Y TRYDYDD AR PEDVVAREDD GORCHYMYNNION.
Wedi ei traethu mewn pegethau gan William Jones Gwenidog ei Grist yn yr efengyl yn Nhy Ddewi, ag yn awr gwedi ei gwneuthur yn gyffredin er mwyn rhybyddio y Cyfryw rai or Cymru ag ydynt drwy gam-arfer yn diystyru henw Duw ac yn halogi ei Sabboth fel gwedi ei ceryddu yngwydd pawb y cywilyddiant ei pechod au neu or lleiaf, fel yr ofna rhai erail gyd-ddwyn a hwynt yn y fath bethau.
Moeswch ir Arglwydd ogoniant ei enw.
LONDON, Printed for John Williams at the signe of the Crown in St. Paul's Church-yard, 1656.
To the truly Religious, and vertuous Lady, the Lady KATHARINE OWEN, Wife to Sr. Hugh Owen, Knight and Baronet, Grace, Mercy and Peace be multiplied, from God our Father, and from our Lord JESƲS CHRIST.
WHen I first intended to publish these unworthy Sermons, I did not thinke them fit to be Dedicated to any (much l [...]sse unto you) or to bear any other name, save mine own; but afterwards, considering that the Vulgar people would hardly be moved to look into them, except they did beare some good name before them, and knowing no name of better acceptation then your Ladiships, I have been bold to use it, and that for divers reasons: to passe by the maine and great obligation, wherewith I am bound unto your Ladiship, for which these weak endeavours may no way expresse my thankfuln [...]sse, the Dedication of them being rather a disparagement, then an honour to your Ladiship, (but that I know your goodnesse to be such, that you had rather sustaine [...] such disparagement, then be wanting to the furtherance of a Common good.)
I say, to passe by this reason, which if it had been any, should have been the first; the true reasons why I have used your Ladiships name, are, first because what for the Antiquity of the House, of which you are descended, and the worthinesse of that whereunto you are united, but [Page] specially for the excellent and singular gifts, and graces which you have exercised, both in the North, and in the South of Wales, farther and wider then I expect, these Papers should be either seen or read, your name is precious, and will attract the vulgar eye, first to look upon it, and then upon my book.
The second reason is, that under your Ladiships name, I may finde protection against Detraction; and Envy, for I may not expect that this, as humble and as low a worke as it is, may passe without the envy of some, especially it proceeding from so meane and weake an Author as my selfe: one will blame me for not writing Welch, in Welch Character, another for mixing English words among the Welch, and a third for writing in Welch at all; when they shall cast an eye upon your Ladiships name in the Frontispiece, they will deliberate, & take time themselves to answer to their owne objections, rather then question what your Ladiship is pleas'd to owne in a gratefull returne for this and other favours, he shall be a daily Oratour to the throne of Heaven, for the welfare of you, and of your family, that subscribes himself
Na chymner enw yr Arglwydd dy dduw yn ofer, canys nid dieiog gan yr arglwydd yr hwn ag gymmere ei enw ef yn ofer.
Y Wedigorchymmyn o ddum na wasanaethem, ac na chydnabyddem yn dduw ond efe yn vnic', mae efe yn gorchymmyn ini hefyd, na chamgymmerom, ac na chammasanaethom efe, naill ai drwn gyfflybu pethau creuedie, neu bethau gwneuthredic iddo, neu drwy fod yn ddiofal, ac yn ddibrise wrth grybwyll amdano, neu ei henwi ef.
Nid digon ini ymwrthod a duwiau eraill, ai gydnabod efe yn vnic', ond mae yn rhaid ini ei gydnabod ef megis ac y mae efe yn sanctaidd, ac yn ofnadwif, Dyma'r hyn a lefarodd yr Arglwydd, (medd Moses wrth Aaron) gan ddywedyd mi a sancteiddir yn y rhai a nessânt attaf. Lev. 10.3.
Fe a fynn duw ei sanc'teidio gan bawb a nessânt atto, fe a fynn ei ber'chu gan bawb ai henwant êf, sanc'teiddiol, ofnadwy yw ei enw ef. Ps. Cxi. 9. Na chymmer enw yr Arg. &c.
Yn y geiriau yma ystyriw'ch ytrî pheth hyn:
1. Oddiwrth pwy y mar y Gyfraith yma,Yn gynta. nid amgen nag odd iwrth dduw ei hun, yr hwn sydd ai allu yn dragywyddawl, ai deyrnas yn anfeidrol, yn ddaionus iawn i wobrwyo rhai ai carant, ac ai anrhydeddant, yn gwble gyfiawn hefyd, ac yn hollalluog i ddial ar y rhac ac casânt; ac ai diystyrant.
2. Ynghylch pa beth y mar y gyfraith yma,Yn ail: nid amgien nac ynghylch henw duw ei eun, rhan yw'r gyfraith yma or gorchymmyn mawr, ar gorchymmyn cynta: Mat. 22.37, 38. yn Cyhoeddu gogoniant duw:Jaco. 2.8. Ps. 8.1.9.148.13. ei rhan yw hi or gyfraith frenhinol yn perthyn ei ogomont ant duw ei fawredd, ai deyrnas ef; [Page 2] oblegit pabeth sydd gan dduw fwy,Yn [...]nw fy Nhad. Jo. 5.43. Yn fy enw i y bwriant allan gyth. Mar. 16.12. Yn enw duw yr vn yw a thrwy nerth a Chyd ac ewyllus Duw: A bydd yr achubir pob vn a alwo ar enw 'r Arglwydd, Joel. 2.32. Os gwr a becha yn erbyn gwr, y swyddogion ai barnant ef, ond os yn erbyn yr Arglwydd pwy a eiriol trosto ef 1 Sam. 2.25, Y gorchymmyn yma yn y gyfraith, megis pren y bywyd yngardd Eden. Yn gyntaf. ne vw'ch nai henw Canys mae henw duw yn arwyddocau ini weithiau ei air ef, ei orchymmyn ei nerth, ai allu Joh. 5.43. Mar. 16.17. yr vn fath ac y ddywedwni am yr hyn a wnelomi wrth orchymmyn ac awdurdod y brenin ein bod yn gwneuthur hynnu yn enw'r Brenin, felly y peth a wnelom wrth [...]ir neu orchymmyn duw, ir ydem yn gwneuthur hynnu yn enw duw, yn hytrach, yn enw duw yn vn yw; a thrwy nerth a chyd ac ewyllus duw.
Weithiau mae henw duw yn ei arwyddo'cau efe ei hun ini Joel. 2.32. Exod 3.14.
Weithiau arall mae henw duw yn arwyddo'cau ini Cwbl oll ac sydd ynuw, neu sydd Briodawl iddo, Exod. 33.19.
3. Pa beth yw Poen, neu Bericl y Gyfraith yma: nid dini llai na bod yn euog gan dduw ei hun a pha beth a ddychon fod fwy na bod yn euog o bec'hod yn erbyn y goruchaf? 1 Sam. 2.25.
Mae y gorchymmyn yma wedi ei osod ynghyfraith dduw magis pren y bywyd yngardd Eden, ar yr hwn y gosododd duw y Cerubiaid a chleddyf tanllyd ysc'wydedic' ei gadw efe Gen. 3.24. felly mae duw yn yscwyd neu yn bwgwth dialedd orty'n ol ir gorchymmyn yma ein Cadw ni rhag pwyso arno.
Fel y byddo fy ymadrodd yn haws ichwi, acyn esmwythach i minneu mi a osodaf y sail yn ysc'afnach, ac yn denuach fel hyn:
1. Pabeth yw cymmeryd henw duw yn ofer new pa fodd y gwneur hynnu:
Yn ail.2. Pa fodd ein temptir ni ir pechod yma,
Yn drydydd.3. Ymha gyflwry mae y Cyfriw rai acydynt yn ymarfer ac [...]f.
Pa beth neu pa fodd y Cymmerit henw duw yn ofer:
Fe a cymmerir henw duw yn ofer mewn amriw o foddion, 1. drwy ei g [...]blu, ai ddifenwi ef 2. wrth wirchio a llectunu: 3. wrth Consurio, a Chodi Cythreuliaid, megis yr Iddewon crwydriaid▪ Act. 13.19.4. wrth wneuthur addunedau, naill ai anghyfreithlawn yw gwneuthur, n [...]w nam hossible ym Cyfl [...]wni,Ei addunedau Cy [...]reithlawn Eccles. 5.4. neu drwy dorri ac escluso ein addunedau gwadi ei gwneuthur; 5. ac yn ddiwedda ni a gymmerwn henw duw [Page 3] yn ofer wrth Regi a Thyngu, ac oblegit fod y moddion yma yn fwya mewn vse ymhlith y Cymru mi a chwenychwn ei rhybiddio hwy am yrhain yn benna.
Ni a gymmerwn henw duw yn ofer wrth regi pen syddo ni yn galw ar dduw i wneuthur y dialedd a welom ni yn dda ar y rhai 'r ydem ni yn ei Casau, meg [...]s pe bae dduw yn rhwym ei gyflewni ein ewillus ni, heb ystyried na ddychon digofaint dyn a chyfiawnder duw mor Cydfod ynghyd, Jaco. 1.20.
Yn siccr ir ydem ni yn darllen am Ei z [...]s feli darfu iddo efe felldithio yn enw 'r Arglwydd y plant buchain a ddaethant allan or ddinas oi watwar ei, a melltigedig a fuont hwy, oblegit dwy arth a ddaeth allan or goedwic' ar a ddryiliodd ohonynt ddau blentyn a thrugain: 2 Bren. 2.23.
Ir ydem ni yn darllen hefyd fel y darfu ir Prophwyd D [...] fydd, i St. Paul, ac i eraill or Seintiau orchymmyn dialedd ei Cam ir Goruch, a deisuf ohonynt arno wobrwyo ei Erlidwyr yn ol haadde digaethau; ondhyn a wnaethant hwy drwy yspryd prophwydoliaeth, a thrwy wybod, ac adriabod ewyllus duw am y Cyfriwfath,Alexandr y gof Copr. 1 Tim. 4.14. hefyd t' zeal ad eiddigedd i ogoniant duw, ac o bur ewyllus o rybiddio rhai eraill Psal. 28.4, 5. 2 Tim. 4.14.
Ond nid yr vn fath ydiw ini gymmeryd henw duw yn ein genau i regi ac i felldithio ein gilidd, nid yn ol gwybod [...]eth, neu yn ol ewyllus duw, ond yn ol ein drwg naws. an scymmyndod ein hunain.
Ond nid myfines i feio arnoc'hi yn yr hyn,Ein gwefus [...]u sydd eiddom ni, Ps. 12▪ 4. nid ydiw rhai ohonochi yn Cydnabod ei fod yn fai, or lliaf nad yw yfath fai fel y it yddeu raid pregethu yn ei erbyn ef, mae ei tafodau yn eiddo ei hunain a phwy ai Cerydda nhw oblegit geireiau, Psal. 22.4.
Pa fodd y mynn rhain ei tr [...]ios a safanhw wrth air duw gan y Clywant ef?Pob vn a sydd yn weuthur pechod sydd hefyd yn gweneuhur anghyfraith, oblegit anghyfraith yw pechod. 1 Joh. 3.4.
Pa beth bynnac' sydd yn erbyn Cyfraith dduw mae hynnu dros y Fordd, ac vn bechod, 1 Joh. 3, 4.
Yn awr mae 'r yr holl gyfraith ar prophwydi yn sefyll ar y ddau orchymmyn yma fel. 1.
1. Ceri yr Arglwy [...]d dy dduw ath holl galon &c. 2. Car [Page 4] dy gymydog fel ti dy hun,Pymp o Argum entan, neu o Reswmmau erbyn Regi Yn Cyntat. Mat. 22.37, 38. Bellach pwy ni wel fod rhegi a melld-ithio ein brodyr yn erbyn y gorchmynnion yma yn enwedic yn erbin yr ail orchymmyn oblegit pa fodd y dychyn dyn regi, a melldithio y neb a fyddo yn ei garu fel fe ei hun?
Yr ail Argument neu reswm.2. Mae gair duw yn gwardd y peth yma dan ei henw Rhuf. 12.14. ie mae fe yn ei wardd ef yn fla [...] ac yn blaen Bendithiwch (medd yr Apostol) ac na fellddithiwch, ie ni wasanaetha nac achos nac escus, Chwi a debygec'h fod yn lywiedic ichwi felldithio y neb a wneleu gam achwi, ond yn y gwrthwyneb mae St. Paul yn dywedyd. Bendithiwch y rhai sy yn eich ymlid; ymhob modd Bendithwc'h, ac na felldithiwc'h.
Y trydyd.3. Ni weddeu hyn ir cyfriw ra i ac ydynt yn ofni ac yn bendithio duw, fel ein dyscir ni gan yr Aopostol Jaco. 3.8. lle mae efe yn dangos fod y tafod yn ddrwg neu yn dda fel yr arferir efe, ac na weddeu dim i bobl a fyddo yn cymmeryd arnynt fendithio duw, felldithio dyn yr hwn a wnaethwyd ar lun duw:Jaco. 3.8.
Or un genau mae yn dyfod allan fendith a melldith: fy mrodyr ni ddylay hyn fod felly.
Y perdwerydd Arg.3. Argoel yw hyn o anuwioldeb mawr, arfer yw hon yn dilyn pobl anuwiol, fel ein dyscir i gan y Prophwyd Dafydd mewn amriw oi Psalmau: lle mae efe yn gosod allan yr anuwolion yn ei moddion, i mae efe yn gosod hyn arnynt hwy megis yn vc'h nod, ac yn arwydd yspus oi adnabod hwy Psal 52. ei tafod a ddychymmyg sc'eleder: fell elym llym, yn gnwneuthur twyll & 2, 3, 4, Ps. 50.19. Mae nhw yn gollwng ei safnau i ddrygioni: Nid oes vniondeb yn ei genau, Bedd agored yw ei Ceg: Psal. 5.9. Psal. 10.4, 5, 6, 7. yr anuwyol gan vc'hter ei Ffroen ni 'chais dduw, nid yw duw yn ei holl feddyliau ef, ei Ffyrdd sydd flin bob amser: &c. ei enau sydd yn llawn melldith, a dichell, a thwyll, &c.
Psal 144. Plant estron ydynt hwy y rhai lefara ai genau wagedd.Psal. 114.11.
4 Dynion anhyweth drwg ei nauf, plant y fall sydd yn ym roi ir profedigaeth yma, Dynion (oherwydd ei moddion) megis Goliath y philistiad yr hwn a regodd Ddafydo [Page 5] wir uchter a diofalwch heb nac achos nac ystur amgen 2 Sam. 27.4.3.1 Sam. 17.41, 42. Efe ddir mygodd Ddafydd ac am hynnu efe ai rhegodd: Y ahymmed. Arg. A'r Phil [...]stiad ddywedodd wrth Ddafydd ai Cî ydwyfi gandy fôd yn dyfod attaf a ffyn? ar Philistiad a regodd Ddafydd, drwy ei dduwi au, efe ai diystyrodd, ac amhynnu fe ai rhegodd.
Neu megis Simei fâo g ra yr hwn a regodd Ddafydd o wir 'chwerwedd yw ddolurio efe yn ei adr [...]d 2 Sam 16 75. y bobl neu y genhedlaeth sydd yn ymarfer a hyn ydynt anedwydd, ac anilwyddianus, yn llawn drygioni, ac yn agos i ddestriw, ac yn siccr nid allain hwy lai na bod y llawn drygioni y rhai ydynt yntho hyd at e ganau: ni ddychon bôl Cymmaint a rhith duwieldeb ymhlith bobl lle in byddo a raith grefyddol: Jaco. 1.26. ac fel y mae nhw yn llawn drygioni, fe ly mae nhw yn agos i ddestriw Rhuf. 3.14.16.18: Destryw ac aflwydd sydd yn ei ffyrdd: Duw ai destrywia hwynt, ac ac gyrr hwynt ymmaith Ps 5.10.
Sywaeth mae hyn yn amlach yn ein p [...]ith ni y cym [...]u, nac ymhlith un Bobl ne G [...]nedl arall, ie mae gennym in y fath Ffraethder ir pwrpas ymma ac na ddefeisi [...] mor fath mewn un iaith arall.
Pei henwn i gymmaint o foddion i regi ac sydd yn ein pl [...]th in mi a wnawon ich gwa [...]l [...] sefyll ar eich pennau, C [...]wi a debygech fyn òl yn consu [...]io neu yn [...]di Cythreuliaid oblegit wrth regi chwi a fyddwch arfer a galw ar y Cythrael, ar Diafol, yn gystal ac ar dduw ar Seinteiu: yn eich cigofaint Chwi a gymmyscwch henw duw a henw r diafol ac nid gwaeth gennychy alw ar y naill nac ar y llall.
Ond digon genaychi demptio, a Chyffio eich gilydd ond bod yn rhaid ichwi demptio duw hefyd?Ind yw lywiedic i Gristianogion gellwair yn anweddaidd Eph. 9.4 ond digon gennychi ddifenwi a lûshenwi eich gilidd ond bod yn rhaid ichwi gablu a difenwi duw wrth warwar, a lûshenwi eich gilidd y [...] ydechy ym hell ar fai, nid [...]ywedic ichwi wrth am duw gymmaint a Chellwair yn anweddaidd Ephes. 5 4. Na henwer yn eich plith nac ymadrodd fol, na cho [...]g [...]digrefwch, pethau nid ydynt weddus eithr yn hytr [...]ch rhoddi diolch;
Os yw ymadrodoion or fath yma mor anwed [...]us i Gristnogion, ac na ddylid ei henwi nhw, yn ei plith hwy, pa f [...]int mwy y mae rhegi a melldithio, Cablu a difenwi a [...] fath ei [...]iau destriw yn anweddus i Saint.
[Page 6]Y Cymru anwyl na henwer y pethau y ma yn eich plîth chwi mwy, ac na fyddwch sarthaidd ac enllibaidd, yr hyn ni weddeu i bobl yn Cyffessu Crist, ac in ddychon mor Cytuno a Sancteidd wydd Coloss. 3.8 Ephes. 5.3.4.
Ac na roddw'ch achos: i ddywedyd amdanochy megis y dywedodd St. Paul gynt am y Canhedloedd: A Chwi yn adnabod duw nid ydych yn addoli ymohonaw megis duw, ond ofer ydych yn eich rhesymmau ach Calonnau sydd anneallgar yn llawn tywyllwch: Rhuf. 2.21.
Yn hyttac'h fe a gymmerir henw duw yn ofer wrth dyngu hynnu mewn trï modd,
1. pan fyddo in yn tyngu yn ydon. 2: pan fyddo ni yn, tynguyn rash, ac yn ddiystur, 3. pan fyddo ni tyngu yn ofer, ac heb raid.
Er mwyn gwilied yn well drosseddu yr ûn or trîmodd ar Dyngu, mae yn rhaid ichwi ystyried yn gynta peth, pa beth yw llw neu dyngu.
Lw neu dyngu yw galw, a chymmeryd duw yn dyst ar yr hyn r ydemi yn ei ddywedydd, yr hwn a wyr bôb peth, ac a ddychon ddial arnom ni os ydem in yn dywedyd Celwydd.
Infiurandum assertoriü defacto. Infiurandum permifforum de futuro. Sub deo teste, sub deo uindice. Contestatio. Execratio [...].Yn awr mae llw naill ai er siccer hau fod peth gwedi bôd, neu er siccer hau addewid o bethi ddyfod; Pôb or ddau sydd dan dduw yn dyst, a than dduw yn ddialwr, yn y naill os nad yw y peth gwedi bôd yn wir, yn y llall os nad cyflawnir peth a addewir.
Gan hynnu wrth dyngu llw mae dyn yn rhwymo rhwyme digaeth ar ei enaid ei hun Numb. 3 2. neu fel y mae y gair groeg yn annyddocau i mae dyn yn Cau arno ei hun, fel y gorfyddo arno sefyll wrth ei air, nid oes iddo le i gilio.
[...] Sceva quiescens. Infurandum.Yn hytrach yr un gair yn yr Hebrew sydd yn arwyddo cau i dyngu, ac i fodloni, gan hynnu fe a ddilid bod yn fodlon wrth lw, oblegit medd yr Apostol er siccerwydd ymae llw yn derfyn ar bob ymryson H [...]b. 6.16. Eitha Cyfraith yw llw ac nid oes lle i holi ymhellach: idem est jurare ac pro jure habere, fe a ddylai iw fod cyn scicred ar gyfraith, yn derfyn ar ymryson: Ni a ddechreuwr ar modd Cynta a gwaetha i gymmerid henw duw yn ofer drwy dyngu, sef drwy dyngu yn ydon.
[Page 7]Tyngu yn ydon yw i ddyn gymmeryd duw yn dust yn enenw [...]dic oflaen Swyddog ei fod yn dywedyd y wir,Pabeth yw tyngu ynydon. pan fyddo yn dywedyd celwydd o bwrpass i droi y gwirion oddiwrth ei gyfiawnder.
Nid oes neb ohonochi nad yw yn cydnabod ac yn Cyfaddeu mai pechod erchyll yw hyn, ac od oes na chyfiawnder,Pechod erchyl. na gwybodaeth gyda duw, a ddychon efe lai na chospi a dial ar y Cyfriw rai ac ai temptiant ef fel hyn?Y modd enbyta a gwaetha i demptio Duw. y rhai ydynt yn Cymmeryd ei henw ef ind yn unic' yn ofer, ond hefyd yn dwyllgar i wneuthur yndda ei h'anghyfiawnder.
Ni ddywedafi eich bod chwy Cymru yn arfer y pechod yma yn fwy na phobl eraill, etto nid allafi wadu nad oes mwy o ymryson ac ymgyfreithio yn ein plith ny y Cymru,Le mae cynnenlawer, yn fynnyt'h y mae Camwedd. nac ymblith rha; eraill, ac lle mae Cynnen lawer yn fynych y mae Camwedd.
Ond am dyngu'n rash▪ ac yn ddiystur, am dyngu yn ofer, ac heb raid t' wyfi yn cybied nad oes pobl yn y byd oi Cyfflybu ir Cymru, drwg iawn gennyf orfod arnafi roddi 'r gorau ir Cymru yn yr hyn sydd waetha, mi a fynnw pei gwnaech fi yn gelwyddoc.
Rhai sydd 'n pechu yn hyn o eisiau gwybodaeth ac ysturiaeth, nyd ydynt hwy yn ofni Cyfraith, onid Cyfraith dyn, ac nid ofna wr drossedd ond ynerbyn dyn, fe a fedr y gwaela ar gwaetha ohonochi fod yn ofa [...]us ac yn barchus ddigon wrth grybwyll am wyr mawr, ac am wyr boneddigion, Gwyr da ydyynt hwy. Duw a safo gida nhw, yn hyn fe a haeddeu y Cymru Cyfreddin glod rwch ben pawb, ond wrth henwi duw mae llawer ohonochi yn ddiofal ac yn amharchus iawn; yn ei henwi efe yn fynych heb, feddylied amdano, neu or llia heb ysturied pafath yw.
Rhai eraill sydd yn perchu yn hyn o wasgw'chdra, ne o wroldeb, heb hyn mar nhwy yn gweled fod ei iaith yn gwtta y mae nhw yn gwneuthur henw duw yn gommon ac yn ddib [...]is i ddangos ei bod hwy yn gadarn, ac yn ddiofn, i ddangos hefyd ei bod hwy yn hyll, ac yn erchyll, ac felly i yrru ofn ar ei Cyfeillon, ac yn siccr pwy nid ofnau fod yn y fan lle bae nhwy.
Fy mordyr anwyl nid wyfi yn beio arnochi eich barnu [Page 8] chwy ddim, (gwae fi nad allwn eich escusodi chwi) ond eich rhybyddio chwi, mwyn gwellhau ohonochi, M gis y dyweddod St. Paul wrth y Corinthiaid: Nid eich Condemnio chwi yr wyf yn dywedyd fel hyn, canys mi a ddywedais or blaen eich b [...]d yn fynghaloni ac am hynnu mae hyfder fy ymaddrodd yn fawr wrthych 2 Cor. 7.3 4.
Ac megis y trists odd St. Paul y Corinthiaid drwy Lythur felly y c'hweny-chwn inneu eich trillau chwithau. ac O na thristaechi nid yn ddynol, ond yn dduwiol, nid i ddig ond i edifeirwc'h t ac na bae im ymdrodd ei drwy 'r yspryd 'weithio ynochi y fath ofall ac y weithioedd lluchur St. Paul yn y Corinthiaid. Canys wele pa ofal medd 'r Apostola, weithiodd hyn ynochi s [...]f tristau ohonochi yn dduwiol [...]i pa amddiffyn, ie pa so [...]iant ei pa ofn, ei pa [...]yddfrye, ei pa zel, ie pa ddiall, 2 Cor. 7.11.
O na bai ynochwithau o hyn allan, y fath ofal, y fath ofn, ar fath 'chwant i ymwrthod ar pechod yma, na bae ichwi roddi eich bryd ar eich ymddiffyn eich hunain oddiwrtho, 'r wy fi yn dywedyd hyn, oblegit fymod yn gweled yr anhawdd ichwi ymadael ar peth y funchi cyd yn gynefyn ac ef, gan hynnu meddai rhoddwch eich bryd ar eich amddiffyn eich hunain oddiwrth y dryg arfer yma a chyda'r Prophwyd Dafydd, Gwiliwch ar eich genau rhag ichwi u'n amser bechu ach tafodau: fe a fydd ynrhaid ichwi roddi cyfri o bob gair seg r a ddel allan och genau chwi pa saint mwy o bob llw ofer ac ansyber?
Gwrandewch ar St. Paul at 'r Ephesiaid yn dyscu pei fath ymad [...]odd a ddylai fod ymhl [...]h Cristnogion, nid amagen, nar fath a fyddo da, ac yn fuddiol i adeiladaeth, Eph 4.29. Na dd [...]w [...]d un ymadrodd llygredic allan och genau chwi: ond y Cyfriw, un ac a fyddo da i ad [...]iladu yn fuddiol fel y paro ras ir gwrandawyr ac na thrist ewch l [...]n yspryd duw, drwy 'r hwn ich seliwyd hyd ddydd prynedigaeth tynner ymmaith oddiwrthych bob 'chwerwedd a llid, a dig a llefain, a chabledd, gyda phob dry [...]i [...]ni.
Mae ymadroddion da yn peri gras ymhlich y bobl lle y byddo nhwy megis y mae ymadrodd on drwg yn llygru moesau da, 1 Cor. 15.23.
[Page 9]Na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain er hyn eich bod yn gwasana ethu duw cystal neu yn dodyd yn well na'rhai sydd yn gwneuthur yn fawr ac yn anwyl henw duw, ac yn ofni tyngu nac ar gam, nac mewn oferedd; fe a ddychon pobl nessau at dduw aianrhydeddu efe ai genau, ac etto pellhau ei Calonau oddiwrtho, Ef. 29.13. fe a ddychon pobl, gyffessu Crist yn ei geiriau, Mae yn anhebig iawn y dy [...]hon y moesau fod yn dda lle ma yr ymadroddion yn ddrwg. ac otto ei wadu efe yn ei gweithredoedd, at Tit. 1.16. ond mae yn anhebyg iawn i bobl gyffessu Crist yn ei gweithredoedd ai wadu efe yn ei geiriau, mae yn anhebyg iawn y dychon fod y moesau yn dda lle mae 'r ymadroddion yn ddrwg, ie fel y Clywsooh or blaen mae y bobl hynnu yn llawn drygioni y rhai ydynt ynddo hyd at ei genau, ac ni ddychon bod gymmaint a rhith duwioldeb lle nid orf araith grefyddol.
Os ydech yn rhyddion i arfer yr ymadroddion a fynnoch, paham y mae St. Paul ymob man ac y mae efe yn rhoddi gorchmynion i Gristnogion i rodio yn addas iwgalwedigaeth, yn ei rhybiddio nhw hefyd am ei ymadroddion: ac yn dangos pa fath ymadroddion a ddylai nhw ochelyd a pha fath a ddylai nhw ei harferu, ac heb hyn nid allant hwy gymaint a thebygu i Gristnogion,Coloss. 3.8. Eph. 4.24. Coloss. 3.8. Eph 4.24 25, 29, 31. fel hyn or Rhangynta, sef pa beth yw cymmeryd henw duw yn ofer, a pha sawl modd 'r ydem yn arferol a gwneuthur y mawrbechod yma.
2. Pa fodd ein temptir ni ir pechod yma.
I bob pechod arall, mae un or tri pheth yma in temptio ni iddo, naill ai chwant y 'cnawd, 'chwant y llygaid neu falchder y bywyd, 1 Joan. 2.16.
Sef Plesser, Budd, neu wagogoniant.
Yn awr yn g peth yma sef yn Camhenwi duw drwy dyngu a rhegi nid oes na Phlesser, na budd, na gogoniant, na harddwch, pa fodd gan hynnu ein tempterni iddo ond drwy demptsiawn y Cythrael.
Pabeth a ddymmuneu y Cythrael fwy na'n Caffel ni Cyn|'rhwg ac efe ei hun, yn awr gwaetha'r Cythrael yw Cablu a difenwi duw, ac wele wrth dyngu a rhegi yn serthaidd nid ydem ni yn gwneuthur un gronyn llai, or gwnawni fel hyn tra fyddo ni yn y byd yma yn gyfrannogion o ddaioni duw, [Page 10] oi haul ac oi law ef megis eraill, pa beth a gawnni yw wneuthur yn uffern pan in poenir ynghycar Cythrael ai Angylion: ie yn ddiameu y sawl sydd yn ymroir Brofedigaeth yma, mae yspryd drwg yn ei meddiannu' hwy, mae nhw yn serthaidd, yn fyrning, yn llidiog, ac yn greulon megis gwedi ei enynyn gan uffern.
A pha fodd y pr'ssient hwy am anrheithio dynion oni bae rhag ofn dialedd, y rhai ind ydynt yn perisio am a allant am anreithio duw? nid oblegit bod duw heb ddial, ond oblegit fod ei ddial ef yn hwyr Gan hynnu lle byddo gweision gwchion, gwyr geirwon plant y fall, yn Cymmeryd rhwysc i dynguac i gamgymeryd henw duw, mae gweision, ac aelodau y Cythrael, yn wayth na mwrddwyr, agyn waeth na lladron, Ciliw'th oddiwrthynt, ac na fydded eichwi gymdrith as a hwynt, Psal. 139.19, 20, 21. Os bydd i neb ohonochi ac sydd yn adnabod duw ac yn 'chwenych bod yn gymmeradw ganddo, meddaf os bydd ir Cyfriw fath ystyried sylw a maint y pechod yma, fe a wylia nid yn unic arno ei hun, ond hyd y gallo ar eraill hefyd, a pha bryd bynnac y clywo gamgymmeryd henw duw, fe a dry ei galon yn ei gorph, ac a sai ei wallt ar ei ben, mor erchylly fydd ganddo glywed Cyffroi ei Dduw daionus yn yr hwn y mae ef yn ymddiried, ar hwny mae efe yn ei garu ai holl feddwl, ac ai holl galon Ac amdano efe ei hun, ni henwa efe dduw un amser ond yn barchedic, ac wrth raid, megis mewn gweddi, mewn mawl, &c.
Gwaith y Cythrael yw difenwi Duw, ac nid oes lle Cyfaddas ir gwaith yma ond yn uffern.Fel hyn [...]ymrodyr anwyl, y gwelw'chi o ba le mae y temptasiwn yma yn dyfod sef oddiwrth y Diafol, ei waith ef ei hun yw hyn sef rhegi a chablu duw, ac nidoes lle cyfaddas ir pechod ymo, ond yn uffern yno mae Cablu a rhegi wylofain, hefyd a rhin'ci [...]n dannedd.
2. Ymha gyflwr ymae y rhai sydd yn arfer y pechod yma:
Gelynnion Duw a gymmerant ei enw ef yn ofer.Ymha gyflwr y mae yfath yma, fe ach dyscir 'chwi gan y Prophywyd Dafydd, Psal. 139.20.
Yn ddiau O dduw ti a leddi 'r anuwiol, am hynnu y gwyr gwaedlyd Ciliw'ch oddiwrthif: y rhai a ddywedant scelerder yn dy erbyn, dy elyunion a grmmerant dy enw yn ofer, Gelynnion duw yw y rhai y gymmerant ei enw ef yn ofer yn awr dychymygwchi [Page 11] ymha gyflwr y dychon gelynnion duw fod, pa ras, neu pa ddaioni a ddychon fod yddynt huw, a pha fodd na chospir ac na ddialir arnynt hwy ymhob modd ie oni bae wybod ohonomni fod duw yn ddioddefgar, ac yn ymar hoys iawn, ni a allen ryfeddu na bae 'r ddaiar yn ei llyn'cu hwynt na bae 'r tan yn ei llos'ci, neu 'r dwfr yn ei baddi: yr ydem yn darllen am y fath Siamplau a hyn, sef fel y darfu i dduw gynt farnu y fath drosseddwyr a rhain, gan roddi ir Creuaduriaid y gorfod arnynt hwy yw difetha, megis ir dwfr yw boddi ir tan yw llos'cci, neu ir ddaiar yn ebrwydd yw llyn'cu hwynt, ac yn siccr pa fodd nad ymladd pob Creadur yn erbyn y fath siscreaid ac ydynt yn ymladd yn erbyn ei harglwydd ai Creawdwr?
Mae y pechod yma yn dwyn dialedd nid yd vin'c yspryddol, ond daiarol hefyd, nid yn uni'c yn y byd sydd ar ddyfod, ond hefyd yn y byd presennol yma, ei mae y pechod yma yn dwyn dialedd nyd yn uni'c yn nailltuol, ar y rhai ydynt yn ei arferu, ond hefyd yn gyffredinol ar y lle y bobl neu 'r gynulliefa lle i mae efe yn arferedic, efe a ddifetha dy 'r hwn sydd yn ei oddeufe ymhlith ei deulu, Zechar. 5.4. Efe a ddryga y wlad neu ('r tir lle 'r ydys yn ei gynwys, ie medd y Prophwyd) oblegit tyngu yn dywyllodrus, a chymmeryd henw duw 'n ofer mae 'r holl wlad mewn gofid: gan hynnu ni a allwn gyfri y rhai sydd yn ymarfer ar pechod yma yn Elynion nid yn uni'c dduw ond hefyd ir wlad neu ir tir lle y bydont hwy.
Yn hytrach mae rhai a 'chwennychent beidio a chymmeryd henw duw yn ofer, etto nid allant hwyfod heb dyngu gan hynnu yn lle henwi duw y maent yn henwi ei Saintieu ef, yn lle dywrdyd myn Duw, neu myn Crist hwy a ddywedant myn Petr, myn Jaco, myn Mair, myn Elien, &c. ac yn hyn y maent yn tybied ei bod yn saf, ac nad ydynt yn gweuthur dim ar fai, fe a weddu fod y rhain mewn rhyw fodd yn ofni ac yn perchi duw, ac etto mae rhain yn Camsynnied mae yn gymaint pechod henwi y [...] Seintieu yn lle Duw, a henwi duw ei hun yn ofer ymhob un or ddau 'r ydem ni yn diystyru ac yn amharchu duw, yn y naill 'r ydem am a allomyn tynnu duw i lawr or nef [...]edd, yn y llall yr ydem yn gosod rhai eraill i fynu Cyfwych [Page 12] ac ynteu, ar nail ni ddychon duw moi oddef mwy na'r llall, ni rydd duw moi anrhydedd i arall: ac ni ddieddu efe gyfflybu dim arall iddo,
Yn awr wrth pa beth bynna'c 'r ydem yn tyngu hwnnw 'r ydem yn ei wneuthur, yn Dduw ini gan hynnu drwy dyngu wrth ddim ond wrth dduw yn vni'c yr ydem ni yn pechu yn erbyn y gor Chymmyn Cynta yr ydem yn gwneuthur ini ein hunain dduwiau draill heb ei law ef.
Nyd ydiw 'r Seintieu yn disgwil mor parch yma ar eich dwylaw 'chwi, a phan fyddo 'chwi yn galw arnynt, nid ydynt nac yn clywed nac yn gwybod oddiwrthy'chi.
Mae Jaco ar Seintieu eraill mewn esmwythdra nid ellwchi yn awr gyffroi ymohonynt hwy nid ellwchi na pharch nac amarch yddynt hwy, ond pan oeddent hwy ar y ddaiar nhw ach rhybyddiasant 'chwi ei beidio a thyngu, ie Jaco wrth yr hwn 'r ydechi yn tyngu fwya, sydd fwya yn eich erbyn 'chwi;
Jaco. 5.12. O flaen pob peth fymrodyr na thyngwc'h, nac ir nef, nac ir ddaiar, nac un llw arall, eithr bydded eich ie 'chwi yn ie, ach nage yn nage rhag syrthio ohonochi i brofidigaeth.
Ie mae ein Iechawdwr Crist ei hun yn gorchymmun na arferoch dyngu mewn modd yn y byd, ac oblegit fod nid yn uni'c yn arferedi onc hefyd yn lywiedic y pryd hynnu ymhlith yr Iddewon dyngu llwon buchain megis ir Deml, neu ir Allor, Mat. 23.16, 18.
Pwy bynnac dyngo ir Deml nid yw i ddim,Fel y mae rhai ohonochwthau yn tybied nad yw niwed tyngu llwon buchain megis myn fy naid myn y llaw yma, myn y tan Engil, myn yr Haul bendigedic, &c. Mae ein Jechawdwr Crist yn gwarddi chwi bob bath ar lw ofer, ar fath yma yn gyntaf.
Na thyngwch ddim nac ir Nef, nac ir ddaiar, nac ddaiar, nac i ddim a all, ond bydded eich ymadrodd'chwi Ie, Ie, nage nage oblegit pa beth bynnac sydd ywch bon hyn or drwg y mae, Matthew 5.34, 35.
Llwon gwàel.Y llwon gwael yma sydd yn gwneuthurhur eich brad chwi, rhain sydd yn cynnal eich drwg arfer 'chwi i dyngu, drwy dybied fod rhain yn ddiniwed 'r ydech yn ei harferu nhw yn westad, ac wrth ymarfer a rhain yn wastad nid ellwch na arferoch [Page 13] y lleill weithiau, y neb a ddywaid myn Jaco, neu myn Mair, ar bob gair, a ddywaid, myn Duw, ac myn Crist ambellwaith: Mae Sanct Augustin yn gweled, ac yn dal ar hyn, mede efe Cave facilitatem nam facilitas affert consuetudinem, & consuetudo blasphemiam, Os mynnwchi beidio a thyngu yn niwidiol na thyngw'ch ddim oll mewn oferedd, thyngw'ch nae ir haul, nae ir goleuni, nac eich enaid, nac eich enioes, nac un llw ofer arall, ond bydded eich Je 'chwi yn Je, ach nage, yn nage, ac na thwyllir ymohono'chi oddiwrth 'r ymadroddion yma gan fath yn byd ar goeglwon, ac er mwyn hyn yn benna yn op Cyngor St. Augustine gochelwch y Llwon gwaela.
1. Wrth Dduw.Ond chwi a ddywedw'ch oni 'chawn ni dyngu dim oll? Cew'ch ar achos 'cywir, ac angenrhaid, a hynnu nid amgen ond pan eich Cymhellir, neu pan eich gofynnir, yna 'chwi a dyngw'ch wrth dduw ei hun, ac nid wrth ddim arall, Jer. 5.7.
2. Wrth Dduw yn unic.2. Chwi a dyngwch wrth dduw yn unic, heb osod dim arall gydac ef Zephania 1.5: myn duw, ac myn Malcham, fel y dywedwn nmnu myn duw ac myn Mair
3. Wrth Dduw mewn gwerionedd; ac mewn barn.3. Chwi a dyngwch mewn guirionedd, mewn barn, ac mewn Cyfiawnder, Jer. 4 2. duw y gwirionedd yw efe gan hynnu y neb a dyngo iddo efe mae yn rhaid iddo dyngu mewn barn hefyd▪ (hynnu yw) ar achos da ac wrth raid, ac nid mewn oferedd.
Nid oedd pobl yn y byd er ystalm an haws ganddynt gymmeryd llw na'r Cymru ni ddoen hwy oflaen swyddoc, ond drwy ei Cymell a phyn ddelent, hwy a ddoen mewn ofn a dychryn, nid ydoedd tyngu yn ofer 'chwaith mor ruferedic ymhlith yr hen gymru ac y mae efe yn awr yn ein plith ni, ac etto mae yn ein plith rai i dduw y byddo 'r diolch yn rhagori nid yn uni'c ar eraill oi Cenhedl ei hun, ond hefyd ar bob Cahedl a phob Natiwn arall, nidoes ymhlith pobl yn y byd dduwiolach, syberwach dynion, gwell ei ymwreddiad, na rhadlonach ei ymadrodd, y rhain yn ddiameu ydynt sylfeini y Genhedl yn cael Ffafr gan dduw nas difethir hi: Ar y rhain 'r wyfi in deisyf er mwyn Crist ymegnio ohonynt hwy ar ddestrywio y scelerder ar gelynniaeth yma yn erbyn duw o blith y [Page 14] Cymru yr hwn fel y Clywsochi sydd yn dwyn dialedd nid yn uni'c ar y rhai ydynt yn ec arfer ef, ond hefyd ar y rhei ydynt yn ei gynwys ef, sef drwy fod yn fodlon iddo, ni ddychon pobl gywir oi Brenin gynwysmoi Elynnion ef, sef drwy fod yn fodlon yddynt, ei hoffi, a bod yn gymdeithgar a hwynt, felly nid ellwchwithau fod yn gywir i dduw a bod yn fodlon ir rhai a ddywedant scelerder yn ei erbyn ef Chiwch oddiwrth ynt or lleis cyn belled ac y gwelont eich bod yn anfodlon yddint; ai bod hwy (yn hynnu) yn wrthwynebus ichwi fel y Cynabyddon i bai, ac y Cwlyddiont oi blegit.
Mos. Exod. 32.11.21. Sam. 1.12.23. Dafydd. 2 Sam. 24.17. Elia. 9. Bern. 19.14. dygais fawr zel dros Arg. Paul yn ei zel dros yr Iddewon Rhuf 9.3. Rhuf. 10.1.Fy mrodyr mi a chwenychwn ichwi roddi eich bryd ar ber Ffeiddrwyd, yn awr perffeiddrwyd yw, yn ol Siamplau'r Seintiu gynt Moses, Samuel, Dafydd, Paul, ac eraill bod yn zealous, ac yn eiddigus oblegit gogoniant duw ac yn dda eich ewyllus i gadw eich brodyr rhag bod yn golledic, ymbyliw'ch a dw mewn gweddi dros eich broydyr fel y trugathao, efe wrthynt etto, fely trugarhaes efe hyd yn hyn, ymbyliwch ach brodyr hefyd fel na chwanego nhwybechu yn erbyn 'r Arglwydd i ddwyndrwg arnynt ei hunain, y mae ichwi Siampl o hyn. Exod. 32. lle mae Moses yn gyntaf yn ymbil a duw dros y Boble 11. ac oddi yna yn ymbill ar bobl oblegit bechu honynt yn erbynduw.
Dynion perfaith yw y fath ymma ymhlith pobl, lle mae nhw yn aml hwy a fyddant yn well oi oblegit Gen. 5. ond odid ceit yno ddeg,Abraham yn eiriol dros Sod. yntef a ddywedodd nis difethaf er mwyn deg.
Ni ddyweded neb mae digon iddo wilied arno ei byn a phaham raid iddo ymryston ac eraill?
O, bydd i chwi glywed un dyn yn eich cablu, ne yn euch defenwi chwi eich hynain, fe ech cyffroir chwi yn y fan: ac a ddau er ddochwi g [...]ywed cablu, ac amharchu Duw, heb fod atnoc [...]i gyffro yn y byd? Yn hytrach os bydd ichwi glywed absennu nu dd [...]rmygu eich meistred tir ne ryw foneddigion eraill, chwi a gymmerwchy matter arnoch, ag a sefwch oi plaid hwy yn y fan, ac a fydd balch gennych eich swydd, a hynni oblegit ei bod hwy yn wyr mawr, ag yn wyr de, yn alluog i wobrwyo ei gwasunaethwyr, ac i ddial ar ei Gwathwyneowyr;Mal [...].14. ac y diw yn ofer gwasannaethy Duw? Oni thal [Page 15] efe ddimar? Oes dim ei law ef? a eill efe ddim, na drwg, na da, wele ddallineb ac unfydrwydd mawr gan bobl.
A oes arnochwi y fath eiddigedd glywed amharchu dynion y rhai yndodyd ni haedden amgen, ac onid oes arnochi gyffro yn y bid i glywed amharchu Duw 'r hwn sydd ganmoladwy iawn drwy holl fyd, ac ni haeddu o nid clod gan bawb? Fel hyn y dywed yr Arglwydd Melldigedic fyddo 'r gwr a hyder o mewn dyn, ac a wnelo gnawd yn fraich iddo, ar hwn y cilio ei galon oddiwrth r' Arglcwydd, Jer. 17.5.
O eisieu eich bod yn gwybod, ac yn medru odddiwrth Dduw yn well, yr ydech yn hyderu, ac yn b [...]lchio mewn dynion yn anrhesymol, pei medrechi b [...]chi Duw yn iawn;Na cifoledded neb newn dynion, 1 Cor. 3.21. Esa. 65.17. chwi a fedrech hefyd wybod pagymment a pha fodd y dylech barchu dynion, oblegit hynnu hefyd sydd iawn yw wneuthur ond nid allan o fesur; Na orfoledded neb mewn dynion 1 Cor. 3.21. Y nebm y fendigo ar y ddaiar ym fendig [...]d yn Nuw y gwirionedd, Esa. 65.17.
Diau (med y Psalmud) mai cwbl gwaggedd yw pob dyn pan fo ar y goreu, Psal. 39.5. Nid yw nai ddoethineb nai gyfoeth o ach [...]s yr hyn 'r ydechwi yn ei fawrhau Cymmynt ond ond cysgod gwag a thrafferch ofer, Psal. 39.7.
Y Cymru anwyl pei profechwi a phai mor dda yw 'r Arglwypd, pei bae chwi unwaith yn gyddnabydd [...]s ac ef, chwi a dawech a son am ddynion, ag a sonniech amdano efe yn unic, ond oblegit nad ydech yn ei adnabod efe, yn jawn am hynnu 'r ydech yn camgymeryddynion hefyd.
Unic ddifyrwch y rhai a adwaenant Dduw uw son amdano a mynegi ei weithredoedd, Psal. 71.8.14, 16.Unic ddisyrt w'ch y rhai a adwaenaut Duw yw son amdani ef Ps. 71.8.14, 16 Dy gyfiawnder di yn unic a g [...]fiaf, fi.
Un waith etto y Cymru crefyddol y deisifwn arnochi rybiddio bawb ei gilidd, rhyl i idiwch y rhai afriolus, a byddwch amarhous wrth baw, 1 Thes. 5.14. ac na ddywedwch mae ofer y fydd eich gwaith chwi, ac na wna gwyr ofer, a gweision ond eich gwatwar chwi; gadewch i hynny fod, ni fydd gwaeth arnochi rag a su ar y Seinteu och blaen chwi, ei gwatwar a gaesant hwythau ganddynion, ond ei gwobrwyo gan Dduw, felly y cafodd Noah wrth rybiddio y byd pechadyrus oflaen y Diliw ei watwar ef y wnaeth y byd, ond pan [Page 16] ddaeth r anghaffel ar bawb eraill efe a fy cadwid i gan Dduw, felly Lot oblegit nad oedd efe yn galiu dioddeu drygioni Sodom a watwarwyd ganthy ne hwy; ond pan ddaeth destriw arnynt hwy, efe a fy cadwedid, felly chwithauoni ddaw erddochwi rybyddio eich brodyr o gariad arnynt hwy, etto rhybiddiwch hwy o gariad arnoch eich hunain, rhag i chwi drwy gyd-ddwyn a nhw, pan ddelo r amser, gyd ddioddef hefyd.
Bydded yr un meddwl ynochi ac oeydd yn Samuel yr hwn pan ydoedd y bobl yn ei wrthod ef, ag yn ei amharchu ef, ni adawodd mohonynt, ae ni pheidiodd er hynnu i ewyllysio yn dda, ac i wneuthur, y goreu yddynt, ei mae efe yn cydnabod fod hynny yn gydwybodus iddo ag yn ddyledus arno. A minneu, na atto Duw ini bechu yn erbynyr Arglwydd, drwy beidio a gweddio trossoch either dyscaf ichwi y Ffordd dda ac union, 1 Sam. 12 23. felly er bodi rai och brodyr fod yn afreolus eich gwyrthod, ac ich gwatwar chwi, etto na atto Duw i chwi beidio a gweddio trostynt, ai cynghori hwynt.
Ac etto os ydiw yn anhawdd genychi fel hyn fod yn hy ar eich gilydd, or lleiaf dyscwch bob un eu Deulu eu hun, a hynnu oblegit y tri rheswm yma.
Tri Rhes. 1. wm paham ydysc pob un eu deulu el hun: ac yn enwedic pob tad eu blant. 1. Oblegit Duw. 2. Oblegit en hun. 3. Oblegit eu blant. Oblegit Duw.yn gynta oblegit Duw. 2. yn ail ochplegit chwi eich hunain 3. yn drydydd oblegit eich plant.
1. Yn gyntaf y mae yn ddyledus arnochi ddyscu bob un eu deulu, ac yn enwedic eu blant oblegit Duw.
Yn hynnu y dangoswch eich hunain yn F [...]yddlawn i Dduw, o rodd pa un eich gwnaethpwyd chwi yn Dadau ac felly hefyd y byddw'chi yn gyfrifol, ac yn gymmeradwy gyda Duw, or a'chos yma yr ydoedd Abraham mor gymmeradwy gyda Duw, fel pan yddoedd Duw ar fedr distrywio Sodom, efe a wnaeth Abraham yn gydnabyddus ar hyn yr oedd efe ar feder i wneuthur, Gen. 18.19. Yr Arglwydd a ddywedodd a gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf? Canys mi ai hadwaen ef y gorchymmyn efe iw blant, ac iw dylwyth ar ei ol gadw ohonynt Ffordd yr Arglewydd, gan wneuthur Cyfiawnder a barn: oblegit hyn yma, sef oblegit f [...]d Abraham yn Dad Fyddlawn, y Cafodd efe yr henw i fod yn Dad y Fyddloniaid.
Oi plegit eu hunam.Yn ail: mae yn ddyledus arnochi ddyscu bob un ei Deu'u en hun ac yn enwedic pob tad eu blant oblegit eu hun [Page 17] Eph. 6.4. ei dyscu hwynt nid yn unic mewn athrawiaeth ddynol neu gelfyddyd fydol, (Mau yn dda,Eph. 6.4. ac yn angenrhaid hynnu) ond yn ynwedic eu dyscu hwynt, yn ofn, athrawiaeth yr Arglwydd.
O eisieu hyn y tyfodd y drwg arfer yma yn ein plith ni, ac heb hyn ni ddiwreiddir mohoni hi, er maent a allo y llywiawdwr gwledic neu yr gwenidog Egllwysig i wneuthur; Chwi a welwch eich hunain, y rhai a ddyscwyd yn blant, ac a arferwyd i ymadroddion da oi ieuengtid, yn hyddysc ynddynt yn eu henaint, ac hwy a ddyscant ei plant nhwythau, ond yn y gwrthwyneb, y rhai a esguluswyd gan ei tadau, ydynt yn ddifraw amdanynt eu hunain ac yn ddigiewybod am ei plant ei mor ansyber ac na fynnant hwy ddyscu moi plant gan eraill, ond hwy a fynnant adel eu plant megis ac y gadawyd nhwythau.
Gwelwch gryfed gw anuwioldeb ymlieth pobl ddywybod yn enwedic pan gerddo hi oddiwrth y tadau at y plant, mae hi yn awdurdedig, gwiliwch mrodyr rhag parhau yn hyn, rhag ichwi fod y [...] Dadau drwg i blant drwg, yn Dadau anuwiol i blant anuwiol ag ich plant ddwyn dialedd och plegit 'chwi, Canys pan ddelo pobl unwaith i fod yn ddibris am gadw duw yn eu gwybodaeth, y mae yn darford rhwng Duw ar bobl hynnu, ac efe ai rhydd nhw i fynu, Ruf. 1 28.
Yn drydydd, 3. mae yn ddyledus arnochi ddyscu eich plant yn dduwiol, oblegit eich plant,Oblegit eu plant. Canys felly y darparw'chi yn oreu yddynt, gwell yddynt hwy hynnu na rhir na da, ac na golud, na c [...] yfoeth yn y byd, pa beth a ellw'chi well yddynt nai maethu ai dwyn i fynu i wasanaethu Duw? fel [...]y y dygonir hwy a phob daioni ac y gwaredir hwy oddiwrth bob drwg, ei chwi a gew'ch gomffordd oddiwrthynt ymhod ystad, ac ymhob cyflwr, Gwyn ei fyd y gwr a ofna 'r Arglwydd, ac fydd yn hoffi ei orchmynnion ef yn ddirfawr,Psal. 112.1, 2. ei had fydd Cadarn ar y ddaiar; Cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir yn hytra'c 'chwi a fyddw'ch gwell oblegit eich plant yngwasanaeth duw, Gen. 18.19. Canys mi a adwaen Abraham y gorchymmyn efe iw blant, ac yw dylwyth ar ei ol gadw ohonynt Ffo dd yr Arglwydd, gan wneuthur Cyfiawnder, a barn: fel y dygr 'r Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe amdanaw' [Page 18] ac yn siccr pa fodd na bae un yn well er y neb y bae ei blant yn eu wasanaeth.
Chwi a welw'ch bob gwr bonheddig yn 'caru ac yn cydnabod y Cyfryw rai ac ydynt o hil i hil, ac o d [...]d i dad yn glynu wrth ei dy ef, a hwythau ydynt yn falch ganthynt en bod yn p [...]rthun iddo, ymhob modd hwy a roddant barc'h ac anrhydedd iddo, ie hwy a ddyscant ei plant iw fawrhau ac i Son yn barchus amdano, ac etto fe a ddychon ty or fath honno new dio, naill ai fe ddychon y ty fyned yn ol llaw, neu [...]e ddychon y bobl fyned yn llawgaled, pa faint gwell ydiw i bòbl o hil i hil, ac o genhedlaeth i genhedlaeth lynu wrth Dduw, a bod oi deulu ef, lle mae y fath hyfrydwch, y fath ddigonedd, y fath drefn, ar fath lywodraeth, ac lle ni ddychon fod Cyfnewid yn ybyd; a pha faint yn well y gweddu ichwi ddyscu eich plant, iw fawrhau efe, ac i adroedd yn barchus amdano.
Yn ddiweddaf or dyscwchi eich plant yn dduwiol ai gosod yngwasanaeth Duw, chwi a fyddwch allan o ofall amdanynt wrth ymadel ar byd, ac h [...]b hyn ni dd [...]chon cyfoeth yn y byd a adawochi ar eich ol yddynt, ddiofalu mo-honochi oddiwrthynt,Ei anrhydeddw yr anhrydedda duw, ai ddirmyga, a ddirmyga, 1 Sam. 2.30. a chwedi yr elochi or byd, Chwi a fyddwch fyth mewn Coffadwria th dda gyda hwynt, Psal. 112.6. ie a nhwythau a ddyscant ei plant hefyd yn yr un mod [...], ac felly y Cedwir Fordd yr Arglwydd yn eich plith chwi o genhedlaeth i genhedlaeth, fel yr adwaeno yr Arglcwydd Chwi megis yr adnabu efe Abraham,Ymlith y pethau a a berthunent in heddwch ni Sancteiddia henw Duw yw 'r peth Cynta. ac y dygo ddaiom ar eich Cenhedlaethau chw Amen.
Y [...] Arglwydd a fadd [...]uo ini ein anwybodaeth an anystyriaeth hono hyd yn hyn, a dyw [...]ll [...]o eu ybyd arnomni yn amlach, ac yn helaethach o hyn a la [...], fel yr adn [...]byddom efe or mwyaf hyd y lle [...]f, a gynnalio eu drugaredd tu ac attom ni yn [...]b [...] ni etto fel y gwnaeth efe hy [...] yn hyn.
Mae Crist yn dyscu [...] yn ein gweddi Sanctei [...]dia [...] henw duw c [...]n yr a'chom ni ddyfodia ei deyrnas ef.Ac a gan adhan ini a adnabod a derbyn yn amser hwn o ras a gwybod y pethau a b [...]rthun [...]nt in heddw h ni tra fyddo ein dydd ni etto yn pathau ac yn ynenwedic i sancteiddio eu enw bendig d c ef yn wallad ar air ac ar weithred, fel y byddom ni yn addas iw deyrnas ef, yr bon sydd beunydd yn dyfod nes gwyn ei fyd y bobl y syddo Cymmwys iw derbyn hi: Amen.
Y Deg Gorchymmyn ai Hystyriaeth.
Y Deg gorchymmyn a ranner yn ddwy-ran: Sef y gorchymmyn mawr: ac ail gorchymmyn cyffelib iddo.
Yn y gorchymmyn mawr Cyn [...]hwyser y pedwar gorchymmyu Cynraf, yn yr hyn ein dysch o [...] ein dyled tu ag at Dduw; Yn yr ail gorchymmyn y cynhwys [...]r y chwech olaf, yn yr hyn ein dyscer ni ein dyled tu ag at ein Cymmydog.
Y gorchymmyn cyntaf ai hystyriaeth.
‘Na fydded it Dduwiau eraill ger fy mron ei.’ Yn y geiriau hyn yr ydem yn dyscu, cydnabod y gwn D uw, ei addoli ef, credu ynddo, ei garu uwch law pob peth, ei ofni yn fwy na dim, a gobeithio ynddo efe yn unic.
Yr ail gorchymmyn ai hystyriaeth.
‘Na wna it ddelw gerfiedig, na llun dim ar y sydd yn y nefoeth uchod nac ar sydd yn y ddaiar isod, &c.’Yn hyn yr ydem yn dyscu ymwrchod a phob eulunaddoliaeth, a g [...]udduwiaeth, a phob [...]o [...] ofer, ac anhrydeddu y gwir Dd [...]w yn y dull, ar wedd, ac y mae efe yn gorchymmyn yn ei air Sanctaidd.
Y trydydd gorchymmyn.
‘Na chymmer enw yr Arglwydd dy Duw yn ofer, &c.’ Yn y geiri [...]u hyn yr ydemni yn dyscu ymwrtho [...] a phob cam-arfer, a diystyrwch ar enw Duw, ei ddoniau, ei air, ai weithredoedd.
Y pedwerydd gorchymmyn.
‘Cofia gadw yn Sanctaidd y dydd Sabboth.’ Yn y gorchymmyn yma yr ydem yn yndyscu gorphywys ar ddydd yr Arglcwydd oddiwrth ein meddyliau, ein geiriau, an gweithredoed bydol, a chynnal y dydd hwunw yn gwbl i ogoniant Duw, drwy ei wasanaethu efe yn enwedig ar y dydd hwnnw, nid yn unic pob un yn en deulu eu hun, ond pawb ynghyd yn un gynlleidfa, yn Cyd-weddio: yn cydwrando, ac yn cyd-ralu diolch, hefyd ar y dydd hwnnw ni a ddylem wneuthur gweithredodd da ac angenrhaid yn unic, gweithredodd duwioldeb, a gweithredodd traga edd, fel y Caffom ni gwyfleu ac y roddo duw yr gallu nid nad yd w iawn ini wasanaeth Duw fel hyn ar ddyddi [...]u eraill ymhli [...]h ein holl trafferthau: ond ar y diwrnod hwnnw ni a dyl [...]m roddi heibio ein trafferthau ein hunain, a disgwil ar yr un peth yma yn u [...]ic.
S [...]bboth neu gadw diwrnod yn Sabboth yw nuilltuo a chyssegru diwrnod i orphywys oddiw [...]th eich gw [...]ith eich hunain er mwyn bod yn ddirwystr oblegit pethau bydol, ac m gis yn rhw [...]m ar y diwrnod hwnnw yn enwedic i ddisgwil ar wasanaeth Duw, gan berchu ic anrhydeddu y diwrnod oblegit y gwasanaeth. Exod. 16.13 Esa. 58 13, Mae yn fawr gan ddynion duwiol am y dydd Sabbath er hyf [...]dwch hwy yw, megis ac y mae efe yn dd [...]ffus gan ddynion Cybyddus a drygionus, mae efe yn fl [...] ganthynt, ac nid allant hwy aros wrtho Am 8.5. Pa bryd yr ay Sabboth heibeio?
Gwae ni y Cym [...]u ein gwaith ar dorri y Sabbothau gynt, drwy ddioddeu po [...]ion ha, chwaryddion, neu Enterlutai, daw [...]sio a chanu,Interludi. meddwi, ac ymladd a phob anllywodraeth ar y dydd hwnw m [...]gis yn un-swyth, ac ar gwaith godd [...]u: or achos yma y mae llawer plwyf, a llawer Cynlleidfa yn ein plith ni heb na gwenidogaeth na Sabboth, ac yn awr llawer. heb ganthynt ddim iw wneuthur ar y dydd Sabboth ond chwareu, ac wele ni ddaw erddynt mohynnu fe a gymmerodd duw ymaith lawenydd on plith ni ynghyd ai wasanaeth: Hos. 2.11, 12, 13, &c. Es. 1 [...].10. Jer. 7.34.
Y pymmed gorchymmyn ai ystyriaeth.
‘Anrhydedda dy Dad, ath fam, &c.’ Yn hwn y mae pob rhyw, a gradd o Gristianogion yn dyscu eu dyled iw gilydd, y naill ir llall: Megis
Yn gyntaf y plant tuag at y tadau, ar mammau: ar tadau,Lege: dyled y bobl ir llywi awdwr a dyled y llywiaw ir bobl. ar mammeu tu ag at y plant: Dyled y Llywiawdwr ir bobl, ar bobl ir llywiawdwr, Dyledswydd y plwyfolion ir offeiriad, neu [...]' gweindog, ar offeiriad ir plwyfolion, y wraig ir gwr, ar gwr ir wraig: ieuengtid i henaint, a heniant i ieuengtid, y gwas ir meistr, ar meistr ir gwas, y tlawd ir Cyfoethog, ar Cyfoethog ir clawd.
Y chweched gorchymmyn.
‘Na ladd.’ Yn hwn yr wyi yn dyscu gochelyd pob peth ac a ddychon fyrhau enioes, neu beryglu bywyd fynghymmydog, neu fy enioes fy hun. Ie yr wyfi yn dyscu ymmhellach arfer pob moddion Cyfreithlawn i faentumio at i gynnal fy mywyd fy hun, a bywyd fynghymmydog hefyd.
Y seithfed gorchymmyn.
‘Na wna odineb:’ Yn hwn in dyscer i ochelyd holl bechadurus chwantau y cnawd ar holl achosion sydd yn perthyn yddynt at ymarfer a phob moddion Cyfreithlon im cadw fy hun ac eraill mewn diweirdeb.
Yn wythfed gorchymmyn.
Yn hwn yr ydem ni yn dyscu ochelyd gwneuthur cam ac era [...]ill, nac ymgyfoethogi drwy Ffyrdd anghyfiawn eithr gweithio yn ddyfal mewn galwedigaeth gyfreithlon, fel y gallom yn gywir ein maentumio ein hunain, an teuluodd, ac heblaw hynnu Cymmorth erail a fyddo mewn eisieu.
Y nawfed gorchymmyn
‘Na ddwg gam distiolaeth yn erbyn dy gymmydog.’ Yn y gorchymmyn hwn yr ydem yn dyscu, nawnelom gam a neb, nac yn eu enw drwy ei enllibio efe yn ddirgel, nac yn ei dda, neu yn ei fywyd, drwy roddi Camdystiolaeth yn ei erbyn ef o flaen y Barnwr, ie yr ydem ni yn dyscu yn y gorchymmyn yma fod yn barod cyn belled at y gallom i atteb dros, eln Cymmydogion hyd y gallom gydar gwirionedd.
Y degfed gorchymmyn.
‘Na chwennych dda dy gymmydog, na chwennych wraig dy gymmydog, &c.’ Yn hwn yr ydem ni yn dyscu bod yn gwbl-fodlon in Cyflwr, an stat ein hunain heb gymmaint a thrachwantu yn ein Calonnau ddim ar a fyddo yn eiddo rhai eraill.
Chwe pheth angenrhaid iw ystyried er mwyn iawn Synnied or gorchmynnion yn giffredinol?
1. YN gyntaf pa beth bynnag a fyddo un gorchymmyn yn ei erchu, y mae efe yn gwahardd ygwrthwyneb, a pha beth bynnag a fyddo un gorchymmyn yn ei wahardd, mae efe yn errchu y gwrthwyneb: Megis yn y trydydd gorchymmyn: Nachymmer ew yr Arglwydd dy Dduw yn ofer, y mae y gorchymmyn yma wrth wahardd cymmeryd enw duw yn ofer, yn erchu ei anrhydeddu, ai Sancteiddio efe, yn yr un modd y mae duw eu hun yn esponi, neu yn egluro y pedwerydd gorchymmyn, gwedi iddo erchu cadw y dydd Sabboth, y mae efe yn eberwydd yn gwahardd y gwrthwyneb, Ar y dydd hwnnw na wna ddim gwaith.
2. Yn ail: pa beth bynnag y mae y gorchmynnion yn ei waharddy mae nhw yn ei wahardd dros byth a phob amser, megis na ddylem ni gymeryd henw duw yn ofer un ams [...]r, nac mewn un modd, na lladd, na godinebu nac yn ddigllawn, nac yn ddyddig, nac yn feddw nac yn Sobr: ond am yr hyn y mae y gocchmynnion yn ei erchu yr ydem ni yn rhwym i wneuththur hynnu dros byth ac hyd y diwedd, ond rid yn wastadol a phob amser: Megis yr ydem ni yn rhwym i gadw y Sabboth tra fyddom ni byw, ond nid amgen nac ar ei ddydd ei hun, yr ydem ni ar ddyddiau erall yn rhyddion oddiwrtho.
3. Yn drydydd pa bechod bynnag y mae un gorchymmyn yn ei wahardd, y mae efe hefyd yn gwahardd pob pechod Cyffelib, a phob achlusur iddo: fel y mae Christ ei hun yn [Page 24] eglurhau y chweched, y seithfed ar tryydydd gorchymmyn, Mat. 5. wrth argyhoeddi arthrawiaeth y Phariseaid yn gwahardd lladd, a godinebu yn y weithred yn unic: a thyngu wrth henw Duw yn gelwyddog: y mae Christ yn dyscu fod y neb a ddiggio yn ddiyflur yn euog, 21.22. ar neb a edrycho ar wraig iw chwennychu hi, yn godinebu, a bob y neb a dyngo oll yn ddiachos ar fai, 28.34, 35, 36, 37.
4. Mae n rhaid ini gadw y pedwar gorchmynion cyntaf oi piegit ei hunain, canys nid o es dim fwy neu yn iwch na nhw, ond y gorchmynion eraill mae yn rhaid ini ei cadw oi plegit hwy, fel y mae Christ eu hun yn gwneithur rhagoriaeth rhwng y cyntaf ar ail Gorchymyn, y mae yn galw y naill yn orchywyn mawr, ar llall yn gyffellib iddo hynny ydw, m [...]gis yn pwyso arno, ag yn cymmeryd eu rym, ai nerth oddiwrtho. Nid oe; dim oherwydd yr hyn y carwn ni Duw, ond efe eu hun canys nid oes dim yn fwy neu yn well nag efe, ond nid amgen nac oherwydd Duw y carwn ni ddyn sef oblegit ei fod efe, wedi en wneithur ar lun Duw, Jaco: 3 9.
5. Mae y fath garennydd, ar fath gymdeithas, rhwng y gorchmynnion, fel pwybynnag a gatwor gyfraith i gyd oll ag y ballo mewn un pwngc, y mae efe yn euog or cwbl Jac. 2.10, 11. obleg [...]t y mae y cwbl yn sefyl ar yr un awdurdod, y neb a ddywedoedd na odineba a ddywedodd hefyd na ladd, gan hynny y neb sydd yn trossedu mewn un arall, nid yw efe yn cadw yr un oblegit Duw. Canys pe gwnae efe felly yr unawdurod ac a bereu iddo gadw un, ai cymhelleu efe hefyd i wneithur ei or [...]u ar gadw 'r lleill,
6. Mae y fath garennydd, ar fath gymdeithas, rhwng y gorchmynnion, nid yn unic y weithred oddiallan ond hefyd y meddwl ar ewyllus oddimmewn, y mae hi yn gofyn ei chyflawni yn berffath, ac mewn gwirionedd yr hyn nis gallwn ni ei wneuthur, oherwydd ein bod wedi ein llunio mewn anwiredd, Psal. 51.5.
A chan hynnu nid wrth ein gwaith yn cadw y gyfraith y mae ini ddisgwil am iechydwriaeth, oud drwy gredu yn yr Arglwydd Jesu, yr hwn a wnaethpwyd ini gan Dduw yn ddoethineb, ac yn gyfiawnder, ac yn Sancteiddrwydd ac yn Berynedigaeth, 1 Cor. 1.30.
[Page 25]Ac etto mi a fynnwn ichwi gofio na ddaeth Christ i dorri yr gyfraith, ond iw chyflawni hi. Mat. v. 17.
Ir neb y mae Christ yn sancteiddrwydd, y mae efe yn Sancteiddiwr hefyd; y neb y mae efe yn ei brynnu drwy eu waed, y mae efe hefyd yn eu feddiannu drwy ei yspryd, ac nid yw eu yspryd ef yn ddiffrwth ddim, ond yn llawn Ffrwyth, ym mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd, Eph. v. 9. (Medd yr Apostol) y rhai sydd eiddo Christ a groeshoeliasant y cnawd, ai wyniau ai chwantau, Gal. v. 24. y mae nhw yn dwyn cariad diragrith tuag at Dduw, a chasineb perffaith i bechod er maint a fyddo ymdrech y cnawd yn eu herbyn hwynt y mae nhw o ewyllus da ac oi gwir fodd yn rhoddi eu meddwl ar wasanaeth cyfraith Dduw, Rhuf. 7.15. ie nid yn unic i wasanaythu ei gyfraith ef, ond hefyd i ymhyfrydi ynddi hi, Rhuf. 7.22.
Gan ddiolch bob amser i dduw tad drwy ein harglwydd Jesu Grist am eu rhyddhau oddiwrth faych eu pechodau, ac oddiwrth gaethiwed, a melldith y gyfraith gan wneuthur y baych oedd drwm, yn yscafn, ar iau oedd flin, yn esmwyth; arhoddi yddynt wasanaethu Duw, a dynion, o wir gariad; a prof mhob modd beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd. Amen.
Celfyddyd fach er cyfarwyddyd ir cyfryw rai or cymru ac ydynt yn ddiwid i wrando pregethau, ac yn ddyfal ei chwilio yr scruthuran fel ymedro nhw gwedd ar Bennod neu r Adnod a fo nhw yn ei geisio neu a henwir iddynt.
[Page 26] Mark. 3.34 Wele fy mam i am brodyr i. Ganis pwy bynnag a wnelo ewyllus Duw, bwnnw yw fy mrawd i am chwaer, am mam i.Un.1. Dau.2. Tri.3. Pedwar.4. Pymp.5. Chwech.6. Saith.7. Wyth.8. Naw.9. Deg.10. Un-ar-deg.11. Deu ar-ddeg.12. Tri ar-ddeg.13. Ped-war-ar-ddeg.14. Pymptheg.15. Un-ar-bymtheg.16. Dau-ar-bymtheg.17. Tri-ar-bymtheg.18. Pedwar-ar-bymtheg.19. Ugain:20. Un-ar-hugain.21. Dau-ar-hugain.22. Yr oedd y Beraeaid, yn foneddi geiddiach, nar rhai oedd yn Th [...]ssalonica y rhai a dderbyn niasant y gair gyda ph [...]b pared rwydd meddwl, gan chwilio heuuyd yr Scrythhraiu, Acts 17 11 Tri-ar-hugain, &c. 23. Deg-ar-hugain.30. Deugain.40. Deg a-deugin.50. Trigain.60. Deg-a-thruigain,70. Pedwar-ugain.80. Deg-a phedwar-ugain.90. Cant.100. Neu y ganfed: ac felly am y lleill un ne'r cyntaf yr ail, y drydydd, &c.
1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, &c.
10. 20. 30. 40. 50. 60. 70. 80. 90. 100. 101, 102, 103, &c.
Y garennydd oreu yw edrydu 1 Ghrist, ar Boneddigr-wydd mwya yw bod yn gydnabuddus ynei eiriau efe, heb hyn nid yw achau ond chwedlau, 1 Tim. 1.4. ac nid yw Bonedd ond gwagedd.I, II, III, IV, V, VI, VII, VIII, IX, X, XI, XII, XIII, XIV, XV XVI, XVII, XVIII XIX, XX, XXI, XXII, XXIII, XXIV, XXV, XXVI, XXVII, &c.
X. XX XXX. XL. L. LX. LXX. LXXX. XC. C.
Y nam yn unfed bennod deu-ugain o lyfr Gensis ar unfed adnod ar bym [...]heg, Gen. 39.16. neu Gen. XXXIX. XVI. Yr nam yn unfed Psalm ugain a chant ar nam yn unfed adnod triugain a chant Psal. 119.159. neu Psal. CXIX. CLIX. Yr ugainfed adnod o Epistol Jude, Jude 20. neu Jude XX.
Y pedwaredd Gorchymmyn.
Cofia y dydd Sabboth iw sancteiddio ef chwe diwrnod y gweithi ac y gwnei dy holl waith, ond y seithfed dydd yw Sabboth yr Arglwydd dy dduw, &c.
MAn rhyw odidowgrydd yn nailltuoll i bob gorchymmyn, yn enwedic i bob gorchymmyn or Astyllen gyntaf, megis ir gorchymmyn ymma, mae yn nailltulol, ac yn briodawl iddo fod yn yspus, ac yu eglur tros ben, lle mae y lleill yn cyhoeddi un rhan ac yn cynhwy so 'r llall, mae hwn yn cyhoeddi 'r ddwg ran, ac yn yspysu 'r cwbl.
Mae efe yn cyhoeddi yn gyntaf y peth y mae efe yn ei erchi a chwedi hynnu y peth y mae efe yn ei wahardd, ac or nailltu yn rhoddi rheswm am bob un or ddau.
Yr hyn y mae efe yn ei erchu a gynhwysir yn y geir au ymma; Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Sabboth, y rheswm sydd yn Canlyn fel hyn.
Chwe diwrnodd y gweithi, ac y gwnei dy holl waith, M [...]e iti chwe diwrnod i weithio, yn 'r hyn y gwnei dy holl waith, gan hynnu Cadw yn sanctaidd y dydd Sabboth.
Yr hyn a wahardder a gynhwysir yn y geiriai hyn, Ond y seithfed dydd yw Sabboth'r Arglwydd dy dduw, na wna ynddo ddim gwaith. Y rheswm am hyn ydiw▪ oblegit yr Arglwydd wneuthur ei holl waith mewn chwe diwrnod, a gorphywys ohono y seithfed dydd, Am hynnu y bedithiedd 'r Arglwydd y seithfed dydd ac ai sancteid [...]iodd ef (hynnu yd [...]w) efe ai nailltuodd, ac ai ordeiniodd efe yw gadw yn sanct [...]i dd iddo ef.
[Page 28]Cofia y dydd Sabboth iw sanctaiddo efe, &c.
Yn y Text ymma mae ichwi y Tri pheth hyn yw hystyried:
1. Fod un dydd o saith iw gadw yn Sabboth yr Arglwydd.
2. Pa fodd y Cedwir y Sabboth, sanctidd ac yn ddiwaith.
3. Paham y Cedwir y Sabboth, yn sanctaidd; sef oblegit ir Arglwydd ei nailltuo ai ordeinio efe iw gadw felly.
Otherwydd paham y bendithiodd yr Arglwydd y seithfed dydd ac a sancteiddiodd ef.
Yn gyntaf rhan gyntaf, sef bod un dydd yn 'r wythnos yw gadw yn Sabboth ir Arglwydd.
Yn y rhan ymma chwi a ystyriwch y tri pheth hyn:
1. Ordinhad y Sabooth pa fath ydiw, ac oddiwrth pwy mae, sef oddiwrth Dduw yn Ordinhad tragywyddol.
2. Use a deunydd y dydd Sabboth, mae efe yn fuddiol mewn amriw o foddion, ond yn enwedic oblegit ywasanaeth Duw yn hardd, ac yn barchedic yn y gyulleidfa.
3. Jawnder a rheswmoldeb y Sabboth, nid yw efe onid un dydd o saith, a hwnnw yw gadw ir Arglwydd, it hwn sydd yn rhoddi ini ein holl ddyddiau.
Yn gyntaf or ystyriaeth gyntaf, sef Ordinhad y Sabboth, pa fath ydiw, ac oddiwrth pwy mae; (1) oddwrth Dduw yn O [...]dinhad tragywyddol.
Yn y dydd [...]au hyn nid oes [...]gos ddim ac sydd grefyddol nad ydiw m [...]ddyliau anwadl, a phennau anyscedic yn ei ammau, ei hyd yn oed y pader, y G [...]edo, ar d [...]g gorchymmyn, ac yn enwedic y gorchymmy [...] ymma, ynghylch y Sabboth.
Mae pawb yn Cyfadde fod y Sabboth wedi ei ordeinio gan Dduw,Megis yn rhyddion ac yn a [...]h ydd-did gennych megis Coh [...]l malis eithr felgwasana ethwyr Duw, 1 Pet: 2 16 ond medd thai, nid ord [...]iniwyd ymhono ond dros amser, a hynnu ir Iddewon yn unic; hwy a ddywedant fod Christnogi [...]n yn rhyddion oddiwrtho, ac na ddylai nhw wneuthur rhagoriaeth rhwng y naill ddiwrnod ar llall, na chadw un dydd mwy nai gilydd.
Yn siwr mae nhw yn rhyddion yn y peth ymma, megis mawn pethau eraill or Cyffelib, ond mae yn ddyledus arnynt hwy [Page 29] usio ei rhyddyd yn hyn ac ymhob peth ar all er gogoniant, a gwasanaeth Duw, yr hwn yw ein gwir fraint, an rhydddid ni.
Ir rhai sy yn Cymmeryd arnynt ammau, ac ymddadleu yn y Pwncc ymma, myfi a attebaf yn yr un modd, ac 'r attebodd ein Jachawndwr Christ ir Pharisaeaid Mnr. 10.2. pan ofynnasant hwy iddo, a oedd rhydd i wr roddi ymmaith ei wraig? gan ddywedyd ddarfod i Foyses ganhiattau scrifennu llytthur yscar, ac felly ei gollwng hi ymmaith.
I hyn mae Christ yn atteb, mai o achos ei Calongaledwch hwy y scrifennas [...] Moses y gorchymmyn hwnnw ac nad felly 'r oedd or dechreuad.
Felly nimeu am y dydd Sabboth chwiliwn pa fodd 'r oedd or dechreuad, ac wele mae yn yspus ddigon ddechreu or Sabboth, yn ddiatrec yniwedd gwaith y Creuedigaeth, Chwe diwrnod y gwnaeth 'r Arglwydd ei holl waith ac a orphywysodd ar y seithfed dydd oherwydd paham fe a fendithiodd 'r Arglwydd. Y feithfed dydd, ac aisancteiddiodd, ef, efe aisancteiddiodd ef nid iddo ei hun iw gadw (mae efe yn Cyfanneddu dedwddwch, a thragywyddoldeb, ac felly yn Cadw Sabboth yn wastad) ond ini iw gadw iddo ef, yr hwn a wnaeth ac a drefnodd bob peth.
Fe a ddechreuodd y Sabboth ymharadwys cyn bod pechod yn y byd, ac felly cyn bod na rhaid na gwybodaeth o Grist, chan hynnu cyn bod na Ceremonie nac arwydd yn y bydo hono, cyn bod nac Iddew, na Groegwr, na chaeth na rhydd, nac un bath ar wahaniaeth yn y byd, gan hynnu nid ir Iddewon yn unic 'r ordeiniwyd y Sabboth, ond i holl bobl y byd, nid tros amser chwaith ond tros byth.
Mae yn iawn ir peth sydd or dechreuad barhau hyd y diwedd.
2. Yn ail mi a debygwn y dylai y Sabboth barhau yn wastad, wrth y rhagoriaeth sydd rhwng y gyfraith foesawl yr hon sydd yn pathau yn dr [...]gywydd, a Deddf y gorchmynnion mewn ordeinhiadau, yr hon nid ydoedd i barhau ond tros amser, Exod. 20.20.1, 2. &c. Ephes. 2.15. Deut. 4.13. efe sef Duw ei hun a fynegodd ei gyfammod sef y Dengair ac ai scrifennodd hwynt.
[Page 30]Yn awr un or dengair, neu or deg gorchymmyn yw r dydd Sabboth, os amgen paham y scrifennwyd ef yn ei plith hwy? ac hebddo pa ie y ceir y dengair n [...]u y degorchymmyn?
Er hynnu os dyfal wrandeuch arnafi heb ddwynbaich drwy byrth y ddinas hon ar y dydd Sabboth, &c.Mae efe mor naturiol, mor rheswmmol, ac mor grefyddol, ac y mae y gorchmynnion eraill, a hyn sydd yspus, oblegit fod Duw, drwy enau ei Brophwydi yn addo gwobrwyoy rhai a gadwent ei Sabboth ef, Jer. 17.24. ac yn bwgwth dial ar y rhai ai torrent ef, Jer. 17.27. Ond os Chwi ni wrendy arnaf i san [...]eiddio y dydd Sabboth, &c.
Mae Cymmaint addewid ir gorchymmyn ymma ac i un or gorchmynnion eraill, a Chymmaint o ddialedd ir rhai ai torrant ef gan hynnu nid yw efe na llai, nac amgen nar lleill, Esa. 56.1, 2 3, 4 5.6.7.
3. Yr un ydiw y Gyfraith foesawl, neu y deg gorchymmyn ar gyfraith naturiol, yr hon a scrifenasid ynghalon dyn ar y cyntaf, ar gyfraith honno L'un a Delw duw ydoedd, yn awr ynuw nid oes dim dros amser ond pa beth hynnac sydd ynddo ef, tragywyddawl ydiw N [...]d yw Ceremonie ond tro [...] amser, mae y gair Ceremonie yn arwyddocau hynnu Ceremonie [...], ac medd 'r Apost: at 'r Ephesiaid, fe a ddirymmodd Christ y ddeddf honno, Eph. 2.18. ie a chymmaint ac oedd or Sabboth yn Ceremonial neu yn Ddeddfol▪ hynnu ydiw yn nailltuol ir Iddewon a ddirymmwyd hefyd.
Yn sicc [...] mewn modd ir oedd y Sabboth yn nailltuol, ac yn rhan or gwah [...]iaeth rhwngthynt hwy pryd hynnu a chenhe [...] loedd y byd, nid oblegit nad oedd yn naturiol, ac yn rheswmmoli holl genhedloedd y byd gadw y Sabboth megis ir Iddewon, ond obl [...]git na fedrent hwy arno, ac nad oeddent yn ei chwennych ef, o esieu i dduw adnewyddu ei gyfraith yddynt hwy megis ac y gwnaethe efe ir Iddewon, a gwascu ei calonnau hwy atti hi.
Mae rhagoriaeth hefyd rhwng 'r Iddewon yn cadw y Sabboth dan y gyfraith a nyni yn ei gadw ef dan 'r Efengil: yr oeddent hwy megis yn gaethion, ond nyni ydem rhyddion, h [...]b fod arnon amgen rhwymyn yn ai gadw ef ond fel y byddo Cymhesur, a chymmwys er gogoniant a gwasanaeth Duw.
[Page 31]4. Pa beth bynnac oedd yn Ceremonial yn unic, yn amserol, ac yn nailltuol ir Iddewon, yn rhan o ddeddf y gorchmynnion mewn ordeinhadau heb fod oflaen y ddeddf honno, ac heb fod use na deunydd yn y byd ohono ar ei hol hi hynnu a ddirymmwyd yn llwyr ac a d [...]rsynwyd wrth Aberth Christ; ond y peth oedd oflaen y ddeddf honno, ac sydd yn angenrhaid, ac yn fuddiol ar ei hol hi, hynnu os bydd achos a ellid ei newidio ond ni symmydwyd ymhono, megis 'r Offeiriadeth neu'r weinidogaeth, ar dydd Sabboth 'r oedd yr Offeiriadeth yn rhwym ir Iddewon yn unic, ac yn ei plith hwy i lwyth Levi: yn awr mae 'r Leuiaid wedi ei troi heibio, ac etto mae 'r weinidogaeth yn parhau, yn 'r un modd y Sabboth a newidiwyd hefyd, o ddydd 'r Iddewon i ddydd 'r Arglwydd, ac felly y gelwir y Sabboth yn awr sef dydd 'r Arglwydd Datcuddiad: 1.10.
Yn awry dydd ymma ydiw y dydd Cyntaf yn 'r wythnos, Act. 20. 1 Cor. 16.1. fel hyn mae yn yspus nid yn unic fod dydd yw gedw yn Sabboth ond hefyd pa ddydd, Dydd 'r Arglwydd, y dydd Cyntaf or wythnos.
Er nad ydem ni yn rhwym i gadwr 'r Sabboth ymhob amgylcheddau circumstance yn 'r un modd ar Iddewon, etto o ran y sylwedd substance, sef ein ufudd-dod an gwasanaeth ni i dduw, mae efe mor naturiol, mor rheswmmol, ac mor angenrhaid ini 'r oedd efe ir Iddewon, mae mor naturiol, ac mor rheswmmos ini gydnabod Duw yn Arglwydd ac oedd yddynt hwythau ei allu, ai ddoethineb ynglreuedigaeth y byd, yn lbywodraethu pob peth, ac yn enwedic yn prynnu ac yn gwaredu ei bobl.
Yn siccr fel y Clywsochi or blaen fe a ddywaid rhai na ddylai G [...]stnogion wneuthur rhagoriaeth rhwng y naill ddiwrnod ar llall, na chadw un dydd mwy nai gilydd, ond pob dydd a ddylai fod yn Sabboth i Gristnogion, yn wir pob dydd a ddylai fodd yn sanctaidd, ond ni ddychon pob dydd fod yn ddiwaith, tra fyddomni ymma, nid gwiw ini ddisg wil y Sabbath hwnnw nes cadw ohonom ef yn hernas Dduw: Esay 6.6. Ac am gadw pob dydd yn sanctaidd, syweth 'r ydem ni ymhell yn ol, ie ni ddaw erom ni gadw un dydd fel y dylem ni, tra 'r ydem ni ymma 'r ydem ni yn amherffaith, a chan hynnu mae yn rhaid ini wrth y Sabboth, y Weinidogaeth, Gynulleidfa, [Page 32] y Sacramentau, ar Cyfriw foddion in Cymmell ni i dduwioldeb, a sancteiddrwydd, tra fyddom ni yn amherffaith, mae yn rhaid ini wrth y moddion ymma, a perffaith nis byddwn, nes dyfod or hyn sydd berffaith, yna y pethau ymma a ddeleuir, 1 Cor. 13 10.
Fel hyn y darfu imi ac Ordinhad y dydd Sabboth: efe a ordeiniwyd gan dduw ei hun, yr Arglwydd ai bendithiodd, ae ai sancteiddiodd ef.
Yn awr 'r wyfi yn dyfod at 'r ail ystyriaeth ynyrhan gyntaf o'm Text, sef use a deunydd y dydd Sabboth, (hynnu ydiw) i ba bwrpas y mae efe, a pha fudd sydd ohono.
Mae 'r Sabboth yn fuddiol mewn amriw o foddion:
1. Yn gyntaf er mwyn gogoniant duw, ei adoliad, ai wasanaeth; Dymma 'r gydnabyddiaeth, neu ran or Deirnged 'r ydem ny yn ei dalu i dduw, drwy 'r hyn 'r ydem yn ei gydnabod ef yn Arglwydd ini, wrth hyn 'r ydem ni yn Cydnabod ei fawr edd ai allu yn gwneuthur ac yn llywodraethu pob peth, ei ddoethineb ai ddaioni hefyd yn trefnu pob peth in gwasanaethu ni, a ninnau iw addoli ai wasanaethu ef yn unic.
2. Mae y Sabboth yn fuddiol er mwyn arferu y moddion ac Ordinhiadau Duw iw wasanaethu ef, yn enwedic yn hardd, yn yspus ac yn barchedic ynghyd ac yn y, gynulleidfa.
Yn ddiau ni a ddylem wasanaethu Duw bob amser, ac ymhob man, pan fyddomni yn y maes, ac ar ein gwaith, pan orweddomni i lawr, a phan godom ni i fynu, hwyr, a boreu, a chanol dydd, bob dydd, a phob pen awr, syweth nid oes un ohonomni mor ddyfal yn hyn ac y dylem ni fod, a llawer ohonomni ni wasanaethant dduw oll heb ei cymmell, megis drwy gyfraith y Sabboth neu 'r cyfriw fath yn hytrach er bod yn ddyledus arnom ni wasanaethu duw bob amser ac ymhob man,Chwe diwrnod y gwneir gwaith ar saithfed dyddybydd Sabboth gorphwysdra, sef Cymmanfa sanctaidd. etto ni a ddylem ryw amser droi heibio ein gwaith i ddisgwyll ar wasanaeth duw yn unic, a hynnn nid yn unic, yn nadillvol pob un wrtho ei hun, ond ynghyd ac yn y gynulleidfa, yn awr mae 'r Sabboth (gan fod yn ddiwrnod pointiedic) yn gyfleus i hyn ac orachos yma y gelwir y Sabboth yn gymmanfa sanctaidd, Lev. 23.2.
3. Mae 'r Sabboth yn fuddiol er mwyn undeb a chydgordio yngwasanaeth duw, yr hyn sydd werthfawr ger ei fron ef, [Page 33] medd Christ lle mae dau neu dri, &c. Mat. 18.19, 20. trachefn meddaf ichwi os cydsynia dau ohonoch, &c.
Peth hyfryd i Gristnogion ydiw gogoneddu duw yn unfryd, ac o un genau Rhuf: 15.6.
Yn awr pe bae ni heb nac amser, nalle pointiedic, i ymgynnill ynghyd, pa anghyt tundeb a pha anghysondeb a fydde yn ein gwasanaeth ni? ond wrth gadw y Sabboth a dyfod ynhyd ir un lle, a chyffessu 'r un ffydd, a derbyn 'r un Bedydd, a galw ar yr un Arglwydd, mae hyn yn achos, ac yn gyfleu i bery undeb, a chyssondeb, rhwng Christnogion, heb escluso ein Cydgyn hulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai, ond annog bawb ei gdydd, a chydystyried bawb ei gilyd i ymanyog i gariad, a gweithr [...]dodd da, Heb. 10.24.25.
4. Mae y Sabboth yn fuddiol, oblegit wrth ei gadw ef 'r ydem ni yn dangos ein ffydd an hyder ynuw, 'r ydym ni yn darllen fod yn bointiedic ir Israeliaid gynt dair gwaith yn y flwyddyn fyned i fynu i Gaersalem i gadw gwyliau ir Arglwydd, llawer ohonynt hwy yn dyfod o bell, ac yn gadel ei tai yn noethion, heb na gwyr nac arfau ynddynt, ond yn unic yr Arglwydd yn geidwad arnynt.
Felly ninneu wrth orphywys ar y dydd Sabboth, nid yn unic oddiwrth ein gwaith beunyddol, ond hefyd oddiwrth ein gofalon bydol, ac ymroi ar y dydd hwnnw yn unic i wasanaethu dnw, gon roddi arno ef ddarparu ini, a gofalu trosom ni, 'r ydem ni yn dangos nid yn unic ein Ffydd, an hyder ynuw ond ein diolch garwch hefyd, gan gydnabod wrth gadw y dydd hwnnw mae efe sydd yn rhoddi ini ein holl ddyddiau, a pob daioni a llwyddiant yn ein dyddiau.
5. Mae 'r Sabboth yn fuddiol, er mwyn bod yn arwydd o Ffarr ac o ras duw tuag attomni, ac yn rhagoriaeth rhyngom ni ac Angristnogion, megis 'r Iddewon ac angrediniaid eraill, ie yn awr sywaeth rhyngom ni angilydd, llawr ohonom ni y Cymru yn bod heb na Sabboth, na modd iw gadw ef.
Yn ddiweddaf mae Cynhaliaeth y Sabboth yn fuddioll er mwyw arwyddocau ini y gorphywysdra trag ywyddol 'r ydem [...]i yn ei obeithio ac yn ei ddisgwyl yn y byd sydd ar ddyfod, mae pob nos Sadwrn ir dyn Crefyddol megis diwedd y byd trallodus hwn, mae efe yn gorphywys oddiwrth ei [Page 34] drail ac yn bwrw ei ofal oddiwrtho, a phob bor eu ddydd-sul (1) dydd 'r Arglwydd sydd megis dechreuad byd newydd, oblegit y pryd hynnu mae efe yn ymbaratoi i gyfarfod yn y gynnulleidfa i foliannu, ac i wasanaethu duw fel hyn y gwelwchi fod y dydd Sabboth yn fuddiol mewn amriw o foddion, mor fuddiol fel y mae ini achos nid i wrwgnach yn ei erbyn ef ond yn hytrach ei fendithio duw amdano, mae y Prophwyd Jeremiah wrth alaru ac achwyn oblegit barnedigaethau duw ar 'r Israeliaid yn ei caethiwed, yn gosod hyn yn [...]r barnedigeathau mwya sef darfod ir Arglwydd anrheithio ei Babell dinistrio lleodd y gymmanfa, a pheru anghofio yn Sion yr uchel-wyl ar Sabboth, &c. Galarnad. 2.6.
Yn awr 'r wyfi yn dyfod at y dryddydd ystyriaeth yn y rhan gyntaf om Text, sef Iawnder a Rheswmmoldeb y dydd Sabboth.
Nid ydiw efe ond un dydd yn 'r wythnos, a hwnnw iw gadw ir Arglwydd ein duw yr hwn syd yn rhoddi pob peth ini iw mwynhau.
Yn siccr fe a ddychon y diafol ein temptio ni yn hyn megis ac y temptiod efe y wra [...]g ar y Cyntaf ynghylch y pren gwaharddedic, pa beth oedd y pren hwnnw amgen na phrennau eraill? a phab [...]th oedd 'r ar afal hwnnw amgen nac afalau ereill? a pha niwed oedd ynddo? 'r oedd efe yn deg olwg, ac yn felus yn fwyd, ni waharddase dduw mor pren hwnnw amgen na phrennau eraill, ond iw caethiwo hwy, ac a gymmeryd awddurdod iddo ei hun, felly meddaf y dychon i diafol ein temptio ninnau ynghylch y Sabboth pa beth ydiw y diwrnod hwnnw amgen na diwrnodiau eraill? yn wir ni byddeu efe amgen oni bai fod gorchymmyn duw yn gosod rhagoriaeth ac yn ei nailltuo ef iw wasanaeth.
Dyscwni atteb ir Diafol yn hyn nid megis r' attebodd y wraig iddo, ond magis r' attebodd Joseph iw fiestres Gen. 39.9. Wele nid oes neb fwy yn y ty hwn na myfi ac ni waeharddodd fy Meistr ddim rhagor onid tydi, oblegit ei wraig ef wyti▪ pa fodd y gallaf gan hynnu wneuthur y mawr ddrwg hyn a phechu yn erbyn duw.
Felly ninneu nid oes neb fwy yn y byd hwn na nyni, fe a osododd duw bob peth dan ein dwylaw ni, ac ni chadwodd [Page 35] efe ddim oddiwrrhymni ond yn unic ei ogoniant ai wasanaeth ef, gan hynnu pa fodd y pallwn ni yr hyn sydd yn perthyn iw ogoniant, ai wasanaeth ef, ac y pechwn ni yn ei erbyn ef, na ddywedwn mai 'r Escobion o amser i amser a oso [...]asant y Sabboth ymma arnomni ein Caethiwo ni, ac iw mawrhau ei hunain, mae 'r peth ohono ei hun yn naturiol, yn iawn, ac yn rheswmmol yn perthyn ei ogoniant, ac ei wasanaeth duw.
Fel hyn y darfu imi ar rhan gyntaf om Text sef fod un dydd or wythnos iw gadw yn Sabboth ir Arglwydd yn yr hyn 'r adroddwyd Ordinhad y Sabboth ei use ai ddeunydd, ei Iawnder, ai Reswmmoldeb.
Ac yn awr 'r wyfi yn dyfod at 'r ail rhan om Text sef pa fodd y cedwir y Sabboth, viz. hynnu yw yn sanctiadd, ac yn ddiwaith.
Sanctaidd yn y fan ymma 'r un ydiw a Chyssegredic, neu beth wedi ei nailltuo er mwyn gwasanaeth duw, yn y gwrthwyneb ir hyn sydd gommon a Chyffredin, Zech. 7.3.
Sancteiddio y Sabboth yw ei gyssegru, ai nailltuo ef gan osod rhagoriaeth rhwngtho ef a dyddiau eraill gan orphywys oddiwrth ein gwaith, i gynnal, ac i berchu gwasanaeth duw.
Mae cynhaliaeth y dydd Sabboth yn sefyl yn y ddau beth hyn, 1. yn gyntaf, mewn gorphywysdra oddiwrth waith. 2. Yu eil wrth arferu y moddion, a gwneuthur y dyledion a berthynant i sancteiddrwydd a duwioldeb.
Nid ydiw ein gorphywysdra Corphorol, hynnu ydiw gadel ein gwaith, ond y rhan leia o gynhaliaeth y Sabboth y rhan bennaf ac anwedic ydiw, arferu y moddion, a gwneuthur y dyledion a berthynant i sancteiddrwydd, a duwioldeb, er mwyn hyn 'r ydem yn gorphywys, sef er mwyn gallu ohonom yn well, ac yn harddach arferu y moddion, a gwneuthur y dyledion hynnu; etto er nad yw ein gorphywysdra ni ar y dydd Sabboth ond y rhan leia oi gynhaliaeth ef, mae hynnu yn rhan, ac mor angenrhaid, fel nad elir cadw Sabboth, neu ddydd yn wyheb hynnu; sef heb orphywys, ie mae gorphywysdra mor berthynasol ir S [...]bboth fel y gelwir [...]f nid y [...] unic yn Sabboth y gymmansa sanctaidd ond hefyd yn Sab [...]oth y gorphywys [...]ra Lev. 23.3.
Gan hynn wrth gadw y Sabboth mae yn rhaid ini orphywys [Page 36] megis y mae ymma yn fynhexti, ac nid nyni yn unic, ond ein plant, ein gweision. ein morwynion, ein dieithriaid ie ein anifeiliaid hefyd, mae Duw Creawdwr pob peth yn darparu ir rheini y rhai a ddar ostynwyd i oferedd: Rhuf: 8.23. a [...] wele 'r Sabboth ymma yddynt hwy megis yn arwydd or rhydd-did sydd i ddyfod.
Mae 'r gorphywysdra ymma yn sefyll mewn tri pheth:
1. Yn gyntaf oddiwrth bechod, heb hyn ni Chydnebydd duw ein bodni yn Cadw un Sabboth neu un dydd yn wyl iddo ef, megis y dywedodd duw am ympryd yr Iddewon, Zech 7.5, 6. nid iddo ef 'r oeddent yn ympridio ond yddynt ei hunain, a hynnu oblegit ei bod yn anufydd yn anghyfiawn, yn anrhigarog, ac yn ddrwg ei bwriaid, ac etto yn Cymmeryd arnynt orchestu i gadw ympryd, ac fel y dywedodd duw am Aberthau, gwiliau a Sabboth au 'r Israeliaid: Es. 1. pan oeddant megis yn gorchestu yn y pethau ymma, ac etto yn parhau yn anufydd, ac yn ddrygionus, madd duw pwy a geisiodd y pethau ymma ar eich dwylaw chwi? anwiredd ydynt mae nhw yn gas gan fy enaid, &c. felly y dywaid efe am ein Sabboth ninneu, y Cyfriw rai ohonom ac ydem yu rhyfygu dyfod ir gynnulleidfa, a sengi ynghynt [...]ddau duw a chymmeryd arnom ei wasenaethu, ef heb ymolchi, ac ymla [...]hau; heb beidio a gwneuthur drwg, a rhoddi ein bryd ar yr hyn sydd dda, Es. 1.16 17.
Ni a ddylem yn ddiau gadw pob dydd yn Sabboth yn y modd ymma sef drwy beidio a gwaeuthur drwg, ond ar y diwrnod ymma yn enwedic ni a ddylem ymolchi ac ymlanhau, obleg [...]t ein bod ni yn Cyfarfod ar Arglwydd megis yn y mynydd, sef yn y gyndlleiofa, ac yn nessau atto ef yn ei wasanaeth.
2. Mae yn rhaidi ni ar y dydd Sabboth orphywys oddiwrth ein gwaith arferol, oddwrth weithredoedd ein galwadigaeth, oddiwrth y moddion, 'r ydem yn ei harferu, ar ddyddiau erailli geisio ein lluniaeth, ain golud, an Cyfoeth, ni ddylem ni na chario beichiau, na chasclu, na phrynu, na gwerthu na marchnattn mewn un modd na y dydd hwn, Diwrnod Marchnad 'r Enaid yw y diwrnod ymma, mae yn rhaid ir Enaid wrth ymborth yn gystal ar Corph, gan hynnu mae yn [Page 37] rhaid ir enaid wrth farchnad yn gystal ar Corph, Es. 55.1. Nid bydd byw dyn ar fara yn unic ond ar pob gair ac sydd yn dyfod allon o enau duw, gan hynnu mae yn rhaid bod amser i wrendo, ac i dderbyn y gair hwnnw.
3. Mae yn rhaid ini orphywys oddiwrth wneuthur ein ffyrdd ein hunain, a cheisio ein ewyllus ein hunain a dywedyd ein giriau ein hunain Es. 58.13.
Ni ddylem ni gimmaint a meddylied, neu ddefeisio ein matterion bydol, ond ymnailltuo ar y diwrnod ymma i wasanethu duw, gan fod yn hoff gennym ni yr amser, ar Cyfl [...]u, Psal. 122.1s
Fel hyn y darfu imi ar modd cyntaf i gadw y dydd Sabboth sef drwy orphywys oddiwrth waith, ar y dydd hwnnw na wna ddim gwaith, ac yn awr 'r wyfi yn dyfod at 'r ail modd i gadw y dydd Sabboth sef drwy arferu y moddion y mae duw gwedi ei ordeinio ini i nessau atto, a [...] i gynhyddu wrthynt.
Y moddion ymma sy amryw, megis pregethiad, a gwrandawiad y gair, gweddi, canu mawl, a thalu diolch a chyn fynyched ac y byddo cyfleus, Gweinidogaeth y Sacramentau, nid nad ydiw yn iawn ac yn angenrhaid arferu y moddion ymma ar dyddiau eraill, a rhay ohonynt hwy beunydd, megis gweddi, canu mawl, talu diolch ar cyfriw fath ond mae yn iawn ac yn angenrhaid hefyd fod rhyw amser yn bointiedic ir gwasanaeth ymma yn hardd ac y barchedic, yn yspus ac yn amlwg, ynghyd, ac yn y gynulleidfa.
Fod y moddion ymma yn arferol yn hardd, ac yn barchedic, yn yspus, ac yn amlwg, yn enwedic ar dydd Sabboth gan bobl dduw ymhob oes, ymhob Cenbedlaeth mae yn yspyssach nac y bydde raid dwyn undystiolaeth, etto ni a edrychwn ar bob un or nailltu ac yn gyntaf Pregethiad, a gwrandawiad y gair: fod y gwasanaeth ymma yn arferol yn Eglwyse dduw yn r hen amseroedd, mae yn eglur wrth eiriau 'r Apostol Jaco, Act. 15.21. Canys y mae i Moses ymhob dinas, er yr heu emseroedd, rai ai poegethant ef, gan fod yn ei ddarllen yn y Synagogau bob Sabboth, ac Act 13.15. Ac yn ol darllein y gyfraith, ar P [...]ophwydi, Rywodraethwyr y Synagog a anfonasant attynt, gan ddywedyd, Ha-wyr frodyr od oes gennych air o gyngor ir bobl traethwch: fe a weddeu fod y Gwasanaeth ymma yn [Page 38] yr hen amser yn anferol, ac yn yspus ddigon, pan ddigon, pan ddywedai llywedraethwhr y Synagog wrth Paul ac gymdeithion od oes gednych air o gyngor traethwch.
Mae yn yspysach etto fod y gwasanaeth ymma yn arferol yn amser yr Efengl ymhob oes, ay ymhob Cenhedliaeth, o ddyddiau 'r Apostolion hyd y dyddiau ymma ei fod ef yn arferol ynuddiau' Apostolion mae yn eglur, Act. 20.7. Ac ar y dydd Cyntaf or wythnos wedi ir discyblion ddyfod ynghyd, &c. ei fod ef yn arferol hefyd yn y Brif Eglwys yma Justin Martyr yn tystiolaethu am ei amser ef, ar ar ei ynteu yn Tertullian, ae felly ymlaen hyd y dyddiau ymma.
Yn sicrr yn amser y Pap [...]sts nid oedd y gwasanaeth ymma mor ddyfal, ac yn ein amser ninneu nid oedd efe mor ddyfal, ac y dylase efe fod, ie ac etto yn y dyddiau hyn y mae efe yn brin iawn yn llawer man ymhlith y Cymru, lle mae fe rheitia yna mae fe prinna y modd, neu y peth nesa iw arferu yn hardd ac yn barchedic yn y gyulleidfa ar y dydd Sabboth yw gweddi, ac ynghyd a gweddi ni a gydsylltwn, Canu mawl, a thalu diolch ob [...]egit yn ddiau ni ddychon y rhain lai na bod yngh [...]d, Medd 'r Apostl Paul, Parheuch mewn gweddi, gan wiliad ynd [...]i gyd a diolchgarwch, Col. 4.2.
An I chawdwr Christ ei hun yn y weddi a osododd efe iw ddyscyblion, ac wrth 'r hon y mae efe yn dyscu yddynt hwy weddio, y mae efe yn diweddu y weddi honno drwy roddi mawl gogoniant i dduw, Eind Tad 'r hwn wyt, &c. Canys eidd [...]t ti yw 'r deyrnas, &c. Mat. 6.13. Yn yr un modd y Psalmudd agos ymhob Psalm lle mae efe yn dechreu a gweddi y mae efe yn diweddu d [...]wy ganu mawl a thalu diolch, Ps. 6 54.1, 2, 6, 6, 7, 56.1.12, 13, 59.1 2, 16 17.
Fod gweddi yn wastad yn gwasanaeth duw nid oes neb yn ammau, ie mae Gweddi mor berthynasol i wasanaeth duw, fel o achos hynnu y gelwir ty dduw yn dygweddi, Mat. 21.13:
Y trydydd peth iw arferu yn hardd, ac yn barchedic yn y gynulleidfa an y dydd Sabboth yw y Sacramentau▪ sef a Bedydd os Swpper yr Arglwydd fod Swpper yr Arglwydd yn arferol yn amser yr Apostolion mae yn yspus. Act. 20.7. Ac ar y dydd cyntaf or wythnos wedi ir discyblion ddyfod ynghyd i dorri barra‘ &c.
[Page 39]Ei fod ef yn anferol yn y Bris Eglwys mae yn hyspus i bawb, yn gyntaf bob wythnos▪ a chwedi hynnu bob mis, ac yn ein plith ninneu efe a barhaodd bob tymmor neu bob Chwarter hyd y dyddiau ymma yn y rhai sywaeth mae rhai gwedi Colli, a rhai eraill wedi newidio ei Crefydd.
Y Bedydd hefyd a weddeu yn oreu ar ddydd 'r Arglwydd ac yn y gynulleidfa, nyd wyfi yn dywedyd amgen nad ellir ar achosion weini pob un or ddau Sacrament ymma ar ddyddiau eraill, ac mewn mannau eraill, megis ir Cleifion i rai gweinaid, &c.
Fel hyn y darfu ini ar aid rhan om T [...]x [...], sef y modd y mae ini gadw y dydd Sabboth, viz. yn sanctaidd ac yn ddiwaith, 1. yn gyntaf mae yn rhaid ini orphywys, 2. yn ail mae yn rhaid ini gadw Cymmanfa neu gynulleidfa sanctaidd drwy arferu y Moddion ar Ordeinhiadau y mae Duw gwedi ei rhoddi er ei wasanaeth ef an adeiladaeth ninneu, 3. yn drydydd y dyleswni ddywedyd hefyd) drwy waeuthur y gweithredoedd a berthynant i sancteiddrwydd a dduwioldeb.
Y mae rhyw bethau yn lywiedic ini iw gwnaethur ar y dydd Sabboth megis y pethau sy angenrhaid i gynnal, i gadw, neu i achub ein bywyd ein hunain neu fywyd ein Cymmudogion ie a bywyd ein anifeiliaid, sef os happia yddynt hwy gwympo i ryw anghyfleu, nad allase ddarparu yn ei erbyn or blaen, nac ar os ymhellach heb'ei hachut hwy, megis os bydd yddynt hwy syrthio i Bwll, neu 'r Cyfriw fath, Mat. 12.11, 12, 13.
Mae rhyw bethau yn orchmynnedic iw gwneuthur yn gystal ar y dydd Sabboth ac ar ddyddiau eraill, ac yn siccr da y gweddeu hwy ar y dydd Sabboth a gweithredoedd Sabboth ydynt hwy, megis gw [...]ithredoedd Elus [...]ndod, a thrugaredd, gweithredodd Defosiwn hefyd a duwioldeb, Casclu ir elodion 1 Cor. 16.1 2. Tr [...]fnu a darparu pethau angenrhaid tu-ag at wasanaeth duw, ymweled ar Claf, Cynnorthwyo y weddw, ar ymddifaid y truen hefyd ar gorthrymmedic, 1 Tim. 6.18. Tit. 3.8 Zech. 7 9, 10. Es. 1.23.
Y [...] awr mai yn canlyn y dryddydd rhan om Text, Paham y Cedwir y Sabboth yn sanctaidd, sef oblegit ir A [...]glwydd ei [Page 40] nailltuo ai ordeinio ef iw gadw felly ond nid rhaid imi moch blino chwi ar rhan ymma om Text oblegit fe ai cynnhwyser hi yn rhangyntaf ni fydde raid ini mor son am y Sabboth oni bae ir Arglwydd ei fendithio ai sancteiddio ef. Ac etto Cyn darfod rhoddwch imi gennad ich Cofio chwi ar fyrr eiriau am eich ymddygiad ynhy dduw ac wrth ei wasanaeth ef 1. yn gyntaf oddifewn yu eich meddwl, ac yn eich yspryd thyngochi a Duw, 2. oddiallan yn eich Cyrphai yn eich ymmarweddiad yngwydd y gynulleidfa.
Yn y meddwl, ac yn yr yspryd mae yn rhaid ichwi yn gyntaf ymbartoi, gan ennyn dawnau, a rhadau duw ynoch, fel y gallochi ddywedyd gydar Psalmudd, Parod yw fynghalon O dduw parod yw fynghalon mi a ganaf, ac a ganmolaf.
Yd ail mae yn rhaid ichwi fod yn dwys, ac yn ddyfal ar y gwasanaeth, gan geisio Duw ach holl fryd, ac ach holl feddwl, os amgen nid ydechi ne fer a wneloch yn eich Cyrph, a che [...] bron dynion: Yspryd yw duw a rhaid yr rhai ai addolunt ef, addoli mewn yspryd, a gwirionedd, ar Cyfryw y mae 'r Tad yn eu Cesio iw addoli ef, Iohn 4.24.23.
Nid nad ydiw yn iawn ini addoli duw yn ein Cyrph hefyd, oblegit duw a wnaeth y Corph ar yspryd, eiddo ef yw 'r ddau, gan hynnu efe a fyn ei ogeneddu yn y ddau, 1 Cor. 6.20.
Ond yr yspryd sydd yn enwedic, lle byddo 'r yspryd fe a fyydd y Corph, hyd y gallo, ac lle nis gallo nid rhaid wrtho.
I ychwedic y mae arfer corphoro yn fuddiol: Tim. 1.4, 8. wrth ei hun ni hal hi ddim, Esa. 12.13, 14. &c. ynghyd a Duwioldeb y mae hi yn fuddiol i ychydic, hynnu ydiw yn ei modd, ai dull ei hun, nid ydiw hi ddim oblegit duw oherwydd yspryd yw ef, ond oblegit dynion y rhai sy yn barnu yn ol y golwy oddi allan, ac felly yn derbyn addiladaeth neu rwystr megis yman nhw yn gweled gan hynnu bydded eich ymdugiad Chwi nid yn unic oddifewn, ond hefyd oddiallan yn y gynnulleidfa ac wrth wasanaethu duw y fath ac y weddeu ir fan honno ac ir gwasanaeth hwndw, 1 Timoth. 2.9, 10. Eccl. 5.1, 2. Gwylia ar dy droed pan fyddech yn myned i dy dduw, &c.
[Page 41]Yn gyffredinol mae yn rhaid ich ymddygiad chwi yn y gynulleidfa fod yn ostyngedig, yn hardd, ac y barchedic, a hynnu nid yn unic ar y gwasanaeth, ond hefyd wrth fyned, ac wrth ddyfod, wrth ddechreu, ac wrth ddiw [...]ddu gan ymgrymmu ac addoli.
Pa le bynnac 'r ydem ni yn darllen am waith y Seintieu gynt yn addoli r ydem ni yn darlleu he fyd ei bod hwy yn ymgrymmu megis Nehem. 8.6. Ac Ezra a fendithiodd yr Arglwydd y Duw mawr ar holl bobl a attebasant Amen, Amen gan dderchafu eu dwylo; a hwy a ymgrymmasant, ac a addolasant r Arglwydd ai hwynebau tu ar ddair 2 Cron. 6.3.12.13
Mae ymgrymmu ac addoli mor berthynasol iw gilydd fel y gosoder hwy yn wastad ynghyd.
Pan demptiodd y Diafol Ghrist iw addoli ef, y mae efe yn gosod y ddau beth ymma ynghyd, fel ymgrymmu ac addoli, Matth. 4.9. hyn all a roddaf, iti os syrthy i l [...]wr am haadoli i.
Ie y mae Duw eu hun yn gosod y naill lle neu dros y llall, megis na bae nhw ond yr un peth i Brenhinoedd. 29.18 Ac mi a adewais yn Israel saith o filoedd, y rhai ni phlygasant eu glynnau i Baal.
Ac medd y Psalmudd Deuwch, addolwn a syrthiwn i lawr a gostyng wn ger bron r Arglwydd ein gwneuthur wr.
Tra fyddochi ar y gwasanaeth, mae yn iawn ich ymarwediad chwi fod yn gyfaddas ir gwasanaeth fyddochi yn ei wneuthur megis pan fyddochi yn gweddio, yr hyn wasanaeth sydd yn sefyll mewn dau beth yn enwedic sef gostyngeiddrwydd, a gobaith, yn awr fe ddylai eich ymddugiad chwi yn y gwasanaeth ymma [...]od yn addas ir ddwyrinwedd hyn. 1. yn gyntaf yn addas i o [...]tyngeiddrwydd, gan noethi eich pennau, a phlygu glinnau, 2. yn ail yn addas i obaith, gan dderchafu eich llygaid a lledu eich dwylo:
Yn sicer: am fod yn Bennoethion wrth weddio, y mae 'r arfer honno etto yn gyffredinol yn ein plith in (ond yn hyn 'r ydem ni yn rhwymedic ir Coegddoethion ar Crach-ddyscedic,) nad ydynt hwy yn Cymmeryd rhyddid yn hyn megis, mewn pethau eraill, oblegit nad oes un gorchymmyn yn 'r Efengil yn erchu hyn mwy na phethau eraill or fath, ond wrth wrando y gair y mae llawer iawn yn gwisco am ei pennau yn [Page 42] gwneuthur Cuchiau, yn Cibo ei haeliau, yn gwascu ei dannedd, yn gwatwar, ac yn Chwerthin, yn gwneuthur pob anwe ddeidd-dra, a phob drwg ystym dan gyscod ei hettiau,
Mi a delygwn na ddylai fod nemor o ragoriaeth rhwng ein ymddugind ni yr y naill mwy nac yn y llall, y naill 'r ydem ni yn gwrando ar dduw yn llefaru wrthyn ni yn gweinidogaeth ei air.
Mae 'r Apostol Paul yn Cydsyllen y ddau ymma ynghyd, ac yn Cynghori Christnogion i fod yn ostyngedic eu ymar weddiad wrth bob un or ddau, 1 Cor. 21.4.
Yn ddiau nid oes un gorchymmyn i Ghristnogion i ddiosc eu pennau nec wrth weddio, nac wrth wrando, ond megis y mae 'r Apostl yn eich Cymmell chwi, Bernwchi eich hunain pabeth sydd naturiol, pabeth sydd reswmmol, pabeth sydd weddus a syber yngwasanaeth duw yn yr Eglwys ac yngwydd y gynulleidfa,
Fe ddychon pobl sefyll wrth weddio os gwelant hwy yn dda, nid yw hynnu anweddus, neu wrthwynebus ddim, ond gweddeiddiach ywpenlinio, ond eistedd wrth weddio ni ddylai bobl oll, oddiethr mewn rhyw anghyfleu;
Wrth bregethu neu wrando y gair fe a weddeu ini sefyll neu eistedd fel y gwelom ni yn dda Mar. 3.32 Lu. 5.17.
Am y Sacramentau mae ei dull, ai ffaswin hwy yn dangos pa fath ymmddugiad a weddiu yddynt hwy
Yn y pethau ymma nid wify yn rhoddi ichwi i orchymmyn yn y byd, ond ich Cynghori chwi i wneuthur pob peth yngwasanaeth duw yn drefus, ac yn weddus, ac na osodo neb achos tramgwydd neu rwystr iw frawd, ond dilyn o bawb y peth au a berthynent i heddwch; Rhuf. 14.19.
Dysced y rhai sy gryfion gynnal gwendid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ei bodd eu hunain Boddhaed pob un ohonom ei gymmydog yn yr hyn sydd dda iddo radeiladaeth Rh. 15.2. Gwneler pob peth yn weddaidd ac mewn trefu. Cor. 14.40.
Δόξα τῷ θεῷ μόνῳ.