YMADRODDION HEN Mr. Dod.
1. NID all dim wneuthur niwed i ni ond Pechod; ac ni chaiff hwnnw wneuthur mo'r niwed i ni os medrwn ni edifarhau am dano. Ac ni all dim wneuthur i ni dda, ond Cariad a ffafor Duw yn Ghrist; a hynny a gawn ni, os nyni a'i ceisiwn mewn gwirionedd.
2. Nid oes nêb mewn cyflwr tosturus, ond yr hwn sydd ganddo galon galed, ac ni fedro weddio.
3. Cymmaint ag a fyddo o Bechod, cymmaint a hynny a fydd o Drymder: Cymmaint ag a fyddo o Sancteiddrwydd, cymmaint a hynny a fydd o Hapysrwydd.
4. Gwna dy Bechod i ti yn Dristwch mwyaf; felly ni chaiff dy Dristwch bŷth wneuthur i ti niwed; Gwna Jesu Ghrist yn llawenydd mwyaf i ti; felly ni bydd arnat ti bŷth mor diffyg llawenydd.
5. Y Gŵr y mae Gantho Yspryd Gweddi, sydd gantho fwy nâ phe bai yr holl fyd ar ei helw.
6. Dau beth a orchymynnodd ef i Gwpl o rai Priod, Gofalon ac ymrysonau: Am y cyntaf, Bydded eich Gofalon, Pa un a rynga fodd i Ddaw yn fwyaf: Am eich Ymrysonau, bydded iddynt fôd, Pa un a garo eu gilydd oreu: Felly y bydd eich, Gofalon a'ch Ymrysonau i ryw ddefnydd da; ac felly pob Gofalon ac Ymrysonau afreidiol a ddiflannant.
7. Os ydych chwi mewn ystâd Briodol, Gwybyddwch, a choeliwch, er y gallasech gael Gwraig neu wr gwell neu gyfoethoccach; etto byddwch siccr, na allasech chwi fyth gael un cymmhwysach: Oblegid ei fôd wedi ei ordeinio felly gan Dduw yn y Nefoedd, cyn y gellid ei gyflawni ymma ar y ddaiar: Ac am hynny, er nad ydys yn cyflawni cariad i ti yn ôl; etto gwna di dy ddyledswydd tuag at dy Briod, o ran ufudd-dod i Dduw; a thi a fyddi Siccr o gael cyssur yn y diwedd, er i Dduw dy drin di â Cheryddon dros amser.
8. Ni ddichon dim Cystuddiau, neu Drueni ddigwydd i ni, ond trwy Ordinhâd Duw; ac ni allant wneuthur niwed i ni, eithr rhaid yw [Page 3] iddynt wneuthur da i ni, os ydym ni Blant I Dduw. Eithr yn gyntaf, Byddwch siccr na chymmysgoch ddim pechod â hwynt; canys hynny yn unic sy'n eu chwerwi hwynt: yn ail, Nac edrychwch ar y Wialen, ond ar yr hwn sy yn taro; canys hynny a bair ymddigio a deffygio hefyd.
9. Os wyt ti yn chwennych bod yn siccr fôd dy bechodau wedi eu maddeu iti; Cais faddeu y Cammau, a'r Niweidion a wenler i tithau, Mat. 6.14, 15. Ystria bedwar peth ir diben ymma: 1 Siampl Crist, yr hwn a faddeuodd iw elynion ac a weddiodd drostynt. 2 Gorchymmyn Cirst, Pan weddioch, maddeûwch os bydd gennych ddim yn erbyn neb. 3. Addewid Crist, Os maddeuwch, maddeuir i chwithau. 4. Bygythiad Crist, Oni faddeuwch, ni faddeuir i chwithau.
10. Ym mhob Trueni a Chyfyngderau; goreu doethineb yw myned at y Cyfaill hwnnw ar sydd nessaf, ewyllysgaraf, ac applaf i gynnorthwyo; y cyfryw Ffrind yw Duw.
11. Mynych y dywedai ef; Nad oedd iddo achos yn y byd i gwyno rhag ei Groesau; gan nad oeddynt ond chwerw ffrwyth ei bechodau ef.
12. Lle mae Pechod yn drwm, mae croesau yn y;sgafn; ac yn y gwrthyneb, lle mae croesau yn drymion, Pechodau ydynt ysgafn.
13. Naill ai Gweddi a bair i ddyn beidio a phechu; neu y Pechod a bair i ddyn beidio a gweddio.
14. Pedwar peth a allwn ni ei ddysgu oddiwrth [Page 4] wrth Blant: 1. Ni ofalant am ddim yn afreidiol. 2. Hwy a gysgant yn ddifalis. 3. Maent yn fodlon iw cyflwr. 4. Maent yn ostyngedig; Plentyn i Frenin a chwery a Phlentyn i Gerdottyn.
15. Nid oes un Cystudd cyn lleied, na suddem ni dano, oni bai fod Duw i'n cynnal; ac nid oes un Pechod mor favor, na wnaem ni ef, oni bai fod Duw yn ein hattal.
16. Os rhoddir anfri i ni, neu ein difenwi, neu os gwneir a ni gam gan gyfaill neu elyn, fe ddylei fod yn flinach gennym ni o ran y pechod a wneir yn erbyn Duw, nag o ran y sarhaad neu'r ammarch a wneir i ni ein hunain.
17. Mae gwr Duwiol yn debyg i Ddafad; pob man sydd well o'i blegid lle y delo. Gŵr annuwiol sydd debyg i Afr; pob man sydd yn waeth o'i blegid; gado y mae ef sawyr drewllyd ar ei ôl.
18. Cystuddiau wedi eu sancteiddio ydynt or [...]chafiaethau, neu dderchafiadau ysprydol; ac y maent yn llawer gwell i Gristion, nà 'r holl Arian a'r Aur yn y bŷd; gan fod profiad ein ffydd yn werthfawroccach ná 'r Aur, 1 Pe. 1.7.
19. Gwna 'r Sabbath yn ddydd marchnad i'th Enaid. Na ollwng un awr i golli, ond bydd naill ai yn Gweddio, ai yn ymddiddan, ai yn Myfyrio. Na feddwl dy feddyliau dy hun; Caffed pob diwrnod ei ddyledswyddau; tro y Bregeth a glywech yn ddefnydd o Weddi; Addysc yn Erfyniad, Argyoeddiad yn Gyffes; Cyssur yn [Page 5] ddiolchgarwch. Meddwl lawer am y Bregeth a glywaist, a gwna ryw ddefnydd o honi yr holl wythnos o hŷd.
20. Bob boreu trwy 'r wythnos rhag-fwrw; 1. Rhaid i mi farw. 2. Mi a allaf farw cyn y nôs 3. I ba le yr â fy enaid, ai ir Nêf ai i vffern: Bob nôs gofyn ith enaid y Cwestiwnau hyn.
1. A ddarfu i mi ddwywaith heddyw ymddarostwng ger bron Duw o'r neilltu? 2. Pa fodd y gweddiais? Ai mewn ffydd a chariad? 3. Beth a fu fy Meddyliau arno y dydd heddyw? 4. Beth y fum i y [...] ei wneuthur yn fy lle a'm galwedigaeth? 5. Beth a fum i mewn Cwmpeini? A leferais i am bethau da? neu a wrandawais i, a rhoddi i gadw gyda Mair y pethau da a glywais? 6. Os adnewyddodd Duw Drugareddau gyda'r boreu, a fûm i ddiolchgar? 7. Os cyfrannodd y diwrnod i mi achos o drymder, a ymddigiais i? Ynteu a orweddais i yn y llwch ger bron Duw? Pan Darfyddo i chwi wneuthur fal hyn;lle y buoch chwi yn ddeffygio!, cyfaddefwch hynny yn athrist; a llai a fydd y gwaith i chwi iw wneuthur pan ddelo marwolaeth. Gwna fel byn uniawn gyfrif âth Dduw bob nôs. Hyn a fu fy helyn [...] feunyddiol i, ac a gaiff fod yn arfer i mi nes fy marw.
21. Yr hyn a ennillom ni drwy Weddi, ni a gawn ei fwynhau mewn diddanwch.
22. Mae Sicerwydd dau-ddyblyg. 1. Siccrwydd Haul-gan. 2. A Lloergan. Y cyntaf yw y llawn siccrwydd hwnnw yn Heb. 10.22. Y Lloergan yw hwnnw o'r Gair, yr hwn da y gwnawn fod yn dal arno, 1 Thes. 1.5. 2 Per. 1.19. Y cyntaf ni roddir ond i ychydig, na hynny ond yn anfynych; a hynny naill ai ar ryw ddyledswydd fawr iw chyflowni; neu ryw gyflwr newydd o fywyd i fyned iddo; neu ar ryw [Page 6] fowrion ddioddefiadau i fyned danynt; am yr hwn y dywaid un, yr oriau (neu r'awrau) y daw, nid ydynt ond anfynych, a byrr y mae yn aros. Yr ail yw yr hwn y rhaid i ni ymddiried iddo, Rhoi goglud ar siccr Air Duw, diwy ffydd o Ymlyniad, pan ydym ni heb y llall, sef yspryd o lawn Siccrwydd.
23. Am gyssur pobl Duw, efe a ddaliodd sulw allan o'r 129 Psalm, Er bod yr annuwiol yn Arddwŷr ar y Cyfiawn, ac aredig o honynt yn ddwfn, a gwneuthur cwysau hirion, a hefyd aredig eu calonnau hwynt allan, pes gallent; etto yr Arglwydd cyfiawn, yr hwn sy yn eiftedd yn y Nefoedd, sy yn chwerthin am eu pennau, ac yn torri eu Tidau, a'u rhaffau; ac yna nid allant aredig dim ychwaneg.
24. Yn achos Erlidiadau a Dioddefiadau eraill, fe ddylei pobl Dduw ystyried yn ddifrifol y pedwar peth hyn: 1. Duw sydd yn mynni iddynt fod, ac yn eu hanfon; Weithian Ewyllys Duw fydd berffaith Reol Cyfiawnder; a'r hyn y mae Duw yn ei wneuthur, a wnaethpwyd cystal, nas gallai mor bod wedi ei wneuthur yn well. 2. Mae yn rhaid wrthynt, oni bai hynny ni chaem ni mo honynt. 3. Eu rhifedi, eu mesur, a'u parhâd a benderfynnwyd gan Dduw; nid ydynt ond tros ennyd fechan, nac yn parhau ond ychydig ddyddiau, Dat. 2.10. nid ydynt rŷ drymion, rŷ aml, neu rŷhir, fel y mynnei 'r Cythrel iddynt fôd; na rhŷ-anaml, rhy-fyrrion, neu rŷ-ysgafn, fel y mynnei ein naturiaeth lygredig iddynt fôd. 4. Ei diwedd sydd bwys o ogoniant, a'r Goron a'u canlyn. sydd dragwyddol, 2 Cor. 4.17.
25. Tri pheth a bair i ddŷn ei gyfrif ei hun yn ddedwydd ymma ar y Ddaiar. 1. Cael ystâd [Page 7]dda: 2. Ei chael hi mewn lle. da: 3. With gymmydogion da. Yn awr. y tri hyn y mae y rhai sydd yn meirw yn yr Arglwydd, yn eu mwynhau mewn modd rhagorol.
1. Eu Nefol Etifeddiaeth sydd fawr, Ni welodd llygad, ni chlywodd clust y cyffelyb, 1 Cor. 2.9 2. Mae hi mewn lle da, 2 Cor. 5.1. Y Nefoedd, yr hwn sydd Dy a wnaethpwyd iddynt hwy, ac a wnaethpwyd gan Dduw; ac am hynny mae'n rhaid iddo fod yn dda. 3. Yn agos at Gymmydogion da: Duw, Crist, yr Yspryd, Angelion, a Seintiau. Yr oedd gan Adda Etifeddiaeth dda, ac mewn lle da; ond yr oedd ganddo Gymmydog drwg, sef y Gythrael, yr hwn ai blinodd ef, ac a anafodd y [...]wbl. Ond nid oes dim cymmydogion drwg yn y Nefoedd.
26. Nid yw Dioddefiadau pobl Dduw yn rhwystro eu Gweddiau hwynt. Elias oedd ddyn yn rhaid iddo ddioddef fel ninnau, ac efe a weddiodd ac a wrandawyd, Jac. 5.17.
27. Tri pheth sydd yn cyd-ymganlyn i wneu. thur i fynu y pechod yn erbyn yr Yspryd glàn, 1. Goleuni yn y meddwl. 2. Malis yn y galon. 3. Yr anheimlad o'r pechod. Y nêb sy yn ofni ddarfod iddo ei bechu ef, ni phechodd ef mo hono [...]rioed.
28. Y rheswm pa ham na weithir ar lawer sydd tan nerthol foddion Grâs, lley mae llaweroedd ar sy yn byw o bell, ac yn dywad yn anfynych tan Bregethiad nerthol, yn cael gweithio arnynt drwy hynny, efe a arferei oi roddi drwy'r gyffelybiaeth yma: Megis mewn Tref farchnad, nid oes cymmaint matter gan bobl y Dref am bethau fy yn y farchnad, a chan y rhai sydd yn byw yn y wlàd; maent hwy yn dyfod i brynu, a rhaid yw fddynt wneuthur [Page 8] felly; a hwy a fynnant gael y peth sydd arnynt ei eisiau, beth bynnag a dalont am dano; lle mae y rhai sy yn byw yn y Dref, yn tybied y gallant brynu, pa amser bynnag y gwelont yn dda, ac felly yr esceulusant brynu yn yr amser presennol; ac o'r diwedd, maent yn fynych iawn yn cael eu siommi a'u twyllo.
29. I'n perswadio ni i [...]idio a rhoi sen am fen, efe a ddywedai; Os Ci a gyfarth ddafad, ni chyfarth y ddafad mo'r Ci.
30. Pedwar O Resymmau a roddai fo yn erbyn Gofalon anghymhedrol am bethau daiarol, fel na ddianrhydeddem Duw, na'i wadu. 1. Maent yn afreidiol. 2. Maent yn anifeilaidd. 3. Maent yn anfuddiol. 4. Maent yn arfer o ddilyn y Cenhedloedd.
1. Yn afreidiol: Pam y rhaid i ni ofalu, a Duw hefyd? Gŵr ein Tad nefol fod arnom eiseu y pethau hyn, a pheri y mae ef i ni, na ofalom am ddim, ond bwrw ein gofal arno ef, yr hwn sy yn gofalu drosom ni. Mat. 6.32. 1 Pet. 5.7.2. Yn afreidiol: Pam y rhaid i ni ofalu, a Duw hefyd? Gŵr ein Tad nefol fod arnom eiseu y pethau hyn, a pheri y mae ef i ni, na ofalom am ddim, ond bwrw ein gofal arno ef, yr hwn sy yn gofalu drosom ni. Mat. 6.32. 1 Pet. 5.7. 2. Yn anifeilaidd, ie a gwaeth nag anifeilaidd: Edrychwch ar adar y nefoedd, a'r cygfrain, y mae efe yn eu porthi bwynt, er nad ydynt yn llafurio, Mat. 6.26. 3. Maent yn Anfuddiol ac yn ddilès. Pwy o honoch gan ofalu a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli, neu vn geiniog at ei olud, Mat. 6.27. 4. Arfer y Cenhedloedd yw, yr holl bethau byn y mae y Cenhedloedd yn eu ceisio, Mat. 6.32.
31. Mae bagad yn y byd yn cymmer [...]d yr enw o fod yn Sainct ar dyb da eraill am danynt; ac yn marchanatta yn nyledswyddau Crefydd, ar y goel a ennillasant oddiwrth Opiniwnau da rhai eraill am danynt hwy, a'u proffess: Credu y maent eu bod eu hunain yn Gristianogion, oblegid bod eraill yn gobeithio eu bod hwy [Page 9] felly, ac hwy a negeseuant à zêl gwresog, mewn dyledswyddau sy yn s [...]fyll oddiallan, i gynnal eu Henw da; eithr ni edrychant un amser am y Stocc o gadarn Râs oddifewn; a hyn sydd yn anafu llawer.
32. Fel yr ydym ni yn darllen am fara beunyddiol, felly hefyd am Groes feunyddiol, Luc 9.23. yr hon y perir i ni ei chodi, nid ei gwneuthur. Nid rhaid i ni mor gwneuthur Croesau i ni ein hunain (fal yr ydym ni yn rhy barod i wneuthur) ond gadawn i Dduw eu gwneuthur hwynt i ni: Croesau a wneir yn y Nefoedd, fydd fwyaf cymmwys i gefnau'r Sainct; ac ni wasanaetha i ni moi rhoddi hwy i lawr, nes iddynt hwy a ninnau orwedd i lawr ynghyd.
33. Ymadrodd hynodol oedd hwnnw o'r eiddo Gwr sanctaidd, Diffoddwch uffern, a llosgwch y Nefoedd, etto myfi a garaf, ac a ofnaf fy Nuw.
34. Nid crochlefain yn erbyn y Cythrael, nac ymadroddi yn erbyn Pechod mewn Gweddi, neu Ymddiddanion; ond ymladd â'r Cythrael, a marweiddio ein Trachwantau, yw'r hyn y mae Duw yn bennaf yn edrych arno.
35. Y m [...]e'r Proffes [...]wr gwâg yn Siommi neu'n twyllo dau ar unwaith; Y Byd, yr hwn wrth weled dail, sy yn disgwyl ff wythau, ond nid yw yn caet dim. 2. Ei hunan, yr hwn sy yn tybied cyrraedd y Nefoedd, ond sy yn dyfod yn fyrr o honi.
36. Yr unig ffordd i Enaid cystuddiol, ni fedro ymafaelio neu ymaflyd mewn Cyffurau o'r blaen, oblegid Gwrthdroeadau neu bechodau ar ôl, ac felly sy yn ammeu ei holl siccrwydd o'r blaen, yw, Adnewyddu ei Edifeirwch, fel pe buasei ef heb gredu erioed.
37. Hawdd gan rai feddwl pe baent yn y cyfryw Deulu, dan y cyfryw Weinidog, allan o'r [Page 10] cyfryw Demptasiwnau, nad ymmyrrau'r Cythrael â hwynt, fel y mae. Eithr y cyfryw rai a ddylaent wybod. Mai cyhyd ag y byddo ei hen Gyfaill ef, sef y cnawd yn fyw oddi fewn, y bydd ynteu yn curo wrth y drws oddia;llan.
38. Yr hadau a hauwyd yn Naturiaeth Diafol a'r Sainct ydynt cyn ddyfned, na ddiwreiddir hwy byth, hyd oni pheidio y Cythrael a bod yn Gythrael, a Phechod a bod yn Bechod, a Sainct a bod yn Sainct.
39. Melinydd Diafol yw'r pechadur, yn malu yn wastadol; ar Diafol sydd yn wastad yn llenwi yr Hoppran, neu'r pin fel na safo'r felin.
40. Mae rhai pechodau na feidr dyn anwybodus moi Gwneuthur; eithr y mae llawer ychwaneg na feidr dyn anwybodus ond eu gwneuthur.
41. Y mae pump o rwymau, â phâ rai y rhwymodd Duw'r Nefoedd ef ei hun i fod yn Gard neu'n Geidwad i gadw einioes y Sainct, yn erbyn Gallu y Tyw [...]llwch. 1. Ei berthynas iddynt megis Tâd, 2. Ei Gariad ef iddynt, o ran ei bod hwynt yn Esgoredigaeth ei Gyngor [...]ragwyddol ef, megis cyfrannogion o'i Lûn if ei hun. 3. Pridwerth Gwaed ei fab, a'i Gyfammod â hwynt. 4. Eu Goglud arno ef, a'u Disgwyliad oddiwrtho, yn eu holl gyfngderau: yn awr Disgwyliad a gobaith y trueiniaid ni chollir bŷth, Psalm 9.18. 5. Gwaith presennol Crist yn y Nefoedd, yw edrych am fod pob peth yn cael ei ddwyn rhagddo yn dêg rhwng Duw â'i Bobl.
42. Bara haidd gyd à'r Efengyl sydd ymborth dà.
Byrr yw oes Dyn.
Myfyrdod ar Fywyd ac Angeu.
Crist yw Pren y Bywyd.
DATTODIAD Y Qwestiwn Mawr, Beth sydd raid i ni ei wneuthur fel y byddom GADWEDIG.
ATHRAWIAETHAU I Fuchedd Sanctaidd.
O feistred, beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf Gadwedig?
Heb sancteiddrwydd ni chaiff neb weled yr Arglwydd.
O waith y Difinydd Parchedig Mr. Richard Baxter.
Printiedig yn LLVNDAIN gan Tho. Whitledge a W. Everingh [...], 1693.
Dattodiad y Questiwn Mawr, Pa fodd i fod yn Gadw [...]dig yn SICCR.
Athrawiaethau i Fuchedd Sanctaidd.
- I. Anghenrhaid, Rheswm, a moddion Sancteiddrwydd.
- II. Rhanau ac Ymarfer Buchedd Sanctaidd.
Er Cyfarwyddiad Personawl, ac addysg Teuluaidd. Ynghŷd a dau Catechisms Byrrion, a Gweddiau.
Dynion anwybodus nis gallant gofio hir a llawer eiriau, na deall dull ar ymadrodd byr ac ychydig eiriau. Gan hynny ammhossibl ydyw Scrifennu [Page 4] Catechism yr hwn nis bydd yn anghyfattebol naill a'i ddeall neu i goffadwriaeth y cyfryw; Rhaid i mi gan hynny ddymuno ar y dysgawdwr i wneuthur i fynu y diffyg anocheladwy hwn. Trwy agor meddwl (yn enwedigol y Catechis's) i'r plant a'r Gweision, gwedi darfod iddynt ddysgu a dywedyd y geiriau. Darllennwch yr Hyfforddiadau yn fynych iddynt, a Chymellwch y cwbl fel yr cloch ymmlaen ar eu serchiadau hwynt; canys geiriau noeth yn unic heb fforddwr Presennol, allant fod yn golledig i gyd oll.
Dattodiad y QWESTIWN MAWR, Beth sydd raid i ni ei wneuthur fel y byddom GADWEDIG.
I. Anghenrhaid, Rheswm, a Moddion Sancteiddrwydd.
- 1. I gadw i fynu fwriadau Y dychweledig.
- 2. I ddy [...]gu y rhai hynny mewn Teuluoedd sydd arnynt eu diffyg.
ER bôd jechydwriaeth eneidiau yn fatter o bwys anrhaethadwy (a) etto (yr Arglwydd a gymmero drugaredd arnynt;) Pa liaws sydd yn tybied nad yw hynny yn haeddu eu holiad difrifol hwynt. Neu ar ddarllen [Page 6] o honynt lyfr da un awr yn yr wythnôs? Er mwyn y pechaduriaid diofal, diog hyn, mi a leferais yma lawer mewn lle bychan, fel na bo iddynt wrthod darllen, ac ystyried gwers mor fer, oddi [...]ithr eu bôd yn tybied na thâl eu heneidiau hwynt ddim. Pechadur, megis ac yr attebi hynny ar fyrr amser ger bron Duw, na nacca i Dduw, i ti dy hun, ac i minneu, ar i ti ddwys ystyried, ac ymarfer yn ffyddlon yr ychydig hyfforddiadau hyn.
1. Dechreu gartref ac adnebydd dy hun: Ystyria beth ydyw bôd yn ddŷn (b) fo'th wnaethpwyd yn greadur boneddigeiddiach nâ'r anifeiliaid. Hwy a'th wasanaethant di, ac a reolir genniti, ac mae marwolaeth yn diweddu eu hôll boen hwynt a'i hyfrydwch Ond mae genniti Reswm i'th reoli dy hun a nhwythau; i g [...]dnabod dy Dduw, i ragweled dy ddiwedd, i wybod dy ffordd, ac i wneuthur dy ddyledswydd. Dy Reswm a'th ewyllys rhŷdd, a gallu i gyflawni, ydynt ran o ddelw Duw ar dy natur di; felly y mae dy Arglwyddiaeth di ar yr anifeiliaid, megis (dano ef) tydi yw eu perchennog, eu Rheolwr, a'i diwedd. Ond dy ddoethineb sanctaidd di, a'th ddaioni, a'th allu ydyw rhan bennaf o'i ddelw ef, ar y rhai y mae dy ddedwyddwch di yn sefyll. Mae genniti enaid yr hon nis gellir moi bodloni â gwybodaeth, hyd oni. Chyrhaeddo dy wybodaeth di ac Dduw ei hun (c) nis gâll neb arall ei threfnu, nai iawn reoli hi, (neu gyfeillach y bŷd) yn ol ei natur, heb edrych ar ei Awdurdod uchaf ef, ac heb obeithion o lawenydd, ac ofnau o drueni ar ôl [Page 7] hyn (d): Nis gall fôd yn happus mewn dim, ond yn gweled, a charu, ac ymhyfrydu yn y Duw hwn megi [...] ac y mae yn ddatcuddiedig yn y bŷd arall (e). Ac ydyw'r natur hon gwedi ei rhoddi i ti yn ofer? Os cymmhwyswyd natur pôb peth at ei ddefnydd a'i ddiwedd, (f) yra rhaid bôd felly gydâ'th eiddo ti.
2. Yna trwy dy Adnabod dy hun rhaid i ti wybod fôd Duw, Heb, u. 6. Ac mai efe yw dy wneuthurwr, Psal. 100. 3. Ac aneirif ym mhôb perffeithrwydd, ac mai efe yw dy feddiannudd, a'th Reolwr, a'th ddedwyddwch, neu'th ddiben pennaf. Mae, r dyn yn (g ynfyd nad yw yn gweled, fôd gan y cyfryw greaduriaid achos, neu wneuthurwr. A bod holl Allu, a doethineb, a daioni'r bŷd, yn dyfod oddiwrth Allu, a doethineb, a daioni, sydd fwy nâ hwnnw o'r l.ôll fŷd. A phwy yw ein Meddian-nudd ni, ond yr hwn a'n gwnaeth ni? A phwy yw ein Rheolwr uchaf ni, ond ein perchennog? Ei aneirif Allu, doethineb a daioni sydd yn ei wneuthur ef yn unic yn gymmwys i hynny. Ac os efe yw ein Rheolwr ni, rhaid yw bôl ganddo gyfreithiau ynghŷd â gobrwyon i'r da, a chospedigaethau i'r drwg, a rhaid iddo farnu a chyflawni yn eu hôl hwynt. Ac os efe yw ein pennaf wneuthurwr daioni, a bôd y-cwbl sydd gennym oddiwrtho ef, a'n hôll obaith a'n dedwyddwch ni sydd ynddo ef. Nid [Page 8] all dim fôd eglurach na bod Natur dŷn yn profi y dylai efe mewn gobaith o ddedwyddwch i lwyr roddi ei hunan i fynu i ewyllys a threfniad y Duw hwn, ac y dylai ef yn hollawl ufyddhau iddo (h) ac y dylai ef ei garu, a, i wasanaethu ef a'i holl allu. Yn gymmaint a bod yn ammhossibl caru, ufyddhau, a rhyngu bodd y Duw hwnnw yn ormod, yr hwn sydd fel hyn ein achos, ein diwedd, ein cwbl.
3. Trwy dy adnabod dy hun a. Duw fel hyn. Mae yn hawdd gwybod beth ydyw prif sancteiddrwydd a Duwioldeb. Sef y rhoddiad hon i fynu o'r Enaid a'r galon, i Dduw yn bur ac yn hollawl, megis yr aneirif Allu, Doethineb, a Daioni, megis ein Creawdwr, e [...]n Perchennog, Llywodraethwr, a'n dedwyddwch neu ein diwedd. Gan ymddarostwng yn hollawl iw drefniad ef, ufyddhau iw gyfreithiau ef, mewn gobaith o'r Gobrwyon a addawodd efc, ac ofn y cospedigaethau a fygythiodd efe: A charu ac ymhyfrydu ynddo ef ei hun, a i holl eglurhâdau ef yn y byd; ac ewyllysio a cheisio didrangc olwg a mwyniant o hono ef yngogoniant nefol, ac egluro y serchiadau hyn beunydd mewn gweddi, diolchgarwch, a mawl. Hwn yw defnydd dy holl Alluoedd di, diben a gorchwyl dy fywyd ti, iechyd a dedwyddwch dy enaid ti: Hon ydyw y sanctieiddrwydd neu'r Dduwioldeb y mae Duw yn galw yn gymmaint am dani.
[Page 9]4. A thrwy hyn mae yn hawdd gwybod, beth ydyw cyflwr k o bechod, ac annuwioldeb, sef eisieu yr holl sancteiddrwydd hon, a gosodiad hunan gnawdol yn lle Duw. Pan ydyw dynion yn falch fawrion, ac yn ddoethion, ac yn dda yn eu golwg eu hunain; ac a fynnent drefnu eu hunain a'i holl achosion, ac a fynnent reoli eu hunain, a rhyngu bodd iddynt eu hunain, yn ôl chwant cnawdol, a naturiaeth; am hynny caru y maent fwyaf hyfrydwch, ac elw, ac anrhyded y bŷd, megis bwyd i fodloni dymnniadau'r cnawd; a Duw ni chaiff ei garu, ei ufyddhau, neu ryngu ei fodd ddim pellach nag y rhydd cariad hyfrydwch cnawdol gennad, ac ni chaiff ddim, ond yr hyn all y cnawd e [...] hepcor. Cyflwr drygianus, Cnawdol; annuwiol yw hwn, er ei fôd yn torri allan mewn amryw ffyrdd o bechu.
5. Wrth hyn, profiad ei hun all ddywedyd i chwi fod y rhan fwyaf o ddynion (ie pawb (l), hyd oni adnewydda grâs hwynt) yn y cyflwr annuwiol truenus hwn: (Er bod yr scrythur yn unic yn dywedyd i ni pa fodd y daeth hyn) er nad vw pawb yn odineb wyr, yn feddwon; yn gribdeilwyr, neu erlidwyr, nac yn byw yn yr un ffordd o bechu Etto bo [...] heb hunanymwadiad, vn falch ac yn anianol, yn caru pethau daiarol, vn anwybodus, ac yn annuwiol, y pecho au hvn yn eglur aethant yn llygredigaeth c [...]ffredinol natur dyn; megis ac y troir eu calonnau hwynt at y bŷd oddiwrth Dduw. [Page 10] Ac a lenwir ag annuwioldeb, aflendid, ac anghyfiawnder, a'i rheswn hwynt nid yw ond gwas iw synhwyrau, a'i meddwl neu eu synniad, ai cariad, ai bywyd, sydd gnawdol; a'r synniad cnawdol hwn sydd elyniaeth yn erbyn sancteiddrwydd Duw, ac nis gall fod yn ddarostyngedic iw ddeddf ef:(m) y llygredigaeth hon treftadol ydyw, ac aeth megis yn natur i ni, yn gymmaint ai fod yn glefid marwol ein naturiaethau ni i gyd. Ac hawdd ydyw gwybod y bydd rhaid i'r cyfryw natur aflan, annuwiol fod yn ffiaidd gan Dduw ac (n) yn anghymwys i fwyniant happus ei gariad ef, naill a'i yma, neu yn y bywyd a ddaw canys pa gymundeb fydd rhwng goleuni a thywyllwch?
6. Yna oddiyma hawdd ydyw gweled, pa râs sydd anghenrheidiol i iechydwriaelh dŷn. Rhaid i'r creadur atcas hwn, y gwrthryfelwr aniolchgar hwn, yr hwn sydd wedi troi ymaith oddiwrth Dduw, ac wedi ymosod yn ei erbyn ef, ac wedi ei halogi â'r holl fudreddi hwn o bechod, gael ei (o) adnewyddu a'i gymmodi, ei sancteiddio, a chael Maddeuant, os efe a fyn fyth fod yn Gadwedig Caru Duw, a chael eu garu ganddo ef, ac ymhyfrydu yn hynny, yngolwg ei ogoniant ef, ydyw Nefoedd a happusrwyd eneidiau; a hyn oll fydd w [...]thwynebol i gyflwr aflan, disanctaidd. Hyd oni chaffo dynion galonnau newydd a sanctaidd, nis gallant na gweled Duw, nai garu ef, nac ymhyfrydu ynddo, nai gymmeryd ef am eu bodlonrwydd pennaf; canys gan y cnawd a'r bŷd y mae eu hyfrydwch a'u cariad. Ac hyd oni faddeuer pechod a chymmodi o Dduw [Page 11] â'r enaid, (p) pa lawenydd neu heddwch all yr enaid ddisgwyl oddiwrtho ef, natur yr hwn a'i gyfiawnder sydd yn ei rwymo iw ffieiddio ac iw gospi?
7. A phrofiad a ddywed i chwi, mor (q) anigonol ydych chwi eich hunain i bob un o'r ddau waith hyn; I adnewyddu eich Eneidiau, neu iw cymmodi hwynt â Duw. A fydd i natur gnawdol wrthwynebu, a gorchfygu y cnawd, ffieiddio y pechod yr hwn y mae yn dra anwyl yn ei garu? A orchfyga meddwl bydol cnawdol y bŷd? Gwedi i ddefod neu gwstom wreiddio eich llygredigaethau naturiol chwi, ydyw yn hawdd eu dadwreiddio hwynt? O pa waith mawr a chaled ydyw gwneuthur i bechadur dâll anghredadwy osod ei galon ar fŷd arall, a thrysori ei holl obaith yn y Nefoedd, a bwrw ymaith yr holl bethau y mae yn eu gweled, am y Duw hwnnw, a'r gogoniant yr hon ni welodd efe erioed! Ac i galon galed, fydol, gnawdol, fyned yn ddoeth ac yn dyner, ac yn fanctaidd, ac yn nefol, ac i ffieiddio y pechod yr hwn y mae fwyaf yn ei garu! Ac beth allwn ni wneuthur i fodloni cyfiawnder, ac i gymmodi y cyfryw enaid gwrthryfelgar â Duw?
8. Gwedi darfod i natur, a phrofiad eich gwneuthur chwi yn gydnabyddus â'ch pechod, â'ch trueni, a pheth sydd eisieu arnoch chwi; a ddywed ymmhellach i chwi nad ydyw Duw (r) [Page 12] etto yn gwneuthur â chwi yn ôl eich haeddedigaethau. Mae efe yn rhoddi i chwi fywyd ac amser, a thrugareddau, pan oedd eich pechodau wedi fforffettio y rhai hyn oll. Mae efe yn eich rhwymo chwi i edifarhau a throi atto ef. Ac am hynny gan fod profiad yn dywedyd i chwi fod peth gobaith, a bod Duw wedi cael rhyw ffordd arall i ddangos trugar edd i, blant digofaint, Rheswm a orchymyn chwi i ymofyn a phawb sydd gymniwys i'ch dysgu chwi, pa ffordd o feddyginiaeth a yspysodd Duw. Ac megis ac a gellwch chwi yn fuan ganfod, fod crefydd y ceneddloedd, a'r Mahometaniaid, cyn belled oddiwrth ddangos y gwir feddyginiaeth, fel y maent yn rhan o'r clefid ei hun; felly chwi ellwch ddysgu, ddar fod i'r person Rhyfeddol (s) yr Arglwydd Jes Grist gy mmeryd arno y swydd o sod yn Bryn wr ac Achubwr y bŷd; a darfod iddo ef yr hwn ydyw y gair tragwyddol, a doethineb y Tad, vn rhyfeddol ymddangos yn natur dŷn, yr hon a gymmerodd efe oddiwrth y forwyn Mair, a gaed trwy'r yspryd Glan; ac fel y bydddei ini gael dysgawdwr wedi ei ddanfon o'r * Nefoedd, i wneuthur y bŷd yn gydnabydd [...] yn ddidwyll, ac yn hawdd ag Ewyllys Duw ac â phethau anweledig bywyd tragwyddol Pa fodd y dygodd Duw dystioiaeth iw (t) wirionedd ef, trwy wyrthiau ami, agored, ac na [...] gellir moi gwrthddadleu (u) Pa fodd y darf [...] iddo ef orchfygu Satan a'r bŷd, ac a roddes [Page 13] ni siampl o Gyfiawnder perffaith, (w) ac aeth tan watwargerdd a chreulondeb pechaduriaid, ac a ddioddefodd farwolaeth y groes, megis Aberth tros ein pechodau ni i'n cymmodi ni â Duw: Pa fodd yr adgyfododd efe y trydydd dydd, ac a orchfygodd angeu, ac a fu fyw ddeugein nhiwrnod hwy ar y ddaiar, yn dysgu ei Apostolion, ac yn rhoddi iddynt orchymyn i bregethu'r Efengyl i'r holl fŷd, ac yna efe a escynnodd yn gorphorol i'r Nefoedd, tra'r oeddynt hwy yn edrych yn ddyfal ar ei ol ef. Pa fodd y mae efe yn awr yn y Nefoedd yn Dduw ac yn ddŷn yn un person, Dysgawdwr, a Brenin, ac Arch-offeiriad ei Eglwys. Ganddo ef y bydd rhaid i ni ddysgu ffordd y bywyd, ganddo ef y bydd rhaid i ni gael ein rheoli megis Physygwr eneidiau: rhod dwyd iddo ef bob Awdurdod yn y Nef, ac ar y ddaiar. Trwy ei Aberth ef, a'i haeddedigaethau, a'i gyfryngdod y bydd rhaid i ni gael Maddeuant a bod yn gymmeradwy gydâ'r Tàd; a thrwyddo ef yn unic y bydd rhaid i ni ddyfod at, Dduw. Efe a wnaeth ac a siccrhaodd Gyfammod o râs, o'r hwn y mae Bedydd yn sel: Sef [y bydd Duw ynddo ef yn Dduw i ni ac yn Dâd beddychol, ac y bydd Crist yn jachawdwr i ni, a'r yspryd Glân yn sancteiddiwr i ni, os nyni yn ddiragrith a gyttunwn, hynny yw os yn edifeiriol ac yn gredâdwy y rhoddwn i fyna ein hunain i Dduw y Tâd, Mâb, a'r yspryd Glân yn yr amcanion neu fwriadau hynny.] Y cyfammod hwn yn ei ddull, gweithred ydyw o Roddiad, o Grist [Page 14] a Maddeuant, ac iechydwriaech i'r holl fyd: os hwy trwy wir ffydd ac edifeirwch a ddychwelant at Dduw. A hon fydd y gyfraith yn ol yr hon y barna efe bawb sydd yn ei chlywed hi yn y diwedd; canys gwnaethpwyd ef yn farnwr pawb, ac a gyfyd y meirw oll, ac a gyfiawnha ei sainct, ac a'i barna hwynt i lawenydd a gogoniant didrangc, ac a farna yr anffyddloniaid diedifeiriol ac (x) annuwiol i ddidrangc drueni. Yr enaid yn unic a fernir ar farwolaeth, a chorph ac enaid yn yr Adgyfodiad. Yr Efengyl hon a bregethodd yr Apostolion i'r bŷd; ac fel y byddei yn rymmus i iechydwriaeth dynion, yr yspryd Glân (y) yn gyntaf a roddwyd i ysprydoliaethu ei phregethwyr hi, a'i nerthu hwynt i lefaru mewn amryw ieithoedd, ac i gyttuno yn ddidwyll yn un, ac i weithrio llawer o wyrthiau mawrion, ac amlwg i brofi eu gair i'r rhai y pregethasant hwy. A thrwy 'r moddion hyn hwy a blannasant yr Eglwys, (z) yr hon y bydd rhaid i weinidogion arferol amlhau, a'i dysgu, a'i bugeilio, hyd ddiwedd y bŷd. Hyd oni chesglir i mewn yr holl Etholedigion. A'r un (a) yspryd Glân a gymmerodd arno hynuy, megis ei waith ef, i fyned gydâ yr Efengyl hon, a thrwyddi i droi eneidiau dynion, eu goleuo, a'u sancteiddio hwynt, a thrwy (b) Adenedigaeth ddirgel i adnewyddu eu natur hwynt, a'i dwyn hwynt i'r gwybodaeth hwnnw, ac ufydd dod, a chariad o Dduw, yr hyn ydyw y sancteiddrwydd cyntaf, i'r hon i'n creuwyd ni, [Page 15] ac oddiwrth'r hon y syrthiasom ni. Ac fel hyn trwy Jachawdwr, a Sancteiddiwr y bydd rhaid cymmodi, ac adnewyddu pawb a fynnant gael eu gogoneddu gydà Duw yn y Nefoedd. Hyn oll ellwch chwi ddysgu oddiwrth yr scrythrau sanctaidd y rhai a (c) scrifenwyd gan ysprydoliaeth yr yspryd Glân, ac a'u seliwyd trwy liaws o (d) wyrthiau eglur, ac yn cynnwys gwir lun ac argraff Duw, ac a'u Derbyniwyd a chadwyd gan yr Eglwys, megis siccr ymadroddion Duw, ac wedi eu bendithio ganddo o genhedlaeth i genhedlaeth, ymmhob oes i sancteiddio llawer o eneidiau.
9. Gwedi i chwi ddeall hyn i gyd, mae yn amser i Chwi i (e) edrych gartref, a deall yn awr pa gyflwr y mae eich Enedau chwi ynddo. Gwnaethpwyd dyn ar y cyntaf yn sanctaidd, ac yn happus, chwi a ŵyddoch: eich bod chwi a phob dŷn wedi syrthio oddiwrth Dduw, a sancteiddrwydd, a dedwyddwch, at hunan, a pechod a thrueni, chwi a ŵyddoch: eich bod chwi cymmhelled wedi eich prynu gan Christ chwi a ŵyddoch: megis ac y cynnygir i chwi Gyfammod o faddeuant ac iechydwriaeth, a Christ a thrugaredd a gynnygir i'ch dewis chwi. Ond a ydych chwi yn ffyddloniaid gwir edifeiniol, ac wedi eich adnewyddu gan yr yspryd Glân ac felly wedi eich uno a ChrIst? Hwn ydyw'r Questiwn etto heb ei ddattod, hwn ydyw'r gwaith sydd etto iw wneuthur, heb pa un nid oes dim iechydwriaeth, ac os marw a wnei di cyn gwneuthur hynny, gwae iti fod o honot ti eriod yn ddŷn. Oddieithr i ddŷo [Page 16] gael ei (f) adgenedlu gan yr yspryd, a'i droi, ai wneuthur yn greadur Newydd, ac o gnawdol ei wneuthur yn ysprydol, ac o ddaiarol ei wneuthur yn Nefol, ac o hunan a phechadurus ei wneuthur yn sanctaidd ac yn ufydd i Dduw, nis gall efe fyth fod yn gadwedig, mwy nac a gall y cythrael ei hun fod yn gadwedig. Ac os ydyw hyn felly (megis nad oes dim siccrach) yr wyf yn ceisio gennit yn awr, yr hwn wyt yn darllen y geiriau [...]yn, megis ac yr wyt ti yn ystyried dy iechydwrlaeth, megis ac y mynnit ti ddiangc rhag tân uffern, a sefyll yn gyffurus ger bron Grist, a'i Angelion ef yn y diwedd, ar iti yn ddifrifol ystyried onid ydyw Rheswm yn Gorchymyn i ti brofi dy gyflwr; a wyt ti fel hyn (g) wedi dy adnewyddu gan yspryd Crist a'i nad wyt? Ac i (h) alw am gymmorth gan y rhai hynny a fedrant dy gynghori di, a chanlyn ar chwilio hyd oni ddel [...]ch i wybod dy gyflwr. Ac os yw dy enaid ti yn ddieithr i'r gorchwyl hwn o sancteiddiad, onid ydyw Rheswm yn gorchymmyn iti heb oedi fyned at Crist, a chrefu ei yspryd ef, a bwrw ymmaith dy bechodau, a rhoddi dy hunan yn hollawl i'th Dduw, dy jachawdwr a'th fancteiddiwr, a myned iw Gyfammod ef, gydà llwyr ymroad byth nad ymmadewi ag efe, i [...]mwadu a thydi dy hun, ac ewyllysiau y cnawd, ac a'r byd twyllodrus darfodedig, hwn, a rhoi allan dy holl obaith ar y Ne [...]oedd, ac at frys beth bynnag a gust iti [Page 17] siccrhau y dedwyddwch sydd heb ddiwedd iddo? Ac a lefesi di wrthod hyn, pan ydyw Duw a chydwybod yn ei orchymmyu? Ac ymmhellach yr wyf yn eich cynghori chwi.
10. Deellwch pa fodd y mae Satan yn rhwystro eneidiau rhag eu sancteiddio; fel y bo i chwi wybod pa gymmaint i sefyll yn erbyn ei ddichellion ef. Rhai y mae efe yn eu twyllo trwy (i) adrodd iddynt yn ddrygionus, nad yw sancteiddrwydd ddim ond drychiolaeth ffanci, neu Ragrith! (a phed fae Duw a marwolaeth, a Nefoedd ac uffern yn ffancies, hyn ellid ei gredu.) Rhai y mae efe yn eu llygru trwy allu chwant cnawdol, fel nad âd eu pechodau hwynt iw Rheswm lefaru. Rhai y mae efe yn eu cadw mewn llwyr anwybodaeth, trwy ddygiad i fynu drwg rhieni anwybodus, ac esgeulustra (k) dysgawdwyr annuwiol, y rhai idynt yn lladd yr Eneidiau: Rhai y mae efe yn eu twyllo â gobeithion bydol, ac yn Cadw eu meddyliau felly wedi, eu cymmeryd i fynu â phethau bydol, fel nas gall matterrion Tragwyddoldeb gael ond rhai meddyllau rhŷdd a dirym, neu cynddrwg a bod heb yr un: Rhai a rwystrir gan (l) gymdeithas neu gwmpeini drwg y rhai a wawdiant fuchedd sanctaidd, ac a'u denant i droi at ddifyrrwch ofer, ac rhai ydynt felly wedi eu (m) caledu yn eu pechod, megis ac y maent agos wedi diddarbodi, ac nid ydynt nac yn ofni digofaint Duw, nac yn gofalu am eu Hiechydwriaeth, eithr gwrando y pethau hyn y maent megis dynion yn cysgu, ac nid [Page 18] oes dim au deffrŷ hwynt: Rhai a ddigalonnir â thŷb fod Duwioldeb yn fywyd mor (n) anhyfryd, prudd, ac athrist, fel yn hytrach na'i goddef hi, hwy a beryglant eu heneidiau, deued a ddelo ar hynny, (megis ped fae yn fywyd anhyfryd garu Duw, a gobeithio am lawenydd didrangc, ac yn fywyd hyfryd garu'r byd a phechod, a byw o fewn cam at uffern.) Rhai wedi eu hargyoeddi, ydynt yn (o) oedi eu hedifeirwch, ac yn tybied i bod yn ddigon buan ar ôl hyn; ac maent yn pwrpasu ac yn addo, hyd onid elo yn rhyhwyr, a darfod bywyd, ac amser, a gobaith: a rhai pan ydynt yn gweled fod sancteiddrwydd yn anghenrheidiol a (p) siommir gan ryw dŷb marw, neu henwau, neu ymddangosiad, a llûn sancteiddrwydd, naill ai o herwydd eu bod yn dal rhyw Opinion neu dŷb manwl, neu o herwydd eu bod yn cyssylltu â phobl grefyddol, neu o herwydd eu bod o'r rhai hynny y maent hwy yn tybied ydyw'r wir Eglwys, neu o herwydd eu bod hwy wedi eu bedyddio â dwfr, ac yn cadw rhannau oddiallian o addoliad; ac nid hwyrach o herwydd eu bod yn offrymmu i Dduw lawer iawn o wasanaeth gwefus a defod difywyd yn ol athrawiaethau dynion y rhai ni aroglasant erioed o Enaid sanctaidd. Fal hyn Marweidd-dra, Bydoldeb, Rhagrith, a bod yn anianol sydd yn rhwystro Myrddiwnau rhag sancteiddrwydd, ac jechydwriaeth.
[Page 19]11. Os mynnit ti fyth fod yn gadwedig na orthrymma Rheswm trwy ddilyn Chwantau ac ewyllysiau'r cnawd. Eithr weithiau (q) ymneilldua i ystyried yn ddifrifol, ac mewn sobrwydd. Rheswm gwascaredig cysgadur nid yw defnyddiol. Mae gan Dduw a chydwybod lawer iawn iw ddywedyd wrth iti, yr hyn mewn lliaws o gwmpeini a gofalon bydol nid wyt i gymmwys i glywed: cyflwr (r) galarus ydyw bod dyn yr hwn sydd ganddo Dduw, a Christ, Enaid, a Nefoedd, ac uffern i feddwl am danynt, yn anfodlon i ganiattau iddynt yr un ond meddyliau rhedegog. Ac na ddyru unwaith yn yr wythnos un awr iw (s) hystyried hwynt yn ddifrifol yn debyg i dyn! Diau nid oes gennyt bethau mwy iw hystyried. Bydded iti gan hynny ymroi weithiau i dreulio hanner awr, y yst yried yn ddifrifol dy gyflwr tragwyddol.
12. Edrych (t) ar y byd hwn a'i holl hyfrydwch, megis dŷn a rheswm ganddo, yr hwn sydd yn rhagweled y diwedd, ac nid megis anifail yr hwn sydd yn byw yn anianol, ar yr hyn a fo ger bron ei lygaid ef, ydyw yn rhaid i mi ddywedyd iti, o ddŷn, y bydd rhaid, i ti farw? Celaneddau a llwch sydd yn dy ddysgu di i weled diwedd gogoniant daiarol, a holl hyfrydwch y cnawd. A'i peth ammheus ydyw na dderfydd dy gnawd ti ar fyrder? Ac etto a barattoi di trosto o flaen dy Enaid? Pa ffarwel galarus a fydd rhaid iti ar fyr amser [Page 20] gymmeryd ar cwbl y mae dynion bydol yn gwerthu eu heneidiau am danynt! Ac o cyn gynted y bydd hynny! Och ddŷn, mae'r dydd yn agos, ychydig ddyddiau ychwaneg, ac yr wyt yn myned ymmaith! ac a lefesi di fyw yn ammharod, ac ymadael â'r Nefoedd am y fath fŷd a hwn?
13. Ac yna myfyrria mewn sobrwydd ar y (u)bywyd i ddyfod: Beth ydyw bod yr Enaid i ymddangos ger bron y Duw byw, ac iw barnu i ddidrangc lawenydd neu drueni! Os ydyw'r cythrael yn dy demptio di i ammeu y cyfryw fywyd, cofia fod natur, a'r scrythur, a chydsyniad y bŷd, a'i demptasiwnau ef ei hun yn dystion yn ei erbyn ef. O ddŷn a fedri di dreulio un dydd, mewn cwmpeini, neu yn unig, mewn Busines, neu mewn segu [...]yd, heb rai meddyliau difrifol am dragwyddoldeb? Nid oes dim yn dangos yn fwy fod Calonnau dynion yn cysgu, neu yn feirwon na hyn, nad ydyw meddyliau o ddidrangc lawenydd neu boen, mor agos, yn cymhell monynt i fod yn sanctaidd, ac i orchfygu holl demptasiwnau y cnawd, megis gwael bethau, a phethau na thalant moi hysturied.
14. Deliwch sulw, ystyriwch o ba feddwl y mae y rhan fwyaf o Ddynion pan ydynt yn dyfod i(x)farw! Oddieithr rhyw adyn anobeithiol gwrthodedig, onid ydynt oll yn dywedyd yn dda am fuchedd sanctaidd? Ac yn dymuno fod eu bywyd hwynt wedi ei dreulio ynghariad [Page 21] gresogaf Duw, ac ufydd-dod manylaf iw gyfreithiau ef? Ydynt hwy y pryd hynny yn dywedyd yn dda am drachwant ac hyfrydwch, ac yn mawrhau golud ac anrhydedd y byd? Oni fuasei yn well ganddynt hwy farw megis y sainct mwya grasel nag megis pechaduriaid diofal, cnawdol, bydol? Ac wyt ti yn gweled ac yn gwybod hyn, ac etto oni synni dy ddyscu, a bod yn ddoeth mewn amser?
15. Meddwl yn dda pa fath oedd y rhai hynny (y) enwau pa rai sydd yn awr yn anrhydeddus am eu sancteiddrwydd. Pa fath fywyd a ddarfu i Sainct Petr, a Sainct Paul, Sainct Cyprian, Sainct Augustin, a'r holl Sainct eraill a'r Merthyron fyw? A'i bywyd o ddig [...]ifwch cnawdol ac o hyfrydwch ydoedd? Onid oeddynt hwy yn Sanctaidd yn fwy manylach nâ neb a'r a adwaenost ti? A watwarasant neu a erlydiasant hwy fuchedd sanctaidd? Onid ydyw hwnnw yn ei ddamnio ei hunan yr hwn sydd yn anrhydeddu henwau y Sainct, ac ni ddilyn monynt?
16. Ystyria pa ragoriaeth sydd rhwng Cristion a dyn(z)cenhedlig. Anfodlon ydych i fod megis y cenhedloedd neu rai digred Ond ydych chwi yn tybied nad yw y Cristion yn rhagori arnynt ond mewn opiniwn neu feddwl? Yr hwn nad ydyw yn sancteiddiolach nâ hwynt hwy, sydd yn waeth, ac a ddioddef mwy nâ hwynt hwy.
[Page 22]17. Ystyria pa ragoriaeth rhwng Cristion (a) Duwiol ac un annuwiol, onid ydyw holl wrthwynebwyr sancteiddrwydd yn ein plith ni, etto yn llefaru am yr [...]n Duw, a Christ a'r scrvthur, ac yn proffessu yr un Gredo a chrefydd gydâ'r rhai hynny y maent yn eu gwrthwynebu? Ac onid ydyw y Crist hwn yn Awdur ein sancteiddrwydd ni, a'r scrythur hon yn e gorchymmyn hi? Chwiliwch a gwelwch, onid hyn ydyw y rhagoriaeth, fod y duwiol yn ddifrifol yn eu proffess, a'r annuwiol ydynt yn Rhagrithwyr, y rhai ydynt yn casau ac yn gwrthwynebu yr ymarfer o'r un pethau y rhai y maent en hunain yn eu proffessu; crefydd pa rai nid yw ond iw condemnio hwynt, tra'r ydyw eu bywyd yn wrthwynebol iw tafodau hwynt.
18. Deall beth ydyw cyfrwystra'r cythrael, trwy godi cynifer (b) o s [...]tau, a therfysgau, ac ymryss [...]au ynghylch crefydd yn y byd: Sef i wneuthur i rai feddwl eu bod hwy yn grefyddol, oblegid eu bod yn medru siarad am eu opinionau, neu oblegid eu bod yn tybied mai eu plaid hwy yw'r goreu, o herwydd en terfysg hwy yw'r mwyaf, neu 'r lleiaf; eu plaid hwynt yn uchaf, neu yn dioddef. Ac i droi cydymddiddan sanctaidd a fo er adeiladaeth i ymrysson ofer, ac i wneuthur dynion yn ddi Dduw, i ammau pob crefydd, ac na [Page 23] byddont gywir i'r un, o herwydd amrafael meddyliau dynion. Ond cofia nad yw y Grefydd Gristianogol ond un, ac yn beth hawdd ei hadnabod wrth ei hên Reol, a'r Eglwys Catholic sydd yn cynnhwys pob Cristianogion, nid yw ond un. Ac os bûdd cnawdol, neu opinionau fyddant yn gwahanu dynion felly, fel y bo un rhan yn dywedyd, nini ydym yr holl Eglwys, a rhan arall yn dywedyd, nyni ydym (megis ped fae y Gegin yr holl dŷ, neu un dref neu Bentref yr holl Deyrnas) a fyddi di yn ynfyd wrth weled y gwahaniad hwn? Gwrando bechadur, yr holl Sectau hyn yn nŷdd y farn a gyttunant megis tystion yn dy erbyn di, os wyt ti heb fod yn sanctaidd; o herwydd pa fodd bynnag yr oeddent yn ymrafaelio, y (c) cwbl o honynt sydd Cristianogion oeddent yn proffessu anghenrhaid Sancteiddrwydd, ac yn cyttuno â'r scrythur honno yr hon sydd yn ei gofyn hi er nas gelli di yn hawdd ddattod pob ymrafael, di elli yn hawdd wybod y wir grefydd, hynny yw yr hon a ddysgodd Crist a'i Apostolion, yr hon a ddarfu i bob Cristianogion broffessu, yr hon y mae'r Scrythur yn ei ofyn, yr hon sydd yn gyntaf yn (d)bur wedi hynny heddychol, tra ysprydol, nefol, cariadus, trugarog, a chyfiawn.
19. Ymmaith oddiwrth y (e)cwmpeini hwnnw yr hwn sydd anianol, ac yn elynol i Reswm, Sobrwydd, a Sancteiddrwydd, ac yn wrthwyneb [Page 24] neb i Dduw, iddynt eu hunain, ac i titheu, a allant hwy fod yn ddoethion trosot ti, y rhai ydynt yn ffol tyostynt eu hunain? Neu gyfeillion iti, y rhai ydynt yn dinistrio eu hunain? Neu dosturio wrth dy Enaid ti, pan ydynt hwy yn gwneuthur gwatworgerdd o'i damnedigaeth eu hunain? A fydd iddynt hwy dy helpio di i'r Nefoedd, y rhai ydynt yn rhedeg mor ffromwyllt i uffern? Dewis gymdeithas wêll, os mynnit ti fod yn wêll.
20. Na farna o fuchedd sanctaidd yn ôl yr hyn yr wyti yn ei glywed, canys nis gellir moi hadnabod hi felly (f) profa hi tros amser ac wedi hynny barna megis ac yr wyt ti yn cael achos. Na ddywed yn erbyn y pethau nis gwyddosti, ped fuasit ti ond byw mewn Cariad Duw, ac mewn ffydd fywiol o ddidrangc ogoniant, ac hyfrydwch sancteiddrwydd, ac ofn uffern, ond am un Mis neu, ddiwrnod; ac â chyfryw galon, yn (g) taflu ymmaith dy bechod, ac yn galw ar Dduw, ac yn trefnu dy Deulu mewn modd sanctaidd, yn enwedig ar ddydd yr Arglwydd, yr wyfi yn llyfasu dywedyd yu hyf, profiad a'th cymmhellai di i (h) gyfiawnhau buchedd sanctaidd. Ond etto rhaid i mi ddywedyd iti, nid gwir sancteiddrwydd ydyw hi, os wyt ti ond ei phrofi hi mewn rhai pethau, a (i) chadw o'r neilldu bethau eraill. Os Duw gan hynny a'th argyoeddodd di mai hon yw ei ewyllys ef ai ffordd, yr wyfi yn dy dynghedu di, megis yn ei bresennoldeb [Page 25] ofnadwy ef, (k) nac oeda ddim hwy, eithr bydded iti fwriadu, a rhoi i fynu dy hun yn hollawl i Dduw megis dy Dâd Nefol, dy jachawdwr, a'th sancteiddiwr, a gwna Gyfammod tragwyddol ag efo, a'r pryd hynny efe a'i holl drugareddau fyddant yn eiddo ti, ei [...]âs ef a'th helpia di, a'i drugaredd ef a'th pardyna di, ei weinidogion ef a'th hyfforddant di, a'i bobl ef a weddiant trosotti, ac a'th cynnorthwyant, ei Angelion ef a'th gadwant di, a'i yspryd ef a'th cyssura, a'th ddiddana di a phan dderfydd y cnawd, ac y bydd rhaid i ti ymadael a'r byd hwn, dy jachawdwr y pryd hynny a dderbyn dy Enaid ti, ac a'i dwg hi i fod yn gyfrannog o'i ogoniant ef; ae efe a gyfyd dy gorph di, ac a'th gyfiawnha di yngŵydd y byd, ac a'th gnwaiff di yn gyd-stâd â'r Angelion; a thi fyddi fyw yngolwg a chariad Duw, ac yn nhragwyddol hyfrydwch ei ogoniant ef: Hyn ydyw diwed ffydd a sanchteiddrwydd. Ond os tidi ydwyt yn caledu dy galon, ac yn gwrthod trugaredd, gwae (l) t [...]agwyddol fydd dy ran di, ac yna ni bydd jachâd.
Ac yn awr Ddarllennydd, yr wyfi yn dymuno arnat, ac yr wyf yn dymuno gan Dduw ar fyngliniau, a'r i'r ychydig eiriau hyn suddo i'th calon di, ac a'r iti i darllein hwynt trostynt a throstynt drachefn, ac ystyria megis dyn y bydd rhaid iddo ar fyrder farw. Oes neb yn haeddu dy gariad ti a'th uf, dd dod [Page 26] di yn fwy nâ Duw? A'th goffa diolchgar di yn fwy nâ Christ? A'th ofal di a'th ddiwydrwydd yn fwy nâ'th jechydwriaeth? Oes yr un dedwyddwch yn fwy dymunol nà'r Nefoedd? Neu'r un trueni yn fwy ofnadwy nag uffern? Neu oes dim iw ystyried yn fwy nâ hwnnw yr hwn sydd dragwyddol? A dàl hyfrydwch cnawdol tros ychydig ddyddiau am golled o'r Nefoedd, ac o'th Enaid anfarwol? Neu a fydd dy bechod ti ath lwyddliant ti yn felys wrth farwolaeth, ac yn nydd y farn? Megis ac yr wyt ti yn ddyn, ac megis fyth yr wyt yn credu fod Duw, a byd i ddyfod, ac megis yr wyt ti yn gofalu tros dy Enaid, pa un fydd a'i cadwedig neu ddamnedig, yr wyfi yn dymuno arnat, yr wyf yn gorchymmyn iti, meddwl am y pethau hyn! Meddwl am danynt unwaith yn y dydd o'r lleiaf. Ystyria hwynt a'th feddyliau mwya sobr a difrifol! Nid gwatworgerdd mor Nefoedd, ac nid brathiad chwannen mo uffern! Na wna watworgedd o jechydwriaeth, neu o ddamnedigaeth! Mi a wn dy fod ti yn byw mewn byd ynfyd, cynddeiriog, p'le y gelli di glywed rhai yn chwerthin ar y cyfryw bethau a'r rhai hyn, ac yn gwawdio buchedd sanctaidd, ac yn taflu gwradwyddiadau atcas ar y duwiol, ac yn llawen yn yfed, a chwarau, a chweleua ymmaith ei hamser, ac wedi hynny dywedyd, yr ymddiriedant hwy i Dduw am eu heneidiau, a gobeithiant fod yn gadwedig â llai o drafferth! Eithr os yr holl ddynion hyn ni newidiant eu meddyliau, a bod ar fyrder yn ddidrwst, ac oni chwenychent fwyta eu geiriau, a dy muno darfod iddynt hwy fyw buchedd sanchtaidd, er y buasei hynny yn dwyn arnynt hwy wradwy [Page 27] a chystudd yn y byd, bydded i mi ddwyn gwradwydd twyllwr tr [...] fyth. Ond os ydyw Duw a'th gydwybod ti yn tystiolaethu yn erbyn dy bechod ti, a dywedyd i ti mai buchedd sanctaidd sydd oreu, nac ystyria gwrthddywediad y byd gwallgofus, yr hwn fydd wedi meddwi â dichellion y cnawd: Eithr dyro i fynu dy Enaid a'th fywyd i Dduw trwy Jesu Grist mewn Cyfammod ffyddlon! Nac oeda ddim hwy ddyn, eithr bwriada yn llwyrfryd, bwriada yn anghyfnewidiol; a. Duw fydd yn eiddoti, a thi a fyddi yn eiddo iddo ef tros fyth Amen, Arglwydd trugarha wrth y pechadur hwn, ac felly bydded i'r bwriad hwn fod trwot ti ynddo ef.
II. Rhannau ac ymarfer Buchedd Sanctaidd er addysg Personawl a Theuluaidd.
Y cwbl ni (a) ddarfu gwedi i ddynion ddechreu buchedd sanctaidd, grefyddol; pob pren ac fydd yn blodeuo nid yw yn prifio yn ffiwythlawn, a phob ffrwyth nid yw yn cynnyrchu, yn dyfod i berffeithrwydd. Llawer fydd yn syrthio ymmaith, y rhai a dybid [Page 28] eu bod Wedi dechreu yn dda; a llawer sydd yn dianrhydeddu enw Crist trwy eu Tramgwyddiadau, a'i Gwendidau: Llawer sydd yn tristau Calonnau eu dysgawdwyr, [...]c yn aflonyddu yn alarus Eglwys Crist trwy eu hanwybodaeth, ai amryfuseddau trwy fod yn ddoethion yn eu tŷb eu hunain, yn afreolus, yn gyndyn, yn ymrystongar, yn ymbleidio, ac yn amrafaelio: Yn gymmaint a bod (b) gelyniaeth, ac angariad Cristianogion yn rhwystrau mawrion i droedigaeth y byd diffydd, a chennedlic trwy osod allan y ffydd Gristianogol iw dirmyg a'i gwatwargerdd hwynt, megis ped fae hi ond amryfused dynion mor aflan a bydol, a beilchion ac eraill y rhai nis gallant fyth gyttuno yn eu plith. eu hunain: A llawer trwy eu gwyniau a'i hunangeisiad ydynt yn faich ar y Teuluoedd a'r cymydogion lle y maent yn byw: Ac yn fwy trwy eu gwendidau, a'i gwyniau mawrion ydynt yn faglau, gorthrymderau, a beichiau arnynt eu hun [...]in. Pan ydyw y Grefydd Gristianogol yn ei gwir drefnid, yn fywydo'r cyfryw sanctaild (c) oleuni a chariad, o'r cyfryw burdeb a heddwch, o'r cyfryw ffrwythlonder a Nefoldeb, megis a phed fae yn ol hynny wedi ei gosod allan ymmywyd Cristianogion, hi a orchymynnei aruthredd a pharch oddiwrth y byd, ac a wnai chwaneg iw troi hwynt, nâ chleddyfau, ie nag y gall geiriau yn unig wneuthur. Ac a wnai Cristianogion yn fuddiol ac yn hawddgar y naill i'r llall: [Page 29] A'i bucheddau yn wledd ac yn hyfrydwch iddynt eu hunain. Yr wyfi yn gobeithio y bydd yn ryw help i'r Dibennion rhagorol hyn, os myfi mewn ychydig Hyfforddiadau iachus, profedig a agoraf i chwi ddyledswyddau buchedd Cristianogol.
1. cedwch fyth wir (d)ffurf At [...]rawiaeth Cristianogol, Dymuniad a dyledswydd, yn brintiedig ar eich meddyliau, hynny yw, Deellwch hi yn eglur ac yn wahanedig, a chofiwch hi, fy meddwl yw, pwngciau mawrion crefydd sydd gynnhwysedig mewn Catechisms. Chwi a ellwch fyth gynnyddu mewn Deall eglurach o'ch Catechisms ped faech yn fyw gant o flynyddoedd. Na fydded y geiriau yn unig, ond y matter mor gartrefol yn eich Meddyliau, ac yw stafellau eich Tŷ. Y cyfryw (e) wybodaeth dwys a'ch sefydla chwi yn erbyn twyll ac anghrediniaeth, ac a fydd fyth o'ch mewn chwi yn help barod i bob grâs, a phob dyledswydd; megis a [...] y mae cyfarwyddid y creftwr iw waith ef: Ac o herwydd eifieu hyn pan ydych yn dyfod ymmlith rhai digred neu Hereticiaid, eu dadleuon hwy a dybier gennych chwi eu bod yn ddiatteb, ac a yscydwant, oni ddidymchwelant eich ffydd chwi; a chwi yn hawdd a gyfeiliornwch mewn pwngciau llai, ac a flinwch yr Eglwys a'ch breuddwydion a'ch dadleuon. Hyn ydyw trueni neu ddinystr llawer o Broffeswyr, tra yr ydynt yn barnu eraill ymmhob Dadl ynghylch Matterrion [Page 30] on Egwysig, hwy nid ydynt yn gwybod yn dda Athrawiaeth y Catechism.
2. Byddwch fyw beunydd trroy ffydd ar (f)Jesu Grist megis y Cyfryngwr rhwng Duw a chwi. Gwedi eich seilio yn ffydd yr Efengyl, a deall swydd Crist gwnewch ddefnydd o hono fyth yn eich holl eisieu. Meddyliwch ar gariad Ta dol Duw, megis yn dyfod attoch chwi trwyddo ef yn unig: Ac ar yr yspryd megis gwedi ei roddi crwyddo ef eich pen, ac a'r Gyfammod gras megis wedi ei wneuthur a'i selio trwyddo ef, ac ar y weinidogaeth megis wedi ei danfon trwyddo ef, ac ar yr holl amserau a chynnorthwyon, a gobaith megis wedi eu cael ai rhoddi trwyddo ef. Pan ydych yn meddwl am bechod, a gwendid, a themptasiwnau, meddyliwch hefyd am ei râs digonol ef, fydd yn maddeu, yn cyfiawnhau, ac yn gorchfygu. Pan wyt ti yn meddwl am y byd, y cnawd ar cythrael, meddwl pa fodd y mae efe yn eu gorchfygu hwynt. Bydded i Athrawiaeth ef, a siampl ei berffeithaf fywyd ef, yn wastadol och blaen chwi megis eich Rheol. Yn eich holl ammeuon, ac ofnau, ewch atto ef yn yr yspryd, ac at y Tâd trwyddo ef, ac ef yn unig. Cymmerwch ef megis gwreiddyn eich bywyd a'ch trugareddau, a byddwch fyw megis arno ef a thrwy ei fywyd ef, a phan ydych yn marw, rhowch i fynu eich Eneidiau iddo ef, fel y bo iddynt hwy fod gydag ef lle y mae efe, a [Page 31] gweled ei ogoniant ef. Byw ar Grist a gwneuthur defnydd o hono ymmhob eisieu, a chyrchu at Dduw a galw arno, mwy vdyw nâ chreduniaeth gyffredinol Terfyscus ynddo ef.
3. Felly credwch yn yr yspryd Glan, megis ac i (g)fyw a gweithio trwyddo ef, megis ac y mae'r corph trwy'r enaid. Ni (h) fedyddiwyd monoch iw enw ef yn ofer; (ond ychydig sydd yn deall y meddwl a'r rheswm o hono.) Crist a ddanfonodd yr yspryd i wneuthur dau waith mawr. I. At yr Apostolion a'r prophwydi iw (i) hysprydoli hwynt yn ddidwyll i bregethu'r Efengyl, a'i chadarnhau hi trwy withiau a'i thystiolaethu hi i'r oesoedd a ddeuei, yn yr scrythrau sanctaidd. 2. Ar ei holl (k) aelodau, iw goleuo a'i sancteiddio hwynt, i gredu, ac ufuddhau i'r Athrawiaeth sanctaidd hon, (heb law ei ddawn cyffredinol ef i lawer iw ddeall a'i phregethu hi.) (l) Gwedi darfod i'r yspryd yn gyntaf draethu 'r Efengyl, mae efe trwyddi yn gyntaf yn adgenedlu ac wedi hynny yn rheoli yr holl wir ffyddloniaid. Ni roddir mono ef yn awr i ni i ddatcuddio Athrawiaethau newyddion, ond i ddeall ac ufyddhau i r Athrawiaeth a ddatcuddiwyd, ac a seiliwyd er ys talm o amser ganddo ef. Megis ac y mae 'r haul trwy ei rinwedd melus, a gwahanol yn rhoddi ac yn magu bywyd naturiol pethau a theimlad a bywyd ynthynt; felly y mae Crist trwy ei (m) yspryd ein bywyd [Page 32] ysprydol ni. Megis nad ydych chwi yn gwneuthur yr un gwaith naturiol ond trwy eich bywyd naturiol, felly ni ddylaech chwi wneuthur yr un ysprydol ond trwy eich bywyd ysprydol. Rhaid i chwi nid yn unig gredu, a charu, a gweddio trwyddi, ond trin eich holl alwedigaeth trwyddi; canys Sancteiddrwy [...]d i'r Arglwydd sydd raid ei scrifennu ar y cwbl; pob peth a sancteiddir i chwi, o herwydd eich bod chwi wedi eich sancteiddio i Dduw. Rhowch y cwbl iddo ef, ac arferwch y cwbl iddo ef, ac am hynny rhaid i chwi wneuthur y cwbl yn nerth a chyfarwyddyd yr yspryd.
4. Byddwch (n)fyw yn hollawl ar Dduw. Megis oll yn oll, megis achos cyntaf a Rheolwr pennaf, a diben eithaf pob peth. Bydded i ffydd, gobaith a chariad fod yn ymborthi beunydd arno ef. Bydded Ein Tâd yr hwn wyt yn y Nefoedd fod yn scrifennedig yn gyntaf ar eich calonnau, fel y bo iddo ef ymddangos yn drahaw [...]dgar i chwi, ac y bo i chwi yn hŷ ymddiried iddo, a bod cariad plentyn yn ffynnon dyledswydd. Gwnewch ddefnydd o'r Mâb a'r vsprydd i'ch tywys chwi at y Tâd, ac o ffydd yn Grist i ennyn ac i gadw yn fyw gariad Duw, Cariad Duw ydyw ein prif sancteiddrwydd ni, ac a elwir yn enwedigol, efe a drwythau [ein San [...]teiddrwydd] at ba un nid yw ffydd yn Grist, ond y modd. Bydded eich diben pennaf chwi, yn astudio Crist, i weled daioni, cariad, haw [...]garwch Duw ynddo ef. Duw yn da [...]nio nis cerir-mono mor hawdd, a Duw gras [...]ol heddychol. Mae gennych [Page 33] gymmaint o'r yspryd, ac sydd gennych o gariad i Dduw; hwn yw dawn priodol yr yspryd i holl feibion Duw trwy fabwysiad, peri iddynt, â chariad ac hyder plentyn, i lefain, Abba, Dâd. Na adnabyddwch, na chwennychwch, na cherwch greadur yn y byd, ond yn unig megis tan Dduw! Hebddo ef, byded yn ddim i chwi, eithr megis y druch heb yr wyneb, neu lethyrennau gwascaredig heb yr ystyr, neu megis corph heb'r Enaid. Na (o) elwch ddim yn hawddfyd, neu hyfrydwch, ond ei gariad ef; na dim yn adfyd neu druen [...], ond ei ddigllonedd ef, a'r achos a'r ffrwythau o honi pan fo dim yn ymddangos yn hawddgar ac yn ddymunol yr hwn sydd yngwrthwyneb iddo ef, gelwch hy [...]ny yn (p) dom! A gwrandewch ar y dyn hwnnw, megis (q) Satan, neu'r Sarph a fynnei eich denu chwi oddiwrtho ef; a chyfrifwch ef ond gwagedd, prŷf, a llwch, yr hwn a fynnei eich dychrynu chwi oddiwrth eich dyledswydd euag atto ef. Ofnwch ef yn fawr, ond cerwch ef yn fwy. Bydded (r) cariad yn enaid, ac yn ddiwedd pob dyledswydd arall. Diwedd a rheswm o'r lleill i gyd ydyw; ond nid oes ganddi ddim diwedd neu reswm, ond ei gosygyn ai gwrthrych na feddyliwch am un Nefoedd arall, a diwedd, a dedwyddwch i ddyn, ond cariad y weithred olaf, a Duw y gwrthddrych olaf. na fydded eich crefydd chwi. mewn dim ond cariad Duw ynghyd a'i moddion a'i ffrwythau. Na pherchennogwch yr un tristwch, [Page 34] chwant, neu lawenydd, ond cariad yn galaru, yn ceisio, ac yn llawenhau.
5. Byddwch fyw mewn ffydd a gobaith o'r Nefoedd, a(s)cheisiwch hi megis eich rhan a'ch diwedd. Ymhyfrydwch beunydd eich eneidiau mewn rhagfeddyliau o ddidrangc olwg a cha [...]iad Duw. Megis ac a gwelir Duw ar y ddaiar ond megis mewn drych, felly yn gyfattebol y mwynheir efe, Ond pan dderfydd i gariad alaru, a cheisio, a phechod a gelynion wedi eu gorchfygu, a ninnau yn gweled Gogoniant Duw yn y Nefoedd, hyfrydwch cariad y pryd hynny fydd yn berffaith. Chwi ellwch chwennychu mwy ar y ddaiar nag a ellwch chwi obeithio am dano. Na edrychwch am deyrnas o'r byd hwn, nac am fynydd Zion yn y diffaithwch. Mae Crist yn teyrnasu ar y ddaiar megis Mose [...] yn y Gwersyll, i'n tywys ni i wlâd yr Addewid: Ein dedw [...]ddwch perffaith ni fydd, pa [...] roddir y deyrn [...]s i'r Tâd, a Duw fydd oll y oll. Ammau neu feddwl dieithr, digalon am y Nefoedd, dwfr ydyw wedi ei dywallt a [...] y tân sanctaidd, i ddiffodd eich sanctaiddrwydd, a'ch llawenydd chwi. A fedrwc [...] chwi ymdeithio un dydd cyfan at y cyfryw ddiwedd, a byth heb feddwl am y lle yr ydych yn myned atto? Pan fo'r ddaiar ar y goreu, nid Nefoedd fydd. Nid ydych chwi yn byw ddim pellach trwy ffydd, fe [...] Cristianogion nag yr ydych yn byw naill a'i am y Nefoedd yn ei cheisio hi, neu ar y Nefoedd mewn gobaith a llawenydd.
[Page 35]6. Ymegniwch i wneuthur crefydd yn (t)hyfrydwch i chwi. Edrychwch yn fynych ar Dduw, ar y Nefoedd, ar Grist, ar yr Yspryd, ar yr Addewidion, ar eich holl Drugareddau, ewch tros eich Profiadau. A meddyliwch pa achos o hyfrydwch uchel sydd fyth o'ch blaen chwi, ac mor anweddaidd ydyw, ac mor niweidiol i'ch proffess chwi ydyw, bod un yr hwn sydd yn dywedyd, ei fod ef yn gobeithio am y Nefoedd, etto yn byw mor brûdd a'r rhai hynny nad oes ganddynt ddim gobaith uwch nà'r ddaiar. Diau y dyn hwnnw a ddylai fod yn llawn o lawenydd, yr hwn a gaiff fyw yn llawenydd y Nefoedd tros fyth. Yn enwedig llawennychwch pan ydyw Cenhadau marwolaeth yn dywedyd i chwi, fod eich llawenydd didrangc chwi yn agos. Os nad ydyw Duw, a'r Nefoedd, gydâ ein holl drugareddau ni yn y ffordd ya ddigon o reswm am fywyd llawen, nis gall fod yr un. Ffieiddiwch bob adroddiad yr hwn a fynnei wneuthur crefydd i ymddangos yn suchedd blin prûdd. A chymerwch ofal na osodoch chwi moni allan felly i eraill, canys ni wnewch chwi monynt hwy fyth, i fod mewn cariad â hynny, nad ydych chwi yn ei wneuthur iddynt yn hyfryd ac yn hawddgar. Nid megis y Rhagrithŵr, trwy gymmell a llunio at ei feddwl a'i hyfrydwch cnawdol, ond dwyn i fynu y galon i gyttundeb sanctaidd ag hysrydwch crefydd.
[Page 36]7. Gwiliwch megis am eich Eneidiau yn erbyn y byd hwn sydd yn gwenhieithio ac yn (u)temptio, yn enwedig pan ydis yn ei osod ef allan megis yn fwy melus a hyfryd nâ Duw, a sancteiddrwydd, a'r Nefoedd. Y byd hwn gydà ei hyfrydwch, ei olud, ai anrhydedd, yw'r peth y mae Satan yn rhoi yn y clorian, yn erbyn Duw, a sanchteiddrwydd, a'r Nefoedd. Ac ni chaiff neb well nag y mae efe yn ei ddewis, a'i gyfrif yn oreu. Mae'r abwyd yn llithio y rhan anifeiliaidd, pan ydyw Rheswm yn cyfgu. Ac os trwygymmorth y synhwyrau cnawdol y caiff y deyrngader, yr anifail a farchoga ac a reola 'r dyn; a rheswm aiff yn gaeth-wâs ir awyddfryd gnawdol. Pan ydych yn clywed y Sarph, gwelwch ei golyn ef, a gwelwch farwolaeth yn canlyn y ffrwyth gwaharddedig. pan ydych yn codi, edrychwch i wared, a gwelwch eich cwymp! Ei reswm ef yn gystal a'i ffydd sydd yn wan, yr hwn am y cyfryw ffoledd, megis rhwysc a gwagedd y byd, a feder anghofio Duw ai enaid, a marwolaeth, a'r farn, Nefoedd ac uffern, ie ac yn ystyriol a orchymmyn iddynt sefyll heibio Pa wybodaeth neu brofiad all wneuthur daioni ar y dyn hwnnw, yr hwn a anturia cymmaint am y cyfryw fyd, yr hwn y mae pawb ac a'i profodd ef yn ei alw yn wagedd yn y diwedd? Mor alarus gan hynny ydyw cyflwr dyn bydol? Oh ofnwch y byd pan fo yn gwenu, neu yn ymddangos yn felus [Page 37] ac yn hawddgar. Na cherwch mono, os ydych yn caru eich Duw a'ch Eneidiau.
8. Ffowch oddiwrth brofedigaethau a chroeshoeliwch y (x) cnawd, a chedrwch reolaeth barrhaus ar eich chwantau a'ch synhwyrau. Llawer trwy syndod dirybudd trachwant a syrthiasant yn gywilyddus. Gwedi darfod i'r rhai hyn trwy gynnefindra ddysgu bod yn chwannog ac yn daer, yn gyffelyb i gi newynllyd, neu faedd chwantus, nid dymuniad, neu bwrpass diog a farweiddia, neu ai rheola hwynt! mor beryglus ydyw cyflwr y dyn hwnnw yr hwn sydd ganddo y fath anifail awyddus yn wastadol iw attal? Os efe a esceulusa ei wiliadwriaeth ond am un awr, mae efe yn barod iw fwrw ef yn bendramwnwgl i uffern. Pwy all fod yn ddiogel yn hir sefyll ar ddibyn mor ofnadwy? Dagrau a thristwch llawer o flynyddoedd, yn fynych nis gallant adnewyddu y golled yr hon y gall un awr neu weithred ddwyn. O hyn mae siampl ofnadwy Dafydd a llawer o rai eraill yn ein Rhybuddio ni. Gwybyddwch beth ydyw hwnnw yr ydych chwi yn fwyaf tueddol iddo, pa un a'i trachwant, a seguryd, neu ormodedd mewn bwydydd, neu ddiodydd, neu chwarau, ac yno gosodwch eich gwiliadwriaeth cryfaf i'ch cadw yn ddilwgr. Ymrowch beunydd i farweiddio y trachwant hwnnw, a nedwch i naturiaeth anifeiliaidd, neu chwant orchfygu Rheswm. Etto na ymddiriedwch, i bwrpassen yn un [...]c, ond ymmaith oddiwrth [Page 38] brofedigaeth. Na chyffwrdd, ie nac edrych ar yr hyn a fo yn temtio, cadw yn ddigon pell oddiwrtho, os ydwyt yn chwennych bod yn ddiogel. Pa drueni sydd yn dyfod oddiwrth ddechreuad bychan? Profedigaeth sydd yn tywys i bechu, a phechodau bychain at bechodau mwy, a'r rhai hynny at uffern! Ac nid ydyw pechod ac uffern i chwareu a hwynt! Agorwch eich pechod neu eich profedigaeth i ryw gvfaill, fel y bo i gywilydd eich achub chwi rhag perygl.
9. Cedwch i fynu Reolaeth parhaus cywraint ar eich (y)gwyriau a'ch tafodau, I'r diben hwn cedwch gydwybod dyner yr hon a fydd yn pigo, yn gofidio pan fo'ch yn pechu yn un o'r rhain. Bydded i wyniau sanctaidd gael eu iawn drefnu, ac i wyniau hunan cnawdol gael eu hattal. Bydded i'ch tafodau wybod eu dyledswyddau i Dduw ar i ddyn, ac Ymegniwch i fod yn gywraint, ac ymrowch iw Cyflawni hwynt. Gwybyddwch holl bechodau y tafod, fel y bo i chwi i gochel hwynt, canys eich diniweidrwydd a'ch heddwch chwi sydd yn sefyll yn fawr ar ddoeth Reolaeth eich tafodau.
10. Rheolwch eich (a) meddyliau â diwydrwydd parhaus Cywraint. Neilltuwch eich hunain yn fynych i fyfyrio yn ddifrifol. Ymddiddennwch a'ch cydwybodau ac a'ch Duw, gydâ 'r hwn y [Page 39] mae eich gorchwyl mwyaf chwi! Gosodwch eich meddyliau ar waith a rheolwch hwynt, nedwch iddynt redeg ar wagedd ammerthynol. O nas gwyddech pa orchwyl beunyddol sydd gennych iddynt! Y rhan fwyaf o ddynion ydynt annuwiol, wedi eu twyllo a'i hanrheithio, o herwydd eu bod hwy yn anystyriol, ac nis llefasant, neu ni arferant eu rheswm o'r neilldu ac yn sobr; neu hwy a'i harferant ef ond megis caethwas mewn cadwynau yngwasanaeth eu gwyniau, eu chwantau, a'i bûdd eu hunain. Ni bu efe eriod yn ddoeth, neu dda, neu ddedwydd yr hwn ni bu yn fobr ac yn ddiduedd yn ystyriol. Pa fodd i fod yn ddaionus, i wneuthur daioni, ac yn ddiweddaf i fwynhau daioni a ddylai gymmeryd i fynu einholl feddyliau ni. Cedwch hwynt yn gyntaf yn sanchtaidd, vna yn gariadus, yn lân, ac yn ddiwair. A cheryddwch hwynt yn fuan pan ydynt yn edrych at Bechod.
11. Bydded (b)amser yn dra gwerthfawr yn eich golwg chwi, ac yn ofalus ac yn ddiwŷd prynwch ef. Pa frŷs y mae efe yn ei wneuthur? Ac mor fuan yr aiff heibio? Ac yna mor uchel y prifir ef, pan nad ellir fyth alw yn ôl un munud o hono? O pa Orchwyl pwysfawr sydd gennym ni i bob munud o'n hamser, ped faen ni yn cael byw fil o flynyddoedd! Na chymmerwch fod y dŷn hwnnw yn ei iawn bwyll, neu yn adnabod ei Dduw, ei ddiwedd, ei waith, neu ei berygl, yr hwn [Page 40] sydd ganddo amser iw hebcor. Prynwch yr amser nid yn unic oddiwrth chwarauon, a chellwair, a seguryd, rhodres, a gormodedd o gysgu, siarad gwag, a bydoldeb, ond hefyd oddiwrth rwystrau daioni llai, y rhai a'ch rhwystrau chwi oddiwrth ddaioni mwy. Treuliwch amser, megis dynion sydd yn barod i fyned i fyd arall ym mha le y bydd rhaid cyfrif am bob munud o hono, ac y bydd gydà nyni tros fyth megis ac a buom ni fyw ymma; nedwch i iecnyd eich twyllo chwi i ddisgwyl byw yn hir, ac felly i ddiofalwch ansynniol. Gwelwch eich glas-awr yn rhedeg, a chedwch gyfrif o'r amser yr ydych yn ei d [...]eulio. A threuliwch ef yn union megis ac y mynnech ei atgofio ef gwedi ei ddarfod.
12. (c) cerw [...]h bob maeth ar ddynion yn en amryw gyflyrau, a gwnewch cymmaint o dd [...]ioni iddynt ac a alloch Rhaid ini garu Duw yn ei holl greaduriaid, ei ddelw naturiol ef ar bo [...] dyn, ai ddelw ysprydol ar ei Sainct. Rhaid i ni garu ein Cymydog megis ein hunain naturiol hynny yw, Ein Cymydog naturiol megis ein hunain naturiol, â chariad o ewyllys da, an Cymydog ysprydol megis ein hunain ysprydol, â chariad o fodlonrwydd. Yngwrthwyneb i fodlonrwydd, ni a allwn gasau ein Cymodog pechadurus, megis y rhaid i ni [Page 41] gasau ein hunain pechadurus (yn llawer mwy.) Ond yngwrthwyneb i ewyllys da ni ddylem ni gasau ein hunain, ein Cymydog, na'n gelyn. O nas gwyddei dynion pa gymmaint o Gristianogrwydd sydd yn sefyll mewn cariad, ac yn gwneuthur daioni! A pha lygaid y maent hwy yn darllen yr Efengyl, y rhai nid ydynt yn gweled hyn ymmhob dalen? Ffieiddiwch yr holl hunan gariad hwnnw, balchder, gwŷn, y rhai ydynt elynion i gariad, a'r opinionau hynny, ac ymbleidiau. ymranniadau, a barnu, a rhoi drygair, y rhai a'i dinistriant hi. cymmerwch ef sydd yn dywedyd yn ddrwg am arall wrthych heb achos cyfiawn a galwad, fod yn gennad i'r cythrael i ddymuno arnoch gasau eich brawd, neu i leihau eich cariad. Canys eich perswadio chwi fod dyn yn ddrwg, sydd yn amlwg yn eich perswadio chwi cyn belled a hynny iw gasau ef. Ceryddwch enllibiwyr y rhai ydynt yn dywedyd yn ddrwg am eraill. Na wnewch niwed i neb, na ddywedwch yn ddrwg am un dyn, oddieithr i hynny fod nid yn unig yn gyfiawn, ond yn anghenrheidiol i rwy ddaioni mwy. Cariad hawddgar ydyw. Y rhai ydynt yn caru a gerir. Bod yn casau ac yn niweidiol sydd yn gwneuthur dynion yn atcas. Car dy gymydog megis ti dy hun; ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt hwy yr un fsunyd, Luc 6. 31. Mat. 7. 22. Ydynt y Rheolau auredd o'n dyledfwydd tuag at ddynion, y rhai sydd raid eu bod yn scrifennedig yn ddyfn ar eich Calonnau. Lle y bo hyn yn ddiffygiol, nid oes dim mor gau, mor greulon, yr hy [...] nad ellwch chwi gael eich denu i feddwl neu ddywedyd, neu wneuthur yn erbyn eich brodyr. Byddwch morchwannog [Page 42] chwannog i wneurhur daioni i bawb, ac ydyw, gweision Satan i wn [...]uthur niweid, ar hyn nis geliwch chwi wneuthur eich hunain, ceisiwch annog eraill i wneuthur, rhoddwch lyfrau da, a denwch hwynt at y moddion, y rhai sydd debyccaf i wneuthur daioni iddynt.
13. Ceisiwch ddeall ammodau union cymmundeb Eglwysig, yn enwedig [...]ndeb yr Eglwys gyffredinol, a'r Cymmundeodotb cyffretinol, yr hwn sydd rail i chwi ddal â'r holl rannau, a'r rhagoyiaeth rhwng yr Eglwys megis gweledig ac anwele [...]ig. O herwydd ddiffyg y rhai hyn, mor alarus ydyw 'r naillduaeth ac ymbleidio sydd yn ein plith ni? Darllennwch yn fynych, 1 Cor. 12. ac Eph. 4. 1. hyd y 17. Joan 17. 21, 22, 23. Act 4. 32. ac 2. 42. 1 Cor. 1. 10, 11, 13. ac 3.3. Rhuf. 16. 17. Phil. 2. 1, 2, 3, 4. 1 Thes. 5. 12, 13. Act 20. 30. I Cor. 11. 19. Tit. 3. 10. Jag. 3. Col. 1. 4. Heb. 10. 25. Act 8. 12, 13, 37 1 Cor. 1. 2, 13. ac 3. 3, 4. 11. 18, 21. Astudiwch y rhai hyn yn dda. Rhaid ydyw bod gennych undeb a chymmundeb mewn ffydd a chariad a'r holl Gristianogion yn y byd. Ac na wrthodwch gymmundeb Meawl, pan fo gennych alwad cyfiawn, cyn belled ac y maent heb eich cymmhell i bechu. Bydded eich cyfarfod arferol chwi gydâ yr EgIwys buraf, os y chwi all yn gyfraithlon (ac fyth edrychwch ar y daioni cyhoeddus:) ond weithian ar achosion byddwch gyfrannogion gydâ Eglwysydd diffygiol, beius, os ydynt yn wir Gristianogion, ac heb eich gyrru chwi i bechu, fel y bo i chwi felly ddangos eich bod chwi yn eu perchennogi hwynt megis Cristianogion, er eich bod chwi yn gwrthod eu llygredig, [Page 43] redigaethau hwynr. Na feddyliwch fod eich presennoldeb chwi yn gwneuthur holl feiau y weinidogaeth, Addoliad, neu bobl i fod yn eiddo chwi (canys yna ni unwn ni ag yr un Eglwys yn y byd) gwybyddwch megis ac y mae'r Eglwys ddirgel yn cydsefyll o rai fydd yn gwneuthur cyfammod o'r galon, felly y mae'r Eglwys weledig yn cydsefyll o rai fydd yn gwneuthur cyfammod ar air y rhai ydynt yn gwneuthur proffess gredadwy o gyttundeb: Ac mae natur a'r scrythur yn ein dyscu ni i gymmeryd gair pob dyn megis yn gredadwy, hyd oni bydd anffyddlondeb yn fforfettio ei gredit ef; y fforflfed hon sydd raid ei phrifio, cyn y gellir cymmeryd yr un proffes sobr yn hawl anddigonol. Na (d) rwgnechwcb yn erbyn cymmundeb yr un Cristion sydd yn proffessu yn yr Eglwys. weledig. Er y bydd rhaid i ni wneuthur ein rhan i fwrw allan y diedifeiriol cyndyn trwy reolaeth Eglwys, (yr hyn onis gallwn ni wneuthur, y bai nid ydyw yn eiddo ni) nid ydyw presennoldeb Rhagrithwyr yn niweidiol, ond yn fynych yn drugaredd i'r rhai pûr, os amgen mor fychan a fyddai 'r Eglwys yn ymddangos yn y byd. Rhagorfreintiau oddiallan sydd yn p [...]rthyn i'r rhai sydd yn gwneuthur cyfammod oddillan, a thrugareddau oddi [...]ewn i'r rhai pûr, gwahanedigaeth (e) ymranniad sydd yn archolli, ac yn tueddu at farwolaeth. Casewch hynny megis ac yr ydych yn caru iechyd yr Eglwys neu eich eiddo eich hunain: Y doethineb sydd oddi uchod yn gyntaf pûr ydyw, wedi hynny heddychol. Fyth na [Page 44] wahenwch yr hyn a gyssylltodd Duw. Doethineb ddaiarol, gnawdol, cythreulig sydd yn peri cenfigen chwerw, a chynnen a [...] ymryson, a therfysc a phob gweithred ddrwg. Gwyn eu bŷd y tangneddyfwyr.
14. Gochelwch (f)falc [...]der, a hunan gariad mewn crefydd. Os unwaith y chwi a brisiwch yn ormod eich dealltwriaeth eich hunain, eich opinionau anaeddfed, ach camgymeriadau mawrion a fyddant yn hyfryd gennych, megis rhyw oleuni uwchlaw naturiaeth: Ac yn lle tosturio wrth y gwan, chwi a fyddwch yn afreolus, ac yn dirmygu eich Tywysogion; a barnu vn ddibris bawb a fo yn anghyttuno, yn wrthwyneb i chwi, ac yn Erlidwyr o honynt os bydd gallu gennych; ac a feddyliwch bawb yn anoddefol nad ydynt yn eich cymmeryd chwi megis [...]yngor Duw, ach geiriau chwi megis cyfraith. Nag anghofiwch ddarfod i'r Eglwys ddioddef yn oestadol gan Broffesswyr afreolus, chwannog i sarnu ar un llaw, (ac oh pa rwygiadau, ymrsonau, a thramgwyddiadau a ddarfu idd [...]nt hwy eu peri!) yn gystal a chan yr halogedig a'r Erlydwyr ar y llall. Gochelwch y ddau, a phan ydyw ymrysonau ar droed, byddwch yn llonydd ac yn ddistaw, ac nid yn rhy bryssur a chedwch i fynu zêl tros gariad a heddwch.
15. [...]yddwch ffyddlawn a chydwybodus yn eich holl(g)Berthyrnasei. Anrhydeddwch, ac ufyddhewch i'ch Rhieni ac eraill afo uwch na chwi. [Page 45] Na ddiystyrwch, ac na wrrhwynebwch Reolaeth, os ydych yn dioddef yn anghyfiawn trwyddynt hwy, ymddarostyngwch am y pechodau hynny, y rhai ydynt yn peri i Dduw droi eich amddyffynwyr i fod yn Orthrymwyr, ac yn lle grwgnach a gwrthryfela yn eu herbyn hwynt, diwygiwch eich hunain ac yna gorchymynnwch eich hunain i Dduw. Deiliaid a gweision, a phlant sydd raid iddynt ufyddhau i'r rhai hynny sydd nwch eu llaw hwynt, megis swyddwyr Duw.
16. Cedwch i fynu reolaeth Duw yn eich (h)Teuluoedd. Teuluoedd sanctaidd achubwyr rhan crefydd yn y byd ydynt. Darllenwch yr scrythur a ll [...]frau da iddynt hwy. Ymddiddenwch â hwynt yn ddifrifol ynghvlch cyflwr eu heneidiau, a bywyd tragwyddol, gweddiwch yn daer gydâ hwynt, Gwiliwch arnynt yn ddiwyd; byddwch ddigllon yn erbyn pechod, ac yn llariaidd yn eich achos eich hunain; byddwch yn siamplau o ddoethineb, ac ammynedd; A chymerwch ofal ar fod dydd yr Arglwydd yn cael ei dreulio mewn pa [...]atoad sanct [...]idd erbyn Tragwyddoldeb.
17. Triniwch eich (i)galwedigaethau mewn sancteiddrwydd a phoen. Na fyddwch yn byw mewn seguryd, na fyddwch yn segurllydd yn eich gwaith. Pa un bynnag a'i rhwym a'i rhydd ydych. Yn chwys eich aeliau y bydd rhaid i chwi fwyta bara, a gweithio chwe diwrnod, fel y bo gennych iw roi i'r hwn sydd [Page 46] mewn eisi [...]u. Rhaid i'r [...]orph (sydd yn gullu) gael llafur cymn [...]wys yn [...]stal a'r enaid, ac os amgen y corph a'r enaid ni fyddant iachus. Ond [...]dded i'r cwbl fod ond megis llafur trafaeliwr,ae edrychwch at Dduw a'r Nefoedd yn y cwbl.
18. Nac yspeiliwch monoch eich hunain a' r lleshad sydd iw gael oddiwirth (k)fugail cymmwys ffyddlawn, ir hwn y g [...]wch agor eich cyflwr yn ddirgel, neu o'r lleiaf o(l)gyfaill sanctaidd ffyddlon: Ac na ddigiwch wrth eu (m)ceryddon rhâi hwy [...]t. Gwae i'r hwn sydd unic! Mor ddall a thueddol ydym ni yn ein achos ein hunain, ac mor anhawdd ydyw adnabod ein hunain heb cynnhorthwywyr Cymmwys ffyddlon! Yr ydych yn fforffettio y drugaredd fawr hon pan ydych yn caru gwenhiethiwr, ac yn ddigllon yn amdeffyn eich pechod.
19. (n) Paratowch erbyn clefyd, dioddefiadau, a marwolaeth. Na phrisiwch yn ormod lwyddiant, na ffafor dyn. Os bydd dynion yn prifio yn ffugiol, ac yn greulon tuag attoch chwi, sef y rhai hynny oddiar llaw y rhai yr oeddech yn haeddu gwell, na ryfeddwch wrth hynny, ond gweddiwch tros eich gelynion, erlidwyr, a slandwyr, a'r i Dduw droi eu calonnau hwynt, a maddeu iddynt. Pa drugaredd ydyw ein bod ni yn cael ein gyrru oddiwrth y byd at Dduw pan ydyw cariad [Page 47] y byd yn berygl mwyaf [...]r Enaid. Byddwch barod i farw, ac yr ydych yn barod i bob rhyw beth. Gofynwch i'ch calonnau yn ddifrifol, beth yw'r peth y bydd arnan ei ddiffyg yn awr marwolaeth? Ac ar frys ceisiwch hynny yn barod, ac nid bod o honoch iw geisio yn amser eich cyf [...]ng [...]er.
20. ceisiwch Ddeall llwybreiddrwydd heddwch [...]ydwybod, ac na fernwch o gyflwr eich eneidiau ar Resymmau twyllodrus. Megis ac y mae gobeithion rhyfygus yn cadw dynion rhag troi, ac yn eu gwneuthur hwynt yn hŷf i bechu: Felly y mae ofnau diachos yn rhwystro ein cariad ni a moliant Duw, trwy dywyllu ei hawddgarwch ef: Ac maent yn dinistrio ein diolchgarwch, a'n hyfrydwch yn Nuw, ac yn ein gwneuthur ni yn faich i ni ein hunain, ac yn dramgwydd mawr i eraill. Y Rhesymmau cyffred [...]nol och holl gyssur chwi, ydynt 1. Grasusol (o) natur Duw, 2. (p) Digonolrwydd Crist. Ac 3. Gwirionedd a (q) chyffredinrwydd yr addewid, yr hwn sydd yn rhoddi Crist a bywyd i bawb, os hwy ai derbyniant ef; Ond y derbyniad hwn sydd yn profi eich hawl neilltuol heb yr hwn nid yw y rhai hyn ond trwmhau eich pechod chwi. Cyttundeb â chyfammod Duw ydyw'r gwir ammod a phrawf o'ch hawl i Dduw megis eich Tâd, Jachawdwr, a Sancteiddiwr, ac felly i fendithion iachusol y Cyfammod: Yr hwn gyttundeb os byw yn hwy a wnewch rhaid iddo [Page 48] ddwyn allan y dyledsyddau y rhai yr ydych yn cyttuno iddynt. Yr hwn sydd yn cyttuno o'r galon a'r fod Duw yn Dduw iddo ef, yn Achubwr ac yn sacteiddiwr iddo ef, sydd mewn cyflwr o fywyd. Ond mae'r cyttundeb hwn yn cynnwys (r) gwrthodiad o'r byd. Llawer o wybodaeth, a choffadwriaeth, ac ymadrodd, a serchiadau bywiol, ydynt i gyd oll yn ddymunol iawn. Ond ni wasanaetha i chwi farnu eich cyflwr wrrh yr un o'r rhai hyn, canys nid ydynt oll yn siccr, Ond, 1. Os Duw, a sancteiddrwydd, a'r Nefoedd sydd yn cael y c [...]frif uchaf eich barn weithrerdol chwi, megis yn cael eu cyfrif yn oreu i chwi. 2. Ai cyfrif yn well yn newis a bwriad eich ewyllys, a hynny o flaen holl hyfrydwch y byd. 3. Ac [...]s byddwcn chwi yn eu ceisio hwynt vn gyntaf ac yn bennaf; hwn sydd yn [...]rawf didwyll o'ch sancteiddiad chwi.
Gristion, ar hir, a difrifol asturtrwydd, a profiad yr wyf yn gorchymmyn yr hyfforddiudau hyn i ti, megis ffordd Duw yr hon a ddiwedda mewn dedwyddwch, yr Arglwydd a wnelo i ti ymroi ac a'th nertho di i ufyddhau iddynt. Hyn ydyw gwir dduwioldeb, a hyn ydyw bod yn grefyddol mewn gwirionedd. A hyn oll nid yw ddim amgen nâ bod yn ddifrifol yn gyfryw, megis ac y mae pawb yn ein plith mewn geiriau cyffredinol yn proffessu eu bod. Hen yw'r Grefydd a wna ragoriaeth rhwngoch a Rhagrithwyr, yr hon, a'ch sefydla chwi, yn anrhydedd i'ch proffess, [Page 49] ac yn fendith i'r rhai hynny sydd yn preswylio o'ch amgylch. Dedwydd yw'r wlâd, yr Eglwys, y teulu sydd yn cydsefyll o'r cyfryw rai a'r rhai hyn: Nid yw y rhai hyn nac yn erlid, Nac yn gwahanu 'r Eglwys, neu yn gwneuthur eu crefydd yn wasanaethgar iw cyfrwystra, iw dibennion uchel hwynt, neu iw chwantau cnawdol, neu yn ei gwneuthur yn fegin terfysc neu wrthryfel, neu o zêl cenfigennus niweidiol, neu yn rhwyd i'r gwirion, neu yn Bistol i saethu ar yr union o galon. Y rhai hyn ni buont yn gwilydd iw proffes, ni caledasant ddynion annuwiol, a digred, ac ni pharasant i elynion yr Arglwydd gablu: os gwna neb Grefydd o'i drachwantau, o greulondeb pabaidd, neu o rith duwiolde [...], neu o'i opinionau neilltuol, neu o farn ryfygus, a diystyrwch o eraill, ac o derfysc, a gwahaniadau, ac ymbleidiau, a neilltuadau direswm, ac o sefyll mewn pellder mwy nodadwy oddiwrth proffesswyr cyffredinol Cristianogrwydd, nag a fynnei Duw iddynt hwy, Neu etto o dynnu i fynu wrŷch, neu gae trefn-eglwys a gosod gwinllan Crist yn un a'r anialwch, Tymm [...]estl sydd yn dyfod, pan fydd i'r grefydd hon a adeiladwyd ar y tywod syrthio, a'l chwymp fydd mawr. Er bod crefydd yr hon sydd yn cydsefyll mewn ffydd a chariad i Dduw a dyn, yn marweiddio y cnawd, ac yn croeshoelio'r byd, mewn hunan ymwadiad, gostyngeiddrwydd, ac ymmynedd, mewn ufydd-dod pur, a ffyddlondeb ymmhob perthynas, mewn hunan reolaeth wiliadwrus, yn gwneuthur daioni, ac mewn bywyd Duwiol a Nefol, yn cael ei chasau gany byd annuwiol, etto y, grefydd hon ni bydd byth yn ddianrhydedd i'ch Harglwydd, ac ni thwylla hi mo'ch eneidiau Chwitheu.
Catechism Byrr o waith Mr. RICHARD BAXTER, Wedi ei gasclu allan o'i lyfr ef i Deuluoedd Tlodion.
Cwestiwn I.
PA beth yw y Grefydd Gristianogawol?
Atteb.
Y Grefydd Gristianogawl yw y Cyfammod y wnaer mewn Bedydd, ac a gedwir a'r ol hynny; ym mha gyfammod y Mae Duw'r Tad, y Mâb, a'r Yspryd Glân, yn rhoddi ei Hunan i fod yn Dduw ac yn Dâd heddychlon i ni, ac i fod yn Jachawdwr ac yn Sancteiddiwr i ni; ac yr ydym ninneu o'n rhan ni vn rhoddi ein hunain i fynu trwy ffydd iddo yntef; gan ymwadu a'r Cnawd, y bŷd, a'r Cythrael. Ac y mae 'r Cyfammod hwn iw adnewyddu yn fynnych, ond yn enwedigol yn y Sacrament o Swpper yr Arglwydd.
Cwestiwn 2.
Ym mhâ Ie y mae ein rhan ni o'r cyfammod a'n Dyled-swydd wedi ei Egluro yn helaethach?
Atteb.
Yn y Gredo megis swm y Pethau sydd iw credu. 2. Yng-weddi'r Arglwydd [Page 51] megis swm y pethau sydd iw Dymuno. 3. Ac yn y Dêg Gorchymyn (fel y rhoddwyd hwy gan Grist, ynghyd ag efangylaidd eglurhaad o honynt) megis swm y pethau sydd i ni iw gwneuthur a'u harfer. Ac Dymma hwynt-hwy yn canlyn.
Y Credo.
CRedaf yn Nuw Dâd oll gyfoethawg, Creawdwr nêf a daiar: Ac yn Jesu Grist ei un mâb ef, ein Harglwydd ni. Yr hwn a gaed trwy yr yspryd Glân, a aned o Fair forwyn: A ddioddefodd dan Pontius Pilatus; a groeshoeliwyd, a fu farw, ac a gladdwydd, a ddescynnod i uffern, y trydydd dydd y cyfododd o feirw; a escynnod ir Nefoedd, ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw Dduw Dâd oll gyfoethawg, oddi-yno y daw i farnu byw a meirw. Cred [...]f yn yr yspryd Glan, yr Eglwys lân Gatholic, cymmun y Sainct, maddeuant pechodau, cyfodiad y cnawd, ar bywyd tragwyddol. Amen.
Gweddi 'r Arglwydd, Mat. 6.
FIN Tad yr hwn wyt yn y Nefoedd, sancteiddier dy enw. Deled dy deyrnas: gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaiar hefyd: Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol; a maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr: Ac nac arwain [Page 52] ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg: Canys eiddot ti yw'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
Y Deg Gorchymmyn, Exod. 20.
DuW a lefarodd yr holl eiriau hyn gan ddywedyd, myfi yw yr Arglwydd dy Dduw; yr hwn ath ddug di allau o wlad yr Aiphr, o dŷy caethiwed.
- I. Na fydded it dduwiau eraill ger fy mron i.
- II. Na wna it ddelw gerfiedig, na llûn dim ar y sydd yn y Nefoedd uchod, nac ar y sydd yn y ddaiar isod; nac ar y sydd yn y dwfr tan y ddaiar: Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: Oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw wyf Dduw eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd ar bedwaredd genhedlaeth o'r rhai am casant: Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd, o'r rhai am carant, ac a gadwant fyngorchymynion.
- III. Na chymmer enwyr Arglwydd dy Ddnw. yn ofer: Canys nid dieuog g [...]n [...]r Arglwydd, yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.
- IV. Cofia y dyd [...] Sabboth iw sancteiddio ef. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith? ond y seithfed dydd yw Sabboth yr Arglwydd dy Dduw: Na wna ynddo ddim gwa [...]th, tydi, na'th fab, na'th serch, na'th wasanaethwr na'th wasanaeth-serch, nath anifail, nath ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth: o herwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y Nefoedd a'r ddaiar, y môr, a'r hyn oll sydd, ynddynt. aca orphwysodd y seithfed [Page 53] dydd: Am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Sabboth, ac ai sancteiddiodd ef.
- V. Anrhydedda dy dâd a'th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaiar, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi ti.
- VI. Na ládd.
- VII. Na wna odineb. VIII. Na ledratta.
- IX. Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.
- X. Na chwennych dŷ dy gymmydog; na chwennych wraig dy gymmydog, na'i wasanaethwr, na'i wasanaeth-ferch, na'i ŷch, na'i assyn, na dim ar sydd eiddo dy gymmydog.
Cwestiwn 3.
ym mhâ Lè yr agorir yn gyflawn ac y cwbl gynnhwysir y Grefydd Gristianogol?
Atteb:
Yn yr yscrythur lân; ond yn enwedic yn y Testament Newydd: Lle gan Grist, a'i Apostolion, a'i Efangylwyr, a ysprydoliaethwyd trwy ei yspryd ef, y traddodir yn ddigonol yr Histori ynghylch Crist a'i Apostolion, lle y perffeithir yr Addewidion, a'r Athrawiaethau y sydd iw credu, ac yr agorir yn dra-eglur y cyfammod o Râs, ac yr ordeinir Swyddogion eglwysig, ynghyd ag Addoliad, a Disgyblaeth yr Eglwys: Ac yng-wy [...] odaeth y rhain, fe ddichon y Cristianogion cryfa gynnyddu tra font byw ar y Ddaiar.
Catechism Byrr i'r rhai hynny a Ddyscasant y Cyntaf.
Cwest. 1.
Beth ydych chwi yn y gredu ynghylch DUW?
Atteb.
Y mae un unig Dduw, yn Yspryd, aneirif ei fywyd, annherfynnol yn ei ddeall, a'i ewyllys, tra perffaith alluog, doeth a da; y Tâd, y Gair a'r Yspryd: Creawdwr, Rheolwr a diwedd pob peth; ein perchennog hollawl, ein Rheolwr tra Chyfiawn, a'n Tâd tra grasusol a thra hawddgar.
Cw [...]st. 2.
Beth yr ydych yn ei gredu am y c [...]eadigaeth, a natur dyn, a'r Ddeddf yr hon a roddwyd iddo ef?
Atteb.
Duw a greodd yr holl fyd: Ac a wnaeth ddyn ar ei ddelw ei hun, Gen. 1.26. Yn yspryd cyssylltedig â chorph, mewn bywyd, Deall, ac Ewyllys, gydâ bywiowgrwydd sanctaidd, doethineb, a chariad, i adnabod a charu, a gwasanaethu ei Greawdwr yma ac yn dragywydd: Ac a orchymynnodd iddo fwytta o bob pren o'r ardd, ond gwarafunodd iddo fwytta o hren gwybodaeth, tan boen marwolaeth, Gen. 2. 16, 17.
Cwest. 3.
Beth yr ydych chwi yn ei gredu am Gwymp dyn i bechod a thrueni?
Atteb.
Dyn gwedi ei demtio gan Satan, trwy bechu o'i wirfodd, a syrthiodd oddiwrth ei sancteiddrwydd, ei ddiniweidrwydd, a'i ddedwyddwch tan gyfiawnder a digofaint Duw, tan felldith a damn [...]digaeth y gyfraith, a chaethiwed y cnawd, y byd, a'r cythrael; oddiwrth yr hwn y mae natur [...]echadurus, euog, a thruenus yn ymwascaru tros holl ddynol ryw: Ac ni ddichon yr un creadur ein gwaredu ni.
Cwest. 4.
Beth yr ydych chwi yn ei gredu ynghylch prynedigaeth dyn trwy Jesu crist.
Atteb.
Felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei unig anedig fâb, Joan 3. 16. i fod yn Jachawdwr iddynt. Yr hwn ac efe yn Dduw, ac yn un a'r Tàd, a gymmerodd ein natur ni ac aeth yn ddyn, a gaed trwy yr yspryd Glan, a aned o fair forwyn, ac a alwyd Jesu crist. Yr hwn oedd yn berffaith sanctaidd, heb bechod, efe a gvflawnodd bob cyfiawnder; ac a orchfygodd y cyth [...]ael, â'r byd, ac a roddodd ei hun yn Aberth tros ein pechodau ni, trwy ddiod lef marwolaeth felltigedig ar y Groes i'n prynu ni, ac i'n cymmodi ni â Duw; ac a gladdwyd, ac a aeth ymmlith y Meirw: Y trydydd dydd efe a adgyfodod, gan orchfygu marwolaeth, a selio y cyfammod newydd [...]a'i waed, e [...]e a orchymynnodd iw Apostolion, a Gwenidogion eraill, i bregethu 'r Efengyl i'r holl fyd; ac addawodd yr yspryd Glan; ac yna efe a dderchafodd i'r Nefoedd, ymmhale y mae efe yn Dduw ac yn ddyn, yn Ben gogoneddus uwch-law pob pech iw Eglwys, a'n cyfryngwr nerthol ni gyda Duw yr Tâd.
Cwest. 5.
Beth ydyw 'r Testament Newydd, neu Gyfammod, neu Gyfraith Grâs?
Atteb.
Duw trwy Jesu Crist sydd yn rhadroddi i holl ddynol ryw, ef ei hun i fod yn Dduw ac yn Dad wedi cymmodi â hwynt, ei fâb i fod yn Jachawdwr iddynt, a'i yspryd sanctai [...]d i fod yn sancteiddiwr iddynt, os hwy a gredant ac a dderbyniant y dawn, ac a roddant i fynu eu hunain iddo ef yn ôl hynny; gan edifarhau am eu [...]echodau, a chydsvnio i ymwrthod a'r cythrael, y byd a'r cnawd, ac yn ddi-ragrith (er nad yn berffaith) i ufuddhau i Grist, a'i yspryd ef hyd y diwedd, yn ôl cyfraith natur, a'i Athrawiaethau Efangyladd ef, fel y bo iddynt hwy gael eu gogoneddu yn y Nefoedd yn dragwyddol.
Cwest. 6.
Beth ydych chwi yn ei gredu am yr yspryd Glân?
Atteb.
Duw yr Yspryd Glan a roddwyd gan y Tâd a'r Mâb i'r prophwydi, Apostolion, ac Efangylwyr i fod yn Tywysog didwyll iddynt i bregethu ac i scrifennu athrawiaeth Jechydwriaeth; ac i fod yn dŷst o'i siccr wirionedd hi trwy ei amrvw dduwiol weithrediadau. Ac efe a roddir i fywoccau, i oleuo, a sancteiddio yr holl wir ffyddloniaid, ac iw hachub hwynt rhag y cythrael y byd a'r cnawd.
Cwest. 7.
Beth yr ydych chwi yn ei gredu am yr Eglwys sanctaidd Gatholic, cymundeb y Sainct, a Maddeuant pechodau?
Atteb.
Pawb sydd yn wir yn cydsynnio a'r cyfammod a wnaethpwyd yn y Bedydd, ydynt un Eglwys sanctaidd neu gorph Crist a chymmundeb ganddynt yn yr un yspryd o ffydd, [Page 60] a chariad, a maddeuant ganddynt o'i holl bechodau; a phawb sydd trwy fedydd yn weledig yn gwneuthur cyfammod, ac sydd yn parhau i broffesu Cristianogrwydd a sancteiddrwydd ydynt o'r Eglwys Gatholic ar y ddaiar; ac rhaid iddynt gadw cymmundeb sanctaidd gydâ chariad a heddwch mewn Eglwysydd neilltuol yn yr Athrawiaeth, Addoliad, a threfn Gorchymynedig neu osodedig gan Grist.
Cwest. 8.
Beth yr ydych yn ei gredu am yr Adgyfodiad a bywyd Tragwyddol?
Atteb.
Ar farwolaeth Eneidiau y rhai a gyfiawnhawyd ant i ddedwyddwch gydâ Christ, ac eneidiau y rhai annuwiol ant i drueni. Ac yn niwedd y byd hwn, Crist a ddaw mewn Gogoniant, ac a gyfyd gyrph pawb oddiwrth farwolaeth, ac a farna bob dyn yn ol eu gweithredoedd. A'r rhai cyfiawn ant i fywyd tragwyddol, ym mhale wedi eu perffeithio, hwy a gant weled Duw, ac yn berffaith hwy ai carant ac ai moliannant ef gydâ Christ a'r holl Eglwys ogoneddus; a'r lleill i gospedigaeth dragwyddol.
Cwest. 9.
Chwi a ddywedasoch i mi beth yr ydych chwi yn ei gydsynnied ac yn ei gredu: Dywedwch i mi yn awr beth ydyw llawn fwriad a dymuniad eich ewyllys, ynghylch yr hyn oll yr ydych chwi yn ei gredu?
Atteb.
Gan gredu yn Nuw 'r Tâd, y Mâb, a'r yspryd Glan, yr wyf yn ebrwydd, yn hollawl, ac yn llwyrfryd yn rhoi fynny fy hunan iddo ef, fyngreawdwr, am duw, am Tâd heddychol wedi cymmodi a myfi, fy jachawdwr, [Page 61] ac fy sancteiddiwr. A chan edifarhau am fy mhechodau yr wyf yn ymwrthod a'r cythrael, y byd, a dymuniadau pechadurus y cnawd: A chan ymwadu a mi fy hun, a chyfodi fyngroes, yr wyf yn cyttuno i ddilyn Crist, Tywysog fy jechydwriaeth, mewn gobaith o'r grâsa'r gogoniant a addawyd. Yr wyfi beunydd yn ei ddymuno ac yn ei grefu, megis ac y dyscodd ef i mi, gan ddywedyd [Ein Tad yr hwn wyt yn y Nefoedd, &c.]
Cwest. 10.
B [...]th ydyw 'r ymarfer hwnnw i'r hwn yr ydych yn ymrwymo trwy 'r cyfammod hwn?
Atteb.
Yn ôl cyfraith Natur, ac Athrawiaethau Crist rhaid i mi (gan chwennych perffeithrwydd) yn bûr ufuddhau iddo ef mewn bywyd o ffydd, a gobaith, a chariad, gan garu Duw megis Duw, er ei fwyn ei hun vwchlaw pawb, a charu fy hun megis ei weinidog ef, yn enwedig fy enaid, a cheisio ei sancteiddrwydd ai jechydwriaeth, a charu fy ngymydog megis mi fy hun. Rhaid i mi ochelyd pob deIw-addoliaeth meddwl neu gorph, ac rhaid i mi addoli Duw yn ôl ei Air, trwy ddyscu a myfyrio ar ei air; trwy weddio, rhoddi diolch, a moliant, ac arferu ei Sacrament ef: Rhaid i mi arferu yn sanctaidd ei enw sanctaidd ef ac nid ei halogi. Rhaid i mi gadw yn sanctaidd ddydd yr Arglwydd, yn enwedig mewn cymmundeb gydâ chynulleidfaodd Eglwysig. Rhaid i mi anrhydeddu ac ufyddhau i'm Rhieni, Swyddogion, Bugeiliaid, a Rheolwyr eraill. Rhaid i mi ochelyd niweidio [Page 62] fy ngymmodog, mewn meddwl, gair, neu weithred, yn ei enaid, ei gorph, ei ddiweirdeb, ei ystâ [...], cyfiawnder, neu hawl; eithr gwneuthur iddo ef gytnmaint o ddaioni ac a allwyf, a gwneuthur i arall megis ac y mynnwn i arall wneuthur i mi yr hyn sydd wedi ei grynoi i fynu yn y deg Gorchymyn. [Duw a lefarodd y geiriau hyn, &c.]
Gweddi blaen a Byrr iw harfer mewn Teuluoedd, foreu a hwyr.
HOllalluog a thra grasusaf Dduw, yr hwn wyt yn gweled pob peth! y Bŷd a'r hyn ôll sydd ynddo, a greuwyd, a gynhelir, ac a drefnir gennit ti: Yr wyt ti yn bresennol ym mbôb mann, gan fod yn fwy nag enaid i'r holl fŷd.
Er dy fod ti yn ddatcuddiedig yn dy dra rhagorol ogoniant, ir rhai hynny yn vnig y sy'n presswylio yn y nêf: Etto y mae dy râs di yn oestadol ar waith ar y ddaiar, i gymhwyso dynion ir Gogoniant hwnnw.
Ti a'n gwnaethost ni, nid megis yr Anifeiliaid a ddifethir, ond ag Eneidiau anfarwol gennym, i'th adnabod, a'th geisio, a'th wasanaethu di ymma, ac ar ôl hynny, i fyw gyda 'r holl rai bendigedig, i feddiannu golwg tragwyddol ar dy Nefol Ogoniant di, a digonolrwydd o lawenydd oddiwrth dy berffaith Gariad a'th foliant.
[Page 63]Eithr y mae cywilydd arnom feddylied, mor ynfyd, ac mor bechadurus yr anghofiasom, ac y dibrisiuasom ein Duw a'u Eneidiau, a'n gobaith o anfarwoldeb gwynfydedig; gan osod ein serch yn ormod ar bethau, y gweledig a'r difflannedig Fŷd presennol, ac ar hawdd-fyd a digrifwch ein Cnawd llygredig, yr hwn a wvddom ni y gorfydd arno droi i bydredd a llŵch.
Ti a roddaist i ni Gyfraith gyfiawn a da, i'n cyfarwyddo ni yn yr unic ffordd i fywyd; a phan ddinistriasom ein hunain trwy bechod, Ti a roddaist i ni Iachawdwr, sef dy Air tragywyddol, yr hwn a wnaethpwyd yn Ddŷn, yr hwn a'n heddychodd ni â thydi trwy ei fywyd sanctaidd, a'i chwerw ddioddefeint, ac a bwrcassodd i ni iechydwriaeth, ac a'i datcuddiodd hi i ni hefyd, yn well nag y gallase un Angel o'r Nef ei wneuthur, pe danfonasit ef attom ni bechaduriad ar y cyfryw Gennadwri.
Eithr och leied cyfrif a wnaethom ni o'n Achubwr! Ac o'r holl gariad hwnnw a ddangosaisti trwyddo ef! A lleied a feddyliasom, ac y ddeallasom am y Cyfammod o Râs, a wnaethosti trwyddo ef a cholledic ddynol ryw, ac och leied yn enwedic yr ufyddhasom iddo!
Eithr ô Dduw, Bydd drugarog wrthym ni bechaduriaid gwael a thruain! A maddeu i ni ein holl lygredigaeth naturiol, ac ynfydrwydd ein ieuengctid, a holl anwybodaeth, esceulusdra, diffygion, a throseddiadau ein bywyd: A dyro i ni wir Edifeirwch am danynt, heb yr hon ni a wyddom na faddeui di mo honynt hwy.
Nid yw'n bywyd ni ond megis cyscod sy'n myned heibio, ac nid oes ond ennyd fechan [Page 64] hyd oni bydd raid i ni ymadel â'r bŷd hwn, ac ymddangos o'th flaen di, i roddi cyfrif am a wnaethom ni ymma, ac i fôd dros fŷth mewn cyflwr megis ac y rhag baratoesom ni ymma.
Ped faem ni 'n marw, cyn i ti droi 'n calonnau ni, oddiwrth ein cnawd, a'r bŷd pechadurus attat ti trwy wir Ffydd, ac Edifeirwch, ni fydd [...]m colledig tros fŷth.
Oh Gwae ni ein geni erioed, os tydi ni faddeni ein pechodau, ac ni 'n gwnei yn Sanctaidd cyn darfod y byrr a'r ansiccr fywyd hwn!
Pe bae gennym ni holl olud a melus-wedd y bŷd hwn, hwy a'n gadawent ni ar fyrder mewn mwy tristwch.
Ni a wyddom nad vw ein holl fywyd ni, ond amser a ganniattaodd dy drugaredd di, i ni i ymbaratoi ynddo erbyn awr Angeu: ac am hynnv nis dylem ni oedi ein Hedifeirwch a'n paratoad hyd ein clàf wely: Yn awr gan hynny ô Arglw [...]dd, megis pe baem yn dywedyd ein geiriau diweddaf, yr ydym yn daer yn deisyf arnat, yn r [...]ssol i faddeu ein pechodau, ac i'n sancteiddio, trwy haed [...]edigaethau ac erfvnniad ein Achubwr Jesu Ghrist!
O Tydi yr hwn a dosturiaist wrth bechaduriaid gresynol, ac a gedwaist cynifer mil o honynt, tosturia wrthym ninneu hefyd, a chadw ni, fel y gallom ogoneddu dy râs di dros fŷth.
Yn ddiammeu nid wyt ti yn ymhoffi ym marwolaeth pechaduriaid, ond yn hvttrach ar iddynt ddychwelyd a byw: Pe buasit ti anewyllysgar i ddangos Trugaredd, ni phrynasit ti mo honom ni â phris mor werthfawr; ac ni ddeisyfiafit ti arnom ni cyn fynyched i ymheddychu [Page 65] â thydi: Nid oes gennym achos i wanffyddio dy wirionedd neu 'th ddaioni di; eithr yr ym ni'n ofni, rhac cael o honom ein difetha gan Anghrediniaeth, a balchder, a rhagrith, a chalon fydol gnawdol. O cadw ni rhac Satan, a'r byd hudolaidd hwn, ond yn enwedigol rhagom ein hunain. Dysc i ni wadu pob annuwioldob a chwantau cnawdol, a byw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y bŷd sydd yr awron.
Gwna i ni ymdrechu i wneuthur hyn yn orchwyl penaf i ni beunydd, sef i ryngu bodd i ti, i drossori Tryssorau yn y Nêf, i siccrhau i ni'n hunain fywyd gwynfydedig gydâ Christ, ac i ymddiried yn heddychlon i ti am ein heneidlau a'n cyrph.
Gwnâ ni'n ffyddlon yn ein galwadigaethau, ac yn ein dyledswyddau tuag at eu gilydd, a thuag at bawb, sef ein blaenoriaid, ein cydràdd, a'r neb a fyddo yn is—râdd inni. Bendithia y Brenhin a phawb sy mewn Awdurdod, fel y gallom fwy bywyd llonydd ac heddychol, mewn pob Duwioldeb ac onestrwydd.
Dyro Weinidogion doeth, sanctaidd, ac heddychlon i holl Eglwysi Crist, a chalonnau sanctaidd a thangnefeddus i'r bobl: Tro attati y Cenhedloedd sydd yn Ddi-ffydd yn y Bŷd.
Yn y Borau.
AMddiffyn ni, cyfarwydda ni, a bendithia ni y dydd heddyw, yn ein holl ffyrdd a'n gorchwylion cyfreithlon, a chadw ni rhag malis Satan a dynion drwg, a rhag y drygau y mae'n pechodau yn barod i dynu ar ein gwartha; Fel y gallom ni yn yr hwyr, roddi i ti ddiolchgarwch llawen, trwy Jesu Grist ein Iachawdwr.
Yn yr Hwyr.
AMddiffyn ni y nôs hon rhag pob math o ddrwg, a dyro i'n cyrph a'n heneidiau y fath esmwythder, ac a'n cymmhwyso ni i orchwylion y dydd sy'n canlyn er mwyn Jesu Grist ein Iach [...]wdwr.
A gwna i ni, ac i'th holl bobl, geisio o flaen dim Sancteiddiad dy enw di, a dyfodiad dy Deyrnas di, a gwneuthur dy ewyllys d [...] ar y ddaiar megis yr ydys yn ei wneuthur yn y nef; Dyro i ni ein Bara beunyddiol, sef pob peth angenrheidiol i fywyd a duwioldeb, a phâr i ni fod yn fodlon i hynny.
Maddeu i ni ein pechodau beunyddiol, a bydded dy Gariad a'th Drugaredd di yn ein cymmell ni, i'th garu di yn fwy nâ phob peth arall, ac er dy fwyn di, i garu ein cymmydogion megis ein hunain, ac yn ein holl weithredoedd tuag attynt, i wneuthur cyfiawnder a Thrugaredd, megis y dymunnem ni i eraill wneuthur i ninneu.
[Page 67]Cadw ni rhac profedigaethau niweidiol, rhac pechod, a rhac dy farne [...]igaethau; a rhag malis ein gelynion ysprydol a chorphorol: A bydded i'n holl Feddyliau, a'n Anwydau, a'n Gwyniau, a'n Geiriau, a'n Gweithredoedd, gael eu Llywodraethu trwy dy Air a'th yspryd di, fel y bo'r cwbl er Gogoniant i'th enw di.
Gwna i ni gael hyfrydwch yn ein holl Grefydd a'n hufydd dod; A chaniattâ i'n eneidiau y fath ddifyrrwch yn ein gwaith yn moliannu dy Deyrnas, a'th Allu, a'th Ogoniant, ac y bo hynny yn diogelu, ac yn pereiddio ein llasur y dydd, a'n Cwsc y nos, ac yn ein cadw ni mewn hiraethus a llawen obaith am y Gogoniant Nefol:
A bydded Gràs ein Harglwydd Jesu Grist, a chariad Duw ein Tâd, a Chyfeillach yr yspryd Glân gydâ ni yn awr, ac yn oes oesoedd.Amen.
Gweddi fyrr i Blant a Gwasanaeth Ddynion.
Y Byth fywiol a'r Tra—gogoneddus Dduw, sef y Tâd, y Màb, a'r yspryd Glân! Anfeidrol yw dy Allu, a'th Ddoethineb, a'th Ddaioni di.
Tydi a greaist yr holl Fŷd, ac a brynaift bechadurus a cholledig ddynol ryw, ac a wyt yn sancteiddio by Etholedigion.
[Page 68]Ti a'm gwnaethosti yn enaid byw, ac yn berchennog o reswm, ac ám gosodaisti tros amser yn y Cnawd a'r Bŷd hwn, i'th adnabod, a'th garu a'th wasanaethu di fy Nghreawdwr, â'm holl galon, â'm holl Feddwl, ac â'm holl Nerth, fel y gallwn gyrhaeddyd ar y diwedd y gwobr o Ogoniant Nefol.
Ynghylch hyn y d [...]lasai fod fy ngofal mwyaf, a hwn a ddylasai fod fy ngorchwyl pennaf, a difyrrwch fy holl Fywyd: Yr oeddwn i'n rhwym i hynny trwy dy Gyfraith di: Ac fe'm gwahoddwyd i hynny gan dy Drugaredd di: Ac yn fy Medydd, fo m cyssegrwyd i i'r Fuchedd sanctaidd hon, trwy Gyfammod ac Adduned Parchedig.
Eithr och! Myfi a dorrais y Cyfammod hwnnw, ac a fûm yn rhy—anffyddlon ynddo: Myfi a anghofiais, ac a esceulusais y Duw, yr Iachawdwr, a'r Sancteiddiwr, i'r hwn i'm cyssegrwyd ac i'm rhwymwyd: Ac a fawr wasanaethais y Cythrael, y Bŷd a'r Cnawd, y [...]hai yr ymwedais â hwynt: Fo'm ganwyd i mewn pechod, ac mi fûm byw yn becha [...]urus: Mi fûm rhy—ddiofal am fy Enaid anfarwol, ac am y Gwaith mawr, yr hwn i'm crewyd, ac am prynwyd oi blegid: Myfi a dreuliais lawer o'm hamser gwerthfawr mewn oferedd, ac mewn drwg amcanion, ac i ryngu bôdd fynghnawd llygredig: Ac mi a galedais fy nghalon yn erbyn yr Addysc, trwy yr hon yr oedd dy lân Yspryd a'm Dyscawdwyr, a'm Cydwybod fy hun, yn galw arnaf i edifarhau ac i ddychwelyd attat ti.
[Page 69]Ac yn awr Arglwydd, megis un tan argyhoeddiad, yr wi'n cyfaddef, fy môd yn haeddu cael fyng—wrthod gennit ti, a'm rhoddi i fynu i Drachwant ac ynfydrwydd fy nghalon fy hun, a chael fy mwrw allan o'th bresennoldeb gogoneddus i Ddamnedigaeth dragywyddol.
Eithr, gan roddi o honot Iachawdwr i'r Byd a gwneuthur o honot Gyfraith o râs, gan addaw Maddeuant pechodau, ac iechydwriaeth trwy ei haeddedigaethau ef, i bob gwir gredadyn edifeiriol, yr wyfi â chalon ddiolchgar yn derbyn trugaredd dy Gyfammod yn Jesu Grist.
Yr wyfi 'n ostyngedig yn cyfaddef fy mhechod a'm euogrwydd. Ac yr wi 'n bwrw fy enaid gresynol ar dy Râs di ac ar Haeddedigaethau, ac Aberth, ac eiriolaeth fy Iachawdwr. O Madd [...]u holl bechodau fy nghalon a'm bywyd llygredic. Ac megis Tad heddychlon derbyn fi yn lle un o'th Blant: A dyro i mi dy yspryd i'm hadnewyddu, ac i fod ynofi yn wreiddyn o Fywyd, a goleuni, a chariad sanctaidd; ac i selio a thystiolaethu i'm henaid, fy mod yn eiddoti.
Bydded i'th lân yspryd fywoccau fy nghalon farw, a meddalhau fy nghalon galed: Bydded iddo oleuo fy Neall tywyll, a digred trwy wybodaeth eglurach, a ffydd gadarnach: Troed fy 'wyllys, i fod yn barod i ufyddhau ith sanctaidd ewyllys di: Bydded iddo ddatcuddio im henaid dy dra—ryfeddol gariad yn Grist, [Page 70] a'm ll [...]nwi â chariad tuag atati a'm Prynwr, a thuag ar dy holl sanctaidd Air a th weithredoedd: h [...]d oni ddiffod [...]er ynofi fv holl bechadurus gnaw [...]ol gariad, ac y troer fv meluswedd pechadurus yn hyfryd ddifyrrwch yn Nuw.
Dyro i mi ostyngeiddrwyd ac iselder calon, a pharodrwydd i ymwadu â mi fy hun, a chadw fi rhac y mowrion a'r cas bechodau o Hunangeisio, Bydoldeb, a Balchder.
O Gosod fy nghalon ar Ogoniant y Nêf, lle'r wi'n gobeithio ar fyrder cael byw gydà Christ a'i holl rai sanctaidd, i'th garu, a'th foli, gan dy weled di y Duw caridus er diddanwch i'm Henaid tros fŷth.
Na naccâ i mi y cynnorthwyon a'r Trugareddau, y sydd anghenrheidiol tuag at fy sancteiddrwydd a'm iechydwriaeth. A gwna i mi fyw mewn gwastadol barattoad, erbyn marwolaeth gyssurus a dienbyd: Canys pa lesàd i mi os ennillwyf yr Holl Fŷd, a cholli fy Enaid, a'm Iachawdwr, a'm Duw.
Hyn i Blant.
BYdded dy fendith di ar fy Rhieni a'm Llywodraethwyr: Pâr iddynt fy hyfforddi a'm dwyn i fynn [...] yn dy of [...] di: A gwna i minne dderbyn eu haddysc yn ddiolchgar, a'u caru, a'u hanrhydeddu, ac ufyddhau iddynt, mewn ufydddod i ti.
Cadw fi rhag Maglau drwg gyfeillach, rhag Profedigaethau, a melyswedd ieuengctid; a bydded i mi fod yn gyfaill ir rhai sydd yn dy ofni di.
Gwna i fyfyrdod yn dy Gyfraith di, fod yn hyfrydwch beunyddiol i mi; ac na fydded i mi byth fod a nôd yr annuwiol arnaf, sef, i fod yn caru melyschwant yn fwy nag yn caru Duw. Cynnysgaedda fy ieuengctid â'r fath Dryssorau o Ddoethineb a sancteiddrwydd ac a ddichon gynnyddu beunydd, a chael eu harfer i'th Ogoniant di.
Hyn i wasanaethddynion.
AC megis ac i'm gwnae [...]host yn wasaneth—ddŷn gw [...]a i mi fod yn gydwybodol, ac yn ffyddlon yn fy ngalwadigaeth, ac yn yr hyn yr ymddiriedwyd i mi am dano, ac yn ofalus yrghylch gorchwylion a phethau fy Meistr, megis y byddwn ynghylch yr eiddo fy hun. Gwna i mi fod yn ddarostyngedic ac yn ufydd i'm Llywodraethwyr; cadw fi rhag pen galedrwydd a balchder, rhac grwgnach ac ymadroddion ammharchus, rhag ffalsedd, diogi, a phob math o Dwyll: fel y bo i mi wasanaethu, nid â llygad—wasanaeth gan ryngu bodd i'm nwyf a'm trachwanttau cnawdol; ond gallael o honofi gyflawni fy nyledswydd yn siriol ac yn ewyllysgar g [...]n gredu dy fod ti yn ddialudd ar bob anffyddlondeb. A chaniattâ i mi allu gwneuthur fyng wasnaeth nid yn [...]nig megis i Ddyn, ond megis i tiyr Arglwydd, gan ddisgwyl am fyngwobr pennaf oddiwrthit ti.
[Page 72] A hyn ôll yr wyfi yn ddeisyf ac yn gobeithio eu cael, er mwyn haeddedigaethau a chyfryngdod Jesu Grist, gan ddibennu yn y Geiriau y ddyscodd efe i ni, gan ddywedyd; Ein Tâd yr hwn wyt yn y Nefoedd, &c.
Proffes y Grefydd Gristianogawl wedi ei Hegluro.
I. Y [...] wyfi'n credu fod ûn Duw; yr hwn sydd yn ysprvd annherfynol yn ei Fywyd, ei Ddeall, a'i Ewyllys; yn gwbl-berffaith Alluoc, Doeth, a Da, y Tad, y Gair, a'r Yspryd; Creawdwr, Llywodraethwr, a Diben pôb dim ôll; ein Perchenogwr llwyrgwbl, a'n. Rheolwr trachyfiawn, a Rhoddwr grasusaf y pethau da hynny i ni, ac ydym ni yn eu meddiannu, a'n Da hawddg [...]raf.
II. Yr wyfi 'n credu gwympo o Ddŷn, yr hwn a greuwyd yn yspryd wedi gyssylltu â chorph, ar Iûn Duw, mewn Bywyd, Deall ac Ewyllys, ynghyd a bywiowgrwydd sanctaidd, Doethineb, a chariad, i adnabod, a charu, a gwasanaethu ei Greawdwr yn y Byd hwn, ac yn y Byd y beri byth; yr wyfi'n credu Meddafi, i Ddyn trwy bechu o'i wir fodd, gwympo oddiwrth ei Dduw, ac oddiwrth ei sancteiddrwydd a'i Ddiniweidrwydd, a'i fôd ef yn gorwedd tan ddigofaint Duw, tan felltith, a damnedigaeth y Gyfraith, a chathiwed y Cnawd, y Býd, a'r Cythrael. Ac yr wyfi'n credu ymmhellach, Garu o Dduw y Bŷd yn gymmaint, ac y rhoddodd efe ei unig anedig Fáb i fôd yn Achubwr iddynt: yr hwn, ac efe yn Dduw, ac yn un â'r Tád, y gymmerodd ein natur ni arno, ac a ddaeth i fôd yn Ddŷn; a gaêd trwy yr Yspryd Glân, a anwyd o Fair forwyn, ac a enwyd Iesu: Yr hwn ydoedd yn gwbl-sanctaidd, yn ddi bechod, ac y gyf-lawnodd pôb cyfiawnder [Page 55] a orchfygodd y Cythrael a'r Bŷd, ac a'i rhoddodd ei hun yn Aberth tros ein pechodau ni, trwy ddioddef marwolaeth felltigedic ar y Groes, i'n Prynu ni, ac i'n cymmodi ni a Duw; a gladdwyd, ac a aeth ymmlhith y Meirw, ac a gyfododd drachefn y trydydd dydd, wedi gorchfygu Marwolaeth. Ac efe a gwbl sefydlodd y Cyfammod o Ras, fel ac a dichon pawb, ac a wir edifarhaant ac a gredant gael Cariad y Tád, Gràs y Mâh, a Chymmundeb yr Yspryd Glan; ac os gwir garant bwy Dduw, ac os ufyddhant iddo yn ddiragrirh, hwy a gant eu gogoneddu ganddo yn dragywyddol yn y Nefoedd: Ac fe gaiff yr Anghredadwy, y Di-edifeiriol, a'r Annuwiol fyned i gospedigaeth dragwyddol.
A chwedi rhoddi gorchymyn iw Apostolion i bregethu 'r Efengyl i'r holl genhedloedd, ac addaw danfon yr Ysprvd Glan, efe a esgynnodd i'r nefoedd; lle y mae efe vn Ben gogoneddus vwch-law pob peth i'r Eglwgys, ac yn Eiriolwr sy'n cael ei wrando gan y Tád; yr hwn a dderbyn yno Eneidiau (y rhai a gyfiawnheuir) yn ôl eu ymadawiad â'u Cyrph: Ac a'r Ddiwead y Bŷd hwn, efe a ddaw drachefn, ac a gyfyd yr holl rai Meirw, ac a farna bawb yn ô eu gweithredoedd, ac a gyflawna ei farn yn drachyfiawn.
III. Yr wyfi 'n credu fod Duw'r Yspryd Glân wedi ei roddi gan y Tâd a'r Mâb, i'r Prophwydi, a'r Apostolion, a'r Efangylwyr, i fod yn Arweinydd ac yn Gyfarwyddwr didwyll iddynt, wrth bregethu, a scrifennu Athrawiaeth iechydwriaeth; ac i fod yn Dyst o siccr wirionedd yr Athrawiaeth honno, trwy ei amryw [Page 56] dduwiol weithrediadau; ac i fywoccau, goleuo, a sancteiddio yr holl rai sy'n cywir gredu, fel y gallont orchfygu y Cnawd, y Bŷd, a'r Cythrael. A phawb ar a sancteiddier fel hyn, ydynt vn Eglwys Ián Gatholic i Grist, a rhaid iddynt fyw mewn cymmundeb sanctaidd, ac hwy a gant faddeuant o'u pechodau, a Bywyd tragywyddol.
Gan gredu fel hyn yn Nuw y Tád, y Máb, a'r Yspryd Glán, yr wyfi yn rhoddi fy hunan i fynu iddo yr awr-hon, yn hollawl, ac o lwyrfrŷd calon, sef, i'm Creawdwr, a'm Duw, a'm Tad heddychlon, fy Iachawdwr a'm Sancteiddiwr: A chan edifarhau am fy mhechodau, yr wyfi 'n ymwrthod â'r Cythrael, a'r Bŷd, a phechadurus chwantau y Cnawd: A chan ymwadu â mi fy hun, a chymmeryd i fynu fy nghroes, yr wyfi yn cydsynnio, ac yn cyttuno i ddilyn Crist Tywysog fy iechydwriaeth, mewn gobaith i feddiannu y Grâs a'r Gogoniant y mae fo'n ei addaw.