Ychydig eiriau i bawb a chwenychant ddyfod i fwynhau Tragywyddol Fod gidag Arglwydd y Bywyd, pan fo dyddiau yn y byd hwn a diwedd iddynt.
BYR iawn yw Amser yn y byd hwn, ac ansicr iawn pa bryd y bydd diwedd iddo, ac er hyn nid oes dim sicrach na dyfod diwedd iddo; Eithr y byd sydd i ddyfod sydd dragywyddol, yr hwn Preg. 1 [...] ▪ 5. [Page 16] [...] [Page 17] [...] [Page] [Page 19] [...] [Page 20] elwir, yr hir gartref, am na bydd byth ddim diwedd iddo; ae efe a fydd i bawb y naill ai'n Llawenydd ai'n Boenau byth ac yn dragywydd.
Yr awrhon y mae 'r byd sydd i ddyfod yn gynhwysedig o ddwy Etifeddiaeth i ba rai y mae 'n rhaid i bawb fyned: y Cyfiawn i Etifeddiaeth Bywyd, a Gogoniant, a dedwyddwch Diddiwedd gida Duw; a'r Driygionus i'r Llyn sy'n llosci, a ddarparwyd i'r Diafol a'i Angylion; y naill yn llawenydd diddiwedd, llall yn drueni ac yn anniddanwch diddiwedd, gidag wylofain, Cwynfan, a Rhingcian Dannedd: Er mai gwir yw, Na chreodd Duw 'r nefoedd erioed ddyn neu [Page 21] ddynes, a'u gadel heb ymwared i'r diben y caent fyned i le 'r poenau, ar ba rai nid oes diwedd; na ddo: Eithr efe a'u creodd hwynt a'r amcan ei ogoniant ei hun; gan fwriadu y cawsent aros gidag ef ei hun ym Mharadwys, lle ni chawsent byth flinder na Gofid, ond llawenydd heb ddiwedd. Dyma gariad Duw yn y Dechreuad i Ddynol ryw, pan Greodd efe Ddyn ar ei ddelw ei hwn yn yr hon Ddelw y safodd dyn yn syml, yn Bur, yn Sanctaidd, heb Bechod, neu fai yngolwg Duw, ac yn y cyflwr hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd Gyfammod a Dyn, ac a roddes rydddid i fwyt a o hob pren o'r Ardd oddieuthr [Page 22] un (sef) Pren gwybodaeth da a drwg; Gea. 2. 9. eithr dywedodd yr Arglwydd wrth Addaf os bwytai efe o'r pren Gen. 3. 3. hwnnw, gan farw y byddai efe marw 'n ddiau; yr awrhon ymma y daeth y diliw o drueni i mewn ar yr holl fydd, hynny yw, Dyn a Dynes heb ymgadw at Orchymyn Duw, na chredu yr hyn a ddywedasai Dduw wrthynt; oblegid ped ymgadwasent yn y ffydd, hwynthwy a gadwasid rhag yr hwn a'u maglodd hwynt, Canys yr oedd gan y Diafol Amcan i faglu Adda ac Efa, ac addaeth attynt a chelwydd, ac a addywedodd wrthynt, [Page 23] na byddent feirw, os bwytaent o ffrwyth Gen. 3. 6. y pren y dywedasai Duw na fwytaent ohonaw, ond y byddent fel Duwiau, yr hyn oedd gelwydd arall; A chan gredu mwy i'r hyn a ddywedasai 'r sarph; nac i'r hyn a ddywedasai Duw wrthynt, hwy a anturiasant dorri 'r Cyfammod a Duw, Canys pe na chredasent yr hyn a ddywedasid iddynt gan y sarph, yn fwy na'r hyn a ddywedasid iddynt gan Dduw, aphe cadwasent y ffydd o'r eiddo Duw; ni faglasid hwynt gan y sarph: gwedi i'r sarph fel hyn trwy ei rhesswm yrru 'r wraig allan o'r ffydd yn nuw, a dinistrio hynny ynddi; hi a greodd [Page 24] gau ffydd o'r eiddi ei hun, yr hyn o'r blaen ni allasid mo'i wneuthur; ac yma y daeth credu Celwyddau i mewn gyntaf; ac felly hyd hwn, Gwae'r Enaid hwnnw na chredo nad yw Duw yn meddwl mal y mae 'n dywedyd.
Fel hyn gan edrych yn fwy ar Cyfamserol fwynhad o'r peth odd o flaen y golwg, na'r diwedd echryslon a ddygai, a chan ymollwng oddiwrth y grediniaeth o'r hyn a ddywedasai Dduw wrthynt, i gredu addewid gelwyddog y sarph, hwy a ddaethant i fod yn anfodlon i'r hyn yr oedd Duw yn ei Geniattau, ond a wrandawsant a'r y sarph, gan falch obeithio dyfod i Gyrhaeddiaau [Page 25] uwch nac y Cyfleasai 'r Arglwydd hwynt ynthynt; felly 'r wraig gan edrych ar y Ffrwyth yn hyfryd ac yn ddymunol i'r golwg, ac yn dda yn ymborth, a fwytaodd o honaw. er rhybuddio o'r Arglwydd hwynt ymlaenllaw; a dywedyd wrthynt, y byddent feirw, yn y dydd y bwytaent ohonaw. Gen. 3. 3. yr hyn a gofiodd y wraig: ac fel hyn yr ymollyngasant oddiwrth y ffydd, yr unasant a'r sarph, ac a dorrasant y Cyfammoda Duw; yma y collasant y ddelw ogoneddus, yn yr hon y Creasid hwynt, a'r rhydd-did, yr heddwch-Enaid, y Gymdeithas a'r undeb gida Duw a'r ysprydol fendithion [Page 26] a'r Daioni a fwynhasent or blaen: ac felly drwy anufudddod i Dduw y daeth pechod i mewn i Ddynol ryw, a chymerwyd dyn yn gaeth-was gan y Diafol, ac yn rhwym iw ewyllys ef: Ac felly, yn ol Gair sefydlawg Duw, a'i Ddeddf anghyfnewidiol ef, yr hwn a ddywedodd wrth ddyn, yn y dydd y bwyteych ohonaw y Gen. 3. 3. byddi marw yn Ddiau, Bu farw dyn 'i Gyfiawnder, yr hyn fydd drueni dyn yn Dragywyddol heb ddyfn edifeirwch ohonaw cyn yr el oddiyma, a thrwy Edifeirwch ddyfod i farw i Bechod, a Byw i Dduw.
Mae Duw hefyd gwedi [Page 27] Rhagderfynu na chaffai Dyn na Dynes yn y cyflwr hwnnw y mae dyn gwedi syrthio iddo, trwy 'r weithred honno o Anufudd-dod, trwy 'r hon y daeth Pechod i mewn, ac y daeth Dyni fod yn y yscaredig oddiwrth Dduw ei wneuthurwr, a chwedi ei gae allan o'i Deyrnas ef, yn y Cyflwr pechadurus hwnnw, fyn'd eilwaith byth iw deyrnas ef nes i dyfod iw hadnabod eu hunain gwedi eu rhyddhau drachefn oddiwrth Bechod, ac felly fod gwedi eu Didoli oddiwrth Ddrwg y Byd; Canys yn gymaint ag in Rhieni Cyntaf ni Addaf ac Efa, wneuthur pechod, ac felly y daeth pechod i mewn, a thrwy Bechod y daethant i [Page 28] gywilydd ac i fod yn wrthodedig gan Dduw, ac o 'r dydd hwnnw hyd heddiw, Teyrnassodd pechod ar feibion a merched Dynion, trwy 'r anian lygredig, a marwolaeth trwy Bechod, o Adda hyd Moses▪ ac o Moses hyd y dydd hwn, ac felly pawb oll wrth y Naturiaeth hon yn blant digofaint, fel y dywedodd yr Apostol, Nyni, yn gystal ag craill. ac felly y mae 'n ddiogel, fod pawb yn y Cyflwr hwn gwedi eu dadwneuthur tros byth.
Gan mai barn pawb yw; fod Pechod gwedi dyfod i mewn i bawb, phecu o bawb a bod pawb y ny golled am wybodaeth o Dduw, a'i ffordd, ac Jechydwriaeth [Page 29] eu heneidiau, ac na bydd neb yn Etifeddion Teyrnas Dduw, tra bont yn aros yn yr anian Bechadurus, oherwydd tra bont yn byw yn yr anian honno, nid oes Jechydwriaeth, ac onid oes Iechydwriaeth, yntau y mae Damnedigaeth, yna yr ymofyn sy'n ol fydd hyn.
Gan fod y pethau hyn felly; pa fodd y rhyddheir pobl oddiwrth Bechod, a Damnedigaeth, a'r llid a fydd, ac y gwneir hwynt yn Etifeddion Teyrnas Dduw, ac i fwynhau ei Jechydwriaeth ef, ac i Gydetifeddu a'r rhai a Sancteiddiwyd?
Yr Arglwydd wrth weled hyn a ddarparodd foddion sef) [Page 30] Christ y gwir oleuni) ac yn dosturus iawn Joan 1. 1. cantho oherwydd dyn yn y cyflwr colledig hwnnw, yr oedd efe gwedi suddo iddo; Canys efe a ddaethai i fod yn gaethwas i'r Diafol, ac yn elyn iw enaid ei hun, ac anghymwys i dderbyn Iechydwriaeth heb Dduw, Canys Duw a'i creassai ef yn ber winwydden, o'r iawn had oll, eithr efe a drowyd yn Blanhigyn afrywiog gwinwydden ddieithr. Ier. 2. 21. Ac a wrthryfelodd yn erbyn Duw ei wneuthurwr; er hynny (meddaf) yr Arglwydd yngolud trugaredd a mawr dosturi tuag at feibion a Merched dynion, a gyd-ddygodd a hwynt, ac [Page 31] ni thorrodd hwynt ymaith yn eu pechod, ni chwenychodd eu marwolaeth neu eu dinistr ychwaith, ond yn hytrach eu troedigaeth oddiwrth eu hanwiredd a byw, Ac felly yr Arglwydd wrth ystyried y trueni y syrthiasiai dyn iddo, a'r hyn a ddigwyddasai i ddyn, gan edrych i lawr a llygad o dosturi a gresyndod a gofiodd ei gariad gynt i ddyn yn y dechreuad pan greawdd ef gyntaf, y modd yr oedd ganddo fwy cyfrif o ddyn, nac oedd ganddo o'r cwbl a greassai ar y ddaiar heb ei law ef, yn gymaint ag iddo ei wneuthur yn ei gyffelybrwydd ei hun mewn pur Sancteiddrwydd, [Page 32] heb frycheuyn o Bechod; a'i osod ef yn uwch na 'r ych na'r Assyn, ac yn uwch na'r holl greaduriaid eraill mewn doethmeb, Gallu a Gogoniant; ond gwedi colli o ddyn y llywodraeth a roddasai Dduw iddo, a syrthio [...]n is na'r ych na.r Assyn, (hynny yw) a afriwiodd ymmhellach na Bwystfil y maes, ac nad oes ganddo allu ohono ei hun yn erbyn Bechod, gwedi colli'r anian Sanctaidd honno y creasid ef ynddi; y Doethineb hwnnw, y (ogoniant, a'r Gallu y Creasid ef ynddynt, he yd a gollwyd, a gwnaed Dyn yn ddiallu i ogoneddu Duw: eithr Anifeiliaid y maes a gadwasant [Page 33] eu lleoedd, fel y crewyd hwynt ar y cyntaf, ac a folant yr Arglwydd yn eu rhyw, ac nid yw efe yn cael dim Bai ynddynt; ac fel y gosodasid dyn oddiarnynt ar y cyntaf, felly yr awrhon ynghyfrif Duw i maent uwchlaw yn ei gyflwr Cwympedig: er mwyn pravvf o hynny, os a dyn ag ych neu farch i'r dvvfr i yfed, a'i guro hyd oni laddai un ef, nid yf efe ond a vvnel dda iddo; ond y mae dyn yn vvaeth na'r Ainfail trvvy yfed gormodedd: ac felly a yf anvviredd fel yr yf ych ddvvfr; ac yn fynych y mae dynion yn difetha eu Cyrph cystal a'u heneidau, mevvn Anghymedrolder Meddwdod: [Page 34] Ac fel yr ydym ni yn y Cyflvvr yma, y mae Anifeiliaid y maes vvedi eu gosod, o'n blaen ni; ac yn hyn y cyfodvvyd achvvyn yn erbyn dyn: Dyvvedodd yr Arglvvydd trvvy enau ei Brophvvyd, Fagu Esay. 1. 2. a meithrin ohono feibion a gwrthryfela ohonynt iw erbyn, a'g anghofio ohonynt ef ddyddiau aneirif, y rhai a geisiasant ac a ddychymygasant iddynt eu hunain Ffynhonau ni wasanaethent Jer. 12. 3. mo'r tro, pydewau wedi eu torri ni ddalient ddwfr; ac yn y Cyflvvr yma y mae Annifail y maes yn rhagori ar ddyn; a dyvvedod yr Arglvvydd, yr ych a edwyn [Page 35] ei feddiannydd, a'r Assyn Breseb ei Berchennog: ond Israel nid edwyn yr Arglwydd. Oh Resynol ac Isay. 1. 3. Maethus Gyflvvr dyn! Oh, ddyfnder y Trueui y mae Dynion gvvedi syrthio iddo! y mae y rhai a anrhydeddasai Dduvv mo'r uchel, a'r ych a'r Assyn Druain yr avvrhon yn rhagori arnynt! Oh, ,r fath Drueni, Gvvae, Arsvvyd, Gofid a Thragvvyddol ddinister (byth nad oes ddivvedd iddo) sydd yn Dilyd Dyn a Dynes yn y Cyflvvr yma, a hynny heb ymvvared i Ddyn yn y Cvvymp! Oni buasai i'r Arglvvydd mevvn trugaredd tuag at Ddyn [Page 36] ddarparu ymvvared, darfuasai amdanom oll a hynny Dros byth.
Eithr yr Arglvvyd o dyner ymyscaroedd a Thosturi [...]u ag at ein heneidiau, a ragluniodd ffordd y modd y gall Dyn ddyfod Drachefn i ffafor gida Duvv ac i Ddiangc rhag yr holl Beryglon a ragddyvvedpvvyd, i ba rai ohervvydd Pechod y maent yn debyg i gael eu bvvrvv, ac i fod yn fvvy Truenus nac un Creadur arall ar y ddaiar oblegid nid oes dim arall ar a greadd Duw ar y ddaiar; ond Dyn a dynes, a bechodd, gan hynny yn y Cyflvvr hvvn, o'r holl greaduriaid eraill hvvynthvvy ydynt y Truanaf yngolvvg [Page 37] Duvv, a'r Arglvvydd yn edrych i lavvr ar bobl yn y Cyflvvr yma, gvvelodd bavvb oll wedi myned ar gyfeiliorn, ac nad oedd un yn y Cyflwr yma yn gwneuthur daioni, nag oedd un, ond oll yn rhedeg Bendramwnwgl i uffern, gwedi myned oddiwrth ddoethineb duw a daionus yspryd duw oedd ynddynt eu hunain; gan hynny ni chafwyd un yn gwneuthur daioni; ac yna y daethant i gael eu harwain gan yspryd drwg; ac hyd heddiw y mae'r yspryd drygionus yn rheoli, ac yndwyn y rhwysc fwy neu lai ymmhawb ar na ddaethant i ufudd-dod i yspryd Christ; ac i gael eu harwain a'u Tywys ganddo; Canys [Page 38] y mae 'r holl bobl ar wyneb y ddaiar yn cael eu Harwain a'u Tywys gan un o'r ddau yspryd hyn: Pechaduriaid gan yr yspryd sy'n Cenhedlu pechod ynddynt, ac yn ei ddwyn rhagddo mewn Meddyliau, Geiriau, a Gweithreddoed drwg y rhai Cyfiawn, gan yspryd Cyfiawnder sy'n Cenhedlu Cyfiawnder ynddynt, ac yn ei ddwyn rhagddo ynddynt mewn meddyliau, Geiriau, a Gweithredoed-da; ac fel hyn y mae Meibion a Merched dynion oll yn dyfod i gael eu hadnabod; hynny yw drwy eu Geiriau, a'u Gweithredoedd, pa yspryd yw efe yr arweinir hwynt ganddo; Oblegid wrth ei ffrwyth yr [Page 39] adweinir y pren. Mat. 12. 33. fel y dywedodd Christ gynt.
Yr awr hon yma 'r cedd Cariad yr Arglwydd yn amlygedig ryfeddol i ddynol ryw drachefn, gwedi iddo wrthryfela 'n erbyn duw, a cholli'r drigfa ogoneddus y Cyfleasai'r Arglwydd ef ynddi; ynghymaint ag nad oedd yr Arglwydd ewyllyscar i wrthod dyn yn dragywydd, ac i gymeryd y deyrnas byth oddiwrtho, ond ar Ammodau Cynygiodd yr Arglwydd hi drachefn i ddyn, ac a ddanfonodd ei ddaionus yspryd i Anialwch o ddirfawr gyfyngder Nehe. 9. 20. i'r hwn y gyrrasid [Page 40] Dyn a dynes o wydd duw, oherwydd pechod, i ymweled a dyn yn ei gyflwr Cwympedig ac i'w ddwyn ef yn ol eilchwyl at Dduw; ac yr awrhon dyma 'r Ammodau y cynnygiodd duw ei deyrnas i ddyn arnynt drachefn; Edifarhewch, a chredwch yr Efengyl. Luke 13. 3. Act. 3. 19. A hyn a Gyhoeddodd yr Jesu yn ei Genadwri oddiwrth y Tad pan anfonodd efe ef i'r Byd i bregethu Newyddion da'r deyrnas, felly pawb a'r a ddychwelant at dduw, a gredant iddo, ac a wrandawant arno, ac a ufuddhant, iw lais, fegis i'r gwir fugail, ac a edifarhant am y [Page 41] drwg a wnaethant, a beidiant a gwneuthur drwg, ac a droant oddirwth eu ffyrdd drygionus, ac a Esay. 1. 7, ddyscant wneuthur daioni, ac a arweiniant fuchedd newydd, ac a gadwant Sanctaidd gyfreithau a Gorchymynion Duw y rhan sy'n ol o'u Bywyd.
Yr awrhon i Bawb, yn ddidderbyn wyneb, Cyfoethog neu Dlawd, Hen neu Jeuangc, Uchel neu Jsel, Caeth neu Rydd, Meistr neu Was, Du neu Wyn, Bawb a dderbyniont Deyrnas Dduw ar yr Ammodau hyn, wele, mae hi ar gynnyg iddynt: ac igynnhorthwyo dyn yn y gwaith hwn, gan na ddichon un Dyn ei [Page 42] wenuthur ohono ei hun heb gymmorth duw, Duw felly a garodd y byd, ac a anfonodd ei fab, Christ Jesu 'r gwir oleuni, sydd yn goleuo pob dyn ag sy'n dyfod i'r byd.
I ymweled a 1 Cor. 12. 7. Joan. 3. 16. dyn, ac a roddes fesur o eglurhad o'i ddaionus yspryd i bob dyn a dynes er lleshad, yn ol yr ymadroddion yn yscrythyrau 'r Gwirionedd, y rhai yr ym ni y rhai elwir Cwacers yn perchenogi eu bod yn Gywir draethawd or eiddo Gwyr Sanctaidd duw, ac o'r pethau a ddylid eu credu a'u hymarfer, a'r lleshad hwn y maent hwy i gyflawni drwy 'r mesur o'i lan yspryd sydd ar fedr Jechydwriaeth, [Page 43] yr hyn nid all dim arall mo'i wneuthur, ond Goleuni ac yspryd duw a chan hynny efe a'i rhad roddes ef i bawb iw deffroi hwynt o beehod a drygioni; gan ddywedyd, Cyfodwch, Ewch oddiyma, nid yma eich Gorphywysfa; y mae efe hefyd yn Cyhoeddi rhydddid i' Caethion sydd yn Rhwymau Sattan, fel y gallont oll ar yr Ammodau rhagsoniedig hyn, ddyfod i fwynhau heddwch gida duw drachefn, a Choron Tragywyddol fywyd iw heneidiau, pryd na bo dyddiau yn y bywyd hwn, pan ddiflano ymaith holl Goronau yma oddisod, ac na bont byth i'w mwynhau mwyach; Oh! yna y bydd dedwydd [Page 44] y rhai gawsant drigfa yn Nuw, ac etifeddiaeth nid Amhara.
Y mae Duw hefyd drwy ei Sanctaidd yspryd ar y llaw arall yn Cyhoeddi, y bydd i'r rhai na ddychwelont atto, ac arwain Buchedd Newydd, eithr a barhant i wrthryfela yn erbyn eglurhadau ei oleuni, ac ymrysoniadau ei ddaionus yspryd ef yn eu Calonau a'u Cydwybodau eu hunain, nes y gadawo efe ymryson a hwynt, ac i ddydd eu hymweliad fyn'd heibio, y bydd (meddaf) i'r cyfriw oll, ac ar y Cyfriw oll, yr ymadrodd Barn hwnnw (sef) Ewch chwi felldigedigion, Ewch Mat. 7. 32. Pen. 25. 40, 41. oddiwrthif, nid [Page 45] adwaen chwi. Ac fel hyn y rhai Drygionus a holl weithredwyr anwiredd-a-droir i uffern, a phawb ar a anghofiant Dduw, lle y mae'n rhaid iddynt etifeddu Tragywyddol Gospedigaeth, dyma 'r Wrthodedigaeth a'r Ddamnedigaeth a ragarfaethodd Duw yn y Dechreuad, nid am na fynnasai Duw eu hachub hwynt, eithr digwyddodd iddynt fel i Gaersalem gynt; Ceisiodd duw eu casclu, eithr ni fynnent hwy mo'u Casclu; ac felly anghyfnewidiol ddeddf duw mewn Cyfiawnder a gyflawnwyd arnynt hwy.
Y mae hyn yn perthyn i'r holl bobl ar wyneb y ddaiar, [Page 46] a chwnychant heddwch gyda duw yn y bywyd hwn, a phreswylfod gidag ef i'w heneidiau, gwedi y darffo 'r bywyd hwn: Meddaf, y mae'n perthyn iddynt chwilio a phrofi pa fodd y maent yn sefyll mewn perthynas i yspryd duw ynthynt eu hunain, ac i ystyried gan ba beth yr arweinir hwynt; Canys pawb a arweinir gan yr yspryd da neu'r drwg; yr yspryd da sy'n tywys meddyliau pobl tua'r nefoed i synied pethau nefol, a'r drwgyspryd a dywys feddyliau pobl tu ag uffern i synied anuwioldeb a Chnawdol-ddauarol bethau: Yn niffyg ei wrthwynebu, ymdrechu agef, a throi oddiwrtho, efe a arwain i'r pwll diwaelod [Page 47] allan o'r hwn nid oes Brynedigaeth, ac ni all un dyn yn ei ewyllys a'i nerth ei hun wrthsefyll yr yspryd Enaidfradol hwnnw, a gymerth afael ar holl ddynol-ryw, hyd oni yw pawb gwedi darfod amdanynt, heb gynhorthwy yspryd duw, gan nad allent mewn un modd eu Cynhorthwyo eu hunain. Ond Bendigedig fyddo 'r Arglwydd efe a gymerth ofal am-ddyn, ac a anfonodd ei ddaionus yspryd i'r diben hwnnw, i'n cymmorth yn erbyn yspryd Anghyfiawnder.
Yr awrhon yma y gall pawb drwy 'r yspryd daionus hwn o'r eiddo duw ddyfod i gael eu dealltwriaethau gwedi eu hagoryd; [Page 48] ac i weled pafodd y mae gida hwynt am eu hiechadwriaeth, a pha fodd y maent yn sefyll mewn cymeriad gida duw; sulwa yrawrhon, y mae 'r peth yn sefyll yn hyn, os arweinir di gan yspryd duw, yna yr wyt mewn heddwch Rhuf. 8. 16. ag yspryd duw Joan. 16. 7. 8. Joa. 3. 3. 20. 21. 22. ynot dy hunan; ond os yw yspryd duw etto yn Argyhoeddi ac yn Barnu, yn dy Galon a'th Gydwybod, ac yn dy Geryddu, ac yn dy flino di yno, yna nid yw dy heddwch a'th Iechadwriaeth etto gwedi ei weithio gida duw, ond a wyt ynanghymeradwy iawn yngolwg duw, yr hwn [Page 49] yw chwiliwr yr holl Calonau, a barnwr y meddyliau oll er mawr [Broffessu,] gyfaddef ohonot, Grefydd, ac er rhedeg ohonot i Ddychymygion a Rhithiau lawer, gan dybied bodloni Duw, a chaffael heddwch i'th Enaid; a thi elli Weddio, Pregethu, darllen, canu ac ymarfer ag Ordinhadau a Dyledswyddau Teulu, fel y galwant, ac er hyn fod yn elyn i Dduw, ac i'th Enaid dy hun, os gwrthodi dy arwain gan yspryd Duw allan o ddrygionus ffyrdd y Byd, oddiwrth ofer ymarweddiad, Canys Gweddiau y rhai drygionus ydynt ffiaidd gan yr Arlwydd, Dihar. 15. 8. & 28. 9.
Canys cyn belled a hyn y [Page 50] daeth Saul gan oedd efe yn Elyn i Dduw a'i Enaid ei hun, efe a wnaeth flodeuog ymddangosiad mawr ynghylch Crefydd, ac yr oedd yn fawr yn yr allanol Gyfarchwyliadau: efe a ddywedodd Act. 9. Pen 22. Ruf. 7. Sul wa. amdano ei hun ei fod o ran y ddeddf oddiallan yn ddifai; a diammau fod dysc fawr ganddo, a Zel fawr dros Grefydd (ymhell tu hvvnt i filoedd yn y dyddiau hyn, o'r rhai a elvvir Christianogion) etto 'r cvvbl o hyn ir oedd efe yn elyn i yspryd Duvv yn ei galon ei hun, ac yn ei Zel dywyll a wingodd yn erbyn symbyliadau yspryd Duw [Page 51] ynddo ei hun, mal y mae Proffesswyr uchel lawer yn y dyddiau hyn: Ac ydynt yn gwrthryfela yn erbyn ymrysoniadau yspryd Duw yn eu Cydwybodau eu hynain, Tra maent yn llawn o ddyledswyddau oddiallan, y sydd yn gwneuthur ymddangossiad teg yn y Cnawd; ond y mae 'n galed i bobl wingo yn erbyn y symbylau; Oblegid ystyria, os daw dyn byth i ffordd duw drachefn, mai trwy gyfarwyddyd yspryd duw y mae 'n rhaid i hynny fod, Dihar 6, 23. Canys y ffordd i fywyd yw Ceryddon addysc; a rhoddes duw ei ddaionus yspryd i'r diben hwnnw, sef i gyfarwyddo ac i ddyscu [Page 52] pobl yn ffo rdd Bywyd Tragywyddol.
Ac fel dyma 'r hwn oedd yn y corph hwnnw o Gnawd a ddioddefodd yn Ghaersalem gan yr Iddewon Llawruddiog (yr hwn oedd unig-anedig y Tad, yn llawn Gras a Gwirionedd) fel na chollid pw bynnag a gredai ynddo Joan. 1. 12, 13. 14. Pen. 3. 16. ef, ond caffael ohonynt fywyd Tragywyddol.
Yr hwn a ddywedodd, Cyn bod Abraam yr wyfi, Dyma 'r Ail Adda hwnnw, yr yspryd Joan. 8. 58. Rhuf. 9. 5. 1 Cor. 15. 1 Ioan, 2. 5. Tit. 2. 13. 14. hwnnw yn Bywhan, yr hwn yw 'r Achubwr hwnnw a duw [Page 53] gwedi ei amlygu mewn Cnawd, yr hwn a ddaeth i Brynu [Wared) Pobl allan o Bechod ac oddiwrth Ofer Ymarweddiad, fel y byddai efe 'n Iechawdwr i'w henediau trwy eu golchi a'u glanhau oddifewn oddiwrth eu pechod trwy ei waed ei hun; ac nid i achub pobl mewn pechod, ond allan ohonaw, A dyma 'r Graig oedd yn Canlyn Israel gynt, o'r hon yr yfasant. 1 Cor. 10, 4. yr hon Graig Medd Paul oedd Christ.
Felly dyma foddion Jechad wriaeth, a hynny o baratoad Duw, er gwared dyn colledig truan i'w ddwyn yn ol i fod yn ettifedd yn y deyrnas sy'n sefyll mewn Cyfiawnder, [Page 54] a heddwch, a llawenydd yn dragywyddol, a'r ffordd iddi yw dyfod i gael hyfforddiad gan Sanctaidd yspryd y Gwirionedd hwn, sy'n Tywys i bob Gwirionedd, a cheryddon yr yspryd hyfforddgar hwn yw'r ffordd i fywyd, fel y Tystiolaetha ac y dywaid scrythyrau 'r Gwiroionedd.
Y peth sy'n Ceryddu pobl am bechu yw 'r hyn sy'n Tywys y rhai a lynant wrtho allan o bechod ac a hyffordda ac a ddysc bobl y ffordd i'r deyrnas hon o'r eiddo Duw, ac nes y del pobl i uno aHyfforddiadau, dysceidiaethau, ac arweiniadau yr yspryd daionus hwn o'r eiddo Duw, sy'n Tywys i bob Gwirionedd. ac yn dyscu pob [Page 55] Gwirionedd, ac nid ces gelwydd yntho, ni chant fyth wybod y ffordd i deyrnas nefoedd, na'i Thangnheddyf hi, (ac ni chafodd neb erioed.) ond trwy ddiystyru ymrysoniadau Yspryd Duw, ac ymdrechu yn erbyn ei Bigiadau ef yn y Gydwybod, y mae trueni yn dyfod ar bawb. Hyn fu Ddadymcheliad a chwymp Israel gynt, (Nehem. 9. 20.) roddi o Dduw iddynt ei yspryd daionus iw dyscu hwynt; eithr hwy a wrthryfelasant i'w erbyn, nes myn'd eu dydd heibio, ac yna y daeth diliw o drueni i mewn arnynt, ac ni allai 'r holl fyd erbyn hynny eu cymmorth hwynt, eithr ei lid a dorrodd allan arnynt, Mal y [Page 56] mae 'n scrifenedig; eu Celane ddau a s [...]rthiasant yn yr Anialwch, do dair mil ar hugain mewn un dydd; ac a ddinistriwyd gan Seirph a chan y dinistrydd, 1 Cor. 10. 8, 9, 10, 11, 12. a hyn a ddigwyddodd iddynt am wrthyfela ohonynt yn erbyn daionus yspryd Duw a roddasai efe ivv dwscu hvvynt, gan ei vvrthvvynebu nes ivv dydd fyn'd heibio; ac nes i'r Arglvvydd beidio, ag ymrysson a hvvynt, a thyngu na chaent ddyfod i mewn i'w orphywysfa ef; diwedd Dychrynadwy!
Nid iddynt hvvy y digvvyddodd y pethau hyn yn unig yn yr amser hvvnnvv, ond i'r rhai hynny oll ymhob oes a vvrthryfelasant yn erbyn yspryd [Page 57] Duvv, nes peidio ohono ag ymryson a hvvynt, deuent bob amser i drueni na bydd byth divvedd arno.
Gvvrthryfelgarvvch (Ebr un gynt) sydd fel pechod devviniaeth, Sam. 15. 23. ac ni adavvai y gyfraith i Ddevvin fyvv; ac fegis yn amser y Gyfraith na cheniattai Duw i ddewiniaid eu Bywydau naturiol, ni ddyru efe ychaith fywyd tragywyddol i'r Eneidiau a ant rhagddynt mewn Gwrthryfelgarwch yn erbyn Ceryddon ei ddaionus yspryd yr awrhon, ond a bechant allan ddydd eu hymweliad, sef dydd ei hirymaros, a'i gydddygiad a hwynt, yr hwn a ddywedodd Nyd ymrysona fy yspryd [Page 58] i â dyn yn dragywydd, Gen. 6. 3. ymadrodd Gwr da yn y dyddiau gynt, yn dywedyd wrth Bobl yn eu hieuengctyd, un Cydnabyddus a gwaith yr Arglwydd gyda dynolriw ydoedd, Cofia dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuengctyd Cyn dyfod y dyddiau blin (Preg 12. 1.) hynny yw y dydd drwg, pan beidio yspryd Duw ag ymryson a dyn, yr hwn a ddaw ar bawb na throant wrth geryddon yspryd Duw yn eu Calonau, yn yr amser y bo efe yn Cynnyg Trugaredd iddynt.
Eithr Cyfododd Duw ymhob oes i fynu wyr ffyddlon y rhai a fu ffyddlon i yspryd Duw ynddynt eu hunnain, i ddwyn Tystiolaeth yn erbyn pechod, [Page 59] ac i rybuddio Pobl a [...] ddrygioni eu gweithredo [...]dd, [...] a thrwy ymrysoniadau ei ddaionus yspryd ef ynddynt, am y mynai efe eu gadel hwynt yn ddiescus, y rhai a gasasent wybodaeth, ac ni ddewisasent ofn yr Arglwydd, o [...]d a ddiystyrasant ei holl Gyngor ef, ac ni throent oddiwrth eu ffyrdd drygionus wrth Gerydd ei ddaionus yspryd ef ynddynt; a'r Gwyr da hyn y prophwydi a lefarasant yr hyn a lefarasai Duw wrthynt, neu ynddynt, drwy ei yspryd, ac nid rhwybeth ragfyfyriedig, fel yr Offeiriaid (o bob math) yn y dyddiau hyn, y rhai i arwei [...]ir gan yspryd Christ.
Duw a lefarodd gynt wrth y [Page 60] Bobl, a chynhyrfwyd hwynt i lefaru fel y rhyngodd bodd iddo ef, weithiau ychydig, ac weithiau lawer, fel y mynai a'r peth a fynnai; ac fel hyn y mae Duw yn llefaru drwy ei Broffwydi yn yr oes hon eiddom ni a'r rhai hyn yndynt y gwir Wenidogion; ac nid neb arall, ac ni bu neb arall erioed; ni ddichon ychwaith neb gyfarwyddo dynion, a'u gosod yn y ffordd i'r Nefoedd, oni byddant eu hunain, gwedi eu harwain, 1 Cor. 1. & Pen. 2. 10. 1 Joan. 1. 1. 2. eu hyfforddi, en dyscu a'u Tywys gan yspryd Duw; y cyfriw a allant hyfforddi eraill, fel y mae Duw; yn gwneuthur iddynt hwythau, [Page 60] a'r cyfriw a allant ddywedyd eu profiad i'r bobl o ddysceidiaethau, Arweiniadau, a Thywysiadau yspryd Duw oddifewn, a'r modd y mae 'r Enaid yn dyfod i'w gyrhaeddyd iw ddychelyd a'i ddwyn i undeb, Cymmundeb, a Chymdeithas, ac i rodio gida Duw, megis y Cynhyrfir hwynt gan yr yspryd glan, ac megis y rhoddo 'r yspryd iddynt ymadrodd, y rhai hyn yw Gwir Wenidogion Christ, a rhai hyn a bregethant yn ddiragymysyr neu gelfyddyd anianol, neu ddychymyg ddynol; y rhai a gymerant arnynt fod yn ddyscawdwyr i eraill, ac sy heb ddyfod i gael eu dyscu; eu [Page 61] harwain a'u Tywys eu hunain gan yspryd y Gwirionedd, yr hwn sy'n Tywys (dal sulw) i bob Gwirionedd, fel trwy hwn y gallant droi pobl (fel y gwnaeth y Prophwydi a'r Apostolion gynt) at arweniadau a Thywysiadau yspryd Duw ynddynt ei hunain, Gau Brophwydi a Thwyllwyr ydynt, oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw sydd eglur, ac i'w egluro mewn dyn; Canus yno y mae Duw yn ei ddangos i ddyn, fel y mae'n scrifenedig, Duw a'i heglurodd iddynt. A phavvb a gymerant arnynt Ruf. 1. 19. fod yn ddyscawdwyr, ac a fynent dybied eu bod yn rhywbeth, ac na wyddant y pethau [Page 62] hyn, Twyllwyr ydynt, ac a anrheithiant Bobl am eu heneidiau, fel yr anrhaithiasant eufus lawer o filoedd. Jerem. 14. 14, 23, 28, 29, 30, 31, 32, 36.
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd fel y rhybuddier pavvb, ac y deffroer hwynt i ymgais ar ol Duw, ac i ddyfod i maes oddiwrth y Gau brophwydi a'r Twyllwyr sydd yn y Byd, ac i ddisgwil wrth Dduw oddimewn i dderbyn oddiwrtho ef yspryd doethineb a datcuddiad yn y Gwybodaeth ohonaw ei hunan yn y rhanau oddifewn; a hwn yw'r unig wybodaeth, fely mae'n scrifenedig, hyn yw'r Bywyd Tragyddol dy adnabod yr [Page 63] unig wir Dduw, a'r hwn a anfonaist Jesu Crist Joan. 17. 3.
Ond i ddychwelyd at y peth oedd o'r blaen mewn llaw yr hyn oedd, i gymeryd Golwg ar drueni, dinistr a Chwymp y rhai yn eu dydd ni throesant oddiwrth ddrygioni eu Gweithredoedd, wrth Geryddon yspryd Duw yn eu Calonau eu hunain, a'u rhanau oddifewn, eithr a gyffroesant Dduw o ddydd i ddydd, yna y Cyfodai Dduw i fynu ei weision y Prophwydi ac a'u hanfonai i rybuddio drwgweithredwyr, megis yn Arwydd iddynt, fod hirymaros Duw yn neshau at ddiwedd ac y pediai ei yspryd ef ag ymryson a hwynt, ac y deuai [Page 64] dinistr Cyflym arnynt, heb Edifeirwch buan, a Gwellhad Buchedd, Fegis Noah y Gwr Cyfiawn hwnnw, yr hwn a rodiodd gida Duw, ac a oedd Berphaith yn ei Genhedlaeth, Cyfododd yr Arglwydd ef i fynu i fod yn dyst yn erbyn y Genhedlaeth honno (Gwenidog, a Phregethwr Cyfiawnder) I ba un y datcuddiodd Duw ei feddwl ynghylch y Genhedlaeth honno, gan ddywedyd, Nid ymrysona fy yspryd yn wastadol a dyn, (na chymero rybudd) a dywedodd Duw wrth Noah, Gwna it Arch, canys diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron. ac wele Myfi ie Myfi (Medd Duw) yn dwyn dyfroedd Diliw i ddifetha pob cnawd yr [Page 65] hwn i mae anadl einioes ynddo: ond a thydi y cadarnhaf fy nghyfamod; canys tydi a welais i yn gyfiawn ger fy mron i, yn yr oes hon. Ac yr wyfi 'n meddwl nad rhaid dywedyd llawer yr awrhon beri i [...]boll goel i ennill pobl i goelio ddarfod i Dduw ddinistrio yr hen fyd ynghyflawniad ei lidiawg [...]wgdd, a hynny oherwydd pechu ohonynt allan Ddydd eu hymweliad, ac na ddychwelasant wrth Sanctaidd ac uniawn Geryddon duw; tra bu ei yspryd ef yn ymryson a hwynt.
Trachefn, Trowyd Trigolion Sodomah a Gomorrah eu dinasoedd a'u Golud yn lludw, oherwydd [...]u pechodu, [Page 66] yr rhai megis y Gyffelybiaeth o dragywyddol ddialedd a wn [...]eth duw i fod yn siampl i bawb a fucheddent yn annuwiol yma rhag llaw. Hefyd yno 'r oedd dinistr Pharaoh a' Lu, yr hwn ymmalchder ei Galon a ddywedodd, Pwy yw'r Arglwydd, fel yr ufuddhawn i'w lais ef, yr Arglwydd nid adwaen, ac Israel nis gollyngaf. Ymwelodd Duw a [...]r dderwen Anhynaws yma mewn Barn, gan dywallt allan ei Blaau arno ef ac ar ei wlad ac efe a ddygodd i lawr ei alcher i'r Mor Coch, ac efe a'i darostyngodd ef a dymchw [...]liad tragvvyddol yn y dyfnder: eithr yr Israel yma, yr hvvn ni ollyngai [Page 67] Pharaoh, fel y Cynhalient Wyl i'r Arglvvydd yn yr Anialvvch, ac yr Aberthent i'vv duvv; Gvvarededd duvv hvvynt o'i lavv ef trvvyfraich Gadarn; ac a'u harvveiniodd trvvy 'r Mor Coch, fegis ar dir sych, gan vvneuthur i'r dyfroedd [...]e [...]yll fel muriau, ar y llavv ddehau, ac ar yr asswy, ac fel hyn y gwnaeth duw Pharaoh yn siampl i bawb a fyddent Galon galed ac a wrthodent ufuddhau ir Arglwydd rhagllaw.
Ac nag anghofier byth, fod duw yn yr holl ddymchweliadau hyn yn gofalu am y Cyfiawn, am y rhai a garasant Dduw, ac a ufuddhasant i'w lais, ac na wrthryfelasant [Page 68] yn erbyn ei ddaionus yspryd ef, ond a droesant wrth ei Geryddon ef, y rhai na phechasant, ond a ofnasant, Megis, Noah, y Gwr Cyfiawn hwnnw, duw a'i hachubodd ef oddiwrth ddinistr yr hen fyd, ac a waredodd Lot gyfiawn allan o ddymchweliad Sodomah; a'i Bobl Israel a waredodd efe o'r Pair Haiarn, ac a'u gwaredodd hwynt rhag Pharaoh a oedd yn eu gorthrymu hwynt, ac a ddadleuodd eu hachos a Brenhinoedd y ddaiar ac a ddialodd eu Cam arnynt hwy.
Wele un Rhagnod ychwaneg; y rhan honno o Israel a bechodd ac nad ufuddhaodd i lais duw, ond a'i cyffrodd ef o [Page 69] ddydd i ddydd i ddigofaint drwy e [...] Gwrthryfelgarwch a'u hanghrediniaeth (sef hwynt hwy tros ba rai y gwnaethai duw Jechadwriaeth gymmaint) a ddymchweldodd Duw yn yr Anialwch, ac a'u torrodd hwynt ymaith yn ei ddigofaint drwy 'r Cleddyf, y Bla, neu ddinistr arall, a syrthiodd mewn un diwrnod dair mil ar hugain, a gwnaeth duw i'w plant Grwydro yn yr Anialwch ddeugain mlynedd i Ddwyn putteindra eu Tadau, nes darfod Celaneddau eu Tadau yn yr Anialwch: y rhai hyn y digiodd ac yr anfodlonodd Duw wrthynt, am wrthryfela ohonynt yn erbyn ei [Page 70] ddaionus yspryd ef, yr hwn a roddasai efe iddynt i'w hyfforddi a'u Tywys yn y ffordd ym mha un dyla-sent rodio; ac nid hyn oedd y cwbl, eithr efe a dyngodd yn ei lid nad elent i mewn i'w orphywysfa ef; felly y gallwn yn iawn farnugyda 'r Apostol, Onid arbedodd duw yr Angylion a bechasant, na dinasoedd Sodoma a Gomorrah a bechasant, na Pharaoh a'i Lu a bechasant; na 'r Rhan honno o Israel a bechodd yr hon yr oedd duw gwedi ei charu mo'r gu, achwedi gwneuthur cymaint Jechadwriaeth drosti; ond a'u gwnaeth hwynt yn siamplau i bawb a fucheddent yn anuwiol rhagllaw; Och! Beth [Page 71] fydd diwedd y rhai a fathrant fab Duw, a farnant yn aflan waed y cyfammod, ac a ddifenwant yspryd y Gras, ac ydynt o ddydd i ddydd yn ail Croeshoelio Mab Duw, yn ysprydol, trwy eu hannuwiol fucheddau a'u hannuwiol ymarw eddiadau; Oblegid fel yr oedd pechod yn drosseddiad y Gyfraith, felly pwy bynnag sy'n pechu, y mae 'u gwrthryfela 'n erbyn Duw a Christ, ac yn difenwi yspryd y Gras; ac fegis yr oedd yr hwn a ddirmygai 'r Gyfraith a ddaeth drwy Moses yn marw heb drugar edd, felly Duw a gadwodd Gospedigaeth fwy i'r hwn, sy o'i wirfodd yn pechu, ac heb ddychwelyd wrth Gerydd [Page 72] Duvv, ond yn gvvrthryfela yn erbyn ei yspryd ef, yn diystyru ei Gyngor, yn dirmygu ei Gerydd, yn cashau Gwybodaeth, ac heb ddevvis Ofn yr Arglvvydd, na 'r Goleuni a'r Gras hvvn [...]vv sydd oddimevvn yn ymrysson a dynion i'w troi oddiwrth bechod, trwy eu ceryddu a'u hargyoeddi oddifewn am bechod, yn eu Calonau a'u Cydwybodau, a'u rhanau oddifewn, ac y mae efe 'n eu cynghori yn eu rhanau oddifewn i fyw 'n sobr ac yn dduwiol yn y byd presennol hwn; y Cyfryw, meddaf, sydd raid iddynt etifeddu y fflammiau Tragywyddol, a chael eu rhan yn Y llyn sy'n [Page 73] llosci, lle y bydd wylofain a chwynfan A Rhingcian Dannedd a hynny tros byth ac yn dragywydd.
A dalier sulw y modd y carodd Duw y rhai Cyfiawn ac y Cadwodd efe hwynt ymhob oes y rhai a ofnasant Dduw, ac a safasant yn ei Gyngor ef, ac a garasant Dduw goruwch pob peth, y rhai a ofnasant Dduw am eu bod yn ei garu ac na phechasant, ond a arswydasant; oh, mo'r glustymwrandawgar fu Duw iddynt! ac fel yr agorodd Duw eu Calonau i gyfryngu tros yr Anuwiolion, tros eu gelynion, tros y rhai a'u cashaodd heb achos ac a wrwgnachasant iddynt eu bywydau naturiol, ac a roddasai Duw iddynt! Oh, [Page 74] fel y cymmodwyd yr Arglwydd drwyddynt hwy! hyd oni bu well i'r rhai drygionus oherwydd y rhai Cyfiawn, Canys yn ninistr Sodoma pe cawsid yno Ddeg o rai Cyfiawn, efe a arbedasai Dduw yr holl Ddinas er mwyn y deg C [...]fiawn, ac arbedwyd Zoar er mwyn Lot y gwr Cyfiawn hwnnw.
Peth da a gwynfydedig i bawb▪ yw bod yn Gyfiawn; Canys heb Gyfiawnder a Sancteiddrwydd nid all neb weled Duw; ac heb weled Duw, nid oes fwynhau y deyrnas honno nid yw o'r Byd hwn, yn yr hon y mae Llawenydd a heddwch yn dragywyddol: yr awrhon nid oes ddyn ohonaw ei hun a all ddyfod i fod yn gyfiawn, [Page 75] ac yn bur o Galon, nad rhaid i Grist lanhau a charthu 'r Galon a'i golchi dwy olchiad yr Adenedigaeth oddifewn drwy danhellu [lanhau] 'r Galon oddiwrth Gydwybod Ddrwg drwy ei waed ei hun, a'r Galon fel hyn wedi ei phuro, ymadrodd Christ yn y bumed o Fathew a gyflawnir i'r cyfriw oll, sef, Gwyn eu byd y rhai pur o Calon, Canys hwy a welant Dduw, ac er mwyn dwyn at y Gwynfyd yma, gosododd Duw gymmorth ar un Cadarn i achub ac i gymeryd ymaith y Baich o bechod oddiar yr enaid, ac i roi Gorphywystra i'r enaid deffygiol. Yr awr hon pawb gan mwyaf a gyfaddefant i hyn oherwydd mai [Page 76] scrythyr ydyw; ond un yw cyfaddef iddo, a pheth arall yw ei wybod yn brofiadol, a chywir ddyfod at Grist.
Fe fydd Gwrthresswn yscatfydd mewn rhai ynghylch dull y dyfodiad at Grist.
Ir hyn yr Attebaf; Agwedd neu ddull dyfodiad at Grist, yw dyfod at ei Oleuni a'i Ras ef yn y Galon, ac felly yw gwneuthur yn Greaduriaid newyddion; rhaid i ddyn adel pechod, a dyfod i dduwiol Dristwch, yr hwn sydd yn gweithio gwir Edifeirwch na bydd byth edifeirwch o hono; a dyfod i adnabod Pechod yn faich, ac i deimlo ei bwys ef ar yr Enaid, os daw efe at Grist yn iawn; [Page 77] Canys yr rhai hyn a alwodd Christ i ddyfod atto, gan ddywdyd, Dewch attafi bawb ac sydd yn flinderog ac yn llwythog; ac mi a esmwythaf arnoch, mi a roddaf orphywysdra i'wch, Mat. 11. 28. Ac fel delych atto efe a' th wna n bur o Galon, fel y gwelych Dduw ac y byddych Wynfydedig. Hyn ni ddichon dyn ei wneuthur drosto ei hun, na neb drosto ond Christ yn unig: felly y rhai alarant ac a ycheneidiant dan faich Pechod, ydynt gymmwys i ddyfod at Grist; nid y rhai a ymhyfrydant mewn pechod, nid y rhai a garant bechod, ac a ddadleeuant fod yn rhaid iddynt byw ynddo tra font byw, hynny yw, nes eu meirw, ond y Rhai a lafuriant, fel Paul, i gael [Page 78] eu gwared oddiwrth Gorph Pechod, (Rhuf. 7. 24.) hon yw'r ffordd i fod yn Greaduriaid Newyddion; A dyma y rhai a glywant Lais Mab Duw ac a fyddant byw, fel y dywedodd efe, Mae fy nefaid i yn grwando fy llais i, a llais y dieithr nid gwrandawant. Ioan. 10. 27. (y rhai hyn ydoedd y defaid da) yn awr dyfod i wrando llais Christ, yw ufuddhau i'w yspryd ef sydd yn y Galon yn ymdrech i wareiddio 'r drygionus; a'r Eywllyscar a'r ufudd a drig yny tir (yn nheyrnas Dduvv) ac a fwyty o ddaioni y Tir, bara 'r Bywyd, a'u heneidiau fyddant gyfrannogion o'r Mel a'r Llaeth sy'n lliferio ynddo. Esay. 1. 5.
[Page 79] Fallai y dyvvaid rhyvv u [...], Pe buasswn yn nyddiau ei gnawd ef mi a wrandawswn arno, âc a ddaethwn atto; ond efe a escynnodd i'r uchelder, ac y mae 'n eistedd ar ddeheulaw Duw, a pha fodd y gwrandawafi ef yn awr? Wele, gvvir yvv efe a escynnodd i'r Nefoedd, ac y mae gida 'r Tad; ond dal sulw ar hyn, ni therfynvvyd ef i un lle, ond fel y gelli ddarllen yn yscrythyrau, y mae efe nwchlaw pawb, yn Dduw Bendigedig yn oes Raf. 9. 5. oesoedd a'i gydrycholdeb yn llenwi y nefoedd a'r ddaiar; y mae efe ym mhoblle; ac y mae mesur neu eglurhad o'i oleuni ai ddaionus yspryd wedi ei roddi i ti ac i bob dyn ar [Page 80] vvyneb y ddaiar 1 Cor. 12. 7. er lleshad iddynt hwy ac i tithau ar gyfrif Jechydvvriaeth, a'r vvybodaeth o hyn a vvnaed yn adnabyddus yno ti, neu yr hyn a ellir ei vvybod am Dduvv sydd eglur ynoti, ac Rhuf. 1. 19. medd yscrythyr, y mae 'r Gair yn agos atat yn dy enau ac yn Pen. 10. 8. dy galon. &c. yno y gelli ei glyvved, ac fel yr ufuddheych i'vv lais efe a rydd it allu i vvneuthur yr hyn y mae 'n ei ofyn genit, a thrvvy vvneuthur hyn, y mae, fel y gvvrandevvych ei lais ef, trvvy ymgadvv at yr hyn sydd o Dduvv ynot, a'th fedduvl gvvedi ymgynefino yntho.
[Page 81] Yma 'r adnabyddir llais yspryd Christ cystal ac yny dyddiau a fu, ac yn y Cenhedlaethau a aeth hebio. felly na thwylled neb mohonynt eu hunain, Canys y mae yspryd Christ yn agos at bawb, pa un bynnag a wnelont ai ei wrando ef ai peidio; a gwir yw, y gorfydd iddynt un divvrnod roi cyfrif iddo mynnont neu beidiont: na thwylled gan hynny neb mo'noch a gvvagedd celvvyddog neu a geriau diles; canys hwn yw efe, sy'n chwilio 'r Galon, ac yn profi 'r Arennau, ag a fynega i ddyn beth yw ei feddwl, Arglwydd y lluoedd, yw ei enw, ac nid ye efe neppell oddiwrth bob un. Act, 17. 27. 28. fel nad rhaid [Page 82] i neb ddywedyd Pwy a escyn i gyrchu Christ? Neu Pwy a ddescyn i gyrchu Christ i fynu? neu Pwy a â tu hwnt i'r mor? Canys medd yr Apostol, y mae gair y Ffydd yr hwn yr ym ni yn ei Bregethu yn agos, Rhuf. 10. 6. 7. 8. (eithr pac yn nessed?) yn y galon; ac mai Christ oedd gair y ffydd hwnnw yr hvvn a bregethasant hwy; (ac felly yr ym ninnau yn dyvvedyd) fal y bo i bobl ei vvrando a'i wneuthur: A dywedodd Christ wrth Ioan fel y darllenir yn y drydedd Bennod o'r Datcuddiad, Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn curo: os Clyw neb fy llais i, ac agoryd y drws, mi a ddeuaf i mewn atto ef ac a swpperaf [Page 83] gidag ef, ac yntef gida minnau. Datc. 3. 20. Wrth ddrws y Galon y mae 'r Arglwydd yn curo; a'r rhai a glywant ac a ufuddhant i yspryd Jesu sydd yno 'n curo, y cyfryw sy'n dyfod i'w geni o'r yspryd, a thrwy hyn yn dyfod i swpperu gida 'r Arglwydd, yr hyn nid yw svvpper oddiallan, ond y mvvynhad oddifevvn o ymborth ysprydol, Bara 'r bywyd, yr hwn a ddaeth i wared o'r nêf, yr hvvn y dyvvedodd Christ, pwy bynnag a fwytai ohono na byddai farw yn dragywydd (y byddai fyw yn dragywydd) Joan. 6. 33. 34, 35, 50, 52, 53, 63. a'r bara hwnnw y bwytao dyn ohonavv na bydd byth marw, [Page 84] Medd Christ, yw 'r gwir far a, a roddasai ei dad o'r Nef, (nid yr Offeiriaid gan hynny a'r rhoddes.) a phan rvvgnachodd y bobl am ddywedyd o Grist, oni fwytewch gnawd Mâb y dyn, ac oni yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch; oni ddarfu i Grist er mwyn Bodlonrwydd iddynt, atteb iddynt fel hyn: y geiriau yr ydwyf yn eu llefaru wrthych, yspryd ydynt, a bywyd ydynt, yr yspryd yw 'r hyn Sydd yn bywhau, y cnawd nid yw yn lesâu dim. y rhai a goeliant Grist' Coeliant, yr hwn a ddywedodd nid yw y cnawd yn llesau dim, ond yr yspryd yn bywhau, a Gallu Duw sydd yn cyfodi, 'r Enaid ofarwolaeth i fywyd.
[Page 85] A dyma 'r hyn yr ym ni yn llafurio i ddwyn pobl iddo, fel y delai pawb i wybod, fod rhan iddynt ynddo ef, yr hwn a ddywedodd, Myfi yw'r Adgyfodiad, a'r Bywyd, Joan. 5. 25. ac felly i ymborthi ar fwrdd yr Arglwydd, fel na newynont byth mwyach.
Ac am hyn y buwyd ac yr ydys yn ein cashau ni etto gan y byd, gan Broffesswyr a Chyffredin, ac yn fwy enwedig gan rai Addefwyr digllon a chynfigennus, Proffesswyr. ac nid rhyfedd, canys ni chasaodd neb Grist a'i Apostolion yn fwy na rhai a addefasant Grefydd (yn y dyddiau hynny) Brophessasant. y rhai oeddent eu hunain [Page 86] allan o fywyd Cyfiawnder, ac yn y Casineb, yr ymryson, a'r Genfigen, fely mae gormod o Proffeswyr yn y dyddiau hyn, y rhai a lynant yn y Cyfarchwyliadau allanol, a'r defodau; un Disgwiliadau. yn llefain wele yma Grist, ac arall wele accw ef, a'r cwbl yn eu dychmygion Cerumoniau. eu hunain, neu yn nychymygion eu Henafiaid, neu o'r lleiaf yn y dynwarediad o bethau Elfenaidd, yn fynych yn Erlid y naill y llall ynghylch Opiniwnau, neu farnau.
A dyma y rhai a arweinir gan gau yspryd; Canys pawb a dywisir gan un ai 'r gwir a'i 'r gau yspryd, canys nid [Page 87] oes ond dau, y da a'r drwg, gan ba rai yr arweinir pawb ar wyneb y ddaiar, hynny yw, yspryd Duw, neu yspryd y diafol, ac i ba un bynnag o rhai'n y rhoddo dyn ei feddwl i'w wasanaethu, i hwnnw y mae efe 'n was, A chan yr yspryd hwnnw y llywodracthir ei ymarweddiad ef, ac fe fydd y ddau yscatfydd yn tywys i broffessu Crefydd; Oblegid nid yw'r diafol ei hun mewn rhyw Synwyr. feddwl, yn erbyn Pobl yn gweuthur addefiad o Grefydd, ond y mae efe 'n eu gwneuthur mo'r ddall mewn Zel, ag y cashant, yr Erlidiant neu y lladdant y rhai na chredont y peth a gredont hwy, ac na addolant [Page 88] fel yr addolant hwythau ac na bont o'u Crefydd hwy, nid gwaeth gan y Diafol pa faint a sonio pobl am Dduw a Christ ac am Grefydd, drwy na wadont ef i'w harwain, ac felly ddyfod i fod yn Greaduriaid newyddion. Canys y rhai nid arweinir gan yspryd Christ nid yw rhai hynny eiddo ef; Rhuf. 8. 9. Bod yn arweiniedig gan yspryd Christ, yw dyfod i fod yn Greadur Newydd; Oblegid pawb yn y'r hen anian oeddynt Blant digofaint (fel y dywedodd yr Apostol, Ephes. 2. 3.) nyni yn gystal ag eraill; nes ini ddyfod i ddiosc yr hên ddyn ynghyd a'i weithredoedd: a gwisco 'r newydd yr hwn yn ol Duw a ganwyd mewn cyfiawnder [Page 89] a gwir sancteiddrwydd, (Eph. 4, 24.) Delw Christ, yr hwn a ddywedodd, Wele fi yn gwneuthur pob peth o newydd.
Ac yn hyn y mae 'r Enedigaeth Newydd i fod yn adnabyddus drwy 'r hon y daw pobl i fod yn etifeddion Teyrnas Dduw, i'r hon ni ddaw neb byth, ond y rhai a ailenir, yr hyn yw byw bywyd cyfattebol i'r Gwirionedd; a diosc Gweithredoedd yr hen ddyn, yw rhoi heibio bechod, canys pob pechod a drygioni o'r diafol y mae, yr hen ddyn, a dyma 'r hen Anian drwy yr hon y mae pobl yn blant digofaint, a'r hen Lefain y gorchymynnodd yr Apostol ei garthu allan, ydyw, fel yn [Page 90] ei le ef y cartrefo Cyfiawnder, yr hwn sydd o'r anian newydd, a' rhai sy'n dyfod at hwn ym mhob peth, a wneri yn ddynion Newyddion, a Meddyliau Newyddion, Geiriau Newyddion, a Gweithredoedd Newyddon sydd iddynt, gwedi eu cenhedlu a'u geni drachefn gan yspryd Duw, Pob peth yn newydd, a'r hen bethau oll gwedi myn'd heibio, sef Tyngu, Rhegu, Celwydd, Ymrysson, Ymladd, Lledratta, Putteindra, Meddwdod, Balchder, Cenfigen, Lladd, Siomidigaeth, Twyll Cybydd-dod Eulynaddoliaeth, ffug a Rhagrith, y cwbl ag sydd hen; ar holl Gau Grefyddau sy raid eu cydblygu, fel plyg llyfr, a [Page 91] rhaid yw adnabod Addoliad Newydd, mewn yspryd Joan 4. a Gwirionedd. A dyma 'r hyn a ddanghoswyd i Joan yn amser ei Ddeol, Banishment. neu ei Jaithwladiad, gan yr hwn a ddwedodd wrtho ef, wele, fi 'n Creu pob peth yn newydd (Sulwch diwedd yr hen) dywedodd Joan iddo weled Nefoedd Newydd a Daiar Newydd, yn yr hon yr oedd Cyfiawnder yn aros, ac nid oedd Mor; eithr yr hen Nef a blygwyd ynghyd fel llifr gidâ thrwst mawr, a lloscwyd y Ddaiar, a phob pren gwyrddlas, a phob ynys, a phôb gwr Caeth, a phob gwr Rhydd, a ffoesant ymaith a'r Defnyddiau a doddasant o wir wres.
Eithr dirgelwch gwedi ei [Page 92] guddio odiwrth ddoethineb y byd hwn yw 'r pethau hyn; canys Trysorau doethineb a Gwybodacth ydynt Guddiedig yn Christ Jesu, yr hwn yn unig sy'n agoryd ac yn datcuddio dirgeledigaethau a Chyfrinachon Teyrnas dduw, a Theyrnas y diafol, ac heb y datcuddiad hwn o'r Jesu ni all un adnabod yr iawn ffordd oddiwrth y Gam a'r Addoliad cywir oddiwrth y Gau, oblegid yn ysprydol y Bernir.
Y rhai gan hynny ni arweinir ac ni thywysir gan yspryd Duw ni allant wybod y pethau hyn, canys ynfydrwydd iddynt hwy yw'r cywir wybodaeth a'r iawn Ddealltwriaeth ohonaw; y [Page 93] maent gan hynny yn rhoi Goleuni am dywyllwch, a Thywyllwch am Oleuni, gan alw da yn Ddrwg, a drwg yn dda a'r gamffordd yn uniawn, a'r uniawn yn Gam, Ac yn y Cyflwr tywyll yma y mae 'r holl Addolwyr yn y byd y rhai ni arweinir gan yspryd Duw i addoli Duw mewn yspryd a Gwirionedd; canys nid cymeradwy gan Dduw un Addoliad ond yr hwn yr arweinir pobl iddo gan yspryd Duw, ac o eisiau ymgadw at yspryd y Gwirionedd, yr hwn sy▪n tywys i bob Gwirionedd, yr hwn yn y Galon a'r Gydwybod sy'n Argyhoeddi am Bechod, ac yn Cyfiawnhau dynion pan font yn gwneuthur [Page 94] yn dda, y mae Pobl yn rhedeg i bob math ar amryfusedd yn gystal mewn Barn, Cerydd, ac Addoliad ag mewn pethau eraill, Oblegid er bod yspryd mewn dyn, Etto ysprydoliaeth yr holl alluog syn rhoddi deall i ddyn, pa fodd i Addoli Duw, ac am y ffordd i'r Nefoedd, a pha beth sy i'w gredu, a pha beth nad yw iw gredu, a peth i'w wneuthur, a pha beth sy|' iw adel heb ei wneuthur, a pheth a rynga fodd i Dduw a pheth ni rynga fodd iddo.
Eithr bod y fath [gyffryw] ysprydoliaeth ddigyfrwng, drwy yr hon y mae Duw yn dyscu, ac yn datcuddio ei feddwl i'w blant yn yr oes hon, a wrthwynebir, a ddirmygir [Page 95] ac a wedir, gan y Cyffredin; ac nid rhyfedd, Canys ni ddichon hynny lai na bod, tra bont oddiwrth y Gwirionedd, ac heb fynny dyfod at yspryd y Gwirionedd, i gael e'u harwain ganddo, ond a'i gwrthwynebant ef, yr hwn a ddylai dywys i Bob Gwirionedd, a rhoddi dyn i ddeall yr hyn ni ddichon un dyn ei ddeall trwy ddoethineb y byd hwn; canys medd yr scrythyr, y Byd trwy ddoethineb nid 1 Cor. 1. 12. adnabu mo Dduw: ond fel y del pobli Pen. 2. 14. gael eu gwneuthur yn ddoethion gan dduw, felly y deuant i gael profiad o'r pethau rhag soniedig hyn, i [Page 96] adnabod yr hen nefoedd i fod gwedi ymollwng, a'r defnydddiu gwedi eu toddi o wir wres: nid peth oddiallan yw hyn, ond gwaith oddifewn eiddo duw; ac ni wnaethpwyd erioed mohonaw trwy un gallu, ond trwy allu Duw: a Bendigedig fyddo enw'r Arglwydd, efe a ddechreuodd y Gwaith hwn mewn llawer, yr hyn sydd er Jechydwriaeth y rhai ydynt ffyddlon, ac a fuddugoliaethus ddefnyddiant ysprydol arfau eu Milwriaeth mewn Cyfiawnder, yn erbyn Pechod a drygioni yn y Galon, ac fel y dywedodd y rhai gynt, y gall llawer ddywedyd yn y dyddiau hyn, Arfau ein Milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, [Page 97] ond ysprydol a nerthol twry Dduw i fwrw Cestyll Sattan i'r llawr mewn dyn, Tywysogaethau, ac [Awdurdodau] nerthoeddy Tywyllwch; ac i ddwyn i ufudd-dod i Grist ein Drwg feddyliau (2 Cor, 10. 4.) fel yn lle pechod y Teyrnaso Tragywyddol Gyfiawnder; yna yr adnabyddir yr heddwch hwnnw syd uwchlaw pob deall eiddo 'r byd hwn.
Ac fel y rhotho pobl le i yspryd Duw, efe a ryfela yn erbyn y diafol, ac yn erbyn ei ymddiffynfeydd ef, y rhai yw pechod yn y galon; canys dyna 'r lle pennaf mewn dyn, y Galon, gan hynny y mae Duw yn disgwil y Galon, a dywedodd y gwr doeth, Fy [Page 98] Mab moes i mi dy Galon, Dihar▪ 23. 26.
Felly pan ddel Christ i lywodraethu yn y Galon, yna y mae pob peth yn dyfod i fod yn newydd, y mae 'r hen Anian i gael ei charthu allan ganddo ef, ac Anian newydd yn dyfod i gael ei hadnabod, yr hon sydd o Anian Christ, ac yma y mae dyn yn dyfod i gael ei aileni, trwy fwrw ymaith Addoliadau, difyrrwch a melyschwantau 'r hen fyd y rhai ydynt yr hen Nefoedd a daiar yn y Galon; Canys y Nefoedd sydd megis gau Addoliad, felly difyrrwch a melyswedd, &c. Canys pa beth bynnag y mae dyn yn gosod ei Galon, ei feddwl a'i serchiadau [Page 99] arno, yn fwy nac ar Grist, hwnnw y mae efe yn ei wneuthur iddo 'n Nefoedd ac yn Dduw hefyd, gwnaeth rhai eu Boliau yn Dduw iddynt, a rhai a wnant Gybydddod yn Nefoedd iddynt, a rhai a wnant falchder yn Nefoedd iddynt, hyfrydwch pennaf pa rai yw gwychu eu cyrph mewn ofer-deganau, ac na wyddant lawer gwaith pa beth newydd a ddychymygant i'w wisco, neu i dreulio eu harian arno: ychydig y mae 'r cyfriw yn ei gofio beth a lefodd y prophwyd, Esay. 40. 6, Pob cnawd sydd fel glaswellt a'i holl odidawgrwydd, fel Blodeuyn y maes: gwywa 'r glas welltyn, a syrth y Blodeuyn. (yr un agwedd [Page 100] y mae cyrph meibion a merched dynion a'u prydferthwch) ond gair yr Arglwydd a saif byth; ond ychydig a synnir, ychydig a gerir neu a ystyrir gan lawer, ar y gair sanctaidd hwn, er ei fod yn ymdrech a phobl ynddynt, i'w hachub oddiwrth y llid sydd i ddyfod, ac a fydd gida hwynt yn dragywyddol, yn llawenydd i'r rhai ydynt fyddlon iddo, ac yn boenedigaeth i'r drygionus,
Eithr Duw y Byd hwn a ddallodd olygon llawer, ac y maent yn ewyllyscar i gael eu dallu ganddo ef, gan ymhyfrydu beunydd ym mhethau 'r bywyd hwn, nes i angau eu [cymeryd] goddiwes hwynt; ac yna eu hyfrydwch yma a [Page 101] wneir yn faich iddynt; yna y dechreuant lefain allan, Arglwydd Arglwydd! ond beth medd y scrythyr am y cyfriw? Math. 7. 21. 22. [Sulwch] nid pob un a ddywetto Arglwydd, Arglwydd! a â i mewn i Deyrnas Dduw, ond yr hwn a wnel ewyllys Duw: ac ewyllys duw ydyw, i bobl Beidio a gwneuthur Drwg, a dyscu gwneuthur Daioni (Esay. 1. 16, 17.) a golchi eu dwylo a'u Calonau, trwy fwrw ymaith ddrygioni eu Gweithredoedd, tra bont o'r tu yma i'r bedd; oblegid y mae 'r scrythyr ym dywedyd, nad a dim aflan i mewn i Deyrnas Dduw; ac aflan yngolwg Duw yw pob pechod a drygioni; a dyma 'r peth a welodd Joan fod [Page 102] wedi myn'd ymaith, yr hyn a alwodd efe, y [...] he [...] N [...]foedd a'r hen Ddaiar; a dywedodd, iddo weled Nef newydd a Daiar newydd, yn yr hon yr erys cyfiawnder: yr hyn oedd wir Gyfnewidiad mewn dyn a dynes, allan o bechod a drygioni, i Gyfiawnder; ac felly y mae Christ yn dyfod i deyrnassu, lle y Teyrnassodd y diafol, a hyn yw bod yn ailenedig; ac heb ddyfod at hyn, ni all neb fod yn Gadwedig na myned i'r nefoedd.
Da, gan hynny yw i bawb ystyried hyn, tra bo amser iw wneuthur, cyn dyfod y nos, yn yr hon ni all neb weithio dros dduw: canys y mae llawer peth a rwystr ddyn oddiwrth [Page 103] ei ail eni, fel yr oeddwn yn myn'd i ddywedyd am y rhai sy n gwneuthur pethau gweledig yn Nefoedd ac yn Dduw iddynt, megis y gwna rhai Gybydd dod a Balchder yn Nefoedd ac yn Dduw iddynt; ac eraill Feddwdod, Tyngu a Chelwydd yn hyfrydwch iddynt, felly eu Nefodd a'u Duw ydynt; rhai mewn Cenfigen, Malis Casineb ac ymrysson, gogan a Dial, eraill a ymhyfrydant mewn Cynhennau ymladdau a lladd ynghylch Crefydd; eraill mewn Hela a Meirch-yrfeydd, mewn Cardiau a Disiau, mewn Coeg ddigrifwch, gan dreulio eu hamser mewn gwâg storiâu, y rhai a lygrant ieuengctyd, ac a ydynt gywilydd i henaint [Page 104] y pethau hyn a llawer mwy, tra bo pobl yn byw ynddynt, ydynt heb eu haileni nau, harwain gan yspryd Duw; canys y pethau hyn oll a escorwyd arnynt mewn pobl, gan dywysog llwodraeth yr Awyr, yr yspryd sydd yr awron yn gweithio ym-mhlant yr anufudd-dod. Eph. 2. 2. ond y gwaethaf yw, fod y pethau hyn oll, neu y rhan fwyaf ohonynt gwedi escor arnynt gan y cyfriw, neu yn y cyfriw ag a gymerant arnynt Addoliad a Chrefydd; eithr y cyfryw Addolwyr oll ydynt allan o ofn duw.
Gwnaeth duw ddyn yn union, eithr efe yn syrthio oddiwrth y cyflwr union hwnnw, efe a ddaeth i ddychymyg [Page 105] ffyrdd lawer i gael drachefn yr hyn drwy anufadd-dod a gollasai, ond ei gaell nis, galai neb nes eu dyfod i'w harwain atto drwy yspryd Duw, yspryd y Gwirionedd, yr hwn sy'n arwain ac yn tywys i bob Gwirionedd; ac ni ddaw neb i'w harwain gan yspryd y Gwirionedd nes y gwadont eu hunain, a chymeryd i fynu Groes i'w hewyllyssiau eu hunain, Groes i'w hen Nef ac i'w hen ddaiar, yn yr hon y buant fyw ac yr ymhyfrydasant; nid Croes o bren neu faen, a'r fath bethau oddiallan ag a osododd y Papistiaid i fynu, ond i'r natur dro faus, a'r ewyllys hunanol, fel y gwneler ewyllys duw a'r y ddaiar megis y mae yn y [Page 106] Nefoedd, yn dy lestr pridd di, ond tra bo 'r hen Nef, a'r hen ddaiar, a'r hen Wyddorion llesc a thlodion yn sefyll, nid all y pethau hyn fod nes y del y cwbl o hynny i gael eu bwrw ymaith trwy yspryd a gallu duw; Canys trwyddo ef y mae pob peth i'w gwneuthur o newydd mewn dyn a dynes. Oblegid pan ddel dy hyfrydwch i gael ei osod ar Gyfraith yr Arglwydd, a'th feddwl wedi ei [...]roddi ar dduw ac ar Dduwiolded uwchlaw pob peth arall, ac i'w wneuthur yn bennaf llawenydd it wasanaethu ac Addoli duw mewn yspryd a Gwirionedd, ac i ymorol am fuchedd Gyfiawn yma, ti a ddeui i adnabod [Page 107] y Nef newydd yr hon y llefarodd Joan amdani yn y Datcuddiad, yn yr hon yr erys Cyfiawnder, felly hyfrydwch a llawenydd newydd, canys tra fo'r hen Anian yn dwyn y Rheolaeth, a hen ddifyrrwch pechod etto 'n aros yn dy feddwl a'th Galon, yn hwnnw y mae 'r Anghyfiawnder yn cartrefu, ac y mae 'n rhaid difetha hwnnw, a phan ddifether y pethau hyn drwy Grist, yna y deui i adnabod Sancteiddiad, a Gwaredigaeth oddiwrth Bechod drwy yspryd duw, ac i gael dy Sancteiddio (fel y dywaid y scrythyr) yn gwbl oll ynghorph enaid ac yspryd, ac felly ddyfod i adnabod pob peth wedi ei [Page 108] wnewthur o newydd, ac i'th gyfnewid gan yr Arglwydd; a dyma'r enedigaeth newydd, yr hon a genhedlwyd i'r amlwg gan Dduw, yr hon nid yw o'r byd hwn, ond sy'n dyfod i'w chyfnewid trwy 'r ychydig Sur-does, a guddiwyd mewn tri Mesur o flawd, Matth. 13. 33. a Bendigedig fyddo Euw 'r Arglwydd, ac a newidiodd y Corpe yr Enaid a'r yspryd i'w Natur a'i Anian ei hun; ac yn y cyfriw y gwnaed pob peth yn newydd, canys Teyrnas Nefoed, a'r yspryd a gyffelybir i ychydig Surdoes a guddiwyd mewn tri mesur'o flawd; Canys dirmygus yr edrychr ar yspryd duw gan y rhan fwyaf o bobl a dibris [Page 109] yw yn eu golwg; a chasach yw ymddangosiad ei yspryd ef ynddynt yn erbyn pechod na'r eiddo un dyn: ac y mae efe (fel y dywedodd y prophwyd, Amos. 2. 13. gwedi ei lethu, fely llethir y fen lawn o yscubau, gan bechod a drygioni y llethir yspryd duw ynghalonau a Chydwybodau pobl; ond gwae hwynt un diwrnod, oddieithr iddynt drwy ffydd ac Edifeirwch symmyd y pwysau a'r beichiau hyn oddiar yspryd yr Arglwydd; dyma 'r peth a'u sudda hvvynt i bvvll uffern, lle nid oes byth ddim dyfod allan, y mae heb ddivvedd, Poen dragyvvyddol ydyvv.
Da gan hynny yvvi i bavvb fod yn ffyddlon i yspryd [Page 110] Christ; nid dim llai na Gallu Duw er Jechydwriaeth, ydyvv, yn y rhai ffyddlon iddo; a thrvvy hvvn y mae pobl yn dyfod i ddianc gan ddamnedigaeth uffern, a thrvvy un modd arall nid all neb byth ddiangc, ond fel y delont i adnabod yspryd Christ yn rheoli yn y Galon a'r Meddwl goruwch pob amhurdeb; canys y mae efe yn dy-fod i ddwyn y rhwysc yn y Galon, a chan hynny, y mae doethineb yn dywedyd, fy Mâb moes i mi dy Galon; ac os efe a reola yn y Galon, yna yr hyn a lifeiria allan o'r Galon, a fydd oddiwrth ddaionus gynhyrfiadau yspryd Christ, ac fel y dywedodd [Page 111] gwr Sanctaidd yn y dyddiau gynt (Act. 17. 28. ydddo ef yr ym ni 'n byw yn symmyd ac yn bod, hyn hefyd a dystir ganddynt hwy yn y dydd hwn y rhai a adwaenant Grist yn rheoli ynddynt; canys y cyfriw a ddeuant i fyw ynddo ef a thrwyddo ef i symyd, ac ynddoigael eu bod; Dyweddodd yr hwn a ddaeth i'r Cyflvvr yma, (Gal. 2. 20. Ar hyn yr wyf yn ei fyw yr awron ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mâb Duw.
Bywyd oedd hwn allan o Bechod, yn yr enedigaeth newydd, gwedi ei dewis allan o'r Byd hwn, a dyfod i rodio yn y ffordd newydd a bywiol, yr hon sy'n arwain i'r orphywysfa nad oes byth ddim [Page 112] diwedd iddi; Christ yw arweiniwr y cyfryw, ac nid ydynt mwyach eiddynt eu hunain, ond eiddo ef, fel y mae efe yn arweinydd iddynt felly y mae efe 'n Dad, yn feistr ac yn Geidwad iddynt; pan ddel profedigaeth efe yw eu Twr Cadarn, y mae efe hefyd yn y Cyfiawn megis Tan y Toddydd a Sebon y Golchyddion, ac fel purwr Arian, y mae efe 'n eu gwneuthur yn burach na'r aur ie na Chyn o Aur Ophir: y mae efe ym mhawb ac a arvveinir ganddo, megis Tan yssol yn erbyn pechod, a pobl Tvvyll; ac am hynny y dyvvedpvvyd, pwy a breswylia gidâ 'r lloscfeydd Tragywyddol? Esay. 33, 14. [Page 113] canys trwy 'r gwres hwnnw y daw 'r Gau Addoliadau oll (y rhai nid ydynt ond Elfenaidd) i gael eu toddi o wir wres; y mae Zel duw gwedi ei gynneu i'w herbyn, a'r hen ddaiar trwy hyn yn dyfod ei gael ei llwyr losci; yna y daw 'r ddaiar Newydd, yr hon a welodd Joan, yn yr hon erys cyfiawnder; ac yn y cyfriw nid adweinir mor mwyach; canys pan fo pawb oddiwrth yspryd y Gwirionedd y maent yn ansefydlawg yn eu meddyliau ac fel dyfroedd y Mor, yn Bwhwman gida phob awel o ddysceidiaeth, a chida phob Tymmestl i'r gelyn, cyn y selydler hwynt gan allu duw; eithr pan adnabydder y sefydlrvvydd [Page 114] hwn un waith, yna y mae pobl yn dyfod i adnabod atteg i'w meddyliau, ac a ddeuant (fel y dywaid y scry thyr, Esay. 26. 3. Phil. 47.) i gael eu cadw mewn tangnheddyf heddychlon, ac i adnabod y tangeneddyf hwnnw sydd uwchlaw pob deall eiddo 'r Byd: yr hwn nid yw doethineb y Byd hwn yn ei ymgyffred; canys y rhai y cedwir eu meddyliau fel hyn, nid vw 'r un drwg yn eu cyffwrdd (1 Joan. 5. 18.) er dyfod ohonaw a Maglau ac a Profedigaethau lawer, i faglu ac i nenlltuo, er hyn, tra cadwer pobl trwy yspryd duw, hwy a waredir oddiwrthynt oll; canys nid pechod yw cael ein Profi, [temptio,] ond [Page 115] myned i'r [...]ofedigaeth, hynny sydd Be [...]hod, y [...]a y mae pobl yn dyfod do [...]i eu heddwch gida D [...]w; pan demptio 'r diafol hwynt i wneuthur [...]n drwg, a rhoddi o honynt ffordd iddo, gwneuthur llôngddrylliad o ffydd a chydw bod dda, yw hyn, megis drwy brofiad trist y gwnaeth rhai; gwel 1 Epist. at Timotheus. 1. 19.
Ond y ffordd i ochelyd hyn, yw rhoi lle i Grist, fely dycco efe y llywodraeth yn dy Galon a'th feddwl, fel y trefno efe dy serchiadau a'th ymarweddiad, ac dycco y rhwysc ynoti, yna y deui iw adnabod ef, yr hwn a ddywedodd yr hwn sy gidâ chwi ynoch [Page 116] y bydd. Joan. 14. 17: A'r rhai y llefarodd efe wrthynt, a adnabuant ei eiriau gwedi eu cyflawni, ac felly a lefarasant trwy brofiad yr hyn yr oeddynt yn olwg-dystion o hono, ac a ddywedasant, weithio ohono eu holl weithredoedd ynddynt a throstynt: ac yr wyf yn gobeithio nad oes neb gwedi eu camarwain felly yn eu dealltwriaethau, ag y dywedant mai pechod [...]oedd y gwaith hwnnw, ond yn hollawl i weithio allan Bechod; canys dyna r' gwaith y daeth Christ iw wneuthur, i roddi diwedd ar Bechod mewn pobl, ac i orphen Camwedd mewn pobl, ac i ddwyn i mewn yn lle pechod Gyfiawnder Tragywyddol mewn pobl; [Page 117] Dan. 9. 24. canys mewn pobl y mae pechod, nid oes dim yn anifeiliaid y maes, ond yn nynolriw; canys y mae Anifeiliaid y maes yn cadw eu lleoedd, fel y creodd Duw hwynt, ac nid ydynt mewn un modd yn anfodloni Duw, ond nid edwyn dynolriw mou perchenog, fel y mae 'r ych a'r Assyn druain, fel y dywedodd y prophwyd yr ych a Edwyn ei feddiannydd, a'r Assyn Bresseb ei berchenog, eithr dynion nid adwaenant yr Arglwydd, Esay. 1. 3.
Nid adnabu dyn na dynes Dduw erioed yn yr hen Naturiaeth, ond fel y daethant i gael eu newyd a'u haileni, ac felly wisco am danynt y dyn [Page 118] newydd Christ Jesu gwedi diosc yr hen ddyn yngh [...] weithredoedd, yr hyn yw pechod, yna 'r ad [...]abyddir Christ fel y dywedodd efe, Wele, ebr efe, Mi a bresswyliaf ynddynt, ac a rodiaf ynddynt, ac a 2Cor. 61. 6. fyddaf yn Dduw iddyn, hwy: a hwy a fyddant Bobl i mi. Adnabod hyn sy fywyd Tragywyddol; eithr nid yw Duw yn presswylio mewn pechaduriaid, ond yn y rhai pur o galon; oblegid y rhai pur o galon a welant Dduw ac felly ddeuwch i fod yn gydabyddus a Duw; yma y mae pawb ag sydd gydnabyddus a Duw, trwy 'r cydnabyddiaeth hwn, yn dyfod [Page 119] i wybod pa fodd y mae gida hwynt mewn perthynas iw Cyflwr oddifewn, a pha fodd y mae'n sefyll gida'u dyn oddifewn yngolwg Duw, a thrwy arweiniad yspryd Duw y cedwir pob peth mewn dyn a dynes mewn trefn Dda, a thrwy hyn yn dyfod i gael Gallu dros Bechod, ac yn y cyfryw nid oes dim rhaid am lefain allan o eisiau Gallu; canys Duw a rydd Allu i'r rhai a ddeuant atto trwy Jesu Grist, yr hwn sydd a phob Gallu ganddo yn y Nefoedd a'r Ddaiar, ac y mae cariad Duw 'n Gyffredinol i bawb, ac heb chwenych dinistr neb ond yn hytrach iddynt droi oddiwrth eu hanwiredd a [Page 120] byw; yma y gellwch weled yn ol scrythyr y Gwirionedd, mai pechod ac anwiredd yw achos marwolaeth yr Enaid; canys chwi a ellwch ddarllen yn y scrythyrau Sanctaidd, addo o Dduw, i bwy bynnag a droent oddiwrth eu drygioni a'u ffeidddra a wnaethent, a dyfod atto ef, na byddai Amwiredd yn ddinistr iddynt, na ddifethid y cyfriw, ond y caent fywyd Tragywyddol: Dyma Ammodau Jechydwriaeth dan ba rai, yr addawodd Duw deyrnas. Nefoedd, fcl gallo pobl ddodi eu pennau i lawr mewn heddwch, pan font i fyned oddiyma, ac yn y byd hwn, nas gwelir byth mwyach: ac [Page 121] y mae 'n rhaid i ddyn adnabod drygioni gwedi ei fwrw ymaith yn y bywyd hwn: canys os tua'r dehau, neu tua 'r gogledd y syrth y pren, lle y syrthio 'r pren yno y bydd efe; Ac fel y gadawo marwolaeth Bobl, felly y caiff Barn hwynt, ac nid oes Edifeirwch yn y Bedd, na galw 'n ol yr amser a dreuliwyd unwaith, na maddeuant pechodau gwedi'r bywyd yma; oblegid nid â dim aflan i Deyrnas Dduw. Ac aflan yw pob pechod yngolwg Duw, dyma 'r peth y daeth Christ iw fel yr Ettifeddo pobl y deyrnas nid yw o'r byd hwn.
A hyn a dystiodd Paul, pan ddywedodd efe, iddo ymdrechu ymdrech deg, a gorphen [Page 122] ei yrfa, a chadw 'r ffydd, a bod o hynny allan Goron Gogoniant gwedi ei chadw iddo ef; ac nid yn unig iddo ef, ond hefyd i bawb a ofnent ac a garent ei ymddangosiad ef, 2 Tim. 4. 7. 8. ac yn erbyn pechod yn y Galon yr oedd ac y mae yr ymddangosiad yma; ac ymdrech Paul yn erbyn pechod a drygioni, ag Arfau ysprydol yr ydoedd; y rhai oeddynt ddeddf yspryd y bywyd ynghrist Jesu; yr hyn nid ydoedd ag Arfau Canwdol, eithr ysprydol a Nerthol drwy Dduw i fwrw Cestyll pechod i'r llawr: ac nid gan Paul a'r Apostolion yn unig yr adnabuwyd hyn, ond gan y rhai cyfiawn ym mhob oes, ac [Page 123] Abel gyfiawn, ac Enoch, a'r rhai Cyfiawn oll hyd y dydd hwn, y rhai a gyfiawnhawyd trwy 'r Gallu hwnnw yr ydoedd, trwy yr hwn y Tystiodd yr Apostolion Gyfiawnhad, yr hwn oedd Allu ac yspryd Duw, yr hwn sydd agos at bawb, fel yr arweiner pawb trwyddo ef.
Ond rhai a ddywedasant, nad yw hi yr awron fel yn nyddiau 'r Apostolion.
Paham na yw 'r awron fel yn nyddiau 'r Apostolion? Beth a newydiwyd fel nad yw 'r awron fel yr oedd y pryd hynny.
O, meddant hwy, nid allwn ni wneuthur fel y gwnaethant wy, ac nid oes genym y Gallu ag [Page 124] oedd ganddynt hwy i fyw ac i sefyll yn erbyn pechod, ac i ddyfod i'r Cyflwr perffaith hwnnw fel y gwnaethant hwy.
I'r hyn yr ymholaf fel hyn; pa beth a'u gwnaeth hwynt yn Gyfiawn, ac a roddes iddynt allu dros Bechod, a marwolaeth? a thrwy ba beth y rhyfelasant yn erbyn Pechod? onid Duw a roes iddynt allu dros Bechod, ac a'u gwaredodd oddiwrth ddrwg y byd hwn? a peth ydoedd efe trwy yr hwn y gwnaethant hyn, os nid trwy ysprydol Gyfraith Dduw yn scrifenedig yn y Galon? ac os felly, yna pa un a wna Gallu, Cyfraith ac yspryd yr Arglwydd ai bod yr un ag ydoedd▪ [Page 125] a pha un a wna Cariad yr Arglwydd ai bod yr un ag oedd? a pha 'r un a wna bod ganddo 'r un Gallu i gynnorthwyo ag oedd ganddo? Gobeithio'r wyf y ceniadheir hyn oll, ac mai trwy allu ac yspryd Duw 'n unig y daethant i fod yn Gyfiawn, ac i dystio Buddugoliaeth ar Bechod, ac nad trwy Gyfiawnder hunanol, nac un Gallu arall, a bod Cyfraith, Gallu ac yspryd yr Arglwydd yr un ag ydoedd, a'i Gariad ef yr un ag ydoedd, a bod gan dduw yr un Gallu i gynnorthwyo ag oedd ganddo.
Os hyn a geniadheir, mai felly y mae, y mae 'n debyg yntau nad yn Nuw y mae 'r [Page 126] bai, nad yw 'r awron fel yn nyddiau 'r Apostolion ac os y Bai nid yw yn Nuw, yn Nyn yntau y mae: Ond fy nghrediniaeth i am profedig wybodaeth ydyw, fod rhai wedi dyfod i dystio 'r un Gallu tros Bechod, ag a dystiodd yr Apostolion yn eu dydd, a chredu 'r wyf ei bod gida Meibion a Merched sydd ffyddlon i Dduvv, megis yr ydoedd yn Nyddiau 'r Apostolion; o ran bod ganddynt Allu dros Bechod, a dyfod i Gyflvvr perffaith yn Ghrist Jesu.
Ond i'r rhai sy'n ymdrybaeddu mevvn pechod, fel yr hvvch yn y dom, a rhai a ddadleuant dros Bechod tra font byvv, er iddynt gyrhaeddyd [Page 127] Gwybodaeth uchel mewn Crefydd, ac iddynt fyn'd allan o Aflendid amlwg y ffieidddra trwch a arferir yn y Byd, Etto er hyn, tra dadleuont dros bechod, ac y bont fyw 'n y pechod, y maent yn hyn yn ymedrech i gynnal Teyrnas y diafol, ac yn byw yn yr hyn sy'n bodloni 'r Diafol, ac yn anfodloni Duw; canys o Deyrnas y diafol y mae pechod, a'r rhai a dadleuant drosto (sef dros Bechod) a Ddadleuant dros deyrnas y diafol; a chida 'r cyfriw y mae 'n rhaid inni gyfaddef, na bu erioed gida hwynt fel gida'r Apostolion yn eu dydd, a'r rhai a ganlynasant Grist yn nyddiau 'r Apostolion; [Page 128] nag yn ein dyddiau ninnau; ac yr oedd yn nyddiau 'r Apostolion y eyfriw, na chredent ac na chanlynent Grist; ac nid adwaenent ddim Gallu, tros Bechod, am na ddaethant atto ef sy'n rhoddi Gallu, ac felly ni ddaethant i fod yn feibion i dduw, am na dderbyniasant ef yr hwn a ddaethai i roddi gallu i fod yn feibion i Dduw, fel y dywaid y scrythyr, yr hon yr ym ni y rhai mewn Gwawd a elwir Cwacers yn Credu ei bod yn draethawd Cywir o'r pethau a ddylid eu credu, ac y mae genym barchedig Gyfrif ohonynt; ac y maent yn dywedyd, ddyfod Christ at yr eiddo ei hun, a'r eiddo ei hun ni [Page 129] dderbyniasant ef; ond Cynifer ac a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw. Joan. 1. 11. 12.
Ei dderbyn ef yw ymroi i gynhyrfiadau ei ddaionus yspryd ef ynddynt, a dyma y rhai sy'n dyfod i wybod nad yw Duw gyfnewidiedig, na'i allu'n llai, na'i gariad gwedi [treio] cilio, ond ei fod ef i ddynolriw yr un heddiw a doe ac yn dragywyddol; ac fel yr oedd rhai yn amser yr Apostolion, na chredent Athrawiaeth Christ na'i Apostolion, felly yr awron yn ein dyddiau ninnau y mae llawer o Broffeffwyr a Chyffredin na chredant Grist na'i Athrawiaeth am fod ei Athrawiaeth [Page 130] ef yn erbyn Peehod, ond ni allant hwy aros mohoni, ac y maent yn llefain allan, Dim perffeiddrwydd yma, ni chredant ychwaith y dichon Christ wneuthur y gwaith y danfonodd y Tad ef i'w wneuthur; canys efe a ddaeth i ioddi diwedd ar Bechod, ac i orphen Camwedd, ac i ddwyn i mewn Gyfiawnder Tragywyddol.
Dyma 'r peth na allant hwy mo'i gredu ac yn enwedig y rhai sy'n myned tan Liw o Grefydd, fel yr oedd y scrifenyddion a'r Pharisiaeaid; hwynt hwy oeddynt y gwaethaf yn erbyn Christ a'i Apostolion, ac felly y maent hwythau yn y dyddiau hyn; [Page 131] canys ofer a gau yw pob Crefydd ac Addoliad: oddieithr yr hon a osododd Christ i fynu erys nn Cant ar bymtheg o flynyddoedd yr hon sydd mewn yspryd a Gwirionedd, yr hyn yw goleuni Christ Jesu, a Gallu Duw er Jechydwriaeth, wedi ei hyspysu i ddynol riw yn y Galon a'r Gydwybod, Fel y dywaid yscrythyr, Rhuf. 1, 19. yr hyn a ellir ei wybod am Dduw 'sydd eglur oddifewn, canys Duw a'i heglurodd i ddyn, fel trwy hyn yr adnabyddid Pechod, ac yr adnabyddid Cyfiawnder, yr adnabyddid ffordd einioes a ffordd angau, fel na byddai i ddyn Colledig fod i ymofyn ynhgylch Jechydwriaeth; [Page 132] hyn a wnaeth yr Arglwydd mewn trugaredd drosom, fel na bo neb yn [fyr o'r] ol am y deyrnas nid yw o'r bydd hwn; ac os neb a sydd yn ol ohoni, pechod yw 'r achos; rhaid yw adnabod hwn gwedi ei gymeryd ymaith yn y bywyd hwn; pe gallesid ymadel ag ef ar ol y bywyd hwn, yna afraid a fuasai i Grist ddyfod a dioddef dros Bechod, fel y gwnaeth ef, ac i'r Apostolion a Gwenidogion Christ roi cymaint-gyrr ar Bobl at Berffeiddrwydd, ac a wnaethant, ac i wneuthur eu. Galwedigaeth a'u Hetholedigaeth yn sicr yn y bywyd hwn: ond hyn sydd sicr, os daw pobl byth i fod yn [Page 133] Ettifeddion Teyrnas Dduw, mae 'n rhaid iddynt ddyfod i gael sicrwydd ohoni cyn yr elont oddiyma, neu hwy a fethant o'u disgwiliad, o gâel Gorphywsfa gidâ Duw pan fo diwedd i'r Bywyd hwn; ac adnabod sicrwydd, yw adnabod Pechod wedi ei ddinistrio, a chyfiawnder wedi ei osod i fynu yn y Galon.
Fe fydd rhai yn barod i ddywedyd Pa fodd y gall hyn fod wrth ystyried mo' freuol, ac mor'r llawn llescedd, yw ein Cyrph marwol a'r gwendid sydd [...]n canlyn; a chwedi y gwnelom y cwbl, mai gweision anfuddiol ydym?
Gwir yw, yr holl wasanaeth a allo dyn ei wneuthur anfuddiol ydyw yngolwg [Page 134] Duw, onid arwain duw iddo, pob Addoliad, Gwasanaeth a dyledswydd, a wneler, a osoder i fynu ac a gynnigier i'r Arglwydd, gwedi y gwneler ef yn ewyllys dyn, y mae hyn oll yn anfuddiol, ac yn anghymeradwy gan Dduw, os ewyllys dyn a fydd, ac nid ewyllys duw; canys tra fo pobl yn byw mewn pechod, ac yn dadleu drosto, a thra fo 'r hen Anian vn sefyll, eu Pregethu, gweddio, Bedyddio a Thorri bara, eu Canu a'u dyledswyddau Teulu, ofer yw 'r cwbl onid yscog Christ attynt, ac onid arwain iddynt, y mae 'r scrythyr yn dywedyd, Gweddiau 'r drygionus iddynt, ffiaidd gan yr Arglwydd; [Page 135] ac os ffieidddra i'r Arglwydd yw eu Gwasanaeth gorau, rhaid bod y lleill felly, canys pob Pechod ar y gorau ffieidddra ydyw; am hynny tra fyddo pobl yn byw mewn Pechod, ac yn dadleu am ei harhad nid all lai na'u bod yn ddrygionus; ac yn hyn, meddaf, anfuddiol yw 'r cwbl fel y mae dynion yn byw yn y Cyflwr hwn, ond y mae Cyflwr sydd fuddiol a pherffaith, ac yr oedd Job wedi dyfod i hwnnw, a llawer ychwaneg o bobl Dduw ym mhob oes a chenhedlaeth, a adnabuant yspryd duw i'w harwain a'u Tywys i bob Gwirionedd; dyma 'r yspryd yr hwn y mae Eglurhâd o hono [Page 136] gwedi ei roddi i bob dyn er lleshâd, 1 Cor. 12. 7. a'r rhai a ddaethant i'w harwain gan yr yspryd hwnnw, llawer a all eu gweddiau hwynt, au Gweithredoedd ydynt. Weithredoedd Cyfiawnder, a dyma 'r peth sydd gymeradwy gan duw; a gobeithio 'r wyf nad oes neb a faidd ddywedyd, nad ydyw Gweithredoedd Christ berffaith, y rhai a adwaenant Grist i weithio eu holl Weithredoedd ynddynt a throstynt, y gweithredoedd hyn ydynt Berffaith a Buddiol ym mhawb ag ydynt bur o Galon, a thrwy rhai 'n y mae Pechod yn dyfod i'w ddinistrio, a thrwy Allu Duw yr adnabyddir perffeiddrwydd, ac [Page 137] nid trwy ddim o Gyfiawnder, Gwasanaeth neu [ddyfaliaeth] ddychymyg dyn, yr hyn nid yw ond gwefus-wasanaeth oddiallan, yr hwn yr achwynodd Crist iw erbyn, amdanynt hwy a'i hanrhydeddasant a'u geneuau, ond yr oedd eu Calonau ymmhell oddiwrtho, ac Felly 'n union y mae yr awron gida 'r rhan fwyaf o bobl, Offeiriaid, Proffesswyr a Chyffredin, y rhai ni ddaethant ddim pellach na'r Scrifenyddion ar Phari saeiaid, a'r Juddewon a'r Arch offeiriaid oeddynt yn nyddiau Crist, pan oedd efe 'n rhodio ar y ddaiar yn y Corph o Gnawd, hwynt hwy y pryd hynny a wrthwynebent Athrawiaeth [Page 138] Crist a'i Apostolion, am Bregethu ohonynt Athrawiaeth arall wrthwynebol i'w Traddodiadau, y rhai oeddynt yn ymyrreth ynghylch dyledswyddau a Gwasanaeth oddiallan, ynghylch Gweddio, Pregethu, Canu, Bwyta, yfed a Golchi, a gwneuthur mawr ymddangosiad Blodeuog o Addoliad oddiallan, ac ymffrost ynghylch Crefydd, y rhai nid oeddynt ond mewn Ceremoniau, [Defodau,] Luniau, Rhithiau, a Chyscodau, yn gwbl mewn pethau allanol, fel y mae pobl yn y dyddiau hyn, y y rhai ni ddaethant i'r Addoliad ysprydol, yr hwn fydd ynghrist Jesu; y rhai 'n oeddynt [Page 139] mewn oesodd a fu, ac ydynt yn yr oes hon eiddom ni, oll yn llefain yn erbyn yr wyddor honno oddifewn, at yr hon yr oedd Crist a'i Apostosion yn annog pobl, fel y gellwch ddarllain yn scrythyrau 'r Gwirionedd fel y dywedodd Crist, mai efe oedd y gwir oleuni, Sy 'n goleuo pob dyn a'r y sydd yn dyfod i'r byd, Joan. 1. 9. Mae 'r Goleuni yma yn lle wyrchu yn y Galon ar Gydwybod, i ddangos yno i ddyn ei feddyliau, ac i osod ei Gyflwr oddifewn mewn Golwg ger ei fron ef, oblegid nis gall dim arall ei wneuthur; a hwn oedd y Goleuni a lewyrchodd yn Paul, pan ddywedodd efe ys truan o Ddyn [Page 140] wyfi! pwy a'm gwared oddiwrth Gorph y farwolaeth hon? Rhuf. 7. 24. Goleuni Christ ydoedd yr hyn a ddangossodd iddo ef ei gyflwr truenus, ac nid yn unig hynny, ond a roddes iddo allu Drosto, ac efe 'n ffydd lon iddo, trwy hunan wadiad mawr, efe 'n cymeryd i fynu 'r Groes i'w ewyllys ei hun, drwy yr hon y Croeshoeliwyd ef i'r Byd, a'r Byd iddo yntau, a wnaethpwyd i allu ymdaith trwy flinderau mawr, Trawiadau, ac Erlidigaethau, gan Broffesswyr a Chyffredin, a chan ei Genedl ei hun; a'r holl Gasineb a'r Genfigen yma a gyfodwyd ynddynt hwy gan y diafol yn erbyn Paul, am iddo droi at yspryd a Goleuni [Page 141] Christ Jesu ynddo ei hunan ac arwain bywyd newydd, ac Addoli duw mewn dull arall nag y gwna'ethai efe o'r blaen, sef vn yr yspryd a'r Cwirionedd, efe wedi dyfod ar yr hyn oedd allan o'u golwg hwynt, at bethau a ddatcuddiasai Grist iddo ef, a thrwy hwn y pregethodd efe, ac y trodd efe Bobl o dywyllwch i oleuni Crist ynddynt eu hunain, o feddiant Satan at allu Duw; am y peth hyn y cenfigenus erlidiwyd Paui, y llefwyd iw erbyn, ac y cyfrifwyd yn ynfyd, ac ni pheidia [...]ant a'u hymlid arno nes iddynt ei ladd yn Rhufain, ac am y peth hyn yn unig y mae proffesswyr, Offeiriad, swyddogion, [Page 142] a llawer eraill yn ein cashau ninnau yn y dyddiau hyn, am droi pobl o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Sattan i Allu y Duw byw, Llawer fu y dychymygion, yr Ymgynghoriadau, a'r llunio i'n herbyn a fu gan barliamentau, cynghorau, Swyddogion, Escobion, Offeiriaid, Proffesswyr, a Chyffredin, oni buasiai i'r arglwydd sefyll gida ni, nyni a ddinistriasid erys talm; ond y Cyfiawn Dduw, yr hwn sy'n dadleu achos ddiniw eid ei blant, a'n Cadwodd ni felly ac a'n ymddeffynnodd trwy ei fuwiol allu, fel na chafodd ein gwrthwynebwyr erioed ddim iw brofi i'n herbyn, ond yn Cyfraith ein Duw, ac am hyn y cyhuddwyd Daniel onest; ond ystyystyriwch [Page 143] beth a ddaeth o'i Gyhuddwyr ef, a Chyhuddwyr y rhai Cyfiawn ymmhob oes, ac yna darllenwch oddi mewn beth a ddaw o Erlidwyr pobl Dduw yn yr oes hon; a'r amser i ddyfod; pwy erioed a lwyddodd a'r a ymladdodd yn erbyn Duw? canys y mae llaw dduw yn rhy gref i'r holl fyd, ac ar y rhai a arferent drais y trowyd hi bob amser; a Thrueni sydd raid bod yn rhan iddynt, onid edifarhant.
Am hynny y mae 'n dda i pobl edrych gartref, ac ystyried pa fodd y mae gida hwynt o ran eu cyflwr oddifewn; canys os wyfi ar Gam, nid tydi a rydd gyfrif drossofi, na [Page 144] minnau drossot tithau, ond pob un drosto ei hun; da gan hynny yw i bob un rodio yn y Goleuni, tra bo 'r Goleuni 'n llewyrchu, cyn dyfod tywyllwch arnat, ac na bo Goleuni mwyach, a'th adel heb ymwared am Jechydwriaeth, canys y Goleuni sy'n dwyn Jechydwriaeth, fel y gellwch ddarllain yn y scrythyrau beth y mae gwyr sanctaidd yn ei ddywedyd, 2 Cor. 4. 6. Fod Duw gwedi gorchymyn i'r Goleuni lewyrchu o dywyllwch a lewyrchodd yn ein calonau i roddi Goleuni Gwybodaeth Gogoniant Duw, yn wyneb Jesu Grist. Hynny yw, yn ymddangosiad Jesu Grist a Christ yw'r Goleuni, a'r Goleuni yw Crist [Page 145] oddisewn, Gobaith y Gogoniant, a hyn a lefarasant hwy y rhai oeddynt dystion o i ymddangosiad odd [...]mewn, o'i ddatcuddiad ef ei hunan yn eu calonau a u rhanau oddifewn.
Ac ymhellach y mae 'r scrythyr yn dywedyd, Mai hyn yw 'r Ddamnediga [...]th, ddyfod Goleuni i'r byd a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni oherwydd bod eu gweithredoedd hwy yn ddrwg, Joan. 3, 19.
Hyn yw Jechydwriaeth y rhai cadwedig a Damuedigaeth y rhai colledig (sef) Goleuni; canys chwi a ellwch weled, gael o'r rhai agasasant Goleuni, eu barnu ganddo, a chasawyd ef, ac a gasheir gan bawb a ga [...]ant ac a ddadlenant tros [Page 146] bechod yr yn hyn sydd ddrwg; canys tra fo pobl yn byw yn y Tywyllwch yr hwn sydd ddrwg; ni welant y drwg ddiben a ddyg Tywyllwch i'r rhai a'i carant, na'r trueni sy'n eu canlyn, achan hynny y maent yn cashau 'r Goleuni; oblegid y mae 'r Goleuni yn gw [...]euthur pechod i ymddangos yn dra pechadurus ac yn erchyll yr olwg; a'r rhai ni ewyllysiant adel eu pechodau; a ymgodant i ddiystyrwch a chasineb yn erbyn y goleuni sy'n eu dangos iddynt, ac sy'n dangos iddynt eu Cyflyrau; Dyma 'r peth sy'n blino pobl yn eu meddyliau, ac yn eu haflonyddu hwynt yn eu [Page 147] rhanau oddifewn am ganlyn eu trachwantau a'u melyswed, a chan hynny a gasheir ganddynt; oherwydd y mae hwn yn fynych yn eu blino hwynt am ymlusco dan gauliwiau Crefyddau a sicrwydd twyllodrus; ac heb adel iddynt gael dim gwir heddwch dan un Grefydd ddychymygedig, na osodwyd i fynu gan Dduw a Christ; ac hefyd yn aflonyddu yr Offeiriaid Cyffredin am wneuthur mar [...]hnad o'r scrythyran a [Masnach neu elw,] marsiandiaeth o'r bobl, y rhai a'u Celwyddau a wnant i bobl gredu fod pob peth yn dda gida hwynt, pryd na bo dim o'r fath beth, ac felly a hudant Bobl am eu [Page 148] heneidiau a'u harian hefyd, a hyn oll a wnant er arian, ond ni fyn pobl gredu hyn, am mai ffordd esinwyth yw, a hoff ir hen Anian a'r hen gynefin fuchedd; ac yma y gallant fyw a boddhau y gwaelaf o ddynion, a gwneuthur yn ol Traddodiadau ac Athrawiaethau dynion, er [croesed] gwrthwynebused font i dduw, yma y mae y dall yn tywys y dall, ac yn meddwl fod pob peth yn dda, nes dyfod angau, yna y gwelant mai ofer yw 'r cwbl, eu gwaith yn gwario eu harian am yr hyn nid yw fara, a'u llafur am yrhyn nid yw yn digoni yr enaid anfarwol, ac yna y dechreu ddywedyd, Ona chawn ddiwrnod [Page 149] (ychwaneg) arall! ni wnawn fel y gwneuthum; a hyn sydd am geifio yhonynt y byw ym mysc y meirw, a Bywyd lle nid oedd, canys nid oes fywyd ymmhlith yr Offeiriaid yn eu haddefiadau meriwon, a ddigona newynog anfarwol Enaid un dyn, canys yr hyn sy'n digoni Eneidiau anfarwol pobl, y mae Offeiriaid a Phoffesswyr yn llefain allan iw erbyn, oherwydd y mae 'n eu blino yn eu pechod a'u gau Addoliadau, ac am wneuthur Masnach o'r scrythyrau, a Marsiandiaeth o'r Bobl, ac am hyn y maent yn llefain yn ei erbyn [ymmron] agos ym mhob Pulpud, ac agos yn holl [Page 150] [Gwfwrddfau] gyfarfodydd y Proffesswyr, gan lefain yn erbyn a difenwi Goleuni Christ, Gras a Gwirionedd yn y rhanau oddiefewn; un yn ei alw, Goleuni Diaflig, eraill yn ei alw, Goleuni Naturiol, a cherydd Cydwybod Naturiol. ac y mae rhai yn eu hanwybodaeth mo'r ddigywilydd ac yn Gymbraeg loyw alw Goleuni Christ, yn Oleuni 'r Diawl neu 'r Cythrael, rhai ai galwant, Goleuni 'r Cwacers, a Goleuni annigonol, gida llawer o enwau gwradwyddus a distadl eraill yn erbyn Crist a'r Goleuni, nid yn unig yn eu pulpudau, ond hefyd yn eu bucheddau a'u harferion ar amserau eraill, oblegid y maent yn Canfod, os [Page 151] daw pobl unwaith i rodio yngol [...]uni Crist, ac iw harwain g [...] yspryd Duw na fynnant m [...]yach o'u dysceidaeth ddall hwynt, a [...] y [...] a i lawr erbyn hynny eu Masna [...]h, a mawr Elw [...] Mar [...]ia [...]diaeth, a'u holl Roddion, a'u Gwobrau, a Babilon a'i holl wychder, a'r hen But [...] in yr hon a eisteddodd ar y dyfroedd, ac a wnaeth bobl lawer yn feddw o Gwppan ei Godineb hi, pan ddel pobl unwaith i'w harwain gan yspryd Jesu, yr hwn sydd ddatcuddiedig yn Nynolriw (sef) yspryd y Gwirionedd, yr hwn sy'n Tywys i bob Gwirionedd, ac yn arwain i bob Cyfiawnder, yna y syrth holl farsiandwyr Babilon, Teyrnas [Page 152] uffern, a'r cwbl ynghyd, yna y derchefir ac yr adnabyddir Teyrnas Grist, yr hon sydd guddiedig oddiwrth ddoethineb y byd hwn.
Ond fallai y dywaid rhai fod Datcuddiad ac ysprydoliaeth yr awron gwedi peidio; a pha fodd y dâw Pobl i'r cyflwr yr wyti'n son amdano yn y dyddiau hyn?
Altebaf, os peidiodd Datcuddiad, yna Jechydwriaeth a Gwybodaeth o Dduw a beidiodd; ac os gwir yw hyn; Beth sydd yntau gan yr Offeiriaid iw bregethu yn y dyddiau hyn? canys dywedodd Crist, Nid ed wyn nêby Tâd ond y mâb, ac efe [Page 153] i'r hwa y datcuddio 'r Mâb ef, (Matth. 11. 27.) ac na ddaeth neb atto ef ond trwy 'r Tad, yr hwn y mae Crist, y Mab yn ei ddatcuddio: A dywedodd Paul hefyd, pân welodd Duw 'n dda ddatcuddio ei Fâb ynddo ef, nad ymgynghorodd a chig a gwaed (ond a 'r Mab yr hwn a ddatcuddiodd y Tad) felly y mae 'n amlwg yma i'r llygad sy'n gwele, yr hwn a agorodd Duw, na pheidiodd Datcuddiad ond bod y Mab yn datcuddio 'r Tad, 'ar tad yn datcuddio'r Mab mewn pobl, fel y tystiodd Paul yr Apostol, i ddangosi ddynion eu Cyflyrau oddifewn, y modd y mae 'n sefyll gida hwynt yngolwg Duw; a hyn nis [Page 154] gwelodd ac ni chaf;odd Paul allan trwy ei holl ddysccdiaeth, na'i Zel a'i Grefydd fawr, nes bod Crist y Goleuni 'n datcuddiedig ynddo ef; ni Ddaw un Dyn ychwaith a'r wyneb y ddaiar i wybod pa fodd y mae gidag ef mewn perthynas i'w Gyflwr oddifewn, hyd oni ddel i adnabod Crist wedi ei ddatcuddio ynddo, ac i'w ysprydoli ef trwy ei sanctaidd yspryd, fel y crybwyllais o'r blaen, mai er bod yspryd mewn dyn, etto ysprydoliaeth yr Holl-alluog sydd yn gwneurhur i ddyn ddeall: ac os yw (fel y dywaid rhai) fod ysprydoliaeth gwedi peidio, y mae yntau bob Cywir ddeall ynghylch [Page 155] Jechydwriaeth a Phethau ysprydol a'r goll; pa raid yntau i neb fyned ar ol yr Offeiriaid, na neb ryw Broffesswyr eraill, onid oes wybodaeth o Dduw a Christ i'w gyrhaeddyd? ymaith a'u holl ddall a Thwyllgar hoccedau ac Estrywiau, trwy ba rai y maent yn llygadtynu pobl, fel nad ufuddhaent i'r gwirionedd, Celwyddau a [amryfuseddau.] Siomedigaethau yw 'r cwbl. Ni pheidiodd Datcuddiad neu ysprydoliaeth, Bu Paul wedi Crist, efe a dystiodd ddatcuddiad, ac ysprydoliaeth a llawer ychwaneg ar ei ol ef, ac yr wyf yn credu i Grist a Phaul ddywedyd yn Gywir, ac mai Cywir yw'r scrythyr, ac mai Twyll yw 'r [Page 156] cwbl sy'n groes iddi, ac y mae 'r scrythyr yn dal allan na pheidiodd Datcuddiad ac ysprydoliaeth; ar bod yn amser y Gyfraith wefusau 'r Offeiriaid wedi eu pennodi i gadw gwybodaeth i'r bobl, ar bobl oeddent gwedi eu pennodi i geisio 'r Gyfraith o'u geneuau hwynt; etto nid felly y mae 'r awron, ond pob un sydd ag eisieu Gwybodaeth arno, sydd i'w ofyn gan Dduw, yr hwn sy'n rhoi 'n haelionus ac heb ddannod i'r rhai a ofynant mewn ffydd.
Ond medd rhai, Nid ydych chwi 'r Cwaceriaid yn Bedyddio mo'ch plant, nac yn derbyn y Sacrament, fel yr ym ni.
Yr wyf yn atteb os dy [Page 157] feddwl ydyw'r Tanhelliad ar blant bychain, nid wyfi 'n credu ddarfod arfer mo hynny gan neb o bobl Dduw mewn oesoedd lawr gwedi dyddiau Christ a'r Apostolion, am hynny ni wn i pam yr arferid hynny gan neb, gan nad oes un rhagnod yn yr holl scrythyr ddarfod ei arferu gan neb o'r prif Gristnogion, nid wyf ychwaith yn yr holl scrythyr yn cael un Gorchymyn Duw amdano; a pham gan hynny yr arferem ef? hefyd, yr wyf yn edrych ar y peth fel yr ydys yn ei arfer yr awrhon, i fod yn gamwedd mawr yn erbyn Duw yn y rhai a'i harferant, am y rheswm yma a roddaf, oblegid pan ymgyfarfddo 'r [Page 158] Offeiriaid a'r Bob i Gristnogi neu i fedyddio (fel galwant) mae 'n rhaid i Rieni 'r plentyn geisio rhyw rai eraill, fel y gallont, i sefyll tros y plentyn, ac. mae 'n rhaid iddynt yno Addo ac Addunedu tri peth, yn enw 'r plentyn; yn gyntaf, yr ymwrthyd ef a'r Diafol a'i holl weithredoedd, Rhodres, a Gorwagedd y byd drygionus hwn, a holl chwantau pechadurus y cnawd. yn ail y cred ef holl Byngciau ffydd Grist. yn drydydd, y ceidw ef wynfydedig ewyllys a Gorchymynion Duw▪ ac y rhodia ef ynddynt holl ddyddiau ei fywyddyma Gymmyscedd, ac yngroes iw ffydd a'u Gwyddoion; canys nid ynt yn credu y gall dim o'r fath beth fod, neu'r [Page 159] fath gyflwr i'w gyrhaeddyd, yr awron gorchmyn i bobl addaw y gwna 'r plentyn yr hyn y maent hwy eu hunain yn credu ei fod yn ammhosibl, ffolineb ac ynfydrwydd, Gwarthrudd a Magl iddynt, ydyw, i ba rai y gwnant iddynt felly ddychymyg: oblegid pe gofynnai rhyw un i'r Offeiriaid, neu i un ohonynt, allent hwy fwy 'r fath fuchedd ag y maent yn ei addaw ac yn ei addunedu y gwna 'r plentyn, hwy a ddywedant, ni all hynny fod, ac y maent yn llefain allan agos ymmhob pulpud, ac agos ymmhob [cwfrdd] cyfarfod i'r proffesswyr yn erbyn y fath fywyd perffaith ac y [Page 160] maeut yn ei addo ac yn ei addunedu y caffai 'r plentyn ei fucheddu, a chan ddywedyd, nid oes dim perffeiddrwydd yma.
Canys ymwrthod a'r Diafol a'i holl weithredoedd, a chadw gwynfydedig ewyllys a Gorchymynion Duw, yw perffeiddrwydd, yr awron ystyriwch Amhwyll, Anhrefn, ynfydrwydd a dallineb y Bobl hyn, dyma un o Byngc [...]iau pennaf eu Heglwys hwynt▪ Addo ac Addunedu yr ymwrthyd y plentyn a'r diafol a'i holl weithredoedd a byw felly holl ddyddiau ei fywyd; Dyma 'r peth cyntaf y maent yn ei orchymyn i Aelod o'u heglwys, wrth dderbyn Alod [Page 161] i'w Heglwys megis rhan o'u dull o Addoliad, ac yn eu Pulpudau yn pregethu yn ei erbyn, hynny yw, yn erbyn y rhan bennaf o Byngiau eu ffydd yn y Bedydd; yn gymaint a'u bod yn dywedyd, nad oes dim perffeiddrwydd yma, O'r Tywyllwch a'r fagddu sy'n gorchguddio 'r bobl hyn, y dallineb a'r Anwybodaeth y maent ynddo, mewn perthynas i'w Hiechydwriaeth! mae'n anhawdd dalal allan fel y maent gwedi eu camdywys, Tywysogion deillion y deillion, nes i lawer o filoedd syrthio i'r Clawdd: Ond Bendigedig fo enw 'r Arglwydd yr hwn a'm tynnodd i a llawer ychwaneg allan ohonaw, ac [Page 162] a osododd ein traed ar y graig; fel y dywedodd Dafydd, allan o'r pridd tomlyd, canys nid ydyw 'r Cyflawniadau hyn oll, a'u dyledswyddau gorau ond fel Tom a Llaid yngolwg Duw, a nyni y rhai oeddem ynddo cystal ag eraill, a gyfododd, yr Arglwydd i fynu i ddwyn Bywiol dystiolaeth, yn erbyn yr Eulun-addolgar Addoliad yma, a'r Gau ddychymygion, fel y del eraill i weled lle y maent, a dyfod o'u mysc hwynt, cyn y cydsyrthiont i bwll uffern, lle nid oes byth dyfod allan mwyach, canys Tywysogion deillion y deillion, ydyw 'r Offeiriaid a Phennau Secti eraill, Oblegid ystyriwch yn unig dull eu [Page 163] mynediad ynghylch y Tanhelliad yma ar blant, a'r ffrwyth y mae 'n ei ddwyn, y mae 'r Offeiriad yn Tanhellu dwfr yn wyneb y plentyn, ac yn dywedyd, Yr wyfi 'n dy fedyddio di yn enw 'r Tad, a'r Mâb a'r yspryd glân, a hynny a gyfrifant fod yn gwneuthur Christian o'r plentyn (sef) plentyn i Dduw, Aelod i Grist, ac Ettifedd Teyrnas Dduw (hudoliaeth amlwg) ac yna y mae 'n rhaid iddynt gael yno ryw bobl eraill, da neu ddrwg, i sefyll yn rhwym dros y plentyn, y rhai hyn a alwant hwy Tadau Bedydd a Mamau Bedydd; ond yn ol y Saesneg-Tadau Duw, a Mamau Daw, fel ped fai gan Dduw 'r Nefoedd [Page 164] a'r dyaiar dadau a Mamau o ddynion a dynesau anwir: canys os ystyriwch yn unig, y mae 'r bobl hyn yn cymeryd gwaith Duw arnynt, gan eu bob yn addo ac yn addunedu yr ymwrthyd y Plentyn a'r Diafol a'i holl weithreddoedd yr hyn yw byw heb Bechod, a hynny holl ddyddiau ei fywyd, yr hyn beth ni ddichon yr holl fyd fyth mo'i wneuthur; oblegid yn gymaint ag iddynt addo yr ymrthyd y plentyn a' 'r Diafol a'i holl weithredoedd, y mae hyn yn ca ei mewn pob pechod pa fath bynnag; canys nid oes ac ni bu erioed un pechod, nad o waith y diafol y byddai, ac yn hyn y cymerant arnynt yr hyn nid all neb ond Duw [Page 165] a Christ ei wneuthur, a chan hynny I ddinistrio Pechod I roi diwedd i Bechod i (orphen) ddibennu camwedd, ac i ddwyn i mewn Gyfiawnder Tragwyddol; y daeth Christ; canys nid yw holl Gyfiawnderau dyn ond fel Brattiau Budrou; a chwedi iddo wneuthur a allo, tra bo efe yn yr hen [natur] Anian, nid yw 'r cwbl ond anfuddiol.
Ystyriwch hefyd ymmhellach Offeiriaid a Phobl, y modd y Cyfeiliorna 'r Offeiriaid yn cymmell pobl i wneuthur hynny yn y cyflwr yma yr hwn y maen yn anwybodol ohono; ac na allant roi atteb am yr hyn y maent yn ei wneuthur, ac yma y mae 'r dall yn arwain y dall, canys ni wyr na'r Offeiriaid [Page 166] na'r Bobl yn y peth hyn beth y maent yn ei wneuthur oblegid pe gwyddent ni wnai rai o honynt mohono; canys pan ofynnodd rhai iddynt mewn ufuddod i'r Arglwydd, pam yr oeddynt yn gwneuthur y pethau hyn, am ba rai nid oes un scrythyr; ni wyddent yn iawn beth iw ddywedyd, rhai a ddywedent y mae cyfraith y deyrnas amdanynt; Eraill mewn modd tywyll a ddywedent oni wnaent hynny y byddai eu plant yn golledig, oherwydd y meant yn tybied mai hynny sy'n eu gwneuthur yn Gristnogion, pan nad yw nemawr ohonynt yn gwybod beth yw bod yn Gristion; canys un yn rhodio [Page 167] fel Christ yw Christion, neu fel y mynnai Crist iddo; ac felly i'w uno a Christ, Rhai a attebant, ac a ddywedant; ei fod yn cael ei arfer yn nyddiau ein henafiaid am hynny 'r arferwn ni ef, dywetpwyd esceluso o'r Arglwydd amser yr anwybodaeth, ond yn awr efe a symmudodd Gymylau 'r anwybodaeth, ac a hyspyssodd y pethau hyn; ac a eglurodd ddealltwriaethau gweddill, yn fwy yn yr oes hon, nac mewn oesoedd a aeth heibio; ac yn awr a amlygodd y Gwagder, y sychder a diffrwythder, ac afles Traddodiadau 'r amwybodol, ac y mae 'n galw i Edifeirwch; ac y mae mo'r angenrheidiol i bobl yr oes hon edifarhau am [Page] [Page 167] [...] [Page 168] y Tanhelliad yma ac am un peth arall, canys yn y ddull yr arferir ef yr awrhon, ac yr arferwyd ef [...]ros beth amser aeth heibio y mae 'n ddrygionus ac yn ffiaidd iawn yngolwg Duw; a phaham na allant yn gystal ddadleu dres feddwdod Tyngu, Celwydd a Phutteindra eu henafiaid a thros hyn?
Oblegid sulwch yr un peth hyn pan font yn myn'd i wneuthur Christion, dybygant, deliwch sulw 'n unig arnynt yn eu, gwaith pan ymgynhullo [...]t ynghyd, hwy a ymddygant yn debyccach i rai 'n gwneuthur Ethniciaid, na Christrogion; canys y mae'n beth cyffredin iddynt ma [...] [Page 169] yn cymeryd achlysur ar y fath amseroedd) Wledda, Chwarae, Ddawnsio, Gyfeddach a meddwi yn yr amser yr arferant y cyfryw bethau, A dyma eu dull yn gwneuthur Christnogion; y rhai a ddeunyddiant yr Odfeydd hynny o'u cyfarfod felly i wneuthur y fath ffieiddra: Ond myfi a'i gadawn i ddifrifol yst yriaeth dim pobl sobr, a'i 'r Gweithredoedd a'r Arferion hyn yw 'r ffordd i wneuthur Cristnogion.
O! 'r ffieiddra a'r Halogedigrwydd erchyll a wna pobl yn hyn ac agos yn eu holl ddyledswyddau, pan ymgyfarfyddant fel y dywedant i Add [...]li Duw! y mae 'r Arglwydd [Page 170] yn blino 'n cyd ddwyn ag ef ac y mae ei lid yn eu herbyn hwynt, y rhai a redant i ddim ac a'i galwant yn wasanaeth ac yn ddyledswydd i Dduw, pryd na bo Duw gwedi ei orchymyn, na'i ofyn ganddyt, na'i yspryd gwedi eu harwain iw wneuthur; ffieidd dra gan yr Arglwydd yw'r pethau hyn, a daeth Crist i farnu 'r Byd o Bechod, o Gyfiawnder ac o farn; Canys y Bobl sydd gwedi myn'd i un Cyfiawnder neu farn, megis i Grefydd ac Addoliad, i ba un ni arweiniwyd ac ni thywyswyd hwynt gan yspryd Duw; er ei fod yn gyflelybrwydd o'r gwir Addoliad a wnaeth pobl Dduw mewn oesoedd [Page 171] aeth heibio, mewn ufudd dod i yspryd Duw, ac lle y gwnaethpwyd ac y gweithredwyd pethau oeddynt gymeradwy gan Dduw, drwy wyr Sanctaidd Duw, fel y cynhyrfwyd hwynt gan yr yspryd glan oeddent yn rhyngu bodd i Dduw yn eu dydd e'u hamser, Cyscodau a Rhithiau yn unig oeddynt o'r Sulwedd Crist Jesu, yr hwn a ddaeth, ac a ddiweddodd y pethau allanol hynny ac y mae yr awrhon yn galw pobl i addoli yn yr yspryd a'r Gwirionedd▪ Canys Dywedodd Crist. Y cyfriw y mae 'r Tâd yn eu geisio iw addoli ef felly 'r awrhon ei i bobl allu rhedeg i'r pethau hyn, y rhai oeddent [Page 172] dda yn eu hamser a'u dydd, fel yr oedd yr Enwaediad yn ei ddydd; felly 'r oedd pethau eraill yn eu dydd a'u hamser; Megis Bedydd Joan Torri Bara, a llawer o bethau eraill o'r blaen, megis y pasc, a'r Sarph Bres a osododd Moses i fynu, oeddynt dda nes gwneuthur Eulyn ohoni; yn amser y Gyfr [...]ith yr oedd llawer o bethau yn arferedig; megis Aberthau, a phoeth Offrymau, Pech Offrymau ac Offrymau hedd, Gwaed Teirw, a Geifr, Lludw Anneir, gida llawer o bethau oddiallan, (ond am danhellu ar blant ni ddarllenasom ni erioed) y rhai nid oeddynt yn perffeiddio y rhai oeddynt yn [Page] [Page 172] [...] [Page 173] dyfod attynt, o ran glanhau'r Gydwybod, canys gwaith oedd hwnnw a wneid bob amser-trwy yspryd a Gllau Duw; er gweled o Dduw [...]n dda ymddarostwng at ddeall ac ymgyffred isel dyn yn y pethau allanol hyn hyd oni ddaeth cyflawnder yr Amser yn yr hwn yr anfonai efe ei fab Christ sylwedd yr holl luniau a'r Rhithiau a pethau allanol y rhai oeddent Gyscodau a chwedi dyfod y sylwedd, (sef) y Mesiah Crist Jesu; mae 'r cyscodau yn diweddu ynddo ef, a'u Cyfiawnder yn cael eu Cyflawni ynddynt hwy, y rhai a gredant ac a ufuddhant i'r Gwirionedd, (sef) dilynwyr Crist Jesu; A dywedodd [Page 174] Joan am ei Awdurdod a'i Wenidogaeth, ei fod ef i lei-hau, eithr Crist i gynnyddu.
Oblegid os deliwch sulw, fe anfonwyd Joan yn rhag [...]edegwr i Grist i baratoi ffordd. yr Arglwydd, ac i uniawni ei lwybr ef, ac i fedyddio mewn dwfr y rhai a gredent dystiolaeth Joan am Grist; yr oedd hyn ar fedr gwaith pellach yr hwn y deuai Crist iw wneuthur, fel y dywedodd Joan, yr hyn oedd i fedyddio a'r yspryd glan ac a Than; felly y rhai a ddaethant iw bedyddio a than ac a'r yspryd g [...]an, hwy a ddaethant at y sylwedd Christ Jesu, ac iddynt [Page 175] hwy y mae 'r cyscodau gwedi diweddu.
Ac am y gair Sacrament nid oes y cyfriw air yn yscrythyrau, ar awni, ond am Grist yn torri bara gida'i ddyscyblon ni ddywedpwyd am hynny megis mewn perthynas i bawb iw arfer, ond iw ddyscyblion yn unig, canys fel hyn y mae efe 'n dywedyd wrthynt, Cynifer gwaith y gwneloch hyn, gwnewch er coffa amdanaf, ac yn gwneuthur, felly (ebr efe wrthynt hwy, nid wrth y byd) yr ydych yn dangos farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo canys efe a addawsai iddynt y byddai 'r hwn oedd gidâ hwynt, ynddynt, felly yr oeddent i aros yn Ghaersalem [Page 176] hyd oni wiscid hwynt a Nerth o'r ucheleder, yr hyn ydoedd adnabod ei ail ddyfodiad, yn ysprydol heb Bechod, er Jechydwriath yr hyn a gyflawnodd efe felly iddynt; ac erbyn hynny nid oedd raid gwneuthur dim oddiallan, iw dwyn hwynt i Goffadwriaeth am Grist, Gobaith y gogoniant ynnyddynt; efe a ddaethai erbyn hynny i dywys eu meddyliau a'u Calonau i bob Gwirionedd.
Felly pan wiscwyd eu ddyscyblion ef a Nerth o'r uchelder; yna yr aethant mewn Awdurdod i bob Cenedl, gan eu Bedyddio hwynt i Enw 'r Tad a'r Mab a'r Yspryd Glan: Nid yw efe 'n dweydyd [Page 175] [...] [Page 176] [...] [Page 177] a dwfr oddiallan, ond i enw 'r Tâd a'r Mâb a'r yspryd Glan: a Thwr Cadran yw enw'r Arglwydd ac atto y rhed rhai cyfiawn, ac y maent yn y ddiogel oddiwrth y Gwrthwynebwr dinistriol: y mae genym ni achos i foli 'r Arglwydd am hyn; oblegid y mae hyn yn hyspys yn em dyddiau ni, fel yn y dyddiau gynt. Ond i bobl yr awrhon redeg i ddinwared y pethau hyn, ac nid trwy yscogiad oddiwrth yr Arglwydd, ond oherwydd darfod ei arfer gynt gan bobl Dduw; Meddaf, i eraill redeg iddo, na ddaethant erioed i dystio Bod iddynt, yn y Cyflwr hwnnw, yr oedd pobl Dduw [Page 178] ynddo, dyma 'r Addoliad a adailiadwyd ar y Tywod, yr hwn pan ddel Tymhestloedd a Gwyntoedd Erledigaeth i'w Chwythu, yna y syrth yr Adeilad hwnnw, a mawr yw ei Gwymp; ar Cyfiawnder yma, yn gystal a pechod y daeth Crist iw farnu; felly pa beth bynnag a osoder i fynu, er y gall fod yn ymddangos yn Gyfiawn yngolwg pobl, yr hwn y buant yn ymorol am dano iddynt eu hunain; y mae 'n rhaid iddo fyn'd i lawr oll gystal a'u Pechodau; canys yr un ffunud yw yn golwg Duw; oblegid y bobl a geisiasant i ddynt ffyrdd esm wyth i wasanaethu Duw ynddynt, oherwydd [Page 175] [...] [Page 176] [...] [Page 175] [...] [Page 176] [...] [Page 177] [...] [Page 178] [...] [Page] [Page 180] [...] [Page 179] nid cymeradwy ganddynt yr Addoliad hwn eiddo Duw mewn yspryd a Gwirionedd, y mae 'r porth sy'n arwain atto mo'r gyfyng, ag y mae'n rhaid iddynt eu gwadu eu hunain gymaint, ag na allant fyned i mewn trwyddo a'u Corph o Bechod; ac y mae hwn y cyfryw Groes iw hew [...]llyssiau eu hunain, nad all y rhai sy'n ymhyfrydu yn nifyrrwch pechod aros meddwl amdano, ond a godant gymain [...] ag a allont yn ei erbyn, ac a fynnent gael ffyrdd esmwythach na Christ, ac a'i [...]yfrifant yn feistr Caled, am y mynnai ef iddynt, adel difyrrwch Pechod, fel y bont gadwedig yn Nydd y cyfrif, [Page 180] yr hwn addaw yn ddiswmwth a'r holl fyd, i roddi cyfrif am eu Gweithredoedd a wnaethpwyd yn y Corph, pa un bynnag fyddont ai da ai drwg.
Da gan hynny ydyw i Bawb weled fod eu Gweithredoedd yn dda, cyn y bo 'n rhy ddiweddar, a rhoi heibio 'r hyn sy'n rhwystro, fel yr elont i mewn trwy 'r porth cyfyng, cyn ei gau, fel nad agor er byth mwyach; canys Duw sy'n agor, ac efe sy'n cau; ac os efe a gau draechefn, nid egyr yr holl fyd byth mwy, er y ceisiant y pryd hynny ond ni chant: ac yn fynych pan rhyngo bodd i Dduw agor y llygad [...], [Page 181] hyd oni ynt dyfod i weled, y maent yn gweled cymaint iw wadu a'i fwrw ymaith, oni fynnent fod yn ddeillion drachefn, ac felly a ddechreuant gashau yr hwn a'i danghosodd iddynt, ac hefyd hyn yn oed y rhai a ufuddhasant iddo; er ei fwyn ef yr hwn mewn ewyllys da a fynnai eu hacub hwynt rhag uffern: y mae o bethau sy'n rhwystro pobl rhag myn'd i mewn trwy 'r porth cyfyng; canys Cyfyng yw 'r porth a cul yw 'r llwybr sydd yn arwain i fywyd tragywyddol ac ychydig sy'n ei gael, oblegid y maent yn ceisio yn y ffordd chwith; y mae y rhan fwyaf o bobl yn ceisio bob yn un ei ffordd ie hun, a [Page 182] ffordd yr Arglwydd a esceulusir; canys yn y ffordd hono ni allant rodio yn eu hen gynefin fuchedd; canys myfi a roddaf i'wch siamplau lawer pam y mae llawer yn ymdrechu; ac heb allu myned i mewn i'r porth cyfyng. Y mae hwn yn gyfyng i'r dyn Cnawdol, ond y mae yn esmwyth i'r dyn ysprydol, neu efe a wnaed yn esmwyth iddynt hwy drwy yspryd Duw; ond i'r pechadur y mae 'n anhawdd; y Meddwyn, oherwydd ei feddwdod nid all fyn'd i mewn i deyrnas Dduw; y Tyngwr oherwydd ei dyngu; y Celwyddog oherwydd ei gelwydd; y Cybydd o herei Gybydd dod, y dynion o [Page 183] feddwl hudolaidd; Twyllodrus, Cynfigenus, a Gelyniaethus, nid allant fyned i mewn oherwydd y pethau hyn; y Balch a'r derchafedig, neu y rhai a dreuliant eu hamser mewn Chwarae, digrifwch, mewn Oferedd a Chellwair, nid allant fyned i mewn; y pethau hyn a'r cyfryw oll a fu ac a sydd yn rhwystro dyfod i deyrnas nefoedd; y Putteiniwr, y Lleedr a'r Llofrudd, y Rhagrithiwr a'r Cablwr, nid allant fyned i mewn, a'r rhai aethant tan orchudd o grefydd, ar nid yw gywir, ond Gau, nid allant fyned i mewn, er gwneuthur ohono ymddangosiad mawr, ac heb fod yn [Page 184] iawn, hyn sy'n rhwystro llawer i ddyfod at Dduw, ac sydd un o'r Maglau mwyaf sydd gan y diafol i dwyllo a hi ymmysc dynion, ac y mae yn y wedd hon yn twyllo Myrddiwn o Bobl; canys yn hyn y pair ef iddynt Goelio fod pob pêth yn dda, ac felly drwy fod dan Broffession y maent yn ewyllyfcar iw goelio ef; ond ni ddichon efe mor hawdd beri i'r rhai sydd amlwg halogedig goelio fod yn dda gidâ hwynt; oblegid nid oes ganddynt mo'r Orchudd dros eu pechodau; ac am hynny y dywedodd Grist, yr ai'r Publicanod a'r Putteiniaid i mewn i'r Deyrnas o flaen y cyfryw. Matth. 21. 31.
[Page 185] Ac am y rhai sy'n proffessu 'r Gwirionedd ac heb rodio, ynddo nid ant byth i mewn i Deyrnas Dduw.
Yr holl bethau rhagsoniedig hyn, a llawer mwy a ellyd son am danynt, sy'n rhwystro llaweroedd i fyned i mewn, 'r porth cyfyng, dyma 'r Pwysau a'r Beichiau oeddent ac ydynt iw rhoi heibio, y rhai sydd barod i amgylchu Pobl, ac nid defnyddio 'r Addewidion (fel y galwant) a'i gwna, yn y ffordd y mae dynion Cnawdol eu meddwl yn eu deunyddio hwynt; Canys nid oes Addewid o ddyfod i deyrnas Dduw (yr hon deyrnas nid yw o'r Byd hwn) ond ar Ammodau o fod gwedi [Page 186] ail eni, ac felly fod yn Greaduriaid newyddion; ac yna y mae 'r cyfryw yn dyfod i adnabod y tu fewn wedi ei lanhau oddiwrth Bechod trwyddo ef yr hwn a'u hadgenhedlodd hwynt, yr hwn yw'r▪ Arglwydd o'r nef, yr ail Adda, y [...] yspryd yn Bywhau, oherwydd nid glanhau 'r tu allan a wna 'r peth, A'r tu fewn i fod byth yn llawn Pechod, ac yma 'r hudwyd llawer am eu heneidiau, trwy goelio y rhai oedd yn eu gorllyfnu hwynt yn eu pechod, canys pan ryglyddodd bodd i'r Arglwydd lawer gwaith ddeffroi pobl o'u pechod, a gyscasent mewn pechod, a chwedi deffro ohonynt [Page 187] ychydig, a thrwy 'r Goleuni hwnnw sydd y pryd hynny yn llewyrchu ynthynt ddyfod i weled Pechod yn ymddangos fel y mae 'n dra phechadurus, a'r hwn sy'n dangos i ddyn ei feddyliau, efe yw'r hwn sy'n trefnu'r cwbl o flaen eu llygaid, ac felly y mae pobl yn dyfod i weled, nad yw fel y dylai fod gida hwynt, o ran eu heddwch gida Duw; ac yno heb wybod beth yw'r hyn sy'n dangos iddynt y modd y mae gida hwynt, a bod Duw mo'r agos attynt, ni wyddant ychwaith, y gall yr hyn sydd yn dangos iddynt eu Pechod eu gwared hwynt ohono, a rhoi iddynt allu drosto, oherwydd [Page 188] ei fod mo'r ddistadl gan eu dyscawdwyr, hwythau a'i distadlant ef hefyd, a than y trallod meddwl yma y mae llawer creadur truan dan gyfyngder mawr, gan fod ei bechod ef yn aros, ac mai marwolaeth yw ei gyflog, heb gaffael un Cynnhorthwywr ar y ddaiar, ond yn rhodio mewn lleodd sychion, gan geisio gorphwysdra, ond heb ei gael, oblegid y maent yn oestad yn ymresymu a chig a gwaed, ac heb uno a'r hwn sy'n dangos eu pechod iddynt; yma y maent yn y golled am eu hiechydwriaeth; yn y Cyflwr yma y mae llawer yn myned o un Broffes i un arall, gan ymofyn ag un dyscawdwr [Page 189] neu ei gylydd, Byth sy raid iddynt ei wneuthur i gael esmwythyd iw meddyliau trallodus, ac i ddyfod i ryw fodlonrwydd mewn perthynas iw heneidiau truain; yna y mae 'r dyscawdwyr deillion hyn yn dechreu eu troi hwynt i ffyrdd Ceimon, yn hyn y mae dinistr yn dyfod ar lawer enaid, truan, gwedi eu tywys gan dywyswyr deillion y deillion gan y deillion i ffyrdd gwyrdraws a chroes ffyrdd lawer, y rhai sy'n arwain i ddestryw; ac yma y mae un yn erchi iddynt ddeunyddio 'r Addewidion, y mae un arall yn llefain allan, Ewch i'r dwfr, un arall yn eu troi at y Bara a'r Gwin, ac un arall i addoli Delwau y rhai ni allant na chlywed, [Page 190] llefaru na gweled, fel hyn yma y maent yn troi pobl at bethau odiallan lle y mae 'r achos bennaf yn gorphwys oddifewn [...] eu glanhau trwy [...]ddiallan hyn, ond yn unig trwy allu Duw, fo ddichon dyn lanhau 'r tu allan, ond y tu fewn gan Dduw y mae n rhaid ei lanhau; ac os y tu fewn fydd glan, yna y tu allan a fydd glan hefyd; efe ddichon y tu allan fod yn lan, a chwedi ei goluro, a'r tu fewn yn llawn pydredd; ac yn yr helynt a'r cyflwr yma y [dwbwyr] Priddwyr a [orddwbiant] orbriddant glwyfau pobl a phridd heb ei dymheru, ond ni allent erioed [Page 189] [...] [Page 190] [...] [Page 191] eu hiachau hwynt: Nidiwyfi 'n dywedyd yn erbyn y moddion hynny oddiallan y mae 'r Arglwydd yn galw neb iddynt; ond i bobl redeg i un dim na alwyd hwynt iddo, er y gallai fod yn rhith gwasanaeth, ac Addoliad Duw; Nid esmwythaodd hyn erioed, ac nid esmwytha byth neb o'u Baich o Bechod, y maent yn uchneidio dano, ond Christ yn unig sy 'raid ei wneuthur, ac ar ei Ammodau ei hun; ac nid fel y mynnai dyn; ond y mae llawer Wele yma, yn troi pobl at bethau oddiallan, ac nid at ymddangosiad o Grist oddifewn, un yn llefain, wele yma Grist, ac un arall wele accw Grist, mewn [Page 192] rhyw Gyfarchwyliad neu ei gilydd oddiallan; ond beth a ddywedodd Christ wrth y cyfryw ac a ddywedent yn y wedd hon? nag ewch a'r eu hol hwynt (ebr efe) y rhai a ddywedant wele yma Grist, neu wele ef accw, nac ewch allan, na chredwch hwynt, canys yr hyn a ellir ei wybod am Dduw sydd agos, yr hwn a elwir y Gair, yr hwn sydd yn y Galon ag yn y Genau, a dyma 'r hwn sy'n dangos i ddyn ei bechod, ac a ddichon ei gymeryd ymaith; canys efe a ddaeth i roddi diwedd i bechod, ac i orphen camwedd, felly i ddwyn i mewn Gyfiawnder Tragywyddol: dyma 'r gwaith [Page 193] y daeth efe i'w wneuthur, yr hwn nid allai 'r Tywysogion deillion byth ei wneuthur; a dyma 'r hwn sy'n dwyn yr heddwch a'r doethineb sydd uwch law pob deall eiddo dynion.
Ymmhellach, dywedodd Christ wrth yr Juddewon, Teyrnas Nefoedd oc'h mewn chwi y mae. ond deliwch sulw, yn lle troi pobl at yr wyddor hon oddifewn, yr hon y dywedodd Christ amdani wrth Bobl, y Tywysogion deillion ydynt yn gwbl yn troi pobl at bethau oddiallan, ac felly yma yn eu gosod i lanhau y tu allan i'r cwppan a'r [Page 194] ddyscl, a phobl a hudir am eu heneidiau; canys y mae un yn llefain, mai llyfr y fferen i'w 'r ffordd i'r Nefoedd, a Gweddio at y Saint meirw, ac Addoli Delwau; eraill yn llefain mai 'r Bedydd a'r Bara a'r gwin yw 'r ffordd, un arall yn llefain mai ffydd yr Eglwys yw 'r ffordd; Cyfyd un arall ac a ddywaid, mai ei Gyfarwyddydd neu ei Ddirectory ef yw 'r ffordd; y mae un arall yn dywedyd mai 'r Llyfr gweddi Gyffredin yw 'r ffordd; felly y mae yma ffyrdd lawer gwedi eu gosod i fynu drwy ddychymyg dyn yn y cyflwr cwympedig, felly 'n arwain llawer mil o Bobl druain i'r pethau allanol hyn, heb gadw at neu [Page 195] fod wedi troi at yr hwn sy'n chwilio 'r Galon, ac yn profi 'r arennau, ac o eisiau hyn yn dyfod i golli Gorphwysdra a dedwyddwch eu heneidiau gida Duw; canys nid y glanhad oddi allan a wasnaetha, [...]nd y rhai a lanhawyd oddifewn, dyma y rhai y mae Duw yn ymhyfrydu ynddynt; y pur o Galon, sy'n gweled Duw; yma i mae pob un yn dyfod i wybod pa fodd i mae gida hwynt oblegid i mae Duw gida 'r rhai pur o Galon; a thrwyddo ef y daw pobl i adnabod y ffordd sy'n arwain i fywyd Tragywyddol; dyma 'r hwn yr ym ni yn ei ddywedyd yw 'r ffordd i'r deyrnas honno nid yw o'r byd hwn; lle ni [Page 196] ddaeth un dyn marwol iddo erioed; ac y mae 'r scrythur yn cyfarwyddo pobl atto, ac yn dwyn Tystiolaeth amdano, yr hon yr ym ni y rhai y mae 'r Byd mewn gwawd yn ein galw yn Gwacers yn ffyddlon gredu ei fod yn wir; ac er darfod dywedyd celwydd arnom, a'n gau gyhuddo yn y peth hwnnw, yr ym ni 'n dymuno ar i'r Arlwydd faddeu i'r rhai a fuant euog o'r peth hynny, sef o ddywedyd ein bod ni 'n gwadu 'r Scrythyrau; canys nid oes neb ryw bobl yn perchnogi 'r scrythyrau yn fwy na nyni; eithr nid pob un sydd yn eu darllain sydd yn eu perchnogi; er bod yn dda eu darllain hwynt, y rhai a attebant [Page 197] ac a gyflawnant ymadroddion y scrythyrau mewn buchedd ac ymwreddiad a'u gwir Berchenogant, a'r rhai hyn sydd yn dyfod i wir wybod eu dirgelwch hwynt, ac nid pob un a fedro siarad am danynt, fel y medrai 'r scrifenyddion a'r pharisaeaid, a rhag fyfyrio pethau yn eu hymmennyddiau, a siarad am danynt yn eu hewyllyssiau, eithr y rhai yn unig sydd yn gwneuthur eu hymadroddion hwynt sy'n dyfod i adnabod cysur a lleshad oddiwrthynt.
Oherwydd y mae pobl yn camgymeryd yn hyn, yn tybied mae trwy fynych ddarllain y scrythyrau (heb synied fawr beth a ddarllenant) eu bod yn gwneuthur gwasanaeth [Page 198] i dduw; Nage, Nage, y rhai a ddarllenant a'r Deall ac a ddeuant iw harfer hwynt y rhai a ddeuant i adnabod rhagoriaeth rhwng y gau Addoliadau a'r Cywir, a rhwng y Cywir a'r Gau.
Canys nid yw 'r scrythur yn cyfarawyddo pobl atti ei hun, ond at Jesu Grist; oblegid yr ym ni yn dywedyd mai efe yw 'r ffordd y Gwirio [...]edd a'r Bywyd, ac ni a welwn lle y mae Crist yn eu cymeryd hwynt ymaith o fod ganddynt gymmaint ymddiried ar y scrythyrau, ac a ddywedodd fel hyn, Chiliwch yr scrythyrau, canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael Bywyd Tragwyddol, a hwynt hwy sy 'n tystiolaethu amdanafi; [Page 199] ond ni fynnw [...]h chwi ddyfod attafi fel y caffoch fywyd. Joan. 5. 9 40. felly y dywedwn ninau mai Crist sy'n rhoddi bywyd, ac hebddo ef ni all un dyn ddyfod at Dduw, a dyma'n Gwyddor ni, a hyn|; ny 'r ym ni 'n ei ffyddlon gredu, ac y mae 'r scrythyrau o'n [hochr] tu ni megis Cwmwl o dystion; ac nid ym ni yn credu y gwsnaeth yr un o'r pethau allanol hyn, megis Gweddio at y meirw, neu Addoli delwau, na nodi ac arwydd y Grog, neu ddim o'r pethau hyn; ond y mae 'n rhaid i ddyn ddyfod i fod yn Greadur Newydd, a'r hen bethau i fyned heibio.
Nid ym ni ychwaith yn credu [Page 200] y gall dwfr, Bara ne Win wneuthur dim tuag at lanhau 'r Gydwybod; nid y dym ychwaith yn credu y gall ffydd yr Eglwys (fel y galwant na'u Cyfarwyddydd neu en Directory, ond yr hwn a ddywedodd, Cyn bod Abraham yr wyfi, efe yw gwir Gyfarwyddwr dyn yn unig; heb eu holl ffyddiau gwneuthur au ffyrfiedig Gyfarwyddyd neu Ddirectories, neu ddim o'r fath beth, ac yr ym ni ymmhellach yn credu, na wna 'r Llyfr Gweddi Gyffredin, na thanhelliad ar blant, na dim arall ag a allant ei ddychymyg ddyn neu ddynes yn Greadur newydd, ond Crist, yr hwn yw 'r gwir fara sy'n dyfod i wared o'r [Page 197] [...] [Page 198] [...] [Page 199] [...] [Page 200] [...] [Page 201] Nefoedd, y rhai a fwytant ohonaw ni newynant mwyach; ac fe a addawodd Crist hyn. I'r rhai a newynant ar ol Cyfiawnder y mae Crist yn eu porthi a'r bara hwn, ac y mae efe 'n eu dewis allan o wagedd y Byd hwn, ond y rhai a wadant arweiniad a thywysiad yspryd Duw, ac a ddywedant, Fod ysprydoliaeth a Datcuddiad gwedi peidio, fel y gwna, ac y dywaid Offeiriaid a Phroffesswyr, nad oes dim o'r fath yn y dyddiau hyn. Ni ddaeth y cyfryw erioed i fwyta o'r bara hwnnw, yr hwn y dywedodd Crist a roddai efe i'r rhai a newynent ar ei ol ef; ond y rhai llawn a goludog y mae efe yn eu danfon [Page 222] ymaith yn waglaw, ond yr anghenus a'r tlawd yn yr yspryd, y mae efe 'n eu porthi ac yn eu llenwi a phethau da.
Ond amdanynt hwy a wadant Ddatcudiad a Goleuni Crist yr hwn sy'n goleuo pawb, a thrwy yr hwn y tywysir y Cyfiawn, y rhai a wrthwynebant ac a wadant hwn, yr wyf yn credu nad ydynt yn Gweled dim datcuddiad, ac na welant ychwaith ddim Prydferthwch neu degwch yn ymddangosiad Crist, efe a dristeir ynddynt fel gwr Gofidus a'i wedd yn fwy [difwyn] llygredig ganddynt hwy na neb, oherwydd y maent yn oestad yn rhyfela, yn scrifenu [Page 203] ac yn cyfigennus wrthynebu Goleuni ac yspryd Duw ynddynt eu hunain, ac mewn eraill.
Nid allant lai gan [...]hynny na bod heb wybod pa fodd y mae gida hwynt, ac na bod yn ddeillion, tra bont yn ymryson a'r hyn adawai iddynt weled; oblegid fo ddywaid y scrythur, Nid edwyn neb bethau Duw, ond trwy yspryd Duw. ac yn yr helynt a'r cyflwr yma 'n gwrthryfela yn erbyn yr hyn yw unig foddion Jechydwriaeth, ac ydynt yn ymdrybaeddu yn y tywyll, ac heb wybod pa fodd y mae gida hwynt, am eu bod yn gwrando 'r gau Brophwydi a'r Tywysogion [Page 204] deillion, ac oherwydd hyn y daeth damnedigaeth ar y rhai damnedig, oherwydd dyfod Crist, a'r rhai ni chredant ynddo ef a ddemniir; gan mai hyn yw Damnedigaeth y byd fod goleuni gwedi dyfod i'r byd a charu oddyniony tywyllwch yn fwy na 'r goleuni oherwydd bod eu gweithredoedd yn ddrwg. Canys ni a allwn ddarllain tra fu Paul yn gwrthwynebu'r Goleuni, ac yspryd Duw yntho ei hun, yr hwn weithiau a'i [dwysbigai] pigai ef yn ei Gydwybod am yr hyn a wnelai, yr hyn ni byddai iawn, er ei fod mewn Zel dywyll a than orchudd o grefydd, etto gwedi ei wneuthur yn ei ewyllys ei hun, ac yn ol doethineb y Cnawd, dyma 'r [Page 205] hyn a ddallodd ei llygad ef fel na welai pa fodd yr oedd gidag ef, ond a ydoedd fel y mae y rhai 'n yn y dyddiau hyn, yn cashau ac yn erlid y Cyfiawn, ac etto'n siarad llawer am Grefydd, ac yn drafferthus iawn ynghylch y Llythyren, gan son llawer am eiriau 'r Prophwydi, ond yn erlid y cyfiawn, ac yn diffodd yspryd Crist, fel y mae 'r proffesswyr allanol hyn, yn y dyddiau hyn; felly ni a allwn weled am Paul nes ei ddyfod i adnabod y datcuddiad yntho ei hunan, ac i rodio wrth oleuni Crist yr hwn a lewyrchodd ynddo ef, er ei holl ddysc a [...] broffes fawr, etto yr oedd efe 'n anghydnabyddus a ffordd yr Arglwydd; ac o ran ei gyflwr, ni fedrai efe moi holi ei hu n, [Page 206] na gwybod pa fodd yr oedd gidag ef, nes iddo droi at yr hyn oedd yn ei argoeddi ef, ac felly i gael ei feddwl ei dywys ganddo a'i ymarweddiad ei drefnu gan yr hyn oedd yn dwysbigo ei Gydwybod, ac felly a ddaeth i ofni 'r Arglwydd yn fwy na dyn, ac er i ddynion gyfodi yn erbyn ef am ddyfod at yr Athrawiaeth ddieithr honno, fel y galwent hi, yr hon Athrawiaeth nid allai ddoethineb y byd hwn erioed moi dduall yn yr oes honno, ac nid allant yr awrhon ychwaith, ond a gyfrifyd yn oestad yn ddieithr, yn ynfydrwydd, ac yn ffolineb, ac felly y gwnant yn y dyddiau hyn, [Page 207] a phan ddaeth Paul iw arwain gan yspryd arall nag yr arweiniasid ef, neu na'r hwn yr arweiniasid hwynt ganddo, a thrwy hwn efe a ddaeth iw arwain tu hwnt iw doethineb hwynt, yna y gwaeddasant mai dyn ynfyd ydoedd, ac felly y gwaeddant yn y dyddiau hyn amdanom ninnau, oherwydd fel y dywedodd Crist, na w [...]ddant beth y maent yn ei wneuthur, nac o ba yspryd y maent. Ac fel hyn y mae 'r dall yn tywys y dall. A dyma 'r rheswm pam y mae cymaint Cymmyscedd ymmhlith dynion ynghylch Crefydd, a pham y mae cyn lleied gwedi eu dewis, am eu bod yn myn'd oddiwrth y [Page 208] gwir dywyswr, ac oddiwrth yr hwn sy'n rhoddi iawn ddeall am y gwir Addoliad a pethau a berthynant i Jechadwriaeth, Canys ni roddwyd un enw arall tan y nef, trwy 'r hwn y daw un dyn i deyrnas Nefoedd, ac i fod yn gadwedig, ond trwy Jesu Grist yn unig; canys fel y dywaid Crist Myfi ydyw 'r ffordd y gwirionedd a'r bywyd. Joan. 14. 6. yr awron Pawb gan mwyaf o bob math a gyfaddefant i hyn, am mai scrythur ydyw, mai Crist yw 'r ffordd y Gwirionedd a'r bywyd.
Ond yr awron dyma un peth iw ystyried, a fynnwn i bawb ei iawn synied, hynny [Page 209] yw, a Christ yn ffordd, yn Wirionedd ac yn fywyd gwybod pa ffordd yw efe, a pha fodd y mae efe 'n wirionedd ac yn fywyd: yr awrhon cyfaddef hyn un peth ydyw, a dyfod yn dyst ohono peth arall ydyw; oblegid syniwch Grist, ei feddwl ef yn y peth hyn yw, mai efe yw ffordd dyn a dynes i'r nefodd, a'r Gwirionedd y mae 'n rhaid iddynt ddyfod atto, a'u harwain ganddo, a'r bywyd y mae 'n rhaid iddynt fyw yntho, yr hyn yw drwy ffydd ym Mab Duw, yr awrhon yma y mae 'r peth yw ystyried, pa un a wnaethost ai dyfod i'r cyflwr hwnnw, ai peidio, hynny yw, [Page 210] dyfod i adnabod Crist yn ffordd itti? ac a ddaethosti i adnabod y Gwirionedd megis ac y mae yn yr Jesu? ac i fyw y fuchedd honno sy'n rhyngu bodd Duw, ai naddo? yr hon fuchedd sydd yn Christ Jesu, hyn y mae pawb iw ystyried; Oblegid hyd ddel pobl i fod yn dystion o hyn ynddynt eu hunain, nid ei gyfaddef neu son amdano a wasanaetha eu tro, yn nydd eu cyfrif pan ddel Duw i gyfrif a hwynt.
Canys hyn a dystiodd dynion sanctaidd Duw ac a ddywedasant y byw yr ym ni yr awrhon yn ei fyw drwy ffydd ym Mâb Duw. Gal. 2. 20.
A dywedodd Joan (addaethai [Page 211] i dystio gwaith Duw gwedi dechreu ac yn mynd ym mlaen ynddo ei hunan) yn y wedd hon Yr hyn oedd o'r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom a'n llygaid, yr hyn a edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo am air y Bywyd, yr ydym yn ei fynegu i chwi. 1 Joan. 1. 1. Ac ym mhellach yr Apostol a ddywaid i Grist weithio eu holl weithredoedd ynddynt a throstynt, yr hwn waith o diwreiddio allan Bechod.
Yr awr hon hwy a ddaethant i wybod ac i dystio hyn ynddynt eu hunain, nid trwy son neu glywed dywedyd gan eraill; y cyflwr yma y daeth pobl Dduw iddo ym mhob [Page 212] oes a chenedlaeth, mewn mesur tra 'r oeddynt yn y bywyd hwn, ac nid oeddent yn meddwl cael gwaith prynedigaeth gwedi ei wneuthur trostynt ar ol eu marw, fel y mae rhai yn y dyddiau hyn y tybied y cant, gan feddwl gwasanaethu 'r diafol tra byddant yma, ac ceidw Duw hwynt, pan na allont bechu mwyach; ond sulwch hyn y cyfryw a hauo pobl y cyfryw a fedant, y rhai a hauont Bechod ac drygioni y mae 'n rhaid iddynt o'r unrhwy Gyflog fedi Llygredigaeth, yr hwn Gyflog medd y scrythur yw Marwolaeth, gan ddywedyd Cyflog Pechod yw Marwolaeth, a hynny iddynt [Page 213] tros byth, eithr Dawn Duw yw Bywyd Tragywyddol. Rhuf. 6. 23. Canys peth chwith yw hyn, i ddyn fod yn was i un dros lawer o flynyddoedd, ac o'r diwedd ddyfod at un arall i geisio ei gyflog am yr amser hwnnw, ffolineb ac ynfydrwydd yw hyn. Ac a'r hudoliaeth yma y mae y rhan fwyaf o'r Byd wedi eu hudo gan Offeiriaid a phroffesswyr, yn dywedyd i bobl na allant fyw heb Bechod, ac felly a wasanaethant ddiafol eu holl amser, ac y derbyniai Duw hwynt a gwobr o heddwch pryd na allant ei wasanaethu ef ddim yn hwy: yn gymaint a dywedyd ohonynt i Bobl, na allant adel hebio Bechu, [Page 214] ond bod yn rhaid iddynt Bechu tra fyddont byw, yr un yw a phe dywedent i Bobl, fod yn rhaid iddynt wasanaethu 'r diafol eu holl ddyddiau, canys ni wneir ac ni escorir ar un pechod yn neb, nad o genhedliad ac escoriad y diafol y mae, mewn pobl; Oblegid efe yw Tad pob pechod ym mhawb, pa le bynnag; neu ym mhwy bynnag yr escorer arno; gan hynny y mae 'n rhaid i hyn yn anocheladwy ganlyn, fod yn rhaid i'r rhai a fyddant byw a meriw mewn pechod fyw a meirw yn weision i'r Diafol, ac os felly, mae 'n rhaid i bob un ddisgwil eu cyflog yn ol eu gwaith; gan hynny mi a fynwn [Page 215] [...] [Page 216] [...] [Page 215] na thwyllai neb mohonynt en hunain, canys os y diafol sy' raid ei wasnaethu dros eich holl ddyddiau, ef sy raid iwch yn ochel o'r diwedd fynd atto, credwch hynny neu beidiwch.
Ac ymmhellach, cymerwch sulw ar hyn; Nid Crist yw ffordd y rhai drygionus, na phechaduriaid, Nid yw pechaduriaid ychwaith na 'r rhai a ddadleuant dros Bechod, gwedi dyfod at y Gwirionedd, nag yw adnabod ef, nac i fyw ei fywyd ef, yr hwn fywyd sydd allan o Bechod, ac nid mewn pechod, canys bywyd i'r diafol yw hwnnw, canys efe yw dychymygwr pob Pechod, a [Page 216] chyflog pechod yw marwolaeth a damnedigaeth i bawb af yddant byw a meirw mewn pechod, y mae 'r pethau hyn yn deilwng iw hystyried, cyn y bo hi rhy ddiweddar, yr hyn a fydd pan fo yspryd Duw gwedi rhoi heibio ymryson a thi; canys heb ddyfod i adnabod gweithredoedd y diafol gwedi e'u dinistrio ynot ti, neu 'r gwaith hwnnw gwedi ei ddechreu gan yr Arglwydd, nes y delych i adnabod hyn, Byth nid adnabyddi y Gwirionedd yn rhyddhau oddiwrth bechod, a'r hwn fy'n rhyddhau oddiwrth Bechod yw Crist, ac hyd oni ddel pobl i adnabod y rhyddhad hwn oddiwrth [Page 217] Bechod gwedi dechreu, Byth ni allant adnabod Cyfiawnder, ac heb Cyfiawnder ni wel neb Dduw; ac heb ddyfod i weled Duw, ni all neb fyned i'r nefoedd; nes y rhyddhaer hwynt oddiwrth Bechod, ni all neb fod yn gymmwys i'r nefodd, ac medd y scrythur, y Gwirionedd sy'n rhuddhau; a'r Gwirionedd yw Crist Jesu; os hwn sydd i ryddhau, y mae efe i ryddhau oddiwrth ryw beth; ac os nid oddiwrth Bechod, pa beth y rhyddheir pobl oddiwrtho? pe cawn i wybod; yr wyfi 'n credu mai oddiwrth Bechod; canys ni chlywais i eriod am ddim yr▪ oedd neb mewn Caethiwed [...]ddo, [ond] [Page 218] namyn i Bechod, hwnnw sy'n rhwystro Jechydwriaeth pobl, a chan hynny daeth Crist y Gwirionedd i wne uthur diben arno, fel y Teyrnaso Cyfiawnder yn lle Pechod; ac erioed ni adnabuwyd y ddau hyn i gyd trigo, na byddai raid adnabod un tynnu i lawer, Cyn gallu gosod y llall i fynu; am hynny ni dywedpwyd; nid oes Gymdeithas rhwng Goleuni â thywyllwch, na Chredadyn ag Anghredadyn, Christ a feddylir yma am y Goleuni, ar diafol am allu 'r Tywyllwch; a'r ddau hyn a ryfelant y naill yn erbyn y llall mewn dynion, gan ymdrechu pwy a llywodraetha ac a ddwg y rhwysc [Page 219] ym Meddyliau, yn Ghalonau, a Serchiadau dynion: un o'r ddau yspryd hyn sy'n ymdrech i arwain i bob math a'r Bechod a drwg; a'r llall sy'n ymdrech i arwain i bob math a'r Gyfiawnder, a gwir Sancteiddrwydd, mewn pethau ysprydol ac Amserol.
Ac yma y gwnaf wahaniaeth rhyngddynt yn null eu gweithrediad a'u hymdrechiad mewn dynion; a hynny ym mhawb ar ryw amser neu ei gilydd, ac fel y gallo pawb fod yn deimladwy ohonaw, os mynnant; ond onis mynnant yn y dydd yr ymrysono daionus yspryd duw a hwynt, hwy a ddygir un dydd i Goffadwriaeth ohono, pryd na [Page 220] fynnont, ac heb wybod iddynt, pryd na bo dim ond angau a thristwch yn cyd ymgyfarfod, ac na chaffer neb iw cynnorthwyo.
Yr awrhon at y peth a dull y ddau yspryd hyn yn ymdrechu; yr yspryd drwg, y mae efe ym mhawb yn yn drechu i gadw eu meddyliau yn gwbl mewn pethau cnawdol a daiarol, yr hyn sydd farwolaeth i'r Enaid; y mae 'r scrythur yn dywedyd, Synied y cnawd marwolaeth yw, eithr Synied yr yspryd Bywyd a Thangnheddyf yw; A hyn yr wyf yn ei gredu sy wir, myfi a'i cefais felly trwy iawn Brofiad.
A diben y diafol i gadw meddyliau pobl ar bethau [Page 221] daiarol yw hyn, fel na fyniont byth bethau nefol, ond i dreulio eu hamser gwerth-fawr yn y Byd hwn, hyd na bo amser mwyach, fel trwy hynny y collont eu Tryssor Yn y Nefoedd, a roddwyd i gadw yn y Nefodd i bawb a ddeuant at Dduw, ar ei ammodau ef, yr ammodau hyn yddynt i bobl edifarhau, eu gwadu ei hunain, Cymeryd i fynu 'r groes iw hewyllyssiau eu hunain, Caru ac ofni Duw, a'i Addoli mewn yspryd a gwirionedd; ac y mae 'n ddiogel genif na ddichon neb wneuthur hyn heb yr yspryd, os rhaid bod fel y mae 'r scrythyr yn dywedyd, yn yr yspryd a'r gwirionedd; a [Page 222] chredu 'r wyf mai gwir yw 'r scrythur, ac i Grist ddywedyd y gwir pan lefarodd efe y geriau hyn a bod yr holl Offeiriaid a Phroffesswyr mewn Cyfeiliorni a dallineb a wadant y pethau hyn, eithr oll a'r a garant ymddangosiad yfpryd Crist Jesu, yr hwn yw Ammodau pennaf Jechydwriaeth, a ddeuant i adnabod lleshad oddiwrtho, dull eu ymddangossiad ym Meddyliau pobl sydd yn erbyn pechod, a'r rhai a garant yr hyn y mae yspryd Duw yn ymddangos iw erbyn, ac yn ei farnu yn eu Meddyliau, y maent etto 'n cashau Duw, proffessant a fynnont, ofer yw; eithr y rhai a garant y pethy [Page 223] y mae yspryd Duw ynddynt eu hunain yn ymddangos drostynt, y rhai hyn a garant ei ymddangossiad ef.
Eithr ymmhob oes, y rhai a gawsent orchudd drostynt nad oedd o yspryd Duw, y rhei'ni 'n wastad a fyddent waethaf; canys yr holl Grefyddau ydynt gau, oddieithr yr hon sydd mewn yspryd a Gwirionedd, a'r holl Liwiau twyllodrus hyn i Grefydd, a ddychymygwyd yn wastadol gan y diafol, dyma un ffordd a weithiodd efe ymmhob Cenhedlaeth, pan nad allai efe gadw pobl ddim yn hwy mewn Halogedigrwydd amlwg, yna y mae efe yn dychymyg iddynt ffyrdd newyddion [Page 224] i rodio ynddynt, ac a ddaw a scrythyrau amdanynt hefyd, ac a ddywaid lawer am Weithredoedd dynion Sanctaidd Duw hefyd; y rhai mewn oesoedd aeth heibio a orchymynasid iddynt eu gwneuthur, yr rhai oeddynt dda yn eu dydd a'u hamser, i'r rhai a ufuddhasant iddo, y rhai oeddent i bara hyd oni ddaeth Crist y sywedd, neu hyd amser diwygiad, y rhai nid oeddent onid Cyscodau a Rhithiau o'r Sylwedd, yr hwn Bendigedig fyddo 'r Arglwydd a ddaeth, ac a roddes diwedd i'r pethau hyn, ac a osododd i fynu Addoliad mewn yspryd a Gwirionedd, ond y mae yspryd y [Page 225] diafol yn wastad o cadw [...] yn ar waith ynghylch pethau oddiallan a gwefus wasanaeth, fel y gallo efe gadw y Galon ar ryw beth gweledig, ac oddiwrth yr Addoliad oddifewn ac ysprydol; a dyma un ffordd y mae efe yn ei gweithio yn nirgelwch anwiredd; Bob amser pryd nad allo efe 'n, hwy gadw dynion mewn Halogrwydd amlwg efe a'u try hwynt at ddyledswyddau allanol, fel y geilw hwynt, pryd na ofynnodd Duw ddim o'r fath beth ar eu dwylo hwynt, canys y Galon y mae Duw 'n ei ofyn gyntaf, gan ddywedyd, fy mâb, moes i mi dy Galon: Dihar. 23. 26. hynny yw, gosod eu Calon ar yr [Page 226] Arglwydd, ac iw harwain gan ei ddaionus yspryd ef ynddynt, ac yna dyledswyddau teulu a dyledswyddau eraill fyddant gymeradwy gan Dduw; pan eu gwneler drwy dywysiadau daionus yspryd Duw; oblegid ti a elli ddarllain yn scrythyrau 'r Gwirionedd (y rhai yr ym ni'n eu perchnogi, a chenym fwy parch iddynt, nac i un llyfr arall yn y Byd,) a hwy a ddywedant yn y wedd hon; gan ddywedyd, Gweddiau'r drygionus sydd ffiaidd gan yr Arglwydd, ond llawer a ddichon gweddiau 'r Cyfiawn.
Eithr dull yspryd y diafol iw Cadw Pobl rhag bod yn Gyfiawn, fel n [...] bo cymeradwy [Page 227] mo'u Gweddiau, a'u cadw mewn pethau oddiallan fel nad adnapont byth waith Duw oddifewn, yr hwn yw gweithio allan Bechod, ac i ddwyn i mewn Gyfiawnder Tragywyddol, ond y mae efe 'n eu cadw hwynt byth i wrando, a byth i ddyscu fel na ddelont byth i wybodaeth o'r Gwirionedd; oblegid efe a wyr na allant byth ddyfod i wybodaeth o'r Gwirionedd, tra bont yn gwrando ar ddysceidaeth y Tywysogion deillion, canys gwyr y diafol nad yw Bo [...]sibl i bobl byth allu dyfod i wybodaeth o'r Gwirionedd nes y delont i gael eu harwain a'u tywys gan yspryd y Gwirionedd, yma y [Page 228] mae efe 'n cadw pobl i geisio 'r byw ym mhlith y meirw, a Bywyd lle nid yw, a dyma ddull gweithrediad y Gelyn.
A dyma 'r hudoliaeth fwyaf sydd gan y diafol i hudo pobl am eu heneidiau sef, troi pobl i ryw Grefydd Goluredig neu ei gilydd, a chwedi hynny peri iddynt goelio fod pob peth yn dda, ac y mae 'r rhan fwyaf ohonynt yn ewyllyscar iw goelio ef, a hithau yn hoff-lwybr y byd, yn ymrafaelio 'n unig mewn rhai defodau, neu Ceremoniau, ond y Grefydd mewn yspryd a Gwirionedd, Goleuni a Gras hon ni all y Proffesswyr aros mo honi; oherwydd y mae hi 'n galw i ffordd gul, ac i [Page 227] [...] [Page 228] [...] [Page 229] fyn'd i mewn drwy Borth cyfyng.
Oblegid y mae mor ddewisol gan y Gelyn, ollwng Pobl i ryw lwybr, neu ffyrf o Grefydd, a pheidio, canys efe all erbyn hynny beri iddynt goelio fod yn dda gida hwynt, a pheri iddynt goelio nad rhaid iddynt ymorol am ddim amgen; a hyn oll a wna efe, er mwyn eu cadw oddiwrth y gwir Addoliad mewn yspryd a Gwirionedd, ond ni ddichon efe yn y wedd hon ddallu y rhai sydd mewn Halogrwydd amlwg, oblegid nhwy a wyddant, eu bod ar y cam pwy bynnag sydd ar yr iawn, ac nad oes orchudd canthynt am yr hyn a wnant, [Page 230] am hynny y dywedodd Crist, yr ai 'r Publicanod a'r Putteiniaid i mewn i Deyrnas Nefoedd o flaen y cyfryw ac a addefent Wasanaeth i Dduw, ac nas gwasnaeth ef yn gymeradwy; oblegid nid oes dim Gwasanaeth yn gymeradwy, ond yr un mewn yspryd a Gwirionedd: Gwae y rhai a orchguddiwyd, ac nid o yspryd yr Arglwydd, a llawer o ffyrdd ychwaneg sydd gan y diafol i gadw pobl oddiwrth atteb, gofynniad yspryd Duw; ond nid oes un fagl debyg i Orchudd twyllodrus o Grefydd.
Llawer sydd, y rhai y mae ganddo efe Abwydydd eraill iddynt nad gwaeth ganddynt am Grefydd yn y byd, Rhai [Page 231] y ceidw efe eu Meddyliau a'u Calonau yn eu hoes mewn Cybydddod, Rhai mewn Balchder, Rhai mewn Meddwdod Rhai mewn ffugni a hudoliaeth, a llawer Abwyd a Magl ychwaneg sydd cantho efe i fradychu dynion am eu dedwyddwch gida 'r Arglwydd, pair y diafol i rai goelio, na chant fyth roi cyfrif i Dduw am eu gweithredoedd, ac felly 'n byw fel Rantwyr eu holl ddyddiau; ac efe a ddywaid iddynt, nad oes na Duw na Di'afol, uffern na Nefoedd, a llawer a ewyllyssiant ei goelio ef ond gochel yr Hudoliaeth yma; canys ti a gei wybod ryw ddydd, mai celwyddau yw'r pethau hyn, er tristwch i'th [Page 232] Enaid, pan fo 'n rhy-hwyr itti ystyried; onid edifarhei mewn pryd, Eraill y pair y diafol iddynt goelio, ddarfod i Dduw Greu rhai or Jechydwriaeth, eraill er damndeigaeth, yr hyn sydd gymmaint anwiredd a'r llall, a llaweroedd a fynnant ei goelio ef, gan feddwl eu bod o'r rhai a ragordeiniwyd i Jechydwriaeth Eraill sydd o'r meddwl hwnnw, y rhai y parwyd iddynt goelio, os yw 'r peth felly, eu bod hwynt o'r rhifedi hwnnw, a anwyd i Ddamnedigaeth, ac oddiwrth yr annogaeth yma y m [...]e llawer yn myned yn ddiofal yn eu hymwareddiadau, ac yn rhedeg i bob math a'r ddrwg, y [Page 237] ffordd uniawn i ddinistr, a soddfa anwiredd yw 'r perswasiwn yma, ac yn dinistrio llawer Enaid Truan.
Yr holl bethau hyn a soniais amdanynt a llawer ychwaneg a ellyd son am danynt, a ydynt y ffyrdd a'r dychymygion, a ddychymygodd ac a osododd y diafol i fynu, yn ac ymmhlith dynion, dyma ei agwedd ef yn gweithio trwy ei yspryd mewn dynion, ac etto a ddadleu scrythur am yr hyn y mae yn ei wneuthur, fel trwy hynny y gallai efe roi lliw dros ei dwyll, a hyn a fu ei agwedd ymmhob oes i dwyllo Cenhedlaethau 'r Byd, ond gwae y rhai a'i grandawant ef, dyma lais y dieithr yr hwn a [Page 234] ddywedodd Crist, na wrandawai ei ddefaid ef arno; gan ddywedyd Fy nefaid i wrandawant fy llais i, a llais y dieithr ni wrandawant, y mae 'n ymddangos yma fod dau lais iw gwrando; yr oedd yma lais Crist, a llais y dieithr, yr hwn oedd llais y diafol yr ydys yn gwrando ac yn ufuddhau i'r ddau lais hyn yn y dyddiau hyn gan bawb, un neu 'r llall ohonynt; canys ni ddichon neb wasnaethu dau feistr, neu ufuddhau i'r ddau lais; gan hynny ni ddichon pobl wasanaethu Duw a Mamon; a dull neu Agwedd y ddau yspryd hyn yn adrodd eu lleisiau sydd mewn dull neu agwedd anweledig ac ysprydol.
[Page 235] Ac fel yr agorais o'r blaen ddirgelwch Anwiredd a dull neu Agwedd gweithrediad y gelyn, felly mi a ddeuthum yr a [...] rhon i fynegu pa fodd ac ym mha ddull y mae yspryd yr Arglwydd yn ymrafaelio yn null ei weithrediad oddiwrth yspryd y diafol ym mhawb, ar un amswer neu ei gilydd; hwn a adwaenir yn ymrysson ynddynt [...] er nad ufuddhant iddo ef sydd o'r ddull yma; efe a ddechreu weithio a churo wrth ddrws Calonau Dynion, neu yn dirgel geryddu am bechod, yn blino pobl am wneuthur yr hyn ni ddylent, ac yn eu barnu pan wnelont ar fai, fe a elwir hwn yn y srythyrau, [Page 236] Ceryddon Addysc, a ffordd y Bywyd, ac yr wyf yn credu mai hynny ydyw; er na chred llawer o Broffesswyr mo hynny; ac os ffordd y Bywyd ydyw, Credu'r wyf y dichon hi wared oddiwrth yr hyn y mae hi 'n galw allan ohono, yr hyn yw pechod a drygioni, ac fel yr ymwrandawo dynion ag ef, efe a egyr eu dealltwriaethau hwynt, ac a ddengys iddynt, y modd y mae gida hwynt, ac nid hynny yn unig ond hefyd a ddwg i fuchedd ac ymwareddiad newydd, ac a geidw feddyliau pobl yn wastadol yn yr hyn sydd dda, ac allan o'r hyn sydd ddrwg; ac y mae hwn fel ymborth ysprydol i 'r Enaid; [Page 237] ac yna y mae dynion yn adadnabod y bara sy'n dyfod i wared o'r Nef, ac yn yfed o'r dwfr nid yw 'n pallu byth, ac a ddwg yr heddwch hwnnw, nad edwyn neb ond y rhai a'i mwynhatho, Hyn y mae 'r Goleuni neu yspryd Duw yn ei wneuthur yn y cyfiawn, a llawer mwy a ellid son am danynt; dyma 'r hwn y mae 'r scrythur yn ei alw, Chwiliwr y calonau, a Phrofwr yr Arennau; Cyfiawnhawr, y Cyfiawn, yw efe a damniwr y drygionus, ac iddo ef y mae 'n rhaid i bawb roddi cyfrif un diwrnod, yn y ddull hon, y mae yspryd yr Arglwydd yn ymrafaelio oddiwrth yspryd y diafol, yn gweithredu [Page 238] ac yn gweithio mewn pobl, ac y mae un o'r rhai 'n yn tywys i'r nefoedd a'r llall i uffern.
Dyma un peth ychwaneg sy'n dyfod i'm meddwl ynghylch gweithrediad y ddau yspryd hyn; y mae yspryd yr Arglwydd lawer gwaith drwy fynych ganlyn a dilyn dynion ai gyfiawn farnedigaethau; hyd oni ddyccho efe hwynt i ystyriaeth o'u diwedd ac yna lawer gwaith yn y cyflwr hwnnw y mae dynion yn dyfod i ymgais ar ol ffordd uniawn; ac yn y cyfamser y mae 'r Arglwydd yn agor dirgeledigaethau ei deyrnas iddynt, ac yna y dechreuant weled yr iawn ffordd oddi▪ [Page 239] wrth yr wyrdraws, y gul oddiwrth y lydan; ac a ddechreuant weled y porth yn gyfyng, A'r ffordd yn gul, yna llawer a ddechreuant ymgynghori a'r rhan ymresymgar honno mewn dyn, yr hyn yw gwaith y gelyn, Oblegid y mae efe yn ei wneuthur yn waith iddo yn wastadol, weithio ymaith y cwbl a'r sydd dda; ei arfer ydyw, pan ddel neb i gael ei argyoeddi o'r uniawn ffordd, yna iw rhoi hwynt i ymofyn, pa fodd yr ânt i mewn trwy 'r porth cyfyng hwn; ac y rhodiant yn y ffordd gul honno, ac felly yn dyfod i ymofyn ar ol ffordd esmwythach, a'r diafol y mae efe yn gosod pob [Page 240] math ar Beryglon o flaen dynion ac yn dechreu dywedyd wrthynt Fod y ffordd yn rhy anhawdd iddynt rodio ynddi; ac a ddywaid iddynt, Fod llawer o ffyrdd sydd esmwythach a gwell, yn y rhai y gallent rodio a gwneuthur yn dda; ac a dywaid iddynt mai hon yw 'r ffordd waethaf o'r Cwbl, Pob peth ond hon; canys digon da y gwyr efe, nad oes un ffordd arall i'r nef: ac medd y gelyn Os perchenogi di 'r Addoliad yma yn yr yspryd, ti a gasheir gan bawb, ac a fyddi mewn enbydrwydd o golli 'r Cwbl, ac o gael anfodlonrwydd dy gyfnessaf yma a'th gymydog a'th gydnabyddiaeth accw, ac medd efe, Crefydd newydd godi yw hon, ac nid yw [Page 241] ond o safiad diweddar; ac medd efe y mae 'n crefydd ni yn sefyll erys hir amser, ac nid all ein mam Eglwys ni mo'r Cyfeiliorni ein henafiaid ni oeddynt yn yr iawn, a'n Gwenidogion y rhai y mae uchel ddysc ganddynt, sydd raid eu bod yn yr iawn, ac onide pwy a all fod yn yr iawn? A pha fodd y gall Creftwyr, Arddwyr a'r cyffelyb ddyfodd i wybod y ffordd i'r nefoedd? y pethau hyn a llawer mwy y mae 'r diafol yn ei roi ym meddyliau pobl, iw gosod yn erbyn yr hyn a fynnai gadw eu heneidiau fel pan ddarffo i Dduw alw pobl drwy ei yspryd i rodio yn y ffordd gul; yr hon sy'n arwain i fywyd tragwyddol, yna y mae 'r diafol [Page 242] yn [cyfrif eu trefnu] byddino yr holl ragddywededig bethau hyn, a llawer angwaneg a ellid eu crybwyll, y mae efe 'n eu gosod o flaen pobl megis Maglau, a thrwy hyn lawer gwaith y mae 'n troi pobl rhai i un ffordd rhai ffordd arall, ac ni waeth ganddo pa ffordd, drwy na ddelent i rodio yn y ffordd gul, ac i Addoli duw mewn yspryd a Gwirionedd; rhai y mae efe yn eu troi i ofnau, pa fôdd y byddant byw; rhai i'r Dom priddlyd o Bechod a drygioni drachefn; rhai i ryw Liwiau Twyllodrus o Grefyddau; rhai i ddiofalwch, rhai i anobaith, ac a ddywaid fod eu dydd gwedi myn'd heibio; i [Page 243] eraill y dywaid fod amser ddigon edifarhâu, ac felly y mae efe 'n suo pobl i gyscu mewn pechod hyd na byddo amser mwyach; ac y mae 'n dannod i eraill anffyddlondeb rhai a broffessant y Gwirionedd; eithr gwae y rhai a wrandawant arno mewn un rhywogaeth sulwa hyn Ti gei atteb am yr hyn yr wyt yn ei wneuthur, ac felly y caiff pawb eraill trostynt eu hunain; ac ymmhellach, Pa beth bynnag a wnêl eraill, ni bydd hynny escus itti yn nydd y cyfrif.
Gochel gan hynny goelio 'r Sarph gelwyddog, yr hon a'i Chelwydd ac a'i Thwyll, sydd yn myned oddiamgylch i dwyllo 'r Cenhedloedd, ac [Page 244] y mae y rhan fwyaf o'r Bobl wedi eu twyllo ganddi, ac oherwydd bod pobl yn gwrando mwy arni hi nac ar yr Arglwydd; yw 'r achos pam y mae cyn lleied gwedi eu dewis o'r rhyfedi a alwyd; Canys llawer a alwyd ond ychydig a Etholwyd.
Ni fynnwn i Bobl edrych arno 'n beth chwith mewn perthynas i'r dull yma o resymu a ddodwyd mewn pobl gan y diafol, Ni fynnwn i neb feddwl yn galed am hyn; canys myfi a ddwedaf itti'n eglur; Mai gan yspryd y diafol y rhoddwyd pob peth nad yw uniawn, Cywir a da i feddwl dyn a dynes; ac mai [Page 245] gan yspryd yr Arglwydd y rhoddwyd pob peth a'r sydd dda, uniawn a chyfiawn i feddyliau un dyn neu ddynes; Oblegid Cymerwch sulw ar hyn, fod un o'r ddau yspryd hyn yn dwyn y rhwysc ym meddyliau a serchiadau pawb; y naill yn troi i ddrygioni, y llall yn troi i Gyfiawnder; y mae hyn yn wir, pa un bynnag a wnelych ai Credu ai peidio, fo wneir it ei wybod pan fo hi 'n rhyhwyr, oni ocheli.
Ychydig eiriau yn atteb i'r rhagddywededig Resymau a Gwrthresymau yn erbyn y Gwirionedd a'r Addoliad yn yr yspryd.
Am y Porth cyfyng a'r [Page 246] llwybr cul, y mae efe yn gyfyng i'r drygionus, ac yn hyfryd i'r Cyfiawn, ac am y llawer o ffyrdd, nid llawer o ffyrdd sydd i fyn'd i'r Nefoedd, nid oes ond un ffordd i fyn'd i'r Nefoedd, a honno ydyw dyfod i atteb yspryd duw ynoti ac i Addoli duw mewn yspryd a Gwirionedd.
Ac am fod yn gas gan bawb, nid peth newydd yw hyn, Canys Crist a dynion Sanctaidd duw a gashawyd bob amser, fel y gelli ddarllain yn y scrythyrau: a dywedodd Moses, Farnu ohono y dirmyg yr aethai efe tano, er mwyn Crist yn fwy golud iddo ef, na holl Drysorau 'r Aipht: ac er darfod eu cashau gan [Page 245] [...] [Page 246] [...] [Page 247] ddynion; etto 'r oeddynt yn Anwyl gan Dduw a'r hon ennyd yma y mae dda ddigon.
Ac am yr embydrwydd o golli dim er mwyn Crist, Cyfrifwyd hyn gan y rhai Cyfiawn yn bob Llawenydd, ddarfod nid yn unig eu cyfrif yn deilwng i deyrnasu gida Christ, ond hefyd i ddioddef gidag ef; a'r Arglwydd a addawodd, Beth bynnag y mae neb yn ei ddioddef er ei fwyn ef y derbyniant yn y bywyd hwn y Can cymmaint, ac yn y byd a ddaw fywyd Tragywyddol, heb ddiwedd, ac medd y scrythur y rhai ewyllyssiant fyw yn dduwiol, yn Ghrist Jesu a erlidir, a dywedodd Crist wrth ei ddyscyblion nad oedd y gwâs yn uwch [Page 248] na'i Arglwydd os erlidiasent ef yr oedd yn ddiau yr erlidient hwythau. Ac am anfodloni dynion, peth ammhosibl i bobl ryngu bodd Duw a dynion Annuwiol, Archodd Pettr ac Joan i bobl farnu Pa un or au iddynt fodloni Duw a'i Dyn. Ac am fywioliaeth Credwch y scrythur, Ceisiwch Deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, a phob peth arall a roddir i chwi yn ychwaneg. Matth. 6. 33.
Ac am fod ein Crefydd ni yr hon sydd mewn yspryd a Gwirionedd, yn grefydd newydd godi. Gwir Enllib yw hynny, canys fo 'i gosodwyd hi i fynu erys mwy nac un cant ar bymtheg o flynyddoedd; ac [Page 249] nid oes un ffordd arall i'r nefoedd ond hon; er bod rhai ai proffessant hi; heb rodio ynddi nid yw hyn yn newid yr achos, neu yn gwneuthur y peth nad yw efe yr un ag ydys yn ei broffessu; canys ni newidiodd Judas yr achos yn y peth hwnnw; ac nid yw neb ryw fradwyr i'r Gwirionedd ychwaith yn ei newid yn y dyddiau hyn.
Ac am y Gau grefydd, gwir yw ei bod hi o hir safiad, mwyaf oll y tosturi, etto nid yw hynny yn gwneuthur, Oherwydd bod gau Grefyddau gwedi hir sefyll i fynu; fod am hynny yn rhaid iddynt aros byth; ni ddeil hyn, gwir yw, y mae hon gwedi sefyll; [Page 250] erioed er pan orchguddiwyd drygioni tan Gochl Crefydd.
Ac am yr Eglwys, yr hon medd rhai nid all Gyfeiliorni: Atteb af Nad oes un Eglwys neu Bobl nad ydynt yn Cyfeiliorni, oddieithr y rhai a arweinir ac a dywysir gan yspryd Duw, a'r cyfriw ydynt yr unig wir Eglwys; a' rhai a arweinir gan hwn, a arweinir gan yr yspryd ni chyfeiliornodd erioed ac nis dichon byth; ac hyd oni ddel pobl at hwn y maent oll yn myn'd ar gyfeiliorn proffessant a fynnont.
Ac am eich henafiaid, y modd yr oedd gida hwynt; i'r Arglwydd y gadawaf hynny; ni farnaf fi am y rhai [Page 251] erioed ni adnabum: ond hyn yr wyf yn ei goelio amdanynt, fod rhai ohonynt yn ffyddlon i'r hyn a wyddent, a hynny y mae 'r Arglwydd yn ei ofyn, ac sydd gymeradwy Cantho, ac amdanynt hwy, hwy aethant ymaith, ac yr wyf yn coelio feirw rhai ohonynt yn y wir ffydd, yn yr hon yr ym ni 'n credu, ac yr wyf yn credu, eu bod yn gorphywys gida 'r Arglwydd, a'u bod o'r meddwl a'r grediniaeth yr ym ninnau, er na alwyd hwynt wrth y Llyshenw newydd hwn, yr hwn a ddychymygodd y diafol yn ein hoes ni iw weision ddodi arnom ni, megis yr oedd gan y diafol ym mhob oes lyshenwau newyddion [Page 252] i ddieithro ac i watwor Crist a'i dilynwyr; ac felly y mae cantho 'r awrhon.
Ac am eich Gwenidogion i wybod y ffordd, nid oes neb a edwyn y Gwirionedd; na dim Gwenidogion Cywir, ond y rhai sy'n dyfod iw gwisco a nerth o'r uchelder, yr hwn a adweinir drwy ddatcuddiad ac ysprydoliaeth, yr hyn y mae eich Offeiriaid a'r proffesswyr yn ei wadunid allant gan hynny wybod y Gwirionedd, tra font yn gwadu yr hyn sy'n dwyn i wybodaeth o'r Gwirionedd; Oblegid y mae 'r scrythur yn dywedyd, ac yr wyf yn Credu mai gwir ydynt) meddant, er bod yspryd mewn dyn, [Page 253] etto ysprydoliaeth yr hollalluog sy'n rhoddi deall.
Ac mewn perthynas i ddysceidiaeth fawr, y mae hon yn dda yn ei lle, fel y del Dynion i'r gwir ddeall ohoni gwedi ei rhoddi iddynt gan yspryd duw; oblegid dirgelwch yw 'r scrythur gwedi ei chuddio oddwrth ddoethineb y byd hwn; ac erioed ni wybuwyd ddarfod i ddysc oddiallan, neu dygiad ar ddynion, nac uchel ddysc, ddwyn dyn erioed i wybodaeth o'r Gwirionedd, na gallu ohoni erioed Agor dirgelwch duwioldeb, fegis am Paul, yr oedd efe yn wr uchel o ddysc, yr oedd efe o ddoniau ac ddygiad mawr, ac yn ei gyfrif ei hun tu hwnt i llawer [Page 254] o'r Jddewon, etto er hyn i gid yn anwybodol o wir wybodaeth o dduw, hyd oni ddaeth efe iddo drwy ddatcuddiad Mab duw; oblegid dyma 'r unig beth oedd ac sydd yr awrhon yn dwyn pobl i wybodaeth o'r hyn sydd guddiedig oddiwrth ddoethineb y byd hwn.
Ac ynghylch Crefftwyr ac Arddwyr yn gwybod y ffordd, darllen y scrythyrau, ac yno y [...]anfyddi, mai 'r cyfryw yn bennaf ym mhob oes a ddaethant i wir wybodaeth o uniawn ffordd Duw; yr oedd Peter ac Joan y rhai oeddynt wyr anllythrenog, a llawer ychwaneg heb law hynny, y rhai oeddent Wenidogion cymmwys i'r Arglwydd a [Page 255] pha le y mae neb o'r gwyr mawr a ddysc yn y dyddiau hyn a all gystadlu a hwynt? Ond y mae llawer yn y dyddiau hyn gwedi dyfod i wybodaeth o'r Gwirionedd, fegis y daethant iddo drwy 'r ddysceidiaeth a ddyscasant gan yr Arglwydd. felly y maent yn pregethu, pa u [...] bynnag a wnel ai bod ganddynt ddysceidiaeth oddiallan ai na bo, ni wna hynny fawr ym mhethau duw, er bod dysc yn dda iawn yn ei lle ir rhai a wnant ddefnydd da ohoni; ond o [...] deliwch sulw y gwyr mwyaf o ddysc sy'n gyffredin yn anwybottaf o deyrnas Crist; gan hynny nid hynny yw 'r peth sy'n gwneuthur pobl yn Gyfiawn, [Page 256] nid ydyw ychwaith ddigon ddarllain geiriau a gweithredoedd y Prophwydi, a geiriau Crist a'r hyn a wnaeth efe, a Chyflyrau 'r Apostolion, a pha fodd yr oedd gida hwynt, nid yw ddigon darllain y pethau hyn, oni ddaw pobl i fyw yr un Bywyd ac yr oeddent hwythau; ond trwy allu duw y rhaid gwneuthur hynny; ac oherwydd hyn y mae cymmaint bob amswer yn darllain ac yn gwrando, ac heb allu un amser ddyfod i wybodaeth o'r Gwirionedd, yn tybied trwy redeg i bethau oddiallan y gwnant yn dda, ac heb fyth ddyfod at Grist, fel yr adnabyddont fywyd Tragwyddol, yr hyn yw adnabod [Page 257] Duw (fel y dy waid y scrythur) adnabod yr hwn yw Bywyd Tragwyddol.
Rhoddes duw ddydd ac ams [...]r i Bawb, fel os mynnant yn y dydd ar amser hwnnw y gallant ddyfod i adnabod duw, a thrwyddo ef gael eu glanhau oddiwrth Bechod, yr hwn yw achos o farwolaeth eu heneidiau.
Ac yn y dydd hwn y mynnai Crist gasclu pawb atto ei hun fel y casclai iar ei chywion dan ei hadenydd; ond os pobl ni ddeuant atto ef yn y dydd ar amser hwnnw pan alwo efe hwynt, Byth nid adnabyddant ryddhad o Gaethiwed uffern a Marwolaeth.
Galarnad a ellir i godi am y [Page 258] cyfryw oll, y rhai a bechant allan eu dydd y mae 'r nos yn dyfod ar eu gwartha, ac nid oes nid un iw cynnorthwyo, fel y cododd Crist am Gaersalem pan oedd eu dydd gwedi myn'd heibio, efe a aeth ac a'i gwelodd gida mawr dristwch, ac a wylodd drosti mewn mawr▪ dosturi, O! Jerusalem Jerusalem yr hon wyt yn lladd y Prophwydi, ac yn llabyddio y rhai a ddanfonir attat! pa sawl gwaith y mynaswn gasclu dy Blant ynghyd megis y cascl iâr ei chywion tan ei hadenydd, ac nis mynech? ac ymmhellach medd efe, o na adnabuait yn dy ddydd hwn y pethau a berthynant i'th heddwch! ond yn awr y maent yn guddiedig oddiwrth dy lygaid. felly [Page 259] y mae gida phawb a bechant allan eu dydd, fel y gwnaethant hwy; canys y mae 'r Arglwydd yn ymryson a phawb, fel yr ymrysonodd efe a hwynthwythau, iw dwyn hwynt i wybodaeth o'r pethau a berthynent iw heddwch; ond y maent hwy byth yn gorphywys yma mewn anwybodaeth, heb ymroi i gynhyrfiadau yspryd Christ, er bod pethau gwedi eu rhoi ynghadw ar eu medr, a Berthynant iw heddwch; etto yn y cyflwr hwn nid ydynt byth deilwng iw gwybod, am nad ydynt yn Credu, a'r rhai nid ydynt ffvddlon mewn ychydig, ni ddeuant byth i wybod llawer.
Fel hyn y digwydd i bawb [Page 260] a'r a bechant allan eu dydd, ac na attebant dduw yn yr amser y mae efe 'n ymryson a hwynt.
Felly da yw i bawb ystyried y pethau hyn, cin y bo hi'n rhy ddiweddar, fel y caffont sicrwydd o'r hyn a saif gida hwynt, a gwneuthur dewisiad o'r hyn a wnaeth Mair y rhan dda honno yr hon ni chymerir byth oddiwrthynt, ac yn hyn y daw pobl i orphen eu Gyrfa mewn llawenydd, a dodi eu pennau i lawer mewn heddwch pryd na bo dyddiau nac Amser mwyach.
Cymmhelled a hyn y rhyddheais fynghydwybod o'r hyn oedd yn gorwedd arnaf oddiwrth yr Arglwydd iw [Page 261] scrifennu mewn cariad i bawb a chwenychant fod mewn ffafor gida Duw fel y caffont sicrwydd a chymeriad gid ag ef iw heneidiau pan fo eu cyrph gwedi eu dodi yn eu beddau.