✚ DILYNIAD CHRIST, a elwir yn gyffredin Thomas a Kempis.

Gwedi ei gyfieithu'n Gymraec ers talm o amser ynol Editiwn yr Awdur gan HƲW OWEN Gwenynoc ym Môn, Esq;

✚ ✚ ✚

LLUNDAIN, Gwedi ei imprintio ar gôst I. H. MDCLXXXIV.

✚ At lawn Ardderchoc Vicownti ac Arglwyddi, Baronetti a Marchogion Hybarchus, Boneddigion ac Vchelwyr Parchedic, ac at holl Drigianolion mwynion MON.

PEth anresymmol y fyddai ceisio nêb amgenach na chw­ychwi y Monwysion llawn Ardderchoc, Hybarchus, [Page] Parchedic a mwynion i amddiffyn, i achlesu ac i fod yn nodded i'r Cyfiei­thiad ymma; gan fod y Cyfieithydd o'r vn Wlâd ac o'r vn Gwaed a'rhan fwyaf ohonochwi, ac mor anwyl-garedic i bawb o'ch Hynafiaid chwi yn ei am­ser ef, ac y tybygid, nad oedd moi' gymmar i'w ga­el arhyd holl ardalau Cym­ru. Ynddiau nid oedd y pryd hynny vngwr ym Môn a gai fwy groesaw­calon yn Neuaddau Ba­ronhil, Presaddfed, Bodé­on, &c. nac a gai Huw Owen Gwenynoc Capten [Page] Talebolion: a rhyfedd pa­faint oedd caredigrwydd y bobl gyffredin tuacatto. Cymmaint oedd ewyllys da a chariad gwyr ei Gym­mwd eihun arno, a'i fod ef trwy eu gwîr fodd hwynt yn gallu rhifo deu­cant a phedwar-ugain mi­lwr yn ei Fyddin Drain. Y rhai yr oedd ef gwedi eu trainio a'i dyscu mor gywreigall ymmhob Trefn a Dyscybliaethau milyriol a darfod iddo'n amser Tyr­feydd cyffredinol y Wlâd, a'i gwaith campus hwynt, wneuthur nid ychydic o gywilydd a gwradwydd [Page] ar Gaptenniaid y pum Cymmydau eraill i'w glôd eihun a'i ganmoliaeth ma­wr. Ac oherwydd ei dde­alltwriaeth rhagorol a'i gywreinrwydd yn y Cy­freithiau, (yr hyn nis dy­scodd gan nebvn Athro a­rall ond efe eihun, gartref yn ei Studi eihunan: lle hefyd y dyscodd fedru de­all yn llwyr ddigon Ffren­gec, Hispanec, Italec a Dwts, ac yntau y pryd­hynny'n wr priod ac yn Dad plant) ei gymmydo­gion obobparth a gyrchent atto, megis at y Cyfrei­thwr godidoccaf i gael [Page] Cyngor yn rhâd, ac i gael tynnu a scrifennu eu Gwei­thredoedd yn ffyddlon. Nid oedd fawr leoedd cy­frifol y prydhynny ym Môn, lle nid oeddid yn cadw ac yn prisio'n werth­fawr waith ei ddwylo ef. Diammeu yw, tra fo'r vn Syr Huw Owen yn meddi­annu Bodeon nas gollyngir yn anghof y Trefn rhago­rol a osododd ef ar yr Estad honno. Acam y Dos­parth a wnaeth ef ar Estad Marqwes cyntaf Caerfran­gon (i'r hwn y bu vgain mlynedd yn Secretari o'r ffyddlonaf ac yn fynych [Page] yn Ben-Controwler ty i­ddo) mae achos i ammeu nad ydys yn cofio megis y dylid, ddarfod iddo dref­nu'r cwbl yn y modd ac y gellid chwanegu'r Ardre­thion i fîl o bunnau bob blwyddyn yn fwy nac o'r blaen: a hynny heb lei­hâu dim o'r Estad-ymgyn­nal cynnefin, na gwasgu'r Tenantiaid, na gyrru rhai eraill i ymdynnu â hwynt am eu Ffermau i'w dinistr eugilydd. Oherwydd yr hyn beth, y byddau arfer fod yr ymrafael a'r anghyt­tundeb mwyaf rhyngtho ef a'r Arglwydd cynnilgar [Page] hwnnw, tra fai'r naill yn mynnu cael y maint mwy­af, a'r llall yn pleidio'n daer dros y tlodion gwein­niaid rhag iddynt ddioddef gormod trais. Gwaith yn­ddiau o drugaredd anaml i'w gael yn y dyddiau hyn gan swyddogion cyffelyb Gwyr-Mowrion y rhai sy'n arfer cynffonlonni a gwe­nieithu eu Meistri ar bob gair a gweithred cyn be­lled, a bod llaweroedd o­honynt gwedi casglu cym­maint o arian, a gallu pwr­casu mewn ychydic amser tiroedd o werth llawer cant, a rhai o werth mwy [Page] na mîl o bunnau'n y flwy­ddyn. Eithr efe nis cynnu­llodd (er ei fod ef yn gyn­nil iawn) mewn vgain mlynedd gymmaint ac a brynnai vn bwth neu ar­ddan: ond gwario a wna­eth ardrethau ei estad ei­hun i faentumio eihunan a'i wâs yn y gwychdra yr oedd ei swydd a'i le'n go­fyn. Arwydd digon eglur ei fod ef yn caru Duw'n fwy na'r byd ymma. Nid oedd ef chwaith yn gofalu ac yn ymboeni'n vnic i wneuthur daioni amserol i'w gymmydogion, eithr hefyd er eu llês tragywy­ddol [Page] hwynt, ef a gyfan­soddodd amryw Draetho­dau duwiol, a phan nid oedd ef etto ond 27. oed ef a gyfieithiodd yn Gym­raec Lyfr y Resolusion ynol Editiwn diweddaf a chy­flawnaf yr Awdur eihun (obobtu i ddec arvgian mlynedd cyn i D. Davies brintio rhan ohono) a gwe­di hynny Vincentius Liri­nensis, y rhai ysgatfydd a gaant ryw amser weled y goleuni cyhoedd, gan eu bod rwön wedi dyfod i'n dwylo ni gyda'r Llyfr An­gelol ymma, yr hwn a wel­som yn dda ar y cyntaf ei [Page] osod allan yn brintiedic, nid yn vnic er llês i bawb o'r Cymru: eithr hefyd er Coffa parhaus am ein Cy­faill tra anwyl-garedic, gy­da'r hwn y buom fyw yn hîr amser yn-Ghastell Rha­glan. Yn siccr rydym yn cydnabod ddarfod ini wrth ei baratoi i'r Print, yn ambell fannau newid peth o'i areithion Gwynedd ef, er mwyn gwneuthur yr holl ymadrodd yn rhwy­ddach ymmhob cwr o Gymru. Erhynny nid y­dym yn ammeu, na bydd gwîw gennych chwi am­ddiffyn a noddi Gwaith [Page] eich Cydwladwr canmole­dic a'ch Câr tra hynod. Yr hyn beth yn vnic yw go­styngeiddlawn Arch a Dy­muned

Eich tra gostyngedic Weision
  • J. H.
  • S. J.

✚ RHYBYDD.

GAN fod llawer o wyr duwiol dyscedic ers talm o amser we­di cyfieithu'r Llyfr euraid ymma'n Gymraec, sef y T. A. Mathew Tur­bervil o Gastell Penllin ym Mor­ganwg o sanctaidd Grefydd S. Be­ned, a'r T. A. Thomas Jeffreyes o'r Llechwedd isaf yn agos i Aberco­nwy o Gymdeithas yr Jesu, a Mr. Huw Parry duwiol Offeiriad Se­cular (rhan yn vnic o waith yr hwn a welsom) a bod Duw rwön ers llaw­er mwy nac vgain mlynedd wedi eu cymmeryd pob vn ohonynt atto ef, cyn eu bod yn gallu printio eu Cy­fieithiadau, iawn i ninnau eu coffa hwynt ymma, a'i canmol am eu bryd a'i hewyllys da o wneuthur llês i'r Cymru.

✚ Y Cyfieithydd at y Cymro mwynlan.

MAE ymddadleu ac ym­ryson mawr rhwng y rhai dyscedic, pwy y fu Awdur y Llyfr tra rhagorol ymma. Rhai a fynnant mai Thomas a Kempis Canon Regular a gwr tra duwiol o wlâd Geldria yn Stâd Holland y oedd yn byw yn y flwyddyn 1440. a'i gwnaeth ef. Rhai eraill a ddywedant mai'r dyscedic Joan Gerson Cange­llwr Paris y fu fyw'n y flwy­ddyn 1420. a'i cyfansoddodd. Rhai eraill a daerant mai [Page] Joan Gersen neu Gessen A­bad sanctaidd yn byw yn-Gwlâd Germania ambell gant o flyny­ddoedd oflaen y ddau eraill oedd y gwîr Awdur. Ac mae pob plaid ohonynt yn dwyn rhe­symmau credadwy, têg a gwe­ddol i brofi eu neilltuol opinio­nau. Ond o'm rhan i, pettwn i'n deilwng i ddangos fy meddwl ymysc Dysceidwyr mowrion, mi a ddywedwn ynhy, os rhyw ddyn a'i gwnaeth ef, mai Thomas a Kempis oedd y gwr. A hynny a wnawn oher­wydd y rhesymmau eglur y mae Heribertus Rosweydus Ho­landwr gwedi eu gosod ar lawr.

Ond pwybynnac y fu'r Aw­dur, byd yspys iti'r Cymro de­fosionol, mai Llyfr ysprydol tra [Page] rhagorol yw hwn, yn llawn o nefolion ddysceidiaethau rhyfe­ddol, ac yn wâg o bob ystyriae­thau a geiriau ofer, y fu bobam­ser o'r ddwy Oes ddiweddaf hyn, mewn cyfrif mawr gan y dynion mwyaf eu sancteiddrw­ydd, a chan bawb yn ceisio dyfod ohyd i dduwioldeb per­ffeithlon: yn gymmaint a'i fod ef yn ddodren wastadol ac me­gis anhepcor yn eu teiau, a'i cellau, a'i poccedau hwynt. A pha ryfedd, bod dynion san­ctaidd a Christianogion yn gw­neuthur mawr gyfrif ohono, gan fod yr Anffyddloniaid eu­hunain yn ei brisio'n anfeidrol? Ynddiau fe a gaed Rrenin neu Emerodr Morocco yn gwneu­thur cymmaint cyfrif o'r Llyfr ymma wedi eu gyfieithu yn iaith [Page] gyffredin y Twrciaid, a pheri ei osod ag anrhydeddus barch yn ei Librari eihun, gan wneu­thur mwy prîs ohono, nac o'i holl lyfrau Mahometanaidd.

Arfer dithau, y Cymro mwyn­lan, yn ddyfal y llyfr euraid ymma, a thi a elli gael wm­bredd o broffit ysprydol wrtho. Os dolur neu afiechyd corph y fo'n dy flino, ti a gai ddigon o gyssur yn hwn. Os colledion by­dol, angharedigrwydd Ceraint, malais Cymmydogion, gwrthw­yneb Meistri, &c. y fyddant yn molestu dy feddwl, nid rhaid iti ond darllain peth yn hwn, ac ynyman, ti a gai esmwyth­der calon a llonyddwch. Os bydd temptasiwnau balchder, aflendid cnawdol, glothineb, diogi, digofaint, &c. yn pwy­so'n [Page] dôst arnat, agor y Llyfr ymma wrth ddamwain, a thi a gai yno gymmellion digonol i'th tynnu oddiwrth y cyfryw be­chodau, ac i'th wthio rhagot i amgofleidio' rhinweddau gwr­thwyneb, Byrrarhyn byrra, pa drallodau bynnac corph neu en­aid y fo'n gwasgu arnat, ti a elli gael yn y Llyfryn hwn ddi­gon o gyngor, comffordd a rhwymedi i'w herbyn: o'r hyn lleiaf i'w hysgafnhâu hwynt, ac i gael mwy llês wrth eu dio­ddef.

Mae pob vn o'r Llyfrau hyn yn cynnwys amryw bennodau, pob pennod yn cynnwys amryw baragraphau, pob paragraph yn cynnwys amryw wersi, a phob gwers yn cynnwys rhyw Wirionedd mawr, Dysceidiaeth, [Page] Gweddi neu Gyngor llesol iawn i'w gwybod, i'w hystyried, i'w cofio, ac i'w cyflowni. Amhynny mi a'th gynghorwn di er mwyn cael mwy llês wrth ei ddarllain, nas darllenni ond vn pennod by­chan o'r vnwaith, neu hanner neu'r drydedd ran o'r pennod y fo hîr: gan ddarllain hynny'n arafus ac yn astudiol, a chan ystyried pob Gwirionedd yn llwyr, ac a bryd i gyflowni pob cyngor.

Ond am y iv. Lyfr, da fydd iti bob tro cyn myned i dder­byn y Cymmun bendigedic, ddarllain yn arafus ac yn dde­fosionol vn pennod o hwnnw, hyd onid eli trosto igyd: a gwedi hynny ei ddechreu o newydd. Ac os cymmuno a wnai'n fynych, pa unbynnac y [Page] bo hynny ai'n gorphorol ai'n ysprydol (hynny yw, yn dy ew­yllys a'th feddwl yn vnic, yr hyn sy ddefosiwn llesfawr iawn, ac a ellir ei wneuthur beunydd) digon y fydd darllain vn Paragraph yn arafus. Ac felly'n ddiammeu ti a gai lês a diddanwch ohono. Yr hyn pan y digwyddo iti, attolygaf ar­nat weddio tros

Dy anwyl-garedic frawd yn Jesu Christ, H. O.

DILYNIAD CHRIST a elwir yn gyffredin Thomas a Kempis.

Y Llyfr Cyntaf. Rhybyddion da i fyw'n ysprydol.

PENNOD I.
Am ddilyn Christ a dibrisio pob gwa­gedd bydol.

Y Neb sy'n fy nilyn i, nid yw'n rhodio'n y tywyll­wch, John 8. 12. medd ein Harglwydd. Dymma eiriau Christ, a'rhai y mae ef yn ein rhybyddio ni i ddilyn ei fuchedd a'i arferau ef, os mynnwn ni gael ein gwîr oleuo, a'n gwared rhag pob dallineb calon.

[Page 2]Amhynny bydded ein gofal pennaf ni am fyfyrio ar fuchedd Jesu Christ.

2. Mae dysceidiaeth Christ yn rha­goriar holl ddysceidiaethau y Sainct, a'r neb y fai ag yspryd gantho a gai yno Fanna cuddiedic.

Ond mae'n digwydd fod llawer­oedd wrth fynych wrando'r Efangel heb glywed ond bychan o ewyllysch­want ynddynt euhun: oblegid nad oes mo yspryd Christ ganthynt.

Eithr y neb a fynno ddyall geiriau Christ yn hollawl, ac yn berffaith, rhaid iddo ynanad dim geisio cyflu­nio ei fuchedd a buchedd Christ.

3. Pa lês iti allael ymresymmu'n ddoeth am vchel ddirgeleddion y Drindod, os byddi di heb ostyngei­ddrwydd i ryngu bodd i'r Drindod sendigedic.

Ynddiau nid geiriau vchel a doe­thion a wna ddyn yn sanctaidd ac yn gyfion, ond buchedd rinweddol a wna ddyn yn hôff, ac yn gymmeradwy gerbron Duw.

Gwell gennyfi ymglywed edifeir­wch ynof, na medru ei ddiffinio.

[Page 3]Pettiti'n gwybod y Bibl igyd allan o lyfr, ac adroddion yr holl Philoso­phyddion, pa lês a wnai'r cwbl iti heb gariad Duw a'i râs?

Gwagedd gwageddau, a gwagedd yw'r cwbl, ond caru Duw a'i wasanae­thu ef ynvnic.

Dymma'r doethineb pennaf, gan ddibrisio'r byd, cyrchu at deyrnas y Nêf.

4. Gwagedd ganhynny yw casglu cyfoeth a golud darfodedic, ac ym­ddiried ynddynt.

Gwagedd hefyd yw ceisio mawr­haad, ac ymgodi i stâd vchelfraint.

Gwagedd yw dilyn trachwantau'r cnawd, a chwennychu'r peth am yr hwn gwedi hynny y bydd rhaid dio­ddef poenau tra blîn.

Gwagedd yw dymuno byw'n hir, hebb ddim gofal am fyw'n dda.

Gwagedd yw ystyried y bywyd presennol ymma'n vnic, a bod heb ragweled y pethau sy'n dyfod.

Gwagedd yw caru'r hyn sy'n my­ned heibio'n fuan a megis mewn mo­ment, a bod heb geisio mynd ar frys [Page 4] i'r fann lle mae llawenydd tragywy­ddol yn parhâu.

5. Cofia'n fynych ddihareb y Scry­thur Lân: Ni chaiff na llygad ei ddigoni wrth weled, na chlûst ei llenwi wrth glywed. 1 Cor. 2. 9.

Cais ganhynny dynnu awydd dy galon oddiwrth bethau gweledic, a throi dyhunan tuac at y pethau sydd anweledic. Am fod y sawl sy'n dilyn eu trachwantau cnawdol, yn diwyno ac yn anrheithio eu cydwybod, ac yn colli grâs Duw.

PEN. II.
Bod yn rhaid i ddyn feddwl yn ostyn­gedic amdano eihunan.

1. MAE pob dyn wrth ei na­tur yn mynnu cael gwy­bod, ond pa lês a wna gwybodaeth heb ofn Duw?

Yn wir ddiau gwell ydyw hws­mon gwladaidd gostyngedic y so'n gwasanaethu Duw, na Philosophydd [Page 5] balch diofal am ei enaid y fo'n astu­dio treigl a chwyl y Nefoedd.

Mae'r neb a fo'n gwybod eihun yn dda, yn wael yn ei olwg eihunan, ac heb gymmeryd dim difyrrwch o gael ei ganmol gan eraill.

Pettwn i'n gwybod pob peth yn y byd, ac heb fod mewn cariad per­ffaith, pa lês a wnai hynny imi yng­wydd Duw, yr hwn a'm barna fi ynol fyn-gweithredoedd?

2. Paid a cheisio gwybod gormod, am fod mawr wasgar meddwl a thwyll yn hynny.

Da gan y rhai gwybodus gael eu cyfrif felly, a'i galw'n bobl ddoethion.

Mae llawer o bethau, gwybod y rhai nis gwna ond bychan, neu ddim o lês i'r enaid.

Ac mae'r dyn yn ffôl drosben, a so'n gofalu am ddim arall na'r hyn sy'n perthyn i'w jachawdwriaeth tra­gywyddol.

Nid yw llawer o siarad yn digoni chwant y galon, ond mae buchedd dda'n diddanu'r enaid; a chydwybod lân yn peri ymddiried mawr yngwydd Duw.

[Page 6]3. Oba faint mwy a gwell yr wyt yn gwybod, gorthrymmach o hynny y cai di dy farnu, oddiethr iti fyw yn sancteiddiach.

Am hynny gochel ymfalchu oher­wydd pabynnac gelfyddyd neu ddy­sceidiaeth y so gennyt: eithr yn hyt­trach ofna oherwydd y gwybodaeth a gefaist.

Os tybied yr wyt, dy fod ti'n gwy­bod llawer, ac yn dyall yn dda jawn: bydd yn yspys hefyd iti, fod llawer mwy o bethau nad wyt yn gwybod dim amdanynt.

Paid a meddwl yn falch, eithr yn hyttrach, bydd yn barod bobamser i gydnabod dy anwybodaeth, Pam y mynni di gael dy gyfrif yn well na rhai eraill; gan fod llawer yn fwy eu dysc nathydi, ac yn fwy cywraint yny gyfraith?

Os tydi a fynni wybod a dyscu dim ar dy lês, cais fod ynddiwybod gan bawb, a'th gyfrif yn ddiddym.

4. Dymma'r wers vchaf a goreu ei llês, bod gan ddyn wir wybodaeth ohono eihun, a diystyru a dibrisio ei­hunan.

[Page 7]Bod heb wneuthur dim cyfrif oho­no eihun, a meddwl yn dda bobamser ac yn wîw am rai eraill, sy ddoethineb mawr ac vchel berffeiddrwydd.

Pettiti'n gweled rhyw vn yn pe­chu'n amlwg, neu'n gwneuthur rhyw ddrwg mawr: erhynny ni ddyliti gyfrifo dyhun yn well: oblegid nas gwyddost pahyd y gelli barhâu mewn ystat dda.

Mae pawb ohonom ni yn weinion: eithr ni ddyliti gyfrifo neb yn wan­nach nac yn freuach na thydi dyhu­nan.

PEN. III.
Am ddysceidiaeth y gwirionedd.

1. GWyneifyd y neb y fo'r gwiri­onedd eihunan yn ei ddyscu, nid a ffigurau, ac a lleferydd yn my­ned heibio, ond megis y mae ynddo eihun.

Mae'n tybied ni a'n fynhwyrau cnawdol, yn ein twyllo ni'n fynych, ac heb ganfod ond ychydic.

[Page 8]Pa lês a wna ymryson mawr am faterion tywyll cuddiedic, oblegid y rhai ar ddydd y Farn, ni chawn ni mo'n ceryddu am nad oeddem yn eu gwybod?

Ffolineb mawr ydyw, gan ddiofalu am bethau llesfawr ac angenrheidiol, bwrw ein bryd a'n meddwl o'n gwir­fodd ar bethau ofer a niweidiol, gan fod a golygon gennym, ac erhynny heb fod yn gweled.

2. Pa rhaid i nyni wrth adroddion a rhesymmau Logic?

Mae'r neb wrth yr hwn y mae'r Gair tragywyddol yn llafaru, yn rhydd oddiwrth lawer o opiniwnau.

O'r gair hwnnw y mae pob peth yn llafaru, a'r cwbl sy'n dangos hwn­nw, a hwnnw yw'r dechreuad sy'n lla­faru hefyd wrthym ni.

Heb hwnnw nid oes neb yn deall, nac yn barnu'n iawn.

Y neb, i'r hwn y mae pob peth yn vn, yr hwn sy'n tynnu'r cwbl at vn, ac yn canfod y cwbl yn yr vn hwnnw, a ddichon fod o galon ddiogel, a phar­hâu'n heddychol yn Nuw.

[Page 9]O Dduw y gwirionedd! gwna fi'n vn a thi mewn cariad perffaith di­baid.

Blîn gennyfi'n fynych ddarllain a chlywed llawer o bethau: ynoti y mae'r cwbl yr wyfi'n eu mynnu, ac yn eu hewyllysio.

Tawent a sôn pawb o'r Doctorion, nad ynganent y creaduriaid oll yn dy wydd di: llafara di'n vnic wrthyfi.

3. Pa mwyaf y bo neb yn vn ac ef eihun, a pho symlaf oddimewn: mwy ohynny a goruchaf pethau a gaiff ef eu deall, oherwydd y caiff ef dderbyn goleuni a gwybodaeth oddiuchod.

Nis gwasgarir pûr, syml a gwasta­dol yspryd mewn llawer o orchwyli­on: am ei fod ef yn gwneuthur y cwbl er anrhydedd i Dduw; ac yn ceisio bod yn rhydd ynddo eihun oddiwrth bob amcanion oser a gwâg.

Pwy sy'n dy rwystro ac yn dy a­flonyddu di'n fwy, na drwg anwydau dy galon anfarweiddiedic di dyhun?

Dyn da defosionol a ddospartha ymlaenllaw y gweithredoedd oddi­mewn, y fo rhaid iddo eu gwneuthur oddiallan.

[Page 10]Ac nis tynnant hwy ef i drachwan­tau ei duedd camweddol, eithr ef a'i cyfeiria hwynt ynol ewyllys iawn re­swm.

Pwy sy mewn ymdrech mwy a dewrach, na'r neb sy'n ceisio gorchfy­gu eihunan.

A hyn a ddylai fod ein helynt a'n trafferth ni, sef gorchfygu einhunain; a mynd beunydd yn gryfach ac yn ddewrach na nyni einhun: a cherdded rhagom yn beth gwell bobamser.

4. Mae rhyw ammhuredd yn gym­mysc a phob perffeiddrwydd yn y bywyd ymma: ac nid oes dychym­myg neu wybodaeth a ddelo i'n pen ni heb ryw dywyllwch ynddo.

Gwybod dyhunan yn ostyngedic, sy'n siccrach ffordd i syned at Dduw: nac vchel astudio dyscediaethau.

Nid oes dim bai ar ddyscu, neu geisio gwybodaeth syml o ryw beth, yr hyn ohono eihun sy dda, a gwedi ordeinio gan Dduw: eithr mae'n rhaid bobamser, gwneuthur mwy cysrif o gydwybod dda, ac o fuchedd rinweddol.

[Page 11]Ond oblegid bod mwy o ddynion yn ceisio cael gwybodaeth nac sy'n ceisio byw'n dda: amhynny mynych y mae'n hwy'n cyfeiliorni, ac heb gael dim neu ond bychan iawn o lês.

5. O! pe bai dynion yn cymme­ryd cymmaint gofal am ddiwreiddio beiau, ac am blannu rhinweddau yn­ddynt euhun, ac y mae'n hwy wrth godi ammheuon, ac wrth gynnal dad­leuau, ni fyddai mor cymmaint dry­gau a scandalau ymmysc y bobl, na chymmaint o afreolaeth yn y Mona­chlogydd.

Ynddiau pan ddelo dydd y Farn, nis gosynnir gennym, pafaint a ddar­llennasom, ond pafaint a wneuthom: nis gosynnir pa cyn decced y darfu i ni lafaru, ond mor dda a rhinweddol y buom fyw.

Dywed imi, ple mae'r Doctorion a'r Meistri mowrion hynny a oeddit yn eu hadnabod, pan yr oeddent et­to'n byw ac yn rhagori yn eu dyscei­diaethau?

Mae rhai eraill ynawr yn meddian­nu eu Prebendau a'i Personoliaethau [Page 12] hwynt, ac nis gwn i, os ydynt yn me­ddwl am y rhai y fuont: pan oe­ddent hwy'n byw roeddent yn ym­ddangos yn rhywbeth, ond rwon nid oes sôn amdanynt.

6. O! mor fuan y mae gwâg­ogoniant a rhagorfraint bydol yn my­ned heibio? O! na buasai eu bu­chedd hwynt yn cydgordio a'i gwy­bodaeth, yna y dyscasent ac y darllen­nasent yn dda.

Pafaint nifer o ddynion yn y byd, sy trwy wâg-wybodaeth yn cael eu colli, am nad ydynt yn gofalu am wasanaethu Duw?

Ac oblegid eu bod yn dewis cael eu cyfrif yn wyr mowrion enwog yn­hyttrach na bod yn wyr gostyngedic, amhynny mae'n hwy'n difannu yn eu meddyliau euhun.

Yn wîr, mawr yw'r neb sydd a mawr gariad perffaith gantho.

Yn wîr, mawr yw'r neb sy'n fychan ynddo eihun, ac heb wneuthur dim cyfrif o vchaf brigyn pob parch ac anrhydedd bydol.

Yn wîr, call a synhwyrol vw'r neb [Page 13] a brisio bob peth daearol megis tomm a baw ermwyn ynnill Christ.

Ac yn wîr doeth yw'r neb a wnelo ewyllys Duw, ac a ymwrthodo a'i ewyllys eihun.

PEN. IV.
Am bwylledd a rhagweled ein gwei­thredoedd.

1. NI ddylid coelio pob gair a ddywedir: na dilyn pob annog a wnelir arnom: ond mae'n rhaid ystyried y peth megis y mae ef gerbron Duw.

Och y fi! mynychach y credir ac y dywedir y drwg na'r da am vnarall: cymmaint ydyw ein gwendid ni.

Ond nis credant dynion perffaith yn hawdd bob vn y fo'n chwedleua: oblegid eu bod hwy'n gwybod, fod gwendid dynion bobamser yn go­gwyddo tuac at y drwg, ac mae digon hawdd yw llithro mewn geiriau.

2. Callineb mawr yw gochel bod [Page 14] yn fyrbwyll, ac yn rhy chwidr wrth wneuthur y peth bynnac y fo.

Ar yr hyn hefyd y mae'n perthyn; peidio a chredu pob rhyw eiriau a ddywedo dynion, a gochel bwrw yn­yman i glustiau rhai eraill y pethau a glywyd neu a gredwyd.

Cymmer gyngor gan ddyn syn­hwyrol y so a chydwybod dda gantho: a chais dy ddyscu gan vn gwell na thydi'n hyttrach na dilyn dy ddychym­mygion dyhun.

Mae buchedd dda'n gwneuthur dyn yn synhwyrol yngwydd Duw, ac yn gywraint yn llawer o bethau.

Pafaint mwy y bo dyn yn ostyn­gedic ynddo eihun, a mwy parod i wneuthur ewyllys Duw: synhwyro­lach ohynny y bydd ef ymmhob peth, a heddychach.

PEN. V.
Am ddarllain y Scrythur Lân.

1. RHaid ceisio'r gwirionedd yn y Scrythur Lân, ac nid yma­droddion pereiddiol.

[Page 15]Rhaid darllain yr holl Scrythur a'r vn yspryd ac y gwnaed hi.

Ny ddylem geisio llês wrth ddar­llain y Scrythur Lan, yn hytrach na manylder adroddion.

Ni a ddylem ddarllain llyfrau defo­sionol a syml, mor ewyllysgar a rhai vchel a mawr eu dysc.

Nad anfoddhed di awdurdod y Scrifenwr, pa vn bynnac y fo ai by­chan ai mawr o ddysc: eithr tynned, hoffi y pûr wirionedd, tydi i ddar­llain.

Na chais ofyn, pwy a ddywedodd hyn neu'r llall, eithr ystyria pabeth a ddywedwyd.

2. Mae dynion yn myned heibio: ond gwirionedd ein Harglwydd a barhâ'n dragywyddol.

Mae Duw'n llafaru wrthym yn am­ryw foddion heb ddim derbyn wyneb.

Mynych y mae'n cuwriowsdra yn ein rhwystro ni wrth ddarllain y Scry­thur Lân, pan fyddom yn mynnu dy­all a chwilio'n fanwl, lle y dylem fynd tros y peth yn syml.

Os tydi a synni gael llês, darllain yn [Page 16] ostyngedic, yn syml ac yn ffyddlon, ac na chais byth dy gyfrif yn ddyn dyscedic a gwybodol.

Gofyn yn ewyllysgar, a gwrando'n ddistaw adroddion dynion sanctaidd: ac nad anfoddhêd di diarebion yr He­nafiaid, gan nas llafarwyd hwynt heb achos.

PEN. VI.
Am chwantau a gwynniau afreolus.

1. PAbryd bynnac y bo dyn yn chwennychu rhywbeth yn a­freolus, ef y fydd ynyman yn aflo­nydd ynddo eihun.

Ni orphwys y balch a'r cybydd vn­amser.

Y tlawd a'r gostyngedic o yspryd a drigant mewn amledd o heddwch.

Buan y temptir y neb sydd etto heb farweiddio eihun yn berffaith, ac a orchfygir mewn pethau bychain a gwael.

Anodd gan y gwan o yspryd, a'r neb fyd etto megis yn gnawdol, ac yn [Page 17] gogwydd tuac at wynniau cîg a gwa­ed, droi eihun yn hollawl oddiwrth drachwantau daearol.

Amhynny mynych y bydd blîn gantho ymwrthod a hwynt: hawdd hefyd gantho ddigio pan ddelo dim gwrthwyneb yn ei erbyn.

2. Ac os daw ohyd i'w drachwant, ef a flina ynyman oherwydd ei gyd­wybod euog: ac am ddarfod iddo ddilyn ei wynn eihun, yr hyn ni wna ddim llês iddo, i gael yr heddwch yroedd yn ei geisio.

Amhynny gan wrthsefyll, gan attal, a gwrthwynebu'n trachwantau y ceir gwîr heddwch calon, ac nid wrth eu dilyn a rhoi ffordd iddynt.

Nid oes dim heddwch ganhynny yn-ghalon dyn cnawdol, neu'r neb y fo'n dilyn pethau oddiallan, ond yn y dyn gwresog ysprydol.

PEN. VII.
Am ochelyd gwâg obaith a balchder.

1. OFer yw'r neb a roddo ei obaith ar ddynion, neu yn y creadu­riaid.

Na fydded cywilydd arnat wasanae­thu rhai eraill er mwyn Jesu Chrîst: a dangos dy fod yn dlawd yn y byd ymma.

Na hydera arnat dyhun, ond gosod dy obaith ar Dduw.

Gwna'r hyn wyt yn ei allu, a Duw a ddaw i'th gymmorth di.

Nad ymddirieda yn dy wybod dy­hun▪ nac yn-ghyfrwysder undyn byw: ond yn-grâs Duw, yr hwn sy'n hel­pu'r gostyngedic, ac yn gostyngei­ddio'r beilchion y fo'n ymddiried yn­ddyn euhunain.

2. Na fydd falch o'th gyfoeth os ydynt gennyt; nac o'th garedigion o achos eu golud: ond gogonedda'n Nuw yn vnic, yr hwn sy'n rhoi'r cwbl, ac vwchben y cwbl yn ceisio rhoddi eihunan iti.

[Page 19]Na fydd falch oherwydd maint neu bryd a gwedd dy gorph, yr hyn a lygrir ac a wrthunir ag ychydic o gle­fyd.

Na chymmer wâg ddifyrrwch yn dy synhwyr a'th ddoniau eraill natu­riol, rhag anfodloni Duw, i'r hwn y mae'n perthyn y cwbl ac sy gennyt trwy natur.

3. Na chyfrifa dyhun yn well na rhai eraill, rhag ofn cael dy farnu'n waeth yngwydd Duw, yr hwn sy'n gwybod yr hyn oll sy'n nyn.

Na fydd falch o'th weithredoedd da: oblegid fod barnedigaethau Duw'n amgenach na barnedigaethau dynion: am fod y peth lawer gwaith yn ei ddigio ef, sy'n rhyngu bodd i ddynion.

Od oes dim daioni ynot, coelia fod llawer mwy'n rhai eraill, er mwyn cadw gostyngeiddrwydd ynot.

Ni bydd drwg iti, gyfrifo dyhunan yn waeth na neb arall yn y byd: ond mae'n ddrwg mawr iti brisio dyhun yn well na rhyw unarall, perhon na bai ef ond vn gwael iawn.

[Page 20]Mae'r gostyngedic mewn heddwch parhaus: ond yn-ghalon y dyn balch mae eiddigedd a mynych lîd.

PEN. VIII.
Am ochelyd gormod cymdeithgarwch neu ffamiliaredd.

1. NA agor dy galon wrth bob dyn: ond traetha dy neges­sau wrth ddyn pwyllog y fo'n ofni Duw.

Bydd yn anfynych gyda phobl ieu­angc a dieithraid.

Na wenieutha y rhai goludoc: ac na ddangos dyhun o'th fodd yngwydd gwyr mawr a dyledogion.

Cyfeillacha dyhun gyda'rhai go­styngedic a'r syml, gyda'rhai vsydd a defosionol: ac a hwynt traetha am y pethau a ddichon adeiladu y naill y llall.

Na sydd rhy gymdeithgar neu'n ffamiliar ag vn ferch, ond yn gyffredi­nol gorchymmynna bob merch ddai­onus i Dduw.

[Page 21]Cais fod yn gymdeithgar a Duw'n vnic, ac a'i Angelion ef, a gochel gyd­nabyddiaeth dynion.

2. Rhaid bod cariad perffaith gen­nyt tuac at bawb, ond nid cymmwys yw, fod carwriaeth gennyt attynt, neu ffamiliaredd a hwynt.

Mae'n digwydd weithiau, i'r sôn y fydd am ryw vn, wneuthur iddo ddis­gleirio'n rhyfeddol, ond pan ddelir i'w adnabod yn bresennol, ni bydd es mor gymmeradwy gerbron ein go­lwg ni.

Yr ydym yn meddwl weithiau, ein bod ni'n rhyngu bodd i rai eraill wrth ein cyfeillach a hwynt: ac erhynny rydym yn hyttrach yn eu hanfoddhâu hwynt, oherwydd y drygioni y mae'n hwy'n ei ganfod ynom ni.

PEN. IX.
Am fod yn vfydd ac yn ostyngedic.

1. PEth mawr iawn ydyw, gallu aros yn vfydd-dod, a byw tan bennaeth heb fod dyn o'r eiddo eihun.

[Page 22]Llawer gwell yw byw'n ostyngedic tan vnarall, na bod yn bennaeth.

Mae llawer yn byw'n vfydd-dod o angenrhaid yn hyttrach, nac o gariad am fyw'n grefyddol: a mae'rheini'n byw'n flîn, a hawdd ganthynt gwyno a murmuro. Ond nis gallant gael rhydd-did meddwl ac enaid: oddi­eithr iddynt o waelod eu calon er­mwyn Duw ddarostwng eihunain.

Rhêd ymma, rhêd accw, ac nis cai mor llonyddwch, ond mewn vfydd­dod gostyngedic tan lywodraeth Pe­naethion.

Mae meddwl a dychymmyg-am newid y man a'r lle gwedi twyllo llaweroedd.

2. Gwîr yw, fod pob un yn ewy­llysgar i ddilyn ei feddwl eihun, a bod yn well gantho y sawl y fo o'r vn meddwl ac yntau.

Eithr os ydyw Duw gyda'n ni, rhaid ini weithiau ymwrthod a'n meddwl einhun, er mwyn cael daioni heddwch.

Pwy sy mor synhwyrol, a bod yn gallu gwybod pob peth yn llwyr?

Amhynny nad ymddirieda ormod [Page 23] yn dy feddwl dyhun: ond bydd fod­lon hefyd ac yn ewyllysgar i glywed meddwl rhai eraill.

Os da yw dy feddwl di, ac y ga­dewi hwnnw ermwyn Duw, ti a gai fwy llês o hynny.

3. Canys mynych y clywais, mae gwell a diogelach yw gwrando a chymmeryd cyngor, na'i roi.

Geill ddigwydd hefyd fod meddwl pob vn yn dda; eithr gwrthod cyttu­no a bodloni rhai eraill, pan fo rheswm ac achos yn gofyn, sydd arwydd o falchder a chyndynrwydd.

PEN. X.
Am ochelyd gormod siarad.

1. GOchel gymaint fyth ac a elli, ddyndwrdd y werin a phob rhawd o bobl: oblegid fod siarad am ddrafferthau bydol, yn rhwystro llawer iawn, er bod y sôn amdanynt yn syml ac heb feddwl drwg.

Oherwydd buan y llygrir ac y caethiwir ni a gwagedd.

[Page 24]Mi'fynnwn pettaswn lawer gwaith wedi tewi a sôn, ac heb fod ymmysg dynion.

Ond pam yr ydym mor ewyllysgar yn siarad, ac yn chwedleua wrth ein gilydd; gan nas dychwelwn ond yn anfynych i ddistewi, heb friwo'n cyd­wybod?

Amhynny'rydym mor ewyllysgar yn chwedleua oherwydd ein bod gan siarad y naill wrth y llall yn ceisio ym­ddiddanu'n gilydd, ac yn dymuno es­mwythâu'n calon wedi ei blino ag amryw feddyliau.

A da iawn gennym siarad a meddwl am y pethau'rydym yn eu hoffi ac yn eu dymuno fwyaf, neu am y rhai sy fwyaf i'n herbyn.

2. Eithr och y fi! lawer gwaith yn ofer ac yn ddiles: oblegid bod y diddanwch ymma oddiallan, yn achos o golled digon fawr o'r diddanwch duwfawl oddimewn.

Amhynny rhaid gwilio a gweddio rhag colli'r amser yn ddiogus.

Os rhydd yw iti siarad, a bod hyn­ny'n gymmwys, siarada am y peth a deilada dy gymydog.

[Page 25]Drwg arfer a diofalwch am lês ein henaid sy'n peri ini esgeuluso gwar­chad ein tafod.

Er hynny da iawni gael llês yspry­dol, yw cydymddiddan defosionol am bethau duwiol: yn enwedic lle bo cymdeithion o'r vn meddwl, ac o'r vn yspryd yn cydsiarad ynghyd gan gyfeillachu'n Nuw.

PEN. XI.
Am geisio heddwch, ac am fod yn wresog i gael llês ysprydol.

1. LLawer o heddwch a allem ei gael, oni bai'n bod ni yn ymdrafferthu a geiriau ac a gweithre­doedd rhai eraill, ac a phethau nid ydynt yn perthyn ddim i nyni.

Pafodd y geill ef barhau chwaith hîr yn heddwch, yr hwn sy'n gwthio eihunan i negessau a gofalon rhai era­ill? yr hwn sy'n ceisio achosion oddi­allan? yr hwn nid yw ond yn fychan neu'n anfynych, yn cynnull ei feddy­liau atto, i ystyried eihun oddimewn.

[Page 26]Gwyneubyd y rhai syml, canys mae heddwch mawr ganthynt hwy.

2. Pam y bu rhai o'r Seinct mor berffaith ac mor synniedigawl ar be­than ysprydol?

Am ddarsod iddynt farweiddio'n llwyr eu trachwantau daearol: ac amhynny roeddent o waelod eu calon yn gallu glynu wrth Dduw, ac edrych yn ddirwystr arnynt euhunain.

Rydym ni'n gadael i'n chwantau bydol wasgu gormod arnom, ac yn gofalu'n rhy fawr am bethau darso­dedic.

Anfynych hefyd y gorchfygwn vn bai'n hollawl: ac nid ydym yn gwre­sogi i geisio proffit ysprydol beunydd: amhynny yr ydym yn parhàu ynllwyr glaear ac yn oerllyd.

3. Pettem ni gwedi marw'n ho­llawl ini einhunain, ac heb ein rhwy­stro oddimewn; yna y gallem ym­glywed duwfawl bethau, a phrofi peth myfyrdod nefawl.

Y cwbl a'r mwyaf rhwystr ydyw, nad ydym yn rhydd oddiwrth ein gwyniau a'n trachwantan cnawdol, ac [Page 27] nas ceisiwn syned i mewn i berffaith ffordd y Seinct.

Oblegid pan ddelo gwrthwyneb bychan i ymgyfarfod a ni, rhy fuan y bwrir ni i-lawr, ac y troir ni i geisio cyssur gan ddynion.

4. Pettem ni'n gwneuthur ein go­reu, megis gwyrdewr i sefyll yn yr ymladd: ynddiau ni gaem weled cymmhorth ein Harglwydd o'r nef yn dyfod arnom.

Oherwydd ei fod ef yn barod i helpu'r sawl y fo'n ymladd yn wrol; ac yn gobeithio'n ei râs ef: ac yn danfon achos ini i ymladd fel y ga­llom orchfygu.

Os cyfrifwn fod proffit ein buchedd grefyddol, yn sefyll ynvnic ar y gwar­chadaethau hyn sydd oddiallan, buan y bydd diwedd o'n duwioldeb ni.

Eithr gosodwn y fwyall ar y bôn, fel gwedi'n glanhâu o'n gwynniau, y gallom feddiannu meddwl heddych­lon.

5. Pettem ni'n diwreiddio ond vn bai bob blwyddyn: buan y byddem yn ddynion perffaith.

[Page 28]Ond rwön rydym yn gweled y gwrthwyneb, a'n bod ni'n well ac o burach ein cydwybod yn nechreu ein hymarweddiad crefyddol, nac arol llawer blwyddyn o'n proffessiwn.

Ein gwrês a'n proffit ysprydol a ddylai chwanegu beunydd: ond yn­awr fe a welir yn beth mawr, os bydd gan ddyn ran o'r gwrês y fu gantho ar y cyntaf.

Pettem ni yn gweithio'n nerthol ac yn fforddrych yn y dechreu, yna y gallem wneuthur y cwbl wedi hynny'n rhwydd ac yn llawen iawn.

6. Blîn ydyw gadael y pethau y syddem yn arfer eu gwneuthur, ond blinach yw mynd yn erbyn ein hewy­llys einhun.

Eithr odd eithr iti orchsygu pe­thau ysgafn a bychain, pabryd y cei di y maes ar y pethau y fo calettach?

Sâf yn erbyn dy duedd drwg yn y dechreu, a gollwng ynanghof dy ar­serau beius: rhag iddynt dy ddwyn di bob ychydic i fwy anhawsder.

Oh! pettiti yn ystyried, pafaint o heddwch a wnait iti dyhun, ac o law­enydd [Page 29] i eraill wrth ymddwyn dyhun­an yn dda, rwyf yn meddwl y byddit yn ofalach i geisio proffit ysprydol.

PEN. XII.
Am lês Adfyd.

1. DA ydyw ini weithiau gael peth blinderau a gwrthwyne­bau: am eu bod yn fynych yn peri i ddyn droi i mewn atto eihunan, a gwybod ei fod ef ymma mewn deo­liad, ac na ddylai ef ddodi ei ymddi­ried ar ddim ac sydd yn y byd.

Da ydyw ini weithiau, fod rhai eraill yn dywedyd yn ein herbyn, a'i bod hwy'n meddwl yn ddrwg ac ar gam amdanom ni, er ein bod ni'n gwneuthur ac yn meddwl yn dda. Oblegid fod hynny'n ein cadw ni'n fynych mewn gostyngeiddrwydd, ac yn ein hamddiffyn ni rhag gwâg falchder.

Canys y pryd hynny, goreu y cei­siwn ni Dduw'n dyst ini oddimewn▪ pan fo dynion oddiallan yn ein dibri­sio [Page 30] ni, ac heb sod yn ein coelio ni.

2. Amhynny fe a ddylai dyn ddio­gelu eihunan yn Nuw, yn y modd ac na bo rhaid iddo geisio nemmor o gyssur gan ddynion.

Pan y bo dyn o ewyllys da'n cael ei ofidio, neu'i demptio, neu'i flino â meddyliau drwg, yna a dyall ef fod Duw'n lwyr angenrheidiol iddo, heb yr hwn, y gwêl, nas geill ef wneuthur dim da.

Yna y tristhâ ef, y cwynfanna, ac y gweddia oherwydd y trueni a'r blinedd y mae ef yn eu dioddef.

Yna y bydd blîn gantho fyw'n hwy, ac y dymuna gael marw: sel y caffo ei ymddattod a bod gyda Christ.

Yna hefyd y cenfydd ef yn llwyr, nas gellir cael diogelwch perffaith, na he­ddwch cyflawn yn y byd ymma.

PEN. XIII.
Am wrthsefyll temptatiwnau.

1. TRA fyddom fwy'n byd, nis gallwn mor bod heb flinder a themptasiwn.

[Page 31]Amhynny y mae'n scrifennedic yn Job: Milwriaeth neu demptatiwn yw bywyd dyn ar y ddaear, Job 7. 1.

Ac amhynny pob vn a ddylai fod yn ofalus ar ei demptatiwnau, a gwi­lio mewn gweddiau, rhag i'r Cythraul gael lle i'w dwyllo: yr hwn nid yw'n cysgu vnamser nac yn heppian, eithr yn myned o amgylch gan geisio'r neb a allo i'w lyncu.

Nid oes neb mor berffaith a san­ctaidd, nad yw weithiau mewn tem­ptasiwn, ac nis gallwn fod hebddynt yn hollawl.

2. Erhynny mynych y mae tempta­siwn au yn lesol iawn i ddyn, perhon a'i bod yn flin ac yn ofidus: oblegid ynddynt y gostyngeiddir, y purir ac y dyscir dyn.

Fe a aeth yr holl Seinct trwy lawer o drallodau a themptasiwnau, ac a gowsant lês mawr ynddynt.

A'r sawl ni allasant ddioddef tem­ptasiwnau a aethant yn reprofedic, a ddarfu amdanynt, ac a gollwyd oddi­wrth Dduw.

Nid oes vn Order mor sanctaidd, [Page 32] nac un fann mor ddirgel, lle nid oes temptasiwnau a gwrthwynebau.

Ni bydd dyn yn gwbl ddiogel rhag temptasiwnau tra fytho fyw: am fod y peth ynom ni, a'r hyn y temptir ni, er pan y ganwyd ni mewn pe­chod.

Pan elo vn blinder neu demptasiwn heibio, fe a ddaw vnarall yn ei le: a rhywbeth y fydd gennym i'w ddio­ddef bobamser, am ein bod ni wedi colli daioni ein dedwyddwch dechreu­ol.

Mae rhai'n ceisio ffo rhag tempta­siwnau, ac yn cwympo'n drymmach ac yn waeth ynddynt.

Nid wrth gilio a ffo'n vnic oddiwr­thynt, y mae ini eu gorchfygu hwynt: ond trwy wîr ostyngeiddrwydd ac ymddioddef a down ni i fod yn gry­fach ac yn ddewrach na'n gelynnion oll.

4. Pwybynnac a'i gochelo hwynt oddiallan yn vnic, heb eu tynnu ifyn­ydd wrth y gwraidd ni chaiff hwnnw nemmor o lês: ie fe a dry'r temtasi­wnau yn eu-hol yn gynt atto: a fe a [Page 33] gaiff glywed eihunan yn waeth nac o'r blaen.

Bobychydic, a thrwy ddioddefgar­wch gyda hîr ymmynedd, a chym­morth Duw y gorchfygi di hwynt yn well na thrwy dy lymder dyhun, gan fod yn rhy daer ac yn fforddrych.

Cais gyngor ynfynych mewn tem­ptatiwn: ac na fydd yn rhy daer a llym wrth vnarall yn ei brofedigaeth: ond bydd fwyn wrtho gan roddi cyf­sur iddo, megis y dymuniti dyhunan.

5. Dechreu pob drwg demptasiwn yw anwadalrwydd meddwl, a bychan o ymddiried yn Nuw.

Oblegid megis y gyrr y gwynt a'r tonnau ymma ac accw y llong y fo heb lyw iddi: felly y temptir mewn amryw foddion y dyn llacc diofal y fo gwedi gadael ei fwriad da.

Y tân a brawf yr haiarn, a them­ptasiwn y dyn cyfion.

Nis gwyddom ynfynych pabeth a allwn: ond mae temptasiwn yn dan­gos pabeth ydym.

Rhaid gwilio erhynny, yn bennaf ar ddechreuad y temptasiwn: am fod [Page 34] yn haws gorchfygu y gelyn y pryd­hynny, os nadir iddo ddyfod i mewn i'r porth: ond sefyll yn ei erbyn, cyn gynted ac y dechreuo guro wrth ddrws yr enaid. Amhynny y dywe­dodd vn:

Saf ynerbyn y dechreuadau: rhy hwyr y ceisir meddyginiaeth pan so'r clefyd gwedi mynd yn drech.

Canys yngyntaf meddwl syml a ddaw i'r côf: gwedi hynny dychym­myg cryf: yna difyrrwch a drwg ym­gyffro, a chydsynniad.

Ac felly y mae'r gelyn melltigedic bobychydic yn dyfod i mewn yn ho­llawl, am nas sesir yn ei erbyn ef ar y dechreu.

Ac o bafaint hwy y bo dyn yn ddiog i'w wrthsefyll ef: gwannach o hynny y bydd ef beunydd, a chryfach y fydd y gelyn yn ei erbyn ef.

6. Mae rhai'n dioddef y temptasi­wnau llymmaf ar ddechreu eu troad at Dduw: ac eraill yn y ddiwedd.

Eithr rhai a gânt eu molestu â themptasiwnau agos trwy holl amser eu bywyd.

[Page 35]Nid yw rhai'n cael eu temptio ond yn ddigon yscafn, ynol doethineb ei gyfiawnder a'i ragluniaeth ef, yr hwn sy'n ystyried cyflwr a haeddedigae­thau dynion, ac yn ordeinio'r cwbl er­mwyn iachawdwriaeth ei Etholedigi­on.

Amhynny nad anobeithiwn ddim, pan y temptir ni, ond gweddiwn ar Dduw'n daerach, ar fod yn wiw gan­tho ein cadw ni ymmhob gofid a bli­nedd: yr hwn ynddiau, ynol gair S. Pawl, A drefna'r temptatiwn yn y modd ac y byddom abl i'w ddioddef. 1 Cor. 10. 13.

Gostyngeiddiwn ganhynny ein he­neidiau tan law Duw ymmhob tem­ptasiwn a blinfyd: oherwydd ei fod ef yn cadw ac yn dyrchafu y rhai gostyn­gedico yspryd.

8. Mewn temptasiwnau a thrallo­dau y profir dyn, ac y gwybyddir pa­faint y mae ef wedi proffitio: ac yno y mae mwy haeddiant, a rhinwedd yn ymddangos yn well.

Nid peth mawr yw bod yn dduw­iol ac yn wresog mewn defosiwn, pan [Page 36] so dyn heb ymglywed ynddo eihun na blinedd na thrymder: ond os yn amser gwrthyneb a gofid, yr ymddug ef eihun yn ddioddefgar, mae gobaith o broffit mawr ynddo.

Mae rhai yn cael eu cadw rhag tem­ptasiwnau mowrion, a'i gorchfygu'n fynych beunydd yn y rhai bychain: fel gwedi eu gostyngeiddio, nad ym­ddiriedant byth ynddynt euhun mewn temptasiwnau mowrion, gan eu bod yn dangos euhunain cyn wan­ned yn y rhai sy mor ysgafn a bychain.

PEN. XIV.
Am ochelyd barnau byrbwyll.

1. TRO dy olygon attat dyhu­nan, a gochel farnu gwei­thredoedd rhai eraill. Mae dyn wrth farnu rhai eraill yn gwneuthur peth ofer, yn camgymmeryd ynfynych, ac yn pechu'n hawdd: ond wrth farnu eihunan a chwilio ei gydwybod, fe a wna bobamser beth da iawn a llessol.

Megis y byddwn yn hoffi'r peth, [Page 37] felly'n fynych y barnwn amdano: oherwydd fod dirgel gariad arnom einhun, gwedi dwyn iawn farnu oddi­wrthom.

Pettai Dduw bobamser yn bûr amcan ein hewyllys ni, nid aflonyddid ni mor hawdd gan wrthsefyll ein me­ddwl.

2. Ond mynych y mae rhywbeth oddimewn yn guddiedic, neu hefyd oddiallan yn digwydd, yr hwn sy'n ein tynnu ni gydag ef.

Mae llawer yn guddiedic yn ceisio euhunain yn eu gweithredoedd, ac heb wybod mo hynny.

Fe a dybygid eu bod hwy'n sefyll mewn heddwch da, tra fo pethau yn mynd ynol eu hewyllys a'i meddwl hwy: ond os digwyddant yn amge­nach nac y mynnent hwy, buan yr ânt yn drist ac yn aflonydd.

Oherwydd amrywiaeth meddwl ac opiniwnau, mynych y cyfyd anghy­tundeb rhwng cyfeillion a thrigian­nolion yr vn drêf, rhwng pobl grefy­ddol a defofionol.

3. Anodd yr ymadawir a hên arfer, [Page 38] ac nid oes neb yn fodlon i ganfod ymmhellach nac y mynno ef eihun.

Os wyti'n pwyso'n fwy ar dy re­swm a'th ddyfalwch dyhun, nac ar rinweddol vfydd-dod i Jesu Chrîst, anfynych a hwyr y byddi'n ddyn wedi ei lewyrchu o'r nêf: am fod Duw'n mynnu gennym ddarostwng einhun­ain yn berffaith iddo ef, a thrwy ga­riad tanbaid amdano, hedeg vwchben pob rheswm dynol.

PEN. XV.
Am y gweithredoedd a wneir mewn Cariad perffaith.

1. NI ddylid, nac er dim yn y byd, nac er mwyn cariad ar vndyn pwybynnac y so, gwneuthur rhyw ddrwg: ond ermwyn vn y fai mewn rhaid, fe a ddylid gadael gwaith da weithiau heb ei wneuthur, neu'n hyttrach ei newid ef am vn y fai'n well.

Oblegid nad ydys wrthynny'n co­lli'r gwaith hwnnw, ond yn ei gyf­newid [Page 39] ef am vn o fwy haeddiant.

Heb gariad perffaith ni thâl y gwaith oddiallan ddim: ond beth­bynnac a wnelir trwy gariad perffaith, er bychaned ac er gwaeled y fo, y fydd ynyman yn lesfawr ac yn ffrwythlon.

Am fod Duw'n ystyried o bafaint ewyllys da y bo dyn yn gwneuthur peth, yn hyttrach na pafaint a wnelo.

2. Mae ef yn gwneuthur llawer, y fo'n caru llawer.

Mae ef yn gwneuthur llawer, a wnelo'r peth yn dda.

Mae ef yn gwneuthur y peth yn dda, y fo'n gwasanaethu'r cyffredin­rwydd yn fwy na'i ewyllys eihun.

Llawer gwaith y mae'r peth yn ymddangos megis cariad perffaith; ac nid yw ond cnawdolrwydd: oble­gid anfynych y bydd tuedd naturiol, ewyllys dyn eihun, gobaith am gael tâl, neu chwant cael rhyw gymmwy­nas, heb fod yn gymmysg a'r peth.

3. Nid yw'r neb sydd a gwîr ga­riad perffaith gantho, yn ceisio eihun mewn dim yn y byd: ond ymmhob peth mae ef yn chwennych gogone­ddu Duw'n vnic.

[Page 40]Nid yw ef chwaith yn cenfigennu neb: am nad ydyw yn ceisio dim llawenydd neilltuol iddo eihun, ond yn chwennychu cael gwynfyd yn Nuw vwchben pob peth.

Nid yw ef yn pennu dim daioni ar vn dyn, ond ar Dduw'n hollawl, o'r hwn y mae'r cwbl yn dyfod, fel y mae'r gofer o'r ffynnon: yn y rhwn y mae'r holl Sainct yn gorphwys yn or­phennol, ac yn meddiannu ei ogoni­ant ef.

Oh! pe bai gan ddyn vn wreichio­nen o gariad perffaith, ynddiau ef a gai weled pob peth daearol yn llawn o wagedd.

PEN. XVI.
Am ddioddef beiau a methiant rhai eraill.

1. RHaid i ddyn yn ddioddefgar ddwyn yr hyn nis gallo mo'i emendio ynddo eihun neu'n vnarall, hyd oni welo Duw'n dda drefnu'r peth yn amgenach.

[Page 41]Meddwl mai gwell yw felly, er­mwyn dy brofi di: ac iti arfer dio­ddefgarwch, heb yr hwn nid oes fawr brîs ar ein haeddiannau ni.

Ti ddylit erhynny weddio'n erbyn y cyfryw rwystrau, i Dduw deilyngu dy gymmorth di, fel y gelli ddio­ddef yn ddaionus.

2. Os gwedi vn rhybydd neu ddau, ni bydd dyn yn fodlon, na ddôs i ymryson ac i ymdaeru ac ef: ond gorchymmyn y cwbl i Dduw, fel y gwneler ei ewyllys ai anrhydedd ef, yr hwn a fedr yn gymmwys droi'r drwg yn dda.

Cais ddwyn beiau rhai eraill yn ddioddefgar, a'i gwendidau hwynt o ba sath bynnac y byddont: oblegid fod ynotithau lawer peth sy raid i eraill eu dioddef.

Onis gelli di wneuthur dyhunan y cyfryw ac a fynnit, pafodd y mynni di gael unarall wrth dy fodd di?

Da gennym gael rhai eraill yn ber­ffaith, ac etto ni fynnwn ni emendio mo'n beiau einhunain.

3. Ni fynnwn i rai eraill gael eu [Page 42] ceryddu'n llym, ac ni fynnwn ni ddim, i nyni gael ein ceryddu.

Mae'n chwith gennym weled he­laeth rydd-did rhai eraill, ac erhynny ni fynnwn ni mor neccâu ini y peth y fyddom yn ei geisio.

Ni fynnwn wasgu rhai eraill â rheolau caeth, ac nis mynnwn ni einhunain ddioddef ein gwahardd rhag dim.

Ac felly mae'n amlwg mor anfy­nych y mynnwn ein pwyso yn yr vn cloriau a'n cymydoc.

Pe bai pawb yn berffaith, beth y fyddai y pryd hynny i'w ddioddef gan eraill ermwyn Duw?

4. Ond rwön mae Duw gwedi trefnu'n llyn, fel y dyscom ddwyn beichiau y naill y llall: oblegid nid oes neb heb ddiffyg arno, nid oes neb heb ei faich, nid oes neb yn ddigonol iddo eihun, nid oes neb yn gwbl call i gyfarwyddo eihun: ond mae'n rhaid ini ddioddef eingilydd, diddanu eingilydd, cymmhorth eingilydd, dy­scu a rhybyddio eingilydd.

Eithr pafaint yw rhinwedd pob vn, a [Page 43] welir yn well ar achlysur adfyd ac an­ghydfod.

Oblegid nid yr achlysurau sy'n gwneuthur dyn yn wann: ond mae'n hwy'n dangos pabeth ydyw ef.

PEN. XVII.
Am fuchedd grefyddol.

1. RHaid iti ddyscu torri dy ewy­llys a gorchfygu dyhunan yn llawer o bethau, os mynni di gael cyttundeb a heddwch wrth fyw gy­dag eraill.

Nid peth bychan yw byw yn y Monachlogydd, neu mewn cynlleidfa a byw yno heb ddim achwyn amda­no, a pharhâu yn ffyddlon hyd at angeu.

Gwyneifyd a fytho fyw yno'n dda, ac a wnelo ddiwedd dedwydd.

Os mynni di fyw'n iawn, cael lles, a chynnyddu, dwg dyhun megis diei­thryn pellennig ar y ddaear.

Rhaid iti fod yn ffôl ermwyn Chrîst os mynni di fyw mewn bu­chedd grefyddol.

[Page 44]2. Ni wna'r Wisg ac Eilliad y pen fawr lês: ond newid moesau ac ar­ferau, gydag hollawl farweiddio'r an­wydau drwg sy'n gwneuthur dyn yn wîr grefyddol.

Y neb y fo'n ceisio dim arall ond Duw'n vnic, a iachawdwriaeth ei en­aid, nis caiff ond gofid a dolur.

Ni eill hefyd sefyll yn hîr heddy­chol, y neb ni fo'n ceisio bod yn lleiaf oll, ac yn ostyngedic i bawb.

3. I wasan aethu y daethost di, nid i reoli: bid yspys iti, mai i ddioddef, ac i weithio y galwyd arnat, ac nid i sod yn segur ac i chwedleua.

Ymma ganhynny y profir dynion, megis yr aur yn y ffwrnes.

Ymma ni all neb sefyll, oddieithr iddo o waelod ei galon ostyngeiddio eihunan ermwyn Duw.

PEN. XVIII.
Am esamplau y Tadau Sanctaidd.

1. EDrych ar fywiol esamplau y Tadau Sanctaidd yn y rhai [Page 45] yr oedd crefydd a gwir berffeithr­wydd yn disgleirio, a thi a gai weled nad yw ond bychan, ac ond agos dim yr hyn yr ydym ni'n ei wneuthur.

Och y fi! pabeth yw'n buchedd ni i'w chymmharu a'i buchedd hwy?

Yr oedd y Seinct ac Anwylion Christ yn gwasanaethu'n Harglwydd mewn newyn a syched, mewn anwyd a noethni, mewn poen a blinder wrth wilio ac ymprydio, mewn gweddiau a myfyrdodau sanctaidd, mewn erlid mawr, a llawer o ammharch a sarhaad.

2. Oh! pafaint ac mor drymmion oedd y trallodau a ddioddefodd yr Apostolion, y Merthyri, y Confesso­riaid, y Gwyryson a'r lleill igyd a fynnasant ganlyn arol Christ?

Oblegid eu bod hwy'n cashâu eu bywyd yny byd ymma, ermwyn safio eu heneidiau yn y bywyd tragywyddol.

Oh! mor erwin a thlawd oedd buchedd y Tadau sanctaidd yn yr anialwch? cyhyd a thrymmed oedd temptasiwnau a ddioddefasant hwy? mor aml ac mor danbaid oedd y gwe­ddiau a offrymmasant i Dduw? mor [Page 46] galed yr oeddent yn dirwestu ac yn ymprydio? mor ddirfawr oedd eu Sanctaidd eiddigedd a'i gwrês hwynt i gael ynnill ysprydol? mor nerthol yr ymladdasant i ddofi'r cnawd? mor bur ac vnion oedd y bryd yr oeddent yn ei ddal tuacat Dduw?

Trwy'r dydd yr oeddent yn gwei­thio, ac yn treulio'r nôs gan hirbar­hâu mewn gweddiau, perhon nad oe­ddent wrth weithio yn peidio a gwe­ddio ar feddwl.

3. Yr oeddent yn gwario'r holl amser yn lesol: yr oeddent yn gwe­led pob awr yn ferr wrth weddio ar Dduw; ac o dra melysrwydd myfyr­dod hwy a ollyngent luniaeth y corph ynanghof.

Yr oeddent yn gwrthod pob cy­foeth, pob parch, pob anrhydedd, pob cymdeithas lawen, a charedigr­wydd ceraint: nid oeddent yn chwen­nych cael dim o'r byd, prin y cym­merent bethau angenrheidiol i fyw, a blîn oedd ganthynt wasanaethu'r corph yn ei eisiau.

Tlodion ganhynny oeddent o be­thau [Page 47] daearol, ond cyfoethogion iawn mewn grâs a rhinweddau.

Oddiallan yr oeddent yn anghen­nus: ond oddimewn yn cael eu llen­wi a'i llonni a grâs ac a diddanwch ysprydol.

4. Dieithron oeddent ac estroniaid i'r byd, ond anwylion cyfagos a chy­feillion cartrefol i Dduw.

Yn eu gwydd euhun yr oeddent me­gis yn ddim, ac yn ddibris ac yn ddiy­styr gan ybyd ymma: ond yngwydd Duw yn werthfawr ac yn anwylgu.

Yr oeddent yn sefyl mewn gwîr ostyngeiddrwydd, yn byw mewn syml vsydd-dod, yn rhodio mewn ca­riad perffaith a dioddefgarwch: ac amhynny yr oeddent beunydd yn my­ned rhagddynt yn yr yspryd, ac yn cael grâs gerbron Duw.

Rhoddwyd hwynt yn esampl i'r holl bobl grefyddol: a hwy a ddylent ein hannog ni'n fwy i gynnuddu me­wn rhinweddau na holl nifer y rhai lledtwym goglear i ymollwng yn yr yspryd.

5. Oh! pafaint y fu gwresogrwydd [Page 48] yr holl ddynion crefyddol yn nechreu eu sanctaidd Institwsiwn hwynt?

Pafaint oedd eu defosiwn hwy wrth weddio? pafaint yr oeddent yn ceisio rhagori y naill y llall mewn rhinweddau? mor fanwl y dilynent eu trefn crefyddol? pafaint oedd eu parch hwynt tuacat eu Panaethion, a'i hufydd-dod tan ddisgyblaeth eu meistri ymmhob rhyw beth?

Mae eu hôl-traed hwynt, sydd et­to'n parhâu, yn testiolaethu mai gwîr berffaith a sanctaidd ddynion oe­ddent, y rhai gan filwrio mor fywiog a orchfygasant y byd.

Mawr a welir rwön, os bydd rhyw vn heb fod yn droseddwr: os neb trwy ddioddefgarwch a eill fyned trwy'r hyn a gymmerodd arno.

6. Och ar glaearedd a diofalwch ein cyflwr ni, am ein bod ni cyn gyn­ted yn flîn gennym fyw o ddiogi a musgrelli.

Oh! na bai ewyllys am geisio cyn­nyddu mewn rhinweddau heb fod gwedi cysgu'n hollawl ynoti, yr hwn a welaist yn fynych lawer o esamplau y rhai defosionol.

PEN. XIX.
Am weithredoedd Crefyddwr da.

1. BUchedd dyn crefyddol a ddylai ddisgleirio a phob math o rinweddau: fel y bytho cyfryw oddi­mewn ac y mae'n ymddangos oddi­maes.

A da yr haeddai, fod llawer mwy oddimewn, nac ydys yn ei ganfod oddiallan: am fod Duw'n gweled ein calon, yr hwn a ddylem ei anrhyde­ddu'n fawr iawn ymmha le bynnac y byddom, ac megis Angelion rhodio mewn purdeb yn ei olwg ef.

Pob dydd y dylem adnewyddu ein bwriad da, a chyffroi einhunain i fod yn wresog, megis pettem heddyw gyntaf wedi troi at Dduw, a dywe­dyd:

Cymmhorth fi, O sy Arglwydd Dduw, yn fy mwriad da, ac yn dy sanctaidd wasanaeth di: a dyro imi heddyw ddechreu'n berffeithlon, am nad yw ond dim yr hyn a wneuthym hyd yn hyn.

[Page 50]2. Ynol ein bwriad y bydd rhedfa ein cynnydd, a rhaid bod llawer o ddyfalwch gan y neb y so'n mynnu proffitio.

Ond os bydd y neb y so'n bwria­du'n ddewr ac yn wrol, lawer gwaith yn ddiffygiol▪ beth a wna'r neb nid yw'n bwriadu ond yn ansynych ac yn anwadal?

Trwy amryw soddion erhynny y mae gadael ein bwriad da m'n di­gwydd: ac odid y bydd tippyn o es­geuluso 'n duwiol arferau yn myned heibio hebryw golled.

Mae bwriad y rhai cyfion yn diben­nu ar râs Duw, yn hyttrach nac ar eu synwyr hwy euhun: ac ynddo ef y mae'n hwy yn ymddiried bobamser, pabeth bynnac a amcanant.

Canys dyn sy'n bwriadu, ond Duw sy'n dosparthu, ac nid oes yn nyn ei ffordd eihunan.

3. Os i wneuthur daioni i vnarall, neu ermwyn llês ein cymydog, y ga­dewir rhyw ddesosiwn arferol heb ei gyflawni, hawdd y fydd wedi hyn­ny dyfod ohyd i'r ffrwyth a'r llês.

[Page 51]Ond os o ran blinedd yspryd a dio­gi neu ddiofalwch y gadewir yn hawdd ryw waith da heb ei wneuthur, digon beius y fydd, colledic a niwei­diol y clywir. Gwnawn gymmaint fyth ac allom o egni, erhynny hawdd y methwn yn llawer o bethau.

Ac etto mae'n rhaid bobamser bw­riadu rhwybeth yn neilltuol ac ynben­naf ynerbyn y pethau sy'n ein rhwy­stro ni fwyaf.

Rhaid ini chwilio a threfnu ein gweithredoedd yn gystal oddiallan ac oddimewn, oblegid fod pob vn o'r ddau'n angenrheidiol ini i fyned rha­gom mewn rhinweddau.

4. Onis gelli di recolectio dyhun bobamser, etto gwna hynny ambell weithiau, o'r hyn lleiaf vnwaith yn y dydd, sef y nôs a'r bore.

Y bore bwriada'n dda, a'r hwyr chwilia dy gydwybod, pa beth a wnae­thost ar feddwl, gair a gweithred: oblegid dy fod ysgatfydd, yn y rhei­ni'n fynych wedi digio Duw a'th gy­mydoc.

Gwregysa dyhun megis gwr yner­byn [Page 52] drygioni'r Cythraul: cadw rhag glothineb, a thi a orchfygi'n haws bob drwg duedd y cnawd▪

Na fydd unamser yn hollawl segur: ond naill ai'n darllain, ai'n scrifennu, ai'n gweddio, ai'n myfyrio, ai'n gw­neuthur rhywbeth ar lês y cyffredin­rwydd.

Eithr rhaid trîn gweithredoedd corphoral yn bwyllog, ac nid ydynt i'w cymmeryd gan bawb yn gymme­sur neu o'r vnwaith.

5. Ni ddylid dangos oddiallan y defosiwnau nid ydynt cyffredin: ob­legid gwell y gwnair yn ddirgel yr hyn nid yw'n gynnefin.

Erhynny gochel fod yn ddiog i gyflawni pethau cyffredin: ac yn rhygl barod i wneuthur yr hyn y fo hoff gennyti: ond wedi gorphen yn llwyr ac yn ffyddlon yr hyn sy ddŷle­dus ac a erchwyd, os bydd ennyd gennyt, gwna'r hyn a fynni, fel y mae dy ddefosiwn yn gofyn.

Ni eill pawb arfer yr vnrhyw exer­sisiau; ond mae'r naill yn gwasanae­thu vn, a'r llall yn addasach i vnarall.

[Page 53]Mae amryw exersisiau hefyd yn rhyngu bodd ini ynol yr amryw am­seroedd: am fod rhai yn ein bodloni ni ar ddyddiau gwyl, a rhai eraill ar ddyddiau gwaith.

Mae'n rhaid wrth y rhain yn amser temptasiwn, ac wrth y rheini 'n am­ser heddwch a gorphwys.

Da gennym y rhai hyn pan fy­ddom yn drist, a gwell gennym fe­ddwl am bethau eraill pan fyddom yn llawen yn ein Harglwydd.

6. Ar y prîf Wyliau mae'n rhaid adnewyddu'n duwiol arferau: a go­fyn cyfrwng y Seinct a gweddiau taerach.

Gwnawn fwriadau da o Wyl i Wyl, megis pettem y pryd hynny i fyned allan o'r byd ymma, ac i fynd i fynu i'r Wyl dragywyddol.

Amhynny ni ddylem barotoi ein­hunain yn ofalus ar amseroedd da, ac ymarwedd einhun a mwy defosiwn, a chadw pob duwiol arferau'n▪ ddyfa­lach: megis rhai'n disgwyl ar fyrder, cael taledigaeth gan Dduw am ein gwaith.

[Page 54]7. Ac os oedir hynny, coeliwn nad ydym etto'n barod, a'n bod ni'n an­nheilwng o gymmaint gogoniant ac a ddatcuddir ynom ni ar yr amser sy wedi ei appwyntio, a cheisiwn baro­toi ein hunain yn well i farw.

Gwyneifyd y gwâs (medd yr E­fangylwr S. Lwcas) yr hwn pan dde­lo ei Arglwydd ef a gaiff yn gwilio, amen, meddaf i chwi, ef a'i gesyd ef ar y cwbl o'i ddaoedd, Luc. 12. 43.

PEN. XX.
Am hoffi bod wrtho eihun, ac yn ddistaw.

1. CAis amser cyfaddas i edrych amdanat dyhun, a meddwl yn fynych am yr amryw ddaoedd a gefaist gan Dduw.

Gad heibio bethau cuwriows.

Darllain y matterion a berant gy­studd calon ynot, yn hyttrach nac ym­drafferthau a helbul.

Os tydi a gedwi dyhun rhag gor­mod siarad, a rhag ofer amgylchro­dio, [Page 55] megis hefyd rhag clywed newy­ddion, a'r son a'r chwedlau cyffredin; ti a gai ddigon o amser cyfaddas i fy­fyrio'n dduwiol.

Roedd y rhai mwyaf o'r Sainct, pan allent yn arfer gochel cyfeillach dy­nion, ac yn dewis byw mewn dir­gelwch gyda Duw.

2. Vn a ddywedodd: cynnifer gwaith ac y bum ymmlith dynion, mi a ddychwelais oddiwrthynt yn llai dyn. Mynych yr ydym yn profi hyn yn wîr gwedi hîr-ymsiarad.

Haws yw tewi'n hollawl, na go­chel troseddu mewn geiriau.

Haws yw, i ddyn ymguddio gar­tref, na dwyn eihun fel y dylai oddi­cartref.

Y neb ganhynny y fo'n ceisio mynd yn ddyn rhadlawn ac ysprydol, a ddy­lai gyda'r Jesu ochel tyrfa'r bobloedd.

Ni all neb rodio allan yn ddiofal, ond y fo da gantho gadw gartref.

Ni all neb siarad yn ddiofal, ond y fo da gantho dewi.

Ni all neb orchymmyn yn ddiofal, ond y neb a ddysgodd yn dda vfydd­hâu.

[Page 56]3. Ni all neb lawenhâu'n ddiofal, onis bydd testiolaeth cydwybod dda gantho.

Erhynny roedd diofalwch y Sainct bobamser yn llawn o ofn Duw.

Ac nid oeddent yn llai gofalus a gostyngedic ynddynt euhun, am eu bod yn disgleirio mewn rhinweddau mawr a grâs.

Eithr diofalwch y rhai annuwiol sy'n codi allan o'i balchder a'i rhyfyg hwynt, ac o'r diwedd yn eu twyllo hwynt yn anfeidrol.

Byth nad addaw ddiofalwch iti dy­hun yn y bywyd ymma, perhon a'th fod yn Grefyddwr da, neu'n Feudwy duwiol.

4. Llawer gwaith y bu y rhai go­reu, ynol barn dynion, fwyaf mewn pergyl: oherwydd eu gormod hyder hwynt.

Amhynny da ydyw ar lês llawer, nad ydynt yn hollawl heb demptasi­wnau, eithr yn fynych yn dioddef curo ac ymgyrch y gelyn: rhag i­ddynt fod yn rhy ddiofal: rhag mynd yn falch: rhag llithro hefyd yn rhwy­ddach [Page 57] i gymmeryd y diddanwch sydd oddiallan, neu ryw gyssur bydol a darfodedic.

Oh! mor dda a happys y fyddau cydwybod y neb, nad ai, unamser i geisio diddanwch darfodedic, nad elai byth i ymdrafferthu a'r byd?

Oh pafaint y fyddai heddwch ac efmwythdra'r neb a fwriai ymmaith bob gwâg ofalwch, ac a feddyliai'n vnic am bethau duwfol a da ar lês ei enaid, ac a osodai ei holl obaith ar Dduw?

5. Nid oes neb yn deilwng i gael cyssur nefol, oddiethr iddo ymarfer eihun yn ddyfal yn sanctaidd edifei­rwch.

Os mynni di edifarhâu o waelod dy galon, dos i mewn i'th orweddle, a gyrr allan oddiwrthyt bob tyrfa'r byd, megis y mae'n scrifennedic: Edifarhewch yn eich gorweddleoedd. Psal. 4. 5. Yn dy gell y cai di'r hyn, a golli'n fynych wrth fod allan ohoni.

Os tydi a drigi'n dda'n dy gell, hi fydd yn felus ac yn hoff iti: ond onis parhei di ynddi, hi fydd yn flîn ac yn wael gennyt.

[Page 58]Os cadw i mewn yn dy gell a wnai, a thrigo'n dda ynddi ar ddechreu dy droad at Dduw, hi fydd wedi hynny'n gyfeilles hôff iti, ac yn ddiddanwch tracymmeradwy.

6. Mewn distawrwydd a llony­ddwch y mae'r enaid defosionol yn proffittio ymmhob grâs a daioni, ac yn dysgu dirgeleddion y Scrythurau Sanctaidd.

Yno y mae ef yn cael llifeiriannau o ddagrau, â rhai y geill ef olchi bob nôs a glanhâu eihunan: fel y bo'n anwylach gerbron ei Greawdr, o ba­faint pellach y bytho o bob trwst a helbul bydol.

Y neb ganhynny a dynno eihun oddiwrth ei gyfellion a'i gydnabyddi­on, Duw a'i Angelion a neshâant atto.

Gwell yw i ddyn ymguddio, a go­falu amdano eihun, na gan esgeuluso eihunan, gwneuthur gwyrthiau ac arwyddion rhyfeddol.

Peth canmoledic yn nyn ysprydol yw mynd allan ynanfynych, gochel rhag cael i weled, a bod heb fynnu myned i edrych ar ddynion.

[Page 59]7. Pam y mynni di edrych ar y peth nid yw cyfreithlon iti ei gael? mae'r byd a'i drachwantau, a'i ddigri­fwch oll yn passio heibio'n ddisym­mwth.

Mae trachwantau cnawdol yn tyn­nu dyn i rodio i'maes ac o amgylch: ond pan fo'r awr wedi darfod, beth y mae'n ei ddwyn adref, ond trymder cydwybod a gwasgar'yspryd?

Mynych y mae llawen fyned allan, yn peri dychwelyd trîst: a digrif no­swyliad yn gwneuthur boregwaith prydd.

Felly y mae pob llawenydd cnaw­dol yn dyfod i mewn yn ddigrif ac yn esmwyth dêg: ond o'r diwedd mae ef yn brathu ac yn llâdd.

Beth a elli di ei weled mewn lle arall, nad wyt yn ei weled ymma? wele'r Nef a'r Ddaear, a'r holl Ele­mentau, canys o'rhain y gwnaed y cwbl.

8. Beth a elli di ei weled yn vnman, a all barhâu chwaith hîr tan yr haul?

Ai coelio yr wyt y gelli di gael dy [Page 60] ddigoni? eithr ni elli mor cyrhae­ddyd at hynny.

Pettit'n gweled y cwbl o'r pethau presennol ymma, beth y fyddai hyn­ny igyd ond golwg ofer?

Cod dy olygon ifynu tuagat Dduw'n yr vchelderoedd, a gweddia ar Dduw am gael maddeuant o'th be­chodau a'th gamweddau.

Gâd bethau ofer i rai ofer: eithr tydi gwilia ar y pethau a orchymmyn­nodd Duw iti.

Caúa dy ddrws arnat, a galw ar yr Jesu dy Anwylyd cu attat.

Triga gydag ef yn dy gell, oble­gid nis cai di gymmaint o heddwch yn vnman arall.

Pettasiti heb fyned allan, ac heb wrando dim o'r son a'r chwedleuau ofer a glywaist, ti y suassit yn well, ac mewn heddwch da. Er pan y bu di­fyr gennyt ryw amser glywed newy­ddion, rhaid iti am hynny ddioddef cythryfwl calon.

PEN. XXI.
Am gystudd calon ac edifeirwch.

1. OS mynni di gynnyddu mewn duwioldeb, cadw dyhun yn ofn Duw: ac na fydd chwaith yn rhy rydd, ond dal dy holl synhwyrau tan drefn rhinweddol, ac na ymollwng dyhun i ofer lawenydd.

Dyro dyhun i gymmeryd cystudd calon, a thi a gai ddefosiwn.

Mae cystudd calon yn dwyn llawer o ddaoedd ini, y rhai y mae gormod rhydd-did yn eu colli'n fuan.

Peth rhyfedd yw, bod dyn yn ga­llu gwirlawenhâu vnamser yn y by­wyd ymma: ac yntau'n meddwl am, ac yn ystyried ei ddeoliad daearol, a'r cynnifer beryglon y mae ei enaid yn­ddynt.

2. Oherwydd ein calon anwada­lwch, a'n bod ni'n ddiofal am ein camweddau, nid ydym yn clywed do­luriau'n heneidiau: eithr mynych yr ydym yn chwerthin yn ofer, pan [Page 62] wrth reswm da, y dylem wylo'n fflwch.

Nid oes gwîr rydd-did, na llawe­nydd da, ond mewn ofn Duw gyda chydwybod lân.

Gwyneifyd y neb a allo fwrw ym­maith bob rhwystr s'yn ei drawsdyn­nu, ac a ddichon ymroddi eihun i vn­deb sanctaidd cystudd calon.

Gwyneifyd y neb a allo wrthod pob peth a ddichon drymhâu, a bry­chu ei gydwybod ef.

Ymdrecha'n wrol, arfer drwg a orchfygir ag arfer da.

Os medri di ymadael a dynion, hwy a'th adawant dithau i wneuthur dy weithredau dyhun.

3. Paid a thynnu attat negesau rhai eraill, ac na ddyrysa dyhunan yn acho­sion dy Henafiaid a'th Benaethion.

Bydded dy olwg di bobamser ar­nat dyhunan yn gyntaf, a rhybyddia dyhunan yn neilltuol, oflaen dy holl anwylion eraill.

Onid wyt yn cael ffafor dynion, na fydd drîst amhynny, ond bidd yn ddrwg gennyt, nad wyt yn byw'n [Page 63] ddigon da, nac yn edrych amdanat dyhun yn ofalus, megis y gweddai i wâs Duw, ac i ddefosionol ddyn o grefydd ymarwedd eihun.

Gwell yw'n fynych, a diogelach i ddyn, na bo gantho lawer o ddidda­nwch yn y byd ymma, ynol y cnawd yn enwedic.

Ond nyni sydd ar y bai o'n bod ni heb gael cyssur gan Dduw, neu heb glywed hynny ond ynanfynych: ob­legid nad ydym yn ceisio cystydd ca­lon, nac yn bwrw ymmaith yn llwyr y cwbl o'r diddanwch sydd oddiallan ini.

4. Cydnebydd dy fod ti'n annhei­lwng o bob cyssur oddiwrth Dduw, ac yn hyttrach yn haeddu llawer o go­spedigaeth, a helbul.

Pan fo dyn yn llwyr edifeiriol, yna y bydd yr holl fyd yn flîn ac yn chw­erw iddo.

Mae gan ddyn da, ddigon o achos i alaru a gofidio.

Oblegid os ystyria ef eihunan, neu os meddwl a wna am ei gymydoc, fe a eill wybod nad oes neb ymma heb flinedd a gofid.

[Page 64]Ac o bafaint manylach yr ystyria ef eihunan, mwy o hynny y fydd ei ddolur calon ef a'i ofid.

Achofion o wîr edifeirwch a chy­studd calon yw, ein beiau a'n pecho­dau ni, yn y rhai gwedi ymblygu ynddynt yr ydym yn gorwedd cyn drymmed, ac nas gallwn fyfyrio dim ar bethau nefol.

5. Pettiti'n meddwl yn fynychach am dy farwolaeth, nac am fyw'n hîr, diammeu y ceisit wella dy fuchedd yn llawer prysurach.

Pettiti hefyd o waelod dy galon yn ystyried y poenau y fyddant yn Vffern neu'n y Purdan, rwyfi'n credu y dio­ddefit boen a dolur yn ewyllysgar, ac nad ofnit ddim gerwinder.

Ond oblegid nad yw'rhai hyn yn myned at y galon, a'n bod ni etto'n caru difyrrwch a gwynniau bydol, amhynny yr ydym yn parhâu'n oer­llyd ac yn ddiog iawn.

6. Llawer gwaith y mae tlodi'r yspryd yn achos o fod y corph truan yn achwyn mor hawdd.

Gweddia ganhynny'n ostyngedic [Page 65] ar ein Harglwydd roddi ohono iti ys­pryd edifeirwch, a dywaid gyda'r Prophwyd, Portha fi, O Arglwydd â bara dagrau, a dyro ddiod imi'n nagrau mewn mesur, Psal. 79. 6.

PEN. XXII.
Am ystried trueni dynol.

1. TRuan wyt ac annedwydd ym­mha le bynnac y byddi, oddiethr iti droidyhun at Dduw.

Pam yr wyt yn aflonydd, am nad yw'r peth yn digwydd megis y myn­nit, ac yr ewyllysit? Pwy sy'n cael pob peth ynol ei ewyllys? Nid fyfi, na thydi, nac vndyn arall ar y ddaear.

Nid oes neb yn y byd heb ryw osid neu gyfyngder, er ei fod ef yn Fre­nin neu'n Bap.

Pwy, meddi di, sydd oreu ei gy­flwr? ynddiau y neb a ddichon ddio­ddef rhywbeth ermwyn Duw.

2. Llawer o'rhai gwennion, ac o'rhai llesg a musgrell, a ddywedant: wele, ddaed yw bywyd y dyn accw? [Page 66] mor gyfoethog yw ef? mor fawr, mor alluog, mor wŷch a bonneddic?

Eithr ystyria'r daoedd nefol, a thi a gai weled, nad yw'r holl bethau am­serol hyn ond dim, ond pethau anwa­dal, ac yn hyttrach yn trymhâu ac yn llwytho dyn; am nas gellir eu me­ddiannu hwynt heb ddygn ofn a go­fal.

Nid dedwyddwch dyn yw, cael llownder o bethau bydol: ond digon iddo gael mesur cymmedrol ohonynt.

Ynwîr trueni a gofid ydyw byw ar y ddaear.

Obafaint mwy y bo dyn yn ceisio bod yn ysprydol, chwerwach ohynny y fydd y bywyd ymma iddo: am ei fod ef yn clywed yn well, ac yn can­fod yn amlyccach yr amryw ddiffyg sydd yn y llygredigaeth dynol.

Oblegid fod bwytta, yfed, gwilio, cysgu, gorphwys, gweithio, a gwasa­naethu'r lleill o'n hangenrheidiau na­turiol, yn drueni mawr ynddiau ac yn flinedd i ddyn defosionol, a fyn­nai fod yn ddigaeth ac yn rhydd oddi­wrth bob pechod.

[Page 67]3. Canys mae angenrheidiau'r corph yn y byd hwn, yn gwasgu ac yn pwyso'n drwm iawn ar y dyn yspry­dol.

Amhynny y mae'r Prophwyd yn crefu'n ddefosionol am gael ei rydd­hâu oddiwrthynt, gan ddywedyd: Gwared fi, O Arglwydd o'm hangen­rheidiau. Psal. 24. 18.

Eithr gwae hwynt hwy, y sawl nid adnabyddant eu trueni: ac yn chwa­neg gwae hwynt hwy, y sawl sy'n ca­ru eu trueni a'i bywyd llygredic.

Oblegid fod rhai yn caru'r bywyd ymma'n gymmaint (er nad oes gan­thynt wrth weithio neu gardotta ond prin yr hyn sydd angenrheidiol) a phe gallent fyw ymma bobamser, byth ni phrisient ddim am deyrnas Dduw.

4. Oh ddynion ynfyd ac o galon anffyddlon, gwedi eu claddu cyn ddyfned yn y ddaear, ac nad oes gan­thynt na blâs nac ymglywed am ddim ond pethau cnawdol!

Eithr annedwydd ddynion hwy a gaant o'r diwedd mewn trymder ca­lon a chwerwedd anfeidrol glywed [Page 68] mor wael ac mor ddiddym oedd y peth a garasant mor afreolus.

Ond nid oedd Sainct Duw a defo­sionol anwylion Christ yn edrych ar y pethau sy'n bodloni'r cnawd, ac yn blodeuo'n wych neu'n llwyddo'n yr amser ymma: eithr roedd eu gobaith oll a'i hamcan hwynt ar geisio daoedd tragywyddol.

Roedd eu holl chwant▪ a'i hiraeth hwynt yn cyrchu tuac ifynu at bethau parhaûs ac anweledic, rhag i serch am yr hyn a welir, eu tynnu hwynt at y pethau isaf, salwaf a gwaelaf.

Paid, y mrawd anwyl, a bwrw heibio y gobaith sy gennyt o gael llês ysprydol: mae digon o amser gennyt etto, nid yw'r awr etto wedi myned heibio.

5. Pam yr wyt yn mynnu oedi dy fwriad da? Côd ifynu, ac ar y my­nudyn ymma dechreu, a dywaid: Rwön y mae'r amser i weithio, rwön y mae'r amser i ymladd, rwön y mae'r amser cyfaddas i wella fy muchedd.

Pan fyddi mewn rhyw flinedd a gofid, yna y bydd yr amser i ynnill ac i ryglyddu.

[Page 69]Rhaid iti fyned trwy dân a dwfr cyn dyfod i esmwythdra.

Oddieithr iti drechu arnat dyhun, nis gelli orchfygu dy ddrwg arferau.

Tra fyddom yn dwyn y corph breuol hwn, nis gallwn mor bod heb bechod, na byw heb flinedd a dolur.

Gwŷch y fyddai gennym gael es­mwythdra, a bod yn rhydd o bob trueni: ond oblegid ein bod ni trwy bechod wedi colli ein gwiriondeb, ni a gollasom hefyd wîr ddedwyddwch.

Amhynny rhaid ini fod yn fodlon, a disgwyl trugaredd Duw: hyd onid elo anwiredd heibio, ac y llyncer y marwoldeb ymma gan fywyd.

6. Oh pafaint yw gwendid dynion, sy bobamser yn pwyso at ddrygioni!

Heddyw ti a gyffesi dy bechodau, ac yforu ti a wnai eilwaith y rhai a gyffesaist.

Rwön y bwriadi ochel, ac arol awr ti a wnai'r peth, megis pettasaist heb wneuthur dim bwriad.

Da iawn ganhynny, y dylem ni ostyngeiddio einhunain, heb ddim meddwi vchel byth amdanom ein­hun; [Page 70] oblegid ein bod ni cyn wanned ac mor anwadal.

Buan hefyd y gellir colli trwy ddio­falwch, yr hyn â mawr waith ond braidd a gaed trwy râs.

7. Beth a ddaw ohonom ni o'r diwedd, y rhai ydym yn oeri, ac yn llaccâu cyn gynted.

Gwae nyni os ceisiwn droi o or­phwys bellach, megis pettem mewn heddychdra a diogelwch, lle nid oes gronyn o arwydd sancteiddrwydd yn ein holl ymarweddiad ni.

Da ac angenrheidiol y fyddai, ein dysgu ni eilwaith megis Nofisiaid dai­onus ymmhob moesau ac arferau rha­gorol, fel y byddai gobaith ysgatfydd o emendio peth, ac o gael mwy llês ysprydol.

PEN. XXIII.
Am fyfyrio ar farwolaeth.

1. BUan iawn y derfydd amdanati ymma: amhynny edrych pa­fodd yr wyt yn byw: heddyw y bydd [Page 71] dyn yn byw, ac yforu ni bydd mwy golwg ohono.

A gwedi ei gymmeryd ef allan o'n golwg, buan yr a ef allan o'n me­ddwl ni.

Oh pafaint yw trymder a chaledi ca­lon dyn, am nad yw'n meddwl ond am y pethau presennol hyn, ac heb fod yn hyttrach yn rhagweled y rhai a ddaw.

Ti a ddylit ddwyn dyhun ymmhob gweithred, a meddwl megis pettit i farw ynyman.

Pe bai cydwybod dda gennyt, ni fyddai fawr ofn marw arnat.

Gwell yw gochel pechod, na chei­sio ffo rhag angeu.

Onid wyti'n barod i farw heddyw, pafodd y byddi di yforu?

Dydd ansertain yw yforu: a phwy a wyr, y cai di weled yforu?

2. Pa lês a wna byw'n hîr, a gwe­lla ein buchedd cyn lleied?

Och! nid yw byw'n hîr bobamser yn emendio, ond yn fynych yn chw­anegu'r bai.

Oh na bâem gwedi byw'n dda, ond tros vn diwrnod yn y byd hwn!

[Page 72]Mae llawer yn cyfrif y blynyddoedd er pan y troasant i wasanaethu Duw, ond yn fynych bychan yw ffrwyth eu gwellhâad hwynt.

Os peth dychrynnedic yw marw, mwy enbydus ond antur y fydd by­w'n hwy.

Gwyneifyd y neb fo ac awr ei an­geu bobamser yn ei olwg, ac y fo beunydd yn paratoi eihunan i farw.

Os gwelaist ryw amser ddyn yn marw, cofia fod yn rhaid i tithau fy­ned yr vn ffordd.

3. Pan fo hi'n fore, tybia na chai di mor byw hyd yr hwyr.

A phan elo hi'n hwyr, na feiddia addaw iti y cai di weled y bore.

Bydd barod ganhynny bobamser, a byw'n y modd ac nas caffo angeu byth dy orddiwes di'n ammharod.

Mae llawer yn marw'n ddisym­mwth, ac heb feddwl amhynny. Ob­legid ar yr awr nis tybir amdani, y daw Mab y dyn, Luc. 12. 40.

Pan ddelo'r awr ddiweddaf honno, ti a ddechreui feddwl yn llawer am­genach am dy holl fywyd a aeth hei­bio: [Page 73] a bydd yn edifar iawn gennyt ddarfod iti fod mor ddiofal ac mor es­geulus.

4. Mor ddedwydd a synhwyrol yw'r neb, sy'n ceisio byw ynawr yn y modd, ac y byddai dda gantho gael eihun pan ddelo angeu.

Oherwydd dymma'r pethau a wna ymddiried mawr o farw'n ddedwy­ddlawn: sef dibrisio'r byd yn llwyr, gwresog chwennych am gynnyddu mewn rhinweddau, hoffi'r trefn cre­fyddol, poen a llafur penyd, paro­drwydd i vfyddhâu, a dioddef pob rhyw wrthwyneb ermwyn Chrîst.

Ti elli wneuthur llawer o ddaioni tra fyddi'n iach, ond gwedi clafychu, nis gwn pabeth a elli ei wneuthur.

Nid oes nemmor yn mynd yn well trwy glefyd: felly hefyd odid y neb a sancteiddier wrth bererindotta llawer.

5. Nad ymddirieda'n dy gyfeillion a'th gymmydogion, ac na oeda dy iachawdwriaeth hyd yr amser a ddaw: oblegid cynt y gollyngant dynion di droscôf, nac yr wyt yn meddwl.

[Page 74]Gwell yw rhagweled yrwön mewn amser, a danfon peth daioni o'n bla­en; na gobeithio am gymmorth rhai eraill arol angeu.

Os tydi nid wyt yn gofalu amda­nat dyhun ynawr, pwy a gymmer ofal amdanati'n yr amser a ddaw.

Rwön mae'r amser yn werthfawr iawn. Rwön y mae dyddiau iachaw­dwriaeth. Rwön y mae'r amser yn gymeradwy.

Eithr och y fi nas treulit hynny'n well, â'r hyn y gellit haeddu byw'n dragywyddol.

Fe a ddaw'r amser, pan y chwen­nychi gael vn dydd, neu vn awr, ac nis gwn, y cai di dy ddymuned.

6. Ow! fy anwyl frawd, o bafaint perygl y gelli di rwön wared dyhun? o bafaint braw y gelli gael dy rydd­hâu, os tydi y fyddi rwön bobamser yn ofnus, ac yn disgwyl angeu?

Cais syw rwön yn y modd, ac y gelli ar awr angeu lawenhâu'n hyt­trach, nac ofni.

Dysg ynawr farw i'r byd fel y ge­lli y pryd hynny ddechreu byw gyda Christ.

[Page 75]Dysg rwön ddibrisio pob peth dar­fodedic, fel y gelli y pryd hynny fy­ned yn rhwydd at Chrîst.

Cospa dy gorph ynawr a phenyd, fel y bytho gennyt y pryd hynny gy­flawn a diogel ymddiried.

7. Oh ffol! pam yr wyt yn me­ddwl, y cai di fyw'n hîr, lle nid wyt yn siccr o gael byw vn diwrnod.

Pa aneirif o ddynion yn meddwl y caent fyw'n hîr, a gowsant eu twy­llo, a'i cippio o'i cyrph yn ddisym­mwth?

Pa sawl gwaith y clywaist ddywe­dyd: sod yr vn hwnnw wedi cael ei ladd â chleddyf, y llall wedi ei foddi, vnarall gan syrthio o le vchel gwedi torri ei wddwg, vnarall a ddarfu am­dano wrth fwytta, y llall wrth chwa­reu.

Vnarall y fu farw'n y tân, vnarall o'r cowyn, vnarall a lladdwyd ag arf o ddur, vnarall gan ladron penffordd, ac felly diwedd pob vn ydyw marw, a bywyd dynion sy'n myned ymmaith megis cysgod yn ddisymmwth.

8. Pwy a gofia amdanati wedi iti [Page 76] farw, a phwy a weddia trosot?

Iddo, iddo, f'anwylyd cu, gwna rwön gymmaint ac a elli: oblegid nas gwyddost pabryd y bydd rhaid iti farw: ni wyddost chwaith beth a ddaw ohonot wedi marw.

Tra fo amser gennyt, casgla it ddaoedd tragywyddol.

Na feddwl am ddim, ond am dy iachawdwriaeth: gofala'n vnic am y pethau, sy'n perthyn i Dduw.

Gwna rwön garedigion iti, gan anrhydeddu Sainct Duw, a chan ddi­lyn a dynwared eu gweithredoedd hwynt: fel pan ddarfyddo amdanat yn y bywyd hwn, y cymmerant hwy ti i'r pabellau tragywyddol.

9. Cadw dyhun megis pererin a dieithryn ar y ddaear, i'r hwn nid oes dim yn perthyn o helynt y byd ym­ma.

Cadw dy galon yn rhydd, a chod hi ifynu tuacat Dduw, oblegid nad oes iti ymma na dinas, na thrigfa bar­hâus.

Cyfeiria tuac yno dy weddiau dy vcheneidiau, a'th gwynfan beunyddol [Page 77] fel y gallo dy enaid arol angeu hae­ddu myned yn ddedwyddlawn at Dduw.

Amen.

PEN. XXIV.
Am y Farn fawr a chospedigaethau pechod.

1. YMmhob peth meddwl am dy ddiwedd, a phafodd y bydd rhaid iti sefyll gerbron yr Justus llym a garw: i'r hwn nid oes dim yn gu­ddiedic: yr hwn nis bodlonir ag an­rhegion, a'r hwn ni dderbyn dim escu­sodion, ond a farna fel y bo cyfion.

Oh! bechadur annedwydd a di­synhwyrol, pabeth a attebi i Dduw'n gwybod dy holl ddrygioni di, yr hwn wyt weithiau'n ofni wyneb dyn di­gllon?

Pam nad wyt yn rhagddarbod iti dyhun yn erbyn dydd y Farn, pan nis geill neb gael ei efgusodi gan arall, na'i amddiffin: ond pob vn y fydd yn ddigon o faich iddo eihunan.

Rwön mae dy boen di'n broffit­tiol, [Page 78] dy ddagrau'n gymmeradwy, dy wylofain yn hoff i'w glywed, dy edi­feirwch yn bodloni Duw, ac yn pûro dy enaid dithau.

2. Mae Purdan mawr a buddiol gan ddyn dioddefgar, yr hwn gan ddioddef cam, sy'n dolurio'n fwy am ddrygionivnarall, nac am y niweid a wnaed iddo ef: yr hwn a weddia'n ewyllysgar tros y sawl sy'n ei flino ac yn ei orthrymmu ef: yr hwn o wae­lod ei galon a faddeua eu beiau i eraill: yr hwn nid oeda ofyn ma­ddeuant gan vnarall: yr hwn a dru­garhâ'n gynt nac y digia: yr hwn yn fynych a drecha arno eihun, ac a geisia ddarostwng ei gnawd yn ho­llawl i'w yspryd.

Gwell yw pûro'n pechodau ymma, ac ymwrthod a'n camweddau, na'i cadw hwynt i'w glanhâu'n y Purdan arol hyn.

Ynddiau rydym yn twyllo einhu­nain a'r cariad didrefn ac anresymol sy gennym at ein cnawd.

3. Pabeth a ddifa'r tân hwnnw. ond dy bechodau di?

[Page 79]Pafaint mwy rwyt rwön yn arbed dyhun, ac yn dilyn y cnawd: trym­mach y fydd y gospedigaeth a gai ei dioddef, a mwy deunydd rwyt yn ei gadw i'w losgi arol hyn.

Yn yr hyn y pechodd dyn fwyaf, y caiff ei gospi'n drymmach. Yno y caiff y rhai diog eu pigo â symbylau tanllyd, a'r glythion aflerw a gânt eu poeni â syched ac à newyn anfeidrol.

Yno y caiff y rhai anllad, a'r sawl a ddilynodd ddrythyllwch a mwythau'r cnawd eu trochi mewn pŷg tanboeth, ac megis cwn cynddeiriog yn gyth­reulic wyllt o dra dolur hwy a vdant.

4. Ni bydd vn pechod, na chaiff ei boen priodol.

Yno y caiff y rhai beilchion eu llenwi, à phob cywilydd, mefl a gwradwydd: a'r cybyddion a gânt eu gwasgu â thlodi tost a gofidus.

Yno y bydd vn awr yn flinach mewn poen, na chan mlynedd ym­ma, yn y penyd gorthrymmaf.

Yno nid oes dim gorphwys, na dim diddanwch i'rhai damnedic: ond ym­ma fe a fyddir weithiau'n peidio ac [Page 80] ymboeni a blino, ac yn cael cyssur gan gyfeillion ac anwylion.

Bydd yn ofalus rwön ac yn edifei­riol am dy bechodau, fel y gelli fod ar ddydd y Farn yn ddiofal, ac yn ddifraw gyda'r Gwynfydedic.

Oblegid y pryd hynny y rhai Cy­sion a safant mewn hyder a diogelwch mawr, yn erbyn y sawl a'i blinodd ac a'i gorthrymmodd hwynt.

Yna y caiff ef sefyll i farnu, yr­hwn rwön sy'n bwrw eihun yn ostyn­gedic tan farnedigaethau dynion.

Yna y bydd ymddiried mawr gan y tlawd a'r dyn gostyngedic: ac yr ofna o bobparth, ac yr arswyda'r dyn balch.

5. Yna y gwybyddir mai call a doeth yn y byd ymma oedd y neb, a ddysgodd fod yn ffol, a chael ei ddi­barchu er mwyn Chrîst.

Yna y bydd yn dda ac yn hôff pob blinder ac adfyd a oddefwyd yn ddio­ddefgar, a phob anwiredd a geua ei safn.

Yna y llawenhâ pob dyn defosio­nol, ac y tristhâ pawb o'rhai anghre­fyddol.

[Page 81]Yna y bydd mwy llawenydd y cnawd a gospwyd, na phettasai wedi cael ei feithrin bobamser mewn mwy­thau.

Yna y disgleiria y dillad gwael, ac y tywylla'r dillad main sidanaidd.

Yna y bydd mwy canmol am y bwth tlawd, nac am y Plâs goreuroc.

Yna y gwna dioddefgarwch gwa­stadol fwy o lês, na'r holl alluedd by­dol.

Yna y clodforir vfydd-dod gwirion, yn fwy na holl gyfrwysder bydolion.

6. Yna y gwna pûr a glân gyd­wybod ddyn yn fwy hyfryd, na Philo­sophy ddiaeth ddyscedic.

Yna y gwnair mwy cyfrif am ddi­brisio a diystyru cyfoeth, nac am holl dryssor dynion daearol.

Yna y gwna fwy diddanwch y Weddi ddesosionol a wnaethost, na'r pryd llownaf o fwyd mwythus me­lysber.

Yna y bydd gwell gennyt am dewi a son a chadw gosteg, nac am hîr chwedleua a rhugl ymadroddion.

Yna y bydd mwy prîs am weithre­doedd [Page 82] Sanctaidd, nac am lawer o dêg ymfiarad a geiriau perareithus.

Yna y bydd buchedd galed a phe­nyd garw'n rhyngu bodd, yn fwy na phob difyrrwch daearol.

Dysc ddioddef ychydic o boen rwön, fel y gelli y pryd hynny gael dy wared rhag poenau trymmach anfei­drol.

Profa'n gyntaf ymma, pabeth a elli ei ddioddef arol hyn.

Os ychydic o wŷn a gofid a'th wna di rwön mor annioddefgar, beth a wna tân Vffern arol hyn?

Wele! ynddiau nid oes iti gael dau lawenydd, sef ymddifyrru'n y byd hwn, a gwedi hynny teyrnasu gyda Christ.

7. Pettasiti wedi byw bobamser hyd yn heddyw mewn parch a phob math o ddifyrrwch mawr: pa lês a wnae'r cwbl iti, pe bai rhaid iti ynawr farw ynddioed?

Nid yw'r cwbl ganhynny ond gwa­gedd, heblaw caru Duw, a'i wasanae­thu ef yn vnic.

Oblegid nad yw'r neb sy'n caru [Page 83] Duw o waelod ei galon, yn ofni' na marw, na chospedigaeth, na barn, nac Vffern: am fod Cariad perffaith yn peri i ddyn fyned' at Dduw'n ddio­fal.

Ond nid rhyfedd fod y neb, sy'n ddifyr etto gantho bechu, yn ofni marw a chael ei farnu.

Da erhynny yw, oni bydd cariad ar Dduw yn dy ffrwyno di, ath lestair rhag gwneuthur drwg, o'r hyn lleiaf fod ofn Vffern yn' dy attal di.

Ond y neb a fwria ofn Duw hei­bio, nis gall hwnnw sefyll chwaith hîr mewn daioni: eithr buan a syrthia i faglau'r Diawl.

PEN. XXV.
Am wresog wellhâu ein buchedd oll.

1. GWilia, a bydd ofalus ar wa­sanaethu Duw: a meddwl yn fynych, i babeth y deuthost, a phaham darfu iti ymadael a'r byd? ond i fyw i Dduw, ac i fod yn ddy n ysprydol?

[Page 84]Dôs rhagot ganhynny'n wrol i gael llês i'th enaid: oblegid ar fyrder ti a gai gyflog am dy boen: a gwedi hynny ni bydd nac ofn, na dolur o'th amgylch, nac o fewn dy ffiniau di.

Rhaid iti gymmeryd ychydic o boen rwön, a gwedi hynny ti a gai orphwys mawr, ië ti a gai lawenydd tragywyddol.

Os tydi a wasanaetha Dduw'n ffy­ddlon ac yn ofalus, fe fydd yntau'n ddiammeu'n ffyddlon, ac yn hael i roi taledigaeth i tithau.

Rhaid bod gobaith da a diogel gennyt, y cai di orfod a gorchsygu: ond ni ddyliti gymmeryd siccreidd­rwydd o hynny, rhag osn bod yn ddifraw a mynd yn falch.

2. Pan yr oedd rhyw vn ammhe­us, yn drwm drîst yn fynych rhwng ofn a gobaith, ac vnwaith yn gy­flawn o brydd der, wedi gosod ei­hun mewn gweddi'n ostyngedic ar ei liniau oflaen rhyw Allor yn yr Eg­lwys, ef a ddechreuodd seddwl yn­ddo eihun fel hyn, gan ddywedyd: Oh! pe gwyddwn, y parhewn i etto [Page 85] yn-gwasanaeth Duw! Ac ynyman fe a glybu'r atteb duwfawl oddimewn iddo, fel hyn: Beth pettiti'n gwybod hynny? pabeth a wnait? gwna rwön, y peth a wnelit y pryd hynny, a thi fyddi'n ddigon diofal.

Ac ynddioed gan gael cyssur ar hynny, a'i gomfforddi, fe a ymrodd­odd eihun i ewyllys Duw, a'r anwa­dalrwydd trymdrist hwnnw a beidi­odd.

Ac nis mynnodd mwy oser-ymo­rol, pabeth a ddoi ohono: ond yn hyttrach ef a geisiodd ymofyn, beth yw cymmeradwy a pherffaith ewy­llys Duw i ddechreu a gorphen pob gorchwyl da.

3. Gobeithia'n ein Harglwydd, a gwna ddaioni, medd y Prophwyd: a thriga ar y tîr, a thi a borthir a'i gyfoeth ef. Psal. 36. 3.

Vn peth sy'n rhwystro llawer rhag cynnuddu mewn rhinwedd, a dyfal emendio eu buchedd: sef gerwinder y boen, a'r caledi wrth ymladd.

Ynddiau, y rheini oflaen pawb e­raill, sy'n cynnydu fwyaf mewn rhin­weddau, [Page 86] y rhai sy'n ceisio gorchfy­gu'n wrol y pethau a'i blinant fwyaf, a'rhai y maent hwy'n eu gwrthwy­nebu fwyaf.

Oblegid yno y caiff dyn y llês mwyaf, ac yr haedda'r grâs amlach, lle bo ef fwyaf yn gorchfygu eihun, ac yn marweiddio eihunan yn yr ys­pryd.

4 Ond nid oes mor cymmaint gan bob vn i'w orchsygu ac i'w farwei­ddio.

Erhynny y neb y fo'n lew ac yn ofalus, y fydd a mwy gallu gantho i broffittio mewn daioni (er bod mwy drwg anwydau gantho i'w meistroli) nac vnarall tirion a mwyn, eithr araf ac oerllyd i fyned rhagddo mewn rhinweddau.

Deubeth yn bendifaddeu, sy'n ein helpu ni'n fawr iawn i wella'n bu­chedd: sef tynnu einhunain yn ffor­ddrych oddiwrth y drygioni, at yr hwn y bo natur yn ein gogwydd ni? â cheisio'n daer y daioni y so mwyaf arnom ei eisiau.

Gochel dithau hefyd, a chais orch­fygu [Page 87] ynot dyhun, yr hyn sy'n dy an­foddhâu di yn rhai eraill.

5. Cais lês ysprydol ymmhob peth: megis, os gweli neu os clywi ryw esamplau da, gwresoga i ddyn­wared y rheini.

Ond os gweli di rywbeth ar fai'n neb arall, gochel dithau wneuthur hynny; neu os gwneuthost, cais ddifeio'r peth ynyman.

Megis y mae dy lygad di'n gwi­lied ar rai eraill, felly y mae'n hwy­thau'n marcio arnat tithau.

Mor hoff a hyfryd yw, gweled gwresog a duwiol frodyr mwynion, hynaws ac athrolithgar yn cyfanneddu neu'n trigo ynghyd!

Mor drîst a blîn yw, gweled rhai eraill yn rhodio'n annhrefnus: heb fod yn gwneuthur y peth y galwyd hwy iddo!

Mor ddrwg a niweidiol i ddynion yw, esgeuluso perwyl eu galwadi­gaeth: a gosod eu bryd ar y pethau nis gorchymmynwyd iddynt!

6. Cofia'r gorchwyl a gymme­raist arnat, a gosod lûn Christ [Page 88] wedi ei groeshoelio o flaen dy fe­ddwl.

Da y gelli di gywilyddio wrth edrych ar fuchedd Jesu Christ: oher­wydd nas ceisiaist yn well gyflunio dyhun iddo ef: er dy fod ers hîr am­ser yn rhodio arhyd ffordd Dduw.

Dyn crefyddol a ymarfero eihun oddifrif, ac yn ddefosionol yn San­cteiddlawn fuchedd a dioddefaint ein Harglwydd, a gaiff yno bob peth y fo ar ei lês, ac yn angenrheidiol iddo▪ ac ni bydd rhaid iddo geisio dim y fo da allan o'r Jesu.

Oh! pe doi'r Jesu Croeshoeliedic i'n calon ni, mor fuan a mor ddigonol y caem ein dyscu ymmhob gwirio­nedd?

7. Dyn crefyddol a fo gwresog yn yr yspryd, a ddwg yn fwynaidd, a wna, ac a ddioddefa bob peth a berir iddo.

Dyn crefyddol esgeulus, claear, ac oerllyd sy mewn blinedd ar flinedd, ac yn dioddef cyfyngder obobparth: am nad oes dim cyssur gantho oddimewn, ac nad yw'n beiddio ceisio'r hyn sydd oddiallan.

[Page 89]Dyn crefyddol y fo'n byw allan o drefn ei Grefydd, sy mewn perygl mawr o golli ei enaid.

Y neb a fo'n ceisio pethau rhyddach ac esmwythach; y fydd bobamser mewn cyfyngder: oblegid, naill ai hwn, neu'r llal, neu'r cwbl y fydd yn yn ei anfoddhâu ef.

8. Pafodd y mae cynnifer o rai crefyddol eraill yn gwneuthur, y rhai sy'n byw'n ddigon caeth tan drefn manachlogol?

Anfynych y mae'n hwy'n rhodio allan, caled y mae'n hwy'n byw, tlawd a gwael yw eu lluniaeth, garw yw eu dillad hwynt: mae'n hwy'n gweithio llawer, yn siarad ychydic, yn gwilio'n hîr, yn codi'n fore, yn hwyhâu gweddiau, yn darllain yn fynych, ac yn cadw euhunain ym­mhob trefn crefyddol.

Ystyria'r Carthwsianod a'r Cister­sianod, a'r menych eraill, a'r Lleianod o amryw Grefyddau, pafodd y mae'n hwy'n codi bob nôs i ganu moliant a Psalmau i Dduw.

Amhynny gwrthun y fyddai iti ar [Page 90] amser mor sanctaidd fod yn ddiog, pan fo cymmaint lliaws o bobl gre­fyddol yn dechreu gawri moliannau i Dduw.

9. Oh! na baem ni heb ddim a­rall gennym i'w wneuthur, ond mo­liannu ein Harglwydd Dduw, a'n ca­lon oll ac a'n genau.

Oh! na baiti syth heb eisiau na bwytta, nac yfed, na chysgu: ond bobamser yn gallu moliannu Duw, gan ymroddi dyhun a'th holl astu­drwydd yn vnic ar bethau ysprydol: yna y byddit lawer dedwyddach nac yr wyt ynawr, pan y mae'n rhaid iti wasanaethu'r cnawd ar gynnifer acho­sion.

Gwae nyni na bai'r angenrheidiau hyn heb fod: ond ynvnic bod yn rhaid, rhoi lluniaeth ysprydol i'r enaid, yr hyn (ysywaetherddo) nid ydym yn ei brofi ond yn ddigon an­fynych.

10. Pan fo dyn wedi dyfod i gy­flwr cyfryw, ac na bo'n ceisio cyssur o vnrhyw greadur pabynnac, yna y bydd ef gyntaf yn dechreu'n berffaith, [Page 91] cymmeryd diddanwch yn Nuw: yna hefyd y bydd ef yn fodlon iawn, beth bynnac yn y byd a ddigwyddo iddo.

Yna ni bydd ef nac yn llawen oherwydd dim mawr, nac yn drîst oherwydd dim bychan: eithr ef a rydd eihunan yn hollawl a'i holl ym­ddiried ar Dduw, yrhwn sy bobpeth ymmhobpeth iddo ef: i'r hwn, yn­ddiau, nid oes dim yn colli, nac yn marw, ond mae pob peth yn byw iddo, ac yn ei wasanaethu ef ar am­naid ynddioed.

11. Cofia bobamser dy ddiwedd, am na ddymchwel eilwaith yr amser a gollwyd.

Heb ddyfalwch a gofal byth nis gelli di gael rhinweddau.

Os dechreui di fod yn glaear, ti a ddechreui fod yn ddrwg dy sutt.

Ond os tydi a ymroddi dyhun i fod yn wresog, ti a gai heddwch mawr, ac a gai glywed dy boen yn esmwythach, oherwydd grâs Duw, a chariad ar rinwedd.

Mae dyn gwresog a gofalus yn ba­rod i bob peth.

[Page 92]Mwy poen yw gwrthsesyll drygi­oni, beiau a drwg anwydau, nac yw ymboeni ar weithredoedd corphorol.

Y neb ni ochelo feiau bychain, a syrthia bobychydic i rai y fo mwy.

Ti fyddi lawen bob nos, os treuli di'r dydd yn dda.

Gwilia arnat dyhun, cyffrôa dyhun, rhybyddia dyhun, a phabeth bynnac a ddelo i rai eraill na esgeulusa di dy­hunan.

Ti a gynnyddi mewn daioni yn gymmaint ac y byddi yn drechach arnat dyhun.

Diwedd y Llyfr I.

DILYNIAD CHRIST Yr Ail Lyfr.
Rhybyddion yn tynnu at y pethau sydd oddimewn i ddyn.

PENNOD I.
Am ymarweddiad ysprydol.

MAE Teyrnas Dduw oddi­mewn i chwi, Luc. 17. 21: medd ein Harglwydd. Tro dyhun o waelod dy galon at ein Harglwydd, a gâd y byd annedwydd hwn, a'th enaid a gaiff esmwythdra.

Dysc ddiystyru'r pethau sydd oddi­allan, ac ymroddi dyhun i'rhai sydd oddimewn, a thi a gai weled teyrnas Dduw n dyfod ynot.

[Page 94]Canys Teyrnas Dduw yw llawe­nydd a heddwch yn yr yspryd Glân, yr hyn nis rhoddir i'rhai anwire­ddus.

Christ a ddaw attat, gan ddangos ei ddiddanwch iti: os tydi a baratoa drifga deilwng iddo oddimewn.

Mae ei holl ogoniant ef▪ a'i degwch oddimewn iddo, ac yno y mae ef yn bodloni eihunan.

Mynych yr ymwêl ef a'r dyn yspry­dol, hyfryd y fydd ei ymddiddan ef à hwnnw, hoff iawn ei gyssur, mawr ei heddwch, rhyfeddol aruthr ei gym­deithas a'r cyfryw ddyn.

2. Iddo enaid ffyddlon, gwna dy galon yn barod i'r Priodfab ymma: fel y delo attati, ac y teilyngo drigo ynoti.

Canys felly y mae ef yn dywedyd: Os câr nêb fyfi, ef a geidw fyn-gair, a'm Tâd a'i câr yntau, a nynni a ddeuwn atto, ac a wnawn ein trigfa gydag ef, Joh. 14. 23.

Dyro le ganhynny i Christ yn dy galon, a nâd i neb arall ddyfod i mewn.

[Page 95]Pan fo Christ gennyt, rwyt yn gy­faethoc, a mae hynny'n ddigon iti. Efe y fydd dy ddarparwr di, a'th raglaw ffyddlon ymmhob peth, fel na bo rhaid iti ymddiried yn nynion.

Canys buan y newid dynion, ac ar syr amser y methant: ond Christ a erys yn dragywydd, ac a saf gyda ni hyd y diwedd yn ddiogel.

3. Nid oes mor mawr ymddiried i'w roddi yn nŷn gwan a marwol, er ei fod yn lesol ac yn garedic iti: ac ni ddyliti gymmeryd mawr dristwch oherwydd ei fod ef weithiau yn dy erbyn di, ac yn dy wrthddywedyd.

Y sawl y fo gyda thi heddyw, y fo­ru a allant fod yn dy erbyn: ac o'r gwrthwyneb, mynych y troant megis yr awel.

Dod dy holl ymddiried yn Nuw, ac ofna a châr ef: E fe a ettyb troso­ti, ac a wna bob peth o'r goreu.

Nid oes dinas gennyt ymma a bar­hà: ac ymmha le bynnac y byddi, pe­rerin wyt a dieithryn; ac ni orphwysi vnamser, odeieithr iti fod yn vn â Christ.

[Page 96]4. Pam yr wyt yn edrych o'th am­gylch ymma, gan nad y fan ymma yw dy orphwysfa di?

Yn y Nefoedd y mae rhaid iti dri­go, ac edrych ar bob peth daearol megis wrth fynd heibio, a'i diystyru hwynt.

Mae pobpeth yn passio ymmaith, a thithau gyda hwynt.

Gochel lynu wrthynt, rhag iti gael dy ddal ynddynt a'th golli.

Bydded dy feddwl gyda'r Goru­chaf, a chyfeiria dy weddi at Christ ynddibaid.

Onis medri ystyried vchel a nefoli­on bethau, gorphwys yn Niodde­faint Christ, ac yn ei sanctaidd archo­llion ef triga yn ewyllysgar.

Oblegid os rhedeg yn ddesosionol a wnai i archollion a gwerthfawr Blanodau'r Jesu, ti a gai glywed cys­sur mawr yn dy ofid a'th flinedd: ac ni bydd fawr waeth gennyt fod dyni­on yn dy ddiystyru di, a thi a ddio­ddefi'n hawdd ddrwg absen a geiri­au goganus.

[Page 97]5. Christ hefyd a gafodd ei ddiy­styru gan ddynion yn y byd ymma: ac y fu mewn angenrhaid o'r mwy­af, gwedi ei adael gan ei gydnaby­ddiaid a'i garedigion yn-ghanol am­mharch, sarhaad a geiriau goganus.

Christ a fynnai ddioddef, a chael ei ddibrisio; ac a achwyni di rhag neb?

Roedd llawer yn gwrthwynebu, ac yn rhoi drwg absen i Christ; ac a fynni di gael pawb yn garedigion ac yn gymmwynaswyr iti?

A phabeth y coronir dy ddioddef­garwch di, oddieithr i ryw wrthwyneb ddyfod arnat?

Onis mynni ddioddef dim gwrth­wyneb, pafodd y gelli di fod yn a­nwyl i Christ?

Dioddefa gyda Christ, ac ermwyn Christ, os mynni di deyrnasu gyda Christ.

6. Pettiti vnwaith yn mynd i mewn i ymyscaroedd yr Jesu, ac yn profi peth o'i gariad tanbaid ef: yna ni fyddai waeth gennyt nac am yrhyn y fai cymmwys, nac am y peth y fai [Page 98] anghymmwys iti? ond yn hyttrach da y fyddai gennyt ddioddef am­harch a dibris: am fod cariad ar yr Jesu'n peri i ddyn ddiystyru eihunan.

Y neb a so'n caru'r Jesu a'r Gwi­rionedd, ac yn gwbl ysprydol oddi­mewn, ac yn rhydd o bob drwg an­nwydau a moesau annhrefnus, a eill yn rhwydd droi eihun at Dduw: a chan godi eihun yn yr yspryd goru­wch eihunan a ddichon a mawr law­enydd enaid orphwys yn Nuw.

7. Y neb sy'n ystyried pob peth, megis y mae'n hwy, nid megis y dywedir eu bod; sy'n wir synhwy­rol, ac wedi cael ei ddyscu'n fwy gan Dduw, na chan ddynion.

Nid rhaid i'r neb, a fedro fyw'n ysprydol oddimewn, gan wneuthur bychan gyfrif o'r pethau sydd oddi­allan, geisio na lle, nac amser i y­marfer actau defosionol.

Dyn ysprydol oddimewn a dry'n rhwydd, ac yn fuan atto eihun: am nad yw ef vnamser yn bwrw eihu­nan allan yn llwyr.

Nid yw'r gwaith oddiallan, na'r [Page 99] gorchwyl angenrheidiol tros yr am­ser yn ei rwystro ef: ond fel y bo'r pethau'n digwydd, felly y mae ef yn cymmhwyso eihun iddynt.

Ni bydd waeth gan y neb, y fo'n drefnus, ac yn dda ei luniaeth oddi­mewn, am wynebwedd gwrthnysic a munudiau rhyfeddol dynion era­ill.

Rhwystrir a gwasgarir dyn yn ei yspryd yn gymmaint, ac y bo ef yn tynnu pob helynt a negesau atto.

8. Pettiti'n iawn, ac yn bûr lân, fe a ddigwyddai pob peth yn dda iti, ac ar dy lês.

Dyna'r achos y mae llawer peth yn dy anfoddhâu, ac yn dy gythry­blu di, oblegid nad wyt etto gwedi marw'n hollawl iti dyhun, na gwedi dy ddidoli oddiwrth holl bethau dae­arol.

Nid oes dim yn brychu, yn plygu, ac yn maglu dyn yn gymmaint, a bydr ac aflan gariad ar y creaduri­aid.

Os gwrthodi di gymmeryd cyssur oddiallan, ti a elli ystyried pethau ne­sol, [Page 100] a mynych ymlawenhâu oddi­mewn.

PEN. II.
Am ddarostwng iselaidd.

1. NA wna fawr gyfrif am bwy y fo trosot, nac am bwy y fo'n dy erbyn: ond cais, a gofala am fod Duw gyda thi ymmhob peth a wneli.

Bydded cydwybod dda gennyt: a Duw a'th amddiffynna di'n ddiogel.

Oblegid nas gall na malais na gwrthnawsedd dyn wneuthur drwg i'r neb y fo Duw'n ei gymmhorth.

Os medri di dewi a sôn, a dioddef: yn ddiammeu ti gai weled cymmorth Duw gyda thi.

E fe a wyr yr amser, a'r modd i'th waredu di: ac amhynny rhaid iti ymroddi dyhun ifynu iddo ef.

Duw piau gwared, a chadw dyn rhag pob cywllydd a gwradwydd.

Mynych y mae'n dda iawn ar ein llês ni, i'n cadw mewn mwy go­styngeiddrwydd, [Page 101] fod rhai eraill yn gwybod ein beiau, ac yn ein ceryddu ni.

2. Pan fo dyn yn gostyngeiddio eihunan am ei fethiant a'i feiau: yna y bodlona ef rai eraill yn rhwydd, ac y gwna iawn yn hawdd i'r sawl a fo'n ddigllon wrtho.

Mae Duw'n amddiffyn ac yn gwa­red y dyn gostyngedic: mae ef yn caru ac yn cyssuro'r gostyngedic: mae ef yn rhoi grâs mawr i'r gostyn­gedic: ac wedi iddo ddioddef ei wasgu a'i orthrymmu, Duw a'i cy­fyd ef i glôd a gogoniant.

I'r gostyngedic y mae Duw'n dat­cuddio ei gyfrinachoedd, ac a mwyn­der mawr yn ei wahodd, a'i ddenu ef atto eihun.

Gwedi i'r gostyngedic dioddef mefl a gwaradwydd, ef y fydd yn ddigon bodlon: oherwydd ei fod yn sefyll yn Nuw, ac nid ar y byd.

Na feddwl dy fod wedi cynnyddu dim mewn daioni, oddieithr dy fod yn cyfrif dyhun yn îs ac yn waelach na neb arall.

PEN. III.
Am ddyn daionus heddychol.

1. CAdw dyhunan yn heddychol, ac yna ti a elli heddychu rhai eraill.

Dyn heddychol a wna fwy o lês, na dyn dyscedic iawn.

Dyn digllongar a dry y da hefyd yn ddrwg, ac a goelia'n hawdd ddrwg am vnarall.

Dyn heddychol a dry bob peth yn dda.

Ni thybia'r neb a fo'n gwbl he­ddychol ddrwg am neb; ond y neb y fo'n anfodlon, ac yn gythryblus ynddo eihun y fydd yn llawn ac yn flîn o amryw ddrwg-feddyliau: ni fydd ef eihunan yn llonydd, ac nis gâd i rai eraill fod yn llonydd.

Fe a ddywed yn fynych yr hyn ni ddylai ei ddywedyd: ac nis gwna mor peth y fyddai rheittiach iddo ei wneuthur.

Fe a ystyria'r peth a ddylai rhai [Page 103] eraill ei wneuthur, ac a esgeulusa'r hyn a ddylai ef eihunan ei wneu­thur.

Amhynny bydded gofal gennyt yn gyntaf amdanat dyhunan: ac yna y gelli di'n gyfion fod yn eiddigus am ddlêd dy gymmydoc.

2. Ti a wyddost yn dêg esguso, a rhoi lliw hardd ar dy weithredoedd dyhun: ac nis mynni dderbyn escu­sodion rhai eraill.

Jownach y fyddai iti gyhuddo dy­hunan, ac esgusodi dy frawd.

Os mynni di gan eraill gyd-ddwyn a thydi, cyd-ddwg dithau ag eraill.

Edrych, cyn belled yr wyt etto oddiwrth wîr gariad perffaith a go­styngeiddrwydd, yrhai ymmhwy bynnac y byddant, nis medra'r dyn hwnnw na digio, na sorri wrth neb, ond wrtho eihunan.

Nid peth mawr yw byw gyda'rhai daionus a'rhai mwynion: mae hyn­ny'n naturiol ac yn hoff gan bawb: ac o wîr fodd y mynnai pob dyn fod yn heddychol, a mwy y câr y sawl, y fo'n cyttuno ag ef.

[Page 104]Ond medru byw'n heddychol gy­da' rhai aflonydd, cyndyn, gwrthny fig, neu'rhai afreolus y fo'n ein gwr­thwynebu ni, sy waith mawr canmo­ledic aruthr, a gwrol.

3. Mae rhai a gadwant euhun yn heddychol, ac y fyddant fyw'n he­ddychol gydag eraill.

A mae rhai ni fedrant na bod mewn heddwch euhunain, na gadael rhai eraill mewn heddwch: mae'n hwy'n flîn yn fynych i rai eraill, ond yn flinach bobamser iddynt euhun­ain.

A mae rhai'n cadw euhunain yn heddwch; ac yn ceisio dwyn rhai e­raill i heddwch.

Erhynny mae'n holl heddwch ni'n y byd annedwydd ymma, yn sefyll yn hyttrach ar ymddioddef gostynge­dic, nac ar fod heb ymglywed dim gwrthwyneb.

Y neb a fedro ddioddef oreu, sy mewn mwyaf heddwch. Hwnnw sydd yn Oresgynnwr arno eihun, yn

Arglwydd ar y byd, yn Anwylyd i Christ, ac yn Etifedd y Nêf.

PEN. IV.
Am feddwl pûr, ac ewyllysfryd syml.

1. ADwy aden y codir dyn ifynu oddiar wagedd daearol, sef, a symlrwydd ac a phurdeb.

Symlrwydd a ddylai fod yn ein bryd, a phurdeb yn ein hawydd a'n serch ni. Symlrwydd sy'n cyfeirio at Dduw: a phurdeb sy'n ymafael ynddo, ac yn profi ei felusrwydd ef.

Nid oes vn weithred dda a'th rwy­stra di, os tydi y fyddi oddimewn yn rhydd oddiwrth serch ac awydd an­nhresnus.

Pettiti heb geisio nac amcanu dim arall ond bodloni Duw, a gwneuthur llês i'th gymydoc, ti fyddit yn gwbl rhydd oddimewn.

Pettai dy galon di'n iawn: yna pob creadur y fyddai'n ddrych bu­chedd iti, ac yn lyfr o ddysceidiaeth sanctaidd.

Nid oes vn creadur mor fychan ac [Page 106] mor wael, nad ydyw'n gosod allan ddaioni Duw.

2. Pettiti'n wîr ddaionus ac yn bûr, yna ti a ellit weled a dyall pob peth yn ddirwystr.

Calon bûr a ddichon dreiddio i'r Nêf, ac i Vffern.

O'r vnrhyw ac y bo dyn oddi­mewn, y barna ef oddiallan.

Os oes llawenydd yn y byd, yn­ddiau mae hwnnw gan y dyn sy bûr ei galon.

Os oes gofid a blinedd yn vnlle, drwg-gydwybod a wyr oreu ple mae hynny.

Megis y mae'r haiarn a ddodir yn y tân, yn colli ei rwd, ac yn mynd yn gwbl tanbaid: felly mae'r dyn a droddo'n hollawl at Dduw, yn diosg eihun o'i holl wendid, a'i fusgrelli ysprydol: ac yn troi'n ddyn newydd.

3. Pan fo dyn yn dechreu claearu, yna yr osna ef lafur bychan, ac a gymmera 'n ewyllysgar y cyssur y fo oddiallan.

Ond pan fo dyn yn dechreu gorch­fygu eihunan, ac yn rhodio'n wrol [Page 107] arhyd ffordd Dduw: yna ni wna ond bychan gyfrif o'r peth oedd o'r blaen yn flîn iawn iddo.

PEN. V.
Am ystyried arnom einhunain.

1. NId oes ini mor ymddiried gormod arnom einhunain; oherwydd bod ynfynych eisiau grâs a deall arnom.

Nid yw'r goleuni sydd ynom ni ond ychydic, a buan y colli'r hynny trwy'n diofalwch ni.

Mynych hefyd yr ydym heb ysty­ried, mor ddall yr ydym oddimewn.

Mynych y gwnawn ddrwg, ac yr esgusodwn hynny'n waeth.

Gwŷn a drwg-anwyd y fydd wei­thiau'n ein cynhyrfu ni, a ninnau'n tybied mai zêl a bryd da yw'r peth.

Ni a geryddwn rai eraill am be­thau bychain a mân: a gadawn fynd heibio yn ddisôn y beiau mowrion sydd ynom ni einhunain.

Digon buan y clywn ac y cyfrifwn [Page 108] yr hyn yrydym ni'n ei ddioddef gan rai eraill: ond pafaint y mae rhai e­raill▪ yn ei ddioddef gennym ni, nid ydym yn ystyried.

Y neb a ystyrio'n dda ac yn iawn ei weithredoedd eihun, ni chaiff hwnnw weled achos i farnu'n dost am rai eraill.

2. Dyn ysprydol oddimewn, a brisia'n fwy gymmeryd gofal amdano eihun, nac am holl bethau eraill: a'r neb y fo'n gwilio'n ofalus arno eihun, a daw a son yn hawdd am rai eraill.

Byth ni byddi di'n ddyn ysprydol a defosionol, oddieithr iti dewi a sôn am rai eraill, gan gymmeryd gofal pendifaddeu amdanat dyhun.

Os tydi a ddisgwyli arnat dyhun, ac ar Dduw, ni wna fawr gynwrf ynot yr hyn a weli ac a glywi oddi­allan.

Ple'r wyt, pan nid wyt yn bresen­nol gyda thi dyhun? a gwedi chwi­lio a chwalu pob peth, pa lês gan ddiofalu amdanat dyhun a gefaist?

Os mynni di gael heddwch a gwîr vndeb gyda Duw, rhaid iti ddibrisio [Page 109] pob peth arall, a gosod dyhunan yn­vnic oflaen dy olygon.

3. Ti a gai ganhynny lawer o lês ysprydol, os cedwi di dyhun yn segur o bob gofalon bydol.

Ti a fethi'n fawr, os gwnai dy gy­frif o ddim bydol.

Na fydded dim yn fawr, dim yn vchel, dim yn hôff, dim yn gym­meradwy gennyt, ond Duw'n vnic, a'r hyn sy'n perthyn i Dduw.

Cyfrifa'r cwbl yn wagedd, pa gys­sur bynnac a ddelo iti o ryw greadur.

Enaid a garo Dduw, a ddibrisia bob peth tan Dduw.

Duw'r hwn yn vnic sy'n dragywy­ddol, ac yn anfeidrol, ac yn llenwi pob peth, yw cyssur yr enaid, a gwîr lawenydd y galon.

PEN. VI.
Am lawenydd cydwybod dda.

1. GOgoniant dyn da yw, bod testiolaeth cydwybod dda gantho.

[Page 110]Bydded cydwybod dda gennyt, a thi y fyddi lawen bobamser.

Cydwybod dda a eill ddioddef llawer iawn, a mae hi'n llawen iawn yn-ghanol gwrthwynebau.

Cydwybod ddrwg y fydd bobam­ser yn ofnus ac yn aflonydd.

Ti a gysgi'n esmwyth, os dy ga­lon ni fydd yn dy geryddu di.

Na lawenhâ, ond gwedi gwneu­thur rhywbeth da.

Nid oes mor gwîr lawenydd vn­amser gan y rhai drygionus, ac nid ydynt yn clywed dim heddwch oddi­mewn iddynt: Am nad oes mor heddwoh i'rhai anwireddus, Esai 48. 22. medd ein Harglwydd.

Ac os dywedant: Rydym yn he­ddwch, ni ddaw mor drygau arnom­ni: a phwy a feiddia wneuthur niw­eid i nyni? na choelia hwynt: oble­gid yn ddisymmwth y cyfyd digo­faint Duw, a'i gweithredoedd hwynt a wneir yn ddim a'i meddyliau hwynt a fethant ac a ddarfyddant yn­llwyr.

2. Nid peth caled i'r neb sy'n ca­ru, [Page 111] yw gogoneddu mewn gofid: ca­nys gogoneddu felly, yw gogoneddu yn-Ghroes ein Harglwydd.

Byr yw'r gogoniant a'r glôd a ro­ddir ac a gair gan ddynion.

Mae tristwch bobamser yn cyd­ganlyn gogoniant bydol.

Mae gogoniant y rhai da yn eu cydwybodau, ac nid yn-genau dyni­on.

Mae difyrrwch y rhai cyfion am Dduw ac yn Nuw: a'i llawenydd hwynt sydd am y gwirionedd.

Ni phrisia'r neb, sy'n caru'r gwîr a'r tragywyddol ogoniant, am y go­goniant bydol a'r darfodedic.

A'r neb sy'n ceisio gogoniant by­dol, neu heb fod yn ei ddibrisio o waelod ei galon, sy'n dangos yn am­lwg nad yw ef yn caru'r gogoniant nefol.

Mae mawr esmwythder calon gan y neb, nid yw nac yn ceisio clod, nac yn ofni anglod.

3. Hawdd y bydd ef bodlon a heddychol, cydwybod yr hwn sy'n bûr ac yn lân.

[Page 112]Ni fyddi di'n ddim sancteiddiach os canmoler di: nac yn ddim gwae­lach os goganer di.

Yr hyn wyt, hynny ydwyt: ac nis gellir dywedyd yn-gwirionedd dy fod ti'n fwy, nac yr wyt yn-gwydd Duw.

Os edrychi'n iawn ar yr hyn wyt oddimewn ynot dyhun, ni fydd fawr waeth gennyt, pabeth a ddywed dy­nion amdanat.

Mae dyn yn gweled yr wyneb: ond mae Duw'n edrych ar yr hyn sy'n y galon. Mae dyn yn canfod y wei­thred, ond mae Duw'n gwybod y bryd a'r meddwl.

Gwneuthur yn dda bobamser, a meddwl yn wael amdano eihunan, sy'n arwydd o enaid gostyngedic.

Bod heb fynnu cymmeryd cyssur o vnrhyw greadur, sy'n argoel o bur­deb mawr, ac o ymddiried oddi­mewn.

4. Y neb nid yw'n ceisio dim te­stiolaeth trosto eihun oddiallan, sy'n dangos ei fod ef gwedi ymroddi ei­hunan yn hollawl ar Dduw.

Canys nid y neb sy'n canmol ei­hun, [Page 113] sy gymmeradwy (medd S. Pawl) ond y neb y mae'n Harglwydd yn ei ganmol, 2 Cor. 10. 18.

Rhodio gyda Duw oddimewn, a bod heb ddim ewyllysfryd at y pethau sydd oddimaes ini, yw cyflwr dyn gwîr-ysprydol.

PEN. VII.
Am garu'r Jesu vwchben pob peth.

1. GWyneifyd y neb sy'n dyall, pabeth yw caru'r Jesu, a di­brisio eihunan ermwyn yr Jesu.

Rhaid gadael anwylyd ermwyn anwylyd: oblegid fod yr Jesu'n myn­nu ei garu'n vnic vwchben pob peth arall.

Caru'r creadur sy beth twyllodrus ac anwadal.

Caru'r Jesu sy beth ffyddlon a hir­barhâus.

Y neb a ogwydda ar y creadur, a syrthia gyda pheth llithredic.

Y neb a gofleidia'r Jesu, a ddioge­lir yn dragywydd.

[Page 114]Cara efe, a gwna efe yn anwylyd iti, yr hwn gwedi i bawb ymadael a thi, ni ymâd ef ddim a thi, ac nis gâd iti fynd i'th golli o'r diwedd.

Rhaid iti rywamser gael dy wa­hanu, mynni na fynni, oddiwrth bawb.

2. Cadw dyhun gyda'r Jesu'n fyw ac yn farw: a gorchymmynna dyhun i'w ffyddlondeb ef, yr hwn gwedi i bawb eraill fethu, a ddichon yn vnic dy helpu di.

Mae dy anwyl garedic di o gyfryw natur, ac nas myn ef fod yn gyfran­noc a neb arall: eithr ef a fyn gael dy galon di iddo eihun ynvnic, ac eistedd ynddi megis Brenin ar ei Thrôn ei­hunan.

Pettiti'n medru gwaghâu dyhun ynlân o bob creadur, fe a fyddai'n dda gan yr Jesu drigo gyda thi.

Ti gai weled y cwbl agos wedi ei golli, pa ymddiried bynnac a roddi'n nynion.

Na ymddirieda, ac na ddyro dy bwys ar gorsen wyntog: Canys pob cnawd sy fel glaswelltyn, a'i holl o­goniant [Page 115] a gwympa, ac a fetha me­gis blodeu y glaswelltyn.

3. Buan y cai di dwyllo, os edry­chi ynvnic ar yr ymddangos a wna dynion oddiallan.

Oblegid os tydi a geisi dy gyssur a'th ynnill ynddynt hwy, nis cai di'n fynych ond dy golled.

Os ceisi di yr Jesu ymmhawb, yn­ddiau ti a gai'r Jesu ynddynt.

Ond os tydi a geisi dyhun yn­ddynt, ti a gai dyhun hefyd, ond i'th adwyth a'th ddinistr dyhun.

Oblegid mwy o ddrwg a wna dyn iddo eihun, onis ceisia ef yr Jesu, nac a eill y byd igyd, a'i holl elynnion wneuthur iddo.

PEN. VIII.
Am ymgyfeillach caredic a'r Jesu.

1. PAn fo'r Jesu'n bresennol gyda ni, pob peth y fydd yn dda: ac ni welir dim yn anodd: ond pan fo'r Jesu heb fod gyda ni, fe a fydd y cwbl yn galed,

[...]
[...]

Pan fo'r Jesu heb fod yn llafaru o­ddimewn, ni bydd ein cyssur ni ond gwael: eithr os dywed ond vn gair ynvnic, fe a gair clywed cyssur mawr.

Onis cododd Mair Magdalen yny­man o'r lle yr oedd hi'n wylo, pan ddywedodd Martha wrthi: mae'n Meistr gwedi dyfod, ac yn galw amdanati¿’ Jo. 11. 28.

Dedwydd yw'r awr, pan fo'r Je­su'n galw o ddagrau i lawenydd ys­prydol.

Mor sych a mor galed wyt heb yr Jesu? mor anghall a mor wag-ofer wyt, os ceisi ddim allan o'r Jesu? onid mwy colled yw hynny, na phet­titi'n colli'r holl fyd?

2. Pa lês a wna'r byd iti heb yr Jesu?

Bod heb yr Jesu sydd vffern gofid­lawn; a bod gyda'r Jesu, yw Para­dwys hyfrydlawn.

Os bydd yr Jesu gyda thi, nis geill vn gelyn wneuthur niweid iti.

Y neb a gaffo'r Jesu, a gaiff drys­sor da, ie da vwchben pob daoedd.

[Page 117]A'r neb a gollo'r Jesu, a gyll or­mod, a mwy na'r holl fyd.

Tlottaf oll yw'r neb sy'n byw heb yr Jesu: ar cyfoethoccaf oll yw'r neb sy'n byw'n dda gyda'r Jesu.

3. Peth mawr yw medru byw gy­da'r Jesu, a medru cadw gyda'r Jesu, sy ddoethineb mawr.

Bydd heddychol a gostyngedic, a fe a fydd yr Jesu gyda thi.

Bydd ddefosionol a llonydd, a fe erys yr Jesu gyda thi.

Buan y gelli di yrru'r Jesu i ffo o­ddiwrthyt, a cholli ei râs ef, os mynni bwyso a llaesu tuacat bethâu bydol, ac at y rhai sydd oddiallan iti.

Ac os tydi a'i gyr ef i ffordd oddi­wrthyt, ac a'i colli ef felly, at bwy yr ei di, a phwy a geisi'n anwylddyn iti?

Heb ryw anwylddyn nis gelli'n iawn mor byw: ac oni bydd yr Je­su'n anwyl iti vwchben pawb, ti fy­ddi'n rhy drîst ac yn ddigalonog.

Ffol ganhynny y gwnai di, os ceisi di ymddiried neu ymlawen hâu'n neb arall.

[Page 118]Rhaid dewis cael yr holl fyd yn ein herbyn, yn hyttrach na chael yr Jesu yn ddigllon wrthym.

O'r holl garedigion ganhynny, by­dded yr Jesu'n vnic yr Anwyl-garedic pennaf.

4. Carwn bawb ermwyn yr Jesu: eithr carwn yr Jesu er ei fwyn eihu­nan.

Yr Jesu Christ yn vnic sydd i'w garu'n bennaf oll, yr hwn yn vnic sy ddaionus a ffyddlon vwchben pawb o'n caredigion.

Er ei fwyn ef, ac ynddo ef, rhaid ini garu'n gelynnion yn gystal a'n caredigion; a rhaid ini weddio arno ef trostynt igyd, gydnabod o bawb ohonynt ef, a'i garu.

Byth na chais dy ganmol, neu dy garu'n fwy na neb arall: oblegid i Dduw'n vnic y mae hynny'n perthyn, i'r hwn nid oes neb cyffelyb.

Na chais chwaith, fod calon neb yn llawn ohonoti: ac na fydded dy galon dithau yn llawn o neb arall; ond bydded yr Jesu'n bennaf ynoti, ac ymmhob dyn da.

[Page 119]5. Bydd burlan a rhydd oddi­mewn, heb ymblethu neu ymddy­ryssu yn rhyw greadur pabynnac y fo.

Mae'n rhaid iti fod megis yn noeth, a bod dy galon yn burlan gennyt tuagat Dduw, os mynni di ystyried a gweled a phrofi, mor be­raidd yw ein Harglwydd.

Ac ynddiau nis gelli mor dyfod i hyn, oddieithr i'w râs ef dy rag­flaenu a'th dynnu di atto: fel gwedi gwrthod ac ymadael a'r cwbl, y ce­ffi'n vnic dy vno ag efe'n vnic.

Oblegid pan fo grâs Duw gwedi dyfod i mewn i ddyn, yna y geill ef bob peth: ond pan elo'r grâs hwn­nw ymmaith, yna ni bydd ef ond tlawd a gwan, a megis wedi ei adael yn vnic i'w fflangellu.

Ac amhynny ni ddyliti mor diga­lonni, nac anobeithio: ond sefyll yn wastad-fodlon i ewyllys Duw, a dio­ddef pob peth a ddigwyddo iti er mo­liant i Jesu Christ: oblegid arol y gauaf y daw'r hâf, arol y nos y daw'r dydd, ac arol temhestl y daw hindda.

PEN. IX.
Am fod heb ddim cyssur ymmhob peth.

1. NId peth blîn yw bod heb y cyssur a gair gan ddynion, pan fo gennym yr hyn a gair gan Dduw.

Peth mawr yw, a pheth mawr iawn ydyw, bod heb na chyssur gan ddyn, na chyssur gan Dduw: ac er­mwyn Duw bod yn ewyllysgar i ddioddef anghyflwr calon: a bod heb geisio eihun yn vnrhyw beth, ac heb edrych ar ei haeddiant eihun.

Pa beth mawr ydyw▪ os byddi'n llawen pan ddelo grâs Duw attat? mae pawb yn chwennych yr awr honno.

Digon esmwyth y marchoga'r neb, y fo gras Duw'n ei ddwyn.

A pha ryfedd, nad yw ef yn clyw­ed ei bwys, yr hwn y mae Duw holl­alluoc yn ei ddwyn, ac a arweinir gan y twysoc pennaf.

[Page 121]2. Da gennym gael rhywbeth yn gyssur, ac anodd gan ddyn adael a gwrthod eihunan.

Y bendigedic S. Lawrens a orch­sygodd y byd gyda'i sanctaidd Escop: am ddarfod iddo ddibrisio'r cwbl, oedd yn ymddangos yn ddifyr yn y byd: a gadael hefyd yn ewyllysgar ermw­yn Chrîst tynnu oddiwrtho pennaf Escop Duw S. Sixtws, yr hwn yr oedd ef yn ei garu'n ddirfawr.

Cariad ar Dduw ganhynny a orch­fygodd gariad ar ddyn: ac yn lle cyssur gan ddyn ef a ddewisodd yn hyttrach fod yn fodlon i ewyllys Duw.

Felly dysc dithau ermwyn Duw, ymadael a rhywbeth angenrheidiol, ac a rhyw ddyn anwyl garedic iti.

Ac na fydd yn rhy drîst, pan so rhyw anwylddyn yn ymadael a thi gan wybod, y bydd rhaid ini igyd o'r diwedd gael ein gwahanu y naill oddiwrth y llall.

3. Rhaid i ddyn ymdrechu llaw­er, ac yn hîr, cyn y dysco orchfygu eihun yn llwyr, a thynnu ei holl awyddfryd at Dduw.

[Page 122]Pan fo dyn yn sefyll arno eihunan, hawdd iddo lithro i geisio cyssur gan ddynion.

Eithr ni bydd y neb y fo'n caru Christ oddisrif, ac yn dilyn rhinwe­ddau'n astudiol, yn mynnu diddan­nion cyffelyb, nac yn ceisio difyrion corphorol: ond yn hyttrach blinde­rau trymmion, a llasuriau caled er­mwyn Christ.

4. Amhynny pan roddo Duw gys­sur ysprydol iti, derbyn ef a mawr ddiolch: ond cosia mai rhôdd Duw ydyw, ac nid dy haeddiant di.

Na fydd falch, na fydd rhy lawen, ac na hydera'n ofer: ond yn hyttrach bydd fwy gostyngedic am y grâs a gefaist, bydd fwy gochelgar hesyd a mwy osnus yn dy holl weithredoedd, oblegid yr â heibio yr awr honno, a themptasiwn a ddilyna.

Pan ddygir cyssur oddiarnat, na anobeithia ynyman: ond â gostyng­eiddrwydd ac â diolchgarwch dis­gwyl am gael dy ymweled o'r Nêf: oblegid Duw a ddichon drachefn roddi cyssur helaethach iti.

[Page 123]Nid peth newydd yw hynny, nac amgenach na'r hyn sydd arferedic i'r sawl sy'n rhodio arhyd ffordd Dduw: oblegid y cyfryw gyfnewid y fu'n fynych yn y Seinctiau mowrion a'r hên Brophwydi.

5. Amhynny rhyw vn pan yr oedd grâs gydag ef, a ddywedodd: Yn fy llownder dywedais, ni'm syflir fi'n dragywydd, Psal. 29. 7.

Ond pan yr oedd grâs heb sod gydag ef, mae ef yn arddodi'r hyn yr oedd yn ei ymglywed ynddo ei­hunan, gan ddywedyd: Troaist dy wyneb oddiwrthyf, a myfi a'm cy­thryblwyd, Ver. 8.

Ac erhynny yn ghanol y newidiau hyn, nid yw ef yn anobeithio, ond yn gweddio'n daerach ar ein Har­glwydd, gan ddywedyd: Llêfaf at­tati, O Arglwydd, ac attolygaf ar fy Nuw i▪ Ver. 9.

O'r diwedd mae ef yn cael ffrwyth ei weddi, ac yn testiolaethu ei fod gwedi cael ei glywed, gan ddywe­dyd: Mae'n Harglwydd wedi gw­rando arnaf: mae of wedi cymme­ryd [Page 124] trugaredd arnaf: ein Har­glwydd a ddaeth yn gymmhorth­wywr imi, Ver. 11.

Eithr ymmha beth? Ti a droaist yn-galar (medd ef) yn lawenydd imi, ac a amgylchaist fi â diddanwch, Ver. 12.

Os felly y gwnaed a'r Seinctiau mowrion, nid rhaid i ninnau sy wael a gweinion mor anobeithio, os by­ddwn weithiau mewn gwrês, wei­thiau mewn claearedd ysprydol: am fod yr yspryd yn dyfod ac yn mynd ynol bodd ei ewyllys da ef. Amhyn­ny y mae Job sanctaidd yn dywe­dyd: Yr wyt yn ei ymweled ef y bore, ac yn ddisymmwth ti a'i profi ef, Job 7. 18.

6. Ar babeth ganhynny y gallaf obeithio, neu ymmhabeth y gallaf ymddiried, ond ynvnic y'mawr druga­redd Duw, ac yn-gobaith am ei râs ef?

Canys pa vn bynnac y fo, ai bod dynnion da gyda myfi, ai brodyr de­sosionol, ai cyfeillion ffyddlon, ai llyfrau sanctaidd, ai traethodau têg, ai mwyn-gân a hynmau peraidd, [Page 125] bychan o lês, bychan o ddifyrrwch a wna'rhain igyd, pan fythwyf heb râs oddiwrth Dduw, a gwedim gadael yn fy ysprydol dlodi fyhun.

Yna ni bydd gwell rhwymedi na dioddefgarwch, ac ymwrthod â mi fyhun yn ewyllys da Duw.

7. Erioed nis cyfarfais â dyn mor grefyddol a duwiol, oddiwrth yr hwn ni thynnid y grâs ymma wei­thiau, ac yn yr hwn ni byddai gw­rês ysprydol yn lleihâu.

Nis cipiwyd yr vn o'r Sainct cy­fiuwch tua'r Nêf, ac ni lewyrchwyd ef yn gymmaint, nas cafodd yn gynt neu hwyrach ei demptio.

Oblegid nid yw ef yn deilwng i fyfyrrio'n vchel ar Dduw, yr hwn ni chafodd ermwyn Duw ei flino a rhyw drallod neu aflonyddwch.

Am fod y temptasiwn y fo o'r blaen, yn arwydd o gyssur yn dyfod.

Oherwydd cyssur nefol a addewir i'r sawl a brofir a themptatiwn; I'r neb a orchfygo (medd ef) y rhoddaf fwytta o bren y bywyd, Apoc. 2. 7.

8. Eithr y grâs nefol a roddir, [Page 126] sel y bo dyn yn ddewrach, ac yn fwy nerthol i ddioddef gwrthwyne­bau.

Mae temptasiwn hefyd yn canlyn, rhag iddo fynd yn rhy falch.

Nid yw'r Diawl yn cysgu, na'r cnawd gwedi marw: amhynny yn ddibaid paratôa dyhun i ymladd: am fod gelynnion ar y llaw ddeheu, ac ar yllaw asswy, y rhai ni fyddant byth yn llonydd.

PEN. X.
Am fod yn ddiolchgar am râs Duw.

1. PAm yr wyti yn ceisio es­mwythdra, gan dy fod gwe­di dy eni i gymmeryd poen a llafur?

Dyro dyhun i ddioddef yn hyt­trach, nac i gael cyssur: i ddwyn dy Groes yn hyttrach, nac i gael llaw­enydd.

Canys pwy o'r dynion bydol sy, na fynnent o'i gwîr fodd gymmeryd cyssur a llawenydd ysprydol, pettent bobamser yn gallu ei gael?

[Page 127]Am fod eyssurau ysprydol yn llawer gwell, na phob mwythau'r byd, a holl ddifyrion y cnawd.

Oblegid fod yr holl ddifyrion by­dol, naill ai'n bethau gwâg, neu'n bethau bryntion: Eithr diddanion ysprydol yw'r vnic bethau hyfryd a gonest, yn tyfu o rinweddau, ac wedi eu tywallt gan Dduw i'r calon­nau pûr a glân.

Ond nid oes neb a eill bobamser ynol ei ewyllys eihun, swynhâu'r cyssurau ysprydol hyn, am nad yw amser temptasiwn chwaith hir yn peidio.

2. Ond mae gau rydd-did yr e­naid, a bod dyn yn ymddiried gor­mod arno eihun yn rhwystro'n fawr yr ymweled o'r Nêf.

Da y gwna Duw wrth roddi'r grâs o gyssur: eithr drwg y gwna dyn, am nad yw'n ailroddi'r cwbl gyda diolch i Dduw.

Dyna'r achos na ddichon rhoddion grâs lifo imewn ini: sef oherwydd ein bod ni yn anniolchgar, ac heb dywallt y cwbl ynol i'r ffynnon dde­chreuol.

[Page 128]Canys mae grâs bobamser yn ddy­ledus i'r sawl a roddo ddiolch yn dei­lwng amdano: a dygir oddiar y dyn balch, yr hyn a arferir ei roddi'r go­styngedic.

3. Nid wyfi'n mynnu'r cyssur, a ddycco edifeirwch oddiarnaf: ac nid wyfi'n chwennych y myfyrdod a'm gwnelo'n falch.

Oherwydd nad yw pob peth vchel yn Sanctaidd: na phob peth melus yn dda: na phob awydd-fryd yn bur­lan: na phob peth hôff yn gymme­radwy gerbron Duw.

O'm gwirfodd y cymmerwn y grâs a'm gwnelai yn fwy ofnus ac yn ostyngedic, ac yn barottach i ymwr­thod a myfi fyhun.

Y neb si gwedi ei ddysgu â dawn o râs, a gwedi ei hyfforddi wrth ddioddef ei dynnu oddiwrtho, ni feiddia hwnnw bennu dim daioni ar­no eihun: ond yn hyttrach ef a gy­faddefa ei fod ef yn dlawd ac yn noeth.

Dyro i Dduw yr hyn sydd eiddo Duw: a phenna arnatithau yr hyn [Page 129] sydd eiddo di dyhun: hynny yw, dyro ddiolch i Dduw am ei râs: eithr bod y bai'n vnic arnati, a'th fod di'n haeddu cospedigaeth ddyledus am y bai.

4. Cais bob amser yr hyn y fo isaf a gwaelaf: a rhoddir iti'r hyn y fo vchaf a'r goreu: oblegid nas gall yr vchaf sefyll heb yr isaf.

Mae'r Sainct sy fwyaf yngwydd Duw, yn waelaf yn eu gwydd eu­hun: ac o bafaint mwy gogoneddus, mwy gostyngedic o hynny ydynt.

Nid yw'r sawl sy'n llawn o'r gwi­rionedd ac o'r gogoniant nefol, yn chwennych gwâg glod y byd ymma.

Ni ddichon y sawl sy gwedi eu sei­lio a'i cadarnhâu yn Nuw, mewn modd yn y byd fod yn falch.

Ac nid yw'r sawl sy'n bwrw'r cwbl ar Dduw, bethbynnac a gowsant, yn ceisio gwâg glod gan eigilydd: ond mae'n hwy'n chwennych y gogoni­ant sydd o Dduw'n vnic: a chael o Dduw ei foliannu ynddynt hwy, ac yn eu holl Sainct goruwch pob peth, ac yn tynnu bobamser at hynny.

[Page 130]5. Bydd ddiolchgar ganhynny am y doniau lleiaf: a thi y fyddi deilwng i gael rhai mwy.

Cymmer y lleiaf hefyd megis pe bai'r mwyaf; a'r dawn gwaelaf me­gis pettai'r godidoccaf.

Os edrychir ar deilyngdod y Rho­ddwr, ni welir vn dawn yn fychan neu'n rhy wael: canys nid bychan yw'r hyn, a roddir gan Dduw goru­chaf.

Pettai ef yn rhoi poenau a gwia­lennodau, hwy a ddylent fod yn gymmeradwy, oblegid ei fod ef bo­bamser yn gwneuthur er ein iach­awdwriaeth ni, y peth bynnac a adawo ef ddigwydd ini▪

Y neb a fynno gadw grâs Duw ynddo eihun, bydded yn ddiolchgar am y grâs a roddwyd, yn ddioddef­gar am y grâs a dynnwyd oddiwr­tho. Gweddied iddo ddychwelyd, bydded ochelgar a gostyngedic rhag ei golli,

PEN. XI.
Am fychaned yw'r nifer o'r sawl sy'n caru Croes Christ.

1. MAe llawer 'rwön gan yr Je­su, o'r sawl sy'n caru ei deyrnas nefol ef, ond nid oes nem­mor yn dwyn ei Groes ef.

Mae llawer yn mynnu cael cyssur gantho, eithr nid oes ond nemmor yn mynnu dioddef blinfyd trosto.

Mae llawer o gyfeillion bwrdd gantho, ond nid oes ond nemmor o gyfeillion dirwest.

Mae pawb yn mynnu bod yn llawen gydag ef: ond nid oes ond nemmor yn mynnu dioddef rhy w­beth trosto.

Mae llawer yn dilyn yr Jesu hyd at dorri'r bara gydag ef: ond nid oes ond nemmor yn ei ddilyn ef i yfed caregl ei ddioddefaint.

Mae llawer yn anrhydeddu ei Wyrthiau ef ond nid oes ond nem­mor yn dilyn c [...]wilydd ei Groes ef.

[Page 132]Mae llawer yn caru'r Jesu, hyd y digwyddo gwrthwynebau.

Llawer a'i canmolant ac a'i ben­dithiant ef, tra y caffant ryw gyssu­rau gantho.

Ond os yr Jesu a ymguddia eihun oddiwrthynt, ac a'i geidw hwynt dros ychydic: hwy a syrthiant naill ai i ymgwyno, neu i ormod diga­londid.

2. Ond mae'r sawl sy'n caru'r Je­su ermwyn yr Jesu, ac nid er mwyn rhyw gyssur iddynt euhun, yn ei fen­dithio ef ymmhob cyfyngder calon a gofid, yn gystal ac yn y cyssur mwy­af.

A phe bai ef byth heb roi cyssur ddynt; erhynny hwy a'i moliannent bobamser, ac a ddiolchent iddo bo­bamser.

3. Oh! pafaint a wna cariad pur­lan ar yr Jesu, yr hwn ni fo wedi ei gymmysgu â rhyw lês, neu â cha­riad amdano eihun?

Ond gweision cyflog y dylid galw pawb o'r sawl, sy bob amser yn cei­sio cyssur?

[Page 133]Ond ydynt hwy'n dangos, eu bod yn caru euhunain, yn hyt­trach na Christ, y rhai sy bobam­ser yn meddwl am eu mael a'i llês euhun?

Ple y cair y sawl, a wasanaetho Dduw'n rhâd?

4. Anaml y cair dyn mor ysprydol, a bod yn noeth ac yn rhydd o bob chwant daearol.

Canys ple cair dyn gwir dlawd o yspryd, ac heb ddim ynddo o gariad annhrefnus tuac at y creaduriaid? o hîr-bell ac o eithafoedd terfynau'r byd y mae gwerth hwnnw.

Pe rhoddai dyn ei holl gyfoeth, etto ni fyddai hynny ddim.

A phe gwnai benyd mawr, etto ni fyddai hynny ond ychydic.

A phe doi ohŷd i bob gwybo­daeth, etto fe fyddai ymmhell.

A phe bai rhinwedd mawr, a de­fosiwn llawn gwresog gantho, etto fe▪ fyddai llawer yn eisiau arno: sef, vn peth pennaf angenrheidiol iddo.

Beth yw hynny? gwedi gadael pob peth gadael ohono â fe eihunan, [Page 134] a myned yn hollawl allan ohono ei­hun, a bod heb gadw dim ynddo o gariad neilltuol tuac atto eihunan.

A gwedi iddo wneuthur y cwbl o'r pethau sydd i'w gwneuthur, me­ddwl nas gwnaeth ddim a dâl son amdano.

5. Nad ystyried yn fawr, yr hyn a ellid ei gyfrif yn fawr: ond yngwi­rionedd dyweded: mai gwâs anfu­ddiol ydyw, megis y mae'n Ceidwad yn dywedyd: Gwedi i chwi wnen­thur y cwbl a orchymynnwyd i chwi, dywedwch mai gweision anfuddiol ydym, Luc. 17. 10.

Yna a geill ef fod yn wîr dlawd ac yn noeth o yspryd: a dywedyd gyda'r Prophwyd: Canys vnic ydwyf a thlawd, Psal. 24. 16.

Erhynny nid oes neb yn gyfoeth­occach, neb yn gadarnach, neb yn rhyddach na'r sawl, a fedro ymadael a'i hunan ac a'r cwbl oll, a gosod ei­hun yn y lle isaf a gwaelaf.

PEN. XII.
Am ffordd-fawr y Groes sanctaidd.

1. CAled a garw y mae llawer yn cyfrif y gair ymma: Ymwa­da dyhunan, côd ifynu dy Groes, a dilyn fyfi, Matth. 16. 24.

Ond llawer calettach a garwach y fydd clywed y gair diweddaf hwnnw: Ewch y rhai melltigedic i'r tân tragywyddol, Mat. 25. 41.

Oblegid y sawl sy rwön yn ewy­llysgar yn clywed ac yn dilyn gair y Groes, ni chant y pryd hynny glywed y farn o golledigaeth dragywyddol.

Arwydd hwn y Groes y fydd yn yr wybr, pan ddelo'n Harglwydd i farnu.

Yna holl weision y Groes, a gy­fluniasant euhun i'r Croeshoeliedic yn eu bywyd, a gyrchant at Christ ein Barnwr â mawr ymddiried.

2. Pam ganhynny yr ofni di ddwyn y Groes, a'r hon yr eir i fe­ddiannu teyrnas?

[Page 136]Yn y Groes y mae iachawdwriaeth, yn y Groes y mae bywyd, yn y Groes y mae amddiffyn rhag ein gelynni­on.

Yn y groes y mae tywallt melys­der nefol: yn y Groes y mae cader­nid calon, yn y Groes y mae llawe­nydd ysprydol.

Yn y Groes y mae vchder rhin­wedd: yn y Groes y mae perffeidd­dra sancteiddrwydd.

Nid oes nac iachawdwriaeth i'r enaid, na gobaith am fywyd tra­gywyddol, ond yn y Groes.

Côd ifynu ganhynny dy Groes, a chanlyn yr Jesu, a thi a gai fyned i fywyd tragywyddol.

Efe a aeth o'r blaen gan ddwyn ei Groes, ac y fu farw ar y Groes tro­soti: fel y dygit tithau dy Groes, ac fel yr hoffit farw ar y Groes.

Oblegid os cydfarw a wnai ag ef, ti a gai fod yn gyfrannog o'i ogoni­ant ef.

3. Wele ar y Groes y mae'r cwbl yn sefyll, ac ar farw arni hi y mae'r cwbl yn bod: ac nid oes ffordd arall [Page 137] i fywyd, nac i gael gwir heddwch yspryd, ond ffordd y Groes sanctaidd, a beunyddol farweiddio'r cnawd,

Rhodia lle mynni, cais y peth bynnac a fynni: ac nis cai vn vche­lach ffordd vchod, na diogelach ffordd isod, na ffordd y Groes sanctaidd.

Trefna a dospartha'r cwbl ynol dy fryd a'th ewyllys: ac nis cai ond bod rhywbeth bobamser i'w ddio­ddef, naill ai o fodd neu o anfodd: ac felly ti a gai Groes bobamser.

Oblegid ti a gai glywed naill ai dolur yn dy gorph, neu ti a gai ddio­ddef blinder yspryd yn dy enaid.

4. Weithiau Duw a ymâd â thi: weithiau dy gymmydog a'th flina di: a'r hyn sy chwaneg, mynych y byddi di flîn iti dyhunan.

Ac erhynny nis gelli di ag vnrhyw rhwymedi, neu gyssur gael dy wa­red, neu leihâu dy flinedd: ond tra y gwelo Duw fod yn dda, mae'n rhaid iti ddioddef,

Oblegid fod Duw'n mynnu gen­nyt ddyscu dioddef gofid heb ddim cyssur, a darostwng dyhunan iddo ef [Page 138] yn hollawl, a myned rhagot i fod yn fwy gostyngedic trwy'r blinedd▪

Nid oes neb yn gallu ymglywed yn ei galon ddioddefaint Christ eyn dosted, a'r neb i'r hwn y digwyddodd dioddef y cyffelyb.

Mae Croes ganhynny bobamser yn barod, ac yn dy ddisgwyl di ymmhob man.

Nis gelli di mor diangc rhagddi, i ba le bynnac y cili: oblegid i ba le bynnac yr ei: ti a ddygi dyhun gyda thi, ac yno ti a gai dyhunan bobam­ser.

Tro dyhun tuac ifynu, tro dyhun tuac i wared, tro dyhun tuac allan, tro dyhun tuac imewn, ac yn yr holl leoedd hyn ti a gai Groes.

Ac mae'n rhaid iti gadw dioddef­garwch ymmhob man, os mynni di gael heddwch oddimewn, a haeddu coron dragywyddol.

5. Os tydi a ddygi dy Groes yn ewyllysgar, hi a'th ddwg dithau, ac a'th arweina i ddiwedd dymunedic: sef i'r fan lle bo diwedd o bob dio­ddef, er nas bydd hynny ymma.

[Page 139]Os o'th anfodd y dygi di dy Groes, hi fydd yn faich iti, ac wrth hynny ti a flini dyhun yn fwy: ac erhynny fe' fydd yn rhaid iti ei dioddef hi.

Os bwrw ymmaith a wnai vn Groes, ynddiammeu ti a gai vnarall, ac yscatfydd vn y fo llawer blinach.

6. Ai tybied yr wyti, y gelli di ddiangc yr hyn, nis gallodd dyn e­rioed fydd heibio iddo? pa vn o'r Sainct y fu yn y byd heb groes a go­fid?

Ynddiau ni bu Jesu Christ ein Harglwydd, vn awr heb ddolur ei ddioddefaint tra fu ef fyw.

Roedd yn rhaid (medd ef) i Christ ddioddef a chodi o feirw i fyw, ac felly myned imewn i'w Ogoniant, Luc. 24. 26.

A phafodd y ceisi di amgenach ffordd, na'r ffordd-fawr ymma, yr hon yw ffordd y Groes sanctaidd?

7. Nid oedd holl fywyd Christ ond Croes a Merthyrdod; ac a fynni di esmwythdra a difyrrwch?

Rwyti ar gam, rwyti ar gam, os tydi a geisi ddim amgenach na dio­ddef [Page 140] blinderau; oblegid fod ein holl fywyd marwol ymma yn llawn o drueni a gofidiau: ac wedi ei amgylchu obobtu â Chroesau.

Ac o bafaint mwy y bo dyn wedi cynnyddu'n yr yspryd, trymmach croesau a gaiff ef: am fod cariad ar Dduw'n chwanegu poen ei ddeoliad ef.

8. Ond erhynny, nid yw'r neb y fo fel hyn mewn amrwy foddion yn flîn, heb yr esmwythdra o gael cys­sur gan Dduw: oblegid ei fod ef yn clywed llês mawr yn dyfod iddo wrth ddioddef ei Groes.

Canys wrth ddarostwng eihun tani hi o'i wîr fodd, mae ef yn troi holl faich y blinder yn ymddiried o gael cyssur gan Dduw.

Ac o bafaint mwy y bo'r cnawd trwy flinedd yn gwisgo, ac yn gwae­thygu: mwy o hynny y cryfheir ei yspryd ef â grâs oddimewn.

Ac weithiau y cadarnheir ef ag ewyllys i ddioddef trallodau a gofid (er mwyn cyflunio eihunan â Chroes Christ) yn gymmaint, ac nas mynnai [Page 141] ef fod heb ddolur a blinedd: am ei fod yn meddwl, ei fod ef yn fwy cymmeradwy gerbron Duw, o bafaint mwy a thrymmach gofidiau y mae'n dichon eu dioddef erddo.

Nid rhinwedd dyn, ond grâs Christ sy'n gallu, ac yn gwneuthur hyn mewn cnawd gwan a breuol: sef cyrchu ohono trwy▪ wrês yspryd at, a charu'r peth y mae'n ei ffo, ac yn ei ffieiddio bobamser trwy natur.

9. Nid peth ynol tuedd dyn yw dwyn y Groes, caru'r Groes, cospi'r corph a'i ddarostwng ef: cilio rhag cael ei barchu a'i anrhydeddu, dio­ddef dirmyg ac ammharch yn fod­lon: dibrifio eihun a dymuno cael ei ddiystyru: goddef pob gwrthwyne­bau gyda cholledion, a bod heb chw­ennych dim llwyddiant yn y byd ym­ma.

Os edrych a wnai arnat dyhunan, ti a gai weled, nad wyti'n gallu dim o'r pethau cyffelyb.

Ond os tydi a ymddiriedi'n Nuw ein Harglwydd, y byd a'r cnawd a ddarostyngir i'th ewyllys, ac i'th lywo­draeth di▪

[Page 142]Ac ni bydd rhaid iti chwaith ofni'r gelyn, y Diawl; os tydi y fyddi wedi dy arfogi â ffydd, a gwedi dy arwy­ddo â Chroes Christ.

10. Dyro dyhun ganhynny megis gwâs daionus a ffyddlon, i ddwyn yn wrol Croes ein Harglwydd a groe­shoeliwyd er dy fwyn di.

Paratoa dyhun i ddioddef llawer o wrthwynebau ac amryw golledion yn y bywyd annedwydd ymma: ob­legid felly y digwydd iti ymmha le bynnac y byddi: ac felly y cai ym­mha le bynnac y llechi.

Mae'n rhaid bod felly: ac nid oes modd amgenach i ddiangc rhag bli­neddau drygau a dolur, na bod yn ddioddefgar.

Yfa garegl ein Harglwydd â ma­wr awydd, os wyt yn chwennychu bod yn anwyl iddo, a chael cyfran gydag ef.

Gorchymmynna gyssurau i Dduw: gwnaed ef a'r cyffelyb fel y gwelo fod yn oreu.

Ond tydi dyro dyhun i ddioddef blinderau, a chyfrifa hwynt fel pet­tent [Page 143] y cyssurau mwyaf: oblegid nad yw dioddefiadau yr amser presennol ymma'n deilwng i haeddu'r gogo­niant sydd i ddyfod, perhon a'th fod yn gallu dioddef y cwbl dyhunan.

11. Gwedi iti ddyfod i'r cyfryw gyflwr, ac y byddi'n ymglywed ynot dyhun, fod dioddef trallodau er mwyn Christ yn beth hyfryd a difyr iti: yna cyfrifa fod y cwbl yn dda gyda thi, oblegid dy fod wedi cael Paradwys ar y ddaear.

Tra fo blÎn gennyt ddioddef, a thra fyddi'n ceisio gochel hynny; ti fyddi'n ddrwg dy sutt: a'r blinder a'th ddilyna di ymmhob man, oddi­wrth yr hwn yr wyt yn ceisio diangc.

12. Os tydi a ymroddi dyhun i'r hyn a ddylit, hynny yw, i ddioddef a marw iti dyhun: buan yr â'r cwbl yn well gyda thi, ac y cai di heddwch.

Pettiti'n cael dy gippio gyda S. Pawl i'r drydedd Nef, ni fyddit er­hynny'n siccr nas cait ddioddef rhyw wrthwyneb. Myfi (medd yr Jesu) a ddangosaf iddo, pafaint bethau sy raid iddo eu dioddef er fy mwyn i, Act. 9. 16.

[Page 144]Dioddef ganhynny yw'r peth sydd etto ynol iti i'w wneuthur, os caru'r Jesu sy dda gennyt, a'i wasanaethu ef yn dragywyddol.

13. Mi fynnwn pettiti'n deilwng i ddioddef rhywbeth ermwyn enw'r Jesu: pafaint gogoniant y fyddai hynny i tydi? pafaint llawenydd i holl Sainct Duw? pafaint hefyd o adeiladaeth i'th gymydoc?

Mae pawb, yn wîr, yn canmol dioddefgarwch: eithr och yfi! mor anaml ydyw'r sawl sy'n mynnu dio­ddef.

Iawn yw, y dylit fod yn fodlon i ddioddef peth ermwyn Christ, gan fod llawer yn dioddef pethau trym­mach a gerwinach ermwyn y byd.

14. Bydded yspys iti, ynddiau, fod yn rhaid iti fyw buchedd farwo­ledic. Ac o bafaint mwy y byddi farw iti dyhun, mwy o hynny y byddi di fyw i Dduw.

Nid oes neb yn addas i graffu ar, nac i amgyffred nefolion bethau, oddieithr iddo ddarostwng eihunan i ddioddef gwrthwynebau ermwyn Christ.

[Page 145]Nid oes dim mor gymmeradwy i Dduw, na dim mor iachusol i ti­thau, na dioddef yn fodlon ermwyn Christ.

A phettiti i ddewis, ti a ddylit yn hyttrach chwennych dioddef gwr­thwynebau ermwyn Christ, na chael dy ddiddanu â llawer o gyssurau: oherwydd y byddit felly'n debyccach i Christ, ac i'w holl Sainct ef.

Canys nid yw'n haeddiant ni, na llês ein stâd ni'n sefyll ar lawer o gyssurau a melysder ysprydol: ond yn hyttrach ar ddioddef trymderau mowrion a gofidiau.

15. Pettasai ddim arall gwell, a mwy ar lês iachawdwriaeth dynion, na dioddef: ynddiau Christ a ddy­scasai hynny ar air ac esampl.

Canys efe a gynghorodd yn eglur ei Ddiscyblion yn ei ganlyn, a phawb eraill a'i dilynent ef, i ddwyn eu Croes, gan ddywedyd: Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded a'i hu­nan, a choded ei Groes, a chanlyned fi, Mat. 16. 34.

[Page 146]Gwedi ystyried ganhynny a chwi­lio'r cwbl, bydded hwn ymma y diweddglo gorphenol: Oblegid trwy lawer o orthrymderau y mae'n rhaid ini fyned i deyrnas Dduw, Act. 14. 22.

Diwedd yr ail Lyfr.

DILYNIAD CHRIST Lyfr III.
Am gyssur ysprydol.

PENNOD I.
Am ysprydol ymadrodd Christ a'r enaid ffyddlon.

MI a wrandawaf, pabeth y mae'n Harglwydd Dduw'n ei ddywedyd ynof.

Gwyneifyd yr enaid, y fo'n clywed ein Harglwydd yn llafaru ynddo, ac yn derbyn gair o gyssur o'i enau ef.

Gwyneubyd y clustiau, y fo'n der­byn swn y lleferydd duwfawl, ac heb fod yn gwrando dim o drwst, husting a sisial y byd ymma.

Gwyneubyd ynddiau y clustiau, y [Page 148] rhai nid ydynt yn clywed dim llefe­rydd oddiallan, ond yn gwrando'r gwirionedd yn eu dyscu hwynt o­ddimewn.

Gwyneubyd y llygaid, sy gwedi eu cau i bethau oddimaes, ac yn edrych ar y pethau ysprydol sydd oddimewn.

Gwyneubyd y sawl, sy'n myned imewn i bethau ysprydol, ac yn ceisio trwy ymarfer beunyddol ddarparu fwyfwy i ddeall cyfrinachau nefol.

Gwyneubyd y sawl, sy'n chwen­nych gwasanaethu Duw, ac yn ys­gwyd pob rhwystr bydol oddiwr­thynt.

Ystyria hyn ymma, O fy enaid, a chaua ddrysau dy chwantau cnawdol: fel y gelli wrando, pabeth y mae d' Arglwydd Dduw'n ei lafaru wr­thot.

2. Hyn y mae d' Anwyl-garedic yn ei ddywedyd: myfi ydwyf dy ia­chawdwriaeth di, dy heddwch, dy fywyd.

Cadw dyhun gyda myfi, a thi a gei heddwch.

[Page 149]Gâd i pob peth darfodedic fynd oddiwrthyt; cais bethau tragywy­ddol.

Beth yw'r holl bethau darfodedic, ond pethau hudol a sommiedic? a pha lês a wna'r holl greaduriaid, os y Creawdwr a ymadaw â thi?

Amhynny gan fwrw'r cwbl hei­bio, rhynga fodd i'th Greawdwr, a bydd ffyddlon iddo ef, fel y gelli gael gwîr ddedwyddwch.

PEN. II.
Bod y Gwirionedd yn llafaru oddi­mewn heb ddim swn geiriau.

1. LLafara, Arglwydd wrthyfi, canys mae dy wâs yn gw­rando. Dy was di ydwyfi: dyro imi ddyall, fell y gallwyf wybod dy de­stiolaethau di.

Gogwydd fyn-ghalon i wrando geiriau dy enau di: megis gwlîth deillied dy ymadrodd i'm henaid i.

Plant Israel a ddywedasant gynt wrth Foesen: Llafara di wrthym a [Page 150] ni a wrandawn: eithr na lafared ein Harglwydd, rhag marw ohonom yscatfydd, Exod. 20. 19.

Nid felly, O Arglwydd, nid felly: ond yn hyttrach gyda'r Prophwyd Samuël, yr wyf yn ostyngedic ac yn hiraethlawn yn attolwg arnat; Lla­fara di, O Arglwydd, canys mae dy wâs yn gwrando, 1 Reg. 3. 10.

Na lafared Moysen wrthyf ddim, nac vnarall o'r Prophwydi, ond yn hyttrach llafara di, O Arglwydd, ym­ysprydoliaethwr yr holl Brophwydi: oblegid tydi'n vnic hebddynt hwy a elli fy nyscu i'n berffeithlon: eithr hwynt hwy heboti, ni allant wneu­thur dim llês.

2, Hwy, ynddiau, a allant lafa­ru'r geiriau: ond ni allant roi dim o'r ymysprydoliaeth.

Têg y dywedant, ond a thydi'n tewi, nid ennynnant hwy y galon.

Llên a roddant hwy, ond tydi a agori'r ystyr. Mae'n hwy'n gosod dir­geleddion ger ein bron, ond tydi sy'n agoryd deall y sawl a seliwyd.

Mae'n hwy'n cyhoeddi gorchym­mynnion: [Page 151] ond tydi sy'n rhoi cym­morth iw cyflawni.

Mae'n hwy'n dangos y ffordd: ond tydi sy'n rhoi nerth i rodio ar­hyd-ddi.

Mae'n hwy'n gweithio'n vnic oddi­allan: ond tydi sy'n athrawu ac yn llewyrchu'r calonnau.

Mae'n hwy'n gwlychu oddimaes: ond tydi sy'n rhoi'r ffrwythlonder.

Mae'n hwy'n llefain â geiriau, ond tydi sy'n rhoddi'r dyall i'r clywed.

3. Na lafared Moesen ganhynny wrthyfi, ond tydi, O Arglwydd fy Nuw i, yr hwn wyt y Gwirionedd tragywyddol: rhag marw ohonof ond odid, a bod heb ddim llês, os oddiallan y rhybyddir fi'n vnic, heb fy enynnu oddimewn.

Rhag bod i'm barnu y gair a gly­wais, ac nis gwneuthym: yr hyn a wybuum, ac nis cerais: yr hyn a gre­dais, ac nis cedwais.

Llafara di ganhynny, O Arglwydd, canys mae dy wâs yn gwrando: ob­legid gennyti y mae geiriau'r hywyd tragywyddol

[Page 152]Llafara wrthyfi, er mwyn cyssur pabynnac i'm henaid, ac er mwyn emendio fy holl fuchedd: a hefyd er mwyn moliant a gogoniant iti, ac i'th anrhydedd tragywyddol di.

PEN. III.
Bod geiriau Duw i'w gwrando â gostyngeiddrwydd: ac nad oes ond nemmor yn ystyried hynny.

1. GWrando fyn-geiriau i fy Mâb, geiriau tra perei­ddlon, ac yn rhagori pob gwybo­daeth Philosophyddion a Doethion y byd ymma.

Yspryd a bywyd yw fyn-geiriau i, ac nid i'w hystyried â synwyr dyn. Ni ddylid eu tynnu hwynt i wâg ho­ffedd, ond eu gwrando â gosteg, a'i derbyn â gostyngeiddrwydd cy­flawn, ac â mawr awyddfryd ca­lon.

2. A dywedais: gwyneifyd y neb a ddysgi di, O Arglwydd, ac a'i athrewi yn dy gyfraith di: fel y gw­nai [Page 153] efmwythdra iddo yn y dyddiau dychrynnedic, ac nas gadewir ef yn ddigarad.

3. Myfi, medd ein Harglwydd, a ddyscais y Prophwydi o'r dechreuad, ac hyd ynawr nid wyf yn peidio a llafaru wrth bawb.

Ond mae llawer yn fyddar i'm lle­ferydd i: a dywedais.

Mae llawer yn gwrando'r byd yn ewyllyscarach, na Duw: yn rhwy­ddach i ddilyn trachwant eu cnawd, nac i fodloni Duw.

Mae'r byd yn addo pethau darfo­dedic a bychain, a gwasanaethir ef a mawr awydd: rwyfi'n addo'r pe­thau goruchaf, a'rhai a barhâant byth, ac nid yw calonnau dynion yn cyffro arhynny.

Pwy sy'n fyn-gwasanaethu i â chymmaint gofal, ac y gwasanaethir y byd? pwy sy'n vfuddhâu i myfi, megis yr vfuddheir i'r byd a'i ber­chennogion? Bydded cywilydd ar­nat Sidon, medd y môr. Ac os go­fynnir yr achos, gwrando paham.

Am Brebend fechan neu am ychy­dic [Page 154] o rent Eglwysic, rhedir ffordd faith ar frŷs mawr: ermwyn cael bywyd tragywyddol, gan lawer braidd y codir y troed vnwaith o­ddiar y llawr.

Prîs a gwerth gwael a geisir yn daerllyd: am ddernyn o arian y bydd ymryson digywilydd: am ryw­beth ofer, ac am addewid bychan, ni bydd blîn ganthynt ymboeni ddydd a nôs.

4. Eithr, och rhag cywilydd! am ddaioni anghyfnewidiol, am gyflog anfeidrol, am yr anrhydedd goru­chaf a'r gogoniant a beru byth, mae'n flin ganthynt gymeryd tippyn o boen.

Bydded cywilydd ganhynny arna­ti y gwâs diog achwyngar, am eu bod hwy'n barottach i'w colledi­gaeth, nac yr wyti i gael bywyd.

Mae'n hwy'n llawenach am wa­gedd, nac yrwyti am y Gwirionedd.

Ynddiau, mae'n hwy weithiau'n cael eu siommi o'i gobaith: ond nid yw fy addewid i yn twyllo neb, nac yn gadael i'r sawl a ymddiriedo ynofi fyned yn wâg.

[Page 155]Yr hyn a addewais, mi a'i rho­ddaf: yr hyn a ddywedais, mi a'i cyflawnaf: eithr os parhao neb yn ffyddlon erhynny hyd y diwedd yn fyn-ghariad i.

Myfi yw talwr yr holl ddynion da, a phrofwr caled yr holl rai defosio­nol.

5. Yscrifenna fyn-geiriau i yn dy galon, a meddylia amdanynt yn ddyfal: oblegid y byddant yn an­genrheidiol iti'n amser profedigaeth.

Yr hyn nid wyt yn ei ddeall wrth ddarllain, ti a gei ei wybod yn nydd yr ymweled.

A dau fodd yr arferaf ymweled am etholedigion, â themptasiwn ac a chyssur.

A dwy Wers yr wyf yn eu dar­llain beunydd iddynt: y naill gan geryddu eu beiau hwynt, ar llall gan eu cynghori hwynt i gynnyddu mewn rhinweddau.

Y neb sydd a'm geiriau i gantho, ac yn eu dibrisio hwynt, mae gan­tho'r neb a'i barna ef ar y dydd diwe­ddaf.

Gweddi i ofyn grâs i fod yn ddefosionol.

6. O fy Arglwydd Dduw, tydi wyt yr holl ddaioni a allaf ei ddy­muno. A phwy ydwyfi sy'n beiddio llafaru wrthyti?

Myfi ydwyf dy weisyn di tra tlawd, a'th bryfedyn gwael: llawer tlottach a gwaelach, nac yr wyf yn gwybod, ac yn llafasu ei ddywedyd.

Cofia erhynny, O Arglwydd nad wyf ond dim, nad oes ond dim gen­nwyf, nad wyf yn gallu dim.

Tydi'n vnic wyt yn ddaionus, yn gyfion ac yn sanctaidd: tydi a elli wneuthur pob peth, a elli adferu'r cwbl, a elli gyflawni'r cwbl, gan a­dael y pechadur yn vnic yn wâg o bob daioni.

Cofia dy drugareddau dyhun, a llenwa fyn-ghalon a'th râs, yr hwn nid wyt yn mynnu fod dy weithre­doedd yn wâg.

7. Pafodd y dioddefaf fyhun yn y bywyd gofidus hwn, oddieithr i [Page 157] mi gael fyn-ghalonni am nerthu a'th drugaredd ac a'th râs di?

Na thro dy wyneb oddiwrthyf: na fydd yn rhy hîr heb ddyfod i ymweled a myfi: na thynn dy gus­sur oddiwrthyf, rhag i'm henaid fod megis sychdir iti.

O Arglwydd, dysc imi wneuthur dy ewyllys di: dyse imi ymarweddu'n deilwng ac yn ostyngedic ger dy fron di: canys tydi yw fy noethineb i, yr hwn wyt yn fy adnabod i'n llwyr ber­ffaith, a thi oeddit yn sy adnabod cyn dechreu'r byd, a chyn fyn-geni ar y ddaear.

PEN. IV.
Bod yn rhaid ini fyw mewn gwi­rionedd a gostyngeiddrwydd yn­gwydd Duw.

1. FY mâb, rhodia mewn gwiri­onedd yn fyngwydd i, a chais fyfi bobamser yn symlrwydd dy ga­lon.

Y neb y fo'n rhodio'n fyngwydd i [Page 158] mewn gwirionedd, a gaiff ei amddi­ffyn rhag drwg ymgyrch, a'r gwirio­nedd a'i gweryd ef rhag twyllwyr, a gogan-eiriau y rhai anwireddus.

Os y gwirionedd a'th rhyddhâ di, ti fyddi'n gwbl rhydd, ac ni bydd waeth gennyt am wâg eiriau dyni­on.

Arglwydd, gwîr ydyw megis y dywedaist, felly, attolygaf arnat, by­dded i myfi. Dysged fi dy wirionedd di, ac amddiffynned, a chadwed fi hyd ddiwedd dedwyddlawn.

Gwareded fi rhag pob drwg awydd, a chariad annrhefnus: a myfi a rodiaf gyda thi mewn mawr rydd did calon.

2. Mi a ddysgaf iti (medd y Gwi­rionedd) y pethau sy gyfion, a'r hyn a rynga fodd i myfi.

Meddwl am dy bechodau â mawr brydd-der ac edifeirwch: ac na chy­frifa dy fod ti'n rhwybeth oherwydd dy weithredoedd da.

Ynddiau pechadur wyt, yn tue­ddu i lawer o ddrwg annwydau a beiau, a gwedi dyrysu ynddynt.

[Page 159]Ohonot dyhun yr wyt bobamser yn cyrchu at ddim: buan y llithri di, buan y gorchfygir di, buan y cy­thryblir di, buan y methi.

Nid oes dim gennyt yn yr hyn y gelli ogoneddu, ond mae llawer am yr hyn y dylit ddibrisio dyhunan: oblegid dy fod ti'n llawer gwannach, nac yr wyt yn medru ei ddyall.

3. Ganhynny na ymddangosed dim yn fawr iti o'r cwbl a wnai.

Nad ymddangosed dim iti'n an­ferth, dim yn werthfawr, dim yn rhyfeddol, dim yn wiw i'w gyfrifo; dym yn vchel, dim yn wîr ganmole­dic, â dim iti i'w ddymuno, ond yr hyn sy'n dragywyddol.

Vwchben pob peth bydded yn dda gennyt y Gwirionedd tragywyddol, a bydded yn ddrwg gennyt bobamfer am dy ddirfawr waeledd dyhun.

Na ofna ddim yn fwy, na feia ddim yn fwy, na ffoa rhag dim yn fwy, na rhag dy gamweddau a'th bechodau dyhun; y rhai a ddylent dy anfoddhâu di'n fwy, na'r colledion pabynnac.

[Page 160]Mae rhai heb fod yn rhodio'n bur­wirion yn yngwydd i, eithr gan fod rhyw rodres a rhyfyg ynddynt, hwy a fynnant wybod fyn-ghyfrinachau i, a deall goruchel bethau Duw, gan ddiofalu euhunain a'i cadwedigaeth.

Mynych y mae'rhain am eu balch­der a'i rhodres yn llithro i broffedi­gaethau, ac i bechodau mowrion, a minnau'n eu gwrthwynebu hwynt.

4. Ofna farnedigaethau Duw, ar­swyda ddigofaint yr Hollalluoc. Ac na chwilia weithredoedd y Goruchaf, ond hola'n fanwl dy anwireddau, dy­hun ymmhafaint y pechaist, a pha sawl gweithred dda a esgeulusaist.

Mae defosiwn rhyw rai yn eu lly­frau'n vnic, a rhai eraill yn eu lluniau, a rhai eraill yn arwyddion a ffigurau oddiallan.

Mae rhai a myfi ganthynt ar eu ta­fod, eithr nid oes ond ychydic oho­nof yn eu calonnau hwynt.

Mae rhai eraill a'i deall wedi ei lewychu, ac a'i hawydd wedi ei bu­ro, bobamser yn ceisio ac yn tynnu at bethau tragywyddol: blîn gan­thynt [Page 161] glywed sôn am bethau daea­rol, trîst ganthynt wasanaethu ang­enrheidiau natur: a'rhai hyn yw'r sawl sy'n clywed, pabeth y mae y­spryd y Gwirionedd yn ei lafaru yn­ddynt.

Oherwydd ei fod ef yn dyscu i­ddynt ddibrisio pethau daearol, a charu pethau nefol: diystyru'r byd, a chwennych y nêf ddydd a nos.

PEN. V.
Am ryfeddol ymweithiad Cariad ar Dduw.

1. BEndithiaf di, y Tâd nefol, Tâd ein Harglwydd Jesu Christ, am ddarfod iti deilyngu me­ddwl amdanafi druanddyn.

Tad y trugareddau a Duw pob diddanwch, diolchaf iti, yr hwn wyt ambell weithiau a'th gyssur yn fy ni­fyrru i, yr hwn wyf yn annheilwng o bob diddanwch.

Bendithiaf di bobamser, a gogo­neddaf, gyda'th Vnicanedic Fab a'r [Page 162] Yspryd Glân y Diddanydd dros oe­soedd oesoedd.

O fy Arglwydd Dduw, Cariad sanctaidd fy enaid, pan ddeliti i'm calon, fe a lawenychä 'r cwbl sydd ynof.

Tydi wyt fyn-gogoniant i, a gor­foledd yn-ghalon.

Tydi wyt fyn-gobaith a'm noddfa yn nydd fy adfyd a'm trallod.

2. Ond oblegid nad wyfi etto ond gwan mewn cariad, ac yn ammher­ffaith mewn rhinwedd; amhynny angenrheidiol imi gael fy nerthu a'm cyssuro gennyti: ymwêl yntau'n fy­nych â myfi, ac athrawa fi â dyscei­diaethau sanctaidd.

Gwared fi rhag gwynniau drwg, ac iachâ fyn-ghalon o bob chwantau annrhefnus: fel gwedi fy iachâu o­ddimewn, a'm puro'n llwyr, y by­ddaf addas i garu, cadarn i ddioddef, a dianwadal i barhâu.

3. Peth mawr yw Cariad, daio­ni mawr anfeidrol: sy'n vnic yn ys­gafnhâu pob baich trwm, ac yn ddi­flîn yn dioddef pob blinder, a phob anwastad yn wastad.

[Page 163]Oblegid ei fod ef yn dwyn baich heb faich, yn gwneuthur pob chwe­rw'n felus ac yn dda ei flâs.

Mae Cariad ar yr Jesu'n beth gwych bonheddic, yn gyrru dyn i wneuthur gweithredoedd mowrion: ac yn ei annog ef i chwennych y pethau per­ffeithiaf.

Cariad sy'n mynny myned tuac ifynu, a bod heb ei ddal ynol gan ddim o pethau gwaelion.

Cariad a fyn fod yn rhydd, ac yn ddigaeth o bob chwant bydol, rhag rhwystro ei olwg oddimewn, rhag iddo ymddyrysu eihunan mewn rhyw fwyniant darfodedic, neu ei fwrw i lawr â rhyw afles.

Nid oes dim melysach na chariad, dim cadarnach, dim vchelach, dim amlach, dim hyfrydach, dim low­nach na gwell nac yn y nêf nac ar y ddaear: am fod Cariad yn dyfod o Dduw, ac nis gall ef mor gorphwys, ond yn Nuw vwchben pob peth cree­dic.

4. Mae'r Caredig ddyn yn hedeg, yn rhedeg, ac yn llawenu; mae ef [Page 164] yn rhydd, ac nis gellir ei ddal ef.

Mae ef yn rhoi'r cwbl am y cwbl, ac mae'r cwbl gantho yn y cwbl: am ei fod vwchben y cwbl yn gorphwys yn y Goruchaf vn, o'r hwn y mae'r cwbl yn goferu ac yn llifo.

Nid yw ef yn edrych ar y rhoddion, ond tuagat y rhoddwr y mae ef yn troi vwchlaw pob daoedd.

Nis gwyr Cariad lawergwaith ddim mesur, ond ef a wresoga vwchben pob mesur.

Nid yw Cariad yn clywed ei bwnn, ni wna ef ddim cyfrif o'i boen: mae ef yn mynnu mwy, nac a eill ei wneuthur: nid yw ef yn achwyn fod y peth yn ammhosibl, am ei fod yn meddwl, fod pob peth yn bossibl ac yn rhwydd iddo ef.

Mae ef yn abl ganhynny i bob peth, ac ef y gyflawna ac a ddwg lawer i ben: lle bo'r neb nid yw'n caru, yn diffygio ac yn methu.

5. Mae Cariad yn gwilio, ac wrth huno nid yw'n cysgu.

Gwedi blind nid yw Cariad yn [Page 165] diffygio, gwedi ei gyfyngu nid yw'n gyfwng, gwedi ei ddychrynnu nid yw mewn cythryfwl: ond megis fflam fyw, a ffagl danllyd ef a dyr tuag ifynu, ac a â rhagddo'n rhwydd.

Os oes neb yn caru, ef a wyr hwnnw pabeth y mae'r gair ymma yn ei lefain.

Llêf mawr yn-ghlustiau Duw yw tanbaid gariad yr enaid, sy'n dywe­dyd: Fy Nuw i a'm Cariad: tydi ydwyt igyd i myfi, a minnau wyf igyd i tithau.

6. Helaetha fi yn dy gariad, O Arglwydd, fel y dyscaf a'm calon brofi felused peth yw caru, a thoddi a nofio mewn cariad.

Meddianned Cariad fyfi, gan fy­ned rhagof ifynu goruwch fyhunan, o dra gormod gwres, a disymmwth goll synwyr a syndod.

Canwyf gân Cariad; Dilynaf di f' Anwyl-garedic i'r Vchelder, me­thed fy enaid ar dy foli di, gan orso­leddu o dra Cariad.

Canmolwyf di'n fwy na myfi fy­hun, ac nid myfi fyhun ond oher­wydd [Page 166] tydi: ac ynoti pawb o'r sawl a'th garant di, megis y gorchym­mynna Cariad yn llewychu ohonoti.

7. Mae Cariad yn gyflym, yn ddiragrith, yn bûr, yn ddifyr ac yn hyfryd: yn gadarn, yn ddioddefgar, yn ffyddlon, yn bwyllog, yn amy­neddus, yn wrol, ac heb fod vnam­ser yn ceisio eihunan.

Oblegid lle bo neb yn ceisio ei­hun, yno y mae hwnnw yn cwympo oddiwrth Gariad.

Mae Cariad yn ochelgar, yn ostyn­gedic ac yn gyfion: nid yn ysmala, nid yn ysgafn na meddfaeth, nac yn ymhel gwageddau; yn sobr, yn ddiwair, yn ddianwadal, yn llonydd, ac yn gwarchad ar ei holl synhwy­rau.

Mae Cariad yn ostyngedic ac yn vfydd i'w Bennaethion: yn wael ac yn ddibris yn ei olwg eihun, yn dde­fosionol ac yn ddiolchgar i Dduw, yn ymddiried ac yn gobeithio ynddo ef, ië hefyd pan so Duw'n anfoddog wrtho: oblegid heb ddoluriad nis gellir byw yn-ghariad.

[Page 167]8. Y neb nid yw'n barod i ddio­ddef pob peth, ac i sefyll wrth ewy­llys ei Anwyl-garedic, nid yw hwn­nw'n deilwng i'w alw'n Gariadwr.

Rhaid i'r Cariadwr ermwyn ei Anwyl-garedic ymgofleidio pob peth caled a chwerw: a pheidio a throi oddiwrtho ef oherwydd y gwrthwy­nebau a ddigwyddo.

PEN. VI.
Am brofi gwîr gariadwr.

1. FY Mâb, nid wyti etto'n Garia­dwr cadarn a phwyllog.

Pam hynny fy Arglwydd?

Am dy fod ti o achos ychydic o wrthwyneb yn methu, ac yn gadael y daioni a ddechreuaist, ac yn ceisio diddanwch yn rhy awyddus.

Cariadwr cadarn a sâf yn ei bro­fedigaethau, ac ni fyn ef gymmeryd cyfrwys gynghorion y gelyn: megis yr wyf yn ei foddhâu ef yn ei lwy­ddiant, selly nid wyf yn ei anso­ddhâu yn ei wrthwynebau.

[Page 168]2. Nid yw Cariadwr pwylloc yn ystyrio rhôdd yr Anwyl-garedic, yn gymmaint a charedigaeth y rhoddwr.

Mae ef yn edrych ar yr ewyllys­fryd, yn hyttrach nac ar brîs y peth, ac yn gosod yr holl roddion islaw y Rhoddwr.

Nid yw Cariadwr bonheddic yn gorphwys ar y rhodd, ond arnafi vwchben pob rhodd.

Nid yw'r cwbl erhynny wedi ei golli, os byddi di weithiau heb fod yn meddwl amdanafi ac am fy Sainct, yn gystal ac y mynnit.

Gwaith y grâs presennol yw'r ewyllysfryd hwnnw da a melus, y fydd gennyt weithiau, a rhyw dam­med prawf o'r Wlâd nefol: ar yr hwn nid oes iti mor ymbwyso gor­mod: am ei fod yn mynd ac yn dy­fod.

Eithr ymladd yn erbyn y drwg gyffroadau a fo'n digwydd yn y meddwl, a diystyru'r phansiau y fo'r gelyn yn eu dwyn argôf i ddyn, sy'n rinwedd lawn odidog, ac yn ry­glyddiant mawr.

[Page 169]3. Na chythryblent di ganhynny y drygion ffanfiau am y matterion ba­bynnac a fwrir ynoti.

Cadw dy fwriad cadarn, a'th am­can vnion tuac at Dduw.

Nid twyll yw, dy fod ti weithi­au'n cael dy gippio i vchelder rhy­feddol, a'th fod ti ynyman yn dy­chwelyd i arferol wageddau dy ga­lon.

Oblegid o'th anfodd yr wyt yn dioddef y rheini, yn hyttrach nac yn eu peri hwynt: a thra fyddi'n eu cashâu, ac yn eu gwrthwynebu hwynt, haeddiant i'w hynny ac nid colled.

4. Bid hyspys iti fod yr hên Elyn yn ceisio rhwystro'n hollawl y chw­ant sy gennyt i wneuthur daioni, ac yn gwneuthur ei oreu i'th droi di rhag ymarfer pob rhyw weithredoedd da: sef, rhag anrhydeddu y Sainct, rhag duwiol fyfyrio ar fy Niodde­faint i, rhag llesol feddwl am dy be­chodau, rhag gwarchad ar dy galon, rhag bwriadu'n ddiogel ar gynnyddu mewn rhinweddau.

[Page 170]Llawer o ddrygion feddyliau a swrw ef ynoti, i beri blinedd a dy­chryn arnat, ac i'th dynnu di rhag gweddio a darllain pethau duwiol a sanctaidd.

Blîn gantho ef Gyffes ostyngedic, a phe gallai, fe a wnai iti beidio a der­byn y Cymmun sancteiddlawn.

Na choelia ef ddim, ac na fydded gwaeth gennyt amdano, er ei fod yn fynych yn gosod rhwydau ei dwyll o'th flaen.

Bwrw di arno ef y meddyliau drwg, a'r pethau aflan, y fytho ef yn en gwanu ynoti. Dywaid wrtho.

Dos ymmaith yspryd aflan, by­dded cywilydd arnat ddihiryn brwnt, digon aflan wyti, yr hwn wyt yn bw­rw y cyfryw bethau i'm clustiau i.

Dos i ffordd oddiwrthyfi y twy­llwr gwaethaf, ni chai di ddim cy­fran ynosi: eithr Jesu a gaiff fod gy­da myfi, megis Rhyselwr cadarn, a tnydi a gai sefyll yn llawn o gywilydd ac o wradwydd.

Taw a son, a gostega: ni wran­dawaf arnat ddim ond hynny, er [Page 171] dy fod ti'n egnîo llawer i'm blino ac i'm molestu i: ein Harglwydd yw fyn-goleuni a'm iachawdwriaeth i, pwy a ofnaf?

Pe bai gwersyllau'n sefyll i'm her­byn, nid ofnai fyn-ghalon. Ein Har­glwydd yw fyn-ghymmorthwywr a'm rhybrynnwr i.

5. Ymdrecha fel milwr da: ac os weithiau y cwympi o wendid, cym­mer eilwaith nerth a grym gwro­lach nac o'r blaen, gan ymddiried y cai di râs amlach gennyfi: a gochel yn fawr wâg ymfodloni a balchder.

Oherwydd hynny y syrthiasant llawer i amryfusedd, ac a lithrasant i ddallineb agos dirwymedi.

Bydded dinistr y rhai beilchion hyn a ryfygasant mor ffôl arnynt eu­hunain yn rybydd iti, ac yn achos o ostyngeiddrwydd gwastadol.

PEN. VII.
Am guddio grâs tan gaead go­styngeiddrwydd.

1. FY mâb, gwell iti a diogelach ydyw, cuddio'r grâs sy gen­nyt o fod yn ddefosionol, heb fod yn falch ohono, na gwneuthur dim son nac ystyried mawr amdano: ond yn hyttrach dibrisio dyhun, megis dyn annheilwng i gael y cyfryw ffafor.

Ni ddylid glynu'n dynnach wrth yr affectiwn presennol sydd ynawr, yr hwn a ellir yn fuan ei newid i'r gwrthwyneb.

Cofia pan syddi a grâs gennyt, mor druan ac mor dlawd yr arferi fod heb râs.

Nid yw proffit buchedd ysprydol yn unic yn bod, pan syddi a grâs di­ddanwch gennyt: ond pan fyddi'n ostyngedic, yn ymddiwad, ac yn ddioddefgar yn goddeu ei dynnu oddiwrthyt: trwy nas byddi'n ddio­fal y prydhynny ar weddio, ac nas [Page 173] gadewi'n hollawl dy weithredoedd arferedic eraill fyned heibio'n ddi­lês.

Ond megis yr wyt yn medru ac yn deall oreu, y gwneli o'th wîr fodd yr hyn sydd ynoti: ac nad esgeulusi dyhun yn gwbl oherwydd y sychder a'r blinfyd meddwl yr wyt yn eu glywed.

2. Mae llawer, pan na bo pe­thau'n digwydd iddynt ynol eu bodd, y syddant ynyman yn annioddefgar ac yn ddiog.

Canys nad yw ffordd dyn bobam­ser yn ei allu eihun: ond Duw piau rhoddi a diddanu, pan fynno ef, a'r maint a fynno, ac i'r neb a fynno, megis y bo'n rhyngu bodd iddo ef, ac nid yn amgenach.

Rhyw rai ammhwyllog, ermwyn cael grâs defosiwn, a gollasant eu­hunain: oherwydd eu bod hwy'n mynnu gwneuthur mwy nac oe­ddent yn gallu, heb ystyried mesur eu bychander euhun, ond gan ddi­lyn ewyllys eu calon yn hyttrach, na rheol rheswm.

[Page 174]Ac oblegid ddarfod iddynt ryfygu mwy, nac oedd yn rhyngu bodd i Dduw, buan amhynny y collasant ei râs ef.

Hwy, a wnaed yn dlawd, ac a adawyd yn wael, y oeddent yn gw­neuthur eu nyth yn y Nef: fel gwe­di eu gostyngeiddio, a'i gwneuthur yn dlodion, y dysgent ehedeg nid a'i hesgill euhun, ond gan obeithio tan fy adeinydd i.

Y sawl sydd etto'n newyddion ac yn anghyfarwydd ar ffordd Dduw, oddieithr iddynt reoli euhunain â chyngor y rhai pwyllog, a allant yn hawdd gael eu twyllo, a'i dryllio'n chwilfriw.

3. Ond os dilyn eu meddwl eu­hun a fynnant yn hyttrach, na choe­lio rhai eraill hîr eu hymarfer, enbyd y fydd eu diwedd hwynt; oddieithr iddynt gael eu tynnu'n ol o'i bwriad a'i dychymmyg euhun.

Odid y myn y sawl, sy'n tybied euhunain yn gall, ddioddef eu rheo­li'n ostyngedic gan rai eraill.

Gwell yw gwybod bychan ac [Page 175] ychydic o ddyall gyda gostyngei­ddrwydd, na thrysorau mowrion o ddysceidiaethau gyda gwâg ymfod­loni.

Gwell iti feddu llai, na llawer o'r hyn y gelli sod yn falch.

Nid digon pwyllog y gwna'r neb a ymroddo eihunan yn hollawl i lawenydd, gan ollwng drosgof ei dlodi o'r blaen, a sanctaidd ofn Duw, yr hwn a ofna golli'r grâs a roddwyd iddo.

Nid digon rhinweddol chwaith y mae ef yn meddwl, yr hwn yn am­ser gwrthwyneb neu'r trymder pa­bynnac, y fo'n rhoi ffordd i ano­baith, ac yn tybied ac yn ystyried a llai o ymddiried ynofi, nac y dylai.

4. Y neb a fynno fod yn rhy ddio­fal yn amser heddwch, yn fynych a gair yn amser rhyfel yn rhy ddiga­lonnoc ac yn ofnus.

Pettiti'n medru bod yn ostynge­dic, ac yn fychan ynot dyhun, ac yn gallu trefnu'n gymmeidrol a rhe­oli dy yspryd, nis cwympid cyn gyn­ted i bergyl a chamwedd.

[Page 176]Cyngor da ydyw, pan fyddi'n wresog o yspryd, meddwl ohonot, pabeth a ddaw, wedi i'r goleuni hwnnw fyned heibio.

Yr hyn pan y digwyddo, meddwl y dichon ddychwelyd eilwaith y go­leuni a dynnais i oddiwrthyt dros amser, er rhybydd i tydi, ac er gogo­niant i minnau.

5. Gwell lawergwaith y fydd y cyfryw brofedigaeth, na phettiti ynol dy fodd yn llwyddo bobamser.

Oblegid nad yw rhyglyddiannau i'w prisio wrth hyn, sef wrth fod dyn yn cael mwy o Weledigaethau, neu o ddiddanion, neu am ei fod yn gyw­raint yn y Scrythurau Glân, neu gwedi ei osod mewn grâdd vchelach.

Ond os bydd ef wedi ei seilio ar wîr ostyngeiddrwydd, a gwedi ei lenwi â chariad ar Dduw: os bydd ef yn ceisio gogoniant Duw'n bur­lan ac yn hollawl bobamser: os bydd ef yn cyfrif eihunan yn ddim, ac mewn gwirionedd yn dibrisio ei­hun, gan fod yn dda gantho gael ei ammharchu hefyd, a'i ostyngei­ddio [Page 177] gan rai eraill yn hyttrach, na'i anrhydeddu,

PEN. VIII.
Am ddibrisio einhunain yngolwg Duw.

1. ALafaraf wrth fy Arglwydd, a minnau'n llwch ac yn lludw? os cyfrifaf fyhun yn ddim gwell, wele, yr wyti'n sefyll i'm her­byn; a'm hanwireddau i a ddywe­dant gywir destiolaeth, ac nis gallaf eu gwrth-ddywedyd.

Eithr os myfi a ymwaelaf fyhun, ac a gyfrifaf fyhunan yn ddim, ac a fethaf wrth brisio fyhun, ac a wnaf fyhun (megis yr wyf) igyd yn lwch, dy râs di a drugarhâ arnaf, a'th ole­uni y fydd gyfagos i'm calon, a phob prîs a chyfrif ohonof fyhun, er lleied y fo, a sudda i waelod fy ni­ddym fyhun, ac a dderfydd yn dra­gywyddol.

Yno yr wytî'n dangos imi fyhun, pabeth ydwyf, pabeth y fûm, ac o [Page 178] ba le y deuthum: canys nid wyf ond dim, ac nis gwybuum.

Os gadewir fi i myfi fyhun, wele, nid wyf ond dim, a gwendid igyd: eithr os tydi yn ebrwydd a edrychi arnaf, gwneir fi ynyman yn gadarn, a llenwir fi a llawenydd newydd.

A rhyfedd iawn ydyw, fy mod yn cael fyn ghodi mor ddisymmwth, a'm cofleidio gennyti mor ddaionus, yr hwn wrth fy mhwys fyhun, ydwyf bobamser yn myned tua'r llawr.

2. Dy gariad ti sy'n gwneuthur hyn, gan fy rhagflaenu i a'th râs, a'm cymmhorth mewn cymmaint o an­genrheidiau, a'm cadw hefyd rhag peryglon gorthrwm, am gwared (i ddywedyd y gwir) rhag aneirif o ddrygau.

Oblegid wrth ddrwg garu fyhun, mi a gollais fyhun; ac wrth dy gei­sio di ynvnic, a'th garu'n burlan, mi a gefais fyhun a thithau hefyd, ac o dra cariad mi a wneuthum fyhun yn ddyfnach yn ddim.

Am dy fod ti, Oh anwylaf gare­dig, yn rhannu imi vwchben pob hae­ddiant, [Page 179] ac vwchben yr hyn oll wyf yn beiddio ei ofyn, neu'i obaith.

3. Bydd di fendigedic fy Nuw i▪ oblegid er fy mod i'n anheilwng o bob peth da, etto nid yw dy fone­ddigrwydd a'th ddaioni di byth yn peidio a gwneuthur da, i'r sawl sy hefyd yn anniolchgar, a gwedi troi ymmaith ymmhell oddiwrthyti.

Tro nyni attati, fel y byddo n ddiolchgar a gostyngedic, a defo­sionol: canys tydi yw ein iachaw­dwriaeth ni, ein rhinwedd a'n cader­nid.

PEN. IX.
Bod vn rhaid bwrw'r cwbl ar Dduw, megis ar y diwedd gor­phennaf.

1. FY mab, myfi a ddylwn sod dy ddiwedd di eithaf a gorphen­naf, os tydi a synni fod yn wir dde­dwydd.

A'r bwriad ymma y purir dy ewy­llysfryd di, sy'n fynych wedi ei gam­droi [Page 180] attati dyhun, ac at y creaduri­aid.

Oblegid os tydi a fynni geifio dy­hunan yn rhywbeth, yr wyt ynyman yn methu ac yn crino.

Bwrw di 'r cwbl ganhynny 'n ben­naf arnafi; canys myfi yw'r neb a roddais y cwbl.

Ystyria'r cwbl felly, megis pe­thau'n deillio o'r daioni goruchaf: ac amhynny, rhaid bwrw'r cwbl ar­nafi, megis ar eu dechreuad hwynt.

2. Ohonofi y mae'r bychan a'r mawr, y tlawd a'r cyfoethog, megis o ffynnon fyw, yn cael dwfr byw.

A'r sawl am gwasanaethant fi, o'i gwîr fodd ac yn rhwydd, a dderbyn­niant râs am râs.

Ond y neb a fynno ymogoneddu allan ohonofi, neu ymddisyrru yn rhyw ddaioni neilltuol, ni chaiff hwnnw ei gadarnhâu mewn gwir lawenydd: na'i ymledu yn ei galon: eithr ef a rwystrir ac a gyfyngir yn amryw foddion.

Ni ddyliti ganhynny fwrw dim daioni arnati d [...]un, na bwrw rhi­nwedd [Page 181] ar vndyn: eithr dyro'r cwbl ar Dduw, heb yr hwn nid oes dim yn nyn.

Myfi a roddais y cwbl, myfi a fyn­naf eilwaith gael y cwbl, ac â mawr lymder yr erchaf roddi diolch.

3. Dymma'r gwirionedd, â'r hwn y gyrrir gwâg ogonedd i ffo.

Ac os y grâs nefol gyda gwîr ga­riad a ddaw i mewn, ni bydd na chenfigen na chyfyngder calon: ac ni chaiff cariad neilltuol amdanom einhun ddim meddiant ynom.

Oblegid fod cariad ar Dduw'n gorchfygu'r cwbl, ac yn helaethu holl nerthoedd yr enaid.

Pettiti'n wîr ddoeth, ti fyddit lawen ynofi'n vnic, ynofi'n vnic y gobei­thit: am nad oes neb yn dda ond Duw'n vnic: yr hwn sydd i'w gan­mol goruwch pob peth, ac i'w fen­dithio ymmhawb.

PEN. X.
Mai peth hyfryd yw gwasanaethu Duw gan ddibrisio'r byd.

1. LLafaraf ynawr drachefn, O Arglwydd, ac ni thawaf a son: dywedaf yn-glustiau fy Nuw, fy Arglwyddi, a'm Brenin, yr hwn sydd yn yr vchelder.

Oh Arglwydd! pafaint yw am­ledd dy felysrwydd, a guddiaist i'r sawl sy'n dy ofni di? eithr pabeth ydwyt i'r sawl sy'n dy garu di? pa­beth i'r sawl sydd a'i holl galon yn dy wasanaethu di?

Ynddiau, peth melus annhraetha­dwy yw myfyrio arnati, yr hyn beth yr wyt yn ei roddi i'r sawl a'th ga­rant di.

Wrth hyn yn bennaf y dangosaist imi felusder dy gariad: oherwydd pan nid oeddwn yn bod, ti a'm gw­neuthost fi: a phan oeddwn wedi cyfeiliorni ymmhell oddiwrthyt, ti a'm dygaist fi ynol, fel y gwasanae­thwn [Page 183] di: a gorchymmynaist imi dy garu di.

2. Oh ffynnon o gariad dibaid! pabeth a ddywedaf amdanati?

Pafodd y gallaf dy ollwng di yn­anghof, yr hwn a deilyngaist feddwl amdanafi? ië hefyd pan oeddwn wedi fy llygru a'm colli.

Ti a wnaethost drugaredd a'th wâs tuhwnt i bob gobaith, ac a ro­ddaist râs a chariad iddo tuhwnt i bob haeddiant.

Pabeth a roddaf iti am y grâs ymma? canys nis caniadwyd i bawb, gan ymadael a'r cwbl, ymwrthod a'r byd, a dilyn buchedd grefyddol mewn Monachlog.

Ai peth mawr ydyw imi dy wa­sanaethu di, yr hwn y mae pob crea­dur yn rhwymedic ei wasanaethu.

Ni ddylwn i dybied yn beth mawr dy wasanaethu di: eithr hyn ynhyttrach a welaf yn beth mawr ac yn rhyfeddol, dy fod ti'n teilyngu cymmeryd dyn mor dlawd a gwael yn wasanaethwr iti; a'i wneuthur ef yn vn a'th garedigion wasanaethwyr di.

[Page 184]3. Wele, tydi piau'r cwbl sy gen­nyfi, a'r pethau oll, â 'rhai yr wyf yn dy wasanaethu di.

Perhon 'ath fod di o'r tu arall, yn fyn-gwasanaethu i ynhyttrach, na myfi'n dy wasanaethu di.

Wele, mae'r Nef ar Ddaear, a greaist i wasanaethu dyn, yn barod bobamser gyda thi, a beunydd yn gwneuthur y pethbynnac a erchi.

A bychan yw hyn gennyti: ti a drefnaist yr Angelion hefyd i wasanae­thu dyn.

Ond mae'n rhagori ar hyn igyd, dy fod tidyhun yn teilyngu gwasa­naethu dyn: a'th fod gwedi addaw rhoddi dyhunan iddo ef.

4. Pabeth a roddaf iti am y mi­loedd hyn igyd o gymmwynasau? mi a fynnwn pe gallwn dy wasanae­thu di bob dydd o'm bywyd.

Mi fynnwn pe gallwn wneuthur gwasanaeth teilwng iti ond tros vn diwrnod!

Ynddiau 'rwyti'n deilwng o bob gwafanaeth, o bob anrhydedd, a moliant tragywyddol.

[Page 185]Ynddiau tydi ydwyt fy Arglwydd i, a minnau ydwyf dy wasanaethwr tlawd di, yr hwn wyf yn rwymedic i'th wasanaethu di a'm holl ner­thoedd, a byth nis dylwn flino yn dy foliannu di.

Felly y mynnaf, felly y dymunaf, a phabeth bynnac y fo'n eisiau arnaf, teilynga di gyflawni hynny.

5. Mawr yw'r anrhydedd, mawr yw'r gogoniant o fod yn dy wasa­naethu di, ac yn dibrisio pobpeth a­rall er dy fwyn di.

Oblegid grâs mawr a gaant y rhai, a ostyngasant euhunain, tan dy wasanaeth tra sanctaidd di.

Hwynt-hwy a gaant dra hyfryd ddiddanwch yn yr Yspryd Glân, y rhai a fwriasant ymmaith bob cnawdol ddifyrrwch er cariad ar­nati.

Hwynt-hwy a gaant fawr rydd­did enaid, y sawl sydd er mwyn dy enw di, yn myned i mewn i'r ffordd gyfwng, ac yn diystyru pob gofal bydol.

6. Oh gymmeradwy a hyfryd wa­sanaeth [Page 186] Duw! â'r hwn y gwnair dyn yn wîr rydd ac yn sanctaidd!

Oh sacraidd gyflwr y gweinido­gaeth Crefyddol, a wna ddyn yn gy­dradd a'r▪ Angelion, yn hôff i Dduw, yn ddychrynnedic i'r Cythreuliaid, ac yn ganmoladwy i'r ffyddloniaid!

Oh wasaneth i'w amgofleidio, ac i'w ddymuno bobamser, â'r hwn yr haeddir y daioni goruchaf, ac yr en­nillir y llawenydd a bery byth.

PEN. XI.
Bod yn rhaid holi, a rheoli'n gym­mesur chwantau ein calon.

1. FY mab, mae'n rhaid iti'n chwaneg wybod llawer o bethau, na ddyscaist etto yn dda.

Beth yw 'rheini f' Arglwydd?

Trefna dy ddymuniad yn hollawl ynol fy ewyllys da i: ac na fydd yn hoffwr ohonot dyhun: ond yn awy­ddus eiddig o'm hewyllys i.

Mynych y mae chwantau yn dy ennynnu di, ac yn dy yrru rhagot yn [Page 187] fforddrych: eithr ystyria, ai ermwyn gogoniant imi, neu ermwyn rhyw gymmwynas iti, yr wyt yn ymmod ac yn cynhyrfu.

Os myfi yw'r achos, ti fyddi'n ddi­gon bodlon, beth bynnac a ordeinia­fi: ond os rhyw geisio iti dyhun sy'n llechu tan y cuddiad hwnnw, wele dyna'r peth sy'n dy rwystro ac yn dy flino di.

2. Gochel ganhynny, rhag pwyso gormod ar ryw chwant a ddelo i'th feddwl, heb ymgynghori â myfi: rhag edifarhâu ohonot ysgatfydd gwedi hynny, neu rhag bod yn­ddrwg gennyt yr hyn oedd o'r blaen yn dy fodloni, ac oeddit yn ei awy­ddu megis y goreu.

Oblegid nad yw pob awydd, a welir yn dda, ynyman i'w ddilyn: na phob gwrthwyneb chwaith ar y cyntaf i'w wrthod.

Buddiol weithiau ydyw arfer ymat­tal, ië hefyd yn y chwantau a'r bw­riadau da: rhag iti trwy ormod ta­erder, ruthro i drawstynniadau me­ddwl; rhag iti trwy dy fod ynanu­fydd, [Page 188] wneuthur scandal i rai eraill; neu hefyd wrth fod y lleill yn dy wrthsefyll, rhag iti gythryblu a chwyno.

3. Eithr weithiau mae'n rhaid ar­fer nerth a grym, a gwrthwynebu trachwantau'r corph yn wrol, heb edrych pabeth a fyn y cnawd, a pha­beth nis myn; ond yn hyttrach cei­sio gwneuthur iddo ddarostwng ei­hun ir yspryd, ië er nas myn.

A mae'n rhaid ei gospi a'i yrru i wasanaethu'n vfydd. hyd oni bytho'n barod i bob peth, ac y dysgo fod yn fodlon ag ychydic, a bod yn ddifyr gantho gael pethau syml, heb na grwgnach, nac yngan yn erbyn vn­rhyw flinedd.

PEN. XII.
Am ddyscu ymddioddef, ac am ym­drechu'n erbyn trachwantau.

1. ARglwydd Dduw, mi welaf fod ymddioddef yn an­genrheidiol imi: am fod llawer o [Page 189] wrthwynebau'n digwydd yn y bywyd ymma.

2. Felly y mae, fy mab: ond ni fynnaf gennyt geisio'r cyfryw he­ddwch ac y fo heb ddim temptasiwn, neu heb ymglywed dim gwrthwy­neb.

Ond meddwl dy fod wedi cael heddwch y pryd hynny, pan fyddi'n cael dy flino ag amryw drallodau, a'th brofi'n llawer o wrthwynebau.

Os tydi a ddywedi, nad wyt yn gallu dioddef llawer, pafodd gan­hynny y dioddefi di y Purdan?

O ddau ddrwg rhaid dewis bo­bamser y lleiaf.

Amhynny ermwyn gochel y poe­nau tragywyddol a ddaw, cais er­mwyn Duw ddioddef yn fodlon y drygau presennol.

Ai tybied yr wyti, fod dynion y byd ymma heb ddioddef dim, neu ond ychydic? nis cai hwynt hwy fel­ly, er iti chwilio am y rhai tyneraf a'r meddfaethaf oll.

3. Mae ganthynt hwy, meddi di, lawer o ddifyrrion, a mae'n hwy'n [Page 190] dilyn eu trachwantau euhun: ac am­hynny bychan y prisiant hwy eu blin­derau.

4. Gâd i hynny fod, a'i bod hwy'n cael pob peth a fynnant: ond pahyd, dybygi di, y parhâ hynny?

Wele, megis y mwg y methant y sawl sy'n llawn o'r byd, a gwedi hynny ni bydd dim coffa o'r llawe­nydd a'r difyrrwch y fu.

A thra fyddant etto'n byw, nid ydynt yn gorphwys ynddynt, heb chwerwedd a blinder ac ofn.

Oblegid eu bod hwy o'r vn peth, ac y maent yn cymmeryd difyrrwch, lawer gwaith yn cael poen a dolur.

Cyfion y gwneir iddynt, am eu bod hwy'n ceisio ac yn dilyn plese­roedd yn afreolus, nas gallant gael eu cyflowni heb gywilydd a chwe­rwedd.

Oh mor fyrrion, mor ffeilsion, mor annhrefnus a bryntion ydynt igyd!

Ond o dra medd-dod a dallineb meddwl, nid ydynt yn deall; eithr megis anifeiliaid mudion, ermwyn [Page 191] cael ychydic o ddifyrrwrh y bywyd llygredic, mae'n hwy'n rhedeg i farwolaeth enaid.

Tydi ganhynny, fy mâb, na ddôs arol dy drachwantau, eithr tro oddi­wrth ewyllysion enwireddus.

Ymddifyrra yn ein Harglwydd, ac efe a rydd iti ddymuniadau dy ga­lon.

5. Oblegid os tydi a fynni wîr­ymddifyrru, a chael dy ddiddanu'n ddigonol gennyfi: wele ar ddibrisio pob peth bydol, ac ar ymwrthod â phob plesseroedd gwaelion, y bydd dy fendith di, ac y rhoddir iti helaethlawn amledd o ddidda­nwch.

Ac o bafaint pellach y tynni dyhunan oddiwrth gyssur creaduri­aid, cadarnach o hynny a melysach diddanion a gai di ynofi.

Ond ar y cyntaf, nis cyrheiddi at y rhain heb dristwch, ymboeni ac ym­drechu.

Yr hên gynefinder y fydd yn gwrthsefyll: ond â gwell ymarfer y gorchfygir hynny.

[Page 192]Y cnawd y fydd yn murmuro: ond â gwrês yspryd y distewir ef.

Yr hên Sarph a ymbiga ac a ym­greulona, ond â gweddi y gyrrir ef ymmaith: ac yn chwaneg, wrth weithio'n dda, ac wrth ymflino, y ceuir adwy fawr yn ei herbyn.

PEN. XIII.
Am vfydd-dod tanlwydd gostyngedic ynol esampl Jesu Christ.

1. FY mâb, mae'r neb y fo'n cei­sio tynnu eihun allan o vfydd­dod, yn ceisio tynnu eihunan allan o râs Duw: a'r neb a fynno bethau neilltuol, a gyll y rhai cyffredin.

Y neb ni fynno'n ewyllysgar ac o'i wîrfodd ddarostwng eihunan i'w Bennaeth, sy'n dangos nad yw ei gnawd eihun yn gwbl vfydd iddo yntau: ond ei fod ef yn gwingo'n fynych ac yn murmuro.

Dysc ganhynny'n fuan vfyddhâu i'th Bennaeth, os wyt yn mynnu da­rostwng dyhun.

[Page 193]Canys cynt y gorchfygir y gelyn o­ddiallan, pan fo'r dyn oddimewn wedi ddistrywio.

Nid oes blinach na gwaeth gelyn i'th enaid, na thydi dyhunan, heb fod yn gyttun a'th yspryd.

Mae'n rhaid iti'n llwyr wîr ddibri­sio dyhun, os mynni fod yn drech na chîg a gwaed.

Am dy fod ti etto'n caru dyhunan yn annhrefnus, yr wyt oherwydd hynny yn ofni ymroddi dyhun yn hollawl i ewyllys rhai eraill.

2. Eithr pabeth mawr ydyw iti, yr hwn nid wyt ond llwch a dim, ermwyn Duw ddarostwng dyhun i ddyn: gan ddarfod i myfi yr Hollalluoc a'r Goruchaf yr hwn a greais bob peth o ddim, dda­rostwng fyhunan i ddyn erdyfwyn di?

Myfi a wneuthym fyhun yn iselaf ac yn waelaf oll, fel y gelliti orch­fygu dy falchedd â'm gostyngei­ddrwydd i.

Dysc fod yn ufydd, tydi Iwch a lludw. Dysc ostyngeiddio dyhun ty­di [Page 194] brîdd a baw: ac ymgrymma dy­hunan tan draed pawb.

Dysc dorri dy ewyllysiau, ac ym­roddi dyhun i bob gostyngei­ddrwydd,

3. Llosga o dra digter yn erbyn dyhunan, ac na âd i ddim chwydd fyw ynot: ond gwna dyhun mor ostyngedic ac mor fychan, ac y ga­llo pawb sengid arnat, a'th sathru megis tom yr heolydd.

Beth sy gennyti ddyn ofer a gwâg i'w gwyno o'i blegid?

Beth sy gennyt bechadur brwnt i'w ddywedyd yn erbyn y sawl a'th ddannodant, yr hwn a ddigiaist Dduw cyn fynyched, ac a haeddaist Vffern lawer gwaith?

Eithr sy llygaid i a'th arbedodd di, am fod dy enaid di'n werthfawr yn fyn-gwydd i; fell y gellit wybod yn-gharedigrwydd i, a bod yn ddi­olchgar yn wastad am y cymmwy­nasau a wneuthum iti.

Ac fel yr ymroddit dyhun bobam­ser i wîr vfydd-dod a gostyngeiddr­wydd, ac y dioddefit yn fodlon gael dy gwbl ddibrisio.

PEN. XIV.
Am ystyrio dirgel farnedigaethau Duw rhag bod yn falch am be­thau da.

1. YR wyt yn taranu O Ar­glwydd. arnafi dy farnedi­gaethau, ac â braw ac ofn yr wyt yn ysgwyd fy holl esgyrn, a'm henaid sy'n dychrynnu'n fawr iawn.

Yr wyf yn sefyll mewn syndod, gan ystyried nad yw'r Nefoedd yn làn yn dy olwg di.

Ac os cefaist ddrygioni yn yr An­gelion, ac nid arbedaist hwynt; pa­beth a ddaw ohonofi?

Y sèr a syrthiasant o'r Nêf, a myfi lwch a lludw beth a ryfygaf?

Hwynt hwy, gweithredoedd y sawl, a welid yn ganmoladwy, a gwympasant i'r gwaelod isaf, a'r sawl oeddent yn bwytta bara'r An­gelion, a welais yn ymddifyrru ar soegion moch.

2. Nid oes dim sancteiddrwydd [Page 196] ganhynny, os tydi O Arglwydd a dynni dy law oddiwrthym.

Nid oes doethineb a wna lês, os tydi a baid a'n rheoli ni.

Nid oes cadernid a dâl ddim, os tydi a baid a'n cadw ni.

Nid oes diweirdeb y fo diogel, oddieithr iti ein hamddiffyn ni.

Nid oes gennym ddim ymgadw ohonom einhun; oddieithr iti fod yn bresennol i wilio arnom.

Oblegid wedi ein gadael gennyti, ni *ae foddwn, ac a gawn ein colli: ond pan ddelych ti i ymweled â ni, nyni a gawn ein codi ifynu, a byw.

Canys anwadal ydym, eithr ynoti y cawn ni ein diogelu: ohonom ein­hunain yr ydym yn claearu, ond yno­ti yr ennynnir ni.

3. Oh mor wael a gostyngedic y dylwn i feddwl amdanaf fyhun! mor fychan ac mor ddim y dylwn i brisio'r cwbl sydd ynof, os tybygir fod tippin o ryw ddaioni ynof!

Oh mor isel ddyfn y dylwn ostyn­geiddio fyhun tan dy anoddyn farne­digaethau di, O Arglwydd; lle nid [Page 197] wyf yn cael fyhunan yn amgen na dim a dim!

Oh bwys anfeidrol! Oh lawnfor annofiadwy! lle nis medraf gael dim ohonof, ond dim yn llwyr gwbl!

Ple ganhynny y mae lloches gwâg ogoniant? ple mae'r rhyfyg o fod rhinwedd ynofi?

Llyncwyd yr holl wâg glôd yn nyfnder dy faredigaethau di arnafi.

4. Beth yw pob cnawd yn dy olwg di?

A ymffrostia'r clai yngwydd y neb a'i llunio.

Pafodd y gellir ei ymgodi ef â gwâg siarad, calon yr hwn sy wedi ei gwîr ostyngeiddio yn Nuw?

Oblegid nas gall yr holl fyd falch­ymgodi'r neb y mae'r Gwirionedd wedi ei ddarostwng iddo eihun, ac ni syflir ef â genau pawb a'i canmo­la, yr hwn a roes ei obaith yn ddio­gel ar Dduw.

Oherwydd hwynt hwy hefyd, y rhai sy'n siarad, wele nid ydynt igyd ond dim: canys methant a difan­nant gyda swn eu geiriau: eithr [Page 198] Gwirionedd ein Harglwydd a beri'n dragywyddol.

PEN. XV.
Pafodd y mae'n rhaid gwneuthur a dywedyd, ar bob peth a chwen­nychir.

1. FY mâb, dywaid ymmhob peth: Arglwydd, os gweli di'n dda, bydded hyn ymma.

Arglwydd, os bydd i'th anrhy­dedd di, gwneler hyn yn dy enw di.

Arglwydd, os gweli di y bydd hyn yn fuddiol imi, ac os gwyddost y bydd hyn ar fy llês i; yna canniada imi arfer neu wneuthur hyn i'th an­rhydedd di.

Ond os gwyddost di y bydd hyn­ny'nddrwg imi, ac yn niweidiol i iachawdwriaeth fy enaid i, tynn o­ddiwrthyf y cyfryw ewyllys-chwant.

Oblegid nad yw pob chwant yn dyfod o'r Yspryd Glân, perhon a bod y dyn yn gweled y peth yn gy­fion ac yn dda.

[Page 199]Anodd yw barnu'n iawn, pa vn ai yspryd da, ai vn amgenach y fo'n dy yrru di i chwennychu hyn neu'r llall; neu hefyd ai dy yspryd didy­hun y fo'n dy annog.

Llawer a welwyd wedi eu twyllo ar y diwedd, yr oeddent ar y cyntaf yn meddwl, mai yspryd da oedd yn eu gyrru hwynt.

2. Amhynny ag ofn Duw, ac â gostyngeiddrwydd calon, y mae'n rhaid dymuno a gofyn bobamser y peth bynnag a ddelo i'r meddwl i'w chwennych; ac yn bendifaddeu gan ymwrthod a thi dyhun, gorchym­myn y cwbl imi gan ddywedyd.

Arglwydd, tydi a wyddost, pa beth sydd oreu: bydded hyn neu'r llall megis yr wyti'n mynnu.

Dyro imi'rhyn a fynni, a'r maint a fynni, a phan y mynni di.

Gwna â myfi megis y gwyddosti, a megis y bo goreu gennyti, ac me­gis y bytho mwy anrhydedd i tydi.

Gosod fi ymmha le y mynni, a gwna â myfi wrth dy fodd yr hyn a fynni ymmhob peth.

[Page 200]Yn dy ddwylo di yr wyfi, tro fi, a dattro fi o amgylch.

Wele, dy wâs di ydwyfi, yn ba­rod i bob peth; am nad ydwyf yn chwennychu byw imi fyhun, ond i tydi: mi a fynnwn pe gallwn wneu­thur hynny'n deilwng ac yn ber­ffeithlon.

GWEDDI.
I allael cyflawni ewyllys Duw.

3. Canniada imi, O Jesu tra dai­onus dy râs di, fel y bytho ef gyda myfi, ac y gweithio gyda myfi, ac y parhâo gyda myfi hyd y diwedd.

Dyro imi bobamser chwennychu a mynnu'r hyn, y fo mwy cymmera­dwy iti, a'r hyn y fo goreu gennyti.

Bydded dy ewyllys di fy ewyllys innau: a dilyned fy ewyllys i dy ewyllys di bobamser, a chyttuned ag ef yn llwyr.

Bydded imi yr vn mynnu a'r vn na fynnu â thydi: a bod heb allael na mynnu, neu na fynnu'n amge­nach, nac y mynni, ac a na fynni di.

[Page 201]4. Dyro imi farw i bob peth ac sy'n y byd ymma: ac er dy fwyn di, hoffi cael fy nibrisio, a bod diwybod amdanaf yn y byd hwn.

Dyro imi vwchben pob peth dy­munedic orphwys ynoti, a llonyddu fyn-ghalon ynoti.

Tydi yw gwîr heddwch y galon, tydi yw'r gorphwys vnic: allan oho­noti mae pob peth yn galed ac yn flîn. Yn yr heddwch ymma ynddo eihun, hynny yw, ynoti y Daioni goruchaf tragywyddol y cysgaf ac y gorphwysaf.

Amen.

PEN. XVI.
Bod yn rhaid ceisio gwîr ddidda­nwch yn Nuw yn vnic.

1. BEth bynnac a allaf ei chwen­nych, neu feddwl amdano i'm diddanu i, nid wyf yn ei ddis­gwyl ymma, ond arol hyn.

Eithr pe bai holl ddiddanion y byd gennyfi'n vnic, a phe gallwn fwynhâu pobrhyw ddifyrrion, diau [Page 202] yw, nas gallent barhâu chwaith hîr.

Amhynny fy enaid, ni elli di gael dy ddiddanu'n gyflawn, na'th ddifyrru'n berffeithlon; ond yn Nuw, Diddanwr y tlodion, a der­bynnwr y rhai gostyngedic.

Disgwyl ychydic fy enaid, dis­gwyl addewid Duw, a thi a gai am­ledd o bob daoedd yn y nefoedd.

Os tydi a geisi y pethau presennol yn rhy afreolus, ti a golli' rhai tra­gywyddol a'r Nefolion bethau.

Arfer di y pethau amserol hyn, a dymuna'rhai tragywyddol.

Ni elli di gael dy ddigoni â dim daioni amserol: oblegid nid i fwyn­hâu' rhain y crewyd di.

2. Pe bai gennyt yr holl ddaoedd a grewydd, nis gelliti mor bod yn ddedwydd ac yn happys: ond yn Nuw yr hwn a greodd y cwbl, y mae dy ddedwyddwch a'th wynfyd di'n sefyll.

Nid y cyfryw a welir ac a ganmo­lir gan ffolaidd serchogion y byd: ond y cyfryw ac y mae daionus [Page 203] ffyddloniaid Christ yn ei ddisgwyl, ac y mae' rhai ysprydol, a'r rhai glân eu calon (ymarweddiad y sawl sy'n y Nêf) ambell weithiau'n cael ei rhagflasu ymma.

Ofer ydyw, a byrr pob didda­nwch bydol.

Da a chywir yw'r diddanwch, a gair oddimewn gan y Gwirion­edd.

Mae'r dyn defosionol bobamser yn dwyn ei Ddiddanwch gydag ef, sef yr Jesu bendigedic, ac yn dywe­dyd wrtho: Bydd di gyda myfi Ar­glwydd Jesu ymmhob man, ac ym­mhob amser.

Bydded y diddanwch ymma imi, sef, mynnu o'm gwîr fodd fod heb ddim diddanwch oddiwrth ddyn.

Ac os byddaf heb ddim didda­nwch ohonoti, bydded dy ewyllys di, a'th gyfion brofedigaeth yn lle y di­ddanwch mwyaf imi.

Am nad wyti'n digio'n barhâus, nac yn bygwth yn dragywyddol.

PEN. XVII.
Bod yn rhaid bwrw pob gofal ar Dduw.

1. FY mab, gâd imi wneuthur â thydi yr hyn a fynnafi: myfi a wn beth sy'n dda ar dy lês di.

Yr wyti yn ystyried megis dyn: yr wyti'n meddwl yn llawer o bethau, megis y mae bryd ac ewyllys dyn yn cynghori.

Arglwydd, gwîr ydyw yr hyn a ddywedaist. Mwy yw dy ofal di amdanafi, na'r cwbl o'r gofal a a­llafi ei gymmeryd amdanaf fyhun.

Canys rhy ddamweiniol y mae'r neb yn sefyll, yr hwn nid yw'n bw­rw ei ofal igyd arnati.

Arglwydd, os bydd fy ewyllys i'n iawn, ac yn ddiogel ynoti, gwna ohonofi yr hyn a weli di fod yn dda.

Oblegid nas gall fod yn amgen na da, beth bynnac a wnei di oho­nofi.

[Page 205]2. Os tydi a fynny imi fod mewn tywyllwch bydd di'n fendigedic: ac os tydi a fynni imi fod mewn goleu­ni, bydd di drachefn yn fendigedic. Os mynni di imi gael diddanwch, bydd di'n fendigedic: ac os mynni imi gael blinder a gofid, bydd di yn yr vn modd yn fendigedic.

3. Felly, fy mâb, y mae'n rhaid iti sefyll, os tydi a fynni rodio gyda myfi.

Rhaid iti fod cyn barotted i ddio­ddef, ac i fod yn llawen.

Rhaid iti fod mor fodlon yn dlawd ac yn anghennus, a bod yn llawn golud ac yn gyfoethoc.

4. Arglwydd, er dy fwyn di, mi a ddioddefaf yn ewyllysgar y peth bynnac a fynni di ddyfod arnafi.

Mi a dderbynnaf yn ddiragor o'th law di y drwg a'r da, y melus a'r chwerw, y llawen a'r trîst: ac a ro­ddaf ddiolch iti am bob peth a ddî­gwyddo imi.

Cadw di fyfi rhag pob pechod, ac nid ofnaf nac angeu nac Vffern.

Os tydi ni'm bwri fi ymmaith yn [Page 206] dragywydd, ni wna imi ddim ni­weid na'r blinfyd na'r trafferth pa­bynnac a ddelo arnaf.

PEN. XVIII.
Bod yn rhaid dioddef pob trueni bydol yn fodlon ynol esampl Christ.

1. FY mâb, myfi a ddisgynnais o'r Nef ermwyn dy iachaw­dwriaeth di: myfi a gymmerais ar­naf dy holl drueni di, nid o an­genrhaid ond am fod cariad ar­nati yn fy nhynnu i: fel y dyscit tithau ddioddefgarwch, ac y dy­scit ddioddef blinderau bydol yn ddiddig.

Canys o'r awr a'm ganwyd, hyd fy marw ar y Groes, ni sûm i ddim heb ddioddef dolur.

Mawr eisiau da bydol y fu arnaf: mynych y clywais lawer o achwyn amdanaf: dioddefais yn ddaionus ammharch a gwradwydd: am gym­mwynasau mi gefais anniolchgarwch, [Page 207] am fyn-gwrthiau fyn-ghablu, am fy nysceidiaethau fyn-gheryddu.

2. Arglwydd, gan iti fod yn ddio­ddefgar yn dy fywyd, trwy gwbl gyflawni yn hynny orchymmyn dy Dâd; iawn ydyw i minnau becha­dur truan, ynol dy ewyllys di yma­rwedd fyhunan yn ddioddefgar: a dwyn hyd y gweli di fod yn dda, baich y bywyd llygredic hwn i'm ia­chawdwriaeth.

Oblegid er bod y bywyd presen­nol ymma'n flîn, ac yn drwm; er­hynny mae ef 'rwön trwy dy râs di'n haeddiannus iawn; a thrwy dy esampl di, ac ar hyd oltrâed y Sainct yn esmwythach i'rhai gweiniaid ac yn oleuach.

Mae ef hefyd yn llawer mwy di­ddanol, nac yr oedd yn yr Hên Gy­fraith, pan yr oedd porth y Nêf yn aros yn gaead; ac yn dywyllach he­fyd y gwelid y ffordd i'r Nêf, pan nid oedd ond nemmor yn gofalu, am geisio teyrnas y Nefoedd.

Ac nid oedd chwaith y sawl oe­ddent y pryd hynny'n gyfion ac i [Page 208] [...] [Page 209] [...] [Page 208] fod yn gadwedic, cyn dy Ddiodde­faint di, a gwerthfawr ddyled dy farwolaeth sancteiddlawn, yn gallu myned i mewn i deyrnas y Nefoedd.

3. Oh pafaint o ddiolch a ddylwn i roddi iti, am ddarfod iti deilyngu dangos imi, ac i'r holl ffyddloniaid ffordd vnion a da i'r deyrnas dra­gywyddol.

Canys dy fuchedd di yw ein ffordd ni: a thrwy sanctaidd ddioddefga­rwch yrydym yn rhodio attati, yr hwn wyt ein Coron ni.

Pettasiti heb fynd o'r blaen a'n dy­scu ni, pwy a gymmerasai ofal am dy ganlyn di?

Gwae fi, pa nifer a arhosent yn hirbell arol, oni bai eu bod hwy'n canfod dy esamplau rhagorol di?

Wele! 'rydym etto'n claearu gwe­di clywed cynnifer o'th arwyddion, a'th ddysceidiaethau di: beth y fy­ddai, pettem ni heb gymmaint go­leuni i'th ddilyn di?

PEN. XIX.
Am ddioddef cam, a phwy sy'n wîr ddioddefgar.

1. PAbeth wyti yn ei ddywedyd, fy mâb? Paid ac achwyn gan ystyried fy Nioddefaint i, a'r hyn a ddioddefodd y Sainctiau eraill.

Nid wyti etto gwedi gwrthsefyll hyd at golli gwaed.

Bychan yw'r hyn wyti'n ei ddio­ddef, gyferbyn a blinfyd y sawl a ddioddefodd gynnifer o bethau, a demptiwyd cyn dosted, a ofidiwyd cyn orthymmed, a flinwyd ac a bro­fwyd gynnifer o foddion.

Rhaid iti ganhynny gofio y pe­thau mowrion y mae rhai eraill yn eu dioddef, fel y gelli yn esmwy­thach ddwyn yr hyn bychan yr wy­ti'n ei ddioddef.

Ac onid wyti'n gweled mai by­chan ydyw, edrych onid dy annio­ddefgarwch di sy'n peri hynny.

Ond pa vn bynnac ydynt ai [Page 210] [...] [Page 211] [...] [Page 210] mawr ai bychain, cais ddioddef y cwbl yn fodlon.

2. O bafaint gwell y paratoi di dyhunan i ddioddef, callach ohynny y gwnai, a mwy a heuddi: ti a ddy­gi hefyd y cwbl yn esmwythach wrth ymarfer, ac wrth roddi dy fryd i'w dwyn yn wrolach.

Ac na ddywaid: Nid wyfi'n abl i ddioddef gan y cyfryw ddyn; ac nid yw'r cyffelyb bethau i'w dio­ddef: oherwydd cam mawr a wna­eth ef imi, ac ef a edliwiodd imi'r hyn nas meddyliais erioed amdanynt: ond mi a'i dioddefaf hwynt gan vna­rall, ac megis y gwelafi fod yn dda.

Ffôl ac anghall yw meddwl y cyfryw ddyn, am nad ydyw ef yn ystyried rhinwedd Dioddefgarwch, na phwy a'i corona ef: ond yn hyt­trach yn edrych ar bersonnau dynion, ac ar y cammau a wnaed iddo.

3. Nid dyn gwîr ddioddefgar yw'r neb ni fyn ddioddef, ond y maint a fynno ef, a chan y sawl y y welo ef fod yn dda.

Oblegid nad yw'r dyn gwîr ddio­ddefgar [Page 211] yn ystyried gan bwy y ca­ffo ei flino, ai gan ei Bennaeth, ai gan ei gydradd, ai gan vn isach ei radd; ai gan ddyn da a sanctaidd, ai gan ddyn cyndyn, gwrthnysic ac annheilwng.

Ond yn ddiragor gan bob creadur, y maint bynnac, a chynnifer gwaith bynnac y digwyddo rhyw wrthwy­neb, ef a gymmer y cwbl yn ddiolch­gar o law Duw, ac a gyfrifa hyn­ny'n ynnill mawr.

Oblegid na ddichon dim, er by­chaned y fo, os er mwyn Duw y dioddefir, fyned heibio i Dduw heb gael tâl amdano.

4. Bydd parod ganhynnu i'r ym­ladd, os tydi a fynni gael y gor­fod.

Heb ymladd, nis gelli mor dyfod i gael Coron Dioddefgarwch.

Os tydi a wrthodi ddioddef, ti a wrthodi gael dy goroni.

Ond os tydi a fynni gael dy goro­ni, ymladd yn wrol, dioddef yn fod­lon.

Heb weithio, ni ellir mynd i'r [Page 212] gorphwys: ac heb ymladd nis gellir cael y buddugoliaeth.

Bydded yn bossibl imi, O Ar­glwydd, trwy dy râs di yr hyn a welir yn ammhosibl trwy natur.

Tydi a wyddost nad wyfi'n gallu dioddef ond ychydic, ac y bwrir fi i lawr yn fuan, pan godo gwrthwy­neb bychan i'm herbyn.

Bydded y pabynnac ymflino mewn trallodau a gofidiau, er mwyn dy enw di yn hoff imi, ac yn ddymu­nedic: canys dioddef a chael fym­lino er dy fwyn di, sy beth iachusol iawn imi.

PEN. XX.
Am gydnabod ein gwendid einhun, ac am drueni y bywyd ymma.

1. CYfaddefaf yn fy erbyn fyhun fy anghyfiawnder, cyfadde­faf iti, O Arglwydd, fyngwendid fyhun.

Bychan lawer gwaith yw'r peth a'm bwrw i lawr, ac a'm gwna fi'n drist.

[Page 213]Rwyfi'n bwriadu gwneuthur yn wrol: ond pan ddelo tippyn o dem­ptasiwn, mi fyddaf mewn cyfyng­der mawr.

Gwael iawn lawer gwaith, yw'r peth, o'r hwn y daw temptasiwn mawr.

A phan fyddwyf yn tybied fyhun yn sym ddiogel, cyn clywed oddiwr­tho, mi gaf weled fyhunan wei­thiau agos gwedi fyn-gorchfygu â chwythiad yfgafn.

2. Edrych ganhynny, O Ar­glwydd, ar fyn-gwaeledd a'm gwen­did i, y rhai sydd obobparth yn lwyr wybodedic iti.

Trugarhâ wrthyf, a gwared fi o'r clai budr ymma, rhag i mi lynu yn­ddo, a bod bobamser yn ddigalonnoc.

Dymma'r peth, sy'n curo fyn­ghydwybod i'n fynych, ac yn peri cywilydd arnaf yn dy olwg di, fy mod i'n barod i lithro, ac mor wann i wrthsefyll anwydau drygionus.

Ac er nad yw hynny hyd at gwbl gydsynnio â hwynt▪ gofidus erhynny a gorthrwm yw'r erlyn a [Page 214] wnânt i'm herbyn, a blîn iawn ydyw byw fel hyn beunydd mewn ymry­son.

Wrth hyn y mae fyn-gwendid yn yspys imi: oherwydd mai haws bo­bamser y rhythrant ffansiau ffieidd­gas arnaf, nac yr ymadawant â myfi.

3. Mi fynnwn, tra gadarn Dduw Israël, eiddigus hoffwr yr eneidiau ffyddlon, ped edrychiti ar flinedd a dolur dy wâs, ac y cymmhorthit ef ymmhob rhywbeth, yr elo atto.

Cadarnhâ fi â nerth ac â grym nefol, rhag i'r hên ddyn y cnawd annedwydd, sy fyth heb ei gwbl ddarostwng i'r yspryd, gael y goreu a meistroli arnaf: yn erbyn yr hwn y mae'n rhaid ymladd, tra fyddom yn y bywyd llawn truenus hwn.

Och! pafath fywyd ydyw hwn, lle mae cymmaint o drueni a thrallo­dau; lle mae pob man yn llawn o rwydau ac o elynnion?

Canis gwedi i vn blinder neu demptasiwn fyned heibio, ef a ddaw vnarall: ac etto a'r ymdrech cyntaf [Page 215] yn parhâu, chwaneg o rai eraill a ddawant, a hynny'n ddisymmwth.

4. A phafodd y gellir caru bywyd â chymmaint o chwerwedd ynddo? bywyd cyn lawned o drallodau a blinderau?

Pafodd hefyd y gellir ei alw ef yn sywyd, yr hwn sy'n cenhedlu cynni­fer cywyn a marwolaethau?

Ac erhynny ef a'i cerir, ac mae llaweroedd yn ceisio ymddifyrru yn­ddo.

Mynych y beiir y byd, am ei fod yn ffugiol, yn fals ac yn ofer: ac er­hynny nid ymadewir yn hawdd ag ef, am fod trachwantau'r cnawd yn meistroli gormod.

Ond mae'r naill yn tynnu i garu, a'r lall i ddiyst yru'r byd.

I garu'r byd y mae trachwantau'r cnawd, trachwantau'r llygaid, a balchder buchedd yn ein tynnu ni: ond mae'r cospedigaethau a'r trueni syn gyfiawn yn eu canlyn hwynt, yn peri câs am y byd, a blinedd ynddo.

5. Eithr och yfi! mae difyrrwch drwg yn gorchfygu'r enaid sy gwedi [Page 216] ymroddi eihunan i'r byd, a mae'n meddwl fod mwythau melusper tan ddrain: oherwydd na ddarfu iddo na gweled, na phrofi melusrwydd Duw, na'r hyfrydwch sydd oddimewn rhi­nwedd.

Ond y sawl sy'n cashâu'r byd yn berffeithlon, ac yn ceisio byw i Dduw mewn trefn a dysc sanctaidd▪ nid ydynt hwy heb wybod y melus­rwydd duwfol a addewyd i'rhai a wrthodant y byd: a mae'n hwy'n canfod yn eglur mor orthrwm y mae dynion bydol yn cyfeiliorni, ac yn cael eu twyllo mewn amryw fo­ddion.

PEN. XXI.
Bod yn rhaid gorphwys yn Nuw vwchben pob daoedd a rhoddion.

1. VWchben pob peth, ac ym­mhob peth, gorphwys, O fy enaid, yn ein Harglwydd bobam­ser, canys efe yw tragywyddol or­phwys y Seinct.

[Page 217]Caniada imi, O draddaionus a hoff-lawn Jesu, orphwys ynoti vwch­ben pob creadur: vwchben pob te­gwch a iachawdwriaeth: vwchben pob gogonlant ac anrhydedd: vwch­ben pob teilyngdod a galluedd: vwchben pob gwybodaeth a manyl­ddysc: vwchben pob cyfoeth a chel­fyddydon: vwchben pob llawenydd a gorfoledd: vwchben pob canmo­liaeth a chlod: vwchben pob melus­der a diddanwch: vwchben pob go­baith ac addewid: vwchben pob hae­ddedigaeth a dymuned.

Vwchben pob donnian a rhoddi­on, a elli di eu rhoddi a'i tywallt y­nofi: vwchben pob gwynfyd a go­rawen a ddichon enaid dyn ei ym­glywed.

Yn ddiweddaf vwchben yr Ange­lion a'r Archangelion, ac vwchben yr holl Lu nefol: vwchben pob pe­thau gweledic ac anweledic, ac vwch­ben y cwbl o'r hyn nad ydwyti fy Nuw i.

2. Canys tydi, fy Arglwydd Dduw i, vwchben y cwbl wyt y goreu oll: [Page 218] tydi'n vnic wyt y Goruchaf: tydi'n vnic wyt y Galluoccaf: tydi'n vnic wyt y digonolaf a'r cyflawnaf, tydi'n vnic wyt y melusaf a'r cyssurusaf.

Tydi'n vnic wyt y teccaf a'r care­diccaf: tydi'n vnic wyt y bonheddic­caf a'r gogoneddusaf vwchlaw y cwbl oll, yn yr hwn y mae pob dao­edd igyd ynghyd ac yn berffaith, ac y buont bobamser, ac y byddant.

Ac amhynny bychan yw, ac nid digon y peth bynnac a roddi di imi heboti dyhun, neu a ddatcuddi imi amdanati, neu a addewi imi heb dy weled di, a'th gael yn gyflawn.

Canys ynddiau, nis gall yn-gha­lon i wîr orphwys, na'i bodloni'n hollawl, oddieithr iddi orphwys yno­ti, a mynd ifynu vwchben pob don­niau a'r creaduriaid oll.

3. Oh sy'm Priodfab carediccaf Jesu Christ! y Cariad pureiddaf, Lly­wodraethwr y creaduriaid oll pwy a rydd imi esgyll gwîr rydd-did i he­deg attati, ac i aros ynoti?

Oh pabryd y rhoddir imi'n gy­fiawn weled ac ymglywed, mor [Page 219] felus ydwyti fy Arglwydd Dduw i?

Oh! pabryd yr ymgynnullaf fy­hun yn hollawl ynoti, fel o dra ca­riad arnati, nad ymglywaf fyhun: ond tydi'n vnic vwchben pob ymgly­wed a môdd, mewn môdd nad yw wybodedic i bawb?

Eithr ynawr mynych yr wyf yn cwynfan, ac â dolur yn dioddef fy annedwyddwch.

Oherwydd fod llawer peth yn di­gwydd imi yn y dyffryn hwn o dru­eni, y rhai a'm cythryblant yn fy­nych, a'm tristhâant ac a gymylant arnaf: mynych y rhwystrant ac y trawsdynnant fi, mynych y denant ac y rhwydant fi, rhag imi gael myned attati, a chael fy amgofleidio yn hy­fryd gennyti, gan fod bobamser yn bresennol gyda'r Ysprydion gwynfy­dedic.

Cyffroent di fy vcheneidiau i, am hamryw anniddanwch ar y ddae­ar.

4. O Jesu discleirdeb y gogoniant tragywyddol, a diddanwch yr enaid sy'n ymdeithio: attati y mae fyn-ge­nau [Page 220] heb ddim lleferydd, a'm gosteg i fy'n llafaru wrthyti.

Pahyd y hîr-driga fy Arglwydd i ddyfod?

Doed attafi ei druanddyn, a gw­naed fi'n llawen. Ystynned ei law, a thynned fi ei weifyn tlawd ef o bob cyfyngder.

Dyre, dyre; oblegid heboti ni bydd na dydd nac awr yn llawen: canys tydi yw fy llawenydd i; a he­boti gwâg yw fy mwrdd i.

Truan ydwyf ac megis wedi'm carcharu, am trymhâu â llyffethei­riau: hyd onis difyrri di fyfi â llew­yrch dy bresennoldeb, gan ddangos imi dy wyneb glân hyfryd.

5. Ceisient rhai eraill y peth byn­nac a fynnant yn dy le di: nid oes dim yn y cyfamfer a eill ryngu bodd imi, nid oes dim a'm bodlona, ond tydi yn vnic, fy Nuw i, fyn-gobaith a'm iachawdwriaeth tragywyddol.

Ni thawaf a sôn, ac nis peidiaf a gweddio: hid onis ymchwelo dy râs attaf, ac y llaferi di wrthyf o­ddimewn.

[Page 221]6. Wele fyfi ymma: wele fyfi wedi dyfod attati, oherwydd iti alw arnaf. Dy ddagrau di, a hiraeth dy enaid, dy ostyngeiddrwydd a'th gy­studd calon a'm gogwyddasant fi, ac a'm dygasant attati.

7. A dywedais: Arglwydd, mi a elwais arnat, ac a chwennychais dy fwynhâu di, gan fod yn ba­rod i wrthod pob peth er dy fwyn di.

Canys tydi'n gyntaf a'm cyffroist fi i'th geisio di.

Amhynny, O Arglwydd, bydd di'n fendigedic, yr hwn a wnaethost y daioni ymma a'th wâs ynol amlder dy drugareddau di.

Beth yn chwaneg sy gan dy wâs i'w ddywedyd yn dy wydd di, ond gostyngeiddio ohono eihunan yn fawr iawn o'th flaen di, gan gofio bobamser ei ddrygioni a'i waeledd eihun.

Canys nid oes dim tebyg iti yn holl ryfeddodau nêf a daear.

Mae dy weithredoedd di'n dda iawn drosben, dy farnedigaethau'n [Page 222] gywir, ac â'th ragweled di y llywo­draethir pob peth.

Moliant ganhynny a gogoniant iti, O ddoethineb y Tâd, moled a bendithied di fyn-genau i, a'm he­naid a phob peth creedic o'r vnwaith.

PEN. XXII.
Am gofio amryw gymmwynasau Duw i ddyn.

1. AGor, O Arglwydd, fyn-gha­lon yn dy gyfraith, a dysc imi rodio yn dy Orchymmynion di.

Gwna imi ddyal dy ewyllys di, ac â mawr anrhydedd gyda dyfal ysty­ried, ddwyn ar gôf y cymmwyna­sau a wneuthosti imi, yn gystal y rhai cyffredin a'rhai neilltuol: fel y gallwyf ohyn allan roddi teilwng ddiolch iti.

Eithr yr wyf yn gwybod ac yn cyfaddef, nas gallaf am y gronyn lleiaf dalu dyledus foliannau o ddi­olch iti.

Llai ydwyfi nac vn daioni a wnae­thost [Page 223] imi: a phan fythwyf yn ysty­ried dy hynodrwydd, a'th ragor­fraint di, mae fy yspryd o dra maint y matter yn methu ynof.

2. Dy roddion di ydyw'r cwbl sy gennym yn ein henaid a'n corph, a'r peth bynnac a feddom oddimaes ac oddimewn, trwy natur neu vwch­law natur: ac mae'n hwy'n dangos dy fod ti'n hael, yn garedic ac yn ddaionus, o'r hwn y cawsom bob daoedd.

Er bod y naill wedi, cael mwy, a'r llall wedi cael llai, o'th eiddo di erhynny y mae'r cwbl: ac heboti nis gellir cael y lleiaf.

Ni all y neb, a gafodd y rhoddion mwyaf, ymffrostio am ei haeddiant, nac ymgodi eihunan yn vwch na rhai eraill, na gwatwor yr hwn sydd a llai gantho: oblegid mai efe yw'r mwyaf a'r goreu, yr hwn syn cym­meryd llai arno eihun, ac â mwy go­styngeiddrwydd a defosiwn yn rho­ddi diolch iti.

A'r neb a gyfrifo eihun yn wae­lach na phob vnarall, ac a farna ei­hunan [Page 224] yn annheilyngach, sy gym­mwysaf i dderbyn y rhoddion mwy­af.

3. Eithr ni ddylai'r neb, a gafodd lai o roddion, dristhâu, na bod yn ddigllon, neu genfigennu'r cyfoe­thoccach: ond yn hyttrach edrych arnati, a moliannu'n ddirfawr dy ddaioni di, am dy fod ti'n rhoddi dy ddoniau mor helaethlawn, mor ewy­llysgar, ac yn ddihaeddiant, heb ddim derbyn wyneb.

Ohonoti y mae'r cwbl, ac amhyn­ny tydi wyt i'th foliannu ymmhob vn.

Tydi a wyddost pabeth sy gym­mwys i'w roddi i bob vn: a phaham y mae llai gan hwn ymma, a mwy gan hwn accw: nid i nyni, ond iti y mae'n perthyn barnu hynny, yr hwn wyt wedi deffinio haeddedigaethau pobvn.

4. Ac amhynny, O fy Arglwydd Dduw, rwyfi'n cyfrif yn gymmwy­nas fawr imi, nad oes llawer o be­thau gennyf, o'rhai oddimaes ac y­nol barn dynion yr ymddangosai clôd [Page 225] a gwychdra ynof: yn gymmaint ac y dylai dyn wrth ystyried ei dlodi a'i waeledd eihun, nid yn vnic fod heb gymmeryd trymder neu dristwch neu ddigalondid o hynny, ond yn hyttrach cymmeryd diddanwch mawr a llawenydd ohono.

Oblegid dy fod ti, O Dduw, we­di dewis y tlodion, a'rhai gostynge­dic a'r sawl y mae'r byd yn eu dibri­sio, i fod yn gyfeillion cartrefol, ac yn anwylion iti.

Tystion ohynny yw dy Apostoli­on di, y rhai a osodaist yn Dwyso­gion dros yr holl ddaear.

Hwynt hwy erhynny y fuont fyw yn y byd heb ddim ymgwyno, ond mor ostyngedic a syml, heb na malais na thwyll, a bod yn llaw­en hefyd ganthynt ddioddef am­mharch a dirmyg er mwyn dy enw di, ac amgofleidio â mawr awydd y pethau, y mae'r byd yn eu ffiei­ddio.

5. Nid oes dim ganhynny a ddy­lai lawenhâu'r neb sy'n dy garu di, ac yn cydnabod dy gymmwynasau [Page 226] di tuac atto ef, yn gymmaint a'th ewyllys di ynddo ef, a bôdd dy dra­gywyddol ddosparthiad di.

Am yr hyn, dyn a ddylai gym­meryd cymmaint bodlonrwydd a di­fyrrwch, ac y mynnai mor ewyllys­gar fod yn lleiaf, ac y dymunai vna­rall fod yn fwyaf oll.

Ac felly y dylai ef fod mor he­ddychol, a chyn fodloned yn y lle isaf a'r gwaethaf, ac y byddai yn y lle vchaf a'r goreu: a bod yn ddi­bris, ac yn wael, ac heb ddim sôn amdano mor ewyllysgar, a bod yn fwy anrhydeddus na'r lleill igyd, neu yn y bri a'r gogoniant mwyaf yn y byd.

Oblegid dy ewyllys di, a serch am dy anrhydedd di, a ddylai ragori ar bob peth arall, ai ddiddanu, a'i fodloni ef yn fwy, na'r holl gymmwy­nasau, neu'r doniau a roddwyd, neu sydd i'w rhoddi iddo.

PEN. XXIII.
Am bedwar peth yn peri heddwch mawr.

1. FY mab, ynawr y dysgaf iti y ffordd i heddwch, ac i wîr rydd-did.

2. Gwna, Arglwydd, yr hyn a ddywedaist, oblegid hôff y sydd gennyfi glywed hynny.

3. Cais, fy mab, wneuthur ewy­llys vnarall yn hyttrach na'th ewyllys dyhun.

Dewis bobamser yr hyn y so llai, yn hyttrach na'r hyn y so mwy.

Cais bobamser y lle isaf, a bod yn waelach na phawb.

Dymuna bobamser, a gweddis wneuthur o Dduw ei ewyllys yn ho­llawl ynoti.

Wele, y cyfryw ddyn a â i mewn i ffiniau heddwch ac esmwythdra.

4. Arglwydd, mae dy fyrr yma­drodd di hwn ymma, yn cynnwys perffeiddrwydd mawr.

[Page 228]Bychan ydyw i'w lafaru, ond mae ef yn helaeth o ystyr, ac yn llawn o ffrwyth.

Canys pe gallwn gadw hwn ym­ma'n ffyddlon, ni chodai cythryfwl mor hawdd ynofi.

Oblegid cyn fynyched ac yr wyf yn clywed syhun yn aflonydd ac yn flîn o'm meddwl, rwyf yn gweled fy mod wedi ymadael a'r addysc ymma.

Eithr tydi, yr hwn wyt yn gallu pob peth, ac yn caru llês yr enaid bobamser, dyro chwaneg o râs imi, fel y gallwyf gyflowni dy ymadrodd di, a gorphen iachawdwriaeth sy enaid fyhun.

GWEDDI.
Yn erbyn meddyliau drwg.

5. O sy Arglwydd Dduw, na sydd ymmhell oddiwrthyf: edrych, O sy Nuw, i'm cymmhorth: am sod amryw feddyliau wedi codi i'm herbyn ac yn ymruthro arnaf: a dy­chryndodau mowrion sy'n blino fy enaid i.

[Page 229]Pafodd yr âf trwyddynt yn ddiniw­eid? pafodd y torraf yn rhwydd trwy eu canol hwynt?

6. Myfi, ebyr ef, a âf o'th flaen di, a gwychion ogoneddus y ddaear a ostyngeiddiaf. Mi a agoraf ddo­rau'r Carchar, ac a ddateuddiaf iti ddirgeleddion cyfrinachau.

7. Gwna, O Arglwydd, megis y dywedi: a ffoant rhag dy wyneb di holl feddyliau enwireddus.

Hyn yw fyn-gobaith, a'm hunic ddiddanwch, cilio attati ymmhob blinedd a gofid, ymddiried ynoti, galw o waelod yn-ghalon arnati, a disgwyl yn ddioddefgar am dy ddi­ddanwch di.

GWEDDI.
Am gael llewychu'r enaid.

8. Llewycha fi, O Jesu daionus, â disgleirdeb goleuni oddimewn: a bwrw allan bob tywyllwch o drigfa fyn-ghalon.

Cadw oddiwrthyf laweroedd o drawsfeddyliau; a thorr yn chwil­fryw [Page 230] y temptasiwnau sy'n rhuthro'n fforddrych arnaf.

Ymladd yn wrol drosaf, a gorch­fyga'r milod drwg, sef drythyll dra­chwantau'r cnawd, fel y byddo he­ddwch trwy dy nerth di, ac amlder o'th foliant di yn lleisio mewn neu­add Sanctaidd, hynny yw, mewn cydwybod lân.

Gorchymmyn y gwyntoedd a'r temmhestloedd: a dywaid wrth y môr, taw a sôn; ac wrth y gogle­ddwynt, na chwytha ddim; a bydd tawelwch mawr a hindda.

9. Anfon dy oleuni a'th wirionedd i lewyrchu ar y ddaear, canys tîr diffrwyth ydwyfi a gwâg, hyd onis llewychi di arnaf.

Tywallt râs oddiuchod: gwly­cha fyn-ghalon â gwlith nefol: dyro ddyfroedd defosiwn i leithio wyneb y ddaear, fel y dycco hi▪r ffrwyth da a'r goreu.

Cyfod fy meddwl sy wedi ei lwy­tho'n rhy gaeth â phwys pechodau, ac at bethau nefolion côd ifynu fy holl ewyllyschwant i: fel gwedi profi [Page 231] melusder y dedwyddwch goruchaf, y ffieithiaf feddwl am bethau daearol.

10. Cippia fi ifynu, a gwared fi rhag pob dibarhaus ddiddanwch crea­duriaid: oherwydd nas gall vn peth creedic lonyddu a diddanu'n gyflawn fy ewyllyschwant i.

Cysyllta fi â thi ag annattod gw­lwm Cariad: canys tydi'n vnic wyt yn ddigon i'r neb a'th garo, ac he­botti gwael ac ofer yw'r cwbl.

PEN. XXVI.
Am ochelyd manwl ymholi buchedd vnarall.

1. FY mâb, paid a bod yn wâg­ofalus, ac na chymmer arnat ofalon ofer a diles.

Beth yw hyn neu'r llall iti? dily­na di fyfi.

Canys pabeth ydyw iti, pa'r vn sydd, ai bod hwn ymma 'n gyfryw neu'n gyfryw: neu fod hwn accw'n gwneuthur, neu'n dywedyd fel hyn ac fel hyn?

[Page 232]Nid rhaid iti mor atteb tros rai eraill, ond trosott dyhunan y mae'n rhaid iti roi cyfrif, i pabeth ganhynny yr wyti'n aflonyddu dy­hun.

Wele, rwyfi'n gwybod pawb: ac yn gweled y cwbl a wnelir tan yr Haul: a myfi a wn pafodd y mae gyda phob vn: pabeth y mae ef yn ei feddwl, pabeth y mae yn ei fyn­nu, ac at ba ddiben y mae ei fryd ef a'i amcan yn tynnu.

Amhynny rhaid gorchymmyn y cwbl imi: eithr tydi cadw dyhunan yn heddwch da, a gâd i'r aflonydd wneuthur cymmaint ac a fynno.

Fe a ddaw ar ei ben ef y cwbl a wnelo ac a ddywetto, oblegid nas geill ef fy sommi i.

2. Na chais gysgod o enw mawr, na chyfeillach llaweroedd, na neill­duol gariad dynion.

Mae'r pethau hyn yn peri traws­dynniadau a mawr ddallineb calon.

Myfi a lafarwn fyn-gair wrthyt o'm gwîr fodd, ac a ddatcuddiwn ddirgeleddion iti, pettiti'n disgwyl [Page 233] yn ofalus am fy nyfodiad, ac yn ago­ryd porth dy galon imi.

Bydd ddiesgeulus, a gwilia mewn gweddiau, a gostyngeiddia dyhunan ymmhob peth.

PEN. XXV.
Ymmha beth y mae diogel heddwch calon, a gwîr broffit ysprydol yn bod.

1. FY mâb, myfi a ddywedais: Heddwch a adawaf i chwi: fy heddwch i a roddaf i chwi, nid fel y mae'r byd yn rhoddi, yr wy­fi'n rhoddi i chwi, Joh. 14. 27.

Heddwch y mae pawb yn ei ddy­muno: ond nid yw pob vn yn cei­sio'r pethau sy'n perthyn i wîr he­ddwch.

Fy heddwch i fy gyda'rhai gostyn­gedic, a'rhai tirion-galon: dy he­ddwch di y fydd mewn mawr ddio­ddefgarwch.

Os tydi a wrandewi arnafi, ac os [Page 234] dilyni fy lleferydd i, ti a elli gael mwynhâu heddwch mawr.

2. Pa beth ganhynny, O Ar­glwydd, a wnaf?

3. Ymmhob peth gwilia arnat dyhun, pabeth a wnai, a phabeth a ddywedi: ac at hyn cyfeiria dy holl fryd a'th amcan, sef, i ryngu bodd imi'n vnic, ac na chwennych chwaith, ac na chais ddim allan ohonofi.

Na farna hefyd yn fyrbwyll ddim, nac am eiriau nac am weithredoedd rhai eraill: ac na ymddyrysa dyhun yn y pethau na erchwyd iti: a geill fod, nas cai dy gythryblu, oddieithr yn ychydic, ac yn anfynych.

Ond bod bobamser heb glywed dim cythryfwl, ac heb ddioddef na dim blinder calon na corph, sy beth nid yw'n perthyn i'r amser prefennol ymma, ond i stâd y llonyddwch tra­gywyddol.

Na chyfrifa ganhynny dy fod ti wedi cael gwîr heddwch, oherwydd dy fod heb glywed dim trymder: na bod y cwbl y pryd hynny'n dda, pan fyddi heb ddioddef neb yn [Page 235] wrthwyneb iti: na bod hyn yn beth perffaith, os bydd pobpeth yn mynd ynol dy ewyllys di.

Ac na wna gyfrif mawr ohonot dyhun; neu na thybia dy fod ti'n anwylyd caredic, oblegid dy fod mewn defosiwn a melusder ysprydol mawr: canys nid wrth y rhain ym­ma, yr adnabyddir gwîr gariadwr rhinwedd: ac nid ar y rhain y mae proffit a pherffeiddrwydd dyn yn se­fyll.

4. Ar babeth yntau, O Arglw­ydd?

5. Ar offrwm dyhunan o waelod dy galon i ewyllys Duw: heb ddim ceisio dy eiddo dyhun, nac mewn bychan nac mewn mawr, nac dros amser nac dros dragywyddoldeb.

Yn y modd ac y perhei a'r vnrhyw wynebpryd, gan roddi diolch i myfi mewn llwyddiannau a gwrthwyne­bau, gan ystyried y cwbl yn yr vn gymmhwys fantol.

Ac os byddi di mor gadarn a hi­roddefus mewn gobaith, ac▪ wedi imi dynnu oddiwrthyt y diddanwch [Page 236] oddimewn, y paratoi di dy galon i ddioddef chwaneg a mwy, heb ddim cyfiowni dyhunan, megis pettasiti heb haeddu dioddef cymmaint.

Ond fyn-ghyfiowni i ymmhob peth a drefnaf, a moliannu fy Enw sanctaidd i: yna y byddi'n rhodio ar­hyd wîr ac vnion fford heddwch: a bydd gobaith diammeu, y cai di ei­lwaith weled fy wyneb i mewn llaw­enydd gorfoleddus.

Eithr os tydi a gyrhaeddi i ho­llawl ddibris amdanat dyhun, bid yspys iti, y cai di ar hynny fwyn­hâu amlder o Heddwch, ynol yr hyn sy bossibl yn y drigfa bresennol ymma.

PEN. XXVI.
Am ragorfraint meddwl rhydd▪ yr hyn y mae Gweddi syml yn ei haeddu, yn hyttrach na darllain.

1. ARglwydd, gwaith gwr per­ffaith yw hyn, bod bobam­ser heb ymollwng y meddwl oddi­wrth [Page 237] ystyried pethau nefolion: a myned trwy ganol llawer gofalon megis yn ddiofal: nid fel dyn diog­swrth, ond â math o ragorfraint me­ddwl rhydd, heb ymlynu wrth vn­rhyw greadur ag awydd annhrefnus.

2. Attolygaf arnat, O fy Nuw tra daionus, cadw fi rhag gofalon y bywyd hwn, fel nad ymddyrysaf yn­ddynt: rhag llawer o angenrheidi­au'r corph, fel nas caethiwir fi me­wn difyrrwch cnawdol: rhag pob rhwystr enaid, fel gwedi fy mlino â blinderau, nas bythwyf yn ddiga­lon.

Nid wyfi'n dywedyd, rhag y pe­thau, y rhai y mae gwagedd dynion bydol â llawn serch ac awydd yn eu ceisio: ond rhag y blinderau y rhai trwy gyffredin felltith dynoldeb sy'n pwyso' mor drwm-boenus ar enaid dy wâs, ac yn ei dynnu ef ynol, fel nad ydyw'n gallu myned i mewn i rydd-did yspryd, pan fyddo'n myn­nu.

3. O fy Nuw i, y melusder an­nhraethadwy! gwna'n chwerw imī bob [Page 238] bob digrifwch cnawdol, sy'n fy nal i rhag caru'r diddanion tragywyddol, ac yn fy nrwg-ddenu â rhyw ragraith o ddifyrrwch presennol.

Na orchfyged fi, O fy Nuw, na orchfyged fi, cîg a gwaed: ac na thwylled fi y byd a'i fyrr ogoniant: na fwried fi i lawr y Diawl a'i gy­frwysder.

Dyro imi gadernid i wrthsefyll, ymmynedd i ddioddef, a gwasta­drwydd i barhâu.

Dyro imi yn lle pob difyrrion by­dol, hyfrydlawn ymiraid dy yspryd di: ac ynlle cariad cnawdol, tywallt ynof gariad arnati.

4. Wele, mae bwyd, diod, a di­llad a'r cwbl o'r ddodren angenrhei­diol i feithrin y corph, yn bethau blindrymmion i yspryd gwresog.

Dyro râs imi i arfer y cyfryw ym­geleddion mewn mesur gweddol, ac nid â gormod serch ymddifyrru yn­ddynt.

Nis gellir bwrw'r cwbl ymmaith, am fod yn rhaid cynnal natur: ond ceisio gormod o'r pethau y fo mwy [Page 239] difyrriol, e mae'r Gyfraith sanctaidd yn gwahardd: canys yn amgenach y cnawd a wrthryfelai'n erbyn yr ys­pryd.

Yn y rhain, attolygaf arnat rheoled a dysced dy law di fyfi, rhag imi na throseddu, na gwneu­thur dim yn ormod.

PEN. XXVII.
Bod cariad priodol amdano eihun, yn tynnu dyn yn hollawl oddiwrth y daioni goruchaf.

1. FY mâb, rhaid iti roddi'r cwbl am y cwbl, heb gadw dim ohonot iti dyhun.

Gwybydd fod cariad priodol ar­nat dyhun, yn gwneuthur mwy o ddrwg iti, nac vn peth arall yn y byd.

Ynol y serch a'r cariad sy gennyt at ryw bethau, y mae'n hwy'n gly­nu wrthyt yn fwy neu'n llai.

Pe bai dy gariad di'n bûr, yn syml, ac wedi ei drefnu'n dda, ti fy­ddit [Page 240] yn ddigaeth oddiwrth bob peth bydol-

Paid a chwennych yr hyn nid yw cyfreithlon ei gael.

Paid a cheisio'r hyn a ddichon dy rwystro, a'th ddifeddu o rydd-did yfprydol.

Rhyfedd, nad wyt o eithaf gwae­lod dy galon yn ymroddi dyhunan imi, gyda'r cwbl o'r pethau a elli eu dymuno neu eu cael.

2. Pam yr wyt yn ymdreulio dy­hun ymmaith â gwâg dristwch? pam yr wyti'n blino dyhunan â go­falon ofer?

Sâf wrth fy môdd i, ac nis cai ddioddef dim colled.

Os tydi a geisi'r hyn neu'r llall, ac os ti a fynni fod ymma, neu accw er dy fwyn dyhun, ac er mwyn cael mwy o'th fodd dyhunan: byth ni fyddi'n llonydd, nac yn ddiofal: oblegid diffyg a gair ymmhob peth: ac ymmhob mann ef a fydd rhyw vn i'th groesi di.

3. Da ganhynny ydyw, nid cael rhyw beth, neu chwanegu pethau [Page 241] oddiallan: ond yn hyttrach eu di­brisio hwynt, a'i diwreiddio'n ho­llawl allan o'r galon.

Yr hyn sydd i'w ddyall nid yn vnic am ardrethion arian a golud, ond hefyd am ewyllys o gael ein parchu, ac am chwant cael ein gwâg ganmol: yr hyn igyd sy'n passio ymmaith gyda'r byd.

Bychan yr amddiffyn y lle, os bydd eisiau grâs ysprydol: ac ni pharhâ chwaith yn hîr yr heddwch hwnnw a gair oddiallan, os bydd cyflwr dy ga­lon di heb wîr a diogel sail: hynny yw, oddieithr iti sefyll ynofi, ti a ellī newid gwella dyhunan.

Oblegid pan ddelo achos, ti a gaī yr hyn, oddiwrth yr hwn yr oeddit yn cilio, a mwy ond odid.

GWEDDI.
I buro'r galon ac i gael doethi­neb nefol.

4. Cadarnhâ fi, O Dduw, â grâs yr Yspryd Glân.

Dyro nerth i gryfhâu fy nyn oddi­mewn, [Page 242] ac i esmwythâu fyn-ghalon o bob gofal ofer a blinedd: fel nas trawsdynner hi ag amryw chwantau am ryw beth, pa vn bynnac y fo, ai gwael ai gwerthfawr: eithr fel yr edrychaf ar y cwbl, megis pethau yn mynd heibio, a'm bod innau hesyd yn myned heibio gyda hwynt.

Oherwydd nad oes dim yn par­hâu'n hîr tan yr Haul, lle nid oes ond gwagedd a gofid yspryd. Oh, mor ddoeth yw'r neb a ystyria hynny!

5. Dyro imi, O Arglwydd, ddoe­thineb nefol, fel y dysgaf vwchben pob peth dy geisio a'th gael di, vwch­ben pob peth dy flysio a'th garu di: ac ynol trefn dy ddoethineb di, ddy­all pethau eraill oll, megis y maent hwynt.

Dyro râs i fedru gochelyd yn bwy­llog y gwenieithwr, ac yn ddioddef­gar i wrthsefyll y gwrthwynebwr.

Oblegid mai doethineb mawr ydyw, bod yn ddiysgog ar bob chwythad geiriau, a bod heb ystyn clûst i bob gweniaith peryglus▪ ca­nys [Page 243] felly yr air yn ddibryder arhyd y ffordd a ddechreuwyd.

PEN. XXVIII.
Yn erbyn tafodau drwg-absenwyr.

1. FY mâb, na fydded gwaeth gennyt, os bydd rhai yn meddwl yn ddrwg amdanati, ac yn dywedyd yr hyn nis mynnit o'th fodd ei glywed.

Ti ddylit dybied yn waethaf oll amdanat dyhun, a meddwl nad oes neb yn wannach na thydi.

Os tydi a fynni rodio 'n ysprydol, ni bydd fawr gyfrif gennyt am eiri­au'n hedeg.

Nid doethineb bychan ydyw, tewi a sôn yn amser drwg, gan ymchwe­lyd i mewn attafi, a bod heb gy­thryblu wrth glywed barnau dynion.

2. Na fydded dy heddwch di yn­genau dynion: oblegid pa vn byn­nac ai da ai drwg a ddywedant am­danat, erhynny ni fyddi di ddim yn ddyn amgenach. Ple mae gwîr he­ddwch [Page 244] a gwîr ogoniant? ond ynofi?

A'r neb nid yw, nac yn ceisio rhyngu bodd i ddynion, nac yn ofni eu hanfoddhâu hwynt, a gaiff feddu amlder o heddwch.

O gariad annhrefnus, ac o wâg ofn y mae holl aflonyddwch calon dyn yn codi, a phob trawsdynniad ei synhwyrau ef.

PEN. XXIX.
Pafodd y mae'n rhaid bendithio Duw, a galw arno ef yn amser blinfyd.

1. BEndigedic y fytho dy Enw di dros oes oesoedd, O Ar­glwyd yr hwn wyt yn mynnu i'r temptasiwn, ac i'r blinfyd ymma ddy­fod arnafi.

Nid wyfi'n gallu mor cilio rhag­ddo, eithr mae'n angenrheidiol imi redeg attati: i gael fyn-ghymmorth gennyti, ac iti droi'r cwbl yn fu­ddiol imi.

[Page 245]Rwön, O Arglwydd, yr wyf mewn gofid, a'm calon nid yw yn iawn: eithr mae'r gwyn presennol yn fy molestu i'n ddirfawr.

Ac ynawr, O Dâd anwyl garedic, pabeth a ddywedaf? efe a'm daliwyd fi mewn cyfyngder blîn. Safia fi o'r awr hon.

Eithr amhynny y deuthym i'r awr ymma, fel yr anrhydeddir di pan gaffwyfi fyn-gostyngeiddio'n ddir­fawr, am rhyddhâu gennyti.

Rhynged bodd iti, O Arglwydd, fyn-gwared i: canys fyfi druenyn pa­beth a allaf wneuthur? ac i ba le yr af heboti?

Dyro imi ddioddefgarwch, O Ar­glwydd, y tro ymma hefyd.

Cymmhortha fi, O fy Nuw, ac nid ofnaf ddim pafaint bynnac a'm gofidir fi.

2. Ac yrwön beth a ddywedaf ar hyn? O Arglwydd, gwneler dy ewyllys di. Da yr haeddwn i gael fy mlino a'm gofidio.

Ynddiau rhaid imi ddioddef▪ a mynnwn pe gallwn yn ymoddefus, [Page 246] hyd onid elai'r demmhestl heibio, a dyfod hindda.

Ond mae dy hollalluog law di yn abl i dynnu'r temptasiwn ymma o­ddiarnafi, a thorri ei ymgyrch, fel nas gorchfygir fi'n hollawl: megis y gwneuthost yn fynych imi o'r blaen. O fy Nuw a'm trugaredd i.

Ac o bafaint anhaws imi, how­sach i tydi y fydd yr hwn gyfnewid llaw y Goruchaf.

PEN. XXX.
Am ofyn cymmorth gan Dduw, ac am ymddiried cael grâs dra­chefn.

1. FY mâb, myfi yw dy Ar­glwydd di, yr hwn a roddaf iti gymmorth yn nydd trallod.

Dyre attafi, pan fytho hi'n flîn arnati.

Hyn sy fwyaf yn rhwystro cael grâs nefol, dy fod ti'n troi'n hwyr i weddio, ac i alw arnafi.

Oblegid cyn gweddio a galw ar­nafi'n [Page 247] ddifrifol, yr wyt yn y cyfam­ser yn ceisio llawer o ddiddanion by­dol, ac yn ymddifyrru dyhun a'r creaduriaid.

Ac amhynny, y mae'n bod, nas gwna'r cwbl ond ychydîc o lês, hyd yr ystyri, mai fyfi yw'r neb sy'n gwa­red y sawl y fo'n gobeithio ynofi: ac nad oes allan ohonofi na chymmorth a dâl ddim, na chyngor a wna lês, na rhwymedi a barhâ.

Eithr ynawr, gwedi cymmeryd anadl eilwaith, ymgryfhâ yn-goleuni fy nhrugareddau i: am fy mod i'n agos (medd ein Harglwydd) i ad­gyweirio'r cwbl, nid yn vnic yn gy­fan, ond hefyd mewn mesur penty­rog.

2. A oes dim yn anodd i myfi? neu ai tebyg ydwyfi i ryw vn a eddy, ac nis cyflawna ei air?

Ple mae dy ffydd di? sâf yn ddio­gel, ac yn ddianwadal.

Bydd yn ddyn hiroddefus a cha­darn; cyssur a roddir iti mewn am­ser addas.

[Page 248]Disgwyl amdanafi, disgwyl: my­fi a ddeuaf, ac a'th waredaf di.

Temptasiwn yw'r hyn, sy'n dy fli­no di, a gwâg ofn sy'n dy ddychryn­nu di.

Pa lês a wna gofalu am bethau a allant ddigwydd arol hyn, ond gw­neuthur tristwch ynot arben tri­stwch? digon yw i'r dydd ei ddrwg eihun.

Peth ofer a dilês ydyw, cythryblu neu lawenychu am yr hyn sydd i ddyfod, ac ond odid nis daw byth.

3. Eithr peth dynol ydyw, cael ein twyllo a'r cyfryw phansiau: ac arwydd hefyd o galondid bychan yw gadael ein tynnu cyn howsed i'r hyn y bo'r gelyn yn ein denu ni.

Oblegid nad gwaeth gantho ef, pa vn a wnelo, ai ein sommi a'n twy­llo ni a'r pethau y fo gwîr, neu a'rhai y fo sfeilsion: pa vn a wnelo ai ein bwrw ni i lawr â chariad ar bethau presennol, neu ag ofn rhag y pethau a ddaw.

Na chythrybler ganhynny dy ga­lon di, ac na ofned.

[Page 249]Cred ynofi, a bydded ymddiried gennyt o'm trugaredd i.

Pan fyddi di'n meddwl fy mod i ymmhellaf oddiwrthyt, mynych yr wyfi'n nessaf attat.

Pan fyddi di'n cyfrif, fod y cwbl agos wedi ei golli, mynych y mae'r haeddiant mwyaf ger llaw iti.

Nid yw'r cwbl wedi ei golli, pan elo'r peth yn y gwrthwyneb.

Na farna ddim ynol dy ymglyw­ed presennol: ac na ymrodda dyhun yn hollawl i ryw dristwch o ba barth bynnac y delo, megis pe ni bai dim gobaith gennyt o gael ymwared.

4. Na feddwl chwaith dy fod ti wedi'th adael yn hollawl, er fy mod i tros amser wedi danfon rhyw flin­der arnat, neu wedi tynnu dy ddi­ddanwch dymunedic oddiwrthyt: oblegid felly yr air i deyrnas y Ne­foedd.

A hyn ynddiau sy well iti, ac i'r lleill o'm gweision i: cael eich blino â gwrthwynebau, na phe baech yn cael pobpeth ynol eich bodd ei­chun.

[Page 250]Myfi a wn ddirgel feddyliau dy galon di: a bod yn lesol er iachaw­dwriaeth dy enaid di, imi dy adael di weithiau heb ddim melus flâs ys­prydol: rhag iti ond antur ymfal­chu mewn llwyddiant a rhwydd­deb, ac ymfodloni dyhun yn yr hyn nid ydwyt.

Yr hyn a roddais a allaf ei gym­meryd ymaith: a'i ailroddi dra­chefn, pan welwyfi'n dda.

5. Pan roddwyf ryw dda iti, o'm heiddo i y mae hwnnw: pan ddy­gwyf hwnnw oddiarnat, nid wyf yn dwyn dim o'th eiddo di: canys myfi piau pob rhodd dda, a phob dawn perffeithlon.

Os gadawaf drallod ddyfod arnat, neu ryw wrthwyneb pabynnac, na ddigia ddim, ac na fethed dy galon.

Myfi a allaf yn fuan dy godi di ifynu, a throi'r holl faich yn lawe­nydd.

Eithr cyfion ydwyf, a dirfawr gan­moladwy pan fyddwyf yn gwneu­thur fel hyn â thi.

[Page 251]6. Os tydi y fyddi gall, gan edrych ar bethau mewn gwirion­edd, byth ni ddylif oherwydd gwr­thwynebau dristâu, na bod yn ddi­galon, ond yn hyttrach llawenhâu a rhoddi diolch.

Jë, ti a ddylit gyfrifo hyn yn vnic lawenydd, fy mod i gan dy flino di â gofidiau heb dy arbed.

Megis y carodd y Nhâd fi, fe­lly y cerais innau chwithau, Jo. 15. 9. ebyr fi wrth fy ânwyl Ddis­cyblion: y rhai'n ddiau nid anfo­nais i lawenydd, ond i ymladdau mowrion: did i anrhydedd, ond i ammharch a diystyrwch: nid i se­guryd, ond i boenau a llafuriau: nid i esmwythdra, ond i ddwyn mawr ffrwyth mewn dioddefga­rwch. Cofia, fy mâb, y geiriau ymma.

[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]

PEN. XXXI.
Am ddibrisio pob creadur ermwyn mwynhâu'r Creawdwr.

1. ARglwydd mae eisiau mawr arnafi etto am chwaneg o râs, os bydd rhaid imi fyned cyn be­lled, ac nas geill vn dyn, nac vn creadur fy rhwystro i.

Canys tra fo rhyw beth yn fy na­la i, nid wyfi'n gallu hedeg yn rhw­ydd attati.

Yn rhwydd yr oedd ef yn chwen­nych hedeg, yr hwn a ddywedodd: Pwy a rydd adeinydd imi megis colommen, a mi a hedaf ac a or­phwysaf, Psal. 54. 7.

Beth sy lonnydach na llygad syml? a phabeth sy rwyddach na'r dyn y fo heb fod yn chwennych dim ar y ddaear?

Rhaid i ddyn ganhynny fyned go­ruwch pob creadur, a chan ymwr­thod a'ihunan, sefyll ar vchelder meddwl, a gweled nad oes yn y [Page 253] creaduriaid ddim tebyg i'r hyn sydd ynoti Creawdwr pob peth.

Ac oni bydd dyn yn rhydd oddi­wrth bob creadur, nis geill ef mewn gwîr rydd-did ddisgwyl ar, ac ysty­ried pethau nefolion.

Dymma'r achos nad oes nemmor o ddynion myfyrdodgar i'w cael, am nad oes ond anaml ddynion yn me­dru sequestrio euhunain yn hollawl oddiwrth bethau darfodedic a'r crea­duriaid.

2. Mae'n rhaid grâs mawr i hyn, sef i godi'r enaid i fynu ac i'w gip­pio ef goruwch eihunan.

Ac oni bydd dyn gwedi ei godi ifynu, ac yn rhydd oddiwrth bob creadur, a gwedi ei gwbl vno â Duw: pabeth bynnac a wyddo ef, pabeth bynnac y fo gantho, ni bydd ond o brîs ac o bwys gwael.

Hîr y bydd ef yn fychan, ac yn gorwedd yn isel, y neb a gyfrifo ddim yn fawr, ond y daioni sydd yn vnic yn anfeidrol ac yn dragywy­wyddol.

A'r peth bynnac nid yw'n Dduw, [Page 254] nid yw ond dim, ac yn ddim y dylid ei gyfrif ef.

Mae rhagor mawr rhwng doethi­neb dyn defosionol wedi lewyrchu gan Dduw, a gwybodaeth dyn dy­scedic neu ryw wr eglwysic mawr ly­thrennog.

Llawer mwy rhagorol yw'r ddoe­thineb sydd oddiuchod yn deillio oddiwrth Dduw, na'r hon a gair trwy waith ac astudiaeth dyn.

3. Mae llawer yn chwenych my­fyrio'n dduwiol: eithr nid ydynt hwy'n ceisio arfer y peth sydd angen­rheidiol i hynny.

Rhwystr mawr ydyw, ein bod ni'n sefyll ar arwyddion ac ar bethau gweledic, ac heb geisio marwolae­thu einhunain ond ychydic.

Nis gwn i pabeth ydyw, na pha yspryd sydd yn ein tywys ni, na pha amcan sy gennym nyni y rhai a el­wir yn ysprydol: gan ein bod ni'n cymmeryd chwaneg o boen, a'r go­fal mwyaf am bethau gwael a dar­fodedic: ac am ein negesau ysprydol nid ydym yn meddwl ond ambell [Page 255] weithiau a'n synhwyaru gwedi eu cwbl adgynnull ynghyd.

4. Och yfi! gwedi ychydic ym­gynnull ein meddwl ar Dduw, yr ydym ynyman yn torri allan; heb fod â manwl ymholi yn ystyried ein gweithredoedd.

Nid ydym yn edrych, ymmha le y mae ewyllysiau ein calon yn gor­wedd, nac yn galaru fod ein gwei­thredoedd mor ammhurion.

Oblegid fod pob cnawd wedi llygru ei ffordd ar y ddaear, amhynny y darfu i ddiluw mawr ganlyn.

Ac amhynny gan fod ein hewy­llysfryd ni oddimewn wedi ei lygru'n fawr, mae'n rhaid i'r weithred yn canlyn (yr hon yw mynegfys yr eisi­au nerth oddimewn) fod yn lygre­dic.

O bûr galon y gofera ffrwyth bu­chedd dda.

5. Pafaint a wnaeth dyn, a ofy­nir: eithr o bafaint rhinwedd y gw­naeth ef hynny, nid ystyrir mor ddi­frifol.

Gofynir, os bydd dyn yn gryf, yn [Page 256] gysoethog, yn deg o brŷd a gwedd, yn hylaw, yn hardd, yn scrifennwr da, yn gantor da, yn weithiwr da: eithr mor dlawd o yspryd, mor add­fwyn a dioddefgar, mor ddefosionol ac ysprydol nid ynganir gan lawer.

Mae natur yn edrych ar y pethau sy gan ddyn oddiallan: a grâs sy'n troi at y rheini sy gantho oddimewn.

Mae hwnnw'n cael ei dwyllo'n fy­nych: mae hwn yn gobeithio'n Nuw rhag iddo gael ei sommi.

PEN. XXXII.
Am ymwadu a'n hunain, ac am ymwrthod ein trachwantau.

1. FY mâb, nis gelli di fwynhâu perffeithlon rydd-did, oddi­eithr iti ymwadu a'th human yn ho­llawl.

Mae'n hwy igyd yn lyffetheiriog y rhai sy'n berchennogion priodol, yn caru euhunain, yn gybyddion, yn rhodresgar, yn amgylch-grwydraid, a phobamser yn ceisio pethau mwy­thus; [Page 257] thus; nid yr hyn sydd o eiddo Jesu Christ: eithr yn dychymmygu ac yn llunio'n fynych yr hyn nis parhâa ddim.

Oblegid y derfydd am y cwbl beth­bynnac ni ddelo o Dduw.

Cadw'r gair byrr cyflawn ymma: Gwrthod y cwbl, a thi a gai'r cwbl: gâd dy drachwantau, a thi a gai lo­nyddwch.

Ystyria hyn yn dda: a phan y cyflawnych, ti a ddyelli'r cwbl.

2. Arglwydd, nid gorchwyl vn diwrnod yw hyn, na chwarae plan­tos: ië yn y gair byrr ymma y cyn­hwysir holl berffeiddrwydd Crefy­ddolion.

Fy mâb, ni dyliti droi dy gefn, na bod yn ddigalon wrth glywed ffordd y rhai perffaith: eithr yn hyttrach, myned ymmlaen ar ym­gyrchion mwy hynod, ac o'r hyn lleiaf o dra mawr ewyllys dymuno hynny.

Mynnwn pettai hi gydathi fel hyn, a'th fod ti gwedi dyfod hyd hyn ym­ma, nas byddit yn serchog ohonot [Page 258] dyhun: eithr dy fod yn sefyll wrth fy vnic amnaid i, ac wrth amnaid y neb a osodais yn Dâd arnat: yna y byddit yn fawr iawn wrth fy modd i, a'th holl fywyd ti a gerddai mewn llawenydd a heddwch.

Mae llawer o bethau gennyti etto i'w gadael: y rhai oddieithr iti eu rhoddi imi'n llwyr, nis gelli gael dy ddymuned.

Mi a'th gynghoraf i brynnu aur coeth tanbaid gennyfi, fel y byddi'n gyfoethog, hynny yw, doethineb ne­fol yn sathru tan draed pob peth gwael a darfodedic.

Dibrisia ddoethineb ddaearol, pob boddhâu dynion, a chael dy fôdd a'th ewyllys dyhun.

Dywedais, fod yn rhaid iti bryn­nu bethau salw a gwael am rai gwerthfawr ac vchelion yngwydd a golwg dynion.

Canys gwael a bychan iawn y gwe­lir y wîr ddoethineb nefol, a gollyn­gir hi agos drosgof: gan nad ydyw hi ag vchel fryd amdani eihunan, nac yn ceisio ei mawrhâu ar y ddae­ar: [Page 259] yr hon y mae llawer yn ei chan­mol a'i tafod, ond yn eu bywyd mae'n hwy ymmhell oddwrthi: ac erhynny Gemm gwerthfawr ydyw, yr hwn sydd yn guddiedic oddiwrth lawer.

PEN. XXXIII.
Am anwadalwch calon, ac am gy­feirio ein hamcan gorphennol tuacat Dduw.

1. FY mâb, na ymddirieda yn yr ewyllysfryd sy gennyt ynawr: buan y try hwnnw i rywbeth arall.

Tra fyddych fyw ti a fyddi'n go­gwyddo i newid ac i fod yn anwa­dal, ië o'th anfodd: fel ac y cair di rwön yn llawen, rwön yn drîst; ynawr yn heddychlon, ynawr yn aflonydd; rwön yn ddefosionol, rwön heb ddim defosiwn: ynawr yn astudiol, ynawr yn ddiog: rwön yn drwm-gofidus: rwön yn ysgafn esmwyth.

Ond mae'r neb sy synhwyrol ac a gwybodaeth cyflawn ysprydol gan­tho, [Page 260] yn sefyll yn vwch na'r ymnew­id ymma: heb fod yn edrych pa­beth y mae ef yn ei ymglywed yn­ddo eihun, neu o ba barth y mae gwynt anwadalrwydd yn chwythu: eithr mae holl amcan ei feddwl ef yn cyfeirio at y diwedd iawn a dy­munedic.

Oblegid felly y geill ef barhâu yr vn dyn, a'r vnrhyw yn ddiysgog; gan annelu syml lygad ei fwriad, trwy gynnifer o amryw ddigwyddau yn ddiffael tuacattafi.

2. Eithr o bafaint purach y bo llygad y bwriad, gwastattach ohyn­ny yr air trwy amryw demmhest­loedd.

Ond mae golwg y bwriad pûr yn dywyll yn llawer: canys buan yr edrychir ar y peth difyr a digrif a ymgyfarfo.

Am nas cair ond odid ddyn yn gwbl lân o'r brychni a elwir: Ceisio eihunan yn ei helyntiau.

Felly y daeth yr Juddewon gynt i Bethania at Martha a Mair Magda­len, nid ermwyn yr Jesu'n vnic, [Page 261] ond hefyd i gael gweled Laza­rus.

Rhaid glanhâu ganhynny golwg y bwriad, a'r amcan a fo gan ddyn, fel y bytho'n bûr ac yn vnion, a thuhwnt i bob pethau daearol yn cyfeirio tuacattafi.

PEN. XXXIV.
Bod Duw'n hôff i'r sawl a'i caro, ac yn hyfryd vwchben y cwbl, ac ymmhob peth.

1. WEle fy Nuw i, a'm cwbl. Pabeth chwaneg a fyn­naf, neu pabeth dedwyddach a allaf ei ddymuno?

O Air melusber a blasus? eithr i'r neb y fo'n caru'r Gair: nid i'r neb y fo'n caru'r byd, na'r pethau sydd yn y byd.

Fy Nuw i, a'm cwbl. Digon yw dywedyd hynny i'r neb sy'n dyall: a'i ddywedyd yn fynych sydd hyfryd i'r neb y fo'n caru.

Canys a thydi yn bresennol, mae [Page 262] pob peth yn ddifyr: eithr a thydi yn absennol, mae'r cwbl yn ddiflas.

Ti a wnai galon heddychol, a llo­nyddwch mawr, a llawenydd hyfryd­lawn.

Ti a wnai feddwl yn dda am bawb, a'th foliannu di ymmhob peth: ac heboti nis geill dim ein bodloni ni chwaith hîr: ond os bydd rhaid i rywbeth fod yn ddifyr, ac yn hyfryd iawn, mae'n rhaid i'th râs di fod yn bresennol gydag ef: a'i dym­mheru â phereidd-dra dy ddoethineb di.

2. Beth ni bydd flasus iawn, i'r neb yr wyti yn flasus?

A phan nis byddi di yn ddifyr i ddyn, beth a eill ei ddifyrru ef?

Ond mae doethion y byd, a'r sawl sy'n caru pethau cnawdol, yn methu gorddiwes dy ddoethineb di: am fod gormod gwagedd yn y byd, a marwolaeth yn y cnawd.

Eithr mae'r sawl sy'n dy ddilyn di, gan ddibrisio'r byd a marweiddio eu cnawd, yn dangos eu bod hwy'n wîr ddoethion: am eu bod yn troi o [Page 263] wagedd i'r gwirionedd, ac o'r cnawd i'r yspryd.

J'rhai hyn y mae Duw'n flasus: a'r daioni pabynnac y mae'n hwy yn ei glywed ac yn ei gael yn y crea­duriaid, mae'n hwy yn troi'r cwbl i foliannu'r gwneuthurwr.

Ond mae rhagor erhynny, a rha­gor mawr rhwng y melusder sy'n y creawdwr a'r hwn sy'n y creadur, rhwng tragywyddoldeb ac amser, rhwng y goleuni creedic a'r digree­dic.

3. Oh! y Goleuni tragywyddol yr hwn wyt yn rhagori ar bob go­leuni creedic, saetha oddiuchod be­lydri dy ddisgleirdeb i dreiddio trwy holl berfedd ynghalon.

Pura, llawenhâ, gloywa, a bywia sy yspryd i a'i holl nerthoedd i lynu wrthyti yn eithafon llawenydd.

Oh! pabryd y daw yr awr honno ddedwydd a dymunedic, yn yr hon y llenwi di fi a'th bresenoldeb, ac y byddi di oll yn oll imi?

Hyd onis caffwyf hynny, nis bydd imi mor cyflawn lawenydd.

[Page 264]Mae'r hên ddyn (Gwae fyfi!) yn byw etto ynwyf: nid yw ef wedi ei gwbl groeshoelio, nid yw wedi ma rw'n hollawl.

Mae ef etto'n trachwantu'n ddrûd ac yn ddewr yn erbyn yr yspryd, mae ef byth yn terfysgu ac yn codi rhyfel oddimewn, ac heb fod yn ga­dael teyrnas yr enaid yn heddychol.

4. Eithr tydi, yr hwn wyt yn ar­glwyddiaethu ar nerth a gallu'r môr, ac yn llonyddu cwnnwrf ei donnau ef, cyfod a chymmhorth fi.

Gwasgara'r Cenhedloedd sy'n myn­nu rhyfela, cura hwynt yn chwilfriw trwy dy nerth di.

Dangos, attolygaf arnat, dy fow­rion weithredoedd, a gogonedder dy ddeheulaw di: oblegid nad oes go­baith arall, nac amddiffyn imi, ond ynoti fy Arglwydd Dduw i.

PEN. XXXV.
Nad oes diogelwch rhag tempta­siwn yn y bywyd ymma.

1. FY mâb, byth ni fyddi di'n ddiogel ac yn ddibryder yn y bywyd ymma: ond tra y byddi fyw, mae arfau ysprydol bobamser yn angenrheidiol iti.

Rhwng gelynnion yr wyt yn tram­mwy: a mae'n hwy yn codi i ym­ladd yn dy erbyn ar y llaw ddehau ac ar y llaw asswy.

Amhynny oddieithr iti arfer bwc­cled dioddefgarwch o bobparth it, ni fyddi chwaith hîr heb glwyf neu friw.

Heblaw hynny, onis gosodi di dy galon yn ddiogel ynofi, gy­da llawn bûr ewyllys i ddioddef y cwbl er fy mwyn i, nis gelli mor aros yn y mowrwres ymma, na chyrhaeddyd Coron y rhai gwynfy­dedic.

Rhaid iti ganhynny fyned trwy'r [Page 266] cwbl yn wrol, ac arfer llaw gadarn ynerbyn pob gwrthwyneb.

Canys i'rhai a orchfygo y rhoir y Manna; ac i'rhai diog a musgrell y gadewir digon o drueni.

2. Os ceisi di orphwys yn y byw­yd ymma, pafodd gwedi hynny y cyrhaeddi di yr esmwythdra tragy­wyddol.

Na ymrodda dyhun i lawer o es­mwythdra, ond i fawr ymddioddef.

Cais wîr lonyddwch, nid ar y ddaear, ond yn y Nêf; nid yn ny­nion, nac yn y creaduriaid eraill, ond yn Nuw 'n vnic.

Rhaid iti o'th wîr fodd oddef pob peth er cariad ar Dduw, sef, poenau, doluriau, profedigaethau, cyfyngde­rau, angenrheidiau, gwendidau, cammau, drwg-absen, ceryddau, gostyngiadau, cywilyddau, dirmy gau, gogonau ac ammharchau.

Mae'rhain yn gwneuthur dyn yn rinweddol, mae'rhain yn profi Nofis Chrîst, mae'rhain yn gweithio Co­ron nefol.

Mysi a roddaf daledigaeth dra­gywyddol [Page 267] am boen a llafur byrr, a gogoniant anniben am gywilydd am­serol darfodedic.

3. Ai tybied yr wyti, y cai di ynol dy ewyllys ddidanion ysprydol bobamser?

Ni chafodd fy Sainct i y cyfryw ynwastadol: eithr llawer o drym­derau, ac amryw brofedigaethau, a desolasiwnau mowrion.

Eithr hwy a drigasant yn ddio­ddefgar tan y ewbl: a mwy o ym­ddiried oedd ganthynt yn Nuw, nac ynddynt euhun: gan wybod nad yw dioddefiadau yr amser ymma yn gywiw i haeddu'r gogoniant sydd i ddyfod.

A fynni di gael ynyman, yr hyn nis cawsant llaweroedd ond prin trwy boen mawr a llawer o dda­grau.

Disgwyl ein Harglwydd, gwna'n wrol, a chymmer galon: na ofna ddim, ac na chilia, ond dyro dy gorph a'th enaid yn ddiysgog er go­goniant Duw.

Myfi a dalaf iti â mesur llawn [Page 268] helaeth: myfi a fyddaf gyda thi ym­mhob blinder.

PEN. XXXVI.
Yn erbyn gwâg farnedigaethau dynion.

1. FY mâb, bwrw dy galon yn ddiogel ar ein Harglwydd, ac na ofna farn dynion, lle bo dy gy­dwybod yn dangos dy fod ti yn wirion ac yn ddiddrwg.

Da ydyw a dedwydd i ddyn ddio­ddef fel hynny: ac ni bydd hyn­ny'n flîn i galon ostyngedic, y fo'n ymddiried yn Nuw yn hyttrach nac ynddi eihun.

Llawer a chwedleuant lawer, ac amhynny bychan o goel fydd i'w rhoi arnynt.

Ond nid yw possibl bodloni pawb.

Er darfod i S. Pawl geisio rhyn­gu bodd i bawb, a gwneuthur ei­hun yn bobpeth i bawb: erhynny bychan oedd gantho gael ei farnu gan ddynion.

[Page 269]2. Ef a wnaeth er mwyn adeila­du a safio eneidiau rhai eraill, gym­maint ac oedd ynddo ef, ac oedd yn ei allu: erhynny nis gallai lestair, nas cai ei farnu weithiau a'i ddibri­sio gan eraill.

Amhynny ef a orchymmynodd y cwbl i Dduw, yr hwn oedd yn gwy­bod y cwbl: ac â dioddefgarwch ac â gostyngeiddrwydd ef a amddi­ffynodd eihun rhag safnau pobl yn llafaru enwireddau, neu'n dychym­myg amryw bethau celwyddog, ac wrth eu bôdd euhun yn gwag-ffro­stio pobrhyw afregedd.

Erhynny ef a attebodd weithiau, rhag gwneuthur scandal i'rhai gwei­nion wrth dewi a sôn.

3. Pwy wyti sy'n ofni dyn ma­rwol? hoddyw y mae ef, ac yforu nis cair moi weled ef mwy.

Ofna Dduw, ac ni bydd rhaid iti ddychrynnu rhag y braw a'r arswyd a wna dynion.

Pa ddrwg a eill neb wneuthur iti â geiriau, ac â chamweddau? iddo eihun y mae'n gwneuthur niweid [Page 270] yn hyttrach nac iti: ac nis geill hwnnw ddiangc barn Duw, pwy­bynnac yw ef,

Bydded Duw gerbron dy olygon di, ac na ymryssona â geiriau cwyn fannus.

Ond os tybyger ar yr amser pre­sennol, dy fod yn cael dy sathru tan draed, ac yn dioddef y cywilydd nis haeddaist: na ddigia amhynny, ac na wna dy Goron yn llai trwy dy annioddefgarwch.

Eithr edrych yn hyttrach tuac at­tafi yn y Nêf, yr hwn wyf yn gallu gwared dyn o bob cam a chywilydd, ac a dalaf i bob vn ynol ei weithre­doedd.

PEN. XXXVII.
Am ymadael a'n hunain yn llwyr ac yn hollawl ermwyn cael rhydd­did calon.

1. FY mâb, gâd dyhunan, a thi a'm cai fi.

Na ddewis, ac na neilltua ddim [Page 271] iti dyhun: a thi a ynnilli bobam­ser.

Oblegid y rhoddir iti chwaneg o râs, cyn gynted ac yr ymadewi di â thi dyhun, heb gymmeryd dyhun attat eilwaith.

2. Arglwydd pasawl gwaith y ga­dawaf fyhun, ac ymmha bethau yr ymwrthodaf â myfi fyhun?

3. Bobamser, ac ymmhob peth: megis yn y bychan, felly yn y mawr. Nid wyf yn esemptio dim: eithr mi a fynnaf dy gael di'n noeth o bob peth.

Os yn amgen, pafodd y gelli di fod o'm heiddo i? a minnau o'th eiddo dithau? onis yspeilir di o'th holl ewyllys dyhun oddimewn ac oddimaes?

Po cyntaf y gwnai hynny, gwell y cai di glywed dyhun: ac o bafaint mwy a difrifach, mwyaf y bod oni di fi, a mwy y fydd dy ynnill di­thau.

4. Mae rhai yn ymwrthod a'i hu­nain, ond nid heb ryw nam: oble­gid nad ydynt yn gosod eu goglud [Page 272] yn hollawl ar Dduw, ond yn cei­sio rhagddarbod iddynt euhun.

Mae rhai hefyd ar y cyntaf yn cynnig y cwbl: ond wedi hynny gan gael eu pigo â themptasiwn, mae'n hwy'n troi ynol at yr hyn sydd eiddo euhun, ac amhynny ni ffynnant hwy mewn rhinwedd.

Nid yw'rhain yn cyrhaeddyd gwîr rhydd-did calon bûr, na hyfryd râs cynnefindra â myfi: oddieithr iddynt ymadael yn gyflawn â hwynt euhun, ac yn gyntaf offrwm euhunain yn Aberth beunyddol imi: heb yr hyn nis cair ac nis gellir cael y cyfundeb, yn yr hwn y mae fy Seinct yn fy me­ddu i.

5. Dywedais yn llawn fynych wrthyt, ac yrwön dywedaf eilwaith wrthyt: gâd dyhun, ymwrthod a'th hunan, a thi gai heddwch mawr.

Dyro'r cwbl am y cwbl: na chais ddim iti, na chymmer ddim ynol: saf yn burgwbl ac yn ddiysgog yno­fi, a thi a'm cai fi.

Ty fyddi'n rhydd dy galon, a'r tywyllych nid amgylcha di.

[Page 273]Dyno dy holl egni ar hyn, gwe­ddia am hyn, dymuna hyn; sef cael d'yspeilio o'th holl ewyllys dyhun; ac yn gwbl noeth dilyna dy Jesu noeth: bydd farw iti dyhunan, a bydd fyw'n dragywydd i myfi.

Yna y methant ac y difannant pob ffansiau gweigion, pob aflonyddwch enwireddus, a gofalon ofer.

Yna hefyd y cilia ymaith pob ofn anghymmesur, ac y bydd marw pob cariad annrhefnus.

PEN. XXXVIII.
Am lywodraethu pethau 'n iawn oddiallan ac am gyrchu at Dduw mewn peryglon.

1. FY mâb, rhaid iti yn ofalus geisio hyn, sef bod ohonot ymmhob man, ac ymmhob gwei­thred, a neges oddiallan, yn gwbl rhydd oddimewn, ac yn feistrolwr arnat dyhun: fel y bo pob peth ta­nati, ac nid tydi tanynt hwy.

Fel y byddi'n Arglwydd ac yn [Page 274] reolwr ar dy weithredoedd, nid yn gaethwas nac yn gyflog-ddyn.

Ond yn hyttrach yn ddyn rhydd, ac yn wÎr Hebread, gwedi mynd imewn i gyfran a rhydd-did plant Duw.

Y rhai sy'n gosod pethau presen­nol tan eu traed, ac a'i meddwl yn edrych ar y rhai tragywyddol.

Y rhai sy'n edrych ar bethau dar­fodedic a'i llygad chwîth, ac a'r de­hau yn canfod y rhai tragywyddol.

Y rhai nid yw pethau amserol yn eu tynnu hwy i lynu wrthynt, ond mae'n hwy'n hyttrach yn tynnu'rhei­ni i wasanaethu Duw'n iawn: megis y mae ef y Creawdwr goruchaf gwedi eu hordeinio hwynt, yr hwn ni a­dawodd ddim ynddidrefn yn ei greaduriaid.

2. Os tydi hefyd a sefi ar bob▪ di­gwydd, nid wrth yr ymddangos o­ddimaes, nac wrth edrych â goly­gon cnawdol ar y pethau a weli ac a glywi: ond ynyman ar bob achos gan fyned i mewn gyda Moyses i'r Babell i ymgynghori a'n Harglwydd: [Page 275] ti a gai glywed weithiau yr Atteb Duwfawl, ac a ddychweli wedi dy addysgu am lawer o bethau presen­nol, ac am rai eraill i ddyfod.

Canys Moyses a gyrchai bobamser i'r Babell i gael atteb ammheuon a gofyniadau tywyll, ac a giliai i gym­morth Gweddi er mwyn gochel peryglon, a drygioni dynion anra­sol.

Felly y mae'n rhaid i tithau redeg i Gell dy galon, gan ofyn cymmorth yn daer gan Dduw.

Amhynny yr ydys yn darllain, ddarfod i Josue a meibion Israel gael eu twyllo gan y Gabaonitiaid; o­herwydd na cheisiasant yn gyntaf gyngor gan Dduw, ond gan hawdd goelio eu geiriau têg hwynt, hwy a sommwyd a'i rhagrithiol dduwiol­deb hwynt.

PEN. XXXIX.
Am na bo dyn yn rhy daer yn ei negesau.

1. FY mâb, gorchymmyn dy achos bobamser imi, myfi a drefna 'y cwbl yn iawn yn amser cy­faddas.

Aros fy ordinhâad i, a thi a gai weled hynny ar dy lês di.

2. Arglwydd, digon bodlon y gorchymmynaf bob peth iti, oble­gid nas geill fyn-gofal i wneuthur ond bychan o leshâad.

Mynnwn pe bawni heb lynu gor­mod wrth ddigwyddau'n dyfod, ond yn offrwm fyhun yn ddioed i'th fodd a'th ewyllys di.

3. Fy mâb, mynych y bydd dyn yn ymdrafferthu yn daerllyd am ryw­beth y fo yn ei ddymuno: ond wedi iddo gael hynny, ef a ddechreua fe­ddwl yn amgenach amdano: oble­gid nad ydyw bryd-ewyllys dynion yn parhau chwaith hîr ar yr vn [Page 277] peth, ond yn myned o'r naill i'r llall.

Nid peth o'r bychanaf ganhynny ydyw i ddyn, ymwrthod hefyd ag ef eihunan yn y pethau lleiaf.

4. Gwîr broffit ysprydol dyn, yw ymwrthod a'i hûn: a'r neb sy wedi ymwadu eihunan, fy mewn rhydd▪ did a diogelwch mawr.

Ond mae'r hên elyn, gan wrth­ryfela ynerbyn pawb o'rhai da, heb fod yn peidio a'i temptio hwynt: eithr mae ef ddydd a nôs yn gosod dichellion enbyd oflaen y rhai diofa­lus, i'w bwrw hwynt bendramw­nwgl i faglau ei sommedigaeth ef.

Gwiliwch a gweddiwch, medd ein Harglwydd, rhag i chwi syr­thio i demptatiwn, Mat. 26. 41.

PEN. XL.
Nad oes dim da gan ddyn ohono ei­hun, ac nas geill ef ymglodfori am ddim.

1. ARglwydd, pabeth yw dyn iti feddwl amdano? neu pabeth yw mâb dyn i fod gwiw gen­nyti ymweled ag ef?

Pabeth a haeddodd dyn, iti ro­ddi grâs iddo?

Arglwydd pabeth a allaf achwyn, os tydi a'm gadewi? neu os tydi ni wnai, y peth a ofynnaf, pabeth yn gyfion a ddywedaf yn dy er­byn?

Hyn ynddiau a allaf ei feddwl a'i ddywedyd mewn gwirionedd: Ar­glwydd nid ydwyfi ddim, nid wy­fi'n gallu dim, nid oes dim daioni gennyf ohonof fyhun: eithr yr wy­fi'n methu yn y cwbl, ac yn myned bobamser i ddim.

Ac oddieithr imi gael fyn-ghom­fforddi gennyti, a'm haddysgu oddi­mewn, [Page 279] mi a oeraf yn hollawl ac a ymollyngaf igyd.

2. Eithr tydi, O Arglwydd! wyt yr vn bobamser, ac yn parhâu yn dragywyddol, bobamser yn ddai­onus, yn gyfion, ac yn sanctaidd, ac yn trefnu'r cwbl ynol dy ddoethi­neb.

Ond fyfi, yr hwn wyf yn gogwy­ddo i fethiant ac i ddiffyg yn hyt­trach nac i ddaioni, nid wyf yn parhau'n wastadol yn yr vnrhyw stâd: oherwydd fod saith amser yn cyfnewid arnaf.

Eithr buan yr â hi'n well gyda myfi, pan y teilyngi di, ac yr ystyn­ni di law i'm cymmorth: canys ty­di'n vnic heb gydweithiad dyn wyt yn dichon fy helpu i: ac a elli fy nerthu'n gymmaint, ac nas cyfnewi­dier fy wynebpryd mwy i amryw weddau; ond fyn-ghalon a dry at­tati, ac a orphwysa ynoti'n vnic.

3. Amhynny pe medrwn yn llw­yr wrthod pob diddanwch dynol, naill ai oherwydd cael defosiwn, neu oherwydd yr angenrhaid sy'n peri [Page 280] imi gyrchu attati, am nad oes vn dyn yn abl i'm comfforddi:

Yna da y gallwn obeithio am dy râs, a llawenhâu am rôdd newydd o'th gyssur nefol.

4. Rhoddaf ddiolch iti, o'r hwn y mae'r cwbl yn dysod, cynnifer gwaith bynnac ac y bo dim yn myned yn dda gyda myfi.

Eithr fyfi nid wyf ond gwagedd a diddym yn dy wydd di, dyn anwa­dal, a dinerth.

Am babeth ganhynny y gallaf ymffrostio? neu paham y ceisiaf gael fym-mharchu.

Ai am ddim? ond coeg wagedd cyflawn yw hynny?

Ynddiau Cowyn melltigedic yw gwâg ogoniant, a'r gwagedd mwy­af: oblegid ei fod yn tynnu dyn rhag myned i'r gwîr ogoniant, ac yn speilio'r enaid o'r grâs nefol.

Canys tra fo dyn yn ymfodloni ynddo eihun, mae ef yn dy anfod­loni di: tra fo'n hela canmol gan ddynion, mae'n colli gwîr rinwe­ddau.

[Page 281]5. Eithr gwîr ogoniant a llawe­nydd sanctaidd yw, bod dyn yn go­goneddu ynoti, ac nid ynddo eihun, yn llawenychu yn dy enw di, ac nid yn ei nerth eihun: nac yn ymddi­fyrru mewn vnrhyw greadur, ond o'th plegid ti.

Canmoler dy Enw di, ac nid fy enw i: mawryger dy waith di, ac nid fy vn i: bendithier dy enw san­ctaidd di, eithr arnafi na fwrier dim o ganmoliaeth dynion.

Tydi ydwyt fyn-gogoniant, a llawenydd yn-ghalon.

Ynoti y gogoneddaf ac y llawe­nychaf trwy'r dydd: eithr dim ynof fyhun, ond yn fyn-gwendidau.

6. Ceisient yr Juddewon y▪ glod sydd o'i bugilydd: myfi a geisiaf yr lion sydd o Dduw yn vnic.

Nid yw holl ogoniant dynion, holl anrhydedd darfodedic, holl vchelder bydol wedi gymmharu a'th Ogoniant di, ond gwagedd a ffolineb.

O fyn-gwirionedd i, a'm truga­redd; fy Nuw i, y dra fendigedic Drindod [...] bid moliant ac anrhy­dedd, [Page 282] rhinwedd a gogoniant iti dros oes oefoedd.

PEN. XLI.
Am ddibrisio pob parch ac an­rhydedd amserol.

1. FY mâb, na chythrybla dyhun, wrth weled rhai eraill yn cael eu perchi, a'i codi ifynu: a thydi yn cael dy ddibrisio a'th ostyngeiddio.

Côd dy galon ifynu attafi yn y Nêf, ac nis byddi'n drîst am yr am­harch a wnelo dynion iti ar y ddaear.

2. Arglwydd, yr ydym mewn ty­wyllwch, a hawdd yw ein twyllo ni ar y ddaear.

Ped edrychwn arnaf fyhun yn iawn, mi gawn weled nas gwnaed cam imi erioed gan yr vn o'r crea­duriaid: ac amhynny nis gallaf yn gyfion achwyn yn dy erbyn di.

Eithr oherwydd ddarfod imi be­chu'n fynych, ac yn ddirfawr yn dy erbyn di, iawn ydyw, fod pob crea­dur wedi ei arfogi yn fy erbyn innau.

[Page 283]Cywilydd ganhynny ac ammharch sy'n gyfion ddyledus imi: eithr mo­liant, ac anrhydedd, a gogoniant iti.

Ac oddieithr imi baratoi fyhunan i hyn, sef i fod yn fodlon i'm dibri­sio, ac i'm gwrthod gan bob crea­dur, ac i'm cyfrif yn hollawl ddim, nis gallaf gael fy llonyddu oddi­mewn a'm cadarnhâu, na chael fy llewyrchu'n ysprydol, nam cwbl gy­sylltu yn vn â thi.

PEN. XLII.
Na ddylid gosod heddwch ar ddynion.

1. FY mâb, os yw'r heddwch sy gennyt, yn sefyll ar y cyttundeb a'r bodlonrwydd sy gennyt yn rhyw ddyn, gyda'r hwn yr wyt yn cydfyw, hîr y byddi'n anwadal ac yn affonydd.

Eithr os tydi a dry at y Gwirio­nedd tragywyddol, sy'n byw bobam­ser, ni fyddi di'n drîst am vn cyfaill a elo oddiwrthyt, neu a fo marw.

Ynofi y dylai cariad tuacat gyfaill [Page 284] sefyll: ac er fy mwyn i y dyliti ga­ru pwybynnac a weli'n hôff iti, ac i'w garu'n fawr yn y bywyd ymma.

Hebofi ni thâl cyfeillach ddim, ac ni pharhâ: ac nid glân a gwîr ga­riad yw'r hwn nis clymmais i.

Ti a ddylit fod wedi marw i'th gyfryw affectiwnau tuacat dy gare­digion, fel y chwennychit (yn gym­maint ac sydd ynoti) fod heb ddim cymdeithas dynion,

Nês y mae dyn yn tynnu at Dduw, o bafaint mwy y bo'n cilio oddiwrth bob cyssur daearol.

Vwch hefyd y mae ef yn hedeg at Dduw, o bafaint dyfnach y bo'n disgyn ynddo eihun, ac yn cyfrif ei­hunan yn waelach.

2. Eithr y neb y fo'n pennu dim daioni arno eihunan, sy'n rhwystro grâs Duw i ddyfod iddo: am fod grâs yr Yspryd Glân bobamser yn cei­sio calon ostyngedic.

Pettiti'n medru cwbl ddiddymmu dyhun, a glanhâu dyhunan o bob cariad creedic, yna y byddai'n rhaid imi lifo imewn iti, â mawr amlder grâs.

[Page 285]Pan yr edrychi di ar y creaduri­aid, tynnir y prydhynny y golwg ar Dduw oddiwrthyt.

Dysc orchfygu dyhun ymmhob peth ermwyn y Creawdwr yna y by­ddi'n abl i gyrhaeddyd gwybodaeth am bethau nefolion.

Er lleiedy fo'r peth, os cerir ef, ac edrychir arno'n annhrefnus, ef a ddi­wyna'r enaid ac a dynn y dyn oddi­wrth y daioni pennaf.

PEN. XLIII.
Yn erbyn gwybodaeth gwâg a bydol.

1. FY mâb; na âd i dêg a di­chellgar eiriau dynion dy gynhyrfu di: am nad yw teyrnas Dduw'n sefyll ar ymadrodd, ond ar rinwedd.

Gwrando'n ofalus fyn-geiriau i, y rhai sy'n ennynnu calonnau, ac yn goleuo'r meddwl: yn peri cystydd calon, ac yn dwyn amryw gyssur i'r enaid.

Byth na ddarllain gymmaint ac vn [Page 286] gair, i beri tybied di fod ti'n ddy­scedic ac yn ddoeth.

Eithr cais farweiddio dy ddrwg anwydau a'th feiau: oblegid y gwna hynny fwy llês iti, na gwybod am­ryw gwestiwnau caled.

2. Gwedi iti ddarllain a gwybod llawer, rhaid iti droi bobamser at vn prîf ddechreuad.

Myfi wyf yn dyscu gwybodaeth i ddyn, ac yn rhoi dyall eglurach i'rhai bychain, nac a ellir ei ddyscu gan ddyn.

Buan y bydd ef ddoeth, wrth yr hwn y llafara fi, a llawer o lês yspry­dol a ynnilla.

Gwae hwynt hwy, y rhai sy'n go­fyn llawer o bethau cuwriows ac ofer gan ddynion, ac heb ofalu nemmor am y ffordd i'm gwasanaethu.

Ef a ddaw'r amser pan yr ym­ddengys Meistr y meistri Chrîst, Ar­glwydd yr Angelion i wrando gwer­si pawb, hynny yw, i holi cydwy­bod pob vn.

A'r pryd hynny a chwilir Jerusalem a lanterau: a bydd amlwg cuddie­dic [Page 287] gyfrinachau y tywyllwch, a di­stewir dadleuon tafodau.

3. Myfi yw'r neb sy mewn mu­nudyn yn codi'r dyn gostyngedic i ddyall mwy o resymmau a gwirio­neddau tragywyddol, na phettai wedi astudio ddeng mlynedd yn yr Yscolau.

Myfi wyf yn dyscu heb ddim swn na thrwst geiriau, heb ddim cymmysc opiniwnau, heb geisio dim parch a chlod, heb ymryson argu­mentau.

Myfi wyf yn dyscu dibrisio pe­thau daearol, ffieiddio pethau pre­sennol, chwennychu pethau tragy­wyddol, cilio rhag parch a bri, dio­ddef cammau a drwgabsen, gosod yr holl obaith ynofi, bod heb chwant am ddim allan ohonofi, a'm caru fi'n ddirfawr vwchben y cwbl.

4. Canys rhyw vn, wrth yn-gharu i yn fawr iawn, a ddyscodd bethau duwfol, ac a lafarodd bethau rhy­feddol.

Ef a gafodd fwy o lês, wrth ymwrthod a'r cwbl, nac wrth astu­dio [Page 288] vchel a manwl ddysceidiaethau.

Eithr yr wyfi'n llafaru pethau cy­ffredin wrth rai, a phethau neilltuol wrth rai eraill: i rai yr wyf yn ym­ddangos yn hyfryd yn arwyddion a ffigurau, ond i eraill yr wyf mewn mawr oleuni yn datcuddio dirgele­ddion.

Vn yw lleferydd y llyfrau, ond nid ydynt hwy'n dyscu'n gystal: oblegid mae fyfi yw Athro'r Gwirionedd o­ddimewn, chwiliwr y calonnau, de­onglwr y meddyliau, gyrrwr gwei­thredoedd da ymlaen; gan rannu i bob vn megis y gwelwyf yn wîw.

PEN. XLIV.
Na ddylid tynnu attom bethau oddiallan.

1. FY mâb, rhaid iti fod yn ddi­bwybod yn llawer o be­thau, a chyfrif dyhunan megis dyn gwedi marw ar y ddaear, ac i'r hwn y mae'r holl fyd wedi ei groeshoe­lio.

[Page 289]Rhaid iti hefyd fyned heibio i lawer peth â chlûst fyddar, a me­ddwl yn hyttrach am yr hyn a wne­lo heddwch iti dyhun.

Gwell iti droi dy lygaid oddiwrth y pethau y fo'n dy anfoddhâu, a ga­dael i bob vn ei feddwl eihun, nac ymryson â geiriau cynnenus.

Os byddi di'n iawn gyda Duw, gan ddisgwyl ei farn ef, haws y fydd iti adael eu meddwl euhun i rai e­raill.

2. O Arglwydd! hyd ymmha le y deuthom? Wele yrydys yn wylo­fain am golled fydol, yn ymboeni ac yn rhedeg am elw bychan, ac yn gollwng ynangof y golled ysprydol, a braidd o'r diwedd y meddylir am­dani.

Gofalir am y peth, ni wna ddim, neu ond bychan o lês: ac a air hei­bio'n ddiofal, i'r hyn sy bennaf an­genrheidiol: oherwydd bod dyn trwy natur yn llithro i'r pethau by­dol sydd oddiallan iddo: ac oddi­eithr iddo ddychwelyd atto eihun ar fyrr amser, bodlon iawn y gorwedd ef ynddynt▪

PEN. XLV.
Na ddylid coelio pawb, ac mor hawdd yw i ddyn drosseddu me­wn geiriau.

1. CYmmorth fi, O Arglwydd, yn fyn-gofid a'm blinder: canys ofer yw'r ymwared a ddisgwy­lir gan ddyn.

Pa sawl gwaith y twyllwyd fi o gael ffydlondeb yno, lle yr oeddwn yn meddwl y cawn?

Pa sawl gwaith hefyd y cefais ffyddlondeb yno, lle nid oeddwn yn disgwyl dim?

Ofer ganhynny yw gobeithio yn nynion: eithr cadwedigaeth y rhai cyfion sydd ohonoti O Dduw.

Bendithier di, O Arglwydd Dduw, ymmhob peth a ddigwyddo ini.

Gweinion ydym, ac anwadal: hawdd y twyllir ac y troir ni.

2. Pwy yw'r dyn sy'n cadw ei­hunan, ac yn edrych obobparth iddo [Page 291] mor ofalus, ac nas daw i ryw dwyll, cyfyngder neu aflonyddwch?

Eithr y neb sydd yn ymddiried ynoti, O Arglwydd, ac yn dy geisio di â chalon bûr syml, nis cwympa cyn hawsed.

Ac os cwympo a wna i ryw flin­der, pafodd bynnac y dyryso ac y glyno ynddo, buan y caiff ef ei wa­redu, neu'i gyssuro gennyti, am nad wyti'n gadael tros fyth y sawl a obei­thiant ynoti.

Odid y cair cyfaill ffyddlon a erys ymmhob cyfyngder ei anwylyd.

Tydi O Arglwydd, tydi'n vnic wyt y ffythlonaf oll ymmhob peth, ac heboti nid oes yr vn arall cyffe­lyb.

3. O mor ddoeth a synhwyrol oedd yr enaid sanctaidd hwnnw, a ddywedodd: Fy ewyllys i, a'm me­ddwl sy gwedi eu diogelu, a'i ca­darnhau yn-Ghrîst?

Pettai hi felly gyda myfi, yna ni chythrybled ofn dyn fi cyn hawsed, ac nis poenid fi â phicellau gei­riau.

[Page 292]Pwy sy'n gallu rhag-weled, pwy a ddichon ochelyd y drygau oll sydd i ddyfod?

Os y drygau hefyd a ragwelir a glwyfant, beth a wna'rhai nis gellir eu rhagweled ond briwo yn drwm, ac archolli'n ddyfn?

Ond pam nas ceisiais yn well ra­gweled a darbod i myfi fyhun dru­anddyn? pam hefyd y coeliais rai eraill cyn hawsed?

Eithr dynion breuol a gweinion ydym, ac nid amgen ydym na dy­nion gweinion, perhon a bod llawer yn ein cyfrif, ac yn ein galw ni'n Angelion.

I bwy y coeliaf, Arglwydd? i bwy, ond iti, yr hwn wyt y Gwirio­nedd ni thwylla, ac nis geill ei dwy­llo?

O'r tu arall, mae pob dyn yn ge­lwyddoc, yn wan, ac yn anwadal: ac yn hawdd gantho lithro, yn enw­edic ar eiriau: yn gymmaint ac na ddylid coelio ynyman y peth y dy­bygid ar y cyntaf ei fod yn wîr diogel

[Page 293]4. Mor synhwyrol y rybyddiaist di, fod yn rhaid gochel rhag dyni­on: ac mai gelynion dyn yw ty­lwyth ei dy ef eihun: ac nad oes mor coelio, os dywaid rhyw vn; Wele ymma, wele accw, Mat. 24. 23.

Dysgais i'm cywilydd fyhun, a mynnwn pe bai hynny i'm gofalach ochelyd, ac nid i'm ffolineb.

Taw a sôn (medd rhyw vn) taw a sôn, a chadw iti dyhun yr hyn a ddywedaf wrthyt. A thra fyddwyfi'n tewi, ac yn coelio fod y peth yn gy­frinachol, ni eill ef eihun dewi y peth a geisiodd ei dewi: ond yny­man ef a'm cyhoeddodd fi a'i hun hefyd: ac a aeth i ffordd.

Rhag y cyfryw chwedleuau, a rhag y cyfryw ddynion anochelgar gwared fi, O Arglwydd, rhag imi syrthio i'w dwylo hwy, na gwneu­thur byth y cyfryw bethau.

Dyro air cywir a diogel yn yn-ge­nau i, a gyr ymmhell oddiwrthyf dafod gyfrwys.

Y peth nys mynnwn ei ddioddef, a ddylwn trwy bob modd ei oche­lyd.

[Page 294]5. Oh mor dda a heddychol ydyw, tewi a sôn am rai eraill, a bod heb goelio pob peth yn ddira­gor, a pheidio'n hawdd ac adrodd pethau ymmhellach?

A bob heb ddangos eihun i nem­mor: a'th geisio di bobamser yn olygwr calon:

A bob heb adael ei ddwyn o am­gylch â phob chwythad geiriau: eithr chwennych cyflowni pob peth oddimewn ac oddimaes ynol bodd dy ewyllys da di?

Mor ddiberygl ydyw, ermwyn ca­dw grâs nefol, gwrthod ymddangos yn-golwg dynion, a bod heb ddy­muno'r pethau a welir yn rhyfeddol oddiallan: eithr â gofal cyflawn ceisio'r pethau a wasanaethant i wella buchedd, ac i chwanegu gwrês ysprydol?

Pafaint o ddrwg a wnaeth i law­er, bod eu rhinwedd hwy'n wybo­dol i eraill, a darfod eu canmol hwynt yn rhy fuan.

Pafaint o lês a wnaeth, cadw grâs yn ddistaw guddiedic yn y bywyd [Page 295] marwol ymma, yr hwn nid yw ond temptasiwn a milwriaeth?

PEN. XLVI.
Am ymdddiried yn Nuw pan y pic­cellir geiriau drwg yn ein her­byn.

1. FY mâb, saf yn ddiogel, a gobeithia ynofi. Canys pa­beth yw geiriau, ond geiriau? Hwy a hedant trwy'r awyr, ond ni friw­ant gymmaint▪ ac vn garreg.

Os ydwyti'n euog, bwriada emen­dio dyhun yn ewyllysgar.

Onid oes dim ar dy gydwybod, ymrodda i ddioddef hynny'n ewy­llysgar ermwyn Duw.

Digon bychan iti, yw dioddef geiriau weithiau, yr hwn nid wyt etto'n gallu goddef dyrnodau trym­mion.

A phaham y mae pethau cyn fy­nyched yn myned at dy galon, ond oblegid dy fod ti etto'n gnawdol, ac yn ystyried mwy ar ddynion nac y dylit▪

[Page 296]Oherwydd gan dy fod ti etto'n ofni cael dy ammharchu, nis mynni ddioddef dy geryddu am dy drose­seddau; ond ceisio 'rwyt ryw gysgo­dau o escusodion.

2. Eithr edrych arnat dyhun yn well, a thi a gai weled fod y byd yn byw ynot etto, a gwâg awydd i ryngu bodd i ddynion.

Canys am dy fod ti'n gochel cael dy ostyngeiddio a'th gywilyddio am dy gamweddau, mae'n eglur ddiau, nad wyti nac yn wîr ostyngedic, nac yn wîr farw i'r byd, ac nad yw'r byd wedi ei groeshoelio i tithau.

Eithr gwrando fyn-gair i, ac ni bydd waeth gennyt am ddeng mîl o eiriau dynion.

Wele, pe dywedid yn dy erbyn y cwbl a ellid trwy'r malais mwyaf eu defeisio: pa ddrwg a wnai hynny iti, os gollyngi iddynt fyned heibio, heb eu prisio mwy na phluen; a allent hwy dynnu cymmaint ac vn blewyn oddiar dy ben di?

3. Eithr y neb sydd heb ei ga­lon oddimewn iddo, ac heb Dduw [Page 297] yn ei olwg, a gythryblir yn hawdd ac ammharch bychan.

Ond y neb a ymddiriedo ynofi, ac ni chwennycho sefyll ar ei farn eihun, y fydd heb ddim dychryn dynion.

Canys myfi yw'r barnwr sy'n gwy­bod pob cyfrinach: myfi a wn pa­fodd y bu'r matter: myfi a adwaen y neb sy'n dioddef, a'r neb sy'n gw­neuthur y cam.

Oddiwrthyfi yr aeth y gair hwn­nw: ac a myfi'n goddef y digwy­ddodd hynny: fel y datcuddier me­ddyliau llawer calonnau.

Myfi a farnaf yr euog a'r gwirion: ond yn gyntaf mi a fynnaf brofi pob vn o'r ddau.

4. Mynych y mae testiolaeth dyn yn twyllo: gwîr yw fy marn i, hi a saif, ac nis dymchweler hi.

Mae hi'n guddiedic gan mwyaf, ac heb fod yn amlwg i nemmor: ac er­hynny nid yw hi vnamser yn methu, ac nis gall hi mor methu: perhon nas tybygir yn-golwg dynion ffôl ei bod hi'n gyfion.

Attafi ganhynny y mae'n rhaid cyr­chu [Page 298] ymmhob cyflafaredd a barn, ac nid sefyll ar dy dŷb a'th ewyllys dyhun.

Canys nis cythryblir y dyn cyfion, beth bynnac oddiwrth Dduw a ddi­gwyddo iddo: ac os llaferir peth anghyfion yn ei erbyn ef, ni bydd fawr gwaeth gantho.

Ac ni bydd ef ofer-lawen, os rhai eraill wrth reswm a'i esgusodant ef.

Oblegid ei fod ef yn cofio, mai fyfi yw chwiliwr y calonnau a'r aren­nau: yr hwn nid wyf yn barnu ynol y golwg a'r ymddangos sydd yn­gwydd dynion.

Canys mynych y gwelir ar fai yn fyngwydd i, yr hyn a dybygir ei fod yn ganmoledic ynol barn dynion.

5. O Arglwydd Dduw, yr hwn wyt yr Justus cyfion, cadarn a dioddef­gar, yr hwn wyt yn gwybod gwendid a drygioni dynion, bydd di fy nerth a'm holl ymddiried i: am nad yw fyn-ghydwybod fyhun yn ddigon imi.

Tydi a wyddost yr hyn nid wy­fi'ngwybod, ac amhynny mi a ddy­lwn ar bob cerydd ymostyngeiddio fyhunan a dioddef yn howddgar.

[Page 299]Maddeu imi hefyd yn ddaionus cyn fynyched ac y gwneuthum yn amgenach: a dyro imi eilwaith râs i ddioddef chwaneg.

Oblegid gwell imi, ydyw dy he­laethlawn drugaredd di i gael ma­ddeuant; na'r cyfiawnder a dybygir ei fod ynofi, i amdiffyn fyn-ghydwy­bod guddiedic.

Er nad wyfi'n clywed fyhun yn euog o ddim, etto nis gallaf gyfia­wnhâu fyhunan ar hynny: oblegid heb dy drugaredd di nis cyfiawnheir vndyn byw yn dy olwg di.

PEN. XLVII.
Bod yn rhaid dioddef pob trymde­rau ermwyn y bywyd tragywy­ddol.

1. FY mâb, paid a gadael i'r poe­nau a gymmeraist arnat er fy mwyn i, dy ddigalonni di, ac na âd i drallodau dy fwrw di ilawr yn hollawl: eithr cadernhaed di fy a­ddewid i, a chyssured ymmhob di­gwydd.

[Page 300]Digon ydwyfi i dalu vwchben pob modd a mesur.

Ni chai di ymboeni ymma chwaith hir: na'th drymhâu â doluriau bo­bamser.

Aros ychydic, a thi a gai weled diwedd buan o'th ddrygau.

Awr a ddaw, pan y derfydd pob poen, trafferth, a helbul.

Bychan a byrr yw'r cwbl, sy'n mynd heibio gydag amser.

2. Gwna'r hyn a wnai: ymboe­na'n ffyddlon yn fyn­gwinlan i, myfi y fyddaf dy gyflog di.

Yscrifenna, darllain, cana, galara, cadw osteg, gweddia, dioddefa groe­sau'n wrol: mae bywyd tragywy­ddol yn deilwng o hyn oll ac o law­er mwy o ymladdau.

Daw heddwch ar y dydd a wyr ein Harglwydd: ac ni bydd na dydd na nôs, hynny yw, o'r amser ym­ma: ond goleuni tragywyddol, di­scleirdeb anfeidrol, heddwch diogel, ac esmwythdra diofal.

Yna nis dywedi; Pwy a'm gwe­ryd fi o gorph y farwolaeth hon? [Page 301]

Rhuf. 6. 24.

Ac nis llefi: Gwae fi fod fy nhrigiant i wedi ei hoedi'n hîr! Psal. 119. 5. Canys bwrir an­geu bendramwnwgl: a bydd ia­chawdwriaeth dibaid, heb ddim cy­fyngder: llawenydd dedwyddlawn: cymdeithas ddifyr, hardd a hyfryd.

3. Oh pettiti'n gweled tragywy­ddol goronau y Sainct yn y Nef, ac mewn pa gymmaint gogoniant y mae'n hwy'rwön yn gorfoleddu, y rhai oeddent gynt yn ddibris yn y byd ymma, ac a dybygid megis yn annheilwng o gael byw; ynddiau ti a ostyngeiddit dyhun ynyman hyd at y ddaear, ac a chwenychit yn hyt­trach fod tan bawb, na bod yn vwch nac vn.

Ac ni thrachwantit ddyddiau llawen y bywyd hwn, ond yn hyt­trach hôff y fyddai gennyt gael dy flino a'th ofidio ermwyn Duw: a chael dy brisio'n ddim ymmysg dy­nion, a gyfrifit yn elw pennaf.

4. Oh! pe bai flâs gennyti am y pethau hyn, a phe disgynnent yn ddyfn ynot hyd at dy galon! pa­fodd [Page 302] y beidditi gwyno gymmaint ac vnwaith.

Onid rhaid ermwyn bywyd tra­gywyddol ddioddef pob pethau poenus?

Nid peth bychan yw colli neu ynnill teyrnas Dduw.

Côd ganhynny dy wyneb tuar Nêf. Wele fyfi, a'm holl Sainct gy­da myfi, y rhai a gowsant ymdrech mawr yn y byd ymma, mae'n hwy 'rwön yn llawenu, mae'n hwy 'rwön yn cael eu difyrru, mae'n hwy'rwön yn ddiofal, mae'n hwy'rwön yn gor­phwyso: ac a gânt aros gyda myfi yn nheyrnas fy Nhâd yn ddiddiben.

PEN. XLVIII.
Am y Dydd tragywyddol, a byrder y bywyd hwn.

1. O Ddedwyddlawn drigfa'r Ddinas nefol! O dra dis­clair ddydd Tragywyddoldeb! yr hwn nid oes vn nos yn ei dywyllu, ond y Goleuni goruchaf bobamser [Page 303] yn ei lewychu: dydd hyfryd bobam­ser, diofal bobamser, ac heb newid ei gyflwr vnamser.

O pe bai y diwrnod hwnnw yn dydd-hâu, ac y bai diwedd o'r holl bethau amserol hyn!

Mae ef ynddiau, yn llewyrchu i'r Sainct â discleirdeb tra splennydd a dibaid: eithr nid ond ohirbell, ac megis trwy ddrych i'r sawl sy'n per­erindotta ar y ddaear.

2. Mae trigianolion y Nêf yn gwybod, mor ddifyr a mor hyfryd yw'r dydd hwnnw: eithr mae deol blant Efa'n cwynfan fod hwn ym­ma'n chwerw ac yn flin.

Byrrion a drwg yw dyddiau'r am­ser hwn, yn llawn o ddoluriau ac o gyfyngderau.

Lle y diwynir dyn a llawer o be­chodau, y rhwydir ef mewn llawer o ddrwg anwydau: yr aflonyddir â llawer o ddychryndodau: y tyn­nheir â llawer o ofalon: y trawsdyn­nir â llawer o rodresau: y rhwystrir â llawer o wageddau, yr amgylchir â llawer o amryfuseddau, y gwasgir [Page 304] â llawer o boenau; y blinir â them­ptasiwnau, y gwanheir â difyrrion, y gofidir â thlodi.

3. O pabryd y daw diwedd o'r drygau hyn? pabryd y câf fyn-gwa­red o annedwydd gaethiwed pecho­dau?

Pabryd, O Arglwydd, y cofiaf amdanati'n vnic? pabryd y câf yn gyflawn fy llenwi â llawenydd y­noti?

Pabryd y byddaf heb ddim rhwystr mewn gwîr rydd-did? heb ddim trymder na meddwl na corph!

Pabryd y bydd heddwch cyfan­gwbl, heddwch diofal a difraw, he­ddwch oddimewn ac oddimaes, he­ddwch diogel o bobparth?

O Jesu daionus! pabryd y câf se­fyll i edrych arnati? pabryd y câf synnied ar ogoniant dy deyrnas di? pabryd y byddi di oll yn oll imi?

O pabryd y byddaf gyda thi yn dy deyrnas a baratoaist i'th anwyl garedigion ers tragywyddoldeb?

Gadawyd fi druanddyn ar dîr ge­lynnion, [Page 305] lle mae rhyfeloedd beun­yddol, a dirfawr aflwyddiannau.

4. Comffordda fy neoliad i, ys­gafnhâ fy nolur, canys attati y mae fy holl hiraeth i, yn vcheneidio.

Oblegid baich imi yw'r cwbl, beth­bynnac y mae'r byd ymma'n ei gyn­nig i'm diddanu.

Rwyfi'n chwennych dy feddu di'n hollawl, ond nid wyf yn gallu cael gafael ynot.

Da y fyddai gennyf ymlynu wrth nefolion bethau: ond mae matterion bydol a gwynniau drwg anfarwei­ddiedic yn pwyso arnaf, ac yn fyn­gwasgu i lawr.

A'm meddwl yrwyf yn mynnu gorchfygu pob peth: ond a'm cnawd yrwyf o'm hanfodd yn gorfod bod tanynt.

Felly fyfi ddyn annedwydd wyf yn ymladd â myfi fyhun, a gwnaed fi'n flîn i myfi fyhunan: gan fod yr yspryd yn ceisio bod ifynu, a'r cnawd i wared.

5. Oh! pabeth wyf yn ei ddio­ddef oddimewn, pan fyddwyf a'm [Page 306] meddwl yn myfyrio ar bethau nefo­lion, neu'n trîn pethau sanctaidd; ac ynyman a minnau fyth yn llafaru gweddiau, y bydd rhawd o phan­siau cnawdol yn rhuthro arnaf. Oh fy Nuw! na fydd bell oddiwrthyf, ac na thro dy wyneb oddiwrthyf yn dy ddigofaint.

Saetha dy fellt-luched, a chwala hwynt; piccella dy bilwrnrau, a gwasgerir phantasiau'r gelyn.

Casgla ynghyd fy meddyliau i oll attati: gwna imi ollwng ynanghof bob peth daearol: dyro râs imi'n fuan i fwrw ymmaith holl phansiau enwireddus.

Cymmhorth fi, O'r Gwirionedd tragywyddol, fel na chaffo gwagedd byth fynghyffroi i.

Dyre attafi, hyfrydwch nefol, a ffoed pob aflendid rhag dy wyneb di.

Maddeu imi hefyd, a thrugarhâ wrthyf yn ddaionus, cyn fynyched ac y meddyliaf mewn gweddi am ddim arall ond tydi.

Canys cyffesaf ynddiau, yr ar­feraf [Page 307] fod yn llawn o drawsfeddy­liau.

Oblegid mynych nid wyf yno, lle'rwyf a'm corph yn sefyll neu'n eistedd: ond yn hyttrach lle bo fy meddyliau yn fy nwyn i.

Yno yr wyf, lle bo fy meddwl i: a mynych y mae fy meddwl yno, lle bo'r peth y fyddwyf yn ei garu.

Buan y daw i'r meddwl y peth y fo trwy natur yn difyrru, neu trwy ar­fer yn bodloni.

6. Amhynny, tydi y Gwirionedd a ddywedaist: Lle mae dy dryssor di, yno hefyd y mae dy galon di, Mat. 6. 21.

Os fyfi a garaf y Nêf, mi a fe­ddyliaf yn ewyllysgar am bethau ne­folion.

Os y byd a garaf, mi fyddaf lawen am lwyddiannau bydol ac yn drîst am▪groesau amserol.

Os y cnawd a garaf, mynych y meddyliaf am bethau cnawdol.

Os yr yspryd a garaf, difyr y fydd gennyf feddwl am bethau yspry­dol.

[Page 308]Oblegid beth bynnac a garaf, da y fydd gennyf siarad, a chlywed si­arad am hynny: a mi a ddygaf gy­da myfi adref phansiau a dychym­mygion am y cyfryw bethau.

Eithr gwyneifyd y dyn, O Ar­glwydd, yr hwn er dy fwyn di a ymadawo a'r holl greaduriaid: a or­threcho natur yn fforddrych, a groe­shoelio â gwrês yr yspryd drachw­antau'r cnawd: fel a chydwybod se­renol yr offrymmo weddiau purlan iti: ac y fyddo'n deilwng i fod ym­mysg y Corau Angelawl, wedi bw­rw ymmaith oddiwrtho bob pethau daearol oddimewn ac oddiallan.

PEN. XLIX.
Am hiraeth am y bywyd tragywy­ddol, 'ac am faint yw'r daoedd a addewid i'r sawl a ymladdant yn wrol.

1. FY mab, pan glywi fod hi­raeth oddivchod yn dechreu ynot am y bywyd tragywyddol, a'th [Page 309] fod ti'n chwennych myned allan o'th babell corphorol, fel y gelli heb ddim cysgod cyfnewid synnied ar fy niscleirdeb i: agor dy galon yn helaeth, ac a'th holl ewyllysfryd derbyn yr ymysprydoliaeth sanctaidd hwn.

Dyro helaethlawn ddiolch i'r Dai­oni goruchaf, sydd yn dy drîn di eyn garedicced, yn ymweled â'thi mor drugarog, yn dy gyffroi cyn wresocced, yn dy godi mor nerthol, rhag iti a'th bwys dyhun lithro i be­thau daearol.

Oblegid nad wyt yn cael hyn o'th feddwl neu o'th egni dyhun, ond yn vnic o deilyngdod y Grâs nefol, ac o ddaioni Duw: fel yr eli rhagot mewn rhinweddau, ac mewn go­styngeiddrwydd, ac y paratoi dyhun i'r ymladdau sydd i ddyfod, ac y glyni wrthyfi a'th holl galon, ac y ceisi fyn-gwasanaethu i ag ewyllys­fryd gwresog.

2. Fy mâb, mynych y mae'r tân yn llosgi, ond heb fwg nid â'r fflam ifynu.

[Page 310]Felly y mae dymuniadau llawer o ddynion yn llosgi tuar Nêf, ac er­hynny nid ydynt hwy'n rhydd o demptatiwnau ewyllysion cnawdol.

Ac amhynny nid yn burlan er­mwyn anrhydedd Duw, y mae'n hwy'n ceisio gantho y peth a chwen­nychant mor daer.

Cyfryw lawergwaith yw dy chw­ant dithau, a ddangosaist ei fod mor daer.

Canys nid pûr a pherffaith yw'r peth, sy wedi ei gymmysc a'i lygru a'th serch, ac a'th lês dyhun.

3. Cais, nid y peth y fo difyr a hyfryd iti, ond yr hyn y fo cymme­radwy ac anrhydeddus i myfi: canys os tydi a ferni'n iawn, ti a ddylit gyfrifo a dilyn fy ordinhaad i, yn hyttrach na'r dymuned y fo gennyti, neu, r peth bynnag dymunedic.

Mi a wn dy ddymuned di, ac a glywais dy aml ymgwyno.

Ti a fynnît eisoes fod yn rydd­did gogoniant plant Duw.

Mae'r Drigfa dragywyddol, a'r Wlâd nefol sy'n llawn o lawenydd [Page 311] eisoes yn hôff gennyt: ond ni dda­eth yr awr honno etto: ac mae am­ser arall rwön: sef amser rhyfel, amser poen a llafur, ac amser pro­fedigaeth.

Dymuno'rwyt cael dy lenwi â'r daioni goruchaf: ond nis gelli di mor cael hynny ynawr.

Myfi yw hwnnw: aros fyfi (medd ein Harglwydd) hyd oni ddelo teyr­nas Duw.

4. Mae'n rhaid iti gael dy brofi etto ar y ddaear, a'th flino'n llawer o bethau.

Cyssur a roddir iti ambell weithi­au, ond helaethlawn ddigonedd o­hono nis caniadir iti rwön.

Ymnertha ganhynny, a bydd wrol, yn gystal wrth wneuthur, ac wrth ddioddef pethau gwyrthwynebus i natur.

Rhaid iti amwisco'r dyn newydd, a'i newid ef yn wr amgenach.

Rhaid iti wneuthur lawergwaith, yr hyn nis mynni, a gadael heb ei wneuthur, y peth y fyddi di'n ei fynnu.

[Page 312]Y peth y fo'n dda gan rai eraill, a gaiff fyned rhagddo: yr hyn y fo'n hôff gennyti, ni ffynna ddim pellach.

Yr hyn a ddywedo rhai eraill, a wrandewir: yr hyn a ddywedi di, a ddibrisir.

Rhai eraill a geisiant ac a gaânt: tydi a geisi, ac nis caniadir iti.

5. Mowrwych y fyddant rhai era­ill yn-genau dynion: ond amdanati ni bydd dim sôn.

Gorchymmynir hyn neu'r llall i eraill: ond tydi ni chyfrifir yn fitt nac yn fuddiol i ddim.

Amhynny natur ambell weithiau y fydd yn drîst, a mawr y fydd, os ti a ddioddefi hyn gan dewi a sôn.

Yn y rhain, ac yn llawer o be­thau cyffelyb, yr arferir profi ffydd­lon wâs ein Harglwydd i gael gwe­led pafodd a dichon ef ymwrthod a'i hunan ymmhob peth.

Prin y mae dim, yn yr hwn y mae'n angenrheidiol iti farweiddio dyhun yn gymmaint, ac wrth weled a dioddef y pethau y fo'n erbyn dy [Page 313] ewyllys di: ac yn bendifaddeu pan y gorchymmynir y pethau, y rhai a dybygiti eu bôd yn flîn ac yn ddiles.

Ac am nad wyt▪ yn beiddio gwrthsefyll awdurdod vchelach, a thithau wedi dy osod tan lywodraeth rhai eraill: amhynny ti a dybygi'n ga­led fod yn rhaid iti rodio wrth am­naid ynarall, a gadael dy holl ewy­llys dyhun.

6. Eithr cofia fy mâb ffrwyth y poenau a'r blinderau hyn, ac y bydd diwedd ohonynt ar fyrder, a bod y taledigaeth yn llawn anfeidrol: ac ni fydd dim trymder arnat, ond cyssur mawr o'th ymddioddef.

Oblegid yn lle'r ychydic o'th ewy­llys, a'r hwn yrwyt yrwön o'th wîr fodd yn ymwrthod, ti a gai dy ewy­llys dyhun bobamser yn y Nêf.

Cans yno ti gai bob peth a fynni, a phob peth a elli ei ddymuno.

Yno oblegid y bydd dy ewyllys di yn vn bobamser a'm hewyllys innau, ni chais ef ddim dieithrol na neill­tuol.

[Page 314]Yno y cai dy feddu pob math o ddaoedd lieb ddim ofn o'i colli.

Yno ni bydd neb i'th wrthsefyll di, neb i achwyn arnat, neb i'th rwystro: yno ni ddaw dim yn dy erbyn.

Eithr pob peth dymunedic y fydd yno o'r vnwaith, ac a ddifyrrant dy holl ewylls di, ac a'i llenwant hyd yr eithaf.

Yno y rhoddaf ogoniant iti am yr ammharch a ddioddefaist ymma; llaes-wisg moliant am y tristwch o'r blaen, ac am y lle gwaelaf, Thrôn neu Orsedd teyrnas yn dragywyddol.

Yno yr ymddengys ffrwyth V­sydd-dod, y bydd llawenydd am boen penyd, ac â gogoniant mawr y coronir gostyngeiddrwydd iselfryd.

7. Ynawr ganhynny ymgrymma dyhunan yn ostyngedic tan ddwylo pawb: ac na sydded gwaeth gennyt pwy a ddywedodd, neu a barodd hyn ymma.

Eithr gofala'n fawr am gymme­ryd y cwbl yn dda, pa vn bynnac ai Pennaeth, ai Tanlwydd, ai Cydradd [Page 315] a geisia neu a ddymuna rywbeth gennyt, ac â phurlan ewyllys cais gyflowni hynny.

Ceisied vn y naill beth, vnarall y llall: gogonedded hwn yn hyn ym­ma, vnarall yn hyn accw, a chaed ei ganmol fîl fîl o weithiau: eithr tydi na lawenycha nac yn hwn, nac yn y llall, ond am gael dy ammharchu a'th ddibrisio, ac am dy fod yn fy modloni a'm hanrhydeddu i yn vnic.

Dymma'r peth sy raid iti ei ddy­muno: cael o Dduw ei foliannu bo­bamser ynoti, bid trwy fyw, bid trwy farw.

PEN. L.
Pafodd y mae'n rhaid i ddyn y fo blîn ei feddwl, offrwm eihun yn nwylo Duw.

1. O Arglwydd Dduw, Tâd sancteiddiol! bydd di fen­digedic rwön ac yn dragywyddol: oblegid megis y mynnaisti, felly y gwnaed: a'r hyn a wneuthost sydd dda.

[Page 316]Llawenyched dy wâs ynoti, nid ynddo eihun, nac mewn dim arall, canys tydi'n vnic yw'r gwîr lawe­nydd, tydi yw fyn-gobaith a'm Co­ron i: tydi yw fy anrhydedd a'm hy­frydwch. i, O Arglwydd!

Pabeth sy gan dy wâs, ond yr hyn a gafodd gennyti, a hynny he­fyd heb ei fod ef yn haeddu dim?

Tydi piau'r cwbl a roddaist, ac a wnaethost.

Tlawd ydwyfi, ac mewn poenau a blinderau o'm hieuengtid: ac mae fy enaid yn tristhâu lawergwaith hyd at ddagrau: a weithiau yr aflo­nyddir ef oherwydd gwynniau drwg yn codi yn ei erbyn.

2. Rwyfi'n chwennych llawenydd heddwch, yrwyfi'n gofyn yn daer heddwch dy blant di, sy'n cael eu porthi gennyti yn-goleuni didda­nwch.

Os rhoddi di heddwch, os tywallti lawenydd sanctaidd ynofi: enaid dy wâs a lenwir â nefol hyfrydwch, fel y cano ef oddimewn bêr gân gysson i'th foliannu di'n ddefosionol.

[Page 317]Eithr os tydi a dynni dyhun oddi­wrtho ef, megis y gwnai'n fynych iawn, ni bydd ef yn gallu rhedeg arhyd dy orchymmynion di: on yn hyttrach ef a blyga ei liniau i guro ei ddwyfron, am nad ydyw hi gy­dag ef rwön, megis yr oedd hi ddoe ac echdoe, pan yr oedd dy oleuni di'n disgleirio vwch ei ben ef, ac yntau yn cael ei amddiffyn tan gysgod dy adeunydd di rhag tempta­siwnau taer yn rhythro arno.

3. O Dâd cyfion, sancteiddiol, ac i'w foliannu bobamser! dymma'r awr wedi dyfod i brofi dy wâs di.

O Dâd caredic, iawn yw, i'th wâs ar yr awr hon ddioddef rhywbeth er dy fwyn di.

O Dâd i'w anrhydeddu bobam­ser, daeth yr awr, yr hon ers tra­gywyddoldeb a wydditi y doi hi, i'th wâs gael ei ddarostwng dros ychy­dic o amser oddiallan, ond oddi­mewn byw bobamser gyda thi.

Gwaeler ef ychydic, a gostyn­geidddier, methed yngwydd dynion, a chaed ei faeddu a'i flino â gwyn­niau [Page 318] afreolus ac â gwendidau, fel y caffo ef drachefn, gyfodi gyda thi yn-gwawr y goleuni newydd, a'i o­goneddu yn y Pebyll nefol.

O Dàd sancteiddiol! felly y tref­naist di, ac felly y mynnaist: a'r hyn a wnaed, tydi a'i gorchmyn­naist.

4. Oblegid grâs a ffafor ydyw i'th anwyl-ddyn, ddioddef a chael ei ofi­dio'n y byd ymma er dy fwyn di, cyn fynyched bynnac, ac gan pâ vn bynnac y goddefi di wneuthur hynny.

Nid oes dim heb dy gyngor a'th ragluniaeth di, nac heb achos a wnair ar y ddaear.

Da ydyw imi, O Arglwydd, gael fyn-gostyngeiddio gennyti: fel y dysgwyf dy gyfiawnderau di, a bw­rw ymmaith bob vchder calon, pob rhyfyg a gorhydri.

Da ydyw imi fod cywilydd yn cuddio fy wyneb i; fel y gyrrer fi i'th geisio di yn hyttrach na dynion i'm cyssuro.

Dyscais o hyn hefyd ofni dy an­chwiliadwy farnedigaeth di, yr hwn [Page 319] wyt yn gofidio'r cyfion gyda'r an­nuwiol, ond nid heb gyfiownder a gwirionedd.

5. Diolchaf iti am nad arbedaist fyn-ghamweddau: eithr ti a'm briw­aist fi a gwialennodion tôst a llym, gan fy archolli â doluriau, ac wrth fwrw cyfyngderau ynof oddimaes ac oddimewn.

Nid oes neb a'm comffordda i, o'r cwbl ac sy tan y Nêf, ond tydi, O fy Arglwydd Dduw i, Meddyg nefol yr eneidiau, yr hwn wyt yn ta­ro ac yn iachau, yn bwrw i Vffern, a thrachefn yn tynnu allan ohoni.

Bydded dy gerydd di arnafi, a'th wialen di a'm dysca fi.

6. Wele, O Dâd caredic: dym­ma fi'n dy ddwylo di, myfi a ym­grymmaf fyhun tan wialen dy go­spedigaeth di.

Taro fyn-ghefn a'm gwddwg, fel yr vnionwyf fyn-gwyrgammedd tor­chog i'th ewyllys di.

Gwna fi'n ddiscybl duwiol a go­styngedic, megis yr arferi'n dda wneuthur, fel y rhodiaf wrth dy bob amnaid di.

[Page 320]Yr wyfi'n gorchymmyn iti fy hun, am holl eiddo iw ceryddu; gwell yw cael ein cospedigaeth ymma, nac yn y byd a ddaw.

Ti a wyddost y cwbl a phob peth neilltuol, ac nid oes dim yn guddie­dig oddiwrthyti yn-ghydwybod dyn.

Cyn eu gwneuthur, ti a wyddost y pethau y fyddant: ac nid rhaid iti gael dy ddysgu gan nêb, neu dy ys­pysu am y pethau a wnair ar y ddae­ar.

Ti a wyddost pabeth sy dda ar fy llês i, a phafaint y mae blinder a gofid yn gwasanaethu i lanhâu rhwd enwireddau a beiau.

Gwna â myfi ynol dy ddymune­dic fodd. ac na ddiystyra fy muchedd bechadurus, yr hon nid yw'n wybo­dedic i neb yn well, ac yn eglurach, nac iti'n vnic.

7. Dyro imi, O Arglwydd wy­bod yr hyn sydd raid ei wybod: a charu yr hyn a ddylid ei garu: a chanmol yr hyn sy bennaf yn rhyn­gu bodd iti: a phrisio'r hyn sy werthfawr yn dy wydd di: a beio [Page 321] a goganu'r hyn sy'n frwnt ac yn a­flan yn dy olwg di.

Na âd imi farnu ynol gweled y golygon oddiallan, na rhoi sentens ynol clywed clustiau dynion diwy­bod: eithr mewn gwîr a chyfion farn gwahanu rhwng pethau gwele­dic a'rhai ysprydol: ac ynanad dim ceisio dy fodloni, a gwneuthur dy ewyllys di.

8. Mynych y twyllir synhwyrau dynion wrth farnu: twyllir hefyd serchogion y byd wrth garu pethau gweledic yn vnic.

Beth yw dyn o hynny well, am fod dyn arall yn ei fawrhâu ef?

Y twyllodrus sy'n sommi'r twy­llodrus, pan fo'n yn ei glodfori, y gwag y gwag, y dall y dall, y me­thiant y methiant: ac mewn gwi­rionedd, e mae ef yn gwneuthur mwy cywilydd iddo, wrth ei gan­mol ef yn ofer.

Oblegid pafaint bynnac yw pob vn yn dy olwg di, cymmaint ydyw ef, ac nid dim mwy, medd y go­styngedic Sanct Efransis.

PEN. LI.
Bod yn rhaid arfer gweithredoedd gostyngedic, pan nas gellir trîn vchel nefolion bethau.

1. FY mâb, nid wyti bobamser yn gallu parhâu mewn ewyllys­chwant gwresog i geisio rhinweddau, nac yn gallu sefyll ar y gradd vchaf mewn nefol ymsynniadau a myfyr­dodau: eithr mae'n rhaid iti wei­thiau, oherwydd dy lwgr dechreuol, ddisgyn at bethau iselach: ac o'th anfodd trwy flinedd ddwyn baich dy fuchedd lygredic.

Tra fyddi'n dwyn corph marwol, ti a gai glywed trymder a blinfyd.

Amhynny mynych y bydd rhaid cwynfan yn y cnawd, oherwydd baich y cnawd; oblegid nas gellir parhâu mewn astudiaethau ysprydol, a myfyrdodau duwiol yn ddibaid.

2. Y prydhynny cymmwys y fydd iti redeg i drîn pethau gostyngedic a gweithredoedd oddiallan, ac ym­ddifyrru [Page 323] dyhunan mewn actau da, ac â diogel ymddiried ddisgwyl am­danafi'n dyfod, ac am yr ymweled oddiuchod: gan ddwyn yn ddio­ddefgar dy ddeoliad a sychder dy enaid: hyd oni ddelwyfi eilwaith i ymweled â thi, ac i'th wared o'th holl gyfyngderau.

Oblegid myfi a wnaf iti ollwng ynanghof dy flinder a'th boenau, a chael esmwythdra a llonyddwch o­ddimewn.

Myfi a ledaf o'th flaen di dêg a hyfryd feisydd y Scrythurau Glàn; fel â chalon helaethlawn y dechreui redeg arhyd fyn-Gorchymmynion i.

A thi a ddywedi: Nid yw dio­ddefiadau yr amser presennol ymma yn haeddu'r gogoniant, a ddatcu­ddir ynom ni, Rhyf. 8. 18.

PEN. LII.
Na ddylai dyn gyfrif eihun yn dei­lwng o gyssur ysprydol, ond yn hyttrach yn euog o wialennodion.

1. O Arglwydd nid wyfi'n dei­lwng o'th gomffordd di, nac o vnrhyw ymweled ysprydol: ac amhynny cyfion y gwnai di a my­fi, pan y gadewi fi'n dlawd ac yn ddigyssur.

Pettwn i'n gallu gollwng cym­maint a'r môr o ddagrau, etto ni fyddwn i'n deilwng o'm diddanu gennyti.

Amhynny nid wyfi'n deilwng o ddim, ond o'm flangellu, a'm co­spi: oblegid ddarfod imi dy ddigio di'n orthrwm, ac yn fynnych, a thro­seddu'n llawer o bethau'n fawr iawn.

Gwedi ystyried ganhynny'r cwbl, yn-gwirionedd nid wyfi'n deilwng o'r cyssur lleiaf.

Eithr tydi wyt Dduw trugarog a [Page 325] mwynaidd, yr hwn nid wyt yn myn­nu colli dy weithredoedd, ond er­mwyn dangos dy ddaioni ar lestri trugaredd, tuhwnt hefyd i'w hae­ddiant eihun yr wyt yn teilyngu cys­suro dy wâs vwchlaw pob modd a mesur.

Oblegid nid yw dy gyssurau di, megis ymadrodd dynion yn diddanu.

2. Beth a wneuthum, O Ar­glwydd, i haeddu rhoddi ohonot ddim cyssur nefol imyfi? Nid wyfi'n cofio ddarfod imi wneuthur dim da: ond fy mod bobamser yn barod i bechu, ac yn ddiog i emendio fy muchedd.

Hyn sy wîr, ac nis gallaf mo'i wadu. A phe gwnawn yn amgenach, tydi a sefit i'm herbyn, ac nis byddai neb i'm hamdiffyn i.

Pabeth a haeddais am fy mhecho­dau, ond Vffern a'r tân tragywy­ddol?

Cyffessaf yn-gwirionedd, fy mod i'n haeddu pob cywilydd, dirmyg ac ammharch, ac nad yw'n weddus, bod sôn amdanafi ymmysc dy wei­sion [Page 326] duwiol di. Ac er bod yn flîn gennyfi glywed hyn: etto ermwyn y gwirionedd, mi a gyfaddefaf fy mhechodau, fel yr haeddwyf gael trugaredd gennyti.

3. Beth a ddywedaf ddyn euog, yn llawn o bob gwradwydd?

Nid oes wyneb gennyf i lafaru dim, ond y gair ymma'n vnic: pe­chais, O Arglwydd, pechais: trugar­hâ wrthyf, maddeua imi,

Gâd imi dros ychydic amser, wy­lofain am fyn-gofid a'm trueni, cyn yr elwyf i dîr y tywyllwch, sy wedi ei guddio â chaddug angeu.

Beth wyti bennaf yn ei geisio gan y pechadur truan, ond edifarhâu ohono a gostyngeiddio eihunan am ei gamweddau?

Allan o wîr edifeirwch o gostyn­geiddrwydd calon y cyfyd gobaith am faddeuant: ac â rheini yr he­ddychir cydwybod aflonydd, yr at­gyweirir y grâs a gollwyd, yr am­ddiffynnir rhag y digofaint a ddaw, ac yn-ghusan sanctaidd yr ymgyfer­fydd Duw a'r dyn edifeiriol.

[Page 327]4. Gostyngedic edifeirwch am bechodau, sydd Aberth cymmera­dwy iti, O Arglwydd; yn sawrio'n llawer pereiddach yn dy bresennol­deb di, nac arogldarth Thûs.

Dymma hefyd y peraidd ennaint, y fynnaist ei dywallt ar dy sanctaidd draed: oblegid erioed ni ddiysty­raist di galon edifeiriol a gostyngc­dic.

Yn honno y mae amddiffyn rhag llidiog a digllon wyneb y gelyn. Yno y golchir ac y glanheir y brynti a'r aflendid pabynnac a gaffwyd yn vnlle arall.

PEN. LIII.
Na roddir grâs Duw i'r sawl y fo a'i bryd ar bethau daearol.

1. FY mâb, gwerthfawr yw fyn­grâs i, ni oddef ef ei gym­myscu â'r pethau sydd oddiallan, nac â diddanion daearol.

Rhaid iti ganhynny fwrw iffordd bob rhwystr grâs, os mynni di gael ei dywallt ynot.

[Page 328]Cais loches ddirgel iti dyhun: ho­ffa drigo wrthot dyhun: na ddôs i ymsiarad ac i chwedleua ag eraill: eithr yn hyttrach tywallt Weddi dde­fosionol at Dduw, fel y gelli gadw dy enaid yn edifeiriol, a'th gydwy­bod yn lân.

Na wna ddim cyfrif o'r holl fyd: bydded gwell gennyt wasanaethu Duw, nac ymhel ac vn peth oddi­allan.

Oblegid nis gelli mo'm gwasa­naethu i, ac o'r vnwaith ddifyrru mewn pethau darfodedic.

Rhaid iti dynnu dyhun ymmhell oddiwrth dy gydnabod a'th gyfeilli­on, a chadw dy feddwl yn rhydd oddiwrth bob cyssur amserol.

Felly y mae'r bendigedic Apostol S. Petr yn attolwg ar y ffyddloni­aid; gadw euhunain megis diei­thraid a phellenigion yn y byd ym­ma, 1 Pet. 2. 11.

2. O! pafaint y fydd ymddiried y dyn ar awr ei angeu, yr hwn nid oes chwant am ddim daearol yn ei ddal ef yn y byd.

[Page 329]Eithr nid yw'r enaid methiant et­to'n medru cadw'r galon wedi ei neilltuo felly oddiwrth bob peth: ac nid yw'r dyn cnawd-anianol yn dyall hyfrydwch y dyn ysprydol.

Ond os efe a fyn fod yn ddyn gwîr-ysprydol, rhaid iddo ymadael yn gystal â'r hyn sy nessaf atto, ac â'r hyn sy bellaf oddiwrtho: a go­chelyd rhag neb yn fwy, na rhagddo eihunan.

Os tydi a orchfygi dyhun yn ber­ffaith, haws y fydd iti ddarostwng y leill igyd.

Buddugoliaeth berffaith yw gor­foleddu arnom einhunain.

Oblegid y neb a gatwo eihun yn ostyngedic, yn y modd ac y bo ei gnawd yn vfydd i'w reswm, a'i re­fwm ymmhob peth yn vfydd i min­nau, hwnnw sy'n wîr Oresgynnwr arno eihun, ac yn Arglwydd ar y byd.

3. Os wyti'n chwennych dringo i dop-brîg y perffeiddrwydd ymma, rhaid iti ddechreu'n wrol, a gosod y fwyall ar y bôn, i ddiwreiddio ac i [Page 330] ddistrywio'r drwg a'r afreolus duedd sy gennyt attat dyhun, ac at bob peth o'th eiddo di, a daoedd bydol.

Ar y gwall ymma, sef bod dyn heb na threfn na rheol yn hoffi ei­hun, y mae'r cwbl agos yn diben­nu, bethbynnac sy'n hollawl i'w or­fod a'i fwrw i lawr: yr hwn fai wedi ei orchfygu, heddwch a llonyddwch mawr a ganlyn.

Ond oblegid nad oes nemmor yn ceisio marw'n berffeithlon iddynt eu­hun, nac yn myned allan ohonynt euhunain yn hollawl, amhynny mae'n hwy'n parhâu gwedi eu rhwystro ynddynt euhun, fel nas gallant godi yn eu hyspryd goruwch euhunain.

Eithr y neb a chwennycho rodio'n rhwydd gyda myfi, rhaid iddo fa­rweiddio ei holl anwydau drwg afre­olus, a bod heb lynu wrth vnrhyw greadur, trwy trachwant cnawd a neilltuol gariad.

PEN. LIV.
Am y rhagor sy rhwng cyffroadau Natur a Grâs.

1. FY mâb, ystyria'n ddyfal gy­ffroadau Natur a Grâs, o­herwydd eu bod hwy'n cyffro mewn moddion manwl a gwrthwynebus iawn i'w gilydd: a braidd y gwyby­ddir y rhagor, ond gan ddyn yspry­dol y fo wedi ei lewyrchu oddi­mewn.

Pawb ynddiau a chwennychant ryw dda, ac a wnâant ryw liw o ddaioni yn eu geiriau a'i gweithre­doedd: amhynny tan rith daioni, mae llawer yn cael eu twyllo.

2. Mae natur yn gyfrwys, yn tyn­nu llawer atto ef, yn maglu, ac yn twyllo, a'i ddiwedd ef bobamser yw efe eihunan.

Ond mae grâs yn rhodio'n syml, yn gochel pob rith o ddrygioni, nid yw ef yn gosod dichellion, ond yn gwneuthur pob peth yn bûr er mwyn [Page 332] Duw, yn yr hwn hefyd y mae ef yn gorphwys yn ddiweddol.

3. Nid yw natur ohono eihun yn mynnu na marw, nai' wasgu, na'i orchfygu, na bod yn ostyngedic o'i fodd.

Ond mae grâs yn astudio marwei­ddio eihun, yn ymwrthod a'i chwan­taw cnawdol: yn ceisio bod yn o­styngedic, yn fodlon i'w orchfygu, heb fynnu ei rydd-did eihun: yn ca­ru bod tan drefn a rheol, heb chwen­nych meistroli ar neb: ond byw, aros, a bod bobamser tan Dduw: ac yn barod ermwyn Duw i ymgrym­mu eihunan yn ostyngeiddlon i bob creadur.

4. Mae natur yn gweithio am ei fûdd a'i lês eihun, ac yn ystyried pa ynnill a ddaw iddo ef o vnarall.

Ond nid yw grâs yn edrych ar y peth y fo buddiol iddo eihun, ond yn hyttrach ar yr hyn a wnelo lês i lawe­roedd.

5. Natur a gymmer o'i wir fodd barch ac anrhydedd.

Ond mae grâs yn rhoddi'n [Page 333] ffyddlon i Dduw bob parch a gogo­niant.

6. Mae natur yn ofni cywilydd a dirmyg.

Ond mae grâs yn llawen wrth ddioddef ammharch ermwyn yr Je­su.

7. Mae natur yn caru segurid ac esmwythdra'r corph.

Ond ni eill grâs fod yn ddiog: eithr ef a gymmer boen o'i wîr fodd.

8. Mae natur yn ceisio pethau gwerthfawr, a gwych, ac yn ffiei­ddio y rhai gwael, garw a gwrthyn.

Ond mae grâs yn hoffi pethau syml a gostyngedic, ac nid yw ef yn diystyru gwisgadau brâs a geirwon, nac yn gwrthod gwisgo hên ddillad clyttiog.

9. Mae natur yn prisio pethau dar­fodedic, mae'n dda gantho ef ynni­llion daearol; ef a dristhâ o achos colledion, ac a ddigia am y cam a wnair iddo â'r gair lleiaf,

Ond mae gras yn ystyried pethau tragywyddol, nid yw ef yn glynu [Page 334] wrth y rhai daearol, nid blîn gantho am golledion, ac ni chythrybla ef o achos geiriau llymmion, am ei fod ef wedi gosod ei dryssor a'i lawenydd yn y Nêf, lle nis collir dim.

10. Mae natur yn chwannog, ac yn well gantho gymmeryd na rhoi, yn caru pethau neilltuol, a'r hyn sydd o'i eiddo ef eihun.

Ond mae grâs yn ddaionus, ac yn hael, yn fodlon wrth ychydic, ac yn cyfrif bod yn well rhoi, na chym­meryd.

11. Mae natur yn gogwydd at y creaduriaid, at drachwantau'r cnawd, at wageddau, ac at ymsiarad a chw­edleua.

Ond mae grâs yn tynnu at Dduw, ac at rinweddau: yn gwrthod y creaduriaid, yn ffo oddiwrth y byd, yn cashâu trachwantau'r cnawd, yn attal crwydro a gwibio, yn cywily­ddio dangos eihun yn gyhoedd.

12. Da gan natur gael rhyw gys­sur oddiallan, a'r hwn y gallo ef ddi­fyrru'r cnawd.

Ond mae grâs yn ceisio ei ddidda­nu'n [Page 335] Nuw'n vnic, a'i ymddifyrru'n y Daioni goruchaf vwchlaw pob peth gweledic.

13. Mae natur yn gwneuthur y cwbl, ermwyn cael ynnill a llês iddo eihun: ni ddichon ef wneuthur dim 'n rhâd: ond mae ef yn gobei­thio cael naill ai cystal, ai gwell, neu glôd, neu ffafor am y weithred dda a wnelo: a mae ef 'n chwennych prisio ohonynt yn fawr ei waith ef a'i roddion.

Ond nid yw grâs yn ceisio dim bydol; nac yn gofyn amgen gwobr, ond Duw'n vnic yn daledigaeth; ac nid yw ef yn mynnu chwaneg o be­thau angenrheidiol y byd, nac a wa­sanaetho iddo i ddyfod ohyd i'r pe­thau tragywyddol.

14. Hôff gan natur fod llawer o garedigion a cheraint cyfoethoc gan­tho: ef a ymffrostia am ei le hynod, am ei enedigaeth a'i dylwyth bon­heddic; ef a wna wên lawen ar y rhai mowrwych, a'r penswyddogion: ef a wenieutha y rhai goludoc: ac a ganmol ei gyffelyb eihun.

[Page 336]Ond mae grâs yn caru ei elynion hefyd, ac nid yn chwyddo nac yn mynd yn falch oherwydd lliaws o garedigion: ni wna ef ddim cyfrif o fonedd ei dylwyth, nac o'r lle hy­nod yn yr hwn y ganwyd ef, oddi­eithr bod mwy rhinwedd yno.

Mae ef yn hoffi'r dyn tlawd yn hyttrach na'r goludoc yn cydgwyno a'r gwirion yn fwy nac a'r galluoc: yn cydlawenhâu a'r cywir, nid a'r twyllodrus.

Mae ef yn cynghori y rhai da i serchu bobamser y doniau goreu, ac i ddynwared Mâb Duw mewn rhin­weddau.

15. Buan yr achwyn natur oher­wydd eifiau a blinedd.

Ond grâs a ddioddefa dylodi yn ddianwadal.

16. Mae natur yn troi'r cwbl atto ef eihun yn gorchestu ac yn ymboe­ni ymmhob peth trosto eihunan.

Ond mae gras yn bwrw'r cwbl ar Dduw, oddiwrth yr hwn y mae'n hwy'n ddechreuol yn deillio: nid yw ef yn pennu dim daioni arno ei­hun, [Page 337] nac yn rhyfygu'n falch: nid yw yn ymryson, nac yn gosod ei opini­wn eihun oflaen rhai eraill: eithr ymmhob ystyr a dyall yn darostwng eihun i'r ddoethineb dragywyddol ac i farnedigaeth Duw.

17. Mae natur yn chwennych gwybod cyfrinachau a chlywed ne­wyddion: yn mynnu ymddangos oddiallan, a phrofi llawer o pethau trwy'r synhwyrau: yn chwennych cael ei adnabod a gwneuthur pethau o'r hyn y daw canmoliaeth a rhyfeddod.

Ond nid yw grâs yn ceisio clyw­ed newyddion, na gweled pethau rhodresus: oherwydd fod hynny igyd yn tarddu o'r hên lygredigaeth, gan nad oes dim yn newydd nac yn barhâus ar y ddaear.

Amhynny mae ef yn dyscu attal y synhwyrau, a gochel gwâg ym­fodloni a balch ymddangos, ac yn cuddio'n ostyngedic yr hyn y fo'n haeddu ei ganmol a'i ryfeddu: ac ymmhob peth ac ymmhob gwybo­daeth yn ceisio llês yr enaid, a moli­ant a gogoniant Duw.

[Page 338]Nid yw ef yn mynnu clodfori [...] hun na'r hyn sydd o'i eiddo: on [...] cael o Dduw ei fendithio yn ei ddo­niau, yr hwn o'i wîr ddaioni, sy'n rhoddi'r cwbl.

18. Goleuni goruchnaturiol yw'r Grâs ymma, a rhyw neilltuol ddawn Duw, sy'n Nôd priodol o'r Etholedi­gion, ac yn Wystl o'i tragywyddol gadwedigaeth hwynt: yr hwn sy'n codi dyn o ddaearolion i nefolion bethau: ac o ddyn cnawdol yn ei wneuthur ef yn ddyn ysprydol.

Po mwy ganhynny y gwasgir ac y gorchfygir Natur, mwy Grâs y dywalltir yn yr enaid: ac â newydd ymweliadau, mwy yr adnewyddir beunydd y dyn oddimewn ynol de­lw Duw.

PEN. LV.
Am lygredigaeth Natur, ac am nerth Grâs Duw.

1. FY Arglwydd Dduw, yr hwn a'm creaist fi ynol dy lûn a'th [Page 339] ddelw dyhun, dyro imi y grâs hwn, a ddangosaist ei fod yn gymmaint, ac mor angenrheidiol i'm henaid: fel y gallwyf orcgfygu fy naturiaeth ddry­gionus, sy'n fy nhynnu i bechodau ac i ddamnedigaeth.

Oblegid fy mod i'n clywed cy­fraith pechod yn fyn-gnhawd yn gwrthryfela'n erbyn cyfraith fy me­ddwl i; ac yn fy nhynnu i'n gaeth i gyslawni chwantau'r cnawd yn llawer o bethau: ac nid wyf yn ga­llu gwrthsefyll ei rhuthrau a'i digyr­chion hi, oddieithr imi gael fyn­ghymmhorth gan dy râs tra sanctaidd di trwy ei dywallt yn wresog i'm ca­lon.

2. Rhaid cael dy râs di, a'th fawr râs: i orchfygu natur sy bobamser o'i jeuengtid yn pwyso i ddrygioni.

Canys wedi cwympo trwy'r dyn cyntaf Adda, a'i lygru trwy bechod, mae cospedigaeth y brychewyn ym­ma wedi disgyn ar yr holl genhed­laeth ddynol: fel y cyfrifir natur ei­hunan, a greaisti'n dda ac yn iawn, rwön yn fai ac yn wendid naturiaeth [Page 340] lygredic, am fod ei gyffroadau ef, sy wedi eu gadael iddo eihun, yn tynnu at ddrygioni ac at bethau gwaelion.

Oblegid fod yr ychydic nerth, sydd etto'n aros ynddo, megis rhyw wreichionen wedi ei chuddio â llu­dw.

A honno yw, y rheswm naturiol eihunan, wedi ei amgylchu â mawr dywyllwch, etto a gallu gantho i farnu rhwng y da a'r drwg, i gan­fod y rhagor sy rhwng y gwîr a'r anwir: er ei fod yn fethiant i gy­flowni pob peth y mae'n ei farnu'n dda, ac heb fod yn meddu na chy­flawn oleuni'r gwirionedd, na chwbl iechyd ei ewyllysfryd.

3. Ac o hyn y mae, Oh fy Nuw! sy mod i ynol y dyn oddimewn yn difyrru yn dy gyfraith di, gan wy­bod sod dy Orchymmyn di yn dda, yn gyfion, ac yn sanctaidd; yn ce­ryddu hesyd pob drwg ac yn dangos y dylid gochelyd pechod.

Ond a'm cnawd yr wyfi'n gwasa­naethu cysraith pechod, gan fy mod [Page 341] yn cyflowni trachwantau'r cnawd, yn hyttrach na rheswm.

Oddiymma y mae, fy mod i'n ewyllysio gwneuthur da, eithr cy­flawni hynny nid wyfi'n medru.

Amhynny mynych y bwriadaf lawer o weithredoedd da, ond oble­gid fod eisiau grâs i gymhorth fyn­gwendid, rhyw rwystr bychan a wna imi gilio ynol, a methu.

Ac o hyn y digwydd, fy mod i'n adnabod ffordd perffeiddrwydd, ac yn canfod yn ddigon eglur pafodd y dylwn wneuthur.

Eithr gan fod pwys fy llygredi­gaeth fyhun yn gwasgu arnaf, nid wyfi'n codi ifynu at pethau sy mwy perffaith.

4. Mor ddirfawr angenrheidiol, O Arglwydd! ydyw dy râs di imyfi, i ddechreu daioni, i gynnyddu ynddo ac i'w gyflowni?

Canys hebddo ef, nis gallaf wneu­thur dim: eithr ynoti y gallaf wneu­thur pob peth trwy gymmorth dy râs di.

Oh wîr nefol râs! heb yr hwn [Page 342] nid yw ein haeddedigaethau ni ein­hun, na donniau natur chwaith ddim i'w prisio.

Ni thâl na chelfyddydau, na go­lud, na thegwch neu nerth corph, na synwyr neu ber-araith ddim yn dy olwg di, O Arglwydd, heb dy râs bendigedic di.

Oblegid fod donniau natur yn gyffredin i'rhai da, ac i'rhai drwg: eithr grâs neu gariad perffaith yw dawn priodol yr Etholedigion: a'r sawl a nodir â hwn, a gyfri­fir yn deilwng o fywyd tragywy­ddol.

Cymmaint yw rhagorfaint y Grâs hwn, ac nad yw na dawn Prophwy­doliaeth, na gwneuthur Gwyrthiau, nac vnrhyw Myfyrdod er vcheled y fo, o ddim prîs hebddo ef.

Ac nid yw Ffydd chwaith, na Go­baith, na'rhinweddau eraill yn gym­meradwy iti heb Gariad perffaith a Grâs.

5. Oh râs tra bendigedic, yr hwn wyt yn gwneuthnr y tlawd o yspryd yn gyfoethog o rinweddau, a'r cy­foethog [Page 343] o laweroedd o dda, yn o­styngedic o galon.

Dyre, disgyn arnaf, a llenwa fi'n fore a'th gyssur, rhag methu o'm he­naid o dra blinedd a sychder yspryd.

Attolygaf arnat, O Arglwydd, gael ohonof râs yn dy wydd di, ca­nys digon yw imi gael dy râs di, heb gael y pethau eraill y mae natur yn eu chwennych.

Os myfi a demptir ac a flinir â llawer o drallodau, nid ofnaf ddim niweid, tra fo dy râs di gyda myfi.

Efe yw fy nerth i a'm cadernid, efe a rydd gyngor a chymmhorth.

Mae ef yn gryfach na'r gelynnion igyd, ac yn ddoethach na'r holl ddoethion.

6. Athro y Gwirionedd yw ef, Meistr trefn-deulu, goleuni'r galon, diddanwch mewn blinfyd; mae ef yn gyrru tristwch iffordd, yn bwrw ofn heibio, yn magu defosiwn, yn tynnu dagrau i redeg.

Beth ydwyfi hebddo ef, ond cyff pwdr, a bonyn crîn i'w fwrw ym­maith?

[Page 344]Dy râs di ganhynny, O Arglw­ydd, a'm rhagflaeno i bobamser, ac a'm canlyno, ac a'm gwnelo'n wa­stadol i ymroi ar weithredoedd da. Trwy ein Harglwydd Jesu Christ dy Fâb di.

Amen.

PEN. LVI.
Bod yn rhaid ini ymwadu a'n hu­nain, a dilyn Christ yn dwyn ei groes.

1. FY mâb, y maint yr ai di allan ohonot dyhun, cymmaint a elli fyned i mewn i myfi.

Megis y mae, bod heb chwenny­chu dim oddiallan, yn peri heddwch mawr oddimewn: felly y mae ymw­adu a'i hunan oddimewn, yn cysyll­tu dyn â Duw.

Mi a fynnaf gennyt ddyscu per­ffaith ymwrthod â thi dyhun, yn fy ewyllys i, heb ddim na gwrthddywe­dyd nac achwyn.

Dilyn fyfi, myfi yw'r ffordd, y gwirionedd, a'r bywyd: heb y ffordd, [Page 345] nis gellir myned; heb y gwirionedd, nis gellir gwybod; heb y bywyd, nis gellir byw. Myfi yw'r ffordd, a ddylit ei dilyn: y gwirionedd, yn yr hwn y dylit gredu: y bywyd, a ddy­lit ei obeithio.

Myfi yw'r ffordd ar yr hon ni chyfeiliorna neb, y gwirionedd di­dwyll, y bywyd diddiben.

Myfi yw'r ffordd vnionaf, y gwiri­onedd goruchaf, y bywyd gwîr, y by­wyd gwynfydedig y bywyd digreedic.

Os tydi a erys yn fy ffordd i, ti a gai wybod y gwirionedd, a'r gwi­rionedd a'th weryd di, a thi a ddeui ohyd i'r bywyd tragywyddol.

2. Os mynni di fyned i mewn i'r bywyd, cadw'r gorchymmynion.

Os mynni di wybod y gwirionedd, creda ynofi.

Os mynni di fod yn berffaith, gwerth y cwbl.

Os mynni di fod yn ddiscybl imi, ymwada â thi dyhun.

Os mynni di feddiannu'r bywyd dedwyddlawn, dibrisia'r bywyd pre­sennol.

[Page 346]Os mynni di gael dy ddyrchafu yn y Nêf, dibrisia dyhun ar y ddae­ar.

Os mynni di deyrnasu gyda myfi, dwg dy groes gyda myfi.

Oblegid gweision y groes yn vnic, sy'n cael y flordd i'r dedwyddwch a'r gwîr oleuni.

3. O Arglwydd Jesu! oherwydd mai cyfwng yw ffordd dy fuchedd di, a dibris gan y byd, dyro imi trwy ddiystyru'r byd dy ddilyn di.

Oblegid nid mwy yw'r gwâs na'i Arglwydd, ac nid vwch yw'r di­scybl na'i athro.

Ymarferer dy wâs yn dy fuchedd di, oherwydd yno y mae iachaw­dwriaeth a gwîr sancteiddrwydd i'm henaid i.

Bethbynnac y ddarllennwyf neu a glywyf yn amgenach, ni wna na diddanwch, na difyrrwch cyflawn imi.

4. Fy mâb, gan dy fod yn gwy­bod, a gwedi darllain dy pethau hyn igyd; dedwydd y fyddi, os ty­di a'i cyflawni hwynt.

[Page 347]Y neb sy gantho fyn-gorchymmy­nion i, ac sy'n eu cadw hwynt: efe yw'r hwn sy'n fyn-gharu i: a min­nau a'i caraf yntau, ac a amlyccaf fyhun iddo ef: ac a wnaf iddo gyd­eistedd â myfi yn nheyrnas fy Nhâd.

5. Arglwydd Jesu, megis y dywe­daist ac yr addewaist, felly hefyd bydded: a dyro imi ras i haeddu hynny.

Cymmerais, cymmerais y Groes o'th law di: mi a'i dygaf hi, ac mi a'i dygaf hi hyd at angeu, megis y gosodaist hi arnafi.

Yn wîr ddiau, Croes yw buchedd Monach daionus, a dyn gwîr-grefy­ddol: a hi a'n blaena ni'n ddiogel i'r Paradwys nefol.

Dechreuwyd eisoes, ac nid yw'n rhydd cilio ynol, ac ni ddylid gadael y gwaith sy wedi ei ddechreu.

6. Iddo frodyr, awn ynghyd rha­gom, yr Jesu y fydd gyda ni.

Ermwyn yr Jesu y cymmerasom y Groes hon: ermwyn yr Jesu par­hewn tani hi.

[Page 348]Efe y fydd ein cymmhorthwywr, yr hwn yw ein twysog a'n blaenor.

Wele, ein Brenin yn myned o'n blaen, yr hwn a ymladd trostom.

Canlynnwn yn wrol, na ofned neb ddychryndodau: byddwn yn ba­rod i farw'n lew ac yn ddewrwych yn y rhyfel: ac na adewn y drygair ar ein gogoniant, o ddarfod ini ffo oddiwrth ein Croes.

PEN. LVII.
Na ddylai dyn fod yn rhy ddigalon wedi iddo gwympo i ryw fai.

1. FY mâb, mae dioddefgarwch a gostyngeiddrwydd mewn ad­syd yn rhyngu bodd imi yn fwy, na llawer o ddiddanwch a defosiwn mewn gwynfyd.

Pam y mae'r peth bychan a ddy­wedwyd yn dy erbyn yn peri trist­wch a blinder arnat?

Pettasai'r peth yn fwy, ni ddyla­siti mor cythryblu o'i herwydd.

Eithr ynawr, gad iddo fyned [Page 349] heibio; nid y cyntaf ydyw, na dim o newydd: ac nid y diweddaf y fydd, os tydi y fyddi hîr yn fyw.

Digon gwrol ydwyt, pan nis di­gwyddo dim gwrthwyneb.

Da hefyd y medri di â geiriau gynghori, a chalonni rhai eraill; ond pan ddelo trallod disymmwth wrth dy ddrws di dyhun, mae dy gyngor a'th nerth igyd yn methu.

Ystyria dy wendid mawr, yr hwn wyt yn ei brofi'n fynych ar achosion bychain: ac etto er dy iachawdw­riaeth di y mae hynny'n bod, pan fo y rhain a'r cyffelyb yn digwydd.

2. Bwrw hyn, y modd goreu y gelli, allan o'th galon; ac os darfu iddo wrth dy gyfarfod, dy bigo'n dôst, erhynny na âd iddo dy ddi­galonni di, na'th flino'n chwaith hir.

O'r hyn lleiaf, cymmer y peth yn ddioddefgar, onis gelli di'yn hyfryd lawen.

Er nad wyt yn clywed hynny o'th fodd, a bod cynnwrf digofaint ynot: etto attal dyhunan, ac na âd i ddim [Page 350] annrhefnus fyned allan o'th enau, yr hyn a ddichon scandalizo y rhai by­chain.

Buan y gostwng y cynnwrf a go­dwyd, ac â grâs yn dychwelyd y do­lur sydd oddimewn a wnair yn es­mwyth.

Etto, fel yr wyfi'n byw (medd ein Harglwydd) yr wyfi'n barod i'th gymmhorth di, ac i'th ddiddanu'n chwaneg nac y fu'n gynnefin: os tydi a ymddiriedi ynofi, gan alw arnaf yn ddefosionol.

3. Bydd ddioddefgarach, ac ym­baratoa dyhun i ddioddef mwy.

Nid yw'r cwbl wedi ei golli, er dy fod yn clywed dyhun yn fynych mewn gofid, neu yn rhyw flinedd gorthrwm.

Dyn ydwyti, ac nid Duw; cnawd ydwyt ac nid Angel.

Pafodd y gelli di barhâu bobam­ser yn yr vnrhyw stâd o rinwedd, gan ddarfod i Angel syrthio'n y Nêf, a'r dyn cyntaf ym Mharadwys?

Myfi yw'r hwn sy'n rhoddi iachu­slawn ddiddanwch i'r galarus: ac yn [Page 351] codi at fy Nuwdod y sawl sy'n cyd­nabod eu gwendid euhun.

4. Arglwydd, bendigedic y fo dy air di, melusach i'm genau i na'r mêl a'r dîl.

Pabeth a wnawni mewn cym­maint cyfyngderau a gofidiau'n pwy­so arnaf: oni bai dy fod ti a'th lefe­rydd ac a'th ymddiddanion sanctaidd yn fyn-ghomfforddi?

Trwy ddyfod ohonof o'r diwedd i borth iachawdwriaeth ac i'r gwyn­fyd tragywyddol, pawaeth pabeth neu pafaint bethau y fo rhaid imi eu dioddef?

Dyro ddiwedd da: dyro fyned dedwydd allan o'r byd ymma:

Meddwl amdanafi, O fy Nuw! a chyfarwydda fi arhyd y ffordd vnion i'th deyrnas di.

Amen.

PEN. LVIII.
Na ddylid chwilio matterion goru­chel, na dirgel farnedigaethau Duw.

1. FY mâb, gochel ymddadleu am faterion goruchel, ac am ddir­gel farnedigaethau Duw: paham y gadawyd hwn accw, ac y cymme­rwyd hwn ymma i gymmaint grâs a ffafor: paham hefyd y gofidir hwn mor ddirfawr, ac y dyrchafir y llall mor ragorol.

Mae'r pethau hyn tuhwnt i bob dyalltwriaeth a synwyr dynion; ac i ymchwilio barnedigaethau Duw, nid oes dim na rheswm yn abl, nac ym­ddadleu.

Amhynny pan fo'r gelyn yn bw­rw'r pethau hyn i'th feddwl di, neu ryw ddynion rhodresgar yn ymorol gennyt amdanynt, atteb hwynt gy­da'r Prophwyd: Cyfion ydwyti, O Arglwydd, a chywir yw dy farnau di, Psal. 118. 137.

[Page 353]A hyn ymma hefyd: Barnedi­gaethau ein Harglwydd sy wedi cy­fiowni ynddynt euhun, Psal. 18. 10.

Fy marnedigaethau i sydd i'w hof­ni, ac nid i'w chwilio, am nad yw dyall dyn yn abl i'w hamgyffred hw­ynt.

2. Paid hefyd ac ymofyn, neu ymddadleu am haeddedigaethau'r Sainct: pa vn sy fwy sanctaidd na'r lleill, nen pa vn sydd vwch yn nheyr­nas y Nefoedd.

Mae'r cyffelyb ymadroddion, yn fynych yn peri cynnenau diles, ac ymryson: a mae'n hwy hefyd yn magu balchder a gwagfôst: o'rhai y mae cenfigennau ac anghytundeb yn tarddu, tra fo'r naill trwy falch­der yn cyfrif y Sanct ymma, a'r llall yn maentumio vnarall yn well ac yn fwy.

Ac nid yw chwilio a gwybod y pethau cyffelyb yn gwneuthur dim llês, ond yn hyttrach yn anfodloni'r Sainct: oblegid nad Duw o anghy­tundeb ydwyfi, ond o heddwch: yr hwn heddwch sy'n sefyll ar wîr ostyn­geiddrwydd [Page 354] yn hyttrach nac ar fawr­hâu einhunain.

3. Rhai a dynnir â zêl o helaethach cariad i hoffi'r Sainct hyn yn fwy na'r rhai eraill: eithr o ddyn y mae'r cariad hwnnw'n hyttrach nac o Dduw.

Myfi yw'r hwn a greais pob vn o'r Sainct: myfi a rois râs: myfi a ro­ddais ogoniant iddynt.

Myfi a wn haeddedigaethau pob vn ohonynt: myfi a'i rhagflaenais hwynt â bendithion fy melusrw­ydd i.

Myfi a ragwybuum fy anwyl ga­redigion ers cyn holl oesoedd: myfi a'i dewisais hwynt o'r byd, ac nid hwynt hwy a'm dewisasant fi.

Myfi a'i gelwais hwynt â grâs: a'i tynnais hwynt â thrugaredd: myfi a'i harweinais hwynt trwy amryw brofedigaethau.

Myfi a dywalltais iddynt gyssurau mowrwych: myfi a roddais barhâu iddynt: myfi a goronais eu dioddef­garwch hwynt.

4. Myfi a adwaen y cyntaf a'r [Page 355] diweddaf ohonynt: myfi wyf yn eu cofleidio hwynt igyd a chariad gwerthfawr anfeidrol.

Myfi ydwyf i'm moliannu'n fy holl Sainct: myfi wyf goruwch pob peth i'm bendithio ac i'm hanrhyde­ddu ymmhob vn ohonynt: y rhai a ddarfu imi eu dyrchafu i gymmaint gogoniant, ac a'i rhagordeiniais i hynny heb ddim haeddiant ohonynt euhun yn myned o'r blaen.

Pwybynnac ganhynny a ddiystyro ryw vn o'm rhai lleiaf i, nid yw hwnnw'n anrhydeddu'r mwyaf: ca­nys myfi yw'r hwn a wneuthum y bychan a'r mawr.

A'r neb a ddibrisio ryw vn o'm Sainct i, a'm dibrisia innau hefyd, a'r lleill igyd sy'n nheyrnas y Nêf.

Mae'n hwy igyd yn vn trwy rwym cariad perffaith: mae'r vn meddwl a'r vn mynnu ganthynt; a mae'n hwy'n caru eugilydd a'r vn rhwym Cariad.

5. Ac etto (yr hyn sy lawer vwch) mwy y carant hwy fyfi, na hwy eu­hun, a'i haeddedigaethau euhunain.

[Page 356]Canys gwedi eu cippio goruwch euhunain, a gwedi eu tynnu allan o'i cariad priodol euhun, mae'n hwy igyd yn myned rhagddynt i'm caru fi, yn yr hwn y mae'n hwy'n gor­phwys, ac yn meddu gogoniant tra­gywyddol.

Nid oes dim a ddichon iddynt droi ynol, na'i gwasgu i lawr : oble­nid gan eu bod hwy'n llawn o'r Gwi­rionedd tragywyddol, e mae'n hwy'n llosgi â thân o gariad anniffodda­dwy.

Amhynny peidient dynion cnaw­dol ac anifeiliaidd ac ymryson am gyflwr y Sainct, y rhai nis gwyddant ddim ond caru eu difyrrion priodol euhun. Hwy a dynnant ac a ar­ddodant ynol eu phansiau euhun, nid fel y mae'n rhyngu bodd i'r Gwi­rionedd tragywyddol.

6. Mae anwybodaeth yn llawer, yn enwedic yn y sawl, sy heb eu nemmor lewychu, y rhai prin y gwyddant garu rhyw vn a chariad perffaith-ysprydol.

Llawer hefyd a dynnir â serch na­turiol, [Page 357] ac â charedigrwydd dynol i hoffi hwn neu'r llall: ac ynol yr arfer sy ganthynt wrth serchu pethau daearol, felly y mae'n hwy'n me­ddwl am bethau nefol.

Ond mae rhagor anfeidrol rhwng y pethau y mae dynion ammherffaith yn eu meddwl, a'rhai y mae'r sawl sy gwedi eu llewychu'n yr enaid, trwy ddatcuddiad oddiuchod, yn eu can­fod.

7. Gochel ganhynny, fy mâb, rhag ymddadleu yn rodresgar am y pethau hyn, sy'n vchelach na'th ddy­all di: eithr ymboena'n hyttrach ac amcana gael ohonot dy gyfrif ië yn waelaf oll yn nheyrnas Dduw.

A phettai rhyw vn yn gwybod, pa vn o'r Sainct sy'n rhagori ar y lleill mewn sancteiddrwydd, neu pwy sydd i'w gyfrif fwyaf yn nheyr­nas y Nefoedd, pa lês a wnai'r gwy­bodaeth hwnnw iddo ef, oddieithr iddo wrth hynny ostyngeiddio eihu­nan yn yngwydd i, a chodi ifynu i ganmol fwyfwy fy enw i?

Llawer mwy y bodlona ef Dduw, [Page 358] yr hwn a feddylia am liaws a maint yw ei bechodau eihun, ac am anaml­der ei rinweddau, a chyn belled y mae ef oddiwrth berffeiddrwydd y Sainct: na'r neb a ddadleuo am eu mawredd, neu eu bychander hwynt.

Gwell yw â defosionol ymbil, ac â dagrau, gweddio ar y Sainct, ac â meddwl gostyngedic gofyn eu cym­morth: nac â gwâg ymholi chwilio eu cyfrinachau hwynt.

8. Mae'n hwy'n ddigon, ië yn llawn bodlon, pe bai dynion yn me­dru bodloni euhunain, ac attal eu gwâg chwedleua.

Nid ydynt hwy'n gogoneddu am eu haeddiannau euhunain, gan nad ydynt yn pennu dim daioni arnynt euhun, ond y cwbl arnafi: oblegid mai fyfi o'm cariad anfeidrol a ro­ddais y cwbl iddynt hwy.

Mae'n hwy wedi eu llenwi â llaw­enydd mor orllawn, ac â chymmaint cariad ar fy Nuwdod i: fel nad oes dim eisiau gogoniant arnynt: ac nas geill diffyg dedwyddwch fod arnynt hwy.

[Page 359]Mae'r holl Sainct, po vchelach y mae'nt hwy mewn gogoniant, yn o­styngeiddach ynddynt euhun, ac yn nesach attafi, ac yn gareddiccach i myfi.

Ac amhynny y cai di'n scrifenne­dic: Eu bod hwy'n bwrw ar lawr eu Coronau gerbron Duw, ac yn syrthio ar eu hwynebau oflaen yr Oen, ac yn addoli'r hwn sy'n byw dros oesoedd oesoedd, Dat. 4. 10.

9. Mae llawer yn gofyn, pwy yw'r mywaf yn nheyrnas Dduw: y rhai nis gwyddant, y byddant hwy yn deilwng i'w cyfrif ymmysc y rhai lleiaf.

Peth mawr yw bod yn lleiaf yn nheyrnas y Nêf, lle y mae pawb yn fowrion: oblegid mai plant Duw y gelwir hwynt, ac y byddant igyd.

Y lleiaf yno y fydd mawr ymmysg miloedd: a'r pechadur canmlwydd oed y fydd marw.

Canys pan ofynnodd y Discyblion, pwy oedd y mwyaf yn nheyrnas y Nefoedd, dymma'r atteb a gow­sant:

[Page 360] Oddieithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur megis plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas y Nefoedd. Pwybynnac ganhynny a ostyngo eihunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw'r mwyaf yn nheyr­nas y Nefoedd, Mat. 18. 3, 4.

10. Gwae y sawl, ni bo gwiw ganthynt ostyngeiddio euhunain o'i bodd gyda phlant bychain: am nas gedy isel borth y deyrnas nefol iddynt hwy fyned i mewn.

Gwae hefyd y cyfoethogion, y rhai sydd a'i diddanwch ganthynt ymma: oherwydd tra fo'r tlodion yn myned i mewn i deyrnas Dduw, hwynt-hwy a safant allan gan udo.

Llawenhewch y rhai gostyngedic, a gorfoleddwch y rhai tlodion, oble­gid chwychwi piau Teyrnas Dduw: eithr os chwychwi a rodiwch ynol y gwirionedd.

PEN. LIX.
Bod yn rhaid ini osod ar Dduw'n vnic ein gobaith oll a'n hyder.

1. ARglwydd, pabeth yw fy hyder, sy gennyf yn y by­wyd hwn? neu pa gyssur mwyaf sydd imi, o'r cwbl a ellir eu canfod tan y Nêf?

Ond tydi, O fy Arglwydd Dduw, trugareddau'r hwn sydd aneirif.

Ple y bu da imi heboti? neu pa­bryd y gallai fod yn ddrwg imi a' thydi'n bresennol?

Gwell gennyfi fod yn dlawd er dy fwyn di, na bod yn gyfoethog heboti.

Gwell gennyfi bererindotta ar y ddaear gyda thi, na meddiannu'r Nêf heboti. Lle'rwyti, yno y mae'r Nêf: a mae marwolaeth ac Vffern, lle nid ydwyti.

Mae hiraeth arnaf amdanati: ac amhynny rhaid imi gwynofain ac wylofain, a gweddio arnati.

[Page 362]Byrrarhyn-byrra, nis gallaf gy­flawnach ymddiried yn neb a ddi­chon ddwyn cymmorth yn gym­mhwysach imi, nac ynoti fy Nuwi.

Tydi ydwyt fyn-gobaith i, tydi fy ymddiried, tydi wyt fynghyfurwr i, a'r ffyddlonaf oll ymmhob blinde­roedd.

2. Mae pawb yn ceisio'r pethau y fo ar eu llês euhun: tydi'n vnic wyt yn ceisio fy iachawdwriaeth i, a'm proffit ysprydol, ac yn troi pob peth i fod yn dda er fy mwyn i.

Ac er dy fod yn gadael i amryw demptatiwnau a blinderau ddigwydd imi: etto er mwyn llês i myfi yr wyti'n ordeinio hynny igyd, yr hwn a arferi, profi dy anwyl garedigion mewn mîl o foddion.

A mae'n rhaid imi yn y profiad ymma dy garu a'th ganmol di, yn gymmaint a phettiti'n fy llenwi â diddanion nefol.

3. Ganhynny ynoti, O fy Argl­wydd Dduw, y gosodafi fy holl ym­ddiried a'm noddfa: arnati y dodaf fy holl flinderoedd a'm cyfyngderau: [Page 363] am fod y cwbl yn wan ac yn fethi­ant bethbynnac a welaf allan oho­noti.

Oblegid nas gwna llaweroedd o gyfeillion ddim llês, ac nis geill cym­mhorthwywyr cedeirn helpu dim! na doethion gynghorwyr roddi dim atteb llesol: ac nis geill llyfrau y rhai dyscedic ddiddanu: na dim go­lud gwerthfawr wared: nac vn lle dirgel a hyfryd fodloni; oddieithr iti dyhun fod yn bresennol i'm cym­morthwyo, i'm comfforddi, i'm cys­suro, i'm dyscu, ac i'm cadw▪ fi.

4. Canys nad yw'r holl bethau, a dybygir eu bod yn peri esmwythdra a dedwyddwch, heboti ond pûr ddim, ac yn wîrddiau nis gwânt ddim happysrwydd.

Tydi ganhynny yw terfyn pob peth da, goleuni bywyd, a dyfnder doethineb: a gobeithio ynoti go­ruwch y cwbl, yw cadarn gyssur dy weision.

Attati y codaf fyn-golygon: yno­ti y gobeithiaf, O fy Nuw, Tâd y trugareddau.

[Page 364]Bendithia a sancteiddia fy enaid i â bendithion nefol, fel y bytho'n drigfa sanctaidd iti, ac yn Orsedd i'th Ogoniant tragywyddol di: a dyro, nas caffer dim yn nheml dy Vchel­fraint, a ddichon anfoddhau golygon dy Fawredd di.

Ynol maint dy ddaioni, ac ynol amlder dy drugareddau edrych arna­fi a gwrando ar weddi dy weisyn tlawd, yn ddeol ymmhell yn-gwlâd cysgod angeu.

Amddiffyn a chadw enaid dy wâs truan rhwng cynnifer o beryglon by­wyd llygredic: ac a'th râs di'n ei ganlyn, cyfeiria ef arhyd ffordd he­ddwch i wlâd y disgleirdeb tragy­wyddol.

Amen.

Diwedd III Lyfr.

DILYNIAD CHRIST Llyfr IV. Am Sacrament yr Allor.

Cynghoriad defosionol i'r Cymmun sanctaidd. LLEFERYD CHRIST.

DEuwch attafi, pawb ac sy'n flinderog ac yn llwythog, a myfi a'ch esmwythaaf chwi. Medd ein Harglwydd, Mat. 11. 28.
Y Bara a roddafi, yw fyn-ghnawd i, tros fywyd y byd, Joh. 6. 51.
Cymmerwch a bwyttewch, hwn yw fyn-gorph i, yr hwn a ddy­roddir trosoch chwi. Gwnewch hyn er coffa amdanafi, Math. 26. 26.
[Page 366]Y neb sy'n bwytta fyn-ghnawd i, ac yn yfed fyn-gwaed i, sy'n aros ynofi, a minnau ynddo yn­tau, Joh. 6. 56.
Y geiriau a laferais i wrthych chwi, yspryd a bywyd ydynt, John 6. 63.

PENNOD I.
A pha gymmaint anrhydedd y mae'n rhaid derbyn Christ.

LLEFERYDD Y DISCYBL.

1. DYmma dy eiriau di, Chrîst, y Gwirionedd tragywyddol, er na lafarwyd hwynt ar yr vn amser, ac nad ydynt gwedi eu fcrifennu yn yr vn man.

Oblegid ganhynny mai dy eiriau di ydynt, a'i bod yn wîr: mae'n rhaid imi eu derbyn hwynt igyd yn ddiolchgar ac yn ffyddlon.

Dy eiriau di ydynt, a thydi a'i [Page 367] llaferaist hwynt: a'm geiriau innau hefyd ydynt, oblegid iti eu gosod hwynt allan er fy iachawdwriaeth i.

Yn ewyllysgar y derbynnaf hwynt o'th enau di, fel y planner hwynt yn ddyfnach yn fyn-ghalon i.

Mae geiriau o gymmaint hyga­redd, a chyn lawned o gariad a me­lusrwydd, yn fyn-ghyffroi: ond mae fyn-ghamweddau i yn fy nychrynnu, a'm cydwybod aflan yn fyn-gwthio ynol rhag dyfod i dderbyn cym­maint dirgeleddau.

Mae melusrwydd dy eiriau di yn fyn-ghymmell i: ond mae lliaws y meiau i yn fy llwytho'n drwm.

2. Yr wyti'n erchi imi ddyfod at­tati'n hyderus, os mynnaf gael cy­fran gyda thi, a derbyn ymborth an­farwoldeb, os chwennychaf gael by­wyd tragywyddol a gogoniant.

Deuwch attafi (meddi di) chwy­chwi bawb ar sy'n flinderog ac yn lwythog, ac myfi a esmwythaf ar­noch.

O air melusper a mwyn yn-ghlust pechadur! dy fod ti, O fy Arg­lwydd [Page 368] Dduw, yn gwahodd y tlawd a'r anghennoc i dderbyn dy gorph tra sancteiddiol!

Eithr pwy ydwyfi, O Arglwydd, i ryfygu dyfod attati?

Wele nid yw'r Nefoedd yn abl i'th gynnwys di: a thi a ddywedi: Deuwch attafi bawb oll.

3. Pabeth yw meddwl y Mwyn­der tra daionus ymma? a'r gwahodd hwn mor howddgar a hynaws?

Pafodd y beiddiaf ddyfod attati, yr hwn nis gwn ddim daioni ynofy­hun, wrth yr hwn y gallaf ryfygu dyfod?

Pafodd y gallaf dy ddwyn di i'm tŷ i, yr hwn a ddigiais yn fynych dy olwg tirion di?

Mae'r Angelion a'r Archangelion yn dy anrhydeddu▪ mae'r Sainct a'­rhai Cyfion yn dy ofni: a thi a ddy­wedi wrthym: Deuwch attafi bawb oll.

Oni bai dy fod ti'n dywedyd hyn, pwy a gredai ei fod yn wîr?

Ac oni bai dy fod ti'n gorchym­myn, pwy a feiddiai ddyfod attat?

[Page 369]4. Wele, y gwr cyfion Noe a wei­thiodd gan mlynedd i adeiladu'r Arch, fel y gallai ef a rhai o ddyni­on gael eu safio ynddi: a myfi, pa­fodd y paratoaf fyhun mewn vn awr, i gymmeryd ag▪ anrhydedd i mewn ynof Adeiladwr y byd?

Dy wâs mawr di, a'th anwylyd cu Moesen a wnaeth Arch o goed an­lly gredic, ac a'i goreurodd hi igyd trosti ag aur coeth, i ddodi llechau y Gyfraith i'w cadw ynddi: a myfi yr hwn nid wyf ond creadur pwdr, pafodd y beiddiaf mor hawdd dder­byn Gwneuthurwr y Gyfraith a Rho­ddwr bywyd?

Salomon y doethaf o Frenhino­edd Israël, y fu saith mlynedd yn adeiladu Teml fowrwych er moliant i'th Enw di.

A thros wyth niwrnod y cynnali­odd ef Wŷl ei chyssegriad hi: ef a offrymodd fîl o ebyrth heddychol, ac â sain Vdcorn ac â gorfoledd aruthr y gosododd ef Arch y Cyfammod â mawr barch a gwychdra yn y lle a ddarparasid iddi.

[Page 370]A myfi, yr annedwyddaf a'r tlot­taf o ddynion, pafodd y dygaf di mewn i'm tŷ: yr hwn nis medraf dreulio ond prin hanner awr o am­ser yn ddefosionol? a mynnwn pe gallwn dreulio vnwaith yn deilwng agos hanner awr.

5. O fy Nuw i! pafaint a wneu­thont hwy i ryngu bodd iti?

Och, mor fychan yw'r hyn yr wy­fi'n ei wneuthur? mor fyr yw'r am­ser yr wyfi'n ei dreulio, pan fythwyf yn paratoi fyhun i dderbyn y Cym­mun bendigedic?

Anfynych yr wyf yn cwbl gyn­null fy synnhwyrau attaf, i roi fy mryd ar bethau nefol: a llawer anfynychach y byddaf heb ddim trawsdynniad meddwl.

Ac ynddiau yn-gwydd dy san­ctaidd Dduwdod di, ni ddylai vn meddwl anweddaidd ddyfod i'm côf, nac vn creadur gymmeryd gafael y­nof: oherwydd fy mod i ddwyn i'm letty nid rhyw Angel, ond Ar­glwydd yr Angelion.

6. Eithr mae rhagor mawr iawn, [Page 371] rhwng Arch y Cyfammod a'i Relic­ciau, a'th Gorph tra purlan di gyda'i rinweddau annhraethadwy: rhwng yr Offrymmau Cyfreithiol hynny a oeddent yn arwyddo pethau i ddy­fod, ac Aberth dy wîr Gorph di, sy'n hollawl gyflawniad o'r cwbl o'r hên Offrymmau.

7. Paham yntau nad wyfi'n gw­resogi yn fwy ar dy anrhydeddus bre­sennoldeb di?

Paham nad wyfi'n paratoi fyhun â mwy dyfalwch i dderbyn dy san­cteiddiol ddirgeleddion di? gan ddarfod i'r hên Sainct hynny y Pa­triarchiaid a'r Prophwydi, y Brenhi­noedd a'r Twysogion gyda'i pobl dduwiol igyd, ddangos cymmaint o fryd a defosiwn i anrhydeddu Duw?

8. Y Brenin tra duwiol Dafydd, a ddawnsiodd oflaen Arch Dduw a'i holl nerth, gan goffa y cymmwy­nasau a wneuthid gynt i'r Tadau: ef a wnaeth offer Cerdd o amryw fath: ef a osodod allan Psalmau, ac o ordeiniodd ganiadau â mawr lawe­nydd: ef a ganodd hefyd ar y De­lyn [Page 372] yn fynych wedi ei ymysprydoli â grâs yr Yspryd Glân: ef a ddyscodd bobl Israel a'i holl galon i foliannu Duw, ac â llais genau cysson i'w bre­gethu a'i fendithio ef bob dydd.

Ac os bu cymmaint defosiwn y prydhynny, ac ymgoffa am foliannu Duw, oflaen Arch y Cyfammod; pafaint anrhydedd a defosiwn sy raid imi'rwön, ac i'r holl bobl Christian­ogol wneuthur yn gwydd y Sacra­ment, wrth dderbyn tra rhagorol gorph Christ?

9. Mae llawer yn rhedeg i amryw leoedd, i gael gweled Creiriau a Re­licciau y Sainct ynddynt: a hwy a ry­feddant wrth glywed eu gweithre­doedd hwynt, wrth edrych ar vchel a helaethlawn adeiladau eu Temlau hwynt: ac a gusanant eu sacreiddi­ol esgyrn hwynt, sy wedi eu cryn­hoi mewn aur a sidanau.

Ac wele, tydi wyt ymma'n bre­sennol gyda myfi ar yr Allor fy Nuw i, Sanct y Seinctiau, Creawdwr dy­nion, ac Arglwydd yr Angelion.

I weled y pethau hynny, mynych y [Page 373] bydd rhodresgarwch dynion, a new­ydd-der y pethau i'w canfod, yn ein tynnu ni: eithr ychydic o lês ac o wella buchedd a gair wrthynt, yn enwedic lle bo ysgafn ymredeg heb ddim edifeirwch calon.

Ond ymma yn Sacrament yr A­llor, tydi ydwyt yn gwbl presennol Duw a Dyn Christ Jesu: yn yr hwn hefyd y cair cyflawn ffrwyth iachaw­dwriaeth dragywyddol, cynfynyched bynnac ac y derbynnir di'n deilwng ac yn ddefosionol.

Ac at hwn ymma, nid rhyw anw­adalrwydd, na rhodresgarwch neu gnawdoldeb sydd yn tynnu: ond gwîr ffydd, gobaith defosionol, a glân Gariad perffaith.

10. O Dduw anweledic, Creaw­dwr y byd, mor ryfeddol y gwnai â nyni? mor hyfryd a daionus y tref­naist i'th Etholedigion! i'r sawl yr wyt yn rhoddi dyhun i'th dder­byn yn y sacrament bendigedic ym­ma?

Canys mae hyn vwchben pob dyall dyn: mae hyn ynaned dim yn tyn­nu [Page 374] calonnau y rhai defosionol, ac yn ennynnu eu hewyllysfryd hwynt.

Oblegid eu bod hwy dy wîr ffydd­loniaid di, y rhai sy'n gofalu ar e­mendio eu buchedd oll, yn fynych trwy'r teilyngaf Sacrament ymma yn cael grâs mawr o ddefosiwn, a serch ar rinwedd.

11. O ryfeddol a chuddiedic râs y Sacrament ymma, yr hwn y mae ffyddloniaid Christ yn vnic yn ei ad­nabod: eithr y rhai anffyddlon, ar sawl sy gwedi eu caethiwo mewn pechodau nis gallant glywed dim o­hono.

Yn y Sacrament ymma, y rho­ddir grâs ysprydol, yr adnewyddir yn yr enaid y rhinwedd a gollwyd, a'r tegwch a ddiwynwyd trwy be­chod, a ddaw arno drachefn.

Cymmaint yw'r grâs ymma lawer gwaith, a bod trwy lownder y de­fosiwn, nid yr enaid yn vnic, ond y corph egwan hefyd yn clywed rhoi yngwaneg o nerth a grym iddo.

12. Trîst iawn erhynny, a gala­rus ydyw ein claearedd a'n diofalwch [Page 375] ni, am nad ydym â mwy serch ac awyddfryd yn cyrchu i dderbyn Chrîst: yn yr hwn y mae holl o­baith a haeddiant y sawl sydd i'w sa­fio.

Canys efe yw'n Sancteiddiwr a'n Rhybrynnwr ni: efe yw cyssur Pe­rerin-ddynion a meddiant tragywy­ddol y Sainct.

Peth galarus iawn yntau ydyw, fod llawer heb wneuthur ond by­chan gyfrif o'r Dirgeledd iachuslawn hwn sy'n llawenychu'r Nêf, yn cyn­nal ac yn cadw'r holl Fyd.

Och ar ddallineb a chaledi calon dynion, sy heb wneuthur mwy cy­frif o ddawn mor annhraethadwy; ac wrth ei hymarfer beunydd, sy'n llithro i anystyried amdani.

13. Canys pe ni bai ond vn man ynvnic, lle y gellid cyrchu at y Sa­crament sancteiddlawn ymma; a phe ni bai ond vn Offeiriad ynvnic yn ei gyssegru ef: â phafaint chwant ac awydd (dybygi di) yr ai dy­nion i'r cyfryw fan, ac at y cyfryw Offeiriad Duw, i gael gweled trîn [Page 376] a derbyn y Dirgeleddion duwfawl hyn?

Ond rwön fe a wnaed llaweroedd yn Offeriaid, ac yn llawer man yr offrymmir Christ: fel y byddai ca­riad a grâs Duw tuacat ddynion yn amlyccach, o bafaint mwy y mae'r Cymmun sacraidd wedi ei ledu tros wyneb yr holl Fyd.

Diolchaf iti, O Jesu daionus, y Bugail tragywyddol, yr hwn a dei­lyngaist ein porthi ni dlodion a deol ddynion a'th werthfawr Gorph a Gwaed: ac i dderbyn y Dirgeleddion hyn â lleferydd hefyd dy enau dy­hun, ydwyt yn ein gwahodd ni gan ddywedyd: Deuwch attafi bawb ac sy'n flinderog ac yn lwythog, a my­fi a'ch porthaf chwi.

PEN. II.
Bod Duw yn dangos cariad mawr, ac yn rhoddi daioni anfeidrol i ddyn yn y Sacrament hwn.

LLEFERYDD Y DISCYBL.

1. GAn hyderu ar dy ddaioni a'th drugaredd di, O Arglwydd, yr wyfi'n dyfod yn glâf attati fy Iachawdwr; yn newynog ac yn sy­chedic at Ffynnon y bywyd; yn dlawd at Frenin y Nêf; yn gaeth­was at fy Arglwydd; yn greadur at y Creawdwr: yn flin-ofidus at yn­ghyssurwr trugaroc.

Eithr paham y mae hyn yn bod? sèf dy fod ti'n dyfod attafi? Pwy y­dwyfi, i roddi ohonoti dyhun i myfi?

Pa fodd y beiddia pechadur ddy­fod o'th flaen di? a thydi pa fodd y bydd gwiw gennyt ddyfod at becha­dur?

Ti a wyddost dy wâs, ac a wy­ddost nad oes dim daioni ynddo, am [Page 378] yr hwn y dylit wneuthur hyn ymma iddo.

Rwyfi'n cyffesu ganhynny fyn­gwaeledd fyhun, yn cydnabod dy ddaioni di, yn canmol dy drugaredd, ac yn diolch iti am dy ddirfawr gari­ad.

Canys er dy fwyn dyhun yr wyt yn gwneuthur hyn, nid oherwydd fy haeddiannau i: fel y gallwn i wy­bod dy ddaioni di'n well, fel y tyw­allter cariad helaethach ynofi, ac y gorchymmynner gostyngeiddrwydd perffeithiach imi.

Gan fod hyn yntau yn rhyngu bodd iti, a'th fod ti wedi erchi'r peth, mae bod hyn yn wîw gennyti, yn fy modloni innau: a mynnwn, pe bai fy enwireddau i heb fod yn rwystr i hynny,

2. O Jesu tra hynaws a daionus, pafaint anrhydedd, parch, a diolch gyda moliant tragywyddol sy'n ddy­ledus iti, am ein bod ni'n cael der­byn dy Gorph gwerthfawr di, go­didogrwydd yr hwn nid oes tafod dyn yn abl i'w draethu.

[Page 379]Eithr pabeth a feddyliaf yn y Cymmun ymma, wrth ddyfod at fy Arglwydd, yr hwn nid wyf yn me­dru ei barchu'n deilwng, ac etto yr wyf yn chwennych ei dderbyn yn ddefosionol.

Pa beth gwell a iachusach a fe­ddyliaf, na gostyngeiddio fyhunan yn hollawl ger dy fron di, a dyrcha­fu dy anfeidrol ddaioni di tuac at­tafi?

Mi a'th foliannaf di, O fy Nuw i, a dyrchafaf yn dragywyddol. Dibri­siaf, dirmygaf, a gostyngaf fyhunan hyd at eigion dyfnder fyn-gwaeledd.

3. Wele, tydi yw Sanct y Sainct, a myfi yw budreddi pechaduriaid.

Wele, tydi ydwyt yn gostwng dy­hun attafi, yr hwn nid wyf yn dei­lwng i edrych arnati.

Wele, tydi a ddeui attafi: ti a fynni fod gyda myfi: tydi wyt yn fyn-gwahodd i i'th wledd di.

Tydi a fynni roddi bywyd nefol imi, a bara'r Angelion i'w fwytta: nid amgen'n ddiau na thydi dyhun, y bara byw yr hwn a ddisgynnaist [Page 380] o'r Nêf, ac wyt yn rhoddi bywyd i'r byd.

4. Wele, o ba le y mae caredi­grwydd yn dyfod, pafath deilyng­dod sy'n disgleirio arnom! pa gym­maint diolch a moliant sy'n ddyledus iti am hyn ymma?

O mor iachusol a llesfawr oedd dy fryd a'th feddwl di, pan yr or­deiniaist hyn! mor hyfryd a melus yw'r Wledd yn yr hon y rhoddaist dyhunan yn fwyd imi!

O mor ryfeddol yw dy Weithre­diad di, O Arglwydd, mor alluoc yw dy nerth, mor annhraethadwy dy wirionedd!

Canys tydi a ddywedaist, a gw­naed y cwbl: a hynny a wnaed, a oedditi wedi ei erchi.

5. Peth rhyfeddol a gwîw i'w gredu, ac vwchben pob dyall dyni­on ydyw: dy fod ti, fy Arglwydd Dduw, y gwîr Dduw a Dyn yn dy gynnwys yn gwbl-gyfan tan ychydic o rithiau bara a gwîn, ac heb dy ddifa wrth dy fwytta gan y sawl a'th cymmero.

[Page 381]Tydi, Arglwydd y cwbl, yr hwn nid oes arnat eisiau neb, a fynnaist drwy dy Sacrament drigo ynom ni.

Cadw fyn-ghalon a'm corph yn ddihalog: fel y gallwyf yn fynych drîn a derbyn dy Ddirgeleddau di: a'i cymmeryd hwynt i'm iachawdw­riaeth tragywyddol: y rhai a dref­naist ac a ordeiniaist yn bennaf er anrhydedd iti, ac yn goffa parhaus amdanati.

6. Llawenhâ O fy enaid, a dyro ddiolch i Dduw am ddaioni mor hy­nod, ac am ddiddanwch mor odi­dog, a adawyd iti yn y dyffryn hwn o ddagrau.

Canys cynnifer gwaith ac y by­ddi'n trîn ac yn coffa, neu'n derbyn Corph Christ, ti fyddi cyn fynyched yn cyflawni gwaith dy Rybrynniad, ac yn gwneuthur dyhun yn gyfrannoc o holl haeddiannau Christ.

Oblegid byth nis lleihâ cariad Christ, a byth nis dispyddir maw­redd ei drugareddau ef.

Amhynny mae'n rhaid iti bobam­ser â newydd gywirdeb enaid, bara­toi [Page 382] dyhunan i hyn: ac â dyfal fe­ddwl ystyried dirgeledd mawr dy iachawdwriaeth.

Ti ddylit dybied y peth mor fawr, mor newydd, a mor hyfryd pan fy­ddi yn dywedyd neu'n gwrando'r Offeren, a phebai Christ y dythwn hwnnw'n gyntaf wedi disgyn i groth Mair fendigedic forwyn a'i wneuthur yn ddyn: neu pe bai ef gan ei gro­gi ar y Groes, yn dioddef ac yn marw er iachawdwriaeth dynion.

PEN. III.
Bod yn lesfawr cymmuno'n fynych,

LLEFERYDD Y DISCYBL.

1. WEle, dymma fi'n dyfod at­tati, O fy Arglwydd, fel y bo gwell imi o'th rodd di; ac y llawenycher fi'n dy Wlêdd sanctaidd di, yr hon a baratoaist, O fy Nuw, mewn melusrwydd mawr i'r tlawd.

Wele, ynoti y mae'r cwbl a allaf, ac a ddylwn ei ddymuno: tydi ydw­yt [Page 383] fy iechyd a'm gwared i: fyn-go­baith a'm cadernid, fyn-gwîr deg­wch a'm gogoniant.

Llawenhâ ganhynny heddyw en­aid dy wâs: oblegid attati, O fy Arglwydd Jesu, y codais fy enaid.

Chwennych yr wyfi dy dderbyn di rwön yn ddefosionol, ac yn anrhy­deddus: ewyllysio yr wyf dy ddwyn di i'm tŷ fyhun, fel gyda'r daionus Zachaeus, yr haeddaf gael fy men­dithio gennyti, a'm cyfrifo ymmysg plant Abraham.

Mae fy enaid i'n chwennychu dy Gorph di, a'm calon yn ceisio bod yn vn a thydi.

2. Dyro▪ dyhun imi, a hynny fydd yn ddigon: oblegid heboti, nid oes vn diddanwch a dâl ddim.

Heboti nid wyfi'n gallu bod: ac heb dy ymweled ti nid wyfi'n gallu byw.

Amhynny mynych y mae'n rhaid mi gyrchu attati: a'th gymmeryd yn jachawdwriaeth i'm henaid: rhag [...]sgatfydd imi lewygu.

Canys felly, y trugaroccaf Jesu, [Page 384] gan bregethu wrth y bobl, a chan jachâu amryw glefydau, y dywedaist ar vchapryd: Ni fynnafi eu go­llwng hwynt yn ymprydiol i'w car­tref, rhag iddynt lesmeirio ar y ffordd, Mat. 15. 32.

Gwna dithau felly a myfinnau, yr hwn a adawaist dyhunan yn y Sacra­ment er cyssur i'r ffyddloniaid.

Canys tydi ydwyt felusber ym­borth yr enaid: a'r neb a'th fwyttao di'n deilwng, a gaiff fod yn gyfran­noc, ac yn Etifedd o'r gogoniant tragywyddol.

Angenrheidiol ynddiau, ydyw imi, yr hwn wyf yn llithro ac yn pechu cyn fynyched, yn diffygio ac yn methu cyn gynted, wrth fynych weddio, cyffesu a derbyn dy San­cteiddiol Gorph di newyddu, glan­hâu ac ennynnu fyhunan: rhag ys­gatfydd wrth ymattal yn hwy, imi adael fy mryd a'm bwriad san­ctaidd.

3. Parod i wneuthur drwg yw synhwyrau dyn o'i ieuengtid: ac onis caiff ef y Cymmhorth a'r Me­ddyginiaeth [Page 385] duwfol, ef a lithra yny­man i'r pethau gwaethaf.

Eithr y Cymmun sanctaidd a dynna ddŷn ynol, ac a'i comffordda ef mewn daioni,

Ond fyfi yr hwn ydwyf'rwön yn glaear cyn fynyched ac yn ddiofal, pan fyddwyf yn cymmuno, neu'n trîn y Sacrament bendigedic: pa­beth a fyddwn, pe bawn heb gym­meryd y Rhwymedi hwn tra rhago­rol, ac heb geisio cymmaint Cym­mhorth?

Ac er nad wyf bob dydd yn a­ddas, nac mewn cyflwr digon tref­nus i'w dderbyn ef: erhynny mi a wna fyn-goreu ar amserodd cymme­sur i recefio y Dirgeleddion duwfol, ac i wneuthur fyhun yn gyfrannoc o gymmaint grâs.

Oherwydd y diddanwch hwn yw vn o'rhai pennaf yr enaid ffyddlon▪ tra fo ef mewn corph marwol yn bellenning oddiwrthyti: gan gofio ei Arglwydd Dduw'n fynych, dderbyn ohono ynddo eihun ei Anwyl-gare­dic yn ddefosionol.

[Page 386]4. Oh dy ryfeddol deilyngdod di o'n plegid ni! gan di fod ti, O f' Arglwydd Dduw, Creawdwr a By­wiolwr pob yspryd, yn teilyngu dy­fod at enaid truan tlawd, i besgi ei newyn ef a'r cwbl o'th Dduwdod, ac o'th Ddynoldeb!

O yspryd dedwyddlawn! O enaid happys, y fo'n haeddu derbyn ei Arglwydd Dduw'n ddefosionol: ac wrth ei dderbyn, yn cael ei gy­flowni â llawenydd ysprydol!

O mor vchelfawr yw'r Arglwydd, y mae'n ei gymmeryd! mor hyfryd yw'r Gwestai y mae'n ei lettya, mor lawen yw'r Cyfaill y mae'n ei dder­byn, mor ffyddlon yw'r Anwylyd y mae'n ei groesafu, mor brydweddol yw'r Priodfab y mae'n ei gofleidio, yr hwn sydd i'w serchu oflaen pob care­digion, ac vwchben pob peth dymu­nedic!

Tawent a sôn yn dy wydd di (O fy Arglwydd carediccaf) Nêf a Dae­ar, a'i holl addurnau: canys pa de­gwch bynnac a gogoniant sy gan­thynt, o'deilyngdod dy haelioni di y [Page 387] mae'r cwbl: ac nis cyrhaeddant hyd at dy Enw di, o ddoethineb yr hwn nid oes mor diben.

PEN. IV.
Bod y sawl a gymmuno'n ddefosi­onol yn cael llawer o ddaioni.

LLEFERYDD Y DISCYBL.

1. RHagflaena dy wâs, O fy Arglwydd Dduw, â ben­dithion dy felusrwydd, fel y ga­llo'n ddefosionol ac yn deilwng ddy­fod at dy Sacrament mowrwych di.

Cyffroa fyn-ghalon attati, a gwa­red fi o'r musgrelli trymlyd hwn: ymwêl â myfi yn dy jachawdwri­aeth i brofi'n ysprydol dy felusrwydd di, yr hwn o'r Sacrament ymma, sy negis o ffynnon yn llifo'n fflwch.

Goleua hefyd fy llygaid i ganfod ymmaint Dirgeleddau; ac â ffydd diammeu, nertha fyfi i'w credu.

Canys dy weithred di ydyw'r peth, [...] nid gallu dyn: dy sacreiddlawn [Page 388] ordinhâd di, nid rhyw ddychymmyg dynion.

Amhynny nis gellir cael vndyn y fo'n addas ac yn abl i esponi a dyall y pethau hyn, sy goruwch vchel­fraint yr Angelion.

Pabeth ganhynny a allafi becha­dur annheilwng, sy brîdd a lludw, ei ddeall, neu ei olrhain o vchel gy­frinach cyn ddirgeled?

2. Arglwydd yn symledd fyn­ghalon, yn-gwîr a diogel ffydd, ac ar dy archiad di, yr wyfi'n dyfod at­tat ag anrhydedd ac a gobaith: a'rwyf yn credu dy fod ti, Duw a Dyn ymma'n bresennol yn y Sacra­ment.

Dy ewyllys di ganhynny ydyw, imi dy dderbyn di, ac vno fyhun â thydi mewn cariad perffaith.

Amhynny attolygaf ar dy druga­redd, a'rwyf yn deisyf arnat, roddi ohonot imi râs priodol i hyn: sef, fel y toddaf igyd ynoti, ac y bythw­yf yn orllawn o gariad arnati; ac nas cymmeraf byth mwy gyssur am­genach.

[Page 389]Oherwydd bod y Sacrament hwn tra teilwng ac vchelaf oll, yn iechyd enaid a corph, yn feddyginiaeth pob clefyd a gwendid ysprydol: yn yr hwn y glanheir ein beiau ni, y ffrw­ynir ein drwg-anwydau, y gorchfy­gir neu y lleiheir ein temptasiwnau: a'r hwn y tywalltir mwy grâs ynôm: y rhinwedd a ddechreuwyd a chwa­negir, ffydd a ddiogelir, gobaith a nerthir, a chariad perffaith a ennyn­nir ac a ymledir.

3. Canys llawer o ddaioni a ro­ddaist di, ac a roddi etto'n fynych i'th anwyl-garedigion wrth gym­muno'n ddefosionol, fy Nuw i, No­ddwr fy enaid, Cryfhewr pob gwen­did dynol, a Rhoddwr pob cyssur ysprydol.

Am dy fod ti'n bwrw llawer o ddi­ddanwch ydddynt yn erbyn amryw drallodau a gofidiau, ac yn eu codi hwynt o eigion dyfnder eu digalon­dra euhun, i fod mewn gobaith o gael amddiffyn gennyti: ac â rhyw râs newydd yn eu llawenhâu ac yn eu llewyrchu hwynt, yn y cyfryw [Page 390] fodd, ac y mae'n hwy y oedd o'r­blaen yn drwm-drîst, ac heb ddim defosiwn cyn cymmuno, arol hynny gwedi eu porthi a'r bwyd ac a'r ddiod nefol, yn clywed euhunain gwedi eu newid yn well.

Hyn a wnai di, gan ddosparthu felly i'th etholedigion, fel y cydna­byddant ynddiau, ac y gwybyddant yn eglur, pafaint yw eu gwendid hwy ohonynt euhun, a pha fath ddaioni a grâs y mae'n hwy'n ei gael ohonoti.

Oblegid eu bod hwy ohonynt eu­hunain yn oerllyd, yn drwm ac yn annefosionol: eithr ohonoti mae'n hwy'n haeddu bod yn wresog, yn heinif ac yn ddefosionol.

Canys pwy a â at ffynnon melus­rwydd, ac na ddwg beth melusrw­ydd oddiyno gydag ef?

Neu pwy gan sefyll wrth danllw­yth mawr o dan, na chlyw beth gwrês oddiwrtho?

A thydi wyt ffynnon bobamser yn orllawn, ac yn llifo trosddi: a thân bobamser yn llosgî'n ddibaid.

[Page 391]4. Amhynny onis gallaf gymme­ryd o lownder y ffynnon, nac yfed hyd at gael yn-gwala; erhynny mi a ddodaf fy mîn wrth dwll y bibell nefol; fel y caffwyf o'r hyn lleiaf ddefnyn bychan oddiyno i dorri peth o'm syched, rhâg imi grino'n ho­llawl.

Ac onis gallaf fod igyd yn nefol, nac yn gwbl tanbaid, megis y Che­rubim a'r Seraphim bendigedic: mi a wna fyn-goreu erhynny gan bar­hâu ac erlyn ar ddefosiwn i ddarpa­ru fyn-ghalon, fel y gallwyf wrth ostyngedic dderbyn y bywiol Sacra­ment hwn, glywed tippyn o wrês y danllwyth Dduwfawl.

Ond pabeth bynnac sy'n eisiau ar­naf, cyflawna di hynny'n ddaionus ac yn rasusol, O Jesu bendigedic fy Jachawdwr sancteiddiaf: yr hwn a deilyngaist alw pawb attat, gan ddy­wedyd: Deuwch attafi bawb ac sy'n flinderog, ac yn lwythog, a my­fi a esmwythâf arnoch, Mat. 11. 21. Hynny yw, gan eich porthi a'r bw­yd Duwfol.

[Page 392]5. Ynddiau, yr wyfi'n ymboeni yn chwys fy wyneb, yr wyfi'n flîn o ddolur calon, yn lwythog o becho­dau, yn aflonydd gan demptasiwnau, wedi'm dyrysu mewn llawer o ddrwg anwydau, ac yn cael fyn-gwasgu ganthynt: ac nid oes neb a'm com­ffordda, neb a'm gwareda, nac a'm gwna'n safiedic, ond tydi fy Arglw­ydd Dduw a'm Jachawdwr, i'r hwn yr wyf yn gorchymmyn fyhun, a'r cwbl sydd o'm heiddo, i'm cadw a'm dwyn i fywyd tragywyddol.

Cymmer fi er moliant a gogoni­ant i'th enw di, yr hwn a baratoaist dy Gorph a'th Waed yn fwyd ac yn ddiod imi.

Caniada, O fy Arglwydd Dduw a'm Ceidwad, gyda mynych dderbyn dy Ddirgeleddau, i'm zêl a'm defosi­wn chwanegu tuac attati.

PEN. V.
Am deilyngdod y Sacrament a'r Swydd Offeiriadol.

LLEFERYDD YR ANWYL GAREDIC.

1. PE pai purdeb Angelion gen­nyti, a sancteiddrwyd Sanct Joan Fedyddiwr; erhynny ni fyddi­ti'n deiswng nac i dderbyn, nac i drîn y Sacrament ymma.

Oblegid nad oes dim haeddiant mewn dyn a'i gwna ef yn wíw i gyssegru a thrîn Sacrament Christ, ac i gymmeryd bara'r Angelion yn fwyd iddo.

Mawr yw'r Dirgeledd, a mawr yw swydd yr Offeiriaid: i' rhai y rhoddwyd yr hyn nis caniadwyd i'r Angelion.

Oherwydd mai Offeiriaid ynvnic wedi eu hordeinio'n iawn yn yr E­glwys, sy'n gallu dywedyd Offeren, a chyssegru corph Christ.

[Page 394]Gweinidog Duw yw'r Offeiriad, yn arfer geiriau Duw, trwy ordin­hâd a gorchymmyn Duw: eithr Duw eihun yw'r Awdur pennaf, a'r Gwneuthurwr anweledic: tan yr hwn y mae'r peth bynnac a fynno ef, ac i'r hwn y mae pob peth a ercho'n vfyddhâu.

2. Amhynny ti a ddylit gredu mwy yn Nuw Hollalluoc yn y Sa­crament tra rhagorol ymma, nac i'th synhwyrau dyhun neu i vnrhyw arw­ydd gweledic.

Ag ofn ganhynny, ac â mawr an­rhydedd y mae'n rhaid dyfod at y gwaith ymma.

Disgwyl arnat dyhun, ac ystyria pa weinidogaeth a roddwyd iti wrth arddodiad dwylo'r Escop.

Wele, ti a wnaed yn Offeiriad, ac i ddywedyd Offeren ti a gyssegrwyd: ystyria bellach am offrymmu'n ffy­ddlon Aberth i Dduw, ac am ym­ddwyn dyhun ymmhob lle ac amser yn ddifai.

Ni ddarfu iti ysgafnhâu dy faich: eithr bellach yr wyt yn rhwym â [Page 395] chwlwm caethach i fyw'n rhinwe­ddol, ac yn rhwymedic i fyw mewn mwy perffeithrwydd duwioldeb.

Offeiriad a ddylai fod wedi ei a­ddurno a'i harddu â phob rhinwe­ddau, a rhoi esampl o fuchedd dda i rai eraill.

Ei ymarwedd ef a ddylai fod, nid megis y mae cyffredinol ac arferedic ffyrdd a moddion dynion, ond me­gis y mae ymarwedd yr Angelion yn y nefoedd, neu ddynion perffaith ar'y ddaear:

3. Mae Offeiriad y fo gwedi ei wisgo yn y dillad Cyssegredic, yn lle Christ i weddio ar Dduw'n iselfryd ac yn ostyngedic, trosto eihunan a thros yr holl bobl,

Mae arwydd Croes Christ gantho o'r tublaen iddo ac o'r tuol, i goffa dioddefaint Christ bobamser: o'i flaen mae croes gantho yn ei gasul, fel yr edrycho ar oltraed Christ, ac a'i canlyno ef yn lew ac yn wre­sog.

Mae ef wedi arwyddo â chroes o'r tu ôl, sel y dioddefo'n howdd­gar [Page 396] er mwyn Duw, bob gwrthwy­nebau gan rai eraill.

Mae ef yn dwyn croes o'i flaen i gofio galaru am ei bechodau eihun: mae ef yn dwyn croes o'r tu ôl iddo, i'w goffa trwy dosturio i wylo am drosseddau rhâi eraill: ac fel y gwyppo ei fod ef wedi ei osod yn y canol rhwng Duw a'r pechadur.

Ac na fydded yn hwyrdrwm, ac yn ddiog i weddio, ac i offrymmu 'n sanctaidd, hyd oni haeddo gael grâs a thrugaredd drwy ddymuned.

Pan fo Offeiriad yn dywedyd O­fferen, mae ef yn anrhydeddu Duw: yn llawenhau'r Angelion: yn adei­ladu'r Eglwys: yn cymmorth y rhai byw: yn esmwythâu 'r meirw ffydd­lon, ac yn gwneuthur eihunan yn gyfrannoc o bob daioni.

PEN. VI. Gofyn am exersis oflaen Cymmuno.

LLEFERYDD Y DISCYBL.

1. PAn gofiwyf dy deilyngdod di, a'm gwaeledd fyhun, yr wyf yn dychrynnu'n ddirfawr, ac yn gw­radwyddo ynofyhun.

Oblegid oni ddeuaf attati, mi a giliaf rhag byw: ac os rhuthr af at­tat yn annheilwng, mi a'th ddigiaf di.

Pabeth ganhynny a wnaf, O fy Nuw i, a'm cymmhorthwywr, a'm cynghorwr mewn angenrheidiau?

2. Dysc di imi y ffordd iawn: gosod ti imi ryw exersis byrr cyn­gweddus i'r Cymmun tra bendige­dic.

Canys llesfawr ydyw gwybod, pa­fodd y dylwn yn ddefosionol ac yn anrhydeddus baratoi fyn-ghalon i dderbyn yn fuddiol dy Sacrament di: neu i gyflawni cymmaint a mor dduwfawl Aberth.

PEN. VII.
Am holi ein cydwybod, ac am fw­riadu emendio'n ddifrifol.

LLEFERYDD YR ANWYL GAREDIC.

1. VWchben pob peth y mae'n rhaid i Offeiriad Duw, â mawr ostyngeiddrwydd calon, â syml anrhydedd, ac â llawn ffydd gyda duwiol fryd o barchu Duw, ddyfod i offrwm, i drîn, ac i dder­byn y Sacrament ymma.

Hola dy gydwybod yn ofalus: ac ynol dy allu pura a glanhâ hi â gwir edifeirwch ac â gostyngedic gyffes: yn y modd ac na bo unpeth gorthrwm yn gwasgu arni, neu ddim a wyddost ei fod yn dy ymgnofa, ac yn rhwystro dy ddyfod yn rhwydd attafi.

Bydded yn ddrwg gennyt am dy holl bechodau'n gyffredinol: ac am [Page 399] dy droseddau beunyddol cwyna a galara'n fwy neilltuol.

Ac os caniada'r amser, yn nirgel­wch dy galon cyffesa wrth Dduw holl drueni dy ddrwg anwydau.

2. Cwyna a bydded yn ddrwg gennyt dy fod ti fyth mor gnawdol a bydol: mor anfarwaidd i'th ddrwg anwydau: mor lawn o gyffroadau trachwantau'r cnawd.

Mor anwarchus ar dy synhwyrau oddiallan: mor fynych wedi dy ym­blygu mewn llawer o ffansiau ofer.

Mor fawr yn gogwydd at bethau oddiallan: mor anofalus am y pe­thau sydd oddimewn.

Mor ysgafn i chwerthin ac i afreo­laeth: mor galed i wylo ac i edi­faru.

Mor barod i esmwythdra a rhydd­did y cnawd, mor ddiog i bethau garw a gwrês ysprydol.

Mor guwriows i glywed newy­ddion, ac i weled pethau têg a hyfryd: mor ddigalonnoc i go­fleidio pethau gostyngedic a gwa­el.

[Page 400]Mor chwannog i feddu llawer o bethau, mor gynnil i roddi, ac mor law-gaead i ddal gafael ynddynt.

Mor ddiystyr wrth siarad: mor anwadal i dewi.

Mor anweddaidd yn dy foesau: mor daer a haerllug yn dy weithre­doedd.

Mor awyddus ar fwytta: mor fy­ddar wrth wrando gair Duw.

Mor gyflym i orphwys: mor ddi­og a musgrell i weithio.

Mor wiliadwrus i chwedleua, mor gysgadurus i cadw gwylnos sanctaidd.

Mor ddyfrys i ddiwedd gwasanaeth Duw: mor anwadal i wrando ac ysty­ried ar hynny.

Mor esceulus wrth ddarllain dy Oriau Canonical; mor oerllyd wrth ddywedyd yr Offeren: mor grinsych wrth gymmuno.

Mor chwippyn yn goddef dy dra­wsdynnu: mor anfynych yn cwbl­gynnull dy synnhwyrau attat.

Mor ddisymmwth yn ymollwng i llid a digofaint: mor hawdd i anfo­ddhâu rhai eraill.

[Page 401]Mor barod i farnu: mor dost a llym wrth geryddu.

Mor llawen mewn llwyddiannau: mor wann a methiant mewn gwrth­wynebau.

Mor fynych yn bwriadu llawer o ddaioni, ac heb gyflawni ond nem­mor.

3. Gwedi cyffesu a galaru am y beiau hyn, a rhai eraill gyda gwîr edifeirwch, a mawr ffieidd-dra o'i plegid, gwna bwrpas diogel o wella dy fuchedd bobamser, ac o fyned rhagot well well mewn daioni.

Gwedi hynny â hollawl ymroddi­ad, ac â chyflawn ewyllys offrym­ma dyhunan, er gogoniant i'm henw i, ar allor dy galon yn Aberth wasta­dol imi, sef gan orchymmyn dy gorph a'th enaid yn ffyddlon imi.

Fel y gelli felly haeddu dyfod yn deilwng i offrymmu Aberth i Dduw, ac i dderbyn Sacrament yn-gorph i'n iachusol.

4. Oblegid nad oes offrwm tei­lyngach, nac jawnwaith llownach i ddileu pechodau, na bod dyn yn [Page 402] offrwm eihunan yn burlan ac yn ho­llawl i Dduw, gydag Aberth corph Christ yn yr Offeren a'r Cymmun Sanctaidd.

Os gwna dyn, yr hyn sydd ynddo ef, ac os ef y fydd yn wîr edifeiriol: cynnifer gwaith bynnac y delo attafi i gael maddeuant a grâs: Fel mai byw fi, medd ein Harglwydd, yr hwn nid wyf yn mynnu marwolaeth pecha­dur, ond troi ohono oddiwrth ei ddry­gioni a byw: nis cofiaf mwy ei be­chodau ef, eithr y cwbl a faddeuir iddo, Ezech. 33. 11. Jerem. 31. 34.

PEN. VIII.
Am offrwm Christ ar y groes, ac am ymroddi einhunain iddo ef.

LLEFERYDD YR ANWYL GAREDIC.

1. MEgis y darfu i myfi, a'm dwylo gwedi eu lledu ar y Groes, ac a'm corph yn crogi'n noeth­lummyn, tros dy bechodau di, o'm [Page 403] gwîr fodd, offrwm fyhunan'i Dduw'r Tâd, yn y modd ac nad oedd dim yn aros ynof, nad aeth igyd yn Aberth i ryngu bodd i Dduw:

Felly y dylit tithau o'th wîr fodd offrymmu dyhun yn Aberth burlan sanctaidd imi beunydd yn yr Offeren, gyda▪th holl nerthoedd a'th ewyllys­fryd, yn gymmaint ac y gelli o wae­lod dy galon.

Beth a geisiaf gennyti n hyttrach, nac astudio i'th rhoi dy hun yn ho­llawl imi.

Pabeth bynnac a roddi imi heboti dyhun, nis gwnaf ddim prîs ohono: am nad wyfi'n ceisio dy rodd di, ond tydi dyhun.

2. Megis na byddai ddigon iti gael pob peth hebofi: felly nis geill rhyn­gu bodd i minnau, y peth bynnac a roddi i myfi, oddieithr iti roddi dy­hunan.

Offrymma dyhun imi, a dyro dy­hunan igyd i Dduw, a hynny y fydd yn Offrwm gymmeradwy.

Wele, myfi a offrymmais fyhun igyd i'm Tad trosoti: rhoddais he­fyd [Page 404] yn-gorph a'm gwaed igyd yn ymborth iti, fel y byddwn igyd o'th eiddo di, ac y parhêi dithau o'm heiddo innau.

Ond os tydi a sefi arnat dyhunan, ac nis rhoddi dyhun o'th wîr fodd i'm hewyllys i, ni bydd hynny'n gy­flawn offrwm, ac ni bydd mor cyt­tundeb cyfangwbl rhyngom.

Amhynny boddlawn offrwm oho­not dyhun yn nwylo Duw, a ddylai ragflaenu dy holl weithredoedd di, os tydi a fynni gael rhydd-did a grâs.

Canys oherwydd hynny y mae'n bod, nas gwnair nemmor yn lywy­chedic ac yn rhydd, am nas medrant yn llwyr-gwbl ymwadu a'i hunain.

Diogelwîr yw yn-gair i. Oddi­eithr i neb ohonochwi ymwrthod a'r cwbl a feddo, nis gall ef fod yn Ddiscybl imi, Luc. 14. 33. Tydi ganhynny os mynni fod yn Ddiscybl imi, offrymma dyhunan imi, gyda'th holl ewyllysfryd.

PEN. IX.
Bod yn rhaid ini offrwm einhunain a'r cwbl sy gennym i Dduw, a gweddio dros bawb.

LLEFERYDD Y DISCYBL.

1. TYdi, O Arglwydd, piau'r cwbl ar sydd yn y Nêf ac ar y ddaear.

Rwyfi'n chwennychu offrwm fy­hun yn aberth foddlawn i tydi, a bod o'th eiddo di'n dragywyddol.

Arglwydd, yn symledd yn-ghalon yr offrymmaf fyhun iti heddyw, yn wâs tragywyddol, ac yn aberth o fo­liant bythol.

Cymmer fi gyda'r Offrwm hwn o'th Gorph gwerthfawr di, yr hwn yr wyf heddyw yn ei offrwm iti, yn­gwydd yr Angelion ymma'n anwele­dic yn gweini arnati: fel y bytho'n jachawdwriaeth imi ac i'r holl bobl.

2. Arglwydd, yr wyfi'n offrwm iti fy holl bechodau a'r camweddau, [Page 406] a wneuthum yn dy wydd di, a'th An­gelion sanctaidd, o'r dydd y gellais gyntaf bechu hyd yr awr hon ar dy heddychol allor di, i'w cynneu'n flam danllyd a'i llosgi gennyti: fel y di­leui di holl frychau y mhechodau i, ac y glanhêi yn-ghydwybod o bob enwiredd, ac yr ailroddi imi dy râs, yr hwn a gollais wrth bechu; gan fa­ddeu'r cwbl imi, ac y cymmeri fi'n drugareddus i gusan heddwch â thy­di.

3. Pabeth a allaf wneuthur am fym-mhechodau, ond eu cyffesu hwynt yn ostyngedic, gan edifarhâu o'i plegid, ac attolwg ar dy drugaredd di'n wastadol.

Attolygaf arnat, gwrando fi'n ddaionus, pan fyddwyf yn sefyll ger dy fron di, O fy Nuw i.

Mae'n ddirfawr ddrwg gennyf am fy holl bechodau, nis gwnaf hwynt byth mwy: eithr yr wyfi'n edifarhâu o'i plegid, a mi a edifarhâf tra fyth­wyf fyw, gan fod yn barod i wneu­thur penyd a jawnwaith amdanynt ynol yn-gallu.

[Page 407]Maddeu imi, O Dduw, maddeu imi fym-mhechodau, er dy enw san­ctaidd di: gwared fy enaid a rybryn­naist a'th werthfawr Waed.

Wele yr wyfi'n gorchymmyn fy­hun i'th drugaredd di, yr wyfi'n ymroddi fyhunan i'th ddwylo di.

Gwna â myfi ynol dy ddaioni di, ac nid ynol fy mawr ddrygioni a'm hanwireddau i.

4. Rwyfi'n offrwm hefyd iti fy holl ddaioni, neu'r pethau da a wneu­thum, er nad ydynt ond bychain jawn ac ammherffaith, i'w hemendio a'i sancteiddio gennyti: fel y by­ddant yn hoff ac yn gymmeradwy iti: ac fel y tynni di hwynt i fod bobam­ser yn well well: ac fel yr arweini fi ddynyn diog a diffrwyth i ddiben canmoledic a dedwydd.

5. Rwyfi'n offrwm iti hefyd holl ddymuniadau y rhai defosionol: an­genrheidiau fy Rheini, a'm Ceraint, a'm Brodyr, a'm Chwiorydd, a'm Ca­redigion oll, gyda'r sawl a wneu­thont ddaioni imi, neu i rai eraill er dy fwyn di.

[Page 408]Ac angenrheidiau y sawl a chwen­nychasant, ac a geisiasant gennyfi ddywedyd Gweddiau ac Offerennau trostynt euhunain a thros bawb o'i heiddo hwynt, pavnbynnac y fo ai bod hwy etto yn y cnawd, ai bod ei­soes wedi meirw i'r byd ymma.

Fel y clywant igyd oll fod cym­mhorth dy râs di, cyssur nerthol▪ amddiffyn rhag peryglon, ac ymwa­red o'i poenau, wedi dyfod iddynt: ac fel gwedi eu tynnu o bob drygau, y rhoddant yn llawen ddiolch mow­rwych iti.

6, Offrymmaf hefyd yn neilltuol Weddiau ac Aberthau heddychol iti tros y sawl y fuont achos o ryw ddrwg imi, neu a'm tristasant fi, neu a'm gogonasant, neu a wneu­thant ryw golled neu flinder imi.

Tros y rheini hefyd, y rhai a go­wsant eu tristhâu, eu cythryblu, eu blino, neu'i scandalizo gennyfi â geiriau, â gweithredoedd, yn wybo­dol neu'n anwybodol, fel y maddeui di imi igyd yn gyffelyb ein pechodau a'r camweddau a wneuthom i'w gi­lydd.

[Page 409]Tyn, O Arglwydd, allan o'n ca­lonnau ni bob drwg dyb, llîd, digo­faint ac ymryson, a phob peth a ddi­chon friwo Cariad perffaith, a lleihâu anwylder brawdol.

Trugarhâ, O Arglwydd, trugar­hâ ar y sawl sy'n attolwg am dy dru­garedd di: dyro râs i'r sawl sydd a'i eisiau arnynt: a gwna imi fod yn gyfryw ac yr haeddom feddy dy ràs di, a myned rhagom i fywyd tragy­wyddol.

Amen.

PEN. X.
Na ddylid gadael yn ysg afn y Cym­mun Sanctaidd.

LLEFERYDD YR ANWYL GAREDIC.

1. MYnych y mae'n rhaid iti gyrchu at ffynnon y grâs a'r trugaredd duwfawl: at ffynnon y daioni a'r purdeb cyflawn: fel y gelli gael dy jachâu o'th ddrwg anwydau a'th feiau: a haeddu bod yn gadar­nach [Page 410] ynerbyn pob temptasiwn­au a dichellion y Diawl, a'th wneu­thur yn fwy gwiliadwrus.

Mae'r gelyn gan wybod y llês llawn mawr a'rhwymedi sydd yn y Cymmun sanctaidd, ymmhob modd ac ar bobamser, ac achlysur yn ceisi­o'n gymmaint ac y gallo, tynnu ynol y flyddloniaid a'rhai defosionol, a'i rhwystro hwynt rhag cymmuno.

2. Oblegid pan fo rhyw rai'n pa­ratoi euhunain i dderbyn y Cymmun sanctaidd, hwy a ddioddefant waeth dygyrchau Satan.

Efe yr yspryd melltigedic (megis y mae'n scrifennedic yn Job) a ddaw ymysc plant Duw, i'w cythryblu hwynt a'i ddrygioni arferol; neu i'w gwneuthur hwy'n rhy ofnus, ac yn ammheus: ermwyn lleihâu eu serch a'i defosiwn hwynt: neu â rhyw re­symmau cyfrwys i ddwyn eu ffydd oddiwrthynt: fel y gallo naill ai pe­ri iddynt adael y Cymmun, neu ei dderbyn ef â chlaearedd diffrwyth a diles.

Eithr na fydded dim gwaeth gen­nyt [Page 411] er ei gyffroadau ef a'i ffansiau, er brynted ac er hylled y fythont: ond tro'r cwbl am ei ben ef eihu­nan.

Rhaid ei oganu a'i watwor ef ddi­hiryn annedwydd: ac nid gadael y Cymmun sanctaidd oherwydd y dy­gyrchau a'r cyffroadau y mae ef yn eu codi ynom yn ein herbyn ni.

3. Mynych hefyd y bydd gormod gofal am gael defosiwn yn rhwy­stro dyn, a rhyw ammheuaeth am wneuthur Cyffes yn jawn.

Gwna di, ynol cyngor y rhai dy­scedic a'r doethion, a bwrw ymmaith bob ammheuaeth a scrupul: oherw­ydd eu bod hwy'n llestair grâs Duw, ac yn distrywio defosiwn yr enaid.

Paid a gadael y Cymmun san­ctaidd oblegid rhyw drymder neu gythryfwl bychan: eithr dôs yn fu­an i'th Gyffes, ac o'th wîrfodd ma­ddeu eu beiau i rai eraill.

Ond os tydi a anfoddheaist ryw vnarall, gofyn yn ostyngedic fa­ddeuant gantho: a Duw'n ewyllys­gar a faddeua i tithau.

[Page 412]4. Pa lês a wna oedi Cyffes yn hwyach, a gohirio derbyn y Sacra­ment bendigedic?

Glanhâ dy gydwybod gyda 'rhai cyntaf: chwyda allan y gwenwyn yn fuan, brysia i gymmeryd y rhwyme­di, a thi a gai glywed dyhun yn well, na phettiti'n oedi hynny'n hwy.

Os oherwydd hyn ymma y peidi heddyw, eforu ysgatfydd fe a ddigw­ydd rhywbeth mwy: ac felly ti a gai dy rwystro'n hîr rhag cymmuno, a thi a wnair yn anaddasach i hynny.

Cyn gynted ac y gelli, ysgwyd y trymder a'r diogi ymma oddiwrthyt: oblegid nas gwna mor llês, bod yn hîr yn ammheu, bod yn hîr mewn cythryfwl, ac oherwydd rhwystrau beunyddol bod dyn yn didoli eihu­nan oddiwrth y Sacramentau duw­fawl.

Jë, llawer o ddrwg a wna hîr oedi cymmuno: am fod hynny'n arfer dwyn dyn i fethiant mawr a mus­grelli ysprydol.

Och yfi! mae rhyw rai claearllyd, lledtwymn, diog, a rhydd-didgar yn [Page 413] ceisio o'i gwîr fodd oedi cyffessu a derbyn y Cymmun sanctaidd, rhag iddynt fod yn fwy rhwymedic i ym­gadw euhunain rhag pechu.

5. Gwae fi! mor fychan yw eu cariad hwynt tuacat Dduw, mor wann yw defosiwn y sawl a ddibrisi­ant mor hawdd dderbyn y Cymmun sanctaidd?

Mor ddedwydd y fai'r dyn, ac mor gymmeradwy gerbron Duw, yr hwn y fyddai fyw felly, ac mewn cymmaint purdeb cydwybod, a'i fod ef yn barod, ac mewn ewyllys da i gymmuno bob dydd, pe bai hyn­ny'n rhydd iddo: ac y gallai eu wneuthur heb fod rhai eraill yn cymmeryd notis ohono.

Os rhyw vn a ymarbed weithiau oherwydd gostyngeiddrwydd, neu am fod rhyw achos cyfreithlon yn ei rwystro: mae ef i'w ganmol am y parch y mae'n ei ddangos tuacat y Sacrament.

Ond os syrthni a diogi y fo'n crippian arno, rhaid iddo ysgwyd hynny ymmaith, a gwneuthur yr [Page 414] hyn y fo 'ynddo ef: ac ein Harglw­ydd y fydd gydag ef, i lwyddo ei ewyllys da ef ynol ei ddymuned, yr hyn y mae ef bennaf yn ei ystyried.

6. Eithr pan fo rhwystr cyfreith­lon yn digwydd, bydded ewyllys da gantho, a bryd duwiol i gymmuno: ac felly ni fydd ef heb ffrwyth y Sacrament.

Canys pob dyn defosionol a ddi­chon bob dydd, a phob awr, yn fu­ddiol ac heb rwystr dderbyn Christ yn ysprydol.

Ac erhynny, fe a ddylai ar ryw ddyddiau ac amseroedd pennodol, â serchog anrhydedd dderbyn corph ei Rybrynnwr yn sacrafennol: gan gei­sio moliant a gogoniant Duw, yn hyttrach na chyssur iddo eihunan.

Oherwydd bod dyn yn cymmu­no'n▪ ddirgeleddus, gynnifer gwaith ac y bo ef yn myfyrio'n ddefosionol ar ddirgeleddion Ymgnawdoliaeth a Dioddefaint Christ, ac felly yn en­nynnu eihunan mewn cariad arno ef.

7. Y neb nis paratoa eihun yn amgenach, ond am fod gwyl wedi [Page 415] dyfod, neu o ran bod arfer yn peri, y fydd lawer gwaith yn ammharod.

Gwyneifyd y neb sy'n offrymmu eihun yn Aberth ir Arglwydd, cyn­nifer gwaith ac y bydd ef yn dywe­dyd Offeren, neu 'n cymmuno.

Na fydd yn rhy hîr ar ddywedyd Offeren, nac yn rhy fuan: eithr ca­dw arfer cyffredin y sawl y fo'n byw gyda thi.

Ni ddyliti wneuthur na dygnedd na blinder i rai eraill: ond dilyn y ffordd gynnefin, ynol ordinhâad Pennaethion a gwneuthur llês i rai eraill, yn hyttrach na chyflawni dy ddefosiwn a'th ewyllysfryd dyhun.

PEN. XI.
Bod Corph Christ, a'r Scrythur Lân yn angenrheidiol iawn i'r enaid ffyddlon.

LLEFERYDD Y DISCYBL.

1. O Arglwydd Jesu tra daio­nus! pafaint yw melusder [Page 416] yr enaid defosionol, y fo'n cyfe­ddach â thi yn dy Wlêdd? lle nis gosodir bwyd amgenach iddo i'w fwytta na thydi dyhun, ei vnic anw­yl-garedic ef, dymunedic vwchben pob dymuniadau ei galon?

Ac ynddiau▪ hyfryd y fyddai imi yn dy wydd di ollwng dagrau o ddyfnder serch yn-ghalon, a gyda Mair Magdalen dduwiol, olchi dy draed di â dagrau fy llygaid.

Eithr ple mae'r defosiwn ymma? ple mae helaethlawn ymollwng da­grau sanctaidd?

Ynddiau, yn dy wydd di a'th An­gelion bendigedic, fe a ddylai fy holl galon i losgi, ac o dra llawenydd wylo.

Oblegid dy fod ti'n bresennol gen­nyf yn y Sacrament, er dy fod yn guddiedic tan rithiau amgenach.

2. Canys nis gallai fy llygaid i oddef edrych arnati'n dy rith dyhun, ac yn dy ddisgleirdeb Duwfawl: ac ni allai'r holl fyd sefyll yn llewyrch gogoniant dy Fowredd di.

Yn hyn yntau, yr wyt wedi dar­bod [Page 417] i'm gwendid i, wrth dy fod yn guddiedic tan y Sacrament.

Mae ef yn wîr ddiffugiol gennyfi, ac yrwyf yn ei addoli ef ymma, yr hwn y mae'r Angelion yn ei addoli yn y Nêf: ond myfi erhynny yn y cyfamser ymma, trwy ffydd, eithr hwynt hwy yn ei rith a'i agwedd ei­hun, heb na llenn na gorchudd.

Mae'n rhaid imi fod yn foddlon yn-goleuni y wîr ffydd, a rhodio wrth hwnnw, hyd onis dyddheo dydd y disgleirdeb tragywyddol, ac y machludant cysgodau y ffigurau.

Ond pan ddelo'r hyn sy'n gyflawn berffaith, fe a dderfydd am ymarfer y Sacramentau: oblegid nad oes mor eisiau ar y Gwynfydedic yn y gogo­niant nefol am feddyginiaeth y Sa­cramentau.

Oherwydd eu bod hwy'n wastadol yn llawenhâu yn-gwydd Duw, gan edrych wyneb yn wyneb ar ei Ogo­niant ef: ac wedi eu newid a'i ddis­gleirdeb i ddiscleirdeb y Duwdod anhraethadwy, e mae'n hwy'n profi Gair Duw wedi ei wneuthur yn [Page 418] gnawd, megis y bu ef o'r dechreuad, ac y bydd yn dragywyddol.

3. Gan gofio y rhyfeddodau hyn, blinedd trwm yw pob cyssur imi, ië yr vn ysprydol hefyd: oblegid hyd onis gwelaf fy Arglwydd yn ei ogo­niant, nis cyfrifaf ond yn ddim y cwbl o'r pethau wyf yn eu gweled, ac yn eu clywed yn y byd.

Tŷst imi ydwyti, O Dduw, nad oes vn peth a ddichon fyn-ghyssuro i, nac vn creadur fy llonyddu i, ond tydi fy Nuw i, yr hwn wyf yn chw­ennychu ei ganfod a'i ddarsynnied yn dragywyddol.

Ond ni bydd hynny'n bossibl, tra fyddwyf yn y cnawd marwol ymma.

Amhynny mae'n rhaid imi ym­roddi fyhun ar ddioddefgarwch mawr, a gostwng fyhunan iti ym­mhob dymuned.

Oblegid dy Sainct di hefyd, O Arglwydd, y rhai sy'rwön yn llawe­nychu gyda thi yn nheyrnas y Ne­foedd, tra fuont fyw, oeddent mewn ffydd a mawr ddioddefgarwch yn disgwyl dy Ddyfodiad. Yr hyn a [Page 419] gredasant hwy, a gredaf innau: yr hyn a obeithiasant hwy, a obeithiaf innau: i'r lle yr aethant hwy, rwyf innau'n gobeithio y câf trwy dy râs di fyned.

Mi a rodiaf yn y cyfamser yn ffydd, wedi'm confforddi ag esam­plau'r Sainct.

Mi a gymmeraf lyfrau duwiol he­fyd yn ddiddanwch, ac yn ddrŷch buchedd imi: ac vwchben y rhain igyd dy Gorph tra sancteiddiol di, yn rwymedi imi ac yn amddiffyn godi­doc.

4. Canys mi a welaf fod dau beth yn dra angenrheidiol imi yn y bywyd hwn, heb y rhai ni byddai'r bywyd annedwydd ymma'n ddioddefadwy imi.

Gwedi'm caethiwo yn-gharcar y corph ymma, yr wyf yn cydnabod, fod eisiau arnaf am ddau beth, sef bwyd a goleuni.

Tydi yntau a roddaist imi ddy­nyn truan dy Gorph sanctaidd yn luniaeth i'm henaid a'm corph: ac a osodaist yn oleuni i'm traed, dy Ai [...] di.

[Page 420]Heb y ddau hyn, nis gallwn mor byw'n dda: canys Gair Duw yw go­leuni fy enaid i, a'th Sacrament di yw bara'r bywyd.

Y rhain hefyd a ellir eu galw'n ddwy fordd, gwedi eu gosod ymma ac accw, yn Nhryssordy'r Eglwys lân.

Y naill yw bordd yr Allor fen­digedic, a'r bara sacredic arni: hyn­ny yw gwerthfawr Gorph Christ.

Y llall yw bordd y Gyfraith dduwfawl, yn cynwys athrawiaeth sanctaidd, yn dyscu'r ffydd iawn, ac yn arwain dyn yn ddiogel siccr tu­hwnt i'r lenn orchudd, lle mae Sanct y Seinctiau.

Diolchaf iti, O Arglwydd Jesu, goleuni y goleuni tragywyddol, am fordd y ddysceidiaeth sanctaidd, yr hon a weinidogaist ini trwy dy wei­sion, y Prophwydi, a'r Apostolion a'r Doctoriaid eraill.

5. Diolchwn iti, O Arglwydd Je­su Creawdwr a Rhybrynnwr dynion; [...]wn er mwyn dangos dy gariad [...]d a baratoaist Swpper [Page 421] fawr, yn yr hon y gosodaist, nid yr Oen mysticawl (neu'r dirgeleddus) ond dy dra sanctaidd Gorph a'th Waed dyhun i'w fwytta: gan lawe­nychu'r holl Ffyddloniaid â Gwlêdd sanctaidd, a'i meddwi hwynt â Char­gel jachusol, yn yr hwn y mae holl ddifyrrion Paradwys: a mae'r An­gelion bendigedic yn cydwledda â nyni, ond hwynt-hwy â melusrwydd dedwyddach.

6. Oh pafaint ydyw, ac mor an­rhydeddus yw swydd yr Offeiriaid, i'rhai y rhoddwyd, â geiriau sacraidd gallu cyssegru Arglwydd y Mowredd, ei fendithio a'i gwefusau, ei dda­la'n eu dwylo, a'i weinidogi i'r lleill oll!

O mor [...]ân y dylai fod dwylo, mor bur gena [...] mor sanctaidd corph, mor ddihalog c [...]lon yr Offeiriaid, i mewn i'r hwn y [...]ae Awdur yr holl burdeb yn myned cyn fynyched!

Allan o enau'r Offeiriaid ni ddy­lai dim ddyfod, ond y fo sanctaidd: dim nac adrodd na gar ond y fo go­nest, diwair, a llesol, yr hwn sy [Page 422] gynnifer gwaith yn derbyn Sacrament Christ.

7. Syml a diwair y dylai'r goly­gon fod, sy'n arfer edrych ar Gorph Christ: pûr y dylai'r dwylo fod ac wedi eu codi tua'r Nêf a arferant drîn Creawdwr Nêf a Daear.

Wrth yr Offeiriaid yn neilltuol y dywedir yn y Ddeddf: Byddwch sanctaidd, oherwydd sanctaidd y­dwyfi eich Arglwydd Dduw chwi, Lev. 11. 44, 45.

8. Cymmhorthed ni, Hollalluoc Dduw, dy râs di, fel y gallom ni, y rhai a gymmerasom arnom y swydd Offeiriadol, dy wasanaethu di'n [...]ei­lwng, ac yn ddefosionol ymhob purdeb a chydwybod dda.

Ac onis gallwn fyw mewn cym­maint gwiriondeb buc [...]edd ac y dy­lem: caniada ini erhynny wylo'n gymmesur am y drygau a wnae­thom: ac yn yspryd gostyngeiddrw­ydd, a bwriad ewyllys da, dy wasa­naethu di o hy [...] allan yn wresoc­cach.

PEN. XII.
Bod yn rhaid i'r sawl a gymmuno baratoi einhunain â gofal mawr.

LLEFERYDD YR ANWYL GAREDIC.

1. MYfi ydwyf hoffwr purdeb, a rhoddwr pob sanctei­ddrwydd.

Rwyfi'n ceisio calon bûr, ac yno y mae lle fyn-ghorphwys i.

Paratoa Ystafell-fwytta fawr imi: a myfi a'm Discyblion, a wnaf fym-Mhasc gyda thi.

Os tydi a fynni imi ddyfod attati; bwrw allan yr hên lefein, a glanhâ drigfa dy galon.

Caûa allan y byd igyd, a holl dyr­fa drwg-weithredoedd, eistedda me­gis aderyn y tô ynvnic yn y tô, ac â chwerwedd enaid meddylia am dy droseddau.

Oblegid pob vn y fo'n caru, a ba­ratoa'r lle goreu a'r teccaf i'w anw­yl-garedic: [Page 424] oherwydd mai wrth hyn­ny y cair gwybod ewyllys da y neb a'i derbynno ef.

2. Eithr bydded yspys iti, nas ge­lli wrth haeddiant dy weithred dy­hun gyflowni'n ddigonol y paratoad ymma, perhon a'th fod trwy'r flw­yddyn yn paratoi dyhunan, heb fe­ddwl am ddim arall.

Eithr o'm trugaredd, ac o'm grâs i ynvnic, y caniadir iti ddyfod at y mwrdd i: megis pettit yn galw Car­dottyn i ginio gwr goludoc; ac yn­tau heb ddim gantho i'w ailroddi am y daioni hwnnw, ond gostyngeiddio eihunan, a diolch amdano.

Gwna di yr hyn sydd ynoti, a gwna hynny'n ofalus, nid o ymarfer, nac o angenrhaid: ond ag ofn ac anrhydedd, ac â mawr ewyllysfryd derbyn gorph dy anwyl-garedic Ar­glwydd Dduw yn teilyngu dyfod at­tati.

Myfi a elwais, myfi a erchais, my­fi a gyflawna'r hyn sy'n eisiau ynoti: dyre, a derbyn fi.

3. Pan y rhoddwyf râs defosiwn [Page 425] iti, dyro dithau ddiolch i'th Dduw amdano: nid oherwydd dy fod ti'n deilwng, ond oherwydd ddarfod imi gymmeryd trugaredd arnati.

Onid oes defosiwn gennyt, ond yn hyttrach dy fod yn clywed dyhun yn sych ac yn grîn: parhâ ar weddio, cwyna, cura, ac nas paid hyd onis haeddi gael gronyn neu ddefnyn o râs jachusol.

Mae eisiau arnati amdanafi: nid oes mor eisiau arnafi amdanati.

Ac nid wyfi'n dyfod i'm sanctei­ddio gennyti: eithr yr wyfi'n dyfod i'th sancteiddio ac i'th wellhâu di.

Tydi ydwyt yn dyfod i'th sanctei­ddio gennyfi, ac i'th vno a myfi, i dderbyn grâs newydd, ac i gael dy ennynnu i emendio eilwaith.

Paid a bod yn ddiofal am y grâs ymma: eithr darpara dy galon â phob dyfalwch, a dwg attat dy An­wyl-garedic.

4. A mae'n rhaid iti nid ynvnic â mawr ddefosiwn baratoi dyhun cyn cymmuno: eithr hefyd cadw dyhu­nan yn ofalus ar hynny, wedi der­byn [Page 426] y Sacrament. Oblegid, nad llai a ddylai fod y gwarchad arol, nac oedd y paratoad defosionol o'r blaen▪ Canys gwarchad da a gofalus arol cymmuno, yw'r paratoad goreu i gael mwy grâs wrth gymmuno dra­chefn.

Oblegid hyn a wna ddyn yn am­mharod jawn, sef tywallt ohono ei­hunan ynyman i ddifyrrion bydol.

Gochel siarad llawer, aros yn ddir­gel, a mwynhâ Dduw, oherwydd efe sy gennyt, yr hwn nis gall yr holl fyd ei ddwyn oddiwrthyt.

Myfi yw'r neb, i'r hwn y dylit ymroddi dyhunan igyd: yn y modd ac ohyn allan, nas byddi byw ynot dyhun, ond ynofi heb na gofal na blinder.

PEN. XIII.
Bod yn rhaid i'r enaid defosionol chwennych a'i holl galon vno ei­hun â Christ yn y Sacrament.

LLEFERYDD Y DISCYBL.

1. PWY a rydd imi, O Arglwydd, dy gael di yn vnic; ac ago­ryd yn-ghalon igyd iti, megis y mae fy enaid i'n mynnu: ac na bo neb bellach i edrych arnaf, nac vn crea­dur i'm cynnyrfu, neu i ystyried am­danaf: ond tydi'n vnic i lafaru wr­thyfi; a minnau wrthyt tithau, me­gis yr arfera Anwylyd ymsiarad a'i Anwylyd; a'r Cyfaill ymddiddan a'i Gyfaill.

Hyn a attolygaf, hyn a ddymu­naf, sef cael fy vno igyd â thi; a diddyfnu yn-ghalon oddiwrth bob peth creedic: a dyscu drwy'r Cym­mun sanctaidd, a mynych offrym­mu'r Offeren, cael mwy blâs ar dragywyddol a nefolion bethau.

[Page 428]O fy Arglwydd! pabryd y by­ddaf wedi fy vno â thi'n hollawl, wedi fy llyncu ynoti, a gwedi go­llwng fyhun igyd ynanghof?

Tydi ynofi, a minnau ynotithau; ac felly dyro ini barhâu ynghyd.

2. Ynddiau, tydi ydwyt fy Anwyl­garedic i, a ddewiswyd o fysg mi­loedd: yn yr hwn y rhyngodd bodd i'm henaid i drigo dros holl ddyddiau y mywyd.

Ynddiau, tydi ydwyt fy heddy­chwr i, yn yr hwn y mae'r heddwch pennaf, a'r gwîr orphwys: allan o'r hwn nid oes ond blinfyd a dolur, a thrueni anniben.

Ynddiau, tydi ydwyt Dduw cu­ddiedic, a'th gyngor di nid yw gy­da 'rhai annuwiol, ond gyda rhai gostyngedic, a'r symlion y mae dy ymddiddan di.

O mor hyfryd, Arglwydd, ydyw dy yspryd di? yr hwn ermwyn dan­gos dy felusrwydd i'th blant, a dei­lyngaist eu porthi hwynt a'r bara melusaf yn disgyn o'r Nêf.

Ynddiau, nid oes Cenhedlaeth [Page 429] arall mor honnaid, a'i Duwiau gan­thi'n neshâu atti, megis yr wyti, ein Duw ni, yn neshâu at yr holl ffyddloniaid: i'r sawl yn ddidda­nwch beunyddol, ac i godi eu ca­lonnau hwynt tuar Nêf, y rhoddaist dyhun i'th fwytta a'th gymmeryd ynddynt.

3. Canys pa Genhedlaeth arall sy mor hynod a'r bobl Christiano­gol?

Neu pa greadur arall tan y Nêf sy mor anwyl-garedic a'r enaid de­fosionol, at yr hwn y mae Duw'n dyfod i'w borthi a'i gnawd gogone­ddus.

O Râs annhraethadwy! O Dei­lyngdod rhyfeddol! O'r Cariad an­feidrol a roddwyd yn lwyr vnic i ddynion!

Eithr pabeth a ailroddaf i'm Har­glwydd am y grâs ymma, am ga­riad mor ragorol.

Nid oes dim arall mwy cymme­radwy a allaf ei roddi, na gosod yn­ghalon yn hollawl ar fy Nuw, ac vno fyhun yn holl gwbl ag efe.

[Page 430]Yna y llawenychant fy holl ym­mysgaroedd i, pan fo fy enaid wedi ei gwbl gysylltu â Duw.

Yna y dywaid ef: os tydi a fynni fod gyda myfi, minnau a fynnaf fod gyda thithau. A mi a attebaf iddo: Teilynga di, O Arglwydd, aros gy­da myfi, a minnau'n ewyllysgar a fynnaf fod gyda thithau.

Hyn yw fy holl ddymuned, bod yn-ghalon wedi ei chwbl vno â thi.

PEN. XIV.
Am yr hiraeth mawr sy gan law­er o rai defosionol i dderbyn Corph Christ.

LLEFERYDD Y DISCYBL.

1. O Pafaint yw amlder dy fe­lusrwydd di, Arglwydd, yr hwn a guddiaist i'r sawl a'th of­nant di? Pan fyddwyf yn cofio rhyw rai duwiol yn cyrchu at dy Sacrament di, O Arglwydd, â dir­fawr serch calon ganthynt gyda de­fosiwn, [Page 431] yna y byddaf lawer gwaith yn cywilyddio ac yn gwrido ynof fyhun, am fy mod yn dyfod mor glaearaidd, ac mor oerllyd at dy Allor di a Bwrdd y Cymmun San­cteiddlawn.

Am fy mod yn aros mor grîn ac mor sych, heb ddim gwrês a gwŷn calon: am nad wyf igyd yn fflam­medic yn dy wydd di, fy Nuw i: ac am nas gogwydder, ac nas tyn­ner fi mor fforddrych megis y tyn­nwyd llawer o rai duwiol, y sawl o dra mawr hiraeth am y Cymmun, ac o dra serchol ymglywed calon tuac attati, nid oeddent yn gallu mor arbed rhag wylo.

Ond â genau eu calon yngystal a'i corph, oeddent yn dy chwenny­chu di, O Dduw, y ffynnon fyw, o eithafoedd merion eu henaid, heb allael rheoli eu newyn yn amgenach, na'i digoni euhunain, hyd onis der­bynient dy Gorph di â mawr awydd ac â hyfrydwch yspry­dol.

[Page 432]2. O eu gwîr-wresog ffydd hwynt! arwydd digonol o'th bre­sennoldeb sancteiddiol di.

Canys hwynt hwy a wîr-adnaby­ddant eu Harglwydd, wrth dorri'r bara, calon y sawl sy'n llosgi'n gym­maint, tra fyddi di'n rhodio gyda hwynt.

Mynych y mae'r cyfryw serch a defosiwn, cymmaint cariad a gwrês ymmhell oddiwrthyfi.

Bydd drugaroc wrthyfi, O Jesu daionus, tirion a mwynaidd: a cha­niada i'th gardottyn tlawd glywed yn ei galon, ambell weithiau o'r hyn lleiaf, beth chwant o'th gariad di yn y Cymmun sanctaidd, fel y chwanego 'n fwy fy ffydd i: y cyn­nyddo fyn-gobaith yn dy ddaioni di: ac nas metho cariad ynofi, wedi ei ennynnu'n berffeithlon wrth dder­byn y Manna nefol.

3. A mae dy drugaredd di yn gallu rhoddi hefyd y grâs yr wyf yn chwennych: ac wrth ymweled â myfi'n ddaionus cynneu gwrês ys­prydol ynof, pan fo hynny'n rhyngu bodd iti.

[Page 433]Oblegid er nad wyfi'n llosgi â chymmaint serch a hiraeth ac oedd gan dy ddefosionol weision neilltuol hynny, etto trwy dy ras di, mae gen­nyfi chwant o'r tanbaid serch a hi­raeth mawr hwnnw, gan weddio ac attolwg am gael bod yn gyfrannog gyda'r holl gyfryw garedigion mow­rwresog, a'm cyfrifo'n vn o'i Cyfei­llach sanctaidd hwynt.

PEN. XV.
Mai â gostyngeiddrwydd, ac â bod dyn yn ymwadu a'i hunan y cair grâs defosiwn.

LLEFERYDD YR ANWYL GAREDIC.

1. MAe 'n rhaid iti geisio grâs defosiwn yn daer, ei ddy­muno'n chwannoc, ei ddisgwyl yn oddefgar ac yn foddlon, ei dderbyn yn ddiolchgar, ei gadw'n ostynge­dic, gweithio ag ef yn ddyfal, a gorchymmyn i Dduw'r amser a'r [Page 434] modd o'r ymweled nefol, hyd onis gwelo ef fodd yn dda ddyfod.

Ti a ddylit ostyngeiddio dyhun yn bendifaddeu, pan nas clywi ond by­chan, neu ddim desosiwn ynot, ac nid bod yn rhy ddigalon, na thrist hâu'n anrhesymol.

Llawer gwaith y rhydd Duw yn vn munudyn yr hyn a ddarfu iddo ei neccâu'n hîr amser.

Ef a rydd weithiau ar y diwedd, yr hyn yr oedd yn ei oedi ar dde­chreu'r Weddi.

2. Pe rhoid grâs bobamser yny­man, ac ynol ein mynnu ni, prin y byddai dyn egwan yn abl i'w ddwyn ef.

Amhynny rhaid disgwyl grâs de­fosiwn â gobaith da, ac â dioddef­garwch gostyngedic. Ond bwrw di'r achos arnat dyhun, ac ar dy becho­dau di pan nas rhoddir, neu y tyn­nir ef yn guddiedic oddiwrthyt.

Bychan lawer gwaith yw'r peth a rwystra cael gras; os bychan, ac nid yn hyttrach mawr, y dylid galw'r peth a nada gymmaint o ddaioni.

[Page 435]Ac os tydi a fwri ymmaith y by­chan neu'r mawr ymma, gan ei gwbl orchfygu, fe a fydd iti y peth yr wyt yn ei geisio.

3. Canys cyn gynted ac yr ym­roddi dyhun i Dduw o waelod dy galon, heb geisio na hyn na'r llall, ynol dy fodd neu dy ewyllys dyhun; ond gan fwrw dyhunan yn hollawl arno ef, ti a gai dyhun yn heddy­chol, ac yn vn ag efe: am nad oes dim mor hôff a hyfryd, ac yw, bodd­loni ewyllys Duw.

Pwybynnac ganhynny a gotto ei fryd â chalon burlan tuacat Dduw, gan ddilwytho eihunan o bob cariad annhrefnus, a chan ddibrisio pob peth creedic, y fydd yn gwbl addas i dderbyn dawn o ddefosiwn, ac yn deilwng ohono.

Oblegid bod ein Harglwydd yn arfer tywallt ei fendithion ynvnic yno, lle bo'r llestri'n wâg.

A pho perffeithiach y gwrthodo dyn bethau daearol, ac y bytho marw iddo eihun, gan ddiystyru eihunan cynt o hynny y daw grâs atto, am­lach [Page 436] yr â imewn iddo, ac vchelach y cyfyd ef galon rydd i fod mewn stâd perffeithiach.

4. Yna y caiff ef weled, a'i or­lenwi, a rhyfeddu, a'i galon ef a he­laethir ynddo: am fod llaw ein Har­glwydd gydag ef, a darfod iddo ddodi eihunan yn hollawl yn ei ddw­ylo ef yn dragywyddol. Wele, fel hyn y bendithir y dyn a fo'n ceisio Duw o waelod ei galon, a'r neb nis derbynnodd ei enaid yn ofer.

Dymma'r dyn yr hwn wrth dder­byn y sanctaidd Ewcharist, a hae­dda'r grâs o gael ei vno â Duw: am nad yw ef yn ystyried ei gyssur a'i ddefosiwn neilltuol eihun, ond vwchben pob cyssur a defosiwn, yn hoffi gogoniant ac anrhydedd Duw.

PEN. XVI.
Bod yn rhaid ini ddangos ein han­genrheidiau i Christ a gofyn grâs gantho ef.

LLEFERYDD Y DISCYBL.

1. ODra daionus a charediccaf Arglwydd, yr hwn wyf yn chwennychu rwön ei dderbyn yn ddefosionol, tydi a wyddost yn­gwendid i, a'r angenrhaid sydd ar­naf, mewn pafaint ddrygau a beiau rwyf yn gorwedd, mor fynych yr wyf yn cael fy mlino, a'm temptio, a'm cythryblu, a'm haflonyddu.

Attati rwyfi'n dyfod am rwy­medi: attolygaf arnat, conffordda fi.

At y neb sy'n gwybod pob peth, yr wyf yn llafaru, i'r hwn y mae fy holl gyfrinachau i'n amlwg, a'r hwn ynvnic wyt yn gallu fyn-ghyssuro'n berffaith a'm cymmorth.

[Page 438]Tydi a wyddost pa ddaioni sy'n cisiau arnaf, ac mor dlawd o ys­pryd yr wyf.

2. Wele, rwyfi'n sefyll yn dy wydd di, yn dlawd, ac yn noeth, yn gofyn grâs, ac yn attolwg am diugaredd.

Portha dy gardottyn newynoc, ennynna fy oerni à thân cariad am­danati, llewyrcha fy nallineb a'th ddisglaer bresennoldeb di.

Tro bob peth daearol yn chwer­wedd imi, pob peth blîn a gwrthwy­nebus yn ddioddefgarwch, pob peth creedic a gwael yn ddiystyrwch ac yn dros gôf imi.

Côd fyn-ghalon attati yn y Nêf, ac na âd imi grwydro arhyd y ddae­ar.

Bydd di'n vnic o hyn allan yn fe­lus ac yn hyfryd imi'n dragywydd: canys tydi'n vnic wyt fy mwyd a'm diod i, fyn-ghariad a'm llawenydd i, fy melusrwydd a'm daioni oll.

3. Mynnwn, ped ennynnit fi'n hollawl a'th bresennoldeb, pe llos­git fi, pe newidit si ynnoti; fel trwy [Page 439] râs vndeb oddimewn, a thrwy ym­doddiad gwresoc traserch cariad y gwneler fi yn vn yspryd â thydi.

Na âd imi fyned oddiwrthyti 'n newynoc ac yn sychedic, eithr gw­na'n drugaroc â myfi; megis y gw­neuthost yn fynych a'th Sainct yn rhyfeddol.

Pa ryfedd y fyddai, pettwni igyd yn myned yn danbaid ohonoti, ac yn methu ynofi fyhunan: gan dy fod ti yn dàn bobamser heb ddar­fod byth; yn gariad yn puro ca­lonnau, ac yn llewyrchu synhwy­rau.

PEN. XVII.
Am gariad tanbaid, ac am ewy­llysfryd mowrwresoc i dderbyn Christ.

LLEFERYDD Y DISCYBL.

1. A'R defosiwn mwyaf, a cha­riad fflammedic, ac â holl awyddfryd a gwres yn-ghalon [Page 440] yr wyfi'n chwennychu dy dderbyn di, O Arglwydd, megis y darfu i lawer o'r Sainct a dynion defosionol dy chwennych di, wrth gymmuno, y rhai a ryngasant fodd iti fwyaf me­wn sancteiddrwydd buchedd, a de­fosiwn gwresoc.

O fy Nuw i, a'm Cariad tragy­wyddol, y cwbl o'm daioni, a'm de­dwyddwch annherfynol, rwyfi'n chwennychu dy dderbyn di, a'r ewy­llyschwant mwyaf, ac a'r anrhydedd teilyngaf y fu enrioed, ac a allodd ei glywed ynddo eihun, yr vn o'th Sainct di.

2. Ac er fy mod yn anheilwng i gael yr holl ynglywedau hynny o ddefosiwn; etto er wyf yn offrwm iti y cwbl o awyddfryd yn-ghalon, megis pe bai gennyfi'n vnic yr holl fflammedic chwantau hynny tra cymmeradwy iti.

Jë hefyd a phethbynnac a ddichon enaid defosionolei feddwl a'i ddy­muno, hynny igyd a'r parch mwyaf ac a'r carediccaf awydd-fryd yr wyfi'n ei gynnig a'i offrwm iti.

[Page 441]Nid wyfi'n mynnu cadw dim imi fyhun: eithr yr wyfi o'm gwîr fodd ac o ewyllys yn-ghalon, yn aberthu fyhunan a'r cwbl sy gennyf iti.

O fy Arglwydd Dduw i, a'm Creawdwr, a'm Rhybrynwr, a'r cy­fryw serch ac anrhydedd, a'r cyfryw foliant a gogoniant, a'r cyfryw ddiolchgarwch, teilyngdod a chari­ad, a'r cyfryw ffydd, gobaith a phurdeb, yr wyfi heddyw yn chw­ennych dy dderbyn di, ac y derbyn­nodd di dy sancteiddlawn Fam yr ogoneddus Forwyn Mair; pan i'r Angel yn mynegi dirgeledd dy Ym­gnawdoliaeth wrthi, yr attebodd hi'n ostyngedic ac yn ffyddlon: Wele lawforwyn ein Harglwydd; bydded imi ynol dy air di, Luc. 1. 28.

3. Ac megis y darfu i'th fendigedic Ragflaenwr y godidoccaf o'r Sainct, Joan Fedyddiwr, gan lemmain yn dy wydd di, grychneidio o dra llaw­enydd yn yr Yspryd Glân ac yntau etto yn garcharoc yn ymmysgaroedd ei fam: a gwedi hynny wrth gan­fod [Page 442] yr Jesu'n rhodio ymmysg dyni­on, gan ostyngeiddio eihunan yn llwyr isel, a mawr serch a defosiwn ddywedyd: Cyfaill y Priodfab, yr hwn sy'n sefyll, ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu â llawenydd oherwydd llais y Priodfab, Jo. 3. 29. felly 'rwyf innau'n chwennych â mawr ac â sacreiddlawn ewyllys­chwantau fy fflammychu, a phre­sentio fyhunan iti o waelod yn-gha­lon.

Amhynny rwyfi'n offrwm, ac yn rhoddi iti lawenyddau pob calon ddefosionol, awydd-serchau gwresoc, Vchel ddyrchafaelion enaid, llewyr­chiadau goruchnaturiol, a nefolion ymweliadau gyda'r holl rinweddau a'r moliannau a roed ac a roddir iti gan bob creadur yn y Nêf ac ar y Ddaear, troso syhun, a thros bawb a orchymmynnwyd i'm Gweddi i: fel y molianner di'n deilwng gan bob vn, ac y gogonedder di'n dra­gywyddol.

4. Cymmer ddymuniadau fyn­ghalon, O fy Arglwydd Dduw, a'r [Page 443] ewyllysion o foliannau anfeidrol, ac o fendithion difesur ac anniben sy'n gyfion ddyledus iti ynol amlder dy Fowredd annhraethadwy.

Y rhain y roddaf, ac wyfi'n chw­ennych eu rhoddi iti bob dyddiau a momentau o amseroedd: ac i'w rhoddi gyda myfi, yr wyf à gwe­ddiau ac â llawn serch calon yn gwahodd ac yn attolwg ar yr holl Ysprydion nefol ac ar y ffyddloniaid igyd.

5. Molent di holl bobloedd, a llwythau, a thafodau, ac a'r gorfo­ledd mwyaf gyda'r defosiwn gwre­soccaf mawrygent dy Enw sanctaidd melred di.

A phwybynnac yn anrhydeddus, ac yn ddefosionol a drinant dy Sa­crament tra vchel godidoc, hae­ddent gael grâs a thrugaredd gen­nyti, a gweddient yn ostyngedic drosof innau bechadur truan.

A gwedi iddynt gael eu defosi­wn dymunedic, a'i cyssuro'n llawn dda, a'i porthi 'n rhyfeddol, pan elont oddiwrth dy Fordd sacraidd [Page 444] nefol di, teilyngent gofio amdanaf innau ddynyn tlawd.

PEN. XVIII.
Na ddylai dyn fod yn gwriows chwiliennwr y Sacrament ym­ma, ond gan ddilyn Christ yn ostyngedic, darostwng ei synhwy­rau i'r Ffydd sanctaidd.

LLEFERYDD YR ANWYL GAREDIC.

1. RHaid iti ochelyd rhag cuw­riows a diles chwilienna'r Sacrament tra vchel hwn, oddieithr iti fod yn mynnu suddo a boddi 'n nyfnder amheuaeth.

Y neb y fo chwiliennwr Maw­redd, a lethir â gogoniant. Mae Duw'n gallu gwneuthur mwy, nac a eill dyn ei ddyall.

Goddefadwy yw duwiol a go­styngedic holi y gwirionedd, pan fo'r dyn yn barod bobamser i'w ddyseu, ac yn ceisio rhodio wrth [Page 445] jachysol a diogel ddysceidiaethau'r Tadau sanctaidd.

2. Gwyneifyd y dyn syml y fo'n gadael anodd ffyrdd holiadau ac ym­ryson, ac yn cerdded arhyd wastad a diogel lwybr Gorchymmynnion Duw.

Llaweroedd a gollasant eu de­fosiwn a'i duwioldeb wrth fynnu holi a chwilio pethau vchel.

Ffydd y mae Duw yn ei geisio gennyti, a buchedd burlan, nid vchelder dealltwriaeth, na bod yn gwybod dyfnder Dirgeleddion Duw.

Onid ydwyti'n dyall, nac a'th synwyr yn amgyffred y pethau sy tanoti; pafodd y dyalli, ac yr am­gyffredi y rhai sy goruwch iti?

Dyro dyhunan tan Dduw, a go­styngeiddia dy synwyr i Ffydd, a rhoddir goleuni gwybodaeth iti, fel y bo ar dy lês, ac yn angenrheidiol iti.

3. Mae rhai yn cael eu temptio'n ddirfawr ynghylch Ffydd a'r Sacra­ment: ond ni ddylid bwrw'r bai [Page 446] amhynny arnynt hwy, ond yn hyt­trach ar y gelyn.

Paid a gofalu, paid ac ymresym­mu a'th feddyliau: ac na atteb ddim i'r ammheuon y fo'r Diawl yn eu bwrw ynot: eithr creda i Dduw, creda i'w Sainct ac i'w Brophwydi ef, a'r gelyn drygionus y ffoa oddiwr­thyt.

Da a llessol jawn y fydd lawer gwaith, sod gwasanaethydd Duw yn dioddef y cyfryw bethau.

Canis nid yw ef yn temptio'r an­ffyddloniaid a'r pechaduriaid, y rhai y mae ef eisoes yn eu me­ddu, ac yn eu dala'n ddiogel: ond mewn amryw foddion e mae ef yn temptio'r ffyddloniaid defosio­nol.

4. Dos di rhagot ganhynny â ffydd syml a diammheus, ac â go­styngedic anrhydedd derbyn y ben­digedic Sacrament.

A'r pethbynnac nid wyt yn ei ddyall, gorchymmyn hynny'n ddio­fal i Dduw Hollalluoc.

[Page 447]Ni thwylla Duw di ddim: efe a dwyllir, y fo'n credu gormod iddo eihunan.

Mae Duw'n cerdded gyda'rhai syml, yn datcuddio eihunan i'rhai gostyngedic, yn rhoi deall i'rhai by­chain; yn agoryd synhwyrau y rhai pûr eu calon, ac yn cuddio ei ràs oddiwrth y rhai rhodresgar a'r beil­chion.

Gwan yw dyall dyn, a hawdd y geill ef gael ei dwyllo: eithr ni ddi­chon gwîr Ffydd gael ei sommi.

5. Pob rheswm, ymchwiliad ac ymofyn naturiol a ddylai ddilyn Ffydd, nid ei blaenu hi, a'i gwrth­wynebu.

Canys Ffydd a Chariad sydd ym­ma fwyaf oll yn rhagori, ac yn gw­eithio 'n y sancteiddaf a'r godidoc­caf Sacrament hwn, mewn moddion rhyfeddol.

Mae'r Duw tragywyddol ac an­feidrol, gallu yr hwn sydd yn anni­ben, yn gwneuthur pethau mowri­on ac anchwiliedic yn y Nêf ac ar y Ddaear, ac nid oes mor chwi­lienna [Page 448] ei ryfeddol weithredoedd ef.

Pe bai gweithredoedd Duw o'r cyfryw fath, ac y gallai synwyr dyn eu deall hwynt, ni fyddent hwy i'w galw'n rhyfeddol, ac yn annhrae­thadwy.

DIWEDD.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.