BARA I BLANT: NEU Wyddorion cyntaf y grefydd Gristnogawl.
Mewn ffordd o Ymholiad ag Atteb er mwyn rhai Iefaingc.
Cyfieuthwyd gan R. P. Pregethwr yr Efengyl.
Printiedig gan John Astwood, yn Llundain. 1695.
Bara i Blant; neu egwyddorion cyntaf y Grefydd Gristnogawl.
Ymoliad.
PWy ath wnaeth di yn enaid byw?
Atteb.
Duw, 'r hwn a wnaeth bob peth, am gwnaeth i yn enaid byw, Gen. 2. 7. Psal. 139. 14.
Y.
Beth yw Duw?
A.
Duw yw yspryd anfeidrol ac anfessuroll, yn ei allu, ei sancteiddrwydd, ei ddaioni, ai wirionedd, Joan. 4. 24. Jer. 32. 18.
Y.
Pa sawl Duw sydd?
A.
Nid oes ond un bywiol a gwîr Dduw, mewn tri pherson, y Tad, a'r Mab, a'r Yspryd glân, 1 Thes. 1. 9. 1 Joan. 5. 7.
Y.
Pa wedd yr adnabyddyr Duw?
A.
Fe adnabyddyr Duw yn ei air, ai weithredoedd, Dihar. 2. 1, 2, 3, 4, 5. Psal. 102. 3, 4.
Y.
I ba ddiben y rhoes Duw y fath enaid i ti?
A.
Duw a roddes y faeth enaid i mi, i adnabod, ai ogoneddu ef, Col. 3. 10. Datc. 15. 4.
Y.
Beth a ddaw o'th enaid yn ol marw olaeth?
A.
Fy enaid yn ol marwolaeth, sydd i fyned, naill ai i happusrwydd gyda Duw yn y nefoedd, neu i boenau tragywyddol yn nhân uffern, Mat. 25. 46. Joan. 5. 29.
Y.
Pa fodd y daeth dy enaid i fod mewn perigl o uffern?
A.
Waith pechu yn erbyn Duw, a thrwy hynny haeddu Damnedigaeth tragywyddol, Psal. 9. 17. Rhuf. 2. 9.
Y.
Pa fodd y daethost i bechu yn erbyn Duw?
A.
Y dyn cyntaf Adda a bechodd, ac a dorrodd gyfammod â Duw, a minneu ynddo ef, Rhuf. 5. 18, 19. Gen. 2. 17.
Y.
Beth yw pechod dy natur?
A.
Y mae fy natur gwedi cael ei llygru trwi bechod, ac hâd pob pechod ynddi, Psal. 14. 1. Psal. 51. 5.
Y.
Beth yw pechod?
A.
Pechod yw torriad o orchymynion Duw, Deut. 11. 27, 28. 1 Joan. 3. 4.
Y.
Pa sawl gorchymyn sydd?
A.
Deg, fel y maent yn scrisennedig yn Exod. 20. Deut. 5.
Y.
Beth yw'r gorchymyn cyntaf?
A.
Na fydded iti dduwiau eraill ger sy mron i, Exod. 20. 3.
Y.
Beth y mae'r gorchymyn cyntaf yn ei ofyn?
A.
I mi gymryd un Duw, yn Dduw imi, ai garu, vwchlaw pob peth, Deut. 6. 4, 5. Mat. 22. 37.
Y.
Beth yw'r ail orchymyn?
A.
Na wna iti ddelw gerfiedig, &c. Exo. 20. 4, 5.
Y.
Beth y mae'r ail orchymyn yn ei ofyn?
A.
I ni addoli Duw yn ol ei air ei hun, ag nid yn ol Dychymig Dynnion, Mat. 15. 9. Esay 29. 13.
Y.
Beth yw'r trydydd gorchymyn?
A.
Na chymer enw'r Arglwydd dy Dduw yn ofer, Exod. 20. 7.
Y.
Beth y mae'r trydydd gorchymyn yn ei ofyn?
A.
I feddwl ac ymddiddan am Dduw, gyda 'r parch a'r ofn mwyaf, a pheidio [Page 4] cym meryd ei enw yn ofer, Deut. 28. 58. Dihar 1. 7.
Y.
Beth yw 'r pedwaredd gorchymyn?
A.
Cofia y dydd Sabboth iw sancteiddio &c. Exod. 20. 8.
Y.
Beth y mae 'r pedwaredd gorchymyn y ei ofyn?
A.
Cadw dydd yr Arglwydd yn sanctaidd, ac nid iw dreulio mewn meddyliau, chwaryddion, a geiriau ofer, Esa 58. 13. Dat. 1. 10.
Y.
Beth yw 'r pummed gorchymyn?
A.
Anrhydedda dy dâd ath fam, fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaiar yr hon y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi iti, Exod. 20. 12.
Y.
Beth y mae yr pummed gorchymyn yn ei ofyn?
A.
I roddi anrhydedd i bawb y mae'n ddyledus, ag i ufyddhau ein rhieni yn yr Arglwydd, Tit. 3. 1. Eph. 6. 1, 2.
Y.
Beth yw'r chweched gorchymyn?
A.
Na Ladd, Exo. 20. 13.
Y.
Beth y mae'r gorchymyn hyn yn i ofyn?
A.
I wneuthur daioni i bawb, heb feddyliau, na geiriau digofus, Dihar. 19. 11. Mat. 5. 21, 22.
Y.
Beth yw'r seithfed Gorchymyn?
A.
Na wna odineb, Exod. 20. 14.
Y.
Beth y mae'r seithfed gorchymyn yn ei ofyn?
A.
I ni gadw ein hunein oddiwrth bob aflendid, ag i fod yn bûr mewn meddwl, gair, a gweithred, Mat. 5. 27, 28. Eph. 4. 19.
Y.
Beth yw'r wythfed gorchymyn?
A.
Na Ledratta, Exod. 20. 15.
Y.
Beth y mae'r wythfed gorchymyn yn ei ofyn?
A.
Na'chymeron ddim o eiddo arall, na threulio yn eiddo ein hun yn ofer, Eph. 4. 28. 1 Cor. 6. 10.
Y.
Beth yw'r nawfed gorchymyn?
A.
Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog, Exo. 20. 16.
Y.
Beth y mae'r nawfed Gorchymyn yn ei ofyn?
A.
Gwirionedd yn ein geiriau a'n gweithredoedd heb dwyllo ein cymydog, Zach. 8. 16. Eph. 4. 25.
Y.
Beth yw 'r degfed Gorchymyn?
A.
Na chwenych dy dy gymydog, &c. Exo. 20. 17.
Y.
Beth y mae'r degfed gorchymyn yn ei ofyn?
A.
Ini fod yn fodlon ir hyn sydd gennym, ag ymgadw rhag calon gybyddus, [Page 6] Luc. 12. 32. Heb. 13. 5.
Y.
A gedwaist di y gorchymynion hyn?
A.
Na ddo, eithr mi ai torres mewn meddwl, gair, a gweithred, Mat. 15. 19. Rhuf. 3. 23.
Y.
Beth sydd ddyledus iti am hyn?
A.
Trwy Dorri y gorchymynion hyn, mi a dynnais felldith Duw ar fy enaid, ac a wnaethum fy hûn yn blentyn Digofaint wrth natur, Gal. 3. 10. Eph. 2. 3.
Y.
Pa fodd y diangwn lîd a digofaint Duw?
A.
Duw oi fawr Drugaredd a Ddatcuddiodd Jechawd wriaeth oddiwrth bechod trwy Jesu Grist, Joan 2. 4. 1 Tim. 1. 15.
Y.
Pwy 'n yw Jesu-Grist?
A.
Jesu Grist yw mab Duw'r Tâd, 'r hwn a gymerodd arno ein natur ni, ac a wnaethpwyd yn dduw ag yn Ddyn yn un person, Heb. 2. 16. 1 Tim. 3. 16.
Y.
Pa ham 'roedd rhaid i Jesu Grist fod yn ddyn?
A.
I farw dros ein pechodau ni, ac efe a adgyfod wyd oddiwrth y meirw, Rhuf. 5. 8. 1 Cor. 15. 3.
Y.
Paham y bu Christ farw trossom?
A.
I'n prynnu oddiwrth felldith y gyfraith, [Page 7] ac i weithio allan gyfiawnder trossom, Gal. 3. 13. 1 Cor. 1. 30.
Y.
Pa le y mae Jesu Grist?
A.
Yn y nesoedd ar ddeheulaw Duw, Heb. 1. 3. Heb. 8. 3.
Y.
Pa beth y mae Jesu Grist yn ei wneuthur drossom ni yn y nefoedd?
A.
1. Jesu Grist yw ein Archoffeiriad ni yn y nefoedd, i ddadleu tywalltiad ei waed, ag i weddio trossom, 1 Joan 2. 1, 2. Heb. 7. 25.
2. Jesu Grist yw ein Prophwyd i'n dyscu trwy ei air ai yspryd, Mat. 17. 5. Act. 3. 22.
3. Jesu Grist yw ein Brenin i Deirnassu arnom, Act. 3. 35. Datc. 15. 3.
Y.
Pa fodd y gallwn fod yn gyfrannogion o'r jechawdwriaeth hon?
A.
Trwy ddyfod at Jesu Grist megis pechadur tlawd colledig, i gael fyng glanhau oddiwrth fy mhechodau yn ei waed ef a'm cyfiawhau ganddo ef, Datc. 1. 5. Actau 13. 38, 39.
Y.
Pa fodd y mae Duw yn cyfiawnhau pechadur?
A.
Y mae Duw trwy ei râd râs yn rhoddi maddeuant i bechaduriaid truenus er mewn Crist; ac yn cyfrif cyfiawnder [Page 8] Crist i'r credadyn, Rhuf. 3. 24, 25. Rhuf. 4. 6.
Y.
Pa fodd y gellwch chwi ddyfod i gredu ynghrist?
A.
Y mae Duw yn gweithio ffydd mewn pechaduriaid meirwon trwy ei yspryd wrth wrando pregethiad yr efengyl, Rhuf. 10. 17. 1 Thes. 2. 13.
Y.
Pa fodd y mae Duw yn gweithio ffydd yn yr enaid?
A.
1. Trwy argyhoeddi o bechod, a datcuddio Jesu Grist yn yr addewid, Luc. 7. 37. Joan. 6. 37.
2. Y mae'n rhaid imi weddio ar Dduw am weithio ffydd ynofi, a datcuddio Crist i'm henaid truain, 2 Thes. 1. 11. Eph. 1. 17, 18.
Y.
Pa fodd y gelli di weddio?
A.
Rhaid imi ymbil ar dduw roi ei yspryd sanctaidd i'm cynnorthwyo, Luc. 11. 13. Rhuf. 8. 26.
Y.
Pa fodd y gwyddost fod yr yspryd yn dy gynnorthwyo mewn gweddi?
A.
Pan allwyf gyfaddef oddifrif fy'mhechod, ac ymostwng i drugaredd, a grâs Duw yn Jesu Grist, a disgwyl am faddeuant yn unig er ei fwyn ef, 1 Jo. 1. 9. Joan. 14. 13.
Y.
Pa fodd y dylyt ti fod yn blentyn gweddeigar i Dduw?
A.
1. Y mae'n rhaid imi weddio ar ym tâd nefol, pob boreu a hwyr yn y dirgel, Mat. 6. 6. Psal. 45. 17.
2. Y mae'n rhaid imi hefyd ddarllen rhwy barth o air Duw, a gweddio ar Dduw i'm dyscu trwyddo, Dihar. 6. 21, 22. 2 Tim. 3. 15.
Y.
Beth yw gwaith yspryd Duw?
A.
Y mae'n rhaid imi gael fy aileni o'r yspryd, ac onide ni câf fyned byth i mewn i deirnas nefoedd, Joan. 3. 3. 1 Pet. 1. 13.
Y.
Beth ydyw ffrwyth yr ailenedigaeth?
A.
1. Y mae'n rhaid imi fod ynghrist, ac yn greadur newydd ynddo ef, 2 Cor. 5. 17. Eph. 2. 10.
2. Y mae'n rhaid imi ymegnio am fod yn gyfrannog o bob math sancteiddrwydd ynghrist Jesu mewn calon ac ymarweddiad, 1 Thes. 5. 14. 1 Pet. 1. 15.
Y.
Beth yr ydys yn ofyn gan yr eneidiau ac sydd yn sychedu am ychwaneg o Grist?
A.
Dyledswydd y cysryw ydyw rhoddi en hunain i fynu i fod yn aelodau o ryw eglwys neilltuol Crist, Actau 2. 47. 2 Cor. 8. 5.
Y.
Beth yw Eglwys Grist?
A.
Eglwys Grist yw cynullheidsa o Seinctiau wedu ymgynyll ynghyd, i gydfeddiannu holl Ordeinhadau Duw, ac i adeiladu y naill y llall, mewn hir ymaros a chariad, 1 Cor. 1. 2. 1 Thes. 5. 11.
Y.
Beth yw'r gyfammod o râs?
A.
Cyfammod o râs yw, trwy ba un y mae Duw yn ei roddi ei hun i fod yn Dduw i ni, a ninnau i fod yn bobl iddo ynteu yn Jesu Grist, Gen. 17. 7. Esay 56. 6.
Y.
Beth yw ordinhadau y Cyfammod o râs?
A.
Bedydd a Swpper yr Arglwydd.
Y.
Beth yw Bedydd?
A.
Mewn bedydd trwy olchiad â dwfr y rhoddir ni i fynu i arddeliad o enw Jesu Grist, Mat. 28. 19. Gal. 3. 27.
Y.
Beth yw Swpper yr Arglwydd?
A.
Swpper yr Arglwydd yw ordeinhâd ymha un y dangossir allan farwolaeth Jesu Grist, ag yr arwyddoceir ein cymmundeb ag ef trwy ffydd, ag y Selyr ini bob bendith ysprydol, 1 Cor. 11. 26. 1 Cor. 10. 16.
Y.
Pa bryd yr ydwyt gymmwys i fod yn gyfrannog o Swpper yr Arglwydd?
A.
Pan fo 'nhalon yn cael ei thynnu allan ar ôl Christ, a myfi yn fy rhoddi fy [Page 11] hûn iddo ef, er fy mod yn wan yn y ffydd, Rhuf. 14. 1. Dat. 22. 17.
Y.
Pwy fraint ychwaneg sydd gennit wrth fod yn aelod eglwys Crist?
A.
Y mae gennyf hawl mewn modd neulltuol yngweddiau y sainct, ac yr wyf yn gyfrannog o bob cymmorth a diddanwch oddiwrthynt, Isa. 5. 15, 16. Rhuf. 15. 1, 2.
Y.
Pa ddiddanwch arall sydd gan eneidiau newydd-eni?
A.
1. Os cefaist dy ail-eni gan yr yspryd yr wyt yn blentyn i Dduw ac yn etifedd Nefoedd, Joan. 1. 12, 13. Rhuf. 8. 16, 17.
2. Tydi a gedwir trwy allu Duw i jechydwriaeth, 1 Pet. 1. 5. 1 Thes. 5. 23.
Y.
Pwy fraint arall sydd gennyt, os ydwyt blentyn i Dduw?
A.
Myfi a gerir gan Dduw yn dragywydd, ac y mae efe yn dâd imi ac a wrandawyff ar fyngweddiau dibris, 2 Cor. 13. 14. 1 Joan 5. 15.
Y.
Beth yw dyledswydd y rheini ag sydd o Eglwys Grist?
A.
1. Nhwy ddylen dyfy mewn gras a gwybodaeth o Jesu Grist, dan air, ac ordinhadau Duw, Mat. 25. 30. 2 Pet. 3. 18.
[Page 12] 2. Caru yr holl seinctiau, er eu bod yn anghytuno â nhwy yn eu barn, 1 Joan. 3. 14. Col. 3. 12, 13.
Y.
Beth yw'r gwaith mawr a wna Duw yn y byd?
A.
Gossod y fyny teyrnas ei fab Jesu Grist a darostwng y cenhedlaetheu dano, Es. 9. 7. Dat. 11. 15.
Y.
A adgyfoder cyrph pawb oddiwrth y meirw yn y dydd diddewaf?
A.
Pan del Christ i'r farn pawb y gyfoder, drwg a da, ac a safant ger bron ei frawdle ef, Heb. 6. 2. 2 Cor. 5. 10.
Y.
Pa beth a fydd gwobr pawb yn y farn ddiweddaf?
A.
Y rhai sydd ynghrist ac a wnaethant ddaioni, a gant fywyd tragwyddol, y rhai a wnaethant ddrwg damnedigaeth dragwyddol. Mat. 24. 46. Joan. 5. 29.