TEG RESYMMEU Offeiriad Pabaidd WEDI EI HATTEB GAN BROTESTANT Eglwys Loegr.
A gyfieithwyd gan W. J.
Preintiedig yn Llundain dros R. Clavell dan Lun y Paun ym Mynwent Sant Pawl. 1686.
AT Y DARLLENNYDD.
YN yr Ymddiddanion a ganlyn (er nid y cwbl etto) y pwyntieu mwyaf pwysfawr ymha rai y mae Eglwys Rhufain mewn gwahaniaeth oddiwrth Eglwys Loegr ydynt yn gryno ag yn eglur wedi ei Hymresymmu: fal tra syddo ei Rhufeinaidd negesseuwyr yn Llafurio trwy ei Traethodion bychein, ai Hegwyddorion byrrion a Breintir beunydd ag a ddanfonir ar led i hudo'r Fath wannaf o Brotestanniaid, y byddant hwytheu barod a byrr a chystawn attebion yw twyllresymmeu arferol nhw. Ei rhuthr hwy fydd gann mwyaf yn y tywyllwch, A chan mai Ammhossibl ydyw bod bob amser gyda phob un or rhai y maent hwy yn cymeryd poen iw denu i [Page] mewn attynt, fo welwyd yn gymwys osod allan y Llawlyfr bychan yma i nerthu y sawl sydd wedi ei Hamgylchu. sal y byddant barod bob amser iw hymddiffin ei hunain: ir cyfryw ddiben y mae'r Yscrythur lan wedi i gorchymmyn ini yn y fan yma megis Eurfaen i wirio ein Hathrawiaeth ni, ag i Ddatcuddio ei Llygredigaetheu nhwytheu: A pha mwyaf y byddo ei heuogrwydd yn ei gyrru nhw i ffoi oddiwrthi hi, fwyfwy y dylae ein perffeithrwydd ninneu wneuthyd ini lynu wrthi hi. Am fod hon yn Llaw pob Protestant, ag mae cymmaint a chynnifer o lefoedd eglur ynddi yn Condemnio Opiniwneu ag arferion Eglwys Rhufain, ag nad rhaid wrth gyfarwyddyd na dealltwriaeth mawr yn y byd i weled ei gwahaniaeth nhw oddiwrth Air Duw; Ag nid eill holl ddysceidiaeth a chelfyddyd ei Hathrawon mwyaf nhw ei cuddio rhag ymofynnydd Disyml onest, a gymero ond y boen i Ddarllen y Duwiol, Digyfnewidiol, a Didwyll Lyfr Duw. Mi a wn ei bod nhw yn haeru, yn enwedig wrth y rhai Anllythyrennog, fod holl hynafiaeth yn eglur gyda nhw; ond goreu ir sawl nid ydynt gydnabyddus a [Page] hen Athrawon, adel y gofal hwnnw i Weinidogion Eglwys Loegr, pa rai bob amser hyd yn hyn, ai curasant wrth ym drechu ar arf honno hefyd. A chan y gallwn ni brofi yn gystadl drwyr Yscrythur a Hynasiaeth fod yr holl Byncieu newydd ag a chwanegasant nhw at ei ffydd yn dwyllodrus ag yn gelwyddog; ond maent hwy yn cyfaddeu fod yr holl Byncieu hynny or ffydd yr ydym ni yn ei dal megis yn Anghenrhaid i Jechydwriaeth yn gywir: A diammeu mai ein Crefydd ni, yn yr hon y mae pob-tu yn cyttuno, ydyw yr Grefydd buraf: Drachefn mai Didwyll eirieu yr Yscrythur lan a wiria ein Crefydd ni; Ond yr holl Byncieu hynny ymha rai y maent hwy yn gwahanu oddiwrthym ni nid ellir profi monynt ond trwy eiliw traddodiadeu, rhai o honynt sydd yn eglur yngwrthwyneb i Scrifennedig air Duw. Yr Yscrythur ni wnaethpwyd gennym ni, ond gan Dduw y Gwirionedd; Ag nid nyni yn unig, ond nhwytheu hefyd, a phob Cristion sydd yn addeu mai gair ag ewyllys Duw ydyw, ag mae hon yn eglur on tu ni: ond y traddodiadeu rheini oddiwrth ba rai y maent hwy yn cymeryd ei tystiolaeth ydynt oi [Page] g [...]neuthuriad ei hunain, ag yn ei cad [...]aeth ei hunain; Nid oes Gristnogion eraill yn y byd yn bodloni iddynt, ae nid oes gennym ni ond ei gair nhw ei hunain yn ei hachos ei hunain i brofi ei cywirdeb nhw. Ag o herwydd fod y peth fal hyn yr wyfi'n gobeithio na thwyllir neb byth i ymadel a Chrefydd bur, eglur, a didwyll, yr hon a orchymmynnodd Duw i hun, am Grefydd Amhur, Dwyllodrus, ag Anhybrawf, yr hon nid yw ddim amgen na dynol Ddychymmyg, fal yr ymddengys yn fwy helaeth yn y Dosparthiadeu sydd yn canlyn.
CYDYMDDADL RHWNG Offeiriad Pabaidd A PHROTESTANT O Eglwys Loegr.
Offeiriad Pabaidd. O Ba Grefydd yr ych chwi?
Protestant. Or ûn Grefydd ag a ddysgodd Crist a'i Apostolion, yr hon y mae Eglwys Loegr yn i chyfaddeu, o ba un yr wyfi yn aelod.
Off. Pabaidd. Pa fodd y gwyddoch chwi mat yr Grefydd yr ydych chwi yn i chyfaddeu ydyw yr un ag a Ddyscwyd gan Grist a'i Apostolion?
Prot. Trwy'r Yscrythyreu y rhai a adawsant hwy ar ei hol.
Off. Pab. Pa fodd y gellwch chwi Ddywedy [...] mai nhw a Scrifennodd ag a Adawodd y Llyfr hwnw oi hol?
Prot. Mae'r Llyfr yn deilwng or cyfryw Aw [...]iaid, a holl Gristnogion (er ei bod yn Anghyttuno mewn petheu eraill) ydynt yn cyttuno [...] hyn, ag ni feiddiwch chwitheu wadu monaw.
Off. Pab. Nid ydym ni yn gwadu mo hynny: Dywedyd yr ydym ni yn unig y dylaech chwi gydnabod mai gan Eglwys Rhufain y derbyniasoch chwi y Llyfr hwn ag mai ganddi hi y bydd rhaid i chwi ddeallt i ddeongliad ai ystyriaeth ef?
Prot. Fe'gadwyd y Llyfr yma ymhob Eglwys Gristionogawl ond nyni ai derbyniasom gan y Protestanniaid daionus rheini ai troesant yn Gymraeg; pan y cadwodd eich Offeirladeu chwi ef (fal y clywais i) yn Lladin, ai attal oddiwrth y fath wr Disyml a myfi, tra fuont yn rheoli yn ein plith ni.
Off. Pab. Er yddynt wneid felly 'roedd hynny yn unig rhag ofn i chwi wyrdroi'r Yscrythyreu ich dinistr eich hunain, 2 Pet. iii. 16.
Prot. Mae'r perygl hwnnw yn unig mewn rhai manneu anhawdd ei deallt y rhai y gallafi yn ddigon diberygl fod heb ei gwybod: Ond ymhob peth Anghenrhaid i Jechydwriaeth mae mor eglur ag y pair ddeallt i rai annichellgar, Psal. cxix. 130. Am hynny 'rwysi yn hyttrach yn credu mai cuddio'r cwbl a wnaethant rhagom ni, rhag ini weled ei siommedigaeth nhw; o ran pa mwyaf a ddarllenwyf or Yscrythur llai 'rwy 'n hoffi eich crefydd chwi.
[Page 3] Off. Pab. Ond ydyw hi yn rhyfyg maw ynoch chwi (yn wr Llyg) ddarllen y peth ni fedrwch i jawu ddeallt?
Prot. Nid ydyw hi ryfyg yn y byd ufuddhau gorchymmyn Crist yr hwn sydd yn peri ini Chwilio yr Yscrythyreu, Joan. v. 39. ag yn dywedyd mai eisieu gwybod yr Yscrythyreu ydwy 'rachos o amryfusedd, Math. xxii. 29. Ag yr ydys yn canmol y Bæreaid am brofi Athrawiaeth yr Apostolion wrth yr Yscrythyreu: Act. xvii. 11. Diau bellach os oes gennym ni orchymmynion a siampleu i ddarllen yr Yscrythur, rhaid yw meddwl y gallwn ni mewn rhyw fesur ei deallt.
Off. Pab. Wele, yr ydych chwi yn darllen y bydd Crist gyd ai Eglwys hyd ddiwedd y byd, Math. xxviii. 20. Am hynny chwi ddylaech goelio mai'r Eglwys Gatholic yn unig eill roddi ichwi jawn ddeall [...]wriaeth yr Yscrythyreu.
Prot. Yr ydwyfi 'n coelio hyn, ag yr wyfi yn aelod or Eglwys Gatholic yma a gwedi fy jawn fedyddio iddi; ag yn dal yr un Byncieu or Ffydd ag er y cynfyd yn gyffredinol a gredwyd ynddi, felly yr wyfi mor debygol i ddyfod i ddeallt jawn Synwyr yr Yscrythyreu, a neb eraill.
Off. Pab. Nid felly trwy eich cennad, nid ydych chwi yn aelod yn y byd o Eglwys Rhufain, yr hon a brofa fi fod yr Eglwys Gatholic honno, y crybwyllwyd am deni yn y 3 Chredo, ag yn ol hynny nid eill fod gennych chwi nag jawn Synwyr yr Yscrythyreu na chwaith bod yn gadwedig allan or Eglwys Gatholic yma.
Prot. Mi a roddaf lê ir hyn sydd yn canlyn, pan brofoch chwi yr hyn sy 'n myned or blaen, [Page 4] ond na feddyliwch chwi a cyttunafi a chwi heb ddim prawf, fal y mae eich Offeiriadeu arferol o wneuthur.
Off. Pab. Nid wyfi 'n tybied y rhaid fawr brofi ar hyn, o ran y mae mor eglur ag ydyw fod yr Yscrythur ym mhreint.
Prot. Nid eill hynny mor bôd, am nad oes neb yn ceisio nag yn gallel gwadu fod yr Yscrythur ym mhreint; ond mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn dal nad Eglwys Rhufain ydyw'r Eglwys Gatholic, je ag yn dywedyd mae ynfyd yw taeru fod rhan yn gwbl, neu neilltuol yn gyffredinol; Ag am hynny rhaid yw dyfod a phrawf da or Yscrythur (yr hon y mae'r holl Gristnogion yn cyfaddeu ei bod yn air Duw) cyn y gellir fy nwyn i goelio y gadewiff Crist (yr hwn a fu farw dros ei holl Eglwys) i dair rhan o bedair or rhai a brynodd efe, fod yn golledig 'o eisieu coelio'r Opiniwn yma, fal yr ydych chwi yn Anrhesymmol yn taeru.
Off. Pab. Wele, ich bodloni chwi mi a gymera arnafi brofi mai St. Peder oedd Bennaeth yr Apostolion: a darfod i Grist roi iddo ef agoriadeu Teyrnas nefoedd, ag Adeiladu ei Eglwys arno ef megis ar Graig, ag mai Escob Rhufain ydyw Etifeddwr swydd a braint St. Peder, a Phenn ar yr Eglwys honno a Addawodd Crist i thywys i bob gwirionedd, ag yna rhaid i chwicheu gredu mai Eglwys Rhufain ydyw yr Eglwys Gatholic honno y crybwyllwyd am deni yn y Credeu.
Prot. Yr'wyfi yn gobeithio y rhowch chwi imi gennad i wrando ag i brofi eich Siampleu chwi, a than yr ammod hwnnw er 'tolwg ewch rhagoch.
[Page 5] Off. Pab. Ond ydyw'r Yscrythyreu trwy henwi St. Peder yn y lle cyntaf, yn dangos mai efe oedd y Pennaf or Apostolion?
Prot. Mae hyn yn dangos i fod ef yn Apostol Ardderchog, ond nid yw hyn yn rhoddi iddo ddim Uchafiaeth goruwch y lleill, oblegyd mae Crist yn ei gwneuthyd hwy oll yn gyd-farnwyr i gydeistedd ar ddeuddeg gorsedd, Math. xix. 28. ag yn gorchymmyn na bo ir un o honynt gymeryd Uchafiaeth yn y byd goruwch y lleill; ag er bod yr amser hynny un Emrodr goruwch llawer o Dywysogion îs a gwaelach, Crist a ddywaid, nid felly y byddeu ymmhlith i Apostolion, Math. xx. 26. Luc. xxii. 26. Ag ni b'asseu St. Jaco yn araeth mor hyf ger bron St. Peder yn Senedd Caersalem, Act. xv. 13. neu St. Pawl mor gyhoedd yn i wrthwynebu ef, ped f'asseu Crist wedi i wneyd ef yn Benn ar yr holl Apostolion, Gal. ii. 11, 14.
Off. Pab. Ond ydych chwi yn darllen, mai iddo ef yn gyntaf, ag yn unig y rhoddodd Crist agoriadeu teyrnas nefoedd, ag a Addawodd Adeiladu i Eglwys arno ef megis ar Graig mor gadarn nad alleu pyrth Vffern mor gorchfygu, Math. xvi. 18.
Prot. Nid wyfi 'n darllen yn y lle hwnnw o St. Mathe xvi. 19. ddarfod i Grist roi, ond yn unig addaw rhoi, iddo yr agoriadeu rheini ar ol hynny; yr hon Addewid a wnaeth efe ir holl Apostolion hefyd, Math. xviii. 18. a phan gyflownodd efe hynny, 'fo roddodd Swydd yr Agoriadeu i bawb o honynt fal ei gilydd, Joan. xx. 22, 23. Ar Gyffes St. Peder ai Ffydd, ag nid ar i Berson ef yr adeiladodd [Page 6] Crist i Eglwys, gan y gwelwn ni i byrth Uffern yn fuan orchfygu yw erbyn ef; yn gyntaf trwy ei waith ef yn ceisio temptio Crist, i beidio a dioddeu, Math. xvi. 22. ag yn ail trwy i waith yn i wadu ef a llawer rhegfa, Math. xxvi. 24. Ond pe caniadhawn 'i ichwi yr holl Flaenoriaeth yr ydych chwi yn i phentyrru ar St. Peder, heb ddim tystiolaeth allan o air Duw, ni wirieu hynny mo gyfiawnder y Pâb yn unig ir cwbl.
Off. Pab. Gwneiff yn ddiau; am mai Escob Rhufain yn ddiammeu ydyw Etifeddwr St. Peder, ag am hynny Ficar i Grist, a Phennaeth yr Eglwys Gatholic.
Prot. Mae gan Escob Antioch well achos i fod yn Etifeddwr St. Peder, oblegyd mae'r Yscrythur (yr hon nid yw yn unlle yn crybwyll fod St. Peder yn Rhufain) yn dywedyd yn eglur i fod ef yn Antioch: Ond ped fae Escob Rhufain yn Etifeddwri St. Peder, nid alleu hynny wneyd mo honaw ef yn Benn ar yr holl Eglwys Gatholic, oblegyd ni Anturiodd St. Peder erioed y fath Dîtl neu Awdurdd iddo i hun; ond gwir yw, efe oedd Apostol priodol yr Iuddewon credadwy y rhai oedd wedi ei henwaedu, Gal. ii. 7. ag attynt hwy y mae efe yn Scrifennu: Ag nid ydyw Crist mewn lle yn y byd yn dywedyd y gadaweu efe neb rhyw un Bennaeth ar y ddaear, neu y rhoe efe orchymmynion ir holl Gristnogion i ufuddhau neb rhyw ûn Apostol.
Off. Pab Yr ydym ni yn credu mai Escob Rhufain ydyw Etifeddwr swydd a braint St. Peder, ag os felly pa fodd y geill ein Harglwydd wneyd i Addewid yn dda: sef bod gydai Eglwys hyd [Page 7] ddiwedd y byd, oni wneiff efe Etifeddwr swydd a braint S. Peder mor siccr ag oeddd St. Peder i hun trwy i gynnorthwy ai bresennoldeb ef?
Prot. Os Canniatthawn ni i Apostol wedi ei ysprydoliaethu yn rhyfeddol ag yspryd Duw fod yn ddigamgymeriad ag heb fod yn ddarostyngedig i gamsynniad er mwyn sefydlu'r Ffydd ag Yscrifennu i rheol hi; Nid oes achos yn y byd i Anysprydol Etifeddwyr i swydd ai fraint ef yr awron gael y fath Ragorfraint wedi darfod sefydlu 'r Ffydd. Canys yna rhaid fuasseu i Escobion Antioch, Caersalem, ag Alexandria, fod yr awron yn ddigamgymeriad nhwytheu. Ag nid i St. Peder neu ryw un Apostol yn unig y mae Crist wedi gwneyd i Addewid, ond ir holl Eglwys Gatholic; fal tra y cedwir y wîr Ffydd yn un neu ychwaneg o Eglwysydd, mae Addewid Crist wedi i gwneyd yn dda, er i rai Eglwysydd neilltuol eraill syrthio ymmaith.
Off. Pab. Yr Eglwys Gatholic yn y Credo ydyw'r Eglwys Apostolaidd, ag fo addawyd ir Apostolion y tyw [...]seu efe nhwi bob gwirionedd, Joan. xvi. 13. yr hon Flaenoriaech sydd yn perthyn i Rufain, gan mai hi yr awron ydyw yr unig Eglwys▪ Rydd ag Apostolaidd trwy yr byd.
Prot. Yr holl Eglwysydd trwy'r byd a blannwyd ar y cyntaf naill ai yn ebrwydd gan yr Apostolion ei hunain ai gan rai eraill drwy ei Hyfforddiad nhw, a diammeu ddarfod i Grist wneyd yr Addewid yma yn dda yw Apostolion y rhai a dywyswyd i bob gwirionedd: A thra glyno un Eglwys Neilltuol wrth y gwirionedd a ddyscodd yr Apostolion, mae'r Addewid byth yn dda ir Eglwys honno; Ag'fo fu llawer o Eglwysydd Apostolaidd [Page 8] tan Emrodrwyr Paganaidd, ag a eill fod yr awron tan y Tyrciaid; nid braint amserol ond glynu wrth Athrawiaeth yr Apostolion sydd vn gwneyd Eglwys neilltuol Arbennig yn Apostolaidd, ag a wnaeth alw yr holl Eglwys Gatholic selly ar y cyntaf pan wnaethpwyd y Credo.
Off. Pab. Pa fodd bynnag, rhaid ichwi wybod mai callaf i Ddyn gymeryd y ffordd oreu ei ddyfod i wybodaeth y gwirionedd; yrawron y fford siccraf a hawsaf ir Bobl i ddyfod i wybod hyn yma ydyw credu fal y mae'r Eglwys yn credu.
Prot. Nid yw hi na chyn hawsed na chyn siwred ffordd a chwilio yr Yscrythyreu.
Off. Pab. Dyma deirni rhyfedd! ond ydyw yn haws gadel ich Bugeiliaid (sydd trwy ei Proffes wedi ei gosod i hynny) farnu yn achos y Ffydd, nag ichwi gymeryd y boen iw chwilio nhw allan or Yscrythyreu.
Prot. Nid yw yr hyn yr wyfi yn i Daeru mor rhyfedd ag ydyw ef wîr, o ran mae yn Anhawsach ir fath Ddyn ag ydwyfi, wybod pa beth y bytho yr Bugeiliaid hynny yn ei farnu yn y petheu yma, nag i wybod y peth a ddywed yr Yscrythur am danynt hwy.
Off. Pab. Oni roes Cymmanfeydd hyn i lawr, ag onid ydyw'r Pab bob amser yn barod i egluro gwir Feddwl yr Eglwys.
Prot. Eithr pa fodd y gallafi wybod pa Senaduriaetheu sydd gyfreithlon, neu pa beth a ddarfu yddynt Ragderfynu? neu pe medrwn i yr geirieu ag yn ammeu'r Synwyr, fe fyddeu anhawdd jawn imi gael gan y Pab roi ar lawr neu Ddywedyd pa [Page 9] beth ydoedd; A phe gwnae'r Pab hyn, nid alleu efe na dywedyd na rhoi ar lawr yn eglurach nag y gwnaeth Duw yn yr Yscrythur lân, ag am hynny ('rwyfi yn clywed) fod cymmaint Anghyttundeb yn eich mysg chwi ynghylch Senaduriaetheu a Phabeu, ag sydd yn ein mysc ninneu ynghylch deallt yr Yscrythur.
Off. Pab. Wele fo fedr eich Escob neu Offeiriad Catholic eich hun, roi ichwi iawn Synwyr Pabeu a Senaduriaetheu yn yr holl betheu yma.
Prot. Felly y medr ein Hescobion a'n Hoffeiriadeu Protestannaidd ni, roi ini jawn Synwyr yr Yscrythur: Ond os gorfydd ichwi gyrchu yn y diwedd at neb ryw Betruswyr am Siccrwydd o'ch Ffydd, pa ham y'r ydych yn ymffrostio o ffordd well i gael siccrwydd o'r gwirionedd nag a eill Protestanniaid byth i chael, ag ar y sail dwyllodrus honno yn cymmell pobl i ddyfod ich Eglwys chwi?
Off. Pab. Am ein bod ni yn rhoi ein pwys ar y dduwiol Draddodiad honno a draddodwyd drwy yr holl oesoedd yn Eglwys Rhufain, ag ni phalla byth tra fytho gennym dystion yn fyw i'w hegluro, ag onid ydyw hon yn rheol siccrach na rheol Scrifennedig farwol yr hon a ellir i deongli fal y gwelo pob dyn yn dda.
Prot. Diau nag'e, o ran mae pawb yn rhoi'r peth mwyaf pwysfawr yn scrifennedig; ag ni ymddiriedant am y petheu a fytho yn perthyn i'r oesoedd a ddêl gael ei siccrhau ar dafod yn unig. Rheol sorifennedig a ddywed bob amser yr un peth ag nibydd ganthynt fwriad y ny byd i'n herbyn ni; [Page 10] ond eich tystion byw chwi drwy anghof, neu i borthi ei trachwant ai balchder ei hunain, a allant droi Traddodiad i amrafael ffyrdd: Ag nid oes gennych chwi ddim eglurdeb fod y rheini yn Traddodiadeu Apostolaidd y mae eich Eglwys chwi yn dywedyd ei bod fesly, ond naill ai hên scrifennadeu, pa rai sydd o lawer llai coel na'r Yscrythur, (er hynny rhaid ichwi wybod fod yr hên scrifennadeu hynny yn fwy eglur n'ach Traddodiadeu chwi, oblegyd trwyddynt hwy y'r ydych chwi yn profi'r rhain)▪ neu rhaid ichwi ymddiried wrth ddynion twyllodrus, gofal pa rai eill fod, ag ydyw, i'ch twyllo chwi; Ag fal hyn y mae eich tystion byw chwi yn profi yn ol ei meddwl a'i pleser ei hunain, ag sydd i'w ammeu yn y rhai goreu; fal nad ydyw eich ffordd chwi na haws na siccrach n'an ffordd ninneu.
Off. Pab. Nis gwn i beth ydyw eich ffordd chwi oddigerth eich bod chwi yn gwneyd pob Dyn llyg Disyml yn farnwr o'r Yscrythur, pan ydyw'r Yscrythur yn dywedyd y bydd rhaid i'r bobl geisio'r Gyfraith o eneu'r Offeiriad. Mal. ii. 7. Ag yn gorchymmyn ini ufuddhau ag ymddarostwng ir rhai sydd yn gwilio drossom yn y'r Arglwydd Heb. xiii. 17. Gan ddangos nad eos un Yscrythur o Ddeongliad priod, 2 Ped. i [...]0.
Prot. Ein fford ni ydyw darllen yn ddyfal a gweddio o ddyfnder ein calonneu gael ein cyfarwyddo; Ag o byddwn yn ammeu dim, yno myned at ein Hescobion a'n Hoffeiriadeu Protestannaidd oblegyd hwynt hwy ag nid eich Eglwyswyr chwi sydd drossom ni at yr Arglwydd; Ag y maent [Page [10]] hwy mor ddoethion ag o gymmaint Gonestrwydd didwyll, ag mor barod i roi ini fodlonrwydd, ag yr un yn eich plith chwi; Ag er nad ydym ni yn tybiedy geill pôb rhyw ddyn llyg ddeongli llefydd anhawdd heb gyngor i Fungail; etto yr ydych chwi wedi camgymeryd eich Deongliad o'r lle hwnnw yn St. Peder, lle mae'r Apostol yn profi fod yr Yscrythur yn rheol gywir, am na scrifennwyd, ag ni Ddeonglwyd moniar y cyntaf drwy ewyllys neu feddwl neb rhyw un Dyn Neilltuol, ond yr Awdwyr a lefarasant drwy yr Yspryd Glân ag yn ôl ewyllys Duw, yr hyn nid yw ddim i'ch pwrpas chwi.
Off. Pab. Pa fodd bynnag mae yn amlwg fod yn gorfod i chwitheu ymddiried wrth eich Offeiriadeu am jawn synwyr yr Yscrythur a herfynol siccrwydd o'ch Fydd, ag etto chwi fernwch hyn yn beth Fiaidd yn y Catholiciaid.
Prot. Nid ydyw ein Hoffeiriadeu ni yn dywedyd ini▪ yn unig, hyn neu'r llall ydyw synwyr yr Yscrythur, ag yno yn gwahardd ini ymofyn ddim pellach, hynny fyddeu ddîr gaethiwed i'r bobl: Ond y maent hwy yn cydfarnu'r naill Yscrythur ar llall, ag yn rhoddi rhesymmeu doethion iachus am ei holl eglurhâd, gan ddymuned arnom na choeliom mo honynt ddim pellach nag y bytho purdeb ei gwybodaeth yn haeddu, ag mae hyn yn rhoddi ini rydddyd creaduriaid rhesymmol.
Off. Pab. Ond ydyw yngwrthwyneb i'r Yscrythur a rheswm hefyd i'r bobl farnu ar eglurhad ag yspysrwydd ei Bugeiliaid?
Prot. Nid oes mo hynny yngwrthwyneb i'r [Page 12] Yscrythur; oblegyd yno yr ydys yn gorchymmyn i bob Cristion brofi pob peth a dal yr hyn sydd dda, 1 Thess. v. 21. A phrofi'r Ysprydion, 1 Joan. iv. 1. Mae St. Pawl yn peri i'r Corinthiaid, Farnu pa beth yr oedd efe yn i ddywedyd, 1 Cor. x. 15. Ag mae efe yn hoffi y 'theini a brofodd i ymadroddion ef wrth yr Yscrythyreu, Act. xvii. 11. Felly diammeu y disgwyliff Dduw fod gan ddynion ryw beth ychwaneg i'w ddywedyd am y Ffydd ar ba un y maent yn ymd diried ei heneidieu, nag yn unig fod ei Hoffeiriad yn dwedyd iddynt i bod yn siccr.
Off. Pab. Onid yr Offeiriad ydyw barnwr y Bobl, ag yw hi reswm iddynt hwy fod yn farnwyr aruo ef? Dewt. xvii. 9.
Prot. Nid ydym ni yn cymeryd arnom farnu ein Hoffeiriadeu ond yn unig i arferu ein Dealltwriaeth, (yr hon ni roddodd Duw ini yn ofer) i farnu yn unig drossom ein hunain; oblegyd yr ydym ni yn darllen y dwg pob un i faich i hun, ag am hynny rhaid i bob un brofi i weithredoedd i hun, Gal. vi. 4, 5. Ag nid ydyw hyn yn rhoddi ini ddim Awdurdod goruwch ein Hoffeiriadeu neu ein Cyd-Gristnogion; Nid synwyr o Addysc i eraill, ond yn unig synwyr o gyngor; dwyn pa un oddiarnom ni ydyw ein gwneyd ni yn gydradd ar Anifeiliaid mudion.
Off. Pab. Wele; er eich bod yn canmol eich ffordd eich hun, etto daionus weithrediad ein ffordd ni eill argyoeddi neb rhyw ddyn diduedd i bod yn well; canys oni welwch chwi mor un a chyttun ydym ni drwy fod ein Pobl ni yn rhoi ei holl ymddiried yn ei Bugeiliaid.
[Page 13] Prot. F'eill hyn wirio ei bod yn ffordd fwy celfyddgar ond nid yn gywirach ffordd; Mae'r Tyrciaid mor gyttun yn ei plith ei hunain ag ydynt yn eich Eglwys chwitheu, ond diolchant i greulondeb ei Cyfraith ag i Anwybodaeth y bobl am hynny; ond o'n rhan ni, nid ydym ni yn cenfigennu wrth ei happusrwydd nhw yn cael fford (nid o waith Crist) i fyw yn heddychlon yn ei mawr amryfusedd, ag i fod yn gyttun yn ei camgymeriadeu?
Off. Pab. Myfi a wn eich bod yn bwrw at ein Heglwys ni, ag mae'n rhyfedd gennifi pa fodd y meiddia 'r fath wr a chwi, roi amryfusedd a chamgymeriad ar Eglwys Rhufain.
Prot. Am y medrafi wneyd hynny yn dda; os yr Yscrythur yw rheol y peth a ddylaem ni i arferu a'i gredu, yna eich gweddio, a'ch plygu glinieu o flaen Delweu, eich galw ar Seintieu ag Angylion, Addoli Esgyrn y Meirw, gweddio mewn Tafodiaith ddieithr, hanner Cymmun, Sylwedd-droad, Clust-Gyfaddef, Pardyneu, a'ch Athrawiaeth ynghylch y Purdan, gydag amryw eraill a fedrafi ei henwi, (pa rai ydynt amryfusedd a Llygredigaeth erchyll, a gredir iddynt, ag a arferir yn Eglwys Rhufain.
Off. Pab. Yr ydych chwi yn hyf jawn? Ond nid oes ammeu gennif nas gallafi wirio'r holl opiniwneu a'r arferion yma, a'ch argyoeddi chwi felly o'i gwirionedd a'i perffeithrwydd nhw, fal (am yr wy'n i obeithio) y deloch i gydnabod a'ch Amryfusedd, ag yr hoffoch chwi y petheu yma yr ydych chwi mor ehud yn ei barnu; gan [Page 14] hynny gadewch ini ymresymmu cymmain un o honynt.
Prot. Ni thwyllir byth mo honoi i blygu glîn a gweddio o flaen Delw, nag i offrymmu Arogldarth ag Anrhegion iddi: gan fy mod i yn darllen yn yr Yscrythur na ddylaem ni ymostwng iddynt n'ai haddoli hwynt, Exod. xxx. 4, 5. a gweled mor ddirfawr y'r ydys yn euog-farnu Delw-addoliaeth yno.
Off. Pab. Yr ydwyfi yn addef fod yr Yscrythur yn euogfarnu Delwaddoliaeth, ond diammeu nad ellwch chwi fod cynn wanned a meddwl ein bod ni yn cymeryd y Ddelw am ein Duw, fal y gwnaeth y Cenhedloedd.
Prot. Nid allwn ni weled moch meddylieu chwi; ond yr ydych chwi yn gwneyd yr holl weithredoedd rheini o flaen eich Delweu ag a wnaeth y Cenhedloedd o flaen ei rhai nhwytheu; Ag (mi a glywais) y byddent hwy yn ei hescusodi ei hunain fal yr ydych chwitheu; gan ddywedyd nad oeddynt hwy yn cymeryd mor Ddelw yn Dduw; Er hyn mae'r holl Gristnogion yn ei cyfrif yn Ddelw-addolwyr.
Off. Pab. Yr oeddynt felly am ei bod yn Addoli Delweu▪ Gaudduwieu, ond na ddewdwch ein bod ni felly, oblegyd ein Delweu ni ydynt Ddelweu y gwir Dduw a'i Seintieu.
Prot. Nhw a dorrasant y gorchymmyn cyntaf drwy wneyd iddynt Dduwieu eraill; a chwitheu a dorrasoch yr ail drwy wneyd math yn y byd ar Ddelw i'w addoli, je gymmaint a Delw y gwîr Dduw, na dim ar sydd yn y Nefoedd; felly hyn yn unig sydd yn profi fod eieh Delwaddoliad chwi [Page 15] o ryw fath arall, nid nad ydyw hi Ddelwaddoliad ddim. Yr oedd yr Juddewon mor wir Ddelwaddolwyr am Addoli yr llô aur, er ei bod nhw yn ei gymeryd megis cyffelybiaeth or gwîr-Dduw, Exod. xxxii. 4, 5. a phan Addolasant i Baal-Peor, Num. xxv. 2.
Off. Pab. Wele; nid ydym ni yu cyfeirio dim on haddoliad at y Delw, ond at yr hyn y mae efe yn i arwyddoccau. Mae'r delw yn unig yn ein helpu ni i dderchafu i fynu ein Meddylieu at yr hyn a arwyddocceir drwyddo; ag mae ein haddoliad ni yn passio drwy'r Delw at yr Arwyddoccad yr hyn nid eill mor bod yn Ddelwaddoliaeth.
Prot. Os Delw y Seintieu y rhai ydynt Greaduriaid a fydd, mae'n Ddelwaddoliaeth ofyn dim iddynt hwy ar sydd eiddo Duw, ag am hynny mae eich Addoliad yn y modd hwnnw yn dyfod i fod yn Ddelw-addoliad. Ag os Delw Duw neu Jesu Grist ydyw, rhaid i'r Addoliad a rothochi i'w Delweu nhw drwy feddwl i ddanfon at Duw, rhaid iddo fod yn Addoliad Dwyfol os amgen nid ydych chwi yn Addoli Duw na Christ wrth Addoli eich Delweu.
Off. Pab. Ond Gadewch fod ein Heglwys ni yn gweled fod y drefn yma o Addoliad yn helpu Duwioldeb, onid eill hi orchymmyn y drefn a fynno hi o Addoliad i'r cyfryw ddiben Daionus.
Prot. Nâg eill; nid eill hi orchymmyn yr un drefn o Addoliad pa fath bynnag, tan rîth yn y byd, a fytho yngwrthwyneb i'r Yscrythur lan; o ran diammeu y gwyddeu Crist a'i Apostolion pa [Page 16] beth a gynnorthwyeu Dduwioldeb cystadl a'ch Eglwys chwi, ond nid oes yn ei holl Scrifennadeu nhw un gair am Addoli Duw yn y drefn yma, ond mae gorchymmyn eglur ir gwrthwyneb; A phe mynnech chwi gyfadde'r gwir mae Cerfiad, Lliwiad, a Goreurad y Ddelw yn dwyn ymmaith eich meddylieu rhag ystyr sylwedd eich gweddieu, ag felly yn rhwystro yn hyttrach nag yn cynnorthwyo Duwioldeb.
Off. Pab. A ydyw hi ddim mwy Delw-addoliad yn ein Heglwys ni yn gorchymmyn hyn, nag yn eich Eglwys chwi yn peri Ymostwng wrth Enw yr Iesu, ag Ymgrymmu tu yr allor?
Prot. Mae'r Yscrythur yn eglur yn erchi ini blygu glîn wrth enw'r Jesu, Phil. ii. 20. ond nid ellwch chwi ddangos dim am blygu glîn i'w Ddelw ef: Ag nid ydym ni yn ymostwng i'r Allor, ond tu ac etti hi, hynny ydyw yr ydym ni yn unig yn edrych y ffordd honno, pan fo'm ni yn Addoli y gwir Dduw, ond nid oes gennym ni gyffelybiaeth gweledig yn y byd o honaw ger ein bron pan fo'm yn gwneyd hyn: Ag heb law hynny mae'r Gynneddf yma ini yn ein dewis yn hunain, fal nad oes neb yn rhwym i'w chadw.
Off. Pab. Onid ydym ni yn craffu ar Lun Carwr neu Dywysog er mwyn y neb y bydd yn i arwyddoccau, ag oni▪ ddylae pob Cristion graffu ar Doelweu Crist a'i Seintieu er ei mwyn nhwytheu.
Prot. Nid ydym ni yn siarad wrth y Llunieu yma o'n Carwr, neu o'n Tywysog, nag yn danfon Erfynion attynt, fo edrycheu hyn fal ynfydrwydd; yr ydym ninneu yn edrych ar Ddelw Crist ond ni [Page 17] wasanaetha hynny gennych chwi oni ymostyngwn ni iddi a'i haddoli, ond rhaid ini eich atteb chwi mai'r Arglwydd ein Duw sydd ini i'w Addoli, ag efe yn unig rhaid ini i wasanaethu, Mat. iv. 10.
Off. Pab. Yr wyfi'n cyfaddef nad gwiw ini ddisgwyl i chwi weddio ger bron Delweu Seintieu ag Angylion, hyd oni ddarffo ini eich Argyoeddi chwi o'ch amryfusedd yn peidio a gweddio at Seintieu ag Angylion. Am hynny mi af yrawrhon rhagof i brofi fod yn gyfreithlon alw ar Angylion i'n Cynnorthwyo ni, canys fo wnaeth Jacob felly, Gen. xlviii. 16,
Prot. Attolwg darllennwch y lle hwnnw a chwi gewch weled nad ydyw hynny ond gweddio yn unig at yr Angel a'i gwaredodd ef. Hynny ydyw, at Grist, yr hwn yn aml a ymddangosodd megis Angel i'r hen Batrieirch, cyn i ddyfod mewn Cnawd, ag a elwir yr Angel o Gydrycholder Duw, Esa. lxiii. 9. Ond ni adaweu yr Angylion Creedig i St. Ioan gymmaint ag ymostwng iddynt hwy. Datcudd. xix. 10. a Phen. xxii. 8. gan, ddywedyd mai rhan o Addoliad Duw oedd hynny: Je'r rhîth Gostyngeiddrwydd o fyned at Dduw drwy Gyfryngiad Angylion, yr ydys yn i galw yn Dwyll, ag mae'r▪ Apostol yn eglur yn i gwahardd, Coloss. ii. 18. Ag mae Crist wedi dyscu ini weddio at i Dâd pan fytho arnom eisieu cynnorthwy Angylion, Ma [...]h. xxvi. 53.
Off. Pab▪ Ond ydyw eich Beibl yn dywedyd ichwi fod eneidieu y Merthyron tan yr Allor yn gweddio drossom ni? Datcudd. vi. 9, 10. Ag onid allwn ni am hynny ddeisyf arnynt weddio at Dduw drossom ninneu.
[Page 18] Prot. Mae'r holl eneidieu rheini cymmain un yn gweddio am bryssuro Dyfodiad Dydd y farn; a Dwedywyd wrthynt ar iddynt orphywys yn llonydd tan hynny: Adnod. ii. Ond nid yw hyn sail yn y byd i ddynion arbennig o amryw lefydd i erfyn un rhyw Rodd ganthynt hwy, megis Jechyd, Cyfoeth, Heddwych, Nodded, ei Maddeuant, Grâs a Gogoniant, y rhai nid oes neb ond Duw a eill ei rhoddi; Nag a ydyw'r Yscrythur ychwaith yn unlle yn dangos y dylaem ni geisio'r petheu yma gan neb arall ond gan Dduw:
Off. Pab. Pa fodd y meiddiwch chwi sydd Bechadur, yr hwn ni wrendi Duwarno, Joan. ix. 31. 29. fod mor Ryfygus a gofyn y petheu yma gan Dduw i hun, heb ddymuned ar i Garedigion ef weddio drosoch?
Prot. Er fy mod i yn Anheilwng etto yr ydys yn gorchymmyn imi weddio a gofyn yn Enw Crist bob peth a fytho arnafi i eisieu, ag yr ydys yn addaw imi os gwnafi felly y cafy fingwrando, Joan. xiv. 13, 14▪ A Phen. xvi. 23, 24. Je mae'r Yscrythur yn dywedyd mai efe yw fy Nadleuwr, 1 St. Joan. ii. 2. Ag nad oes ond un Cyfryngwr rhwng Duw a dyn, 1 Tim. ii. 5. Ag wrth hyn yr wyfi yn tybied mai mwy rhyyg ydyw ymwrthod a'r ffordd a osododd Duw à Dychymmygu un newydd o honom ein hunain drwy wneyd y Seintieu yn Ddadleuwyr a Chyfryngwyr ini heb nag arch na gorchymyn i hynny; Nid yw hynny ond cymeryd yr Anrhydedd a berthyn i fab Duw a'i roddi i'w weision ef, fal y gallwn ni yn hawdd [Page 19] goelio yr anfodloniff hynny i'r hwn yr ym ni gweddio atto.
Off. Pab. Nid ydych chwi yn ystyried ein bod ni yn dal mai'r Seintieu sydd yn cydeirioli gyda Christ drosom ni▪ Am hynny nid ydyw ceisio ganthynt hwy weddio drossom ni yn lleihau dim ar gyfiawnder Crist yr hwn yr ydym ni yn Addef fod yn Gyfryngwr ini.
Prot. Fe ellir meddwl nad ydyw Cyfryngiad Crist yn gwasanaethu wrth chwanegu cynnifer o Gyfryngwyr eraill atto ef; Je mae'n debyg eich bod chwi yn coelio fod ganthynt fwy Awdurdod gyda Duw, neu gariad tu ag attom ni nag sydd gan Grist, pe amgen ni thybiech yn Anghenrheidiol gydio ei gweddieu nhw wrth i weddieu ef, neu wneyd ein cwyn yn fwy wrth y Gweision yma nag wrth y Mâb. Ni a wyddom fal y mae Crist yn Dduw i fod efe yn fwy galluog, ag fal y mae efe yn ddyn yn fwy ewyllysgar i'n cynnorthwyo ni, Heb. ii. 18. ag mae'n siccr gennym ni y dichon efe wasanaethu hyd yr eithaf bawb ar a ddel at Dduw drwyddo ef, Heb. vii. 25. A chan fod y Tad wedi darparu'r fath hollalluog Gyfryngwr, i ninneu redeg at rai eraill i ddeisyf arnynt gyderfyn ag ef, sydd Anniolchgarwch tu ag at y Tad, ag Ammharch i'r Mab, escusodwchi y goreu y galloch.
Off. Pab. Myfi a'ch argyoeddaf chwi drwy rai o'ch arferion eich hun, eich bod mewn hyn o beth yn barnu arnom ni yn Anghyfiawn: Ond ydych chwi yn deisyf ar y Seintieu sydd ar y ddaear weddio drrosoch chwi, er bod Crist yn Gyfryngwr ichwi, ag a ydyw hyn gam yn y byd i Crist? [Page 20] pam gan hynny yr un fath nad allwn ninneu geisio gan y rheini sydd yn y Nefoedd wneyd hynny?
Prot. Mae gennym ni lawer o orchymmynion a Siampleu yn yr Yscrythur yn ein cyfarwyddo i geisio gan wyr Duwiol ar y ddaear weddio gyda ni a throsom ni; ag mae'n dangos fod hynny yn ol ewyllys Duw, 1 Joan. v. 14. Ond nid oes gennych chwi un gair i geisio hyn gan y Seintieu sydd yn y Nefoedd. Heb law hynny nid ydym ni yn myned ar ein glinieu i wyr Duwiol, ag yn rhoi ei henweu yn yr un Litani a'n Gweddieu at y Goruchaf Dduw, nag yn Dymuned cael ein gwrando drwy ei Haeddiant hwy: Mae nhw yn cydweddio drosom ni megis rhai yn cyd-ddioddef a ni, yn gweled ag yn clywed ein Diffygion priod, ag yn gweddio yn unig yn Enw Crist, a thrwy i Haeddedigaetheu ef, ag felly maent hwy yn Gyderfynwyr a ni, ag nid yn Gydgyfryngwyr a Christ. Ag am ben hynny, pob dyn ar i ben i hun sydd yn myned attynt hwy ag yn dangos i gyflwr iddynt; Ag yno mae'n ddigon siccr gantho y gwyddant i ddiffygion: Ond mae'r Yscrythur yn ddigon eglur am y rhai sydd wedi marw, jë y rhai goreu o ddynion, na wyddant hwy mo ddiffygion priod ei Caredigion anwylaf, 2 Bren. xxii. 20. Job xiv. 2. Eccles. ix. 5. Esay. 63. 16. nag ychwaith ydyw hi bossibl i Greadur yn y byd glywed Erfynion llawer Miloedd ar yr un amser mewn amryw fanneu; ag oni chlywan nhw, beth a fyddwch chwi gwell er gweddio attynt.
[Page 21] Off. Pab. Mae'n hawdd atteb hyn, gan fod Duw yn gwybod pob peth, a nhwytheu gydag ef yn wastad, fe eill yn hawdd iawn wneyd ein Herfynion ni yn gydnabyddus iddynt.
Prot. Nid ydym ni yn ammeu galluowgrwydd Duw, ond pam y byddeu raid iddo ef wneyd hynny, gan eich bod yn gweddio attynt hwy heb i gyngor ef, ag wrth wneyd felly yn bwrw nad yw y fford a osododd ef yn ddigonol, ag nid oes gennych chwi Addewid yn y byd y gwneiff efe eich gweddieu chwi yn gydnabyddus iddynt hwy. Heb law hynny nid ellwch na thybioch i fod yn beth allan o Reswm, onid yw yn Fieiddbeth, ddeisyf ar y Seintieu weddio ar Dduw drosoch chwi; Ag heb law hynny ni wyddant pa beth sydd iddynt i'w geisio gantho, hyd oni ddywetto Duw iddynt hwy yn gyntaf. Mae hyn fal ped faem ni yn rhoi Duw ar waith i wneyd y Seintieu yn Gydnabyddûs a'n diffygion ni; Ag fal ped faem ni yn yscrifennu at ryw Wr-llys ni fedreu mor darllen i ddymuned arno ofyn rhyw gymwynas ini gan y Brenhin am ein bod ni ein hunain yn rhy Anaddas yn y cyfamser i Yscrifennu at y Brenhin, er y gwyddem ni ymmlaen llaw y byddeu raid i'r Gwr-llys yma fyned at y Brenhin i ddarllen y llythyr.
Off. Pab. Nid ydym ni yn prisio eich coegddamhegion; Mae ein Heglwys ni yn dwedyd ini fod y Seintieu yn ein clywed ni, ag nid oes fatter pa'r un a wnelom ni ai gwybod ai peidio pa fodd y maent yn ein clywed.
Prot. Mae'r Yscrythur yn dywedyd ini nad oes monynt yn eich clywed, ag mae rheswm a eill ddywedyd i chwitheu nad allant mo'ch clywed, ag [Page [22]] a goeliwch chwi i'ch Eglwys o flaen y ddau? Ni feiddiodd eich Eglwys chwi erioed Derfynu pa fodd y maent yn dyfod ich clywed chwi, oblegyd mae llawer o Ryfyg yn dilyn pob arfer ag erioed etto a ddychmygwyd: A phrin y coelia gwr diesceulus beth or fath yma, nad ellir n'ai wirio na'i brofi; llai o lawer yr ae efe at Gyfryngwyr, heb ddim sicerwydd o'i bod yn i glywed, ond yn unig gair y gwyr hynny sydd yn byw wrth yr Athrawiaeth honno, pan y mae gantho Gyfryngwr Hollalluog yr hwn y mae'n siccr gantho a eill i glywed a'i helpu yn wastad, ag at ba un y geill efe weddio heb ammeu y geill dim rwystro i Ddwyfolder.
Off. Pab. Oni ddarfu i'r Fair Forwyn Brophwydo y galweu yr holl geuhedlaetheu hi yn wynfydedig, Luc. i. 48. ag onid oes achos i ninneu goelio fod gan Fam Duw Awdurdod mawr yn y Nef?
Prot. Yr ydym ninneu yn i galw hi yn wynfydedig, ag yn bendithio Duw o'i herwydd; ond ni ddywedodd hi erioed y gweddieu yr holl Genhedlaetheu etti hi, neu yr adroddent beûnydd heb nag achos nag ystyr y Gyfarchiad honno yr hon oedd gymwys a pherthynasol i'w chyflwr hi yr amser yr oedd hi yn ymddwyn ar Crist, fal ped fae hi gweddi weddaidd etti hi yrawron: Nag a oes un gair yn yr Yscrythur yn ein hyfforddi i weddio dim etti hi; neu ddywedyd Bydd Lawen wrth Fair yn fynychach o lawer nag Ein Tad ni wrth Dduw, a rhoddi mwy o Offrymmeu iddi hi nag i'r Jesu yr hwn sydd yn dywedyd fod gantho yr holl Awdurdod yn y Nef ar ddaear; fal nad [Page 23] ydyw'r holl Addoliad yr ydych chwi yn i roddi iddi hi, ond gwir Ryfyg a Dychymmygion o' [...] eiddoch eich hunain.
Off. Pab. Yr ydym ni yn gweled fod hynny yn gwneyd y bobl yu Ddwyfolach o lawer wrth osod ger ei bron gynnifer o Seintieu gogeneddus i'w haddoli, na phed faem ni yn ei rhwymo nhw i Addoli un Duw Anweledig yn unig.
Prot. Chwi allech weled y gwir (pe mynnech gyfaddef) sef, fod y Ddychymmyg Annuwiol yma yn peri esceuluso Addoliad Duw, ag yn denu'r bobl i roi ei hyder yn fwy ar gynnorthwy'r Seintieu, nag ar Dduw, ag i roddi iddynt hwy yr Anrhydedd dyledûs iddo ef am y bendithion hynny y mae efe yn unig yn ei rhoddi iddynt. A chan fod Duw wedi ein rhwymo ni i'w Addoli, a'i wasanaethu ef yn unig; Math. 4▪ 10. Rhyfyg a Delwaddoliaeth ag nid Dwyfolder ydyw gwneyd Hanffod yn y byd arall yn Bennod ein Haddoliad.
Off. Pab. Wele, gan ddarfod i Dduw wneythur cymmaint o Ryfeddodeu drwy Greirieu y Seintieu, Diammeu i fod ef yn fodlon ini ei hadoli nhw a'i Creirieu.
Prot. Fe ddodwyd allan lawer o Gaugreirieug yn lle rhai cywir, a llawer o Gauwrthieu a ddych'mygwyd gan ei Hoffeiriadeu Dichellgar nhw o ran budd; ag od oes gwîr Greirieu y Seintieu gogoneddus, a dim Gwrthieu siccr, nid y Seintieu ai Creirieu, ond Duw (drwy nerth pa un y gwnaed y Gwrthieu) ydyw yr hwn a ddylae gael y Gogoniant; fal y mae St. Peder yn dwedyd Act. 3. 12. [Page 24] Ag er bod yr Yscrythur yn dywedyd wneyd Rhyfeddodeu drwy wialen Moysen, mantell Elias, ymyl gwisc Crist, cysgod St. Peder, a llawliain St. Pawl, ni ddarllennasom ni erioed ddarfod i'r un o'r ffyddloniaid addoli'r petheu hynny.
Off. Pab. Nid hwyrach eich bod chwi yn clywed ein bod ni yn esceuluso gwneuthur gweddieu at Dduw drwy Iesu Crist, pan y mae gennym ni lawer o weddieu yn ein Gwasanaeth Cyhoedd fal eich rhai chwi, wedi ei cyfeirio at Dduw yn Enw Crist, ag rwy'n gobeithio nad oes gennych chwi doim j'w fwrw yn erbyn y rhain.
Prot. Ni ddylae fod gennych fath arall ar weddieu ond y cyfryw; ag er bod y gweddieu yma yn ddisai o ran ei Defnydd, etto mae un bai Anoddef ynthynt oll, ei bod wedi ei gwneyd yn y jaith Ladin, yr hon nid yw'r bobl yn i deallt.
Off. Pab. Onid yr Eglwys a ddylae Ddyscu ini, pa fodd y mae ini wneyd ein Gweddieu Cyhoedd, ag oni ddylaem ni ufuddhau i Threfniad hi?
Prot. Diau na ddylem, lle mae eich Eglwys chwi yn eglur yn gwrthddywedyd yn erbyn Duw ai Sanctaidd Apostolion: Mae Yspryd Duw drwy St. Pawl yn gorchymmyn i ddynion weddio a'r ddeallt, ag yn gwahardd i bawb ymarfer tafodiaith ddieithr mewn Cynnylleidfa Gristionogawl, ag yn gorchymmyn i'r Offeiriaid arfer ei Gweddieu a'i Diolchgarwch felly, fal y gallo y rhai mwyaf Annyscedig wrth gyfrannogi a hwynt, gael ei hadeiladu drwyddynt, a dywedyd Amên wrth bob un o honynt, 1 Cor. xiv. 13, 14, 15, 16, 17. ar 26. Adn. Ag y mae eich Eglwys chwi yn erchi [Page 25] i'r bobl weddio heb ddeallt, ag yn trefnu Tafodiaith ddieithr i'r Offeiriad i weddio ag i wasanaethu Duw ynthi, ymmha weddieu, nid eill y bobl fod yn gyfrannogion mewn jaith drwy ba un nid ydynt yn cael dim Adeiladaeth, jë ar ôl pa un nid allant ar ddeallt ddywedyd Amên: yn y fath beth a hwn ufuddhau i'r Eglwys ydyw anufuddhau i Dduw, ag ydyw yn Annuwioldeb mawr.
Off. Pab. Rhaid ichwi wybod mai Lladin oedd jaith yr hen Grist'nogion yn Rhufain, Ag ni ddarfu ini newid m'on Gweddieu, ond yn unig ei cynnal yn yr jaith honno y gwnaethpwyd nhw ynthi ar y cyntaf gan yr Apostolion y rhai a blannodd ein Heglwys ni.
Prot. Yrawron y darfu ichwi gyfaddde'r cwbwl, o ran ni ddarfu i'r Apostolion y rhai oeddynt Juddewon, arfer gweddieu Hebraeg yn Rhufain ond rhai Lladin, oblegyd honno ydoedd yr iaith yr oedd y bobl yr amser hynny yn i deallt; A phed fae ynoch chwi yr un Yspryd ag ynthynt hwy, neu peô faech yn canlyn yr un llwybreu a'nhwytheu, chwi a ddylaech ei harfer nhw yr awron mewn Jeithoedd eraill, am nad yw'r bobl yn deallt Lladin, ag am fod yn rhaid iddynt weddio a'r Deallt. A'i dyma eich Eglwys Apostolaidd chwi, yr hon sydd yn gwneythur yn union yngwrthwyneb i Siampl ag Athrawiaeth yr Apostolion, neu a ddarfu i'r Apostolion adel ichwi yr un Traddodiad i wrthwynebu ei Gorchymmynion a'i Harfer ei hunain?
Off. Pab. Onid eill y bobl feddwl am Dduw a'i ddaioni, a bod yn ddigon Duwiol drwy'r gweddieu yma er ua byddant yn deallt y geirieu?
[Page 26] Prot. Nhw allant feddwl am Dduw a daioni gartref, ag heb ddyfod i'r Gwasanaeth Cyffredin un amser, os bydd hyn yn gwasanaethu: Eithr yr ydym ni yn meddwl fod Gweddieu Cyhoedd wedi ei trefnu o'ran i'r bobl ddyfod i gydio ei deisyfiadeu priod gwresog, gyda'r gweddieu a wneler gan yr Offeiriad; A gweddio fal hyn yn gyttun, Act. i. 14. sydd yn ei gwneuthur yn fwy nerthol na Gweddi Gartrefol, St. Math. xviii. 20. Ond y mae eich pobl chwi yn meddwl am un peth, pan fo'r Offeiriad yn dywedyd peth arall; ag ni fedrant hwy geisio yr ûn petheu ag a ofynnir gan yr Offeiriad, am na wyddant beth ydynt. Ag mae hyn yn gwneyd gweddieu Cyffredin yn weddîeu Priod; ag fe alleu yr Offeiriad weddio yr un fath ar i ben i hun.
Off. Pab. Wrth Dduw yr ydym ni yn llefaru yn ein gweddieu, a chan i fod ef yn ein deallt ni, ni waeth par un a wnelo'r bobl ai ein deallt ni ai peidio.
Prot. Wrth y reswm yma nid rhaid ichwi weddio un amser, am fod Duw yn gwybod eich Anghenrheidieu cynn y gofynnoch; etto y mae efe yn erchi ini ofyn, nid er i ddyscu ef, ond faldrwy weddio y cynhyrfir ein deisyfiadeu ni, ag y cadarnheir ein Fydd, ag yr arferom Dduwioldeb. Gan hynny yr ydych yn camattal yr holl gyssur a'r diddanwch oddiwrth eich pobl chwi y mae ein rhai ni mor araf yn ei cael drwy ein gweddieu Cymraeg ni: A hynny yn unig am fod yn ddirmygus gan eich Eglwys chwi Ddiwygio dim a wnaeth hi ar fai; ond ni waeth ichwi heb ddisgwyl [Page 27] y bydd i'r rhai drwy hir arfer a gawsant brawf o fudd a melusdra ein Jachusol an Duwiol Weddieu Cyffredin ni, fyth oddef eich Anfuddiol ag Ammhroffidiol weddieu Lladin chwi.
Off. Pab. Wele, mae rhai o'ch pobl chwi yn tybied fod Pregetheu yn beth mwy Anghenrhaid yngwasanaeth Cyffredinol, a phar un bynnag, yr ydym ni yn gobeithio ei hennill nhw am ein bod ni yn pregethu mewn jai [...]h y maent hwy yn i deallt.
Prot. Nid hwyrach y delir rhai o'r rhain wrth yr abwyd yma; ond yr holl Brotestanniaid doethion a ofynnant ichwi, p'am nad oes gymmaint achos i'r bobl wybod beth sydd iddynt i'w ddywedyd wrth Dduw, a'r peth y bytho'r Offeiriad yn i ddywedyd wrthynt hwytheu. A minneu a chwennychwn gael gwybod hefyd, p'am y'r ydych chwi yn darllen y Psalmeu a'r Llithoedd, a rhanneu eraill o'r Yscrythur lan yn Lladin, y rhai a scrifennodd Dduw er mwyn ein Hathrawiaeth a'n Haddysc ni, 1 Cor. x. 11. ag felly yn gwneyd mor Ammhossibl i'r bobl ddyscu dim oddiwrtho neu ennill dim adeiladaeth trwyddo, ag i blant yn ei Llyfr-Corn fod yn ddoethach er Darllen llyfr Lladin iddynt.
Off. Pab. Mi a ddywedais ichwi o'r blaen, mai'r achos o hyn ydyw rhag i'r bobl wyrdroi'r Yscrythyreu, ped faent mewn jaith a ddeallent.
Prot. Pam gan hynny yr ydych chwi yn pregethu mewn jaith gyffredin oni allant hwy wyrdroi eich Pregetheu chwi cystadl a'r Yscrythur lan? A oes mwy o berygl yrawron nag yn amser yr Apostolion; neu a ydyw eich Eglwys chwi yn [Page 28] gallach na hwynthwy? oni ddarfu iddynt hwy i scrifennu mewn jaith a ddealltwyd gan bawb? ag oni throwyd hi yn fuan ar ôl hynny yn Lladin, o ran mai dyna'r jaith yr oedd y Rhufeiniaid yn i deallt oreu? oni ddarfu iddynt hwy i rhoddi i bawb, a gorchymmyn i bawb i darllen a'i chwilio, a myfyrio erni a'i dyscu i'w plant? Er bod rhai yn Loddestwyr a Meddwon, er hynny ni ddylaem ni naccau pawb o fwyd a diod? Ag ni chadwech chwitheu fal hyn mo'r Yscrythur oddiwrth y bobl, oni bae rhag ofn i'r fath wyr disyml a myfi gyhuddo eich Llygredigaeth.
Off. Pab. Yr wyfi'n meddwl mai yno y datcuddiech eich llygredigaeth eich hun: Canys pa beth sydd wedi i roddi ar lawr yn eglurach yn yr Yscrythur lan na'r geirieu yma ynghylch Sacrafen yr Allor; Hwn yw fynghorph, Luc. 22. 19. Ag etto ni chyfaddefwch chwi fod mo gig Crist yno yn ddiau; a'i nid gwadu geirieu Crist ag anghoelio yr Yscrythur lan ydyw hyn.
Prot. Ni allwn ninneu hefyd y'r un fath roi i'ch erbyn chwitheu fod yn gwadu geirieu Crist ag yn anghoelio'r Yscrythur, pan fyddoch chwi yn taeru fod i waed ef yn ddiau yno, er i fod ef i hun yn dywedyd ini, Y Cwppan hwn yw'r Testament newydd yn fy ngwaed: Luc. xxii. 10. 1 Cor. xi. 25. Rhaid ichwi gydnabod fod Dammeg yn yr Ymadrodd yma, neu ynteu rhaid ichwi brofi fod y gwaed wedi i Sylwedd-droi i'r Testament Newydd; Ag os oes Ddammeg mewn un Adnod pam nad eill fod mewn un arall hefyd; yn gymmaint a bod y Gyfnewidiad Sylweddol yma y'r ydych chwi yn [Page 29] i dal, naill ai ymhob un, neu heb fod yn y'r un o'r ddwy.
Off. Pab. Par un bynnag, mae gennym ni ragor ychwaneg na chwchwi, am ein bod ni yn myned ar ol y Llythyren, yr hyn sydd fwy arferol a haws i deallt, pan fyth oraid ichwi redeg at eich Damhegion a'ch Dull-ymadroddion.
Prot. Rhaid ichwi ystyried mai Dirgelwch mawr ydyw y Sacrafen yma, ag wrth sôn am Ddirgeledigaetheu, mae'n fwy arferol yn yr Yscrythur siarad drwy Ddammeg neu Ddull-ymadrodd nag yn ol y llythyren; jë pa beth sydd fwy arferedig yno na chymeryd yr arwydd yn ol henw'r peth a arwyddocceir a'r peth a arwyddocceir yn ôl henw'r arwydd; felly y dywedir mai'r Graig yw Crist, 1 Cor. x. 4. Ag yr ydys yn dywedyd fod Crist yn Fara, Joan. vi. 48. Etto nid oes un dyn cyn belled o'i gof a dywedyd fod yn Cyfnewid y Graig yn Sylweddol i fod yn Grist, neu Grist i fod yn fara: A phan ydys yn galw yr Eglwys yn Gorph Crist, Coloss. i. 24. Nid ydych chwi eich hunain yn dywedyd fod yn cyfnewid yr Eglwys i fod yn gig ag yn waed i Grist, er bod llawer mwy wedi i ddywedyd am hyn nag am y bara Sacrafennol, sef ein bod ni yn aelodeu o'i gorph ef o'i gnawd ag o'i escyrn, Ephes. v. 30. Felly pan ydys yn galw Crist yn Winwydden, yn Ddrws, yn Ffordd, yn Gangen, &c. Mae'n ddigon tebygol fod yr yspysrwydd hynny yn ôl Dammeg a Dull-ymadrodd, mae Miloedd o fanneu yn y Beibl Cyssegrlan nad ellir ei deallt yn amgenach.
Off. Pab. Wele, nid allwn ni adel heibio mo synwyr y Llythyren oddigerth lle nid ellir cymeryd mo'r geirieu yn amgenach na thrwy Ddullymadrodd, [Page 30] ag nid hynny mo'r cyflwr yma.
Prot. Jë hynny ydyw'r unig gyflwr yn y san yma, o ran y deallt yn ol y llythyren sydd Amhossibl a llawn o wrthddywediadeu, ond yr un drwy Ddammeg neu Ddull-ymadrodd sydd naturiol, hawdd, ag eglur: o ran os cym'rwn ni y geirieu yma yn ol y llythyren yr oedd corph Crist yn gyfan yn eistedd ar y bwrdd ag ar yr un amser gwedi i dorri yn ddarneu ar y bwrdd. Rhaid iddo fod yn gyfan yrawron yn y Nefoedd, ag etto yn hollawl mewn dengmîl o amryw ag amrafael fanneu ar y ddaear. Rhaid ini gredu nad oes gan Sylwedd y cnawd yr un o'i briodol Gynnedfeu, ag y geill arwyddion y bara aros heb ei priodol Sylwedd: Rhaid i ni feddwl fod hwnnw yn gig a gwaed yn ddiau y byddem ni yn i weled ag yn i aroglu a'r hwn yr ydym ni yn i archwaethu ag yn i deimlo yn fara a gwîn yn ddiau, rhaid ini gredu fod gwrthieu yma, er bod ein Synhwyreu oll (y rhai ydynt dystion o bob gwrthieu eraill) yn tystiolaethu nad oes dim gwrthieu yma; mewn un gair rhaid ini wrthddywedyd i reswm, a gwadu ein Synhwyreu naturiol heb fod yn rhaid, oddigerth i gynnal y cyfryw Synniad Lythyrennol ag nad ellir i deallt, pan fo hyn drwy Ddammeg neu Ddullymadrodd, yn llawer eglurach.
Off. Pab. Rhyfedd ydyw, pa fodd y mae cenfigen yn dallu pobl; diammeu nad ydych chwi yn ddifri, pan ydych yn dywedyd fod gair drwy Ddammeg neu Ddull-ymadrodd yn eglurach na gair heb y fath Ddammeg; mae hyn yn unig yn dangos mor enbydus yw eich cyflwr chwi, yr hwn sydd yn eich gyrru i'r fath Aurheswm.
[Page 31] Off. Myfi a brofa nad ydyw hi Anrheswm yn y cyflwr yma ymddiffin fod yn haws deallt drwy Ffurf ymadrodd, am mai dyna'r ffordd hawsaf i gael synwyr pob gair, a'r gyntaf y mae'r meddwl yn dal gafel arno pan i clywom: Er Siampl, os cyfeiriff un i olwg tuag at dy neu dîr, a dywydyd fy ystad i ydyw hon, yno y synwyr egluraf yw synwyr y llythyren: ond os un a ddeil Weithred yn i law wedi i Selio a dywedyd dyma fi ystâd i, yna yr Synwyr hawsaf ag egluraf ydyw, dyma yr hon sydd yn trosglwyddo fy ystâd imi a'r holl leshad yr wyfi yn i gael oddiwrthi hi. Felly ped f'asseu yn bwrw atto i hun yn eistedd ar y bwrdd ag yn dywedyd, hwn yw fynghorphi, 'fe fuasseu yr Apostolion yn i gymeryd, ag a ddylasem ninneu i gymeryd yn ol y llythyren: Ond pan yw ef yn pwyntio at fara, ag yn dywedyd hwn yw fy nghorph, meddwl naturiol y gair ydyw; Dyma'r hwn sydd yn arwyddoccau fy nghorph; ag yn cyfrannu holl leshâd fy nghawdoliaeth am dioddefaint: A dyma fal y mae St. Pawl yn eglur yn i roi ar lawr, pan yw yn Dywedyd, Cymmun i gorph a'i waed ef ydyw, 1 Cor. x. 16.
Off. Pab. Beth er hynny, a ydych chwi yu credu fod Cig ddim amgen yn y Sacrafen yma na thrwy Doullymadrodd neu wag-arwydd?
Prot. Yr ydym ni yn credu fod yn cymeryd Crist ag yn i dderbyn yma yn wir ag yn ddiau gan y ffyddloniaid, a'i bod yn wir bresennol yn holl affaith a lleshâd i ddioddefaint▪ ond y presennoldeb ymma er i fod yn ddiau, etto mae'n ysprydol ag i'w ganfod drwy ffydd, ag nid presennoldeb [Page 32] Sylweddol a chorphorol, canys yna y buasseu raid i adnabod drwy synwyr naturiol.
Off. Pab. Ar ol rhoi lle i un Anrheswm fe ganlyn llawer, a'ch eglurhad anrhesymmol chwi sydd yn peri ichwi Anturio y teirni ffiadd yma, fod Presennoldeb Ysprydol, yn wir Bresennoldeb.
Prot. A feiddiwch chwi o ddifrif wadu hyn yma, yr ydych chwi yn i alw yn deirni Ffiaidd? Onid ydyw Crist yn ddiau gyda'i Eglwys hyd ddiwedd y byd drwy i bresennoldeb Ysprydol? Onid ydyw'r Yspryd glân yn ddiau gyda phob dyn wedi i Adgenhedlu drwy i bresennoldeb Ysprydol. Y budd a'r lles o farfolaeth Crist yr ydym ni yn i disgwyl yn y Sacrafen hwn ydynt Ysprydol; megis Maddeuant, Tangnhefydd, Grâs a Gobaith Gogoniant, etto maent yn wir ddiau, ag am hynny ni dybiwn yn gymhwysach i disgwyl mewn modd Ysprydol, yn enwedig drwy ddywedyd o'r Arglwydd ini, Yr Yspryd yw'r hwn sydd yn bywhau, y cnawd nid yw yn Lleshau dim: Joan. 6. 63. A'r Apostol a ddywed, Ffydd yw sail y petheu yr ydys yn i gobeitho, a siccrwydd y petheu nid ydys yn i gweled, Heb. ii. 1. hynny ydyw, mai hi yn gwneyd petheu Anweledig ag Ysprydol i fod yn wîr ddiau i'r gwîr Gredadyn.
Off. Pab. Yr wyfi'n gweled fod yn hoff iawn gennych chwi alw hwn yn fwyd a diod ysprydol, ond fo fyddeu dda jawn gennifi wybod pa fodd y meiddiwch chwi wneyd hynny heb ddim Awdurdod allan o'r Yscrythur, pan yw'r Yscrythur yn Dywedyd y rhydd Crist ini i gnawd i'w fwytta. Joan. vi. 53.
[Page 33] Prot. Mae gennym ni siccrwydd dda allan o'r Yscrythur am hyn, sef, 1 Cor. x. 3, 4. lle y dywedir ddarfod i'r Israeliaid gael y Braint drwy amryw arwyddion o fwytta ag yfed ynghrist cystadl a ninneu mewn modd dirgel: Canys hwy oll a fwyttasant o'r un bwyd ysprydol, ag a yfasant o'r un ddiod ysprydol: canys hwy a yfasant o'r graig oedd yn canlyn, a'r graig oedd Crist: Ni a welwn mai bwyd a diod ysprydol ydoedd a gawsant hwy, etto yr un ydoedd ag a gawsom ninneu, ag am hynny rhaid i'r hyn a gawsom ni fod yn fwyd a diod ysprydol hefyd. Drachefn nid ydys yn dweyd ddarfod ein diodi ni oll i un gwaed ond i un Yspryd, 1 Cor. 12. 13. Ag nis medrwn ni mo'r deallt pa fodd y galleu St. Pawl alw yr hwn sydd Gymmun Corph Crist tan enw bara ar ol i gyssegru, 1 Cor. ii. 26, 27, 28. Os yr rhan oddiallan ni pharhaoddd yn ddigyfnew i diol yn i Sylwedd, er newid i arfer, a bod ein heineidieu yn ddiau yn ymborthi yma, pa rai nid ydynt gymwys i ymborthi ar fara na chîg; Jë mae'r Arglwydd i hun yn dyscu ini ddeongli'r geirieu hynny yn St. Joan yn Gyfundod ysprydol o'i gorph, canys y mae efe yn dywedyd am y geirieu yma y mae efe yn ei llefaru wrthym, mai Yspryd a bywyd ydynt, Joan. vi. 63.
Off. Pab. Nid ydych chwi ond lledrithio, pan foch yn rhith gredu fod Crist yn wir bresennol yn y Sacrafen, canys pe jawn gredech hyn, chwitheu hefyd a roddech Addoliad Dduwiol i'r Aberth fal yr ym ninneu.
Prot. Yr ydym ni yn plygu ein glinieu, yn cyfeirio ein Gweddieu ag yn rhoi Addoliad Dduwol i Grist yr hwn sydd wîr bresennol yn y Sacrafen yma; [Page 34] Onid gan fod yn siccr gennym ni nad ydyw y rhan oddiallan yn newid mo'i naturieth, onid yn unig yr arfer a'r arwyddaccâd, ag yn parhau etto yn fara, nid allwn ni roddi mo'r Addoliad Dduwiol i'r hwn nid yw ond bara, gan mai Delwaddoliaeth fyddeu hynny.
Off. Pab. Wele, myfi a'ch argyoedda o un bai aruthr ynoch chwi yn gwadu fod cig a gwaed Crist yn Sylweddol yn y Sacrafen yma, hynn ydyw yr yoych chwi yn i wneyd ef yn goffadwriaeth yn unig or Aberth ar y groes; onid ydym ni yn rhoddi llawer mwy parch iddo, drwy gredu i fod yn gyflawn Aberth dros bechodeu y byw a'r meirw.
Prot. Ni ddylae na chwi na ninneu feddwl am y Sacrafen fal y gwelom ni yn dda, rhaid ini geisio gwybodaeth am dano drwy'r Yscrythur, ag oddiwrth Grist i hûn yr hwn a'i ordeiniodd, ag mae efe yn erchi ini wneyd hyn er coffa am dano, Luc. xxii. 19. Ag nid yw St. Pawl yn dweyd Marfolaeth yr Arglwydd ydyw, ond dangosiad i farfolaeth ef, 1 Cor. xi. 26. Jë y mae efe yn dweyd mai dyma'r rhagoriaeth mwyaf rhwng yr Abërtheu tan y gyfraith, ag Aberth Crist ar y groes, fod yn Offrymmu'r rheini yn fynych, ond nid oedd efe i'w Offrymmu ond unwaith, a thrwy yr un offrwm hwnnw, 'fe roes gyflawn fodlonrwydd dros bechodeu yr holl fyd, Heb. ix. 25, 26. a Phen. x. 14. Ag felly coffadwriaeth yw'r Sacrafen yma, fal yr ym ni yn dywedyd; ag nid i Aberthu Crist drachefn fal yr ydych chwi yn dal, os rhown ni'r peth (fal ag y dylem ni) i'w farnu wrth yr Yscrythur; ymmha un nid oes dim yn dangos i fod yn gyflawn fodlonrwydd [Page 35] dros bechodeu y rhai byw, llai o lawer dros bechodeu y rhai meirw, cyflwr pa rai nid ellir mo'i newid ar ol y bywyd yma, Luc. xvi. 26. ond fal y syrthiont felly y byddant yn dragywydd, Eccles. xi. 3.
Off. Pab. Fe eill y byd weled yr awron mor Anghyfiawn yr ydych chwi yn ymffrostio eich gwaith yn mawrygu Rhyglyddiad dioddefaint Crist, ag fal yr ydych chwi yn camachwyn yn bod ni yn i hattal a'i diystyru, pan yr ydym ni yn dal i bod yn ddigonol i fadden yr byw ar meirw, a chwitheu yn dal nad eill wneuthyd dim lles i'r Meirw.
Prot. Nid o ddiffyg Rhyglyddiad yn Nioddefaint Crist, ond o eisieu gallu yn y rheini i Edifarhau yn ei bywyd sydd yn rhwystro i'r Meirw hyn dderbyn y lleshâd oddiwrth farwolaeth Crist, 'fe ddywedodd Crist na faddeueu efi neb ond a edifarhaeu; ag oni edifarhânt cyn ei marw, ni allant edifarhau wedi marw, ag nid oes iddynt ddim lleshâd oddiwrth farfolaeth Crist. Ag os gwêl y rhai byw y gallant gael pardwn ar ôl marfolaeth, fo bair hynny iddynt hwytheu oedi ei hedifeirwch hyd y munud ddiwaethaf; Ag ni ddysgasid fyth Athrawiaeth mor dwyllodrus a hon yn eich Eglwys chwi heb ddim sylfaen allan o'r Yscrythur, ond yn unig am fod i Dych'mygwyr dichellgar yn gweled y caent well pris am ei Hofferenneu.
Off. Pab. Mae'n hawdd jawn gennych chwi farnu, ond nid oes gennym ni bris am hynny, drwy fod yn ddiammeu gennym ni am ein Hathrawiaeth a'n Harferiou ni, ei bod yn ol gwir synwyr yr Yscrythur, fal y mae yr Eglwys lan Gatholig wedi i deongli ini.
[Page 36] Prot. A ydych chwi yn meddwl hyn yn ddiau? Attolwg gan hynny cyn imi ymadel ar rheswm yma, a ddywedwch imi, pa fodd drwy fod rhai yn unig, (sef yr Offeiriadeu) yn yfed o'r Cwppan, y gellir cyflowni geirieu Crist, yfwch o hwn bawb, Math. xxvi. 27.
Off. Pab. Mae'n eglur pa ham, o herwydd mai Offeiriadeu ag nid gwyr llyg oedd yr Apostolion, ag wrth yr Apostolion yn unig y dywedodd Crist y geirieu hyn; ag er ei [...] bod ni yn gwahardd i'r bobl yfed o'r Cwppan hwn, etto yr ydym ni yn gorchymmyn i'r Offeiriadeu yfed o honaw.
Prot. Ai nid yn unig wrth yr Apostolion hefyd y dywedodd Crist yr amser hynny, Cymerwch, bwytewch, hwn yw fy nghorph? Adn. 26. Ag. yn ol eich ffordd chwi yn ymresymmu, nid eill neb ond yr Offeiriadeu fwytta o'r bara hwnnw, ag ni ddylae'r bobl dderbyn n'ar bara na'r gwîn: Chwi a wyddoch fod yr Apostolion yn y fan honno yn sefyll yn lle gwyr llyg, a'i bod nhw yn arwyddoccau'r Gynnylleidfa, fal Crist yr Offeiriad, felly y mae St. Pawl yn cymhwyso yr gorchymmynion hynny, a roddes Crist ar y cyntaf yn unig i'w Apostolion o fwytta ag o yfed, at y bobl; Ag nid oes dim eglurach na darfod i'r holl bobl yn Ngorinth yfed o'r Cwppan, a rhai o honynt yn rhy helaeth, 1 Cor. x 21. Pen. xi. 21. ag Adn. xxvii. 28. Pen. xii. 13. Felly y mae'n rhyfedd gennifi pa fodd y meiddiwch chwi alw gwrthddywedyd gorchymmynnion Crist, ag Athrawiaeth ag Arfer yr Apostolion yn jawn synwyr yr Yscrythur, a pha ham yr ydych [Page 37] chwi yn attal y naill hanner o'r Cymmun oddiwrth y bobl.
Off. Pab. Nid ydym ni yn attal dim oddiwrthynt, oblegyd yr ydym ni yn mynegu ein bod ni yn rhoi Crist iddynt yn gyflawn yr hwn sydd wedi i gynhwyso tan bob rhwy yn hollawl.
Prot. Nid ydyw hyn ddim amgenach nag i un wedi toccio ymmaith hanner arian y Brenhin, ddywedyd i fod etto yn arian dilys; Mae eich rheswm chwi eich hun yn rhoi ddarfod i'n Harglwydd ordeinio dau ryw pan oedd un yn ddigon, ag felly i'ch esgusodi eich hunain o'ch Annuwioldeb, chwi a achwynwch i fod ef yn gwneyd petheu yn ofer: Ond gan fod Crist wedi i osod allan yma megis wedi dioddef dros bechod, ag felly i waed wedi i neilltuo oddiwrth i gorph, ni fedrwn ni ddyfalu pa fodd y geill y bara yn unig fod yn ddigonol i osod allan y Dirgelwch yma.
Off. Pab. Mae perygl rhag ofn ini golli'r gwin wrth i roddi i'r bobl, a rhag ofn i halogi ef gan Anghymmwys eneueu y gwyr llyg.
Prot. Fe eill y perygl yma ddigwydd wrth i roddi i'r Offeiriadeu; ond par un bynag, nid ydych chwi o feddwl St. Pawl, yr hwn pan gamarferwyd y Cwppan i Ormodedd yn Ngorinth, ni feiddiodd efe newidio Ordinhâd Crist, na'i ddwyn yn hollawl oddiarnynt fal yr ydych chwi yn gwneuthyd, ag wrth hynny yn euog o Gyssegr-yspail gorthrwm yn attal rhan o'r hyn y gwnaeth Duw chwi yn Oruwchwylwyr, ag, hyd y mae ynoch chwi, yn difuddio'r bobl o fawr-lles gwerthfawr waed Crist.
Off. Pab. Ni a allwn weled mwy bai yn eich paratoad chwi i'w dderbyn ef, nag a ellwch chwi [Page 38] yn ein gwaith ni yn goruwchwylio yntho; Canys pa'm nad ydych chwi oll yn myned at Offeiriad i gyffessu eich pechodeu cyn myned i dderbyn y Cymmun fal y mae'r Yscrythur yn gosod i lawr?
Prot. Mae r Yscrythur yn erchi i bawb ei holi ei hunain cyn iddynt fwytta o'r bara hwnnw ag yfed o'r Cwppan hwnnw, 1 Cor. xi. 28. Ag am hyn yma nid ydyw eich Eglwys chwi yn dywedid fawr jawn; ond mae ein Heglwys ni yn gorchymmyn yn dost i bawb ei paratoi ei hunain fal hyn: Ond nid yw'r Yscrythur mewn lle yn y byd yn dywedyd fod m▪or angenrheidiol i bawb fyned ger bron Offeiriad a chyffessu bob tro cyn derbyn.
Off. Pab. Ond ydyw'r Yscrythur yn dywedyd ddarfod, i bechaduriaid edifeiriol gyfaddef ei pechodeu wrth yr Offeiriad, Math. iii. 6. Act. xix. 18. Ag yn gorchymmyn ini gyffessu ein camweddeu bawb i'w gilydd: Jaco. v. 16. ag a all fod amser mwy eyfaddas i wneuthyd hyn nag yn union o flaen cymmuno?
Prot. Nid ydym ni yn gwahardd i ddynion ar amser yn y byd gyffessu wrth yr Offeiriad, ond yn ei cynghori i wneuthur hynny os bydd un mewn gorthrymder meddwl, neu ryw brofedigaeth erchyll a fytho i dderbyn y Cymmun. Ond ni feiddiwn ni osod mo'r fath dramgwydd i'n pobl ni a gwneyd hyn bob amser yn angenrheidiol, gan na ddarfu i Dduw yspyssu i fod felly. A'r Siampleu hynny yr ydych chwi yn ei dwyn ydynt am gyffessu pechodeu ar gyhoedd ger bron yr Offeiriad a'r Gynnylleidfa; Ac felly y mae'r lle hwnnw yn St. Jaco yn ein dyscu ni nid i gyfaddef o flaen y gwr cyfiawn yn unig, ond bawb i'w gilydd, fal drwy [Page 39] hynny y gallo'r cyfiawn a phawb eraill weddio am faddeuant i'r Edifeiriol; Ag mi a glywais ddywedyd mai dyma'r hên arfer o gyffessu pechod [...] ▪ ag a arferir etto yn ein Heglwys ni lle mae [...]ieu yn Ffiaidd a'r Trosseddwyr yn argyoeddus; ond nid yw hyn sylfaen yn y byd ich gwaith chwi yn cyffessu yn ddirgel ynghlust yr Offeiriad, ag felly yn cael maddeuant megis Deddfod Arferol ar amseroedd Gosodedig.
Off. Pab. Oni ddarfu i Grist roi awdurdod i'r Offeiriadeu i attal neu faddeu pechodeu dynion, Joan. xx. 23 Ag onid rhaid i'r Barnwr, yr hwn sydd i rwymo neu i ollwng yn rhydd, wrando'r cwbl cymmain un am y Drwgweithredwr?
Prot. Ni rydd ein Hoffeiriadeu ni, ini m'or Gollyngdod ar achosion arbennig, oddigerth ini felly gyfessu yr beieu yr ydym ni yn euog o honynt cym mhelled, a'n dangos ein hunain yn wir Edifeiriol; ond nid oes mo honynt hwy yn cymmell monom ni tan boen damnedigaeth i ddyfod i gyffessu iddynt hwy ein holl bechodeu, yr hyn medd yr Yscrythur sydd ammhossibl, Psal. xix. 12. Ag nid oes Mo'r Brenhinoedd wrth roddi cennad i ryw farnwyr i wrando ag i derfynu achosision, yn rhwymo mo'r neb a fedro gyttuno yn rhyngthynt ei hunain i ddyfod i'w derfynu ger ei bron hwy: Heb law hynny nid yr Offeiriad yw'r Barnwr pennaf a'r diwaethaf, ag ni feidr efe yn siccr wybod wedi iddo glywed cymmaint ag y bytho pawb yn i ddywedyd trosto i hun, pa ûn a fythont ai Rhagrithwyr ai rhai gwîr Edifeiriol: Ag am hynny fe a'n dyscir i gyfaddef beunydd ein holl [Page 40] bechodeu ger bron Duw y Barnwr pennaf, ag i ymegnio ar fod ein Hedifeirwch tu ag atto ef yn bur, drwy wellhau ein bucheddeu: Ag nid ydym ni yn rhwym i fyned at yr Offeiriad ond mewn rhyw gyflwr gorthrwm a thra-mawr achosion.
Off. Pab. Dyma un peth mawr sydd gennym ni i'w achwyn ar eich Rhith Ddiwygiad chwi; nad ydych chwi yn rhwymo Pechaduriaid i wneyd dim jawn am ei camweddeu, a'ch bod wedi rhoi heibio'r Sacrafen o Benyd.
Prot. Yr ydym ni yn dal fod yn anghenrhaid i i Drosseddwyr Ffiaidd Cyhoedd, ddwyn penyd cyhoedd, fal y bytho ei cywilydd a'i tristwch mo'r amlwg a'i beieu, a hyn y maent i'w wneuthur er bodloni yr Eglwys 2 Cor. xi. 7. A dal yr ydym ni fod yn fwy anghenrhaid o ran pechodeu dirgel i'r pechadur wylo yn ddifrif o herwydd y rheini, a'i cyfaddef yn ostyngedig ger bron Duw, a chwbl feddwl i ymwrthod a nhw rhag llaw; a than yr ammodeu yma nid ydym ni yn ammeu na faddeua Duw er mwyn Crist iddynt yn ol i Addewid yn yr Yscrythur lan, Dihareb. xxviii. 13. Ezec. xviii. 21. ag ni a gredwn i air Duw o'ch blaen chwi.
Off. Pab. Onid wedi darfod i Dduw roi Maddeuant i'r pechadur o'r Gospedigaeth dragwyddol ddyledus iddo. yr hwn a brynodd Crist, rhaid iddo wneyd jawn i gyfiawnder Duw am y poeneu amserol sydd etto yn ddyledus am y pechoden rheini drwy ymostwng i'r Penyd a roddir arno gan i Offeiriad.
Prot. Eich dyfais chwi eich hunain ydyw hyn, heb ddim sail yn yr Yscrythur lân; mwyn yno yr [Page 41] ydys yn datcan, ddarfod i Grist ein gwared ni oddiwrth yr holl felldith ddyledus ini, a'n hamddiffyn ni hyd yr eithaf, a'n glanhau ni oddiwrth bob pechod, a gwneyd ein cymmod; felly os oes ini ddim hawl yntho ef nid oes ddim damnedigaeth ini: Gwir ydyw fod Duw weithieu yn cospi y rhai goreu er i fod unwaith ar fedr Maddeu iddynt, 2 Sam. xii. 14. yr hyn nid yw i fodloni cyfiawnder Duw, ond i'w rhybuddio nhw na bytho iddynt redeg mor ewyllysgar i'r cyfryw bechodeu, Heb. 12. 6. A'r rhai gwîr edifeiriol o'i gwirfodd a wiscasant sachliain, a orweddasant mewn lludw, a ymprydiasant ag a weddiasant, &c. ond nid oedd hyn onid i ddangos purdeb ei Hedifeirwch a Gwirionedd ei Tristwch am ddigio Duw neu i'w cymhwyso ei hunain i weddio yn fwy difrif ar droi heibio gyfiawn Ddigllonrwydd Duw: Eithr nid yw gair Duw un amser yn edrych ar y gweithredoedd yma megis rhyw ran o jawn i Dduw, ag nid oes gennym ni un Athrawiaeth oddiwrth Grist neu ei Apostolion yn rhwymo'r fath weithredoedd yn eglur er bodloni cyfiawnder Duw am y'r un Gospedigaeth sydd yn ol iddynt.
Off. Pab. Nid ellwch chwi wadu nad mwy Anrhydedd i gyfiawnder Duw ydyw rhwymo'r Trosseddwyr i wneyd iddo efryw jawn, yn hyttrach na dywedyd iddynt y maddeuiff ef yn rhad; Ag mae'n rhaid ichwi wybod mai tebyccach a fyddir i attal pobl oddiwrth ddrygioni rhag llaw os cospir nhw yn ei cyrph neu ei da am yr hyn a bassiodd.
Prot. Ond nid yw y chwaith cymmaint anrhydedd Duw, pan fo eich Eglwys chwi yn dal [Page 42] na faddeuiff Duw y Relyw o'r poeneu amserol yma i ddynion oddigerth iddynt ddwyn ei Penyd: Etto hi a escusodiff y Penyd i hun er rhyw wobr, ag felly arian a bryn yr hyn yr ydych chwi yn dywedyd nad yw marwolaeth Crist yn bodloni drosto: Ag yn wîr nid oes ond odid neb ond y tlodion yn gwneyd dim Penyd gyda chwi; y cyfoethogion y rhai a allant dalu yn dda i'r Offeiriad a gânt Ryddhâd a Maddeuant; A pha fodd bynag yr ydyeh chwi yn trefnu hyn yma yn eich Eglwys, mae cyn amled pechaduriaid Ffiaidd hynod ynthi, er yr holl Benydiatheu yma, ag mewn lle yn y byd arall; Jë y maent yn pechu a llai ofn ag arswyd na rhai eraill, am ei bod yn rhagweled mai ychydig ymdaith, neu ympryd; ymbell wialennod neu Swmp o arian a wneiff heddwch rhyngont a'r Offeiriad; ag felly nid ydynt yn cymeryd fawr ofal drwy bur wellhâd buchedd am wneyd ei cymmod a Duw.
Off. Pab. Yr wyfi'n meddwl eich bod chwi yn bwrw at ein Pardyneu ni, a'r Enaid-rhydd a ganiadheir yn ein plith ni, pa rai nid ydynt amgenach na gwneyd defnydd o'r awdnrdod a roes Crist i St. Peder; Ag yntho ef i Benbugail yr Eglwys Gatholig; A diammeu peth tragyssurus ydyw pan fytho Etifeddwyr St. Peder neu i Gennadon mor barchedig yn ein rhyddhau ni oddiwrth y pechodeu rheini a ddarfu ini ei cyfaddef.
Prot. Ni werthodd St. Peder erioed mo'r Awdurdod yma, Act. viii. 18, 20. o ran y mae efe yn ein siccrhau nad a Phetheu llygredig megis arian neu aur y'n prynwyd, 1 Ped. i. 8. Ped f'asseu efe yn arfer [Page 43] yr un farchnad ennillfawr ag y mae'r Pâb, ni allaseu efe ddywedyd, Arian ag Aur nid oes gennifi, Act. iii. 6. Felly ni ddylaech chwi alw mo'r Apostol Sanctaidd hwnnw megis yn Batrwn neu Ben-Athro ichwi, hyd oni ddilynoch chwi i Siampleu ef; na rhoi maddeuant i neb ond y sawl ar ôl i ymholi yn ddyfal a geffir yn wir Edifeiriol; Ag ar yr ammod yma (yr hwn y mae Crist yn i dybied yn anghenrhaid) rhaid i'r tlawd i gael cyn gynted ar cyfoethog, a phob un yn rhâd: Ond tra bytho eich Eglwys chwi yn gwneyd pur Farsiandiaeth o honynt, ag yn ei dodi allan yn unig er casglu arian, naill a'i i gyfoethogi Nai, neu i Briodi Nith i'r Pab, neu i fawrhau rhyw un mewn Goruchafiaeth; Ag y mae yn ei danfon nhw i wledydd pell, at wyr a gwragedd nis gwelodd erioed, ag o edifeirwch pa rai nid oes gantho ddim siccrwydd; rhaid i Brotestanniaid edrych ar y rhain megis twyll a siommedigaeth dan rîth Crefydd, a rhwystr gwir Edifeirwch, a dychymmyg er ennyll arian.
Off. Pab. Yr ydych chwi yn camgymeryd ymmhell; Nid ydyw'r Eglwys yn amcanu dim wrth y Pardyneu yma ond Iechydwriaeth yr Edifeiriol; yr arian ydynt Offrwm ewyllysgar, ag a ellwch chwi feio ar y lan Eglwys am dderbyn Offrymmeu'r bobl.
Prot. Nid yw hi fai yn y byd dderbyn Offrymmeu ewyllysgar tra y cyfrennir nhw i'r tlodion; ond mae hyn yma tan i bris, a'r arian a dderbynnier sydd ran o honynt yn myned i Goffreu'r Pab, a rhan i'r Cennadon goludog, neu Fynaehlogydd [Page 44] gwyehion; Ag mae'n eglur mai arian yw'r peth pennaf, am nad eill pobl dlodion gael mo honynt, nag a roddant hwytheu faddeuant i'r truan yn rhad er pured a fytho e edifeirwch, er gallu o'r cyfoethog i chael heb ddangos fawr arwyddion Edifeirwch, ag o herwydd hynny maent wedi caledu yn ei pechodeu: Ag nid y pwynt yma yn unig ond y rhan fwyaf o'r rheini a ymresymmwyd rhyngom a chwitheu ydys yn ei diffynnu yn ffyrnig o'ch tu chwi, o ran ei bod yn chwanegu golud a Mawredd eich Eglwys chwi; y cyfryw ydyw Awdurdod y Pab i dderbyn Achwynion, Delweu, Creirieu, dywedyd Offerenneu er rhyddhau eneidieu, cyffessu, Penydio a deubeth ychwaneg na henwyd etto; sef y Purdan, a rhith Dduwioldeb eich Crefyddol Frawdoriaetheu.
Off. Pab. Nid y elw yr ydym ni yn i gael oddiwrth yr Athrawiaetheu yma, ond y gwirionedd siccr o honynt sydd yn peri ini fod mor awyddus ichwi ei coelio nhw, fal y mae'n dangos yn yr Erthygl gyntaf am y Purdan, yr hyn a brofa fi yn gyntaf drwy Yscrythur, ag yno drwy Reswm i fod yn wir.
Prot. Mae'r Yscrythur yn ddigon anilwg ag yn eglur yn dywedyd fod dau le, Nef ag Uffern, o wobrwyad a chospedigaeth Dragwyddol, ag os oes y'r un trydydd lle, i ba un y bydd rhaid i'r rhan fwyaf o bobl fyned i. ddioddef trom gospedigaeth dros amser, nid oes ammeu gennifi na ddarfu i Dduw i ddatcuddio mor eglur ag amlwg ag y gwnaeth ef Nef ag Uffern; Ag am hynny gadewch imi eich gweled yn profi hynny drwy resymmeu eglur allan o'r Yscrythur lân.
[Page 45] Off. Pab. Mae ein Iachawdwr yn dywedyd, Y pechod yn erbyn y'r Yspryd glan ni faddeuir byth mo honaw, nag yn y byd yma, nag yn y byd a ddaw, Math. xii. 32. Ile mae'n eglur i'w weled fod rhai pechodeu a fyddant heb ei maddeu yma, yn cael ei maddeu yuo, a dyna ichwi un Reswm am y Purdan.
Prot. Mae hyn ymmhell oddiwrth brawf eglur, am nad oes yma ddim sôn am Burdan, onid yr ymadrodd Briod hon, y Byd a ddaw, yn fynych jawn yn y'r Efengyl sydd yn arwyddoccau dyddieu y Messias, Heb. xi. 5. Ar. vi. 5. A'r Juddewon a ddisgwyliasant y pardyneu'r Messias nhw, (yr hwn yr oeddynt hwy yn credu na ddaetheu etto) o amryw bechodeu mawrion y rhai nid ellid gwneyd jawn am danynt drwy'r Offrymmeu deddfol; am hynny Crist wrth ymresymmu a hwynt yn ol ei Hymadrodd ei hunain, sydd yn dywedyd wrthynt am y pechod yma yn erbyn y'r Yspryd glan na faddeuir fyth mo honaw tan y gyfraith na than yr Efengyl; Ond gadewch i'r Ddull-ymadrodd yma arwyddoccau y byd a Ddaw: Nid yw Crist yn dywedyd na faddeuir pechodeu eraill yno, ond yn unig na faddeuir mo'r pechod hwn nag yno nag yma, yr hyn sydd ryw fath ar Ymadrodd yn unig i ddangos na faddeuir monaw ddim; felly Gen. xxxi. 24. bod heb ddywedyd na drwg na da, sydd yr un peth a bod heb ddywedyd dim.
Off. Pab. Ond ydyw St. Pawl yn dywedyd y gwneir gwaith pob dyn yn amlwg, canys y dydd a'i dengys, oblegyd drwy Dan y datcuddir ef, a'r Tan a brawf waith pawb pa fath ydyw. Ag ychydig ar ol hynny, os gwaith neb a loscir efe a [Page 46] geiff golled, eithr efe i hun a fydd cadwedig, etto felly megis trwy Dan, 1 Cor. iii. 13, 15. Ond ydyw hyn yn ddigon o brawf am y Purdan?
Prot. Y lle yma sydd yn sôn am Ddysgawdwyr yn unig, ag nid hwynt hwy a loscir ond ei gweithredoedd, hynny ydyw yr Athrawiaeth Gelwyddog y mae yr un o honynt yn i dyscu: A'r holl le yma sydd Ddamhegol a thywyll; A'r Adroddiad ddiwaethaf honno o fod yn gadwedig etto felly megis trwy Dan, nid yw ddim amgen na rhyw ffordd o eglurhau y peth a wneler drwy boen dirfawr, Psal. lxvi. 12. Zach. iii. 2. Fal y gellwch chwi yr un modd feddwl fod pechaduriaid yma mewn Purdan, am fod yn gorchymmyn ini ei cadw drwy ofn gan ei cipio hwy allan o'r tan, Jud. Adn. 23. Ag os ydyw'r lle yma i'w ddeallt yn ol y llythyren, rhaid iddo fod yn debyg i'r tan hwnnw a lysc yr holl fyd yn Nydd y Farn, yr hwn (fal y clywais i) ydyw'r hyn y mae yr Tadeu yn i ddeallt wrth y Dydd a'r Tan y crybwyllir yma am danynt, ag felly nid yw yn cyfatteb ddim a'r Purdan, yr hyn sydd raid ichwi i brofi (fal yr ym ni Nef ag Uffern) yn fwy eglurach na hyn, onid ê ni choeliwn ni mo hono.
Off. Pab. Mae gennym ni St. Peder he fyd o'u ty yr hwn sydd yn dywedyd ini, i Grist fyned drwy yr Yspryd i bregethu i'r Juddewon yngharchar, y rhai a fuont gynt yn Anufydd pan unwaith yr oedd hîr Ammynedd Dduw yn aros yn nyddieu Noe tra y darparwyd yr Arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwd drwy Ddwfr, 1 Ped. iii. 19, 20.
[Page 47] Prot. Mae'r lle yma yn dywyllach nag yr un o'r lleill, ag felly yn ddigon Anghymmwys i sylfaenu pwnc o'r Ffydd arno: Ond y Ddeongliad egluraf o honaw ef ydyw, ddarfod i Grist drwyi Yspryd yn Noe bregethu i'r bobl Annuwiol rheini o flaen y Diluw, Ysprydion ag eneidieu pa rai oeddynt megis wedi ei carcharu yn ei cyrph; A'r sawl a achubwyd drwy'r Bregeth yma nid oeddynt ond ychydig, a'r rheini a achubwyd drwy ddwfr ag nid trwy dan; Ag fal a gallwn ni ddeallt oddiwrth y rheswm yma 2 Ped. ii. 3, 5. ddarfod i'r bobl yma a bregethwyd iddynt barhau yn Anufydd, ag na achubwyd monynt ddim; felly nid oes ichwi ddim na lliw na llun o Reswm i Seilio eich Purdan ar y lle yma.
Off. Pab. Beth debygwch chwi am y Carchar hwnnw i ba un os bwrir ni gan Dduw yr hwn yw gwrthwynebwr pechaduriaid, ni chawni ddyfod mewn modd yn y byd oddiyno hyd oni thalom yr hatling eithaf, Math. v. 26. Ai nid y Purdan ydyw hwn?
Prot. Yr wyfi'n tybied nad ydyw hyn ddim i'ch pwrpas chwi, o ran mae Crist yn i arfer megis Rheswm pam y dylem ni Edifarhau a gwneyd ein Cymmod a Duw tra fythom byw; pan y mae'r Purdan yn rhoi esgus i bobl i oedi ei Hedifeirwch hyd ddydd marwolaeth, ag yn ei llenwi a rhyw wag obaith o gael ei gwaredu ar ol hynny: Ag nid oes fodd yn y byd i gael Rhyddhad o'r carchar yma, ond drwy i'r dyledwr i hun wneyd jawn am yr holl ddyled, pan y boch chwi yn tybied y geill gweddieu ag eluseneu rhai eraill dynnu pobl allan o Burdan: Ag nid ydyw'r Testyn yn dywedyd [Page 48] [...] [Page 49] [...] [Page 48] y geill y Poenedig dalu'r hatling eithaf, ond yn hyttrach yn tybied hynny yn ammhossibl, a'i fod yn aros yno hyd oni thalo'r hatling eithaf, sydd i'w ddeallt i fod yn dioddef yn Uffern yn dragywydd. Ag mae Crist yn sôn am Ʋffern yn y Bennod honno Adn. xxii. 29, 30. Ond nid oes un gair yma nag mewn lle yn y byd arall yn yr Yscrythur am Burdan; Ag am hynny rwyfi'n dymuned arnoch chwi geisio i brofi os gellwch chwi drwy reswm, gan nad yw gair Duw o'ch tu chwi.
Off. Pab. Ai nid oes ragoriaeth fawr rhwng rhai pechodeu ai gilydd; ag os ydyw Duw yn faruwr cyfiawn, efe a wneiff ragor cospedigaeth▪ Felly nid ydyw ond rhesymmol coelio y ceiff pechodeu maddeuawl ei cospi mewn tan dros amser, ag nid a Fflammeu tragwyddol.
Prot. Ped ystyriem ni Sancteiddrwydd y Gyfraith, neu Anfeidrol fawredd yr hwn y trosseddir i'w erbyn, pob pechod, jë'r lleiaf, sydd yn haeddu Damnedigaeth megis i gyflawn wobr, Rhuf. vi. 23. A'r pechod lleiaf heb edifarhau o'i blegyd, a'eill fod yn farwol; o herwydd nid cymmaint y pechod ag Annedifeirwch yrawron dan yr Efengyl sydd yn bwrw pobl i farwolaeth, a'r hwn nid Edifarhao sydd yn dangos y pecheu efe yn dragywydd; felly pa beth bynnag fytho yr achos mae efe yn haeddu cospedigaeth dragwyddol; Och! nid oes un dyn a'r sydd heb gyflawn Edifarhau tra fytho byw yn euog o'r pechodeu lleiaf hynny yn unig, pa rai yn y cyfryw nid ydynt un amser yn unig, ond maent hwy beunydd yn euog o bechodeu mwy ag sydd yn haeddu Fflammeu tragwyddol: A'r lle hwnnw [Page 49] o St. Joan▪ ar ba un yr ydych chwi yn sylfaen eich gwahaniaeth rhwng pechod Marwol a phechod Maddeuol, sydd yn sôn am ddibennion pechodeu pawb; nid am ei natur nhw; fal os gwelwm ni ddynion yn pechu heb ddim arwyddion na gobaith o'i hedifeirwch, nid oes mo'r Yscrythur yn rhwymo mo honom ni i weddio dros y cyfryw, 1 Joan. v. 16.
Off. Pab. Onid ydys yn dywedyd na cheiff dim aflan fyned i mewn i Deyrnas Nefoedd, Datcudd. xxi. 27. Gan hynny mae rheswm yn ein dyscu ni fod yn rhaid i'r sawl a lygrir gan ryw bechodeu, je y rhai maddeuol, gael ei glanhau cyn y gallont ddyfod i Deyrnas Nefoedd.
Prot. Diau fod y Catholiciaid truein yn cael ei cystuddio, ag yn gorfod talu cymmaint o arian a dioddef cynnifer o Benydieu dan rith puro ymmaith ei pechodeu maddeuol; Ag etto ar ôl ei holl ymprydieu gwialennodieu a'i rhyddhad, ei Dwfr-Offeren, Eluseneu ag Eneiniad, maent byth i Ddioddef poen am y trosseddiadeu bychain yma mor erchyll, er nad cyhyd a Than Uffern; Heb law hyn ni fedrwn ni wybod pa fodd y geill tân bwro enaid Anghorphorol, na pha ham y byddeu raid wrth Burdan i'n glanhau ni oddiwrth rai pechodeu, pan ydyw'r Yscrythur yn datcan, fod gwaed Crist yn ein glanhau oddiwrth bob pechod, 1 Joan. i. 7. A pha fodd y Condemnir pobl i'r Purdan sydd i'w hachub gan Grist, pan ydyw St. Pawl yn dywedyd, Nad oes ddim Damnedigaeth i'r rhai sydd ynghrist Jesu, Rhuf viii. 1. Mae'n eglur fod y rheini yn lleihau Trigareddeu Duw a Haeddedigaetheu Crist, sydd yn dyscu i'r bobl, er holl Addewidion Duw i'n cyfiawnhau [Page 48] [...] [Page 49] [...] [Page 50] ni yn rhad drwy i ras ef, Rhuf. iii. 24. Ag er i Grist ddileu Yscrifen law yr Ordeiniadeu yr rhain, oedd i'n herbyn, Coloss. ii. 14. fod yn rhaid iddynt etto ddioddef cyhyd ag mo'r dôst, a'i bod i dalu rhan fawr o hynny ei hunain.
Off. Pab. Yr ydych chwi yn camgymeryd etto, yr ydym ni yn dal mai o ran Cyfundod y Seintieu y geill y naill ddyn fodloni dros y llall, ag mai gweddieu ag Eluseneu y rhai byw, yn enwedig y Manachod a'r Llieini duwiol, a ddichon ryddhau yr marw allan o'r Purdan.
Prot. Chwi a ellwch ddal y peth a fynnoch, ond mae'r Yscrythur yn dywedyd ini, Mai pob ûn a ddwg i faich i hun, Gal. vi. 5. ag nad all neb waredu i frawd na rhoi bodlonrwydd i Dduw drosto, canys gwerthfawr yw pryniad pob enaid a hynny a baid byth, Psal. xlix. 7, 8. A bod holl weithredoedd goreu y rhai duwiolaf yn ddigon bychan drostynt ei hunain, Math. XXV. 9. Ag mae'n rhyfedd gennym ni fod pobl yn hudo y rhai doethaf o'r gwyr llyg drwy Athrawiaeth mor Ffugiol ag a fytho mor amlwg yn tueddu i wneyd i'r bobl oedi ei Hedifeirwch hyd ei mar wolaeth, ag i roi Adeg i'r Manachod i dynnu Cymmyn i Da oddiwrth y rhai a fytho yn marw, a rhoddion helaeth oddiwrth ei Ceraint byw, hynny ydyw i wneyd y Llyg yn Annuwiol a'r Eglwyswyr yn gyfoethog, ag i beryglu Jechydwriaeth pob un o'r ddau.
Off. Pab. Nid ydym ni yn tybied fod yr arian hynny wedi ei camarferu a rothom ni i'n Hoffeiriadeu a'n Manachod, gweddieu pa rai sydd burach a godidoccach na rhai eich Eglwyswyr chwi, am ei bod dan y dair Adduned Sanctaidd hynny o Ddiweirdeb, Vfudddod, a Thlodi.
[Page] [Page] [...] [Page 51] Prot. Addunedeu heb ei cadw nid ydynt [...] maglu ag yn hogi'r pechod ymmlaen pan [...] nhw, fal y mae dau o'r rhain yn dra hynod yn cael [...] torri gan eich Offeiriadeu a'ch Manachod chwi, pa rai ydynt yn cael gair drwg ymmhob gwlad am y drwg-gastieu a arferant ei gwneuthyd er ennill cyfoeth, ag am ei Hanianol a'i Ffiaidd Anniweirdeb, ag yr ydys yn gyfiawn yn cyfrif eich Eglwys chwi yn euog o'r holl ddrygeu sydd yn canlyn ei Hadduned o Ddiweirdeb, a'i bod hi yn inwymo rhai Ifainc i wneyd y cyfryw Adduned, cyn iddynt wybod ei cryfder ei hunain; ag yn cydddwyn a godineb ynthynt yn hyttrach nag y rhydd hi gennad iddynt i briodi fal y bytho yr Eglwys yn Etifedd iddynt, ag fal y gallont fod yn llai rhwymedig i Frenhinoedd a Gwledydd tra y byddont heb na gwraig na phlant.
Off. Pab. Yr ydychwi yn ceisio gwneuthyd hyn [...] ryw fath ar gyfrwysdra er nad ydyw ond Crefydd, o ran mae St. Pawl yn yspyssu mai cynthwysach yw i rhai Sengl i lynu wrth y'r Arglwydd yn ddibettrus: 1 Cor. vii. 35. Ag ar yr achos hwnnw mae'n fwy cymwys i'r Offeiriadeu a'r rhai Crefyddol.
Prot. Mae'r Apostol yn cynghori pob Cristion ag nid Offeiriadeu yn Unig i barhau yn Sengl os oeddynt felly, am mae gwell ydoedd o'ran Erlidieu yr amseroedd hynny, ag os gwelent y gallent fyw yn ddiweir heb Briodi, ond os amgen rhag godineb mae efe yn y man hwnnw yn gorchymmyn iddynt Briodi, 1 Cor. vii. 2. Ag yr ydych chwi yn gwahardd i'ch holl rai Crefyddol chwi ymmhob achos ag ar bob amser: Heb law hyn ni roe ef [Page 52] rwym yn y byd arnynt, Adn. 25. Nag ynteu oedd [...] i hun mewn Adduned, ond y'r oedd yn rhydd i briodi pe gwelseu efe yn dda, 1 Cor. ix. 5. Ag mae efe yn fodlon i Escob fod yn wr i ûn wraig, 1 Tim. iii. 2. ag yn bwrw fod gwragedd gan y Diaconiaid yr amser hynny, Adn. 11. Ag nid yw efe yn cyfrif priodas, yn Anniweirdeb mewn neb rhyw ddyn, ond y mae yn dywedyd mai Anrhydeddus yw priodas ymmhawb ar gwelu yn ddihalogedig, Heb. xiii. 4. Nid yw efe yn llyssu hyd yn oed yr Eglwyswyr, fal nad rhaid ini ammeu nad ydyw gweddieu ein Hegiwswyr priodol ni a fytho byw yn sobr yn ol gorchymmynion Duw yn burach ag yn odidoccach na'ch rhai chwi, y rhan fwyaf o ba rai ydych yn byw mewn Anudonedd, Nwyfchwant a Godnieb.
Off. Pab. Ond nid oes gan eich Offeiriadeu chwi mo'r gallu drwy ei gweddieu i fwrw allan ysprydion drwg, fal y mae gan ein rhai ni; yr hyn sydd yn dangos mai ein rhai ni, ag nid eich rhai chwi ydyw gwir Etifeddwyr yr Apostolion, i ba rai y rhoes Crist awdurdod ar yr Ysprydion aflan, Mar. xvi. 17.
Prot. 'Fe roes Crist i'w Apostolion yr amser hynny allu i yfed gwenwyn, ag i ddal Seirph heb gael Niwed, megis ar ol hynny hefyd i barablu mewn amryw Dafodeu, i jachau'r cleifion drwy gyffwrdd a nhw a chyfodi'r meirw; etto ni lefys eich Offeiriadeu chwi gymeryd arnynt yr un o'r gwrthieu yma sydd wedi peidio oll er ystalm, 1 Cor. xii. 8. yn unig maent yn dal i fynu ryw rîth o fwrw allan Ysprydion drwg o ran mae'n haws llunio hynny na dim o'r lleill; Ag os hyn yn unig a wasanaetheu'r tro mae'n debygol y geill Swynwyr haeru mai [Page 53] nhw Etifeddwyr yr Apostolion cyn [...] [...]dau chwitheu, am y medran nhw [...] [...] Ysprydion drwg yn well n'ar Offeiriad [...]ufeinaidd, pa rai, fal y gellir ddal sulw sydd y [...] [...]rw y Cythrael cyn fynyched allan o'r un rhai [...] amryw leoedd, ag y bo achos i wneyd [...]roselyt, [...] i hudo'r Coelgrefyddol. Yr awron rhaid yw gwneyd hyn naill, ai drwy gyngrair ar Cythrael, neu drwy gyttundeb ar sawl a fytho yn cym'ryd arno fod yn Ddiawledig, a pha fodd bynag, nid yw fawr glod iddynt, Heb law hynny myfi a adwaenwn Feddig da drwy Gyffeirieu a fedreu jachau yr rheini y'r oedd yr Offeiriadeu yma yn cymeryd arnynt ei bod wedi ei hysprydoliaethu gan Gythrael, yr hyn sydd yn dangos ei bod yn fynych yn bwrw yr Cythrael allan pryd na bytho i mewn.
Off. Pab. Wele, ni fedre'i ond tosturio wrth [...] Cyndynrwydd a gweddio drostoch, am eich [...] o'ch gwirfodd yn cau eich llygaid yn erbyn [...] egluraf yn y byd am y Gatholig wirionedd.
Prot. Mae mwy achos imi dosturio a gweddio drossoch chwi yr hwn yn yr holl bwyntieu yma sydd yn gwrthddywedyd yn erbyn yr Yscrythur lan yr hon ni thwylla neb, a choelio Traddodiadeu ffugiol celwyddog a ddych'mygwyd gan ddynion dichellgar i ddibennion drwg, ag o'm rhan i rwyfi yn i gyfrif yn Fwriad da ag nid yn gyndynrwydd goelio i Dduw rhagor i ddynion.
Off. Pab. Yr ydych chwi yn eich hudo eich hunain ag Yscrythur wedi i chymeryd yn ol eich Synwyr eich hunain; ond fo ddarfu [Page 54] i chwi addef mai'r Eglwys [...]olig ydoedd y [...] onglyddes oreu or Yscrythur lan; A diau fo [...] [...] [...]adeu Duwiol y [...] a roesant ar [...] ini Feddwl [...] yn cyttuno a ni yn dda yn yr holl [...] [...]ferion yma yr ydych chwi [...] [...]chod▪ Ag a ellwch chwi [...] Duwiol yma yn [...], [...] mai ychydig [...] wyr [...] iawn.
P [...]. [...] nid oes [...] ond ychyd [...]g gyfarwyddy [...] yn Yscrifen [...]en y Tadeu, [...] mi a glywais ein Heglwyswyr ni y rhai fydd mor hyddysg yn ei llyfreu hwynt [...] yr un o'ch rhai chwi▪ yn yspyssu fod y rheini ei g [...]d yn eich bwrw chwî yn euog cymmaint ag ydyw'r Yscrythur [...] Ag▪ nad yw yr Opiniwneu a'r Arferion yma ond Dych'mygion diweddar eich Eglwys chwi, ag a osodwyd i fynu mewn amser Coelgrefydd ag Anwybodaeth, yn unig er ennill Golud a Braint y byd yma oddiwrthynt: Ag er nad ydwyfi abl i wneyd hyn yn eglur ichwi, etto rwyfi yn addaw y dygaf (pa bryd bynnag y gweloch chwi yn dda) un o'n Heglwyswyr ni a brifia yr hyn yr wyfi yn i ddywedyd; yn y cyfamser gan fod yr Yscrythur o flaen y Tadeu, rwyfi yn ddiogel yn credu mai ein Crefydd ni ydyw'r hynaf a'r oreu, a thrwy nerth Duw 'rwyfi yn llawn fwriadu nad ymad [...] [...] ag y bi [...], A phe carech chwitheu eich [...] uwch law petheu bydol chwitheu a'i [...] hi hefyd, yr hyn a [...]dymunwn o'm calon ichwi wne [...]yd, ag felly yr wyfi yn canu yn jach ichi.