TRYSSOR I'R CYMRU: Sef Llyfr yn Cynnwys; Pregeth Mr Arthur Dent, ynghylch Edifeirwch, o gyfieithiad Mr. Robert Lloyd, gynt Ficcer y Wayn Shir Ddinbych.
Drych i dri mâth o Bobl, sef i'r Anghristion, Rhith-Gristion, a'r Gwir-gristion, o waith Mr. Oliver Thomas, Carwr y Cymru.
Bellach neu Byth, o waith Mr. Richard Baxter, ym mha draethawd y cyfiawnheuir, y cyffurir, y cynhyrfir, ac yr hyfforddir y Sanctaidd, Ddiwyd, Difrifol Gredadyn: A'r Gwrthwynebwyr a'r Esceulyswyr a argyoeddir, drwy oleuni yr Scrythur a Rheswm, gyfieuthiad Mr. Richard Jones, o Ddinbych.
Cor. 1. 21. ‘Fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu, gadw y rhai sy yn credu.’
Brintio yn Llundain gan Thomas Dawks, Printiwr yng-hymraeg i ardderchoccaf Fawrhydi y BRENIN. 1677.
Llythyr at y Darllenydd.
EIN Dyledswydd ni yw gwasanaethu Duw, ac ymegnio i wneuthur Daioni pawb iw gilydd, yn ein lle a'n galwad, tra fo Duw yn rhoddi i ni achlyssur i wneuthur hynny; canys ir Diben hyn ein crewyd ac yn Prynwyd ni.
Ac o herwydd fy môd i'n tybied, fod peth gwasanaeth gwedi wneuthur i Dduw, a derbyn o rai eneidiau yng-Hymru beth llesad oddiwrth rhyw bethau a brintiwyd gynt yn gymraeg; Ni ellwn i lai, gan fod Drws yn agor yn bresennol ir cyfryw waith, nâ bod mewn côst, (cyn belled ac o ddaeutu'r trydydd ran o'r cwbl ac y feddaf) i brintio y llyfran hwn, ac un arall o'r fath, fel y bo i Dduw gael rhagor o ogoniant, ac eneidiau ein cydwladwyr ychwaneg o gyfarwydd-deb ac adailiadaeth, ym matterion eu iechydwriaeth dragwyddol trwyddynt.
Mae amser wedi derfynu i Fywyd Pregethwyr yn gystal ac i fywyd eu Gwrandawyr: A chan fod sŵn marwolaeth yn fy nglustiau i, ac y gwn i y daw'r amser, pan na allwyf na phregethu, na phrintio, nac arfer un [Page] Dalent arall, yn nhir y rhai byw, er gogoniant i Dduw a Daioni i Ddyn, fo'm cynhyrfir [...] bo amser wedi roddi i gyflawni y cyfry [...] orchwylion, i wneuthur Defnydd o hono.
Bydded hyspys i chwi, ddarfod prin [...] y Bregeth hon ynghylch Edifeirwch un wai [...] o'r blaen, agos er ys hanner cant o flynyd [...] oedd, a'r Drychau agos er ys deng-mhlyned [...] ar hugain a aethant heibio. Ac am y Traethawd BELLACH NEU BYTH (No [...] or Never yn saesoneg) yn awr gyntaf y mae' [...] dyfod allan yng Hymraeg.
Darllen yn ddyfal y Bregeth ynghylch Edifeirwch, a'r Drychau sy'n datcuddio pwy sydd wir Gristianogion, a phwy nid ydynt a phrofa dy hunan wrthynt, fel y bo i ti wybod pa un ydwyt, ai edifeiriol ai anediferiol, Gwir-Gristion neu ynteu Rhith-Gristion, neu Ang-Hristion. Ac os anedifeiriol ac anghristion, neu rith-gristion ydwyt, yna ymdrecha i fod yn wir-gristion ac yn wir edifeiriol▪ canys nid oes neb yn cael maddeuant pechodau, a iechydwriaeth iw heneidiau, ond yr edifeiriol, hynny yw y gwir Gristianogion, neu'r pûr ac union eu calonnau, Act. 3. 19. Mat. 5. 8. Psal. 7. 10. Luc. 13. 5. Ac os dy Bechodau fyddant heb eu maddeu, a bod o honot yn golledig, och cynddrwg fydd dy gyflwr ar ôl marwolaeth! Dilys neu siccr yw, os êi di o'r Byd hwn yn ddiedifeiriol, heb ran yn Iesu Crist, mae gwell fuassei, naill ai pe na ddoessit ti erioed ir Byd, neu ynte pes creasit ti yn Gî neu yn Llyffan (yn hyttrach [Page] nag yn Ddyn) pan ddaethost ti iddo: canys pan bo marw Cî neu llyffant, dyna ddiwedd o honynt. Ond och! mae enaid Dyn yn anfarwol; ac y mae'r enaid anedifeirol yn gorfod rhoddi cyfrif i Dduw, ar ôl myned oddi ymma, am y cwbl y wnaeth yn y▪ Bŷd hwn; ac yn gorfod dioddef yn oes oefoedd trwn felldith a digofaint Duw yn uffern, megis Difes annuwiol, heb gael y gronyn lleiaf o orphwysfa na chyssur, cymmaint a dafn o ddwfr, i oeri ei dafod yn y fflam vffernol. Oh meddwl am dragwyddoldeb! ac mae hîr y byddir yn cnoi y tammaid chwerw! Ystyria, a'i peth iw ddewis yw bod yn dragwyddol yn y Pwll diwaelod, yn dragwyddol yn y Tywyllwch eithaf, yn dragwyddol yn y Llyn sy'n llosci a thân a Brwmstan, yn dragwyddol yn y Ffwrn Dan, yn dragwyddol yn y Lle nid yw'r Prŷf yn marw, na'r Tân yn diffodd ynddo? Peth echrydus yw i ddyn gael ei daflu bendramwnwgl i Bwll Tro, neu orwedd blwyddyn mewn carchar tywyll, neu cael dala ei law mewn Tân vn cwarter awr, neu fod ei gorph ef yn cael ei fwytta gan bryfed; ond och! nid yw hyn gymmaint a phigad pin iw gyfflybu i Boenau uffern; canys nid yw y poenau mwyaf yn y byd hwn yn parhau ond tros ychydig o amser, ond y mae poenau uffern yn parhau yn dragwyddol. A pha bryd y bydd▪ diwedd▪ o dragwyddoldeb? a phwy a ddichon rifo blynyddoedd tragwyddoldeb? os gelli di rifo [Page] sêr y nefoedd, tywod y môr, gwlith, gwelltglás a llwch y ddaiar, grô 'r afonydd, a'r mân law pan descynno, yna ti elli rifo blynyddoedd tragwyddoldeb:
Gwybydd hyn yn ddilys, pe cài 'r annuwolion aros yn uffern, ond cyhyd o amser ac y byddei Aderyn bychan yn arllwys y môr mawr, (pe byddei hynny bossibl) trwy ddwyn ymmaith lloneid ei bŷg o ddwfr ar bob pryd, a hynny ond un-waith mewn pob pum-can mlynedd, hwy fyddent happus; canys fe fyddei diwedd ryw-bryd: ond och! och! nid oes diwedd i dragwyddoldeb. Oh gan hynny meddwl yn fynych am dragwyddoldeb! ac ystyria ym mha le y byddi di pan yr elot ti oddi ymma.
Ti wyddost mai Marwolaeth yw ffordd yr holl ddaiar, a bod bagad yn y Bêdd ac a adwaenit ti gynt; gydâ 'r rhai y buost yn cydchwedleua, yn cyd-fwytta, yn cyd-yfed, yn cyd-ffeiria, yn cyd-farchnatta, ac yn cydymddigrifo. Ac fel yr wyt ti ac eraill yn dywedyd am y rheini, eu bod hwy gwedi marw a'u claddu: felly gwybydd, fod yr amser yn dyfod (a Duw a'i gwyr pa mor gynted) yn yr hwn, y dywaid eraill am danat tithe, y mae'r Gŵr hwn a'r Gwr gwedi marw a'i gladdu.
Er bod dy Diroedd yn faith ac yn llawn o gnŵd glanwych, a'th Berllannau yn flrwyth-lawn, a'th Anifeiliaid yn toi 'r mynyddoedd, a'th Dŷ yn llawn; ac nad oes eisiau dim arnat o bethau 'r Byd hwn: Etto [Page] Ti wyddost pan ddêl Angeu, y bydd rhaid i ti adael y cwbl yn dy ôl.
O gan hynny tra fo amser gennit, ymrô â'th oll egni, i droi at Dduw trwy ffydd yn Iesu Grist, gan edifarhau am dy bechodau, ac ymwrthod a hwynt, fel y gallot ti o hyn allan wasanaethu▪ Duw mewn cyfiawnder a sancteiddrwydd, a chasclu siccrwydd oddiwrth hynny, dy fod ti yn Aelod i Grist, ac y bydd ith Awr ddiwethaf di fod dy Awr oreu di, ac y bydd i ti fyned i mewn y pryd hynny i lawenydd dy Arglwydd, a chael diwedd dy flydd, sef iechydwriaeth dy enaid.
Ac fel y bo i ti allel gwneuthur iawn ddefnydd oth amser; gydâ cheisio cymmorth Duw trwy weddi, ym mysc moddion cyfreithlon eraill, darllen yn ddyfal y rhan hynny o'r llyfr hwn, ac a elwir Bellach neu Byth; canys y mae llawer o addysc ac hyfforddiadau ir diben hynny yn gynnwysedig ynddo.
Ond na chamgymmer mor Awdur, pan y mae fo'n pledio cymmaint tros sancteiddrwydd a phobl sanctaidd, ac yn perswadio rhai i fod yn ddyfal ac yn ddiwyd mewn sancteiddrwydd; na chamgymmer meddafi mor Awdwr, fel pet fae ei bwrpas ef, yn vnig trwy hynny, ith dynnu di i ryw Blaid neu Barty.
Darllen y cwbl trosto mewn trefn, ddwy waith tair, ac fe fydd hawdd i ti farnu; nad yw ergyd y cwbl, ac y mae fo yn ei ddywedyd▪ [Page] ond i berswadio pawb o bob party, i fod yn rassol ac yn sanctaidd, fel y bont cadwedig ar y diwedd; canys heb sancteiddrwydd ni chaiff neb weled yr Arglwydd, Heb. 12. 14. Ie nid yw 'r Awdwr yn ceisio ond hyn, sef ar ei bawb fyw yn gyfattebol ir hyn yr ym ni oll yn cyttuno ynddynt; canys yr ym ni oll yn proffessu, Y dyle pob dyn wadu▪ annuwioldeb, a chwantau cnawdol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron. A pheth echrydus yw, oni ddichon pobl ddioddef eu perswadio, i fyw yn ol yr hyn y maent hwy yn cyttuno ac eraill ynddo?
Nid ydys ymma yn dywedyd dim yn erbyn neb o vn rhyw Barty, ond cyn belled ac y mae neb o honynt yn annuwiol, ac yn cassau ac yn dirmygu duwioldeb, a hynny yn erbyn yr hyn y maent hwy yn ei broffessu eu hunain.
Ac am wendid a ffolineb y rhai grassol, yn yr amryw Bartyon y sydd yr awron, nid ydys yn dywedyd ymma cymmaint ac vn gair i hamddiffyn hwy yn hynny.
Mi adewais lythyr Mr. Baxter o flaen y llyfr saesoneg heb ei brintio▪ am ei fod tu hwnt i ddealltwriaeth y cyffredyn Gymru.
Ac i escuso plaender Mr. Dent yn ei bregeth ynghylch edifeirwch clywch beth y mae'n ddywedyd yn ei lythyr o'i blaen hi: na chymmered (ebe efe) neb dramgwydd, ac na thybied yn waeth o honof, na cheisiais ymorchestu i hedeg yn vchel, a gwneuthur gwâg [Page] ffrost o ddoethineb dynol, drwy ddangos allan olwg têg o ddysceidiaeth, a chwythu chwsigen oferedd hyd oni thorrai o ymchwydd; nid hyn yw fy arfer i: Iechydwriaeth y rhai difedr ac anneallus yr wyfi yn ei geisio yn bennaf, ac yn ymorol am dano; ac i gyrhaedd hyn yr wyf yn ymostwng yn issel at eu synwyr hwynt, a'u dealltwriaeth.
Y mae Hanes yffydd wedi ei brintio yn awr y drydydd waith gydag angchwanegiad. Er fod pob rhan o'r llyfr hwnnw yn haeddu ei ddarllen, etto mewn modd enwedigol, mi gynghorwn i chwi ddarllen yn fynych Histori neu Hanes y Merthyron ac y crybwyllir ynddo am danynt, (y rhai a ddioddefasant Angeu tros Grist a'i Efengyl) ac hefyd y rhesymmau pwysfawr sydd ynddo, i brwfio mai Gair Duw yw 'r Scrythyrau.
Y mae llyfr arall yn awr i ddyfod ir wlâd gydag hwn yn dwyn yr enw hyn, sef, Cyfarwyddeb ir Anghyfarwydd, ac y mae yn cynnwys yntho
- 1. Agoriad byrr ar weddi 'r Arglwydd.
- 2 Ymddiddanion rhwng y Carwr ar Cymro.
- 3. Canwyll Grist, yn cynnwys tri o ymddiddanion, y cyntaf, rhwng Crist a'r Publican; yr Ail rhwng Crist a'r Pharisead, A'r trydydd rhwng Crist a'r Credadyn amheus. Os dychrynir di yn yr vn llyfr, ti elli gael cyssur yn y llall.
Y mae y Bibl Cymraeg wedi brintio yn agos i ddiwedd llyfr y Barnwyr: Ni bydd y [Page] cwbl yn barod tan flwyddyn gyfan etto ar y lleiaf: Ond nid hir aros da.
Os derbynni lesad oddiwrth y llyfr hwn, rho 'r clôd i Dduw, ac Felly bydd wych.
Llundain y drydydd dydd ar ddeg o Fis Awst 1677.
OS Duw a rydd iechyd a bywyd, disgwyliwch mewn amser, am ail brintio y Llwybr Hyffordd ir Nefoedd, a Llyfr y Resolusion; y rhai, nid yn vnic er mwyn y matter, ond hefyd er mwyn y iaith tra-rhagorol sydd ynddynt, (ac yn enwedig y diwethaf o'r ddau (o ran iaith) wedi osod allan gan y cymreigwr goreu yng-Hymru, yn ei amser, sef y Doctor Davies) a haeddant eu printio drachefn.
Ac o herwydd nad oes Dictionary cymraeg iw gael yn Llundain am arian, ac fod diffyg o hono, tuagat cyfieuthu llyfrau yng hymraeg, a thuagat cael cyfarwydd-deb i ddeall amryw [Page] eiriau y sydd yn rhai llyfrau cymraeg yn brintiedig, a thrwy ganlyniaeth fod o hono yn anghenrheidiol tuagat helaethu gwybodaeth o Dduw a'i ewyllys, y mae hi yn can-rhowyr i feddwl am ei brintio drachefn, ar gôst y wlâd, fel y mae'r Bibl yn awr yn cael ei brintio. Ac oni egyr Duw galonnau Boneddigion a Gwenidogion y wlâd i fod mewn côst iw ail brintio fe, ni phrintier byth mo hono (mewn pôb tybygoliaeth) mwy nag y printiasit y Bibl heb gymmeryd y cwrs hynny.
Ond pan y dêl y Biblau unwaith ir wlâd, a gweled o bawb, nad oes dim ond Onestrwydd wedi ymddangos yn y cwbl o'r gwaith hwnnw; gobeithio y bydd y pryd hynny glustiau, a chalonnau y Boneddigion a'r Gwenidogion yn agor i wrando, ar yr hyn a gynnigier, ynghylch ail brintio Dictionary Dr. Davies. A chynta pwy a fo byw i gymmeryd y gwaith hwnnw yn llaw, bydded hyspys iddo, fod Gair wedi dyfod allan, fod yscrifen yng Wynedd, o'r hon y cymmerodd y Dr. Lawer o'i D dictionary; a bod dwy fîl o eiriau ynddo, ychwaneg nag y sydd yn ei D dictionary ef yn brintiedig. Ac oh na bae, yn y cyfamser, rai o'r dyscedig yn ein gwlád, yn casclu y geiriau sy yn ein holl lyfrau cymraeg, ac yn enwedig yn y Psalmau cân, y rhai nid ydynt yn y Dictionary, fel y gyllit eu chwanegu atto a'u hegluro pan ei printier nessaf.
Ac am y tŷb a'r phansi sydd gan rai, sef [Page] nad rhaid printio math yn y byd o lyfrau yng-hymraeg, ond y dylei 'r bobl ddyscu saesoneg, a cholli ei cymraeg (Ond o Arglwydd, pa fodd y dichon hynny fod? oni bae gwneuthur o honot ti ryfeddodau) mi ddymunwn arnat ti Ddarlenydd hawddgar, ystyried y gronyn hynny, ac a ddywedir ynghylch y matter hwn, yn y llythyr cyntaf o flaen Gwaith Ficcer Llanddyfri: a barna a ydyw bossibl ddwad a phawb o'n gwlàd i ddeall saesoneg, mewn yspaid llawer cant o flynyddoedd.
Rwy'n attolwg ar y cyfarwydd i gyfarwyddo yr anghyfarwydd, pa fodd i wneuthur defnydd o'r agoriad ar ryw eiriau dyrys, sydd wedi Printio gydag hwn a rhai llyfrau eraill yn ddiweddar. A Gwybyddwch, er fod rhai o'r geiriau a agorir yno, megis y rhain a'r cyfryw, sef, ▪pryssur, profi, llafur, yn gydnabyddus i ni yn Nhehaubarth: etto nid ydynt hwy gydnabyddus yn gyffredinol, yn yr ystyr ar sens hynny, ac yr agorir hwy ynghorph y llyfrau, ac yn yr agoriadau sydd wedi brinto gyda nhw.
Pregeth am Edifeirwch.
AChlyssur y geiriau ymma, y rhai a lefarodd ein Harglwydd a'n achubwr Jesu Grist, a dyfodd o hyn, sef ddyfod o rai atto, a mynegi iddo am y Galileaid, y rhai y cymmyscasai Pilat eu gwaed ynghyd â'u haberthau, nid amgen, ai lladdasai hwynt fel yr oeddynt yn aberthu; ac felly y cymmyscwyd eu gwaed hwynt ynghyd â gwaed yr anifeiliaid a aberthent. Y rhai a fynegasent hyn a dybient fod y Galileaid hynny yn fwy pechaduriaid nâ'r Galileaid eraill, am iddynt ddioddef y cyfryw beth: A bôd y deunaw hynny ar ba rai y syrthiasai y tŵr yn Siloam, ac y lladdasai hwynt, yn fwy pechaduriaid nâ'r rhai oll a breswylient yn Jerusalem. Wrth yr hyn beth y datcuddiasant fâth ar llygredigaeth ddirgel, yr hwn o naturiaeth sydd yn dilyn pôb dŷn, nid amgen, canfod yn grâff pechodau rhai eraill, a'u barnu yn ddi-faddeu, eithr [Page 2] yn y cyfamser coluro eu beiau eu hunain, a bod megis yn ddeillion heb eu gweled.
Canys y gwŷr hyn a dybient, o herwydd na ddigwyddasai iddynt y cyfryw ddrychineb, eu bod yn dda eu helynt, ac nad oeddynt gymmaint pechaduriaid, ond yn hytrach yn fawr eu cymmeriad gyd â Dduw; megis y mae llawer yn camsynnied, mai y rheini yw 'r fâth waethaf ar ddynion, y rhai y mae Duw fynychaf yn eu curo, ac yn eu costwyo â'i law geryddol. Anghofio y maent nad ydyw Duw ymma ar y ddaiar yn cadw trefn anghyfnewidiol, sef, i gospi, pôb dŷn fel y mae efe yn waeth nag eraill, neu iw fawrhau a gwneuthur iddo spleddach fel y mae yn well nag eraill: Eithr yn vnig cymmeryd y mae efe rai siamplau (fel y gwelo yn dda,) iw gosod yn Athrawiaeth, ac yn rhybudd i bawb eraill▪ ac megis drychau y gallo pôb dyn weled ynddynt ei wynepryd ei hun, a'i gyflwr ei hun; a bod Duw yn dial pechod yn dôst; mal wrth esampl rhai y gallo pawb ymogelyd, rhag yscatfydd y perir iddynt hwythau gadw eu cylch, a dwyn eu baich drwy gydnabod beth y maent yn ei haeddu.
Y gwŷr hyn, y rhai a ddygasent y newyddion ymma at ein Achubwr Crist, a ddalient yn dynn yr opiniwn hwnnw. Ac o hyn y mae ein Achubwr yn cymmeryd achlyssur i geryddu eu hamryfusedd, ai camsynnied hwynt, ac i ddyscu iddynt, na ddylent laweny chu wrth weled rhoddi cyfiawn gospedigaeth ar eraill, ond yn hyttrach cymmeryd addysc, [Page 3] a rhybudd oddiwrth hynny i edifarhau am eu pechodau eu hunain.
Hefyd, er mwyn arwyddocau nad ydyw Duw bôb amser yn y byd ymma yn dwyn y dialedd trymmaf ar y pechaduriaid annuwiolaf, megis llofruddion, lladron, yspeilwŷr, puttein-wŷr, cablwŷr, terfysc-wŷr, gwatworwŷr a'r cyffelyb; ond yn eu cadw hwynt i farn y dydd mawr, ac megis yn eu pesci erbyn y dydd lladdfa; am hynny y mae yn atteb iddynt ar wâd, gan ddywedyd, Nad ydynt, neu nid felly, eithr onid edifarhewch, chwi a gollir oll yn yr vn modd. Megis pe dywedasei: A ydych chwi bawb o'r meddwl hwn yn ddiau, mai pechaduriaid dybryd yn vnig a gospir yn y byd ymma, ac y diangc eraill? Neu fod y Galileaid a'r deunaw hynny, ar ba rai y syrthiodd y tŵr yn Siloam yn fwy pechaduriaid nâ phawb eraill? Neu a ydych chwi yn tybied, oblegit na syrthiodd yr vnrhyw ddialedd arnoch chwi, am hynny y cewch ddismwytho ymmaith megis yn y tywyll, a diangc rhag barnedigaethau Duw? Na chewch, na chewch, yr ydych yn camgymmeryd. Canys meddaf i chwi, oddieithr i chwi alaru, ac ymofidio am eich pechodau, a chymmodi â Duw mewn prŷd, chwychwi, ie chwychwi, ie chwychwi meddaf (y rhai ydych mor bryssur i farnu eraill, ac i'ch cyfiawnhau eich hunain) nid yn vnig a ddifethir â'r cyffelyb farnedigaethau yn y byd yma, eithr a gondemnir yn dragywyddol yn y bŷd a ddaw.
[Page 4]Ac felly ein Achubwr wrth ddywedyd hyn sydd yn bygwth barn ofnadwy i ddyfod arnom bawb oll: Canys penderfynu y mae, a chloi ei reswm am bob dŷn byw ar wyneb y ddaiār, (pa vn bynnag ydyw ai uchel ai issel, ai cyfoethog ai tlawd, ieuangc ai hên, bonedig ai gwrêng, dyscedig ai annyscedig, gwirionffôl ai cyfrwysgall, o ba gyflwr, neu râdd, neu fraint bynnag y byddo,) yn byw, ac yn marw yn ddiedifeiriol, y collir hwynt oll, ac y condemnir yn nhân vffern yn dragwyddol. Llawn yw 'r Scrythyrau o'r cyffelyb fygythiadon. Jo. 3. 18. Yr hwn ni chredo a gondemnwyd eusys. ac 2 Cor. 13. 5. Profwch eich hunain a ydych chwi yn y ffydd: holwch eich hunain: onid adwaenoch eich hunain fod Iesu Grist ynoch oddieithr eich bod yn wrthodedig? Lle y mae yr Apostol yn yspysu yn amlwg, nad ŷnt, y sawl oll ar nad ces ganddynt Grist yn aros yn eu calonnau trwy ffydd, yr hon yw chwaer deuluol edifeirwch, nad ŷnt meddaf ddim gwell eu braint nâ dynion anghymmeradwy, gwrthodedig, a damnedig.
Eithr o herwydd bod y rhan-fwyaf yn y dyddiau hyn mewn siommedigaeth dybryd, a chamsynnied gresynol ynghylch edifeirwch, yn gystal eisieu gwir-wybod pa beth ydyw, beth y mae yn ei ddeall; beth y mae yn ei weithio, beth yw ei gynneddfau ai gampau, pa achosion sydd iddo, a pha rwystrau a lluddias sydd arno, ac hefyd paham, pa bryd, ac o [Page] ba herwyd y dylem edifarhau: o'r achos hyn y mae yn fy m [...]ŷd i yr awrhon ddangos
- 1. Pa beth yw edifeirwch.
- 2. Pa rai yw ei gynneddfau ai ffrwyth.
- 3. Pa bryd y dylem edifarhau.
- 4. Pa ham y dylem edifarhau.
- 5. Pa beth sydd yn rhwystro edifarhau:
yr hon drefn, a dull ar athrawiaethu, er nad yw rhai yscatfydd yn fodlon iddi (megis yn ddiau nad wyf fi yn ei mynych arser) etto wrth ystyried y matter sydd gennif yn llaw, nid wyf yn tybied y ffordd hon yn anghymmwys. Eithr at y matter, ac yn gyntaf beth yw edifeirwch, i'r hyn rwi 'n atteb.
Edifeirwch yw tristwch, a galar gwastadol yn y galon, a'r gydwybod oddifewn am bechod, ynghydd a ffydd, a gwellhâd oddi mewn, ac oddi allan. Oddi mewn (meddaf) drwy newidio meddyliau, a nwydau 'r galon; ac oddi allan drwy newidio y geiriau, a'r gweithredoedd o ddrŵg i dda. Dymma 'r edifeirwch yn ddiammeu oedd yn Nafydd; yr hwn pan geryddwyd ef yn gyfrwysgall gan y Prophwyd Nathan, drwy ddangos iddo ei bechodau o flaen ei lygaid, Ni safodd efe yn ystyfnig ar ei wâd, gan ymoryscwyddo a Duw▪ ac nid escusododd hwynt chwaith yn ddirgel drwy eu coluro, ond efe a lefodd yn chwerwder ei galon, Myfi a bechais; Ac 'ar hynny a wnaeth 51 Psalm; Psalm yn ddiau yn llawn galar a thrymder, yn yr hwn y mae 'r Prophwyd yn cwynfan am ei bechodau, ac yn ymofidio tros ei feiau, ac yn gweddio am [Page 6] galon newydd, ac yspryd newydd, meddyliau newyddion, nwydau newyddion, a bwriadau newyddion i wellhau ei fuchedd; felly yn Nafydd nyni a welwn fod tristwch, a gofid gwasta dol (megis ym mhôb man y dengys llyfr y Psalmau, yr hwn ai gesyd ef yn amlwg megis yn ei lun ei hun) ie a diwygiad mawr ar bechodau oddi mewn, ac oddi allan.
Gwelwch ymma gan hynny beth yw edifeirwch. Felly S. Petr, wedi darfod iddo drwy wendid wadu ei Arglwydd ai feistr Crist, pan ei dwysbigwyd gan ei gydwybod ei hun, ac y deffrowyd gan ddiaspod ceiliog yn canu, a aeth allan o lŷs Pilat, â chalon drom, gan wylo yn chwerwdôst, ac byth yn ol hynny a gyffesodd Grist yn gefnog, ie hyd angeu. Gwelwch gan hynny pa beth yw edifeirwch.
Y Prophwydi yn yr hên destament, wrth gynghori yr Iddewon gwrthnyssig i edifarhau, a arferant fynychaf air yn arwyddocau yn yr Hebre-aec, trowch, neu ddychwelwch, a deuwch yn ôl drachefn▪ Wrth yr hon drawsymddwyn neu gyffelybiaeth y deellir; mai megis y mae yn rhaid ir dŷn a gyfeiliorno ym-mhell allan oi ffordd, ddychwelyd yn ôl eilwaith ar hyd ei wrthol: felly y rhai a gyfeiliornasant o ffordd dduwioldeb i ffordd pechod, rhaid iddynt ddychwelyd yn ôl eilwaith cyn gynted ac ▪yr aethent ymlaen, a newidio yn hollawl helynt ac ystod eu buchedd: Felly edifeirwch yw difrifol ddychweliad at Dduw â'r holl galon, enaid, a meddwl.
[Page] Joan Fedyddiwr, a'r Apostolion yn y Testament newydd, wrth annog i edifeirwch, a arferant Roeg-air yn arwyddocau newidio'r meddwl, neu cyfnewid-fryd synhwyrol o'r diwedd; i arddangos fod y rhai a ddarfu iddynt ar y cyntaf trwy eu ffoledd, ac eisieu synwyr lithro i ddyfn-bwll, ac enbydus drochlyn pechod, pan ddelont i wybod oddiwrthynt eu hunain, ac i gasclu eu synwyr ynghyd, yn synwyroli eilwaith, ac yn cymmeryd gofal rhag fyrthio yno drachefn, yn ôl y ddihareb, Y plentyn a loscer ei fŷs a ochel rhag y tân.
Erbyn hyn gobeithio eich bod yn gweled pa fâth beth yw edifeirwch, nid pôb tristwch; ond tristwch am bechod; nid am ryw fâth ar bechod, ond am bôb pechod; nid tros awr, ond tros byth; nid tros ddiwrnod, ond yn wastadol; nid tros wythnos, ond tra y byddom byw ar y ddaiar.
Rhai a dybiant mai edifeirwch yw pôb tristwch, eithr felly yr edifarhauei y bydol-feddwl: Rhai a dybiant mai edifeirwch yw pôb ochenaid am bechod, eithr felly yr edifarhauei Pharaoh: Rhai a dybiant fod pôb wylofain a chwynfan am bechod yn edifeirwch, eithr felly y byddei Cain, Esau, a Judas yn edifeiriol: Rhai a dybiant mai edifeirwch yw pôb rhith ar ymddarostwng, (neu ymddarostyngiad bychan) ond felly yr edifarhauei Ahab: Rhai a dybiant mai edifeirwch yw pôb gweithred dda, ac amcanfryd duwiol, eithr felly y gallei pôb clâf edifarhau. [Page 8] Rhai a dybiant mai edifeirwch yw gwellhâd ar eiriau, a gweithredoedd, ond felly y gallei pob dŷn bydol-ônest edifarhau: Rhai a dybiant fod dywedyd (Duw maddeu i ni) yn edifeirwch, ac felly y byddei pôb ffôl yn edifeiriol.
Chwi a welwch wrth hyn faint fy▪ yn eu twyllo eu hunain ynghylch edifeirwch. Eithr os ewyll ysiwch wybod yn siccr beth yw edifeirwch, edrychwch yn ôl ar yr hyn a ddywetpwyd o'r blaen. Canys yr hwn a fynno edifarhau o ddifrif, nid digon yw iddo yn vnig ostwng ei ben fel brwynen tros ddiwrnod, ac yno diweddu; na dywedyd ar flaen ei dafod, Duw maddeu i mi, heb ddim ond hynny; ond y mae yn rhaid iddo ail bwrw ei gyfrif, a dyfal ystyried ei fuchedd o'r blaen, fel y gwnaeth y Prophwyd Dafydd, Myfi a ystyriais fy ffyrdd, ac a droais fy nhraed at dy destiolaethau, Psal. 119. 59. Felly y mae yn rhaid i bawb a fyddo ar fedr edifarhau, ymneillduo ar ddidol i fewn rhyw gongl, fél y gallo gael hamdden, ac achlyssur i ymliw â'i gydwybod ei hun, ac i wneuthur iw galon ferwino, ac ymofidio am ei bechodau, drwy beri iddi grâff-synnied eu haruthredd hwynt, ac ystyried yr holl achosion ai denodd, ac ai hudodd i bechu: megis yn Daniel 9. y mae Eglwys Dduw yn cyffeffu ei hanwireddau, nid yn yscafn, ond yn ddifrif-ddwys, drwy benlynu y naill beth ar y llall, i yspyssu geuogrwydd y cwbl; yn gymma nt ac nad digon yw dywedyd, mi a bechais: eithr dywedyd mi a bechais yn aruthr, mi a bechais yn wrthnyssig, [Page 9] yn ddiofal, yn anv [...]ydd. Mi a dramgwyddais yn gywilyddus yn y lle a'r lle: yn y tŷ a'r tŷ: gyd â y rhain, a'r rhain, ar y dydd a'r dydd: yn y cyfryw gongl, a'r nôs a'r nôs y godinebais yn ddirgel, pan oeddwn yn tybied nad oedd nêb yn fyngweled; yn y cyfryw stafell y gorweddais gyd â gwraig fynghymmydog, a'm cydwybod sydd i'm cyhuddo am hynny.
Ynghymdeithas y rhain a'r rhain y meddwais, y ceblais air Dduw, y gwatworais y Pregethwyr, ni russais dyngu pôb mâth ar lwon, ac adrodd serthedd. Ac yr awrhon o Arglwydd Dduw pa anghenfil anfatynedd, pa ddiffeith-was coeglyd wyf fi? Ymma yr wyf yn sefyll yn dy ŵydd di yn llwyr-noeth, yn ddall, yn glwyfus, yn dlawd▪ yn druan, ac yn resynol, yn deilwng o fîl o ddamnedigaethau, ped ait ti i'r farn â'm fi, a rhoddi 'r gyfraith i'm herbyn. Am hynny yr wyf yn attolwg i ti dosturio, a thrugarhau wrthif. Ira fy archollion ag olew dy drugaredd, dyro i mi fyngolwg, a chuddia fy noethni, cyfoethoga fi yr hwn ŵyf dlawd, cryfhâ fi yr hwn ŵyf wan, cymmorth fi yr hwn a syrthiais: ô na ddôs ymmaith oddi wrthif. Y plentyn a gynhyrfa ei fam i gymmodi ag ef drwy lefain arni; a'r mâb drwy wylofain a nadu â ynnill fodd ei dâd: a'r gwas a orchfyga ei feistr drwy ymbil ag ef▪ Ac oni chynnhyrfir di i dosturi, O Arglwydd? Mal hyn, meddaf pe bae pôb dŷn yn llefaru yn ei gydwybod wrth Dduw, ac mal hyn yn fanwl, neu yn sanylach yn ei holi ei hun, diammeu y byddei efe ar wir ffordd edifeirwch.
[Page 10] Ond sywaeth, blîn yw ystyried pa wedd y mae dynion y bŷd hwn, yn ei coeg-ddallineb a'u hamryfusedd, yn myned ar ddidro oddiwrth yr iawn ffordd hon, gan eu twyllo eu hunain drwy ymfodloni ag enw, ac heb ddim ganddynt ond enw edifeirwch. Llawer yn wir a siaradant am dano, ond ychydig a rodiant ynddo: llawer a'i crybwyllant, ond ychydig a'i clywant (neu a'i teimlant) llawer ai darluniant, ond nid oes nemmawr ai hadwaenant.
Cuddiedig yw edifeirwch, ac megis tan glô rhag y byd, ac wedi ei ddatcuddio i blant Duw yn unig. Llawer a dybiant gael o honynt afael arno, pryd na chawsant ond ei gyscod. Cyfuwch ydyw ac na ddichon nemmawr ei gyrhaeddyd: Cyn ddyfned yw ac nad oes ond rhai yn cael ei waelod: mor gyfyng yw, ac na ddichon pawb fyned i mewn iddo: mor ehang ac na ddichon ond ychydig ei amgyffred: Cyn llithricced ac na ddichon pawb gael gafael ynddo: mor guddiedig ac nad oes ond rhai a fedrant ei gael.
Am hynny fy mrodyr anwyl, attolwg i chwi moeswch i ni weddio ar ein Duw ni, ar ddatcuddio o honaw efe i ni y dirgelwch hwn a guddiwyd oddiwrth y byd, fel y gwelom ef, ac yr adwaenom, ac y caffom, ac y clywom i'n diddanwch ddidrangcedig trwy Jesu Grist, yr hwn râd a ganniadhao efe i ni.
Eithr bellach at yr ail pwngc, ynghylch cynnheddfau a ffrwyth edifeirwch: vn rhinwedd [Page 11] enwedigol o wir edifeirwch, yw dwyn ganddo bob amser faddeuant pechodau. Oblegid lle yr elo gwir edifeirwch o'r blaen, ni ddichon amgen na bo maddeuant pechodau yn canlyn: Nid o herwydd bod edifeirwch yn haeddu maddeuant pechodau, ond o herwydd lle y mae Duw yn gweithio edifeirwch, yno y mae efe yn maddeu pechodau oblegit ei addewid. Megis yn Act. 3. 19. Edifarhewch, a dychwelwch fel y deleer eich pechodau. Ac Ezek. 18. 27. Pan ddychwelo y drygionus oddiwrth ei ddrygioni a wnaeth efe, a gwneuthur yr hyn fyddo cyfiawn ac vnion, efe a geidw ei enaid yn fyw. Ac eilchwel, Esay. 55. 7. Ymwrthoded y drygionus ai ffyrdd, a'r anghyfiawn ai amcanion, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a dosturia wrtho. Ac Act. 5. 31. Hwn a dderchafodd Duw, i roddi edifeirwch a maddeuant pechodau i Israel. Felly nyni a welwn ymma i bwy y mae maddeuant pechodau, a thrugaredd Dduw yn perthyn▪ Sef ir pechaduriaid edifeiriol, i'r rhai a ymadawant â phechod, ac a gofleidiant yr hyn sydd dda, i'r rhai a ymadawant â'u ffyrdd eu hunain, ac â'u dychymmygion, ac a droant at yr Arglwydd (sef, trwy ei Fab Iesu Ghrist.)
Ac am y sawl a rodiant yn eu ffyrdd eu hu nain, ac a ddilynant ddigrifwch pechod, heb na thristhau am danynt, na bwriadu eu gadael ymmaith, nid oes iddynt a wnelont â thrugaredd Dduw. Ac pe dioddefasai Jesu Grist fîl o farwolaethau (yr hyn beth nid oedd bossibl) er hynny ni chaiff vn-dyn diedifeiriol faddeuant [Page 12] o'i bechodau drwy ei farwolaeth ef, na dim llesad arall o'i ddioddefaint ef; Canys y pethau hyn aberthynant iw eglwys ef yn vnig, ac iw ddewisedig bobl ymma ar y ddaiar. Pwy bynnag gan hynny nid yw o'r eglwys, pwy bynnag nid impiwyd yng-Hrist drwy ffydd, pwy bynnag nid yw aelod o'i ddirgel gorph ef, ni ddichon gael dim mwyniant oddiwrth farwolaeth Crist. Onid erys dyn ynofi, (ebe Crist) efe â deflir allan fel cangen, ac a wywa, ac hwy a gesclir, ac a deflir yn tân, ac a loscir. Joan, 15 6.
Darllein yr ydym yn Deut. 29. 19. 20. Fod Duw yn cau allan bob mâth ar bechaduriaid anhydyn oddiwrth ei drugaredd, ac yn dra ofnadwy yn ergydio ei saethau yn eu herbyn. Yr hwn a glywo eiriau y cyngrair hwn, ac a ymfenaithio o honaw yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio ynghyndynrwydd fynghalon, i chwanegu meddwdod at syched: Ni fyn yr Arglwydd faddeu iddo, canys yna y myga digllonedd yr Arglwydd a'i eiddiged yn erbyn y gŵr hwnnw, a'r holl felldithion sydd scrifennedic yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a'r Arglwyddd a ddelea ei enw ef oddi tan y Nefoedd.
Felly y mae Duw yn dywedyd yn eglur, nad oes ganddo ef ddim trugaredd ir sawl a rodiant mewn oferedd, a digrifwch eu pechod, ac yn hynd▪ nrwydd eu calonnau, drwy chwanegu meddwdod at syched, nid amgen cyssylltu y naill bechod ffiaidd at y llall: Ac etto er hyn ei gyd, peth rhyfedd yw gweled pa wedd [Page] y mae pryfedos coeg-ddeillion y byd hwn yn eu siommi eu hunain.
Canys tybied y maent mai pa beth bynnag a ddywedont, pa beth bynnag a wnelost, bid drŵg, bid da, byddent edifeiriol, neu ddiedifeiriol, etto y byddant cadwedig trwy farwolaeth Crist, Megis pe gwnaent ef yn llattai pechod, ac felly gweithio y drygioni hwnnw yn erbyn Crist.
Gobeithio, medd rhai, y byddwn cadwedig drwy farwolaeth Crist yn gystal ar goreu o honynt. Ond p'le y mae dy edifeirwch di o ddŷn anhappus? A wyt ti yn tybied fôd trugaredd Dduw yn gyffredin i bawb? A bod marwolaeth Crist yn llattai i'th bechodau di! Nid felly, eithr pan ddeuer i chwareu am y da, neu pan ddeuer i'r diwedd fe geir dy weled ti yn glôff.
Canys yn y gwrthwyneb y daw breuddwydion. Ti a gei weled trugaredd Dduw yn troi yn gyfiawnder, a marwolaeth Crist yn wermod, o herwydd it gasau gwybodaeth, ac na ddewisaist ofn yr Arglwydd, Dihar 1. 29. Mal hyn chwi a welwch fy mrodyr anwyl, fod yn rhaid cael edifeirwch o flaen maddeuant pechod: ac prŷd na byddo efe yn cadw y blaen, yna y bydd drŵs trugaredd Dduw wedi ei gau: ac dymma y gynneddf gyntaf i Edifeirwch.
Rhinwed arall mewn gwir edifeirwch yw newidio, a throi dynion o'r hyn oeddynt o'r blaen, i'r hyn nid oeddynt: a'r newidiad hwn sydd nid o ran sylwed; a hanfod corpholedd, [Page 14] ond o ran rhinweddau, a chynheddfau y meddwl.
Canys pwy bynnag a gymmerth wir edifeirwch, chwi a gewch weled yn y man ynddo ef newidiad dieithrol, a rhyfeddol; yn gymmaint, ac na wna efe er dim, y peth a wnaeth, ac ni ddywed y peth a ddywedodd, ac ni ddilyn y gymdeithas y bu gynt yn ei dilyn, na bod yn gydymmaith da (megis y dywedant) fel y byddei arfer, ac ni lŷn wrth y cyfryw rysedd, ac yr ydoedd gynnefin ag ef. Ac dymma 'r peth sydd yn peri ir byd synnu, a brochi, a chyffroi yn anguriol, a chablu y sawl a ddychwelont at Dduw.
Canys y mae 'r bŷd yn caru yr eiddo ei hun, ac ni all oddef i Dduw dynnu un bluen allan o'i adenydd ef: Eithr edifeirwch sy'n tynnu dynion o drais allan o ewinedd y cythraul, ac yn eu newidio oddiwrth helynt y byd: Oblegit y mae efe yn gwneuthur dŷn, o falch yn ostyngedig; o ddrygionus yn ddiniwed; o greulon yn llednais; o flaidd yn oen; o lew yn ddafad; o odinebwr▪ yn ddiwair; o feddwyn yn sobr; o dyngwr yn ymadroddwr parchedig; o gas-ddŷn yn gyfaill; o ddirmygwr yn hôff; o wawd-wr yn garedig; o fydol yn Ysprydol; ac o gythraul yn Sanct. Hyn oll a weithia edifeirwch.
Paul oedd gynt yn ei daith i Ddamascus yn flaidd, yn erlidiwr, yn sugn-wr gwaed, yn dal câs, yn ddirmyg-wr: Eithr cyn i fyned yno, yr oedd y gŵr wedi ei newidio yn hollawl, [Page 15] ac o feddwl arall; mor rymmus oedd yr hwn ai cyfarfu ar y ffordd. Pan anfonodd▪ Crist Jesu yr Yspryd Glân i lawr ar ei ddiscyblion yn ôl ei addewid, yr oedd rhai gwatworwyr yn Jerusalem, yn gwneuthur gwawd gan ddywedyd. Llawn ydynt o win newydd: Ond yr vn gwŷr a lefasant yn y man yn ôl hynny: Ha-wyr frodyr pa beth a wnawn ni i fod yn gadwedig? Act. 2. 37.
Dyna newidiad rhyfeddol yn ddisymmwth. Gwelwch wrth hynny rym edifeirwch: pan ei gyrro Duw ef i galon dyn, ac y tarawo yr hoel hyd y pen, (fel y dywedant) gweithio a wna y peth nis gall holl ddoethineb, a chyfrwystra synwyr dyn ei gyflawni. Ac darfyddo iddynt wybro, ac ŵlian i fynu ac i wared, a chwilottach hôll gonglau eu synwyr, etto ni wyddant ddim oddiwrth y gorchwyl hwn, na phâ lê y dechreuant i newidio calon dyn, ac iw droi ef at Dduw.
O herwydd hyn y mae edifeirwch yn gryfach nâ'r holl fŷd, ac yn gweithio y peth ni ddichon holl ddynion y byd, â'u synwyr naturiol, a'u pennau cyfrwysgall, a'u dychymmygion deallgar ei gwplau; Canys ymchweliad pechadur ir iawn, gwaith goruwch-naturiol ydyw. Dymma gan hynny ddrŷch, i ni edrych arnom ein hunain ynddo, pa vn a wnaethom erioed ai edifarhau, ai peidio▪ Oblegyd oni chawn ynom ein hunain y newidiad hwn, ni ddarfu i ni etto edifarhau, ac os felly, aros yr ydym tan ddamnedigaeth.
[Page 16]O herwydd hyn edryched pob dyn arno ei hun; Canys pa faint bynnag a newidiwyd arno, ac y trôdd oddiwrth ei ffyrdd ddrygionus gynt, cymmaint a hynny a edifarhaodd efe.
A phwy bynnag sydd yn aros, yr awr hon yn yr vn cyflwr, ar vn fâth ddyn ac ydoedd efe dair, neu bedair, neu wyth miynedd ir awrhon, neu er ys dêg ar hugain, neu vgain: diau, diau, nad edifarhaodd efe etto, ac am hynny y mae yn aros tan farnedigaeth.
O herwydd hyn y mae yn rhyfedd gennif, pa fodd y gall y gwŷr hyn, y rhai ni chlwysant etto ddim newidiad yn gweithio ynddynt; nage y rhai y mae eu cydwybod yn dywedyd iddynt, na newidiwyd hwynt etto, ac ni wyddant beth yw y newidiad hwnnw, pa fôdd meddaf y gall y gwŷr hynny obeithio am iechydwriaeth? Oddieithr yscatfydd nad ydynt yn credu yr athrawiaeth ymma, ond tybied nad yw hi wir. Myfi a ddanfonaf y gwŷr hyn at rai a fuont yn yr vnrhyw gyffwr ac y maent hwy yr awrhon ac er hynny a dybient eu cyflwr yn ddigon da, er eu bod yn ddeilliaid yn ei barn, ac yn halogedig yn eu buchedd. Myfi a adwaenwn gynt, ac a adwaen ddynion yn awr, y rhai cyn eu ymchweliad▪ a'u newidiad oddi mewn, a gyfr fid cyn onested gwŷr ar gonestaf a fwyttaodd fara, ac mor gymmeradwy ac y gallai wŷr fod; yn trin y byd yn vnion, yn byw yn ddiargyoedd, yn cynnal tai yn dda, ie ac yn tybied yn dda o honynt [Page 17] eu hunain; ac er hyn ei gŷd, pan ymwran▪ dawsant hwy ag edifeirwch yn gweitho ynddynt y newidiadhwn, trwy rym yr Yspryd ar bregethaid y gair; a phan roddwyd iddynt galonnau newyddion i fedru dirnad yn well, a llygaid o newydd i weled yn graffach; megis rhai wedi diangc rhag rhyw enbydrwydd, synnu a wnaethant, a rhyfeddu mor ddall-efrydd oeddynt or blaen, gan dorri allan ir cyfryw ymmadroddion hyn: nid amgen, na fynnent eu bod yn yr un cyflwr yr oeddent ynddo o'r blaen, ie er da yn y bŷd, Canys-e buasent feirw yn y cyflwr hwnnw, diammau oedd ganddynt y buasant wedi eu condemnio. Ond pa gyflwr adolwyn yr oeddynt hwy ynddo o'r blaen? Onid oeddynt wŷr onest, o gymmeriad da, yn byw yn ganmoladwy, ac yn cael parch i ba le bynnag y deuent? Yn wir felly yr oedd y byd yn eu cymmeryd hwynt.
Ond yr awrhon tybied y maent hwy o honynt eu hunain yn amgenach o lawer, wedi agoryd eu llygaid, a goleuo eu deall; Canys y maent yn gweled y peth ni welent o'r blaen; yr awrhon y maent yn deall fod Duw yn euog farnu llawer, y rhai y mae 'r byd yn eu cyfrif yn gyfiawn. I'm tŷb i fe ddylei y siampl hon beri i ddynion bydol-onest ofni, ai drwgdybio eu hunain, ac adnabod eu trueni o flaen Duw.
Oblegid yr oedd y rhai gynne yn gystal gwyr a hwythau cyn eu ymchweliad, ac etto▪ yn cyfaddeu wedi hynny, eu bod yn soddi i [Page 18] waelod vffern, ac yn boddi yn nyfnder damnedigaeth. Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando gwrandawed, a'r hwn sydd ganddo lygaid i weled gweled: Canys o myn dynion eu siommi eu hunain er a aller iddynt, sef hyderu y byddant cadwedig heb glywed ynddynt ddim newidiad, neu waith edifeirwch, fe fydd drûd iddynt yn y diwedd.
Oblegid geiriau Crist a ddaw yn wir, y bydd colledig pwy bynnag nid edifarhao, sef y condemnir pwy bynnag, nid ymwrandawo ynddo ei hun beth ydyw edifeiriwch, ac ni chaffo ynddo ei hun y cynnheddfau sy yn ei ddilyn.
Canys lle y byddo edifeirwch, yno y bydd cynneddfau edifeirwch: ac lle ni byddo y cynneddfau, yno ni bydd dim gwir edifeirwch. Ac felly lle y dywedodd Crist, oddi eithr i chwi edifarhau, chwi a gollir oll; Yr vn fâth ydyw a phe dywedasai, Oddi eithr eich bod yn adnabod gwir edifeirwch, oddi eithr i chwi allu profi i'ch cydwybod faddeuaint eich pechodau; oddieithr i chwi fod yn clywed yn eigion eich calonnau newidiad, ac ymadawiad oddiwrth eich ffyrdd anwireddus, a'ch drwg ymddygiad gynt, chwi a gollir yn ddiddadl, ac a fyddwch damnedig. Eithr moeswch i ni ychydig etto ymhellach chwilio allan am gynneddfau edifeirwch.
Yr Apostol at y Corinthiaid (2 Cor. 7. 11.) sydd yn dangos saith o gynneddfau hynod, ac effeithiau (neu weithrediadau) edifeirwch.
Y cyntaf o'r rheini a eilw efe Gofal (neu Astudrwydd: Canys wele (medd efe) hyn ymma, dristau o honoch chwi yn dduwiol [Page 19] pa ofal, (neu astudrwydd) a weithiodd ynoch? hynny yw, amcanfryd difrifol, a bwriad gofalus i fodloni Duw; Canys lle y bu gwir edifeirwch vnwaith yn gweithio, yno y daw gofal mawr gwedi hynny; gofal (meddaf) am fyw mewn vfydd-dod tu ag at Dduw; gofal am gadw cydwybod dda; gofal am ddiwygio ein teulu; gofal am ddyscu ein gwragedd, a'n plant, a'n gwasanaeth-ddynion yngwybodaeth o Dduw; gofal am weddio gyd â hwynt foreu, a hwyr; ac yn gyffredinol gofal i gyflawni pôb dyled-swydd perthynol i Dduw: felly nid peth diofal, ond peth gofalus yw edifeirwch
Ac na feddylied nêb tra fyddont hwy yn ymdreiglo mewn diofalwch cnawdol, ac yn cyscu mewn difrâwch holl ddyddiau eu bywyd, Fod er hynny eu hedifeirwch hwynt yn ddinam: Ie, ac er eu bod yn treulio diwrnodau, a nosweithiau, a misoedd, a blynyddoedd cyfein mewn oferedd a chwareuon, a difyrrwch, mewn seguryd, ffol-ddigrifwch, meluswedd, a maswedd, drwy esceuluso pôb dyled-swydd, anghofio Duw, a dirm ygu pob peth dâ, er hynny ei gyd eu bod yn edifarhau am eu pechodau, ac yn gobe ithio bod yn gadwedig yn gystal ag eraill. Ond (gwae finneu) pa fodd y gall y pethau hyn gyd-sefyll, sef edifarhau am bechod, ac ymddigrifo mewn pechod; cashau pechod a charu pechod; Ffoi rhag pechod, a dilyn pechod? Eithr y gwyr hyn, mi a welaf, a fynnent wneuthur S. Paul yn gelwyddog; Canys efe a ddywaid, nad edifarhaodd dŷn erioed, oddieithr fod o [Page 20] honaw wedi hynny yn ofalus am fodloni Duw hwy a ddywedant fod yn edifar ganddynt (n [...] edifarhau o honynt) er na buon [...] erioed y [...] byw yn ddiffeithiach, ac yn ddiofalach. On [...] pan ddelo pôb mâth ar ddynion afreolus, a drw [...] fucheddol; pan ddelo puttein-wyr aflân, glythion anifeilaidd, a segur-wyr diofal-frŷd [...] deyrnas Dduw, a bod yn gadwedig, yno y ca [...] y gwyr hyn ddyfod hefyd gyd â hwynt, a bo [...] yn gadwedig drwy eu diofal edifeirwch.
Ail gynneddf, neu effaith edifeirwch y [...] Ymddiffyn ein hunain, hynny yw, ein rhyddhau neu ein diheuro ein hunain pan in cyhudde [...] gan bechod, ac y rhodder dim i'n herbyn [...] Canys pan fyddo pechod a'r Cythraul yn cythryblu cydwybod y pechadur edifarus truan yn ddiaros efe a rêd at Dduw, ac a ymbil am faddeuant trwy Jesu Grist, ac felly ai hymddeffyn ei hun, ac a wna ei achwyn ar bechod a Sathan; megis dyn a ddyfynner i'r Seneddr am odineb, neu fai sceler arall, rhaid iddo drwy dystiolaeth ymddiheuro oddiwrth y peth a heurer arno: Felly y gydwybod, a ddyfnno Sathan o flaen cyfiawnder a brawdle Duw, ai hymddeffyn ei hun trwy edifeirwch, ac a ofyn maddeuant drwy Jesu Grist.
Felly ymma y gallwn weled y llesâd rhagorol, a'r budd a ddwg cydwybod edifarus: Ni all hi oddef adael i bechod fod yn achwyn arni, ni fedr ymlonyddu nes cael ei chymmod â Duw, a heddwch gartref ynddi ei hun: Oblegid hyn sydd i ddal sulw ar [...]o yn y dŷn duwiol, sef, pan wnelo efe ryw bechod, a bod [Page 21] ei gydwybod yn dwyn ar gôf iddo hynny, yn [...] man efe a glyw bwys yn ei wascu oddi fewn, [...]c yn ei wneuthur cyn drymmed a phlwm, fel [...]a ddichon gyscu yn esmwyth, hyd oni chafo fyned i ryw gilfach i alaru, ac i gwynfan i wala, i gyffessu, ac i ymwneuthur â Dduw, neu i osod ei stât allan o flaen Duw) ac felly [...]i ymddeffyn ei hun drwy Jesu Grist, ai gyd [...]ybod yn tystiolaethu iddo, fod ei bechod we [...]i ei faddeu. Ond yn y gwrthwyneb, y dŷn [...]nnuwiol pan gyhuddo ei gydwybod ef am be [...]hod, a d [...]ŷ ymmaith bob cyfryw syn-feddy [...]au, ac ai dyry tan ei droed; ac a eilw am [...]âr o gardiau, neu dabler, neu ryw gydym [...]aith digrif i fwrw yr amser heibio, ac i yrru [...] fáth feddyliau allan o'i ben; Ac felly [...]ewn gwirionedd, peri a wna iddynt gynny [...]du fwyfwy, a chrawni oddifewn.
Y Drydedd rinwedd yw Digofaint neu Soriant, nid amgen, dygn gasineb yn erbyn pe [...]hod, megis pan fo dyn yn crynu, ac yn achre [...]u, ac megis yn gwascu ei ddannedd wrth gofio ei bechodau.
Canys y mae y gamp hon bob amser ar y [...]ŷn edifarus, nid amgen, gwrthwynebu, a ffieiddio o'i galon bôb pechod, yn gystal ei bechodau ei hun, a phechodau rhai eraill, a'u casau fel Diafol ei hun, yr hwn yw yr awdur [...] honaw, ac ymogelyd rhagddo megis rhag or-gêg, a dihenyddwr ei enaid, ac adnabod nai pechod yw'r vnig beth sydd yn dallu, ac [...]n caledu, sy'n gwahanu oddiwrth Dduw, ac [...]n dwyn arnom bôb dialedd, ac afiechyd yn y [Page 22] corph a'r enaid: Ac am hynny ei ddiystyr [...] y mae, ai ddirmygu, ai ffieiddio pa le bynna [...] y gwypo oddi wrtho.
Y Pedwerydd peth yw Ofn, yr hwn yw mát [...] ar ddychryn, pan fyddo dyn yn arswyd [...] anfodloni Duw; Canys y mae y dyn edifaru yn ofni beunydd; ac oblegit ei fod yn adnabod ei lescedd, ai wendid ei hun (pan dynn Duw ei râs oddiwrtho, ac y gadawo ef arn [...] ei hun) gweithio allan a wna efe ei iechyd wriaeth drwy ofn a dychyrn, Phil. 2. 12. N [...] ryfyga efe ar ras o'r blaen, i wneuthur di [...] pechod, ac ni bydd efe ry hŷ o drugared [...] Dduw, ac o'r pethau a dderbynniodd eufy [...] gan Dduw, i ymroi i ryw bechod bychan, ga [...] dybied y gall efe hynny, a bod yn blentyn i Dduw gystal cynt (neu gystal a chynt,) Oblegit syrthio rhai o blant Dduw i bechoda [...] mwy: Ond y mae efe yn hyttrach yn dychrynu rhag y cynnwrf lleiaf o bechod; ac yn ofn [...] y maglau a osodo Satan ar y ffordd, a phrofedigaethau pechod, pan osodant arno i dorr [...] gwangc pechod: Eithr ymdrechu a wna ef [...] yn erbyn pechod, pan ymdrecho pechod yn e [...] erbyn yntau: ac a esyd ofn Duw o flaen ei lygaid (fel y gwnaeth Joseph Dduwiol pan ruthrodd gwraig Potiphar arno) i fod yn dŵ [...] ymddeffyn, ac yn ffynnon bywyd i ddiang [...] rhag maglau angau: Dihar, 14. 26. 27.
Y pummed yw chwant, (neu awydd-fryd) 2 Cor. 7. 11. Hynny yw newynu, a sychedu yn ôl cyfiawnder. Canys y mae y dŷn edifeiriol yn chwannog i bethau daionus [Page 23] chwennychu y mae fod yn wellwell bob dydd: Chwennychu y mae ymadael â rhyw bechod bob dydd: ewyllysio y mae gael rhyw wybodaeth o newydd, rhyw ddeall o newydd ar bethau Nefol.
Awyddus ydyw i wrando Pregethau, ac efe a wna egni mawr iw gwrando: Dymuno y mae gymdeithas y Duwiol, a thybied ei fod yn y nef pan fyddo yn eu plith hwynt; Dymuno y mae iechydwriaeth ei elynion a gweddio trostynt. Y deisyfiadau hyn oll, a llawer eraill o'r cyffelyb ydynt yn y dyn edifeiriol.
Y chweched rinwedd yw zêl (neu Gwynfydiad▪) yr hon sydd yn sefyll yn hyn, sef mawrhau duwioldeb, a chasau drygioni; yn gymmaint a bod y dyn edifarus yn awyddus i bob peth da, yn awyddus i osod allan ogoniant Duw ym mhôb lle, ym mhôb cymdeithas, ac ym mhlith pôb mâth ar ddyn. Ni ddichon oddef hybu dim ar anrhydedd Duw, na chlywed cablu ei enw, na diystyru ei ogoniant; ond efe a egyr ei enau i argyoeddi yr annuwiol, ac a saif yn wrol-w ch ynghweryl gogoniant Duw.
Nid yw efe debyg ir Di-dduw, a'r rhagreithwyr, y rhai a ymrônt i wneuthur fel y gwnelo y cymdeithion, nid amgen, yn Dduwiol ym mhlith Duwiol; y maent yn Brotestantiaid ym mhlith Protestantiaid, a drygionus ym mhlith drygionus, Papistiad ym mysc Papistiaid, a bydolion yn mysc pobl fydol, Tyngwyr ym mhlith tyngwyr, ac anwadalwyr yn troi gyd â phôb awel. Y dyn edifeiriol (meddaf) nid y fâth ddŷn â hwn ydyw. [Page 24] Ond y mae efe yn ddianwadal, ac yn ddwywol ym mhôb peth da: Y mae efe yn gefnog yn erbyn pôb digrifwch, a budd pechadurus: Pe rhôn a gallu o honaw ynnill y byd ei gyd, neu wellhau arno ei hun fwy nag a goeliei neb, drwy wneuthur pechod yn erbyn Duw, etto fe ai gwrthodai: Canys fe a ddyscodd o enau Crist na lesâ i ddyn er ynnill yr holl fyd, a cholli ei enaid.
Y peth olaf yw Dial, hynny yw, y dyn edifarus sydd mor anfodlon ir pechod a wnaeth efe, ac y myn gymmeryd dial arno ei hun am dano. I yspysu hyn, os pechodd drwy lothineb, efe a ddial arno ei hun drwy ymprydio ddeu ddydd, neu dri yn ôl hynny; os troseddodd trwy odineb, efe a ddial ar ei drachwantau drwy eu llyffetheirio a'u ffrwyno byth yn ôl hynny: Os gwnaeth gamwedd, gan sc yfaethu, a chymmeryd, neu gadw dim o'r eiddo eraill, efe a ddial arno eu hun, drwy dalu adref, fel y gwnaeth y gŵr Duwiol a gwir edifarus Zaccheus. Luc. 19. A A hyn yn ddiau yw ffrwyth edifeirwch diledrith, sef diwygio ynom ein hunain y pethau a wnaethom ar fai.
Yn awr gan hynny fy mrodyr anwyl, nyni a welwn beth sydd yngheudod edifeirwch, a pha fâth ymyscaroedd sydd yno oddifewn; ac bellach rhaid yw i ni ddyfod i ddattod, ac agoryd geiriau Crist: oddieithr edifarhau o honoch, chwi a gollir oll: hynny yw, oni bydd gennych y gofal a grybwyllwyd o'r blaen am dano, chwi a fyddwch colledig oll, oni bydd [Page 25] gennych yr ymddeffyn hwn chwi a gollir: Oni bydd gennych y digofaint hwn, chwi a gollir, oddieithr bod gennych yr ofn hwn, colledig fyddwch: Oddieithr bod ynoch yr awydd hwn chwi a gollir oll: oddieithr bod gennych y chwant ymma, damnedig fyddwch: ac oni bydd gennych y dial hwn, chwi oll a gollir.
Oblegid nid yw ein Iachawdwr Crist yn dywedyd am enw edifeirwch yn vnig, ond am edifeirwch a chwbl o'i pheiriannau, a'i pherthynasau; yn gymmaint ac pwy bynnag nid oes ganddo edifeirwch yn gwbl-gyfan, ai holl gynneddfau, ai effeithiau, neu or hyn lleiaf ryw fesur o honynt, nid oes ganddo ddim gwir edifeirwch; ac am hynny colledig fydd: oblegid oddieithr edifarhau o honoch, chwi a gollir oll.
Eithr mi a dybygwn fy môd yn clywed thyw vn yn dywedyd: Nid oes ymma ddim ond damnedigaeth, damnedigaeth; Nid ydych yn Pregethu dim ond y gyfraith, moeswch i ni glywed yr Efengyl. Fy mrodyr, yr wyfi 'n proffessu ger bron Duw i chwi, fy môd yn dywedyd mewn cariad beth bynnag yr wyf yn ei ddywedyd, a dymuno yr wyf iechydwriaeth pawb o honoch. Pe gallwn ynnill dau yn vnig o'r holl gynnulleidfa hon, mi am cyfrifwn fy hun yn ddedwydd, ac a dybygwn roddi o Dduw fendith enwedigol ar fy l afurwaith.
Ac yn ddiammeu, pe gwypwn vn ffordd arall a fae nês a chymmwysach i'ch dywn chwi at Dduw nâ phregethu y gyfraith er [Page 26] mwyn peri i chwi eich adnabod eich hunain; diau, diau, y dilynwn honno: reu pe gellid peri i mi goelio, mai gwell fyddei ar eich llês chwi glywed Pregethu yr Efengyl, a thrugaredd, ni chaech glywed gennif ddim amgen ond yr Efengyl, yr Efengyl, trugaredd, trugaredd.
Eithr sywaeth gweled yr wyf fod pôb dyn difraw, ac anwybodus yn rhyfygu ar drugaredd Duw. Gweled yr wyf fod pôb annuwiol-ddyn aflan, a chabl-wr dybryd yn camarfer trugaredd Duw, drwy ei chymhwyso iddo ei hun heb edifeirwch; ac felly y mynnent wneuthur trugaredd Duw yn gochl tros eu pechodau: gweled yr wyf y chwennyched pob dyn gael ei lochi, a gwenhieithio iddo yn ei bechod, ac na chlywei son am dano mwyach, ond cael Pregethu yr Efengyl; Yr hyn beth mewn gwirionedd ni pherthyn ir sawl a barhânt yn eu cyndyn-rhwydd, ond yn vnig ir pechadur edifarus, a ymwrthodo ag ef ei hun, ac a syddo yn griddfan, ac yn ymofidio tan faich ei bechod.
O herwydd paham, pan i'ch gwelwyf wedi eich darostwng, â theimlad o'ch pechodau, ac yn ochneidio, ac yn cwynfan tan eu baich. Pan eich gwelwyf yn wyneb drist gan wylo fain, a'ch calonnau yn meddalhau, ac yn pryderu gan ofal; Yna y cyssuraf chwi, ac [...] peidiaf a Phregethu 'r gyfraith.
Eithr, attolwg i chwi, a ledrettwch chwi, ieddwch, a odmebwch, ac er hyn a fynnwch chwi glywed am drugaredd? A watworwch a dyngwch, a geblwch, a ddifenwch, ac [Page 27] hyn a fynnwch chwi glywed am drugaredd? A wasanaethwch chwi bechod, a gashewch rinwedd dda, a ddilynwch eich trachwantau eich hunain, ac er hyn clywed am drugaredd?
A fynnwch chwi gael eli cyn bod arnoch friwiau, a meddyginiaeth cyn eich▪ bod yn glâf? A fynnech ollwng gwaed arnoch, cyn bod yn rhaid? Oni chymmerech chwi ef yn Bessygwr ffôl, a roddei feddyginiaeth i ddyn iâch? ac hwnnw yn Feddyg anghyfarwydd yn ei gelfyddyd, a osodei wrth hên ddolur crawnllyd eli tŵf tyner, ac nid eli-sugno i fwytta y marw? Yna gwybyddwch fy mrodyr, fod yn rhaid i chwi wrth gyfog cadarn-gryf, o herwydd eich bod yn llawn afiachusrwydd: ac am eich bod yn llawn o hên ddoluriau crawnllyd, rhaid i chwi wrth eli llym▪ dôst; canys hynny sydd oreu ar eich llês, ar môdd nessafi ddwyn i chwi iechyd.
Oblegit eich bod fel meirch anystowallt, y mae yn rhaid cael marchogwr garw: ac i hollti coed ceingciog, goreu peth yw cynion gweithgar a chaled, a gordd drom iw curo. Pregethu y gyfraith yr ydym i'ch gyrru chwi at Grist: Pregethu barnedigaeth, i beri i chwi geisio trugaredd: pregethu damnedigaeth i'ch dwyn i iechydwriaeth. Ond pregethu trugaredd, a maddeuant, cyn gweled o ddynion eu pechodau, neu adnabod eu trueni trwy bregethiad y gyfraith, hynny fyddei pregethu yr Efengyl yn anfuddiol Canys yr hwn ni wypo y gyfraith, nid edwyn chwaith pa drueni sydd ynddo ei hun, na pha drugaredd yn Nuw.
[Page 28]Pa dâd, o bydd ei blentyn yn fachgen ystyfnig, ac anufydd iddo ym mhôb peth a archo, a lyfna ei ben ef, ac a ddywed mai bachgen da ydyw? ac yn hyttrach nis cerydda ef yn dôst, ac nis cûr â gwialen? pa feistr a genmyl ei wenidog am wneuthur yr hyn a fynno ei hun, ac nid yr hyn a orchymynno efe iddo? yr un-ffunyd ni wasanaetha i ni anufyddhau a gwneuthur drŵg, a disgwyl ein mawrhau hefyd, ac nid ein ceryddu. Gwybyddwn gan hynny, er bod Duw yn arfer o serio, a thorri doluriau crawnllyd, a rhoddi eli sugno tôst i yssu y marw, a chwilio escyrn tynnion, a'r cyffelyb foddion tôst ar feddiginiaeth: er hynny i'n iachau ni y gwna efe y cwbl. Ac heb law hyn gwybyddwn etto ym mhellach, oblegit nad oes dim moddion amgen i'n tynnu ni i iechydwriaeth, cnd trwy lanhau ein holl feiau aflan, a'r glanhâd hwnnw ni ellir ei wneuthur, ond with ein trîn yn arw: pan i'n rhybuddier drwy athrawiaeth y gyfraith, nes bod ein cydwybodau ein hunain i'n cyhuddo; (er bod yn wŷch gennym gael bod yn esmwyth wrthym, ac megis ein penllyfnu trwy dêg;) etto bydded dewisach gennym, gael dywedyd wrthym y cas-wir yn llymmach, gael dangos i ni ein beiau, a pheri i ni gywilyddio am danynt, a chael datcuddio ein hanweddeidd-dra, ac nid chwennych ein bodloni: Canys hynny fyddei y ffordd nessaf i beri ni bydru yn ein brynti, os cadwem ef yn gyfrinachol; a rhy ddrûd fyddei i ni adael ein siommi drwy weniaith dynion, os y barnwr Nefol a dywallt ei lîd arnom.
[Page 29] O herwydd hyn, pan ddelo neb i wrando Pregeth; gwneled ei gyfrif, yn gyntaf peth o gael clywed ei argyoeddi, megis y gweddei, ac ystyried mai ei lesâd ef yw nadydys yn teccau iddo: ond o bydd ei glustiau yn merwino, ac yntau yn anfodlon ir peth a glywo, byth ni wrendu efe i gael llesâd, ac addysc oddiwrth yr athrawiaeth a dreuthur. Ymfodloned i adael teimlo, a thrin ei ddolur, fel y galler ei iachau.
O chais neb fodloni dyn clâf am bob peth a alwo am dano, pa beth a ddaw o honaw? A rydd efe iddo ddiod ar bob tro? A ddyry efe wîn iddo pan ddylei roddi dwfr? A rydd efe iddo ardd-lysiau? dyna'r ffordd nessaf iw wenwyno ef. I fyrhau i chwi, diammeu ydyw fod dyn yn ceisio ei farwolaeth ei hun pan chwennychei gael gwenhieithio iddo. Eithr pa un oreu, ai ymroi o'r hwn sydd yn trîn dyn clâf, i wneuthur ei ddamuniad ef, ai ei attal, er ei fod yn brochi, ac yn gwascu ei ddannedd, am na chaiff ei ewyllys yn yr hyn a fynnei. Chwi a welwch wrth hyn mor enbyd yw gorllyfnu dynion, a pheri iddynt ymgodi, ac ymsiongci, drwy Bregethu trugaredd cyn eu taffu i lawr a: merwindod a theimlad o farn Duw.
Peidiwch gan hynny ag agoryd eich fafnau i floeddio, a llefain tros y wlad gan ddywedyd: Nid ydynt yn Pregethu dim ond y gyfraith, y gyfraith, colledigaeth, colledigaeth, oddi eithr i chwi gymmeryd i mewn Grist hefyd, a'i wneuthur ef yn un o'r rhifedi, ai gyhuddo ef am ddiffyg [Page 30] doethineb pan yw yn Pregethu, ac yn dywedyd, pwy bynnag nid edifarhao a gondemnir.
Myfi, o'm rhan fy hun, wyf yn pregethu'r Efengyl i'r rhai y perthyn yr Efengyl, a'r gyfraith i'r sawl y perthyn y gyfraith, a barn ir sawl y perthyn barn. Ac am hynny tewch a sôn, a byddwch fodlon i'ch rheoli gan ddoethineb Duw.
Eithr bellach moeswch fyned rhagom at y trydydd peth cyffredin, yr hwn yw yr amser pa bryd yr edifarhawn. Yr Yspryd Glán yn yr Scrythyrau sydd yn pennu yr amser presennol, ac a'n cynghora i gymmeryd hwnnw yn amser ein hedifeirwch. Am hynny yn awr medd yr Arglwydd, Dychwelwch attaf fi a'ch hôll galon, mewn ympryd, wylofain, a galar, Ioel. 2. 12.
Felly at yr Hebreaid. Cynghorwch ei gilydd tra y gelwir hi heddyw, rhag caledu neb o honoch drwy dwyll pechod. Ac yn yr vnrhyw bennod: Heddyw o gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau, megis yn nydd profedigaeth, Heb. 3. 7. 15. Felly yn awr, ie yn awr yw'r amser i edifarhau: Yn awr tra yw yn galw, yn awr tra yw yn dywedyd, yn awr tra yw yn curo: Yr awr hon gan hynny gwrandawn, yr awr hon gan hynny vfyddhawn, yr awr hon gan hynny adbrynwn yr amser, sef y dydd heddyw, y rhai a oediasom gynnifer o ddyddiau, y rhai cyhyd o amser a galedasom ein calonnau, y rhai a ollyngasom heibio gymmaint o bethau da i redeg trosodd ac i golli hefyd, cymmerwn y dydd [Page 31] hwn, a gwnawn ef yn dydd ein hedifeirwch. Er na chynnyrfwyd ni â Phregeth erioed hyd yn hyn, etto cynhyrfer ni yn awr unwaith ar y diwedd. Dywedwn yr awr hon, y dydd hwn a gaiff fod yn ddydd edifeirwch i mi; Ni cheisiaf oedi ym mhellach, ond yn awr y dychwelaf at Dduw, ac yr ymwrthodaf a'm holl hên ffyrdd ddrygionus, ac a'm dychymmygion fy hun: Yr awr hon y newidiaf helynt fy muchedd, ac y dechreuaf o newydd. Mi a fynnaf fod yn gydnabyddus a gair Duw, Ac a ymgynghoraf ag ef pa beth a wnelwyf, a pha fodd y dylwn ymddwyn fy hunan ym mhôb gweithred.
Myfi a ddiwygiaf, n▪d fy hun yn vnig, eithr hefyd fy holl deulu, a'm gwraig, a'm plant; am gwasanaeth ddynion yn ol y gair. Mal hyn fy mrodyr anwyl, attolwg i chwi fwriadu yn eich calonnau, ac nac oedwch yn hwy: na fyddwch gyffelyb i loddest-wyr yn oedi gwellhau gan ddywedyd: Ieuengctid a fyn fod yn nwyfus, ac ieuengctid a fyn ei helynt a'i rwysc, a pha raid bod mor dduwiol yn ieuaingc? Digon yw vn ochenaid wrth farw, byddwn lawen yr awr hon, ni byddwn byth mwyach ieuengach nag ydym, ni a gymmerwn edifeirwch pan elom yn hên.
Megis (och y druein) pe bae ganddynt edifeirwch ynghadw yn eu llewis, ac wrth eu gorchymyn, ac y medrent edifarhau pan fynnent: Na sedrant ddim; fe gaiff y cyfeillion hyn dalu yn hâllt am eu rhyfig: Oblegid Duw ai rhydd hwynt i fynu i galedwch [Page 32] calon, a diedifeirwch o herwydd eu bod mor hyderus, a chymmeryd oed cyhyd o amser, fel y gallent yn y cyfamser fwynhau bûdd, a meluswedd pechod.
Am hynny garedigion frodyr, nac oedwn o ddydd i ddydd, ond ceisiwn yr Arglwydd yr awrhon tra y caffer ef, a galwn arno tra fyddo yn agos attom, Esay, 55. 6. cymmerwn amser tra caffom yr amser, canys amser a llanw nid erys neb. Cydnabyddwn mai hwn yw amser ein ymweliad.
Ein Achubwr Crist a wylodd tros Jerusalem, am nad adwaenei amser ei hymweliad. Argyoeddi yr Iddewon y mae efe o herwydd y medrent ddirnad wyneb-pryd yr awyr, ond ni fedrent ddirnad arwyddion yr amserau. A diau y trŷ hyn yn y diwedd iw destryw hwynt, oni chydnabyddant mai hwn yw dydd y trugaredd, ac amser grâs, pan yw Duw yn estyn allan ei law tu ag attynt, a doethineb yn llefain yn eu heolydd. Yn awr gan hynny tra caffom oleuni rhodiwn fel plant y goleuni: Y nôs sydd yn dyfod pryd na all neb weithio▪ Rhy-hwyr yw galw am drugaredd yn ôl y bywyd ymma, pan gauer pyrth trugaredd, ac y byddo rhy-hwyr edifarhau.
Oh Gristianogion anwyl, cofiwn y pum gwyryfon angall, y rhai o herwydd iddynt oedi yr amser yn rhy-hir, fe gaewyd pyrth y Nefoedd iw herbyn. Cofiwn hefyd ofnadwy a gresynol esampl y glŵth goludog, yr hwn, pan ydoedd yn uffern mewn poenau, oedd yn llefegor, ac yn ymbil am yr esmwythyd, a'r [Page 33] cyssur lleiaf a allai fod, ac etto ni fedrei gael hynny.
Can-gwell i ni gan hynny ymadael â'n pechodau yr awr hon; tristhau am danynt yr awr hon, ac edifarhau yr awr hon, nag yn ôl hyn, prŷd sywaeth y bydd rhy-hwyr: gwell o lawer cymmeryd peth poen yr awr hon, drwy ymor chestu i ymadael ân pechodau, a pheri i'n calonnau ymofidio trostynt, nân condemnio yn dragwyddol, a gweiddi yngwaelod uffern▪ gan ddywedyd.
Nyni a gyfeiliornasom allan o ffordd gwirionedd, ac ni thywynnod llewyrch eyfiawnder i ni, ac ni chododd haul cyfiawnder▪ arnom. Nyni a lanwyd o ffyrdd anwiredd a destryw; ac a rodiasom trwy anialwch anhyffordd, eithr nid adnabuom ni ffordd yr Aglwydd. Pa fudd sydd i ni o falchder? A pha les a wnaeth golud, a ffrost i ni? Y pethau hynny oll a aethant ymmaith fel cyscod, ac fel cennad yn rhedeg, Nyni a osodasom ein hunain yn erbyn y cyfiawn ac yr oeddym ni gynt yn eu gwatwar hwynt, ac yn eu dyfalu yn wradwyddus▪ Nyni ffyliaid a feddyliasom fod eu buchedd yn yn fydrwydd, a'u diwedd yn ammharchus. Ond wele, hwy a gyfrifir ym mhlith meibion Duw, ac y mae eu rhan hwynt ym myfc y Sainct. Am hynny cydnabyddwn amser ein galwad, ac na fyddwn waeth nag ehediaid yr awyr: Y Turtur a'r garan, a'r wennol a gadwant amser eu dyfodiad: Y llafurwr a gymmer ei amser: a'r morwr a ddisgwyl am y llanw: moeswch i ninnau hefyd [Page 34] gymmeryd yr amser, a dychwelyd at yr Arglwydd tra y dywedir heddyw. Yr hwn râd Duw ai canniadhâo i ni.
Deuwn bellach at y pedwerydd pwngc ynghylch yr achosion a allent ein cymmell ni i edifarhau. Ac yn hyn mi a nodais naw o bethau enwedigol.
Y mae yn gyntaf Ddirfawr drugaredd a daioni Duw yn ein tywys ni i edifeirwch; fel y dywaid y Apost. Rhuf. 2. 4. Y mae Duw beunydd yn ein dilyn ni â'i drugareddau, ac ai gymmwynasau tu ag at ein eneidiau a'n cyrph; nid oes gennym ddim ac sydd dda ar nas derbynniasom ganddo ef. Oddiwrtho ef yr ydym yn dal y cwbl ôll ar a feddwn: ac iddo ef yr ydym yn rhwymedig am y cwbl ôll: mawr yw ei drugaredd ef tu ac at ein cyrph: a phòb trugaredd, a chymmwynas tu ag at yr enaid neu'r corph, sydd yn ein galw, a'n gwahodd a'n cymmell ni i edifeirwch. Efe sy yn rhoddi i ni fwyd, a diod, a dillad; y pethau hyn sydd yn ein galw ni i edifeirwch. Efe a'n ceidw ni ar ei gôst ai draul ei hun, ymma ar y ddaiar; hyn a'n geilw i edifeirwch: yr haul, y lloer, a'r sêr a'n geilw ni i edifeirwch: Adar yr awyr, pŷsc y môr, a ffrwythau y ddaiar sy yn llefain arnom yn uchel ac yn llafar, edifarhewch, edifarhewch. Pan bo pechadur yn gyfrannog o drugareddau Duw, (fel yr ym ni oll bob munedyn o amser yn gyfrannog o honynt) fe ddylei da'ywedyd yn ei galon fel hyn. Beth? a bechafi yn erbyn y Duw hwnnw Sydd mor dda wrthif? a esceulusafi edifarhau a throi atto ef sydd beunydd â'i drugareddau yn ceifio'n nhoddi i edifeirwch.
[Page 35]Yr hôll greaduriad sy'n ein cymmell ni i edifarhau: Y mae ein creadwriaeth yn galw arnom, ein prynedigaeth yn llefain, ein sancteiddiad yn curo, a'n etholedigaeth yn ein cynnyrfu i edifeirwch: beth a allai Dduw wneuthur dros ei winllan ychwaneg nag a wnaeth? o herwydd, hyn edifarhawn.
Yn ail, y mae Barnedigaethau Duw yn ein cymmell i edifeirwch: Canys yr holl fygythion, a'r plâau, a'r cospedigaethau a dywalltodd Duw erioed ar bechaduriad anhydyn, o ddechreuad y byd, ydynt gynnifer rhybuddion neillduol i'n deffroi o drymgwsc pechod, ac i'n swmbylio i edifarhau.
Megis pan goffausei yr Apostol amryw farnedigaethau Duw, yn erbyn yr hên Israeliad am amryw bechodau, penderfynu y mae fel hyn, 1. Cor. 10. 11. Yr hôll bethau hyn a ddigwyddasant yn esampl iddynt hwy, ac a scrifennwyd yn rhybudd i ninnau, ar ba rai y daeth diwedd y byd. Ac felly yr holl gospedigaethau yr ydym yn darllain am danynt yn yr Scrythyrau, ydynt gynnifer rhybudd enwedigol, ac megis rhaffau men i'n tynnu i edifeirwch.
Yr holl ddialeddau yr ydym yn darllain am danynt, neu yn eu gweled, neu yn clywed o honynt bob dydd, ydynt yn curo a dyrnodiau trymmion, ac yn taro hyd lawr at ein cydwybodau i'n dwyn ni i edifarhau. Yr a [...] ghenfilod anferth-lûn, yr awyr-ddreigiau tanllyd, y sêr llosgyrnog, y marwolaethau dysyfyd, y brwdaniaeth angerddol, yr eira rhyfedd-fawr, [Page 36] y llif-ddyfroedd▪ ofnadwy, y rhyfeddodau pellennig, Yr ymrithiadau dieithrol, y bygythiadau yn y Nefoedd oddiarnodd gan fflammau tân yn ymgyrchu, a'r ddaiargrynfau tan ein traed, a'n tai goruwch ein pennau yn siglo, fel y gwelsom yn ddiweddar: Pa beth yw y rhai hyn ôll ond megis bachau gorchest, trawstiau a rhaffau, i'n tynnu at yr Arglwydd drwy edifeirwch. Ymae'r Arglwydd yn y bedwerydd o Amos yn achwyn, er iddo ddanfon llawer o farnedigaethau ar bobl yr Israel, megis eisiau bara, diffig dwfr, difflanniad a mallder ar eu ffrwythau, y cornwyd neu'r, chwarren, a'r rhyfel iw cospi a'i cystudddio hwynt; etto fod y bobl heb edifarhau a throi atto ef: fel y gallwn ni weled wrth hynny, fod Duw trwy ei farnedigaethau yn ein galw ni i edifeirwch.
Yn drydydd, y mae Gair Duw yn ein hwylio ac yn ein galw i edifeirwch: Canys megis yn yr amser gynt, y danfonodd Duw ei brophwydi, yn foreu ac yn hwyr i alw yr Iddewon gwrthryfelgar i edifeirwch; felly y mae efe yn y dyddiau hyn yn anfon y Pregethwyr, a'r cennadon i ganu utcorn ei air, ac i beri bereidd-glŷch Aaron seinio yn eu plith, iw deffroi hwynt i edifeirwch. Eithr sywaeth leied cyfrif a wneir o honynt: Pwy a wrendu ar eu llais: ond diau mai dymma yr ymwared diweddaf a osododd Duw, ac oni chynnyrfa hwn ni i edifarhau, os hwn nis iachâ ni, yna yr ydym yn llwyr efryddion.
Yn bedwerydd yr Anfeidrol nifer o bechodau [Page 37] a wnaethom, a ddylei fod yn gynnifer swmbylau yn ein ystlysau i'n cymmell i edifarhau. Digon yw medd (St. Petr.) dreulio o honom yr amser a aeth heibio yn ôl trachwant au y cenbedloedd, gan rhodio mewn gwŷn trachwant, meddwdod, glothineb, ymyfed a phob ffiaidd eulyn-addoliad, 1. Pet. 4. 3.
Am hynny madws yw weithian edifarhau. Oh na throe pobl yn ôl i edrych arnynt eu hunain, fel yr oeddynt hwy ddeugain, neu ddêg ar hugain, neu ugain, neu ddêng mhlynedd ir awr hon.
Oh na chofient eu pechodau cyhoeddus a dirgel; ac mi a dybygwn y dylei meddwl am danynt, a chofio o honynt, beri iw calonnau waedu yn eu cyrph! O nad ystyrient pa faint o amser a dreuliasant yn ofer, a pha faint o bethau daionus a ddarfu iddynt eu hesceuluso, a'u gadael heb wneuthur.
Yn bummed, Byrder ein henioes fy'n galw arnom yn daer am edifarhau. Trwydded ein henioes ni yw dêng mylynedd a thrugain, ac os cyrhaeddwn bedwar ugain mylynedd, yna nid yw ein cryfder ond poen a blinder, canys buan y darfyddwn, ac yr ehedwn ymmaith, medd y prophwyd Dafydd; Ni a dreuliasom ein blynyddoedd megis chwedl, am hynny y dywed: Dysc i ni felly gyfrif ein dyddiau fel y dygom ein calon i ddoethineb, Psal. 90. Ein henioes o herwydd ei byrred, a'i hansiccred a gyffelybir yn yr Scrythyrau i laswellt, i darth, i fŵg, i wennol gwehydd yr hon a rêd ymmaith yn gyflym. Felly y mae dyddiau [Page 38] dynion yn myned heibio ni wŷr undyn pa fodd. Dyn sydd a byrr amser iddo i fyw (medd Iob) ac yn llawn trueni. Yr ym yn gweled beunydd wrth brawf, mai heddyw yn hoyw ddyn, ac y foru yn adyn. Ymmaith oddi ymma y mae yn rhaid i bawb fyned, pa cyn cynted nis gŵyr neb. Ond nid oes ymma le i hir drigo. Am hynny edifarhwn.
Yn chweched, Leied y nifer a fydd cadwedig a ddylei ein gwythio ni i geifio tynnu ym mlaen i edifarhau. Ymdrechwch i fyned i mewn i'r porth cyfyng: Canys llawer, meddaf i chwi a geisiant fyned i mewn ac nis gallant, medd Crist. Ac mewn man arall y dywed. Cyfyng yw'r porth a chul yw'r ffordd sydd yn arwain i fywyd, acychydig ydynt yn ei gael. Pe bae ddynion yn ystyried hyn, fe wnai iddynt edrych yn well o'u hamgylch, a'u profi eu hunain a ydynt hwy o'r rhifedi bychan hwnnw, ai nad ydynt.
Yn seithfed, Y mae Angeu yn ein bygwth, yr hwn sydd osnadwy i'r cnawd, a meddwl am farw sydd chwerw iawn i ddyn a fae wedi ymroi i feluswedd y byd. Ni wenhieithia Angeu i neb; ni pharcha vndyn; ni wna gyfrif o gyfeillach vn-gŵr: Nid oes ganddo bris am wobran, y mae yn gethin iawn, yn anferth, yn greulon, ac yn llâdd yn farw lle y tarawo: Am hynny edifarhawn.
Yn wythfed, Dydd y farn, ac ail ymddangosiad mab y dŷn a ddaw fel lleidr y nôs; yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio mewn trŵst, a'r defnyddiau a doddant gan wrês, a'r ddaiar, [Page 39] a'r gwaith sydd arni a loscir. Am hynny gan orfod ir pethau hyn fod felly, pa fâth ddynion a ddylem ni fod mewn ymarweddiad sanctaidd, a duwioldeb, 2 Pet. 3. 10, 11. Yr Arglwydd Iesu: a ymddengys o'r Nefoedd mewn tân fflamllyd, a'i Angelion nerthol gyd ag ef, i roddi dial ar y sawl nid adwaenant Dduw, ac nid vfyddhànt i Efengyl ein Harglwydd Iesu Grist, 2 Thes, 1. 7. 8. Mi a welais (medd St. Ioan) Orseddfa wen fawr, ac vn yn eistedd arni, o wydd yr hwn y ffôdd y ddaiar, a'r Nefoedd, a'u lle ni chafwyd mwy. Ac mi a welais y meirw, mawrion a bychain yn sefyll o flaen Duw, a'r llyfrau a agorwyd, a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd, a'r meirw a farnwyd am y pethau oedd scrifennedig yn y llyfr au, yn ol eu gweithredoedd: a'r môr 'a roddes i fynu y meirw oedd ynddo, a marwolaeth ac vffern a roddasant i▪ fynu y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bob vn yn ol eu gweithredoedd Datc. 20. 11, 12, 13.
Nyni a welwn yn y lleoedd ymma mor ddifymmwth, mor ofnadwy, ac mor ogoneddus fydd dyfodiad Crist. Oblegid ni ddaw efe yn dlawd, ac yn ddirmygus megis yn ei ddyfodiad cyntaf, eithr efe a ddaw yn frenhinawl, yn Ardderchawg, ac yn orfolaethus, er dychryn mawr iw elynion, pan fo tân yssol yn myned oi flaen ef, a myrdd fyrddiwn o Angelion yn ei wasanaethu; pan fyddo Brenhinoedd y ddaiar, a'r [Page 40] pendefigion, a'r cyfoethogion, ar Pen-capteniaid, a'r cedyrn, a'r caethion, a'r rhyddion yn ymguddio mewn llochesau, ac ym mysc creigiau y mynyddoedd, ac yn dywedyd wrth y creigiau a'r mynyddoedd, fyrthiwch arnom, a chuddiwch ni o wydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfa, a rhag llid yr oen: canys dydd mawr ei lid ef a ddaeth, a phwy a ddichon sefyll. Am hynny edifarhawn, Date. 6. 15.
Y peth olaf yw Poenau vffern, nâ'r rhain nid oes dim mor annioddefadwy. Am hynny y dywed Christ, Os bydd dy law i'th rwystro torr hi ymmaith; gwell i ti fyned i fywyd yn vn llawiog, nag a chennit ddwy law fyned i vffern, ir tan anniffoddadwy, lle ni bydd marw y prŷf, ac ni ddiffoddy tan Mar. 9. 43. 44. Ofnadwy i'n synhwyrau ni y mae'r Scrythyrau yn llefaru am gyflwr y rhai colledig, gan ei gyfenwi yn dân vffern, yn ddamnedigaeth, yn bwll yn llosci o dân a brwmstan yn dragywydd. Ym Mhrophwydoliaeth Esay, y gelwir eu cyflwr hwy Tophet wedi ei pharatoi er doe ai pharatoi i'r Brenin; efe ai dyfnhaodd yn ehang, ei llosciad yw tân a choed lawer, ac anadl yr Arglwydd megis afon o frwmstan yn ei hennyn Esay. 30. 33. Yr ymadroddion hyn ydynt ofnadw y ynddynt en hunain, ac yni peri i ninnau synnu yn aruthr.
Eithr pe rh [...] a bod gennif dafodau cant o wŷr, nagê cant o Angelion, er hynny ni allwn i adrod pa fath boenau y caiff rhai ryw ddydd [Page 41] ddioddef, chwaethach gallu o honoch chwi eu dirnad hwynt. Pe bae yr holl arteithiau, a'r poenedigaethau creulonaf a allei synwyr dyn eu dychymmig, wedi eu gosod ar ryw vn dyn, etto nid yw hynny ddim wrth boenau vffern. Nyni druein a dybygwn nad oes dim poen iw gyffelybu ir tostedd, neu grŷd angerddol: ond pe bai bossibl i bob mâth ar dostedd, pôb rhyw grŷd, a phôb mâth ar glefydau dieithr allu dyfod, a tharo ar vn dyn, ni byddei y cwbl ynghyd ond megis pigiad chwanen wrth y boen sydd i ddyfod. Y boen honno sydd ddiddiwedd, ddiseibiant, a diymwared. Dyddiau eu poe. nau vffernol ni wisc allan byth, ac ni dderfydd eu blynyddoedd: pa hwyaf y parhânt lleiaf fydd eu gobaith, pan elo heibio gynnifer o flynyddoedd ac sy o ddynion yn y byd, a sêr yn y Nefoedd; Pan ddiweddo cynnifer mîl o flynyddoedd, ac sydd o gerrig, a thywod ar lan y môr, er hyn y mae etto ddêg can mil o weithiau gynnifer a hynny ychwaneg i ddyfod. Y rhai ni chynnyrfir dim arnynt yr awrhon wrth wrando, y gânt eu malurio yn gandryll y prŷd hynny yn dioddef. Yr hôll feddwon, a'r tyngwyr, y putteinwyr, a'r occrwyr, y breibwyr, a'r celwyddog, y gwawdwŷr, a'r dirmyg-wyr, y rhai difraw a'r rhyfygus, y gloddest wyr, a'r rhuad-wyr, y rhai penhoeden, a'r hôll rai anghredadwy am ben hyn, a ddyfynnir, a ddelir, ac a fernir ryw ddydd ger bron gorseddfaingc Duw, lle y bydd mawrhydi Duw yn sefyll oddi arnynt, ac yn ei law gleddyf noeth o ddialedd, a theyrnwialen cyfiawnder: Diafol, yr hên Sathan [Page 42] a faif ar y naill du iw cyhuddo: ai cydwybodau eu hunain ar y tu arall iw condemnio: A safnrhwth ddiffwys vffern oddi tanodd yn agored iw llyngcu yn dragywydd. Yna y datcenir iw herbyn y farn ofnadwy o felldith, a damnedigaeth tragwyddol, ewch chwi felldigedig i dân vffern, &c. Yna yr yfant (megis cyfiawn daledigaeth am ei hanwiredd) o gwppan chwerw llid tragwyddol, a digofaint Duw yn nheyrnas y tywyllwch, ac yn ddychrynllyd wydd Satan, a hôll felldigedig elynion grâs Duw, lle y dadseinia bŷth yn eu clūstiau alaethus vtcorn digofaint Duw; Lle y bydd byth wylofain a rhingcian dannedd; lle y bydd gwradwydd, a gwae, a galarnad didrangcedig; eu gwewyr fydd cyn dosted, a'u gofidiau cyn drymmed hyd oni bônt yn yscyrnygu dannedd fel cŵn yn eu penydiau vffernol, gan vdo, a llefegor; Gwae fi, ac ôch finnau erioed fyngeni! Oh na buaswn heb fyngeni, neu nas escorasai fy mam fi yn llyffant: canys felly y buasai well fyn ghyflwr nag y mae: melldigedig oedd yr amser im ganwyd ynddo, yr awr i'm cenhedlwyd, ar diwrnod y sugnais fronnau fy mam: Melldigedig oeddwn erioed, melldigedig ŵyf, a melldigedigfyddaf bytb. Gwae fi, gwae fi faint yw fy mhoenau! Pwy ni thoddei ei galon: pwy ni ferwinei ei glustiau: pwy ni chodei ei wâllt yn ei sefyll wrth glywed y pethau hyn: Am hynny, frodyr anwyl edifarhawn. Onid all trugaredd Dduw ein denu ni, gedwch iw farnedigaethau ef ein hofni: Onid all ei farnedigaethau ef yn dychrynu, gedwch iw air ein cynnyrfu ni: [Page 43] Onid all ei air ef ein cynnyrfu, gedwch i'n pechodau beri i ni synnu: Onid all ein pechodau beri i ni synnu, gedwch i fyrder ein henioes ein lliasu, onid all byrder ein henioes ein lliasu, gedwch ir ychydig rifedi a fydd cadwedig ein cyffroi ni: onid all hynny ein cyffroi ni, gedwch i farwolaeth ein gwlltio ni: onid all marwolaeth ein gwlltio ni, gedwch i ddydd y farn ein hyscwyd ni, os hynny ni'n hyscwyd ni, dryllied a rhwyged poenedigaethau vffern ni yn chwilfriw! Canys yn ddiau fy mrodyr, oni thyccia yr un o'r rhai hyn, onid edifarhawn er hyn i gŷd, ond bod yn gyndyn, yna fe an collir ni ôll, ac a'n demnir yn ôl geiriau Crist.
Bellach awn rhagom i ymmadrodd am y pethau sy'n rhwystro, ac yn lluddias edifarhau: y rhai mewn gwirionedd er eu bod yn annifeiriol, etto ar hyn o amser mi a amlygaf saith rhwystr neu attal, yn lluddias i edifeirwch.
Y cyntaf yw Anghrediniaeth, sef pryd na choelia dynion y pethau a ddywedir, ac a brofir allan o air Duw. Dyna 'r peth sy'n peri chwdu i fynu bôb peth da, ac yn gwenwyno dŷn oddifewn, ac yn cadw pôb rhadau daionus oddiwrthym, fel y mae yn amlwg, Mat. 13. 58. Ni wnaeth efe nemmawr o weithredoedd nerthol yno o herwydd eu hangbrediniaeth hwynt. Ac wrth yr Hebreaid y dywedir. Iddynt hwy y pregethwyd yr Esengyl megis i ninnau: eithr y gair a glywsant ni bu fuddiol iddynt, o herwydd nad oedd [Page 44] wedi ei gymmyscu a ffydd yn y rhai ai clywsant Heb. 4. 2. Felly nyni a welwn ymma er maint a glywom, oni bydd gennym ffydd gredu, na chawn ddim llesâd oddiwrtho i edifeirwch: Canys anghrediniaeth a dynn ein calonnau at y Cythraul, ac a wrthid bob pûr athrawiaeth iechydwriaeth, ac a galeda ddynion mor ddiwin yn llwybrau pechod, hyd onid elont ar y diwedd yn ddiofal-frŷd, ac mor ddiglyw, ac na ellir cynnyrfu arnynt y dim lleiaf, nac â barnedigaethau, nac á thrugareddau Duw, ond cyfrif y naill a wnant megis rhuthrau gwŷnt yn chwythu, a chymmeryd y llall yn escus i ddilyn eu brynti Chwi a gewch weled rhai, pan glywant argyoeddi eu pechodau allan o air Duw, a phrofi oddi yno fod damnedigaeth yn wir ddyledus iddynt, oddi eithr edifarhau o honynt ar frŷs a dorrant allan ir cyfryw ymadrodd a hwn y [...] tueddu i anghrediniaeth: Os yw y pethau hyn (meddant) fel y dywed efe, Duw a'n helpio gobeithio nad felly y mae: y mae gennif hyder yr ymdarawafi tra fo gennyf ffydd dda yn Nuw, a bod heb ddrygu neb. Ai rhaid mi golli fy nigrifwch, a'm mantais er eu geiriau hwynt? Ai tybied y maent na bydd neb cadwedig, onid a darlieno yr Scrythyrau, ac a wrendu ar bregethau? Na atto Duw na byddo cadwedig y sawl nid ynt yn gwrando pregethau yn gystal a hwythau: paham, oni ddichon dyn gartref yn ei dŷ ei hun, a chanddo lyfrau da, a gweddiau da wasanaethu Duw yn gystal ac o ddyfod ir eglwys i wrando [Page 45] pregethau, a gwasanaeth? Sywaeth, y mae y cyfryw ddynion yn sesyll gormod yn eu goleu eu hunain, ac yn dangos pa ffoledd, ac anwybodaeth sydd ynddynt. Oblegid a ydynt hwy yn bwriadu bod yn gadwedig drwy foddion eraill, amgen nag a ordeiniodd Duw? neu pan osododd Duw ar lawr ryw-beth yn ei air, a rônt hwy yn erbyn hyn, ac felly gwneuthur Duw yn gelwyddog? Darfyddo i Dduw vnwaith yspysu rhyw beth, ai brofi yn eu hwynebau, a wrthebant hwy er hynny? wedi dywedyd o Dduw i ni mai pregethiad y gair yw cyffredin gyfrwng ein iechydwriaeth, a obeithiwn ni fod yn gadwedig er i ni wrthod y gair, neu fod heb ei wrando, or hyn lleiaf ei wrando yn anfynych? Ond anffyddlondeb hynod, ae anghrediniaeth yw hyn, sef pan ddywedo Duw ie, ninnau a ddywedwn nagê, gobeithio nad felly? Ie yn ddiau dyna 'r peth sy yn attal, ac yn lluddias y ffordd rhag myned at radau Duw, ac yn ein cau ni allan oddiwrth edifeirwch.
Yr ail rhwystr yw Rhyfygu o drugaredd Duw: Oblegid os ceryddir dynion yn llym am eu pechod, a'u hannog i edifeirwch, yn y man hwy a siaradant yn hoccedus gan ddywedyd: Y mae Duw yn drugarog: y mae Duw yn drugarog: Megis pe bae Duw yn drugaredd ôll, ac na bae ynddo ddim cyfiawnder: ac felly y mae yr annuwiol yn gwneuthur trugaredd Dduw yn achlysur i bechu. Yr hyn beth y mae y prophwyd Nahum(1.3) yn ei geryddu yn llym: Yr Arglwydd(medd [Page 46] efe) sydd hwyrfrydig i ddigofaint, eithr y mae efe yn fawr ei allu, ac ni ddieuoga efe y drygionus. Ond o herwydd i mi grybwyll o [...] blaen am ryfygu yn nhrugaredd Dduw, a [...] gam-arfer, mi a af trosto yr awrhon, gan ewyllysio i chwi ei nodi, a dal sulw arno, ma [...] un o'r rhwystrau hynod i edifeirwch.
Y trydydd rhwystr yw siampl y lliaws [...] Canys hynny sydd yn cefnogi, ac yn hyfhau dynion i bechu: megis pan fo llawer o adar wedi ymgasclu yn fintai, hwy a darawant a [...] y rhwyd yn ddiarswyd; ond vn neu ddau ar eu pennau eu hunain fyddant ofnus: felly esamplau llawer o bech-gyfeillion, a wnant i ddynion redeg yn hyderus drwy faglau Satan heb arswydo, nac ammeu dim: Am hynny y dywedir yn Exodus 23. 2. Na ddilyn liaws i wneuthur drwg. Dymma 'r peth sydd yn lluddais llawer tros ben i fyned at Dduw▪ Canys nid edrychant vn amser i fynu a [...] Dduw, nac ar ei air, ond craffu a wnant a [...] esamplau y byd, a pha beth y bydd y rhan fwyaf yn ei wneuthur, gan dybied, os gwnant hwy, fel y mae pawb gan mwyaf yn gwneuthur, neu fel y gwnaeth eu tadau, au teidiau or blaen, eu bôd yn ddigon diogel, ac yn sefyll ar dîr gwastad. Ac o hyn y cyfyd eu dihareb gythreulig, Gwnewch fely gwnelo y rhan fwyaf, a llai a ddywed yn ddrwg am danoch: Eithr abrgofi a wnaethont yr hyn a ddywed S. Paul na chydymffurfiwch â'r byd hwn. Rhuf. 12. 2.
Y dynionach hyn, y rhai a safant ar laweroedd [Page 47] a lluosogrwydd, a ymresymmant fel hyn: ni welwn ni neb o rai mawrion y byd, neb o'r pendefigion, neb o'r cyfoethogion, neb o'r doethion, a'r Synhwyrol yn derbyn yr athrawiaeth hon, ond yn vnig ychydig ffardialach, a rasclach rheidus-lawn, a hyn sydd arwydd na thâl yr athrawiaeth ddim, ac mai amheus ydyw, ac nid peth i ni i ymgymmyrredd ag ef. Wele pa feddyliau a ddichon ymlithro i'n pennau: ac mor hoccedus y dichon Satan osod rhwystr ar ein ffordd, a gorchguddio ein llygaid, a'n harwain yn y tywyll drwy ein pendafadu ag esampl y lliaws. Am hyny gochelwn y pridddyllau hyn a gloddiodd Satan ar ein ffordd, ac na oddefwn ein tynnu ymmaith â'r meddyliau, ac â'r rhesymmau hyn. Y diygionus ydynt ddigon hyderus mai hwynt hwy piau 'r bêl, mai hwynt hwy sy yn ennill y gynglwyst, ac nid oes dim ond canu fel ceiliogod cyn ei bod hi yn ddydd; a gorfoleddu yn fawr yn eu plith hwynt cyn taro vn dyrnod; a hynny o herwydd nad ydym ni ond dyrned o bobl, a hwynt hwy yn fintai anfeidrol; a bod yr hôll fŷd gan mwyaf yn cyttuno ag hwynt i'n llâdd ni. Mal hyn y mae Diafol yn bwrw niwlen tros eu llygaid, ac yn eu har wain ymmaith yn lledradaidd oddiwrth edifeirwch. Am hynny (frodyr anwyl) safwn yn ddisigl yngair yr Arglwydd, ac nad ymroddwn i adael ein dwyn i wared gyd â chefn lli, a ffrŵd y lliaws; ond gwybyddwn fod hynny yn vn o ddichellion y cythraul, i'n gyrru ni oddiwrth edifeirwch.
[Page 48]Y pedwerydd rhwystr i edifeirwch yw Hir Arfer o bechu. Canys hynny sydd yn tynnu ymmaith bôb achreth, a chwithdod o bechod, at yn ei wneuthur megis yn ail naturiaeth, ac yn ddi-chwith; yn gymmant a bod cyn hawsed i ni newidio naturiaeth, ac ymadael a phechod, darfyddo iddo vnwaith ymgyfansoddi, a myned yn vn a ni drwy hir arfer. Am hyn y dywedir Jer. 13. 23. A newidia 'r Ethiopiad ei groen? neu 'r llewpard ei frychni? felly chwithau a ellwch wneut hur da y rhai a gynefinwyd a gwneuthur drwg. Yno y mae y Prophwyd yn dirio arnom, mai cyn anhowsed yw iacháu hên ddolur a fagwyd yn yr escyrn, ac ymlanhau oddiwrth bechod a anwyd, ac a fagwyd gyd a ni, ac ydyw golchi Ethiopiad yn wynn, a newidio brythni y llewpard: yr hyn beth nis gellir mo'i wneuthur heb ddinistrio naturiaeth. Ac yn ddigelwydd, profed y neb a fynno, efe a gaiff weled cyn anhawsed ymadael â hên gynnefin arfer, pa vn bynnag ai o dyngu, o chwareu, o ddywedyd celwydd, o butteinio, o ddrwg cymdeithas, neu ryw bechod arall, ac ydyw golchi Ethiopiad yn wynn. Am hynny yr scrifennwyd, Er i ti bwnnio ffol mewn morter ym mhlith grawn: etto ni ymedu ei ffolineb ag ef, Dihar. 22. 27. Yn gymmaint ag tra fom yn cadw arfer ar bechu, drws edifeirwch a gaewyd i'n herbyn.
Y pummed rhwystr yw Diangc heb gospedigaeth, Canys felly y mae yr annuwiol yn [Page 49] caledu yn eu pechod, ac yn myned yn ddidd [...]rbod am edifarhau: megis hên leidr a fai gyn [...]efin a lledratta er ys talm o amser, ac wedi diangc rhag y carchar a'r crog-bren fydd [...]yfach ar ei ddrwg, gan dybied y caiff ddiangc rhag llaw: felly llawer o ddrwg fucheddwyr aflan a ddilynant hên helynt eu ffieidddra yn ddiedifarus, gan feddwl, o herwydd nad ydyw Duw yn eu cospi yn ebrwydd, ac yn dwyn arnynt amryw ddialeddau, ac arwyddion o'i lid, y cânt eu rhyddhau, a bod yn ddiangol byth. Lle yngwrthwyneb i hyn, pe tarawei Dduw hwynt i lawr yn y man cyn gynted ac y pechent, drwy saethu taranau at y naill, a mellt at y llall, a glawio tán a brwmstan ar y trydydd, fe barei hyn iddynt ofni. O herwydd hyn y dywedir yn S. Petr 2 Ep. 3. 3. hyn gwybyddwch yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diweddaf watworwyr, yn rhodio ar ol eu trachwantau eu hunain, ac yn dywedyd: pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef, canys er pan fu farw y tadau; y mae pob peth yn parhau yn yr vn ffunyd o ddechreuad y creadwriaeth.
Eithr bydded hyspys ir gwŷr hyn darfyddo i Dduw oedi tros hir amser, a gohiri trwydded y drygionus, yr ymddengys efe ar hynt (neu mewn amser) mal er ei fod yn hîrddisgwyl am eu hedifeirwch, etto nid anghofiodd eu camweddau hwynt, ond y maent yn scrifennedig mewn llyfrau coffadwriaeth ger ei fron ef, ac wedi eu yscafnu yn [Page 50] ben-twrr mawr i chwanegu dychryn ei ddi gofaint.
Y chweched rhwystr yw dal sulw ar ddi wedd rhai eraill. Canys pan fae rhai o' [...] sawl a fuont yn byw yn ddrygionus, ac y [...] ymroi i helyntiau anraslon, gan ddilyn y pechodau dygnaf yngolwg y byd, nes bod pawb yn estyn bŷs attynt, er hynny, ar eu claf wely yn adrodd ychydig eiriau da, ac yn galw a [...] Dduw am drugaredd, gan ddywedyd e [...] gweddiau, a maddeu ir holl fyd, a felly marw yn llonydd, peth rhyfedd yw clywed sôn pa ganmol a wna ffyliaid y byd arnynt, pa gyfiawnhau, gan ddywedyd: efe a wnaeth ddiwedd da tros ben yn gystal ac y gallei vndyn ei wneuthur: e fu farw cyn llonydded a' [...] oen, fe osododd ei bethau mewn trefn dda cyn ei farw.
O hyn y cymmer diffeithwr, ac annuwiol ddyn arall achlyssur a bwriad i bechu: cany meddwl a wna fel hyn: Y gŵr a'r gŵr oedd cynddrŵg ei fuchedd a minneu, neu ac vndyn arall, ac etto efe a wnaeth ddiwedd odiaeth, a phaham na allaf finneu wneuthur felly? Eithr y mae llygaid y dynion hyn wedi cibddallu sywaeth; canys narw yn llonydd nid yw bôb amser marw yn dduwiol. Llefain am drugaredd Dduw er mwyn dilyn arfer, neu lenwi llygaid y byd, nid yw yn cael Duw yn drugarog: adrodd ychydig weddiau ar flaen y tafod nid marw yn y ffydd ydyw: canys y mae llawer yn gwneuthur y pethau hyn, ac er hynny yn marw yn ressynol.
[Page 51]Yr olaf yw Gobeithio byw yn hir: Canys tra fyddo dynion yn ymfodloni yn y gobaith ymma, ymbendafadu y maent mewn pechod, ac oedi a wnant ddydd eu hedifeirwch, fel y gŵr goludog, Luc, 12. Yn breuddwydio am fyw yn hir, ni feddyliodd am Dduw, nac am y bywyd arall, nac am ddyfodiad Crist, a phôb daioni, ond dywedyd ynddo ei hun: O enaid y mae gennit ddigon o dda wedi ei dryssori tros lawer o flynyddoedd, cymmer y bŷd yn esmwyth, bwytta, ŷf, bydd lawen.
Mal hyn y bydd coeg-ddeillion y byd hwn yn tagu edifeirwch, gan ei sychmyrnio drwy ymffoli a gobaith o fyw yn hir. Am hynny fy mrodyr anwyl, yr wyf yn attolwg i chwi er trugareddau Duw yn ymyscaroedd Jesu Grist, na chaffo yr vn o'r rhwystrau cyffredin hyn eich attal rhag edifarhau yn ddioed, ac yn ddiragrith, ond treiddio o honoch yn gefnog trwy 'r cwbl, rhag yscatfydd os delir chwi heb edifeirwch, a'ch goddiweddyd yn eich pechodau, eich condemnio, a bod o honoch yn golledig yn ôl barn Crist.
O herwydd paham i benglymmu y cwbl, arswydwn fel y gwnaeth Ezechias wrth glywed bygythion Duw, ymdristawn ym mlaenllaw, ofnwn Dduw, holwn ein cydwybodau, galarwn am ein pechodau, ac ymofidiwn oddifewn, a deuwn at Dduw trwy Iesu Ghrist gan gredu ynddo, ac ymroddi i wir ufyddhau iddo, mal pan ddêl yr amser ir drygionus, y rhai fuont yn ymrwyfo mewn meluswedd ymma ar y ddaiar, fyned iw poenau tragwyddol, [Page 52] y gallom ni y prŷd hynny gael tangnheddyf tragwyddol, a gorphwystra:
Fel pan ymddangoso Iesu Grist o'r Nefoedd gyd a'i holl Angelion, y caffom goronau gogoniant, a theyrnasu gyd a Duw, a'n Hachubwr ei fâb, a'r holl Saint, a'r Angelion ynghanol pôb llawenydd yn y Nefoedd byth bythoedd. Ir hwn lawenydd efe a'n dygo ni ôll, yr hwn cyn ddrutted a'n prynodd, sef Iesu Grist y cyfiawn: Ir hwn gyd a'r Tàd, a'r Yspryd Glân y byddo pôb anrhydedd, gogoniant, moliant, gallu, ac Arglwyddiaeth, y prŷd hyn, ac yn dragwyddol.
Amen.
Bellach neu Byth.
WRth fôd marwoldeb dŷn yn brifdestyn Solomon yn y bennod hon, ac wrth ddal-sulw, nad yw doethineb a duwioldeb yn rhyddhau dynion oddiwrth farwolaeth; Y mae efe yn gyntaf yn dangos, nas gwyddis Cariad neu Gâs Duw ir naill ddŷn rhagor i'r llall, wrth ei waith ef yn ei trîn hwynt ymma, lle y mae pob peth yn ystod gyffredinol rhagluniaeth yn dyfod yr un ffunyd i bawb. Y pechod cyffredinol a ddûg farwolaeth i mewn megis Cospedigaeth gyffredinol; yr hon sydd yn gosod pob peth yn gyd-wastad, ac yn dibennu holl ddibennion, gorchwylion, a mwyniant y bywyd hwn, ir dâ a'r drwg; A'r Cyfiawnder a wnaiff y gwahaniaeth ni amlygir yn y bŷd ymma yn gyffredinol. Fe dybygei Loddestwr neu anghredadyn fod Solomon ymma yn dadleu tros eu matter annynawl annuwiol hwynt. [Page 54] Eithr nid am ddarfodedigaeth neu ddiben ar fywyd, neu weithrediadau, neu fwyniant yr Enaid y mae ef yn sôn, fel pe nas bai ûn bywyd i ddyfod, neu enaid dŷn heb fôd yn anfarwol; Ond am ddarfodedigaeth neu ddiben ar holl weithrediau, anrhydedd a dyfyrrwch y bywyd hwn, yr hwn i'r dâ, na 'r drwg ni bydd mwyach. Nid oes iddynt mwy yma ddim gwobr: eu Coffadwriaeth hwynt ymma a anghofir: Nid oes ganthynt bŷth mwyach gyfran mewn dim ar a wnelir tan haul, adnod 5. 6.
Oddiymma y mae efe ymhellach yn dangos, nad yw Cyssurau bywyd ond byrion a darfodedig, ac am hynny fôd yn rhaid cymmeryd yn yr amser presennol yr hyn a ddichon y creadur ei roddi; Ac fal na chaiff yr Annuwiol ddim mwy Difyrrwch nag yn bresennol; felly y geill y ffyddloniaid gymmeryd eu cyssurau cyfreithlawn, yn y cymmhedrol arfer presennol o'r Creaduriaid: Canys os yw iawn i nêb arfer eu hyfryd-bêr ddaioni hwynt, iddynt hwy y mae; Ac am hynny er nas gallant eu harfer hwynt o ran niwaid, i borthi mwythau eu cnawd, ac i nerthu eu trachwantau, a rhwystro ysprydol ddyledswyddau, Cymmwynasau, ac iechydwriaeth: etto Rhaid iddynt wasanaethu yr Arglwydd mewn llawenydd, ac mewn hyfrydwch calon, am amldra pôb dim, ar y mae ef yn eu rhoddi iddynt. Deut. 28. 47.
Yn nessaf y mae ef yn dwyn i mewn ac yn casglu oddiwrth fyrdra oes dŷn, mor Angenrheidiol [Page 55] yw iddo brysurdeb a diwidrwydd yn ei ddyledswydd. A hyn sydd yngeiriau fy Nhext: lle y Cewch chwi. 1. Y ddyledswydd a orchymynnir. 2. Y rheswm neu yr Annogaeth iw gynhyrfu ef.
Y ddyledswydd sydd yn y rhan gyntaf, [Beth bynnag a ymafel dy law ynddo iw wneuthur] hynny yw, Pa waith bynnac a osodwyd i ti gan Dduw iw wneuthur yn y bywyd byrr hwn, [gwna âth hôll egni] sef. 1. Ar frŷs, yn ddiymdro: 2. Yn ddiwyd, ac yn oreu y gellych; ac nid drwy fusgrelli, ac yn hannerog.
2. Yr Annogaeth sydd yn y rhan olaf [Canys nid oes na gwaith, na dychymmyg, na gwybodaeth, na doethineb yn y bêdd lle yr wyt ti yn myned] hynny yw, rhaid iddo fôd yn awr neu ni bydd Bŷth. Y Bêdd, lle nis gellir gwneuthur dy waith, a wnaiff yn brysur ddiben o'th odfeydd. Y Deongliad Chaldaec sydd yn priodoli y Synwyr neu 'r Sens yn rhŷ gyfyng i weithredoedd o Gariad, neu Elusenau; [Ba ddaioni ac Eluseni bynnac yr ymafaelech ynddo iw wneuthur:] A'r rheswm annogaethawl a ddarllenant hwy ar ei ôl [Canys ni chanlyn dim dydi ond dy weithredoedd o gyfiawnder a thrugared.] Eithr y mae y geiriau yn fwy cyffredinol, a'r ystyr yn eglur yn gynnwysedig yn y ddau bwngc hyn.
Athrawiaeth. 1. Gwaith y bywyd hwn ni ellir moi wneuthur, pan ddarfyddo y bywyd hwn: Neu, Nid oes dim gwaith yn [...] bêdd, i'r hwn yr ydym ni oll yn pryssuro.
[Page 56]Athr. 2. Am hynny rhaid i ni wneuthur ein goreu, tra caffom amser: neu rhaid i ni wneuthur Gwaith y bywyd presennol hwn yn ystig ac yn ddiwyd.
Oddiwrth Wirionedd di-wrthddadl ac a gydnabyddir yn gyffredinol, y mae Solomon ymma yn ein cymmell ni i fôd yn ddiwyd yn ein Dyledswyddau, Ac am hynny ni byddei ond colli 'r amser fyned iw brwyfio ef. Megis ac y mae Dau fŷd i ddŷn i fyw ynddynt, ac felly Dau fywyd i ddŷn iw byw; felly y mae Gwaith priodol gan bôb ûn o'r ddau fywyd hyn. Hwn yw 'r bywyd o Baratoad: Y nessaf yw 'r bywyd o Wobr neu Gospedigaeth. Nid ydym ni yn awr ond Ynghroth tragywyddoldeb, ac ar ôl hyn y rhaid byw yn amlwg yn y bŷd. Nid ydys yn Awr ond ein rhoddi ni yn yr Yscol, i ddyscu y gwaith a fo'n rhaid i ni ei wneuthur tros Bŷth. Hwn yw amser ein Prentisiaeth: yr ydym ni yn dyscu y Gelfyddyd y rhaid i ni fyw arni yn y Nefoedd. Yr ydym ni yn rhedeg yn Awr, fal y derbyniom ni y Goron y prŷd hynny: Ymladd yr ydym ni yn Awr, fal y gorfoleddom y pryd hynny mewn buddugoliaeth. Nid oes dim gwaith gan y bêdd: Eithr y mae gan y Nefoedd Waith, a chan Vffern boenau. Nid oes dim Edifeirwch i fywyd ar ôl hyn. Ond y mae Edifeirwch i boenedigaeth, ac i Anobaith. Nid oes dim Credu am Ddedwyddwch anweledig o ran cael mwyniant o hono: nac am drueni anweledig o ran ei Ochelyd; Na chredu mewn Iachawdwr o ran y Dibennion hyn: Eithr ca [...]o y mae y mwyniant o'r dedwyddwch y [Page 57] credwyd am dano ymma; a phrawf o'r Trueni ni fynnai ddynion goelio ei fôd; A dioddef oddiar ei ddwylo ef megis Barnwr cyfiawn, yr hwn a wrthodasant megis Iachawdwr trugarog. Ac felly nid yw ef bob Gwaith ar fy yn darfod wrth ein marw: ond yn unig gwaith y bywyd presennol hwn.
A diau na ddichon ûn Rheswm ddangos i ni y debygoliaeth leiaf, o wneuthur ein gwaith, pan ddarfytho ein Hamser a roddwyd i ni iw wneuthur ef ynddo. Os gellir ei wneuthur, rhaid i hynny fod, 1. drwy alw ein Hamser yn ei ol; 2. drwy droi bywyd yn ôl: 3. neu drwy gael Odfa mewn bywyd ar all: ond nid oes dim gobaith am yr ûn o'r rhai'n.
1. Pwy nis gwyr nas gellir galw Amser yn ôl? Yr hyn a fû unwaith ni bydd mwy. Ni ddaw doe bŷth yn ôl: Y diwrnod presennol fy yn myned heibio, ac ni ddychwel yn ôl. Chwi a ellwch weithio tra byddo hi yn ddydd: Eithr pan gollo chwi'r diwrnod presennol, ni ddychwel ef yn ôl i chwi i weithio-ynddo. Tra byddo eich Canwyll yn llosgi, Chwi a ellwch wneuthur defnydd o'i goleuni hi: Eithr pan ddiffoddo, rhyhwyr yw gwneuthur defnydd o honi. Ni ddichon Grym Meddyginiaeth, na dichlynaidd Annogaethau Areithwŷr, na Golud gwŷ bydol, na Gallu Tywysogion, alw ûn dwrnod neu Awr o Amser yn ôl. P [...]s gallent, pa egni a ddangosent y pryd hynny, pan ddysgai gyfyngder iddynt brisio, yr hyn y maent yn Awr yn ei ddibrisio? Pa farchnatta fyddai o'r diwedd, os gellid pwrcasu Amser▪ [Page 58] am ddim ar a ddichon dŷn i roddi. Yna y dygai werinos dreuin eu golud allan, ac a ddywedent, Hyn oll a roddaf am un diwrnod ychwaneg o amser i edifarhau: Arglwyddi a Marchogion a osodent eu Breintiau ar lawr, ac a ddywedent, Cymmerwch y cwbl, a gadewch i ni fôd yn Gardotteion gwaelaf allan, am y caffom ni ûn flwyddyn o'r amser a gamdreuliasom. Yna Brenhinoedd a fwrient eu Coronau i lawr ac a ddywedent; Gadewch i ni fôd yn gydradd â'r deilaid distadlaf am y caffom ni etto yr Amser a ddifrodasom yngofalon a difyrrwch y byd. Yna yr edrychid ar deyrnasoedd yn bethau o bris diystyr er cael ynnill yr▪ Amser yn ei ôl. Yr Amser a werrir yn awr yn segura ac yn chwedleua, Yr Amser a dreulir yn awr yn Gwledda ac yn ymchwidawiaeth; Yr hwn a gellweirir ac a gysgir ymmaith yn afreidiol, yr hwn a bechir ymmaith yn anuwiol ac yn rhyfygus; oh, mor werthfawr y gwel pawb ei fôd ef ryw ddydd? Pa farchnad ddedwyddol a debygent hwy ei gwneuthur, pas gallent ei brynu ef am eitha pris! Y Moriwr halogediccaf a syrth i weddio, pan ofno fod ei Amser ar ddarfod. Pe tycciai deurni y prŷd hynny, mor ddifrifol y gweddient hwy am gael Troi yr Amser yn ôl, y rhai gynt a wawdient weddio, neu ni feddylient am dano, neu ni chaent ennyd, neu a watworent Dduw â gwefus-wasanaeth a threfn gynnefinol, a geiriau dychymmyg yn lle gweddio. Pa Restr o weddiau a ddysgei Angeu i ddynion coeg-Wychion sy 'n dirmygu 'r Amser, ir [Page 59] segurwyr, ir ofer-Drafferthwyr, ir beilchion, ac i gybyddus Garwyr y byd hwn, pe gellid drwy ymbil gael gan Amser droi'n ôl? Mor gynhyrfnaws y rhuent hwy allan eu herfynniadau? [O na chaem ni unwaith weled dyddiau Gobaith, a Moddion, a Thrugaredd, y rhai a welsom ni unwaith, ac nis mymem eu gweled! O na chaem ni y dyddiau hynny iw treulio mewn dagrau edifieirol, a gweddiau, a sanctaidd ymbar atòad i fywyd annherfynol, y rhai a dreuliasom wrth y Cardiau, mewn difyrrwch afreidiol, mewn segur ymsibrwd ac eraill bethau amfuddiol, yn rhyngu bòdd i ddynion, yn bodloni ein cnawd, neu mewn anllywodraethus ofalon a gorchwylion bydol! Oh nas gellid troi yn òl rym ein ievengctid! nas gellid adnewyddu ein blynyddoedd! nas gellid galw yn ôl y dyddiau a dreuliasom ni mewn oferedd! nas danfonid eilwaith i ni weinidogion yn gyhoedd ac yn neull-tuol, â'r gennadwri o râs yr hon nis gwnaethom unwaith fawr gyfrif o honi! nas tywynnei'r haul arnom ni unwaith etto! nas cymmerei Ddioddefgarwch a thrugaredd eu gwaith mewn llaw unwaith etto] Pe dygei grôch-lefain a dagrau, na phrîs, na phoen, Amser a gollwyd, drwy ei gamarfer, yn ôl; mor ddedwydd fyddei'r bŷd sydd yn awr wedi gorphwyllo, yn farwedd-galon, ac yn ddiedi-feiriol! Pe gwasaneuthai y trô y pryd hynny ddywedyd wrth y ssyddloniaid gwiliadwrus [rhoddwch i ni o'ch olew chwi. canys y mae ein lampau yn diffoddi] neu lefain Arglwydd, Arglwydd agor i ni:] [Page 60] Arglwydd agor i ni] darffo cau y drws, y ffôl a fynnent fôd yn gadwedig yn gystal ar Call. Mat. 25. 8, 10, 11. Eithr yn awr y mae dydd yr Iechydwriaeth, yn awr y mae yr amser cymmer adwy, 2. Cor. 6. 2. Tra galwer hi heddyw, gwrandewch, ac na chaledwch eich calonnau, Psal, 95. 8. deffro di yr hwn wyt yn cyscu, a sâ i fynu oddiwrth dy wir-fôdd fusgrell farweiddra, a gwnâ ddefnydd o'r Goleuni a gyfrennir i ti gan Grist. Eph. 5. 14. onidê, y tragywyddol dywyllwch eithaf, a wnaiff ben ar fyrder o'th Amser a'th Obaith.
2. Ac fal nas galler galw amser byth yn ôl, felly ni adferir ac ni ddychwelir Bywyd ymma bŷth yn ôl, Job 14. 14. Os bydd gwr marw, a fŷdd efe byw [ymma] drachefn? holl ddyddiau ein milwriaeth rhaid i ni ddisgwyl gan hynny (mewn ffydd a diwydrwydd) hyd oni ddelo ein cyfnewidiad. Un bywyd a osodwyd i ni ar y ddaiar, i brysuro i ben y gwaith y mae ein bywyd tragwyddol ni yn sefyll arno. Ac ni chawn ni ond Ʋn. Colli hwnnw, a cholli 'r cwbl yn dragywydd. Etto chwi a ellwch wrando, a darllen, a dyscu, a gweddio: Ond pan ddarfyddo y Bywyd hwn, ni bydd hynny ond hynny. Chwi a gyfodwch yn ddiau oddiwrth y meirw ir farn, ac ir bywyd yr ydych yn Awr yn ymbarotoi iddo: ond ni chyfodwch chwi bŷth ir cyfryw fywyd a hwn ar y ddaiar: Eich bywyd sydd megis mladd brwydr, yr hon y mae'n rhaid ei henill neu ei cholli ar unwaith. Nid oes [Page 61] mor dychwelyd ymma drachefn i dacclu yr hyn a gamwnaethpwyd. Rhaid yw yn ebrwydd ddiwygio pob amryfusedd trwy Edifeirwch, onid ê hwy a fyddant yn annywygiol yn dragywydd. Onid ydych wedi cywir ddychwelyd yn Awr, chwi a ellwch gael eich dychwelyd: Os gwelwch eich bôd yn gnawdol, ac yn resynol, fe ellir eich Jachau: Os ydych heb gael pardwn; pardwn a ellwch chwi ei gael. Os ydych Elynion, fe ellir eich cymmodi â Duw: Ond hwy'n gyntaf ag y torrer edau 'r einioes, eich odfeydd a fyddant wedi darfod. Yn Awr y gellwch chwi ymofyn âch cyfeillion, ac â'ch Dyscawdwyr, pa beth a wnaiff enaid truan fal y byddo cadwedig; a chwi a ellwch dderbyn addysg a chynghorion; ac fe all Duw eu bendithio hwynt i oleuo, adnewyddu a chadw eich eneidiau. Eithr pan ddarfytho 'r Bywyd, ni bydd hynny ond hynny: Och gan hynny! pe gallai eneidiau anobeithiol ond dychwelyd, ac unwaith etto gael eu profi â moddion bywyd, pa newydd llawen y fyddei hynny iddynt! Pa groesaw a gai 'r gennad a'i dygai ef! Pe cowsei Uffern y fâth gynnyg, a phe gallei ûn mâth ar fônllefain bwrcasu hyn oddiwrth y Barnwr cyfiawn, o pa gyfnewid a fyddei yn ei plith hwynt! Daered y gwaeddent hwy ar Dduw.
[O anfon ni unwaith etto ar y ddaiar! Gâd▪ i ni unwaith etto weled wyneb dy Drugaredd, a chlywed cynnygion o Ghrist ac o Jechydwriaeth. Gâd ir Gweinidogion unwaith etto gynnyg i ni eu cymmorth a'n dysgu, ni mewn [Page 62] amser ac allan o amser, ar osteg, ac o'r neulltu, ac ni wrthodwn ni mwy moi cymmorth a'u cynnygion: Ni châsawn ni mhonynt▪ ac nis ymlidiwn hwynt mwy ymmaith o'n tai a'n trefi: Gâd i ni unwaith etto gael dy Air, a'th Ordinhadau, a phraw beth a wnawn ni ai eu coelio hwynt, a gwneuthur gwell defnydd o honynt nag a wnaethom. Gad i ni unwaith etto gael cymmorth a chymdeithas dy Saint; ac ni wnawn ni nai gwatwar, nai hammherchi, nai herlid hwynt ond hynny. O am gael y fawr anfeidrol Drugaredd o'r cyfryw fywyd ag a gawsom ni unwaith! O praw ni unwaith etto a'r cyfryw fywyd, ac edrych oni chasawn ni y bŷd, ac oni ymlynwn ni wrth Ghrist, a byw mor gymmwys, a gweddio mor ddifrifol a'r sawl a gasasom, ac a amharchasom am wneuthur felly: O na chaniatteit ti i ni unwaith etto i ddyfod ir Cymmanfeydd Sanctaidd, ac i gael dyddiau'r Arglwydd iw treulio yngorchwylion Iechydwriaeth! Ni thaerem ni ddim mwy yn erbyn grym a phurdeb yr Ordinhadau; Ni alwem ni mwy y dydd hwnnw yn faich, ni chasaem ni chwaith y rhai a'i treuliodd ef yngorchwylion Sancteiddrwydd, ac ni ddadleuem ni tros rydd-did y Cnawd ar y dydd hwnnw.
Mae 'n peri im calon i grynu o'm mewn, feddwl, á pha lefain yr ymdrechei'r Eneidiau damnedig hynny â Duw, a'r môdd y rhuent hwy allan [O praw ni unwaith drachefn] pettai ganthynt ond yr achlysur lleiaf, o Obaith. Eithr ni bŷdd i hynny mor bôd; ni all mor bôd: [Page 63] Hwy a gowsant ei dŷdd, ac ni fynnent ei adna bod: ni allant hwy golli ei hamser ai gael hefyd. Hwy a gowsant Arweinwyr ffyddlon, ac nis dilynent hwynt: Hwy a gowsant Athrawon, ond ni fynnent ddysgu: Rhaid i lŵch eu traed hwynt dystiolaethu yn eu herbyn hwy, oblegyd nas gall eu gwaith yn ufyddgar groesawu eu Cennadwri hwynt dystiolaethu dim drostynt. Hîr y disgwyliodd Crist trwy ymmyneddol gynnygion o'i waed a'i Yspryd; Hîr a difrifol y cynnygiwyd ei Ras ef iddynt, ond ni wneid cyfrif o hono, ac nis derbynnid. Ac nis gallant hwy lwyr wrthod Crist, ac etto cael Crist, neu wrthod ei drugaredd ef, ac etto bôd yn gadwedig trwyddi. Yr hwn a fynnasei anfon Lazarus oddiwrth y Meirw, i rybuddio ei frodyr anghredadwy ar y ddaiar, a roesei yn ddiammeu ei frŷd ei hunan yn egniol ar wellháu, pe cowsei ef fôd unwaith ychwaneg tan brawf: iê daered y buassei hwnnw yn ymbil am y cyfryw brofiad, yr hwn a ymbiliod cyn dosted am ddefnyn o ddwfr Luc. 16. Eithr och fŷth! mae 'n rhaid cau y cyfryw fafnau yn dragywydd â [Choffâ i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd. adn. 25.]
Ac felly gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn. Heb. 9. 27. Eithr nid oes mor ail ddychwel ar y ddaiar: Lleoedd eich trigfod a'ch gorchwyl, a'ch difyrrwch ni 'ch adwaenant ond hynny: Ni chewch chwi weled wynebau eich cyfeillion, ac ni bydd dim i Chwi wneuthur â dynion ond hynny yn y Cnawd. Y bŷd hwn, y teiau hyn, y golud a'r anrhydedd [Page 64] hwn (o ran dim mwyniant) a fyddant i chwi fel pe buassech erioed heb eu hadnabod. Nid ymgesglwch chwi ymma ond tros ennyd fechan. Etto ychydig ymmhellach ac ni bŷdd i ni bregethu, nac i chwithau m'on gwrando bŷth ond hynny. Rhaid gan hynny wneuthur yr hyn a wneler allan o law▪ neu fe fŷdd rhy-hwŷr. Os edifarhewch chwi ac os credwch bŷth, rhaid i chwi hynny yn Awr. Os troi 'r chwi, ac os sancteiddir chwi bŷth, rhaid i hynny fod yn Awr. Os cewch chwi byth bardwn a chymmodi â Duw, rhaid i hynny fôd yn Awr. Os mynnwch chwi byth deyrnasu, rhaid i chwi yr awron ymladd a gorchfygu. O na byddech ddoethion, na ddeallech hyn, nad ystyriech eich diwedd! Deut. 32. 29. Ac O! na adawech ir geiriau hynny ddescyn i wared i'ch calonnau chwi, y rhai a ddaethant oddiwrth galon ein Prynwr, megis y tystiolaethwyd drwy ei ddagrau ef, Luc. 19. 41, 42. [Pe gwy-bysit ditheu, ie yn dy ddŷdd hwn, y pethau a berthynent i'th heddwch: eithr y maent yn awr yn guddiedig oddiwrth dy lygaid!] ac mi ddymunwn nas gwneler llai cyfrif o'r rhybuddion▪ hyn, oblegyd i chwi eu clywed hwynt cyn fynyched; canys y mae mynych glywed yn chwanegu eich rhwymedigaeth, ac heb leihau dim ar y Gwirinedd, nac ar eich pergyl chwithau.
3. Ac fal nad oes mor ail ddychwel ar y ddaiar, felly nid oes dim gwneuthur y gwaith hwn ar ôl hyn. Mae 'r Nef ac Uffern [Page 65] i waith ar all. Os yn farw y genir y plentyn, ni ddyru y byd oddiallan mor bywyd ynddo ef; Yr hyn a genhedlwyd ac a anwyd yn anifail, neu yn Sarph, nid aiff yn ddŷn er holl alluoedd y nefoedd, na holl nerthoedd yr Haul, neu'r ddaiar. Mae y Cynhayaf yn dangos fôd prŷd hau a llafur y llafurwr. Rhaid i chwi hau yn Awr, ac ar ôl hyn y mae 'n rhaid medi. Yn Awr y mae'n rhaid i chwi weithio, ac yno y rhaid i chwi dderbyn eich cyflog.
A gaiff hyn ei gredu a'i ystyried gan y bŷd trwmbluog? Och o druein! a ydych chwi yn byw fal dynion ni chânt fwy yma mwy? A ydych chwi yn gweithio fal dynion ni chânt weithio dim mwy, ac yn gweddio fal dynion ni chânt weddio dim mwy, pan ddarfyddo amser gweithio ûnwaith? Pa beth yr wyt ti yn ei feddwl, Tydi bechadur truan dibwyll? A orchymmyn Duw ir haul sefyll, tra byddech di yn gwrthryfela, neu yn dy ollwng dy hun ac ynteu tros gôf? Wyt ti yn disgwyl iddo ef ŵyrdroi Cwrs naturiaeth, a pheri ir gwanwyn a phryd-hau barhàu, tan na roddech di dy frŷd ar hau? neu ar iddo ef ddychwelyd y plentyn a enir yn farw neu yn afluniaidd i'r grôth, fel y galler ei ffurfio ef yn well neu roddi bywyd ynddo? A adnewydda efe dy oedran, a'th wneuthur di yn Jevangc dracefn, a galw yn ôl yr oriau a wastreffaist yn afradlon ar dy drachwantau a'th ddiogi? A elli di ddisgwyl hyn oddi ar law Dduw, pan ydyw Nattur ag Yscrythur yn dy siccrhau di o'r [Page 66] gwrthwyneb? Onis gelli, paham na pheidiaist di etto â'th bechodau anwyl? Paham na ddechreuaist ti etto fyw? Pa ham yr eisteddi di yn llonydd, tra fo dy enaid heb ei adnewyddu? a bod dy holl baratoad i farwolaeth ac ir farn etto heb ei wneuthur? Ddaied fyddei gan Satan dy gael di fal hyn wrth farw? Ddaied fyddei gantho gael cennad i chwythu allan dy ganwyll di, cyn dy fyned i mewn i ffordd y bywyd! A wyt ti yn disgwyl cael anfon Pregethwyr ar dy ôl, i ddwyn i ti y drugaredd, a adawodd dy ddiystyrwch yma âr ôl? a wrandewi di, a dychwelyd yn y bêdd ac yn Uffern? neu a fynni di fôd yn gadwedig heb Sancteiddrwydd? hynny yw heb ymddiolch i Dduw yr hwn a arfaethodd, ac a ordeiniodd na chae hynny fôd. O chwychwi feibion cwsg, marwolaeth, a thy wyllwch, Deffrowch a byddwch fyw, a gwrandewch ar y Arglwydd, cyn ir Bedd ac Ʋffern gau eu safnau arnoch! Gwrandewch yn Awr, rhag bôd yn rhy-hwyr gwrando! Gwrandewch yn Awr, os gwrandewch chwi fŷth! Gwrandewch yn Awr, od oes gennych glustiau i wrando! A chwithau feibion y goleuni, y sawl a welwch yr hyn ni wêl pechaduriaid diog-swrth; gelwch arnynt, a chenwch iddynt y cyfryw glul o alarnadau, o ddagrau a thosturiol ymbiliau, ar sydd addas ir cyfryw farwaidd ac wylofus gyflwr! Pwy a ŵyr na fendithia Duw ef iw deffro hwynt.
Od oes neb o honoch mor effro, a gofyn i mi beth yr wyfi yn ych galw chwi iw wneuthur, [Page 67] fy Nhestyn sy'n dywedyd i chwi yn gyffredinol, Codwch a gweithiwch: Edrychwch yn eich cylch, a gwelwch beth sydd gennych iw wneuthur, a gwnewch â'ch holl egni.
1. [Beth bynnag a ymafel dy law ynddo iw wneuthur] hynny yw, beth bynnac ar sydd ddyledswydd, wedi ei gosod gan yr Arglwydd; Beth bynnac sydd foddion llesol o ran dy ddedwyddwch dy hun neu eraill; Beth bynnac y mae angenrheidrwydd yn dy alw iw wneuthur, ac Odfa yn rhoddi i ti le iw wneuthur.
[A ymafel dy law ynddo] sef, yr hyn y mae dy nerthoedd cyflawn-waith drwy gyfarwyddyd dy ddeall, yn awr iw wneuthur.
[Gwa âth hôll egni:] Gwna dy oreu ynddo. 1. Na chais mor chwydawiaeth, ond gwna ef yn ebrwydd, heb oedi afreidiol. 2. gwna ef yn hwylus-frŷd, neu â'th holl fryd: na aros yn amheus, ar gyngyd, megis ar dy gyngor, fal ped fae yn Gwestiwn gennyt, pa ûn a ddylit ai ei wneuthur a'i peidio.
3. Gwna ef a'th lawn ddeffrous awydd-fryd, ac â difrifol fwriad nerthoed dy enaid. Mae syrthni ac Anheimlad yn llwyr anghymmwys ir gorchwylion hyn. Pobl briodol awyddus i weithredoedd da, a bwrcasodd Crist iddo ei hun. Tit. 2. 14.
4. Gwna ef gyda phob rhagddarparwch a Darbodaeth angenrheidiol. Nid â gofal dibwyll dyrys, ond a'r cyfryw ofal, ac a ddangoso nad ydych chwi yn dirmygu eich Meistr, ac nad ydych ddiofal am ei waith ef: Ac a'r cyfryw [Page 68] ofal ar sydd addas i anhawsder a naturiaeth y peth, ac sydd angenrheidiol o ran ei ddyledus gyflowni.
5. Gwnâ ef, nid yn orddiog, ond yn byby [...] ac yn ddiwyd. Na rusa lafur; Rhag i ti glywed dywedyd [ô wâs drwg a diog, Mat. 2 [...] ▪ 26.] Na chuddia dy law yn dy fynwes gydâ [...] diog, ac na ddywaid, Y mae llew ar y fford [...] Dih. 26. 13. 15. yr esceulus a'r drygionu [...] y treulgar a'r diogyn, nid ces mor rhago [...] rhyngth ynt ond megis rhwng y naill frawd a [...] llall. Dih. 18. 9. Ac fal y mae y gwyllt naws Annuwiol-ddŷn yn ei lâdd ei hun, felly deisyfiad y diog a'i lladd ynteu, cany [...] ei ddwylo a wrthodant weithio. Dih. 21. 25 Enaid y diog a ddeifyf, ac ni chaiff ddim: on [...] enaid y diwyd a wneir yn frâs. Dhi. 13. 4▪ Na bydd ddiog mewn diwydrwydd, ond y [...] wresog yn yr Yspryd yn gwasaneuthu yr Arglwydd. Rhuf. 12. 11.
6. Gwna ef yn ddianwadal, ac nid trwy lerccian a seibiant dinistriol, na thrwy flino a throi cefn. Y cyfiawn a ddeil ei ffordd, a'r glân ei ddwylaw a chwanega gryfder. Job 17▪ 9. Byddwch siccr, a diymmod, a helaethion yngwaith yr Arglwydd yn oestadol, a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd. 1. Cor. 15. 58. Yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn brŷd y medwn oni ddeffygiwn, Gal. 6. 9. Y chwe phwngc neulltuol hyn ydynt angenrheidi [...]l▪ os chwi a ddeil-sulw ar y gorchymm yn yn fy Nhestyn.
[Page 69]Eithr fel na byddo camddeall yn rhwystro yflowni 'r peth, mi a'ch gwnaf yn gydnabyddus â'i ystyriaeth, trwy yr ychydig ragochelion eglurawl hyn.
1. Yr Egni a'r Diwydrwydd a ofynnir ym [...]a, nid yw 'n cau allan yr anghenrhaid o [...]mgynghori, ac o bwyllog hyfforddiad! Os [...]mgen, po cyntaf yr eloch, pellaf yr ewch chwi allan o'r ffordd. Zêl a gamarweinier a [...]dichon anrheithio yr holl waith, ai wneuthur [...]n sarhaad i eraill neu i chwi eich hunain. Ychydig Amryfusedd yn amser a threfn, a dull [...] ddyledswydd, a eill weithie ei hanrheithio [...]i, a rhwystro 'r ffynniant, a pheri iddi wneu [...]hur mwy o niweid nág o ddâ. Pa Sawl Pregeth, neu weddi, neu gerydd, a wnaeth [...]wyd yn achos o wawd a dirmyg, oblegid rhyw draethiadau neu ymddygiad angall? Nid yw Duw yn anfon ei weision i fôd yn Gellweirwŷr [...]r bŷd, neu i chwareu yr Ynfydion megis Dafydd yn ei Ofn: Rhaid i ni fod yn Ddoethion ac yn Ddiniweid, yn gystal ac yn hyde [...]us a gwrol: Er nad yw cnawdol a bydol Ddoethineb yn ddymunol, gan nad ydynt ond ffolineb gydâ Duw; Er hynny rhaid ir Doethineb sydd oddi uchod, ar sydd gyntaf yn bûr, a gwedi hynny yn heddychol, ac sydd yn gydnabyddus â'r goruchel a'r cuddiedic ddirgeledigaethau, ac a gyfiawnheir gan ei phlant ei hun, fôd yn arweinydd i'n holl weithredoedd Sanctaidd. Nid yw Sancteiddrwydd yn ddall: Goleuad yw y rhan gyntaf o Sancteiddiad. Y ffyddloniaid ydynt blant y goleuni. [Page 70] Nid oes dim yn gofyn cymmaint Ddoethineb ac y mae pethau Duw, a'n I [...] chydwriaeth ninnau. Mae ffolineb yn llwy [...] anghymmwys ir cyfryw orchwylion rhagor [...] ac yn llwyr anweddus i blant y Gorucha [...] Yspryd Doethineb sy'n Bywiogi yr holl Sainc [...] 1 Cor. 3. 19. ar 2. 6. 7. Eph. 1. 8. 17. Col▪ 16. Trysorau Doethineb a breswyliant y [...] Ghrist, ac a gyfrennir iw aelodau ef, Col. 2. [...] Rhaid i ni rodio mewn doethineb tu ac at rhai sy allan Col. 4. 5. Ac y mae yn rhaid ni ddangos ein gweithredoedd drwy ymarw [...] ddiad da, mewn mwyneidd-dra Doethine [...] Jac. 3. 13. Etto mae 'n rhaid i mi ddywedyd, ei bod hi yn fwy mewn pethau mawrio [...] nag mewn pethau bychain, yn y sylwedd na [...] yn yr Amgylchiadau; mewn barn gadarn ddwys a phris ar bethau, a dewis cyfaddas, chanlyn am danynt, yn hyttrach nag mew [...] ymadroddion hoywdeg, neu ymddygiad cyfattebol i ddisgwyliaid dynion beilchion.
2. Er bod yn rhaid i chwi weithio â'ch hol [...] egni, bydded er hynny drwy fôd gwahaniaeth cyfattebol i rywogaeth eich amryw orchwylion. Mae 'n rhaid cyfrif rhai gorchwylion flaen eraill. Ni ellir gwneuthur y cwbl a [...] unwaith. Mae hynny yn bechod allan o amser, yr hyn sydd yn Ddyledswydd yn e [...] Amser; Rhaid yw rhoddi y Gorchwyl mwyaf a rheittiaf ymlaen. A rhyw orchwylion sy yn rhaid eu gwneuthur a dwbl wrês a hwylusfrŷd, a rhyw rai â llai. Prynu, a gwerthu, priodi a meddiannu, a thrin y bŷd sy'n [Page] rhaid eu gwneuthur trwy ofni gwneuthur gormod, ac mewn rhyw fodd fal pettym ni heb eu gwneuthur, er bod hefyd yn rhaid iddynt gael cyfreidiol ddiwydrwydd, 1 Cor. 7. 29, 30, 31. Teyrnas Dduw a'i gyfiawnder sy yn rhaid eu ceisio yn gyntaf; Mat. 6. 33. A rhaid ir bwyd a dderfydd (mewn cyffelybiaeth) fod megis dim. Jo. 6. 27.
3. Yn olaf, Nid Rhuthr afreolus, na hunan-gythryblus, a thrallodus, a ofynnir gennym ni: Ond bwriad hyfryd-lawn tra-sefydlog, a hoff-lawn ddiwydrwydd dirwystr, sy'n peri ir olwynion fyned yn llawen, a myned yn hwylusach dros y brynciau a'r rhwystrau hynny y rhai sy'n cyffio ac yn attal yr enaid gorddiog.
A fenthygiwch chwi yn awr i ni gynnorthwy eich cydwybodau, o ran coppio hyn o Orchymyn Duw ar eich calonneu, a chymmeryd Coppi allan o'r Ordinhâd hon, yn rheol i'ch bucheddau? [Beth bynnag] nid ydynt eirieu yn amgyffred cymmaint, a phe baent yn cynnwys ynddynt bob gwagedd neu bechod; eithr y maent mor ehang ac y cynhwysant eich holl ddyledswydd.
1. (I ddechreu ar yr isaf:) Rhaid yw hyd yn oed i weithredoedd eich galwedigaethau corphorawl wrth ddiwydrwydd. Trwy chwŷs eich wynebau y bwyttewch fara, Gen. 3. 9. Chwe diwrnod y gweithi ac y gwnei dy holl waith, Ex. 20. 9. Y nêb ni fynno weithio na chaed fwytta chwaith, 2 Thes. 3. 10. Y rhai a rodiant yn afreolus, ac ydynt rodresgar, heb [Page 72] weithio trwy lonyddwch, ydynt iw gochel, ac iw cywilyddio gan yr Eglwys, 2 Thes. 3. 6. 11. 12, 14. Gweision diog ydynt anffyddlon i ddynion, ac anufydd i Dduw, yr hwn sy yn gorchymmyn iddynt vfyddhau iw meistred yn ôl y cnawd (eu meistred anghredadwy, annuwiol) ymhob pêth (a berthyn iw gwasanaeth a hynny.) nid â llygad wasanaeth fel bodlonwyr dynion, eithr mewn simlrwydd calon, yn ofni Duw, gan wneuthur beth bynnac a wnelont megis ir Arglwydd ac nid i ddynion, gan wybod mai gan yr Arglwydd (ie am hyn) y derbyniant daledigaeth yr etifeddiaeth, Col. 3. 22, 23, 24. Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam (drwy ddiogi, neu anffyddlondeb) a dderbyn am y cam a wnaeth. adn▪ 25.
Ffynniant yw cyffredinol wobr amserol Duw am Ddiwydrwydd, Dih. 10. 4. a'r 12. 24, 27. A doluriau, Tlodi, gwaith, Siommiant, neu brudd-der hunan-boenydiol, ydynt ei arferol gospedigaethau ef am ddiogi. Llafur dwys sy'n prynnu 'r Amser: bydd gennych ychwaneg iw roi allan ar fwy gorchwylion. Mae 'r diog yn wastad yn ol llaw, ac am hynny y bydd dir iddo adael llawer o'i waith yn anorphen.
2. Ai Rhieni ydych chwi, neu lywodraethwyr teuluoedd? Mae gennych chwi waith iw wneuthur dros Dduw, a thros eneidiau▪ eich plant, a'ch gweision: gwnewch ef â'ch holl egni. Ymdrinwch â hwynt yn gall er hynny, yn ddifrifol, ac yn fynych, ynghylch eu [Page 73] pechod, eu dyledswydd, a'u gobaith am y nefoedd. Mynegwch iddynt i ba le y maent yn myned, a pha ffordd y rhaid iddynt fyned. Perwch iddynt ddeall, fôd ganthynt uwch Tâd a Meistr, yr hwn y mae 'n rhaid ei wasaneuthu yn gyntaf, a bôd gwaith mwy iw wneuthur nâ 'r eiddo chwi. Deffrowch hwynt o'u diddarbodwch a'u diogi anianawl: Na throwch mo'ch holl ddyled swyddau teuluaidd yn ffurf ddefodol ddifywyd, (pa un bynnac a'i yn ddiragfyfyr ai trwy ragfy fyrio.) Siaredwch ynghylch Duw a'r Nefoedd, ac Vffern, a Sancteiddrwydd â'r cyfryw ddifrifwch, ar a weddei i ddynion sy yn credu yr hyn a ddywedant, ac a fynnent ir sawl y llefarant wrthynt ei gredu. Nac ymddiddenwch â hwynt nac yn drwmbluog, nac yn ysmala, neu dan gellwair, ynghylch y cyfryw bethau ofnadwy, neu hyfrydlawn, ac anrhaethadwy. Cofiwch fôd eich Teuluoedd a chwithau, yn myned ir bêdd▪ ac ir bŷd nid oes ynddo ddim lle mwy i'ch Annogaethau a'ch cynghorion: Nid oes dim Catecheisio, na holi, na difrifol addysgu arnynt yn y bêdd, ir man y maent hwy a chwithau yn myned. Rhaid yw bôd hynny yn Awr, neu na bo bŷth; Ac am hynny gwnewch ef â'ch hôll egni. Rhaid i eiriau Duw fod yn eich calonnau, a rhaid i chwithau eu dyfal hyspysu hwynt i'ch plant, a chrybwyll am danynt, pan eisteddoch yn eich tai, a phan gerddoch ar y ffordd, a phan orweddoch i lawr, a phan gyfodoch i fynu, Deut▪ 6. 6, 7, 8, a'r 11. 18, 19. 20.
[Page 74]3. A oes gennych gymmydogion anwybodus ac annuwiol, y rhai y mae eu trueni yn galw am eich tosturi, a'ch ymgeledd? Lleferwch wrthynt, a chynnorthwywch hwynt a'ch holl bwyllog ddyfalwch. Na chollwch eich odfeydd: Nac arhoswch dan y byddo Angeu wedi cau eich geneuau chwi, neu wedi cau eu clustiau hwy. Nac arhoswch hyd oni bont hwy allan o glyw, a chwedi eu cippio ymmaith o'ch mysc. Nac arhoswch hyd oni bont hwy yn Uffern, cyn i chwi eu rhybuddio hwynt or plegyd; neu hyd oni bo 'r Nefoedd wedi ei cholli, cyn i chwi o ddifri alw arnynt i gofio 'r peth. Cerddwch iw tai hwynt: Cymmerwch bob odfa: Y mostyngwch iw gwendid hwy: Cyd ddygwch a'u cyndynrwydd anniolchgar▪ Mae'r peth yn perthyn i Iechydwriaeth dynion: Cofiwch nad oes dim lle i'ch Athrawiaethau, na'ch Cynghorion yn y Bêdd neu Uffern: Ni fedr▪ eich Llwch chwi mor llefaru, ac ni fedr eu llwch hwythau mor clywed: Cyfodwch gan hynny a gweithiwch â'ch holl egni.
A ymddiriedodd Duw i chwi am Olud y byd hwn, am lawer o dalentau, neu am ychydig, trwy y rhai y mae efe yn disgwyl ar i chwi helpu 'r tlawd; Ac yn bendifaddeu ddwyn ymlaen y Gweithredoedd hynny o Dduwioldeb, y rhai ydynt brif weithredoedd Cariad? Rhoddwch yn synhwyrol etto yn ewyllysgar ac yn hael, tra bô gennych iw roddi. Eich elw chwi ydyw: Amser marchnad [Page 75] eich eneidiau: ac i drysori trysor yn y nêf; ac i logi eich arian y ffordd fwyaf ynnillgar, ac i wneuthur i chwi gyfeillion o'r Mammon anghyfiawn, ac i ddwyn eich iechydwriaeth ymlaen, trwy yr hyn sydd yn ei rwystro i ddynion eraill, ac yn achlysur oi colledigaeth. [Tra 'r ydych yn cael amser cyfaddas, gwnewch dda i bawb, ond yn enwedig i'r rhai sy o deulu 'r ffydd.] Gal. 6. 6, 7, 8, 9, 12. [Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd, canys ti ai cei, yn ol llawer o ddyddiau: dyro ran i saith, a hefyd i wyth, canys ni wyddost pa ddrwg a ddigwydd ar y ddaiar.] Preg. 11. 1, 2. [Y boreu haua dy hâd, a phrydnawn nac attal dy law; canys ni wyddost pa un a ffynna, ai hyn ymma, ai hyn accw, ai ynteu da fyddant ill dau yn yr un ffunyd. adn. 6.] na attal ddaioni oddiwrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur: na ddywed wrth dy gymmydog, cerdda ymmaith, a thyred amser arall, ac y foru mi a roddaf, a chennyt beth yn awr. Dih. 3. 27, 28. trysora it dy hun sail dda erbyn yr amser sydd i ddyfod: Gwna dda, cyn ith galon galedu, a dyfod adwyth a mêth ar dy olud, a dwyn ymmaith dy odfeydd. Cofia fod yn rhaid ei wneuthur yn Awr os gwnei bŷth. Nid oes mor gweithio yn y bêdd.
5. A ymddiriedodd Duw i chwi am Allu neu Awdurdod, drwy yr hwn y gellwch chwi ddwyn ymlaen ei anrhydedd ef yn y bŷd, ac ymgeledu y gorthrymmedig, a ffrwyno [Page 76] cynddaredd a malais yr annuwiol? A wnaeth efe chwi yn Llywodraethŵyr, a rhoddi cleddyf Cyfiownder yn eich dwylo? Cyfodwch, a gweithiwch a'ch holl egni: Amddiffynnwch y gwirion, achleswch weision yr Arglwydd, cyssurwch y sawl a wnant dda, byddwch ddychryn ir Annuwiol; Cefnogwch yr Vfydddod manylaf ir hwn sydd Lywodraethwr y Cwbl, byddwch frochus wrth dorwyr ei gyfreithiau ef. Nac edrychwch am gael parch ac Vfydd-dod o'i flaen ef, a chydâ mwy o ofal nag yr ydis yn ufydd-hau iddo ef. Amddiffynnwch ei Wirionedd, a'i Addoliad ef, heb nac ofn na gwyldra: Byddwch dirion a thyner wrth ei ŵyn a'i rai bychain ef. Chwiliwch am y drygioni, fel y galloch yn llwyddianus ei ddarostwng. Cashewch y profedigaethau a'ch tynnei chwi i ryngu bodd dynion, i ddilyn cynneddfau yr amser, i fôd yn ysmala, neu i ffafrio pechod; ond yn bendifaddeu y rhai ach maglei mewn ymrysonaeth â'r nefoedd, ac mewn cynhennau yn erbyn ffyrdd Sancteiddrwydd; neu a'ch tynnei ir pechod o amherchi a gwrthwynebu y bobl sydd fwyaf eu gofal am ryngu bodd ir Arglwydd; canys fe fydd y pechod hwn ryw ddydd yn eich grwadwyddo chwi yn ddirfawr. Mawr yw'r hyn yr ymddiriedir i chwi am dano, ac felly y mae eich cyfleusdra i wneuthur daioni; Ac och! faint a fydd eich cyfrif, ac mor ddychrynnadwy, os byddwch anffyddlon! Megis ac yr ydych chwi yn sefyll yn lle cantoedd, neu filoedd o'r gwŷr gwreng neu isel [Page 77] râdd, a'ch gweithredoedd yn gwneuthur naill ai y daioni mwyaf neu'r niweid mwyaf: felly yn ol hynny y mae i chwi ddisgwyl cael eich trin, pan ddeloch ir ddidueddol farn olaf. Gwnewch garedigrwydd â'r Efengyl megis Yscrifen eich breintiau tragywyddol. Mawrhewch y sawl y mae Crist yn eu mawrhau: ymddygwch eich hunain tuag attynt, fel a phe baech yn clywed Crist yn dywedyd. [Yn gymmaint a'i wneuthur o honoch i un o'r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch.] Mat. 25. Na adnabyddwch ddyn drygionus: Eithr bydded eich llygaid a'r ffyddloniaid y tîr, fel y trigont ynddo, a byw yn llonydd ac yn heddychol, mewn pob Duwioldeb ac honestrwydd. Psal. 101. 6. 1 Tim. 2. 2. Edrychwch ar ir rhai sy'n gweithio gwaith yr Arglwydd, fod yn ddiofn gydâ chwi. 1 Cor. 16. 10. Cofiwch mai Nô'd Pharisead a Rhagrithiwr yw canfod y brycheuyn (o fôd yn esceuluso Ceremoni, neu draddodiad, neu beth llai o ymrafael mewn Crefydd) yn llygad eu brodyr, a bôd heb ganfod y trawst (o Ragrith, anghyfiownder, a maleusus greulon wrthwynebu Crist a'i Ddiscyblion) yn eu llygaid eu hunain: Ac mai nôd y rhai nid ydynt yn rhyngu bodd Duw, sy 'n llenwi i fynu eu pechodau, ar y rhai y mae digofaint Duw i ddyfod hyd yr eithaf, ywbod yn erlid gweision yr Arglwydd, gan warafun iddynt [Page 78] bregethu ir bobloedd fel yr iacheid hwy. 1 Thes. 2. 15, 16.
Dyscwch yn dda yr ail Psalm, a'r unfed a chant: Ac yscrifennwch yr Ymadroddion hyn ar eich parwydydd a'ch drysau, megis Cyfaredd yn erbyn yr hunan-ddinistriol bechod hwnnw. Mat. 18. 6. Pwy bynnag a rwystro ûn o'r rhai bychain hyn a gredant ynofi, da fyddai iddo, pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr [Zech. 2. 8. Agyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â chanwyll ei lygad ef.] Rhuf. 14. 1. 3. a'r 15. 1. [yr hwn sydd wan yn y ffŷdd, derbyniwch attoch, nid i ymrafaelion rhesymmau, canys Duw a'i derbyniodd ef. Mat. 10. 40, 41, 42. [Y nêb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i: a'r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn am danfonodd i. Y nêb sydd yn derbyn un cyfiawn, yn enw un cyfiawn, a dderbyn wobr un cyfiawn: a phwy bynnag a roddo iw yfed i un o'r rhai bychain hyn phioleid o ddwfr oer yn unic, yn enw discybl, yn wir meddaf i chwi ni chyll efe ei wobr] Oni cherwch y Duwiol, cerwch eich hunain: (cyn belled ac yw bossibl ir cyfryw hunan-gariad) na archollwch mo'ch calonnau eich hunain, i beri iw bysedd hwy waedu. Na ddemniwch eich eneidiau (a hynny drwy'r ffordd siccraf a nessaf,) fal y galloch wneuthur niweid iw cyrph hwy. Nac annogwch Dduw i'ch gyrru ymmaith oddi ger ei fron, ac i naccau eich erfyniadau, wrth eich gwaith yn eu trin hwynt fal hyn: na chaewch mo'ch geneuau eich hunain, pan fyddo eich trueni yn galw [Page 79] am eich crôch-lefain uchaf am drugaredd, oblegit i chwi gau geneuau gweision yr Arglwydd, a naccau gwrando ar eu cwynion am gyfiawnder. Od oes gennych elyniaeth y Sarph yn erbyn hâd y wraig, rhaid i chwi ddisgwyl am farn y sarph; Eich pennau chwi a yssigir, pan yssigoch eu sodlau hwynt, Gen▪ 3. 15. Na wingwch yn erbyn y swmbylau. Act. 9. Nad ymmosoded y mieri a'r drain yn erbyn yr Arglwydd mewn rhyfel, rhag iddo ef am hynny, fyned trwyddynt, a'i llosci hwynt ynghŷd, Esay, 27. 4.
Nid wyfi yn llefaru dim o hyn o ran Achwyn, neu i wradwyddo Swyddogion. Bendigedig fyddo Duw, a roes i ni ddiddanwch eich amddiffyniad. Eithr a mi yn gwybod beth y mae'r Temtiwr a'i ergyd atto, ac ym mhâ bêth y mae eich perygl yn fefyll, a thrwy ba foddion yr anrheithiwyd Rheolwyr y ddaiar, mae ffyddlondeb yn peri i mi fynegi i chwi am y fagl, a gosod gar eich bronnau dda a drwg; fal y mynnwn ddiangc rhag yr euogrwydd o'ch bradychu chwi trwy weniaith, neu trwy greulon a llwrf ddistewi.
Ac yn enwedig Pan nad yw eich swyddogaeth ond blynyddawl, neu tros fyrr Amser, mae'n perthyn i chwi weithio â'ch holl egni. Nid oes i chwi ond y flwyddyn hon, neu yspaid byrr o Amser i wneuthur y gwasanaeth enwedigawl hwn ynddo; Colli hwn a cholli y cwbl. Gan ba ddynion ar y dda iar y dylai Dduw gael ei wasanaethu a'i anrhydeddu mewn môdd rhagorol, oni chaiff [Page 80] ef gan Swyddogion, y rhai a dderchafodd ef, y rhoddes iddynt Allu, ac yr ymddiriedodd iddynt mewn modd rhagorawl? Trwy ystyriol ragweliad, gofynnwch yn ddifrifol i chwi eich hunain y Cwestiwn hyn: A ydych chwi fodlon i glywed, ar ddydd eich cyfrif na chowsoch chwi ond un, neu ychydig flynnyddoedd i wneuthur ynddynt wasanaeth enwedigol i Dduw ac eich bod yn gwybod hyn, ac etto nas gwnaech er hynny? A eill eich calonnau y prŷd hynny oddef clywed a medwl, ddarfod i chwi golli y cyfryw Odfa o'ch gwirfodd? Edrychwch gan hynny yn eich cylch, a gwelwch beth sydd iw wneuthur. Onid oes Dafarndai iw bwrw i lawr, a Meddwon a Gloddestwyr iw ffrwyno; pregethu a Duwioldeb iw dyrchafu? Gwnewch hyn â'ch holl egni: Canys rhaid iddo fôd Bellach neu ni bydd Byth.
6. I ddyfod etto ychydig nês attoch, ac i lefaru am y gwaith, sydd etto i chwi iw wneuthur yn eich eneidiau eich hunain; A oes neb o honoch etto ynghyflwr nattur heb ei hadnewyddu, wedi eich geni o'r Cnawd yn unig, ac nid o'r yspryd, Jo: 3. 3, 5. 6. yn synnied petheu'r cnawd ac nid petheu'r Yspryd. Rhuf. 8. 1, 5, 7, 9. 13. ac felly ym meddiant Satan etto, yn nalfa ganddo wrth ei ewyllys, Act. 26. 18. 2. Tim. 2. 26, 27. Cyfod a gweithia os ceri dy enaid. Os gofeli pa un a fyddech ai mewn llawenydd ai mewn trueni yn dragywydd, wyla am dy bechod ath drueni ysprydol: Ymgais at Grist, llefa yn grôch arno ef am ei râs [Page 81] maddeugar ith adnewyddu, a'th gymmodi: Dadleu am y Bodlondeb a wnaeth ef, ai haeddedigaethu ai addewidion: Paid a'th wrthryfel, ac ath bechod anwyl; dyro dy enaid i fynu yn hollawl i Grist, iw sancteiddio, ai lywodraeethu, ai gadw ganddo ef. Na wna mwyach ddim petrusder yn ei gylch; nid yw efe beth iw gwestiwnu, neu i ymchwidawiaeth (neu iw dreifflan) ynddo: gâd ir llawr fôd yn gydnabyddus âth liniau hyblŷg, ac ir awyr â'th gwynion a'th fonllefain, ac i ddynion ath gyffession ac ath ymofynion ar ol ffordd y bywyd; a'r nefoedd âth ofidiau, dymuniadau, ac arfaethau, hyd oni fyddo dy enaid yn gydnabyddus ag Yspryd Crist, (Rhuf. 8. 9.) ac â'r Anian neu 'r nattur newydd, Sanctaidd, a nefolaidd, a bôd dy galon wedi derbyn coppi o gyfraith Dduw, argraph yr Efengyl, ac felly o ddelw dy Greawdwr a'th Brynwr. Oblegyd nad oes Droedigaeth, adnewyddiad, nac edifeirwch i fywyd yn y bedd, lle yr wyt ti yn myned, Ymddyro gan hynny ir gwaith hwn âth holl egni; rhaid yw bod hynny yn awr neu ni bydd byth. A bŷth ni bydder cadwedig, os bydder bŷth yn ansanctaiddiedig Heb, 12. 14.
7. A oes gennyt un pechod cadarn-grŷf iw farweiddo, yr hwn sydd naill ai yn teyrnasu ynot, ai yn dy archolli, ac yn cadw dy enaid mewn tywyllwch ac anghydnabyddiaeth â Duw? Gosod arno ef yn hwylusfrŷd: Tafl ef ymmaith yn brysur: ffieiddia ei gynhyrfiadau: Tro ymmaith oddiwrth y [Page 82] dynion neu'r pethau a fynnent dy hudo: Casa ddrysau y Buttain, a'r Dafarn, a'r Chwareudŷ: Ac na ddos fal yr ŷch ir lladdfa, ac fal yr aderyn i fagl yr adarwr, ac fal yr ynfyd yn myned ir cyffion iw gospi, fal pettit heb wybod ei fod yn erbyn dy einioes, Dih. 7. 22, 23. Och enaid ynfyd! Paham y profi o'r cwppan gwenwynig? A gellweiri di â'r abwyd? Oes gennyt ti le yn y byd i rodio neu i chwarae ond ar ymylfin Vffern? Ai nid rhaid croeshoelio y cnawd ai wyniau a'i chwantau? Gal. 5. 24. Ac onid rhaid ei ddofi a'i farweiddio, neu ith enaid gael ei ddamnio? Rhuf. 8. 13. 1 Cor. 9. 26. 27. Na rêd gan hynny megis ar amcan; na ymdrech fel un yn curo yr awyr. Gan weled fod yn rhaid gwneuthur hyn, neu y derfydd am danat, nac oeda, ac na wna mor cellwair â'r pechod ddim hwy: Bydded hwn y diwrnod; Cais ymroi, ai wrthwynebu ef â'th holl egni; rhaid yw bod hyn yn awr neu na byddo Bŷth: pan ddêl angeu mae'n rhyhwyr. Ni bydd dim gwobr y prŷd hynny, am adael dy bechod, yr hwn ni ellit ei gadw ddim hwy: Nid yw hi ran yn y bŷd o Sancteiddrwydd neu happusrwydd, nad wyt ti feddw, neu falch, neu drythyll yn y bedd neu Uffern. Fal yr wyt ti Ddoeth gan hynny, adnebydd a chymmer dy Amser.
8. A ydwyt ti mewn cyflwr ammharus adfeiliedig, wedi myned yn ôl mewn gras? A gollaist di dy ddymuniadau a'th gariad cyntaf? Gwna dy weithredoedd cyntaf, a gwna [Page 83] hwynt â'th holl egni. Nac oeda, eithr [...] ba le y syrthiaist, a pha beth a gollaist wrth hynny; ac i ba gyflwr gofidus y dygodd dy ynfydrwydd a'th esceulusdra dydi: dywed, mi a âf ac a ddychwelaf at fyngwr cyntaf; canys gwell oedd arnafi yna, nag yr awr hon, Hos. 2. 7. llefa allan gydâ Job 29, 2. 3. 4. 5. [O na bawn i fel yn y misoedd o'r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwei Duw fi! pan wnai ef iw oleuni lewyrchu ar fy mhen; wrth oleuni yr hwn y rhodiwn drwy dywyllwch, pan oeddwn yn nyddiau fy ieuengctid, a dirgelwch Duw ar fy Mhabell, pan oedd yr Hollalluog etto gydâ mi:] dychwel tra bo Dydd gennyt; rhac ir nôs dy oddiwes. Nac ymaros ac na oeda ddim hwy: ti a gollaist wrth hynny yn barod, Yr wyti ym mhell yn ol llaw: Ymgynhyrfa gan hynny âth holl egni.
9. A wyt ti mewn tywyllwch o ansiccrwydd ynghylch dy Droedigaeth, a'th gyflwr tragywyddol? A wyddost di pa un ydwyt ai mewn cyflwr einioes ai angeu? A pha beth a ddoe o honot, pettai hwn Ddydd neu Awr dy gyfnewidiad? Os wyt ti ofalus ynghylch y peth, ac yn ymofyn, ac yn arfer y moddion a osododd Duw i ti o ran siccrwydd; Yna nid oes genyfi ddim ychwaneg yn awr iw ddywedyd wrthyt, onid disgwyl wrth Dduw, ac ni chei mo'th siomni, na'th gwilyddio! Ti a gei▪ siccrwydd mewn amser cyfaddas, neu ti a fyddi gadwedig cyn i ti goelio y byddit gadwedig. Bydd oddefegar ac ufydd, a goleuni Crist a [Page 84] lewyrcha arnat, ac etto ti a gei weled dyddiau heddwch. Eithr os wyt ti yn ddiofal yn dy ansiccrwydd, ac heb feddwl am orchwyl cymmaint, deffro, a galw ar dy enaid iw gyfrif; Chwilia a hola dy galon a'th fuchedd: Darllen, ac ystyria, a chymmer gyngor gan Arweinwyr ffyddlon. A fedri di gysgu yn ddiofal, a chwerthin, a Chwarau, a dilyn dy orchwylion lleiaf, sef dy orchwylion bydol, fel pettai dy iechydwriaeth wedi ei wneuthur yn siccr, a thitheu heb wybod ym mha le y mae'n rhaid i ti breswylio yn dragywydd? Profwch chwychwi eich hunain, a ydych yn y ffydd holwch eich hunain; Ai nid▪ ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Jesu Grist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymmeradwy? 2. Cor. 13. 5. Byddwch ddiwyd (mewn prŷd) i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn siccr. 2. Petr. 1. 10. Nid oes dim ymsiccrhau am y Nefoedd yn y Bêdd ac yn Uffern▪ Yr ydych y pryd hynny tros ben ymofyn ac ymchwlio arnoch eich hunain, o ran cael ymwared na'i obaith. Mâth arall ar brofiad a lwyr ddettyd i chwi y clymmau. Cyfod gan hynny, ac ymosod at y gwaith yn ddiwyd. Rhaid i hynny fôd yn awr neu na bô bŷth.
10. Yn holl ddyledswyddau dy broffes o Dduwioldeb, Cyfiawnder, a Chariad▪ tu ac at Dduw, tu ac attat dy hun, neu eraill, cyfod, a gweithia a'th holl egni. Wyt ti yn ceisio ennyn dy enaid â chariad tu ac at Dduw? Ymdrocha ynghefn fôr ei gariad ef; rhyfedda oblegyd ei drugareddau; edrych yn grâff [Page 85] ar gynnyrcholdeb ei oruchel ddaioni: Praw a gwêl mai grasol yw'r Arglwydd! Cofia fod yn rhaid ei garu ef âth holl galon, a'th holl enaid, ac a'th holl nerth: A fedri di dywallt dy gariad allan ar greadur, a rhoddi ond ychydig ddefnynnau diffrwyth i Dduw?
Pan fyddych yn ei ofni ef, gad iw ofn gael rhwysg ar dy enaid, a gorchfygu pob ofn dynol.
Pan fyddych yn ymddiried ynddo ef, gwna hynny heb anymddiried, a bwrw dy hun a'th ofal arno ef: Ymmdiried iddo fel y dylei greadur ymddiried iw Dduw, ac fel y dylei aelodau Crist ymddiried iw pen au hanwyl Brynwr.
Pan fyddych yn crybwyll am ei enw mawr ac ofnadwy, O gwna hynny mewn parch a gwylder, a mawrhâd: ac na chymmerwch enw Duw yn ofer.
Pan fyddych yn darllen ei Air ef, byddedd i fawrhydi yr Awdur, a Mowredd y defnydd, a dwysder yr Ymadrodd dy lenwi ag ofn ufyddgar: Câr ef, a bydded yn felusach gennyt na'r dil-mêl, ac yn werthfawroccach nâ miloedd o Aur ac arian. Ymroa i wneuthur yr hyn a geffych yno ei fôd yn ewyllys Duw. Pan wyt yn gweddio yn y dirgel, neu yn dy deulu, gwnâ a'th holl egni: llefa yn grôch ar Dduw, fel y dylei enaid tan bechod, ac eisiau, ac enbydrwydd, ar fydd ar ei gamrau i fywyd annherfynol, fôd yn gwneuthur. Bydded i hybarch a gwrês dy weddiau ddangos, mai wrth Dduw ei hun yr wyt ti yn llefaru; ac mai am [Page 86] y Nefoedd yr wyt ti yn gweddio: ac mai Vffern ei hun yr wyt yn gweddio cael dy waredu rhagddi. A fyddi di hurt a diddarbod ar y cyfryw Genadwri at y Duw Byw? Cofia beth sy yn sefyll ar dy waith yn methu neu yn ffynnu: a bôd yn rhaid iddo fôd yn awr neu ni bydd bŷth.
A wyt ti Bregethwr yr Efengyl, ac yn cymmeryd arnat ofalu tros eneidiau dynion? Edrych arnat dy hun, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr Yspryd glân di yn Olygwr, i fugeilio Eglwys Dduw, yr hon abwrcasodd efe a'i briod waed. Na âd fôd yn gofyn gwaed eneidiau, a'r gwaed a'u pwrcasodd hwynt oddiar dy ddwylo di, Act. 20. 28. Ezek. 3. 18. 20. Gorchymmynnir i ti ger bron Duw, a'r Arglwydd Jesu Grist, yr hwn afarna y byw a'r meirw, yn ei ymddangosiad a'i deyrnas, ar i ti bregethu y gair, bod yn daer mewn amser ac allan o amser; argyoeddi, ceryddu, annog gyda phob hir-ymaros ac athrawiaeth, 2. Tim 4. 1. 2. Rhybuddia bôb dŷn, a dysc bôb dŷn. Col. 1. 28. Nos â dŷdd â dragau, Act. 20. 31. Cadw rai trwy ofn, gan ei cippio hwy allan o'r tân, (Jud. adn. 23.) llefa â'th gêg, nac arbed, derchafa dy lais fel udcorn, mynega iddynt eu camwedd. Eay 58. 1. Yr wyt ti etto yn fyw, a nwythau yn fyw: mae gennyt ti etto dafod, a chanddynt hwythau glustiau▪ Ni thorrodd y farn olaf etto moi gobaith hwynt ymmaith. Pregetha gan hynny, a Phregetha â'th holl egni. Cynghora hwynt o'r neulltu ac wrthynt [Page 87] eu hunain, gydâ phob diwydrwydd ar a fe drych. Yn fuan, onid ê fe fydd rhy-hwyr: yn gal onidê Satan a'th ragflaena: yn wresog, onid ê, mae'n debygol na wneir cyfri o'th eiriau. Cofia pan edrychech yn eu hwynebau, pan ganfyddech y Cymanfeydd; y bydd rhaid iddynt droi, neu fôd yn ddamnedig, ac y bydd rhaid iddynt fod wedi eu sancteiddio ar y ddaiar, neu gael eu poeni yn Vffern, ac mai hwn yw'r dŷdd; Rhaid i hynny fôd yn awr neu ni bydd Bŷth.
I fod yn fyrr, Cymmhwysa y gorchymyn bywiog-lawn hwn at holl ddyledswyddau dy Yrfa Gristianogawl. Bydd grefyddol oddifrif a chyfiawn, a charedigol, os mynnit dy gyfri yn gyfryw un pan ddisgwiliech am wobr. Gweithiwch allan eich iechydwriaeth eich hunain drwy ofn a dychryn, Phil 2. 12. Ymdrechwch am fyned i mewn trwy'r porth cyfyng: canys llawer meddaf i chwi a geisiant fyned i mewn, ac nis gallant. Mat. 7. 13. Luc. 13. 24. Llawer sy yn rhedeg ond ychydig sy yn derbyn y gamp: felly rhedwch fel y caffoch afael 1. Cor. 9. 24. ac os braidd y mae'r cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur? 1. Petr. 4. 18. Gadewch ir bŷd gwallgofus watwar eich diwidrwydd, ac ymosod a'ch rhwystro a'ch cystuddio: ni bydd ond ennyd fechan nes i brawf newid eu meddyliau hwynt, a gwneuthur iddynt ganu cywydd arall. Dilynwch Grist yn gyflawn: Ymosodwch at eich gwaith, na chollwch ddim amser, Mae y Barnwr yn dyfed. Na adewch [Page 88] i eiriau, nac i ddim a ddichon dŷn ei wneuthur beri i chwi eistedd i lawr, neu'ch rhwystro mewn helynt a shwrneu mor bwysfawr. Bodlonwch Dduw, pe rhôn ac anfodloni cnawd, a chyfeillion, a'r holl fŷd. Beth bynnag a ddêl o'ch enw da, neu'ch cyfoeth, neu'ch Rhydddid, neu'ch Hoedl, byddwch siccr o edrych am fywyd tragywyddol; ac na theflwch hwnnw ar antur neu berygl yn y byd, am flodeuyn gwywedig, neu freuddwyd pereiddber, neu lûn ar gymmwynas, neu ddim o'r gwagedd a fedro 'r Twyllwr ei osod gar eich bron. Cans beth a dal i chwi ynnill yr holl fŷd a cholli eich enaid? Mat. 16. 26. neu gael parch ac ufudd-dod ar y ddaiar, pan fyddoch chwi tan ddigofant Duw yn Uffern? neu fôd eich cnawd unwaith wedi arlwyo iddo amryw ddifyrrwch, pan fyddo wedi ei droi yn bydrni ac yn rhaid ei gyfodi i boenau? Cerddwch rhagoch gan hynny mewn ffydd a Sancteiddrwydd, a gobaith▪ pe rhon i'r Ddaiar ac Uffern ymgynddeiriogi i'ch erbyn; pe rhon i'r holl fŷd drwy drais, a gweniaeth wreuthur y gwaethaf a allant i'ch rhwystro. Hwn yw▪ eich profiad; eich milwriaeth yw gwrthwynebu y Twyll, a phob dim oll ar a'ch temptiai i gyttuno a moddion eich destryw eich hunain: na chyttunwch, ac yno chwi a orchfygwch: Gorchfygwch a chwi a goronir. Ymrowch neu roddwch le, a chollasoch y diwrnod: Pe gallai Siarattach ffyliaid annuwiol, neu wawd ddirmygus pechaduriad caledion, neu ŵg Pennaethiaid ansanctaidd oresgyn yn erbyn [Page 89] Yspryd Crist, a gweithrediadau meddwl wedi ei oleuo, yna pa ddŷn a fyddei gadwedig? Chwi a haeddech ddamnedigaeth, os rhedwch chwi iddi er mwyn gochel gwawd, neu golled am ddim a ddichon dyn ei ddwyn oddiarnoch. Yr ydych yn anghymmwys ir Nefoedd, os medrwch ymadel a hi er mwyn cadw eich pyrsau: Nac ofnwch y rhai a laddant y corph, a chwedi hynny heb ganddynt ddim mwy iw wneuthur, ond ofnwch yr hwn a ddichon ddestrywio enaid a corph yn Ʋffern. Mat. 10. 28. Luc. 12. 4, 5. Ufyddhewch i Dduw, er peri o'r holl fŷd i chwi beidio. Ni ddichon un Gallu eich gwaredu chwi rhag ei Gyfiownder ef: Ni ddichon chwaith un o honynt beri i chwi fod yn ôl o'i wobr ef. Er i chwi golli eich Pennau, ni chollwch mo'ch Coronau. Ni chedwch chwi eich eneidiau mewn un modd cyn siccred, a thrwy ei colli hwynt fal. hyn, Mat. 10. 39. Ʋn pethsy yn angenrheidiol: Gwnewch hynny mewn prysurdeb, a gofal, a dyfalwch, yr hyn sy yn rhaid ei wneuthur, onid ê colledig fyddwch yn dragywydd. Y Sawl sy yn Awr yn erbyn eich maith a'ch difrifol weddio, ar fyrder a grôchlefant eu hunain yn ofer. Pan yw hi yn rhyhwyr, mor wresog y gweddiant hwy am drugaredd, y rhai sy yn awr yn eich gwatwor, am i chwi ei phrisio ai cheisio mewn amser! Eithr [yna y galwant ar Dduw, ond ni wrendi efe, yn foreu y ceisiant ef, ond nis cant; Canys câs fu ganddynt wybodaeth, ac ofn yr Arglywydd ni ddewisasant, ni chymmerent ddim oi gyngor ef, dirmygasant▪ ei holl gerydd es. Dihar. 1. 28. &c.
[Page 90]Cyfod gan hynny, a gweithia a'th holl egni: bydded i Anffyddloniaid ymchwidawiaeth, neu dreifflan, y rhai ni wyddant fod y cyfiawn Dduw yn sefyll gar llaw iddynt, ac nis gwyddant eu bod yn awr i weithio am dragywyddoldeb, ac ni wyddant fod Nef ac Vffern yn y diwedd iw meddiannu. Gadewch iddynt hwy oedi, a chwerthin, a chwareu, a breuddwydio ymmaith eu hamser, y rhai sy yn feddwon ar lwyddiant, a gwallgofus gan drachwantau a difyrrwch cnowdol, a chwedi colli eu rheswm yngofalon, a hudoliaeth, a gwag ogoniant y byd: Eithr ai felly y bydd gydâ thi yr hwn wyt a'th lygaid yn agored; yr hwn a weli Dduw, y Nefoedd, ac Uffern, y rhai nid ydynt hwy ond clywed son am danynt, megis petheu annhebygol? A fyddi di byw yn effro, fel y mae y rhai sy yn cysgu? A wnei di wrth liw ddydd fel y gwnânt hwy yn y tywyll? A fydd Gwŷr rhyddion fyw, fel caeth weision Satan? A fydd ir bwy orwedd mor ddigynnwrf▪ ac mor anfuddiol a'r meirw? Gweithia gan hynny tra ydyw hi yn ddydd; Canys y mae y nos yn dyfod, pan na ddichon nèb weithio, Joan▪ 9. 4.
Nid gweithredoedd y Gyfraith foesol, na 'r gweithredoedd a dybbier o ran eu priodol fraint neu eu prîs, yr haeddant ddim oddiar ddwylo Duw, yr wyfi drwy gydol hyn o amser yn eich perswadio chwi iw gwneuthur: ond y Gweithredoedd a orchymynnir i chwi gan Grist yn yr Efengyl, yn ôl y rhai eich bernir ar fyrder i lawenydd neu i drueni, gan Grist [Page 91] ei hun, yr hwn a'ch geilw i gyfri: Rhaid yw gwneuthur y petheu hyn â'ch holl egni.
Gwrthdadl. Eithr (chwi a ddywedwch ond odid) ysywaeth, pa egni sydd gennym ni? Ni allwn ni ddim o honom ein hunain; heb Grist ni allwn ni ddim! a hyn a wyddom, pan ddelo y peth mewn prawf.
Atteb. 1. Nid yr egni sydd wreiddiol yn eiddot dy hun, yr wyfi yn galw arnat iw arfer: ond yr hwn a dderbyniaist yn barod gan Dduw, a'r hwn y mae efe yn barod iw gyfrannu. Gwna ddefnydd da o'r holl Egni sydd gennyt yn vnig, a thi a gei weled, nad yw dy lafur yn ofer. Nerth Nattur a Grâs cyffredinol ydynt dalentau, sydd raid i ti wneuthur defnydd o honynt.
2. A Wyt ti ewyllysgar i wneuthur defnydd o'r Egni sydd gennyt, ac i gael ychwaneg, ac i wneuthur defnydd o honaw os cai di ef? Os wyt, mae Nerth Crist gennyt, nid wyt ti yn sefyll nac yn gweithio drwy dy nerth dy hunan: Mae ei addewid ef wedi ymrwymo i ti, a'i nerth ef yn ddigon i ti. Eithr onid wyt ti ewyllysgar, yr wyt ti yn ddiesgus: pan wyt wedi cael y Nefoedd ac Vffern wedi eu hagoryd yngair Duw, ith wneuthur yn ewyllysgar; fe wna Duw wahaniaeth rhwng dy wrthnyssigrwydd a'th wendid anewyllysgar.
3. Mae mwy o Allu ym mhawb o honoch nag yr ydych yn gwneuthur defnydd o honaw, neu yr ydych yn gwybod oddiwrtho. Nid oes ond eisiau deffro iw ddwyn ef allan [Page 92] i weithred. Oni welwch chwi wrth eich gwaith yn edifarhau, fôd y cyfnewid yn fwy yn eich ewyllys nag yn eich Gallu? Ac yn neffroad eich ewyllys a'ch Rheswm i Weithredu, na thrwy roddi ychwaneg o Allu yn unig at y peth? a'ch bôd felly yn eich ffolu eich hunain o ran eich pechodau a'ch esceulusdra, ac yn rhyfeddu nad oedd gennych mwy defnydd iw wneuthur o'ch dealltwriaethau? Bydded i demestl ar fôr, neu glefyd angerddol, neu angeu cyfagos gynhyrfu a deffroi y Gallu sydd gennych, a chewch wybod fôd yn cyfgu ynoch ychwaneg nag a arferasoch.
Yn nesaf gan hynny mi a wnaf fy ngoreu ar ddeffro y Gallu sydd gennych, neu fynegi i chwi pa fodd y mae i chwi ei▪ ddeffro ef.
Pan yw eich eneidiau yn drwmbluog, a chwithau yn anghofio eich Duw, a'ch diwedd; a matterion Tragywyddoldeb heb weithio na blasu ond ychydig gydâ chwi; pan eloch yn ddiog, ac yn grefyddol yn vnig o'r wyneb allan, a Chrefydd yn ymddangos yn beth difywyd; a chwithau yn gwneuthur eich dyledswydd fal petteu yn ofer, neu o'ch anfodd; pan fedroch golli eich amser, ac oedi edifeirwch, ac y medroch wrando a'r gyfeillion, a bûdd, a braint, a difyrrwch yn erbyn Gair Duw, ac i'ch troi oddiwrtho; Pan wneloch y cwbl yn hannerog, gan lesgau a bod yn barod i farw yn eich Ystod ach ffyrdd Gristianogawl, Cynnhyrfwch eich eneidiau y pryd hynny ag [Page 93] annogaeth y cyfryw Gwestiwnau ar rhain.
Cwest. 1. A allafi wneuthur dim ychwaneg nâ hyn tros Dduw, Yr hwn a roddes y cwbl i mi, yr hwn a haedda 'r cwbl, yr hwn sydd yn fy ngweled yn fy Nyledswyddau a'm pechodau? Pan yw efe o bwrpas yn fy mhrofi beth a allwyf ei wneuthur er ei fwyn ef a'i wasanaeth, a allafi wneuthur dim ychwaneg? A allafi ei garu ef ddim ychwaneg? ac ufyddhau, a gwilio, a▪ gweithio dim ychwaneg?
Cwest. 2. A allafi wneuthur dim ychwaneg nâ hyn tros Grist? Tros yr hwn a wnaeth cymmaint erofi? yr hwn a fu fyw mor ddichlyn, a ufyddhaodd mor berpheithlawn; a rodiodd mor ddidramgwydd a llariaidd; gan ddirmygu pôb abwyd, braint, a golud bydol? yr hwn a'm carodd hyd angeu, ac sy yn cynnyg i mi ei holl ddoniau yn rhâd, ac a fynnei fy nwyn i ogoniant tragywyddol? Ai 'r egni diofal, oeraidd, trwmhyrddig hwn yw 'r goreu a allafi i dalu yr echwyn am yr holl Drugaredd hon?
Cwest. 3. A allafi wneuthur dim ychwaneg, pan yw fy Iechydwriaeth yn wobrwy? pan yw y Nefoedd ac Vffern yn sefyll yn fawr ar y peth? a mi yn gwybod hyn ym mlaenllaw, ac y gallwyf weled yn nrŷch yr Yscrythyrau sanctaidd, beth a baratowyd ir Dyfal ac i'r Diofal, a pha waith sŷdd, ac a fŷdd yn dragywydd yn y Nefoedd ac yn Vffern [Page 94] ar y cyfrifion hyn? Oni allwn ni ychwaneg, petteu fy nhŷ ar dân, neu fy ystâd, fy hoedl, neu fy'nghyfaill mewn perigl, nag yr wŷf yn ei wneuthur dros fy Iechydwriaeth?
Cwest. 4. A allafi wneuthur dim ychwaneg dros eneidiau dynion? A hwythau i fod yn golledig yn dragywydd oni waredir hwynt ar frŷs? Ai hwn yw fy Nghariad a'm tosturi wrth fy nghymydog, fy ngwas, fy nghyfaill neu fy mhlentyn?
Cwest. 5. A allafi wneuthur dim ychwaneg dros Eglwys Dduw? o ran y bûdd cyffredinol? o ran heddwch a hawddfyd y Genhedlaeth a'n hiliogaeth? yn darostwng pechod? yn gweddio am ymwared? neu yn hwylio ymlaen orchwylion y bûdd cyffredinol.
Cwest. 6. A allafi wneuthur dim ychwaneg, yr hwn a fûm cyhyd yn segur? a gerddafi ddim prysurach, yr hwn a gysgais tan brydnawn o'm dyddiau, pan yw yn rhaid i Ddiwydrwydd fod yn eglurhâd o'm hedifeirwch?
Cwest. 7. A allafi wneuthur dim ychwaneg, yr hwn nis gwn yn awr nad hwn yw 'r gwaith olaf? yr hwn wyf yn canfod gynted y mae fy amser yn prysuro, ac yn gwybod fod yn rhaid i mi fyned ar frŷs? yr hwn wyf yn gwybod y rhaid i hynny fod yn Awr, neu na byddo bŷth? ac mai hyn yw 'r holl amser a gafi, ar yr hwn y mae didrangc fywyd yn sefyll.
[Page 95]Cwest. 8. A allafi wneuthur dim gwell a mi yn gwybod ym mlaen llaw, pa ragor neu wahanol olygiadau a fydd gan Ddyfalwch a Diofalwch, ir enaid deffrous wrth ail simio ac wrth ail edrych ar bethau? Pa gysur a fydd wrth farw ac yn y farn, gallu dywedyd, mi a wneuthum fy ngoreu, neu ni bum i yn godechial yr amser a gefais? A pha gystudd ac aflonyddwch calon fydd edrych yn ol y prŷd hynny, ar Amser wedi ei golli, yr hwn nis gellir ei ail▪ ddychwel; ac ar fywyd o brawf, wedi ei daflu ymmaith ar bethau mor amherthynasol, tra 'r oedd y gwaith yr oeddym yn byw o'i blegyd yn sefyll heb ei wneuthur? A ddarparafi yn awr trwy ymchwidawiaeth neu dreifflan y cyfryw feddyliau gwewyrloes a phoenydiol, i'm cydwybod ddeffrous?
Cwest. 9. A allafi wneuthur dim ychwaneg, pan yw siccr gennyf na allaf wneuthur gormod, ac yn siccr gennyf nad oes dim arall yn rhagori ar hyn? ac mai hyn yr wyfi yn byw oi herwydd? a bod bywyd er mwyn gwaith; ac yn tueddu at hynny; (a bod bywyd sanctaidd er mwyn gwaith sanctaidd) ac mai gwell yw bôd heb fyw, na bod heb gyrrhaeddyd dibennion bywyd; pan yw gennyf gynnifer o elynion diludded: pan yw diogi yn beryglus i mi, ac yn fantais i'm gelyn, pan wnn i fod llwyrfryd a grymmus ddiwidrwydd mor angenrheidiol, nad yw'r cwbl heb hynny ond colled? A wrthwynebir profedigaethau, [Page 96] a ymwedir â'r hunan, a farweiddir trachwant, a ddofir ac a ddarostyngir dymuniadau cnawdol, a deflir pechod allan, a gynnhelir sanctaidd gymmundeb â'r nefoedd trwy ddiogi a syrthni? A iawn drefnir teuluoedd, a iawn lywodraethir Eglwys, Dinas neu wlâd? A droir ac a ged wir pechaduriaid diofal (yr wyfi yn rhwymedig iw cymmorth) drwy eistedd yn fy un lle, a thrwy ryw egnion oerion a digalon?
Cwest. 10. A allafi wneuthur dim ychwaneg a minneu â chennyf gymmaint o gymmorth? A chennyf bôb mâth ar drugare▪ ddau im hannog, a chreaduriaid i'm gwasaneuthu; a chennyf Iechyd i'm cefnogi, neu gystudd i ddwyn ar gôf i mi a'm cynnhyrfu; a chennyf y fâth feistr, y fâth wobr, na ellir dymuno ei gwell; pwy sydd lai escusodol am esceulustra nâ myfi?
Cwest. 11. A allwn i wneuthur dim ychwaneg, pettawn i siccr fôd fy iechydwriaeth yn sefyll ar y ddyledswydd hon yn unig? pettai yn digwydd i mi yn dragywydd yn ôl y weddi hon: Neu os digwydd i enaid fy mhlentyn, fyngwâs, neu fy nghymydog, yn dragywydd, fal y ffynno y goreu ar a allwyfi ei wneuthur yn awr o ran eu troedigaeth hwynt? Am ddim ar a wn i fe all hynny fôd.
Cwest. 12. A fynnwn i, i Dduw ddyfod â'r yspardun ac â'r wialen? Pa fôdd yr wyfi yn cwyno pan yw cystudd arnaf? A allafi nai oddef, nac ymfywiogi hebddo? onid gwell [Page 97] i mi symmud fy 'nghamreu, a gweithio ar ammodau esmwythach?
Yr wyfi 'n scrifennu yr ystyriaethau hyn, nid fel y bo i werinos truein eu harfer hwynt yn unig i aflonyddu eu hunain o herwydd eu gwendid, ac felly byw mewn trymder a hunan orthrymder, o herwydd na allant fôd cystal ac y chwennychent, neu wneuthur cymmaint a chystal ac y dylaent: Anobaith ni wellha ar y matter ond ei waethygu: Eithr myfi a ddymunwn, ar ir enaid diowgswrth ddadleu y Cwestiwnau hyn rhyngtho ag ef ei hun, a phrofi, a oes ganddynt ddim grym i fywoccau ef, os dwys gymmwysir hwynt at y galon, ac os ystyrir hwynt yn ddifrifol.
Ha-wyr, Coeliwch fi, mai Twyll llwyddiant sy yn cynnal i fynu fraint Buchedd segurllyd, ac yn peri i sanctaidd ddiwydrwydd ymddangos yn Afreidiol: Pan ddelo blinder, mae rheswm deffrous yn gwilydd-ganddo hyn, ac yn ei ganfod megis peth atcâs.
ERbyn hyn y gellwch weled pa wahaniaeth sydd rhwng barn Duw, a barn y bŷd, a pha beth iw feddwl am ddealldwriaeth y dynion hynny, (bid uchel bid isel; bid dysgedig bid annysgedig) ar sydd yn cashau neu yn gwrthwynebu y Diwidrwydd sanctaidd hwn▪ Mae Duw yn peri i ni ei garu, a'i geisio ai wasaneuthu ef, â'r holl galon, a'r enaid ac â'r nerth: A'r gwŷr hyn a▪ alwant y rhai a [Page 98] ymegniant at hynny, yn Zelotiaid, Precisiaid, a Phuritaniaid, er i bôd hwy, ysywaeth, yn fyrr o lawer, darfyddo iddynt wneuthur eu goreu. Yr anferthwch a'r peth dybryd rhyfeddaf a ddigwyddodd erioed yn Nattur Dŷn, yw bôd dynion, ie dynion dysgedyg, bod dynion a'r sy'n ddoethion mewn pethau eraill, yn tybied mewn difrifwch, fôd y diwidrwydd pennaf, yn vfuddhau ir Arglwydd, ac yn tueddu i gadw ein eneidiau, yn afreidiol, a bod iddynt fŷth ei gyfrif yn fai, a'i wneuthur yn fatter ō wradwydd: Bôd difrifol ddiwyd ufyddhau i gyfraith Dduw, yn fatter o gyffredinol ddirmyg a chasineb yn y bŷd; na chyfrifir neb ffieiddiach yn gyffredinol, nâ'r rhai sydd ddiwyd ym matterion eu iechyd▪ wriaeth: ac nad oes neb yn cael eu taflu ymma a thraw gan ddynion anhywaith yn fwy nâ'r rhain; na eill mawr na bychan Rheolwyr, na 'r dorf gyffredin, yn y rhan fwyaf o'r ddaiar moi haros. Wrth feddwl pa fôdd y darfu ir dŷn cyntaf a'r a anwyd erioed yn y bŷd, gasau ei frawd ei hun, hyd onid aeth ef rhagddo iw lâdd ef, am iddò wasaneuthu Duw yn well nag efe ei hun [am fôd ei weithredoedd ef yn ddrwg, ar eiddo ei frawd yn dda.] 1 Joa. 3. 12. Ac mor ddidor y dilynodd, ac y cynddeiriogodd y gwallgof hyll annaturiol hwn yn y byd, o amser Cain, hyd y dydd heddyw! Nid yn ofer y mae yr Yspryd Glân yn chwanegu yn y geiriau nesaf, 1 Jo. 3. 13. [Na ryfeddwch fy mrodyr, os yw 'r bŷd yn eich casau chwi] gan fwrw fôd yn hawdd gennym ni ryfeddu [Page 99] fal, yr wyf yn addef, y gwneuthum i fy hun yn fynych ac yn ddirfawr. Mi a dybygwn, mai plâ ac anaf rhyfeddol yn Natur yw hyn; ac y mae hyn yn fy siccrhau i yn fawr iawn ynghylch gwirionedd yr Yscrythur, ynghylch athrawiaeth Cwymp dyn, a phechod gwreiddiol, ac ynghylch angenrheidrwydd Heddychwr, a gras adnewyddiad.
O eneidiau truein gwallgofus! Ai nid digon i chwi wrthod eich Iechydwriaeth eich hunain, ond rhaid i chwi ddigio wrth y rhai ni'ch canlynant! Ai nid digon ynfyd, a digon drwg, dewis Damnedigaeth, ond rhaid i chwi sorri wrth bawb na bônt o'ch meddwl! Oni chredwch chwi i Dduw had oes gobaith o Iechydwriaeth heb Adenedigaeth, Troedigaeth, Sancteiddrwydd, a Buchedd nefol ac ysprydol (Joa. 3. 3, 5, 6. Mat. 18, 3. Heb. 12. 14. Rhuf. 8. 9, 13. 2 Cor. 5. 17.] Ai rhaid i ni ôll fôd yn Anghredadwy gydâ chwithau? Os chwerddwch chwi am ben Ʋffern, nes eich bod ynddi, ai rhaid i ni hynny hefyd? Os yw Duw a gogoniant mewn llai prîs a chyfrif gennych na'ch difyrrwch cnawdol y sydd tros amser; ai rhaid i ni ymwrthod â'n Crefydd Gristianogawl ac a'n Rheswm rhag ofn anghyttuno â chwi? os meiddiwch chwi anghyttuno â'ch Gwneuthurwr, a'ch Prynwr, ac a'r Yspryd glân, ac a'r holl Brophwydi, Apostolion, ac Efangyl-wyr, ac â phawb ar a aethant erioed ir nefoedd, oni allem ninneu yn hyfion anghyttuno â chwi? Os rhaid i chwi fôd yn Annuwiol, a dewis eich gwae tragywyddol, [Page 100] Cyd-ddygwch â'r rhai sydd ganddynt fwy dealltwriaeth, ac ni lyfasant fod mor rhyfygus a neidio ar eich ol ir tân anniffoddadwy: Na watworwch Sancteiddrwydd, er na of aloch am dano: Na rwystrwch y rhai sy yn ymdrech am fyned i mewn trwy'r porth cyfyng, os gwrthodwch chwi eich hunain. Na fyddwch mor chwannog i gael Cymdeithion yn Vffern: Ni bydd hynny ddim Cysur i chwi nac yn lleihau eich poen.
Eithr oblegyd fod yr wynebau gennych i ddywedyd yn erbyn Duw 'r gwirionedd, ac i wradwyddo y gwaith y mae efe yn ei orchymmyn, ac i ddywedyd, pam y rhaid wrth gymmaint ymyrraeth? pan ydyw ef yn peri i ni ei wneuthur a'n holl egni; mi a fynegaf i chwi ar fyrr beth yr ydych yn ei wneuthur; ac a ddangosaf i chwi drem wrthun y gwatwarwr, a chalonnau ffieidd gelynion Sancteiddrwydd, fal y byddo i chwi os ydyw bosibl, eich ffieiddio eich hunain.
1. Mae y gelynion hyn i Sanctaidd ddiwidrwydd, yn gwadu Duw trwy eu gweithredoedd a'u bucheddau, ac ydynt yn Annuw ar weithred; ac fe dybygid eu bod hwy mor agos o garennydd ir [drwg hwnnw] (1 Joan. 3. 12) ac y mynnent i bawb eraill wneuthur felly hefyd; Ac yna gynted y troe 'r ddaiar yn Vffern! Mae 'r matter yn eglur: Onid yw Duw yn haeddu ei garu a'i wasaneuthu â'th holl galon, âth enaid, â'th nerth, nid yw efe yn Dduw. Ac os yw dy olud, neu dy anrhydedd, neu dy gnawd, neu dy gyfaill yn haeddu mwy o'th gariad, o'th ofal, [Page 101] a'th ddiwidrwydd, nag y mae Duw, yna hwnnw yw dy Dduw, ar sydd oreu yn ei haeddu. Gwêl yn awr beth y mae y gwatwarwyr hyn ar burdeb ac ufudd-dod yn ei dybiaid am Dduw ac am y bŷd.
2. Mae 'r Cainiaid hyn yn cablu llywodraethwr y bŷd. Pan roddes efe ddeddfau ir Creaduriaid a wnaeth ef o ddiddim, y trueiniaid hyn a wawdiant ac a gasânt ddynion am vfyddhau iddynt. Oni orchymmynodd Duw yr hyn yr ydych chwi yn ei wrthwynebu, dywedwch yn ei erbyn ac nac arbedwch: (Mi a fynnwn pettych chwi lawer mwy yn erbyn y rhith grefydd, yr hon nid yw efe yn ei gorchymmyn:) Eithr os efe ai gorchymynnodd hi, a chwithau er hynny a feiddiwch ei difenwi hwynt, fel pettei y rhai a vfyddhânt iddi yn Rhy-bûr a medrusaidd, Beth yr ydych yn ei wneuthur ond beio á'r frenin y Sainct am wneuthur cyfreithiau ni ddylid vfyddhau iddynt: yr hyn beth sydd cymmaint, a phe dywedech mai cyfreithiau ffôl a diffaith (yn eich tŷb chwi) yw 'r cyfreithiaú hyn, er eu gwneuthur gan y Duw tra doeth a da.
3. Y gelynion hyn i Sancteiddrwydd ydynt yn gwrthwynebu yr Ymarfer, hyd yn oed o Brifbyngciau ein holl grefydd. Canys, Heb. 11. 6. [Rhaid yw ir neb sydd yn dyfod at Dduw gredu fôd Duw, ai fod ef yn obrwywr i'r rhai sy yn ei geisio ef yn adiwyd.] A'r diwyd geisio Duw y maent hwy yn ei gasau, ac yn ymofod yn ei erbyn.
4. Onid ydynt hwy yn barnu na thâl y nefoedd [Page 102] ond llai nâ'r ddaiar, pan wnelont lai am dani, ac y mynnent i eraill wneuthur felly hefyd?
5. Hwy a fynnent i ni oll ymddirywio o fod yn Gristianogion ac yn ddynion, fel pe na bai un bywyd i ddyfod, neu fel ped fai ein Rheswm a'n holl swyddgyneddfau wedi eu rhoddi i ni yn ofer. Canys oni roddwyd hwynt i ni o ran petheu mwy nâ holl freintiau a difyrrwch y bŷd, maent yn ofer, neu yn waeth; ac nid yw bywyd dŷn ond breuddwyd a thrueni. Oni byddei yr anifall yn llai gresynol, os hyn fyddei y cwbl?
6. Waeled prîs y mae y Cainiaid hyn yn ei roddi ar enaid anfarwol dŷn, y rhai a dybiant na thâl ef cymmaint o ymyrraeth, a gofalus ufydd-dod i gyfreithiau Crist? nai thâl ef chwaith cymmaint ac a wnant hwy eu hunain er mwyn ei bryntion bechodau a'u cnawd darfodedig? ond a fynnent i ni fod mor ynfyd, a gwerthu y nef a'n heneidiau ein hunain, am ychydig seguryd ac esmwythdra pechadurus.
7. Y gelynion hyn i Sancteiddrwydd, a fynnent i ddynion gymmeryd eu trugareddau yn lle yr hyn sydd yn niwaid iddynt, a'u bendithion mwyaf yn faich ac yn blâ iddynt, a rhedeg i uffern i gael ymwared rhagddynt. Och ddyn a wyddost di Beth yw Sancteiddrwydd? a pha beth yw cael nesau at Dduw? Meddaf i ti, prawf yw y mlaenllaw o'r nefoedd ar y ddaiar: Y Gogoniant goruchaf, a'r difyrrwch pereiddiaf, a'r llesâd pennaf i'r enaid. A wyt ti yn ofni cael gormod o hyn? Pa beth, [Page 103] tydi, yr hwn nid oes dim gennit (yr hyn a ddylei beri i ti grynnû) A oes arnat ti ofn cael gormod? Tydi yr hwn ni ofni ûn amser ormod o arian, neu ormod barch, neu ormod o iechyd, A wyt ti yn ofni gormod o Jechyd ysprydol a Sancteiddrwydd? Beth a chwennychi di, os wyt ti yn laru ac yn ffoi oddiwrth dy ddedwyddwch?
8. Chwychwi y rhai ydych ddeiliaid cywir, ymogelwch rhag y gwatwarwyr annuwiol hyn: Canys yn ddilynawl hwy a fynnent eich temtio i ddirmygu eich Brenin, ac i wneuthur gwawd o ufydd-dod iw orchymynion a'i gyfreithiau. Canys os perswadia un chwi i ddirmygu Barnwr, mae ef yn dangos y gellwch chwi ddirmygu Cwnstabl. Nid oes un Brenin o'i gyffelyou i Dduw cymmaint, ac yw gwybedyn neu bryfedyn wrth y Brenin hwnnw. Yr hwn gan hynny a fynnei ryddhau a gwanhau cyfreithiau Duw, a pheri i ddiwyd a dichlyn ufydd-dod iddo ef, ymddangos yn beth afreidiol, mae hwnnw yn bwrw fod ufydd-dod i neb rhyw un o feibion dynion yn llawer afreittiach.
A chwithau blant a gweision, gwiliwch rhag Athrawiaeth y dynion hyn: Chwi feistred, na roesew-wch mo honi i'ch teuluoedd. Os yw hwnnw yn heuddu ei watwar megis Puritan neu Precisian, yr hwn sydd ofalus am ryngu bodd ac ufyddhau ir Arglwydd, pa watwar a haeddau eich plant a'ch gweision, os byddant yn ufydd ac yn rhyngu [Page 104] bodd i'r cyfryw rai ac ydych chwi.
9. Chwychwi oll sy yn Grefftwŷr tlodion, gochelwch y petheu a ganlynant wawd y Cainiaid, rhag i hynny beri i chwi adael heibio waith eich galwedigaeth, a'ch troi eich hunain a'ch teuluoedd i reidusni. Canys oni thâl y nefoedd ejch gwaith mwyaf ar a alloch, ni thâl eich Cyrph mo'r lleiaf.
10. Y Cainiaid hyn a lefarant yn erbyn deffrous gydwybodau, a chyffes yr holl fŷd. Beth bynnac a ddywedont hwy drwy freuddwyd eu dall ryfyg a'u diofalwch; o'r diwedd, pan agoro Angeu eu llygaid, hwy a lefant oll, O na buassem ni yn Saint! O am allu o honom farw o farwolaeth y Cyfiawn, a bôd ein diwedd fel yr eiddo yntef! O na buassem ni yn treulio yr Amser, a'r Gofal, a'r boen honno dros ein heneidiau, a dreuliasom ni ar yr hyn sy yn awr yn fustl i'n Coffadwriaeth! Ac er hyn ni chymmer y dynionach hyn ddim rhybydd, ond yn awr a wrthwynebant, ac a watwarant yr helynt, y dymunei yr holl fŷd o'r diwedd, ei bôd mor awyddus iddi ac y bu neb erioed.
11. Mae gan y gelyn ei hun gydwybod o'i fewn, ar sydd naill ai yn grwgnach yn erbyn ei faleusus annuwioldeb, ac yn tystiolaethu ei fod ef yn amcherchi y rhai sydd lawer gwell nag ef ei hun; neu o'r lleiaf ai geilw ef ar fyrder i gyfrif, ac a fynega iddo yn well beth [Page 105] a wnaeth, ac a bair iddo newid ei wynebprŷd ai dôn; a dymuno bôd ynghyflwr y rhai a wrthwynebodd ef.
12. I Benglymmu, Mae y Cainiad o'r drwg 1 Joa, 3, 12. o'i dâd Diafol, Joa. 8. 42, 44. ac yn offeryn yn rhodio, ac yn llefaru drosdo ef ar y ddaiar, gan ddywedyd yr hyn a ddywedei yntef: Gelyn amlwg i Dduw yw ef. Canys pwy ydynt ei elynion ef, ond gelynion i Sancteiddrwydd, iw gyfreithiau ef, i'n hufydddod ni, iw ddelw ef, ac iw Saint? A pha fodd y trinia Crist ei elynion yn y diwedd, Luc 19. 27? O nas gwyddent, fel wrth ragweled, y gallent ddiangc! dyma gywir a gwrthun lûn y Cainiad, neu elyn buchedd Sanctaidd, yr hwn sy yn difenwi difrifol ddiwydrwydd megis rhodreswaith neu fod yn fussu yn afreidiol, pan yw Duw yn gorchymmyni ni, ac Angeu, a'r Bedd, a thragywyddoldeb yn ein Rhybuddio i weithio ei waith ef a'n holl Egni. Ystyriwch hyn yn awr y sawl a anghofiwch Dduw, rhag iddo eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd. Psal. 50. 22.
EIthr o holl wrthwynebwŷ r Difrifol Sancteiddrwydd yn y bŷd, nid oes mwy anescusodol, ac wylofus resynol, nâ'r rhai a broffesant eu bod yn Weinidogion i Grist, A goeliei [Page 106] neb ar nas adwaenei hwynt, fod y fath ddynion yn y bŷd? Ysywaeth, y mae gormod. Er bod Meithriniad neu ddygaid i fynu a Chyfreithiau'r wlâd yn eu rhwymo hwynt i bregethu Cywir Athrawiaeth, etto er hynn y ei gyd, gau Ddysgawdwŷr ydynt hwy yn y Cymhwysiad neu yn y gwaith o wneuthur defnydd o hono. Canys ni ddysgasant hwy erioed yn iawn, y sanctaidd a'r nefol athrawiaeth y maent yn ei phregethu; ac ni ddarfu iddynt ddygymmod a hi, na derbyn ei grym a'i hargraph ar eu calonneu; Ac am hynny drwy gadw eu hanianawl lygredigaethau, annuwioldeb, a gelyniaeth i fywyd a grym, ac Ymarfer yr Athrawiaeth honno, y maent ar ŵyrgyrch (indirectly) yn tynu i lawr yr hyn ar uniawngyrch (directly) yr ymddangosant eu bôd yn ei adeiladu, ac a bregethant dros Dduw, ac yn ei erbyn; dros Grist, a'i Yspryd Sanctaidd, ac yn eu herbyn; dros Dduwioldeb ac yn ei herbyn; a hynny yn yr un bregeth. Yn gyffredinol mae yn rhaid iddynt lefaru dros Air Duw a buchedd Sanctaidd: Ond pan ddelont at betheu neulltuol, Maent yn ei goganu yn ddirgel, ac yn condemnio y Rhannau, tra byddant yn canmol y Cyfan. Yn gyffredinol hwy a ddywedant yn dda am bobl grefyddol, Dduwiol, Sanctaidd: Ond pan gyfarfyddont a hwynt, eu casau a wnânt, a'u gwneuthur yn Brecisi [...]a, y Sect y dywedir ym mhob man yn ei herbyn, plâ yn cyfodi terfysc, fel yr achwynwyd ar yr Apostolion; Act. [Page 107] 24. 5. a'r 28. 22. a phob dim ar a fedro ma lais ei ddychymmyg iw gwneuthur hwynt yn gâs. A'r hyn ni allant ei brofi, hwy a fwriant yn ddirgel cystal a bod y peth, trwy gam-gym hwysiad eu hathrawiaethau, yn ei portreiadu hwynt felly, fal y gallont ddwyn eu gwrandawyr i goelio, mai haflug (neu grug) ydynt hwy o Ragrithwyr ystyfnig, terfysgus, beilchion, anufydd, cynhennys, anhydyn, yn hoffi ymneulltuo, a chwennych priodoli yr enw o Dduwi ldeb yn unig iddynt eu hunain, ac yn y dirgel cynddrwg ag eraill. A darfyddo iddynt fal hyn ei gosod hwynt allan gar bron y bobl anwybodus, hwy a wnaethant ffordd Duwioldeb yn gâs, ac a arfogasant drueiniaid yn ddigonol â rhagfarn ac a llyssiant; Ac felly oblegyd fod dynion fal hyn wedi ei gwneuthur yn gâs ganddynt, pob ddifrifol ddiwidrwydd am y Nefoedd, pob tynerwch Cydwybod, ac ofn pechu, pob nefol ymddiddanion, a difrifol bregethu, darllein, neu weddio a wneir hefyd yn gâs er ei mwyn hwynt: Canys wrth glywed y fath ogan ir dynion, a gwled mai y rhai hyn yw 'r petheu, yn y rhai y maent yn rhagori (neu a gwahaniaeth ynddynt) oddiwrth eraill, hwy a dynnant eu barn am eu Gweithredoed, at eu barn ragsefydlog am y Personnau. Pan grybwyller am eu dyfarwch yn eu teuluoedd mewn▪ gweddi ac addysc, yn darllain ac yn gwneuthur ffrwythlawn ddefnydd o dydd yr Arglwyd, neu o orchwylion eraill o ofalusrwydd a diwydrwyd sanctaidd, [Page 108] y Gwenidogion annuwiol hyn ydynt barod iw pardduo hwynt â rhyw gabledd ar osteg, neu â dirgel ogan, neu eiriau drwgdybus, er mwyn amddiffyn eu bucheddau ansanctaidd eu hunain, a pheri i bobl gredu, mai ymbleidiad a rhagrith yw difrifol dduwioldeb. Pygddu amliw eu meddyliau, a bwriad ac ergyd eu gwaith hwynt yn pregethu, a ellir eu deall wrth eu gwawd, â'u gwatwor, a chableddus ladd-dieithr yn erbyn gwesion yr Arglwydd a fo mwyaf diwid. Y pyngciau o wirionedd y mae dadl yn eu cylch, y rhai y mae y cyfryw rai yn eu hamddiffyn, hwy a'u gosodant am Amryfuseddau: a'u Camgymmeriadau a osodant hwy allan fal ped faent Heresi: eu dyledswyddau a osodant allan am feiau; a'u dynawl wendid am gamweddau afreolus. Hwy a fwriant eu bod hwynt yn euog o'r petheu ni ddaethant erioed o fewn eu meddyliau: ac os rhai o'r sawl a broffesant dduwioldeb a fyddant euog o fwy beiau, hwy a fynnent beri i ddynion goelio, fôd y lleill yn gyffelyb, a bod teulu Crist iw farnu wrth un Judas; ai hamcan ydyw dangos cymmaint a bod eu proffes hwy, naill ai yn feius, a'i'n afreidiol, ai'n llai canmoladwy. Hwy a fy nent wneuthur, na byddei yr Ailanedigaeth ddim ond dyfod ir Eglwys drwy fedydd; ac nad yw ychwaneg o droedigaeth, na gadael heibio ryw bechodau gorthrwm, a chodi i fynu rhyw fath ar ffurf digalon o ddefosiwn, yn ddim amgenach nâ thrychio▪ aeth (neu phansi) neu ryw beth afreidiol: A hwy a fynnent ddwyn pobl druein i gredu os [Page 109] hwy a ailenir yn Sacrafennaidd o ddwfr, y gallant fod yn gadwedig, er na byddont wedi ei haileni drwy adnewyddiad yr Yspryd glân. Gan fod eu hunain yn ddieithriaid i Ddirgelwch Adgenhedliad, ac i fywyd ffydd, a nefol ymarweddiad ac i garu a gwasaneuthu Duw a'u holl enaid a'u Nerth; Yn gyntaf hwy a geisiant ei llonnyddu eu hunain a chrediniaeth nad yw y rhai hyn ond pethau dychymmyg neu afreidiol; ac yna y ceisiant dwyllo y bobl a'r hyn y twyllasant hwy eu hunain yn gyntaf.
Ac y mae yn wiw i chwi ddalsulw, yn erbyn pa beth mewn Crefydd y mae y Rhagrithwyr ffugiol hyn yn sefyll. Prin y mae un gair mor iachus a Sanctaidd na allant hwy ei oddef, os bydd heb ei fywyd ynddo: Nac ond prin un ddyledswydd, os bydd medi marweiddio, nad allont ei goddef: Eithr Yspryd a Bywyd▪ Crefydd yw'r hyn nis gallant moi oddef. Fel y mae y rhagor rhwng Corph a Chelain, nid wrth y rhannau, ond wrth y bywyd; felly y mae math ar fywyd mewn pregeth a gweddi, ac ymhob gweithred arall o addoliad, yr hwn a ddeallir gan amryw fath ar wrandawyr. Y Duwiol ai deall iw hadeiladaeth a'u diddanwch: Canys yn hyn y bywiogir ac y cyssurir hwynt. Mae bywyd yn cenhedlu bywyd; fel y mae tân yn ennyn tân. Yr Annuwiol a'i deall yn fynych iw gofid, onis deallant iw hargyoeddiad a'u troedigaeth. Y bywyd hwn mewn pregethu, gweddio, addyscu, argyoeddi ac ymddiddan sy yn brathu, yspelwi ac yn aflonyddu, [Page 110] eu cydwybodau hwynt. Ac yn erbyn hwn y gwingant ac yr ymsennant. Hwn yw 'r peth a rwystra iddynt gysgu yn llonydd yn eu pechod a'u trueni: Eithr galw arnynt y mae a'u h sgwyd i ddeffro, ac ni edu iddynt bechu mewn heddwch, ond naill ai fe a'u try hwynt, ai fe a'u poenydia cyn eu hamser. Bywyd Crefydd sy yn eisiau ar Ragrithwr: A'r bywyd y mae ef fwyaf yn ei erbyn. Tân paentiedig ni losga. Nid yw Celain Gelyn yn ddychrynnadwy. Nid yw Llew marw yn cnoi. Gadewch i eiriau 'r bregeth ai blino hwynt fwyaf, fôd wedi eu gwahanu oddiwrth y Bywyd, ai rhoddi mewn Homili, ai hadrodd, neu ei darllain mewn modd ffurfiol gysgadur, neu fal plentyn yn yr ysgol yn adrodd eiwers, a hwy ai goddefant, ac ai canmholant. Bydded ir unrhyw eiriau o weddi, ymaent hwy yn awr yn eu llysu, gael eu hadrodd drostynt mewn ffurf arferawl anfywiol, a hwy au hoffant o'r goreu. Nid wyfi yn dywedyd yn erbyn arfer ff [...]rfiau, ond y camarfer arnynt: Nid yn erbyn y Corph ond y gelain. Bydded ffurfiau gael eu harfer gan ŵr Ysprydol difrifol, mewn modd Ysprydol difrifol, drwy gymmysgu rhai cynghorion bywioglawn, neu draethiadau fel y bo achosion, a dueddant iw cadw hwynt yn effro, ac yn wrandawgar, ac i beri iddynt deimlo yr hyn yr ydych chwi yn ei feddwl, ac yn ei wneuthur, a chwi a gewch weled▪ nad ydynt hwy yn caru y fath ffurfiau bywiogr [...]m. Y Cristion bwy, ac Addoliad bywiol, a Chrefydd sprydol ddifrifol y maent hwy yn eu cashau: Dieneidiwch [Page 111] hi a hwy a'i goddefant. Gedwch i lûn fy ngelyn fôd yn harddach a threfnusach nag a oedd ei berson, ac mi a allaf ei oddef yn yftafell fy ngwely yn well nag ef ei hun yn y trwsiad gwaelaf. Y Cristianogion bwy ym mhob parth bŷd a erlidir yn bennaf. Gedwch iddynt unwaith feirw, a'r Rhagrithwyr marwgalon eu hunain a'i hanrhydeddant, yn enwedigol o hirbell ddigon: hwy a ddifethant y Seintiau byw, ac a gynhaliant ddyddiau gwylion i'r rhai meirwon. Gwae chwi Scrifennyddion a Pharisoe aid ragrith-wŷr, canys yr ydych yn adeiladu beddau'r prophwydi, ac yn addurno beddau y rhai cyfiawn: ac yr ydych yn aywedyd, pe buasem ni yn nyddiau ein tadau, ni buasem ni gyfrannogion a hwynt yngwaed y phrophwydi: felly yr ydych yn tystiolaethu am danoch eich hunain, eich bod yn blant i'r rhai a laddasant y prophwydi: Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau. oh Seirph a hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddiangc rhag barn Ʋffern? Mat▪ 23. 29, 30, 31, 32, 33. Y Ci yr hwn nid ymmyr ar y creadur marw, a erlid y byw; a phan welo na syflo, efe ai gedu. Pr [...]ffes Gristianogawl, heb ddifrifwch, nid yw broffes gristianogawl, ac am hynny nid yw tân gasineb ei elynion fel ped fae felly. Dywedwch a fynnoch, a gwnewch a fynnoch, er caethed fyddo; os chwi ai gwna megis Chwareydd mewn Chwareudy, neu yn llugoer, ddifatter, ac megis dan gellwair, hwy a gyd ddygant â chwi: Eithr y bywyd a'r difrifwch hwn, ac addoli [Page 112] Duw mewn Yspryd a gwirionedd, hynny sydd yn ei hargyoeddi, eu bôd hwynt hwy eu hunain yn Ddifywyd, ac am hynny y mae yn aflonyddu eu Hedwch twyllodrus hwynt, ac yn ddilynawl y mae'n ddir iddo na chaiff moi caredigrwydd. Pettynt yn unig yn blino ond ar Swm dyledswydd, pa fôdd y digwydd fod Papist yn medru treulio ar ei Laswyr neu Psalter, ai Bwderau, a llyfrau ei Offeren, ychwaneg o oriau heb nemmawr o ludded, na gwrthwyneb, nag a fedrwrn ni mewn difrifol Addoliad? Trowch y cwbl yn eiriau, a gweddio wrth bwderau (beads) ac oriau canonicol, a dyddiau, a rhithiadau, a ceremoniau, a chwi▪ a gewch fod mor grefyddol ac y mynnoch, a bôd yn rhŷ gyfiawn, ac ych▪ ydig a'ch casha, neu a'ch difenwa, neu a'ch erlid yn eu plith hwynt, fel pettych yn rhŷ ddichlyn a manylaidd. Ond bywiol Gristianogion, a bywiol addoliad a ddeuant iw plith fel tân sy yn eu llosgi, ac yn peri iddynt ferwino neu ddo▪ lurio, â chenthynt Air ar sy yn fywiol a nerthol, llymmach nag un cleddyf daufiniog, ac yn cyrhaeddyd trwodd, hyd wahaniad yr enaid a'r Yspryd, a'r mêr, ac yn barnu meddyliau a bwriadau y galon, Heb. 4▪ 14.
A gelyniaeth y Cainiaid a ddichon ddysgu ir Cristion; beth a ddylei efe fôd, ac ymha beth y mae ei Odidowgrwydd ef yn sefyll. Bywyd a Difrifwch y mae eich gelynion yn ei gashau; Ac am hynny bywyd a Difrifwch sydd raid i chwithau eu cynnal uwchlaw pob dim, er maint a wrthwynebo rhagrithwyr marwgalon [Page 113] arnoch, ac a ddywedant i'ch erbyn.
Ha-wyr, nid coegbethau, ond y pethau mwyaf a osododd Duw yn ei Air gar eich bronnau, ac a'ch galwodd allan iw dilyn a'u meddiannu: a'ch amser iw ceisio hwynt sydd fyrr: Am hynny nid oes i chwi ddim amser i ymchwidawiaeth neu i dreifflan, na dim iw golli mewn seguryd a syrthni. Ac yn anad neb fe ddylei Bregethwŷr fod yn fwyaf teimladwy o hyn. Pettynt heb fôd yn erbyn difrifol Sancteiddrwydd yn eraill, Dwbl anwiredd yw i'r cyfryw ac ydynt hwy, fod yn ei erbyn ynddynt eu hunain. Pethau mowrion sydd iddynt hwy iw hastudio ac i lefaru am danynt; a'r cyfryw bethau ar sy yn galw am y difrifwch, a'r parch, a'r dwysdra mwyaf yn yr ymadroddwr, ac yn condemnio pob gwegi mewn matter a moes. Y Gŵr a anfonwyd gan Grist i redeg am goron anfarwol, neu i hyfforddi eraill yn y cyfryw yrfa, i waredu ei enaid ei hun, neu eraill, o ddidrangc drueni, a ddylei gwilyddio, ei fôd yn llenwi ei amser â gwegi, a'i fod yn esceulus ac oeraidd ynghylch y cyfryw bethau mowrion a phwysfawr. Yr holl galon a'r enaid, a'r egni sy yn ddigon bychan i fatterion o bwys mor anrhaethadwy. Pan glywwyfi Bregethwyr neu bobl yn treulio eu hamser mewn Pethau bychain anffrwythlon, amherthynasol, y rhai sy yn eu tynnu hwynt oddiwrth orchwyl eu bucheddau, neu yn ymbepreth neu chwarae â'r matterion mwyaf, yn hytrach nâi harfer, a sôn am danynt mewn difrifwch cyfattebol i'r dwysder sy ynddynt; Mynych [Page 114] yr wyf yn meddwl a'm eiriau▪ Seneca, y difrifol ŵr moesawl, y rhai a allant gwilyddio rhagrith y cyfryw goeg Bregethwyr a Phroffeswŷr ffŷdd Gristianogawl; [cyhydu (medd efe) yr ydych eiriau lluosog, ac ar ymofynion clymmu clymmau cledion; ac meddwch, dyma bethau awchlym! beth sydd awchlymmach nâ chol yr ŷd? ac ym mhâ beth y mae'n fuddiol? mae manylder ei hun yn gwneuthur rhyw bethau yn anfuddiol ac yn ddirym.] [gadawn heibio yr ynfydrwydd hwn ir Poetau, y rhai sy yn bwriadu bodloni'r glust, a chyd-blethu chwedlau peraidd: Ond y rhai a fynnent iachau dealldwriaeth dynion, a chynnal ffyddlondeb mewn pethau dynol, a dwyn ar gôf iddynt eu dyledswyddau, rhaid iddynt lefaru yn ddifrifol, a gwneuthur eu gorchwyl â'u holl egni.] Cymmwys y cyfrifei bawb ef yn ynfyd, yr hwn (pan fyddei'r drêf yn disgwyl ir gelynion ruthro arni, ac eraill yn brysur ar eu gwaith iw hamddiffyn eu hunain,) a eisteddo yn segur, gan ofyn rhwy gwestiwnau ysmala.] Oni fernit ti fi yn ynfyd, ped ymdrafferthwn fy hun yn y pethau hyn a minne yn awr wedi fynghynllwyn? Beth a wnaf? angeu sy im herlid; bywyd sy yn ffò oddiwrthif: dysg i mi ryw beth yn erbyn y pethau hyn: par nad ofnwyf angeu, ac na chilio bywyd oddiwrthif:] [Ped fae gennym lawer o amser, ni a ddylaem fod yn gynnil o hono, fel y byddei ddigon i bethau angenrheidiol: weithian pa ynfydrwydd yw dysgu pethau afreidiol mewn amser cynbrinned!] Mesur dy oedran: nid yw hi ddigon [Page 115] i gynnifer o bethau. Gâd y chwareu dysgedig hwn i Philosophyddion: Matter mowrwŷch▪ At sylafau i'n galwant, y rhai a ddifynniant ac a faluriant y meddwl wrth ddysgu mân bethau: a hyn a wnant fel yr ymddangoso Philosophyddiaeth yn beth caled, yn hytrach nag yn beth mawr. Socrates, yr hwn a ddûg yr holl philosophyddiaeth at foesau, a alwodd hon yn brif ddoethineb, sef i ddosbarthu da a drwg]
A ganfu Seneca drwy lewyrch nattur, fod Diwidrwydd a Difrifwch ynghylch matterion yr enaid mor llwyr angenrheidol? ac mai ynfydrwydd mawr yw treulio geiriau ac amser ar oferedd? ac etto a gaer Gŵr ym mhlith proffeswyr Chistianogaeth, ac ym mhlith Pregethwyr ffydd a Sancteiddrwydd, a ddadleuo dros chwydawiaeth neu dreifflan, ac a watworo ddifrifwch, ac ai cyfrifo hwynt yn weddol ac yn ddoethion, y rhai y mae yr Ethnic yn eu nodi am rai gwagsaw gwallgofus.
Beth sy yn cymmylu Gogoniant Cristianogaeth, ac yn cadw cymmaint rhan o'r bŷd ynghrefydd y Cenhedloedd a'r Anghredadwy ond hyn, sef bod ym mhlith Cristianogion cyn lleied nifer ar sy yn Gristianogion mewn gwirionedd? ac y mae 'r ychydig hynny wedi eu tywyllu felly gan liaws o Ragrithwyr ffurfiol gwagsaw, hyd onid ydys yn mesur ac yn barnu Cristianogaeth yn ol bucheddau y rhai nid ydynt Gristianogion? Crefydd fy yn bêth iw gosod allan, ai hanrhydeddu ai chanmawl wrth ei Harfer: Mae geiriau teg heb weithreddoedd sanctaidd yn ddirym [Page 116] i osod allan ei godidowgrwydd hi, ir cyfryw fŷd cib-ddall, ac y bo'n rhaid iddo gael gwybodaeth drwy deimlad, gan ei fôd wedi colli ei olwg. Yn ein ffŷdd a broffeswn yr ydym yn ymdderchafu tu ar▪ Nefoedd, ac yn gadael Y trueinied digred yn ymdrobaeddu yn y dom▪ O pa ogoniant tragoruchel, diamgyffred, yr ydym ni yn proffesu ein bôd yn ei ddisgwyl gydâ Duw i dragywyddoldeb! A pha ryw fath ar ddynion a ddylynt hwy fod mewn Sanctaidd ymarweddiad a Duwioldeb▪ y rhai a edrychant am y fâth fywyd a hwn? Mor waelion y dylent hwy gyfrif y pethau darfodedic hynny, y rhai ydynt borthiant a dedwyddwch y bŷd anianawl? Mor oddefgar y dylaent hwy fyned dan ddirmyg a gwatwar, a pha beth bynnac a ddichon dŷn ei roddi arnynt? Mor astud y dylaent hyw gysegru a chyflwyno eu holl amser, a'u nerth, a'u golud ac a feddent, iw diben gogoneddus gwynfydedig hwn? Nor ddifrifol y dylent hwy lefarau am dano? Mor ddiwyd y dylent geisio y fâth siccr, a'r fâth gyfagos, a'r fâth ddidrangc lawenydd? Pettei y sawl a broffessant ei bôd yn Gristianogion, yn cydffurfio eu calonnau a'u bucheddau at eu proffes, ac at eu rheol sanctaidd, yna fe gadwe eu bucheddau nhw rhag gwradwydd eu gelynion, ac a orchymynnent barchedig fri ynghŷd ac ofn oddiwrth y sawl a ddalient sulw arnynt, ac a wnaent ychwaneg, tu ac at argyoeddi y byd anghredadwy o wirionedd a braint y ffydd Gristianogawl, nag a wnai holl eiriau y dadleuwyr dichlynaf. Rhaid ir Grefydd Gristianogawl, gan ei bôd yn Gelfyddyd [Page 117] y sydd iw gosod allan trwy weithredoedd o sancteiddrwydd, gael ei mynegi mewn awyddsêrch, a bywyd sanctai d yn ôl ei naturiaeth.
Nid yw Rhesymmau ond ei Phaentio hi: ac ni hyspysa Paentiadau mo'i godidowgrwyyd hi ddim mwy, nag yr yspysa Paentiad bwyd a diod y melusder sy ynddynt. Pan yw Athrawiaeth mor Sanctaidd, wedi ei hamlwg bortreiadu, ac yn byw, ac yn rhodio, ac yn gweithio mewn Cristianogion difrifol gar bron y bŷd: Naill ai hyn, neu nid oes dim a'u hargyoedda hwynt, ac au cymmelli ogoneddu ein Harglwydd, ac i ddywedyd, fod Duw yn ein plith neu ynom yn wir. Mat. 5. 16. 1. Cor. 14. 25, Ond Bucheddau anghristianogawl sy yn tywyllu gogoniant yffydd Gristianogawl. Pan fyddo dynion a broffesant y cyfryw obaith gogoneddus, mor fryntion ddaiarol, anianawl, a thrachwantus, a drwg-anwydus, ac anoddefus a dynion eraill, ni ddangosant moi bôd ond ffuantwyr neu ragrithwyr gorphwyllog.
A geir er hynny y cyfryw adyn bradwrus tan nefoedd Duw, a broffeso ei fod yn Wenidog i Grist, ac a wnelo ei oreu yn ddichellgar neu yn amlwg, ar wneuthur ymarweddiad dichlyn, sanctaidd, a nefolaidd, yn fatter o wradwydd a gwatworgerdd; a than rith argyoeddi pechodau Rhagrithwyr a Schismaticciaid, a wnelo ir cydffurfiad dichlynaf at reol Cristianogawl, a'r ufydd-dod ffyddlonaf ir hollalluog [Page 118] Oruchaf, ymddangos ddim amgen n [...] Rhagrith, neu ystyfnigrwydd, neu draffert [...] afreidiol, ac ond odid yn ffordd i derfysg a blinder cyffredin, a throi pob peth bendramwngl? ni fettro argyoedi pechod heb gydgysylltu âg ef ogan a drwgdybiau yn erbyn y gyfraith sanctaidd, a buchedd sanctaidd, y rha [...] ydynt fwyaf gwrthwyneb i bechod, fel y ma [...] bywyd i angeu, iechyd i glefyd, a goleuni i dywyllwch.
Bod i nêb, yn enwedig i neb ar sy yn proffes [...] bôd yn Gristion, yn un lle wrthwynebu ne [...] watwor Duwioldeb, sydd arwydd ofnadwy, y [...] gystal ac yn bechod echryslon: Ond bod Bregethwr Duwioldeb wrthwynebu a gwatwo [...] Duwioldeb, a hynny yn y Pulpyd, tr [...] fyddo yn cymmeryd arno ei derchafu [...] dadleu drosdi yn enw Crist, sydd bechod ddylei daro calon dyn â dychryn i feddwl a [...] dano.
Er na allwyf fy hun roddi fy llaw wrth y traethawd hwnnw yn yr ail rhan o'r ddegfe [...] Homili, er fy mod yn mawr hoffi ac yn (anrhydeddu llyfr yr Homiliau) er hynny, er mwy [...] y rhai a allant nid yn unic roddi eu dwylo wrtho ef, ond a fynnent gadw allan o'r weinidogaeth bawb ar nas gallant; ac ai cymmeran [...] ef am yr Athrawiaeth honno o Eglwys Loegr yr hon a goeliant ac a bregethant, myfi ai hadroddaf er dychryn ir euog, nid iw gyrr [...] i annobeithio, ond iw deffro, neu iw cwilyddio am eu gwrthwyneb i ffyrdd Duwioldeb.
[Page 119]Wrth esponi y psal. 1. 1. Gwyn ei fŷd y gwr ni rodia ynghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr.] yn ol dangos pwy yw'r [annuwiolion] a'r [pechaduriaid] y mae 'r geir au hyn yn ychwaneg.
Er na lefasafi ac ni feiddiafi ddywedyd, nad edifarhodd rhai o'r cyfryw, etto bydded ir gwatwarwyr sy yn credu hyn, gofio, ei bod yn rhoddi eu dwylo wrth ddedryd neu farn eu damnedigaeth eu hunain.
Er fy môd yn edrych ar y rhyw hon o elynion Sancteiddrwydd, megis y rhai sydd mor annhebygol iw troi, ac i fod yn gadwedig, ac yw unrhyw bobl o fewn y byd gan y mwyaf, [Page 118] [...] [Page 119] [...] [Page 120] oddieithr Gwrthgilwyr a maleusus Gablwyr yr Yspryd glan▪ etto o dosturi ar y bobl ac arnynt hwy eu hunain, mi a ddadleuaf ddadl Duw wrth eu Cydwybodau hwynt, ac a brofaf beth a ddichon Goleuni ei weithio ar eu dealldwriaethau, a dychrynniadau yr Arglwydd ar eu calonneu cledion hwynt.
1. Pregethwr yr Efengyl a ddylei ragori llawer ar y bobl mewn dealldwriaeth: ac am hynny y pechod hwn sydd fwy ynddynt hwy nag yn eraill. Pa foddion, pa oleuni a bechant hwy yn ei erbyn? Naill ai ti a wyddost mor angenrheidiol yw ymdrechu am iechydwriaeth â'r Diwidrwydd mwyaf, ai nis gwyddost ddim. Onis gwyddost, pa bechod a chywilydd i ti gymmeryd arnat Swydd gysegredig y Weinidogaeth, a thitheu heb wybod y pethau ydynt angenrheidiol i iechydwriaeth, a'r hyn y mae pôb Maban yn y ffydd yn ei wybod? Ond os gwyddost, pa fodd yr wyt ti yn faleusus yn rhoddi cais ar ei gwrthwynebu, heb glywed teimlad o ddêchreuadau o Uffern ar dy gydwybod? Pan yw 'n Waith i ti ddarllain yr Scrythyrau a myfyrio arnynt, onid wyt ti yn darllain dy farn ac yn myfyrio ar ddychryn? Oes fodd na ddealli, fod tuedd-gyrch Gair Duw, yn wrthwyneb i ogwyddiad dy serchiadau a'th ddychymmygion? Ie beth sydd eglurach drwy oleuni Natur, nâ bôd yn ddîr nas gellir â gormod o Sanctaidd ddifrifwch, dichlyndra a diwydrwydd wneuthur cyfrif o Dduw ac o'n hiechydwriaeth? [Page 121] Oni ddylid caru yn oreu y petheu goreu? A gofalu yn fwyaf am y pethau mwyaf? A oes dim iw gyffelybu i Dduw ac i'n cyflwr tragwyddol? Pa fatterion gochfygawl yw y rhai hyn i feddwl Sobr ac ystyriol! pa wâg bethau yw pob peth o'u yffelybu ir rhain! Ac etto a ddirmygu di hwynt, a dysgu hynny i ddynion hefyd? fel ped fai ryw beth arall a haeddai yn well gael gan ddynion fod yn fwy gofalus, a diwid am danynt na'r rhain. Pa beth! Pregethwr, a heb fod yn Gredadyn! neu Gredadyn, ac etto heb ganfod digon ym matterion Tragywyddoldeb, irwymo holl nerthoedd yr enaid a'r corph yn erbyn yr holl fŷd a safai mewn cydymgais?
2. Ai nid yw 'n ddigon pechadurus ac ofnadwy, i ti fod dy hun mewn cyflwr cnawdol heb dy adnewyddu? (Rhuf, 8. 13.) a bôd heb Yspryd a buchedd Grist? (adn. 9.) ond rhaid i ti fod mor greulon a gwneuthur eraill hefyd yn druein? Psal. 50. 16, 17. [ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymmerech ar fy nghyfammod yn dy enau? gan dy fod yn cassau addysc, ac yn taflu fy ngeiriau ith ôl?] Mat. 5. 19. Pwy bynnag a dorro un o'r gorchymmynion lleiaf hyn ac a ddysco i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd: ond pwy bynnag ai gwnelo, ac ai dysco i eraill, bwnnw a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd?]
3. Pa drymhâd ar dy annuwioldeb a'th enaidlofruddiaeth [Page 122] yw, dy fôd ti yn rhwym wrth dy swydd, i ddyscu i ddynion y fuchedd o sancteiddrwydd yr wyt yn ei gwrthwynebu, ac iw perswadio hwynt a'th holl Egni ir hyn, yr wyt ti yn ddirgel ac yn dichellgar yn gwneuthur dy oreu ar ei wradwyddo! A fyddi di fradwr i Grist yn enw Cennadwr, a Phregethwr yr Efengyl? A ymrwymi di i ddwyn ei waith ef ym mlaen, ac i ddangos dy holl gelfyddyd, a'th holl nerth, yn adeiladu dynion mewn Sancteiddrwydd▪ ac vfydd-dod; a chwedi i ti wneuthur hyn, a wradwyddi di 'r peth ai rwystro? A wyt ti yn cymmeryd arnat fyned ar gennadwri Crist, ac yna llefaru yn ei erbyn? Nid ydym ni yn gweled wneuthur o Judas hyn ag ef: pan anfonodd efe ef fal yr anfonodd Bregethwyr eraill, nid ydym ni yn darllain ddarfod iddo bregethu yn ei erbyn ef. Och fi, na bydded i'm henaid gael moi gyfrif gyd â'r cyfryw ddynion yn nydd yr Arglwydd! bydd esm wythach i Sodoma a Gomorrah, nag i wrthodwyr gair a grâs Christ. Beth gan hynny fydd barn y gwrthwynebwyr? Ac yn bendifaddeu y gwrthwynebwyr bradog hynny, y rhai a gymmerant arnynt eu helaethu hwynt a'u dwyn ymlaen.
Pettai synwyr a malis offerynnau Satan wedi eu blaenllymmu yn erbyn flyrdd a gweision yr Arglwydd, mae'n perthyn i chwi ddadleu dadl Crist, a chwilyddio gwrthddywedwŷr anghymwys a direswm, a chau safn gwrthddadleuon annuwiol: A ymgyssylltwch chwi â'r gwrthddywedwŷr, a dywedyd naill ai'n ddirgel ai'n amlwg fel hwythau? Pwy a ddylei [Page 123] wradwyddo gwatwarwyr buchaidd sanctaidd ond cbwychwi? Pwy a ddylei agor godidowgrwydd Crist, Gogoniant y nêf, dychrynniadau'r Arglwydd, a phob rhwymedig berthynasau eraill i'r ddifrifaf grefydd, ond chwychwi y sawl a gymmerasoch y peth arnoch, megis eich gwaith a'ch Galwedigaeth? Ped fai neb o fewn y plwyf mor Annuw a direswm, a thybiaid nad yw Duw deilwng o'n Cariad cuaf neu anwylaf, o'n hufydd-dod dichlynaf, a'n gwasanaeth mwyaf llafurus, pwy a ddylei ddatgan ffoledd yr Annuw hwn, ond chwychwi, y rhai ydych ddwbl-rwymedig (megis Cristianogion, ac megis Gweinidogion) i amddiffyn anrhydedd eich Arglwydd? Pe cwympei un o'r bobl ir cyfryw freuddwyd a hurtrwydd, ac yr ammheuai angenrheidrwydd ein dygn ddiwydrwydd yn ein paratoad i'r bywyd tragywyddol, pwy a ddylei eu deffro hwynt drwy dderchafu eu llais fel Udcorn, a chynnorthwyo i adferu eu dealldwriaeth hwynt, ond chwychwi y rhai ydych Wyliedyddion, ac a wyddoch y gofynnir eu gwaed hwynt oddiar eich dwylo chwi, oni rybuddiwch chwi hwynt yn grôch ac mewn prŷd? Pettei'r un o ddichellgar faleusus weision y Cythrael, yn dadleu yn erbyn Angenrheidrwydd Sancteiddrwydd, ac yn cynghori y bobl i beidio a gwasanaethu Duw â'u holl egni, pwy a ddylei fôd yn barod i gadarnhau'r gweiniaid, ac i nerthu a chefnogi y rhai y tarewir arnynt fal hyn, a rhoi cynnhorthwy i gynnal i fynu eu Zêl a'u parodrwydd hwynt, ond chwychwi y [Page 124] sawl ydych Arweinwŷr yn Lu'r Arglwydd? Onid Duw Sanctaidd yw yr hwn yr ydych rwym iw wasanaethu? Ac Eglwys Sanctaidd yn yr hon y mae eich Sefyllfa? A Chymmundeb y Saint yn yr hwn y cymerasoch arnoch Weinidogaethu Sanctaidd Bethau Duw? Oni ddarllennasoch chwi yr hyn a wnaethpwyd i Nadab ac Abihu, pan ddywedodd Moses wrth Aaron [dymma'r hyn a lefarodd yr Arglwydd gan ddywedyd, mi a sancteiddir yn y rhai a nessant att af, a cher bron yr holi bobl i'm gogoneddir] Lev. 10. 3. Onid Cyfraith ac Efengyl Sanctaidd yw y rhai a gyhoeddwch? Chwi a gymmerasoch arnoch rybuddio'r diogyn, yr anianawl, y bydol, a'r halogedig, ar idd▪ ynt ymdrechu am fyned i mewn trwy'r porth cyfyng, a cheisio yn gynt af deyrnas Dduw ai gyfiawnder ef, Luc. 13. 24. Mat. 6. 33. a bod yn ddiwyd i wneuthur ei galwedigaeth a'i etholedigaeth yn siccr 2. Pet. 1. 10. a rhoddi cwbl ddiwydrwydd i chwanegi at ffydd rinwedd, &c. 2. Pet. 1. 5. A chadw y galon yn dra diesceulus, Dihar. 4. 23. Ai chwychwi yw'r gwŷr a fynnent ddiffodd eu Zêl hwynt, a difetha y Sanctaidd ddiwydrwydd a ddylaech chwi ei bregethu? Yr Arglwydd a gyffyrddo â'ch calonneu ac a'ch adfero mewn amser, onid êo mor wylofus ryw ddydd fydd cyflwr y cyfryw Ragrithwŷr caledion, a feiddiant yn y goleuni, ac yn ei deulu ef ai wisc, a than ei faner ai iuman fod yn fradychwŷr ac yn elynion ir Arglwydd?
4 A pha chwanegu at eich euogrwydd, [Page 125] yw eich bôd yn llefaru yn erbyn Duw yn ei Enw ei hun? Wrth eich Swydd yr ydych chwi i fynegi ei Gennadwri ef, ac i lefaru wrth y bobl yn ei enw ef, a throsdo ef, 2. Cor. 5. 19. 20. A lefeswch neu a feiddiwch chwi gar bron yr haul, a than Nefoedd Duw, a lle y clywo ef, berswadio dynion i goelio fod y trasanctaidd Dduw yn erbyn Sancteiddrwydd? a bod Brenin y Saint yn wrthwynebwr i Sancteiddrwydd? a bod yr hwn a wnaeth ei Cyfraith sanctaidd yn erbyn y dychlynaf ufudddod iddi? A lefeswch chwi osod [fel hyn y dywaid yr Arglwydd] o flaen y fath ymadrodd annu wiol, ac yw [Oferedd yw gwasaneuthu Duw? Pa ham y rhaid wrth gymmaint o drafferth ynghylch eich Jechydwriaeth?] A lefeswch chwi fyned at ddynion megis oddiwrth yr Arglwydd, a dywedyd [yr ydych chwi yn rhŷ ofalus a diwyd yn ei wasanaeth ef? llai trafferth a wasanaetha'r tro! Pa ham y rhaid y brwdaniaeth hwn, a phrynu'r amser! Puritaniaeth a gormod dichlyndra yw hyn. Gwell yw gwneuthur fal y gwna y rhan fwyaf, ac anturio neu fentro eich eneidiau heb gymmaint o drafferth.] Pwy a allei o'r diwedd godi ei wyneb i fynu, neu sefyll gar bron y frawdle ofnadwy, ar a gaid mewn euogrwydd o'r cyfryw fai? Pa beth! rhoddi Duw ynghyffelybrwydd Satan, a phortreiadu y Sancteiddiolaf, megis gelyn Sancteiddrwydd! a pheri iddo ddadleu yn ei erbyn ei hun, a rhoddi anglod iw ddelw ei hun, a chynghori dynion i wneuthur yngwrthwyneb ir hyn a wnaeth ef ei hun yn angenrheidiol [Page 126] iw hiechydwriaeth hwynt! Pa gabledd diflasach a ellir ei adrodd!
5. Ac y mae yn trymhau eich pechod, fôd eich perthynas yn eich rhwymo chwi i fôd yn dynerach yn eich Serch tu ac at eich pobl: Ac er hynny fod i chwi eu hudo hwynt i ddamnedigaeth; Bod ir fammaeth eu gwenwyno hwynt, a bod ir Rhieni dorfynyglu eu plant, sydd waeth nâ bod gelyn yn ei wneuthur. Ped fai 'r Cythraul, ein gelyn cyhoedd ni ei hun, yn ymmddangos i ni, ac yn dywedyd [nac ymbaratowch mor ddifrifol erbyn marwolaeth, na fyddwch mor ddichlyn, a diwyd, a Sanctaidd] ni byddei hynny o lawer cynddrwg, a'ch bôd chwi yn ei wneuthur, y rhai a ddylaech ein cymmorth i gael ymwared oddiwrth ei faglau ef. Chwychwi y sawl a broffeswch fôd yn dadau iddynt! y rhai y dylaech eu hescor drachefn hyd oni ffurfier Crist yn eu calonnau! y sawl a ddylaech garu eich pobl megis eich ymyscaroedd eich hunain, ac ymgleddu'r gwan, a thosturio wrth yr annuwiol, ac na rusoch lafur, dioddefaint na thraul yn y bŷd ar a allei annog a dwyn ymlaen eu Sancteiddrwydd hwynt, a chynnhorthwyo eu hiechydwriaeth; bod i chwi demtio dynion i fyw'n ddiofal, a'u troi allan o'r ffordd sanctaidd, sydd orthrwm greulonder. Gwaeth yw, bod ir bugail i'n difetha ni nâ bod ir blaidd. Darllenwch Ezec. 34 a'r 33. pen.
6. Onid oes gwilydd arnoch fod fal hyn yn dywedyd yn eich erbyn eich hunain? Beth a fedrwch chwi ei gael iw bregethu allan o air [Page 127] Duw, nad yw 'n tueddu at y Diwydrwydd Sanctaidd ymma, yr ydych chwi yn ei erbyn? Pa fodd y medrwch chwi bregethu un awr heb ddwyn ar ddeall i ddynion y Dyledswydd, a'r Angenrheidrwydd o geisio Duw â'u holl egni? Ai nid ydych chwi yn mynegi iddynt, oddieithr iddynt droi a chael eu hail-oni, nad ant hwy i mewn i deyrnas Dduw. Jo. 3. 3. 5. Mat. 18. 3. A heb Sancteiddrwydd na chaiff neb weled yr Arglwydd, Heb. 12. 14. Ac os byw fyddant yn ôl y cnawd, meirw fyddant, Rhuf. 8. 13. Ac oni bydd eu cyfiawnder yn helaethach nâ chyfiawnder yr Scrifennyddion a'r Phariseaid, nad ânt i mewn i deyrnas nefoedd. Mat. 5. 20. Ac a fydd i chwi wrth gymhwyso 'r pethau hyn, ac yn eich ymddiddanion neulltuol, ddad-ddywedyd hyn oll drosto, a bwrw Duw a chwi eich hunain yn y celwydd? A pheri i bobl weled nad yw 'r Pulpud i chwi ond megis Cadair chwareudŷ, ac nad ydych yn credu yr hyn yr ydych yn ei lefaru?
7. Ystyriwch fod eich lle a'ch galwedigaeth, yn eich gwneuthur chwi yn weision ir Cythraul mwy eu rhwydd-deb nâ neb, ac felly yn llofruddwyr eneidiau mwy gwaedlyd nâ neb, tra byddoch yn rhoi barn yn erbyn dichlyn a nefol fuchedd. Ni wnaiff gwŷr sobr ond cyfrif bychan, fod Meddwyn mewn Tafarn yn gwatwar y gweinidog, ac yn cablu crefydd ddifrifol; ac ni phair ond ychydig fudd i achos ei feistr, (sef y diafol,) ie mae drygioni ei fuched yn gymmaint cwilydd iw faro, hyd oni [Page 128] pharo i fagad dybio yn dda o'r fawl y llefaro ef yn eu herbyn. Ond pan fyddo 'r dŷn, sy yn cymmeryd arno fôd yn ddysgedig a dealldwrus, ai fôd ei hun yn Fugail yr Eglwys, ac yn Bregethwr dirgeledigaethau Crist, yn gwneuthur y rheini yn gás, y rhai sydd fwyaf eu gofal am eu heneidiau, a manylaf yn ceisio rhyngu-bôdd Duw, ac yn peri i bôb difrifol Ddiwydrwydd am y nefoedd, nad ymddangoso yn ddim amgen na Zêl anghymhedrol ac uchelfryd neulltuol: Ac a bortreiada Sanct felly, fel ped fae y ffugiol farwedd Ragrithiwr, yr hwn ni ddyru i Dduw ond gweddillion y bŷd, ac ni osodo ei galon byth ar y nefoedd, fel ped fai hwnnw meddafi yr unig ŵr: Pa fagl sydd ymma er dinistr ir anwybodus! Y sawl ydynt wrth naturiaeth yn groes i Sancteiddrwydd, ac yn hawdd ei perswadio i dybio fod hynny yn afreidiol neu yn ddrwg, ar sy yn ymddangos yn gymmaint goruwch eu llaw hwynt ac yn eu herbyn, a gadarnheir yn ddirfawr yn eu hamryfuseddau a'u trueni, pan glywont hwy eu Dysgawdwŷr oddi allan iddynt, yn llefaru yr un peth ac y mae Satan yn lefaru o'u mewn drwy ei gynhyrfiadau. Hyn a drŷ bechadur brawychus yn Watwarwr caled-naws: yr hwn a ae o'r blaen tan feunyddol gerydd ei gydwybod, am esceuluso Duw, a gadael heibio ddyledswyddau sanctaidd, a byw ir Cnawd, sy yn myned yn hyderus ac yn ddiarswyd, Pan glywo ef y Pregethwr yn goganu y ffordd ddichlynaf a phuraf. Pan clwyo [Page 129] efe watwar Ofn Duw megis Manyldra, a gwradwyddo cydwybod dyner megis Pettrusder ynfydffol, ei gydwybod sy yn myned yn ystwythach iw drachwantau; ac nid oes ganddo fawr yn ychwaneg iw ddywedyd yn eu herbyn hwynt. Pan yw y rhai a broffesant ei bôd eu hunain yn Weinidogion Duw, (y rhai a ddylaent fôd yn ddoethach ac yn well nâ'r bobl,) yn erbyn y Zêl a'r dyfalwch hwn am y nefoedd, buan y tybia 'r bobl y gellir o'r lleiaf gyd-ddwyn ar peth, ynddynt hwy: A hwy a ddysgant yn gynt oddiwrth Pregeth, neu ymddiddanion Pregethwr, neu ŵr o ddŷsg, Watwar Sant, nac oddiwrth Wawd neu Siarad cantoedd o'r rhai sydd mewn Anwybodaeth. A ddysgi di hwynt i gassau Duwioldeb, yr hwn a gymmeraist arnat gar bron y cyfiawn Dduw, ddysgu iddynt ei Harferu? Y sawl a ogano Dduwioldeb, pe rhôn na bo ond dan enwau eraill, ac ai gosodo allan megis ffieidd-beth, pe rhôn ai orchguddio ag enw o fai atgas, sydd mewn gwirionedd yn gwneuthur ei oreu ar beri i ddynion ei gassau ef; A pha gyfrif ofnadwy a fydd i▪ ti iw wneuthur, pan rodder yr hudo a wnaed ar yr holl bechaduriaid hyn a'u troseddiadau yn dy erbyn di? Pan ddywedo Christ wrth Gaseion, Gwatwarwyr a Gwrthwyneb-wŷr ei ffyrdd ai weision sanctaidd [Yn gymmaint ai wneuthur o honoch i un o'r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch.] Pa fôdd y meiddiwch chwi ddirmygu Delw eich Gwneuthurwr? [Page 130] a chashau 'r Saint, Cymmun y rhai a broffesasoch eich bod yn ei gredu; a gwatwar neu wrthwynebu y Difrifol Sancteiddrwydd hwnnw, heb yr hwn nid oes dim gobaith o fôd yn gadwedig? Os y Pechaduriaid gan hynny a fyddant eich cyhuddwyr; ac a ddywedant, [Arglwydd ni a dybiasom mai dichlyndra afreidiol oedd y sancteiddrwydd difrifol hwn, ac nad oedd Cristianogion difrifol ond Rhagrithwŷr uchelfryd terfyscus, ac y buasei wefus-wasanaeth a buchedd fydol gyffredin yn gwasaneuthu 'r tro. Nyni a glywsom ein Pregethwyr yn gosod allan y cyfryw wŷr dichlyn a gwresog yn ei Zèl, megis rhai cynhennus terfyscus, a gwrthnysig, megis rhai iw cashau ac nid iw dilyn: Defnyddiau ei pregeth oedd yn eu herbyn hwynt: eu hymddiddan ai gwatworei hwynt: ganddynt hwy y dyscasom ni: Tybiaid yr oeddym eu bòd hwy yn ddoethach ac yn well ná nyni: gan bwy y dysgem ni ond gan ein Athrawon?] Gwae 'r Athrawon erioed eu geni, ar a gaffer y prŷd hynny yn euog o'r bái ymma.
Os escus Adda oedd Cyhuddo Efa [Y wraig a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o'r pren, a mi a fwytteais] Ac escus y wraig oedd achwyn ar y Sarph [Y sarph a'm twyllodd, a bwytta a wneuthum.] Gen. 3. 12. 13. (er nad oedd hyn yn dieuogi 'r Esgusodwyr,) Pa wêdd y gorlletha hyn chwi, pan ddywedo eich pobl [Y Dysgawdwŷr y tybiasem mai tydi a'u rhoddasei i ni, a'n dysgasant ni, ac [Page 131] a aethant o'n blaen gan ymosod yn erbyn y diwydrwydd Sanctaidd hwn; ac ni wnaethom ni ond dysgu ganthynt hwy, a'n dilyn hwy.
Ai nid ydyw y bobl yn ddigon diweddar i wasanaethu Duw â'u holl egni, oddieithr i chwi ei rhwystro hwynt? Ai nid yw calon lygredig Dŷn ar ôl ei gwympo yn ddigon gwrthwyneb i fatterion Iechydwriaeth, ond rhaid i chwi ei gwneuthur hwynt yn waeth ? Petteich chwi i ymddiddan â▪r dŷn goreu a sancteiddiolaf o fewn y bŷd, ar sy yn rhodio gydâ Duw mewn ymarweddiad o'r nefolaf, efe a ddywedei i chwi, nad rhaid iw galon ddwl ddiweddar wrth ddim cloggiau na rhwystrau, gwrth-dynniadau ac anghyssurau, ond wrth bob help a aller ei roddi iddo iw fywiogi ef i fwy o ddiwydrwydd. Mae 'r mwyaf eu Zêl yn cwynfan o herwydd eu bod cyn oered: A'r mwyaf nefol yn cwynfan eu bod mor ddaiarol, ac mor estronaidd ir nefoedd: Y mwya llafurus sy yn cwynfan eu bod mor ddiog: A'r ffyddloniaid ffrwythlonaf, eu bod mor anfuddiol: A'r rhai mwyaf gwiliadwrus ar eu geiriau a'u gweithredoedd, eu bod mor ddiofal: a'r rhai sydd fwyaf diwyd yn prynnu eu hamser, a gwynant ei bod yn colli cymmaint; a'r rhai sy yn rhodio ddichlynaf a mwyaf rheolus, eu bod mor afreolus, a heb ymgadw yn nês at y Rheol. Ac etto a feiddi di chwanegu syrthni yr annuwiol? Ai ni bydd eu achosion cnawdol a'u trachwantau yn gwasaneuthu 'r tro iw cadw hwynt oddiwrth fuchedd [Page 132] Sanctaidd? Ai nid yw Satan ddigon crŷf o hono ei hun? Oni bŷdd y diflassu Cyffredinol y sydd yn y byd ar Dduwioldeb, yn ddigon i beri iddynt ragfarnu, a gwyrdroi, heb dy gynnorthwyon di? A welwch chwi eich pobl mor fflwch neu mor barod i wneuthur gormod am y nefoedd, ac y byddo 'n rhaid i chwi ei tynnu hwynt yn ol? Ai ni all eneidiau fod yn ddamnedig heb eich hyfforddiad chwi? Ai gwaith dymunawl yw hwn? A dâl ef i chwi am eich traul a'ch llafur? Mae 'r ffordd yn orwinallt neu 'n serth; ar goreu o honom ninneu yn weiniaid ac yn fynych yn barod i eistedd i lawr. Mîl o rwystrau a fwrw Satan a'r bŷd o'n blaen ni, i beri i ni oedi nes myned yr amser heibio; a llawer Swyn o ddifyrrwch a thrawsfeddyliau a hyrddir i mewn gan Satan, i beri i ni gysgu nes cau y drws. A Gweinidogion a anfonir i'n cadw yn effro, a'n cymmeryd o gerfydd ein llaw, a'n harwain ymlaen, a symmud ymaith rwystrau: A ruthrant hwy i mewn gydâ'r gelyn, a bod yn benna Rhwystrwŷr i ni? O arweinwyr bradwrus! O gynnorthwyon truenus! Ai nid ydyw ein tywyll ddealltwriaethau, ein daiarol, ddwlion, ac anhydyn galonnau, ein gwynniau a'n cythryblus anwydau, ein chwantau a'n tueddiadau anianawl, ein naturiol ddieithrwch a'n gwrthwyneb i Dduw, ir nefoedd ac i Sancteid drwydd, yn ddigon i'n rhwystro heboch chwi? Onid yw holl Demptasiwnau Diafol, hudoliaethau 'r [Page 133] cnawd a'r bŷd, rhwystrau o dylodi a golud, gweinieth a gŵg cyfeillion a chaseion, yn ein galwedigaethau ▪ac mewn seibiant, onid yw y rhai 'n oll yn ddigon i'n hoeri, a'n pylu, a'n cadw rhag gwasaneuthu Duw yn ormod, a bod yn rhŷ ofalus a diwyd am ein heneidiau, ond bod yn rhaid i Bregethwŷr hwythau fod yn rhwystrau ac yn faglau? Yr Arglwydd weithian a waredo ein heneidiau oddiwrth y cyfryw rwystrau, ai Eglwys oddiwrth y cyfryw arweinwyr anhappus.
9. Ystyria pwy a ddilynu yn hyn; ai Crist, ai Satan? Mae Crist yn galw dynion i ymdrechu, a llafurio, a cheisio yn y man cyntaf, i wilio, i weddio yn wastadol, ac heb ddeffygio, Luc. 13. 24. Joa. 6. 27. Mat. 6. 33. a'r 25. 13. Luc. 18. 1. Yr Apostolion a alwant ar rai i fod [yn wresog yn yr Yspryd; yn gwasaneuthu yr Arglwydd, Rhuf. 12. 11. i fod yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da, i weddio yn ddibaid, i fod yn genhedlaeth etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl Sanctaidd, yn bobl briodol i osod allan foliant yr hwn a'n galwodd ni, ac i offrymmu aberthau ysprydol, cymmeradwy gan Dduw, trwy Jesu Grist. I Pet. 2. 5. 9 1 Thes. 5. 17. Tit. 2. 14. I ymdrechu hardd-dêg ymdrech y ffŷdd, a chymmeryd gafàel ar y bywyd tragywyddol, 1 Tim. 6. 12. i wasaneuthu Duw wrth ei fòdd (ac ynteu megis tan yssol) gydâ gwylder a pharchedig ofn, Heb. 12. 28, 29. i fod yn siccr, a diymmod, a helaethion yngwaith yr Arglwydd [Page 134] yn wastadol, a ni yn gwybod nad yw ein llafur ni yn ofer yn yr Arglwydd, 1 Cor. 15. 58.] Ac a lefeswch chwi ddywedyd yn erbyn yr Arglwydd a'i Apostolion, a chydgordio â Satan, ac a'r Pharisaeaid a gelynion Crist?
10. Yr ydych chwi yn gwneuthur eich gwaethaf, ar beri i gysegrlân Swydd y weinidogaeth fod yn ddirmygus, fel y gwnaeth meibion Eli. Pobl druain, y rhai ni fedrant yn ddigonol ddosbarthu yr Athrawiaeth oddiwrth y Cymhwysiad, y Swydd oddiwrth y person, yr arfer oddiwrth y camarfer, a demptir i redeg oddiwrth Ordinhadau Duw, ac a dybiant yn waeth o eraill o'ch plegid chwi; ac a amheuant eu holl ymborth, o herwydd eich bod chwi yn cymmyscu ynddo y cyfryw wenwyn. A pho Sancteiddiolaf ac angenrheittiaf yw y Swydd a'r gwaith, mwyaf yw eich pechod yn ei lygru, neu yn ei wneuthur yn amheus neu yn ffiaidd▪
Ystyriwch mewn sobrwydd am y pethau hyn, ac yna ewch rhagoch, a lleferwch yn erbyn Buchedd o ddiwydrwydd Sanctaidd os llefeswch.
Mi a wn y dywedwch, nad Duwioldeb, ond neulltuaeth, neu wmpwy, neu anufydd-dod, neu ragrith, neu ymbleidiad yr ydych chwi yn ei gwrthwynebu: Ac nid hwyrach i chwi bennu rhyw rai ar sydd euog o rai o'r rhai'n, neu o'r lleiaf y tebyger eu bôd.
Eithr. 1. Yr wyfi yma ar osteg yn proffesu, fy môd yn cashau y beiau hyn yn gystal a chwitheu: [Page 135] ac nad yw ran yn y bŷd om bwriad, i ddadleu tros anghymmedrolder, neu anufydddod mewn pethau cyfreithlawn, dros Schismau neu Ymbleidiau, na dim afreolaeth: A hyn yr wyfi yma yn ei roddi i mewn yn erbyn y sawl sy yn ymosod i'n camddeall a rhoi goganair i'n herbyn, ac yr wyfi yn ei adael megis Tystiolaeth ar lawr, er Coffaad, i brofi ei bod hwy yn Absenwyr, y sawl a'm cyhuddont i o fod yn amddiffyn dim o'r fâth beth. Ac yr wyfi yn tystio yn erbyn y lleill o'r tu arall, ar a gyrchant annogaeth i ddim trosedd oddiwrth fy angenrheidiol ddadleu tros Sanctaidd ddiwidrwydd a gwiliadwriaeth y ffyddloniad. Ac heb law hynny, yr wyfi yn proffesu, mai Gwrthwyneb-wŷr Sancteiddrwydd yn unig, yr wyf yn ei feddwl yn yr amddiffyniad hwn, ac nad oes gennif y bwriad lleiaf i grybwyll, fod nêb eraill yn euog or bai hwnnw ar nad ydynt. Ond gan ddarfod i mi ragosod y Cyffes cyhoedd hwn, i ragflaenu camgymmeriadau a chwedlau celwyddog, mi a attebaf yn awr ir euog.
2. Os beiau yn unig yr ydych yn eu herbyn, dangoswch eich bod felly, fel na osodoch ogan na drŷg-dŷb ar Dduwioldeb yr hwn sydd fwyaf gwrthwyneb i bob beiau. Ai ni fedrwch chwi bregethu yn erbyn ymbleidio, anufydd-dod, neu unrhyw bechod arall, heb grybwyll neu droi eich iaith yn watwarus, yn erbyn gwaith dynion yn Diwyd wasaneuthu 'r Arglwydd?
3. Pa ham nad ydych yn canmawl y rhai [Page 136] nid ydynt euog o'ch cyhuddiadau, ac yn ei cyssuro mewn Sancteiddrwydd, ac yn tynnu eraill iw dilyn hwynt? A pha ham nad ydych yn canmawi y Da, lle 'r ydych yn goganu 'r Drwg sy yn gymmysg.
4. A watwerir Jechyd a Bywyd o herwydd nad oes ond ychydig nad oes arnynt ryw glwy, neu ammhariad neu ddolur? a ddirgel absennir y ffydd Gristianogaidd a Sancteiddrwydd, oblegid fod pob Cristion yn gorwedd dan ryw fai neu gilydd? Os beius fydd dynion, chwi a ddylaech eu perswadio hwynt i fôd yn fwy dichlyn a diwyd, ac nid yn llai: O ddiffyg bod yn wiliadwrus a dichlyn y maent yn pechu. Nid oes dim mwy gwrthwyneb iw beiau nâ Sancteiddrwydd. Nid oes ffordd arall iw cyflawn ddiwygiad hwynt: Ac am hynny mae pob gwir Gristianogion gostyngedig eu hunain yn barod i gyfaddef eu beiau; eithr y maent hwy cyn belled oddiwrth feddwl yn waeth o Dduwioldeb o herwydd hynny, ai fôd yn un rheswm mawr iw cynhyrfu i fynedd rhagddynt, ac i ddarllain, a gwrando, a gweddio▪ a my fyrio, a gwneuthur cymmaint a hynny fal y gallont gael ychwaneg o nerth yn erbyn eu beiau. Ai rhaid i bobl feddwl yn ddrwg am ymborth, a Physygwriaeth, ac Ymarfer, o herwydd eu bôd yn fethiant ac yn gleifion? Pob Gweinidogion ffyddlon a fynegant iw pobl eu pechodau yn eglur (cyn belled ac y maent yn gydnabyddus â hwynt) yn gystal â chwithau▪ Ond [Page 137] ni wnânt hwy mo hynny mewn modd gwradwyddus i Sanctaidd ddiwydrwydd: Nid ydynt hwy o herwydd hynny yn eu galw hwynt oddiwrth Dduwioldeb, nac yn eu temptio i fod yn arfer y moddion yn llai, ond yn fwy, yn gymmaint ac y mae eu heisiau yn fwy. Calon sanctaidd a Chalon faleusus, a ddangosant y rhagor neu'r gwahaniaeth sydd rhyngthynt wrth argyoeddi yr unrhyw fai. Un a esyd yr holl atgasrwydd ar y bai, ac a anrhydedda Sanctaidd vfudd-dod y Saint: y llall a blanna ei golyn ar y Duwiol, a than rith gwradwyddo eu beiau, a gais osod y gwradwydd ar eu Sancteiddrwydd hwynt. A'r sawl sy'or meddwl hwnnw, ni bydd byth arnynt eisiau achlysur neu escus, ir peth gwaethaf a fynnei Satan iddynt ei ddywedyd. Ni bydd yr Eglwys fŷth heb rai Rhagrithwyr a thramgwyddiadau, na'r rhai goreu heb ryw feiau a gwyniau; na'r weithred Sancteiddiolaf heb beth cymmysc o freuolder a gwendid dynawl; ni bydd chwaith daioni a Sancteidd▪ rwydd y weithred, yn rhydd oddiwrth enllib a dirmyg cyhoeddus, tra byddo synwyr a gwenwyn y Sarph ym mhennau a chalonnau dynion drygionus.
Hawsed yw rhoddi henw o ddrygair ar bob math ar ddyn, ac ar bob dyledswydd? Bwrw fod dŷn yn Rhagrithiol neu yn falch? Cymmeryd y dŷn doethaf am ddyn opinionus, oblegyd nad yw efe wrth fôdd yr achwynwr? Galw ein hufydd-dod i Dduw ar enw anufydddod i ddŷn, pan yw dŷn yn ei orafun, fal y [Page 138] trinasant hwy y tri thystion, Dan. 3. a Daniel ei hun hefyd am weddio yn ei dŷ, Dan. 6. er iddynt gyfaddeu eu hunain nad oedd ganddynt ddim arall yn ei erbyn ef? Galw gwirionedd Duw ar enw Heresi, a heresi ar enw gwirionedd? Bwrw fod pawb mewn Schism, ar na lefaso ddarostwng eu heneidiau i drawsreolaeth, a thrahaus draddodiadau Meibion Balchder, y rhai nid oes ganthynt nac Awdurdod na Gallu i'n llywodraethu ni, megis ac y mae'r Papistiaid yn trîn rhan fawr o'r bŷd Cristianogol▪ Gosod maglau i Gydwybodau dynion, ac yna achwyn arnynt am syrthio ir magleu hynny? Gwneuthur newyddion Byngciau'r ffydd, nes eu myned tu hwnt goruwch dealltwriaeth Dwyfol a rhesymmol greduniaeth, ac yna ein condemno am na chredwn hwynt? Gwneuthur Cyfreithiau i'r Eglwys, afreidiol yn eu tŷb hwynt eu hunain; a phechadurus yn nhŷb eraill, a gorchymmyn pethau y gwyddant hwy fod eraill yn tybiaid fôd yr Arglwydd yn eu gwahardd, ac yna eu llwytho hwynt â dioddefiadau, ac a gwradwyddiadau yr anufydd, cynnhennus, hereticiaidd, Schismaticiaidd neu derfysgus? Galw dynion yn bleidiog oni byddant o'u plaid hwy? ac yn Sectariaid, oni ddarostyngant eu heneidiau yn anrhesymmol iddynt hwy; ac ymgysylltu â Sect Arglwyddiaidd yn erbyn yr Undeb a'r Symlrwydd cyffredinol? y pethau hyn oll a arfer y Papistiaid ar Eglwys Grist. O howsed, ond och mor anrhesymmol, ac etto mor [Page 139] ddirwystr yw hyn ei gŷd? Hawsed yw galw cyfarfod Cristianogion sobr, i weddio ac adeiladu eu gilydd, (y cyfryw ac oedd hwnnw, Act. 12. 12. ar enw confenticl neu gymanfa derfyscus Schismaticiaidd? a chymanfa Meddwon, a chwareyddion a'r enw boneddigeiddiach a llai gwradwyddus? dywedyd fod un yn myned yn Bregethwr, pan geryddo ef yn weddaidd un arall am eu bechodau, neu ei cynghoro yn garedigol o ran eu Jechydwriaeth, neu a roddo addysc oleu angenrheidiol iw Deulu, dros yr hwn y mae yn rhaid iddo roddi cyfrif? Coeliwch fi, ni bydd ond esgus gwan i nêb a fyddo elyn i ddiwydrwydd Sant, ei fod ef fal hyn yn bwrw cochl dros ei enllib, ac yn gwisgo Sant â gwisg Rhagrithiwr, ac â charpiau rhwy Sect ffieidd-gas.
Os coelid y Pharisaeaid, nid hwynt hwy ond Crist oedd y Rhagrithiwr; ac nid mâb Duw, ond gelyn i Caesar a Chablwr a roesant hwy i farwolaeth. Eithr onid edwyn Crist ei ddefaid, er iddo eu cael hwynt wedi eu llarpio mewn crwyn bleiddiaid? Chwi a ddywedwch mai Precisiaid terfyscus yr ydych chwi yn eu curo; ond beth os caiff Crist un oi frodyr lleiaf yn gwaedu drwy hynny? Rhagrithwŷr a Schismaticciaid a geblwch chwi ; ond os caiff Crist Gristion difrifol gostyngedig yn goddef drwy eich ammarch chwi, a chwitheu i atteb am hynny, ni fynnwn i fod yn eich siaccedi er yr holl fawredd a'r parch a gaffoch cyn eich gwarth tragywyddol. Os Tertullus a gyhudda [Page 138] [...] [Page 139] [...] [Page 140] ddŷn o fôd yn blâ, ac yn cyfodi terfysg, a Christ yn cael Apostol sanctaidd llafurus mewn rhwymau yn goddef o'r plegyd; nid▪ ei henwau ef ai hesgusoda, ac a wraiff Apostol, neu erlidiad yn rhyw beth arall.
I Ddychwelyd at y praidd enbydus; Hawŷr, edrychwch ar i fynu, a meddyliwch a dâl y nefoedd eich llafur: edrychwch ar i wared, a yw y Ddaiar yn fwy teilwng o hono! Trysorwch i chwi dryssorau lle y mae yn rhaid i chwi drigo yn dragywydd. Os yma y bydd hynny, yna cribiniwch, a thruthiwch, a cheisiwch cymmaint ac a alloch: eithr oni bydd yma, ond mewn bywyd arall, yna gwrandewch ar eich Arglwydd, a thrysorwch i chwi drysor au yn y nef, a bydded eich calonnau yno, Mat. 6. 20. 21. A than boen trueni tragywyddol, na wrandewch ar nêb a'ch temptio oddiwrth fuchedd ddiwyd a Sanctaidd. Gorchwyl difrifol yw, byddwch ddifrifol ynddo; ac na chymmerwch mo'ch gwawdio a'ch gwatwar allan o'r nefoedd, drwy ddirmyg Athistiaid gwallgofus, anianawl. Os bydd neb o honynt yn gwneuthur lliw o Sobrwydd a doethineb, a chymmerydd arno brofi (neu brwfio) na ddylei Duw gael ei garu ai wasaneuthu, a'ch iechy dwriaeth ei cheisio a'ch holl egni, ac à mwy gofal a diwydrwydd nâ dim daiarol, moeswch i ini gael sobr ymddiddan â'r gwr hwnnw, ac edrychwch oni prhofafi ei fôd ef yn was ynfydffôl ir Cythrael, ac yn echryslon [Page 141] elyn i'ch iechydwriaeth chwi, ai un ei hun. O na chaem ni Sobr ymresymmu, (yn lle gwawd a gwatwar ac ymsennu) â'r cyfryw ddynion a'r rhai'n! gynted y dangosem i chwi, fôd yn rhaid idd ynt ymwrthod a'r Yscrythur, ac ymwrthod a'r ffydd Gristianogawl, ac (oni bydd hynny ddim ganddynt) fod yn rhaid iddynt ymwrthod â Duw, ac ymwrthod âg uniawn reswm, a'u diddy [...]ioni eu hunain, os ymwrthodant â buchedd Sanctaidd nefolaidd, a beio ar y Sawl ai gwnant yn brif-orchwyl iddynt yn y byd, i ddarparu at y bŷd a ddaw,
E thr oni ddônt er erfyn neu ddeisyfiad, ir cysryw Sobr ymresymiad, a wnewch chwi y sawl a'u gwrandewch hwynt (os oes arnoch ofal beth a ddelo o honoch) gymmaint a dyfod attom, a gwrando beth a fedrwn ni ei ddywedyd am fuchedd Sanctaidd, cyn i chwi wrando arnynt hwy; a gedwch i'ch eneidiau gael chwareu têg, a dangoswch fôd gennych cymmaint o gariad i chwi eich hunain, ac na thafloch ymaith eich iechydwriaeth wrth waith Cadafel neu ffôl yn gwatwar, nes i chwi glywed y tu arall.
Os myfi ni wnâf yn dda Gyfreithiau caethaf yr holl alluog Dduw, yn erbyn Ceccreth gyfrwysaf neb rhwy un o offerynnau Satan, yna dywedwch i mi, fod yr Anffyddloniaid a'r Gloddestwŷr ar yr iawn. Cyffelybwch eu geiriau hwynt â geiriau Duw. Ystyriwch yn dda yr unig Dext hwnnw 2. Pet. 3. 11. a mynegwch i mi a ydyw ef yn cytuno â'u hopinionau hwynt [a chan fod yn rhaid i hyn i gyd [Page 142] ymollwng, pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fod mewd Sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb; yn disgwil ac yn bryssio at ddyfodia [...] dydd Duw? [ped fai'r geiriau hyn ond fodd i'ch calonnau, yr amser nesaf y clywech absennu buchedd sanctaidd a nefolaidd, nid hwyrach y meddyliech chwi am eiriau Paul wrth y cyfryw ûn, Act. 13. 10. [O gyflawn [...] bob twyll, a phob scelerder, tydi mab diafol, [...] gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi di a gŵyro un▪ iawn ffordd yr Arglwydd.]
As os dywedir yn ddrwg am Sancteiddrwydd gan y sawl ni phrofasant ef erioed, pa ryfeddod sydd! Crist a ragddywedodd ma [...] felly y byddei, Mat. 5. 11. 12. Gwyn eich bŷd pan i'ch gwradwyddant, ac i'ch erlidiant ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn, er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog: byddwch lawen a hyfryd, canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd oblegyd felly yr erlidiasant hwy y prophwydi a fu o'ch blaen chwi] Joa. 15. 19. 20. [P [...] byddech o'r bŷd, y bŷd a garei'r eiddo: on [...] oblegid nad ydych o'r byd, eithr i mi eich dewis allan o'r byd, am hynny y mae'r bŷd yn eich casau chwi, &c. 1. Pet. 4. 4. 5. 14. Yn yr hyn y maent yn ddieithr yn eich cablu chwi, am nad ydych yn cŷd-redeg gydâ hwynt ir unrhyw ormod rhysedd: y rhai a roddant gyfrif ir hwn syn barod i farnu y byw a'r meirw.
Os difenwir chwi er mwyn enw Christ gwyn eich bŷd, oblegid y mae Yspryd y gogoniant, ac Yspryd Duw yn gorphywys arnoch: ar eu rhan hwynt yn wir efe a geblir, ond ar eich [Page 143] rhan chwi efe a ogoneddir] Mynych y dywedodd Seneca i ni, fod Rhinwedd yn watwargerdd ym mysc y cenhedloedd, cyn belled a hynny y mae Nattur dŷn wedi ymddirywio. Y Cwestiwn nid yw pa fôdd i'ch gelwir, neu y cymmerir eich bôd, ond beth ydych chwi. [Ystyria dy hun oddi fewn, (medd Seneca) na choelia i eraill pa fâth ydwyt; Y gwyr da gan y mwyaf a elwir yn Ynfydion a burtiaid: deued i mi y cyfryw ddirmyg: Rhaid yw gwrando yn ammyneddol ar anfri dynionach disynwyr; a rhaid ir hwn a fo ai gychwynfa ar ôl pethau onest ddirmygu y dirmyg ymma.] Je y parch mwyaf ydyw ymfodloni i gael ein cyfri yn ddrwg fel na byddom felly; a'r prawf mwyaf i ddangos ein bod ni yn burion mewn gwirionedd, yw gyrru arnom naill a'i i gael ein cyfrif yn Rhagrithwŷr, neu i fod felly. Mi a dybygwn mai prin ddigon mynych y gallaf adrodd yr ymadrodd rhagorol hwnnw o'r eiddo Seneca. [Nid oes neb yn dangos ei fod yn gwneuthur mwy cyfrif o rinwedd, na neb yn ymroddi mwy iddi, nâ'r hwn a gollodd yr enw o fod yn wr da, rhag iddo golli ei gydwybod.] Eithr nid hwyrach y gofynnwch; oni ddichon dyn fod yn rhŷ-gyfiawn? fal y Sonnir yn Preg. 7. 16.
Mi a attebaf, mai bôd dyn yn ei wneuthur ei hun yn rhy-ddoeth neu yn rhy-gyfiawn, y beiir arno yn y man hwnnw. A diammeu (I)fod llawer yn cymmeryd arnynt fôd, neu yn eu gwneuthur eu hunain yn ddoethach a chyfiownach nag ydynt; hynny yw, maent hwy'n Ragrithwŷr. [Page 144] (2) Fel y cymmerir Cyfiawnder o ran [...] ddefnydd, ac yn ôl y cyfrif cyffredinol, felly [...] dichon dŷn fôd yn rhŷ-gyfiawn. Efe a ddichon fod yn rhŷ dost, yr hyn a elwir Cyfiawnder; a gormod mewn gofid, neu ofn, ne [...] drallod, a gormod mewn un-rhyw weithre [...] oddiallan, a [...] sydd yn myned tan enw dyled swydd; Eithr yea nid yw hi-mewn gwirionedd ac yn agweddol yn ddyled-swydd a Chyfiawnder, ond yn bechod; Megis ymprydio i wanhychu y corph yngwasanaeth Duw; Gweddio y pryd y dylem ni wrando: Gwrando pan ddylaem ni fôd ynghylch rhyw orchwy [...] mwy o drugaredd ac Angenrheidrwydd Esceuluso ein gwaith a'n galwedigaeth oddi allan tan rith o Grefydd: Gosod i fynu aberth yn erbyn neu o flaen Trugaredd: Tristau pa [...] ddylem lawenychu: Myfyrio, ac ofni, ac ymofidio mwy nag a ddichon yr ymmennyd [...] ei oddef, nes ein amhwyllo: A hefyd gwneuthur i ni Grefydd o'n Dychymmygion ein hunain, a gwneuthur gormod mewn ewyllys-addoliad a Thraddodiadau dynion, fel y Pharis [...] aid a'r Papistiaid: hyn a elwir bod yn rhygyfiawn: Eithr mewn gwirionedd nid Cyfiawnder yw hyn, ond pechod: Bod yn rhygyfiawn yn agweddol, sydd wrthwyneb▪ iaith ac ammhossibl. Canys myned tu hwnt ir Rheol sydd anghyfiawnder; a gwneuthur gormod, yw myned tu hwnt ir Rheol: Oddieithr i chwi anturio meddwl ddarfod i Dduw gamgymmeryd, a bod y Rheol ei hun yn rhygaeth. a'r ddeddf yn anghyfiawn. Ond yna [Page 145] pa fòdd y barna Duw y byd? medd yr Apostol, Ruf. 3. 6. Oni wnâ barnudd yr holl ddaiar farn. Ge. 18. 25. a fôdd ynteu y by ddei efe yn Dduw?
A oes gan hynny ddim yn awr wedi ei ado ond Anwybodaeth a drygioni, i sefyll i fynu yn erbyn dy brysur Ddiwydrwydd? Ymaith gan hynny a'th oedi ac â'th ddiogi. Os mynni wasanaethu Duw a'th holl egni, gâd ei weled: Os mynni fod yn Gristion mewn gwirionedd, dangosed dy weithredoedd hynny: Nid Opinion marwedd yw'r ffydd Gristianogawl. Os wyt ti mewn gwirionedd yn byw mewn gobaith am y nefoedd, y cyfryw obaith a bair i ti gynhyrfu i gael dy ddiben. Pa ham y sefi yn segur, a thitheu wedi dy eni i weithio, a'th holl nerthoedd wedi eu rhoddi i ti o ran Gwaith, ath brynu o ran Gwaith? (o ran Gwaith Efangylaidd?) Os sancteiddiwyd di, y mae Y spryd Crist gennit, a bywiol g'ynneddfen oth fewn i weithio. Pa ffordd y medri edrych, na elli ganfod yr hyn a barei i enaid diowgswrth gwilyddio, ac a wresogei galon oer a rhewllyd, a'th alw di i fynu i ddiwydrwydd prysur? pa eiriau cynhyrfddyws a gae di yn yr Scrythur, os gwnei di cymmaint a dwyn dy galon ymma, megis un ar sy yn chwennych cael ei fywocau? Pa eirchion galluog, pa addewidion, pa fygythion, pa ensamplau sanctaidd o ragorol ddiwydrwydd Crist ai Apostolion? Cenfydd pa fodd y mae'r Duwiol ar waith o'th amgylch, er ir bŷd eu gwrthwynebu hwynt, a'u gwatwar hwynt! ddifrifed y gweddiant! mor ofalus y rhodiant! [Page 146] drymmed y cwynant nad ydynt ddim gwell! Ac onid oes gennit ti enaid anfarwol iw gadw neu iw golli yn gystal a hwythau? Cenfydd, pa drafferth a gymmer belchyn sy'n ceisio swyddau am lai na dim! Pa drafferth a gymmer y Cybydd a'r hwn s'n ymroddi i blesser am lymmaid peraidd o wenwyn marwol? Ac a fyddwn ni yn segur, y rhai ydym wedi ymrwymo i'r nefoedd? A ydyw yn rheswm i ni wneuthur llai dros Dduw, a'n hiechydwriaeth, nag a wnânt hwy er mwyn pechadurus ddifyrrwch a damnedigaeth? ni ellwch chwi moi gwawdio hwy allan o'u balchder a'u cybydd-dod: ac a gânt hwy dy wawdio di allan o'th Grefydd ath obaith am y nefoedd? Holl orchymmynnion, ac addewidion, a bygythion Duw, y pregethu mwyaf nerthol▪ ar sydd megis yn gosod y Nefoedd ac Uffern yn agored iddynt, ni thycciagydâ dynion cnawdol, i beri iddynt ymadel â'r pechod bryntaf ac annhirionaf. a dyccia geiriau neu gilwg ymlusgiad llychlud gydá thydi, yn erbyn y gwaith o herwydd yr hwn yr wyt ti yn byw yn y bŷd, a chennit wrth law resymmau diwrthddadl oddiwrth Dduw, oddiwrthit dy hun, oddiwrth y nefoedd ac Uffern i'th yrru di ymlaen? Pettei ond am dy einioes di, neu einioes dy blant, dy gyfaill, neu dy elyn; neu i ddiffodd tan yn dy dŷ, neu yn y Dref, Oni chynnhyrfit ti a gwneuthur dy oreu? Ac a fyddi di segur pan yw bywyd tragywyddol yn sefyll ar y peth? Gad i Satan ruo yn dy erbyn drwy ei offerynnau. Gad i bechaduriaid diddarbod siarad dros amser am yr hyn nis gwyddant [Page 147] pa beth, hyd oni wnelo Duw iddynt newid eu tôn. Deued a ddelo i'th gnawd: Nid yw y rhai'n bethau i ddal-sulw mor llawer arnynt, gan doŷn a ymrwymodd i ddidrangc fywyd. Och pa bethau yw y rhai'n wrth y pethau y galwyd di iw dilyn! Ewch rhagoch gan hynny Gristianogion yn y gwaith a ddechreuasoch. Gwnewch ef yn bwyllog, a gwnewch yn hollawl, Cymmerwch y cwbl ir unffordd, Gorchwylion Duwioldeb, Cyfiownder, a Chariad; Eithr gwnewch ef yn awr yn ddiymdro, a gwnewch ef yn ddifrifol â'ch holl egni. Nis gwn i pa gwmmwl o dywyllwch a gymmerodd afael ar feddyliau y sawl a lefarasant yn erbyn hyn: neu pa darth angheuol a gymmerodd afaei ar eu calonnau, a'u gwneuthur mor lledsyn, heb reswm dynol ynddynt. Om rhan fy hun, er i mi fyw yn hir o amser yn deimladwy mor werthfawr yw amser▪ ac na bûm i yn segur hollawl yn y byd; Etto pan yw fy meddyliau ddwysaf am y didrangc ddigwyddiadau o'm gwaith, ac am ansiccrwydd a byrdra fy amser, yr wyfi yn synnu feddwl fedru o'm calon fod mor hwyrfrydig a diddar bod, na wnaethwn i ychwaneg yn y cyfryw achos. Yr Arglwydd ai gŵyr, a'm Cydwybod archolledig yn fy'nghyhuddo ai gŵyr, fod fy Niogi mor gwilyddus a rhyfeddol gennif, am bôd yn synnu i feddwl, nad yw fy mwriadau ddim cryfach, na'm hawydd-serch ddim bywioccach, na'm llafur a'm Diwydrwydd ddim mwy, pan mai Duw yw'r hwn sy yn gorchymmyn, a'i Gariad sy yn annog, a'i [Page 148] Ddigofaint yw'r Yspardun, ac mai'r Nefoedd neu Ʋffern fydd y diwedd. Oh pa fucheddau a ddylaem ni bawb oll eu bucheddu▪ y rhai y mae gennym bethau o gyfryw berthynas anrhaethadwy ar ein dwylaw, oni bae fod ein calonneu ym mron marw o'n mewn! llefared y sawl a fynno yn erbyn y cyfryw fuchedd, fyngofid a'm cwynfan beunyddiol i a gaiff fod, fy môd mor ddwl ac yn gwneuthur cyn lleied. Mi a wn nad ydyw ein gweithredoedd yn llesol ir Holl alluog, ac nad oes ynddynt ddim cyfattebwch cydwedd iw wobr ef, ac ni allant sefyll yn ei wydd ef, ond megis ac y maent yn gymmeradwy yn yr Arglwydd ein Cyfiawnder, a chwedi eu Pêrarogli drwy arogldarth ei haeddedigaethau ef. Eithr myfi a wn ei bôd hwynt yn angenrheidiol, a'u bôd yn beraidd. Heb wneuthur defnydd Sanctaidd o'n swyddgynneddfau, ni bydd y bywyd hwn ond breuddwyd neu faich, na'r bywyd nesaf ond trueni anrhaethadwy. O gan hynny na bae gennif ychwaneg o gariad Duw, fel y gallei fy enaid dynnu yn nês atto ef, ac ymsymmud yn gyflymmach tua'r nef drwy ffydd a Chariad! Och na bae gennif ychwaneg o'r Bywyd Sanctaidd hwnnw, a'r Diwydrwydd bywiog, y mae nattur Cain wenwynig yn ei ffieiddio, pe rhon i mi a chael gydâ hynny wawd pawb o'm hamgylch; a phe rhon iddynt fy-ngwneuthur fel y gwnaethant gynt well gwŷr, megis yscubion y bŷd a Sorod pob dim. 1▪ Cor. 4. 13. O na bae gennif ychwaneg o'r diwidrwydd hwn a watwarir, ac ychwaneg o gymdeithas [Page 149] â'r Arglwydd er im henw gael ei fwrw allan megis drwg weithredwr, Luc. 6. 22. A chael poeri am fy mhen, a'm Cernodio gan y sawl sy yn awr yn ddirgel yn difenwi▪ Pe gallwn i yn o gyfagos ddilyn Crist mewn Sancteiddrwydd, pa ham y grwgnachwn ddwyn ei groes, am trin fel y trinwyd yntef? Mat. 26. 67. Luc. 18. 32. Gan wybod os cydddioddefwn gydag ef, ni a gyd-ogoneddir hefyd; ac nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddatguddir i ni Rhuf. 8. 17. 18.
Os nid ydym ni, darfyddo i ni wneuthur y cwbl, ond gweision anfuddiol, a bôd yn rhaid i ni ddywedyd, yr h n a ddylasem ei wneuthur a wnaethom, Luc. 17. 10. Onid oes arnom ni oll fwy▪ o eisiau rhybuddwyr i'n darostwng, am wneuthur cymmaint a hynny lai nag a ddylasem, nag i'n hargyoeddi am fod yn rhy ddiwyd a dychlyn?
Yr wyfi drachefn yn tystiolaethu, nad dim gorchwylion ychwaneg nag a ofynnir, neu o ddynol ddychymmyg, ofergoelus, neu o'n trefniad ein hunain, yr wyfi yn eu hamddiffyn; ond yn vnig, gofalus vfuddhau i Gyfreithiau Duw, ac eithaf ddiwydrwydd yn y cyfryw vfydd-dod, o ran caffael bywyd tragywyddol. Naill ai Duw a orchymmynodd y gorchwylion hyn o Sancteiddrwydd, Cyfiawnder, a Chariad, ai nis gorchymmynnodd. Oni orchymmynodd, yna fe ddarfu i mi ac a roddaf y matter i fynu. Dadleu yr wyfi yn unig dros yr hyn a orchymmynnodd ef. O na wnaech, [Page 150] cyn i chwi na llefaru yn erbyn un ddyledswydd Sanctaidd, na'i hesceuluso eich hunain, cymmaint a dyfod attom ni, ac ymgyssylltu â ni yn Sobr i chwilio yr Scrythyrau Sanctaidd, i edrych a ydys yn gofyn hyn yno, ai nid ydys; ac ymroi i vfyddhau iddo, os nyni ai profwn oddi yno : Ac onid yw hyn ond peth o ddynol osodiad, nyni a'ch gadawn i chwi eich hunain, ac a chwennychem gael o honoch gryn rydddid yn y pethau hyn, ac na osodoch ormod o'ch Crefydd ynddynt. Ond os yw efe yn bendifaddeu yn orchymmynnedig Yngair Duw, yr wyfi yn attolwg i chwi fel yr ydych Gristianogion, ac fel yr ydych yn ddynion, gofio pa bryd bynnag y beiwch ar Ddyledswydd Sanctaidd, neu y gwatworwch hi, mai ar Dduw ei hun yr ydych yn beio ac efe yr ydych yn ei watwar. Os drwg yw'r peth, yr hwn ai gorchymmynnodd yw'r achos o hynny. Rhaid i'r Deiliad ufyddhau; Oni ddylei y cyfryw bryfed a nyni vfuddhau ir anfeidrol Dduw a'n gwnaeth ni? Os bai ydyw vfyddhau, mae'n ddylêd gwrthryfela ac anufyddhau: a rhaid i hynny fôd, o herwydd nad oes gan Dduw Awdurdod i orchymmyn, ac y mae yn rhaid i hynny fôd, o herwydd nad yw efe yn Dduw Gwelwch i ba le y dygwch eich gwrthwyneb i fuchedd Sanctaidd; Ac a feiddiwch chwi sefyll wrth hyn? A lefeswch chwi watwar Duw ar osteg am wneuthur y caethion a'r Sanctaidd Gyfreithiau hyn, fel y gwatworwch Ddynion am ufuddhau iddynt? Ni lefus neu ni faidd neb hyn ond a broffeso ei fod yn Annuw.
[Page 151]Och o druein, nid oes dim ond llwyddiant gwenwynig, a difyrrwch anianawl, a gwallgof bydol, ar sy yn troi eich ymmennyddyau, ac heb adael i chwi sobr arfer rheswm, ac yn peri i chwi dybiaid yn dda o fusgrelli neu ddiogi annuwiol, ac yn peri i chwi fod a thŷb mor ddirmygus ac mor anheimladwy am fuchedd nefol. Yr wyfi yn ei ddywedyd i chwi (a chofiwch ryw ddydd ddarfod ei ddywedyd i chwi) nad oes anghredadyn o'r dewraf ar sy iw gael, na'r gelyn chwerwaf i Sancteiddrwydd o fewn y Gymmanfa hon, na ddymunant ar fyrder ei bod yn hyttrach yn Seintiau mewn carpiau, yn cael yr holl wawd a'r creulonder a fedro malis i roi ar y cyfryw, nâ bod wedi ym hoewi mewn balchder a gwychder, trwy esceuluso mawrion bethau tragywyddol. Mi a ddywedaf i chwi drachefn, nad oes adyn annuwiol yn fy ngwrando, na roddei ar fyrder fŷd am fod yn berchen calon a buchedd Sanctaidd: Ac ar fyrder fo chwennych pe treuliasei ei ddyddiau mewn Sanctaidd, wiliadwrus baratôad, erbyn ei gyfnewidiad o'r byd hwn i'r byd arall, y rhai a dreuliodd ef o ran yr hyn a'i twylla, ac ai gedu.
Mi a dybygwn fy mod yn gweled pa wedd y Cythryblus gyndderiogwch chwi yn eich erbyn eich hunain, ac y rhwygwch eich calonnau trwy ymddial arnoch eich hunain (oddieithr i râs ei ragflaenu trwy ddiogelach edifeirwch) pan feddylioch yn rhyhwyr pa fodd y buoch fyw ar y ddaiar, a pha amseroedd euraid o râs a gollasoch, gan dirmygu pawb [Page 152] ar na fynnent ei colli hwynt mor ynfyd a chwitheu. Os parodd edifeirwch i fywyd, i Paul felly ei alw ei hun yn annoeth, yn anufydd, yn cyfeiliorni, ac yn ynfydu yn fawr, Tit. 3. 3. Act. 26. 11, chwi a ellwch feddwl pa fodd y pair poenydiol edifeirwch i chwi eich galw eich hunain yn rhyhwyr.
Och hawyr! ni fedrwch chwi ddirnad, tra byddoch yn eistedd ymma mewn iechyd, ac esmwythdra, a pharch, pa ragor neu wahan feddyliau a fŷdd ynoch y prŷd hynny am fywyd Sanctaidd ac ansanctaidd! Ynfytted y tybiwch chwi fôd y rhai, nid oedd ganddynt ond yspaid un ces o baratoad i fywyd tragwyddol, ac ai hesceulusasant yn fyrbwyll: Ac mor deimladwy a fyddwch chwi y pryd hynny o ddoethineb y ffyddloniaid y rhai a adnabuant eu hamser, ac a wnaethant ddefnydd o hono! Yr awron Doethineb a gyfiawnheir gan ei phlant ei hun; ond y pryd hynny mor deimladwy y cyfiawnheir hi gan ei holl elynion! Och drwy ba wewyr yr edrych eneidiau colledig yn ôl, ar oes o drugaredd ac odfeydd, a goeg ddiystyrasant hwy fal hyn, ac a gysgasant ymmaith mewn syfrdân seguryd, ac a ynfyd dreuliasant mewn pethau diddim.
Iaith y goludog damnedig hwnnw, Luc. 16. a ddichon eich cymmorth yn eich rhag-dybiau am eich trueni sydd i ddyfod. Och ryfedded fydd gennych chwi, chwychwi eich hunain, fedru o honoch erioed fod mor ddeillion a diddarbod, na roesech fwy o'ch meddwl ar rybyddion yr Arglwydd, ac ar ragfeddylio [Page 153] am y llawenydd neu y trueni tragywyddol! Ac o'ch ryfedded fydd gennych feddwl, nad oedd ond un gyfran fechan o amser, i chwi wneuthur y cwbl oll ar oedd raid i chwi ei wneuthur am dragywyddoldeb, ac i ddywedyd cymmaint oll ar oedd raid i chwi ei ddywedyd dros eich eneidiau eich hunain ac eraill, a bod hwn wedi ei dreulio mewn gwaeth nâ dim! nad oedd gennych ond un oes ansiccr, yn yr hon yr oedd yn rhaid i chwi redeg yr yrfa sy yn ynnill neu yn colli 'r nefoedd yn dragywydd; a'ch bôd chwi wedi eich temptio gan beth diddim, i golli yr unig odfa nad oes foddiw hennill drachefn, ac i eistedd yn llonydd, neu redeg ffordd arall, pan ddylasech fod yn pryssuro a'ch holl egni! Och hawyr, meddyliau am hyn a fyddant ryw ddydd fâth arall ar feddyliau, nag yr ydych chwi yn awr yn deimladwy o honynt; Ni ellwch yr awron feddwl pa deimlad fydd o'r meddyliau hyn y pryd hynny! Eich bod wedi cael amser yn yr hwn y gallasech weddio, a chennych addewid o gael eich derbyn, a'ch bod heb galonneu i gymmeryd yr amser hwnnw! Ddarfod cynnig Crist i chwi yn gystal ac ir rhai ai croesawodd ef, ddarfod eich galw a'ch rhybuddio yn gystal a nhwythau, ond darfod i chwi ddirmygu ac esceuluso y cwbl! Bod einioes ac Angeu wedi eu gosod gar eich bronnau, a llawenydd tragywyddol wedi eu gynnyg yn eich dewis, yn erbyn swynion difyrrwch pechadurus, a chwi a allasech [Page 154] eu cael hwynt yn rhad pes mynnasech, a mynegwyd i chwi mai Sancteiddrwydd oedd yr unig ffordd, a bôd yn rhaid i hynny fôd Bellach neu na bai Bŷth, ac etto chwi a ddewisasoch eich dinistr eich hunain! Y meddyliau hyn a fyddant yn ddarn o Uffern ir annuwiol. Hwy a ryfeddant allael o Reswm fôd mor anrhesymmol; a bôd ir rhai oedd ganddynt y synwyr sydd gan ddŷn yn gyffredinol mewn matterion eraill, fôd cyn belled o'u pwyll yn yr hyn yw 'r unig bêth y mae 'n ganmholiaeth bod yn ddoeth oi blegyd; ac y cae y fâth Y mresymmiadau bryntion dyccio gyda hwynt yn erbyn y goleuni egluraf, ac y gwneid gwell cyfrif o beth diddim nag o Bôb peth; ac y cae Resymmau a gyrch id oddiwrth ŷs a thom, orchfygu y rhai a gyrchid o'r Nefoedd! O pa feddyliau torrcalon a fydd y rhai 'n, pan ganhiado Tragywyddoldeb iddynt ennyd i fwrw golwg arnynt yn ddibartiol! Ie ddarfod iddynt dwyllo eraill hefyd â'r cyfryw anfad dwyll, a gwatwar pawb ar na fynnent fod cyn ynfytted a hwythau: a chan ymfeddwi â'r hudoliaeth bydol, ddarfod iddynt drin yn amharchus y sawl a oeddynt wir sobr; ddarfod ir unig beth angenrheidiol ymddangos yn beth afreidiol iddynt hwy! Ddarfod iw tafodau ddadleu dros yr hudoliaethau hyn o'r eiddo eu calonnau drygionus, ai bôd hwy yn elynion ir rhai ni fynnent fod yn elynion i Dduw, ac iddynt eu hunain; a thaflu o honynt ymmaith eu Hamser a'u Heneidiau fel y gwnaethant▪ [Page 155] Hwy a ryfeddant drwy ymgreuloni yn eu herherbyn eu hunain, pa beth a allei eu llygadtynnu i fôd yn fwy afressymol nag a ellid disgwyl i ddyn fod, yn erbyn Goleuni Nattur yn gystal a datguddiad goruwch-naturiol.
Barchedig a charedig wrandawyr, attolwg na chymmerwch mewn rhan ddrwg, fy môd i yn crybwyll cymmaint am y petheu hyn, ar sydd mor ddiflas ac anghroesawys gan galonneu digred, diofal, a chnawdol: hyn sydd fel y gallwyf ragflaenu hyn ôll mewn prŷd, drwy ddeffroadau o wir edifeirwch: Ac oh nad hyn a fyddei 'r ffynniant! fel y gallwn glywed wrth eich edifeiriol gyfaddefiad, a gweled drwy eich llwyr-gwbl ebrwydd wellhâd, fôd gan Dduw Drugaredd ei chymmaint i chwi, a gallael o'r annogaethau hyn fôd yn foddion o gymmaint dedwyddwch i chwi, a diddanwch i minneu! Beth bynnac fyddo, y Gymanfa hon a fŷdd dystion ddarfod eich rhybuddio: a chydwybod a fydd dyst, os chwi a ddifrodwch y rhan arall o'ch dyddiau yn nifyrrwch a gwagedd y byd twyllodrus hwn, na bu hynny o ran nas gallasech gael gwell, ac na alwyd arnoch at bethau uwch. Ac os etto y sefwch yn segur nid yw hynny o ran na allasech gael eich cyflogi. Canys yn Enw Crist mi a'ch gelwais iw winllan ef, ac a fynegais i chwi eich gwaith a'ch cyflog, ac a wradwyddais eich escusodion a'ch gwrth-ddadleuon y dydd heddyw, Deuwch ymmaith gan hynny ar frŷs allan o faglau pechaduriad, a chymdeithas Dynion [Page 156] sy wedi eu twyllo a'u cledu, a bwriwc [...] ymmaith weithredoedd y tywyllwch! Ma [...] 'r Nefoedd gar eich bronnau: Mae Ange [...] yn gyfagos: Y tragywyddol Dduw a anfo▪ nodd i'ch gwahodd! Mae trugaredd etto a [...] breichiau ar lêd! Chwi a arhosasoch yn rhy▪ hir, ac a gamarferasoch ormod ar Ammynedd yn barod: na arhoswch ddim hwy! O rhyngwch fôdd i Dduw yn awr, a chysurwch ninneu, ac achubwch eich hunain drwy roddi eich llwyr-frŷd mai hwn y fydd Dŷdd eich troedigaeth, a chan ffyddlon gyflowni eich Bwriad, cyfodwch a gweithiwch: Credwch, Edifarhewch, Deisyfwch, Ʋfyddhewch, a gwnewch hyn oll a'ch holl Egni. Cerwch yr hwn y rhaid i chwi ei garu yn dragywydd, a cherwch ef â'ch holl Enaid a'ch Nerth: Ceisiwch yr hyn a dâl ei geisio mewn gwirionedd; ac a dâl am eich holl draul a'ch poen: A cheisiwch ef yn gyntaf âch holl Egni; Gan gofio yn wastadol, mai rhaid iddo fôd yn awr neu na byddo Bŷth.
CYn i mi derfynnu, mae gennif etto ddwy gennadwri iw traddodi i weision yr Arglwydd: Y naill o Annogaeth, a'r llall o Hyfforddiad.
Mi a wn fod ar fagad o honoch drallod triphlŷg, yn gofyn cyssur a diddanwch triphlŷg.
[Page 157] Ʋn yw; ddarfod i chwi wneuthur cyn lleied o'ch gwaith; ond colli o honoch cymmaint o'ch amser yn barod: Ʋn arall yw, eich bod yn cael cymmaint o wrthwyneb a rhwystr: A'r mwyaf o gwbl yw eich bod chwi etto mor hurtion neu mor ddwl ac araf-ddifrys: Rhaid ir Cyffyriau a feddyginiaetho y rhai'n fod yn Hyfforddiadau.
1. Am y cyntaf; Golli o honoch eich amser, rhaid iddo fôd yn achos i chwi i Ymostwng eich eneidiau ger bron Duw; Ond nas collwyd mor cwbl cyn i chwi ganfod eich pechod a'ch dyledswydd, ond bod dioddefgarwch a thrugaredd yr Arglwydd etto yn disgwyl wrthych, ac yn peri i'ch gobaith barhau; Hyn yw achos eich cysur ach comffordd: Edifarhewch gan hynny na ddaethoch yn gynt adref: Ond llawenychwch ddyfod o honoch adref o'r diwedd: Ac yn awr byddwch fwy diwyd yn prynnu eich amser, wrth gofio yr Amser a gollasoch chwi yn barod. Ac er bod yn rhaid i chwi alaru fod eich Meistr yn ôl o gymmaint o'i wasanaeth, ac eraill o gymmaint o ddaioni a ddylasech chwi ei wneuthur iddynt, a bod amser wedi eu golli nas gellir ei alw yn ôl; etto eich cyssur yw, y dichon eich gwobr chwi fod yn gymmaint a'r rhai a ddygasant bwys a gwrês y dydd: Canys llawer o'r rhai olaf (yn amser eu dyfodiad i mewn) a fyddant flaenaf (yn derbyn y gwobr.) Dyma feddwl y ddammeg honno yn Mat. 20. Yr hon a adroddwyd i gysuro y rhai a safasent allan yn [Page 158] rhyhir, ac i geryddu cenfigen a mawr ddisgwyliad y rhai a ddaethent i mewn yn gynt: Ac nid yw ddim yngwrthwyneb ir lleoedd hynny ym Mat. 25; Y rhai a grybwyllant am amryw raddau o ogoniant, ar y sydd iw rhoddi i rai ac sydd ganddynt amryw raddau o Râs, wrth wneuthur defnydd diwyd o hono▪ Un ddammeg (Mat. 20) a ddengys na bydd rhagor wobr i ddynion am aros yn hîr neu ychydig yn y gwaith; ond y caiff y rhai a ddaethant i mewn yn ddiweddar, ac etto a gafwyd yn gyd-râdd mewn Sancteidrwydd, eu gobrwyo yr un ffunyd gydâr rhai blaenaf; ac y cânt fwy, os mwy a fydd eu Sancteiddrwydd, yr hyn y mae 'r ail ddammeg yn ei ddangos, gan fynegi fod Duw ar fedr rhoi y gogoniant mwyaf, ir rhai a wnaethant ddefnydd o'u Sancteiddrwydd ir mesur eithaf. O gan hynny nad annogai deimlad o'ch anniolchgarwch o'r blaen chwi, yn fwy diwyd i ymroddi i gariad gwresog, a chyflawn Usydd▪ dod! Ac yna y cewch weled fod eich amser wedi ei brynnu, er na ellir ei alw yn ôl; A bod Trugaredd wedi gwneuthur eich llawn wobr yn ddiogel. O pa Drugaredd anrhaethadwy yw hon! Os chwychwi etto a'ch rhoddwch eich hunain yn hollawl i Grist, a wasaneuthu ef â'ch holl allu, yr ychydig amser sydd etto yn ôl, efe a'ch derbyn fal pe dae▪ thech i mewn ar yr awr gyntaf o'r dydd
2. A'r gwrthwyneb a'r rhwystrau hefyd sydd ar eich ffordd▪ Nid ydynt amgenach nag a ragddywedodd eich Arglwydd. Efe a [Page 159] aeth o'ch blaen, ac a orchfygodd lawer mwy nag a gyfarfyddwch chwi byth oddiallan yn dyfod ich herbyn (er nad oedd ganddo gorph o bechod iw orchfygu: ac yn hynny, y mae buddugoliaeth ei Yspryd ef yn ei aelodau, yn rhagori ar ei fuddugoliaeth personol ef.) Efe a barodd i chwi gymmeryd cyssur, oblegid darfod iddo ef orchfygu y byd. Oni chyfodwch y Groes a'i ddilyn ef, ni ellwch fod yn ddiscyblion iddo ef. Joa. 16. 33. Luc. 14. 27. 33. A fynnech chwi fod yn filwŷr dan ammod na bo'n rhaid mor ymladd▪ neu ymladd, ac etto bod heb wrthwyneb? Dilynwch Bentywysog eich iechydwriaeth. Pe buasei Watwar, neu gernodio, neu boeri yn ei wyneb, neu ei grogi ar y Groes, neu wanu ei Ystlys, yn peri iddo roddi heibio waith eich Prynnedigaeth, chwi a adowsid mewn llwyr anobaith. Y gwrthwyneb yr hwn a ellir ei orchfygu▪ a ddylei wasaneuthu i gynhyrfu eich Gwrolfrŷd a'ch arfaeth, mewn achos o'r cyfryw angenrheidrwydd, lle y mae yn rhaid i chwi orfod neu gael eich gorfod. A ydyw Duw ei hun gyda chwi, Rhuf. 8. 31. A Christ yn arweinydd i chwi, ac Yspryd Crist i'ch cefnogi, a'r addewid i'ch gwahodd, a'r Nefoedd o'ch blaen, ac Uffern o'ch ôl, a chennych ecsamplau y fath liaws o ffyddloniaid a orchfygasant? Ac a gaiff gwawd a bygythion pryfedyn o ymlysgiad (y maes ar, neu) orchfygu y rhai 'n oll, i'ch digaloni chwi? Nid oes mor ofn arnoch rhag i neb dynnu yr haul i lawr, neu sychu 'r Mor, neu ddadymchwelyd [Page 160] y Ddaiar: Ac a ofnwch chwi rhag i ddŷn orchfygu Duw? Rhuf. 8. 37. neu eich dwyn chwi allan o ddwylaw Crist? Joa. 10. 28. 29. Deliwch▪ sulw pa wêdd y trinia▪ sant hwy Ddafydd, Psal. 56. 3, 4, 5, 6. Beunydd y camgymmerant fy 'ngeiriau: eu holl feddyliau sydd im herbyn er drwg: hwy a ymgasglant, ac a williant fynghamrau, pan ddisgwyliant am fy enaid.] Eithr pa beth ? a ofnodd efe o herwydd hynny, neu a ffoawdd efe oddi wrth Dduw? Na ddo [Y dydd yr ofnwyf, mi a ymddiriedafynot ti. Yn Nuw y clodforaf ei air, yn Nuw y gobeithiaf, nid ofnaf beth a wnel cnawd i mi.] Esay 51. 7, 8. [Gwrandewch arnaf, y rhai a adwaenoch gyfiawnder, y bobl sydd a'm cyfraith yn ei calon: nac ofnwch wradwydd dynion, ac nac arswydwch rhag eu difenwad; Canys y prŷf a'i bwytty fel dilledyn, a'r gwyfyn a'i hyssa fel gwlan: Eithr fy nghyfiawnder a fydd yn dragywydd; a'm iechydwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.] Chwi a haeddech eich Cau allan o'r Nefoedd, oni oddefwch chwŷth o wawd ynfydion er ei mwyn hi.
3. Ond (medd yr enaid sy yn cwyno arni ei hun) mae 'n siccr gennif, y dylwn i gymmeryd poen am fy iechydwriaeth, a bod hyn oll ar a allwyf ei wneuthur yn rhŷfychan: ond yr wyfi yn ddwl, yn oer, ac yn ddifraw ym mhob dim: Pell wyf oddiwrth ei wneuthur a'm holl egni: Gwrando, a darllain, a gweddio yr wyf [Page 161] fel pe byddwn heb ei wneuthur, ac megis pe bawn yn cryn gysgu, neu fôd fy nghalon ar lêd ar ryw beth arall: ofni yr wyf nad wyfi ond Rhagrithiwr lled-ddiog.]
Atteb. Yn gyntaf mi a grybwyllaf am dy Bettrusder, ac yno i'th Hyfforddaf yn erbyn dy bechod.
Ac yn gyntaf, rhaid i chwi ddeall pa un yw eich Diogi ai 'r cyfryw un a'r sydd yn dwyn rhwysg, yntau ûn wedi ei farweiddio; ai 'r cyfryw un ar a brawf eich bod yn feirwon mewn pechod; neu yn unig yn gyfryw un ar a brawfeich bod yn glwyfus ac yn llesgion.
Ac i wybod hyn, rhaid i chwi ddosparthu (1.) Rhwng Pylni ac oerni yr anwydau, ac ammharodrwydd ac anufudd▪ dod yr enaid (2.) Rhwng diogi, yr hwn sydd yn dal dŷn oddiwrth fuchedd Dduwiol mewn buchedd o annuwioldeb; a'r hwn sy yn eu dal hwynt yn unig oddiwrth ryw ûn weithred dda, neu ryw ddyledswydd neulltuol, neu yn lleihau ar y râdd o'u puraidd Serch a'u hufudd-dod. (3.) Rhwng y diogi hwnnw yr hwn yw llygredig ansodd yr Ewyllys; a'r hwn y bo oedran, neu glefyd, neu drymder, neu ryw annhymmerwch arall ar y Corph yn ei beri.
Ac felly y mae 'r peth yn sefyll yn eglur ger eich bronnau. 1. Os eich anwydau yn unig nid ydynt ddylion, ond bôd eich Ewyllys gan ddiogi yn ddifryd ir hyn sydd da, a hyn nid yn unig mewn temptasiwn i leihau rhyw raddau o râs, ac esceuluso rhyw Ddyledswydd neulltuol, ond yn erbyn buchedd Sanctaidd, [Page 162] ac yn erbyn ymwrthod â'ch pechod rhwysgfawr; A hyn heb fod yn unig drwy fyw annhymmer corphorol yn gwanhychu eich Rheswm; ond oddiwrth duedd drygionus eich ewyllys: Yna mae eich diogi yn arwydd marwol, ac yn arwyddoccau eich bôd mewn cyflwr anrasol: Eithr os yw y Diogi yr ydych yn Cwyno rhagddo, yn unig yn Ddwlni eich Anwydau, a syrthni eich ewyllys at ryw uchel raddeu o râs, neu at ryw neulltuol ddyledswyddau, ac yn ffrwyth rhyw annhymmer Corphorol, neu wendid eich bywyd ysprydol, tra bo eich ewyllys yn Greddfol neu yn wreiddiol dueddu tu ac at Dduw a Buchedd Sanctaidd, yn erbyn buchedd fydol gnawdol: Hwn yw eich gwendid, a phechod i alaru o'i blegyd, ond nid yw yn nôd o farwolaeth ac anraslonrwydd.
Chwi a gewch galon ddiog, a swrth i ymryson a hi tra bo'ch byw: Ond bendithiwch Dduw▪ eich bod yn anfodloni iddi, ac y mynnech eich gwaredu oddi wrthi. Hyn oedd siccrwydd Paul, Rhuf. 7. 24, Cnawd a fydd gennych, a Chnawd a ddadleu drosdo ei hun, ac a ymdrecha yn erbyn yr Yspryd; Ond bendithiwch Dduw fod Yspryd hefyd gennych i ymdrech yn erbyn y Cnawd. Byddwch ddiolchgar fod bywyd gennych i ymwrando â'ch Clefyd, er eich bod mewn nychdod dano, ac na ellwch weithio fel dynion iachus; A'ch bod ar y ffordd ir Nefoedd, er nad ydych yn cerdded mor brysur ac y dylech ac y mynnech.
[Page 163]2. Ond etto, er bod Bywyd gennych, mae mor flin bôd yn glwyfus a nychlyd dan y cyfryw Wendid ac ydyw diogi ysprydol at yr hyn sydd dda, ac y cynghorwn chwi i ymgynhyrfu hyd yr eithaf, ac na roddoch le i dymmer diogswrth: ac fel y gwasanaethoch yr Arglwydd a'ch holl egni, yr wyf yn Cyflwyno yr ychydig Hyfforddiadau hyn i chwi iddal-sulw arnynt.
Hyfforddiad 1. Pan fynnech chwi gael eich bywiogi i ddifrifwch a diwydrwydd, Bydded gennych wrth law y cyfryw Ystyriaethau bywiol, ar a adroddwyd i chwi yma o'r blaen; a gosodwch hwynt gar eich bronnau, a gwnewch eich goreu ar eu gweithio hwynt ar eich calonneu. Gwirioneddau galluog a allant gael rhyw awdurdod ar eich eneidiau, os gwnewch chwi cymmaint a dwyn eich Rheswm yn sobr attynt, a'u dadleu i'ch erbyn eich hunain, fel y gwnaech ag arall wrth ei argyoeddi neu ei gynghori.
Hyff. 2. Gwiliwch rhag i ryw fwriad neu berthynas fydol, neu ryw drachwant, neu bleser anianawl, ŵyrdroi eich meddyliau oddi wrth Dduw a'ch dyledswydd. Canys holl nerthoedd eich enaid a lesgânt, pan ddylaech eu gosod hwynt ar waith ar bethau Ysprydol, a'ch calonnau fyddant ar wasgar, pan ddylaech fod yn hollawl yn ymdrin â Duw, os byddant unwaith wedi ymddyrysu â phethau bydol. Gwiliwch arnynt gan hynny yn eich Galwedigaethau, rhag ir creadur ledratta i fewn yn rhŷ ddwfn i'ch anwydau [Page 164] Canys os byw a fyddwch ir bŷd; chwi a fyddwch yn hynny o ran yn feirw i Dduw.
Hyff. 3. Os bydd possibl, byddwch fyw tan Weinidogaeth fywiol, fal pan elo eich calonnau i'r Cymanfeydd yn oerion ac yn farwedd, y gallont ddyfod adref yn wresog ac yn fywiog. Bywyd a lonnycha fywyd, fel y mae tân yn ennyn tân. Gair ac Ordinhadau Duw ydynt fywiol, nerthol, a llymmach nag un cleddyf dau finiog, yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a'r Yspryd, ac yn barnu meddyliau a bwriadau y calonnau, Heb. 4. 12. Ac am hynny llawer a ddichon ef tu ac at eich gwneuthur yn deimladwy. Llawer Mil a ddwys-bigodd ef at y galon, ac a'u hanfonodd hwynt adref yn fyw, y rhai o'r blaen oeddynt feirwon, Act. 2. 37. Mwy o lawer y gellwch chwi ddisgwyl iddo ail-ennyn y prifgynneddfau sydd gennych yn barod.
Hyff. 4. Os bydd possibl ymgyfeillachwch â Christianogion bywiol, esgyd a gwisgi. Ond yn enwedigol bydded gennych yn gyfaill eich mynwes, un a'ch cynnheso pan fyddoch oer, ac a'ch cynnorthwyo i ddeffro pan fo'ch barod i bentwyno i gysgu, ac ni chyttuno â chwi yn eich helynt serfyll, ddiogswrth, ac anfuddiol, Preg. 4. 9, 10, 11, 12. Gwell yw dau nag un, o achos bôd iddynt wobr da am eu llafur: canys os syrthiant, y naill a gyfyd y llall: ond gwae yr vnig, canys pan syrthio efe, nid oes ail iw gyfodi. Hefyd os dau a gyd orweddant, hwy a ymgynnhesant; ond yr unic [Page 165] pa fodd y cynnhesa efe? ac os cryfach fydd un nag ef, dau a'i gwrthwynebant yntef, a rhaff deircaingc ni thorrir ar frys.
Hyff. 5. Na fwriwch ddydd marwolaeth oddiwrthych. Nac edrychwch a'm hîr hoedl. Rhaid ir bywyd a ddaw fôd yn fywyd eich holl ddyledswyddau chwi yma. A phethau anghysbell neu bell iawn oddiwrthym ydynt yn colli eu grym. Gosodwch farwolaeth, a'r farn, a'r bywyd tragywyddol yn wastadol yn gyfagos: Byddwch fyw mewn gwiliadwrus ddisgwyliad am eich cyfnewidiad: Gwnewch y cwbl fel dynion wrth farw, ac a fo 'n myned i dderbyn didrangc lawenydd neu wae; a hyn a'ch bywioga. Ir diben yma, cyrchwch yn fynych i dŷ galar, ac na fyddwch mewn camamser, neu yn anghymmhesurol yn annedd digrifwch. Pan osodoch at y galon beth yw diwedd pôb dŷn, wrth hynny y gwellheir y galon▪ Preg. 7. 2, 3, 4, 5. Eithr gormodedd o lawenydd cnawdol sy yn ffolu dynion, ac yn difetha eu doethineb, eu difrifwch, a'u Sobrwydd. Cedwch yn oestadol deimlad o fyrdra einioes, ac o werthfawrogrwydd Amser, a chofiwch ei fôd ef yn prysuro ymlaen beth bynnac a wneloch chwi ai gweithio ai chwareu: Mi a dybygwn ped anghofiech un o'r lleill, y dylae yr unig Ystyriaeth hon sydd gennym mewn llaw, beri i chwi ymgynhyrfu a'ch▪ holl egni; mae'n rhaid ei wneuthur bellach os gwneir ef byth.
[Page 166]Mi a chwanegaf ddau o Rybuddion angenrheidiol, rhag ofn i ni wrth iachau un clwyf, wneuthur un arall, a ni'n gwybod fod nattur lyrgedig yn arferol o redeg o vn enbydrwydd ir llall.
1. Chwennychwch a llafuriwch am roddi vchel-brîs ar bethau Ysprydol a thragywyddol, ac am wrolfryd Sefydlog, ac egni gwastadwedd a diwyd, yn fwy, nag am gynhyrfus iasau▪ gwyniau, a Serchiadau. Canys y rhai olaf hyn ydynt anwadalach yn y goreu, ac yn sefyll yn fawr ar dymmer y corph, ac nid ydynt mor angenrheidiol a'r rhai cyntaf, er eu bod yn rhagorol mewn grâdd ac amser cydweddol▪ (Am fôd yn bossibl y dichon gwyniau neu anwydau, ie ynghylch pethau da fôd yn ormod; pan na ddichon dwys Ystyriaeth, a brŷd, ac egni rheolus mor bôd felly.)
2. Byddwch ammheus pan fyddo eich anwydau wresoccaf a bywioccaf, rhag bod eich barn wedi gŵyrdroi, drwy ei bod yn dilyn pa [...] ddylei flaenori. Mae'n g'nefinol iawn i Zêl a [...] anwydau cryfion, ie tu ac at yr hyn sydd dda▪ fôd yn achlysur o gamgymmeriadau yn y deall, a pheri i ddynion edrych y cwbl o un tu, a thybiaid na allant fŷth fyned yn ddigon pell oddiwrth ryw bechodau neulltuol, nes ei dwyn yn ddiarwybod ond odid i ryw un a fo cymmaint a hwytheu ar y llaw arall. Cymmerwch rybudd oddiwrth brawf gresynol yr amseroedd hyn, i ammeu eich dealltwriaethau yng-wresogrwydd eich anwydau.
A thrwy ddalsulw ar y Rhybuddion hyn, [Page 167] nedwch i ddim leihau eich Zêl a'ch diwydrwydd; Ond pa ddyledswydd bynnag a osodwyd o'ch blaen, gwnewch hyn â'ch holl Egni: Canys rhaid i chwi hyn Bellach neu ni wnewch Bŷth.
ER i mi wybod fod y gelyniaeth i fuchedd Sanctaidd wedi ei wreiddio felly mewn nattur lygredig, a bod yr hyn ôll a adroddais yn angenrheidiol ac yn rhŷ-fychan; Etto mi a wn y bŷdd chwith gan rai grybwyli o honof, fod neb ar sydd yn pregethu 'r Efengyl yn euog o'r pechod ymma mewn mesur yn y bŷd, ac y tybiant fy môd ar fedr gwradwyddo ryw bleidiau rhagor y lleill. Eithr yr wyfi eilweith yn proffesu, nad plaid yn y bŷd ond plaid y Cythrael, a phlaid yr annuwiol yr wyfi yn ei feddwl. Ac y mae'n dôst oni choeliwch fi ynghylch fy meddwl fy hun. Nid wyfi chwaith yn deisyf lleihau dim ar y Casineb i Schism, Bradwriaeth, Gwrthryfel neu Anufydd-dod i Awdurdod, wrth waith neb yn proffesu Duwioldeb: Nac wyf; Ond yr▪ wyf yn attolwg i chwi o gymmaint ac yr ydych yn fwy Duwiol, byddwch o gymmaint a hynny yn cassau y pethau hyn yn fwy: Mae Duwioldeb yn tueddu at gwilyddio a chondemnio y pechodau atgas hyn, ac nid at fod yn gochl iddynt, neu eu lleihau; Ie, a pha beth a bair iddynt fôd yn waeth, na'u bôd iw cael ym Mhroffeswŷr Duwioldeb? Yr wyfi hefyd yn proffesu nad wyfi ar fedr [Page 168] [...] [Page 169] [...] [Page 168] dadleu ond tros ddifrifol ddiwydrwydd yn y Grefydd yr ydym ni oll yn cyttuno ynddi, ac i gau safn y sawl a lefarant yn faleusus yn ei herbyn.
Eithr ysywaeth, mae'n rhy eglur fôd gennif ormod i lefaru wrthynt, y rhai nid ydynt ddieuog. Paham oni bae hynny y mae'r Yscrythur yn mynegi i ni, y bydd y cyfryw rai byth hyd ddiwedd y bŷd? a bod rhai yn pregethu Crist o gynnen a chenfigen i chwanegu at rwymau'r cystuddiol; A pha fodd y daeth Mr. Bolton dduwiol i gael cymmaint o waith ir ceryddon hyn mor ddiweddar yn ei amser ef, fel y gwelwch yn ei Lyfrau ef? Ac a fedrwn ni yn barod anghofio pa haflug o Athrawon gwrthgyfraith a fu yn ein plith, y rhai a fwriasant heibio yr Athrawiaeth honno o ddiwydrwydd gweithredawl, ac a lefasant am▪ ei bwrw hi i lawr, megis ped fae yn ein derchafu ni ein hunain a'n gweithredoedd ein hunain, ac yn gwneuthur cam â hy-rad râs; ac felly tan rith derchafu Crist, a osodasant i fynu athrawiaeth ddigalon, farwedd, yn tueddu at fwrw allan fywyd y ffydd Gristianogawl, a thynnu dynion oddiwrth eu diwydrwydd angenrheidiol, megis peth deddfol peryglus.
A pha Ordinhâd i Dduw, nas darfu i Bregethwŷr eu hunain ei bwrw allan tan rith Crefydd? Teuluaidd ddyled-swyddau, Catechesio, canu psalmau, Bedydd, Swpper yr Arglwydd, a pha beth nis taflwyd ymmaith? A phed fae y rhain oll i lawer, ym mha beth [Page 169] y safai Arferion Crefydd? A pha▪haflug a gowsom ni o bapurau, yn y rhai y gwnaeth dynion eu goreu, ar wneuthur y ffyddlon vniawn-gred weinidogaeth yn wir wawd a gwatwargedd, ac a watwarasant weinidogion am eu ffyddlon wasanaeth i Dduw, a'u Cywirdeb iw Llywiawdwŷr, yngwrthwyneb iw ffyrdd anghyfiawn hwy? Mae'n flin gennif fritho fy mhapyr, a blino eich clustiau chwithau, ag enwau y Martin-Mall-Offeiriaid, a lliaws o'r cyfryw rai ar sydd yn fy meddwl.
Ac na bydded i Babist, nac i un gelyn arall in heglwys, roddi i ni ddrygair am fôd y fâth elynion i Sancteiddrwydd yn ein mysc. A ellir disgwyl in heglwys ni fod yn well nâ theulu Adda lle 'r oedd Cain? Neu deulu Noah, lle 'r oedd Cham? Neu ddilynwyr Crist, lle 'r oedd Judas? Ac onid oes llawer mwy o elynion▪ i Difrifol Dduwioldeb ym mlhith y Papistiaid eu hunain, nag yn ein plith ni? Nid oes na man, na grâdd o ddynion yn y bŷd, lle nid oes rai gelynion i fuchedd sanctaidd iw cael, hyd yn oed ym mysc y rhai sy yn proffesu yr unrhyw Grefydd o ran Athrawiaeth, a'r rhai y maent yn eu gwrthwynebu. Mae gan Grist a'r Cythrael eu hamryw fyddinoedd, ac os y Cythrael unwaith a ddiswydda ei filwyr, ac na bo gantho neb i wrthwynebu buchedd sanctaidd, yna dywedwch i mi mai afraid iw ei hamddiffyn hi, a dadleu yn eu herbyn hwynt. Ond yr wyfi wedi rhoddi fy enw i Grist, ac ni pheidiafi a dadleu drosto ef, hyd oni pheidio ei wrthwynebwŷr a dadleu [Page 170] yn ei erbyn ef, a'i Achos, cyhyd ac yr estynno efe i mi fy rhydd-did a'm dyledswydd. A bendigedig fyddo 'r Arglwydd, Os cair pregethwr Rhagrithiol yn ein plith, ar sydd yn ddirgel neu yn amlwg yn difreinio buchedd sanctaidd ddiwyd, mae ychwaneg o rai applach Sanctaidd a ffyddlon i sefyll tros hynny, drwy eu hathrawiaeth a'u bucheddau, nag sydd iw cael o fewn un deyrnas arall o'i maint hi o fewn y byd, ar y medrais i erioed glywed sôn am danynt. A bôd cynnifer o'r discyblion ffyddlon, a chyn lleied nifer o fâth Judas, faint o fendith yw ir wlad hon, a maint o Anrhydedd yw i Lywodraeth ein Brenin, ac ir Eglwysi o fewn ei Reolaeth! Yr Arglwydd a ddysgo ir Genedl bechadurus hon fod yn ddiolchgar, ac a bardyno ei hanniolchgarwch, ac na wnelo iddynt fôd yn ôl o'r drugaredd hon a fforffettiodd hi. Yr Arglwydd a'u dysgo i wrando ar Garwyr ac nid ar elynion Sancteiddrwydd, ac na dderbyniont bŷth archoll ynghalon eu Crefydd, pa fôdd bynnag y cydddygont ag ymrafaelion bychain ynghylch amgylchiadau.
Ac yn awr mi a ddylaswn orphen, ond y mae yn anodd gennif ddiweddu, rhag ofn na thycciodd fy ngwaith i etto gyda chwi. Beth sy yn eich brŷd chwi bellach ei wneuthur o'r dydd heddyw allan? Am Waith y buom ni yn sôn, ac am waith angenrheidiol o berthynas ddidrangc, yr hwn sy yn rhaid ei wneuthur ar fyrder, a'i wneuthur yn gwbl oll. Ai nid ydych chwi yn gwbl goelio mai felly y mae? Nad [Page 171] ydyw aredig a hau yn fwy angenrheidiol i'ch Cynhayaf, nag a ydyw Gwaith Sancteiddrwydd yn y dydd hwn o râs yn angenrheidiol i'ch iechydwriaeth? Deillion ydych oni chanfyddwch hyn. Meirwon ydych, onid ydych deimladwy o honaw. Beth gan hynny a wnewch? Er mwyn Duw, ac er eich mwyn eich hunain, na sefwch ar gyngyd meddwl nes myned yr Amser heibio. Cymmaint ac y mae y Cythrael yn ei ddymuno yw, os medr efe ond cael i chwi ryw beth neu ei gilydd iw feddwl a siarad yn ei gylch, ai wneuthur, i'ch cadw rhag hyn nes darfod yr amser: Ac yna efe a orfoledda arnoch, ac yna efe yr hwn a'ch cadwod rhag gweled a theimlo, a'ch cynnorthwya er gofid i chwi, i weled a theimlo. Yna y pair y Cythrael i chwi ymwrando â'r hyn ni fedrei'r Pregethwyr wneuthur i chwi ymwrando ag ef: Ac efe a bair i chwi feddwl am hynny, a'i osod yn ddigon agos at eich calonneu, yr hyn ni fedrem ni gael gennych ei osod at eich calon. Yn awr yr ydym ni yn astudio, ac yn pregethu i chwi dan obaith; Ond y pryd hynny (och ni mae 'n torri'n calonneu ei feddwl!) fe ddarfu i ni â chwi dros fŷth, am fôd pob gobaith wedi darfod. Yna y gall Diafol roi Sialens i Weinidog [gwnâ bellach dy waethaf ar ddwyn y pechadur ymma i edifeirwch: Galw arno ef yn awr i ystyried, a chredu, a dyfod at Grist, Cynnyg iddo yn awr drugaredd; ac ymbil arno am ei derbyn; Llefa arno yn awr i ochel pechod a phrofedigaethau, fel na ddelo ir lle poenus [Page 172] hwn: Mynega iddo yn awr am brydferthwch ac angenrheidrwydd Sancteiddrwydd, Galw arno ef hefyd i Droi a byw; gwna dy waetha yn awr ar ei waredu ef allan o'm meddiant i, ac i achub ei enaid ef] Och bechaduriaid truein! A geuwch chwi eich clustiau, a myned rhagoch yn y pechod, a'ch damnio eich hunain▪ a thorri ein calonnau ninneu wrth ragweled y dydd hwnnw▪ Ai rhaid i ni edrych ar Ddiafol yn myned ymmaith â'r fâth sclyfaeth, ac oni chawn ni waredu eich eneidiau caethiwus, oblegyd na fynnwch wrando, na fynnwch gynhyrfu, na fynnwch gyttuno! Oh gwrandewch ar Dduw 'r Nefoedd, (oni wrandewch arnom ni) yr hwn sy yn eich galw i Ddychwelyd a byw! O gwrandewch ar yr hwn a gollodd ei waed dros eich eneidiau, ac sy yn awr yn cynnyg i chwi eich iechydwriaeth drwy ei waed! O gwrandewch heb oedi ychwaneg, cyn darfod am y cwbl ac am danoch chwitheu, ac ir hwn sy yn awr yn eich twyllo, fod yn eich poenydio! Ewch etto ychydig ychwaneg ym'laen mewn cyflwr cnawdol, daiarol, ansancteiddiedig, ac fe fydd rhyhwyr gobeithio, neu weddio, neu ymdrechu am eich iechydwriaeth. Ychydig bach etto, ac fe dderfydd i drugaredd a chwi dros fŷth; ac ni wahoddiff Crist chwi bŷth, ac ni chynnyg ef bŷth mo 'ch glanhau drwy ei waed, na'ch sancteiddio drwy ei Yspryd! Ychydig etto ymhellach, ac ni chewch chwi byth glywaid Pregeth, na'ch blino fŷth gan▪ y Pregethwyr hynny y rhai oeddynt yn eich trin o ddifrif, ac yn hiraethu unwaith am eich troedigaeth [Page 173] a'ch iechydwriaeth! O bechaduriaid swrthion a marw-galon, beth a wnâf i ddangos i chwi mor agos at dragywyddoldeb yr ydych yn sefyll, a pha beth a wneir yn awr yn y bŷd yr ydych yn myned iddo, a pha dŷb sydd yno am y pethau hyn! Beth a wnât i beri i chwi wybod pa brîs a roddir ar Amser, pa gyfrif a wneir o bechod a Sancteiddrwydd, yn y bŷd y bydd rhaid i chwi fyw ynddo yn dragywydd! Beth a wnâf i beri i chwi wybod y pethau hynny heddyw, y rhai ni bydd gennif ddiolch i chwi er eu gwybod pan eloch oddi ymma! O nad agorei yr Arglwydd eich llygaid mewn prŷd! Pe gallwn i cymmaint a gwneuthur i chwi wybod y pethau hyn, fel y dylei ffyddloniaid eu gwybod, nid (meddaf) fel y sawl sy yn eu gweled, na chwaith fel▪ Breuddwydwyr, ni wnânt gyfrif ohonynt; ond megis y rhai sy yn credu fôd yn ddir iddynt ar fyrder eu gweled hwynt▪ pa waith awr ei llawened y cyfrifwn i hyn? Ddedwydded a fyddei i chwi ac i minneu! Petteu ddagreu yn canlyn pob gair! Pettwn i i'ch dilyn i'ch tai, ac erfyn ar i chwi ei ystyried ar fy ngliniau noethion, neu megis ag y crefa Cardottyn wrth eich drysau am elusen: pe costiai 'r bregeth hon i mi cymmaint o farn a gogan ac a gostiodd un bregeth erioed, ni thybiwn moi bod yn rhŷ-ddrud, pe medrwn i ond eich cymmorth i gael y fâth olwg ar y petheu 'r ydym yn llefaru am danynt, fel y gallech eu gwir adnabod, megis ag y maent: fel y byddei gennych ddeffrous ddeall am fyrdra [Page 174] eich amser, am nesder tragywyddoldeb, ac am y didrangc ddigwyddiad o'ch gwaith presennol; a pha dŷb a fŷdd am sanctaidd lafur a phechadurus seguryd yn y byd a ddaw yn dragywydd! Ond pan welom ni chwi yn pechu, ac yn chwidawiaeth, ac heb wneuthur dim mwy pris o'ch didrangc fywyd; a gweled hefyd pa brysuro y mae eich amser, ac er hynny ni fedrwn ni beri i chwi ddeall y pethau hyn; pan ydym ni ein hunain yn gwybod cyn siccred a'n bôd yn llefaru wrthych, y byddwch chwi ar fyrder yn synnu, wrth edrych yn ôl ar eich diogi a'ch ffoledd presennol; a phan wyddom, nad yr un tŷb sydd am y pethau hyn, mewn bŷd arall, ac sydd ym mhlith y swrth a'r gwallgofus bechaduriaid yma, ac etto nis gwyddom ni pa fôdd y parwn i chwi ei wybod, ir rhai y mae mor dramawr yn perthyn: Hyn a'n synna, ac sydd ymron torri ein calonnau. Ie pan fanegom i chwi bethau nid oes mor ammeu o honynt, ac na ddichon bôd dadl yn eu cylch ddim pellach, nag y gwerthodd dynion eu dealldwriaeth, ac y bradychafant eu rheswm iw trachwantau ffiaidd, ac etto ni fedrwn ni gael gan ddynion rhesymmol mor gwybod yr hyn nid oes fôdd nas gwyddant, sef gwybod hynny yn ddifrifol, ac iw wneuthur fel peth sydd gantho 'n wastadol dystiolaeth o sewn eich dwyfronnau, a'r hyn ni lefus nêb ond dihirwr moi wadu; Yr wyfi yn dywedyd i chwi bechaduriaid fod hyn, ie hyn, yn waeth i ni nâ charchar: Chwychwi yw ein Herlidwŷr; Chwychwi yw beunyddiol dristwch ein calonnau; [Page 175] Chwychwi sy yn ein twyllo am ein gobaith, ac yn peri i ni golli cymmaint o lafur ein heinioes! A phe bai bawb eraill yn gwneuthur â ni fal y gwna rhai, och ni, pa waith gofidus a gaem ni! A lleied a flinei arnom gael ein distewi a'n troi heibio. Ped faem ni'n gleifion o'r Swydd-ymgais neu'r cybyddus syched, yna y dywedem, mai y rhai a'n naccânt ni o olud a pharch yw'r sawl sy yn ein Siommi. Eithr os Cristianogion ydym ni, nid hwn yw ein Cyflwr, ond syched am eich troedigaeth a'ch iechydwriaeth sydd yn ein blino ni: Ac am hynny chwychwi y rhai ydych yn llercian ac yn sefyll yn eich pechodau, ac yn oedi edifeirwch, ac yn anghofio eich cartref, ac yn esceuluso eich eneidiau, Chwychwi sy yn ein Siommi ni, a chwi yw 'n cystuddwyr; a chymmaint ò gymwynas ag a dybiwch eich bôd yn ei wneuthur i ni, pan ddadleuwch drosom yn erbyn dynion trowsion a chynddeiriog, chwychwi a gewch atteb am y golled o'n hamser, a'n llafur, a'n gobaith, ac am dristau Calonnau eich athrawon.
Beth bynnag, Bechaduriaid, a ddywedo y Cythrael a gwŷn gynddeiriog yn erbyn buchedd Sanctaidd, Duw a'ch cydwybodau eich hunain a gânt fôd yn dystion i ni, na ddymunasom ni ddim anrhesymmol neu afreidiol oddi ar eich dwylo. Myfi a wn mai Prif offeryn dichell Diafol yw, pan nas gallo gadw pob Crefydd tan ddirmyg, Codi mwlwg o amrafael yn y bŷd, ynghylch enwau, a ffurfiau, a pherthynaseu Crefydd, fel y gallo ef ddal dynion i [Page 176] brysur ymryson ynghylch y pethau hyn, tra byddo Crefydd ei hun yn cael ei hesceuluso, neu heb wybod oddi wrthi; ac fel y gallo beri i ddynion goelio fôd ganddynt ryw Grefydd, o herwydd eu bôd o ryw blaid neu ei gilydd yn yr ymrafaelion hyn; Ac yn enwedig fel y gallo hudo dynion i gyfrif y pethau sydd o sylwydd gwir Grefydd ym mysc y pyngciau llai ac amheus hyn, a pheri i bechaduriaid goelio, nad dim ond opinion dychlynfryd rhyw unig Blaid y maent hwy yn ei wrthod, tra fyddont yn gwrthod difrifol ymarfer pob gwir Grefydd. Ac felly y mae'r Cythrael yn ynnill mwy drwy yr ymrafaelion a'r ymrysonau gwaelion hyn, a ddigwyddant drwy ddynion gorweigion cynnhennus, nag a allei efe ei gwneuthur drwy waith rhai Digred, Cenhedlic, neu halogedig, ar osteg yn gwrthwynebu: fel na fedrafi, nac undŷn ar y mae dynion opinionus a'u bryd ar ymgenhennu ag ef, fynegi pa fôdd i'ch annog i wîr ymarfer y Grefydd Gristianogawl, na byddoch chwi, yn ebrwydd yn meddwl am ryw byngciau▪ yn y rhai yr ydym yn cael y gair o anghyttuno â chwi, neu yn adgofio rhyw ddadwrdd dynion maleusus, y rhai sydd ganddynt ŵg yn erbyn person y llefarwr, fel y cadwont eich eneidiau rhag cael llês er iech ydwriaeth oddiwrth yr athrawiaeth yr ydych chwi eich hunain yn ei phroffesu.
Os hwn yw cyflwr neb rhyw un o honoch, nid wyfi yn meddwl y diangc eich cydwybodau felly rhag grym ac eglurdeb y Gwirionedd. Ai son yr wyt ti am ein hamrafaelion [Page 177] ynghylch ffurfiau a ceremoniau? Och ddŷn, pa beth yw hynny ir gennadwri y deuwn ni attat yn ei chylch? Beth yw hynny ir matter yr ydym ni yn ei bregethu? Y Cwestiwn yr wyfi yn ei osod gar eich bronnau, nid yw, pa ûn a wnewch ai bod dros y drefn ymma o Lywodraeth Eglwysig, neu'r drefn accw, dros Ceremoni neu yn ei herbyn? Ond, pa un a wnewch ai gwrando ar Dduw a chydwybod mewn prŷd, a bôd mor brysur i ymddarparu am y Nefoedd, ac a fuoch chwi erioed yn ymddarparu am y ddaiar? a pha un a wnewch ai ymosod i wneuthur y gwaith y Creuwyd ac y prynwyd chwi o'i blegyd? Hwn yw'r gorchwyl yr anfonwyd fi i'ch galw chwi iw wneuthur, beth a ddywedwch? A wnewch chwi ef, ai wneuthur yn ddifrifol heb oedi? Ni ellwch chwi ddywedyd ddarfod i mi eich galw at na phlaid na pharti, nac opiniwn o'm heiddo fy hun, neu osod o honof eich Jechydwriaeth ar ryw ddadl amheus; Nagê bechadur, ni chaiff dy gydwybod ddim o'r fath ddiengfa iw thwyll: Ar Dduwioldeb, difrifol ymarfer Duwioldeb i'th álwyd. Nid yw efe ddim amgen nâ'r hyn y mae'r holl Gristianogion o fewn y bŷd, Papistiaid, Groegiaid a Phrotestaniaid, a'r holl bleidiau ymlhith y y rhai sy yn wir Gristianogion, yn cyttuno yn ei broffesu. Fel na'th adaw-wyf mewn dim tywyllwch y gallwyf dy waredu oddiwrtho, mi a fynegaf i ti yn llawn [...] llythyr, er hynny yn gryno, i ba beth yr ydys yn daer arnat fel [Page 178] hyn; ac yna dywaid i mi, a yw efe yn beth y dichon vn rhyw Gristion ammeu yn ei gylch.
1. Nid yw yr hyn yr wyfi yn ei ddeisyf arnat, ond ar i ti fyw megis un yn credu mewn gwirionedd fòd Duw; ac mai 'r Duw hwn yw Creawdwr, Arglwydd, a Rheolwr y bŷd; a bod yn anfeidrol mwy yn perthyn i'n gwaith ni, i ddeall ei gyfreithiau ef ac ufyddhau iddynt, a bôd megis Deiliaid ffyddlon yn cydymagweddu â hwynt, nag i ddal ar gyfreithiau dŷn neu gŷdymagweddu a hwynt: Ac i fyw fel dynion sy yn credu fôd y Duw hwn yn Hollalluog, a bôd y mwyaf o ddynion iw cyffylybu ag ef, yn llai na phryfedach sy yn Ymlusgo; ai fod ef yn anfeidrol ddoeth, a bôd doethineb dŷn yn ffolineb iddo ef, (canys y mae efe yn dal y doethion yn eu cyfrwystra, 1 Cor. [...]. 19.) ai fôd ef yn anfeidrol ddaionus a hawddgaraidd; ac mai dom a budreddi yw 'r goreu o greaduriaid oi cyffelybu iddo ef; ac mai ei gariad ef yw unig ddedwyddwch dŷn; ac nad dedwydd nêb ond y rhai ai mwynhant ef; ac na ddichon neb ar sy yn ei fwynhau ef fod yn druenus; ac nad yw golud ac anrhydedd a difyrrwch cnawdol ond gwegi anifeiliaidd ou cyffelybu i dragywyddol gariad Duw. Byddwch fyw fel dynion yn credu hyn oll o'r galon, a chefais yr hyn y daethym oi blegyd. A oes ynteu ddim o hyn yn fatter o ddadl neu ammeu? nac oes ym mysc Cristianogion, [Page 179] mae 'n sicr gennif; na chwaith ym mysc gwŷr Doethion. Nid oes mor ammeu gan y sawl sy yn y nefoedd, na chan y sawl sy yn Uffern, na chan y sawl sydd ar y ddaiar heb golli eu dealldwriaeth. Byddwch fyw gan hynny yn ôl y gwirioneddau hyn.
2. Byddwch fyw fel dynion a wîr gredant, fôd dynawl ryw wedi cwympo i bechod a thrueni; a bod pob dynion yn llygredig a than ddamnedigaeth Cyfraith Dduw, nes iddynt gael ymwared, a phardwn, a chymmod gan Dduw, a'u gwneuthur yn greaduriaid newyddion, drwy adnewyddedig, adferedig, a sancteiddiedig gyfnewidiad. Byddwch fyw fel rhai yn credu fôd yn rhaid gweithio yr iachaad hwn, a bod yn rhaid gwneuthur y mawr adferedig gyfnewid hwn arnoch chwi eich hunain, oni wnaethpwyd ef yn barod. Byddwch fyw fel dynion a chanddynt▪ gymmaint gwaith i edrych ar ei ôl: A ydyw hyn chwaith fatter o ddim amheuaeth neu ddadl? Diammeu nad yw efe i Gristion: Ac mi a dybygwn na ddylae mor bod i nêb arall ar ai hedwyn ei hun, ddim amgen nag i ddŷn ar dropsi ammeu a yw efe yn glâf, pan glywo efe oddiwrth ei syched a chanfod y chwydd. Pe gwyddech chwi pa feddyginniaethau a chyfnewidiadau sydd angenrheidiol eu gwneuthur ar eich eneidiau truein a chlwyfus, os oes gofal gennych beth a ddêl o honynt, buan y gwelech achos i edrych yn eich cylch.
3. Byddwch fyw megis dynion yn gwir [Page 180] gredu fod mâb Duw wedi eich prynu, yr hwn a ddioddefodd dros eich pechodau, ac a ddûg i chwi newyddion am bardwn ac Iechydwriaeth, yr hon a ellwch chwi ei chael os rhoddwch eich hunain ir hwn sy yn Physygwr eneidiau, i gael eich iachau gantho. Byddwch fyw fel dynion yn credu, fod anfeidrol gariad Duw, a ddatguddiwyd i golledig ddynol ryw yn y Prynniawdwr, yn ein rhwymo iw garu ef a'n holl galonnau, a'i wasaneuthu ef a holl adferedig alluoedd ein eneidiau, ac i weithio fel y rhai y mae ganthynt y diolchgarwch mwyaf iw ddangos, yn gystadl a'r trugareddau mwyaf iw derbyn, a'r trueni mwyaf iw ochel: a byddwch fyw megis y rhai a gredant, os pechaduriaid, (y rhai heb Grist ydynt yn ddiobaith) a garant yn awr eu pechodau, ac a wrthodant ymado a hwynt, ac edifarhau a dychwelyd, ac yn anniolchgar a wrthodant y drugaredd o Iechydwriaeth, a brynwyd cyn ddrutted, ac a gynygiwyd cyn rhated iddynt, y dyblir eu damnedigaeth megis ac y dyblir eu pechod. Byddwch fyw fel dynion a chyfryw Brynedigaeth ganthynt i ryfedu o'i phlegyd, a chyfryw drugaredd iw chroesawu, a'r cyfryw Iechydwriaeth iw chaffael, ac a ydynt siccr, na allant byth ddiangc os parhânt yn esceuluso Iechydwriaeth cymmaint, Heb. 2. 3. A oes gan hynny ddim dadl ym mysc Christianogion am ddim o hyn? Diammeu nad oes.
4. Byd dwch fyw fel dynion sy yn credu fôd [Page 181] yr Yspryd Glan wedi ei roddi gan Jesu Grist i▪ droi, i fywhau, ac i Sancteiddio pawb ar a achubo▪ ef: ac oddieithr eich aileni o'r Yspryd, nad ewch chwi i mewn i deyrnas nefoedd; Ac os oes neb heb Yspryd Crist ganddo nid yw hwnnw eiddo ef, Jo. 3. 5, 6. Rhuf. 8. 9. A heb hyn, nid yw clyttio neu dacclu eich bucheddau drwy unrhyw gyneddfen gyffredin, yn gwasanaethu 'r trô o ran eich Iechydwriaeth, neu yn eich gwneuthur yn gymmeradwy gan Dduw, Heb. 11. 6. Byddwch fyw fel dynion yn credu y rhoddir yr Yspryd hwn drwy wrandaw Gair Duw, a bod yn rhaid gweddio am dano, ac ufyddhau iddo, a bod heb ei wrthwynebu, ei ddiffoddi, a'i dristau. A oes dim dadl ymlhith Cristianogion am ddim o hyn? Gofynnwch ir sawl a watwarant Sancteiddrwydd, a'r Yspryd Glân, oni fedyddiwyd hwynt yn enw yr Yspryd Glân, ac onid ydynt yn proffesu credu ynddo ef megis eu Sancteiddydd, cystal ac yn y Mâb megis eu P [...]ynniawdwr? Ac yna gofynnwch iddynt, onid yw yn beth a ddyleiberii gythrael grynu, rhag dyfod mor agos at y cabledd yn erbyn yr Yspryd Glân, ac ydyw gwatwar ei swydd ai waith ef yn Sancteiddio, a Sancteiddrwydd hefyd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd? Heb. 12. 14. A hyn ar ol ei bedyddio, a phroffesu eu bod yn credu yn yr Yspryd Glan, megis eu Sancteiddydd?
5. Byddwch fyw megis dynion yn credu mai▪ [Page 182] pechod yw'r drwg mwyaf, y peth y mae Yspryd Duw yn ei ffieiddio. Ac yna ni watworwch mhono, ac nid ymhyfrydwch ynddo, fel y dywaid Solomon fod ffyliaid yn gwneuthur, Dih. 14. 9. Ac ni ddywedwch, pa niwed sydd ynddo?
6. Byddwch fyw ond fel dynion a gredant nad oes faddeuant am ûn pechod heb edifeirwch; ac mai casau ac ymado a'r pechod ydyw edifeirwch: Ac os cywir fydd, ni chynhwysiff neu ni âd i chwi mor byw mewn un pechod gorthrwm o'ch gwirfodd, na chwennych cadw y gwendid lleiaf, na bod yn flîn gennych adnabod eich pechodau anadnabyddus.
7. Byddwch fyw fel y rhai sy yn credu eich bôd i fôd yn aelodau o'r Eglwys lân Gatholic, ac yno i gynnal Cymundeb y Saint. Ac yna y cewch wybod mai nad megis aelod o un rhyw Sect neu Blaid, ond megis aelod Sanctaidd o'r Gysegr lân Eglwys hon y mae 'n rhaid i chwi fod yn gadwedig: Ac mai yr enw Cristion yw yr hwn sydd anrhydeddusach, nâ 'r enw o neb rhyw un Rhanniad, neu Adranniad ym mhlith Cristianogion, pa un bynnag ai Groegiad, ai Papist, ai Protestant, ai Preladiad, ai Presbyterian, ai Independent, ai Anabaptistiad. Mae 'n hawdd bod o ryw un o'r pleidiau hyn; ond bôd yn Gristion, yr hyn a gymmer pawb arno ei fôd, nid yw cyn hawsed. Mae 'n hawdd bod gan un Zel danbaid dros ryw blaid neu achos gwahanol. Ond [Page 183] y Zêl gyffredinol dros y Grefyd Gristianogol nid yw mor hawdd ei hennyn ai chynnal yn fyw; Eithr hi a osyn cymmaint o ddiwydrwydd iw hamddiffin, ac a ofyn Zêl wahanol iw diffoddyd. Hawdd yw caru plaid megis plaid: eithr cynnal Cyffredinol garedigrwydd tu ag at bob Cristion, a byw yn y cariad a'r gymdeithas sanctaidd honno▪ yr hyn sydd angenrheidiol [i Gymmundeb y Saint] nid ydyw mor hawdd. Mae Satan a nattur lygredig yn ffafrio Serch a Zêl gwahan-blaid, yr hon a derfynwyd i blaid, ar fatter y bo dadl yn ei gylch; ond y maent yn elynion i gariad y Saint, ac i Zêl dros Sancteiddrwydd, ac ir Caredigrwydd cyffredinol yr hwn sydd oddiwrth Yspryd Crist. Chwi a welwch nad ydwyfi yn eich galw i ymwahanu, nac i ddal gyd â Sectau: ond i fyw megis aelodau o'r Eglwys lân Gatholic, yr hon a gynnwys bawb oll yn y byd ar sy yn Sanctaidd, ac i fyw fel y rhai sy yn credu Cymmun y Saint.
8. Byddwch fyw fel y rhai sy yn credu fôd bywyd tragywyddol, lle y caiff y Sancteiddiedig fyw mewn didrangc lawenydd, a'r ansancteiddiedig mewn cospedigaeth a gwae annherfynol: byddwch fyw ond megis dynion ar sy yn credu mewn gwirionedd fôd Nef ac Vffern, a dydd y farn, yn yr hwn y bydd dir y bwrir golwg ar holl weithredoedd y bywyd hwn, ac y bernir pob dŷn i gyflwr didrangc▪ Credwch y pethau hyn o'r galon, ac yna cyfrifwch ddiwydrwydd sanctaidd yn afreidiol [Page 184] [...] [Page 185] [...] [Page 184] os gellwch: Yna byddwch o feddwl gwatwarwyr a gelynion Duwioldeb os medrwch! Pe gwasanaethei un golwg ar y Nefoedd neu Uffern heb ddim ychwaneg, yn lle rhesymmau eraill i fwrw i lawr holl geccri 'r bŷd gwallgofus, ac i gyfiawnhau y Seintiau mwyaf diwyd, ym marn y rhai sy yn awr yn eu dygn gasau hwynt, pa ham na byddei i grediniaeth gadarn o'r unrhyw beth yn ei fesur wneuthur yr un fáth bêth?
9. Byddwch fyw ond megis y rhai sy yn▪ credu, fôd y bywyd hwn wedi ei roddi i ni megis yr unig Dymmor, i wneuthur paratoad▪ am fywyd tragywyddol: a bôd yn rhaid gwneuthur cymmaint oll ar a wneir tuag at eich iechydwriaeth yr Awron, a'r Awron yn unig, cyn darfod eich amser: Byddwch fyw megis y rhai a wyddant (ac nid rhaid iddynt wrth ffydd i fynegi iddynt) fôd yr Amser yn fyrr▪ ac ym mron darfod yn barod, ac heb▪ aros am nêb, ond yn prysuro ymaith megis Rhedegwr: Nid erys ef tra byddoch yn ymdacclu, ac yn ymddigrifo: Nid erys ef tra fyddoch yn ymdrafferthu ynghylch eich chwareuddiaeth, ach rhodreswaith, ach segur ymweled a'u gilydd, neu ynghylch neb rhyw bethau afreidiol ammherthynasol eraill: nid erys ef tra fyddoch yn treulio blwyddyn neu fîs, neu ddiwrnod etto yn eich bydolrwydd▪ neu eich swyddymgais, neu yn eich trachwantau ach anianawl ddifyrrwch, ac yn oedi eich edifeirwch hyd amser arall. O chwychwi, er [Page 185] mwyn yr Arglwydd, byddwch fyw fel dynion y mae 'n rhaid iddynt ar fyrder gael ei claddu mewn bêdd, ac iw heneidiau ymddangos gar bron yr Arglwydd, ac fel dynion nid oes ganddynt ond ychydig amser ymma, i wneuthur y cwbl ar sydd iw wneuthur tu ag at y bywyd tragywyddol. O byddwch fyw fel dynion sy yn siccr o farw ac nid ydynt siccr o fyw hyd y foru: ac na bydded i sŵn difyrrwch a bydol orchwylion, neu sibrwd neu wawd ynfydion truein guro i lawr eich rheswm, a pheri i chwi fyw, fel pettych heb wybod yr hyn a wyddoch: neu fel ped fae ddim ammeu ynghylch y pethau hyn. Pwy yw 'r dŷn, a pheth yw ei enw, yr hwn a▪ faidd ddywedyd dim yn eu herbyn, ac a ddichon wneuthur hynny yn dda? Och na phechwch ddim yn erbyn eich gwybodaeth: Na sefwch yn llonyd, ac edrych ar eich Glass yn rhedeg, ac ar yr Amser yn prysuro fel y mae, a chwithau eich hunain heb brysuro dim ychwaneg na phettei y peth heb berthyn i chwi: O na hunwch▪ na heppiwch chwaith▪ pan nad yw Amser a Barn heb heppian dim! ac na sefwch yn eich unlle, tra fo gennych cymmaint iw wneuthur, a gwybod fôd yn rhaid ir hyn a adawer heb ei wneuthur yn awr, fôd bŷth heb ei wneuthur! Och o druein▪ Pa sawl Cwestiwn pwysfawr sydd gennych etto iw atteb? A ydych chwi wedi eich gwir Sancteiddio? A ydyw eich pechodau wedi eu maddeu? A fyddwchchwi gadwedig pan fyddoch farw? A ydych chwi barod i ymado a'r byd [Page 186] hwn, ac i fyned i mewn i un arall? Yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, nad yw atteb ir Cwestiwnau hyn, a llawer o'r fâth, beth hawdd neu o bwys bychan yn y bŷd. Ac y mae yn rhaid gwneuthur hyn, yn hyn o Amser bachigyn ac ansiccr. Rhaid iddo fod Bellach neu na byddo Bŷth. Byddwch fyw fel dynion a gredant ac a ystyriant y pethau diddadl hyn.
10. Yn olaf, a fyddwch chwi fyw fel dynion ar sy yn credu, mai'r byd a'r cnawd yw gelynion marwol eich Jechydwriaeth: ac sy yn credu, os câr nêb y bŷd, (cyn belled a hynny) nad yw cariad y tâd ynddo, 1. Joan. 2. 15. 16. Ac fel dynion ar sy yn credu, os byw a fyddwch ar ôl y cnawd, meirw fyddwch? Eithr os drwy yr Yspryd yr ydych yn marweiddio gweithredoedd y corph byw fyddwch, Rhuf. 8. 13. a bôd y rhai sy yn Ghrist Jesu, a chwedi ei rhyddhau oddi wrth ddamnedigaeth, yn gyfryw ar nid ydynt yn rhodio yn ôl y cnawd eithr yn ôl yr Yspryd, Rhuf. 8. 1. ac na ddylaem ni wneuthur rhag-ddarbod tros y cnawd er myn cyflowni ei chwantau ef: ac na ddylaem ni rodio mewn cyfeddach a meddwdod, mewn cydorwedd ac anlladrwydd, mewn cynnen a chenfigen. Rhuf. 13. 13. 14. Ond y rhaid i'n calonnau fôd lle byddo ein trysor, Mat. 6. 21. a'n hymarweddiad fôd yn y nefoedd, Phil. 3. 18, 19, 20. A thrwy fôd wedi ein cydgyfodi gydâ Christ, rhaid i ni geisio y pethau sydd uchod, a rhoddi ein [Page 187] serch arnynt, ac nid ar y pethau sydd ar y ddaiar. Col. 3. 1, 2. 3.
Hawyr, a ddywedwch chwi fôd dim o hyn yn opiniwn neulltuol o'r eiddom ni, neu yn achos o ddadl ac ammeu? Onid yw pob Cristion yn cyttuno yn hyn? Onid ydych chwi eich hunain yn proffesu eich bod yn ei gredu? Byddwch fyw gan hynny megis y rhai sy yn ei gredu, ac na fernwch mo honoch eich hunain yn y pethau yr ydych yn eu cyffessu.
Yr wyfi yn dywedyd i ti, os gwrthodi yn awr fyw yn ôl y Pyngciau hyn o wirionedd, a gydnabyddir yn gyffredinol, ni elli di bŷth ddywedyd o flaen yr Arglwydd, mai dadl dynion ynghylch Ceremoniau, neu Lywodraeth Eglwysig, neu Ddull yr addoliad oedd y pethau ath rwystrodd di: Eithr pob mâth, a phob Sect a fyddant yn dy erbyn, ac ath gondemnant di; Canys y maent oll yn cyttuno yn y pethau hyn. Y mae hyd yn oed y Sect fwyaf gwaedlyd, (sef y Papistiaid) yr hon sy yn carcharu, yn poenydio, ac yn llâdd eraill am eu hamrafaelion, mewn pethau llai, er hynny yn cyttuno â'r rheini y maent yn eu herlid a'u mwrddro, ynghylch y pethau hyn: Papistiaid a gyttynant ynddynt, a Phrotestaniaid a gyttunant ynddynt. Yr holl Sectau sy yn awr yn ymrafaelio yn ein plith ni, ac yn yr holl fŷd, a gyttunant yn hyn, y rhai a weddei gael eu galw yn Gristianogion. Y rhai hyn oll a fyddant barod i ddwyn tystiolaeth yn erbyn yr halogedig, yr anianawl, a diowgswrth [Page 188] esceuluswyr Duw a'u Jechydwriaeth, ac i ddywedyd, yr ydym ni oll yn proffesu, er ein hôll amrafaelion, fôd yr holl bethau hyn yn wirioneddau siccr, ac y dylei fucheddau dynion gael eu trefnu yn eu hôl hwynt.
Eithr os chwi er hyn ei gŷd a gymmerwch escus oddiwrth ein ymrafaelion i guddio eich drygioni, a'ch annuwioldeb, mi a âf rhagof, ac a fanegaf i chwi, mai pethau yn y Matter yn gystal ac yn y Prifbyngciau, ar yr ydym ni bawb oll yn cyttuno ynddynt, yr wyfi yn eich galw attynt, ac y mae'r annuwiol yn ei gwrthod. Myfi au henwafhwynt ar fyr.
1. Un rhan o'ch gwaith, yr hwn y cymhellwn chwi iw wneuthur â'ch holl egni, yw mynych ystyried yn ddifrifol a sobr yr holl wirioneddau hyn a grybwyllwyd am danynt o'r blaen, y rhai (meddwch chwi) yr ydych yn eu credu. A ydyw ynteu ddynion rhesymmol yn ammeu, a ddylaent hwy wneuthur defnydd o'i rheswm? neu a yw dynion credadwy yn ammeu, a ddylaent hwy ystyried a gosod at eu calon Bwys a defnydd y pethau a gredant?
2. Rhan arall o'ch gwaith, yw caru Duw â'ch holl galon a'ch nerth; ai wneuthur ef yn hyfrydwch i chwi, a cheisio yn gyntaf ei deyrnas ef a'i chyfiawnder; ac i roddi eich serch ar y pethau uchod, ac i fyw ar y ddaiar fel etifeddion y nefoedd: ac a oes dim Dadl ynghylch hyn ym mysc Protestaniaid, Papistiaid na nêb arall?
[Page 189]3. Rhan arall o'ch gwaith, yw edrych am anrhydeddu Duw yn y bŷd, a derchafu ei Deyrnas a'i Lywodraeth ef ynoch eich hunain ac yn eraill, a gwneuthur ei ewyllys, ac ufyddhau iw gyfreithiau; A oes chwaith yn hyn ddim Dadl?
4. Rhan arall o'ch gwaith yw marweiddio y cnawd, ac ymwrthod â'i ddychymmygion, a'i ddymuniadiau, a'i drachwantau, y rhai sy yn gwrthwynebu vfudd-dod i Dduw; a bwrw ymmaith anllywodraethus Gariad a gofal am bethau bydol; a gwrthod Cynghorion, ac Eirchion, ewyllys, hudoliaeth, ac annogaethau dynion, y rhai sy yn groes i Orchymynion ac Ewyllys Duw: Ac i ymwrthod â chwbl oll ar a feddoch yn y bŷd yn hyttrach nag yr ymwrthodoch â'ch anwyl Brynnwr, ac y perygloch eich Jechydwriaeth, drwy un pechod gwirfôdd: I godi eich Croes a dilyn Christ drwy fywyd o ddioddefaint i ogoniant; mi a wn fod digon o anhawsder yn hyn, ac y sorra 'r cnawd wrth hyn, ac ai ffieiddia: Eithr a oes dim dadl ynghylch hyn ym mysc y gwir ffyddloniaid? Onid yw hyn oll yn eglur Orchymmyn Duw, ac yn angenrheidiol i Iechydwriaeth?
5. Rhan arall o'ch gwaith yw gochelyd temptasiwnau, a ffoi rhag achlysur a rhith drygioni, ac nid yn unig gochelyd yr hyn sy'n ddiŵyrgyrch yn ddrwg o hono ei hun, ond hefyd yr hyn a'ch tynnei i ddrwg (cyn belled ac y gallech) ac i ymgadw bella y galloch oddiwrth geulan Uffern ac enbydrwydd, a [Page 190] bod heb ymgyfeillachu â gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch, na bod yn gymdeith [...] gar â hwynt; eithr eu hargyoeddi hwynt [...] galaru dros aflan ac annuwiol weithredoed [...] y bŷd ai ymarweddiad: Hyn yw'r peth y [...] ydym ni yn ei erfyn arnoch, A oes ynteu ddi [...] achos o Ddadl yn hyn oll?
6. Rhan arall o'r gwaith yr ydym yn eic [...] galw chwi iddo, yw prynu yr ychydig amse [...] hwn, a appwyntiwyd i chwi; i wneuthur y goreu o hono, ai arfer fwyaf y galloch i ddwy [...] eich Jechydwriaeth ym mlaen; i golli dim hono mewn pethau amrhoffidiol; iw dreulio ef yn y gorchwylion hynny a baro i chw [...] gyssur pan ddarfyddo 'r amser. Os byd [...] mwy cyssurus i chwi ddydd y farn, ddarfo [...] i chwi dreulio eich amser mewn chwareuon a difyrrwch, a seguryd, a bydol ofalon, a phlesserau, nag yn gwasaneuthu Duw ac ymbara toi erbyn bŷd arall; Yna ewch rhagoch, gwnewch felly, hyd y diwedd. Eithr oni bŷdd yna gwnewch yr hyn a fynnech glywed sôn a [...] dano, gan fod yn rhaid i chwi glywed sôn a [...] dano ef. Na threuliwch ddim o'ch Amse [...] mewn seguryd a phethau anffrwythlon, tan n [...] byddoch heb bethau gwell ac angenrheittiac [...] iw dreulio ef ynddynt, a than na byddo gennych amser iw hepcor oddiwrth waith mw [...] pwysfawr. Hyn a ddymunem arnoch, n [...] cholloch chwi ûn awr o'ch Amser gwerthfawr, ond ei dreulio megis rhai a gollasan [...] ormod, a heb ganthynt ond ychydig ychwaneg iw dreulio yn paratoi erbyn tragywyddoldeb. [Page 191] A ydyw hwn ddeisyfiad Schismaticiaidd neu Derfyfgaidd? A oes dim Pettrus, na dim y dichon un Christion lefaru yn ei erbyn mewn dim o hyn?
7. Rhan arall o'ch gwaith, yw chwilio yr Yscrythur megis yr hon sy yn cynnwys ynddi gyfarwyddyd i chwi i fywyd tragywyddol, Joa. 5. 39. I garu Gair Duw yn fwy nâ miloedd o aur ac arian, ac iw hoffi yn fwy nâ'ch ymborth angenrheidiol, Psal. 119. 72. Job 23. 12. Ac i fyfyrio ynddo ddydd a nôs, megis yr hyn sydd hoff a difyr gennych Psal. 1. 2. Ac megis yr hyn a ddichon eich gwneuthur chwi yn ddoeth i Jechydwriaeth. 2. Tim. 3. 15. A'ch cwbl adeiladu, a rhoddi i chwi etifeddiaeth ym-mhlith y rhai a sancteiddiwyd, Act. 20. 32▪ A rhoddi o honoch Air Duw yn eich calonnau, a'i ddysgu yn ddiwyd i'ch plant, a chrybwyll am dano pan eisteddoch yn eich tai, a phan rodioch ar y ffordd, pan gorweddoch hefyd, a phan godoch. Deut. 6. 6. a'r, 11. 18. 19. Fel y galloch chwi a'ch teuluoedd wasaneuthu yr Arglwydd. Jos. 24. 15. Hwn yw'r gwaith yr ydym yn eich galw iddo: A oes gan hynny ddim y dichon Christion yn hyn oll wneuthur dadl yn ei gylch? A oes dim yn hyn nad yw Protestaniaid yn cyttuno ynddo?
8. Rhan arall o'ch gwaith yw, ar i chwi osod cadwraeth ar eich tafodau, ac na chymmeroch enw Duw yn ofer, ac na lefaroch gabledd na gogan yn erbyn eich brodyr, ac na ddeled un ymadrodd llygredig allan o'ch geneuau, ond [Page 124] y cyfryw un ac a fyddo da i adeiladu, yn fuddiol, fel y paro râs ir gwrandawyr. Ephes 4. 29. eithr godineb, aflendid, a chybydddod, na henwer chwaith yn eich plith, megi [...] y gweddei i Sainct, na serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choeg ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus, eithr yn hyttrach rhoddi diolc [...] Ephes. 5. 3, 4. A oes gan hynny ddim petrusder neu ddadl yn hyn?
9. Rhan arall o'r gwaith yr ydym i'ch perswadio iddo, yw gweddio yn wastadol 1 Thes 5. 17. Ac heb ddeffygio, Luc. 18. 1. bod yn wresog ac yn daer ar Dduw, megis rhai yn gwybod faint yw eu heisiau, Luc. 18. 6, 7 [...] Jac. 5, 16. ar i chwi weddio a phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Yspryd, Eph. 6. 1 [...] Ac ym mhob peth mewn gweddi ac ymbi [...] gwneuthur eich deisyfiadau yn hyspys gerbron Duw, Phil. 4. 6. Weddio o honoch dros frenhinoedd, a phawb sydd mewn Goruwchafiaeth, fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol mewn pob Duwioldeb ac honestrwydd, 1 Tim. 2. 12, A oes dim yn hyn oll y dichon un Cristion ei wadu?
10. Yn olaf, y gwaith yr ydym ni yn eich galw iddo, yw caru eich Cymmydogion fel chwi eich hunain, ac i wneuthur i eraill megis ac y mynnech iddynt hwythau [mewn barn bwyllig] wneuthur i chwithau. Bod heb wawdio, gwatwar, blino, carcharu, difenwi na drygu neb, hyd oni fynnech gael eich trin eich hunain felly ar y cyffelyb achos. Llawenychu ym mûdd â braint eraill yn gystal [Page 193] ar eiddoch eich hunain. Bod heb genfigennu wrth nêb, na chasau undyn, na gwneuthur cam â neb yn eu personau, eu ystât, neu eu henw da: Amddiffyn diweirdeb, parch, a golud eich cymmydog, megis yr eiddoch eich hunain. Caru eich gelynion, a maddeu ir sawl a wnelont gam a chwi, a gweddio dros y rhai a'ch casant, a'ch drygant, ac a'ch erlidiant. Dymma eich gwaith. A oes gan hynny ddim terfysg, Schism, neu ddadl yn hyn? nac oes ddim; chwi a gewch wybod ar fyrder, nad oedd ymrafaelion a dadleuon ffyddloniaid, a'r aml opinionau ynghylch Crefydd, ond esgus truan rhagrithiol, am esceuluso a dirmygu Sylwedd Crefydd, ynghylch yr hyn nid oedd dim amrafael, ond pob rhyw blaid oeddynt yn cyttuno yn Cyffessu 'r Gwirionedd, pa wedd bynnag y byddei Ragrithwyr heb fyw yn ôl yr hyn yr oeddynt hwy eu hunain yn ei broffessu.
Eithr nid hwyrach y dywedwch fod etto y Cyfryw wahaniaeth yn y Môdd, ym mysg y rhai sy yn cyttuno yn y Prif-byngciau a'r Defnydd, nas gwyddoch chwi pa ffordd y mae addoli Duw?
Mi a attebaf, 1. A ydych chwi yn ymarfer fel y rhagddywedwyd, yn ôl y Prifbyngciau a'r Defnydd y cyttunir ynddynt, ai nid ydych? Onid ydych, nid yw ond gorthrwm ragrith i chwi gymmeryd anghydfod yn y Modd, megis escus am eich gwaith yn dirmygu neu yn esceuluso y Defnydd, yn yr hwn [Page 194] y cyttuna pawb. Ysywaeth eich teuluoedd a gant fod heb weddi ynddynt, a chwithau a wnewch wawd o Weddi ddifrifol, am fod rhai yn gweddio ar lyfr, a rhai hebddo: a'r rhai sydd ddoethaf, a dybiant fod y naill ffordd a'r llall yn gyfreithlon. A dwyllir Duw â'r cyfryw ymresymmiadau gwirion-ffôl â'r rhai'n?
2. Eithr ni chuddia hyn mo noethni eich Annuwioldeb. A wnewch chwi hefyd cymmaint, a myned yn y môdd o'ch ufydd-dod cyn belled, ac y mae yr holl Gristianogion yn cytuno ynddo; mi a adroddaf gan hynny ar fyr eiriau i chwi ychydig draethiadau neulltuol.
1. Rhaid yw gwneuthur gwaith Duw mewn Parch, yn ei ofn ef: nid megis cyffredinol orchwylion Dynion, â chyffredinol a diofal dymmer meddwl: fe a fyn Duw ei Sancteiddio gan y rhai a nesant atto. Lev. 10. 3. efe a fyn ei wasaneuthu megis Duw, ac nid megis dŷn: ni fyn ef mor gweddio arno a meddwl diofal, fal y gwnâ y rhai a fedrant wahann eu tafodau oddiwrth eu calonnau, ac adrodd rhyw eiriau cyffredinol drostynt, tra bythont hwy yn meddwl am ryw beth arall. Peth dychrynnadwy yw i lwch lefaru wrth Dduw hollalluog: a pheth peryglus yw llefaru wrtho ef mor ysgoywan a diofal, a phettym ni yn ymddiddan ag un o'n Cymdeithion. Fe ddyle ddyn grassol fôd â mwy o ofn Duw ar ei galon, yn ei orchwylion cyffredinol yn y byd, nag y sydd gan Ragrithwyr yn eu gweddiau mwyaf Pwysfawr. A wyddost di y gwahaniaeth sydd rhwng Duw a [Page 195] Dŷn? Gwnâ gan hynny y Cyfryw ragor rhwng Duw a dŷn yn dy ymgais atto, ac y mae ei fawrhydi ef yn ei ofyn. Ac edrych hefyd am ith Deulŷ drefnu eu hunain mewn ymddygiad parchedic, pan gydymgyssylltont â thi yn Addoli Duw. Beth sydd gennych yn awr iw ddywedyd yn erbyn yr Y mddygiad parchedic hwn? A oes dim yn hyn a dadl yn ei gylch?
2. Mae 'n angenrheidiol i chwi fôd yn ddifrifol a Sobr, yn yr holl wasanaeth a gyflownwch i Dduw. Na wnewch ef yn ysgafn ac a hanner calon! Byddwch wresoccach a difrifach yn ceisio Duw a'ch lechydwriaeth o gymmaint arall, nag yr ydych wrth geisio dim pethau bydol; o gymmaint ac y mae Duw a'ch Iechydwriaeth yn well nâ dim yn y bŷd. Neu os bydd hynny tu hwnt i'ch arfod (er bôd, pe amgen, reswm am hynny) o'r lleiaf caffed y pethau mwyaf yr awdurdod mwyaf ar eich calonnau. Ni ellwch chwi weddio yn daerach am y nefoedd nag y mae y nefoedd yn ei haeddu. O gadewch, i odidowgrwydd a mawredd eich Gwaith ymddangos, yn yr agwedd ddifrifol o'i gyflowniad ef. Yr wyfi yn gobeithio, na ellwch chwi ddywedyd fod hyn yn bwngc yn y bŷd iw gwestiwnu, oddieithr bod yn Gwestiwn, pa un a ddylei ddŷn ai bôd yn Rhagrithiwr, ynteu bôd yn ddifrifol yn y Grefydd y mae ef yn ei phroffesu.
3. Mae 'n angenrheidiol bod eich gwasanaeth i Dduw yn ddeallus. Psal. 47. 7. 1 Cor. 14. 15. Nid yw Duw yn ymhyfrydu yn Nall [Page 196] addoliad dynion nis gwyddont beth y maent yn ei wneuthur. Gweddiau ar nis dealler nid ydynt weddiau mewn gwirionedd: am nad yw dymuniadau nêb yn myned ddim pellach na'i wybodaeth. Ac nid yw hwnnw yn adrodd ei ddymuniadau yr hwn nis gŵyr beth y mae ef ei hun yn ei adrodd. Ac ni all efe ddisgwyl Cydsynniaeth deisyfiadau ûn arall, yr hwn sy yn llefaru yr hyn nid yw arall yn ei ddeall. Y Gair ni ddealler ni ddichon ddescyn ir Galon a'i Sancteiddio hi. Ac oni ddeallir ef yn dda ac yn gwbl, mae'n hawdd ei ledratta ef gan y Temptiwr, Mat▪ 13. 19, 23. Os yw Dealldwriaeth yn angenrheidiol yn ein Hymarweddiad cyffredinol, mwy o lawer yn ein Sanctaidd Ymgais at yr Hollalluog. Dih. 17. 27. Gwr pwyllog sydd ymarhous [neu odidawg,] ei Yspryd: Ond nid oes gan Dduw flâs ar rai ynfyd nac ar eu hebyrth, Preg. 5. 1. 4. Nid oes chwaith flâs ganddo ar wefus wasanaeth ail ir Parot yr hwn ni ddeallir. Efe a ddywaid o ffieidd-dra ar Ragrithwyr, Nesau y mae y bobl hyn attaf a'i genau, a'm anrhydeddu a'i gwefusau, a'u calon Sydd bell oddiwrthif, Mat. 15. 8, 9▪ Gobeithio gan hynny pan ydym ni yn eich galw i wasaneuthu Duw mewn Barn a phwyll▪ nad ydym yn eich galw i ddim y dylei Gristion ei ammeu.
4. Yspryd yw Duw, a rhaid ir rhai a'i baddolant ef, addoli mewn yspryd a Gwirionedd, y cyfryw y mae y tâd yn eu ceisio iw addoli, Jo. 4. 23. 24. Y mae efe yn galw am y galon: [Page 197] mae efe yn edrych am ddymuniadau yr enaid oddifewn: mae efe yn ymdrin â meddyliau wedi eu didoli oddiwrth wagedd, ac oddifri yn ymosod i ddisgwyl wrth o ef, ac ydynt yn ddyfal ar y gwaith y bônt yn ei wneuthur. Mae Celain gweddi, wedi ei gwahanu oddiwrth ei bywyd, yn drewi o flaen y Sanctaidd Dduw. Megis ac y myn efe ei garu, felly y myn efe ei wasaneuthu, â'r holl galon, enaid, a nerth. A ydym ni gan hynny yn eich galw i ddim ar sydd ammheus, pan ydym yn eich galw i addoli Duw yn Ysprydol?
5. Er hyn yr ydym ni yn dal fod ir Corph ynteu ei ran yngwasanaeth Duw yn gystadl ac ir enaid, a rhaid ir Corph ddangos allan Barch a Defosiwn yr Enaid oddifewn; er nad yw hynny i fod mewn ffordd o ymddangosiad rhagrithiol, ond: mewn ffordd o addoliad difrifol. Plygu 'r glîn, bod yn bennoeth, ac ymddygiad parchedig, a pha beth bynnag y wnaeth naturiaeth ac arfer gyffredin, a Sanctaidd ordinhâd yn argoel o Sanctaidd Serchiadau, a'n hymddwyn ein hunain yn weddus ac yn bwyllog, a ddylei gael ei gynnal yn ofa▪ lus gar bron y Goruchaf: a Chysegr-lân bethau Duw a ddylaent gael cyfrif mwy parchedig, nag a gaffo presennoldeb neb rhyw ddŷn Marwol: A hyn yn hyttrach gan fôd mâth ar ymddygiad pwyllog, parchedig, a sanctaidd yn Addoliad Duw, yn gweithio ar y galon, ac yn ein cymmorth ni yn ein hysprydol ddefosiwn oddifewn; ac y mae yn cymmorth y rhai a edrychant arnom, ac ynteu [Page 198] deffro i feddwl yn barchedig am Dduw, a phethau Sanctaidd; yr hwn a ddiffoddid gan ddiofal a chyffredin ddull ar ymddygiad. Ac nid yw ddim ammarch i ymddygiad parchedig fod Rhagrithwŷr yn ei arfer, eithr yn hyttrac [...] yn barch iddo; Canys rhyw beth ar sy y [...] dda y mae Rhagrithiwr yn ei arfer, er mwy [...] gorchguddio ei orwegi neu ei ddrygion dirgel. Pe na bae ddim da mewn ymddygiad parchedig gar bron Duw, ni wasanaethei e [...] mor trô ir Rhagrithiwr. Megis y mae ' [...] glôd i hir-weddi, fod y Phariseaid yn gwneuthur lliw o honi i ddifa tai gwragedd gweddwon: A'r rhai a alwant yn rhagrithwyr [...] rhai ydynt yn faith mewn gorchwylion ac Ymadroddion Sanctaidd, a ddylent ystyriaid oni bae fôd gorchwylion ac ymadroddio [...] sanctaidd yn dda, na byddent hwy gymmwy [...] o ran diben y Rhagrithiwr. Ni bydd Drw [...] yn gymmwys o gochl ir drwg. Yr hyn [...] mae Rhagrithiwr yn ei dybiaid yn angenrheidiol i guddio ei bechod, mae 'n rhaid i ni e [...] dybiaid yn fwy angenrheidiol i feddyginiaethau ein pechod ac achub ein eneidiau; Y ffordd i ochel rhagrith nid yw trwy redeg [...] annuwioldeb a halogedigaeth. Rhaid i n [...] wneuthur mwy nâ Rhagrithwyr, ac nid llai onide, hwy a gyfodant in herbyn yn y farn ac a'n condem [...]ant, os gwnaent hwy fwy [...] ran ymddangos yn dda, nag a wnaem ni o ran bod yn dda, a rhyngu bodd ein Gwneuthurwr: Ac felly ein condemnir gan Pharisaead [Page 199] os gweddia fo yn hwy, i roi lliw têg ar ei orthrymder, nag a wnawn ni i gyrraedd Iechydwriaeth. Anaf Rhagrith yw, bod yr enaid o grefydd yn ôl tra bo'r Corph yn bresennol: A fwriwch chwi ymaith yr enaid a'r Corph, y rhan o'r tu fewn a'r rhan o'r tu allan o grefydd, er mwyn gwrthwynebu Rhagrith? Os ymddengys eraill ei bôd yn caru Duw pan nad ydynt, ai ni wnewch chwi gan hynny cymmaint ac ymddangos i wneuthur hynny? felly ymma ynghylch Parch yngwasanaeth Duw: Ni ddylei y Rhagrithiwr gael rhagori ar y Diragrith mewn dim ar sydd wir dda. Hwn yw'r Môdd ar wasanaeth Duw yr ydym yn eich perswadio iddo, ac nid i neb rhyw fôdd arall. A oes yn hyn ddim achos o ym▪ ryson? Gwnewch fwy cyfrif o'r rhan Ysprydol, a cheisiwch wybod ystr a meddwl y scrythur hyn [Trugaredd a ewyllyssiaf ac nid aberth] fal drwy hynny na farnoch y gwirion, ac ni chewch chwi fyth ddywedyd, y byddwn ni ammharottach nâ chwitheu i weddeidd▪ dra, ac ymddygiad parchedig yngwasanaeth Duw.
6. Duw a fyn ei wasanaethu mewn Purdeb a sancteiddrwydd, â chalonnau ac â dwylaw glân, ac nid a'r cyfryw ar sy yn aros yn aflan gan euogrwydd vn pechod gwirfôdd. Mae efe yn ffieiddio aberth yr annuwiol a'r anufydd. Y neb a drŷ ei glust ymmaith rhag gwrando 'r gyfraith, fydd ffiaidd ei weddi hefyd, Dih. 28. 9. a'r 15. 8. a'r 21. 27. Esay 1. 13. Preg. 5. 1, 2, 3, 4. [Beth yw lluosogrwydd [Page 200] eich aberthau i mi? medd yr Arglwydd (wrth orthrymwyr annuwiol) Esay 1. 11. Pan ddeloch i ymddangos gar fy mron, pwy a ofynnodd y pethau hyn oddi ar eich llaw▪ sef sengi fy nghynteddau? Na chwanegwch ddwyn offrwm ofer; arogldarth sydd ffiaidd gennif: Ni allaf oddef y newydd-loerau, na'r Sabbothau, cyhoeddi cymanfa; anwiredd ydyw, sef yr uchel wyl gyfarfod, &c. 12, 13. A phan estynnoch eich dwylo, mi a guddiaf fy llygaid rhagoch; hefyd pan weddioch lawer ni wrandawaf; eich dwylo sydd lawn o waed: Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymmaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid, peidiwch a gwneuthur drwg, Dyscwch wneuthur daioni, ceisiwch farn, gwnewch uniondeb i'r gorthrymmedic, gwnewch farn i'r ymddifad, dadleuwch dros y weddw, Deuwch yn awr ac ymresymmwn, medd yr Arglwydd.]
Chwareu 'r Glwth, neu 'r Meddwyn, neu 'r ffiaidd Odinebwr liw dydd, ac yna dyfod at Dduw yn yr hwyr-nôs, fel ped fai i wneuthur iddo iawn drwy weddi ragrithiol; Cablu enw Duw, a gwrthwynebu ei Deyrnas ai Lywodraeth ynoch eich hunain ac eraill, a gwneuthur eich Ewyllys eich hunain, a chasau a gwatwar y sawl a wnânt ei ewyllys ef, ac a astudiant ei ewyllys fal y gallont ei wneuthur; ac yna gwdedio [ar gael o enw Duw ei sancteiddio, dyfod ei deyrnas, a gwneuthur ei ewyllys.] ammherchi Duw yw hyn, ac nid ei wasanaeuthu a rhyngu bôdd iddo. Byddwch [Page 201] fyw yn ôl eich gweddiau, a dangosed eich Bucheddau yn gystadl a'ch geiriau beth yr ydych yn ei ddymuno. Dyma wasanaeth Duw yr ydym yn eich galw iddo. A ellwch chwi ddywedyd fod dim achos o ymryson yn hyn oll? A oes neb rhyw rai o blaid yn y bŷd ym mysc Christianogion, na rhai Sobr Digrêd a feiddia ddywedyd yn ei erbyn?
7. Duw a fyn ei wasanaethu yn Gwbl-oll ac yn hollawl; yn ei holl orchymynion, ac â holl nerthoedd eich enaid, mewn gorchwylion o Dduwioldeb, Cyfiownder a Chariad, y rhai ni ddylaent bŷth gael moi gwahanu. Niwasanaetha i chwi wneuthur lliw o'ch Cariad yn erbyn dyledswyddau Duwioldeb; Am fôd Duw i gael y rhagorfraint yn eich Cyfrifiad, a'ch Cariad, a'ch gwasanaeth: Ac er ei fwyn ef y mae gwneuthur pob dim oll ar â wneir i Ddŷn. Ni wasanaetha i chwi osod ifynu ddyledswyddau Duwioldeb, yn erbyn dyledswyddau Cyfiownder, Caredigrwydd a Sobrwydd: Nid yw hynny wir Dduwioldeb, ar nas dygo allan y pethau hyn. Rhaid yw Caru Duw uwchlaw pawb, a'n cymmydog megis ni ein hunain; a'r ddau fâth hyn ar gariad ydynt ddiwahanol. Gwnewch-bob daioni ar a alloch i bawb tra caffoch odfa, yn enwedig ir rhai sydd o deulu'r ffydd, Gal. 6. 13. Y Daioni a fynnech chwi ei glywed yn nydd eich cyfrifion, Hynny gwnewch yn awr, yn brysur, yn ddiwyd ac yn bûr, yn ol eich gallu. Na ddywaid, Mi a allaf fy hun ddyfod i eisiau, eithr [Page 202] [Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd, canys ti ai cei yn ôl llawer o ddyddiau; dyro ran i saith, a hefyd i wyth; canys ni wyddost pa ddrwg a ddigwydd ar y ddaiar. Preg. 11. 1, 2.] ac oni ellir yn ebrwydd ddwyn y cwbl oddi arnat? ac yna y dymunit ddarfod it wneuthur daioni ag ef tra 'r ydoedd yn eiddot, ai roddi yn echwyn ir Arglwydd, ac ymddiried iddo ef am dy Weddill, yr hwn a ymddiriedodd i ti am ei fendithion; ac yna y dymunit wneuthur o honot i ti gyfeillion o'r Mammon anghyfiawn, fel y gallent pan ballei y cwbl dy dderbyn i'r tragywyddol bebyll. Na ddifera yr awron ac yn lleigus elusen prin a grwgnachus, fel ped fyddit yn golledwr oddiwrtho, ac yn rhaid i Dduw fôd yn rhwymedig i ti; eithr crêd mai 'r elw mwyaf sydd i ti dy hun, ac edrych am y cyfryw fargeinion, a gwna dda mor barod, a llawen, a syber neu hael ac un a fae'n disgwyl cyflawn wobr yn y nefoedd. Dyma ran o wasanaeth Duw yr ydym yn eich cynghori iddo, sef ymweled a Christ, ei gymmorth ai garu yn ei aelodau a'i frodyr (Mat 25.) a oes gan hynny ddim iw ammeu neu a dadl yn ei gylch yn hyn oll?
8. Ymhellach, fe fyn Duw ei wasaneuthu mewn Cariad, ewyllysgarwch, a hyfrydwch: Y gwaith mwyaf ynnillgar, anrhydeddusaf, bendigediccaf a hyfrydaf yn y bŷd yw hwn, yr hwn a ordeiniodd ef i chwi, ac nid tasg neu gaethwaith poenus: Ac am hynny nid i gwrs o fywyd Athrist, nychlyd, trallodus yr [Page 203] ydym ni yn eich perswadio, dan enw Duwioldeb; Ond i lawenychu yn yr Arglwydd, ac i fyw mewn llawen ddisgwyliad am fywyd tragywyddol, ac mewn teimlad a siccrwydd o Gariad Duw. Pe medrech chwi ddangos i ni ddim tebygoliaeth o fywyd hyfrydach a llawenach ar y ddaiar, nâ 'r hwn y mae difrifol Sancteiddrwydd yn ei gyfrannu, fe fyddei dda gan fy 'nghalon wrando arnoch. Yr wyfi yn barod i fynegi i chwi beth yw Sail ein Cyssurau, y mae ffydd yn ei datguddio, os dewch ac ymresymmu 'r peth mewn Sobrwydd, a dangos Defnydd a Sail eich cyssurau chwithau, y rhai sydd gennych, neu yr ydych yn gobeithio ei gael mewn ffordd arall yn y byd: Os bydd eich llawenydd chwi yn fwy, a gwell, a Siccrach nâ llawenydd ffydd, ni a wrandawn arnoch, ac a fyddwn och meddwl a'ch plaid chwi.
Matter llawenydd y credadyn ydyw, bôd ei holl bechodau wedi eu pardynu; fôd Duw wedi cymmodi âg ef yn Ghrist; fod ganddo ef addewid Duw y cydweithia pob peth, ie y dioddefiadau mwyaf, er daioni iddo ef; ei fôd ef yn wastadol ynghariad, ymgeledd a Dwylo Duw; fod iddo gennad i nesau atto ef mewn gweddi sanctaidd, ac i agoryd ei galon wrtho ef yn ei holl gyfyngderau a'i ddiffygion; Y geill ef ymgyssuro yn ei foliant a'i ddiolchgarwch, ac mewn rhannau eraill o'i addoliad Sanctaidd; Y geill ef ddarllein a gwrando ei Sanctaidd [Page 204] Air ef, yr hwn Air sydd siccr eglurhad o ewyllys Duw, a datguddiad o'r pethau ni welir, ac Yscrifen ei Etifeddiaeth ef; y dichon ef gynnefino ei enaid a difrifol feddylio yn gredadwy am Gariad Duw, a ddatguddiwyd yn rhyseddol waith ein Prynedigaeth, ac am berson, a swydd, a grâs Jesu Grist ein Iachawdwr; ac y dichon ef garu y Duw yr hwn a'i creodd ef mor rhyfeddol: fod ganddo ef Yspryd Duw i fywiogi ei enaid, a'i osod ar waith, i gyflowni ei ddiffygion ysprydol, a llâdd ei bechodau, ai gymmorth i Gredu, i Garu, i Lawenhau, a Gweddio: fod yr Yspryd ymma yn sêl Duw arno ef, ac yn ernes o fywyd tragywyddol; Na lâdd Angeu moi obaith ei, na dibennu ei ddedwyddwch, ond bod ei Ddedwyddwch a'i lawenydd cyflownaf yn dechreu, pan yw eiddo y rhai bydol yn darfod, a'u didrangc drueni yn dechreu; ei fôd ef wedi ei waredu oddiwrth boen dragywyddol drwy brynedigaeth▪ Crist, a Sancteiddiad yr Yspryd; Y bydd Angelion ar ei ymadawiad yn cynhebrwng ei enaid ef i bresennoldeb ei dâd; Y caiff ef sod gydâ 'i Brynwr gogoneddus, ac edrych ar ei Ogoniant ef y cyfodir ei gorph i fywyd tragywyddol; y cyfiawnheir ef trwy Grist oddiwrth holl achwynion y Cythrael, a holl gabl-eiriau y byd ystrywgar; y caiff ef fyw gydâ Duw mewn didrangc Ogoniant, a gweled a mwynhau gogo niant ei Greawdwr, ac na flinir ef byth mwyach gan elynion gan bechod neu drymde [...] [Page 205] ond y caiff ef ymlhith ei Saint ef, yn berffaith, a chwbl lawen garu ei Arglwyd yn▪ dragywydd.
Y pethau hyn▪ ydynt ddefnydd llawenydd Credadyn. Y rhai hyn a bwrcaswyd drwy Grist, a ddatguddiwyd yn ei Air, a seliwyd drwy ei wrthiau ef, ei Waed ei Sacramentau, a'i Yspryd, yw ein Cyssur ni. Hon yw'r Grefydd, a hwn yw'r Llafur, i'r hwn i'th gwahoddwn; Nid i anobaith, nac i goeg drafferth anfuddiol, nac i hunain-drallodus, ofidus, druenus drymder; nac i gostus aberthau, neu segur Ceremoniau, neu anrhesymmol wasanaeth, y cyfryw ac a offrymmei y Cenhedloedd iw Heulunod; nid i fwrw ymmaith bob difyrrwch, ac i droi yn anghyfeillgar, anhynaws, a surllyd; ond ir llawenydd mwyaf y mae 'r bŷd yn ei ganhiadu, ac y mae nattur yma yn ei amgyffred, ac y dichon rheswm ei ddirnad a'i berchennogi: I ddechreu gwir lawen gefeillgar fywyd: I gael rhag flâs o'r didrangc lawenydd, a dechreuad bywyd tragywyddol: I ffoi rhag ofn a gofid, wrth ffoi oddiwrth bechod ac Uffern, ac oddiwrth Yssol ddigofaint Duw. Hwn yw'r llafur, a hon yw'r Grefydd y mynnem i chwi ei dilyn â'ch holl Egni.
Os oes gennych bethau gwell iw ceisio, a'u canlyn, a'u cael, gedwch i ni eu gweled, fel y gallom fod cyn ddoethed a chwithau. Onid oes, er mwyn eich eneidiau, na ddewiswch oferedd, [Page 206] yr hwn a'ch twylla yn nydd eich anghenrhaid.
Eithr ni ddylaech chwi feddwl peri i ni goelio, fôd tŷ mawr, neu farch, neu Buttain, neu wlêdd, neu wenheithwr, neu wisgoedd gwychion, neu deganau babanaidd, neu frynti anifeiliaidd yn bethau mwy cyssurus nâ Christ, a bywyd tragywyddol; neu fôd yn felusach ac yn well caru puttain, neu diroedd, neu arian, nâ charu Duw, a Gras a Gogoniant; na bod dim, nid elo gydâ chwi ddim pellach nâ'r bêdd, yn gystadl a'r hyn a bery i Dragywyddoldeb; na bôd un pleser ar sydd gan gi neu fochyn, yn ogufuwch â difyrrwch Angelion Nêf. Os mynnech i ni fôd o'ch meddwl chwi, ni ddylaech chwi fod o'r meddwl hwn, na'n perswadio ir cyfryw bethau erchyll a'r rhai'n. Eithr nyni ydym yn proffesu wrthych chwi a'r holl fŷd, nad ydym ni felly yn hoffi Trymder a Thostrwydd, nac felly chwaith wedi syrthio allan â llawenydd a hyfrydwch, fal y dewisom fywyd o resynol brudd▪ der, neu y gwrthodom fywyd o wir hyfrydwch. Pe medrem ni glywed gan neb, na chael allan drwy ddyfal chwilio, fôd hyfrydwch mwy cyflawn, a pheraidd, a rhesymmol, a bodlongar, a pharhaus, iw gael ffordd arall yn y byd, ond yn y ffordd honno o ffydd a Sancteiddrwydd difrifol, yr hon a ddatguddiodd Christ i ni yn yr Scrythur, tebygol yw yr ymwrandawem ar ei hôl.
Eithr a ddichon y byd gwallgofus anianawl goelio, mai melusach a dedwyddach yw ymhoywi [Page 207] mewn gwychder, a digrifwch cnawdol, a chyndderiogi yn erbyn y duwiol dros ennyd, hyd oni chymmero dialedd Duw afel arnynt, a thalu iddynt eu gwobr, nâ byw ynghariad Duw, a disgwyl yn amyneddol am gyflawniad o addewid Duw o lawenydd tragywyddol? Och pa ryw beth yw gwŷn gnawdol a dyre neu ddrygchwant cynddeiriog, a dall anghredinaeth! Yr Arglwydd a drugarhao wrth bechaduriaid Siommedig: Gwaith y Cythrael yw ceisio troi'r byd yn Bedlam, neu Le i rai gwall-gofus: ac ysywaeth, mor rhyfedd y ffynnodd ganddo! fal y medr cynnifer o ddynion gymmeryd eu trueni mwyaf yn happusrwydd iddynt, a'r unig happusrwydd yn fywyd anrhaith ei oddef! Je, a bôd yn ddig wrth bawb nad yw o'u meddwl hwynt, ac na wnelont cymmaint cyfrif o frynti a ffoledd, a chyn lleied cyfrif o Dduw a Gogoniant ac a wnânt hwythau! Megis y Pendefig yr hwn oedd yn Lloerig, neu yn Ynfyd ar amserau, a pha brŷd bynnag y byddei allan o'i hwyl, efe a dynge [...] fod pawb ni ddywedent, fel y dywedei yntef, wedi ynfydu, ac a barei hebrwng ei holl weision ni wnaent ar ei ôl ef, i Bedlam, ac yno yr oedd yn rhaid iddynt aros megis rhai ammhwyllog, hyd oni ddelei eu Harglwydd iw bwyll drachefn allan o'i Ammwyll▪ Felly y trinir ac y crybwyllir am weision Duw yn y bŷd, megis pe baent allan o'u hwyl, cyhyd ac y bo'r bŷd heb ei iachau o'i Anhwyl. Fel y mae'r Gŵr, felly y mae ei farn, [Page 208] ac felly y mae ei flâs ai ddymuniad, ai ddifyrrwch: Pan oeddwn blentyn, yr oedd yn llawer mwy fy chwant i lenwi fy mlwch a phinne, nag yw efe yn awr i lenwi fy mhwrs, ac ai cyfrifwn yn fwy trysor, a chennif fwy difyrrwch a bodlonrwydd ynddo. Ac och ni, nyni a allwn gofio er pan oeddem ni yn ddieithriaid i flâs pethau nefol, gael o honom fwy difyrrwch yn yr hyn y mae arnom yr awr hon gwilydd oi blegyd, nag a gowsom ni yn y pethau goruchaf a godidowccaf. Am hynny tosturiwn a gweddiwn dros y rhai sydd glaf o'r unrhyw glefyd.
Mi a fu'm yn hwy ar hyn nag yr oeddwn yn tybied y buasswn, o herwydd bod dynion yn tybied ein bod ni yn eu galw hwynt oddi wrth bob Gorfoledd a Llawenydd, a difyrrwch, at fuchedd surllyd, drwmbluog, bruddaidd, pan alwom arnynt i ddifrifol ddiwydrwydd am eu hiechydwriaeth. Megis ped fai Y sgafnder a ffoledd yn unig gyfeillion i Ddifyrrwch, ai fôd yn unig iw gael mewn pethau mabanaidd, difudd, darfodedig: Ac megis pe na bae y Dedwyddwch mwyaf a thragwyddol, yn ddim o ddefnydd gwir Hyfrydwch, ac megis pe na byddei difrifwch a diwydrwydd ym matterion ein iechydwriaeth yn gyfeillion i lawenydd.
9. Ym mhellach, tu ac at y Môdd, Duw a fynn ei wasanaethu drwy'n llwyr roddi ein hunain iddo ef, yn ddilyssiant, ddiderfyn, a diarbed; nid â gweddillion y cnawd, na than Ammod na byddo i chwi oddef wrth eich Crefydd [Page 209] na bod yn dlodion, neu yn cael dirmyg neu ammarch gan y bŷd: Ond trwy ymwadu a chwi eich hunain, rhaid i chwi fwrw i lawr holl berthynas y cnawd wrth ei draed ef; rhaid i chwi gyfodi eich Croes, a dilyn Crist yn diòddef i ogoniant. Rhaid i chwi ei wasaneuthu ef megis y rhai sy yn hollawl yn eiddo ef, ac nid yn eiddoch eich hunain, ac heb ddim gennych ond yr Eiddo ef, ac am hynny heb ddim iw lysu, nai gelcu, na'i gadw oddi wrtho ef, ond ymfodloni i fod eich hunain a chwbl o'r eiddoch yn ei ddwylo ef, ac i fôd yn gadwedig drwyddo ef os byddwch byth yn gadwedig. Mi a wn fôd yr ammodau nyn yn ymddangos yn galedion i gig a gwaed, (ac a ddylei 'r Nefoedd fôd yn Goron a gwobr i'r sawl nid aethant erioed dan brofedigaeth yn y bŷd yn ei hachos hi?) ond nid oes dim ymma ar nad yw allan o ddadl, a phob Cristion yn cyfaddei ei fôd yn Air Crist.
10. Yn olaf, fe fyn Duw ei wasanaethu yn llwyrfryd ac yn ddianwadal: Os mynnwch Deyrnasu, rhaid i chwi Orchfygu a pharhau hyd y diwedd. Rhaid i chwi ddisgwyl Gwrthwyneb, a'i orchfygu, oni fynnech chwi gael eich gorchfygu. Nid dechreuadau da a wasanaetha'r tro, oni pharhewch chwi, ac ymdrechu hardd-dêg ymdrech y ffydd, a gorphen eich gyrfa, a disgwyl yn oddefgar hyd y fiûn ddiwaethaf, am Goron Cyfiownder, yr hon a ddyru y Barnwr cyfiawn ir Cwncwerwŷr, pan ddywedo'r byd anghredadwy am ei holl ddifyrrwch a'u gobaith [fe aeth ymmaith [Page 210] ac a ddarfu, ni chawn ni byth ond hynny nai weled na'i brofi] ond rhaid i ni yn aw [...] brofi didrangc ddigofaint Duw, yr hwn yr oeddym ni yn ei drysori, y pryd y dylasem weithio allan ein hieichydwriaeth.
Wele hawŷr, myfi a fum drwy gydol hyn o amser yn mynegi i chwi, yn gystadl o ra [...] y Prif byngciau, y Defnydd, a'r Môdd, Beth yw y Grefydd a'r Gwasanaeth hwnnw i Dduw yn yr hwn y mae'n rhaid i chwi lafurio â'c [...] holl egni: fal y galloch weled, mai nad i opinionau, neu Ymarferion terfysgus, neu neulltuol, yr ydym yn eich galw: ac fel na hude [...] eich cydwybodau ddim hwy dan rith o ymrafael opinionau dynion mewn Crefydd; ac fe [...] na byddo i'r Enwau Prelad, Presbyterian, Puritan, Papist, nac ir yn arall swnio y [...] eich clustiau, ich gwallgofi a'ch ammhwyllo felly, fal y paro i chwi anghofio yr enw Cristion; yr hwn a gymerasoch chwi oll arnoch, nac anghofio 'r hyn ydyw y Grefydd Gristianogawl. Chwi a welwch, nad dim (ie nad cymmaint a syllaf neu ditl) ar nad yw pob Cristion sobr yn cyttuno ynddo, yr ydym yn eich perswadio iw wneuthur megis gorchwyl eich Crefydd. Ac am hynny mi a ail adroddaf wrthych ymma, gar bron y Duw hwnnw yr hwn a fydd eich barnwr, a cher bron y gydwybod yr hon a fŷdd megis mîl o dystion, os chwi a ewch rhagoch, mewn bucheddau bydol annuwiol, a gwrthod Diwydrwydd difrifol Cristianogion yn y Grefydd hon, yr ydych chw [...] eich hunain yn ei phroffesu, fe fydd cyn belled o fod yn ddim escus neu esmwythdra i chw [...] [Page 211] fod Rhagrithwyr, neu Hereticciad, neu Schismaticciaid, neu ymrafael opinionau mewn Crefydd yn y bŷd, ac y bydd y peth hwn ei hun yn trymhau eich pechod a'ch damnedigaeth, ddarfod ir holl Ragrithwŷr, Schismaticciaid, neu'r pleidiau gwahanol hyn yn yr Eglwys, gyttuno yn Cyfaddei yr holl bethau hyn, ac er hyn i gyd nid ymaferech â hwynt, na wnaech cymmaint ac ymarfer yr hyn a gyffessech chwi eich hunain: Yr holl Bleidiau a'r Sectau hyn a gyfodant yn erbyn y pechadur anianol, halogedig ac annuwiol, ac a ddywedant [Er ein bod ni yn anhysbus neu'n amheus o fagad o bethau eraill, er hynny ni a a gyttunasom oll yn y rhai hyn, ac a roesom gyd-destiolaeth iddynt: ni themptiasom ni nêb i ammeu y rhai'n na'i gwadu.] Os cyfeiliornwch yn fwy nâ Rhagrithiwr, neu Schismaticciad, a bod yn waeth o lawer nâ'r cyfryw rai, neu a gyfrifwch chwi yn cyfryw, a thybied ymesgusodi, o herwydd iddynt hwy gyfeiliorni mewn pethau llai, yr yn fath yw, a phettei 'r Cythrael yn esgusodi ei bechod drwy ddywedyd [Arglwydd ni charod yr un o'th Saint di fel y dylasent, ac ni wnaeth Rhagrithwyr ond cymmeryd arnynt dy garu, ac am hynny mi a dybiais y gallaswn dy gasau ac ymosod yn erbyn dy ffyrdd.]
Ond (mêdd y dŷn annuwiol anianol) ni choeliafi byth fod Duw yn ymhyfrydu mewn hir a difrifol weddiau: neu fod anwydau neu eiriau dynion yn annog dim arno ef; ac am hynny nid wyfi yn bwrw fod hyn ond gwag-siarad [Page 212] yr hyn a elwch chwi yn ddifrifol ddiwydrwydd y ffyddloniaid, yn ei gwasanaeth i Dduw.
Ir gwrthaddadl annuwiol hwn, mi a roddaf yr amryw attebion hyn.
1. Bwriwch fod hyn yn wir yn ôl eich tŷb chwi, beth yw hyn i chwi, y sawl nid ydych yn gwasanaethu Duw mewn modd yn y bŷd, drwy ddim difrifol ddiwydrwydd? y rhai ydych yn bwy mewn difyrrwch anianol, a gwirfodd anufydd▪ dod iw gyfreithiau ef, ac yn gwneuthur mwy am eich cyrph nag am eich eneidiau, ac am bethau amserol, nag am thau tragywyddol?
2. pwy dybygwch sydd debyccaf i ddeall meddwl Duw, a pha beth sy yn rhyngu bôdd iddo? Ai efe ei hun, ynteu chwychwi? A oes dim eglurach wedi ei orchymmyn yngair Duw, nâ gweddiwch yn fynych, yn wresog, ac yn daer, Luc. 18. 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7. 1. Thes. 5. 17. Jac. 5. 16. Ac a ddywedwth chwi wrth Dduw, na wnaeth ef ond cellwair a chwi, a mynegi i chwi ei fod ef yn fodlon ir hyn nid yw yn ei foddhau?
3. A pha beth yw'r achos o'ch anghrediniaeth? ai oblegyd na chynnhyrfir Duw â geiriau ac anwydau dynol? Addef yr wyf nas gwneir. Ond beth am hynny? A oes dim defnydd arall o weddi ond i gynnhyrfu Duw? Digon yw, (I) Ei bod hi yn ein cynhyrfu ni, a'n cymmhwyso i dderbyn ei drugareddau ef. 2. A gwneuthur o Dduw hi yn angenrheidi ol ir Diben, ac yn fodd neu ammod heb yr hyn ni ddyru ef mor Fendith. A ydych chwi yn tibied (os bernwch ond yn ol rheswm naturiol) [Page 213] fod y dŷn hwnnw mor gymmwys i fwynhau'r drugared, yr hwn ni wypo na'i heisiau, na'i phrîs, ac ni byddei ddiolchgar am dani, pes caffei ef hi, ac y mae'r hwn sy'n ei phrissio hi, ac yn ymroi i fôd yn ddiolchgar am dani a gwneuthur defnydd o honi? Ac oni wyddoch chwi, nad yw gweddi sanctaidd ddim ond gosod dymuniadau sanctaidd ar waith, ac arfer pob rhyw râs ar sydd addas i roddi gwir fraint a phrisiad ir drugared, ac i wneuthur defnydd o honi? Ac onid yr arfer yw, pan fynnem ni dynnu y bâd at y lan, Cymmeryd gafael ar y lan a thynnu, megis ped faem ni iw dynnu ef at y bâd? Oni chynnhyrfir Duw a'i dynnu attom ni, digon yw, os cynnhyrfir ni a'n tynnu at Dduw: A hefyd oni wyddoch chwi, y gall Dduw roddi ei fendithion ei hun ir nêb y mynno, ac ar yr ammoddau y mynno, a darfodd iddo ein siccrhau ni, na ddyru efe mhonynt ond ir sawl a'u dymuno, ac a'u ceisio, a hynny mewn ffŷdd, yn wresog, ac yn daer?
Ac etto mi a ddywedaf ymhellach, fod Duw cym mhelled yn uwch nâ nyni, nas adwaenom ni ond ychydig iawn o'i hanfod ddiamgyffred, a'i anian fendigedig ef; ac am hynny, er ein bod yn gwybod ac yn cyffessu, nad oes ynddo ef ddim gwynniau ac ammherffeithrwydd dynol, etto os efe a gymmer iddo ei hun enw y cyfryw beth ac yw Cariad, dymuniad, llawenydd, neu ddigofaint, rhaid i ni gydâ rheswm gredu, er nad yw y rhai hyn yn Nuw, fel y maent mewn dŷn, ynghyd â dim amherffeithrwydd; er hynny mae rhyw beth yn Nuw, ar nas gellir yn gymmhwysach ei osod [Page 214] allan i ddŷn, nac iw ddeall gan ddŷn, nâ thrwy gyffelybiaethau, o'r cyfryw ymadroddion a welodd Duw yn dda eu harfer.
3. Eithr yr wyf yn attolwg i chwi wrando ar Nattur ei hun. Onid yw hi yn dysgu i bob dŷn mewn cledi weddio ar Dduw. Temestl a ddysc ir Moriwr hâlogediccaf weddio, a hynny yn barhaus ac yn wresog. Y Morwŷr yn eu henbydrwydd a fedrent ddywedyd wrth Jonas [beth sy'n dy fryd di, gysgadur? cyfod, a galw ar dy Dduw; fe allai 'r ystyr y Duw hwnnw wrthym, fel na'n coller: A hwythau eu hunain a lefasant bob un ar ei Dduw, Jonah 1. 5, 6.] Pan ddelych i farw, a gweled nad oes mor oedi yn hwy, na dim gobaith ychwaneg oddiwrth ddifyrrwch pechod, neu oddiwrth nêb o'th gyfeillion, neu 'r hên ddichellion, yna mynega i ni onid yw Natturiaeth yn dysgu i ti lefain, a crochlefain ar Dduw am bardwn, a thrugaredd, a chynnhorthwy? Yna y cawn dy glywed yn llefain [O trugaredd, trugaredd Arglwydd, i bechadur truan!] er na choeli di yn awr fod gweddi yn gwneuthur dim llesad.
Ni ddywedaf wrthit ddim yn ychwaneg am hyn; Os yw Natturiaeth heb ei gorchfygu, a Grâs heb ymwrthod â thi, fe ath dysgir gartref i atteb ir gwrthddadl hwn. Diau na elli di yn hawdd orchfygu Rheswm cyn belled a chredu nad oes un Duw. Ac os wyt yn credu fôd Duw, ni elli di goelio nad yw ef iw addoli, a hynny â'r Difrifwch a'r Diwydrwydd mwyaf; Ac nad efe yw rhoddwr yr hyn sy [Page 215] yn eisiau arnat, neu nad yw Llywodraethwr y byd yn gofalu am amcanion a gorchwylion ei ddeiliaid, ond y gobrwya ef y da a'r drwg o'r un ffunyd, ac y dyru ef i bawb fel ei gilydd, ac na wnaiff efe gyfrif o ymbaratoad dynion i dderbyn ei wobr ef. Pa un o'r Cenhedloedd ar sy'n credu fôd Duw, nad yw yn credu, fod Gweddi atto ef yn rhan angenrheidiol o'i addoliad ef?
Gwrthddadl. Eithr onid yw y caeth-gadw yr ydych ar ddydd yr Arglwydd yn beth a dadl yn ei gylch?
Atteb. Yn hyn hefyd i'th ddiosgaf o'r esgus hwn. 1. Treulia ddydd yr Arglwydd yn ôl Pryf-byngciau cyffredinol y ffŷdd Gristianogol a Rheswm, a digon yw: Treulia ef megis un yn caru Duw yn well nâ dim yn y bŷd, ac yn cymmeryd mwy difyrrwch yn ei wasanaeth ef, nag mewn pechod ac oferedd. Treulia ef megis y mae angenrheidiau dy enaid dy hun at'h deulu yn gofyn; megis un a fo yn wych ganddo y cyfryw wasanaeth anrhydeddus, ynnillgar, a difyr, ac a ydyw cyhoeddus a neulltuol addoliad Duw, a difrifol fyfyrdod am y bywyd a ddaw: Megis un yn gwybod yr eisiau a'r Llesad sy'o gael prydiau gosodedig i wasanaeth Duw; a pheth a ddoe o bob Crefydd, pe gadewid yr Amser i bob un wrth ei ewyllys? Treulia ef megis dynion a roddo uniawn wahaniaeth rhwng gorchwylion cyffredin y byd hwn, a'r pethau a berthyant iw cyflwr tragywyddol; ac a ystyrisant gyfattebwch un diwrnod o Saith, fal y [Page 216] perthyn ir rhagor neu'r gwahanol ddigwyddiad hwn o'r gwaith: Treuliwch ef megis dynion a gollodd gymmaint o amser ac a gollasoch chwi, ac y mae 'n angenrheidiol iddynt wneuthur y goreu o'r ychydig hwnnw sy yn ôl: Treuliwch ef megis rhai sydd cyn belled yn ôl llaw ym matterion eich Iechydwriaeth, ac y mae yn anghenrhaid i chwi weithio a'ch holl egni, gan fod yn llawenach o gynhorthwyon y cyfryw ddiwrnod, nag o filoedd o aur ac arian; Treuliwch ef megis y rhai a gredant ein bod ni yn dylu i Dduw cymmaint o wasanaeth ac yr oedd yr Iddewon: Treuliwch ef fel y treuliodd y Cristianogion ef gynt, y rhai a arferent aros gŷda'u gilydd, o foreu hyd o fewn ychydig i nos yn yr addoliad a'r Cymmundeb cyffredim. Treuliwch ef megis ac y mae Declaration y brenin yn gofyn, yr hwn a ddywaid, [Ein harfaeth a'n llwyr-frŷdyw, ac a gaiff fôd, ar gymmeryd gofal, am gael o ddydd yr Arglwydd ei dreulio mewn gorchwylion Sanctaidd, heb eu hesceuluso yn afreidiol.]
2. Ac os bydd etto ddim ammeu yn hyn, mi a'ch cyfeiriaf at farn Eglwys Loegr, yr hwn a adroddir yn yr Homiti am Amser a Lle Gweddi. Ac am yr Amser, Enw, Hender, Awdurdod, a'r Gwaith ei hun, mi a ddymunaf arnoch dderbyn yr hyn a adroddir yno, nid gan rai terfyscus, ond gan yr Eglwys▪ Gwnewch hyn, a chyttûn, a bodlon ydym. Fy nymuniad ywar ir Darllenydd, fyned dros y ddwy ran o'r Homili honno, fal y gwypo belled [Page 217] yw Eglwys Lloegr, oddiwrth ddychymmygion ysmala gelynion Duwioldeb: A hefyd os darllenwch chwi drostynt yr Homilau yn erbyn perygl Delw-addoliaeth, chwi a gewch yn gyflownach wybod barn yr Eglwys ynghylch y Modd i Addoli Duw: (Diau fôd yr holl Lyfr yn gyfryw ac y dylei y bobl fod yn gydnabyddus ag ef.)
MYfi a wneuthum fy rhan ar agoryd i chwi Angenrheidrwydd Difrifol Ddiwydrwydd, a galw eneidiau diowgsworth pechaduriaid i feddwl am waith eu Jechydwriaeth, ac iw wneuthut yn Brysur, ac â'u holl Egni. Rhaid i mi yn awr adel y ffynniant i Dduw a chwithau. Pa ddefnydd a wnewch o hono, a pha beth a fyddwch ac a wnewch o ran yr amser a ddaw, fydd beth yn perthyn mwy i chwi eich hunain nag i mi. Pe byddei hir lefaru, ac amldr o eiriau yn ffordd i mi i gael fy nymuniad gennych, mi a lefarwm yma yn ewyllysgar tra pharhau fy nerth, ac a estynnwn fy nghynghorion o hŷd yn saith mwy. Ond nid dyna 'r ffordd. Ychydig a'ch blina chwi; Caru yr ydych hir Wleddoedd, a hir ymweliad a'i gilydd, a chwareuon, a digrifwch yn llawer gwell nâ hir bregethau, Llyfrau neu Weddiau. Eithr gofid nid bychan i ni yw eich gado chwi mewn cyflwr o'r cyfryw bwys, heb beth gobaith gweddol o'ch gwaredigaeth.
Hawyr, gosodwyd y Matter gar eich bronnau, ac yn eich dwylo chwi eich hunain gan [Page] mwyaf: Ni bydd hynny chwaith yn hir? Beth a wnewch chwi yn awr? A ddarfu i mi yn awr eich dwyn i goelio, fôd yn rhaid ceisio Duw a'ch Jechydwriaeth a'ch holl egni? Onid do, nid yw hyn o ddiffyg eglurdeb yn yr hyn a ddywetpwyd, ond o ddiffyg ewyllysgarwch ynoch eich hunain i wybod y gwirionedd: Mi a brofais i chwi ei fod ef yn fatter allan o ddadl, oddieithr i'ch trachwantau, a'ch gwyniau, a'ch achosion cnowdol wneuthur dadl am dano. Attolwg mynegwch i mi, os ydych o Grefydd yn y byd, pa ham nad ydych glos, a difrifol, a diwyd, a chwedi eich marweiddio, ac yn nefol yn y Grefydd yr ydych o honi? diammeu na chwilyddiwch mo'ch Crefydd, beth bynnag yw, cyn belled, ac y dywedoch nad yw eich Crefydd am farwhau pechod, am Sancteiddrwydd, Nefolrwydd, ac Ymwadu â chwi eich hunain, neu fod eich crefyddd yn cynnwys (neu'n rhoi cennad) i chwi yn rhy awyddus i ymgais am Swyddau i fod yn gybyddus, yn Lythion, yn feddwon, i regu, a thyngu, a phuttenio, a difenwi, a, gorthrymmu'r gwirion; Nid Grefydd yw, ond Malis Gythreulig y Sarph ar sy yn fodlon i bob cyfryw beth.
Mae'n rhyfeddol meddwl, fôd gwŷr dysgedig, a boneddigion, a gwŷr yn cymeryd arnynt fod ganthynt reswm a synwyr, yn medru mewn llonyddwch fradychu eu heneidiau i Ddiafol ar y cyfryw achosion gwirionffôl, a gwneuthur y drwg nid oes ganddynt ddim iw ddywedyd drosto, ac esceuluso y ddyledswydd [Page] nid oes ganddynt ddim ychwaneg iw ddywedyd yn ei herbyn, pan ydynt yn gwybod y bydd rhaid iddynt ei wneuthur yn Awr os gwneir ef Bŷth! Y sawl, tra 'r ydynt yn Cyfaddef fod Duw, a bywyd i ddyfod, a Nefoedd, ac Vffern, a rhoddi i ni y bywyd hwn yn bwrpasol o ran paratoi erbyn tragywyddoldeb; tra 'r ydynt yn cyfaddef fôd Duw yn Gwbl ddoeth, a Sanctaidd, a da, a chyfiawn, ac mai 'r drwg mwyaf yw 'r pechod, ac mai gwir yw Gair Duw; ac er hynny a fedrant glywed arnynt ymlonyddu mewn buchedd ansanctaidd, anianawl, a diofal: A thra bônt yn anrhydeddu yr Apostolion, a'r Merthyron, a'r Saint meirwon ac a ymadowsant, hwy a gasânt eu canllynwŷr a'u dilynwŷr, a'r bucheddau a buant fyw ynddo, ac a ydynt barod i wneuthur ychwaneg o ferthyron drwy eu creulonder maleusus.
Hyn oll ysywaeth, sy 'n dyfod o ddiffyg ffydd gadarn am y pethau ni welsant hwy erioed, a phellder y pethau hynny, a grym gwyniau, ac anianawl wrthddrychau a thueddiadau, (y rhai sy yn eu hyrddio hwynt ymmaith ar ôl gwagedd presennol, ac yn gorchfygu rheswm, ac yn eu hanrheithio o'u pwyll ddynol; a thrwy dwrwfy dorf o bechaduriaid anianawl, y rhai sy yn cledu ac yn byddaru'r naill y llall) a thrwy gyfiawn farn Duw, yn gwrthod y rhai ni fynnent moi adnabod ef, a'u gado hwynt i ddallineb a chaledrwyd eu calonnau eu hunain. Eithr a oes dim ymwared! O tydi ffynnon trugaredd ac ymwared, [Page 220] canniadhâ ymwared ir pechaduriaid truain hyn! O tydi Iachawdwr dynol-ryw colledig, trugarhâ wrth y pechaduriad hyn yn Nyfnder eu diofalwch, eu rhyfyg, a'u trueni! O Lewyrchwr a Sancteiddiwr eneidiau, cymhwysa at y bobl hyn yr Ymwared a bwrcaswyd mor ddrûd! Mynych ein hannogir ni i ofni rhag iddo fôd o'n hachos ni, y rhai a ddylaem yn fwy difrifol bregethu deffrous wirionedd Duw wrth galonnau dynion, nad yw dynion yn eu derbyn hwynt. A diau na ddichon ein cydwybodau amgen na'n cyhuddo oblegit pan ydym fywiogaf a difrifaf, ysywaeth, ni 'n gwelir ond megis yn cryn chwydawiaeth, wrth ystyried ar ba gennadwri y deuwn, ac am bâ bethau tra rhagorol yr ydym yn llefaru. Eithr Satan a gafodd y llaw uchaf ar ein calonnau ni, y rhai a ddylent fôd yn beiriannau i ennyn yr eiddynt hwy, yn gystal ac ar eu calonnau hwythau, y rhai a ddylent ddery gwirionedd. Och na fedrem ni sychedu yn ychwaneg ar ôl eu Iechydwriaeth hwynt! O na fedrem ni weddio yn ddwysach am dano, ac ymbil a hwynt hwy yn fwy difrifol, megis rhai yn flin ganthynt gael eu naccâu gan Dduw neu Ddyn! Rhaid i mi addef wrthych oll drwy gwilydd a gofid, fy môd yn synnu feddwl am galedrwydd fy nghalon fy hun, nad yw hi'n toddi mwy, o dosturi a'r drueiniad, ac nad wyf ddim difrifach a thaerach ar bechaduriaid, pan ydwyfi ar y fâth Destyn a hwn, ac yn manegi iddynt, mai rhaid i hynny fôd Bellach neu ni bydd Bŷth; a phan fyddo cennadon Angeu oddifewn, a son am ddigofaint dynion [Page 221] oddiallan, ym mynegi i mi debycced yw na bŷdd fy amser ond byrr, ac os dywedaf ddim a gyrrhaeddo galonnau pechaduriaid, am ddim ar a wn i, rhaid i hynny fod Bellach os bydd Bŷth. Och pa gyndyn, ie pa wylofus glefyd yw 'r anheimlad ar caledrwyd calon hwn! pettwn i siccr mai hon yw'r bregeth olaf a gawn i ei phregethu, yr wyfi yn canfod yn awr, y dangosei fy nghalon ei diogi; ac y difuddiai hi eneidiau truein o'r difrifol wrês yr hwn sy 'n cyttuno â'r Testyn, ac â'u cyflwr hwythau, ac yn angenrhediol o ran y ffynniant dymunol.
Ond etto, Swrth bechaduriaid truein, gwrandewch arnom: er nad ydym ni yn llefaru wrthych, fal y gwnai ddynion a welsent y Nefoedd ac Vffern, ac a fyddent eu hunain mewn perffaith agwedd ddeffrous; er hynny, gwrandewch arnom, tra 'r ydym yn llefaru wrthych eiriau gwirionedd, mewn cryn ddifrifwch a thosturiol ddymuniaid am eich Iechydwriaeth. O Edrychwch ar i fynnu at eich Duw! Edrychwch allan ar dragywydoldeb: Edrychwch oddifewn ar eich eneidiau; Edrychwch yn gâll ar eich byrr a'ch prysur Amser: ac yna meddyliwch pa fodd y dylid gwneuthur Defnydd o'r ychydig weddill sydd o'ch Amser, a pha beth yw 'r hyn a berthyn fwyaf i chwi ei ddibennu, a'i wneuthur yn ddiogel cyn eich marw. Yn Awr y mae gennych Bregethau, a Llyfrau, a Rhybuddion, ni bydd felly yn hir: Rhaid darfod am Bregethwyr, Mae Duw yn eu bygwth hwynt, ac angeu yn eu bygwth hwynt, a dynion yn [Page 222] eu bygwth hwynt, a chwithau, ie chwychwi a fygythir yn dostaf, ac a elwir arnoch drwy rybyddion Duw [Os oes gan neb glustiau i wrando gwrandawed.] Y mae gennych yn awr helaethrwydd o gynnorthwyon neulltuol, y mae gennych helaethrwydd o rasol gymdeithion deallus; mae gennych Ddyddiau 'r Arglwydd, iw treulio mewn gorchwylion sanctaid, er adeiladaeth a diddanwch eich eneidiau; mae gennych bigion Llyfrau dwysion a difrifol; A bendigedig fyddo Duw, mae gennych Nodded Brenin, a Swyddogion Cristianogol a Phrotestanaidd. O pa drugareddau tra gwerthfawr yw y rhai hyn oll! O adnabyddwch eich amser, ac arferwch y rhai hyn yn ddiwyd, a gwnewch ddefnydd o'r cynhaiaf hwn i'ch eneidiau! Canys ni bydd fel hyn yn wastadol: Rhaid iddo fôd yn Awr neu na byddo Bŷth.
Y mae gennych etto amser a chennad i Weddio a llefain a'r Dduw mewn gobaith: Etto, os oes gennych galonnau a thafodau, y mae gantho ef glust a wrendu: Mae Yspryd y grâs yn barod i'ch cynnorthwyo: ni bŷdd fel hyn yn oestadol: Mae 'r amser yn dyfod pan na thyccio y crochlefain vchaf: Oh gweddiwch, gweddiwch, gweddiwch, waelion bechaduriaid truein a rheidus: Rhaid i hynny fôd Bellach neu na bo Bŷth.
Mae gennych chwi etto iechyd, a nerth, a chyrph cymmwys i wasanaethu eich eneidiau: Nid felly y bydd yn oestadol: Mae Llesgedd, a [Page 223] gofid, ac angeu yn dyfod: O arferwch eich Iechyd a'ch nerth tros Dduw: Canys rhaid i hynny fôd yn Awr neu ni bydd Bŷth.
Mae etto rai cynhyrfiadau o argyoeddiad yn eich cydwybodau: chwi a welwch nad yw pob peth yn dda gydâ chwi, ac y mae gennych rai bwriadau, ac amcanion i edifarhau a bôd yn greaduriaid newyddion: Mae peth gobaith, na ddarfu i Duw etto mo'ch llwyr wrthod. Och na bydded i chwi ymchwidawiaeth na llindagu argyoeddion eich cydwybodau, eïthr gwrandewch ar Dystiolaeth Dduw o'ch mewn: Rhaid iddo fôd yn Awr os bydd Bŷth.
Oni byddei 'n flin gennych eich gadael mewn cyflwr anobeithiol llawer enaid truan trallodus, ar sy yn crochlefain allan, Och mae hi yn awr yn rhyhwyr! yr wyfi yn ofni ddarfod fy nydd grâs; ni wrendi Duw fi yn awr er i mi alw arno: efe a'm gwrthododd, ac am rhoddes i fynu i mi fy hunan. Mae yn rhyhwyr edifarhau, yn rhyhwyr gweddio, rhyhwyr meddwl am fuchedd newydd; rhyhwyr yw 'r cbwbl. Trwm yw'r cyflwr hwn: Ac etto mae llawer o'r rhai'n mewn cyflwr gwell a diogelach nag y tybiant eu bôd; nid oes ond y Temptiwr yn eu dychrynu▪ ac nid yw ryhwyr, tra byddont hwy yn llefain allan, y mae yn rhyhwyr: Eithr os gadewir chwi yn Vffern i lefain [mae'n rhyhwyr] Och pa hŷd, a pha wylofus ddolefain a galarnad fydd hwnnw!
O bechadur truan ystyria, yr edwyn Duw Amser a Thymmor dy drugareddau di: Mae [Page 224] efe yn rhoddi i ti Wanwyn a Chynhaiaf yn eu Tymmor: Ai holl drugareddau yn eu Tymmor; Ac onid adweini di dy Amser a'th Dymmor, i ddangos Cariad a Dyledswydd a Diolchgarwch iddo yntef?
Ystyria ddarfod i Dduw yr hwn a orchym▪ mynnodd i ti dy waith, osod hefyd i ti Amser: A hwn yw ei Amser gosodedig ef. Heddyw gan hynny gwrando di ar ei leferydd, a gwel na chaledech dy galon. Yr hwn sy yn peri i ti edifarhau a gweithio allan dy Iechydwriaeth mewn ofn a dychryn, sydd hefyd yn peri i ti ei wneuthur yn Awr; Ufyddhâ iddo ef yn yr Amser, os mynni fôd yn wîr vfydd. Efe sy'n deall oreu yr amser cymhwysaf. Fe dybiai û [...] na byddei raid i ddynion a gollasant cymmaint yn barod, ac ydynt mor wylofus yn ôl llaw, ac yn sefyll mor agos at frawdle Duw a'u cyflwr tragywyddol, gael dywedyd ychwaneg wrthynt iw perswadio i gyfodi a gweithio. Ni chwanegaf ond hyn, Nid ydych chwi fŷth debyg o gael amser gwell; Cymmerwch hwn, onide y gwaith▪ a fydd anhawsach a phettrusach, trwy na byddo, drwy gyfiawn farn Duw, yn anobeithiol. Oni wasanaetha hyn oll, ond bod i chwi fŷth fŷth lercian nes darfod yr Amser, beth a ddichon y rai sy'n eich caru chwi wneuthur ond galaru oblegyd eich Trueni! Yr Arglwydd ai gŵyr, pe gwyddem ni pa eiriau, pa boen, pa draul a dycciai tu ac at eich deffroad, a'ch troedigaeth, a'ch iechydwriaeth, llawen yr ymostyngem i hynny: Ac yr ydym [Page 225] yn gobeithio, na thybiem ni na'n llafur, na 'n rhydd-did, na'n heinioes yn rhy werthfawr i ddwyn ymlaen waith mor fendigedig ac mor angenrheidiol. Eithr os gwedi i ni wneuthur cymmaint oll ag a allom ni ei wneuthur, nis gadewch chwi ddim i ni ond ein dagrau a'n cwynfan dros rai a'u dinistriasant eu hunain, y pechod sydd eiddoch a'r dioddef a gaiff fôd yn eiddoch hefyd: Oni allafi wneuthur ychwaneg, mi a adawaf hyn o ran coffadwriaeth, gymeryd o honom ni ein hamser i fynegi i chwi hyd adref, fôd DIFRIFOL DDIWYDRWYDD yn angenrheidiol i'chIechydwriaeth, a bod Duw yn Obrwywr i'r rhai sy yn ei geisio ef yn ddyfal, Heb. 11. 6. ac mai hwn oedd eich dydd, eich unig ddydd. Rhaid iddo fôd Bellach neu na bo Bŷth.
CAR-W-R Y CYMRU YN anfon Tri o ddrychau ysprydol i dri math o bobl, i ddangos i bob un ei wynepryd, neu ei gyflwr ei hun.
Sef Drych, ir Anghristion oer, Drych, ir Rith gristion claiar, Drych, ir Gwir gristion brwd.
Yn ol edrych yn y drychau hyn, nac anghofiwch pa fath ydych.
LlYTHR CARWR Y CYMRU AT holl Anghristnogion, Rhith-Cristianogion, a gwir Cristianogion Cymru, i ddangos pa ddenfydd sydd iddynt i wneuthur o'r drychau hyn.
CHwi bobl Gymru ydych yn tybied, ac yn gobeithio eich bod oll yn wir gristianogion, o herwydd eich bedyddio â dwfr, a'ch bod yn cymeryd ar [...]och proffessio y wir grefydd; gwybyddwch er hyn i gyd, fod y rhan fwyaf o horoch yn camgymeryd eich hun; canys eglur ydyw fod llawer o honoch yn Anghristnogion, a [Page] mwy o honoch yn Rhith-cristnogion, a'r rhan leiaf o honoch yn wir gristnogion. Duw sydd yn gwybod fod gwir ewyllys fynghalon am gweddi, ar iddo (o'i fawr▪ drugaredd) eich dwyn oll i fod yn wir Gristnogion, iw wasanaethu ef mewn yspryd a gwirionedd: gan hynny gossodais allan yn y llyfran bychan hwn, dri o ddrychau yfprydol, i ddangos i bob un o honoch eich wynebpryd, a'ch cyflwr eich hun: cymerwch amser i edrych ynddynt oll, fel y galloch weled pa un o honynt sydd yn dangos i chwi eich hun▪ A gwybyddwch mae drychau cywir ydynt; ac na thwyllant mo honoch drwy eich gwneuthur i edrych yn deccach nac yn hacrach nag ydych. Gwir, ddangossant i chwi oll eich prŷd, a'ch gwedd, yngolwg Duw, beth bynnag ydych yn eich golwg eich hun a'r byd. I gyflawni hyn rhaid i chwi wybod, yn gyntaf, na wasanaetha eich llygaid corphorol, na'ch Llygaid naturiol yn unig, i edrych yn y drychau ysprydol hyn; a'ch bod yn ddeillion, er eich bod yn tybied eich bod yn gweled. Gan hynny attolygwch ar Dduw roddi i chwi lygaid i weled, a cheisiwch eli gan Grist i iro eich llygaid fel y gweloch eich amryw brydiau yn y drychau hyn. Dat. 3. 18. Yn ail gwybyddwch hefyd, pan gaffoch lygaid i weled, nad yw hyn ddigon, sef i chwi edrych ychydig ar gip yn y drychau hyn, ac yno anghofio yn y man pa fath ydych, ond rhaid i chwi graffu, a dal sulw ar eich oll aflendid cnawd ac yspryd, ar a ddangosso y drychau hyn i chwi, Jac. 1. 23. 24. ac ystiried mor anolygus ydych yngolwg Duw. Yn drydydd rhaid i chwi grio ar [Page 228] Duw ar gael tristwch duwiol, a dagrau edifeirol am eich holl aflendid Jaco. 4. 8. 9. Ac yn bedwerydd mae i chwi gredu y dydd y byddoch yn wir edifeiriol, ac yn gwir gredu yn Grist fod ffynnon yn agored i chwi (sef gwaed Jesu) ich golchi oddiwrth eich holl bechodau, a'ch aflendid Zech. 13. 1. Joa 13. 8. yna bydd i chwi gyfran yn Ghrist weddi iddo ef eich golchi drwy ei waed, a'ch puro drwy bregethiad ei air a'i yspryd, Eph. 5. 26. 27. 28. I fod o anghristnogion, ac o Rith-cristnogion, yn wir gristianogion priodol iddo ei hun, yn Sanctaidd, ac yn ddifeius. Yr arglwydd Jesu a'ch gwnelo, ac ach catwo felly.
A chwi wir gristnogion, edrychwch nid yn unig yn eich drych eich hun, beth ydych, ond yn nrychau yr Angristnogion a'r Rith-gristnogion hefyd, ac yno y cewch weled beth oeddych gynt, cyn i Dduw eich galw a'ch dewis, a'ch adnewyddu yn ol ei ddelw ei hun mewn gwybodaeth a gwir▪ sancteiddrwydd; a dangosswch eich diolchgarwch, gan fyned ragoch drwy berffeithio sancteiddrwydd yn ofn yr Arglwydd: a gwir Dduw y tangneddyf, a'ch sancteiddio yn gwbl oll, a chadwer eich yspryd oll, a'ch enaid, a'ch corph yn ddiargyoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Jesu Crist,
Amen, Amen▪
Tri o ddrychau ysprydol I dri math o bobl.
1. AM yr anghristion ni alwodd Duw ef, nid yw o Eglwys Dduw, ac ni ddyle fod ynthi, ond mae ef o Synagog Satan, 1 Cor. 5. 12. Dat. 2. 9.
Y Rhith-Gristion a alwodd Duw oddi allan, ac yw dros amser yn Eglwys Dduw, er nad yw un amser o Eglwys Dduw, Math. 22. 14. 1. Joan. 2. 19.
Y Gwir-Gristion sydd wedi ei alw ai ddewis, o Dduw y mae ef, yn Eglwys, ac o Eglwys Dduw, yn wastadol, Psal. 65. 4. Psal. 15. 1. Dat. 17. 14.
2. Yr Anghristion fydd o Ddiafol, ar Ddull Diafol, ac yn gwasanaethu Diafol, Ioan. 8. 44. 1 Ioan. 3. 8.
Y Rhith-Gristion sydd yn ymhonni ei fod o Dduw, ac yn cymeryd arno wasanaethu Duw, er nad yw o Dduw, ond o'r byd a'r cnawd, yn gweini ir byd a'r cnawd, Joan. 8. 23. 41.
Y gwir Gristion sydd wedi ei waredu oddiwrth y byd, y cnawd, a▪r Cythrel, ac wedi ei eni o Dduw, ai adnewyddu ar lun Duw, yn gwasanaethu Duw, Luc. 1. 74. 1 Jo. 3. 1. 9. 2 Cor. 5. 17▪
[Page 230]3. Yr Anghristion sydd gwbl aflan oddifewn ac oddi allan, o flaen Duw a dynion, Mar. 7. 21. Tit. 1. 15.
Y Rhith Gristion sydd rith-lan oddiallan yngolwg dynion, ac oddifewn yn aflan gar bron Duw, Dihar. 30. 12. Math. 23. 25. 26. 27.
Y Gwir-Gristion sydd lan oddi mewn ac allan, wedi ei olchi yng-waed Christ, ai buro drwy ei air, ai yspryd ef, Eph. 5. 25. 26. Tit. 2. 14.
4. Yr Anghristion sydd anrassol, heb wybodaeth o Dduw, heb ffydd yn Ghrist, ac heb edifeirwch; Hose. 4. 1, 2. Titus. 3. 3.
Y rhith-Gristion sydd rith rassol, a chantho rith wybodaeth, rhith ffydd, rhith edifeirwch, a rhith dduwioldeb: Rhuf. 2. 20. Jac. 2. 14. 2 Tim▪ 3. 5.
Y Gwir-Gristion sydd wir rassol, a chantho wir wybodaeth o Dduw, a iawn ffydd, a gwir edifeirwch am ei bechodau yn ei galon, 1 Cor. 1. 4, 5, 7. Ezec. 36. 26.
5. Enaid yr Anghristion a chwennych ddrwg; nid yw ei gymmydog grassol yn rassol yn ei olwg ef, ond yn hyttrach ei gymmydog anrassol sydd anwyl gantho ef, Dihar. 22. 10. Pen. 29. 27.
Enaid y Rhith-Gristion sydd yn rhith ewyllysio da ir gwir Gristion grassol, ac yn rassol gantho y rhith rassol; 2 Bren. 10. 15.
[Page 231] Enaid y gwir-Gristion a ewyllysia yn dda i bawb, yn enwedig ir gwir-Rassol, Psal. 15. 4▪ Gal. 6. 10.
6. Deall a meddwl yr Anghristion a dywyllwyd, ac a ddallwyd gan Dduw y byd hwn, fel na wel ef na brychewyn, na thrawst yn ei lygad ei hun, nac arall, 2 Cor. 4. 4. Eph. 4. 18.
Deall a meddwl y Rhith Gristion a oleuwyd, i ganfod cyffredinol betheu Duw: eraill ynt ffyliaid, ac efe yn unig sydd ddoeth yn ei olwg ei hun, nid yngolwg Duw: gwel y brechewyn yn llygad ei frawd, ac nis gwel y trawst yn ei lygad ei hun, Joan. 9. 41, Pen. 7. 49, Mat. 7. 2.
Deall a meddwl y gwir-Gristion a agorwyd, i ganfod y petheu ni welodd llygad, ni chlywodd Clust, ac ni ddaethont i galon dyn, sef dyfnion ddirgelau Duw, drwy eglurhad yspryd Duw; ac wrth weled ei frychau ei hun, y mae ei lygad ef yn dyfrhau, a'i galon yn edifarhau, 1 Cor. 2. 9, 10. Mat. 11. 25. Jer. 31. 19.
7. Calon yr Anghristion sydd galed, yn tryssori yr holl ddrygioni a ddel i mewn drwy ffenestri▪r gollygon a'r clustiau, ac yn gwrthwynebu yr yspryd glan, Marc 7. 21. Rhuf. 2. 4.
Calon y Rhith-Gristion sydd galon ddau ddyblig, yn anchwiliadwy ei thwyll, a saith ffieidd-dra ynth [...] pan ddywedo decca a'r tafod▪ Psal. 12. 2. Jer. 17. 9. Dihar. 26. 25.
[Page 233] Calon y gwir-Gristion sydd galon dyner, newydd, bur, ostyngedig, berffaith, gigog, yn dryssor-dŷ Crist, gan dderbyn pob peth mewn rhan dda a ddanfono ef or nef, drwy 'r golygon a'r clustiau iw cadw ai cuddio, Ezec. 36. 26. Math. 11. 29. Mat. 12. 35. Psal. 119. 11.
8. Cydwybod yr Anghristion sydd dra-halogedig, wedi ei serio a haiarn poeth, yn try sori i fynu ei holl ddrygioni, iw gyhuddo ef ar ddydd y farn, Tit. 1. 15. 1 Tim. 4. 2. Dat. 20. 12.
Cydwybod y Rhith-Gristion sydd dros amser yn cyscu, ac weithiau yn ddeffrous iw gybuddo ai ddychrynu ef, gàn ossod gar ei fron ei holl dwyll ai ragrith, Mat. 27. 4, 5.
Cydwybod y gwir Gristion sydd gydwybod dda, ddi-dramgywydd tu ag at Dduw a dynion, Act. 24 16.
9. Ewyllys yr Anghristion▪ ydyw cyllawni ei wyniau, ai chwantau cnawdol, gan rodio yn ol y cnawd, Rhuf. 8. 1. 5.
Ewyllys y Rhith Gristion ydyw ymdeccau yn y cnawd, a gwneuthur cimmin o ewyllys Duw, ac a ddycco ganmoliaeth, gyfoeth, neu oruchafiaeth iddo, 2 Bren. 10. 15. 16. 31. Gal. 6. 12.
Ewyllys y gwir Gristion oi galon ydyw byw yn onest, gan wir ymegnio bob amser, ym mhob man, i gyflowni ewyllys Duw ar y ddaiar, megis y cyflownir yn y Nefoedd beth [Page 234] bynnag a ddigwyddo iddo ef, ai clod, ai anghlod, ai ynnill, ai colled, Heb. 13. 13.
10. Myfyrdod a bwriad yr Anghristion sydd yn vnig yn ddrygionus bob amser, yn dychymmig ar i wely, a bwriadu cam yn erbyn y cyfiawn, Gen. 6. 5. Galar. 3. 60. 61.
Myfyrdod y rhith gristion ydyw ar ddyscu ordeiniadau dynion, mal y gallo wybod beth ai bodlono hwynt, er diogelwch neu gariad iddo ei hun, neu iw eiddo, Math. 15. 7. 9.
Myfyrdod y gwir Gristion sydd yng air Duw ddydd a nos, mal y chaffo wybodaeth, o ewyllys Duw, a rhyngu bodd iddo ef yn benna, Ps. 119. 15. 23. 48, 78. 148. Psal. 1. 2.
11. Llawenydd yr Anghristion sydd yn y drwg, ac yng wneuthurwyr drygioni, Dihar. 10. 23. a 14. 9. ac yn nrygau y gwir Gristion, Psal. 37. 12. 14.
Llawenydd y Rhith-gristion, yw cael goruchafieth a chlod, gan y sawl y mae efe yn gweniaithu iddynt, gyda ffrost-orfoledd, wrth dybied ei fod yn rhagori eraill mewn rhith-cyfiawnder, Luc. 18. 11. 12. Joan. 12. 43.
Llawenydd ac hyfrydwch y gwir Gristion sydd yngair a gwasanaeth Duw, ai wasanaethwyr, Psal. 64. 10. Psal. 16. 3. gyda iach-orfoledd o destiolaeth ei gydwybod, o'i fod yn byw mewn symlrwydd calon, a bod Grist yn [Page 234] eiddo ef: ac ynte yn eiddo Crist, 2 Cor. 1. 12. Can. 2. 16.
12. Tristwch yr Anghristion, yw cael ei rwystro yn ei rwysc ai Ffordd ddrygionus, megis, Ahab am na chae winllan Naboth; a Haman, yn ceisio lladd Mordecai, gyd a'r holl-Iddewon.
Tristwch y Rhith-Gristion yw, am na chaiff y parch ar cyfri y mae rhai gwaelach ac annheilyngach yn ei dyb ef yn ei gael, 1. Sam. 18. 7. 8. 9. 2 Sam. 17. 23.
Tristwch y gwir gristion yw ei bechodau ei hun, ac eraill, a chystuddiau pobl Dduw gyda ei dlodi ysprydol ai weadid, am nad all ef wasanaethu Duw yn well, Ps. 51. Psal. 119. 136. Mat. 5. 3. 4.
13. Gobaith yr Anghristion yw cael gweled dinistrio y gwir-gristion ymaith oddiar wyneb y ddaiar, Psal. 83. 1. 2, 3, 4. 5.
Gobaith y Rhith-Griston yw cael mynd i mewn i deyrnas Nefoedd, am ei fod yn dywedyd, Arglwydd, Arglwydd, Math. 7. 21. 22.
Gobaith y gwir Gristion yw cael pob peth ar a addawodd Duw, ac a bwrcassodd Crist iddo yn gyflawn▪ Rhuf. 5▪ 2. 5.
14. Ofn yr Anghristion yw rhag iddo gael cwilydd a gwarth am ei bechod; nid rhag pechu; nid yw nac yn ofni Duw, nac yn perchu dyn, Luc. 18. 4.
[Page 235]Ofn y Rith-gristion yw trosseddu traddodiadau dynion yn fwy na gorchmynion Duw; o herwydd ei fod yn caru gogoniant Dynion yn fwy na gogoniant Duw: Joan. 12. 42. Col. 2. 21. 22.
Ofn y gwir-Gristion yw torri gorchymynion Duw, ai Frenin, oherwydd ei fod yn ewyllyssio oi galon, roddi eiddo Cesar i Cesar, ac eiddo Duw, i Dduw, 1. Pet. 2. 17. Mat. 22. 21. Act 24. 16.
15. Llygaid yr Anghristion sydd odinebus, drwg, vchel, a chenfigenus, 2 Pet. 2. 14. Dihar. 23. 6. 33. Psal. 101. 5. 1 Sam. 18. 9.
Llygaid y Rhith-Gristion sydd yn edrych yn ddiystr, ac yn ddirmygus ar y gwir-gristion sydd well nag efe i hun, am fod ei galon ef yn goeg-falch, Psal. 123. 4. Psal. 131. 1.
Llygaid y gwir-Gristion a ddychwelant oddiwrth edrych ar oferedd; wrth gau allan ddrygioni, gan berchi ffyddloniaidd y Tir, mewn ofn Duw yn dirmygu 'r drygionus Psal. 119. 37. Esa. 33. 15. 2. Bren 3. 14. Psal. 15. 4. Psal. 101. 6.
16. Tafod yr Anghristion sydd wedi ennyn yn ffagl tan uffern, yn halogi 'r holl gorph, ac yn gosod hwylfen neu rhod Naturiaeth yn filam, yn anllywodraethus ac yn llawn gwenwyn marwol, yn cablu Duw, yn melldithio a difenwi dyn, Iaco. 3. 6, 7, 8, 9.
Tafod y Rhith-Gristion, er ei fod yn aeloed [Page 236] bychan, etto y mae'n ffrostio pethau mowrion; y mae'n dwyllodrus, yn lyfnach nag ymenyn, llymmach nag ellyn, yn nessau at Dduw gan alw, Arglwydd, Arglwydd, Psal. 12. 3. Psal. 55. 21. Jac. 3. 5 Esay. 29. 13. Tafod y Gwir-Gristion, sydd megis arian etholedig yn traethu gwybodaeth yn iawn, megis pren y bywyd yn porthi llawer yn ddidwyll, Dihar. 10. 20. 21. Dihar. 15. 2.
17. Clustiau 'r Anghristion ynt ddienwaededig, yn gauad yn erbyn gair Duw; megis sarph fyddar: yn gwrando ar wefus anwir, ac ar dafod drwg, Psal. 58. 4. Dihar. 17. 4.
Clustiau y Rhith-gristion ynt yn merwino; ni ddioddefant athrawiaeth iachus, gan droi oddiwrth y gwirioned at chwedlau celwyddog 2 Tim. 4. 3. 4.
Clustiau y gwir Gristion ynt yn ceisio gwybodaeth, ac yn agored i geryddiad y doeth, Dihar, 18. 15. Pen. 25. 12. Dihar 9. 8. 9.
18. Dwylo yr Anghristion ydynt yn llawn gwaed, ac yn egniol yn gwneuthur drygioni. Esay 1. 15.
Dwylaw y Rith-gristion ynt gwedi ei golchi yn fynych a'i derchafu at Dduw, heb y Galon. Mat. 23. 25. Mat. 15. 8.
Dwylaw y gwir-gristion, ydynt gwedi eu golchi yn lân mewn diniweidrwydd, Psal. 24 4. Psal. 26 6. ai derchafu gyda ei galon [...] Dduw; Galar. 3. 41.
19. Traed yr Anghristion sydd yn [Page 237] rhedeg yn fuan i ddrygioni, Rhuf 3. 15.
Traed y Rhith-Gristion ydynt yn rhedeg yn fynych i dŷ Dduw, ai galon yn ol at y Byd, Ezec, 33. 31.
Traed y gwir▪ Gristion ynt yn ymchwel oddiar bob llwybr drwg, ac yn rhodio llwybrau Duw▪ wrth lewyrch ei air ef, Psal. 119. 101. 105.
20. Yr Angristion sydd noethlyd, heb ddim gantho i guddio gwarth ei noethni, ac er hynny yn ddigwilydd, Ezec. 16. 7. Ier. 6. 15.
Y rhith-gristion, sydd yn cwilyddio gweled ei noethni, ac yn ceisio ei guddio, megis ei hên dad Adda, a dail ffigysbren, Gen. 3. 7.
Y Gwir-gristion sydd gwedi cael y wisc wen sef Cyfiawnder Crist, fel nad ymddangoso gwarth ei noethni ef, Ezec. 16. 10. Dat. 3. 18.
21. Yr Anghristion ni ddaw allan i gyfarfod y priod-fab, ac ni ddaw y chwaith ir Neithior, er iddo gael gwahadd. Math. 22. 3.
Y Rhith-Gristion a ddaw allan i gyfarfod y Priodfab ai lamp, heb olew yn ei lestr, ac a aiff ir Neithior, heb y wisc Briodas, Math. 25. 3. Math. 22. 11.
Y gwir-Gristion a aiff allan ai wisc briodas ai lamp, ai olew i gyfarfod a'r Priod-fab ir neithior, Math. 25. 4. Dat. 19. 7. 8.
22. Yr Anghristion sydd ddiwres [Page 238] yng-wasanaeth Duw wedi oeri a Ferru yn ei ddrygioni.
Y Rhith-gristion, nid yw nac oer na brwd, ond yn glaiar yng-wasanaeth Duw, am hynny y chwda Crist ef oi Enau, Dat. 3. 16.
Y gwir-Griston sydd wressog a brwd yn yr yspryd, yn gwasanaethu Duw mewn yspryd a gwirionedd Act. 18. 25. Joan, 4. 23 24.
23. Yr Anghristion sydd yn derbyn had gair Duw fel ymmyl y ffordd, yno mae diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymmaith y gair allan oi galon ef, rhag iddo gredu, a bod yn gadwedig, Luc. 8. 12.
Y Rith-Gristion sydd yn derbyn gair Duw iw galon, megis y tir creigiog yn derbyn yr had heb allu ymwreiddio, neu, fel y tir dreiniog, heb addfedu, yn credu, gan broffessio yn suriol, ac megis yn ffrwythlon, dros amser, ond yn amser profedigaethau, erlid, a chybyddol ofalon, yn cilio drachefn, Luc. 8. 13. 14.
Y gwir-gristion sydd yn derbyn gair Duw iw galon onest, megis y Tir da yn derbyn yr had, ac a ddwg ffrwyth o hono drwy amynedd Luc. 8. 15.
24. Yr Anghristion o Dryssor drwg ei galon, a ddwg allan bethau drwg, Math. 12. 35. megis y Pren drwg, yn dwyn ffrwyth drwg, Math. 7. 17.
Y Rhith-gristion o dryssor da i ben, a ddwg allan bethau go-dda: megis y ffigysbren a ddygodd ddail, ac a grinodd trwy felldith Crist. Math. 21. 19.
[Page 239] Y gwir gristion▪ o dryssor da ei galon, a ddwg allan bethau da, Math. 12. 35. megis y Pren da yn dwyn ffrwyth yn ei amser heb wywo, Math. 7. 17. Psal. 1, 3.
25. Yr Anghristion sydd yn rhodio y ffordd ehang sydd yn tywys i uffern, rhyd y sswybrau brynta. Mat. 7. 13.
Y Rhith-gristion sydd yn rhodio 'r ffordd vffernol, rhyd y llwybrau brith-lan, Math. 23. 27.
Y gwir-Gristion sydd yn rhodio 'r ffordd gyfing, rhyd y llwybr cûl sy'n arwain ir Nef, trwy llawer o orthrymderau Math. 7. 14. Act. 14. 22.
Gweddi yr Anghristion gwir edifeiriol.
ODduw, deisyf ydwyf o'm calon roddi it wir fawr ddiolch am i ti ddangos i mi yn nrych dy air fy stad halogedig, felldigedig: a gwir ydyw, fy mod dros lawer o flynyddoedd o ddiafol, ar lun diafol, yn gwasanaethu diafol: er fy mod yn dy broffessu di o Dduw, etto yn fyngweithredoedd yr oeddwn i yn holl ystod a chwrs fy mywyd yn dy wadu, ac yn gwrthryfela (megis gelyn) yn dy erbyn, gan gassau, ac erlid gwir gristianogion, o herwydd eu bod yn caru, ac yn calyn daioni, [Page 240] ac am na chyd-redent gyda mi ir vn rhyw ormodedd Ryssedd. Er fy mod yn gablwr, yn erlidiwr, ac yn drahaus, ac yn awyddus i ymroi i bob gweithred ddrwg, etto Arglwydd (oth, fawr drugaredd) bydd drugarog wrthyf ddrwg weithredwr truan, a madde i mi y cwbl oll, er mwyn Crist, canys yn ddianwybod y gwnethum hwynt oll, drwy Anghrediniaeth: a dyro i mi (sydd ddyn anrassol) bob gras Angenrheidiol, fel y gallwyf wadu pob Annuwioldeb a chwantau bydol, y bum yn byw ynddynt o'r blaen, a byw o hyn allan yn sobr, yn dduwiol, ac yn gyfiawn; a chadw fi yn ddiangol oddiwrth (deilwng) boene uffernol, a dyro i mi fywyd tragwyddol drwy ffydd ynghrist Iesu fy Arglwydd,
Amen.
Gweddi y Rhith Gristion gwir edifeiriol.
O Arglwydd yr ydwyf yn cydnabod, fy mod megis y mae drych dy air yn dangos sef yn ymhonni fy mod yn cymeryd arnafdy wasanaethu di, a'm lamp yn ole o flaen dynion, megis y gwir gristion: etto nid oes, ac ni bu erioed, olew gras yn llestr [Page] fyng halon; bum megis y ffigysbren a felldithiodd Crist, yn dwyn dail heb ffrwyth, ac megis bedd wedi wnni oddi alian, ond oddi-mewn yn llawn aflendid: yr oeddwn yn cael e [...]w yn eglwys Grist o fod yn fyw, ac etto marw oeddwn: fynghalon dwyllodrus a'm twyllodd fy hun, a llawer eraill, ar oeddynt yn tybied fy mod yn frawd ffyddlon yngrist Iesu; ond vn or gau frodyr oeddwn, a [...]ennif Rhith duwioldeb, etto yn [...] ei grym hi: diystyrais a ber [...] fyngwell, niawrygais a chyfiaw [...]ais fy hun; cerais, ceisiais, a derbyniais y gogoniant sydd o ddynion; ac ni cheisiais y gogoniant sydd oddiwrthit ti o Dduw glan oeddwn o wyneb, yngolwg dynion, a brwnt o galen yngolwg Duw: Angel oddiallan, a chythrel oddi mewn: am hynny, i mi, i mi, y mae cwilydd wyneb yn perthyn; gwae fi, gwae fi, o herwydd fy rhan i fydd gyda 'r rhagrithwyr lle mae wylofain a Rhincian dannedd os byddafi byw a marw yn y cyflwr hyn. Pwy a drig gyda 'r tan yssoll? pwy a bresswylia gyda lloscfeydd tragwyddol? o Arglwydd gwared fi oddiwrth y cyfryw drigfa a phresswylfa. Gyda thi o Arglwydd y mae trugaredd a maddeuant: Ac am hynny o Dduw bydd drugarog wrthit bechadur, [Page] ac er mwyn Iesu Grist, madde i mi fy holl bechodau: a gwared fi hefyd oddiwrth fyngwag ogoniant▪ a ffug sancteiddrwydd: a chrea galon lan ynof, ac adnewydda yspryd vniawn o'm mewn, fel y gallwyf dy wasanaethu di o hyn allan mewn yspryd a gwirionedd, fel na cheiswyf fyth fy anrhydedd am gwag-ogoniant fy hun▪ ond dy anrhydedd ath ogoniant di [...] Dduw Tad er mwyn dy vnig Fab Iesu Grist fy Arglwydd.
Amen.
Diolchgarwch y gwir Gristion, a'i farn ostyngedig am dano ei hun.
O Arglwydd Rhoddaist i mi lygaid i weled, ac i edrych yn nrych dy air, beth oeddwn gynt, a pheth ydwyf yr awrhon; cofiaist ac ymwelaist a mi; gelwaist a dewisaist fi; gwaredaist a glanheuaist fi drwy waed dy fab, a Sancteiddiad dy Yspryd▪ ah beth oeddwn, i ti wneuthur hyn oll drossofi, a gadel miloedd eraill yn eu cyflwr Anghristnogol, a Rhith-gristnogol, halogedig, melldigedig, colledig, heb ymweled a hwynt, fel y gwnaethost a mi, er nad oeddwn well na hwyntau! ie oeddwn waeth na llawer o [Page 1] honynt, sydd yr awrhon yngwaelodion uffern: ac ir lle hwnnw y gallesit fynhaflu inne cyn hyn. Oh beth a dalaf i ti o Arglwydd am dy holl ddoniau daimus i mi? phiol Iechadwriaeth a gymeraf, fy addunedau a dalaf; ti fy Nuw a dderchafaf; beunydd ith fendithiaf; ath enw a folaf byth ac yn dragywydd, canys ti pie 'r deyrnas, y nerth a'r gogoniant, yn oes oesoedd,
Amen.
- ABsenwr, enllibiwr.
- Achlesu, amddiffyn.
- Achlysur, achos, amser cyfaddas.
- Adfeiliedig, methedig.
- Adferu, adnewyddu.
- Adrybelydr, rhwydd.
- Adyn, dyn truenus.
- Amgyffred, cynnwys, deall.
- Amharus, palledig, llesg,
- Amrafael, amryw.
- Anfatynedd, câs, brwnt
- Anghymedrol, vn yn cymmeryd gormodd o fwyd, diod, &c.
- Anghysbell, pell iawn.
- Anguriol, rhyfeddol.
- Anhydyn, cyndyn.
- Anhynaws, anhywaith.
- [Page 2]Anlladrwydd, chwant y cnawd.
- Annedd, tŷ, trigfa.
- Annianawl, naturiol, yn ymroddi i blesser.
- Annynawl, creulon.
- Anniwygiol, peth nis gellir ei wellhau.
- Ansiomedig, didwyll.
- Ansodd, cynneddf, tueddiad, dull, habit.
- Antur, perygl.
- Anturio, mentro, rhyfygu.
- Anwydau a Gwyniau 'r enaid yw, chwant, cariad▪ casineb, llawenydd, tristwch, digofaint, ofn, gobaith, &c.
- Areilio, gofalu am.
- Areithiwr, ymadroddwr têg, Orator.
- Arfaeth, pwrpas.
- Arfod, cyraedd, dyrnod.
- Argraph, llûn, scrifen.
- Arlwyo, parattoi.
- Arswdo, ofni.
- Aruthr, rhyfeddol, yn fawr.
- Aruthred, rhyfedd, mor rhyfeddol.
- Astud, dyfal, chwannog.
- Astudrwydd, dyfalwch, gofal.
- Athist, vn yn tybied nad oes Duw.
- Athrylith, naturiaeth▪ synwyr.
- Baldordd, gwag-siarad.
- Beiriannau, offerynnau.
- Bendant, yn hollawl, yn bennaf dim.
- Bendifaddeu, yn bennaf dim.
- Bentwyno, benhoppian.
- Bleidiog, vn yn gwneuthur party.
- Bradog, bradwrus.
- Brawdle, gorseddfaingc barn.
- Brecisiaid, rhai yn rhyfanol mewn crefydd, yn nhŷb yr annuwiol.
- Brochi, digio.
- Bryncian, twmpathau.
- Bryssur, ebrwydd.
- Bryssurdeb, ffrwst.
- Brwydr, ymladdfa.
- Bybyr, nerthol.
- Bugeirhes, siar adach, sportian.
- [Page 3]Cadafel, ffol.
- Cainiaid, pobl fel Cain yn casau'r da.
- Catholic, cyffredinol.
- Cellwair, chwareu, iesto
- Cilwg, digofaint.
- Clywedigaethus, teimladwy.
- Coluro, dodi lliw teg ar
- Costwyo, cospi.
- Crefu, taer-ddeisyf.
- Crôch, vchel.
- Cuaf, anwylaf.
- Cyfaredd, help.
- Cyfleu, gosod mewn lle.
- Cyfryngau, moddion.
- Cyswng, gosodiad rhwng.
- Cyflwyno, rhoi yn ewyllysgar, presentio.
- Cyffio, llyffetheirio.
- Cyffyriau, offerynnau
- Cymmhedrol, cymmesurol, trefnus.
- Cymmodi, heddychu.
- Cynglo, cload.
- Cyngrair, cyfamod.
- Cynion, geinion.
- Cyssondeb, cyttundeb.
- Cywrain, perffaith gwbl.
- Chwydawiaeth, treifflan, chware.
- Chwysigen, pladren.
- Dadl, ymrysson.
- Darbodrwydd, gofal.
- Darbodaeth, rhagweliad, parattoad.
- Darbodus, gochelgar, yn parattoi.
- Darlunio, gosod allan.
- Datgan, gosod allan.
- Dedryd, barn.
- Defosiwn, duwioldeb.
- Denu, hudo, tynnu trwy deg.
- Diamgyffred, yr hyn niellir ei gyrraedd a'i ddeall.
- Diarswyd, diofn.
- Diaspod, cri, caniad.
- Dichlyn, manol, gofalus iawn.
- Dichlyndra, manoldeb, precisenes.
- Diddarbod, anheimladwy.
- Diddarbodrwydd, diofalrwydd.
- Diddarbodaeth, annheimladigaeth.
- Difraw, diofal.
- Difrawch, diofalwch.
- Difreinio▪ gwradwydo.
- Difrif, difrifol, prûdd, pryssur, dichwareu, serious.
- [Page 4]Difrifwch, pryssurdeb, seriousnes.
- Difrodi, dinistrio, treulio.
- Difynniant, torrant yn ddarnau.
- Diffwys, serth, gorwared, dyfnder.
- Dihafarch, cyflym, glew.
- Diheuro, glanhau.
- Dihenyddwr, heingman.
- Dihirwr, a Dihiryn, drygddyn, gwastraffwr.
- Diledryw, bonheddig, mwyn.
- Dileu, crafu allan.
- Diludded, diflin.
- Dilyd, canlyn.
- Dilys, siccr.
- Dilysiant, heb wrthod, heb eccepsiwn.
- Dinam, yn siccr.
- Dir, siccr, angenrhaid
- Dirio, cymmell, haeru.
- Dirnad, deall.
- Disas, gwael.
- Diseibiant, diorphwys.
- Distadl, dibris.
- Dismwytho, difannu.
- Diweirdeb, glendid, honestrwydd.
- Diwin, llwyr-gwbl.
- Diwrth-ddadl, nad ellir ei wadu.
- Diwyrgyrch, yn union.
- Diwyd, dyfal, poenus, gofalus.
- Diwydrwydd, dyfalwch, di-esceulusdra.
- Diwygiad, adnewyddiad.
- Diwygio, gwellhau.
- Diymmod, disigl.
- Dolennu, ymdroi.
- Drem, wyneb, drych.
- Drwmblog, cysgadur, swrth.
- Drychineb, aflwyddiant.
- Drythyll, wantan, godinebus.
- Dwyfol, duwiol.
- Dwys, trwm, mawr, taer.
- Dwysder, pwys, mawredd.
- Dwysdra, prudd-der.
- Dwysed, drymmed.
- Dybryd, anferth, creulon.
- Dyfalu, gwawdio.
- Dyfynner, gwyssier.
- Dygn, poennus, eithaf, blin, yn fawr.
- [Page 5]Dygymmod, cyttuno.
- Dyre, nwyf, chwant y cnawd.
- Efryddion, anfeddyginiaethol.
- Effaith, gweithrediad, canlyniaeth.
- Effeithiawl, yn nerthol, yn gyflawn.
- Egni, nerth.
- Ehang, helaeth.
- Eiriol, gweddio.
- Erchyll, ofnadwy.
- Erfyn, deisyf.
- Ermygion, moddion, offerynnau.
- Esgud, buan, heinif.
- Eurych, Tincker.
- Ferwino, dolurio.
- Fonllefain, cri mawr.
- Frochus, digllon.
- Fuscrell, swrth.
- Fuscrelli, diogi.
- Fflwch, parod.
- Ffuantwr, rhagrithiwr.
- Ffugiol, twyllodrus, a lliw da arno oddiallan, pan yw 'n ddrwg oddifewn.
- Ffûn, anadl.
- Gamrau, cerddediad.
- Geccri, gwrthddwediadau.
- Gelcu, celu.
- Gelfyddyd, crefft, medr.
- Gellweirer, chwareuir.
- Gellweirwr, dyn digrif.
- Gethin, ofnadwy.
- Geudeb, ffallstedd.
- Gilwg, digofaint.
- Glul, cnull.
- Gochl, esgus.
- Godechial, diogi, loetran.
- Goganu, cablu.
- Gorchestol, rhagorol.
- Gorddiog, llwfr, diog.
- Gorphwyllo, gwallgofi.
- Gorphwyllog, bod i maes o'i gof.
- Gorymwad, aro nâg.
- Greddfol, trwy arfer wedi dyfod i fod megis yn naturiol, habitual.
- Greddfol dueddu, habitually to encline.
- Greisiau, steire.
- Groch, vchel, taer.
- Gwagsaw, ofer.
- Gwarsyth, ystyfnig.
- Nid Gwiw, ni thyccia, ni wna lesád.
- Gwladaidd, mul.
- Gwreng, cyffredin.
- Gwrthun, anferth.
- Gwylder, ofn a chywilydd sanctaidd.
- [Page 6]Gwyldra, cywilydd.
- Gwyn, cyffroad, mosiwn.
- Gwyniau, gwel Anwydau.
- Gŵyro, gogwyddo.
- Gwyryfon, morwynion.
- Gychwynfa, gosodiad allan, siwrne.
- Gydol, i gyd oll.
- Gyfansoddi, gwneuthur, cymmoni, trefnu.
- Gyfog, pysygwriaeth.
- Gyfrwng, môdd.
- Gynglwyst, y gamp, gwobr.
- Gyngyd, ar ddau feddwl.
- Gynnyrcholdeb, arwyddoccád.
- Gynhyrfnaws, gwressog, passionatly.
- Gysson, cyttun, cydlais.
- Haflug, crug, cwmpni mawr.
- Hamdden, odfa, lesser.
- Hanfod, sylwedd peth.
- Hanffodawl, o sylwedd peth.
- Hargraph, llûn, seliad.
- Haruthredd, mowredd.
- Herfynniadau, deisyfiadau.
- Holrhein, chwilio.
- Hurt, dwl.
- Hurtrwydd, dwlni.
- Hwylio, perswadio, cyfarwyddo.
- Hwylysfryd, a brŷd sefydlog.
- Hybu, rhwystro, attal.
- Hŷf, eon.
- Hyfed, eoned.
- Hyfhau, gwneuthur yn eon.
- Hyfforddi, cyfarwyddo▪
- Hygoel, credadwy.
- Hyll, creulon, ofnadwy
- Hynaws, addfwyn.
- Hyrddio, gwthio, cymmell.
- Hyrwydd, parod.
- Llafar, uchel lais.
- Llafur, poen, labar.
- Llednais, addfwyn.
- Lledsyn, hwyr-drwm. ynfyd.
- Lefasaf, feiddiaf.
- Llefegor, Llefain.
- Lefeswch, feiddiwch.
- Lefus, faidd.
- Lleigus, ambellwaith.
- Llên, gwyr llên, gwyr eglwysig.
- Llercian, sefyll a chymmeryd anadl, loetran.
- [Page 7]Lliasu, dychrynu.
- Llochi, gorllyfni, llonyddu, gwenhieithio.
- Llonnychu, adfywio.
- Lluddias, rhwystro.
- Llwrf, ofnus.
- Llŷg, llygion, gwyr nad ydynt eglwyswyr.
- Llygadtynnu, rheibio.
- Llyssu, gwrthod.
- Llyssiant, diystyrwch.
- Madws, mae'n amser.
- Meithriniad, dygiad i fynu.
- Mellt, lluched.
- Merwino, a chossi arno.
- Merwindod, dwysbigiad.
- Muscrellni, diogi.
- Mwlwg, dŵst, yscubion.
- Mwmpwy, ewyllys, plesser, humor.
- Mwythau, chwantau.
- Nadu, llefain.
- Nodded, amddiffynniad.
- Nwydau, gwêl anwydau.
- Nwyfus, wantan, drwg chwantus.
- Ogan a gogan, anair.
- Olrhein, chwilio, ymofyn.
- Ommedd, pallu.
- Oratoriaid, ymadroddwyr têg.
- Orddiog, llwfr, diog.
- Oriau, awrau.
- Orwinallt, serth-allt.
- Osteg, ar gyhoedd.
- Peiriannau, offerynnau.
- Pendafadu, dottio.
- Penhoeden, ranter.
- Periglorion, offeiriaid plwyfau.
- Petrus, amheus, enbyd.
- Petrusder, dowt.
- Plâ, dyn neu ddynion adwythig.
- Plaid, party.
- Pleidiau, partyon.
- Portreiadu, gosod allan.
- Precisiaid, gwel brecisiaid.
- Prelad, escob.
- Pryf-coppyn, corryn.
- Pryssuro, bryssio.
- Pryssurdeb, ffrwst.
- Pybyr, nerthol.
- Rhadau, grasussau.
- Rhagddarbod, rhagbar attoad.
- Rhaglaw, penswyddog.
- Rheidusni, tlodi.
- [Page 8]Rhodresgar, dyn yn ymmyrreth a matterion rhai eraill, dyn bussy.
- Rhuso, ymattal, ofni.
- Rhwysg, awdurdod.
- Rhysedd, gloddest, gormodedd.
- Sarháad, cam, niwed.
- Serfyll, ar sigl, ar gwympo.
- Serthedd, ymadroddion aflan, brynti.
- Seibiant, seguryd, lesser, gorphwystra.
- Senedr, cyngor, cwrt.
- Sibrwd, grwgnach, siarad ynghefn un.
- Simio, cyfrif.
- Siommi, twyllo.
- Siommiant, a siommedigaeth, twyll.
- Siommedig, wedi dwyllo.
- Spleddach, chware.
- Sychmyrnio, mogi.
- Synnu, brawychu, rhyfeddu.
- Syrnyn, ychydigyn.
- Torfynglu, torri gwddwg.
- Trahaus, balch, rhyfygus.
- Treiddio, myned, trwy
- Treillio, llithro.
- Truthio, gwenheithio.
- Trwmbluog, cysgadur.
- Trwmhyrddig, swrth, marwaidd.
- Trwydded, amser, parhâad.
- Trychiolaeth, eilun, Fansi.
- Tynniadwy, S'yn tynnu atto.
- Wagsaw▪ ysgafn.
- Wenidiog, gwas.
- Werir, dreulier.
- Wladeiddio, cwilyddio.
- Wlian, bodyn fussy.
- Wmpwy, ewyllys, plesser, humor.
- Wrthebant, gwrthddywedant.
- Wrthun, hagr.
- Wybro, gwibio.
- Ymbepreth, chware.
- Ymbendafadu, syfyrddanu
- Ymbleidiad, party, terfysc.
- Ymchwidawiaeth, segugura, treifflan, teg eiriau.
- [Page 9]Ymory scwyddo, ymdynnu.
- Ymddiheuro, ymlanhau.
- Ymgeled, ymddiffyn.
- Ymliw, ymsennu.
- Ymorol, ymofyn.
- Ymrafael, amryw.
- Ymfibrwd, ymddiddan
- Yngheudod, ym mola.
- Ystryw, dichell, malis.
- Ystryw, ac ystrywgar, cyfrwys, twyllodrus; maleisus.
- Ysdunfa, cynhyrfiad, aflonyddiad.
- Ysmala, ysgafn.
- Yssol, yn difa.
- Ystig, dyfal, poenus.
- Ystod, cwrs, helynt.
Na ryfedda weled rhyw feiau yn y print, canys y maent hwy 'n arferol o ddiangc ar y Golygwyr a'r Diwygwyr goreu, ym mhôb mâth o lyfran: ac felly yn y llyfr hyn di gae weled, nid yn vnic feiau wedigwneuthur trwy wall y Printiwr, wedi 'r Golygwr adael y gwaith, megis dau air wedi gwneuthur yn vn, nen vn gair wedi rhannu 'n ddau; ond hefyd rhai wedi diangc ar y Golygwr, megis s yn lle f, ac f yn lle s, c yn lle e, ac e yn lle c, un yn lle n, ac n yn lle u, oblegit fod y llythrennau hyn yn lled-debyg iw gilydd: weithie di gei weled llythyren yn eisieu, a weithie llythyren yn ormod. Ond i Dduw y byddo'r diolch, nid oes ymma fawr o'r fath Feiau: y mae y rhai sy 'n canlyn iw diwygio fel hyn, yn rhai o'r llyfrau.
Dalen. | llin. | Yn Lle. | Darllen. |
---|---|---|---|
1 | 17 | swy | fwy |
27 | 15 | ae | ac |
48 | 32 | Diangc | hir-ddiangc |
50 | 26 | narw | marw |
69 | 4 | ragochelionegl urawl | ragochelion eglurawl |
70 | 26 | slaen | flaen |
110 | 18 | wedd | weddi |
145 | 3 | a fòdd | a pha fôdd |
147 | 24 | diddar bod | diddarbod |
149 | 15 | hn | hyn |
150 | 6 | ptofwn | profwn |
154 | 17 | gyrch id | gyrchid |
168 | 15 | haslug | haflug |
170 | 33 | cnwi | chwi |
180 | 16 | rha | rhai |
186 | 24 | myn | mwyn |
192 | 6 | ff [...]l | ffol |
201 | 14 | cariad | cariad at ddyn |
206 | 24 | ddfyal | ddyfal |
208 | 18 | brudaaidd | bruddaidd |
210 | 17 | yn | un |
212 | 13 | thau | bethau |
212 | 20 | ddywedwth | ddywedwch |
213 | 18 | darfodd | darfod |
220 | 20 | dder | dderbyn |