PEN. I. Ynghylch Eglwysi a Chapelau ai Perthynasau.
1. AYdyw eich Eglwys neu eich Capel chwi mewn Dyledûs ac iawn adeilad? Ydyw 'r Tô yn ddiddôs y mur yn ddifrêg, y pared oddimewn wedi ei wyngalchie, y llawr yn wastad, yn Lân, a threfnus, a'r meincie ag eisteddleoedd erail yn weddus a thrwsiedig, a phôb peth yn weddus i Du Dduw?
2. A oes yn eich Eglwys, neu yn eich Capel chwi Fedydd faen trefnûs, a chaead cyfatebol arno? oes gantho-chwi Letring, neu Ddarllenfa daclus i ddarllen y Gwasanaeth, a Chadair ymadrodd neu. Bylputt i bregethu gair Duw (wedi ei hilio a Brethyn a chlustoc weddus) a chwedi ei osod yn gyfleus?
3. A oes genych Wenwisc ô Liain main yn wastad mewn cwbl drwssiad, a glan olchiad, Bwrdd cymwys i weini y Cymmun Sanctaidd, wedi ei osod yn gufleûs, ai hilio yn wastad a Brethyn, ac a lliain glân hefyd ar Ddyddiau Cymmun, Cwppan, Flagen a descil gyfattebol ir Gwasanaeth parchedic Sanctaidd hwnw, a Lliain glân iw danu dros y Bara a'r Gwîn Cyssegredig?
4. A oes geñych Feible Cymraec Hollawl, cwblgyfa o'r cyfieithiad Cymraec Diweddaf; y Llyfr Gweddi gyffredin, yr Homiliau, a'r namun deugain Pyncyau ffydd yn yr enrhyw iaith, y Llfr o Gyfreithiau neu Ganônau Eglwysic a Llechres o'r Graddau gwaharddedic (i) nêb briodi ynddynt ; Llyfr côf ô femiwn i gadw henwau cynnifer a Fedyddir neu a brioder neu a gladder? a hefyd llyfr arall o Bapur i scrifenu cyfrifon y Procatorion yntho, ag i gadw cyfri ô hôll Ddâ, Dodrefn a Pherthynasau 'r Eglwys: ac oes genych, Gîst gref a chloeau arni (i) gadw 'rhôll Lyfre â Dodrefn eraill a ddylevid ei cadw ynthi, a oes Egoriadau yr Gîst yma ûn gida' 'ch Eglwyswr chwi, a dau erail gidar Procatorion?
5. A osodwyd i fynu ûn Fainc, neu a adeuladwyd un ei steddle yn eich Eglwys chwi yn ddiweddar heb gennad ac Awdurdod ya Escob? ac a oes dim ymryson in eich Plwyf chwi ynghylch Breintic, Eisteddleoedd neu Feddrodau; ac a fu ymddadl neu ymrafael yn yr Eglwysi oi plegit?
6. A oes dim Arian, neu Dir, neu Dda eraill yn perthyn i adeilad eich Eglwys, ac ydyw Swyddwyr eich Eglwys yn derbyn ei chyfiawnder hi yn ddidrais a Gormes, ac yn ei treulio i wasanaeth ag Adeilad yr Eglwys yn unic.
PEN. II. Ynghylch y Fynwent, Tai a thir Eglwysic.
1. A Oes Clawdd cryf, taclus, o gerrig o amgylch eich Mynwent? Ydyw Pyrth a chamfuydd y Fynwent yn drefnus ac adeiladwy? a ddarfu i nêb ormesu ar y Fynwent, neu oes nêb yn arfer chwareu ynthi, yn benaf, oes nêb yn arfer un amser chware Pél Dô ar yr Eglwys ac yn enwedic ar Ddydd yr Arglwydd?
2. A oes Tû yn perthyn i Berson neu Ficar eich Plwyf chwi? ac ydyw ef yn cadw y Tû hwn hefo ei yscubor ai Feidu, ai hôll Berthynaseu mewn Trein ac iawn adeilad ?
3. A oes Tîr neu Dyddyn yn perthyn iddo, ydyw ir Tir hwn dan ei gloddie, ai derfyne; a oes nêb yn gormesu arno, neu yn treisio eich Eglwyswr am unrhyw ran o honaw a ddarfu colli neu gyfnewid dim o honaw a pha bryd, a chan bwy y gwnaethpwyd hyny ?
4. A oes genych yn Gl [...]r yr Eglwys ynghadw Terrier neu Stent (hyny ydyw, Cyfrif a mesur o'r Taî a'r Tîr sydd yn perthyn i'r Bersonolieth neu'r Ficerieth, yn dangos pa fâth Dai ac Adeilad ydynt, Pa sawl Ty sydd o honynt, a pha sawl stafell, Devad, a chwlas sydd ym mhôb un, pa Berilanau, gerddi a Chadleisie, pa Feusydd, Caeu, a Gwairgloddie; neu rhandiroedd sydd yn Perthyn iddynt? Pa sawl Cyfer, Erw, a Llathen a gynhwysant, a pha fodd y Terfynir yr unrhyw ôbobtú ac a oes Copi, neu B [...]rtiwm o'r 'stent neu'r Cyfri a'r [...] hwn wedi ei ddanfon at yr Escob i'w gadw gan y Register?
5. Pa Ddegymmau, Ofrymmau, neu Gy [...] y mae eich Eglwyswr chwi vn ei dd [...]rbyn? Pa sawl Trêf-Ddegwm sydd yn eich Plwyf chwi, ydyw'r Plwyfolion yn [...]alu ei Degwm yn ôl y Gyfraeth, neu a oes rhyw ddefod neullduol i Dd [...]gy [...] neu dâlu yn llê Degwm, yn eich Plwyf chwi, neu mewn rhyw ran neu D [...]ddyn o honaw, ydyw 'r Dd [...]fod h [...]no yn Hên tu-hwynt i Goffadw [...]eth Dyn; neu wedi Tyfu i fynu yn Ddiweddar yn eich plith chwi.
PEN. III. Ynghylch yr Eglwyswyr.
1. YDyw eich Eglwyswr chwi wedi ei urddo a'i gyssegru i'w alwedigeth yn o'l Cyfraeth yr Eglwys a'r Deyrnas hon? a gafodd eich Person neu [...]h Ficar chwi Feddiant cyfreithlawn yn ei Eglwys a Ddarllenodd efe y Pynciau ffydd Eglwys Loegr, a Llyfr Gweddi Cyffredin o fewn y Tymor gosodedic ac a ddarfu iddo ddadcan ei gyd syniad a'r unrhyw ar gyhoedd, yngwydd y Gyñilleidfa ar amser Gwasaneth; a ddarfu iddo brynu ei Urdda neu ei Lê ac Arian, neu drwy ryw am̄od anweddus ac angyfreithlawn, neu oes sôn neu Ddrwg dyb yn y byd ddarfod iddo wneuthur felly,
2.A oes gan eich Eglwyswr chwi un Rhênt neu Lê Eglwysic buddiol heb law eich Plwyf chwi, a ydyw ef yn byw yn oestad yn eich plîth chwi? a ydyw ef yn Pregethû unwaith bôb sûl (neu Ddydd yr Arglwydd) tra byddo mewn iechyd a gallû, pa hyd mawn un Flwyddyn bu ymaith oddiwrthych, a Phwy sydd yn cadw ei Lê ef pan fytho yn absenôl, ydyw hwnw yn deulwng oi swydd ydyw ef yn cyflawni ei hôll Ddledswydd yn yr Eglwys ac allan o honi o sewn y Plwyf, ac ydyw ef yn cael Cyflog gweddol, cymwys i'w swydd ai Alwedigaeth?
3.A ydyw eich Eglwyswr chwi yn y Gwasanaeth arferol, ac yn Gweini'r Sacramentau; mewn Priodasau, ac with Eglwysa gwragedd, ymweled a'r cleifion, a chladdedigaeth y meirw, a phob Gweinidogeth Eglwysic arall yn arfer y Ffurf dull a Geirie gosodedic yn y Llyfr Gweddi Cyffredin yn Ddi gyfnewid, ac yn dilyn yr hôll gynneddfau Gorchymynedic yn yr unrhyw.
4 Ydyw eich Eglwyswr chwi yn gweini yr Cym̄un Bendigedig yn aml a chyn fynyched o'r hyn lleiaf ac y gallo pob un o'r Plwyfolion ei Dderbyn ef Dair gwaith yn y Flwyddyn?
5.Ydyw ef vn rhoi 'rhybydd wythnos oflaen y Cym̄un ac yn Cynghori y Bobl i'w paratoi ei hunain erbyn dyfod iddaw, ydyw ef yn myny henw pôb un a dderbynio 'r Cymun y nes o'r blaen, ydyw ef yn attal Pechaduriad cyhoeddus, Escym̄un ac anedifeiriol ag yn rhoi ei henwe nhw i'r Escob yn ôl y Gyfraeth.
6.Ydyw ef yn ddiwyd yn addyscu 'r Plant ynGhatccism neu Egwyddor yr Eglwys, ac yn ei Egluro ef iddynt, ac ydyw ef yn ei paratoi nhw i gael ei Confirmio neu dderbyn arddodiad Dwylaw gan yr Escob?
12. A fy neb farw yu ddiweddar yn ddilythyr Cym̄un, ac a ddarfu i nêb Gymeryd arno feddiannu neu gyfrannu da y Cyfryw heb Awdrduod oddiwrth yr Escob neu ei Swyddog?
13. A fy nêb farw yn ddiweddar wedi gwneid ei Lythyr cym̄un, ac a ddarfu profi yr unrhyw yn Llys yr Escob neu o flaen ei swyddog ef? A adawod neb yn ei Lythyr Cymmun un Rhodd i Eglwys Fangor neu i'ch Eglwys blwyf chwi, neu i ryw Eglwys neu Ddefnydd Duwiol arall, a dalwyd y Cyfryw rôdd, ag a dresnwyd hî yn ôl Ewyllus y marw: nen pwy sydd yn attal ac yn rhwystro yr unrhyw?
14. Oes nêb yn naccau neu yn attal talu ei ddegwm ei arian Pâsc, ai Offrwm cyfreithlawn neu ei drêth Eglwys neu un Ddlêd arall i'r Eglwyswr, neu 'r Eglwys?
PEN. V. Ynghylch y Procatorion neu Wardeinied.
1. A Ydis yn dewis eich Procatorion neu Wardeinied bob blwyddyn yn heddychol ag yn gyttunol yn ôl Cyfraeth yr Eglwys a Defod eich Plwyf, ac ydyw eich Eglwyswr yn dewis un o honynt yn oestad?
2. A ddarfu i'r amryw Brocatorion a fu och blaen chwi roddi i fynu ei Cyfri ô Dreth a Dâ 'r Eglwys yn union ac yn gywair, ac ydis yndangos y cyfri hwn i'r Eglwyswr ar plwfolion ar osteg y plwyf, ac yn ei yscrisennu yn y llyfr Cyfri?
3. Ydyw 'r Procatorion megis y maent yn rhwym drwy gyfraeth y Deyrnas a'r Eglwys yn Paratoi Bara a gwin goreuriw erbyn pôb Cym̄un ar drail y Plwyf?
PEN. VI. Ynghylch y Periglorion a'r Clochyddion.
1. OEs genych Beriglor neu Glochydd o un ar hugain oed; ac yn wr o fychedd rinweddol a chrefyddol yn medru darllain Cymraec ac yn medru yn rhygl yr hôll attebion a drefnir yn y Llyfr Gweddi gyffredin, ac ym̄hob peth yn gymwys i'w swydd.
2. Ydyw efe yn gweini yn ufudd eich Eglwys wr y ngwasaneth yr Eglwys a phob rhan oi swydd. Ydyw efe yn cadw yr Eglwys bob amser yn lân ac yn daclus, ac yn cadw y gwiscoedd a'r Llyfrau a hôll Berthynasau yr Eglwys yn gyfa yn lân ac yn weddus?
3. Ydyw efe yn cloddio y beddi yn weddol y gladdu'r meirw, ac yn ei gwastadhau nhwy yn drefnus wedi'r claddedigaethe, fel na bytho yr Eglwysydd vn frynie a Phantie ac mor anwastad ag y maent yn gyfredinol?
4. Ydyw ef yn canu y glôch ar amseroedd gosodedig arferedig, ag yn iawn gyflawni ei ddledswydd ymmhob peth?
PEN. VII. Ynghylch Elusendai ac Yscolion.
1. OEs o fewn eich plwyf chwi ûn, hosbyttu neu Elusendu, Pa sawl ûn ô Dlodion a gedwir neu a dylid ei gadw yntho, pa ardreth Tîr, neu lôg arian neu dda eraill sydd yn perthyn iddynt, ydis yn trefnu ac yn cyfrannu yr unrhyw yn ôl cyfraeth y wlâd, defod y lle, ac Ewyllys Duwiol y rhoddwr, a ydyw y golygwyr ag eraill sy'n perthyn iddo yn cyflawni ei Dledswydd yn gyfiawn ag yn ofalus ac ydyw'r Elusenwyr yn ei diwyg ai Hymarweddiad yn ymddwyn yn ôl gosodigeth yr Elusindu.