu trwy holl Iudêa, wedi dechreu o Galilêa hyd ymma. A phā glybu Pi­latus sôn am Galilêa, ef a ofynnodd ai Galilêad oedd efe. A phan ŵybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod, ef a'i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntef y dy­ddiau [Page] hynny yn Ierusalem. A phan welodd Herod yr Iesu ef a lawenychodd yn fawr: am ei fod yn ewyllysio ei weled ef er ys talm, oblegid iddo glywed llawer am dano ef, ac yr oedd efe yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw wyrthiau ganddo. Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau, eithr nid atte­bodd efe ddim iddo. A'r archoffeiriaid, a'r scri­fennyddion a safasant, ac a achwynasant arno yn haerllyg. A Herod a'i luedd-wŷr wedi iddo ei ddi­ystyru ef, a'i watwor, a'i wisco, â gwîsc glaer­wen, a'i danfonodd ef drachefn at Pilatus. A'r dŷdd hwnnw yr aeth Pilatus a Herod yn gyfeillion i'w gilydd, canys yr oeddynt o'r blaen mewn gelynia­eth â'i gilydd. A Philatus wedi iddo alw ynghŷd yr arch-offeiriaid, a'r llywiawd-wŷr, a'r bobl, a ddy­wedodd wrthynt, chwy-chwi a ddugasoch y dŷn hwn attaf fi, fel vn a fydde yn gŵyr-droi 'r bobl, ac wele, mi a'i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni che­fais yn y dŷn hwn vn bai, o'r pethau yr ydych chwi yn achwyn arno am danynt: na Herod chwaith: canys anfonais chwi atto ef, ac wele, ni wnaed iddo ef ddim yn haeddu marwolaeth. Am hynny mi a'i cospaf, ac a'i gollyngaf yn rhŷdd. (Canys yr oedd yn rhaid iddo ollwng vn yn rhydd iddynt ar yr ŵyl) A'r holl liaws a lefodd ar vn-waith, gan ddywedyd, ymmaith ag ef, a gollwng ini yn rhŷdd Barabbas: (yr hwn am ryw derfysc a wnaethid yn y ddinas, ac am lofruddiaeth, oedd wedi ei fwrŵ yngharchar.) Am hynny Pilatus a lefarodd wrthynt drachefn gā ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhŷdd. A hwy a wrth-lefasant, gan ddywedyd, croes-hoelia, croes-hoelia ef. Yntef a ddywedodd wrthynt y drydedd waith: eithr pa ddrŵg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo, am hynny mi a'i cospaf, ac a'i gollyngaf yn rhŷdd. Hwythau a fuant daerion â lle­fain [Page] vchel, gan ddeisyfu ei groes-hoelio ef, a'u lle­fain hwynt a'r arch-offeiriaid a orfuant. A Phila­tus a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt: ac a'i gollyngodd ef yn rhŷdd iddynt, yr hwn am der­fysc a llofruddiaeth a fwriasid yngharchar yr hwn a ddesyfiasant, ac a draddododd yr Iesu i'w hewy­llys hwynt. A phan oeddynt yn ei ddwyn ef ym­maith, daliasant vn Simon o Cyrene, yn dyfod o'r maes, ac a ddodasant y groes arno ef, i'w dwyn ar ôl yr Iesu. Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o'r bobl, ac o wragedd, y rhai oeddynt yn cwynfan, ac yn galaru o'i blegid ef. A'r Iesu gan droi attynt, a ddywedodd, merched Ierusalem, nac ŵylwch o'm hachos i, eithr ŵylwch o'ch achos eich hunain, ac o achos eich plant. Canys wele, y mae 'r dy­ddiau yn dyfod yn y rhai y dywedant, gwyn eu bŷd y rhai am-mhlantadwy, a'r crothau ni hep­piliasant, a'r bronnau ni roesant sugn. Yna y de­chreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, syrthiwch arnom, ac wrth y bryniau, cuddiwch ni. Canys os gwnânt hyn i'r pren îr, pa beth a wnânt i'r crîn? A dygwyd hefyd ddau eraill, y rhai oeddynt ddrwg-weithred-wŷr, i'w rhoi i'w marwolaeth gŷd ag ef. A phan ddaethant i'r lle a elwir Pen­glogfa, yna y croes-hoeliasant ef a'r drwgwei­thred-wyr, vn ar ei ddeheu-law, a'r llall ar ei law asswy. A'r Iesu a ddywedodd, ô Dâd, ma­ddeu iddynt, canys ni ŵyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. Ac hwynt-hwy a rannasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goel-brennau. A'r bobl a safasant yn edrych, a'r pennaethiaid hefyd a'i gwatwarasant ef gŷd a hwynt, gan ddywedyd, ef a achubodd eraill, achubed ef ei hun, os hwn yw Christ detholedig Duw. A'r milwyr hefyd a'i gwa­twarasant ef, gan ddyfod atto, a chynnyg iddo [Page] finegr, a dywedyd, os ty-di yw brenhin yr Idde­won, achub dy hun. Ac yr ydoedd scrifen wedi ei scrifennu vwch ei ben â llythyrennau Groeg, Lla­din, ac Ebrew: HWN YW BRENHIN YR IDDEWON. Ac vn o'r drwg-weithred-wŷr a grogasid a'i cablodd ef, gan ddywedyd, os ty-di yw Christ, achub dy hun, a ninnau. A'r llall a atte­bodd, ac a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, ond ydw­yt ti yn ofni Duw, am dy fôd tan yr vn ddamne­digaeth? A ny-ni yn ddiau a gospir yn gyfiawn, canys yr ydym yn derbyn yr hyn sydd addas am yr hyn a wnaethom, eithr ni wnaeth hwn ddim ang­hymmhesur. Ac ef a ddywedodd wrth yr Iesu, Ar­glwydd, coffa fi pan ddelech i'th deyrnas. A'r Ie­su a ddywedodd wrtho, yn wir, meddaf i ti, heddyw y byddi di gŷd â mi ym-mharadwys. Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. A'r haul a dywy­llwyd, a llenn y deml a rwygwyd yn ei chanol. A'r Iesu gan lefain â llêf vchel a ddywedodd, fy-Nhâd, i'th ddwylo y gorchymmynnaf sy yspryd: ac we­di iddo ddywedyd hyn, ef a drengodd. A phan welodd y canwriad yr hyn a ŵnaethpwyd, ef a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, yn wir yr o­edd y dŷn hwn yn gyfiawn. A'r holl bobl y rhai a ddaethent ynghŷd i edrych hyn, wrth weled y pe­thau a wnaethpwyd, a ddychwylasant, gan guro eu dwyfronnau. A'i holl gydnabod ef a safasant o hir-bell, a'r gwragedd y rhai a'i canlynasent ef o Galilêa, yn edrych ar y pethau hyn. Ac wele, gŵr a'i enw Ioseph, yr hwn oedd gynghorwr, gŵr da, a chyfiawn, (hwn ni chytunase â'u cyngor, ac â'u gweithred hwynt) o Arimathêa dinas yr Idde­won, yr hwn oedd yntef yn disgwil am deyrnas Dduw. Hwn a aeth at Pilatus ac a ofynnodd gorph [Page] yr Iesu. Ac wedi iddo ei dynnu ef i lawr, ef a'i ham­does mewn llain-main, ac a'i dodes mewn bedd we­di ei dorri o graig, lle ni ddodasid neb erioed. A'r dŷdd hwnnw oedd ddarparŵyl, a'r Sabboth oedd yn canlyn. A'r gwragedd hefyd y rhai a'i canlyna­sent, ac oeddynt wedi dyfod gŷd ag ef o Galilêa, a edrychasant ar y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorph ef. Ac wedi eu dychwylyd hwynt, hwy a barottoe­sant ber-aroglau, ac ennaint, ac a orphywysasant ar y Sabboth yn ôl y gorchymmyn.

Dydd Gwener y Croc-lith.

Y Colectau.

HOll-alluog Dduw, ni a attolygwn i ti edrych o honot yn rasusol ar dy dŷ-lu hwn ymma, tros yr hwn y bu foddlawn gan Iesu Grist gael ei fra­dychu, a'i roddi yn nwylaw dynion anwir, a dio­ddef angau ar y groes, yr hwn a fywocâ ac a deyr­nasa yn oes oesoedd. Amen.

HOll-alluoga thragywyddol Dduw, trwy Yspryd pa vn y llywodraethir ac y sancteiddir holl gorph yr Eglwys derbyn ein erfynion, a'n gweddiau, y rhai yr ydym ni yn eu hoffrwm ger dy fron dros bob gradd o ddynion yn dy sanctaidd gynnulleidfa, hyd pan fo i bob aelod o honynt yn ei alwedigaeth a'i wasanaeth allu yn gywir, ac yn dduwiol dy wa­sanaethu, trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Amen.

O Drugarog Dduw, yr hwn a wnaethost bob dŷn, ac ni chas-hei ddim ar a wnaethost, ac ni fynnit farwolaeth pechadur, onid yn hyttrach ym­chwelyd o honaw a byw: tragarhâ wrth yr holl [Page] Iuddewon, Twrciaid, Anffyddlonion, ac heretici­aid, a chymmer oddi-wrthynt holl annwybodaeth, caledwch calon, a thremyg ar dy air: Ac felly dwg hwynt adref wynfydedic Arglwydd at dy ddefaid, fel y bônt yn gawedic ym-mhlith gweddilliō y gwîr Is­raeliaid, a bod yn vn gorlan, dan yr vn bugail Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

Heb. 10.1. Y Gyfraith yr hon sydd ganddi gyscod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau, ni alle byth berffei­thio y dyfodiaid drwy 'r aberthau hynny, y rhai bob blwyddyn a offrym­ment yn oestadol. Pe amgen hwy a beidiasent â'i hoffrymmu, am na buase dim cydwybod pechod mwyach gan y rhai a offrymmasent wedi eu glan­hau vn-waith. Eithr yn y rhai hynny y bydd bob blwyddyn adcoffa pechodau. Canys ni ddichon gwa­ed teirw a geifr dynnu ymmaith bechodau. O ba a­chos y mae efe wrth ddyfod i'r bŷd yn dywedyd, Ab­erth ac offr'wn ni's mynnaist: eithr corph a gymhwy­saist i mi. Offrymmau poeth, a thros bechod, ni buost sodlon iddynt. Yna dywedais, wele fi yn dyfod, (y mae yn scrifennedig yn-nechrau y llyfr am danaf) i wneu­thur dy ewyllys di, ô Dduw. Wedi iddo ddywedyd v­chod, Aberth, ac offrwm, ac offrymmau poeth, a thros bechod ni's mynnaist, ac nid ymfodlonaist yn­ddynt, (y rhai a offrymir wrth y gyfraith:) yna y dy­wedodd, wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, ô Dduw. Y mae yn tynnu ymaith y cyntaf, er mwyn gosod o honaw 'r ail. Trwy 'r hwn ewyllys yr ydym wedi ein sancteiddio, trwy offrymiad corph Iesu Ghrist vn-waith. Am hynny pob offeiriad sydd yn se­fyll [Page] beunydd, gan wasanaethu, ac offrymmu yn fy­nych yr vn aberthau, y rhai ni allant fyth ddeleu pechodau. Eithr hwn wedi iddo offrymu vn aberth tros bechodau, sydd yn dragywyddol yn eistedd ar ddeheu-law Duw: gan arhos yr hyn sydd yn ôl, hyd oni osoder ei elynion ef yn droed-faingc i'w draed ef. Canys ag vn offrwm y perffeithiodd efe yn dragwy­ddol y rhai sy wedi eu sancteiddio. Y mae yr Yspryd glân hefyd yn tystiolaethu i ni hyn: canys ar ôl iddo ef ddywedyd ym-mlaenllaw, Dymma'r cyfammod yr hwn a ammodaf â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, my-fi a osodaf fy-nghyfreithiau yn eu calōnau, ac a'u scrifennaf yn eu meddyliau, ac ni chofiaf mwyach eu pechodau, a'u hanwireddau hwynt. A lle byddo maddeuant am y rhai hyn, ni bydd mwyach offrwm tros bechod. Am hyn frodyr gan fod i ni rydd-did i fyned i mewn i'r cyssegr trwy waed Iesu, ar hyd y ffordd a gyssegrodd efe i ni yn newydd, ac yn fyw, trwy 'r llen, sef ei gnawd, a bôd i ni Arch-offeiriad ar dŷ Dduw, nessawn â chalon gywir mewn llawn hyder flŷdd, wedi puro ein ca­lonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corph â dwfr glân: dalywn gyffes ein gobaith yn ddisigl: (canys ffyddlon yw'r hwn a addawodd) a chydystyriwn ei gilydd, i ymannog i gariad a gwei­thredoedd da: heb wrthod ein cyd-gynnhulliad ein hun, fel y mae arfer rhai, eithr ymgynghorwn, a hynny yn fwy, o achos eich bod yn gweled y dydd yn nessau.

Yr Efengyl.

Ioan. 18.1. GWedi i'r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, ef a aeth allan gŷd â'i ddiscyblon tros afon Cedron, lle 'dd oedd gardd, i'r hon yr aeth [Page] efe a'i ddiscyblon. A Iudas hefyd yr hwn a'i bra­dychodd ef a adwaene 'r lle hwnnw, canys my­nych y cyniwerase yr Iesu yno gŷd â'i ddiscyblon. A Iudas (wedi iddo dderbyn byddin, a swyddogi­on gan yr arch-offeiriaid, a 'r Pharisêaid) a ddaeth yno â lanternau, a ffaglau, ac arfau. A'r Iesu yn gŵybod pob peth a ddele iddo, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt: pwy yr ydych yn ei geisio? Hwy attebasant iddo, yr Iesu o Nazareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, my-fi yw hwnnw: ac yr oedd Iudas hefyd yr hwn a'i bradychodd ef yn sefyll gŷd â hwynt. A chyn gynted ac y dywe­dodd ef wrthynt, my-fi yw hwnnw, hwy a ae­thant yn ŵysc eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr. Am hynny ef a ofynnodd iddynt drachefn, pwy yr ydych yn ei geisio? Hwythau a ddywedasant, yr Iesu o Nazareth. Yr Iesu a attebodd, dywedais wr­thych mai my-fi yw hwnnw: gan hynny os my-fi a geisiwch, gedwch i'r rhai 'n fyned ymaith: Er cy­flawni y gair a ddywedase efe, o'r rhai a roddaist i mi, ni chollais i neb. Am hynny Simon Petr a chanddo gleddyf a'i tynnodd, ac a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glûst dde­hau ef: ac enw y gwâs oedd Malchus. Ar Iesu a ddywedodd wrth Petr, dôd dy gleddyf yn y wain: y cwppan a roddes y Tâd i mi onid yfaf o honaw? Yna 'r fyddin, a'r Milwriad a swyddogion yr Idde­won a ddaliasant yr Iesu, ac a'i rhwymasant ef, ac a'i dugasant ef at Annas yn gyntaf, canys chwegrwn Caiphas yr hwn oedd Arch-offeiriad y flwyddyn hōno, ydoedd efe. Caiphas hefyd oedd yr hwn a gyng­horase i'r Iddewon, mai buddiol oedd farw vn dŷn tros y bobl. A Simon Petr, a discybl arall, oedd yn cālyn yr Iesu: a'r Arch-offeiriad a adwaene y discybl hwnnw, ac ef a aeth i mewn gyd â'r Iesu i neuadd yr [Page] Arch-offeiriad. A Phetra safodd allan wrth y drŵs, a'r discybl arall a aeth allan, yr hwn oedd adnaby­ddus gan yr Arch-offeiriad, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddûg Betr i mewn. Yna y dywedodd y llangces, yr hon oedd ddrysores wrth Betr: onid wyt tithe yn vn o ddiscyblon y dŷn hwn? ac ef a ddy­wedodd, nac wyf. A'r gweision a'r swyddogion oe­ddynt yn sefyll yno, wedi gwneuthur tân glo, canys oerfel oedd, ac yr oeddynt yn ymdwymno, ac yr oedd Petr gŷd â hwynt yn sefyll, ac yn ymdwymno. A'r Arch-offeiriad a ofynnodd i'r Iesu am ei ddiscyblon, ac am ei athrawiaeth. Yr Iesu a attebodd iddo, my-fi a leferais ar osteg wrth y bŷd, my-fi a athrawiae­thais yn oestadol yn y synagog, ac yn y Deml, lle y mae 'r Iddewon oll yn dyfod ynghŷd, ac ni ddywe­dais ddim yn ddirgel. Pa ham yr ydwyt yn gofyn i mi? gofyn i'r rhai a'm clywsant, beth a ddywedais wrthynt, wele hwynt-hwy a wyddant pa bethau a ddywedais i. Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, vn o'r swyddogion, o'r a oedd yn sefyll gar llaw, a roddes gernod i'r Iesu, gan ddywedyd, ai felly yr wyt ti yn atteb yr Arch-offeiriad? Yr Iesu a attebodd iddo, os drŵg y dywedais, tystiolaetha o'r drŵg: ac os da pa ham yr wyt yn fy-nharo i? Ac Annas a'i hanfonase ef yn rhwym at Caiphas yr Arch-offeiriad. A Simō Petr oedd yn sefyll, ac yn ymdwymno, ac hwy a ddy­wedasant wrtho, onid wyt tithe vn o'i ddiscyblon ef? Yntef a wadodd, ac a ddywedodd, nag wyf. Vn o wei­sion yr Arch-offeiriad, câr i'r hwn y torrase Petr ei glûst, a ddywedodd, Oni welais i di gŷd ag ef yn yr ardd? A Phetr a wadodd drachefn, ac yn y man ca­nodd y ceiliog. Yna y dugasant yr Iesu oddi wrth Caiphas i'r dadleu-dŷ: a'r boreu ydoedd: ac nid ae­thont hwy i mewn i'r dadleu-dŷ rhag eu halogi, fel y gallent fwyta 'r Pâsc. Am hynny Pilatus a aeth [Page] allan attynt, ac a ddywedodd, pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dŷn hwn? Hwy a atte­basant, ac a ddywedasant wrtho: oni bai ei fod ef yn gwneuthur drŵg, ni thraddodasem ni ef attat ti. Am hynny dywedodd Pilatus wrthynt, cymmerwch chwi ef, a bernwch ef wrth eich cyfraith chwi. Yna 'r Iddewon a ddywedasant wrtho, nid cyfreithlawn i ni lâdd neb. Fel y cyflawnid gair yr Iesu yr hwn a ddywedase efe i arwyddoccau o ba angeu y bydde efe farw. Am hynny Pilatus a aeth drachefn i mewn i'r dadleu-dŷ, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wr­tho: ai ti yw Brenhin yr Iddewon? Yr Iesu a atte­bodd iddo: ai o honot dy hun yr wyt yn dywedyd hyn, ai eraill a' i dywedasant i ti am danaf? Pilatus a at­tebodd, ai Iddew wyf fi? dy genhedl dy hun, a'r arch­offeiriaid a'th draddodasāt i mi, beth a wnaethost di? yr Iesu attebodd, nid yw fy mrenhiniaeth i o'r bŷd hwn: pettei fy-mrenhiniaeth i o'r bŷd hwn, fy-ng wa­sanaeth-wŷr a ymdrechent fel na'm traddodid i'r I­ddewon: ond yn awr nid yw fy-mrenhiniaeth i oddi ymma. Am hynny dywedodd Pilatus wrtho, ai brē ­hin gan hynny wyt ti? Yr Iesu a attebodd, tydi ydw­yt yn dywedyd mai brenhin wyf fi: er mwyn hyn y 'm ganed, ac er mwyn hyn y daethum i'r bŷd, i ddw­yn tystiolaeth i'r gwirionedd: pwy bynnag sydd o'r gwirionedd sydd yn gwrandaw fy lleferydd. Pila­tus a ddywedodd wrtho, beth yw gwirionedd? ac wedi iddo ddywedyd hyn, ef a aeth allan drachefn at yr Iddewon, ac a ddywedodd wrthynt: nid wyf fi yn cael dim bai arno ef. Y mae gennych chwi ddefod, i mi ollwng i chwi vn yn rhydd ar y Pâsc: a ewylly­siwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhydd i chwi frenhin yr Iddewon? Yna y llefasant oll drachefn, gan ddywedyd: Nid hwn, ond Barabbas. A'r Ba­rabbas [Page] hwnnw oedd leidr.Pen. 19. YNA gan hynny cym­merodd Pilatus yr Iesu, ac a'i fflangelodd ef. A'r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a'i doda­sant ar ei ben ef, ac a'i gwiscasant â gwisc borphor, ac a ddywedasant, hanphych well, Brenhin yr Iddewon. Ac hwy a roesant iddo gernodiau. A Philatus a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, wele 'r wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ddim bai. Yna y daeth yr Iesu allā yn arwain coron o ddrain, a'r wîsc borphor, a Pilatus a ddywedodd wrthynt, wele 'r dŷn. Yna 'r arch-offeiriaid, a'r swyddogion pan welsant ef a lefasant, gā ddywedyd, croes-hoelia, croes-hoelia ef: Pilatus a ddywedodd wrthynt, cym­merwch chwi ef, a chroes-hoeliwch, canys nid wyf fi yn cael ynddo fai. Yr Iddewon a attebasant iddo, y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni ef a ddyle farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw. A phan glybu Pilatus yr ymadrodd hwnnw ef a ofnodd yn fwy, ac a aeth drachefn i mewn i'r dadleu-dŷ, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, o ba le 'dd wyt ti? ond ni roes yr Iesu atteb iddo. Y­na Pilatus a ddywedodd wrtho, oni ddywedi di wr­thif fi? oni ŵyddost ti fod i mi awdurdod i'th groes-ho­elio di, a bod i mi awdurdod i'th ollwng diyn rhŷdd? Yr Iesu a attebodd, ni bydde i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti odduchod: am hynny yr hwn a'm traddodes i ti sydd yn swy ei bechod. O hynny allan ceisiodd Pilatus ei ollwng ef yn rhŷdd: a'r Iddewon a lefasant, gan ddywedyd, os gollyngi di hwn yn rhŷdd, nid wyt ti garedig i Cêsar: pwy bynnag a'i gwnêl ei hun yn frenhin, y mae efe yn dywedyd yn erbyn Cêsar. Pan glybu Pi­latus yr ymadrodd hwn, efa ddûg allan yr Iesu, ac [Page] a eisteddodd ar yr orseddfaingc yn y lle a elwir Litho­strotos, ac yn Hebryw Gabbatha. A darparŵyl y Pâsc oedd hi, ac ynghylch y chweched awr: ac ef a ddywedodd wrth yr Iddewon, wele eich Bren­hin. Hwythau a lefasant, ymmaith ag ef, ymmaith ag ef, croes-hoelia ef. Pilatus a ddywedodd wr­thynt, a groes-hoeliaf fi eich Brenhin chwi? a'r arch­offeiriaid a attebasant, nid oes i ni frenhin ond Cêsar. Yna gan hynny ef a't traddodes ef iddynt i'w groes-hoelio. Ac hwy a gymmerasant yr Iesu ac a'i dugasant ymmaith. Ac efe gan ddwyn ei groes a ddaeth i le a elwid Penglogia, yr hwn a elwir yn Hebryw Golgotha: lle y croes-hoelia­sant ef, a dau eraill gŷd ag ef, vn o bob tu, a'r Iesu yn y canol. A Philatus a scrifennodd ditl, ac a'i dodes ar y groes. A 'r hyn a scrifennasid oedd, IESV O NAZARETH BRENHIN YR IDDEWON. A llawer o'r Iddewon a darllen­nasant y titl hwn: canys agos i'r doinas oedd y lle y croes-hoeliasid yr Iesu: ac yr oedd wedi ei scri­fennu yn Hebryw, Groeg, a Lladin. Yna arch-offei­riaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Pilatus, na scrifenna, Brenhin yr Iddewon, eithr dywedydo ho­naw ef, Brenhin yr Iddewon ydwyf fi. Pilatus a attebodd, yr hyn a scrifennais, a scrifennais. A'r mil­wyr pan ddarfu iddynt groes-hoelio yr Iesu, a gym­merasant ei ddillad ef, (ac a'u gwnaethant yn bedair rhan, i bôb milwr ran) a'i bais ef. A'i bais ef oedd ddi-wnîad, wedi ei gweu o'r cwr vchaf oll. Am hynny hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, na thorrwn hi, ond bwriwn goel-bren­nau, eiddo pwy fŷdd hi: er cyflawni 'r scrythur, yr hon sydd yn dywedyd, Hwy a rannasant fy-ni­llad yn eu mysc, ac am sy-mhais y bwriasant [Page] goelbrennau. A'r milwyr a wnaethant hyn. Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu ei fam ef, a chwaer ei fam, Mair gwraig Cleopas, a Mair Fagdalen. A Phan welodd Iesu ei fam, a'r discybl yr hwn a gare efe, yn sefyll ger llaw, ef a ddywedodd wrth ei fam, ô wraig, wele dy fâb. Yna dywedodd wrth y discybl, wele dy fam. Ac o'r awr honno y cym­merodd y discybl hi i'w gartref. Yn ôl hynny, yr Iesu yn gŵybod ddibennu pob peth weithian, er cyflawni yr scrythur ef a ddywedodd, y mae syched arnaf. Ac yr oedd yno lestr wedi ei osod yn llawn o finegr, a hwy a lanwasant yspwrn a finegr, ac a'i dodasant ynghylch Isop, ac a'i dodasant wrth ei enau ef. Ac wedi i'r Iesu gymmeryd y finegr, ef a ddywedodd, Gorphennwyd, a chan ogwyddo ei ben ef a roddes i fynu yr yspryd. Ar Iddewon, rhag arhos o'r cyrph ar y groes y Sabboth, oblegid mai y darparwyl ydoedd hi (canys mawr oedd y dydd Sabboth hwnnw) a ddeisyfasant ar Pilatus gael torri eu hesceiriau hwynt, a'u tyn­nu i lawr. Yna 'r milwyr a ddaethant, ac a dor­rasant esceiriau 'r cyntaf, a'r llall yr hwn a gro­gesid gŷd ag ef. Eithr pan ddaethant at yr Iesu, a'i weled wedi marw eusys, ni thorrasant ei escei­riau ef. Ond vn o'r milwyr â gwayw-ffon a wanodd ei ystlys ef, ac yn y man daeth allan waed, a dwfr. A'r hwn a'i gwelodd a dystiolaethodd, a gwîr yw ei dystiolaeth ef, ac ef a ŵyr ei fod yn dywedyd gwîr, fel y credoch chwithau. Canys y pethau hyn a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr scrythur, Ni ddryllir ascwrn o honaw ef. A thrachefn scry­thru arall sydd yn dywedyd, Hwy a edrychasant ar yr hwn a wanâsant. Ac yn ôl hyn, Ioseph o Arimathêa (yr hwn oedd ddiscybl ir Iesu, eithr yn ddirgel rhag [Page] ofn yr Iddewon) a ddeisyfodd ar Pilatus gael tyn­nu i lawr gorph yr Iesu: a Philatus a gennadhaodd iddo. Yntef a ddaeth, ac a gymmerth gorph yr Ie­su. A daeth Nicodemus hefyd yr hwn yn gyntaf a ddaethe at yr Iesus liw nôs, ac a ddûg Myrr, ac Aloes ynghymmysc, ynghylch can pwys. Yna cym­merasant gorph yr Iesu, ac a'i rhwymasant mewn llieiniau gŷd ag aroglau, fel y mae arfer yr Idde­won i gladdu. Ac yn y fangre lle y croes-hoeliasid ef yr oedd gardd, a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid nêb erioed. Yno gan hynny ob­legid darpar-ŵyl yr Iddewon, (am fod y bêdd yn agos) y dodasant yr Iesu.

Nôs Bâsc.

Yr Epistol.

1. Pet. 3.17. GWell ydyw (os ewyllys Duw a'i myn) ddyoddef o honoch yn gwneuthur da­ioni, nag yn gwneuthur drygioni. Gan i Ghrist hefyd vn-waith ddyoddef tros bechodau, y cyfiawn tros yr anghy­fiawn, fel y galle ein dwyn ni at Dduw, yr hwn he­fyd a laddwyd yn y cnawd, eithr a fywhawyd yn yr Yspryd. Yn yr hwn Yspryd yr aeth efe ac a brege­thodd i'r ysprydion yngharchar, y rhai oeddynt gynt yn anufyddion, pan vn-waith yr oedd hir ymmy­nedd Duw yn disgwil yn-nyddiau Noe, pan ddar­perid yr Arch: yn yr hon, ychydigion, sef wyth enaid, a achubwyd trwy y dwfr. I'r hwn y mae 'r siampl yr hwn sydd yn awr yn ein hachub ninau, sef y bedydd, yn atteb (nid trwy 'r hwn y tynnir ymaith fudreddi 'r cnawd, eithr trwy 'r hwn y gwnâ cydwybod dda ymofyn â Duw) trwy adgy­fodedigaeth Iesu Ghrist, yr hwn sydd ar ddeheu­law Dduw, wedi myned i'r nêf, a'r angelion, a'r [Page] awdurdodau, a'r galluoedd wedi eu darostwng iddo.

Yr Efengyl.

Math. 27.57. WEdi ei myned hi yn hwyr fe ddaeth dŷn goludog o Arimathea, a'i henw Io­seph, yr hwn a fuase yntef yn ddiscybl i'r Iesu. Hwn a aeth at Pilatus, ac a ofynnodd gorph yr Iesu: yna y gorchy­mynnodd Pilatus roddi 'r corph. A chymmerth Io­seph y corph, ac a'i hamdoes á lliain main glân, ac a'i dodes yn ei fedd newydd yr hwn a dorrase efe mewn craig, ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrŵs y bêdd, ac a aeth ymmaith. Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a Mair arall yn eistedd gyferbyn â'r bêedd. A thrannoeth yr hwn sydd ar ôl y darpar-wyl, yr ymgynhullodd yr archoffeiriaid, a'r Pharisêaid at Pilatus, gan ddywedyd, ô Arglwydd, y mae 'n gôf gennim ddywedyd o'r twyllwr hwnnw ac efe etto yn fyw, o fewn tridiau y cyfodaf. Gorchymmyn gan hynny gadw 'r bêdd yn ddiogel hyd y trydydd dŷdd, rhag dyfod o'i ddiscyblon ef o hŷd nôs a'i la­dratta ef, a dywedyd wrth y bobl, ef a gyfododd o feirw; a bôd yr amryfusedd diweddaf yn waeth nâ 'r cyntaf. A dywedodd Pilatus wrthynt, y mae gen­nych wiliadwriaeth, ewch, gwnewch mor ddiogel ac y medroch. Ac hwy a aethant, ac a wnaethant y bêdd yn ddiogel â'r wiliadwriaeth, ac a seliasant y maen.

Dydd Pâsc. ¶Ar Foreuol weddi yn lle y Psalm, Deuwch, canwn i'r Arg. &c. y cenir, neu y dywedir yr Anthemau hyn.

Crist yn cyfodi o feirw, yr awr-hon ni bydd marw: ac nid arglwyddiaetha angau arno ef mwyach. Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw vn-waith i dynnu ymmaith bechod, ac fel y mae yn fyw, byw [Page] y mae i Dduw. Felly meddyliwch chwithau hefyd eich meirw i bechod, ach bod yn fyw i Dduw, yng-Hrist Iesu ein Harglwydd.

CRist a gyfododd or meirw, ac a wnaed yn flaen­ffrwyth y rhai a hunasant. O herwydd gan fod marwolaeth trwy ddŷn, trwy ddŷn hefyd y mae ad­gyfodiad y meirw. O blegit, megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly yng Hrist y bywheir pawb.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw yr hwn drwy dy vn Mâb Ie­su Grist, a orchfygaist angeu, ac a agoraist i ni borth y bywyd tragywyddol; yn vfydd yr attolygwn i ti, megis (drwy dy râd espesawl yn ein hachub) ydd wyt yn peri dyseifiadau da i'n meddyliau: felly trwy dy ddyfal gymmorth, allu o honom eu dwyn i ber­ffeithrwydd cyflawn, trwy Iesu Grist ein Hargl­wydd, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu yn oes oe­soedd. Amen.

Yr Epistol.

Coloss. 3.1. OS chwi a gyd-gyfodasoch gŷd â Christ, ceisiwch y pethau oddi vchod, lle y mae Christ yn eistedd ar ddeheu-law Duw. Rhoddwch eich bryd ar y pe­thau vchod, ac nid ar y pethau sydd ar y ddaear. Canys meirw ydych, a'ch bywyd a gu­ddiwyd gŷd â Christ yn-Nuw. Pan ymddangoso Christ yr hwn yw 'n bywyd, yna hefyd yr ymddan­goswch chwithau gŷd ag ef mewn gogoniant. Mar­whewch gan hynny eich aelodau y rhai sydd ar y ddaear, godineb, aflendid, gwŷn, dryd-chwant, a chybydd-dod yr hon sydd yn gaudduwiaeth: o achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufydd-dod. Ym-mha rai y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddych yn byw ynddynt.

Yr Efengyl.

Ioan. 20.1. Y Dŷdd cyntaf o'r wythnos Mair Fagdalen a ddaeth yn foreu a hi etto yn dywyll, at y bêdd, ac a we­les y maen wedi ei dreiglo oddiar y bedd. Yna y rhedodd hi ac a dda­eth at Simon Petr, ac at y discybl arall yr hwn yr oedd yr Iesu ei garu, ac ddywedodd wrthynt, hwy a ddygasant yr Arglwydd ymmaith o'r bêdd, ac ni ŵyddom ni pa le y dodasant ef. Yna Petr a aeth allan, a'r discybl arall, a hwy a ddaethant at y bêdd. Ac a redasant ill dau ar vn-waith, a'r discybl arall a redodd o'r blaen yn gynt nâ Phetr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bêdd. Ac ef a grymmodd, ac a ganfu y lliainiau wedi eu gosod: er hyny nid aeth efe i mewn. Yna daeth Simon Petr gā ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i'r bêdd, ac a ganfu y lliainiau wedi eu gosod yno, a'r napcyn yr hwn oedd am ei ben ef, heb ei osod gŷd a'r lliainiau, ond o'r naill-tu wedi ei blygu mewn lle arall. Yna 'r aeth y discybl arall i mewn hefyd, yr hwn a ddae­the yn gyntaf at y bêdd, ac a welodd, ac a gred­odd. Canys hyd yn hyn ni ŵyddent yr scrythur, y bydde raid iddo adgyfodi oddiwrth y meirw. A'r dis­cyblon a aethant drachefn adref.

Dydd Llûn Pâsc.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw yr hwn drwy dy vn Mâb Ie­su Grist a orchfygaist angau, ac a agoraist i ni borth y bywyd tragywyddol: yn vfydd yr attolygwn i ti, megis (drwy dy rad espysol yn ein hachub) ydd wyt yn peri dyseifiadau da i'n meddyliau, felly trwy dy ddyfal gymmorth allu o honom eu dwyn i ben da, trwy Iesu Grist ein Arglwyd, &c. Amen.

Yr Epistol.

Acts. 10.34. PEtr a agorodd ei enau, ac a ddywedodd, yn wîr yr wyf yn deall nad yw Duw yn derbyn wyneb nêb. Eithr ym-mhob cenhedlaeth y nêb a'i hofno ef, ac a wnelo gyfiawnder sydd gymmeradwy ganddo ef. Yr hwn ymadrodd a ddanfonodd Duw i feibion Israel, gan bregethu tangnheddyf trwy Iesu Grist yr hwn sydd Arglwydd pawb oll. Chwy­chwi a ŵyddoch y peth a fu yn holl Iudea, gan dde­chreu yn Galilea, wedi y bedydd a bregethodd Ioan: y modd y darfu i Dduw enneinio Iesu o Nazareth â'r Yspryd glân, ac â nerth, yr hwn a gerddodd o am­gylch, gan wneuthur gweithredoedd da, ac iachau pawb o'r oeddynt wedi eu dwyn tan feddiant diafol: canys Duw oedd gŷd ag ef. Ac yr ydym ni yn dysti­on o'r pethau oll a wnaeth efe yngwlâd yr Iddewon, ac yn Ierusalem, yr hwn a laddasant wedi iddynt ei grogi ar bren. Hwnnw a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a'i rhoddes i fôd yn amlwg. Nid i'r bobl oll, eithr i'r tystion etholedig o'r blaen gan Dduw, sef i ni y rhai a fwytasom, ac a yfasom gŷd ag ef, wedi ei adgyfodi oddiwrth y meirw. Ac ef a orchymynnodd i ni bregethu i'r bobl, a dwyn tystiolaeth mai efe yw hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn farnwr byw a meirw. Gŷd a hwn y mae 'r holl brophwydi yn ty­stiolaethu, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeu­ant pechodau trwy ei enw ef.

Yr Efengyl.

Luc. 24.13. WEle, dau o honynt oeddynt yn myned y dydd hwnnw i dref a'i henw Em­maus, yr hon oedd dri-ugain stâd oddi­wrth Ierusalem. Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â'i gilydd am yr holl be­thau hyn a ddigwyddasent. A bu fel yr oeddynt yn [Page] ymddiddan, ac yn ymofyn a'i gilydd, yr Iesu yntef a nessaodd, ac aeth gŷd â hwynt. Eithr eu llygaid hwynt a attaliwyd fel na's adwaenent ef. Ac ef a ddywedodd wrthynt, pa ryw ymadroddion yw y rhai hyn sydd gennwch wrth ei gilydd dan rodio? a phaham yr ydych yn drîst? A'r naill, yr hwn yr oedd ei enw Cleopas a attebodd, ac a ddywe­dodd wrtho, a ydwyt ti yn vnig yn ymdeithudd yn Ierusalem, ac ni ŵyddost y pethau a ddarfu yn y dyddiau hyn ynddi hi? Ac ef a ddywedodd wrth­ynt, pa bethau? hwythau a ddywedasant wrtho: yr hyn a wnaethpwyd i'r Iesu o Nazareth, yr hwn oedd ŵr a oedd brophwyd galluog mewn gweith­red, a gair, gar bron Duw a'r holl bobl. A'r modd y traddodes yr arch-offeiriaid, a'n llywodraeth-wŷr ni ef i'w gondemno i angeu, ac a'i croes-hoeliasant ef. Ond yr oeddym ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a warede 'r Israel: ac heb law hyn oll heddyw yw 'r trydydd dŷdd er pan wnaethpwyd y pethau hyn. A hefyd rhai gwragedd o'n plith ni a'n dychrynasant ni, y rhai a ddaethant yn foreu at y bedd. A phan na chawsant ei gorph ef, hwynt­hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled o honynt weledigaeth o angelion, y rhai a ddywedant ei fôd ef yn fyw. A rhai o'r rhai oedd gŷd â ny-ni a aethant at y bêdd, ac a gawsant felly fel y dywedase 'r gwra­gedd, ond ni welsant ef. Yntef a ddywedodd wrth­ynt, ô ynfydion, a hwyr-frydig o galon i gredu 'r holl bethau a ddywedodd y prophwydi. Ond oedd raid i Grist ddyoddef y pethau hyn a myned i'w ogoniant? A chan ddechreu ar Moses, a'r holl bro­phwydi ef a agorodd iddynt yn yr holl scrythyrau y pethau oeddynt scrifennedig am dano ef. Ac yr oe­ddynt yn nessau i'r drêf i'r hon ydd oeddynt yn my­ned: ac yntef a gymmerth arno ei fôd yn myned [Page] ym-mhellach. Ac hwy a'i cymmhellasant ef, gan ddy­wedyd, arhos gŷd â ni, canys y mae hi yn hwyrhau, a'r dŷdd sydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i ar­hos gŷd â hwynt. A darfu, ac efe yn eistedd i fwy­ta gŷd ag hwynt ef a gymmerth fara ac a'i bendi­godd, ac a'i torres, ac a'i rhoddes iddynt. Yna 'r egorwyd eu llygaid hwynt, ac hwy a'i hadnabuant ef: ac ef a ddifannodd allan o'u golwg hwynt. A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, onid oedd ein calonnau ni yn llosci ynom tra ydoedd efe yn ym­ddiddan â ny-ni ar y ffordd? a thra ydoedd efe yn agoryd i ni 'r scrythyrau? A hwy a godasant yn yr awr honno, ac a ddychwelasant i Ierusalem, ac a gawsant yr vn ar ddêg wedi ymgasclu yng­hŷd, a'r sawl oedd gŷd â hwynt: y rhai oeddynt yn dywedyd, yr Arglwydd a gyfododd yn wîr, ac a ymddangosodd i Simon. Hwythau a fynegasant y pethau a wnaethesid ar y ffordd, a pha fodd yr ad­nabuant ef wrth dorriad y bara.

Dydd mawrth Pâsc.

Y Colect.

HOll-alluog Dád yr hwn a roddaist dy vn Mâb i farw dros ein pechodau, ac i gyfodi trachefn dros ein iawnhâd: Caniadhâ i ni felly fwrw ym­maith sur-does drygioni ac anwiredd, fel y gallom yn wastad dy wasanaethu ym-mhurdeb buchedd a gwirionedd, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. A­men.

Yr Epistol.

Acts. 13.26. HA-wyr frodyr, plant cenhedlaeth Abraham, a'r rhai yn eich plith sydd yn ofni Duw, i chwi y danfonwyd gair yr iechydwriaeth hyn. Oblegid preswyl-wŷr Ierusalem, a'u tywysogion heb adnabod hwn, na lleferydd y pro­phwydi [Page] y rhai a ddarllenid bôb Sabboth, a'u cy­flawnasant gan farnu hwn. Ac heb gael ynddo ddim achos angeu, a ddymunasant ar Pilatus ei lâdd ef. Ac wedi iddynt gwblhau pob peth o'r a scrifennasid am dano ef, descynnasant ef oddiar y pren, a doda­sant ef mewn monwent. (Eithr Duw a'i cyfododd ef oddiwrth y meirw.) Yr hwn a welwyd lawer dydd gan y rhai a ddaethe i fynu gŷd ag ef o Galilea i Ierusalem, y rhai ydynt ei dystion ef wrth y bobl. A nyni ydym yn pregethu i chwi yr addewid a wna­ed i'r tadau, ddarfod i Dduw ei gyflawni i'w plant hwy, sef nyni, gan iddo adgyfodi Iesu: megis hefyd yr scrifennwyd yn yr ail Psalm, Fy Mâb i yd wyt ti, my-fi heddyw a'th genhedlais di. Ac am iddo ei gy­fodi ef o'r meirw nid i ddychwelyd mwy i lygre­digaeth, ef a ddywedodd fel hyn, Dodaf i chwi sanctaidd ddisigl [drugareddau] Dafydd. Ac am hynny y mae yn dywedyd mewn lle arall, Ni a­dewi i'th Sanct weled llygredigaeth. Canys Da­fydd, wedi iddo wasanaethu ei oes trwy ewy­llys Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth: eithr yr hwn a gyfo­des Duw ni welodd lygredigaeth. Am hynny by­dded hyspys i chwi, ha-wyr frodyr, mai trwy hwnnw yr ydys yn pregethu i chwi faddeuant am bechodau. A thrwy hwn y cyfiawnheir pob vn o'r sydd yn credu oddiwrth y pethau oll y rhai ni's gallent gael eu cyfiawni trwy gyfraith Mo­ses. Gwiliwch am hynny rhag dyfod arnoch y peth a ddywedir yn y prophwydi, Edrychwch ô ddirmyg-wyr, a rhyfeddwch, a diflennwch y­maith: canys yr wyf yn gwneuthur gweithred yn eich dyddiau, gwaith ni's credwch er i neb ei ddan­gos i chwi.

Yr Efengyl.

Luc. 24.36. YR Iesu a safodd ynghanol ei ddiscyblō, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnhe­ddyf i chwi. Hwythau wedi brawy­chu, ac ofni a dybiasant weled o ho­nynt yspryd. Dywedodd yntef wrthynt, pa ham y'ch trallodir? pa ham y mae traws-feddyli­au yn codi yn eich colonnau? Edrychwch fy nw­ylo a'm traed, mai my-fi fy hun ydyw: teimlwch fi a gwelwch: canys nid oes i yspryd gnawd, ac escyrn, fel y gwelwch fôd i mi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, ef a ddangosodd iddynt ei ddwylo, a'i draed. A thra 'r oeddynt hwy etto heb gredu gan lawe­nydd, ac yn rhyfeddu, ef a ddywedodd wrthynt hwy: a oes gennych ymma ddim bwyd? A hwy a roesant iddo ef ddarn o byscodyn wedi ei rostio, ac o ddîl mêl. Yntef a'i cymmerodd, ac a'i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt. Ac ef a ddywedodd wrthynt: y rhai hyn yw'r geiriau a ddywedais i wrthych chwi, pan oeddwn etto gŷd â chwi, bôd yn rhaid cy­flawni pôb peth sydd yn scrifennedig am danaf yng­hyfraith Moses, a'r prophwydi, a'r Psalmau. Yna efe a egorodd eu dyall hwynt, fel y dyallent yr scry­thyrau. Ac ef a ddywedodd wrthynt, felly y mae yn scrifennedig, ac felly yr oedd raid i Ghrist ddyoddef, a chyfodi o feirw y trydydd dŷdd: a phregethu edi­feirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ym­mhlith y cenhedloedd oll, gan ddechreu yn Ieru­salem. Ac yr ydych chwi yn dystion o 'r pethau hyn.

Y Sûl cyntaf gwedi'r Pasc.

Y Colect.

OLl-alluog Dduw &c. Megis ar y Cymmun Ddydd Pâsc.

Yr Epistol.

1. Ioan. 5.4. Y Mae oll o'r a aned o Dduw yn gorch­fygu'r bŷd, a hon yw 'r oruchafiaeth yr hon sydd yn gorchfygu y bŷd, sef ein ffŷdd ni. Pwy sydd yn gorchfygu 'r bŷd, onid yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mâb Duw? Hwn yw 'r Iesu Ghrist a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, nid trwy ddwfr yn vnig, o­nid trwy ddwfr a gwaed: a'r Yspryd yw 'r hwn sydd yn testiolaethu: canys yr Yspryd sydd wirio­nedd. Canys y mae tri yn tystiolaethu yn y nef, y Tâd, y Gair, a'r Yspryd glân: a'r tri hyn vn ydynt. Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaiar, yr Yspryd, a'r dwfr, a'r gwaed: a'r tri hyn yn vn y maent yn cytuno. Os tystiolaeth dynion a dderbyniwn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy: canys hyn yw ty­stiolaeth Duw, yr hon a dystiolaethodd efe am ei Fâb. Yr hwn sydd yn credu ym Mâb Duw y mae iddo y dystiolaeth ynddo ei hun: hwn nid yw yn cre­du i Dduw, a'i gwnaeth ef yn gelwyddog, gan na chredod y dystiolaeth yr hon a dystiolaethodd Duw am ei Fâb. A hon yw 'r dystiolaeth, roddi o Dduw i ni fywyd tragywyddol: a'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef. Yr hwn y mae y Mâb ganddo, y mae y by­wyd ganddo: a'r hwn nid yw ganddo Fâb Duw, nid oes ganddo fywyd.

Yr Efengyl.

Ioa. 20.19. YNa pan aeth hi yn hwyr y dŷdd cyn­taf hwnnw o'r wythnos, a'r drysau yn gaead, lle yr oedd y discyblon we­di ymgasclu ynghŷd, rhag ofn yr I­ddewon, yr Iesu a ddaeth, ac a sa­fodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tang­nheddyf i chwi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, ef [Page] a ddangosodd iddynt ei ddwylaw, a'i ystlys: yna y llawenychodd y discyblon wrth weled yr Arg­lwydd. Yna dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn. Tangneddyf i chwi: megis y danfonodd fy-Nhâd fi, felly yr ydwyf finne yn eich anfon chwi. Ac we­di iddo ddywedyd hyn ef a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch yr Yspryd glân: Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeu­wyd iddynt: yr eiddo pwy bynnag a attolioch, hwy a attaliwyd.

Yr ail Sûl yn ôl y Pâsc.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, yr hwn a roddaist dy vn Mâb i ni yn aberth, tros bechod, a hefyd yn e­sampl o fuchedd dduwiol, dyro i ni dy râs, fel y gal­lom byth fod yn ddiolchgar dros ei anhraethawl les­hâd ef; a hefyd i ni beunydd ymroi i ganlyn bendige­dig lwybrau ei wir lanaf fuched ef, Amen.

Yr Epistol.

1. Pet. 2.19. HYn sydd rasol, os o herwydd cydwybod i Dduw y bydd i neb ddwyn cystudd, gan ddyoddef yn ddiachos. Oblegid pa glôd yw er bôd yn dda eich ammynedd pan gernodier chwi am eich beiau? ei­thr os pan wneloch dda er hynny y byddwch dda eich ammynedd yn goddef, hyn sydd rasol garbron Duw. Canys i hyn y galwyd chwi: oblegid Christ hefyd a ddyoddefodd trosom ni, gan adel i ni siam­pl, fel y gallech chwi ganlyn ei ôl ef. Yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau. Yr hwn pan ddifenwyd ni ddifenwodd eilwaith: pan ddyoddefodd, ni fygythiodd, eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn. Yr hwn ei hun a ddûg ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren, [Page] fel y gallem ni wedi ein gwared oddiwrth bechod, fyw i gyfiawnder, trwy gleisiau yr hwn yr iacha­wyd chwi. Canys yr oeddych megis defaid yn my­ned ar gyfeilorn, eithr yn awr chwi a droesoch at fugail, ac Escob eich eneidiau.

Yr Efengyl.

Ioan. 10.11. CHrist a ddywedodd wrth ei ddiscyblon, My-fi yw 'r bugail da: y bugail da a rydd ei einioes tros ei ddefaid. Eithr y gwâs-cyflog, a'r hwn nid yw fu­gail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadel y defaid, ac yn cilio: a'r blaidd sydd yn sclyfio, ac yn tarfu y defaid. Ac y mae 'r gwâs-cyflog yn ffoi, am ei fod yn wâs-cyflog, ac heb ofal ganddo am y defaid. My-fi yw 'r bugail da, ac mi a adwen y mau fi, ac a'm hadwaenir gan y mau fi. Fel yr edwyn y Tâd fy-fi, yr adwen inne 'r Tâd: ac yr wyf fi yn dodi fy einioes tros fy nefaid. Y mae gennif fi ddefaid e­raill, y rhai nid ŷnt o'r gorlan hon: rhaid i mi arei­lio y rhai hynny, a hwy a wrandawant fy llais: ac fe fydd vn gorlan, ac vn bugail.

Y Trydydd Sûl yn ôl y Pâsc.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, yr hwn wyt yn dangos i bawb sy ar gyfeiliorn lewyrch dy wirionedd, er eu dwyn i ffordd cyfiawnder. Caniadhâ i bawb a dderbynner i gymdeithas crefydd Grist, allu o ho­nynt ymogel cyfryw bethau ac y sydd wrthwyneb iw profess, a chanlyn y sawl bethau oll a fyddo yn cydtuno â'r vn-rhyw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Amen.

Yr Epistol.

1. Pet. 2.11. FY anwylyd, yr wyf yn attolwg i chwi megis dieithraid, a phererinion, ym­gedwch oddiwrth drachwantau 'r cn­awd, y rhai sy yn rhyfela yn erbyn yr enaid. A bydded eich ymwreddiad yn honest ym-mŷsc y cenhedloedd, fel y gallo y rhai sy yn eich goganu fel pe byddech ddrwg-weithredwyr, o herwydd eich gweithredoedd da a welant, folian­nu Duw yn nŷdd yr ymweliad. Ymddarostyngwch oblegid hyn i bob dynol ordinhâd er mwyn yr Arg­lwydd, pa vn bynnag ai i'r brenhin fel i'r goruch­af, ai i'r llywiawdwyr fel i'r rhai a ddanfonir gan­ddo ef, er dialedd i'r rhai drwg, ac er mawl i'r rhai sy yn gwneuthur da. Canys felly y mae ewyllys Duw, fel y galloch trwy wneuthur yn dda ostegu anwybodaeth dynion ffolion. Megis yn rhyddion, ac nid fel rhai yn cymmeryd rhyddid yn lle cochl ma­lis, eithr fel gwasanaethwyr Duw. Perchwch bawb: cerwch gymdeithas brawdol: ofnwch Dduw: anrhydeddwch y brenhin.

Yr Efangyl.

Ioan. 16.16. YR Iesu a ddywedodd wrth ei ddiscy­blon, Ychydig ennyd, ac ni 'm gwel­wch, a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch: am fy môd yn my­ned at y Tâd. Am hynny rhai o'i ddiscy­blon a ddywedasant wrth ei gilydd: beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni 'm gwelwch, a trachefn ychydig ennyd, a chwi a 'm gwelwch, ac, Am fy môd yn myned at y Tâd? Am hynny hwy a ddywedasant, beth ydyw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd? Ni ŵyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd. A gwybu 'r Iesu eu bôd hwy yn ewyllysio gofyn iddo, ac a ddywedodd [Page] wrthynt, ai ymofyn yr ydych a'i gilydd am ddywe­dyd o honof hyn, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch, a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, chwi a ŵylwch, ac a alerwch, a'r bŷd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion, ond eich tristwch a droir yn llawenydd. Gwraig wrth escor a fydd mewn tristyd, am ddyfod ei hawr, eithr wedi geni iddi y plentyn, ni chofia ei gofid mwyach, gan lawenydd geni dŷn i'r byd. Chwithau hefyd ydych mewn tristwch yn awr, ei­thr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a'ch calon a lawe­nycha, a'ch llawenydd ni ddwg neb oddiarnoch.

Y pedwerydd Sûl yn ôl y Pâsc.

Y Colect.

HOll-gyfoethog Dduw, yr hwn wyt yn gwneu­thûr meddyliau yr holl ffyddloniaid i fod o vn e­wyllys: Caniadhâ i'th bobl, fod iddynt garu yr hyn a orchymynni, a deisyfu yr hyn a addewi, fel ym-mh­lith amrafael ddamwaeniau y byd, allu cael o'n ca­lonnau gwbl aros yn y lle y mae gwir lawenydd iw gaffael, trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

Iac. 1.17. POb dawn daionus, a phob rhodd ber­ffaith oddi vchod y mae, yn descyn oddi­wrth Dâd y goleuni, gŷd â 'r hwn nid oes trasymudigaeth, na chyscodiad tro­edigaeth. O'i wir ewyllys y cenhedlodd efe ny-ni trwy air y gwirionedd, fel y gallem fôd me­gis blaen-ffrwyth ei greaduriaid ef. O achos hyn fy mrodyr anwyl, bydded pob dŷn escud i wrando, diog i lefaru, a diog i ddigofaint. Canys digofaint gŵr nid yw yn cyflawni cyfiawnder Duw. Am hynny rho­ddwch heibio bob budreddi, ac amldra malis, a [Page] thrwy laryeidd dra derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau.

Yr Efengyl.

Ioan. 16.5. YR Iesu a ddywedodd wrth ei ddiscy­blon: yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd, ac nid yw neb o honoch yn gofyn i mi, i ba le yr ai di? Eithr am i mi ddywedyd hyn wrthych, tristwch a lanwodd eich calon. Ond yr wyf fi yn dy­wedyd y gwirionedd i chwi: buddiol yw i chwi fy myned i ymmaith. Canys onid âf fi ymmaith, ni ddaw y diddanudd attoch: eithr os mi a âf, mi a'i hanfonaf ef attoch. A phan ddêl, ef a argyoedda 'r bŷd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn. O bechod, am nad ydynt yn credu ynofi. O gyfiawnder, am fy môd yn myned at y Tâd, ac nim gwelwch i mwyach. O farn, am ddarfod barnu tywysog y bŷd hwn. Y mae gennif etto lawer o bethau i'w dywedyd wr­thych, ond yn awr ni ellwch eu dwyn. Ond pan ddêl efe, sef Yspryd y gwirionedd, efe a'ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ef o honaw ei hun, ond pa bethau bynnag a glywo ef a lefa­ra, ac a fynega i chwi y pethau sydd i ddyfod. Efe a'm gogonedda i, canys efe a gymmer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi. Y pethau oll sy yn eiddo 'r Tâd, ydynt eiddof fi: am hynny y dywedais y cymmer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi.

Y Pumed Sûl yn ôl y Pâsc.

Y Colect.

ARglwydd oddi-wrth ba vn y daw 'r holl ddaioni, caniadhâ i ni dy vfydd weision, trwy dy sanctaidd [Page] ysprydoliaeth feddwl o honom y pethau a fo vnion, a thrwy dy ymgoleddus dywysogaeth eu gwneuthur yn ddibennus, trwy ein Harglwydd Iesu Grist. A­men.

Yr Epistol.

Iac. 1.22. BYddwch wneuthur-wyr y gair, ac nid gwrandawyr yn vnig, gan eich twyllo eich hunain. Canys o gwren­dy neb y gair, ac heb ei wneuthur, te­byg yw hwnnw i ŵr yn edrych ei wy­neb-pryd naturiol mewn drŷch. Canys ystyriodd ef ei hun ac aeth ymmaith, ac yn y man anghofiodd pa sut ydoedd. Eithr y neb a edrycho ar yr hon sydd berffaith gyfraith rhydd-did, ac a erys ynddi, hwn am nad ydyw wrandawr anghofus, eithr gwneu­thurwr y weithred, happus fydd yn ei weithred. Os tybir bôd neb yn eich mŷsc yn grefyddol, yr hwn nid attalio ei dafod, eithr sydd yn twyllo ei galon ei hun, crefydd hwnnw ofer yw. Crefydd pûr a dihalogedig ger bron Duw a'r Tâd yw hyn, ym­weled â 'r ymddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, ac ymgadw yn ddifrycheulyd oddiwrth y bŷd.

Yr Efengyl.

Ioan. 16.23. YN wir, yn wir meddaf i chwi, pa be­thau bynnag a ofynnoch i'm Tâd yn fy enw i, efe a'u rhydd i chwi. Ni ofyn­nasoch ddim hyd hyn yn fy enw i: go­fynnwch, a chwi a gewch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. Y pethau hyn a drae­thais wrthych mewn damhegion, ond y mae 'r awr yn dyfod pan na adroddwyf mewn damhegion wr­thych, eithr y mynegwyf yn eglur i chwi am y Tâd. Y dŷdd hwnnw y gofynnwch yn fy enw, ac nid [Page] wyf yn dywedyd i chwi y gweddiaf fi ar y Tâd tro­soch. Canys y Tâd ei hun a'ch câr chwi, am i chwi fyngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddiwrth Dduw: Daethym allan oddiwrth y Tâd, a daeth­ym i'r bŷd: trachefn yr wyf yn gadel y bŷd, ac yn my­ned at y Tâd. Ei ddiscyblon a ddywedasant wrtho, wele, yn awr yr wyt yn llefaru yn eglur, ac nid yd­wyt yn dywedyd vn ddammeg. Yn awr y gŵyddom y gŵyddost bob peth, ac nad rhaid i t'ymofyn o neb â thi. Trwy hyn y credwn ddyfod o honot oddiwrth Dduw. A'r Iesu a'u hattebodd hwynt, a ydychwi yn credu yn awr. Wele y mae r awr yn dyfod, ac hi a ddaeth eusus, pan y 'ch gwascerir bawb at yr eiddo, ac y gadewch fi yn vnig: ac nid wyf yn vnig, am fôd y Tâd gŷd â mi. Y pethau hyn a ddywedais wrthych, fel y caffech dangnheddyf ynof: gorthrym­der a gewch yn y bŷd: eithr cymmerwch gysur, my-fi â orchfygais y bŷd.

Dydd Iou Dyrchafael.

Y Colect.

CAniadhâ ni a attolygwn i'th orucheldeb Holl-alluog Dduw, megis ac ydd ŷm ni yn credu dar­fod i'th vn Mâb ein Harglwydd dderchafel i'r ne­foedd: felly bod i ninnau â meddyl-fryd ein calon allu ymdderchafel yno, a chyd ag ef drigo yn wa­stadol.

Yr Epistol.

Act. 1.1. MI a wnaethym y traethawd cyntaf, ô Theophilus, am yr holl bethau y rhai a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur, a'u dyscu, hyd y dydd y dyrchafwyd ef i fynu, wedi iddo trwy 'r Yspryd glân ro­ddi gorchymmyn i'r Apostolion y rhai a etholase efe. I'r rhai wedi iddo ef ddyoddef yr ymddangosodd efe [Page] yn fyw trwy lawer o arwyddion siccr, gan fôd yn weledig iddynt tros ddeu'gain nhiwrnod, ac yn dyw­edyd ynghylch pethau o deyrnas Dduw. Ac wedi iddo eu cynnull hwynt ynghŷd efe a orchymynnodd iddynt nad elent ymmaith o Ierusalem, eithr disgw­il am addewid y Tâd, yr hwn, eb efe, a glywsoch ge­nnif fi. Canys Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr, ond chwi a fedyddir â 'r Yspryd glân cyn nemawr o ddyddiau. Am hynny wedi dyfod o honynt ynghŷd, gosynnasant iddo gā ddywedyd, Arglwydd, a i'r pryd hyn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel? Ac efe a ddywedodd wrthynt, ni pherthyn i chwi ŵybod yr amseroedd na'r prydiau y rhai a osodes y Tâd yn ei feddiant ei hun. Eithr chwi a dderbyniwch rinwedd yr Yspryd glân, wedi y delo efe arnoch: a chwi a fydd­wch dystion i mi yn Ierusalem, ac yn holl Iudea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaiar. Ac wedi iddo ddyw­edyd hyn, a hwynt-hwy yn edrych, cyfodwyd ef i fy­nu, ac wybren a'i cymmerodd ef i fynu o'u golwg hwy. Ac fel yr oeddynt yn tremmu yn grâff tu â 'r nef, ac efe yn myned, wele, dau ŵr a safasant gar llaw iddynt mewn gwisc wenn. Y rhai hefyd a ddyweda­sant, chwi wŷr o Galilea, pa ham y sefwch yn edrych tu â 'r nef? yr Iesu hwn yr hwn a gymmerwyd i fy­nu oddiwrthych i'r nef, a ddaw yr vn môdd ac y gwel­soch ef yn myned i 'r nef.

Yr Efengyl.

Mar. 16.14. YR Iesu a ymddangosodd i'r vn ar ddeg a hwynt yn cyd-eistedd, ac a ddann­ododd iddynt eu hanghredyniaeth, a'u calon-galedwch, am na chredent y rhai a'i gwelsent ef wedi adgyfodi. Ac ef a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r holl fŷd, a phregethwch yr Efengyl i bob creadur. Y neb a gredo, ac a fedyddier, fydd cadwedig, eithr y neb ni [Page] chredo a gondemnir. A'r arwyddion hyn a ganlyn­ant y rhai a gredant, yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid, y llefarant â thafodau newyddion. Seirph a godant hwy ymmaith, ac os yfant ddim anghefol ni wna iddynt niwed, dodant eu dwylo ar gleifion, a hwy a fyddant iâch. Felly wedi darfod i 'r Arglwydd lefaru wrthynt, cymmerwyd ef i fynu i 'r nef, ac ef a eisteddodd ar ddeheu-law Duw. A hwynt a aethant allan, ac a bregethasant ym-mhob man, a'r Arglwydd yn cyd-weithio, ac yn cadarnhau y gair trwy arwyddion y rhai oeddynt yn canlyn.

Y Sûl yn ôl y Dyrchafael.

Y Colect.

O Dduw, frenin y gogoniant, yr hwn a dderchef­aist dy vn Mâb Iesu Grist â mawr oruchafiaeth i'th deyrnas yn y nefoedd: Atolwg i ti na âd ni yn anniddan, eithr danfon i ni dy Yspryd glân i'n didd­anu, a dercha ni i'r vn fan lle yr aeth ein Iachawdur Crist o'r blaen; yr hwn a fywocâ, ac a deyrnasa yn oes oesoedd.

Yr Epistol.

1. Pet 4.7. DIwedd pob peth sydd yn agos: am hy­nny byddwch sobr, a gwiliadwrus i weddio. Ym-mlaen pob peth bydded cariad twymn yn eich plith: canys ca­riad a guddia liaws o bechodau. Bydd­wch letteugar i'w gilydd yn ddirwgnach. Pob vn megis ac y cafodd rodd, gweinwch hynny i'w gilydd, fel daionus orchwylwyr amryw râs Duw. Os dywed neb, dyweded megis geiriau Duw, os gweini a wnâ neb, gwnaed hynny megis o'r gallu y mae Duw yn ei roddi, fel y gogonedder Duw ymmhob peth trwy Iesu Ghrist, i'r hwn y mae 'r gogoniant, a'r arglwyddiaeth yn oes oesoedd. Amen.

Yr Efengyl.

Io. 15.26. PAn ddel y diddanudd yr hwn a anfonaf fi i chwi oddiwrth y Tâd, sef Yspryd y gwir­ionedd yr hwn a ddeillia oddiwrth y Tâd, hwnnw a dystiolaetha am danaf fi. Chw­ithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bod o 'r de­chreuad gŷd â mi. Y pethau hyn a ddywedais i chwi, rhag eich rhwystro chwi. Hwy a'ch bwriant chwi allan o 'u synagogau, îe, y mae 'r amser yn dyfod, y ty­bia pwy bynnac a' ch lladdo, ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. A'r pethau hyn a wnânt i chwi, am nad adnabuant y Tâd, na my-fi. Eithr y pethau hyn a ddywedais wrthych, fel pan ddêl yr awr y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi.

Y Sûl-gwyn.

Y Colect.

DVw, yr hwn ar gyfenw i heddyw a ddyscaist ga­lonnau dy ffyddlonion, gan anfon iddynt lew­yrch dy lân Yspryd: Caniadhâ i nyni trwy yr vn­rhyw Yspryd, ddeall yr iawn farn ym-mhob peth, a byth lawenychu yn ei wynfydedic ddiddanwch ef, trwy ryglyddau Iesu Grist ein Iachawdur, yr hwn a fywocâ, ac a deyrnasa gyd â thi yng-hyfundeb yr vn-rhyw Yspryd, yn vn Duw heb drangc na gor­phen. Amen.

Yr Epistol.

Act. 2.1. GWedi dyfod dŷdd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn gytun yn yr vn-lle. Ac yn ddisymmwth daeth sŵn o'r nef, fel gŵth gwynt yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle 'r oeddynt yn eistedd. A thafodau gwahanedig a ymddangosasant iddynt fel tân, ac efe a eisteddodd ar bob vn o honynt. A hwy a gyflawnwyd oll â'r Yspryd glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Yspryd [Page] iddynt lefaru. Ac yr oedd yn trigo yn Ierusalem Idd­ewon o wŷr bucheddol, o bob cenedl o'r rhai ydynt tan y nef. Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghŷd, ac a synnodd arnynt, oblegid bob pob vn yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei dafod-iaith ei hun. Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, wele, onid yw y rhai hyn oll sy yn llefaru o Galilea? A pha wedd yr ydym ni yn eu clywed hwynt pob vn yn ein tafodiaeth ein hunain yn yr hon y'n ganed ni? Parthiaid, a Medi­aid, ac Elamidiaid, a thrigolion Mesopotamia, ac Iudea, a Chappadocia, Pontus, ac Asia: Phrygia hefyd, a Phamphilia, yr Aipht, a rhannau Lybia, yr hon sydd gar llaw Cyrene, a dieithraid o Rufeinwyr, Iddewon, a phroselytiaid, Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn traethu mawrion weithredoedd Duw yn ein tafod-iaith ein hun.

Yr Efengyl.

Io. 14.15. YR Iesu a ddywedodd wrth ei ddiscy­blon, O cherwch fi, cedwch fyngorch­ymynion. A mi a weddiaf ar y Tâd, ac efe a rydd i chwi ddiddanudd arall, i ar­hos gŷd â chwi yn dragywyddol: Yspryd y gwirionedd yr hwn ni ddichon y bŷd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adna­bod ef. Ond chwi a'i adwaenoch ef, o herwydd y mae yn arhos gŷd â chwi, ac ynoch y bydd efe. Ni's gad­awaf chwi yn ymddifaid, mi a ddeuaf attoch chwi. Etto ennyd bach, a'r bŷd ni'm gwêl mwyach: eithr chwi a'm gwelwch: canys byw wyf fi, a byw fydd­wch chwithau. Y dŷdd hwnnw y gŵybyddwch fy môd i yn fy Nhâd, a chwi ynof fi, a mīne ynoch chwi. Y neb sydd a'm gorchymynion i ganddo, ac yn eu ca­dw hwynt, efe yw 'r hwn sydd yn fy-ngharu i: a'r sawl sydd yn fy-ngharu i, a gerir gan fy-Nhâd i, a [Page] minne a'i caraf ef, ac a 'm hegluraf fy hun iddo ef. Dywedodd Iudas wrtho, (nid yr Iscariot) Argl­wydd, pa beth yw 'r achos yr egluri dy hun i ni, ac nid i 'r bŷd? Yr Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wr­tho: os câr neb fi, ef a geidw fy-ngair, a'm Tâd a'i câr yntef: a nyni a ddeuwn atto, ac arhoswn gŷd ag ef. Y neb ni 'm câr i, ni cheidw mo 'm geiriau: a 'r gair a glywsoch, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo 'r Tâd yr hwn a 'm hanfonodd i. Hyn a ddywedais wrthych â mi yn arhos gŷd â chwi. Eithr y diddanudd, sef yr Yspryd glân, yr hwn a enfyn y Tâd yn fy enw i, hw­nnw a ddŷsc i chwi bob peth, ac a eilw bob peth i 'ch côf chwi o 'r a ddywedais i wrthych. Yr wyf yn gadel i chwi Dangneddyf, fy-nhangnheddyf yr wyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae 'r bŷd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac of­ned. Clywsoch fel y dywedais wrthych: yr wyf yn myned ymaith, ac mi a ddeuaf attoch. Pe carech fi, llawenhaech am i mi ddywedyd, yr wyf yn myned at y Tâd: canys y mae fy-Nhâd yn fwy nâ my-fi. Ac yr awr hon dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel y credoch pan ddelo. Yn ôl hyn ni ddywedaf nemawr wrthych: canys tywysog y bŷd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes iddo ddim ynof fi. Ond fel y gwypo 'r bŷd fy môd i yn caru 'r Tâd, ac megis y gorchymynnodd y Tad i mi, felly yr wyf yn gwneuthur.

Dydd Llun y Sul-gwyn.

Y Colect.

Duw yr hwn, &c. Megis ar ddydd y Sul-gwyn.

Yr Epistol.

Act. 10.34. PEtr a agorodd ei enau, ac a ddywed­odd, yn wîr yr wyf yn deall nad yw Duw yn derbyn wyneb neb. Eithr ymmhob cenhedlaeth y neb a'i hofno ef, ac a wnelo gyfiawnder, sydd gymm­eradwy [Page] ganddo ef. Yr hwn ymadrodd a ddanfonodd Duw i feibion Israel, gan bregethu tangnheddyf trwy Iesu Ghrist, yr hwn sydd Arglwydd pawb oll. Chwy-chwi a ŵyddoch y peth a fu yn holl Iudea, gan ddechreu yn Galilea, wedi y bedydd a bregeth­odd Ioan: y modd y darfu i Dduw enneinio Iesu o Nazareth â 'r Yspryd glân, ac â nerth, yr hwn a ger­ddodd o amgylch, gan wneuthur gweithredoedd da, ac iachâu pawb o'r oeddynt wedi eu dwyn tan feddi­ant diafol: canys Duw oedd gŷd ag ef. Ac yr ydym ni yn dystion o'r pethau oll a wnaeth efe yngwlâd yr Iddewon, ac yn Ierusalem, yr hwn a laddasant wedi iddynt ei grogi ar bren. Hwnnw a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a'i rhoddes i fod yn amlwg. Nid i'r bobl oll, eithr i 'r tystion etholedig o 'r blaen gan Dduw, sef i ni y rhai a fwytasom, ac a yfasom gŷd ag ef, wedi ei adgyfodi oddiwrth y meirw. Ac ef a orchymynnodd i ni bregethu i 'r bobl, a dwyn tystiolaeth mai efe yw 'r hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn farn-wr byw a meirw. Gŷd â hwn y mae 'r holl brophwydi yn tystiolaethu, y derbyn pob vn a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef. Tra oedd Petr etto yn dywedyd y geiri­au hyn, discynnodd yr Yspryd glân ar bawb a glyw­sant y gair. A'r rhai o 'r enwaediad a oeddynt yn credu, cynnifer ac a ddaethent gŷd â Phetr, a synn­odd arnynt, am dywallt dawn yr Yspryd glân ar y cenhedloedd hefyd. Canys hwy a'u clywsent hwynt yn ymadrodd â thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna'r attebodd Petr, a all neb luddio dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Y­spryd glân fel ninnau? Ac efe a orchymynnodd eu bedyddio hwynt yn enw 'r Arglwydd. Yna deisyfa­sant arno arhos tros ennyd o ddyddiau.

Yr Efengyl.

Io 3.16. FElly y carodd Duw y bŷd, fel y rho­ddodd ei vnig-anedig Fâb, fel na choller neb o'r sydd yn credu ynddo ef, eithr caffael o honaw fywyd tragywyddol. Oblegid ni ddanfo­nodd Duw ei Fâb i'r bŷd i ddamno 'r bŷd, eithr fel y bydde y byd gadw­edig trwyddo ef. Yr hwn a grêd ynddo ef ni ddemnir, ond yr hwn nid yw yn credu a ddamnwyd eusys, am na chredodd yn enw vnig-anedig Fâb Duw. A hon yw 'r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i'r bŷd, a cha­ru o ddynion y tywyllwch yn fwy nâ 'r goleuni, o herwydd yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrŵg. O herwydd pob vn o'r sydd yn gwneuthur drŵg, sydd yn cashâu y goleuni, ac ni ddaw i'r goleuni, rhag argyoeddi ei weithredoedd. Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, a ddaw i'r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn-Nuw y gwnaed hwynt.

Dydd Mawrth y Sûlgwyn.

Y Colect.

Duw yr hwn, &c. Megis ar ddydd y Sulgwyn.

Yr Epistol.

Act. 8.14. PAn glybu 'r Apostolion y rhai oeddynt yn Ierusalem dderbyn o Samaria air Duw, hwy a anfonasant attynt Petr ac Ioan. Y rhai wedi iddynt ddyfod i wared a weddiasant trostynt, ar dder­byn o honynt yr Yspryd glân. Oblegid ni ddaethe efe etto i lawr ar yr vn o honynt, ond hwy a fedyddiasid yn vnig yn enw'r Arglwydd Iesu. Yna dodasant eu dwylaw arnynt, ac hwy a dderbynia­sant yr Yspryd glân.

Yr Efengyl.

Io. 10.1. YN wir, yn wir, meddaf i chwi, yr hwn nid yw yn myned i mewn drw­y 'r drŵs i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr, ac yspei­ludd yw efe. Ond yr hwn sydd yn my­ned i mewn drwy'r drŵs yw bugail y defaid. I hwn y mae 'r dryssor yn agoryd, ac y mae 'r defaid yn gwrando ar ei lais ef, ac y mae ef yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan. Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o'u blaen hwynt, a'r defaid a'i canlynant ef, am eu bôd yn adnabod ei lais ef. A dŷn dieithr ni's canlynant, eithr ciliant oddiwrtho, am nad adwaenant lais dieithriaid. Y ddammeg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt, ond hwy ni ŵybuant pa bethau oedd y rhai a ddywedase efe wrthynt. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, yn wir, yn wir, meddaf i chwi, my-fi yw drŵs y defaid. Cynni­fer oll ac a ddaethant o'm blaen i, lladron ac yspeil­ŵyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt. My­fi yw'r drŵs: os aiff neb i mewn drwof fi, ef a fydd cadwedig, ac ef a aiff i mewn, ac a aiff allan, ac a gaiff borfa. Nid yw'r lleidr yn dyfod ond i ladratta, ac i lâdd, ac i ddistrywio: my-fi a ddaethym er mwyn cael o honynt fywyd, a'i gael o honynt yn helaethach.

Sûl y Drindod.

Y Colect.

HOll-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn a roddaist i ni dy weision râd, gan gyffessu ac addef dy wîr ffydd, i adnabod gogoniant y dragywyddol Drindod, ac yn nerth y duwiol Fawredd i addoli yr [Page] vndod: Nyni a attolygwn i ti, fod i ni trwy gader­nid y ffydd hon, gael ein hamddeffyn oddi-wrth bob gwrthwyneb, yr hwn wyt yn byw, ac yn teyrnasu, yn vn Duw byth heb ddiwedd. Amen.

Yr Epistol.

Gwel. 4.1 GWedi hyn mi a edrychais, ac wele, yr ydoedd drŵs yn agored yn y nef, a'r llais cyntaf a glywais oedd fel llais vdcorn yn chwedleua â mi, gan ddy­wedyd, dring i fynu ymma, a mi a ddangosaf i ti y pethau a orfydd eu gweuthur wedi hyn. Ac yn y man yr oedd wn yn yr yspryd, ac wele, fe a ddodwyd gorseddfaingc yn y nef, ac eisteddodd vn ar yr orsedd-faingc. A'r hwn a eisteddodd oedd i'w weled yn debyg i faen Iaspis, a Sardon, ac en­fys oedd o amgylch yr orsedd-faingc, yn debyg yr o­lwg arni i Smaragdus. Ac ynghylch yr orsedd­faingc yr oedd pedair gorsedd-faingc ar hugain, ac mi a welwn ar y gorsedd-feingciau bed war ar hu­gain o henuriaid yn eistedd, a dillad gwynion am da­nynt, a choronau o aur oedd ganddynt ar eu pen­nau. A mêllt, a tharanau, a lleisiau a ddaethant a­llan o'r orsedd-faingc, a saith ffagl o dân oeddynt yn llosci ger bron yr orsedd-faingc, y rhai ydynt saith Yspryd Duw. Ac o flaen yr orsedd-faingc yr ydoedd môr o wydr, yn debyg i faen Crystal, ac ynghanol yr orsedd-faingc, ac ynghylch yr orseddfaingc yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid, ym-mlaen, ac yn ôl. A'r anifail cyntaf oedd debyg i lew, a'r ail ani­fail yn debyg i lo, a'r trydydd anifail oedd ag wyneb ganddo fel dŷn, a'r pedwerydd anifail oedd yn de­byg i eryr yn ehedeg. Ac yr oedd i bob vn o'r pedwar anifail chwech o adenydd o amgylch iddynt, ac yr [Page] oeddynt yn llawn llygaid o'r tu fewn, ac nid oeddynt yn gorphywys ddŷdd na nôs, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw holl-alluog, yr hwn a fu, ac y sydd, ac yw ar ddyfod. A phan ro­ddodd yr anifeiliaid hynny ogoniant, ac anrhydedd, a diolch i'r hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd: y pedwar henu­riad ar hugain a syrthiasant gar bron yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ac a addolasant yr hwn sydd yn byw yn dragywydd, ac a fwriasant eu coronau gar bron yr orsedd-faingc, gan ddywedyd, Teilwng wyt, ô Arglwydd, i dderbyn gogoniant, ac anrhydedd, a gallu, canys ti a greaist bob peth, ac er mwyn dy ewyllys di y maent, ac y crewyd hwynt.

Yr Efengyl.

Io. 3.1. YR oedd dŷn o'r Pharisaeaid, a'i enw Nicodemus, pennaeth yr I­ddewon. Hwn a ddaeth at yr Ie­su liw nôs, ac a ddywedodd wr­tho, Rabbi, ni a ŵyddom mai dys­cawdur wyt ti wedi dyfod oddi­wrth Dduw: canys ni all neb wneuthur y gwyrthiau hyn y rhai yr ydwyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gŷd ag ef. Yr Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wr­tho ef, yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, oddieithr geni dŷn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw. Nicodemus a ddywedodd wrtho ef, pa fodd y dichon dŷn ei eni ac ef yn hên? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith a'i eni? Yr Iesu a attebodd, yn wir, yn wir, meddaf i ti, oddieithr geni dŷn o ddwfr, a'r Yspryd, ni ddichon ef fyned i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn a aned o'r cnawd, sydd gnawd, a'r [Page] hyn a aned o'r Yspryd, sydd yspryd. Na ryfedda di ddywedyd o honof wrthit, Rhaid yw eich geni chwi drachefn. Y mae y gwynt yn chwythu lle y mynno, a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni ŵyddost o bale y mae yn dyfod, nac i ba le yr aiff: felly y mae pawb a'r a aned o'r Yspryd. Nicodemus a attebodd, ac a ddy­wedodd wrtho, pa fôdd y dichon y pethau hyn fôd? Yr Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, a wyt ti yn ddyscawdur yn Israel, ac ni ŵyddost y pe­thau hyn? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, mai 'r hyn a ŵyddom yr ydym yn ei ddywedyd, a'r hyn a wel­som yr ydym yn ei dystiolaethu, ac nid ydych yn derbyn ein tystiolaeth ni. Os dywedais i chwi bethau daearol, a chwithau nid ydych yn credu, pa fodd y credech pe dywedwn i chwi bethau ne­fol? Ac ni escynnodd neb i'r nef, o ddieithr yr hwn a ddescynnodd o'r nef, sef Mâb y dŷn, yr hwn sydd yn y nef. Ac megis y dyrchafodd Moses y sarph yn y diffaethwch felly y mai rhaid dyrchafu Mâb y dŷn, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o honaw fywyd tragywyddol.

Y Sûl cyntaf gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

DVw yr hwn wyt wir nerth pawb oll y sy yn ymddyried ynot, yn drugarog derbyn ein gwe­ddiau: A chan na ddichon gwendid ein marwol anian wneuthur dim da hebot ti, Caniadhâ i ni gymmorth dy râd, fel y bo i ni gan gadw dy orch­mynnion, ryngu bodd i ti ar ewyllys a gweithred: trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

1. Ioan. 4.7. O Anwylyd, carwn ei gilydd: canys ca­riad o Dduw y mae, a phob vn a gâr, o Dduw y ganed ef, ac efe a edwyn Dduw. Yr hwn ni châr, nid edwyn Dduw: canys cariad yw Duw. Yn hyn y mae cariad Duw yn ymddangos arnom ni, gan i Dduw ddanfon ei vnig genhedledig Fâb i'r bŷd, fel y byddom fyw trwyddo ef. Yn hyn y mae ca­riad, nid am i ni garu Duw, eithr am iddo ef yn ca­ru ni, ac anfon ei Fâb i fod yn iawn tros ein pecho­dau. Oh anwylyd, os felly y carodd Duw ni, nin­nau a ddylem garu ei gilydd. Ni welodd neb Dduw erioed: os carwn ni ei gilydd y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad yn berffaith ynom. Wrth hyn y gŵyddom ein bod yn trigo ynddo ef, ac yntef ynom ninnau: gan ddarfod iddo roddi i ni o'i Yspryd ef. A ninnau a welsom, ac a dystiolaethwn ddar­fod i 'r Tâd ddanfon y Mâb yn Iachawdr i'r bŷd. Pwy bynnag a gyffesso fod Iesu yn Fâb Duw, yn­ddo ef y mae Duw yn trigo, ac yntef yn Nuw. A ny-ni a adnabuom, ac a gredasom y cariad yr hwn sydd gan Dduw arnom: Duw cariad yw, a'r hwn sydd yn arhos ynghariad sydd yn arhos yn-Nuw, a Duw ynddo yntef. Yn hyn y cwplheir y cariad ynom, fel y byddo i ni hyder ddŷdd farn: canys fel y mae efe, felly yr ydym ninnau yn y bŷd hwn. Nid oes ofn ynghariad, eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: oblegid y mae i ofn boenediga­eth: a'r hwn a ofna, nid yw berffaith mewn cariad. Yr ydym ni yn ei garu ef am iddo ef ein caru ni yn gyntaf. Os dywed neb yr wyf yn caru Duw, ac yntef yn cashâu ei frawd, celwyddog yw: canys pa fodd y gall efe yr hwn nid yw yn caru ei frawd [Page] a welodd, garu Duw yr hwn ni welodd. A'r gor­chymmyn hwn fydd i ni ganddo ef, bôd i'r hwn a ga­ro Dduw, garu ei frawd hefyd.

Yr Efengyl.

Luc. 16.19. YR oedd rhyw ddŷn goludog, ac ef a wiscid â phorphor, a lliain-main, ac oedd yn cymmeryd ei fŷd yn ddainteithol, ac yn fwythus beu­nydd. Yr oedd hefyd ryw gardot­dyn a'i enw Lazarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gorn­wydlyd, ac yn chwennychu cael ei borthi â'r briwsion, y rhai a syrthie o ddiar fwrdd y goludog: ond y cŵn a ddaethant ac a lyfasant ei gornwydydd ef. A bu i'r cardotdyn farw, ac ef a dducpwyd gan yr Angelion i fynwes Abraham: a'r goludog a fu farw hefyd, ac a gladdwyd. Ac efe yn bôd yn vffern mewn poenau, wrth godi ei olwg a ganfu Abraham o hir-bell, a Lazarus yn ei fynwes. Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, ô Dâd Abraham, trugarha wrthif a danfon Lazarus i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy-nhafod: canys fe a 'm poenir yn y fflam hon. Ac Abraham a ddywedodd, ha fâb, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lazarus ei adfyd: ac yn awr diddenir ef, a phoe­nir dithe. Ac heb law hyn oll, siccrhawyd gagen­dorr fawr rhyngom ni a chwi, fel na allo y rhai a fynnent dram wy oddi ymma attoch chwi, ac nad yw y rhai a fynnent ddyfod oddi yna yn tram wy at­tom ni. Yntef a ddywedodd, yr wyf yn attolwg i ti, dâd, ddanfon o honot ef i dŷ fy-nhâd: canys y mae i mi bump o frodyr; fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod o honynt hwythau i'r lle poenus hwn. Abraham a ddywedodd wrtho, y mae ganddynt Mo­ses, [Page] a'r prophwydi, gwrandawant arnynt hwy. Yn­tef a ddywedodd, nag e, y tâd Abraham, eithr os aiff vn oddiwrth y meirw attynt, hwy a edifarhânt. Ac Abraham a ddywedodd wrtho: oni wrandawant ar Moses, a'r prophwydi, ni chredent chwaith pe code vn oddiwrth y meirw.

Yr ail Sûl gwedi'r Drindod.

Y Colect.

ARglwydd par di fod arnom wastadol ofn a cha­riad dy sanctaidd Enw, canys byth ni phelli gymmorth a llywiaw y sawl a feithrinych yn-nwy­ster dy gariad: Caniadhâ hyn er cariad ar dy vn Mâb Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

1. Io. 3.13. NA ryfeddwch, fy-mrodyr, er cashâu o'r bŷd chwi. Ny-ni a ŵyddom ddar­fod ein symmudo o farwolaeth i fy­wyd, gan ein bôd yn caru y brodyr: yr hwn ni charo ei frawd sydd yn ar­hos ym marwolaeth. Pwy bynnag a gashâo ei frawd, lleiddiad dŷn yw: a gwyddoch nad oes i vn lleiddiad dŷn fywyd tragywyddol yn arhos ynddo. Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, gan iddo ef ddodi ei einioes drosom ni, a ninnau a ddylem ddo­di ein heinioes tros ein brodyr. A phwy-bynnag sydd ganddo olud y bŷd hwn, ac a wêl ei frawd mewn eisiau, ac a gaea ei dosturi oddiwrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn arhos ynddo. fy-mhlant by­chain, na charwn ar air, nac ar dafod yn vnig, eithr mewn gweithred a gwirionedd. Ac wrth hyn y gwyddom ein bôd o'r gwirionedd, ac y bydd i ni gar ei fron ef ddiogelu ein calonnau. Os ein calon a 'n condemna, mwy yw Duw nâ'n calon, ac efe a ŵyr bob peth. Oh rai anwyl, os ein calon [Page] ni'n condemna, y mae i ni hyder ar Dduw. A pha beth bynnag a ofynnom, ny-ni a'i derbyniwn gan­ddo, gan i ni gadw ei orchymynion, a gwneuthur y pethau sy fodlon yn ei olwg ef. Hwn gan hyn­ny yw ei orchymmyn ef, fôd i ni gredu yn enw ei Fâb Iesu Ghrist, a charu ei gilydd, fel y rhoes efe orchymmyn i ni. Canys yr hwn a geidw ei orchy­mynion ef, a drig ynddo ef, ac efe a drig ynddo yn­tef: ac wrth hyn y gwyddom ei fod ef yn arhos y­nom, sef o'r Yspryd yr hwn a roddes efe i ni.

Yr Efengyl.

Luc. 14.16. RHyw ddŷn a wnaeth swpper mawr, ac a wahoddodd lawer. Ac a ddan­fonodd ei was brŷd swpper, i ddy­wedyd wrth y rhai a wahoddasid, dewch, canys weithian y mae pob peth yn barod. A hwynt oll ar vn­waith a ddechreuasant ymescusodi: y cyntaf a ddy­wedodd wrtho, mi a brynais dyddyn, ac y mae yn rhaid i mi fyned allan a'i weled, attolwg i ti cym­mer fi yn escusodol. Ac arall a ddywedodd, mi a bry­nais bum iau o ychen, ac yr ydwyf i yn myned i'w profi hwynt, attolwg i ti cymmer fi yn escusodol. Ac arall a ddywedodd, mi a briodais wraig, ac am hyn­ny ni allaf fi ddyfod. A'r gwâs hwnnw pan dda­eth adref a fynegodd y pethau hyn i'w arglwydd. Yna gŵr y tŷ yn ddigllon a ddywedodd wrth ei wâs: dôs allan ar frŷs i'r heolydd, ac ystrydoedd y ddinas, a dŵg i mewn ymma y tlodion, a'r anafus, a'r cloffion, a'r deillion. A'r gwâs a ddywedodd, arglwydd, fe a ddarfu gwneuthyd fel y gorchymyn­naist, ac etto y mae lle. A 'r arglwydd a ddywe­dodd wrth y gwâs, dôs allan i 'r prif-ffyrdd, a 'r [Page] caeau, a chymmell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy-nhŷ. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi na chaiff yr vn o'r gwŷr hynny a wahoddwyd brofi o 'm swpper i.

Y trydydd Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

ARglwydd ni a attolygwn i ti yn drugarog ein gwrando, a megis y rhoddaist i ni feddyl-fryd calon i weddio, caniadhâ drwy dy fawr nerth i ni gael ein hamddeffyn rhag-llaw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

1. Pet. 5.5. YMostyngwch bawb i'w gilydd, ac ym­drwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrw­ydd meddwl, canys Duw a wrthladd y beilchion, ac a rŷdd râs i 'r rhai go­styngedig. Ymostyngwch o achos hyn tan alluog law Dduw, fel y gallo eich dyrchafu pan ddêl yr amser. Bwriwch gwbl o'ch gofal arno ef: canys y mae efe yn gofalu trosoch. Byddwch sobr, a gwiliwch, canys eich gwrthwyneb-ŵr diafol sydd megis llew rhuadwy yn rhodio oddiamgylch, gan geisio pwy a allo ei lyngcu. Yr hwn gwrthwyneb­wch yn gadarn yn y ffŷdd, gan ŵybod fod yn cyflaw­ni yr vnrhyw ddyoddefaint yn eich brodyr, y rhai y­dynt yn y bŷd. A Duw awdur pob grâs, yr hwn a'n galwodd ni i 'w dragywyddol ogoniant trwy Iesu Ghrist, wedi i chwi oddef ychydig, a'ch perffeithio, a'ch cadarnhao, a'ch cryfhao, ac a'ch siccrhao. Iddo ef y byddo gogoniant, ac ymmerodraeth yn oes oe­soedd. Amen.

Yr Efengyl.

Luc. 15.1. AC yr oedd yr holl Publicanod, a'r pe­chaduriaid yn dyfod atto ef i wran­do arno. A'r Phariseaid, a'r scrifen­nyddion a rwgnachasant, gan ddy­wedyd, y mae hwn yn derbyn pecha­duriaid, ac yn bwyta gŷd â hwynt. Yntef a adroddodd y ddammeg hon wrthynt, gan ddywedyd, Pa ddŷn o honoch a chanddo gant o dde­faid, ac os cyll efe vn o honynt, ni âd yr amyn vn pum vgain yn yr ynialwch, a myned ar ôl yr hon a gollodd, hyd oni chaffo efe hi? Ac wedi iddo ei chael, ef a'i dŷd ar ei yscwyddau ei hûn, gan ymlawe­nychu. A phan ddêl adref, ef a eilw ynghŷd ei gyfeil­lon, a'i gymmydogion, gan ddywedyd wrthynt, llawenhewch gyd â mi, canys cefais fy nafad yr hon a gollase. Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai fel­ly y bŷdd llawenydd yn y nef am vn pechadur edifei­riol, mwy nag am onid vn pum vgain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch. Neu pa wraig ac iddi ddêg o ddracmonau, os cyll hi vn drac­mon, ni oleu ganwyll, ac yscubo 'r tŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd onis caffo hi? Ac wedi iddi ei chael, hi a eilw ynghŷd ei chyfeillesau, a'i chymydogesau, gan ddywedyd, cyd-lawenhewch â mi, canys ce­fais fy-nracmon a gollaswn. Felly, meddaf i chwi y mae llawenydd yngŵydd angelion Duw am vn pechadur a edifarhao.

Y pedwerydd Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

DVw Nawdd-wr pawb oll y sydd yn ymddyried ynot, heb pa vn nid oes dim nerthawg, na dim sanctaidd, amlhâ arnom dy drugaredd, fel y gallom (a thi yn llywiawdur ac yn dywysog i ni) dreiddio [Page] drwy yr pethau bydol, modd na chollom rhag llaw y pethau tragywyddol: Caniadhâ hyn nefol Dad, er mwyn Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Rom. 8.18. YR ydwyf yn bwrw nad yw gofidiau yr amser yr awron yn cydstadlu y go­goniant a ddangosir i ni. Canys a­wydd-fryd y creadur sydd yn disgwil am ddatcuddiad meibion Duw. Ca­nys y mae y creadur yn ddarostyn­gedig i wagedd, nid o'i fodd, eithr oblegid yr hwn a'i darostyngodd. Tan obaith y rhyddheir y creadur hefyd o gaethiwed llygredigaeth i rydd-did gogoni­ant meibion Duw. Canys gwyddom fôd pob crea­dur yn cyd-ocheneidio â ni, ac yn cyd-ofidio hyd y pryd hyn. Ac nid yn vnig y creadur, ond ninnau hefyd y sawl a gawsom flaen-ffrwyth yr Yspryd, yr ydym ninnau yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisg­wil y mabwysiad, nid amgē prynedigaeth ein corph.

Yr Efengyl.

Luc. 6.36. BYddwch drugarogion megis y mae eich Tâd hefyd yn drugarog. Na fer­nwch, ac ni'ch bernir: na chondem­nwch, ac ni'ch condemnir: maddeu­wch, a maddeuir i chwithau. Rhodd­wch, a rhoddir i chwi: mesur da dwysedig, wedi ei ys­cwyd, ac yn myned trosodd a roddant yn eich my­nwes: canys â 'r vn mesur ac y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn. Ac ef a ddywedodd ddammeg wrth­ynt: a ddichon y dall dywyso 'r dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd? Nid yw'r discybl vwch law ei a­thro: eithr perffaith fydd pob vn a fyddo fel ei athro. A pha ham y gweli di y brycheuyn y sydd yn llygad dy frawd, ac nad wyt yn ystyried y trawst y sydd yn dy lygad dy hun? Neu pa fodd y gelli ddywedyd wrth dy [Page] frawd, fy mrawd, gâd i mi dynnu allan y bryche­uyn y sydd yn dy lygad, a thy-di heb weled y trawst yr hwn sydd yn dy lygad dy hûn? ô ragrithiwr bw­rw allan y trawst o'th lygad dy hun yn gyntaf, ac y­na y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn yr hwn sydd yn llygad dy frawd.

Y pumed Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

CAniadhâ Arglwydd ni a attolygwn i ti, fod cwrs y byd hwn, trwy dy reoledigaeth wedi ei drefnu mor dangnefol ag y gallo dy gynnulleidfa di dy wa­sanaethu mewn duwiol heddwch, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

1. Pet. 3.8. BYddwch bawb o'r vn meddwl, yn cyd-oddef gŷd â'i gilydd, yn caru ei gilydd fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd. Nid yn talu drŵg am ddrŵg, neu ddirmyg am ddirmyg, eithr yngwrthwyneb yn bendithio, gan wybod eich galw i hyn, sef i etifeddu o honoch y fendith. Canys y neb a ewyllysio hoffi bywyd, a gweled dyddiau da, attalied ei dafod oddiwrth ddrŵg, a'i wefusau rhag adrodd twyll. Gocheled y drŵg, a­gwnaed y da: ceisied heddwch, a dylyned ef. Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, a'i glustiau tu ac at eu gweddi hwynt: ac y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai a wnelo ddrŵg. A phwy a'ch dryga chwi os byddwch yn dylyn yr hyn sydd dda? Eithr o bydd i chwi ddyoddef o herwydd cyfi­awnder, dedwydd ydych: ond nac ofnwch rhac eu hofn hwynt, ac na thralloder chwi. Eithr sancteiddi­wch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau.

Yr Efengyl.

Luc. 5.1. BV hefyd a'r bobl yn pwyso atto i w­rando gair Duw, yr oedd yntef yn se­fyll yn ymmyl llyn Gennesareth, ac ef a wele ddwy long yn sefyll wrth y llynn, a'r pyscod-wŷr a aethent al­lan o honynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau. Ac wedi iddo fyned i mewn i vn o'r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ef a ddymunodd arno yrru ychydig oddiwrth y tir, ac wedi iddo ei­stedd ef a ddyscodd y bobl o'r llong. A phan beidiodd â llefaru ef a ddywedodd wrth Simon, gyrr i 'r dwfn a bwriwch eich rhwydau am helfa. Ac atte­bodd Simon, a dywedodd wrtho, ô feistr, er i ni boeni ar hŷd y nôs, ni ddaliasom ni ddim: er hynny ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd. Ac wedi iddynt wneuthur hyn, hwynt a ddaliasant liaws mawr o byscod, a rhwygodd eu rhwyd hwynt. A hwynt a amneidiasant ar eu cyfeillon y rhai oeddynt yn y llong arall, i ddyfod i'w cynnorthwyo hwynt: ac hwynt-hwy a ddaethant, ac a lanwasant y ddwy long, onid oeddynt yn soddi. A phan welodd Si­mon Petr hyn, ef a syrthiodd wrth liniau 'r Iesu, gan ddywedyd, dôs ymaith oddiwrthif, canys dŷn pechadurus wyf fi, ô Arglwydd. O blegid braw a ddaethe arno, a 'r rhai oll a oeddynt gŷd ag ef o bob-parth, am yr helfa byscod a ddaliasent hwy. Ac felly hefyd ar Iaco ac Ioan meibion Zebedeus, y rhai oeddynt gyfrannogion â Simon. A dywe­dodd yr Iesu wrth Simon: nac ofna, o hyn allan y deli ddynion. A phan ddugasant y llongau i 'r tir, hwynt a adawsant bob peth, ac a'i dylyna­sant ef.

Y chweched Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

DVw yr hwn a arlwyaist i'r rhai a'th garant gy­fryw bethau daionus ag y sydd vwch-ben pob deall, tywallt i'n calonnau gyfryw serch arnat, fel y byddo i ni gan dy garu ym-mhob rhyw beth, allu mwynhau dy addewidion, y rai sy fwy rhagorol nâ dim a fedrom ni ei ddeisyf: trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Rom. 6.3. ONi ŵyddoch amdanom ni oll y rhai a fedyddiwyd i Ghrist Iesu, ddarfod ein bedyddio i'w farwolaeth ef? Cla­ddwyd ni gan hynny gŷd ag ef trwy fedydd i farwolaeth, fel megis y cy­fodwyd Christ o feirw trwy ogoni­ant y Tâd, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn ne­wydd-deb buchedd. Canys os gwnaed ni yn gyd­blannhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, felly y byddwn i gyffelybiaeth ei adgyfodiad ef, gan wybod hyn, ddarfod croes-hoelio ein hên ddŷn ni gŷd ag ef, er mwyn dirymmu corph pechod, fel rhac llaw na wa­sanaethom bechod. Canys y mae 'r hwn fu farw yn rhydd oddiwrth bechod. Os buom ninnau feirw gŷd â Christ, yr ydym ni yn credu y byddwn fyw he­fyd gŷd ag ef. Gan wybod nad yw Christ yr hwn a gyfodwyd o feirw yn marw mwyach: nad arglwy­ddiaetha marwolaeth arno mwyach. Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw vn-waith i bechod: ac fel y mae yn byw, byw y mae i Dduw. Felly meddy­liwch chwithau hefyd eich bod yn feirw i bechod, a'ch bôd yn fyw i Dduw yn-Ghrist Iesu ein Harg­lwydd.

Yr Efangyl.

Mat. 5.20. YR Iesu a ddywedodd wrth ei ddis­cyblon, Oni bŷdd eich cyfiawnder yn helaethach nâ chyfiawnder yr scrifennyddion, a'r Phariseaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd. Clywsoch ddywedyd wrth y rhai gynt, na lâdd, canys pwy bynnag a laddo, euog fydd o farn. Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, mai pwy bynnag a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog a farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, fydd euog o gyngor: a phwy byn­nag a ddywedo, ô ynfyd, a fydd euog o dân vffern. Can hynny os dygi dy rôdd i'r allor, ac yno dyfod i'th gôf fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn: gâd ti yno dy rôdd gar bron yr allor, a dôs ymmaith: yn gyntaf cymmoder di â 'th frawd, ac yno tyred, ac of­frwm dy rôdd. Cytuna â 'th wrthwynebwr yn gyf­lym, tra fyddech ar y ffordd gŷd ag ef, rhac i'th wrth­wynebwr dy roi di yn llaw yr ynad, ac i'r ynad dy roddi at y rhingill, a'th daflu yngharchar. Yn wir, meddaf i ti, na ddeui di allan oddi yno, hyd oni the­lech y ffyrlyng eithaf.

Y Seithfed Sûl gwedi 'r Drîndod.

Y Colect.

DVw yr holl nerth a'r cadernid, yr hwn wyt Aw­dur a rhoddwr pob daioni, planna yn ein ca­lonnau gariad dy Enw, ychwanega ynom wir grefydd, Maetha nyni â phob daioni, ac o'th fawr drugaredd cadw ni yn yr vn-rhyw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Rom. 6.19. YN ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd oblegid gwendid eich cnawd chwi: ca­nys megys y rhoddasoch eich aelo­dau yn weision ei aflendid ac anwi­redd, i wneuthur anwiredd, felly yr awrhon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfi­awnder i sancteiddrwydd. Canys pan oeddech yn weision pechod, yr oeddech yn rhyddion oddiwrth gyfiawnder. Pa ffrwyth oedd i chwi y prŷd hynny yn y cyfryw bethau y mae arnoch gywilydd o'u ple­gid yr awr hon? Canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth. Ac yr awr hon wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod, a'ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrw­ydd, a'r diwedd yn fywyd tragywyddol. Canys cy­flog pechod yw marwolaeth, eithr dawn Duw yw bywyd tragywyddol trwy Ghrist Iesu ein Harg­lwydd.

Yr Efengyl.

Marc. 8.1. YN y dyddiau hynny pan oedd tyrfa fawr iawn ac heb ganddynt ddim i'w fwyt­ta, galwodd yr Iesu ei ddiscyblon atto, ac a ddywedodd wrthynt. Yr wyfi yn to­sturio wrth y dyrfa, am eu bôd yn aros gŷd â mi er ys tridiau weithian, ac nid oes gan­ddynt ddim i'w fwytta. Ac os gollyngaf hwynt ym­maith i'w teiau ar eu cythlwng, hwynt-hwy a le­wygant ar y ffordd, canys llawer o honynt a ddae­thant o bell. A'i ddiscyblon ef a'i hattebasant, o ba le y gall neb ddigoni y rhai hyn â bara ymma yn yr ynialwch? Ac ef a ofynnodd iddynt, pa sawl torth sydd gennwch? A hwynt-hwy a ddywedasant, saith. Yntef a orchymynnodd i'r dyrfa eistedd ar y [Page] llawr, a chan gymmeryd y saith dorth, wedi iddo roddi diolch, ef a'u torrodd hwynt, ac a'u rhoddes i'w ddiscyblon i'w gosod gar eu bronnau, a hwynt a'u gosodasant gar bron y bobl. Ac yr oedd ganddynt ychydig byscod bychain: ac wedi iddo fendigo, ef a barodd ddodi y rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt. A hwynt a fwyttasant, ac a gawsant ddi­gon, ac hwy a godasant o'r briwfwyd gweddill saith bascedaid. A'r rhai a fwytasant oeddynt ynghylch pedair mîl, ac efe a'u gollyngodd hwynt ymmaith.

Yr viij. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

DVw, yr hwn ni thwyllir byth ei ragluniaeth, yn vfydd ni a attolygwn i ti fwrw oddi-wrthym bob peth niweidiol, a rhoddi o honot i ni bob peth a'r a fyddo da ar ein llês, trwy Iesu Grist ein Hargl­wydd. Amen.

Yr Epistol.

Rom. 8.12. Y Brodyr, yr ydym ni yn ddyled-wŷr, nid i'r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd: canys os byw fyddwch yn ôl y cnawd meirw fydd­wch: eithr os marwhewch weithredoedd y cnawd trwy 'r Yspryd, byw fyddwch. Canys cyn­nifer ac a dywyser gan Yspryd Duw, y rhai hyn sy blant i Dduw. Canys ni dderbyniasoch yspryd caethiwed trachefn i beri ofn, eithr derbyniasoch Yspryd mabwysiad, trwy 'r hwn yr ydym yn llefain Abba Dâd. Y mae yr Yspryd hwnnw yn cyd-tystio­laethu â'n hyspryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw. Os ydym ni yn blant, yr ydym ni hefyd yn etifeddi­on, sef yn etifeddion i Dduw, ac yn gyd-etifeddion â Christ: os cyd-ddioddefwn ag ef, fel y'n cyd-ogone­dder hefyd gŷd ag ef.

Yr Efengyl.

Mat. 7.15. Y Mogelwch rhag y gau-brophwydi y rhai a ddeuant attoch yngwiscoedd defaid, o­nid oddi mewn bleiddiaid rheipus ydynt hwy: wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gascl rhai rawn-win oddiar ddrain, neu ffigus oddiar yscall? Felly pob pren da a ddŵg ffrwy­thau da, a phren drŵg a ddŵg ffrwythau drŵg. Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drŵg, na phren drŵg ddwyn ffrwythau da. Pob pren a'r ni ddŵg ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a de­flir i'r tân. O herwydd pa ham wrth eu ffrwy­thau yr adnabyddwch hwynt. Nid pwy bynnag a ddyŵed wrthif, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn a wnâ ewy­llys fy-Nhâd yr hwn sydd yn y nefoedd.

Y ix. Sûl gwedi'r Drindod.

Y Colect.

CAniadhâ i ni Arglwydd, attolwg i ti, yr Yspryd i feddwl a gwneuthur byth y cyfryw bethau a fo cyfiawn, fel y byddo i ni (y rhai ni allwn fod hebot) fyw yn ôl dy ewyllys, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

1. Cor. 10.1. NI fynnwn, frodyr, na's gwyddech fod ein tadau oll tan y cwmmwl, a'u myned oll trwy 'r môr, a'u bedyddio hwy oll i Moses yn y cwmmwl, ac yn y môr: a bwyta o bawb o honynt yr vn bwyd ysprydol, ac yfed o bawb o honynt yr vn ddiod ysprydol, (canys hwy a yfasant o'r graig ysprydol a oedd yn canlyn, a'r graig oedd Christ.) [Page] Eithr ni bu fodlon gan Dduw y rhan fwyaf o ho­nynt: canys cwympwyd hwynt yn y diffaethwch. A hyn a wnaed yn siampl i ni, fel na chwenny­chem ni ddrygioni, fel y chwennychasant hwy­thau. Na fyddwch chwithau addol-wyr eulynnod fel rhai o honynt hwy, megis y mae yn scrifennedig, Eisteddodd y bobl i fwyta, ac i yfed, ac a gyfoda­sant i chwareu. Ac na odinebwn fel y godinebodd rhai o honynt hwy, ac y syrthiodd yn vn dŷdd dair mîl ar hugain. Ac na themptiwn Ghrist, me­gis y temptiodd rhai o honynt hwy, ac eu distry­wiwyd gan seirph. Ac na rwgnechwch, megis y grwgnachodd rhai o honynt hwy, ac eu distry­wiwyd gan y dinystrydd. A'r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siampl iddynt hwy, ac a scrifen­nwyd yn rhybydd i ninnau, ar ba rai y daeth terfynau yr oesoedd. Am hynny yr hwn sydd yn tybieid ei fod yn sefyll, edryched na syrthio. Nid yma­flodd ynoch demtasiwn, onid vn dynol: eithr ffyddlon yw Duw yr hwn ni âd eich temptio vwch law yr hyn a alloch, eithr gŷd â'r temptasiwn y gwnâ efe ddiangfa, fel y galloch ei ddwyn.

Yr Efengyl.

Luc. 16.1. YR Iesu a ddywedodd wrth ei ddis­cyblon, Yr oedd rhyw ddŷn go­ludog, ac iddo orchwiliwr, ac fe a gyhuddwyd wrtho ei fôd efe megis yn afradloni ei dda ef. Ac efe a'i gal­wodd ef, ac a ddywedodd wrtho: pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed am danat? dyro gyfrif o'th orchwiliaeth, canys ni elli fôd mwy yn orchwiliwr. A'r gorchwiliwr a ddywedodd yntho ei hun, pa beth a wnâf, canys y mae fy ar­glwydd yn dwyn yr orchwiliaeth oddi-arnaf? clo­ddio nis gallaf, a chardotta sydd gywilyddus gennif. [Page] Gwn beth a wnâf, fel pan y'm bwrier allan o'r orch­wiliaeth, y derbyniant fi i'w tai. Ac wedi iddo alw atto bob vn o ddyled-wŷr ei arglwydd, efe a ddy­wedodd wrth y cyntaf, pa faint sydd arnat o ddy­lêd i'm harglwydd? Ac efe a ddywedodd, can me­sur o olew: yntef a ddywedodd wrtho: cymmer dy scrifen, ac eistedd yn ebrwydd, ac scrifenna ddêg a dau'gain. Yna y dywedodd efe wrth vn arall, pa faint o ddylêd sydd arnat tithe? ac efe a ddywe­dodd, can mesur o wenith. Yntef a ddywedodd wrtho, cymmer dy scrifen, ac scrifenna bedwar v­gain. A'r arglwydd a ganmolodd y gorchwiliwr anghyfiawn am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y bŷd hwn yn gallach yn eu cenhedla­eth nâ phlant y goleuni. Ac yr wyf ff yn dywedyd wrthych, gwnewch i chwi gyfeillon o'r golud ang­hyfiawn, fel pan fyddo eisieu arnoch, y'ch derbyni­ont i'r tragywyddol bebyll.

Y x. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

BYdded dy drugarogion glustiau ô Arglwydd yn agored i weddiau dy vfydd weision, ac er mwyn iddynt hwy gael eu gofynnion, gwna iddynt erchi y cyfryw bethau ag a ryngo bodd i ti, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

1. Cor. 12.1. AM ysprydol ddoniau, frodyr, ni fyn­nwn i chwi na's gŵyddech. Chwi a ŵyddoch mai cenhedloedd oeddych, y rhai a ddygid at eulynnod mudion, fel y'ch tywysid. Am hynny yr wyf yn yspysu i chwi nad oes neb yn lle­faru trwy Yspryd Duw, yn galw yr Iesu yn escom­munbeth: ac nad oes neb a all ddywedyd yr Argl­wydd [Page] Iesu, eithr yn yr Yspryd glân. Ac y mae amryw ddoniau, eithr yr vn Yspryd. Ac y mae amryw wei­nidogaethau, eithr yr vn Arglwydd. Ac y mae am­ryw weithrediadau, ond yr vn Duw yw'r hwn sydd yn gweithredu pob peth ym-mhawb. Eithr eglur­hâd yr Yspryd a roddir i bob vn er lleshâd. Canys i vn y rhoddir trwy 'r Yspryd ymadrodd doethineb, ac i arall ymadrodd gŵybodaeth trwy yr vn Yspryd. Ac i arall ffŷdd trwy yr vn Yspryd, ac i arall ddoniau ia­châu trwy yr vn Yspryd. Ac i arall wneuthur gwyr­thiau, ac i arall brophwydoliaeth, ac i arall iawn wahaniaeth ysprydoedd, ac i arall amryw dafodau, ac i arall gyfieithiad tafodau. A'r holl bethau hyn a weithreda yr vn a'r vnrhyw Yspryd, gan rannu i bob vn o'r naill-tu megis yr ewyllysia efe.

Yr Efengyl.

Luc. 19.41. AC wedi iddo ef ddyfod yn agos i Ieru­salem, pan welodd efe y ddinas, ef a wylodd trosti, gan ddywedyd, pe gŵy­basit tithe, îe, yn dy ddydd hwn, y pe­thau a berthynant i'th heddwch: eithr yn awr y maent yn guddiedig oddiwrth dy lygaid. Canys daw dyddiau arnat, a'th elynion a fwriant glawdd o'th amgylch, ac a'th amgylchāt, ac a'th war­chaeant o bob-parth. Ac a'th wnânt yn gyd-wastad â'r llawr, a'th blant y rhai ydynt o'th fewn, ac ni adawant ynot faen ar faen, am nad adwaenit am­ser dy ymweliad. Ac efe a aeth i mewn i'r Deml, ac a ddechreuodd daflu allan y rhai oeddynt yn gwer­thu ynddi ac yn prynu, gan ddywedyd wrthynt, y mae yn scrifennedig, Tŷ gweddi yw fy-nhŷ i, a chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron. Ac yr oedd efe beu­nydd yn dyscu yn y Deml.

Y xi. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

DVw, yr hwn wyt yn egluro dy holl-alluog nerth yn bennaf gan ddangos trugaredd, a thosturi, amlhâ dy râd arnom, hyd pan fo i ni drwy gyrchu at dy addewidion, allu bod yn gyfrannogion oth nefol dryssor, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

1. Cor. 15.1. YR ydwyf yn yspysu i chwi, frodyr, yr Efen­gyl yr hon a bregethais i chwi, yr hon he­fyd a dderbyniasoch, ac yn yr hon yr ydych yn sefyll: trwy 'r hon y'ch cedwir, os y­dych yn dal yn eich côf pa ymadrodd a bregethais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer. Canys yn gyntaf mi a draddodais i chwi yr hyn a dderby­niais, Farw o Ghrist tros ein pechodau, yn ôl yr scry­thyrau, a'i gladdu ef, a'i gyfodi ef y trydydd dydd yn ôl yr scrythyrau, a'i weled ef gan Cephas, yna gan y deuddeg. Wedi hynny gwelwyd ef gan fwy nâ phum-cant brodyr ar vn-waith, o ba rai y mae lla­wer yn arhos hyd yn hyn, eithr rhai a hunasant. Wedi hynny gwelwyd ef gan Iaco, yna gan yr oll Apostolion. Ac yn ddiweddaf oll gwelwyd gennif finne hefyd, fel vn an-nhymmig. Canys my-fi yd­wyf y lleiaf o'r Apostolion, yr hwn nid wyf addas i'm galw yn Apostol, am i mi erlid eglwys Dduw. Eithr trwy râs Duw yr wyf yr hyn ydwyf, a'i râs ef yr hwn sydd ynof ni bu yn ofer, ond mi a lafuri­ais yn helaethach nâ hwynt oll, nid my-fi chwaith, ond grâs Duw, yr hwn sydd gŷd â mi. Am hynny pa vn bynnag ai my-fi, ai hwynt-hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwithau.

Yr Efengyl.

Luc. 18.9. CHrist a ddywedodd y ddammeg hon wrth rai a oeddynt yn hyderu arnynt eu hu­nain eu bôd yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill. Dau ddŷn a aethant i fynu i'r Deml i weddio, y naill yn Pharasead, a'r llall yn Bublican. Y Pharisead o'i sefyll a we­ddiodd wrtho ei hun fel hyn: ô Dduw yr wyf yn di­olch i ti nad ydwyf fel dynion eraill, y rhai ydynt drawsion, anghyfiawn, yn odineb-wŷr, neu hefyd fel y Publican hwn. Yr ydwyf yn ymprydio ddwy­waith yn yr wythnos, yr wyf yn degymmu cym­meint oll ac a feddaf. A'r Publican yn sefyll o hir­bell, ni wnai gymmaint a chodi ei olygon tu a'r nêf, eithr curodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, ô Dduw, bŷdd drugarog wrthif bechadur. Aeth, meddaf i chwi, hwn i wared i'w dŷ wedi ei gyfiawnhau yn fwy nâ 'r llall, canys pwy bynnag a'i dyrchafo ei hun a ostyngir, a'r neb a'i gostyngo ei hun a ddyrchefir.

Y xij. Sûl gwedi'r Drindod.

Y Colect.

HOll-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn yn wastad wyt barotach i wrando, nâ nyni i weddio, ac wyt arferol o roddi mwy nag a archom, neu a ryglyddom, tywallt arnom amlder dy druga­redd, gan faddeu i ni y cyfryw bethau ag y mae ein cydwybod yn eu hofni, a rhoddi i ni y peth ni fei­ddia ein gweddi ei erchi: trwy Iesu Grist ein Har­glwydd. Amen.

Yr Epistol.

2. Cor. 3.4 CYfryw obaith sydd gennym trwy Ghrist ar Dduw: nid o herwydd ein bod yn ddigonol o honom ein hunain i feddylio dim megis o [Page] honom ein hunain, eithr ein digonedd ni sydd o Dduw. Yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weinido­gion cymmwys y Testament newydd, nid i'r llythy­ren, ond i'r Yspryd: canys y mae y llythyren yn lladd, a'r Yspryd sydd yn bywhau. Ac os oedd gwei­nidogaeth angau yr hon a argraphwyd â llythyren­nau ar lechau yn ogoneddus, fel na alle plant yr Is­rael edrych yn graff yn ŵyneb Moses gan ogoniant ei ŵyneb-pryd, yr hwn ogoniant a ddeleuwyd; pa fodd nad mwy y bydd gweinidogaeth yr Yspryd mewn gogoniant? Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoneddus, mwy o lawer y rha­gora gweinidogaeth cyfiawnder mewn gogoniant.

Yr Efengyl.

Marc. 7.31. YR Iesu a aeth drachefn ymmaith o gy­ffiniau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd fôr Galilea trwy ganol cyffiniau Decapolis. A hwynt a ddugasant atto vn byddar ac attal dywedyd arno, ac a attolygasant iddo ddodi ei law arno ef. Ac wedi iddo ei gymmeryd ef o'r nailltu allan o'r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef, ac wedi iddo bo­eri efe a gyffyrddodd â'i dafod ef: a chan edrych i fynu tu a'r nef, ef a ocheneidiodd, ac a ddywedodd wrtho, Ephphatha, sef ymagor. Ac yn ebrwydd ymagorodd ei glustiau ef, ac ymollyngodd rhwym ei dafod ef, ac efe a lefarodd yn eglur. Ac ef a waharddodd iddynt ddywedyd i neb. Ond pa mwyaf y gwaharddodd ef iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant. A rhyfeddu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, da y gwna­eth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i'r by­ddair glywed, ac i'r mudion ddywedyd.

Y xiij. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

HOll-alluog a thrugarog Dduw, o rodd pwy vn yn vnic y daw, bod i'th bobl ffyddlon dy wasan­aethu yn gywir, ac yn fawledic: Caniadhâ, ni a er­fynniwn i ti, allu o honom redeg at dy nefol addewi­dion, megis na phallo gennym yn y diwedd eu mw­ynhau: trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Gal. 3.16. I Abraham y traethwyd yr addewidion, ac i'w hâd ef: nid yw yn dywedyd, Ac i'th hadau, megis am lawer, ond, Ac i'th hâd, megis am vn yr hwn yw Christ. Hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nad yw y ddeddf (yr hon a ddaeth bed war-cant, a deng mhlynedd ar hugain wedi) yn dyddymmu 'r ammod a siccrhausid o'r blaen gan Dduw herwydd Christ, fel y dirymme yr addewid. Canys os o'r ddeddf y mae 'r etifeddiaeth, nid yw hayach o addew­id, ond Duw a'i rhoddes yn rhâd i Abraham drwy addewid. Beth gan hynny yw 'r ddeddf? oblegid camweddau y doded hi yn chwaneg, hyd oni ddele yr hâd i'r hwn y gwnaethid yr addewid: ac hi a drefnw­yd gan angelion drwy law cyfryng-ŵr. A chyfryng­ŵr nid yw gyfryng-ŵr i vn, ond Duw sydd vn. Gan hynny a ydyw y ddeddf yn erbyn addewidion Duw? na atto Duw: canys pe rhoesid deddf a allase roddi bywyd, yn wir fe fuase cyfiawnder o'r ddedf. Eithr yr scrythur a gaeodd bob peth dan bechod, fel y rho­ddid yr addewid trwy ffŷdd Iesu Ghrist i'r rhai a gre­dant.

Yr Efengyl.

Luc. 10.23. GWyn fŷd y llygaid sy yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi ewyllysio o lawer o brophw­ydi [Page] a brenhinoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac ni's gwelsant: a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac ni's clywsant. Ac wele rhyw gyfreithiwr a gyfododd i fynu, gan ei demptio ef, a dywedyd, Athro, pa beth a wnâf, i etifeddu bywyd tragywyddol? Yntef a ddywedodd wrtho, pa beth sydd scrifennedig yn y gyfraith? pa fodd y darlleni? Ac ef a attebodd, ac a ddywe­dodd: Ceri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th oll enaid, ac â'th oll nerth, ac â'th oll fedd­wl: a'th gymydog fel ty-hun. Yntef a ddywedodd wrtho, da 'r attebaist: gwnâ hyn, a byw fyddi. Eithr efe yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun a ddy­wedodd wrth yr Iesu: a phwy yw fy-nghymydog? A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, Rhyw ddŷn a aeth i wared o Ierusalem i Iericho, ac a syrthi­odd ym-mŷsc lladron, y rhai wedi iddynt ei ddiosc, a'i archolli, a aethant ymmaith, gan ei adel ef yn hanner marw. Ac wrth ddamwain, rhyw o­ffeiriad a ddaeth i wared ar hyd y ffordd honno: ac wedi iddo ei weled, ef a aeth o'r tu arall heibio. Yr vn modd Lefiad hefyd, wedi dyfod yn agos i'r lle, a ddaeth, ac a edrychodd arno, ac a aeth heibio o'r tu arall. A rhyw Samariad wrth ymddaith a ddaeth yn agos atto ef, a phan ei gwelodd, a dosturiodd. Ac wedi iddo ddyfod atto, ef a rwym­odd ei archollion, gan dywallt ynddynt olew, a gwîn: ac wedi iddo ei ddodi ef ar ei anifail ei hun, efe a'i dûg ef i'r lletty, ac a'i hymgeleddodd. A thrannoeth wrth fyned ymmaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a'u rhoddes i'r llettywr, ac a ddywedodd wrtho: ymgeledda ef, a pha beth bynnag a dreulech yn chwaneg, pan ddelwyf trach­efn mi a'i talaf i ti. Pwy gan hynny o'r tri hyn, i'th dŷb di, oedd gymydog i'r hwn a syrthiodd ym mhlith [Page] y lladron? Ac ef a ddywedodd, yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, dôs, gwnâ dithe yr vn môdd.

Y xiiij. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

HOll-alluog a thragywyddol Dduw, dod ti i ni anghwaneg o ffydd, gobaith, a chariad perffaith: ac fel y gallom gael yr hyn ydd wyt yn ei addo, gwna i ni garu yr hyn a orchymynych, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Gal. 5.16. DYwedyd yr ydwyf, Rhodiwch yn yr Yspryd, ac na chyflawnwch a chwenn­ycho y cnawd. Canys y mae y cnawd yn chwennych yn erbyn yr Yspryd, a'r Yspryd yn erbyn y cnawd, a'r rhai hyn a wrth wynebant ei gilydd, fel na all­och wneuthur beth bynnag a ewyllysioch. Eithr os gan yr Yspryd y'ch arweinir, nid ydych tan y ddeddf. Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai ŷnt tor-priodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, add­oliad eulynnod, swyn-gyfaredd, casineb, cynnhenn­au, gwŷnfydu, llid, ymrysonau, anghyttundeb, heresiau, cenfigennau, llofruddiaeth, meddw-dod, cyfeddach, a'r cyffelyb bethau hyn, y rhai yr wyf fi yn rhag-ddywedyd wrthych, fel y dywedais yn y blaen, am y rhai a wnânt y fâth bethau nad etifedd­ant deyrnas Dduw. Eithr ffrwyth yr Yspryd yw cariad, llawenydd, tangnheddyf, hir-ymaros, cymm­wynasgarwch, daioni, ffŷdd, llaryeidd-dra, dirwest. Yn erbyn y cyfryw, nid oes ddeddf. A'r rhai sy eiddo Christ, a groes-hoeliasant y cnawd, a'i wyniau, a'i chwantau.

Yr Efengyl.

Luc. 17.11. BV hefyd a'r Iesu yn myned i Ierusa­lem, fyned o honaw ef trwy ganol Sa­maria, a Galilêa. A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu ag ef ddec o wŷr gwahan-gleifion: y rhai a safasant o hir-bell. Ac hwy a godasant eu llêf, gan ddywedyd, Iesu feistr, trugarhâ wrthym. A phan welodd efe hwynt, ef a ddywedodd wrthynt: ewch, ac ymddangoswch i'r offeiriaid. A darfu a hwynt yn myned, eu glanhau hwynt. Ac vn o honynt pan we­lodd ddarfod ei iachâu, a ddychwelodd, gan ogone­ddu Duw â llêf vchel. Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo: a hwnnw oedd Samariad. A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, oni lanhawyd y dêg? a pha le y mae 'r naw eraill? Ni châd a ddychwelasant i roddi gogoniant i Dduw, o­nid yr estron hwn. Ac efe a ddywedodd wrtho, cyfod, a dôs ymmaith, dy ffŷdd a'th iachaodd.

Y xv. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

CAdw, attolygwn i ti Arglwydd dy Eglwys â'th dragywyddol drugaredd: a chan na ddichon gwendid dyn hebot ti onid syrthio, cadw ni byth trwy dy borth, ac arwain ni at bob peth buddiol i'n hiechydwriaeth, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Gal. 6.11. GWelwch cyhyd y llythyr a scrifennais attoch â'm llaw fy hun. Cynnifer ac a ewyllysiant ddangos wyneb têg yn y cnawd, hwynt-hwy ydynt yn eich cym­mhell i'ch enwaedu, yn vnig fel nad er­lidier hwy oblegid croes Christ. Canys nid ydynt hwy eu hunain y rhai a enwaedir yn cadw y ddeddf, [Page] ond y maent yn ewyllysio eich enwaedu chwi fel y gorfoleddant yn eich cnawd chwi. Eithr na atto Duw i mi orfoleddu ond ynghroes ein Harglwydd Iesu Ghrist, drwy 'r hwn y croes-hoeliwyd y bŷd i mi, a minne i'r bŷd. Canys yn Ghrist Iesu ni ddich­on enwaediad ddim, na dienwaediad, ond creadur newydd. A phwy bynnag a rodiant ar ôl y rheol hon, tangnheddyf arnynt, a thrugaredd, ac ar Is­rael Duw. O hyn allan na flined neb fi: canys dwyn yr wyf yn fy-nghorph nodau 'r Arglwydd Ie­su. Y brodyr, Grâs ein Harglwydd Iesu Grist gŷd â'ch yspryd chwi. Amen.

Yr Efengyl.

Mat. 6.24. NI ddichon neb wasanaethu dau ar­glwydd, canys naill ai efe a gashâ 'r naill, ac a gâr y llall, ai efe a ymlyn wrth y naill, ac a esceulusa 'r llall: ni ellwch wasanaethu Duw a golud-by­dol. Am hynny meddaf i chwi, na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch: nac am eich corph, pa beth a wiscoch: onid yw 'r bywyd yn fwy nâ' r bwyd? a'r corph yn fwy nâ 'r dillad? Edrychwch ar adar y nefoedd, oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i scuboriau, ac y mae eich Tâd nefol yn eu porthi hwynt: onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy? A phwy o ho­noch gan ofalu a ddichon chwanegu vn cufydd at ei faint? A pha ham yr ydych chwi yn gofalu am ddi­llad? dyscwch pa wedd y mae lili 'r maes yn tyfu: nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu. Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wiscwyd Salomon yn ei holl o­goniant fel vn o'r rhai hyn. Am hynny os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddyw, ac yforu a fwrir i'r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn fwy o lawer, ô rai o ychydig ffŷdd? Am hynny na ofel­wch, [Page] gan ddywedyd, beth a fwytawn? neu, beth a yfwn? neu â pha beth yr ymddilladwn? Canys am y pethau hyn oll yr ymofyn y Cenhedloedd, oblegid eich Tâd nefol a ŵyr fôd arnoch eisiau yr holl bethau hyn. Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw a'i gyfiawnder, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn chwaneg. Na ofelwch gan hynny dros drannoeth, canys trannoeth a ofala trosto ei hunan. Digon i'r diwrnod ei ddryganiaeth ei hun.

Yr xvj. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

ARglwydd attolygwn i ti, fod i'th wastadol dostu­ri lanhau ac amddeffyn dy gynnulleidfa: a chan na all hi barhau mewn diogelwch heb dy fendigedic nodded, cadw y hi byth gan dy borth a'th ddaioni, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Eph. 3.13. YR wyf yn dymuno arnoch na lwfrha­och oblegid fy-mlinderau i er eich mw­yn chwi, yr hyn yw eich gogoniant. O herwydd y peth hyn plygaf fy-ngliniau at Dâd ein Harglwydd Iesu Ghrist (o ba vn yr henwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaiar) ar roddi o honaw ef i chwi yn ôl cyfoeth ei o­goniant ymgadarnhau mewn nerth trwŷ ei Yspryd ef yn y dŷn oddi mewn, fel y trigo Christ yn eich ca­lonnau trwy ffŷdd. Fel y galloch wedi eich gwrei­ddio, a'ch seilio mewn cariad, amgyffred gŷd â'r holl sainct beth yw 'r llêd, a'r hŷd, a'r dyfnder, a'r vchder: ac adnabod cariad Christ, yr hwn sydd yn rhagori pob gŵybodaeth, fel y'ch llanwer â holl gyflawnder Duw. Iddo ef yr hwn a ddichon wneuthur pob peth yn fwy tra-rhagorol nag yr ydym ni yn dymuno, neu yn deall o herwydd y nerth sydd yn gweithio, ynom, [Page] y byddo gogoniant yn yr eglwys trwy Ghrist Iesu, tros yr holl genhedlaethau yn oes oesoedd. Amen.

Yr Efengyl.

Luc. 7.11. ABu drannoeth i'r Iesu fyned i ddinas a elwid Naim, a llawer o'i ddiscyblon a aethant gŷd ag ef, a thyrfa fawr. A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele, vn marw a ddygid allan, yr hwn oedd vnig fâb ei fam, a honno yn weddw: a llawer o bobl y ddinas oedd gŷd â hi. A phan welodd yr Ar­glwydd hi, ef a gymmerodd drugaredd arni, ac a ddy­wedodd wrthi, nac ŵyla. A phan ddaeth attynt, ef a gyffyrddodd â'r elor (a'r rhai oedd yn ei dwyn a safa­sant) ac ef a ddywedodd, y mâb ieuangc, yr wyf yn dy­wedyd wrthit, cyfot. A chyfodes y marw yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru: ac efe a'i rhoddes ef i'w fam. Ac ofn a ddaeth arnynt oll, ac hwy a ogone­ddasant Dduw, gan ddywedyd, yn ddiau prophwyd mawr a gyfododd yn ein plith, a diau ymwelodd Duw â'i bobl. A'r gair hwn a aeth allan am dano tros holl Iudêa, a thros gwbl o'r wlâd oddiamgylch.

Y xvij. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

ARglwydd ni a attolygwn i ti, fod dy râd bob am­ser yn ein rhagflaenu, a'n dilyn; a pherio honot i ni yn wastad ymroddi i bob gweithred dda, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Eph. 4 1. MY-fi yr hwn ydwyf garcharor yn yr Ar­glwydd, wyf yn attolwg i chwi rodio yn deilwng o'r alwedigaeth ych galw­yd iddi, gŷd â phob gostyngeiddrwydd, a llaryeidd-dra, ynghŷd â hir-ymaros, gan oddef ei gilydd mewn cariad, gan ymroi i gadw [Page] vndeb yr Yspryd ynghwlwm tangnheddyf. Vn corph, ac vn yspryd sydd, megis y'ch galwyd yn vn gobaith eich galwedigaeth: vn Arglwydd, vn ffŷdd, vn bedydd, vn Duw, a Thâd oll, yr hwn sydd goru­wch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll.

Yr Efengyl.

Luc. 14.1. BV hefyd pan ddaeth efe i dŷ rhyw vn o'r Pharisêaid pennaf ar y Sabboth i fwyta bara, ddisgwil o honynt hw­ythau ef. Ac wele 'r oedd gar ei fron ef ryw ddŷn yn glâf o'r dropsi. A'r Ie­su gan atteb a lefarodd wrth y cy­fraith-wŷr, a'r Pharisêaid, gan-ddy­wedyd: a'i rhydd yw iachâu ar y dydd Sabboth? A thewi a wnaethant hwy. Ac efe a'i cymmerth ef atto, ac a'i hiachaodd ef, ac a'i gollyngodd ymmaith. Ac a'u hattebodd hwynt, ac a ddywedodd, pwy o ho­noch os syrth ei asyn, neu ei ŷch mewn pwll, ni thynn ef allan yn ebrwydd ar y dŷdd Sabboth? Ac ni allent roi atteb yn ei erbyn ef am y pethau hyn. Ac efe a ddywedodd ddammeg wrth y gwahoddedi­gion, pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eistedd­leoedd vchaf, gan ddywedyd wrthynt: Pan y'th wa­hodder gan neb i neithior, nac eistedd yn y lle vchaf, rhag bod vn anrhydeddusach nâ thi wedi ei wahadd ganddo, ac i hwn a'th wahoddodd di ac yntef ddyfod, a dywedyd wrthit, dyro le i hwn, ac yna dechreu o honot ti trwy gywilydd gymmeryd y lle isaf. Eithr pan y'th wahodder, dôs, ac eistedd yn y lle isaf, fel pan ddelo yr hwn a'th wahoddodd di, y gallo efe ddywe­dyd wrthit, ô gyfaill, eistedd yn vwch i fynu: yna y bydd i ti barch yngŵydd y rhai a eisteddant gŷd â thi wrth y ford. Canys pwy bynnag a'i dyrchafo ei hun, a ostyngir: a'r neb a'i gostyngo ei hun a ddyrchefir.

Y xviij. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

O Arglwydd ni a attolygwn i ti ganiadhau i'th bobl rad i ymogelyd rhac llwgr y cythrael, ac â phur galon a meddwl dy ddilyn yr vnic Dduw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

1. Cor. 1.4. I'M Duw yr wyf yn diolch drosoch chwi yn wastad, am y grâs Duw a rodded i chwi yn Ghrist Iesu. Am eich cyfoetho­gi ym-mhob peth ynddo ef, mewn pob ymadrodd, a phob gwybodaeth: megis y cadarnhawyd tystiolaeth Christ yn­och, fel nad ydych chwi yn ddiffygiol o vn dawn, gan ddisgwil am ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist. Yr hwn hefyd a'ch cadarnhâ chwi hyd y di­wedd yn ddiargyoeddus yn nŷdd ein Harglwydd Ie­su Ghrist.

Yr Efengyl.

Mat. 22.34. GWedi clywed o'r Pharisêaid ddarfod i'r Iesu ostegu y Saducêaid, hwy a ym­gynnullasant i'r vn-lle. Ac vn o ho­nynt, yr hwn oedd gyfraithiwr, a o­fynnodd iddo gan ei demptio, a dywe­dyd, Athro, pa vn yw 'r gorchymmyn mawr yn y gy­fraith? A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ceri yr Ar­glwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl. Hwn yw 'r cyntaf, a'r gorchym­yn mawr. A'r ail sydd gyffelyb i hwn, Ceri dy gymy­dog fel tydi dy hun. Yn y ddau orchymyn hyn y mae 'r holl gyfraith, a'r prophwydi yn sefyll. Ac wedi ymgasclu o'r Pharisêaid ynghŷd, yr Iesu a ofynnodd iddynt, gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Ghrist? mâb i bwy ydyw? dywedâsant wrtho, mâb Dafydd. Yntef a ddywedodd wrthynt, pa fodd gan [Page] hynny y mae Dafydd yn yr yspryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd, Dywedodd yr Arglw­ydd wrth fy Arglwydd, eistedd ar fy neheu-law hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i'th draed. Am hyny os geilw Dafydd ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fâb iddo? Ac ni fedre neb atteb gair iddo, ac ni fei­ddiodd neb o'r dŷdd hwnnw allan ymofyn ag ef mwy.

Y xix. Sûl gwedi'r Drindod.

Y Colect.

O Dduw, can na allwn ni hebot ti ryngu bodd i ti: caniadhâ i weithrediad dy drugaredd vnioni a llywiaw ein calonau, trwy Iesu Grist ein Har­glwydd.

Yr Epistol.

Eph. 4.17. HYn yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dy­stiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae y cenhedloedd eraill yn rhodio mewn gwagedd eu me­ddwl: wedi tywyllu eu meddwl, y rhai ydynt wedi eu dieithro oddiwrth fuchedd Dduw, drwy yr anwybod y sydd ynddynt, trwy galedrwydd eu calon. Y rhai wedi iddynt ddiddarbodi a ymroe­sant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn vn­chwant. Eithr chwy-chwi nid felly y dyscasoch Ghrist. Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dyscwyd chwi ynddo megis y mae 'r gwirionedd yn yr Iesu, sef dodi o honoch heibio, o ran yr ymddygiad cyntaf, yr hên ddyn yr hwn sydd lygredig drwy drachwan­tau twyllodrus, ac ymadnewyddu yn yspryd eich meddwl, a gwisco y dŷn newydd, yr hwn a grewyd yn ôl Duw mewn cyfiawnder, a gwir sancteiddrw­ydd. O herwydd pa ham gan fwrw ymmaith gelw­ydd, dywedwch bawb y gwir wrth ei gymmydog, ca­nys aelodau ydym i'w gilydd. Digiwch, ac na phech­wch, [Page] na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi. Ac na roddwch le i ddiafol. Yr hwn a ladrattaodd, na ladratted mwyach, eithr cymmered boen yn hy­trach, gan weithio â'i ddwylaw y peth sydd dda, fel y byddo ganddo beth i'w gyfrannu i'r anghênog. Na ddeued vn ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi, ond cyfryw vn a fyddo da i adeilad pan fyddo rhaid, fel y paro râs i'r gwrandawyr. Ac na thriste­wch lân Yspryd Duw, gan yr hwn y'ch seliwyd i ddŷdd yr adbrynedigaeth. Tynner ymmaith oddi wrthych bôb chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd gŷd â phob drygioni: a byddwch gymmwy­nasgar i'w gilydd, a thrugarogion, gan faddeu i'w gilydd, fel y maddeuodd Duw er mwyn Christ i chwithau.

Yr Efengyl.

Mat. 9.1. YR Iesu a aeth i mewn i'r llong, ac a a­eth trosodd, ac a ddaeth i'w ddinas ei hun. Ac wele, hwy a ddugasant atto vn clâf o'r parlys, yn gorwedd mewn gwe­ly: a'r Iesu yn gweled eu ffŷdd hwy, a ddywedodd wrth y clâf o'r parlys, ha fâb, cymmer gyssur, maddeuwyd i ti dy bechodau. Ac wele rhai o'r scrifennyddion a ddywedasant ynddynt eu hun­ain, y mae hwn yn cablu. A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, ef a ddywedodd, pa ham y meddyliwch ddrŵg yn eich calonnau? Canys pa vn hawsaf ai dywedyd, maddeuwyd i ti dy bechodau, a'i dywedyd, cyfod a rhodia? Eithr fel y gwypoch fod meddiant i Fâb y dŷn ar y ddaear i faddeu pechodau, (yna y dyw­edodd efe wrth y clâf o'r parlys) cyfod, cymmer dy we­ly, a dôs i'th dŷ. Ac efe a gyfodes, ac a aeth ymmaith i'w dŷ ei hun. Felly, pan welodd y dyrfa, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roese gy­fryw awdurdod i ddynion.

Y xx. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

HOll-gyfoethog a thrugarog Dduw o'th rago­rol ddaioni cadw ni rhag pob peth a'n dryga, fel y byddom yn barod yn enaid a chorph i allu â chalonn­au rhyddion gyflawni y cyfryw bethau ag a fynnit ti eu gwneuthur, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Eph. 5.15. GWelwch gan hynny pa fodd y rhodioch yn ddiescaelus, nid fel annoethion, ond fel doethion, gan brynu yr amser, ca­nys y dyddiau sy ddrŵg. Am hynny na fyddwch ammhwyllogion, eithr dyell­wch beth yw ewyllys yr Arglwydd. Ac na feddwer chwi gan wîn, yn yr hwn y mae gormodedd, eithr llanwer chwi o'r Yspryd: gan ymddiddan a'i gilydd mewn Psalmau, a hymnau, ac odlau ysprydol, gan ganu, a phyngcio i'r Arglwydd yn eich calonnau: gan ddiolch yn oestad i Dduw a'r Tâd am bob peth yn enw ein Harglwydd Iesu Ghrist, gan ymddaro­stwng i'w gilydd yn ofn Duw.

Yr Efengyl.

Mat. 22.2. YR Iesu a ddywedodd wrth ei ddiscy­blon, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ddŷn a oedd frenhin, yr hwn a wnae­the briodas i'w fâb, ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i'r briodas, ac ni fynnent hwy ddyfod. Trachefn ef a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, wele, parotoais fy-nghi­nio, fy ychen, a'm pascedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod, deuwch i'r briodas. Ac hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymmaith, vn i'w faes, ac arall i'w fasnach. A'r llaill a ddaliasant ei weision ef, ac a wnaethant yn drahaus â hwynt, ac a'u lladdasant. [Page] A phan glybu y brenhin, efe a lidiodd, ac a ddanfo­nodd ei luedd-wyr, ac a ddinystriodd y lleiddiaid hynny, ac a loscodd eu dinas hwynt. Yna efe a ddy­wedodd wrth ei weision, yn wîr y briodas sydd ba­rod, ond y rhai a wahoddwyd nid oeddynt deilwng. Ewch gan hynny i'r prif-ffyrdd, a chynnifer ac a ga­ffoch gwahoddwch i'r briodas. A'r gweision hynny a aethant allan i'r prif-ffyrdd, ac a gasclasant yng­hŷd gynnifer oll ac a gawsant, drŵg a da, a llan­wyd y briodas o wahoddedigion. A phan ddaeth y brenhin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddŷn heb wîsc priodas am dano. Ac ef a ddywedodd wrtho, y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn ymma heb fod gennit wisc priodas? ac yn­tef a aeth yn fûd. Yna y dywedodd y brenhin wrth y gweision, rhwymwch ei draed a'i ddwylo, a chyme­rwch ef ymmaith, a theflwch i'r tywyllwch eithaf, yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd. Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.

Yr xxj. Sûl gwedi'r Drindod.

Y Colect.

O Drugarog Arglwydd ni a attolygwn i ti gani­adhau i'th ffyddlawn bobl faddeuaint a than­gneddyf, fel y glanhaer hwynt oddi-wrth eu holl be­chodau, ac y gwasanaethant ti â meddwl heddychol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Ephe. 6.10. FY mrodyr ymnerthwch yn yr Arglw­ydd, ac ynghadernid ei allu ef. Gwis­cwch oll arfogaeth Dduw, fel y galloch chwi sefyll yn erbyn cynllwynion dia­fol. Am nad yw ein hymdrech ni yn er­byn gwaed a chnawd, eithr yn erbyn tywysogaeth­au, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol gedyrn [Page] tywyllwch y bŷd hwn, yn erbyn drygau ysprydol yn y nefol leoedd. Am hynny cymmerwch attoch holl arfogaeth Dduw, fel y galloch wrthladd yn y dŷdd blîn, a sefyll wedi i chwi orphen y cwbl. Sefwch gan hynny, wedi gwregysu eich lwynau â gwirio­nedd, a gwisco dwyfronneg cyfiawnder, a gwisco am eich traed escidiau parotoad Efengyl tangnheddyf. Vwch ben pob dim cymmerwch darian y ffŷdd, â'r hwn y gellwch ddiffoddi holl biccellau tanllyd y fall: cymmerwch hefyd helm yr iechydwriaeth, a chle­ddyf yr Yspryd, yr hwn yw gair Duw. A gweddi­wch bob amser â phôb rhyw weddi a deisyfiad yn yr Yspryd, gan fod yn wiliadwrus at hyn trwy bob dy­falwch, ac ymbil tros yr holl sainct, a throsof finne, ar roddi i mi ymadrodd i agoryd fy-ngenau mewn rhydd-did, i wneuthur yn eglur ddirgelwch yr E­fengyl, er mwyn yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn, fel y traethwyf yn hyderus am deni, me­gis y perthyn i mi draethu.

Yr Efengyl.

Ioan. 4.46. YR oedd rhyw bendefig, yr hwn yr oedd ei fâb yn glâf yn Capernaum. Pan glybu hwn ddyfod Iesu o Iudêa i Ga­lilêa, ef a aeth atto ac a attolygodd iddo ddyfod i wared, ac iachâu ei fâb ef: ca­nys yr oedd efe ym mron marw. Yna 'r Iesu a ddy­wedodd wrtho ef, oni welwch chwi arwyddion, a rhyfeddodau ni chred wch. Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, ô Arglwydd, dyred i wared cyn marw fy machgen. Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, dôs y­maith, y mae dy fâb yn fyw, a'r dŷn a gredodd y gair yr hwn a ddywedase 'r Iesu wrtho ef, ac efe a aeth ymmaith. A phan oedd efe weithian yn myned i wared, ei weision a gyfarfuant ag ef, ac a fynega­sant, [Page] gan ddywedyd: y mae dy fachgen yn fyw. Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellaese arno: a hwy a ddywedasant wrtho, doe y seithfed awr y ga­dawodd y crŷd ef. Yna y gwybu 'r tâd mai yn yr awr honno y buase hyn, yn yr hon y dywedase 'r Ie­su wrtho ef, y mae dy fâb yn fyw: ac efe a gredodd, a'i holl dŷ. Dymma 'r ail arwydd a wnaeth yr Iesu drachefn, wedi iddo ef ddyfod o Iudêa i Galilêa.

Y xxij. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

ARglwydd ni attolygwn i ti gadw dy deu-lu, yr Eglwys mewn duwiolder gwastadol, fel y bo trwy dy nodded ti, ei gwaredu oddi-wrth bob gwrth­wyneb, ac iddi yn ddefosionol ymroi i'th wasanae­thu mewn gweithredoedd da, er gogoniant i'th E­nw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Phil. 1.3. I'M Duw yr ydwyf yn diolch ym-mhob coffa am danoch, (gan weddio bob am­ser yn fy holl weddiau trosoch oll yn llawen) oblegid y gyfran yr hon sydd i chwi yn yr Efengyl, o'r dŷdd cyntaf hyd yr a wrhō. Gan fod yn siccr gennif hyn ymma, y gor­phen yr hwn a ddechreuodd waith da ynoch, hyd yn nŷdd Iesu Ghrist, megis y mae yn iawn i mi synni­ed hyn am danoch oll, am eich bôd gennif yn fy-ng­halon, yn gystal yn fy rhwymau, ac yn fy amddiffyn i, a chadarnhâd yr Efengyl, gan eich bod chwi oll yn gyd-gyfrannogion â mi o râs. Canys Duw sydd dŷst i mi mor hiraethus wyf am danoch oll yn ym­yscaroed Iesu Ghrist. A hyn yr ydwyf yn ei weddio, sef ar amlhau o'ch cariad etto fwy-fwy mewn gwy­bodaeth a phob synwyr: i fedru o honoch ddosparthu [Page] y pethau y mae gwahaniaeth rhyngthynt, fel y by­ddoch bûr a didramgwydd hyd ddŷdd Christ, wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai ydynt trwy Iesu Ghrist, er gogoniant, a moliant i Dduw.

Yr Efengyl.

Mat. 18.21. PEtr a ddywedodd wrth Iesu, Arglw­ydd, pa sawl gwaith y pecha fy-mrawd i'm herbyn, ac y maddeuaf iddo, ai hyd saith-waith? Yr Iesu a ddywedodd wr­tho, nid wyf yn dywedyd wrthit, hyd saith-waith, onid hyd ddeng-waith a thri-ugain seith-waith. Am hynny y mae yn gyffelyb teyrnas nefoedd i ddŷn a oedd yn frenhin a fynne gael cyfrif gan ei weision. A phan ddechreuodd gyfrif fe a dduc­pwyd atto vn oedd yn ei ddylêd ef o ddeng-mil o da­lentau. A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, fe a or­chymynnod ei arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a chwbl o'r a fedde, a thalu 'r ddylêd. A'r gwâs gan syrthio i lawr a attolygodd iddo gan ddywedyd, Arglwydd, bydd dda dy ymaros wrthif, a mi a dalaf i ti y cwbl. Yna arglwydd y gwâs hwnnw a dosturi­odd wrtho, ac a'i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo y ddylêd. Ac wedi myned y gwâs hwnnw allan, efe a gafodd vn o'i gyd-weision yr hwn oedd yn ei ddylêd ef o gant ceiniog, ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llinda­godd, gan ddywedyd, tâl i mi yr hyn sydd ddyledus ar­nat. Yna y syrthiodd ei gyd-was wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, bŷdd ymarhous wrthif, a thalaf i ti y cwbl. Ac nis gwnai efe, onid myned a'i fwrw ef yngharchar, hyd oni dale ef yr hyn oedd ddyledus. A phan weles ei gyd-weision y pethau a wnelsid, bu ddrŵg dros ben ganddynt, ac hwy a ddaethant, ac a fynegasant i'w harglwydd yr holl bethau a fuasent. Yna y galwodd ei arglwydd arno [Page] ef, ac a ddywedodd wrtho, ha wâs drŵg, maddeuais i ti yr holl ddylêd honno, am i ti ymbil â mi, ac oni ddylesit tithe drugarhau wrth dy gyd-was, megis y trugarheais inne wrthit ti? A'i arglwydd a ddigiodd, ac a'i rhoddes ef i'r poen-wŷr, hyd oni thale yr hyn oll oedd ddyledus iddo. Ac felly y gwnâ fy nefol Dâd i chwithau, oni faddeuwch o'ch calonnau bob vn i'w frawd eu camweddau.

Y xxiij. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

DVw ein Nodded a'n cadernid, yr hwn wyt bena­dur pob dwywolder, gwrando yn ebrwydd dde­fosionol weddiau dy Eglwys; a chaniadhâ i ni am yr hyn ydd ŷm yn ei erchi yn ffyddlawn, allu ei gael yn gyflawn trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Phil. 3.17. HA frodyr, dylynwch fi, ac edrychwch ar y rhai sy yn rhodio felly, megis yr ydym yn siampl i chwi. Canys llaw­er a rodiant, am ba rai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr awrhon yr yd­wyf yn dywedyd i chwi dan ŵylo, mai gelynion croes Christ ydynt. Y rhai y mae eu di­wedd yn gyfrgoll, Duw y rhai yw eu bol, a'u gogo­niant yn wradwydd iddynt, y rhai y mae eu meddwl am bethau daearol. Canys ein gwladwriaeth ni sydd yn y nefoedd, o'r lle yr ydym yn edrych am yr Ia­chawdr, yr Arglwydd Iesu Ghrist. Yr hwn a gyf­newidia ein corph gwael ni, fel y gwneler yn vn ffurf â 'i gorph gogoneddus ef, o herwydd y grym trwy 'r hwn y dichon efe ddarostwng pob dim iddo ei hun.

Yr Efengyl.

Matt. 22.15. YNa ydd aeth y Pharisêaid, ac a gym­merasant gyngor pa fodd y maglent ef yn ei ymadrodd. Ac hwy a ddan­fonasant atto eu discyblon ynghŷd â 'r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, gŵyddom dy fod ti yn air­wir, ac yn dyscu ffordd Dduw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyt yn edrych ar ŵyneb dynion. Dywet i ni gan hynny, beth yr wyt ti yn ei dybi­eid, ai cyfraithlawn rhoddi teyrnged i Cêsar, ai nad yw? A'r Iesu yn gŵybod eu drygioni hwynt, a ddywedodd, pa ham yr ydych yn fy-nhemptio i, chwi ragrith-wŷr? Dangoswch i mi arian-bath y deyrn-ged, ac hwy a ddygasant atto geiniog. Ac efe a ddywedodd wrthynt, eiddo pwy yw y ddelw hon a'r argraph? Dywedasant wrtho, eiddo Cêsar: Yna y dywedodd yntef wrthynt, telwch chwithau yr eiddo Cêsar i Cêsar, a'r eiddo Duw i Dduw. A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a'i adel, a myned ymmaith.

Y xxiiij. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

ARglwydd attolygwn i ti ollwng dy bobl oddi­wrth eu cam-weddau, fel y byddom trwy dy ddawnus drugaredd ryddion oddi-wrth rwymedi­gaethau ein holl bechodau, y rhai drwy ein cnawdol freuolder a wnaethom: Caniadhâ hyn er cariad ar Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Coloss. 1.3. YR ydym ni yn diolch i Dduw, a Thâd ein Harglwydd Iesu Ghrist yn oestadol trosoch gan weddio, er pan glywsom eich ffŷdd yn-Ghrist Iesu, a'ch cariad i'r holl sainct, er mwyn y gobaith yr hon sydd wedi ei dodi i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch yn y blaen gan air gwirionedd yr Efengyl, yr hon sydd wedi dyfod attoch chwi, megis y mae yn yr holl fŷd, ac sydd yn ffrwythlawn fel y mae yn eich plith chwithau, o'r dydd y clywsoch, ac y gŵybuoch râs Duw mewn gwirionedd. Megis hefyd y dyscasoch gan Epaphras ein hannwyl gyd-was, yr hwn sydd trosoch chwi yn ffyddlon weinidog Christ. Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Yspryd. Am hynny ninnau hefyd er y dŷdd y clywsom, nid ydym yn peidio a gweddio trosoch, a deisyf eich cy­flawni â gŵybodaeth ei ewyllys ef ym-mhôb doethi­neb, a deall ysprydol. Fel y rhodioch yn deilwng gan yr Arglwydd, gan ryglyddu bodd ym-mhôb dim, gan ddwyn ffrwyth ym-mhôb gweithred dda, a thyfu yngŵybodaeth am Dduw. Wedi eich ner­thu â phob nerth trwy ei ogoneddus gadernid ef i bob dyoddefgarwch, ac ymaros, gŷd ag hy­frydwch, Gan ddiolch i'r Tâd yr hwn a'n gwna­eth yn gymmwys i gael rhan o etifeddiaeth y sainct yn y goleuni.

Yr Efengyl.

Matt. 9.18. TRa yr oedd yr Iesu yn dywedyd wrth y bobl, wele daeth rhyw bennaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, bu fa­rw fy merch yr awrhon, eithr dyred a gosod dy law arni, a byw fydd hi. A'r Iesu a godes, ac a'i canlynodd ef, a'i ddiscyblon. Ac wele wraig yr hon y buase gwaed-lif arni ddeudd­eng-mhlynedd, a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyfyrdd­odd ag ymyl ei wisc ef. Canys hi a ddywedase ynddi ei hun, os gallaf gyffwrdd a'i wisc ef yn vnig, iâch fyddaf. A'r Iesu a drôdd, a phan ei gwelodd hi, a ddy­wedodd, ha ferch bydd gyssurus, dy ffŷdd a 'th iacha­odd: a'r wraig a iachawyd o 'r awr honno allan. A phan ddaeth yr Iesu i dŷ 'r pennaeth, a gweled y cerddorion, a'r dyrfa yn terfyscu, efe a ddywedodd wr­thynt, ewch ymmaith, canys ni bu farw 'r llangces, onid cyscu y mae hi: ac hwynt a'i gwatwarasant ef. Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efa aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi, a 'r llangces a gyfodes. A'r gair o hyn a aeth tros yr holl dir hwnnw.

Y xxv. Sûl gwedi'r Drindod.

Y Colect.

DEffro Arglwydd ni a attolygwn i ti ewyllyssion dy ffyddloniaid, fel y gallont drwy ddwyn aml ffrwyth gweithredoedd da, gael gennyt ti yn ehela­eth eu gobrwyo trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Iere. 23.5. WEle y dyddiau yn dyfod, medd yr Ar­glwydd, fel y cyfodwyf i Ddafydd fla­guryn cyfiawn, yr hwn a deyrnasa yn frenhin, ac a lwydda, ac a wna farn, a chyfiawnder yn y tir. Yn ei ddyddiau [Page] ef yr achubir Iuda, ac Israel a breswylia yn ddio­gel: a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef, YR AR­GLWYDD ein cyfiawnder. Am hynny wele y dy­ddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na ddywe­dant m wyach, byw yw'r Arglwydd, yr hwn a ddûg feibion Israel i fynu o wlâd yr Aipht: eithr byw yw'r Arglwydd, yr hwn a ddûg i fynu, ac a dywy­sodd hâd tŷ Israel o dîr y gogledd, ac o bôb gwlad lle y bwriaswn i hwynt: a hwy a gânt arhos yn eu gw­lad eu hun.

Yr Efengyl.

Io. 6.5. YNa'r Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu fod tyrfa fawr yn dyfod atto ef, ac a ddywedodd wrth Phi­lip: o ba le y prynwn ni fara fel y gal­lo y rhai hyn fwyta? (Ac ef a dywe­dodd hyn i'w brofi ef, canys efe a ŵydde beth a wnai) Philip a'i hattebodd ef, Gwerth dau cant ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pob vn o honynt gymmeryd ychydig. Vn o'i ddiscyblon a ddywedodd wrtho ef, Andreas brawd Simon Petr, Y mae ymma ryw fachgennyn yr hwn sydd ganddo bump torth haidd, a dau bysco­dyn: ond beth yw hynny rhwng cynnifer? A'r Iesu a ddywedodd, perwch i'r dynion eistedd i lawr. (ac yr oedd glas-wellt lawer yn y fan honno) A'r gwŷr a eisteddasant i lawr ynghylch pum mîl o nifer. A'r Iesu a gymmerth y bara, ac a ddiolchodd, ac a'i rhan­nodd i'r discyblon, a'r discyblon i'r rhai oeddynt yn eistedd: felly hefyd o'r pyscod cymmeint ag a fynna­sant. Ac wedi eu digoni hwynt, ef a ddywedodd wrth ei ddiscyblon, cesclwch y briwfwyd sydd yng­weddill, fel na choller dim. Yna hwynt a'i cascla­sant, ac a lanwasant ddeu-ddeg basced â'r briwf-wyd [Page] o'r pump torth haidd, a weddillasid gan y sawl a fwy­tasent. Yna y dynion pan welsant yr arwydd a wnaethe yr Iesu, a ddywedasant, yn ddiau hwn yw'r prophwyd yr hwn oedd ar ddyfod i'r bŷd.

Os bydd mwy o Suliau cyn Sul yr Adfent, i gyflawni hynny y cymmerir gwasanaeth rhai o'r Suliau a adawyd heibio rhwng yr Ystwyll, a Septuagesima.

Sanct Andreas Apostol.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, yr hwn a roddaist gyfryw râd i'th Apostol S. Andreas fel yr vfyddhaodd yn ebrwydd i alwad dy Fâb Iesu Grist, ac y dilynodd ef yn ddirwystr: Caniadhâ i ni oll, wedi ein galw gan dy air bendigedic yn frau ymroddi o honom yn vfydd i ddilyn dy sanctaidd orchymynnion, trwy yr vn-rhyw Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Ro. 10.9. OS cyffessi â'th enau yr Arglwydd Ie­su, a chredu yn dy galon i Dduw i gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi. Ca­nys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffessir i iechydwri­aeth. Oblegid y mae'r scrythur yn dywedyd, Pwy bynnag a gredo ynddo ef, ni chywi­lyddir ef. Canys nid oes gwahaniaeth rhwng I­ddew a Groegŵr, oblegid yr hwn sydd Arglwydd ar bawb, sydd oludog i bawb a'r a alwant arno ef. Ca­nys pwy bynnag a eilw ar enw 'r Arglwydd, cadwe­dig fŷdd. Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant am dano? a pha fodd y clywant heb bregethwr? a pha fodd y pregethant, oddieithr eu [Page] danfon? megis y mae yn scrifennedig: Mor bryd­ferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnheddyf, ac yn efengylu pethau daionus. Either nid vfydd­hausant hwy oll i'r Efengyl, canys y mae Esaias yn dywedyd, O Arglwydd, pwy a gredodd i'r hyn a glywyd gennym ni? Am hynny ffŷdd sydd o glywed, a chlywed trwy air Duw. Eithr meddaf, oni chlyw­sant hwy? Eu sŵn yn ddiau a aeth trôs yr holl ddai­ar, a'u geiriau hyd terfynau y bŷd. Eithr meddaf, oni adnabu Israel Dduw? Yn gyntaf y mae Mo­ses yn dywedyd, Mi a baraf i chwi wŷnfydu wrth genhedl nid yw genhedl, ac â chenhedl anghall y' ch digiaf. Ac Esaias sydd yn llyfasu, ac yn dywedyd, Caffwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy-ngheisio, a gwnaed fi yn eglur i'r rhai nid oeddynt yn ymofyn am danaf. Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd, Yn hŷd y dŷdd yr estynnais fy-nwylo at bobl yn anghredu ac yn gwrth-ddywedyd.

Yr Efengyl.

Matt. 4.18. FEl yr oedd yr Iesu yn rhodio wrth fôr Galilêa, efe a ganfu ddau frodyr, Si­mon yr hwn a elwir Petr, ac Andre­as ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr (canys pyscod-wyr oeddynt.) Ac efe a ddywedodd wrthynt, deuwch ar fy ôl i, ac mi a'ch gwnâf yn byscod-wyr dynion. Ac hwy yn y fan gan adel y rhwydau, a'i dylynasant ef. Ac wedi ei fyned ef oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iaco fâb Zebedeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gŷd â Ze­bedeus eu tâd, yn cyweirio eu rhwydau, ac a'u gal­wodd hwy. Ac hwy yn ebrwydd gan adel y llong a'u tâd a'i canlynasant ef.

Y Colect.

HOll-alluog a byth-fywiol Dduw, yr hwn, er mwy o sicrhawch y ffydd a oddefaist i'th sanc­taidd Apostol Thomas ammau cyfodiad dy Fâb Ie­su Grist: Caniadhâ i ni cyn berffeithied, ac mor gwbl ddiammau gredu yn dy Fâb Iesu Grist, fel na che­rydder ein ffydd yn dy olwg byth: gwrando arnom, ô Arglwydd, drwy yr vn-rhyw Iesu Grist, i ba vn gyd â thi a'r Yspryd glân y bo holl anrhydedd a gogo­niant yn oes oesoedd.

Yr Epistol.

Eph. 2.19. WEithian nid ydych chwi mwyach yn ddieithraid, a dyfodiaid, ond yn gyd­ddinasyddion â'r sainct, ac yn deu­lu Duw, wedi eich adailadau ar sail yr Apostolion, a'r Prophwydi, i'r hyn y mae Iesu Ghrist ei hun yn ben congl-faen, yn yr hwn y mae'r holl adeilad wedi ei chyd-gysylltu yn cynnyddu yn Deml sanctaidd yn yr Arglwydd, yn yr hwn y'ch cyd-adailadwyd chwi­thau yn breswylfa i Dduw trwy 'r Yspryd.

Yr Efengyl.

Io. 20.24. THomas, vn o'r deu-ddeg, yr hwn a elwid Didymus, nid oedd gŷd â hw­ynt pan ddaethe yr Iesu. A'r discy­blon eraill a ddywedasant wrtho: ni a welsom yr Arglwydd. Yntef a ddy­wedodd wrthynt, oni welwyf yn ei ddwy-law ôl yr hoelion, a dodi fy mŷs yn ôl yr hoe­lion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf fi. Ac ym-mhen yr wyth niwrnod yr oedd ei ddiscyblon ef i mewn drachefn, a Thomas gŷd â hwynt: Yr Iesu a [Page] ddaeth, a'r drysau yn gaead, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangnheddyf i chwi. Wedi hynny dywedodd wrth Thomas, moes ymma dy fŷs, a gwêl fy nwylo, ac estyn dy law, a dôd yn fy ystlys, ac na fydd anghredadyn, ond credadyn. A Thomas a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, fy Arglwydd, a'm Duw. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Thomas, am i ti fy-ngwe­led y credaist: bendigedig yw 'r rhai ni welsant, ac a gredasant. A llawer hefyd o arwyddion eraill a wn­aeth yr Iesu yngŵydd ei ddiscyblon, y rhai nid ŷnt scrifennedig yn y llyfr hwn. Eithr y pethau hyn a scrifennwyd fel y credoch mai'r Iesu yw 'r Christ, Mâb Duw, ac i chwi gan gredu gael bywyd trwy ei enw ef.

Troad Sanct Paul.

Y Colect.

DVw yr hwn a ddyscaist yr holl fyd drwy bregeth dy wynfydedic Apostol S. Paul: Ni a attolygwn i ti ganiadhâu i ni, (i'r rhai y mae ei ryfedd ymchw­eliad ef mewn coffa) allu dilyn a chyflawni dy fendi­gedic ddysceidiaeth, yr hon a adawodd efe yn scrif­ennedic er athrawiaeth Cristianogion, trwy Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Act. 9.1. A Saul etto yn chwythu bygythiau, a chel­anedd yn erbyn discyblon yr Arglwydd, a aeth at yr Arch-offeiriad, ac a ddeisyfodd lythyrau ganddo i Ddamascus at y Synagogau, fel o chae efe neb na gwyr, na gwragedd yn bod o'r ffordd hon, y galle efe eu dwyn yn rhwym i Ierusalem. Ac fe ddarfu (fel yr oedd efe ar ei daith) iddo ddyfod yn gyfagos i Dda­mascus, ac fe a lewyrchodd o'i amgylch yn ddisymm­wth oleuni o'r nef. Ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, [Page] pa ham yr ydwyt yn fy erlid i? Yntef a ddywedodd, pwy wyt ti, Arglwydd? a 'r Arglwydd a ddywedodd, my-fi yw Iesu yr hwn yr wyt ti yn ei erlid, anhawdd yw i ti wingo yn erbyn y swmbwl. Yntef yn crynu, ac yn ofni, a ddywedodd, Arglwydd, beth a fynni di i mi ei wneuthur? yr Arglwydd a ddywedodd wrtho yntef, cyfod, dôs i'r ddinas, ac fe a ddywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur. A'r gwŷr y rhai oeddynt yn cyd-teithio ag ef, a safasant yn synn, gan glywed y llais, ac heb weled neb. A Saul a gy­fododd oddiar y ddaear, a phan agorodd efe ei ly­gaid, ni wele efe neb: eithr hwy a'i tywysasant ef erbyn ei law, ac a'i dugasant ef i mewn i Ddama­scus. Ac efe a fu dri-diau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta, nac yfed. Ac yr oedd yn Damascus ryw ddis­cybl a'i enw Ananias, wrth yr hwn y dywedodd yr Arglwydd mewn gweledigaeth, Ananias: yntef a ddywedodd, wele fi, Arglwydd. A'r Arglwydd a ddy­dodd wrtho, cyfod, a dôs i 'r heol a elwir vnion, a chais yn-nhŷ Iudas vn a'i enw Saul o Tharsus: canys wele, y mae yn gweddio. Ac yntef a wele drwy weledigaeth ŵr a'i enw Ananias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei ddwylo arno fel y gwele eil-waith. Yna 'r attebodd Ananias, ô Arglwydd, clywais gan lawer am y gŵr hwnnw, faint o ddrygau a wnaeth efe i'th sainct di yn Ierusalem. Hefyd y mae ganddo ymma awdurdod oddiwrth yr Arch-offeiriaid i rwy­mo pawb a alwo ar dy enw. A dywedodd yr Arglw­ydd wrtho: dôs ymmaith, canys y mae hwn yn llestr etholedig i mi, i ddwyn fy enw gar bron y cenhedlo­edd, a brenhinoedd, a phlant Israel. Canys mi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint y sydd raid iddo ef eu dyoddef er mwyn fy enw i. Ac Ananias a aeth ymaith, ac a aeth i mewn i'r tŷ, ac a osododd ei ddw­ylo arno, ac a ddywedodd, y brawd Saul, yr Arglw­ydd [Page] Iesu a'm hanfonodd (yr hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost) fel y gwelech eilwaith, ac y'th lanwer â'r Yspryd glân. Ac yn ebrwydd descyn­nodd oddiwrth ei lygaid megis cenn, ac efe a gafodd ei olwg yn y man, ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd. Ac wedi iddo gymmeryd bwyd efe a gryfhaodd. Yna y bu Saul ennyd o ddyddiau gŷd â'r discyblon y rhai oeddynt yn Damascus. Ac efe yn ebrwydd a brege­thodd Ghrist yn y Synagogau, mai efe yw Mâb Duw. A Phawb o'r a'i clybu ef a synnasant, ac a ddywedasant, ond dymma efe yr hwn oedd yn dyfe­tha y rhai a alwent ar yr enw hwn yn Ierusalē, ac a ddaeth ymma er mwyn hyn, sef i'w dwyn hwynt yn rhwym at yr Arch-offeiriaid? Eithr Saul a gynny­ddodd fwy-fwy o nerth, ac a orchfygodd yr Iddewon y rhai oeddynt yn preswylio yn Damascus, gan ga­darnhau mai hwn yw Christ.

Yr Efengyl.

Mat. 19.27. PEtr a attebodd, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, wele, ny-ni a adawsom bob peth, ac a'th ddylynasom di: beth gan hynny fŷdd i ni? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, yn wîr meddaf i chwi, pan eisteddo Mâb y dŷn ar orsedd ei ogoniant, chwy-chwi y rhai a'm dylynasoch i yn yr adenedigaeth, iê, chwy-chwi a eisteddwch ar ddeu-ddeg gorsedd, ac a fern­wch ddeuddec-llwyth Israel. A phwy bynnag a wrthododd dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dâd, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, efe a dderbyn y cant cymmaint, a bywyd tragywyddol a etifedda efe. Ond llawer o'r rhai blaenaf fyddant yn olaf, a'r rhai olaf yn flaenaf.

Puredigaeth y Sanctes Mair forwyn.

Y Colect.

HOll-alluog a thragywyddol Dduw, attolygwn yn vfyddol i'th fawredd, megis ag ar gyfenw i heddyw y presentiwyd i'r deml dy vn Mab yn sylw­edd ein cnawd ni: felly Caniadhâ ein presentio i ti â meddyliau pur-lan, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Yr un ac a osodwyd tros y Sûl.

Yr Efengyl.

Luc. 2.22. GWedi cyflawni dyddiau puredigaeth Mair, yn ôl deddf Moses, hwynt a'i dygasant ef i Ierusalem i'w gyflw­yno i'r Arglwydd, (fel yr scrifenn­wyd yn neddf yr Arglwydd, Pôb gwr-ryw cyntaf-anedig a elwir yn sanctaidd i'r Arglwydd) ac i roddi offrwm, yn ôl yr hyn a ddywedir yn neddf yr Arglwydd, Pâr o durtu­rod, neu ddau gyw colommen. Ac wele, yr oedd dŷn yn Ierusalem a'i enw Simeon, a'r dyn hwn oedd gyfiawn, a duwiol, yn disgwil am ddidd­anwch yr Israel, a'r Yspryd glân oedd arno. Ac yr oeddid wedi ei rybuddio ef gan Dduw trwy'r Yspryd glân, na wele efe angeu cyn iddo weled Christ yr Ar­glwydd. Ac efe a ddaeth trwy yr Yspryd i'r Deml.

Sanct Matthias.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, yr hwn yn lle Iudas fradwr a ddetholaist dy ffydd-lawn wâs Mathias i fod yn vn o nifer dy ddeu-ddec Apostol. Caniadha fod dy Eglwys yn gadwedic oddi-wrth Apostolion ffeilsi­on, a bod ei threfnu a 'i llywodraethu gan wîr a ffydd-lawn fugeiliaid, trwy Iesu Grist ein Har­glwydd.

Yr Epistol.

Act. 1.15. YN y dyddiau hynny Petr a gyfododd i fynu ynghanol y discyblon, ac a ddywedodd, (ac yr oedd o rifedi pobl yn yr vn-lle ynghylch vgain a chant) Hawyr, frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni yr scrythur ymma, yr hon a ragddy­wedodd yr Yspryd glân trwy enau Dafydd am Iu­das, yr hwn a fu flaenor i'r rhai a ddaliasant yr Ie­su. Canys cyfrifwyd ef yn ein plith ni, ac efe a gawse ran o'r weinidogaeth hon. Ac efe a feddiannodd faes â gobrwy anwiredd, ac wedi ymgrogi, efe a dorrodd yn ddwy-ran yn ei ganol, a'i holl ymyscaroedd a dy­walltwyd allan. Ac aeth hyn yn eglur i holl bres­wylwŷr Ierusalem, hyd oni elwir y maes hwn yn eu priodol dafod-iaith hwy, Aceldama, hyn yw, maes y gwaed. Canys scrifennedig yw yn llyfr y Psalmau, Bydded ei drigfan ef yn ddiffaethwch, ac na bydded a drigo ynddi, a chymmered arall ei escobaeth ef. Am hynny y mae yn rhaid (o'r gwŷr a fuant yn cydym­daith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni, gan ddechreu o fe­dydd Ioan, hyd y dŷdd yn yr hwn y dyrchafwyd ef oddiwrthym) bôd vn gŷd â ni yn dyst o'i ad-gyfodiad ef. Ac hwy a osodasant ddau gar bron, Ioseph yr hwn a elwid Barsabas, ac a gyfenwid Iustus, a Matthias. A chan weddio hwy a ddywedasant, Ty-di Arglwydd yr hwn a ŵyddost galonnau pawb, dangos pa vn o'r ddau hyn a etholaist i dderbyn swydd y weinidogaeth hon, a'r Apostoliaeth, o'r hon y troseddodd Iudas i fyned i'w le ei hun. Ac hwy a fwriasant eu coel-brennau, ac ar Matthias y syr­thiodd y coel-bren, ac efe a gyfrifwyd gŷd â'r vn Apostol ar ddêg.

Yr Efengyl.

Matt. 11.25. YN yr amser hynny yr attebodd yr Iesu, ac y dywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch ô Dâd, Arglwydd nef a daear, am i ti gu­ddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai call, a'u datcuddio o honot i'r rhai bychain. Iê, ô Dâd, canys felly y rhyngodd bodd i ti. Pob peth a a roddwyd i mi gan fy Nhâd, ac nid edwyn neb y Mab, eithr y Tâd, ac nid edwyn neb y Tâd, ond y Mâb, a'r hwn a ewyllysio 'r Mâb ei ddatcuddio iddo. Dewch attafi bawb a'r sydd yn flinderog, ac yn llwy­thog, ac mi a esmwythâf arnoch. Cymmerwch fy iau arnoch, a dyscwch gennif, canys llaryaidd wyf, a gostyngedig o galon: a chwi a gewch orphywysdra i' ch eneidiau. Canys fy iau sydd esmwyth a'm baich sydd yscafn.

Cyfarchiad Mair Wyryf.

Y Colect.

NI a attolygwn i ti ô Arglwydd dywallt dy râd yn ein calonnau, fel, megis ag y gwyddom gnaw­doliaeth Crist dy Fab trwy gēnadwri yr Angel, felly trwy ei grôg a'i ddioddefaint, bod i ni gael ein dwyn iw adgyfodiad ef, trwy yr vn-rhyw Iesu Grist ein &c.

Yr Epistol.

Esa. 7.10. YR Arglwydd a chwanegodd lefaru wrth A­haz, gan ddywedyd, Gofyn it arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw: cais o'r dyfnder, neu o'r vchelder oddi-arnodd. Yna y dywe­dodd Ahaz, ni ofynnaf, ac ni themptiaf yr Arglwydd. A dywedodd yntef, gwrandewch yr a wrhon, tŷ Dda­fydd, ai bychan gennwch flino dynion, oni flinoch he­fyd fy Nuw? Am hynny yr Arglwydd ei hun a ddyry i chwi arwydd: Wele, y forwyn a fydd feichiog, ac hi a escor ar fâb, a thi a elwi ei enw ef, Immanuel. Ymenyn a mêl a fwyty efe, hyd oni fedro efe ymwr­thod â'r drwg, ac ethol y da.

Yr Efengyl.

Luc. 1.26. AC yn y chweched mîs anfonwyd yr angel Gabriel oddiwrth Dduw i ddinas yn Gali­lêa, a'i henw Nazareth, at forwyn wedi ei dyweddio i ŵr a'i enw Ioseph o dŷ Ddafydd, ac enw 'r forwyn oedd Mair. A'r angel a aeth i mewn atti, ac a ddywedodd, Hanphych well yr hon a gefaist râs, yr Arglwydd sydd gŷd â thi, bendigaid wyt ti ym­mhlith gwragedd. Pan welodd hithe ef, brawychu a wnaeth wrth ei ymadrodd ef, a meddwl pa fath gy­farch oedd hwn. A dywedodd yr angel wrthi, nac ofna, Mair, canys ti a gefaist râs ger bron Duw. Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy grôth, ac escori ar Fâb, ac a elwi ei enw ef Iesu. Hwn fŷdd mawr, ac a elwir yn Fâb y Goruchaf, ac iddo y rhŷdd yr Arglwydd Dduw orsedfa ei dâd Dafydd. Ac efe a deyrnasa ar dŷ Iacob yn dragywydd, ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd. A Mair a ddywedodd wrth yr Angel, pa fodd y bydd hyn, gan nad adwen i ŵr. A'r angel a attebodd, ac a ddywedodd wrthi, yr Yspryd glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a' th gyscodadi: am hynny hefyd y peth sanctaidd a aner o honot, a elwir yn Fâb Duw. Ac wele, Elizabeth dy gares, y mae hithe wedi bei­chiogi ar fâb yn ei henaint, a hwn yw'r chweched mîs iddi hi, yr hon a elwid yn ammhlantadwy. Ca­nys gŷd â Duw ni bydd dim yn am-mhossibl. A dy­wedodd Mair, wele wasanaethyddes yr Arglwydd: bydded i mi yn ôl dy air. A'r angel a aeth ymmaith oddiwrthi hi.

Dydd S. Marc yr Efangel-wr.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, yr hwn a ddyscaist dy sancta­idd Eglwys â nefol athrawiaeth dy Efangel-wr S. Marc, dot ti i ni râd, na byddom fel plant, ym­chweledic gan bob awel o wag ddysceidiaeth: eithr [Page] bod i ni yn ffyrf ymgadarnhâu yng-wirionedd dy lân Efangel, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Eph. 4.7. I Bôb vn o honom y rhoed grâs yn ôl mesur dawn Christ. Am hynny y mae yn dywedyd, Pan ddyrchafodd i'r vchelder, efe a gaethgludodd ga­ethiwed, ac a roddes roddion i ddy­nion. Eithr, Efe a ddyrchafodd, pa beth yw ond darfod iddo ddescyn yn gyntaf i bar­thau isaf y ddaear. Yr hwn a ddescynnod yw 'r hwn a escynnodd hefyd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyf­lawne efe bôb peth. Efe gan hynny a roddes rai yn Apostolion, a rhai yn brophwydi, a rhai yn Efen­gyl-wŷr, a rhai yn fugailiaid, ac yn athrawon, i grynhoi y sainct i waith y weinidogaeth, i adeilada­eth corph Christ, hyd oni ymgyfarfyddom oll, yn vn­deb ffŷdd, a gŵybodaeth Mâb Duw, yn ŵr perffaith at fesur oedran cyflawnder Christ: fel na byddom yn blantos mwyach, yn bwhwmman, ac yn ein har­wain oddi amgylch â phob awel dysceidiaeth mewn cyfrwysdra dynion a hocced, i gynllwyn twyll. Ei­thr gan ddylyn gwirionedd mewn cariad, cynny­ddwn iddo ef ymmhôb peth, yr hwn yw 'r pen, sef Christ. O'r hwn y mae'r holl gorph wedi ei gyd-ym­gynnull, a'i gyd-gyssylltu trwy bob cymmal, yr hwn sydd yn gweini llyniaeth yn ôl y gweithrediad y sydd ymmesur pob rhan, yn peri cynnydd y corph, i'w adeladaeth ei hun mewn cariad.

Yr Efengyl.

Io. 15.1. MY-fi yw 'r wîr winwydden, a'm Tâd yw 'r llafurwr. Pob cangen heb ddwyn ffrwyth ynof fi, y mae efe yn ei thynnu ymmaith: a phob vn a ddygo ffrwyth, efe a'i glanhâ fel y dygo fwy o ffrwyth. [Page] Bellach yr ydych chwi yn lân gan y gair a leferais i wrthych. Arhoswch ynof fi, a mi ynoch chwi: megis na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, onid erys yn y win-wydden, felly ni ellwch chwithau, o­nid arhoswch ynof fi. My-fi yw'r win-wyddē, chwy­chwi yw'r canghennau: yr hwn a arhoso ynof fi, a minne ynddo yntef, hwnnw a ddŵg ffrwyth lawer: canys hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim, os neb nid erys ynof fi, ef a deflir allan fel cangen, ac a ŵywa: a rhai a'u casclant, ac a'u bwriant yn tân, ac a loscir. Os arhoswch ynof fi, ac os erys fyngeiriau ynoch chwi, beth bynnag a ewyllysiwch, gofyn­nwch, ac fe a'i gwneir i chwi. Yn hyn y gogoneddir fy-Nhâd, ar ddwyn o honoch ffrwyth lawer, a'ch gwneuthur yn ddiscyblon i mi. Fel y carodd y Tâd fi, felly cerais i chwithau, arhoswch yn fy-nghari­ad. Os cedwch fy-ngorchymynion, chwi a arhoswch yn fy-nghariad: fel y cedwais i orchymynion fy-Nhâd, ac yr wyf yn arhos yn ei gariad ef. Hyn a ddy­wedais wrthych fel yr arhoso fy llawenydd ynoch, a bod o'ch llawenydd yn gyflawn.

S. Philip ac Iaco Apostolion.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, yr hwn dy wîr adnabod yw bywyd tragywyddol: Caniadhâ i ni berffaith ad­nabod dy Fâb Iesu Grist i fod yn ffordd, yn wirio­nedd, ac yn fywyd megis y dyscaist i S. Philip a'r a­postolion eraill: trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Iaco. 1.1. IAco gwasanaethwr Duw, a'r Arglwydd Ie­su Ghrist at y deuddec-llwyth gwascaredig, annerch. Cymmerwch yn lle dirfawr lawe­nydd, [Page] fy-mrodyr, pan syrthioch mewn amryw bro­fedigaethau, gan ŵybod y pair profedigaeth eich ffŷdd chwi ammynedd. Ammynedd hefyd caffed ei pherffaith waith, fel y galloch fod yn berffaith ac yn gyfan, heb Ddim diffyg. O bŷdd ar neb o honoch eisieu doethineb, ceisied gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoddi yn haelionus i bawb, ac nis dannod i neb, ac fe a'i rhoddir iddo ef. Eithr ceisied mewn ffŷdd heb amheu dim: canys y neb a amheuo, cyffelyb yw i donn o 'r môr, a chwelir ac a deflir gan y gw­ynt. Ac na feddylied y dŷn hwnnw y caiff ddim gan yr Arglwydd. Gŵr dau-ddyblyg ei feddwl, anwa­dal yw ynghwbl o'i ffyrdd. Y brawd o radd isel, llawenyched yn ei oruchafiaeth: a'r cyfoethog yn ei ostyngedigaeth: canys megis blodeuyn y llysi­euyn y diflanna efe. Oblegid fel pan gyfododd yr haul gŷd â gwrês, yna y gŵywodd y llysieuyn, ac y cwympodd ei flodeuyn, ac y collodd tegwch ei brŷd ef: felly hefyd y diflanna 'r cyfoethog yn ei ffyrdd. Gwyn ei fŷd y gŵr a oddef brofedigaeth, ca­nys pan fyddo profedig, efe a gaiff goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i'r rhai a'i ca­rant ef.

Yr Efengyl.

Io. 14.1. A'R Iesu a ddywedodd wrth ei ddiscy­blon, Na thralloder eich calō, yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynofi hefyd. Yn nhŷ fy-Nhâd y mae llawer o drigfā ­nau, a phe amgen mi a ddywedaswn i chwi, yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi. A phan elwyf, a pharotoi lle i chwi, mi a ddeuaf dra­chefn, ac a'ch cymmeraf attaf fy hun: fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd. A chwi a ŵyddoch i ba le yr wyf fi yn myned, a 'r ffordd aŵyddoch. Dywe­dodd [Page] Thomas wrtho, ô Arglwydd, ni ŵyddom ni i ba le 'r aei di, a pha wedd y gallwn ni ŵybod y ffordd? Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, My-fi yw 'r ffordd, a'r gwirionedd, a'r bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tâd, ond trwofi. Ped adnabasech fi, fy-Nhâd hefyd a adnabasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a'i gwelsoch ef. Dywedodd Philip wrtho: ô Arglw­ydd, dangos i ni y Tâd, a digon yw i ni hynny. Yr Iesu a ddywedodd, a ydwyf gyhyd o amser gŷd a chwi, ac ni anabuost fi? Philip, y neb a'm gwelodd i, a welodd y Tâd: a pha wedd y dywedi dangos i ni y Tâd? Onid wyt yn credu fy môd i yn y Tâd, a bod y Tâd ynof-inne? y geiriau y rhai yr wyf fi yn eu traethu wrthych, nid o honof fy hun yr wyf yn eu traethu, ond y Tâd yr hwn sydd yn arhos y­nof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd. Cre­dwch fi, fy môd i yn y Tâd, a bod y Tâd ynof-inne: ac ond ê, credwch fi er mwyn y gweithredoedd. Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, yr hwn a gredo yno­fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yn­tef a'u gwnâ, a rhai mwy nâ'r rhai hyn a wnâ efe: canys at fy-Nhâd yr wyf fi yn myned. A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw, hynny a wnâf, fel y gogonedder y Tâd yn y Mâb. Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a'i gwnâf.

S. Barnabas Apostol.

Y Colect.

HOll-alluog Arglwydd yr hwn a wiscaist dy sāctaidd Apostol Barnabas â rhagorawl roddi­on dy Yspryd glân, Na âd i ni fod yn ddeffygiol ôth liosawg ddoniau, nac etto o râd iw harferu hwynt i'th anrhydedd di a'th ogoniant: trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Io. 15.12. Act. 11.22. DAeth y gair o'r pethau hyn i glustiau yr eglwys yr hon oedd yn Ierusalem, a hwy a anfonasāt Barnabas i fyned hyd Antiochia. Yr hwn pan ddaeth, a gweled grâs Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb, trwy lwyrfryd calon i barhau yn yr Arglwydd. Canys gŵr da oedd efe, yn llawn o'r Yspryd glân, a ffŷdd: a llawer o bobl a chwanegwyd i'r Arglwydd. Yna 'r aeth Barnabas ymmaith i Tharsus i geisio Saul, ac wedi iddo ei gael, efe a'i dûg i Antiochia. Darfu hefyd iddynt flwyddyn gyfan gynniwer yn yr eglw­ys honno, a dyscu tyrfa fawr: a'r discyblon yn An­tiochia a alwyd yn Gristianogion yn gyntaf. Ac yn y dyddiau hynny daeth prophwydi o Ierusalem i Antiochia. Ac vn o honynt a gyfododd a'i enw Aga­bus, ac a arwyddocaodd drwy yr Yspryd, y bydde newyn mawr dros yr holl fŷd, yr hyn hefyd a fu tan Claudius Cêsar. Yna pob vn o'r discyblon yn ôl ei allu, a fwriadasant anfon cymmorth i'r brodyr, y rhai oeddynt yn preswylio yn Iudêa. Yr hyn beth he­fyd a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid drwy law Barnabas a Saul.

Yr Efengyl.

DYmma fy-ngorchymyn i, ar i chwi ga­ru ei gilydd fel y cerais i chwi. Cariad mwy nâ hyn nid oes gan neb, na dodi o vn ei einioes tros ei gyfeillon. Chwy­chwi fyddwch fy-nghyfeillon, os gw­newch pa bethau bynnag yr wyf fi yn eu gorchy­myn i chwi. Nid ydwyf yn eich galw yn weision mw­yach, am na's gŵyr gwâs beth y mae ei Arglwydd yn ei wneuthur, ond mi a'ch gelwais chwi yn gyfei­llon, canys pob peth a'r a glywais gan fy-Nhâd, a [Page] hyspysais i chwi. Nid chwy-chwi a'm dewisasoch i, ond my-fi a'ch dewisais chwi, ac a'ch ordeiniais i fy­ned a dwyn ffrwyth, a bod i'ch ffrwyth arhos, me­gis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tâd yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.

S. Ioan Fedyddiwr.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, o ragluniaeth pa vn y ganed yn rhyfedd dy wâs Ioan Fedyddiwr, ac yr an­fonwyd ef i arlwyo ffordd dy Fâb Iesu Grist ein Ia­chawdur, gan bregethu edifeirwch: gwna i ni felly ddilyn ei ddysceidiaeth a'i sanctaidd fywyd ef, fel y gallom wîr edifarhau wrth ei bregeth ef, ac ar ôl ei esampl yn wastadol draethu y gwirionedd, yn hy­derus geryddu y camwedd, ac yn vfydd ddioddef er mwyn y gwirionedd, trwy Iesu Grist ein Har­glwydd.

Yr Epistol.

Esa. 40.1. CYssurwch, cyssurwch fy-mhobl medd eich Duw. Dywedwch wrth fodd Ie­rusalem, llefwch wrthi hi gyflawni ei milwriaeth: canys maddeuwyd ei ha­nwiredd, o herwydd derbyniodd o law 'r Arglwydd yn ddau ddyblyg am ei holl bechodau. Canys llêf sydd yn llefain yn yr ynialwch, parotowch ffordd yr Arglwydd, vniawnwch lwybrau ein Duw ni yn y diffaethwch. Pob pant a gyfodir a phob my­nydd a bryn a ostyngir, y gŵyr a fydd yn vniawn, a'r anwastad yn wastadedd. A gogoniant yr Arglwydd a ymeglura, fel y cyd-welo pob cnawd mai genau 'r Arglwydd a lefarodd hyn. Llef a ddywedodd wrth y prophwyd, gwaedda di, yntef a ddywedodd, beth a waeddaf? Bod pob cnawd yn wellt, a'i holl odidaw­grwydd fel blodeuyn y maes. Gŵywodd y gwelltyn, [Page] a syrthiodd y blodeuyn, canys Yspryd yr Arglwydd a chwythodd arno: gwellt yn ddiau yw'r bobl. Gŵy­wodd y gwelltyn, syrthiodd y blodeuyn, a gair ein Duŵ ni a saif byth. Dring rhagot yr Efengyles Si­on i fynydd vchel, dyrchafa dithe dy lêf trwy nerth, ô Efangyles Ierusalem: dyrchafa, nac ofna: dywet wrth ddinasoedd Iuda, wele eich Duw chwi. Wele, 'r Arglwydd Dduw a ddaw yn erbyn y cadarn, a'i fraich a lywodraetha arno ef: wele ei obrwy gŷd ag ef, a'i waith o'i flaen. Fel bugail y portha efe ei braidd, â i'fraich y cascl ei wyn, ac a'i dŵg yn ei fonwes, ac a goledda y mammogiaid.

Yr Efengyl.

Luc. 1.57. A Chyflawnwyd y tymp i Elizabeth i es­cor o honi, a hi a escorodd ar fâb. A chly­bu ei chymydogiō, a'i chenedl hi fawr­hau o'r Arglwydd ei drugaredd arni, a hwynt a gyd-lawenychasant â hi. A bu ar yr wythfedd dydd, ddyfod o honynt i enwaedu ar y bachgennyn, ac hwy a'i galwasant ef yn ôl henw ei dâd, yn Zacharias. A'i fam ef a attebodd, ac a ddy­wedodd, nid felly, eithr ei enw fŷdd Ioan. Hwythau a ddywedasant wrthi, nid oes neb o'th genedl a el­wir ar yr henw hwn. Ac hwy a amneidiasant ar ei dâd, pa fodd y mynne efe ei henwi ef. Ac yntef wedi iddo alw am argraph-lech, a scrifennodd gan ddy­wedyd, Ioan yw ei enw ef, a rhyfeddu a wnaethant oll. Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a'i dafod, ac ef a lefarodd, gan fendithio Duw. A daeth ofn ar eu holl gymydogion hwynt, a thrwy holl fynydd-dir Iudêa cyhoeddwyd y geiriau hyn oll. A phawb a'r a'u clywsant a'u gosodasant yn eu calōnau, gan ddy­wedyd, beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw 'r Ar­glwydd oedd gŷd ag ef. A'i dâd Zacharias a gyflawn­wyd o'r Yspryd glân, ac a brophwydodd, gan ddywe­dyd: [Page] Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, ca­nys efe a ymwelodd, ac a brynodd ei bobl. Ac efe a ddyrchafodd nerth eichydwriaeth i ni, yn nhŷ Dda­fydd ei wasanaeth-ŵr, megis y dywedodd trwy enau ei sanctaidd brophwydi, y rhai oeddynt erioed, yr an­fone efe i ni iechydwriaeth oddiwrth ein gelynion, ac o law ein holl gaseion, Gan wneuthur trugaredd â 'n tadau, a chofio ei sanctiaidd gyfammod, a'r llw a dyngodd efe i'n tâd Abraham, ar ei roddi i ni, sef bod i ni yn ddiofn wedi ein rhyddhau o ddwylo ein gelyni­on ei wasanaethu ef mewn sancteiddrwydd a chyfi­awnder ger ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd. A thithe fachgēnyn a elwir yn brophwyd i'r Goruchaf: canys ti a aei o flaen ŵyneb yr Arglwydd i barotoi ei ffyrdd ef, i roddi gwybodaeth iechydwriaeth i'w bobl ef trwy faddeuant eu pechodau, o herwydd tirion­dab trugaredd ein Duw, trwy 'r hon yr ymwelodd â ni godiad haul o'r vchelder: i lewyrchu i'r rhai sy yn eistedd mewn tywyllwch, a chyscod angeu, i gyfei­rio ein traed i ffordd dangnheddyf. A'r bachgennyn a gynnyddodd, ac a gryfhawyd yn yr yspryd, ac a fu yn y diffaethwch hyd y dŷdd yr ymddangosodd efe i 'r Israel.

S. Petr Apostol.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, yr hwn drwy dy Fâb Iesu Grist a roddaist 'ith Apostol S. Petr laweroedd o ddonniau arbennig, ac a orchymynnaist iddo o ddi­frif borthi dy ddefaid: gwnâ, ni a attolygwn i ti i'r holl Escobion, a'r Bugeiliaid yn ddyfal bregethu dy sanctaidd air, ac i'r bobl yn vfyddgar ddilyn yr vn­rhyw, fel y byddo iddynt hwy allu derbyn coron y gogoniant tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Har­glwydd.

Yr Epistol.

Act. 12.1. Y Prŷd hynny estynnodd Herod frenhin ei ddwylo i orthrymmu rhai o'r eglw­ys. Ac efe a laddodd Iaco brawd Ioan â 'r cleddyf. A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewō hyn, ef a chwanegodd ddala Petr hefyd: (a dyddiau y bara croyw ydoedd hi) yr hwn a ddalyodd efe, ac a osododd yngharchar, ac a'i rhoddodd at bedwar pedwar o fil­wyr i'w gadw, gan feddwl ar ôl y Pâsc ei ddwyn ef allan i'r bobl. Ac felly cadwyd Petr yn y carchar, a gweddi ddyfal a wnaed gā yr eglwys at Dduw dro­sto ef. A phan oedd Herod a'i fryd ar ei ddwyn ef allā, y nos honno yr oedd Petr yn cyscu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn, a'r gwil-wŷr oeddynt yn cadw y carchar gyferbyn a'r drŵs. Ac wele, angel yr Arglwydd a ddaeth ar eu huchaf, a llewyrch a ole­uodd yn y carchar: ac efe a darawodd Betr ar ei yst­lys, ac a'i cyfododd ef, gan ddywedyd: cyfod yn fuan, a'r cadwyni a syrthiasāt oddi-wrth ei ddwylo ef. A dy­wedodd yr angel wrtho, ymwregysa, a chae dy escidi­au, ac felly y gwnaeth efe. Ac efe a ddywedodd wrtho, gwîsc dy ddillad am danat, a chanlyn fi. A Phetr a ddaeth allan, ac a'i canlynodd ef, ac ni's gwybu mai gwîr oedd y peth a wnaethid gan yr angel, ond efe a dybiodd mai gweled gweledigaeth yr oedd efe. Eithr wedi myned o honynt heb law y gyntaf a'r ail wiliadwriaeth, hwy a ddaethant i'r porth hayarn, yr hwn sydd yn arwain i'r ddinas, yr hwn a ymago­rodd iddynt o'i waith ei hun: ac wedi eu myned allā, hwy a aethant ar hyd vn heol, a'r angel a aeth yn e­brwydd ymaith oddiwrtho. A Phetr wedi dyfod atto ei hū a ddywedodd, yn awr y gwn yn wîr i'r Arglw­ydd anfon ei angel, a'm gwared i allan o law He­rod, ac oddiwrth holl ddisgwiliau pobl yr Iddewon.

Yr Efengyl.

Mat. 16.13. GWedi dyfod yr Iesu i dueddau Cêsaria Philip, efe a ofynnodd i'w ddiscyblon, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy môd i Mâb y dŷn? Ac hwy a ddywedasant, rhai sy yn dywedyd mai Ioan fedyddiwr, a rhai mai Elias, ac eraill mai Ieremias, neu vn o'r prophwydi. Ac efe a ddywe­dodd wrthynt, pwy meddwch chwi ydwyf fi? Yna Simon Petr a attebodd, ac a ddywedodd, ti ydwyt Christ, Mâb y Duw byw. A'r Iesu a attebodd, ac a ddy wedodd wrtho, gwyn dy fŷd di Simon mâb Io­nas, canys nid cîg a gwaed a ddatcuddiodd hyn i ti, eithr fy-Nhâd yr hwn sydd yn y nefoedd. Yr ydwyfi hefyd yn dywedyd i ti, mai ti ydwyt Petr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy Eglwys, a phyrth vffern ni 's gorchfygant hi. A mi a roddaf i ti agoriadau teyr­nas nefoedd, a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear a fydd rhwymedig yn y nefoedd: a pha beth bynnag a rhyddhaech ar y ddaear, fydd wedi ei ry­ddhau yn y nefoedd.

S. Iaco Apostol.

Y Colect.

CAniatâ ô drugarog Dduw, megis y bu i'th wyn­fydedic Apostol sanct Iaco (gan ymado a'i Dâd, a chwbl ar oedd eiddo ef) yn ebrwydd vfyddhau i al­wad dy Fâb Iesu Grist, a'i ddilyn: felly i ninnau gan ymwrthod â bydol ac â chnawdol ewyllyssion, yn dragywydd fod yn barod i ddilyn dy orchymynni­on, trwy Iesu Grist ein Harglŵydd.

Yr Epistol.

Act. 11.27. YN y dyddiau hynny daeth prophwydi o Ie­rusalem i Antiochia. Ac vn o honynt a gy­fododd a'i enw Agabus, ac a arwyddoccaodd [Page] drwy yr Yspryd, y bydde newyn mawr dros yr holl fŷd, yr hyn hefyd a fu tan Claudius Cêsar. Yna pob vn o'r discyblon yn ôl ei allu a fwriadasant anfon cymmorth i'r brodyr, y rhai oeddynt yn preswylio yn Iudêa. Yr hyn beth hefyd a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid drwy law Barnabas a Saul. A'r prŷd hynny estynnodd Herod frenhin ei ddwylo i orthrymmu rhai o'r eglwys. Ac efe a la­ddodd Iaco brawd Ioan a'r cleddyf. A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hyn, ef a chwanegodd ddala Petr hefyd.

Yr Efengyl.

Mat. 20.20. YNa y daeth mam meibion Zebedeus atto ynghŷd â'i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo ef. Ac efe a ddywedodd wrthi, pa beth a fynni? y hi a ddywedodd wrtho, dywed am gael o'm dau fâb hyn eistedd y naill ar dy law ddehau, a'r llall ar dy law asswy yn dy frenhi­niaeth. A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, ni ŵy­ddoch beth yr ydych yn ei geisio, a ellwch chwi yfed o'r cwppan yr ydwyfi yn yfed o hono? a'ch bedyddio â'r bedydd y bedyddir fi? dywedasāt wrtho, gallwn. Ac efe a ddywedodd wrthynt, diogel yr yfwch o'm cwppan, ac y 'ch bedyddir â'r bedydd y'm bedyddir i ag ef, eithr eistedd ar fy llaw ddehau, ac ar fy llaw asswy, nid i mi y mae rhoi, eithr i'r sawl y darpar­wyd gan fy-Nhâd y rhoddir. A phan glybu y deg hyn hwy fuant anfodlon i'r ddau frodyr. A'r Iesu a'u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, gŵyddoch fod pennaethiaid y cenhedloedd yn tra-arglwyddiaethu arnynt hwy, a'r gwŷr mawrion yn arfer awdurdod arnynt hwy. Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi, ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi. A phwy byn­nag [Page] a fynno fôd yn bennaf yn eich plith, bydded eich gwâs chwi. ni ddaeth Mâb y dŷn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn brid-werth tros lawer.

S. Bartholomeus Apostol.

Y Colect.

HOll-alluog a byth-barhaus Dduw, yr hwn a roddaist râd i'th Apostol Bartholomeus i wir gredu, ac i bregethu dy air Nyni a attolygwn i ti ge­niadhau i'th Eglwys gwbl garu yr hyn a gredodd efe, a phregethu yr hyn a ddyscwyd ganddo, trwy Ie­su Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Act. 5.12. TRwy ddwylo yr Apostolion y gwna­ed arwyddion, a rhyfeddodau lawer ym mhlith y bobl. Ac yr oeddynt oll yn gy­tun ymmhorth Salomon. Ond ni fei­ddie neb o'r lleill ymgyssylltu â hwynt, eithr y bobl oedd yn eu mawrhau. A lliaws y rhai a gredasant yn yr Arglwydd yn wŷr ac yn wragedd a gynnyddasant fwy-fwy. Hyd oni ddygent y cleifi­on i'r hoelydd, a'u gosod mewn gwelâu a glythau, fel y cyscode cyscod Petr rai o honynt pan ddele efe heibio. A lliaws a ddaeth hefyd ynghŷd o'r di­nasoedd cyfagos i Ierusalem, gan ddwyn rhai clei­fion, a rhai a drallodid gan ysprydion aflan, y rhai a iachawyd oll.

Yr Efengyl.

Luc. 22.24. A Chyfododd ymryson yn eu plith, pwy o honynt a dybygid ei fod yn fwyaf. Ac ef a ddywedodd wrthynt, y mae brenhino­edd y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a 'r rhai sy mewn awdurdod [Page] arnynt a elwir yn bendefigion. Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith, bydded me­gis y lleiaf, a'r llywydd megis yr hwn sydd yn gwei­ni. Canys pwy vn fwyaf ai'r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai'r hwn sydd yn gwasanaethu? ond mwyaf yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mŷsc fel vn yn gwasanaethu. A chwy-chwi yw y rhai a arhosasoch gŷdâ mi yn fy­mhrofedigaethau. Ac yr wyfi yn ordeinio i chwi deyr­nas, megis yr ordeiniodd fy-Nhâd i minne, fel y bwytaoch, ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy-nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeuydd yn barnu deudeg­llwyth Israel.

S. Matthew Apostol.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw yr hwn drwy dy wynfydedic Fâb a elwaist Fathew o'r doll-fa, i fod yn Apo­stol, ac Efangylwr: Caniadhâ i ni râd i ymwrthod â holl gybyddus ddeisyfion, ac â thra-chwantus serch golud bydol, ac i ddilyn dy ddywededic Fab Iesu Grist, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gyd â thî a'r Yspryd glân yn oes oesoedd. Amen.

Yr Epistol.

2. Cor. 4.1. GAn fod i ni y weinidogaeth hon, me­gis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu. Eithr ni a ymwrthodasom â gorchuddiau gwradwydd, heb ro­dio yn ddichellgar, nac arfer twyll am air Duw: eithr trwy eglurhâd y gwirionedd yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cyd­ŵybod dyn ger bron Duw. Ac os yw ein Efen­gyl ni yn guddiedig, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig. Ym-mha rai y dallodd Duw y bŷd hwn [Page] feddyliau 'r anffyddlonion, rhac tywynnu iddynt le­wyrch Efengyl gogoniant Christ, yr hwn yw delw Dduw. Canys nid ydym yn ein pregethu ein hu­nain, ond Christ Iesu yr Arglwydd, a ninneu yn­weision i chwi er mwyn Iesu. Canys Duw yr hwn a orchymmynnodd i'r goleuni lewyrchu o dywy­llwch, yw 'r hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi llewyrch gwybodaeth gogoniant Duw yn ŵyneb Iesu Ghrist.

Yr Efengyl.

Math. 9.9. AC fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, efe a ganfu ddŷn yn eistedd wrth y doll­fa, yr hwn a elwid Mathew, ac a ddy­wedodd wrtho, canlyn fi, ac efe a gy­fodes, ac a'i canlynodd ef. Ac fe a ddar­fu a'r Iesu yn eistedd i fwytta yn nhŷ hwnnw, wele, Publicanod lawer a phechaduriaid a ddaethant, ac a eisteddasant gŷd â 'r Iesu a'i ddiscyblion. A phan welodd y Pharisêaid hynny, hwy a ddywedasant wrth ei ddiscyblion ef, pa ham y bwyty eich athro chwi gŷd â 'r Publicanod a phechaduriaid? A phan glybu 'r Iesu efe a ddywedodd wrthynt, nid rhaid i'r rhai iâch wrth feddyg, ond i'r rhai cleifion. Ond, ewch, a dyscwch pa beth yw hyn, Trugaredd yr yd­wyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth: canys ni ddaeth­ym i alw y rhai cyfiawn, ond y pechaduriaid i edi­feirwch.

S. Michangel a'r holl Angelion.

Y Colect.

TRagywyddol Dduw, yr hwn a ordeiniaist, ac a osodaist wasnaethau 'r holl Angelion a dynion [Page] mewn trefn ryfedd: Caniadhâ yn drugarog iddynt hwy, y rhai sy yn wastad yn gwneuthur it wasana­eth yn y nefoedd, fod drwy dy drefniad di yn borth ac yn amddeffyn i ni yn y ddaiar, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

Gwel. 12.7. A Rhyfel oedd yn y nef, Mihangel a'i angelion a ryfel asant yn erbyn y ddraig, a'r ddraig a ryfelodd a'i ange­lion. Onid ni orchfygasant, ac ni chafwyd eu lle hwynt o hynny allan yn y nef. A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hên sarph, yr hon a elwir diafol, a Satan, yr hwn sydd yn twyllo yr holl fŷd, efe a fwriwyd i'r dda­ear, a'i angelion a fwriwyd allan gŷd ag ef. Ac mi a glywais lais vchel yn dywedyd yn y nêf, Yr awrhon y mae iechyd, a nerth, a theyrnas ein Duw ni, a ga­llu ei Ghrist ef, canys cyhudd-ŵr ein brodyr ni a fw­riwyd i'r llawr, yr hwn ydoedd yn eu cyhuddo hw­ynt ger bron ein Duw ddŷdd a nôs. Ac hwy a'i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen, a thrwy air eu tystiolaeth hwynt, ac ni charasant eu bywyd hyd farwolaeth. Am hynny llawenhewch y nefoedd, a 'r sawl sy yn trigo ynddynt hwy: Gwae y rhai sy yn trigo ar y ddaear, a'r môr, canys diafol a ddescynnodd attoch chwi, yr hwn sydd a llid mawr ganddo, o her­wydd gwybod mai ychydig amser sydd iddo ef.

Yr Efengyl.

Mat. 18.1. YR amser hynny daeth y discyblon at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn-nheyrnas nefoedd? A'r Iesu a al­wodd atto fachgennyn, ac a'i gosodes yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd, yn [Page] wîr y dywedaf i chwi, oddieithr troi o honoch, a bod fel plant bychain, nid ewch i mewn i deyrnas nefo­edd. Pwy bynnag gan hynny a ymostyngo fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw'r mwyaf yn-nheyr­nas nefoedd. A phwy bynnag a dderbyn gyfryw blē ­tyn yn fy enw i, a'm derbyn i. A phwy bynnag a rw­ystro vn o'r rhai bychain hyn a gredant ynofi, gwell oedd iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr. Gwae 'r bŷd oblegid rhwystrau: canys anghenrhaid yw dyfod rhwystrau: er hynny gwae 'r dŷn hwnnw o achos yr hwn y dêl y rhwystr. Am hynny os dy law, neu dy droed a'th rwystra, torr hwynt ymmaith a thafl oddiwrthit: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn glôff, neu yn anafus, nâ 'th daflu ac i ti ddwy law, neu ddau droed i'r tân tragywyddol. Ac os dy lygad a 'th rwystra, tynn ef allan, a thafl oddiwrthit: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd ag vn llygad, nag a dau lygad cennit dy daflu i dân vffern. Edrychwch na ddirmygoch yr vn o'r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywe­dyd i chwi, fod eu hangelion hwynt yn y nefoedd bôb amser yn gweled ŵyneb fy-Nhâd yr hwn sydd yn y nefoedd.

S. Luc Efangylwr.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw yr hwn a elwaist Luc y py­sygwr (yr hwn y mae ei foliant yn yr Efangel) i fod yn Bysyg-wr i'r enaid: rhynged bodd i ti, drwy iachus feddiginiaeth ei ddysceidiaeth ef, iachâu holl heintiau ein heneidiau, trwy dy Fâb Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Act. 11.22. GWilia di ym-mhob dim: dyoddef adfyd: gwnâ waith Efangylwr: cyflawna dy weinidogaeth. Canys bellach y'm ha­berthir, ac amser fy ad-ddattodiad sydd yn agos. My-fi a ymdrechais ymdrech têg, a orphennais fy-ngyrfa, ac a gedwais y ffŷdd. Weithian rhoddwyd coron cyfiawnder i'w chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd y barnwr cyfiawn i mi yn y dŷdd hwnnw: ac nid i mi yn vnig ond i'r holl rai a garant ei ymddangosiad ef. Ymddyro i ddyfod at­taf yn ebrwydd. Canys Demas a'm gadawodd gan garu y byd presēnol, ac a aeth i Thessalonica: Crescēs i Galatia: Titus i Dalmatia. Lucas yn vnig sydd gŷd â mi. Cymmer Marc a dŵg gŷd â thi, canys bu­ddiol yw efe i mi i'r weinidogaeth. Tychicus hefyd a ddanfonais i Ephesus. Y cochl a adewais i yn Troas gŷd â Charpus, pan ddelych dŵg gŷd â thi, a'r llyfrau, yn enwedig y memrwn. Alexander y gôf copr a wna­eth i mi lawer o ddrŵg: taled yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd. Rhag yr hwn ymgadw dithe: ca­nys efe a wrth-safodd ein pregeth ni yn ddirfawr.

Yr Efengyl.

Io. 15.12. YR Arglwydd a ordeiniodd ddêg a thri-u­gain eraill hefyd, ac a'u danfones hw­ynt bob yn ddau a dau o flaen ei ŵyneb i bob dinas a man lle yr oedd efe ar ddy­fod. Am hynny efe a ddywedodd wr­thynt, y cynhayaf sydd fawr, a'r gweith-wŷr yn an­aml. Gweddiwch gan hynny ar Arglwydd y cyn­hayaf, am ddanfon allan weith-wyr i'w gynhayaf. Ewch ymmaith, wele, yr wyf fi yn eich anfon fel ŵyn ym mŷsc bleiddiaid. Na ddygwch gôd, nac yscrepan, [Page] nac escidiau, ac na chyferchwch neb ar y ffordd. Ac î ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywe­dwch, Tangnheddyf i'r tŷ hwn. Ac o bydd yno fâb tangnheddyf, eich tangnheddyf a erys arno: os am­gen hi a ddychwel attoch chwi. Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch, gan fwyta, ac yfed y cyfryw bethau a ga­ffoch ganddynt: canys teilwng i'r gweith-wr ei gy­flog.

S. Simon ac Iudas Apostolion.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, yr hwn a adailadaist dy gyn­nulleidfa ar sail yr Apostolion, a'r prophwydi, Iesu Grist ei hun yn ben congl-faen: Caniadhâ i ni fod felly ein cyssylltu ynghyd yn vndeb yspryd gan eu dysceidiaeth hwy, hyd pan i'n gwneler yn sanctaidd Deml gymmeradwy gennit trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yr Epistol.

Iud. gwers 1. IVdas gwasanaeth-ŵr Iesu Ghrist, a brawd Iaco, at y rhai a alwyd, ac a sancteiddiwyd gan Dduw Tâd, ac y­dynt gadwedig i Iesu Ghrist: Truga­redd i chwi, a thangnheddyf, a chariad a liawsoger. Fy anwylyd, pan roddais fy-nghwbl ddiwydrwydd ar scrifennu attoch am yr iechydwri­aeth gyffredinol, anghenrhaid oedd i mi scrifennu attoch i'ch annog i ymdrech ym-mhlaid y ffŷdd, yr hon a rodded vn-waith i'r sainct. Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusco i mewn, y rhai oeddynt gynt wedi ei rhag-ordeinio i'r ddamnedigaeth hon: an­nuwolion ydynt, y rhai sy yn dymchwelyd grâs ein Duw yn drythyllwch, ac yn gwadu Duw yr vnic Arglwydd, a'n Harglwydd Iesu Grist. Ewyllysio gan hynny yr ydwyf ddwyn ar gof i chwi, yn gym­maint ac i chwi vn-waith ŵybod hyn, i'r Arglwydd [Page] wedi darfod iddo waredu y bobl allan o'r Aipht, ddi­strywio eil-waith y rhai ni chredent. Yr angelion he­fyd y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr gadel eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragywyddol dan dywyllwch i farn y dŷdd mawr. Megis Sodoma, a Gomorrha, a 'r dinasoedd o'u hamgylch, y rhai yn gyffelyb fodd ag hwynt a wnae­thant odineb, ac a ddylynasant gnawd arall, a osod­wyd yn siampl, gan ddyoddef dialedd tân tragywy­ddol. Yn gyffelyb i hyn y mae y breuddwyd-wŷr hyn yn halogi 'r cnawd, ac yn dirmygu llywodraeth, ac yn cablu y rhai sy mewn awdurdod.

Yr Efengyl.

Io. 15.17. HYn yr wyf yn ei orchymmyn i chwi, garu o honoch ei gilydd. Os y bŷd a'ch cashâ chwi, gŵybyddwch gashâu o honaw fy-fi o'ch blaen chwi. Pe bua­sech o'r bŷd, y bŷd a garase yr eiddo, eithr am nad ydych o'r bŷd, ond i mi eich dewis o'r bŷd, am hynny y mae 'r bŷd yn eich cashâu chwi. Co­fiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych, Nid yw 'r gwâs yn fwy nâ'i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a'ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy­ngair i, hwy a gadwant yr eiddoch chwithau. Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adnabuant yr hwn a'm hanfonodd i. Oni bai ddarfod i mi ddyfod a llefaru wrthynt, ni bydde arnynt bechod: ond yr awrhon nid oes ganddynt ddim i escusodi eu pechod. Y sawl sydd yn fy-ngha­sau i, sydd yn casau fy-Nhâd hefyd. Pe buaswn heb wneuthur y gweithredoedd yn eu plith hwy, y rhai ni wnaeth neb arall, ni buase arnynt bechod: ond yr awrhon, hwy a welsant, ac a'm casasant i, a'm Tâd hefyd. Eithr fel y cyflawnid y gair yr hwn [Page] sydd scrifennedig yn eu cyfraith hwynt, Hwy a'm casasant i yn ddiachos. Ond pan ddêl y diddanudd, yr hwn a anfonaf i chwi oddiwrth y Tâd, sef Yspryd y gwirionedd yr hwn a ddeillia oddiwrth y Tâd, hwnnw a dystiolaetha am danafi. Chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bôd o'r dechreuad gŷd â mi.

Gwyl yr holl Sainct.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, yr hwn a gyssylltaist yng-hyd dy etholedigion yn vn cyfundeb a chymdeithas yn-nirgeledic gorph dy Fâb Crist ein Harglwydd: Caniadhâ i ni râd felly i ganlyn dy ddwywol Sainct ym-hob rhin weddol a dwywol fywyd, hyd pan allom ddyfod i'r anhraethawl lawenydd hynny a bara­toaist i'r rhai yn ddiffuant y sy i'th garu, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, Amen.

Yr Epistol.

Gweled. 7.2. WEle, mi Ioan a welais angel arall yn dyfod i fynu oddiwrth godiad haul, ac yr ydoedd sel Duw byw ganddo, ac efe a lefodd â llais vchel ar y pedwar angel, i'r rhai y rhoddasid gallu i ddrygu y dda­ear, a'r môr, gan ddywedyd, na ddrygwch y ddaear, na 'r môr, na 'r coedydd, hyd oni seliom wasanaeth­wŷr ein Duw ni yn eu talcennau. Ac mi a glywais rif y rhai a seliwyd. Yr oedd wedi eu selio bedair-mil a saith vgain mîl o holl lwythau meibion Israel.

O lwyth Iuda yr oedd yn seliedig ddeuddeng-mil.

O lwyth Ruben y seliasid deuddeng-mil.

O lwyth Gad y seliasid deuddeng-mil.

O lwyth Aser y seliasid deuddeng-mil.

O lwyth Nephthalim y seliasid deuddeng-mil.

O lwyth Manasses y seliasid deuddeng-mil.

O lwyth Simeon y seliasid deuddeng-mil.

O lwyth Lefi y seliasid deuddeng-mil.

O lwyth Issachar y seliasid deuddeng-mil.

O lwyth Zabulon y seliasid deuddeng-mil.

O lwyth Ioseph y seliasid deuddeng-mil.

O lwyth Beniamin y seliasid deuddeng-mil.

Wedi hyn mi a edrychais, ac wele dyrfa fawr, yr hon ni alle neb ei rhifo, o'r holl genedlaethau, llwy­thau, a phobloedd, ac ieithoedd, yn sefyll ger bron yr orsedd-faingc, a cher bron yr Den, a gynau gwyni­on am danynt, a phalmwydd yn eu dwylo, ac hwy a lefasant â llais vchel, gan ddywedyd, Cyfrifer iechy­dwriaeth i'n Duw ni, yr hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ac i'r Den. A'r holl angelion a safa­sant o amgylch yr orseddfa, ac o amgylch yr henuri­aid, a'r pedwar anifail, ac hwy a syrthiasant ger bron yr orsedd-faingc ar eu hwynebau, ac a addola­sant Dduw, gan ddywedyd, Amen, moliant, a go­goniant, a doethineb, a diolch, ac anrhydedd, a ga­llu, a nerth fyddo i'n Duw ni yn dragywydd. Amen.

Yr Efengyl.

Mat. 5.1. PAn welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a escynnodd i'r mynydd: ac wedi iddo ef eistedd, ei ddiscyblion a ddaethant at­to. Ac efe a egorodd ei enau, ac a'u dys­codd hwynt, gan ddywedyd, Gwyn eu bŷd y tlodion yn yr yspryd, canys eiddynt yw teyr­nas nefoedd. Gwyn eu bŷd y rhai galarus, ca­nys hwynt a ddiddenir. Gwyn eu bŷd y rhai lla­ryaidd, canys hwy a feddiannant y ddaear. Gwyn eu bŷd y rhai sy arnynt newyn a syched am gyfi­awnder: canys hwy a ddiwellir. Gwyn eu bŷd y tru­garogion: canys hwy a gânt drugaredd. Gwyn eu bŷd y rhai glân o galon: canys hwy a welant Dduw. Gwyn eu bŷd y tangnheddyf-wŷr: canys hwy a el­wir yn blant Duw. Gwyn eu bŷd y rhai a erlidir er [Page] mwyn cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefo­edd. Gwyn eich bŷd pan y'ch difenwo dynion a'ch erlid, a dywedyd pob rhyw ddrygair am danoch er fy mwyn i, ac hwy yn gelwyddog: byddwch lawen a hyfryd, canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: o herwydd felly yr erlidiasant hwy y prophwydi, y rhai a fuant o'ch blaen chwi.

Y drefn am wenidogaeth Swpper yr Arglwydd, neu yr Cymmun bendigaid.

CYnnifer a fyddo yn amcânu bod yn gyfrannogion o'r Cymmun ben­digedic, a arwyddocânt eu hen­wau i'r Curat nosweith o'r blaen, neu yr boreu cyn dechreu y weddi foreuol, ai yn y fan gwedi.

Ac o bydd vn o'r rhai hynny yn ddrwgfucheddol cyhoedd, fel y byddo gwrthwynebus gan y gynnulleidfa: neu a wnaeth gam iw gymmydog ar air, neu ar weithred: Y Curat gan gael gwybyddiaeth o hynny, a'i geilw ef, ac a'i cynghôra na ryfygo efe er dim ddyfod i ford yr Arglwydd, hyd oni ddeclario efe yn gyhoeddus ei fod yn wîr edifeiriol, a dar­fod iddo wellhau ei ddrwgfuchedd o'r blaen; fel y bodlo­ner y gynnulleidfa wrth hynny; yr hon a rwystrysid yn y blaen: A darfod iddo wneuthur iawn i'r neb y gwnaetho­edd gamwedd o'r blaen: Neu o'r lleiaf, dadcan ei fod mewn cyflawn fryd i wneuthur felly yn gyntaf ac y gallo yn gymhedrol.

Y drefn hon a arfer y Curat am y sawl y gwypo efe fod malis a chasineb yn teyrnasu rhyngddynt; ni ddioddef [Page] iddynt fod yn gyfranol o fwrdd yr Arglwydd, hyd pan wypo eu bod hwynt wedi cydtuno. Ac os vn o'r pleidiau anheddychol a fydd bodlawn i faddeu o waelod ei galon gwbl ac a wnaethpwyd yn ei erbyn, ac i wneuthur iawn i bawb ac a rwystrawdd ynteu ei hunan; a'r blaid arall ni fyn ei ddwyn i dduwiol vndeb, onid sefyll yn wastad yn ei wrthnysigrwydd a'i falis: Y Gwenidog yn yr achos hyn­ny a ddylu dderbyn y dyn edifeiriol i'r Cymmun bendi­gedic, ac nid y dyn ystyfnig anhydyn.

Y bwrdd ar amser y cymmun â lliain gwyn têg arno, a saif ynghanol yr Eglwys, neu yn y Gafell lle byddo yr foreuol a'r brydnhawnol weddi, wedi 'r ordeinio ei dy­wedyd. A'r offeiriad gan sefyll wrth yr ystlys gogledd i'r bwrdd a ddywaid weddi yr Arglwydd, a'r Colect sydd yn canlyn.

¶Ein Tad ni yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

YR holl-alluog Dduw, i'r hwn y mae pob calon yn agored, a phob deisyf yn gydnabyddus, a rhag yr hwn nid oes dim dirgel yn guddi­edic, glanhâ feddyliau ein calon­nau trwy ysprydoliaeth dy lân Ys­pryd, fel y carom dy-di yn berffaith, ac y mawrhâom yn deilwng dy Enw sanctaidd trwy Grîst ein Harglwydd. Amen.

Yna yr offeiriad a draetha yn eglur y deng-air deddf oll. A'r bobl ar eu gliniau ar ôl pob vn o'r gorchymynni­on a archant drugaredd Dduw am eu torri hwynt, yn y modd hyn.

Y Gwenidog.

Exod. 20. DVw a lefarodd y geiriau hyn, ac a ddywe­dodd: Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw: Na fydded it dduwiau eraill onid myfi.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calon­neu i gadw y gyfraith hon.

Gwenidog.

Na wna it dy hun ddelw gerfiedic, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd vchod, neu yn y ddaiar isod, nac yn y dwfr tann y ddaiar: Na ostwng iddynt, ac na addola hwynt. Canys myfi yr Arglwydd dy Dduw ydwyf Dduw eiddigus, yn ymweled a phechodau y tadau ar y plant, hyd y drydedd ar bed­waredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt, Ac yn gwn­euthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fyng-orchymynnion.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calon­nau i gadw yr gyfraith hon.

Gwenidog.

Na chymmer Enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer, canys nid gwirion gan yr Arglwydd yr hwn a gym­mero ei Enw ef yn ofer.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calon­nau i gadw y gyfraith hon.

Gwenidog.

Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Sabbath. Chwe diwrnod y gweithi ac y gwnei dy holl waith, eithr y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: ar y dydd hwnnw na wna ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wâs, na'th for­wyn, na'th anifail, na'r dŷn dieithr a fyddo o fewn by byrth. Canys mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd nef a daiar, y môr ac oll y sydd yn­ddynt, ac a orphywysodd y seithfed dydd: O herwydd pa ham y bendithiodd yr Arglwydd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calon­neu i gadw y gyfraith hon.

Gwenidog.

Anrhydedda dy dad a'th fam, fel yr estynner dy ddy­ddiau ar y ddaiar yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calon­nau i gadw yr gyfraith hon.

Gwenidog.

Na ladd.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calon­nau i gadw y gyfraith hon.

Gwenidog.

Na wna odineb.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym a gostwng ein calon­naui gadw y gyfraith hon.

Gwenidog.

Na ledratta.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calon­nau i gadw y gyfraith hon.

Gwenidog.

Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmy­dog.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calon­nau i gadw y gyfraith hon.

Gwenidog.

Na chwennych dŷ dy gymmydog, na chwennych wraig dy gymmydog, na'i wâs, na'i forwyn, na'i ŷch, na'i assyn, na dim ar sydd eiddo.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, ac scrifenna yr holl ddeddfau hyn yn ein calonnau ni a attolygwn i ti.

Yna y canlyn y Colect o'r dydd, gyd ag vn o'r ddau go­lect hyn sy yn canlyn, dros y Frenhines, a'r Offeiriad yn ei sefyll wrth y ford a ddyweid.

Gweddiwn.

HOll-alluog Dduw, yr hwn sydd a'i deyrnas yn dragywyddol, a'i allu yn anfeidrol, cymmer dru­garedd ar yr holl gynnulleidfa, a rheola felly galon dy ddewisedic wasanaethyddes Elizabeth ein Bren­hines a'n llywydd; fel y gallo hi (gan iddi wybod i bwy y mae hi yn weinidog) vchlaw pob dim geisio dy anrhydedd a'th ogoniant; Ac fel y gallom ninneu ei deiliaid hi (gan feddylied yn ddyledus oddi-wrth bwy y mae yr awdurdod sydd iddi) yn ffyddlon ei gwasanaethu a'i hanrhydeddu, ac yn ostyngedig v­fyddhau iddi, ynot ti, ac erot ti, yn ôl dy fendigedig air a'th ordinhâd, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, yr hwn gyd a thi a'r Yspryd glân, sydd yn byw, ac yn teyrnasu yn dragywydd yn vn Duw, heb drangc na gorphen. Amen.

HOll-alluog a thragywyddol Dduw, i'n dyscir gan dy air sanctaidd, fod calonnau brenhinoedd wrth dy reolaeth a'th lywodraeth di; a'th fod ti yn eu gosod hwynt, ac yn eu hymchwelyd fel y mae dy ddu­wiol ddoethineb yn gweled bod yn oreu: Yr ydym ni yn ostyngedig yn attolwg i ti felly osod a llywo­draethu calon Elizabeth dy wasanaethyddes ein Brenhines a'n llywydd, fel y gallo hi yn ei holl fe­ddyliau, geiriau, a gweithredoedd, yn wastad geisio dy anrhydedd di, a'th ogoniant, a myfyrio i gadw [Page] dy bobl a rodded yn ei chadwreth hi, mewn digo­noldeb, tangneddyf, a duwioldeb: Caniadhâ hyn drugarog Dad er cariad ar dy anwyl Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yn y fan wedi yr Colectau, y darllen yr offeiriad yr E­pistol, gan ddechreu fel hyn:

Yr Epistol scrifennedic yn yr pennod o &c.

Ac wedi diweddu yr Epistol, efe a ddywed yr Efangyl, gan ddechreu fel hyn:

Yr Efangyl a scrifenir yn yr pennod o &c.

Ac wedi gorphen yr Epistol a'r Efangyl, y dywedir y Credo.

CRedaf yn vn Duw Tâd, Holl-alluog, Creawdr Nef a daiar, ac oll weledi­gion, ac anweledigion. Ac yn ein Harglwydd Iesu Grist, yr vnic cen­hedledig Fâb Duw, cenhedledig gan ei Dâd cyn yr holl oesoedd, Duw o Dduw, llewyrch o lewyrch, gwîr Dduw, o wîr Dduw, cenhedledig nid gwneuthuredig, yn vn hanfod a'r Tâd, gan yr hwn y gwnaethpwyd pob peth: yr hwn erom ni ddynion, ac er ein iechyd­wriaeth a ddescennodd o'r nefoedd, ac a gnawdiwyd drwy yr Yspryd glân o Fair forwyn, ac a wnaethp­wyd yn ddŷn, ac a groeshoeliwyd hefyd trosom tan Bontius Pilatus. Efe a ddioddefodd ac a gladdwyd, a'r trydydd dydd efe a adgyfododd yn ôl yr Scrythu­rau, ac a ascennodd i'r nef, ac y sydd yn eisteddd ar ddeheu-law yr Tâd. A thrachefn y daw efe drwy ogoniant i farnu y byw a'r meirw; ac ar ei deyr­nas ni bydd trangc. A chredaf yn yr Yspryd glân, yr Arglwydd a'r Bywiawdur, yr hwn sydd yn dei­lliaw [Page] o'r Tâd a'r Mâb, yr hwn yng-hŷd a'r Tâd a'r Mâb a gyd-addolir, ac a gyd-ogoneddir, yr hwn a lefarodd trwy yr prophwydi; A chredaf fod vn Catholic ac Apostolic Eglwys. Addefaf vn Bedydd er maddeuaint pechodau. Ac edrychaf am adgyfodiad y meirw, a bywyd y byd sydd ar ddyfod. Amen.

Ar ôl Credo, oni bydd pregæth y canlyn vn o'r homi­liau a ddoded allan eusus, neu a ddoder allan rhag llaw drwy awdurdod gyffredin.

Ar ôl cyfryw bregaeth, neu homili, neu 'r Cyngor: y Curad a fynega i'r bobl, a fydd na gwyliau, nac ym­prydiau o fewn yr wythnos a fo yn canlyn, gan eu cynghori hwynt yn ddyfal i feddwl am y tlodion; a dywedyd vn, ai anghwanec o'r ymadroddion hyn sy yn canlyn, fel y gwelo efe fod yn oreu wrth ei ddeall ei hun.

DIscleiried eich goleuni ger bron dyni­on,Matth. 5.16. fel y gwelont eich gweithredoedd da, ac yr anrhydeddant eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.

Na chesclwch dryssor i chwi ar y ddaiar, lle y mae gwyfyn a rhŵd yn llygru,Matt. 6.19.20. a lle y mae lladron yn cloddio trwodd, ac yn lladrata; eithr cesclwch i chwi dryssorau yn y Nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru; a lle ni's cloddia yr lladron trwodd, ac nis lladrattânt.

Beth bynnac a ewyllysioch ei wneuthur o ddyni­on i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy:Matt. 7.12. canys hyn yw yr gyfraith a'r prophwydi.

Nid pwy bynnac a ddywed wrthif Arglwydd Arg­lwydd, a ddaw i deyrnas nefoedd,Matt. 7.21. ond yr hwn a wnâ ewyllys fy Nhâd yr hwn sydd yn y nefoedd.

Luc. 19.8. Zaccheus a safodd ac a ddywedodd wrth yr Arg­lwydd, wele Arglwydd, yr ydwyf yn rhoddi hanner fyng-olud i'r tlodion: ac os dygum ddim oddiar neb trwy dwyll mi a'i talaf ar ei bedwerydd.

1. Cor. 9.7. Pwy erioed a ryfelodd ar ei draul ei hun? pwy sydd yn plannu gwin-llan, ac heb fwyta o'i ffrwyth hi? neu pwy sydd yn porthi praidd, ac heb fwytta o laeth y praidd?

1. Cor. 9.11. Os hauasom i chwi bethau Ysprydol, ai mawr yw, os nyni a fedwn eich pethau cnawdol?

13. Oni wyddoch chwi fod y rhai y sy yn gwneu­thur pethau cyssegredic, yn bwyta pethau o'r cys­segr: a bod y rhai sy yn gwasanaethu yr allor, yn gy­frannogion o'r allor? Yr vn wedd yr ordeiniodd yr Arglwydd i'r rhai a bregethent yr Efangel fyw wrth yr Efangel.

2. Cor. 9.6, 7 A hauo ychydig, a fêd ychydig, ac a hauo yn hela­eth a fêd yn helaeth. Pob vn megis y mae yn am­canu yn ei galon, felly gwnaed, nid yn athrist, neu wrth gymmell, canys y mae yn hoff gan Dduw rodd­wr llawen.

Gal. 6.6.7. Y neb a ddyscwyd yn y gair, cyfranned o'i dda oll a'r hwn a'i dyscodd ef. Na thwyller chwi, ni wat­werir Duw: canys pa beth bynnac a hauo dyn, hynny a fêd efe.

Gal. 6.20. Tra caffon amser, gwnawn dda i bob dŷn, ac yn enwedic i'r rhai sy o deulu y ffydd.

1. Tim. 6.6.7 Duwiolder sydd gyfoeth mawr o bydd dyn fodd­lon i'r hyn sydd ganddo, canys ni ddaeth gennym ddim i'r byd, ac ni allwn ddwyn dim o'r byd ymaith.

1. Tim. 6. Gorchymyn i'r rhai ŷnt gyfoethogion yn y bŷd hwn, fod yn barod i roddi, ac yn llawen i gyfran­nu, gan osod sail dda iddynt eu hun erbyn yr amser sydd yn dyfod, fel y caffont y bywyd tragy­wyddol.

Nid ydyw Duw yn anghyfion fel y gollyngo dros gof eich gweithredoedd a'ch trafael a ddel o gari­ad;Heb. 6.10. yr hwn a ddangossasoch chwi er mwyn ei E­nw ef, y sawl a roesoch i'r sainct ac ydych etto yn rhoddi.

Na ollyngwch dros gof wneuthur daioni a chyfrā ­nu: canys â chyfryw aberth y boddlonir Duw.Heb. 13.16.

Pwy bynnac sydd iddo dda yr byd hwn,1. Ioh. 3.17. ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei drugaredd oddi­wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn trigo yn­ddo ef?

Dyro gardod o'th dda,Tob. 4.7. ac na thro vn amser dy wy­neb oddi-wrth vn dŷn tlawd, ac felly ni thrŷ 'r Argl­wydd ei wyneb oddi-wrthit titheu.

Bydd drugarog yn ôl dy allu:Tob. 4.8. os bydd llawer i'th helw dyro yn aml, os bydd ychydic, bydd ddyfal i roddi yn llawen o'r ychydic: canys felly y cynhul­li it dy hun obr da yn nydd yr anghenrhaid.

Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd,Dihar. 19.17. y sydd yn rhoddi echwyn i'r Arglwydd: ac edrych beth a roddo efe ymaith, fe a delir iddo drachefn.

Bendigedic fyddo 'r dŷn a roddo i'r clâf a'r ang­henus: yr Arglwydd a'i gwared ef yn amser trwbl.Psal. 41.1.

Yna wardeinaid yr Eglwys, neu rai eraill trostynt, a gas­clant ddefosiwn y bobl, ac a'i dodant ym-mlwch y tlo­dion: ac ar y dyddiau gosodedig i offrymmu, taled pawb i'r Curat yr offrymmau dyledus, ac arferedic. Wedi darfod hynny y dywed yr offeiriad.

Gweddiwn dros holl stât Eglwys Grist sy yn mi­lwrio yma ar y ddaiar.

HOll-alluog a thragwyddol Dduw, yr hwn trwy dy sanctaidd Apostol a'n dyscaist i wneuthur [Page] gweddiau ac erfyniau, ac i ddiolch dros bob dŷn: yr ydym ni yn ostyngedic yn attolwg i ti yn druga­rocaf gymeryd ein eluseni,Oni bydd dim eluseni wedi ei ro­ddi i'r tlodi­on yna gada­wer y geiri­au hyn gym­meryd ein e­luseni heb ddywedyd. a derbyn ein gweddiau hyn, y rhai 'r ydym yn eu hoffrwn i'th ddwywol fa­wredd, gan attolygu i ti ysprydoli yn wastad yr E­glwys gyffredinol ag Yspryd y gwirionedd, vndeb, a chyd-gordio; a chaniadhâ i bawb a'r y sy yn cyffessu dy enw sanctaiddiol, gytuno yng-wirionedd dy sanctaidd air, a byw mewn vndeb a duwiol gariad. Ni a attolygwn i ti hefyd gadw, ac ymddeffyn oll Gristianus Frenhinoedd, Tywysogion a llywiawd­wŷr, ac yn enwedic dy wasanaethyddes Elizabeth ein Brenhines, fel y caffom tani hi ein llywodrae­thu yn dduwiol, ac yn heddychol: A chaniad-hâ iw holl gyngor hi, ac i bawb ac y sydd wedi eu gosod mewn awdurdod dani, allu yn gywir, ac yn vniawn rannu cyfiawnder, er cospi drygioni a phechod, ac er maentumio gwîr grefydd Duw a rhinwedd dda. Dyro râd nefol Dâd i'r holl Escobion, Bugeiliaid a Churadiaid, fel y gallont drwy eu buchedd a'u ha­thrawiaeth ossod allan dy wîr a'th fywiol air, a gwa­sanaethu dy sanctaidd Sacramentau yn iawn ac yn ddyladwy: a dyro i'th holl bobl dy nefawl râd, ac yn enwedig i'r gynnulleidfa hon y sydd yma yn gydry­chiol, fel y gallont ac vfydd galon a dyledus barch w­rando a derbyn dy sanctaidd air, gan dy wasanae­thu yn gywir mewn sancteiddrwydd ac vniondeb bob dydd o'u bywyd. Ac ydd ŷm yn ostyngedic yn at­tolygu i ti o'th ddaioni Arglwydd, gonfforddio a ner­thu pawb ac y sy yn y bywyd trangedic hwn mewn trwbl, tristwch, angen, clefyd, neu ryw wrthwy­neb arall: Caniadhâ hyn, nefol Dâd, er cariad ar Iesu Grist, ein vnic gyfryng-wr a'n dadleu-wr. A­men.

Yna y canlyn y cyngor hwn ar ryw amseroedd, pan we­lo yr Curad y bobl yn escaelus am ddyfod i'r Cymmun bendigedic.

YR ydym ni wedi dyfod ynghyd yr awr hon, (wîr garedigol frodyr) i ymborth ar Swpper yr Arglwydd, i'r hwn o ran Duw y'ch gwahoddaf bawb ac y sydd y­ma yn gynhyrchiol, ac a adolygaf iwch er cariad ar yr Arglwydd Iesu Grist na wrthodoch ddyfod iddo, gan eich bod mor garedigol wedi eich galw, a'ch gwahodd gan Dduw ei hunan. Chwi a wyddoch mor ofidus, ac mor angharedic o beth yw, pan fo gŵr wedi arlwyo gwledd werth-fawr, ac wedi trwssio ei fwrdd â phob rhyw arlwy, megis na bai ddim yn eisieu onid y gwahodd-wŷr i eistedd: ac etto y rhai a alwyd heb ddim achos yn anniolchusaf yn gwrthod dyfod. Pwy vn o honoch chwi yn y cyfr­yw gyflwr ni chyffroe? pwy ni thybyge wneuthur cam a syrhaed mawr iddo? Herwydd pa ham fy anwyl garedicaf frodyr yng Hrist, gwiliwch yn dda rhag i chwi, gan ym wrthod â'r Swpper sancteiddi­ol hwn, annog bâr Duw i'ch erbyn. Hawdd i ddŷn ddywedyd, ni chymmunaf fi o herwydd bod negesau bydol i'm rhwystro: eithr y cyfryw escusodion nid y­dynt mor hawdd eu derbyn yn gymeradwy ger bron Duw. Os dywed neb, yr wyfi yn bechadur brwnt, ac am hynny yn ofni dyfod: pa‘m, gan hynny nad ydych chwi yn edifarhau, ac yn gwellhau? A chan fod Duw yn eich galw, onid oes gywilydd arnoch ddywedyd na ddeuwch? Pan ddylech chwi ymchwelyd at Ddu­w, a ymescusodwch chwi, a dywedyd nad ydych ba­rod? Ystyriwch ynoch eich hunain, pa fychaned a dâl y cyfryw goeg-escusodion ger bron Duw. Y rhai a wrthodasant y wlêdd yn yr Efangel, oblegit iddynt brynu tyddyn, neu brofi eu hieuau ychen, neu oblegit eu [Page] priodi, ni chawsant felly mo'u hescusodi, onid eu cy­frif yn anheilwng o'r wledd nefawl. Myfi o'm rhan i, wyf yma yn bresennol, ac o herwydd fy swydd, yr ydwyf yn eich gwahodd yn Enw Duw. Ydd wyf i'ch galw o ran Crist, a megis y caroch eich Iechydwriaeth eich hunain yr wyf i'ch cyn­ghori i fod yn gyfrannogion o'r Cymmun bendige­dic hwn. Ac fel y bu wiw gan Fâb Duw faddeu ei enaid gan angeu ar y groes dros eich iechyd, felly yn yr vn modd y dylech chwithau gymmeryd y Cymmun ynghŷd er cof am ei angau ef, fel y gor­chymynnodd efe ei hun. Yn awr os chwych wi nis gwnewch fel hyn, Meddyliwch ynoch eich hunain faint y cam-wedd yrydych yn ei wneuthur â Duw, ac mor flîn yw 'r boen y sydd ar vchaf eich pennau am hynny. Ac lle yr ydych yn anfodloni Duw mor drwm gan ymwrthod â'r wynfydedic wlêdd hon, yddwyf i'ch rhybuddio, i'ch cynghori, ac yn attolygu i chwi nad anghwanegoch yr anghariadigrwydd hyn ym-mhellach: yr hwn beth a wnewch, os chwychwi a saif gan lygad-rythu, ac edrych ar y sawl sy yn Cymmuno, ac heb fod yn gyfrannogion o honaw eich hunain; Canys pa beth y bernir hyn­ny amgen, nâ mwy o ddirmyg ac angharedigrwydd tu ag at Dduw? Diau mai anniolch mawr yw i chwi necau pan y'ch galwer: Ond y mae yr bai yn fwy o lawer, pan fo rhai yn sefyll heibio, ac etto heb na bwyta, nac yfed y sanctaidd Gymmun hwn gyd ag eraill. Atolwg iwch, pa beth amgenach yw hyn onid gwatwar a distadlu dirgeledigaethau Crist? Wrth bawb yr ydys yn dywedyd, Cymmerwch a bwy­tewch, Cymmerwch, ac yfwch bawb o hwn, gwnewch hyn er cof am danaf. A pha wyneb gan hynny, neu â pha ddigywilydd dra y gwrandewch chwi y geiriau hyn? Beth fydd hyn amgen onid esceuluso, diystyru [Page] a gwatwar Testament Crist? Herwydd pam, yn gynt nac y gwneloch felly, ewch ymaith a gedwch le i'r rhai y sy â meddwl duwiol ganddynt. Eithr pan fyddoch yn myned ymaith, mi a attolygaf i chwi feddwl ynoch eich hunain, oddi wrth bwy yr ydych yn myned: Yr ydych yn myned oddiwrth fwrdd yr Arglwydd, yr ydych yn myned oddiwrth eich bro­dur, ac oddi-wrth wledd y nefolaf ymborth. Os y petheu hyn a ystyriwch yn ddifrifol, chwi a droiwch drwy râd Duw i feddwl a fo gwell: Ac er mwyn caffael hyn yr vfydd erfyniwn, tra fyddom yn cym­meryd y Cymmun bendigedic.

Ac ar ryw amseroedd y dywedir hyn yma hefyd, pan welo y Curat fod yn berthynasol.

ANnwyl garedigion, yn gymaint a'n bôd ni yn gwbl ddyledus i roddi i'r Holl-allu­og Dduw ein Tâd nefol wir galōnog ddiolch, am iddo roddi ei Fâb ein Iacha­wdr Iesu Grist, nid yn vnic i farw drosō, onid hefyd i fod yn ymborth ac yn gynhaliaeth yspry­dol i nyni, fel yr eglurwyd i ni, yn gystal drwy air Duw, a thrwy y Sacramentau bendigedic o'i gorph a'i waed ef: Yr hwn gan ei fod yn beth mor gonffor­ddus i'r rhai a'i cymerant yn deilwng, ac mor bery­glus i'r rhai a ryfygo ei gymeryd yn anheilwng: fy nylêd i yw eich cynghori chwi i ystyried teilyngdod y dirgeledigaeth bendigedic, a'r mawr berigl sydd o'i gymmeryd ef yn anheilwng, ac felly chwilio a holi eich cydwybodau eich hunain, fel y dylech ddy­fod yn sanctaidd ac yn lân i'r dduwiolaf a'r nefolaf wlêdd. Ac na ddelech ddim, onid yn y dillad priodas, y rhai a ofyn Duw yn yr Scrythur lân, ac felly dyfod, a chael eich derbyn fel teilwng gyfrannogion o [Page] gyfryw fwrdd nefol. Y ffordd a'r modd i hynny, sydd fel hyn; Yn gyntaf bod i chwi chwilio, a holi eich bucheddau, a'ch ymddygiad wrth reol gorchymyni­on Duw: ac ym-mha beth bynnac y gwypoch iwch bechu, pa vn bynnac ai ar air, ai ar weithred, yna ymofidiwch am eich bucheddau pechadurus: Cyff­esswch eich hunain i'r Holl-alluog Dduw, gan gyflawn frŷd i wellhau eich buchedd. Ac os chwi a welwch eich camweddau yn gyfryw, ac nad ŷnt yn vnic yn erbyn Duw, namyn hefyd yn erbyn eich cymmydogion: yno bod i chwi, ymgymodi â hwynt: gan fod yn barod i wneuthur iddynt iawn a thâl hyd yr eithaf o'ch gallu, am bob camwedd a thrâha ar a wnaethoch i neb arall: Ac yn yr vn modd, bod o honoch yn barod i faddeu i eraill a wnaethant i'ch erbyn chwithau, megis ac y mynnech chwitheu gael maddeuaint am eich camweddau ar law Duw: Canys mewn modd amgen, nid yw cym­meriad y Cymmun bendigedic ddim ond anghwa­negu eich barnedigaeth. Ac o herwydd bod yn an­genrheidiol na ddêl nêb i'r Cymmun bendigedic, onid gan gyflawn ymddyried yn-nhrugredd Dduw, ac â heddychol gydwybod: gan hynny o bydd neb o honoch, (o blegit y moddion hynny,) heb allu heddychu ei gydwybod ei hun, onid bod yn rhaid iddo ychwaneg cyngor, yna deued attafi, neu at vn arall doeth, dyscedic, y sydd Wenidog Gair Duw, ac agored ei ddolur, fel y gallo dderbyn cyfryw gyngor ysprydol, fforddiad, a chonffordd, fel y gallo ei gydwybod ymyscafnhau: a thrwy weinidogaeth gair Duw, allu o honaw dderbyn cyssur, a daioni y gollyngdod, er heddychu ei gydwybod, ac ymochelyd pob petruster, ac an­wybodaeth.

Yna y dywed yr Offeiriad y cynghor hwn.

ANnwyl garedigion yn yr Arglwydd, y sawl sydd yn meddwl dyfod i'r bendigedic Cymmun corph a gwaed ein Iachawdur Crist, rhaid yw i chwi ystyried beth y mae Sanct Paul yn ei scrifennu at y Corin­thiaid, fel y mae efe yn cynghori pawb iw profi, ac iw holi eu hunain, cyn iddynt ryfygu bwytta o'r bara hwnnw, ac yfed o'r cwppan hwnnw. Canys fel y mae y llês yn fawr, os â chalon wîr edifeiriol, ac a bywiol ffydd y cymmerwn y Sacrament bendige­dic hwnnw (canys yna ydd ŷm ni yn ysprydawl yn bwytta cîg Crist, ac yn yfed ei waed ef, yna yr ydym yn trigo yng-Hrist a Christ ynom ninnau, ydd ŷm ni yn vn â Christ â Christ â ninnau) felly y mae yr pericl yn fawr, os ni a'i cymmer yn anheilwng. Canys yna yddŷm ni yn euog o gorph a gwaed Christ ein Ia­chawdur, yr ydym yn bwyta, ac yn yfed ein barnedi­gaeth ein hunain, heb ystyried corph yr Arglwydd. Yr ydym yn enyn digofaint Duw i'n herbyn, ydd ŷm ni yn ei annog ef i'n plâu ag amrafael glefydau, ac amryw angau. Gan hynny o bydd neb o honoch yn gabl-wr Duw, yn rhwystro neu yn enllibio ei air, yn odinebus, neu mewn malais, neu genfigen, neu mewn rhyw fai ceryddus arall ymofidiwch dros eich pechodau ac na ddewch i'r bwrdd sanctaiddiol hwn, rhag (yn ôl cymmeriad y Sacrament bendigedic hwnnw) i ddiafol fyned ynoch i mewn, megis ydd aeth mewn Iuddas, a'ch llenwi yn llawn o bob an­wiredd, a'ch dwyn i ddestruw, enaid a chorph. Ber­nwch gan hynny eich hunain (frodyr) megis na'ch barner gan yr Arglwydd. Gwîr edifarhewch am eich pechodau a aethant heibio. Bid iwch fywiol a diogel ffydd yng-hrist ein Iachawdur. Gwellhewch [Page] eich buchedd, a byddwch mewn cariad perffaith â phawb; felly y byddwch weddus gyfrannogion o'r dirgeledigaeth sancteiddiol hyn. Ac o flaen pob peth y mae yn rhaid i chwi roddi gostyngeiddiaf a charedicaf ddiolwch i Dduw Tad, y Mab, a'r Yspryd glan, am brynedigaeth y byd, drwy angau a dioddefaint ein Iachawdur Crist Duw a dŷn, Yr hwn a ymostyngodd i angau ar y groes drosom ni bechaduriaid truain, y rhai oeddem yn gorwedd mewn tywyllwch a chyscod angau, fel y galle efe ein gwneuthur ni yn blant i Dduw, a'n dyrchafel i fywyd tragywyddol. Ac er cofio o honom yn wastad ddirfawr gariad ein Harglwydd a'n vnic Iachaw­dur Iesu Grist fel hyn yn marw drosom, a'r anei­rif ddoniau daionus yr rhai (drwy dywallt ei werth­fawr waed) a enillodd efe i ni: Efe a osododd, ac a ordeiniodd sanctaidd ddirgeledigaethau fel gwyst­lon o'i gariad, a gwastadol gof am ei angeu, er mawr ac anherfynawl gonffort i ni. Can hynny iddo ef, gyd â'r Tad, a'r Yspryd glân, rhoddwn (fel ydd ŷm rwymedicaf) wastadol ddiolch gan ymost­wng yn gwbl iw sanctaidd ewyllys ef: gan fyfyrio iw wasanaethu ef mewn gwir sancteiddrwydd, a chyfiawnder, holl ddyddiau ein heinioes. Amen.

Yna y dywed yr Offeiriad wrth y rhai a fo yn dyfod i gymmeryd y Cymmun bendigedic.

CHwychwi y sâwl y sydd yn wîr, ac yn ddifrifol yn edifarhau am eich pechodau, ac y sydd mewn ca­riad perffaith a'ch cymmydogion, ac yn meddwl di­lyn buchedd newydd, gan ganlyn gorchymynion Duw, a rhodio o hyn allan yn ei ffyrdd sanctaiddiol ef, Deuwch yn nês a chymmerwch y Sacrament sancteiddiol hwn i'ch conffordd, a gwnewch eich go­styngedic gyffes i'r Holl-alluog Dduw, gar bron y [Page] gynnulleidfa hon y sydd wedi ymgynnull yma yng­hŷd yn ei sanctaidd enw ef, gan ostwng yn vfydd ar eich gliniau.

Yna y dywedir y gyffes gyffredin hon, yn enw pawb o'r rhai a fyddont ar feddwl cymmeryd y Cymmun ben­digedig, y naill a'i gan vn o honynt hwy, a'i gan vn o'r Gweinidogion, a'i gan yr Offeiriad ei hun, gan ost­wng o bawb yn vfydd ar eu gliniau.

OLl-alluog Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, gwneuthur-wr pob dim, barn-wr pob dyn, yddŷm ni yn cydnabod, ac yn ymofidio dros ein amryw bechodau a'n anwiredd, y rhai o ddydd i ddydd yn orthrwm a wnaethom, ar feddwl, gair, a gweithred yn erbyn dy Dduwiol fawredd, gan annog yn gyfiawnaf dy ddigofaint ath fâr i'n her­byn. Yr ydym yn ddifrifol yn edifarhau, ac yn ddrwg gan ein calonnau dros ein cam-weithredoedd hyn, eu coffa sy drwm gennym, eu baich sydd anrhaith ei oddef: Trugarhâ wrthym, trugarhâ wrthym, drugarocaf Dâd, er mwyn dy vn Mâb ein Har­glwydd Iesu Grist, maddeu i ni yr hyn oll a aeth heibio, a chaniatâ i ni allu byth o hyn allan, dy wasanaethu a'th fodloni, mewn newydd-deb bu­chedd, er anrhydedd a gogoniant dy enw; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yna yr Offeiriad neu yr Escop (os bydd yn gydry­chiol) a saif, gan droi at y bobl, a dywedyd fel hyn.

HOll-alluog Dduw, ein Tad nefawl, yr hwn o'i fawr drugaredd a addewis faddeuaint pecho­dau i bawb gan edifeirwch calon, a gwîr ffydd a ym­chwel atto, a drugarhâo wrthych, a faddeuo i chwi, ac a'ch cadarnhâo ym-mhob daioni, ac a'ch dygo i fywyd tragywyddawl, trwy Iesu Grist ein Har­glwydd▪ Amen.

Yn ôl hynny y dywed yr Offeiriad.

¶Gwrandewch pa ryw eiriau confforddus a ddy­wed ein Iachawdur Crist wrth bawb a'r a wîr ym­chwelont atto ef. Deuwch attafi bawb ac y sydd yn trafaelu ac yn llwythog, a mi a esmwythaf arnoch. Felly y carodd Duw y bŷd, fel y rhoddes efe ei vnig­enedic Fab, modd nad elai neb a gredai ynddo ef yng-hyfr-goll, namyn caffael bywyd tragywyddol.

¶Gwrandewch hefyd beth y mae Sanct Paul yn ei ddywedyd.

Hwn sydd air gwîr, a theilwng i bawb iw dder­byn, dyfod o Iesu Grist i'r byd hwn i iachâu pe­chaduriaid.

¶Gwrandewch hefyd a ddywaid Ioan Sanct.

Os pecha neb, y mae i nî ddadleu-wr gyd â'r Tad, Iesu Grist y cyfion; ac efe yw yr aberth dros ein pechodau.

Yn ôl y rhai hyn yr aiff yr Offeiriad rhagddo, gan ddywedyd.

Derchefwch eich calonnau.

Atteb.

Yr ydym yn eu derchafael i'r Arglwydd.

Yr Offeiriad.

Diolchwn i'n Harglwydd Dduw.

Atteb.

Mae yn addas, ac yn gyfiawn gwneuthur hynny.

Yr Offeiriad.

Y mae yn gwbl addas, yn gyfiawn, a'n rhwy­medic ddylêd ni yw, bob amser, ac ym-mhob lle, ddiolch i ti Arglwydd sanctaiddiol Dad, Oll-alluog, dragywyddol Dduw.

Yma issod y ceffir y rhagymadroddion priodawl wrth yr amser, os bydd yr vn wedi 'r osod yn espesawl. Ac onid e, yn ddi-dor yr ymlyn, Can hynny gyd ag An­gelion, ac Arch-angelion, &c.

Rhag-ymadroddion priawd.

Ar ddydd Natalic Christ, a saith niwrnod gwedi

AM i ti roddi Iesu Grist dy vn Mâb iw eni ar gyfenw i heddyw drosom ni: yr hwn trwy wei­thred yr Yspryd glân a wnaethpwyd yn wîr ddyn, o hanfod y forwyn Fair ei fam, a hynny heb ddim pechod i'n gwneuthur yn lân oddiwrth bob pechod. Gan hynny gyd ag Angelion, ac Archangelion, &c.

Ar ddydd Pasc a saith ddiwrnod gwedi.

ONd yn bendifaddeu, ydd ŷm yn rhwymedic i'th foliannu, dros anrhydeddus gyfodiad dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd: canys efe yw'r gwîr oen Pasc yr hwn a offrymwyd drosom, ac a ddilêawdd bechod y byd, yr hwn trwy ei angeu ei hun a ddi­nistriodd angeu, a thrwy ei adgyfodiad i fywyd a adferodd i ni fywyd tragywyddol: Can hynny gŷd ag Angelion, &c.

Ar dydd Dyrchafael a saith ddydd gwedi.

TRwy dy annwylaf Fab Iesu Grist ein Har­glwydd, yr hwn yn ôl ei anrhydeddus gyfodiad, a ymddangosodd yn gyhoeddus iw holl ddiscyblion, ac yn eu golwg, efe a ascynnod i'r nefoedd i baratoi lle i ni, bod i ni lle y mae efe ascynnu hefyd, a theyr­nasu gyd ag ef mewn gogoniant: Can hynny gyd ag Angelion, &c.

Ar ddydd Sûl-gwyn, a chwe diwrnord yn ôl.

TRwy Iesu Grist ein Harglwydd, ac yn ôl ei gywi­raf addewid y descynuodd yr Yspryd glân heddyw o'r nef, a disymwth sŵn mawr megis gwynt nerthoc, [Page] ar wêdd tafodau tanllyd: gan ddescyn ar yr Aposto­lion iw dyscu hwynt, ac iw harwain i bob gwirio­nedd, gan roddi iddynt ddawn amryw ieithoedd, a hyder hefyd gyd â chariad gwresogl, yn ddyfal i bre­gethu yr Efangel i'r cenhedloedd, o blegit yr hyn i'n dygpwyd allan o dywyllwch, a chyfeiliorni i'th eglur oleuni, ac i wir wybodaeth am danat ti, a'th Fâb Iesu Grist. Can hynny gyd ag Angelion &c.

Ar ddydd-gwyl y Drindod yn vnic.

Y Mae yn wîr addas, yn gyfiawn, a'n rhwyme­dic ddylêd bod i ni bob amser, ac ym-mhob lle, ddiolch i ti Arglwydd, Holl-alluog a thragywy­ddawl Dduw, yr hwn wyt vn Duw, vn Arglwydd, nid vn person yn vnic, onid tri pherson mewn vn sylwedd. Canys yr hyn yr ydym ni yn ei gredu am ogoniant y Tâd, hynny a gredwn am y Mâb, ac am yr Yspryd glân heb wahanred, neu anghym­medr. Can hynny gyd ag &c.

Ar ôl y Rhagymadroddion hyn, y canlyn yn y fan.

CAn hynny gyd ag Angelion ac Arch-angelion a chyd ag oll gwmpeini nef y moliannwn, ac y mawrhawn dy ogoneddus Enw, gan dy foliannu yn wastad, a dywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw yr lluoedd. Nef a daiar sydd yn llawn o'th ogoniant: gogoniant a fo i ti Arglwydd goruchaf.

Yna yr Offeiriad ar ei liniau wrth fwrdd yr Arglwydd a ddywed yn enw yr oll rai a gymmerant y Cymmun, yn y wedd y sydd yn canlyn.

NId ŷm ni yn rhyfygu dyfod i'th fwrdd yma drugarog Arglwydd, gan ymddiried yn ein [Page] cyfiawnder ein hunain, eithr yn dy aml a'th ddir­fawr drugaredd di, nid ydym ni deilwng cymmaint ac i gasclu yr briwsion tan dy fwrdd: Eithr tydi yw yr vn Arglwydd yr hwn biau o briodoldeb yn wastad drugarhâu. Caniatâ i ni gan hynny Arglwydd gra­sawl, felly fwyta cnawd dy annwyl Fab Iesu Grist, ac yfed ei waed ef, fel y gallo ein cyrph pechadurus gael eu gwneuthur yn lân drwy ei gorph ef, a'n enei­diau eu golchi drwy ei werthfawrocaf waed ef, fel y gallom byth drigo ynddo ef, ac ynte ynom ninnau, Amen.

Yna yr Offeiriad yn ei sefyll a ddywed fel y mae yn canlyn.

HOll-alluog Dduw ein Tad nefol, yr hwn o'th drugaredd a roddaist dy vn Mab Iesu Grist i ddi­oddef angeu ar y groes er ein prynu, yr hwn a wna­eth yno (trwy ei offrymiad ei hun yn offrymedic vn­waith) gyflawn, berffaith, a digonawl aberth, off­rwm, ac iawn, dros bechodau yr holl fyd; ac a ordei­niodd, ac yn ei sanctaidd Efangel a orchymynnodd i ni gadw tragywyddol goffa am ei werth-fawr an­geu hynny, nes ei ddyfod trachefn. Gwrando ni drugarog Dad, ni a attolygwn iti, a cha­niata i ni, gan gymmeryd dy greaduriaid hyn o fara a gwin, yn ol sanctaidd ordinhad dy Fab Iesu Grist ein Iachawdur, er cof am ei angeu a'i ddioddefaint, allu bod yn gyfrannogion o'i fendigedic gorph a'i waed. Yr hwn ar y nos honno y bradychwyd a gymmerth fara, ac wedi iddo ddiolch Efe a'i torrodd, ac a'i rhoddes iw ddiscyblion, gan ddywedyd: Cymmerwch, bwytewch, [Page] hwn yw fynghorph yr hwn ydd ydys yn ei roddi drosoch, gwnewch hyn er cof am da­naf. Yr vn modd gwedi swpper, efe a gym­merth y cwpan, ac wedi iddo ddiolch, efe a'i rhoddes iddynt gan ddywedyd: Yfwch o hwn bawb, canys hwn yw fyng-waed o'r Testament newydd, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch, a thros lawer er maddeu­aint pechodau: gwnewch hyn cynnifer gwaith ac ei hyfoch, er cof am danaf.

Yna y Gwenidog a gymmer y Cymmun yn y ddau ryw ei hun, ac yn nesaf y dyry i'r Gweinidogion eraill, (o bydd yno neb o honynt, fel y gallont gymmorth y Gwenidog pennaf) ac wedi hynny i'r bobl yn eu dwylaw yn ostynge­dic ar eu gliniau: Ac wrth roddi y bara, efe a ddywed.

COrph ein Harglwydd Iesu Grist yr hwn a roddwyd drosot ti, a gadwo dy gorph a'th enaid i fywyd tragywyddol: a chymmer, a bwyta hwn, er cof farw Crist drosot, ac ymborth arno yn dy galon drwy ffydd, gan roddi diolch.

A'r Gwenidog a fo yn rhoddi y cwpan a ddywed.

GWaed ein Harglwydd Iesu Grist yr hwn a dywalltwyd drosot, a gatwo dy gorph a'th enaid i fywyd tragywyddol: ac yf hwn er cof tywallt gwaed Crist trosot, a bydd ddiolchgar.

Yna yr Offeiriad a ddywed weddi yr Arglwydd, gan a­drodd o'r bobl bob arch o honi ar ei ôl ef. Wedi hynny y dywedir fel y canlyn.

O Arglwydd, a nefawl Dad, yr ydym ni dy ostynge­dic weision yn cwbl ddeisyfu ar dy dadol ddaioni, yn drugarog dderbyn ein haberth hyn o foliant a di­olwch, gan erfyn arnat yn ostyngeiddiaf, bod trwy ryglyddon ac angeu dy Fab Iesu Grist, a thrwy flydd yn ei waed ef, i ni ac i'th holl sanctaidd Eglwys gaffa­el maddeuant o'n pechodau, a phob doniau eraill o'i ddioddefaint ef. Ac yma ydd ŷm yn offrwm ac yn cyn­nyrchu i ti Arglwydd, ein hunain, ein eneidiau, a'n cyrph, i fod yn aberth rhesymol, sanctaidd, a bywiol i ti, gan adolygu it yn ostyngedic allel o bawb o honom y sy gyfrannogion o'r Cymmun bendigeid hwn, gael ein cyflawni â'th rad, ac â'th nefol fendith. Ac er ein bod ni yn anheilwng drwy ein amrafaelion becho­dau, i offrwm i ti vn aberth: etto ni a attolygwn i ti gymmeryd ein rhwymedig ddylêd, a'n gwasanaeth hyn, nid gan bwyso ein haeddedigaethau, onid gan faddeu ein pechodau, trwy Iesu Grist ein Har­glwydd, trwy yr hwn, a chŷd â'r hwn, yn vndawd yr Yspryd glan, holl anrhydedd a gogoniant a fyddo i ti Dad holl-alluog, yn oes oesoedd. Amen.

Neu hyn.

HOll-alluog, a byth-fywiol Dduw, yr ydym ni yn dirfawr ddiolch i ti, am fod yn wiw gennit ein porthi ni, y rhai a gymmerasom yn ddyledus y dirge­ledigaethau sancteiddiol hyn, ag ysprydawl ym­borth o werthfawrocaf gorph a gwaed dy Fab ein Iachawdur Iesu Grist, Ac wyt yn ein cadarnhau drwy hynny o'th ymgeledd, ac o'th ddaioni i ni, a'n bod yn wîr aelodau, wedi ein corphi yn dy ddirgel gorph di, yr hwn yw y wynsydedic gynnull­eidfa o'r holl ffyddlō bobl. A'n bod hefyd trwy obaith yn etifeddion dy deyrnas dragywyddol, gan haedd­edigaethau gwerthfawrocaf angau a dioddefaint [Page] dy annwyl Fab: Ydd ŷm ni yr awr hon yn ostyngedic yn attolygu i ti nefawl Dad, fod felly ein cynnorth­wyaw â'th râd, fel y gallom yn wastad aros yn y sanctaidd gymdeithas honno, a gwneuthur pob ryw weithredoedd da ar a ordeiniaist i ni rodio yn­ddynt, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, i'r hwn gyd â thi a'r Yspryd glân, y bo holl anrhydedd, a gogo­niant yn dragywyddol. Amen.

Yna y dywedir, neu y cenir.

GOgoniant i Dduw yn yr vchelder, ac yn y ddaiar tangneddyf, ewyllys da i ddynion. Ni a'th addo­lwn, ni a'th fendithiwn, ni a'th anrhydeddwn, ni a'th ogoneddwn, i ti y diolchwn am dy fawr ogo­niant, Arglwydd Dduw frenin nefol, Duw Tad holl-alluog, Arglwydd, yr vnic genedledic Fab Iesu Grist, Arglwydd Dduw, Oen Duw, Fab y Tad, yr hwn wyt yn deleu pechodau yr byd, tru­garhâ wrthym. Ti yr hwn wyt yn deleu pechodau yr byd, trugarhâ wrthym. Ti yr hwn wyt yn de­leu pechodau yr byd derbyn ein gweddi. Ti yr hwn wyt yn eistedd ar ddeheu-law Dduw Tad, tru­garhâ wrthym. Canys ti yn vnic wyt sanctaidd, ti yn vnic wyt Arglwydd, ti yn vnic Grist, gyd a'r Yspryd glân wyt oruchaf yng-ogoniant Duw Tad. Amen.

Yna yr Offeiriad, neu yr Escop, os bydd efe yn bre­sennol a ollwng y bobl ymaith â'r fendith hon.

TAngneddyf Duw yr hwn sydd vchlaw pob deall, a gatwo eich calōnau a'ch me­ddyliau yng-wybodaeth a chariad Duw, [Page] a'i Fab Iesu Grist ein Harglwydd. A ben­dith Dduw holl-alluog, y Tad, y Mab, a'r Yspryd glan a fyddo i'ch plith, ac a drigo gyd a chwi yn wastad. Amen.

Colectau iw dywedyd yn ol yr offrymiad, pryd na bo vn Cymmun, bob ryw ddiwrnod, vn. A'r vn rhai, a ellir eu dywedyd hefyd cynifer amser ac y byddo achos yn gwasanaethu, wedi yr Colectau ar y foreuol neu'r Bryd­nhawnol weddi, y Cymmun, neu yr Letani, fel y gwelo yr Gwenidog fod yn gymhesur.

CAnnorthwya ni yn drugarog Arglwydd, yn ein gweddiau hyn, a'n erfyniau, a llywodraetha ffordd dy wasanaeth-ddynion tu ag at gaffaeliad ie­chyd tragywyddawl, fel ym-mysc holl gyfnewi­diau a damweiniau yr bywyd marwol hwn y gall­ont byth gael eu hamddeffyn drwy dy radlawnaf a'th barotaf borth, trwy Grist ein Harglwydd Amen.

HOll-alluog Arglwydd, a byth-fywiol Dduw, ni a attolygwn iti fod yn wiw gennit vniaw­ni, sanctaiddio, a llywodraethu ein calonnau a'n cyrph yn ffyrdd dy ddeddfau, ac yng-weithredoedd dy orchymynnion, megis trwy dy gadarnaf nodded, yma ac yn dragywyddol, y gallom fod yn gadwe­dic gorph ac enaid, trwy ein Harglwydd a'n Ia­chawdur Iesu Grist. Amen.

CAniatâ ni a attolygwn i ti Holl-alluog Dduw, am y geiriau a glywsom heddyw â'n clustiau oddi allan, eu bod felly drwy dy râd, wedi eu plannu yn ein calonnau oddi mewn, fel y gallont ddwyn y­nom ffrwyth buchedd dda, er anrhydedd a moliant i'th Enw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

RHag-flaena ni Arglwydd, yn ein holl weithre­doedd a'th radlonaf hoffter, a rhwyddhâ ni â'th barhaus gymmorth fel yn ein holl weithredoedd dechreuedic, anherfynnedic, a therfynedic, ynoti y gallom foliannu dy sanctaidd Enw, ac yn y di­wedd gael gan dy drugaredd fywyd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

HOll-alluog Dduw, ffynnon yr holl ddoethineb, yr hwn wyt yn gwybod ein angenrhaidiau cyn eu gofynnom, a'n anwybodaeth yn gofyn: Ni a attolygwn i ti dosturio wrth ein gwendid, a'r pe­thau hynny y rhai oblegid ein anheilyngdod ni feiddiwn, ac o blegit ein dallineb ni fedrwn eu gofyn, fod yn deilwng gennit eu rhoddi i ni er teilyngdod dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

HOll-alluog Dduw, yr hwn a addewaist wran­do eirchion y rhai a ofynnant yn Enw dy Fab, ni a attolygwn i ti ostwng yn drugarog dy glu­stiau attom ni, y rhai a wnaethom yr awr hon ein gweddiau a'n erfynnion attat, a chaniattâ y pethau hyn a archasom yn ffyddlawn yn ôl dy ewy­llys, allu eu caffael yn hollawl i borthi ein hangen, ac er eglurhau dy ogoniant, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Ar ddyddiau gwyliau oni bydd Cymmun y dywedir cwbwl ac a osodwyd ar y Cymmun, hyd ddiwedd yr homeli, gan ddibennu gyda'r weddi gyffredin (dros holl ystâd Eglwys Grist yn milwrio yma ar y ddaiar) ac vn neu ychwaneg o'r Colectau vchod, fel y bo yr achos yn gwasanaethu.

Ac yna ni bydd gwasanaethu Swpper yr Arglwydd, oddieithr bod swrn o bobl i gymmuno gyd â'r offeiriad, fel y gwelo efe fod yn iawn.

Ac oni bydd mwy nac vgein-nyn yn y plwyf o bwyll i gymmeryd y Cymmun bendigedic, etto ni bydd yna vn Cymmun, oni bydd pedwar, neu dri o'r lleiaf i gymmuno gyd a'r offeiriad:

Ac mewn mam-Eglwysydd, ac Eglwysi Collegiat, lle byddo llawer o Offeiriaid, a Diaconiaid, cymmerant hwy oll y Cymmun gyd a'r Gwenidog bob Sul o'r lleiaf, oni bydd ganddynt achos rhesymol i'r gwrth wyneb.

Ac er deleu yr ofer-goel y sydd, neu a allo fod gan neb yn y bara ar gwîn, fe a wasanaetha bod y bara yn gyfryw ac y sydd arferedic iw fwyta ar y bwrdd, gyd â bwydydd eraill, eithr y bara gwenith o'r gorau, a'r puraf ar a aller ei gael yn weddaidd. Ac o gweddilla peth o'r bara neu yr gwîn, y Curat ai' caiff iw fwyniant ei hun.

Y bara ar gwîn i'r Cymmun a baratoir gan y Curat a'r wardeniaid yr Eglwys, ar gôst y plwyf, a'r plwyf a rydd­heir o ryw symmau arian, neu ddyledion eraill yr oeddynt arferedic o'r blaen i'w talu am danaw, wrth ddygymmod eu tai bob Sul.

Noda hefyd, bod i bob plwyfol Gymmuno o'r lleiaf dair gwaith yn y flwyddyn, ac o hynny bod y Pâsc yn vn; a chymeryd hefyd y Sacramentau a'r defodau eraill, yn ol y drefn osodedic yn y llyfr hwn. A'r Pâsc bob blwyddyn, bod i bob plwyfol gyfrif a'i Berson, Vicar, neu ei Curat, neu ei brocurator, neu ei brocuratoriaid, a thalu iddynt, neu iddo ef holl ddyledion Eglwysic, yn arferedic ddyle­dawc yna, ac ar yr amser hynny iw talu.

Gwasanaeth y Bedydd y sydd iw arfer yn yr Eglwys.

Y Mae yn eglur trwy hên scri­fenyddion, nad oeddid yn gyffredinol yn yr hen amser, yn arfer o wasanaethu Sacra­ment y Bedydd, oddieithr dau amser yn y flwyddyn: sef y Pasc ar Sul-gwyn. Ac ar yr amserau hynny y gwasanae­thid ef ar gyhoedd yng-wydd yr holl gynnulleidfa. Yr hon ddefod yn awr aeth yn anar­ferol (cyd na ellir er mwyn llawer o achosion ei hadnewyddu) er hynny fe a gredir bod yn iawn canlyn y ddefod honno cyn nesed ag y gellid yn gymhesur. O blegit paham, rhybyddier y bobl, fod yn gymhesuraf na wasanaether y Bedydd namyn ar y Suliau, a dyddiau gwyliau eraill, pan allo y nifer mwyaf o'r bobl ddyfod yng-hyd, yn gystal er mwyn bod i'r gynnulleidfa yno yn bresennol destiolaethu erbyniad y sawl a fedyddi­er yr amser hynny i nifer Eglwys Grist, a hefyd o blegit ym-medydd rhai bychain bod i bob dyn a fo yno yn bre­sennol, alw ei gof atto am ei broffes a'i addewid a wnaeth efe gynt yn ei fedydd. Herwydd hynny hefyd y mae yn rhaidiol bod gwasanaeth y bedydd yn ein hiaith Camber­aec. Ac er hyn yma oll (os bydd anghenrheidiol) fe a ellir bedyddio rhai bychain bob amser gartref.

Bedydd Public.

Pan fyddo plant iw bedyddio ar ddydd Sul, neu ddydd gwyl arall, fe a ddyle eu tadau roddi rhybudd tros nos, neu [Page] y bo rau cyn dechreu y foreuol weddi, i'r Curat. Yna by­ddet y tadau bedydd, a'r mammau bedydd a'r bobl yn ba­rod wrth y Bedyddfan: y naill ai yn y man ar ôl y llîth ddiwethaf o'r foreuol weddi, neu ynte yn y man yn ôl y llith ddiwethaf ar y Brydnhawnol weddi, megis y go­soto y Curat yn ôl ei ystyriaeth ei hun. Ac yn sefyll y­no gofynned yr Offeiriad, a fedyddiwyd y plant, a'i na fedyddiwyd? os attebant, Na ddo: yna dyweded yr Offeiriad fel hyn.

FYng-haredigion, yn gymmaint ac ym­ddwyn a geni pob dyn mewn pechod, a bod ein I achawdur Crist yn dywedyd, na ddichon neb gael myned i mewn i deyrnas Duw, oddieithr ei ail-eni ef o ddwfr a'r Yspryd glân: Atolwg ydd wyf i chwi alw ar Dduw Tâd, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, hyd oni fo iddo o'i ddaionus drugaredd ganiatâu i'r plant hyn (y peth drwy nerth natur ni allant ddy­fod iddo) gael eu bedyddio â dwfr, ac â'r Yspryd glân, a'u derbyn i lân Eglwys Grist, a bod yn aelodau bywiol o'r vn-rhyw.

Yna y dywed yr Offeiriad.

Gweddiwn.

HOll-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn o'th fawr drugaredd a gedwaist Noe a'i deulu yn yr Arch rhag eu cyfr­golli gan ddwfr; a hefyd a dywysaist yn ddiangol blant yr Israel dy bobl drwy yr môr côch, gan arwyddocau wrth hynny dy lân fedydd, a thrwy fedydd dy garedic Fâb Iesu Grist a sanctaiddiaist afon Iorddonen, a phob dwfr arall, er dirgel olchedigaeth pechodau: [Page] Atolygwn i ti er dy aneirif drugareddau, edrych o honot yn drugarog ar y plant hyn, eu sancteiddio hwy, a'u glanhau â'r Yspryd glân, fel y byddo iddynt hwy yn waredawg oddi wrth dy lid, gaffael eu der­byn i Arch Eglwys Grist, a chan fod yn gedyrn mewn ffydd, yn llawenion gan obaith, ac wedi ym­wreiddio yng-hariad perffaith, allu o honynt ford­wyo tros donnau y byd trallodus hwn, ac o'r di­wedd, allu dyfod i dir y bywyd tragywyddawl, yno i deyrnasu gyd â thi heb drangc na gorphen, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

HOll-alluog ac anfarwol Dduw, porth pob anghenog, nawdd-wr pawb a gilio attat am gynhorthwy, bywyd y rhai a gredant, a chyfodiad y meirw: ydd ŷm yn galw arnat tros y rhai bychain hyn, ar iddynt hwy yn dyfod i'th lân fedydd, gael der­byn maddeuaint o'u pechodau drwy adenedigaeth ysprydol. Derbyn hwy Arglwydd megis yr addewa­ist trwy dy garedic Fâb, gan ddywedyd; Gofynnwch, a rhoddir i chwi, Ceisiwch a chwi a gewch, Curwch ac fe agorir i chwi. Felly yn-awr dyro i ni, a ni yn gofyn, par i ni gael, a ni yn ceisio; agor y porth i ni y sy yn curo; fel y gallo y rhai bychain hyn fwynhau tragywyddol fendith dy nefol olchiad, a dyfod i'r deyrnas dragywyddawl yr hon a addewaist trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

Yna y dywed yr Offeiriad, Gwrandewch ar eiriau yr E­fangel a scrifennodd Sanct Marc yn y ddecfed bennod.

Marc. 10, 13 YR amser hynny y dugasant blant by­chain at Grist, fel y cyffyrdde efe â hwynt: a'r discyblion a geryddent y rhai a'u du­gase hwynt; A'r Iesu pan welodd hynny [Page] fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt: gedwch i'r plant bychain ddyfod attafi, ac na waherddwch hwynt: canys i'r cyfryw y perthyn teyrnas Dduw. Yn wîr y dywedaf wrthych, pwy bynnac ni dder­bynnio deyrnas Dduw fel plentyn nid aiff i mewn iddi. Ac efe a'u cofleidiodd hwynt, ac a ddodes ei ddw­ylaw arnynt, ac a'u bendithiodd.

Yn ôl darllen yr Efangel, y traetha y Gwenidog y cy­ngor byr hwn-yma ar eiriau yr Efangel.

Y Caredigion, chwi a glywch yn yr E­fangel hon eiriau ein Iachawdur Crist, yn gorchymyn dwyn plant atto, pa wedd y ceryddodd efe y rhai a fynna­sent eu cadw oddi-wrtho; pa wedd y cynghora efe i bob dyn ganlyn eu gwiriondeb hwy. Yr ydych chwi yn deall wrth ei agwedd ef a'i wei­thred modd y dangoses ei ewyllys da iddynt: Canys efe a'u cofleidiodd hwy yn ei freichiau, efe a roddodd ei ddwylaw arnynt, ac a'u bendithiodd hwynt. Nac amheuwch gan hynny, eithr credwch yn ddif­rif, y cymmer efe yr vn ffunyd yn ymgeleddgar y rhai bychain hyn-yma, y cofleidia efe hwy â brei­chiau ei drugaredd, y dyru iddynt fendith y bywyd tragywyddawl, ac y gwna hwy yn gyfrannogion o'i ddidranc deyrnas. O herwydd pa ham (gan ein bod ni yn credu fel hyn am ewyllys da ein Tâd ne­fol tu ag at y rhai bychain hyn, wedi ei amlygu trwy ei Fâb Iesu Grist, ac heb ddim ammau ei fod efe yn caniatau yn ewyllyscar ein gweithred gar­dodawl hon yn dwyn y plant hyn i'w sanctaidd Fe­dydd ef) diolchwn yn ffyddlon, ac yn ddefosionol iddo, gan ddywedyd.

HOll-alluog a thragwyddol Dduw, Nefol Dâd, ydd ŷm yn ostyngedic yn diolch i ti fod yn wiw gennit ein galw i wybodaeth dy râd, a ffydd ynot: Ychwanega yr wybodaeth hon, a chadarnhâ y ffydd hon ynom yn wastad; dyro dy Yspryd glân i'r rhai bychain hyn, fel y ganer hwy eilwaith, a'u gw­neuthur yn etifeddion Iechyd tragywyddol, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gyd â thi, a'r Yspryd glân yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

Yna dywedet yr Offeiriad wrth y Tadau-bedydd ar Mammau-bedydd yn y modd hyn.

Y Caredigion bobl, chwi a ddugasoch y plant hyn yma iw bedyddio, chwi a weddiasoch ar fod yn wiw gan ein Harglwydd Iesu Grist eu derbyn hwy, rhoddi ei ddwylo arnynt, eu bendithio, ma­ddeu eu pechodau, rhoddi iddynt deyrnas nefoedd a bywyd tragywyddol. Chwi a glywsoch hefyd ddar­fod i'n Harglwydd Iesu Grist addo yn ei Efangel ganhiadu yr holl bethau hyn a weddiasoch chwi am danynt: yr hwn addewid efe o'i ran ef a'i ceidw yn wîr ddiogel, ac a'i cwplâ. Herwydd pa achos yn ôl yr addewid hyn a wnaeth Crist, rhaid yw i'r rhai bychain hyn yn ffyddlon, ar eu rhan hwythau addo trwyoch-chwi y sy yn feichiau drostynt, ym­wrthod â diafol, a'i holl weithredoedd, ac yn wa­stad credu gwynfydedic air Duw, ac yn vfydd ca­dw ei orchymynnion.

Yna yr ymofyn yr Offeiriad â'r Tadau-bedydd, a'r Mammau-bedydd yr ymofynion hyn isod.

A Ydwyt ti yn ymwrthod â diafol, ac â'i holl wei­thredoedd, coeg rodres, a gwag-orfoledd y byd, a'i [Page] holl chwantau cybyddus, anysprydol ewyllys y cna­wd, fel na ddilynech, ac n'ath dywyser ganddynt?

Ateb.

Yr ydwyf yn ymwrthod â hwynt oll.

Gwenidawc.

A wyt ti yn credu yn Nuw Tâd holl-gyfoethog, Creawdr nef a daiar? Ac yn Iesu Grist ei vn Mab ef ein Harglwydd? A'i genhedlu o'r Yspryd glân? A'i eni o Fair forwyn? iddo ddioddef dan Pon­tius Pilatus, ei groes-hoelio, ei farw a'i gladdu? des­cyn o honaw i vffern, a'i gyfodi y trydydd dŷdd, ac ascyn i'r nefoedd, a'i fod yn eistedd ar ddeheu-law Dduw Tâd holl-alluog, ac oddi yno y daw efe yn ni­wedd y bŷd i farnu byw a meirw? A wyti yn credu yn yr Yspryd glân, yr Eglwys lân Gatholic, Cym­mun y sainct, maddeuaint pechodau, adgyfodiad y cnawd, a bywyd tragywyddol gwedi angeu?

Ateb.

Hyn oll ydd wyf yn ei gredu yn ddilys.

Gwenidog.

A fynni di dy fedyddio yn y ffŷdd hon?

Ateb.

Hynny yw fy ewyllys.

Yna y dywed yr Offeiriad.

O Drugarog Dduw, caniatâ felly gla­ddu yr hên Adda yn y plant hyn, fel y cyfoter y dyn newydd ynddynt hwy. Amen.

Caniatâ fod i'r holl chwantau cna­wdol farw ynddynt, ac i bob peth a berthyn i'r Yspryd allu byw a chynyddu ynddynt. Amen.

Caniatâ fod iddynt nerth a gallu i gael yr oruch­afiaeth, a gorfod yn erbyn diafol, y byd, a'r cnawd. Amen.

Caniatâ fod i bwy bynnac y sydd yma wedi ei gy­ssegru iti trwy ein swydd a'n gweinidogaeth ni, a­llu hefyd bod yn gynyscaeddol o rin weddau nefol, a bod iddynt eu tragywyddol obrwyau drwy dy druga­redd, ô fendigedic Arglwydd Dduw, yr hwn wyt yn byw, ac yn llywiaw pob peth, yn oes oesoedd. Amen.

Holl-gyfoethog Fyth-fywiol Dduw, yr hwn y bu i'th garedicaf Fâb Iesu Grist dros faddeuant o'n pechodau oddef gollwng o'i werth-fawr ystlys ddw­fr a gwaed, a rhoddi gorchymyn iw ddiscyblion fy­ned a dyscu pob cenedl, a'u bedyddio yn Enw y Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd glân: Ystyria atolwg i ti wrth weddiau dy gynnulleidfa, a chaniata bod i bawb o'th weision a fedyddier yn y dwfr hwn, dderbyn cy­flawnder dy rad, ac aros byth yn nifer dy ffyddlon blant etholedig, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yna y cymmer yr Offeiriad y dyn bychan yn ei ddwy­law, ac y gofyn yr enw. A chan enwi y plentyn efe a'i tro­cha ef yn y dwfr, a hynny yn ddiesceulus, ac yn ddarbodus, gan ddywedyd.

N. Yr ydwyfi yn dy fedyddio di yn E­nw'r Tad a'r Mab, a'r Yspryd glan. Amen.

Ac o bydd y dyn bychan yn wan, digon fydd bwrw dw­fr arnaw, gan ddywedyd y geiriau dywededic vcho.

N. Yr ydwyfi yn dy fedyddio di yn E­nw 'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd glan. Amen.

Yna gwneled yr Offeiriad groes yn-nhalcen y dyn bach, gan ddydwedyd.

YR ydym ni yn derbyn y plentyn hwn i gynnu­lleidfa defeid Crist, ac yn ei nodi ef ag arwydd y grôg, yn arwyddocâd na bo iddo rhag-llaw gymme­ryd yn gywilydd gyffessu ffydd Crist groes-hoeliedig, ac iddo ymladd yn wrol tan ei faner ef, yn erbyn pechod, y byd, a'r cythrael, a pharhau yn filwr ffydd­lawn ac yn wâs i Grist holl ddyddiau ei enioes. A­men.

Yna y dywed yr Offeiriad.

CAn ddarfod yn awr, garedigion frodyr, ad-êni, a dodi y plant hyn yng-horph cynnulleidfa Crist, diolchwn ninnau i Dduw am ei ddaioni hyn, ac o gyd-vndab gwnawn ein gweddiau ar y Goruchaf Dduw, ar fod iddynt hwy ddiweddu y rhan arall o'u bywyd yn ôl hyn o ddechreuad.

Yna y dywedir.

Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

Yna y dywed yr Offeiriad.

MAwr ddiolchwn i ti drugarocaf Dâd, ryngu bodd it' ad-eni y plentyn hwn â'th Yspryd glân, a'i dderbyn yn blen­tyn dewisol i ti dy hun, a'i gorphori i'th gynnulleidfa sanctaidd: Ac yn o­styngedic yr attolygwn i ti ganiatâu, gan ei fod efe yn farw o ran pechod, ac yn byw tu a chyfiawn­der, ac yn gladdedic gyd â Christ yn ei angeu, allu croes-hoelio yr hên ddyn, ac yn hollawl ymwrthod ag oll gorph pechod, a megis y mae efe wedi ei wneu­thur yn gyfrannog o angeu dy Fâb, iddo fod yn gy­frannog o'i gyfodiad, ac felly o'r diwedd, yng-hŷd â'r rhan arall 'oth sanctaidd gynnulleidfa, bod o ho­naw yn etifedd dy deyrnas dragywyddol, drwy Ie­su Grist ein Harglwydd. Amen.

Ac yn y pen diwethaf, yr Offeiriad, gan alw y Tadau-be­dydd, a'r Mammau-bedydd yng-hyd a ddywed hyn o fyr athrawiaeth yma iso.

YN gymmaint a darfod i'r plant hyn addo trwochwi, ym wrthod â diafol, a'i holl weithredoedd, credu yn-Nuw, a'i wasanaethu ef: Rhaid yw i chwi feddwl, mai eich rhan a'ch dylêd yw, gweled dyscu o'r plant hyn, cyn gynted ag y gallont ddyscu, pa ryw hynod adduned, addewid, a phroffes a wnaethant drwy­och-chwi. Ac er mwyn gallu o honynt wybod hyn yn well, chwi a elwch arnynt i wrando pregethau. Ac yn bendifadde rhaid yw i chwi weled dyscu o honynt y Gredyniaeth, Gweddi yr Arglwydd, a'r dec gorchymyn yn yr iaith a ddeallont, a phob peth arall a ddylei Cristion ei wybod, a'i gredu er iechyd iw enaid, a bod meithrin y plant hyn yn rhinwe­ddol, iw hyweddu mewn buchedd dduwiol a Chri­stionogawl, gan goffa yn wastad, bod Bedydd yn ar­wyddocau i nyni ein profess, nid amgen, canlyn o honom esampl ein Iachawdur Crist, a'n gwneu­thur yn gyffelyb iddo ef: Ac fel y bu efe farw, ac y cy­fodes drachefn drosom, felly y dylem ni y rhai a fe­dyddiwyd, farw oddi wrth bechod a chyfodi i gyfi­awnder, gan farwolaethu yn wastad ein holl ddry­gioni, a'n gwyniau llygredic, a pheunydd myned rhagom ym-mhôb rhinwedd dda, a buchedd ddu­wiol

Y Gwenidog a orchymyn ddwyn y plant at yr Escob i'w conffirmo ganddo, cyn gynted ac y medront ddywe­dyd yn eu tafod-iaith gyffredin byngciau y ffydd, Gweddi yr Arglwydd, a'r deng-air Deddf, a bod hefyd wedi eu haddyscu yn y Catechism a osodwyd ar fedr hynny, yn berthynasol megis y mae yn eglur yno.

Am y rhai a Fedyddiwyd mewn tai diawdurdod ar amser anghenrhaid.

BId i'r Bugeiliaid Eglwysic, a'r Cu­radiaid rybuddio yn fynych y bobl, nad oedant fedydd y plant bellach nâ'r Sûl, neu yr dydd gwyl nesaf yn ol geni y plentyn; oddi eithr am achos mawr a rhe­symol a yspyser i'r Curat, ac a dderbynio yntef.

Ac hefyd hwynt a'u rhybu­ddiant, na fedyddiont eu plant gartref yn eu tai, heb achos mawr ac angen: a phan gym­hello anghenrhaid iddynt wneuthur hynny, yna iddynt ei wneuthur yn y modd hyn.

Yn gyntaf y rhai a fyddont yn y fan, galwant ar Dduw am ei râd, a dywedant weddi yr Arglwydd, os gâd yr am­ser; Ac yna vn o honynt a henwa yr plentyn, a'i drochi yn y dwfr, neu fwrw dwfr arnaw, gan ddywedyd y gei­riau hyn.

N. Yr wyfi yn dy fedyddio di yn Enw y Tad, ar Mab, ar Yspryd glan. Amen.

Ac nac amheuant am y dyn-bach a fedyddier felly, nad yw efe wedi ei fedyddio yn ddeddfol, ac yn ddigonol, Ac na ddyleir ei fedyddio mwy yn yr Eglwys. Eithr er hyn­ny i gyd, os y plentyn yr hwn a fedyddiwyd yn y modd hwn a fydd byw rhag llaw, iawn fydd ei ddwyn ef i'r Egl­wys, fel y gallo yr Offeiriad holi, a threio a fedyddiwyd y plentyn yn ddeddfol, ai na ddo. Ac os y rhai a ddu­gant y plentyn i'r Eglwys, a atebant ddarfod ei fedy­ddio [Page] eusus, yna holed yr Offeiriad hwy ym-mhellach, gan ddywedyd.

Gan bwy y bedyddiwyd y dyn bychan?

Pwy oedd yn y fan, pan fedyddiwyd y dyn-by­chan?

A alwasant hwy ar Dduw am râd a chymmorth yn yr anghenrhaid hwnnw?

A pha beth, neu â pha ddefnydd y bedyddiasant hwy y plentyn?

A pha eiriau y bedyddiwyd y plentyn?

A ydynt hwy yn tybied fod y plentyn wedi ei fedy­ddio yn ddeddfol ac yn berffaith?

Ac os y Gwenidog a brawf wrth atebion y rhai a ddu­gasant y plentyn atto, fod pob peth wedi ei wneuthur modd y dylei: Yna na fedyddied efe y plentyn trachefn, eithr ei dderbyn yn vn o nifer y gwir Gristionogion, gan ddywedyd fel hyn.

Yr ydwyfi yn hyspysu i chwi wneuthur o honoch yn dda yn y treigl hyn, ac wrth iawn drefn berthy­nasol wrth fedyddio y plentyn yma, yr hwn wedi ei eni mewn pechod dechreuol, ac mewn digofeint Duw, sydd yn-awr drwy olchiad yr ad-enedigaeth ym-medydd, wedi ei dderbyn yn rhif plant Duw, ac etifeddion bywyd tragywyddol: Canys nid yw ein Harglwydd Iesu Grist yn necâu ei rad a'i druga­redd i gyfryw rai bychain, ond y mae yn garuei­ddiaf yn eu gwahodd atto, megis y tystia yr Efan­gel fendigedic er ein conffordd, yn y wedd hon.

Marc. 10.13.YR amser hynny y dugasant blant bychain at Grist fel y cyffyrdde efe â hwynt; a'r discyblion a geryddent y rhai a'u dugase hwynt; A'r Iesu pan welodd hynny fu anfodlon, ac a ddywedodd wrth­ynt, gedwch i'r plant bychain ddyfod attafi, ac na waherddwch hwynt: canys i'r cyfryw y perthyn teyrnas Dduw. Yn wîr y dywedaf wrthych, Pwy [Page] bynnac ni dderbynio deyrnas Dduw fel plentyn nid aiff i mewn iddi. Ac efe a'u cofleidiodd hwynt, ac a ddodes ei ddwylaw arnynt, ac a'u bendithiodd.

Yn ôl darllen yr Efangel, y traetha y Gwenidog y cyn­gor hwn-yma ar eiriau yr Efangel.

Y Caredigion, chwi a glywch yn yr Efāgel hon ei­riau ein Iachawdur Crist, yn gorchymyn dwyn plant atto, pa wedd y ceryddodd efe y rhai a fynna­sent eu cadw oddi wrtho, pa wedd y cynghora efe i bob dŷn ganlyn eu gwiriondeb hwy. Yr ydych chwi yn deall wrth ei agwedd ef a'i weithred, modd y dangoses ei ewyllys da iddynt: canys efe a'u co­fleidiodd hwy yn ei freichiau, efe a ddododd ei ddwy-law arnynt, ac a'u bendithiodd hwynt. Nac amheuwch gan hynny, eithr credwch yn ddifrif, ddarfod iddo gymmeryd yr vn ffynyd yn ymgeledd­gar y dyn-bychan hwn yma, a'i gofleidio a breichiau ei drugaredd, rhoi iddo fendith y bywyd tragywy­ddol, a'i wneuthur yn gyfrānog o'i ddidrangc deyr­nas. Herwydd pa ham, a nyni yn credu fel hyn am ewyllys da ein Tad o'r nef, wedi ei amlygu trwy ei Fâb Iesu Grist tu ag at y dyn-bychan hwn: diol­chwn yn ffyddlon, ac yn ddefosionol iddo, gan ddy­wedyd y weddi yr hon y sydd o addysc yr Arglwydd ei hun; ac er manegi ein ffŷdd, adroddwn y pyngci­au a gynhwysir yn ein Credo.

Yna yr Gwenidog gyd â'r Tadau-bedydd, a'r Mam­mau-bedydd a ddywedant.

¶Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

Yma y gofyn yr Offeiriad enw y dyn-bychan, a phan ddarffo i'r Tadau-bedydd, a'r Mammau-bedydd ei ad­rodd, y Gwenidog a ddywed.

A ydwyt ti yn enw y plentyn hwn yn ymwrthod â diafol a'i holl weithredoedd, gwag rodres a gogo­niant y byd, a'i holl chwantau cubyddus, trythyll ewyllysion y cnawd, ac na chanlynech, ac na'th dy­wyser ganddynt?

Ateb.

Ydd wyfi yn ymwrthod â hwynt oll.

Gwenidawe.

A wyt ti yn enw y plentyn hwn yn proffessio y ffydd hon, yn credu yn-Nuw Dad, holl-gyfoethog, Creawdr nef a daiar? Ac yn Iesu Grist ei vn Mâb ef, ein Harglwydd, a'i genhedlu o'r Yspryd glân, ei eni o Fair wyryf, iddo ddioddef dan Bontius Pila­tus, ei roddi ar bren crog, ei farw, a'i gladdu, des­cyn o honaw i vffern, a'i gyfodi y trydydd dydd, ac ascyn i'r nefoedd, a'i fod yn eistedd ar ddeheu-law Duw Tâd holl-alluog, ac oddi yno y daw yn-niwedd y byd i farnu byw a meirw? A ydwyt ti yn credu yn yr Yspryd glân, yr Eglwys lân Gatholic, Cym­mun y sainct, maddeuaint pechodau, adgyfodiad y cnawd, a bywyd tragywyddol gwedi angeu?

Ateb.

Hyn yma oll yr wyfi yn ei gredu yn ddilys.

Gweddiwn.

HOll-alluog a thragywyddol Dduw, Nefol Dâd, ydd ŷm ni yn ostyngedic yn diolch i ti fod yn wiw gennit ein galw i wybodaeth dy râd, a ffŷdd ynot: ychwanega yr wybodaeth hon, a cha­darnhâ y ffydd hon ynom yn wastad, dyro dy Ys­pryd glân i'r plentyn hwn, fel y ganer efe eil-waith, a'i wneuthur yn etifedd Iechyd tragywyddol, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, i allu parhau yn wâs i ti, a mwynhau dy addewid trwy yr vn-rhyw ein Harglwydd Iesu Grist dy Fâb, yr hwn sydd yn byw [Page] ac yn teyrnasu gyd â thi, a'r Yspryd glân yr awr-hon ac yndragywydd. Amen.

Yna gwnaed y Gwenidog yr exhortasion hon wrth y Tadau a'r Mammau-bedydd.

YN gymmaint a darfod i'r plentyn hwn addo trwyoch chwi, ymwrthod â diafol a'i holl wei­thredoedd, credu yn-Nuw, a'i wasanaethu, rhaid i chwi feddwl mai eich rhan a'ch dyled yw gweled dyscu o'r plentyn hwn cyn gyflymed ag y gallo, pa ryw hynod adduned, addewid, a phroffes a wna­eth efe drwoch chwi. Ac er mwyn gallu o honaw wybod hyn yn well, bod i chwi alw arno i wrando pregethau. Ac yn bendifadde bod i chwi weled dys­cu o honaw ef y Gredd-ddeddf, Gweddi yr Argl­wydd, a'r deng-air deddf yn yr iaith a ddeallo, a phob peth arall a ddylei Cristion ei wybod a'i gre­du er iechyd iw enaid, a bod meithrin y plentyn hwn yn rhinweddol iw hyweddu mewn buchedd dduwiol a Christianogol, gan goffa yn wastad fod Bedydd yn arwyddocau i ni ein proffes, nid am­gen, canlyn o honom esampl ein Iachawdur Crist, a'n gwneuthur yn gyffelyb iddo ef: Ac fel y bu efe farw, ac y cyfodes trachefn drosom, felly y dylêm ni y rhai a fedyddiwyd, farw oddiwrth bechod, a chyfodi i gyfiawnder, gan farwolaethu yn wastad ein holl ddrygioni, a'n gwynniau llygredic, a pheu­nydd myned rhagom ym-mhob rhinwedd dda a bu­chedd dduwiol.❧

Ac felly rhag-llaw, fel yn y Bedydd public.

Eithr os y rhai a ddugant y plant i'r Eglwys a wnânt ateb anyspysol i ofynion yr Offeiriad, a dywedyd na wyddant beth oeddynt yn ei feddwl, yn ei wneuthur, neu yn ei ddywedyd yn y cyfryw fawr ofn a chythry­fwl [Page] meddwl (megis y damwain yn fynych) yna bedy­ddied yr Offeiriad ef yn ol y ffurf scrifennedic vchod am y Bedydd Public, oddieithr wrth drochi y dyn-bach yn y ffons, efe a arfer y ffurf hon ar eiriau.

Oni ddarfu dy fedyddio yn barod N. ydd wyfi yn dy fedyddio di, yn Enw 'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd glan, Amen.

Conffirmasion, yn yr hwn y cynhwy­sir Catechism, sef addysc i blant.

ER mwyn bod ministrio Conffirma­sion er mwy o adeilad i'r sawl a'i derbynio (yn ol athrawiaeth Sanct Paul, yr hwn sydd yn dyscu y dy­leid gwneuthur pob peth yn yr E­glwys er adeilad iddi) fe a dybijr bod yn dda na bo conffirmo neb rhag-llaw, onid cyfryw a fedro dy­wedyd yn-nhafod-iaith eu mam, fannau yr ffydd, gweddi yr Arglwydd, a'r deng-air-Deddf, a medru hefyd ateb i gyfryw ymofynnion o'r Catechism byrr hwn, ag y byddo i'r Escob (neu i'r neb a osodo efe i hyn) yn ôl ei feddwl ei opposio hwynt ynddo. A'r drefn hon y sydd weddusaf ei chadw, er mwyn amrafaelion ystyriaethau.

Yn gyntaf, o herwydd pan ddêl plant mewn oedran synnwyr, a gwybod pa beth a addawodd eu tadau bedydd, a'u mammau-bedydd drostynt wrth eu bedyddio; yna y gallant eu hun â'u genau eu hunain, ac o'u cydsynniad eu hunain, ar osteg yng-wydd yr Eglwys gonffirmio, a cha­darnhau yr vn rhyw addewid: a hefyd iddynt addo, drwy nerth rhâd Duw, ddarpar yn wastad gadw yn ffyddlawn y cyfryw bethau a'r a fu iddynt hwy â'u genau eu hunain, ac â'u cyffes gydsynniaw arno.

Ail yw, yn gymmaint a bod ministrio conffirmasion i'r rhai a fedyddiwyd pan yw trwy osod dwylo arnynt a gwe­ddi, allu ohonynt dderbyn meddiant ac ymddeffyn yn er­byn pob profedigaeth i bechu, a rhuthrau yr byd, a'r cy­threl; cymmesuraf yw ministrio conffirmasion pan ddel plant i'r cyfryw oedran, pan yw iddynt, peth o ran gwen­did eu cnawd ei hun, peth o ran rhuthrau yr byd a'r cy­thrael, ddechreu bod mewn pericl i syrthio mewn amryw bechodau.

Trydydd, am fod hynny yn gysson â defod yr Eglwys yn yr amser gynt, lle darfu ordeinio ministrio conffirmasion i'r rhai a fyddēt o gyflawn oedran, fel y bydde iddynt hwy wedi eu haddyscu mewn Crefydd Cristionogawl allu yn gyhoeddoc broffessio eu ffydd eu hunain, ac addo bod yn vfydd i ewyllys Duw.

Ac na bo i neb dybied fod dim niwed yn dyfod i'r plant herwydd oedi ei conffirmasion, gwybydded yn ddiau, fod yn ddilys wrth air Duw am y plant a fedyddiwyd, ddarfod iddynt gael bob peth anghenrheidiol i iechyd eu henaid, a'u bod yn ddiammau yn gadwedic.

Y Catechism, sef yw hynny, athrawia­eth iw dyscu gan bob plentyn cyn ei ddwyn iw gonffirmio gan yr Escob.

Qwestion.

BEth yw dy enw di?

Ateb.

N. neu M. neu yr cyfryw.

Qwestion.

Pwy a roddes yr henw hwnw arnat?

Ateb.

Fy Nhadau-bedydd, a'm mammau-bedydd wrth fy medyddio, pan i'm gwnaethpwyd yn aelod Crist, yn blentyn Duw, ac yn etifedd teyrnas nef.

Qwestion.

Pa beth a wnaeth dy Dadau-bedydd a'th Fam­mau-bedydd yr amser hwnnw trosot?

Ateb.

Hwy a addawsant, ac a addunasant dri pheth yn fy enw. Yn gyntaf ymwrthod o honof â diafol, ac â'i holl weithredoedd a'i rodres; gorwagedd y byd en­wir, a phechadurus chwantau y cnawd. Yn ail, bod i mi gredu holl byngciau yr ffydd Grist. Ac yn drydydd, cadw o honof wynfydedic ewyllys Duw a'i orchymynnion, a rhodio ynddynt holl ddyddiau fy mywyd.

Qwestion.

Onid wyt ti yn tybied dy fod yn rhwymedic i gre­du, ac i wneuthur megis ac yr addawsant trosot?

Ateb.

Ydd wyf yn wîr: a thrwy nerth Duw felly y gwnaf. Ac ydd wyfi yn mawr ddiolch i'n Tad nefol am iddo fyngalw i gyfryw iechydwriaeth hyn, trwy Iesu Grist ein Iachawdur. Ac mi a atolygaf i Dduw roddi i mi ei râd modd y gallwyf aros ynddo holl ddy­ddiau fy einioes.

Qwestion.

Adrodd i mi fannau dy ffŷdd?

Ateb.

CRedaf yn Nuw Dâd holl-gyfoethog, Creawdr nef a daiar. Ac yn Iesu Grist ei vn Mâb ef ein Harglwydd ni. Yr hwn a gafwyd trwy yr Yspryd glân, ac a aned o Fair forwyn. A ddioddefodd tan Bontius Pilat, a groes-hoeliwyd, a fu farw, ac a gladdwyd. Descynnodd i vffern. Y trydydd dydd y cyfododd o feirw. Efe a ascynnodd i'r nefoedd, ac ei­stedd y mae ar ddeheu-law Dduw Dâd Holl-alluog. Oddi yno y daw efe i farnu byw a meirw. Credaf yn yr Yspryd glân. Yr Eglwys lân Gatholic. Cymmun [Page] y Sainct. Maddeuaint pechodeu. Cyfodiad y cnawd. A'r bywyd tragywyddol. Amen.

Qwestion.

Pa beth wyt ti yn ei ddyscu yn bennaf yn y pyng­ciau hyn o'th ffŷdd?

Atteb.

Yn gyntaf yddwyf yn dyscu credu yn Nuw Dâd, yr hwn a'm gwnaeth fi, a'r holl fyd.

Yn ail yr ydwyf yn credu yn Nuw Fâb, yr hwn a'm prynodd fi, a phob rhyw ddŷn.

Yn drydydd, yr wyf yn credu yn Nuw Yspryd glân, yr hwn sydd i'm sancteiddio i, a'r holl etholedig bobl Dduw.

Qwestion.

Ti a ddywedaist ddarfod i'th Dadau-bedydd a'th fammau-bedydd addo trosot ar i ti gadw gorchymy­nion Duw. Dywet tithe i mi, pa nifer y sydd o ho­nynt?

Atteb.

Dêc.

Question.

Pa rai ydynt?

Atteb.

Y Rhai hynny a lefarodd Duw yn yr vgeinfed be­nnod o Exodus, gan ddywedyd: my-fi yw 'r Ar­glwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddûg di ymmaith o dîr yr Aipht, o dŷ y caethiwed.

1. Na fydded i ti dduwiau eraill onid myfi.

2. Na wnâ it dy hûn ddelw gerfiedic, na llun dim ar y sydd yn y nefoedd vchod, neu yn y ddaiar isod, nac yn y dwfr tan y ddaiar. Na ostwng iddynt, ac nac addola hwynt: oblegit myfi yr Arglwydd dy Dduw wyf Dduw eiddigus, yn ym weled â phecho­dau 'r tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt, ac yn gwneuthur [Page] trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fyng-orchymynion.

3 Na chymmer Enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer, canys nid gwirion gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei Enw ef yn ofer.

4 Cofia gadw yn sanctaidd y dŷdd Sabbath. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: eithr y saithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: ar y dŷdd hwnnw na wnâ ddim gwaith, tydi, na'th fâb, na'th ferch, na'th wâs, na'th forw­yn, na'th anifail, na'r dŷn dieithr a fyddo o fewn dy byrth. Canys mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd nef a daiar, y môr, a'r hyn oll sydd yn­ddynt, ac a orphy wysodd y saithfed dydd. O herwydd pa ham y bendithiodd yr Arglwydd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef.

5 Anrhydedda dy dâd a'th fam, fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaiar, yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

6 Na lâdd.

7 Na wna odineb.

8 Na ladratta.

9 Na ddwg gam destiolaeth yn erbyn dy gym­mydog.

10 Na chwennych dŷ dy gymmydog, na chwenn­ych wraig dy gymmydog; na'i wâs, na'i for wyn, na'i ŷch, na'i assyn, na dim a'r sydd eiddo.

Qwestion.

Beth wyt ti yn ei ddyscu yn bennaf wrth y gorch­ymynion hyn?

Atteb.

Yr ydwyf yn dyscu dau beth: fy-nylêd tu ag at Dduw, a'm dyled tu ag at fyng-hymmydog.

Qwestion.

Pa beth yw dy ddyled tu ag at Dduw?

Atteb.

Fy nylêd tu ag at Dduw yw, Credu ynddo, ei ofni, a'i garu â'm holl galon, â'm holl enaid, ac â'm holl nerth. Ei addoli ef, Diolch iddo, rhoddi fy holl ym­ddyried ynddo: galw arno. Anrhydeddu ei sanctaidd Enw a'i air, a'i wasanethu yn gywir holl ddyddiau fy mywyd.

Qwestion.

Pa beth yw dy ddyled tu ag at dy gymmydog?

Atteb.

Fy nylêd tu ag at fyng-hymmydog yw, ei garu fel fy hunan, a gwneuthur i bob dyn, megys y chw­ennychwn iddo wneuthur i minneu. Caru o ho­nof, anrhydeddu, a chymmorth fy-nhâd, a'm mam. Anrhydeddu, ac vfyddhau i'r Frehines a'i swyddogion, ymddarostwng i'm holl lywiawdwŷr, dysciawd-wŷr, Bugeiliaid ysprydol ac athrawon. Ymddwyn o honof yn ostyngedic, gan berchi pawb o'm gwell. Na wnelwyf niwed i neb ar air, na gweithred. Bod yn gywir ac yn vnion ym-mhob peth a wnelwyf. Na bo na châs na digasedd yn fyng-halon i neb. Cadw o honof fy nwylaw rhac chwilenna, a lledratta, a chadw fy nhafod rhag dy­wedyd celwydd, cabl-eiriau, na drwg-absen. Cadw fyng-horph mewn cymhedroldeb, sobrwydd, a di­weirdeb. Na chybyddwyf, ac na ddeisyfwyf dda na golud neb arall. Eithr dyscu a llafurio yn gywir i geisio ennill fy mywyd, a gwneuthur a ddylwyf ym-mha ryw fuchedd bynnac y rhyngo bodd i Dduw fyng-alw.

Qwestion.

Fy annwyl blentyn, gwybydd hyn yma, nad wyd abl i allu gwneuthur y pethau hyn o honot dy hun, na rhodio yng-orchymynniō Duw, na'i wasanaethu ef, heb ei espesol rad ef; yr hwn sydd raid i ti ddyscu [Page] yn wastad, ymoralw am dano trwy ddyfal weddi. Gan hynny gad ti i mi glywed a fedri ddywedyd gweddi yr Arglwydd?

Atteb.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw, Deued dy deyrnas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol; A maddeu i ni ein dyledion fel y maddeuwn ni i'n dyled-wŷr. Ac na thywys ni i brofedigaeth. Eithr gwaret ni rhag drwg: Canys ti biau yr deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

Qwestion.

Pa beth ydd wyt ti yn ei erchi ar Dduw yn y we­ddi hon?

Atteb.

Yr ydwyfi yn erchi ar fy Arglwydd Dduw ein Tâd nefol, yr hwn yw rhodd-wr pob daioni, ddan­fon ei rad arnaf, ac ar yr holl bobl, fel y gallom ei an­rhydeddu ef, a'i wasanaethu, ac vfyddhau iddo me­gis y dylem. Ac ydd wyf yn gweddio ar Dduw ddan­fon i ni bob peth anghenrhaidiol, yn gystadl i'n he­neidiau, ac i'n cyrph. A bod yn drugarog wrthym, a maddeu i ni ein pechodau: A rhyngu bodd iddo ein cadw a'n amddeffyn ym-mhob pericl ysprydol a chor­phorol: a chadw o honaw nyni rhag pob pechod ac anwiredd, a rhag ein gelyn ysprydol, a rhag angeu tragywyddol. A hyn yr yd wyf yn ei obeithio y gwnâ efe o'i drugaredd a'i ddaioni, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, A chan hynny ydd wyf yn dywedyd A­men. Poet gwîr.

Er cynted y medro y plant ddywedyd yn iaith eu mam, fannau yr ffydd, gweddi yr Arglwydd, y dêc Gorch­ymyn, a hefyd medru o honynt atteb i gyfryw ymo­fynnion [Page] o'r Catechism byr hwn-yma, ag y bydd i'r Es­cob (neu i'r neb a osoto efe) yn ôl ei feddwl iw opposio hwynt: Yna y dugir hwy at yr Escob gan vn a fyddo yn dâd-bedydd, neu yn fam-fedydd iddo, fel y bo tyst i bob plentyn o'i gonffirmasion. A'r Escob a'u conffir­mia hwynt fel hyn.

Conffirmasion.

EIn porth ni y sydd yn Enw yr Ar­glwydd.

Atteb.

Yr hwn a wnaeth nef a daiar.

Gwenidog.

Bendigaid yw Enw yr Arglwydd.

Atteb.

O hyn hyd yn oes oesoedd.

Gwenidog.

Arglwydd gwrando ein gweddi.

Atteb.

A deued ein llef hyd attat.

Gweddiwn.

HOll-alluog a byth-fywiol Dduw, yr hwn fu wiw gennit adgenhedlu y rhai hyn dy weision trwy ddwfr, a'r Yspryd glân, ac a roddaist iddynt fa­ddeuaint o'u holl bechodau: nertha hwy, ni a attoly­gwn i ti Arglwydd â'th Yspryd glân y Diddan-wr: A pheunydd ychwanega ynddynt dy aml ddoniau o râd, Yspryd doethineb a deall, Yspryd cyngor a nerth ysprydol; Yspryd gwybodaeth a gwîr ddu wioldeb; A chyflawnhâ hwynt Arglwydd ag Yspryd dy sanc­taidd ofn. Amen.

Yna y gesid yr Escob ei law ar bob plentyn wrtho ei hun gan ddywedyd.

AMddeffyn Arglwydd, y plentyn hwn â'th râd nefol, fel y byddo iddo ef barhau yn eiddo ti byth, a pheunydd gynnyddu yn dy Yspryd glân fwy-fwy, hyd oni ddel efe i'th deyrnas dragywyddol. Amen.

Yna y dywed yr Escob.

Gweddiwn.

HOll-alluog a Byth-fywiol Dduw yr hwn wyt yn peri i ni ewyllysio, a gwneuthur yr hyn a w­nelom o ddaioni ag y sydd gymmeradwy gan dy fawredd: Yr ydym yn gwneuthur yn ostyngedic ein erfynion attat dros y plant hyn, y rhai (yn ôl esampl dy ddwywol Apostolion) y gosodasom ein dwylo ar­nynt, er eu siccrhâu hwy (trwy yr arwydd hwn) fod dy ymgeledd a'th radlawn ddaioni ar eu tuedd: By­dded dy Dadol law, ni a attolygwn i ti, byth ar­nynt: Bydded dy Yspryd glân byth gyd â hwy, ac fe­lly tywys hwy yng-wybodaeth ac vfydd-dod dy air, modd y gallont yn y diwedd fwynhau bywyd tragy­wyddol, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn gyd â thi, a'r Yspryd glân sydd yn byw ac yn teyrna­su yn vn Duw, heb drangc na gorphen. Amen.

Yna y bendithia yr Escob y plant, gan ddywedyd yn y môdd hyn.

BEndith yr Holl-alluog Dduw, y Tâd, y Mâb, a'r Yspryd glân, a fyddo arnoch, ac a drigo gyd â chwi yn dragywydd. Amen.

Bid i Gurat pob plwyf, neu i ryw vn arall a'r a osoto ese, yn ddiesceulus ar y Suliau a'r gwyliau, hanner awr o flaen Gosper, ar osteg y plwyf yn yr Eglwys, ddyscu a holi cynnifer o blant ei blwyf ar a ddanfonwyd atto, ac [Page] y gwasanaetha yr amser, a megis y tybio efe fod yn gy­mhesur, yn rhyw barth o'r Catechism hwn.

A bid i bob tâd a mam, a phob perchen tylwyth beri i'w plant, iw gwasanaeth-ddynion, ac iw prentisiaid (y rhai ni ddyscasont eu Catechism) ddyfod i'r Eglwys yr am­ser gosodedic, ac yn vfyddawl gwrando, a bod wrth lywodraeth y Curat, hyd yr amser y darfo iddynt ddys­cu pob peth y sydd yma wedi ei osod i'w ddyscu. A pha bryd bynnac y rhydd yr Escob yspysrwydd i ddwyn y plant ger ei fron i vn lle cyfaddas iw conffyrmio: yna duged Curat pob plwyf, neu ddanfoned yn scrifenne­dic henwau yr holl blant o'i blwyf, y rhai a fedrant ddy­wedyd pyngciau y ffydd, Gweddi yr Arglwydd, ar den­gair Deddf; a hefyd pa sawl vn o honynt a fedr atteb ir Qwestionau eraill a gynhwysir yn y Catechism hwn.

Ac na dderbynier neb i'r Cymmun bendigedic, hyd pan fedro ddywedyd y Catechism, a bôd wedi ei gonffyr­mio.

Ffurf neu drefn Priodas.

YN gyntaf rhaid yw gofyn y gostegion ar dri Sûl gwa­hanrhedol neu wyliau, pryd gwasanaeth yng-wydd y plwyf, yn ôl yr arfer ddefodol.

Ac os y rhai a fynnent eu priodi, fyddant yn trigo mewn amrafael blwyfau, rhaid yw gofyn y gostegion yn y ddau blwyf, ac na bo i'r Curat o'r naill blwyf eu priodi hwy nes cael hyspysrwydd ddarfod gofyn ei cerenn­ydd dair-gwaith gan y Curat o'r plwyf arall.

Ar y dydd gosodedic i fod vrddas y Briodas, deued y rhai a brioder i gorph yr Eglwys, a'u ceraint, a'u cymmydo­gion: ac yno y dywed yr Offeiriad fel hyn.

Y Caredigion bobl, ydd ŷm wedi yr ymgynnull yma yng-olwg Duw, ac yn wy­neb ei gynnulleidfa ef, i gyssylltu y ddeu-ddyn hyn yng-hyd mewn glân Brio­das, yr hon y sydd stâd bar­chedic, wedi'r ordeinio gan Dduw ym-Mharadwys, yn amser diniweidrwydd dŷn, gan arwyddocâu i ny­ni y dirgel vndeb y sydd rhwng Crist a'i Eglwys: yr hon wynfydedic stât a a­ddurnodd, ac a brydferthodd Crist â'i gynnyrcholdeb ei hun â'r gwyrthiau cyntaf a wnaeth yn Cana Ga­lilea. A phriodas hefyd addywed S. Paul ei bod yn anrhydeddus ym-mhlith holl ddynion: Ac am hyn­ny ni ddylei neb ei chymmeryd arno mewn byrbw­yll, o yscafnder meddwl, neu nwyfiant, er mwyn di­goni deisyfiad a chwantau cnawdol, fel anifeiliaid y­scryblaidd, y rhai ni roddwyd rheswm iddynt: Eithr yn barchedic, yn bwyllog, yn sobr, ac mewn ofn Duw, gan ddyledus synniaw er mwyn pa achosion yr ordeiniwyd priodas. Vn achos oedd, er enill plant, iw meithrin yn ofn yr Arglwydd, a moliant Duw. Yn ail, hi a ordeiniwyd yn ymwared yn er­byn pechod, ac i ymoglyd rhag godineb, megis ac y byddo i'r cyfryw rai nad oes iddynt roddiad i ymgyn­nal, allu priodi, a'u cadw eu hunain yn ddihalogion aelodau corph Crist. Y trydydd, er cydgymdeithas â'i gilydd, cymmorth, a diddanwch a ddylei y naill gael gan y llall, yn gystal mewn hawdd-fyd ac ad­fyd. I'r hon stât y mae yr ddau-ddyn hyn wedi dyfod i ymgyssylltu. Herwydd pa ham, o gŵyr neb vn a­chos cyfion, fel na ellir yn gyfraithlon eu cyssylltu [Page] hwy yng-hŷd, dyweded yr awr hon, neuna ddywe­ded byth rhac-llaw.

A chan grybwyll hefyd wrth y rhai a brioder, dyweded efe.

YDdwyfi yn erchi, ac yn gorchymyn i chwi (fel y bo i chwi atteb ddydd y farn pan gyhoedder dir­gelion pob calon) od yw i'r vn o honoch wybod vn a­nach fel na ddylech yn gyfreithlawn fyned yng-hyd mewn priodas, gyffessu o honoch yn y man. Canys gwybyddwch yn dda, am y nifer a gyssylltir yn am­gen nac y myn gair Duw, nis cyssylltir hwy gan Dduw, ac nid yw eu priodas yn gyfraithlawn.

Ac ar ddydd y Briodas, o bydd i neb ddywedyd, bod vn a­nach megis na ddylent gael eu cyssylltu mewn prio­das, wrth gyfraith Dduw, a chyfraith y deyrnas hon, ac a ymrwyma a meichiau digonol gyd ag ef i'r partiau: ai ynte rhoddi gwarthol am gwbl a dâl cymmaint a cholled y rhai oeddynt i'w priodi, i brofi ei ddadl: yna y bydd rhaid oedi dydd y briodas hyd yr amser y treier y gwirionedd. Ac oni honnir vn anach yna y dywed y Curat wrth y gwr.

N. A fynni di y ferch hon yn wraig briod i ti, i fyw yng-hyd, yn ôl ordinhâd Duw, yng-lân radd priodas? A geri di y hi, ei diddanu, ei pherchi, a'i cha­dw yn glaf ac yn iach? A gwrthod pob vn arall, a'th gadw dy hun yn vnic iddi hi, tra fyddoch byw eich deuoedd?

Y Mab a atteb.

Gwnâf.

Yna y dywed yr Offeiriad wrth y Ferch.

N. A fynni di y mâb hwn yn ŵr priod i ti, i fyw yng­hyd yn ôl ordinhâd Duw, yng-lân stât priodas? [Page] A vfyddhei di iddo, a'i wasanaethu, ei garu, ei berchi, a'i gadw yn glâf ac yn iach, a chan wrthod pawb e­raill, dy gadw dy hun yn vnic iddo ef, cyhyd ag y by­ddoch byw eich deuoedd?

Y Ferch a atteb.

Gwnâf.

Yna y dywed y Gwenidog.

Pwy sydd yn rhoddi y ferch hon iw phriodi i'r mâb hwn?

A'r Gwenidog gan dderbyn y ferch o law ei thad neu ei chereint, a bair i'r Mab gymmeryd y Ferch erbyn ei llaw ddehau; ac felly bod i bob vn ymgredu â'i gilydd: a bod i'r Mab ddywedyd yn gyntaf.

YR ydwyfi, N. i'th gymmeryd ti N. yn wraig briod i mi, i gadw a chynnal o'r dŷdd hwn allan, er gwell, er gwaeth, er cyfoethogach, er tlodach, yn glâf ac yn iâch, i'th garu, ac i'th fawr-hau, hyd pan i'n gwahâno angeu, yn ôl glân ordinhâd Duw; ac ar hynny yr ydwyf yn rhoddi i ti fyng-hrêd.

Yna y datodant eu dwylaw, a'r ferch a gymmer trachefn y Mab erbyn ei law ddehau, gan ddywedyd.

YDd wyfi N. yn dy gymmeryd ti N. yn ŵr priawd i mi, i gadw a chynnal, or dŷdd heddyw allan, er gwell, er gwaeth, er cyfoethogach, er tlodach, yn glâf ac yn iâch, i'th garu, i'th fawrhâu, ac i vfyddhau i ti, hyd pan i'n gwahâno angau, yn ôl glân ordin­hâd Duw, ac ar hynny y rhoddafi ti fyng-hrêd.

Yna trachefn y gollyngant eu dwy-law yn rhyddion, ac y dyry y Mab fodrwy i'r ferch, gan ei dodi ar y llyfr, yng­hyd â'r ddylêd ddefodol i'r Offeiriad a'r yscolhaig. A'r Offeiriad a gymmer y Fodrwy, ac a'i dyry i'r Mab, iw gosod ar y pedwerydd bys i law asswy y Ferch. A'r Mab wrth addysc yr Offeiriad, a ddywed.

A'r Fodrwy hon i'th briodaf, â'm corph i'th anrhy­deddaf, ac â'm golud bydol i'th gynhyscaeddaf. Yn E­nw'r Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd glân. Amen.

Yna y gâd y Mab y fodrwy ar y pedwerydd bys o'r llaw asswy i'r Ferch, ac y dywed y Gwenidog.

Gweddiwn.

O Dragywyddol Dduw, Creawdr a cheidwad pob rhyw ddyn, rhoddiawdur pob rhâ ysprydol, aw­dur y bywyd a beru byth: Anfon dy fendith ar dy wa­sanaeth ddynion hyn, y mab hwn, a'r ferch hon, y rhai ydd ym ni yn eu bendithio yn dy Enw di, fel ac y bu i Isaac, a Rebecca fyw yn ffyddlawn yng-hyd, felly gallu o'r dynion hyn gyflawn i a chadw yr addu­ned a'r ammod a wnaed rhyngddynt; am yr hyn y mae rhoddiad, a derbyniad y Fodrwy hon yn arw­ydd ac yn wystl, a gallu byth o honynt aros yng-hyd mewn perffaith gariad a thangneddyf, a byw yn ôl dy ddeddfau, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yna y cyssyllta yr Offeiriad eu dwy-law ddeheu yng-hyd, ac y dywed.

Y rhai a gyssylltodd Duw yng-hŷd, na wahaned dyn.

Yna y dywed y Gwenidog wrth y bobl.

YN gymmaint a darfod i N. ac N. gydsyniaw me­wn glân Briodas, a thystiolaethu hynny gar bron Duw a'r gynnulleidfa hon, ac ar hynny ddar­fod iddynt ymgredu, ac ymwystlo bob vn iw gilydd, a declario hynny gan roddi, a derbyn Modrwy, a chyssylltu dwy-law: ydd wyfi yn hyspyssu eu bod hwy yn wr ac yn wraig yng-hyd: yn Enw y Tad, a'r Mâb, a'r Yspryd glân. Amen.

A'r Gwenidog a'u bendithia â'r fendith hon yn anghwa­nec.

DVw Tâd, Duw Fâb, Duw Yspryd glân a'ch bendithio, a'ch cadwo, ac a'ch cymhortho, Edry­ched yr Arglwydd yn drugarog ac yn ymgeleddus arnoch, a chyflawned chwi â phob ysprydol fendith a rhad, modd y galloch fyw yng-hyd yn y fuchedd hon, hyd pan fo i chwi yn y byd a ddaw allu meddiannu bywyd tragywyddawl. Amen.

Yna y Gwenidogion, neu yr Yscolheigion gan fyned i fwrdd yr Arglwydd, a ddywedant, ne a ganant y psalm hon y sydd yn canlyn.

Beati om­nes. Psal. 128. GWyn ei fyd pob vn y sydd yn ofni yr Ar­glwydd: sef yr hwn sydd y rhodio yn ei ffyrdd ef.

Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd a da yw i ti.

Dy wraig fydd fel gwin-wydden ffrwythlawn ar hyd ystlysau dy dŷ: a'th blant fel planhigion oliwydd o amgylch dy ford.

Wele, fel hyn yn ddian y bendithir y gŵr a ofno yr Arglwydd.

Yr Arglwydd a'th fendithia o Sion, fel y gwelech Ierusalem mewn llwyddiant holl ddyddiau dy eni­oes.

Ac y gwelech blant dy blant, a thangneddyf ar Is­rael.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, &c.

Megis ydd oedd yn y dechreu, &c.

Neu ynte y psalm yma.

Deus mise­reatur. Psal. 67. DVw a drugarhao wrthym, ac a'n bendithio, a thywynned ei wyneb arnom a thrugar­haed wrthym. Selah.

Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaiar, a'th iechyd­wriaeth ym-mhlith yr holl genhedloedd.

Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl dy di.

Llawenhaed y cenhedloedd a byddant hyfryd, ca­nys ti a ferni y bobl yn vniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaiar. Selah.

Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl dy-di.

Yna yr ddaiar a rydd ei ffrwyth: a Duw sef ein Duw ni, a'n bendithia.

Duw a'n bendithia, a holl derfynau yr ddaiar a'i hofnant ef.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, &c.

Megis ydd oedd yn y dechreu, &c.

Wedi gorphen y Psalm, a'r Mâb a'r Ferch yn gostwng ger bron bwrdd yr Arglwydd, a'r Offeiriad yn sefyll wrth y bwrdd, a chan ymchwelyd ei wyneb attynt hwy, y dywed.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Atteb.

Crist trugarhâ wrthym.

Gwenidog.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.
Ac na thywys ni i brofedigaeth:
Atteb.

Eithr gwaret ni rhag drwg. Amen.

Gwenidog.

Arglwydd cadw dy wasanaeth-wr, a'th wasanaeth­wraig.

Atteb.

Y rhai y sy yn ymddyried ynot.

Gwenidog.

Arglwydd danfon iddynt gymmorth o'th gyssegr-fa.

Atteb.

Ac amddeffyn hwy yn dragywydd.

Gwenidog.

Bydd di iddynt yn dŵr cadernid.

Atteb.

Oddi wrth wyneb eu gelynion.

Gwenidog.

Arglwydd gwrando ein gweddi.

Atteb.

A deued ein llef hyd attat.

Gwenidog.

DVw Abraham, Duw Isaac, Duw Iacof, bendithia dy wasanaeth-ddynion hyn, a haua hâd buchedd dragywyddol yn eu meddyliau, megis pa beth bynnac yn dy air cyssegredic yn fuddiol a ddyscant, iddynt allu cyflawni hynny yng-weith­red. Edrych arnynt Arglwydd, yn drugarog o'r ne­foedd, a bendithia hwynt. Ac fel yr anfonaist dy fen­dith ar Abraham a Sara iw mawr ddiddanwch hwy, felly bid gwiw genit anfon dy fendith ar dy wasanaeth-ddynion hyn, modd y bo iddynt (yn vfy­ddion i'th ewyllys, ac yn bod bob amser dan dy na­wdd) allu aros yn dy serch hyd ddiwedd eu bywyd, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Y weddi hon a faddeuir pan fyddo yr ferch dros oedran planta.

O Drugarog Arglwydd a nefol Dâd, trwy rad­lawn ddawn yr hwn yr amlhâ hiliogaeth dŷn: Attolygwn i ti gymmorth â'th fendith y ddau ddyn [Page] hyn; fel y gallont fod yn ffrwythlon i hilio plant, a hefyd cydfod a byw mewn cariad Duwiol a sybe­rwyd, yni welant blant eu plant, hyd y drydedd ar bedwaredd genhedlaeth i'th foliant a'th anrhy­dedd di, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

DVw, yr hwn drwy alluog nerth a wnaethost bob peth o ddiddim ddefnydd, yr hwn hefyd we­di gosod pethau eraill mewn trefn a ordeiniaist all­an an o ddyn (yr hwn a greawyd ar dy lun, a'th ddelw dy hun) gaffael o wraig ei dechreuad, a chan eu cy­ssylltu hwy yng-hyd yr arwyddoceaist na bydde byth gyfraithlon wahânu y rhai trwy briodas a wnelyt ti yn vn. O Dduw, yr hwn a gyssegraist ystad prio­das i gyfryw ragorawl ddirgeledigaeth, megis ac yr arwyddoceir, ac y coffeir ynddi y Briodas ysprydol, a'r vndeb rhwng Crist a'i Eglwys. Edrych yn dru­garog ar y rhai hyn dy wasanaeth-ddynion, fel y gallo y gŵr hwn garu ei wraig, yn ol dy air (megis y Carodd Crist ei Briawd yr Eglwys, yr hwn a'i rhoes ei hunan drosti, gan ei charu, a'i mawrhau fel ei gnawd ei hunan) a hefyd bod y wraig hon yn gareuaidd, ac yn serchog iw gŵr megis Rachel, yn ddisemyl megis Rebecca, yn ffyddlawn ac yn vfydd megis Sara, ac ym-hob heddwch sobrwydd a than­gneddyf, ei bod yn canlyn cyfryw sanctaidd a duwi­ol fodrabedd. Arglwydd bendithia hwy ill dau a cha­niatâ iddynt etifeddu dy deyrnas dragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yna y dywed yr offeiriad.

HOll gyfoethog Dduw, yr hwn yn y dechreuad a greawdd ein rhieni Adda ac Efa, ac a'u cysse­grodd ac a'u cyssylltodd ynghyd ym-mhriodas: a dy­wallto [Page] arnoch olud ei râd ef, a'ch sanctaiddio, ac a'ch bendithio, modd y galloch ei foddhau ef yng-horph ac enaid, a byw yng-hyd mewn duwiol serch, hyd ddi­wedd eich oes. Amen.

Yna y dechreuir y Cymmun, ac wedi yr Efangel y dywe­dir pregaeth, yn yr hon yn ordenniol (pob gwaith ag y bo priodas) y datcenir swydd gwr a gwraig yn ôl yr scruthyr lân. Neu oni bydd Pregaeth darllened y Gwenidog y traethawd hwn isod.

CHwy-chwi oll y rhai a brioded, neu y sy yn darpar cymeryd glân ystâd priodas arnoch, gwrandewch pa beth a ddywed yr Scrythur lân, o blegit dyled gwŷr iw gwragedd, a gwragedd i'w gwŷr.

Sanct Paul yn ei Epistol at yr Ephesiaid, yn y bummed bennod sydd yn rhoddi y gorchymyn hwn i bob rhyw wr priod, sef yn y geiriau hyn.

Chwy chwi wŷr cerwch eich gwragedd, megis y carodd Crist ei Eglwys, ac y rhoddes ei hun drosti, er ei chyssegru, gan ei glanhau yn y ffynnon ddwfr trwy y gair, fel y galle ei gwneuthud iddo ei hun yn gynnulleidfa ogoneddus heb arni na magl, na chrychni, neu ddim cyfryw: eithr ei bod yn lân ac yn ddiargyoedd. Ac y mae yr gwŷr yn rhwymedic i garu eu gwragedd fel ei cyrph eu hunain. Pwy bynnac a garo ei wraig, a'i câr ei hun: can na chashâodd neb erioed ei gnawd ei hun, eithr ei fagu, a'i faethu megis y gwna yr Arglwydd am y gynnulleidfa: canys ae­lodau ei gorph ef ydym, a'i gnawd a'i escyrn. Oherw­ydd pa achos y gâd dyn dâd a mam, ac y cyssylltir a'i wraig, ac hwy ill dau fyddant vn cnawd. Y dirgel­wch hyn sydd fawr: eithr am Grist ac am ei gynnull­eidfa ydd wyfi yn crybwyll. O herwydd pa ham, ca­red pawb o honoch ei wraig megis ei hunan.

Yr vn ffynyd,Coloss. 4. yr vn rhyw S. Paul (yn scrifennu at y Colossiaid) a ddywed fel hyn wrth bob gŵr gwrei­gioc. Y gwŷr cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt.

Gwrandewch hefyd pa beth a ddywaid Petr Apo­stol Crist (yr hwn hefyd oedd ei hun yn wr gwreigi­og) wrth y gwŷr gwreigiog.1. Pet. 3. Y gwŷr trigwch gyd â'ch gwragedd yn ôl gwybodaeth, gan berchi y wraig megis llestr gwannach, a megis cyd-etifeddion o râd y bywyd, fel na rwystrer eich gweddiau.

Hyd yn hyn y clywsoch am ddyled gŵr tu ag at ei wraig. Yr awr hon yr vn ffunyd y gwragedd gwrandewch eich dylêd chwithau i'ch gwŷr, fel y mae yn eglur wedi ei ddatcan yn yr Scrythur lân.

Sanct Paul (yn yr vn rhyw Epistol at yr Ephesi­aid) a'ch dŷsc fel hyn;Ephes. 5. Y gwragedd byddwch dda­rostyngedic i'ch gwŷr priod fel i'r Arglwydd: canys y gŵr sydd ben ar y wraig, megis y mae Crist yn ben ar yr Eglwys: ac efe yw Iachawdur yr holl gorph.

Eithr megis y mae yr Eglwys, neu yr gynnull­aidfa yn ddarostyngedic i Grist; felly yr vn modd, ymddarostynged y gwragedd iw gwŷr ym-mhob peth. A thrachefn y dywaid efe, Parched y wraig ei gŵr.Coloss. 3. Ac (yn ei Epistol at y Colossiaid) y mae Sanct Paul yn rhoddi i'wch y wers ferr hon; Y gwragedd ymostyngwch i'ch gwŷr priod megis y mae yn we­ddus yn yr Arglwydd.

Sanct Petr y sydd hefyd i'ch discu yn wîr dduwi­ol, gan ddywedyd fel hyn,1. Pet. 3.1. Ymostynged y gwragedd iw gwŷr priod, fel os bydd neb heb vfyddhau i'r gair y galler ei enill heb y gair, drwy ymŵreddiad y gwragedd, wrth iddynt weled eich diwair ymddy­giad yn gyssylltiedic ag ofn. Ac na fid eich trwsiad [Page] oddi allan, megis o blethiadau gwallt, ac amgylch­osodiad aur, neu wiscad dillad gwychion. Eithr by­dded dirgel ddyn y galon mewn anllygredigaeth yspryd addfwyn, a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw yn werth-fawr. Canys felly gynt yr ymdrwssie yr gwragedd sanctaidd, y rhai oeddynt yn gobeithio ar Dduw, yn ddarostyngedic iw gwŷr priod. Megis yr vfyddhaodd Sara i Abraham gan ei alw ef yn ar­glwydd: merched yr hon fyddwch chwi, o wneuthur yn dda, heb arnoch ofn dim dychryn.

Rhaid i'r dynion newydd briodi (y dydd y prioder) gym­meryd y Cymmun.

Y drefn am ymweliad y Clâf.

Yr Offeiriad yn myned i mewn i dy y Clâf a ddywed.

¶Tangneddyf fyddo yn y tŷ hwn, ac i bawb y sydd yn trigo ynddo.

Pan ddêl efe yng-wydd y clâf, y dywaid gan ostwng i lawr ar ei liniau.

NA choffa Arglwydd ein enwiredd, nac enwiredd ein rhiêni, Arbet nyni Arglwydd daionus, arbet dy bobl a brynaist â'th werth-fawr waed, ac na lidia wrthym yn dragywydd.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Crist trugarhâ wrthym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

¶Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd. &c.

Ac na thywys ni i brofedigaeth.

Atteb.

Eithr gwaret ni rhag drwg. Amen.

Gwenidog.

Arglwydd iachâ dy wâs.

Atteb.

Yr hwn sydd yn ymddyried ynot.

Gwenidog.

Anfon iddo borth o'th sancteiddfa.

Atteb.

Ac bŷth yn nerthol amddeffyn ef.

Gwenidog.

Na âd i'r gelyn gael y llaw vchaf arno.

Atteb.

Nac i'r enwir nessâu iw ddrygu.

Gwenidog.

Bydd iddo Arglwydd yn dŵr cadarn.

Atteb.

Rhag wyneb ei elyn.

Gwenidog.

Arglwydd gwrando ein gweddiau.

Atteb.

A dêl ein llef hyd atati

ARglwydd edrych i lawr o'r nefoedd, golyga, ymwel, ac esmwytha ar dy wâs hwn. Edrych arno â golwg dy drugaredd, dyro iddo gwnffordd a diogel ymddyried ynot, amddeffyn ef rhag perigl y gelyn, a chadw ef mewn tangneddyf dragywy­ddol a diogelrwydd, trwy Iesu Grist ein Hargl­wydd. Amen.

ERglyw ni holl-gyfoethog a thrugaroccaf Dduw, ac Iachawdur, estyn dy arferedic ddaioni i hwn dy wasanaeth-wr y sydd ofidus gan ddolur, ymwel ag ef Arglwydd, megis yr ymwelaist â mam gwraig Petr, ac â gwâs y captaen: felly ymwel a dyro i'r clâf hwn ei gynefin iechyd, (od yw dy ewy­llys) [Page] neu ddyro iddo râd i gymmeryd felly dy ymwe­liad, hyd yni fo iddo yn ol diweddu y fuchedd boene­dic hon, allu o honaw drigo gyd â thi yn y fuchedd dragywyddol. Amen.

Yna cynghored y Gwenidog y Claf o'r ffurf hyn, neu yr cyfryw.

YR annwyl garedic, gwybydd hyn, mai yr Holl­alluog Dduw y sydd Arglwydd ar fywyd ac an­geu, ac a'r bob peth a berthyn iddynt, megis ieuenc­tid, nerth, iechyd, oedran, gwendid a haint. Am hyn­ny pa beth bynnac yw dy glefyd, gwybydd yn ddi­ammau mai ymweliad Duw ydyw. Ac am ba ryw achos bynnac ydd anfonwyd y clefyd hwn arnat, ai er prawf ar dy ddioddef er esampl i eraill, ac er caffael dy ffŷdd di yn nŷdd yr Arglwydd yn ganmoledig, yn barchedic, ac yn anrhydeddus er ychwaneg o ogo­niant a didrangc ddedwyddwch, neu ddanfon y cle­fyd hwn i gospi ynot beth bynnac y sydd yn anfodd­hau golwg ein Tâd nefol: Gwybydd yn ddiam­meu, os tydi a fyddi wir edifeiriol am dy bechodau, a chymmeryd dy glefyd yn oddefgar, gan ymddyri­ed yn-nhrugaredd Dduw, er mwyn ei annwyl Fab Iesu Grist, a rhoddi iddo ostyngedic ddiolch am ei da­dol ymweliad, gan i ti ymddarostwng yn hollawl iw ewyllys ef, yr ymchwel i'th fûdd, ac i'th gymmorth rhagot i'r vniawn ffordd, yr hon a dywys i fuchedd dragywyddol.

Os y dyn ymweledic a fydd yn drym-glaf, yna y dichon y Curad orphen y Cyngor yn y fan hon.

Hebr. 12.AM hynny cymmer yn groesawus gospedigaeth yr Arglwydd, Canys y neb a garo yr Arglwydd a [Page] gospa: (Ac fel y dywed Sanct Paul) efe a fflangella bob mab a'r a dderbynio. Ac os goddefwch gospedi­gaeth, y mae Duw yn ymgynnig i chwi megis i fei­bion, canys pa fab fydd na's cospo ei dâd ef? Eithr os heb gospedigaeth yr ydych, o'r hon y mae pawb yn gy­frannog, yna bastardiaid ydych, ac nid meibion o briod. Heb law hynny, cawsom dadau ein cyrph yn gosp-wyr, ac ni a'u parchasom; ond mwy o lawer y mae i ni ymostwng i Dâd yr ysprydau, a chael byw? Canys hwynt-hwy yn wîr tros ychydic ddyddiau a'n cospent ni, fel y bydde yn dda ganddynt; eithr hwn a'n cospa er llesâd i ni, fel y byddem gyfrannogi­on o'i sancteiddrwydd ef. Y geiriau hyn, (garedic frawd) yw geiriau Duw, ac yn scrifennedic yn y Scrythur lân er conffordd, ac addysc i ni, fel y gallom yn oddefgar, ac yn ddiolchgar, ddwyn cospedigaeth ein Tâd o'r Nêf, pa bryd bynnac drwy fodd yn y byd ar wrthwyneb yr ewyllysia ei rad-lawn ddaioni ef ymweled â ni. Ac ni ddyle bod conffordd mwy gan Gristionogion nâ chael eu gwneuthud yn gyffelyb i Grist, gan ddioddef yn vfyddgar wrth wyneb, tra­llod a chlefydau. Canys nid aeth efe ei hun i'r llawe­nydd, nes yn gyntaf iddo ddioddef poen, nid aeth efe i mewn iw ogoniant nes dioddef angeu ar bren crog. felly yn wîr, yr vnion ffordd i ni i'r gorfoledd tragy­wyddol, ydyw cyd-ddioddef yma â Christ; A'n drws i fyned i mewn i fywyd tragywyddol, ydyw marw yn llawen gyd â Christ, fel y gallom gyfodi trachefn o angau, a thrigo gyd âg ef ym-mywyd tra­gywyddol. Yn awr gan hynny, os cymmeri dy glefyd (ac yntef yn gystal â hyn ar dy lês) yn oddefgar, yr yd­wyfi yn eiriol arnat yn Enw Duw, goffâu y broffess a wnaethost i Dduw yn dy fedydd. Ac o herwydd yn ôl y fuchedd hon bod yn ddîr gwneuthur cyfrif i'r barn-wr cyfiawn, gan ba vn y bernir pob dyn, [Page] heb bleidio; Yddwyf yn erchi i ti ymchwilio dy hun, âth gyflwr tu agat Dduw a dyn; hyd pan fo i ti drwy dy gyhuddo a'th farnu dy hunan am dy feiau, allu cael trugaredd ar law ein Tâd or nef er mwyn Crist, ac nid bod yn gyhuddedic, ac yn farnedic yn am­ser y ddigllawn farn ofnedic. Ac am hynny yr a­droddaf ar fyr eiriau fannau ein ffydd, modd y gellych wybod a wyt yn credu fel y dylu Cristion, ai nad wyt.

Yna yr adrodd y Gwenidog fanneu yr ffydd, gan ddy­wedyd fel hyn.

A wyt ti yn credu yn Nuw Dad holl-gyfoethog? &c. Ac felly rhag-llaw fel yn y Bedydd.

Yna yr ymofyn yr Offeiriad neu'r Curad ag ef, beth ydyw efe ai bod mewn cariad perffaith â'r holl fyd a'i peidio? gan eiriol arno faddeu o eigion ei galō i bob dyn a wnaeth yn ei erbyn: ac os efe a wnaeth yn erbyn eraill, gofyn o honaw faddeuaint iddynt. A lle y gwnaeth efe gam neu drawster â neb, gwneuthur o honaw iawn yn orau dim ag a allo. Ac oddi eithr iddaw ym-mlaen-llaw wneuthur ei lywodraeth am ei dda, gwnaed yna ei ewyllys. Ac y mae yn anghenrhaidiol rhybuddio dynion yn fynych am wneuthur trefn ar eu da byd a'u tiroedd tra fyddont mewn iechyd. A hefyd dangos o honaw am ei ddyled pa faint sydd arno, a pha faint sydd o ddylêd iddo, er mwyn rhy­ddhâu ei gydwybod, a heddwch iw esecutorion.

Y geiriau hyn y rhai a ddywetpwyd vchod, ellir eu cymmwyll cyn dechreu o'r Gwenidog ei weddi, megis ag y gwêl efe achos.

Nac anghofied y Gwenidog, ac na faddeued eiriol ar y claf, (a hynny yn gwbl ddifrifol) ar iddo ddangos haeli­oni i'r tlodion.

Yma hefyd y gwnaiff y dyn clwyfus gyffes espesawl, os efe a glyw ei gydwybod mewn cythryfwl gan ddefnydd [Page] o bwys. Yn ôl y gyffes honno, y gollwng yr Offeiriad ef yn y wêdd hon.

EIn Harglwydd Iesu Ghrist, yr hwn a adawodd feddiant iw Eglwys i ollwng pob pechadur, a fyddo gwîr edifeiriol, ac yn credu ynddo ef, o'i fawr drugaredd a faddeuo dy gamweddau: a thrwy ei awdurdod ef a ganiadhauwyd i mi, i'th ollyngaf o'th holl bechodau, yn Enw y Tad, a'r Mâb, ar Yspryd glân. Amen.

Ac yna y dywed yr Offeiriad y Colect yma isod.

¶Gweddiwn.

O Drugaroccaf Dduw, yr hwn yn ôl lliosaw­grwydd dy drugaredd, wyt felly yn deleu pecho­dau y rhai ydynt wîr edifeiriol, fel nad yd wyt iw co­fio mwy: agor lygad dy drugaredd ar dy wasanaeth­wr yma, yr hwn o wir ddifrif y sydd yn dymuno go­llyngdod a maddeuaint. Adnewydda ynddo gare­dicaf Dâd, beth bynnac a lescâwyd trwy ddichell a malis y cythrael, neu drwy ei gnawdol ewyllys ei hun, a'i wendid: cadw di a chynnal yr aelod clwyfus hwn ofewn vndeb dy Eglwys, ystyria wrth ei wîr edifeirwch, derbyn ei ddeigrau, yscafnhâ ei ddolur, modd y gwelech di fod yn orau ar ei lês. Ac yn gym­maint a'i fod efe yn rhoddi cwbl o'i ymddyried yn vnic yn dy drugaredd, na liwia iddo ei bechodau o'r blaen, eithr cymmer ef i'th nodded, trwy ryglyddon dy garedigaf Fab Iesu Grist. Amen.

Yna y dywed y Gwenidog y Psalm hon.

YNot o Arglwydd y gobeithiais:In te Domi­ne sperani. Psal. 71. na'm cywilyddier byth.

Achub fi a gwaret fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glûst attaf a chadw fi.

Bydd i mi yn graig gadarn, i ddyfod iddi bob am­ser: addewaist fy achub, canys ti yw fyng-rhaig a'm hamddeffynfa.

Gwaret fi ô Dduw o law yr annuwiol, o law yr trofaus a'r traws.

Canys ti yw fyng-obaith ô Arglwydd Dduw: sef fyng-obaith o'm ieuengctid.

Wrthit ti i'm cynhaliwyd o'r bru, ti a'm tynnaist o grôth fy mam: fy mawl fydd yn wastad am danat ti.

Oeddwn i lawer megis anghenfil: eithr tydi wyt fyng-hadarn obaith.

Llanwer fyng-enau â'th foliant: dy ogoniant a ddadcanaf beunydd, a'th anrhydedd.

Na fwrw fi ymmaith yn amser henaint: na wr­thod fi pan ddarfyddo fy nerth.

Canys fyng-elynnion ydynt yn chwedleua i'm herbyn, a'r rhai a ddisgwiliasant am fy enaid, a gyd­ymgynghorasant,

Gan ddywedyd, Duw a'i gwrthododd ef, erlidi­wch a deliwch ef, canys nid oes gwaredudd.

O Dduw na fydd bell oddi wrthif: fy Nuw bryssia i'm cymmorth.

Cywilyddier, a difether y rhai a wrth wynebant fy enaid, â gwarth ac â gwradwydd y gorchguddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.

Minne a obeithiaf yn wastad, ac a'th foliannaf di fwy-fwy.

Fyng-enau a fynega dy gyfiawnder a'th iechyd­wriaeth beunydd: canys ni wn rifedi arnynt.

Yng-hadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf: dy gyfiawnder di yn vnic a gofia fi.

O'm hieuengctid i'm dyscaist ô Dduw, am hynny y mynegaf dy ryfeddodau hyd yn hyn.

Na wrthot fi ych waith ô Dduw mewn henaint a phen-llwydni, hyd yni fynegwyf dy nerth i'r genhed­laeth [Page] hon, a'th gadernid i bob vn a ddelo.

Dy gyfiawnder o Dduw a aeth yn vchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy ô Dduw sydd fel tydi?

Yr hwn a wnaethost i mi weled aml a drygionus gystudd, etto dychwelaist a bywhêaist fi: dychwe­laist a chyfodaist fi o orddyfnder y ddaiar.

Amlhei fy mawredd, troi hefyd a chyssuri fi.

Minne a'th foliannaf ô Dduw ar offeryn Nabl am dy wirionedd: canaf it ar Delyn ô Sanct Is­rael.

Fyng-wefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti, a'm henaid yr hwn a waredaist.

Fy nhâfod hefyd a draetha dy gyfiawnder beu­nydd, o herwydd cywilyddio, ac am wradwyddo y rhai a geisient niwed i mi.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân. Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn dragywydd. Amen.

Gan ddywedyd hyn yn ychwaneg.

IAchawdur y byd, iachâ ni, yr hwn drwy dy grog a'th werth-fawr waed a'n prynaist, cymmorth ni, nyni a attolygwn i ti ô Dduw trugarog.

Yna y dywed y Gwenidog.

YR holl-alluog Arglwydd, yr hwn yw y tŵr ca­darnaf i bawb a roddant eu hymddyried ynddo, i ba vn y mae pob peth yn y nef, ar y ddaiar, a than y ddaiar yn gostwng ac yn vfyddhau, a fyddo yr awr hon, a phob amser dy amddeffyn, ac a wnêl i ti wy­bod a deall nad oes vn Enw dan y nef wedi ei roddi i ddynion, ym-mha vn a thrwy ba vn y mae i ti dder­byn iechyd, onid yn vnic Enw ein Harglwydd Ie­su Grist. Amen.

Cymmun y claf.

YN gymmaint a bod pob rhyw ddyn yn ddarostyngedic i lawer o beryglon dysy­fyd, haintiau, a chlefydau, a byth yn an­hyspys pa bryd yr ymadawant o'r fuchedd hon: herwydd pa ham, er mwyn gallu o honynt fod bob amser mewn parodrwydd i farw, pa bryd bynnac y rhyngo bodd i'r Holl-alluog Dduw alw am danynt: Bid i'r Curadiaid yn ddyfal, o amser i amser, ac yn enwedic yn amser plâ, gynghori ei blwyfolion gymmeryd yn fynych yn yr Eglwys fendigedic Cymmun corph a gwaed ein Iachawdur Crist. Yr hyn (os hwyntwy a'i gwnânt) ni bydd achos iddynt yn eu hymweliad dy­symwth, i fod yn anheddychol eu meddwl o ddeffyg hynny. Ond os y claf ni bydd abl i ddyfod i'r Eglwys, ac etto yn dymuno cymmeryd y Cymmun yn ei dy, yna y bydd rhaid iddo fynegu dros nos, ai ynteu y boreu ddydd dranoeth i'r Curat, gan arwyddocau hefyd pa sawl vn y sydd yn darparu cyd-gymmuno ag ef. Ac o bydd lle cy­faddas yn-nhy y clâf, fel y gallo y Curad yn barchedic finistrio, a nifer da i gymmeryd y Cymmun gyd â'r clâf, a phob peth anghenrhaidiol i hynny, ministred efe yno y Cymmun bendigedic.

Y Colect.

HOll-gyfoethog a byth-fywiol Dduw, gwneu­thur-wr dynawl ryw, yr hwn wyt yn cospi y rhai a gerych, ac yn ceryddu pawb ar a dderbynech: Nyni a attolygwn i ti drugarhau wrth dy wâs hwn yma ymweledic gan dy law, ac i ti ganiatâu gym­meryd o honaw ei glefyd yn ddioddefus, a chaffael ei iechyd trachefn (os dy radlawn ewyllys di yw hynny) a pha bryd bynnac yr ymadawo ei enaid â'i gorph, bod o honaw yn ddifagl wrth ei bresentio i ti, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol.

Heb. 12. FY mâb na thremyga gospedigaeth yr Arglwydd, ac na ddigalonna pan i'th gerydder ganddo, canys y neb y mae yr Arglwydd yn ei garu, hwnnw a go­spa, ac efe a ffonnodia bob mab a dderbynio.

Yr Efangel.

YN wîr yn wir meddaf i chwi, Io. 5.24. y neb sydd yn gw­rando fyng-air, ac yn credu i'r hwn a'm honfo­nodd i, a gaiff fywyd tragywyddol, ac ni ddaw i farn, eithr efe a aiff trwodd o farwolaeth i fywyd.

Pan gyfranner y Sacrament bendigedic, cymmered yr Offeiriad yntef y Cymmun yn gyntaf, ac yn ôl hynny, ministried i'r rhai a ddarparwyd Cymmuno gyd â'r claf.

Eithr o bydd neb o ddirdra dolur, neu o herwydd eisieu rhybydd mewn amser dyladwy i'r Curad, neu o eisieu swrn i gymmeryd gyd ag ef, neu oblegit rhyw rwystr cyfiawn arall, heb gymmeryd Sacrament corph a gwaed Crist: yna dangosed y Curad iddo, os efe sydd wîr edifeiriol am ei bechodau, a chredu yn ddiyscoc ddarfod i Iesu Grist ddioddef angeu yr y groes drosto, a cholli ei waed dros ei brynedigaeth ef, gan goffa yn ddifrif y mawr ddaioni y sydd iddo o hynny, a chan ddiolch iddo o'i ga­lon am danaw, y mae efe yn bwyta ac yn yfed corph a gwaed ein Iachawdur Crist yn fuddiol i iechyd ei enaid, er nad yw efe yn derbyn y Sacrament â'i enau.

Pan ymweler â'r clâf, ac ynteu yn cymmeryd y Cym­mun bendigedic yr vn amser: bid yna i'r Offeiriad er mwyn prysuro yn gynt, dorri ymmaith ffurf yr ymweliad lle mae yr Psalm, Ynot Arglwydd y gobeithiais, &c. ac aed yn vnion i'r Cymmun.

Yn amser plâ, clefyd y chwys, neu ar gyfryw amserau heintiau neu-glefydau llyn, pryd na aller cael yr vn o'r plwyf neu yr cymmydogion i gymmuno gyda'r cleifion yn eu tai, rhag ofn cael yr haint: ar espesol ddeisyfiad y clâf, fe all y Gwenidog yn vnic gymmuno gydag ef.

Y drefn am gladdedigaeth y marw.

Yr Offeiriad yn dyfod yn erbyn y corph wrth borth y fonwent, a ddywed: neu yr Offeiriad a'r yscolheigion a ganant, ac felly myned i'r Eglwys, neu tu a'r bedd.

Io. 11.25. MYfi yw yr cyfodiad a'r bywyd (medd yr Arglwydd) y neb a gredo ynof fi er iddo farw fydd byw. A phwy-byn­nac a fywocâ, ac a gredo ynof ni bydd marw yn dragywydd.

Iob 19.25.MYfi a wn mai byw fy-mhryn-wr, ac y cyfodaf o'r ddaiar y dydd diwethaf, ac y'm gwiscir dra­chefn â'm croen, ac y caf weled Duw yn fyng­nhawd. Yr hwn a gaf i fy hun ei weled: a'm llygaid a'i gwelant ef, ac nid neb arall trosof.

1. Timo. 6.7.NI ddugasom ni ddim i'r byd hwn, ac ni allwn chwaith ddwyn dim ymmaith o honaw. Yr Ar­glwydd sy'n rhoddi, a'r Arglwydd sydd yn dwyn ymaith: (megis y byddo da gan yr Arglwydd felly y derfydd i bob peth.) Bendigedic fo enw yr Arglwydd.

Pan ddelont at y bedd, tra fyddo yr corph yn ei baratoi iw ddodi yn y ddaiar, y dywed yr Offeiriad, neu yr Offeiriad a'r yscolheigion a ganant.

Iob 14 1.DYn a aned o wraig sydd a byrr amser iddo i fyw, ac y sydd yn llawn trueni. Y mae ef yn blaguro fel llysieuyn, ac a dorrir i lawr, ac a ddiflanna fel cyscod, ac ni saif. Ynghanol ein bywyd yr ydym me­wn angeu, gan bwy y mae i ni geisio ymwared onid gennit ti Arglwydd yr hwn am ein pechodau wyt yn gyfiawn yn ddigllawn? Er hynny Arglw­ydd Dduw sancteiddiaf, Arglwydd galluocaf, ô sanctaidd a thrugarog Iachawdur, na ollwng ni i ddygyn chwerwaf boenau angau tragywyddol. Ti Arglwydd a adwaenost ddirgelion ein calon­nau, nac ymchwel dy olwg trugarog oddiwrth [Page] ein gweddiau, either arbet ny-ni ô Arglwydd san­cteiddiaf, ô Dduw galluocaf, ô sanctaidd a thruga­rog Iachawdur, Tydi deilyngaf farn-wr tragywy­ddol, na âd ni yn yr awr ddiwethaf er neb rhyw boenau angeu, i syrthio oddi-wrthit.

Yna tra fydder yn bwrw pridd ar y corph gan y sawl a fo yn sefyll yno, yr Offeiriad a ddywed.

YN gymmaint a rhyngu bodd i'r Goruchaf Dduw o'i fawr drugaredd gymmeryd atto ei hun enaid ein hannwyl frawd yma a ymadawodd o'r bŷd, gan hynny ydd ŷm ni yn rhoddi ei gorph ef i'r ddaiar, sef daiar i'r ddaiar, lludw i'r lludw, pridd i'r pridd, mewn gwîr ddiogel obaith o gyfodiad i fuchedd dragywyddol, trwy ein Harglwydd Iesu Grist,Phil. 3. yr hwn a newidia ein corph gwael, fel y byddo yn gyffelyb iw gorph gogoneddus ef, o herwydd y gallu­og weithrediad, trwy yr hwn y dichon efe ddarost­wng pob dim iddo ei hun.

Yna y dywedir, neu y cenir.

MI a glywais lais or nef yn dywedyd wrthif,Gwel. 14.13. scrifenna, o hyn allan gwynfydedig yw y mei­rw, y rhai sy yn marw yn yr Arglwydd, felly y dy­wed yr Yspryd, canys y maent yn gorphywyso oddi wrth eu poen gynt.

Yn ôl hynny y canlyn y llith hon, wedi ei chymmeryd allan o'r pymthecfed bennod o'r Epistol cyntaf at y Corinthiaid.

CRist a gyfodwyd oddiwrth y meirw,1. Cor. 15.20. ac a wnaed yn flaen-ffrwyth y rhai a hunnasant. Oherw­ydd gan fod marwolaeth trwy ddŷn, trwy ddŷn he­fyd y mae adgyfodiad y meirw. Oblegit, megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly yng-Hrist y byw­heuir pawb, eithr pob vn yn ei drefn ei hunan: y blaen-ffrwyth yw Crist, wedi hynny y rhai ydynt [Page] eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef. Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a'r Tâd, wedi iddo ddeleu pob pendefigaeth, a phob awdurdod, a nerth. Canys rhaid yw iddo deyrnasu, oni ostyngo ei elynion oll tann ei draed. Y gelyn diweddaf a ddi­nistrir fydd angeu. Canys efe a ddarostyngodd bob dim tan ei draed ef, eithr pan yw yn dywedyd ddar­fod gostwng pob beth iddo ef, mae yn amlwg, ei fod efe wedi ei ddieithro yr hwn a ddarostyngodd bob peth tano. Ac wedi darostwng pob dim iddo, yna y Mab ei hun hefyd a ddarostyngir i'r hwn a ddarost­yngodd bob dim tano ef, fel y byddo Duw Oll yn Oll. Os amgen, beth a wna y rhai a fedyddir tros y meirw, os y meirw ni chyfodir? a pha ham y bedyddir hwy tros y meirw, a pha ham i'n peryglir bob awr? Yr wyfi yn marw beunydd, gan eich gorfoledd yr hon sydd gennif yng-Hrist Iesu ein Harglwydd-Os yn ol dull dŷn yr ymleddais ag anifeiliaid yn Ephesus, pa leshâd sydd i mi oni chyfodir y meirw? bwytawn ac yfwn, canys yforu ni a fyddwn feirw: Na thwyller chwi, ymadroddion drwg a lygrant foesau da. De­ffroiwch yn gyfiawn, ac na phechwch, canys y mae rhai ni adwaenant Dduw: er cywilydd iwch y dy­wedaf hyn. Eithr rhyw vn a ddywed, pa fodd y cyfo­dir y meirw? â pha ryw gorph y deuant? O ynfyd y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywheuir oni bydd efe marw. A'r peth yr wyt ti yn ei hau, nid wyt ti yn hau y corph a fydd, eithr gronyn noeth, fel y digwy­ddo, o wenith, neu o ryw rawn eraill. Eithr Duw a ryddiddo gorph, fel y bu dda ganddo ef, ac i bob hedyn ei gorph ei hun. Nid yw pob cnawd vn rhyw gnawd, eithr vn cnawd sydd i ddynion, a chnawd arall i anifeiliaid, ac arall i byscod, ac arall i adar. Y mae hefyd gyrph nefol, a chyrph daiarol, ond arall yw gogoniant y rhai nefol, ac arall y rhai daiarol. Arall yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant [Page] y lloer, ac arall yw gogoniant y sêr, canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant. Felly hefyd y mae adgyfodiad y meirw: Y corph a hauir mewn llwgredigaeth, ac a gyfodir mewn anllwgre­gaeth. Efe a hauir mewn ammarch, ac a gyfodir me­wn gogoniant: efe a hauir mewn gwendid ac a gyfo­dir mewn nerth: efe a hauir yn gorph anianol, ac a gyfodir yn gorph ysprydol. Y mae corph anianol, ac y mae corph ysprydol. Felly hefyd mae yn scrifennedic, y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid byw, a'r Adda diwethaf yn yspryd yn bywhau. Er hynny, nid yr y­sprydol sydd yn gyntaf, eithr yr anianol, ac wedi hyn­ny yr ysprydol. Y dŷn cyntaf o'r ddaiar yn ddaiarol, yr ail dŷn yr Arglwydd o'r nef. Fel y mae y daiarol, felly y mae y rhai daiarol, ac fel y mae y nefol, felly y mae y rhai nefol hefyd. A megis y dugasom ddelw y daiarol, felly y dygwn ddelw y nefol. Eithr hyn meddaf (ô frodyr) na ddichon cîg a gwaed etifeddu teyrnas Dduw, na llwgredigaeth etifeddu anllwgredigaeth. Wele yr wyfi yn dangos i chwi ddirgelwch, ni hûn­wn ni oll, eithr mewn moment y newidir ni oll ar darawiad llygad, wrth yr vdcorn diwethaf. Canys yr vdcorn a gân, a'r meirw a gyfodir yn anllwgredic, a ninnau a newidir. o herwydd rhaid i'r llygrâdwy hwn wisco anllwgredigaeth, a'r marwol hwn wisco anfarwolaeth. Ac wedi i'r llwgradwy hwn wisco anllygredigaeth, a'r marwol hwn wisco anfarwo­laeth, yna y bydd yr ymadrodd yr hwn a scrifennw­yd, Angeu a lyngcwyd mewn buddugoliaeth. ô ang­eu, pale y mae dy golyn? ô vffern pale y mae dy fuddy­goliaeth? Colyn angeu yw pechod, a grym pechod yw yr gyfraith. Ond i Dduw y byddo yr diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddygoliaeth trwy ein Harglw­ydd Iesu Grist. Am hynny fy annwyl frodyr bydd­wch siccr, ddisigl, ac helaethion yn oestadol yng-wa­ith yr Arglwydd, gan wybod nad yw ofer eich llafur yn yr Arglwydd.

Wedi darfod y llith y dywed yr Offeiriad.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Crist trugarhâ wrthym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

Ac na thywys ni ym-mhrofedigaeth.

Atteb.

Eithr gwaret ni rhag drwg. Amen.

Yr Offeiriad.

HOll-gyfoethog Dduw, gyd â'r hwn y mae yn byw ysprydoedd y rhai a ymadawsant oddi yma yn yr Arglwydd, ac yn yr hwn y mae eneidiau y rhai detholedic wedi darfod eu rhyddhau oddiwrth faich y cnawd, mewn llawenydd a dedwyddyd: yr ydym yn mawr ddiolch i ti, fod yn wiw gennit waredu hwn N. ein brawd allan o drueni y byd pechadurus hwn, gan attolygu i ti ryngu bodd it o'th radlawn ddaioni, gyflawni ar fyrder nifer dy etholedigion, a phrysuro dy deyrnas, modd y gallom ni gŷd â'n brawd hwn, ac eraill a ymadawsant â'r byd mewn gwîr ffydd dy Enw bendigedic, gaffael i ni ddiwedd perffaith a gwynfyd, yng-horph ac enaid yn dy ogoniant tragywyddol. Amen.

Y Colect.

O Drugarog Dduw, Tâd ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yw y cyfodiad a'r bywyd, ym-mha vn pwy bynnac a greto, a fydd byw er iddo farw. A phwy bynnac a fo byw ac a greto ynddo ef, ni bydd marw byth, yr hwn hefyd a'n dyscodd (trwy ei A­postol S. Paul) na thristaem fel rhai heb obaith, dros y rhai a hunant ynddo ef: Nyni yn ostynge­dic a attolygwn i ti oruchaf Dâd ein cyfodi o an­geu pechod i fuchedd cyfiawnder, hyd pan fo i ni wrth ymado â'r fuchedd hon, allu gorphywys yn­ddo, megis y mae ein gobaith fod ein brawd hwn: [Page] Ac ar y cyfodiad cyffredin y dydd diwethaf, allu ein caffael yn gymmeradwy yn dy olwg, a derbyn y fendith yr hon a ddatcan dy garedic Fâb yr amser hynny i bawb a'r a'th ofnant, ac a'th garant gan ddywedyd: Deuwch chwi fendigedig blant fy-Nhâd, meddiannwch y deyrnas a baratoiwyd i chwi er pan seiliwyd y byd. Caniadhâ hyn ni a at­tolygwn i ti drugarocaf Dâd trwy Iesu Grist ein Cyfryngwr a'n Pryniawdur. Amen.

Diolwch gwragedd yn ol escor plant, yr hwn a elwir yn gy­ffredin Rhyddhâu, neu Eglwysa.

Y wraig a ddaw i'r Eglwys, ac yno y gostwng ar ei gliniau yn rhyw le cyfaddas, yn gyfagos i'r lle y byddo yr bwrdd yn sefyll: a'r Offeiriad yn ei sefyll yn ei hymyl a ddywed y geiriau hyn, neu yr cyfryw, fel y bo y def­nydd yn erchi.

YN gymmaint a rhyngu bodd i'r goruchaf Dduw o'i ddaioni roddi i ti ryddhâd ymwa­redol, a'th gadw yn y maŵr berigl wrth es­cor: ti a ddiolchi yn ewyllyscar i Dduw ac a weddîi.

Yna y dywed yr Offeiriad y psalm hon.

DErchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd,Psal. 121. o'r lle y daw fyng-hymmorth i.

Fyng-hymmorth a ddaw oddiwrth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar.

Ni âd efe i'th droed lithro, ac ni huna dy geidwad.

Wele ni hûna ac ni chŵsc Ceidwad Israel.

Yr Arglwydd yw dy geidwad, yr Arglwydd yw dy gyscod ar dy ddeheu-law.

Ni'th dery yr haul y dydd, n'ar lleuad y nos.

Yr Arglwydd a'th geidw rhag pob drwg, efe a geidw dy enaid.

Yr Arglwydd a geidw dy fynediad, a'th ddyfodi­ad o'r pryd hyn, hyd yn dragywydd.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis ydd oedd yn y dechreu &c.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Crist trugarhâ wrthym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

¶Ein Tâd yr hwn wyt yn nefoedd &c.

Ac na thywys ni i brofedigaeth.

Atteb.

Eithr gwaret ni rhag drwg.

Offeiriad.

Arglwydd cadw dy wasanaeth-wraig hon.

Atteb.

Yr hon y sydd yn ymddyried ynot.

Offeiriad.

Bydd iddi yn dŵr cadarn.

Atteb.

Rhag wyneb ei gelyn.

Offeiriad.

Arglwydd, erglyw ein gweddiau.

Atteb.

A deued ein llef hyd attat.

Offeiriad.

¶Gweddiwn.

HOll-alluog Dduw, yr hwn a waredaist dy wa­sanaeth-wraig hon oddi wrth y mawr boen a'r perigl ar anedigaeth dŷn bach: Caniadhâ attolwg i ti drugarocaf Dâd allu o honi drwy dy ganhor­thwy [Page] di, fyw a rhodio yn ffyddlawn yn ei galwedi­gaeth yn ôl dy ewyllys yn y fuchedd bresennol hon: A hefyd bod yn gyfrannog o'r gogoniant tragywy­ddol y fuchedd a ddaw, trwy Iesu Grist ein Har­glwydd. Amen.

Rhaid i'r wraig a ddêl i dalu diolch, offrymmu offrym­mau defodawl: ac o bydd Cymmun, iawn yw iddi gymmeryd y Cymmun bendigedic.

Comminasion neu fygwth yn erbyn pechaduriaid: a rhyw we­ddiau i'w harfer ar amrafael amserau yn y flwyddyn.

Yn ôl y foreuol weddi y bobl wedi eu galw yng-hyd, trwy ganiad clôch, ac wedi eu hymgynnull i'r Eglwys, y dywedir y Letani Camber-aeg yn ôl y môdd arfe­redig: gwedi darfod hynny âed yr offeiriad i'r Pulpyt, a dyweded fel hyn.

Y Brodyr yn y brif Eglwys gynt, yr oedd discyblaeth Dduwiol, Nid amgen yn nechreu yr Grawys, rhoi cyfryw ddy­nion oeddent bechaduriaid cyhoedd i benyd cyhoedd, a'u poeni yn y byd y­ma, modd y bydde eu heneidiau gadwedic yn nydd yr Arglwydd: a megis y galle eraill, wedi eu rhyby­ddio drwy eu esampl hwy, fod yn ofnusach i wneu­thur ar gam. Yn lle yr hyn, hyd pan adnewydder y ddywededic ddiscyblaeth (yr hyn a ddylid ei ddy­muno yn fawr) fe dybiwyd fod yn dda yr amser hyn, yn eich gwydd chwi, ddarlen y sentensiau cyffredin o felldithion Duw yn erbyn pechaduriaid anedifei­riol, y rhai a gasclwyd allan o'r seithfed bennod ar hugain o Deuteronomium, a lleoedd eraill o'r [Page] Scrythur lân: A bod i chwi atteb i bob sentens, Amen. Er mwyn, gwedi darfod felly eich rhybu­ddio am fawr ddigllonder Duw yn erbyn pechadu­riaid, gallu eich gwahodd yn gynt i ddifrif, a gwîr edifeirwch, a bod i chwi rodio yn ddiysceulusach y dyddiau enbydus hyn, gan gilio oddi-wrth gyfryw feiau, am y rhai yr ydych chwi yn sicrhau â'ch gene­uau eich hunain bod melldith Dduw yn ddyledus.

Melldigedic yw yr neb a wnêl ddelw gerfiedic, neu doddedic, yn ffieidd-beth i'r Arglwydd, gwaith dwylaw y crefft-wr, ac a'i gosodo mewn lle dirgel iw haddoli.

A'r holl bobl a attebant, ac a ddywedant.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedig yw yr hwn a felldithio ei dâd neu ei fam.

Atteb.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedic yw yr hwn a symmudo derfyn tir ei gymmydog.

Ateb.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedic yw yr hwn a ddycco y dall allā o'i ffordd.

Ateb.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedic yw yr hwn a ŵyro farn y dieithr, yr ym­ddifad, a'r weddw.

Atteb.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedic yw yr neb a darawo ei gymmydog yn ddirgel.

Atteb.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedic yw yr hwn a orweddo gyd â gwraig ei gymmydog.

Atteb.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedic yw yr hwn a gymmero wobr er die­neidio perchen gwaed gwirion.

Ateb.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedic yw yr hwn a roddo ei ymddyried mewn dŷn, ac a gymmero ddyn yn ei amddeffyn, ac yn ei galon yn cilio oddi wrth yr Arglwydd.

Ateb.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedic yw yr anhrugarog, y godinebus, a'r rhai a dorrant briodas, a'r cybyddion, addol-wŷr de­lwau, enllib-wŷr, meddwon, a'r bribwyr.

Atteb.

Amen.

Gwenidog.

YN-awr, yn gymmaint a'u bod hwy oll yn escym­mun (fel y tystia Dafydd Brophwyd) y rhai y sy yn cyfeiliorni, ac yn myned ar ddidro oddiwrth or­chymmynnion Duw: moeswch (Gan feddylio am y farn ofnadwy y sydd goruwch ein pennau, ac fyth ger ein llaw) i ni ymchwelyd at ein Harglwydd Dduw â chwbl gystudd, a gostyngeiddrwydd calon, gan ddwyn galar a thrymder dros ein buchedd bechadurus, gan gydnabod a chyffessu ein camwe­ddau, a cheisio dwyn ffrwythau teilwng i edifei­rwch. [Page] Canys yn awr y gossodwyd y fwyall ar wreiddyn y pren, fel y cymmynir i lawr ac y bwrir i'r tân bob pren ni ddycco ffrwyth da. Peth of­nus yw syrthio yn nwy-law Duw byw. Efe a dy­wallt law ar y pechaduriaid, maglau, tân, abrum­stan, storm a themesll, hyn fydd eu rhan hwy iw y­fed. Canys wele yr Arglwydd wedi dyfod allan o'i le, i ymweled ag anwiredd y rhai sy yn trigo ar y ddaiar. Eithr pwy a ddichon aros dydd ei ddyfodiad ef? pwy a ddichon barhau pan ymddangoso efe? Ei wyntill y sydd yn ei law, ac efe a gartha ei lawr, ac a gascla ei wenith iw yscubor, ond efe a lysc yr ûs â thân anniffoddedic. Dydd yr Arglwydd a ddaw fel lleidr o hyd nôs, a phan ddywedant, Tangneddyf, ac y mae pob peth yn ddiogel, yna y daw destruw dysy­fyd arnynt, fel y daw gofid gwraig feichiog wrth es­cor, ac ni ddiangant. Yna yr ymddengys cynddaredd Duw yn y dydd dial, yr hwn a ddarfu i'r pechaduri­aid anhydyn ei bentyrru ar eu gwarthaf trwy gyn­dynrwydd eu calonnau, y rhai a ddirmygent ddai­oni, ammynedd, a hîr ymaros Duw, pan ydoedd efe yn eu galw hwy yn wastad i edifeirwch. Yna y galwant arnaf, medd yr Arglwydd, ac ni wranda­waf, hwy a'm ceisiant yn foreu, ac ni'm caffant, a hynny o herwydd iddynt gashâu gwybodaeth, ac na dderbynient ofn yr Arglwydd, onid cashâu fyng­hyngor, a diystyru fyng-hospedigaeth.

Yno y bydd rhy-hwyr curo, wedi cau y drws, a rhy-hwyr galw am drugaredd, pan yw amser cy­fiawnder. Och morr aruthrol llef y farn gyfiawnaf, yr hon a gymhwyllir arnynt hwy pan ddywedir wrthynt: Ewch y rhai melldigedic i'r tân tragy­wyddol yr hwn a ddarparwyd i ddiafol a'i angelion.

Am hynny frodyr, ymochelwn yn amser, tra parhao dydd yr iechyd, Canys y mae yr nôs yn [Page] dyfod, pryd na allo neb weithio: felly tra fyddo i ni oleuni credwn yn y goleuni, a rhodiwn fel plant y goleuni, rhag ein bwrw i'r tywyllwg ei­thaf, lle y mae wylofain ac yscyrnygu dannedd.Mat. 25. Na ddrwg-arferwn ddaioni Duw, yr hwn sydd yn ein galw yn drugarog i emendio, ac o'i ddidrangc dosturi, yn addo i ni faddeuaint am a aeth heibio, os nyni (â chwbl feddwl, ac â chalon gywir) a ddymchwelwn atto ef.Esa. 1. Canys er bod ein pecho­dau cyn goched â'r yscarlat, hwy fyddant mor gan­naid â'r eira: a chyd byddant fel y prophor, etto hwy fyddant cyn wynned â'r gwlân.

Ymchwelwch yn lân medd yr Arglwydd oddi wrth eich holl anwiredd, ac ni bydd eich pecho­dau dau yn ddestruw i chwi.

Bwriwch ymmaith oddi-wrthych eich holl an­nuwioldeb a wnaethoch, gwnewch i chwi galon­nau newyddion, ac yspryd newydd. Pa ham y by­ddwch feirw, Chwy-chwi tŷ yr Israel? can na'm boddheuir ym-morwolaeth yr vn a fo marw, medd yr Arglwydd Dduw? Ymchwelwch chwithau a byw fyddwch.

Er darfod i ni bechu, y mae i ni ddadleuwr gyd â'r Tâd, Iesu Grist y Cyfion, ac efe a haeddodd i ni drugaredd dros ein pechodau.

Canys efe a archollwyd dros ein camweddau, ac a darawyd am ein hanwiredd. Ymchwelwn am hynny atto ef, yr hwn yw yr trugarog dder­byniwr holl wîr edifeiriol bechaduriaid, gan gw­bl gredu ei fod efe yn barod i'n derbyn, ac yn o­rau ei ewyllys i faddeu i ni, od awn atto mewn ffyddlawn edifeirwch, os nyni a ymostyngwn i­ddo, ac o hyn allan rhodio yn ei ffyrdd ef: os nyni a dderbyniwn ei iau esmwyth ef, a'i faich yscafn arnom, iw ganlyn ef mewn gostyngeiddrwydd, [Page] dioddefaint, a pherffaith gariad, a bod o honom yn drefnedig wrth lywodraeth ei Yspryd glân ef, gan geisio yn wastad ei ogoniant, a'i wasanaethu yn ddyladwy yn ein galwedigaeth gan ddiolch iddo. Os hyn a wnawn, Crist a'n gwareda oddi-wrth felldith y gyfraith, ac oddi-wrth y felldith eithaf a ddescyn ar y sawl a fyddāt ar y llaw asswy, ac efe a'n gesid ni ar ei ddeheu-law, ac a ddyru i ni wynfy­dedig fendith ei Dâd, gan orchymyn i ni gymme­ryd meddiant yn ei ogoneddus deyrnas, i'r hon po­ed teilwng fo ganddo ein dwyn ni eu gyd oll, er ei anfeidrol drugaredd. Amen.

Yna y gostyngant bawb ar eu gliniau, a'r Offeiriaid a'r yscolheigion ar eu gliniau (yn y fan lle maent arfere­dic o ddywedyd y Letani) a ddywedant y Psalm hon.

Psal. 51. Miserere mei Deus. TRugarhâ wrthif ô Dduw yn ôl dy drugarogrw­ydd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau delêa fy an­wireddau.

Golch fi yn llwyr-ddwys oddi wrth fy anwiredd: a glanhâ fi oddi-wrth fy mhechod.

Canys adwen fyng-hamweddau, a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron.

Yn dy erbyn di dy hunan y pechais, ac y gwneu­thum yr hyn oedd ddrwg yn dy olwg di: fel i'th gyfi­awnhaer pan leferech, ac y byddit bur pan farnech.

Wele mewn anwiredd i'm lluniwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.

Wele ceraist wirionedd oddi mewn, a pheri i mi wybod doethineb yn ddirgel.

Glanhâ fi ag Yssop, a mi a lanheuir: golch fi, a by­ddaf wynnach nâ'r eira.

Par di i mi glywed gorfoledd a llawenydd, fel y llawenycho yr escyrn a ddrylliaist ti.

Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau: a de­lea fy holl anwireddau.

Crea galon lân ynof ô Dduw: ac adnewydda Yspryd iniawn o'm mewn.

Na fwrw fi ymmaith oddi ger dy fron: ac na chymmer dy Yspryd sanctaidd oddi-withif.

Dwg trachefn i mi orfoledd dy iechydwriaeth: ac â'th hael Yspryd cynnal fi.

Dyscaf dy ffyrdd i rai anwir: a phechaduriaid a droant attat.

Gwaret fi oddi-wrth waed ô Dduw, sef Duw fy iechydwriaeth: a'm tafod a gân o'th gyfiawnder.

Arglwydd agor fyng-wefusau, a'm genau a fyne­ga dy foliant.

Canys ni chwennychi aberth, pe amgen mi a'i rhoddwn: a phoeth offrwm ni fynni.

Aberthau Duw ydynt yspryd drylliedic: calon ddryllioc gystuddiedic, ô Dduw ni ddirmygi.

Bydd dda wrth Sion o herwydd dy ewyllysga­rwch: adailada furau Ierusalem.

Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, sef poeth offrwm, ac aberth llôsc: yna yr offrymmant fustych ar dy allor.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis ydd oedd yn y dechreu &c.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Crist trugarhâ wrthym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

¶Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd &c.

Ac na thywys ni ym-mhrofedigaeth.

Atteb.

Eithr gwaret ni rhag drwg.

Gwenidog.

Arglwydd cadw dy wasanaeth-ddynion.

Atteb.

Y rhai a ymddyriedant ynot.

Gwenidog.

Anfon iddynt borth oddi-vchod.

Atteb.

A byth amddeffyn hwy yn gadarn.

Gwenidog.

Cymmorth nyni Dduw ein Iachawdur.

Atteb.

Ac er mwyn gogoniant dy Enw gwaret ni: Bydd drugarog wrthym bechaduriaid er mwyn dy Enw.

Gwenidog.

Arglwydd, gwrando ein gweddiau.

Atteb.

A deued ein llef hyd attat.

Gweddiwn.

ARglwydd ni a attolygwn i ti yn drugarog, gw­rando ein gweddiau, ac arbet bawb a gyffessant eu pechodau wrthit, hyd pan fo i'r rhai a gyhuddir eu cydwybodau gan bechod, trwy dy drugarog fa­ddeuaint fod yn ollyngedic, trwy Grist ein Har­glwydd. Amen.

O Alluocaf Dduw, a thrugarocaf Dâd, yr hwn wyt yn tosturio wrth bob dŷn, ac nid wyt yn casâu dim a wnaethost, yr hwn nid ewyllysi farwo­laeth pechadur, onid byw o honaw ac ymchwelyd oddi-wrth bechod, a bod yn gadwedic: yn drugaroc maddeu ein camweddau, derbyn a chonfforddia ni, y rhai ydym yn flîn, ac yn orthrwm gennym faich ein pechodau. Ti biau o briodolder drugarhau, i ti yn vnic y perthyn faddeu pechodau: Arbet nyni am hynny Arglwydd daionus, Arbet dy bobl y rhai a brynaist. Na ddwg dy weision i'r farn, y rhai ŷnt bridd gwael, a phechaduriaid truein: Eithr ym­chwel felly dy lid oddiwrthym, y rhai ŷm yn ostynge­dic [Page] yn cydnabod ein gwaeledd, ac yn wîr edifeiriol gennym ein beiau: felly bryssia i'n cynhorthwyo yn y byd hwn, hyd pan allom byth fyw gyd â thi yn y byd a ddaw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yna y dywed y bobl hyn-yma y sydd yn canlyn, ar ôl y Gwenidog.

YMchwel di ni Arglwydd daionus, ac yna ydd ymchwelir ni, ystyria Arglwydd, ystyria wrth dy bobl, y rhai ydynt yn ymchwelyd attat trwy wylo­fain, ymprydio, a gweddio, canys Duw trugarog ydwyt, yn llawn tosturi, yn dda dy amynedd, ac yn fawr dy warder, yr wyt yn arbed pan ŷm yn haeddu poenau, ac yn dy lid ydd wyt yn meddwl am druga­redd. Arbet dy bobl Arglwydd daionus, arbet hwy, ac na ddycer dy etifeddiaeth i wra­dwydd: clyw nyni Arglwydd, ca­nys mawr yw dy drugaredd, ac yn ôl lliaws dy drugare­ddau edrych arnom.

DIWEDD.

❧Psalmau Dafydd o'r vn cy­fieithiad a'r Beibl cyffredin.

IACO. 5.13.

A oes neb yn esmwyth arno? caned Psalmau.

ANNO. 1599.

Psalmau Dafydd.

Beatus vir qui non abijt. Psal. j.

GWyn ei fyd y gwr ni rodiodd yng-hyngor yr annuwolion,Boreuol weddi. ac ni safodd yn ffordd pechaduriaid, ac nid eisteddodd yn eistedd­fa gwatwar-wyr:

2 Onid bod ei e­wyllys ef yng-hyfra­ith yr Arglwydd: a mefyrio o honaw yn ei gyfraith ef ddydd a nôs.

3 Canys efe a fydd fel prenn wedi ei blannu ar lann dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei brŷd: a'i ddalen ni ŵywa, a pha beth bynnac a wnêl, efe a lwydda.

4 Nid felly [y bydd] yr annuwiol, onid fel mân vs yr hwn a chwâl y gwynt ymmaith [oddi ar wy­neb y ddaiar.]

5 Am hynny yr annuwolion ni safant yn y farn, na'r pechaduriaid yng-hynnulleidfa y rhai cyfi­awn.

6 Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cy­fiawn, a ffordd yr annuwolion a ddifethir.

Quare fremuerunt. Psal. ij.

PA ham y terfysca y cenhedloedd? ac y bwriâda y bobloedd yn ofer?

2 Y mae brenhinoedd y ddaiar yn codi i fynu, a'r pennaethiaid yn ymgynghori yng-hyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef.

3 Drylliwn eu rhwymau hwy: a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym.

4 Yr hwn sydd yn presswylio yn y nefoedd a chwardd: yr Arglwydd a'u gwatwar hwynt.

5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lîd, ac yn ei ddigllonrwydd y dychryna efe hwynt.

6 Minne a osodais fy Mrenin ar Sion fy my­nydd sanctaidd.

7 Mynegaf y ddeddf yr hon a ddywedodd yr Ar­glwydd wrthif: fy Mâb ydwyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais.

8 Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn eti­feddiaeth i ti: a therfynau y ddaiar i'th feddiant.

9 Briwi hwynt â gwialen haiarn, maluri hw­ynt fel llestr pridd.

10 Gan hynny 'r awr hon ô frenhinoedd bydd­wch synhwyrol, barn-wŷr y ddaiar cymmerwch ddysc.

11 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn: ac ymlawenhewch mewn dychryn.

12 Cussênwch y Mâb rhag iddo ddigio, a'ch di­fetha chwi o'r ffordd, pan gynneuo ei lîd ef ddim: gwyn eu byd pawb a ymddyriedant ynddo ef.

Domine quid multiplicati sunt. Psal. iij.

ARglwydd mor aml yw fy nhrallodd-wŷr! lla­wer sy yn codi i'm herbyn.

2 Llawer sy yn dywedyd am fy enaid, nid oes ie­chydwriaeth iddo yn ei Dduw. Selah.

3 Tithe Arglwydd ydwyt darian i mi: fyng-ogo­niant, a derchafudd fy mhenn.

4 A'm llef y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a'm clybu o'i fynydd sanctaidd. Selah.

5 Mi a orweddais, ac a gyscais, ac a ddeffroais: canys yr Arglwydd a'm cynhaliodd.

6 Nid ofnaf fyrddiwn o bobl: y rhai o amgylch a ymosodâsant i'm herbyn.

7 Cyfot Arglwydd, achub fi fy Nuw, canys tare­waist fy holl elynnion ar garr yr ên: torraist ddan­nedd yr annuwolion.

8 Iechydwriaeth sydd eiddo 'r Arglwydd: dy fen­dith sydd ar dy bobl. Selah.

Cum inuocarem. Psal. iiij.

GWrando fi pan alwyf ô Dduw fyng-hyfiawnder, mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf: trugarhâ wrthif, ac erglyw fyng-weddi.

2 O feibion dynion pa hŷd y troiwch fyng-ogo­niant yn warth? yr hoffwch wêgi, ac yr argeisiwch gelwydd? Selah.

3 Gwybyddwch hefyd i'r Arglwydd ethol y du­wiol iddo ei hun: yr Arglwydd a wrendu pan alwyf arno.

4 Ofnwch, ac na phechwch, meddyliwch yn eich calon ar eich gwely, a thewch. Selah.

5 Aberthwch ebyrth cyfiawnder, a gobeithiwch yn yr Arglwydd.

6 Llaweroedd sy yn dywedyd, pwy a ddengys i ni ddaioni? Arglwydd dercha arnom lewyrch dy wyneb.

7 Rhoddaist lawenydd yn fyng-halon, er pan yr [Page] amlhâodd eu hŷd, a'u gwin a'u holew hwynt.

8 Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hu­naf: canys ti Arglwydd yn vnic a'm cyfleaist mewn diogelwch.

Verba mea auribus percipe. Psal. v.

GWrando fyng-eiriau Arglwydd: deall fy my­fyrdod.

2 Erglyw ar lêf fyng-waedd, fy Mrenin, a'm Duw: canys arnat y gweddiaf.

3 Yn foreu Arglwydd y clywi fy llêf: yn foreu y cyfeiriaf attat, ac y disgwiliaf.

4 O herwydd nad wyt ti Dduw yn ewyllysio anwiredd: y drwg ni thrig gyd â thi.

5 Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithred-wŷr anwiredd.

6 Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd, a'r twyllo­drus.

7 A minne a ddeuaf i'th dŷ di yn amlder dy dru­garedd: ac a addolaf tu a'th Deml sanctaidd yn dy ofn di.

8 Arglwydd arwain fi yn dy gyfiawnder o a­chos fyng-elynnion: a gwastadhâ dy ffordd o'm blaen.

9 Canys nid oes iniondeb yn eu genau, eu ceu­dod sydd lwgredigaeth, bedd agored yw eu gwddf hwynt, gweniaithant â'u tafod.

10 Destruwia hwynt ô Dduw, syrthiant oddi wrth eu cynghorion, gyrr ymmaith hwynt yn aml­der eu camweddau: canys gwrthryfelâsant i'th er­byn di.

11 A llawenhaed y rhai oll a ymddyriedant ynot, yn dragy wydd y canmolant, am i ti orchguddio [Page] trostynt hwy: a'r rhai a gârant dy enw a orfoleddant ynot.

12 Canys ti Arglwydd a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis tarian y corôni di ef.

Domine ne in furore. Psal. vj.

ARglwydd na cherydda fi yn dy li­diawgrwydd,Pryd­nhawnol weddi. ac na chospa fi yn dy lîd.

2 Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys llesc ydwyfi: iachâ fi ô Argl­wydd, canys fy escyrn a gystuddi­wyd.

3 A'm henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithe Arglwydd pa hyd i'm cystuddi?

4 Dychwel Arglwydd, gwaret fy enaid: iachâ fi er mwyn dy drugaredd.

5 Canys yn angeu nid oes goffa am danat: yn y bêdd pwy a'th fawl?

6 Deffygiais gan fy ochain, pob nos yr yd wyf yn gwneuthur fyng-wely yn foddfa: yr ydwyfi yn gw­lychu fyng-orweddfa â'm dagrau.

7 Tywyllodd fy llygad gan ddigter: heneiddi­odd o herwydd fy holl elynnion.

8 Ciliwch oddi wrthif holl weithred-wŷr an­wiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lêf fy ŵy­lofain.

9 Clybu 'r Arglwydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fyng-weddi.

10 Fy holl elynnion a wradwyddir, ac a drallo­dir yn ddirfawr: dychwelir, a chywilyddir hwynt yn ddisymmwth.

Domine Deus in te speraui. Psal. vij.

ARglwydd fy Nuw, ynot yr ymddyriedais: achub fi rhag fy holl erlid-wŷr, a gwaret fi.

2 Rhag iddo larpio fy enaid fel llew: gan ei rwy­go, pryd na byddo gwaredudd.

3 Fy Arglwydd Dduw os gwneuthum hyn, od oes anwiredd yn fy nwylaw:

4 O thêlais ddrwg i'r neb oedd heddychol â mi: oni waredais y rhai a'm gwrthwynebent heb a­chos:

5 Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded fi: sa­thred hefyd fy mywyd i'r llawr, a gosoded fyng-ogo­niant i drigo yn y llŵch. Selah.

6 Cyfot Arglwydd yn dy ddigllonedd, ymdder­cha o herwydd llid fyng-elynnion: deffro hefyd dro­sof yn y farn a orchymynnaist.

7 Felly cynnulleidfa y bobloedd ath amgylchy­nant: er eu mwyn dychwel dithe i'r vchelder.

8 Yr Arglwydd a farn y bobloedd: barna di fi ô Arglwydd yn ôl fyng-hyfiawnder, ac yn ôl fy mher­ffeithrwydd sydd ynof.

9 Darfydded weithian anwiredd yr annuwoli­on, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau, a'r arennau.

10 Fy amddeffyn sydd yn Nuw, iachawdur y rhai iniawn o galon.

11 Duw sydd farnudd cyfiawn, a Duw sydd ddigllon beunydd wrth yr annuwiol.

12 Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hôga ei gleddyf, efe a annelodd ei fŵa, ac a'i paratôdd.

13 Paratôdd efe hefyd iddo arfau anghefol, efe a weithiodd ei saethau yn erbyn yr erlid-wŷr.

14 Wele efe a ymddwg anwiredd, canys bei­chiogodd ar gamwedd, ac efe a escor ar gelwydd.

15 Cloddiodd bwll, trychodd ef, syrthiodd hefyd [Page] yn y destruw a wnaethe efe.

16 Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ef ei hun: a'i gamwedd a ddescyn ar ei goppa ei hun.

17 Clodforaf yr Arglwydd yn ôl ei gyfiawnder: a chan-molaf enw'r Arglwydd goruchaf.

Domine Dominus noster. Psal. viij.

ARglwydd ein Iôr ni, mor ardderchog yw dy enw yn yr holl fyd! yr hwn a roddaist dy ogoniant vwch y nefoedd.

2 O enau bechgyn, a rhai yn sugno y peraist nerth o achos dy elynion: i ostegu y gelyn, a'r ym­ddialudd.

3 Pan edrychwyf ar y nefoedd gwaith dy fysedd, sef y lloer a'r sêr y rhai a ordeiniaist,

4 Pa beth yw dŷn i ti iw goffau? a mab dŷn i ti i ymweled ag ef?

5 Gwnaethost ef ychydig îs nâ'r angelion: corô­naist ef hefyd â gogoniant, ac â phrydferthwch.

6 Gwnaethost ef i arglwyddiaethu ar weithre­doedd dy ddwylo: gosodaist bôb peth dann ei draed ef.

7 Defaid, ac ŷchen oll, ac anifeiliaid y maes he­fyd:

8 Ehediaid y nefoedd, a physc y môr: y rhai a y­dynt yn trammwyo llwybrau y moroedd.

9 Arglwydd ein Iôr mor ardderchog yw dy enw yn yr holl fydd.

Confitebor tibi Domine. Psal. ix.

CLodforaf yr Arglwydd â'm holl galon:Boreuol weddi. mynegaf dy holl ryfeddodau.

2 Llawenychaf, a gorfoleddaf ynot: canaf i'th enw di y Goruchaf.

3 Tra y dychwelir fyng-elynnion yn [Page] eu hôl, y llithrant, ac y difethir hwynt o'th flaen di.

4 Canys gwnaethost fy marn a'm matter yn dda: eisteddaist ar orsedd-faingc ô farnudd cyfiawn.

5 Ceryddaist y cenhedloedd, destruwiaist yr annu­wiol: eu henw hwynt a ddelêaist hefyd byth bythol.

6 Hâ elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd, di­wreiddiaist y dinasoedd, darfu eu coffad wriaeth gyd â hwynt.

7 Yr Arglwydd a erys yn dragywydd: efe a bara­tôdd ei orsedd-faingc i farn.

8 Canys efe a farn y bŷd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn iniondeb.

9 Yr Arglwydd hefyd fydd amddeffyn i'r truan, a nawddfa mewn prŷd, sef mewn cyfyngder.

10 A'r rhai a adwaenant dy enw a ymddyriedant ynot: canys ni adewaist ô Arglwydd y rhai a'th gei­sient.

11 Canmolwch yr Arglwydd yr hwn sydd yn pre­sswylio yn Sion: a mynegwch i'r bobloedd ei wei­thredoedd ef.

12 Canys pan ymofynno efe am waed, y cofia efe am danynt: ac nid anghofia waedd y tlodion.

13 Trugarhâ wrthif Arglwydd, fy nerchafudd o byrth angeu: gwêl fy mlinder gan fyng-haseion.

14 Fel y mynegwyf dy holl foliant ym-mhyrth merch Sion: ac y llawenychwyf yn dy iechydwria­eth.

15 Y cenhedloedd a foddasant yn y ffôs yr hon a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed hwynt.

16 Adweinir yr Arglwydd, canys efe a wnaeth farn: yr annuwiol a faglwyd yng-weithredoedd ei ddwylo. Higaion Selah.

17 Y rhai drygionus a ymchwelant i vffern: sef yr holl genhedloedd a anghofiant Dduw.

18 Canys nid anghofîr y tlawd byth, gobaith y trueniaid ni chollir byth.

19 Cyfot Arglwydd, na orfydded dŷn: barner y cenhedloedd ger dy fron di.

20 Gosot Arglwydd ofn arnynt, gŵybydded y cenhedloedd mai dynion ydynt hwy. Selah.

Vt quid Domine recessisti. Psal. x.

PA ham Arglwydd y sefi o bell, yr ymguddi yn yr amseroedd pan ydym mewn cyfyng-der?

2 Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y dichellion a ddychymmyga­sant.

3 Canys yr annuwiol a ffrostiodd wrth ewyllys ei galon: a'r cybydd a ymfendithiodd: diystŷru y mae efe yr Arglwydd.

4 Yr annuwîol gan ei falchder ni chais Dduw: nid ydyw Duw yn ei holl feddyliau ef.

5 Ei ffyrdd ef ydynt flîn bôb amser, vchel yw dy farnedigaethau o'i olwg ef: efe a chwyth yn erbyn ei holl elynnion.

6 Dywedodd yn ei galon ni'm symmudir, o her­wydd ni byddaf mewn dryg-fyd hyd genhedlaeth, a chenhedlaeth.

7 Ei enau sydd yn llawn melldith, a dichell, a thwyll: tann ei dafod y mae camwedd, ac anwi­redd.

8 Y mae efe yn eistedd yng-hynllwynfa yr heo­lydd, mewn cilfacheu y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremmiant ar y tlâwd.

9 Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau, bwriadu y bydd i dreisio yr tlawd: treisia efe y tlawd gan ei dynnu iw rwyd.

10 Efe a ymgystuddia, ac a ymostwng: fel y cw­ympo [Page] tyrfa trueniaid ym mysc ei gedyrn ef.

11 Dywedodd yn ei galon, anghofiodd Duw: cuddiodd ei wyneb, ni wêl efe byth.

12 Cyfot Arglwydd Dduw, dercha dy law: nac anghofia y tlodion.

13 Pa ham y cabla 'r annuwiol Dduw? gan ddy­wedyd yn ei galon, nad ymofynni.

14 Gwelaist hyn, canys ti a genfyddi anwiredd, a cham, i roddi tâl a'th ddwylo dy hun: arnat ti y ge­du y tlawd ei obaith, ti ydwyt gynnorthwy-wr yr ymddifad.

15 Torr fraich yr annuwiol, a'r drygionus: cais eiddrygioni ef, ac nis cei.

16 Yr Arglwydd sydd Frenin byth, ac yn dragy­wydd: dinistriwyd y cenhedloedd o'i dîr ef.

17 Arglwydd clywaist ddymuniad y tlodion, cy­weiria di eu calon hwynt: gwrandawed dy glust arnynt.

18 I farnu yr ymddifad a'r tlawd: fel na chwa­nego dŷn daiarol beri ofn mwyach.

In Domino confido. Psal. xj.

YN yr Arglwydd yr ydwyf yn ymddyried, pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, eheda i'ch mynydd fel aderyn?

2 Canys wele y drygionus a anelâsant fŵa, pa­ratoâsant eu saetheu tu a'r llinin, i saethu mewn dirgelwch y rhai iniawn o galon.

3 Canys y seiliau a ddinistriwyd: pa beth a wna­eth y cyfiawn?

4 Yr Arglwydd sydd yn Nheml ei sancteiddrw­ydd, gorseddfa yr Arglwydd sydd yn y nefoedd, y mae ei lygaid ef yn gweled y tlawd: ei amrantau yn chwilio meibion dynnion.

5 Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr cas gan [Page] ei enaid ef y drygionus, a'r hwn sydd hoff ganddo anwiredd.

6 Ar yr annuwolion y glawia efe faglau, tân, â brwmstan, a gwynt ystormus fydd rhan eu phiol hwy.

7 Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawn­der: ai wyneb a genfydd y rhai iniawn.

Saluum me fac Domine. Psal. xij.

AChub Arglwydd,Pryd­nhawnol weddi. canys darfu y rhai trugarog: o herwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dyn­nion.

2 Ofêredd a ddywedant bôb vn wrth ei gymmydog, â gwefus wen­hieithgar: ac â chalon ddau ddyblyg y llefârant.

3 Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gwen­hieithus, a'r tafod a ddywedo fawrhydri.

4 Y rhai a ddywedant â'n tafod y gorfyddwn: nyni a allwn ddywedyd a fynnom, pwy sydd Argl­wydd arnom ni?

5 O herwydd anrhaith y rhai cystuddiedic, ac o herwydd vchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr medd yr Arglwydd: rhoddaf mewn iechydwriaeth yr hwn y magler iddo.

6 Geiriau yr Arglwydd ydynt eiriau purion, fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seith-waith.

7 Ti Arglwydd a'u cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd.

8 Yr annuwolion a rodiant o amgylch: pan eu derchefir gwarth fydd i feibion dynnion.

Vsquequo Domine obliuisceris. Psal. xiij.

PA hyd Arglwydd i'm anghofi? ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof?

2 Pa hyd y gosodaf gynghorion yn fy meddwl, a blinder beunydd yn fyng-halon? pa hŷd y derche­fir fyng-elyn arnaf?

3 Edrych, a chlyw fi ô Arglwydd fy Nuw: go­leua fy llygaid rhag i'm hûno yn yr angeu.

4 Rhag dywedyd o'm gelyn, gorchfygais ef: canys fyng-wrthwyneb-wŷr a lawenychant os lli­thraf.

5 Minne hefyd a ymddyriedais yn dy druga­redd di, fyng-halon a ymlawenycha yn dy iechyd­wriaeth: canaf i'r Arglwydd, am iddo synnio arnaf, îe mi a ganaf i'r Arglwydd goruchaf.

Dixit insipiens in corde suo. Psal. xiiij.

YR ynfyd a ddywedodd yn ei galon, nid oes vn Duw: ymlygrâsant, a ffieidd-waith a wnae­thant: nid oes a wnêl ddaioni.

2 Yr Arglwydd a edrychodd o'r nefoedd ar feibi­on dynnion, i weled a oedd neb deallgar yn ymgei­sio â Duw.

3 Ciliodd pawb, cŷd-ymddifwynâsant, nid oes a wnêl ddaioni, nac oes vn.

4 Bedd agored yw eu gwddf, âi tafodau y siom­ment: gwenwyn lindis y sydd dann eu gwefusau.

5 Eu genau sydd yn llawn o felldith, a chwer­wedd: eu traed sy fuan i dywallt gwaed.

6 Destruw, ac anhap sydd ar eu ffyrdd, a ffordd tangneddyf nid adnabûant: nid oes ofn Duw yn eu golwg.

7 Oni ŵyr holl weithred-wŷr anwiredd, eu bod yn bwytta fy mhobl fel y bwyttaent fara? ni alwâ­sant ar yr Aglwydd.

8 Yno y dechrynant gan ofn lle nid oedd ofn, am fod Duw yng-henhedlaeth y cyfiawn.

9 Cyngor y tlawd a wradwyddech chwi, am fod yr Arglwydd yn obaith iddo.

10 Pwy a ddyru iechyd i Israel o Sion? pan ddychwel yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr hyfry­da Iacob, ac y llawenhâ Israel.

Domine quis habitabit. Psal. xv.

ARglwydd pwy a drîg yn dy babell:Boreuol weddi. pwy a bresswylia ym mynydd dy sanc­teiddrwydd?

2 Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnêl gyfiawnder, ac a ddywed wîr o'i galon:

3 Heb absennu â'i dafod: heb wneuthur drwg iw gyfell, acheb dderbyn enllib yn erbyn ei gymmydog.

4 Yr hwn sydd ddirmygus a diystyr yn ei olwg ei hun, ac a anrhydedda y rhai a ofnant yr Argl­wydd: yr hwn os twng, (ie iw niwed ei hun) etto ni newidia.

5 Yr hwn ni roddes ei arian ar vsuriaeth, ac ni chymmer obr yn erbyn y gwirion: a wnêlo hyn ni lithr yn dragywydd.

Conserua me Domine. Psal. xvj.

CAdw fi ô Dduw, canys ynot yr ymddyriedais.

2 Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd, fy Arglwydd ydwyt ti: fy nâ nid yw ddim i ti.

3 Ar y sainct y rhai ydynt ar y ddaiar, a'r rhai rhagorawl, y mae fy holl ewyllys.

4 Gofidiau a amlhânt i'r rhai a fryssiant ar ôl duw dieithr, eu diod offrwm o waed ni offrymmaf fi: ac ni chymmeraf eu henwau yn fyng-wefusau.

5 Yr Arglwydd yw rhann fy etifeddiaeth a'm phiol: ti a gynheli fyng-hoelbren i.

6 Etifeddiaeth a syrthiodd i mi mewm lleoedd hyfryd: ac y mae i mi etifeddiaeth dêg.

7 Bendithiaf yr Arglwydd yr hwn a'm cynghô­rodd: fy arennau hefyd a'm dyscant drwy 'r nôs.

8 Gosodais yr Arglwydd bôb amser ger fy mron: canys y mae efe ar fy neheu-law fel na lithraf.

9 O herwydd hynny y llawenychodd fyng-ha­lon, ac yr ymhyfrydodd fyng-ogoniant: fyng-hnawd hefyd a orphywys mewn gobaith.

10 Canys, ni adêwi fy enaid yn vffern, ac ni ade­wi i'th Sanct weled llwgredigaeth.

11 Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron: ar dy ddeheu-law y mae digrifwch yn dragywydd.

Exaudi Domine iustitiam. Psal. xvij.

CLyw Arglwydd gyfiawnder: ystyria fy llefain, gwrando fyng-weddi o wefusau didwyll.

2 Deued fy marn oddi ger dy fron, edryched dy lygaid ar iniondeb.

3 Profaist fyng-halon, gofwyaist fi y nôs, chwi­liaist fi, ni chefaist ynof anwiredd: bwriêdais na throsedde fyng-enau.

4 Tu ag at am weithredoedd dynnion, wrth eiri­au dy wefusau yr ymgedwais o lwybrau 'r yspeiludd.

5 Cynnal fyng-herddediad yn dy lwybrau fel na lithro fy nhraed.

6 Mi a elwais arnat, canys gwrandewi arna­fi ô Dduw: gostwng dy glust attaf, ac erglyw fy ym­adrodd.

7 Dangos dy ryfedd drugarêddau, ô achubudd y rhai a ymddyriedant ynot, rhag y sawl a ymgy­fodant yn erbyn dy ddeheu-law.

8 Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd di fi dann gyscod dy adenydd,

9 Rhag yr annuwolion y rhai a'm gorthrym­ment: rhag fyng-elynion y rhai am yr enaid a am­gylchant i'm herbyn.

10 Caeâsant gan eu brasder, a'u genau a lefa­rant mewn balchder.

11 Ein cynniweirfa ni a gylchynâsant hwy yr awr hon, gosodâsant eu llygaid i dynnu i'r ddaiar.

12 Eu dull fydd fel llew yr hwn a chwennyche sclyfaethu, ac megis llew ieuangc yn aros mewn lloches.

13 Cyfot Arglwydd, achub flaen iddo, a chwym­pa ef: gwaret fy enaid rhag yr annuwiol yr hwn yw dy gleddyf di.

14 Oh Arglwydd gwaret fi oddi wrth ddynnion dy law, sef oddi wrth ddynnion y byd, y rhai y mae eu rhann yn y bywyd ymma, ac yr ydwyt yn llenwi eu boliau â'th guddiedic dryssor: llawn ydynt o feibi­on, a gadawant eu gweddill iw rhai bychain.

15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawn­der: pan ddihunwyf, digonir fi gan dy ddelw.

Diligam te Domine. Psal. xviij.

CAraf di Arglwydd fyng-hadernid.

2 Yr Arglwydd yw fyng-hraig,Pryd­nhawnol weddi. a'm hamddeffynfa, a'm gwaredudd, fy Nuw fyng-hadernid, ynddo ef yr ymddyriedaf: fy nharian, a chorn fy iechydwriaeth, a'm noddfa.

3 Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly i'm cedwir rhag fyng-elynnion.

4 Gofidion angeu a'm cylchynâsant: ac afonydd y fall a'm dychrynnâsant i.

5 Gofidion vffern a'm gogylchynâsant: maglau angeu a achubasant fy mlaen.

6 Yn fyng-hyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef o'i Deml, a'm gwaedd ger ei fron ef a ddaeth iw glu­stiau ef.

7 Yna y cynhyrfodd, ac y crynodd y ddaiar, a sei­liau [Page] y mynyddoedd a gyffroâsant: ac a ymsiglâsant, am iddo ef ddigio.

8 Derchafodd mŵg o'i ffroenau, a than a yssodd o'i enau ef: glô a enynnâsant ganddo ef.

9 Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddescyn­nodd: a thywyllwch oedd tann ei draed ef.

10 Marchogodd efe hefyd ar y Cerub, ac a ehe­dodd: îe efe a ehedodd ar adenydd y gwynt.

11 Efe a osododd y tywyllwch yn ddirgelfa iddo ef, a'i babell oi amgylch: sef tywyllwch y dyfroedd, a chwmylau yr awyr.

12 Gan y discleirdeb yr hwn sydd ger ei fron ef, ei gwmylau a aethant heibio: cenllysc a marwor tan­llyd.

13 Yr Arglwydd hefyd a darânodd yn y nefoedd: a'r Goruchaf a roddes ei lef: cenllysc a marwor tanllyd.

14 Anfonodd hefyd ei saethau, a gwascârodd hw­ynt: amlhâodd hefyd ei fellt, a dinistriodd hwynt.

15 Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y bŷd a ddinoethwyd gan dy gerydd di ô Arglwydd, a chan chwythad anadl dy ffroenau di.

16 Anfonodd oddi vchod, cymmerodd fi, a thyn­nodd fi o ddyfroedd lawer.

17 Efe a'm gwaredodd oddi wrth fyng-elyn ca­darn, a rhag fyng-haseion: canys y maent yn drech nâ mi.

18 Achubâsant fy mlaen yn nydd fyng-ofid: ond yr Arglwydd oedd yn gynhaliad i mi.

19 Dûg fi i ehangder, gwaredodd fi: canys ym­hoffodd ynof.

20 Yr Arglwydd a'm gobrwya yn ôl fyng-hyfi­awnder: yn ôl glendid fy nwylo y tâl efe i mi.

21 Canys cedwais ffyrdd yr Arglwydd: ac ni w­neuthum yn annuwiol yn erbyn fy Nuw.

22 O herwydd ei holl farnedigaethau ef ydynt ger fy mron i: a'i ddeddfau ni fwriais oddi wrthif.

23 Bum hefyd yn berffaith gyd ag ef: ac ymged­wais rhag fy anwiredd.

24 A'r Arglwydd a'm gobrwyodd yn ôl fynghyfi­awnder: ac yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef.

25 A'r trugarog y gwnei drugaredd: â'r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.

26 A'r glan, y gwnei lendid: ac â'r cyndyn yr ymgyndynni.

27 Canys ti a warêdi y bobl gystuddiedic: ac a ostyngi olygon vchel.

28 O herwydd ti a oleui fyng-hannwyll: yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy-nhywyllwch.

29 Oblegit ynot ti y rhedaf trwy fyddin: îe yn fy Nuw y llammaf dros fûr.

30 Duw sydd berffaith ei ffordd, gair yr Arglwydd sydd buredic: tarian yw efe i bawb a ymddyriedant ynddo.

31 Canys pwy sydd Dduw heb-law yr Argl­wydd? a phwy sydd graig eithr ein Duw ni?

32 Duw a'm gwregyssodd â nerth: ac a roddes fy ffordd yn berffaith.

33 Gosod y mae efe fy nhraed fel traed ewigod: ac ar fy vchel-fannau i'm sefydlodd.

34 Efe sy yn dyscu fy nwylo i ryfel: fel y dryllid bŵa dûr yn fy mreichiau.

35 Rhoddaist hefyd i mi darian dy iechydwria­eth, a'th ddeheu-law a'm cynhaliodd: a'th fwynder a'm lluosogodd.

36 Ehengaist fyng-herddediad tanaf: fel na li­throdd fy sodlau.

37 Erlidiais fyng-elynion, ac a'u goddiweddais: ac ni ddychwelais nes i mi eu difa hwynt.

38 Archollais hwy fel na allent sefyll: syrthia­sant [Page] dann fy nhraed.

39 Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel: cwym­paist tanaf y rhai a ymgododd i'm herbyn.

40 Rhoddaist hefyd i mi warrau fyng-elynnion: fel y dyfethwn fyng-haseion.

41 Gwaeddâsant, ac nid oedd achubudd: sef ar yr Arglwydd, ond nid attebodd efe hwynt.

42 Maluriais hwynt hefyd fel llŵch o flaen y gwynt: melais hwynt megis pridd yr heolydd.

43 Gwarêdaist fi rhag cynhennau y bobl, goso­daist fi yn ben cenhedloedd: pobl ni's adnabum a'm gwasanaethent.

44 Pan glywant, gwrandawant arnaf: meibion dieithr a gymmerant arnynt ymddarostwng i mi.

45 Meibion dieithr a ballant: ac a ddychrynant o'u carchârau.

46 Byw fyddo 'r Arglwydd, a bendithier fyng­hraig: a derchafer Duw fŷ iechydwriaeth.

47 Duw sydd yn rhoddi i mi allu ymddial: ac a dywys y bobloedd tanaf fi.

48 Fyng-waredudd oddi wrth fyng-elynnion yd­wyt: canys ti a'm derchefaist hefyd oddi wrth y rhai a gyfodent i'm herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws.

49 Am hynny y moliannaf di ô Arglwydd ym mhlith y cenhedloedd: ac y cânaf i'th enw.

50 Efe sydd yn mawrhau iechydwriaeth ei fre­nin, ac yn gwneuthur trugâredd iw eneiniog, i Ddafydd, ac iw hâd ef byth.

Cœli enarrant. Psal. xix.

Boreuol weddi. Y Nefoedd sy yn dadcanu gogoniant Duw: a'r ffurfafen sy yn mynegu gwaith ei ddwy-law ef.

2 Dydd i ddydd a draetha ymadrodd: [Page] a nôs i nos a ddengys ŵybodaeth.

3 Nid oes air nac ymadrodd, lle ni chlywyd eu lleferydd hwynt.

4 I bob tir yr aeth eu sain hwynt, ai geiriau hyd eithafoedd bŷd: i'r haul y gosododd efe babell yn­ddynt.

5 Ac efe fel gŵr priod a ddaw allan o'i stafell: ac a ymlawenhâ fel cawr yn rhedeg gyrfa.

6 O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a'i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef.

7 Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith yn troi yr enaid: testiolaeth yr Arglwydd sydd siccr, ac yn peri doethineb i'r ehud.

8 Deddfau yr Arglwydd ydynt iniawn yn llaw­enhaû y galon: gorchymyn yr Arglwydd sydd bûr, ac yn goleuo y llygaid.

9 Ofn yr Arglwydd sydd lân, ac yn parhau yn dragywydd: barnau'r Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt eu gyd.

10 Mwy dymunol ynt nag aur, îe nag aur coeth lawer: melysach hefyd nâ'r mêl, ac nâ diferiad di­liau mêl.

11 Ynddynt hwy hefyd y dyscir dy wâs: o'u cadw y mae gobr lawer.

12 Pwy a ddeall ei gamweddau? glanhâ fi oddi wrth fy meiau cuddiedic:

13 Attal hefyd dy wâs oddi-wrth bechodau rhyfygus, na arglwyddiaethant arnaf: yna i'm perffeithir, ac i'm glanheir oddi-wrth anwiredd lawer.

14 Bydded ymadroddion fyng-enau, a myfyrdod fyng-halon yn gymmeradwy ger dy fron, ô Arglw­ydd fyng-hraig, a'm gwaredudd.

Exaudiat te Dominus. Psal. xx.

GWrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cy­fyngder: enw Duw Iacob a'th ddeffynno.

2 Anfoned i ti gymmorth o'r cyssegr: a nerthed di o Sion.

3 Cofied dy holl offrymmau: a bydded fodlon i'th boeth offrwm. Selah.

4 Rhodded i ti wrth fodd dy galon: a chyflawned dy holl arfaeth.

5 Gorfoleddwn yn dy iechydwriaeth di, a dercha­fwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglw­ydd dy holl ddymuniadau.

6 Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog, ac y gwrendu arno ef o nefoedd ei sancte­iddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheu-law ef.

7 Ymddyried rhai mewn cerbydau, ac eraill mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglw­ydd ein Duw.

8 Hwynt a gwympasant, ac a syrthiasant: a ninneu a gyfodasom, ac a safasom.

9 Cadw Arglwydd: gwrandawed y Brenin ar­nom yn y dydd y llefom.

Domine in virtute tua. Psal. xxj.

ARglwydd yn dy nerth y llawenycha y brenin: ac yn dy iechydwriaeth yr ymhyfryda efe yn ddirfawr.

2 Deisyfiad ei galon a roddaist iddo: a dymuniad ei wefusau ni's gommeddaist. Selah.

3 Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daio­ni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.

4 Gofynnodd oes gennit: a rhoddaist iddo hir-oes byth ac yn dragywydd.

5 Mawr yw ei ogoniant yn dy iechydwriaeth: gosodi arno ogoniant a phrydferthwch.

6 Canys gosodi ef yn fendithion tragywyddol, [Page] llawenychi ef â llawenydd dy wyneb.

7 O herwydd bod y brenin yn ymddyried yn yr Arglwydd, ac yn-hrugaredd y Goruchaf ni lithr efe.

8 Dy law a gaiff allan dy holl elynnion: dy dde­heulaw a gaiff allan dy gaseion.

9 Gosodi hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr Arglwydd yn ei ddigllonedd a'u difa hwynt, a'r tân a'u hyssa hwynt.

10 Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi-ar y ddaiar: a'i hâd o blith meibion dynnion.

11 Canys bwriadasant ddrwg i'th erbyn: me­ddyliasant amcan heb allu o honynt ei gwplâu.

12 Canys gosodi hwy ar naill du: yn dy linynnau y paratoi saethau yn erbyn eu hwynebau.

13 Ymddercha Arglwydd yn dy nerth: canwn, a chan-molwn dy gadernid.

Deus, Deus meus. Psal. xxij.

FY Nuw, fy Nuw,Pryd­nhawnol weddi. pa ham i'm gadew­aist? pell ydwyt oddi wrth fy iechydwria­eth, a geiriau fy llefain.

2 Fy Nuw llefain yr ydwyf y dydd, ac ni atebi: y nôs hefyd, ac nid oes oysteg i mi.

3 A thithe moliant Israel ydwyt yn parhau yn sanctaidd.

4 Ein tadau a obeithiâsant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt.

5 Arnat ti y llefâsant, ac achubwyd hwynt: ynot yr ymddyriedâsant, ac ni's gwradwyddwyd hwynt.

6 A minne ydwyf fel pryf, ac nid gŵr gwar­thrudd dynnion, a dirmyg y bobl.

7 Pawb a'r a'm gwêlant a'm gwatwârant: llaesant wefl, ac escydwant bennau gan ddywedyd,

8 Ymddyriedodd yn yr Arglwydd, gwareded ef: [Page] achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo.

9 Canys ti a'm tynnaist o'r grôth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam.

10 Arnat ti i'm bwriwyd o'r brû: ô groth fy mam fy Nuw ydwyt.

11 Nac ymbellhâ di oddi wrthif, ô herwydd cy­fyngder sydd agos: ac nid oes gynnorthwy-wr.

12 Bustych lawer a'm cylchynâsant: gwrdd deirw Basan a'm hamgylchâsant.

13 Agorasant arnaf eu gênau: fell llew rhei­pus, a rhuadwy.

14 Fel dwfr i'm tywalltwyd, a'm hescyrn oll a ymwahanâsant: fyng-halon sydd doddedic fel cŵyr yng-hanol fy mherfedd.

15 Fy nerth a ŵywodd fel pridd-lestr, a'm tafod a lŷnodd wrth daflod fyng-enau: ac yn llŵch angeu i'm cyfleaist.

16 Canys cŵn a'm cylchynâsant, a chynnulleidfa y drygionus a'm hamgylchynâsant: cloddiasant fy nwylaw a'm traed.

17 Gallaf gyfrif fy holl escyrn: y maent yn trem­mio, ac yn edrych arnaf fi.

18 Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysc: ac ar fyng-wisc y maent yn bwrw coel-bren.

19 A thithe Arglwydd nac ymbellhâ: fynghader­nid bryssia i'm cynnorthwyo.

20 Gwaret fy enaid rhag y cleddyf: fy vnic enaid o feddiant y ci.

21 Achub fi rhag safn y llew: o blith cyrn vnicor­niaid atteb fi.

22 Mynegaf dy enw i'm brodyr: yng-hanol y gynnulleidfa i'th folaf.

23 Y rhai sy yn ofni'r Arglwydd molwch ef, holl hâd Iacob gogoneddwch ef: holl hâd Israel ofnwch ef.

24 Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd, ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno y gwrandawodd ef.

25 Fy mawl fydd o honot ti yn y gynnulleidfa fawr: fy addunedau a dâlaf ger bron y rhai ai hof­nant ef.

26 Y tlodion a fwyttânt, ac a ddiwellir, y rhai a geisiant yr Arglwydd a'i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd.

27 Holl derfŷnau y ddaiar a gofiant, ac a ddychwe­lant at yr Arglwydd: a holl dylwythau y cenhed­loedd a addôlant ger dy fron di.

28 Canys eiddo 'r Arglwydd yw 'r deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ym mhlith y cenhedloedd.

29 Yr holl rai breision ar y ddaiar a fwyttânt, ac a addôlant: y rhai a ddescynnant i'r llŵch a gwympant ger ei fron ef: hyd yn oed yr hwn ni fywhâ ei enaid.

30 Eu hâd a'i gwasanaetha ef: cyfrifir ef i'r Ar­glwydd yn genhedlaeth.

31 Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i'r bobl a enir: gan iddo ef eu gwneuthur.

Dominus regit me & nihil. Psal. xxiij.

YR Arglwydd yw fy mugail: ni bydd eisieu arnaf.

2 Efe a bar i'm orwedd mewn porfeudd gwell­toc: efe a'm tywys ger llaw dyfroedd tawel.

3 Efe a ddychwel fy enaid, ac a'm harwain ar hŷd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.

4 A phe rhodiwn ar hŷd glynn cyscod angeu nid ofnaf niwed, o herwydd dy fod ti gyd â mi: dy wia­len, a'th ffon a'm cyssûrant.

5 Ti a arlwyi fort ger fy mron yn erbyn fyng-wrth wyneb-wŷr: îraist fy mhen ag olew, fy phiol sydd lawn.

6 Daioni, a thrugâredd yn ddiau a'm canlynant [Page] oll ddyddiau fy mywyd: a phresswyliaf yn nhŷ 'r Ar­glwydd yn dragywydd.

Domini est terra, & plenitudo. Psal. xxiiij.

Boreuol weddi. EIddo yr Arglwydd y ddaiar, a'i chyfla­wnder: y byd, ac a bresswylia ynddo.

2 Canys efe a'i seiliodd ar y môro­edd: ac a'u paratôdd ar yr afonydd.

3 Pwy a escyn i fynydd yr Arglw­ydd? a phwy a saif yn ei lê sanctaidd ef?

4 Y diniwed ei ddwylo, a'r glân ei galon: yr hwn ni dderchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo ei gymmydog.

5 Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chy­fiawnder gan Dduw ei iechydwriaeth.

6 Dymma genhedlaeth y rhai a'i ceisiant ef: sef y rhai a geisiant dy wyneb di ô Iacob. Selah.

7 O byrth derchefwch eich pennau, ac ymdder­chefwch ddrysau tragywyddol: a Brenin y gogoni­ant a ddaw i mewn.

8 Pwy yw yr Brenin gogoneddus hwnnw? yr Arglwydd nerthol, a chadarn: yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel.

9 O byrth derchefwch eich pennau, ac ymdder­chefwch ddrysau tragywyddol, a Brenin y gogoni­ant a ddaw i mewn.

10 Pwy yw 'r Brenin gogoneddus hwnnw? Arglwydd y lluoedd, efe yw Brenin y gogoniant. Selah.

Ad te Domine leuaui animam. Psal. xxv.

ATtat ti ô Arglwydd y derchafaf fy enaid.

2 Fy Nuw, ynot ti 'r ymddyriedais, na'm gwradwydder: na lawenyched fyng-elynnion o'm plegit.

3 Hefyd pawb a'r a obeithiant ynot ti ni wrad­wyddir hwynt: gwradwyddir y rhai a drosseddant heb achos.

4 Par di i mi ŵybod dy ffyrdd ô Arglwydd: dysc i mi dy lwybrau.

5 Tywys fi yn dy wirionedd, a dysc fi: canys ti yw Duw fy iechydwriaeth, ynot y gobeithias ar hŷd y dydd.

6 Cofia Arglwydd dy dosturiaethau, a'th druga­reddau: canys erioed y maent hwy.

7 Na chofia bechodau fy ieuengctid, na'm cam­weddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf er mwyn dy ddaioni Arglwydd.

8 Dâ ac iniawn yw yr Arglwydd: o herwydd hynny y dysc efe bechaduriaid yn y ffordd.

9 Y rhai difalch a hyffordda efe mewn barn: a'i ffordd a ddysc efe i'r rhai gostyngedic.

10 Holl lwybrau'r Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionedd i'r rhai a gadwant ei gyfammod, a'i de­stiolaethau ef.

11 Er mwyn dy enw Arglwydd maddeu di fy an­wiredd: canys mawr yw.

12 Pa ŵr yw efe sy yn ofni yr Arglwydd? efe a'i dysc ef yn y ffordd a ddewiso.

13 Ei enaid ef a erys mewn daioni: a'i hâd a etifedda y ddaiar.

14 Dirgelrwydd yr Arglwydd a ddatcuddir i'r rhai a'i hofnant ef: a'i gyfammod hefyd iw cyfarw­yddo hwynt.

15 Fy llygaid ydynt yn wastad ar yr Arglwydd: canys efe a ddŵg fy nhraed allan o'r rhwyd.

16 Trô attaf, a thrugarhâ di wrthif: canys vnic, a thlawd ydwyf.

17 Gofidion fyng-halon a ymehangasant: dwg fi allan o'm cyfyngdêrau.

18 Gwêl fyng-hystudd, a'm helbul: a maddeu di fy holl bechodau.

19 Cenfydd fyng-elynnion, canys amlhausant: â chasineb traws hefyd i'm cassausant.

20 Cadw fy enaid, ac achub fi na'm gwradwy­dder, canys ymddyriedais ynot.

21 Cadwed perffeithrwydd, ac iniondeb fi, canys gobeithiais ynot.

22 O Dduw gwaret Israel o'i holl gyfyngdêrau.

Iudica me Domine. Psal. xxvj.

BArn fi Arglwydd, o herwydd rhodio o honof me­wn perffeithrwydd, ac ymddyried o honof yn yr Arglwydd, ni lithraf.

2 Hôla fi Arglwydd, a phrawf di fi: chwilia fy arennau, a'm calon.

3 Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: am hynny y rhodiais yn dy wirionedd.

4 Nid eisteddais gyd â dynnion celwyddoc: a chyd â'r rhai dichellgar nid aethum.

5 Casseais gynnulleidfa y drygionus: a chyd â'r annuwolion nid ydwyf yn eistedd.

6 Golchaf fy nwylo mewn gwiriondeb: a'th allor ô Arglwydd a amgylchŷnaf,

7 I draethu mewn llef clodforedd: ac i fynegu dy holl ryfeddodau.

8 Arglwydd hoffais drigfan dy dŷ: a llê presswylfa dy ogoniant.

9 Na chascl fy enaid gyd â'r pechaduriaid: na'm bywyd gyd a'r dynnion gwaedlyd:

10 Y rhai y mae scelerder yn eu dwylo: a'u de­heu-law yn llawn gobr.

11 Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwa­ret fi, a thrugarhâ wrthif.

12 Fy nhroed sydd yn sefyll mewn iniondeb: yn y cynnulleidfaoedd y'th glodforaf ô Arglwydd.

Dominus illuminatio. Psal. xxvij.

YR Arglwydd yw fyng-oleuni,Pryd­nhawnol weddi. a'm iechydwriaeth, rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?

2 Pan nessaodd y rhai drygio­nus, sef fyng-wrthwyneb-wyr, a'm gelynion i'm herbyn i fwytta fyng-nhawd: hwynt a dramgwyddâsant, ac a syrthiâsant.

3 Pe gwerssylle llu i'm herbyn, nid ofne fyng-halon: pê cyfode câd i'm herbyn, er hyn mi a fyddwn hydêrus.

4 Vn peth a ddeisyfiais i gan yr Arglwyd, hynny a geisiaf, sef caffel trigo yn nhŷ 'r Arglwydd holl ddy­ddiau fy mywyd: i edrych ar brydferthwch yr Argl­wydd, ac i ymweled â'i Deml.

5 Canys yn y dydd drwg efe a'm cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei bresswylfod y cuddia efe fi, ar graig i'm dercha efe fi.

6 Ac yn awr y dercha efe fy mhen goruwch fyng­elynnion o'm hamgylch: am hynny 'r aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd: canaf a chan-molaf i'r Arglwydd.

7 Clyw ô Arglwydd fy lleferydd, trugarhâ hefyd wrthif, a gwrando arnaf pan lefwyf arnat.

8 Y mae fyng-halon yn ymddiddan â thi fel hyn, ceisiwch fy wyneb: dy wyneb a geisias ô Ar­glwydd.

9 Na chuddia dy wyneb oddi wrthif, na fwrw ymmaith dy wâs mewn sorriant: fyng-hymmorth i fuost: gan hynny na âd fi, ac na wrthot si ô Dduw fy iechydwriaeth.

10 Er i'm tâd, a'm mam fyng-wrthod: etto yr Ar­glwydd a'm derbynnie.

11 Dysc i mi dy ffordd Arglwydd: ac arwain fi ar [Page] hyd llwybr iniondeb, o herwydd fyng-elynnion.

12 Na ddyro fi wrth ewyllys fyng-wrthwyneb-wyr: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster a gyfodâsant i'm herbyn.

13 Deffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni 'r Arglwydd yn nhir y rhai byw.

14 Disgwil wrth yr Arglwydd, ymŵrola, ac efe a nertha dy galon: ac ymddyriet yn yr Arglwydd.

Ad te Domine clamabo. Psal. xxviij.

ARnat ti Arglwydd y galwaf, fyng-hadernid na fydd fyddar wrthif: rhag o thewi, yna i'm cyffely­bir i rai yn descyn i'r pwll.

2 Erglyw lef fy ymbil, pan waeddwyf arnat, pan dderchafwyf fy nwylo tu ag at dy gafell sanc­taidd.

3 Na thynn fi gyd â'r annuwolion, a chyd â gwei­thred-wŷr anwiredd, y rhai a lefârant heddwch wrth eu cymmydogion, a drwg yn eu calon.

4 Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl dry­gioni eu dychymmygion, dyro iddynt yn ôl gweithre­doedd eu dwylo: tâl iddynt eu gobr.

5 Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adailada hwynt.

6 Bendigêdic fyddo 'r Arglwydd: canys clybu lêf fyng-weddiau.

7 Yr Arglwydd yw fy nerth a'm tarian, ynddo ef yr ymddyriedodd fyng-halon, ac i'm cynnorthwy­wyd: o herwydd hyn y llawenychodd fyng-halon, ac ar fyng-hân y clodforaf ef.

8 Yr Arglwydd sydd nerth i'r cyfryw rai, a cha­dernid iechydwriaeth ei eneiniog yw efe.

9 Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dercha hwynt yn dragy­wydd.

Afferte Domino filij Dei. Psal. xxix.

MOeswch i'r Arglwydd chwi feibion cedyrn: Mo­eswch i'r Arglwydd hyrddod ieuaingc, moeswch i'r Arglwydd ogoniant, a nerth.

2 Moeswch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym-mhrydferthwch ei gys­segr.

3 Llef yr Arglwydd fydd ar y dyfroedd, Duw y gogoniant a darâna: yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion.

4 Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llêf yr Ar­glwydd mewn prydferchwch.

5 Llef yr Arglwydd sy yn dryllio y cedr-wŷdd: îe dryllia 'r Arglwydd cedr-wŷdd Libanus.

6 Efe a wna iddynt lammu fel llô: Libanus a Syrion fel llwdn vnicorn.

7 Llef yr Arglwydd a wascâra y fflammau tân.

8 Llef yr Arglwydd a ddychryna yr anialwch: yr Arglwydd a ddychryn anialwch Cades.

9 Llef yr Arglwydd a wnaeth i'r ewîgod lydnu, ac a ddinoethodd y coedydd: gan hynny ei holl bobl yn ei Deml ef a draethant ei ogoniant.

10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiri­ant, yr Arglwydd hefyd a eistedd yn Frenin yn dra­gywydd.

11 Yr Arglwydd a ddyru nerth iw bobl: yr Argl­wydd a fendithia ei bobl â thangneddyf.

Exaltabo te Domine. Psal. xxx.

MAwrygaf di ô Arglwydd,Boreuol weddi. canys der­chefaist fi: ac ni lawenhêaist fyng-ely­nion o'm plegit.

2 Arglwydd fy Nuw, llefais ar­nat: a thithe a'm hiachêaist.

3 Arglwydd derchefaist fy enaid o vffern: ced­waist fi yn fyw oddi-wrth y rhai sy yn descyn i'r pwll.

4 Cenwch i'r Arglwydd ei sainct ef: a chlod­forwch ger bron coffadwriaeth ei sanctaiddrw­ydd ef.

5 Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid, ac yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: tros brŷd nawn yr erys ŵylofain, ac erbyn y boreu y bydd gor­foledd.

6 A mi a ddywedais yn fy llwyddiant, ni'm syflir yn dragywydd.

7 O'th ddaioni Arglwydd y cyfleaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bum helbulus.

8 Yna arnat ti Arglwydd y llefais: ac â'r Argl­wydd yr ymbiliais.

9 Pa fudd sydd yn fyng-waed pan ddescynnwyf i'r ffôs? a glodfora y llwch di? neu a fynêga efe dy wirionedd?

10 Clyw Arglwydd, a thrugarhâ wrthif: Arglw­ydd bydd gynnorthwy i mi.

11 Troaist fyng-alar yn llawenydd: dattodaist fy sach-wisc, a gwregysaist fi â llawenydd.

12 Am hynny fy nhafod a gân i ti, ac ni thau: o Arglwydd fy Nuw yn dragywyddol i'th glodforaf.

In te Domine speraui. Psal. xxxj.

YNot ti Arglwydd yr ymddyriedais, na'm gwrad­wydder yn dragywydd: gwaret fi yn dy gyfiawn­der.

2 Gogwydda dy glust attaf, bryssia i'm gwarê­du: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddeffyn i'm cadw.

3 Canys fyng-rhaig a'm castell ydwyt ti: gan hynny er mwyn dy enw, tywys fi, ac arwain fi.

4 Dwg fi allan o'r rhwyd yr hon a guddiâsant i'm herbyn: canys ti yw fy nerth.

5 I'th law y gorchymynnaf fy yspryd: gware­daist fi ô Arglwydd Dduw y gwirionedd.

6 Caseais y rhai sy yn cadw ofer-wagedd: minne hefyd a obeithiaf yn yr Arglwydd.

7 Ymlawenhaf, ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd, yr hwn a welaist fy adfyd: adnabuost fy enaid mewn cyfyngder.

8 Ac ni warcheaist fi yn llaw y gelyn, onid sefyd­laist fy nhraed mewn ehangder.

9 Trugarhâ wrthif Arglwydd canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygaid, fy enaid, a'm bol gan gystudd:

10 Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a'm bly­nyddoedd gan alar: fy nerth a syrthiodd o herwydd fy anwiredd, a'm hescyrn a bydrâsant.

11 Yn warthrudd yr ydwyf gan fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr gan fyng-hymmydogion: ac yn ddychryn i'r rhai a'm hadwaenant, y rhai a'm gwe­lent allan a gilient oddi wrthif.

12 Anghofiwyd fi allan o feddwl, fel vn marw: yr ydwyf fel llestr methedic.

13 Canys clywais ogan llaweroedd, dychryn oedd o bob parth: pan gyd-ymgynghorasant yn fy erbyn, yr amcanâsant fy nieneidio.

14 Ond mi a obeithiais ynot ti Arglwydd, dywe­dais, fy Nuw ydwyt.

15 Yn dy law di y mae fy amsêrau: gwaret fi oddi wrth law fyng-elynnion, ac oddi wrth fy erlid-wŷr.

16 Llewyrcha dy wyneb ar dy wâs: achub fi yn dy drugaredd.

17 Arglwydd na wradwydder fi, canys gelwais arnat: gwradwydder yr annuwolion, torrer hwynt i'r bedd.

18 Gosteger eu gwefusau celwyddoc, y rhai a ddy­wedant yn galed drwy falchder, a diystyrwch yn er­byn y cyfiawn.

19 Morr fawr yw dy ddaioni yr hwn a roddaist i gadw i'r sawl a'th ofnant, ac a wnaethost i'r rhai a ymddyriedant ynot ger bron meibion dynion!

20 Cuddi di hwynt yn ddirgel ger dy fron rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafôdau.

21 Bendigêdic fyddo 'r Arglwydd, canys dango­sodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn.

22 A mi a ddywedais yn fy ffrwst, fo'm bwriwyd allan o'th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fyng-weddiau pan lefais arnat.

23 Cerwch yr Arglwydd ei holl sainct ef: yr Ar­glwydd a geidw ei ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i'r neb a wnant falchder.

24 Ymnerthwch oll a'r sydd yn gobeithio yn yr Arglwydd: ac efe a gryfhâ eich calon.

Beati quorum. Psal. xxxij.

Pryd­nhawnol weddi. GWyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei dross­edd: ac y cuddiwyd ei bechod.

2 Gwyn ei fyd y dŷn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd: ac ni bo di­chell yn ei yspryd.

3 Tra y tewais, heneiddiodd fy escyrn gan fy rhuad bob dydd.

4 Canys trwmhâodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a droiwyd yn sychter haf. Selah.

5 Cydnabyddaf fy mhechod wrthit, a'm hanwî­redd ni chuddiais: dywedais, cyffessaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i'r Arglwydd, a thi a faddeuaist [Page] boen fy mhechod. Selah.

6 Am hynny y gweddia pob duwiol arnat ti yn yr amser i'th geffir: eithr yn llifeiriant dyfroedd mawrion ni chânt nessau atto ef.

7 Ti ydwyt loches i mi, cedwi fi rhag ing: am­gylchyni fi â chaniâdau ymwared. Selah.

8 Cyfarwyddaf di, a dyscaf di yn y ffordd yr elech: a'm llygad arnat i'th gynghoraf.

9 Na fyddwch fel march neu fûl heb ddeall, yr hwn y mae rhaid attal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddinesâu attat.

10 Gofidiau lawer fydd i'r annuwiol, a'r neb a ymddyriedo yn yr Arglwydd trugaredd a'i cylchŷ­na ef.

11 Y rhai cyfiawn byddwch lawen, a hyfryd yn yr Arglwydd: a'r rhai iniawn o galon oll, gorfo­leddwch.

Exultate iusti in Domino. Psal. xxxiij.

YMlawenhewch y rhai cyfiawn yn yr Arglwydd: i'r rhai iniawn gweddus yw diolchgarwch.

2 Molwch yr Arglwydd ar y delyn: cênwch iddo ar y nabel, ac ar y dec-tant.

3 Cênwch iddo ganiad newydd: cênwch yn gerdd­gar, ac yn soniarus.

4 Canys iniawn yw gair yr Arglwydd, a'i holl weithredoedd ydynt ffyddlon.

5 Efe a gâr gyfiawnder, a barn: o drugaredd yr Arglwydd y mae y ddaiar yn gyflawn.

6 Trwy air yr Arglwydd y gwnaethpwyd y nefoedd: a'u holl luoedd hwy trwy yspryd ei enau ef.

7 Casclu y mae efe ddyfroedd y môr yng-hyd, me­gis yn ben-twrr: gan roddi y dyfnderoedd mewn tryssorau.

8 Ofned yr holl ddaiar yr Arglwydd: holl dri­golion [Page] y byd arswydant ef.

9 Canys efe a ddywedodd, ac felly y bu: efe a orchy­mynnodd, a hynny a safodd.

10 Yr Arglwydd sydd yn diddymmu cyngor y cen­hedloedd: y mae efe yn diddymmu amcanion poblo­edd, ac yn llysu cyngor tywysogion.

11 Cyngor yr Arglwydd a saif yn dragywydd: a meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth.

12 Gwyn ei fyd y genedl yr hon y mae yr Arglw­ydd yn Dduw iddi: a'r bobl a ddetholes efe yn etifeddi­aeth iddo ei hun.

13 Yr Arglwydd sy yn edrych i lawr o'r nefoedd: ac yn gweled holl feibion dynnion.

14 O bresswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigo­lion y ddaiar.

15 Yr hwn a gyd-luniodd eu calon hwynt: gan ddeall eu holl weithredoedd.

16 Ni warêdir brenin gan liaws llu: ni ddiangc cadarn drwy amlder cryfder.

17 Palledic yw 'r march i ymwared: nid achub efe neb drwy ei fawr-gryfder.

18 Wele lygad yr Arglwydd ar y rhai ai hofnant ef: sef ar y rhai a ymddyriedant yn ei drugaredd ef.

19 Er mwyn gwaredu eu heneidiau rhag angeu: ac iw cadw yn fyw yn amser newyn.

20 Ein henaid sydd yn disgwil am yr Arglwydd: efe yw ein porth a'n tarian.

21 Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, o her­wydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef.

22 Bydded dy drugaredd Arglwydd arnom ni, megis yr ymddyriedom ynot.

Benedicam Domino. Psal. xxxiiij.

DIolchaf i'r Arglwydd bob amser: ei foliant fydd yn fyng-ênau yn wastad.

2 Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid: y rhai [Page] gostyngedic a glywant hyn, ac a lawenychant.

3 Mawrygwch yr Arglwydd gyd â mi: a chyd­dderchafwn ei enw ef.

4 Ceisiais yr Arglwydd, ac efe a'm gwranda­wodd: gwaredodd fi hefyd o'm holl ofn.

5 Edrychant arno, a hwynt a eglurir: a'u hwy­nebau ni chywilyddir, eithr dywedant:

6 Y tlawd hwn a lefodd, a'r Arglwydd ai clybu, ac a'i gwaredodd o'i holl drallodau.

7 Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a'i hofnant ef, ac a'i gwared hwynt.

8 Profwch, a gwelwch morr ddâ yw 'r Arg­lwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddyriedo ynddo.

9 Ofnwch yr Arglwydd ei sainct ef: canys nid oes eisieu ar y rhai a'i hofnant ef.

10 Y mae eisieu, a newyn ar y llewod, a'r sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisieu dim daioni.

11 Deuwch feibion, gwrandewch arnaf: dyscaf i chwi ofn yr Arglwydd.

12 Pwy yw 'r gŵr a chwennych fywyd, gan garu hîr ddyddiau i weled daioni?

13 Cadw dy dafod rhag drwg: a'th wefusau rhag traethu twyll.

14 Ymwrthot a'r drwg, a gwna ddâ: ymgais â thangneddyf, a dilyn hi.

15 Llygaid yr Arglwydd ydynt ar y rhai cyfi­awn: a'i glustiau ydynt yn agored iw llefain hwynt.

16 Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg: i dorri eu coffa oddi ar y ddaiar.

17 Y rhai cyfiawn a lefâsant, a'r Arglwydd a gly­bu, ac a'u gwarêdodd o'u holl drallodion.

18 Agos yw 'r Arglwydd at y rhai drylliedic o galon: ac efe a geidw y rhai briwedic o yspryd.

19 Llawer o ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr [Page] Arglwydd a'i gwared ef oddi-wrthynt oll.

20 Efe a geidw ei holl escyrn: ni ddryllir vn o honynt.

21 Drygioni a ladd yr annuwiol: a'r rhai a ga­sânt y cyfiawn a anrheithir.

22 Yr Arglwydd a warêda eneidiau ei weision: a'r rhai oll a ymddyriedant ynddo ef nid anrheithir hwynt.

Iudica Domine. Psal. xxxv.

Boreuol weddi. DAdle Arglwydd â'r rhai a ddadleuant i'm herbyn: rhyfêla yn erbyn y rhai a ryfêlant â mi.

2 Ymâfel yn y tarian a'r astalch, a chyfot i'm cymmorth.

3 Dwg allan y waiw-ffon, ac argaea yn erbyn fy erlid-wŷr: dywet wrth fy enaid, myfi yw dy ie­chyd.

4 Cywilyddier, a gwradwydder y rhai a geisi­ant fy enaid: ymchweler yn eu hôl, a gwarthaer y sawl a fwriadant fy-nrygu.

5 Byddant fel vs o flaen y gwynt: ac angel yr Arglwydd yn eu gwascaru.

6 Bydd eu ffordd yn dywyllwch, ac yn llithrig­fa: ac angel yr Arglwydd yn eu hymlid.

7 Canys heb achos y cuddiasant bydew a'u rhwyd i mi: heb achos y cloddiasant bydew i'm he­naid.

8 Deued arno ddestruw ni ŵypo, a'i rwyd yr hon a guddiodd efe a'i dalio: syrthied yn y destruw hynny.

9 Eithr llawenyched fy enaid yn yr Arglwydd: ac ymhyfryded yn ei iechydwriaeth ef.

10 Fy holl escyrn a ddywedant, ô Arglwydd, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fy­ddo [Page] trêch nag ef? y truan hefyd a'r tlawd rhag y neb a'i hyspeilio?

11 Tystion gau a gyfodasant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi-wrtho.

12 Talâsant i mi ddrwg dros dda, gan yspeilio fy enaid.

13 A minne pan glefychent hwy oeddwn a'm gwisc o sach-len, gostyngais fy enaid ag ympryd: a'm gweddi a ddymchwelodd i'm mynwes fy hun.

14 Ymddygwn fel pe buase yn gyfaill, neu fel pe buase yn frawd i mi: ymostyngwn mewn galar­wisc fel vn yn galâru am ei fam.

15 Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i, ac ymgasclasant, ymgasclodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn: min-gammasant fi, ac ni phei­dient.

16 Ym-mysc y rhag-rithŵyr yr oedd gwatwar­wyr mwys-air yn escyrnygu eu dannedd arnaf.

17 Arglwydd hyd pa brŷd yr edrychi di ar hyn? gwaret fy enaid rhag eu destruw hwynt, fy vnic e­naid rhag y llewod.

18 Yna i'th glodforaf mewn cynnulleidfa fawr: moliannaf di ym-mhlith pobl lawer.

19 Na lawenyched fyng-elynnion i'm herbyn yn anghyfiawn: y sawl a'm casânt yn ddiachos nac am­neidiant â llygad.

20 Can nad ymddidanant yn dangneddyfus: eithr dychymmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai llonydd ar y ddaiar.

21 Lledâsant eu safn arnaf, gan ddywedyd: ffei, ffei, gwelodd ein llygad.

22 Gwelaist hyn Arglwydd, na thaw dithe: nac ymbellhâ oddi-wrthif ô Arglwydd,

23 Cyfot, a deffro i'm barn sef i ddadleu gyd â mi, fy Nuw, a'm Harglwydd.

24 Barn fi Arglwydd fy Nuw, yn ôl dy gyfiawn­der: ac na lawenhânt o'm plegit.

25 Na ddywedant yn eu calon, ô ein gwynfyd: ac na ddywedant, llyngcasom ef.

26 Cywilyddier, a gwradwydder hwy eu gyd, y rhai sy lawen am fy-nryg-fyd: gwiscer â gwarth, ac â chywilydd y rhai a ymfawrygant i'm herbyn.

27 Caned a llawenyched y rhai a hoffant fyng-hyfiawnder, a dywedant hefyd yn wastad, mawry­ger yr Arglwydd yr hwn a gârlwyddiant ei wâs.

28 Fy nhafod inne a fyfyrria ar dy gyfiawnder, a'th foliant bob dydd.

Dixit iniustus. Psal. xxxvj.

Y Mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fyng-halon, nad oes ofn Duw o flaen ei ly­gaid ef.

2 O herwydd ymwenheithio y mae efe iddo ei hun, yn ei olwg ei hunan, nes cael allan ei anwi­redd ef yr hwn sydd iw gassâu.

3 Geiriau ei enau ydynt anwiredd, a thwyll: peidiodd a bod yn gall i wneuthur daioni.

4 Anwiredd a ddychymmyg efe ar ei wely, efe ai gesyd ei hun ar ffordd nid yw ddâ: ni wrthyd efe ddrygioni.

5 Dy drugaredd Arglwydd sydd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd yr wybrennau.

6 Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawn­der, dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dŷn, ac anifail a achubi di Arglwydd.

7 Morr werth-fawr yw dy drugaredd ô Dduw, am hynny 'r ymddyried meibion dynnion yng-hys­cod dy adênydd.

8 Llenwir hwynt â brasder dy dŷ: ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt.

9 Canys gyd â thi y mae ffynnon y bywyd: yn [Page] dy oleuni di y gwêlwn oleuni.

10 Estyn dy drugaredd i'r rhai a'th adwaenant, a'th gyfiawnder i'r rhai iniawn o galon.

11 Na ddeued troed balchder i'm herbyn: ac na syfled llaw y rhai annuwiol fi.

12 Yno y syrthiodd gweith-wŷr anwiredd, gw­thiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.

Noli æmulari. Psal. xxxvij.

NAc ymddigia o herwydd yr annuwoli­on,Pryd­nhawnol weddi. ac na chenfigenna wrth y rhai a wnant anwiredd.

2 Canys yn ebrwydd y torrir hw­ynt i'r llawr fel glas-wellt, ac y gwy­want fel gwyrdd lyssiau.

3 Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna ddâ: trig yn y tîr, â thi a borthir yn ddiau.

4 Ymddigrifa yn yr Arglwydd, ac efe a ddyru i ti ddymuniadau dy galon.

5 Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddy­riet ynddo, ac efe a gyflawna dy ewyllys.

6 Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleu­ni: a'th iniondeb di fel yr haul hanner dydd.

7 Disgwil yn ddistaw wrth yr Arglwydd, ac ymddyriet ynddo: nac ymddigia wrth yr hwn a lwy­ddo ganddo ei ffordd, nac wrth y gŵr yr hwn sydd yn gwneuthur ei amcan.

8 Paid â digofaint, a gad ymmaith gynddaredd: nac ymofidia chwaith i ddrygu.

9 Canys torrir ymmaith y drwg-ddynion, a'r rhai a ddisgwiliant wrth yr Arglwydd, hwyntwy a etifeddant y tîr.

10 Am hynny etto ychydigyn, ac ni welir yr an­nuwiol, a thi a edrychi am y lle y bu efe, ac ni [Page] bydd dim o honaw.

11 Eithr y rhai gostyngedic a feddant y ddaiar, ac a'u diddenir gan liaws tagneddyf.

12 Yr annuwiol a amcâna yn erbyn y cyfiawn, ac a escyrnyga ei ddannedd arno.

13 Yr Arglwydd a'i gwatwar ef, canys gwelodd fod ei ddydd ar ddyfod.

14 Yr annuwolion a dynnâsant eu cleddyf, ac a annelâsant eu bŵa, i fwrw i lawr y tlawd, a'r ang­henog, ac i ladd y rhai iniawn eu ffordd.

15 Eithr eu cleddyf a aiff yn eu calon eu hunain, a'u bwâu a ddryllir.

16 Gwell yw prinder y cyfiawn, nâ mawr olud yr annuwolion cedyrn.

17 Canys breichiau 'r annuwolion a ddryllir: a'r Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn.

18 Yr Arglwydd a edwyn ddyddiau y rhai per­ffaith, a'u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd.

19 Ni's gwradwyddir hwy yn amser y dryg-fyd, ac yn amser newyn y cânt ddigon.

20 Eithr collir yr annuwolion, a gelynnion yr Arglwydd fel braster ŵyn a ddiflannant: sef gyd â'r mŵg y diflannant.

21 Yr annuwiol a echŵyna, ac ni thâl adref: a'r cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi.

22 Canys y rhai a fendîgo efe a etifeddant y tir: a'r rhai a felldithio efe a dorrir ymmaith.

23 Yr Arglwydd a fforddia gerddediad gŵr: a da fydd ganddo ei ffordd ef.

24 Er iddo gwympo, ni fwrir ef ymmaith: canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef â'i law.

25 Mi a fum ieuangc, ac yr ydwyf yn hên: ac ni welais er ioed y cyfiawn wedi ei adu, na'i hâd yn cardota eu bara.

26 Pob amser y mae y cyfiawn yn drugarog, ac [Page] yn rhoddi benthyg: ai hâd a fwynhâ y fendith.

27 Cilia di oddi-wrth ddrwg, a gwna ddâ, a chy­fannedda yn dragywydd.

28 Canys yr Arglwydd a gâr farn, ac ni edu ei sainct: cedwir hwynt yn dragywydd, a hâd yr annu­wolion a dorrir ymmaith.

29 Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaiar, ac a bresswyliant arni yn dragywydd.

30 Genau y cyfiawn a fynegâ ddoethineb, a'i da­fod a draetha farn.

31 Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef, a'i draed ni lithrant.

32 Yr annuwiol a graffa ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.

33 Ni âd yr Arglwydd ef yn ei law ef, ac ni âd ef yn euog pan ei barner.

34 Gobeithia yn yr Arglwydd, a chadw ei ffordd ef, ac efe a'th dderchafa fel yr etifeddech y tir: gwêli pan ddifether yr annuwolion.

35 Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn fri­goc, fel y lawryf gwŷrdd.

36 Er hynny efe a aeth ymmaith, ac wele nid oedd mwy o honaw: a mi a'i ceisiais, ac ni cheid ef.

37 Ystyr yr hyn sydd berffaith, ac edrych ar yr iniawn, canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tang­neddyf.

38 Canys y trawsion a gŷd-ddestruwir, a di­wedd yr annuwolion a ddiwreiddir.

39 Ac iechydwriaeth y rhai cyfiawn fydd gan yr Arglwydd: efe fydd eu nerth hwynt yn amser tra­llod.

40 Canys yr Arglwydd a'u cymmorth hwynt, ac a'u gwared, efe a'u gwared hwynt rhag yr annuwo­lion, ac a'u ceidw hwynt, gan iddynt ymddyried ynddo.

Domine ne in furore. Psal. xxxviij.

Boreuol weddi. ARglwydd na cherydda fi yn dy lid: ac na chospa fi yn dy ddigllonedd.

2 Canys dy saethau a ddescynnasant ynof: a'th law a ddescynnodd arnaf.

3 Nid oes iechyd yn fyng-nhawd o herwydd dy ddigllonedd: ac nid oes heddwch i'm hescyrn o ble­git fy mhechod.

4 Canys fyng-hamweddau a aethant dros fy mhen, megis baich gorthrwm y maent yn rhy drwm i mi.

5 Fyng-hleisiau a bydrâsant, ac a lygrâsant gan fy ynfydrwydd.

6 Crymmwyd a darostyngwyd fi 'n ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alârus.

7 Canys fy lwynau a lawnwyd o boethder, ac nid oes iechyd yn fyng-nhawd.

8 Gwanhauwyd, a drylliwyd fi 'n dramawr: rhuais gan ofid fyng-halon.

9 O'th flaen di Arglwydd y mae fy holl ddymu­niad, ac ni chuddiwyd fy vchenaid oddi-wrthit.

10 Fyng-halon sydd yn chynhyrfu, fy nerth a'm gadâwodd, a llewyrch fy llygaid nid yw ychwaith gennif.

11 Fyng-haredigion, a'm cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhlâ, a'm cyfneseifiaid a safent o hir­bell.

12 Yna y rhai a geisient fy enaid a osodasant fag­lau, a'r rhai a geisient fy niwed a draethent anwi­rêddau, ac a ddychymmŷgent ddichellion beunydd.

13 A minne fel byddar ni chlywn, eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau.

14 Felly 'r oeddwn fel gŵr yr hwn ni chlywe, ac heb argyoeddion yn ei enau.

15 O herwydd i'm obeithio ynot Arglwydd, ti fy Arglwydd Dduw a wrandêwi.

16 Canys dywedais, edrych rhag llawenychu o'm gelynnion i'm herbyn, pan lithre fy nhroed, ym­fawrygent i'm herbyn.

17 Yn ddiau i ddialedd i'm paratoiwyd, a'm dolur sydd ger fy mron yn wastad.

18 Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y prydêraf o herwydd fy mhechod.

19 Ac y mae fyng-elynion yn fyw, ac yn gedyrn, amlhawyd hefyd y rhai a'm cassânt ar gam:

20 A'r rhai a dâlant ddrwg dros ddâ a'm gwrth­wynêbant: am ddilyn o honof ddaioni.

21 Na ad ti fi ô Arglwydd fy Nuw, nac ymbellhâ oddi-wrthif.

22 Bryssia i'm cynnorthwyo ô Arglwydd fy ie­chyd.

Dixi, custodiam vias. Psal. xxxix.

DYwedais, cadwaf fy ffyrdd rhag pechu â'm ta­fod: cadwaf ffrwyn yn fyng-enau tra fyddo 'r annuwiol yn fyng-olwg.

2 Tewais yn ddistaw, îe tewais a dywedyd daio­ni: a'm dolur a gyffrôdd.

3 Gwresôgodd fyng-halon o'm mewn: tra y my­fyriais, enynnodd tân, a mi a leferais â'm tafod,

4 Arglwydd gâd ti i mi ŵybod fy niwedd, a pheth yw nifer fy nyddiau: gad ti i mi ŵybod o ba oedran y byddaf fi.

5 Wele rhoddaist fy nyddiau fel dyrnfedd, a'm he­nioes sydd megis ddidim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pôb dŷn byw. Selah.

6 Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cyscod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac ni's gŵyr pwy a'u cascl.

7 Ac yn awr beth a obeithiaf ô Arglwydd: fyng­obaith [Page] sydd ynot ti.

8 Gwaret fi o'm holl gamweddau: ac na osot fi yn wradwydd i'r ynfyd.

9 Aethum yn fûd, ac nid agorais fyng-enau: ca­nys ti a wnaethost hyn.

10 Tynn dy bla oddi wrthif: canys gan ddyrnod dy law y darfûm i.

11 Pan gospit ddyn â cheryddon am anwiredd, dattodit fel gŵyfyn ei ardderchawgrwydd ef: gwa­gedd am hynny yw pôb dŷn. Selah.

12 Gwrando fyng-weddi Arglwydd, a chlyw fy llef, na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithudd ydwyf gyd â thi, ac alltud fel fy holl dadau.

13 Paid ti â mi, fel y cryfhauwyf cyn fy myned: ac na byddwyf mwy.

Expectans expectaui. Psal. xl.

DIsgwiliais yn ddyfal am yr Arglwydd, ac efe a ostyngodd ei glust attaf: ac a glybu fy llefain.

2 Cyfododd fi hefyd o'r pydew terfyscus, allan o'r pridd tomlyd: ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fyng-herddediad.

3 A rhoddodd yn fyng-enau ganiad newydd o fo­liant i'n Duw ni: llawer a wêlant hyn, ac a ofnant, ac a ymddyriedant yn yr Arglwydd.

4 Gwyn ei fyd y gŵr yr hwn a osodo 'r Arglwydd yn ymddyried iddo: ac ni thrŷ at feilchion, nac at y rhai a droant at gelwydd.

5 Lluosog y gwnaethost ti fy Arglwydd Dduw dy ryfeddodau, a'th amcannion i ni, ni ellir yn dref­nus eu cyfrif hwynt i ti: mi a'u mynegwn, ac a'u traethwn hwynt, eithr amlach ydynt nag y gellir eu rhifo hwynt.

6 Aberth a bwyd offrwm ni's ewyllysiaist, eithr agoraist i'm glustiau: poeth offrwm a phech aberth ni's gofynnaist.

7 Yna y dywedais, wele 'r ydwyf yn dyfod, yn rhol y llyfr yr scrifennwyd am danaf.

8 Ewyllysiais wneuthur dy fodd fy Nuw: a'th gyfraith sydd o fewn fyng-halon.

9 Pregêthais dy gyfiawnder yn y gynnulleidfa fawr: wele nid attaliaf fyng-wefusau, ti Arglwydd a'i gwyddost.

10 Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fyng-ha­lon, treuthais dy wirionedd a'th iechydwriaeth: ni chelais dy drugâredd na'th wirionedd yn y gynnu­lleidfa luosog.

11 Tithe Arglwydd nac attal dy drugarêddau oddi wrthif: cadwed dy drugaredd, a'th wirionedd si bŷth.

12 Canys drŷgau anifeiriol a gylchynâsant o'm hamgylch, fy mhechodau a'm daliasant fel na allwn edrych i fynu: amlach ydynt nâ gwallt fy mhen, am hynny y pallodd fyng-halon gennif.

13 Rhynged bodd it Arglwydd fyng-waredu: bryssia Arglwydd i'm cymmorth.

14 Cyd-gywilyddier, a gwradwydder y rhai a geisiant fy enioes iw difetha, troer yn eu hôl, a chy­wilyddier y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg.

15 Diffeithier yn lle gobrwy eu gwradwydd, y rhai a ddywedant wrthif, ffei, ffei.

16 Llawenyched, ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a'th geisiant di: dyweded y rhai a garant dy iechydwriaeth bôb amser, mawryger yr Argl­wydd.

17 Er fy mod i yn wann, ac yn druan, yr Ar­glwydd a feddwl am danaf, fyng-hymmorth a'm gwaredudd ydwyt ti: fy Nuw na hîr drîga.

Beatus qui intelligit. Psal. xlj.

Pryd­nhawnol weddi. GWyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd, yr Arglwydd a'i gwared ef yn amser ad­fyd.

2 Yr Arglwydd ai ceidw, ac ai by­whâ, gwynfydedic fydd ar y ddaiar: na ddod tithe ef wrth ewyllys ei elynnion.

3 Yr Arglwydd ai nertha ef ar ei glaf-wely: cy­weiri ei holl wely ef yn ei glefyd.

4 Mi a ddywedais, Arglwydd trugarhâ wrthif: iachâ fy enaid, canys pechais i'th erbyn.

5 Fyng-elynion a lefarent ddrŵg am danaf gan ddywedyd: pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?

6 Ac os daw i'm hedrych efe a ddywed gelwydd, ei galon a gascl ynddo anwiredd: efe a aiff allan, ac a'i traetha.

7 Fy holl gaseion a gyd-hustyngant i'm herbyn: ac a ddychymmygant ddrwg i mi.

8 Aflwydd a dywalltwyd arno ef: a'r hwn sydd yn gorwedd ni chyfyd mwy.

9 Hefyd y gŵr annwylaf gennif, yr hwn yr ym­ddyriedais iddo, ac a fwytaodd fy mâra, a ddercha­fodd ei sodl i'm herbyn.

10 Eithr ti Argwydd trugarhâ wrthif, a chyfot fi, fel y talwyf iddynt.

11 Wrth hyn y gwn hoffi o honot fi: am na chaiff fyng-elyn orfolaethu i'm herbyn.

12 Ond am danaf fi yn fy mherffeithrwydd i'm cynheli, ac i'm gosodi ger dy fron yn dragywydd.

13 Bendigedic fyddo Arglwydd Dduw Israel o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb, Amen, Amen.

Quemadmodum defiderat. Psal. xlij.

FEl y brefa 'r hŷdd am yr afônydd dyfroedd: felly 'r hiraetha fy enaid am danat ti ô Dduw.

2 Sychedic yw fy enaid am Dduw, sef am Dduw byw: pa bryd y deuaf, ac yr ymddangosaf ger bron Duw?

3 Fy neigr oedd fwyd i'm ddydd a nôs: pan ddy­wedid wrthif bôb dydd, pa le y mae dy Dduw?

4 Tywalltwn fy enaid wrthif fy hun pan gofi­wn hynny: sef mai gyd a'r gynnulleidfa 'r awn, ac y cerddwn gyd â hwynt hyd tŷ Dduw mewn sain cân, a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl.

5 Pa ham fy enaid i'th ddarostyngir, ac yr ym­derfysci ynof? gobeithia yn Nuw, o blegit molian­naf ef etto am iechydwriaeth ei wyneb-pryd.

6 Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di o dîr yr Iorddonen, a Hermon y mynydd bychan,

7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bi­stylloedd di: dy holl donnau a'th lifeiriant a aethant trosofi.

8 Yr Arglwydd a orchymyn i mi ei drugaredd liw dydd, a'i gân liw nôs, sef gweddi ar Dduw fy enioes.

9 Dywedaf wrth Dduw fyng-hadernid, pa ham yr anghofiaist fi, pa ham y rhodiaf yn alârus trwy orthrymder y gelyn?

10 Taro â chleddyf trwy fy escyrn y mae fyng­wrthwyneb-wŷr a'm gwradwyddent, pan ddywe­dant wrthif bôb dydd, pâ le y mae dy Dduw?

11 Pa ham i'th ddarostyngir fy enaid? a pha ham y terfysci ynof? ymddyriet yn Nuw, canys etto y moliannaf ef, sef iechydwriaeth fy wyneb, a'm Duw.

Iudica me Deus. Psal. xliij.

BArn fi ô Dduw, a dadle fy nadl yn erbyn y gen­hedlaeth anrhugarog: gwaret fi rhag y dŷn twy­llodrus, ac anwir.

2 Canys ti ydwyt Dduw fy nerth, pa ham i'm ffieiddiaist? pa ham yr âf morr alarus trwy orthrym­der y gelyn?

3 Anfon dy oleuni, a'th wirionedd, tywysant hwy fi, ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i'th bresswylfod.

4 Yna 'r âf at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fyng-orfoledd, ac mi a'th foliannaf ar delyn ô Dduw, fy Nuw.

5 Pa ham i'th ddarostyngir fy enaid? a pha ham y terfysci ynof? gobeithia yn Nuw, canys etto y mo­liannaf ef sef iechydwriaeth fy wyneb, a'm Duw.

Deus auribus nostris. Psal. xliiij.

Boreuol weddi. DVw clywsom â'n clustiau, ein tadau a fynegâsant i ni y gweithredoedd a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt.

2 Ti â'th law a orescynnaist y cen­hedloedd, ac a'u plannaist hwythau, ti a ddygaist y bobloedd, ac a'u cynnyddaist hwythau.

3 Canys nid â'u cleddyf eu hun y gorescynnasant y tir, nid eu braich a barodd iechydwriaeth iddynt, eithr dy ddeheu-law di, a'th fraich, a llewyrch dy wyneb, o herwydd it eu hoffi hwynt.

4 Ti Dduw yw fy Mrenin: gorchymyn iechy­dwriaeth i Iacob.

5 Ynot ti y difethwn ni ein gelynnion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i'n herbyn.

6 O herwydd nid yn fy mŵa 'r ymddyriedaf, nid [Page] fyng-hleddyf hefyd a'm hachub.

7 Eithr ti a'n hachubaist ni oddi-wrth ein gwr­thwyneb-wŷr, ac a wradwyddaist ein caseion:

8 Am hynny y moliannwn Dduw bôb dydd: ac y clodfôrwn dy enw yn dragywydd. Selah.

9 Ond ti a giliaist, ac a'n gwradwyddaist ni, ac nid wyt yn myned allan gyd â'n lluoedd ni.

10 Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a'n caseion a anrhaithiâsant ein da ni iddynt eu hun.

11 Rhoddaist ni fel defaid iw bwytta, a gwasce­raist ni ym-mysc y cenhedloedd.

12 Gwerthaist dy bobl heb êlw, ac ni chwanê­gaist olud o'u gwerth hwynt.

13 Gosodaist ni yn warthrudd i'n cymmydogi­on, yn watwargerdd, ac yn ddiystyrwch ym mhlith y rhai ydynt o'n hamgylch.

14 Gosodaist ni yn ddihareb ym mysc y cenhed­loedd, ac yn rhai i escwyd pen arnynt ym-mysc y bobloedd.

15 Fyng-warthrudd sydd beunydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a'm tôdd.

16 Gan lais y gwarthrudd-ŵr, a'r cabl-wr, o herwydd y gelyn, a'r ymddial-wr.

17 Hyn oll a ddaeth arnom: etto ni'th anghofia­som di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfammod.

18 Ni thrôdd ein calon yn ei hôl, ac ni lithrodd ein cerddediad o'th lwybr di.

19 Er i ti ein cûro i drig-fa dreigiau, a thoi tro­som â chyscod angeu.

20 Os anghofiasom enw ein Duw: neu estyn ein dwylo at Dduw dieithr:

21 Oni chwilia Duw hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgêloedd calon.

22 O herwydd mai er dy fwyn di i'n lleddir beu­nydd, [Page] ac i'n cyfrifir fel defaid iw lladd:

23 Cyfot i fynu, pa ham y cysci ô Arglwydd? de­ffro, na chilia yn dragywydd.

24 Pa ham y cuddi dy wyneb, ac yr anghofi ein cystudd, a'n gorthrymder?

25 Canys gostyngwyd ein henaid i'r llwch: glŷ­nodd ein bol wrth y ddaiar.

26 Cyfot yn gynnorthwy i ni, a gwaret ni er mwyn dy drugaredd.

Eructauit cor meum. Psal. xlv.

TRaethodd fyng-halon beth dâ, dywedyd yr yd­wyf am fyng-weithredoedd i'r Brenin, fy nha­fod sydd fel pin scrifennudd buan.

2 Tegach ydwyt na meibion dynnion, tywallt­wyd rhâd ar dy wefusau, o herwydd i Dduw dy fen­dithio di yn dragywydd.

3 Gwregysa dy gleddyf ar dy glûn ô gadarn, sef dy ogoniant, a'th harddwch.

4 Llwydda hefyd a'th ogoniant, marchog di ar air y gwirionedd, a lledneisrwydd a chyfiawnder: a'th ddeheu-law a ddysc i ti bethau ofnadwy.

5 Pobl a syrthiant tanat: o herwydd dy saethau llymmion yn glynu yng-halon gelynnion y brenin.

6 Dy orsedd di ô Dduw a beru byth, ac yn dra­gywydd: teyrn-wialen iniondeb yw teyrn-wialen dy frenhiniaeth di.

7 Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny i'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di ag olew llawenydd yn fwy na'th gyfeillion.

8 Arogl Myrr, Aloes, a Chasia sydd ar dy holl wiscoedd: pan ddelech o'r palâsau Ifori, lle i'th la­wenhausant,

9 Merched brenhinoedd oedd ym mhlith dy ben­defigesau, safe y frenhines ar dy ddeheu-law mewn aur coeth o Ophir.

10 Gwrando ferch, a gwêl hefyd, a gostwng dy glust: anghofia dy bobl, a thŷ dy dâd.

11 A'r brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Ior di: ymostwng dithe iddo ef.

12 Merch Tyrus hefyd a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â'th wyneb ag anrheg.

13 Merch y brenin sydd oll yn anrhydeddus o fe­wn: gem-waith aur yw ei gwisc hi.

14 Mewn gwaith edyf a nodwydd y dygir hi at y brenin: y morwynion y rhai a ddeuant ar ei hôl yn gyfeillesau iddi a ddygir attat ti.

15 Mewn llawenydd, a gorfoledd y dygir hwynt, ac y deuant i lŷs y brenin.

16 Dy feibion fyddant yn lle dy dadau: gosodi hwynt yn dywysogion ym-mhob gwlâd.

17 Coffâf dy enw ym-mhob cenhedlaeth, ac oes: am hynny y bobl a'th foliannant byth, ac yn dragy­wydd.

Deus noster refugium. Psal. xlvj.

DVw sydd obaith, a nerth i ni, hawdd ei gael me­wn cyfyngder.

2 Am hynny nid ofnem pe syfle y ddaiar, a phe symmude y mynyddoedd i ganol y môr.

3 Pe terfysce, a chymmysce ei ddyfroedd, pe cyn­hyrfe y mynyddoedd gan ei fordwy ef. Selah.

4 Ffrydiau ei afon ef a lawenhânt ddinas Dduw: sef cyssegr presswylfeudd y Goruchaf.

5 Duw sydd o'i mewn hi, nid yscog hi: Duw a'i cynnorthwya yn foreu iawn.

6 Y cenhedloedd a derfyscâsant, y teyrnasoedd a yscogâsant, pan roddes efe ei lef, toddodd y ddaiar.

7 Y mae Arglwydd y lluoedd gyd â ni: y mae Duw Iacob yn amddeffynfa i ni. Selah.

8 Deuwch, gwelwch weithredoedd yr Arglwydd pa anghyfannedd-dra a osododd efe ar y ddaiar.

9 Gwnaiff i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaiar, efe a ddryllia'r bŵa, ac a dyrr y waiw-ffon, ac a lysc y cerbydau â thân.

10 Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sŷdd Dduw: derchefir fi ym mysc y cenhedloedd, derche­fir fi ar y ddaiar.

11 Y mae Arglwydd y lluoedd gyd â ni: amdde­ffynfa i ni yw Duw Iacob. Selah.

Omnes gentes. Psal. xlvij.

Pryd­nhawnol weddi. YR holl bobl curwch ddwylo: llafar-gên­wch i Dduw â llef gorfoledd.

2 Canys yr Arglwydd goruchaf sydd of­nadwy: a Brenin mawr ar yr holl ddaiar.

3 Efe a ddug y bobl tanom ni: a'r cenhedloedd tann ein traed.

4 Efe a ddethol ein etifeddiacth i ni, sef ardder­chawgrwydd Iacob, yr hwn a hoffodd efe. Selah.

5 Derchafodd Duw mewn gorfoledd, sef yr Ar­glwydd â sain vdcorn.

6 Cenwch, cenwch i Dduw: cenwch, cenwch i'n Brenin.

7 Canys Brenin yr holl ddaiar yw Duw: cen­wch yn ddeallus.

8 Teyrnasodd Duw ar y cenhedloedd: eisteddodd Duw ar orsedd-faingc ei sancteiddrwydd.

9 Pendefigion y bobl a ymgasclâsant at bobl Duw Abraham: canys tariannau y byd ydynt eiddo Duw, dirfawr y derchafwyd ef.

Magnus Dominus. Psal xlviij.

MAwr yw'r Arglwydd, a thra moliannus yn ni­nas ein Duw ni, sef yn ei fynydd sanctaidd.

2 Tegwch bro a llawenydd yr holl wlâd yw my­nydd Sion yn ystlysau y gogledd: sef dinas y Bre­nin mawr.

3 Duw yn ei phalâsau a adwaenir yn amdde­ffynfa.

4 Canys wele y brenhinoedd a ymgyfarfuant: ac a aethant yng-hyd.

5 Hwynt a welsant, felly y rhyfeddâsant: bra­wychâsant ac aethant ymmaith ar ffrŵst.

6 Dychryn a ddaeth arnynt hwy yno, a dolur megis gwraig yn escor.

7 A gwynt y dwyrain y drylli longau y môr.

8 Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd, sef yn ninas ein Duw ni: Duw a'i siccrhâ hi yn dragywydd. Selah.

9 Disgwiliasom ô Dduw am dy drugaredd o fewn dy Deml.

10 Megis y mae dy enw ô Dduw, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheu-law.

11 Llawenyched mynydd Sion: ac ymhyfryded merched Iuda, o herwydd dy farnedigaethau.

12 Amgylchwch Sion, a chylchŷnwch hi, rhif­wch ei thŷrau hi.

13 Ystyriwch ar ei magwyr, cadarnhewch ei pha­lâsau, fel y mynegoch i'r oes a ddêlo yn ôl.

14 Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth, ac yn dragywydd: efe a'n tywys ni hyd angeu.

Audite hæc omnes. Psal. xlix.

CLywch hyn yr holl bobloedd, gwrandewch hyn holl drigolion y bŷd.

2 Yn gystal gwerin a boneddigion, cyfoethog a thlawd yng-hyd.

3 Fyng-enau a draetha ddoethineb: a myfyrdod fyng-halon fydd am ddeall.

4 Gostyngaf fyng-hlust at ddihareb, fy nammeg a ddatganaf gyd â'r dêlyn.

5 Pa ham yr ofnaf yn amser adfyd, pan amgylch-yno anwiredd fy sodlau i?

6 Rhai a ymddyriedant yn eu golud: ac a ymffro­stiant yn lluosogrwydd eu cyfoeth.

7 Gan warêdu ni wareda neb ei frawd: ac ni all efe roddi iawn trosto ef i Dduw.

8 (Canys gwerth-fawr yw prynniad eu henaid, fel y gorfyddo peidio â hynny byth.

9 Fel y byddo efe byw byth, ac na welo 'r bedd,)

10 Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw, y cyd-dderfydd am ffôl, ac ynfyd: ac y gadawant eu go­lud i eraill:

11 Eu meddwl yw y peru eu tai yn dragywydd, a'u trigfeudd hyd genhedlaeth, a chenhedlaeth: am hyn­ny yr henwasant eu henwau eu hun ar eu tiroedd.

12 Eithr nid erys dŷn mewn anrhydedd: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.

13 Dymma eu ffordd yn ynfydrwydd iddynt: etto eu hiliogaeth ydynt fodlon iw hymadrodd. Selah.

14 Fel defaid y gosodir hwynt yn vffern, angeu a ymborth arnynt, a'r rhai cyfiawn aillywodraethāt y boreu: a'u tegwch aiff i ddarfod i'r bedd o'u cartref.

15 Etto Duw a wared fy enaid o feddiant vffern: canys efe a'm derbyn i. Selah.

16 Nac ofna pan gyfoethogo vn, pan chwanêgo gogoniant ei dŷ ef.

17 Canys wrth farw ni ddwg efe ddim, ac ni ddes-cyn ei ogoniant ar ei ôl ef.

18 O herwydd yn ei fyw iddo wneuthur yn fawr am ei enioes: can-molant dithe o byddi dda wrthit dy hun.

19 Efe a aiff at genhedloedd ei dâdau, ac ni we­lant oleuni byth.

20 Dŷn mewn anrhydedd, ac heb ddeall, a gyffe­lybir i anifeiliaid a ddifethir.

Deus deorum. Psal. l.

DVw y duwiau,Boreuol weddi. sef yr Arglwydd a lefa­rodd, ac a alwodd y ddaiar o godiad haul hyd ei fachludiad.

2 O Sion mewn perffeithrwydd te­gwch y llewyrchodd Duw.

3 Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd ddistaw, tân a yssa o'i flaen ef: a themhestl fydd o'i amgylch ef yn ddirfawr.

4 Geilw am y nefoedd oddi vchod: ac am y ddaiar i farnu ei bobl.

5 Cesclwch fy sainct attafi, y rhai a wnaethant gyfammod â mi trwy aberth.

6 A'r nefoedd a fynêgant ei gyfiawnder ef, canys Duw ei hun sydd farn-wr. Selah.

7 Clywch fy mhobl, a mi a lefaraf, testiolaethaf i'th erbyn dithe Israel: Duw sef dy Dduw di ydwyf fi.

8 Nid am dy aberthau i'th geryddaf, na'th boeth offrymmau am nad oeddynt ger fy mron i yn wa­stad.

9 Ni chymmeraf fustach o'th dŷ, na bychod o'th gorlannau.

10 Canys holl fwyst-filod y coed ydynt eiddo fi: a'r anifeiliaid ar fîl o fynyddoedd.

11 Adwen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt a­nifeiliaid y maes ydynt gyd â mi.

12 Os bydd newyn arnaf ni ddywedaf i ti: canys y bŷd a'i gyflawnder sydd eiddo fi.

13 A fwyttafi gig teirw? neu a ŷfaf fi waed by­chod?

14 Abertha foliant i Dduw, a thâl i'r Goruchaf dy addunedau.

15 A galw arnafi yn nydd trallod, yna i'th ware­daf, a thi a'm gogoneddi.

16 Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, beth sydd i ti a fynêgech ar fy neddfau mau fi? ac a gymmerech ar fyng-hyfammod yn dy enau?

17 Canys ti a gaseaist addysc, ac a deflaist fyng-ei­riau i'th ôl.

18 Pan welaist leidr, rhedaist gyd ag ef: a'th gy­fran oedd gyd â'r godineb-wŷr.

19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni, ac â'th dafod y cyd-blethaist ddichell.

20 Eisteddaist, a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam.

21 Hyn a wnaethost, a mi a dewais, tybiaist dithe fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a'th argyoedd­af, ac a osodaf yr hyn a wnaethost o flaen dy lygaid.

22 Dehallwch hyn yn awr, y rhai ydych yn ang­hofio Duw, rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredudd.

23 Yr hwn a abertho foliant a'm gogoneddâfi: a'r neb a osodo ei ffordd yn iawn dangosaf iddo iech­ydwriaeth Dduw.

Miserere mei Deus. Psal. lj.

TRugarhâ wrthif ô Dduw yn ôl dy drugarogrw­ydd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau delea fy an­wireddau.

2 Golch fi yn llwyr-ddwys oddi-wrth fy anwi­redd: a glanhâ fi oddi wrth fy mhechod.

3 Canys adwen fyng-hamweddau: a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron.

4 Yn dy erbyn di dy hunan y pechais, ac y gwneu­thum yr hyn oedd ddrwg yn dy olwg di: fel i'th gyfi­awnhaer pan leferech, ac y byddit bûr pan farnech.

5 Wele mewn anwiredd i'm lluniwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.

6 Wele ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi ŵybod doethineb yn ddirgel.

7 Glanhâ fi ag Yssop, a mi a lanheuir: golch fi, a byddaf wynnach nâ'r eira.

8 Pâr di i mi glywed gorfoledd, a llawenydd fel y llawenycho'r escyrn a ddrylliaist di.

9 Cuddia dy wyneb oddi-wrth fy mhechodau: a delêa fy holl anwireddau.

10 Crea galon lân ynof ô Dduw, ac adnewydda yspryd iniawn o'm mewn.

11 Na fwrw fi ymmaith oddi ger dy fron: ac na chymmer dy Yspryd sanctaidd oddi wrthif.

12 Dwg trachefn i mi orfoledd dy iechydwri­aeth: ac â'th hael Yspryd cynnal fi.

13 Dyscaf dy ffyrdd i rai anwir: a phechaduriaid a droant attat.

14 Gwaret fi oddi-wrth waed ô Dduw sef Duw fy iechydwriaeth: a'm tafod a gân o'th gyfiawnder.

15 Arglwydd agor fyng-wefusau, a'm genau a fy­nega dy foliant.

16 Canys ni chwennychi aberth, pe amgen, mi a'i rhoddwn, a phoeth offrwm ni fynni.

17 Aberthau Duw ydynt yspryd drylliedic: calon ddryllioc gystuddiedic ô Dduw ni ddirmygi.

18 Bydd ddâ wrth Sion o herwydd dy ewyllysca­rwch: adailada furau Ierusalem.

19 Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder sef poeth offrwm, ac aberth llosc: yna'r offrymmant fu­stych ar dy allor.

Quid gloriaris in malicia. Psal. lij.

PA ham yr ymffrosti ô gadarn mewn drygioni? gan fod trugaredd Dduw beunyd?

2 Dy dafod a ddychymmyg scelerder: ac fel ellyn llym sydd yn gwneuthur twyll.

3 Hoffaist ddrygioni yn fwy nâ daioni: a chel­wydd yn fwy nâ thraethu cyfiawnder. Selah.

4 Hoffaist bob geiriau destruw, ô dafod twyllodrus.

5 Duw a'th ddestruwia dithe yn dragywydd, a'th ddryllia, ac a'th ddelêa o'th babell: ac a'th ddi­wreiddia o dir y bywyd. Selah.

6 Y cyfiawn a wêlant hyn, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben gan ddywedyd.

7 Wele'r gŵr ni osododd Dduw yn gardernid iddo: eithr ymddyriedodd yn lluosogrwydd ei olud, ac ymnerthodd yn ei ddrygioni.

8 Minne a fyddaf fel oliwŷdden werdd yn nhŷ Dduw: ymddyriedais yn nhrugaredd Duw byth, ac yn dragywydd.

9 Clodforaf di yn dragywydd, o herwydd i ti wneuthur hyn: gobeithiaf hefyd yn dy enw, canys dâ yw hyn ger bron dy sainct.

Dixit insipiens. Psal. liij.

Pryd­nhawnol weddi. DYwedodd yr ynfyd yn ei galon nid oes Duw: ymlygrâsant a gwnaethant ffiaidd anwiredd, nid oes vn yn gw­neuthur daioni.

2 Edrychodd Duw i lawr o'r ne­foedd ar feibion dynnion, i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw.

3 Ciliase pob vn yn ŵysc ei gefn, cyd-ymddifwy­nasent, nid oedd a wnele ddaioni nac oedd vn.

4 Oni ŵydde gweithred-wŷr anwiredd eu bod yn bwytta fy mhobl fel y bwytaent fara? ni alwâ­sant ar Dduw.

5 Yno'r ofnasant gan ofn, lle nid oedd ofn: canys Duw a wascârodd escyrn yr hwn a'th warchâodd, gwradwyddaist hwynt, am i Dduw eu gwrthod hwy.

6 Oh na roddid iechydwriaeth i Israel o Sion, pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl, yna y lla­wenycha Iacob, ac y gorfoledda Israel.

Deus in nomine tuo Psal. liiij.

AChub fi ô Dduw yn dy enw: a barna fi yn dy ga­dernid.

2 Duw clyw fyng-weddi, gwrando ymadrodd fyng-enau.

3 Canys dieithriaid a gyfodâsant i'm herbyn: a chedyrn a geisiâsant fy enaid, y rhai ni osodâsant Dduw o'u blaen. Selah.

4 Wele Duw sydd yn fyng-hynnorthwyo: yr Arg­lwydd sydd ym mysc y rhai a gynhaliant fy enaid.

5 Efe a dâl ddrwg i'm gelynnion: torr di hwynt ymmaith yn dy wirionedd.

6 Aberthaf it yn ewyllyscar, clodforaf dy enw ô Arglwydd canys dâ yw.

7 Canys efe a'm gwaredodd o bob trallod, a'm llygad a welodd ei wynfyd ar fyng-elynnion.

Exaudi Deus. Psal. lv.

GWrando fyng-weddi ô Dduw, ac nac ymguddia rhag fy neisysiad.

2 Gwrando arnaf ac erglyw fi, cŵynfan yr ydwyf yn fyng-weddi, a thuchan.

3 Gan lais y gelyn, a chan orthrymder yr annu­wiol, o herwydd iddynt ddywedyd celwydd arnaf, a'm gwrthwynebu yn llidioc.

4 Fyng-halon a ofidia o'm mewn: ac ofn angeu a syrthiodd arnaf fi.

5 Ofn, ac arswyd a ddaeth arnaf: a dychryn a'm gorchguddiodd.

6 A dywedais, ô na bai i mi adenydd fel colom­men: yna'r ehedwn, ac y gorphywyswn.

7 Wele cyrwydrwn ym mhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Selah.

8 Bryssiwn i ddiangc rhag y gwynt ystormus, a'r demhestl.

9 Dinistria ô Arglwydd, a gwahan eu tafodau, canys gwelais drawsder, a chynnen yn y ddinas.

10 Dydd a nôs yr ymgylchant hi ar ei muriau, ac y mae anwiredd a blinder o'i mewn.

11 Anwireddau ydynt o'i mewn, ac ni chilia twyll a dichell o'i heolydd hi.

12 Nid gelyn yn ddiau a'm difenwodd, canys di­oddefâswn hynny: nid fyng-has-ddyn a ymfawry­godd i'm herbyn, canys ond odit mi a ymguddiaswn rhagddo ef.

13 Eithr tydi fyng-hydymmaith, fy fforddwr, a'm cydnabod.

14 Y rhai oedd felys gennym gyd-gyfrinachu: ac a rodiasom yn gymydeithgar yn nhŷ Dduw.

15 Rhuthred marwolaeth arnynt: fel y descyn­nant i vffern yn fyw, canys drygioni sydd yn eu car­tref o'u mewn.

16 Myfi a waeddaf ar Dduw, a'r Arglwydd a'm hachub i.

17 Hwyr a boreu, a hanner dydd y gweddiaf, a by­ddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd.

18 Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel yr hwn oedd i'm herbyn: canys llawer oedd gyd â mi.

19 Duw a glyw, ac a'u darostwng hwynt yr hwn sydd yn teyrnasu erioed, Selah: am nad oes symmu­diadau iddynt, am hynny nid ofnant Dduw.

20 Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oeddynt heddychlon ag ef, ac a dorrodd ei gyfammod.

21 Llyfnach oedd ei enau nag ymênyn: a rhyfel yn ei galon, tynêrach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion.

22 Bwrw dy ofal ar yr Arglwydd, ac efe a'th fae­tha di, ni âd i'r cyfiawn syrthio byth.

23 Tithe Dduw a'u descynni hwynt i bydew [Page] llwgr: gwyr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau, onid myfi a obeithiaf yn­ot ti.

Miserere mei Deus. Psal lvj.

TRugarhâ wrthif ô Dduw,Boreuol weddi. canys dŷn a'm llyngce: beunydd yr ymladd, ac i'm gorthrymma.

2 Beunydd i'm llyngce fyng-elyn­nion, canys llawer ydynt yn rhyfela i'm herbyn ô Dduw goruchaf.

3 Y dydd yr ofnwn, mi a ymddyriedwn ynot ti.

4 Duw a glodforaf o herwydd ei air, yn Nuw y gobeithiaf, ac nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi.

5 Beunydd i'm cystuddiant â'm geiriau fy hun, eu holl feddyliau ydynt i'm herbyn er drwg i mi.

6 Hwynt a ymgasclant, a lechant ac a wiliant fyng-hamrau, pan ddisgwiliant am sy enaid.

7 A ddiangant hwy am eu hanwiredd? descyn y bobloedd hyn ô Dduw yn dy lidiawgrwydd.

8 Ti a gyfrifaist fy symmudiad, gosot fy nagrau yn dy gostrel: onid yw hyn yn dy lyfr di?

9 Y dydd y llefwyf arnat yna y dychwelir fyng­elynnion yn eu gwrthol: hyn a wn am fod Duw gyd â mi.

10 Yng-air Duw y gorfoleddaf, yng-air yr Ar­glwydd y gorfoleddaf.

11 Yn Nuw'r ymddyriedais, nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.

12 Arnafi ô Dduw y mae dy addunedau: talaf i ti foliant.

13 Gan waredu o honot fy enaid rhag angeu, a'm traed rhag llithro, fel y rhodiwyf ger bron Duw yng-oleuni y rhai byw.

Miserere mei Deus. Psal. lvij.

TRugarhâ wrthif ô Dduw, trugarhâ wrthif, ca­nys ynot y gobeithiodd fy enaid: îe yng-hyscod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hyn heibio.

2 Galwaf ar Dduw goruchaf, sef ar y Duw a gwplâ â mi.

3 Efe a ensyn o'r nefoedd, ac a'm gwared oddiwrth warthrudd yr hwn a'm llyngce Selah: densyn Duw ei drugaredd, a'i wirionedd.

4 Fy enaid sydd ym mysc llewod, gorwedd yr wyf ym mysc dynion poethion: a'u dannedd fel gwaiw­ffyn, neu saethau, a'u tafod fel cleddyf llym.

5 Ymddercha Dduw vwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.

6 Darparâsant rwyd i'm traed, crymmwyd fy enaid, cloddiâsant bydew o'm blaen, a syrthiâsant yn ei ganol. Selah.

7 Parod yw fyng-halon o Dduw, parod yw fyng-halon: canaf, a chan-molaf.

8 Deffro fyng-ogoniant, deffro Nabl a thêlyn, deffroaf yn foreu.

9 Clodforaf di Arglwydd ym mysc y bobloedd: canmolaf di ym mysc y cenhedloedd.

10 Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd yr wybrau.

11 Ymddercha Dduw vwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.

Si verê vtique. Psal. lviij.

AI cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi ô gyn­nulleidfa? ac a fernwch chwi iniondeb ô feibi­on dynnion?

2 Anwiredd yn hyttrach a weithredwch yn eich calon: trawster y mae eich dwylo yn ei drino ar y ddaiar.

3 O'r groth yr ymddieithrodd y rhai annuwiol, o'r brû y cyfeiliornasant gan ddywedyd celwydd.

4 Gwenwyn sydd ganddynt fel gwenwyn sarph: megis y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau.

5 Yr hon ni wrendu ar lais y rhin-wŷr, na'r cy­farwydd swyn-wr swynion.

6 Dryllia ô Dduw eu dannedd yn eu geneuau: di­nistria ô Arglwydd gil-ddannedd y llewod ieuaingc.

7 Todder hwynt fel dwfr, a diflannant, a phan saethant eu saethau, byddant fel pe torrid hwynt.

8 Aed ymmaith fel malwoden dawdd, neu er­thyl gwraig: ac na wêlont yr haul.

9 Cythryblied ef megis mewn llid, fel peth am­rwd cynn i'ch crochanau glywed gwrês y mieri.

10 Y cyfiawn a lawenycha pan wêlo ddial: ac a ylch ei draed yng-waed yr annuwiol.

11 Yna y dywed dŷn, diau fod ffrwyth i'r cyfiawn: diau fod Duw a farna ar y ddaiar.

Eripe me Domine. Psal. lix.

FY Nuw gwaret fi oddi-wrth fyng-elyn­nion:Pryd­nhawnol weddi. amddeffyn fi oddi-wrth y rhai a ymgyfodant i'm herbyn.

2 Gwaret fi oddi-wrth weithred­wyr anwiredd: ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd.

3 Canys wele cynllwynâsant yn erbyn fy enaid, ac ymgasclodd cedyrn i'm herbyn: nid ar fy mai na'm pechod mau fi ô Arglwydd.

4 Rhedant ymbaratôant heb anwiredd ynofi: cyfot tithe i'm cyfarfod, ac edrych.

5 A thi Arglwydd Dduw 'r lluoedd sef Duw Is­rael, deffro i ymweled â'r holl genhedloedd: na thrugarhâ wrth neb a'r a wnânt anwiredd yn fali­sus. Selah.

6 Ymdroant gyd â'r hŵyr, cyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.

7 Wele llefarant â'u genau, a chleddyfau fydd­ant yn eu gwefusau: canys pwy meddant a glyw?

8 Ond tydi ô Arglwydd a'u gwattwari hwynt, ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.

9 I ti y cadwaf ei nerth ef: canys Duw yw fy amddeffynfa.

10 Fy Nuw trugarog a'm rhagflaena: Duw a wnâ i mi weled fy ewyllys ar fyng-elynnion.

11 Na ladd hwynt rhag i'm pobl anghofio hyn­ny, eithr gwascar hwynt yn dy nerth, darostwng hwynt ô Arglwydd ein tarian.

12 Am bechod eu genau, ac ymadrodd eu gwefu­sau y delir hwynt yn eu balchder: canys melldith, a chelwydd a draethant hwy.

13 Difa hwynt yn dy lid, difa fel na byddant hwy mwyach: ac y gŵybyddant mai Duw sydd yn llywo­draethu yn Iacob, ac hyd eithafoedd y ddaiar. Selah.

14 A hwy a droant gyd â'r hwyr, ac a gyfarthant fel cŵn, ac a amgylchant y ddinas.

15 Hwynt a gyrwydrant i fwytta, ac onis digo­nir, grwgnach a wnânt.

16 Minne a gânaf am dy nerth, ac a ddadcanaf dy drugaredd yn foreu: canys buost yn amddeffynfa i mi, ac yn noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf.

17 I ti fy nerth y canaf: canys Duw yw fy am­ddeffynfa, sef fy Nuw trugarog.

Deus repulisti nos. Psal. lx.

O Dduw ffieiddiaist ni, gwasceraist ni, a sorraist: dychwel attom.

2 Gwnaethost i'r ddaiar grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau, canys y mae yn siglo.

3 Dangôsaist i'th bobl galedi: diodaist ni â gwîn madrondod.

4 Rhoddaist faner i'r rhai a'th ofnant, i fuddu­goliaethu o herwydd y gwirionedd. Selah.

5 Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â'th dde­heu-law, a gwrando fi.

6 Duw a lefârodd yn ei sancteiddrwydd, (am hynny y llawenychaf) rhannaf Sichem, a meusraf ddyffryn Succoth.

7 Eiddo fi yw Gilead, ac eiddo fi Manasses: Ephra­im hefyd yw nerth fy mhen, Iuda yw fy neddf-wr.

8 Moab yw fyng-hrochan golchi: ar Edom y bwriaf fy escid, Palestina ymorfoledda di ynofi.

9 Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn? pwy a'm harwain hyd yn Edom?

10 Onid tydi Dduw 'r hwn a'n ffieiddiaist? ac nid eit ti allan ô Dduw gyd â'n lluoedd?

11 Dod ti i mi gynhorthwy rhag cyfyngder: ca­nys ofer yw ymwared dŷn.

12 Yn Nuw y gwnawn wroldeb, canys efe a sathr ein cystudd-wŷr.

Exaudi Deus. Psal. lxj.

CLyw ô Dduw fy llefain, a gywrando di fyng-we­ddi.

2 O eithaf y ddaiar y llefaf attat, pan lesmeirio fyng-halon: arwain fi i graig a fyddo vwch nâ mi.

3 Canys buost obaith imi, a thŵr nerthol rhag y gelyn.

4 Presswyliaf yn dy babell byth: a'm ymddyried fydd dann orchudd dy adenydd. Selah.

5 Canys ti Dduw a glywaist fy addunedau, rhoddaist etifeddiaeth i'r rhai a ofnant dy enw.

6 Hir-oes a roddi i'r brenin, ei flynyddoedd fydd­ant lawer oes.

7 Efe a bresswylia byth ger bron Duw: darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwant ef.

8 Felly y can-molaf dy enw yn dragywydd: gan dalu fy addunedau beunydd.

Nónne Deo subiecta. Psal. lxij.

Boreuol weddi. WRth Dduw yn vnic y disgwil fy enaid, o honaw ef y daw fy iechydwriaeth.

2 Efe yn vnic yw fyng-hraig, a'm hiechydwriaeth, a'm hamddeffyn: am hynny ni'm mawr yscogir.

3 Pa hŷd y bwriedwch aflwydd i bawb? lleddir chwi oll, a byddwch fel magwyr ogwyddedic, neu bared ar ei ogwydd.

4 Ymgynghorâsant yn vnic iw fwrw ef i lawr oi fawredd, hoffâsant gelwydd, â'u geneuau y bendithi­âfant, ac o'u mewn y melldithiâsant. Selah.

5 Oh fy enaid ymlonyddâ yn Nuw yn vnic, ca­nys ynddo ef y mae fyng-obaith.

6 Efe yn vnic yw fyng-hraig a'm hiechydwria­eth: a'm hamddeffynfa, am hynny ni'm hyscogir.

7 Yn Nuw y mae fy iechydwriaeth a'm gogoni­ant: sef craig fyng-hadernid: yn Nuw y mae fyng-obaith.

8 Gobeithiwch ynddo ef bob amser ô bobl, ty­welltwch eich calon ger ei fron ef: Duw sydd obaith i ni. Selah.

9 Gwâgedd yn vnic yw meibion dynion, geudab yw meibion gwŷr: pan gyfodant yn y cloriant yscaf­nach ydynt hwy eu gyd nâ gwêgi.

10 Nac ymddyriedwch mewn camwedd, ac me­wn trawsedd na ddiflennwch: os cynnydda golud, na roddwch eich calon arno.

11 Vn-waith y dywedodd Duw, clywais hynny ddwy-waith, mai eiddo Duw yw cadernid.

12 Trugaredd hefyd sydd eiddo ti ô Arglwydd: ca­nys ti a dêli i bawb yn ôl ei weithred.

Deus Deus meus. Psal. lxiij.

TI ô Dduw wyt fy Nuw mau fi, yn foreu i'th gei­siaf, sychêdodd fy enaid am danat, hiraethodd fyng-nhawd am danat mewn tîr crâs a sychedic heb ddwfr.

2 Felly i'th welais megis mewn cyssegr, wrth weled dy nerth, a'th ogoniant.

3 Canys gwell yw dy drugâredd di nâ'r bywyd, fyng-wefufau a'th foliannant di.

5 Felly i'th glodforaf yn fy mywyd, ac y derchafaf fy nwylo yn dy enw.

5 Megis â mêr, ac â brasder y digonir fy enaid: a'm genau a'th fawl â gwefusau llafar:

6 Pan i'th gofiwyf ar fyng-wely, myfyriaf am danat yn yn y gwiliadwriaethau.

7 Canys buost gynnorthwy i mi, am hynny yng-hyscod dy adenydd gorfoleddaf.

8 Fy enaid a lŷnodd wrthit, a'th ddeheulaw a'm cynhaliodd.

9 A'r rhai a geisiant fy enaid i ddestruw, a ânt i isselderau y ddaiar.

10 Syrthiant ar fîn y cleddyf: a rhan llwynôgod fyddant hwy.

11 Ond y brenin a lawenycha yn Nuw: gorfo­ledda pob vn a dyngo iddo ef, canys caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd.

Exaudi Deus. Pfal. lxiiij.

CLyw fy llef ô Dduw yn fyng-weddi: cadw fy eni­oes rhag ofn y gelyn.

2 Cuddia fi rhag cyfrinâch y rhai drygionus, a rhag terfysc gweithred-wŷr anwiredd.

3 Y rhai a hogâsant eu tafod fel cleddyf, ac a sae­thasant saeth geiriau chwerwon:

4 I seuthu 'r perffaith yn ddirgel, yn ddisym­mwth y saethant ef, ac nid ofnant.

5 Ymnerthant mewn peth drygionus, ymch­wedleuant am guddio y rhwydau: dywedant, pwy a'u gwêl hwynt?

6 Chwiliasant allan anwireddau, a chwplâsant y dirgelwch, a chwiliwyd yng-heudod a dyfnder ca­lon pob vn o honynt.

7 Eithr Duw a'u saetha hwynt â saeth ddisym­mwth, fel yr archoller hwynt.

8 Ac hwy a wnant iw tafodau eu hun syrthio ar­nynt: pob vn a'u gwêlo a giliant.

9 Pob dŷn a'u gwêlo a fynêgant mai gweithred Duw yw hyn: canys deallant mai ei waith ef yw hyn.

10 Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd, ac a obeithia ynddo ef: a'r rhai iniawn o galon oll a or­foleddant.

Te decet hymnus. Psal. lxv.

Pryd­nhawnol weddi. MAwl a'th erys di yn Sion ô Dduw: ac i ti y têlir yr adduned yn Ierusalem.

2 Ti 'r hwn a wrandewi weddi, attat ti y daw pob cnawd.

3 Pethau anwir a'm gorchfygâ­sant, ti a drugarhei wrth ein camweddau.

4 Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nessâech attat: efe a drîg yn dy gynteddoedd, ac ni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy Deml sanctaidd.

5 Attebi i ni bethau ofnadwy yn dy gyfiawnder ô Dduw ein iechydwriaeth: gobaith holl gyrrau y ddaiar, ac eithafoedd y môr.

6 Yr hwn a siccrhâ y mynyddoedd yn ei nerth, ac a wregyssir â chadernid.

7 Yr hwn a ostêga dwrf y moroedd, twrf eu ton­nau, a therfysc y bobloedd.

8 A phresswyl-wŷr eithafoedd y bŷd a ofnant rhag [Page] dy arwyddion, gwnei i derfyn boreu a hwyr dy glod­fori.

9 Yr wyt yn gofwyo y ddaiar, ac yn ei dwfrhau hi, yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr, afon Duw sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, canys felly y darperaist hī.

10 Gan ddwfrhau ei rhychau, a gostwng ei chŵy­sau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendi­thio ei chnŵd hi.

11 Corôni yr ydwyt y flwyddyn â'th ddaioni, a'th lwybrau a ddifêrant fraster.

12 Difêrant ar lanherchoedd yr anialwch: a'r brynnau a ymwregysant â hyfrydwch.

13 Y dolydd a wiscir â defaid, a'r dyffrynnoedd a or­chguddir ag ŷd, am hynny y bloeddiant, ac y cânant.

Iubilate Deo. Psal. lxvj.

YMlawenhewch yn Nuw yr holl fŷd.

2 Datcenwch ogoniant ei enw: gosodwch ei foliant yn ogoneddus.

3 Dywedwch wrth Dduw, mor ofnadwy ydwyt yn dy weithredoedd! o herwydd amlder dy nerth y cymmer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedic i ti.

4 Yr holl fyd a ymostyngant i ti, ac a gânant i ti, îe canant i'th enw. Selah.

5 Deuwch, a gwêlwch weithredoedd Duw, ofna­dwy yw yn ei weithred tu ag at feibion dynnion.

6 Trôdd efe y môr yn sych-dir, aethant drwy 'r afon ar draed: yna y llawenychâsom ynddo.

7 Efe a lywodraetha yn ei gadernid byth, ei ly­gaid a edrychant ar y cenhedloedd, y rhai anufydd nid ymdderchafant. Selah.

8 Oh bobloedd molwch ein Duw, a phêrwch gly­wed llais ei fawl ef.

9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni âd i'n troed lithro.

10 Canys profaist ni ô Dduw, a choethaist ni fel coethi arian.

11 Dygaist ni i'r rhwyd, gosodaist wascfa ar ein lwynau.

12 Peraist i ddynion farchogeth ar vcha ein pen­nau, aethom drwy yr tân, a'r dwfr: a thi a'n dygaist allan i le diwall.

13 Deuaf i'th dŷ ag offrymmau poeth, talaf it fy addunedau,

14 Y rhai a addawodd fyng-wefusau, ac a ddywe­dodd fyng-enau yn fyng-hyfyngder.

15 Offrymmaf it boeth offrymmau breision yng­hyd ag arogl-darth hyrddod: aberthaf ŷchen, a by­chod. Selah.

16 Deuwch, gwrandewch y rhai oll a ofnwch Dduw: a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid.

17 Llefais arno â'm genau, ac efe a dderchafwyd â'm tafod.

18 Pe edrychaswn ar anwiredd yn fyng-halon, ni wrandawse 'r Arglwydd.

19 Duw yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fyng-weddi.

20 Bendigedic fyddo Duw 'r hwn ni fwriodd fyng-weddi oddi wrtho, na'i drugaredd ef oddi wrthif inne.

Deus misereatur. Psal. lxvij.

DVw a drugarhao wrthym, ac a'n bendithio, a thywynned ei wyneb arnom, a thrugarhaed wr­thym. Selah.

2 Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaiar, a'th iech­ydwriaeth ym mhlith yr holl genhedloedd.

3 Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl dy di.

4 Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn iniawn, ac a lywodraethi y [Page] cenhedloedd ar y ddaiar. Selah.

5 Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl di.

6 Yna 'r ddaiar a rydd ei ffrwyth: a Duw, sef ein Duw ni a'n bendithia.

7 Duw a'n bendithia, a holl derfynau 'r ddaiar a'i hofnant ef.

Exurgat Deus. Psal. lxviij.

CYfoded Duw a gwascerir ei elynion:Boreuol weddi. ffoed ei gaseion o'i flaen ef.

2 Chweli hwynt fel chwalu mŵg: fel y tawdd cŵyr wrth y tân difether y rhai annuwiol o flaen Duw.

3 Ond llawenycher y rhai cyfiawn, a gorfoledd­ant ger bron Duw: a byddant hyfryd o lawenydd.

4 Cenwch i Dduw, can-molwch ei enw, derchef­wch yr hwn sydd yn marchogeth ar y nefoedd, yr Ar­glwydd yw ei enw: gorfoleddwch ger ei fron ef.

5 Tâd yr ymddifaid, a barn-wr y gweddwon yw Duw yn ei bresswylfa sanctaidd.

6 Duw sydd yn gosod rhai i fod yn gydtun mewn tŷ, ac yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn ge­fynnau: ond y rhai cyndyn a bresswyliant gras-dir.

7 Pan aethost ô Dduw o flaen dy bobl: pan ger­ddaist trwy yr anialwch, Selah.

8 Y ddaiar a grynodd, a'r nefoedd a ddiferâsant o flaen Duw: felly Sinai yntef o flaen Duw, sef Duw Israel.

9 Dihidlaist law graslawn ô Dduw ar dy etife­ddiaeth: ti a'i gwrteithiaist wedi ei blîno.

10 Dy gynnulleidfa di sydd yn trigo ynddi, yn dy ddaioni ô Dduw yr wyt yn darparu i'r tlawd.

11 Yr Arglwydd a roddes y gair, mawr oedd min­tai y rhai a bregethent.

12 Brenhinoedd byddinoc a ffoasant, ac a yrrwyd i gilio: a'r hon a drigodd yn tŷ a rannodd yr yspail.

13 Er gorwedd o honoch rhwng y crochânau, byddwch fel escyll colomen wedi eu gwisco ag arian, a'i hadenydd o aur melyn.

14 Pan wascarodd yr Holl-alluog frenhinoedd yn­ddi, yr oeddd hi cyn wynned ag eira yn Salmon.

15 Mynydd Duw sydd fel mynydd Basan, yn fy­nydd cribog fel mynydd Basan.

16 Pa ham y llemmwch chwi fynyddoedd cribog? y mynydd hwn a chwenychodd Duw ei bresswylio, ac a bresswylia 'r Arglwydd byth.

17 Cerbydau Duw ydynt vgain mil, sef miloedd o angelion: a'r Arglwydd yn eu plith megis yng-hys­segr Sinai.

18 Derchefaist i'r vchelder, caeth-gludaist gae­thiwed, derbyniaist roddion i ddynion: a'r rhai cyn­dyn hefyd a gaethiwaist, gan bresswylio ô Arglwydd Dduw yno.

19 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd beunydd, yr hwn a'n llwytha ni â daioni: sef Duw ein iechydwriaeth ni. Selah.

20 Efe yw ein Duw ni sef Duw iechydwriaeth: a thrwy 'r Arglwydd Dduw y mae diangc oddi wrth farwolaeth.

21 Duw yn ddiau a archolla benn ei elynnion, a choppa walltoc yr hwn a rodio yn ei gamweddau.

22 Dywedodd yr Arglwydd, dygaf fy mhobl tra­chefn megis o Basan, dygaf hwynt yn eu hôl megis o ddyfnder y môr.

23 Fel y trochech dy droed mewn gwaed, a thafod dy gŵn yn y gwaed yr hwn a ddaw oddi-wrth y ge­lynnion.

24 Gwelsant dy fynediad ô Dduw, sef mynediad fy Nuw a'm Brenin yn y cyssegr.

25 Y cantorion a aethant o'r blaen, a'r cerddorion ar ôl: yn y canol yr oedd y llangcêsau yn canu tympa­nau.

26 Clodforwch Dduw yn y cynnulleidfaoedd, clod­forwch yr Arglwydd y rhai ydych o ffynnon Israel.

27 Yno y mae Beniamin fychan eu llywydd, a thywysogion Iuda eu cynnulleidfa: tywysogion Za­bulon, a thywysogion Nephthali.

28 Dy Dduw a ordeiniodd nerth i ti, cadarnhâ ô Dduw yr hyn a wnaethost ynom ni.

29 Brenhinoedd a ddygânt i ti anrheg er mwyn dy Deml yn Ierusalem.

30 Difetha dyrfa y gwaiw-ffyn, sef cynnulleidfa gwrdd deirw, ym mysc lloi y bobl, fel y delont yn ost­yngedic â darnau arian: gwascar y bobl a ewyllysi­ant ryfel.

31 Yna pendefigion a ddeuant o'r Aipht, Ethiopia a estyn ei dwylo yn bryssur at Dduw.

32 Teyrnasoedd y ddaiar cênwch i Dduw, can­molwch yr Arglwydd, Selah.

33 Yr hwn a ferchyg ar y nefoedd goruchaf o'r de­chreu: wele efe a ddyru â'i leferydd sain nerthol.

34 Rhoddwch i Dduw gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, a'i ni nerth yn yr wybrennau.

35 Ofnadwy wyt ô Dduw o'th gyssegr, Duw Is­rael yw efe, yn rhoddi nerth, a chadernid i'r bobl: bendigedic fyddo Duw.

Saluum me fac. Psal. lxix.

AChub fi ô Dduw,Pryd­nhawnol weddi. canys y dyfroedd a ddaethant hyd at fy enaid.

2 Glŷnais yn y domm dyfn, lle ni chawn sefyllfa: deuthum i ddyfnder y dyfroedd, a'r ffrŵd a lifodd trosof.

3 Blinais yn llefain, sychodd fyng-hêg, a phallodd [Page] fy llygaid: a mi yn disgwil wrth fy Nuw.

4 Amlach nâ gwallt fy mhenn yw y rhai a'm casânt heb achos: cedyrn yw fyng-elynnion y rhai a'm difethent ar gamm: yna y têlais yr hyn ni chym­merais.

5 O Dduw ti a adwaenost fy ynfydrwydd, ac nid yw fyng-hamweddau guddiedic oddi wrthit ti.

6 Na chywilyddier o'm plegit i y rhai a obeithiant ynot ti Arglwydd Dduw y lluoedd: na wradwydder o'm plegit i y rhai a'th geisiant ti ô Dduw Israel.

7 Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, ac y tôdd cywilydd fy wyneb,

8 Euthym yn ddieithr i'm brodyr, ac fel estron gan blant fy mam.

9 Canys zêl dy dŷ a'm hyssodd, a gwradwyddiad y rhai a'th wradwyddent di a syrthiodd arnafi.

10 Wylais gan gystuddio fy enaid ag ympryd, a bu hynny yn wradwydd i mi.

11 Gwiscais hefyd sach-liain, ac euthym yn ddi­hareb iddynt.

12 Am danafi y chwedleue y rhai a eisteddent yn y porth, ac y gwnae y rhai meddwon wawd.

13 Ond mi a wnaf fyng-weddi attat ti ô Arglwydd mewn amser cymmeradwy ô Dduw, yn lluosogr­wydd dy drugaredd: gwrando fi yng-wirionedd dy iechydwrieth.

14 Gwaret fi o'r domm fel na soddwyf, rhyddhaer fi oddi-wrth fyng-haseion, ac o'r dyfroedd dyfnion.

15 Na lifed y ffrŵd ddwfr trosof, ac na lyngced y dyfnder fi: na chaeued pydew ychwaith ei safn arnaf.

16 Clyw fi Arglwydd, canys dâ yw dy drugaredd: yn ôl amlder dy dosturiaethau edrych arnaf.

17 Ac na chuddia dy wyneb oddi-wrth dy wâs, ca­nys y mae cyfyngder arnaf: bryssia, gwrando fi.

18 Nesâ at fy enaid, a gwaret ef, rhyddhâ fi o her­wydd [Page] fyng-elynnion.

19 Ti a adwaenost fyng-warthrudd, a'm cywi­lydd, a'm gwradwydd: fy holl elynnion ydynt ger dy fron di.

20 Gwarthrudd a ddrylliodd fyng-halon, yr yd­wyf yn gofidio: canys disgwiliais am rai i dosturio wrthif, ac nid oedd neb: ac am gyssur-wŷr, ac ni chefais neb.

21 Eithr rhoddâsant fustl yn fy mwyd, ac a'm diodâsant yn fy syched â finegr.

22 Bydded eu bwrdd hwythau yn fagl ger eu bron, a'u llwyddiant yn dramgwydd.

23 Tywyller eu llygaid fel na welont, a gwna iw cefnau grymmu bob amser.

24 Tywallt dy ddig arnynt, a goddiwedded llidi­awgrwydd dy ddigofaint hwynt.

25 Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd, ac na fydded a drigo yn eu pebyll:

26 Canys erlidiâsant yr hwn a darawsit ti, ac am ofid y rhai a archolaist ti y crybwyllant.

27 Dod ti anwiredd ar anwiredd iddynt, ac na ddelont yn dy gyfiawnder di.

28 Tynner hwynt ymmaith o lyfr y bywyd: ac na scrifenner hwynt gyd â'r rhai cyfiawn.

29 Pan fyddwyf druan, a gofidus, dy iechydwria­eth di ô Dduw a'm cyfyd fi.

30 Moliannaf enw Duw ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl.

31 A hyn fydd gwell gan yr Arglwydd nag ŷch, neu fustach corniog, carnol.

32 Y trueniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau y rhai a geisiwch Dduw a fydd byw.

33 Canys gwrendu 'r Arglwydd ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorrion.

34 Nefoedd, a daiar, y môr a'r hyn oll a ymlusco ynddo a'i molant ef.

35 Canys Duw a achub Sion, ac a adailada ddinasoedd Iuda, fell y triger yno, ac y meddian­ner hi.

36 Ie hiliogaeth ei weision a'i meddiannant hi: a'r rhai a hoffant ei enw ef a bresswyliant ynddi.

Deus in adiutorium. Psal. lxx.

O Dduw pryssura i'm gwarêdu, bryssia Arglwydd i'm cymmorth.

2 Cywilyddier, a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl, a gwraddwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi.

3 Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant, ha, ha.

4 Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a'th geisiant, a dyweded y rhai a gârant dy iechyd­wriaeth yn wastad, mawryger Duw.

5 Minne ydwyf druan a thlawd, ô Dduw bryssia attaf, fyng-hymmorth a'm gwaredudd ydwyt ti ô Arglwydd na hîr drig.

In te Domine speraui. Psal. lxxj.

Boreuol weddi. YNot ti ô Arglwydd y gobeithiais na'm cywilyddier byth.

2 Achub fi, a gwaret fi yn dy gyfiawn­der: gostwng dy glust attaf, ac achub fi.

3 Bydd i mi yn graig gadarn, i ddy­fod iddi bob amser: addewaist fy achub, canys ti yw fyng-hraig a'm hamddeffynfa.

4 Gwaret fi ô Dduw o law 'r annuwiol, o law y trofaus, a'r traws.

5 Canys ti yw fyng-obaith ô Arglwydd Dduw, sef fyng-obaith o'm ieuengctid.

6 Wrthit ti i'm cynhaliwyd o'r bru, ti a'm tynnaist o grôth fy mam: fy mawl fydd yn wastad am danat ti.

7 Oeddwn i lawer megis yn anghenfil, eithr tydi wyt fyng-hadarn obaith.

8 Llanwer fyng-enau a'th foliant, dy ogoniant a ddadcanaf beunydd, a'th anrhydedd.

9 Na fwrw fi ymmaith yn amser henaint: na wrthot fi pan ddarfyddo fy nerth.

10 Canys fyng-elynnion ydynt yn chwedleua i'm herbyn, a'r rhai a ddisgwiliasant am fy enaid, a gyd-ymgynghorâsant

11 Gan ddywedyd, Duw a'i gwrthododd ef, er­lidiwch, a deliwch ef, canys nid oes gwaredudd.

12 O Dduw na fydd bell oddi-wrthif, fy Nuw bryssia i'm cymmorth.

13 Cywilyddier, a difether y rhai a wrthwyne­bant fy enaid, â gwarth ac â gwradwydd y gorchgu­ddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.

14 Minne a obeithiaf yn wastad, ac a'th foliannaf di fwy-fwy.

15 Fyng-enau a fynêga dy gyfiawnder a'th ie­chydwriaeth beunnydd: canys ni wn rifedi arnynt.

16 Yng-hadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf, dy gyfiawnder di yn vnic a gofiaf fi.

17 O'm ieuengctid i'm dyscaist ô Dduw, am hynny y mynegaf dy ryfeddodau hyd yn hyn.

18 Na wrthot fi ychwaith ô Dduw mewn he­naint, a phen-llwydni, hyd oni fynegwyf dy nerth i'r genhedlaeth hon, a'th gadernid i bob vn a ddelo.

19 Dy gyfiawnder ô Dduw a aeth yn vchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion, pwy ô Dduw sydd fel tydi?

20 Yr hwn a wnaethost i mi weled aml a drygio­nus gystudd, etto dychwelaist a bywheaist fi, dych­welaist a chyfodaist fi o orddyfnder y ddaiar.

21 Amlhei fy mawredd, troi hefyd a chyssuri fi.

22 Minne a'th foliannaf ô Dduw ar offeryn nabl am dy wirionedd: cânaf it ar delyn ô Sanct Israel.

23 Fyng-wefusau fyddant hyfryd pan ganwyf i ti, a'm henaid yr hwn a warêdaist.

24 Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beu­nydd, o herwydd cywilyddio, ac am wradwyddo y rhai a geisiant niwed i mi.

Deus iudicium. Psal. lxxij.

O Dduw dod ti i'r brenin dy farnedigaethau: ac i fab y brenin dy gyfiawnder.

2 Yna y barn efe dy bobl mewn cyfiawnder: a'th drueniaid mewn iniondeb.

3 Y mynyddoedd a ddygant heddwch i'r bobl, a'r brynnau gyfiawnder.

4 Efe a farn drueniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghênus: ac a ddryllia y gorthrymmudd.

5 Tra fyddo haul a lleuad i'th ofnant, yn oes oesoedd.

6 Efe a ddescyn fel glaw ar gnû gwlân, fel cafo­dydd yn dyfrhau y ddaiar.

7 Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn, ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad.

8 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd for, ac o'r afon hyd derfynau y ddaiar.

9 O'i flaen ef yr ymgrymma trigolion yr ania­lwch: a'i elynnion a lŷfant y llŵch.

10 Brenhinoedd Tharsis, a'r ynysoedd a dâlant anrheg, brenhinoedd Arabia, a Saba a ddygant rodd.

11 Ie 'r holl frenhinoedd a ymgrymmant iddo ef: yr holl genhedloedd a'i gwasanaethant ef.

12 Canys efe a wared yr anghênog pan waeddo, a'r truan hefyd, a'r hwn ni byddo cynnorth-wr iddo.

13 Efe a arbed y tlawd a'r rheidus: ac a achub enaid y rhai anghenus.

14 Efe a wareda eu henaid oddi-wrth dwyll, a thrawsder: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef,

15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Ara­bia: gweddiant hefyd atto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef.

16 Bydd dyrned o ŷd ar y ddaiar ym-mhen y my­nyddoedd, ei ffrwyth a escwyd fel Libanus: a phobl a darddant o'r ddinas fel gwellt y ddaiar.

17 Ei enw fydd yn dragywydd, ei enw a beru tra fyddo haul, yr holl genhedloedd a fendithir ynddo ef, ac a'u clodforant ef.

18 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd Dduw sef Duw Israel, yr hwn yn vnic sydd yn gwneuthur rhyfeddodau.

19 Bendigedic hefyd fyddo enw ei ogoniant ef yn dragywydd: a'r holl ddaiar a lanwer o'i ogoniant, Amen, Amen.

YMMA y gorphennir gweddiau Dafydd fab Isai.

Quam bonus. Psal. lxxiij.

YN ddiau dâ yw Duw i Israel:Pryd­nhawnol weddi. sef i'r rhai glân o galon.

2 Etto braidd na lithrodd fy nhraed, prinn na thrippiodd fyng-herddediad.

3 Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol.

4 Canys heb ofid y deuant iw marwolaeth, a'u cryfder sydd heini.

5 Nid ydynt mewn blinder dynawl, ac ni ddiale­ddir arnynt hwy gyd â dynnion eraill.

6 Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac [Page] y gwisc trawsder am danynt fel dilledyn.

7 Eu llygad a saif allan gan frasder, aethant tros feddwl calon o gyfoeth.

8 Y maent yn llygru, yn chwedleua yn ddrygio­nus am drawsder: ac yn dywedyd yn vchel.

9 Gosodâsant eu genau yn erbyn y nefoedd, a'u tafod a gerdd trwy 'r ddaiar.

10 Am hynny y dychwel ei bobl ef ymma, ac y gwescir iddynt ddwfr phiol lawn.

11 Dywedant hefyd, pa fodd y gŵyr Duw, a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?

12 Wele dymma y rhai annuwiol, a'r rhai ydynt lwyddiannus yn wastad: ac a amlhâsant olud.

13 Diau mai yn ofer y glanhêais fyng-halon, ac y golchais fy nwylo mewn gwiriondeb.

14 Canys ar hyd y dydd i'm maeddwyd, fyng-hosp a ddeue bôb boreu.

15 Os dywedwn, mynega fel hyn, wele â chen­hedlaeth dy blant di y gwnawn gam.

16 Pan amcânwn ddeall hyn, blîn oedd hynny yn fyng-olwg mau fi,

17 Hyd onid euthum i gyssegr Duw: yna y dea­llais eu diwedd hwynt.

18 Diau osod o honot hwynt yn llithric, a chwympo o honot ti hwynt i anghyfannedd-dra.

19 Morr ddisymmwth yr aethant yn anghyfan­nedd, y pallhâsant, ac y darfuant yn aruthol!

20 Fel breuddwyd wrth ddihuno vn, y gwnei eu gwedd hwynt yn ddirmygus yn y ddinas ô Ar­glwydd.

21 Diau lidio fyng-halon: a'm trywanu trwy fy arennau.

22 Canys yr oeddwn i yn ynfyd, ac heb ŵybod dim: anifail oeddwn o'th flaen di.

23 Etto yr oeddwn yn wastad gyd â thi: yma­flaist [Page] yn fy llaw ddehau.

24 Yn dy gyngor i'm harweini: ac wedi hynny i'm cymmeri i ogoniant.

25 Pwy sydd gennifi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais ar y ddaiar neb gyd â thydi.

26 Pallodd fyng-nhawd a'm calon, nerth fyng-halon, a'm rhan yw Duw yn dragywydd.

27 Canys wele difethir y rhai a bellhânt oddi wrthit, peraist dorri ymmaith bôb vn a butteinio oddi wrthit.

28 Minne, nessau at Dduw sydd dda i mi, yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fyng-obaith, i dreuthu dy holl weithredoedd ym-mhyrth merch Sion.

Vt quid Deus. Psal. lxxiiij.

PA ham Dduw y ciliaist yn dragywydd? ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?

2 Cofia dy gynnulleidfa 'r hon a brynaist gynt, a llwyth dy etifeddiaeth yr hwn a warêdaist: sef myn­ydd Sion yr hwn y presswyliaist ynddo.

3 Dercha dy draed i ddinistrio yn dragywydd bôb gelyn, yr hwn a wnaeth niwed yn dy gyssegr.

4 Dy wrthwynebwŷr a ruâsant o fewn dy gyn­nulleidfa: gosodafant eu banereu yn arwyddion.

5 Hynod fydde (fel vn yn dwyn peth i odido­grwydd) yr hwn a gode fwyîll mewn dyrys-goed.

6 Ac yn awr y maent yn dryllio ei cherfiadau eu gyd â bwyîll, ac â morthwylion.

7 Bwriasant dy gyssegroedd yn tân, hyd lawr yr halogâsant bresswylfa dy enw.

8 Dywedâsant yn eu calonnau, cyd-anrhei­thiwn hwynt, felly y lloscâsant holl Demlau Duw yn y tîr.

9 Ni welwn ein harwyddion, nid oes brophwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr ddim mwyach.

10 Pa hyd Dduw i'th warthrudda 'r gwrthwy­nebwr? a gabla'r gelyn dy enw yn dragywydd?

11 Pa ham y tynni yn ei hôl dy law? sef dy dde­heulaw? tynn hi allan o ganol dy fonwes, a dife­tha hwynt.

12 Canys Duw yw fy Mrenin o'r dechreuad, gwneuthur-wr pôb iechydwriaeth o fewn y tîr.

13 Ti yn dy nerth a barthaist y môr, drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd.

14 Ti a ddrylliaist ben Lefiathan, rhoddaist ef yn fwyd i'r bobl yn yr anialwch.

15 Ti a holltaist y graig i fod yn ffynnon, ac yn afon, ti a ddiyspyddaist afonydd cedyrn.

16 Y dydd sydd eiddo ti, y nôs hefyd sydd eiddo ti: ti a baratoaist oleuni, a haul.

17 Ti a osodaist holl derfynau'r ddaiar, ti a lun­iaist hâf, a gaiaf.

18 Cofia hyn, y gelyn a gablodd yr Arglwydd, a phobl ynfyd a ddifenwasant dy enw.

19 Na ddyro enaid dy durtur i gynnulleidfa y gelynnion, nac anghofia gynnulleidfa dy drueniaid byth.

20 Edrych ar y cyfammod, canys llawnwyd ty­wyll-leoedd y tîr o gorlannau trawster.

21 Na ddychweled y tlawd yn wradwyddus, molianned y truan, a'r anghenus dy enw.

22 Cyfot ô Dduw dadleu dy ddadl, coffa dy gab­ledd yr hon a dderbynni gan yr ynfyd beunydd.

23 Nac anghofia lais dy elynnion, dadwrdd y rhai a godant i'th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.

Confitebimur tibi. Psal lxxv.

Boreuol weddi. CLodforwn dydi ô Dduw, clodforwn, canys agos yw dy enw: dy ryfeddôdau a fynêgant hynny.

2 Pan dderbyniwyf y gynnulleidfa, mi a far­naf yn iniawn.

3 Ymddattododd y ddaiar, a'i holl drigolion: a mi a siccrhêais ei cholofnau. Selah.

4 Dywedais wrth y rhai ynfyd, nac ynfŷdwch: ac wrth y rhai annuwiol, na dderchefwch eich corn.

5 Na dderchêfwch eich corn yn vchel, na ddy­wed wch yn war-syth.

6 Canys nid o'r dwyrain, nac o'r gorllewyn, nac o'r dehau y daw goruchafiaeth.

7 O herwydd Duw sydd yn barnu, efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.

8 O blegit y mae phîol yn llaw 'r Arglwydd, a'r gwîn sydd gôch yn llawn cymmysc, ac efe a dywall­todd o hwnnw: etto holl annuwolion y tîr a wa­scant, ac a yfant ei waelodion.

9 Minne a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i Dduw Iacob.

10 Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol: a chyrn y rhai cyfiawn a dderchefir.

Notus in Iudæa. Psal. lxxvj.

HYnod yw Duw yn Iuda, a mawr yw ei enw ef yn Israel.

2 Ei babell hefyd sydd yn Salem, a'i drigfa yn Sion.

3 Yna y drylliodd efe saethau y bŵa, a'r tarian: y cleddyf hefyd a'r frwydr. Selah.

4 Discleiriach wyt ti, a chadarnach nâ myny­ddoedd yr yspeil-wŷr.

5 Yspeiliwyd y cedyrn galon, hunâsant eu hûn, a'r holl wŷr cedyrn o nerth ni chawsant ddim.

6 Gan dy gerydd di ô Dduw Iacob, y rhoed y cerbyd a'r march i gyscu.

7 Tydi, tydi wyt ofnadwy, pwy a saif o'th flaen pan enynno dy ddigter?

8 O'r nefoedd y cyhoeddaist dy farn, ofnodd, a gostegodd y ddaiar.

9 Pan gyfododd Duw i farnu, ac i achub holl rai llednais y tîr. Selah.

10 Canys cynddaredd dŷn a'th folianna di, a gweddill eu cynddaredd a ostêgi di.

11 Addunedwch, a thêlwch i'r Arglwydd eich Duw: y rhai oll ydych o'i amgylch ef dygwch an­rheg i'r ofnadwy.

12 Efe a dynn ymmaith yspryd tywysogion, ac efe sydd ofnadwy i frenhinoedd y ddaiar.

Vocemea ad Dominum. Psal. lxxvij.

A'M llef y gwaeddaf ar Dduw: â'm llef y gwae­ddaf ar Dduw, ac efe a'm gwrendu.

2 Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd, fy archoll a redodd liw nôs, ac ni pheidiodd: fy en­aid a wrthododd ei ddiddânu.

3 Meddyliwn am Dduw pan i'm cythryblid, gweddiwn, pan derfyscid fy yspryd. Selah.

4 Deliaist fy llygaid yn neffro, fe synnodd arnaf, dychrynnais fel nad allwn lefaru.

5 Yna 'r ystyriais y dyddiau gynt, a blynyddo­edd yr hên oesoedd.

6 Meddylio yr ydwyf am fyng-hân, y nôs yr yd­wyf yn myfyrio wrthif fy hun: fy yspryd sydd yn chwilio fel hyn:

7 Ai yn dragywydd y cilia 'r Arglwydd: ac oni bydd efe bodlon mwy?

8 A ddarfu ei drugaredd ef tros byth? a balla gair ei addewid ef yn oes oesoedd?

9 A anghofiodd Duw drugarhau, a gaeuodd efe ei drugareddau mewn soriant? Selah.

10 A dywedais, dymma fyng-wendid, etto cofi­af flynyddoedd deheu-law y Goruchaf.

11 Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd, îe cofiaf dy wrthiau gynt.

12 Myfyrriaf hefyd am dy holl weithredoedd, ac am dy ddychymmygion y chwedleuaf.

13 Dy ffordd ô Dduw sydd mewn sancteiddrw­ydd, pa Dduw sydd morr fawr a'n Duw ni?

14 Ti Dduw ydwyt yn gwneuthur rhyfeddod, yspysaist dy nerth ym-mysc y bobloedd.

15 Gwarêdaist y bobl yn nerthol, sef meibion Iacob, ac Ioseph, Selah.

16 Y dyfroedd a'th welsant ô Dduw, y dyfroedd a'th welsant, ac a ofnasant: y dyfndêrau hefyd a gynhyrfwyd.

17 Y cwmylau a bistyllasant ddwfr, yr wybren­nau a roddâsant dwrwf: dy saethau hefyd a ger­ddâsant.

18 Twrf dy daran a glywyd o amgylch, mellt a oleuâsant y bŷd: cyffrôdd, a chrynodd y ddaiar.

19 Dy ffordd sydd yn y môr, a'th lwybrau yn y dyfroedd mawrion: ac nid adweinir dy ôl.

20 Tywysaist dy bobl fel defaid drwy law Mo­ses, ac Aaron.

Attendite popule. Psal. lxxviij.

GWrando fyng-hyfraith fy mhobl,Pryd­nhawnol weddi. go­styngwch eich clust at eiriau fyng-enau.

2 Agoraf fyng-enau mewn di­hareb, a thraethaf ddammegion o'r cyn-fyd.

3 Y rhai a glywsom, ac a wybûom, ac a fynê­godd ein tadau i ni.

4 Ni chêlwn rhag eu meibion, eithr mynegwn i'r oes nesaf foliant yr Arglwydd a'i nerth, a'i ryfe­ddodau, y rhai a wnaeth efe.

5 Fel y cyfododd efe destiolaeth yn Iacob, ac y go­sododd gyfraith yn Israel: y rhai a orchymynnodd efe i'n tadau eu dyscu iw plant.

6 Fel y gwybydde 'r oes nesaf, sef y plant a ê­nid, a phan gyfodent y mynegent hwy iw plant hwythau.

7 Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb ang­hofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchy­mynnion ef.

8 Ac na byddent fel eu tadau yn genhedlaeth gyndyn, ac anufydd, yn gnehedlaeth nid yw iniawn ei chalon, ac nid yw ei hyspryd ffyddlon i Dduw.

9 Meibion Ephraim yn arfog ac yn saethu â bŵa a droesant yn nydd y frwydr.

10 Ni chadwâsant gyfammod Duw, eithr gwr­thodâsant rodio yn ei gyfraith ef.

11 Ac anghofiâsant ei weithredoedd, a'i ryfeddo­dau y rhai a ddangosâse efe iddynt.

12 Efe a wnaethe wrthiau o flaen eu tadau hw­ynt yn nhir yr Aipht, ym maes Zoan.

13 Efe a barthodd y môr, ac aeth â hwynt drw­odd, gwnaeth hefyd i'r dwfr sefyll fel pen-twr.

14 Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt mewn cwmwl, ac ar hŷd y nos wrth oleuni tân.

15 Holltodd efe y creigiau yn yr aniawlch, a rho­ddes ddiod oddi yno megis o ddyfndêrau dirfawr:

16 Canys efe a ddug lifeiriant o'r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.

17 Er hynny chwanegâsant etto bechu yn ei er­byn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffaethwch:

18 A themptiâsant Dduw yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blŷs.

19 Llefarâsant hefyd yn erbyn Duw, ac a ddy­wedâsant, a ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr a­nialwch?

20 Wele efe a darawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd, a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gîg iw bobl?

21 Am hynny y clybu 'r Arglwydd, ac y digiodd, a thân a enynnodd yn Iacob, a digofaint hefyd a gynneuodd yn Israel,

22 Am na chrêdent yn Nuw, ac na obeithient yn ei iechydwriaeth ef.

23 Er hynny efe a orchymynnase i'r wybren­nau oddi-vchod, ac agorâse ddrysau ŷ nefoedd:

24 Ac a lawiase Manna arnynt iw fwytta: ac a roddâse iddynt lynniaeth o'r nêfoedd.

25 Dŷn a fwyttaodd fara angelion, anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol.

26 Gyrrodd y dwyrein-wynt hyd y nefoedd: ac yn ei nerth y dug efe ddeheu-wynt.

27 Glawiodd hefyd gîg arnynt fel llwch: ac adar ascelloc fel tyfod y môr.

28 Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwerssyll, o amgylch eu presswylfeudd.

29 Felly y bwyttâsant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt, ac efe a barodd eu dymuniad iddynt.

30 Ni omeddwyd hwynt o'r hyn a flysiasant, er hynny tra yr ydoedd bwyd yn eu safnau,

31 Digllonedd Duw a gynneuodd yn eu her­byn hwynt, ac efe a laddodd o'r rhai brasaf o honynt, ac a ostyngodd etholedigion Israel:

32 Er hyn oll pechâsant etto, ac ni chredâsant iw ryfeddodau ef.

33 Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a'u blynyddoedd mewn dychryn.

34 Pan ladde efe hwynt, os ceisient ef, a dychwe­lyd, [Page] a cheisio Duw yn foreu:

35 Os cofient mai Duw oedd eu craig, mai y Goruchaf Dduw oedd eu gwaredudd,

36 Er iddynt ragrithio iddo ef â'u gênau, a dy­wedyd celwydd wrtho â'u tafod,

37 A'u calon heb fod yn iniawn gyd ag ef, na'u bod yn ffyddlon yn ei gyfammod ef:

38 Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: eithr trôdd ymmaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lîd.

39 Eithr efe a gofie mai cnawd oeddynt hwy, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.

40 Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anial­wch, ac y gofidiasant ef yn y diffaethwch?

41 Canys troasant, a phrofasant Dduw, a themp­tiasant Sanct yr Israel.

42 Ni chofiasant ei nerth ef, na'r dydd y gwared­odd efe hwynt oddi wrth y gelyn.

43 Yr hwn a osododd ei arwyddion yn yr Aipht, a'i ryfeddodau ym maes Zoan.

44 Ac a drôdd eu hafonydd a'u ffrydau yn waed, fel na allent yfed.

45 Anfonodd gymmysc-blâ yn eu plith, ac a'u di­fâodd hwynt: a llyffaint iw difetha hwynt.

46 Efe a roddodd eu cnŵd hwynt i'r Locust, a'u llafur i'r celioc rhedyn.

47 Destruwiodd eu gwin-wŷdd â chenllysc, a'u Sycomor-wŷdd â chesair.

48 Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i'r cenllysc, a'u cyfoeth i'r mellt.

49 Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiaw­grwydd, a digter, a chyfyngder, trwy anfon angeli­on drwg.

50 Cymhwysodd ffordd iw ddigofaint, nid attali­odd [Page] eu henaid oddi-wrth angeu: a'u bywyd a ro­ddodd efe i'r haint.

51 Tarâwodd hefyd bôb cyntaf-anedic yn yr Aipht, sef blaenion eu nerth hwynt ym-mhebyll Cam.

52 Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac ai harweiniodd hwynt fel praidd trwy 'r anialwch.

53 Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel fel nad ofnasant: a'r môr a orchguddiodd eu gelynnion hwynt.

54 Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd: i'r mynydd hwn a enillodd ei ddeheu-law ef.

55 Ac efe a yrrodd allan genhedloedd o'u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt eu rhan-dir hwynt yn etifeddiaeth: a gwnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.

56 Er hynny temptiâsant, a digiâsant Dduw goruchaf, ac ni chadwâsant ei destiolaethau.

57 Eithr ciliâsant a buant anffyddlon fel eu ta­dau: troâsant fel bwâ twyllodrus.

58 Digiâsant ef hefyd â'u huchel-fannau: a lli­diasant ef â'u cerfiedic ddelwau.

59 Clybu Duw hyn ac a ddigiodd, ac a ddiysty­rodd Israel yn ddirfawr.

60 Gadawodd hefyd dabernacl Silo, y babell a osodase efe ym-mysc dynnion.

61 A rhoddes ei nerth mewn caethiwed, a'i bryd­ferthwch yn llaw 'r gelyn.

62 Rhoddes hefyd ei bobl i'r cleddyf, a digiodd wrth ei etifeddiaeth.

63 Tân a yssodd ei wŷr ieuaingc, a'i forwynion ni phriodwyd.

64 Ei offeiriaid a laddwyd â'r cleddyf, a'i wra­gedd gweddwon nid ŵylasant.

65 Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel vn o gyscu: fel cadarn yn bloeddio wedi gwîn.

66 Ac efe a darawodd ei elynnion yn eu hôl: rhoddes iddynt warth tragywyddol.

67 Gwrthododd hefyd babell Ioseph, ac ni etho­lodd lwyth Ephraim.

68 Ond efe a ethôlodd lwyth Iuda, sef mynydd Sion yr hwn a hoffodd efe.

69 Ac a adailadodd ei gyssegr fel llŷs vchel: fel y ddaiar yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.

70 Etholodd hefyd Ddafydd ei wâs, ac a'i cym­merth o gorlannau y defaid.

71 Oddi-ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Iacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth.

72 Yntef a'u porthodd hwynt yn ôl perffeithrw­ydd ei galon, ac a'u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.

Deus venerunt. Psal. lxxix.

Boreuol weddi. Y Cenhedloedd ô Dduw a ddaethant i'th etifeddiaeth, halogâsant dy Deml sanctaidd, a gosodâsant Ierusalem yn garneddau.

2 Rhoddâsant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd, a chîg dy sainct i fwyst-si­lod y ddaiar.

3 Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Ierusalem, ac nid oedd a'u cladde.

4 Yr ydym ni yn warthrudd i'n cymmydogion, dirmyg, a gwatwargerdd i'r rhai ydynt o'n ham­gylch.

5 Pa hŷd Arglwydd? a ddigi di yn dragywydd? a lysc dy eiddigedd di fel tân?

6 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd, y rhai ni'th adnabuant: ac ar y teyrnasoedd y rhai ni alwâsant ar dy enw.

7 Canys yssâsant Iacob, ac a wnaethant ei bress­wylfa [Page] ef yn anghyfannedd.

8 Na chofia 'r anwireddau gynt i'n herbyn, bry­ssia, a rhacflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesc iawn ydym.

9 Cynnorthwya ni ô Dduw ein iechydwriaeth er mwyn gogoniant dy enw: gwaret ni hefyd, a thrugarhâ wrth ein pechodau er dy enw.

10 Pa ham y dywed y cenhedloedd, pa lê y mae eu Duw hwynt? bydded hyspys ym-mhlith y cen­hedloedd yn ein golwg ni, pa ddîal a ddaw am wa­ed dy weision yr hwn a dywalltwyd.

11 Deued vchenaid y carcharorion ger dy fron, yn ôl mawredd dy nerth cadw blant marwolaeth.

12 Tâl i'n cymmydogion ar y seithfed iw mo­nwes eu cabledd, drwy 'r hon i'th gablâsant di ô Arglwydd.

13 A ninneu dy bobl, a defaid dy borfa a'th fo­liannwn di yn dragywydd: ac a ddadcanwn dy fo­liant o genhedlaeth i genhedlaeth.

Qui regis Israel. Psal. lxxx.

GWrando ô fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Ioseph fel defaid: ymddiscleiria yr hwn wyt yn eistedd ar y Cerubiaid.

2 Cyfot dy nerth o flaen Ephraim, Beniamin a Manasses, a thyret yn iechydwriaeth i ni.

3 Dychwel ni ô Dduw, a llewyrcha dy wyneb, ac ni a achubir.

4 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd, pa hŷd y sorri wrth weddi dy bobl?

5 Gwnaethost iddynt fwytta bara dagrau, a di­odaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr.

6 Gosodaist ni yn gynnen i'n cymmydogion, a'n gelynnion a'n gwatwarent yn eu mysc eu hun.

7 O Dduw 'r lluoedd dychwel ni, a thywynna dy wyneb, ac ni a achubir.

8 Mudaist win-wydden o'r Aipht, bwriaist y cen­hedloedd allan, a phlennaist hi.

9 Arloesaist o'i blaen, a pheraist i'r gwraidd wrei­ddio, a hi a lanwodd y tîr.

10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chyscod: a'i changhennau oeddynt fel cedrwŷdd rhagorol.

11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a'i brig hyd yr afon.

12 Pa ham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a'r a elo heibio ar hŷd y ffordd ei grawn hi?

13 Y baedd o'r coed a'i turriodd, a bwyst-fil y maes a'i pôrodd,

14 O Dduw 'r lluoedd dychwel attolwg: edrych o'r nefoedd a chenfydd: ac ym wel â'r win-wydden hon.

15 A'r winllan yr hon a blannodd dy ddeheu-law, ac â'r planhigin yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun.

16 Lloscwyd hi â than, a thorrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt.

17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheu-law: a thros fab dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun.

18 Ac ni chiliwn ni oddi-wrthit ti, bywhâ ni ac ni a alwn ar dy enw.

19 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd trô ni: llewyr­cha dy wyneb, ac ni a achubir.

Exultate Deo. Psal. lxxxj.

CEnwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cênwch yn llawen i Dduw Iacob.

2 Cymmêrwch psalm, a moeswch dympan, te­lyn fwyn, a nabl.

3 Vd-cênwch vdcorn ar loer newydd, ar amser nodedic, yn nydd ein vchel-ŵyl.

4 Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i Dduw Iacob.

5 Efe a'i gosododd yn destiolaeth yn Ioseph: pan [Page] aeth efe allan o dir yr Aipht lle y clywais iaith ni ddeallwn.

6 Tynnais ei yscwydd oddi wrth y baich, ei ddwy­lo a ymadawsant â'r crochanau.

7 Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a'th ware­dais: gwrandewais di yn nirgelwch y dâran, pro­fais di wrth ddyfroedd Meribba. Selah.

8 Clyw fy mhobl, a mi a destiolaethaf i ti Israel, os gwrandewi arnaf,

9 Na fydded ynot Dduw arall, ac nac ymgrym­ma i dduw dieithr.

10 Myfi 'r Arglwydd dy Dduw yw 'r hwn a'th ddûg i fynu o dîr yr Aipht: llêda dy safn, ac mi a'i llanwaf.

11 Ond ni wrandawe fy mhobl ar fy llef, ac Is­rael nid vfuddhâe i mi.

12 Yna y gollyngais hwynt yng-hyndynrwydd eu calon, aethant wrth eu cyngor eu hunain.

13 Oh na wrandawe fy mhobl arnaf fi: na ro­die Israel yn fy ffyrdd mau fi.

14 Buan y gostyngwn eu gelynnion: ac y troi­wn fy llaw yn erbyn eu gwrth-wyneb-wyr.

15 Caseion yr Arglwydd a gymmerant arnynt ymostwng iddo ef, a'u hamser hwythau fydde yn dragywydd.

16 Bwydid ef hefyd â brasder gwenith: ac â mêl o'r graig i'th ddiwallwn.

Deus stetit in Synagoga. Psal. lxxxij.

DVw sydd yn sefyll yng-hynnulleidfa duwiau: ym mhlith duwiau y barn efe.Pryd­nhawnol weddi.

2 Pa hŷd y bernwch ar gam? ac y cymmerwch blaid y rhai annuwiol? Selah.

3 Bernwch yn iniawn y tlawd a'r ymddifad, cyfiawnhewch y truan a'r rheidus.

4 Gwarêdwch y tlawd a'r anghênus: achub­wch hwynt o law y rhai annuwiol.

5 Ni ŵyddant, ac ni ddeallant, mewn tywy­llwch y rhodiasant: a holl sylfaenau y ddaiar a sym­mudwyd o'u lle.

6 Myfi a ddywedais, duwiau ydych chwi: a mei­bion y Goruchaf ydych chwi oll.

7 Diau y byddwch feirw fel dynnion, ac fel vn o'r tywysogion y syrthiwch.

8 Cyfot ô Dduw, a barna 'r ddaiar, canys ti a e­tifeddi 'r holl genhedloedd.

Deus quis similis. Psal. lxxxiij.

O Dduw na ostêga, na thaw, ac na fydd lonydd ô Dduw.

2 Canys wele dy elynnion sydd yn terfyscu, a'th gaseion yn cyfodi eu pennau.

3 Ymgyfrinachâsant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgynghorâsant yn erbyn dy rai dir­gel di.

4 Dywedâsant, deuwch, a difethwn hwynt fel na byddant yn genhedlaeth, ac na chofier enw Is­rael mwyach.

5 Canys ymgynghorâsant yn vn-fryd, ac ym wna­ethant i'th erbyn.

6 Pebyll Edom, a'r Ismaeliaid, y Moabiaid a'r Hagariaid.

7 Y Gebaliaid, a'r Ammoniaid, a'r Amaleciaid, y Philistiaid gyd â phresswyl-wŷr Tyrus.

8 Assur hefyd a ymgwplysodd â hwynt, buant fraich i blant Lot. Selah.

9 Gwna di iddynt fel i Madian, megis i Sisa­ra, ac megis i Iabin wrth afon Cizon.

10 Yn Endor y difethwyd hwynt, ac y buant yn dail i'r ddaiar.

11 Gosot hwy a'u boneddigion fel Oreb, a Zeb, ai [Page] holl dywysogion fel Zeba, a Salmunah.

12 Y rhai a ddywedâsant gorecscynnwn i ni gy­fanneddau Duw.

13 Gosot hwynt ô fy Nuw fel olwyn, ac fel sofl o flaen y gwynt.

14 Fel y llysc tân goed, ac fel y goddeithio fflam fynyddoedd:

15 Felly erlit ti hwynt â'th demhestl, a dychry­na hwynt â'th gor-ŵynt.

16 Llanw di eu hwynebau â gwarth, fel y ceisi­ant dy enw ô Arglwydd.

17 Cywilyddier, a thralloder hwynt yn dragy­wydd: gwradwydder hefyd, a difether hwynt.

18 Fel y gwypont mai tydi yn vnic yr hwn wyt Iehofa wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaiar.

Quam dilecta tabernacula. Psal. lxxxiij.

MOr hawddgar yw dy bebyll di ô Arglwdd y llu­oedd.

2 Fy enaid a chwennychodd, ac a flysiodd hefyd am dy gynteddau di ô Arglwydd: fyng-halon a'm cnawd a orfoleddant yn Nuw byw.

3 Aderyn y tô hefyd a gafodd dŷ, a'r wennol nŷth iddi, lle y gesid ei chywion: sef dy allorau di ô Arglw­ydd y lluoedd fy Mrenin a'm Duw.

4 Gwynfŷd presswylwŷr dy dŷ: yn wastad i'th foliannant. Selah.

5 Gwyn ei fyd y dŷn y mae ei gadernid ynot, a'th ffyrdd yn ei galon.

6 Y rhai sydd yn myned trwy ddyffryn wylofain, a'i gosodant yn ffynnon, a'r glaw a leinw y llynnau.

7 Aant o nerth i nerth, ac ymddengys pob vn ger bron Duw yn Sion.

8 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd clyw fyng-we­ddi gwrando ô Dduw Iacob. Selah.

9 O Dduw ein tarian gwel, ac edrych wyneb dy eneiniog.

10 Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di nâ mîl: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw o flaen trigo ym-mhebyll annuwioldeb.

11 Canys haul, a tharian yw 'r Arglwydd Dduw, yr Arglwydd a rydd râd a gogoniant, ni attal efe ddaioni oddi-wrth y rhai a rodiant yn ber­ffaith.

12 O Arglwydd y lluoedd gwynfŷd y dyn a ym­ddyriedo ynot.

Benedixisti Domine. Psal. lxxxv.

GRas-lawn wyt ô Arglwydd i'th dir, dychwelaist gaethiwed Iacob.

2 Maddeuaist anwiredd dy bobl: a chuddiaist eu holl bechod. Selah.

3 Tynnaist ymmaith dy holl lid, troaist oddi wrth lidiawgrwydd dy ddigter.

4 Troa ni ô Dduw ein eichydwriaeth: a thorr dy ddigofaint wrthym.

5 Ai byth y digi wrthym? a essynni di dy sori­ant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?

6 Oni throi di a'n bywhau ni: fel y llawenycho dy bobl ynot ti?

7 Dangos i ni Arglwydd dy drugaredd: a dôd ti i ni dy iechydwriaeth.

8 Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw am danaf fi: canys efe a draetha heddwch iw bobl, ac iw sainct, fel na throant i ynfydrwydd.

9 Diau fod ei iechyd ef yn agos i'r rhai a'i hof­nant ef: fel y trigo gogoniant yn ein tîr ni.

10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfûant: cyfiawnder a heddwch a ymgusanâsant.

11 Gwirionedd a dardda o'r ddaiar, a chyfiawn­der [Page] a edrych o'r nefoedd.

12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni, a'n dai­ar a rydd ei chnŵd.

13 Cyfiawnder a aiff o'i flaen ef: ac efe a esid ei draed ar y ffordd.

Inclina Domine. Psal. lxxxvj.

GOstwng ô Arglwydd dy glust,Boreuol weddi. a gw­rando fi: canys truan a thlawd yd­wyf fi.

2 Cadw fy enaid canys duwiol yd­wyfi: achub di dy wâs ô fy-Nuw 'r hwn sydd yn ymddyried ynot.

3 Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys arnat y lle­faf beunydd.

4 Llawenhâ enaid dy wâs, canys attat Arglw­ydd y derchafaf fy enaid.

5 Canys ti ô Arglwydd ydwyt ddâ, a thrugarog: ac o fawr drugaredd i'r rhai oll a alwant arnat.

6 Clyw Arglwydd fyng-weddi: ac ystyria ar lais fy ymbil.

7 Yn nydd fyng-hyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi.

8 Nid oes fel tydi ym mysc y duwiau: nac fel dy weithredoedd di ô Arglwydd.

9 Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a dde­uant, ac a addolant ger dy fron di ô Arglwydd: ac a ogoneddant dy enw.

10 Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfe­ddodau: ti yn vnic wyt Dduw.

11 Dysc i mi dy ffordd ô Arglwydd, ac mi a rodi­af yn dy wirionedd di: vna fyng-halon â thi, fel yr ofnwyf dy enw.

12 Moliannaf di ô Arglwydd fy Nuw â'm holl galon: a gogoneddaf dy Enw yn dragywydd.

13 Canys mawr yw dy drugaredd tu ag attafi, a gwaredaist fy enaid o vffern issod.

14 Rhai beilchion a gyfodâsant i'm herbyn ô Dduw, a chynnulleidfa y cedryn a geisiasant fy e­naid, ac ni'th osodasant di ger eu bron.

15 Eithr ti ô Arglwydd Dduw ydwyt drugarog, a gras-lawn: hwyrfrydic i lid, ac aml o drugaredd a gwirionedd.

19 Edrych arnaf, a thrugarhâ wrthif: dod ti dy nerth i'th wâs, ac achub fab dy wasanaeth-ferch.

17 Gwna di i mi arwydd daioni, fel y gwelo fyng-haseion, ac y gwradwydder hwynt, am i ti ô Arglwydd fyng-hynnorthwyo a'm diddânu.

Fundamenta eius. Psal. lxxxvij.

EI sail a osodwyd ar y mynyddoedd sanctaidd.

2 Yr Arglwydd a gâr byrth Sion yn fwy nâ holl bresswylfeudd Iacob.

3 Gogoneddus bethau a ddywedir am donat ti ô ddinas Dduw. Selah.

4 Coffâf Rahab a Babilon wrth fyng-hydnabod: wele Palestina a Thyrus yng-hyd ac Ethiopia: yno y ganwyd hwn.

5 Ac am Sion y dywedir, llawer gŵr a anwyd ynddi, a'r Goruchaf ei hun a'i siccrha hi.

6 Yr Arglwydd a gyfrif pan scrifenno y bobl eni hwn yno. Selah.

7 Y cantorion a'r cerddorion a'th folant, fy holl ffynhonnau ydynt ynot ti.

Domine Deus salutis. Psal. lxxxviij.

O Arglwydd Dduw fy iechydwriaeth, gwaeddais o'th flaen ddydd a nôs.

2 Deued fyng-weddi ger dy fron, gostwng dy glust at fy llefain.

3 Canys fy enaid a lawnwyd o ddrygau, a'm he­nioes a aeth i'r beddrod.

4 Cyfrifwyd fi gyd â'r rhai a ddescynnent i'r pwll: oeddwn fel gwr heb nerth.

5 Yn rhydd ym-mysc meirw, fel rhai wedi eu harcholli yn gorwedd mewn bedd: y rhai ni chofiaist mwy, canys hwynt a dorrwyd oddi-wrth dy law.

6 Gosodaist fi yn y pwll issaf mewn tywyllwch, ac yn y dyfnder.

7 Arnaf y pwysa dy ddigofaint, ac â'th holl don­nau i'm cystuddiaist. Selah.

8 Pellhêaist fyng-hydnabod oddi wrthif, a goso­daist fi 'n ffieidd-dra iddynt: gwarchawyd fi fel nad awn allan.

9 Fyng-olwg a ofidiodd gan fyng-hystudd, llefais arnat Arglwydd beunydd: ac estynnais fy-nwylo attat.

10 Ai i'r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y mei­rw a'th foliannu di? Selah.

11 A dreuthir dy drugaredd di mewn bedd? a'th wirionedd yn nestruw?

12 A adwaenir dy ryfeddod mewn tywyllwch? a'th gyfiawnder yn nhîr anghof?

13 Ond myfi a lefais arnat Arglwydd: yn foreu y daw fyng-weddi o'th flaen.

14 Pa ham Arglwydd y gwrthodi fy enaid? ac y cuddi dy wyneb oddi-wrthif?

15 Truan ydwyfi, ac ar drangedigaeth o'm hie­uengctid, dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn pettruso.

16 Dy sorriant a aeth trosof, dy arswyd a'm tor­rodd ymmaith.

17 Fel dwfr i'm cylchynâsant beunydd: ac i'm cyd-amgylchâsant.

18 Pellhêaist bob câr a chyfaill oddi wrthif: fyng-hydnabod ydynt yn ymguddio.

Misericordias Domini. Psal. lxxxix.

Pryd­nhawnol weddi. TRugareddau 'r Arglwydd a ddatcanaf byth, â'm genau y mynêgaf dy wirio­nedd di o genhedlaeth hyd genhedlaeth.

2 Canys dywedais yr adailedir tru­garedd yn dragywydd: yn y nefoedd y cadarnhei dy wirionedd.

3 Gwneuthum ammod â'm etholedig, tyngais i'm gwâs Dafydd.

4 Yn dragywydd y siccrhaf dy hâd ti: ac o genhed­laeth i genhedlaeth yr adailadaf dy orsedd-faingc di. Selah.

5 Am hynny ô Arglwydd, y nefoedd a foliannant dy ryfeddod, a'th wirionedd yng-hynnulleidfa y sainct.

6 Canys pwy yn yr wybrennau a gystedlir â'r Arglwydd? pwy a gyffelybir i'r Arglwydd ym-mysc y duwiau?

7 Duw sydd ofnadwy iawn yng-hynnulleidfa 'r sainct: ac iw arswydo yn ei holl amgylchoedd.

8 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd pwy sydd fel ty­di yn gadarn Ior, a'th wirionedd o'th amgylch?

9 Ti ydwyt yn llywodraethu ymchwydd y môr, pan gyfodo ei donnau, ti a'u gostegi.

10 Ti a drybaeddaist yr Aipht fel vn lladdedic: drwy nerth dy fraich y gwascêraist dy elynnion.

11 Y nefoedd ydynt eiddo ti, a'r ddaiar sydd eiddo ti: ti a seiliaist y bŷd ac sydd ynddo.

12 Ti a greaist ogledd a dehau: Thabor a Her­mon a lawenŷchant yn dy enw.

13 Y mae i ti fraich, a chadernid, cadarn yw dy law, ac vchel yw dy ddeheu-law.

14 Cyfiawnder, a barn yw trigfa dy orseddfaingc: [Page] trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb.

15 Gwyn ei fyd y bobl y rhai a fedrant laweny­chu ynot: yn llewyrch dy wyneb ô Arglwydd y rho­diant hwy.

16 Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd, ac yn dy gyfiawnder yr ymdderchafant.

17 Canys godidawgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti, ac o'th ewyllys dâ y derchefi ein cyrn ni.

18 Canys o'r Arglwydd y mae ein tarian, ac o Sanct Israel y mae ein Brenin.

19 Yna 'r ymddiddenaist mewn gweledigaeth â'th sainct, ac a ddywedaist, gosodais gymmorth ar vn cadarn: ac a dderchefais vn etholedic o'r bobl.

20 Cefais Ddafydd fyng-wasanaeth-wr, ac enei­niais ef â'm holew sanctaidd.

21 Yr hwn y cadarnheuir fy llaw gyd ag ef: a'm braich a'i nertha ef.

22 Ni orthrymma y gelyn ef, a'r mab anwir nis cystuddia ef.

23 Canys coethaf ei elynnion o'i flaen, a'i gasei­on a darawaf.

24 Fyng-wirionedd hefyd, a'm trugaredd fyddant gyd ag ef: ac yn fy enw y derchefir ei gorn ef.

25 A gosodaf ei law ar y môr, a'i ddeheulaw yn yr afonydd.

26 Efe a'm geilw gan ddywedyd, ti yw fy Nhâd, fy Nuw a chraig fy iechydwriaeth.

27 Minne a'i rhoddaf yntef yn gynfab, goruchaf ar frenhinoedd y ddaiar.

28 Cadwaf iddo fy-nhrugaredd yn dragywydd: a'm cyfammod fydd ffyddlon iddo ef.

29 Gosodaf hefyd ei hâd yn dragywydd: a'i orsedd­faingc fel dyddiau y nefoedd.

30 Os ei feibion a adawant fyng-hyfraith: ac ni rodiant yn fy marnedigaethau,

31 Os fy neddfau a halogant: a'm gorchymyn­nion ni chadwant,

32 Yna gofwyaf eu camwedd â gwialen, ai han­wiredd â ffrewyllau.

33 Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi-wrtho ef: ac ni phallaf o'm gwirionedd.

34 Ni thorraf fyng-hyfammod: ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o'm genau.

35 Tyngais vn-waith i'm sancteiddrwydd na phallwn i Ddafydd gan ddywedyd:

36 Bydd ei hâd ef yn dragywydd: a'i orseddfaingc fel yr haul ger fy mron i.

37 Siccrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel y tystion ffyddlon yn yr wybr. Selah.

38 Ond ti a ffieiddiaist, ac a ddiystyraist, ac a ddi­giaist wrth dy eneiniog.

39 Diddymmaist gyfammod dy wâs, halogaist ei goron gan ei thaflu i lawr.

40 Drylliaist ei holl gaeau ef, gosodaist ei am­ddeffynfeudd yn adwyau.

41 Yr holl fforddolion a'i hyspeiliasant ef: aeth yn warthrudd iw gymmydogion.

42 Derchefaist ddeheu-law ei wrthwyneb-wŷr ef, a llawenheaist ei holl elynnion ef.

43 Troaist hefyd fîn ei gleddyf, ac ni chadarn­heaist ef mewn rhyfel.

44 Peraist iw lendid ddarfod, a bwriaist ei or­sedd-faingc i lawr.

45 Byrhêaist ddyddiau ei ieuengctid, a thoaist gy­wilydd trosto ef. Selah.

46 Pa hŷd Arglwydd yr ymguddi? ai yn dragy­wydd? a lysc dy ddigofaint ti fel tân?

47 Cofia pa oes sydd i mi, pa ham y creaist holl blant dynnion yn ofer?

48 Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? ac a [Page] wared ei enaid o feddiant vffern? Selah.

49 Pa lê y mae dy hên drugareddau ô Arglwydd, y rhai a dyngaist i Ddafydd yn dy wirionedd?

50 Cofia ô Arglwydd wradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy monwes gan yr holl bobloedd fawrion.

51 A'r hwn y gwarthruddodd dy elynnion dydi ô Arglwydd, y rhai a gablasant ôl troed dy eneiniog.

52 Bendigedic fyddo'r Arglwydd yn dragywydd, felly y byddo, ac Amen.

Domine, refugium. Psal. xc.

TI Arglwydd fuost yn bresswylfa i ni o genhedlaeth i genhedlaeth.Boreuol weddi.

2 Cyn gwneuthur y mynyddo­edd, a llunnio o honot y ddaiar, a'r bŷd, ti hefyd oeddit Dduw o dragy­wyddoldeb hyd dragywyddoldeb.

3 Troi ddŷn i ddinistr, trachefn y dywedi, dych­welwch feibion dynnion.

4 Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi 'r êl heibio, ac fel gwiliadwriaeth nôs.

5 Pan wascarech hwynt megis â llifeiriant y byddant fel hûn: yn forau fel llyssieun y cyfnewidi­ant.

6 Y boreu y blodeua, ac yr adnewydda, eithr pryd nawn y torrir ef ymmaith, ac y gwywa.

7 Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy li­diawgrwydd ein brawychwyd.

8 Gosodaist ein anwiredd ger dy fron, a'n dirgel bechodau yng-oleuni dy wyneb.

9 Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di, treuliasom ein blynyddoedd fel lle­ferydd.

10 Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng­mhlynedd a thrugain, ac os o gryfder y cyrheuddir pedwar vgain mhlynedd, yna eu nerth sydd boen, a blinder: canys ebrwydd y derfydd, ac yr ehedwn ni ymmaith.

11 Pwy a edwyn nerth dy sorriant di? canys fel y mae dy ofn y mae dy ddigter.

12 Dysc ni felly i gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.

13 Dychwel Arglwydd, pa hŷd y sorri? cymmer drugaredd ar dy weision.

14 Diwalla ni yn foreu â'th drugaredd, fel y gorfoleddom, ac y llawenychom dros ein holl ddy­ddiau.

15 Llawenhâ ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a'r blynyddoedd y gwelsom ddryg-fyd.

16 Gweler dy waith tu ag at dy weision, a'th odidawgrwydd tu ag at eu plant hwy.

17 A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni, a threfna weithred ein dwylo ynom ni, îe trefna waith ein dwylo.

Qui habitat. Psal. xcj.

YR hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchal a erys yng-hyscod yr Holl-alluoc.

2 Dywedaf wrth yr Arglwydd, fyng-obaith a'm hamddeffynfa ydwyt, yn fy Nuw y gobeithiaf.

3 Canys efe a'th wareda di o fagl yr heliwr: ac oddi-wrth haint echryslon.

4 A'i ascell y cyscoda efe trosot, a thann ei ade­nydd y byddi diogel: ei wirionedd fydd darian, ac astalch i ti.

5 Nid ofni rhag dychryn nôs, na rhag y saeth a eheto 'r dydd.

6 Na rhâg yr haint yr hwn a rodio yn y tywy­llwch, na rhag y dinistr a ddinistrio hanner dydd.

7 Wrth dy ystlys y cwymp mîl, a deng-mil wrth dy ddeheu-law: ond ni ddaw yn agos attat ti.

8 Etto canfyddi â'th lygaid, a gwêli dâl y rhai annuwiol.

9 Canys ti ô Arglwydd wyt fyng-obaith: vchel y gosodaist dy bresswylfa.

10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw plâ yn agos i'th babell,

11 Canys efe a orchymyn iw angelion am da­nat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.

12 Ar eu dwylo i'th ddygant, rhag taro dy droed wrth garrec.

13 Ar y llew, a'r asp y cerddi: ac genaw llew, a'r ddraig y sethri.

14 Gwaredaf ef hefyd am roddi o honaw serch arnaf: derchafaf ef am adnabod o honaw fy enw.

15 Efe a eilw arnaf, a mi a'i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gyd ag ef, y gwaredaf ef, ac y gogo­neddaf ef.

16 Digonaf ef â hir ddyddiau: a dangosaf iddo fy iechydwriaeth.

Bonum est confiteri. Psal. xcij.

DA yw moliannu 'r Arglwydd: a chanu i'th enw di y Goruchaf.

2 A Mynegu y boreu am dy drugaredd, a'th wi­rionedd y nosweithiau.

3 Ar ddec-tant, ac ar nabl, ac ar delyn yn fyfyrriol.

4 Canys llawenychaist fi ô Arglwydd â'th wei­thred: yng-waith dy ddwylo y gorfoleddaf.

5 Mor fawredic ô Arglwydd yw dy weithredo­edd! dwfn iawn yw dy feddyliau.

6 Gŵr annoeth ni ŵyr, a'r ynfyd ni ddeall hyn.

7 Pan flodeuo y rhai annuwiol fel llysieun, y blagura holl weithredwŷr anwiredd iw dinistrio byth bythoedd.

8 Tithe Arglwydd wyt dderchafedic yn dragy­wydd.

9 Canys wele dy elynnion ô Arglwydd, wele dy elynnion a ddifethir: gwascerir holl weithred­wŷr anwiredd.

10 A'm corn a dderchefi fel vnicorn, ag olew îr i'm taenellir.

11 Fy llygad hefyd a wêl fyng-wynfyd ar fyng-wrthwyneb-wŷr: fyng-hlustiau a glywant fy ewy­llys am y rhai drygionus a gyfodant i'm herbyn.

12 Y cyfiawn a flodeua fel palm-wŷdden, ac a gynnydda fel cedr-wydden yn Libanus.

13 Y rhai a blannwyd yn nhŷ 'r Arglwydd a flodeuant yng-hynteddoedd ein Duw.

14 Ffrwythant etto yn eu henaint, tyrfion, ac iraidd fyddant,

15 I fynegu mai iniawn yw 'r Arglwydd fyng-hraig: ac nad oes anwiredd ynddo.

Dominus regnauit. Psal. xciij.

Pryd­nhawnol weddi. YR Arglwydd sydd yn teyrnasu, ac a wiscodd ardderchawgrwydd, gwiscodd yr Arglwydd, ac ymwregysodd â nerth: y bŷd hefyd a siccrhaodd efe fel na syflo.

2 Darparwyd dy orsedd-faingc erioed: ti ydwyt er tragywyddoldeb.

3 Y llifeiriaint ô Arglwydd a dderchafasant, y llifeiriaint a dderchafasant eu twrwf: y llifeiriaint a dderchafasant eu tonnau.

4 Cadarn yw tonnau 'r môr gan dwrwf dy­froedd lawer, cadarnach yw 'r Arglwydd yn yr v­chelder.

5 Siccr iawn yw dy destiolaethau, sancteiddrw­ydd a wedde i'th dŷ ô Arglwydd byth.

Deus vltionum. Psal. xciiij.

O Arglwydd Dduw yr dial, ô Dduw 'r dial ym­ddiscleiria.

2 Ymddercha farn-wr y bŷd: tâl eu gwobr i'r beilchion.

3 Pa hŷd Arglwydd y llawenycha yr annuwo­lion? pa hyd y gorfoledda y rhai drygionus?

4 Yr ymfawryga holl weithred-wŷr anwiredd? y siarâdant, ac y dywedant yn galed?

5 Dy bobl Arglwydd a faeddant: a'th etifeddia­eth a gystuddiant.

6 Y weddw a'r dieithr a laddant, a'r ymddifad a liasant.

7 Dywedâsant hefyd, ni wêl yr Arglwydd: ac ni ddeall Duw Iacob hyn.

8 Ystyriwch chwi y rhai annoeth ym mysc y bo­bl: a'r ynfydion, pa bryd y ddeallwch?

9 Oni chlyw 'r hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygaid?

10 Oni cherydda 'r hwn a gospa y cenhedloedd: oni ŵyr yr hwn sydd yn dyscu gwybodaeth i ddŷn?

11 Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dŷn, mai gwa­gedd ydynt.

12 Gwyn ei fŷd y gŵr yr hwn a gospi di ô Arg­lwydd, ac a ddysci yn dy gyfraith,

13 I beri iddo lonydd oddi-wrth ddyddiau dryg­fyd, hyd oni chloddier ffôs i'r annuwiol.

14 Canys ni âd yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth.

15 Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder, a'r holl rai iniawn o galon a ânt ar ei ôl ef.

16 Pwy a gyfyd gyd â mi yn erbyn y rhai drygio­nus? pwy a saif gyd â mi yn erbyn gweithred-wyr anwiredd?

17 Oni buase 'r Arglwydd yn gymmorth i mi, [Page] braidd na thrigâse fy enaid mewn distawrwydd.

18 Pan ddywedwn, llithrodd fy nhroed, dy dru­garedd di ô Arglwydd a'm cynhalie.

19 Yn amlder fy meddyliau o'm mewn, dy ddi­ddanwch di a lawenyche fy enaid.

20 A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfaingc yr anwir: yr hwn a lunnia anwiredd yn lle cyfraith?

21 Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfi­awn: a gwaed gwirion a farnant yn euog.

22 Eithr yr Arglwydd sydd yn amddeffynfa i mi, a'm Duw yw craig fy ymddyried.

23 Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a'u tyrr ymmaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw a'u tyrr hwynt ymmaith.

Venite exultemus. Psal. xcv.

Boreuol weddi. DEuwch canwn i'r Arglwydd, ymla­wenhawn yn nerth ein hiechyd.

2 Deuwn ger ei fron ef â diolch: cânwn yn llafar iddo psalmau.

3 Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a Brenin mawr ar yr holl dduwiau.

4 Yr hwn y mae gorddyfnder y ddaiar yn ei law: vchelder y mynyddoedd yn eiddo ef.

5 Yr hwn y mae 'r môr yn ei eiddo, canys efe a'i gwnaeth: a'i ddwylo a luniasant y sych-dir.

6 Deuwch, addolwn, ac ymgrymmwn, gostyn­gwn gerbron yr Arglwydd ein gweithydd.

7 Canys efe yw ein Duw ni, a ninne yn bobl ei borfa, ac yn ddefaid ei ddwy-law, heddyw os gw­randewch ar ei leferydd,

8 Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch.

9 Lle y temptiodd eich tadau fi, y profâsant fi, ac [Page] y gwelsant fyng-weithredoedd.

10 Deugain mhlynedd yr ymrysonais â'r gen­hedlaeth hon, a dywedais, pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy: canys nid adnabûant hwy fy ffyrdd.

1.1 Am y rhai y tyngais yn fy llid na ddelent i'm gorphywysfa.

Cantate Domino. Psal. xcvj.

CEnwch i'r Arglwydd ganiad newydd: cênwch i'r Arglwydd yr holl ddaiar.

2 Cênwch i'r Arglwydd a bendigwch ei enw ef: cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iechydwriaeth ef.

3 Dadcenwch ym mysc y cenhedloedd ei ogoni­ant ef, ac ym-mhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.

4 Canys mawr yw 'r Arglwydd, a chanmolad­wy iawn, ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.

5 Canys holl dduwiau'r bobloedd ydynt eulyn­nod, yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.

6 Gogoniant, a harddwch ydynt o'i flaen ef, nerth a hyfrydwch sydd yn ei gyssegr.

7 Tylwythau y bobl rhoddwch i'r Arglwydd: rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant a nerth.

8 Rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant ei enw, dy­gwch fwyd offrwm, a deuwch iw gynteddoedd.

9 Addolwch ger bron yr Arglwydd mewn pryd­ferth sancteiddrwydd: yr holl ddaiar ofnwch rhag­ddo ef.

10 Dywedwch ym mysc y cenhedloedd, yr Argl­wydd sydd yn teyrnasu, a'r byd a siccrhaodd efe fel nad yscogo: efe a farna y bobl yn iniawn.

11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y dda­iar: rhûed y môr ac sydd ynddo.

12 Gorfoledded y maes, a'r hyn oll sydd ynddo: a holl brennau'r coed a gânant o flaen yr Arglwydd:

13 Am ei ddyfod, am ei ddyfod i farnu yr ddaiar: efe [Page] a farna yr bŷd drwy gyfiawnder, a'r bobloedd yn ei wirionedd.

Dominus regnauit. Psal. xcvij.

YR Arglwydd sydd yn teyrnasu, gorfoledded y dda­iar, a llawenyched ynysoedd lawer.

2 Niwl a thywyllwch ydynt o'i amgylch ef: cyfi­awnder, a barn yw sail ei orsedd-faingc ef.

3 Tân aiff allan o'i flaen ef, ac a lŷsc ei elynnion ef o amgylch.

4 Ei fellt a lewyrchâsant y byd, y ddaiar a we­lodd, ac a ofnodd.

5 Y mynyddoedd a doddasant fel cŵyr o flaen yr Arglwydd: sef o flaen Arglwydd yr holl ddaiar.

6 Y nefoedd a fynegâsant ei gyfiawnder ef: a'r holl bobl a welsant ei ogoniant.

7 Gwradwydder y rhai oll a wasanaethant dde­lw gerfiedic, y rhai a orfoleddant mewn eulynnod: addolwch ef yr holl dduwiau.

8 Sion a glywodd, ac a lawenychodd: a mer­ched Iuda a orfoleddasant o herwydd dy farnediga­ethau di ô Arglwydd.

9 Canys ti wyt Arglwydd goruchaf ar yr holl ddaiar: dirfawr y derchafwyt ti goruwch yr holl ddu­wiau.

10 Casewch ddrygioni y rhai a gerwch yr Argl­wydd: yr hwn sydd yn cadw eneidiau ei sainct, ac a'u gwared o law y rhai annuwiol.

11 Hauwyd goleuni i'r cyfiawn, a llawenydd i'r rhai iniawn o galon.

12 Y rhai cyfiawn llawenychwch yn yr Argl­wydd: a moliennwch goffadwriaeth ei sancteiddr­wydd ef.

Cantate Domino. Psal. xcviij.

CEnwch i'r Arglwydd ganiad newydd,Pryd­nhawnol weddi. canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: â'i ddeheulaw, ac â'i fraich sanctaidd y parodd iddo ei hun ie­chydwriaeth.

2 Yspyssodd yr Arglwydd ei iechydwriaeth, a dat­cuddiodd ei gyfiawnder yng-olwg y cenhedloedd.

3 Cofiodd ei drugaredd, a'i wirionedd i dŷ Isra­el: holl derfynau y ddaiar a welsant iechydwriaeth ein Duw ni.

4 Cênwch yn llafar i'r Arglwydd bob daiar: lle­fwch, ac ymlawenhewch, a chênwch.

5 Cênwch i'r Arglwydd gyd â'r delyn: sef gyd â'r delyn â llef canmoliaeth.

6 Cênwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Bre­nin: ar yr vdcyrn, a sain trwmpet.

7 Rhûed y môr ac sydd ynddo, y bŷd a'r rhai a drigant o'i fewn.

8 Cured y llifeiriaint eu dwylo: a chyd-ganed y mynyddoedd.

9 O flaen yr Arglwydd, canys efe a ddaeth i far­nu y ddaiar: efe a farna 'r bŷd mewn cyfiawnder, ar bobloedd mewn iniondeb.

Dominus regnauit. Psal. xcix.

YR Arglwydd sydd yn teyrnasu er maint a ymder­fysco y bobloedd: eistedd y mae rhwng y Ceru­biaid er maint a ymsiglo y ddaiar.

2 Mawr yw 'r Arglwydd yn Sion, a derchafe­dic yw efe goruwch yr holl bobloedd.

3 Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy, canys sanctaidd yw.

4 A nerth y brenin a hoffa farn, ti a ddarpe­raist iniondeb, barn, a chyfiawnder a wnaethost ti yn Iacob.

5 Derchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ym­grymmwch [Page] o flaen ei stôl draed ef, canys sanctaidd yw efe.

6 Moses ac Aaron oeddynt ym-mhlith ei offeiri­aid ef: a Samuel ym mysc y rhai a alwent ar ei enw, galwasant ar yr Arglwydd, ac efe a'u gwrandaw­odd hwynt.

7 Llefarodd wrthynt mewn colofn o niwl, cad­wasant ei destiolaethau, a'r ddeddf a roddodd efe iddynt.

8 Gwrandewaist arnynt ô Arglwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, pan ddielit am eu gwei­thredoedd.

9 Derchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ym­grymmwch ar ei fynydd sanctaidd, canys sanctaidd yw 'r Arglwydd ein Duw.

Iubilate Deo. Psal. c.

CEnwch yn llafar i'r Arglwydd yr holl ddaiar:

2 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o'i flaen ef â chân.

3 Gwybyddwch mai 'r Arglwydd sydd Dduw: efe a'n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef y­dym, a defaid ei borfa.

4 Ewch iw byrth ef â diolch, ac iw gynteddau â mawl: clodforwch ef, a bendithiwch ei enw.

5 Canys dâ yw 'r Arglwydd, a'i drugaredd sydd yn dragywydd, a'i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

Misericordiam & iudicium. Psal. cj.

DAdcanaf drugaredd a barn: i ti Arglwydd y ca­naf.

2 Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith hyd oni ddelech attaf: rhodiaf mewn perffeithrwydd fyng-halon o fewn fy nhŷ.

3 Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid, câs gennif waith y rhai cildynnus, ac ni lŷn wrthif.

4 Calon gyndyn a gilia oddi-wrthif, nid adna­byddaf ddŷn drygionus.

5 Torraf ymmaith yr hwn a enllibio ei gyfaill yn ddirgel, y balch o olwg a'r vchel galon ni allaf ei ddioddef.

6 Fy llygaid fyddant ar ffyddlonniaid y tîr, fel y trigant gyd â mi: yr hwn a rodio mewn ffordd ber­ffaith hwnnw a'm gwasanaetha fi.

7 Ni thrig o fewn fy nhŷ yr vn a wnelo dwyll, ni chadarnheuir yn fyng-olwg yr vn a ddywedo gelwydd.

8 Yn foreu y torraf ymmaith holl annuwolion y tîr: gan ddiwreiddio holl weithred-wŷr anwiredd o ddinas yr Arglwydd.

Domine exaudi. Psal. cij.

ARglwydd clyw fyng-weddi,Boreuol weddi. a deled fy llêf attat.

2 Na chudd dy wyneb oddi-wr­thif, yn nydd fyng-hyfyngder gost­wng dy glust attaf: yn y dydd y gal­wyf, bryssia, a gwrando fi.

3 Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mŵg: a'm hescyrn a boethasant fel pentewyn.

4 Fyng-halon a darawyd: ac a wywodd fel llyssieun: fel yr anghofiais fwytta fy mara.

5 Gan lais fy nhuchan y glŷnodd fy escyrn wrth fyng-nhawd.

6 Tebyg wyf i belican mewn anialwch, ydwyf fel dylluan mewn diffaethwch.

7 Gwiliais, ac ydwyf fel aderyn y tô, vnic ar benn y tŷ.

8 Fyng-elynion a'm gwarthruddasant beunydd: y rhai a ynfydant wrthif a dyngasant yn fy erbyn.

9 Canys bwytteais ludw fel bâra: a chymmys­cais [Page] fy niod ag wylofain,

10 A hynny gan dylid a'th ddigofaint: canys co­daist fi, a theflaist fi i lawr.

11 Fy nyddiau a aethant fel cyscod wedi cilio, a minne fel glas-welltyn a wywais.

12 Tithe Arglwydd a barhei yn dragywyddol: a'th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

13 Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Sion: canys madws yw trugarhau wrthi, o herwydd dyfod yr amser nodedic.

14 O blegit y mae dy weision yn hoffi ei meini hi: ac yn tosturio wrth ei llŵch hi.

15 A'r cenhedloedd a ofnant enw 'r Arglwydd: a holl frenhinoedd y ddaiar dy ogoniant,

16 Pan adailado yr Arglwydd Sion, a phan we­ler ef yn ei ogoniant.

17 Edrychodd ar weddi y gwael: ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.

18 Hyn a scrifennir i'r genhedlaeth nessaf, a'r bo­bl a ênir a foliannant yr Arglwydd.

19 Canys edrychodd o vchelder ei gyssegr: yr Arg­lwydd a edrychodd i lawr o'r nefoedd,

20 I wrando vchenaid y carcharorion: ac i rydd­hau plant angeu.

21 Fel y mynegent enw 'r Arglwydd yn Sion, a'i foliant ef yn Ierusalem,

22 Pan gesclid y bobl yng-hyd, a'r teyrnasoedd i wasanaethu 'r Arglwydd.

23 Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd, a byrha­odd fy nyddiau.

24 Dywedais, fy Nuw na chyfot fi ymmaith yng-hanol fy nyddiau: dy flynyddoedd di ydynt yn oes oesoedd,

25 Yn y dechreuad y seiliaist y ddaiar, a'r nefoedd ydynt waith dy ddwylo,

26 Hwynt a ddarfyddant a thi a barhei, îe hwynt oll a heneiddiant fell dilledyn: fel gwisc y newidi hwynt, ac y newidiant.

27 Tithe 'r vn ydwyt, a'th flynyddoedd ni ddar­fyddant.

28 Plant dy weision a bresswyliant, a'u hâd a ga­darnheuir ger dy fron di.

Benedic anima mea. Psal. ciij.

FY enaid bendithia 'r Arglwydd, a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd.

2 Fy enaid bendithia r' Arglwydd, ac nac angho­fia ei holl ddonniau ef.

3 Yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau: a'r hwn sydd yn iachaû dy holl lescedd.

4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddestruw, yr hwn sydd yn dy gorôni â thrugaredd, ac â thosturi.

5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni: fel yr adnewydder dy ieuengctid fel yr eryr.

6 Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder, a barn i'r rhai gorthrymmedic oll.

7 Yspyssodd ei ffyrdd i Moses, a'i weithredoedd i feibion Israel.

8 Trugarog, a gras-lawn yw 'r Arglwydd: hwyr­frydic i lid, a mawr o drugarogrwydd.

9 Nid byth yr ymrysson efe, ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint.

10 Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe i ni, ac nid yn ôl ein anwireddau y tâlodd efe i ni.

11 Canys cyfuwch ac yw 'r nefoedd vwchlaw 'r ddaiar, y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a'i hof­nant ef.

12 Cyn belled ac yw 'r dwyrain oddi wrth y gorlle­wyn, y pellhaodd efe ein camweddau oddi-wrthym.

13 Fel y tosturia tâd wrth ei blant, y tosturiodd yr Arglwydd wrth y rhai a'i hofnant ef.

14 Canys efe a adwaene ein defnydd ni: cofiodd mai llŵch oeddem ni.

15 Dyddiau dŷn ydynt fel glas-welltyn: megis blodeun y maes y blodeua efe.

16 Pan êl gwynt trosto, yna ni bydd mwy o ho­naw: a'i le nid edwyn ddim o honaw ef mwy.

17 Ond trugaredd yr Arglwydd fydd o dragy­wyddoldeb hyd dragywyddoldeb ar y rhai a'i hof­nant ef:

18 A'i gyfiawnder i blant plant y rhai a gadwant ei gyfammod ef: ac a gofiant ei orchymynnion iw gwneuthur.

19 Yr Arglwydd a baratôdd ei orseddfa yn y ne­foedd: a'i frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bôb peth.

20 Bendithiwch yr Arglwydd ei angelion ef, ce­dyrn o nerth yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.

21 Bendithiwch yr Arglwydd ei holl luoedd ef: sef ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys.

22 Bendithiwch yr Arglwydd ei holl weithre­doedd ef, ym-mhob mann o'i lywodraeth. Fy enaid bendithia 'r Arglwydd.

Benedic anima mea. Psal. ciiij.

Pryd­nhawnol weddi. FY enaid bendithia 'r Arglwydd, ô Ar­glwydd fy Nuw tra mawr ydwyt: gwiscaist ogoniant, a harddwch.

2 Yr hwn sydd yn gwisco goleuni fel dilledyn: ac yn tânu y nefoedd fel llenn.

3 Yr hwn sydd yn tŷlathu yn y dyfroedd, yn go­sod y cwmylau yn gerbyd iddo: ac yn rhodio ar ade­nydd y gwynt.

4 Yr hwn sydd yn gwneuthur ei gennadon yn [Page] ysprydion: a'i wenidogion yn dân fflamllyd.

5 Efe a seiliodd y ddaiar ar ei sylfeini: fel na siglo byth, nac yn dragywydd.

6 Toaist hi â gorddyfnder megis â gwisc: y dyfro­edd a safant ar y mynyddoedd.

7 Gan dy gerydd di y ffoant, rhag sŵn dy daran y rhedant yn frawchus.

8 Fel mynyddoedd yr ymgodant, fel glynnoedd y descynnant i'r lle yr hwn a seiliaist iddynt.

9 Gosodaist derfyn fel nad elont trosodd, fel na ddychwelont i orchguddio 'r ddaiar.

10 Yr hwn a yrraist ffynhonnau i'r afonydd, y rhai a gerddant rhwng y mynyddoedd.

11 Diodant holl fwyst-filod y maes: yr assynnod gwylltion a dorrant eu syched ynddynt.

12 Adar y nefoedd a drigant ger llaw iddynt, ac a leisiant oddi rhwng y cangau.

13 Y mae efe yn dwfrhau y mynyddoedd o'i vchelder: a'r ddaiar a gyflawnir o ffrwyth dy wei­thredoedd.

14 Y mae yn peri i'r gwellt dyfu i'r anifeiliaid, a llyssiau i wasanaethu dŷn: gan ddwyn bara allan o'r ddaiar.

15 A gwîn hefyd y llawenycha efe galon dŷn, gan beri i wynebau ddiscleirio ag olew: ac â bara y cynnal efe galon dŷn.

16 Prennau 'r Arglwydd ydynt lawn o sugn: sef cedr-wydd Libanus y rhai a blannod efe.

17 Lle y nytha'r adar: y ffynnidwydd yw tŷ y Ci­conia.

18 Y mynyddoedd vchel sydd i'r geifr, a'r creigiau yn lloches i gwnningod.

19 Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedic: yr haul a edwyn ei fachludiad.

20 Gosodi dywyllwch a nôs fydd: ynddi 'r ym­lusca [Page] pôb bwyst-fil coed.

21 Y llewod a rûant am sclyfaeth, ac a ânt i geisio eu bwyd gan Dduw.

22 Pan godo haul yr ymgasclant, ac y gorwedd­ant yn eu llochesau.

23 Dŷn a aiff allan iw waith, ac iw orchwyl hyd yr hwyr

24 Mor lluosog yw dy weithredoedd ô Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb, llawn yw'r ddaiar o'th gyfoeth.

25 Felly mawr, a llydan yw 'r môr: yno y mae ymlusciaid heb rifedi, a bwyst-filod mawrion a by­chain.

26 Yno 'r aiff llongau: a'r Lefiathan yr hwn a luniaist i chwareu ynddo.

27 Hwynt oll a ddisgwiliant wrthit am roddi eu bwyd yn ei brŷd.

28 Casclant pan roddech iddynt: pan agorech dy law diwellir hwynt â daioni.

28 Pan guddiech dy wyneb y dychrynnant, pan gasclech dy yspryd y trengant, ac y dychwelant iw llwch.

30 Pan ollyngech dy yspryd y creuir hwynt, ac yr adnewyddi di wyneb y ddaiar.

31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd.

32 Yr hwn a edrych ar y ddaiar, a hi a gryna, ac a gyffwrdd â'r mynyddoedd, a hwynt a fygant.

33 Canaf i'r Arglwydd yn fy mywyd, canaf i'm Duw tra fyddwyf.

34 Bydd melys ganddo fy myfyrdod: mi a lawe­nychaf yn yr Arglwydd,

35 Derfydd y pechaduriaid o'r tîr, ni bydd yr an­nuwolion mwy: fy enaid bendithia di'r Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.

Confitemini Domino. Psal. cv.

CLodforwch yr Arglwydd,Boreuol weddi. gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ym mysc y bobloedd.

2 Cenwch iddo, can-molwch ef: treu­thwch am ei holl ryfeddodau ef.

3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd, llaweny­ched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd.

4 Ceisiwch yr Arglwydd a'i nerth: cesiwch ei wyneb bôb amser.

5 Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe: ei wrthiau, a barnedigaethau ei enau.

6 O hâd Abraham ei wâs ef: ô meibion Iacob ei etholedigion.

7 Efe yw'r Arglwydd ein Duw ni, ei farnedi­gaethau ef ydynt trwy 'r holl ddaiar.

8 Cofiodd ei gyfammod bôb amser: a'r gair a or­chymynnodd efe i fîl o genhedlaethau.

9 Yr hyn a āmododd efe ag Abrahā, a'i lŵ i Isaac.

10 A'r hyn a osododd efe yn ddeddf i Iacob, ac yn gyfammod tragywyddol i Israel,

11 Gan ddywedyd, i ti y rhoddaf dir Canaan rhan-dir eich etifeddiaeth.

12 Pan oeddynt anaml ac ychydig, a dieithriaid ynddi,

13 Pan rodiasant o genhedlaeth i genhedlaeth: o'r naill deyrnas at bobl arall:

14 Ni adawodd i neb eu gorthrymmu, onid cery­ddodd frenhinoedd o'u plegit gan ddywedyd:

15 Nâ chyffyrddwch â'm rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy-mhrophwydi.

16 Galwodd hefyd am newyn ar y tîr: a dini­striodd holl gynhaliaeth bara.

17 Anfonodd ŵr o'u blaen hwynt, Ioseph a wer­thwyd yn wâs.

18 Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: daeth yr haiarn hyd ei enaid,

19 Hyd yr amser y daeth ei air ef i ben, gair yr Ar­glwydd a'i profodd ef.

20 Y brenin a anfonodd, ac a'i gollyngodd ef, a llywodraeth-wr y bobl a'i rhyddhâodd ef.

21 Gosododd ef yn Arglwydd ar ei dŷ, ac yn lly­wydd ar ei holl gyfoeth,

22 I athrawiaethu ei dywysogion ef wrth ei ewyllys, ac i ddyscu doethineb iw henuriaid ef.

23 Yna 'r aeth Israel i'r Aipht, ac Iacob a ym­deithiodd yn nhîr Ham.

24 Ac efe a gynnyddodd ei bobl yn ddirfawr: ac a'i gwnaeth yn gryfach nâ'u gwrthwyneb-wŷr.

25 Trôdd eu calon hwynt i gasâu ei bobl ef, ac i wneuthur yn ddichellgar â'i weision ef.

26 Yna 'r anfonodd efe Moses ei wâs, ac Aaron yr hwn a ddewisase efe.

27 Gosodâsant eiriau ei arwyddion ef yn eu plith hwynt: a rhyfeddodau yn nhîr Ham.

28 Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufyddhasant hwy ei air ef.

29 Efe a drôdd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pyscod hwynt.

30 Eu tîr a heigiodd lyffaint yn stafelloedd eu brenhinoedd.

31 Efe a ddywedodd, a daeth cymmysc-bla, a llau yn ei holl frô hwynt.

32 Efe a roddes eu glaw hwynt yn genllysc, ac yn fflammau tân yn eu tîr.

33 Tarawodd hefyd eu gwinwydd, a'u ffigus­wydd: ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.

34 Efe a ddywedodd, a daeth y celioc rhedyn, a'r lindis yn anneirif,

35 Y rhai a fwytâsant yr holl las-wellt yn eu tîr [Page] hwynt: ac a ddifâsant ffrwyth eu daiar hwynt.

36 Tarawodd hefyd bôb cyntaf-anedic yn eu tîr hwynt, sef blaen-ffrwyth eu holl nerth hwynt.

37 Ac a'u dug hwynt allan ag arian, ac ag aur: ac heb vn llesc yn eu llwythau hwynt

38 Llawenychodd yr Aipht pan aethant allan, canys syrthiase eu harswyd arnynt hwy.

39 Efe a estynnodd gwmwl yn dô, a thân i oleuo liw nôs.

40 Gofynnasant, ac efe a ddug sofl-ieir, ac a'u diwallodd â bara nefol.

41 Efe a holltodd y graig, a'r dwfr a ddylifodd, ac afonydd a gerddâsant ar hŷd lleodd sychion.

42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abra­ham ei wâs,

43 Ac a ddûg ei bobl allan mewn llawenydd: a'i etholedigion mewn gorfoledd.

44 Ac a roddes iddynt dîr y cenhedloedd: a gores­cynnasant lafur y bobloedd.

45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.

Confitemini Domino. Psal. cvj.

CLodforwch yr Arglwydd canys dâ yw:Pryd­nhawnol weddi. o herwydd ei drugaredd a beru yn dra­gywydd.

2 Pwy a draetha gadernid yr Arglw­ydd? ac a fynega ei holl fawl ef.

3 Gwyn eu byd a gadwant farn: a'r hwn a wnêl gyfiawnder bôb amser.

4 Cofia fi Arglwydd yn ôl dy raslonrwydd i'th bobl, ym wel â mi â'th iechydwriaeth.

5 Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, gan lawenychu yn llawenydd dy genhedlaeth: a chan orfoleddu gyd â'th etifeddiaeth.

6 Pechasom gyd â'n tadau, gwnaethom gam­wedd, anwir fuom.

7 Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aipht, ni chofiasant luosogrwydd dy drugareddau: eithr anufydd fuant wrth y môr, sef y môr coch.

8 Etto efe a'u hachubodd hwynt er mwyn ei enw: i beri adnabod ei gadernid.

9 Ac a geryddodd y môr coch fel y sychodd efe: a gwnaeth iddynt fyned trwy 'r dyfnder megis trwy 'r anialwch:

10 Achubodd hwynt hefyd o law y digasog: ac a'u gwaredodd o feddiant y gelyn.

11 A'r dyfroedd a doâsant eu gwrthwyneb-wyr: ni adawyd vn o honynt.

12 Yna y credâsant iw eiriau ef: ac y canâsant ei fawl ef.

13 Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef, ni ddisgwiliasant am ei gyngor ef.

14 Eithr blyssiâsant yn ddirfawr yn yr anialwch: a themptiâsant Dduw yn y diffaethwch.

15 Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt, ac a anfo­nodd gulni arnynt.

16 Cyffroasant hefyd Moses yn y gwersyll: ac Aaron sanct yr Arglwydd.

17 Yddaiar a agorodd, ac a lyngcodd Ddathan, ac a orchguddiodd gynnulleidfa Abiram.

18 Cynneuodd tân hefyd yn eu cynnulleidfa hw­ynt: fflam a loscodd y rhai annuwiol.

19 Llô a wnaethant yn Horeb: ac ymgrymma­sant i'r ddelw dawdd.

20 Felly y troâsant eu gogoniant i lûn eidion yn poru glas-wellt.

21 Anghofiasant Dduw eu hachub-wr, yr hwn a wnelse bethau mawrion yn yr Aipht.

22 Pethau rhyfedd yn nhîr Ham: pethau ofnad­wy [Page] wrth y môr coch.

23 Ac efe a ddywedase am eu dinistrio hwynt, oni buase i Moses ei etholedig ef sefyll ar yr adwy o'i fla­en ef, i droi ei lidiawgrwydd rhag eu dinistrio.

24 Diystyrasant hefyd y tîr dymunol: ac ni chre­dâsant ei air ef.

25 Grwgnachâsant hefyd yn eu pebyll: ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd.

26 Yna y derchafood efe ei law yn eu herbyn hw­ynt, iw cwympo yn yr anialwch,

27 Ac i gwympo eu had ym mysc y cenhedloedd, ac iw gwascâru hwynt drwy 'r tiroedd.

28 Ymgymharâsant hefyd á Baalpeor, a bwytta­sant ebyrth y meirw.

29 Felly y digiasant ef â'u dychymmygion eu hu­nain: ac y tarawodd plâ yn eu mysc hwy.

30 Yna y safodd Phinehes, ac a iawn farnodd: a'r plâ a attaliwyd.

31 A chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder: o gen­hedlaeth i genhedlaeth byth.

32 Llidiâsant ef hefyd wrth ddyfroedd y gynnen: a drygwyd Moses o'u plegit hwynt.

33 O herwydd cythruddo o honynt ei yspryd ef, fel y cam-ddywedodd â'i wefusau.

34 Ni ddinistriâsant y bobloedd, megis y dywedase 'r Arglwydd wrthynt.

35 Eithr ymgymmyscâsant â'r cenhedloedd: a dys­câsant eu gweithredoedd hwynt.

36 A gwasanaethâsant eu gau dduwiau hwynt, y rhai a fuant yn fagl iddynt:

37 Aberthâsant hefŷd eu meibion, a'u merched i gythreuliaid,

38 Ac a dywalltâsant waed gwirion sef gwaed eu meibion, a'u merched, y rhai a aberthâsant i gau­dduwiau Canaan, ac a halogwyd y tîr â'r gwaed.

39 Felly 'r ymhalogâsant yn eu gweithredoedd eu hun, ac y putteiniasant gyd â'u dychymmygion.

40 Am hynny y cynneuodd dîg yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, ac y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth.

41 Ac efe a'u rhoddes hwynt yn llaw 'r cenhedlo­edd, a'u caseion a lywodraethâsant arnynt.

42 Eu gelynnion hefyd a'u gorthrymmâsant, a gostyngwyd hwynt tann eu dwylo hwy.

43 Llawer gwaith y gwarêdodd efe hwynt, hwy­thau a'i digiâsant ef â'u cyngor eu hun: a hwynt a gystuddiwyd am eu hanwiredd.

44 Ond efe a edrychodd pan oedd ing arnynt: pan glywodd eu llefain hwynt.

45 Ac efe a gofiodd ei gyfammod â hwynt, ac a do­sturiodd yn ôl lluosogrwydd ei drugareddau.

46 Ac a'u rhoes hwynt i gael trugaredd o flaen y rhai oll a'u caethiwasent hwy.

47 Achub ni ô Arglwydd ein Duw: a chynnull ni o blîth y cenhedloedd, i glodfori dy enw sanctaidd: ac i orfoleddu yn dy foliant.

48 Bendigedic yw Arglwydd Dduw Israel er ioed, ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, felly y byddo. Molwch yr Arglwydd.

Confitemini Domino. Psal. cvij.

Boreuol weddi. CLodforwch yr Arglwydd canys da yw: o her­wydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

2 Felly dyweded gwaredigion yr Argl­wydd, y rhai a waredodd efe o law 'r gelyn,

3 Ac a gasclodd efe o'r tiroedd, o'r dwyrain, ac o'r gorllewin, ac o'r gogledd, ac o'r dehau.

4 Cyrwydrâsant yn yr anialwch ac mewn diffa­ethwch allan o'r ffordd: heb gael dinas i aros ynddi.

5 Yn newynog ac yn sychedig eu henaid a lewyg­odd ynddynt.

6 Yna y llefâsant ar yr Arglwydd yn eu cyfyng­der: ac efe a'u gwaredodd o'u gorthrymder.

7 Ac a'u tywysodd hwynt ar hŷd ffordd iniawn, i ddyfod i ddinas gyfanneddol.

8 Cyffessant o flaen yr Arglwydd ei drugaredd ef, a'r ryfeddodau a wnaeth efe i feibion dynion.

9 Canys diwallodd efe yr enaid sychedig, ac a lanwodd yr enaid newynog â daioni.

10 Y rhai a bresswyliant dywyllwch a chyscod angeu, yn rhwym mewn cystudd a haiarn.

11 O herwydd annufyddhâu o honynt eiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf.

12 Yntef a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiâ­sant, ac nid oedd cynnorthwy-wr.

13 Pan waeddâsant ar yr Arglwydd yn eu cyfyng­der: efe a'u hachubodd o'u gorthrymder.

14 Dug hwynt allan o dywyllwch, a chyscod ang­eu: a drylliodd eu rhwymau hwynt.

15 Cyffessant hwythau o flaen yr Arglwydd ei drugaredd, a'i ryfeddodau a wnaeth efe i feibion dy­nion.

16 Canys efe a dorrodd y pyrth prês, ac a ddrylli­odd y barrau heirn.

17 Ynfydion o blegit eu camweddau, ac o her­wydd eu hanwireddau a gystuddir.

18 Eu henaid a ffieiddie bôb bwyd: a daethant hyd byrth angeu.

19 Yna y gwaeddâsant ar yr Arglwydd yn eu cy­fyngder: ac efe a'u hachubodd o'u gorthrymder.

20 Anfonodd efe ei air, ac iachâodd hwynt: ac a'u gwaredodd o'u methiant.

21 Cyffessant hwythau o flaen yr Arglwydd ei drugaredd ef: a'i ryfeddodau a wnaeth efe i feibion dynion,

22 Aberthant hefyd aberth moliant: a mynegant [Page] ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.

23 Y rhai a ddescynnant mewn llongau i'r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd maw­rion.

24 Hwynt a welsant weithredoedd yr Arglwydd: a'i ryfeddodau yn y dyfnder.

25 Canys dywedodd efe, a chyfododd temhestl­wynt: ac a dderchafodd ei donnau.

26 Y rhai a escynnasant i'r nefoedd, ac a ddescyn­nasant i'r dyfnder, fel y toddodd eu henaid gan flin­der.

27 Ymdroâsant, ac ymsymmudâsant fel medd­wyn: a methodd eu holl ddoethineb.

28 Yna y gwaeddâsant ar yr Arglwydd yn eu cy­fyngder, ac efe ai dygodd hwynt allā oi gorthrymder.

29 Gwnaeth i'r storm sefyll yn dawel: a'u tonnau a ostegâsant.

30 Yna y llawenhausant am eu gostêgu, ac efe a'u dug i'r porthladd a ddymunasent.

31 Cyffessant hwythau o flaen yr Arglwydd ei dru­garedd ef a'i ryfeddodau a wnaeth efe i feibion dy­nion.

32 A derchafed cynnulleidfa y bobl ef, a molian­nant ef yn eisteddfod yr henuriaid.

33 Efe a osododd y llifeiriant yn ddiffaethwch: a ffynhonnau dyfroedd yn ddispydd.

34 A thîr ffrwyth-lawn yn ddiffrwyth: am ddry­gioni y rhai a drigent ynddo.

35 Gosododd yr anialwch yn llynn dwfr: a'r tir crâs yn ffynhonnau dwfr.

36 Ac yno y gwnaeth i'r newynog aros: ac y dar­parasant ddinas gyfanneddol.

37 Ac yr hauâsant feusydd, ac y plannâsant win­llannoedd, ac y dugâsant firwyth toreithiog:

38 Canys bendithiâse hwynt fel yr amlhâsant yn [Page] ddirfawr, ac ni adawodd iw hanifeiliaid leihau.

39 Wedi hynny y lleihauwyd hwynt, ac y gostyng­wyd gan gyfyngder dryg-fyd a chŷni:

40 Tywalltodd ddirmyg ar foneddigion, a gwna­eth iddynt gyrwydro mewn anialwch heb ffordd.

41 Ond efe a gododd y tlawd o gystudd, ac a oso­dodd ei deuluoedd fel praidd.

42 Y rhai iniawn a wêlant, ac a lawenŷchant: a phob anwiredd a gaea ei safn.

43 Pwy sydd ddoeth fel y cadwo hyn? ac y deallant drugareddau 'r Arglwydd?

Paratum cor meum. Psal. cviij.

PArod yw fyng-halon ô Dduw,Pryd­nhawnol weddi. parod yw fyng-halon: canaf a chanmolaf â'm gogoniant.

2 Deffro dithe fyng-ogoniant, deffro y nabl a'r delyn, deffroaf yn foreu.

3 Clodforaf di Arglwydd ym mysc y bobloedd: canmolaf di ymmysc y cenhedloedd.

4 Canys mawr yw dy drugaredd oddi-ar y nefo­edd, a'th wirionedd hyd yr wybr.

5 Ymddercha ô Dduw vwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.

6 Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â'th dde-heu-law, a gwrando fi.

7 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd (am hynny y llawenychaf) rhannaf Sichem, a messuraf ddyffryn Succoth.

8 Eiddo fi yw Gilead, ac eiddo fi yw Manasses: Ephraim hefyd yw nerth fy-mhen: Iuda yw fy neddf-wr:

9 Moab fydd fyng-hrochan golchi, ar Edom y taflaf fy escid: buddugoliaethaf yn erbyn Pale­stina.

10 Pwy a'm dŵg fi i'r ddinas gadarn? pwy a'm dwg hyd yn Edom?

11 Onid tydi ô Dduw 'r hwn a'n ffieiddiaist, ac nid eit ti allan ô Dduw gyd â'n lluoedd.

12 Dyro i mi gynnorthwy rhag y gelyn, canys gau yw ymwared dŷn.

13 Trwy Dduw y gwnawn wroldeb, ac efe a sa­thr ein gorthrym-wŷr.

Deus laudem. Psal. cix.

NA thaw di ô Dduw fy moliant.

2 Canys genau 'r annuwiol, a genau y twyllodrus a ymagorâsant arnaf: â thafod gau y lle­farasant i'm herbyn.

3 Cylchynasant fi hefyd â geiriau câs, ac ymladda­sant â mi heb achos.

4 Am fyng-hariadigrwydd i'm gwrthwyneba­sant: minne a arferais weddi.

5 Gosodasant hefyd i'm herbyn ddrwg am dda: a châs am fyng-hariad.

6 Gosot tithe vn annuwiol arno ef, a safed Sa­tan wrth ei ddeheu-law ef.

7 Pan farner ef, eled yn euoc, a bydded ei weddi yn bechod.

8 Ychydig fyddo ei ddyddiau: a chymmered arall ei escobaeth ef.

9 Bydded ei blant yn ymddifaid: a'i wraig yn weddw.

10 Gan gyrwydro hefyd cyrwydred ei blant ef, a chardottant: ceisiant hefyd eu bara o'u hang-hyfan­nedd leoedd.

11 Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo: ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef.

12 Na fydded neb a estynno drugaredd iddo: ac na fydded neb a drugarhâo wrth ei ymddifaid ef.

13 Bydded ei hiliogaeth ef yn ddinistr, delêer ei [Page] enw yn yr oes nessaf.

14 Coffaer anwiredd ei dadau o flaen yr Argl­wydd: ac na ddelêer pechod ei fam ef.

15 Byddant bob amser ger bron yr Arglwydd: a thorred efe ddydd eu coffadwriaeth o'r tîr.

16 Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr erlid o honaw y truan a'r tlawd, a'r cystuddiedic o galon iw ladd.

17 Hoffodd felldith, a hi a ddaeth iddo ef: ni fynne fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho ef.

18 Ie gwiscodd felldith fel dilledyn, a hi a ddaeth fel dwfr iw fewn, ac fel olew iw escyrn.

19 Bydded iddo fel dilledyn yr hwn a wisco efe, ac fel gwregys a wregyso efe yn oestadol.

20 Hyn fyddo tâl fyng-wrthwyneb-wŷr gan yr Ar­glwydd: a'r rhai a ddywedant niwed yn erbyn fy enaid.

21 Tithe Arglwydd Dduw gwnâ â mi yn ôl dy enw, am fod yn dda dy drûgaredd, gwaret fi.

22 Canys truan a thlawd ydwyfi, a'm calon a archollwyd o'm mewn.

23 Euthum fel cyscod pan gilio, fel celiog rhedyn i'm hescydwyd.

24 Fyng-liniau a aethant yn egwan gan ympryd, a'm cnawd a guriodd o eisieu brasder.

25 Gwarthrudd hefyd oeddwn iddynt: pan we­lent fi, siglent eu pennau.

26 Cynnorthwya fi ô Arglwydd fy Nuw, achub fi yn ôl dy drugaredd.

27 Fel y gwypant mai dy waith di yw hyn: ac mai ti Arglwydd a'i gwnaethost.

28 Melldithiant hwy, tithe a fendithi, cywilyddier y rhai a gyfodant i'm herbyn: a llawenycher dy wâs.

29 Gwiscer fyng-wrth wyneb-wŷr â gwarth, ac ymwiscant yn eu cywilydd megis â chochl.

30 Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr â'm ge­nau: a moliannaf ef ym mysc llawer.

31 O herwydd efe a saif ar ddeheu-law 'r tlawd: iw achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid ef.

Dixit Dominus. Psal. cx.

Boreuol weddi. DYwedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, eistedd ar fy neheu-law hyd oni osodwyf dy elynnion yn faingc i'th draed.

2 Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Si­on: llywodraetha di ym-mysc dy elynnion.

3 Dy bobl a offrymmant yn ewyllyscar, yn nydd dy nerth mewn harddwch sanctaidd: o groth y wawr y mae gwlith dy anedigaeth i ti.

4 Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarhâ efe: ti ydwyt offeiriad yn dragywyddol yn ôl vrdd Melchi­sedec.

5 Yr Arglwydd ar dy ddeheu-law a archolla frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint.

6 Efe a farn ym-myscy cenhedloedd, lleinw lawer lle â chelanedd: archolla benn llawer gwlad.

7 Efe a ŷf o'r afon a'r y ffordd, am hynny y dercha efe ei benn.

Confitebor tibi. Psal. cxj.

CLodforaf yr Arglwyd â'm holl galon: yn nirgel­fa y rhai iniawn, ac yn y gynnulleidfa.

2 Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd: hyspys i bawb a'i hoffant.

3 Gogoniant a harddwch yw ei waith ef: a'i gyfi­awnder sydd yn parhau byth.

4 Gwnaeth goffa am ei ryfeddodau, gras-lawn a thrugarog yw 'r Arglwydd.

5 Rhoddodd ymborth i'r rhai a'i hofnant ef, efe a gofia ei gyfammod yn dragywydd.

6 Mynegodd iw bobl gadernid ei weithredoedd [Page] gan roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.

7 Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddw­ylaw ef: ei holl orchymynnion ydynt ffyddlon:

8 Wedi eu siccrhau byth yn dragywydd, a'u gwn­euthur mewn gwirionedd, ac iniawnder.

9 Anfonodd ymwared iw bobl, gorchymynnodd ei gyfammod yn dragywyddol: sancteiddiol, ac of­nadwy yw ei enw ef.

10 Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: deall da sydd gan y rhai a'u harferant hwy, y mae ei foliant ef yn parhau byth.

Beatus vir. Psal cxij.

GWyn ei fyd y neb a ofno 'r Arglwydd, ac sydd yn hoffi ei orchymynnion ef yn ddirfawr.

2 Ei had fydd cadarn yn y tîr, cenhedlaeth y rhai iniawn a fendithir.

3 Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a'i gyfiawn­der sydd yn parhau byth.

4 Cyfododd goleuni i'r rhai iniawn yn y ty­wyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn yw efe.

5 Gŵr dâ fydd trugarog, a chymmwynascar: wrth farn y llywodraetha efe ei eiriau.

6 Canys byth nid yscogir ef, y cyfiawn fydd byth mewn coffiadwriaeth.

7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg, ei galon sydd yn ddisigl yn ymddyried yn yr Arglwydd.

8 Attegwyd ei galon fel nad ofno efe hyd oni wêlo ei ewyllys ar ei elynion.

9 Rhannodd, a rhoddodd i'r tlodion, a'i gyfiawn­der sydd yn parhau byth: ei gorn a dderchefir me­wn gogoniant.

10 Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia, efe a escyr­nŷga ei ddannedd, ac a dawdd ymmaith: derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.

Laudate pueri. Psal. cxiij.

GWeision yr Arglwydd molwch: îe molwch enw 'r Arglwydd,

2 Bendigedic fyddo enw'r Arglwydd o hyn allan yn dragywydd.

3 O godiad haul hyd ei fachludiad moliannus yw enw 'r Arglwydd.

4 Yr Arglwydd a dderchafwyd ar yr holl genhed­loedd: ei ogoniant ef sydd goruwch y nefoedd.

5 Pwy sydd fel ein Harglwydd Dduw ni, yn pres­swylio yn vchel?

6 Ac yn ymddarostwng i edrych pethau yn y ne­foedd, ac yn y ddaiar?

7 Yr hwn sydd yn codi y tlawd o'r llwch: ac yn derchafu yr anghenus o'r tommennau,

8 Iw osod gyd â phendefigion: îe gyd â phendefi­gion ei bobl.

9 Yr hwn sydd yn gosod yr amhlantadwy yn dylwythoc, ac yn llawen-fam plant, canmolwch yr Arglwydd.

In exitu Israel Psal. cxiiij.

Pryd­nhawnol weddi. PAn ddaeth Israel o'r Aipht, a thŷ Iacob oddi-wrth bobl ang-hyfiaith.

2 Iuda oedd ei sancteiddrwydd ef: ac Israel ei arglwyddiaeth.

3 Y môr a welodd hyn, ac a giliodd: Iorddonen a drôdd yn ôl?

4 Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a'r brynnau fel ŵyn defaid.

5 Beth a ddarfu i ti ô fôr pan giliaist? tithe Iorddonen pa ham y troaist yn ôl?

6 Pa ham fynyddoedd y neidiech fel hyrddod? a'r brynnau fel ŵyn defaid?

7 Ofna di ddaiar rhag yr Arglwydd: sef rhag Duw Iacob.

8 Yr hwn sydd yn troi 'r graig yn llynn dwfr, a'r gallestr yn ffynnon ddwfr.

Non nobis Domine. Psal. c.

NId i ni ô Arglwydd, nid i ni, onid i'th enw dy hun dod ti ogoniant, o herwydd dy drugaredd a'th wirionedd.

2 Pa ham y dywed y cenhedloedd, pa le yn awr y mae eu Duw hwynt?

3 Canys ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.

4 Eu delwau hwy ydynt o aur, ac arian, sef­gwaith dwylo dynnion.

5 Genau sydd iddynt, ac ni lefarant, llygaid sydd ganddynt, ac ni welant.

6 Y mae clustiau iddynt, ac ni chlywant, ffroe­nau sydd gandynt, ac ni aroglant.

7 Dwylo sydd iddynt, ac ni theimlant: traed sy iddynt, ac ni cherddant: ni leisiant ychwaith â'u gwddf.

8 Y rhai a'u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob vn a ymddyriedo ynddynt.

9 Tŷ Israel ymdyriet ti yn yr Arglwydd: efe yw eu porth, a'u tarian.

10 Tŷ Aaron ymddyriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth, a'u tarian.

11 Y rhai a ofnwch yr Arglwydd, ymddyried­wch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth, a'u tarian.

12 Yr Arglwydd a'n cofiodd ni, efe a'n bendi­thia, bendithia efe dŷ Israel: bendithia efe dŷ Aarō.

13 Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwydd, fychain, a mawrion

14 Yr Arglwydd a chwanêga ei ddoniau arnoch, fef arnoch chwi, ac ar eich plant.

15 Bendigêdic ydych chwi gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar.

16 Y nefoedd, îe'r nefoedd ydynt eiddo yr Argl­wydd: efe a roddes y ddaiar i feibion dynnion.

17 Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na'r rhai oll a ddescynnant i ddistawrwydd.

18 Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd o hyn allan yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.

Dilexi quoniam. Psal. cxvj

Boreuol weddi. DA gennif wrando o'r Arglwydd ar fy llef a'm gweddiau.

2 Am ostwng o honaw ef ei glust attaf, llefaf tros fy nyddiau arno ef.

3 Maglau angeu a'm cylchynâ­sant, a gofidiau vffern a'm daliâsant, ing a blinder a gefais.

4 Ond mi a alwaf ar enw 'r Arglwydd, attolwg Arglwydd gwaret fy enaid.

5 Trugârog yw'r Arglwydd, a chyfiawn, a tho­sturiol yw ein Duw ni.

6 Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai annichell­gar: tlodais, ac efe a'm hachubodd.

7 Dychwel ô fy enaid i'th orphywysfa, canys yr Arglwydd fu ddâ wrthit

8 O herwydd it waredu fy enaid oddi wrth ang­eu, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a'm traed rhag llithro.

9 Rhodiaf o flaen yr Arglwydd yn-nhîroedd y rhai byw,

10 Credais am hynny y lleferais: cystuddiwyd fi yn ddirfawr.

11 Mi a ddywedais yn fy ffrwst, pob dyn sydd gelwyddoc.

12 Beth a dalaf i'r Arglwydd, am ei holl ddaio­ni i mi?

13 Phiol iechydwriaeth a gymmeraf, ac ar enw 'r Arglwydd y galwaf.

14 Fy addunedau a dalaf i'r Arglwydd, yn awr o flaen ei holl bobl ef.

15 Gwerth-fawr yng-olwg yr Arglwydd, yw marwolaeth ei sainct ef.

16 Wele ô Arglwydd, o herwydd mai dy wâs di ydwyfi, (dy wâs di ydwyfi, sef mab dy wasanaeth­wraig,) y dattodaist fy rhwymau.

17 Aberthaf i ti aberth moliant: a galwaf ar enw 'r Arglwydd.

18 Talaf fy addunedau i'r Arglwydd yn awr o flaen ei holl bobl,

19 Yng-hynteddoedd tŷ 'r Arglwydd o'th fewn di ô Ierusalem. Molwch yr Arglwydd.

Laudate Dominum. Psal. cxvij.

MOlwch yr Arglwydd, yr holl genhedloedd: clod­forwch ef yr holl bobloedd.

2 O herwydd ei drugaredd ef wrthym ni sydd fawr: a gwirionedd yr Arglwydd a beru yn dragy­wydd. Molwch yr Arglwydd.

Confitemini Domino. Psal. cxviij.

CLodforwch yr Arglwydd, canys dâ yw, o her­wydd ei drugaredd a beru yn dragywydd.

2 Dyweded Israel yr awr hon mai daionus yw efe, ac mai yn dragywydd y peru ei drugaredd ef.

3 Dyweded tŷ Aaron yn awr, mai yn dragywydd y peru ei drugaredd ef.

4 Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr Arglwydd mai yn dragywydd y mae ei drugaredd ef.

5 Mewn ing y gelwais ar yr Arglwydd, yr Argl­wydd a'm clybu, ac a'm gosododd mewn ehangder.

6 Yr Arglwydd sydd gyd â mi, nid ofnaf beth a wnel dŷn i mi.

7 Yr Arglwydd sydd gyd â mi ym-mhlith fyng-hynnorthwy-wŷr: a mi a gâf weled fy ewyllys ar fyng-haseion.

8 Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nâ go­beithio mewn dŷn.

9 Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nâ go­beithio mewn tywysogion.

10 Yr holl genhedloedd am hamgylchynasant: ond yn enw 'r Arglwydd y torraf hwynt ymmaith.

11 Amgylchynâsant fi, îe amgylchynâsant fi, ond yn enw 'r Arglwydd y torraf hwynt ymmaith.

12 Amgylchynâsant fi fel gwenyn, diffoddâsant fel tân drain: o herwydd yn enw 'r Arglwydd y tor­raf hwynt ymmaith.

13 Gan wthio y gwthiaist fi i syrthio: a'r Argl­wydd a'm cynnorthwyodd.

14 Yr Arglwydd yw fy nerth a'm cân: ac sydd ie­chydwriaeth i mi.

15 Llef gorfoledd, ac iechydwriaeth fydd ym-mhe­byll y cyfiawn: deheu-law 'r Arglwydd sydd yn gw­neuthur grymmusder.

16 Deheu-law 'r Arglwydd a dderchafwyd, de­heu-law 'r Arglwydd sydd yn gwneuthur grym­musder.

17 Ni byddaf farw eithr byw fyddaf: a myne­gaf weithredoedd yr Arglwydd.

18 Gan gospi 'im cospodd yr Arglwydd: ond ni'm rhoddodd i farwolaeth.

19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder fel yr elwyf iddynt, ac y clodforwyf yr Arglwydd.

20 Dymma borth yr Arglwydd, y rhai cyfiawn a ânt iddo,

21 Clodforaf di, o herwydd i ti fyng-wrando, a'th fod yn iechydwriaeth i mi.

22 Y maen a wrthododd yr adailad-wŷr a aeth yn benn congl.

23 O'r Arglwydd y daeth hyn, hynny oedd ry­fedd yn ein golwg ni.

24 Dymma'r dydd a wnaeth yr Arglwydd, gorfo­leddwn, a llawenychwn ynddo.

25 Atolwg Arglwydd achub yn awr, attolwg Ar­glwydd pâr yn awr lwyddiant.

26 Bendigedic yw a ddelo yn enw 'r Arglwydd: bendithiâsom chwi o dŷ'r Arglwydd.

27 Yr Arglwydd sydd Dduw, ac a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau wrth gyrn yr allor.

28 Fy Nuw ydwyt ti, am hynny i'th glodforaf, derchafaf di fy Nuw.

29 Clodforwch yr Arglwydd canys da yw: o her­wydd yn dragywydd y peru ei drugaredd ef.

Beati immaculati. Psal. cxix.

GWynfŷd y rhai perffaith eu ffordd:Pryd­nhawnol weddi. y rhai a rodiant yng-hyfraith yr Arglwydd.

2 Gwyn-fŷd y rhai a gadwant ei destiola­ethau ef: ac a'i ceisiant ef â'u holl galon.

3 Yn ddiau y rhai ni wnant anwiredd a rodaint yn ei ffordd ef.

4 Ti a orchymynnaist gadw dy orchymynnion yn ddyfal.

5 O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau.

6 Yna ni'm gwradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchymynnion.

7 Clodforaf di mewn iniondeb calon, pan ddy­scwyf farnedigaethau dy gyfiawnder

8 Cadwaf dy ddeddfau: na âd fi'n dragywydd.

In quo corriget.

9 PA fodd y glanhâ llanc ei lwybr? wrth ym­gadw yn ôl dy air di.

10 A'm holl galon i'th geisiais, na âd i mi gyfei­liorni oddi-wrth dy orchymynnion.

11 Cuddiais dy ymadroddion yn fyng-halon, er mwyn na phechwn i'th erbyn.

12 Ti Arglwydd wyt fendigedic: dysc i mi dy ddeddfau.

13 A'm gwefusau y treuthais holl farnedigae­thau dy enau.

14 Bu mor llawen gennif ffordd dy destiolaethau a'r holl olud.

15 Yn dy orchymynnion y myfyrriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.

16 Yn dy ddeddfau 'r ymddigrifaf, ac nid angho­fiaf dy air.

Retribue seruo tuo.

17 BYdd ddâ wrth dy wâs, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.

18 Dadcuddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd yn dy gyfraith.

19 Dieithr ydwyfi yn y tir, na chudd di rhagof dy orchymynnion.

20 Drylliwyd fy enaid gan awydd i'th farnediga­ethau bob amser.

21 Ceryddaist y beilchion: melldigedic yw y rhai a gyfeiliornant oddi-wrth dy orchymynnion.

22 Trô oddi-wrthif gywilydd a dirmyg, o blegit dy destiolaethau di a gedwais.

23 Tywysogion hefyd a eisteddâsant: ac a ddywe­dâsant i'm herbyn, dy wâs dithe a fyfyrie yn dy ddeddfau.

24 A'th destiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a'm cynghor-wŷr.

Adhæsit pauimento.

25 GLynodd fy enaid wrth y llwch, bywhâ fi yn ôl dy air.

26 Fy ffyrdd a fynêgais, a gwrandewaist fi: dysc i mi dy ddeddfau.

27 Gwna i mi ddeall ffordd dy orchymynnion, ac mi a fyfyrriaf yn dy ryfeddodau.

28 Diferodd fy enaid gan ofid: bywhâ fi yn ôl dy air.

29 Cymmer oddi-wrthif ffordd y celwydd, ac yn drugarog dod ti i mi dy gyfraith.

30 Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy far­nedigaethau o'm blaen.

31 Glŷnais wrth dy destiolaethau: ô Arglwydd na'm gwradwydda.

32 Ffordd dy orchymynnion a rêdaf, pan ehan­gech fyng-halon.

Legem pone.

33 DYsc i mi ô Arglwydd ffordd dy dde­ddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd.Boreuol weddi.

34 Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith: îe cadwaf hi â'm holl galon.

35 Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchymyn­nion: canys ynddo y mae fy ewyllys.

36 Gostwng fyng-halon at dy destiolaethau: ac nid at gybydd-dra.

37 Tro heibio fy llygaid rhag gweled gwagedd: a bywhâ fi yn dy ffyrdd.

38 Cyflawna dy air i'th wâs, fel yr ymroddwyf i'th ofn di.

39 Tro heibio fyng-wradwydd yr hwn a ofnais: canys dy farnedigaethau ydynt ddâ.

40 Wele awyddus ydwyf i'th orchymynnion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.

Et veniat super me.

41 DEued i mi dy drugaredd Arglwydd, a'th iechydwriaeth yn ôl dy air.

42 Yna'r attebaf i'm cabludd: o herwydd yn dy air y gobeithiais.

43 Na ddwg dithe air y gwirionedd o'm genau [Page] yn llwyr: o herwydd yn dy farnedigaethau di y go­beithiais.

44 A'th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd.

45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder, o herwydd dy orchymynnion di a geisiaf.

46 Ac am dy destiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni'm cywilyddir.

47 Onid ymddigrifaf yn dy orchymynnion y rhai a hoffais.

48 A'm dwylo a dderchafaf at dy orchymynnion y rhai a gêrais, ac mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau di.

Memor esto verbi tui.

49 COfia dy air i'th wâs yn yr hwn y peraist i mi obeithio.

50 Dymma fyng-hyssur mewn cystudd, mai dy air di a'm bywhâ fi.

51 Y beilchion a'm gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi-wrth dy gyfraith di.

52 Cofiais ô Arglwydd dy farnedigaethau erioed, ac ymgyssurais.

53 Ofn a ddaeth arnaf o blegit yr annuwolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.

54 Dy ddeddfau oeddynt fyng-hân yn-nhŷ fy­mhererindod.

55 Cofiais dy enw Arglwydd liw nôs, a ched­wais dy gyfraith.

56 Hyn oedd gennif, am gadw o honof dy orchy­mynnion di.

Portio mea Domine.

57 O Arglwydd fy rhan ydwyt, meddyliais gadw dy air.

58 Gweddiais ger dy fron â'm holl galon: tru­garhâ wrthif yn ôl dy air.

59 Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed [Page] at dy destiolaethau di.

60 Bryssiais, ac nid oedais gadw dy orchymyn­nion.

61 Minteioedd yr annuwolion a'm hyspeilia­sant: ond nid anghofiais dy gyfraith di.

62 Hanner nôs y cyfodaf i'th foliannu am far­nedigaethau dy gyfiawnder.

63 Cyfaill ydwyfi i'r rhai oll a'th ofnant, ac i'r rhai a gadwant dy orchymynnion.

64 Llawn yw 'r ddaiar o'th drugaredd ô Ar­glwydd: dysc i mi dy ddeddfau.

Bonitatem fecisti.

65 GWnaethost yn dda â'th wâs ô Arglwydd yn ôl dy air.

66 Dysc i mi iawn ddeall, a gŵybodaeth, o her­wydd yn dy orchymynnion di y credais.

67 Cyn fy narostwng yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.

68 Da ydwyt, a daionus, dysc i mi dy ddeddfau.

69 Y beilchion a glyttiasant gelwydd i'm herbyn: minne a gadwaf dy orchymynnion â'm holl galon.

70 Cyn frased â'r bloneg yw eu calon: minne a ymddigrifais yn dy gyfraith di.

71 Da yw i mi fy narostwng, fel ŷ dyscwn dy ddeddfau.

72 Gwell i mi gyfraith dy enau, nâ miloedd o ddarnau aur, ac arian.

Manus tuæ fecerunt me.

73 DY ddwylo a'm gwnaethant,Pryd­nhawnol weddi. ac a'm lluniasant: pâr i mi ddeall fel y dyscwyf dy orchymynnion.

74 Y rhai a'th ofnant a'm gwelant, ac a lawenychant, o blegit go­beithio o honof yn dy air di.

75 Gwn Arglwydd mai cyfiawn yw dy farnedi­gaethau: a chystuddio o honot fi yn ffyddlon.

76 Bydded attolwg dy drugaredd i'm cyssuro yn ôl dy air i'th wasanaeth-wr.

77 Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw: o herwydd dy gyfraith yw fy-nigrifwch.

78 Cywilyddier y beilchion, canys ar gam i'm plygent: ond myfi a fyfyrriaf yn dy orchymynnion di.

79 Troer attafi y rhai a'th ofnant di, a'r rhai a adwaenant dy destiolaethau.

80 Bydded fyng-halon yn berffaith yn dy ddedd­fau, fel na'm cywilyddier.

Defecit anima mea.

81 DEffygiodd fy enaid am dy iechydwriaeth, wrth dy air yr ydwyf yn disgwil,

82 Y mae fy llygaid yn pallu yn edrych am dy air gan ddywedyd: pa bryd i'm diddeni?

83 Canys ydwyf fel costrel mewn mŵg: ond nid anghofiais dy ddeddfau.

84 Pa nifer yw dyddiau dy wâs? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a'm herlidiant?

85 Y beilchion a gloddiâsant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di.

86 Dy holl orchymynnion ydynt wirionedd, ar gam i'm herlidiasant, cymmorth fi.

87 Braidd na'm difasant fi ar y ddaiar, a minne ni adewais dy orchymynnion.

88 Bywhâ fi yn ôl dy drugaredd: fel y cadwyf destiolaeth dy enau.

In æternum Domine.

89 DY air ô Arglwydd sydd yn parhau byth yn y nefoedd.

90 Dy wirionedd sydd dros genhedlaeth a chen­hedlaeth: seiliaist y ddaiar, a hi a saif.

91 Wrth dy farnedigaethau y safant heddyw: ca­nys dy weision ydynt oll.

92 Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, dar­fuse yna am danaf yn fyng-hystudd.

93 Byth ni anghofiaf dy orchymynnion: canys â hwynt i'm bywheaist.

94 Eiddo ti ydwyfi, achub fi o herwydd dy or­chymynnion a geisiais.

95 Y rhai annuwiol a ddisgwiliasant am danaf i'm difetha, dy destiolaethau di a ystyriaf.

96 Yr ydwyf yn gwêled diwedd ar bob perffei­thrwydd, ond dy orchymyn di sydd dra-ehang.

Quomodo dilexi.

97 MOr gu gennif dy gyfraith di: hi yw fy myfyrdod beunydd.

98 A'th orchymynnion yr ydwyt yn fyng-wneu­thur yn ddoethach nâ'm gelynnion: canys byth y maent gyd â mi.

99 Deallais fwy nâ'm holl athrawon: o her­wydd dy destiolaethau ydynt fy myfyrdod i.

100 Deallais yn well nâ'r henuriaid, am gadw o honof dy orchymynnion di.

101 Atteliais fy-nhraed oddi-wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.

102 Ni chiliais oddi-wrth dy farnedigaethau, o herwydd ti a'm dyscaist.

103 Mor felus yw dy eiriau i'm genau: melusach nâ mêl i'm safn.

104 Trwy dy orchymynnion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.

Lucerna pedibus meis.

105 LLusern yw dy air i'm traed:Boreuol weddi. a lle­wyrch i'm llwybr.

106 Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.

107 Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywhâ fi ô Ar­glwydd yn ôl dy air.

108 Attolwg Arglwydd bydd fodlon i ewyllyscar offrymmau fyng-enau, a dysc i mi dy farnedigae­thau.

109 Y mae fy enaid yn fy llaw yn oestadol: er hyn­ny nid anghofiais dy gyfraith.

110 Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi-wrth dy orchymynnion di.

111 Cymmerais dy orchymynnion yn etifeddia­eth dros byth: o herwydd llawenydd fyng-halon y­dynt hwy.

112 Gostyngais fyng-halon i wneuthur dy dde­ddfau byth hyd y diwedd.

Iniquos odio habui.

113 DYchymmygion ofer a gaseais, a'th gy­fraith di a hoffais i.

114 Fy lloches a'm tarian ydwyt: wrth dy air y disgwiliais.

115 Ciliwch oddi wrthif rai drygionus: canys cadwaf orchymynnion fy Nuw.

116 Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na phâr i mi gywilyddio am fyng-obaith.

117 Cynnal fi, ac iach fyddaf, ac yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf yn wastadol.

118 Sethraist y rhai oll a gyrwydrent oddi-wrth dy ddeddfau: canys ofer oedd eu dichell hwynt.

119 Gwnaethost i holl annuwolion y tîr ddarfod fel sothach: am hynny 'r hoffais dy destiolaethau.

120 Dychrynnodd fyng-nhawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.

Feci iudicium.

121 GWneuthum farn, a chyfiawnder: na ad fi i'm gorthrym-wŷr.

122 Par i'th wâs roddi ei fryd ar ddaioni: ac na [Page] âd i'r beilchion fyng-orthrymmu.

123 Fy llygaid a ballasant yn edrych am dy ie­chydwriaeth, ac am dy ymadrodd cyfiawn.

124 Gwnâ i'th wâs yn ôl dy drugaredd: a dysc i mi dy ddeddfau.

125 Dy wâs ydwyfi, pâr i mi ddeall: fel yr adwa­enwyf dy destiolaethau.

126 Amser yw i'r Arglwydd wneuthur barn: torrasant dy gyfraith di.

127 Am hynny 'r hoffais dy orchymynnion yn fwy nag aur, îe nag aur coeth.

128 Am hynny y cyfrifais yn iniawn dy orchy­mynnion eu gyd oll: ac y caseais bob gau lwybr.

Mirabilia.

129 RHyfedd yw dy destiolaethau, am hynny y cadwodd fy enaid hwynt.

130 Agoriad dy air a rydd oleuni, gan beri deall i rai annichellgar.

131 Agorais fyng-enau a dyheais, o blegit awy­ddus oeddwn i'th orchymynnion di.

132 Edrych arnaf a thrugarhâ wrthif: yn ôl dy arfer i'r rhai a garant dy enw.

133 Cyfarwydda fyng-hamrau wrth dy air, ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf.

134 Gwaret fi oddi-wrth drawsedd dynnion: fe­lly y cadwaf dy orchymynnion.

135 Llewyrcha dy wyneb ar dy wâs, a dysc i mi dy ddeddfau.

136 Afonydd o ddyfroedd a ddescynnasant o'm llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.

Iustus es Domine.

137 CYfiawn ydwyt ti ô Arglwydd, ac iniawn yw dy farnedigaethau.

138 Gorchymynnaist gyfiawnder yn dy destio­laethau: a gwirionedd yn ddirfawr.

139 Fy Zêl a'm difaodd, o herwydd i'm gelynni­on anghofio dy eiriau di.

140 Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: a'th wâs a'u hoffodd hwynt.

141 Bychan ydwyfi, a dirmygus, ond nid angho­fiais dy orchymynnion.

142 Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth: a'th gyfraith sydd wirionedd.

143 Adfyd a chystudd a'm goddiweddasant: a'th orchymynnion oeddynt fy nigrifwch.

144 Cyfiawnder dy destiolaethau a beru yn dra­gywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.

Clamaui in toto corde meo.

Pryd­nhawnol weddi.145 LLefais â'm holl galon, clyw fi ô Arglwydd, dy ddeddfau di a gadwaf.

146 Llefais arnat, achub fi: a cha­dwaf dy destiolaethau.

147 Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais, wrth dy air y disgwiliais.

148 Fy llygaid a achubasant flaen gwiliadwri­aethau y nos, i fyfyrio yn dy air di.

149 Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd, Arglwydd bywhâ fi yn ôl dy farnedigaethau.

150 Y rhai a ddilynant scelerder a nessasant ar­naf: ac a ymbellhasant oddi-wrth dy gyfraith di.

151 Tithe Arglwydd bydd agos: canys dy holl orchymynnion ydynt wirionedd.

152 Er ystalm y gwyddwn am dy destiolaethau, selio o honot hwynt yn dragywydd.

Vide humilitatem.

153 GWêl fyng-hystudd, a gwaret fi, canys nid anghofiais dy gyfraith di.

154 Dadle fy nadl, a rhyddhâ fi: bywhâ fi o her­wydd dy air.

155 Pell yw iechydwriaeth oddi-wrth y rhai an­nuwiol: o herwydd na cheisiasant dy ddeddfau di.

156 Dy drugareddau Arglwydd ydynt aml: byw­hâ fi yn ôl dy farnedigaethau.

157 Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fyng wrth­wynebu: er hynny ni throais oddi-wrth dy destiola­ethau.

158 Gwelais y trosedd-wŷr, a gressynais am na chadwent dy air di.

159 Gwêl hoffi o honof dy orchymynion di: Ar­glwydd bywhâ fi yn ôl dy drugaredd.

160 Gwirionedd yw dechreuad dy air: a'th holl gyfiawn farn a beru yn dragywydd.

Principes persecuti sunt.

161 TYwysogion a'm herlidiasant heb achos, er hynny fyng-halon a gryne rhag dy air di.

162 Llawen ydwyfi o blegit dy air, fel vn yn cael sclyfaeth lawer.

163 Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a'th gy­fraith di a hoffais.

164 Seith-waith yn y dydd yr ydwyf yn dy glod­fori: herwydd dy gyfiawn farnedigaethau.

165 Heddwch mawr fydd i'r rhai a garant dy gy­fraith: ac nid oes dramgwydd iddynt.

166 Disgwiliais wrth dy iechydwriaeth di ô Ar­glwydd: a gwneuthum dy orchymynnion.

167 Fy enaid a gadwodd dy destiolaethau: a hoff iawn gennif hwynt.

168 Cedwais dy orchymynnion a'th destiolae­thau: am fod fy holl ffyrdd ger dy fron di.

Appropinquet deprecatio.

169 NEssaed fyng-waedd o'th flaen Arglwydd: gwnâ i mi ddeall yn ôl dy air.

170 Deued fyng-weddi ger dy fron: gwaret fi yn ôl dy ymadrodd.

171 Fyng-wefusau a draethant dy foliant pan ddyscech i mi dy ddeddfau.

172 Fy-nhafod a ddatcân dy air: o herwydd dy holl orchymynnion ydynt gyfiawnder.

173 Bydded dy law i'm cynnorthwyo: o herwydd dy orchymynnion di a ddewisais.

174 Awyddus ydwyf ô Arglwydd i'th iechydwri­aeth: a'th gyfraith yw fy hyfrydwch.

175 Bydded byw fy enaid fel i'th folianno di: a chynorthwyed dy farnedigaethau fi.

176 Cyfeiliornais fel oen wedi colli: cais dy wâs, o'blegit nid anghofiais dy orchymynnion.

Ad Dominum. Psal. cxx.

Boreuol weddi. AR yr Arglwydd y gelwais yn fyng­hyfyngder: ac efe a'm gwrandaw­odd i.

2 Arglwydd gwaret fy enaid oddi wrth wefusau celwyddoc ac oddi wrth dafod twyllodrus.

3 Beth a rydd dy dafod twyllodrus i ti? neu pa beth a chwanega efe arnat?

4 Geiriau fel llymmion saethau cawr, yng-hyd a marwor mêr yw.

5 Gwae fi bresswylio o honof ym Mesech: a chy­fanneddu o honof ym-mhebyll Cedar.

6 Rhy-hir y trigodd fy enaid gyd â'r hwn oedd yn casâu tangneddyf.

7 Heddychol ydwyf, ond pan ddywedwyf am hedd, hwynt a godant i ryfel.

Leuaui oculos. Psal. cxxj.

DErchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd o'r lle y daw fyng-hymmorth i.

2 Fyng-hymmorth a ddaw oddi-wrth yr Arglw­ydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar.

3 Ni âd efe i'th droed lithro, ac ni huna dy geid­wad.

4 Wele ni huna, ac ni chwsc ceidwad Israel.

5 Yr Arglwydd yw dy geidwad, yr Arglwydd yw dy gyscod ar dy ddeheu-law.

6 Ni'th deru 'r haul y dydd, na'r lleuad y nôs.

7 Yr Arglwydd a'th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid.

8 Yr Arglwydd a geidw dy fynediad, a'th ddyfo­diad o'r pryd hyn, hyd yn dragywydd.

Lætatus sum. Psal. cxxij.

LLawenychais pan ddywedent wrthif, awn i dŷ 'r Arglwydd.

2 Ein traed ni a safant o fewn dy byrth di ô Ie­rusalem.

3 Ierusalem a adailadwyd fel dinas yn cydtuno ynddi ei hun.

4 Canys yno 'r escynnodd y llwythau, sef llwy­thau 'r Arglwydd, yn destiolaeth i Israel, i foliannu enw 'r Arglwydd.

5 Canys yno y gosodwyd gorsedd-feingciau barn: sef gorsedd-feingciau tŷ Dafydd.

6 Dymunwch heddwch Ierusalem: llwydded y rhai a'th hoffant.

7 Heddwch fyddo o fewn dy ragfur: a ffynniant yn dy balassau.

8 Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr, llwyddiant fyddo i ti.

9 Er mwyn tŷ'r Arglwydd ein Duw y ceisiaf i ti ddaioni.

Ad te leuaui oculos. Psal cxxiij.

ATtat ti y derchefais fy llygaid, yr hwn a bress­wyli-yn y nefoedd.

2 Wele fel y mae llygaid gweision ar law eu meistred, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres: felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglw­ydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni.

3 Trugarhâ wrthym Arglwydd, trugarhâ wr­thym, canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr.

4 Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwat­wargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beil­chion.

Nisi quia Dominus. Psal. cxxiiij.

DYweded Israel yr awr hon, oni buase i'r Arglw­ydd fod gyd â ni:

2 Oni buase'r Arglwydd gyd â ni pan gyfododd dynnion yn ein herbyn ni.

3 Yna ein llyngcasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i'n herbyn.

4 Yna y dyfroedd a'n boddasent ni: afon a aethe tros ein henaid.

5 Yna'r aethe tros ein henaid ddyfroedd chw­yddedig:

6 Bendigedic yw'r Arglwydd, yr hwn ni rodd­odd ni yn sclyfaeth iw dannedd hwynt.

7 Ein henaid a ddiangodd fel aderyn o faglau 'r adar-wŷr: y fagl a dorrwyd, a ninneu a ddiangha­som.

8 Ein porth ni sydd yn enw'r Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar.

Qui confidunt. Psal. cxxv.

Y Rhai a ymddyriedant yn yr Arglwydd fyddant fel mynydd Sion: yr hwn ni syfl, ond a beru yn dragywydd.

2 Fel y mae Ierusalem a'r mynyddoedd o'i ham­gylch: felly y mae'r Arglwydd o amgylch ei bobl o'r pryd hyn hyd yn dragywydd.

3 Ni orphywys gwialen annuwioldeb ar etife­ddiaeth y rhai cyfiawn: rhag i'r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd.

4 Oh Arglwydd gwna ddaioni i'r rhai daio­nus: ac i'r rhai iniawn yn eu calonnau.

5 Ond y rhai a ymdroânt yn eu trofeudd yr Ar­glwydd a'u gyrr gyd â gweithred-wŷr anwiredd, a bydd tangneddyf ar Israel.

In conuertendo. Psal. cxxvj.

PAn ddychwelodd yr Arglwydd gaethi­wed Sion,Pryd­nhawnol weddi. yr oeddem fel rhai yn breu­ddwydio.

2 Yna y llawnwyd ein gênau â chw­erthin, a'n tafod â gorfoledd: yna y dy­wedâsant ym-mysc y cenhedloedd, yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i'r rhai hyn.

3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hynny 'r oeddem yn llawen.

4 Dychwel Arglwydd ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y dehau.

5 Y rhai ydynt yn hau mewn dagrau a fedant mewn gorfoledd.

6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn ŵylo, gan ddwyn hâd gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dann gludo ei yscubau.

Nisi Dominus. Psal. cxxvij.

OS yr Arglwydd nid adailada y tŷ, ofer y llafu­ria ei adailad-wŷr wrtho: os yr Arglwydd ni cheidw 'r ddinas, ofer y gwilia y ceidwad.

2 Ofer i chwi foreu-godi, orwedd yn hwyr, a bwytta bara gofidus: felly y rhydd efe hûn iw an­nwylyd.

3 Wele plant ydynt yn etifeddiaeth yr Arglw­ydd ei obr ef yw ffrwyth y groth.

4 Fel y mae saethau yn llaw cadarn, felly y mae plant ieuengtid.

5 Gwyn ei fyd y gŵr yr hwn a lanwodd ei ga­well saethau â hwynt: ni's gwrad wyddir hwy pan ymddiddanant â'r gelynnion yn y porth.

Beati omnes. Psal. cxxviij.

GWyn ei fyd pob vn y sydd yn ofni 'r Arglwydd: sef yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.

2 Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd a dâ yw it.

3 Dy wraig fydd fel gwin-wŷdden ffrwythlawn ar hŷd ystlysau dy dŷ: a'th blant fel planhigion oli­wydd o amgylch dy ford.

4 Wele fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno 'r Arglwydd.

5 Yr Arglwydd a'th fendithia o Sion, fel y gwe­lech Ierusalem mewn llwyddiant holl ddyddiau dy enioes.

6 Ac y gwelech blant dy blant, a thangneddyf ar Israel.

Sæpe expugnauerunt me. Psal. cxxix.

LLawer gwaith i'm cystuddiasant o'm hieueng­tid, (y dichon Israel ddywedyd yn awr)

2 Llawer gwaith i'm cystuddiasant o'm hie­uengtid, etto ni'm gorfuant.

3 Yr arddwyr a arddasant ar fyng-hefn, ac a estyn­nasant eu cwysau yn hirion.

4 Yr Arglwydd cyfiawn a dorrodd raffau y rhai annuwiol.

5 Y rhai a gasânt Sion gwradwydder hwy oll, a chiliant yn ôl.

6 Byddant fel glâs-wellt pen tai, yr hwn a wy­wa cyn y tynner ef ymmaith.

7 A'r hwn ni leinw y pladur-wr ei law: na'r hwn fyddo yn rhwymo yr yscubau, ei fonwes.

8 Fel na ddywed y rhai a ânt heibio, bendith yr Arglwydd arnoch: bendithiwn chwi yn enw 'r Ar­glwydd.

De profundis clamaui. Psal. cxxx.

O'R dyfnder y gelwais arnat ô Arglwydd.

2 Arglwydd clyw fy llefain, ystyried dy glusti­au wrth leferydd fyng-weddiau.

3 Os creffi ar anwireddau Arglwydd: ô Agl­wydd pwy a saif?

4 Onid y mae gennit ti faddeuant fel i'th ofner.

5 Disgwiliais yr Arglwydd, disgwiliodd fy enaid ef, ac yn ei air ef y gobeithiais.

6 Fy enaid sydd yn disgwil am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y boreu wilwŷr yn gwilied am y bo­reu.

7 Disgwilied Israel am yr Arglwydd o herwydd y mae trugaredd gyd â'r Arglwydd, ac aml ym wa­red ganddo.

8 Ac efe a wareda Israel oddi-wrth ei holl an­wiredd.

Domine non est. Psal. cxxxj.

O Arglwydd nid ymchwyddodd fyng-halon, ac nid ymdderchafodd fy llygaid.

2 Ni rodiais ychwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy ryfedd i mi.

3 Eithr gosodais, a gostêgais fy enaid fel vn we­di ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel vn wedi ei ddiddyfnu.

4 Disgwilied Israel wrth yr Arglwydd o'r pryd hyn hyd yn dragywydd.

Memento Domine. Psal. cxxxij.

O Arglwydd cofia Ddafydd a'i holl flinder.

2 Y modd y tyngodd efe wrth yr Argl­wydd,Boreuol weddi. ac yr addunodd i rymmus Dduw [Page] Iacob, gan ddywedyd:

3 Nid âf i fewn pabell fy-nhŷ, ni ddringaf ar er­chwyn fyng-wely.

4 Ni roddaf gwsc i'm llygaid, na hun i'm am­rantau,

5 Hyd oni chaffwyf le i'r Arglwydd: sef presswyl­fod i rymmus Dduw Iacob.

6 Wele clywsom am dani yn Ephrata: cawsom hi ym meusydd y coed.

7 Awn iw bebyll ef, ymgrymmwn o flaen ei faingc draed ef.

8 Cyfot Arglwydd i'th orphywysfa, ti ag Arch dy gadernid.

9 Gwisced dy offeiriaid gyfiawnder: a gorfole­dded dy sainct.

10 Er mwyn Dafydd dy wâs na wrthot wyneb dy eneiniog.

11 Tyngodd yr Arglwydd wirionedd i Ddafydd, ni thrŷ efe oddi-wrth hynny: o ffrwyth dy groth y gosodaf ar dy orsedd-faingc.

12 Os ceidw dy feibion fyng-hyfammod a'm te­stiolaeth y rhai a ddyscwyf iddynt: eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orsedd-faingc.

13 Canys dewisodd yr Arglwydd Sion, ac a'i dymunodd yn drigfa iddo ei hun gan ddywedyd,

14 Dymma fyng-orphywysfa yn dragywydd: ymma y trigaf canys chwennychais hi.

15 Gan fendithio y bendithiaf ei llynniaeth, ac mi a ddiwallaf ei thlodion â bara.

16 Ei hoffeiriaid hefyd a wiscaf ag iechydwria­eth: a'i sainct dann ganu a ganant.

17 Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: canys darparais lusern i'm heneiniog.

18 Ei elynnion ef a wiscafi â chywilydd, arno [Page] yntef y blodeua ei goron.

Ecce quâm bonum. Psal. cxxxiij.

WEle mor ddaionus, ac mor hyfryd yw trigo o frodyr yng-hyd.

2 Y mae fel olew gwerthfawr ar y penn yn de­scyn ar hŷd y farf, sef barf Aaron: yr hwn oedd yn descyn ar hyd ymyl ei wiscoedd ef.

3 Ac fel gwlith Hermon yr hwn sydd yn descyn ar fynydd Sion: canys yno y gorchymynnodd yr Arglwydd y fendith a'r bywyd yn dragywydd.

Ecce nunc benedicite. Psal. cxxxiiij.

WEle holl weision yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd: y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ 'r Arglwydd y nôs, sef yng-hynteddoedd tŷ yr Ar­glwydd.

2 Derchefwch eich dwylo tu a'r cyssegr: a ben­dithiwch yr Arglwydd.

3 Yr Arglwydd yr hwn a wnaeth nefoedd, a daiar, a'th fendithio di o Sion.

Laudate nomen. Psal. cxxxv.

MOlwch enw 'r Arglwydd, gweision yr Arglw­ydd molwch ef.

2 Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ 'r Arglwydd yng­hynteddoedd tŷ eîn Duw ni.

3 Molwch yr Arglwydd canys da yw 'r Arglw­ydd: cenwch iw enw canys hyfryd yw.

4 O blegit yr Arglwydd a ddetholodd Iacob, ac Israel yn bobl vnic iddo ef.

5 Canys mi a wn mai mawr yw 'r Arglwydd, a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.

6 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynne yn y nefoedd, ac yn y ddaiar, yn y môr, ac yn yr holl ddyfndêrau.

7 Y mae yn codi mwgdarth o eithafoedd y ddai­ar, mellt a wnaeth efe yng-hyd â'r glaw: gan ddw­yn [Page] gwynt allan o'i dryssorau.

8 Yr hwn a darawodd holl gyntaf-anedic yr Aipht, yn ddyn ac yn anifail.

9 Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i'th ga­nol di 'r Aipht, ar Pharao, ac ar ei holl weision.

10 Yr hwn a darawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion.

11 Sehon brenin yr Amoriaid: ac Og brenin Basan: a holl frenhiniaethau Canaan.

12 Ac a roddodd eu tîr hwynt yn etifeddiaeth, sef yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.

13 Dy enw ô Arglwydd a beru yn dragywydd: dy goffadwrieth ô Arglwydd a fydd o genhedlaeth i genhedlaeth.

14 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, ac a do­sturia wrth ei weision.

15 Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dŷn.

16 Genau sydd iddynt, ac ni lefarant: llygaid sydd ganddynt, ac ni welant.

17 Y mae clustiau iddynt, ac ni chlywant: nid oes ychwaith anadl yn eu genau.

18 Fel hwynt y mae y rhai a'u gwnelont, a phob vn a ymdyriedo ynddynt.

19 Tŷ Israel bendithiwch yr Arglwydd: ben­dithiwch yr Arglwydd tŷ Aaron.

20 Tŷ Lefi bendithiwch yr Arglwydd: y rhai a ofnwch yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd.

21 Bendithier yr Arglwydd o Sion, yr hwn sydd yn trigo yn Ierusalem. Molwch yr Arglwydd.

Confitemini Domino. Psal. cxxxvj.

Pryd­nhawnol weddi. CLodforwch yr Arglwydd canys da yw, o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

2 Clodforwch Dduw 'r duwiau: o ble­git ei drugaredd sydd yn dragywydd.

3 Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi: o her­wydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

4 Yr hwn yn vnic sydd yn gwneuthur rhyfeddo­dau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

5 Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

6 Yr hwn a estynnodd y ddaiar ar y dyfroedd: o blegit ei drugaredd sydd yn dragywydd.

7 Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

8 Yr haul i lywodraethu 'r dydd: canys ei dru­garedd sydd yn dragywydd.

9 Y lleuad, a'r sêr i lywodraethu 'r nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

10 Yr hwn a darawodd yr Aipht, a'i chyntaf-a­nedic: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

11 Ac a ddug Israel o'u mysc hwynt: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

12 A llaw gref, ac â braich estynnedic: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

13 Yr hwn a rannodd y môr côch yn ddau: o her­wydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

14 Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

15 Ac a escyttiodd Pharao a'i lû yn y môr côch: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

16 Ac a dywysodd ei bobl drwy 'r anialwch: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

17 Yr hwn a darawodd frenhinoedd mawrion: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

18 Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: o her­wydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

19 Sehon brenin yr Amoriaid: o herwydd ei dru­garedd sydd yn dragywydd.

20 Ac Og brenin Basan: o herwydd ei druga­redd [Page] sydd yn dragywydd.

21 Ac a roddodd eu tîr hwynt yn etifeddiaeth: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

22 Yn etifeddiaeth i Israel ei wâs: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

23 Yr hwn yn ein cystudd a'n cofiodd ni: o her­wydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

24 Ac a'n hachubodd ni oddi-wrth ein gelynni­on: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

25 Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bôb cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

26 Clodforwch Dduw 'r nefoedd: canys ei dru­garedd sydd yn dragywydd.

27 Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

Super flumina. Psal. cxxxvij.

WRth afonydd Babylon yr eisteddasom, ac yno 'r ŵylasom pan feddyliasom am Sion.

2 Ar yr helyg o'i mewn y crogasom ein telynau.

3 Yna pan ofynnodd y rhai a'n caethiwasent i ni gân a llawenydd yn ein griddfan gan ddywe­dyd, cenwch i ni rai o ganiâdau Sion:

4 Pa fodd eb ni y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr?

5 Os angofiaf di Ierusalem, anghofied fy neheu­law ganu.

6 Glyned fy nhafod wrth daflod fyng-enau oni chofiaf di: oni chodaf Ierusalem yn benn llawe­nydd i mi.

7 Cofia Arglwydd blant Edom yn nydd Ierusa­lem: y rhai a ddywedent, dinoethwch, dinoethwch hi hyd ei sylfaen.

8 Oh anrhaithiedic ferch Babylon, gwyn ei fyd a dalo i ti fel y telaist i ninnau.

9 Gwyn ei fyd, a gymmero, ac a darawo dy blant wrth y meini.

Confitebor tibi Domine. Psal. cxxxviij.

CLodforaf di â'm holl galon: yng-ŵydd y duwiau y canaf it.

2 Ymgrymmaf tu a'th deml sanctaidd: a chlod­foraf dy enw am dy drugaredd a'th wirionedd: o ble­git ti a' fawrheaist dy enw a'th air vwch-law pôb dim.

3 Y dydd y gelwais arnat i'm gwrandewaist: a chadarnheaist nerth yn fy enaid.

4 Holl frenhinoedd y ddaiar a'th glodforant di ô Arglwydd: canys clywsant eiriau dy enau.

5 Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd.

6 O herwydd vchel yw 'r Arglwydd, ac efe a e­drych ar yr issel, a'r balch a edwyn efe o hirbell.

7 Pe rhodiwn yng hanol cyfyngder, ti a'm byw-hauit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fyng-elyn­nion: a'th ddeheu-law a'm hachube.

8 Yr Arglwydd a gyflawna ei drugaredd â mi: dy drugaredd Arglwydd sydd yn dragywydd: nac esceu­lusa waith dy ddwylo.

Domine probâsti. Psal. cxxxix.

ARglwydd chwiliaist, ac adnabuost fi.Boreuol weddi.

2 Ti a adwaenost fy eisteddiad, a'm cyfodiad: dealli fy meddwl ym-mhell o'r blaen.

3 Amgylchynaist fy llwybr a'm gor­weddfa: ac yspys wyt yn fy holl ffyrdd.

4 Canys nid oes air ar fy-nhafod, ond wele Ar­glwydd ti a'i gŵyddost oll.

5 Lluniaist fi yn ôl, ac ym-mlaen: gosodaist dy law arnaf.

6 Dymma ŵybodaeth ry ddirgel i mi: vchel yw, ni fedraf oddi wrthi.

7 I ba le 'r âf oddi-wrth dy yspryd? ac i ba le y ffoaf o'th ŵydd?

8 Os dringaf i'r nefoedd yno y byddi di: os gor­weddaf yn vffern wele di yno.

9 Yno pe cymmerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr:

10 Yna hefyd i'm tywyse dy law, ac i'm cynhalie dy ddeheu-law.

11 Pe dywedwn, etto tywyllwch a'm cuddia: yna y bydde y nos yn oleuni o'm hamgylch.

12 Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti, ond y nôs a oleua fel dydd: vn ffunyd fydd tywyllwch a goleu­ni i ti.

13 Canys ti a feddiannaist fy arennau, toaist fi yng-hroth fy mam.

14 Clodforaf dydi canys ofnadwy, a rhyfedd i'm gwnaed, rhyfedd yw dy weithredoedd, a'm henaid a wyr hynny yn dda.

15 Ni chuddiwyd fy escyrn oddi wrthit, er fyng­wneuthur yn ddirgel, a'm llunio yn isselder y ddaiar.

16 Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd, ac yn dy lyfr di yr scrifennwyd hwynt oll y dydd y llu­niwyd hwynt, pan nad oedd yr vn o honynt.

17 Am hynny mor werth-fawr yw dy gynghorau gennif ô Dduw? mor fawr yw eu swm hwynt?

18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach fyddent nâ'r ty­wod: pan ddeffroiwyf, gyd â thi'r ydwyfi yn wa­stad.

19 O Dduw na leddit yr annuwiol, a'r gwŷr gwaedlyd, wrth y rhai y dywedais, ciliwch oddi wrthif.

20 Y rhai a ddywedant scelerder am danat, dy [Page] elynnion a gymmerasant dy enw yn ofer.

21 Onid câs gennif ô Arglwydd dy gaseion di? a ffiaidd gennif y rhai a gyfodant i'th erbyn?

22 A châs cyflawn y casheais hwynt: fel pe by­ddent i mi yn elynnion.

23 Chwilia fi ô Dduw, a gŵybydd fyng-halon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau.

24 A gwêl, a oes ffordd annuwiol gennif: a thy­wys fi yn ffordd trawyddoldeb.

Eripe me Domine. Psal. cxl.

GWaret fi ô Arglwydd oddi-wrth y dynion drwg, cadw fi rhag y gwŷr traws.

2 Y rhai ydynt yn bwriadu drygioni yn eu ca­lon: ac yn ymgasclu beunydd i ryfel.

3 Golymmasant eu tafodau fel sarph: gwen­wyn asp sydd tann eu gwefusau Selah.

4 Cadw fi ô Arglwydd o ddwylo 'r annuwiol, a chadw fi rhag y gwŷr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy-nhraed.

5 Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac estyn­nasant rwyd wrth dannau ar ymmyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Selah.

6 Dywedais wrth yr Arglwydd, fy Nuw ydwyt ti, clyw ô Arglwydd lef fyng-weddiau.

7 Arglwydd Dduw nerth fy iechydwriaeth gorch-guddiaist fy mhenn yn nydd brwydr.

8 Na chaniadhâ Arglwydd ddymuniad yr annu­wiol: na chwpla eu drwg feddwl rhag eu balchîo hwynt. Selah.

9 Y pennaf a'm hamgylchyno, blinder eu gwe­fusau a'u tôa hwynt.

10 Syrthied marwor arnynt, a bwried efe hw­ynt yn tân: ac mewn ceu-ffosydd fel na chyfodant.

11 Dŷn siaradus ni wastateuir ar y ddaiar: drwg [Page] a hêla y gŵr traws iw ddestruw.

12 Gwn y dial yr Arglwydd y truan, ac y barna efe y tlodion.

13 Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai iniawn a drigant ger dy fron di.

Domine clamaui. Psal. cxlj.

ARglwydd gelwais arnat, bryssia attaf: clyw fy llais pan lefwyf arnat.

2 Cyfeirier fyng-weddi i'th ŵydd di fel arogl­darth, a derchafiad fy nwylo fel offrwm prydnhaw­nol.

3 Gosot Arglwydd gadwriaeth o flaen fyng-enau: cadw ddrws fyng-wefusau.

4 Na ostwng fyng-halon at ddim drwg i ddych­ymmygu dychymmygion mewn drygioni gyd a'r gwŷr a weithredant anwiredd: ac na ad ti i mi fwy­ta o'u danteithion hwynt.

5 Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi: ond na thorred eu holew pennaf hwynt fy-mhen: canys fyng-weddi fydd etto yn erbyn eu drygioni hwynt.

6 Tafler eu barn-wŷr i lawr mewn lleoedd car­regoc, fel y clywant fyng-eiriau, canys melus ydynt.

7 Y mae ein hescyrn ar wascar ar fîn y bedd, megis vn yn torri, neu yn cymmynu coed ar y ddaiar.

8 Eithr arnat ti ô Arglwydd Dduw yr edrych fy llygaid: ynot ti y gobeithiais, na fwrw fy enaid allan.

9 Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi: a hoenyn­nau gweithred-wŷr anwiredd.

10 Cyd-gwymped y rhai annuwiol yn eu rhwy­dau eu hun, hyd onid elwyfi heibio.

Voce mea ad Dominum. Psal. cxlij.

GWaeddais â'm llef ar yr Arglwydd:Pryd­nhawnol weddi. â'm llef yr ymbiliais â'r Arglwydd.

2 Tywelltais fy myfyrdod o'i flaen ef: a mynegais fyng-hystudd ger ei fron ef.

3 Pan ofidiodd fy yspryd o'm mewn, tithe a ad­waenit fy llwybr, yn y ffordd y rhodiwn y cuddiasant i mi fagl.

4 Edrychais ar y tu dehau, ac wele, ac nid oedd gydnabod gennif: pallodd nodded i mi, nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid.

5 Llefais arnat ô Arglwydd, a dywedais, ti yw fyng-obaith, a'm rhann, yn nhîr y rhai byw.

6 Ystyr wrth fyng-waedd, canys truan iawn yd­wyf, gwaret fi oddi-wrth fy erlid-wŷr, canys trêch ydynt nâ mi.

7 Dŵg fy enaid allan o garchar i foliannu dy enw: y rhai cyfiawn a'm cylchynant pan fyddech dâ wrthif.

Domine exaudi. Psal. cxliij.

ARglwydd clyw fyng-weddi, a gwrando ar fy nei­syfiad: erglyw fi er mwyn dy wirionedd, a'th gy­fiawnder.

2 Ac na ddos i gyfraith â'th wâs, o herwydd ni chyfiawnheuir neb byw ger dy fron di.

3 Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid, curodd efe fy enaid i lawr, a gwnaeth i mi drigo mewn tywy­llwch, fel y rhai a fuasent feirw er ystalm.

4 Yna 'r ymofidiodd fy yspryd o'm mewn: ac y synnodd fyng-halon ynof.

5 Cofiais er hynny y dyddiau gynt, myfyriais ar dy holl waith: ac yng-weithredoedd dy ddwylo y myfyriaf.

6 Lledais fy nwylaw attat: fy enaid fel tîr sy­chedic [Page] sydd yn hiraethu am danat.

7 Oh Arglwydd gwrando fi yn ebrwydd: pallodd fy yspryd, na chuddia dy wyneb oddi-wrthif, rhag fy mod yn gyffelyb i'r rhai a ddescynnant i'r pwll.

8 Pâr i mi glywed dy drugaredd yn foreu: o her­wydd ynot ti y gobeithiais, pâr di i mi ŵybob pa ffordd y rhodiaf, o blegit attat ti y derchefais fy enaid.

9 Gwaret fi oddi-wrth fyng-elynnion ô Argl­wydd: canys gyd â thi 'r ymguddiais.

10 Dysc i mi wneuthur dy ewyllys di: canys ti ydwyt fy Nuw: tywysed dy Yspryd daionus fi i dir yr iniondeb.

11 Bywhâ fi ô Arglwydd er mwyn dy enw, dwg fy enaid allan o ing er mwyn dy gyfiawnder.

12 Ac er dy drugaredd dinistria fyng-elynion, a difetha holl wrthwyneb-wŷr fy enaid: o blegit dy was di ydwyfi.

Benedictus Dominus. Psal. cxliiij.

Boreuol weddi. BEndigedic fyddo 'r Arglwydd fy nerth, yr hwn sydd yn dyscu fy nwylo i ymladd, a'm byssedd i ryfela.

2 Fy-nhrugaredd a'm hamddeffynfa, fy nhŵr, a'm gwaredudd, fy amddeffyn­nudd yw efe, ac ynddo y gobeithiais: yr hwn sydd yn darostwng fy-mhobl tanaf.

3 Arglwydd beth yw dŷn, pan gydnabyddit ef? neu fab dŷn, pan wnait gyfrif o honaw?

4 Dyn sydd debyg i wagedd, fel cyscod y mae ei ddyddiau yn myned heibio.

5 Arglwydd gostwng dy nefoedd a descyn, cyff­wrdd â'r mynyddoedd a mygant.

6 Gwna fellt, a gwascar hwynt, gyrr dy saethau, a difa hwynt.

7 Anfon dy law oddi vchod, achub, a gwaret fi o [Page] ddyfroedd mawrion, sef o law plant estron.

8 Y rhai y llefarodd eu genau wagedd, ac y mae eu deheu-law yn ddeheu-law ffalster.

9 Canaf i ti ô Dduw ganiad newydd, ar y nabl, a'r dec-tant y canaf i ti.

10 Efe sydd yn rhoddi iechydwriaeth i frenhino­edd, ac yn gwaredu Dafydd ei wâs oddi-wrth gleddyf niweidiol.

11 Achub fi, a gwaret fi o law meibion estron, y rhai y llefarodd eu genau am wagedd, ac y mae eu deheu-law yn ddeheu-law ffalster.

12 Fel y byddo ein meibion fel plan-wŷdd yn tyfu o'u hieuengcrid, a'n merched fel congl-faen nadd yn adailadaeth teml.

13 Fel y byddo ein conglau yn llawn, ac yn aml o amryw bethau, a'n defaid yn dwyn miloedd, a myr­ddiwn yn ein heolydd.

14 A'n hŷchen yn gryfion i lafurio, heb na rhu­thro i mewn, na myned allan, na gwaedd yn ein heolydd.

15 Gwyn ei fyd y bobl y mae felly iddynt, gwyn ei fyd y bobl y mae 'r Arglwydd yn Dduw iddynt.

Exaltabo te Deus. Psal. cxlv.

DErchafaf dy di fy Nuw a'm Brenin: a bendithiaf dy enw byth, ac yn dragywydd.

2 Beunydd i'th fendithiaf, a'th enw a folaf byth, ac yn dragywydd.

3 Mawr yw'r Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ac ar ei fawredd nid oes ddiben.

4 Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy wei­thredoedd, ac a fynegant dy gadernid.

5 Ardderchawgrwydd gogoniant dy fawl a'th bethau rhyfedd a fyfyrriaf.

6 Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf inne dy fawredd.

7 Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant: a'th gyfiawnder a ddadcanant.

8 Graslawn, a thrugarog yw 'r Arglwydd: hwyr­frydic i ddig, a mawr ei drugaredd.

9 Daionus yw'r Arglwydd i bawb: a'i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd.

10 Dy holl weithredoedd di a'th glodforant ô Ar­glwydd: a'th sainct a'th fendithiant.

11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth a thraethant dy gadernid,

12 I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef: a gogoniant ardderchawgrwydd ei frenhiniaeth.

13 Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragy­wyddol: a'th lywodraeth a beru yn oes oesoedd.

14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syr­thiant: ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd.

15 Llygaid pawb a ddisgwiliant wrthit, ac yr yd­wyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd:

16 Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â'th ewyllys da.

17 Cyfiawn yw 'r Arglwydd yn ei holl ffyrdd: a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.

18 Agos yw 'r Arglwydd i'r rhai oll a alwant ar­no: sef i'r holl rai a alwant arno mewn gwirionedd.

19 Efe a wnaiff ewyllys y rhai a'i hofnant: gwren­du hefyd eu llefain, ac a'u hachub hwynt.

20 Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a'i carant ef, a'r holl rai annuwiol a ddifetha efe.

21 Traethed fyng-enau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.

Lauda anima mea. Psal. cxlvj.

FY enaid mola di 'r Arglwydd.

2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i'm Duw tra fyddwyf.

3 Na hyderwch ar dywysogion nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iechydwriaeth ganddo.

4 Ei anadl a aiff allan, efe a ddychwel iw ddaiar: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef.

5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Iacob yn gymmorth iddo: ac y sydd a'i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw.

6 Yr hwn a wnaeth nefoedd, a daiar, y môr a'r hyn oll sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw ei wirio­nedd yn dragywydd.

7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i'r rhai gorthrymmedic, ac yn rhoddi bara i'r newynoc: yr Arglwydd sydd yn gollwng carcharorion yn rhydd.

8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion, yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.

9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid, efe a gynnal yr ymddifad a'r weddw: ac a ddyryssa ffordd y rhai annuwiol.

10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth: dy Dduw di Sion fydd dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Mo­lwch yr Arglwydd.

Laudate dominum. Psal. cxlvij.

MOlwch yr Arglwydd, canys da yw ca­nu i'n Duw ni: o herwydd hyfryd yw,Pryd­nhawnol weddi. îe prydferth yw mawl.

2 Yr Arglwydd sydd yn adailadu Ie­rusalē, efe a gascl wascaredigiō Israel.

3 Yr hwn sydd yn iachâu y rhai briwedic o galon, ac yn rhwymo eu doluriau.

4 Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr, geilw hwynt oll wrth eu henwau.

5 Mawr yw ein Harglwydd, ac aml ei nerth: anneirif yw ei ddoethineb.

6 Yr Arglwydd sydd yn cynnal trueniaid, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr.

7 Cenwch i'r Arglwydd mewn clodforedd: cen­wch i'n Duw ar y delyn.

8 Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chwmylau: ac yn paratoi glaw i'r ddaiar: gan beri i'r gwellt dyfu ar y mynyddoedd, a llysiau i wasanaeth dyn.

9 Yr hwn sydd yn rhoddi i'r anifail ei borthiant: ac i gywion y gig-fran pan lefant.

10 Nid oes ewyllys ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esceiriau gŵr.

11 Yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai a'i hofnant: sef y rhai a ddisgwiliant wrth ei drugaredd ef.

12 Ierusalem mola di'r Arglwydd, Sion moli­anna dy Dduw.

13 O herwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth, ac a fendithiodd dy blant o'th fewn.

14 Yr hwn sydd yn gosod dy fro yn heddychol, ac a'th ddiwalla di â braster gwenith.

15 Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddai­ar: a'i air a rêd yn dra buan.

16 Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân: ac a dâna rew fel lludw.

17 Yr hwn sydd yn bwrw iâ fel tammeidiau, pwy a erys gan ei oerni ef?

18 Efe a enfyn ei air, ac a'u tawdd hwynt, â'i wynt y chwyth efe, a'r dyfroedd a lifant.

19 Y mae efe yn mynegu ei eiriau i Iacob: ei ddeddfau a'i farnedigaethau i Israel.

20 Ni wnaeth efe felly ag vn genedl: ac nid ad­nabuant farnedigaethau 'r Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.

Laudate Dominum. Psal. cxlviij.

MOlwch yr Arglwydd o'r nefoedd: molwch ef yn yr vchelder.

2 Molwch ef ei holl angelion ef: molwch ef ei holl luoedd.

3 Molwch ef haul a lleuad: molwch ef yr holl sêr a goleuni.

4 Molwch ef nef y nefoedd: a'r dyfroedd y rhai ydych oddi-ar y nefoedd.

5 Molant enw 'r Arglwydd: o herwydd efe a ddywedodd y gair, a hwynt a wnaed, efe a orchy­mynnodd, a hwynt a greuwyd.

6 A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis trosseddir hi.

7 Molwch yr Arglwydd ar y ddaiar, y dreigiau a'r holl ddyfnderau.

8 Tân a chenllysc, eira, a tharth: a gwynt ystor­mus yn gwneuthur ei air ef.

9 Y mynyddoedd a'r brynnau oll, y coed ffrw­yth-lawn a'r holl cedr-wŷdd.

10 Y bwyst-filod, a phob anifail: yr ymlusciaid, ac adar ascelloc.

11 Brenhinoedd y ddaiar a'r holl bobloedd, tywy­sogion a holl farnwŷr y byd.

12 Gwŷr ieuaingc a gweryfon hefyd: henaf-gwŷr a llangciau:

13 Molant enw 'r Arglwydd: o herwydd ei enw ef yn vnic sydd dderchafadwy: ei ardderchawgrw­ydd ef sydd vwch law daiar a nefoedd.

14 Ac efe sydd yn derchafu corn ei bobl, yn foliant iw holl sainct, sef i feibion Israel pobl agos iddo. Molwch yr Arglwydd.

Cantate Domino. Psal. cxlix.

CEnwch i'r Arglwydd ganiad newydd: bydded ei foliant ef yng-hynnulleidfa y sainct.

2 Llawenhaed Israel yn yr hwn a'i gwnaeth: gorfoledded meibion Sion yn eu Brenin.

3 Molant ei enw ef ar y dawns: cânant iddo ar [Page] dympan a thelyn.

4 O herwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais ag iechydwriaeth.

5 Gorfoledded y sainct mewn gogoniant: a châ­nant yn eu gwelâu.

6 Bydded ardderchog weithredoedd Duw yn eu genau: a chleddyf dau finioc yn eu dwylo,

7 I beri dial ar genhedloedd, a chosb ar bobloedd:

8 I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau: a'u pendefigion â gefynnau heirn.

9 I wneuthur arnynt farn scrifennedic: yr ar­dderchawgrwydd hyn fydd iw holl sainct ef. Mo­lwch yr Arglwydd.

Laudate Dominum. Psal. cl.

MOlwch Dduw yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth.

2 Molwch ef yn ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd.

3 Molwch ef â llais vd-corn: molwch ef â nabl, ac â thelyn.

4 Molwch ef â thympan, ac â dawns: molwch ef â thannau, ac ag organ.

5 Molwch ef â symbalau soniarus: molwch ef â symbalau llafar.

6 Pob perchen anadl molianned yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.

Terfyn Psalmau Dafydd.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.