DEchre 'n gynnar waith sancteiddrwydd;
Preg. 12. 1.
Nid ae byth yn dda 'n rhy ebrwydd:
Dechre 'th shwrne ar foreu-ddydd:
Gochel aros hyd ganol-ddydd.
Da bod Dydd yn hwy nâ r llwybyr:
Tôst bod gwaith heb Ddydd iw wneuthur:
'Rhyn sy 'w wneuthur dwys-ystyria,
Bwedd
pa fodd.
y gwnai di hynny gynta.
Mae it gymaint o fusnesson,
Ac y dreulia 'th holl amseron:
Na fydd segur un diwrnod,
Rhag ir gwaith fod heb ei
Ddibenni.
orfod.
Drwg it roi ir Diawl dy flode,
A Duw 'n aros am dy ffrwythe:
Mae Duw'n haeddu dy wasaneth,
'Rhyn nid yw y Cythrel diffeth.
YN dra boreu
Cyfod.
cwyn i fynu;
Na chaed Haul di ar dy wely:
Ar y canniad cynta o'r ceiliog,
Cyffro 'th hun, ac na fydd ddiog.
Torr dy gysgu ar y wawr-ddydd:
Gochel yspryd
Claiar.
claer di-ddeunydd:
D'amser gochel ei cham-dreulio,
Nid oes dim ac ellych spario.
Amser huno sydd iw gyfri,
Megis amser gwedi golli:
Cysgu bair in' yn ddiamme,
Fyw ond hanner ein blynydde.
[Page 2] Cwyn yn awr, cae gysgu 'th amcan,
Yn y Bêdd, mewn grô a graian.
Am fyfyrdod boreuol a hwyrol.
YN dy gôf bid Duw gorucha,
Psal. 139. 18.
O flaen dim, ac yn ddiwetha:
Cau ac agor dy amrante,
Ps. 63. 6.
Gydag ef, bôb nôs a bore.
Pan yr ae di lawr ith 'smwythder,
Cofia 'r ae di 'n îs ar fyrder:
Ac ar dy foreuol
Gyfodiad.
gwnniad,
Meddwl am yr adgyfodiad.
Fel mae cwsg yn Arwydd Ange;
Felly mae 'n Deffroad ynte,
Yn mynegi 'n hadgyfodiad,
Ni pharhâ mor nôs yn wastad.
Can y Trwmpet, Dydd a wawria:
Y rhai meirw mi dybyga,
Bôd eu hesgyrn yn ymbwnnio,
Ai bôd nhwy yn ymgofleidio.
GWna oll fal am dragwyddoldeb;
Cofia ar fyrr rhaid rhoddi atteb,
Ger bron Barnwr cadarn, cyfion,
Sy'n gweld holl feddyliau 'r galon.
Jer. 17. 10.
Yna rhoer y llyfre allan;
A'th weithredoedd fawr a bychan,
Dat. 20. 12.
Fyddant yno wrth ei cyfri,
Naill a'i 'th Lâdd, neu 'th escusodi.
Bydd fyw felly, fal bo i tithe,
Fôd yn
Eox.
hŷ ger bron y Brawdle,
[Page 3] Pan bo'r hôll weithredwyr gwallys,
Dat. 6. 17
Yno 'n crynu yn
Aruthrol.
echrydus.
Gwel na bo 'th gydwybod awchlym,
Ddydd y Farn yn Dŷst i'th Erbyn:
Cais trwy fyw yn rasol ymma,
Gau ei safan hi o'r siwra.
Er nas gelli trwy 'th weithredoedd,
Haeddu ar law Dduw mor Nefoedd,
Na chael byth dy gyfri'n gyfion;
Etto bydd di fyw yn union:
Gal. 2. 16.
Bydd fyw'n gynnil, da dy
Nattur.
anian,
Fel pe baet i gadw 'th hunan:
Ond na
Ymddiried.
thrûst ith wael weithredoedd,
Sy 'n rhy wann ith ddwyn ir Nefoedd.
Bydd di siwr i fynnu pardwn,
Cyn y delo 'r Barn,
Attolwg.
ardolwyn.
FAl y bo i ti wasnaethu,
Duw a'th hunan yn ddi-wegi,
Yn dy alwad bydd yn ddiwyd;
Na fydd ddiog na swrth hefyd.
Gwna 'n ddiôed yr hyn a wnelech,
Mor ebrwydded ac y gallech:
Gyda 'th law, rho 'th rym yn helaeth,
At bôb gwaith o'th alwadigaeth.
Cofia wrth weithio ar bôb amser,
Nad dy daliad yw dy blesser:
Cyn gwnech orchwyl pwysa 'n
Diddig
ddi-far,
Dy holl waith ynghyd a'th
Gwobr.
wabar.
Gwel pa fûdd ddaw o'th waith
Dyfal.
ystig,
Gweithio am ddim sydd beth blinedig:
'Rhwn ni chaffo ffrwyth o'i
Lafur.
labar,
Siccr yw, y blina 'n gynnar.
Pôb llŷs gwâg neu segur odfa,
Llanw rheini megis Cristion,
A rhyw weithrediadau graslon.
Nâd ith
Crefft, hwsmonaeth.
alwad bâch pennodol,
Rwystro ar y
i addoli Duw.
cyffredinol:
Rho beth amser yn
Difrifol.
brûdd ddigon,
I addoli 'r Arglwydd cyfion.
Rho i dduw ei eiddo 'n bur-lan,
Cymmer d' eiddo 'th hun dy hunan:
Amser sydd itt' dreulio 'n dduwiol,
A pheth it drîn d'achosion bydol.
At bôb gwaith mae cymmwys odfa,
Dysc di nabod hon; a chofia,
'Rhyn a wnaer i
Allan.
maes o amser,
Sydd ddi-flâs, heb don na thymmer.
Gâd waith diffrwyth ac aflessiol,
A'r peth s' itti 'n am-mherthnassol:
Drwg ymmhyrru ag yscall crinion,
Fel
Emprwr a dreulie amser i ladd gwybed.
Domisian, heliwr cilion.
Ydyw hyn yn bwrcas uchel,
Cael ond mawr boen am dy drafel?
Dilês gwegryn dŵr neu dwod,
A gwaith gwell ag eisie ei
Ymorchestu yn ei gylch.
drafod.
Digon itt' y gwaith sydd reidiol:
Bwrw ymmaith waith aflessiol;
Drwg yw itti 'n ddi-achosion,
Ado 'th swydd a'th waith cyfreithlon.
Gweithia 'n awr, tra gelwir heddu,
Arall f' alle bie foru;
Cans brau ŷm fel llestri gwydyr,
Hawdd y torrir ni yn
Gandryll.
glechdur.
GWna 'th ddifyrrwch o'r fath bethe,
'Weddo ith lê, a'th gyflwr ore:
Yntho treulia ond amser bychan,
Ac ychydig iawn oth Arian.
Yn rhy ddrŷd na phrŷn dy blesser;
Mawr brîs lwngc o'th gyssur lawer:
Gormodd plesser gochel hefyd,
Rhag cael drwg ith Gorph neu'th iechyd.
Gâd ddifyrrwch rhy fenwaidd,
Hoffa 'rhyn fo mwyaf gwraidd:
Nid yw 'n weddaidd i wrwod,
Fôd yn debig ir
Coy dames.
mursennod.
NId difyrrwch yw'th waith penna:
Ir Bŷd hwn ni ddoest (ystyria)
Megis pŷsc ir moroedd mawrion,
I ymlenwi ar
Plesserau.
drythyllon.
Chwyssu y sydd rhaid am Fara;
Cadw 'r Enaid yw'r gwaith penna:
Tragwyddoldeb hîr sy'n pwyso,
Ar ein
Hamser.
munud ferr, (ai wirio)
Yn ol 'styried hyn o bob tu,
Bydd di segûr (ddyn) os gelli:
Mewn diwydrwydd bydd 'wllysgar,
Fal yr haedda 'th waith a'th wabar.
Na fodlona ddim o'th hunan,
Os gwnei rhyw ddaioni bychan,
Neu os moli, ambell dippin,
Ar y gwir a'r grassol Frenin.
[Page 6] Haedda 'r nefoedd wenn oruchel,
Dy fawr boen; hi dâl dy drafel:
Rhêd dy yrfa, di gai'th wabro:
Ennill goron, di gai ' gwisco.
BYdd yn
Difrifol.
brûdd am fatter d' enaid:
Cais Dduw 'n rhan, a'r nefoedd auraid:
Ofna,
Psal. 73. 26.
nes y gallech ddwedyd,
Duw yw 'm heiddo,
Mat. 6. 33.
a'r nêf hefyd.
Na'm fodlona ddim i aros,
Yn ddi-Grist, mewn stâd anniddos:
Pam y crogi uwch y
Uffern.
boeth-fan,
Megis wrth edafedd egwan.
Mynych ofyn it ' dy hunan,
Wyt mewn Fafor â duw weithian?
A pha siccrwydd y sydd gennyd,
Am y nefol Deyrnas hyfryd?
Na
Na ddod mewn enbeidrwydd.
Pherygla dy hapusrwydd,
Gwna fawr brîs or nef yn ebrwydd:
Ac na chytcam fyw yn ddryg-ddyn,
Rhag it' ofni marw gwedyn.
RHodia 'n ôl y rheol union,
Llunia wrth reswm da d' orchwylion:
Na wna ddim peth anolygus,
It' a'th broffes yn gwilyddus.
Cilia rhag pôb tramcwyddiade,
Sy'n dwyn ynthynt rith ar ddryge:
1 Thes. 5. 22.
Prissia 'th Enw da bob ennyd:
Cyn ei golli,
Dihar. 22. 1.
coll dy fywyd.
[Page 7] Trîn yn gâll (mewn pwyll) d' achosion:
Cadw 'th gredit gyda 'r Doethion:
Bydd di 'n dduwiol, a synhwyr-gall:
Cyd-dymhera zêl â deall.
I Stâd isel rhaid it blygu;
Ac ir groes rhaid ymagweddu:
Gwachel chwyddo uwch-law 'th foddion;
Bydd i fforten ferr yn fodlon.
1 Tim. 6. 8.
Ar y storm rhaid gostwng hwylie,
Rhoi peth lle mewn drwg amsere:
Mat. 10. 16, 23.
Dan rhyw aden fawr cais gysgod.
Nes bo 'r storom wedi darfod.
Y llwyn bâch
Yn ymyl.
ynglais cederwydd,
Y gaiff gysgod ar y tywydd:
Felly caiff y gwan-ddyn, cofia,
Oddiwrth fawr-glod ŵr ddiffynfa.
Dwg dy faich yn
Llawen.
llonn fel cristion,
Gwna gystyddie 'n ddi-gystyddion:
Scorna
Dibrissia.
'r hyn nas gelli wrthod;
Ni cheir da oddiwrth
Ymrysson.
ymdrafod.
YN ochelgar bydd yn wastod:
Nâd i bawb a'th wêl dy nabod:
Bydd wrth bawb yn fwyn, yn hawddgar;
Ond â 'chydig yn gyfeillgar.
Nid yw pob-dyn
Cymmwys.
ffit it dderbyn,
I dy fonwes megis glan-ddyn;
Ffallst yw rhai; prawf cyn ymddiried:
Bydd fel dierth 'mysc dieithriaid.
Nes gwybyddech beth yw arall:
Rhwydd ymadrodd sydd ynfydrwydd,
Ac yn tynnu senn a gwradwydd.
Taw, gâd ffoliaid câs i ddwndraw,
Nid oes drwg o fod yn ddistaw:
Ou geiriau 'r fontais elli gymryd,
Gaent hwy arnat ti wrth ddwedyd.
BId dy ddillad yn dra gweddaidd,
Nid rhy gostfawr, na rhy
Yn llawn tegane.
fflawntaidd:
Yn y ffashiwn na fydd flaena:
Gochel hefyd fod yn ola.
Gâd y fashiwn na bo 'n un-man;
Ffôl y gâr bôd wrtho ei hunan:
Ffurfia 'th wisg yn ôl yr arfer,
Ym mhle bech, rhag cael bychander.
Na fydd megis rhyw afrad-ddyn;
Tor dy bais wrth hyd dy frethyn:
Gweddus i fonheddig cymmen,
Fwy 'n ei bwrs nag am ei gefen.
Nes y gwypper beth yw'th haeddiad,
Dwg dy ddillad it gymmeriad;
Dillad ennill itti hefyd,
Gyda 'r Byd rhyw glôd a chredit.
Na falchia am dy hunan,
Am dy fod mewn Aur a sidan:
Os wyt werthfawr ond mewn dillad,
Am dy hun bid gwael dy dybiad.
Mwy o glôd it harddu 'th ddillad,
Na chael d' harddu gan dy wisgad:
Bid cynheddfau da 'n dwyn itti,
Nid dy Ddillad fwyaf
Credit.
cyfri.
YN dy draul, bydd yn gymhedrol,
Nid rhy hael, na rhy gybyddol:
Gwybydd b'wedd i gadw a threulio:
Treulia ar achos da pan gorffo.
Gwilia 'n wastod, gwêl er hynny,
Nad aech ddim tu-hwnt i'th allu:
A phan gwnelech gymmwynasson,
Gwna bob peth ar ryw ddibennion.
Ond gweithredoedd 'fo berthnassol,
I dwrn da, neu gariad brawdol;
Am y cyfryw ddoeth weithredon,
Na chais byth mor tâl gan ddynion.
Gochel afrad, rhag cael pringder;
Tynnodd afrad dlodi ar lawer:
Gwaeth nag Ange yw tlodi anghenol,
Ir cwilyddgar a'r synhwyrol.
Treulia 'n ôl dy stâd a'th ennill,
(Tost yw gorfod byw ar erill)
Gosod allan lai yn wastod,
Nag y sydd i mewn yn dyfod.
Da fod peth gan ddyn ei hunan,
Pan y delo amser griddfan:
Moddion
Golud:
da yw 'r lloches ore,
Pan y delo trwm gafode.
NA fawrhâ y gwîn yn un-man,
Pan gwrychiono yn y cwppan;
Nid er hoffder ond er syched,
Y mae gwîn a diod iw yfed.
Yn enwedig gochel feddwdod:
'Does un pechod mor gwilyddus,
Mor nifeilaidd, mor annhrefnus.
Newid meddwdod ddyn yn Nifel,
Fe yrr reswm i ymadel:
Mae 'n ein gwneuthur i gynghorau,
Yn
Anghymwys.
anffit, ond rhwydd i ddrygau.
Beiau eraill sydd yn un-llŷn,
Hwn sy â llawer yn ei ganlyn:
Tyngu, rhegu, brawlan erchyll,
Sy 'n ei ddilyn megis perchyll.
AR Gêg ddrwg rho 'r gyllel lemma;
Gochel wneuthur Duw o'th fola:
Phil. 3. 19.
Yn dy ymborth na fydd foethus;
Goreu saws yw stymog iachus.
Chwennych ymborth sydd iachusol,
O flaen bwydydd prîd daenteithiol:
Plesser tlawd yw plesser genau:
Byth na chwennych amryw seigiau.
Y mae gwlêdd lle bo bwyd ddigon:
Mwy nâ'th fol nad fod d'olygon:
Ith nattur 'chydig a wasnaetha,
Porthi 'r chwant yw diben bwytta.
Am Gwmpni, ac healths, a thai drwg, ac afrad.
CAis yn Gristion da dy gyfri,
Nid yn gyfaill da mewn cwmpni:
Nâd i ymbiliaeth dyn un-amser,
D'yrru 'fynd tu-hwnt ith dymmer▪
Mewn un peth, a'th ddrygo 'th hunan:
Pwysa 'n bwyllog ac yn gysson,
Bwêdd
Pa fodd
i agweddu â 'th gyfeillion.
Gâd ith gwmpni lwyr
Anfodloni.
ddisblessio,
Cyn yr helech Dduw i ddigio:
Cofio ffrind sydd beth cyfreithus,
Yfed helths sydd beth anweddus.
Drwg yn fynych ddaw o heltho,
Meddwdod, brawlan, ymladd, dwndro.
Dros dy ffrind dôd weddi wiw-lan,
Yf er iechyd it dy hunan.
Bydd di sobor a gweddeiddlon,
A chyrch at y fath gyfeillion:
Gochel gwmpni drwg ei tymmer,
Rhag i tithe ddysgu eu harfer.
Or doi i fysg y cyfryw gwmpni,
Dangos nad wyt yn eu hoffi:
Byth na ddilyn eu harferion:
Gâd ar frys y fath gyfeillion.
Ac na ddere attynt mwyach,
Mae 'r fath rai'n mynd ffolach, ffolach:
Ti a'u blini hwynt â'th sobrwydd;
Tithe flinir â'u hynfydrwydd.
Gochel leoedd fo drwg dybus,
Cilia o dîr y sarph anhappus:
Goreu ffordd it gadw'th hunan,
Yw gochelyd llwybrau Satan.
Cadw 'th
Sefyllfa.
safle rhag it syrthio,
Na thempt Demptiwr i dy demptio:
F'alle gall cydwybod
Treulio.
wario,
Mwy nag all dy gredit spario.
Gochel Anair byth, a gwilia
Rhagddo, fal rhag drwg o'r cassa:
Haws yw colli (cofia
Anwylyd.
f'anraith)▪
Enw da nâ'i gael ef eilchwaith.
[Page 12] Na châr weld rhai yn
Anhemprus.
anghysson,
Ynfyd yw difyrrwch ffolion;
Pam y ceri mewn un dynan,
'Rhyn nis ceri yn dy hunan?
Dros ben sobrwydd na yrr un-gwr,
Paid a gweithio dros y temptiwr;
Na wna neb yn anghymedrol,
Ond cais rwystro hynny 'n hollol.
Pa lawenydd (rwi'n rhyfeddu)
Yw gweld arall gwedi meddwi?
Golwg drîst yw hyn (im deall)
Weld drwg un, a chwilydd arall.
Peri eraill i bengoccio,
Cael y gore wrth garowsio,
Nid yw fatter o orfoledd,
Cans am hyn daw tôst ddialedd.
Esay. 5. 11.
Ac ystyriwch hyn yn helaeth,
Nad oes blâs or fuddugoliaeth,
Lle mae 'r Cythrel yn Ben-swyddog,
A phwll uffern yn lle cyflog.
Cadw 'n issel dy Gorph
Wantan.
nwyfus;
Bydd oi besgi 'n afreolus;
Rheitiach rhoi 'ddo ffrwyn nâ spardyn;
Yn dy law bid dynn y llinyn.
Na rô ith gorph bob peth a geisio;
Dysced chwennych ond sydd gantho;
Da it weithie gael dy
Rwystro
ragod,
Mae rhyw
Pethau moethus.
dda, ryw bryd, iw wrthod.
Gwell it' fynd ym-mlaen wrth raddodd▪
Heb afradu 'th dda na'th Dirodd,
Na byw 'a focihus dros ryw amser,
Gwedi hynny byw fel Beger.
Arser bob peth yn gymhessar;
Na fydd
caethwas.
slàf i un creadur;
Cyfrif bob peth fel i gilydd,
Issel ffar fel moethus fwydydd.
Am un peth ac wyt ti'n garu:
Phil. 4. 11. 12.
Bydd mor fodlon i fod hebddo,
A phe bae ym-mysc dy eiddo.
Dysc pa wêdd i ddwyn anghenyd,
A byw
Ar Dduw.
'chlaw dy foddion hefyd:
Nâd ith galon gael
Trigfa.
gartrefad,
Yn dy law, nac yn dy lygad.
BYdd ddiolchgar am sydd gennyd;
'Rhwn ai rhows rhy etto hefyd:
Os
Cafodd.
cas eraill fwy o bethe,
F'alle fod yn fwy eu heisie.
'Rhwn y wnaeth y Llong neu'r llester,
Sydd yn gwybod
Pa fodd.
b'wedd iw arfer;
Hwnnw feder ei gymhwyso,
At y llwyth y rydd ef yntho.
Pa beth bynnag wyt yn
Yn ei drîn ai feddiannu.
drafod,
Anniolchgarwch ai gwna 'n ormod:
Os yw 'n beth is-law 'th ddymyniad,
Mae uwch-law (bydd siwr) dy haeddiad:
Rheswm da rhoi mawl am dano,
Goreu ffordd yw honno i feg gio:
Mewn rhyw ddull,
Esay 1. 2. 3.
mae 'r ŷch, mae 'r Assen,
Am eu bwyd yn diolch iw perchen:
Gwarth yw, bod nifeiliaid mudion,
Yn rhagori ar blant dynion.
CHwilia 'n ddyfal eraill allan,
Ond yn gynta chwilia 'th hunan:
Nes bech di 'n anghofio 'th Artre.
Na fydd ddierth it dy hunan,
Edrych yn dy frest yn fuan:
Onid wyt ti wrth dy feddwl,
Cais well-hâd, yn glai, yn gwbwl.
Lle mae nattur yn ddeffygiol,
Bydd ith nattur gynnorthwyol:
Ymorchesta i'm-gymhwyso;
Ganwyd ti 'n ddrwg,
Psal. 51. 5 Joan. 3. 3.
rhaid d'eni etto.
RHo i bawb eu heiddo 'n hawddgar,
Parch i rai, i eraill wabar:
'Rhyn ma' 'n haeddu rho i bob-dyn,
Rag bod Achwyn yn dy erbyn.
Ac os cam â neb a wnaethost,
Gwna di iawn yn gynta 'g allost:
Edifara am dy bechod,
A llonydda dy gydwybod.
Gwna gyttundeb âth wrthnebwr,
Cyn y delo Crist y Barnwr:
Mat. 5. 25
Duw sy o ran y rhai diniwed,
fe ble. dia.
Dadliff dros y cyfryw'n galed.
YN ôl d' allu rho 'th elusen
Ir rhai tlawd, yn ol eu hangen:
'Rhyn y roech ir tlodion cyfri,
Megis benthyg, 'rhyn nis colli.
Y mae gennit wŷch Fachniwr,
Dihar. 19. 17.
Duw ei hun fydd dy Dalmentwr:
Ei dryslor-dy yw pwrs y Beger,
A'r Dyn tlawd yw ei
Dderbynwr.
Receiver.
Os yw'r Dŷny sydd anghenus,
Yn anhy waith a drygionus,
Fel mae 'n Ddyn, tosturia wrtho▪
Os am-mheu roi 'th
Elusenau-
elwson,
Am nas gwyddost pwysydd dlodion:
Dyro beth ir caccwn garw,
Cyn ir gwenyn bach gael marw.
Gwell rhoi, lle nad oes 'lwysendod,
Nag heb roi, fod tlawd mewn prindod.
GWachel fod fel coeg Ddyscawdwr;
Yn fynychaf bydd gwestiwnwr;
Gwell it' ofyn peth nag atteb:
Pam na 'nilli di 'r callineb?
Hynrydd cynnydd ith wybodaeth:
Clûst, nid tafod, ddwg ddysgeidiaeth:
'Mofyn nes y bech heb wybod,
Ddim ychwaneg idd i nabod.
Ac tra fech mewn angnabyddiaeth,
Na chwilyddia gael dysceidiaeth:
Odid oni chlywaist draethu
Nad rhy hwyr un prŷd it ddyscu.
Os y ffaelu gael bodlonrwydd,
Am ryw byngciau, trwy 'th ddiwydrwydd,
A thrwy studio wrth dy hunan,
Cais gan eraill help yn fuan.
Ni chŷd-ddeall pawb yr un-peth,
'Does un dyn a phob gwybodaeth:
Os rhoi ddysc i un, f'all ynte,
Mewn rhyw ffordd roi dysc i tithe.
Prissia 'n uchel, ddwys ddysgeidiaeth,
Felly'r ae 'n fonheddig odiaeth:
Dysg a'th ddwg i fawr anrhydedd,
Heb gynnorthwy un
Gwr yn tynnw achau.
Herodredd.
Prawf yn
Ddyfal.
astud fyth i studio,
Y ddysgeidiaeth a'th fodlono:
Lle bo'r poen yn ddirfawr blesser▪
Os 'nôl golud 'rwyt ti 'n Helwr,
Bydd Gyfreithwr neu Besygwr:
O'r ddau alwad hyn, o ddifri,
Dwbwl gyflog a ennilli.
Gwr o gyfraith
Sy'n gwybod.
wŷr yn groew,
Pa fodd
Bwedd i ennill stâd, a'i chadw;
A'r Pysygwr ynte hefyd,
Ddaw i olud, ac i iechyd.
Im tŷb i, nid oes yn hollol,
Ʋn rhyw alwad mor
Ennillfawr.
broffidiol,
Ac yw galwad y rhai ymma,
Sydd ar frŷs yn cael eu helfa.
'Rhyn sydd ganthynt nis
Nis gosodant mewn enbydrwydd
peryglant;
A ddaw attynt hwy ennillant:
Nid rhaid iddynt fynd tros foroedd,
Er mwyn ennill tai na thiroedd.
Bid dy lyfre ond ychydig,
Etto 'n dda a dewisedig:
Yn waeth' sclaig ni byddi ronyn,
Pe bae 'th lyfre yn dy
Ben.
goryn.
Nid oes genyt ddysc na donnie,
Ond yr hyn sydd yn dy asgre,
Eiddo 'r Awdwyr yn ddiammau,
Ydyw 'r Ddysc s'o fewn dy lyfrau.
Pe bae llyfrau 'n abal gwneuthur,
Dyn yn berffaith sclaig difessur;
Byddei 'r Gwyr sy'n gwerthu llyfre,
Mwyaf gwyr, eu dysgeidiaethe.
Dewis lyfrau fo 'n cyttuno,
Ath
Pun bynnag ai Eglwyswr, ai Cyfreithwr, ai Pysygwr, neu Gyffredin ar wyt ti.
broffessiwn; a phrawf gofio,
Wrth ei faint na phrisiech lyfyr:
Bid ei dda yn fwy nâ'i bapyr.
Darllen wŷr, a darllen lyfrau;
Hwy berffeiddiant dy synhwyrau:
Y rhai da, ac nid y dyrfa.
Ac na ddilyn y rhai gore,
Ond cyn belled y bo nhwynte
Yn Ddilynwyr
Difrifol.
prûdd ir Iesu:
Gwachel feiau Pawl a Mary.
Cystydd eraill pan digwyddo,
Y sydd gennad ith rybyddio:
Dysc Ddoethineb trwy hynfydrwydd:
Gâd y fan lle cawsant wradwydd.
Y canlynwr sydd yn ennill,
Montais oddiwrth gwympau eraill:
Mae 'n gweld perig, cyn dêl iddo;
Ac ni ellir ei
Ortrechu
ormeilio.
Ar dy ddeall dôd derfynnau.
Na chais wybod dirgel bethau:
Synwyr yw it ymfodloni
Ddyscu 'r peth sydd raid i ddyscu.
Gwybydd ble mae 't stoppo 'n wastod;
Gâd beth trwm nad rhaid it wybod:
Studia 'r peth sy ddiogel i ti;
Gochel
Mynydd mawr, o'r hon y mae tân yn dyfod allan.
Etna rhag dy losgi.
Ffrwyth gwarddedig gwachel deimlo;
Nac archwaetha ddim o hono:
Pallwyd pren gwybodaeth itti;
Gwyddost beth a ddaeth oi brofi.
Na fydd falch am ddysc, na donie,
Ond bid issel dy feddylie:
Barna 'th hun yn îs beth hefyd,
Nag 'bo eraill yn dy gymryd.
Gostyngeiddrwydd a mwyneidd-dra
Ddŷg it glôd o'r godidocca:
Balchder a drŷ lawr yn
Yn dost.
irad,
'Rhyn a ddlye gael derchafiad.
Dy dŷb da am dan dy hunan,
Na osoded di ar un-man,
Oddi ar 2 Pet. 2. 4
'Ddar hwn syrthiodd rhai Angelion:
Ir
Sef balchder.
drwg hwn y mae tueddfa,
Yny Dynion godidocca:
Rhyfedd fod darllenwyr ffel-gall,
Yn balchio am blŷf un arall.
Nid oes ganthynt ond y
Ddygasant.
ddygson,
Y fenthygson, ac y
Fegasant.
fegson.
PAn y bech di oddi gartre,
Cadw'n glôs at Ddyledswydde:
Cais
Trwy weddi.
gysrwydd-deb y boreu-ddydd,
Pa fodd
Bwedd i ymddwyn trwy yr holl-ddydd.
Pan dêl nôs, ymhola 'n wastod,
Beth a wnaethost trwy 'r diwrnod:
Lle
Gwnaethost.
gwnest bechod, deisyf bardwn:
Am dy dda, rho ddiolch,
Attolwg.
ardolwn.
Bydd dda 'mysc rhai oddi allan,
Megis yn dy Artre 'th hunan:
Er dy fôd yn newid treigle,
Bydd (er hyn) yr un, ym-mhob lle▪
Bydd yn issel yn d'ymddygiad,
Ac mor hael ac elli'n wastad:
Cydymffurfia nessa 'g allech,
At y wlâd a'r man lle byddech.
Na fydd di, ar un-rhyw amser,
Yn llawn gwagedd, neu lawn balchder▪
Sawl na'th nebydd wrth dy dafod,
VVrth d'ymddygiad dônt ith nabod.
Na ddal ar bob peth a ddywaid,
Yn dy gwmpni y dieithriaid:
Gochel farnu'n galed arnyn,
Nass
Chwmpara'th hun.
chydstadla â nhwy ronyn.
Farn yng-hylch rhyw fath ar bethe;
Os bydd rhai yn anfodloni,
Na saif wrthi, dwed
Mi gam synniais. Gwell ynte yw distewi.
Peccavi.Mewn lle dierth, na wna gŷnnen,
Ar ceilioge ar eu tommen:
Nac ymrysson yn ei efel,
Ag un gof, or' dwyt ti'n ddyn-ffel.
Gwachel win a gwragedd
Wantan.
nwyfys
Megis Scyla a Charibdys:
Craig yw'run, a'r llall sydd lyngc-llynn,
Wrth
Trafaelu
ymdeithio, cadw rhagddyn.
Dy ben rhag gwin, a chwrw, a'th galon rhag putteiniaid.
Pen a chalon cadw 'n iachus,
Felly nid rhaid bod yn ofnus,
Rhag ar Graig it gael dy frîwo,
Nac ar Lyngc-lynn byth it suddo.
Cadw 'th fusnes it dy hunan;
Rhag dieithriaid cela 'th arian;
F' all fod perig o'i datcuddio,
Ac mewn Tafarn drwg letteuo.
PAn bo dyn iw argyhoeddi,
Cofia 'r lle, ar prŷd, a'r parti:
Rhaid it arfer mawr ddoethineb,
2 Tim. 2. 25.
Os ceryddu mewn ffyddlondeb.
Os bydd e'n uchelwr,
Gwilia▪
Synna,
Arfer
Tchwaneg.
ragor o fwyneidd-dra;
Gyda 'th gyd-râdd bydd hyderus;
Gyda 'th îs bydd mwyaf
Hŷf, eon.
mentrus.
Rho dy gerydd wrtho ei hunan,
Idy ffrind ar reswm gwiw-lan:
F' all ar nailltu wrando a 'styried,
'Rhyn na fynne i eraill glywed.
Na rô gerydd
Allan.
maes o amser,
Pan bo dyn
Yn feddw, yn ddig, neu maes oi gôf.
yn ddrwg ei dymher:
At bob gwaith mae cymmwys odfa.
Pan ceryddu dy gymmydog,
Gwachel fod o'i fai yn euog:
Mat. 7. 3.
Pa fodd
B'wedd y bei-i ar neb arall,
A bod dan'r un bai yn angall.
Fel hyn.
Llyn 'r amlygu di yn ddiau,
Gâs at ddyn yn fwy na 'i feiau:
A'r fath gerydd byth nis gellir,
I roi 'n dda, a da nis cymrir.
Am hyn gâd dy fai yn ddiwall,
Cyn ceryddech di neb arall:
Rhag ir maen hwn syrthio a disgyn,
Yn ei gwrthol ar dy gobyn.
Os gwllyssi ith gymdogion,
I lwyr fyw wrth dy gynghorion;
Na chynghora iddynt wneuthur,
Ond y wnei dy hun yn
Llawen.
ddifyr.
Gwybydd hyn mae 'r rheswm goreu,
Byth a gesclir oddiwrth siampleu:
Hyn eglura 'th fod o
O ddifri.
bryssyr,
Pan bech d' hun yn
Arwain
ledio 'r llwybyr.
Gwynt yw geiriau, gweld yw credu,
Siamplau weithia fwy nag
Gorchymmynion.
erchi:
Drwg ei fywyd, Da ei gynghor,
Nid yw hwnnw ond fyng watwor.
Dôsi
Allan.
maes dan issel hwyle,
Rhag dy dorri,
Cyfod.
cwyn wrth radde:
Gwell trwy bwyll yw codi (gwrando)
Nâ 'n rhy ebrwydd godi a chwympo.
Er bod hwyl-wynt, na fydd
Afradys
fradol,
Fe all droi, mae fo 'n newidiol:
'Smonna 'th stock, na threulia ormod▪
Shwrne.
Taith cyn arian ddlye ddarfod.
Nid yw raid it hefyd
Newynu
starfo:
Rhwng cynhildeb ac afradwch,
Gelli fyw mewn gwych lonyddwch.
PAn cei gam, na chymmer arnad,
Fel pe baet yn gweld â'th lygad;
Neu
Sef y cam
dibrissia fel peth
A wnaethpwyd mewn anialwch.
anial;
Na fydd chwyrn i dalu dial.
Na ddal sulw yn ddiystyr,
Ar bob di-bwyll Air a ddwedyr:
Dôd ar eiriau 'r ystyr gore,
Na cham ddeall neb yn un-lle.
Trwy shawns f'alle, nid o'wllys,
Y
Gwnaeth-pwyd.
gwnawd itti beth anweddus:
Oh! na ddryga di yn un-modd,
'Rhwn a'th ddrygodd di oi anfodd.
Os trwy fwriad gwnawd
Cam.
direîdi,
Gweddus galw 'r Dyn i gyfri;
Etto, nid yn ebrwydd, cofia;
Ordeinied.
Pwynted pwyll y cymmwys odfa.
Yna bydd fel Gwr o galon;
Etto 'mhob peth, bydd fel cristion:
Gochel beri 'r cosp un-amser,
I ddirywio i greulonder.
Er mwyn taro braw yn erill,
Da yw cospi Dynion erchyll:
Etto rhaid yw bod yn dirion,
On'd yw'r baiyn drossedd creulon.
NAc ymrysson â'th isselach;
Nid clôd itti ddadle â'th wannach:
Trwy wâg siarad nid ennilli,
Ddim mewn un modd ith fodloni.
Hawdd it wybod beth y ganlyn:
Ofer iawn y fydd dy labar;
Colli 'th gost a 'th amser hygar.
Gwell it adel dlêd ai fadde,
Lle ni 'nilli ddim oth goste:
Tost yw treulio dèg o bynnau,
Lle na 'nillir mo'r dimmeiau,
NA fydd Feiche dros un
Dyn.
Dynan,
Oni elli gadw 'th hunan:
Mae 'r Benthyccwr yn wâs
Dyfal.
ystig,
Ir hwn sydd yn rhoddi benthig.
Rwyt ti 'n gaeth-was ir ddau weithian;
Dan y baich mae 'th warr dy hunan;
Rhwn a orwedd yno 'n galed,
A nhwy 'n chwerthyn wrth ei weled.
Os ni elli 'sgatfydd dalu,
Y trawm ddlyed hwn o ddifri;
Blîn fydd colli 'th rydd-did hygar,
Trwy dôst aros ya y carchar
Dymma 'r peth yr wyt ti 'n haeddu,
Pan y rhwymaist d' hun i dalu
Dlyed arall trwy fachniaeth,
Pan yr
Oeddyt.
oet mewn rhydd-did odiaeth.
NA wna brîs o ddŷn na phethe,
1 Sam. 16 7.
Wrth eu l'un, nac wrth eu lliwie:
Ond yn ôl y rhinwedd s'ynthyn,
Prissia bob peth megis doeth-ddyn.
Cerrig Bristo allant edrych,
Fely Diamond disclayrwych:
Na wna brîs o ddim golygys,
Nes bo'i sylwedd itti 'n hyspys.
Nid gwell Dyn er ei feddianne;
Nid gwell ffôl er côt o'r hardda;
O aur.
Modrwy mewn trwyn hwch sy gassa.
BId dy dŷb am dan dy hunan,
Yn dŷb issel (hyn sydd
Weddus.
wiw-lan)
Goreu dyn yw 'r gostyngedig;
Ond mae 'r balch yn felltigedig.
Er nad all y dyn synhwyr-lan,
Fod heb weld ei werth ei hunan;
Etto synwyr mawr yw celu,
Ei fod ef yn
Ei werth ei hun.
nabod hynny.
Dwli mawr yw bod yn hela,
Am ganmoliaeth y byd ymma;
Hynny lygra'r parch yn hollol,
Y sydd itti yn berthnassol.
NA fydd falch am glôd Gwenieithwyr,
Cans
Chware caste, neu law wenn
dissemblo mae pob Twyllwyr:
Byth nis gelli weld yn drefnus,
Dy wir lûn, mewn
Glass.
drych twyllodrus.
Gochel dybied fod d' wyneb-pryd,
Mor lân, ac mae'r rhain yn dwedyd:
Mi wnn beth yw f' hun yn hollol;
Di-raid yw ir cyfryw 'm canmol.
'Rhwn a garo ei ffrind, yn ffyddlon,
Hwnnw ddywaid wrtho ei feion:
Mae'r rhai hynny 'n twyllo ei hunain,
Sydd â' i brŷd i'm twylloi'n
Fedrus.
gywrain.
NA fydd byth yn ddyn anfoesol,
O ran beio dim nai ganmol;
Ffol fydd
Yn ymhyrredd.
byssi 'n hyn o ffashiwn.
Pwy all draethu pa ddiffeithdra.
Ddichon tyfu o'r peth ymma,
Or bydd arall mor
Pengaled.
anhydyn,
A chyfodi yn dy erbyn?
Tost yw gorfod it
Ddadlu tros beth.
saenteimio,
Rhyn na
Buassei.
bysse raid it deimlo.
PAn y bech yn
Cellwair.
iesto 'n wiw-lan,
Na chwardd am dy ben dy hunan;
Rhag i eraill yn dra
Rhyfeddol.
chethin,
Am dy ben gael lle i chwerthin.
Fe gyll iest ei wîr felyswedd,
Os dydi a chwarddu 'n rhyfedd,
Pan y bech di yn ei adrodd,
Ym-mysc un rhyw fath o boblodd.
Digrif-air y sydd iw glywed,
Ac nid ydyw 'n beth iw weled;
Cans llefaru' rwyt ti 'n wastad,
Wrth y clùst, nid wrth y llygad.
Os myn un-dyn roddi ergyd,
Nid oes iddo 'mlaen-llaw ddwedyd,
Ei fod ef ar feder taro,
Gall trwy hynny gael ei rwystro.
Na chellweiria yn rhy bigog,
Rhag it golli cyfaill rhywiog.
Gwell it golli 'th sport anweddys,
Nag it golli dy ffrind
siccr.
dylys.
Ac wrth gellwair attal d' hunan;
Rho dy fŷs ar glwyf yn
Araf deg.
chwarian:
Ni ddioddef nemmawr
Agos.
haechen,
Gwrdd â'r mann lle byddo 'r grachen▪
Os mewn iest, neu os yn
Difrifol.
bryssur,
Y gossodi fŷs ar ddolur;
Dal dy law, os yw'n dolurio.
Pan ceryddir rhai wrth gellwar,
Y mae' gwaed hwy 'n† cwnnu 'n hagar
Ac am hynny, gwilia 'n fanol,
Wrth gellweirie, na bech ffrom-ffol.
Ymfodlona i dderbyn weithian,
'R' arian fatheist di dy hnnan:
Nid difyrrwch nes
Trwy roi iest am iest.
cyd-drawer;
Fely rhoddaist, felly cymmer.
Gwna i eraill fel damynyd,
Iddynt hwythau itti wneuthyd;
Yr un rhydd-did allant
Ddeisyf.
erfyn,
Heb roi lle it ddigio gronyn.
Pan y gwnaethost di wialen,
Ac y curir di drachefen.
Ar ôl itti guro erill,
Byth na thŷb fod hyn yn erchyll.
Gan it roddi'r ergyd cynta,
Bydd yn ddistaw, ac na ddigia:
Bydd yn fwyn, ac ammyneddgar;
Gan it ddechreu 'r ffrâ, bydd hawddgar.
PAn bo 'n rhaid it' synd i garu,
Fel y bo iti briodi:
Gâd ith
Tŷb.
ffansi gyscu 'n ddilys,
Tra fo'th
Deall.
Farn yn gwneuthur dewis.
'Nôl it wneuthur d'ore trwyddo.
Gelli er hynny gael dy dwyllo:
Arfer bwyll wrth fynd i garu,
Pwyll a'th gadw rhag dy faglu.
Dewis hesyd wraig yn wastad,
Wrth dy glûst, nid wrth dy lyg ad.
Gall wynebpryd glân dy dwylle,
A saindda all dy gyssuro.
Ddottio ar degwch gwŷch trwssiadys▪
Llawer gwraig ag wyneb pur-lan,
Ddichon bod yn fenyw aflan.
Bid dy serch ar ferch rinweddol,
Fwy nag ar un dêg gorphorol:
Rhyfedd yw, i ferch ddrygionns,
Brwfio bod yn wraig rinweddus.
'Rhon ni ŵyr mo'i Dyledswydde,
At yr Arglwydd, mae 'n ddiamme,
Nad yw honno ddim yn nabod,
Ei Dyledswydd at ei phriod.
Edrych nid am râs yn unig,
Ond am natur hyfryd, pwyllig:
Y mae cyssur y priodol,
Yn y peth hyn yn gynhwysol.
Grâs ar wreiddyn sur grobossaidd,
Sydd fel perl mewn lle afluniaidd:
Gall fod grâs mewn morwyn
Sur.
sarrug;
Ond sarrugrwydd sydd beth ffyrnig.
Nef ac uffern mewn cyssylltiad,
Nid yw fatter o ddim hoffiad:
Câs yw hefyd fod dyn grassol,
A Chythreules yn briodol.
Na phrioda
Merch ddrwg.
Fronten (gwrando)
Mewn rhyw obaith iddi
Wellhau.
fendio:
Ac os gwnae, cai weld mewn amser,
It' bwrcassu tristwch lawer.
Na phrioda wraig rhy uchel,
O ran tylwyth mawr a chenel:
Disgwyl am fod honno 'n Feistres,
Odid oni bydd hi 'n Arthes-
Llawer peth anaddas ddigon,
Ddaw o
Priodi.
faitsho à thylwyth mawrion:
Cans ir rhain yn wâs y byddi,
Ac yn slâf, bydd siwr o hynny.
D'olud hefyd r haid it ddifa,
Trwy fainteinio ith hun yn ddie,
Ym-mhob gwychder megis hwythe.
Tebig ir
Emprwr y twrcod.
Twrc mawr yw'r gwychion;
Lle dêl ei gyphyle mawrion,
Ni bydd glas-wellt idd i weled,
Porwyd oll yn dra afrifed.
Cynnysgaeth.
Gwaddol gwraig all roi
Amnaid hint.
peth awgrym,
Am y cyssur y all ganlyn:
Wrth ymadael â'th lân rydd-did,
Mynn am dano Aur a golud.
Ar dy rydd-did, dôd bris uchel
Os ae'n ddrwdg, mynn am dy drafel:
Paid a mynd am ddim i ddyrnu;
Ond cais wybod beth sydd iddi.
I sain gwlâd na thrysta ormod,
Sain sy ffrind i rai menywod:
Bwrw fod yn llai y gwaddol,
Nag y mae wrth sain y bobol.
Os ith gyflwr 'rwyt anfodlon,
Os yw 'th frŷd yn siccr ddigon,
I briodi ac i fatshio,
Bid un
Gyfoethog.
Frâs, nid
Tlawd.
cûl, i'th stino.
Os ith ran y daeth gwraig weddus,
Etto na phromeisia 'n ddilys,
I dy hun mor llwyr ddedwydd-dra,
Oddiwrth wraig, na dim sydd ymma.
Ni feddiannaist un creadur,
Ac y roddodd i ti'r cyssur,
Yr addewaist it dy hunan,
Wrth ei hela yn dra buan.
Nâd ith obaith ynte 'th dwyllo,
Nac i beri it ben-ddottio;
Nid yw'r ffrwyth yn ôl y blode,
Mae 'n y bŷd fawr dwyll yn ddie.
Yr hapusrwydd nas
Cafodd.
cas un-dyn;
Etto amser bob ychydig,
A gwna'n gâs ac yn flinedig.
Er meddiannu 'r peth melusa,
O hir sefyll fe a sura;
Felly cyssar â'n ddi-hoffder,
Oi hîr gynnal ai hîr arfer.
Ar dy oedran pan del gaia,
Pan bo gwallt gwyn ar dy goppa,
Ti a ddwedi y pryd hynny,
Da yw 'r cynghor hyn o ddifri.
Os wyt gwedi 'th
Mewn stâd priodas.
ddala 'n amlwg,
Os yn ddôf y rhoest dy wddwg,
Dan y iau, cais dynnu 'n union,
Fel y gweddai i bob cristion.
Pan bo un rhyw waith iw wneuthur,
Cariad ai gwna 'n hawdd
O ddifri,
o bryssur:
'Rhyn a wnelech gwna'n 'wllysgar,
Hynny 'th ddod di
Allan.
maes yn hawddgar.
Na fydd tynn i gael blaenori,
Os llonyddwch wytti 'n garu:
A pheth y w'r gwahaniaeth eglur,
Rhwng dau 'n un sy wedi gwneuthur?
Na ddwed wrth dy wraig, yn ddie,
Hyn sy 'mi, a hyn sy' tithe,
Cans y cwbwl ac y feddoch,
Sydd yn Dda cyffredin rhyngoch.
Os llwyr gollaist gyda 'th rydd-did,
Y berchnogaeth gynt oedd genyd;
Nid oes itti le i gwynfan;
Diolch am hynny it' dy hunan:
Nid yn gaeth, ond rhydd dy anwyd:
I reoli 'n siwr ith wnaethpwyd:
Os
Collaist.
fforffetaist dy feistrolaeth,
Ar dy hun mae r bai, yswaeth!
Drwg gan hynny it'
Achwyn.
gomplaino:
Gwna dy gyflwr byth trafyddech,
Mor gyssurus ag y gallech.
Gan it ddewis 'rhon a geraist,
Cais di garu a ddewisaist.
OS bydd diffig eppil weithian:
Cyfrif hynny 'n eisie bychan:
Plant yn siwr a ddûg ofalon,
Ond ansiwr
I Ddynt.
ynt ddwyn cyssuron.
F' all y doeth genhedlu
Ffôl.
dwlyn:
Fel ei Dâd nid yw pob plentyn:
Gwelais (ryw-bryd) Fâb gwr ffel-gall.
Yn Anghenfyl câs, di-ddeall.
Gwelais Blant fel
Y wiber, medd rhai, y leddir gan ei rhai bychain, yn torri allan oi bola hi.
Gwibrod drewllyd,
Iw Rhieni yn fawr dristfyd,
Yn llwyr ddifa eu holl Bethe,
Ac yn torri eu calonne.
Os ir oes y sydd yn canlyn,
I ddwyn d' enw nid oes plentyn.
Cofia i Frenhinoedd mawrion,
Farw, 'n fynych heb Difeddion.
A oes gennit Dîr a phethe,
A heb Difedd ith feddianne?
Llawer s'ar y Ddaiar helaeth,
Ac heb ganthynt ddim Tifeddiaeth.
Or 'dwyt Dâd, na fydd fel
Yn caru gormod.
malyn,
Nâd ith serch ddestrywio 'th Blentyn:
Plŷg wialen cyn y tyfo,
Rhag yn fawr nas gelli' 'stwytho.
Hallta ei flynyddoedd tyner;
'Nôl ei Dymmer blassa 'r llester:
Gâd e sugno yn ddiwallys,
Gyda 'r fron,
Principles.
wyddorion iachus.
[Page 30] Gwna ith Fâb fod yn gynhefyn,
Dihar. 22: 6.
A Daioni trafo 'n Blentyn;
Felly dysc e'i
Ddyledswydd.
ddlêd yn hawsach,
Felly gwnaiff ef hynny 'n hoffach.
Bydd ith Fâb yn siampl gole,
Yn Gyfrwyddwr gwŷch o'r gore:
Rhô lan goppi 'n addysc iddo,
I scrifennu 'n dra theg wrtho.
Pa fodd y beia tad drwg ei Fab drwg.
Bwedd y gellir beio 'r plentyn,
Sydd ar ôl ei Dâd yn canlyn:
Ac os bei-ir, 'rwyfi 'n coelio,
Nad ei Dâd y ddlye feio.
Arwain.
Tywys Di fe ir llwybyr union;
Y mae siample uwch-law gorchmynion
Y mae llygad yn cyfrwyddo,
Fwy nag y mae 'r clûst sy'n gwrando,
Yn gyffredin gellwn weled,
Teulu 'n dilyn traed ei meistred:
Peth arferol yw ir plentyn,
Crassu.
Farco ffyrdd ei Dâd, a'i canlyn.
Rhaid it' weithie fod yn dirion,
Wrth dy blant, ac weithie 'n ddigllon,
Gan eu cospi 'n ôl eu tymher,
Nid yn ôl un
Trwy eu cospi 'n rhy greulon.
traws-rhyw arfer.
Os trwy dêg y daw dy Blentyn,
I y mostwng ith orchymyn:
Nid rhaid itti arfer trawsedd,
Nac un côsp fo 'n
Creulon. Deut. 6. 6.
ddigymhwedd.
Tywallt iddo ef wrth radde,
Pob daioni a rhinwedde:
Hyn a bair ith Blentyn garu,
Pob rhyw rinwedd a daioni.
Dangos mai gwell gennit wabro,
Cynneddf dda nâ'r drwg
Cospi.
bwnisho:
Canmol Blentyn pan bo 'n iawn-dda:
Hynny gwna fo 'n well
Pryd.
tro nessa.
Yn segurllyd ac yn ddifydd:
Pam y caiff oferddyn digar,
Lwyr ddifetha dy holl
Lafur.
labar?
Gwêl na roddech alwad iddo,
Ond yr hyn sydd hyfryd gantho:
Na wrthneba ei fwriad gweddus;
Ni wna dda yn groes iw 'wllys.
Ac ir Donie
Sydd o.
s'o naturiaeth,
Yn dy Fab, rho fawr gynhysgaeth;
Trwy roi iddo Addysc gweddol,
Gan ei feithrin e'n rhinweddol.
Mae gwybodaeth fel perl hawddgar;
Sydd ynghanol modrwy hygar,
Ei wybodaeth a wna iddo,
Fod yn wr bonheddig trwyddo.
Nâd ith Blentyn weld un-amser,
Beth sydd gennit ar ei feder;
Rhag i hynny beri iddo,
Sclusso 'r galwad y sy gantho.
Ac na âd ith râg-ddarpariad,
Rwystro'th Fâb i drin ei alwad;
Canys y mae dau Ennillwr,
Yn dra bychan i un Treiliwr.
Da bod march ith law wrth rodio;
Pan y blinech, cae fynd arno:
Crefft neu Alwad ddichon helpu,
Pan bo stock y Tâd yn ffaelu.
BId d'ymddygiad yn dy Deulu,
I dy Le yn llwyr agweddu;
Felly 'nilli di eu cariad,
Ai dyledus barch yn wastad.
Gwêl na fech yn rhy gyfeillgar,
Ag un Gwâs neu Forwyn
Carueidd.
hygar;
Nac ith weision na'th forwynion.
Os gwnei felly, nhwy fydd Feistri,
Tithe fyddi iw gwasnaethu:
Yna 'rhwn ni
Lyfasu.
feiddi ddigio,
A'th cyffrô di pan y mynno.
Fel y bo' ir rhai sydd danat,
Weld eu lle, a'i dyled attat;
Bid bob amser hyn yn d'amcan,
I lwyr gadw 'th lê dy hunan.
Na fydd hefyd Arglwydd creulon,
Nac ith Deulu'n Ddyn
Ofnadwy.
echryslon:
Bid dy ffonn byth yn dy ddwylo,
Idd i gweled, nid i theimlo.
Canys wrth dy ofni 'n
Aruthr.
aethlyd,
Dewant.
Dônt ith fawr gasau di hefyd:
Ni wna rhain ddim da 'rwi 'n gwybod,
Ond pan bo ti yn ei gwarchod.
A pha ddyn a fydde o
O ddifri.
bryssur,
Y fath slâf idd ei wasnaethwyr,
Rhai ni wnânt moi waith er
Deisyf.
ersyn,
Oni fydd ei lyg aid arnyn?
Dewis di 'r fath rai a weithio,
D' waith yn
Gofalus.
garcys heb eu
Ceryddu
siacco;
Hoffa di i gweld hwy 'n siriol,
Pan y gwnânt ei gwaith yn wrol.
Rhag-ddarpara eu lluniaeth iddyn,
Yn eu gwaith, nâd ddiffyg arnyn:
Tâl ei cyflog
Iddynt.
ynt yn
Diddig
ddifâr;
'Nôl ei gwaith, nhwy bie 'r wabar.
Teilwng yw ei hîr ir Gweithiwr:
'Nôl ei haeddiant, rho ith
Gwasanaethwr.
'snaethwr;
Ym-mhôb gwaith sydd dda cefnoga,
Fe wna 'th waith yn well, pryd nessa.
Wrth amodi cadw 'n ddilys,
Rhai o bethau ar dy ddewis:
Fod mewn rhan, yn well nâ 'th bromes.
Na wna 'th weision byth yn slafied:
Na ddôd arnynt waith rhy galed:
Weithie bid dy fwa 'n nattod;
Na fid yn ei blŷg yn wastod.
Y mae amser i rai weithio,
Ac mae amser i orphwyso:
Wrth dy 'nifail na fydd' sgymmyn;
Llai o lawer wrth dy
Wasanaeth-ddyn
snaethyn.
'Styria 'th wâs fel Dyn, fel Cristion,
Byth nis byddi wrtho 'n greulon:
Rho 'ddo amser o esmwythad,
Cyfattebol idd ei alwad.
Fal yr wyt ti 'n rhwym o ddifri,
Am dy weision i ofalu:
Felly am eu cyrph a'u neide,
Rhaid it roddi atteb gole.
Os digwydda i un
Gael ei ddestrywio.
fyscarrio,
Fe o fynnir it am dano:
Os bu hyn trwy dy 'sceulusdra,
Rhaid it' atteb am dy
Ynfydrwydd.
ddwldra.
Y mae 'n meistyr Crist yn cofio,
Y gwasnaethwr lleia s'iddo:
Pawb oi flaen
sydd a'r un llydander.
s â'r un ehangdeb;
Ger ei fron 'does derbyn wyneb.
Ti, a'th uwch, a'th îs, yn hynod,
Saif ar fyrr, ar Diroedd gwastod.
Cyfrif di 'th wasanaeth-ddynion,
Mysc dy blant dy hun yn dirion:
Sef, fod y plant beth yn uwch na 'r gweision.
Gradde ydyw 'r holl wahaniaeth:
Y mae 'r ddau dan 'r un rheoiaeth.
'Rwyt ti 'n Dâd ith Deulu hefyd:
Gwell gwâs doeth nâ phlentyn ynfyd:
'Rhwn a ddarfu 'th waith ei dreulio,
Na
Fwrn
thawl allan pan heneiddio.
Gyda'r goreu o'th gyfeillion:
Ond bydd siwr yn ddoeth gerydu,
Am ei fai dy wâs ar nailltu.
Cerydd dddirgel sydd yn toddi;
Cerydd
Cyhoeddus.
coeddus sy'n caledu:
A pharodol iawn i ddigio,
Y dyw'r sawl s'eb gwilydd arno.
Cyn arferech ormod
Siŵr
ddwndwr,
Gad i fynd pob drwg wasnaethwr:
Gwell it weithio 'th waith dy hunan,
Aras deg,
Gan dy bwyll, nâ gormod
Erchi.
gippian
Os yw 'th wâs yn ŵr mewn oedran,
Am ei fai na
Chura.
ffŷst ef weithian:
Drwg y gwedd ir gwâs a'r meistyr,
Fôd yn ymladd mewn un mesur.
Byth na chadw fwy o weision,
Ond sydd raid er dy achosion:
Rhai bonddigion cadarn
Nerthol.
terwyn,
Ddigeffy lwyd gan eu
Gweision-traed.
ffwytmyn.
Nâd ith weision, nac ith genel,
Na neb arall mewn un cornel,
Yn dy dŷ lwyr
Treulio.
wasto 'n erchyll,
Fwy nag ydwyt ti 'n ei ennill.
Mae dy weision (gwybydd) hefyd,
Yn gyfrannog o dy hawddfyd:
Ond os dan y storm y byddi,
Hwy a ffônt, ac ânt i lechu.
Rhai (gwir yw) a wnaethant lawer,
Dros eu meistred yn eu Blinder:
Ond nid yw hi 'n hâf, er gweled,
Ʋn neu ddau o'r bâch wenolied.
Llai o weision a fu feirw,
Dros eu Meistri fu 'n eu cadw;
Nag y
Cafas.
gas o Feistri mawrion,
Ei
Difa.
handwyo gan eu gweision.
PAn dewisech ffrind, bydd bwyllog:
Bydd wrth newid fwy
Gofalus.
gwagelog:
Nâd yn ebrwydd ith serch
Aros.
setlo,
Ond lle craffo, gwna 'ddo drigo.
Mae parhâd mewn cariad gwiw-iach,
Yn dwys ddilyn gwir gyfeillach:
Ac mae anwastadrwydd ynteu,
Yn Fai s' anhawdd iawn i faddeu.
Profa gyfaill cyn ei
Imddiried yntho
drysto,
Gwedyn na fid dowt am dano:
Byth ni wnei ith ffrind fwy niwed,
Nag am dano 'n dôst ddrŵg-dybied.
NA wna ddim i anfodloni
Y bendigaid Dduw, uchel-fri:
Na fid dim a wnelo ynte:
Yn dy anfodloni dithe.
Ac na fydded ond ûn 'wllys,
Rhwng dy Dduw a thithe 'n
Siccr.
ddilys:
Gwllys Duw ym-mhob rhyw bethe,
Ddlye fod dy 'wllys Dithe.
Bid yn weddaidd dy ymddygiad,
Fal un fydd o flaen ei lygad:
Psal. 139.
Mâe Duw'n canfod dy feddylie:
Mae e'n clywed dy holl eirie.
Os trosseddaist yn ei erbyn,
Haeddaist gôsp, 'dwyt nês er achwyn▪
Fe fydd Tŷst a Barnwr cyfion,
Am dy bechod a'th drosseddion.
Ac os bydd dy farn yn galed,
Mae hi hefyd mor gyfiawned:
Ond i ddiangc rhag yr ergyd,
Oddiwrth bechod cilia 'n ddiwyd.
PAn y gwelych feddau 'r meirw,
Darllen d'angeu yno 'n groyw:
Fal y maent hwy, byddi
Ar frŷs.
chwippyn;
Aethant hwy, 'rwyt tithe 'n canlyn.
Darfu idd eu clŷch
Canu.
fodrwyo,
Mae'th glôch ditheu 'n dechreu tinccio:
Am ben
Amser bychan.
trô, dy le nith nebydd;
Bêdd sy'n barod itti beunydd.
Angeu s'wrth y drws yn curo,
Daw ith dŷ'does
Môdd
llûn ei rwystro:
Cwplâ 'th waith cyn dêl yr Angeu;
Rhaid it
Ddyfod.
ddwad iw grafangeu.
Bydd di fyw fel un sy'n gwybod,
Fod yn rhaid it' gael dy ddattod:
Felly'n ddrws bydd dy farwolaeth,
I dy ddwyn i iechydwriaeth.
OS cyd-stadlu 'rhyn a haeddaist,
A'r cystyddie y dderbyniaist;
Di gae weld, fod dy ofydie,
Fyth yn llai na'th gâs bechode.
Gallse fod yn waeth dy nychdod,
Y mma, neu yn uffern issod:
'Does gan ddyn byw le i achwyn,
Galar. 3 39
Er bôd gofid yn ei ddilyn.
Canys mae e'n ffafor rhyfedd,
Fôd mewn lle i gael Trugaredd,
A bôd barn heb ei chyhoeddi,
Yn dy erbyn am ddrygioni.
Mwy nag wyt ti 'n haeddu yw cerydd;
Pa faint mwy yw pardwn dedwydd!
Nid yw dy gystyddie byrrion,
Ond fel pigad chwain neu gilion.
[Page 37] Os am fawr ddrwg 'rwyt' yng-harchar,
Ac os prwfier dy fai hagar;
Ffasar cael oth law ei llosgi,
Pan y bych ti 'n haeddu 'th grogi.
MEadwl wneuthur da cyhoeddus;
Y mae hyn yn siwr, yn ddilys,
Fod daioni cyffredinol,
Yn gan-gwell nâ da nailltuol.
Mwy o lês fydd i bôb ochor;
Ond ith hun bydd mwyaf gwobor:
Ni wnei byth dda cyffredinol,
Heb
Wneuthur.
wneid da ith hun yn hollol.
Nid all peth sydd dda ir cyfan,
Fod yn ddrwg i neb o un-rhan.
Gochel yspryd câs-bring, caled;
Er dy fwyn dy hun ni'th aned.
Mae ith wlâd ran ynot, cofia,
Megis.
Meis y mae ith blant o'r siwra;
Rhyfedd yw i ryw beth bychan,
Bwyso lawr y wlâd yn gyfan.
BYth na thŷb it golli 'th afel,
Ar dy ffrinds y ddarfu' madel;
Idd i cartref hwy ddanfonwyd;
Darfu' gwaith, ai
Siwrne
taith orphenwyd.
Tra bych ar eu hôl yn
Bôd.
bodio,
A'r storm ar dy ben yn curo,
Maent (os duwiol
Oeddynt.
oent) yn llawen,
Yn y nefoedd, hardd, ddisglairwen.
'Rhyn sy gennit yn dy olwg,
Sy 'n eu dwylo nhwy yn amlwg:
Hwy ennillsont goron
Tra anwyl.
fawr-gu,
Rwyt ti etto i
Orchfygu.
gwngcweru.
Mae eu gwisgoedd hwyntau 'n wnnion:
Daethont hwy o'r môr yn gefnog;
Ond 'rwyt ti'n y dyfroedd tonnog.
Fe lwyr sychwyd eu holl ddagre,
Llawn o wlîth yw 'th ryddie dithe:
Na alara drostynt weithian,
Ond galara dros dy hunan.
Maent hwy 'n siccir yn fwy happys,
Gan eu mynd ir nef yn ddilys,
On blaen ni y rhai daiarol,
Os y buont fyw yn rasol.
Am ochelyd profedigaethe.
I Ymgadw rhag y peehod;
Rhag yr achos cadw 'n wastod:
Hawsach ffoi rhag temptasiwne,
Nai gwrthnebu yn y cyfle.
Gochel
Pitch.
bûg rhag dy ddi-harddu;
Gochel ffordd sy 'n enbyd trwyddi;
Ni d Doethineb byth i tithe,
Ddwad ir man sy'n llawn perigle.
Gwêl di fel y mae'r gilionen,
Yn y fflam yn llosgi haden,
Gwedi chware dautu 'r ganwyll;
Dyna ddaw o fod yn byrrbwyll!
Byth na thryst ith nerth dy hunan,
Rhai trwy ryfig a syrthiasan:
Gwell gan hynny bod yn
Gofalus
garccys,
Na bod byth yn rhy hyderus.
Anhawdd sefyll mewn lle llithrig,
Bod yn lân' mysc rhai llygredig:
Cofia fel y cwympodd
Peter.
Cephas,Yn nhŷ'r Archoffeiriad Caiphas.
Gochel abwyd ar y bache,
D'olwg trô 'ddiwrth Demptasiwne:
Gellir d'hudo trwy 'th olygon.
Job 31. 1.
Temptiwr cyfrwys sy'n dy gymmell,
Prawf trwy rym, a phrawf trwy dddichell;
Os fel llew ni thynn mo'r Afal,
Fal sarph i ddring ad mae fo'n abal.
MEgis Dwr y mae dy fywyd,
Fyth yn Rhedeg, heb ddychwelyd:
Bob dydd 'rwti 'n marw 'n
Ddie.
ddios,
I Ddoe 'rwyti 'n farw eisios.
Mae 'th dŷ clai yn agos syrthio,
Clefyd bach a wna 'ddo siglo;
Pwy all ddwedyd nad y nessa,
Y dyw 'r clefyd a'th ddestrywia?
Am hîr fywyd nis edrychaf:
Am lân fywyd mi 'tolygaf,
Ar ir Arglwydd i roi immi,
Fel bo'i parod i
Farw.
ddattodi.
Ni waeth er cynted'r âf oddiyma
Pan bo 'ngwaith i gwedi cwpla:
Ni châf weled Duw 'n rhy ebrwydd;
Yn rhy frau ni chaf happusrwydd.
Am ymgussuro mewn gobaith o'r nêf.
YDyw 'th gyflwr yn gymylys?
Gloewi wna, a'r Haul y ddengys:
Nâd i Dristwch gael ei llwybyr;
Pâr i chwithdra 'mado 'n bryssyr.
'Styria ble 'rwyt ti 'n trafaelu,
Gâd ith obaith dy ddiddanu:
Drwg gweld sant yn anniddanus,
Pan bo 'n mynd tuar nef
Llawen
orhoenus.
Na fydd Drist, ond bellach meddwl,
Y gwna 'r nef iawn am y cwbwl:
[Page 40] Rwyt ti etto dan dy oedran,
Heb. 10. 36.
Cais Amynedd ennyd fechan.
Mae 'r Etifedd yn meddiannu,
Ei Difeddiaeth, gwedi tyfu
Iw lawn oedran: felly 'r grasol,
Gânt mewn pryd y Deyrnas nefol.
Gall Tywysog fynd yn
Disguised.
ffugiol,
Mewn gwael wisc, trwy wlâd ddieithrol▪
Ond pan ddel iw wlâd ei hunan,
Hoyw fydd ei wisc, a gwiw-lan.
Ffordd ni phrisiaf, tra bo'i 'n hysbys,
Tua 'm Tref ei bôd hi 'n tywys:
Am fy nhaith, 'dwi 'n meddwl cymmyn,
Ac wi 'n feddwl am ei therfyn.
Na chais Nefoedd ar y Ddaiar,
Ni chaift pawb ddwy nefoedd hawddgar:
Trwy iawn 'styried, hawdd yw canfod
Un yn ddigon, dwy yn ormod.
Nid yw
Cynnysgaeth.
gwaddol mewn meddiannad,
Yr un pryd ac mewn disgwyliad:
Na chais fwytta byth dy Fara,
Heb ysgogi draw nac ymma.
Y mae Gwaith i flaenu gwabar,
Cwncwerwr.
Fictor sy 'n cael coron hawddgar.
Am gael llwybyr têg nac edrych,
Yn llawn Roses hardd, pereiddwych.
Dioddefia dau sydd briodol,
I dy gyflwr di 'n bresennol:
A fynnu fod dy letty 'n gyfan,
Megis ac y mae dy Drigfan?
Am drwbwl ynghylch cystyddiau i ddyfod, ac wedi dyfod.
BYth na chrea it dy hunan,
Un rhyw groes na mawr, na bychan:
Nid yw hynny ddim peth amgen,
Nag ymofyn clwm mewm brwynen.
F' alle nis cae ei feddianu:
Digon ebr tafod pur-lan,
Mat. 6. 34
I bob dydd ei ddrwg ei hunan.
Byth ysgatfydd ni ddigwydda,
Mo'r trallodion y ddisgwylia
D'enaid arnat, am
Iddynt.
ynt ddisgyn,
Felly am ddim mae 'th drwbwl
Poeth.
terwyn.
Ond ystyria hyn yn ddios,
Mae 'n bryd dife pan dêl achos,
Itti riddfan am dy drallod;
Blinder blaen-llaw sydd yn ormod.
'Rhyn sydd gennif mi meddiannaf,
Doed y peth a ddelo nessaf:
Ac mi dorra 'm syched heddu,
Er bydd diffig diod y foru.
Os ystyrii 'r drwg ddigwyddodd,
I rai eraill bob amseroedd;
Ni ryfeddu 'r digwyddiade,
Y ddigwyddo 'n awr i tithe.
Ydyw pethau 'n mynd ir gwaetha,
Gyda 'th well mae 'n waeth mi gwranta.
Wyt ti'n dlawd?
Fel hyn.
yn llyn 'roedd fforten,
Rhai o'r gwycha ar y ddairen.
Rhai fu 'n dlawd trwy eu dewissiad,
A'r rhan fwyaf trwy ddigwyddiad.
Gwagedd ydyw golud lawr,
Cans hwy ddygant dra-mawr blinder.
Mae poen mawr i gasclu golud;
Blinder sydd o'i-colli hefyd:
le gwnant i ddynion gwympo,
1 Tim. 6.9.
Megis Gwisc ar lawr fo'n llysco.
Dlywn fod i'm Tâd yn fodlon,
Os trîn fi fel pawb oi feibion:
Nid yw reswm ir mâb gwaetha,
Ddisgwyl cael y
Cyfran.
porsiwn mwya.
Ddilyn dynol ryw'n wastadol,
Beri itti gwyno 'mhellach,
Bod yn drwm, yn drist, neu rwgnach.
Cefen at y baich a luniwyd,
Eraill megis dithe lwythwyd:
Pa sawl un sy'n mynd yn
Dysal.
ystig,
Dan rhyw
Llwythau.
goelau mwy pwysedig?
Gâd fod rhai dan lai o groese,
Etto er hyn nac achwyn Dithe:
Os wyt ti, nâ hwy 'n fwy nerthol,
D'wllys bid, ith rym
Crfattebol.
'n attebol.
Darfu'm geni i drallode,
Idd eu cario gwnaf fyng ore.
Job 5. 7.
BYdd yn sobr, bydd gofalus,
Na roech lê ith chwantau nwyfus,
I lwyr dreulio 'rhyn sydd gennyd,
Y ddarparaist at dy fywyd.
Tôst gweld dyn yn treulio 'r cwbwl,
Ac a' nillwyd trwy fawr drwbwl,
Gan wastraffu, bwytt a ac yfed,
Gwedy'n goddef newyn caled.
Na ro 'r ffrwyn ith gnawd, ond gossod
Rwyme ar dy chwantau 'n wastod:
Dysc hwy gadw eu terfynne;
Nâd hwy fyned dros y bangce.
Cymmer 'rhyn sydd anghenrheidiol;
Naro glust ith nattur gnawdol:
Ymattal.
Stoppa, gwel pan bych yn ddife,
Blin yw chwennych gormod bethe.
Pan bo plesser yn dy demptio,
Tro fe o amgylch, idd ei chwilio:
Edrych ar y rhan tu-cefen,
Fel ar hwn sydd at yr haul-wen.
[Page 43] Os mewn pethau drwg mae 'th hoffder,
Trist ochneidion a'i try 'n surder:
Consciens ddaw ryw bryd ith wascu,
Am it ddilyn gyfryw frynti.
Rhuf 2.
Cymmer rybydd oddiwrth
Solomon.
selyf,
'Rhwn a ddwedei yn
Drist.
an-nigrif,
Gwedi 'mlenwi â phôb melyswedd,
Nid yw'r cwbwl oll ond gwagedd.
Gad i brofiad hwnnw ith gadw,
Rhag plesserau a dry 'n chwerw.
Os gwell synwyr gwedi brynu,
Cofia 'th
Cnofeydd dy gydwybod.
gnofeydd hên 'n ol pechu.
Ti addewaist it dy hunan,
Ond cael plesser 'n ôl dy amcan,
Y ceit lawer o hapusrwydd,
Ffaelest er hyn gael bodlonrwydd.
Gwascfa 'th gonsciens, ofn Angeu,
A'r mawr gyfri raid yn oleu,
Itti roddi ir Barnwr cyfion
Am dy ddrwg, ai trôdd hwy'n chwerwon.
Pan y ceisir nessa 'th dwyllo,
Cofia beth wyt wedi
Gael.
ffeindio:
Nid oes le ith esgusodi,
Os ddwy-waith y cymry 'th
Dy dwyllo.
siommi.
Am ochelydEdliw. dannod ei gwendid i eraill.
GOchel ddannod gwendid arall;
Ei an-harddwch cela 'n ddiwall:
Cuddia ei glwyf, â'th fŷs yn ebrwydd,
Nâd (os gelli) weld ei wradwydd.
Na chyhoedda fai neb weithian,
I wradwyddo 'r gwann a thruan:
Ac na feddwl ymdderchafu,
Pan bo arall gwedi ffaelu.
Ond rhyfedda di yn ddysal,
Y daioni sy 'n dy gynnal;
Bid ei gwymp ith istwng dithe.
Yr un ffynnon sydd ym-mhob dyn,
Yr un galon front
Cyndyn.
anhydyn:
Ti allassit fod fal ynte,
Neu ti elli cyn mawr ddyddie.
Bydd am hynny 'n
Gofaius
garccys weithian;
Edrych at dy draed dy hunan:
Rhwn y sydd yn sefyll etto,
Gochled ef rhag iddo syrthio.
1 Cor. 10. 12.
BYth na newid dŷb am ddynion,
Ac na farna hwynt yn greuion,
Am
Iddynt.
ynt newid attat tithe,
Yn eu cariad a'u serchiade.
Ond ystyria di yn gywrain,
Beth sydd ynddynt hwy eu hunain;
Ac nid beth ynt tuag attad,
O ran un math o ymddygiad.
F' alle eu bod nhwy 'run yn wastod,
I ddaioni yn dra pharod:
Gall fod ynnot ti 'r achosion,
O newidiad eu serchiadon.
Ti ysgatfydd wyt yn haeddu
Mawr gasineb am ddrygioni:
Ac nid rhyfedd yw yn
Ddiau.
ddios,
Os try'r
Gweithrediad.
effaith gyda'r achos.
AM dy bechod byth na fostia,
Am dy
Cwilydd
warth na orfoledda:
Gorchudd dros dy noethni bwrw,
Rhag drwg enw byth ymgadw.
Nid rhaid.
Traid i eraill weld yn gyfan,
'Rhyn mae Duw 'n ei weld a'th hunan.
Digwilydd-dra yw hynny'n wastod.
Edifara pan bych feius,
Wyneb-liwia di yn ddilvs:
Bydd fwy parod i gyffessu
Dy fai, nag y bychi
esgusu.
'sgussu.
Dros y drwg na 'mgeccra un-amser;
Gwellha 'th hunan yn
Diofn-Dihar. 28. 13.
ddi-bryder:
Synwyr ydyw adde 'th bechod,
Ar bob dydd o flaen y Drindod.
Y mae'r gân sy'n canlyn, yn dyfod allan yn agos gan mwyaf, fal y daeth hi, i'n nwylo i; ond mi adewais lawer o bethau ynthi, heb eu rhoddi ir printiwr; am fod eisie arian i fynd ym-mhellach, ac am ryw rysymmau eraill. Mae llawer o'r geiriau ynthi, yn anghydnabyddus, nid yn unic yng Gwynedd, ond hefyd yn Neheubarth; ac oblegit bod y vers o'r fath hŷd, nid oedd lle i hagoryd hwynt yn ymyl y ddalen.
Ymddiddan rhwng hên wr dall a'r Angeu.
GYnt 'roedd rhyw henafgwr, heb weld na lliw na llûn,
Yn eiste 'n ymyl llwybyr, gan ddwedyd wrtho ei hun
Bum ifangc gynt a gwrol, yn awr gwae finne 'n brûdd,
Mi aethym yn fethedig, heb weld mo ole'r dydd.
Cawn barch pan oeddwn ifangc, yn byw mewn rhyfyg fflawns,
Yn trîn mawr olud bydol, yn dilyn ofer shawns:
Yn awr pob rhyw oferddyn, sy 'moccian i o hŷd,,
Och! na ddawe 'r Ange, i fynd a mi o'r bŷd.
Angeu.
Ar hyn fe ddwedei 'r Ange, ha! beth yw'r matter ŵr?
Pam 'r ydych wrth eich hunan, yn cadwy fâth stwr?
Dall.
Pa stwr wi yn ei gadw? gwr tywyll hèn wyfi,
Syr ewch ich ffordd attolwg, 'dwi'n yngan wrthychwi.
Angeu.
Nid âf oddiymma dippyn, a dweid y gwir yn llynn,
I gwnnu 'm rhent y daethym, yn awr ir parthe hyn:
Pan clywais i'ch lleferydd, myfi 'ch nabŷm chwi syr,
Rych chwithe yn sy nyled, rhaid talu im ar fyrr.
Dall.
Syr'rwi 'n gwadu'ch dyled, ar goedd y byd yn awr.
Angeu.
Syr 'dych nês er gwadu, mi wna i chwi dalu i lawr.
Dall.
Syr 'dwi'n nabod m'honoch, a dwedyd i chwi 'r gwîr.
Angeu.
Syr mi wna 'chwi'm nabod, a hynny cyn boi hîr.
Dall.
Arefwch syr os gellwch, gwell pwyll nag Aur eriôd,
Ac nid oes traws yn un-man, heb drawsach iddo 'n bôd:
Syr dwed wch im attolwg, pwy'n ydych chwi'n ddi-blê,
Ac o ba wlâd y daethoch, a pheth yw 'ch swydd yn nhre?
Angeu.
Mi ddweda itti wirionedd, ystyria 'r broffes hon;
Myfi 'r trafaelwr mwya, fu 'rioed yn cerdded tonn:
Er hyn, nid crwydryn ydwyf, heble i eiste i lawr,
Mae i' arglwyddiaethe i'n estyn, dros wyneb daiar glawr.
Ti ddwedaist nad oes traws, heb ei drawsach mewn rhyw le;
Ni welais neb cyn drawsed, nas gwnawn i 'n ddife ag e:
Mi fum yn rhodio 'r hên-fyd, ymmysc hên Adda ai blant,
Mi gwympwn yr hên Deide, pan mynnwn wrth fy chwant.
Diglywaist am Methuslah, bufyw hyd agos mîl,
A Chewri y pryd hynny, oedd fawr eu grym ai scîl;
Ni 'mdrechais â neb etto, na thrown e'n issa 'n frau,
Cyna chwedi 'r diliw, mysi yw'r cwngewerwr clau.
Mi droes ddinasoedd cadarn, fugynt yn hoyw 'n falch,
Fel Sodom a Gomorra, i fod fel crug o galch:
Mi fum yng hwrt hên Pharoh, lle 'roedd y rhwysc a'r rhôch,
Mi ddygais bywyd hwnnw, yn eigion y môr côch.
[Page 47] Gwâs gwŷch o ŵr oedd
Sampson, mi tafles ynte i lawr:
Mi dorrais ascwrn talcen yr hen Goliah mawr:
Ac ynte 'r llangc Absalon, er tecced oedd ei ben,
Mi aeth a hoedel hwnnw, mewn gâllt o goed wrth bren
Salmon fawr ei gyfoeth, gwr doetha ar bôb llwyth,
Pan cydiais yn ei goryn, ni thale'i synwyr bwyth.
Holophernes greulon, 'rhwn oedd ai fryd ar drais,
Mi dorrais ei gorn pori, ni chafas wneuthur llais.
Alexander nerthol gwngcwerwys llawer gwlad,
Gan droi penaethiaid cadarn, fel sofol dan ei drâd,
Fe dybiodd yn ei galon, ei fod e'n Dduw ei hun,
Ond gwnaethum iddo wybod, nad oedd yntau ond dŷn.
Ni ofnas i nac Emprwr, na phennaeth fu ar ddâr,
Nac un creadur arall, bydded gwyllt na gwâr.
Mi â 'r flwyddyn nessa i Rufein, clyw hyn fâb,
A byddaf yno 'n gynnar, yn siglo llaw â'r pâb:
Er ei holl weddie lladin, ai groesau ar bob pren,
Mi trawaf nes bo 'n syrthio, ir ddaiar dros ei ben
Ai ffeiriaid dû corynfol, cornelog gappe brain,
(Ni bu er amser Adda, 'r fath sothach ac yw rhain,
Mae ganthynt ddwr a fferen, a gweddi ar bob sant)
Ond mi ddisodla rheini, ar fyrder bob yn gant.
A thymma beth yw f' enw, myfi yw'r Angeu syth,
Am neges yw dwad ymma, i geisio 'th anal chwyth.
Dall.
Os rhoddaist di 'r holl gedyrn, dan dy fyllt yn ffest,
Minne ro itti gyngor, cadw 'r gair y gest.
Esgusa fi, di elli, a gwybydd yn ddiwall,
Ni chei di ond y cwilydd, o gwympo hên ddyn dall
Angeu.
Rwi 'n gwrando ar dy eirie, ond dymma 'r peth sy'n bod,
Nifedrais gymryd cwilydd, am un rhyw beth eriod:
'Dwi'n prissio am yr henaint, neu 'r iengctid têg ei grân;
Na wna ddim clecc ymhellach, ond tyred yn dy flân.
Dall. O pam nachawswn rybydd, ychydig cyn dy ddod!
Nibuof mor amharod, ac wyfi 'n awr eriod.
Angeu.
Oni chollaist di dy lygaid, 'roedd hyn yn rybydd gwir,
Pan bytho'r Haul yn machlyd, ni phara 'r dydd yn hir:
Ac os amharod ydwyt, beth yw hynny im-fi,
Mae'r beion hynny 'n gorwedd, yr-wan arnat ti.
Ystyria hyn ymhellach, ni 'm-rwymes i eriod,
I roddi dim rhybyddion, nes delwn at y nôd:
Mae gennif hyn o ddewis, ar fyllaw fy hun,
Er im rybyddio llawer, 'rwi 'n syrthio ar ambell un,
Fel gwilliad ar gywir-ddyn, heb ynganyd fawr,
Ond rhoi mûd ergyd marwol, nes bo'n hwy 'n cwympo i lawr.
Pan oedd plant Job yn gwledda, yn llawen iawn ynghyd,
Mi delies hwy bob coppa, heb rybydd yn y byd.
Mi gwympes wyr penuchel, pan oeddent hoenus iach,
Mi dages pâb corynfalch, ag un gwybedyn bach.
Mewn un ffordd yn geni, mae pawb ir ddaiar faith,
Mewn mil o ffyrdd yn trengi, diglywest lawer gwaith.
Dall.
Mae'n anodd cadw rhagot, yn awr mi welaf pun,
Waith llawer ffordd sydd gennit, i ddwgid bywyd dyn:
Anhweithach genni farw, a mynd ir ddaiar ddù,
Heb gael meddiannu rhagor, o'r byd yn awr y sy.
Achiles fawr a ddwedodd, gwell gantho sod yn wâs,
I un o'r dynion gwaela, ar wyneb daiar lâs,
Nâ phe cae fodyn Frenin, yn y byd y ddaw,
A gorfod arno roddi, ir Angeu drôd allaw.
Rwyf inne o'r un feddwl, tolygaf ar hyn o bryd,
Gâd immi fynd imguddio, lle gallwyf yn y byd.
Angeu.
Ha! eisie lle i 'mguddio, yn awr sydd arnat ti,
Nid oes na thwr na chastell, a'th gadw rhagofi;
Nid oes un lloches dywyll, na fedraf yno 'th gwrdd;
Mae ynnot ti glesydon, ith ddwyn o'r byd i ffwrdd.
Dall.
Os does y fath glefydon, yn fyng horph yn llawn,
Gobeithio ca'i f'helpu, gan Ddoctor cynnil iawn.
Angeu.
Does Doctor ary ddaiar, a all dy gadw 'n fyw,
Pan y delwyf attad, i roi ti farwol friw.
'Dwi 'n prissio am bils, na phisic, nâ 'r plaster gore fo,
Mynnu wnai fy eiddo, ble byana 'r bydy bo.
Di glywest goffa Galen, godidog oedd ei ben,
Cwympo a wnaeth fel dalen, yn syrthio 'ddiar y pren.
Pob meddyg a physygwr, er maint ei ddyscy fo,
Y ddont im fi 'n garcharwyr, pan delo byth ei tro.
Ond pam y gelwaist gynne, i ddwyn dy oes o'r byd?
A chilio wnaet pes gellit, mi wela 'r hyno bryd.
Dall.
Pan daethost gynne attaf, dymma'r gwir yn iawn,
Trywanu 'roedd trallodion, trwy meddwl i yn llawn:
Rwi fi fel dyn ar dempest, fae 'n ceisio cuddio 'i ben,
A phân del tawel dirion, mynd dan yr wybyr wen.
Pan delo cystydd arnaf, dyma 'r 'cownt wi 'n roi,
Mi fydda 'n chwennych 'madel, a hyn o fyd yn gloi:
A phan caffo i lonyddwch, a llwyddiant ym-hob lliw,
Mi fyddaf yn chwennychu, caclamser mwy i fyw.
Angeu.
Rwyt yn chwennych oedi, mi welaf hynny byth,
Mae f' awr i bron a dyfod, i roi it ergyd syth.
Dall.
O! dal dy law rhag taro, mae immi weiniaid bach,
Am gwraig sydd yn ochneidio, o herwydd nad wyf iach.
Angeu.
Na sonia am drueni, nidoeg ynno i yn bod,
Ʋn messur o drug aredd, at rhyw beth eriod:
Nis gwn beth yw tosturi, dyma wir di-feth,
Fegaewyd fy'mysgaroedd, rhag y cyfryw beth.
Rwi 'n croppio blode hardd-deg, cyn caffont dorri mâs,
Rwi 'n tynnu 'r ffrwyth pereiddia, pan bythont ond yn lâs,
Rwi 'n cwympo iengctyd campus, heb edrych ar ei grân,
A merched ffein sidanog, i gymisc llithrod mân.
[Page 50] Rwi 'n dwgid plant serchog-lan, heb roddi rhesswn pam,
Pan fythont yn ei trwmgwsc, rhwng anwyl freichieu mam:
Dwi 'n prissio gweld ymddifaid, pan bont yn pliccio 'i gwallt,
Na gweled gwragedd gweddwon, yn wylo 'r dwr yn hallt.
Ni spariaf ddyn daiarol, pa bydde'n aur ei gôb,
Brenin dychryniade, yw 'm henw 'n llyfyr Jôb.
Mynegais itti weithian, mor anorchfygol wyf,
Mor wael yw dyn daiarol, er maint ei rwysc ai rwyf.
Einios dyn sydd gwtta, a llawn o boen a chûr,
Treulio mae hi 'n ebrwydd, fel diwrnod gweithiwr hir;
Heddyw yn ymwychu, yn ddigon hardd ei wedd,
Y foru 'n ôl oferedd, yn gorwedd yn y bedd.
Fe ddywedodd Job brofedig, hyn ymma yn ei ddydd,
Fod amsèr dyn yn rhedeg, megis gwennol gwydd,
Fel breuddwyd gwedi passio, mwg, a niwl, a tharth,
Ne chweddel gynt y ddwespwyd, ne grîn edafedd carth.
Fe ddwedodd Dafydd frenin, gwr y wydde pûn,
Gwagedd ar y gore, ydyw 'r gore o ddyn,
Megis blode 'r bore, y fae yn beraidd iawn,
Y dorrid yn dra ebrwydd, y wiwen cyn pryd-nawn.
Dall.
Och! n'allaf ond rhyfeddu, wrth weld mor wael yw dyn,
Pam na ryfedda miliodd, hynny gyda'm hun?
Cans gwir yw'r peth y ddwedaist, yn awr oth enau mâs,
Does dim trwy 'r byd yn serten, i ddyn ond angeu glâs.
A minne, gwedi dadle, o honot encyd fawr,
Sy'n gorfod gostwng hwyle, a phlygu itti nawr:
Ond gâd imofyn cwestiwn, (dymma wir defêth,
Cyn immi golli 'mllygaid, mi fedrwn ddarllen peth)
Mi welais gennif lyfyr, ac oedd yn dweid yn ffraeth,
Fynd dau i deyrnas nefoedd, heb brofi Angeu caeth,
Sef Enoch ac Elias, a chan mae gwir yw hyn,
Dywaid i mi o Angeu, pa fodd bu 'r peth yn llyn?
Angeu.
Mewn 'chydig eirie 'rwan, cei atteb genni 'n rhôdd,
Ni ches Awdurdod arnynt, wel dyna itti 'r môdd.
Dall.
Awdurd od hâb y ddwedaist! oes rhyw un uwch dy law?
Ond tydi sy'n rheoli, ym-hob man, yma a thraw.
Angeu.
Nage rwi dan Awdurdod, 'orchmynnir immi wna'i,
Ac megis dwedodd Balam, ni wnai na mwy, na llai.
Dall.
A fyddi di mor fwyned, a maneg immi hyn,
Ble tarddwys dy ddechreuad, a pha beth yw dy rym?
Angeu.
Brenin y brenhinoedd, creawdwr nef a llawr,
Gwneuthurwr pob creadur, trwy'r greadigaeth fawr;
A luniwys ddyn yn berffaith, fe gwisgwys of â chlôd,
Ym mharadwys beraidd, cyn im-fi gaffel bôd.
Fe roddwys iddo gyfraith, oedd berffaith yn eille,
A gallu i gadw'r gyfraith, y roddwyd iddo fe:
A gwabar oi chyflawni, oedd bywyd, heb ddim llai,
Ond os trosseddei 'r gyfraith, cae farw yn ddiai.
Fe ddoeth y sarph gyfrwys-gall, hi roddwys gwymp ir dyn:
Ac ar y cwymp fe gollodd, y gallu oedd ynddo ei hun:
Fa'th dan awdurdod Angeu, er cyfuwch oedd ei fri:
Wel dyna'r awr a'r amser, yn wir yng-aned i.
Y Grôth am bwrodd ollan, oedd y pechod taer,
A thra parhaffo pechod, mi fyddaf ar y ddaer:
Pechod ydyw 'ngholyn, a phechod ydyw 'ngrym,
Oddiar bechod Adda, y daeth dechreuad im.
Mae gennif i gommissiwn, ac ynddo lawer pwyth,
Os gorfydd im ei ddarllen, fe wna'n dy galon fwyth.
Dall.
Ond agor dy gommissiwn, darllen hwn imfi,
Gâd immi gaffel clywed, yn awr dy waetha di.
Angeu.
Mae gennif i gommissiwn i wneuthur ysgar maith,
Rhyngot ti â'r cwbwl, sy ar wyneb daiar faith;
Dy wraig ânwylwych gysson, ath blant, a'th geraint cû,
Ath hoffder, ath blessere, a phob rhyw beth y sy.
[Page 52] Dy Aur, ath berls ath dlysse, tae g ennit fwy na mwy,
Y fyddan yn ei trafod, ni wyddost ti gan bwy,
Ath diroedd mawr ath blassodd, lle 'roedd dy galon gynt,
Fe orfydditti gadel, heb glywed mwy moi hynt.
Yn lle dy drwssiad gwerthfawr, fe roir o gylch ith ben,
Hân o lîn ne wlanen, mewn cophor cûl o bren;
Nichei di'n lle 'r holl olud y gesglest trwy fawr boen,
Ond hynny ar y gore, o fôdd i guddio'th groen.
Rhaid itti ado 'r cyfan, oth gyfoeth ar dy ôl,
Heb wybod pwy' meddianna, paun ne call ne ffôl:
Yn lle dy stafell ddisglair, fe'th roer mewn bedd yng-hûdd,
Yn lle dy holl ddainteithion, cei lond dy eneu o bridd.
Ni chei di 'n lle 'th gyfeillion, fu fwynion gynt ar don,
Ond amwyd a phryfedach, ym-herfedd daiar gron.
Mae gennif fi awdurdod, i wneuthur â ti 'n llyn,
Y w'th galon di'n gwanegu dim wrth glywed hyn.
Dall.
Yn wir mae 'n rhaid im addef, fod ambell waneg shom,
Yn trywanu trwyddof, mae 'nghalon fach yn drom,
Wrth feddwl fel y gorfydd, adel yma'n llwyr,
Y pethau oll y gesglais, yn fore ac yn hwyr,
Heb gaffael mwy ddychwelyd, i ymgais o fym tŷ,
Na gobaith am gael gweled, y byd yn awr y sy.
Angeu.
Clyw, bum bron anghofio, ddwedyd un peth mawr,
Ond mae fo gwedi llithro, im meddwl i yn awr:
Pan delo 'r pryd i gnoccio, yn gadarn wrth dyborth,
Ac i wneuthur gwahan, rhwng dy enaid di ath gorph:
Fel y caffoi di 'r pryd hynny, mi'th gymraf yn ddiau,
Ac yn ôl imfi dy gymryd, ni chei di le i wellhau:
Y prîdd ir pridd a ddisgyn, o hono 'r yspryd aiff,
Ac megis y gadawoi ti, felly Barn dy gaiff.
Dall.
Gwirionedd mawr yw hynny, am hyn mi'mrodda 'n saith,
I geisio bod yn rasol, cyn gorffo im fynd ir daith,
Fel pan del fawr i farw, am corph i fynd ir bedd,
Am gwaith i gwedi orphen, bo 'm henaid fod mewn hedd.
[Page 53] Ond yr wyfi'n gweled, fod rhai (o ange clyw)
Yn rhagori ar ei gilydd, yn hyn o fyd wrth fyw:
A dymma beth yw'r cwestiwn, o dyro atteb plain!
Aoes dim rhagoriaeth, wrth farw rhwng y rhain?
Angeu.
Nid oes dim rhagoriaeth, rhwng un rhyw fath o ddyn,
O ran dim sy'n gorwedd, ar fy llaw fy hun:
Pan caffo i arch i daro, oddiwrth y Brenin mawr,
Heb edrych mewn un llygad, mi drawaf hed y llawr.
Mae'n hawdd iti dy hunan, welêd yn ddibâll,
Fel mae 'r ffôl yn marw, felly y mae'r câll:
A'r hwn ym-hob cyndynrwydd, y fu yma 'n byw,
Sy'n marw megis hwnnw, ac a ofnodd Dduw.
Ond disclair ddydd s'ir cyfiawn, yn y deyrnas draw,
Rhagoriaeth mawr ymddengys, yn y byd y ddaw:
Mae 'n anodd i neb farnu, er mynd dan boen a thraul,
Rhwng cariad a chasineb, wrth ddim sy dan yr haul.
At rai yr wyf yn dyfod, er llessiant ac er da,
Ac 'r wyfi 'n dwad at eraill, er tristwch ac er gwa:
Ond pwysy'n caffel tristwch, a phwy sy'n caffel bri,
Dirgelwch mawr yw hynny, na pherthyn ddim im fi.
Rhagluniaeth Duw sy'n ddwfn, yn dramawr, ac yn faith,
Ond serten yw gobrwyir, pob rhai yn ol ei gwaith.
Ystyria di yr union, a'r perffaith ddyn ei ddawn,
Mae i ddiwedd mewn tangnefydd, a phob llawenydd llawn:
A'r hwn na wnaeth gydwybod, oi ffyrdd tra fu yndo chwyth
Diwedd hwnnw yw tristwch, a phoen na dderfydd byth.
Dall.
Ti ddywedaist wrthyf gynne, yn awr rwi'n cofio 'n dda,
It gaffel dy ddechreuad, oddiwrth gwŷmp hên E-fa:
Minne glywais ddywedyd, gan wr a haeddau glôd,
Beth bynna gas ddechreuad, fod diwedd iddo 'n bod.
Angeu.
Myfi yn wir sydd gadarn, yn cwympo pob rhyw râdd,
Ond Angeu ddaw im-minne, im gorfod ac im lladd.
Pan trawer di gan Angeu, a marw 'n ddiogel, clyw,
Mae it tydi beth gobaith, am gael yr ail-waith fyw.
[Page 54] Ond pan y gorffo im farw, 'dwyf nes er celu'n hwy'
Nid oes im-fi ddim gobaith, am gaffel bywyd mwy.
Gosteg ddyn, bydd araf, os buof gynne'n draws,
Cei weithian gennif newydd, i wella ar dy naws,
A hynny yn dra distaw, neu 'n ddirgel yn dy glust,
Y baro ith galon gyffro, er ei bod gynne 'n drist.
Fe helodd y goruchaf, wrth weld trueni dyn,
O'r nefoedd wen orauraid, ei anwyl fab ei hun:
I fod fel dyn daiarol, fe gwiscwys ef â chnawd,
A hwn dros ddyn cwympedig, yn aberth pur y gawd,
Dan ddwylo pechaduriaid, bu Crist yn dioddef cûr,
'R ail berson yn y Drindod, heb bechod, ond yn bûr:
Roedd hwn o ran ei dduwdod, yn ogyfu wch' â Duw,
Yr un mewn braint a fylwedd, er tragwyddoldeb yw.
Ac hefyd yr oedd iddo, fel yr oedd e 'n ddyn:
Gnawd ac yspryd megis, y mae i tithe 'th hun.
Ond o ran ei genhedliad, 'roedd 'n bur yn bod,
Ni chaed y mymryn lleia, o bechod yndo 'r-iod:
Mi fynnwn gwympo'r Iesu, wrth ei weld e'n ddyn,
Ac wrth roi iddo 'r codwm, Bum bron a lladd fy hun.
O herwydd wedi roddi, i orwedd dan fy nôd,
Mor ddiogel yn fy 'ngharchar, ac y bysse dyn er-iod:
Torri wnaeth fy rhwyme, o anfodd i fy nhrwyn,
A dyfod fel cwncwerwr, yn rhydd i ben y twyn.
Nid oedd na nerth na cholyn, genif ar un pryd,
Ond y ges trwy bechod, a Christ a ddaeth ir byd,
I ddiddymu pechod, trwy Angeu gwael di-fri;
Ond trwy ddiddymmu 'r pechod, fo 'm dirymmwys i.
Pan 'r oedd Crist yn dioddef, marwolaeth chwerw loes,
Mi orfoleddais arno, yn uchel ar y groes.
A phan yr own yn bridio, nad oedd neb o'm bath,
Ni wybûm ar chweddel, nes down gantho 'n gaeth.
Myfi a wneuthum fagal, mi syrthias iddi'm hun,
Nid wyf yn awr ond egwan, fel rhyw fethedig ddyn.
Dyma 'r modd ymdrewais, och gwae finne 'n drist!
Immi yn fy nigcter, gwympo 'r Arglwydd Crist.
[Page 55] Ma gwedi'm trîn yn irad, ma gwedi sigo 'm shol,
Fo dorrodd fy'm cilddannedd, f'ath a'r bêl ir-gol:
Fe gropiwyd fy adenydd, fu lydain gynt a mawr,
Ac fe fyrhawd fy spage, dymma 'r modd 'rwi'n awr.
Er bod im nerth i ddala, niferodd yma a thraw,
'Does gennif nerth i gadw, y ddaliwyf yn fy llaw:
Er im gympo ei weision, yn agos ac ym-mhell
Maent yn awr mewn gobaith, i gaffael bywyd gwell.
Erfynant ar ei meistyr, am ddwad i farnu 'r byd,
Ac fe ddaw trangc i minne, pan delo hynny o bryd:
Rwi gwedi colli 'm colyn, a'm grym, a'm henw'm hun,
Ni bysse waeth im golli, fy mywyd dan yr un.
Angeu oedd fy enw, ym-hob yscrifen gynt,
Rhyw gwsc yn awr im gelwir, a thyma beth y w'm hynt:
Wrth rwymo Crist di weli, daeth immi ddigwydd trwm,
Crist sy gwedi ymddattod, a minne dan y clwm.
Dall.
Godidog yw'th newyddion, er tristed ynt i ti,
Mae 'r newydd yma 'n peri, cyssuron mawr im fi:
Ond etto pan boi 'n meddwl, mae pechod yw dy rym,
Mi fyddaf yn petrusso, dy fod er niwed im.
Cans er pan daethoi wybod, gwahan mewn dim eriod,
Yr ydwyf i yn gwybod, fod pechod yno i'n bôd:
O na bawn yn gwybod! ac o na ddwedit pun!
Yw'th golyn di mewn pwer, ne beidio arnai'm hun.
Angeu.
Ni chefais arch i atteb, fath gwestwn ac yw hwn,
Ond llawer peth y welais, y ddichon bod, mi gwn:
Mi 'th glywa di yn cwyno, dy fod di dan dy fai,
Pechadur wyt ti meddi, felly mae pob rhai.
Ond dymma beth yw'r matter, a ydwyt ti yn brudd,
Yn g'laru am dy bechod, yn ddysal nos a dydd?
A ydwyt ti'n dymuno, mewn llys, a llan a phorth,
Yngwbwl gael dy wared, oddiwrth y marwol gorph?
A ydwyt ti 'n bwriadu, trech ar y ddaiar las,
Ar geisio gwneuthur d'ore, i fynd o ras i ras?
A ydwyt ti yn ceisio, cyrraedd at y nod,
O alwadigaeth Dduw, yng-Hrist; er cyn dy fod?
A ydwyt ti yn gwbwl, yn rhwymo 'th hun yn gaeth,
I fyw 'nol yr efengyl, bydded gwell neu gwaeth.
[Page 56] A wyt ti 'nghrist yn credu, dymma 'r matter yw?
Os wyt, er itti farw, di gai yr ailwaith fyw.
Os fel hyn yw'th gyflwr, saf weithian ar dy drad,
'Dwifi ond llwybyr tomlyd, sy'th ddwyn i dy dy Dad:
Cai yno auraidd goron, ath wisco a braint a bri,
A'mddangos fel cwncwerwr, pan darffo am danafi.
Ond y sawl y fo'n mynd waeth waeth, mewn drwg hyd at y nod,
Mae 'ngholyn mor wenwynol, i rheini ac bu eriod.
Wel dymma itti node, ymhola 'th bun yn llwyr,
Ni wn i beth yw'th galon, Duw a thithe wyr.
Dall.
Wrth y node yma, gobeithio 'r wyf yn brudd,
Fod yn fyng-halon inne, rhyw fessur bach o ffydd:
Pan fytho i'n ymholi, wrth y pethe enwaist ti,
Mae rhyw ddiddanwch ddirgel, yn treiglo'i mynwes i.
'Nawr mi ges gnabyddiaeth, pan darffo 'r bywyd hyn,
Fod byd sy well yn canlyn, yn nheyrnas Iesu gwyn.
A gas neb trwy 'r ddaiar, y fath drugaredd sy'm?
Sef gorfod ar farwolaeth, bregethu hywyd im.
Er hyn, o iengctid mwynion, sy'n byw 'n ddiofal iawn!
Mi roddaf i chwi gyngor, er tecced ydyw 'ch dawn:
Y mgweiriwch bawb i farw, rhag na chaffoch chwi,
Ymddiddan cyd ar Angeu, ac y cefais i.
Dymuno 'rwysi weithian, ei Dduw fy nyscu o hyd,
I garu mab ei gariad, tra fytho i byw'n y byd.
Brenin y Brenhinoedd, rhyfeddol oedd dy ras,
Rhoi 'th anwyl fab im gwared, oddiwrth y pechod cas:
A thrwy 'm gwared oddiwrth bechod, cael hefyd fynd yn rhydd,
Oddiwrth golyn Angeu, mewn pechod oedd ynghudd.
Yn awr y rwi 'n gobeithio, im gael tifeirwch llwyr,
A phardwn am bob pechod, y wnaethum fore a hwyr.
Gresso i tithe 'r Angeu, yn awr ar gyfrif Crist;
Rho'r ergyd pan y mynych, ni byddaf mwyach trist:
Mi edrychaf yn dy wyneb, 'dwi 'n ofni marw clyw,
Mae mywyd wedi guddio, gyda Christ yn Nuw.
Ar fyr mi gaf fy symmyd, lle na allo mwy,
Y pechod brwnt na'r Angeu, fy mlino byth ynhwy.
Caf yno fywyd newydd, ymmisc seintie stor,
Caf ganu Haleluia, o fewn Angylaidd gor.
Pan y mynych tyred, O Ange tra yn-noi chwyth,
Nes delo 'nghyfnewiad, myfi ddisgwyliaf byth:
Gobeithio im gael ym gwared, oddiwrth dragwyddol wa,
Tra foi'n y byd presennol, dymma 'r pethy wna,
Mi 'mbiliaf am Creawdwr, am gael fy nyscu, sef,
I rodio 'r llwybyr union, sy 'n mynd i deyrnas nef,
Gan ymgweirio i farw, tra fo'i ymma'n byw.
Rhag Angeu annaturiol, Cadw fi o Dduw.
Achwyniad am rai drwg arferion pobl yng Hymru, a roddwyd allan gan mwyaf, gan wr ifangc o blwyf Abergwily, yn sir Gaerfyrddyn.
PAwb sy'n nabod y gwirionedd,
Clywch fi'n traethu am fawr wagedd,
Sydd yn blino 'r Arglwydd tirion:
F'achwyn sydd am
Ynfydrwydd.
ddwli dynion.
Y mae achos in-ni
Frawychu.
synnu,
Ac achlysur i ryfeddu,
Fod Dyn y rhows Duw iddo enaid,
Yn saith ffolach nâ 'r nifeiliaid.
Esay 1. 3.
Yr anni fail gwyllt a syrthio
Yn y ffoes, a wachel honno;
Mwyach nid aiff yno i bori,
Y têg-laswellt, rhag ei foddi.
Pob adervn, marcwch hesyd,
Pan gwêl fagal, cais ei gwechlyd;
Ac ni ddaw fe ddim yn agos,
Rhag ir fagal ddwyn ei einios.
Nid yw llawer dyn yn 'styried,
Fôd pechodau 'n llâdd yr enaid,
Ni 'madawant â 'i drygioni,
Er bydd hynny 'n siwr i damnu.
Onid ydyw dyn yn anffel,
Pan y rotho ei hun ir cythrel?
Ble mae gelyn waeth nâ hwnnw,
Y ddlyt fwyaf rhagddo 'mgadw.
Y mae llawer iawn a ddywaid,
Yndra mynych, Diawl y f' enaid:
Ond ynfydrwydd ydyw offrwm,
Ir Diawl atgas fwy nâ'r byd hwn?
Mae rhai 'n galw ar y cythrel,
Fod yn Dŷst
Iddynt.
ynt ar bob chweddel,
Llawer un a ddwed yn wysgi,
Ac yn gâs, Diawl oni bu hynny.
Dymma hefyd ffoledd creulon,
Ceisio Tâd a phen anwiredd,
Yn lle Tŷst am y gwirionedd.
Llawer sydd yn arfer tyngu,
Wrth y saint,
Megis.
meis,
laco a
Dewî:Felly gwneir hwy'n rai sy'n gwybod,
Ein calonnau meisy Drindod.
Yn y ffeiriau, yn y farchnad,
clywir llwon mawr yn wastad,
Weithie wrth Dduw, a weithie wrth Iesu,
Er gwardd a bygwth ofer dyngu.
Arfer rhai wrth godi 'r bore,
Y w troi bŷs o gylch eu trwyne,
I gael croes Duw, idd eu cadw,
Rhag pob drwg y dwthwn hwnnw.
Nid yw Duw yn erchi gwneuthur,
Un rhyw groes, yn yr yscrythur:
Nid yw'n addaw, y caiff hynny,
Wared un-dyn rhag drygioni.
Pan y clywo rhai 'r bioden,
Ar y llwyn i
Allan.
maes yn screchen,
Hwy ymswynant yn dra ebrwydd,
Rhag cael colled, neu ryw dramcwydd
Dymma
Ynfydrwydd.
ddwli Deilliaid angall,
Coelio 'r Deryn gwyllt di-ddeall,
Rhwn ni wyr beth 'ddaw i un-dyn:
Ond a ofnant a ddaw iddyn.
Dihar. 10. 24.
Mae rhai 'n myned pob nôs glammai,
At ryw swynwr, doeth ei ohweddlau;
I gael swyn iw Da, ai heiddo,
Rhag pob haint, a rhag eu rheibio.
Dyna ffolêdd melltigedig,
Ceisio help y cythrel ffyrnig;
Ac nid ceisio help Duw grasol,
Sy'n gofalu dros ei bobol.
Ar nôs glamme fyned allan,
I roi yn y
ŷd
llafyr gerdyn,
Rhag ir llafyr fethu ganthyn,
O'r fath ffoledd ydyw hwnnw!
Rhoddi hyder ar bren marw,
Ac nid trysto yng-Hrist Iesu,
Sydd yn peri 'r llafyr dyfu.
Rhai ni soniant am y marw,
Heb ddweid, nêf i enaid hwnw:
Ond ni cheisiant nef i un-dyn,
Hyd nes pasio 'r
Farn.
ferdid arnyn.
Mae gan fagad saith o dduwie,
Rheini ydywy saith ddyddie,
Duw Sul, Duw Llun, yw dau o honyn,
A'r pump eraill sydd yn canlyn.
Dymma arfer gâs annuwiol,
Ddysgodd yr hên Ddiawl ir bobol,
Galw enw 'r sanctaidd Drindod,
Yn gyffredin ar ddiwrnod.
Mae'r rhan fwyaf o blant dynion,
Yn halogi 'r Saboth gysson,
Tybiant
Iddynt.
ynt roi i Dduw orchmynwys
Os yn unic dônt ir Eglwys.
Gwedi darfod y Gwasanaeth,
Ni bydd sôd am Dduw nai Gyfreth:
Ond chwedleuant am eu pethau,
Am y Byd, a'u holl blesserau.
Ar Bryd-nhawn yn rhwydd hwy ddawan,
I wasnaethu 'r Filain Satan;
At ryw gamp neu ofer gwmpni,
I gael treulio 'r Dydd yn
Liawen.
firi.
Cadw 'r Saboth a orchmynnir,
Ei Halogiad a fwgwthir:
Num. 15. 35.
Daeth o'r nefoedd dôst ddiale,
Nehem. 13. 17, 18.
Am Halogi y Sabothe.
Wêl y Saboth ar y byrra:
Gwedi dreulio oreu gallon,
Gwelant yn eu gwaith ddeffygion.
Ond nid ydyw 'r drwg un amser,
Gwedi dreulio i gyd yn ofer,
Yn gweld arnynt ddim o feie,
Ond tebygu eu bod o'r gore.
Ar y Dydd hwn maent yn disgwyl,
I fynd at ei pechod anwyl,
Ac i fwrw ei holl hwsmanneth,
A pha waith sy'w ddechreu eilchweth▪
Hôff yw ganthynt ryw beth ofer,
I gael môdd i
Dreulio.
hala 'r amser,
Fel pe baent bob awr yn ofni,
Rhag
Iddynt.
ynt wneuthur dim daioni.
Y mae llawer iawn yn galw,
Ar Fair gyda Duw i cadw,
Fel pe byddei Duw yn ffaelu,
Nes cael cymmorth Dyn i helpu.
Ammarch blin a 'gwradwydd hefyd,
Ir Duw mawr sy'n cadw 'r holl-fyd,
Esay 43. 11
Ydyw ceisio gyda'r Drindod,
Ʋn Gwaredydd mewn dim trallod.
O! faint o biniwne ofer,
'Roes y Diawl ym-mhenne llawer;
Ac ni throant ddim oddiwrthynt,
Er maint a rybyddier arnynt.