CYFARWYDD-DEB I'R ANGHYFARWYDD, SEF, LLYFR Yn Cynnwys,

  • 1 Agoriad byrr ar Weddi 'r Arglwydd
  • 2 Ymddidanion rhwng y Carwr a'r Cymro
  • 3 Ymddiddanion rhwng Crist a'r Publican, rhwng Crist a'r Phar [...]sæad, a rhwng Crist a'r Credadyn ammheus, sef Canwyll Crist,
  • 4 Amryw Reolau Duwiol:

Y cwbl i gyfarwyddo pobl, pa fodd i chwilio 'r scrythyrau er lesad iw Heneidiau: a pha fodd i ddyfod at Grist i gael iechydwriaeth dragwyddol: a pha fodd i weddio yn ol e­wyllys Duw, i gael grás a thrugaredd oddi­wrtho ef, a pha fodd i fyw'n sanctaidd yn y Byd presennol.

Joan. 5.39.

Chwiliwch y Scrythyrau:

1 Joan, 5.11.

Yr hwn y mae y Mab ganddo, y mae Bywyd ganddo.

Mat. 7.7.

Ceisiwch, a chwi a gewch.

Heb. 12.14.

Heb Sancteiddrwydd ni chaiff neb we­led yr Arglwydd.

Ai Bri [...]o yn Llundain gan Thomas Dawks, Prin­tiwr yng-hymraeg i ardderchoccaf Fawrhydi y BRENIN. 1677.

Llythyr at y Darllenydd.

Ddarllenydd anwyl,

DYmma llyfr i Hyfforddi ac i Gyfarwyddo y cyffredin Gymru, ym matterion eu iechydwriaeth dragwyddol. Ac oblegit fod hynny yn beth mawr, (tu hwnt ir hyn a ddichon calon ei feddwl, na thafod draethu) os ystyriwn ni y pethau y mae 'r Enaid yn cael ymwared oddiwrthynt, a'r llawenyd a'r go­goniant y mae'n cael bod yn gyfrannog oho­nynt, fe ddylit derbyn yn ressawgar y fath draethiadau, ac sy'n gwir gyfarwyddo pobl, mewn matterion mor bwys-fawr.

I gyfarwyddo pobl i chwilio 'r scrythyrau er iechydwriaeth iw Heneidiau, dymma i ti Garwr y Cymru, yn awr wedi brintio drachefn. Pe darllenem ni y Scrythyrau fel ein cyfarwydd­ir yn y llyfr hwn, ni fyddem lawer gwell Cristi­anogion rhagllaw nag y buom hyd yn hyn, canys y mae 'r scrythur lân yn abli wneuthur dyn yn ddoeth i iechydwriaeth, trwy 'r ffydd sydd yn Ghrist Iesu, 2 Tim. 3.15.16.

I Gyfarwyddo pobl i ddyfod at Grist, trwy yr hwn yn vnig y mae iechydwriaeth iw gael, Act. 4.12, dymma i ti Ganwyll Crist wedi ei ail brin­tio, a pheth angwanegiad mewn ambell man.

I Gyfarwyddo pobl i weddio yn ol Ewyllys Duw, fel y dderbyniont iechydwriaeth iw [Page]Heneidiau, (canys ni bydd neb cadwedig ond a alwo ar enw'r Arglwydd, yn ol ei ewyllys ef, Rhuf. 10.13. 1 Ioan. 5.14.) dyma i ti Ago­riad byrr ar weddi 'r Arglwydd, mewn rhan o waith Mr. Perkins, ac o gyfieuthiad Mr. Robert Holant, gynt Person Llanddyfrwr yn shir Gaer-fyrddyn; ac mewn rhan o waith a chyfieuthiad vn arall, yr hwn a anturiodd neu a fentrodd chwanegu at y matter, a diwygio y cymraeg yn y cyfieuthiad cynta ir diben hyn, sef, fel y gallei pobl yn awr ddeall y cwbl yn well. Y mae agos i bedwar vgain mlhynedd, oddiar pan Printiwyd llyfr Mr. Holant gyntaf, ac fel y mae 'r saesoneg, felly y mae 'r Gym­raeg wedi ei phuro yn fawr oddiar yr amser hynny, ac am hynny nid oedd afresymmoli ddiwygio'r llyfr o ran y iaith; ac oblegit fod y matter yn dywyll mewn rhyw fannau, gweddus oedd iw egluro trwy chwanegu atto. Ac oher­wydd na ellir heb sancteiddrwydd weled yr Ar­glwydd Heb. 12.14, Dymma i ti Amryw Reolau duwiol, i gyfarwyddo pobl i fyw yn sanctaidd.

A chan nad yw tueddiad y cwbl, ond i Hyfforddi pobl ym matterion eu iechydwria­eth, ni allwn weddio am fendith ar y Gwaith. Poed felly bo Arglwydd Iesu.

Agoriad byrr ar weddi 'r Arglwydd.

Matthew. 6.9.

Am hynny gweddiwch chwi fel hyn, Ein Tàd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

AChos, a chyttundeb hefyd y geirieu ymma â'r rhai a aethant o'r blaen y sydd fel hyn. Nid yw'r Efang­ylwr Matthew wrth scrifennu pregethau ac ymadroddion ein Achubwr Crist yn cadw 'r drefn hon, sef i osod allan bôb peth fel y gwnaeth ac a dywe­dodd Crist nhw: eithr y mae efe weithie yn gosod yr hyn a wnaethpwyd yn ddiweddaf ar lawr yn gyntaf, ac yn ddiweddaf yr hyn a w­naethid o'r blaen, mal yr oedd yr Yspryd glân yn ei gyfarwyddo ef: yr byn beth a eglurir yn y geirieu hyn, lle yr ys yn cofio 'r weddi hon; ac etto nid ys yn dangos dim yma am yr achos paham y dyscodd ein Achubwr iw ddi­scyblion weddio. Eithr y mae achos y geirieu yn ddigon eglur yn Luc. 11.1. Canys fe ddywedir yno, i ûn o ddiscyblion Crist ddei­syf arno ddyscu iddynt hwythau weddio, mal [Page 2]y gwelent fod Ioan wedi dyscu iw ddiscyblion yntef.

Am hynny gweddiwch chwi fel hyn.

Gorchymmyn yw'r ychydig eirieu hyn sy wedi eu gosod ar lawr o flaen y weddi; ac y meant hwy'n dangos i ni ddau ddyled­swydd: yn gyntaf, y dylen ni weddio: Ac yn ail, y dylen ni weddio yn ôly dull a'r môdd sy 'n canlyn. Ac am y pwngc cyntaf, gan nad oes ond ychydig ym-mhlith llawer ac a fe­drant weddio yn iawn, rhaid i ni ddangos i­ddynt pa beth yw Gweddi.

Cwestiwn. Beth yw Gweddi.

Atteb. Gweddi yw deisyfiad calon ddrylli­edig ar Dduw, yn ol ei air, a hynny yn enw Crist, mewn siccrwydd am gael gwran­dawiad.

ER gwir agoryd y geirieu hyn, rhaid i ni y­styried chwech cwestiwn. A'r cyntaf yw hyn, Ar bwy y dylem ni weddio? A'r Atteb yw, Ar Dduw yn vnig. Rhuf, 10, 14. Pa fodd y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? Gwelwch fel y mae gweddi a ffydd wedi eu cyssylltu ynghyd: Ac fe a ellir cym­hwyso rheswm S. Paul fel hyn, sef, Yn y neb a rhoddom ni ein ymddiried a'n crêd, ar hwnnw yn vnig, y mae i ni alw a gweddio: eithr yn Nuw yn vnig yr ym ni 'n rhoddi ein ym­ddiried [Page 3] a'n crêd: ac oherwydd hynny ar Dduw yn vnig y mae i ni alw a gweddio. Am Seintie ac Angelion ni ddylen ni mewn vn môdd mor galw a gweddio arnynt; yn gyntaf, oblegit nad oes cymaint a'r tippyn lleiaf o air Duw yn ein dyscu i wneuthur felly: Yn ail, oblegit nis ga­llant glywed mo'n gweddiau, oherwydd nid ydynt yn bresennol ym mhôb mann, ar yr un amser, Sef, yn Lloeger, yng-Hymru, ac ym mhôb mann arall, lle'r ydys yn galw arnynt. I Dduw yn vnig y mae 'n berthnassol, i fôd yn bresennol ym mhôb mann i wrando gweddi, ac nid i Sainct ac Angelion, Psal. 139.7. &c. Yn drydydd, oblegit nid ynt hwy 'n adnabod meddyliau ein calonnau. Gwaith y galon yn bennaf dim yw gweddi, ac am hynny fe orch­mynnir i bobl dywalltu ei calon ger bron Duw, pan ddelont i weddio Psal. 62.8. Nid ydyw 'n bethnassol i Sainct ac Angelion, ond i Dduw yn vnig i weled ac i wybod meddyliau a deisy­fiadau 'r galon.

Ti yn vnic (ebe Solomon wrth Duw) a ad­waenost galonnau holl feibion dynion, 1 Bren. 8.39. Yn ofer gan hynny y tywalltwn ni ddeisyfiadau ein calonnau mewn gweddi, o flaen y rhai nid yw, nac yn eu gweled, nac yn eu deallt. Heb law hyn, nid yw'r Sainct yn y nêf yn gwybod dim yn neilltuol, ynghylch cy­flwrau gresynol ac eisieu y rhai fydd ar y ddaiar. Ti Arglwydd (eb'r Eglwys yn ei hadfyd wrth Duw) yw ein Tâd ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na'n cydnebydd Israel, Esay. 63.16. Os nid oedd Abraham nac Israel, [Page 4]ar ôl marwolaeth, yn adnabod dim moi hîl a'i heppil, na'i truenus gyflwr hwynt, pa fôdd y gallwn ni dybied, fod Mair, a Phedr, neu vn arall o'r Sainct, ar ôl márwolaeth, yn ein ad­nabod ni a'n tosturus gyflwrau? ynfydrwydd gan hynny yw galw a gweddio arnynt hwy; yn enwedig os ystyriwn ni yn ddiweddaf, mai rhan o wir addoliad Duw yw gweddi, ac am hynny y mae yn perthyn i Dduw yn vnic, me­gis y dywedodd ein Achubwr, yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn vnig a wasanaethi, Mat. 4.10.

Os dywaid y papistiaid, i Jacob weddio ar yr Angel a'i gwaredodd ef oddiwrth bôb drwg, am fendithio plant Joseph. Gen. 48.16, Yr Atteb yw hyn, mai Angel y cyfammod, sef, Christ Iesu oedd hwnnw. Gen. 32.24. hyd 31. Hosea. 12.3.4.5. Malachi. 3.1. Yr oedd Crist weithie, yn yr amseroedd hyn­ny, yn ymddangos mewn gwêdd Angel i'r ffyddlonniaid. O'i flaen ef yr oedd Abraham yn eiriol tros sodom, gan ei alw ef yn Farnudd yr holl ddaiar, Gen. 18.2.22 25. pen 19.1. Iosuah 5.13, 14. Pan oedd Ioan ar feder addoli Angel yr hwn oedd greadur, fo'i gwa­harddwyd ef ddwy waith na wnelei mo hynny. A myfi Ioan a welais y pethau hyn, ac a'u clywais: a phan darfu i mi glywed, a gweled, m [...] a syrthiais i lawr, i addoli ger bron traed yr Angel oedd yn dangos i mi y pethau hyn. Ac efe a ddywedodd wrthifi, gwêl na wnelych: canys cydwâs ydwyf i ti, ac i'th frodyr y Pro­phwydi, ac i'r rhai sy yn cadw gieriau y llyfr [Page 5] hwn: addola Dduw, Date. 19.10, Pen. 22.89.

Yr ail gwestiwn yw hyn, Pa ryw weithred yw gweddi? Atteb: Nid gwaith gwefysau yn vnic; eithr gweithred yn perthyn i eigion calon dŷn; trwy ba vn yr ydys yn gofyn rhyw ddei­syfiad neu arch gan Dduw, o ddyfnder y ga­lon. O bobl (ebr Psalmydd. 62.8.) tywelltwch eich calon ger bron Duw: A cheisiwch fi [medd yr Arglwydd) ac chwi a'm cewch, pan i'm ceisioch a'ch holl galon, Jer. 29.13. Y mae yr Arglwydd yn dywedyd Exod. 14.15. wrth Moses, Paham y gweddi arnaf? etto nid oes yno ddim sôn, ddywedyd o Foses un gair: fe dderbyniodd yr Arglwydd duchain, a deisyfia­dau ei galon ef oddifewn, megis gwaedd neu floedd, Psal. 38.9.

Y trydydd cwestiwn yw hyn, wrth ba reol, y dylen ni weddio? Atteb. wrth reol gair Duw, yr hyn ydyw ei ewyllys datcuddiedig ef. Pan ymostyngo dyn ei enaid ger bron Duw, nis dyle efe weddio yn ôl ewyllys ac anwydeu ei gnawd ei hun, nac am yr hyn y fynne: ond rhaid iddo wneuthur pob dim, yn ol ewyllys Duw a ys­pysswd yn ei air. Y pethau a orchymynnodd Duw i nyni iw gofyn, a ddylem ni eu gofyn: a'r pethau nis gorchymmynnodd efe i nyni iw gofyn, nis dylem mewn vn modd nor gwe­ddio amdanynt. 1 Joan. 5.14. A hyn yw'r hyfder sydd gennym tu ac atto ef, ei fod ef yn ein gw­rando ni, os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef. Mal dyma eiriau nodadwy i ni ddal sulw ar­nynt; canys ni allwn ddyscu allan oho­nynt, Mai mewn gwybodaeth, ac nid mewn an [Page 6] wybodaeth y dyle dynion weddio; canys os dylent hwy weddio yn ôl ewyllys Duw, rhaid iddynt yn gyntaf adnabod ei ewyllys ef; os amgen, pa fodd y gweddiant hwy yn ôl ei ewyllys ef? y­styriwch yma gyflwr pobl druain anwybodus: y maent yn sôn llawer, eu bod yn gweddio yn ddyfal trostynt eu hunain, a thros eraill; y maent hwy hefyd yn tybied eu bod yn gwe­ddio ar Dduw yn deilwng iawn: eithr ysyweth nid ydynt yn gwneuthur mo hynny; am nad ynt yn gwybod pa beth a ofynnant yn ôl ewy­llys Duw. Rhaid iddynt hwy gan hynny gei­sio gwybodaeth o'i ewyllys ef allan o'i air, a gweddio yn ôl hynny; neu fo a ddengys ar y diwedd, mai nad anrhydeddu Duw, ond ei watwar a'i ddirmygu ef yr oeddynt hwy, yn eu holl weddiau.

Y pedwerydd cwestiwn yw hyn, A pha fath dymmer o galon y dyle ddyn weddio? Atteb: A chalon ddrylliog gystuddiedig y dyle ddyn weddio: canys hon yw'r aberth sydd gymmeradwy gan Dduw. Psal. 51.17. Pan ymostyngodd Manasseh ei hunan yn ddirfawr ger bron Duw mewn Gweddi, yn amser ei adfyd, fe drugarhaodd Duw wrtho, ac a wrandawodd arno: 2. Chron. 33.12.13. y mae'r cystydd calon hyn yn sefyll mewn dau beth: y cyntaf ohonynt yw, ein bod gydâ thristwch calon, yn gwir ymwrando a'n pechodau, a'n trueni oi plegit hwynt: a pha fodd yr ydym wedi 'n amgylchu oddi allan â gelynion aneirif, ie â diafol a'i angelion; a bod ynom oddi fewn foroedd mowrion o [Page 7]lygredigaethau gwrthryfelgar, drwy y rhai yr ym ni 'n mawr ddigio Duw, ac am ba rai yr ym yn wael, ac yn ffieidd yn ein golwg ein hunain. Pa bryd bynnac y bo Duw yn tynnu y galon garrec o gnawd dyn pechadu­rus, ac yn rhoddi iddo galon o gîg, sef ca­lon dyner, ddryllioc, a chystuddiedig; yna y cofia y pechadur ei ffyrdd ddrygionus, a'i weithredoedd nid oeddynt dda, a bydd yn ffiaidd ganddo ei hunan, am ei anwireddau ac am ei ffieidd-dra. Ezec. 36.26.31.

Gwelwn yn Nafydd ecsampl o galon gy­studdiedig, Psal. 51. yr oedd efe yn deim­ladwy o'i bechodau, gwreidiol a gweithre­dol, ac am hynny eb efe, yr wyf yn cydna­bod fy nghamweddau: a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron, yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pechais, ac y gwneuthum y drwg hyn yn dy olwg. Wele mewn anwiredd i'm lluniwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf. Heb law hyn, yr oedd efe yn gweled ei hunan mewn cyflwr truenus oblegit ei bechodau, trwy ba rai yr oedd efe wedi digio Duw, ac am ba rai yr oedd ei galon ef yn awr yn llawn tristwch; ac am hynny yr oedd e 'n deisyf ar Dduw i drugarhau wrtho, gan ddywedyd: Trugarhâ wrthif ô Dduw yn ôl dy drugarogrwydd, yn ôl lliaws dy dosturiaethau delea fy anwireddau. Pâr i mi glywed gorfoledd a llawenydd, fel y lawen­nycho yr escyrn a ddrylliaist. Ym mhellach yr oedd Dafydd yn wael yn ei olwg ei hun; canys, cyfaddef yr oedd, pe llefarei Duw yn [Page 8]ei erbyn, ai farnu ef yn ôl ei bechodau; etto mai cyfiawn fyddei Duw pan y llefarei, a Phur pan y barnei: canys gwybod yr oedd efe yn ddigon da, ei fôd ef am ei becho­dau, yn haeddu y farn y roddei Duw yn ei erbyn: Ac mal hyn y nessaodd Dafydd at Dduw i weddio ac i alw arno, sef; a'i galon yn gystuddiedig o'i fewn ef. A chan ein bod ninne wedi 'n amgylchu o bôb tû, â drygau anifeiriol, ni ddylem fod yn ymwran­do â'n dirfawr drueni, a chlywed pwys a baich ein pechodau, gan fod â'n calonnau 'n gystyddiedig o'n mewn pan y nessaom at Dduw i alw arno. A'r neb a fynne weddio yn deilwng, oedd rhaid iddo ymwisco ei hun mewn meddylfryd a gwir serch calon, ar ddull ac agwedd cardottyn truan anghenus; ca [...]ys hyn sydd ddilys, oni fyddwn ni yn ym­ [...]do â'n pechodau a'n trueni, ac onis y­ [...] [...] am y cyflwr trist yr ym ynddo, [...] i ni mewn un môdd we­ [...] [...] ffynnadwy ac yn fuddiol. Psal. [...]30.1.3.5. o'r dyfnder (ebe Dafydd) y llefais arnat o Arglwydd, os creffi ar anwi­reddau pwy a saif? sef, megis a phe dy­wedasei, pan oeddwn yn fy nrhueni mwy­af, ac megis yn agos at eigion vffern, ac yn clywed pwys fy anwireddau, yna y criais ar Dduw. A chan iddo weddio fal hyn, gan ym­wrando â'i bechodau a'i drueni, yr oedd efe yn disgwil, ac yn gobeithio cael yr ymwared y geisiodd: Disgwiliaf am yr Arglwydd, (eb efe) disgwil fy enaid, ac yn ei air ef y [Page 9] gobeithiaf. Fel hyn hefyd y gweddiodd y Publican, sef, gydâ theimlad o'i bechod a'i drueni, gan ddywedyd o'i galon, o Dduw bydd drugarog wrthif bechadur; ac fe wran­dawodd Duw arno, ac a'i cyfiawnhaodd ef, ac a'i derchafodd ef yn Ghrist i fod yn vn o'i blant a'i bobl, Luc. 18.13.14. Os rhaid bod gan hynny ymwrandawiad a theimlad ynom, o'n pechodau a'n trueni, pan y gwe­ddiom ar Dduw, cyn y dichon ein gweddi­au fod yn gymmeradwy gydag ef; y mae'n eglur wrth hyn, fod gweddiau cyffredinol y rhan fwyaf o bobl yn anghymeradwy gydâ Duw; ac am hynny y maent yn ei anfod­loni ac yn ei ddigio ef yn ddirfawr iawn; canys er mwyn arfer a ffashiwn yn vnic y maent hwy'n gweddio, heb nac ystyriaeth, na theimlad ynddynt o'u pechodau a'u trueni. Y mae dynion fynychaf yn dyfod i weddio maly Pharisead, â meddyliau da ganddynt amdanynt eu hunain, fel pe baent hwy 'n vnion ac yn berffaith: a chymmeryd y maent hwy fawr boen a thrafel â'u gwefufau: Eithr y mae eu calonnau yn gwibio ac yn crwydro oddiwrth yr Arglwydd. Ond gwybydded y cyfryw rai, nad yw Duw yn prissio amda­nynt hwy na'i gweddiau; canys y mae aberth yr annuwiol yn ffiaidd gan yr Arglwydd, Dihar. 15.8. ie, y mae fe'n ddig wrthynt megis wrth y Pharisead balch; canys rha­grithwŷr ynghyfrif Grist yw y rheini, sy'n nesau at Dduw â'i geneuau, ac yn ei anrh [Page 10] deddu ef a'u gwefusau, a'u calonnau yn y cyfamser ymmhell oddiwrtho, heb na theimlad na chlywedigaeth ynddynt o'u pechodau a'u trueni, Mat. 15.7.8. Wrth bwy weithian y mae Duw mor ddig ac wrth y rhag­rith-wyr? ac yn erbyn pwy y mae efe yn cyho­eddi cynifer Gwae, ac y mae fo'n ei gyhoeddi yn erbyn y rhagrith-wŷr. Mat. 23. Deell­wch hyn yn awr, y rhai ydych yn gweddio yn gyffredinol heb deimlad ynoch o'ch pecho­dau a'ch trueni; heb glywed eu pwys hwynt, na gweled y cyflwr colledig yr ych ynddo oi plegid hwynt, rhag i Dduw daflu eich gweddiau megis tom yn eich hwynebau, ac ar y diwedd eich rhwygo chwi panna by­ddo gwaredudd.

Yr ail beth anghenrheidiol i fod mewn calon gystuddiedig, yw hiraethu am rasusau a thrugareddau Duw, o ba rai yr ym yn s­fyll mewn mawr eisieu. Nid digon yw i ŵr ymgrymmu dan faich ei bechodau a'i he­buloedd, eithr rhaid iddo hefyd ddeisyf cael ei esmwythau ohonynt; a chael ei gyfoethogi â grasusau, a thrugareddau Duw y rhai sydd raid iddo wrthynt.

Mal hyn y gweddiodd Hezeciah y brenin, ac Esay y prophwyd mab Amos, yn erbyn Senacherib, ac a waeddasant hyd at y nefo­edd. Lle y gallwn weled, gan fod eu cri a'u gwaedd, wrth weddio yn eu hadfyd a'u tru­eni, yn cyrraedd hyd at y nefoedd, mor rhyfeddol yr oeddent hwy'n hiraethu am ga­ffael yr ymwared a'r trugaredd, yr oeddent [Page 11]yn gweddio amdano, 2. Chron. 32.20. yn Rhuf. 8.26. y dywedir fod yr yspryd yn erfyn trosom ni, ag ocheneidiau annhrae­thadwy, sef, fel na ddichon y tafod draethu all­an, fel y mae'r galon yn teimlo ac yn clywed yr ocheneidiau oddi fewn:ni allwn gasclu oddi­wrth hynny, pa fath chwant, a hiraeth mawr a ddylei fod ynom, wrth weddio, am y grasusau a'r trugareddau, y sydd raid i ni wrthynt. Lledais fy nwylo attat medd Da­fydd, hynny yw gweddiais ar Dduw, mae fy enaid fel tir sichedic yn hiraethu am yr Arglwydd: Ac ni a wyddom fod y tîr sydd wedi boethi gan dês, yn ymagoryd ei hun yn holltau ac yn agennau, ac megis yn sasn-ru­thu tu ar nefoedd, mal pe tarlyngcei'r cym­mylau oherwydd eisiau gwlybaniaeth: Ac fel hyn y dyle'r galon chwantu a deisyf grâs, nawdd, a thrugaredd Duw nes iddi dder­byn hynny oddiwrtho, Psal. 143.6.

Y pummed cwestiwn yw, yn enw pwy y mae i ni weddio? Atteb. Nid yn enw vn creadur y mae i ni weddio, eithr yn enw a thrwy gyfryngdod Crist yn unig. Ioan. 14.14. Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a'i gwnaf, ebe Crist. Nis dyle ddyn offrym­mu ei weddiau i Dduw yn nheilygndra ei haeddedigaethau ei hun; canys pa beth yw dyn, a gwnaed y cyfrif goreu ohono ei hun? Pa beth a eill efe wneuthur ohono ei hun? trwy naturiaeth nid yw well nâ phentewyn o dân uffern; ac afreolusaf [Page 12]gwrthryfelwr yn erbyn Duw, o'i holl greadur­riaid ar y ddaiar yw efe, ac am hynny nis geill gaffael mo'i wrando er ei fwyn ei hun. Ac am y Sainct yn y nef, nis gallant hwy fod yn gyfryngwyr trosom ni, (hynny yw yn ganolwyr rhyngom ni a Duw, i hae­ddu ei ffafor ef i ni) a'r rheswm yw hyn, oblegit nid yw'r Sainct yn y nef yn gyme­radwy gydâ Duw er mwyn eu haeddedigae­ethau eu hunain, ond yn vnig er mwyn Grist a'i haeddedigaethau bendigedig ef: ca­nys nid oes iechydwriaeth yn nêb arall: as nid oes enw arall tan y nêf, wedi ei roddi ymmh­lith dynion, drwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fôd yn gadwedig, ond yn vnig drwy enw 'r Arglwydd Iesu Grist Act. 4 12. y mae gweithredoedd goreu y duwiolaf ar y ddai­ar yn ammher ffaith, fel yr oedd Paul yn gwy­bod wrth brofiad; canys pan fo ni fel yntef, yn ewyllysio gwneuthur yr hyn sydd da, y mae drwg yn bresennol gydáni: ac megis brattiau bu­dron yw ein holl gyfiawnderau ni; ac am hynny, ni ddichon y goreu o ddynion gael eu cyfiawnhau er eu mwyn eu hunain, sef trwy eu gweithredoedd o vfudd-dod i gy­fraith Dduw, ac felly haeddu trwyddynt flafor Duw, bywyd tragwyddol, a chael bod yn gymeradwy gydag ef. Ac oni ddichon y Sainctie haeddu ffafor Duw iddynt eu hunain, pa fodd attolwg yr haeddant hwy [...]yn [...]y dros eraill? Phil. 3.12. Rhuf. 7. [...] Esay, 64.6. Gal. 2.16, ymaith gan [Page 13]hynny â gwneuthur y Sainctie, megis Mair, Pedr, Paul, &c, Yn gyfryngwyr rhyngom ni a Duw: gadawn hynny ir papistiaid dei­llion; ac ymfodlonwn ein hunain â'r vn cyfryngŵr rhwng Duw a dyn, sef, y Dŷn Crist Iesu, yr hwn a roddes ei hunan yn bridwerth dros bawb, 1. Tim. 2.5.6. O pecha nêb, (ebe Ioan (Epist. 1.2. Ben. 1.2.) y mae i ni Eirilowr gydá'r Tad, Iesu Grist y cyfiawn: eithr pa wedd y mae efe yn profi hyn? y mae yn canlyn yno, ac efe yw'r iawn tros ein pechodau ni: Y mae pwys rheswm S. Joan yn sefyll fel hyn: yr hwn a fo yn rhaid iddo fod yn Ei­riolwr, (neu yn gyfryngwr i haeddu ffafor Duw i ni) rhaid i hwnnw yn gyntaf fod yn iawn trosom ni: ond nis geill Sainctie fod yn iawn trosom ni, ac am hynny nis geill Sainctie fod yn Eiriolwyr trosom ni. Na thybygwn, pe gallasei'r Sainctie roddi iawn i Dduw am eu pechodau eu hun, ac am bechodau eraill, a danfonasei Dduw ei anwyl fâb, i ddioddef ei drwm felldith a'i ddigofaint, a chwerw loes angeu i wneuthur iawn tro­som. Os yn awr yn enw Crist, a thrwy ei gy­fryngdod ef yn vnig y mae i ni weddio a galw ar Dduw; y mae yn eglur-oleu, yn y man hyn, un arall o feiau y bobl anwy­bodus. Y maent hwy yn fynych yn crio, Duw a'n helpo, Arglwydd trugarhâ wrth­ym; eithr yn enw pwy y maent hwy'n gwe­ddio? nid oes sôn am Grist Jesu gan la­weroedd. Druain gwerin, y maent hwy [Page 14]deillon yn rhuthro yn ddiofn ar yr Ar­glwyd: nis gwyddant fôd, nen nis adwae­nant vn Cyfryngwr, yn henw pwy vn a dy­lent hwy anrhegu, ac offrymmu eu gweddi­au i Dduw. Ychydig y maent hwy yn ei fe­ddwl, fod Duw yn Farnwr ofnadwy, ir rhai sydd allan o Ghrist, yn gystal ac yn Dâd trugarog ir rhai sydd yn-Ghrist.

Y chweched cwestiwn yw hwn, ai rhei­diol yw wrth ffydd mewn Gweddi? Atteb. Mewn ffydd y dylit gweddio, fel y bo i ŵr siccrwydd ddilys o gael ei wrando. canys rhaid ir nêb a weddio gredu yn ddiameu, y canniattâa Duw yn-Ghrist ei ddeisyfiad ef: eithr lle bo 'r ffydd hon yn niffyg y mae hynny yn gwneuthur gweddi yn an­ffrwythlon. Canys pa fodd a geill efe weddio yn fuddiol am ddim, yr hwn a ammheuo y derbyn yr hyn y mae yn ei ofyn. O bydd ar neb ohonoch (ebe Jaco, 1.5.6.7.) eisieu doethineb, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod: a hi a roddir iddo ef. Canys yr hwn sydd yn ammeu, sydd gyffelyb i donn y môr, achwelir, ac a deflir gan y gwynt: ca­nys na feddylied y dyn hwnnw, (sef yr hwn sy'n gweddio heb ffydd) y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd.

Am hynny rhan arbennig o weddi yw hon, sef wybod o ddyn, a bod ohono wedi ei berswadio, nid yn vnic a geill Duw, ar yr hwn yr ydys yn gweddio, ganiattau [Page 15]ei arch a'i ddeisyfiad ef, eithr hefyd a bydd efe ewyllysgar i wneuthur felly, Mar. 11.24. Beth bynnag oll a geisiwch wrth weddio, credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi: ym­ma y gwelwn fod dau beth yn rheidiol mewn gweddi: y cyntaf yw hiraeth am y pethau daionus sydd arnom eu heisieu: yr ail yw ffydd, i gredu ohonom ni, y rhydd Duw y pethau yr ydyn ni yn eu gofyn, yn ôl ei e­wyllys ef. Sail y ffydd hon yw hyn, sef, fod Duw wedi heddychu a chymmodi â dyn yn-Ghrist, a gwir siccrwydd o hynny: canys oni bydd dyn wedi ei berswadio, ac oni bydd efe yn gwybod mewn rhyw fesur, yn ei gydwybod, fod ei holl bechodau ef wedi eu maddeu, ai fod ef yn sefyll mewn heddwch gyda Duw, wedi ymgymmodi ag ef trwy Ghrist, nis geill efe gredu vn addewid arall a wnaethpwyd, ac a ddatcuddiwyd yng air Duw, nac y ceiff vn weddi a wnêl efe mo'i gwrando.

A chymmaint a hyn i ddangos beth yw gwe­ddi: Weithian gadewch weled pa ddefnydd a ellir ei wneuthur o'r gorchymyn hwn, sef, gwe­ddiwch chwi fel hyn.

Gan i'n Achubwr orchymmyn iw ddiscyb­lion, ac ynddynt hwy i ninne hefyd weddio a galw ar Dduw; nyni a ddylem, nid yn vnic anrhegu neu offrymmu ein gweddiau ger bron Duw, eithr hefyd gwneuthur hynny yn ewyllysgar, yn llawen, yn daer, ac yn ddy­fal. Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn medd Jaco, 5.16. Ac y mae Paul yn erchi i hi ddyfal barhau mewn gweddi. Rhuf. 12.12. [Page 16]ac i ddangos ein taerder, ni ddylem megis Jacob ymdrechu â Duw yn ein gweddiau, gan fod yn ddisigl yn ein pwrpas, nas gollyngwn ni mohono ymmaith, hyd oni 'n bendithia ni. Fe gafod Jacob enw newydd anrhydeddus, heb law y fendith yr oedd efe yn ei geisio gan Dduw, drwy ymdrechu fel hyn â Duw. Gollwng fi ymmaith, (ebe Crist Angel y cy­fammod, yr hwn oedd y pryd hynny yn ymddangos i Iacob mewn gwedd gŵr) oblegit y wawr a gyfododd: yntef a attebodd ni'th ollyngaf oni'm bendithi. Yntef a ddywedodd, mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: o­blegit cefaist nerth gydâ Duw fel tywysog, a chydâ dynion, ac a orchfygaist. Ac yno efe a'i bendithiodd ef, Gen. 32.26.28.29. Nid oes ryfedd gan hynny fod Paul yn erchi ir Rhufeiniaid arfer ymdrech mewn gweddi, gan fod bendith yn canlyn hynny: yr wyf yn attolwg i chwi frodyr, (ebe fe) er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist, ac er cariad yr yspryd ar gŷd-ymdrech ohonoch gydâ myfi mewn gweddian trosofi at Dduw. Rhuf. 15.30.

Os gofynnwch chwi, beth yw'r achos paham y mae Duw yn fynych yn oedi rhoddi i ni ei fendithion a'i drugareddau yn ôl ein gweddiau? Yr Atteb yw, fod Duw yn gwneu­thur hynny mal y gallo efe ein cyffroi a'n dwyn ni, i fod yn ddyfalach mewn gweddi, aci alw yn daerach arno. Exod. 32.10. Pan we­ddiodd Moses ar Dduw, ac yr ymbiliodd [Page 17]tros bobl yr Israel, attebodd yr Arglwydd ac a ddywedodd wrtho, gâd imi lonydd, mal pe buase ei weddiau ef yn rhwymo 'r Argl­wydd, ac yn ei attal rhag gwneuthur a chy­flawni ei farnedigaethau iw herbyn. Da iawn am hynny yw 'r cyngor hwn, i bob Cristi­ion fod yn barhaus ac yn awyddus mewn gwe­ddi. Os wyt ddyn anwybodus, rhag cywi­lydd i ti dysc weddio, a gwna gydwybod o'r peth oblegit mai gorchymyn Duw ydyw hyn­ny. Ni welwn nad oes neb, onid dyn dry­gionus iawn, nas gwneiff beth cydwybod o lâdd a ledratta: a pham hynny? ond am fod Duw yn gorchymyn mal hyn, na lâdd, na ledratta. Ac wele y mae Duw hefyd yn gorchymyn i ti weddio. Gad gan hynny ir ystyriaeth hyn fagu ynot gydwybod am y ddy­ledswydd hon: A phan bo dy naturiaeth ly­gredig di, yn ceisio dy ddenu a'th dynnu di oddiwrth weddio, bydd ofalus i ymrysson yn ei herbyn. A Gwybydd hyn yn ddilys, fod torriad y gorchymyn hwn, yn dy wneuthur di yn euog o ddamnedigaeth dragywyddol ger bron Duw, yn gystal a thorriad vn gorchym­myn arall.

Ym-mhellach, fe ddyle hyn dy annog a'th gynhyrfu di i gyflawni 'r ddyledswydd hon o weddi, sef, fod Duw, megis ac y mae yn gorchymyn i ni weddio, felly hefyd y mae fo 'n addaw, ac yn rhoddi iw bobl yr ys­pryd glân, i cynnorthwyo nhw i weddio. A thywalltaf ar dŷ Ddafydd, ac ar bresswylwŷr Jerusalem yspryd grâs a gweddian, medd yr [Page 18]Arglwydd; Ac os chwy-chwi, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i'ch plant chwi, pa faint mwy y rhydd eich Tàd o'r nèf yr Yspryd glân, ir rhai a ofynno ganddo? y mae 'r yspryd hefyd yn cynnorthwyo ein gwendid ni; canys ni wyddom ni beth a weddi­om, megis y dylem, eithr y mae 'r yspryd ei hun yn erfyn trosom ni, ag ocheneidian annhrasethadwy. Zech. 12.10. Luc. 11.13. Rhuf. 8.26. Ac mal hyn y mae 'r Arglwydd yn esmwythau 'r gorchymmyn i weddio, ac yn ei wneuthur yn hawsach i ni iw gadw. Pet fu­ase 'r Arglwydd yn gorchymyn i ni beth ammhossibl, yna y buase rhyw achos i ofni a llwfrhau: eithr gan ei fod yn gorchymmyn peth (trwy râd ei yspryd) y sydd hawdd­iawn a buddiol i ni, onid ym rwymedig yn fwy o lawer i vfyddhau iddo, ac i gwblhau hynny?

A thrachefn, Gweddi yw 'r Allwedd neu 'r Agoriad, â pha vn yr ydym yn agoryd tryssorau 'r Arglwydd, ac yn tynnu i lawr ei drugareddau arnom, Canys megis ac y mae pregethiad y gair yn gwasanaethu i fynegi, ac i ddwyn i ni râd a grâs Duw: felly mewn gweddi, yr ym yn dyfod i glywed teimlad bywiol o'r grás hwnnw yn ein calonnau.

Ac ymmhellach fe ddyle hyn ein cyn­hyrfu i weddio, sef, ein bòd wrth weddio yn cael cyfeillach hyfryd â'r goruwchaf Dduw. Mawr yw 'r ffafor gael o ŵr fod yn gyfeill­gar â thywysog daiarol: pa faint mwy gan hynny yw bod yn gyfeillgar â Brenin y Brenhi­noedd [Page 19]yr holl-alluog Jehofa? Nis geill hyn ynte, sef galw ar Dduw mewn gweddi fod yn faich, ac yn rwystr i ni, gan ei fod yn vn o laweroedd o'r breintiau a'r rhagoriaethau y roddes Duw iw Eglwys; canys ym mhrege­thiad y gair, y mae 'n rhyngu bôdd i Dduw i lefaru wrthym ni: eithr mewn gweddi, y mae Duw yn canniattau i ninnau hyn o an­rhydedd, i ddywedyd ein meddwl wrtho yn­tef, ac megis i ymddiddan hefyd yn gyfeill­gar ag ef; a hynny nid megis â Barnwr arswydus, ond megis â'n Tàd, a'n Duw care­dig a thrugarog.

Ystyriwch hefyd, fod gweddi yn fodd ra­gorol o ymddiffynfa i ni, ac ir holl Eglwys, yn gystal ir rhai sy 'mhell oddiwrthym, ac ir rhai sydd agos i ni. Trwy weddi y safodd Moses ar yr adwy, a wnaethase Digofaint Duw ym-mhlith pobl yr Israel, ac felly tro­wyd ymmaith llidiawgrwydd Duw oddi wr­thynt, Psal. 106, 23.

Trwy weddi y mae christianogion, megis milwyr nerthol, yn rhyfela yn rymmus, yn er­byn eu llygredigaethau eu hunain, a'u holl elynion ysprydol eraill. Eph. 6.13, 18.

Amhossibl yw dangos yr holl fendithion, a roddes yr Arglwydd iw weision trwy weddi, oblegit y maent hwy 'n anneirif. Luther (yr hwn a welodd Duw yn dda ei wneuthur yn o­fferyn godidawg, i ddwyn eilwaith i ni yr efen­gyl) sydd yn testiolaethu amdano ei hun, we­led ohono, a darfod datcuddio iddo (wedi i Dduw roddi iddo y grâs i alw ar ei enw ef, (sef [Page 20]yn ddifrifol) fwy o wirioneddau Duw, a hyn­ny yn eglurach, trwy weddi, na thrwy ddar­llain a myfyrio.

Yr ail pwngc o'r gorchymmyn, yw gwe­ddio ohonom yn y môdd ac ar y dull sy'n canlyn yng-weddi'r Arglwydd. Lle y gallwn weled mai cyfarwyddiad, ac Ecsampl barod yw Gweddi'r Arglwydd, i ddyscu i ni pa wedd, a pha dull y dylem ni weddio. Nis dyle nêb dy­biaid ein bod ni yn rhwymedig i arfer y gei­rieu hyn yn unig, a hynny yn ddi-newid, heb eu chwanegu na'u lleihiau, neu heb eiriau eraill. Canys nid yw meddwl Crist i'n rhwy­mo ni i'r geirieu, ond i'r peth neu 'r matter, a'r môdd, a'r cyffelib serch wrth weddio. Ac oni bae fod hyn yn wir; bydde feius gweddiau gwasanaethwyr Duw, y rhai sy wedi eu gosod ar lawr yn llyfrau 'r hên Deitament a'r ne­wydd; oblegit nad ynt wedi eu gosod ar lawr yn yr vn rhyw eiriau â gweddi 'r Arglwydd Ie nid yw 'r weddi hon ei hun wedi gosod ar lawr yn yr vn rhyw eirieu yn gwbwl, air yng­air gan yr Efangylwyr Matthew a Luc.

Ac yn gynmaint a bod llawer yn ein he­glwys ni yn tybled, mal peth anghyfreithlon y­dyw arfer yn lle gweddi y ffurf hyn o eiriau, fel y maent wedi eu gosod ar lawr gan ein Ia­chawdwr Crist; y maent yn hynny yn cam­synnield yn fawr, fel yr ymddengys wrth eu rhesymmau hwynt. Yn gyntaf Scrythur yw (meddant hwy) ac am hynny nis dylid mo'i arfer megis gweddi: yr wy-fi'n a tteb, a geill [Page 21]yr un peth fod yn scrythur neu Air Duw, ac yn weddi dŷn hefyd; neu fo a beidieu gwe­ddiau Foses, Dafydd a Phaul (y sy wedi eu gosod ar lawr yn y scrythur) fod yn weddi­au. A thrachefn (medddant hwy) nyni a ddylem ddangos mewn gweddi ein diffygion yn neillduol, a cheisio hefyd yn neulltuol y gra­sussau y sydd raid i ni wrthynt; eithr pob dim ar a ydym ni yn ei ofyn yn y weddi hon, yr yni yn eu gofyn hwy yn gyffredinol, ac nid yn neillduol. Yr wy finne'n atteb, fod yr eisieu mwyaf y sy ar bôb dyn, a'r grasussau pennaf iw dymuno oddiwrth Dduw, wedi eu gosod ar lawr yn neillduol yn archau'r weddi hon. Yn drydydd, y maent hwy'n dadleu, nas dylem ni arfer megis gweddi y siampl, yn ol pa vn y dylem ni wneuthur eir holl weddiau. yr wyfi'n atteb, y dylit yn hyttrach oherwydd hynny ei harfer megis gweddi: a siccr yw, ddarfod ir hên Ddefinwyr parchedig (megis Ciprian, Tertu­llian ac Awstin, ei hanrhydeddu a'i harfer hi megis gweddi, gan ddewis y geiriau yma yn bennaf vwchlaw pob rhai eraill:) ac am hynny y mae 'r opinwn a'r tŷb hwn yn llawn o an­wybodaeth ac amryfusedd.

Ac wele, gan fod ein Achubwr yn gyntaf yn rhoddi gorchymyni ni weddio, ac yna yn ein cyfarwyddo pa foddi gyflawni hynny; y mae efe yn gwneuthur hyn i deffro ein mar­weidd-dra ni, ac i'n denu a'n tynnu ym mhôb môdd i'r gorchwyl nefol hwn: ac am hynny ymegniwch i gyflawni y ddyledswydd hon, yn wastadol ac yn wresog: ac onis medrwch hyn [Page 22]etto, dysgwch yn awr weddio. Ac hyn sydd ddigon am orchymyn ein Achubwr Crist: y mae weithian eirieu 'r weddi yn canlyn.

‘Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

Y Mae'r geirieu hyn yn cynnwys tair rhan,

1. Rhag-ymadrodd.

2, Y weddi ei hun, yr hon sydd yn cynnwys hefyd chwech Arch.

3. Arwydd a thestiolaeth o ffydd yn y gair di­weddaf, Amen; yr hwn er ei fod yn fyrr, etto y mae yn cynnwys matter pwysfawr. Testiola­eth yw, meddaf fi, o'n ffydd, megis ac y mae 'r Archau sy'n myned o'r blaen yn testiolae­thu ein deisyfiadau. Ac weithian am y rhannau hyn mewn trefn.

Daliwn sulw ar hyn, nad yw ein Achubwr Crist yn gosod ar lawr yr archau yn ddisym­mwth: ond y mae fo yn dechreu yn gyntaf â rhagymadrod parchedig yn y geriau hyn, sef, Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c. Ac oddiwrth hyn ni allwn ddyscu 'r wers, hon, sef, ‘Y dyle 'r neb a weddio ar Dduw, yn gyntaf ymbaratoi ei hun, a go­chelyd ymruthro yn rhy hyderus, heb ddim ystyriaeth, ger bron, ac i olwg Duw.’

[Page 23]O bydd dyn i ddyfod ger bron tywysog, daiarol (megis Joseph ger bron Phaerao Gen. 41.14.) efe a ymdrwssia mor weddus ac y ga­llo, ac a drefna ei ymddygiad a'i eirieu yn y fâth fôdd, ac a gallo wneuthur pob dim yn ei ŵydd ef, yn weddus, ac yn barchus. O! ba faint mwy y dyle ddynion ymbaratoi, i ymddŵyn eu hunain yn weddus, pan ddelont i ymddan­gos ger bron y Duw byw? Na fydd rŷ brys­sur a'th enau, ac na frysied dy galon i draethu dim ger bron Duw, medd Salomon, Preg. 5.2. Ac ebe Ddafydd, Golchaf fy nwylo mewn dini­weidrwydd: a'th allor ô Arglwyd a amgyl­chynaf, psal 26.6. yr oedd yn ei frŷd ef i ba­rattoi ei hunan, cyn ei ddyfod ger bron allor yr Arglwydd, i offrymmu ei aberth yno.

Y moddion iw harfer, tuag at ddeffroi ca­lonnau dynion o'u trwm-gwsc a'u dwlni, ac iw parrattoi i weddio, ydynt Dri.

Y cyntaf yw darllain yn ddyfal air Duw, ynghylch y pethau hynny, ac y maent hwy yn amcanu gweddio ar Dduw amdanynt: a pha beth a ddaw o hynny? fe fydd hynny'n fodd, nid yn vnic i gyfarwydddo dyn, ond hefyd i fywhau ei galon ef, i weddio yn daerach ac yn wresscccah. Bywha ni, ac ni a alwm ar dy enw, Psal. 80.18. A pha beth yw'r off­eryn pennaf i fywhau'r enaid ond gair Duw? yr hwn a elwir yn air y bywyd, Pil. 2.16 hyn a eglurir trwy gyffelybiaeth. Pelydr neu lewyrch yr haul, wrth ddescyn tu ar llawr, [Page 24]nis rhoddant hwy wrês, nes iddynt daro ar y ddaiar, neu ar ryw beth corphorol arall a'i gyrro nhw yn ei gwrthgefn; ac yna y rho­ddant hwy wrês mawr ir ddaiar, a'r awyr, ac i bôb dim arall agos ir fann hono: felly y mae 'r Arglwydd wedi danfon i lawr i ni ei air bendigedig, megis pelydr yr haul cannaid têg, a thrwy hwnnw y mae efe yn llefaru wrth ein calonnau: ac yna pan weddiom ni, yn òl yr hyn yr ydym yn ei ddarllain, y mae gair Duw megis wedi ei yrru yn ei wrthgefn, ac ac y mae ein calonnau drwy hynny, wedi eu gwresogi â gwrês diddanus yr Yspryd glân, i dywallt allan ein gweddiau yn wresocach.

Yr ail môdd iw arfer tuag at ein parattoi ni i weddio, yw deisyf ar Dduw i'n cadharn­hau ni â'i Yspryd glân, mal y gallom ni weddio yn ôl ei ewyllys ef; canys y mae 'r yspryd yn cynnorthwyo ein gwendid ni, Canys ni wy­ddom ni beth a weddiom, megis y dylem, eithr y y mae 'r yspryd ei hun yn erfyn trosom ni, ag ocheneidiau annhraethadwy, Rhuf. 8.26.

Y Trydydd môdd i'n parattoi ni i weddio, yw myfyrio ynghylch vchel-fawredd y gogone­ddusaf Dduw; lle y mae i ni gofio yn gyntaf ei dadaidd ddaioni a'i garedigrwydd, y rhai ydynt arwyddion o'i ewyllys i'n gwrando ni; ac yn nessaf, y mae i ni gofio ei holl-alluog­rwydd ef, trwy ba vn y mae fo'n abl i gan­niattâu i ni ein dymuniadau. Fe wnaeth vn o'r rhain (sef gallu Duw) ir gwahan-glwyfus weddio; a galw ar Grist yn hyderus, gan ddy­wedyd, [Page 25] Arglwydd, os mynni, ti ae elli fy nglan­hau i. A chan hynny y mae'r ddau ynghyd (sef ewllys a gallu Duw) a mwy o rym ynddynt i'n cynhyrfu ni i weddio yn hyderus.

Dewn bellach at y Rhag-ymadrodd cyn­nwysedig yn y geiriau hyn, Ein Tad yr hwn wyt yn y Nefoedd. Ac yma y mae gosodiad all­an o'r gwir Jehofa, ar yr hwn yr ym yn gweddio, a hynny yn gyntaf trwy ei ber­thynas iw bobl, yn y geiriau hyn, sef, Ein Tâd: ac yn ail trwy y lle o'i breswylfod, yn y geiriau a ganlynant, sef, yr hwn wyt yn y nefoedd.

Ystyr a meddwl y gair Tâd.

WRth agoryd y gair Tâd rhaid yw atteb dau gwestiwn.

Yn gyntaf, A arwyddoceuir wrth y titl hwn, Tâd, y Drindod yn hollawl, ai ynte vn person yn vnig ohonaw?

Atteb. Rhoddir weithie yr enw hwn ir holl bersonau yn y Drindod ynghyd; a wei­thie i ryw vn oonynt hwy. Ir holl bersonau ynghyd, megis ym Mal. 2.10. Onid vn Tâd sydd i ni oll? onid vn Duw a'n creawdd? I vn person megis yn Esay 9.6. Fo a elwir Crist yn Dad tragywyddoldeb a hynny nid yn vnig am ef fod ef (o ran e'i Dduwdod o dragywyddoldeb, ond hefyd, am fod pawb oll wedi eu gwneuthur yn b [...]' [Page 26]i Dduw yn dragywyddol, ar a wir gyssylltir ag ef, ac a ail-enir trwyddo ef. A thrachefn yr ydys yn rhoddi y titl neu 'r enw Tàd yn fynych ir, person cyntaf o'r Drindod, megis yn y mannau lle yr ydys yn cofio am bob person wrtho ei hun, ac megis yn eu cymha­ru, un â'i gilydd, megis yn y mann hynny, lle y gorchymynnir bedyddio, yn enw 'r Tàd, a'r Máb, a'r Yspryd glân. Ac felly yn y mann hyn, y mae 'r titl Tád, am achos ar­bennig, yn cyttuno â'r person cyntaf. Canys y mae efe yn Dâd i Grist, mal y mae Crist o dragywyddoldeb yn Air iddo, a hynny o wir naturiaeth, am ei fod o'r vn hanfod â'r Tád. Eilwaith, y mae efe yn Dâd i Grist o ran ei ddyndod, nid o naturiaeth neu o fab­wysiad, eithr trwy vndeb personol, am fod y naturiaeth ddynawl yn aros ym mherson y Gair, wedi ei vno ag ef. Ac yn ddiweddaf y mae efe yn Dâd ir holl ffyddloniaid trwy fabwysiad yn-Ghrist. Gal. 4.5.6.

Yr Ail gwestiwn yw hyn, A ydym ni rwy­medig i weddio ar y Mâb a'r Yspryd glan, megis ac ar y Tâd?

Atteb. Fo berthyn ein gweddi i bôb vn o'r tri pherson yn y Drindod, ac nid ir Tàd yn vnig. Act. 7.59. Y mae Stephan yn gweddio, Arglwydd Jesu derbyn fy yspryd. A Duw ei hun(medd Paul, 1 Thes. 3.11.) a'n Tad ni, a'n Harglwydd Jesu Grist, a gyfar­wyddo ein ffordd ni atto chwi. A Grâs ein Harglwydd Jesu Grist, A chariad Duw, a chymdeithas yr yspryd glàn, a fyddo gyd a chwi [Page 27] oll. Amen. 2 Cor. 13.13.

Fe ddichon rhai ddywedyd, mai Patrwn berffaith ein holl weddiau yw 'r weddi hon, ac etto yr ydys ymma yn ein dyscu ni i gy­feirio ein gweddiau tuag at y Tàd, nid at y Mâb neu'r Yspryd glân. Rwy finne 'n atteb, mai tri pherson neulltuol yw 'r Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd glân; ac etto nis gellir nai rhannu, nai gwahanu o ran ei Duwdod, am eu bod i gŷd oll yn trigo ynghyd yn yr vn Duwdod neu naturiaeth dduwiol. Ac heb law hyn, yn eu holl weithrediadau oddi all­an, megis ynghreadigaeth a cheidwadigaeth y Bŷd, a iechydwriaeth yr etholedigion; yn hyn nis rhennir, ac nis neullteuir mohonynt; am eu bod i gŷd oll yn cydweithio; yn v­nig yr ydys yn gwneuthur gwahaniaeth rhyng­thynt yn y módd y maent hwy yn gweithio. weithian gan nas neulltuir hwynt mewn natu­riaeth na gweithrediad, ni ddylid mewn vn modd moi gwahanu mewn addoliad.

Ac er ein bod ni yma yn cyfeirio yn bennaf ein gweddiau tuag at y Tâd, oblegit mai efe yw y person cyntaf mewn trefn yn y Drin­dod; etto yn hyn, yr ydym ni yn cydio gydag ef y Mâb a'r Yspryd glân: canys yr yni 'n galw ar y Tâd, yn enw 'r Mâb, trwy help yr Yspryd glân. Ac at ba Berson bynnag y cyfeiriom ni y weddi, rhaid i ni yn wastadol gofio, mewn meddwl, ewyllys, a chalon, gyssylltu y personau eraill â hwnnw.

Y Defnyddiau a ganlyn.

1. Yn gyntaf, Ile 'r ydys yn erchi i ni ddy­fod [Page 28]at Dduw megis at Dâd, a hynny yn enw ei fâb ein Achubwr Crist, yr ym ni yn dyscu gosod ar lawr y sail gyntaf o'n holl weddiau, yr hyn ydyw dal, a chadw vndeb, a neulltu­oldeb y tri pherson yn y Drindod, sef vndeb o ran y Duwdod, a neulltuoldeb o ran y per­sonau yn y Duwdod. Gan mai hyn yw sail gyntaf gweddi, anghenrheidiol yw i bôb vn a fynne weddio yn gymmwys, gaffael ohono efe hyn o wbodaeth ynghylch y Drindod, fel trwy hynny y gallo efe gyfeirio ei ffydd yn vnion i wir-gredu hyn am y Drindod, ac i wybod pa wedd y mae y tri pherson yn cyt­tuno, a pha wedd y gwahenir rhyngthynt, a pha beth yw ei trefn hwynt; sef fod y Tàd y person cyntaf, y Màb yr ail, a'r yspryd glan y trydydd; Ac oherwydd hynny y dy­lit galw ar y Tâd, yn enw 'r Mâb, trwy 'r, Yspryd glân. Y mae 'n eglur wrth hyn, mai cer iawn a gwael yw gweddiau y bobl anwybodus truain, y rhai nid ydynt gym­maint ac vnwaith yn breuddwydio am vn­deb, gwahaniaeth, a threfn personau 'r Drin­dod.

2. Eilwaith, Ni allwn wrth hyn ddyscu, ras dylen ni mewn vn modd weddio a galw ar Seintie ac Angelion, ond ar y gwir Jehofa yn vnig. Mal hyn y mae pwys y rheswm yn sefyll: Naill a'i y mae 'r weddi hon yn ba­trwn berffaith i bôb gweddi, neu nid yw hi: os dywedir nad yw hi, fe wneid drwy hynny sawr gam â'n Hachubwr Crist, megis ac pe nis medrei roddi Patrwn perffaith i'n gwedd­iau, [Page 29]neu nis mynnei: Ac os dywedir ei bod hi, hynny yw cyffessir hefyd, fod y Weddi hon yn gosod i lawr yn gyflawn, ar bwy y dylit gweddio. Yn awr yngeiriau y weddi hon, ni chyfarwyddir mohonon ni, i alw ar neb mewn gweddi ond ar Dduw yn vnig; Canys peth priodol ydyw ir goruchaf yn vnig, i gael ei alw mewn gweddi, Ein Tad. Esay. 63 16. Canys Ti yw ein Tad ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na 'n cydnebydd Israel; Ti Arglwydd yw ein Tad ni, ein gwaredydd. Gwelwn wrth hyn, mor ynfyd yw 'r Papisti­aid, gan eu bod yn dal cyfreithlondeb gwe­ddio ar y seintie. Canys y maent hwy yn gyntaf yn gweddio ar Fair, gan ddeisyf arni hi we­ddio ar Grist drostynt: A chwedi iddynt wneuthur hynny, mal Hudolwyr neu Juglers nhwy a ddônt at Grist, ac a weddiant arno yntef, ar iddo dderbyn gweddi Fair trostyn hwy.

3. Yn drydydd, yr ydyn ni 'n dyscu ymma, nas gall fod vn Eiriolwr (neu ganolwr i ddei­syf ac i haeddu fafor oddiwrth Dduw) rhwng Duw a nyni ond Crist yn vnig. Canys yr ys ymma yn ein dyscu i ddyfod at Dduw, nid megis at Farnwr, ond megis at Dád hawddgar caredic: yn awr y mae efe yn Dâd i ni yn v­nig trwy Grist, Gal. 4.5.6. Jo. 1.12. Ni ddichon yr Angylion, a'r Seintie, a'r holl greaduriaid e­raill, mewn vn môdd yn y bŷd, ennill Duw ifôd yn Dad gymmaint ac i vn dŷn; canys n ddichon Angelion, y rhai sydd heb natur dyn ganddynt, roddi iawn i Dduw am be­chod [Page 30]dyn. A pha fodd y gall y seintie yn y nef haeddu tros eraill gan na haeddasant hwy erioed ffafor Duw iddynt eu hunain: Ac ni ddichon y Sainctie ammherphaith ar y ddaiar roddi iawn am bechodau eu brodyr, (gan nad allant hwy roddi iawn am eu pe­chodau eu hun) ac felly ennill ffafor Duw cyn belled, a'i ddwyn ef i fod yn Dad i ddy­nion, Luc. 17.10.

4. A thrachefn, os yw y Duw ar ba vn yr ydym ni yn gweddio yn Dâd, rhaid i ni ddyscu ymgennefino ein hunain a'r addewi­dion a wnaeth efe yn ei Air, i fywhau ein calonnau wrth alw arno, a thrwy hynny i gasclu siccrwydd i ni 'n hunain y canniattáa efe ein dymuniadau ni. Canys y mae 'r gair hwn (Tad) yn arwyddoccau, fod parod­rwydd mawr yn Nuw i wrando 'n gweddiau, ac i drugarhau wrthym. A diau yw y gw­neiff pôb Tàd o'i fawr garedigrwydd ryw a­ddewidion o nawdd a thrugaredd iw blant: ac oherwydd hynny nis gall neb yn dda we­ddio ar Dduw (gan ei alw ef yn Dád) ar y sydd heb hyn o siccrwydd yn ei galon, sef y cwbl­ha Duw ei holl addewidion ag ef. Rhaid yw e­drych gan hyny ar ac adnabod yn dda yr adde­widion a wnaethpwyd i weddi, megis y rhain sydd yn canlyn a'i cyffelyb, 2 Cron. 7.14. Os fy mhobl y rhai y gelwir fy enw arnynt, a mostyn­gant, ac a weddiant, ac a geisiant fy wyneb, ac a droant o'i ffyrdd ddrygionus: yna y gwran­dawaf o'r nefoedd, ac y maddeuaf iddynt eu pechodau. Esay 65, 24. A bydd cyn galw oonynt, i mi atteb, ac a hwy etto yn llefaru, [Page 31] mi a wrandawaf. Mat. 7.7. Gofynnwch a rhoddir i chwi: ceisiwch a chwi a gewch: curwch ac fe agorir i chwi.

5. Os Tád yw Duw, ar yr hwn yr ydys yn galw, yna arwydd da o fabwysiad (neu o fod yn blentyn i Dduw) yw gweddi, Gal. 4.6. Mae 'n ddilys, mai plentyn i Dduw, yw 'r nêb sy'n gweddio ac yn galw arno ef; sef a'i holl galon, a honno yn ddrylliog am bechod, yn gwir gassau ac yn ymwrthod a phechod, ac yn credu yn Nuw, y gwrendi efe arno, ac y canniattàa efe iddo y pethau y mae fo 'n gei­sio yn ôl ei ewyllys ef, trwy gyfryngdod, ac er mwyn haeddedigaethau ei anwyl Fâb Jesu Grist. Dymma 'r fath weddi sydd gymmerad­wy gydâ Duw, fel y galler gweled wrth y scrythurau hyn, Jer. 29.13. ceisiwch fi, ac chwi a'm cewch, pan i'm ceisioch a'ch holl ga­lon. Psal. 51.17. Aberthau Duw ydynt yspryd drylliedic: calon ddryllioc gystuddiedic ô Dduw, ni ddirmygi. Psal. 66.18. pe edry­chaswn ar anwiredd yn fy nghalon (hynny yw, gan ymhyfrydu ynddo ac heb fod a chasineb atto) ni wrandawsei 'r Arglwydd ar fy ngweddi. A hyn yw 'r hyfder sydd gennym tuac atto ef, ei fod ef yn ein gwrando ni, os gofynnwn dim yn ol ei ewyllys ef. 1 Joan. 5.14. Beth bynnag oll a geisioch wrth weddio, credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi. Marc. 11.24. Offeiriadaeth sanctaidd yw pobl Dduw, i offrymmu aberthau ysprydol, (a gwe­ddi yw vn o'r aberthau hynny Psal. 147.2.) cymmeradwy gan Dduw trwy Jesu Grist, sef [Page 32]trwy gyfryngdod a haeddedigaethau Iesu Grist. 1 Pet, 2.5.

Y mae S. Luc, a S. Paul yn gosod allan ffy­ddlon wasanaethwyr Duw trwy y nôd hyn sef Gweddi. Act. 9.14. Y mae ganddo ymma awdurdod i rwymo pawb sy'n galw ar dy enw di. 1 Cor. 1.2. At y rhai a sancteidd wyd yn Grist Jesu, a alwyd yn sainct, gŷd â phawb ac sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist, ym mbôb man.

Ac yr ydys yng-wrthwyneb i hynny, yn Psal. 14.1.4, Yn bwrw, mai vn o gynheddfau Atheist, (sef dyn nad yw n credu fôd Duw) yw bod bob amser heb alw ar enw'r Argl­wydd. A'r rhai nis mynnant, neu nis me­drant, weddio ar Dduw o'u calonnau, er y gallant hwy ddywedyd a'u tafodau eu bod yn credu fod Duw; etto er hyn i gŷd, yn ei gweithredoedd, a thrwy eu esceulusdra i alw ar ei enw ef, y maent yn ymddŵyn eu hunain fel pe ni bae vn Duw, ac felly y maent yn ei wadu ef. Tit. 1.16.

6. Rheidiol yw ir nêb a fynne weddio yn deilwng, wneuthyd fel y gwnaeth y mâb a­fradlon, sef, nid yn vnig cyffessu ei bechodau gydá thristwch calon, gan ddywedyd, Fy Nhâd pechais yn erbyn y nêf, ac o'th flaen di­the, eithr hefyd gwir bwrpassu yn ei galon, nas digio mo'i Dâd nefol mwy, trwy bechu yn ei erbyn ef megis o'r blaen. Canys pa wedd a geill plentyn alw hwnnw yn Dâd, yr hwn nid ofna ei ddigio yn wastadol trwy ei goeg arfe­rion [Page 33]a'i ddrwg gynheddfau? Nis geill mewn vn modd; ie ac ni ddichon vn Tàd gaffael dim diddanwch na llawenydd yn y fath blentyn a hwnnw: Am hynny, rhaid i ni wrth weddio gofio ein drygioni, a'n cyndynrwydd yn erbyn ein Tád nefol, ac mewn tristwch calon ac e­naid ddywedyd gyd a'r Publican, O Dduw bydd drugarog wrthif bechadur, a chydâ 'r mâb afradlon fod yn ewyllysgar, megis vn o weision cyflog ein Tâd o'r nef, iw wasanaethu ef, mewn cyfiawnder a sancteiddrwydd holl ddyddiau ein bywyd o hynny allan, trwy ffydd yn Iesu Ghrist ein Prynwr, ai gym­morth ef, heb yr hwn nis gallwn ni wneuthur dim ac sydd dda, Luc. 15.19. Luc. 1.74.75. Jo. 15.5.

A'r neb a fettro wneuthur hyn yn iawn (sef, a'i holl galon) yw anwylyd ei dâd nefol. Psal. 103.13. Joan. 1.12.1 Joan. 3.9.10.

Os dwys ystyriwn ni pa beth ydym ni wrth naturiaeth ac ohonom ein hunain, ni allwn wybod hyn, mai plant ydym i ddiafol, canys yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae, 1 Joan. 3.8. Nid oes vn plèntyn mor de­byg iw Dâd, ac yr ydym ni ir cythrael cyn ein hail-eni, neu 'n troi o stâd o bechod i stad o sancteiddrwydd.

Ac yn y cyflwr ymma yr yni'n wastadol yn gwrthryfelu yn erbyn Duw; Canys y mae'r cythrel trwy 'r amser hynny yn meddiannu yr holl galon, megis gŵr crŷf arfogyn e [...] neu­add, [Page 34] Luc. 11.2. Ephe. 2.2. a'n holl ddi­ddanwch ni yw ei wasanaethu a'i fodloni ef, er nad yni 'n meddwl mo hynny, pan fom yn llawenhâu mewn ffyrdd o bechod, sef, ein bôd y prŷd hynny yn gwasanaethu ac yn bodloni'r cy­threl. Y neb a fo ar fedr gweddio, rhaid i­ddo feddwl, ac ym-ofidio ynddo ei hun am hyn. Gwyn eu bŷd, a dedwydd iawn yw'r rhai y rhoddir grâs iddynt i adnabod y cyflwr drwg hwn y maent ynddo trwy naturiaeth, ac a fo â chalonau tawddedig, parod i dywallt yn alarus ddagreu heilltion oblegit hynny, ac i ddeisyf grâs i ddyfod allan ohono; gwyn eu bŷd y rhai sy'n galaru (medd Crist) canys hwy a ddiddenir: a gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir, Mat 5.4.6. Hyn sydd ddilys nad yw ddigon gyffessu oho­nom ni ein pechodau yn erbyn ein trugaroccaf Dâd; eithr y mae'n rhaid i ni fwriadu hefyd, nas digiom ddim ohono mwyach trwy bechu yn ei erbyn ef, ac ymroi i wella ein bu­chedd, os mynnwn ni i Dduw wrando ein gwe­ddiau ni; Cânys y nêb a addefo ei bechodau, ac a'i gadamo, a gaiff drugaredd, Dihar. 28.13.

Da yw dal sulw ar y pwngc hwn, yn enwe­dic yn yr amseroedd hyn. Canys y mae lla­wer, pan ddêl na chroes na chlefyd arnynt, nhwy a weddiant, ac a addawant edifeirwch, a phob vfydd-dod i air Duw, o gwêl Duw fod yn dda eu gwaredu nhwy oddiwrth hynny: end gen mwyaf y maent yn gwneuthur hyn [Page 35]mewn lliw gan rhagrithio â Duw a dynion: canys er cynted yr ymadwo clefyd â nhw, megis cî wedi bôd mewn afon, hwy yscydwant eu clu­stiau, ac a redant yn vnion at eu pechodau, ac a ddilynant yn awyddus eu holl hên arferion drygionus. Ai galw Duw yn Dâd yw hyn? Nagê nis ceiff y rhai a wnêl felly ddim o Dduw yn Dâd iddynt: ond efe a'i ceiff ef yn Dâd iddo, sef, yr hwn y fo a chalon drist gan­ddo, a'i enaid megis yn llawn archollion am ei hên bechodau, yn deisyf trugaredd Duw trwy Iesu Ghrist i iachâu ef, ac a wir bwrpasso o lwyr-frŷd calon, nas gwnêl ddim mwyach, trwy wybod ac yn ewyllysgar, ar a ddigio y Duw goruchaf.

7. Ac yn ddiweddaf, rhaid i ni yma ddal sulw y dyle'r nêb a fynne weddio yn iawn, fod wedi ei gynnysgaeddu ag yspryd mabwysiad: gweithrediadau pa vn mewn gweddi ydynt o ddau ryw. I. Y weithred gyntaf yw cynnhyr­fu'r galon i grio a galw ar Dduw megis ar Dâd. Nid peth hawdd yw gweddio yn iawn. y mae cyn hawsed i ddyn ohono ei hun weddio'n gym­mwys, ac y mae iddo symmud yr holl ddaiar ag vn o'i ddwylo. Pa fodd gan hynny y ga­llwn ni ddyfod i weddio yn iawn? yr atteb yw drwy gymmorth yr yspryd glân, Rhuf. 8.15.26. Derbyniasom yspryd mabwysiad, to wy'r hwn yr ydym yn llefain Abba Dad.

Y mae 'r Yspryd yn cynnorthwyo ein gwen­did ni: canys ni wyddom ni beth a weddiom, megis y dylem, eithr y mae'r yspryd ei hun (sef [Page 36] Yspryd grâs a gweddiau Zech 12.10) yn erfyn trosom ni, ag ocheneidiau annhraethadwy.

Gwelwn wrth hyn, fod yn rhaid ir neb y fynne weddio'n iawn, gael Yspryd Duw yn Athro iddo, iw ddyscu ef i weddio trwy duchain ac ochain y galon: oblegit nid y geiriau sy'n gwneuthur y weddi, ond ocheneidian a deisy fiadau'r galon; fe orchymmynnir i bobl wrth weddio dywalltu ei calon ger bron Duw, Psal. 62.8. Nid yw dyn yn gweddio am fwy nag y mae yn ddymu­no yn ei galon; a'r neb nid yw 'n deisyf dim o'i galon, nid yw yn gweddio, ond gwario neu o­fer dreulio y mae ef ei eirieu, sef ei wefus la­fur. 2. Ail weithred yr Yspryd yw, peri i ni wybod yn ein cydwybodau, ein bôd ni mewn cyflwr o râs, wedi 'n ymheddychu â Duw. Rhuf. 8.16. Y mae Yspryd (mabwysiad) yn cyd-tystiolaethu a'n hyspryd ni, ein bôd ni yn blant i Dduw,

Rhaid yw bod hyn o hyspyssrwydd ynom, trwy waith yr yspryd glân, pan arferom ni weddio a galw ar Dduw: canys o bydd ar neb eisieu hyn o siccrwydd, neu os bydd efe diofal a chwedi ymsythu yn ei bechodau, ni chais hwnnw mo'r Arglwydd; ac os cyffyrddir â'i gydwybod oi blegit hwynt (cyn belled a bod iddo amheuo am drugaredd Duw) ni faidd hwnnw er ei fywyd alw Duw yn dad iddo.

Y mae hyn hefyd yngwrthwynebu opiniwn a' meddwl eglwys Rhufain, yr hon sydd yn dyscu, y dyle ddyn ammeu ei fabwysiad.

[Page 37]Gwir yw, y dyle ddyn fod yn siccr o hyn, nad yw efe blentyn i Dduw, tra fo e'n byw yn ei bechod a'i annuwioldeb, heb sanctei­ddrwydd buchedd, ffydd fywiol yn Grist, a gwir edifeirwch am ei bechodau: ac os bydd dim yn tystiolaethu yn ei enaid ef, ei fod ef yn blentyn i Dduw; tra fo ef yn y cyflwr hwn, gwybydded mai ei galon ddrwg ei hun a'r cy­threl sydd yn ei dwyllo ef; canys nid oes he­ddwch, medd yr Arglwydd, ir rhai annuwiol, Esay, 48.22. A'r hwn sy'n gwneuthur pe­chod, o ddiafol y mae: Ac yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a phlant diafol: pòb vn ac sy heb wneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, na'r hwn nid yw yn caru ei frawd, 1 Joan. 3.8.10. Ac y mae 'r Arglwydd yn bygwth y dyn annuwiol, a ymfendithio ei hunan yn ei ga­lon ei hun, gan ddywedyd (wrth ei enaid) he­ddwch fydd i mi, er i mi rodio ynghyndyn­rwydd fy-nghalon, i chwanegu meddwded at syched; ni fyn yr Arglwydd faddeu iddo, canys yna y myga digllonedd yr Arglwydd, a'i eiddi­gedd yn erbyn y gwr hwnnw, a'r holl felldithion sydd scrifennedic yn y llyfr hwn (sef llyfr y scrythur) a orwedd arno ef, a'r Arglwydd a ddelea ei enw ef oddi tan y nefoedd. Deut. 29.18.19.20.

Ond y mae yspryd Duw, fel y dwetpwyd o'r blaen yn cyd-tystiolaethu gyd ag yspryd y rhai edifeiriol sanctaidd, (vnion eu casonnan, ac sydd trwy ffydd yn disgwyl am iechydwria­eth trwy Crist yn vnig,) eu bod hwy yn blant i [Page 38]Dduw. Rhuf. 8.16. Canys am y fath bo­bl a hynny y mae'r Apostol yn llefaru yn y bennod honno.

Ac lle mae Eglwys Rhufain yn dyscu ir cyfr­yw rai ammeu eu mabwysiad, y mae hi yn hyn­ny mewn amryfusedd. Canys pa wedd a geill dyn mewn gwirionedd alw Duw yn Dâd, pan yw yn ammeu ei fod yn blentyn i Dduw. Tost­urus yw gweddi yr hwn a alwo Duw yn Dad, ac a amheuo ei fod ef yn Dâd iddo. Gwir yw y cyfyd yn fynych ammheuon yn y rhai mwy­af grassol, eithr fe ddyle y cyfryw rai ymrys­son yn eu herbyn, a gochelyd rhoddi llei­ddynt, sef, tra fônt yn rhodio gyd â Duw mewn cyfiawnder a sancteiddrwydd. Ond medd y Papistiaid, bod yn hyderus ac yn siccr o drugaredd Duw sydd ymchwydd, a rhyfyg mawr:

Rwy'n atteb, (os rhyfyg ac ymchwydd yw) mai rhyfyg ac ymchwydd Sanctaidd ydyw, oherwydd orchymmyn O Dduw iw bobl ei alw ef yn Dâd.

Ystyr a meddwl y geiriau Ein Tâd.

Fe elwir Duw yn Dâd, oblegit ei fod ef yn Dâd i Grist trwy naturiaeth; ac ynddo fe yn Dâd i bob credadyn, ie ir holl E­glwys.

Ac yma fe ellir gofyn, A allwn ni mewn gweddi ddywedyd, fy Nhâd, yn [...]ystal ac, Ein Tâd.

[Page 39]A'r atteb yw, y dichon Cristion, mewn gweddi ddirgel ac wrtho ei hun, ddywedyd Fy Nhâd. Hyn a wrentir trwy Ecsampl ein Achubwr Crist, Mat, 26.39. a 27.46. Fy Nhâd, os yw bossibl, aed y cwppan hwn heibio oddi wrthif. Fy Nuw, fy Nuw, paham i'm gadewaist? Nid yw Meddwl Crist i'n rhwy­mo ni ir geirieu hyn, ond i'n dyscu ni, nas dylen ni with weddio ofalu yn unig amda­nom ein hunain, ac ystyried ein trueni ein hu­nain, eithr hefyd gofalu am, ac ystyried trueni ein câdfrodyr: Ac am hynny, pan gweddi­om ni trostynt hwy, yn ein gweddiau dirgel, mal trosom ein hunain, yr ym ni 'n cyflawni gwir feddwl y geirrau hyn.

Y Defnyddion neu 'r Arferion.

PAN. Weddiom ni gan hynny, nis dylem ni ofyn yn vnig trosom ein hunain, ac er ein lleshaad ein hunain, eithr tros eraill hefyd, megis tros Eglwys Dduw, gan berswadio ein hunain, ein bòd ninne yn gyfrannogion yn yr vn mâdd o'u gweddie nhwythe. Ac er mwyn egluro 'r matter hyn yn well, gadewch i ni chwilio allan dros ba rai y dylem ni we­ddio. Ir diben hyn ystyriwn fod dau fath ar ddynion: rhai yn fyw, rhai yn feirw. O'r ddau fath hyn, tros y byw ac nid tros y [Page 40]meirw y dylem ni weddio. Canys ar ol marwo­laeth y mae y pechadur anedifeiriol megis Di­fes a Judas yn dioddef yn vffern boennau tra­gwyddol. A Chan fôd rhwng nêf ac vffern ga­gendor fawr, fel na allo rhai drammwy o'r vn lle ir llall; ac na fyn Duw roddi cymmaint a dafn o ddwfr ar ben bŷs vn, i oeri tafod y sawl y boenir yn y fflam vffernol; A chan fod Duw hefyd yn anghyfnewdiol yn y farn y mae 'n, roddi ar awr Angeu, i ba bwrpas y gweddiwn ni tros y rhai sy 'n vffern? Lle y syrthio y pren yno y saif. Os i Vffern y Syrthiwn, yno yr arhoswn. Ofer fydd y gwaith o weddio tros y cyfryw. Luc. 16.22.23. &c. Joan. 17.12. Act. 1.25. Jac. 1.17. Heb. 9.27. Preg. 11.3.

A phan bo marw dyn grassol, fe geiff orph­wys megis Lazarus gydâ Duw yn ei Deyrnas, fel yr oedd Crist yn addaw (Luc. 23.43.) ir lleidr edifeiriol ar y groes, gan ddywedyd, He­ddyw y byddi gyda mi ym mharadwys, hynny yw yn y nef, canys yr un yw'r nef a pharadwys, 2 Cor. 2.4. Ac yr oedd Paul yn dywedyd (amdano ei hunan, a'r rhai grassol, at y rhai yr oedd efe yn scrifennu, 2 Cor. 5.1.) ni a wyddom, os ein daiarol aŷ o'r babell hon a dattodir, (hynny yw os marw wnawn ni, a myned allan o'r babell neu 'r corph hwn) fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd. A'r neb sydd yn y nê, y maent hwy wedi eu perffeithio, Heb. 12.23. Yn meddiannu perffaith rhyddhaad oddwrth pób drwg, perffaith râs, perffaith or­phwysfa, [Page 41]perffaith ogoniant, a pherffaith lawe­nydd; Am hynny medd yr yspryd glân, Gwyn eu byd y meirw y rhai sy yn marw yn yr Arglwydd, fel y gorphwysont oddiwrth eu lla­fur, a'u gweithredoedd sy yn eu canlyn hwynt, Dat. 14.13.

I ba bwrpas gan hynny y gweddiwn ni tros y rhai, nad rhaid iddynt wrth ein gweddiau?

Os cyfaddefir nad ydyw i bwrpas yn y bŷd, weddio tros y rhai sy yn y nêf neu vffern, ond y dichon gweddi'r byw wneuthur llesaad ir sawl sy yn y pur-dan, tuagat eu rhyddhâu nhw o'r poenau hynny, Rwy'n atteb, nad yw Gair Duw yn son dim am y cyfryw le a'r pur-dan. A Barnwn ynom ein hunain yn­ghylch yr Athrawiaeth o ryddhaad dyn marw allan o boenau purdan, (trwy offrymmau, gweddiau, ac offerennau 'r byw trosto,) onid yw hi yn cefnogi, ac yn caledu dyn i fynd ym mlaen yn ei ffyrdd ddrygionus, heb edifar­hau amdanynt? Canys efe a ddichon ddywe­dyd yn ei galon fel hyn: er i mi chwanegu me­ddwdod at syched, a chymmeryd fy mhles­ser fel y mynwyf, a hynny cyhyd o amser ac y byddwyf yn y bŷd; etto os i boenau y pur­dan yr â fi ar ôl marwolaeth, y mae gobaith i ddyfod allan rhyw brŷd ohonynt, trwy we­ddiau, offrymmau, ac offerennau ffrins ar y ddaiar troswyf, ac am hynny, mi allaf fynd ym mlaen yn fy mhechodau. A chan fôl tue­ddiad yn yr Athrawiaeth hon, i gefnogi ac i ga­ledu dynion mewn drygioni, y mae 'n ydilys ac [Page 42]yn siccr, mai o vffern ac nid o'r nef y daeth hi.

Gweddiwn gan hynny tros bobl tra fônt byw, ni thal dim gwedio trostynt ar ôl marwolaeth. Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig ir rhai sy o deulu'r ffydd, lle y gallwn ddal sulw, fod am­ser, (fef, yn ôl marwolaeth) pan nas gallwn wneuthur daioni neu lesaad i eraill. Gal. 6.10.

Yn awr fel y gallom weddio tros y byw yn ôl ewyllys Duw, ystyriwn fód o'r rhai byw, rai yn elynion, a rhai yn ffrins a chymdeithion i ni.

A'n ffrins yw y rhai sydd o'r un grefydd, ac o'r un feddwl a thueddiad a ninne: Ein ge­lynion ydynt naill a'i gelynion neilltuol i ni ein hunain, neu ynte gelynion cyffredinol, megis gorthrymwyr a bradychwyr ein gwlâd, neu elynion ein crefydd, megis Iddewon, Twrciaid, Papistiaid, Atheistiaid, a Phaga­niaid. Weithian, Y Cwestiwn yw, pa wedd a dyle ddyn ymddŵyn ei hun yn ei weddi tua­g at y rhain î gŷd? A'r Atteb yw, Rhaid i­ddo weddio trostynt hwy i gŷd ôll: Cer­wch eich gelynion, medd Crist, gweddiwch tros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a'ch erli­diant, Mat. 5.44. Ac er nad ym yn dar­llain fod Brenhinoedd yn Gristianogion, eithr yn ddigrêd yn amser Paul, etto, yr oedd efe yn cynghori ym mlaen pôb peth, fod ymbilian, gweddian, deisyfiadau a thalu diolch dros bôb dyn: dros Frenhinoedd, a phawb mewn [Page 43] goruchafiaeth, fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol, mewn pob duwioldeb ac ho­nestrwydd. Canys hyn sydd dda a chymmerad­wy ger bron Duw ein Ceidwad, yr hwn sydd yn ewyllysio bod pob dŷn yn gadwedig, a'i dy­fod i wybodaeth y gwirionedd, 1. Tim 2.1. &c. Ac fe orchmynwyd ir Iddewon weddio tros Fabilon, lle yr oeddent mewn caethiwed. Jer. 29.7. Ceisiwch heddwch y ddinas, yr hon i'ch caeth gludais iddi, a gweddiwch ar yr Arg­lwydd drosti hi.

Cwestiwn. Ond pa wedd, ac ar ba ddull y mae i ni weddio tros ein gelynion? Atteb, Ni ddylem weddio am r'as iw heneidian, am fa­ddenant o'n pechodau, am iechydwriaeth dragwyddol iw personau, ac am fendith ar bob peth da a gymmeront yn llaw. Yr oedd Crist ar y groes yn gweddio fel hyn tros ei elynion; O Dad, maddeu iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wnenthur. Luc. 23.34. Ac ebe Stephan pan yr oedd ei elynion yn ei labyddio fe, Arglwydd na ddòd y pechod hyn yn eu herbyn. Act. 7.60. Gwir yw y gallwn ni weddio yn erbyn pecho­dau, drwg gynghorion, a drwg amcanion ein gelynion, ond nid yn erbyn eu personau nhw. Fel hyn y gweddiodd Dafydd yn er­byn Ahitophel, O Arglwydd, tro Attolwg gyngor Ahitophel yn ffolineb, 2. Sam. 15.31. Ac fel hyn y gweddiodd yr Apostolion yn erbyn eu herlidwyr. Ac yn awr, Arg­lwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a chaniad­hâ [Page 44] hâ i'th weision draethu dy air di gydâ phob hyfder. Act. 4.29.

Cwestiwn. Y mae Dafydd yn rhegu eu elynion, ac yn gweddio am gael eu llwyr ddifetha nhw, megis Psal. 59. ac 109, &c. Y mae Paul yn gwneuthur y cyffelyb, Gal. 5.12.2 Tim. 4.14. A Phedr, 8. Act. 8.20. er ei fod gwedi hynny yn llaesu ei regfa: Eithr dangoswch i mi pa fodd y gallent hwy wneuthur hyn?

Atteb. 1. Yn gyntaf, fe roddwyd iddynt hwy Yspryd Duw mewn mesur tra helaeth ac anghyffredinol, a thrwy ei gymmorth ef, yr oeddynt hwy'n abl i wneuthur gwahaniaeth rhwng dynion a'i gilydd, ac i farnu yn ddilys, fod drygioni a malis eu ge­lynion (yr oeddynt hwy yn eu rhegu) yn ddi-obaith o wellhâd, ac nas edifarhaent byth. Y cyffelib weddiau a wnaeth y prif Eglwys yn erbyn Julian, a ymadawodd â'r ffydd, am eu bod yn ei weled ef yn elyn maleisus heb obaith amdano. 2. Yn ail, yr oeddynt hwy wedi eu cynnyscaeddu â Zêl bûr, ac a serch difalis, a di-chwannog i geisio dial (er eu mwyn eu hun) ac heb fwriadu mwy yn erbyn eu gelynion, nag a wnae er mawl a gogoniant i Dduw. Yn awr da iawn yw i ni (y rhai sydd heb y messur hwnaw o'r yspryd glâ, ac o'r zêl bûr hynny, ana oedd gan Ddafydd, Paul, a Phedr) am­mheuo a thybied yn ddrwg am ein zêl, a'n chwannogrwydd poeth i geisio dialedd ar ein gelynion; oblegit mai hawdd gan ein [Page 45]Anwydau drygionus ni a'n chwantau annu­wiol (megis casineb, cynfigen, a llîd) ymgym­myscu eu hunai â'n zêl ni.

Cwestiwn. Pa wedd y gallwn ni arfer y psalmau, ym-mha rai y mae Dafydd yn ar­fer rhegfeydd yn erbyn ei elynion? Atteb. Rhaid i ni, wrth eu darllain a'u cànu nhw, ddilyn a chymmeryd hyn o rybydd. 1. Yn-gyn­taf, eu harfer nhw yn gyffredinol yn erbyn holl gyndynn elynion Duw a'i Eglwys: oblegit ni allwn fod yn siccr o hyn, fod bob amser, mewn rhyw fann neu gilidd yn y byd hwn rai gelynion gwrthnyssig o'r fath hynny: eithr nis dylem ni mo'i cyfeirio tuagat un dŷn yn neillduol; oblegit ar ddim ac a wyddom ni, fe ddichon Saul erlidiwr yr Eglwys, gael ei droi i fod yn Paul, yn Apostol bendigedig ac yn Dadmaeth ir Eglwys Gal. 1.23.2. Yn ail, Nyni a allwn eu harfer hwy (mal y dywed Awstyn) megis prophwydoliaethau yr Ys­pryd glân, a mynegiad o'r farn ddiweddaf o ddinistr ar bechaduriaid, sy'n gwrthwy­nebu Eglwys a Theyrnas Duw, ac a bar­háant yny cyflwr hynny yn ddiedifeiriol hyd ddiwedd 'eu heinioes. 3. yn drydydd, fe ellir eu harfer nhw yn erbyn ein gelyni­on ysprydol, sef, y Cnawd neu'n Natur ly­gredig, a'r cythrel a'i angylion.

2. Heb law hyn, lle yr ydys yn ein dyscu ni i ddywedyd Ein Tad, y mae hynny yn gwasanaethu i'n dwyn ar gôf, y dylem ni wrth weddio ar Dduw, ddwyn gyd â ni yn ein ca­lonnau [Page 46]wir gariad tuag at ddynion. Gan fod y gwir Gristianogion i gŷd ôll yn gyd-blant i un Tád, hwy a ddylent fod yn garedig bawb tuagat ei gilydd. Canys pa fodd y geill efe alw Duw yn dâd, yr hwn nis cymmer blen­tyn i Dduw yn frawd iddo? Gan hynny, os dygi dy rôdd ir allor, medd Crist, ac yno dy­fod ith gof fod gan dy frawd ddim yn dy er­byn, gâd yno dy rôdd ger bron yr állor, a dôs ymmaith: yn gyntaf cymmoder di a'th frawd, ac yno tyred, ac offrwm dy rodd, Mat. 5.23.24. Ac fel hyn hefyd y mae'r Ar­glwydd yn dywedyd, Esay. 1.15. pan weddi­och lawer ni wrandawaf, a phaham? am fôd eich dwylo yn llawn o waed, hynny yw yr ych chi'n greulon, ac nid oes gennych ddim cariad tuagat ei gilydd. Y mae llawer iawn yn y dyddie hyn yn gweddio 'n wedd­aidd, (sef o ran y matter a'r drefu) eithr ni y­madawanter hynny a derbyn rhoddion i draws-ŵyro barn, nac a thrais, a thywll, ac occreth &c. Dymma'r gerdd gyffredinolaf trwy 'r bŷd, pawb trostynt eu hunain, Duw trosom i gŷd. Mal dymma 'r gofal gen mwy­af, a'r cariad sy rhwng dynion a'i gilydd. Eithr ffiaidd yw gweddiau y cyfryw megis ped aberthit cî yng olwg yr Arglwydd, εsay, 66.3. Dihar 15.8. Pa fôdd gan hynny y gallant hwy alw Duw yn Dâd, y rhai sy heb ddim cariad ynddynt tuagat eu cyd­frodyr?

3. Yn drydydd, yma y gallwn ni ddyscu nad yw Duw yn derbyn wyneb nêb. Oble­git [Page 47]y mae'r weddi hon wedi ei rhoddi i bôb dyn, o ba râdd ac ym-mha gyflwr bynnag y bo. Fe ddichon pôb vn gan hynny, y tlawd yn gystal a'r cyfoethog, yr annyscedig a'r dyscedig, y cyffredin yn gystal a'u llywodrae­thwyr ddywedyd Ein Tad. Nid yw gydâ 'r Arglwydd megis y mae gydâ'r byd hwn; canys ei blant ef yw pawb oll ar a gredant. Y mae i'r gwr tlawd (sef, ac a sydd greda­dyn edifeiriol, Sanctaidd,) gymmaint rhan yn nheyrnas Dduw, ac fo a eill alw Duw yn Dâd yn gystal a Brenin. Fe ddichon gan hyn­ny y rhai gwann yn y ffydd gyssuro eu hu­nain â'r ystyriaeth hyn, o fôd Duw yn Dâd iddynt hwy, yn gystal ac i Abraham, Da­fydd, a Phedr. Ac ni ddyle y rhai sydd we­di eu cynnyscaeddu â mwy messur o ras, ymchwyddo mewn balchder oblegit hynny, ac felly dibrissio 'r gweinion, canys nid yw Duw lai yn Dâd ir gwannaf yn y ffydd nag mae ef ir cryfaf.

‘Yr hwn wyt yn y nefoedd.’

1. Ystyr a medwdl y geiriau. Cwestiwn. Pa wedd y gellir dywedyd fod Duw yn y nefoedd, gan ei fod yn annher­fynedig (sef heb ei derfynu ai amgylchu gan vn lle) ac oherwydd hynny yn bresennol ym mhòb man? wele y nefoedd, a nefoedd y nefoedd nis cynhwysant ef. 1. Bren. 8.27 Atteb. Dywedir fod Duw yn y nefoedd [Page 48]oblegit mai oddi yno yr eglurir i ni ei fow­redd ef, hynny yw ei allu, ei ddoethineb, ei gyfiawnder, a'i drugaredd. Psal. 115.3. Ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wna­eth yr hyn a fynnodd oll. Psal. 2.4. Yr hwn sydd yn presswylio yn y nefoedd a chwardd: yr Arglwydd, a'i gwatwar hwynt. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Esay, 66.1. y nêf yw fy ngorsedd-faingc, a'r ddaiar yw lleithic (neu droed-faingc,) fy nhraed. 2. Yn ail yno, sef yn y nefoedd vcha, yn ôl y bywyd hwn, y dengys Duw yn eglur iawn faintioli, a chyflawnder ei ogoniant iw Ange­lion a'i Sainct.

Y Defnyddion neu'r Arfe­rion.

VVRth hyn yrydym yn gweled ac yn dyscu, mai ofer a ffôl-iawn ydoedd pererindodau eglwys Rufain, pan oedd dynion yn myned o fann i fann, megis i wledydd olei­thr, neu i lecedd pell iawn i addoli Duw. Mae y Duw sydd raid i ni weddio a galw arno, yn y nefoedd. Yn awr gan fôd pob mann ar y ddaiar mor agos a'i gilydd at y nefoedd, aed dynion i'r wlâd neu i'r main a myn­nont, nis dô trwy hynny o'i trafael ddim nessach i'r nefoedd neu at Dduw.

2. Yn ail, y mae hyn yn bwrw i lawr pôb eilun-addoliaeth babyddaidd, megis a­ddoli'r [Page 49]groes, delw'r grôg, llûn y Drindod, &c, y rhai pethau a arferir i ddwyn Duw a Christ ar gôf i ddynion. Fe'n dyscir ni i dder­chafu ein llygaid tua'r nefoedd, am fod Duw yno: a pha wedd y gallwn ni wneuthur hyn, tra fo ein meddyliau wedi gosod, a'n llygaid yn dal sulw, ac yn edrych ar ddelw a wnaeth dwylo dyn trwy ei gelfy­ddyd.

3. Yn drydydd, fe'n rhybuddir ni yma i arfer gweddio yn y modd a'r dull anrhy­deddysaf y galloni, a chydà cymmaint o barch ac a fo possibl, ac i ochelyd meddwl am Dduw mewn môdd ddaiarol. Da iawn y mae Sa­lomon yn ymresymmu, na fydd rŷ bryssur â'th enau, ac na frysied dy galon i draêthu dim ger bron Duw: A phaham? canys Duw sydd yn y nefoedd, a thithe sydd ar y ddaiar; ac am hynny byddedd dy eiriau yn anaml, Preg. 5.2. Rhaid i hyn o anrhydedd a pharch ymddangos mewn sancteiddiwydd ein holl feddyliau a'n serchiadau, ac mown pob ymddygiad-gweddaidd o ran y corph. Ac am hynny fe ddyle dyn mewn gweddi ochelyd pob meddyliau gwibiog a chrwyd­raidd, a phôb oferedd o aml-eiriau. Ond beth yw ein cyflwr ni, y rhai sydd ar am­serau gosodedig yn dyfod i'r cynnulleid­faoedd i weddio? Y mae llawer iawn oher­wydd dallineb ei meddwl yn gweddio heb ddealldwriaeth. Y mae llawer pan ydynt yn bresennol wrth y weddi gyffredin, a'u calonnau er hynny yn myfyrio ynghylch [...]e­thau [Page 50]eraill, sef, ynghylch eu golud a'u gor­chy wylion bydol. Nid yw y rhain yn cael na llawenydd na diddanwch mewn gweddi; ond y mae'r peth yn faich trwm iddynt. Y mae llawer yn dyfod i'r eglwys, yn unig er mwyn defod ac arfer, neu rhag ofn cospediga­eth; y rhai pe rhyddheuid hwy rhag hyn, a gly­went ar eu calonnau fod bŷth heb weddio. Eithr gwybydded y cyfryw rai, mai erchyll neu ofnadwy iawn yw gweddiau o'r fath hyn; canys y mae pobl wrth weddio fel hyn (sef, heb ddealldwriaeth, neu a chalonnau swrth, neu a chalonnau yn gwibio yn ol golud a phles­ser, neu yn unig o ran ffassiwn ac arfer) yn pechu yn fwy, naphed faent yn gwatwor Tad neu Fam, neu yn lladd, ac yn lledratta; am fod y pechod hwn yn vnion yn erbyn Duw, ar lleill i gŷd yn erbyn dynion. Etto ni wnaer ond cyfrif bychan ohono, ac y mae yn aflonyddu llai ar gydwybodau dynion an­wybodus nag y mae pechodau eraill; Canys y mae 'r pechod hwn, am ei fod yn erbyn y llech gyntaf o'r gyfraith, yn anhawsach iw ganfod na phechodau eraill. Etto nyni a ddy­lem gymmeryd hyn (mal y mae yn wir) yn amharch mawr, ac megis gwatwar i faw­redd y goruchaf Dduw. Ac yn awr, oher­wydd bod Duw yn y nefoedd mewn mawr ogoniant, bwriwn ymaith bob gweddi drym­luog neu gysglyd, a phob gweddi farwaidd; a Tharswn, a bwriwn ymaith on gweddi­au, bôb meddwl sy'n gwibio ac yn crwydro yn ôl y bŷd a'i bethau: A Dewn yn weddaidd, [Page 51]a'n calonnau yn llawn Parch ger bron yr Arglwydd mawr gogoneddus, gan wasanae­thu Duw wrth ei fodd, gyda gwŷlder, a pharchedig ofn, Heb. 12.28.

4. Yn bedwerydd, ystyriwn yma, y dyle ein calonnau ni mewn gweddi hedfan i fynu i'r nefoedd, a bod yno yn bresennol ger bron yr Arglwydd, Psal. 25.1. Atat ti ô Arglwydd, y derchafaf fy enaid. Nid yw 'r plentyn hwylysach un amser nâ phan fy­ddo ar arffed ei fam, neu tan adain ei dad: A phlant Duw nid ydynt mewn gwell hywl vn amser, nâ phan y gallant, mewn Ewyllys calon, ddyfod mewn môdd ysprydol, i olwg ei Tad nefol, ac megis ymlusgo trwy weddi iw fonwes ef.

5. Ac yma ni allwn ddyscu ymhellach, i geisio pethau nefol yn bennaf dim; ac i gei­sio pethau daiarol cyn belled, ac a bônt yn gwasanaethu i'n cynnorthwyo ni, i ddyfod i'r erifeddiaeth dragwyddol ac anllygredig, y sydd ynghadw yn y nefoedd i'r rhai a alwyd.

6 Yn ddiweddaf, Gan fod ein Tâd yn y nefoedd, ni allwn ddyscu, nad yw ein bywyd ar y ddaiar ond megis pererindod neu fy­wyd dyn a fo'n trafaelu: ac y dyle ein dy­muniad ni fod, i ddyfod i well gwlad, sef i'r nêf ei hun; ac y dylem ni arfer yn wastadol yr holl foddion, y sydd iw harfer trwy or­dinhad Duw, i gyrraedd yno. Ac i ddi­weddu â'r rhag-ymadrodd, gwybyddwch ei bôd hi'n cynnwys dau beth, i gynnal i fynu ein holl weddiau ni: y cyntaf yw, fod Duw [Page 52]yn holl-alluog, a hyn a arwyddocáer pan y dywedir ei fod ef yn y nefoedd, ac am hynny y mae'n ddigon abl i ganiattau ein deisyfiadau: yr ail yw, fod Duw yn barod, ac yn ewyllysgar i ganiattau dymuniadau ei bobl, a hyn a ddyscir i ni yn yr enw Tâd; ac y mae yn gwasanaethu i ddwyn ar gôf i ni, fod Duw yn derbyn ein gweddiau, a'i fod yn gofalu amdanom yn ein holl drueni a'n diff­ygion, a'i fod ef yn tosturio wrthym (os ŷm vn ei ofni ac yn ei berchi) fel y tosturia Tâd with ei blentyn, Joan, 16.23. Mat. 6.32.33. Psal. 103.13.

Etto nid oes i ni dybied, y rhŷdd Duw i ni yn ddilys pa beth bynnag a ofynnom, yn ôl ein dychymmyga'n meddwl-fryd ein hu­nain: Eithr yn ein gweddiau rhaid i ni edrych ar addewidion Duw, ac yn ôl y rheini gosod i fynu ein dymuniadau o flaen yr Ar­glwydd. Ni allwn ofyn yn hollawl pôb grâs anghenrheidiol i iechydwriaeth: eithr pethau eraill, ond yn enwedig bendithion daiarol, fydd iw gofyn tan ammod, sef, cyn bell­ed ac y bont er gogoniant i Dduw, ac er lleshâad i ninne; oddieithr i Dduw wneuthur addewid hollawl ynghylch rhyw fendith amserol, (yr hyn beth nid yw arfe-redig yn ein dyddiau ni) megis yr addaw­odd efe roddi hiliogaeth i Abraham yn ei he­naint, A'r Deyrnas i Ddafydd ar ôl Saul, ac ymwared i'r Israeliaid, a ryddhaad o gaethi­wed Babylon, yn ôl trugain mlynedd a dêg.

Y mae y Rhag-ymadrodd drachefn yn [Page 53]gwasanaethu, i gynnhyrfu cariad, a Pharch tuag at Dduw, ynghalonnau y rhai a fo ar fedr galw arno. Cariad, oblegit eu bod nhw yn gweddio ar ei Tâd; A Pharch, oblegit ei fod ef yn llawn o fawrhydi yn y nefo­edd.

‘Sancteiddier dy enw.’

1 y cyttundeb.

A Hyn am y Rhag-ymadrodd: weithi­an y mae'r chwech Arch yn canlyn. Y tair gyntaf a berthynant i Dduw, a'r tair eraill i ni ein hunain. Y tair Arch gyntaf a ddosperthir eilwaith i ddwy ran: vn y berthyn i wir ogoniant Duw ei hun: a'r ddwy eraill a berthynant i'r moddior, trwy ba rai yr eglurir, ac yr helaethir gogoniant Duw ym-mhlith dynion. Canys fe ogone­ddir enw Duw yn ein plith ni ar y ddaiar, pan ddêl ei deyrnas, a phan wneler ei e­wyllys ef.

Cwestiwn, Pa=ham y mae 'r Arch hon, Sancteiddier dy enw, wedi ei gosod ar lawr yn gyntaf? Atteb: oblegit fod yn rhaid gosod gogoniant Duw o flaen pôb dim arall; canys ir diben hwn, sef, er mwyn ei ogoniant, y gwnaeth efe yr holl greaduriaid, ac i hyn y perthyn holl gynghorau Duw. Dihar. 16.4. Yr Arglwydd a wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun: a'r annuwiol hefyd erbyn y dydd drwg. Ac oddiwrth drefn y chwech arch y mae a­ddysg oddawg yn tarddu allan, sef; y dyle [Page 54] pob dyn, yn y cwbl a gymmero efe yn llaw, amcann at ogoniant Duw: A'r rheswm o hynny yw hyn; y diben y mae Duw wedi ei ordeinio a'i osod i'n holl weithredoedd, a ddyle ninne osod i ni ein hunain: eithr Duw a ordeiniodd i ddiben ein holl weithredoedd ni, fod yn bennaf dim er ei ogoniant ef: ac oherwydd hynny, fe ddyle ein calonnau ni fwriadu, a cheisio, yn ein holl weithredoedd, ei ogoniant ef o flaen pob peth arall. Ac y myn Duw i ni yn bennaf dim ogoneddu ei enw anrhydeddus ef, fo a ymddengus hynny yn eglur yn hyn, sef, trwy ei fod ef yn cos­pi y rhai sy naill ai o w [...]r gyndynrwydd yn ymosod eu hunain iw ddianrhydeddu ef, neu ynte sy yn esgeuluso sancteiddio ei enw ef pan y dylent wneuthur hynny. We­di i Herod ymwisco eu hunan mewn dillad brenhinol, ac eistedd ar yr orsedd-faingc, efe a areithiawdd neu a lefarodd wrth y bobl, a hwy a roesant floedd gan ddywe­dyd, llèferydd Duw, ac nid dŷn ydyw. Ac allan o law y tarawodd Angel yr Arglwydd ef, am na roesei y gogoneddi Dduw; a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd, Act. 12.22.23. A Moses, am nas sancteiddiodd yr Arglwydd yngŵydd plant yr Israel, a gad­wyd allan o wlâd yr Addewid, ac ni ddaeth yno: etto ni fethodd gantho yn gwbl ei wneu­thur; canys nid o gyndynrwydd ond o wendid y pechodd Moses yn y matter hynny, Num. 20.12. Mal hyn y gallwn weled, trwy gospedigaethau y rhain a'r cyffelyb, a thrwy [Page 55]drefn y chwech arch, mai ein dyledsaydd ni yw gosod allan gogoniant Duw, a gwneuthur cyfri o hynny o flaen pob dim arall.

Holi. A ddyle-mi ofalu yn fwy am os [...]d allan ogoniant Duw nag am fod ein eneidieu yn gadwedig? Atteb. Os fel hyn y mae 'r peth yn sefyll, fod yn rhaid naill a'i am­mherchi enw Duw, a'i damnu ein eneidiau, ni a dylem gyfri gogoniant Duw yn fwy gwerthfawr o lawer na iechydwriaeth ein e­neldiau. Y mae hyn yn eglur yn-nhrefn y chwech arch: yr archau a berthynant i ogo­niant Duw a osodir i lawr yn gyntaf, a'r rhai a berthynant yn enwedig in hiechydwriacth ni ydynt y bummed a'r chweched. Lle y mae i ni ddyscu, y dyle-mi cyn gado i Dduw golli dim o'i ogoniant, ymado á'r enaid ac â phob dim arall, mal y gallo efe gaffael ei o­goniant yn hollawl. Hyn ydoedd ferch Foesen pan ddywedodd wrth Dduw, Naill a'i maddeu iddynt eu pechodau, neu onis gwnei, crafa di fy henw o'tn llyfr. Exod. 32.32.

Yn yr Arch hon, ac yn y lleill hefyd, y mae tri pheth enwedig iw ddal sulw ar­nynt, y cyntaf yw meddwl ac ystyr y geiriau: yr ail yw'r diflygion a'r pechodau y ddylem ni alaru amdanynt: a'r trydydd yw y rhadau neu'r grasussau iw dymuno.

Nid oes ond rhai, ië a'r rhan leiaf yw'r rheini, ar a wyddant ddangos gwir feddwl y geiriau, a arferir yn y weddi hon. Rhai a ddywedant, gan fod Duw yn gweled ac yn gwybod eu meddyliau a'u amcan da, mai [Page 56]digon iddynt hwy ddywedyd y geirieu a me­ddwl yn dda. Ond gan mai gwreiddyn gweddi yw ffydd, ac nad oes ffydd heb wybodaeth, nis geill gweddi fod hefyd heb wybodaeth; Canys pa fòdd y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fòdd y cre­dant yn yr hwn ni chlywsant amdano? a­pha foddy clywant heb Bregethwr? sef, heb Bregethwr i ddyscu iddynt adnabod y gwir Dduw, a'i Fâb Iesu Grist, ac i adnabod eu hunain ac ewyllys Duw, fel y credont, ac y galwont ar ei enw ef yn ôl ei ewyllys, Rhuf. 10.14. Ac oherwydd hynny rhaid i bobl anwybodus ddyscu adnabod ystyr pôb gair yn y weddi hon, y sy batrwn a rheol i'n holl weddiau.

2. Ystyr, a meddwl y gair Enw, a'r gair Sancteiddier.

Y Mae'r gair Enw yn arwyddoccau yma bedwar peth.

1. Yn gyntaf, Duw ei hun. 1. Bren. 5.5. Efe a adailada dŷ i'm henw i, hynny yw i mi y gwir Dduw.

2. Yn ail, Titlau Duw, megis Jehofa, Ar­glywdd, &c, a'i Briodoliaethau ef, megis ei ddoethineb ei allu, ei gyfiawnder, ei drugaredd &c. Fe ddywedir i'r Arglwydd gyhoeddi ei Enw, pan y cyhoeddodd efe ei Ditlau a'i brio­doliaethau bendigedig i Foesen, Ex. 34. 5, 6, 7.

3. Yn drydydd, ei weithredoedd, sef o greadig­aeth (megis y ffurfafen, yr haul, y lleuad, y [Page 57]sêr, y ddaiar, y Môr, &c.) ac o raglunia­eth, pa vn bynnag a'i mewn ffordd o dru­garedd neu farn. Canys megis ac y mae enw dyn yn ei wneuthur ef yn gydnabyddus: felly y mae gweithredoedd Duw yn ei wneuthur yntef yn gydna­byddus. Psal. 19.1. Y ffurfafen sy yn dad­can gogoniant Duw: a'i dragwyddol allu ef, a'i Dduwdod a welir yn amlwg, wrth eu y­styried yn y pethau a wnaed Rhuf. 1.20. Ac­ni adawodd Duw mohonaw ei hun yn ddi­dŷst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o'r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni a lluniaeth, ac â lla­wenydd, Act. 14.17. Adweinir yr Arg­lwydd hefyd, wrthy farn a wna Psal. 9.16.

4. Yn bedwerydd, wrth enw Duw y mae i ni ddeall Gair Duw. Ebe'r Arglwydd am Saul, y mae hwn yn llestr etholedic i mi, i' ddwyn fy enw, (hynny yw i gyhoeddi fy ngair) ger bron cenhedloedd, a brenhinoedd, a phlant Israel, Act. 9.15.

Yr ydym yn adnabod Duw wrth ei briodo­liaethau, a'i weithredoedd, a'i Air, megis ac yr adwaenom ddynion wrth eu h [...]nwau: Ac megis y mae mawl, a holl ogoniant dyn yn sefyll yn ei enw; felly y mae holl ogoniant Duw yn sefyll yn y rhain.

Sancteiddier.

Sancteiddio yw gosod peth o'r neilldu, all­an o'i arfer cyffredinol, i ryw ddiben sanctaidd, dewissol, a da: megis y sanctei­ddiwyd [Page 58]y Deml, sef, y neilltuwyd hi i arfer sanctaidd bendigedig; ac y sancteiddiwyd yr offeiriaid, sef, y neulltuwyd hwy i wasa­naeth Duw. A phawb oll ar a gredant yn Ghrist a sancteiddir, hynny yw, a neullteuir oddiwrth bechod i wasanaethu Duw. Yn yr vn môdd y sancteiddier enw Duw, pan y neullteuir ei ogoneddus enw ef oddiwrth an­gof, dirmyg, annuwioldeb, halogrwydd, ca­bledd, a phôb cam-arfer, ac yr arferir yn lân, yn barchus ac yn anrhydeddus; pa vn byn­nag a'i mewn meddwl, a'i mewn gair, nen mewn vn ffordd arall yr arferom ni ei enw ef. Levit. 10.3.

Cwestiwn. Pa fodd y geill dyn pechadu­rus sancteiddio enw Duw, yr hwn sydd bur a sanctaidd ohono ei hun? Atteb. Nid y­dym ni yn gweddio yma, ar allel ohonom wneuthur enw Duw yn sanctaidd, fel pe ga­llem ni chwanegu dim atto, iw wneuthur ef yn sanctaidd: eithr ar allel ohonom ni fod yn offerynnau i ddangos, a chyhoeddi i'r byd trwy iawn arferiad ei enw ef, sef, fod henw Duw yn sanctaidd, yn buraidd, ac yn ogoneddus: Fe arferir y cyffelyb eiriau Luc. 7.37 Doethineb a gyfiawnhawyd gan hawb o'i phlant, sef, a gydnabyddwyd, ac a ddangoswyd ei bôd yn gyfiawn.

Amcan gan hynny a gwir ystyr yr arch gyntaf yw, y dylem ni ddeisyf yn ddifrif, am allel ohonom ni osod allan ogoniant Duw, pa beth bynnag a ddêl ac a ddig­wyddo [Page 59]i ni. Ac fe ellir eguro'r Arch-hon fel hyn. O Arglwydd agor ein llygaid, fel y gallom dy wir a'th iawn adnabod di, a chyd­nabod mawredd dy allu, a'th ddoethineb, a'th gyfiawnder, a'th drugaredd, y rhai sydd yn ymddangos yn dy Ditlau, dy Eiriau, dy Gre aduriaiad, dy Farnedigaethau, a'th Ddaioni tu­ag atom: a chaniattaa allel ohonom ni; pain arferom yr vn o'r rhai, neu y crybwyllom amdanynt, yn hynny dy foliannu a'th anrhydeddu di, a'i harfer hwy yn barchus i'th ogoniant di.

3. Yr eisiau, a'r Pechodau y ddylem ni yma alaru oi plegid.

PEdwar peth yn enwedig sydd yma, i ni alaru o'i plegid.

1. Y cyntaf, yw balchder ysprydol ein ca­lonnau; pechod mawr, ac nis gwêl ond rhai mono ynddynt eu hunain, nes agoryd o'r Arglwydd en llygaid. Pan demptiwyd ein rhieni cyntaf ym-mharadwys, fe ddywe­dodd y cythrel wrthynt, y caent hwy fod me­gis duwiau. Nid y nhwy yn vnig, cni ninne hefyd a ddyscassom y wers hon: ac yn ein calonnau yr yni 'n tybiaid, ein fod ni megis duwiau bychain, er nad yni yn dan­gos mo hyn i'r bŷd. Y balchedd cuddiedig hwn a ddechreu gasclu nerth, ac a ymdden­gys, pan y bo pechodau eraill yn difflannu, ac yn marw ynom: ac ni allwn ganfod hyn [Page 60]yn dra mynych ynom ein hunain, trwy y meddyliau vchel sy'n cyfodi yn ein calon­nau amdanom ein hunain, ar bôb achosion pan y gwnelom ddim daioni, mal yr ym­ddangosodd yn y Pharisaead, yr hwn oedd wrth weddio, yn tybied yn wŷch yn ei ga­lon amdano ei hun, gan ddywedyd, O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyfi fel y mae dy­nion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwŷr, neu fel y Publican hwn chwaith. Yr wyf yn ymprydio ddwy-waith yn yr wyth­nos, yr wyf yn degymmu cymmaint oll ac a feddaf, Luc. 18.11.12. Ac fel yr oedd y meddyliau vchel hyn amdano ei hunan yn y Pharisaead; felly y maent hwy ynom ninne, nes y rhoddo Duw i ni o'i râs: ie a chwedi cael grâs, ni a allwn (megis Paul) glywed ein calonnau ryw brydie, yn ceisio ymchwyddo ac ymdderchafu ynom, 2 Cor. 12.7. Canys o ceiff dynion fawl a gogoni­ant iddynt eu hunain yn y bŷd hwn, ychy­dig iawn a ofalant hwy am ogoni­ant Duw, ie pe baid megis yn ei sathru tan draed. Ni ddylem gan hynny ddyscu can­fod, ac adnabod y llygredigaeth guddiedig hon, sef, y balchder ysprydol sydd yn ein calonnau, a galaru oblegit hynny; canys y mae hi yn gwenwyno, ac yn rhwystro pôb chwant a dymuniad da ynom, am ogoneddu a moliannu Duw, a sancteiddio ei enw ef, tra fo hi yn arglwyddiaethu ac yn parhau yn ein calonnau ni.

2. Yr ail peth y ddylen ni alaru oiblegid, [Page 61] yw caledrwydd ein calonnau: yr hwn beth sydd yn rhwystro i ni wir adnabod Duw, a chanfod ei ogoniant ef yn ei greaduriaid, fel y bom parod ar hynny i sancteiddio ei enw ef. Marc. 6.52. Ni welei'r discyblion, gan galedrwydd eu calonnau, mo nerth a ga­llu Duw yn y rhyfeddod a wnaethe Crist, drwy borthi llawer o filoedd â'r pump torth, a'r ddau byscodyn, er eu bod nhw yn gwa­sanaethu'r bobl, ac er fod yr ymborth yn amlhau yn eu dwylo nhw. Pa fath waith godidawg a rhyfeddol yw gwaith ein pry­nedigaeth ni trwy Iesu Grist? eithr leied yw nifer y rhai sydd yn ei ystyried a'i brissio? Os gwelwn ddyn wedi cael mwy o gallineb, mwy o olud, a mwy o anrhydedd nag a gow­som ni, yna ni a ryfeddwn wrth hynny, ac a anrhydeddwn hwnnw: Eithr wrth edrych ar weithredoedd a chreaduriaid. Duw, nid ym (trwy ein esgeulusdra) yn gweled dim ynddynt, i ryfeddu ac i anrhydeddu Duw oiblegid; am nad ym yn myned ddim vwch, i gael gweled ac adnabod cariad, gallu, doethineb, a chyfiawnder y Creawdwr yn­ddynt. A dymma achos arall paham y mae enw Duw mor ddibris amdano, ac mor ddibarch ym-mhlith dynion.

3. Y trydydd llygredigaeth iw alaru oi­blegid, yw ein mawr anniolchgarwch; canys yr Arglwydd a wnaeth y nef a'r ddaiar, a'r holl greaduriaid eraill i wasanaethu dŷn, ac etto er hynny, o holl greaduriaid Duw, yr anniolchgar af yw dyn. Rhoddwch dlysau [Page 62]lawer, neu dryssor brenin i ddyn marw; nis bydd efe na charedig wrthych, na diolch­gar i chwi: felly y mae y dynion sy'n feirw yn eu pechodau, yn dangos eu hunain yn anniolchgar i Dduw. Y mae dynion gen mwya fel moch, y sydd yn rhedeg a'u trwynau tua 'r llawr i fwytta mês, ac heb godi mo'i pennau, na derchafu eu llygaid i fynu, i edrych ir pren, o ba le y mae 'r mês yn cwympo. Eithr fe ddyle 'r duwiol megis Dafydd geisio gweled, a bod yn gly­wedigaethus neu deimladwy o'r pechod hwn ynddynt eu hunain, ac attolwg ar Duw agoryd a datgloi eu gwefusau, mal y gallont ymegnio i fod yn ddiolchgar i Dduw am ei holl druga­reddau, ac felly sancteddio ei enw enw ef Psal. 51.15.

4. Y pedwerydd peth iw alaru oiblegyd, yw yr annuwioldeb, a'r diffygion anneirif sydd ynom, a'r pechodau yr yni ac eraill yn eu gw­neuthur yny bŷd: wylei Ddafydd am eibecho­dau ei hun, Psal. 51.8. Ac fe redei Afonydd o ddyfroed o'i lygaid ef, am na chadwei eraill gyfraith Dduw, Psal. 119.136. a'r rheswm paham y dylen ni alaru am annuwioldeb, diffy­gion, a phechodau ein bywyd ein hun ac eraill yw hyn; oherwydd fod y neb sy'n byw mewn pechod yn gwradwyddo ac yn amherchi enw Duw, megis y mae Máb drwg trwy ei ddry­gioni, yn amherchi ac yn dianrhyddedi ei Dâd. Ac etto fe ddywaid rhai nas geid hyn fod, oblegit na ddichon ein pechodau ni w­neuthur dim niwed i Duw. Ond yr atteb [Page 63]yw hyn, sef, er na ddichon ein pechodau ni w­neuthur niwed i hanfod neu sylwedd Duw, etto y maent hwy yn achos o gablu enw Duw ym­mhlith dynion: canys fel yr yni yn ei anrhy­deddu ef trwy ein gweithredoedd da; felly yr yni yn ei ammherchi ef trwy ein gweithredodd drwg. Mat. 5.16. Llywerched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd. Ac y mae Nathan y Prophwyd yn dywedyd, ddarfod i Ddafydd, trwy ei be­chod, beri i elynion yr Arglwydd gablu 2 Sam. 12.14. Ac medd Paul trwy dorri y ddeddf, a ddianrhydeddu di Duw? Rhuf. 2.23.

Galarwn gan hynny od oes arnom esieu
  • 1. Gostyngeiddrwyd calon.
  • 2. Tynerwch calon.
  • 3. Diolchgarwch calon.
  • 4. A Sancteidd­rwydd calon a bywyd.

Canys tra fo 'r rhain yn niffyg, a'r pethau gwrthwyneb iddynt yn aros ynom, ni bydd possibl i ni sancteiddio enw Duw.

Y Grasussau iw dymuno

Y Doniau a'r grasussau iw dymuno, ac y Ddylem ni weddio ar Dduw amda­nynt; tuagat ein cymmhwyso ni i san­cteiddio ei enw bendigedig ef, ydynt dri.

[Page 64]1. Y cyntaf ydyw gwybodaeth o Dduw, fel y gallom ei adnabod ef, megis y datcuddiod efe ei hun yn ei Air, ei weithredoedd, a'i greaduriaid. Canys pa wedd y gogonedda dyn Dduw cyn ei adnabod ef? Nid yw ein gwybodaeth ni yn y bywyd hwn ond amher­ffaith. Exod. 33.23. Nis gallodd Moses weled Duw ond o'r tu ôl iddo. 1. Cor. 13.12. Megis ac y mae dynion yn gweled mewn drŷch, felly y gallwn ninne weled Duw yn ei Air, ei Sacramentau, a'i Greaduriaid. Ac am hynny, mal y mae Paul yn gweddio tros y Colossiaid, ar iddynt gynnyddu mewn gwy­bodaeth am Dduw, felly yr ydys yn ein dyscu ninne yn yr arch hon, i weddio trosom ein hu­nain, ar allel ohonom ni adnabod Duw, a hynny fwy fwy, fel y gallom sancteiddio ei enw ef. Col. 1.10.

2. Yr ail beth, y ddylen ni weddio amda­no, tuagat sancteiddio enw Duw, ydyw, ar i Dduw ennyn a chynneu Zêl neu awydd fryd, a mawr serch yn ein calonnau i ogoneddu ei enw ef; ac ar i ni gael ein hattal a'n cadw rhag ei halogi ai gam arfer ef. Psal. 69.9. Zel dy dŷ am hyffodd. Psal. 45, 1. Traetha fy nghalon beth da, (neu fel y mae yn ymyl y ddalen yn ôl yr Hebrew, y mae fy nghalon yn berwi allan, neu fel y dywaid eraill, yn bwrw i fynn beth da,) dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthym ir Brenin. Y mae Yspryd Duw yma yn benthygio cyffelybiaeth oddiwrth ddynion, mal hyn. Megis y mae 'r neb, a [Page 65]fyddo â pheth yn gorwedd yn drwm ar ei gylla, heb gael dim esmwythdra, nes iddo ei fwrw i fynu: felly y dyle chwant a gofal am ogoneddu enw Duw, orwedd megis baich trwm ar galon dyn: ac nis dyle gymmeryd dim esmwythdra, nes iddo ddilwytho ei hunan, a rhoddi ei faich ar lawr, trwy o­sod allan gwir fawl a gogoniant Duw. Y mae Luther yn dywedyd yn dda, mai (san­cta crapula) sef, glothineb sanctaidd yw hon: ac nid yw ddrwg drymhau, a gorch­fygu ein calonnau yn y môdd hyn yn wa­stadol.

3. Y trydydd peth y ddylen ni geisio tuagat sancteiddio enw Duw, ydyw chwant ac ewyllys, i fòd â buchedd ac ymarweddiad dduwiol ac vnion ger bron Duw a dynion. Ni a welwn, fod y rhai sy mewn galwedigaeth vchel dan wŷr mawr, yn ymegnio i drefnu ac i ymddŵyn ei hunain yn hardd ac yn we­ddus, fel y gallont drwy hynny fodloni ac anrhydeddu eu Meistred a'u Harglwyddi: felly y dyle ninne drefnu ein buchedd yn weddaidd, gan ymegnio i rodio yn ddoeth, ac yn addas ir Arglwydd, i bôb rhyngu bôdd, gan ddwyn ffrwyth ym mhôb gweithred dda, mal y gallom ni drwy hynny ogoneddu ein Tad nefol, Col. 1.10. Jo. 15.8.

‘Deled dy Deyrnas. ’

1. y Cyttundeb.

Y Mae 'r arch yma yn pwyso ar yr hon a aeth o'i blaen hi yn odidawg iawn. Ca­nys y mae wedi gosod ar lawr yn hon y môdd i gyflawni 'r gyntaf. Rhaid yw san­cteiddio enw Duw ym-mhlith dynion: eithr pa wedd y gwneir hynny? a'r atteb yw, trwy gyfodi Teyrnas Dduw yng-halonnau dynion. Nis gallwn ogoneddu Duw, nes iddo deyr­nasu a rheoli yn ein calonnau trwy ei Air a'i Yspryd.

2. Ystyr a meddwl y geiriau.

DY) Y mae 'r gair hwn yn dangos, ac yn dwyn ar gôf 1 ni, fod dwy Deyrnas: vn i Dduw, a honno yw Teyrnas nêf: ac arall i'r cythrel, a honno a elwir teyrnas y tywy­llwch, Col. 1.13. Canys pan bechodd pawb yn Adda, rhoddes Duw hyn o gôsp ar bawb oll, sef, yn gymmaint ac nas byddent hwy fodlon i vfyddhau iw Creawdwr, y caent hwy fod mewn caethiwed tan Satan. Y mae pob vn ohonom trwy naturiaeth yn blant digo­faint; ac y mae 'r cythrel yn dal i fynu teyrnwialen ei deyrnas yng-halonnau dynion; ac oblegit hyn fo'i gelwir ef y tywysog, a'r ys­pryd sydd yr awron yn gweithio ym mhlant anufydd dod, Eph. 2.2. Teyrnas ysprydol yw hon, ac anwybodaeth, amryfusedd, an­nuwioldeb, a phôb anufydd-dod i Dduw y­dynt [Page 67]ei cholofnau hi; ym-mha bethau y mae 'r cythrel yn gorfoleddu yn ddirfawr; ie a'r rhain hefyd yw deddfau ei deyrnas ef. Nis geill dynion anwybodus deillion a­ros yr athrawiaeth hon, sef, fod y cythrel yn rheoli yn eu calonnau nhw: hwy a boerant wrth ei enwi ef, ac a ddywedant, eu bod yn ei wrthod ef a'i holl weithredoedd, o ddyfnder eu calonnau. Eithr gan eu bôd nhw 'n byw mewn pechod, ac yn arfer hynny ar bôb achos, ie'r lleiaf a gassont; er nas mynant wybod eu bod yn gwasanaethu Satan, etto y maent hwy 'n dangos yn eglur, trwy eu hannuwioldeb, a'u drwg eiriau, a'u drwg weithredoedd, a'u drwg ymddygiad, eu bod nhwy 'n byw yn nheyrnas y pechod a'r ty­wyliwch, a'u bod yn gaeth-weision i Satan; ac nhwy a barhaant felly, nes i Grist y gŵr crŷf nerthol ddyfod a'i rwymo, a'i fwrw allan, Luc. 11.22. A thymma gyflwr holl blant Adda trwy naturiaeth. Ac oherwydd hynny, y mae 'n Achubwr yn yr arch hon yn ein dyscu ni, i ystyried pa beth ydym o'n naturiaeth ein hunain; ac yn ein rhybuddio i weddio, ar i'r Tad roddi i ni ei Yspryd, i'n rhyddhau oddi tan ddwylo Satan, ac i'n symmud ni i Deyrnas ei anwyl Fab, Col. 1.13.

Teyrnas) yr ydys yn y scrythur lân yn cymmeryd teyrnas Dduw mewn dwy ffordd. Yn gyntaf yn gyffredinol, ac felly y mae yn arwyddoccau y llywodraeth, trwy ba vn y mae 'r Arglwydd yn llywodraethu pob dim [Page 68]oll, ie 'r cythreuliaid eu hunain, am ba deyr­nas y crybwyllir yn niwedd y weddi hon, ac yn Psalm, 97.1. yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, gorfoledded y ddaiar. Yn ail fe gymmerir y gair Teyrnas yn fwy neillduol; ac yna y mae 'n arwyddoccau llywodraeth Crist Pen llywydd yr eglwys, ym mha ly­wodraeth y mae Crist, trwy ei Air a'i yspryd, yn parattoi ac yn dwyn pobl, i vfyddhau i'r gair hwnnw. Ac fel hyn y cymmerir y gair Teyrnas yn yr Arch hon.

Y mae mewn teyrnas bedwar peth node­dig.
  • 1. Brenin.
  • 2. Dinas-wyr, neu Ddei­liaid.
  • 3. Cyfreithiau.
  • 4. Awdurdod.

1. Yn y Deyrnas hon, Crist yw 'r Brenin, iddo fe y rhoddes y Tâd yr holl awdurdod yn y nêf ac ar y ddaiar, Mat. 28.18.

2. Yn y deyrnas hon nid yw pawb yn Ddi­nas-wyr, eithr y rhai sy'n ewyllysgar i vfydd­hau i Air Duw; neu a'r y lleiaf, (er na bo eu calonnau yn berffaith) hwy a wnânt broffes oddi allan eu bod yn vfydd iddo.

3. Cyfreithiau y deyrnas hon yw Gair Duw, yn llyfrau y Testament hên a'r newydd: Ac am hynny fo'i gelwir wrth yr enw Teyrnas nefoedd, Mat. 13.31.33. ac Efengyl teyrnas Dduw. Mar. 1.14. A gwialen ei enau, Esay 11.4. A Braich yr Arglwydd, Esay 53.1. Megis y mae Brenin trwy ei ddeddfau yn gostegu ei bobl, ac yn eu cadw hwynt mewn vfydd-dod a threfn weddaidd: felly y mae Crist, trwy ei Air scrifennedig, a thrwy bregethiad ei Efengyl, megis a braich nerthol [Page 69]estynnedic, yn tynnu ei etholedigion i'w deyrnas, ac yn eu ffurfio a'u cymhwyso nhw i bôb vfydd-dod sanctaidd.

4. Y Gallu a'r Awdurdod yn y deyrnas hon, yw yr hwn, trwy ba vn y mae Crist, yn ner­thol ddychwelyd ei bobl atto ei hun, (trwy weithrediad ei lan yspryd yn eu calonnau nhw;) a thrwy ba vn hefyd, y mae'n gogo­neddu ei hunan yn nistryw ei elynion, gan ddwyn dialedd arnynt.

Y mae'r deyrnas hon, a gymmerir fel hyn mewn môdd mwy neillduol, o ddau fâth hefyd. Y cyntaf yw Teyrnas grâs, am ba vn y mae côf, Rhuf. 14.17. Nid yw Teyrnas Dduw fwyd a diod, ond cyfiawnder, hynny yw gwir dueddiad yn y galon i fyw yn gy­fiawn ac yn sanctaidd ger bron Duw a dy­nion, a siccrwydd o'n cyfiawnhaad o flaen Duw yng-hyfiawnder Crist; a chwedyn tang­neddyf, sef heddwch cydwybod, yr hwn sydd yn tarddu allan o'r siccrwydd hwn; a llawe­nydd yn yr yspryd glân, yr hwn sydd yn dy­fod allan o'r ddau, sef cyfiawnhaad ac he­ddwch cydwybod. A hon yw'r Deyrnas o râs, sef, cyfiawnder, tangneddyf, a llawenydd yn yr yspryd glân. Nid yw pawb oll yn byw yn y deyrnas hon, ond yn vnig y rhai sy'n ddarostyngedig i Grist, ac yn vfydd i gy­freithiau ei deyrnas ef, ac a reolir trwy ei aw­durdod ef, ac a ddyscir yn wastadol yn ei Air trwy ei yspryd ef. Eithr y rhai sy'n gwr­thod byw yn ôl deddfau 'r Brenin hwn, ac yn dewis byw mewn rhydd did, yn ôl eu [Page 70]chwantau drwg ei hunain, y mae 'r rheini yn nheyrnas y tywyllwch, sef yn nheyrnas pechod a Satan.

Yr ail yw Teyrnas y gogoniant yn y nefoedd, yr hyn yw, nid yn vnig y lle gogoneddus hwnnw, a baratowyd i holl bobl yr Argl­wydd er seiliad y bŷd; ond hefyd y cyflwr bendigedig hwnnw, y gânt feddiannu yno dros fŷth, pan bo Duw ôll yn ôlliddyr thwy. Ac yn awr paratoad yw y deyrnas gyntaf, sef y deyrnas o râs, ac megis dechreuad o fyned i mewn i deyrnas y gogoniant.

Deled) Mae Teyrnas Dduw yn dyfod, pan cymero hi lê, ac y sefydlir, ac y cadarnheir hi yng-halonnau dynion; a phan yr eglurir hi i bobloedd y bŷd, ac y tynnir ymmaith pob rhwystr oddiar ei ffordd hi.

Cwestiwn, y mae 'r Gair hwn, dyfod, yn dangos fod attal neu rwystr: eithr pa wedd y gellir rhwysto Teyrnas Dduw? Atteb. Nid y­dys yn y man yma yn cymeryd Teyrnas, am berffaith-gwbl allu Duw, (trwy ba vn y mae 'n rheoli pob dim ôll,) canys nis gellir lle­stair neu rwystro hynny; Eithr am deyrnas y grâs: Ac fo ellir rwystro hwn pan arferir y moddion oddi allan: Canys y mae 'r cy­threl, a'r bŷd, a llygredigaeth dyn, yn dra mynych yn gwithwynebu 'r Gair, a'r Sacra­mentau, a gwenidogion yr Efengyl, ac argy­hoeddiadau yr Yspryd glân wrth ddrws y ga­lon, ac felly yn rhwystro Teyrnas Dduw.

Y pethau iw alaru yma oiplegid ydynt o ddau [Page 71] ryw: rhai yn perthyn i ni 'n hunain, a rhai i eraill. Y rhai yn perthyn i ni'n hunain, yw caethiwed ein personau tan bechod a'r cy­threl. Gwir yw, laesu a gwanhau 'r caethi­wed hwn yng-wasanaethwyr Duw; etto ni ryddhawyd nêb ohonynt yn gwbl oddiwrtho yn y bywyd hwn. Mae Paul yn achwyn fod deddf (sef tueddiad nerthol) yn ei aelodau, yn ei gaethiwo ef i ddeddf pechod: ac y mae 'n crio 'n dôst, ys truan o ddŷn wyfi: pwy a'm gwared i oddiwrth gorph y farwolaeth hon, Rhuf. 7.23.24.

Cwestiwn. Pa wahaniaeth y sydd gan hyn­ny rhwng y duwiol a'r annuwiol? Atteb. Y mae calon lawen yn y dyn drwg annuwiol ynghanol ei gaethiwed: ei bechod yw ei fwyd, a'i ddiod, a'i ddifyrrwch ef, ac nid yw faich na blinder iddo. Ond y mae 'n amgenach fe­ddwl y gŵr duwiol: canys pan ystyrio fo allu 'r chythrel, a'i gyfrwysdra mewn amryw o brofedigaethau ofnadwy; a phan gwelo mor barod yn wastadol yw ei nattur lygredig ef i ymado á Duw, y mae hynny yn flin iawn, ac yn gwilyddus gantho, ac y mae ei galon yn gwaedu oddifewn iddo, am ei fod yn digio Duw a Thád mor drugarog.

Y mae Bagad yn byw lawer o flynyddo­edd yn y byd hwn, heb fod yn deimladwy o'r caethiwed y maent yntho tan bechod a'r cythrel. Yn ddiau nid yw y rhain yn gwy­bod ystyr yr arch hon, nac yn ei iawn har­fer hi: canys rhaid it neb a'i iawn harfero hi, fod yn gydnabyddus â'i gyflwr ei hun, a [Page 72]bod wedi ei ddwys-bigo yn ei gydwybod, am fod gan y cnawd a'r cythrel gymmaint o awdurdod arno.

Megis y mae'r carcharwr truan yn ymlus­co yn wastadol tuac at ddrws y carchar, gan geisio ymmhob modd ollwng a thynnu ei lyffethyriau haiarn, a diangc o'r carchardy: felly y bydd rhaid i ninne yn wastadol alw a chrio ar yr Arglwydd am ei yspryd, i'n rhyddhau a'n dwyn allan o'r caethiwed hwn, a charchar pechod, a llygredigaeth: a dyfod nes-nes beunydd at ddrws y carchar, gan ddisgwyl pa bryd y rhydd-ha ein Iachawdur bendigedig nyni oddiwrth holl lyffethyriau pechod a'r cythrel, i gyfodi ac adailadu yno­mi ei deyrnas yn gyflawn ac yn hollawl.

2. Y pethau i alaru oi plegit ar sy'n per­thyn i eraill ydynt o ddau ryw. Y cyntaf yw eisieu 'r moddion a wasanaethe, i aml­hau dinas-wyr teyrnas Grist, megis pregethi­ad y gair, y sacramentau, a dyscyblaeth eglwy­sig. Pan welom bobl yn ddi-wybodaeth ac heb flaenorion ac athrawon da, neu pan welo­mi vn yn codi ac yn sefyll yn yr eglwys, heb fedry dyscu 'r gynnulleidfa, mal dyna a­chos mawr o alar. Y mae 'r arch hon yn ein dwyn ar gof, y dyle-mi alaru am hyn o eisieu. Pan welodd ein achubwr yr Iddewon megis defaid heb fugail, efe a dosturiodd wrthynt; ac a wylodd tros Gaersalem, oblegit nas gwe­lent hwy y pethau a berthynent iw heddwch. Luc. 19.41.42. Ac am hynny pan fo eisi­eu pregethwyr i ddal teirnwialen Duw i fy­nu [Page 73]o flaen y bobl, ac i estyn allan y gair, yr hwn sydd megis braich Duw i dynnu dyn­ion allan o gaethiwed y cythrel, a'i dwyn i deyrnas Crist: yna y mae'n llawn-fadws ac yn amser i ddywedyd; Arglwydd deled dy deyr­nas.

Yr ail beth y sy'n perthyn i eraill, ac y dylem ni alaru amdano, yw bod cymmaint o rwystrau i deyrnas y grás, megis y mae diafol a'i holl angelion, a phob offeryn arall o'r eiddo, fel y Pâb, y Twrc, a'r rhai dry­gionus i gid oll o'r byd, y sydd trwy weni­aeth, cyfrwystra, creulondeb, a thrais, yn at­tal neu yn gyrru yn eu gwrthgefn y moddion, trwy ba rai y mae Crist mal brenin yn lly­wodraethu yn ei eglwys. Pan welo 'r cy­threl ddyn (a fu ryw amser o'i deyrnas) Yn bwrw golwg tu a'r Gaersalem nefol; yn ddidaring y cynddeirioga yn ei erbyn, ac a gais ymmhob modd i orchfygu ef yn hollawl. Oherwydd y rhwystrau hyn hefyd, rhaid i ni weddio a dywedyd: Arglwydd deled dy deyr­nas.

Y pethau iw damuno yn yr arch hon y­dynt, yn gyntaf, am roddi o Dduw i ni ei Ys­pryd i deyrnasu a rheoli yn ein calonnau, iw plygu a'i gwneuthur yn vfydd ac yn ostynge­dig iw ewyllys ef: ac heblaw hyn, lle bu ein calonnau megis twlciau drewllyd, a stable aflan o eiddo 'r cythrel, ar iddo hefyd eu hadnewyddu a'u gwneuthur hwy yn d [...]mlau cymmwys, i dderbyn a lletteua ei yspryd glân ef, Psal. 51.10. Crea gal [...]n lan ynof O [Page 74] Dduw, ac adnewydda yspryd vniawn o'm mewn, &c. ac a'th hael yspryd cynnal fi. Os ystyriwn yn dda fuchedd ac ymddygiad yr annuwiol a'r duwiol, a llygredigaetheu eu ca­lonnau hefyd, nis cawn weled ond ychydig ragor rhyngthynt mewn dim arall, ond bod y drygionus yn ymlawenhau ac yn gorfole­ddu yn eu pechod; a'r rhai duwiol yn ym­drechu am eu bywyd yn erbyn profedigae­thau, ac yn gwrthwynebu 'r cythrel; ac y maent hwy yn deisyf grâs yspryd Duw, ac yn crio i'r nefoedd am gael eu rhyddhau oddi­wrth y caethiwed hwn, er bod eu calonnau yn rhy-fynych yn barod i wrth ryfelu yn erbyn yr Arglwydd.

2. Am fod teyrnas y grâs wedi ei chyso­di yn eglwys Dduw ar y ddaiar, yr ys yn yr arch hon, yn gorchymmyn i ni weddio tros yr eglwys a phôb rhan ohoni. Psal. 122.6. Dymunwch heddwch Gaersalem: llwydded y rhai a'th hoffant. Esa. 62.6. Y rhai ydych yn cofio yr Arglwydd na ddistewch, ac na adewch ddistawrwydd iddo, hyd oni siccrhao, ac hyd oni osodo Gaersalem yn foliant ar y ddaiar.

Ac mal y gallo eglwys Dduw gynny­ddu, a bod mewn stâd dda, rhaid i ni we­ddio tros frenhinoedd, a thywysogion cristia nogawl, ar i Dduw eu bendithio a'i hamlhau. Canys y maent hwy megis tâdmaethod a mammaethod i'r Eglwys. Esay 49.23.

A thrachefn, oblegit mai gwiliadwyr yr Arglwydd yn ei eglwys yw 'r gwenidogion, yr ys yn ein dwyn ar gof ymma hefyd am [Page 75]ddymyno ar Dduw, am fod yn ddaionus i­ddynt hwythau; a gweddio fod eu calonnau wedi eu gosod yn hollawl ar adailadu teyrnas Dduw, ar fwrw i lawr teyrnas pechod, a Sa­tan, ac ar gadw eneidieu pobl Dduw: Ac yn fwyaf dim oblegit fod y cythrel ddydd a nôs yn ymegnio iw gorchfygu yn y gwaith ar­dderchawg hwn, ac iw gwrthwynebu yn eu gweinidogaeth, mal y mae iw weled yn Za­chari. 3.1. Pan safodd Josuah yr Archo­ffeiriad ger bron angel yr Arglwydd, safodd Satan ar ei ddeheulaw iw wrthwynebu ef. Ac am hynny rhaid i ni weddio trostynt hwy, ar i'r Arglwydd eu cadw, eu hymwisco a'u phwrneisio a donniau grâs-lawn, a'u gwneu­thur hwynt hefyd yn fugeiliaid ffyddlon. Ca­nys lle ni bo gweledigaeth, methu a wna'r bobl medd Salomon. 2. Thess. 3.1. Bellach fro­dyr gweddiwch trosom, ar redeg o air yr Ar­glwydd a chael gogonedd.

Rhaid i ni weddio hefyd tros holl yscolion Cristianogawl. Pa wedd bynnag y mae rhai heb feddwl ond yn ysgafn amdanynt: etto nhwy yw'r moddion cyffredinol i gynnal i fynu y weinidogaeth, ac felly eglwys Dduw. Y neb a fo gantho lawer o berllenni, a fyn hefyd semi­nari neu fan yn llawn o goed ifaingc, iw ad­newyddu a'i myntimio nhwy. Y mae yscolion megis seminaris i eglwys Dduw, (heb pa rai fo adfeilia ac a gwymp yr eglwys) am eu bod nhwy'n gwasanaethu i ddwyn i mewn weini­dogion fel y bo rhaid wrthynt.

3. Yn drydydd ni ddylem ddymuno ar i'r [Page 76]Arglwydd bryssuro ail ddyfodiad Crist, megis y mae'r Sainctieu yn y nefoedd yn gweddio, ty­red Arglwydd Iesu, Datc. 22.20. ac oherwydd hynny y dywedir fod y rhai duwiol yn caru ym­ddangosiad Crist. 2. Tim. 4.8. Y mae'r pecha­dur edifeiriol cym-mhelled yn ffieiddio ei lyg­redigaethau ei hun, ac echryslawn brofedigae­thau 'r cythrel, ac y mae fo oherwydd hynny yn dymuno, ar i Grist bryssuro ei ddyfodiad atto ef trwy farwolaeth, am yr achos hyn yn vnic, sef, fel y gallo wneuthur pen a diwedd ar bechu a digio Duw.

‘Gwneler dy ewyllys. ’

1. y Cyttundeb.

YN yr ail arch ni ddeisyfasom ar i Dduw adel iw deyrnas ddyfod, sef, ar iddo fe reo­li yn ein calonnau. O gorfydd iddo efe gan hynny deyrnasu ynom mi, rhaid i ninne fod yn ddeiliaid iddo yntef; ac am hynny yr ym yma yn erfyn, gan ein bod yn ddeilaid iddo ef, allu ohonom ufyddhau iddo, a gwneuthur ei ewyllys ef. Malac. 1.6. Os ydywyf fi dâd, pa le y mae fy anrhydedd? ac os ydywyf fi feistr pa le y mae fy ofn?

2. Y deall, neu'r ystyr.

EWyllys) y mae ewyllys yn y fan yma yn arwyddoccau gair Duw, wedi ei scrifennu yn y testament hên a'r newydd: Canys yn ei air ef y datguddier ei ewyllys ef. O holl ewy­llys Duw y mae tri pheth yn enwedic i ni dde­all [Page 77]yn y man hyn. 1. i gredu yn Ghrist. Joan. 6.29. Hyn yw gwaith (neu ewyllys) Duw, sef credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd efe. 2. Sancteiddiad corph ac enaid: 1. Thess. 4.3. A hyn yw ewyllys Duw, sef, eich sanctei­ddiad chwi. 3. Dioddef cystudd yn y bywyd hwn. 2. Tim. 2.3. Tydi gan hynny godd­ef gystudd megis milwr ffyddlon i Iesu Grist.

(Dy ewyllys di) nid fy ewyllys i: canys y mae ewyllys dyn yn ddrygionus ac yn llygre­dic, ie gelyniaeth yw yn erbyn Duw. Ruf. 8.7. (Gwneler) sef, vfyddhaed a chyflawned dy­nion dy ewyllys. Hyn gan hynny yw swm yr arch hon, sef, gan dy fod ti ô Arglwydd yn Frenin i ni, Dyro i ni râs, i ymddwyn ein hun­ain megis deiliaid ffyddlon i ti trwy ufyddhau ith ewyllys di.

3. Pethau i alaru oi plegit.

1. Y Mae i ni ymma yn gyntaf ofidio a galaru am hyn, sef, am fod ein ca­lonnau mor barod i bob annuwioldeb, ac an­ufydd-dod i orchmynnion Duw. Rhowch dân wrth grûg o bowdwr, ac fo a fflamma i gyd yn ddisymmwth, a thra roddo-mi gynnydd ar y tân, fo a lysc: felly trwy naturiaeth yr ydy-mi yn barod-iawn i bechu, er cynted ac y rhoddir i ni yr achos lleiaf i hynny. Fo a gowse Ddafydd brawf o hyn pan weddiodd efe gan ddywedyd. Ʋna fy nghalon i ofni dy enw, Psal. 86.11. a gostwng fyng-halon at dy destiolaethau Psal. 119.36. Y rhai nis [Page 78]gwelant ynddynt eu hunain y fath lygrediga­eth a hyn, a phan ei gwelant, ni galarant oi ble­git, y maent hwy mewn cyflwr truenus ac en­bydus; megis dyn yn glâf o glefyd mawr, ac heb ddim teimlad ohono.

2. Rhaid i ni yma drachefn alaru am be­chodau'r byd; megis anwybodaeth, schysmau, rhagrith, balchedd, ymchwydd, dirmygiad gair Duw, cybydd-dod, cam, diffig cariad at Dduw a'r air, &c, 2. Pet. 2.7. Lot gyfi­awn ydoedd mewn gofid, trwy anniwair ymar­weddiad y Sodomiaid o ddydd i ddydd: ac fe­lly y dyle ein eneidieu ofidio yn wastadol, am ddrygioni yr amser yr ym yn byw ynddo: ac ni ddylem weddio tros bechaduriaid anedifeiriol a di-ffydd ar ddyfod ohonynt i wir adnabod, ac vfyddhau i ewyllys Duw. Ezec. 9.4. Mewn barn gyffredin ar Gaersalem: y maent hwy wedi nodi yn eu talcennau; y rhai a oeddynt yn ucheneidio, ac yn gweiddi am y ffieidd-dra a wneithyd o'i mewn hi.

3. Rhaid i ni yma alaru hefyd am aflony­ddwch ein meddyliau, ac annioddefgarwch ein calonnau, pan roddo Duw un gro­es arnomi. Ewyllys Duw yw ddioddef oho­no-mi gystudd ac hefyd ymostwng ohonom ni ein hunain tan ei law alluog ef. Gweddi­odd ein Achubwr am gymmeryd y cwppan oddiwrtho, ond tan ymostwng ei hun i ewy­llys ei dâd. Lu. 22.42. A hyn a ddyscase Dafydd pan ddywedodd, ond os fel hyn y dy­wed efe, nid wyf fodlon it; wele fi, gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg. 2. Sam. 15.26.

4. Grasusau iw dymuno.

1. Y Peth cyntaf a ddyle-mi ddymuno yma, yw; ar gael ohono-mi râs, i'n gwadu ein hunain, ein ewyllysiau, a'n trachwan­tau; oblegit ein bod yn annhebyg i Dduw, ac yn debyg i ddiafol, yn y rhain i gid. Dymma'r wers gyntaf a roddes ein Achubwr iw ddi­scyblion, fod yn rhaid iddynt hwy wadu eu hunain a'i ddilyn ef, Mat. 16.24.

2. Yr ail peth yw gwybodaeth am ewyllys Duw; canys pa fodd a gwnawn ei ewyllys ef heb wybodaeth ohono? pa wedd a bodlo­na'r gwâs hwnnw ei feistr, yr hwn nis gŵyr pa beth a fynne iddo wneuthur? Fo a fyn y rhan fwyaf lyfreu'r statuwts yn eu tai: ac o bydd idd­ynt achos neu fatter mawr iw wneuthur, nis gwnant hwy ddim ohono nes edrych ar y sta­tuwt neu'r gyfraith: yn yr vn modd y dylei dy­nion fôd a'r Bibl, sef, llyfr statuwts a deddfau Duw yn eu tai: deddfau Duw a ddyle fod yn gyng­horwyr i ni. Ps. 119.24. Nyni a ddylem cyn pob gweithred, ymoroi a cheisio gwybod yn fanol pa beth yw ewyllys Duw am y weithred, ac yno ei gwneuthur: yma gan hynny yr ys yn dyscu i ni arferyd y moddion, a gweddio am wybodaeth.

3. Drachefn, yr ys yn ein dyscu yma i hi­raethu yn ein calonnau, ac i ymegnio i roddi vfydd-dod ym-mhob peth i Air Duw, yn ein bywyd a'n ymarweddiad, ac yn ein galwa­digaethau neilltuol.

[Page 80]4. Ac yn ddiwethaf ni ddylem ddeisyf amy­nedd a nerth i ddioddef y groes, pan welo Duw yn dda ar un pryd ein ym-arfer ni â hi, megis y mae Paul yn gweddio tros y Colo­ssiaid, a'r i Duw i nerthu nhwy â phob nerth, trwy ei ogoneddus gadernid ef, i bob dioddef­garwch ac hir ymaros gyd ag hyfrydwch, Col. 1.11.

5. Amryfusseddau.

Y Mae eglwys Rhufain yn dyscu, fod gan ddynion ewyllys-rhydd oi naturiaeth eu hunain, i wneuthyr daioni: ac y geill dynion wedi i'r yspryd glan eu cynhyrfu i hynny, ewyllysio ohonynt eu hunain yr hyn sydd dda. Eithr pe bae hyn felly, paham nas gallem ni weddio a dywedyd, bydded fy ewyllys i? Ond nis geill hyn fod ddim pellach, nag y bo ewyllys dyn yn cytruno ag ewyllys Duw, mal y gwelwn yn yr arch hon.

‘Megis yn y nêf, felly ar y ddaiar hefyd.’

1. Y deall neu'r ystyr.

WEdi dangos ystyr yr arch hon, Gwne­ler dy ewyllys, rhaid i ni ddangos yn awr yr ammod yr hwn sy'n egluro pa wedd y gwnawn hynny. Canys fo a ellir gofyn, pa wedd y dyle-mi wneuthur ewyllys Duw? a'r Atteb yw, rhaid i ddynion wneuthur ei ewyllys ef ar y ddaiar, megis y gwneir yn y Nefoedd, hynny yw megis ac y mae Eneidie'r ffyddloniaid sy wedi ymado, [Page 81]a myned oddi-ymma i'r nefoedd, a'r Angelion etholedig yn ei wneuthur ef yno. Y mae enei­diau y rhai cyfiawn wedi eu perffeithio yn y nefoedd, fel nad allant hwy lai (mwy nag nid all yr Angelion Sanctaidd lai) nâ gwneuthur ewyllys Duw yn gyflawn. Heb. 10.23. Psal. 103.20. Bendithiwch yr Arglwydd ei angy­lion ef, cedyrn o nerth yn gwneuthyr ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.

(Daiar) hynny yw gan ddynion sydd ar y ddaiar, am fod yr holl greaduriaid eraill yn eu rhywogaeth yn vfydd-hau i Dduw: dyn yn vnig sydd wrth-ryfelgar ac anufydd iddo. A chan hynny dymma feddwl yr arch hon: Gwneler dy ewyllys genym-mi ddynion ar y ddaiar, megis ac y mae'r Angylion, a'r Sainctieu sy wedi ymado a myned oddi ymma yn gwneuthyr dy ewyllys yn y nefoedd. Holi. A ydym ni yn dymyno yma allu ohonom wneuthyr ewyllys Duw yn yr un perffeith­rwydd, ac y mae'r Angylion yn ei wneuthur? A'i rhaid i ni fôd mor berffaith a nhwythau? Atteb. Nid yw'r geirieu hyn. (ar y ddaiar megis, &c.) yn arwyddoccau gogyfuwchder, megis pe gallei ein vfydd-dod ni yn y by­wyd hwn fod yn yr vn râdd o berffeith­rwydd ac yw vfydd-dod yr Angylion: cyffely­biaeth yw hyn, ac nyni a ddylem vfyddhau yn yr un modd. Holi. Fo a ellir gofyn, pa fodd y mae'r Angylion yn vfyddhau i Dduw? Atteb Y mae nhw'n gwneuthur ewyllys Daw yn e­wyllysgar, yn ebrwydd, ac yn ffyddlawn: a [Page 82]hyn a arwyddoccair wrth y scruthyr sydd yn dywedyd eu bôd ag adenydd ac yn sefyll ger bron ein tâd nefol yn gweled ei wyneb yn wastadol. Ac mal dymma'r modd yr ydyni 'n dymuno allel ohonom gwblhau a chyflaw­ni ewyllys Duw.

2. Pethau iw alaru o'i plegit.

YR ys yma yn ein rhybuddio ni i alaru am amherffeithrwydd a llesgedd ein vfydd­dod tuagat Dduw, am ein rhagrith, ein balch­der, ein rhyfig, oerni 'n calonnau at yr hyn sydd dda, a llawer o bechodau eraill, y sydd yn torri allan pan fom ni yn ceisio gwneuthur ewyllys Ddw. Nid oes un o wa­sanaethwyr Duw heb wendid ac eisieu yn ei weithrdoedd goreu, ac mal hyn y mae i ni ddeall Paul, Rhuf. 7.18. Lle y mae yn dy­wedyd, yr ewyllysio sydd barod gennif, eithr cwplau yr hyn sydd dda, nid wyf yn medru arno: A chymmaint yw hynny a phe dy­wedase, er gallu ohono efe ddechreu gwei­thred dda, etto nas medre moi chyflawni a'i gwneuthur yn berffaith. Pan wnelo dynion duwiol ddim ar a fo da, megis gwrando, a thraethu gair Duw, gweddio a moliannu Duw, &c. y maent hwy yn gwneuthur pethau cymme­radwy gan Dduw; etto er hynny, nhwy a gant weled achosion yn y gweithredoedd hyn, iddynt hwy ofidio a galaru amdanynt; nam m [...]n, ammherffeithrwydd y gwaith; ac am hyn y mae Dafydd yn g [...]eddio ac yn dywe­dyd. [Page 83]Psal. 143.2. Arglwydd na ddos ir farn a'th wâs. Ac ymma y gallwn weled draw­sed y mae eglwys Rufain yn myned, a maint yw ei hamryfusedd, yr hon sydd yn cyfri fod gweithredoedd da yn haeddu flafor ar law Dduw, a nhwythe yn ammherffaith ym­mhob modd. Pe bai râs i ddilynwyr yr eglwys honno, nhwy a ganfyddent, fod nwy­dau, a llygredigaeth, a'r cnawd, megis llyffe­theiriau am eu traed, mal pan chwenychent hwg redeg a'r hyd yr union-ffordd a llwybrau gorchmynnion Duw, y mae yn gorfod iddynt hwy gloffi hyd lawr, a thynnu ei lwynau a'i haelodau ar ei hôl.

3 Grâs a rhinwedd iw ddymyno.

Y Grâs a'r rhinwedd iw ddymyno ymma yw uniondeb, neu bwrpas parodol a gwa­stadol, i ochelyd pechu mewn dim, ynghyd a bwriad sefydlog i wneuthur ewyllys Duw, mal y gallo-mi feddiannu a bod â chydwy­bod dda ger bron Duw a dynion Act. 24.16. Ac am hynny yr wy fi yn ymegnio, gael ohonof gydwybod lan yn wastad tuag at Dduw a dynion. Rhaid i ni newynu, hirae­thu, a gweddio am hyn; gen nad yw ddigon i-ni ymgadw rhag drwg, eithr rhaid i ni he­fyd wneuthyr daioni, ac wrth wneuthyr dai­ioni, ym ryson ac ymegnio am ddyfod i berffe­thrwydd. Rhaid i ni geisio, ac ymdrechu i ddechre bôd yn y bywyd hwn yn debyg in Angelion yn y ddeledswydd [Page 84]hon; fel yn y bywyd sydd iw gael ar ol hyn, y bom ni debyg iddynt hwy mewn gogoniant.

‘Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol.’

1 Y Cyttundeb.

A Hyn am y rhan gyntaf, sef, y tair arch y sydd yn perthyn yn enwedig i Dduw: weithiau y mae'n canlyn y tair eraill sy'n per­thyn i ni 'n hunain Ymmha drefn yr ym yn dyscu gweddio yn ddiammod am y pethau a berthynant i Dduw: ac am y pethau a berthynant i ni ein hunain trwy ammod, sef, cyn belled ac y tueddont ac y gwnelont hwy-er gogoniant i Dduw, er adailadaeth iw deyrnas, a chwplhâd ei ewyllys ef.

Eithr pa fodd y mae'r arch hon yn codi ac yn tarddu o'r rhai blaenaf? Yn y gyntaf yr ydys yn dyscu i ni weddio ar gaffael o enw Duw ei sancteiddio, yr hyn a wneir pan deyrnaso Duw yn ein calonnau, a phan wneler ei ewyllys ef. Weithian mewn tri pheth yr vfyddheuir iw ewyllys ef. Yn Gyntaf wrth ymaros a gor­phwys ar ei ragddarparwch ef am bethau per­thynol i'r bywyd hwn: Yn ail wrth obei­thio am, a gorphywys ar ei drugaredd ef am faddeuant pechodau: ac yn Drydydd, wrth or­phywys ar ei nerth a'i allu ef, i wrthwynebu profedigaethau: Ac fel hyn yr vfyddheuir ewyllys Duw.

2. Ymeddwl a'r vstyr.

BAra) wrth fara, sef, vn o'r moddion sydd i borthi ein cyrph, ac i gynnal ein by­wyd amserol ymma, y deallir yr holl foddion eraill; megis bwyd, diod, dillad, iechyd, rhydd­did, heddwch, &c. Gen. 3.19. Trwy chwys dy wyneb y bwyttei fara, sef, yr ynnilli di dy gynhaliaeth a'th ymborth. Gwael ac ofer yn y matter hyn yw opiniwn Erasmus, yr hwn sydd yn tybied, na ddylit sôn am Fara, hynny yw am bethau diarol, wrth Dduw Tâd, mewn gweddi mor nefol ac yw hon, gan fod h [...]d yn oed y Cenhedloedd yn rhoddi y cyfryw bethau iw plant; canys mae Duw yn ewyllyssio i ni, nid yn vnig fwrw ein gofal arno ef am bethau nefol, eithr hefyd am bethau daiarol, Fe erchir i ni fwrw ein holl of al arno ef, canys y mae efe yn gofalu trosom, 1 Pet. 5.7. Craff­wch ar hynny, ein holl ofal, sef yn gystal am bethau tymhorol, ac am bethau tragwyddol: Ac fe ddarfu Duw, wrth wrando gweddi Sa­lomon, ddangos i ni ei ewyllys, y myn efe i ni geisio pethau daiarol oddiwrtho, megis glaw mewn amser sychder, ymborth mewn amser newyn, a iechyd mewn amser clefyd, &c. 1 Bren. 8.36. &c. Pen. 9.3. A chan i Jacob ac A­gur geisio y pethau hyn mewn gweddi, ac nad yw'r Yspryd glân yn beio arnynt am hynny, paham [Page 86] na allwen ninne hefyd eu ceisio nhwy, sef mewn modd weddol fel y gwnaethant hwy­thau, Gen. 28.20. Dihar. 30.8. A chan fod Gweddi'r Arglwydd yn Batrwn perffaith i'n Gweddiau ni, mae'n ddilys neu'n serten, y dylei Bendithion tymhorol gael rhyw le ynddi, onichyfrifwm ni ein hennilliad a'n meddiant ohonynt, i fod yn ffrwyth ein llafur a'n poen ein hunain, megis pe ni bae nhwy yn roddion Duw, yr hyn y fyddei annuwioldeb mawr i vn dyn i dybied.

Ac yn gymmaint a bod ein Achubwr Crist yn ein dyscu ni, tan enw Bara, ac nid tan enw neb-rhyw ddainteithion ac amlder o ymborth, i ofyn bendithion tymhorol, sef y bendithion sy'n perthynu ir bywyd hwn: Y mae dau achos o hyn: y cyntaf yw, mal y galle-mi ddys­cu yn hyn gymmedrolder a chym­mesurwydd mewn bwyd, diod dillad, a thai: a dyscu bod yn fodlon pan fo'm heb ddim arall ond bara, sef, pethau angenrheidiol i gymial ein bywyd (yr hyn y mae Paul yn ei gyn­nwys tan yr enw o ymborth a dillad) canys nid ydys yn yr Arch hon ein yn dyscu ni i ofyn dim ond bara. Nis dyle-mi wrgnach mal y gwnaeth yr Israeliaid oblegit nas cowsent ddim ond Manna.

Holi. A ddyle mi nad arferem y pethau a greawdd Daw er ein mwyn ni, ond pan fae angenac eisieu yn peri? Atteb. Ni allwn eu harfer nhwy yn weddaidd, nid yn vnig rhag angen, eithr er diddanwch onest i ni hefyd. Psal. 104.15. Y mae Duw yn rhoddi gwin i lawe­nychu [Page 87] calon dyn, ac y mae yn peri iw wyneb ef ddisclirio ag olew. 10.12.3. A'n achubwr Crist a fu fodlon gantho weithred Mair, pan gymmerth hi bwys o ennaint nard gwlyb gwer­thfawr, ac a eneiniodd ei draed ef, mal y llan­wyd y tŷ gan aroglau yr ennaint, er bôd Ju­das yn cyfri hynny yn afrad, a bod yr ennaint yn golledig. Etto onis canniatta, ac onis rhydd yr Arglwydd ond bara, sef, cymmaint, ac a geidw'r corph ar enaid yng-hyd, rhaid i ni gyda diolchgarwch ymfodloni ar hynny. 1. Tim. 6.8. Am hynny o chawn ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny. Yr ydoedd Ja­cob yn fodlon â hyn. Gen. 28.20.

Ail achos paham y mae'n Achubwr yn ein dyscu ni i ofyn bendithion daiarol, tan yr enw o fara, y sydd er dangos a dyscu i ni, fod rhagddarparwch Duw trosom ni yn enwedig ac yn neulltuol. Y mae pawb yn cyffessu fod rhag-ddarparwch-Duw yn gyffredinol tros bob dim oll: eithr y mae yn rhaid i ni addef ymma ragddarparwch arall enweddiccach nâ hwnnw, ie a hynny yn y pethau lleiaf a eill fod: canys nis maethe y bara yr ym yn ei fwytta mohonom ni, mwy nag y gwnae bri­ddellyn neu garreg, oni bae i Dduw roddi ei fendith arno.

(Beunyddiol) Hyn gen mwya yw grym y gair, sef, Bara'n gyfattebol i'n naturiaeth a'n syl­wedd ni: gan hynny, dymma y deall a'r ystyr. Dyroi ni fara beunydd neu o ddydd i ddydd, yr hwn a'n maetha ac a'n portha ni. Mal­hyn [Page 88]y mae Agur yn gweddio: Dihar. 30.8. Portha fi a'm digonedd o fara. Y mae rhai (megis y Papistiaid) yn bwrw fod perffeith­rwydd angylaidd mewn ympryd: etto y mae 'r scrythur-lân yn dyscu, mai megis ac y dyle-mi o flaen, ac vwchlaw dim, ofalu am fywyd tragwyddol, felly y dyle ni ofalu he­fyd yn y byd hwn am gynnal ag ymborth ein bywyd naturiol, fel y bo i ni gael amser cyfadd­as i edifarhau, ac i barattoi ein hunain i fyned i mewn i Deyrnas nef. Nid yw ympryd ohono ei hun (pan fo dyn yn gwrthod bwyd a diod) yn rhan o addoliad a gwasanaeth Duw, eithr peth indifferent yw (hynny yw nid ydyw na da na drwg) o'i nattur ei hun, ac am hynny nis dyle­mi mo'i arfer ddim pellach, nag y bo yn ein helpu a'n hyfforddi i weddio. Canys gan ein dyscu ni i weddio am y fath ymborth ac a gynhalio naturiaeth, ac a gatwo fywyd, nis dyle-mi arfer ympryd i waethygu ar natu­riaeth, neu i ddifetha bywyd.

(Ein bara) 1. Holi. Pa wedd yr ym yn dywedyd fod bara yn eiddo-ni? Atteb. 1 Cor. 3.22.23. Chwychwi a ydych yn ei­ddo Crist, a phob dim oll yn eiddo chwi­thau. Trwy Grist gan hynny, y gelwir y bara yn eiddo ni. Canys gan roddi o Dduw Grist i nyni, y mae efe yng-hrist a thrwyddo ef, yn rhoddi pob dim arall i nyni. 2. Holi. Pa fodd y caf wybod, fod y pethau yr ydwyf yn eu meddiannu yn eiddo fi trwy Grist, ac nad wy-fi yn eu harfer a'i hattal hwynt yn annheilwng, ac yn ang-hyfreithlon? Atteb. [Page 89]1 Tim. 4.5. Pa bèth bynnag a greawdd Duw (medd S. Paul) da iawn ydyw, ac nid oes dim iw wrthod, os cymmerir trwy dalu diolch, oherwydd ei sancteiddio trwy air Duw a gwe­ddi. A chan hynny od yw gair Duw gennym, i ddangos y gallwn eu meddiannu a'u harfer nhwy; ac os gweddiwn ar Dduw hefyd am allel ohonom eu iawn harfer nhw, yna nid ydy-mi ysclyfaethwyr ohonynt, ond yn ddiau eu gwir berchennogion, a hynny nid yn vnig yngolwg dynion, ond hefyd yngolwg Duw. 3. Holi. O bydd raid gwneuthyr y crea­duriaid yn eiddo ni trwy Grist, pa wedd y mae 'r annuwiol a'r rhai drygionus yn caff­ael cymmaint ohonynt hwy? Atteb. Nyni a gollasom yn Adda ein hawl yn y creaduri­aid: etto y mae Duw o'i fawr drugaredd, yn rhoddi tros amser roddion, neu fendithion y byd hwn, yn gystal i'r ang-hyfiawn ac i'r cyfi­awn: eithr er hynny, oni bydd ir annuwi­ol ddyfod at Grist, a bod yn gyfrannog ohono ef, ie a dal eu hawl yn eu golud bydol trwyddo ef, y nhwy o'r di­wedd a droant, ac a fyddant yn achos o fwy damnedigaeth iddynt hwy.

Canys fe ddichon yr Arglwydd ddywedyd wrthynt, ar Ddydd eu cyfrif fel hyn: Mi roddais i chwi Dai, a Thiroedd, a Da, ac amryw Fendithion eraill, a chwi a ddylasech gymmerid eich arwain gan y Trugareddau hynny i edifeirwch am y cwbl y wnaethoch i'm herbyn, yr hwn oeddwn mor dda wrthych: a chwi a ddylasech ym caru, ac ufyddhau [Page 90]i mi, yr hwn a ddangosais cymmaint o ga­riad tuag atoch chwi: ac yr oeddwn ni, gan i mi roddi mwy i chwi nag i eraill, yn disgwyl am fwy o gariad ac vfydd-dod oddi­wrthych chwi nag oddiwrth eraill; canys nid yw cariad am gariad ond peth rhesymmol: ond yn awr, chwi a wnaethoth fwy yn fy erbyn i, nag y wnaeth y rhai nas cowsant yn agos cymmaint o'r bendithion hyn, ac a gowsoch chwi; ac am hynny mae'n gyfiawn i chwi gael mwy o gospedigaeth yn Vffern nag y gânt hwy, sef lle tywyllach, lle twy­mach, lle mwy drewllyd, a chythreuliaid ffyrniccach ich poeni, nag a gant hwy, y rhai ni chowsont mo'r Tai, na'r Tiroedd, na'r Da, na'r Aur na'r Arian ac a gowsoch chwi. Rhuf. 2.4.5. Luc. 12.47.48.2 Sam. 12.7. &c. Ac fel hyn y trŷ Fendithion daiarol i fod ar y diwedd yn Felldithion ir annuwiol, os byw a marw a wnant yn eu hannuwioldeb.

A lle yr ydy-mi yn galw hwn ein Bara, yr ym yn dyscu, y dyle bob dyn fyw ar ei alwedigaeth, ac ar yr eiddo ei hun. Yr ys ymma yn condemnio hefyd pob gor­thrymder, lledrad, celwydd, a cheisio cy­foeth, golud, a da-bydol trwy dwyll. Y mae llawer yn tybiaid, nad yw bechod ddar­paru ohonynt iw hangenrheidiau ei hun ac angenrheidieu eu teuluoedd yn y môdd hyn, sef trwy orthrymder, celwydd twyll a lledrad: eithr y maent hwy wrth ddywe­dyd yr arch hon yn gweddio yn eu herbyn eu hunain: Canys pa wedd y gallant hwy [Page 91]ddywedyd ein Bara, a'i ennill ef trwy ang­hyfiawnder, neu fwytta fe heb weithio amda­no. 2 Thes. 3.10. Rhybuddiasom os bydde nêb ni weithie, na chai fwytta ychwaith. Ephes. 4.28. Yr hwn a ledrattaodd na ledratted mwyach, eithr cymmered boen yn hytrach gan weithio a'i ddwylaw y peth sydd dda.

(Heddyw) Nid ydy-mi yn dywedyd ym­ma, yr wythnos hon, y mîs hwn, yr oes hon, ond heddyw. Holi. Pa beth yw hyn? onis gallwn ragddarparu yn erbyn yr amser sydd yn dyfod? Atteb. Y mae yn rhydd ac yn lowedic i ni hynny, ie ac y mae dynion yn rhwymedig i ragddarparu ohonynt mewn modd a threfn dda, yn erbyn yr amser sydd yn dyfod. Act. 11.28. Rhagddarparodd yr Apostolion bethau angenrheidiol i'r eglwys oedd yn Judaea, yn erbyn amser y drudani­aeth, a brophwydase Agabus amdano ei fod yn dyfod. A Joseph yn yr Aipht ym­mlynyddoedd yr amldra, a gynnhullodd ŷd yn dra-lluosoc, ac ai rhoddes iw gadw, yn erbyn blynyddoedd newyn a phrinder. Me­ddwl ein achwbwr gan hynny yn y geirieu hyn, yw barnu neu ddamnu yn vnig pob go­fal anobeithgar, ac y sydd megis yn ein dryllio: ac i ddyscu i ni orphwys o ddydd i ddydd, a phob amser, ar i dadol ddaioni ef. Y mae hyn yn nodadwy ac iw weled. Ex. 16.20. Lle y gorchymynnesid i bobl yr Is­rael, nas casclent hwy ddim mwy o'r Manna, nag a wasanaethe iddynt tros diwrnod, ac os gwnaent efe a budre, a fage bryfed, ac a [Page 92]ddrewe: Ac fel hyn yr ydoedd yr Arglwydd yn dyscu iddynt hwy orphywys ar ei ragddar parwch ef bob dydd, ac nid ar y moddion.

(Dyro i ni) Nid i mi. Y mae hyn yn gwa-sanaethu i ddyscu i nyni, nas dyle ddyn ofalu yn vnig amdano ei hun, eithr bod ohono hefyd yn feddylgar am eraill. Canys fo a wnaethpwyd gwr cyfoethog goludog, megis yn orchwiliwr, i rannu ei dda i'r tlo­dion ac er daioni i eglwys Dduw. Nid yw cariad perffaith yn ceisio yr eiddo ei hunan; y mae canghennaur winwydden yn llwytho [...] â gwrysc o rawn-win, nid iddynt eu hunan, ond i eraill: y mae'r ganwyll yn llosci ac yn treulio ei hunan i roddi goleuni i eraill. Er y dyle'r cyfoethogion ofalu trostynt eu hunain a'u teuluoedd, etto hwy a ddylent gofio'r anghenus hefyd, 1. Tim. 6.17.18.

(Dyro) Holi Os nyni bie'r bara, paham y mae yn gorfod i ni ei ofyn ef? y mae yn de­byg mai peth heb raid yw hynny: Atteb. Nid yw'r peth felly; canys, wrth hyn y dys­cir ini ddisgwyl wrth Dduw, yr hwn yw ffyn­non a rhoddwr pob bendith. Y mae rhai ysyweth ryw brydie pan ddelont i adfyd a thlodi, ac y geisiant ynnill eu bywyd trwy foddion drwg, megis trwy yspeilio, trwy dwyll, neu, trwy ymgynghori yn gyfrinachol â dewiniaid, hudolwyr, &c, eithr nid yn y fath ffyrdd melldigedig a hyn, y mae i ni geisio ein bara beunyddoil, ond oddiwrth Dduw, trwy weddi mewn ffyrdd gyfreithlon. 2. A thra­chefn, yr ym yn dyscu ymma, er bod gen ddyn holl gyfoeth a golud y byd hwn, [Page 93]nad yw hynny i gyd oll ddim, heb râd a ben­dith Dduw, Holi. Nid rhaid i'r rhai cyfoe­thogion ddywedydd, Dyro i ni ein bara beu­nyddiol, oblegyt fod ganthynt hwy ddigon eufus, a phaham mae'n rhaid iddynt hwy ofyn y pêth sydd ganthynt? Atteb. Pe bae (neu er bod) dyn yn gyfoethog, ac yn oludog iawn, heb arno eisieu dim ar a eill ei ddymyno; etto o bydd arno eisieu bendith Dduw, mae arno mewn sens neu ryw ystyr eisieu'r cwbl. Ac oherwydd hynny, y mae Brenhi­noedd a'r gwyr mwya; mor rhwymedig i ar­feryd yr arch hon, ac yw'r cerdottyn tlottaf. Bendith yr Arglwydd a gyfoethoga, medd Solomon. Dihar. 10.22. Gellwch fwytta heb gaffael digon, ymwisco ac nid hyd glydwr, a chasclu cyflog i gôd dyllog, onis rhydd yr Argl­wydd ei fendith i ti. Hag. 1.6. Fo elwir y fendith hon wrth yr enw o ffon neu gynhaliaeth bara Esay. 3.1. y mae mewn Bara ddau beth: yn gyn­taf y sylwedd, yn nessaf y rhinwedd oddi [...]rth fendith Dduw: a'r ail peth, sef, allu ohono borthi ein cyrph, yw cynhaliaeth a ffon y bara. Canys o dygwch oddiar wr hên ei ffon, fo gwympa: ac felly os tynnwch fendith Dduw oddiwrth y bara, fo a fydd yn ddi-lês ac yn ddinerth, ac a baid a'n porthi. Ac yn ddiwae­thaf, nyni a allwn weled ymma, nas tâl ein holl lafur a'n trafel ni ddim, ymmha alwadigaeth bynnag y bom, ac nis gwna mor llesad, onis rhydd Duw ei fendith, Psal. 127.1.

3. Pethau iw alaru or plegit.

Y Llygredigaethau yn erbyn yr arch hon ac y ddylem ni yn Bennaf alaru o'i plegit [Page 94]ydynt o ddau ryw. 1. Cybydddra, (cynne­def ddrwg yr hon sydd o naturiaeth wedi ei phlannu yng-halon pob dyn:) a hyn yw, pan fo dyn heb fod yn fodlon a'i stâd neu a'i gy­flwr ei hun. Y trachwant hyn nis diwellir, canys fo a fynne ddynion sydd a digon gan­thŷnt, fod fyth yn caffael fwy fwy: ac oherwydd hynny, y neb a arfero yr arch hon, y mae yn rhaid iddo fod yn drift, a gofidio ynddo ei hun am y pechod hwn, a gweddio mal y gweddiodd Dafydd: Psal: 119.36. Gostwng fyng-halon at dy destiolaethau, ac nid at gybydd-dra. Ac fe ddyle ofidio nid yn unic am y weithred gybyddus ei hun, eithr he­fyd am lygredigaeth ei naturiaeth yn hyn. Fo a ddadle y rhai sy gybyddion, eu bod yn rhydd ac yn lan oddiwrth y pechod hyn: eithr deli­wch sulw a chreffwch ar fuchedd dynion: a chwi gewch weled, mai clwyf a dolur cyffredi­nol ym-mhlith y rhan fwyaf yw hwn. Mae Da­fyd [...] yn gosod allan awydd y cybyddion at gyfoeth, ac yn mynegi mae llawer sy'n dywedyd. Pwy a ddengys i ni ddaioni? hynny yw, pwy a'n gwna ni'n gyfrannogion o olew, a gwîn, ac o eraill bethau da'r byd hwn, Psal. 4.6. Pechod cyffredinol gan hynny yw hwn; ac yr ydys ymma yn ein dyscu ni i alaru o'i oblegid.

2, Yr ail beth i ni alaru am=dano yw ein ang-hrediniaeth, a'n mawr ammeu am rag­ddarparwch Duw ynghylch y pethau a berthy­nant i'r bywyd hwn. Dynion a attebant i hyn, ac a ddywedant, y bydde ddrwg ganthynt hwy [Page 50]ang-hredu Duw neu ei amheuo ef. Eithr os edrychwn ni ond ychydig ar ein naturiaeth dygredig, ni gawn weled ein bod yn barod ac yn wisci-iawn i'r pechod hwn: canys pan Bo-ni yn flynnio ac yn llwyddo nid oes dim a'n blina ac a'n tristha ni: eithr nyni a vdwn ac a wylwn o daw ond yr adfyd lleiaf ar­nom: ac mal y dywed. S. Paul. 1. Tim. 6.10. Y mae dynion yn en gwanu eu hunain á llawer o ofidiau. O bydd i vn dyn golli ond rhan o'i dda, pa beth a wneiff efe? Fo aiff allan yn inion at ryw ddewin neu ŵr hyspys, neu reibwr i gael manigaeth am ei dda: a'i credu yn Nuw yw hyn? Nage, am­meu Duw yw hyn, a'chredu yn y cythrel, sef, i fynd i hela am ein da allan o ffordd Duw.

4. Rhinweddau a grasyssau iw dymuno.

Y Grâs iw ddymuno, yw parodrwydd meddwl ymmhob cyflwr ein bywyd i orphywys ar ragddarparwch Duw, pa beth bynnag a ddigwyddo i ni Psal. 37.5. Trei­gla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiri­ed ynddo, ac efe a gyflawna dy ewyllys. Dihar. 16.3. Treigla dy holl weithredoedd ar yr Arglwydd: a'th feddyliau a gyfarwyddir: yr ys yn hyn yn ein rhybyddio i gymmeryd poen yn ein galwedigaetheu i ynnill a chesio ein bwyd a'n diod, &c. Os yr Arglwydd nis llwydda lafur ein dwylo rhaid i ni fod yn fodlon, eithr os gwneiff hynny rhaid i ni fod yn [Page 96]ddiolchgar. Ac oherwydd hyn ni ddylem ymmhellach weddio ar Dduw, ar iddo ago­ryd ein llygaid, a'n dyscu trwy ei yspryd, i weled yn ei holl greaduriaid da, ei ragddar­parwch ef, a phan fo'r moddion yn wrth­wyneb ac yn methu, yna hefyd i obeithio a chredu yn ei ragddarparwch ef.

5. Amryfuseddau iw bwrw i lawr.

Y Mae'r Papistiaid yn dyscu y geill dynion trwy weithredoedd da haeddu bywyd tragywyddol, ac ymhelaethiad o gyfiawnhaad yn y bywyd hwn. Eithr pa wedd a geill hyn fod? canys nyni a welwn ymma, mai Duw sydd yn rhoddi, a hynny yn rhâd, yn ddi­heuddiad o'n rhan ni, bob tammaid o fara yr ym yn ei fwytta. weithian, onis gallwni heuddu dryll neu dafell o fara, pa ynfydrwydd ydyw i ni dybiaid y gallwni heuddu bywyd tra­gywyddol?

2. Siommwyd neu dwyllwyd hwynt hwy hefyd, y rhai sydd yn tybiaid fod dim yn dy­fod trwy ddamwain neu fforten, heb rhaglu­niaeth a rhagddarparwch. Duw Yn ddiau o ran dynion, y rhai nis gwyddant ddechreuad ac a­chosion pethau, y mae llawer iawn o ddam­weinion: eithr nid ydynt ond fel y mae rhag­luniaeth Duw yn eu trefnu. Lu. 10.31. Ac fe a ddigwyddodd i offeiriad ddyfod i wa­red ar hyd y ffordd honno.

‘A maddeu i ni ein dyledion, ’

1. Y Cytundeb.

MAL dymma'r bummed arch, a'r ail o'r rhai sydd yn perthynu i ni ein hu­ain: yn yr arch a aeth o'r blaen yr oedd­em ni yn gofyn bendithion amserol: yn hon a'r nesaf sydd yn canlyn, yr ydy-mi yn go­fyn bendithion ysprydol. Lle y mae yn hawdd i ni ganfod a gwybod, gan fod dwy arch ynghylch pethau ysprydol perthynnadwy i ni, ac heb ond vn arch yn vnig am bethau bydol, y dyle ein gofal am ein eneidiau fod yn ddau cymmaint a'n gofal am ein cyrph. Y mae dynion yn gofalu am eu Cyrph, a'i calonnau wedi gosod ar gyfoeth, golud, a derchafiad yn y byd hwn: nhwy a fyddant bodlon i wrando ar air Duw ar y dydd sabaoth:ac etto nid ydynt y pryd hynny nac ar vn dydd o'r wythnos yn ei osod ef i fynu a'i ystyried yn eu calonnau, nac yn ei ym-arfer yn ei buchedd, yr hyn beth sydd yn dangos leied yw eu gofal am eu heneidiau. Holi. Beth yw'r achos paham yr ym yn gyn­taf yn gofyn y pethau sy'n perthynu i'n cyrph, ac yn yr ail lle, y pethau a berthynant i'r enaid, Atteb. Y mae trefn yr Yspryd glan yn yr archau hyn yn rhyfeddol: canys y mae yr Arglwydd yn ystiried ddwlni a chis­dynrwydd naturiaeth dynion: ac am hynny y mae yn eu dwyn i fynu, ac megis yn eu har­wain yn y blaen mesur ychydig ac ychydig megis ac y mae'r Athro neu'r meistr yn [Page 98]fer o wneuthur à'i yscolheigion iefaingc, gan ddangos iddynt hwy y gwyddorion a'r dech­reuad, a'i denu felly o bwngci bwngc, nes idd­ynt ddyfod i addysc a fo mwy:canys y mae'r arch sydd o flaen y rhain, megis y gris, neu'r stâr gyntaf i'r ddwy ymma sydd yn canlyn. Rhaid i'r neb a orphwyso ar drugaredd Duw am faddeuant o'i bechodau, orphywys yn gyn­taf ar ragddarparwch Duw am bethau rheidiol ir bywyd hwn:a'r neb nis gallo roddi ei obaith ar Dduw a chredu ynddo, am ddarparu a pheri iddo fwyd a diod, pa wedd yr ymddi­ried hwnnw i drugaredd Dduw am iechyd­wriaeth iw enaid? ymma y gallw-ni weled bêth yw ffydd dynion bydol: hwynt-hwy a ddywedant fod Duw yn drugarog, a'i bod yn credu yng-hrist: yr hwn beth pa wedd y geill fod yn wir, pan ynt hwy yn ei ammeu, ac yn anymddiried yntho mewn pethau sydd lai, megis bwyd a diod, mal y mae ei cybydd­dra nhwy yn ddangos? ymmhellach, wrth y drefn hyn yn yr archau, fe a'n dyscir, i geisio maddeuant pechodau mo'r daer, ac yr ym yn ceisio bendithion tymmhorol.

2. Y deall neu'r ystyr.

Dyledion) Yr ydys yn deall wrth ddyle­dion yma ein pechodau, megis y mae yn Luc. 11.4. ac fo a'i gelwir nhwy felly am y cyffelybiaeth fydd rhyngthynt a dyle­dion. Canys mal y mae dyled yn rhwymo d yn, naill a'i i wneuthyr taledigaeth, neu yn­te [Page 99]i fyned i garchar: felly y mae ein pecho­dau yn ein rhwymo ni, naill a'i i fodloni cy­fiawnder Duw, neu ynte i ddioddef damnedi­gaeth dragywyddol, yng-harchar vffern.

(Madden) I faddeu ein pechodau yw, iw cuddio, neu i fod heb eu cyfrif nhwy i nyni, Psal. 32.1. A hyn a wneir pan fo Duw o'i drugaredd yn fodlon i dderbyn a chymeryd marwolaeth a dioddefaint Crist yn gwbl tâl ac yn gyfnewid am bechodau dyn, ac felly iw barnu a'i cyfrif nhwy, mal pe baent heb fod yn bechodau. Ac ymma tan yr vn cymmwynas a'r trugaredd hwn y deallir y cwbl oll o'r vn rhyw, megys, ein cyfiawnhâd, sancteiddiad, ymwarediad, gogoneddiad, &c.

3. Y Defnyddion a'r sydd iw gwneuthur o'r geirieu hyn.

NYni a allwn oddi yma ddyscu llawer o wresi: y gyntaf yw, gan orfod i ni weddio fel hyn, Arglwydd maddeu, &c. Fod yn rhaid i ni wybod, nad yw ein gweithre­doedd da ni yn daledigaethi gyfiawnder Duw am bechod: ie nad ydynt ddigon am ddiale­ddau bydol nis parhant ond tros amser: eithr bod deleuâd neu faddeuant ein pechodau, o wir drugaredd, grâs, a mawr ddaioni Duw: canys gwrthwyneb yw'r naill i'r llall, sef ma­ddeu, a thalu iawn am bechodau: ac am hynny diffaith-iawn a chythreulig yw'r ath­rawiaeth, y mae eglwys Rufain yn ei ddys­cu [Page 100]am daledigaetheu dynion yn y byd hwn am bechod.

2. Eilwaith, lle yr ydys yn ein dyscu ni i weddio mal hyn yn wastadol, o ddydd i ddydd, y mae i ni weled mawr ddioddefga­rwch a hir ymaros Duw: yr hwn sydd yn ein dioddef ac yn cyd-ddwyn â ni yn wastad, ac nid yw yn tywallt ei ddigofaint arno-mi, er ein bod ni beunydd yn ei ddigio ef trwy ein pechodau. Y mae hyn yn dyscu i ni y cyffelib ddioddefgarwch tuag at ein cyd-fro­dyr: nis medrwn ni illwng tros gôf y cam lleiaf, na dioddef tros un dydd; ac etto ny­ni a ddeisyfwn ar Dduw am faddeu i ni ein holl feieu, a hynny holl ddyddieu ein by­wyd.

3. A thrachefn, nyni a allwn wrth hyn we­led, nad oes sancteiddrwydd perffaith yn y bywyd hwn, gan orfod i ni beunydd, o ddydd i ddydd hyd y dydd diwaethaf ofyn maddeuant am ein pechodau. Am hynny annuwiol a drwg iawn yw barn neu feddwl y y Catharystiaid, neu'r Puritaniaid (neu fel y gelwir hwy yn yr amseroedd hyn (waceriaid, canys ni ddyscodd vn dyn grassol, ac a oeddit yn ei alw yn Buwritan y fath athrawiaeth gy­threulig a hynny)sef, Y dichon dynion fod yn ddibechod yn y byd a'r bywyd hwn.

4. A phan ddywetto-mi, maddeu, nid i mi ond i ni: yr ys yn ein dwyn ar gof i weddio nid yn vnig am faddeuant o'n pe­chodau ein hunain, eithr tros ein brodyr yn yr un modd, ie a thros ein gelynion [Page 101]hefyd. Iac. 5.16. Cyfaddefwch eich beiau y naill i'r llall, ag weddiwch tros ei gilidd, fel eich iacheuir: canys llawer a ddichon taer weddi'r cyfiawn. Ac mal y mae rhai yn tybiaid yr ydoedd gweddi Stephan yn fodd mawr o droad Saul i'r ffydd.

5. Y mae yn hyspys hefyd, y dylenid cyd­nabod a chyfaddeu'r pechod: cyn gweddio am faddeuant o'r pechod, canys lle yr ydy­m i yn dywedyd, maddeu ein dyledion, yr ym yn cyfaddef ger bron Duw ein bod ni yn ddyledwyr, ac heb ddim genym ohonom ein hunain, i allu talu am y pechod lleiaf. 1. Io. 1.9. Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe, a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac i'n glanhao oddiwrth pob anwiredd. A Dafydd a arferodd hyn. Ps. 51. ac y 32.5. Mal dymma'r môdd y mae i ni gyfaddef a chydnabod ein pechodau a'n beiau: Pechodau a beiau argyoeddus amlwg, a'r rhai sydd yn blino'r gydwybod, a ddyle-mi yn enwedig eu cyfaddef pob un ar ei pennau: ond pechodau cuddiedig anhyspus i ni, a ddy­lem ni eu cyfaddef yn gyffredinol. Psal. 19.12.

6. Ac yn ddiwaethaf, y mae yn eglur yma, nad oes dim cyfiawnhád trwy weithre­doedd. Dyledion yw ein pechodau, ac felly hefyd yw holl weithredoedd y ddeddf: wei­thian pa wedd y geill vn dyn dalu'r naill ddyled â'r llall.

4. Y Pethau iw alaru o'i plegit.

Y Pethau iw alaru o'i plegit ydynt bwys a baych ein pechodau, llygredigaethau ein naturiaeth, drygioni ein bywyd, a phecho­dau ein ieuengctid a'n henaint. Psal. 40.12. Canys drygau anifeiriol a'm cylchynnasant o'm hamgylch, fy mhechodau a'm daliasant, fel na allwn edrych i fynu: amlach ydynt nâ gwallt fy mhen, am hynny y pallodd fyng-ha­lon gennif. Fel hyn y mae i ni duchan a bod yn flinderog gydâ Dafydd dan y baich hwn: ond y mae'r gofid hyn am be­chod megis peth dieithr amheuthyn yn y byd. Am bethau'r bywyd hwn mawr yw gofid a galar dynion, os cant golled ynddynt: eithr nid oes arnynt hwy ddim blinder am eu pe­chodau, na gofal rhac pechu, er bod eu heneidiau gwerthfawr ar y ffordd i fod yn golledig oblegit hynny, onis troant at Dduw trwy Jesu Grist oddiwrthynt. Ond pe bai heb fod nac uffern i ddioddef poenau yn­ddi, na chythrel, ra chydwybod i'n cyhuddo, na barnwr i ddial, etto ni ddylem ofidio a galaru am bechod, megis ac y mae'n be­chod, sef yn erbyn Duw mor Sanctaidd ac mor dda.

5. Rhinweddau a grasyssau iw dymuna.

Y Grâs iw ddymuno yma, yw Yspryd grâs a gweddiau. Zach. 12.10. hynny yw dawn yr Yspryd glan drwy'r hwn ein gwneir ni yn alluawg i alw ar Dduw am faddeuant [Page 103]o'n pechodau. Y neb a fo wedi gwneuthur yn erbyn cyfreithiau 'r Brenin, a chwedi cwympo mewn perigl ac enbydrwydd am ei hoedl, ni bydd hwnnw lonydd, ac nis gor­phywys, nes caffael ohono ei bardwn a ma­ddeuant: yn yr vn rhyw fodd, y mae'r rhai sydd a'r yspryd hwn ynddynt, ac a ydynt drwy hynny yn deimladwy o'u pechodau, yn llawn aflonyddwch, ac nis medrant orphywys, nes iddynt hwy mewn gweddi, gaffael eu ys­gafnhau o lwyth a baich eu pechodau. Yr wyfi yn cyfaddeu a geill dyn ddadwrdd ac ar­fer aml-eirieu, eithr nis geill efe weddio yn fuddiol ac yn ffrwythlon cyn caffael ohono yr yspryd hwn i wneuthyr iddo grio a galw Ab­ba Dâd. Pawb a fedrant weddio am eu hang­enrheidieu bydol: eithr dysc di (yr hwn a weli dy drueni) weddio am gael rhan yng­hrist, gan fod arnatti ei eisieu ef, ac am faddeu­ant pechodau trwyddo ef.

‘Fel y maddeuom ninnau i'n dyledwyr. ’

1. Y cyttundeb.

Y Mae'r geirieu hyn yn rhan o'r bum­med arch: canys hi a osodwyd ar lawr ag ammod neu gondisiwn, sef, Maddeu i nyni, megis ac y maddeuom ninnau i eraill; ac y mae'r geirieu yma yn pwyso ar y rhai sy n myned o'r blaen megis rhe­swm ohonynt: ac yr ys yn ei cym­meryd [Page 104]oddiwrth gymmhariad neu gyffelybia­eth mal hyn: Os ydy-mi sydd heb ddim ond megis a gwreichionen o drugaredd ynom yn maddeu i eraill: yna maddeu dithe yr hwn ydwyt megis ffynnon y Trugaredd i ninnau. Mal hyn y mae, Luc. 11. Maddeu i ni ein pecho­dau, canys yr ydym ninnau yn maddeu i bawb sydd yn ein dyled. Y mae'r Papistiaid yn cyn­nill athrawiaeth wrthwynebus oddiyma: ma­ddeu i ni (meddant hwy) megis y maddeuom, gan wneuthyr ein maddeuant ni yn achos i yr­ru Duw i faddeu i ninnau o ran cospedigaethau tymmhorol. Eithr rhaid i ni wybod, nad yw ein maddeuant ni yn achos, ond yn arwydd y ma­ddeu Duw i ninnau.

2. Y deall neu'r ystyr.

1. Holi. A Yw dyn rwymedig i faddeu pob dyled? Atteb. Nis deallir y gair hwn dyled yn y fan hon am ddyledion sy'n dyfod wrth farchnatta, neu trwy fasnach â margenion cyfreithlon, ond am gamweddau, niweidiau, sarhaad, neu golled a wneler i ni, yn ein cyrph, ein cyfoeth, neu 'n henw da. Ac am y dyledion eraill sy'n dyfod trwy fargeinion cyfreithlon, fo a eill dyn i go­fyn hwy a'i codi, os gwnel efe hynny gan ddan­gos a gwneuthur trugaredd.

2. Holi. Pa wedd y geill dyn faddeu dy­ledion gan mai Duw yn vnig y sydd yn ma­ddeu pechodau? Atteb. Ym-mhob cam­wedd a wnelo dyn iw gymmydog, y mae dau drosseddiad: vn yn erbyn Dduw, a'r llall yn [Page 105]erbyn dyn. A'r cyntaf a elwir pechod, yr hwn y mae Duw yn vnig yn ei faddeu: a'r ail a elwir cam, colled, neu sarhaad, yr hyn a eill dyn ei faddeu. Pan speilier dyn, y mae'r gy­fraith wedi ei thorri trwy'r lledrad a'r yspail: a'r cam a wnelir, a wneir i'r dyn y dugyr ei dda oddiarno. Y cam hyn, megis ac y mae yn gam fo a eill dyn ei faddeu: eithr megis ac y mae yn bechod, nis geill dyn mo'i faddeu ond Duw yn vnig.

3 Holi. A eill dyn ddywedyd y weddi neu ofyn yr arch hon yn dda, ac etto dilyn cy­fraith yn erbyn y neb a wnêl gam iddo? Atteb. Fo a eill dyn mewn modd sanctaidd gristnogaidd ddilyn cyfraith yn erbyn arall am ei gam: ac megis y geill milwr mewn rhy­fel gyfreithlon llâdd ei elyn ac etto ei garu ef: felly y geill dyn faddeu cam, a cheisio iawn hefyd mewn modd gristnogaidd: eithr rhaid i ni wrth wneuthyr hyn gofio a chadw pum-peth. 1. Rhaid i ni ochelyd pob dial dirgel, a châs calon, canys os amcanwn ddal gwg, a chasau, nid ydy-mi yn maddeu. 2. Rhaid i ni ochelyd rhwystrau, a gofalu rhag bod ein gweithredoedd yn dramgwydd i'r egl­wys. 3. Rhaid i ni fyned i gyfraith i gynnal heddwch sanctaidd dduwiol: canys pe dio­ddefid pob cam, nis bydde na llywodraeth na heddwch ymlhith dynion. 4. Rhaid i'r suwt a'r achwyn fod, i argyhoeddu, a cheryddu y sawl sydd ar fai, ac i ddwyn ef i edifeirwch am i fai: canys onis gostegir ac onis cospir [Page 106]llawer dyn, fo a eiff waeth-waeth. 5. Rhaid i'r gyfraith fod megis yr help ddiwaethaf: pan na wasanaetho meddyginiaeth wan, fe arfer y Meddygon a'r Physygwyr vn a fo cryfach, a thostach o llawer: felly y dylem ninne arfer y gyfraith, fel y modd a'r ffordd ddiwaethaf, pan fetho pob modd arall. Nid yw arfer byd, (ecsampl yn hyn) i ni iw gan­lyn: canys trwy wûn digofaint, câs, ac vchter meddwl, nis gallant hwy aros vn gymmod a wneler yn ddistaw ac yn ddirgel: ac oher­wydd hynny y maent hwy yn arfer cyfraith yn gyntaf, megis y gwnaeth y Corinthiaid: eithr beth y mae. S. Paul yn ddywedyd. 1 Cor. 6.7. Am hynny y mae diffig mawr yn eich plith. Ond os y gyfraith a arferir yn gyfiawn ac yn gymmwys, fo a eill Cristion ymgyfrei­thio ac er hynny caru y neb y bo efe yn ei ganlyn: canys y mae rhagor a gwahanieth, rhwng dilyn achos yn erbyn dyn ger bron swy­ddog neu awdurdod, ac ymryson rhwng dyn a dyn yn neulltuol ac yn ddirgel: canys dial gen mwya yw pob ymryson ddirgel a phrifat; ac am hynny y mae'n ang-hyfreithlon.

3. Y Defnydd neu'r Arfer.

Y Mae yr arfer o'r rhan hyn o'r arch hon yn Ddaionus ac yn fuddiol iawn; canys y mae hi yn dangos arwydd hynod i ni, i siccr­hau ein cydwybodau am faddeuant o'n pe­chodau. Yn ddiau y mae llawer-iawn yn ar­fer [Page 107]y geirieu hyn yn fynych, ac yn hir o amser, heb gaffael dim siccrwydd am faddeuant o'i pechodau: a'r achos yw, am nad ydynt yn dy­muno ac yn hiraethu am drugaredd Duw, nac yn meddwl chwaith am faddeu i ddy­nion: yr hwn beth pet fae ynddynt, yna yn ddiammeu fo a fydde hynny Sêl a siccr­wydd iddynt hwy am faddeuant o'i pecho­dau. Oherwydd hynny o myn neb ei siccrhau am drugaredd Dduw yn hyn, des­cynned ac aed i lawr i eigion ei galon a'i e­naid ei hun, a chwilied yno yn fanol, ac os clyw efe ei galon yn barod i faddeu, mal y mae efe yn barod i ofyn maddeuant ar law Dduw, y­na y geill ym-siccrhau ei hunan o drugaredd Dduw yng-hrist, mal y dyscod ein achubwr i nyni gan ddywedyd, Math. 5.7. Gwyn eu byd y trugarogion: canys hwy a gant dru­garedd. Ystyriwch y cymhariadau ym­ma. Y mae dyn wrth rodio tan Fur, wal, neu fagwyr gerric mewn diwrnod-oer heulog, yn cael gwres oddiwrth y fagwyr neu'r Mur, yr hon a gawse o'r blaen wrês oddiwrth yr haul: fe [...]ly y mae'r neb a ddangoso drugaredd i eraill, yn gyntaf wedi derbyn, trugareddd o­ddiwrth Dduw. Cymmerwch hefyd ddryll o gwyr, a rhowch fel wrtho, ac fo a edu'r fel ei llûn yn y cwyr: ar ba vn pan yr edrycho neb: fo a wyr yn dda-ddigon fod fel wrth y cwyr, yr hon a adawodd ei llûn a'i hyl yno: felly y mae am bob vn y sydd â pharodrwydd ynddo ei hun i faddeu i eraill: wrth hyn y geill cri­stion [Page 108]wybod yn hawdd yn ei galon ei hun, ddarfod i Dduw selu a siccrhau iddo faddeu­ant o'i bechodau: ac am hynny chwilied pôb dyn yn dda ei galon ei hun, ac edryched, a oes ynddo wir ewyllysgarwch, i faddeu i e­raill, canys hynny yw megis print neu lun trugaredd Duw yn ei galon o'i faddeuant iddo yntef.

Er hynny rhaid cofio, er fod maddeu i eraill yn arwydd bendigedig o waith Duw yn ein maddeu ninne, etto nad yw hynny ond vn arwydd. Nis gallwn ni gasclu meddwl Duw yn gwbl allan o vn tecst o'r scrythur, ond y mae i ni gasclu hynny o'r holl scry­thur: canys yr holl scrythur sydd wedi ei rhoddi gan Dduw, i'n gwneuthur ni'n ddoeth i iechydwriaeth 2 Tim. 3.15: 16. Cyn y gallom ni gan hynny ar sail dda ymsiccrhau, fod ein pechodau ni gwedi ei maddeu, rhaid i ni edrych,

Yn Gyntaf, A oes ynom ni barodrwydd i faddeu i eraill, ac yni'n gwneuthur hynny yn ól yr Arch hon yng weddi'r Arglwydd.

Yn Ail, A oes ynom ni Edifeirwch am ein pechodau, hynny yw cywilydd a thristwch am bechod, casineb at bechod, a gwir brwpas a thueddiad calon i droi oddiwrth be­chod, Canys heb edifeirwch nid oes madeu­ant pechodau iw gael Act. 3.19. Act. 5.31. Luc. 24.47.

Yn Drydydd, a oes ynom ffydd yn Jesu Grist, trwy yr hon yr ydym yn edrych am [Page 109]gyfiawnhad a iechydwriaeth trwy ei haedde­digaethau a'i gyfiawnder ef yn vnig, ac nid trwy ddim o'n heiddo 'n hunain, Canys heb y ffydd hon nid oes maddeuant pechodau, Act. 13.38, 39. Heb. 11.6. Gal. 2.16.

Yn Bedwaredd, a ydym ni megis y Publican edifeiriol, yn cyfaddef ein pechodau wrth Dduw mewn gweddi, gan ddeisyf maddeu­ant amdanynt, ac a ydym ni yn troi oddi­wrthynt (Ah dyna'r gair caled) canys heb hyn hefyd nid oes maddeuant pechodau iw gael, Dihar 28.13. Esay 55.7. Luc. 18.13. 1 Joan. 1.9.

Yn Bummed, A oes ynom gariad at Dduw ac at ei Fab Jesu Grist sy'n rhoddi maddeu­ant inni: ac a ydyw 'r cariad hynny yn ymddangos trwy wir ofal i gadw ei orchy­mynion ef: canys y mae 'r rheini ac y ma­ddeuwyd ei pechodau iddynt, yn ddilys yn caru Duw, ac o gariad atto yn ymroddi i v­fyddhau iddo, Luc. 7.47. Joan. 14.15. 1 Joan. 4.19.1 Joan. 5.3.

Y mae llawer rhai yn gweddio am faddeu­ant ar law Dduw: ond nis gallant hwy aros, y dylent hwy faddeu iw cymmydogion. Ac o hyn y daeth y ddihareb, neu 'r dywediad hwn: myfi a faddeuaf iddo, eithr nis gollyng­af ddim ohono tros gôf: efe a eilt ddyfod i'm pader, ond nis daw byth i'm credo. Chwy­chwi a welwch ymma ymresymmiad neu lo­gic y cythrel, yr hwn sydd yn ceisio profi, mai cariad perffaith yw casineb. Y mae [Page 110]pobl ddeillion anwybodus yn chware â gwe­ddi yr Arglwydd, mal y mae 'r gwybedyn neu 'r cilionyn â'r ganwyll nes ei losgi: canys po mwya, a pho mynycha y gweddiant hwy y weddi hon, mwy-fwy y maent hwy yn galw am farn a dialedd Duw yn eu herbyn eu hunain. Jac. 2.13. Ac y mae hwnnw 'n enwedic yn gwneuthur felly, ac sy'n dywedyd am ei elyn, na faddeued Duw iddo nes ma­ddeuo inne iddo.

Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwa­red ni rhag drwg.

EFo alle rhai dybiaid fod yr arch hon yn ddi-raid ac yn ormod; canys paham y bydde raid i'r nêb a gaffe faddeuant o'i bechodau ofalu ynghylch, neu ofni profe­digaethau? eithr nis dyscodd ein achubwr heb achos da a rheswm arbennig nyni i we­ddio fel hyn. I. Oblegit fod maddeuant pechodau a phrofedigaethau erchyll megis cyfeillion, y rhai ni ellir eu didoli oddiwrth eu gilidd yn y bywyd hwn: yr hyn yr ydy-mi yn gweled ei fod yn wir yng-air Duw, ac mewn praw gristnogaidd: canys nid oes neb yn cael ei guro a'i gernodio gan brofedigae­thau yn y byd hwn, mal y mae 'r pechadur edifeiriol, yr hwn sydd yn crio yn dôst am faddeuant o'i bechodau. Nid oes ond y­chydig-iawn o bobl yn y byd yn gydnaby­ddus â'r cyflwr hwn: canys y mae llaweroedd heb gael eu blino gan brofedigaetheu, ond y maent hwy yn byw mewn mawr lonyddwch a heddwch am gorph ac enaid. Luc. 11.21. [Page 111] Pan fyddo vn cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae'r hyn oll sydd gantho mewn heddwch: ym mha eiriau yr arwyddocaer, nad ydyw annuwolion y byd hwn, yn y rhai y mae Satan yn Arglwyddiaethu, yn cael moi bli­no yn fawr gantho â phrofedigaethau: ac nid rhaid iddo mo hynny gan eu bod nhwy eusoes tan ei law ef, ac wrth ei orchymmyn, i wneuthyr ei ewyllys a'r peth a fynno efe. Eithr pan ddechreuo dyn vnwaith wneuthur cydwybod am bechod, ac ymosod ei hunan i geisio gan yr Arglwydd faddeuant am eu dramgwyddiadau a'i holl feieu, a pharhau ohono hefyd mewn casineb at bechod a Satan, yna y mae 'r gelyn yn rymmys yn ymdrechu; ac yn ystic-iawn yn profi pob modd i geisio gwradwyddo'r dyn hwnnw: ac y mae fe yn taro arno ag amryw brofedi­gaethau i geisio ei orthrymmu ef, ac nid yw yn rhoi i'r pechadur truan hwnnw ddim llonydd vn amser. Ac am hynny, rhaid iddo efe rhag ofn cael ei orchfygu, weddio a galw ar yr Arglwydd yn wastadol, rhag ei arwain i brofedigaeth.

Ymma y galle rhyw ddyn â meddwl-da, ac a chydwybod gristnogaidd gantho ym­resymmu fel hyn: nid oes neb yn cael mo'i orthrymmu a'i flino gan Satan a phrofedi­gaethau i bechod mal yr wyfi: ac am hynny chau yw, nad wy-fi mewn nawdd a gras Duw, ond fym-môd yn ddiammeu yn golledig ger ei fron ef. Atteb. Os yw [Page 112]maddeuant pechodau a phrofedigaethau yn myned yng-hyd, y mae hyn yn wir-wrth­wyneb ir hyn yr wyt ti yn ei ddywedyd. Canys pe bai ti heb fod dim tristwch ynot, na dim blinder arnat am dy bechod, ac heb ger­nodieu vn amser gen dy elynion, sef, y cnawd, y byd, a'r cythrel, nis gellitti fod mewn nawdd a ffafor Dduw, ond yn byttrach tan gaethiwed ac awdurdod Satan: Ac am hyn­ny mae 'r profedigaetheu ysprydol hyn yn arwyddion da iawn o gariad Duw. Canys y mae yn gâs gan y cythrel y nêb a fo Duw yn ei garu: a lle y bo Duw yn gweithio mewn cariad, y mae'r cythrel yn gweithio mewn malis a châs.

2. Eilwaith, fo a gyssylltwyd yr arch hon â'r vn a aeth o'i blaen, i ddyscu i ni, mai megis y dyleni fod yn ofalus, i weddio yn ddyfal ac yn ystig am faddeuant o'r pecho­dau a wnaetho-mi gynt; felly hefyd y dyle­ni yn yr vn modd ymegnio ac ymdrechu am achub blaen i'r pechodau sydd yn dyfod, ac ymosod i ymgadw rhagddynt: Rhaid i ni ochelyd rhac cwympo i'n hên bechodau dra­chefn, nagado i bechodau newydd ein cyr­chu a dyfod o hŷd i ni.

2. Y deall, neu'r ystyr.

VN arch yw'r geirieu hyn i gyd, wedi rhannu yn ddwy ran: ac y mae 'r rhan ddiwaethaf yn egluro deall a meddwl [Page 113]y gyntaf. Nac arwain ni i brofedigaeth: a pha fodd a gwneir hynny? Atteb. Trwy ein gwared ni rhag drwg.

(Profedigaeth) Nid yw profedigaeth ddim arall ond bòd yr enaid neu 'r galon wedi ei denu a'i tharo arni (naill a'i trwy ly­gredigaeth naturiaeth dyn, neu trwy hudo­liaeth a thwyll y byd, neu 'r cythrel) i bechu. Jac. 1.13. Nid yw Duw yn temptio nêb: sef, nid yw nac yn denu nac yn gyrru dyn i bechu.

(Nac arwain ni) neu na ddwg ni i bro­fedigaeth. I arwain, yw bod wedi gorch­fygu gan brofedigaeth, pan yw profediga­eth yn gortrechu, ac yn caffael y goreu neu 'r llaw vchaf. Y deall gan hynny yw, pan denir a phan hudir ni i bechu, Arglwydd cadw ni rhag cael ein gorchfygu, a dyro gyd­a'r brofedigaeth le a mòdd i ddiangc.

Holi. Di-bechod a chyfiawn yw Duw: eithr, os arwaine fo ddynion i brofedigaeth, onis bydde efe awdur pechod? Atteb. Yn ddiau­iawn, y mae llawer (rhag ofn iddynt hwy wneuthyr Duw yn awdur pechod) yn dar­llain y geirieu fel hyn, Na ád ein harwain. Eithr y mae 'r tecst yn eglur-iawn mal hyn, nac arwain, neu na ddwg nyni. Ac y mae 'r scruthyr mewn lleoedd eraill yn arfer y cy­ffelyb eirieiu am Dduw. Exod. 7.3. Dywe­dir fod Duw yn caledu calon Pharo. 2 Thes. 2.11. Danfonodd Duw amryfusedd cadarn fel y crede ddynion gelwyddau. Y mae i'r rhain ac i leoedd eraill o'r fáth, ddeall no­dadwy [Page 114]godidawg mal hyn. Nid oes vn wei­thred a wnêl dyn neu 'r cythrel yn hollawl yn ddrwg: eithr er ei bod yn ddrwg am ryw achos, etto oherwydd rhyw achos arall y mae hi yn dda: canys nis dyle ni dybiaid fod rhyw hollawl ddrwg, megis ac y mae rhwy hollawl dda yn gwbl anllygredig: neu fod dim drwg mor ddrwg, ac yw'r da yn dda. Mal hyn y mae i chwi ddeall y Peth: nid drwg vn weithred yn hollawl: ac oblegit mai gwei­thred yw profedigaeth, nid yw profedigaeth yn ddrwg ymmhob modd: eithr y mae profe­digaeth yn dda mewn rhyw fodd, ac yn ddrwg mewn modd arall; a chyn belled ac y bo'r wei­thred yn dda, cyn belled a hynny y mae llaw'r Arglwydd ynthi: eithr yn yr hyn y mae hi yn ddrwg, nid oes mo'i law ef ynthi: ond y mae Duw yn goddef i Ddyn ac i Satan ei gwneuthyr hi.

1. Pedwar modd y geill Duw fod yn gweithio mewn profedigaetheu, a bod er hyn­ny yn rhydd oddiwrth bechod. I. Yn gyn­taf, y mae yn temptio trwy gynnig achos, i brofi a becha dyn a'i nas gwna. Meistr with ammeu neu ddowto ei wâs, yr hwn ar air a addowese iddo fe ffyddlondeb, a osod gôd neu bwrs yn llawn arian ar ei ffordd ef, i brofi a ddwg efe hi: os efe a'i dwg hi, y mae ei feistr wrth ei ddisgwyl yn ei ddal ef, ac wrth hynny yn cael gwybod ei fod ef yn lleidr dirgel, ac yno yn ei gyhoeddu yng-olwg pawb, fel nas geill hwnnw mwyach dwyllo neb arall weithian, nid oes pechod ym-mrho­fedigaeth [Page 115]y Meistr; ond y mae pechod yng waith y gwas yn ledratta arian ei feistr. Yn yr yn modd y mae Duw yn temptio ei wei­sion, iw profi hwynt. Deut. 13.3. Na wrando ar eirieu y prophwyd hwnnw, neu ar freuddwydudd y breuddwyd hwnnw, canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn eich profi chwi, i wybod a ydych yn caru yr Arglwydd eich Duw a'ch holl galon.

2. Eilwaith, y mae Duw yn arwain i brofe­digaeth wrth attal neu dynnu ymmaith ei râs: Ac nis geill hyn fod yn bechod ynddo ef: oblegit nad yw rwymedig i roddi ei râs i neb, Ac y mae ymma wahaniaeth rhwng profedi­gaeth Duw a Satan. Y mae Duw wrth brofi yn attal ac yn cadw ymmaith ei râs: y mae'r cythrel yn cymmell i drwg, ac yn bwrw drwg ir galon, ac yn cynhyrfu, ac yn gosod ar waith y drwg sydd yno eisoes, yr hyn beth nid yw Duw yn ei wneuthur.

3. Y mae pob gweithred, yn gymmaint a chyn belled ac y mae hi yn weithred, yn dda ac o Dduw, Act. 17.28. Ynddo ef yr ydym ni yn bwy, yn symmud, ac yn bod: Y mae Duw oherwydd hynny yn weithiwr mewn profedigaetheu, cyd ac y bont hwy yn weith­redoedd. Dymma vn gwr yn lladd vn arall: y mae cynnhyrfiad ac ymsymudiad y corph wrth wneuthyr y weithred echryslawn honno, yn dyfod oddiwrth Dduw: eithr y mae dry­gioni yr weithred yn dyfod oddiwrth ddyn, ac oddiwrth y cythrel. A thrachefn dymma ddyn yn marchogeth ar farch clôff, ac yn ei yrru: y marchogwr yw achos ei fynediad [Page 116]a'i gerddediad ef ond y march, ei hun yw'r achos o'i gloffni: Felly y mae Duw yn awdur o'r weithred, eithr nid yw o ddrygioni'r wei­thred.

4. Y pedwerydd modd yw, oherwydd y di­ben a diwedd y peth: y mae Duw yn tem­tio ei wasanaethwyr yn vnig iw ceryddu a'i cospi, ac iw darostwng hwy am eu pecho­dau, ac iw profi, pa wedd y dioddefant hwy y groes neu adfyd, ac iw cyffroi a'i gyrru nhw fwy fwy iw garu ef. Deut. 8.2. Fe gustyddi­odd Duw Blant yr Israel iw profi, a gadwent hwy ei orchmynion ef. 2. Cron. 32.31. Efe a brofodd Hezecias i weled ac i wybod y cwbl a'r a ydoedd yn ei galon ef. Diben y cythrel wrth demptio, yw yn vnig i ddwyn dyn i ddinistr: Ac fel hyn nid rhaid i ni ofni dywedyd, fod Duw mewn rhyw fodd yn temptio ei wasana­thwyr ei hun.

(Gwared ni rhag drwg) Hynny yw, Rhyddha ni oddiwrth nerth a gallu'r cnawd, y cythrel, a'r byd. Y mae Rhai yn cymmeryd drwg yn y lle hyn yn vnig am Ddiafol, eithr nyni a allwn ei gymmeryd yn helaethach am ein holl elynion ysprydol. 1.10.5.19. Y mae'r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni, sef, tan nerth a gallu pechod a'r cythrel. Y mae'r geirieu hyn (mal y dywedais o'r blaen) yn agoryd ac yn eglurhau'r rhan gyntaf, canys pan wa­redir dyn rhag drwg, nid ydys yn ei arwain ef i brofedigaeth: o tynnir yr achos heibio, fo a baid yr achosedig, neu'r peth sy'n can­lyn yr achos.

3. Yr Arferau, neu'r Defnyddion.

1. YN hyn y gallw-ni ddyscu a gweled, mai Duw cyfiawn Sanctaidd yw Jeho­fa, yr hwn a feder weithio mewn gweithred ddrwg ac etto bod heb bechod: Megis yng werthiad Joseph, yng hystudd Job, Ac yn Nioddefaint Crist, yr oedd Llaw Dduw, a llaw Satan, a llaw Dynion: yn y gweithre­doedd hyn yr oedd gan Satan a Dynion ddibennion drwg, a chyn belled a hynny yr oeddynt hwy yn weithredoedd pechadurus: ond yr oedd gan Dduw ddibennion da yn y cwbl, a chyn belled ac yr ydoedd ei law ef ynddynt, nid oeddynt nac yn ddrwg, nac yn bechadurus.

2. Lle yr ydy-mi yn dywedyd, nac ar­wain ni, &c. peth nodadwy yw, nas geill diafol mewn profedigaethe fyned ddim pell­ach, nag y bo Duw yn gado ac yn dioddef iddo fyned.

3. Nis dyle-mi weddio am dynnu pro­fedigaethe yn llwyr oddiwrthym, neu ein rhyddhau yn hollawl oddiwrthynt hwy: eithr na bo iddynt hwy ein gorchfygu ni: Canys ewyllys yr Arglwydd yw gael o'i Eglwys ei phrofi. Ie, fo a ddeisyfodd Dafydd ar Dduw am gael ohono rwy fâth o brofedigaeth, Psal. 26.2. Hola fi Arglwydd a phrawf di fi. Ac medd Jaco: Cymmerwch yn lle dir­fawr lawenydd fy mrodyr pan syrthioch mewn amryw brofedigaethe. Iac. 1.2.

[Page 118]4. Y mae yn hynod ymma hefyd fod pob dyn o'i naturiaeth ei hun yn wâs caeth tan bechod a Satan. Canys lle y mae rhyddhad fo a fu yno gaethiwed yn gyntaf. Y mae hyn he­fyd yn gorchfygu rhysymmau'r papistiaid ac sydd yn dal ac yn ymddiffyn fod rhydd ewyllys mewn dyn ir hyn sydd dda, canys yr ydym ni trwy naturiaeth yn feirw mewn pechod, mal dyn mewn bêdd: a rhaid i ni weddio fel hyn nes ein gwared yn gwbl ac yn llwyr oddiwrth bechod.

Y Llygredigaeth a ddyle-mi alaru yn yr arch hon oiblegit, yw y gwastadol wrthnyssigrwydd y fydd yn ein drwg naturiaeth, a'n parod­rwydd mewn pob profedigaeth i ymroi ein hu­nain i bechod ac i Satan. A rhaid i weddi­llion ein hên gaethiwed tan Satan, fod yn flin ac yn dôst-iawn genni-mi: ie rhaid i ni alaru oblegid y rheini yn ddirfawr. Pfal. 137.1. Wylodd yr Iddewon pan feddyliasant am Sion mewn caethiwed corphorol: O ba faint mwy y dyle mi wylo pan bo ni 'n clywed cyfraith yn ein aelodau, yn gwythryfelu yn erbyn cyfraith ein meddwl, ac yn ein caeth­gludo i bechod.

Y Fendith iw ddymyno ymma yw, ar gynnal o Dduw nyni trwy ei yspryd-rhad: Psal. 51.12. Yr hwn a elwir felly, oble­git ei fod yn ein rhyddhau, ac yn ein gosod ni beunydd fwy-fwy allan o gyrchfa a chyr­haeddiad pechod a Satan.

‘Canys eiddot ti yw'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant yn oes oesoedd.’

1. Y deall.

Y Mae'r geirieu hyn yn cynnwys rheswm neu achos yr holl archau o'r blaen: yr hyn fy yn ein hyf-hau a'n ysprydoli i ofyn gan Dduw bethau rheidiol i ni.

(Eiddot ti yw) Y mae gan Frenhinoedd daia­rol deyrnasoedd, nerth a gogoniant. Dan. 2.37. Ac etto nid ohonynt eu hunain y mae'r rhain ganthynt hwy, eithr oddiwrth Dduw, Rhagla­wiaid neu Swyddogion pwy vn a ydynt hwy ar y ddaiar hon. Ac oherwydd hynny, er mwyn gwahanu rhwng teyrnas Dduw, ei allu, a'i o­goniant ef, a'r eiddynt hwy, (sef Brenhinoedd y ddaiar,) yr ydys yn dywedyd, eiddot ti yw 'r deyrnas &c. sef, fod y rhain oll gan Dduw ynddo ei hun, ac ohono ei hun, a chanthynt hwythau oddiwrtho ef.

(Y deyrnas) Fo ddeonglir ac a agorir y geirieu hyn yn dda iawn. 1. Chron. 29.11. I ti Arglwydd y mae mawredd, a ga­llu a gogoniant, a goruwchafiaeth a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd, ac yn y ddaiar sydd eiddo ti: y deyrnas sydd eiddot ti Arglwydd, yr hwn hefyd a ymdderche­faist yn ben ar bob peth. Fo a ddywedir fod y deyrnas yn eiddo Duw, oblegit mai efe yn unig sydd yn meddiannu pob dim oll ac y sydd: ac oblegit mai efe bie'r vchel lywo­draeth ar bob dim, iw rheoli yn ôl ei ewy­llys ei hun. Weithian gan mai Duw bie pob [Page 120]dim oll ar y sydd yn y nefoedd, ac ar y sydd ar y ddaiar, ni allwn gasclu oddiwrth hynny reswm cadarn, i'n cynhyrfu a'n dwyn i weddio a galw arno ef yn vnig, am y nawdd, y doniau, y grâs, a'r bendithion sy'n niffig inni.

(Y nerth) Y mae gen dywysogion a bren­hinoedd daiarol deyrnasoedd, ac etto y maent hwy lawer-gwaith yn ddi-nerth ac heb allu: eithr y mae gen Dduw Deyrnas, nerth, a gallu hefyd: ie y mae ei allu ef yn ddifesur, ac yn annherfynol, ac efe a eill a fynno, a mwy nag a fynno: eithr am y pethau sydd yn dyfod o wendid ac eisieu gallu, nis geill efe mo'i gwneuthyr, megis dywedyd celwydd, a'i wadu ei hunan, a phe galle, nis bydde efe holl alluawg. Ac mal y mae efe yn holl alluawg ynddo ei hun, felly y mae holl allu pob creadur yn dyfod oddiwrtho ac ohono efe yn vnig.

Holi. Pa wedd y geill hyn fod, a chan y cythrel nerth neu allu i bechu, yr hwn nid yw oddiwrth Dduw? Atteb. Nid nerth neu allu yw pechu, eithr yn hyttrach eisieu nerth a gallu: pe bai amgen, bydde holl nerth a gallu Satan yn dyfod oddiwrth Dduw.

Ac oddiwrth hyn hefyd y mae yn tarddu allan rheswm arall i'n gyrru ni i weddio a galw ar Dduw. Oherwydd bod yr holl allu yn eiddo efe: nis gallwn ni byth wneu­thyr dim o'r hyn yr ydy-mi yn ei ofyn, ond trwy 'r gallu yr ydy-mi yn ei dderbyn oddi­wrtho ef.

(Eiddot ti 'r gogoniant) Y mae hyn, yn [Page 121]tarddu ac yn codi o'r ddau beth y ddywet­pwyd eisioes eu bod yn perthynu i Dduw, sef y Deyrnas, a'r Gallu: Canys gan fod y titl ar hawl ymmhob dim oll, a'r nerth, ar gallu iw dosparthu a'i llywodraethu hwynt, yn perthynu i Dduw; y mae yn canlyn yn gymmwys am hynny fod yr holl ogoniant yn eiddo efe: ie ynddo fe y mae cyflawader y gogoniant: a holl ogoniant y creaduriaid sydd ohono efe. I bechaduriaid nis perthyn dim ond cywilydd a gwarth. Dan. 9.7.

Y mae 'r peth hyn hefyd, yn rhoddi try­dydd achos i'n cynhyrfu ni i weddio a galw ar Dduw yn vnig. Canys gan fod yr holl ogoniant yn gyfiawn yn eiddo fe, rhaid i nin­ne oherwydd hynny alw ar ei enw bendi­gedig ef, mal y gallo-mi drwy hynny roddi iddo ei ddyledus ogoniant.

(Yn oes oesoedd.) Weithie y mae 'r gair oes yn arwyddoccau amser cant o flynyddo­edd: ond yr ydys ymma yn ei gymmeryd am dragywyddoldeb; oblegit nad yw tragy­wyddoldeb ddim ond amlhâd amseroedd neu oesoedd. Ac mal yr yspysir tragywyddoldeb ymma wrth oesoedd; felly yng-withwyneb i hynny yr ydys weithie wrth tragywyddol­deb yn hyspyssu amser hynod a phennodol. Gen. 17.8. Y mae Duw yn addo rhoddi i Abraham wlâld Canaan yn etifeddiaeth dra­gwyddol, sef, yn hir o amser. Canys pe bai amgen, fo a fydde hâd ac eppil Abraham etto hyd yn hyn o amser yn meddiannu 'r [Page 122]wlâd, yr hyn nid ynt. Ac am hynny, fel y mae yn fynych y cwbl wedi osod yn lle rhan, sef, tragywyddoldeb yn lle fwrn o amser: felly yr ydys ymma yn gosod rhan yn lle 'r cwbl, sef, oesoedd am dragwyddoldeb. Y mae hyn hefyd yn gwneuthur gwahaniaeth rhwng tywysogion daiarol a'r holl alluawg Jehofa. Y mae iddynt hwy deyrnasoedd, gallu, a go­goniant tros fyrr o amser: eithr y mae 'r eiddo efe, yn vnig iddo efe, ac yn dragy­wydd.

2. Yr arferau neu'r defnyddion.

1. YMma yr ydy-mi yn dyscu, y dylem ymostwng ein hunain wrth weddio ger bron Duw, ac ymwrthod neu wadu yn lân yr hyn oll sydd yno-rni. Eiddo efe, nid eiddo ni yw 'r deyrnas, a'r gallu, a'r gogo­niant: nid ydy-mi well nâ gwrthryfelwyr a thraeturiaid yn ei erbyn: od oes dim da yno mi, oddiwrtho fe y mae hynny wedi dy­fod, ie a'r gras i weddio a galw arno fe hefyd: A'r neb nis cydnebydd ac nis cyffesa hyn yn ei weddi, nis ceiff mo'i wrando mwy nâ'r cerdottyn coeg-falch nis dengys mo'i eisieu, ac nis addef mo'i angen.

2. Eilwaith, yr ydy-mi mewn gweddi yn dyscu, y dylem ni gredu a choelio dau beth, sef gallu, ac ewyllys Duw: ac adailadu ar y rhain, sef ei allu, gan ei fod yn holl-alluawg; ai ewyllys, gan ei fod yn ofalus i r oi a chy­flawni ein deisyfiadau, mal y dangoswyd yn [Page 123]y rhag-ymadrodd: yr ydys yn dangos ac yn gosod allan y cyntaf o'r rhain yn ei deyr­nas, a'i allu: y mae 'r ail yn hyspys ac yn hynod hefyd, gan fod y gogoniant yn eiddo fe; 2 Cor. 1.20. Oblegit holl addewidion Duw ynddo ef ydynt Amen, er gogoniant i Duw trwyddom ni.

3. Ac o hyn yr ydy-mi yn dyscu y dyle gweddi a thalu diolch fyned ynghyd: canys megis ac yr ydym ni yn gofyn ac yn deisyf pethau rheidiol ar law Dduw yn y chwech arch, felly yr ym yn y geirieu hyn yn rhoddi iddo ddiolch, fawl, a gogoniant. Phil. 4.6. Na ofelwch am ddim: eithr ymmhòb dim dango­ser eich dymuniad i Dduw mewn gweddi a deisyfiad gyd â diolchgarwch. Nid oes vn ohonom pan ddêl eisieu arno, nas bydd ba­rod i weddio: eithr wedi ini gaffael ein rhaid, a derbyn ein gofynniad, yr ydy-mi yn ddi­gon di-bris ac yn ddiofal-iawn am roddi a thalu diolch: ond y mae yn rhaid i'r nêb a weddio yn deilwng ac yn berffaith wneu­thur hyn, sef, cyssylltu y ddau, sef, gweddi a diolch yng-hyd. Ac mae swm y cwbl o fawl yr Arglwyd Dduw yn sefyl [...] y [...] y tri pheth hyn. 1. Ei fod ef yn Frenin perffaith, a hyn­ny o'i wir gyfiawnder ei hun. 2. Ei fod ef yn berffaith o allu i lywodraethu a rheoli pob dim oll. 3. Gan fod gallu a theyrnas iddo, fod iddo hefyd ogoniant, yr hyn sydd yn ym­ddangos yn ei waith yn meddiannu ac yn dal ei deyrnas, ac yn ei waith yn egluro ei allu i lywodraethu a rheoli honno.

[Page 124]4. Beth bynnag a ofynno-mi, rhaid i hyn­ny fod er gogoniant Duw. Dymma 'r peth cyntaf a ddyscwyd i ni ofyn, a'r diwaethaf a ddyle-mi gyflawni, oherwydd ei ddangos a'i yspysu i ni yn nechreu ac yn niwedd y we­ddi hon.

A hyn sydd ddigon am y denfydd sydd iw wneuthur o'r holl eirieu hyn-ynghyd: nyni bellach a wnawn arfer neu ddefnydd mwy neulltuol ohonynt hwy. 1. Lle yr ydys yn dywedyd, Eiddot ti yw 'r deyrnas: Rhaid i dywysogion, pennaethiaid, a swyddogion wy­bod, fod eu holl awdurdod a'i rheolaeth yn dyfod oddiwrth yr Arglwydd: a rhaid iddynt oherwydd hynny feddwl a chofio, am ym­ffurfio ac ymddwyn eu hunain megis rhag­lawiaid neu swyddogion i Dduw, ac arfer eu gallu i ddwyn dynion i vfyddhau ac i ymo­stwng i ddeddfau Duw, a chyfeirio ohonynt ei galwad yn hollawl iw ogoniant ef.

2. Lle yr ydy-mi yn dywedyd: Eiddot ti yw 'r nerth a'r gallu, yr ym yn cael rhybydd, ar gadw ohonom ni oll yng Hwmpas a chylch ein galwedigaeth ein hunain, pan wne­lom ni ddim megis gwasanaeth i Dduw. Canys nid oes dim gallu genny-mi oho­nom ein hunain: ac am hynny rhaid i ni ofyn nerth a gallu gan Dduw, mal y gallo­mi fod yn alluawg i rodio yn vnion ac yn gy­frawn ger ei fron ef, a thalu iddo ein holl ddyledion.

3. Wrth ddywedyd, Eiddot ti yw 'r gogo­niant, yr ydy-mi yn dyscu y dyle-mi geisio [Page 125]gogoniant Duw vwchlaw pob dim oll, ac nid ymgais am yr eiddom ein hunain, os dymy­nwn gael mawl, gair, ac enw da, ymmhlith dynion. Os efe a ryddi ti fawl a chlôd ym­mhlith dynion, dyro dithe ddiolch iddo ynte: ac onis rhydd, etto bydd di fodlon, canys eiddo efe yw 'r gogoniant yn holl­awl.

‘Amen.’

NYni a glywsom beth yw 'r rhagyma­drodd, a pha bêth yw 'r archau: wei­thian y mae y drydydd rhan yn canlyn, sef, cyttundeb, neu destiolaeth o ffydd (yr hwn beth sydd reidiol mewn gweddi) yn y gair hwn, Amen. Ac y mae yn cynnwys mwy nag a dybie neu a feddylie dynion ar y golwg cyntaf: y mae 'r gair yn arwy­ddoccau hyn, yn wir, felly y bo, neu efe a fydd hyn felly. 2 Cor. 1.20. Yr ydys yn fynych yn ei gymmeryd am gyttundeb noeth rhwng y bobl a gweinidog y gair, wrth ddy­wedyd, Amen: eithr y mae ymma yn cyn­nwys mwy: canys y mae pôb pwngc yn y weddi hon yn rheol nid yn vnig i weddi gy­ffredin, ond hefyd i bob gweddi brifat doir­gel, ac fe ddyle 'r gweinidog yn gystal a'r cyffredin bobl ei harfer a'i dywedyd. Wei­thian gan fod dau beth enwedic mewn gweddi: y cyntaf, deisyfiad o ras: a'r ail, ffydd, i gredu y canniata Duw y pethau yr ydy-mi yn eu deisyf. Y cyntaf a eglurwyd yn y [Page 126]chwech arch: a'r diwaethaf a osodwyd allan yn y gair hwn, Amen, gan ddwyn ynddo hyn o ddeall neu sens, sef, Mal y darfu i ni, o Arglwydd, ofyn y pethau hyn ar dy law di, felly yr ydy-mi yn credu, y cawn ni hyn i gyd oll yn yr amser y bo da gennyt ti, a hynny er mwyn Crist. Y mae gan hynny y rhan hon yn ardderchoccach nâ'r, flaenaf, yn gym­maint ac y mae ein ffydd yn ardderchoccah nag yw ein deisyfiad. Canys yr ydys yn cynnwys yn y gair hwn destiolaeth o'n ffydd ni, lle nad yw 'r archau yn testiolaethau ond yn vnig ein deisyfiadau. Ac mal y mae 'r gair hwn yn ddiwaethaf, felly y mae he­fyd megis sêl i'n gweddiau, iw gwneuthyr hwy yn fwy ei hawdurdod, a rhaid iw arfer hwn nid yn vnig er atteb y gweinidog sy'n gwe­ddio yn y gynnulleidfa (fel y mae pobl yn gyffredinol yn gwneuthur) eithr hefyd er testi­olaethu ein crêd a'n ffydd am y pethau yr ydy-mi yn eu deisyf a'u gofyn.

2. Grasyssau iw dymyno.

WRth hyn y mae i ni ddyscu, pa râs a ddyle-mi arfer mewn gweddi. Rhaid i ni pan weddiom ymegnio am roddi coel i addewidion Duw, ac ymryson yn lew yn erbyn anobaith ac ang-hrediniaeth. Marc. 9.24. Yr wyfi yn credu ô Arglwydd, cymmorth fy ang-hrediniaeth i. Psal. 42.11. Paham i'th ddarostyngir fy enaid? a paham y terfysci ynof? ymddiried yn Nuw. Y mae llawer [Page 127]rhai yn sefyll ar nerth a pherffeithrwydd eu ffydd, ac hwy a ddadleuant trostynt ei hu­nain, nas anobeithiasant hwy erioed; ac et­to y maent hwy yn gŵyro, ac yn myned ym mhell oddiar y ffordd: Canys y mae mwy neu lai o amheuon yn cyd-ganlyn gwir ffydd bob amser, cyhyd ac y bo ffydd yn amher­ffaith. Ac oherwydd hynny nid yw'r ga­lon y sydd heb glywed dim anobaith yn­ddi, yn llawn o ffydd, ond llawn y mae hi o falchedd ac o ryfyg: Ond am y rhai y mae anobaith yn eu blino, ac sydd yn achwyn yn dôst rhag anobaith, y mae iddynt hwy lai o achos i ofni: canys megis nad yw'r tàn ar dwfr yn ymryson, nes eu cyffwrdd yng­hyd, felly nid yw anobaith a ffydd, nes i ffydd ymwreiddio yn y galon.

I ddiweddu, nyni a welwn pa fath wei­thred ardderchog yw gweddi; yn yr hon, y gellir arfer yn eglur ddwy ddawn neu ddau o rasyssau cristnogaidd, sef newynu a sychedu yn ôl trugaredd, ac heb law hyn ffydd, trwy yr hon yr ym yn credu, y cawn ni yr hyn yr ym yn ei ofyn. Ac oblegit y gellir arfer grâs mewn gweddi, fe ddyle hynny ein hannog ni i ddyscu gweddio.

Am yr Arfer O weddi 'r Arglwydd:

DIben Gweddi 'r Arglwydd yw dangos, a dys [...] i eglwys Dduw, ymmhob man, ar bob amser, ac ar bob achos, pa beth a pha fodd i weddio, er bod eu gweddiau yn anneirif: Ac onis byddant hwy wedi eu gwneu­thyr ar lûn a dull y weddi hon, nis gallant [Page 128]fod yn gymmeradwy gyda Duw. Wrth arfer y weddi hon yn lle ecsampl i'n cyfarwyddo, y mae tri pheth yn anghenrheidiol. 1 Y cyntaf yw gwybodaeth o weddi yr Arglwydd, a'i holl rannau: y neb a chwennycho weddio, yn ôl hon, rhaid iddo wybod ei deall a'i hystyr hi, a'r eisieu a'r pechodau iw alaru oi plegit wrth ei harfer hi, a'r donniau a'r grasussau iw dymuno: ac ir diben hyn y deonglwyd y weddi. 2. Wedi gwybod hyn, y mae yn rhei­diol hefyd yn yr ail lle, fedry ohono gyfeirio bob eisieu a phôb grâs i vn o'r chwech arch: er ecsampl, wrth glywed ynddo ei hun fal­chedd calon, rhaid iddo fedry dywedyd y mae hyn iw alaru oiblegid wrth arfer yr arch gyntaf: ac wrth glywed gwrthnyssigr­wydd, a llaesdra neu ddiogi am wneuthyr a chyflawni gorchmynnion Duw, dyle wybod a medry dywedyd, mai pechod yw hwn, sydd raid gweddio yn ei erbyn yn y drydydd arch: Ac fel hyn y bydd rhaid iddo gyfeirio pôb eisieu iw ben ei hun: a thra­chefn rhaid iddo fedry cyfeirio pob grâs y sydd iw ddymyno i vn o'r chwech arch: me­gis nerth mewn profedigaeth i'r chweched: ffydd a chréd yn rhagddarparwch Duw, i'r bedwerydd: gwybodaeth am Dduw, i'r gyntaf, &c. Ac fel hyn am y lleill. 3. Yn y trydydd lle, rhaid iddo cyn gweddio ystyr­ied a'chonsidro beth yw ei eisieu, a'r ammher­ffeithrwydd y sydd fwyaf yn ei flino, a'r grasy­ssau hefyd y mae fo yn hiraethu amdanynt:ac yn a er cynhorthwyo a helpu ei gôf, rhaid iddo [Page 129]fyned at yr archau; a mefyrio ynddo ei hun, a meddwl, a chofio, yn gyntaf, am y pethau y sydd berthynassol ir arch gyntaf; a'r pethau a berthynant i'r a'il yn nesaf, a myned rhagddo yn y modd hyn mal y bo iddo achos. Fel hyn y geill y neb a gofio drefn a dosparth yr archau fod yn abl, (trwy ddwyn a chy­feirio pôb grâs, a phob eisieu iw ben ei hun) i wneuthyr gweddiau, a gwahanu rhwng pôb arch ai gilidd, a'i newid hwy megis ac y bo'r amser, a'r lle, a'r achos yn gofyn.

Holi. Ai angenrheidiol yw i ni ddilyn yr holl archau, wrth weddio? Atteb. Na raid, ond yn vnig y rhai a fo yn perthynu yn bennaf ac a fo yn gyfattebol i'r amser, i'r lle, ac i'r achos, megis ac y mae Paul yn gwneuthyr ei weddi. Coloff. 1, 9.10. Ac fo a ellir dwyn, a threfnu ei holl rannau hi, yn gydgymmwys a'r drydydd arch ac a'r diwaethaf.

Eilchwaith, fe Ddichon Cristion hefyd; wneuthyr cyffes helaeth odidawg o'i becho­dau trwy'r weddi hon, os, gan gadw a di­lyn trefn yr archau, y cyffessa ac y galara efe am yr anwireddau a'r pechodau, y mae pôb arch yn gofyn ac yn ein rhybyddio am we­ddio yn eu herbyn. Ac y mae'r weddi hon yn gwasanaethu i'n cyfarwyddo ni pa fodd i roddi a thalu-diolch i Dduw am ei holl dru­gareddau mal hyn: cofied dyn yr holl ddon­niau a'r grasyssau a dderbyniodd efe oddi­wrth Dduw, ac yna cyfeiried nhwy at Dduw [Page 130]yn ôl trefn yr archau, a diolched iddo yn y modd hwnnw, gan droi pôb arch o'r we [...] ­di i ddiolchgarwch.

Am ogylchiadau gweddi.

Holi. A'I rhaid arfer a chlywed llais mewn gweddi? Atteb. Mewn gweddi gyhoeddus y mae yn rhaid bod a chlywed llais; oherwydd fod y gweinidog megis ta­fod neu safn i'r bobl, ac y maent hwythau yn rhoddi cyt-Sain a chyttundeb i'r weddi a wnêl efe. Cymmesurol ydyw hefyd arfer llais mew gweddi ddirgel brifat, ac etto fe ddy­le hynny fod yn ddistaw. 1. Rhoddes yr Arglwydd i ni y llais yn gystal a'r galon iw fendithio a'i anrhydeddu ef, Jac. 3.9.2. Gwnaeth Duw y tafod yn gystal a'r galon, ac efe a fyn ei foliannu a phôb vn o'r ddau. 3. Y mae'r llais yn fynych yn cynnhyrfu'r galon; a thrachefn, y mae gwressogrwydd serchiadau y galon yn peri ac yn dwyn a­llan y lais, a chan hynny y mae'r llais yn rheidiol mewn gweddi ddirgel; er y gellir ar ryw achos fod heb arfer y llais, am nad yw bob amser yn angenrheidiol: Gweddiodd Foe­sen ac Hanna yn ddi-air ac yn ddistaw: Exod. 14.15.1. Sam. 1.13.

Holi. Pa ymddygiad corphorol a ddyle­id ei arfer wrth weddio? Atteb. Nid yw gair Duw yn dangos dim cyfarwyddyd neull­tnol am hyn. Fo a weddiodd ein Achubwr a'i [Page 131]ddyscyblion mewn llawer modd ac amryw ymddygiad corphorol: weithie wrth benlin­nio, weithie o'i sefyll, weithie a'i hwynebau ar lawr, weithie yn derchafu eu llygaid tua'r nefoedd, weithie yn edrych tu a'r ddai­ar, weithie o'i heiste, weithieu o'i gor­wedd, &c. Lu. 22.4. Act. 7.60. Nid ar yr agwedd neu'r ymddygiad oddiallan ond ar awydd a serch y galon y mae Duw yn edrych fwya: ac etto mae yn rhaid i ddau beth fod bob amser yn yr ymddygiad: 1. Y cyntaf yw gweddeidd-dra: 2. A'r Ail yw bod yr ymddygiad yn gymmwys er dan­gos yn eglur awydd a serch y galon: megis pan ofynno-mi drugaredd dderchafu oho­nom ein llygaid tua'r nefoedd, a phan alarom ni am ein pechodau, edrych ohonom tu a'r llawr, ac ymostwng ein cyrph, &c.

Holi. Ymmha fan neu ymmha le a dyle-mi weddio? Atteb. Y mae'r man a'r lle wedi ddangos a'i osod ar lawr: 1. Tim. 2.8. Nyni a allwn weddio ymmhob man, nid oes gwahaniaeth na rhagor rhwng man­nau a'i gilidd. Holi. Fo a ddywed rhai mai'r Babell a'r Deml ydoedd leodd a man­nau i weddio a gwasanaethu Duw ynddynt yn amser y ddeddf? Atteb. Cyphelybiae­thau am Grist a'i Eglwys, ac o'i hvndeb ydo­edd y deml a'r babell: eithr yrowron gan gael ohono-mi y peth yr oeddynt hwy yn ei ar wydoccau, nyni a allwn weddio ym­mhob man. Crist ein Achubwr a weddiodd yn y diffaethwch, ac ar y mynydd, Pedr ar ben [Page 132]y tŷ, Paul ar lan y môr: ac etto rhaid yw arfer gweddi gyffredin mewn lle cyffre­din, megis mewn eglwys neu gappel &c. Nid oherwydd bod ynddynt hwy fwy o sancteidd­rwydd nag y sydd mewn maneu a lleoedd er­aill, eithr er mwyn trefn a gweddeidd-dra.

Holi Pa amser y sydd wedi ei osod a'i ordeinio i weddi? Atteb. Gweddiwch yn ddi­baid. 1. Thess. 5.17. sef, ar bob achos: megis pan ddechreuo wr ryw orchwyl, pa un bynnag a'i ar air, a'i ar weithred. Coloss. 3.17. neu me­gis ac y gwnaeth Daniel yr hwn a weddiodd dair gwaith bob dydd. Dan. 6.10. neu me­gis Dafydd yr hwn a weddie yn hwyr, ac yn foreu, a chanol dydd. Psal. 55.17. A seithwaith yn y dydd, sef, llawer gwaith Psal. 119.164. Fel hyn y bydd i ni weddio yn wastadol ac yn ddi-baid. Y mae pôb dydd yn rhoddi i ni dri achos enwedig i weddio. 1. Dechreuad ein gwaith bob boreu bawb yn ól ei alwadigaeth. 2. A chanol dydd wrth dderbyn creaduriaid Duw, sef, bwyd a diod wrth ginniawa. 3. A'r nos wrth fyned i gyscu.

Ymmhellach, heblaw Gweddi ar amseroedd gosodedig, y mae math o weddian byrrion, y rhai y saethir allan o'r galon yn ddirgel ac yn ddisymmwth: Ac fe ellir arfer y derchafiad hyn o'r galon tua ar Nefoedd, sef y fath we­ddiau byrrion, fel y bo achosion, pob awr o'r dydd,

Fod Duw yn clywed ac yn gwrando ar ein gweddiau.

NYni a draethasom hyd yn hyn am we­ddio ar Dduw, a'r modd i wneuthyr ein gweddiau iddo ef: nyni weithian a gofiwn ar air neu ddau, pa fodd y mae Duw yn clywed ac yn gwrando ar ein gweddiau.

Holi. Pa sawl ffordd y mae Duw yn cly­wed ac yn gwrando ar weddiau dynion? Atteb. Dwy ffordd. 1. Y ffordd gyntaf yw, yn ei drugaredd, pan fo yn canniattau gofynion ac archau y rhai sydd yn galw arno, ac yn ofni ei enw sanctaidd ef. 2. Yr ail ffordd, y mae efe yn ei ddigofaint a'i lid yn clywed ac yn gwrando ar weddiau dy­nion. Mal hyn y rhoddes efe sofl-ieir i blant yr Israel yn ôl ei hewyllys a'i deisyfiad, Psal. 78.29.30.31. Fel hyn y mae dynion yn eu rhegu ac yn eu melltigo eu hunain lawer gwaith, ie ac yn dymyno eu bod wedi eu crogi, neu claddu, ac yn dywedyd Diawl y fe­naid, a'r diawl am cotto, ac yn ôl eu dymy­niad yn cael eu gofyn.

Holi. Paham y mae Duw yn cedi gwrando ar weddiau ei wasanaethwyr? Atteb. 1. iw profi wrth oedi'r amser. 2. i gadw ei ffydd nhwy ar waith. 3. i wneuthyr iddynt hwy gyfadde mai rhoddion Duw, ac nad donniau o'r eiddynt eu hunain yw'r pethau y maent hwy yn eu dderbyn. 4. Rhag cymmeryd yn yscafn ddonniau a grasyssau Duw o'i cael yn [Page 134]fuan. 5. Fel y gellid dodi awch a chwanegu chwant a newyn am râs.

Holi. 3. Pa wedd y mae Duw yn gwrando ar weddiau ei wasanaethwyr? Atteb. Y mae efe mewn dau fodd yn gwrando arnynt hwy. Yn gyntaf, wrth ganniattau iddynt hwy y peth a ofynnasont yn òl ei ewyllys ef: A'r ail modd yw, trwy nâgcau iddynt y peth a ofynnasont, a rhoddi iddynt ryw beth arall o'r vn bwys attebol i hwnnw. Mal hyn y mae Duw yn nâgcau rhoddi donniau bydol dros amser byrr, ac yn rhoddi yn eu lle ddon­niau tragywyddol yn y nefoedd. Fel hyn y y mae Duw yn gwrthod tynnu'r groes oddiar ysgwyddau ei wasanaethwyr, ac yn rhoddi iddynt hwy yn lle hynny nerth ac amyned iw dwyn hi. Gweddiodd Crist am dynnu'r cwppan oddiwrtho: Ni thynnwyd dim ohoni hi, etto fo a'i gwnaethpwyd ef yn ei ddyn­dod yn alluog i ddwyn a dioddef baych a phwys digofaint Duw. Pan weddiodd Paul dair gwaith am symmud y swmbwl a ydoedd yn ei gwnawd, efe a gafodd hyn o atteb. y mae, fy ngrâs yn ddigon i ti.

Terfyn.

Amryw reolau duwiol, perthynasol i bôb Cristion iw harfer.

PAn ddeffroech di gyntaf yn dy wely, bydd siccr i feddwl am yr Arglwydd, a gâd ith enaid escyn i fynu ar aden ffydd, i roddi iddo aberth boreuol o ddiolchgarwch am ei ddaioni i'ti y nôs aeth heibio: a gâd i hyn gael ei gyflawni cyn i'ti feddwl am ddim a­rall, rhag drwy hynny ith enaid gael ei † lychwino â phechod: Gwêl gan hynny ar i'ti ystyried a gwneuthur hyn. Canys y rhai am anrhydeddant i, a anrhydeddaf finne medd yr Arglwydd. † Ddiwyno Psal. 50.23. 1 Sam. 2.30.

2. Pan gyfodech di gyntaf, nac oeda alw dy dylwyth ynghyd, i roddi diolch ir Arglwydd am ei drugaredd yn gyffredin, ac yn neilldu­ol i ti ac ir eiddot. A gwêl na wnelych mo hynny yn llygoer, yn draddodiadol, ac yn vnig o ran arfer: ond gwna ef mewn cyd­wybod a gwîr gariad i Dduw, gan alaru o'th galon, nad ellit ti gyflawni dy ddyled-swy­ddau yn fwy ysprydol a nefol, gan gyfaddef dy bechodau, ac yn ostyngedig ymbil am fa­ddeuant amdanynt. Ac ar ôl hynny, mae yn gymmwys i'ti ymbil am y cyfryw bethau, ac sydd arnat ti eisiau ith enaid neu ith gorph; a chan geisio bendith ar waith y di­wrnod sydd yn canlyn, gwêl i'ti gyfodi i fy­nu [Page 136]mewn ffydd, y bydd Duw er mwyn Christ yn dy atteb di, naill ai yn ôl y pethau a o. fynnaist di, ai ynte mewn pethau y mae efe yn ei weled yn well ar dy lês di. Jos. 24.15. Y mae Jeremy yn galw am felld [...]th ar y Teuluoedd nid yw yn galw ar enw Duw. Jer. 10.25. Jac. 1.6.7. Mar. 11.24. Jo. 14.14. Jer. 29.13.

3. Bydd siccir a * diymmod yn dy feddwl yn wastadol o hyn; mai pa le bynnag y byddych di, a pha beth bynnag y byddych di yn ei wneu­thur, dy fod ti ym mrhesennoldeb yr Argl­wydd; a gâd ir ystyriaeth o hynny, weithio ynot ti barch iw fawrhydi ef, cariad ir rhai sydd yn ei ofni ef, ac ofn rhag pechu yn ei erbyn ef; a hynny yn y dirgel, yn gystal ac yn yr amlwg, gan nad oes le nad yw efe yn ei ganfod. * Diysgog. Dih. 25.3. Psal. 139.2 hyd y 13.

4. Gwna gydwybod o gadw allan o'th ga­lon, bob math ar feddylian ofer, aflan, an­onest, ac annuwiol, a diwreiddia hwynt yn brysur; fel y gellych di gael cymdeithas á Duw, yr hwn sydd barod i letteua gyda 'r sawl ai ceisiant ef a chalonnau union. Gwêl gan hynny na byddych di esceulus i ragflae­nu pechod cyn ei ddyfod ir we [...]thred, canys meddyliau drygionus yn gystal a gweithredoe­dd drygionus oedd yr achos, am ba herwydd y daeth digofaint Duw ar brant yr anufydd-dod. Gen. 6.5.6. Jer. 4.14.1 J [...]. 1.7. J [...]an. 14.23.

5. Gâd ymmaith gellwair a chwedleua o­fer, gan fod yn ofalus i gadw dy dafod oddi [Page 137] wrth ddrŵg, a'th wefusau rhag treuthu twyll. Canys mewn amlder geiriau, ni bydd pall âr bechod. Gan hynny ymattal sydd synwyr; a phan ddywedech di, dywedyd y gwirionedd sydd ddoethineb; Canys angau a bywyd sydd ym meddiant y tafod, a'r rhai ai carant ef, a fwyttânt o'i ffrwyth, Canys wrth dy eiriau i'th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau i'th gondemnir. Eph. 5.4. Dih. 10.19. Dihar. 8.21. Mat. 12.37.

6. Bydd siccr yn dy feddwl mai dy gyflwr presennol sydd orau ar dy lês, (oni bydd ef mewn pechod) pa un bynnag yw ef ai hawddfyd ai adfyd, tlawd neu gyfoethawg; canys tadol rhagluniaeth Duw ydyw. Ac heb ei ewyllys ef nid oes dim yn digwydd iw bobl, a bydded dy ofal pennaf di am fod yn un o'r cyfryw; a gâdi hynny gynnal dy enaid ti i fynu yn fodlon, ac yn gyssu­rus, canys efe a ddywedodd, Nith ada­waf, ac ni'th lwyr wrthodaf chwaith. Luc. 12.22. Mat. 10.29.30.31. Heb. 13.5.

7. Ymegnia am gariad helaeth, canys y mwynhâd ohono sydd hyfryd; mae fe yn cuddio lliaws o bechodau, ac yn gwneuthur dŷn yn debyg i Dduw, canys Duw cariad yw. Oblegid hynny câr dy elyn, canys felly y gor­chymynnir i'ti; ac os gwnaeth efe gam a thy­di, na wna di mor cam â thydi dy hun drwy ymddial arno, canys mae yn scrifennedig i mi mae dial medd yr Arglwydd. Ac na orchfyger di gan ddrygioni, ond gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni. 1. Pet. 4.8. [Page 138]1 10.4.8. Rhuf. 12.19, 20, 21.

8. Gochel ddigofaint, canys fe gyffru gyn­nen, ond atteb arafaidd a ddettru lid; canys fel ac y mae y tân, os chwythu arno, yn ennyn; ond os poeri amo fe a ddiffyd: felly os bydd amynedd yn eisieu, fe eiff y tân yma (sef naturiaeth ddynol) yn * eiri­as. Dilyn gan hynny heddwch á phawb hyd y bo bossibl i'ti, canys newid geiriau sydd yn annog digofaint. Gan hynny distawrwydd (megis dwfr) sydd gymmwysa ir gwres y­ma; canys ystyria nad ydyw digofaint gwr yn cyflawni Cyfiawnder Duw. Dihar 15.1. a'r 14.19. * Fflam, tanllwyth. Heb. 12 14. Jac. 1.20.

9. Na anghofia wneuthur daioni a chy­frannu, canys mae hynny yn orchymynnedig ac yn gymmeradwy gan Dduw. Gan hynny na chau mo'th glûst rhag llêf y tlawd, rhag i'tithau hefyd weiddi, ac i Dduw naccau o'th atteb: A phan wnelych ddaioni, bydd siccir na arferech eiriau coegion, diystyr, fel y mae arfer rhai; canys bernwch chwi onid yw gair da yn fwy cymmeradwy weithiau na rhodd fawr; a gŵr dâ a rŷdd bôb ûn or ddau. Heb. 13.16. Rhuf. 12.13. Dih. 21.13.

10. Gwêl mewn gair a gweithred i'ti fod yn ensampl dda i eraill iw ddilyn: a gâd i hyn gael ei gyflawni yn ddiragrith; ac nac ang­hofia gadw cydwybod dda ymhôb peth, ca­nys hynny a ddŵg i'ti heddwch yn y di­wedd. Phil. 2.15. Act. 24.16.2 Cor. 1.12

11. Ymarfer yn dy holl fywyd wir ostyngei­ddrwydd, [Page 139]canys mae Duw yn gwrthwynebu'r beilchion, ond yn rhoddi grâs ir gostyngedig. Oh béth yw llwch a lludw i fôd yn falch; Dysc gan hynny ostyngeiddrwydd yn ôl en­sampl Christ, yr hwn er ei fod ef yn Dduw, etto er hynny a gymmerth arno agwedd gwâs, ac yn y ddull honno fe a ddywedodd dysgwch gennifi, canys addfwyn a gostyngedig o galon ydwyf. 1 Pet. 5.5. Phil. 2.7. Mat. 11.29.

12. Os bydd un amser i gynhyrfiad da gy­fodi yn dy galon di, na * chynnwys iddo fy­ned allan heb ei chwythu ai ymgleddu, drwy ddarllen, myfyrio, neu weddio; canys fe alle mai gwreichionen oddi wrth Dduw yw ef, a'r môdd i beri iddo gynnyddu, yw my­fyrdod a gweddi. * Naâd. Jac. 1.17.1 Tim. 4.15.

13. O bydd i'ti gwympo i bechod, cais gy­fodi yn ‡ ddiattreg trwy edifeirwch, ac na or­wedd ynddo gyda'r meirw, ond cyfod dra­chefn drwy ffydd yn Ghrist, megis un yn fyw i Dduw; rhag trwy aros mewn pechod ith ga­ledi di ynddo, ac felly bod ohonot yn golledig. ‡ Yn ddioedd Eph. 4.26. Eph. 5.14. Heb. 3.13. Ezec. 18.24.

14. Pa beth bynnag y gymmerech di mewn llaw, cofia dy diwedd; canys tra gwnelych di hynny ni lithri di ddim, gan gyfri dyddiau dy fywyd megis dydd dy farwolaeth; canys nid oes dim siccrach na marwolaeth, na dim ansiccrach nâ'r amser ohoni: bydd gan hyn­ny sobr, a gwiliadwrus, fel y gallo Christ ar [Page 140]ei ddyfodiad, dy gael yn effro. Ac it helpu di i wilio yn well, gád i hyn seinio beu­nydd yn dy glustiau di: Cyfodwch y meirw, deuwch ir farn. Psal. 39.4.2 Thes. 5.6. Luc. 12.37.

15. Treulia 'r Sabboth yn dy holl fywyd *fel y gallo dy enaid ti gael gorphwystra dra­gwyddol ar ol dy farwolaeth. Gwêl gan hyn­ny, na wnelych ddim gwaith arno, ond y gweithredoedd a anrhydeddant Dduw, ac sydd brofedig ar y diwrnod hwnnw, megis gwran­do 'r gair yn ddiwyd, porthi 'r newynog, di­lladu 'r noeth, cyssuro y digyssur, a'r cyffe­lyb. Cymmer ofal ar i'ti ymgadw yn ddy­fal oddiwrth bechod, a hynny ar feddwl, gair, a gweithred, canys sancteiddrwydd a weddei i'r diwrnod hwnnw: ac na thybia fod yn ddigon i'ti dy hûn fod o'r meddwl ymma, ond ymegnia i berswadio dy blant a'th dylwyth i fôd o'r un farn, gan wrando 'r gair, a gweddio yn gyhoedd ac yn neullduol, gan gŷd-ymddiddan am bethau ysprydol. A gâd i'th enaid nofio mewn myfyrdodau duwiol, canys felly ni byddi di vnig, onid Duw a fydd gydâ thydi. *Fel y bo i ti adnabod dy fod ti ar y ffordd i gael gorphywystra dragwyddol. Esa. 58.13. Gen. 18.19. Deut. 6.6.7. Jac. 4 8.

16. Wedi treuliech di y diwrnod yma (ac felly 'r un môdd dyddiau 'r wythnos) galw dy hûn i gyfri pa fodd y treuliaist di y diwrnod y *bassiodd. Dy gam weithredoedd edifar­hâ a bydd drist oi plegit: a bydded yr ym­road yma ynot ti, ar i'ti fôd yn fwy gofalus [Page 141]rhag cwympo i'r fâth bechodau, ac esceuluso y fâth ddyledswyddau, y rhan arall o'th ddy­ddiau: Dy weithredoedd crefyddol anghofia, gan wybod nad yw dy weithredoedd goreu di ond fel brattiau budron, os dydi ni chei ym­ddangos o flaen Duw yngwisc, ac ynghyfiawnder ei fab ef Jesu Grist. Gwna ddyled-swyddau gan hynny mewn vfydd-dod i Grist, ac nac ymddiried i'th weithredoedd dy hun: ond gwedi i ti wneuthur y cwbwl, cyfrif dy bun yn was anfuddiol. Ac er hynny gwybydd na anghofia Duw vn weithred dda, a wnelych di mewn vfydd-dod iw orchymynnion ef. Gâd i holl ddyddiau dy fywyd di gael ei treulio fel hyn; A bydd siccr ar na flinech ti yn gwneuthur daioni, canys dyna 'r vnig rai a goronir, sef, y rhai a barhao hyd y diwedd, mewn ffydd, a chariad, as ufydd-dod i Ghrist. Dih. 28.13. Psal. 119.59. *A aeth heibio. Esa. 64.6. Jo. 10.27. Luc 17.10. Heb. 6.10. Datc. 2.10.

17. Na ‡ amranted dy lygaid ti'r nôs, nes i'ti dy orchymyn dy hûn a'th holl deulu i ddwy­lo 'r Arglwydd trwy weddi; a gwilia rhag gwneuthur hynny yn *oerllyd ac yn ddiog ar dy wely, fel y mae arfer rhai, ond ymo­stwng dy enaid o flaen yr Arglwydd, gan­fynd ar dy liniau, gan gymeryd Christ yn ensampl i ti, nid yn vnig yn hyn, ond ym­mhôb pêth arall, fel i'n caffer ni yn ddi­lynwŷr iddo ef; canys wedi i'ti gwympo i gyscu, beth a wyddost di pa un a wnei di ai deffroi fŷth ai peidio: Cofia gan hynny mai [Page 142] lle y cwympo y pren, yno y trig ef, ac lle y ga­dawo marwolaeth di, y cymmer barn afael arnati. ‡Na chysged. *Rhuf. 12.11. Mat. 26.39. Psal 95.6.1 Cor. 11.1. Preg. 11.3.

18. Rhodiwch fel plant y goleuni, gan dreulio eich amser mewn ofn; canys mae dydd yr Arglwydd yn dyfod fel lleidr y nôs, yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gyda thwrwf, a'r defnyddiau gan wir wrês a do­ddant, a'r ddaiar a'r gwaith sydd ynddi a loscir; a chan fôd yn rhaid ir holl bethan hyn ymddattod, pa fâth ddynion a ddylem ni fôd ym-mhôb sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb; Canys ni wyr yr un ohonom ni na'r awr, na'r amser y daw ein Harglwydd. Byddwch gan hynny sobr, gwiliwch, a gwyn fŷd y gwâs hwnnw y ceiff ei feistr ef pan ddêl yn gwneuthur felly: a'r hyn yr wyfi yn ei ddywedyd wrthych chwi, yr wyf yn ei ddy­wedyd wrth bawb GWILIWCH.

Eph. 5.8. 1 Pet. 1.17. 2 Pet. 3.10.11. Mat. 24.44. Marc. 13.37.

Llythyr arall at y Darllenydd.

Ddarllenydd anwyl,

DUW 'Rhwn a greawdd bob peth, a ŵyr beth yw sylwedd a Rhinwedd y cwbl oll ac a wnaeth ef; ac oherwydd hynny a feidr osod ei vnion brîs ar bob peth. Yn awr [Page 143]y mae fo yn ei Air yn prissio Enaid Dyn yn fawr iawn: canys pa lesàd i Ddyn (medd ein Achubwr) os ennill efe yr holl Fyd, a cholli ei enaid ei hun, Mat. 16.26: Cymmint yw hyn­ny a phe dywedase, pettai ŵr yn Berchennog o'r holl Dai, a Thiroedd, a Da, ac Arian, ac Aur, aco b / b peth arall yn y Bŷd, ac ar y di­wedd colli ei Enaid, yna mwy fyddei golled na'i ennill ef: ac oddiwrth hynny ni allwn ddys­cu y wers hon, sef,

Fod vn Enaid yn werthfawroccach nâ'r holl Fyd.

Ac fe ellir rhoddi llawer o resymmau am hyn: Ac Yn Gyntaf, pethau corphorol yw pethau 'r Byd hwn i gyd, ond Yspryd yw E­naid Dŷn, ac oherwydd hynny tebig ydyw yn ei sylwedd i Dduw, a pho debycca y mae dim i Dduw mwy gwerthfawr ydyw.

Yn Ail, Ni ddichon pethau'r Byd hwn ddwyn llûn a delw Duw arnynt, mewn Doethineb, Sancteiddrwydd, a chyfiawnder, ym mha be­thau y mae gogoniant Duw yn ymddangos yn dra helaeth: Ond fe ddichon Enaid Dyn ddwyn y ddelw hon, ac am hynny gwerthfaw­roccach ydyw nâ'r pethau hyn i gŷd.

Yn Drydydd ni ddododd Crist moi fywyd i lawr i bwrcassu pethau 'r byd hwn, ond fe ddododd ei fywyd i lawr i bwrcassu Enaid Dyn: Yn awr wrth y prîs y roddir am beth, ni allwn farnu ynghylch gwerth-fawrogrwydd y peth. A pha beth mwy a allassei Crist, ei osod i lawr, yn lle Pridwerth tros ei bobl na'i einioes ei hun?

[Page 144] Yn Bedwaredd, ni Fwriadodd Crist erioed symmud pethau 'r Bŷd hwn oddi-ymma i'r Nefoedd, ond fe symmud Enaid Dyn (as bydd e wedi ei sancteiddio) o'r Ddaiar ir Ne­foedd. Ir Gwr pennaf mewn cwmpni y rho­ddir yr ystafell oreu yn yr Ostry i Letteua ynthi; a chan fod Duw yn bwriadu rhoddi 'r Nef, sef, y lle goreu i Eneidiau ei bobl, y mae hynny yn egluro gwerthfawrogrwydd yr Enaid o flaen pob peth arall.

Yn Bummed, nid yw pethau 'r Byd hwnâ chymwysdra ynddynt, i gael cyfeillach a Duw yma, na llawenydd a gogoniant ynghyd â chy­feillach dragwyddol ag efe ar ól hyn: ond y mae Enaid Dyn wedi ei gymhw so i hyn, ac am hynny y mae'r Enaid yn werth-fawroc­cach na'r pethau hyn i gŷd, 1 Joan. 1.3.1 Thess. 4.17.

Yn Ddiwaethaf, Pethau darfodedig yw holl Pethau 'r Byd hwn, canys fo'i lloscir hwy ryw ddydd á thân, megis y difethwyd hwy vn-wa­itho'r blaen â dwfr, 2 Pet. 3.6.7. Ond ni ddi­chon, na Dwfr, na Thân, na dim arall ddifetha Enaid Dyn, ond y mae'n parhau tros fyth.

Pan êl yr Enaid allan O'r corph, er fod y corph yn llygru yn y Ddaiar, yn y Dwfr, neu'r Tân, etto mae'r Enaid y pryd hynny yn myned at Dduw a'i rhoddes ef, i dderbyn ei farn neilltuol, naill ai i fyned ir Nef, neu ynte i vffern, Preg. 12.7. Heb. 9.27. Ac yn vn o'r ddau lê hyn y mae pob Enaid yn aros, ac yn bôd, o amser yr ymadawiad oddi ymma: hyd amser yr Adgyfodiad, (megis Eneidiau [Page] Lazarus a Difes) rhai mewn esmwythdra, gogoniant a llawenydd, ac eraill mewn poe­nau, a gwarth, a thristwch: ac ar ôl yr Adgyfo­diad, a'u cyssylltu drachefn â'u cyrph, yn y lleoedd hyn y byddant fyw dros fyth, Mat. 25.41.46.

A chan fod y peth fel hyn, onid ydyw yn beth echrydus, i weled pobl yn ddiofal, ynghylch ie­chydwriaeth eu heneidian, y fydd mor werth­fawr, a'i gweled hwy'n myned ar y ffordd iw colli hwynt tros fyth, a bod cyn lleied o dostu­rio wrthynt yny byd. Pe gwelen ni Feusydd o ŷd glanwych, trwy ddiofalrwydd dynion, wedi eu pori a'u dansang dan draed Anifeiliaid; ac Y scuboriau ac Ydlannau yn llawn o lafur, i gyd ar vnwaith, trwy wall yn fflam o dân; a Thai teg wedi eu hanrheithio o'r pethau oedd ynddynt, ac wedi ammharu, ac yn adfeilio; ac yn ba­rod i gwympo, trwy yr vn-rhyw ddiofalrwydd; oni thosturiei ein calonnau ni wrth weled hyn oll? ac oni feiem ni ar y dynion gwallgofus y fyddei euog o'r holl ddrygau hyn ac oni chyng­horem ni hwynt i fod yn fwy gofalus am y cyfryw bethau rhagllaw? Ond och Dduw▪ er bod Eneidiau pobl yn gan-mil gwerth­fawroccach na'r pethau hyn i gŷd, a bod ba­gad ohonynt ar y ffordd i syrthio i vffern, ac i losci yno, ac i gael eu hanrheithio a'u fathru dan draed cythreuliaid yn y lle hwnnw; tros fyth (canys ehang yw'r paith, a llydan yw'r ffordd, sydd yn arwain i ddestryw, a Llawer yw y rhai sydd yn myned i mewn trwyddi, fel y dywedodd [...] Achubwr Mat [...]) etto [Page]leied yw nifer y rhai sy'n tosturio wrthynt, ac yn eu ceryddu am eu pechodau, ac yn eu cynghori i gymmeryd cŵrs neu ffordd arall, ac i arfer pob modd i gadw eu Eneidiau gwerthfawr.

Y mae llawer Gwlâd ysywaeth (oh na bae'r peth heb fod felly yng-Hymru!) yn heidio â rhai sy'n gollwng Duw yn angof, gan esceuluso ei addoli ef, trwy weddi a mawl diragrith, yn y dirgel fel yn yr amlwg, gan fôd yn Dyngwyr ac yn regwyr, yn halog-wyr sabboth, yn anvfydd i Rieni, yn anghyfiawn, yn ffeillstion, yn or­thrymwyr, yn butteinwyr, yn gelwyddwyr, yn rhagrithwyr, yn segurwyr, yn gynhenwyr, yn feddwon, yn drawsion, yn gebyddion, yn feilchi­on; ie ac y mae rhai ys gwaetheroedd (neu ysy­waeth) oni bae rhag ofn cyfreithie Teyrnaso­edd, a charcharau, a chrog-prennan, a'r cyfryw gospedigaethau yn y byd hwn, ar nas gwnaent gydwybod o dreisio, lladd a lledratta: Ac er eu gwahodd ym mhregethiad yr Efengyl, ac yn y scrythurau sanctaidd, i droi at Dduw o­ddiwrth eu pechodau, a chalonnau edifeiriol, trwy ffydd yn Iesu Ghrist, fel y caent faddeu­ant amdanynt, a rhyddhâd rhag y felldith ar ddamnedigaeth ddyledus iddynt, a bod yn gyfranogion ar y diwedd of fywyd tragwyddol yn y Nefoedd: ac er dangos yn fynych fod Crist yn abl, ac yn ewyllysgar i gadw y gwae­thà ac a ddêl atto (canys mae fo'n dangos ei allu i gadw y gwaetha, trwy ddywedyd, pe byddei eich pechodau fel y scarlad, ant cyn wynned [Page] a'r eira Esay. 1.18. ac y mae'n dangos ei e­wyllysgarwch iw derbyn nhw, trwy ddywedyd, yr hwn y ddèl attafi nis bwriaf ef allan àdim, Joan. 6.37. Ac ym-mhellach i ddangos ewy­llysgarwch yr Arglwydd, i dderbyn y cyfryw, ac a droant atto, er cynddrwg y buont hwy gynt, y mae 'n dangos yn y ddammeg o'r mâb afradlon, fod Duw yn barod, pan y mae'r pe­chadur etto ym-mhell oddiwrtho, ac yn vnig yn dechreu crippian a chyfodi, i ddyfod tuag­atto, fod Duw meddafi yn barod y pryd hynny, i redeg yn erbyn y pechadur i gofleidio ef, i gu­ssanu ef, i gyfrannu iddo bob peth sy'n nissig iw enaid, i wneuthur ef yn happus tros fyth, ac i lawenhau yn ddirfavr, ynghyd a'i sein­tie a'i Angelion, am ei ddychweliad ef. Luc. 15.) etto er hyn i gyd, fe ddichon ein Harglwydd Iesu Grist Achwyn fel cynt, a dy­wedyd wrth bechaduriaid, ni fynnwch chwi ddyfod attafi fely caffoch fywyd. Joan. 5.40. a pha sawl gwaith y mynnaswm eich casclu­ynghyd, megis y cascl i ar ei chywion tan ei ha­denydd, ac nis mynnech, Mat. 23, 37. Ac fel hyn y mae llawer o bechaduriaid, yn myned ar y ffordd, i golli ei Heneidiau tros fyth, er gwerth-fawrocced ydynt, Mae hyn yn ddilys fod Achos i ofni, fod llawer Dyn, yn gofalu yn fwy, am-ei filgwn a'i fytheiaid, nag y mae'n go­falu am ei enaid: ac fod bagad yn gofalu yn fwy am eu môch a'u cyffyle, nag y maent yn go­falu am eu eneidie.

Ac yma ni allwn gwynfan, a chymeryd achlyssur i alaru; am fod rhai Gweinidogi­on, [Page]er eu bod wrth ei Galwad yn rhwym, i ofalu am iechydwriaeth Eneidiau, ac er fod Crist yn rhoddi eu cyflog iddynt am hynny, ac y sydd er hyn i gŷd yn gwbl esceulus amda­nynt.

Yr ydys yn tybied nid heb reswm da, fod yn ein mysc ni y Protestantiaid yn Lloegr, Scotland, Cymru, Iwerddon, a'r ynysoedd e­raill ac sydd yn perthynu i ardderchoccaf Fawrhydi ein Brenin, Rai Gweindogion (ym mysc y Confformiaid a'r Non-Corfformiaid) mor ddyscedig, mor abl, mor dduwiol, ac mor ofalus am ddefaid Crist tan eu dwylo, ac y sydd yn un man yng-Hrêd. Ac na atto Duw i mi ddywedyd vn gair yn erbyn eu Galwe­digaeth sanctaidd, na'u Personnau, nac i roddi Awgrym yn y byd, i gynhyrfu pobl i feio ar y cyfryw Weinidogion parchedig, ac sydd ffyddlon i Dduw, yn ôl eu gwybodaeth yn eu galwadiga­eth a'u lloedd, o ba farn bynnag y bont hwy yn­ghylch matterion bychain, ac y mae ymrafael amdanynt.

Ond rywi'n gobeithio, gan nad oes yn fy mrŷd, i dynnu cyfiawnder y cyfiawn oddiwrth, nac i geryddu y di-fai, a goddefir i mi ymressymmu ychydig dros Grist, a thros Enei­diau pobl, â Gweinidog esceulus ac annuwiol: A dyma sydd gennif i ddywedyd wrth y cy­fryw vn.

Yn Gyntaf, A wyt ti megis Mammaeth i e­styn i Eneidiau truain ddidwyll laeth y Gair, allan o ddwy-fron y Testament hên a'r ne­wydd, ac a adawi di iddynt grio, a bod yn [Page]nychlyd heb hynny? 1 Thess. 2.7.1 Pet. 2.2. A gaiff y rhai y dododd Crist ei fywyd i lawr trostynt, weiddi am fara'r bywyd, ac a elli di ar dy galon esceuluso, i dorri ef iddynt Luc. 12.42? A wyt ti yn Fugail ar Eneidiau pobl, ac a esceulufi di i porthi nhw â Gair Duw, ac a'th siampl dda mewn duwioldeb, sanctei­ddrwydd, sobrwydd, a chyfiawnder, ar bob achosion, a hynny allan or pulpud yn gystal ac yn y pulpud? Act. 20.20.28.31.1 Pet. 5.1.2.1 Tim. 4.12. Ac a adawi di ir Blaidd, sef y Cythrel, i llarpio nhw, trwy eu tynnu ir ffyrdd o bechod ac annuwioldeb, heb wneuthur dy oreu i gwaredu hwynt, trwy dy Addysc, dy Rybyddion, dy Geryddon, a'th Gyng­horion? 2 Tim. 2.25, 26. Ac a ydyw hynny dybygi di yn gwbl gyflawniad o ddy­ledswydd Gwenidog, sef yn vnic i ddarllain y Gair ir bobl? oni wyddost ti dy fod yn rhwym, nid yn vnic i ddarllen, ond hefyd i agoryd, ac i bregethu'r Gair. Luc. 24.27.2 Tim. 4.1, 2. Y mae S Paul yn rhoi awgrim fod gwaith y Weinidogaeth yn fawr iawn, gan ddywedyd, Pwy sydd ddigonol ir pethau hyn? 2 Cor. 2, 16. Yn awr, er fod Darllain y Gair ir bobl yn rhan o ddyledswydd Gweinidog, etto nid yw hynny y cwbl o'i ddyledswydd ef: canys pe bae'r peth felly, ni allem ddywedyd, yng wrthwyneb ir peth y mae Paul yn ei ddywedyd, pwy nad yw ddigonol ir pethau hyn? canys hawdd i Fach­gen vn ar bumtheg oed i wneuthur cymmint a hynny.

[Page] Yn Ail. A wyt ti yn Oruchwiliwr, ar Dda dy Feistr, sef, ei Bobl a'i Ordinhadau, ac a fyddi di anffyddlon yn dy Oruchwiliaeth? ac a wyt ti yn tybied nas gorfydd arnat ti roddi cyfrif am hynny ryw ddydd? 1 Cor. 4.1. Luc. 16.1 Heb. 13.17. Ac os bydd neb colledig trwy dy wall a'th esceulusdra di, oni ofynnir Gwaed y rheini oddiar dy ddwy­lo di? ac a elli di gyscu'n esmwyth, â Gwa­ed yr Eneldiau gwerthfawr hynny, y collodd Crist ei waed trostynt, yn gorwedd ar dy Enaid di? Ezec. 33.7.8. A ddiangc y Gwas hwnnw yn ddi-gosp, yr hwn a wa­straffa gan-punt o Arian ei Feistr, y ddodwyd tan ei ddwylo ef, iw gosod allan tros ei Feistr? yn ddiau os diangc efe, ni ddihangi di ddim; canys ni bydd vn man mor dywyll, lle y gelli di ymguddio o ŵydd Duw, nac vn man mor bell, os ai di ir lle hwnnw, nac cyrhaedd ei Fraich ef dydi yno, Job. 34.22. Psal. 139.7. Ac ni byddi abl i wneuthur escus trosot dy hunan, am dy ddiofalrwydd am Eneidau pobl; oblegit yn y Bibl y ddodwyd yn dy law di, pan derbynniaist ti Vrdde, ac a ddarllenaist ti ith plwyfolion o Sabboth, i Saboth, y gwelaist ti yn dra mynych yr hyn oedd Duw yn ei ofyn, ar i ti gyflawni tuag at ei bobl ef. Yn drydydd, a alwyd, ac a logwyd ti i fod yn weithiwr yng hynaiaf Duw, ac a weithi di ddim â'r Crymman o Air Duw yn dy law, ond bod yn segur ym mysc y medelwyr sy'n gweithio? Fe fyddei chwith gennit ti i weled Dyn, tan enw Gwâs yn bwytta dy Fara, yn gwisco dy [Page] Frethyn, ac yn derbyn cyflog oddiwrthit, ac heb wneuthur ond ychydig am hynny: ac o­ni fwrit ti y fath ofer-ddyn allan oth wa­sanaeth? Ac a gymmer Duw (dybygi di) yn dda ar dy ddwylo, dy fod ti 'n segura, pan y mae 'n rhoi i ti dy lôg, fel yr wyt yn weinidog, am weithio yn ei gynhaiaf, gan roddi i Ti, a'th Wraig, ath Blant, y brâs iw fwytta, a'r melus iw yfed, ar gwlân i'ch cyn­hessu, ac yn llenwi dy yscuboriau a'th yd­lannau ag ŷd nis hauaist ac nis medaist? Mi dybygwn y dyle 'r pethau hyn oll swnio yn dy glustiau, ac y gellit eu clywed hwy 'n dywed fel hyn, Gwna waith dy Arglwydd sy'n rhoddi iti 'r cwbl fel yr wyt yn Weinidog iddo, yr hwn ath dderchafodd o isel radd, i fod mewn cymmeriad yn dy wlâd, ac yn gyfaill ir boneddigion ynddi.

[Och Dduw! mae 'n dost gan fy ngha­lon i feddwl, fod rhai Gweinidogion, megis Hophni a Phinees, trwy ei bywyd drwg yn peri ir bobl ffieiddio Addoliad yr Arglwydd, 1 Sam. 2. [...]7. Peth echrydus ydyw, pan y gallo plwyfolion ddywedyd am ei Gweint­dog, mae efe yw 'r Coegyn a'r Meddwyn mwya yn y plwyf: neu 'r Gwatwarwr, neu 'r Cynhennwr, neu 'r Putteiniwr a'r Gwastraffwr, a'r Diofalwr mwyaf am ei wraig a'i blant yn y plwyf: new ynte mai efe yw y dyn mwyaf cebydd, a mwyaf traws, a digofus, a thwyllo­drus yn yr holl blwyf. Y fath ymarweddiad'a hyn sy ddigon i galedu pobl yn ei drygioni, pan yr ymresymmant hwy fel hyn, nad [Page]enbydrwydd yn y fath bethau, gan fod y Gwenidog yn eu harfer hwy.

Tost iawn hefyd iw gweled Gwenidogion mewn plwyfe, ac a allent bregethu yng hymraeg, sef yn iaith y plwyfe pes mynnent, ac etto nis pregethant ond yn saesoneg, oni bydd e ryw ychydig yng-hymraeg ambell waith, heb ddywedyd dim llawer yn y iaith honno, er cymmint yw angenrhaid y werinos truain, rhag ofn yscatfydd pylu ei saesoneg, neu er mwyn rhyngu bodd ir-Boneddigion, y sy'n cymryd arnynt, fel pe nis deallent bregethau cymraeg, er y medrant hwy ddy­wedyd a deall cymraeg yn ddigon da, i brynu Tiroedd, i dderbyn ei Rhenti, i brynu neu i werthu Da mewn ffeirie a marchnadoedd, ac i chwedleua a'u Gweithw [...]r a'u Gwasana­eth-ddynion.

A pheth echrydus ymmhellach yw gwe­led Gwr yn meddi innu Dau, Tri, neu ragor o Blwyfe, ac yn byw llawer milltir oddi­wrthynt, ac yn llogi Dynion tlodion i wasa­naethu tano, y rhai ni fedrant yscatfydd c [...]mmaint a darllen yn iawn, llai o lawer pregethu ir plwyfolion. Ac dyma 'r gofal y sydd mewn amryw leoedd am iechydwriaeth E [...]eidiau yng Hymru, er bod fel y prwfiwyd o'r blaen, Ʋn Enaid yn werthfawroccach na'r Bŷdi gŷd: A chan fod y peth felly, Duw a'n gwnelo ni yn fwy gofalus amdanynt rhagllaw. Amen.

T [...]r [...]n.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.