TAITH NEU SIWRNAI Y PERERIN, Tan Rîth neu Gyffelybiaeth Breuddwyd: Yn yr hwn y dangosir,

  • I. Y Môdd y mae Pechadur yn Cychwyn, neu yn Dechreu ei Siwrnai, o r Byd hwn tua'r Nefoedd.
  • II. Y Peryglon y mae fo 'n cyfarfod âg hwynt, yn ei Daith.
  • III. Ei Ddyfodiad o'r diwedd ir Wlâd ddy­munol, neu'r Nefoedd, mewn Diogelwch.
Arferais gyffelybiaethau, trwy Law y Pro­phwydi. Hosea 12. 10.

Wedi Lis [...]nso gan R. Midgley, y 23 o fis Tachwedd,1687.

Printiedig yn Llundain gan J. Richardson, yn y Flwyddyn 1688.

[...]

[Page] ER bod rhai beiau llythrenol yn y Llyfr hwn (fel y maent yn arferol o fod ym­mhob Llyfr) y rhai wrth y sens ar ystyr y fed­rwch chwi eich hunain eu gwellháu; etto de­liwch sulw mai fel hyn y dylai fod y pedair lein ddiweddaf yn y ddalen 66. O herwydd ei fod ef yn fodlon i aros am pethau y goreu i meddi­annu nhwy yn y byd y ddaw er ei fod ef etto hebddynt.

Lythr at y Cymru.

Fy Anwyl Gyd-wladwyr,

YR wyfi n danfon yn awr Lyfr i'ch mysg, y fu Offeryn i wneuthur llawer o Ddai­oni, i fagad o bobl, y sydd yn deall Saesneg; yr hwn a gyfieithiwyd, megis ir Ffrangeg a'r Dwtsh, felly hefyd yr-wan ir Gymraeg; mewn Gobaith y bydd e buddiol (trwy Fendith yr Arglwydd) naill a'i i Wei­thio Grâs lle mae 'n niffyg; neu yntau i angwa­negu Grâs, lle y mae e eisus.

Gwir yw, fod yn y Llyfr yma Blisgyn a Chnewllyn; ac am hy ny, rhaid ei ddarllen e yn fynych trosto; fal y gellir torri y Plisgyn (sef, deall y Damhegion, y sy 'n rhedeg trwy­ddo) ac felly canfod y Cnewllyn (y matter cyn­hwysedig yn y cyfflybiaethau) iw fwytta (trwy Fyfyrio arno) megis ymborth melus a iachusol.

Y mae 'r Cyfieithiad o waith pedwar o honom, sef Gwr bonheddig o Wynedd (yn yr hanner olaf o'r Llyfr) Gwr o Benkadair, Yscolhaig ieu­angc a ddaeth gyda mi ir Ddinas hon, ac o'm gwaith fy hunan (y rhan fwyaf o honaw) gan sefyll ar yscwyddau y lleill, fal y gallwn gan­fod ym mhellach nag hwynt-hwy.

Ni chedwais i Eiriau, ond ystyr a meddwl yr Awdwr (mewn amryw fannau) yn y cyfiei­thiad: Canys fal y gŵyr y Dysceddig yn ddi­gon [Page] da; nid oes vn Llyfr a gyfieithir, o vn iaith ir llall, Air yng Air, a dâl ei ddarllain; oble­git bod Phrases (ymadrodion) a Geiriau yn bryd­ferth mewn vn iaith, y rhai nid ydynt felly mewn iaith arall.

Mi a adewais allan Ail-adroddiad rhyw be­thau, ar a o [...]dd yn y llyfr Saesneg; canys wedi en gosod hwy ar lawr vnwaith, Beth oedd raid eu mynegi nhw drachefn?

Mi a angwanegais ym mron sheet at y Llyfr, ynghylch mynediad y Pererin tua Mynydd Sinai; ynghyd â llawer o egluriadau eraill; fal y gellit ei ddeall e 'n well: Ac mi a adawaf y Dysce­dig i farnu, pa vn nad yw 'r Llyfr yma yn haw­ddach iw ddirnad ai ddeall nâ r llyfr Saesneg. Ac fal na byddem ni yn Farbariaid y naill ir llall, mi a agorais eiriau Gwyr Gwynedd â'n gei­riau ni o Ddeheubarth; a'n geiriau ninne, âi geiriau nhwythau.

Mi a gynghorwn ir sawl sydd yn chwennychu dyscu darllen cymraeg, i brynu Primer ac Alma­nack Mr. Thomas Jones; canys y mae 'r Lly­ [...]herennau a'r Sylattau ynthynt; fal na bo iddynt syblachad a diwyno y Catechism, a elwir sail y Gr [...]fydd Cristianogawl, a phethau da eraill we­di eu pwytho gydag ef, ac a ddaw ar fyrder ir wlâd; nid yn vnic er mwyn Plant, ond hefyd er mwyn Pobl oedrannus; fal y gallont ddeall Gwy­ddorion Crefydd yn well, a byw yn fwy Cyfatte­bol iddynt.

Os Printier y Bibl cymraeg drachefn; rhaid [Page] i rai o honoch fod yn foddlon i dderbyn ef, er na bo yntho ond y Testament hên, a'r Newydd, a'r Psalmau cân, wedi eu beindio ynghyd; canys felly y printier llaweroedd o honynt, fal y bo 'r Biblau yn rhattach ir tlodion. Ac am y Llyfr Gwasanaeth, ynghyd a'r psalmau iw darllain, a'r psalmau ar gàn, fe e [...]lir eu cael hwynt yng­hymraeg, (wedi eu beindio ynghyd) gan y rhai sy'n gwerthu lyfrau Mr. Thomas Jones yng-Hymru; Ac hefyd Dictionary cymraeg wedi ei gasclu allan o Ddictionary Dr. Davies gantho ef.

Os byth y daw Gwaith Ficcer Llanddyfri ir wl [...]d d [...]achefn; na ddisgwyliwch gael yntho yr Historiau, y Diharhebion, yr Ymholiad beuny­ddiol, a'r Llythyrau eraill, ar a oedd yn y Lly­frau a brintiwyd cynt (y cwbl o waith rhai eraill): Ond edrychwch, am gael yntho, yr hyn oll o'i waith ef, ar a ydoedd gynhwysedig o'r blaen, mewn pedair Rhan; ac hefyd am angwanegiad o ychydig (a gefais i mewn vn o'i yscrifenniadau ef) nas printiwyd erioed hyd yn hyn. Ac ni chyst y Llyfr i chwi ond vn-ar-hugain, os myfi, neu vn ffrind i mi a ddenfyn y Llyfr hwnnw ich mysg. Ac oni fydd e 'r fath Lyfr, ac yr wyfi yn crybwyll yn awr am dano yn y llythr hwn, na phrynwch mo honaw mewn môdd yn y Byd; Canys y mae yma Rai Dynion anonest, ac y sydd yn Sôn am brintio 'r Llyfr hwnnw eilchwaith: Ac yr wi'n rhag-weled, y spwylant ac yr anrhithiant hwy 'r Gwaith; ac y mynnant hwy brîs mawr am y Llyfr: A chwedi gwneu­thur [Page] eu heithaf, heb help yr hwn a'i gosododd ef allan cynt (neu 'r cyfryw vn ar all ar y sydd yn deall y iaith) yr wi 'n rhag-fynegi i chwi, na bydd y Llyfr hwnnw, y ddenfyn y Rhai Digyd­wybod hynny allan, yn gymmwys i Ddim, ond iw Losci.

Edryched y wlâd yntau, rhag cael eu twyllo yn y matter yma, na chan wŷr Llundain, na chan ein Gwerthwyr Llyfrau ni yng-Hymru: y mae Rhan o Lyfr y Golomen a'r Gigfran wedi ei wnio gyda sail y Grefydd. Yr oedd Arian yn niffyg i brintio 'r cwbl: A phe buasei Arian i ddwyn y côst hynny i Benn; yr oedd y llyfr yn gofyn mwy o amser iw egluro, nag a allwn i ei hepcor yn bresennol, ir diben hynny. A lle 'rwy­fi wedi gadel rhyw bethau heb eu printio (yn yr hyn sydd yn awr yn dyfod allan) ac wedi an­ghwanegu pethau eraill atto; ond ir Dyscedig a'r Pwyllog gwmparo a chystadlu yr hên Lyfr a'r newydd ynghyd, hwy a ddeallant yn hawdd fy rhesymmau i, am yr hyn a wnaethum. Duw 'ch Benditho chwi oll. Yr wyf yn Gorphwys

Eich Gwasanaethwr yn yr Arglwydd S. H.

Y mae Llyfr da, a elwir Trugaredd a Barn, o bris 9 d. heb ei findio, a swllt wedi ei findio, yr hwn a brintiwyd yr hâf diwet haf, iw gael ar werth yng-Hymru.

Fel na byddei ddalennau gwynion, yn y Llyfr y mae Rheolau duwiol, i Gristion iw harfer, wedi ei gosod yma.

PAn deffroech di gyntaf yn dy wely, bydd siccir i feddwl am yr Arglwydd; a gâd ith enaid escyn i fynu ar aden ffydd, i roddi iddo aberth boreuol o ddiolchgarwch, am ei ddaioni i'ti y nôs a aeth heibio; a gwna hyn, cyn i'ti feddwl am ddim arall; rhag drwy hyn­ny ith enaid gael ei lychwino a'i ddiwyno a phechod. Psal. 63. 6.

2. Pan gyfodech di gyntaf, nac oeda alw dy dylwyth yng hyd, i roddi d [...]olch ir Arglwydd am ei drug areddau yn gyffredin; ac yn neillduol i'ti ac ir eiddot, Jos. 24. 17. Jer. 10. 25. A gwêl na wnelych mo hynny yn llygoer, yn draddo­diadol, ac yn vnig o ran arfer: Ond gwna ef mewn cydwybod a gwîr gariad i Dduw; gan alaru o'th galon, nad ellit ti gyflawni dy ddyled­swyddau yn fwy ysprydol a nefol; gan gyfa­ddef dy bechode, ac yn ostyngedig ymbil am faddeuant am danynt. Ac ar ôl hynny, mae yn gymmwys i'ti ymbil am y cyfryw bethe, ac sydd arnat ti eisiau ith enaid neu ith gorph; a chan geisio bendith ar waith y diwrnod sydd yn canlyn, cais gredu, y bydd Duw er mwyn Crist yn dy atteb di; naill ai yn ôl y pethe a ofynnaist di; ai ynte mewn pethe y mae efe yn ei weled yn well ar dy lês di▪ Iac. 1. 6. 7. Jo. 14. 14. Ier. 29. 13.

[Page] 3. Bydd si [...]cir a diymmod yn dy feddwl yn wastadol o hyn; mai pa le bynnag y byddych di, a pha bêth bynnag y byddych di yn ei wneuthur, dy fod di ym mhresennoldeb yr Arglwydd: A gad yr ystyriaeth o hynny, weithio ynot ti barch iw fawrhydi ef, cariad ir rhai sydd yn ei ofni ef, ac ofn rhag pechu yn ei erbyn ef; a hynny yn y dirg [...]l, yn gystal ac yn yr amlwg, gan nad oes le nad [...]w efe yn ei ganfod. Dihar. 15. 3. Psal. 139. 7.

4. Gwna gydwybod o gadw allan o'th galon, b [...]b mâth ar feddyliau ofer, aflan, ac annuwiol; a diwreiddia hwynt yn brysur fel y gellych di gael cymdeithas â Duw; yr hwn sydd barod i letteua gyda 'r sawl ai ceisiant ef â chalonnau union. Gwel gan hynny na byddych esceulus i ragflaenu pechod, cyn i ddyfod ir weithred; ca­nys meddyliau drwg yw hâd gweithredoedd drwg, o ba herwydd y daw digofaint Duw ar blant yr annufydd-dod. Jer 4. 14. 1 Jo. 1. 7. Joan 14. 23. Eph. 5. 6.

5. Gâd ymmaith gellwair a chwedleua ofer, gan fôd yn ofalus i gadw dy dafod oddi wrth ddr [...]g, a'th wefusau rhag treuthu twyll. Canys mewn amlder geiriau, ni bydd pall ar bechod. Gan hynny ymattal sydd synwyr; a phan ddy­wedech di, dywedyd y gwirionedd sydd ddoe­thineb; Canys angau a bywyd sydd ym me­ddiant y tafod, a'r rhai a'i carant ef, a fwyttânt o'i ffrwyth ef. Wrth dy eiriau i'th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau i'th gondemnir, Ephes. 5. 4. Dih. 10. 19. Mat. 12. 37.

[Page] 6. Bydd siccir yn dy feddwl, mai dy gyflwr presennol sydd or au ar dy lès, (oni bydd ef mewn pechod) pa un bynnag yw ef ai hawddfyd ai adfyd, tlawd neu gyfoethawg; canys tadol rhagluniaeth Duw ydyw. Ac heb ei ewyllys ef nid oes dim yn digwydd iw bobl, (a by­dded dy ofal pennaf di, am fod yn un o'r cy­fryw) a gâd i hynny gynnal dy enaid ti i fynu yn fodlon, ac yn gyssurus; canys efe a ddy­wedodd, Ni'th adawaf, ac ni'th lwyr wrtho­daf chwaith. Math. 10. 29. 30, 31. Heb. 13. 5.

7. Ymegnia am gariad helaeth; canys y mwynhâd o hono sydd hyfryd; mae fe yn cu­ddio lliaws o bechodau, ac yn gwneuthur dŷn yn debyg i Dduw; canys Duw cariad yw. Oblegid hynny câr dy elyn, canys felly y gor­chymynir i'ti; ac os gwnaeth efe gam â thydi, na wna di mo'r cam a thydi dy hun drwy ym­ddial arno; canys mae yn scrifennedig, i mi mae dial medd yr Arglwydd. Ac na orchfyger di gan ddrygioni, ond gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni. 1 Pet. 4. 8. 1 Jo. 4. 8. Rhuf, 12. 19. 21.

8. Gochel ddigofaint; canys fe gyffru gynnen, ond atteb arafaidd a ddettru lid; canys fel ac y mae y tân, os chwythi arno, yn ennyn; ond os poeri arno fe a ddiffyd: Felly os bydd amy­nedd yn eisieu, fe eiff y tân yma (sef naturiaeth ddynol) yn eirias neu'n fflam. Dilyn gan hynny heddwch a phawb hyd y bo bossibl i'ti; canys newid geiriau sydd yn annog digofaint. Gan [Page] hynny distawrwydd (megis dwfr) sydd gym­mwysa ir gwres yma; canys ystyria nad ydyw digofaint gwr yn cyflawni Cyfiawnder Duw. Dihar. 15 1. Rhuf. 12. 18. Jac. 1. 20.

9. Nac anghofia wneuthur daioni a chyfrannu, canys mae hynny yn orchmynedig ac yn gymeradwy gan Dduw: Gan hynny na chau mo'th glûst rhag llêf y tlawd, rhag i'tithe hefyd weiddi; ac i Dduw naccau dy atteb: A phan wnelych ddaioni, bydd siccir na arferech eiriau coegion, diystyr, fel y mae arfer rhai; canys bernwch chwi onid yw gair da yn fwy cymeradwy weithie nâ rhodd fawr, a gŵr dâ a rŷdd bôb ûn o'r ddau. Heb. 13. 16. Dih. 21. 13.

10. Gwêl mewn gair a gweithred i'ti fod yn ensampl i eraill iw ddilyn: a gâd i hyn gael i gyflawni yn ddiragrith; ac nac anghofia gadw cydwybod dda ymhôb peth; canys hynny a ddŵg i'ti heddwch yn y diwedd. Phil. 2. 15. Act. 24. 16. 2 Cor. 1. 12.

11. Ymarfer yn dy holl fywyd wir ostyng­eiddrwydd, canys mae Duw yn gwrthwynebu'r beilchion, ond yn rhoddi grâs ir g [...]styngedig. Oh bêth yw llwch a lludw i fôd yn falch; Dysc gan hynny ostyngeiddrwydd yn ôl ensampl Crist, yr hwn er ei fôd ef yn Dduw, etto er hynny a gymmerth arno agwedd gwas, ac yn y ddull honno, fe a ddywedodd dysgwch gen­nifi, canys addfwyn a gostyngedig o galon ydwyf. 1 Pet. 5. 5. Phil. 2. 7. Mat. 11. 29.

12. Os bydd un amser i gynhyrfiad da gyfodi [Page] yn dy galon di, na chynnwys iddo fyned allan, heb ei chwythu ai ymgleddu, drwy ddarllen, myfyrio, neu weddio; ca­nys fe alle mai gwreichionen oddi wrth Dduw yw ef; a'r môdd i beri iddo gynnyddu, yw myfyrdod a gweddi. Jac. 1. 17. 1 Tim. 4. 15.

13. O bydd i'ti gwympo i bechod, cais gyfodi yn ddioed trwy edifeirwch; ac na orwedd yntho gydâ 'r meirw; ond cy­fod drachefn drwy ffydd yn Ghrist, megis un yn fyw i Dduw; rhag trwy aros mewn pechod y caledir di yntho, ac felly bod o honot yn golledig. Eph. 4. 26. Eph. 5. 14. Heb. 3. 13. Ezec. 18. 24.

14. Pa beth bynnag y gymmerech di mewn llaw, cofia dy ddiwedd; canys tra gwnelych di hynny, ni lithri di ddim; gan gyfri dyddiau dy fywyd megis dydd dy farwolaeth; canys nid oes dim siccrach nâ marwolaeth, na dim ansiccrach nâ'r amser o honi: bydd gan hynny sobr, a gwiliadwrus; fel y gallo Crist ar ei ddyfodiad, dy gael yn effro. Ac i'th helpu di i wilio yn well, gâd i hyn seinio beunydd yn dy glustiau di: Cyfodwch y meirw, deuwch ir farn. Psal. 39. 4. 2 Thes. 5. 6. Luc. 12. 37.

15. Treulia 'r Sabb [...]th yn dy holl fywyd fel y gallo dy enaid ti gael gorphwystra tragwyddol ar ôl dy farwolaeth (neu fel y bo i ti adnabod, dy fod ti ar y ffordd i gael gorphwystra tra­gwyddol). Gwêl gan hynny, na wnelych ddim gwaith ar­no, ond y gweithredoedd a anrhydeddant Dduw, megis gwrando 'r gair yn ddiwyd, porthi'r newynog, dilladu 'r noeth, cyssuro y digyssur, a'r cyffelyb. Cymmer ofal ar i'ti ymgadw yn ddyfal oddiwrth bechod, a hynny ar fe­ddwl, gair, a gweithred, canys sancteiddrwydd a weddei i'r diwrnod hwnnw: ac na thybia fod yn ddigon i'ti dy hûn sôd o'r meddwl yma, ond ymegnia i berswadio dy blant a'th dylwyth, i fôd o'r un farn, gan wrando 'r gair, a gweddio, yn gyhoedd ac yn neillduol, gan gyd-ymddi­ddan am bethau ysprydol, A gâd i'th enaid nofio mewn myfyrdodau duwiol; canys felly ni byddi di vnig, onid Duw a fydd gydâ thydi. Esa. 58. 13. Gen. 18. 19. Deut. 6. 6. 7. Jac. 4. 8.

16. Wedi treuliech di y diwrnod yma (ac felly 'r un môdd dyddiau 'r wythnos) galw dy hûn i gyfri pa fodd y treuliaist di y diwrnod y bassiodd. Dy gam weithredoedd edifarhâ [Page] a bydd drist oiplegit: a bydded yr ymroad yma ynot ti, ar i' [...]i fôd yn fwy gofalus rhag cwvmpo i'r fâth bechodau, ac i esceuluso y fâth ddyledswyddau, y rhan arall o'th ddyddiau: Dy weithredo [...]dd crefyddol anghofia; gan wybod nad yw dy weithredo [...]dd gor [...]u di, ond fel brattiau bu­dron, os dydi ni ch [...]i ymddangos o flaen Duw yngwisc, ac yng­hyfiawnder ei fab ef I [...]su Gri [...]t. Gwna ddyled-swyddau gan hynny mewn vfydd-dod i Grist, ac nac ymddiried i'th weithredoedd dy hun: ond gwedi i ti wne [...]thur y cwbl, cyfrif dy hun yn wâs anfuddiol. Ac er hynny gwybydd, na anghofia Duw vn weithred dda, a wnelych di mewn vfydd-dod iw orchmynion ef ac o gariad atto ef. Gâd-i holl ddyddiau dy fywyd di gael ei treulio fel hyn; A bydd siccr ar na flinech ti yn gwneuthur d [...]ioni; canys dyna 'r unig rai a goronir, sef, y rhai a bar [...]âo hyd y diwedd, mewn ffydd, a chariad, ac v [...]ydd-dod i Ghrist. Luc. 17. 10. Heb. 6. 10. Datc. 2. 10.

17. Nac amranted dy lygaid ti'r nôs, nes i'ti dy orchymyn dy hûn a'th holl deulu i ddwylo 'r Arglwydd trwy weddi; a gwilia rhag gwneuthur hynny yn oerllyd ac yn ddiog ar dy wely, fel y mae arfer rhai; ond ymostwng dy enaid o flaen yr Arglwydd, gan fynd ar dy liniau, gan gymeryd Crist yn ensampl i'ti, nid yn vnig yn hyn, ond ym-mhôb peth arall fel i'n casser ni yn ddilynwyr iddo ef; canys wedi i'ti gwympo i gyscu beth a wyddost di, pa un a wn [...]i di ai deffr [...]i-fyth ai peidio: Cofia gan hynny mai lle y cwym­po y pren, yno y trig ef; ac lle y gadawo marwolaeth di, y cymmer barn afael arnati. Rhuf. 12. 11. Mat. 26. 39. Psalm 95. 6. 1 Cor. 11. 1. Preg. 11. 3,

18. Rhodiwch fel plant y goleuni, gan dreu [...]io eich amser mewn ofn; canys mae dydd yr Arglwydd yn dyfod fel lleidr y nôs, yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gyda thwrwf, a'r defnyddiau gan wir wrês a doddant, a'r ddaiar a'r gwaith sydd ynddi a loscir; a chan fôd yn rhaid ir holl bethau hyn ymddattod, pa fâth ddynion a ddylem ni fôd, ym-mhôb sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb; Canys ni wyr yr un o honom ni na 'r awr, na 'r amser y daw ein Har­glwydd. Byddwch gan hynny sobr; gwiliwch; a gwyn fyd y gwâs hwnnw y ceiff ei feistr ef pan ddêl yn gwneu­thur felly: a'r hyn yr wyfi yn ei ddywedyd wrthych chwi; yr wyf yn ei ddywedyd wrth bawb Gwiliwch. Eph. 5. 8. 1 Pet. 1. 17. 2 Pet. 3. 10. 11. Mat. 24. 44. Marc. 13. 37.

Taith y Pererin Dan Rith Breuddwyd.

FAl yr oeddwn yn rhodio trwy Anialwch y Bŷd hwn, mi a ddaethym i ryw Fann. Fangre, lle'r oedd ffau neu ogof, ac mi a or­weddais i lawr i gysgu yno: Ac fal yr oeddwn yn cysgu, Mi a freuddwydiais Freuddwyd. Ac yn fy Mreuddwyd, mi a welais wr wedi ei ddilladu â'i gyfi­awnderau gwael ei hun. â Brat­tiau, yn sefyll ar ryw Fann, â pharod­rwydd yn­tho i yma­dael â'r cwbl, yn hytrach nâ bôd yn goll­edig. â'i wyneb wedi droi oddiwrth ei Dŷ ei hun, a Y Bibl. llyfr yn ei law, a Baich o bechodau. Baich mawr ar ei Gefn. Esay 64. 6. Luc. 14. 26. 33. Hab. 2. 2. Psal. 38. 4. Mi a edrychais ac a'i gwelais ef yn agor y llyfr, ac yn darllain yntho, ac fal yr oedd efe yn dar­llen, fe a wylodd ac a grynodd gan ofn: Ac oblegit nad allai efe ymattal yn hŵy, fe a dderchafodd ei lêf yn alarus iawn gan ddywedyd, Beth a wnafi. Act. 16. 29, 30. Act. 2. 37.

Yn y cyflwr hwn fe a ddychwelodd adref, ac a ymattaliodd cyhyd ac y gall­ai, fal y byddai ei gystudd ef yn gudd­iedig oddiwrth ei Wraig ai blant: ond [Page 2] nid allai efe gelu mor peth yn hîr, am fod ei gyfyngder ef yn ymhelaethu: Ac am hynny, o'r diwedd, fe a ddatguddi­odd ei feddwl iddynt, ac a ddechreuodd ymddiddan â nhwy Fal hyn. yn llyn, gan ddy­wedyd, O fy ngwraig anwyl, a chwithau plant fy ymyscaroedd, Rwi 'n golledig ynof fy hun am fy mhecho­dau. Rhuf. 6. 23. fe ddarfu am da­naf, canys y mae Baich trwm yn fy llethu i yn dost: heblaw hyn, fe hyspysswyd i mi yn lle gwîr, y lloscir ein Dinas ni â thân o'r nefoedd, ac yn y Dest [...]yw. difrod ofna­dwy hwn, nid yn unig myfi, ond tyditheu hefyd fy ngwraig, a chwithau fy anwyl blant bychain a ddifethir mewn modd e­chrydus, oddieithr i ni gael (yr hyn nid wyfi yn ei weled etto) rhyw ffordd i ddiangc fal ein gwaredir.

Ar hyn ei dylwyth a'i Geraint ef a Rhyfe­ddasant. synnasant yn ddirfawr, heb gredu er hyn­ny, fod y pethau a lefarodd efe wrthynt yn wîr. Y mae'r Byd yn barnu, fod y. Sawl sy 'n an [...]smw­yth am ei pechodau gwedi ynfydu. Eithr oblegit eu bod hwy'n tybied, ei fod e gwedi gwallgofi; ac am eu bod hi yn hwyrhau, a nhwythau yn gobeithio y sefydlai cwsc ei ymmhennydd ef, hwy a'i gosodasant ef yn ei wely ar frŷs: ond yr oedd y nôs mor flîn iddo fe a'r dydd; ac am hynny, yn lle cysgu, fe a'i treuliodd hi, mewn ocheneidiau a dagrau: A thranoeth pan y mynnent wybod, pa fodd yr ydoedd efe, fo'i hattebodd hwynt, ei fod ef yn waeth o lawer nag o'r blaen; ac fe a ddechreu­odd [Page 3] ymddiddan â nhwy drachefn; ond hwy a galedasant eu calonnau yn erbyn ei gynghorion ef, ac a ymdrechasant i yrru ymmaith ei anhwyl ef, trwy fod yn afrwyog ac yn Ffyrnig ei golwg. sarrug tuag atto. Weithiau hwy a i gwatworent ef, wei­thie hwy a ymrysonnent ag ef, ac wei­thie hwy ai llwyr ddibrissient ef: Ac am hynny fe a ddechreuodd ymneillduo oddiwrthynt, ac a aeth iw stafell i weddio trostynt, ac i dosturio wrthynt, ac i ymofidio hefyd am ei drueni ei hun. Ac ar ryw brydiau fe a rodiai wrtho ei hun yn y meusydd, weithiau 'n darllain, ac weithiau 'n gweddio▪ ac fal hyn y treuliodd efe ei amser tros rhai dyddiau.

A phan yr ydoedd efe ryw Brŷd yn rhodio yn y meusydd, mi a'i gwelwn ef (yn ol ei arfer) yn darllen yn ei lyfr (ei­thr yn gystuddiedig iawn yn ei yspryd) ac wrth ddarllain fe a dorrodd allan me­gis o'r blaen, gan ddolefain, Pa beth a wnafi fel y byddwyf gadwedig? Act. 16. 30.

Mi ai gwelais ef hefyd yn edrych yma ac accw, fal pe buasai yn ei frŷd ef i ffoi ymaith; etto fe a safodd yn ddiyscog; oblegit (fel y tybygwn i) nas gwyddai fe pa ffordd i fyned.

Yna mi a welwn wr (a'i enw Prege­thwr yr Efengyl. Efan­gylwr) yn nessau atto ef, ac yn gofyn iddo, pa ham yr wyt ti 'n llefain? Ynt­ef a'i hattebodd ef, Syr, 'rwyfi 'n deall [Page 4] wrth y llyfr sydd yn fy llaw, fy môd i gwedi 'm Euog­farnu. condemnio i farwolaeth, ac ar ôl hynny i ddyfod ir Farn, ac nid wyfi 'n ewyllysgar i farw, nac yn abl i ymddangos yn y Farn: Heb. 9. 27. Job 36. 20. Ezec. 22. 14.

Yna ebe Efangylwr, pa ham yr wyt ti 'n anewyllysgar i farw, gan fod y by­wyd hwn mor llawn o [...]rwbwl. helbul, Job 14. 1. A'r Gwr a'i hattebodd ef, am fy môd yn ofni, y gwesgir fi i lawr, gan y Baich y sydd ar fy nghefn yn îs nâ 'r Bêdd, ac y bydd i mi syrthio i [...]. Tophet, Esay 30. 33. Ac Syr, os nid wyfi gymmwys i fyned i i'r Bedd. Garchar, llai o lawer yr wi 'n barod i fyned ir Farn, ac oddi yno i uffern. i Lê y cospedigaeth. A'r meddyliau yng­hylch y pethau hyn sy 'n peri i mi wylo.

Yna ebe Efangylwr, Os [...]. or 'dwyt ti yn y cyflwr hwn, pa ham yr wyti 'n sefyll yn llonydd? Yntef a attebodd, am na wn i, i balê i fyned: yna fe roddes iddo rolo Pa [...]t. Femrwn, ac yr oedd yn scrifen­nedig yntho, Ffówch rhag y llîd a fydd. Mat. 3. 7.

Fe ddarllenodd y Gwr y geiriau, a chan edrych ar Efangylwr yn grâff, fe a ofynnodd iddo, i ba lê y ffoaf? Yna ebe Efangylwr, gan ddangos â'i fŷs tros Faes Llydan. ehang, A weli di y Porth bychan accw? Na welaf ebr Gwr. Yna ebr llall, Nid ellir adnabod Crist, na'r ffordd tu ag atto, heb y scry­thur. A weli di y Goleuni disclair accw? Yn­tef [Page 5] a'i hattebodd ef, mi dybygwn fy môd yn ei weled ef, Yna ebe Efangylwr wr­tho, cadw dy olwg yn wastadol ar y goleuni accw, a dôs yn vnion tuag atto; ac felly y cei di weled y Porth; a phan y curech wrthi, fe ddangosir i ti beth sydd raid i ti ei wneuthur Mat. 7. 14. Psal. 119. 105. Joan. 9. 39. 2 Pet. 1. 19.

Yna mi a welwn y Gwr yn dechreu rhedeg; ac nid aethai fo 'n-nepell oddiwrth ei Dŷ ei hun, ond wele 'roedd ei wraig a'i blant (wrth ganfod hynny) yn gweiddi ar ei ôl ef, gan alw arno i ddychwelyd: Eithr fe a osododd ei fyssedd yn ei glust­iau, ac a redodd ym-mlaen, gan Ʋchel. grôch­waeddi, Bywyd, Bywyd, Bywyd trag­wyddol: Ac nid edrychodd efe yn ei ôl, ond fe ffóodd tua chanol y Gwastadedd. Luc. 14. 26. Gen. 19. 17.

Y mae y rhai sy 'n cilio rhag y llîd a fydd, yn Ddry­chau ac yn Rhy­feddodau ir Byd. Jer. 20. 10. 1 Cor. 4. 9. Y C'ymydogion hefyd a ddaethant allan i weled ef yn ffrystio ymaith, ac fel yr oedd e 'n bryssio, rhai a'i gwatwa­rent, eraill a'i bygwthient, a rhai a wae­ddent ar ei ôl ef, gan alw arno i ddy­chwelyd adref: ac ym-mhlith y rheini, yr oedd Dau, ac a fwriadasant trwy daer­ni ei berswadio ef i ddychwelyd yn ôl; Enw yr vn oedd Cyndyn, ac Enw 'r llall oedd Meddal. Ac erbyn hyn yr oedd y Gwr gwedi myned yn lled-bell oddiwr­thynt; er hynny yn ôl eu pwrpas, hwy a'i canlynasant ef; ac o fewn ychydig o [Page 6] amser a'i goddiwesasant ef. Yna ebr Gwr, Fy nghymydogion, pa ham yr ydych chi yn dyfod ar fy ôl i? Hwythau a'i hatte­basant ef, i'ch cynghori chwi i ddyfod adref gyda ni Eithr nid allafi (ebe yntef) wneuthur felly, mewn môdd yn y byd. Yr ydych chi 'n trigo eb efe yn Yn eich cyflwr na­turiol, heb ei [...] troi oddiwrth eich pecho­dau i fyw'n sanct­aidd. Ninas Destryw, (y lle hefyd i'm ganwyd inne yntho) yr wi 'n gwybod fod y peth yn wir; ac os marw a wnewch chi yno, yn gynnharach neu 'n, hwyrach, chwi a foddwch yn îs nâ 'r Bedd, i lê sy 'n llosci â thân a brwmstan, Dat. 21. 8. Bydd­wch foddlon gan hynny fy nghymydo­gion, a dewch ym-mlaen gyda mi.

Cyndyn.

Beth ebe Cyndyn, a gadael ein Cyfeillion a'n meddiannau yn ôl!

Cristion.

Ie ebe Cristion (canys felly y gelwid ef) oblegit nid yw 'r cwbl, ar a adawoch chi yn ôl, yn deilwng iw Cyffelybu cystadlu ag ychydig o'r pethau, yr wyfi ym Ymdre­chu. ymegnio i fod yn gyfrannog o ho­nynt, 2. Cor. 4. 18. Ac os dewch chi gyda mi i ben y siwrnai, chwi a gewch fwynhau yr vnrhyw bethau daionus, ac y fwynháf inne, canys y mae digon a [...]. gwargred iw gael, yn y llê yr wyfi yn teithio tuag atto. Luc. 15. 17. Dowch, a Ph [...]ofwch fy ngeiriau.

Cyn.

Pa Bethau yr ydych chwi yn eu ceisio, gan eich bod yn ymadael â'r holl fŷd, fal y galloch eu meddiannu hwynt?

Cris.
[Page 7]

Yr wyfi 'n ceisio Etifeddiaeth anllygredig, dihalogedig, a diddifflanne­dig; yr hon sy nghadw yn y Nefoedd, ac yn ddiogel yno, iw rhoddi, ar yr amser nodedig, ir sawl a'i dyfal geisiant hi. Chwi a ellwch (os mynnwch) ddar­llen y peth felly, yn fy llyfr i, 1 Pet. 1. 4. Heb. 11. 16.

Cyn.

Pw, ebe Cyndyn, ymmaith â'ch Y Bibl. llyfr, Attebwch i'm fi, a drowch chi 'n ôl I syw 'n annu­wiol fel cynt, gyda ni, a'i nis gwnewch?

Cris.

Na wnaf; ebr llall, canys mi a osodais fy llaw I wasa­naethu Duw. ar yr Aradr. Luc. 9. 62.

Cyn.

Dowch gan hynny (ebe Cyndyn) fy nghymydog Meddal, a dychwelwn adref hebddo: Y mae Cwmpni. Brawdoliaeth o Ddy­nion penweinion, y rhai pan y derbyniant rhyw Opiniwn Fympwy iw pennau, ydynt ddoe­thach yn ei golwg ei hun nâ seith-wyr yn adrodd rheswm.

Medd.

Peidiwch a difenwi ebe Me­ddal, os gwir y ddywaid ein cymmydog Cristion, y mae 'r pethau y mae efe yn eu ceisio yn well nâ'r cwbl o'n Meddian­nau ni; Mi allwn ar fy nghalon fyned gydag ef.

Cyn.

Pa Beth! mwy o ffoliaid fyth? cymmer dy reoli gennifi, a Tyred. Dere 'n ôl; pwy a ŵyr, i ba le i'th Arwein­ir. dywysir gan y fath ddyn penwan a hwn? dychwel, dy­chwel, a bydd gall.

Cris.
[Page 8]

Nage, ebe Cristion, eithr Ty­red ti Cyndyn gyda 'th gymydog Meddal, canys yn y lle yr wyfi yn ymdrechu my­ned iddo, y mae 'r cyfryw bethau iw cael, ac a soniais i am danynt, ac am­ryw o bethau gogoneddus heblaw hynny. Oni choeliwch chwi fi, darllenwch yma, yn y llyfr hwn ynghylch y pethau hyn; ac am wirionedd yr hyn a fynegir yntho, wele y mae 'r cwbl gwedi ei siccrhau, â gwa [...]d Crist. â gwaed yr hwn a'i gwnaeth ef. Heb. 9. 17, 18, 19, 20.

Medd.

F [...]lly. Iddo, fy nghymydog Cyndyn (ebe Meddal) 'rwi 'n dechreu ymsefydlu yn fy meddyliau; 'rwi 'n bwriadu ym­deithio gyda 'r Gwr da yma, Ac i g [...]isio rhan o r etife­ddiaeth nefol gy­dag ef. a bwrw fy nghoelbren i mewn gydag ef: eithr fy nghyfaill anwyl, a wyddoch chi 'r ffordd ir lle dymunol hwn?

Cris.

Gwr, a'i enw Efangylwr a'm cyfarwyddodd i, i ffrystio tua Phorth bychan, y sydd o'n blaen, lle y dangosir i ni y ffordd.

Medd.

Dewch gan hynny Gymydog da, gadewch i ni De hrau 'n siwrnai gychwyn: Yna hwy a aethant ill dau ynghyd.

Cyn.

Minne a ddychwelaf adref ebe Cyndyn, ac ni byddafi Gydymaith ir cy [...]ryw ddynion [...]wallgofus, ac a hudwyd oddiar yr vnion ffordd.

Ar ôl i Gyndyn ddychwelyd, Mi a welwn Cristion a Meddal yn myned ym­mlaen, [Page 9] tan siarad â'i gilydd ar hyd y gwastadedd, ac fal hyn y dechreuasant eu hymddiddanion.

Cris.

Fy nghymydog Meddal ebe Cri­stion, Pa fodd yr ych chi? Mae 'n dda gennif, eich bod chwi wedi 'ch perswa­dio i fyned gyda mi; Pe profasai Cyndyn yntho ei hun Grym cystudd cydwybod o herwydd y poenau vffernol, y sy ddyledus am bechod. nerthoedd a dychryniadau y pethau y sydd etto yn anweledig, megis y profais i hwynthwy, ni throesai fo mo'i gefn arnom mor ysgafn.

Medd.

Fy nghymydog Cristion, gan nad oes yma neb onid nyni 'n dau, Myne­gwch i mi yn awr ym-mhellach pa ryw be­thau y sydd iw cael, yn y lle yr ydym ni yn myned tuag atto, a pha fodd y mwyn­heir hwynt.

Cris.

Gwell y gallaf eu Deall. hamgyffred hwy yn fy meddwl, nâ'i hadrodd hwynt â'm tafod: etto gan eich bod yn chwen nychu eu gwybod, mi a ddarllenaf i chwi am danynt yn fy llyfr.

Medd.

A ydych chi 'n tybied fod gei­riau 'ch llyfr chwi yn wir?

Cris.

Ydwyf yn Siccr. ddilys, canys y digelwyddog yw ei Gwneu­thurwr. Awdur ef, Tit. 1. 2. 2 Tim. 3. 16. 2 Pet. 1. 19. 20, 21.

Medd.

Ond pa bethau sydd iw cael, pan y delom i ben ein siwrnai?

Cris.

Diddi­wedd. Y mae Teyrnas annherfynol i ni bresswylio ynthi, a bywyd tragwy­ddol iw roddi inni, fal y gallom Trigo. gy­fanneddu [Page 10] yn y Deyrnas honno tros fyth, Mat. 25. 34. Joan. 10. 27. 28, 29. Y mae Coronau o Ogoniant iw cael yno hefyd, a Gwisco­edd o gy­fiawnder. Lat. 19. 8. Gwiscoedd a bair i ni ddis­cleirio fal yr Haul yn ffurfafen y nefoedd, 2 Tim. 4. 8. Dat. 7. 9. Mat. 13. 43. Heblaw hyn, ni bydd yno na newyn, na syched, na marwolaeth, nac wylofain, na thristwch, na phoen, oblegit fe sych Arg­lwydd y lle pob Deigr oddiwrth ein lly­gaid, Dat. 21. 4. Dat. 7. 16.

Medd.

A Pha Gyfeillion a gawn ni yno?

Cris.

Ni a gawn fod yno gyda Ange­lion. Sera­phiaid a Ange­lion. Cherubiaid, sef, Creaduriaid a bair i'n llygaid serennu wrth edrych ar­nynt, Esay 6. 2. Yno hefyd y cyfarfy­ddwn â miloedd a deug miloedd o rai, a aethant o'n blaen ni ir lle hwnnw; nid oes yr vn o honynt yn gwneuthur niweid iw gilydd, ond y maent yn byw yn ga­riadus ac yn sanctaidd, pob vn yn rhodio yng-wydd Duw, ac yn aros yn gymme­radwy yn ei bresenoldeb ef dros fyth, Dat. 5. 9. 10. 11. Dat. 7. 1 Thess. 4. 16, 17. Yn fyrr, yno y cawn ni we­led yr Y D [...]s­cawdwyr Henuriaid a'u Coronau aur ar eu Pennan, Dat. 4. 4. Yno y cawn ni weled y Mor­wynion ieuaingc sef, Cri­stiannog­ion on [...]l, heb eu halogi â gau gre­fydd. Gwyryfon sanctaidd â'u Telyn­nau aur, Dat. 14. 4 Yno y cawn ni weled y rhai a ddrylliwyd gan y Byd yn ddarnau, a loscwyd yn y Tân, a fwyt­tawyd [Page 11] gan fwystfilod, ac a fodwyd yn y Moroedd (am ei cariad at Arglwydd y lle) cymmain vn yn holl-iach, gwedi eu dilladu ag Anfarwoldeb megis â Gwisc, Joan. 12. 25. Dat. 7. 14, 15. 2 Cor. 5. 1. 2, 3, 4, 5.

Medd.

Y mae'r pethau hyn yn ddigon, i ddwyn calonnau Dynion ar eu hôl: Ei­thr pa fodd Attolwg y down ni, i fod yn Gyfrannogion o honynt?

Cris.

Llywod­raethwr. Llywydd y wlâd a ysgrifennodd yn y llyfr hwn, os byddwn ni yn wir ewyllysgar i derbyn hwynt, efe a'i rhŷdd hwy i ni yn rhôdd ac yn rhâd. Esay 55. 1. Dat. 22. 17.

Medd.

Fy nghydymmaith anwyl, mae 'n hoff gennif glywed y pethau hyn: Awn rhagom, a cherddwn yn dynnach.

Cris.

Y mae 'r Baich y sydd ar fy nghefn yn fy rhwystro, i fyned mor e­brwydd ac y dymmunwn.

Yn awr Mi a welwn, gwedi iddynt Diwe­ddu. orphen eu hymddiddanion, nessau o honynt hwy at Gors Yn llawn o laid neu glai. leidiog, yr hon oedd yng-hanol y Gwastadedd; a thrwy fod yn wallus, hwy a syrthiasant ill dau yn ddisymmwth ir Gors (a'i Henw hi oedd Cors Anobaith) ac yno y buant hwy tros ennyd yn ymdrybaeddu, gwedi ei diwyno 'n Ofna­dwy. erchyll gan y dom; ac fe ddechreuodd Cristion foddi yn y llaid o achos y Baich ar ei Gefn ef.

Medd.
[Page 12]

Och! och! Wbwb! ebe Meddal, Fy nghymydog Cristion, ym mha le yr ydym ni yn awr?

Cris.

Mewn gwirionedd ebe Cristion, nis gwn i ym mha le.

Medd.

Nid yw Medda­lwch neu Barod­rwydd i wrando ar draet [...]iad pethau daionus yn ddigonol, i ddwyn Dyn ir Nefo [...]dd, er bod hynny yn vn cam yn y fford [...]ag yno. Yna y tramcwyddodd Meddal, ac fo lefarodd yn llidiog wrth ei Gydym­maith, gan ddywedyd; A'i Dymma 'r Dedwyddwch y grybwyllasoch chi am da­no yr holl amser hyn? Os cawsom y fath aflwydd yn nechreuad ein Taith, pa beth a allwn ni ddisgwyl am dano rhwng hyn a phen ein siwrnai? Os gallafi ond diangc o'r Plwcca hwn yn fyw, chwi a gewch o'm rhan i, feddiannu 'r wladd dda eich hunan. A gwedi ymdreiglo yn egniol vnwaith ac eilchwaith, fe ddaeth allan o'r llacca, ar yr ystlys hynny o'r Gors, a ydoedd nessaf iw Dŷ ei hun: Ac felly efe a aeth ymmaith, ac ni welodd Cristion mo hono mwyach.

Ac fal hyn y gadaw-wyd Cristion i ym­droi yn y Pwdel o Anobaith wrtho ei hun: Eithr dan ymwthio Y mae'r Pechadur cystuddie­di [...] am ei bechod (er ei fod ef mewn llawer o Anobait [...]) etto yn ymdrechu fyth i ymbellhau, oddiwrth ei Dy ei hun, sef, oddi­wrth Gyfeillach yr Annuwiolion a'u drwg harferion: Ac y mae fo 'n ymdynnu nesnes at Grist ac at y Porth or Ail-enedigaeth a sanctei­ddrwydd, fal y gallo fod yn gadwedig, Psal. 45. 10, 11. fe ymdre­chodd fyth i ymlusco tua'r ochr honno o'r Gors a ydoedd bellaf oddiwrth ei Dŷ ei hun, a nessaf ir Porth cyfyng: Ond gwe­di gwneuthur felly, nid allai fo ddyfod allan o'r Gors o achos y Baich oedd ar ei gefn.

[Page 13] Yna mi a welais wr yn dyfod atto, a elwid Helpwr, ac yn gofyn iddo, Pa beth yr ydoedd efe yn ei wneuthur yno?

Cris.

Syr, ebe Cristion, Gwr a elwir Efangylwr a erchodd i mi fyned y ffordd yma, ac fo 'm cyfarwyddodd i hefyd ir Porth bychan accw, fal y gallwn ffoi rhag y llîd a fydd, ac fal yr oeddwn i 'n myned tuag yno, mi a gwympais i mewn yma.

Helpwr.

Ond pa ham nad edrychasech chi Ar yr Addewid­ion o dru­garedd ir Credadyn edifeiriol. ar y llwybrau yn fanolach.

Cris.

Dychryn a barodd i mi ffoi y ffordd nessaf, ac felly mi a syrthiais yma.

Help.

Moes i mi dy law ebe Helpwr, a Christion a roddes iddo ef ei law: Ac efe a'i tynnodd ef ir Lan, ac a'i gosododd ef ar Dîr caled, ac a barodd iddo gerdded ei ffordd ym-mlaen. Pal. 40. 2.

Gwedi hynny mi a nesseais at yr hwn a'i tynnasai ef Allan. i maes o'r Gors, ac a ofynnais iddo, Syr, gan fod y ffordd o Ddinas Destryw ir Porth accw trwy 'r Lle yma, pa ham nas cyweiriwyd y man hyn, mal y gallai Trafael­wyr. ymdeithwyr tlodion siwrneio tuag yno yn Ddiofal­ach. ddibryderach? Yntef a'm hattebodd, y mae 'r Gors front hon yn gyfryw Le, nas gellir ei gwellháu hi: Canys ir Gwaelod hwn, y mae'r holl Brynti Fudreddi y sydd yn can­lyn argyhoeddiad am bechod, yn rhedeg i wared yn wastadol; ac am hynny y [Page 14] gelwir hi y Gors o Anobaith: Oblegit, er cynted ac y Dihunir deffroir Pechadur, i weled ei gyflwr colledig, y mae llawer o Ddychryniadau ac Amheuon, a Meddy­liau anghyssurus yn cyfodi yn fynych yn ei Enaid ef; A'r rhain oll sy 'n ymgasglu ynghyd, ac yn ymsefydlu yn y man hwn: A thyma i chwi 'r rheswm, pa ham y mae 'r Lle yma cynddrwg.

Nid ewyllys y Duw. Brenin yw, fod y ffordd hon cynddrwg ac y mae hi, Esay 35. 3, 4. Ei weithwyr ef hefyd, trwy gyfarwyddiad y rhai oedd gan ei Faw­rhydi ef yn Olygwyr ar y brif-ffordd, a fuant er ys mwy nag vn-cant-ar-bymtheg o flynyddoedd yn gweithio yma, i edrych a ellit cyweirio Y Dryll. y clwttyn Tîr hwn: Ie, ac myfi a wn, ebe efe, lyngcu yma o'r lleiaf, fwy o lawer nag vgain mîl o Ceirt. Fennau, gwedi eu llwytho yn llawn ag hyfforddiadau iachus, a ddygpwyd yma o bryd i bryd, O bob cwarter. o bob Ardal a Goror yn nheyrnasoedd y Brenin, i bro­fi a ellit cyweirio 'r ffordd hon: A'r rhai a wyddent beth oedd ei Matter. deunydd, a ddywedent, mai'r pethau goreu oe­ddynt, a'r a ellit en cael, i wneuthur y Tîr hwn yn sych ac yn galed. Eithr Cors Anobaith ydyw hi fyth, ac felly y bydd hi, er gwneuthur o bawb ei goreu i gwellhau hi.

[Page 15] Gwir yw, fod trwy gyfarwyddiad Rhoddwr y gyfraith ryw Adde­widion o faddeuant pechodau, ac o fod yn gymme­radwy trwy ffydd yng-Hrist. Gerrig mawr a chadarn wedi ei gosod ar hyd ganol y Gors, fal y gallei pobl, trwy estyn cammau, fyned trosti; eithr pan y bo 'r Lle yma yn chwdu i fynu lawer o'i fu­dreddi (megis y mae 'n gwneuthur ar newid tywydd) yna braidd y gwelir y meini: ac os canfyddir hwy, y mae Dynion, Trwy y dychryn y sydd yn eu calonnau oblegid eu pechodau. o herwydd gwendid eu pen­nau, yn troi oddi arnynt, ac yna, gwedi syrthio ir Gors, y diwynir hwy 'n aru­throl (neu 'n rhyfeddol) er bod y cerrig yno fyth: ond y mae 'r ffordd yn dda, gwedi myned i mewn vnwaith ir Porth.

Yna mi a welwn, fod Meddal erbyn hyn, gwedi dyfod yn ôl iw Dŷ ei hun: A'i Gymmydogion a ddaethant i ym­weled ag ef: A rhai o honynt a'i galwa­sant ef yn wr câll, am iddo ddychwelyd adref; a rhai a'i galwasant e 'n ffôl, am fwrw ei hunan i berygl gyda Christion; ac eraill a'i gwatworasant ef, am ei fod ef eyn wanned ei galon, gan ddywedyd wrtho, yn ddiau, gwedi dechreu Mentro. an­turio, ni ddylasech chi fod mor ofnus a chefnu am ychydig o anhawsder yn y ffordd. Ac felly dan ostwng ei warr fel Crwydryn, fe a eisteddodd Meddal i lawr yn ei plith hwynt. Ond o'r diwedd, efe A ddaeth i fod yn eon. a ymhyfháodd, ac a ddechreuodd gy­da ei gymydogion ddywedyd yn ddrwg [Page 16] am Gristion (druan Gwr) ac o'r tu cefn iddo, hwy a gyd-chwarddasant am ei ben ef. A digon bellach am Feddal.

Yn awr, fal yr oedd Cristion yn myned ym mlaen, heb neb gydag ef, efe a ganfyddai ŵr o hirbell yn croesi 'r maes: A digwyddodd iddynt gyfarfod ynghyd, yn y man hynny, lle 'r oedd y naill yn croesi ffordd y llall. Enw y Gwr bon­heddig a gyfarfu ag ef oedd Meistr By­dol Ddoethyn, a thrigo yr oedd efe yn Ni­nas Doethineb cnawdol (Tref fawr iawn) ac yn gyfagos hefyd ir Lle y daethasai Cristion Allan o honi. i maes o honi. A'r Gwr hwn a glywsai ryw sôn am dano, canys my­nediad Cristion allan o Ddinas Destryw a dannasid ar lled yn ddirfawr, nid yn vnic yn y Dref, lle yr ydoedd efe yn pres­swylio ynthi, eithr hefyd mewn amryw o Drefydd eraill oddi amgylch. Meistr Bydol Ddoethyn gan hynny, wrth ddal sulw ar ei gerddediad cyflym ef, ac ar ei ocheneidiau ai riddfannau ef, a'r cy­ffelyb Argoelion eraill, A led­dybiodd. a frith-dybiodd, mai hwn ydoedd Cristion, ac efe a dde­chreuodd siarad ag ef fal hyn.

Bydol-Ddoethyn.

Felly. Iddo yn awr y Gwr-da, i ba le yr ydych chi yn myned yn llwythog fal hyn?

Cris.

'Rwi gwedi 'm llwytho yn ddiau, cyn dosted (i'm tyb i) ac a llwythwyd vn Creadur truan erioed: Ac yr wyfi 'n [Page 17] myned tua 'r Porth bychan accw, y sy gyf-erbyn a mi; canys fe a ddywespwyd wrthyf, y cawn i gyfarwyddiad yno, Pa fodd. pa wedd i gael fy nilwytho o'm Baich pwysfawr.

Bydol-D.

A oes i ti wraig a phlant?

Cris.

Oes, eithr yr wyfi gwedi 'm llwytho felly â'r Baich yma, fal nas gallaf ymhyfrydu ynthynt hwy megis cynt; ie mi dybygwn fy mod i mal pettawn heb­ddynt, 1 Cor. 7. 29.

Bydol-D.

A gymmeri di Gyngor gen­nifi, os rhoddaf ef itti?

Cris.

Gwnaf, os da y fydd eich Cyng­hor, canys digon rhaid i mi wrtho.

Byddol-D.

Mi a fynnwn i ti gan hynny, i Ymdre­chu. ymegnio i gael rhyddháad oddiwrth dy lwyth gyntag allech; oblegit ni byddi di byth yn esmwyth yn dy feddwl, ac nid elli di fwynhau llessáad oddiwrth y Ben­dithion a roddes Duw itti, nes y gwnelych di felly.

Cris.

Dyna 'r Peth yr wyfi 'n ymor­chestu am dano, sef, i gael fy nilwytho Ni ddi­chon pe­chadur ddadlwy­tho ei hu­nan, ac nis gall neb ar all, onid Jesu Grist yn vnic, ei ddadlwytho ef oddiwrth Faich ei bechodau. Act. 4. 12. Mat. 11. 28. o'm Baich pwysfawr: Nis gallafi ei fwrw ef i lawr fy hunan: Ac nid oes neb yn ein gwlâd a ddichon ei dynnu ef oddiar fy ysgwyddau; ac am hynny yr wi 'n teithio ar y ffordd hon fal y gallwyf gael gwared o honaw.

Bydol-D.
[Page 18]

Pwy a barodd i ti fyned ar hyd y ffordd yma, i gael gwared o'th Faich?

Cris.

Gwr o wêdd parchedig ac an­rhydeddus (yn fy ngolwg i) a'i Enw ef, hyd yr wyf yn ei gofio yw Efangylwr.

Bydol-D.

Ynghrog y bytho am ei Gyng­or, nid oes yn yr holl fyd vn ffordd yn fwy peryglus a blîn, nâ 'r hon y cyfar­wyddodd efe tydi i ymdeithio ynthi; ac di a gai brofi hynny os dilyni di ei gyngor ef. Mi a welaf wrth ddom y Gors o Anobaith y sydd yn glynu wrth dy ddi­llad di, gael o honot ti beth trwbwl eisoes; eithr nid yw 'r Gors honno ond dechreuad y gofidiau, y sy 'n canlyn y sawl sy 'n siwrneio yn y ffordd yma. Gw­rando ar [...]afi, yr wi'n hŷn nâ thydi, mae'n debyg y cyfarfyddu di ar y ffordd yr wyt ti'n ymdeithio ynthi, â Dissygio Lludded, Blin­der, newyn, peryglau, noethni, Cleddyf, Llewod, Dreigiau, Tywyllwch, ac i fod yn fyrr, Marwo­laeth an­naturiol, megis trwy gro­gi a llosci. â Marwolaeth, a chystuddiau anneirif eraill, y rhai nis gellir eu hadrodd, Act. 14. 22. Y mae 'n ddilys, fod hyn oll yn wir; canys fe siccrhawyd y cwbl gan lawer o Dystion: A pha ham y dife­thai Ddyn ei hunan mor ddiofal trwy goe­lioDyn dieithrAlltud?

Cris.

Syr, y mae'r Baich hwn, y sydd ar fy nghefn, yn fwy brawychus i'm fi, nâ'r cwbl oll a grybwyllasoch chi am da­nynt; ie mi a dybygwn, nas gwnawn i [Page 19] gyfrif yn y byd o ddim a ddigwyddai [...]mi yn y ffordd, Y mae Cristion yn hirae­thu am gael ma­ddeuant oi Bechodau o flaen dim arall. pe gellwn i gael ond fy nilwytho o'm Baich.

Bydol-D.

Pa fodd y gwybuosti ar y cyntaf, dy fod ti yn llwythog?

Cris.

Wrth ddarllain y llyfr yma y [...]ydd yn fy llaw.

Bydol-D.

Felly yr oeddwn i yn tybied. Ac fe ddamweinodd i ti, i wallgofi, megis Nid yw Bydol Ddoethyn fodlon, i bobl ddar­llain y Bibl. ac y digwyddodd i bobl anneallus eraill; [...] rhai trwy ymmerreth a medlo â phethau [...]mmhell uchlaw eu dealltwriaeth, a golla­ [...]ant ei côf yn ddisymmwth: Ac y mae'r [...]ynddeiriogrwydd hyn, nid yn unic yn ei gosod hwynt-hwy mewn gradd îs nâ Dyni­on (megis im tŷb i yr wyt ti gwedi 'th osod gantho) eithr y mae e hefyd yn ei gyrru hwynt ym-mlaen, i Fentro. anturio ar bethau [...]chrydus, mewn amcan i feddiannu nis gwyddant pa beth.

Cris.

Myfi a wn beth ydyw fy nymu­niad i; sef i gael fy esmwythau o'm Baich gorthrwm.

Bydol-D.

Eithr pa ham yr wyt ti yn Ymofyn. ymorol am esmwytháad yn y ffordd hon, gan fod cymmaint o enbydrwydd ynthi? Yn enwedig pan y gellwn i (pettai gennit Ammynedd i wrando arnaf) dy gyfarwy­ddo di, i gael y peth yr wyt ti yn ei chwen­nychu, heb y peryglon, a orfydd arnat ti daflu dy hunan iddynt yn y ffordd hon; [Page 20] ie y mae'r Cynnor­thwy. help yn agos. Gwybydd hyn ymmhellach, y cai di, yn lle'r peryglon yma, lawer o Ddiogelwch, a Charedi­grwydd, a Bodlonrwydd, os dilyni di fy nghyngor i.

Cris.

Attolwg Syr, Datguddiwch i mi y dirgelwch hwn.

Bydol D.

Wele y mae yn y Pentref o Foesau neu arfe­rion da. Pentref accw, a elwir Morality wr bonheddig yn trigo, a elwir Sef, gwr y sy'n cei­sio iechyd­wriaeth trwy'r Ddeddf. sef trwy ei gyfiawn­der ai one­strwydd ei hun, heb ymofyn am Grist i fod yn geid­wad iddo. Legality (neu Ddeddfol­deb) yr hwn sydd wr deallus iawn, a Gair da iddo, ac efe a feidr ddilwytho pobl or fath lwythau, ac yw dy lwyth di: Ie myfi a wn iddo wneuthur llawer o Ddaioni yn y matter yma eisus. Ac heblaw hyn, efe a feidr iachau y sawl sy'n agos a gwallgofi oblegid eu llwythau: Atto fe, meddafi, y gelli di fyned, a chael help mewn ychydig o amser. Nid yw ei Dy ef gwbl i filltir oddi-yma. Ac oni bydd efe ei hunan gar­tref, y mae gantho Fâb ievangc glân, yr hwn a elwir Sifility (neu Gweddoldeb) ac i ddwedyd wrthyt ti 'r gwir, fe a ddichon dy gynnorthwyo di gystal a'r hên wr bon­heddig ei hunan, Yno meddafi, y gelli di gael di esmwythau oth Faich. Ac onid wyt ti 'n bwriadu dychwelyd yn ol ith hen Drigfa (Ac yn ddiau nis mynnwn i ti wneuthur felly) yna ti a elli ddanfon am dy wraig a'th blant i ddyfod i fyw gyda thi yn y pentref yma; lle y mae yn awr Dai heb Drigolion ynthynt; a thi a elli [Page 21] gael un o'r rheini am ychydig o rent; y mae yno hefyd ymborth da, a newid fawr arno; ac i wneuthur dy fywyd yn ddedwyddach, ti a elli siccrhau dy hunan, y byddi di byw yno, ymmhlith cymmydogion honest, mewn cymmeriad a dull neu fashiwn o'r goreu.

Ni fynn Bydol Ddoethyn ir Pererin ddychwelyd iw hên Drigfa (hynny yw i fyw mewn pecho­dau echryslon fal cynt) ond fe fynn iddo fyned tua Mynydd Sinia, i gael cyfarwyddiad yno, ym­mha fath fodd i drefnu ei ymarweddiad oddi­allan, mewn Sobrwydd, Onestrwydd, a Moesau (new Arferion) gweddol eraill: Ond ni fynn e iddo fyned tua 'r Porth bychan o'r Ail-enedigaeth, i gael glendid calon, heb yr hyn, nid yw sifil­rwydd (neu weddeidd-dra) ac Onestrwydd oddi allan ond pechodau disclair goreurog, a ffieidd­dra yng-olwg yr Arglwydd, am nad ydynt ond megis celain heb enaid, a ffurf (neu Lûn) heb rym Duw-ioldeb ynthynt. Mat. 23, 27, 28. Luc. 16. 15.

Ac yn hyn i gyd, Amcan Bydol-Ddoethyn oedd, i berswadio 'r Pererin, i ymddiried (me­gis y gwnaeth y Pharisaead) yn ei Gyfiawnder ei hun, fal pe gallasai fo, trwy vfydd-dod ir Gy­fraith, haeddu ffafor Duw, Cyfiawnháad, a By­wyd tragwyddol: Ac felly fo'i trows ef oddiar ffordd Mynydd Sion, lle yr oedd y pethau hyn iw cael, trwy haeddedigaethu Iesu Grist, i fyned tua Mynydd Sinai, lle nid oeddynt iw cael: Ac am hynny drwg iawn ydoedd cynghor Bydol Ddoethyn yn y matter ymma. Luc. 18. 9, 14. [Page 22] Rhuf. 3. 20. Joan. 14. 6. Act. 4. 12.

Dymma rai Rhesymmau (ymmysg amry [...] eraill yn Epistolau St. Paul) y sydd yn prwfio Nad allwn ni haeddu na chyfiawnháad (hynny y [...] i gael yn cyfrif yn gyfiawn gan Dduw) na Bywy [...] tragwyddol, trwy 'n vfydd-dod ir Gyfraith, neu 'r Cyfiawnderau 'n hunain.

Yn Gyntaf, Oblegid bod ein vfydd-dod a' [...] gweithredoedd da ni yn ammherffaith. Yr oedd Paul yn cyfaddef, nad oedd mo hono fe (o ra [...] ei vfydd-dod) yn berffaith, Phil. 3. 12. Rhuf. 7▪ 18, 19. Yr oedd Iaco yn dywedyd am dano e [...] hun, ac am bobl Dduw, at y rhai yr oedd efe yn yscrifennu, Mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro, Iac. 3. 2. Ac medd Crist wrth Eglwys Sardis, Ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn, ac wrth Eglwys Ephesus, ddarfod iddi ymadae [...] â'i chariad cyntaf, Dat. 3. 2. Dat. 2. 4. Yr oedd anwiredd ym mhethau sanctaidd yr Israeliaid gynt, Exod. 28. 38. Ac os yw gwir vfydd-dod y rhai grasol yn ammherffaith, pa faint mwy ammherffaith ydyw vfydd-dod ffugiol y Dynion­naturiol, Mat. 23. 27, 28.

Y mae diffyg yn ein vfydd-dod ni, Yn Gyntaf o ran y Mesur, canys nid ydym ni yn gwneuthur cymmaint o weithredoedd da, ac y mae Duw yn ei Gyfraith yn ei ofyn ar ein Dwylo ni. Dan. 9. 10. Iac. 3. 2. 2 Thess. 3. 13. Dat. 3. 2. Rhuf. 3. 10.

Yn Nessaf, y mae Diffyg yn ein vfydd-dod ni o ran y Modd, canys lle dylem ni vfyddhau o'r Galon, yr ydym ninne ar ryw brydiau (fal y [Page 23] gwyddom trwy brofiad) yn cyflawni ein dyled­swyddau megis y Bobl gynt, am y rhai yr achwynodd Duw, Nessau y mae y Bobl hyn attaf a'i genau, a'm anrhydeddu a'u gwefusau, a'u ca­lon sydd bell oddiwrthif, Mat. 22. 37. Mat. 15. 8. Ezec. 33. 31.

Yn Ddiweddaf, y mae Diffyg yn ein vfydd-dod ni o ran y Diben. Pa vn bynnag ai bwytta a'i yfed, ai beth bynnag a wneloch, Gwnewch bob peth er Gogoniant i Dduw medd yr ysgrythur, 1 Cor. 10. 31. Y mae 'r Duwiolaf yn gwybod, eu bod hwynthwy ar brydiau, wrth gyflawni rhyw Ddyledswyddau, â pheth amcan ynthynt, i gei­sio ei mawl ei hun, ac nid Gogoniant Duw yn hollawl. Oni buasai fod gwreiddyn y pechod hwn yn y rhai grasol, ni rag-rybyddiasai Crist moi Ddiscyblion (fal y gwnaeth ef) i ochelyd rhagddo, Mat. 6. 1, 2. &c.

Pa fodd gan hynny y gallwn ni haeddu ffafor Duw, Cyfiawnháad a Bywyd tragwyddol trwy weithredoedd y Gyfraith, gan fod ein vfydd-dod ni iddi mor ammherffaith? Nid yw hi 'n addaw Bywyd tragwyddol i neb, ond ir sawl sy 'n vf­yddhau iddi ag vfydd-dod cyflawn. Cedwch fy Neddfau a'm Barnedigaethau medd yr Arglw­ydd; a'r Dyn a'i cadwo a fydd byw ynddynt a thrwyddynt; Ac y mae hi 'n melltithio y rhai sydd yn ei throsseddu hi yn y messur lleiaf: Cynnifer ac y sydd o weithredoedd y Ddeddf, tan felldith y maent, canys scrifennwyd, melldigedig yw pob vn, nid yw yn aros yn yr holl bethau, a scrifennir yn llyfr y Ddeddf, iw gwneuthur hwynt, [...]ev. 18. 5▪ Rhuf. 10. 5. Gal. 3. 10.

[Page 24] Os dywedir fod y scrythurau ym mynegi, fo [...] rhai Dynion yn Berffaith yn y Byd hwn, megi [...] Noah a Job, Gen. 6. 9. Job 1. 1. &c. Yr wi ' [...] Atteb, fod Dau fath o Berffeithrwydd.

Yn Gyntaf, y mae Perffeithrwydd o Rannau.
Yn Nessaf, y mae Perffeithrwydd o Raddau.

Y mae Plentyn byw newydd eni yn Ddyn per­ffaith, pan y bo gantho bob Aelod y ddylai fod yn ôl trefn nattur, mewn Dyn; A thymma i chwi 'r Perffeithrwydd o Rannau: Ond pan y tyf [...] y Plentyn hwn yn ei Ben, a'i Ddwylo, a phob Aelod arall, ir mann eithaf o'i faintioli, yna y mae fo gwedi cyrhaeddyd y Perffeithrwydd [...] Raddau▪

Yn yr vn modd, pan yr ail-enir ac a gweithie [...] Grâs mewn Dynion, y mae ynthynt bob rha [...] o'r Dyn neu'r nattur newydd, sef Gwybodaeth o Dduw, Ffydd yn Nuw, Cariad at Dduw, Go­styngeiddrwydd ger bron Duw, a Thueddiad i wneuthur cyfiawnder a thrugaredd, ac i ddangos cariad iw cymmydogion &c. A thymma 'r Per­ffeithrwydd o Rannau yn y Dyn newydd, Eph▪ 4. 24. Joan. 1. 16. Eithr pan y cynnyddo Grâs yn y sawl a ail-anwyd, sef, pan y mae yn thynt Wybodaeth helaethach, Ffydd gryfach Cariad gwresoccach, Gostyngeiddrwydd iselach, [...] Chyfiawnder a Chariad cyflawnach, Dymma 'r Perffeithrwydd o Raddau. Yn awr nid ydys y [...] cyrhaeddyd y Graddau vchaf o Râs yn y Byd presennol, ond y mae Pobl Dduw yn ymesty [...] [Page 25] at y pethau o'r tu blaen, gan fyned rhagddynt o râs i râs, ac felly y maent hwy yn mwynhau rhai graddau o Berffeithrwydd yn y Byd hwn, ac y maent yn gobeithio cael y graddau mwyaf o honaw yn y Byd a ddaw. Phil. 3. 12, 13, 14.

Ac am hynny pan y dywedir, fod Noah, Job ac eraill yn wyr perffaith, nid oes i ni ddeall mo'r peth felly, fal pe buasent hwy wedi llwyr ufyddhau i Gyfraith Dduw, yn y graddau uchaf o berffeithrwydd; ond yr oeddent hwy yn gyfrannogion o bob grâs, ac mewn uniondeb ca­lon yn ymdrechu, i ufyddhau i bob rhan o'r Gy­fraith; ac felly yr oeddynt yn berffaith â'r perffeithrwydd o rannau, yn yr un ystyr ac y dywedir, fod Zacharias ac Elizabeth yn gyfi­awn ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau 'r Arglwydd yn ddiargyocdd. Luc. 1. 6. Nid oedd yr un o honynt heb eu beiau. Preg. 7. 20. 1 Joan. 1. 8. Yr ym ni'n darllain am feddwdod Noah, am waith Job yn mell­dithio Dydd ei enedigaeth, ac hefyd am ang­hrediniaeth Zacharias.

Y mae yn y byd hwn râs a gwendid, cnawd ac yspryd, yn aros ynghyd yn y goreu o Ddy­nion, megis y mae goleuni a thywyllwch yn gymmyscedig a'i gilydd o dorriad y wawr hyd godiad haul, ac o'i fachludiad ef, hyd oni bo hi yn nôs; er bod grâs yn drech nâ gwendid yn y rhai grasol, megis y mae'r goleuni yn drech nâ'r tywyllwch ar yr amseroedd hynny. Y mae Pechod yn aros, er nad yw e 'n arglwy­ddiaethu [Page 26] yn y rhai duwiol, megis y mae e mewn rhwysg yn yr annuwolion. Gal. 5. 17. Rhuf. 7. 17. &c. Rhuf. 6. 14.

Yr Ail Rheswm pa ham nad allwn ni haeddu Cyfiawnhaad, a Bywyd tragwyddol, trwy ein Gweithredoedd ein hun, ydyw, o herwydd pe bae ein ufydd-dod ni ir Ddeddf yn berffaith (yr hyn nid ydyw) etto ni byddei hynny ond taledigaeth o un o'n Dyledion i Dduw. Y mae'r peth yn sefyll rhyngom a Duw fal hyn.

Yr ym ni'n rhwym yn Gyntaf, i Gyflawni, a'n holl Galonnau, er Gogoniant i Dduw, y cwbl oll, y mae fo yn ei Gyfraith, yn ei orchymyn i nyni iw wneuthur.

Yn Ail yr ym [...]i'n rhwym i ymgadw rhag trosseddu Cy [...]raith Dduw, gan ymattal oddiwrth wneuthur pethau gwaharddedig ynthi; neu i roddi llwyr daledigaeth iw Gyfiawnder ef, trwy ddioddef Cospedigaethau am ein trosseddiadau.

Myfi a ddangosais eisus, fod ein vfydd-dod ni (trwy yr hyn yr ym yn ymdrechu cyflawni pe­thau gorchmynedig) yn ammherffaith iawn; Ac felly yr ym ni yn ffaelu talu i Dduw ein Dyled cyntaf: A phe gallem, trwy ufydd-dod per­ffaith, dalu y Dyled hwnnw, dros yr amser presennol, ni ryddháei hynny mo honom oddi­wrth ein hail Ddyled, trwy yr hwn yr ym ni 'n rhwym i ddioddef cospedigaethau am ein pecho­dau: oblegit nid ym ni, trwy ein ufydd-dod presennol yn bodloni cyfiawnder Duw, am ein anneirif drosseddiadau oi Gyfraith sanctaidd ef, [Page 27] yn yr amser cynt: Megis pan y bo ar wr trwy fands ddau Ddyled iw dalu, un o ugain, a'r llall o ddeugain punt, nid yw ei waith ef yn cym­meryd i fynu y naill fand, wrth dalu y naill ddy­led o ugain, yn ei ryddháu ef oddiwrth yr ail ddyled o ddeugain punt, y sydd ddyledus wrth y band arall.

Yn awr, megis y prwfiwyd, nad ym ni yn talu ein dyled eyntaf i Dduw, trwy wneuthur yr holl bethau gorchmynnedig yn y Ddeddf; Felly mi a brwfiaf, nad ym ni'n abl talu ein hail ddyled iddo, er dioddef o honom gospedigae­thau amserol a thragwyddol am ein trosseddiad o'i Gyfraith sanctaidd ef, trwy wneuthur pe­thau gwaharddedig ynthi. Ac fal y bo i chwi ddeall hyn yn well.

Ystyriwch yn gyntaf, ein bod ni yn haeddu am ein pechodau, bob math o Felltithion a Bar­nedigaethau corphorol ac ysprydol yn y byd hwn, a Damnedigaeth tragwyddol yn y Byd a ddaw: Yr ym ni yma yn haeddu clefydau, co­lledion, caethiwed, Dallineb meddwl a chale­drwydd calon &c. Deut. 28. 15. &c. Esay 6. 9, 10. Ac ar ol hyn, yr ym ni'n haeddu cael ein rhan yn uffern, gyda'r Diawl a'i Angelion yn oes oesoedd. Rhuf. 6. 23. Dat. 21. 8. Mat. 25. 41. Preg. 11. 9.

Er nad yw Duw yn cospi pawb am eu pecho­dau yn y byd hwn, Jer. 12. 1, 2. megis y cospodd efe yr hên Fyd a'r Dwr diliw, Pharao a'i Lû â destryw yn y môr coch, a'r Iddewon â [Page 28] chaethiwed Babylon: Etto trwy gospi rhai yma, ym-mhob oes, y mae Duw yn dangos (trwy hynny) pa bethau y ddichon efe eu gwneuthur, a pha bethau yr ydym ni yn eu haeddu yn y byd hwn, pe gwnelai efe â nyni yn ôl ein han­wireddau. Megis y mae lladron a llofryddion yn haeddu cael eu erogi, er nas crogwyd hwynt etto: Felly yr ym ninnau yn haeddu pob math o ddialeddau am ein drygioni, er nas dis­gynnasant hwy hyd yn hyn ar ein gwartha.

Y Rhesymmau pa ham nad yw Duw yn cospi pawb o'r drwg weithredwyr yn y Byd hwn, à chospedigaethau corphorol, ydyw, o herwydd ei fod ef yn hir ymarhous tuag attynt, heb ewyllysio bod n [...]b yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch; ac hefyd, oblegid fod gan­tho ddigon o amser, i cymmeryd hwy yn llaw, i cospi hwynt ar ôl hyn, onis edifarháant yma. 2 Pet. 3. 9. Preg. 11. 8, 9. Ac ysgatfydd, nid yw Duw yn ymweled â rhyw fath o Ddy­nion annuwiol, â barnedigaethau corphorol, ob­legid eu bod nhwy eisoes yn gorwedd tan far­nedigaethau ysprydol, sef, Dallineb meddwl, a chaledrwydd calon (y tostaf o holl farnedi­gaethau Duw yn y byd presennol, canys pan y bo pobl yn gorwedd dan y Barnedigaethau hyn, y maent yn crino ac yn sychu, fel y bont yn danwydd cymmwys, i gael eu llosci yn y tân uffernol) Esay 6. 9, 10. Joan. 12. 40. Matth. 3. 10.

[Page 29] Ac er nad yw Barnedigaethau corphorol yn y Byd hwn, ond ceryddon oddiwrth Dduw ir Duwiol, megis oddiwrth ei Tâd, i fflangellu au chwipio hwynt oddiwrth eu pechodau (yn tarddu allan o'i gariad ef tuag attynt, fel na bônt gyda 'r Byd yn golledig) etto y maent hwy yn wir gospedigaethau ir Annuwiol, gan eu bod yn dyfod arnynt, allan o gasineb a digo­faint Duw tuag attynt, gan fod yn ernes iddynt o'r Dialeddau, a orfydd arnynt hwy ddioddef am eu pechodau, yn y Byd a ddaw. Heb. 12. 6. 1 Cor. 11. 32. Psal. 5. 5. Psal. 7. 11. Lev. 26. 41.

Ystyriwch yn nessaf, nad yw cospedigaethau yr annuwiol yn y byd yma, yn gyflawn dal­ment a iawn i Dduw am eu pechodau hwynt oblegid fe orfydd ir sawl sy'n dioddef ar y Ddaiar (y Sydd yn marw yn anedifeiriol) ym­ddangos drachefn o flaen Crist y dydd diwetha, i dderbyn barn o gospedigaeth tragwyddol yn uffern.

Fe ddioddefodd Bobl Sodom yn y byd hwn ddialeddau am eu drygioni; canys fe'i dife­thwyd hwy â thân a Brwmstan o'r nefoedd; ac y mae eu heneidiau nhw yn dioddef yn awr yn uffern (Jud. 7.) er hynny, rhaid iddynt hwy ymddangos ger bron Crist y Dydd diwethaf, i fyned tan farn, i ddioddef cospedigaeth trag­wyddol yn y byd y ddaw, am eu ffiaidd wei­thredoedd.

[Page 30] Pan y mae C [...]ist yn dywedyd, y bydd es­mwythach i Dir Sodom, yn nydd y farn, nag i Capernaum, nid yw hynny yn prwfio, na bydd dim cosp i bobl Sodom, on [...] y bydd llai o gosp iddynt hwy nag i bobl Capernaum ar y Dydd mawr hwnnw: Ond Gwae! Gwae! Gwae ir s [...]wl a orfydd dioddef y [...]ospedigaeth lleiaf yn vffern!

Ac oddi ymm [...] dyscwn, mai megis y bydd rhaid i bobl [...]odom ddioddef barn yn y byd a ddel, er iddynt fyned tan hynny eisys yn y byd presennol: Fe [...]ly y bydd rhaid i bob math o bechaduriai [...] eraill (y sy'n marw yn anedifei­riol) fyned tan y Farn ddiweddaf, er dioddef o honynt, cyn hynny, ryw Ddialeddau ar y Ddaiar; canys y mae'r Duw cyfiawn yn trîn pawb, ac yn dwyn eu hunan tuag at bawb, yn yr un ddull a modd, o ran ei Farnedigaethau yn y byd a ddaw, gan gospi yn esmwythach neu yn drymmach, fal y bo pechodau dynion yn gofyn. 1 Pet. 1. 17.

Yn awr pe bai cospedigaethau daiarol yn gwbl iawn i Dduw am drosseddu ei Gysraith ef, ni chospai efe y cyfryw drosseddwyr ar ol hyn am ei trosseddiadau. Nid yw Llywo­draethwyr y byd hwn yn rhoddi lle, i alw am ail iawn am drosseddiad, gwedi i'r Trossedwr roddi iawn unwaith o'r blaen am dano; llai o lawer y gwna 'r Duw cyfiawn felly. Yn gym­maint gan hynny, ac y gorfydd ir rhai Drygio­nus, a ddioddefasant yma oddiar law Dduw, [Page 31] ddioddef hefyd ar ôl hyn, yn y byd y ddaw, y mae 'n eglur ddigon oddiwrth hynny, nad yw'r cospedigaethau, y sy'n disgyn ar yr annuwolion yn y byd presennol, yn gyflawn daledigaeth i Dduw am eu pechodau hwynt; canys pe bai 'r peth felly, ni chyttunai a'i gyfiawnder ef, i alw am daledigaeth arall oddiwrthynt yn y byd y ddaw.

Ac megis nad yw cospedigaethau daiarol, felly nid yw cospedigaethau uffernol yn daledi­gaeth gyflawn i Dduw, am drosseddu ei gy­fraith ef. Ac fal y bo i chwi ddeall hynny.

Ystyriwch yn Gyntaf: mai ammhossibl ydyw; fod uffernol ddioddefiadau Creadur terfynnol, yn gyflawn daledigaeth am drosseddiadau yn erbyn y Duw mawr annherfynnol: Canys nid oes dim cymmesurwydd a chyfattebiad rhwng cospedigaethau Dynion terfynnol a chyfiawnder annher fynnol y goruchaf Dduw.

Yn nessaf ystyriwch, Pe bae Dioddefiadau 'r Damnedig yn uffern, yn gyflawn daledigaeth i Dduw am eu hanwireddau hwynt, yna fe ollyn­gai Duw iddynt ddyfod allan o'i carchar, ob­legit y mae'n wrthwyneb iw gyfiawnder ef i wneuthur yn amgenach. Yn awr, yn gymmaint ac nas gollyngir y damnedig allan oi carchar uffernol, ond y gorfydd arnynt hwy aros a dioddef yno tros fyth, y mae hynny yn egluro i ni; nad yw eu dioddefiadau nhwy yn uffern yn gyflawn daledigaeth i Dduw am eu trosse­ddiadau. Matth. 25. 41. Y mae carcha­rwr [Page 32] yn y byd hwn, yn ol rheol Cyfraith a chy­fiawnder Dynion, yn cael ei ollwng allan o'r carchar, yn yr hwn y buasai fo yn gorwedd yn hir o ams [...]r am ryw ddyled, pan y bo ei ddyled ef unwaith gwedi ei dalu; ac oni wna y Duw cyfiawn feily yn y matter ymma, gan nad oes y [...]tho ef y gronyn lleiaf o anghyfiawnder? Psa. 145. 17. Rhuf. 3. 5, 6.

Ac fal hyn chwi a welwch, nad ym ni yn abl talu mo'n Dyledion i Dduw, a thrwy ganlyni­aeth, nad yw bossibl i ni haeddu ffafor Duw, cyfiawnháad, a bywyd tragwyddol, trwy 'n ufydd­dod ir Gyfraith neu 'n cyfiawnderau ein hunain.

Ond pe gallem ni dybied, y dichon pobl dalu i Dduw eu Dyledion; etto ni ellir dy­wedyd, eu bod nhw trwy hynny, yn haeddu ffafor Duw a Bywyd tragwyddol, mwy nag y gellir dywedyd, fod Dyledwr yn haeddu cael Tŷ, a Thyddyn mawr o Dîr, a llawer o Dryssor gyda hynny, oddiwrth ei Echwynwr goludog, pan y bo 'n talu iddo gant, neu ddau­cant o bynnau o Ddyled a ydoedd ddyledus iddo.

Heblaw hyn, y mae 'r ys [...]rythur yn dangos yn eglur, fod Duw yn cyfiawnhau Pechadur (sef y Credadyn edifeiriol) yn rhâd, ac mai Dawn neu Rôdd Duw ydyw Bywyd trag­wyddol: Ac os yn rhôdd ac yn rhâd yr ydys yn cael y pethau hyn; pa fodd y gellir dywe­dyd ein bod ni yn eu haeddu hwynt. Rhuf. 3. 24, 26. Rhuf. 6. 23. Rhuf. 11. 6.

[Page 33] Ym-mhellach, Rhaid yw ir pethau, y sydd yn haeddu gobrwy oddiar Ddwylo neb, fod o'r fath nattur, ac nad ydynt hwy yn ddyledus iw cyflwyno a'u rhoddi, ir sawl sy'n eu derbyn hwynt; a rhaid iddynt fod yn gyfryw bethau, ac y bo y Derbynniwr yn well oi herwydd trwy gael rhyw lesáad oddiwrthynt.

Eithr yn awr, y mae 'r cwbl o'n hufydd-dod ni yn Ddyledus ir Goruchaf, pa vn bynnag ai gwneuthur yr ydym ni Bethau Gorchmynnedig, ai dioddef am wneuthur Pethau Gwahardde­dig, neu am esceuluso gwneuthur pethau gorch­mynnedig: Canys Teilwng ydyw fo i dderbyn vsydd-dod oddiwrthym, oblegit mai Efe yw ein Creawdwr, ein Cynhaliwr, ein Tâd a'n Bre­nin; ac nid ym ni yn meddiannu dim y sy dda, ond yr hyn y gowsom oddiwrtho ef.

Ac os ydyw ein vfydd-dod yn ddyledus i Dduw (fal y mae 'n ddilys ei fod e) pa fodd y gellir dywedyd ein bod ni trwy hynny yn hae­ddu dim sydd dda oddiar ei Ddwylo ef?

Ac ym mhellach, Nid yw Duw yn derbyn dim llesáad oddiwrth ein vfydd-dod ni: Canys yr oedd efe yn gwbl ddedwydd yntho ei hun, cyn iddo greo Angelion a Dynion (neu vn Crea­dur arall) a chyn derbyn vn math o vfydd-dod oddiwrthynt: A phe baent oll wedi eu destryw­io, fal na byddai mwyach ddim sôn am da­nynt; etto fe feddiannei Duw tros fyth ei ddedwyddwch perffaith, yr hon yr oedd efe yn ei fwynhau cyn creo vn o honynt. Canys [Page 34] ni ellir lleiháu mo'i sylweddol ogoniant ef, nac angwanegu atto, oblegid ei fod ef yn anghyf­newidiol. Psal. 16. 2. Job 35. 7, 8. Jac. 1. 17.

Pan y dywedir fod Angelion a Dynion yn gogoneddu Duw, nid oes i ni dybied, fod ei ogoniant sylweddol ef yn cael dim angwanegiad oddiwrthynt: Eithr y maent yn cyhoeddu trwy eu hyfydd-dod iddo, eu bod hwynt-hwy yn ei gyfrif ef mor dda ac mor ogoneddus, ac y mae fo 'n wîr deilwng i dderbyn Anrhydedd a mawl oddiwrthynt hwy, a'i holl Greaduriaid eraill, yn y dull a'r modd y mae pob vn o honynt (yn ei ryw) yn abl cyflawni hynny. Dat. 5. 11. &c.

Chwi a welwch gan hynny wrth hyn, 1. Nad yw bossibl i Ddyn, trwy ei weithredoedd ei hun, neu trwy [...]i vfydd-dod ir Ddeddf, haeddu ffafor Duw, a ch [...]el ei gyfrif yn gyfiawn gantho, a chael Bywyd tragwyddol oddiwrtho. 2. Nad ym ni oll, wedi gwneuthur y cwbl a orchymyn­nwyd i ni, ond Gweision anfuddiol, Luc. 17. 10. 3. Nad yw Duw yn Ddyledwr i Ddyn, ac nad oes gan vn Dyn achos i orfoleddu ger ei fron ef, f [...]l pe bae 'n a [...]l haeddu dim y sydd dda oddiar ei Ddwylo ef. Rhuf. 4. 2, 4. Rhuf. 11. 6.

Ac i d ib [...]nnu y matter ymma, Mi a angwa­n [...]gaf hya, fod y Dyn sydd yn tybied, y di­chon e trwy ei vfydd-dod ammherffaith haeddu ffafor Duw a Theyrnas Nefoedd, cyn ddwled, ac mor ynfytted, a'r sawl sy'n gobeithio, y gall ef, â phunt o Arian, bwrcassu cymmaint o Dai [Page 35] a Thiroedd ac a dalant Ddeng mil o bynnau yn y flwyddyn, yr hyn beth nid yw byth bossibl; canys nid oes dim cyfattebiad a chymmessu­rwydd, rhwng y naill a'r llall.

Os gofynnwchi yn awr, pa fodd gan hynny, y gallwn ni fod yn gyfrannogion o'r pethau ymma? Yr wi'n atteb, fyned yr Arglwydd Iesu Grist yn Fachniudd tros ei bobl, ac efe a dalodd eu holl Ddyledion hwynt, ac a haeddodd Gyfiawnháad, ffafor Duw, a Bywyd tragwy­ddol trostynt. Heb. 7. 22.

Yn Gyntaf, Fe roddes Crist i Gyfraith Dduw vfydd-dod perffaith; canys ni wnaeth efe bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau, ond efe a wnaeth y cwbl ar a orchymmynnir yn y gyfraith iw gy­flawni: Ac fal hyn y talodd ein Machniudd Crist Iesu ein Dyled cyntaf ni; A thrwy ei vfydd­dod ef wedi ei gyfrif idd ei bobl, y cyfiawnheir hwynthwy. 1 Pet. 2. 22. Joan. 17. 4. Rhuf. 5. 19.

Yn Ail, Fe roddodd Crist iawn i Dduw am waith ei bobl ef yn trosseddu ei Gyfraith sanct­aidd ef, trwy offrwm ei hun ar y Groes yn Aberth o arogl peraidd iw Dâd, am eu pecho­dau hwynt, gan ddioddef digofaint Duw yn ei enaid a'i gorph am danynt; ac yntho ef y bod­lonwyd y Goruchaf; ac fal hyn y talwyd ein hail Ddyled. 1 Joan. 2. 2. Eph. 5. 2. Esay 53. 10. Mat. 27. 46. 1 Cor. 15. 3. Mat. 3. 17.

Ac er na pharháodd Dioddefiadau Crist ond tros ychydig o amser; etto gan ei fod ef yn [Page 36] Dduw yn gystal ac yn Ddyn, a bod y fath vn­deb agos rhwng yr ail Berson o'r Drindod a'i Ddyndod ef (fal nad yw y ddwy anian neu nattur yn gyssylltiedig, ond vn Crist, ond vn Cyfryngwr) yr oedd ei Ddioddefiadau amserol ef (am y rheswm hynny) yn fwy mewn prîs a gwerth na holl ddioddefiadau pechaduriaid yn y Byd hwn, ac yn y Byd a ddaw.

Yr oedd Duwdodd Crist yn dodi 'r fath rin­wedd yn nioddefiadau ei Ddyndod ef (trwy yr vnd [...]b oedd rhwng y naill nattur a'r llall) ac y cyfrifir yn yr yscrythur Ddioddefiadau 'r Dyn­dod, yn Ddioddefiadau 'r Duwdod; am hynny y dy [...]edir wrth Henuriaid Ephesus, Bugeiliwch Eglwys Dduw, yr hon a bwrcassodd efe â'r briod waed: Yn awr nid oedd gan Dduw ddim gwa­ed iw golli, ond yr oedd gan Grist fal yr oedd e 'n Ddyn waed iw golli: Etto gan fod Crist yn Fab Duw ac yn Fab Dyn mewn vn Person, fe gyfrifir ir naill nattur, y sy 'n rhoi enw ir Person, yr hyn sy briodol a pherthnassol ir nattur arall. Act, 20. 28. Heb. 9. 14.

Ac f [...]lly, megis y prophwydwyd am Grist, efe a ddygodd i mewn Gyfiawnder tragywy­ddawl iw gyfrif iw bobl, ac a wnaeth iawn a chymmod tros eu hanwireddau hwynt; a thrwy hyn gwneir hwy yn gymmeradwy gyda Duw, yn deilwng i gael ei ffafor a'i heddwch ef, ac i gael ymwared rhag Damnedigaeth, ac o'r di­wedd i feddiannu Bywyd, Gorphwystra, Llaw­enydd, Gogoniant, a pheth sydd fwy na hyn oll, [Page 37] Cyfeillach gyda Duw, tros fyth yn y Nefoedd. Dan. 9. 24. Heb. 9. 12, 14, 15. 1 Cor. 1. 30. Rhuf. 5. 1. Rhuf. 8. 1. Rhuf. 6. 23. 1 Thess. 4. 17.

Er hyn i gyd, Rhaid i ni feddwl, am y sawl a gyfiawnheir ac a gedwir trwy Grist, fod y rheini hefyd yn cael eu sancteiddio a'u puro gan yr Yspryd glân, cyn belled ac nad yw pe­chod yn Arglwyddiaethu ynthynt Rhuf, 6. 14. Act. 15. 9. A phan y bônt yn cwympo i be­chod mewn awr o Brofedigaeth, y mae 'r peth yn gâs yn ei golwg hwynt, ac nid ydynt fodd­lon iddo, Rhuf. 7. 15. eithr y mae ei hyfry­dwch hwy yng-hyfraith yr Arglwydd, ac y mae ei ewyllys hwynt yn tueddu i wneuthur ei ewy­llys ef; ac y mae y rhan fwyaf o'i bywyd hwy yn gyfattebol idd ei gyfraith sanctaidd ef. Rhuf. 7. 22. Psal. 1. 2, 3.

Ni ellir symmyd Sancteiddiad oddiwrth Gyfi­awnháad, mwy nag y gellir symmyd Glybrwydd oddiwrth y Dwr, Gwrês oddiwrth y Tân, a Goleuni oddiwrth yr Haul: Ac am hynny, y mae y rhai sy'n ymdrybaeddu yn eu pechodau (gan fyw ac ymhyfrydu ynthynt) yn twyllo eu hunain, pan y tybiant eu bod wedi eu cyfiawn­hau trwy Grist, a'u bod hwy wedi eu dwyn i stât o iechydwriaeth. Nid yw ffydd y cyfryw rai, ynghylch ffafor a heddwch Duw, a Bywyd tragwyddol, iddynt eu hunain, ond Rhyfyg ac Ym­ffrost. Jac. 2. 14. &c. A'r Nefoedd honno lle y caiff y fath bobl (sef, os byddant byw a ma­rw [Page 38] yn eu pechodau, yn anedifeiriol ac heb ran yn-Ghrist) fod ynthi ar ôl hyn, ydyw 'r Nefoedd (os gellir ei galw hi yn Nefoedd) lle mae 'r Diawl a'i Angelion ac Eneidiau 'r Damnedig yn presswylio ynthi. 1 Cor. 6. 9, 10, 11. Eph. 5. 5, 6.

Eithr os gofynnwch chi, pa Ddefnydd wei­thian y sydd iw wneuthur o'r Ddeddf? Rwi 'n atteb, mai megis yr oedd y Gyfraith Dde­fodol (yr hon oedd yn appwyntio Aberthau, a Golchiadau cnawdol &c.) felly hefyd y mae y Gyfraith Foesol (sef y Deg Gorchymmyn) yn Athro i'n harwain ni at Grist, Gal. 3. 24.

Pobl (cyn dyfod Crist yn y cnawd) wedi trosseddu y Gyfraith Foesawl, a redent at yr Aberthau a'r Golchiadau a orchymmynwyd yn y Gyfraith Ddefodawl (y rhai oeddynt yn ar­wyaddoc [...] Abe [...]thiad Oen Duw (sef Iesu Grist) yr hwn sydd yn tynnu ymmaith bechodau 'r Byd, a Golchiad yr Enaid trwy ei Waed a'i Yspryd ef) fel y caent Drug [...]redd a Maddeuant Pechodau gan Dduw. Joan. 1. 29. Dat. 1. 5. Heb. 9. 13, 14

Ac er nad oedd ond nifer f [...]chan (megis Abra­ham, a'r Prophwydi, a rhai Seintiau godidawg eraill) a chy [...]byddiaeth eglur ganthynt yng­hylch Iesu Grist; etto yr oedd yr Israeliaid yn gyff [...]edinol yn cr [...]du, ar ei Haberthiad a'i ymol­chiad, y bydd [...]i Duw yn Drugarog wrthynt; ac yn wir yr oedd efe yn drugarog wrth yr edi­feiriol o honynt, ar gyfrif Crist, er nad oedd [Page 39] nemmawr yn gwybod (yr amser hynny) y Dirgelwch mawr hwnnw, sef, Bod Trugaredd, Maddeuant a Iechydwriaeth, iw gael yn vnic trwy Haeddedigaethau, Cyfiawnder, a Marwo­laeth Iesu Grist yr hwn oedd i ddyfod: Ac am hynny, fe ddywedir, nad oedd y Seintiau tan y Gyfraith ond megis Bechgyn, sef, heb y fath wybodaeth a synwyr ganthynt, ac y sydd gan y Seintiau tan yr Efengyl Gal. 4. 3. Ac fal hyn yr oedd y Gyfraith Ddefodawl yn Athro i ddwyn Pobl at Grist.

Y mae 'r Gyfraith Foesawl hefyd, sef y Deg Gorchymmyn yn Athro i arwain pobl at Grist, os iawn ystyrier y matter.

Yn Gyntaf, y mae 'r Gyfraith hon yn dangos, pa bethau y fyn Duw i nyni eu gwneuthur, a pha bethau a fyn e i nyni i gadael heb eu gw­neuthur.

Yn Ail, y mae hi yn ein argyhoeddi ni pan y bôm yn p [...]chu, canys y mae Cydwybod Dyn (ar yr hon y mae 'r Gyfraith wedi ei hyscrifen­nu) yn ei gyhuddo ef yn dra mynych am ei be­chodau: [...]c am hynny medd Paul, Trwy'r Ddeddf y mae adnabod pechod. Rhuf, 2. 14, 15. Rhuf. 3. 20. Rhuf, 7. 7.

Yn Drydydd, y mae hi yn ein bygwth ni am ein pechodau, â phob math o Felltithion yn y Byd hwn, ac â Damnedigaeth tragwyddol yn y Byd a ddaw; a thrwy hynny, y mae hi 'n taro dychryn ynom, ac yn ein cynhyrfu ni, i ymo­fyn am ryw ffordd, yn yr hon y mae Truga­redd, [Page 40] Maddeuant pechodau, Ymwared rhag vffern, a Iechydwriaeth dragwyddol yn y Ne­foedd iw cael. Deut. 28. 15. Ezec. 18. 4. Act. 2. 37. Act. 1. 30.

A thrwy ymofyn am y ffordd yn yr hon y mae Iechydwriaeth iw chael, y mae 'r Pecha­dur trwy 'r Efengyl yn cael copinod ac hyspys­rwydd, nad yw hynny iw gael mewn vn ffordd, ond yn vnic trwy 'r Arglwydd Iesu Grist. Joan. 14. 6. Act. 4 12.

Ac fal hyn y mae 'r Gyfraith Foesawl yn A­thro i'n tywys ni at Grist, trwy fod yn Ach­lyssur ac yn Achos, ar ôl iddi 'n taro ni i lawr, i beri i ni ymofyn am Helpwr i'n cyfodi ni i fy­nu. Nid y Iàch ond y Cleifion sy 'n sefyll mewn Diffyg o'r Meddyg: A'r Gyfraith yn ddilys ydyw 'r peth, gyda bendith Duw, ac y sydd yn ein gwnenthur ni yn deimladwy ac yn glywedigaethus o'n clefydau a'n doluriau ys­prydol. Mar. 2. 17. Rhuf. 3. 20. Rhuf. 7. 7. A thymma i chwi vn defnydd da y sydd iw wneuthur o'r Ddeddf, sef i chymmheryd hi yn lle Athro i'n harwain ni at Iesu Grist, yn y modd y dywetpwyd; sef, y mae 'r Gyfraith ddefodol megis â bŷs yn dangos Crist, a'r Gy­fraith foesol yn peri, i ni ymofyn am Helpwr.

Y mae Defnydd daionus arall iw wneuthur o'r Gyfraith Foesawl, sef, Ni a ddylem ei gwneu­thur hi yn Rheol i'n Bywyd, gan drefnu ein ymarweddiad a'n holl weithrediadau yn ôl y Gor­chymynnion y sy gynnwysedig ynthi. Rhuf. 3. 31. 1 Cor. 9. 21.

[Page 41] Y mae Crist gwedi llwyr osod heibio a dileu y Gyfraith Ddefodawl, canys nid oedd yr Offei­riadau, a'r Aberthau, a'r Golchiadau, ac amryw Ordeinihadau eraill y bwyntiwyd ynthi hi, ond Cyscodau o honaw ef, ac o'i Rinweddau a'i Weithrediadau. Heb. 10. 1. Col. 2. 14.

Y mae Crist hefyd gwedi gwaredu ei bobl oddi­wrth Felltithion y Gyfraith Foesawl, Gal. 3. 13. Er hynny y mae fo 'n Gorchymyn iddynt fy­ned tan ei iau hi, gan ddywedyd mai ei iau ef ydyw hi: Eithr y mae fo 'n ei gwneuthur hi 'n esmwyth ac yn yscafn iw Bobl, trwy roddi ei yspryd iddynt, i cynnorthwyo nhw mewn rhyw fessur i vfyddhau iddi, a thrwy ymfodloni i dderbyn oddiwrthynt vfydd-dod cywir, y sy'n tarddu allan o galon vnion, a phwrpasson onest, a gwir ymdrechiad i fyw yn ôl Rheol y Gy­fraith, er eu bod hwy yn llithro mewn llawer o bethau, ac yn methu a ffaelu vfyddhau iddi yn gyflawn. Mat. 11. 30. 1 Joan. 5. 3. Ezec. 36. 27. Psal. 7. 10.

Ac ym-mhellach y mae fo 'n rasol yn maddeu llithriadau, diffygion a gwendid ei bobl, pan y bônt yn adnewyddu ei hedifeirwch a'i ffydd yn­tho ef. Nid oedd y Gyfraith Foesawl, mal yr oedd hi 'n dyfod allan o law Moesen yn derbyn dim o'r fath beth ac edifeirwch, Ond yr Enaid a becho a fydd marw ydyw llais y Gyfraith honno: Yr Efengyl yn vnic, yn yr hon y mae Crist yn galw am vfydd-dod ir gyfraith (yn gystal ac am ffydd yntho ef) gwedi ei gwneu­thur [Page 42] yn esmwyth ac yn yscafn gantho ef, y sydd yn derbyn edifeîrwch, ac yn addaw maddeuant pechodau ir Credadyn edifeiriol, Heb. 5. 9. Act. 3. 19.

Ac am hynny lle yr ydys mewn amryw fan­nau yn yr hên Destament yn addaw Trugaredd a Maddeuant Pechodau ir sawl a ddychwelent at Dduw, ac ir sawl a oeddent a chalonnau edi­feiriol yn dwyn eu hoffrymmau i Dduw yn ôl y Gyfraith ddefodawl, gwybyddwn yn siccr, mai llais yr Efengyl ac nid llais y Gyfraith ydyw hynny. Nid oes vn ffordd ond vn yn arwain tua 'r Nefoedd. Ar gyfrif neu er mwyn Crist i ddyfod y cadwyd pobl tan yr hên Destament: A thrwy yr vn Crist y sydd gwedi dyfod, yr ydys yn cadw pobl tan y Testament newydd.

A thrwy wneuthur y defnydd daionus ymma o'r Gyfraith Foesawl, fal y mae Crist wedi ei gwneuthur hi'n esmwyth ac yn Rheol i'n bu­chedd, y mae amryw o bethau buddiol eraill yn canlyn, sef, trwy ein ymdrechiad i gyflawni 'r Gyfraith hon,

1. Yr ydym yn Gogoneddu Duw, ac yn dan­gos ein Diolchgarwch iddo am ei Druga­reddau. Joan. 15. 8. Mat. 5. 16.

2. Yr ydym yn harddu 'r Efengyl. Tit. 2. 10.

3. Yr ydym yn rhoddi siampl dda i eraill. 1 Cor. 11. 1. 1 Pet. 3. 1.

[Page 43] 4. Yr ydym yn cael (oddiwrth y ffrwy­thau da hyn) siccrwydd ein bod ni yn ganghennau bywiol, yn y wir winwydde [...] Crist Iesu, a thrwy ganlyniaeth, y cawn ni trwyddo fe feddiannu iechydwriaeth dragwy­ddol. Joan. 15. 5. Mat. 7. 17.

Vn Peth ydyw myned at y Gyfraith er mwyn cael gwellháad buchedd oddi allan, ac er mwyn cael cyfiawnhá [...]d a bywyd tragwyddol trwyddi; A pheth arall ydyw myned at y Gyfraith, i chymmheryd hi, fal y mae Crist wedi ei gwneuthur hi'n esmwyth, yn lle Rheol i'n hymarweddiad, fal y mae hi yn dyfod allan oi ddwylo Bendigedig ef. Am y peth cyntaf y mae Efangy­lwr yn beio ac yn bygwth y Pererin, ac nid am y peth diwetha.

Dychwelwn yn awr at y Pererin yn myned tua Mynydd Sinai, yn ol drwg Gynghor Meistr Bydol-ddoethyn.

Ar hyn yr oedd Cristion yn Amheuo, dowto. pe­truso, ac efe a ymresymmodd yntho ei hunan fal hyn, os gwir y mae 'r Gwr bonheddig hwn yn ei ddywedyd, gwell i mi gymmeryd ei gynghor ef; a chyda hynny eb efe wrth Bydol Ddoe­thyn, Syr Dangoswch i mi y ffordd i Dŷ y Gwr onest hwn.

Bydol-D.
[Page 44]

A weli di y Bryn uchel accw?

Cris.

Gwelaf yn eglur ddigon.

Bydol-D.

Rhaid i ti fyn [...]d wrth yst­lys y Bryn accw; a'r Ty cyntaf yr elych atto yw ei Dy ef.

Felly fe dródd Cristion allan o'i ffordd, i fyned i Dŷ Meistr Deddfol. Legali­ty, i geisio cymmorth: Ond gwedi nessau at y Mynydd Sinai. Bryn, wrth ei weled ef mor vchel, a bod yr ochr nessaf ir ffordd yn crogi allan yn ddirfawr, efe a ofnodd fyned ym-mhellach, rhag ir Mynydd syrthio ar ei ben ef: Ac am hynny efe a safodd yno yn llonydd, heb wybod pa beth a wnai. Yr oedd ei faich hefyd (yn ei dŷb ef) yn drymmach yr awron nâ chynt, tra yr ydoedd efe yn ei ffordd. Daeth hefyd fflammau o Dân allan o'r Mynydd, y rhai a wnae­thant i Gristion ofni y lloscid ef. Exod. 19. 16, 18. Heb. 12. 21. Yma gan hynny y chwyssodd ac y crynodd efe gan ofn. Ac yn awr yr oedd yn ddrwg gantho, am iddo dderbyn Cynghor Meistr Bydol Ddoethyn. A chyda hyn­ny, fe a g [...]nfu Efangylwr yn dyfod iw gyfarfod ef; ac wrth ei weled ef, fo ddechreuodd Cochi. wridio gan gywilydd. Efangylwr gan hynny a ddaeth atto, ac a edrychodd arno ag wyneb-pryd [Page 45] Sarrug ac ofna­dwy. gerwin ac erchyll, ac a ymresym­modd â Christion fal hyn.

Efang.

Cristion eb efe, pa beth a wnei di yma? ond ni wyddai Cristion pa beth yr attebai iddo; ac am hynny efe a safodd Dros en­nyd fechan dro bach yn fûd ger ei fron ef. Yna y dywedodd Efangylwr ym­mhellach wrtho, onid Tydi yw 'r Dyn y glywais i yn llefain Yn gwyn­fannus. yn irad o'r tu allan i Gwelydd furiau Dinas destryw?

Cris.

Ie Barchedig Syr, Myfi ydyw 'r Dyn hwnnw.

Efang.

Oni chyfarwyddais i tydi, ir ffordd sy 'n arwain tua'r Porth bychan?

Cris.

Do Barchedig Syr ebe Cristion.

Efang.

Pa fodd gan hynny y cyfeili­ornaisti mor ebrwydd; canys yr wyt ti yn awr allan o'r ffordd?

Cris.

Er cynted ac y daethym i allan O Gors Anobaith, mi a gyfarfyddais a Gwr bonheddig, yr hwn a'm perswa­diodd i, fod vn Yn trigo yn taring yn y Pen­tref o'm blaen, ac a allai 'm dadlwytho i o'm Baich.

Efang.

Pa fath wr ydoedd efe?

Cris.

Yr oedd gwêdd Gwr bonhe­ddig gantho, ac efe a siaradodd lawer a'm fi; ac o'r diwedd, a wnaeth i mi fod yn fodlon i ddilyn ei Gyngor ef; ac felly mi a ddaethum yma: Eithr pan y gwelais i vchder y mynydd hwn, [Page 46] a'r môdd y mae 'n crogi vwch ben y ffordd, mi a ymatteliais yn ddisymmwth oddiwrth fyned yn nessach atto, rhag iddo syrthio ar fy mhen.

Efang.

Pa beth a ddywedodd y Gwr bonheddig hwnnw wrthych chwi?

Cris.

Efe a ofynnodd i mi, i ba le yr oeddwn yn myned, ac fo 'm holodd i, a oedd Teulu gennif? Ac mi a fy­negais iddo, fy mod i yn myned tua Mynydd Sion, a bod genni Deulu: Eithr ebe fi, yr wyf mor llwythog gan y Baich sydd ar fy nghefn, fal nas gallaf ymhyfrydu ynthynt megis cynt.

Efang.

A pha beth a ddywedodd yntef ynghylch hynny?

Cris.

Fo 'm cynghorodd, i ymor­chestu i ymddilwytho yn ebrwydd; a minne a'i hattebais ef, mai esmwyth­dra oedd dymuniad fy nghalon i: Ac am hynny ebe fi, yr wi 'n myned tua 'r Porth accw, i gael gwybod pa le y cafi ymwared. Yntef a ddywedodd wr­thyf, y dangosai efe i mi well a nessach ffordd, ac â llai o beryglon ynthi, nag y sydd yn y ffordd, Syr, y gosodasoch chwi fi arni: Ar ffordd hon eb efe a'ch dwg chwi yn vnion i Dŷ Gwr bonhe­ddig, y feidr ddilwytho pobl, o'r fath lwythau a hyn. Felly mi a'i credais ef, ac a droais ir ffordd hon, oddiar y [Page 47] ffordd yr oeddwn i arni trwy 'ch cy­farwyddiad chwi, i edrych (yn rhyw fodd) a gawn i esmwythdra oddiwrth fy Maich. Eithr pan y daethum ir lle hwn, a gweled y pethau sydd yma, mi a ymatteliais oddiwrth fyned ym­mhellach, rhag ofn perygl: Ac yn awr nis gwn i pa beth a wnaf.

Efang.

Yna ebe Efangylwr, Sâf yn llonydd ychydig, a mi a yspysaf i ti [...]iriau Duw, ac felly efe a safodd ger ei fron ef yn ddychrynnedig. A Dywe­dodd Efangylwr wrtho fal hyn. Edry­chwch na wrthodoch yr hwn sydd yn lle­faru, oblegid oni ddiangodd y rhai a wrthodasant yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaiar, mwy o lawer nis diangwn ni, y rhai ydym yn troi ymmaith, oddiwrth yr hwn sydd yn llefaru o'r Nêf. Heb. 12. 25. A'r Cyfiawn a fydd byw trwy ffydd; eithr o thynn neb yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo, Heb. 10. 38. Ac efe a gymmwysodd yr ys­grythurau yma at Gristion fal hyn; Ty­di ydyw 'r Dyn y sydd yn rhedeg ir trueni hwn; Ti a ddechreuaist ddiystyru cynghor y Goruchaf, trwy droi oddiar ffordd He­ddwch. Dangneddyf, ie o fewn ychydig i berygl damnedigaeth.

Ar hyn fe a syrthiodd Cristion i lawr wrth eî draed ef megis yn farw, gan [Page 48] lefain, Gwae fi! Canys darfu am da­naf. Ac wrth weled hynny, fe yma­flodd Efangylwr yn ei law ddehau ef, gan ddywedyd, Fe fa­ddeuir pob pechod i Ddynion, os edifar­haant, Act. 3. 19. A thyna vn rheswm pa ham na faddeuir ir sawl sy'n cablu yn erbyn yr yspryd glân, sef, oblegit mai amhossibl ydyw, ir cyf [...]yw rai ymadnewyddu drachefn i edif [...]irwch, Heb. 6. 4, 6. Y mae Dynion yn pechu yn erbyn yr y pryd glân, pan y bont, nid trwy wendid ac ofn, megis Petr, neu trwy anw [...]bodaeth megis Paul, yn gwadu ac yn gwrthwy­nebu Crist Iesu a gwirionedd yr efengyl; ond pan y bont hwy o wir gasineb a chyndynrwydd, yn erbyn argyoeddiadau ac eglurháad yr Yspryd glân, yn gwrthwynebu, yn cablu, ac yn erlid Crist a'i Efengyl, megis y gwnaeth y Pharisaeaid, y rhai oeddynt yn barnu, mai trwy Beelzebub yr oedd Crist yn bwrw allan Gythreuliaid, pan y gallasent yn hawdd ddeall, mai trwy allu Duw yr oedd efe yn gwneuthur hynny; canys pe bwriasai Sa­tan gythreuliaid eraill allan o Ddynion mewn amcan da, sef, i ogoneddu Duw, ac i wneuthur y cyfryw, neu neb rhyw Ddynion eraill yn dduwiol (trwy weled y fath wrthiau) yr hyn beth yr oedd Crist yn ei amcanu yn ei holl wrthiau) yna fe a fyddai wedi ei ymrannu yn ei erbyn ei hun, ac ni safai moi Deyrnas ef, Mat. 12. 24. &c. Pob pechod a chab­ledd a faddeuir i Ddynion, onid y ca­bledd yn erbyn yr yspryd glân, Mat. 12. 31. Na fydd Anghredadyn ond Credadyn. Yna yr ymadfywiodd Cri­stion ychydig drachefn, ac a safodd yn ddychrynnedig megis ar y cyntaf o flaen Efangylwr.

A chan fyned rhagddo, fe lefarodd Efangylwr wrth Gristion, fal hyn, Craffa yn well ar y pethau a adroddaf wrthyt, a myfi a ddangosaf i ti [Page 49] Yn awr▪ yr-wan, pwy ydoedd yr hwn a'th dwyllodd di, a phwy hefyd ydyw yn­tef, at yr hwn ith ddanfonodd di.

Y Gwr a gyfarfu â thi, yw Bydol Ddoethyn; a da iawn y gelwir ef felly, oblegit, Yn gyntaf, nid yw efe yn clywed blâs yn y byd ar vn math o athrawiaeth, ond yn vnic ar Athrawiaeth y Byd hwn; ac am hynny, y mae fo 'n cyr­chu yn ddibaid, i gynnulleidfa 'r Dynion sifil onest oddi allan. moesgar, yn Nhref Gwedd­eidd-dra oddi allan. Moesgarwch. 1 Joan. 4. 5. Ac yn ail, oblegit ei fod e 'n caru yr athrawiaeth honno yn oreu, am ei bod hi yn ei gadw ef yn well nâ dim arall rhag herledigaeth, Gal. 6. 12. Ac o herwydd ei fod ef o'r dymer gnawdol yma, y mae fo 'n ymdrechu, i droi pobl oddiar fy ffyrdd i, er vniawned ydynt. Y mae tri pheth ynghyngor y Gwr hwn, ac a ddylit ti eu llwyr ffieiddio.

  • 1. Ei waith ef yn dy droi di allan o'r ffordd.
  • 2. Ei ymdrechiad ef i wneuthur y groes yn gâs yn dy olwg di.
  • 3. Ei waith ef yn gosod dy Draed di ar y ffordd, sydd yn
    Arwain.
    tywys i wei­nidogaeth Angau.

Yn Gyntaf Rhaid i ti ffieiddio ei [Page 50] waith ef yn dy droi di allan o'r ffordd; ie a'th waith dithau yn cyttuno ag ef yn hynny: Oblegit trwy gofleidio Cynghor Bydol Ddoethyn, Ti a ddiystyraist Gy­ngor Duw. Ymdrechwch medd yr Ar­glwydd, am fyned i mewn trwy 'r Porth cyfyng, Sef y porth tua 'r hon y cy­farwyddais i tydi ar y cyntaf; oblegit cyfyng yw'r Porth y sydd yn arwain ir Bywyd, ac ychyd [...]g yw y rhai y sydd yn ei chael hi. Luc. 13. 24. Mat. 7. 14. Ac yn awr fe ddarfu ir Dyn drwg hwn dy droi di oddiwrth y porth bychan yma, ac oddiar y ffordd sydd yn ar­wain tuag atti, gan dy ddwyn di o fewn ychydig i Ddestryw. Casháa gan hynny [...]i waith ef yn dy droi di allan o'r ffordd, a ffieiddia dy hunan am wran o arno ef.

Yn Ail, Rhaid i ti ffieiddio ei [...] Ddi­wydrwydd ef i wneuthur y Groes yn at­gas yn dy olwg di; Canys ti a ddylit sarnu, fod Dirmyg er mwyn Crist yn fwy golud nâ thryssorau 'r Aipht. Heb. 11. 25. 26. Heblaw hyn, Brenin y Go­goniant a fynegodd itti, y caiff yr hwn y sy 'n ewyllyssio cadw ei einioes ei cholli hi; ac medd efe, os daw neb attafi, ac ni chasáo ei Dâd, a'i Fam, a'i Wraig, a'i Blant, a'i Frodyr, a'i Chwiorydd, ie a'i Enioes ei hun hefyd, ni all efe fod [Page 51] yn Ddiscybl i mi, Mar. 8. 34, 35. Luc. 14. 26. Ac am hynny meddafi, Rhaid i ti ddiflasu ar yr Athrawiaeth honno y dderbyniaisti oddiwrth Bydol Ddoe­thyn, yr hwn a'th berswadiodd, y bydd y peth hynny yn Farwolaeth i ti, heb yr hyn medd y Gwirionedd ei hun, nid elli di gael bywyd tragwyddol.

Yn Drydydd, Rhaid i ti gasháu ei waith ef yn gosod dy draed di ar y ffordd sydd yn arwain i weinidogaeth Angeu. Ac ynghylch hynny, Rhaid i ti ystyried at bwy yr anfonodd efe dydi, ac hefyd mor anabl yr oedd y Gwr hwnnw i'th waredu di oddiwrth dy Faich.

Y Gwr a elwir Dedd­foldeb. Legality, at yr hwn i'th anfonwyd di, i geisio esmwytháad, yw mâb y wasanaeth ferch, yr hon sydd yn awr tan gaethiwed, (hi a'i phlant) ac mewn dirgelwch, hi ydyw y Mynydd Sinai yma, yr hwn a ofnaist­ti, rhag iddo syrthio ar dy Ben, Gal. 4. 21. &c. Yn awr os ydyw hi a'i phlant Y [...] rhwym wrth y gyfraith ddioddef damnedi­gaeth am bechod. Rhuf. 6. 23. yn gaethion, pa fodd y gelli di ddisgwyl am gael dy wneuthur yn wr rhydd ganthynt hwy? Ac am hyn­ny ni ddichon y Deddfoldeb hwn dy ryddhau di oddiwrth dy Faich. Nis gwaredodd efe neb erioed etto, ac nid oes tybygoliaeth y gwareda efe vn dyn [Page 52] byth rhagllaw, oddiwrth Faich ei Be­chodau. Ni chyfiawnheir neb trwy weithredoedd y Ddeddf, canys ni ddi­chon pobl trwyddynt hwy gael eu rhyddhau oddiwrth eu beichiau, Rhuf. 3. 20. Act 13. 38, 39. Ac am hynny, nid yw meistr Bydol Ddoethyn ond Est­ron, a meistr D [...]dd­fold [...]b. Legality ond Twyllwr, ac nid yw ei Fâb Gwe­ddoldeb. Sifility ond Rhag­rithiwr (er tecced ei ddrych a'i ym­ddygiad oddi allan) ac nis gallant hwy mo'th helpu di. Coelia fi, nid oes dim yn holl drwst a Swn. dwndwr y Dynion angall hyn, ond amcan i'th Twyllo. siommi di am dy iechydwriaeth, trwy dy droi di oddiar y ffordd y gosodais i ti arni. A Gw [...]di [...]ynny. chwedyn, fe groch-waeddodd E­fangylwr, am gadarnháad o'r Nefoedd ynghylch y pethau y lefarasai efe am danynt: Ac yn y man y daeth geiriau a thân allan o'r Mynydd, tan yr hwn yr arosodd Cristion druan Gwr, y rhai a wnaethant i wallt ei ben ef, a blew ei gnawd ef i sefyll i fynu. Y Geiriau oeddent y rhain. Cynnifer ac y sy o weithredoedd y Ddeddf, tan felldith y maent: Canys scrifennwyd, melldigedig yw pob vn, nid yw yn aros yn yr holl be­thau a scrifennir, yn llyfr y Ddeddf, iw gwneuthur hwynt. Gal. 3. 10.

Yn awr nid oedd Cristion yn edrych [Page 53] am ddim ond marwolaeth; ac efe a ddechreuodd waeddi yn alarus, gan fell­dithio yr amser, yn yr hwn y cyfarfu efe â meistr Bydol Ddoethyn, gan alw ei hunan fil o weithiau yn ffol, am iddo wrando ar ei gyngor ef. A chywily­ddio yn ddirfawr y wnaeth efe hefyd, wrth feddwl i resymmau cnawdol y Gwr ymma ei orchfygu ef yn y fath fodd, fal y parent iddo Troi. ŵyro oddiar y ffordd vniawn. Ac ar ôl hynny fo a nessaodd drachefn at Efangylwr, gan le­faru wrtho ir pwrpas hyn.

Crif.

Syr, Beth a dybygwch chwi? A oes obaith? A allafi ddychwelyd yn awr, a myned i fynu at y porth bychan? Oni wrthodir fi am fy nhrossedd, ac onis gyrrir fi yn ól oddi yno gyda chywilydd? Mae yn ddrwg gennif i mi wrando ar gyngor y Gwr hwn; eithr a ellir maddeu fy mhechodau i?

Efang.

Yna y dywedodd Efangylwr wrtho, y mae dy drosseddiad di yn fawr iawn; canys ti a wnaethost ddau ddrwg; Ti a adawaist y ffordd dda, ac a aethost i Teithio. drafaelu ar hyd llwy­brau gwaharddedig: Er hynny, di gei dy dderbyn gan y Gwr sydd wrth y Porth; oblegit y mae fo yn ewylly­ssio yn dda i Ddynion: Yn vnic eb efe, Gwach­el droi oddiar y ffordd. gwilia rhag gŵyro drachefn, rhag [Page 54] dy ddifetha o'r ffordd, pan gynneuo ei lÎd of ond ychydig, Psal. 2. 12.

Yna yr ymdacclodd Cristion i [...] ym­ho [...]lyd: ac Efangylwr, wedi iddo ei guss [...]nu ef, a wenodd arno, ac a ddy­w [...]dodd Duw yn rhwydd wrtho. Felly ef [...] a aeth ym-mlaen ar frŷs, heb yng­ [...]ryd gair wrth vn-dyn ar y ffordd: Ac os gofynnai neb ddim iddo, ni chai [...] yn y byd oddiwrtho. Yr oedd e 'n cerdded, M [...]g [...]s. meis vn yn troedio o hyd, ar Dir gwaharddedig: Ac ni allai efe ei dybied ei hun yn ddiogel mewn vn-rhyw fodd, hyd oni ddaeth efe drachefn ir ffordd a adawsai fo, trwy gyngor Meistr Bydol Ddoethyn: Ac felly fe a ddaeth o'r diwedd hyd at y Porth; A scrifennwyd y geiriau hyn vwch ben y porth, Curwch, ac fe ago [...]ir i [...]hwi, Mat. 7. 7, 8. A chwedi curo mwy n [...]g unwaith, efe a ddywe­dodd,

A agor neb y Porth im fi,
Y ddarfu bechu 'n
Yn d [...]g­io [...]us.
sceler?
Os felly gwna [...], mi ganaf glôd,
Yn
[...].
w [...]slod i'm Duw
Tirion.
tyner.

Ym mhen ennyd, Daeth ir Porth wr pwyllog sobr, a elwyd Sef, Crist. Ewyllyssiwr da, ac efe a ofynnodd, Pwy ydoedd [Page 55] yno? Ac o ba le yr oedd efe yn dyfod? A pha beth a fynnai fo?

Cris.

Y mae yma Bechadur truan trwm lwythog: Dyfod yr wyfi o Ddi­nas Destryw, eithr yr wyf yn myned i fynydd Sion, fal i'm gwaredir rhag y llid a fydd. Am hynny Syr, yn gym­maint a chlywed o honof, Mai. taw trwy 'r porth hwn y mae 'r ffordd tuag yno, myfi a fynnwn wybod, a ydychi 'n ewyllysgar im gollwng i mewn.

Ewyllyssiwr-Da.

'Rwi 'n ewyllysgar Fe agorir y Porth i bechadur­iaid dryll­iedig o galon. ebe yntef o'm holl galon, ac ar hynny efe a agorodd y Porth.

A phan oedd Cristion yn myned i mewn, y llall a'i cippiodd ef atto: Yna ebe Cristion, Beth yw hyn? O fewn ychydig at y Porth yma ebr llall, yr adeiladwyd Castell cadarn, a Beelze­bub sydd Gapten arno: Ac oddi yno, y mae efe a'i Sawdwyr, yn saethu piccellau at y rhai sy'n dyfod i fynu at y Porth hwn, mewn bwriad i llâdd hwynt cyn yr elont i mewn. Weithian ebe Cristion, 'r wi 'n ymlawenhau, ac etto yn dy­chrynu. Ac wedi dyfod i mewn, go­fynnodd y Porthor iddo, Pwy oedd yr hwn a'i cyfarwyddodd ef tuag yno?

Cris.

Efangylwr a barodd i mi ddy­fod yma a churo (mal y gwnaethum) ac efe a ddywedodd wrthyf, y cawn i wybod [Page 56] gennych chwi Syr, pa beth sydd raid i mi ei w [...]euthur.

E.

Y mae Drws agored wedi [...]i [...] o'th fla [...]n di, ac ni ddichon neb [...]i [...] ef.

C [...]is.

Yn awr yr wyfi 'n dechreu medi ff [...]wyth fy mheryglon.

E▪ D▪

O [...]d pa fodd y daethosti, heb n [...]b [...] thi?

C [...].

[...] nad oedd neb o'm Cymmy­d [...]n yn gwe [...]ed eu perygl, fal yr o [...]d [...]wn i yn gweled fy mherygl fy hun.

E. D.

A oedd eich taith chwi yn hysbys i neb o honynt?

Cris.

Oedd, canys fy ngwraig a'm plant a'm gwelsant i Yn de­chreu 'm siwrnai. yn cychwyn, ac a alwasant ar fy ol, i geisio gennif ddy­chwelyd: Rhai h [...]fyd o'm Cymmydo­gion a alwasant arnaf i Ddych­we [...]yd. ymhoelyd. Eithr myfi a osodais fy myssedd yn fy nghlustiau, ac a gymmerais fy ffordd.

E. D.

Eithr a ganlynodd neb o ho­nynt chwychwi, i'ch pe [...]swadio i ddych­welyd adref?

Cris.

Do, Cyndyn a Meddal a'm can­lynasant, ond pan y gwelsant, na thyc­ciai mo'i cynghor hwynt, fe ddychwe­lodd Cy dyn dan ddif [...]nw [...], eithr Meddal a ddaeth gyda mi, nes i ni ddyfod hyd at Gors anobaith, ac ni a gwympasom [Page 57] ynthi yn ddisymmwth: Fe all Dyn gael cwmpni wrth dde­chrau ei daith tua 'r n [...]f, ac etto dyfod yno wrtho ei hunan. Ac ar hyn­ny, fy nghymmydog Meddal a ddiga­lonnodd, ac nis mynnai fe fentro ym­mhellach. Ac yna wedi escyn o'r Gors, ar yr ochr nessaf at ei Dŷ ei hun, fo a ddywedodd wrthyf, y gellwn i erddo ef feddiannu y wlâd dêg fy hunan. Felly efe a aeth iw ffordd ei hun, a minne a ddaethum ar hyd fy ffordd in­nau, efe ar ól Cyndyn, a minne ir porth yma.

E. D.

Yna ebe Ewyllyssiwr da, och o druan Gwr! A ydyw y Gogoniant nefol mor wael yn ei olwg ef, fal nad yw efe yn cyfrif, y tâl y gogoniant hwnnw mor ymgais am dano, oblegit bod ychydig o rwystrau yn y ffordd tuag atto?

Cris.

Myfi a ddywedais ebe Cristion y gwir am Feddal, a phe dywedwn i y cwbl o'r gwirionedd am danaf fy hun, fe gaid gweled, nad wyfi well nag ynteu. Gwir yw, efe a ddychwe­lodd iw Dŷ ei hun, eithr minne hefyd a droais ir ffordd sy 'n arwain i Farwo­laeth, wedi fy annog i hynny, trwy gynghor cnawdol Meistr Bydol Ddoe­thyn.

E. D.

Oh! a gyfarfu efê â chwi? Pa beth! Efe a fynnai i chwi fyned at Meistr Deddfoldeb i geisio esmwythdra. Twyllwyr ydynt hwy ill dau. Eithr [Page 58] a ddilynasoch chwi ei Gyngor ef?

Cris.

Do, cyn belled ac y meiddiwn: Mi a aethym i ymofyn am Mr. Dedd­foldeb, hyd oni thybiais y syrthiai 'r Mynyddoedd wrth ei Dŷ ef ar fy mhen i: Ac am hynny, fe orfu arnafi ymattal rhag myned ym-mhellach.

E. D.

Fe fu 'r Mynydd hwnnw yn ddinistr i fagad, ac a fydd felly etto i laweroedd. Da ydyw i chwi ddiangc, ac nas maluriwyd chwi 'n chwilfryw g [...]ntho.

Cris.

Yn ddiau, ni wn i beth a ddig­wyddasai immi yno, oni buasai i Efang­yl [...]r, [...] awr dda gyfarfod â mi dra­c [...]fn, f [...]l yr oeddwn yn athrist iawn yn M [...]. dw [...]s fyfyrio, beth a ddawai o honofi. Ei [...]hr [...]ug [...]redd Duw oedd ei ail ddyfo­di [...]d [...]f [...] fi; [...]. [...]s angen ni ddaethwn i byth yma. Ond yn awr yr wyf wedi d [...]fod, y fath vn ac ydwyfi, sef, Dyn yn [...] cael fy nestrywio gan y My­ [...]ydd hwnnw, ac nid i sefyll yma fal hyn, i ymddiddan [...]'m Harglwydd: Eithr oh! i' [...] ffaf [...]r yw hyn, fod o honofi er hynny yn c [...]el fy-nerbyn i mewn ir lle hwn.

E. D.

Nid ym ni 'n D [...]d. edliw dim i neb, er [...]. cymmaint y wnaethant hwy cyn dyfod yma; ac nis bwrier mo ho­nynt hwy allan, Joan. 6. 37. Ac am hynny Gristion anwyl, Tyred. Dere gyda [Page 59] mi ychydig ym-mhellach, a myfi a'th ddyscaf di ynghylch y ffordd, y sydd raid i ti fyned ar hyd-ddi. Edrych o'th fla [...]n, a weli di y ffordd gûl accw? Dyna 'r ffordd y dylit ti fynd ar hyd­ddi. Fe a'i gwnaed hi gan y Yr vchel Dadau megis Abraham Isaac, &c. Padri­archiaid, y Prophwydi, Crist a'i Aposto­lion, ac y mae hi cyn vniawned, ac y gallai Rheol ei gwneuthur hi. Dyma 'r ffordd y sydd raid i ti siwrneio arni.

Cris.

Eithr ebe Cristion, A oes yno draws-ffyrdd, trwy y rhai, y dichon Dyn dieithr golli ei ffordd?

E. D.

Oes, y mae amryw o ffyrdd yn dyfod ith ffordd di; ond y maent hwy oll yn geimion ac yn llydain: Eithr wrth hyn y gelli di adnabod y iawn ffordd, oddiwrth y croes-ffyrdd; y mae hi yn vnic yn vnion ac yn gûl, a'r lleill yn geimion ac yn llydain, Mat. 7. 13. 14.

Yna mi a glywn Cristion yn gofyn iddo ef ym-mhellach, a allai efe ei ddadlwytho ef o'r llwyth oedd ar eî Nid oes ymwared oddiwrth y baich o bechod, ai euogr­wydd ef, onid [...]rwy waed Crist. g [...]fn; canys hyd yn hyn, ni chawsai efe wared o honaw, ac nis gallai efe mewn modd yn y byd fwrw ei faich i lawr heb help.

Yntef a'i hattebodd ef, ymfodlona i aros dan dy faich, hyd oni ddelech di ir lle o esmwytháad, canys fe a gwymp [Page 60] oddiar dy gesn di yno o honaw ei hun.

Yna y dechreuodd Cristion wregysu ei lwynau, ac ymbarottoi iw daith: A dy [...]edodd y lla [...]l wrtho, y deuai fo wrth Dŷ y Esponiwr Deonglwr, pan elai fo y­chydig bach ym mlaen oddiwrth y porth: Ac efe a barodd iddo guro wrth ei ddrws ef; a dywedodd wrtho, y dangosei y Deonglwr iddo bethau rha­gorol. Ar ôl hynny. A chwedyn fe gymmerodd Cristion ei gennad oddiwrth ei Gyfaill, ac yntef hefyd a ddywedodd wrth Gri­stion, poed da yr elot ti.

Yna efe a aeth Ym mla [...]n. rhagddo, hyd oni ddaeth e at Dŷ y Deonglwr, lle y cu­rodd e lawer gwaith: O'r diwedd daeth vn ir drws, ac a ofynnodd, Pwy ydo [...]dd yno.

Cris.

Syr, ebe Cristion, [...]. ymdeithydd ydwyfi: Ac fe a orchymynwyd i mi, gan vn sydd yn gydnabyddus â Gwr da y Tŷ hwn, i alw yma er lleshad i mi; ac am hy [...]ny, myfi a ewyllyssiwn ymddi­ [...]d [...]n ag ef: Felly fe a alwodd wr y tŷ, ac yn y man fo a ddaeth at Gristion, ac a ofynnodd iddo, pa beth yr ydych chi yn ei geisio yma?

Cris.

Syr, ebe Cristion, Dyn wyfi a dda [...]th allan o Ddinas destryw, ac yr wi 'n myned tua Mynydd Sion; Ar Gwr y sy 'n sefyll wrth y porth, ym [Page 61] mhen y ffordd hon, a ddywedodd wrth­yf, os galwn i yma, y dangosech chwi i mi bethau Rhago­rol. godidog, y cyfryw ac a'm cynnorthwyent yn fy Nhaith.

Deonglwr.

Vn yn egluro pethau tywyll. Yna ebr Deonglwr, Ty­red i mewn; ac mi a ddangosaf yr hyn a fydd buddiol itti. A chwedi er­chi iw wâs ennyn canwyll, fo a barodd i Gristion i ddilyn ef; felly fo'i har­wainodd ef i ystafell ddirgel: Ac yn ôl gorchymyn ei Feistr, fe agorodd y gwàs rhyw ddrws, ac yna, fe welai Cristion lûn Gwr sobr iawn, wedi ei osod i fynu wrth y pared, a dyma oedd ei wêdd ef. Yr oedd ei lygaid ef gwedi eu derchafu tua 'r Nefoedd, yr oedd y llyfr goreu yn ei law ef, a chyfraith gwirionedd yn scrifennedig ar ei wefu­sau ef, a'r byd o'r tu cefn iddo; yr oedd efe, yn sefyll, fal ped fuasai fo yn Pledio. dadleu â dynion, ac yr oedd Coron o aur ynghrôg vwch ei ben ef.

Cris.

Yna ebe Cristion, beth yw ystyr y peth hyn?

Deong.

Y mae 'r Sef, Pre­gethwr yr efengyl. Gwr, a ddodir allan trwy 'r llûn hwn, yn vn o fîl: Efe a ddichon genhedlu plant, ac escor arnynt, a'u Magu. meithrin hefyd, pan y genir hwynt. 1 Cor. 4. 15. Gal. 4. 19. 1 Pet. 2. 2. A lle y gwelaist ti ef â'i lygaid gwedi eu derchafu tua 'r Nef, [Page 62] a'r llyfr goreu yn ei law, a chyfraith gwirionedd yn scrif [...]nnedig ar ei wefus­au; y mae hynny yn dangos itti, Mai. taw ei waith ef ydyw gwybod a dat­cuddio pethau tywyll i Bechaduriaid, mal y gwelaist ti ef yn sefyll, fal ped fuasai yn Pledio. dadleu â Dynion: A lle y gwelaisti y byd fal peth wedi ei daflu o'r tu cefn iddo, a bod coron yn Crogi. hon­gian vwch ei ben ef; y mae hynny yn dangos itti, fod ei ddibrisdod a'i ddir­myg ef o'r pethau presennol, o gariad at wasanaeth ei feistr, yn ei siccrhau ef, y caiff e ogoniant tragwyddol yn obrwy, yn y byd a ddaw 1 Pet. 5. 4. Yn awr ebr D [...]onglwr, myfi a ddangosais i ti y llûn hwn yn gyntaf; O herwydd y gwr, a osodir allan trwy 'r drych hwn, ydyw yr vnic Ddyn, a awdurdodwyd gan Arglwydd y lle, yr wyt ti yn my­ned tuag atto, ith arwain di trwy bob man dyrys a gyfarfyddi di yn dy siwr­nai: Ac am hynny craffa Yn fawr yn ddwys ar yr hyn y ddangosais itti, a chofia yn fanol y pethau a welaisti, rhag i ti gy­farfod yn dy daith, â rhai a gymmero arnynt dy arwain di yn y iawn ffordd, er bod eu ffordd hwy Yn ar­wain i ddamne­digaeth. yn tywys i far­wolaeth.

Yna efe a ymaflodd yn ei law ef, ac a'i harwainodd ef, i ystafell helaeth [Page 63] iawn, yr hon oedd yn llawn o lwch, am nad yscybasid hi erioed; a chwedi edrych arni ennyd fechan, fe alwodd y Deong­lwr. Lladmerydd am wr i hysgubo hi: A phan ddechreuodd efe ddasgub, fe go­dodd cymmaint o lwch o amgylch, ac y bu Cristion agos a thagu gantho. Yna ebr Deonglwr wrth Morwyn langces oedd yn sefyll ger llaw, Dwg yma ddwr, Bwrw. a thanella ef ar hyd y stafell; a phan y gwnaeth hi hynny, fe ysgubwyd ac a lanhawyd y lle yn ddifyrr.

Cris.

Beth yw meddwl hyn ebe Cri­stion?

Deong▪

A'r Lladmerydd a attebodd, yr ystafell hon yw calon dyn, heb ei glanhau erioed gan fâs hyfryd yr Efeng­yl; y llwch yw ei bechod gwreiddiol [...]f a'i lygredigaethau oddi-fewn, y rhai a halogasant yr holl Ddyn: A'r hwn a ddechreuodd ysgubo ar y cyntaf yw 'r Gyfraith: Eithr yr hon a ddygodd ddwr, ac a'i tanellodd ef ar hyd y sta­fell yw'r Efengyl: Yn awr lle y gwe­laisti y llwch yn ehedeg felly o bob­parth yn y man ac y dechreuodd y cyntaf ysgubo, fal nad allai efe lanhau yr ystafell, ond ei fod ef ym mron dy dagu di: Y mae hyn yn dangos i [Page 64] ti, Trwy ein gwyll­tineb a'n tueddiad i bechu, yr ym ni yn cymme [...]yd achlyssur i wneuthur drwg fwy fwy, pan y bo'r Gyfraith yn ceisio 'n ffrwyno a'n hattal ni rhagddo: Ac am hynny pan y bôm yn pechu, ni ddylaem feio ein hunain, ac nid y Ddeddf, canys y mae hi yn sanctaidd, yn gyflawn, ac yn dda. fod y Gyfraith, trwy ei gweithre­diad, (sef trwy ei gwaith hi 'n gorchy­myn, yn gwahardd, yn bygwth,) yn lle puro 'r Galon oddiwrth bechod, yn rhoddi achlysur neu achos iddo i ym­adfywio, i gasglu grym, ac i gynyddu yn yr enaid, ie, y pryd hynny, pan y bo hi yn datguddio ac yn gwahardd pechod, canys nid ydyw hi yn rhoddi gallu i ddarostwng ef▪ Rhuf. 7. 8, 12. &c. 1 Cor. 15. 56. Rhuf. 5. 20.

A Thrachefn, megis ac y gwelaisti y Forwyn yn tanellu Dwr ar hyd y stafell▪ trwy yr hyn y glanhawyd hi yn Hyfryd. ddifyr; y mae hynny yn dangos i ti, mai pan ddelo 'r Efengyl ir galon yn ei gweithrediadau hyfryd a rhagorol, yna meddafi, megis ac y gwelaisti y llangces yn gostwng y dwst, trwy da­nelliad y Dwfr ar hyd y llawr; felly hefyd y gorchfygir, ac y darostyngir pechod▪ ac y glanheir yr enaid trwy ffydd yn yr Efengyl, ac fal hyn fe a wneir y Galon yn gymmwys, i Frenin y Gogoniant i breswylio ynthi. Joan. 15. 3. Eph. 5. 26. Act. 15. 9.

[Page 65] Yna mi a welais y Deonglwr yn ar­wain Cristion erbyn ei law i ystafell fe­chan, lle yr oedd dau o Feibion ievangc, yn eistedd bob vn yn ei gadair, Enw yr hynaf oedd Cythry­swl, an­esmwy­thder yn y meddwl. Cynnwrf, Ac Enw 'r llall oedd Dioddef­garwch. Ammynedd. Mi a dybyg­swn fod Cynnwrf yn llawn o anfodlon­rwydd, ond yr oedd Ammynedd yn llonydd iawn. Yna y gofynnodd Cri­stion, Pa ham yr oedd Cynnwrf mor an­fodlon? A'r Deonglwr a'i attebodd ef, y mynnai eu Llywodraethwr hwy iddynt aros, am ei bethau goreu ef, hyd dde­chreuad y flwyddyn nessaf; ond fe fyn Cynnwrf gael y cwbl yr awron, eithr y mae Ammynedd yn foddlon i ddisgwyl hyd yr amser nodedig.

Yna mi a welwn vn yn dyfod at Gynnwrf, ac yn dwyn iddo dryssor mewn cŵd, ac yn bwrw ei sach i lawr wrth ei draed ef: Yntef a'i cyfododd hi i fynu, ac a orfoleddodd ynthi: Ac heblaw hynny fo a chwarddodd yn watwarus am ben Ammynedd: Ond ar ôl gronyn o amser, mi a welwn ei fod ef gwedi afradloni 'r cwbl, ac nad oedd gantho ddim wedi ei adel onid brattiau.

Cris.

Ardolwyn ebe Cristion wrth y Lladmerydd, Agorwch esponiwch i mi y matter yma yn eglurach.

Deong.
[Page 66]

Arwyddion yw y ddau langc hyn ebr Deonglwr: Cynnwrf sy'n ar­wyddoccau Dynion y Byd hwn, ac Ammynedd sy'n arwyddoccau Dynion y Byd a ddaw: Canys M [...]gis. meis y gweli di yma, fe fy [...]n Cynnwrf g [...]l y cwbl Yr awron. yr-wan, fef, y flwyddyn hon, hyn­ny yw yn y Byd presennol: Felly y mae awydd Gwyr y Byd hwn i gael ei holl bethau da yn awr: Nis gallant hwy aros yn esmwyth hyd y flwyddyn nessaf (hynny yw hyd y Byd a ddaw) am eu cyfran o bethau daionus. Y mae'r Ddihareb honno, Gwell Aderyn yn llaw nâ Dau yn y Coed, â mwy o bwys yn­thi gydag hwynthwy, nâ 'r holl dystio­laethau Oddi­wrth Duw dwyfol ynghylch Daioni y Byd a fydd. Eithr megis ac y gwe­laisti Gynnwrf yn Treulio. gwario 'r cwbl ymaith yn ebrwydd, ac nad oedd dim o fewn ychydig o amser wedi adel iddo onid brattiau, felly y bydd hi gyda phawb o'r cyfryw ddynion yn-niwedd y byd hwn.

Cris.

Rwi 'n Diall. dirnad yn awr ebe Cristion, mai Ammynedd sydd à'r Doethineb mwyaf; Yn Gyntaf, o her­wydd ei fod ef yn foddlon i aros am y pethau goreu i meddiannu nhwy yn y Byd y ddaw, er ei fod ef etto heb­ddynt: Yn Ail, oblegit y caiff e fwynhau [Page 67] ei gyfran gogoneddus, pan na bo dim gan y llall ond brattiau.

Deong.

Nage, chwi a ellwch ang­wanegu rheswm arall, sef, o herwydd bod Gogoniant y byd a dd [...]w yn parhau dros fyth; ond y mae pethau 'r byd hwn yn myned Ymaith. i bant yn ddisymwth. Dihar. 23. 5. Ac am hynny nid oedd gan Gynnwrf gymmaint o achos i chwer­thin am ben Ammynedd, ac a fydd gan Ammynedd i chwerthin am ben Cyn­nwrf, er i Gynnwrf gael eu bethau da yn gyntaf, ac na chafodd Ammynedd mo honynt hwy ond yn ddiweddaf; canys rhaid i Gyntaf roddi lle i Ddiwe­ddaf, oblegid rhaid i Ddiweddaf gael yr amser a ddaw: Ond nid yw Diwe­ddaf yn rhoddi lle i ddim, arall, canys nid oes Peth arall i ddyfod yn ei le ef. Rhaid gan hynny, ir hwn a gaiff ei ran yn gyntaf, gael amser hefyd iw threu­lio hi; ond rhaid ir hwn a gaiff ei gy­fran yn ddiweddaf ei chael hi dros fyth; ac am hynny y dywedir am Ddifes, Ti a dderbyniaist dy Wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lazarus ei Adfyd; ac yn awr y diddenir ef ac y poenir ditheu, Luc. 16. 25.

Cris.

Mi awelaf yn awr ebe Cristion, Mai. taw gwell yw disgwyl am y pethau sydd i ddyfod, nâ thrachwantu yn ôl y pethau presennol.

Deong.
[Page 68]

Chwi a ddywedasoch y gwir, Canys y pethau a welir sy tros amser, ond y pethau ni welir sy dragwyddol, 2 Cor. 4. 18. Eithr er bod y matter felly, etto gan fod y pethau presennol a'n Trachw­ant. Blŷs cnawdol ni yn Gymmydo­gion agos Y naill ir llall. iw gilydd; a thrachefn, oblegit bod y pethau i ddyfod a'n Y syn­hwyrau yw y Ga­lluoedd y sydd ynom, i Weled, i Glywed, i Arogli, i Flasu, ac i Deimlo. Oh! mor echryslon gan hynny yw y rhêg honno, pan y bo Dyn yn dywedyd, colli fy mhum synwyr a wnelo i. Synhwyrau cnawdol ni yn Ddieithriaid iw gilydd, hynny yw y rheswm, pa ham y mae y cyntaf o'r rhain yn dyfod mor ebrwydd i ymgyfeillachu a'i gilydd yn garedig, a bod yr ail yn aros mor bellennig, y naill oddiwrth y llall.

Yna mi a welais y Lladmerydd yn ymaflyd yn llaw Cristion, ac yn ei ar­wain ef i Fan, lle yr oedd tân wedi gynneu wrth fagwyr, ac vn yn sefyll wrtho, yn bwrw llawer o ddwr arno yn wastadol iw ddiffodd ef, etto yr oedd y tân yn fflammio yn vwch ac yn boethach.

Cris.

Beth sydd i ni ddeall wrth hyn ebe Cristion?

A'r Deonglwr a attebodd, y Tân hwn yw Grâs Duw wedi ei weithio yn y galon, a'r hwn sy'n bwrw Dwr arno [Page 69] iw ddiffodd ef, yw 'r Diafol: Ond lle y gwelaisti y tân yn llosci yn vwch ac yn boethach er bwrw 'r dwfr arno, tydi a gai weled hefyd yr achos o hyn­ny: Ac felly fo 'i harwainodd ef oddi­amgylch, i ystlys arall y fagwyr, ac efe a welai yno wr, â llestr yn ei law, o'r hwn yr oedd efe yn tywallt allan olew yn ddibaid (etto yn ddirgel) ir tân. Yna ebe Cristion, pa beth yw ystyr y pethau yma. Hwn yw Crist ebr De­onglwr, y sydd yn wastadol, ag olew ei r [...]s, yn cynnal y gwaith da y dde­chreuodd efe eisus ynghalonau ei bobl; ac am hynny, er a allo 'r Diawl ei wneuthur, y mae eu heneidiau hwynt yn parhau yn rasol fyth, 2 Cor. 12. 9. Phil. 1. 6. Ac lle y gwelaisti y Gwr yn sefyll o'r Tu ôl ir fagwyr. tu hwnt ir wal, i I gadw 'r tan rhag diffodd. faintumio y tân, y mae hynny yn dan­gos itti, mai peth anhawdd ydyw, ir temptiedig i weled, pa fodd yr ydys yn cynnal y grâs yma yn eu heneidiau.

Myfi a ganfum hefyd y Deonglwr yn cymmeryd Cristion drachefn wrth ei law, ac yn ei Arwain. dywys ef i Fann hyfryd, lle yr adailadwyd Plâs. Llŷs gwych, a phrydferth ir golwg: Ac wrth edrych ar y Neuadd-dy hwn, fe a ymlawenychodd Cristion yn ddirfawr; ac efe a welodd hefyd rai yn rhodio ar [Page 70] Penn. nenn y Tŷ, wedi eu dilladu oll â bre­thyn aur. Yna ebe Cristion, a allwn ni syned i mewn ir Tŷ hwn. Eithr y Ʋn yn egluro pethau ty­wyll. Lladme ydd a'i cymmerodd ef, ac a'i harwainodd ef i fynu tua drws y Ty bren­hinol. Palas. Ac wele yr oedd lliaws mawr o bobl, yn sefyll wrth y drws, megis rhai yn chwennychu myned i mewn, ond nis meiddient. Ac yr oedd Gwr hefyd yn eistedd yno, yn lled-agos ir drws, wrth Bwrdd. Ford, a llyfr a chorn dû frifennydd o'i flaen ef, i yscrifennu i lawr Enwau y sawl a aent i mewn ir llŷs. Ac efe a welai hefyd lawer o Wyr arfog, yn sefyll ar y ffordd oedd yn arwain ir Drws, iw chadw hi, wedi ymroi i wneuthur cymmaint o adwyth ac eniweid ac allent ir Dynion a fynnent fyned i mewn, Act. 14. 22. 2 Tim. 3. 12. A Rhyf [...] ­ddu. synnu a wnaeth Cristion ar hyn. O'r diwedd, pan yr oed pawb yn cilio 'n ôl rhag ofn y Gwyr arfog, fe welai Cristion ŵr ag wyneb­pryd Gwrol. glew gantho, yn dyfod i fynu at yr hwn oedd yn eistedd yno i yscrifennu, gan ddywedyd wrtho, Syr, Dodwch i lawr fy Enw i, a phan y gwnaeth efe hynny, fo welai 'r Gwr yn tynnu ei gleddyf, Eph. 6. 17. 1 Thess. 5. 3. Ar war­tha. ac yn gosod helm ar ei ben, ac yn rhuthro tua'r Drws ar draws y Gwyr arfog, y rhai a ymosodasant yn [Page 71] ei erbyn ef yn gynddeiriog ag arfau angheuol: eithr nid allent hwy ei ddigalonni ef mewn môdd yn y byd, ac am hynny fo ymladdodd â nhwy yn ffyrnig: ac felly wedi cael ei glwyfo ganthynt, a rhoddi amryw archollion iddynt, sef ir sawl oedd yn ceisio i gadw ef allan, fo a wnaeth ei ffordd trwyddynt hwy oll, ac a ymwthiodd ym-mlaen ir llŷs: Ac ar hynny y clybuwyd llais hyfryd y rhai oedd yn y Palas, sef y s [...]wl oedd yn rhodio ar nenn y Tŷ, yn dywedyd,

Tyred.
Dere, Dere, i mewn yn wrol,
Ti ynnilli
Gogo­inant.
fraint tragwyddol.

Felly efe a aeth i mewn, ac fe gwiscwyd ef yno, âr vn-rhyw Ddillad a hwyntau: yna y gwenodd Cristion, ac a ddywedodd; yn ddiau mi dyby­gwn, y gwn i beth yw ystyr a meddwl hyn i gyd.

Y mae 'r Drygionus yn gwrthwynebu y sawl sy'n siwrneio tua'r nefoedd, trwy eu gorthrymmu hwynt â chospedigaethau; a phan nas gallant wneuthur felly, y maent yn eu sathru hwynt dan draed â'u geriau caledion, gan flaenlly [...]nu eu tafodau, a dodi awch arnynt megis ar gleddyfau a saethau, i ddrygu 'r gwirion, Psal. 140. 3. Psal. 64. 34. Eithr y mae 'r rhai grassol yn amddiffyn eu hunain, â chleddyf yr Yspryd, sef â Gair Duw, gan hyspyssu ir annuwiol, nad ydynt yn ceisio und gwasanaethu Duw yn ôl ei ewyllys: a thrwy ei gwaith hwy yn ceryddu yr [Page 72] annuwiol am eu pechodau, ac yn enwedig am eu casineb o'r hyn sydd dda: y mae 'r Duwiol trwy hynny, a chleddyf yr Yspryd yn ymladd â'r annuwiol, ac ydynt yn clwyfo eu calonnau hwynt: Eithr er cymmaint y maent hwy yn herlid y rhai grassol, ac er cymmaint yw gwatwor, a geiria [...] caledion y drygionus am y rhai sy'n ofni Duw, y mae 'r Duwiol, er hynny i gyd, yn myned ym-mlaen, ac yn ymwthio ir Nefoedd ar y diwedd, Mat. 11. 12. Ond na thybyged pobl eu bod hwy 'n dioddef er mwyn duwiold [...]b, os dioddef y maent fal drwg-weithred-wyr: ac edrychent hwy­thau hefyd y sydd yn herlid rhai crefyddol, pa un a'i am eu daioni, a'i am eu drygioni y maent yn gwneuthur felly, 1 Per. 4. 15, 16. Ac os am eu daioni, darllenant, Phil. 1. 28.

Yn awr ebe Cristion, gadewch i mi fyned oddi-ymma: Nage ebe Deong­lwr, Aros hyd oni ddangoswyf i ti ychydig Yn ych­waneg. ragor, a Ar ôl hynny. chwedyn di a gai fyned ith ffordd: Felly fo ymaflodd yn ei law ef drachefn, ac a'i harwainodd ef i ystafell dywyll iawn, lle yr oedd Gwr yn eistedd mewn Stocks. cyffion o haiarn, wedi ei gau i fynu megis Aderyn mewn Cage. cawell.

Yn awr fe ellit tybied wrth edrych ar y Gwr, ei fod ef yn athrist iawn: canys yr oedd efe yn eistedd â 'i olygon tua 'r Ddaiar, a'i ddwylo gwedi eu plethu ynghyd: ac yr oedd efe yn ocheneidio, fal pettaisai ef ar dorri ei galon. Yna ebe Cristion, pa beth sydd i mi ddeall wrth hyn? Ar hynny fe erchodd y Y Deong­lwr, yr esponiwr. Lladmerydd iddo ymddi­ddan â'r Gwr.

Cris.
[Page 73]

Yna ebe Cristion wrth y Dyn, Pwy 'n wyti? yntef a'i hattebodd ef, yr wyfi yr hyn nid oeddwn i cynt.

Cris.

Pa beth a fuosti cynt?

Gwr.

Dywedodd y Gwr wrtho, mi a fum Tros amser. tros drô yn Brofessor têg blodeuog, yn fy ngolwg fy hunan, ac yngolwg eraill hefyd. Mi a dybygswn vnwaith, fy mod i yn y ffordd ir Ddinas nefol: ac yr oedd yn llawen gennif y pryd hynny, pan feddyliwn yr awn i yno.

Cris.

Eithr pa beth wyt ti yn awr?

Gwr.

Yr wyfi yn awr yn Ddyn y sydd yn llawn o Anobaith, ac fo 'm cauwyd i yntho, megis yn y cyffion haiarn ymma; nis gallafi Ddyfod allan. ddwad i maes o honaw mewn môdd yn y byd.

Cris.

Eithr pa fodd y daethosti ir cyflwr hwn?

Gwr.

Peido a wneuthum i a gwilio a bod yn sobr: Myfi a adawais garreion y ffrwyn i gwympo ar wddf fy nhry­chwantau. Mi a drosseddais yn erbyn goleuni y Gair, a Daioni Duw: Myfi a dristéais yr Yspryd glân, ac fe a yma­dawodd â'm fi. Mi a demptiais y Diawl, ac fe a ddaeth attaf: Myfi a gyffroais Dduw i ddigofaint, ac fo 'm gadawodd i; a chaledais fy nghalon yn y fath fodd, fal nas gallaf edifarhau.

[Page 72] [...][Page 73] [...]

[Page 74] Yna ebe Cristion wrth y Lladmerydd, A oes dim gobaith ir fath Ddyn a hwn? Gofyn iddo fe ebr Deonglwr.

Cris.

Yna ebe Cristion wrtho ef, a oes dim gobaith? A gedwir di dros fyth yn y cawell haiarnaidd hwn o Anobaith?

Gwr.

Nid oes genni obaith yn y byd.

Cris.

Y mae mâb yr hwn sy fendige­dig yn dra thosturiol.

Gwr.

Myfi a'i hail-groes-hoeliais ef i mi fy hun; Mi a ddirmygais ei ber­son ef, ac a ddibrissiais ei gyfiawnder ef, ac y fernais ei waed ef yn aflan, ac a ddifenwais yspryd y grâs; ac am hyn­ny nid oes vn o'r addewidion ynghylch trugaredd yn perthynu i'm fi [...]; ac nid oes dim wedi ei adael i mi yn awr ond y bygylau, sef y bygwthion echrydus ac ofnadwy, ynghylch cospedigaeth Di [...]ys. f [...]rtennol ac Gwrês. angerdd tân, yr hwn a'm difa i megis Gwrthwynebwr. Heb. 6. 6. Luc. 19. 14, 27. Heb. 10. 28. 29.

Cris.

Am ba bethau y dygasochi eich hunan ir cyflwr hwn?

Gwr.

Am drachwantau, a melos­wedd, a golud y byd hwn; ac myfi a addewais y pryd hynny i'm hunan, lawer o hyfrydwch, trwy eu mwynhau hwynt: Ond yn awr, y mae pob yr vn [Page 75] o honynt yn fy nghnoi ac yn fy Yssu. nifa i, megis prŷf poeth gwenwynllyd.

Cris.

Eithr oni elli di yn awr edifar­hau a dychwelyd?

Gwr.

Nid wyfi yn deall wrth y scrythy­rau, y dy­lai vn dyn anobeithio yn y môdd hyn am druga­redd; oddi­eithr ei fod ef gwedi pechu yn erbyn yr yspryd glân; am yr hwn y crybwyllais i o'r blaen yn y llyfr hwn: A'r pechod hwnnw y dybygwn i yr ydys yma yn ei feddwl. Gwir ydyw, oni bydd edifeirwch, a ffydd, a sancteiddrwydd buchedd ynom, ni ellwn gasglu oddi­wrth hynny, ein bod ni yn bresennol heb Grist; a thrwy ganlyni­aeth ein bod ni mewn stât o golledigaeth. Eithr er gwneuthur o honom lawer yn erbyn Duw, cyn, a chwedi 'n galw, etto ni gawn faddeuant am y cwbl, os dewn ni at Dduw yn ei ffordd ei hun, hynny yw, trwy ffydd yn Grist, â chalon edifeiriol am ein pechodau, ac▪ a gwir bwrpas i droi oddiwrthynt yr amser sydd i ddyfod, Act. 13. 38. Act. 3. 19. Esay 55. 7. Duw a neccaodd ac a ba­llodd edifeirwch im fi: Nid yw ei air ef yn rhoddi dim annogaeth i mi i gre­du; ie fo 'm cauodd i â'i law ei hun yn y cawell haiarnaidd hwn: Ac ni ddi­chon holl Ddynion y byd fy▪ngollwng i allan oddi ymma. O Tragwyddoldeb! Tragwyddoldeb! Pa fodd y dioddefaf y trueni, a orfydd arnafi fyned tano, pan y delwyf ith Fôr annherfynol di.

Deong.

Yna ebr Deonglwr wrth Gri­stion, cofia Trueni. resyndod y Dyn hwn, a bydded hyn yn rhybydd i ti dros fyth.

Cris.

Wele ebe Cristion, y mae hyn yn ofnadwy; Duw a'm cynnorthwyo i, i wilio a bod yn sobr, ac i weddio mal y gallwyf ochelyd yr achos o Trueni. ddry­chineb [Page 76] y Dyn hwn. Syr, onid yw hi 'n bryd i mi fyned i'm ffordd bellach?

Deong.

Aros hyd oni ddangoswyf i ti vn peth ychwaneg, a Gwedi hynny. chwedyn di a gai fyned ith ffordd.

Felly fo ymaflodd yn llaw Cristion drachefn, ac a'i harwainodd ef i stafell, lle yr oedd vn yn cyfodi o'i wely; ac fal yr oedd efe yn gwisco ei Ddillad, yr oedd e'n crynu ac yn ofni. Yna ebe Cristion, pa ham y mae 'r Dyn ymma yn crynu fal hyn? A'r Lladmerydd a barodd iddo fynegi i Gristion yr achos o'i ddychryndod. Yntef ar hynny a adroddodd wrtho freuddwyd, y welsai fo y noson honno. Mi a welais eb efe y nefoedd yn duo yn ddirfawr, Mat. a 24. 29. Bu hefyd Try [...]le a llychid. daranau a mellt mor ofnadwy, ac y crynais i gan ofn. A chwedi edrych i fynu, mi a welais y cymylau yn ymrwygo mewn modd an­arferol; ac ar hynny myfi a glywais vchel Sain vdcorn, ac a welais Crist. wr he­fyd yn eistedd ar Gwmmwl, a milo­edd neu llû y Nefoedd gyd âg ef; yr oeddent hwy oll megis Tân fflamllyd; yr oedd y Nefoedd hefyd ar Dân po­eth 1 Thess. 4. 16. Dan. 7. 10, 13. Jud. 14, 15. 2 Thess. 1. 7, 8. 2 Pet. 3. 10. Yna mi a glywais lêf yn dywe­dyd wrth y Meirw, Cyfodwch a dewch [Page 77] ir Farn; A chyda hynny y Creigiau a holltwyd, y Beddau a agorwyd, a'r Meirw a oedd ynthynt a ddaethant allan: yr oedd rhai o honynt yn llawen iawn, ac yn edrych tuag i fynu; ond rhai a geisiasant ymguddio dan y Myny­ddoedd, Joan. 5. 28, 29. Luc. 21. 28. Datc. 6. 16, 17. Yna mi a welais y Gwr, oedd yn eistedd ar y Cwmwl, yn agoryd llyfrau, ac yn erchi ir Byd nessau. Mat. 25. 32. Dat. 20. 12, 13. Etto yr oedd, o achos y fflam danllyd oedd yn dyfod oddi ger ei fron ef, en­nyd o lê rhyngtho ef ag hwynt-hwy, megis rhwng y Barnwr ar y Gorsedd­faingc Barn. Frawdle a'r Carcharorion wrth y Barr. Myfi a glywais hefyd gyhoeddi ir sawl oedd yn canlyn y Gwr oedd yn eistedd ar y Cwmwl, Cesclwch ynghyd yr Efrau, a'r us, a'r Sofl, a bwriwch hwynt ir llyn Dân, Mat. 13. 30. Mat. 3. 12. Mal. 4. 2. Ac ar hynny yr ymagorodd y pwll di-waelod, yn gymmwys yng­hylch y Fann yr oeddwn i yn sefyll ar­no; a daeth llawer o fŵg, ynghyd â marwor tanllyd, a chroch-leisiau dy­chrynllyd allan o'i safn. A dywespwyd hefyd wrth Y gwei­sion. y gweinidogion, Cesc­lwch fy 'ngwenith i'm yscubor, Mat. 13. 30. Ac ar hynny mi a welais gip­pio llawer i fynu, a'u dwyn ymmaith [Page 78] ir Cymmylau, eithr fe 'm gadawyd i yn ôl, 1 Thess. 4. 17. Minnau hefyd a ymdrechais i ymguddio, ond nis gallwn i; obl [...]gid bod y Gwr oedd yn eistedd ar y Cwmmwl, yn cadw ei olwg ar­naf yn wastadol: Fy mhechodau hefyd a ddaethant im côf, a'm Cydwybod oedd yn fy nghyhuddo i am danynt. Rhuf. 2. 15. Ar hyn, Mi a ddeffroais o'm cwsc.

Cris.

Eithr pa beth a wnaeth i chwi fod mor ofnus, wrth weled y pethau hyn?

Gwr.

Meddwl a wneuthym i, fod Dydd y Farn wedi dyfod, a'm mod innau yn amharod erbyn y Dydd hwn­nw: Ond hyn am dychrynodd i fwyaf, ir Angelion gasclu llawer i fynu, a'm gadel i yn ôl: Pwll vffern hefyd a ago­rodd ei safn, yn gymmwys yn y Man, lle yr oeddwn i yn fefyll: Heb law hyn, yr oedd fy nghydwybod yn fy nhrallodi, ac (fal y tybygwn i) yr oedd y Barnwr yn cadw ei olwg arnaf yn wastadol, gan ddangos llidiawgr ydd yn ei wynebpryd. Yna ebr Deonglwr wrth Gristion, A ystyriaist ti y pethau hynoll? Do ebe Cristion, ac y maent yn peri i mi obeithio ac ofni.

Deong.

Wele, cadw dithau 'r cwbl felly yn dy gôf, fal y gallont fod megis symbylau yn dy ystlyssau, i'th gym­mell [Page 79] dî ym-mlaen yn y ffordd y sydd raid i ti fyned ar hyd-ddi. Yna y de­chreuodd Cristion wregyssu ei lwynau, ac ymbarottoi i gychwyn. Yna ebr Deonglwr; Cristion anwyl! Y Didda­nydd a fyddo gyda thi bob amser, ith gyfarwyddo di yn y ffordd sy 'n arwain ir Ddinas nefol. Felly Cristion a aeth rhagddo ar hyd ei ffordd dan ganu:

Yma y gwelais bethau buddiol,
Pethau ymheuthyn a rhyfeddol,
Pethau hyfryd ac ofnadwy,
Pethau i'm gwneuthur yn safadwy.
Glynu a wnelwyf
Bob rhan o'r amser.
bôb mynydyn,
Yn y pethau 'ymaflais ynthyn:
Rhaid im gofio, ac ystyried,
'Herwydd pam y ces eu gweled.
A bid immi byth (dan ammod
Tra fo ynof Rym na chwythod)
Roddi Diolch i tithau beunydd,
Am dy gariad, fy Lladmerydd.

Yn awr mi a welais, fod y brif-ffordd, ar yr hon, yr oedd yn rhaid i Gristion fyned ar hyd-ddi, wedi ei chau o'r ddau tu â Magwyr, ac enw'r VVal. Mûr oedd iechydwriaeth, Esay 26. 1. Cristion gan hynny a redodd i fynu ar hyd y ffordd hon, ond nid heb anhawsdra mawr, o achos y Baich oedd ar ei gefn ef.

Efe a redodd hyd oni ddaeth e i Lê [Page 80] oedd Yn my­ned i fynu. yn escyn ychydig, ac yr oedd Croes yn sefyll ar y Mann hwnnw; ac ychydig bach îs law hynny, yn y gor­war [...]d yr oedd Bêdd. Yna mi a we­lais, Trwy Gri [...] h [...]liedig, y mae rhyddháad iw gael oddiwrth bechod; ac yn ei Fedd ef, y mae anwir­eddau ei bobl ef wedi eu claddu. wedi i Gristion ddyfod i fynu at y Groes, fod ei faich ef wedi ei ollwng oddiar ei yscwyddau ef; ac ar hynny fo a syrthiodd oddiar ei Gefn ef, ac a dd [...]chreuodd dreiglo, ac a barhá­odd yn gwneuthur felly, hyd oni ddaeth ef i enau y Bêdd, lle y syrthiodd ef i mewn iddo, ac ni welais i mo hono mwyach.

Yna y llawenychodd Cristion, ac efe a lefarodd â chalon gomfforddus gan ddywedyd, Trwy ei ofyd ei hun a'i far­wolaeth, y rhoddodd efe esmwythdra a bywyd i mi. Yna efe a safodd ennyd yn llonydd, gan edrych a rhyfeddu; ca­nys yr oedd yn dra rhyfedd gantho, i olwg ar y Groes ei esmwythau ef o'i Faich fal hyn. Am hynny efe a edry­chodd, ac a edrychodd drachefn, hyd oni tharddodd Dyfroedd allan o ffyn­honnau ei Ben ef, i War [...]d. ward ar hyd ei ryddiau ef, Zach. 12. 10. Yn awr fal yr oedd efe yn edrych ac yn wylo, we­le Dri o rai disclair gogoneddus yn dyfod atto, ac yn cyfarch gwell iddo, gan ddywedyd, He­ddwch. Tangneddyf i ti; A dywedodd y cyntaf wrtho o Gristion! [Page 81] Maddeuwyd i ti dy bechodau, Mat. 9. 2. A'r Ail a Ddihat­rodd. ddioscodd ei Frattiau oddi­am dano, ac a'i gwiscodd ef a Dillad newydd, Zach. 3. 4. A'r Trydydd a osododd nôd ar ei dalcen ef, ac a ro­ddodd blyg-lyfr iddo, a sèl arno; ac a archodd iddo edrych ar hwnnw wrth ymdeithio, a'i roddi ef i mewn ym mhorth y Ddinas nefol, Eph. 1. 13. Ac ar ôl hynny hwy a Aethant ymaith. aethant i bant, a Christion a Neidi­odd. lammodd dair gwaith o lawenydd, ac a aeth Ym mlaen. rhagddo dan ganu,

Mi ddaethum hyd yn hyn mewn gofyd,
Dan ddirfawr Faich fy mhechod enbyd;
Yn llwythog iawn, heb allu canfod,
Dim a allai laesu 'nhrallod.
Daethum ymma dan ofydio;
'Nawr 'rwi 'n cael fy llwyr gyssuro:
A raid ir lle bendigaid ymma,
Ddechrau fy hapusrwydd mwya?
A'i ymma syr [...]h fy maich aflawen,
Yn rhydd, yn rhwydd, oddiar fy nghefen?
A'i ymma torrir y rheffynnau.
A rwymodd hwnnw ar fy 'scwyddau?
Bendigaid Groes, a Beddrodd
Llesiol.
buddiol!
Yn hytrach tra bendigaid bythol,
A fo 'r Gwr aeth yn ei vn-swydd,
Er fy mwyn, i oddef gwradwydd.

Yna mi a welais Cristion yn myned Ym mlaen. rhagddo, hyd oni ddaeth efe i or­wared, [Page 82] lle y gwelodd e, ychydig allan o'r ffordd, dri o wyr yn cyscu 'n drwm, a'u Traed â lly ffythyriau arnynt; A'u Henwau oedd Angall, Diog, a Rhyfyg.

Cristion, Wedi ei gweled hwynt yn gorwedd yn Fal hyn. llyn, a aeth attynt, i edrych a allai efe ei Deffroi. dihuno hwy: Ac a waeddodd gan ddywedyd, yr ydych chwi ymma fal 'rhai yn cyscu ar ben Mast llong. hwyl bren, ac y mae y mòr marw, sef y pwll di-waelod, oddi tanoch, Dihar. 23. 34. Deffrowch gan hynny, a dewch ymmaith: Byddwch ewyllys­gar hefyd, ac myfi a'ch rhyddháf chwi o'ch heirn. Dywedodd hefyd wrthynt, os Y Di­awl. yr hwn sy 'n rhodio oddiamgylch fal Llew rhuadwy, a ddaw heibio, chwi a fyddwch yn ddiammau yn ysclyfaeth iw Ddannedd ef, 1 Pet. 5. 8. Ar hynny hwy a edrychasant arno, ac a'i hattebasant ef fal hyn: Angall a ddy­wedodd wrtho, Ni welaf i ddim perygl; Diog a ddywedodd, etto ychydig heppian: A Rhyfyg a ddywedodd, Rhaid i bob llestr sefyll ar ei waelod ei hun; ac felly hwy a orweddasant i lawr i gyscu dra­chefn, a Christion a aeth iw ffordd.

Etto yr oedd yn flîn gantho ef feddwl, i wyr oedd yn y p [...]rygl hwnnw, ddi­brisio ei garedigrwydd [...]f, gan iddo gynnig i helpu nhwy mor rhwydd ac [Page 83] mor rhâd, trwy eu deffroi, a'i cyng­hori, a dangos ei ewyllysgarwch i rhydd­hau nhwy o'i heirn: Ac fal yr oedd efe yn ymofydio ynghylch hynny, fo gan­fu ddau wr yn dyfod bendramwnwgl dros y Wal. mur, ar y llaw asswy ir ffordd gyfyng; a hwy a ddaethant i fynu atto ef yn ebrwydd: Enw vn o honynt oedd Ʋn â ffurf duw­ioldeb gan­tho oddi allan, etto heb rym duwioldeb yn ei ga­lon. Ffurfiol, ac Enw 'r llall oedd Rhagrithiwr: Yntef a ddechreuodd ymddiddan â nhwy fal hyn.

Cris.

Foneddigion, o ba le y daethoch chwi, ac i bale yr ydych yn myned?

Ffurf, a Rhag.

Fe a'n ganwyd ni yn Nhir Gwag-ogoniant, a myned yr ydym ni tua mynydd Sion am glôd.

Cris.

Pa ham na ddaethoch chwi i mewn trwy 'r porth, y sydd ym mhen y ffordd? Oni wyddoch chwi fod hyn yn scrifennedig, yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy 'r drws, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac yspeiliwr yw. Joan. 10. 1.

Ffurf. a Rhag,

Hwyntau a ddywe­dasant, fod ei holl wladwyr hwy yn cyfrif y ffordd ir Porth, yn rhy bell O am­gy [...]. o daetu, ac am hynny eu harfer hwy oedd ei chwttogi hi, a dringo dros y mur, fal y gwnaethant hwythau.

Cris.

Eithr oni chyfrifi hyn yn gam­wedd, fef, i rai drosseddu fal hyn, yn [Page 84] erbyn ewyllys datcuddiedig Arglwydd y Ddinas, yr ydym ni yn myned tuag atti.

Ffurf, a Rhag.

Hwyntau a ddywe­dasant wrtho; nad oedd raid iddo ef flino ei Ben ynghylch hynny; oblegit fod ganthynt hwy ddefod am y peth yr oeddent yn ei wneuthur, ac y gallent (ped-fyddai raid) ddwyn tystiolaeth, a dystiolaethai hynny, er ys mwy nâ mîl o flynyddoedd.

Cris.

Eithr ebe Cristion, a fydd eich gwaith chwi yn gymmeradwy, os profir ef wrth y Gyfraith?

Ffurf, a Rhag.

Hwythau a ddywe­dasant wrtho ef, y caiff Defod, gan ei bod yn sefyll cyhyd, sef, er ys mwy nâ mil o flynyddoedd, ei chyfrif yn awr yn ddiammau, yn lle cyfraith, gan [...]arnwr annhueddol. Ac heblaw hyn­ny, ebe nhwy, os daethom ni ir ffordd, pa fatter ydyw, pa fodd y daethom ni iddi: Os ydym ni ynthi, yr ydym ni ynthi: Nid wyt ti ond yn y ffordd, yr hwn a ddaethost, fal y gwyddom ni, trwy 'r porth; ac yr ydym ninnau he­fyd yn y ffordd, y rhai a ddaethom iddi bendramwnwgl dros y Wal. mùr: Ym-mha beth weithian y mae dy gy­flwr di yn well nâ'r eiddom ni?

Cris.

Yr wyfi yn rhodio yn ôl Rheol fy Meistr, a chwithau ydych yn rhodio [Page 85] yn ôl Eich Phansi a­fluniaidd. eich Tyb gwrthun eich hunain. Yr ydychi yn Lladron eisoes, ynghyfrif Arglwydd y ffordd; am hynny y mae 'n ddiammau gennif, na chair mo honoch yn wyr cywir yn ei diwedd hi, Joan 10. 1. Chwi a ddaethoch i mewn yn ôl eich cynghor eich hunain, Heb ei gyfarwyddiad ef; a chwi a gewch eich gyrru allan wrthych eich hunain, heb ei drugaredd ef, Luc. 13. 25, 26, 27.

Eithr nid attebasant hwy nemawr i hyn: yn vnic hwy a erchasant iddo ef edrych atto ei hun. Yna mi a'u gwelais hwynt yn myned Ym­mlaen. rhagddynt, bob vn ar hyd ei ffordd, heb ymddiddan ond ychydig iawn ai gilydd; Oddi­eithr. namyn dy­wedyd o'r ddau wr ymma wrth Gristi­on, mai am Ddeddfau ac Ordinhadau, nad oeddent yn Dowto ammau, nas cadwent y rheini mor gydwybodol ac yntau. Am hynny, ni wyddom ni, ebe nhwy, pa Rhagor­iaeth. wahaniaeth sydd rhyngot ti a ninne, ond bod Y bais. y gôt yna am dy gefn di, yr hon a roddwyd i ti (dy­bygwn ni) gan rai o'th gymmydogion, i guddio gwarth dy noethni.

Cris.

Ni achubir mo honoch chwi trwy Ddeddfau ac Ordinhadau, Gal. 2. 16. Ni dderbynnir neb ir Ddinas Nefol, ond y sawl sy'n dyfod yno trwy 'r Drws, Joan. 10. 9. Jo. 14. 6. Ac am y Siacced. got yma sydd am [Page 86] fy nghefn, hi a roddwyd i mi gan Arglwydd y lle yr wyf yn myned iddo; a hynny, fal y dywedasochi, i guddio fy noethni â hi. Ac yr wyf yn ei chymmeryd hi fal Arwydd o'i garedigrwydd ef tuag attaf, canys nid oedd gennif ddim ond Sef, fy ngyfiawn­derau gwael fy hun. brattiau o'r blaen: Ac heblaw hynny, yr wyf yn comfforddio fy hunan yn y modd yma wrth siwrneio, Yn ddiau, dybyg af fi, Pan ddelwyf i Borth y Ddinas, ei Har­glwydd hi a'm adnebydd i yn ddigon da, gan fod gennif ei siacced ef am danaf; y Sef cyfi­awnder Crist. siac [...]ed a roddodd efe i mi yn rhâd, yn y dydd y dioscod efe fy mrattiau oddiam-danaf. Y mae gennifi hefyd Nôd ar fy nhalcen (yr hwn, ond odid, ni ddaliasochi sulw arno) a osodwyd yno gan yn o gyfeillion anwylaf fy Ar­glwydd, yn y Dydd y syrthiodd fy Maich oddiar fy ysgwyddau. Ac mi a ddywedaf i chwi yn ychwaneg, roddi i mi y pryd hynny Blyg lyfr wedi ei selio, im cyssuro i wrth ei ddarllen ar hyd y fford: ac fe a orchymynnwyd i mi hefyd, i roddi ef i mewn ym mhorth y Ddinas nefol, yn arwydd o'm mynediad si [...]cr innau, i mewn ar ei ôl ef ir fann honno. Y mae n Sic [...]r. ddilys gennif, fod arnochi eisiau y p [...]thau hyn oll; ac yr ydych chi hebddynt hwy, [Page 87] am na ddaethoch i mewn trwy 'r Porth.

Nid attebasant hwy ddim iddo ef ynghylch y matterion ymma; yn vnic hwy a edrychasant ar ei gilydd, ac a chwarddasant. Yna mi a'i gwelais hwy oll yn myned ym mlaen, ond bod Cristion yn cerdded yn dynnach gan eu gadael hwynthwy yn ei ôl, ac nid ymddiddanodd e ddim mwyach a nhwy; ond yr oedd e'n myfrio yntho ei hun, weithiau dan ochneidio, a weithiau dan ymgyssuro: hefyd efe a fyddai yn darllen yn fynych yn ei blyg­lyfr, ac yr oedd efe yn cael Diddanwch oddiwrtho.

Mi a'i gwelwn hwy Ar ôl hynny. gwedyn, yn myned oll ym-mlaen, hyd oni ddae­thant i ymmyl Bryn anhawstra, ac wrth y Bryn hwnnw yr oedd ffynnon: Ac hefyd yn yr vn lle yr oedd dwy ffordd arall, heblaw yr hon oedd yn dyfod yn vnion oddiwrth y Porth; vn yn troi ar y llaw asswy, a'r llall ar y llaw ddehau, wrth droed y mynydd: eithr yr oedd y ffordd gyfyng yn myned yn vnion i fynu ir Bryn Fe aeth Cri­stion yn awr ir Sef o gy­ssuron yr yspryd glan. ffynnon, ac a yfodd o honi i adfywio ei hun, Esay. 49. 10. ac yna efe a ddechreuodd fyned i fynu ir Bryn, dan ganu, [Page 88]

Yr wyf yn chwennych mynd yn gefnog,
I Benn y Bryn sydd fawr
A chop­pa vchel gantho.
a chribog:
Er ucheled yw ei goppa,
Ni'm rhwystrir i,gan ddim anhawstra.
Can's Mi wn, mai dymma 'r hyfryd
Ffordd sy'n arwain Dyn i fywyd:
Cyfod galon, awn yn wisgi,
Llwyr yn blaen, heb ball nac ofni.
Gwell yw cerdded yffordd vnion,
Er bod rhwystrau yn ei chylchon:
Nâ mynd 'rhyd y traws gam lwybyr,
Er ei fod e'n hawdd ddirwystyr.

Y Ddau eraill hefyd a ddaethant, hyd Droed y Bryn; eithr pan y gwelsant, fod y Bryn Yn uchel i fyned i fynu ar hyd-ddo. yn serth, a bod yno ddwy ffordd arall i fyned; a chan dybygu hefyd, y cyfarfyddai y ddwy ffordd hynny drachefn, â'r ffordd yr aethai Cristion i fynu ar hyd-ddi (ar yr ystlys arall in Bryn) hwy a ymroesant am hynny i fyned ar hyd y ffyrdd ymma (Enw vn or ffyrdd oedd Perygl, ac Enw 'r llall oedd Destryw) Felly y naill wr a gymmerodd y ffordd a elwir Perygl, yr hon a'i harweinodd ef i Goed. Goedwig fawr; a'r llall a aeth yn vnion, ar hyd y ffordd oedd yn arwain i Ddestryw, yr hon a'i harwainodd ef i Fann Llydan. chang, yn llawn o fynyddoed tywyll, lle y tram­cwyddodd ac y syrthiodd e; ac ni chy­fododd e mwyach.

[Page 89] Yna mi a edrychais ar ol Cristion, iw weled ef yn myned i fynu i ben y Bryn; ac mi a'i gwelwn ef, gwedi rhedeg ar y cyntaf, yn cerdded yn awr, ac o'r diwedd yn crippian i fynu ar ei draed a'i ddwylo, oblegid bod y lle yn serth ac yn llythrig. Ac ynghylch hanner y ffordd i Ben y Bryn, yr oedd Sef, o bethau 'r byd hwn, iw har­fer yn gymmhe­drol. llwyn hyfryd o goed plann, wedi ei osod gan Arglwydd y Bryn, i adfywio ymdeith­wyr deffygiol. Ac am hynny fe aeth Cristion yno, ac a eisteddodd i lawr, i gymmeryd gorphwysfa yn y lle hwnnw. Yna efe a gymmerodd ei Blyg-lyfr allan o'i fynwes, ac a ddarllenodd yntho, ac a gafodd ddiddanwch oddiwrtho. Efe a ddechreuodd hefyd yn awr ail-edrych ar y siacced, a roddasid iddo ef, pan yr oedd ef yn sefyll wrth y Groes. A chwedi iddo gael bodlonrwyd yn y pethau hyn tros ennyd; o'r diwedd, efe a syrthiodd I fath o esceu­lusdra am ei enaid i heppian, ac ar ôl hynny i drwm gyscu: A'r cwsc hwn a'i cadwodd ef yn y man hwnnw, hyd onid oedd ni ymron nôs, a'i blyg-lyfr a syrthiodd o'i law ef wrth gyscu, Dat. 3. 2. 1 Thess. 5. 7, 8. Ac fal yr oedd efe yn cyscu, daeth vn atto ac a'i de­ffrôdd ef, gan ddywedyd wrtho, Cerdda at y morgrugyn tydi ddiogyn, edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth, Dihar. 6. 6. [Page 90] A chyda hynny y neidiodd Cristion i fynu yn orwyllt, ac a aeth ar ffrwst iw ffordd, ac a gerddodd yn Ebrwydd chwai, hyd oni ddaeth ef i Ben y Bryn.

VVrth y plyg-lyfr yma, y gallwn ni ddeall addewidion Duw, a siccrwydd y Cristion (ynghylch ei iechydwriaeth,) yr hw [...] siccrwydd sydd yn tarddu, oddiwrth yspryd Duw a'i râs ef y [...] yr enaid.

Yn awr pan y daeth efe i fynu i Ben y Bryn, fo welai ddau wr yn rhedeg yn gyflym tuag atto: Enw vn o honynt oedd Ofnog, ac Enw'r llall oedd Anhy­derus: a Christion a ddywedodd wrth­ynt, Ha-wyr, pa ham yr ydych yn rhedeg tuag ymma? Ofnog a attebodd, mai myned yr oeddent tua Dinas Sion, a darfod iddynt ddyfod i fynu o'r llethr neu'r rhiw oedd anhawdd iw ddringo; eithr eb efe, pa bellaf yr elem ni, mwy a fyddai y perygl a gyfarfyddai â ni: Am hynny ni a droesom, ac yr ydym yn myned yn ôl drachefn: ie ebe Anhy­derus, canys yr oedd Dau Lew yn gor­wedd yn gymmwys yn y ffordd o'n blaen (pa vn a'i yn cyscu, a'i yn neffro, nis gwy­ddom) ac ni allem ni dybied llai, os deuem ni o fewn eu cyrraedd, na byddai iddynt yn ebrwydd ein llarpio a'n rhwygo ni Yn chwilfriw yn gan-dryll. Dihar, 22. 13. Dihar. 26. 13.

Cris.

Yna ebe Cristion, yr ydychwi [Page 91] yn peri i mi ofni: eithr i ba le y ffoaf, i fod mewn diogelwch? Os âf yn ôl i'm Gwlâd fy hun, y mae honno wedi ei pha­rottoi i Dân a Brwmstan; ac fe dder­fydd am danafi yno yn ddiammau. Os gallaf fyned ir Ddinas nefol, y mae 'n Siccr. ddilys gennif, y byddafi yno mewn Diogelwch. Rhaid i mi Fentro. anturio i fyned ym mlaen: nid yw myned yn ôl ddim amgen nâ marwolaeth; ac nid yw myned ym mlaen ond ofn marwolaeth: eithr y mae Bywyd tragwyddol yn ei gan­lyn ef; Ac am hynny myfi a âf rhagof etto. Felly Anhyderus ac Ofnog a redasant i wared ar hyd y llethr, a Christion a aeth rhagddo yn ei ffordd. Eithr gwedi meddwl drachefn am yr hyn a glywsai ef gan y Gwyr, efe a chwiliod yn ei fonwes am ei blyg-lyfr, fal y gallai fo ddarllain yntho, a chael cyssur oddiwrtho; eithr er ymofyn am dano, ni chafodd mo honaw. Yna yr oedd Cristion mewn cyfyngder mawr, ac ni wyddai fe pa beth a wnelai, am fod arno eisiau y peth oedd yn arfer ei adfywio ef, a'r peth a ddylasai fod megis Pass (neu lythyr) yn ei law ef, fal y byddai iddo gael ei dderbyn ir Ddinas nefol. Yn yr Trallod. ing­der ymma, efe a gofiodd o'r diwedd, iddo gyscu dan y llwyn oedd ar Ystlys. ochr y Bryn: A chan syrthio ar ei liniau, efe a [Page 92] ofynnodd faddeuant gan Dduw, am iddo fod mor ynfyd A bod yn esceulus am fatterion ei iechyd­wri [...]eth. a chyscu yno: ac wedi hynny efe a ddychwelodd yn ôl, i ym­ofyn am ei blyg-lyfr. Eithr pwy a ddichon fynegi faint oedd gofyd ei galon ef, ar hyd yr holl ffordd, yr oedd efe yn dychwelyd yn ei wrthol ar hyd-ddi? Weithie yr oedd e'n ochneidio, weithie yn wylo, ac yn fynych yn beio arno ei hun, am fod mor ynfyd, a chyscu yn y lle hwnnw, a wnelsid yn vnig i Fr [...]shhau adfywi [...]. ddadebru ychydig arno ef yn ei Diffygio. ludded. Fal hyn gan hynny y dychwelodd e'n ôl, gan edrych yn ofalus, y tu yma, a'r tu arall, ar hyd yr holl ffordd yr oedd efe yn tram­mwy arni; i brofi a allai fo ysgatfydd Findio allan. gael cwrdd a'i blyg-lyfr, yr hwn a'i cyssurodd ef cyn fynyched yn ei daith. Ac yn y modd hyn y cerddodd efe, nes can­fod y Llwyn drachefn, lle y buasai fo yn eist­edd ac yn cyscu: eithr yr olwg honno a ad­newyddodd ei dristwch ef yn fwy, trwy ddwyn ar gôf iddo eilchwaith ei gwsc pe­chadurus. Eithr efe a aeth ymmlaen dan alaru am y cyscu yma, gan ddywedyd, ys truan o ddyn ydwyfi! i mi gyscu liw ddydd! i mi gyscu ynghanol peryglon! i mi foddháu y cnawd cyn belled, ac arfer yn lle esmwythdra ir corph y gorphwysfa honno, a bwyntiasai Arglwydd y Bryn, yn vnic i gomfforddi eneidie Pererinion! Pa sawl [Page 93] cam a gerddais i yn ofer! (fal hyn y digwy­ddodd ir Israeliaid am eu pechodau; hwy a anfonwyd yn eu hôl drachefn ar hyd ffordd y mor côch) ac yr wyf innau yn awr yn cerdded y liwybrau hynny mewn gofyd, y rhai a allaswn i eu cerdded mewn hyfry­dwch, oni buasai y cwsc pechadurus hwn.

Pa belled y buaswn i yn fy ffordd er­byn hyn! Y mae 'n gorfod i mi gerdded dair gwaith y Cammau camre, na buasai raid i mi ei cerdded vnwaith ond vn: Ie yn awr hefyd y mae hi yn debyg i fyned yn nôs arnaf, canys y mae 'r Dydd yn dar­fod: O na buaswn i heb gyscu! Erbyn hyn yr oedd efe wedi dyfod at y Llwyn drachefn, ac fo a eisteddodd yno ennyd, ac a wylodd; eithr o'r diwedd (mal yr oedd Cristion yn ewyllysio) wrth edrych â chalon drom tu ar llawr, efe a ganfu ei Lyfr dan y faingc; ac yn ddychryn­llyd fo a'i cippiodd ef i fynu ar frys, ac a'i gosododd ef yn ei fonwes: Eithr pwy a all fynegi mor llawen oedd y Gwr hwn, pan y cafodd e ei blyg-lyfr drachefn? Canys y llyfr ymma oedd siccrwydd ei fywyd ef, a'i siccrwydd ef ynghylch ei dderbyniad i mewn ir Hafan, neu lê, i longau i aros yntho mewn dio­gelwch. porthladd dymu­nol (sef ir Nefoedd) Am hynny efe a'i gosododd ef i gadw yn ei fonwes, ac a ddiolchodd i Dduw am gyfarwyddo ei ly­gaid ef at y man, lle yr oedd y llyfr yn gorwedd. A gwedi hynny, dan lawen­hau [Page 94] ac wylo, efe a aeth ym-mlaen yn ei ffordd. Eithr o mor fuan y cerddodd efe i fynu ar hyd y rhan ddiweddaf o'r Bryn! Etto cyn iddo fyned i fynu, fe fachludodd yr Haul ar Gristion; a hyn a wnaeth iddo alw ei gwsc ofer, iw gôf drachefn. Ac fo a ddechreuodd eilch­waith gwyno wrtho ei hun fal hyn. O tydi Gwsc pechadurus! Mor debygol yw hi, i nossi arnafi yn fy nhaith o'th achos di! Rhaid i mi rodio heb yr Fe gu­ddia Duw ei wyneb oddiwrth ei bobl, pan y cyscant ac y bydd­ant esc [...]u­lus yng­hylch ei iechydwr­ia [...]th. Haul; a Thywyllwch a orchguddia fy llwybr i! Ac o'th-ble▪ it ti (o fy nghwsc pechadurus) fe orfydd arnafi glywed rhuad creaduriaid blin! Yn awr hefyd fo a gofiodd y stori a ddywedasai Anhy­derus ac Ofnog wrtho ef, y modd y dych­rynwyd hwynt-hwy wrth weled y Llewod. Yna y dywedodd Cristion wrtho ei hun drachefn; y mae 'r Bwystfilod hyn yn rhodio oddiamgylch yn y nôs, i geisio ysclyfaeth; ac os cyfarfyddant a mi yn y tywyllwch, pa fodd y gyrraf hwynt ym­maith! Pa fodd y diangaf rhag cael fy llarpio ganthynt? Fal hyn yr aeth e rhagddo yn [...] ffordd: Eithr tra yr ydo­edd efe yn galaru oblegid ei gam-ymddy­giad anhappus, fo a dderchafodd ei lygaid; ac a ganfu yno, yn ymyl y ffordd o'i flaen ef, Llys Bre­nhinol. Balâs gwŷch iawn, ac enw 'r Palâs oedd Prydferth.

[Page 95] Felly mi ai gwelais ef yn bryssio, ac yn myned rhagddo, mal os byddai bossibl y gallai efe gael lletty yno: Eithr cyn iddo fyned yn-nepell, fo a ddaeth i le cûl iawn, yr hwn oedd yng­ [...]ylch tair ystang oddiwrth Babell y Vn yn cadw'r drws. Porthor; a chan edrych yn ofalus o'i flaen wrth gerdded, efe a ganfu ddau Lew yn y ffordd. Yn awr eb efe, mi a welaf y peryglon a yrrasant Anhy­derus ac Ofnog i ddychwelyd yn ôl; (yr [...]edd Y Cyth­reuliaid. y llewod wedi eu cadwyno, [...]nd nid oedd e yn gweled y cadwyni) yna efe a ofnodd, ac a fwriadodd ddy­chwelyd yn ol, megis y gwnaethant hwy­thau; canys yr oedd efe yn meddwl, nad oedd dim ond marwolaeth o'i flaen ef: Eithr y Porthor (enw yr hwn yw Gwiliadwrus Mar. 13. 34.) wrth weled Sef, Prege­thwr yr efengyl. Cristion yn ymattal rhag myned ym­mlaen, mal pe buasai ar feddwl troi yn ei wrthol, a waeddodd arno ef, gan ddywedyd; A wyt ti mor wan-galon a hynny? Nac ofna y Llewod; canys y maent wedi eu cadwyno, a chwedi Eu go­sod. eu cyfléu yn y mann yna, i brofi ffydd lle y mae hi, ac i ddatguddio y rhai sydd hebddi: Cadw di dy hunan yng­hanol y llwybr, ac ni bydd niweid i ti. 2 Pet. 2. 4.

Yna mi a'i gwelais ef yn myned ym­mlaen, [Page 96] dan grynu rhag ofn y llewod: Eithr trwy ymgadw yn ôl Cyfar­wyddiad. hyffor­ddiad y Drysor, efe a'i clybu hwynt yn vnic yn rhuo, ond ni wnaethant hwy ddim niwed iddo: Yna efe a gurodd ei ddwylo ynghyd, ac a aeth rhagddo, hyd oni ddaeth ef a sefyll o flaen y Porth, lle yr oedd y Porthor yn aros. Yna y dywedodd Cristion wrtho, Syr, Pa Dŷ yw hwn? A allafi gael letty ymma heno? A'r Porthor a attebodd, y Tŷ hwn a adeiladwyd gan Arglwydd y Bryn, er mwyn Cyssure. adfywio a diogelu Pererinion. Y Porthor hefyd a ofyn­nodd i Gristion, o ba le yr wyt ti 'n dyfod? Ac i ba le yr wyt ti 'n myned?

Cris.

Dyfod yr wyfi o Ddinas De­stryw, ac yr wyfi 'n myned tua mynydd Sion: Eithr oblegit bod yr Haul wedi machludo, yr wyf yn dymuno cael lletty ymma dros noswaith.

Porthor.

Pa beth yw eich Enw chwi?

Cris.

Fy Enw i Yr aw­ron. yr-wan yw Cristi­on; eithr fy Enw i ar y cyntaf oedd Di-ras: Yr wyfi yn vn o Hilio­gaeth. lîn Japheth, yr hwn a ynnill Duw i breswylio ym-mhe­byll Sem, Gen. 9. 27.

Porth.

Pa fodd y digwyddodd, eich bod chwi yn dyfod cyn hwyred; y mae'r Haul wedi machludo?

Cris.

Myfi a fuaswn yma 'n gynt; [Page 97] eithr ys truan o Ddyn ydwyf: Mi a gyscais dan y llwyn sy'n sefyll ar ystlys y Bryn: Nage mi a fuaswn yma er hynny yn gynt o lawer, Y mae y rhai gra­sol yn colli eu sic [...]rwydd ynghylch eu i [...]chyd­wriaeth, a pheth o'i golwg he­fyd ar addewidion Duw am Drugaredd, pan y maent hwy yn dyfod i fod yn gysclyd yn eu heneidiau, ac yn esceulus i wneuth­ur ewyllys Duw, gan ymogwyddo i roddi bodlonrhwydd idd eu nattur llygredig ei hun, fal y gallwn ni weled wrth siampl Da­fyd, Psal. 51. 11, 12. oni buasai i mi golli fy siccrwydd wrth gyscu, a dy­fod hebddo ef hyd at ael y Bryn. Ac yna wedi ymofyn am dano, ac heb ei gael ef, fe orfu i mi gyda gofyd calon droi 'n ôl ir lle y cyscaswn i yntho, lle y cefais i ef: Ond o'r diwedd yr wyfi wedi dyfod yma.

Porthor.

Wele, mi a alwaf ar vn o Langcesi y lle yma, yr hon, (os bydd hi bodlon i'ch ymadroddion) a'ch dwg chwi i mewn at y Teulu, yn ôl defod y Tŷ. Ar hynny fe a ganodd y Por­thor glôch; ac wrth ei swn hi, fe ddaeth Llangces sobr brydferth allan ir Drws (a'i henw hi oedd Pwyllog) ac a ofyn­nodd, pa ham yr oeddid yn galw arni hi? A'r Porthor a attebodd, y Gwr hwn sydd yn ymdeithio o Ddinas De­stryw i Fynydd Sion; Eithr gan ei fod e'n ddeffygiol, ai bod hi gwedi nossi arno, efe a ofynnodd i mi, a allai fo gael lletty yma dros nôs: Felly myfi a [Page 98] ddywedais wrtho, y gelwn i arnat ti, yr hon a elli, ar ôl ymddiddan ag ef wneuthur fal y byddo da yn dy olwg, yn ol Defod y Tŷ.

Hithau A chw­arddodd. a wenodd ar Gristion, ond yr oedd y Dwr yn sefyll yn ei llygaid hi: A chwedi sefyll ychydig heb Ddywe­dyd. yng­anyd vn gair, hi a ddywedodd, myfi a alwaf allan ddau neu dri Yn ych­waneg. yn rhagor o'm Teulu. Felly hi a redodd i ddrws y Tŷ, ac a alwodd am Ddoethineb, Duwioldeb, a Chariad I ddyf [...]d allan. i ddyfod i maes; y rhai, wedi ymddiddan ag ef ychydig ym-mhellach, a'i harwainiasant ef i mewn ir Tŷ: A llawer o honynt, gan ei gyfarfod ef wrth drothwy 'r drws, a ddywedasant wrtho, Derbyni­ad y Pere­rin i'r Ty hwn, sydd yn dodi allan dder­byniad y pech [...]d [...]r edifeiriol ir Eglwys weledig ar y Ddaiar, lle y mae dainteith­ion yspry­dol iw cael trwy 'r Gair, a'r Sacra­mentau, ac eraill o [...] Duw Tyred i mewn tydi fendigedig yr Arglwydd; Fe adeiladwyd y Tŷ hwn gan Arglw­ydd y Bryn ir dib [...]n yma, sef, i roe­sewi Pererinion yntho. Yna efe a gyfarchodd iddynt, ac a'u canlynodd hwynt ir Tŷ. Ac wedi dyfod i mewn ac eist [...]dd i lawr, hwy a roddasant iddo ryw beth i yfed, ac a gyttunasant yng­hyd, mai hyd oni byddai swpper yn barod, y cai rhai o honynt, er mwyn gwneuthur defnydd da o'r amser, ym­ddiddan â Christion yn neilltuol yng­hylch p [...]thau crefyddol: A hwy a or­deiniasant Doethineb, Duwioldeb, a Cha­riad [Page 99] i chwedleua ag ef, ac hwy a dde­chreuasant fal hyn.

Duwioldeb.

Pa beth a'ch hannogodd chwi ar y cyntaf i fod yn Bererin? A pha fodd y digwyddodd i chwi ddyfod allan o'ch gwlâd y ffordd yma?

Cris.

Fo 'm gyrrwyd i allan o wlâd fy 'ngenedigaeth gan swn ofnadwy oedd yn fy nghlustiau, sef, bod Destryw an­ocheladwy yn fy nghanlyn, os trigwn i yn y mann, lle 'r oeddwn. A phan y dychrynwyd fi ag ofn y Destryw yma, ac ni wyddwn i, i ba le yr awn; trwy ragluniaeth Duw (fal yr oeddwn yn crynu ac yn wylo) fe ddaeth Gwr attafi, a elwid Efangylwr, ac efe a'm cyfar­wyddodd i ir Porth cyfyng; Allan o hynny, nis gallaswn i ei ffindio ef allan. pe amgen ni chawswn i gwrdd ag e byth; ac felly fo 'm gosododd i yn y ffordd a'm harweiniodd i yn vnion ir Tŷ hwn.

Duwioldeb.

Eithr oni ddaethochwi heibio i Dŷ y Deonglwr?

Cris.

Deuthym, ac a welais yno y fath bethau, ac y glŷn eu coffadwriaeth hwy wrthyf tra fyddwyf byw, yn en­wedig tri pheth, sef, y modd y mae Crist, er gwneuthur o Satan ei waethaf, yn cynnal gwaith ei râs yng halonnau ei bobl: Y modd y Pechodd rhyw wr mor echrydus, hyd onid oedd efe yn gwbl allan o obaith a'm drugaredd Duw; Ac [Page 100] hefyd Breuddwyd yr hwn a dybiasai fod Dydd y farn wedi dyfod: Yr oedd fy nghalon i yn crynu pan yr adroddodd y Gwr ei freuddwyd, etto y mae 'n llawen genif i mi ei glywed ef. Llawer o bethau eraill a welais i ar y ffordd; ond vn peth oedd fwyaf nodedig, sef, Pan y gwelais i vn yn crogi ac yn gwae­du ar y Groes, fe wnaeth yr olwg ar­no ef i'm Baich i syrthio oddiar fy nghefn; a'r Baich hwnnw a fu yn fatter o flinder mawr im fi, Zech. 12. 10. Zech, 13. 1.

Doethineb.

Onid ydychwi yn meddwl weithie am y wlâd, o'r hon y daethoch allan?

Cris.

Ydwyf, eithr gyd â llawer o gywilydd a ffieidd-dra: Yn wir pet­tawswn i yn meddwl (gydag hyfrydwch) am y wlâd honno, o'r hon y daethym allan, mi a allaswn gael Amser cyfaddas. adeg i ddy­chwelyd yn ôl; Eithr yn awr, Gwlâd well yr wyfi yn ei chwennych, hynny ydyw vn nefol, Heb. 11. 15, 16.

Doeth.

Onid ydychwi etto yn canfod ynoch eich hunan rai o'r pethau, yr oe­ddech chwi y pryd hynny yn gynefin â hwynt.

Cris.

Ydwyf, eithr y mae 'r pethau hynny ynof, yn erbyn fyng 'wyllys yn fawr iawn, yn enwedig fy meddyliau [Page 101] cnawdol, y rhai oeddynt yn dra hyfryd gennif gynt: Eithr yn awr y mae 'r meddyliau hyn oll yn flinder i mi: A phe gellwn i ddewis yr hyn sydd d da, myfi a ddewiswn, nas meddyliwn i y fath feddyliau byth mwyach: Eithr pan fyddwyf yn ewyllyssio gwneuthur yr hyn sydd oreu, y mae yr hyn sydd waethaf yn bresennol gyda mi, Rhuf. 7. 21:

Doeth.

Onid ydychwi yn edrych ar y pethau hyn weithiau, mal pettaent wedi eu gorchfygu, y rhai sy brydiau eraill yn Ddyry­swch: Ben-bleth a blinder i chwi?

Cris.

Ydwyf, ond nid yw hynny ond yn anfynych iawn: Eithr Awrau o aur. oriau eu­raidd yw y rheini im fi, yn y rhai y digwydd i mi gael yr oruchafiaeth ar fy llygredigaethau.

Doeth.

A ellwch chwi gofio, trwy ba foddion, y mae y llygredigaethau blinde­rus hyn yn cael eu darostwng ynoch, mal pettaent wedi eu gorchfygu?

Cris.

Gallaf, 1. Pan feddyliwyf am yr hyn a welais i Crist yn gwaedu. wrth y Groes; 2. Pan yr edrychwyf Cyfiawn­der Crist. ar fy siacced cyfre­strog (embroidred) 3. Pan ddarllenwyf yn Siccr­wydd am iechyd­wriaeth. y plyglyfr yr wyf yn ei ddwyn yn fy monwes, 4. A phan fyddo fy meddyliau ynghylch y Y Ne­foedd. lle yr wyf yn myned tuag atto yn ymwressogi, fe [Page 102] rydd hynny ergyd marwol i'm llygre­digaethau.

Doeth.

A pha beth sy'n peri i chwi fod mor chwannog i fyned i fynydd Sion?

Cris.

Yr wi 'n gobeithio cael gweled yr hwn a fu farw ar y groes, yn fyw yno: Ac yr wyf yn gobeithio y rhydd­heir fi yno, oddiwrth yr holl wendid, y sydd yn fy aflonyddu i hyd y dydd hwn. Y maent yn dywedyd hefyd, nad oes dim marwolaeth yno; ac mi a gâf drigo yno gyda 'r fath Gymdeithi­on, ar y sydd oreu gennif. Ac i ddy­wedyd wrthychi y gwir, yr wyf yn caru yr hwn a fu farw ar y groes, am iddo fe fy esmwythau i o'm Baich, Luc. 7, 47. ac y mae Fy lly­gredig­aethau. fy afiechyd oddi­fewn yn ofydus immi; ac yr wyf yn ewyllyssio bod yn y fann hwnnw, lle na fydd nac afi [...]chyd, na marwolaeth mwyach, a chyda 'r Cymdeithion a fy­ddant yn llefain yn wastadol, Sanct, Sanct, Sanct, Dat. 21. 4. Esay 6. [...].

Yna y gofynnodd Cariad i Gristion, A oes i chwi dylwyth? A ydychi yn wr priod?

Cris.

Y mae gennif Wraig a phedwar o Blant bychain.

Car.

A pha ham na ddygasoch chwi hwynthwy o hyd gydachwi?

Cris.

Ar hynny fe wylodd Cristion, [Page 103] ac a ddywedodd, O mor ewyllysgar yr oeddwn i, iddynt hwy ddyfod gyda Myfi! Ond yr oeddent hwy oll yn gwbl anfoddlon i'm pererindod.

Car.

Eithr chwi a ddylasech ymddi­ddan â nhwy, a dangos iddynt y perygl o aros yn ôl.

Cris.

Felly y gwneuthym, ac mi a fynegais iddynt hefyd yr hyn a ddango­sasai Duw i mi, am Ddinistr ein Dinas ni: Eithr yr oeddwn i yn ei golwg hwy, fal vn yn Jesto. cellweir, ac ni choelient mo honof, Gen. 19. 14.

Car.

A ddarfu i chwi weddio ar Dduw am fendithio eich cynghor iddynt?

Cris.

Do, a hynny gyda gwresog­rwydd calon; canys rhaid i chwi fe­ddwl, fod fy ngwraig a'm plant truain yn anwyl iawn gennif.

Car.

Eithr a fynegasoch chwi iddynt hwy eich gofyd eich hûn, a'ch ofn i gael eich dinistrio.

Cris.

Do eilchwaith ac eilchwaith: Ac hwy a allasent ganfod fy ofn i yng­wêdd fy wyneb-pryd, yn fy nagrau, ac hefyd yn fy nychryn wrth ystyried y Farn oedd ynghrôg vwch ein pennau: Eithr nid oedd y cwbl yn ddigonol iw hynnill hwy i ddyfod gyda mi.

Car.

Eithr pa beth a allent hwy ei ddywedyd trostynt eu hunain, am na ddae­thant hwy gyda chwi?

Cris.
[Page 104]

Yr oedd fy ngwraig yn ofni colli ei meddiannau, a chariad Dynion y byd presennol; a'm Plant oeddynt yn ymroddi i ynfyd ddigrifwch ieueng­ctid: Ac felly hwy a rwystrwyd, [...]hai gan vn peth, a rhai gan beth arall, hyd onis gadawsant hwy myfi I deithio. i siwr­n [...]io, wrthyf fy hunan yn y modd yma.

Car.

Eithr oni ddarfu i chwi ddi­wyno ac halogi â'ch ymarweddiad ofer, y [...] [...]yn oll a lefarasoch chwi mewn ffordd o Gyngor, i hannog hwynthwy i ddyfod gyd a chwi?

Cris.

Mewn gwirionedd ni allafi ganmol fy ymarweddiad: Canys myfi a wn fy mod i 'n llithro mewn llawer o bethau, Iac. 3. 2. Myfi a wn hefyd y dichon Dyn, trwy ei fywyd drwg, ddym­chwelyd mewn ychydig o amser, yr hyn a osodo efe mewn ffordd o Addysc, Rhe­swm, Cynghor a Cherydd, o flaen pobl i troi nhwy at yr hyn sydd dda. Etto mi a allaf ddywedyd hyn, fy mod i yn ofalus iawn, na byddai i mi roddi iddynt Achos. achlyssur, trwy vn weithred anwe­ddus, i gwneuthur hwynt yn wrthwy­neb i ddyfod i bererindod. Ie yn y matter yma, hwy a ddywedent wrthif, fy mod i yn rhy fanol, ac fy mod i yn gwadu fy hunan (er eu mwyn hwy) o ran rhyw bethau, yn y rhai nid oeddent [Page 105] hwy yn gweled dim drwg ynthynt. Nage yr wyf yn tybied, y gallafi ddy­wedyd hyn; Os ydo­edd. o'r 'doedd dim a wel­sant hwy ynofi yn rhwystr iddynt, mai fy ofn mawr i rhag pechu yn erbyn Duw, a gwneuthur cam â'm Cymmy­dogion, ydoedd hynny.

Car.

Cain yn wir a gasáodd ei Frawd, am fod ei weithredoedd ei hun yn ddrwg, a'r eiddo ei Frawd yn dda: Ac os hyn a fu n rhwystr ith Wraig ath Blant, ac a wnaeth iddynt ddigio wrthit, y maent trwy hynny yn ymddangos, eu bod yn Rhai n [...] fynnant fod yn heddychol. anghymmodlon i ddaioni, a thi a ware­daist dy Enaid oddiwrth ei gwaed hwynt. 1 Joan. 3. 12. Ezec. 33. 9.

Yn awr, mi a'u gwelais hwy yn eistedd fal hyn, gan ymddiddan âi gi­lydd hyd onid oedd swpper yn barod: A chwedi iddynt ei pharottoi hi, hwy a eisteddasant i fwytta: Ac yr oedd y Bwrdd wedi ei Llenwi. hulio â Phascedigion, ac â Gwin, ie gloyw win puredig, Esay 25. 6. Mat. 22. 4. A'i holl ymddi­ddan hwy wrth y Bwrdd oedd yng­hylch Arglwydd y Bryn, yn enwedig ynghylch yr hyn a wnaeth E, a pha ham y gwnaeth E yr hyn a wnaeth­pwyd gantho, a pha ham yr adeila­dodd efe y Tŷ hwnnw. Ac wrth yr hyn a lefarasant hwy, Myfi a wybûm, [Page 106] ei fod ef yn Rhyfelwr mawr; ac iddo ef ymladd a'r hwn oedd â nerth Mar­wolaeth gantho, a'i ddinistrio ef, eithr nid heb berygl dirfawr iddo ei hun, yr hyn a wnaeth i mi i garu ef yn fwy. Heb 2. 14, 15.

Ac megis y dywedasant hwy, ac yr wyf finnau yn credu, Efe a gollodd lawer o waed wrth wnenthur hynny. Eithr y peth sy 'n gogoneddu ei Ff [...]for. Ras ef ydyw hyn, sef, iddo wneuthur y cwbl o wir gariad iw wlad. Ac heb law hynny, yr oedd yno rai o'r Teuly yn dywedyd, eu bod yn ymddiddan ag [...]f ar ol ei farwolaeth ar y groes a'i adgyfodiad oddiw [...]th y meirw; a hwy a dystiolaethasant, iddynt glywed allan o'i enau ef [...]i hun, fod gantho gariad mawr t [...]ag at Bererinion truain, hyd [...]nid ellir dywedyd, nad oes gyffelyb iddo iw gael, o'r Dwyrain ir Gor­llewin.

Drach [...]fn, hwy a roddasant ensampl o'r hyn a ddywedasant; a honno oedd, iddo ef ymddiosc o'i Ogoniant fal y gallai efe wne [...]hur hyn dros y tlawd; a dywedas [...]nt iddynt hwy ei glywed ef yn [...]ywed [...]d, Na phreswyliai efe ym Mynydd Sion yn vnic, ond y mynnai efe eraill i breswylio gydag e yno, Phil. 2. 6, 7, 8. Joan, 17. 24. Ac hwy a [Page 107] fynegasant ym-mhellach, iddo ef dder­chafu llawer o Bererinion i fod yn Dywysogion, er eu bob nhwy wrth natur wedi eu geni yn dlodion, a'i dechreuad o'r dommen. 1 Sam. 2. 8. Dat. 1. 6.

Ac fal hyn yr ymddiddanasant, hyd onid aeth hi 'n llawer o'r nôs; ac wedi iddynt eu gorchymyn eu hunain i ga­dwriaeth eu Harglwydd, hwy a aethant iw esmwythdra: A gosodasant y Pe­rerin i orwedd mewn gorvwch ystafell H [...]laeth. ehang, ai ffenestr yn agored tua chodiad yr Haul (enw'r ystafell oedd Tangneddyf) lle yr hunod hyd y wawr­ddydd, ac yna efe a ddeffrodd ac a ganodd;

Ym mha le.
Ym mhle yr wyf yn awr yn gorwedd?
O! dymma ddirfawr gariad rhyfedd,
A Gofal Iesu Grist am Ddynion,
Y rhai y sydd yn Bererinion;
Yn
Rhag­barottoi.
rhagddarbod a thosturio,
Fal y cawn i fy arbed gantho,
Ac
Trigo.
anneddu o fewn y gwiw-lwys
Drothwy nessaf i Baradwys!

Felly hwy a gyfodasant oll y borau dranoeth, ac wedi iddynt ymddiddan ynghylch rhyw bethau Yn ychwaneg. yn rhagor, hwy a ddywedasant wrtho, na chai e ymadaw, hyd oni ddangosent iddo Pethau rhagorol. Dlysau 'r Tŷ. Ac yna hwy a'i [Page 108] harwainiasant ef ir Lly [...]r­ystafell. Study, lle y gosoda­sant hwy o'i flaen ef y llyfrau Coffad­wriaethau hynaf yn y Byd; yn y rhai y dangosasant hwy iddo ef, yn gyntaf Achau Arglwydd y Bryn, sef, ei fod ef o Dragwyddoldeb yn Fâb ir Hên Ddihenydd; a chwedi hynny ei weith­redoedd ef, y rhai oeddynt wedi eu yscrif [...]nnu yma yn gyflawn gydag en­wau llawer cant a gymmerasei efe idd ei wasanaeth; a'r modd y Gosodas [...]i cyfleuasei efe hwynthwy, yn y cyfryw Breswyl­feydd, na allei heneiddra moi Gwae­thygu. had­feilio, 2 Cor. 5. 1.

Yna hwy a ddarllenasant iddo ef rai o'r Gweithredoedd anrhydeddus a wnaethai rhai o'i weision ef: Megis y modd y gorescynnasant Deyrnasoedd, y gwnaethant gyfiawnder, y cawsant addew­idion, y cauasant safnau llewod, y diff­oddasant Po [...]fa. angerdd y tân, y diangasant rhag mîn y cleddyf, y nerthwyd o wendid, y modd hefyd y gwnaethpwyd hwy yn gryfion mewn rhyfel, ac y gyrrasant fyddin­oedd yr estroniaid i gilio, Heb. 11. 33, 34.

Wedi hynny hwy a ddarllennasant mewn rhan arall o [...]. lyfrau coffadwri­aethau 'r Tŷ; a dangoswyd yno, mor ewyllysgar oedd ei Harglwydd hwynt, i dderbyn iw ffafor, bob vn, ie pôb [Page 109] vn, er iddynt gynt amharchi ei Berson a'i ffyrdd ef, os troent ac os deuent yn awr atto ef, Joan 6 37. Yr oedd yma hefyd amryw o Hystoriau am lawer o bethau enwog eraill, y rhai a gafodd y Cristion eu gweled oll, sef, Hystoriau hên a newydd, ynghyd â phrophwydo­liaethau ynghylch pethau a gyflawnir yn eu hamser yn Siccr. ddilys, er dychryn a Disym­mwth a brawychus rhyfeddu. syndod i elynion Arglwydd y Bryn, ac er cyssur a didanwch i Bererinion. Dranoeth hwy a'i Arwain­iasant. tywysasant ef ir Arf-dy, ac a ddangosasant iddo yno bôb math o Arfogaeth, y rhai a barot­toisai eu Harglwydd hwynt i Bererinion, megis Cleddyf, Tarian, Helm, Dwy­fronneg, pob rhyw Weddi, ac esceidiau ni heneiddiant; Ac yr oedd yno ddigon o honynt, i arfogi cynifer o wyr i wasanaeth eu Harglwydd, ac y sydd o Sêr yn y Nefoedd Eph. 6. 14 &c.

Hwy a ddangosasant iddo hefyd rai o'r Offeryn­nau. Peiriannau, a'r rhai y gwnaethai rhyw wŷr enwog ym-mysc ei weision ef ryfeddodau, megis Gwialen Moses, y Morthwyl a'r Hoel, â'r rhai y lladdasai Jael Sisera, y Pisserau, yr vdcyrn, a'r Lampau, â'r rhai y gyrrasai Gedeon Fyddinoedd y Midianiaid i ffoi, y Jerthu ychen â'r hon y lladdasai Sam­gar chwe-chan-wr, y Gên Assyn â'r hon y [Page 110] gwnaethai Sampson Bethau Rhyfe­ddol. aruthrol, y Fon-dafl a'r Garreg, â'r rhai y lladda­sai Dafydd Go [...]i [...]h o [...]ath, A'r Cleddyf hefyd, a'r hwn y lladd ei Harglwydd hwy Fab y Golledigaeth, yn y Dydd y cyfodo efe ir ysclyfaeth. Hwy a ddang­osasant lawer o Bethau rhagorol i Gristion heb law yr hyn a enwyd, y rhai oedd dda iawn gantho eu gweled, a chwedi hynny hwy a aethant iw gorphwysfa drachefn.

A chwedi cyfodi yn forau, mewn bwriad i fyned Ym­mlaen. rhagddo, fe attolygodd y Teuly arno ef, i aros hyd dranoeth; ac yna ebe nhwy, Nyni a ddangoswn i chwi (os bydd y diwrnod yn eglur) y Mynyddoedd hyfryd, y rhai ebe nhwy a chwanegant at eich cysur chwi, am fod y mynyddoedd hynny yn nes at y Man lle mae llong­au yn ddi­ogel. Porthladd dymunol na 'r man yr ychi yntho [...]n bres [...]nnol. Felly efe a Gyt­tunodd. gydsyniodd, ac a arossodd yno y noson honno. A'r boreu nessaf, hwy a aethant ag ef i Pen. Nen y Tŷ, ac a erchasant iddo edrych tua'r Dehau, ac efe a wnaeth felly: Ac wele fo a ganfu ym­mhell oddiwrtho wlad dra hyfryd, wedi ei harddu â choedydd, gwinllanoedd, ffrwythau o bôb rhyw, Blodau hefyd a ffynhonnau hyfryd iawn Esay 33. 16, 17. Yna efe a ofynnod enw'r wlâd; a [Page 111] hwythau a'i hattebasant ef, mai Tîr Emmanuel oedd ei henw hi; ac y mae hi, ebe nhwy, mor gyffredin ir holl Bererinion i ddyfod iddi, ac i gael groeso ynthi, ac ydyw 'r Bryn yma. A phan y delych di i'r wlâd honno, ti a elli ganfod Porth y Ddinas nefol oddi­yno, trwy gyfarwyddiad y Bugeiliaid sy'n byw yn y lle hwnnw.

Yna efe a ymbarottodd I ddech­reu ei siwrnai. i gychwyn, ac yr oeddynt hwythau yn foddlon i hynny; eithr yn gyntaf ebe nhwy, Awn drachefn ir Arf-dy, ac hwy a wnaethant felly, ac a'i gwiscasant ef yno, o wadn y droed hyd y pen, ag Arfau profedig, fal y gallai fo amddi­ffyn ei hunan, os byddai i neb Gosod arno. ruthro arno yn y ffordd. A chwedi ei Ar­fo i fal hyn, efe a rodiodd gyda 'i gyfeillion ir Porth, ac a ofynnodd ir Porthor, a welsai efe vn Pererin yn myned heibio? A'r Porthor, a'i attebodd ef, Do.

C [...]is.

Attolwg a adwaenochi ef ebe Cristion?

Porthor.

Myfi a ofynnais ei enw ef, ac ynt [...]f a ddywedodd wrthyf, Mai. taw Ffyddlon oedd ei enw ef.

Cris.

O [...] ebe Cristion, 'rwi 'n ei na­bod E. y mae fo 'n Gymmydog agos im fi: Fe ddaeth o'r Dref i'm ganwyd i [Page 112] ynthi. Pa belled yr ydychi yn tybygu y gall efe fod ym-mlaen?

Porth.

Y mae fo erbyn hyn wedi myned islaw y Bryn.

Cris.

Wele Borthor anwyl ebe Cristion, yr Arglwydd a fyddo gyda thi, ac a angwanego Cynnydd. gynnyrch mawr at dy holl fendithion di, am y caredigrwydd a ddangosaist im fi.

Yna y dechreuodd Cristion fyned Ym­mlaen. rhagddo; eithr Pwyllog, Duwioldeb, Cariad, a Doethineb a aethant gydag ef, dan ymddiddan drachefn, ynghylch y matterion y ddarfu iddynt hwy chwedleua o'r blaen am danynt, nes dy­fod hyd at Pen arall y bryn. ael y Bryn. Yna ebe Cristion, megis yr oedd yn anhawdd escyn i fynu, felly hefyd (hyd y gwelaf) y mae 'n beryglus i ddescyn i wared. Y mae 'r peth felly ebe Doethineb; canys matter caled ydyw i Ddyn, i fyned i wared i Rhaid i bob Cristi­on ddarost­wng ei hunan o flaen Duw am ei bechodau. Ddyffryn Darostyngiad (fal yr wyti yn awr yn myned) ac heb gael cwymp ar y ffordd; a thyna 'r rheswm pa ham yr ydym ni 'n dyfod gyda thi i Droed y Rhyw. Felly efe a dde­chreuodd fyned i wared, eithr yn gynnil iawn, er hynny efe a lithrodd vnwaith neu ddwy.

Yna mi a welais y cymdeithion da hynny, yn rhoddi i Gristion (gwedi [Page 113] iddo ddyfod i wared O'r Bryn. o'r Lann) Dorth o fara, Costreleid o Wîn, a swp o Rhosings R [...]sin, Ar ôl hynny. a chwedyn efe a aeth iw ffordd.

Eithr yn y Dyffryn yma o Ddarost­yngiad, hi fu 'n galed iawn ar Gristion; canys nid aethai efe yn-nepell ym-mlaen, ond w [...]le fo a ganfu Yspryd drwg. Ellyll echrydus yn dyfod ar hyd y maes iw gyfarfod ef, a'i enw ef oedd Dini­striydd. Apol-lyon: A gw­naeth y Drych hwn i Gristion ofni, ac i feddwl yntho ei hunan, Pa vn. Pun oedd oreu iddo ef, ai dychwelyd yn ei ôl, ai yn­tau Aros yn y man lle yr oedd e arno. sefyll ar ei Dalwrn. Eithr efe a ystyriodd eilchwaith, nad oedd gantho ddim Arfogaeth iw gefn; ac o herwydd hynny efe a feddyliodd, y gallai ei waith ef yn troi ei gefn tuagat Apol­lyon, roddi iddo fwy o Achlyssur, iw wanu ef yn hawsach â'i Biccellau; ac am hynny fo a roddes ei frŷd i Fentro. antu­rio, ac i gadw ei sefyllfa; canys eb efe, pettawn i heb edrych ar ddim amgen na chadw fy einioes, gwell yw i mi se­fyll nâ chilio.

Felly efe a aeth rhagddo, ac Satan. Apol­lyon a gyfarfu ag ef: Yn a wr yr oedd yr Anghenfil yn ofnadwy yn ei wêdd; canys yr oedd efe wedi ymwisco â Scales rhisglau. chenn fal Pyscodyn (y rhai yw ei falchder ef) yr oedd gantho adenydd fal Draig, [Page 114] a Thraed fal traed Arth, a Thân a Mwg oedd yn dyfod allan o'i fol ef, a'i safn oedd fal safn Llew. A phan nessa­odd efe at Gristion, fo a edrychodd ar­no â VVyneb­pryd. chuwch dirmygus, ac a'i holodd ef fal hyn.

Apol.

O ba le y daethochi, ac i ba le yr ydych yn myned?

Cris.

Yr wi 'n dyfod o Ddinas De­stryw, yr hon yw trigfan pob dryg­ddyn, ac yr wyf yn myned tua Dinas Sion.

Apol.

Myfi a wn wrth hyn, mai vn o'm Deiliaid i wyti, canys myfi a biau 'r holl wlâd honno, ac myfi yw ei Thywy­sog a'i Duw hi, 2 Cor. 4. 4. Eph. 2. 2. Pa fodd gan hynny y rhedaisti ymmaith oddiwrth dy Frenin? Oni bai fy mod i 'n gobeithio y gwnei di etto i mi fwy o wasanaeth, myfi a'th darawn di yn ebrwydd ag vn dyrnod ir llawr.

Cris.

Fe a'm ganwyd i yn wir o fewn eich Arglwyddiaeth chwi: Eithr yr oedd eich Gwas [...]naeth chwi 'n galed, a'ch cyflog yn gyfryw, nas gallei Ddyn fyw ar i; Canys cyflog pechod yw mar­wolaeth, Rhuf. 6. 23. ac am hynny, pan y daethym i beth oedran, myfi a ystyriais, fal y gwnaeth dynion pwy­llog eraill, a ellwn i wellháu fy nghy­flwr.

Apol.
[Page 115]

Nid oes vn Tywysog a gyll ei Ddeiliaid cyn ysgafned a hyn: Ac my­ [...] a wnaf fyngorau, nas collwyf innau [...]o honot tithe. Eithr gan dy fod ti yn [...]chwyn am dy wasanaeth a'th gyflog; [...]ydd foddlon i fyned yn ôl, ac yr wyfi [...]n addaw yma i roddi i ti ran, o'r pe­ [...]hau goreu y sydd yn ein gwlâd ni.

Cris.

Myfi a roddais fy hunan i fod [...]n Wasanaethwr i Frenin y Brenhino­ [...]dd, a pha fodd y gallafi gydag onest­ [...]wydd dorri ag efe, i ddychwelyd gy­da thi?

Apol.

Tydi a wnaethost yn hyn, yn ol [...] Ddihareb, Newid Drwg am Waeth: Eithr y mae 'n arferol, ir rhai sy'n eu haddef eu hunain eu bod hwynthwy yn Weision iddo ef, ar ol ennyd fechan ei [...]del ef, a dychwelyd attafi: Gwna dithe felly, a bydd pob peth yn dda.

Cris.

Myfi a roddais iddo ef fy Nghrèd, ac a dyngais y byddwn i vfydd iddo: A pha fodd y gallafi dyn­nu 'n ôl oddiwrth hyn, heb gael fy ngrhogi fal Bradwr?

Apol.

Tydi a wnaethost yr vn peth i minne; ac etto nis craff af fi ar dy waith di yn gadel fy ngwasanaeth i, os dych­weli di yn awr drachefn, a myned yn ôl.

Cris.

Yr hyn a addewais i tydi oedd [Page 116] yn fy ieuengctid; ac heblaw hynny myfi a wn, y gall y Tywysog, da [...] faner yr hwn yr wi'n awr yn rhyfela, fy rhyddhau i oddiwrth fy rhwymedi­gaethau, ie a maddeu i mi hefyd fy 'ngwaith yn ymrwymo, i fod yn wâs i tydi. Ac i ddywedyd y gwir, O Satan y Dinistr­iydd. O Apol-lyon, gwell genifi ei wasanaeth, ei Gyflog, ei W [...]ision, ei Lywodraeth, ei Gyfeillach, a'i Wlâd ef, nâ 'r ei­ddoti: Ac am hynny na themptia mo honofi mwyach i ddychwelyd i'th wa­sanaeth di; canys ei Wâs ef wyfi, ac mi a'i canlynaf ef.

Apol.

Ystyria drachefn, pan byddi 'n Bwyllog o Gristion, pa beth yr wyti yn de­big i gyfarfod ag ef yn y ffordd yr wyti yn myned. Dydi a wyddost, fod Gweision yr hwn yr wyt ti yn awr wedi ei gym­meryd yn lle'th Arglwydd, gan mwyaf, yn dyfod i ddiwedd drwg, am eu bod nhwy yn fy ngwrthwynebu i a'm ffyrdd. Pa sawl vn o honynt hwy a roddwyd i farwolaeth gywilyddus? A lle yr wyti 'n cyfrif ei wasanaeth ef yn well nâ 'r eiddo fi: Gwybydd hyn, O Satan gelwyddog oni ddaeth Crist o'r Nef i wa­redu ei weision oddi tan dy feddiant di, a thrwy weinido­gaeth ei Angelion, oni ware­dodd e he­fyd rai (er nid pawb) o'i bobl, o'th gar­chara [...] di, megis Da­niel, Petr, &c. na ddaeth efe erioed etto o'r may y mae fo yntho, i waredu neb o'r rhai a'i gwasanaetha­sant ef o'm Dwylo i: Eithr amdanafi; pa sawl gwaith, fal y gŵyr y byd yn ddigon da, y gwaredais i, naill ai trwy [Page 117] nerth, neu yntau trwy ddichell, y rhai [...]'m gwasanaethasant i yn ffyddlon, oddi­ [...]n ei ddwylo ef a'i eiddo, er iddynt eu [...]al hwynt yn eu rhwydau; ac felly i'th [...]waredaf dithe os mynni.

Cris.

Ei bwrpas ef, trwy beidio yn [...]resennol, a gwaredu rhai o'i bobl o'th [...]archarau a'th gadwynau di ydyw, er mwyn cael prawf, a ydynt hwy yn ei [...]aru ef, ac a lynant hwy wrtho ef hyd [...] diwedd, Dat. 2. 10. Ac am y drwg [...]dihenydd yr wyti yn dywedyd fod [...]hai o honynt yn dyfod iddo, y mae [...]ynny yn dra gogoneddus yn ei golwg [...]wynt; canys nid ydynt hwy yn dis­ [...]wyl nemmawr am warediad presen­ [...]ol; oblegit eu bod yn aros am eu go­ [...]oniant; yr hwn a gânt hwy yn ddilys [...] fwynhau, pan ddelo eu Tywysog [...]n ei ogoniant gyda ei Angelion gogo­ [...]eddus. Rhuf. 8. 18. Col. 3. 4.

Apol.

Tydi a fuost anffyddlon eisus [...]n ei wasanaeth ef, a pha fodd yr wyti [...] meddwl cael cyflog gantho ef?

Cris.

Ym-mha beth (o Apol-lyon) y [...]um i yn anffyddlon iddo ef?

Apol.

Tydi a wanhe-aist yn dy fyne­ [...]iad cyntaf allan, pan yr oeddyti ym­ [...]ron foddi yn y Llyngc-lyn o Anobaith. [...]ydi a amcenaist trwy gau foddion, i [...]nddilwytho oddiwrth dy faich, lle dy­lasiti [Page 118] aros hyd oni buasai ith Dywysog gymmeryd ef ymmaith. Ti a gollaist [...] Pethau dewisol. dlyssau mewn cwsc pechadurus. Ti fuost hefyd o fewn ychydig i ddychwely [...] yn dy wrthol, wrth ganfod y Llewo [...] A phan yr wyti 'n crybwyll ac yn llefa [...] am dy Daith, a'r hyn a glywaist, ac welaisti, y mae 'th Galon di yn chwenny­chu gwâg ogoniant, yn y cwbl yr wyti y ei ddywedyd ac yn ei wneuthur.

Cris.

Y mae hyn oll yn wir, a llaw [...] mwy nag a adroddaisti; ond y mae Tywysog, yr hwn wyfi yn ei wasanaeth ac yn ei anrhydeddu, yn Drugarog, a [...] yn barod i faddeu gwendid ei bob [...] Eithr cofia hyn (o Gyhuddwr y brodyr [...] mai yn dy wlâd di y dyscais i bechu, a [...] yno y sugnais i bob Drwg i'm calon. Ond o'r diwedd mi a riddfannais da [...] lwyth fy mhechodau, gan fod yn ofyd [...] o'i plegid hwynt, a'm Tywysog a fad [...] ­euodd i mi 'r cwbl.

Apol.

Ar hyn y llefarodd Apol-lyo [...] mewn cynddaredd Poeth. angerddol, gan ddyy­wedyd, yr wyfi 'n Elyn ir Tywysog ym [...] ac yr wi 'n casháu ei Berson, ei dded [...] ­fau, a'i bobl ef: Ac myfi a ddaethy [...] allan mewn llownfryd i'th wrthwynebu d [...]

Cris.

Apol-lyon, Gwilia Gwachel. Synna pa beth wnelych, canys yr wyfi yn teithio ar br [...] ffordd y Brenin, sef yn y ffordd o sancte [...] ­ddrwydd, [Page 119] ac am hynny edrych attad dy hunan. Esay 35. 8.

Apol.

Yna y croes-gammodd Apol­ [...]yon tros holl lêd y ffordd, ac a ddy­wedodd, nid oes arnafi ofn yn y matter yma: Ymbarottoa i farw; canys mi a dyngais i'm Ogof. ffau vffernol, nad ai di ddim pellach; ac mi a fynnaf weled waed dy galon di yn y lle hwn; a chy­da hynny efe a daflodd biccell danllyd tuagat ei ddwyfron ef: Ond yr oedd gan Gristion Darian yn ei law, ac efe a amddiffynnodd ei hunan â honno, ac felly fo a ymgadwodd rhag niwed y pryd hynny, Eph. 6. 16. Yna y tyn­nodd Cristion ei gleddyf allan, canys yr oedd e yn ei gweled hi 'n bryd iddo edrych atto ei hunan; ac Apol-lyon ar frŷs a ymosododd yn Nerthol. lew yn ei erbyn ef eilchwaith, gan daflu piccellau cyn amled a'r Cessair. cenllysg tuag atto ef: Ac a'r rhain, er cymmaint a allodd Cristi­on ei wneuthur, i ymgadw rhagddynt, fo'i Archo­llwyd. clwyfwyd ef gan Apol-lyon, Yn ei ddeall, trwy ei dynnu ef i ryw amry­fysseddau. yn ei Ben, Yn ei ffydd, (yr hon fal llaw sy'n d [...] ­byn Crist) trwy ei gwanhau hi. yn ei Law, ac Yn ei ym­arweddi­ad, trwy beri iddo lithro i bechod. yn eî Droed, yr hyn a wnaeth i Gristion gefnu ychydig: Ac am hynny fe a gwympodd Apol-lyon arno yn bybyrach neu 'n fwy nerthol: Eithr fe gymmerodd Cristion galon drachefn, ac a'i gwrthwynebodd ef mor wrol ac a gallai. Yr ymladd tost [Page 120] yma a barhaodd fwy nâ hanner diwrnod, ie hyd onid oedd Cristion ym mron deff­ygio; canys rhaid i chwi wybod ei fod ef, o achos ei glwyfau, yn myned wan­nach, wannach.

Apol-lyon ar hyn; wedi cael y fath achlyssur, a ddaeth nesnes at Gristion; a chan ymrysson ag ef, a'i taflodd ef i lawr mewn modd echrydus, a chyda hynny y syrthiodd cleddyf Cristion allan o'i law ef. Yna ebe Apol-lyon. 'r wi'n siwr o honoti yn awr; A chan gwympo arno, efe a'i llethodd ef o fewn ychy­dig i farwolaeth, hyd oni ddechreuodd Cristion Dowto. betruso am ei fywyd. Eithr fal yr oedd Duw yn mynni; tra yr yd­oedd Apol-lyon ar roddi ei ddyrnod di­wethaf i lâdd ef, fe a estynnodd Cristion ei Law allan A'i holl rym. yn egniol, ac a yma­flodd yn ei Gleddyf, ac a ddywedodd, Na lawenycha i'm herbyn O fy Ngelyn! Pan syrthiwyf mi a gyfodaf drachefn, Mich. 7. 8. A chyda hynny efe a ro­ddes frâth angheuol i Apol-lyon, yr hwn a wnaeth iddo gefnu, megis vn wedi derbyn ei Archoll. glwyf marwol. Cristion wrth weled hynny, a fwrodd arno ef drachefn, gan ddywedyd; Nage, yn y pethau hyn oll, yr ym ni yn fwy nâ Gorch­fygwyr. chwncwerwyr, trwy'r hwn a'n carodd ni; Ac ar hynny Apol-lyon fel Draig a [Page 121] danodd ei adenydd ar llêd, ac a fryssi­odd ymaith, fal na welodd Cristion mo honaw mwyach. Rhuf. 8. 37. Jaco. 4. 7.

Yn yr ymdrech hwn, ni ddichon ca­lon Dyn feddwl (oni buasai iddo weled a chlywed fal y gwnaethym i) mor of­nadwy yr oedd Apol-lyon, trwy Holl. gy­dol amser yr ymdrech, yn bloeddio ac yn rhuo, gan lefaru fal Draig: Ac o'r tu arall, pa ocheneidiau a griddfannau oedd yn dyfod allan o galon Cristion: Ni welais i mo honaw ef, trwy gydol yr amser, yn edrych cymmaint ac vn­waith yn siriol, hyd oni wybu ef, iddo glwyfo Apol-lyon a'i Gleddyf dau-fini­og, Eph. 6. 17. Heb. 4. 12. Ond gwedi Deall. dirnad hynny, efe a wenodd ac a chwarddodd.

A chwedi gorphen yr ymdrech hyn, efe a ddywedodd, Myfi a ddiolchaf yn y lle yma, ir hwn a'm gwaredodd i o safn y Llew, ac a'm nerthodd i yn er­byn Apol-lyon: Ac ar hynny efe a ga­nodd fal hyn.

Belzebub, Pen Tywysog
Ofnad­wy.
hyll,
Yr
Y drwg yspryd.
anfad Ellyll yma,
(Am ei fod ar feddwl-fryd
Ddi­ymaros.
Ddigyngyd i nifetha)

A'i gyrrai Allan. y maes mewn Côt o ddûr. llurig gref; Yntef yn gynddeirioccaf, [Page 122]

Mewn tanllyd ac vffernol fodd,
A
Yn gyfl­ym.
chwimwth ruthrodd arnaf.
Ond
Crist.
Michael, fendigedig
Helpwr.
Borth,
A ddaeth i'm cynnorthwyo:
Ac mi a'i gyrrais (gwych yw 'r wedd)
A mîn y Clêdd i gilio.
Am hynny bid i mi roi Mawl,
A diolch bythawl iddo,
A bendithio
Ag vchel,
â llafar lêf
Ei enw ef heb beidio.

Wedi hynny daeth atto ef Law gan ddwyn iddo rai o Rhin­weddau bywiol hae­ddedigae­thau ac Yspryd Crist. ddail Pren y By­wyd: A Christion a'u cymmerodd, ac a'u rhoddodd wrth y clwyfau, a gaw­sai fo yn yr ymladdfa; ac efe a iacha­wyd yn ebrwydd, Dat. 22. 2. Ac efe a eisteddodd y no hefyd, i fwyta Bara, ac i yfed o'r Gostrel, a roddasid iddo ychydig o'r blaen: Felly wedi ymad­fywio, efe a ymdaclodd i fyned ym­mlaen, gan ddwyn ei Gleddyf noeth yn ei Law; canys eb efe, ni wn i nad oes rhyw Elyn arall ger llaw: Eithr ni ruthrodd Apol-lyon mwyach arno, trwy 'r holl Ddyffryn yma.

Yn awr Yn yn yl. ynghwrr y Dyffryn hwn, yr oedd Dyffryn arall a elwid Dyffryn Cyscod Angau, ac yr oedd yn rhaid i Gristion fyned trwyddo, am fod y ffordd ir Ddinas nefol yn myned trwy ei ganol ef. Eithr Lle anghyfanedd [Page 123] iawn ydyw 'r Lle hwn, megis yr Ani­alwch yr aeth yr Israeliaid gynt trwy­ddo, Jer. 2. 6. Yn awr hi a fu gwaeth ar Gristion yn y dyffryn yma nag yn ei ymdrech ag Apol-lyon.

Yna mi a welwn, wedi i Gristion ddyfod i Gyffiniau Dyffryn Cyscod Angeu, ddau wr yn cyfarfod ag ef, Meibion ir rhai a roesant anglod gynt am wlâd Canaan, yn bryssio i fyned yn ôl, Num. 13. 32. wrth y rhai y llefa­rodd Cristion fal hyn.

Cris.

I ba le yr ydych chwi yn my­ned?

Gwyr.

Hwythau a attebasant; yn ôl, yn ôl, ac nyni a fynem i chwithau he­fyd wneuthur felly, os yw 'ch einioes na 'ch heddwch yn werthfawr gen­nych.

Cris.

Pa beth yw'r matter ebe Cri­stion?

Gwyr.

Matter ebe nhwy, yr oeddem ni yn myned fal yr ydych chwithau ar hyd y ffordd yma; ac ni a aethom Cyn. mor belled ac y meiddiem: Ac yn wir, pe buasem yn myned ychydig ym-mhellach, ni allasem ni byth ddy­fod yn ol, ac ni chlywsit ti byth y newyddion yma allan o'n geneuau ni.

Cris.

Eithr pa beth a welsoch ac y glywsoch chwi ebe Cristion?

Gwyr.
[Page 124]

Nyni a welsom Ddyffryn cys­cod Angeu; canys ni a ddaethom o fewn ychydig iddo, ac ir enbydrwydd sydd yntho: Eithr trwy Hap. ddamwain da, Nyni a edrychasom o'n blaen, ac a ganfuom y perygl cyn dyfod iddo, Psal. 23. 4. Psal. 107. 18. Y mae 'r Dyffryn. Glynn cyn dywylled a'r Pŷg: Nyni a welsom yno Ysprydi­on drwg. Ellyllon a Dreigiau y pwll vffernol: Ac a glywson vdo a chwynofain dibaid yn dyfod o'r Dy­ffryn hwnnw, megis oddiwrth Ddynion yn gorwedd yn rhwym yno, mewn Heirn a thrueni annrhaethadwy. Ac y mae cymylau tew iawn, y rhai a allant daro dychryn mewn pobl, yn crogi vwch benn y Glynn ymma, ac y mae Angeu hefyd yn lledu ei adenydd trosto ef yn wastadol: Ac i fod yn fyrr, y mae pob mymryn o honaw Iw ofni. iw arswydo, gan ei fod e yn gwbl yn Afluni­aidd. A meer Chaos wrthyn ac yn hagr.

Cris.

Er hyn i gîd ebe Cristion, dym­ma fy ffordd i tua 'r porthladd dymunol.

Gwyr.

Bydded hi 'n ffordd i tydi, ni ddewiswn ni mo honi yn ffordd i nyni: Felly hwy a ymadawsant: A Christion a aeth Ym­mlaen. rhagddo, ond yn wa­stadol â'i Gleddyf noeth yn ei law, rhag ofn i neb rythro arno.

Wedi hynny Mi a welais yn fy mreu­ddwyd, [Page 125] fod ffôs ddwfn iawn ar yr holl ystlys ddehau ir Dyffryn hwn, ac ir ffôs hon y bu 'r Dâll yn Arwain. tywys y Dall ym-mhob oes: Ac ynthi hi y darfu am y ddau mewn modd echrydus, Mat. 15. 14. A thrachefn, Wele ar yr ochr asswy yr oedd Cors beryglus iawn, ie ir hon os syrthiai Gwr da, ni chai e vn gwaelod caled ynthi, iw draed sefyll ar­no. Ir Gors honno y syrthiodd y Brenin Dafydd vnwaith; ac yn ddiammeu fe ddarfuasai am dano ef yno, oni buasai ir hwn sydd Alluog ei dynnu ef ir Lann. Psal. 69 2. 14.

Yr oedd y llwybr hefyd yn y Dy­ffryn hwn yn gyfyng iawn, ac am hyn­ny y bu hi yn dra chaled ar Gristion yn y lle ymma; oblegit pan y ceisiai efe yn y tywyllwch ochelyd y ffos ar y naill law, fe a fyddai 'n barod i syrthio drosodd ir Clai. llaid ar y llaw arall: A phan y ceisiai efe hefyd ymgadw rhag y llaid, oni byddai fo yn dra gofalus, efe a fyddai yn barod iawn i syrthio ir ffos. Ac fal hyn yr oedd e'n myned ym-mlaen; ac mi a'i clywais ef yma yn ochneidio yn dost: Canys heblaw y perygl a grybwyllwyd am dano vchod, yr oedd y llwybr mor dywyll, fal na wyddai fo yn fynych, pan y codai fo ei droed i fyned ym-mlaen, ym mha [Page 126] le, nac ar ba beth y gosodei efe hi nessaf.

Heblaw hyn, yr oedd safn vffern yng­hanol y Dyffryn hwn, ac yr oedd hi hefyd yn agos iawn at fîn y ffordd; a phan y gwybu Cristion hynny, efe a ddywedodd, Pa beth a wnafi 'n awr? Ac yr oedd y fflam a'r mwg, a'r Gwry­chion, ynghyd a lleisiau Cwy [...] ­fanus ac ofnadwy. irad ac er­chyll yn dyfod allan yn dra mynych, ac yn aml iawn oddi-yno. Ac oblegit nad allai Cristion á'i gleddyf wneuthur niweid ir pethau hyn, fal y gwnaethai o'r blaen i Apol-lyon, efe a'i dododd e yn ei wain; ac a gymmerodd Arf arall yn ei law, a elwid, Pob rhyw weddi, Eph. 6. 18. Ac mi a'i clywn ef yn gweddio, Attolwg Arglwydd gwared fy enaid, Psal. 116. 4. Ac er myned o honaw rhagddo yn Fal hyn. llyn dros gryn ennyd, etto yr oedd y fflam yn ymgyrchu tuag atto ef yn wastadol; Ae efe a glywai hefyd leisiau cywnfanus, a thrwst mawr yma a thraw, megis pettaisai rhai yn nessau tuag atto, a hynny dros amryw filltiroedd: A'r olwg echrydus a'r lleisiau ofnadwy yma, a wnaeth iddo ofni, y cai ef ei Rhwygo, larpio yn ddrylliau, neu ei sathru fal dom yn yr heolydd. Ac wedi dyfod i Fann, lle y tybygasai efe, ei fod yn clywed [Page 127] bagad o Ysprydi­on drwg. ellyllon yn dyfod ym-mlaen iw gyfarfod ef, efe a safodd, ac a dde­chreuodd feddwl, pa beth oedd oreu iddo wneuthur. Weithiau yr oedd yn ei fryd ef i droi 'n ol; wedi hynny efe a ystyriodd, ei fod ef gwedi dyfod ynghylch hanner y ffordd trwy 'r Dy­ffryn; ac yn ddiweddaf efe a feddyli­odd ddarfod iddo eisus orchfygu llawer o beryglon; ac y gallai yr Perygl. enbydrwydd o fyned yn ol fod yn fwy o lawer nag o fyned ym-mlaen; ac ar hynny efe a ymrôdd i fyned rhagddo. Eithr yr oedd yr ysprydion drwg yn dyfod nes-nes, a phan y daethant o fewn y­chydigyn o ffordd atto, efe a waedd­odd â llêf vchel iawn, gan ddywedyd; Myfi a rodiaf yn nerth yr Arglwydd Dduw; a chyda hynny hwy a droesant eu cefnau, ac ni ddaethant ym-mhell­ach.

Fe ddigwyddodd vn peth i Gristion, nad allafi adel heibio heb ei adrodd. Mi a ddeliais sulw, ei fod e druan Gwr, trwy y gorthrymderau hyn, megis vn yn agos a gwallgofi, oblegit nid ad­waenai efe mo'i leferydd ei hun; ac fal hyn y gwybum i hynny: Hwyn gyntaf ac y daeth ef drosodd Gyferbyn yng­hyfeiryd safn y llyn, y sydd yn llosci a thân a brwmstan, fe ddaeth vn o'r ys­prydion [Page 128] drwg Tu hwnt ei gefn ef. y tu cefn iddo, ac a nessaodd atto yn araf, ac a Wthiodd. hyrddodd lawer o gableddau blin iw enaid ef, y rhai y dybygasai Cristion, mai allan o'i galon ei hun yr oeddent hwy yn dy­fod. A gwasgodd hyn arno ef yn fwy nà dim arall, ar a ddigwyddodd iddo o'r blaen, sef, i feddwl, iddo ef yn awr gablu yr hwn, yr oedd efe yn ei fawr garu yn yr amser cynt: Etto yr oedd e 'n ystyried, pe gallasai efe beidio, ni wnaethasai fo mo hynny; ond nid oedd gantho fe mo'r doethineb yn awr, nac i gau ei glustiau, nac i Gwybod. ddir­nad o ba le yr oedd y cableddau hynny yn Dyfod. deilliaw.

Wedi i Gristion ymdeithio Tros beth amser. cryn ennyd yn y cyflwr anghysurus hwn, efe a glywodd lyferydd rhyw wr, yr hwn oedd yn myned o'i flaen ef, yn dywedyd fal hyn, Pe rhodiwn ar hŷd glynn cyscod Angeu, nid ofnaf niwed, canys yr wyt ti gyda mi. Psal. 23. 4. Yna efe a gymmerodd galon a chyssur; a hynny o herwydd y rhesymmau a ganlynant.

Yn Gyntaf, Am ei fod ef yn casclu oddiwrth hynny, fod rhai, ar a oeddynt yn ofni Duw, yn ymdeithio yn y Dy­ffryn hwn yn gystal ac efe i hun.

Yn Ail, Am ei fod e 'n deall, fod [Page 129] Duw gyda hwynt (er ei bod nhwy mewn tywyllwch, a chyflwr anghyssurus tros yr amser presennol:) ac onid yw efe gyda minnau hefyd ebe Cristion, er nad wyfi yn ei weled ef, o achos y rhwystrau sy ynglŷn wrth y Lle yma? Job 9. 11.

Yn Drydydd, Am ei fod yn gobei­thio (os gallai fo ei gorddiwes hwy) y cai e gyfeillion ym-mhen ennyd. Felly efe a aeth Ym­mlaen. rhagddo, ac a alwodd ar yr hwn oedd yn myned o'i flaen ef; ond ni wyddai hwnnw pa beth a attebai, am ei fod ynteu hefyd yn tybied ei fod ef wr­tho ei hun. A gwawriodd y Dydd ym mhen ychydig Ar ol hynny. gwedyn▪: Yna y dywedodd Cristion, Duw a drôdd gyscod Angeu yn foreu-ddydd. Am. 5. 8.

A phan ddaeth y Borau, efe a edry­chodd yn ei ol; eithr nid o chwant dychwelyd, ond i weled wrth liw Ddydd y peryglon yr aethai efe trwy­ddynt yn y tywyllwch: Ac wele fo a ganfu 'n eglurach y ffôs oedd ar y naill law, a'r Gors oedd ar y llaw arall; ac hefyd gyfynged oedd y ffordd, yr hon sydd yn arwain rhyngthynt trwy 'r Dyffryn: Efe a welodd hefyd yn awr yr ysprydion drwg a dreigiau 'r pwll di-waelod, eithr oll o hirbell; canys ni ddeuent hwy 'n agos gwedi ir Dydd wawrio; etto hwy a amlygwydd iddo [Page 130] ef, yn ol yr hyn a scrifennwyd, Duw sy'n datcuddio pethau dyfnion allan o dy­wyllwch, ac yn dwyn cyscod Angeu allan i oleuni. Job 12. 22.

Yn awr yr oedd yn hôff gan Gristion gael o honaw ei waredu oddiwrth holl beryglon ei ffordd Anghy­fannedd. anial; y rhai pe­ryglon, er ei fod yn eu hofni yn fwy o'r blaen, etto yr oedd efe yn eu gwe­led hwy yn eglurach yn awr, am fod goleuni y Dydd yn eu gwneuthur hwy yn amlwg iddo. Ac ynghylch y pryd hyn y codasai yr Haul; ac yr oedd hynny yn drugaredd arall i Gristion: Canys rhaid i chwi wybod, mai er bod y rhan gyntaf o Ddyffryn cyscod Angeu yn enbyd; etto yr oedd yr ail rhan, ir hon yr oedd efe yn myned yn awr (pettai bossibl) yn enbeittach o lawer; canys o'r man yr oedd efe yn sefyll arno Ya awr. yr-wan, hyd at gwrr eithaf y dyffryn, yr oedd yr holl ffordd cyn llawned (mewn rhyw leoedd) o faglau, o gynllwynion i dwyllo, ac o rwydau (ac mewn lleoedd eraill) cyn llawned o Byllau a thyllau dyfnion, ac o fannau yn pwyso tuag i wared, mal ped fuasai hi yn dywyll yn awr, megis yr oedd hi pan y da [...]th e y rhan gyn­taf o'r ffordd, pettaisai gantho fil o Eneidiau (yng-olwg rheswm) fo'i colla­sai [Page 131] nhwy cymmain vn. Ond yr oedd yr Haul (megis y dywedais i) yn awr yn codi: Yna y dywedodd Cristion, Duw a wnaeth iw oleuni lewyrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr hwn yr aethym trwy dywyllwch, Job 29. 3. Ac wrth y goleuni hwn y daeth efe i gwrr eithaf y Dyffryn.

Wedi hynny mi a welais yn fy mreu­ddwyd, ac wele yn y mann eithaf o'r Dyffryn ymma, yr oedd Gwaed, Es­cyrn, Lludw, ac aelodau cyrph rhyw Ddynion, ie Pererinion (y rhai a ae­thant y ffordd ymma gynt) yn gor­wedd ar wyneb y ddaiar: A thra yr oeddwn i yn meddwl pa beth a allai fod yr achos o hyn, myfi a ganfum ogof ychydig o'm blaen, lle y buasai Dau Gawr yn trigo yn yr hên amser, trwy awdurdod a chreulondeb pa rai, y rhoddwyd y Dynion hynny i farwo­laeth boenfawr. Eithr Cristion a aeth heibio ir lle hwn heb fawr o berygl, yr hyn a fu yn lled-ryfedd gennifi: Eithr myfi a wybum wedi hynny, fod vn o'r Cewri, sef, Vn nad yw yn proffessu y grefydd gristian-ogawl. Pagan wedi marw er Ys lla­wer dydd. ys talm: Ac am y llall, sef, Mâb y go­lledigaeth, er ei fod ef etto 'n fyw, y mae efe er hynny, o achos ei henaint, a'r amryw friwiau diriaid, y gafodd efe o bryd i bryd, mor Clafy [...]a gymhercyn, [Page 132] ac mor anystwyth yn ei gymmhalau, fal na ddichon efe yr awr on wneuthur nemmawr gydag eistedd yng-enau ei ogof, gan chwrnu ar y Pererinion a syddo yn myned heibio, a chnoi ei ewi­nedd, am nad yw [...]f yn gallu dyfod at­tynt hwy, 2 Thess. 2. 3.

Yna mi a welwn Gristion yn myned ar hyd ei ffordd; etto wrth ganfod yr hèn wr oedd yn eistedd yng-enau 'r Ogof, Ni wyddai fo pa beth i dybied, yn enwedig am ei fod yn llefaru wrtho (er na allei ddyfod ar ei ol ef) gan ddywedyd, Ni pheidiwch chwi byth, ac ni wellewchi, hyd oni loscir llaw [...] [...]dd mwy. rhagor o honech: Eithr efe a dawodd a son, ac a edrychodd arno ef ag wynebpryd gwrol; ac felly efe a aeth heibio, ac ni chafodd ddim niwed oddiwrtho. Yna y canodd Cristion fal hyn,

Ni all [...]f ddywedyd llai o'm genau,
Nad cryn-fyd o ryfeddodau,
Nad p [...]th mawr
Oedd fy achub, a'm gwaredu,
Trwy r gofydiau a'm cyfarfu.
Tra fùm yn y Dyffryn ymma▪
Anafus.
Trwch dywyllwch o'r enbeitta,
Diawlaid, Vffern, Pechod
An­hardd.
gwrthyn,
A'm cylchynnai bob
Rh [...]n o'r awr.
mynydyn.
Pyllau, Rhwydau a Chroglathau,
Oedd yn llawn
Oddi amgylch.
o-bob-tu 'm llwybrau;
[Page 133] Ys truan
Cywi­lyddgar.
mulaidd! fe allasyd,
Dal a maglu f'enaid hefyd.
O! bendigaid byth heb derfyn,
A fo 'r llaw a'm cadwodd rhagddyn:
A chan fy môd yn fyw yr awr 'on,
Bid ir Iesu
Gael y clôd.
wisco 'r Goron.

Ac fal yr oedd Cristion yn myned Ym­mlam. [...]hagddo, efe a ddaeth i escynfa fe­chan; yr hon a godasid ir diben hyn, fal y gallei Bererinion ganfod o'i blaen; a wedi dyfod i fynu yno, ac edrych rhagddo, efe a ganfu Ffyddlon o'i flaen ef ar ei daith. Yna Cristion a waeddodd â llêf vchel, Hai, Hai, Hai-how, aros­wch, a myfi a fyddaf Gydymaith i chwi. Ar hynny Ffyddlon a edrychodd yn ei ol, a gwaeddodd Cristion arno ef drachefn, gan ddywedyd, Aroswch, Aroswch, hyd oni ddelwyf i fynu at­toch: Ond Ffyddlon a attebodd, Na wnaf, yr wyfi 'n rhedeg am fy my­wyd, ac y mae Dialydd y gwaed yn fy nilyn i. A Christion a gyffrowyd ychy­dig ar hyn; a chan Ymor­chestu. ymegnio â'i holl nerth, efe a oddiweddodd Ffyddlon yn ebrwydd, ac a redodd hefyd yn gynt nag ef, felly yr olaf a fu flaenaf. Yna y chwarddodd Cristion yn wag-ogo­neddgar, oblegid iddo gael y blaen ar ei Frawd: Eithr heb wilio 'n dda ar ei draed, efe a dramcwyddodd yn ddi­symmwth [Page 134] ac a syrthiodd, ac nis gallei gyfodi drachefn, hyd oni ddaeth Ffydd­lon i fynu iw gynnorthwyo ef.

Yna mi a'u gwelwn hwy 'n myned ynghyd yn garedig iawn, gan ymddi­ddan yn hyfryd a'i gilydd am yr holl bethau, a ddigwyddasai iddynt yn eu Pererindod: A Christion a ddechreuodd yn Fal hyn. llyn.

Cris.

Fy anwyl Frawd Ffyddlon, y mae 'n llawen gennif, i mi 'ch goddiwe­ddyd chwi, ac fod Duw wedi gydtym­heru ein Hysprydoedd ni yn y fath fodd, fal y gallom rodio ynghyd megis Cymdei­thion, yn y llwybr yma yr hwn sydd mor hyfryd.

Fyddlon, Gyfaill anwyl, myfi a obei­thiais gael eich cymdeithas chwi o'n tref ni o hŷd; eithr chychwi a gawsoch y blaen arnafi; ac am hynny fe orfu i mi ddyfod hyd ymma wrthif fy hunan.

Cris.

Pa hyd yr arosasoch chwi yn Ninas Destryw, cyn i chwi ddyfod allan ar fy ol i ar eich Pererindod.

Ffydd.

Hyd nad allwn i aros dim yn hwy, canys yr oedd yno Sôn mawr, yn y man gwedi i chwi ymadael â ni, y byddai i'n Dinas ni, ar fyrder gael ei llosci â thân o'r Nefoedd hyd y llawr.

Cris.

A oedd eich Cymydogion chwi [Page 135] yn siarad felly? Ac a ddaeth neb o ho­nynt hwy allan o'r Ddinas ond chychwi, i ddiangc rhag y perygl ymma?

Fsydd.

Er bod yno, ac oddi-am­gylch mewn lleoedd eraill sôn mawr, y difethyd ein Dinas ni â thân a Brwm­stan oddi vchod; etto nid wyfi 'n ty­bied, bod ein Dinasyddion ni yn coelio hynny yn Ddisigl. ddiymmod; canys myfi a glywais rai o honynt (pan yr oeddit yn siarad fwyaf am y matter hwn) yn dy­wedyd yn watwarus amdanochi a'ch taith rhyfygus (canys felly y galwasant hwy eich pererindod chwi) eithr yr oe­ddwn i, ac yr wyfi fyth yn credu, mai felly y difethir ein Dinas ni; ac am hynny myfi a ddihangais allan o honi.

Cris.

A glywsochi ddim sôn am sy nghymydog Meddal? ac os do, pa fodd yr oedd pobl yn ymddwyn eu hunain tuag atto ef?

Ffy.

Myfi a glywais iddo ef eich canlyn chwi, hyd oni ddaeth e i Gors anobaith, yn yr hon y syrthiodd efe, (meddai rhai) ond ni fynnai fo i neb wybod hynny; ond myfi a wn ei fod ef wedi ei ddifwyno yn ddirfawr â dom y gors honno. A chwedi iddo ddychwelyd yn ol, y mae pob math o bobl yn ei watwor ac yn ei ddirmygu ef; a phrin y gesyd neb ef ar waith, [Page 136] ac y mae fo 'nawr yn saith gwaeth nag y bu e erioed o'r blaen.

Cris.

Eithr pa ham y maent hwy we­di ymosod yn ei erbyn ef felly, gan eu bod hwythau hefyd yn dibrisio 'r ffordd y trôdd efe oddi arni?

Ffy.

Ow meddant hwy! Crogwch e, Crogwch e, Dyn an­wadal. Turn-coat yw e: Ni bu e gywir iw broffess: Ie yr wi 'n tybied, fod Gelynion Duw wedi eu gosod ar waith iw To hiss at him, i c [...]wiba­nu am ei ben ef. hwttio ef, ac i wneuthur e 'n Ddihareb, am iddo gilio allan o'i ffordd a dychwelyd yn ol i Ddinas Destryw, Jer. 29. 18, 19.

Cris.

A fu dim ymddiddan rhyng­ochi ag ef cyn eich dy [...]od oddi cartref?

Ffy.

Myfi a gyfarfum ag ef vn­waith yn yr heol, eithr efe a giliodd ymaith i ystlys arall yr H [...]ol. ystrŷt, fal vn à chywilydd arno am yr hyn a wnae­thai; felly nid yngenais i air wrtho.

Cris.

Pan y dechreuais i fy nhaith, yr oeddwn yn gobeithio 'n dda am y gwr hwnnw; ond yn awr yr wi 'n ofni y derfydd am dano ef yn nestryw y Ddinas; (yr wyf inne yn of ni hynny ebe ffyddlon, eithr pwy a all rwystro yr hyn a fydd?) Canys digwyddodd iddo ef yn ôl y wir Ddihareb, Y Ci a ymchwelodd at ei chwdiad ei hun, a'r Hwch wedi ei golchi iw hymdreiglfa yn y dom. 2 Pet. [Page 137] 2. 22. Eithr Gymydog ffyddlon ebe Cri­stion, gan adel Meddal, Siaradwn am y matterion a berthyn i ni ein hunain yn fwy Immedi­atly. digyfrwng. Mynegwch i mi gan hynny, pa bethau a ddigwyddasant i chwi ar y ffordd wrth ddyfod; canys myfi a wn i chwi gyfarfod â rhyw ddry­gau; os amgen, gellir scrifennu hynny yn lle rhyfeddod.

Ffy.

Myfi a ymgedwais rhag y Gors, ir hon y syrthiasoch chwi iddi, ac a ddaethym i fynu ir Porth, heb gael prawf o'r perygl hwnnw: Eithr myfi a gyfarfum ag vn a elwid Anllad, VVantan. Drythyll, yr hon a fu debyg i wneuthur i mi niwed.

Cris.

Da a fu i chwi ddiangc rhag ei rhwyd hi: Y fath vn a honno a fu caled iawn i Joseph, ond ynte a ddi­hangodd rhagddi, er y bu agos iddo ef a cholli ei fywyd o'i phlegid hi, Gen. 39. Eithr pa beth a wnaeth hi i chwi?

Ffy.

Chwi a ryfeddech (oni bai 'ch bod chwi 'n gwybod rhyw beth) pa fath dafod gwenieithus oedd gan Y beth front. y Faiden: Hi a fu caled wrthyf am Tr [...]i oddiar y ffordd. wŷro gyda hi, gan addaw i mi bob math o fodlonrhwydd cnawdol, ond nid y bodlonrhwydd y sy 'n tarddu allan o gydwybod dda.

Cris.

Diolchwch i Dduw a'ch cad­wodd [Page 138] chwi rhagddi: Y neb y byddo 'r Arglwydd yn ddig wrtho, a syrth yn y ffôs honno. Dihar. 22. 14.

Ffy.

Nage, ni wn i pa vn a wnae­thum i a'i diangc yn gwbl oddiwrthi a'i peidio.

Cris.

Ow! Yr wi 'n gobeithio na roddasoch chwi lê iwthemptasiwnau Profedi­gaethau. hi?

Ffy.

Na ddo i halogi fy hun yn gor­phorol gyda hi, canys yr oeddwn yn cofio hên yscrifen a welswn i, yr hon oedd yn dywedyd, ei thraed hi a ddes­cynnant i Angeu, a'i cherddediad a sang vffern, Dihar. 5. 5. Am hynny mi a gauais fy llygaid, rhag ofn cael fy Llygad­tynnu. witshio gan ei golygon hi, Job 31. 1. Yna hi a'm difenwodd i, a minne a ae­thym i'm ffordd.

Cris.

A gyfarfuoch chwi ag vn brofe­digaeth arall wrth ddyfod tuag yma?

Ffy.

Wedi i mi ddyfod i odrau y Bryn a elwid Anhawsdra, Myfi a gy­farfum â Gwr oedrannus iawn, yr hwn a ofynnodd i mi, Pwy 'n oeddwn i, ac i ba le yr oeddwn yn myned? A minne a'i hattebais ef, Mai Pererin oeddwn i, yn myned tua 'r Ddinas nefol: Yna ebr hên wr▪ yr wyti 'n edrych fal Dyn onest; a fyddi di foddlon i aros gyda mi; os gwnei di felly, mi a roddaf i [Page 139] ti gyflog. Yna mi a ofynnais iddo ei enw, a pha le yr oedd e 'n trigo? Yn­tef a'm hattebodd i, mai ei enw ef oedd Nattur lygredig. Adda y cyntaf, a'i fod ef yn preswylio Yn y ga­lon dwy­llodrus. yn y Dref a elwir Twyll, Eph. 4. 22. Jer. 17. 9. Wedi hynny mi a ofynnais iddo, pa beth oedd ei waith ef, a pha gyflog a roddai fo? Yntef a'm hattebodd i, mai hela am olud, ac am feluswedd buchedd, ac am bob math o bethau hyfryd a ddichon gyf­lawni trachwantau 'r cnawd, oedd ei waith ef, ac yn lle cyflog y cawn i fod yn etifedd iddo yn y diwedd. Mi a ofynnais iddo ym-mhellach, Pa fath Dŷ yr oedd efe yn ei gadw, a Pha weision eraill oedd gantho ef? Ac fo 'm hat­tebodd i, fod yn ei Dŷ ef holl ddain­teithion y Byd hwn, ac mai y rhai a genhedlaisei fo ei hun oedd ei weision ef. Yna mi a ofynnais pa sawl vn o blant oedd gantho? A dyweddod yntef wr­thyf, nad oedd gantho ond tair o fer­ched, sef, Chwant Yn ol plesserau. y cnawd, Chwant Yn ol cyfoeth. y llygaid, a Chwant yn ol swy­ddau a gogoniant daiarol, yr hyn sydd yn gwneu­th [...]r Dyn­ion yn falch. Balchder y Bywyd, ac y cawn i eu priodi nhwy ill tair os mynnwn, 1 Joan. 2. 16. Yna mi a ofynnais iddo. pa hyd y mynnai fo i mi fyw gydag ef? A fe 'm hattebodd i, cyhyd o amser ac y byddai fo byw ei hun.

Wedi clywed hyn, yr oeddwn i ar [Page 140] y cyntaf yn gogwyddo peth i fyned gyda 'r hên wr, canys yr oedd efe yn dywedyd yn dêg iawn; ond wrth edrych yn ei dalcen ef, mi a welwn yno yn scrifennedig, Dôd heibio yr hên Ddyn a'i weithredoedd, Eph. 4, 22. Rhuf. 13. 12.

Yna yr oedd hyn yn rhedeg yn fy meddwl (er tecced oedd [...]i eiriau ef) y gwerthe fo myfi yn lle caeth-wâs, os awn iw Dŷ ef i Drigo. gyfaneddu: Ac am hynny mi a archais iddo dewi a sôn, oblegid na ddeuwn i yn agos i Ddrws ei Dŷ ef. A'r hynny fo 'm difenwodd i, ac a ddywedodd wrthyf, y danfonai efe y cyfryw vn ar fy ol, ac a wnai fy ffordd yn chwerw i'm Henaid i. Yna mi a droais i ymadel ag ef Y mae 'r hên nattur ly­gredig yn gosod yn arw wei­thie ar y duwiolaf. eithr hwyn gyntaf ac yr ymdroesym i fyned oddi-yno, mi a'i clywn ef yn ymaflyd ynofi, ac yn rhoddi i mi y fath dynnfa creulon, mewn amcan i'm tynnu 'n ol, hyd oni thybiais iddo gippio ymaith ran o'm cnawd i: Agwnaeth hyn i mi waeddu allan, Ys truan o Ddyn wyfi! Rhuf. 7. 24. Ac ar ol hynny mi a ae­thym ar hyd fy ffordd tua phen y Bryn; a chwedi i mi fyned ynghylch hanner y ffordd y fynu, mi a edrychais drach yng-hefn, ac y welwn vn yn dy­fod ar fy ol i Yn gy­flym. yn fuan. yn chwimmwth fal y [Page 141] gwynt; ac fo 'm goddiweddodd i yn gymmwys, ynghylch y man lle yr oedd llwyn wedi blannu: A chyn gynted ac y darfu iddo fy ngorddiwes i, nid oedd ei driniaeth ef â'm fi ond gair a dyrnod; canys fo 'm curodd i lawr, ac a'm gosododd i orwedd ar y ddaiar fal Dyn marw: Ond pan ddaethym i ychydig attaf fy hun drachefn, mi a ofynnais iddo, pa ham y gwnaethai fo felly â mi? Yntef a ddywedodd, o achos fy ngogwyddiad dirgel i I wran­do ar bro­fedigae­thau 'r cnawd neu nattur lygredig. at yr Adda cyntaf; a chyda hynny efe a ro­ddodd i mi ddyrnod angheuol arall ar fy nwyfron, ac am bwriodd i lawr ar fy nghefn: felly mi a orweddais i lawr wrth ei draed ef fal Dyn marw, me­gis o'r blaen: A phan adfywiais i eilch­waith, mi a lefais arno am drugaredd: Eithr fo 'm hattebodd i, nas medrai fo ddangos trugaredd, ac ar hynny efe a'm curodd i lawr drachefn: Ac yn ddiam­mau fo 'm lladdasai i, oni buasai i vn ddyfod heibio, ac [...]rchi iddo beidio.

Cris.

Pwy oedd yr hwn a archodd iddo ef beidio?

Ffy.

Ni adwaenwn i mo honaw ef ar y cyntaf, ond pan yr aethym heibio iddo, mi a ganfùm dyllau yn ei ddwylo ac yn ei ystlys ef: Yna mi a wybûm mai 'n Harglwydd ni ydoedd efe. [Page 142] Felly mi a aethym i ben y Bryn.

Cris.

Y Gwr hwnnw a'ch goddiwe­ddodd Y mae 'r Gyfraith yn taro po­bl i lawr â'i hargy­hoeddia­dau, ac a'i bw­gythion. chwi oedd Moses: Nid yw efe yn arbed neb; ac ni feidr efe ddangos trugaredd ir rhai a drosseddant ei gy­fraith ef.

Ffy.

Mi a'i hadwaen ef yn ddigon da; nid y pryd hynny y cyfarfu ef â mi gyntaf: Efe oedd yr hwn a ddaeth attafi, pan yr oeddwn yn trigo 'n ddio­fal gartref, ac a ddywedodd wrthyf, Nid oes dim ond damnedi­gaeth i ni ddisgwyl am dano am drosseddu c [...]fraith Foesen, nes cael maddeuant pechodau tywy Iesu Grist. y lloscai fo fy nhŷ am fy mhen os aroswn yno.

Cris.

Eithr oni welsochi y Tŷ oedd ar Ben y bryn, yn agos ir Lle yn yr hwn y cyfarfu Moses â chwi?

Ffy.

Do, a'r Llewod hefyd; ond i'm tŷb i yr oeddent hwy 'n cyscu; ca­nys ynghylch hanner dydd ydoedd hi: Ac am fod gennif gymaint o'r Dydd o'm blaen, Mi a aethym heibio ir Por­thor, ac a ddaethym i wared o'r Bryn.

Cris.

Ond Attolwg, a gyfarfuochi â neb yn Nyffryn Darostyngiad?

Ffy.

Do, Mi a gyfarfûm â Gwr a elwir Anfodlonrwydd, yr hwn a fynnai fy mherswadio i, i ddychwelyd yn ol drachefn gydag ef, am y rheswm hyn, [Page 143] sef, oblegit nad oedd dim Anrhydedd iw gael yn y Dyffryn hwnnw: Ac heb law hynny eb efe, os byddwch chwi mor ffol a myned y ffordd honno, chwi a ddigiwch eich holl gyfeillion, megis Balchder, Vchder, Tyb da am dano ei hunan. Hunan Dŷb, Go­goniant bydol, gyda llawer eraill.

Cris.

Pa fodd yr attebasochi ef?

Ffy.

Mi a'i hattebais ef, mai er y gallai y rhai oll a enwasai fo fy arddel i o ran carennydd (canys fy ngheraint i oeddynt yn ôl y cnawd) etto er pan yr aethym i 'n Bererin, hwy a'm diarddela­sant i, a minne a'u gwrthodais hwyn­ [...]au: Ac am hynny mi a ddywedais, nad oeddent hwy yn awr ddim mwy i'm fi, nâ phe buasent erioed heb fod o'm Cenhedl: Ac heb law hynny, mi a ddywedais wrtho, iddo lwyr Gam­dd [...]s [...]ribo. gam­osod allan y Dyffryn ymma; canys o flaen Anrhydedd yr â gostyngeidd­rwydd, ond Balchder sydd yn myned o flaen dinistr, ac vchder yspryd o flaen cwymp. Ac am hynny ebe fi, gwell genni fyned trwy 'r Dyffryn yma, i feddiannu y peth y mae'r doethaf yn ei gyfrif yn Anrhy­dedd, nâ dewis yr hyn yr wyti yn ei gyfrif yn deilwng o'm serchiadau. Dihar. 15. 33. Dihar. 16. 18.

Cris.

A gyfarfuochi â neb arall yn y Dyffryn hwnnw?

Ffy.
[Page 144]

Do, mi a gyfarfum ag vn a el­wir Digwilydd: Ac efe a lefarodd lawer yn erbyn crefydd, gan ddywe­dyd, mai peth gwael iawn ydoedd i Ddyn feddwl am grefydd, ac nad oedd cydwybod dyner ond peth anwrol; ac nad oedd gwilio ar ein geiriau a'n gweithredoedd, fal y bom dan rwyme­digaeth i ymgadw oddiwrth y rhydd­did gwrol wych, y mae Gwyr calonnog y byd presennol yn ymarfer ag ef, ond gwatworgerdd ir Amseroedd. Efe a ddywedodd hefyd, nad oedd nem­mawr o'r rhai Galluog, ac o'r rhai Cy­foethogion, a'r Doethion, o'r vn feddwl â mi; ac nad oedd neb o honynt hwy ychwaith o'm barn i, nes eu Hudo. denu yn gyntaf i fod yn ffoliaid, trwy Mentro. anturio 'n ewyllysgar i golli 'r cwbl ar a fe­ddant, i feddiannu nis gwŷr neb pa beth, 1 Cor. 1. 26. Pen. 3. 18. Phil. 3. 8. Heb law hynny, efe a osododd ger fy mron i, wael ac issel râdd a chyflwr, y rhai oeddynt yn fwy enwedigol yn Be­rerinion, ym-mhôb oes: Ac fe ddarfu iddo Dannod. edliw hefyd im fi eu hanwybo­daeth a'i hanneallgarwch hwy, ym mhob math o Ddysceidiaeth naturiol, Joan. 7. 48. 49. Ie efe a ddywedodd ym-mhell­ach, mai matter o gywilydd ydoedd, fod neb yn wylo ac yn galaru dan [Page 145] Bregethiad y Gair, gan ddyfod Wedi hynny. gwe­dyn oddi-yno dan ochneidio a griddfan; mai cwilydd oedd ceisio maddeuant gan Gymmydog am feiau bychain, a thalu adref yr hyn a ladrattwyd neu a gam­attaliw yd oddiwrth neb. Dywedodd hefyd, fod Crefydd yn peri i Ddyn ymddieithro oddiwrth y Gwyr mawr, oblegid ychydig o feiau (ir rhai, er eu bod yn feiau annafus, y rhoddes efe enwau teccach) a dywedodd, fod cre­fydd yn peri i rai arddel a derbyn wy­neb Dynion gwael, am eu bod nhwy o'r vn brawdoliaeth grefyddol a nhwy­thau. Ac onid yw hyn eb efe yn fatter o gywilydd?

Cris.

A pha beth a ddywedasoch chwi­thau wrtho ef?

Ffy.

Ni wyddwn i pa beth i ddy­wedyd ar y cyntaf, ie efe a'm cyffrôdd i yn y fath fodd, fal y cododd fy ngwaed yn fy wyneb, a braidd na'm curwyd i ymmaith oddiwrth grefydd, trwy 'r pethau a adroddodd y Dyn Digwilydd hwn wrthyf. Eithr o'r di­wedd mi a ystyriais, fod yr hyn sydd vchel gyda Dynion yn ffiaidd ger bron Luc. 16▪ 15. Duw. Ac mi a feddyliais drachefn, fod y Dyn Digwilydd hwn, y fynnai daro cywilydd ynof, i'm hattal i trwy hynny, [...]hag myned ym-mlaen, i fod [Page 146] yn grefyddol, mi a feddyliais meddafi, fod y Dyn hwn yn mynegi i mi pa beth yw Dynion, ond nad oedd efe yn dywedyd dim wrthyfi, pa beth oedd Duw neu Air. Ac mi a ystyriais heb­law hynny, Na fernir ni yn Nydd y Farn i Farwolaeth neu Fywyd, yn ol Barn yspryd gwrol-wych y Byd, ond yn ol Doethineb a Chyfraith y Goru­chaf. Am hynny ebe fi, yr hyn y mae Duw yn ei ddywedyd ei fod yn oreu, sydd oreu yn wir, er bod holl Ddynion y byd yn ei erbyn. Yn awr; gan fod Duw yn gwneuthur gwell cyfrif o'r Grefydd a appwynti­odd ef ei hun, ac o Gydwybod dyner, nag yr wyti yn ei wneuthur o honynt o Ddyn digwilydd; a chan fod y rhai sy 'n eu gwneuthur eu hunain yn ffyliaid, er mwyn Teyrnas Nefoedd, yn Ddoe­thach nâ neb arall ym marn yr Ar­glwydd; A chan fod y Gwr tlawd, sy 'n caru Crist, yn gyfoethoccah nâ 'r Gwyr mwyaf yn y byd sy 'n ei gasau ef; Dôs ymmaith gau hynny o Ddyn Di­gwilydd oddiwrthif; canys Gelyn wyti i'm iechydwriaeth i. A wrandawafi arnati trwy fod yn wrthwyneb i'm Harglwydd gorvchaf? Os felly y gwnafi, pa fodd yr edrychaf yn ei wyneb ef, yn ei ddyfodiad? A Gywilyddia fi [Page 147] yn awr o herwydd ei ffyrdd a'i Weisi­on ef? Os felly y gwnâf, pa fodd y gallafi ddisgwyl am ei fendith ef? Mar. 8. 34. Mat. 10. 32. A braidd y gellais i ( [...]'r ymadroddion hyn) yrru ymmaith o'm cyfeillach y Dryg­ddyn. Dihirwr digwilydd hwn, a fynnai weithîo cywilydd ynof, i ymarddel â Duw, a'i ffyrdd; a'i Bobl. Ie Alefa­r [...]i yn ddistaw. fo a hustyngai, yn fy nghlu­stiau, yn dra mynych, amryw o be­thau, yn y rhai yr oedd pobl grefyddol yn dangos llawer o wendid ynthynt: Eithr o'r Diwedd mi a ddywedais wr­tho ef, na fyddai ei drafferth ef yn y gorchwyl hwn Ar ol hyn. ragllaw ond gwaith ofer; canys yn y pethau ebe fi yr ych chwi yn eu diystyru, yr wyfi 'n gweled y Gogoniant mwyaf. A chwedi gyrru 'r Dyn taerllyd hwn ymmaith; a chael gwared o honaw, myfi a genais fal hyn.

Y
T [...]mpta­siwnau.
Profiadau sy 'n cyfarfod
Pawb sy 'n teithio mewn vfydd-dod,
Ir wir Alwad nefol, hyfryd,
Y'nt yn amal ac yn enbyd,
Wedi eu trefnu a'i gweddeiddio,
I'n drwg nattur sydd yn
Ar ddi­hun i wrando ar brofedi­gaethau.
effro:
Dawant am ein Pennau Beunydd,
Deuant, Deuant fyth o newydd:
Fal y gallom yn aflawen,
Naill a'i 'nawr, a'i rhyw bryd amgen,
[Page 148] Trwyddynt gael ein dal a'n gorfod,
Ac o'u plegid cael ein gwrthod.
O gan hynny! Nac anghofied,
Pererinion fod yn gwilied,
I wrthnebu twyll Drwg Ddynion,
Cyn wroled ac y gallon.
Cris.

Y mae 'n ddilys y dylem ni alw ar yr hwn, y fynnei i ni fod yn wrol ar y Ddaiar dros y gwirionedd, am gym­morth i wrthwynebu y cyfryw Ddynion digywilydd, ar a fynnent i ni gywilyddo i ymarddel a'r hyn sydd dda. Eithr a ddigwyddodd i chwi ddim drwg arall yn y Dyffryn hwnnw?

Ffy.

Na ddo, canys yr oedd yr Haul yn llewyrchu arnaf yn yr holl ran arall o'r ffordd, trwy 'r Dyffryn hwnnw, ac hefyd trwy Ddyffryn cysgod Angau.

Ac ar ol i Gristion a Ffyddlon fyned ym-mlaen oddi-yno, Mi a welwn, yn fy Mreuddwyd, Wr a elwir Chwedleu­gar yn cyfarfod â nhwy: Yr oedd efe yn wr mawr o gorpholaeth, ac yn deccach yr olwg arno o bell nag yn agos, a go­fynnodd Ffyddlon iddo ef, y Cyfaill, i b [...] le yr ewchi? A ydych chwi'n siwr­neio tua 'r wlâd nefol?

Chwed.

Yr wyfi 'n myned tua'r wlâd honno.

Ffy.

Os felly, rwi 'n gobeithio cael eich cyfeilla [...]h chi.

Chwed.
[Page 149]

Mi a fyddaf o ewyllys fy nghalon yn Gydymmaith i chwi.

Ffy.

Awn ynghyd gan hynny, athreu­liwn ein hamser, mewn ymddiddanion ynghylch rhyw bethau Llessiol. buddiol.

Chwed.

Y mae 'n dda iawn gennif, i siarad a chwi neu â neb arall, am be­thau da; ac yr wi 'n llawenychu i mi gyfarfod â rhai, y sy 'n Inclino, gogwyddo tueddu i chwed­leua am fatterion crefyddol. Canys i ddywedyd wrthych chwi y gwir, nid oes nemmawr yn gofalu am dreulio ei hamser fal hyn (wrth ymdeithio) ond dewisant yn hytrach o lawer ymddi­ddan am bethau anfuddiol; a bu hyn yn Drwbwl. gythryfwl im fi.

Ffy.

Y mae hynny yn beth iw alaru o'i blegid; canys y mae pethau Duw yn hae­ddu arferiad ein tafodau am danynt, yma ar y Ddaiar, o flaen dim arall.

Chwed.

Yr wi 'n dra boddlon i chwi, canys y mae 'ch ymadroddion chwi yn llawn o reswm da: Ac mi a angwane­gaf hyn; Pa beth sy mor hyfryd ac mor fuddiol, ac ymddiddan am Bethau Duw?

Pa beth sy mor hyfryd? (os ydyw Dyn yn cymmeryd dim hyfrydwch mewn pethau rhyfeddol) Er ensampl, os bydd yn hyfryd gan Ddyn chwed­leua am Histori, neu Ddirgeledigae­thau [Page 150] mawrion; neu os bydd Dyn yn caru ymddiddan am Wrthiau, Rhyfe­ddodau, neu Arwyddion; ym mha le y caiff e y pethau hyn wedi eu coffáu cyn hyfrytted, a'i scrifennu mor [...]. llu­ni [...]idded, ac yn yr yscrythur gyssegr­lan.

Ffy.

Etto wrth siarad ynghylch y fath bethau da, ein diben ni y ddylai fod, i dderbyn llesáad i'n eneidiau oddi­wrth y cyfryw ymddiddanion.

Chwed.

Dyna 'r hyn a ddywedais i; O B [...]âf C [...]wed­leugar! Dymma ym [...]d [...] o­ddion teg yn dyfod allan o'th enau rhag­reithiol, di. canys y mae ymddiddanion ynghylch pethau Duw yn dra llesol, oblegit trwy hynny, fe ddichon Dyn ddyfod i wy­bod llawer ynghylch gwagedd pethau daiarol, ac ynghylch godidowgrwydd pethau nefol: Ond yn fwy neilltuol, oddiwrth hyn y gall Dyn ddyscu; mor anghenrheidiol yw'r Ailenedigaeth, mor annigonol yw 'n gweithredoedd goreu ni i haeddu Bywyd tragwyddol, a pha 'r fath ddiffyg y sydd arnom am Gyfiawn­der Iesu Grist, i guddio ein noethni ys­prydol ni. Heblaw hynny, trwy hyn y dichon Dyn Ddyscu pa beth yw Edi­farhau, Credu, Gweddio, Dioddef, dros Grist, a chyffelyb bethau eraill: Trwy hyn y dichon Dyn ddyscu beth yw syl­wedd a nattur Addewidion mawr a chy­ssuron yr Efengyl, er comffordd iw [Page 151] Enaid ei hun; a pha fodd hefyd i ym­gadw rhag Ffalst. gau opiniwnau, ac i am­ddiffyn y Gwirionedd, ac i roi Addysc ir anwybodus.

Ffy.

Y mae hyn oll yn wir; ac y mae 'n llawen gennif glywed y pethau hyn oddi wrthych.

Chwed.

Och! Esceulusdra pobl, i ymddiddan am y cyfryw fatterion, y sydd vn Achos, fod cyn lleied yn deall yr Angenrheidrwydd o ffydd, ac o waith grâs yn eu eneidiau, i cym­mhwyso nhw i feddiannu Bywyd trag­wyddol: Ac o eisiau chwedleua am y fath bethau a hyn, y mae pobl yn byw mewn anwybodaeth, gan hyderu ar Weithredoedd y Ddeddf, am gael Teyr­nas Nefoedd trwyddynt, er na chair mo honi yn y ffordd honno, mewn modd yn y byd.

Ffy.

Ond trwy 'ch cennad chwi, Rhôdd Duw yw Gwybodaeth nefol o'r pethau hyn; Ac ni all neb eu gwybod hwynt trwy ei dyfalwch ei hun, neu yn vnic trwy ymddiddan am danynt.

Chwed.

Mi a wn hynny yn ddigon da: Oblegit ni ddichon dyn dderbyn dim, oni bydd wedi ei roddi iddo o'r Nef: O râs y mae 'r cwbl, ac nid o weithredoedd: Mi a ellwn roddi i chwi gant o Scrythyrau i brwfio hynny.

Ffy.
[Page 152]

Am ba beth gan hynny yn neill­t [...]ol ebe Ffyddlon, y chwedleuwn ni [...]. yr­wan?

Chwed.

Mi a [...]. Siaradaf â chwi am y pethau a fynnoch: Pa vn bynnag a'i Pethau Nefol, a'i pethau Daiarol; Pe­thau Moesol ai pethau Efangylol; Pe­thau Cyssegredig, ai pethau Haloge­dig; Pethau a Fu, ai pethau a Fydd; Pethau mewn Gwledydd dieithr, ai Pethau yn ein Gwlâd ein hun; Pethau mwy Sylweddol, ai pethau [...]. Gogyl­chiadol y byddant hwy: Etto rhaid yw gwneuthur y cwbl er adeiladaeth i'n heneidiau.

Ffy.

Ffyddlon wedi clywed hyn a ry­feddodd, a chan droi at Gristion (canys yr oedd efe trwy 'r holl amser ymma yn rhodio wrtho ei [...]un) efe a ddywedodd wrtho ef, ond yn ddistaw: Pa fath Gy­dymaith da y gawsom ni! Yn ddiau fe fydd y Gwr hwn yn Bererin rhagorol.

Cris.

Ar hynny y gwenodd Cristion yn bwyllog, ac a ddywedodd; y Gwr ymma, yr hwn yr ydychi yn ei gan­mol, a dwylla á'i dafod vgain o rai sy heb ei adnabod ef.

Ffy

A ydych chwi yn ei adnabod ef?

Cris.

Ydwyf yn well nag y mae e yn ei adnabod ei hun.

Ffy.

Attolwg Pwy ydyw ef?

Cris.
[Page 153]

Ei enw ef yw Chwedleugar, y mae fo 'n aros yn ein Dinas ni: Ac oni bai fy mod i 'n ystyried, fod ein Trêf ni yn fawr iawn, Myfi a ryfe­ddwn nad yw ef yn adnabyddysi chwi­thau hefyd.

Ffy.

Mâb i bwy yw ef? Ac ynghylch pa fann y mae fo 'n trigo?

Cris.

Mâb yw ef i vn a elwir Yma­droddwr-da, ac yr oedd e 'n trigo yn Heol y Siarad: Ond er tecced yw ei dafod ef, nid yw e ond Cydymaith drwg.

Ffy.

Ow! fe dybygid ei fod ef (o ran crefydd) yn Ddyn gwych.

Cris.

Hynny yw gan y rhai sy heb ei gwbl adnabod ef; canys oddi-gar­tref y mae ef yn oreu; ger llaw gar­tref y mae fo 'n ddigon ffiaidd. A lle 'r ych chi 'n dywedyd, Mai. taw Dyn gwych yw ef, y mae hynny yn dwyn ar gôf i mi, yr hyn a greffais i arno yng-waith Paentiwr; y mae 'r Lluniau y mae fo yn ei baentio yn ymddangos yn oreu o bell, ond yn ammhrydferth yn agos.

Ffy.

Yr wi 'n barod i dybied, nad ych chi ond Jesto. cellweir, am i chwiwenu.

Cris.

Na atto Duw i mi gellweir yn Chwer­thin. y cyfryw fatter a hyn, na cham-achwyn ar neb (er i mi chwerthin am eich [Page 154] gwaith chwi yn canmol y Dyn ymma) Myfi a yspysaf i chwi ym-mhellach pa fath ŵr ydyw fe. Y mae fo 'n Ddyn sy am bôb math o gyfeillach, ac am bob math o Ym­chwed­leua. siarad. Fal y mae fo 'n chwedleua â chwi yn awr, felly y chwe­dleua efe pan y bo yn y tafarn ym-mysg y Meddwon; a pha fwyaf o gwrw a fyddo yn ei ben ef, mwyaf oll y fydd y pethau hyn yn ei enau ef: Nid oes gan Grefydd Lê, nac yn ei Galon ef, nac yn ei Dŷ ef, nac yn ei ymarwe­ddiad ef; ond y mae hi 'n sefyll yn vnic ar ei dafod ef: A'i Grefydd ef yw gwneuthur swn am bethau 'r Arglwydd a'r tafod hwnnw.

Ffy.

A ddywedwch chi felly? Yna fe 'm twyllwyd i 'n ddirfawr yn y Gwr ymma.

Cris.

Twyllwyd chwi! Do yn S [...]c [...]. ddilys: Cofiwch y Ddihareb: Dywedant ac nis gwnânt: Ond nid mewn ymad­rodd y mae teyrnas Dduw (yn sefyll) eithr mewn gallu, Mat. 23. 3. 1 Cor. 4. 20. Y mae fo 'n chwedleua am Weddi, am Edifeirwch, am Ffydd, ac am yr Ad-enedigaeth; eithr nid oes gantho yn ei enaid ei hun brofiad yn y byd o honynt; fo feidr yn vnic chwed­leua am danynt. Myfi a fûm yn ei Deulu ef, ac a ddeliais sulw arno ef [Page 155] Gartref ac oddi Cartref; ac mi a wn, mai gwir ydyw 'r hyn yr wyfi yn ei ddywedyd am dano ef. Y mae ei Dŷ ef cyn wacced o Grefydd ac yw gwynn ŵy o flâs. Nid oes yno na Gweddi, nac Argoel o Edifeirwch am bechod. Ie y mae 'r Anifail yn ei Ryw yn gwasanae­thu Duw yn llawer gwell nag efe. Esay. 1. 3. Y mae Crefydd yn dioddef Anglod. Gogan, Am­mharch. Gwarthrydd, a Chywilydd o'i achos ef; ac y mae 'n anhawdd Sef, i Grefydd. iddi gael Gair da yn yr holl ran hynny o'r Drêf, lle y mae fo yn presswylio ynthi, am fod ei fuchedd ef yn ei diwyno hi, Rhuf. 2. 23. 24. Fal hyn y dywed y Bobl gyffredin sy 'n ei adnabod ef, Angel Pen ffordd, Diawl pen pentan. Y mae ei Deulu ef wedi cael profiad o hyn oll. Y mae fo 'n Ddifennwr, ac mor Anfwyn, mor Garw sarrug. Daeog, ac mor afresymmol wrth ei Weision, fal na wyddant hwy pa fodd i foddloni ef, yn eu Gwaith a'u Gorchwylion, na pha fodd i lefaru wrtho heb gyffroi ei Ddi­gofaint ef. Y mae 'r rhai sydd yn gwer­thu pethau iddo, ac yn prynu pethau gantho yn dywedyd, mai gwaeth yw iddynt farchnatta a masnach ag efe nag â Thwrcod; am fod y rheini yn one­stach nag efe, yn eu Margennon a'u Haddewidion. Fe dwylla Pawb os di­chon [Page 156] ef. Ac heblaw hynny, y mae fo 'n dyscu ei Feibion i ganlyn ei Lwybrau ef: Ac os cenfydd ef yn neb o'i Blant ddim ammheuon ynfyd (canys felly y mae e 'n galw yr ymddangosiad cyntaf o gydwybod dyner, y sy yn ei gogwy­ddo nhwy at onestrwydd) fo a'i geilw hwynt yn ynfydion ac yn ddwl: Ac ni esyd e vn o honynt, mewn modd yn y byd, i drin llawer o'i fusnesson ef, os bydd e 'n deall fod arnynt ofni Twyllo. siommi neb: Ac ni chanmol e vn o honynt yng-wydd eraill, os bydd hwnnw 'n Gogwy­dd [...]. tueddu at onestrwydd cyffredinol. O'm rhan i, yr wi 'n tybied iddo ef, trwy ei fuchedd annuwiol, beri i lawer dram [...]wyddo a syrthio, ac fo a fydd (o [...]i ragflaena Duw hynny) yn achos o ddestryw i laweroedd mwy.

Ffy.

Wele fy Mrawd yr wyf yn rhwym i'ch coelio chwi; nid yn vnic am ei [...]h bod yn dywedyd yr adwaenoch ef, ond hefyd am eich bod chwi fal Cristion yn Dang [...]s. datcuddio beth yw 'r Dyn ymma; canys ni allafi feddwl eich bod chwi 'n dywedyd y pethau hyn o ddrwg ewyllys, ond am fod y peth felly, fal yr ydych chwi 'n dywedyd.

Pe buaswn i heb ei adnabod e ddim gwell nâ chwychwi, mi a allaswn ond odid fal chwithe dybied, mai Gwr da [Page 157] rhagorol ydoedd efe. Ie pe buasai fo yn cael yr Anair yma oddiwrthynt hwy yn vnic, y sydd yn Elynion i Grefydd, mi a Tybygas­wn. dybygswn, mai cabled. enllib ydoedd hynny (sef Anglod y sydd yn dyfod, yn fynych, yn ddiachos, allan o eneuau y rhai drygionus, ar Enwau Dynion da a'i proffes) eithr yr holl bethau a adroddais i am dano ef, ie, a llawer mwy o rai cynddrwg ac hwyntau, a allafi o'm gwybodaeth fy hun brofi ei fod ef yn euog o honynt. Heblaw hynny, y mae ar Wyr da gywilydd oi blegid ef; ni allant hwy na i alw ef yn Frawd nac yn Gyfaill: os enwir ef ym-mhlith y rhai crefyddol y sydd yn ei adnabod ef, hwy a cochant. wridiant gan gy wilydd o'i herwydd ef.

Ffy.

Myfi a welaf yn awr, Mai. taw vn peth yw Dywedyd, a pheth ar all yw Gwneu­thur: Ac o hyn allan. o hyn i maes, mi a ddaliaf sulw. graff­af yn well, ar y rhagor­iaeth. gwahaniaeth sydd rhwng y naill a'r llall.

Cris.

y maent yn ddau beth yn wir, a'r fath wahani­aeth rhyngthynt ac mor wahanrhedol, yr vn oddiwrth y llall, ac yw 'r Enaid a'r Corph; canys megis nad yw 'r Corph heb yr Enaid, felly hefyd nid yw dywedyd yn dda, heb wneuthur yn dda, ond Celain farw. Enaid crefydd yw Buchedd Dda▪ Cre­fydd bur a dihalogedig ger bron Duw a'r [Page 158] Tâd yw hyn, ymweled â'r ymddifaid a'r gwragedd gweddwon, yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y Byd, Jac. 1. 27. Nid yw Meistr Chwed­leugar yn meddwl am hyn: y mae fo 'n tybiaid, fod gwrando a dywedyd yn ddigon, i wneuthur Dyn yn Gristion da, (e [...] nad yw gwrando heb ddwyn ffrwyth ond megis derbyn yr had a hauir) ac fal hyn y mae fo'n twyllo ei enâid ei hun, Nid yw Gwaith Dyn yn chwedleua Jac. 1. 22. am Grefydd i dysti­olaethu. yn ddigonol i brofi, fod gantho galon a buchedd ffrwythlon a daionus. Gwybyddwn yn siccr, mai yn ol eu ffrwythau neu Gweithredoedd (ac nid yn ol eu geiriau yn vnic) y bernir Dynion yn Nydd y Farn, Dat. 22. 12. Mat. 16. 27. Ni fydd cymaint o holiad y pryd hynny, A ddarfu i chwi gredu a dywedyd yn dda, ac a fydd, a ddygasoch chwi ffrwythau da yn eich buchedd a'ch ymarweddiad. Dymma fydd vn Cwe­stiwn mawr ar y Dydd hwnnw, Pa vn P'un ai Gwneuthurwyr y Gair, ai ynteu Chwed­leuwyr yn vnic am y Gair a fuoch chwi? Ac yn ol hynny y bernir Dynion. Di­wedd y Byd a gyffelybir i'n cynhaiaf ni, ac chwi a wyddoch nad yw Dynion yn y cynhaiaf, yn edrych ar ddim ond ffrwyth (nid am y gall dim fod yn gy­meradwy gyda Duw oni bydd e'n tar­ddu allan o ffydd. Gal. 5. 6.) Ond dy­wedyd [Page 159] yr wyfi hyn, i ddangos i chwi mor aflesol y bydd Proffes Meistr Chwedleugar yn y Dydd hwnnw, heb fod yn wneuthurwr y Gair.

Ffydd.

y mae hyn yn dwyn ar gôf i mi y peth a ddywedodd Moses am yr Anifail glân: y mae ef yn gyfryw vn, ar y sydd yn hollti. fforchogi 'r ewin ac yn cnoi ei gîl, Lev. 11. 3. Nid yr hwn sy'n hollti 'r ewin yn vnic, neu yn cnoi ei gîl yn vnic sydd lân, ond yr hwn sy 'n gwneuthur y ddau. Y mae 'r yscyfarnog yn cnoi ei chîl, ond er hynny y mae hi 'n aflan, am nad yw hi yn hollti yr ewin. Ac mewn gwirionedd y mae Meistr Chwedleugar yn gyffelib ir yscyfarnog; y mae fo 'n cnoi 'r cîl, y mae fo 'n ceisio gwybodaeth trwy fyfyrio ar y Gair; ond nid yw ef yn Forchogi 'r ewin, Nid yw ef yn ymado, â ffordd pechaduriaid; ônd megis yr yscyfarnog, y mae gantho droed Ci neu Arth, ac am hynny y mae fo 'n aflan.

Cris.

Myfi a angwanegaf vn peth arall. Y mae Paul yn galw Chwedleu­wyr mawr (y rhai sydd heb râs yn eu calonnau) yn Efydd yn seinio, a Sym­bal yn tingcian; hynny yw, fal y mae fo yn deonglu y geiriau mewn lle arall, Pethau di-enaid ydynt, sef, yn rhoddi sain yn vnic, a dim ond hynny: Pethau di-enaid ydynt, hynny yw Dynion [Page 160] ydynt heb wir ffydd a grâs yr Efengyl yn eu calonnau; a thrwy ganlyniaeth; y maent yn gyfryw rai; na chyfrifir mo ho­nynt hwy byth yn Nheyrnas Nefoedd, ymmhlith y rhai sydd yn Blant y Bywyd; er ei bod nhw [...] [...]n seinio wrth Chwedleua, mal pettai tafodau neu Leferydd Angel­ion ganthynt, 1 Cor. 1 [...]. 12. Pen. 14. 7.

Ffy.

Y mae ei Gymdeithas ef, yr hyn a fu ar y cyntaf yn fatter o hoffder, yr aw­ron yn fatter o flinder [...]mfi. Pa beth a wnawn ni i gael gwared o honaw ef?

Cris.

Cymmerwch fy nghyngor i, ac yna (m [...]gis yr ydych chwi 'n blino ar ei gymdeithas ef) y blina yntef hefyd yn ebrwydd ar eich cymdeithas chwi­thau, oddieithr i Dduw droi ei Galon ef. A'm Cynghor i yw hyn; Ewch atto, ac ymddiddanwch ag ef yn s [...]ri­o [...]s, prys­sur, Prudd. yn ddi­frifol ynghylch Grym Crefydd, a Go­fynnwch iddo, A ydyw y p [...]th ymma wedi ei weithio yn ei Galon ef, ac a ydyw hynny yn ymddangos yn ei Ymarweddi­ad ef.

Yna yr aeth Cristion drachefn at Chwedleugar, ac a ofynodd iddo, pa fodd yr oedd ef?

Chwed.

Diolch i chwi, ebe yntef, yr wi 'n Wych. siongc. Mi a obeithiais y cawsem ni erbyn hyn lawer mwy o gyd­ymyddiddan.

Ffy.
[Page 161]

Wele, os mynnwch chi, Nyni a ddechreuwn eilchwaith: A chan eich bob chwi wedi gosod arnafi i ofyn y cwestiwn, Mi a fyddaf Mor eoned. cyn hyfed a gofyn i chwi, Pa fodd y dichon Dyn adnabod, fod Duw wedi gweithio Grâs iachusol yn ei Galon ef?

Chwed.

Mi a welaf wrth hyn, y gor­fydd ar ein hymddiddan ni fod ynghylch Grym Grefydd: Da iawn yw eich Cwestiwn; ac yr wi 'n ewyllyscar i'ch atteb chwi. Ac yn fyrr, fy Atteb i yw hyn. Yn gyntaf, Lle Byddo. bo Grâs Duw yn y Galon, y mae hynny yn peri i Ddyn waeddi 'n ddirfawr yn erbyn pe­chod. Yn Ail—

Ffy.

Nage, Arafwch; Digon ydyw i ni ystyried vn peth ar vn-waith: Yr yd­wyfi. 'Rwi 'n tybied y dylasechi ddywedyd yn hy­trach, fod Grâs yn amlygu ei hun, trwy ogwyddo 'r Enaid 'i ffieiddio ei bechod.

Chwed.

Pa Ragor­iaeth. wahaniaeth sy rhwng gwaeddi yn erbyn pechod, a'i ffieiddio ef?

Ffy.

Ow! Llawer iawn; Fe ddichon Dyn waeddi yn erbyn pechod trwy gyfrwy­stra; ond ni ddichon efe gashau pechod, ond trwy rinwedd dduwiol (hynny yw Grâs Duw) y sydd wrthwyneb iddo. Myfi a glywais lawer yn gwaeddi yn er­byn pechod yn y Pulpyd, y rhai er hynny [Page 162] a gyd-ddygent ag ef, ac a ymfodlonent yntho (VVrth y ffrwyth yr adnabydd­ir y pren. yr hyn oedd hawdd iw adnabod oddiwrth eu ffrwythau nhw) yn eu calon­nau, eu Tai, a'u hymarweddiad. Gwae­ddodd Meistres Joseph â llêf vchel yn erbyn Pechod, fal ped fuasei hi yn dra Sanctaidd: Ond er hynny hi a fynnasei 'n ewyllyscar fod yn aflan gydag ef. Y mae rhai yn gwaeddi yn erbyn pechod, megis ac y mae Mam yn gwaeddi yn er­byn ei phlentyn ar ei harffed, gan roddi drwg-enwau ir plentyn, megis Horswn neu Hwrli, a chwedi hynny cwympo i gofleidio a chusanu 'r Plentyn.

Chwed.

Mi dybygwn eich bod chwi 'n amcanu fy machellu, am dal i mewn rhwyd.

Ffy.

Nac ydwyf yn ddiau: Eithr ceisio 'rwyfi 'n vnig drefnu pob peth yn ei iawn Le. Eithr pa beth ydyw 'r ail ar­wydd sydd gennych, trwy yr hwn y myn­nech chwi Prwfio tystiolae­thu. brofi fod Crâs yn y Galon.

Chwed.

Gwybodaeth fawr yn Nirge­ledigaethau 'r Efengyl.

Ffy.

Dylasei 'r Arwydd hwn fod yn gyntaf; ond cyntaf neu olaf, y mae hwn hefyd yn ffals: Canys fe ddichon Dyn gyrhaeddyd Gwybodaeth, ie llawer o wybodaeth yn Nirgeledigaethau 'r Efengyl, ac etto bod heb râs yn ei Ga­lon. Ie pettai gan Ddyn bob math o wy­bodaeth, [Page 163] efe a ddichon er hynny fod yn Ddyn anrasol, a thrwy ganlyniaeth ym­mhell oddiwrth bod yn Blentyn i Dduw, [...] Cor. 13. 2. Pan gofynnodd Crist iw Ddiscyblion: A ydych chwi 'n gwy­ [...]od y pethau hyn oll? Hwythau a'i hat­tebasant ef, ydym: Yntef a ddywedodd wrthynt, os gwyddoch y pethau hyn, Gwyn eich byd os gwnewch hwynt, Joan. 13. 17. Nid yw Crist yn dywe­dyd, fod y fendith yn perthynu ir Sawl [...]y 'n gwybod ewyllys Duw; ond ir sawl [...]y'n ei wybod ac yn ei gwneuthur hi: Ca­nys y mae mâth o wybodaeth heb weithre­doedd da yn ei chanlyn; Luc. 12. 47. Gall fod gan wr gymmaint o wybodaeth [...]c y sydd gan vn o'r Angelion, ac etto heb fod yn wîr Gristion: Ac am hynny, nid yw Gwybodaeth fawr yn nirgeledi­gaethau yr Efengyl yn Arwydd didwyll o [...]âs yn y Galon. Y mae Gwybodaeth yn [...]ir yn bodloni siaradwyr ac Ymffrostwyr: Ond byw a gwneuthur yn ôl ein Gwybo­daeth ydyw 'r hyn sydd yn rhyngu bódd Duw. Gwir yw, ni ddichon y Galon fod yn dda, eithr y mae hi 'n ddrwg heb wybodaeth: Dihar 19. 2. Y mae gan [...]ynny Wybodaeth a Gwybodaeth. Y mae Gwybodaeth yn gyntaf, yr hon sy'n ym­fodloni yn vnic i edrych ar bethau, er mwyn deall ei nattur a'i priodolaethau; [Page 162] [...] [Page 163] [...] [Page 164] ac yn Ail y mae Gwybodaeth yr hon y mae 'r Grâs o ffydd a chariad ynglyn wrthi; ac y mae hi 'n gosod Dyn ar wneuthur ewyllys Duw o'r Galon: Y cyn­taf o'r rhain a fodlona 'r Chwedleug ar; ond ni fodlonir mo'r Gwir Gristion heb yr ail. Gwna i mi ddeall (ebe Dda­fydd) a chadwaf dy Gyfraith; ie cad­waf hi â'm holl Galon. Psal: 118. 34:

Chwed.

'R ychi 'n ceisio 'm rhwydo i drachefn: Nid yw hyn er adeila­daeth yn y byd.

Ffy.

Wele, os mynnwch chi, rho­ddwch Arwydd arall o'r môdd y mae Grâs yn datcuddio ei hun, lle y mae ef.

Chwed.

Na wnaf, canys mi a welaf nad allwn ni gyttuno a'i gilydd.

Ffy.

Wele, oni wnewch chwi, a ro­ddwch chi gennad i mi wneuthur hynny.

Chwed.

Gwnewch yn y matter ymma fal y gweloch yn oreu.

Ffy.

Y mae Gwaith Grâs yn yr Enaid yn ei ddatcuddio ei hun, naill ai i'r hwn y sydd yn ei feddiannu ef, neu i eraill.

Ir hwn sydd â'r Grâs ymma gantho y mae 'n datcuddio ei hun mal hyn. Y mae 'n argyhoeddi Dyn am ei bechod, yn enwedig am lygredigaeth ei nattur, a'r pechod o Anghredinaeth (am ba un y mae 'n gweled yn eglur y bydd e damnedig, [Page 165] oddi-eithr cael o honaw drug aredd ar law Dduw, trwy ffydd yn Iesu Grist) Joan. 16. 8, 9. Rhuf. 7. 24. Psal. 51. 5. Mar. 16. 16.

Y Golwg a'r ystyriaeth ymma sydd yn gweithio yntho dristwch a chywilydd am [...]echod, Psal. 38. 18. Jer. 31. 19. Ac ym-mhellach y mae Iachawdur y Byd wedi ei wneuthur yn gydnabyddus iddo, a'r llwyr-gwbl anghenrheidrwydd hefyd o lynu wrtho ef am fywyd; ac o herwyd hynny y mae fo 'n newynu ac yn sychedu [...]m Grist; ac ir newyn a'r syched ymma y mae Addewidiou Duw yn perthynu. Gal. 1. 16. Act. 4. 12. Mat. 5. 6. Dat. 22. 16. Yn awr yn ôl cadernid, neu wen­did ei ffydd ef yn ei Achubwr felly y mae ei Lawenydd a'i heddwch ef, a i serch hefyd at Sancteiddrwydd, a'i ddy­muniad i adnabod Crist yn well, ac iw wasanaethu ef yn y Byd presennol. Eithr er fy mod yn dywedyd, fod Gwaith Grâs yn ymddangos mal hyn yn yr Enaid lle 'i bytho; etto ni ddichon yr Enaid cnd yn anfynych iawn farnu, mai Gwaith Gras ydyw 'r peth y mae fo 'n ei gymmeryd tan yr enw hynny: Oblegit ei lygredigae­thais weithie, a'i Reswm wedi ei gam arfer ar brydiau eraill, a Rhwy­strant. nadant iddo iawn farnu ynghylch y matter ymma: Ac am hynny rhaid yw bod Barn bwyllog [Page 166] iawn yn yr hwn sydd â'r gwaith ymma yntho, cyn y gallo fe gasclu 'n ddilys, mai Gwaith Grâs ydyw 'r peth.

Y mae 'r Grâs ymma mewn Dyn yn ymddangos i eraill mal hyn. Yn Gyn­caf, Trwy Gyfaddefiad Serious, pryssur. Phil. 1. 27. 1 Cor. 6. 11. Mat. 5. 8. Psal. 101. 6. 7. Rhuf. 7. 15. s [...]. 42. 5. 6. prûdd difrifo [...] o'i ffydd yng-Hrist, Rhuf. 10. 10. Yn Ail, Trwy fuchedd gyfattebol ir gyffes honno, gan fod yn sanctaidd yn ei ymar­weddiad, ac yn ei Galon, gan ymdrechu hefyd i wneuthur ei Deulu 'n Sanctaidd (os bydd gantho Deulu) yr hyn yn gy­ffredinol sy'n dyscu iddo, i gashau pe­chod o'i Galon, i ffieiddio ei hunan yn y dirgel am dano, ac i ymegnio i ddaro­stwng ef yn ei Deulu; ac i dderchafu Sancteidarwydd yn y Byd; nid trwy siarad yn vnic, megis y gwna y Chwed­leugar a'r Rhagrithwyr; ond trwy ym­ddarostyngiad beunyddiol, mewn ffydd a chariad i Nerth Gair yr Arglwydd, gan ymorchestu byw yn ei ôl ef. Ac yn awr Syr, od oes gennych ddim i ddywe­dyd yn erbyn yr eglur hád byrr ymma, yng­hylch gwaith Grâs yn yr enaid, neu yn erbyn y modd y mae 'n datcuddio ei hu­nan lle y bytho, Mynegwch i mi hynny; onid e Rhoddwch gennadi mi ofyn i chwi ail gwestiwn.

Chwed.

Nage, Nid fy rhani yn awr ydyw Gwrth­ddy w [...]dyd gwrthddadleu, ond gwrando: [Page 167] moeswch glowed gan hynny eich cwe­stiwn arall.

Ffy.

Fy nghwestiwn i yw hyn. A ces gennych chwi brofiad ynoch eich hunan o'r rhan gyntaf o'r eglur had ymma owaith Grâs yn y Galon? Ac a ydyw eich bu­chedd a'ch ymarweddiad chwi yn tystiolae­thu hynny? (cauys lle bo calon lân, y mae buchedd glân, Mat. 12. 35.) neu ynteu a ydyw 'ch Crefydd chwi yn sefyll yn vnic mewn Geiriau ac ymadroddion, ac nid mewn Gweithred a Gwirionedd? Attolwg os ydychi ar fedr fy atteb i yn y matter ymma, na ddywedwch ddim Mwy. rhagor nag a wyddoch y bydd i'r Goru­chaf ddywedyd Amen gydag ef; na dim hefyd ond y peth a allo eich Cydwybod eich cyfiawhau chwi yntho. Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun sydd gym­meradwy, ond yr hwn y mae 'r Ar­glwydd yn ei ganmol, 2 Cor. 10 18. Heblaw hynny, Anwiredd mawr iawn ydyw, i Ddyn ddywedyd, yr ydwyf fal hyn, ac fal hyn pan fyddo ei ymarweddi­ad a'i holl gymmydogion yn dywedyd mai celwyddog ydyw fo.

Chwed.

Yna y dechreuodd Chewd­leugar Gochi, cwilyddio. wridio; ond wedi dyfod o honaw ychydig atto ei hun, efe a atte­bodd fal hyn. Chwi a ddaethoch yn awr at Brofiad, at Gydwybod, at Dduw, ac [Page 168] i alw arno ef. i appelio atto ef am Gyfiawnhaad o' [...] hyn a lefarir: Nid oeddwn i yn disgwy [...] am y fath ymddiddanion a hyn: ac nid oes yn fy mrŷd i roddi atteb ir cyfryw Gwestiwnau; oblegit nad wyf yn fy nghyfrif fy hun yn rhwym i hynny, oddieithr eich bod chwi yn cymmeryd arnoch fod yn Catechis­wr. Ymholydd: A phettaech chwi y fath ŵr, etto mi a ellwn wrthod eich cymmeryd chwi yn Farnwr arnaf: eithr attolwg, a gafi wybod gennych, pa ham yr ydych yn gofyn i mi y cy­fryw Gwestiwnau?

Ffy.

Am fy mòd yn eich gweled chwi yn Parod iawn. hylithr i siarad; ac oblegit fy mod yn tybied, nad oes dim ynoch ond gwybodaeth yn vnic. Ac i ddywedyd i chwi y cyfan wirioned, Mi a glywais am danoch, mai Gwr ydychi, ac y sydd a'i Grefydd yn sefyll yn vnic mewn Geiriau, a bod eich ymarweddiad yn anghyfattebol i' ch proffes. Dywedant hefyd mai. taw brycheuyn ydych ym-mhlith Cristianogion; a bod Crefydd yn dioddef llawer o wr adwydd oblegit eich annuwiol ymarweddiad; a bod rhai eisus wedi tramgwyddo o herwydd eich ffyrdd ddrygionus chwi; a bod bagad etto mewn enbydrwydd, i gael eu cyfyrgolli trwy eich siampl ddrwg chwi. Eich Crefydd a Meddwdod yn y Tafarn-dy, a Chy­bydd-dod, ac Aflendid, a Thyngu, a [Page 169] Rhegu, a dywedyd Celwydd, a chadw Cyfeillach ofer, &c. a A ânt law-law. gyd-safant gyda chwi. Y mae 'r Ddihareb yn wir am danochi, yr hon a ddywedir am But­tain, sef, Ei bod hi 'n Gwilydd ir holl Wragedd, felly 'r ydych chwithau 'n Gwilydd ir holl Broffesswyr.

Chwed.

Gan eich bod cyn barotted i goelio pob chwedl, ac i farnu mor fyrr­bwyll, ni allafi dybied llai, nad rhyw wr Chwerw▪ anhywaith pen-drwm ydych, ac anaddas i neb ymddiddan â chwi; ac am hynny byddwch wŷch.

Yna y nessaodd Cristion at Ffyddlon, ac a ddywedodd wrtho: fy Mrawd! mi a fynegais i chwi ym-mlaen llaw yr hyn a ganlynai eich ymddiddanion grasol chwi â 'r Dyn yma. Mi a wyddwn yn ddigon da, na chyttunai eich Geiriau chwi a'i Drachwantau ef. Gwell oedd gantho ymadel â'ch Cyfeillach chwi, nâ gwellhau dim ar ei fuchedd. Eithr efe a aeth ymaith; Gadewch iddo fyned; nid oes colled i neb ond iddo ef ei hun: Ni Roddes. rows e mo'r trwbwl i nyni, i ymadael ag efe yn gyntaf. Os parháa fo (megis yr wyfi 'n tybied y gwna) yn y cyflwr drwg y mae yntho, ni buasei fo ond brycheuyn yn ein cwm­peini; ac medd yr Apostol, Gwachel. Gochl y rhai sydd â rhith duwioldeb, eithr wedi [Page 170] gwadu ei grym hi. 2 Tim. 3. [...]. 2 Thes. 3. 6.

Ffy.

Eithr y mae 'n dda gennif, gael o honof yr ychydig ymddiddan yma ag ef. Fe ddaw 'r pethau hyn nid hwyrach ysgatfydd iw gôf ef drachefn. Pa fodd wedd bynnag, Myfi a osodais bethau yn eglur o'i flaen ef; ac felly 'rwi 'n yn lân ddi-euog oddiwrth ei waed ef os bydd e colledig.

Cris.

Da iawn y gwnaethoch, gan i chwi yn eich ymddiddan ddangos iddo mor eglur, y drwg gyflwr y mae fo yntho. Nid oes nemawr yn y Dyddiau hyn, mor ffyddlou iw cymmydogion yn y matterion yma: A thyna vn achos pa ham y mae Crefydd mor ddrewllyd yn ffroenau llaweroedd: Canys y Siaradwyr ynfyd hyn (Crefydd pa rai sy 'n sefyll yn vnic ar flaen ei Tafodau, gan fod yn frwnt ac yn ofer yn eu hymarweddiad) yd ynt yn peri ir Byd rhyfeddu synnu yn y fath fodd, fal na wyddant hwy pa beth i dybied am Ddynion crefyddol, gan fod bagad o'r gwâg-siaradwyr hyn wedi eu derbyn iw cymdeithas hwynt; ac y mae 'r Byd yn messur eraill wrth y rhain; ac felly o achos diffeithdra y cyfryw Ddynion Mawr [...]u siarad. swrddanllyd, y mae Crefydd yn cael ei diwyno. nyrddo, a'r rhai diragrith yn cael eu trysthau. Mi fynwn, pe ar­gyhoeddai pawb hwynthwy, megis y [Page 171] darfu i chwi argyhoeddi 'r Clapci hwn: canys trwy wneu thur. ddelio felly â'r fath Ddy­nion, fe i' gwneid hwy, naill ai 'n fwy cydffurfiol a chrefydd, neu ynte fe fyddai Cyfeillach y Sainct yn rhy boeth dwym idd­ynt. Yna y canodd Ffyddlon fal hyn.

Dechreuodd y Chwedleuwr
Anwa­dal.
serfyll,
Ar y cyntaf
derchafu
ddercha 'i Escyll,
Gan ryfygu cwympo a
gorchjy­gu.
gorfod
Pawb o'i flaen, wrth nerth ei dafod.
Mor
Ffraeth.
hyawdlaidd y chwedleuodd!
Ond hwy 'n gyntaf y dechreuodd
Ffyddlon sôn, am râs iachusol,
F'aeth y Cyfaill yn ei wrthol.
Fal y
Lleuad.
Lloer o'i llawn oleuni,
Sy'n mynd lai lai hyd
Ei new­idiad.
ei geni;
Felly hefyd 'r a 'r holl Ddynion,
Ond sy'n nabod
Gwaith grâs yn yn y Galon
Gwaith y Galon.

Ac fel hyn hwy a aethant ym-mlaen dan siarad ynghylch y pethau a welsent yn ei Taith; a thrwy hynny, hwy a wnaethant y ffordd honno yn hyfryd. ddifyr, yr hon yn ddiammeu, heb y cyfryw ym­ddiddanion, a fuasei 'n anhyfryd iddynt: canys mewn Anialwch yr oeddent hwy yr holl amser hyn.

Yn awr, wedi dyfod o honynt o fewn ychydig allan o'r Anialwch, hwy a ganfuant Efangylwr yn eu canlyn hwynt: A chwedi iddo eu gorddiwes, fe a gy­farchodd well iddynt, ac a Ddywedodd [Page 172] [...] [Page 173] [...] [Page 172] wrthynt, Tangneddyf i chwi fy anwyl Garedigion, ac i bawb o'ch Cynnor­thwy-wyr.

Cris.

a Ffyddlon. Croesaw, a chan Croesaw Garedig Efangylwr: wrth weled eich wynebpryd, nid allwn ni lai nâ chofio eich hen garedigrwydd, a'ch Poen. llafur diflin er e [...]n Daioni tragwyddol. O mor ddymunol yw'ch Cyfeillach i nyni y Pere­rinion truain! Ac wedi Mynegi iddo y cwbl oll a ddigwyddasai iddynt yn ei Taith, a pha fodd, ac mor anhawsed y daethant hwy ir Lle yr oeddent yn awr yntho, fe lefarodd Efangylwr wrthynt hwy fal hyn; 'Rwi'n llawenychu 'n ddir­fawr, nid am i chwi gyfarfod â phrofedi­gaethau, ond am i chwi eu gorchfyg [...] hwynt; ac hefyd am barháu o honoch i ymdeithio yn y ffordd hon hyd y Dydd presennol, er bod ynoch lawer o wendid.

'Rwi 'n dra llawen (meddaf) am y pethau hyn, yn gystal er fy mwyn fy hun, ac er eich mwyn chwithe: Myfi a hauais, a chwithau a fedasoch; ac y mae 'r dydd yn dyfod, yn yr hwn y Jo [...]n 4. 36. caiff y sawl a hauodd, a'r sawl a fedodd gyd-lawenhau (hynny yw os parhewch Gal. 6. 9. chi hyd y diwedd yn eich ffordd) canys yn ei iawn bryd y medwch oni ddeffy­giwch. Y mae Coron anllygredig o'ch 1 Cor. 9. 24. 25. blaen chwi, felly rhedwch fel y caffoch [Page 173] afael arni. Y mae rhai 'n myned allan i geisio meddiannu y Goron hon, ac wedi myned ymmhell am dani, y mae arall yn dyfod, ac yn ei dwyn hi oddi­arnynt. Deliwch gan hynny yr hyn sydd gennych, fel na ddygo neb eich Coron Dat. 3. 11. chwi. Nid ydychi etto allan o gyrhaedd ergydion Satan. Ni wrthwynebasoch etto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod, Heb. 12. 4. Bydded Teyrnas Nefoedd yn wastadol o flaen eich lly­gaid; a bydded gennych ffydd gadarn ynghylch y pethau sydd anweledig. Na choeliwch fod eich hapusrwydd yn sefyll mewn dim y sydd tu yma 'r Ne­foedd: Ac yn Bennaf dim. bendifaddeu, edrychwch yn fanol at eich calonnau eich hunain a'u trachwantau; canys y maent yn fwy ei twyll nâ dim, ac yn ddrwg diobaith Jer. 17. 10. Gosodwch eich wynebau fal Fflint. Callestr yn eu herbyn: y mae 'r hwn sy 'n Holl-alluog yn y Nef ac ar y Ddaiar yn Ar eich ochr. eich plaid chwi.

Cris.

Yna y diolchodd Cristion iddo am ei gyngor, gan ddamuno arno (yn ei enw ei hunan a Ffyddlon) i hyfforddi nhw ym-mhellach, pa fodd i fyned y Cyfar­wyddo. rhan ddiwethaf o'i ffordd; oblegit eb efe, ni a wyddom yn ddilys, mai Pro­phwyd ydych, ac y gellwch chi rag­fynegi y pethau a ddigwyddant i ni [Page 174] Ar ol hyn. rag-llaw yn ein Taith, ac hefyd yspyssu i ni, pa fodd y gallwn wrthwynebu a gorchfygu y profedigaethau y gyfarfy­ddwn ag hwynt.

Efang.

Yna ebe Efangylwr, Fy Mhlant anwyl, Chwi a glywsoch allan o'r yscrythur, mai trwy lawer o orthrym­derau Act. 14. 22. y mae yn rhaid i ni fyned i Deyr­nas Dduw: Ac hefyd fod rhwymau a blinderau ym-mhob Dinas yn ein haros Act. 20. 23. ni: Ac am hynny na ddisgwyliwch fy­ned ym-mhell ar eich Pererindod heb­ddynt, yn rhyw fodd neu gilydd. Chwi a gowsoch beth tystiolaeth am y gwirionedd yma Eisus. yn barod; a chwi a gewch anghwaneg ar fyrr: Canys yr ydych yn awr, megis y gwelwch, ar fyned allan o'r Anialwch hwn; ac chwi a ddewch yn ebrwydd i Dref, yr hon a ganfyddwch chi Yn y mann. y boir o'ch blaen: Ac yn y Dref honno y Amgyl­chir. gwarchaeir chwi 'n galed gan elynion, y rhai a ym­drechant à'i holl nerth i'ch llâdd chwi. A byddwch siccr o hyn, y gorfydd ar vn o honoch, oni orfydd ar y llall, selio a'i waed y dystiolaeth yr vdych yn ei ddal: Eithr byddwch ffyddlon hyd An­geu, a'r Brenin a rydd i chwi Goron y bywyd, Dat. 2. 10. A'r hwn a fyddo marw yno, er y bydd ei farwolaeth ef yn annaturiol, ai boenau ond odid yn [Page 175] ddirfawr, a gaiff y goreu er hynny ar ei Gyfaill; nid yn vnic o herwydd y derbynnir ef yn gyntach ir Ddinas ne­fol, eithr hefyd oblegit y bydd iddo ddiangc rhag llawer o drueni ac Gofydi­au. hel­bulon, y rhai a ddigwyddant ir llall, cyn ei ddyfod ef i ben ei siwrnai. Eithr pan ddeloch ir Dref, a gweled yr hyn oll, a rag-fynegais i chwi yma, wedi ei cyflawni; yna cofiwch fi eich Cyfaill; ac ymwrolwch, a gorchymmynwch gad­wedigaeth eich eneidiau i Dduw, megis i Greawdwr ffyddlon, gan wneuthur yr hyn sydd dda yn ei olwg ef, 1 Pet. 4. 19.

Yna mi a welais yn fy mreuddwyd, hwyn gyntaf ac y daethant allan o'r anialwch, ganfod o honynt Dref ar eu cyfer, a'i Henw hi yw Gwagedd, ac ynthi hi y cedwir ffair trwy 'r holl flwyddyn, yr hon a elwir ffair Gwa|'gedd, am fod y Dref lle yr ydys yn ei chadw hi yn yscafnach nâ Gwagedd; ac hefyd am nad yw y cwbl a werthir yno, neu sy'n dyfod yno, ddim amgen nâ Gwagedd, megis y dywedodd y Gwr Doeth, Gwagedd yw 'r cwbl, Esay. 40. 17. Preg. 1. 2.

Nid ffair newydd, ond hên ffair ydyw hon: Mi a ddangosaf i chwi ei De­chreuad hi.

[Page 176] Er ys agos i bum mîl o flynyddoedd, yr oedd Pererinion yn ymdeithio tua 'r Ddinas nefol; a Beelzebub, Apol-lyon, ynghyd a'r Cythreuliaid eraill a wybu­ant wrth y llwybr a wnaethei y Pere­rinion, fod ei ffordd hwy ir Ddinas ne­fol yn myned trwy ganol Y Byd br [...]nt yma. Tref Gwagedd; ac am hynny hwy a ddy­chymygasant i godi yma ffair, i barhau trwy gydol y flwyddyn, yn yr hon y gwerthid pob math o Wagedd. Am hynny fe werthir ynthi bob rhyw o far­siandiaeth, megis Tai, Tiroedd, Cel­fyddydau, Swyddau uchel, Anrhydedd, Gwledydd, Teyrnasoedd, Trachwan­tau, Plesse­rau. Trythyllwch o bob math, me­gis Putteiniad a'i Llatteion, Gwragedd, Gwyr, Plant, Meistred, Gwei­sion. Gweinido­gion, Bywydau, Gwaed, Cyrph ac Eneidiau pobl, Arian, Aur, Perlau, a pha beth nas cair ar werth yma.

Ac heblaw hynny, cair gweled yn y ffair hon bob amser, Juglers. Hudolwyr, Twyllwyr, Stage­players. Chwaryddion, Ynfy­dion, Eppaod, Cnafiaid, Rogiaid o bob math; Lladron, Llofryddion, Godi­nebwyr, ac Anvdonwyr wedi eu diwy­no a gwaed gwirion.

Ac megis y mae mewn ffeiriau eraill (llai eu Anrhy­dedd. bri) felly hefyd y mae yma amryw Ystry­doedd. heolydd, tan eu henwau pri­odol, [Page 177] lle y gwerthir y cyfryw farsian­diaeth. Y mae yma Heol y Brittani­aid, Heol y Ffrancod, Heol yr Italiaid, Heol yr Hyspaenwyr, a Heol y Germa­niaid, lle mae amryw fath o wagedd ar werth. Ond megis mewn ffeiriau eraill y mae rhyw bethau yn fwy en­wedigol iw cael ar werth, felly Marsi­andiaeth Rhufain sy'n cerdded orau yn y ffair yma, ond bod y Brittaniaid, a hyw Bo­bloedd. Nasiwnau eraill, yn dibrissio'r Marsiandiaeth hynny.

Yn awr fal y dywedais, y mae 'r ffordd ir Ddinas Nefol yn myned yn vnion trwy 'r Dref hon; A'r neb a fynno fyned ir Ddinas honno, heb fy­ned trwy 'r Dref yma, rhaid iddo fy­ned allan o'r byd, 1 Cor. 5. 10. Fe orfu ar Dywysog y Tywysogion, pan yr oedd ef ar y Ddaiar, fyned trwy 'r Dref a'r ffair hon idd ei wlâd ei hun; ac fo'i gwahoddwyd ef gan Beelzebub Pen llywodraethwr y ffair, i brynu o'i Wagedd ef: Ie cynnigiodd i wneu­thur ef yn Arglwydd y ffair, pe buasai ef ond yngrymmu iddo, a'i addoli ef wrth fyned trwy 'r Dref. Ac oblegit bod Tywysog y Tywysogion yn dra anrhydeddus, dygodd Belzebub ef o Heol i Heol, gan ddangos iddo holl Deyrnasoedd y Byd mewn munyd awr; [Page 178] fal y gallai fo (pettaisai bossibl) Hudo. ddenu 'r Bendigedig hwnnw i brynu peth o'i wagedd ef. Eithr nid oedd gantho ef ddim serch at y cyfryw farsiandiaeth, ac am hynny efe a aeth ymaith o'r Dref, heb Treulio. wario cymmaint ac vn hatling ar y Gwagedd yma. Mat. 4. Luc. 4.

Yn awr fal y dywedais i, yr oedd yn rhaid ir Pererinion hyn fyned trwy r ffair yma: Eithr hwy'n gyntaf ac y daethant yno, fe gyffrowyd yr holl werin oedd yn y ffair; a'r holl Dref a ymgasclasant o'u hamgylch hwynt, fal p [...]ttaesent mewn hwb-hwb; a hyn­ny o herwydd amryw resymmau.

Yn Gyntaf, Yr oedd y Pererinion wedi eu dilladu â'r cyfryw wiscoedd, nad ydoedd gan n [...]b yn y dref a'r ffair hon­no moi bath: Ac oblegit hynny yr oeddent yn Llygadrythu yn rhyfeddol arnynt. Rhai a ddywedent mai R [...]ai cyndd [...]iri­og, r [...]i i ma [...] oi cof. Ynfydion oeddent, Rhai mai Bedlemaid, ac eraill a ddywe­dent, mai Gwyr o wlâd ddieithr oeddynt.

Yn Ail, Megis yr oeddynt yn rhyfe­ddu wrth weled euDillad; felly he­fyd yr oeddynt yn rhyfeddu wrth glywed Eu [...]yn [...] gwedd­aidd. eu iaith hwynt; canys nid oedd nemmawr yn deall yr hyn a lefarent. Eu iaith hwy ydoedd iaith Gwlâd Canaan; ond Gwyr y Byd hwn oedd Pobl y ffair; canys yr oeddent yn tyngu, ac yn rhegu, ac yn offrwm eu heneidiau ir Diawl yn dra mynych: Ac [Page 179] felly o'r naill ben ir ffair ir llall, yr oedd y Pererinion a'r sawl oedd yn marchnatta yno, megis â lled­iaith gan­thynt. Barbariaid y naill ir llall, 1 Cor. 2. 7, 8.

Yn Drydydd, Y Peth mwyaf rhyfe­ddol gan y Marsiandwyr ydoedd, fod y Pererinion yma yn llwyr-ddibrisio eu holl Farsiandaeth hwy: Canys ni wnaent hwy gymmaint ac edrych ar y pethau oedd ar werth yno; ac os gelwid arnynt i brynu dim, hwy a osodent eu byssedd yn eu cly­stiau, ac a waeddent, Tro heibio fy lly­gaid, rhag edrych ar Wagedd; ac a edrychent i fynu, gan arwyddoccau trwy hynny, fod y wâr ar Pethau yr oeddent hwy yn ymofyn am danynt, iw cael yn vnic yn y Nefoedd. Psal. 119. 37. Phil. 3. 19, [...]0

Digwyddodd i ryw watwarwr (wrth ddal sylw ar eu hymddygiad) ofyn iddynt, pa beth a brynwch chi? A hwythau yn Sobr iawn a'i hattebasant ef, ein hewyllys ni yw prynu 'r Gwirio­nedd. Ac ar hyn y cymmerwyd mwy Dihar 23. 23. o Achos. achlyssur i dirmygu hwynt: Canys rhai yn awr a'u gwatworent, rhai A ro­ddent ddryg-air iddynt. a'u enllibient, a rhai a annogent eraill i curo nhwy. O'r diwedd, yr oedd yr holl ffair mewn Terfy sc ac hwbwb, hyd onid Cyffroad. oedd pob peth allan o Drefn. Yna y mynegwyd y cwbl i Arglwydd y ffair; [Page 180] ac yntef a ddaeth i wared yn ddioed, ac a erchodd i rai o'i Gyfeillion ffydd­lonaf i holi hwynthwy yn fanol, o achos ba rai yr oedd y fath gynnwrf yn yr holl ffair.

Felly fe ddygwyd y Gwyr o flaen y Sawl a appwyntiwyd i Holi. hexamnio nhw; a Gofynnwyd iddynt, o ba le yr oeddent yn dyfod, i ba le yr oe­ddent yn myned, ac i ba bwrpas y daethant yno yn y fath wiscoedd anar­ferol? Hwythau a'u hattebasant, mai Dieithriaid a Phererinion oeddent yn y Byd hwn, a'u bod nhw 'n myned tua ei Gwlâd ei hun, sef y Jerusalem nefol; ac na roesent hwy ddim achos, nac i wyr H [...]b. 11. 13. 14, 16. y Dref, nac ir Marsiandwyr ychwaith, i hammbarchi ac i Rhwy­stro. liuddias hwy yn ei siwrnai; oddieithr bod hyn yn achos, sef, pan y gofynnodd vn iddynt pa beth a bry­nent, atteb o honynt hwythau, mai 'r Sef Gwirione­ddau Duw Gwir y brynent.

Eithr ni choeliei y Swyddogion eu bod nhw ddim amgen nâ Bedlemmaid, a Rhai wedi gwallgofi. Dynion i maes o'i cof, neu ynteu mai pobl oeddynt, ar a ddaethai yn bwrpassol, i wneuthur Cynnwrf yn y ffair. Am hynny hwy a gurasant y Pe­rerinion, gan eu trybaeddu nhw â dom, ac wedi hynny hwy a'u gosodasant mewn Carol ar­ [...] bychan, lle y [...]ir Scoidiod. Cratih, mal y byddent yn [Page 181] Ddrychau ir holl ffair. Ac yno y bu­ant dros dro (neu ennyd) yn Pethau a fo ger­bron lly­gaid vn. wrth­ddrychau i Watwarwyr a Maleuswyr; ac Arglwydd y ffair oedd yn y cyfam­ser yn chwerthin wrth weled eu ham­mharchi nhw yn y modd yma. Eithr yr oedd y Gwyr yn ammyneddgar iawn, heb roi sen am sen, ond o'r gwrthwy­neb yr oeddynt yn bendithio, gan roi geiriau da am rai drwg, a pharch am ammarch.

Ond rhai o'r ffair, wrth graffu yn well ar y Pererinion, ac heb farnu yn fyrr-bywyll am danynt, megis eraill, a ddechreuasant geryddu a beio 'r Bobl gy­ffredin, am eu bod nhw 'n wastadol yn gwneuthur cam â'r Dieithriaid yma, yn y fath fodd ddirmygus: Hwythau yn llidiog a attebasant y sawl oedd yn eu ceryddu nhw, gan ddywedyd wr­thynt, eu bod nhw cynddrwg a'r Gwyr oedd yn y Carchardy, a'u bod hefyd (mewn pob tybygoliaeth) mewn Cyttundeb. Cyngrair ag hwynt, am eu bod yn pledio trostynt; ac o herwydd hynny, y caent fod yn gyd-gyfrannogion o'u haflwydd hwynt. A'r lleill a ddywe­dasant, am ddim ar a welsent hwy, fod y Dynion yn llonydd ac yn sobr, heb chwennych drwg i neb: A bod bagad yn marchnatta yn y ffair, y rhai a haeddent [Page 182] eu carcharu, ie a'u gosod yn y Carchar gwddwf. Pilwri yn hytrach nâ'r Dieithriaid yma. A chwedi ymdaeru digon a'i gilydd (a'r Pererinion trwy Yr holl amser. gydol yr amser yn Dw [...]n. cario eu hunain yn ddoeth, ac yn bwy­llog iawn ger ei bron hwynt) hwy a ry­thrasant y naill ar y llall, gan guro a chlwyfo vn ei gilydd.

Yna y dygpwyd y ddau Bererin dra­chefn o flaen y swyddogion, iw holi 'n fanolach; ac achwynwyd arnynt, mai hwynthwy a fu achos o'r Terfyse di­weddar a fuasai yn y ffair. Ac am hyn­ny, fe'i curwyd hwy yn ddi-druga­redd, a gosodwyd hwy mewn heirn, a dygwyd hwy mewn cadwynau i fynu ac i wared trwy 'r holl ffai [...], er ensi­ampl a dychryn i eraill, rhag dywedyd o neb ddim yn eu plaid, neu ymgyfei­llachu ac ymgyssylltu [...]g hwynt. Eithr Cristion a Ffyddlon a ddygafant eu hu­nain yn ddocthach etto, gan dderbyn y Am­march. sarháad a'r dirmyg a gowsont, gyda chymmaint o ammynedd a llarieidd-dra, hyd oni ynnillasant trwy hynny lawer o bobly ffair iw plaid, er nad oeddynt ond nifer fechan iw Com­paro. cystadlu á'r lleill. A gwnaeth hyn ir Party. Blaid arall gyn­ddeiriogi yn fwy; a dywedasant wrth y ddau wr, na chai Carchar a Heirn wasanaethu moi trô, ond y caent eu go­sod [Page 183] farwolaeth am y cynwrf y wnae­thant, ac am hudo rhai o'r ffair i fod o'u Ar ei rhan. hochr hwynt.

Yna y danfonwyd hwy drachefn ir Carchar, hyd oni chymmeryd cwrs ym-mhellach ag hwynt: Ac yn y car­char, fe ddodwyd eu traed hwy yn siccr yn y Stocks. cyffion.

Ac yno y daeth iw côf hwynt yr hyn a ddywedasai ei ffrind anwyl Efangy­lwr wrthynt; ac hwy a gadharnhawyd yn fwy yn eu ffyrdd a'u dioddefiadau, gan iddo fe rag-fynegi yr hyn a ddig­wyddasai iddynt. Dechreuasant hefyd ynawr i gyssuro Y naill v llall. vn i gilydd, gan farnu, mai 'r hwn a ddioddefau farwo­laeth yn gyntaf, y gae'r gorau ar y llall: Ac am hynny yr oedd pob vn yn chwen­nych yn ei galon, i gael y rhagorfraint hwnnw. Eithr gan eu gorchymyn eu hunain i ddoeth ragluniaeth yr hwn sy'n llywodraethu pob peth, hwy a ymroe­sant gydâ llawer o fodlonrwydd i ddwyn eu croes, hyd oni threfnid iddynt rhyw gyflwr arall.

Yna wedi ordeinio amser cyfaddas, fe'i dygwyd hwy allan ir O flaen gorsedd­faingc y Barnwyr. Frawdle, i gael eu barnu gan eu gelynion: Enw 'r Barnwr oedd Casáwr pob Daioni. Eu hyndeitment ydoedd yr vn mewn sylwedd, er ei fod yn ddau mewn ffurf [Page 184] a dull. Y matter cynnhwysedig yntho ydoedd hyn.

Fod y Pererinion yma yn Elynion iw crefftau a'u marsiandiaeth hwynt; a gwneuthur o honynt hwy Derfysc ac ymrysso­nau yn y Dref, gan hudo llaweroedd, i dderbyn eu henbyd a'u gau opiniwnau hwynt, mewn matterion crefydd, gan ddi­ystyru a dirmygu cyfraith ei Tywysog trwy wneuthur felly.

Yna Ffyddlon a attebodd trosto ei hun, gan ddywedyd, Ni wrthwynebais i neb, ond y sawl oedd yn wrthwyneb ir hwn sydd vwch nâ'r vchaf ar y Ddai­ar; ac ni wnaet hum i ddim Tersysc, gan sy mod sy hun yn wr heddychlon: Ac am y rhai a ennillwyd i'n Ochr, party. plaid, fe'i ennillwyd hwy trwy ystyried y gwirionedd a'r diniweidrwydd sydd ynom; ac y maent wedi eu troi, yn vnic oddiwrth y Gwaeth at y Gwell. Ac am y Brenin yr ydychi 'n Sôn am dano, gan mai Be­elzebub ydyw fo (sef Gelyn mawr in Harglwydd ni) yr wî 'n ei ddiystyru ef a'i holl Angelion.

Yna y Cyhoe­ddwyd. Proclaimwyd, Os ydo­edd. o'r 'doedd gan neb ddim i ddywedyd, vm-mhlaid ei Harglwydd Frenin Beelzebub, yn er­byn y Carcharor wrth y barr, Ym­ddangos. appy­ro o honynt ar frŷs, i roddi eu Tystio­laeth ir Cwrt; Ac ar hynny y daeth [Page 185] Tri o Dystion i mewn, a'u henwau oedd Cynfigennus, Coel-grefyddol, ac Pick­thank, sef, Truthiwr neu Wen­hieithiwr, a wirio'r hyn a ddy­wetto arall, bid gwir, bid gelwydd, mewn gobaith i gael groe­so, a bwyd, a chwrw, ac arian, oddiwrth y sawl y mae 'n tyngu trosto. Efan Llygad y bwyd: Yna y gofyn­nwyd iddynt, a edwaenent hwy y Car­charor wrth y barr? A pha beth oedd ganthynt iw ddywedyd yn ei erbyn ef, tros eu Harglwydd Frenin.

Yna y safodd Cynfigennus i fynn, ac a ddywedodd fal hyn, Fy Arglwydd Vstus, myfi a adwaen y Gwr yma er ys Hîr. talm o amser, ac mi a dystiolae­thaf ar fy llŵ, o flaen yr Orseddfaingc anrhydeddus hon, ei fod ef—

Barnwr.

Arafwch, rhoddwch ei Lŵ iddo ef; Ac wedi gwneuthur felly, efe a ddywedodd, nid yw 'r Gwr hwn, er tecced yw ei enw, ond vn o'r Dyn­ion Brwn­taf. diffeithaf yn ein Gwlâd: Nid yw e'n gwneuthur prîs yn y byd, nac o'n Tywysog nac o honom ninnau ei Ddeiliaid ef, nac o Gyfreithiau nac o Ddefodau; ond y mae 'n gwneuthur a allo, i lanw pennau pobl â rhai opini­wnau melltigedig, y sy 'n wrthwyneb i vfydd-dod ir Awdurdodau goruchel; y rhai opiniwnau, y mae efe yn eu alw, yn Pyngci­au. wyddorion ffydd a sancteiddrwydd: [Page 186] Ac yn neilltuol, Myfi a'i clywais ef â'm clustiau fy hun yn Henni. taeru, Fod Cristia­nogaeth a Defodau yn Sef Tref Gwagedd. Tref ni, yn gwbl wrthwyneb iw gilydd, ac nas gellir eu Hedd­ychu. cymmodi hwynt: A thrwy 'r ym­adrod hwn fy Arglwydd Iustus, y mae fo ar vnwaith yn Barnu i vffern. condemnio nid yn vnic ein holl weithredoedd canmoladwy ni, eithr ninne hefyd y sydd yn eu gwneuthur hwynt.

Barn.

Yna y gofynnodd y Barnwr iddo, A oes gennych ddim mwy i ddy­wedyd?

Cynfig.

Fy Arglwydd, Mi a allwn ddywedyd llawer mwy; eithr ni fyn­nwn i flino 'r Cwrt; etto os bydd rhaid (wedi ir Gwyr bonheddigon eraill roddi eu tystiolaeth i mewn) yn hytrach nag y bo dim yn eisiau i grogi neu i losci ef, myfi a helaethaf fy nhysti­olaeth yn ei erbyn ef. Yna fe archwyd i Gyngifennus sefyll heibio, a galwyd Coel-grefyddol, a gorchymynwyd iddo edrych ar y Carcharor wrth y Barr; a gofynnwyd iddo, pa beth a allai fo ddywedyd, dros eu Harglwydd Fre­nin yn ei erbyn ef? A wedi rhoddi ei lŵ iddo, Efe a lefarodd fal hyn.

Coel-gref.

Fy Arglwydd Iestus, nid yd­wyf hanner gydnabyddus â'r Gwr hwn, ac nid wi'n chwennychu bod yn fwy [Page 187] cydnabyddus ag ef. Er hynny mi a wn hyn, oddiwrth ryw ymddiddan a fu rhyngofi ag yntef y dydd arall, yn y Dref yma, Mai Dyn diriaid a thra pheryglus ydyw fo; canys myfi a'i clyw­ais ef y pryd hynny yn dywedyd, Fôd ein crefydd ni yn ddrwg, sef yn gy­fryw vn, ac nad yw bossibl i neb Fodloni. foddhau Duw trwyddi. Ac oddi­wrth yr ymadroddion yma, fy Arglwydd Iustus, chwi a wyddoch yn ddigon da fod hyn yn canlyn, sef, Mai ofer yw 'n haddoliad ni 'n wastadol, A'n bod ni etto yn ein pechodau, Ac y byddwn ni damnedig yn y Diwedd; a hyn sy gen­nifi i ddywedyd.

Yna y rhoddwyd Pick­thank. Efan-llygad y bwyd iw lw, ac fe archwyd iddo ddy­wedyd yr hyn a wyddai, ym mhlaid eu Harglwydd Frenin, yn erbyn y Car­charor wrth y barr.

Efan.

Fy Arglwydd Vstus, a chwi­thau wyr boneddigion oll, Myfi a ad­waen y cyfaill yma er ys talm o amser, ac a'i clywais ef yn difenwi ein hardder­chog Dywysog Belzebub, ac yn llefaru yn ddirmygus am ei Gyfeillion anrhyde­ddus efo sef, am yr Arglwydd Ein nattur lygredig. Hên-Dŷn, yr) Arglwydd Hyfrydwch Cnaw­dol, yr Arglwydd Gloddest, yr Arg­lwydd trachwantus am Wâg-ogoniant, [Page 188] yr hên Arglwydd Wantan­rwydd. Anlladrwydd, Syr, Cybydd angawr, ynghyd a phawb eraill o'n Pendefigion ni. Ac efe a ddywe­dodd ym-mhellach, Pettai bawb o'r vn feddwl ag ef, os byddei bossibl, na chai vn o'r rhain aros yn hwy yn y Dref ymma Heb law hynny fy Ar­glwydd Vstus, nid Ofnodd. arswydodd efe i'ch difenwi Chwithau hefyd, yr hwn sy'n awr wedi ei appwyntio i fod yn Farnwr arno ef, gan eich galw chwi yn Ysceler­ddyn. Filain annuwiol, wrth Rhoddi allan. fytheirio allan lawer o eiriau enllibaidd eraill am danoch chwi, ac am dan y rhan fwyaf o vchelwyr ein Tref ni. Wedi i Efan, ddywedyd ei chwedl, fe drôdd y Barnwr at y Carcharor wrth y barr, gan ddywedyd wrtho. Tydi 'r Crwy­drad, yr Heretic, a'r Traetwr, a glowaisti beth a dystiolaethodd y Gwyr onest hyn Brady­chwr. i'th erbyn di?

Ffyddlon.

A gâf i gennad i ddywe­dyd ychydig drosof fy hun.

Barnwr.

Syre, Syre, 'rychi 'n hae­ddu cael eich gosod i farwolaeth, yn Ddiaros ddiattreg, yn y mann hyn: Ond etto mal y gallo pawb weled ein Tyne­rwch. lla­rieidd-dra ni tuag attoch, moeswch glowed beth sydd gennych (y crwy­dryn Budr. brwnt) i ddywedyd trosoch eich hunan.

[Page 189]
Ffyddlon.

1. Am yr hyn a lefarodd Mr. Cynfigennus, 'Rwi 'n atteb; Na ddywedais i ddim ond hyn, sef, Fod y Rheolau, y Cyfreithiau, y Defodau, a'r Bobl hynny y sy'n wrthwyneb i Air Duw, fod y rheini i gyd (meddafi) yn wrth­wyneb i Gristianogaeth. Os dywedais i ar fai yn hyn, Yr wyfi. 'rwi 'n barod, ond i chwi ddangos i mi fy nghamsyniad, i alw 'm geiriau 'n ôl, ac i ddarostwng fy hunan yma o'ch blaen chwi oi plegit hwynt.

2. Am y peth a dyngodd Mr. Coel­grefyddol i'm herbyn, 'rwi 'n atteb, mai hyn yn vnic a ddywedais i, sef, Y dylai ein ffydd ni ynghylch y pethau yr ym yn eu gwneuthur, yn Addoliad Duw, fod yn gyfryw vn, ar y sy wedi ei Gosod. seilio ar Air Duw; canys yno y mae fe'n datguddio y pethau, y mae fo 'n eu ewyllyssio i nyni eu cyflawm, yn ei Addo­liad ef; a gelwir y ffydd yma yn ffydd Nefol, trwy 'r hon yr ym yn credu, fod ein haddoliad ni yn gym­meradwy gyda Duw, gan ei fod yn orchmynnedig yn ei Air ef. ddwysol, yr hon, heb warant allan o Air Duw, nid all mor bod yn neb. Ac am hynny, os dygir dim i mewn i Addo­liad Duw, nad ydyw gyttunol á'r dat­cuddiad, y sydd oi ewyllys ef yn yr ys­crythur, nid ellir cyflawni hynny, ond â ffydd ddynol, yr hon nid yw fuddiol i fywyd tragwyddol.

[Page 190] 3. Am yr hyn a dyngodd Mr. Efan Llygad y Bwyd, 'rwi 'n atteb (heb ddal sulw ar ei waith e 'n haeru, fy mod i 'n difenwi &c.) fod Beelzebub Tywy­sog y Ddinas hon, a'r holl Tyrsa. dorf o'i wei­sion ef, yn gymhwysach i fod yn vffern, nag yn y wlâd neu 'r Ddinas yma. Felly Duw a drugarháo wrth fy enaid i.

Yna y dywedodd y Barnwr wrth y Cwest (y rhai, tros yr holl amser, a safasant gyferbyn, i wrando ac i ddal sulw) Chwychwi wyr bonheddigon o'r cwest a welwch y Gwr yma, o achos pa vn y bu cymmaint o gynnwrf yn ddi­weddar yn ein Tref ni: Chwi a glwy­soch pa bethau a dystiolaethodd y Gwyr bonheddigion hyn yn ei erbyn ef; ac hefyd ei attebion a'i gyfaddefiad yntef. Arnoch chi yn awr y mae 'n sefyll, ei fwrw, neu i gadw ef. Ond etto 'rwi 'n gweld hyn yn beth cymmwys, sef, i'ch haddyscu chwi, ynghylch nattur ein cyfreithiau ni.

Yn nyddiau Brenin Pharao (Gwâs. Gwei­nidog i'n Tywysog Beelzebub) y gwnaeth­pwyd Cyfraith, yn yr hon y gorchy­mynwyd bwrw plant gwrywaid yr ls­raeliaid ir afon, rhag ofn ir rhai oedd o grefydd wrthwyneb idd ei grefydd ef amlhau, a mynd yn drech nag ef. Gwnae­thpwyd. Gwnawd Act hefydd yn nyddiau Ne­buchadnezar [Page 191] fawr (Gwâs arall i'n Ty­wysog ni) y byddai i bwy bynnag, ni syr­thiai i lawr i addoli ei ddelw Aur ef, gael eu bwrw i ffwrn o Dân poeth. Gwnaethpwyd Act hefyd yn nyddiau Da­rius, y byddai ir Sawl a alwai ar vn Duw (tros rhyw amser terfynnedig) onid yn vnic arno fe, gael eu taflu i ffau 'r Llewod. Exod. 1. Dan. 3. Dan. 6. Yn awr y mae 'r Gwrth­ryfelwr. Rhebel yma wedi trosseddu y cyfreithiau hyn i gyd, nid yn vnic mewn meddwl, eithr hefyd mewn gair a gweithred, yr hyn nis gellir ei oddef mewn modd yn y byd.

Pharao a wnaeth ei gyfraith, i rag­flaenu, ac i Rhwy­stro. luddias anghydfod a ni­weid; canys nid oedd vn bai etto yn weledig, fal y mae Beiau 'n weledig yma. Am yr ail a'r drydydd Gyfraith, chwi a glywsoch mal y mae 'r Carcha­ror yn Pledio. dadleu yn eu herbyn, trwy ddywedyd yn erbyn ein crefydd ni: Ac yn awr y mae 'n haeddu marw am y Treason. traeturiaeth y gyffessodd efe.

Yna yr ymnailltuodd y Cwest, a'u henwau ydoedd, Mr. Dyn di­wyboda­eth. Dall, Mr. Di-ddaioni, Mr. Maleisus, Mr. Vn yn ymroddi i buttein­dra. An­llad, Mr. Ofer-ddyn, Mr. Pengaled, Mr. Balch ei olwg. Vchel-Drem, Mr. Gelyniaeth yn erbyn pob daioni, Mr. Celwyddog, Mr. Creulondeb, Mr. Cassáwr y Goleuni, [Page 192] Mr. Anghymmodlon; A'r rhain i gyd a roesant ei Barn, dedryd. ferdid, yn bennodol, yn erbyn y carcharor, yn eu plith eu hu­nain; a Ar ôl hynny. chwedyn hwy a gyttunasant yn vn fryd, i ddwyn ef i mewn yn euog o farwolaeth o flaen y Barnwr. Ac yn gyntaf yn eu plith eu hunain, ebe Mr. Dall y Blaenor. fforman, myfi a welaf yn eg­lur, mai Heretic ydyw 'r Dyn yma. Ymaith â'r cyfryw vn oddiar y Ddaiar ebe Mr. Di-ddaioni. Ie ebe Mr. Maleisus, ymaith ag ef; canys y mae 'n gâs gennis yr oiwg arno. Ni ellais i erioedd aros mo honaw ebe Mr. Anllad: na minne ychwaith ebe Mr. Ofer-ddyn, canys fe fyddai bob amser yn beio ac yn condem­nio fy ffyrdd i. Crogwch e, Crogwch e ebe Mr. Pengaled. Nid yw ef ond Celain. yscerbwd& salw ebe Mr. Vchel-drem. Mae 'nghalon i yn codi yn ei erbyn ef, ebe Mr. Gelyniaeth yn erbyn pob daioni. Cnâf, Rôg. Dihiryn brwnt yw ef ebe Mr. Celwy­ddog. Mae crogi 'n rhy-dda iddo ebe Mr. Creulondeb. Moeswch i ni y [...] eb­rwydd ei ddanfon ef allan o'r byd ebe Mr. Cassáwr y Goleuni. Pe rhoddid i mi yr holl fyd, ni ellwn i ymheddychu ag ef, ebe Mr. Ʋn na fe [...]dr fod m [...]wn headweh â phobl. Implaca­ble. Anghymodlon: Ga­dewch i ni gan hynny, yn ebrwydd ei ddwyn ef i mewn yn euog o farwo­laeth: Ac felly y gwnaethant. Ac am [Page 193] hynny y barnodd y Barnwr, Iddwyn i garrio ef oddiwrth y Barr, ir Carchar dra­chefn, ac oddi-yno i Le y cospedigaeth, i ddioddef y farwolaeth greulonaf, ar a ellid ei ddychymmyg.

Yna hwy a'i dygasant ef allan, Iw osod i farwol­aeth. iw ddihenyddu, yn ol eu cyfraith hwynt: Ac yn gyntaf, hwy a'i ffangellasant ac a'u cernodiasant ef: A Wedi hynny. chwedyn, hwy a frathasant ei gnawd ef â chyllyll, ac a'i llabyddiasant ef â meini: Ac yn ddiweddaf, wedi ei Brathu. wanu ef trwyddo a'u cleddyfau, hwy a'i lloscasant ef yn vlw wrth y Marwo­laeth bawl dihenydd-bawl. A thym­ma i chwi ddiwedd Ffyddlon: Eithr mi a welais (o'r tu ol ir Dyrfa. fintai, oedd yn bresennol wrth ei losci ef) Gerbyd a chwpwl o gyffylau yn disgwyl am dano; ac hwyn gyntaf ac y bu e farw trwy 'r poenau hyn, fe 'i digwyd ef ir cerbyd; ac yn ddisymmwth cippiwyd ef i fynu trwy 'r cymylau, gyda Sain vdcorn y ffordd nessaf ir Ddinas nefol.

Ffyddlon, enwog am dduwiol-fryd,
Da mewn Gair, a Gweithred hefyd,
Ni all ai.
N' allai Barnwr, Cwest, na Thystion,
Niweid i ddifetha dy Enaid.
Wneuthur it ti ddim niweidion.
Ond yn lle d'orchfygu 'n
Rhwydd
hyrwydd,
Dangosasant gynddeiriogrwydd:
Pan bônt hwy âu henwau 'n feirwon,
Ti fyddi
Byddi byth ym-mhlith y bywion.

[Page 194] Eithr hwy a arbedasant Gristion Yr am­ser. y tro yma, gan ei ddanfon ef yn ôl ir Car­char; lle y gadawsant ef dros rhyw en­nyd. Ond Duw, yr hwn sy'n goruwch­reoli pob peth (gan fod gantho allu i ffrwyno eu cynddaredd hwynt) a wnaeth ffordd iddo ddiangc y pryd hyn, rhag malis ei elynion; Ac felly Fo a aeth ar hyd ei ffordd dan ganu;

Ffyddlon, cywir a fuost ti,
I'th vnic
Ar­glwydd.
Ri rhagorol;
Gyda 'r hwn cai ar ol hyn,
Fawr wynfyd yn dragwyddol:
Pan fyddo 'r Anffydaloniaid,
A'u holl ddigryfwch ofer,
Yn vffern boeth yn vdo 'n rhôst,
Yn ddigon tôst
Eu pic­cil, eu cyflwr.
eu piner,
Cân Ffyddlon: Bid ith enw
Da. Mat. 10. 28.
mâd,
Barch a Pharhád tragwyddol:
Er cael dy lâdd, gwirionedd yw,
Dy fod yn fyw'n wastadol.

Yn awr mi a welais yn fy Mreu­ddwyd, nad aethai Cristion ymaith yn vnig wrtho ei hunan; canys yr oedd yuo vn a elwid Gobeithiol, (calon pa vn a gyfyrddwyd, ac a wnaethpwyd yn obeithiol, trwy ddal sulw ar eiriau ac ymddygiad Cristion a Ffyddlon dan eu dioddefiadau yn y ffair) yr hwn a ly­nodd wrth Gristion, ac a wnaeth gyfam­mod brawdol ag ef, gan ddywedyd [Page 195] wrtho, y byddai fe gydymmaith iddo yn ei siwrnai. Fal hyn y bu vn farw i ddwyn tystiolaeth ir gwirionedd; ac wele vn arall yn cyfodi allan o'i ludw ef, i fod yn Gyfaill i Gristion yn ei Bererindod. A dywedodd Gobei­thiol wrth Gristion, fod llawer o bobl yn y ffair honno, y rhai mewn amser oeddent debygol i canlyn hwynt.

Ac hwyn gynted ac y daethont allan or ffair, hwy a orddiwesasant wr, a elwid Cam-ddibenion; ac hwy a ofynna­sant iddo, Syr, gŵr o ba wlâd ydych chi? A pha belled yr ydych chi 'n tei­thio ar hŷd y ffordd hon? Yntef [...]i hattebodd hwynt, ei fod e'n dyfod o Dref Teg-ymadrodd, a'i fòd yn myned tua'r Ddinas Nefol, eithr ni fanegodd iddynt moi enw.

Cris.

A ddichon dim Da ebe Cristion Dihar. 26. 25. ddyfod allan o Dref Teg-ymadrodd?

Dichon rwi 'n gobeithio ebe Cam­ddibenion.

Cris.

Attolwg Syr, Beth yw'ch enw chi?

Cam-ddi.

'Rwi 'n ddieithr i chwi, a chwithe i minne; os ydych yn tra­faelu y ffordd hon, fe fydd da iawn gennif gael eich Cwmpeini: Onid ydych, rhaid i mi fôd yn fodlon.

Cris.

Myfi a glywais sôn am y Dref [Page 196] yma, sef Teg-ymadrodd, (ebe Cristion) ac hyd yr wyfi 'n gofio, hwy a ddywe­dant ei bod hi 'n lle cyfoethog.

Cam-ddi.

Ydyw ar fy ngair i; ac y mae i mi lawer iawn o geraint cyfoe­thogion yn byw yno.

Cris.

Pwy yw'ch Ceraint chwi yno?

Cam-ddi.

Yr holl dref gan mwyaf; ond yn enwedigol, yr Arglwydd Vn yn troi fal bwyl. Chwyl—droi, yr Arglwydd Gwasa­naethydd-amser, yr Arglwydd Teg­ymadrodd (oddiwrth) Henafiaid pa un y cafodd y Dref ei hênw) ac hefyd Mr. Dafod-Llyfn, Mr. Dau-wynebog, Mr. Pob-peth, a Pherson ein Plwyf, Mr. Dau-dafod yw fy ewythyr brawd fy Mam; ac i ddywedyd i chwi 'r gwîr, 'rwi 'n awr yn wr bonheddig o gymme­riad mawr ac enw'da; er nad oedd fy Hen­dadcu. Hên-Daid i ond Morwr, yn rhwyfo vn ffordd, ac yn edrych ffordd arall; ac wrth y gelfyddyd honno yr ennilliais inne y rhan fwyaf o'm Golud.

Cris.

A ydychi 'n ŵr priodol?

Cam-ddi.

Ydwyf, ac y mae fy ngwraig i yn llawn o rinwedde da, a merch ydyw hi, ir Arglwyddes Rha­g [...]thiol. Ffu­antus; a chan fod ei thylwyth hi 'n an­rhydeddus, hwy a roesant y cyfryw ddygiad i fynu iddi, fel y meidr hi Ym­d [...]wyn. garrio ei hunan yn weddaidd, yn gy­stal [Page 197] o flaen y Tywysog ac o flaen y cy­ffredin. Gwir yw, fod peth gwahani­aeth mewn crefydd, rhyngom ni a'r gwyr o'r Sect fanolaf, etto ntd yw hynny ond mewn dau o byngciau bychain. Yn Gyn­taf, nid ydym ni yn ymdrechu vn amser i rwyfo yn erbyn y gwynt ar Llanw. Yn Ail, yr ydym ni bob amser yn dra awy­ddus i fod yn grefyddol, pan y bo cre­fydd yn myned yn ei Slippers. Sandalau Arian: Canys Da iawn gennym rodio gyda hi yn yr heolydd, os bydd yr haul yn tywyn­nu arni, a'r bobl yn ei chlodfori.

Yna Cristîon a drôdd ychydig o'r nailltu at ei Gyfaill Gobeithiol, ac a ddy­wedodd wrtho, 'rwi 'n tybied mai Meistr Cam-ddibennion o Dref Teg­ymadrodd yw'r Dyn hwn; ac os efe ydyw 'r Gwr, y mae gennym yn ein cwmpeini cyn benned cnaf, a'r pennaf yn y parthau hyn. Yna ebe Gobeithiol, gofynnwch iddo beth yw ei enw ef: Yn Dilys. siwr mi dybygwn nas dylai fo gwily­ddio i ddatcuddio ei enw. Felly Cristion a aeth atto drachefn, ac a ddywedodd, Syr, yr ydych chi 'n siarad Megis. meis un a fai 'n tybied ei fod e 'n deall rhyw be­thau yn well nâ llaweroedd eraill: Ac onid wyf yn eich camgymmeryd, mi dybygwn fy mod yn eich hanner ad­nabod chwi; onid Mr. Cam-ddibenion [Page 198] ydyw 'ch enw chi; ac onid ydych yn byw yn nhref Teg-ymadrodd?

Cam-Ddi.

Nid Camddibenion yw 'm henw i; eithr gwir ydyw, fod rhai o'm Caseion yn fy llysenwi felly; ac mae 'n rhaid i mi ymfodloni i ddioddef eu ammharch, megis y dioddefodd gwyr da eraill o m blaen.

Cris.

A roesoch chi ddim achos erioed i neb i'ch galw chi wrth yr enw hyn?

Cam ddi.

Na ddo erioed; ond fe gymmerodd pobl achlyssur, i'm galw i wrth yr enw hynny, am fy mod i yn tueddu yn wastadol i rodio yn y ffyrdd, yr oedd pobl yn arfer o rodio ynthynt, beth bynnag a fyddent, os Defod a Dull. ffashiwn y wlâd oedd hynny: Ac yr oeddwn i 'n Happ [...]s. lwccus iawn i ennill yn dda wrth y gwaith yma: Ac os [...]wy­ddodd. happiodd i mi gasclu cyfoeth yn y môdd hyn, rhaid imi eu cyfrif yn fen­dithion; Eithr na ammharched y malei­sus fi am hyn o beth.

Cris.

Yr oeddwn i'n tybied yn wîr mai chwi oedd y gwr y clywais i son am da­no: Ac i ddywedyd wrthych chi fy me­ddwl, 'rwi 'n ofni, fod yr enw hwn yn perthynu yn fwy priodol i chwi, nag y mynech i nyni dybied ei fod.

Cam-ddi.

Wele os mynnwch ddy­chymig pethau felly, ni allafi wrthych: [Page 199] Ond os byddwch mor fwyn a'm cym­meryd i'ch cymdeithas, chwi a'm cewch i yn gydymaith glân.

Cris.

Os dewchi gyda nyni, rhaid i chwi fyned yn erbyn gwynt a Llanw, yr hyn sy'n wrthwyneb i'ch Barn. opiniwn chwi: A rhaid i chwi hefyd ymddangos tros Grefydd, pan y bo hi yn eî hên gada­chau, yn gystal a phan y bo hi yn ei Slippers. sandalau arian; ai harddel hi hefyd pan y bytho hi yn rhwym mewn cadwy­nau, yn gystal a phan y bytho hi'n rho­dio 'r heolydd mewn anrhydedd.

Cam-ddi.

Nid oes i chwi arglwyddi­aethu ar fy Ffydd i: Gadewch fi i'm rhydd-did, a deuaf gyda chwi.

Cris.

Na ddewch gam ym-mhellach gyda ni, onis gwnewch fal yr ym ninne yn gwneuthur.

Yna ebe Cam-ddibenion, ni ymadawaf i byth â'm hên brîf-byngciau a'm pwr­passon, gan eu bod yn ddiniweid ac yn fuddiol: Oni châfi deithio gyda chwi, rhaid i mi fyned wrthyf fy hunan, fal y gwnaethum, cyn eich gorddiwes chwi, nes y delwyf ym mysc rhai, y fydd da ganthynt fy nghwmpeini.

Yn awr mi a welwn (yn fy Mreu­ddwyd) Cristion a Gobeithiol yn ei adel ef ar eu hôl: Eithr digwyddodd i vn o honynt edrych drach ei gefn; ac efe [Page 200] a welai dri o wyr yn dyfod ar ôl Mr. Cam-ddibenion: Ac wele, pan y darfu iddynt nessau atto, fo a ymgrymmodd iddynt hyd y llawr, a hwythau hefyd a ymgrymmasant iddo yntef. Hen­wau'r gwyr oedd Mr. Cofleidio'r Byd, Mr. Llygad-Arian, a Mr. Cadw|'r cwbl. Crintach, sef gwyr, y buasei Mr. Cam-ddibenion gynt yn gydnabyddus ag hwynt; canys cyd-yscolheigion y fuasent yn ei ieueng­ctid, ai Meistr hwy oedd Mr. Dal­gafael ar y byd, yn nhref Câr-elw, yr hon sydd Dref farchnad yn Shîr Trach­want yn y Gogledd: A'i Hathro a ddys­codd iddynt y gelfyddyd o Ynnid. elwa, naill ai trwy drais, twyll, gweniaeth, dywedyd Celwydd, neu yntau trwy wneuthur lliw o grefydd. A'r pedwar Pendefig yma a ddyscasant gymmaint o gelfyddyd eu Hathro, hyd oni fedrai pob yr vn o honynt gadw yr vn-rhyw yscol ag yntef.

Ac vn ol iddynt (mal y dywedais) gyfarch gwell iw gilydd, gofynnodd Mr. Llygad-Arian i Mr. Cam-ddibenion, pwy ydyw 'r rhai accw y sydd o'n blaen ar y ffordd? Canys yr oedd Cristion a Gobeithiol etto o fewn golwg iddynt.

Cam-ddi.

Dau wr o wlâd bell ydynt, y rhai sy'n mynd ar bererindod.

Llygad-Arian.
[Page 201]

Och! Pa ham nas aro­sent, fal y cowsem eu cwmpeini da hwy; Canys y maent hwy, a ninne, a chwithe Syr, rwi 'n gobeithio yn mynd ar Bererindod.

Cam-ddi.

'R'ym ni felly yn wîr, ond y mae 'r gwyr accw, y sydd o'n blaen ni, mor styfnig ac mor anystwyth, trwy garu eu opiniwnau eu hunain, gan ddibrissio opiniwnau rhai eraill, fal bydded gwr mor dduwiol ag y myn­no, etto oni bydd e 'n cyttuno ag hwynthwy ymm-hob pwngc, nid ymgy­feillachant hwy ag ef.

Mr. Crintach.

Drwg iawn yw hynny: Rym ni 'n darllen am rai ar y sydd yn rhy Gyfiawn, ac y mae styfnigrwydd y fath wyr yn eu gyrru hwynt, i farnu a chondemnio pawb onid eu hunain. Eithr attolwg, pa fath, a pha sawl vn oedd y pethau, yr oeddech yn anghyttuno ag hwynthwy yn eu cylch?

Cam-ddi.

Yr oeddent hwy yn ôl eu pengaledrwydd yn barnu, mai eu dy­ledswydd hwy ydoedd, i deithio drwy bob tywydd, a minne wyf dros ddisgwyl am wynt a Llanw. Y maent hwy am Fentro. anturio y cwbl oll ar y feddont dros Dduw mewn munud, a minne ydwyf am ddisgwyl pob odsa i siccrhau fy [Page 202] Enioes am golud. Y maent hwy am arddel eu crefydd, pe byddei 'r holl fŷd yn eu herbyn; eithr 'rwyf innau dros Grefydd cyn belled, ac y bytho 'r amseroedd, a'm diogelwch fy hun yn rhoddi lle i hynny. Y maent hwy am ymlynu wrth grefydd, pan y bytho hi mewn dirmyg a diystyrwch; eithr yr wyf inne am lynu wrthi, pan y by­tho hi 'n rhodio yn eu sandalau auriadd, a'r haul yn llewyrchu arni, a'r holl bobl yn ei chlodfori.

Mr. Cofleido'r Byd.

Mr. Camddi­benion, Da iawn y gwnewch chi, os par­hewch felly byth; Canys i'm tŷb i y mae 'r Dyn hwnnw yn ynfyd, yr hwn a gyll ei feddiannau, pan y gall eu cadw nhwy. Byddwn Ddoeth fal Seirph; Da cwei­rio 'r Gwair tra fo'r Haul yn llewyrchn. Chwi a welwch fal y mae'r wenynen yn llechu yn y gaiaf, ac yn Labro, gweithio. llafurio yn vnig, pan y gallo hi gael [...]y [...]âd. bûdd gyda phlesser. Y mae Duw 'n rhoddi Glaw weithiau, a Thegwch weithiau eraill: Os bydd neb mor ynfyd a myned trwy'r dymh [...]stl, gadewch iddo fyned; etto o'n rhan ein hunain, moeswch i ni fòd yn fodlon i o phwys, hyd oni chaeffom y ty­wydd yn dêg, a'r hîn yn dawel. O'm rhan i, yr wyfi 'n caru 'r Grefydd honno yn oreu, ar a safo gyda'r siccrwydd [Page 203] mwyaf, y bydd i ni feddiannu y Bendi­thion a roddes yr Arglwydd inni: Canys y mae 'n hawdd i ni ddeall, (onid ym ni wedi gwall-gofi) y myn Duw i ni gadw er ei fwyn ef, yr holl bethau daionus, y gowsom oddiwrtho, i'n cynnal ni yn y byd hwn: Abraham a Solomon a ymgyfoetho­gasant er eu bo d yn Grefyddol. Ac y mae Eliphaz yn dywedyd y rhŷdd gwr da aur i gadw fal llwch: Nid felly y dy­waid Job 22, 24. y gwyr o'n blaen, os ydynt y Cy­fryw rai ac y dywedasoch chwi eu bod.

Mr. Crintach.

'Rwi'i'n meddwl ein bod ni oll wedi cyttuno yn y matter yma, ae am hynny nid oes achos siarad ym­mhellach am dano.

Mr. Llygad-Arian.

Nid rhaid yn ddiau ddywedyd gair ym-mhellach yng­hylch y matter yma; canys yr hwn nid yw'n credu na Scrythur, na Rheswm (a chwi a welwch fod y ddau ar ein Ochr troso n plaid) nid yw hwnnw 'n adnabod ychwaith moi rydd-did, nac yn ceisio ei ddiogelwch ei hun.

Mr. Cam-ddi

Fy Mrodyr. yr ydym ni oll yn awr (fal y gwelwch) yn mynd ar Bererindod; ac o ran dyfyrru 'r am­ser yn well, rhowch gennad i mi ofyn i chwi y Cwestiwn hyn.

Suppo­swch. Bwriwch fod Gweinidog neu Gref­twr &c. mewn cyfle a ffordd, i ennill [Page 204]bendithion daionus y Bywyd hwn; etto Golud. felly, fel na allo mewn modd yn y Byd fod yn gyfrannog o honynt, oddieithr iddo (ar y lleiaf mewn lliw) ymddangos yn dra Zelws a gwresog, tu hwnt i gy­ffredin arfer y wlâd, mewn rhai Pyng­ciau crefydd, y rhai nad oedd e erioedo'r blaen yn eu harddel; oni ddichon e dde­wis y Sef, rhagrithio i ennill cyfo [...]th. ffordd yma, er mwyn cael ei ddiben, ac etto bod yn wr onest iawn.

Mr. Llygad-Ar.

▪Rwi'n deall eich meddwl yn eglur; a thrwy gennad y pendefigion yma, myfi a wnâf fy ngo­reu i roddi atteb i'ch Cwestiwn. Ac yn gyntaf am y Gwr Eglwysig yn ben­nodol. [...]. Bwriwch fod Gweinidog, yr hwn sydd yn wr gweddol, a chanddo and Personiaeth neu Ficceriaeth fechan iawn; ond y mae fo â'i olwg âr vn a fo mwy, a brasach, a chyfoethoccach o lawer, ac yr awrhon mae gantho gyfle iw chael hi; etto felly, ac y rhaid iddo fod yn swy Dyfal. astud i studio, ac i brege­thu 'n fynychach, ac yn wressoccach: Ac Os or bydd Tymmer y bobl yn gofyn iddo newid rhai O'r [...] y mae'n d [...]l. o'i Wyddorion; o'm rhan i, nid'wyfi 'n gweled Rheswm yn y byd, na ddich [...]n gwr wneuthur hynny (yn enwedig os bydd gantho alwad ir peth) ie a llawer mwy nâ hyn, ac etto bod yn wr onest. Can's.

[Page 205] 1. Y mae ei waith ef yn dymuno Personiaeth a fo mwy yn gyfreithlon (nis gellir gwadu mo hynny) gan ei bod wedi ei gosod o'i flaen ef trwy ragluniaeth; ac am hynny fo a ddi­chon ei chymmeryd hi os gall, heb ofyn vn Cwestiwn er mwyn cydwybod.

2. Y mae ei waith e 'n dymuno y Bersoniaeth honno, yn ei wneuthur e'n fwy gofalus i ddilyn ei lyfrau, i fod yn Bregethwr gwressoccach, i gyn­nyddu yn ei ddonniau, ac hefyd i fod yn well gwr; yr hyn oll sydd gyttûn ag ewyllys Duw.

3. Yn awr am ei waith e 'n Cyflunio. ei hunan. cyd­ymffurfio â Thymmer ei Bobl, trwy ymadel â rhai o'i Pyngci­au crefydd. Wyddorion iw bodloni hwynt, y mae hynny yn Ar­goel. 1: Ei fod e 'n wr a ddichon ym­wadu ag ef ei hun. 2. Ei fod e o ym­ddygiad hyfryd ac ennillgar 3. Ac o herwydd hynny yn gymmwysach ir Wei­nidogaeth.

4. 'Rwi'n dal gan hynny, na ddy­lyd barnu y Gweinidog hwnnw yn wr bydol, yr hwn a newidio Bersoniaeth fechan am vn a fo mwy; eithr yn hy­trach, gan ei fod ef trwy hynny gwedi cynyddu yn ei ddonniau a'i Dyfal­wch. ddiwid­rwydd, yn ei weinidogaeth, fe ddy­laet ei gyfrif ef yn wr sy 'n dilyn ei [Page 206] alwad yn well, ac yn vn a wnaeth ddef­nydd da, o'r achlyssur a'r odfa a ro­ddwyd yn ei law ef i wneuthur daioni.

Ac Yr aw­ron. yr-wan i roddi atteb ir ail ran o'ch Cwestiwn, sef, ynghylch y Crefftwr. Suppo­swch. Bwriwch, nad oes gan Grefftwr ond ychydig i gynnal ei hun yn y Byd; eithr trwy ddyfod i broffessu crefydd, fo a ddichon gael odfa i wellhau ei gy­flwr; naill a'i trwy gael gwraig gyfoe­thog, neu yntau trwy ennill mwy a gwell prynwyr idd ei Siop. O'm rhan i, nid wyf yn gweled Rheswm yn y Byd, nas gellir gwneuthur hyn yn Gy­freithlon. Can's, 1. Rhinwedd mawr yw bod yn grefyddol, trwy ba fodd, byn­nag y Delo dyn i fod felly. 2. Nid yw 'n anghyfreithlon i Geisio gwraig gy­foethog, neu fwy o Brynwyr i'm Siop. 3. Heb law hynny, y mae 'r gwr a yn­nillio 'r pethau hyn, trwy fod yn Grefy­ddol, yn ynnill yr hyn sydd dda, oddi­wrth y sawl sydd dda, trwy ddyfod ei hun i fod yn dda: Felly dymma wraig dda, Prynwyr da, ac Elw da, a'r rhain ei gyd wedi eu hynnill, trwy ddyfod i broffessu crefydd, yr hyn sydd beth da: Ac am hynny, gwaith da a Llesiol. buddiol ydyw bod yn grefyddol, er mwyn ynnill yr holl bethau ymma.

Wedi i Mr. Llygad Arian roddi 'r [Page 207] Atteb hwn i Gwestiwn Mr. Cam-ddi­benion, hwy a ganmolasant ei Atteb ef yn ddirfawr, ac a farnasant, fod y cwbl a lefarodd e yn dra buddiol a iachus. Ac oblegit eu bod nhwy 'n tybied, nad oedd neb a allei ddywedyd dim yn wrthwyneb ir Atteb yma; ac o her­wydd fod Cristion a Gobeithiol o O fewn clyw. hyd galw, hwy a gyttunasant yn vn fryd, hwyn gynted ac y byddai iddynt eu gorddiwes, i osod y Cwestiwn hyn at­tynt; yn enwedig oblegit iddynt hwy or blaen wrthwynebu Mr. Cam-ddi­benion yn y matterion yma. Felly hwy a alwasant ar y Pererinion, a hwythau Sef y Pererin­ion. a safasant yn yr vn man, hyd oni ddaeth y lleill hyd attynt: Eithr wrth ddyfod tuag attynt, hwy a gyttunasant, mai nid Mr. Cam-ddibenion, ond yr hen ŵr Mr. Cofleidio'r-byd, y gai ofyn y Cwestiwn iddynt, o herwydd eu bod nhwy 'n tybied, y byddent dynnerach wrtho ef, ac nas byddent mor danbaid, ac y buant ychydig or blaen, wrth ymadel â Mr. Cam-ddibenion.

Felly hwy a ddaethant hyd attynt; ac wedi iddynt gyfarch gwell iw gilydd, Mr. Cofleidio'r-Byd a osododd y Cwe­stiwn ger bron Cristion a'i gydymaith, gan ddymyno arnynt ei atteb os ga­llent.

Cris.
[Page 208]

Yna ebe Cristion, fe all baban mewn crefydd atteb deng Mîl o'r fath Gwestiwnau a'r rhain. Canys gan ei bod hi 'nawr, fal yr oedd hi cynt, yn anghyfreithlon, i ddilyn Crist am y Torthau bara, Pa faint mwy ffiaidd Joan 6. ydyw ei wneuthur ef a Chrefyd i fod megis March yn trotti­an i fynu ac i wa­red. March-cynfas, i ynnill a mwyn­hau'r Byd? Ac ni bu nêb ond Cehedloedd, Rhagrithwyr, Diaflaid, a Swynwyr o'r meddwl hwn.

1. Cenhedloedd, Canys pan ewyllysiai Hamor a Sichem gael Merch ac anifeiliaid Jacob, a phan y gwelsant, nad oedd mod i yn y byd iw mwynhau hwynt, o [...]id trwy dderbyn yr Arw [...]dd o gre [...]ydd yr Isra [...]i­aid. Enwaediad; hwy a ddywedasant wrth eu Cyfeilli­on; Os enwaedir ein holl wrwod ni, fal y maent hwy wedi eu henwaedu, oni fydd eu hanifeiliaid, a'u cyfoeth, a'u holl Anifei­liaid gwaith. yscrubliaid hwynt yn eiddom ni? Y Ferch a'r Annifeiliaid oedd y cwbl yr oeddynt hwy yn eu ddisgwyl am da­dynt, a'u Crefydd oedd y March-cynfas a arferasant eu mwynhau hwynt. Gen. 34.

2. Y Pharisaeaid rhagrithiol oeddynt hefyd o'r Grefydd yma, canys tan rîth hîr weddio, eu diben hwy oedd; i lwyr fwytta tai gwragedd gweddwon: ac am hynny y bygwthiodd Crist nhw, a [Page 209] damnedigaeth mwy echrydus, nâ dam­nedigaeth trosseddŵyr eraill. Luc. 20. 47.

3. Yr oedd Judas y Cythrael hefyd o'r Grefydd yma: 'roedd e'n Grefy­ddol er mwyn y Pwrs. Gôd; gan obeithio, y gallai fo trwy hynny feddianu yr arian oedd yn y pwrs: eithr efe a gyfrgollwyd, ac a fwriwyd ymaith, ac yr oedd e 'n wîr fab y golledigaeth.

4. Simon y Swynwr oedd hefyd o'r Grefydd yma, Canys efe a fynnai gael yr Yspryd glân fal 'y gallai wneuthur elw o honaw, a'i farn o Enau Petr oedd yn ôl hynny. Act. 8. 18. 19. 20. 21.

5. Ac nis gallafi dybied llai, nas gwerth hwnnw ei Grefydd am y byd, yr hwn a'i proffessodd hi er mwyn y byd. Canys cyn siccred ac yr oedd Syddas yn amcanu ynnill arian trwy fod yn Grefyddol, mor siccr y gwerthodd Efe grefydd ai Feistr am arian. Ac i roddi atteb i'ch Cwesti­wn, gwybyddwch hyn, pe dywedwn i ie gyda chwi yn y matter yma, mai da y gellit fy ngalw i, megis y gellir galw pob vn o honoch chwithe, yn Vn o'r cenhedlo­edd. Bagan, yn Rhagrithwr, ac yn Gythrael, y rhai y bydd eu Cosp. cyflog yn ôl eu gweithredoedd.

Yna hwy a safasant yn Megis rhai ym­mron gwallgofi. synn, gan lygadrythu y naill ar y llall; ac nid [Page 210] allent hwy roddi atteb yn y byd i Gri­stion ynghylch y peth yma. Gobeithiol hefyd a ymfodlonodd yn yr hyn a le­farodd Cristion wrthynt; ac felly y bu distawrwydd mawr yn eu plith hwy. Ar hyn, Mr. Cam-ddibenion a'i Gyfeillion a safasant yn ôl, fal y gallai Cristion a Gobeithiol gael y blaen arnynt, am eu bod yn chwennychu cael gwared o'u cwmpeini. Yna ebe Cristion wrth ei gyfaill, oni all y gwyr hyn sefyll o flaen barn Dynion, pa fodd y safant hwy dan farn Duw? Ac os ydynt yn fudion, pan eu teimler gan lestri pridd, pa beth a wnant, pan y ceryddir hwynt gan flam­mau o Dan Yn difa. yssol?

Yna Cristion a Gobeithiol a'u blaenasant hwy drachefn, nes iddynt ddyfod i wastadedd hyfryd, yr hwn a elwid Esmwythdra: ac hwy a deithiasant yno, gyda bodlonrwydd mawr: ac am nad oedd y Gwastadedd yma ond bychan iawn, hwy a aethant drosto yn ebrwydd. Yn awr yr oedd, ynghwr eithaf y Gwastadedd hwn, Fryn bychan, a elwyd Elw; ac yn y Bryn hwn yr oedd Mw yn Arian; i weled pa vn y gwyrdroesei bagad yn yr amser cynt, wrth fyned heibio; o herwydd bod y cyfryw le­oedd yn an-aml iawn: eithr wrth fyned yn rhy agos at ymmyl y Pwll; y tir [Page 211] gan ei fod yn dwyllodrus oddi tanynt a dorrodd, ac hwyntau a ddifethwyd: ac eraill o honynt a ddaethant ymaith yn anafus, y rhai ni lwyr iachawyd hyd ddydd eu marwolaeth.

Yna y gwelwn yn fy Mreuddwyd, ychydig dros y ffordd, ar gyfer y mwyn­glawdd Arian, Ddemas yn sefyll fal gwr bonheddig, i alw Trafael­wyr. fforddolion i droi tuag yno: Ac fe a ddywedodd wrth Gristion a i gyfaill; Ho, Trowch yma; ac myfi a ddangosaf i chwi ryw beth godidawg.

Cris.

Pa beth sydd yn y lle yna mor odidawg, ar a allai ein temptio ni, i droi oddiar y ffordd iw welede?

Dem.

Dymma Fwyn arian, a rhai yn cloddio yntho am Dryssor: os dewch chi yma; chwi a ellwch ymgy­foethogi wrth ychydig o boen.

Gob.

Yna ebe Gobeithiol, awn i weled y peth yma.

Cris.

Nag âf ddim ebe Cristion; myfi glywais sôn am y lle yma cyn hyn, a pha nifer a ddifethwyd yma; ac heb law hyn, mae'r Tryssor accw yn fagl ir rhai fy 'n ei geisio ef; canys y mae fo 'n eu rhwystro nhw yn eu pererindod. Yna Cristion a alwodd ar Ddemas, gan ddywedyd wrtho, onid yw 'r lle yna yn beryglus.

Dem.
[Page 212]

Nac ydyw yn beryglus iawn, oddieithr ir rhai sy'n ddiofal: ac wrth ddywedyd hynny efe A go­chodd. a wridiodd.

Cris.

Yna ebe Cristion wrth Obeithiol, moeswch i ni gadw 'n ffordd, ac nac yscogwn droedfedd oddiarni.

Gobeith.

Yn ddiau, pan ddelo Cam­ddibennion heibio, os gwahoddir efe fal y gwahoddwydnyni, fe a dry accw.

Cris.

Diammau yw hynny, canys y mae opiniwnau Cam-ddibennion yn ei arwain ef at y cyfryw deganau: a chan punt i geiniog, onis difethir ef.

Dem.

Yna Demas a alwodd arnynt drachefn, gan ddywedyd, oni ddewchi drosodd, a gweled yr hyn sydd yma?

Cristion a i hattebodd ef yn dra sarrug, gan ddywedyd, Demas, yr wyt ti yn Elyn i uniawn ffyrdd yr Arglwydd, wedi 'th Condem­nic. euog-farnu eisus gan un o Sef, Paul. Farnwyr ei Fawrhydi ef; A pha ham yr wyt ti yn ceisio 'n Hudo. denu ninne i'r vn ddamnedigaeth? ac heblaw hynny os trown ni fymryn Y gronyn lleiaf. oddiar y ffordd, fe glyw ein Brenin ni hynny; ac yna y cawn ni ddioddef cywilydd, lle y galla­sem sefyll yn ei wydd ef yn hyderus.

Yna Demas a waeddodd drachefn ar­nynt, ac a ddywedodd, mai vn oi braw­doliaeth hwy oedd yntef, ac os arosent ychydig, y deuai fo gydag hwynt.

Cris.
[Page 213]

Yna ebe Cristion onid Demas yw dy Enw di?

Dem.

Je Demas yw fy Enw, ac yr wyf yn Fâb i Abraham.

Cris.

Mi a'th adwaen di: Gehezi oedd dy Hen­dadcu. hen-daid, a Syddas oedd dy dâd; a thi a rodiaist yn eu llwybrau hwynt: 2 Bren. 5. 20. Gwaith y Cythrael yr wyt ti yn ei wneuthur, trwy ymdrechu hudo pobl oddiar ffordd yr Arglwydd. Fe gro­gwyd dy Dâd di am deyrn-fradwriaeth; ac nid wyt tithe yn haeddu gwell go­brwy. Bydded hysbys it ti, mai, pan ddelom at y Brenin, y gwnawn ef yn gydnabyddus â'th ymddygiad di tuag attom; ac ar ol hynny hwy a aethant iw ffordd.

Erbyn hyn, Mr. Cam-ddibenion ai gyfeillion, oeddynt wedi dyfod dra­chefn mewn golwg; ac ar yr amnaid gyntaf, hwy a aethant trosodd at Dde­mas: Yn awr, pu 'n a wnaethant wrth edrych dros ymyl y pwll ai syrthio iddo, ai myned i lawr i gloddio 'r mwyn arian, neu ynteu gael o honynt eu ta­gu gan y tarth, sy'n arferol i godi or Mannau hynny, nis gwnn i: eithr hyn A farc­ais i. a ddelias i sulw arno sef na welsom ni mo honynt mwyach ar y ffordd.

Yna y daeth y Pererinion i ryw Fan, lle 'r oedd hên Golofn fawr yn sefyll ar [Page 214] fîn y brîf ffordd; ac hwy a ryfeddasant yn ddirfawr, wrth weled ei dull a i gwedd hi: canys yr oedd hi' n ymddan­gos megis gwraig, wedi ei throi yn Golofn. biler. Ac hwy a safasant yno dros dro, gan edrych yn fynych arni: eithr nis gwyddent dros ennyd, pa beth y wnaent o honi: ond o'r diwedd, Gobeithiol a ganfu beth yn scrifennedig, ar ei phen hi, mewn llaw anarferol: eithr o he­rwydd ei fod ef yn wr anllythrennog, fo a alwodd ar Gristion atto (canys yr oedd e'n wr dyscedig) i edrych a allai fo Ddeall. ddirnad yr yscrifen: ac wedi i Gristi­on gysylltu y llythrennau ynghyd, fo a ddeallodd, Mai. taw hyn oedd y geiriau; Cofiwch Wraig Lot. Ac efe a'u darlle­nodd hwynt iw gydymaith: yna y gwy­buant, mai honno ydoedd y golofn o halen, ir hon y trowyd Gwraig Lot, Gen. 19. 26. am edrych drach ei chefn, â chalon drach­wantus, am y pethau, a adawsai hi yn ôl yn Sodom, pan yr oedd hi 'n diangc allan o honi am ei by wyd: A'r Golofn yma a fu achos iddynt hwy ymddiddan fal hyn.

Cris.

Ah! fy mrawd, dymma olwg a welsom mewn amser cyfaddas, ychydig ar ôl i Ddemas yn Gwa­hodd. gwawdd ni, i ddy­fod i weled y Bryn, lle yr oedd y mwyn arian yntho; a phe buasem ni yn myned [Page 215] [...]no, fal yr oedd efe yn dymuno, a thithe y mrawd yn ewyllyssio, fe a'n gwnaethid [...]inne fal y gwnaethpwyd hithe, ar ddim ac y wnn i, yn Ddrŷch ir rhai a ddeuant ar ein hôl, i edrych arnom

Gobeith.

Mae 'n edifar gennif, fy mod i mor ynfyd; ac 'rwi 'n rhyfeddu, nad ydwyfi yn awr fal gwraig Lot: Canys pa Ragor­iaeth. wahaniaeth sydd rhwng ei phechod hi ar eiddo finnau? Yn unig hi a edrychod drach ei chefn, a minnau a ewyllysiais fyned a gweled: Diolch sy'n ddyledys i Dduw, am fy nghadw i, thag myned i Fryn yr Arian; a chywi­lydd i minne, am fod y fath ewyllys erioed yn fy nghalon, i fyned yno.

Cris.

Cymerwn hyn yn lle rhybydd rhaglaw: Y wraig hon a ddiangodd rhag vn farnedigaeth; canys ni dde­stryw-wyd mo honi, yn ninistr Sodom; etto difethwyd hi trwy farnedigaeth arall, megis y gwelwn hi yma heddyw, wedi ei throi yn golofn o halen.

Gobeith.

Gwir yw, hi a all fod yn rhybydd ac yn ensampl i ni rhagllaw: Yn rhybydd i ni ochelyd ei phechod, neu yn arwydd or farnedigaeth a ddigwydd, i'r sawl na chymerant rybydd oddi­wrthi. Felly Corah, Dathan, ac Abi­ram, Num. 16. a'r Dengwr a deugain a dau cant, a ddifethwyd yn eu pechod, a wnaed yn [Page 216] rybydd neu 'n Ensampl i ni ochelyd eu drwg weithredoedd, hwynt: Eithr 'rwu 'n rhyfeddu 'n ddirfawr, am vn peth O flaen. tu hwnt i ddim arall, sef, pa fodd y gall Demas a'i gyfeillion, sefyll accw mor hyderus, i chwilio am y tryssor hynny, am ba un y cafodd y wraig yma, (yr hon ni wnaeth ond yn vnig edrych drach ei chefn gan ei serchu ef) ei throi yn Golofn o halen, (canys nid ym ni 'n darllen iddi fyned drodfedd oddiar y ffordd,) yn enwedig gan i'r farnedi­gaeth, a'i goddiweddodd, ei gwneuthur hi yn Ensampl, gyferbyn a'r man, lle maent hwy yn presswylio yntho; canys ni allant lai nai chanfod hi, os derchafant eu golygon i fynu.

Cris.

Gwîr yw, ei fod e'n beth rhy­feddol, ac y mae'n dangos fod eu calon­nau hwy wedi eu caledu yn ysceler yn y Cyflwr hwnnw: ac nis gwn i, i bwy y gellir eu cyffelybu nhw yn well, nag ir rhai a fo 'n pigo pockedi ger bron y Bar­nwr, neu i rai a dorrant Byrsau dan y Crog-pren. Fe ddywedir am bobl Sodom, mai Gen. 13. 10, 13 pechaduriaid dirfawr oeddynt; am eu bod yn bechaduriaid ger bron yr Arglwydd; hynny yw yn ei wŷdd ef, er cymaint o garedigrwydd a ddangosodd efe tuag attynt; canys yr oedd tîr Sodom y pryd hynny, megis Gardd Eden gynt; [Page 217] yr hyn a wnaeth i Dduw fod yn fwy eddigus, a'u Barne­digaethau. Pla-au hwythau cyn boe­thed, ac y gallei tân yr Arglwydd o'r nefoedd ei gwneuthur hwynt: Y mae 'n sefyll gan hynny gyda rheswm, y bydd i'r cyfryw bobl a hyn, fod yn gyfranno­gion o'r barnedigaethau tostaf; sef, y cy­fryw bobl, ar y sydd yn pechu yn ei wŷdd ef; ac hynny hefyd, mewn dirmyg i'r fath Ensamplau, y rhai sydd wedi eu gosod yn wastadol ger bron eu llygaid, iw hattal hwy rhag pechu yn erbyn Duw.

Gobeith.

Yn ddiammau ti a ddywe­daist y gwîr; ond pa fath drugaredd ydyw hyn, nad wyt ti, ac yn enwedig myfi, wedi fy ngweuthur yn Ensampl yn y modd yma? Y mae 'r matter hyn yn rhodi ini achlyssur, i fod yn ddi­olchgar ir Arglwydd, ac i Ofni. arswydo gar ei fron ef, gan gofio Gwraig Lot yn wastadol.

Wedi hynny, mi ai gwelais hwynt yn myned ym-mlaen, hyd oni ddae­thant at Afon hyfryd, yr hon a alwei y Brenin Dafydd yn Af [...]n Duw: Ond Psal. 65. 9 Dat. 22. 1. Ezek. 47. Joan, ai geilw hi, Afon dwfr y By­wyd. Yn awr yr oedd ei ffordd hwy yn myned yn union ar hyd glan yr afon. Yma gan hynny yr ymdeithiodd Cri­stion a'i Gydymaith gydag hyfrydwch mawr: Ac hwy a yfasant hefyd o [Page 218] Ddwr yr afon; yr hwn oedd ddym­munol, am iddo adfywio eu heneidiau deffygiol hwynt: Ac heblaw hynny, yr oedd, ar hyd glan yr Afon yma o bob tu, Goed iraidd, yn dwyn pob math o ffrwythau; a hwy a fwytasant o ddail y coed, i ragflaenu glothineb, a chlefydau eraill, y rhai sy arferol o ddamwain i drafaelwyr, yn ol gwre­sogi eu gwaed wrth siwrneio. drafaelu. Yr oedd hefyd o dautu glan yr afon weir­glodd yn llawn o lili; ac yr oedd hi 'n las trwy 'r holl flwyddyn. Yn y weir­glodd yma y gorweddasant ac y cysca­sant; canys hwy a allent gyscu yma mewn diogelwch: A phan y deffroe­sant, Psal. 4. 8. hwy a fwytasant drachefn o ffrwy­thau 'r coed, ac a yfasant eilch waith o ddwr yr afon: Ac wedi hynny, hwy a or weddasant i lawr i gyscu drachefn: Fal hyn y gwnaethant dros amryw ddyddiau a nosweithiau. Yna hwy a ganasant y gân hon,

Gwelwch fal y rhêd yn glau,
Grisial, crystal.
Riscaledd ffrydiau gloywon,
Wrth fin y flordd, er mawr
ddidorr.
ddidrwch Ddiddanwch Pererinion;
A gwe­lwch.
A 'r Gweirglodydd teg eu gwêdd,
A phêr arogledd ganthynt,
Yn rhoddi (trwy ddoeth drefnad Jôn)
Ddi-dwyll ddaintithion iddynt.
[Page 219] Yr hwn a ŵyr rinwedd eu gwŷdd,
A'r dail, a'r ffrwythydd
a ddy­gant.
ddygant,
A werth ei feddiant oll yn wir,
I brynu 'r tîr lle tyfant.

A chwedi myned ychydig ym-mlaen (canys nid oeddynt wedi dyfod etto i ben ei siwrnai) hwy a ganfuant, fod yr Afon yn ymadel â'r ffordd dros ennyd; yr hyn a fu yn drwm dros ben gan­thynt: Ond etto ni feiddient fyned oddiar y ffordd. Yn awr yr oedd y ffordd yr hon oedd yn myned oddiwrth yr afon, yn arw ac yn gerrigog; ac yr oedd eu Traed hwy 'n ddolurus o her­wydd eu Teithiau; a chyfyng ydoedd ar eneidiau y Pererinion o herwydd y Num. 21. 4. ffordd. Ac am hynny, yr oeddynt yn wastadol, wrth fyned ym-mlaen, yn dymuno cael gwell ffordd. Yn awr ychydig oi blaen hwy, yr oedd ar y llaw asswy ir ffordd Weirglodd, a chan­fa i fyned trossodd iddi; a'r Weirglodd honno a elwir Gweirglodd y Traws-Lwybr: Yna ebe Cristion wrth ei gydym­maith, os 'dyw y Weirglodd hon yn gorwedd o hŷd, ar ystlys y ffordd, Y mae vn brofedi­gaeth, yn gwneuthur, ffordd i brofedi­gaeth arall. gadewchi i ni droi iddi. Yna efe a aeth i ben y ganfa i edrych; ac fe a welai lwybr yn myned o hyd, o'r tu fewn i'r Weirglodd, gydag ymyl y ffordd. Y mae hyn yn ol fy ngwllys i ebe Cristion; [Page 220] Gobeithiol fy nghyfaill anwyl, Tyred trosodd yma; canys dyma'r ffordd es­mwytha.

Gobeith.

Eithr pa beth os arwain y llwybr yma ni dros y ffordd?

Cris.

Nid yw hynny 'n debygol ebr llall; Gwêl fal y mae 'n myned o hŷd gydag ymyl y ffordd. Felly Gobeithiol, Y mae cri­stianogion cryfion weithie yn arwain rhai gwoi­nion allan or ffordd. wedi ei berswadio gan ei Gyfaill, a aeth ar ei ol ef dros y ganfa. Ac wedi iddynt fyned trosodd, a dyfod ir Llwy­br, hwy a'i cawsant yn esmwyth iawn iw traed: Ac wrth edrych oi blaen, hwy a ganfuant Wr yn teithio yno me­gis hwythau (ai enw e oedd Gwâg-Hy­derus) felly hwy a alwasant arno, ac a [...]fynnasant iddo; i ba le yr oedd y ffordd honno 'n myned? Yntef a ddy­wedodd, tua'r Porth Nefol. Gwelwch ebe Cristion, oni ddywedais i felly wr­thych? Wrth hyn y gallwch weled ein bod ni ar yr uniawn ffordd: Felly hwy ai canlynasant ef. Eithr hi a hwyr­haodd arnynt yn y man; ac a aeth yn dy­wyll iawn; hyd oni chollasant eu golwg ar y gwr, yr hwn a oedd o'u blaen hwynt.

Gwâg-Hyderus gan hynny, o ddiffig gweled y ffordd o'i flaen, a syrthiodd ar ei ben i bwll dwfn; yr hwn a gloddi­wyd yno o bwrpas, gan Arglwydd y Ti­roedd [Page 221] hynny, i ddal ynfyddion Gwâg­ymffrostus yntho: A thrwy ei gwymp, efe a friw-wyd yno yn chwilfriw.

Yn awr Cristion ai gydymaith ai clwysant e'n syrthio, a hwy a alwasant arno, i wybod beth oedd y matter; eithr nid attebod efe ddim iddynt; yn unig hwy a'i clywsant e'n griddfan yn Esay 9. 16. y pwll. Yna ebe Gobeithiol; ym-mha le yr ydym ni 'nawr? A chyda hynny yr aeth Cristion yn fûd, gan ofni iddo arwain ei gydymaith oddiar y ffordd. Ac yn awr, yr oedd glaw, a Tryste. thara­nau, a Llyched. mellt, a llîf Rhyfe­ddol, Creu­lon. anguriol yn yr Afon yn eu Dychry­nu. Gwelwch yma, pa beth sy'n canlyn gwneuthur cydnabyddi­aeth, yn ddisymmwth a Dieithriaid, fal y gwnaeth y Pereri­nion hyn â Gwág-Hyderus. brawychu hwynt.

Yna y griddfannodd Gobeithiol yn­tho ei hun, gan ddywedyd, Oh na buaswn i yn cadw fy ffordd!

Cris.

Pwy a allai Tybied. ddychymmyg, y buasai y Llwybr yma yn ein harwain ni allan o'r ffordd?

Gobeith.

Yr oeddwn ni yn ofni hyn ar y cyntaf; ac oblegit hynny y rhybyddiais i chwi yn addfwyn; myfi a ddywedaswn fy meddwl yn eglurach, oni buasai 'ch bod yn hûn nâ myfi.

Cris.

Fy mrawd anwyl, na ddigia wrthif; y mae 'n ddrwg gennif i mi [Page 222] dy arwain di allan o'r ffordd, a'th ddwyn di ir fath enbydrwydd mawr: Ardolwyn maddeu immi, canys nid o ddrwg fwriad y gwneuthum i hyn.

Gobeith.

Bydd gomfforddus fy mrawd, canys rwi 'n maddeu itti: Ac yr wyfi 'n credu hefyd, y bydd hyn er daioni inni.

Cris.

Y mae 'n llawen gennif, fod gyda mi Frawd trugarog; ond ni ddy­lem ni sefyll fal hyn; Edrychwn a allwn ni fyned yn ein hôl.

Gobeith.

Eithr fy Mrawd anwyl gadewch i mi fyned o'ch blaen.

Cris.

Nage, os rhynga bodd i chwi; gadewch i mi fyned ym-mlaenaf; fal os bydd dim perygl, y gallwyfi fod yntho ef yn gyntaf; canys trwy 'm camsynnied i yr aethom ni 'n dau allan o'r ffordd.

Gobeith.

Nage, ebe Gobeithiol, ni chewch chwi fyned ym-mlaenaf; canys fe ddichon trwbl eich meddwl eich tynnu chwi dros y ffordd drachefn. Yna, er mawr gyssur iddynt, hwy a glywsant leferydd vn yn dywedyd wrthynt, go­sod dy galon tua'r brif-ffordd; y ffordd Jer. 31. 21. yr aethost dychwel. Erbyn hyn yr oedd y dysroedd wedi codi yn vchel; ac o herwydd hynny, yr oedd y ffordd i fy­ned yn ol yn enbyd iawn (yna mi a fe­ddyliais, mai hawsach ydyw myned allan [Page 223] o'r ffordd pan y byddom arni, nâ dyfod iddi, pan y bo 'm ni allan o honi) etto hwy a anturiasant fyned yn ol; eithr yr oedd hi cyn dywlled, a'r llîf cyn ucheled, fal y buant agos a boddi, ddeng-waith wrth ddychwelyd.

Methasant y noson honno, er cymaint eu hymgais, ddyfod yn ôl at y ganfa. Ond o'r diwedd, wedi cael ychydig o wascod, hwy a eisteddasant i lawr, hyd oni wawriodd y dydd: Eithr gan eu bod vn ddeffigiol, hwy a gyscasant yno. Yn awr yr oedd o fewn ychydig i'r mann lle yr oeddent yn gorwedd Gastell a elwid Castell Yn llawn ammheuon a dowts. Amheuys. A'r Cawr Anobaith oedd Berchennog o ho­no: Ac ar ei dîr ef yr oeddent hwy yn awr yn cyscu; yr hwn wrth rodio yn ol ei arfer, ar y boreu-ddyd, rhyd eu Maesydd. gaeau, a gafodd Cristion a Gobeithiol yn cyscu ar ei Dîr ef. Yna, â llefe­rydd garw a Sarrug, efe a archodd iddynt ddeffroi. ddihuno; a gofynnodd hefyd iddynt, gwŷr o ba wlâd oeddynt? A pha beth yr oeddynt yn eu wneuthur ar ei Dîr ef? Hwythau a fynegasant iddo, mai Pererinion oeddynt, ac iddynt golli eu ffordd. Yna Ebr Cawr wrthynt; fe ddarfu i chwi Neithiwr drespassu arnafi trwy sathru fy nhîr i a gorwedd arno; ac am hynny mae 'n [Page 224] rhaid i chwi ddyfod gyda myfi. Felly fe orfu arnynt fyned gydag ef, o her­wydd ei fod e'n drech na hwynt: Ac hefyd, nid oedd ganthynt nemmawr i ddywedyd yn ei erbyn ef; canys yr oeddynt yn gwybod eu bod ar fai. Y Cawr gan hynny a'u gyrrodd hwy o'i flaen, ac a'u gosododd yn ei Gastell, (Psal. 107. 16, 17.) mewn [...]. Daiar-dy Tywyll iawn, yr hwn oedd ffiaidd a drewllyd i ysprydoedd y ddau Bererin. Yno y buont yn gorwedd o'r borau ddydd Mercher, hyd nôs Sadwrn, heb gymaint a thammeid o fara, na defnyn o ddwr, nac un math o oleuni, na dyn na dynes, i ofyn pa fodd yr oeddynt: Yma gan hynny yr oeddent yn ddrwg ei cyflwr, ym-mhell oddiwrth eu caren­nydd, a'u cyfathrach, a phob máth o gydnabyddiaeth. Yma hefyd y cafodd Cristion dristwch dau-ddyblig; vn am eu bod nhw 'n garcharorion, a'r llall oble­git mai trwy ei gyngor annoeth ef, y dygasid hwynt i'r dyryswch hwn.

Yn awr yr oedd gan y Cawr Ano­baith Wraig, a'i henw hi oedd Anhy­derus; ac wedi iddo fyned iw wely, efe a fanegodd iddi hi yr hyn oll a wnae­thai, sef, iddo ddal dau Garcharwr, a u taflu nhw iw Ddwn­shwn. Ddaiardy, am iddynt drespassu ar ei Dîr ef. Ac efe a ofyn­nodd [Page 225] hefyd iddi, pa beth oedd oreu iddo wneuthur iddynt ym-mhellach. Hithe a ofynnodd pwy oeddent, o ba le yr oeddent yn dyfod, ac i ba le yr oeddynt yn myned? Ac yntef a fyne­godd iddi. Yna hi a'i cynghorodd ef, pan gyfodei fo 'r boreu, i Curo nhwy 'n ddi-drugaredd: Felly pan gyfododd efe y boreu drannoeth, fo a gymme­rodd lawffon dost ganghennog o Afallen sùr, ac a aeth i wared attynt i'r Dai­ardy; ac yno'n gyntaf efe a ddechreu­od eu difenwi nhw, megis pet fuasent Gwn (er na roddasent hwy erioed iddo ef air anweddus) ac wedi hynny efe a ruthrodd arnynt, ac a'u curodd yn y fath fodd, fal nas gallent na chynnor­thwyo eu hunain, nac ymdroi ar y llawr. Wedi iddo wneuthur felly, efe a aeth ymaith, ac a'u gadawodd hwynt yno, i gyd-gwyno eu gofyd, ac i alaru dan eu cystydd: Felly hwy a dreulia­sant yr holl Ddiwrnod hwnnw, mewn ocheneidiau a galarnadau chwerwon. Yr ail nos, Anhyderus a ymddiddanodd â'i Gwr yn eu cylch drachefn; a chan ddeall eu bod nhw yn fyw etto, hi a'i hannogodd ef i cynghori hwynt, i Lâdd. wneuthur diwedd o honynt eu hunain: Felly pan ddaeth y boreu, efe a aeth at­tynt mewn modd sarrug megis o'r [Page 226] blaen; a chan wybod eu bod nhw yn glwyfus iawn, gan y clesiau a roddasei efe iddynt o'r blaen, efe a ddywe­dodd wrthynt fal hyn; gan nad oes tybygoliaeth y dewch chi byth allan o'r lle yma, goreu peth y wnewch chi, yw gwneuthur diwedd o honoch eich hu­nain yn ebrwydd; Naill ai â chyllill, Cebystrau, neu â Gwenwyn; Canys pa ham ebe fe yr ydych chi yn dewis by­wyd, gan weled fod cymaint o flinderau ynglŷn wrtho? Eithr hwy a attolyga­sant arno ef, eu gollwng hwynt ymaith: A chyda hynny fo a edrychodd arnynt â golwg erchyll; A chan ruthro ar­nynt, diammeu, y buasai fo ei hun yn gwneuthur diwedd o honynt y pryd hyn [...]y, oni buasai iddo syrthio mewn llewyg (Canys yr oedd [...]fe weithie ar dywyd Tesog yn cael ambell Pwl o'r ffeinte. llwgfa) a cholli grym ei law dros amser. Am hynny efe a aeth ymaith, ac a'u gada­wodd hwynt (megis or blaen) i ystyried pa beth a wnaent. Yna'r Carcharo­rion a ymgynghorasant ryngthynt eu hunain, pa un oreu oedd cymmeryd cynghor y Cawr ai peidio, ac fal hyn y dechreuasant ymddiddan.

Cris.

Fy mrawd, ebe Cristion, pa beth a wnawn; y mae'r bywyd yr ydym ni 'n byw yma yn druenus iawn: [Page 227] Om rhan i, nid wyf yn gwybod, pa un oreu yw byw fal hyn, neu yntau gwneuthur diwedd o honom ein hunain yn ebrwydd: Y mae fy enaid yn dewis ymdagu yn fwy nâ Bywyd hoedl, Job 7. 15. Ac y mae'r bêdd yn fwy esmwyth im si ná'r daiardy Tomlyd hwn; a wnawn ni gynghor y Cawr, ai nis gwnawn?

Gobeith.

Mewn gwirionedd y mae 'n cyflwr presennol yn ofnadwy; a gwell o lawer a fyddei gennif farw nâ byw fal hya dros fyth; ond er hynny ystyriwn, i Arglwydd y wlâd (tua 'r hon yr ydym ni n teithio) ddywedyd, Na lâdd, ie na ladd vn arall; mwy o lawer gan hynny y mae fo 'n gwa hardd gwarafun i ni dderbyn cyng­hor y Cawr, sef, i lâdd ein hunain. Heblaw hyn, ni all yr hwn sy 'n llâdd un arall, ond llâdd ei Gorph ef; eithr y mae 'r hwn a laddo ei hun, yn lladd ei enaid ai gorph ar unwaith: Ac ym­mhellach, fy mrawd, yr wyti 'n Sôn am Esmwythdra yn y bêdd; eithr a angho­fiaisti 'r uffern, lle y gorfydd ar y llei­ddiaid, llof [...]y­ddion Mwr­ddwyr. yn ddiammeu aros ynthi tros fyth? Canys ni chaiff vn lleiddiad eti­feddu bywyd tragwyddol. Ystyriwn he­fyd, nad yw'r holl Gyfraith, ynghylch Dat. 21. 8. bywyd a rhydd did pobl, yn sefyll yn 1 Joan. 3. 15. llaw'r Cawr Anobaith: Fe ddaliwyd eraill (cyn belled ac yr wyfi 'n deall) yn [Page 228] ei rwydan ef, yn gystal a ninne; ac etto hwy a ddiangasant o'i ddwylo ef: Pwy a ŵyr, na symmyd Duw y Cawr hwn, trwy farwolaeth allan o'r byd yma; neu nad all efe ryw bryd neu gilydd Angh [...] ­fio. eber­gofi cloi y drws arnom; neu nas dichon efe ar fyrder syrthio eilchwaith mewn Ffaint. llewig ger ein bronnau, a cholli grym ei Aelodau: Ac os digwydd y fath beth iddo drachefn; o'm rhan i, mae yn fy mrŷd gymeryd calon a bod yn wrol, i brofi â'r eithaf o'm gallu, i ddiangc oddi tan ei law ef. Mi a fûm yn ffôl iawn, nas gwneuthum hynny eisus: Er hynny fy Mrawd byddwn ammyneddgar, a dio­ddefwn ychydig: Fe allei y cawn ni ddedwyddel ymwared oddiwrtho mewn amser; eithr na laddwn mo'n hunain mewn modd yn y byd. Ac â'r Geiriau hyn y llonyddodd Gobeithiol drom galon ei Frawd Cristion: Ac felly hwy a aro­sasant ynghyd, yn y carchar tywyll y di­wrnod hwnnw, yn eu cyflwr athrist a ga­larus.

A phan hwyrhaedd hi, fe aeth y Cawr i wared ir Daiardy drachefn, i edrych a oedd ei Garcharorion wedi gwneu­thur yn ôl ei Gyngor ef; ond wedi iddo ddyfod yno, efe a'i cafodd hwynt yn fyw; ac yn siccr dyna 'r cwbl: Canys yn awr o eisiau ymborth, ac o achos y [Page 229] clwyfau a gowsont pan y curodd efe hwynt, braidd yr oedd Anadl. ffûn yn ei geneuau: Eithr efe a'u cafodd (megis y dywedais) yn fyw; ac ar hynny efe a aeth yn gynddeiriog, ac a ddywe­dodd wrthynt; mai 'n gymmaint ac nad vfyddhasant iw gynghor ef, y cai eu cyflwr hwy fod yn waeth, nâ phe buasent erioed heb ei geni.

Ar hyn, hwy a ddychrynasant yn ddirfawr; ac yr wyf yn tybied i Gri­stion syrthio mewn llewyg; eithr pan Ymad­fywiodd, megis vn wedi di­huno o'i ffaint. y daddebrodd efe ychydig, hwy a adne­wyddasant eu hymddiddanion ynghylch Cynghor y Cawr; ac a ddechreuasant ystyried, pa vn oedd oreu iddynt, a'i dilyn ei gyngor ef a'i peidio. Yr oedd Cristion drachefn am wneuthur yn ôl ei gyngor ef, eithr Gobeithiol eilch­waith a'i gwrthwynebodd fal hyn.

Gobeith.

Fy Mrawd, ebe efe, onid wyti'n cofio mor Glew, nerthol. ddewr-wych y buosti gynt? Method ar Apol-lyon dy orchfygu di: Methodd hefyd ar yr holl bethau y welaist, y glowaist, ac y deimlaisti yn Nyffryn cysgod Angeu dy orchfygu di: Pa galedi, dychryn a Disym­mwth bod yn agos a dottio. syndod yr ae­thosti eisus trwyddynt; ac a wyti 'nawr mor ofnus? Ti a weli fy môd i yn y carchar gyda thi; yr hwn ydwyf (wrth nattur) yn wannach gwr o lawer nâ [Page 230] thydi: Fe 'm archollwyd gan y Cawr yma yn gystal a thithau; fe 'm cadwyd hefyd oddiwrth pob ymborth a lluniaeth yn y byd, ac yr ydwyf yn galaru yma yn y tywyllwch gyda thi: Ar dolwyn gàd i ni fod yn ammy [...]eddgar tros Ychydig o amser. drô bach etto. Cofia fal y chwareaisti 'r Gwr yn Ffair Gwagedd, ac nad oeddyt yn ofni na'r Gadwyn, na'r Carchar, nac vn math o farwolaeth waedlyd ychwaith: Gâd i ni gan hynny (rhag cywilydd, yr hwn nid yw gymhesur g [...]ywed fod Cri­stion yn gorwedd tano) ddioddef trwy Ammynedd hyd yr eithaf o'n [...]llu

Yn awr wedi 'r nôs ddyfod dra­chefn, a myned o'r Cawr a'i wraig iw gwely, hi a ofynuodd iddo beth a ddae­thai o'r Carchororion; ac a wnaethant hwy yn ol ei gyngor ef ai peidio: Yn­tef ai hattebodd hi, mai Rogiaid, Cnafiaid. dihirwyr pengaled oeddynt; a gwell oedd gan­thynt ddioddef pob math o galedi, nà difetha eu hunain: Yna ebe hi, cym­mer hwynt i foru i Cwrt a Green. gyntedd y Castell, a dangos iddynt Escyrn a phenglogau, y rhai a ddifethaisti eisus; a gwna iddynt goelio, y bydd iti cyn pen wythnos eu rhwygo hwyntau n Yn ddarnau yn chwil­friw. vfflon, fal y rhwygaisti eu cyfellion oi blaen hwynt.

Felly pan ddaeth y boreu, y Cawr a aeth attynt drachefn, ac a'u cymmerth [Page 231] i gyntedd y Castell; ac a ddangosodd iddynt yr Escyrn a'r penglogau, megis y gorchmynnasei ei Wraig iddo. Yr oedd y rhain ebe efe 'n Bererinion vn waith fal chwithau; ac fe ddarfu iddynt drespassu ar fy nhîr i megis y gwnae­thoch chwithau; a phan y gwelais i fôd yn dda, mi ai drylliais hwy 'n chwilfriw; a chyn pen deng niwrnod, mi a'ch drylliaf chwithe yn yr vn modd. Ewch i wared i'ch lloches dra­chefn, a chydà hynny fe a'u curodd hwy o hyd, nes iddynt ddyfod iw gwâl: Ac yno y buant yn gorwedd yr holl ddydd Sadwrn, mewn cyflwr gofydus, megis y buasant o'r blaen. Yn awr gwedi iddi nossi, a myned o meistres Anhyderus a'r Cawr ei Gwr iw gwely, hwy a dde­chreuasant ymddiddan drachefn ai gi­lydd, ynghylch y Carcharorion; a thyfeddu 'n ddirfawr a wnaeth yr hên Gawr, ei fod e'n methu, yn gystal trwy ei ffynnodiau, a thrwy ei gyng­horion eu dwyn hwy i Diwedd, Marwo­laeth. drangc drwg. Ac ar hynny, ei Wraig a ddywedodd wrtho; 'Rwi'n ofni ebe hi, eu bod n [...]wy 'n gobeithio y daw rhyw rai iw gwaredu hwynt; neu mae ganthynt ryw offerynnau i agoryd cloion ag hwynthwy, trwy ba foddion y maent yn gobeithio diangc. A wyti 'n dy­wedyd [Page 230] [...] [Page 231] [...] [Page 232] felly fy Anwylyd ebr Cawr? myfi a ddyfal chwiliaf eu Cod [...]n­nau. poccedi a'u dillad hwynt, y boreu foru, i edrych a oes ganthynt y cyfryw Offeryn­nau. beiriannau.

Ac wele nôs Sadwrn ynghylch hanner nôs, hwy a ddechreuasant weddio; ac a barhasant mewn gweddi, yn agos hyd y wawrddydd.

Yn awr ychydig cyn ei bod hi 'n ddydd. Cristion fal un wedi hanner am­hwyllo, a waeddodd allan Yn llawn trwbwl. yn gythry­blus fal hyn; Pa fath Ffol. ddwlyn (eb efe) ydwyfi, i orwedd yn y môdd yma mewn Daiardy neu ddwnshwn drewllyd, pan y gallwyf rodio mewn rhydd-did? Y mae gennif Allwedd agoriad yn fy monwes, a elwir Adde­widion am drugaredd Addewid, yr hon, mae 'n ddiameu gennif, a Egyr. ddeclu bob clô ynghastell Amheyus. Yna ebe Gobeithiol, dyma newydd da fy mrawd anwyl: Tynn hi allan 'oth fonwes, a gwnawn brawf o honi: Yna Cristion ai cymmerodd hi allan oi fonwes, ac a ddechreuodd á drws y Dwnshwn; ac hwyn gynted ac y troes yr agoriad yn y clô f'aeth y Bollt. barr yn ôl; a'r Drws. Ddòr a ymagorodd yn ebrwydd; a Christion a Gobeithiol a ddaethant allan eill dau. Yna y dae­thant at y drws nessaf i gyntedd y Castell, yr hwn hefyd a agorodd Cristion â'i Agoriad allwedd Yn ddioed. yn ddiattreg. Wedi hyn­ny [Page 233] efe a ddaeth at y Porth haiarn, canys yr oedd yn rhaid agor honno hefyd; eithr peth anodd iawn ydoedd ago­ryd An­hawdd. clô y porth yma; etto fe 'i agorwyd ef âr allwedd hyn: A Wedi hynny. chwedyn hwy a wthiasant y porth led y pen yn agor, mal y gallent ddiangc ar ffrwst: eithr y porth, wrth ei hagor, a wnaeth y fâth drwst, fal y deffrowyd y Cawr; Yna fo a geisiodd gyfodi 'n ddisymmwth i ymlid y carcharorion: Eithr ei Aelodau a baîlasant; canys ei Pange ffeince. lewygfeydd a'i cymmerasant ef dra­chefn, fal na allei mewn modd yn y byd fyned ar eu hôl hwynt. Yna hwy a aethant ymaith, ac a ddaethant i brif-ffordd y Brenin: erbyn hynny yr oeddent mewn diogelwch, gan eu bod wedi dyfod allan o Diroedd ac Arglwyddiaeth y Cawr.

Yn awr wedi iddynt fyned dros y ganfa, hwy a ddechreuasant ddychymig ynddynt eu hunain, pa beth a osodent yma, i rwystro'r sawl a ddeuent ar eu hôl, i ddyfod dan ddwylo'r Cawr Ano­baith. Ac hwy a gyttunasant gyfodi yno Golofn; ac i Yscri­fennu. argraphu ar ei hystlys hi yr yscrifen yma: Dyma'r Camfa. ganfa sy'n tywys i Gastell Amheyus lle y mae'r Cawr Anobaith yn Trigo. tario, yr hwn sy'n dirmygu Brenin y wlâd nefol, ac yn ceisio hefyd difetha y Sanctaidd Bererinion. [Page 234] Llawer gan hynny o'r rhai a'u canlyna­sant hwy, a ddarllenasant, yr ysc [...]if [...]n, ac a ddihangasant rhag y perygl yma▪ Ac ar òl hynny hwy a ganasant fal hyn,

Trwy droi o'n Ffordd nyni brofasom
Beth yw rhodio 'n anghyfreithlon:
Gwachled y rhai a'n canlynant,
Wyro a phrofi 'r vn aflwyddiant,
Pan eu delir yn garchorion,
Gan y Cawr a'i wraig echryslon.

Gwedi hynny hwy a aethant ym-mlaen, hyd oni ddaethant i'r mynyddoedd hy­fryd, y rhai a berthynant i Arglwydd y Bryn, am yr hwn y soniais i o'r blaen: felly hwy a aethant i fynu ir mynyddo­edd, i weled y Gerddi, a'r Perllannau, a'r Gwinllannodd, a'r Ffynhonnau dyfroedd oedd yno; lle'r yfasant o'r dwr ac yr ymolchasant; ac a fwytasant o'r grawn­win yn rhâd. Yn awr yr oedd ar bennau y Mynyddoedd hyn Fugeiliaid, yn por­thi eu praidd; ac yr oeddynt yn sefyll yn agos i fîn y ffordd fawr. Y Pereri­nion gan hynny a aethant attynt, a chan bwyso ar eu ffynn (fal y mae'n arferol i Bererinion deffygiol, pan y byddant yn sefyll i ymddiddan à neb ar y ffordd) hwy a ofynnasant iddynt, eiddo pwy yw'r Mynyddoedd hyfryd hyn? a phwy a biau'r Defaid sy'n pori arnynt?

Bugeiliaid. Y mynyddoedd hyn ydynt [Page 235] Dir Immanuel, ac y maent hwy yng­ [...]lwg ei Ddinas ef; ei eiddo ef ydyw [...] Defaid hefyd; ac efe a osododd ei Einioes i lawr drostynt.

Cris.

Ai dyma 'r ffordd i'r Ddinas [...]fol?

Bug.

Yr ydychi yn gymmwys yn [...]Ich ffordd.

Cris.

Pa belled ydyw hi oddiyma yno?

Bug.

Rhy bell i neb, ond i'r sawl sy [...]n myned tuag yno mewn gwirionedd.

Cris.

A ydyw 'r ffordd yn ddiogel, [...]eu ynteu'n beryglus?

Bug.

Diogel i'r cyfiawn, ond trosedd­wyr a dramgwyddant ynddi, Hos. 14. 9.

Cris.

A oes yn y lle yma lettu ac Swccwr. ymgeledd i Bererinion llêsc Wedi blino. lludde­dig îw gael?

Bug.

Fe orchmynnodd Arglwydd y lle hwn i ni, nac anghofiem leteugarwch; ac am hynny chwi a ellwch gael rhan o'r pethau da y sydd yma. Heb. 13. 1, 2.

Mi a weIais hefyd yn fy mreuddwyd, mai pan wybu'r Bugeiliaid, mai Trafael­wyr. ffor­ddolion oeddynt; hwythau hefyd a ofynnasant Gwestiwnau iddynt (a'r Pere­rinion a roddasant yr vn-rhyw attebion iddynt hwy, ac a roesant i eraill) megis, gwyr o ba wl [...]d ydych? A pha fodd y daethoch i'r ffordd? A thrwy ba fo­ddion y darfu i chwi barhau ynthi fal [Page 236] hyn? Canys nid oes ond ychydig o'r rhai sy'n dechrau dyfod tuag yma, yn dangos eu hwynebau ar y mynyddoedd hyn: Ond pan clybu y Bugeiliaid eu hattebion hwynt, fe 'i bodlonwyd hwy 'n fawr; ac hwy a edrychasant yn gariadus arnynt, ac a ddywedasant wrthynt, Croesaw i'r Mynyddoedd hyf [...]yd.

Ar Gweini­dogion yr Efengyl. Bugeiliaid (meddaf) y rhai a elwid, Gwybodaeth, Profiad, Gwilia­dwrus, Purdeb, a'u cymmerasant erbyn eu dwylo, ac a'u harwainasant hwy iw pebyllau; ac a osodasant gar eu bron yr hyn oedd barod ganthynt. Ac hwy a ddywedasant ym-mhellach wrthynt; nyni a ewyllysiem i chwi aros gyda ni ychydig o amser, mal y galloch fod yn gydnabyddns á nyni; ac hefyd, fal y caech ychydig o esmwythyd a di­ddanwch, trwy fod yn gyfrannogion o'r pethau daionus, y sydd iw cael yn yr hyfryd fynyddoedd ymma. A'r Pe­rerinion a ddywedasant wrthynt, eu bod nhwy 'n fodlon i aros; ac felly hwy a aethant iw gorphwysfa y noson honno, canys yr oedd hi 'n hwyr iawn.

A'r borau drannoeth mi a glywn y Bugeiliaid yn galw ar Gristion a Go­beithiol, i ddyfod gyda nhwy i rodio ar y Mynyddoedd; felly hwy a aethant allan gydag hwynt, ac a rodiasant en­nyd, [Page 237] ac a ganfuant fod y Tîr yn dra ffrwythlon ac hyfryd ar bob tu. Yna ebr Bugeiliaid wrth ei gilidd, a gawn [...]i ddangos rhyw ryfeddodau i'r Pere­ [...]inion hyn; ac wedi iddynt gyttuno gwneuthur felly, hwy a'u Arwai­niasant. tywysasant hwynt, yn gyntaf i benn y Bryn a el­wid Cyfeiliorni, yr hwn oedd yn serth [...]awn, ar yr ystlys bellaf oddiwrthynt; i'r Bugeiliaid a archasant iddynt edrych tua'r Gwae­lod. gwared: Felly Cristion a Go­beithiol a edrychasant tua'r gwaelod tan y Bryn: Ac hwy a welent, wrth droed y bryn, nifer fawr o ddynion, wedi eu dryllio yn ddarnau, gan gwymp a gaw­sant yno. Yna ebe Cristion, pa beth yw hyn? A'r Bugeiliaid a'i hatteba­sant; oni chlywsochi Sôn am y rhai a ddadymchwelwyd o ran eu ffydd, trwy goelio athrawiaeth Hymenaeus a Philetus, y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd, ddarfod 1 Tim. 1. 19. 20. yr adgyfodiad eusys (a thrwy ganlyni­aeth, 2 Tim. 2. 17. 18. na bydd adgyfodiad ir meirw dra­chefn) A'r Pererinion a ddywedasant, Do, ni a glywsom Sôn am danynt. Yna ebr Bugeiliaid wrthynt, y rhai a welwch chi eu haelodau nhw yn gor­wedd yn ddarnau, wrth odrau y Bryn yma, ydyw 'r bobl hynny: Ac fo 'i gadaw­wyd hwy heb eu claddu hyd y dydd [Page 238] hwn (fal y gwelwch) er ensampl i eraill, i ochelyd na ddringont yn rhy uchel ac na ddelont yn rhy agos i ymylau y mynydd hwn.

Yna mi ai gwelais nhw yn eu har­wain hwy, i ben mynydd arall, y [...] hwn a elwid Gocheliad; a'r Bugeiliaid a archasant iddynt edrych ym-mhell oddiwrthynt: Yr hyn pan y gwnae­thant, hwy a dybygent, eu bod yn canfod llawer o Ddynion yn rhodio [...] fynu ac i wared ymmysc y beddau, y rhai oedd yno; ac hwy a ddeallasan [...] fod y gwŷr yn ddeillion, am eu bod yn tramcwyddo weithie wrth y beddau ac am eu bôd yn methu dyfod allan oddi­yno. Yna ebe Cristion, pa beth sydd [...] ni ddeall wrth hyn?

A'r Bugeiliaid a attebasant, oni wel­sochi ganfa, ychydig islaw y myny­ddoedd hyn, yr hon sy'n arwain i weir­glodd, o'r tu asswy i'r ffordd yma ? A'r Pererinion a attebasant, gwelsom. Yna ebr Bugeiliaid; y mae Llwybr yn myned o'r Ganfa honno, yr hon sy 'n Arwain. tywys yn gymmwys i Gastell Am­heuys, yn yr hwn y mae'r Cawr Ano­baith yn trigo: A'r gwyr accw (sef, y rhai a welwch ymmysc y Beddau) a fuant yn Bererinion fal yr ydychi yn awr, hyd oni ddaethant at y Ganfa [Page 239] honno. Ac o herwydd bod y iawn ffordd yn arw yn y man hynny, hwy a droesant i'r Weirglodd honno; ac yno y daliwyd hwy gan Gawr Ano­baith, ac efe a'u carcharodd hwynt, yn ei Gastell: Ac wedi iddo eu cadw nhw, dros dalm o amser, yn ei Dwn­shwn. Ddaiardy, efe o'r diwedd a dynnodd allan eu lly­gaid hwy, ac a'u harwainodd i blith y beddau accw; lle y gadawodd efe hwynt i gyrwydro hyd y dŷdd he­ddyw, fal y cyflawnid ymadrodd y gwr doeth, Dyn yn myned ar gyfeilorn oddiar ffordd deall, a orphywys ynghy­nulleidfa Dihar. 21. 16. y meirw. Yna Cristion a Go­berthiol a edrychasant y naill ar y llall, á'r dagrau yn diferu rhyd eu griddiau; er hynny ni ddywedasant hwy ddim wrth y Bugeiliaid.

Wedi hynny, mi a welwn y Bugei­liaid yn myned â hwynt i le arall, mewn pant, lle'r oedd Drws yn ochor Bryn; a hwy a agorasant y Drws. ddôr, ac a bara­sant iddynt edrych i mewn; ac hwy a wnaethant felly; ac wele yr oedd y Lle oddifewn yn dywyll ac yn fwglyd iawn: ac wele hwy a dybygent hefyd, eu bód yn clywed megis swn rhyw Dân, a lleisiau rhai yn dioddef poenau dirfawr, ac eu bod yn arogli arogl brwmstan. Yna ebe Cristion, pa beth yw hyn? A'r Bugei­liaid [Page 240] a attebasant, Traws-lwybr i uffern yw hwn: dyma'r ffordd y mae Rha­grithwyr yn myned i mewn yno; yn enwedig, y sawl sy'n gwerthu eu gene­digaeth fraint gydag Esau; y rhai a werthant ei Meistr gydâ Suddas; y rhai sy'n cablu'r Efengyl gydag Alexander; y rhai sy'n dywedyd celwydd ac yn rha­grithio gydag Ananias, a Saphira ei Wraig ef.

Yna ebe Gobeithiol wrth y Bugeiliaid, yr wyfi 'n deall fod gan y rhain, ie bob un o honynt liw o Bererindod, megis y mae­gennym ninne yr awron; onid oedd y peth felly?

Bug.

Oedd yn ddiau, ac hwy a bar­hasant felly hefyd yn hîr o amser.

Gobeith.

Pa belled y gallent hwy (y sydd Yn awr. yr-wan wedi eu cyfrgolli yn echrydus yn y modd ym̄a) fyned mewn Pererindod yn yr amser cynt?

Bug.

Rhai a aethant ym-mhellach, a rhai ni ddaethant cyn belled a'r myny­ddoedd hyn.

Yna eb'r Pererinion wrth eu gilydd, rhaid i ni alw ar yr Hollalluog am nerth.

Bug.

Gwir yw hynny, a rhaid i chwi wneuthur defnydd o honaw hefyd, wedi ei gael ef.

Erbyn hyn yr oedd y Pererinion yn ewyllysio myned ym-mlaen; ar Bugei­liaid [Page 241] oeddent fodlon i hynny: Felly hwy a rodiasant ynghyd hyd gwrr ei­thaf y mynyddoedd. Yna ebr Bugei­liaid wrth eu gilydd; gadewch i ni ddangos oddi yma byrth y Ddinas Ne­fol i'r Pererinion; os medrant edrych trwy 'n Gwydr i edrych trwyddo. Drych-olwg ni: A'r Pere­rinion oeddynt dra bodlon i hynny. Felly hwy a'u cymmerasant i ben bryn uchel, yr hwn a elwid Eglur, ac a roddasant iddynt y Glass. drych i edrych trwyddo: Yna hwy a brofasant i edrych trwyddo; ond wrth atgofio y peth diweddaf a ddangosasai y Bugei­liaid iddynt, yr oedd eu dwylo nhwy 'n crynu gan ofn; ac-o herwydd hynny, methodd arnynt edry [...]h yn ddiyscog trwy 'r Drych; er hynny yr oeddent yn tybied, eu bod yn gweled rhyw beth tebig i'r porth, ac hefyd peth o ogoniant y lle.

Pan yr oeddent ar ymadel, vn o'r Bugeiliaid a roddodd iddynt Yscrifen o ysbysrwydd ynghylch eu ffordd: A'r Llall a archodd iddynt ochelyd y Dyn gwenhieithus: A'r Trydydd a archodd iddynt ochelyd rhag cyscu ar y Tîr a reibiwyd: A'r Pedwerydd a ddywedodd wrthynt, Duw fo'n rhwydd i chwi.

Yna mi a welwn y ddau Bererin yn my­ned i wared o'r Mynyddoedd, ar hyd y [Page 242] ffordd-fawr tua 'r Ddinas nefol. Yn awr ychydig islaw 'r Mynyddoedd yma, ar y llaw asswy, yr oedd Gwlâd Cell­wair yn sefyll; ac o'r wlâd hon, yr oedd Ffordd. wttra gam (sef lón neu foidir fechan) yn dyfod ir ffordd yr oedd y Pererinion ynthi: Ac yma y cyfarfuant â llangc pert a ffraeth, yr hwn oedd yn teithio o'r wlâd honno, a'i enw ef oedd Anwybodaeth. Felly Cristion a ofynnodd iddo, o ba le yr oedd yn dyfod, ac i ba le yr oedd e yn myned?

Anwybodaeth.

Syr fe 'm ganwyd i yn y wlad accw, ychydig ar y llaw asswy; ac yr wyfi 'n myned tua'r Ddi­nas nefol.

Cris.

Eithr pa fodd yr ydychi 'n meddwl myned i mewn trwy'r Porth, ca­nys chwi a ellwch gyfarfod â rhyw an­hawsder yno?

Anwyb.

Fal y mae pobl dda eraill yn myned ebe yntef.

Cris.

Eithr pa beth sydd gennych i ddangos yno, fal y bo iddynt agor y porth i chwi.

Anwyb.

Mi a Wn ewyllys fy Ar­glwydd, ac a fum yn Fucheddwr da, yr wyf yn Talu i bawb ei eiddo; yr wyfi 'n Gweddio, yn Ymprydio, yn talu fy Negymmau, ac yn rhoddi Elu­sennau, ac mi a adewais fy Ngwlâd, [Page 243] er mwyn y lle yr wyf yn myned iddo.

Cris.

Eithr ni ddaethost ti i mewn trwy 'r porth cyfyng, yr hon sy ym-mhen y ffordd yma: Ond tydi a ddaethost i mewn i'r ffordd hon, trwy'r lwybr cam accw; ac am hynny yr wyf yn ofni, pa beth bynnag yr wyt ti 'n dybied am danat dy hun; pan ddelo 'r dydd Cyfrif, y rhoddir i'th erbyn, mai lleidr ac yspei­liwr wyt, yn lle cael myned i mewn i'r Ddinas.

Anwyb.

Foneddigion, yr ydych 'n ddieithriaid im fi, nid adwaen i mo ho­noch; byddwch fodlon i ddilyn Cre­fydd eich Gwlad chwi; a minne a ddi­lynaf Grefydd fy ngwlâd inne. Yr wyfi'n gobeithio y bydd pob peth o'r gorau. Ac am y porth y soniasoch am dano, fe ŵyr yr holl fyd, fod honno ym-mhell o 'n gwlad ni: nid wyfi chwaith yn tybied, fod neb yn ein holl barthau ni, yn gwybod y ffordd tuag yno; ac nis gwaeth pu'n ai bod yn ei gwybod hi ai peidio, gan fod gennym (fal y gwelwch) Heol, lôn. Wttra lâs hyfryd, yn dyfod o'n Gwlâd ni, i uniawn-gyr­chu 'r ffordd yma.

Pan y gwelodd Cristion fod y gwr yn ddoeth yn ei olwg ei hun, efe a ddy­wedodd wrth Obeithiol yn ddistaw; gwell yw'r gobaith am ffôl nag am dano [Page 244] ef. Ac fo a ddywedodd ym-mhellach, Dihar. 26. 12. y ffôl pan rodio ar y ffordd, sydd â'i Galon yn pallu, ac y mae 'n dywedyd Preg. 10. 3. wrth bawb ei fod yn ffôl. Pa beth a wnawn ni? A siaradwn ag ef ym-mhellach? Neu ynteu myned oi flaen ef yn bresennol, i adel iddo fyfyrio ar yr hyn a glywodd eisus, ac yna ei aros ef drachefn; i edrych a allwn bob yn ychydig wneuthur dim daioni iddo ef. 'Rwi 'n tybied ebe Gobeithiol, nad yw 'n dda dywedyd y cwbl ar vnwaith wrtho ef, gadewch i ni ei adel e y pryd hyn os mynnwch; a siaradwn ag ef yn y mann, fal y bo'n abl derbyn ein ha­ddysc a'n cynghorion.

Felly hwy a aethant ym-mlaen eill dau, ac Anwybodaeth a ddaeth ar eu hòl. Yn awr gwedi iddynt ei ragflaenu ef ychydig, hwy a ddaethant i Heol fe­chan. Hewlan dywyll iawn, lle y cyfarfuant â Gwr we­di ei rwymo gan saith Cythrael, â saith Mat. 12. 45. o raffau cedyrn; ac yr oeddent yn ei gario ef yn ôl, i'r Drws a welsent ar Dihar. 5. 22. ochr y Bryn. Cristion yn awr a'i Gy­faill Gobeithiol a ddechreuasant Ofni. arswy­do a chrynu 'n Dirfawr aruthr. Etto fal yr oedd y Cythreuliaid yn dwyn ymaith y Gwr; Cristion a edrychodd yn graff arno, i weled a oedd e yn ei ad [...]abod ef; ac fo a dybiodd mai yn [...], [Page 245] ydoedd y gwr, yr hwn oedd yn byw yn Nhref Gwrth-giliad: Ond ni allai * Neu ym­adawiad â chrefydd fo weled ei wyneb ef yn amlwg, am ei fod yn gostwng ei ben i lawr fal lleidr wedi ei ddal: Eithr wedi iddo fyned heibio, Gobeithiol a edrychodd ar ei ôl ef; ac a ganfu Bapyr ar ei Gefn ef, lle yr oedd yr yscrifennad hwn; Proffeswr Wantan. anllad a Gwrthgiliwr damnedig. Yna y dywedodd Cristion wrth ei gydy­maith, yn awr yr wyf yn atgofio yr hyn a fanegwyd i mi, am beth a ddig­wyddodd i wr da ynghylch y mann yma; ei Enw ef oedd Ychydig ffydd, eithr gwr da rhinweddol ydoedd efe; ac yr oedd e'n trigo yn Nhrêf Dirag­rith. Di­ffuant. Hyn oedd y matter; ym mhen y ffordd yma, y mae Heol-fechan, yn dyfod i wared o Borth-y-ffordd-Lydan, a elwir Heol y Dyn-marw; ac hi a el­wir felly, o achos y Lla­ddiad. llofruddiaeth a wneir yno yn fynych: A'r gwr yma (yr hwn a elwir Ychydig ffydd) oedd yn myned ar Bererindod megis, yr ydym ninne yn awr; ac fe Ddig­wyddodd. happiodd iddo eistedd i lawr a chysgu yno. Yn awr fe ddamweiniodd y pryd hynny, i dri o Lladron. williaid cryfion ddyfod i wa­red ar hyd y Wttra. lôn, o Borth y-ffordd-ly­dan; a'u henwau ydoedd Gwan-galon, Gwangred, ac Euogrwydd, (tri brawd) [Page 246] a phan ganfuant hwy meistr Ychydig­ffydd yn gorwedd yno, hwy a ddae­thant atto ar ffrwst? Yn awr yr oedd y gwr da wedi newydd ddihuno o'i gwsc, a'i fryd ar gyfodi i fyned iw Daith. Felly hwy a ddaethant oll i fynu atto, a chan fygwyth yn arw, a archasant iddo s [...]fyll. Ar hyn, Ychydig ffydd a goll­odd ei liw, ac a aeth cyn wynned a'r Lliain a [...] [...]in gw [...]aig. foled; ac nid oedd yntho na chalon i ymladd, na gallu i ffoi. Yna ebe Gwan­galon Rhowch i ni. delifrwch eich pwrs; eithr ni fryssiodd efe i wnenthur felly (canys yr oedd yn An­hawdd. anodd gantho golli ei Arian,) Gwangrêd gan hynny a redodd i fynu atto, a chan wthio ei law iw bocced e, fo a dynnodd allan Gôd. Y mae Gwanga­londid, a Gwan­g [...]ed, ac Euog­rwydd am bechod, yn taro Cri­s [...]ion gwan i lawr. byrsed o Arian. Yna efe a waeddodd yn groch, Lladron, Lladron. Ar hynny, Euo­grwydd a darawodd Ychydig ffydd ar draws ei b [...]n à llawffon fawr, vr hon oedd gantho yn ei law; ac ar ffonnod honno, fo a'i bwriodd yn ei hŷd ar y llawr; lle y bu e'n gwaedu, ai waed yn ffrydio fal un a fai 'n gwaedu hyd Angeu; A'r lladron yn y cyfamser yn sefyll Wrth ei g [...]n ef. yn ei ymyl ef: One o'r di­wedd, hwy a glowent megis trwst rhai yn dyfod i wared ar hyd y ffordd, a chan ofni mai vn Grâs-Mawr ydoedd, yr hwn sy'n trigo yn Nhrêf Hyfder-dda, [Page 247] hwy a gymmerasant y traed, ac a adaw­sant Ychydig-Ffydd i I wneu­thur. ymdaro drosto ei hun fal y gallai. Yn awr ym-mhen ennyd, efe a ddaeth atto ei hun, a chan gyfodi ar ei draed, efe a ymdrechodd grippian i fyned ymaith.

Gobeith.

Eithr a ddygasant hwy oddi­arno gymaint oll ar a feddai?

Cris:

Na ddo, ni anrheithiasant hwy 'r Sef y grâs oedd yn ei ga­lon ef. mann lle 'r oedd ei Dlysau ef; felly efe a gadwodd y rheini Fyth. o hyd; eithr mi a glywais fod yn gyfyng iawn ar y gwr da hwn o herwydd ei golled; ca­nys y Lladron a'i hyspeiliasant ef o'i holl arian traul gan mwyaf. Yr hyn a ddi­hangodd eu dwylo nhwy (fal y dywe­dais i o'r blaen) oedd ei Grasus­au. dlyssau ef; ac nid oedd yr ychydig arian oedd gan tho, ond prin ddigon i ddwyn ef i ben 1 Pet. 4. 18. ei daith; nage (oni cham ddywespwyd wrthyfi) fe orfu iddo gardotta, a hela ei fywyd ar y ffordd honno (canys ni allai fo werthu mo'i Dlyssau) eithr er cardotta a gwneuthur a allai, efe a aeth (fal y dywedwn ni) â i gylla yn wâg y rhan fwyaf o'r ffordd oedd yn ôl i ben ei siwrnai.

Gob.

Ond rhyfedd yw, na ddygasent hwy yscrifen ei siccrwydd oddiarno, trwy 'r hon yr oedd e,i gael ei dderbyn i mewn ym mhorth y Ddinas nefol.

Cris.
[Page 248]

Mae hynny yn rhyfeddod; eithr ni chawsant hwy mo'r yserifen hynny; er na chollasant mo honi, trwy vn rhyw gyfrwystra o eiddo Mr. Ychy­dig-Ffydd; o herwydd nid oedd gan­tho ef allu na Skil. meder i guddio dim, gan ei fod mewn syndod a braw trwy eu dyfodiad hwy atto: Felly trwy ra­gluniaeth ddaionus yr Arglwydd, yn fwy nà thrwy ei ddyfalwch a'i ofal ef, y methasant gael y peth da hwnnw. 2 Tim. 1. 14.

Gob.

Eithr yr oedd yn gyssur mawr iddo, na ddygasant ei Dlyssau oddiarno?

Cris.

Fe allasai hynny fod yn gyssur 2 Pet. 1. 8, 9. mawr iddo, pe buasai 'n gwneuthur defnydd o honaw fal y dylasai; eithr y rhai a adroddasant wrthyfi yr ystori yma, a ddywedasant, na wnaeth efe, ond ychydig ddefnydd o'r peth, yr holl ran arall o'r ffordd; a hynny o herwydd Y mae colledion bydol yn rhwystro dyn rhyw brydiau, i dderbyn cyssuron nefol, y rhai sy 'n tar­ddu oddi wrth râs Duw yn y galon. y braw a gawsei fo, pan y dygasant ymaith ei Arian ef: Gwir ydyw, fo anghofiodd yr hyn a'i cyssurai fo, y rhan fwyaf o'r ffordd oedd yn ôl o'i daith; ac heblaw hynny, pan digwy­ddai ar vn amser iddo ei atgofio, ac y byddei yn d [...]chrau cael Cyssur oddi­wrtho; yna meddyliau newydd yng­hylch ei golled am ei Arian, a lyngcai pob math o fyfyrdodau eraill.

Gob.
[Page 249]

Och o druan gwr, nid oedd fôdd nad ydoedd hynny yn distwch mawr iddo?

Cris.

Mae hynny yn ddiammeu; oni buasai yn dristwch i nyni, pe gwnae­thid â ni megis y gwnaethpwyd ag efe, trwy ei yspeilio (a'i glwyfo fe hefyd) a hynny mewn lle dieithr, fal yr oedd efe yntho? Rhyfeddod ydyw, na buasei fo (druan Gwr) yn marw gan ofyd! Myfi a gly­wais, ei fod ef yn dolefain ac yn cwyn­fan yn alarus, y rhan fwyaf o'r ffordd gwedi hynny; gan achwyn wrth bawb ac a'i gorddiwesasant ef, ac wrth y sawl yr oedd yntef yn ei gorddiwes ar y ffordd; gan achwyn (meddafi) ym mha le yr yspeiliwyd ef; a pha fodd; a phwy oedd y gwyr a wnaethant hyn­ny; a pha beth a gollasei; a'r modd y clwyfwyd ef; ac mai prin y dihangodd ef yn fyw.

Gob.

Eithr peth rhyfeddol ydyw, na pharodd ei angen iddo ef werthu, neu wystlo rhai o'i Dlyssau, fal y gallai fo ei Bod heb dlodi. ddianghenu ei hun yn ei daith.

Cris

Yr wyti 'n siarad megis vn o'r ynfydion: Canys am ba beth y gwst­lai fo ei Rasusau▪ dlyssau? Neu i bwy y gwer­thai fo hwynt? Nid oeddit yn gwneu­thur cyfrif yn y byd o'i Dlyssau ef, yn [Page 250] yr holl wlad honno, yn yr hon yr ys­peiliwyd ef ynthi; ac nid oedd arno ef eisiau dim o r fath gymmorth, ar a oedd gan bobl y wlad honno, iw Gwasa­naeth, rhoddi. weini iddo. Heb law hynny, pe buasei ei Dlyssau ef yn eisiau wrth Borth y Ddi­nas nefol, fe'i cauasid ef allan o'r etife­ddi [...]eth oedd yno (a hynny a wyddai fo yn ddigon da) a gwaeth a fuasai hyn­ny iddo ef, nag ymddangosiad a chreu­londeb Myrddiwn o ladron.

Gob.

Pa ham yr wyt mor chwerw fy Mrawd? Fe werthodd Esau ei enedi­ga [...]th Heb. 12. 16. fraint, a hynny am phiolaid o Gawl; a'r Enedigaeth honno oedd ei [...] pennaf ef; ac os gallai efe, pa [...]wn na allai Ychydig-ffydd wneuthur felly hefyd?

Cris.

Gwir yw, Esau a werthodd ei Enedigaeth-fraint; yr hyn beth y mae llawer o rai eraill yn ei wneuthur; a thrwy hynny, y maent yn cau eu hu­ [...]ain allan, oddiwrth feddiannu y fen­dith bennaf, megis y gwnaeth y [...]. Scer­bwd hwnnw. Eithr y mae'n rhaid i chwi wneuthur peth [...] rhagoriaeth rhwng Esau ac Ychydig-ffydd, ac hefyd rhwng eu Cyflyrau hwynt. Genedi­gaeth Esau oedd Gyscodawl, ond Tlyssau Ychydig-ffydd nid oeddent felly. Bol Esau oedd ei Dduw, eithr nid felly [Page 251] yr oedd Bol Ychydig-ffydd. Eisiau Esau oedd yn ei Chwant. flŷs naturiol, ond blŷs Ychydig-ffydd nid ydoedd felly. Heblaw hynny, nid oedd Esau 'n edrych am ddim ond am gyflawni ei drach­wantau; canys wele fi 'n myned i farw, ebe fe, a pha lês a wna'r Enedigaeth Gen. 25. 32. fraint hon i mi? Eithr Ychydig-ffydd a dybiodd mai rhan o'i etifeddiaeth ef oedd ei ffydd ef, er gwanned yr oedd hi; a thrwy y ffydd honno efe a gad­wyd rhag y fath afradlondeb, ac a ddyscwyd i iawn bryssio ei Dlyssau, yn lle ei gwerthu hwynt, megis y gwerthodd Esau ei enedigaeth-fraint. Nid ydych yn ddarllen yn yr yscrythur, fod gan Esau ffydd yn y messur lleiaf: Ac am hynny nid yw'n rhyfedd, lle bo'r Cnawd yn vnic yn dwyn rhwysc (megis y gwna yn y Dyn hwnnw, lle na bo ffydd iw wrthwynebu ef) os gwerth e ei Enedigaeth-fraint, a'i Enaid, a'r cwbl oll y sydd gantho, a hynny he­fyd i'r Diafol o Uffern; canys y mae 'r cyfryw Ddynion yn debyg ir Assyn wyllt, yr hon wrth ei hachlyssur Jer. 2. 24. nis gellir ei throi ymaith: Felly nhwy­thau, pan y bont wedi gosod eu brŷd ar gyflawni eu trachwantau, a fynnant y pethau y maent Chwen­nychu. yn eu blysio, pa beth bynnag a gostio iddynt. [Page 252] Eithr Mr. Ychydig-ffydd oedd o dym­mer arall, yr oedd ei feddwl ef ar be­thau nefol: A phethau ysprydol ac oddi vchod oedd ei gynhaliaeth ef. I ba bwrpas gan hynny y gwerthai fo, yr hwn ydoedd o'r cyfryw dymmer, ei Dlyssau (pe buasai yno vn ai pryna­sai hwynt) i borthi eu drachwantau, â phethau gweigion? A ddyru Gŵr gei­niog i gael llanw ei fola â gwair? Neu a ellwchi beri i'r Colomen Durtur ymborthi ar Cel [...]in, prin. furgyn, megis y gwna'r gigfran? Ac er y dichon y rhai digrêd wystlo, neu werthu r hyn oll a feddont, er mwyn cyflawni eu trachwantau cnaw­dol, a'u hunain hefyd yn lle Gwarthol; etto ni ddichon y rhai y sydd ganthynt ffydd (sef, ffydd Y ffydd sydd â ie­ch [...]d [...]i­aeth yn ei chanlyn hi. iachusol) wneuthur felly, er nad yw eu ffydd ond ffydd wann iawn. A thymma dy gam-gy­meriad di fy Mrawd.

Gob.

'Rwyfi 'n cydnabod hynny; etto eich gwaith chwi yn troi arnaf mor sar­rug, a fu agos a pheri i mi ddîgio wrthych.

Cris.

Pa ham; ni wneuthym i ond dy gyffelybu di i rai o'r adar gwylltion, y rhai a redant yma a thraw ar hyd Llwy­brau nad ydys yn en trammwy. lwybrau anhygyrch, â'r plisc ar eu pennau: Eithr gâd heibio hynny fy mrawd; ac ystyria y peth sydd yn llaw [Page 253] gennym; ac fe fydd pob peth o'r go­rau ryngoti a myfi.

Gob.

'Rwi 'n credu yn fy nghalon, nad oedd y tri chyfaill hynny ond gŵyr Digalon llyfrion: Pe amgen, a redasent hwy ymaith dybygechi, fal y gwnaethant, wrth glywed trwst rhyw vn dyn, yn dyfod yn vnig rhyd y ffordd fawr? Pa ham na buasai Ychydig-ffydd yn cymeryd gwell calon? Yr wyfi 'n tybied y gallasai fo ddal Vn pwy­ad neu ymladdfa. vn tacc ag hwynthwy, ac Rhoddi 'r fuddu­goliaeth. ildo 'r maes iddynt pan y buasent yn myned yn rhy galediddo.

Cris.

Clywais lawer megis chwithe yn eu barnu nhwy 'n llyfwr; eithr nid oes ond ychydig, ar a brofasant y peth felly mewn awr o brofedigaeth. Ac am fod yn fwy gwrol, nid allai Ychy­dig-ffydd fod a'r fath galon a hynny. Ac mi a dybygwn wrthit tithe fy Mrawd, pe buasiti yn ei Le ef, ni fua­siti gwell nag yntef; canys nid ydwyt ti ond tros Ychydig o ymladd. vn taro, ac wedi hynny ni wnai di ond ildo. Ac yn ddiammau, gan mae vchder dy feddwl sy'n peri i ti siarad yn y modd yma, (am eu bod nhw yn awr ym-mhell oddiwrthym) Pe dig­wyddai. pe rhôn iddynt ymddangos i ti, me­gis y gwnaethant iddo ef, hwy a allent beri i ti newid dy feddyliau.

Eithr ystyria drachefn, mae lladron [Page 254] ar gyflog ydynt, yn gwasanaethu Ty­wysog y pwll diwaelod; yr hwn, o'r bydd rhaid, a ddaw ei hun iw cynnor­thwyo hwynt, ai lais ef sydd fal rhuad Llew, 1 Pet. 5. 8. Mi a fùm fy hun yn y Ymlad d­fa. frwydr yma, fal y bu Mr. Ychydig ffydd, a dychrynllyd iawn oedd y p [...]th yn fy marn i. Y tri di­hirin yma a ruthrasant arnaf, a minnau a ddechreuais fal Cristion eu gwrthse­fyll hwy; eithr ni wnaethant ond rho­ddi vn alw; ai meistr a ddaeth ar droad llaw attynt: Yna (megis y mae 'r Ddih [...]reb) y rhoeswm fy Mywyd er Ceiniog: ond fal yr oedd Duw yn mynni, yr oeddwn wedi fy ngwisco ag Arfogaeth brefedig: Ac etto er fy môd wedi fy arfogi felly, fe fu an­hawdd iawn imi ymgadw fy hun fal gwr: Ni ddichon vn Dyn draethu pa fodd y mae arnom yn yr St. rom. ormest hon­no, ond y sawl a fu yn y Ymladd­fa. frwydr ei hun.

Gob.

Eithr hwy a ffoesant, pan y ty­biasant fod Gwr a elwir Grâs-mawr ar y ffordd.

Cris.

Gwir yw, hwynt-hwy a'i Meistr hefyd a ffoesant yn fynych, pan yr ymddangosei Grâs-Mawr; ac nid rhyfedd; canys Rhy­felwr grymmus. Rhyfwr pybyr y Brenin yw efe: Eithr rwi 'n tybied y [Page 255] gwnewchi bêth gwahaniaeth rhwng Ychydig-ffydd a Chawr y Brenin: Nid Cewri y Brenin yw eu holl ddeiliaid ef; ac nis gallant ychwaith, pan y profir hwynt, wneuthyd y fâth waith hynod mewn Rhyfel, ac a ddichon efe e [...] wneu­thur. Ai gwiw [...]oelio, y gallasai rhyw fachgenyn bychan drîn [...]o [...]iah fal y gwnaeth Dafydd? Neu fod nerth ŷch mewn Dryw? Y mae rhai yn Gryfion, a rhai 'n weiniaid, y mae rhai a llawer o ffydd ganthynt, ond nid oes ond ychydig gan rai eraill. Vn o'r Gwei­niaid oedd y Gwr hwn; ac am hynny y syrthiodd efe ir clawdd.

Gob.

Mi ddymunaswn, pe buasei Grâs-Mawr yno, er eu mwyn hwy.

Cris,

Pettasai fo yno gallasai gael ei lawn waith; canys rhaid i mi ddy­wedyd hyn wrthychi, er bod Grâs-Mawr yn dra-medrus â'i Arfau, i amddi­ffyn ei hunan; ac er gwneuthur o ho­naw lawer; ac er y dichon efe etto wneuthur llawer yn erbyn y gelynion hyn, tra y cadwo efe hwynt wrth flaen ei gleddyf; er hynny, os dichon Gwan­galon, Gwangred, ac Euogrwydd ddyfod i mewn atto, a chael gafael arno; deu­gain i vn oni thrippiant ei sodlau ef: A phan elo Gwr i lawr, pa beth a all efe wneuthur.

[Page 256] Pwy bynnag a edrycho 'n graff yn Wyneb Grâs-Mawr, fe a gaiff weled y fath greithiau a thorriadau yno, y rhai a wiriant yr hyn y lefarais i am dano. Ie, mi a glywais vnwaith iddo ddywedyd (a hynny pan yr oedd ef yn y frwydr, iddo ddywedyd meddafi) yr wi'n ofni, y collaf i fy mywyd: Pa fodd y gwnaeth y Drwg­ddynion. dihirwyr cyndyn yma, a'u cyfeillion i Ddafydd riddfan, galaru a rhuo? Ie, fe orfu i Hezekiah a Heman hefyd, er eu bod yn Gewri yn eu dyddiau, ymdrechu 'n galed, pan y rhythrodd y rhain arnynt? Ac er hynny i gyd, hwy a gawsant eu try­baeddu 'n ganthynt. Pedr a chwen­nychodd, ar amser, brofi beth a allai fo ei wneuthur: Ond er bod rhai yn dywe­dyd am dano, mai efe oedd Tywysog yr Apostolion, etto 'r gwyr hyn ai tri­niasant ef felly, fal y parasant iddo o'r diwedd ofni morwynig wael.

Heblaw hyn, y mae eu Beelze­bub. Brenhin hwy'n barod wrth eu chwibanniad: Nid yw e vn amser allan o glyw iddynt; ac os ar ryw achlyssur y digwydda gael o honynt y gwaethaf (os bydd possibl) efe a ddaw ei hun i mewn, i cynnor­thwyo hwynt: Ac am dano ef y gellir dywedyd, mewn rhan yr hyn a ddywe­dir am y Lefiathan; Cleddyf yr hwn ai [Page 257] tarawo ni ddeil; y wayw-ffon, y biccell, na'r llurig; efe a gyfrif haiarn fel gwellt, a phrês fel pren pwdr. Ni phâr saeth iddo ffoi; Cerrig tafl a droed iddo yn sofl. Piccellau a gyfrifir fel soflyn, ac efe a chwardd wrth yscwyd Gwayw­ffon. Pa beth a all gwr wneuthur yn y cyflwr hwn? Gwîr yw, pettai gan wr Farch Job bob amser, a medr a grymmusder i farchogaeth ef, fo a allai wneuthur pethau Hynod. Job 39. 19. nodedig: Canys ei Wddf sydd wedi ei wisco a Tryste. Tharan; ni ddychryna ef fel ceiliog y rhedyn: Dychryn ydyw ardderchawgrwydd ei ffroen ef. Ei draed ef a gloddiant yn y Dyffryn; ac efe a lawenycha yn ei gryf­dwr; ac efe a â allan i gyfarfod Arfau; efe a ddiystyra Ofn. arswyd; ac ni ddy­chryna fe; ac ni ddychwel yn ei ôl rhag y Cleddyf. Y cawell saethau a drystia yn ei erbyn ef; y ddisclair wayw-ffon ar Darian. Efe a lwngc y Ddaiar gan greulondeb a chynddared; ac ni chrêd e mai llais yr Vdcorn yw. Efe a ddywed ym-mhlith yr Vdcyrn, ha, ha, ac a aro­gla ryfel o bell, Swn. Twrf Tywysogion a'r bloeddio.

Ond am y fâth wyr traed a thi a minne, na fydded i ni byth ddymnno cy­farfod â Gelyn, nac ymffrostio (fal pe gallem ni wneuthur yn well) pan glywom [Page 258] i eraill gael eu maeddu; nac ymfalchio wrth feddwl am ein gwroldeb ein hunain; canys y cyfryw rai yn fynychaf a orch­fygir pan brofir hwynt. Y mae 'r Apostol Pedr yn ensampl yn y matter yma, am yr hwn y crybwyllais i o'r blaen; efe a A arfe­rai eiriau vchel. swagrau, ie, a pha beth nis gwnai? Efe a wnai, (megis yr oedd ei galon dwyllodrus yn ei annog ef i ddywe­dyd) fwy nâ neb, ac a safai gyda 'i feistr pan y gadawai pawb ef: Eithr pwy a gafodd y fath ffwyl, a phwy [...] orchfygwyd gan y dihirwyr hyn, fal y gorchfygwyd ef?

Nyni a ddylaem gan hynny gyflawni dau ddyledswydd, pan y clywom wneu­thur y fath anrheithiadau ar ffordd fawr y Brenhin. Yn Gyntaf, arfogi ein hu­nain, pan yr elom allan ynghylch ein gorchwylion; a bôd yn siwr i gymme­ryd ein Tarian gydâ ni; canys dymma 'r achos, (sef, am ei fod heb y Darian hon) pa ham y methodd yr hwn a oso­dodd mor gefnog ar Leviathan, ei orchfygu ef; canys mewn gwirionedd, os bydd honno 'n eisiau, nis ofna fe mo honom ni. Am hynny y dywedodd yr hwn oedd fedrus, Vwch law pob dim, cymmerwch darian y ffydd, âr hwn y gellwch ddiffoddi holl Biccellau tanllyd y fall, Eph. 6. 16.

[Page 259] Da fyddai, i ni hefyd alw ar y Sef, Crist. Bre­nin am gynnorthwy; ie, ar iddo ddy­fod ei hun gyda ni: Canys dyna 'r peth a wnaeth i Ddafydd orfoleddu, pan yr oedd efe yn Nyffryn Cyscod Angau; a gwell oedd gan Foesen farw yn y fann lle'r oedd e 'n sefyll, na myned cym­maint ac vn cam heb ei Dduw gydag ef. O fy mrawd! Os efe a â gyda ni; pa raid i ni ofni rhag Deng­mil. Myrddiwn o rai a ymosodant yn ein herbyn: Ond hebddo ef, y cynnorthwywyr beilchion a grynant, ac y syrthiant. Psal. 23. 4. Exod. 33. 15. Psal. 27. 1, 2, 3. Job 9. 13.

O'm rhan i, myfi a fum yn y frwydr hon cyn hyn; ac er diangc o honof yn fyw (trwy ddaioni a gallu yr Holla­lluog) etto, nid oes achos gennif i ym­ffrostio am fyng-wroldeb. Fe fydd llawen gennif, os ni chyfarfyddaf yn ol hyn, â'r fath y mdriniaeth; er fy mod yn tybied nad aethom ni etto tu hwnt i bob enbydrwydd. Pa wedd bynnag, gan na ddarfu ir Llew na'r Arth mo'm difa hyd yn hyn, yr wyf yn gobeithio hefyd, y gwared Duw ni, oddiwrth y Philistiad di-enwadedig nessaf. Yna y canodd Cristion fal hyn.

Ychydig-ffydd,
Ym mha Le.
ble buost di?
Ai ynghwmpeini lladron?
[Page 260] Ai felly gwnaeth
Y dry­gionus cornwyd­llyd.
yr enwir blâ,
Ai'th bocced yspeiliason?
Cais gan hynny ychwaneg ffydd,
Os mynni
Tyrfa­oedd, lla­weroedd.
Dorfydd orfod;
Fal hyn dros ddengmîl yr âi di,
Onid e mae tri yn ormod.

Felly hwy a aethant ym-mlaen, ac An­wybodaeth ai canlynodd: Hyd oni ddaethant lle yr oedd ffordd arall yn dyfod iw ffordd hwynt; yr hon a ym­ddangosai mor vniawn, a'r ffordd oedd­ganthynt hwy i fyned rhyd-ddi: [...] ni wyddent hwy yma, p'un or ddw [...] [...] gymmerent; canys yr oedd pob vn [...] vnion o'i blaen hwynt; Ac am hynny, hwy a fafasant yma dro i ystyried▪ Ac fal yr oeddent yn myfyrio yng­hylch y ffordd; Wele wr o wyne [...] pryd go-ddû yn dyfod attynt, wedi ei ddilladu â gwisc wen iawn, ac yn go­fyn iddynt, pa ham yr oeddynt yn se­fyll yno? Hwythau a'i hattebasant ef, eu bod yn myned tua'r Ddinas nefol, ond nis gwyddent pa vn o'r ddwy ffordd a gymmerent. Dilynwch fi eb'r Gwr, canys yno yr ydwyf innau 'n myned. Felly hwy ai canlynasant ef, ar hyd y ffordd newydd, yr hon oedd yn arwain ir brif-ffordd: A'r ffordd ymma bob yn ychydig a droodd, ac y droodd, ac a'u harweiniodd hwynt, [Page 261] oddiwrth y Ddinas; yr hon yr oeddent yn chwennychu myned iddi; hyd onid oeddent mewn ychydig amser, wedi troi eu hwynebau oddiwrthi; er hyn­yy hwy ai canlynasant ef. Eithr ym mhen ennyd, fo ai tywysodd hwy i rwyd yn ddiarwybod iddynt; yn yr hon y maglwyd hwy cill dau, mal na wyddent pa beth a wnaent: Ac ar hynny, y wisc wen a syrthiodd oddi am Gefn y Gwr dû: Yna y gwybuant ym­mha le yr oeddynt; ac yno y buont [...] dalm o amser yn cwyno, ac yn [...] neidio, canys yr oeddent yn methu [...]od allan o'r rhwyd.

Cris.

Yna ebe Cristion wrth ei gydy­maith; yn awr yr wyf yn gweled fy [...]hamsynnied. Oni archodd y Bugei­ [...]id i ni ochelyd y Gwenhieithiwr? Y mae gennym brofiad yr awrhon, mai gwir a ddywedodd y Gwr doeth, sef, y Dihar. 29. 5. Dyn a ddywedo weniaith wrth ei Gym­mydog, sydd yn tannu rhwyd iw draed ef.

Gob.

Hwy a roddasant i ni hefyd ys­crifen o gyfarwyddiad am y ffordd, fal y gallem ei chadw hi yn siccrach: Eithr fe ddarfu i ni Gollwng dros gôf. ebergofi ddarllen yn honno hefyd, ac nid ymgadwasom rhag lwybrau yr yspeiludd. Yn hyn yr [...]edd Dafydd yn ddoethach nâ ni; ca­nys eb efe, Tu ag at am weithredoedd Psal. 17. 4. [Page 260] [...] [Page 261] [...] [Page 262] Dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ym­gedwais rhag llwybrau yr yspoiludd. Fal hyn y buant yn cwyno ac yn ymo­fidio, am eu bod mewn cyflwr true [...] yn y rhwyd. O'r diwedd, hwy [...] ganfuant wr, mewn gwisc ddiscl [...] yn dyfod tu ag attynt, â Chwip. fflangell o Gyrd mân yn ei law; ac wedi iddoddyfod attynt, fe ofynnodd iddy [...]t, o ba le yr oeddynt yn dyfod? A [...] [...] beth yr oeddynt yn ei wneuthur y [...]o? Hwythau a ddywedasant, ma [...] [...]reri­nion tlodion oeddynt, yn myn [...]d tua Sion, eithr wedi eu hudo allan o'u ffordd gan wr dû, wedi ei ddilladu mewn gwisc wen; yr hwn (ebe nhwy) a archodd i ni ei ganlyn ef; canys yr oedd yntef (meddai fo) yn myned tuag yno hefyd. Yna ebr hwn oedd â'r chwip yn ei law, Gwenhieithiwr, y­dyw fo, a gau Apostol, yr hwn a ym­rithiodd i rith Dihar. 29. 5. Angel goleuni. Felly efe a dorrodd y Rhwyd, ac a'u gollyngodd Dan. 11. 32. hwynt allan. Yna ebe fe wrthynt hwy, canlynwch fi, fal y gosodwyf chwi areich 2 Cor. 11. 13. 14, ffordd drachefn; felly efe ai tywy­sodd yn eu hôl i'r ffordd, yr hon a adawsent hwy i ganlyn y Gwenhieithi­wr. Yna efe a ofynnodd iddynt, ym mha Le y lletteuasoch neithiwr? Hwy­thau a attebasant, gydâ'r Bugeiliaid ar [Page 263] y mynyddoedd hyfryd. Gofynnodd iddynt ym-mhellach, oni chawsoch gan y Bugeiliaid yscrifen o hyspysrwydd am [...] ffordd? Hwythau a attebasant, caw­ [...]m. Eithr ebe efe, pan yr oeddech [...] ammheuo ynghylch y ffordd; a edrychasoch chi yn yr yscrifen honno i gael cyfarwyddiad am dani? Na ddo ebe nhwythau. Paham nas gwnaethoch [...] ebe yntef? Ni a anghofiasom wneuthur hynny ebr Pererinion. Yna y gof [...]nnodd efe iddynt ym-mhellach; oni [...]ybyddiodd y Bugeiliaid chwi i ocheryd y Gwenhieithiwr? Do ebe nhw: Eithr nid allem ni dybied, mai'r Gwr Tafod-ber ymma ydoedd efe. Rhuf. 16. 18.

Yna yn fy Mreuddwyd, mi a glywn yr vn disclair yn gorchymyn iddynt or­wedd i lawr; yr hyn pan y gwnae­thant, efe ai curodd hwy 'n dost; i beri iddynt gofio yn well y ffordd dda, yn yr hon y dylasent rodio ynthi; ac wrth eu fflangellu hwynt, efe a ddy­wedodd; yr wyfi yn argyoeddi, ac yn ceryddu y sawl yr wyf yn eu caru: Am hynny bydded Zêl gennit, ac edifarhâ. Ac wedi iddo wneuthur felly, efe a ar­chodd iddynt fyned iw ffordd; ac i fod yn fwy gofalus i ddal sulw rhagllaw, ar Hyfforddiadau eraill y Bugeiliaid. Deut. 25. 2. 2 Chron. 6. 26. 27. Dat. 3. 19. [Page 262] [...] [Page 263] [...] [Page 264] Felly hwy a ddiolchasant iddo am ei holl garedigrwydd, ac a aethant yn araf, ar hyd y ffordd vnion, dan ganu:

Y sawl sy'n rhodio llwybrau 'r Saint;
Edrychwch faint yw'r archoll,
A gafodd Pererinion
Mwyn­ion.
gwar;
Am fyned ar gyfyrgoll.
Mewn rhwydau, maglau myglyd maeth,
Eu dal yn gaeth a wnaethpwyd;
Am eu gwaith nhw 'n gwrthod gwîr
Gynghorion difyr, dofwyd.
Gwir ydyw, iw gwaredydd pûr;
Eu dwyn o'u cûr a'u cystydd:
Ond derbyniasant flangell
Anned­wydd.
drwch:
Am hyn cymerwch rybydd.

Yn awr ym-mhen ennyd, hwy a gan­fuant (o hirbell) vn yn dyfod yn araf wrtho ei hun, ar hyd y ffordd fawr, iw cyfarfod hwynt. Yna ebe Cristion wrth ei gydymaith, Daccw wr, â'i gefn tuâ Sion, ac y mae fo 'n dyfod i'n cyfarfod ni.

Gob.

Mi a'i gwelaf ef yn dyfod: Edrychwn attom ein hunain yn awr, rhag iddo yntef fod yn Wenhieithiwr hefyd: Felly efe a ddaeth nes-nes; ac o'r diwedd a ddaeth i fynu attynt (a'i enw ef oedd Dyn nad yw'n credu fod Duw. Athyst) ac efe a ofynnodd iddynt, i ba le yr oeddent yn myned?

Cris.

Ye ydym ni 'n myned ebe nhwy­thau, i Fynydd Sion. Y na y chwar ddodd Athyst yn groch iawn.

Cris.
[Page 265]

Pa ham yr ydych yn chwerthin ebe Cristion?

Athyst.

Yr ydwyf yn chwerthin i weled eich anwybodaeth; ac am i chwi gymmeryd cyn flined siwrnai; Pan nad ydychi debig, i gael dim ond eich poen, yn lle'ch Trafel. llafur.

Cris.

Pa ham Ddyn? Ai tybied yr wyti, na dderbynir mo honom ir Ddi­nas nefol?

Athyst.

Eich derbyn! Nid oes mor cyfryw lê ac yr ydych chwi 'n breu­ddwydio am dano yn yr holl fyd yma.

Cris.

Eithr y mae ef yn y byd a ddaw.

Athyst.

Pan yr oeddwn i gartref yn fy ngwlad fy hun; Mi a glywais rai yn siarad megis yr ydychi yr awr-on, am y cyfryw Ddinas, ac wrth glywed hyn­ny; mi a ymadawais â 'm Gwlâd; ac a fum yn ymofyn am y Ddinas hon, ys vgain mlynedd; eithr ni bum i ddim cymhennach; ac ni welais i fwy o ho­ni nâ 'r dydd cyntaf yr aethum allan. Preg. 10. 3,

Cris.

Nyni a glywsom, ac yr ym ni'n credu fod y cyfryw le iw gael.

Ath.

Oni buasai i minne gredu hyn­ny, pan yr oeddwn gartref; ni ddae­thwni cyn belled a hyn, i ymofyn am dani: Eithr gan na chefais i 'r fath le (ac etto myfi a'i cawswn, pettaisai iw chael; canys mi a aethym i ymofyn [Page 266] am y Ddinas hon ym-mhellach nâ chwi) yr wyfi 'n myned yn ôl drachefn; ac mi a ymdrechaf i Gom­fforddi, ffreshán. adfywio fy hun, â'r pethau a fwriais i ymmaith y pryd hynny, mewn Gobaith i fwynhau y pethau, yr ydwyf yn weled yn awr nad ydynt iw cael.

Cris.

Yna ebe Cristion wrth ei gydy­maith Gobeithiol; a'i gwir yw'r hyn a ddywaid y Gwr yma?

Gob.

Goche­lwch. Gwiliwch, vn o'r gwenhieith­wyr ydyw fo; cofiwch beth a go­stiodd i ni eisus, am wrando ar y fath gydymmeithion a'r rhain. Pa beth! Nid oes mor fath le a Mynydd Sion? Oni welsom ni Byrth y Ddinas, oddiar bennau y mynyddoedd hyfryd? Ac he­fyd, onid ydym ni 'n awr i fyw wrth ffydd, ac nid wrth olwg? Awn rha­gom, ebe Gobeithiol, rhag i'r Gwr â'r 2 Cor. 5. 7. chwip yn gorddiwes ni drachefn.

Chwychwi a ddylasech ddyscu 'r wers yma imfi, yr hon a ddyscafi yr­wan i chwi. Fy Mâb, paid a gwrando Dihar. 19. 27. H [...]b 10. [...] yr addysc, a bair i ti gyfeiliorni oddi­wrth eiriau gwybodaeth. Fy Mrawd (meddaf) paid a gwrando arno ef, a [...]hrodwn i gadwedigaeth yr Enaid.

Cris.

Fy Mrawd, ni ofynnais i mo'r Cwestiwn yma [...], o herwydd fy mod yn [...] o'r gwirionedd, yr hyn yr [Page 267] ym ni yn ei gredu, ond i'th brofi di; ac i gael gweled ffrwyth honestrwydd dy galon. Ac am y gwr yma, myfi a wn ei fod ef gwedi ei ddallu gan Dduw 'r byd hwn: Awn rhagom, gan wybod ein bod yn credu 'r gwirionedd, yn yr hwn nid oes gelwydd. 1 Joan 2. 21.

Gob.

Yr wyf yn gorfoleddu yn awr, mewn gobaith i feddiannu gogoniant Duw: Felly hwy a droesant eu cefnau ar y gwr; ac yntef a aeth iw ffordd dan chwerthin.

Yna y gwelwn y Pererinion yn my­ned yn eu blaen, hyd oni ddaethant i ryw wlâd, lle yr oedd yr awel yn na­turiol yn peri i ddynion gyscu; (yn en­wedig os Dieithriaid fyddent:) Ac yma y dechreuodd Gobeithiol fod yn farwedd iawn, ac yn drwmluog gan gyscu; am hynny ebe fe wrth Gristion, yr wyfi 'n awr mor gysclyd, fal mai prin yr ydwyf yn gallu cadw fy llygaid yn agored: Gorweddwn yma a chym­merwn hûn.

Cris.

Na wnawn (ebe fe) mewn modd yn y byd, rhag wedi cyscu na ddeffròm mwyach.

Gob.

Pa ham fy Mrawd, melys yw hûn y Gweithwr, fe allai yr adfywid ni, os cysgwn ychydigyn.

Cris.

Onid ydychi 'n cofio i vn o'r [Page 268] Bugeiliaid erchi i ni ochelyd rhag y tir y reibiwyd? Ei feddwl ef, wrth ddywe­dyd felly ydoedd, am i ni ochelyd Cysgu; am hynny na chyscwn fel rhai eraill, eithr gwiliwn a byddwn sobr. 1 Thes. 5 6.

Gob.

Yr wyf yn cydnabod fy môd i ar fai; a phettaiswn yma yn vnig, buaswn debyg i gyscu hyd Angau. Mi a welaf mai gwîr a ddywedodd y gwr doeth; gwell yw dau nag vn. Truga­redd mawr y fu dy gyfeillach di i myfi hyd yn hyn; a thi a dderbynni wobr am dy lafur. Preg. 4. 9.

Cris.

Yna ebe Cristion, gadewch i ni ymddiddan ynghylch rhyw beth buddiol, fal y bo i ni trwy hynny gadw ein hunain yn effro.

Gob.

O ewyllys fy nghalon ebr llall.

Cris.

Pa le y dechreuwn.

Gob.

Dechreuwn os gwelwch fod yn dda, ynghylch y modd y dechreuodd Duw Weithio grâs y [...]om ni. ddelio â nyni: Eithr ebe Cristion, mi a ganaf i chwi'n gyntaf y gân hon.

Pan fyddo'r duwiol werin,
A chŵsc iw tryblio 'n dra-blin;
Gwrandawent yr ymddiddan clau,
Sydd rhwng y ddau Bererin:
A dyscent gymryd cyffro,
Ai cadw ei hun yn effro;
Rhag cael arnynt ormod gwall,
A bod i'r fall eu twyllo.
[Page 269] Am hyn, i'r Sawl sy berffaeth,
Cwmpeini 'r Saint sydd odiaeth;
I gadw eu llygaid rhag cau ynghŷd,
Er gwaetha 'r yspryd diffaeth.
Cris.

Yna Cristion a ddechreuodd, ac a ddywedod, myfi a ofynnaf i chwi vn cwestiwn: Pa fodd y daethochi ar y cyntaf, i feddwl am y pethau, yr ydych chi yn awr yn eu gwneuthur?

Gob.

A'i meddwl yr ydych, pa fodd y daethym i ar y cyntaf, i ymofyn am iechydwriaeth fy Enaid?

Cris.

Ie, hynny yw fy meddwl i.

Gob.

Myfi a fum dalm o amser yn cymmeryd hyfrydwch, yn y pethau a welid, ac a werthyd yn ein ffair ni; pethau 'rwyf yn credu yr awrhon (pe buaswn yn eu canlyn yn wastadol) a fuasent yn fy arwain i, i golledigaeth a destryw.

Cris.

Pa bethau oeddent hwy?

Gob.

Holl dryssorau a chyfoeth y Byd. Ac hefyd mi a gymmerais hy­frydwch mawr, Mewn gormodd o fwytta ac yfed. mewn Cyfeddach, Meddwdod, Tyngu, Rhegu (gan offrwm fy enaid ir Diawl) dywedyd Celwydd, Aflendid, Torri'r Sabbath; A pheth nis gwnawn i, er gosod o honof fy enaid, mewn stât o ddamnedigaeth trwy hynny? Eithr deallais o'r di­wedd, wrth wrando ac ystyried gei­riau [Page 270] Duw, y rhai a glowais i allan o'ch g [...]nau chwi, ac hefyd o enau Ffyddlon f [...]n [...]igedig, (yr hwn a ddioddefodd far­wolaeth yn ffair Gwagedd, am ei ffydd ai fuchedd dduwiol,) sef, mai diwedd y pethau hyn yw marwolaeth: Ac mai o­b [...]gid Rhuf. 6. 2 [...]. Eph. 5. [...]. y pethau hyn, y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufydd-dod.

Cris.

A ymroesochi yn ddioed, i dder­byn yr argyoeddiad honno?

Gob.

Na ddo; nid oeddwn yn ewy­llysgar yn D [...]da­ri [...]g. ddiattreg, i adnabod y gwenwyn a'r drwg y sydd mewn pe­chod; nar ddamnedigaeth y sydd yn ei ddilyn ef; eithr pan y dechreuodd fy nghalon grynu dan y gair; mi a e­wyllysiwn gau fy llygaid yn erbyn go­leuni 'r gair.

Cris.

Eithr pa beth oedd yr achos, pa ham yr ymddygasoch fal hyn, tan weithrediadau cyntaf yr yspryd glân ynoch chwi?

Gob.

Yr achosion oeddynt, yn gyntaf, am nas gwyddwn i, mai gwaith ys­pryd Duw oedd yr argyoeddiadau y­ma: Ac ni wybûm i erioed o'r blaen; mai trwy ddeffroad am bechod, yr oedd Duw yn dechreu gweithio troe­digaeth pechadur. Yn ail, yr oedd pe­chod yn felys etto i'm cnawd; ac yr oedd yn anodd gennif ymadel âg ef. [Page 271] Yn drydydd, ni wyddwn i, pa fodd yr ymadawn a'm hên Gyfeillion, gan mor ddymunol yr oedd eu cwmpeini, eu hymadroddion, a'u gweithredoedd gen­nif. Yn bedwerydd yr oedd yr Awrau. o­riau hynny, yn y rhai yr argyhoeddit fi am fy mhechod, mor gythryblus, ac mor ddychrynllydd im mi, fal na allwn gymmaint a meddwl am danynt, heb Ofn. arswyd yn fy nghalon.

Cris.

Mae'n dybygol wrth hynny, eich bod weithie, yn cael esmwythdra, oddi­wrth y trwbwl, yr oedd yr argyoeddiadau yma yn ei weithio ynoch.

Gob.

Oeddwn yn ddiau, eithr hwy a ddeuent im côf drachefn; ac yna y by­ddwn cynddrwg, ie yn waeth fy nghy­flwr, nag erioed or blaen.

Cris.

Pà ham beth oedd yn peri i chwi atgofio'ch pechodau drachefn?

Gob.

Llawer o bethau; megis, pan y cyfarfyddwn â gwr duwiol yn y ffordd; yr olwg arno ef (yr hwn oedd wedi troi oddiwrth ei bechodau) oedd yn fy argyoeddi i, yr hwn ni throiswn etto oddiwrthynt. Ac yn nessaf, pan y clywn neb yn darllain y Bibl: Neu pan y clywn fod rhai o'm cymmydogion yn gleifion; neu bod clôch yn canu, am fod rhyw vn wedi marw: Ac hefyd pan y byddwn clâf fy hunan, ac y me­ddyliwn, [Page 272] y deuai 'r amser, yn yr hwn y gorfyddai arnafi farw m [...]gis eraill: Ac yn enwedig. bendifaddeu, pan y clywn i am Angeu disyfed, a ddigwyddodd i rai o'm cymmydogion; ond yn ben­naf [...]. tu hwnt i ddim, pan y meddyliwn, y gorfyddai arnaf fy hun ddyfod ir Farn ar fyrder.

Cris.

Eithr a allechi vn amser, fwrw ymaith Euogrwydd pechod yn hawdd, pan y cymmerai afel arnoch, trwy vn o'r pethau hyn?

Gob.

Na allwn; canys y pryd hyn­ny, hwy a wascent yn drymmach ar fy nghydwybod. Ac yna, os meddyliwn am droi yn ôl at fy mhechodau (er fod gennif fwriad i ymadel ag hwynt) fe fyddai hynny boen dau-ddyblig im fi.

Cris.

A pha fodd y gwnaech y pryd hynny?

Gob.

Mi a feddyliais, fod yn rhaid i mi wellháu fy muchedd; onid e ebe fi, y mae 'n siccir gennif y byddaf dam­nedig.

Cris.

Ac a ddarfu i chwi Ymdre­ch [...]. ymegnio i wellháu eich buchedd?

Gob.

Do, gan droi nid yn vnig oddi­wrth fy mhechodau; ond hefyd, oddi­wrth pob cwmpeini annuwiol a dry­gionus: Ac mi a ymroddais i gyflawni dyledswyddau crefyddol; megis gwe­dio, darllain, galaru am fy mhechodau, [Page 273] dywedyd y Gwîr wrth fy nghymydo­gion &c. dymma 'r pethau y wneu­thum, a llawer eraill, gormodd i had­rodd yn y mann yma.

Cris.

A oeddych chi 'n tybied, eich bod weithian mewn cyflwr daionus?

Gob.

Oeddwn dros ennyd; eithr o'r diwedd, daeth gofyd ar ar fy­nhraws. fy ngwartha bendramwngl drachefn; a hynny wedi i mi wellhâu fy muchedd.

Cris.

Pa fodd y digwyddodd hynny, gan eich bod yn awr wedi adnewyddu eich buchedd.

Gob.

Yr oedd amryw o bethau yn peri ir gofyd hwnnw ddyfod arnaf dra­chefn; yn enwedig y cyfryw ymadro­ddion a'r rhain; Ein holl gyfiawnderau ydynt megis brattiau budron: Ni chy­fiawnheir vn cnawd trwy weithredoedd y Esay 64. 6. ddeddf: Wedi i chwi wneuthur y cwbl oll, ac y orchymmynnwyd i chwi, dywe­dwch, Rhuf. 3. 20. Luc. 17. 10. Gweision ansuddiol ydym; yng­hyd a llawer mwy o'r cyfryw ymadro­ddion. Ac oddiwrth hynny, yr oeddwn yn ymresymmu ynof fy hun fal hyn: Os ydyw fy holl gyfiawnderau i fal brat­tiau budron, os ni chyfiawnheir vn cnawd trwy weithredoedd y Ddeddf; ac os nad ydym ond gweision anfuddiol wedi i ni wneuthur y cwbl oll, ac a orchymynnwyd; yna ffolineb mawr yw ceisio 'r Nefoedd [Page 274] crwy weithredoedd y Ddeddf. Mi a fe­ddyliais hefyd ym-mhellach fal hyn. Os â gwr mewn Dyled i sioppwr gant o bynnau; a thalu am yr hyn oll a elo ganddo o'r siop yn ol hynny; etto er hynny i gyd, os bydd ei hên ddyled yn aros ar y Llyfr yn wastadol, heb ei groesi, fe ddichon y sioppwr gwyno arno am ei hên ddyled, ai fwrw yng­harchar hyd oni thalo ef y dyled hynny.

Cris.

Wele, pa ddefnydd a wnaethoch o'r pethau hyn?

Gob.

Mi a feddyliais ynof fy hun fal hyn; myfi, trwy fy mhechodau, a re­dais ar yscôr ym-mhell yn Llyfr Duw; ac nad oedd fy ngwellhád presennol yn talu mo'r Dyled hwnnw: Ac am hyn­ny y Dylwn i feddwl yn wastadol (dan fy holl gyfnewidiadau) pa fodd y rhyddheit fi, oddiwrth y ddamnedigaeth, oedd ddyledus im fi am fy nhrosse­ddiadau o'r blaen.

Cris.

Defnydd da ydoedd hynny, ar­dolwyn ewch rhagoch.

Gob.

Peth arall am blinodd, er pan ddechreuais yn hwyr wellháu fy mu­chedd ydoedd hyn: Sef, pan edry­chwyf yn fanol ar y pethau goreu yr y­dwyf yn eu gwneuthur yr-wan; yr wyf yn canfod pechod yn wastadol (ie pe­chodau newydd) ynghymysc â'm gwei­thredoedd [Page 275] goreu; hyd onid ydwyf yn hyrwym yn awr i farnu (er fy holl Fe­ddyliau anghall a balch, am danaf fy hun a'm Dyledswyddau o'r blaen) ddar­fod i mi drosseddu digon, wrth geisio cyflawni vn dyledswydd, i beri 'm dan­fon i Uffern, ped fuasai fy muchedd i gynt yn ddifeius.

Cris.

A pha beth gwedyn a wnae­thoch?

Gob.

Nis gwyddwn pa beth a wnawn, hyd oni adroddais fy meddwl wrth Ffyddlon; canys yr oeddem ni yn gyd­nabyddus iawn ai gilydd. Ac efe a ddywedodd wrthif; oddieithr i mi gael Cyfiawnder vn na phechasai eri­oed; nas gallai na'r eiddof fy hun, na chyfiawnderau 'r holl fyd mo 'm hachub.

Cris.

A oeddechi 'n tybied ei fod e 'n dywedyd gwir?

Gob.

Ped fuasai 'n dywedyd felly wrthif, pan yr oeddwn yn ymhyfrydu, ac yn ymfodloni yngwellháad fy mu­chedd; mi a'i galwaswn ef yn ynfyd am ei Ei waith▪ drafel; eithr yn awr, gan fy môd yn gweled fy ngwendid fy hun, a'r pechodau, sy 'n glynu wrth fy ny­ledswyddau goreu, fe orfydd i mi fod o'r vn meddwl ac yntef.

Cris.

Eithr a oeddechi yn tybied (pan y dywedodd efe gyntaf hynny wrthych) [Page 276] fod y fath wr iw gael; am yr hwn y gellid dy­wedyd yn Eon, hyf, na wnaeth e Bechod erioed?

Gob.

Y mae 'n rhaid i mi gyfaddef, fod yn go-ryfedd gennif glowed y geiriau hyn ar y cyntaf; eithr yn ôl ymddiddan âg ef ym-mhellach, a chael a honof ychydig anghwaneg o'i gyfei­lach, fo a roddes i mi gyflawn fodlon­rwydd am y pe [...]h.

Cris.

A ofynnasochi iddo ef pwy ydo­edd y gwr hwn; a pha fodd y caechi eich cyfiawnhau trwyddo ef?

Gob.

Do, ac efe a ddywedodd, mai'r Arglwydd Jesu ydoedd, yr hwn sy'n eistedd ar ddeheulaw y Goruchaf. Ac Heb. 10. Rhuf. 4. Col. 1. 2 Pet. 1. fal hyn, eb efe, y cyfiawnheir chwi trwyddo ef; sef trwy ymddiried yn yr hyn a wnaeth ef yn nyddiau ei gnaw­doliaeth, a'r hyn a ddioddefod e pan ynghrog ar bren. Mi a ofynnais iddo ym mhellach, pa fodd y gallai cyfiawn­der y gwr hwn Fod â'r fath rym a rhinwedd yntho. fod yn effeithiawl, i gyfiawnhau vn arall ger bron Duw? ac fo a ddywedodd, mai y Duw hollalluog ydoedd efe; ac iddo wneuthur yr hyn a wnaeth, a marw hefyd, nid trosto ei hun, ond trosofi; ac y cyfrifyd ei vfydd-dod ef, a'i haeddedigaethau i my­fi, os credwn i yntho.

Cris.

A pha beth a wnaethoch W [...]di hynny. gwedyn?

Gob.

Eithr myfi a wrth-ddyw [...] nas gallwn i gredu fod Crist yn ewyllys­gar i'm achub.

Cris.
[Page 277]

Pa beth a ddywedodd Ffyddlon am hynny?

Gob.

Efe a archodd i mi fyned atto, a Trio. phrofi, pa vn a wnai ef, am hachub i ai peidio. Yna minne ai hattebais, mai rhyfyg ydoedd hynny. Yntef Mat. 11. 28. a ddywedodd nage; canys fe'th wa­hoddwyd i ddyfod atto. Yna fe a roddodd i mi lyfr o Yscrifen­niad. argraphiad Jesu ei hun; i'm hannog i ddyfod atto yn conach. hyfach. Ac efe a ddywedodd am y Llyfr hwnnw, fod pob jot a thitl o honaw ef, yn fwy parhaus a safadwy nâ'r Nefoedd a'r Ddaiar, Mat. 24. 35. Yna mi a ofynnais iddo, pa beth a wnawn pan ddelwn atto? yntef a ddy­wedodd wrthyf, fod yn rhâid i mi ym­bil (ar fy ngliniau, â'm holl Galon, ac Psal. 95. 6. am holl Enaid) ar y Tád, am ei ddat­cuddio ef i mi. Wedi hynny mi a ofyn­nais Jer. 29. 13. iddo ym-mhellach; ym-mha Le y gellwn i gael cyfarfod ag ef? Ac yntef a'm hattebodd; Dôs, a thi a gai ei gy­farfod Exod. 25. 22. ef, ar orseddfa o drugaredd; lle y mae'n eistedd trwy'r holl flwyddyn, i roddi gollyngdod a maddeuant i'r sawl a ddeuant atto. Minne a ddywedais, nas gwyddwn i pa beth i ddywedyd wrtho, pan y delwn atto. Yna eb efe, dywed wrtho i'r pwrpas hyn. Duw bydd drugarog wrthif Bechadur; a phâr [Page 278] i mi adnabod Jesu Grist, a chredu yntho: Canys mi a welaf, pettaisai ei Gyfiawnder ef heb fod, ac oni bydd gennif inne ffydd i gredu y cyfiawnheir fi, trwy ei gyfiawnder ef, ddarfod am danaf yn dragywydd: Arglwydd mi a glowais dy fod di yn Dduw trugarog, ac i ti ordeinio dy F [...]b Jesu Grist i fod yn Jachawdwr y Byd: ac ym-mhellach, dy fod di yn ewyllysgar i roddi ef, i fod yn Achubwr, i'r fath Bechadur truan ac ydwyfi (ac yn wir yr wyfi yn Bechadur mawr) Cymmer gan hynny Aaglwydd yr odfa hon, a gogone­dda dy ras ynghadwedigaeth fy Enaid i, trwy dy fab Jesu Grist. Amen.

Cris.

A wnaethochi fal y gorchymyn­nwyd i chwi?

Gob.

Do drachefn, a thrachefn.

Cris.

A ddarfu i Dduw ddatcuddio ei Fab i chwi?

Gob.

Na ddo, y tro cyntaf, na'r ail, na'r trydydd, na'r bedwarydd, na r bymmed, nac etto ar y chweched waith.

Cris.

Pa beth a wnaethoch ar ôl hynny?

Gob.

Pa beth a wneuthym? nis gwy­ddwn i pa beth a wnawn.

Cris.

Oni feddyliasochi roddi heibio gweddio?

Gob.

Do ganoedd o weithiau.

Cris.

A pha ham nas gwnaethoch felly.

Gob.
[Page 279]

Am fy mod yn credu mai gwîr oedd yr hyn a ddywedpwyd wrthif; sef, heb gyfiawnder Crist nas gallai 'r holl fyd fy achub i: ac am hynny mi a feddyliais ynof fy hunan; os rhoddaf heibio weddio, marw fyddaf; ac nis gallafi ond marw, os gweddiaf O flaen gorseddfaingc y Gras. Ac ar hynny fe ddaeth y geiriau hyn im côf; os erys y weledigaeth, disgwyl am dani; canys gan ddy fod y daw, ac nid oeda. Felly mi a ddyfal barhèais yn Gweddio, hyd oni ddat-cuddiodd Duw ei Fab im fi. Hab. 2. 3.

Cris.

A pha fodd y datcuddiodd Duw ef i chwi?

Gob.

Ni welais i mo honaw ef â'm llygaid corphorol, ond a golwg o ffydd; (gan fod a llygaid fy meddwl wedi eu goleuo) Eph. 1. 18. ac fel hyn y bu. Yr oeddwn ar Ddiwrnod yn athryst iawn (i'm tyb i yn drystach nag y bum i vn amser om heinioes) a'r trystwch hwn a ddaeth ar­naf, wrth weled o newydd fawredd a ffieidd-dra fy mhechodau: A phan nad oeddwn y pryd hynny yn disgwyl am ddim, ond am Uffern, a damnedigaeth tragwyddol i'm henaid; mi a dybiais yn ddisymmwth, weled o hnof yr Ar­glwydd, yn edrych i lawr o'r Nefoedd arnaf, ac yn dywedyd wrthif, crêd yn yr Arglwydd Jesu, a chadwedig fyddi. Act. 16. 30, 31.

[Page 280] Eithr myfi a attebais, Arglwydd, yr wyf yn Bechadur, oh yn Bechadur mawr dros ben: Yntef a attebodd, di­gon i ti fy ngrâs i. Yna y dywedais inne, Arglwydd pa beth yw Credu? A gwedi hynny y deallais i, oddiwrth yr ymadrodd yma (yr hwn sy'n dyfod Joan. 6. 35. attafi ni newyna: a'r hwn sy'n credu ynofi ni sycheda vn amser) mai'r un peth yw credu Yn-Ghrist a dyfod atto: a bod yr hwn sydd yn dyfod atto, hynny yw, y sy'n sychedu yn ei Galon, yn ôl Je­chydwriaeth trwy Grist, fod hwnnw (meddafi) yn credu yntho mewn gwi­rionedd. Yna, a'r dwfr yn sefyll yn fy llygaid, mi a ofynnais iddo ym­mhellach; Arglwydd, a ddichon y fath Bechadur mawr ac a wyfi, gael ei dderbyn genyt, a bod yn gadwedig trwyddot? Ac yntef a attebodd, Yr hwn a ddel attafi, nis bwriaf ef allan Joan. 6. 37. ddim. Yna mi a ddywedais; eithr pa fodd Arglwydd y mae 'n rhaid i mi dy ystyried di, wrth ddyfod attad; fal y byddo fy ffydd wedi ei gosod ei chyfléu yn vnion arnati? Yna efe a ddywedodd, Crist Jesu a ddaeth i'r Byd i gadw pe­chaduriaid. 1 Tim. 1. 15. Crist yw diwedd y Ddeddf er cyfiawnder i bob vn sy 'n Credu. Efe Rhuf. 10. 4. a draddodwyd tros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i'n cyfiawnhau ni. Efe a'n Rhuf. 4. 25. [Page 281] carodd ni, ac a'n golchodd ni oddiwrth ein Dat. 1. 5. 1 Tim. 2. 5. pechodau, yn ei waed ei hun. Efe yw y cyfryngwr rhwng Duw a ni. Y mae ef Heb. 7. 24, 25. yn byw bob amser i weddio. erfyn trosom ni. Oddiwrth yr hyn oll y cesclais, y byddai rhaid i mi ddisgwyl am gyfiawnder yn unic yn ei Berson ef, ac am iawn tros fy mhechodau trwy ei waed ef, ac nid trwy ddim arall: Ac mi a gesclais ym-mhellach, bod yr hyn a wnaeth e mewn vfydd dod i gyfraith ei Dâd, a'i ddarostyngiad ef i ddiodef cospedigae­thau, am waith rhai yn trosseddu 'r gyfraith honno (fod hyn oll meddafi) wedi ei wneuthur, nid trosto ei hun; ond tros y sawl a'i derbyniai ef yn lle Jachawdwr iddynt, ac a fyddai diolch­gar iddo. Ac yn awr yr oedd fy nghalon yn llawn o lawenydd, fy llygaid yn llawn o ddagrau, ac yr oedd gennif serchiadau rhyfeddol, tuagat Enw, a Phobl, a Ffyrdd yr Arglwydd Jesu Grist.

Cris.

Dyma Ddatcuddiad o Grist i'ch Enaid mewn gwirioned: eithr dywedwch i mi yn fwy neilltuol, pa beth a weithiodd hyn ar eich enaid.yspryd chwi.

Gob.

Fe wnaeth hyn i mi weled fod yr sef, y Byd o'r an­nuwiolion.holl fyd, er ei holl Sef, eu cyfiawn­derau ei hunain. gyfiawnderau, mewn stâd o ddamnedigaeth: Fe wnaeth i mi weled, er fod Duw 'r Tâd yn gyfiawn, y dichon efe, er hynny i [Page 282] gyd, gyfiawnhau y pechadur a ddêl atto. Fe wnaeth hyn i mi gyw [...]lyddio yn ddir­fawr am frynti fy much [...]dd cynt; ac fe'm gwradwyddwyd i 'n ddirsawr, wrth feddwl faint oedd fy hên Anwy­bodaeth; canys ni feddyliodd fy [...]gha­lon i erioed o'r blaen, fod Jesu Grist mor brydferth, a mod i yn sefyll (fal y mae pawb eraill) mewn diffig o ho­naw, im glanhau, a'm cyfiawnhau, a'm cadw rhag uffern, ac i roi i mi fywyd tragwyddol. Fe wnaeth hyn i mi garu buchedd sanctaidd, ac i hirae­thu, am wneuthur rhyw beth, er An­rhydedd a gogoniant i Enw'r Arglwydd Jesu. Je yr wyfi 'n tybied yn awr, pe bai-bossibl fod gennifi Fil o Alwyni o waed yn fy nghorph, y gallwn i golli pob dafn. diferyn o honaw, er mwyn yr Arglwydd Jesu.

Yna y gwelwn (yn fy Mreuddwyd) Gobeithiol yn edrych drach ei gefn, ac efe a ganfu y Gwr a elwid Anwybodaeth (yr hwn a adawsent ar eu hol,) yn eu canlyn hwynt. Gwelwch, eb efe wrth Gristion, fal y mae y glàs-langc accw yn loetran ar ein hòl.

Cris.

Je, ie, mi a'i gwelaf e; ond ni waeth gantho fawr am ein cwmpeini ni.

Gob.

Eithr yr ydwyfi 'n tybied, na chawsei fo niweid yn y byd, o'n dilyn ni hyd yn hyn.

Cris.
[Page 283]

Gwir iawn yw hynny, eithr mi a warantaf i chwi, ei fod e 'n weddwl yn amgen.

Gob.

Felly yr wyf inne yn tybied hefyd: ond er hynny gadewch i ni aros am dano ef, Ac felly y gwnaethant. Yna Cristion a alwodd arno, gan ddywe­dyd wrtho, Dowch ym-mlaen wr, pa ham yr ydych yn sefyll ar ôl yn y môdd yna?

Anwybodaeth.

Y mae'n fwy dewisol gennifi, i rodio wrthif fy hunan, nâ chyda cwmpeini, oni bai fy môd yn caru y cwmpeini hynny, yn well nâ'ch cwmpeini chwi.

Yna ebe, Cristion yn ddistaw wrth Gobeithiol; oni ddywedais i wrthych chi, nad oedd fatter gantho ef am ein cyfeillach ni? eithr p [...] wedd bynnag, eb efe, dewch, a siaradwn a'i gilydd, i ddi­fyrru'r amser yn y lle anghyfannedd hwn. Yna gan gyfeirio ei ymadrodd at Anwy­bodaeth, fo a ddywedodd wrtho; pa fodd yr ydych? pa fodd y mae'r matter yn sefyll, rhwng Duw a'ch Enaid chi yn awr?

Anwybod.

O'r gorau 'rwyf yn go­beithio; canys yr wyf bob amser yn Dihar. 28. 26. llawn o gynhyrfiadau Duwiol, y rhai a redant ar fy meddyliau, i'm cyssuro yn fy nhaith.

Cris.

Attolwg dywedwch i mi, Pa [Page 284] gynhyrfiadau da ydyw'r rheini?

Anwyb.

Yr ydwyf yn meddwl am Dduw, ac am y nefoedd.

Cris.

Y mae'r Diaflaid, ac eneidiau'r damnedig, yn gwneuthur hynny hefyd.

Anwyb.

Eithr yr ydwyfi 'n meddwl am danynt, ac yn dymuno cael eu mwynhau hwynt.

Cris.

Felly y mae llawer yn dymuno, nad ydynt debygol fyth,i ddyfod ir Ne­foedd Luc. 13. 24.: Enaid y Diog a ddeisyf ac ni chaiff ddim. Dihar. 13. 14.

Anwyb.

Eithr yr ydwyf yn meddwl am danynt, ac mi a ymadewais â'r cwbl, er mwyn cael eu mwynhau hwynt.

Cris.

Yr wyf yn dowto ammeu hynny; ca­nys matter caled ydyw ymadel âr cwbl; ie y mae'n beth anhawsach iw wneuthur, nag y mae llawer yn ei dybied. Eithr pa beth y sydd yn dy berswadio di i goelio, dy fod ti wedi ymadel â'r cwbl, er mwyn Duw a'r Nefoedd?

Anwyb.

Y mae fy nghalon yn tystio­laethu i mi hynny.

Cris.

Y Gwr doeth a ddywed, y neb a ymddiriedo yn ei Galon ei hun sydd ffol. Dihar. 28 26.

Anwyb.

Y mae fo 'n sôn (yn y man hynny) am Gâlon ddrwg; eithr y mae fy nghalon i yn galon dda.

Cris.
[Page 285]

Pa fodd y gwyddosti hynny?

Anwyb.

Am fod fy nghalon yn fy nghyssuro i, mewn Gobaith y câfi 'r Nefoedd.

Cris.

Fe ddichon hynny fod trwy dwyll dy galon di; canys fe all calon Dyn ei gyssuro e, mewn gobaith o ryw beth, na bo gantho ddim Sail i obeithio am Dano. Jer. 17. 9.

Anwyb.

Eithr y mae fy nghalon i am buchedd yn gyfattebol iw gilydd, ac am hynny y mae gan fy ngobaith i syl­faen dda.

Cris.

Pwy a ddywedodd wrthit ti, fod dy Galon a'th Fuchedd yn cyttuno a'i gilydd?

Anwyb.

Fy nghalon sy'n dywedyd felly wrthif.

Cris.

Os gofynnir ith Fam pwy sy Leidr? Hi a atteb, nid fy mâb i, (er ei fod e mewn gwirionedd yn Lleidr) felly os dywaid dy galon di, ei bod hi a'th fu­chedd yn cyttuno a'i gilydd; oni bydd Gair Duw yn dwyn yr vn tystiolaeth, yn y matter yma, ni thâl tystiolaeth dy ga­lon di Dim. ffloryn.

Anwyb.

Onid ydyw'r Galon honno yn dda, yn yr hon y mae meddyliau da? Ac onid Buchedd dda ydyw'r hon, sy wedi ei threfnu yn ôl Gorchmynion Duw?

Cris.

Gwir ydyw, mai. taw calon dda [Page 286] ydyw 'r galon honno, ym-mha vn y mae meddyliau da yn Aros. gartrefu; a buchedd dda ydyw 'r fuchedd honno, y sydd yn gyfattebol i orchymynion Duw: Eithr vn peth yw bod â'r rhaîn mewn gwirionedd ynom, a pheth ar all yw tybied eu bod nhw gennym.

Anwyb.

Erdolwyn pa feddyliau yr ydychi yn eu cyfrif yn feddyliau da? A pha fuchedd yr ydychi yn ei gyfrif, ei fod yn gyfattebol i Orchymynion Duw?

Cris.

Y mâe amryw fath o feddyliau da, rhai yn perthyn i ni ein hunain, rhai i Dduw, rhai i Grist, a rhai i bethau er aill.

Anwyb.

Pa rai yw'r meddyliau Da, y sydd yn perthyn i ni ein hunain?

Cris.

Y cyfryw ar y sydd yn gyttunol â gair Duw.

Anwyb.

Pa bryd y mae 'n meddyliau am danom ein hunain yn gyttunol a Gair Duw.

Cris.

Pan fyddom yn rhoddi yr vn farn arnom ein hunain, ac y mae'r Gair yn ei roddi. Eithr i wneuthur y peth yn eglurach, y mae Gair Duw yn dywedyd am Ddynion (yn eu cyflwr naturiol) fal Rhuf. 3. 10. 12. hyn; nid oes neb cyfiawn, nac oes vn: Gen. 6. 5. Nid oes vn yn gwneuthur daioni. Y Gen. 8. 21. mae 'r Gair yn dywedyd hefyd, fod holl [Page 287] feddylfryd Calon Dyn yn vnig yn ddry­gionus bob amser: A thrachefn, fod Calon Dyn yn ddrygionus o'i ieueng­ctid. Yn awr pan fo gennym y cyfryw dŷb a hyn am danom ein hunain (gan fod a theimlad o hynny, yn ein calonnau) yna y mae 'n meddyliau 'n dda, o her­wydd eu bod yn gyttunol a Gair Duw.

Anwyb.

Ni choeliaf i byth, fod fy nghalon i cynddrwg a hyn.

Cris.

Am hynny ni bu gennyt erioed yn dy holl fywyd, cymmaint ac vn meddwl da am danat dy hun. Eithr dyro gennad i mi ddywedyd hyn wrthyt ym-mhellach: Megis y mae Gair Duw yn rhoddi Barn ar ein calonau; felly hefyd y mae 'r vn Gair yn Rhoddi. passio Barn ar ein ffyrdd; a phan y bytho ein barn ni ein hunain yng­hylch ein calonnau a'n ffyrdd, yn cyttuno a'r farn y mae Gair Duw yn passio ar­nynt, yna y mae 'r ddau yn dda, am eu bod yn cyttuno â gair Duw.

Anwyb.

Eglurhewch eich meddwl yn well.

Cris.

Y mae Gair Duw yn mynegi, bod ffyrdd Dyn yn geimion; ac nid yn dda, ond yn Llygre­dig. gildyn; a bod dynion (trwy naturiaeth) allan o'r ffordd dda, heb ei [...] hi Dihar. 2 15. Rhuf. [...]. 12. 17. Yn awr pan bo Dyn, wedi [...] prawf a hyn oll yntho ei hunan; a [Page 288] phan y bo 'n ostyngedig yn barnu fal hyn am dano ei hûn a'i ffyrdd; yna y mae'n Ystyried, yn medd­wl. synied yn dda am ei galon a'i ffyrdd; oblegit bod ei farn ef yr awr-on, yn cyt­tuno â barn Gair yr Arglwydd.

Anwyb.

Pa beth yw meddyliau da am Dduw?

Cris.

Pan fyddom (megis y dywedais am danom ein hunain) yn Meddwl synied am Dduw, yn ol yr hyn y mae ei air yn ei osod ef allan; hynny yw, pan fyddom yn meddylied am ei Sylwedd hanffod, a'i brio­doliaethau ef, megis ein dysgir gan ei Air; am yr hyn, nis gallaf yn awr drae­thu yn helaethach: Ond i ddywedyd am dano mewn perthynas i ni ein hunain, y mae gennym, y pryd hynny, dýb da a chymmwys am Dduw, pan fyddom yn Medd­wl. synied, ei fod ef yn ein hadnabod ni yn well nag yr ym ni yn adnabod ein hu­nain; ac y dichon efe weled pechod ynom, y pryd, a'r man, na chanfyddom ni mo honaw ynom ein hunain, a phan yr ydym yn cydnabod, ei fod ef yn gwybod yn meddyliau dirgelaf, a bod ein calonnau, a'u holl ddyfn fwriadau, bob amser yn noeth ac yn agored iw olygon ef: Ac he­fyd pan yr ydym yn tybied, fod ein holl gyfiawnderau ein hunain, yn drewi yn eu ffroenau ef; ac am hynny nas dichon efe * aros ein gweled ni, yn sefyll yn ei [Page 289] wydd ef, pan y bôm yn hyderu ar ein cy­fiawnderau ein hunain, ie neu ar ein Dy­ledswyddau goreu, am gael iechydwria­eth trwyddynt.

Anwyb.

A ydychi 'n tybied fy mod i mor ynfyd, a meddwl, na ddichon Duw weled dim pellach nag y gallafi weled? Neu y Dewn i at Dduw, gan hyderu ar fy Nyledswyddau fy hun, er Daed. cystal y bont hwy?

Cris.

Pa fodd yr wyt ti 'n synied yn y pwngc yma?

Anwyb.

Wele, i fod yn fyrr, yr wyfi 'n meddwl, fod yn rhaid i mi gredu yn-Ghrist am gyfiawnhâd.

Cris.

Pa fodd! Tybied yr wyt, fod yn rhaid i ti gredu yn-Ghrist, cyn gwe­led o honot ei eisiau ef? Nid wyti yn gweled ynot, na phechod gwreiddiol, na phechod gweithredol; eithr y mae gennyt y fath dyb da am danat dy hu­nan, a'th weithredoedd, ar y sy 'n dangos yn eglur, dy fod ti 'r cyfryw vn, na wybu erioed, fod yn rhaid i ti wrth y cyfiawnder, a gyflawnodd Crist yn ei Berson ei hun, i gyfiawnhau pecha­duriaid edifeiriol trwyddo ger bron Duw. Pa fodd gan hynny y Meiddi. llyfasu di ddywedyd, dy fod ti 'n credu, neu fod yn rhaid i ti gredu yn-Ghrist.

Anwyb.
[Page 290]

Yr wyfi'n credu yntho yn dda ddigon er hynny.

Cris.

Pa fodd yr wyt 'n credu?

Anwyb.

Yr wyfi'n credu i Grist farw dros bechaduriaid; ac y cyfiawnheir fi ger bron Duw oddiwrth y felltith, trwy ei rasol dderbyniad ef o'm hufydd-dod i idd ei Gyfraith: Neu fal hyn. Y mae Crist yn gwneuthur fy nyledswyddau crefyddol i, yn gymmeradwy gyda ei Dâd; trwy rinwedd ei haeddedigae­thau ei hun, a thyna 'r modd y câf fy nghyfiawnhau.

Cris.

Yr wyf yn atteb i'r gyffes yma o'th ffydd di.

Yn Gyntaf.

Nid yw dy ffydd di ond ffydd á lliw ff [...]dd gan­thi. ffugiol; ac nid yw hi 'n gyn­nwysedig yn vn rhan o air Duw.

Yn Ail.

[...]. Gau ffydd yw dy ffydd di, am dy fod ti 'n ymwrthod â chy­fiaw [...]háad trwy 'r cyfiawnder a gyflaw­nodd Crist yn ei Berson ei hun; ac am dy fod ti hefyd, yn disgwyl am gael dy gyfiawnhau, trwy dy weithredoedd dy hunan.

Yn Drydydd.

Nid yw 'th ffydd di yn gwneuthnr Crist yn Gyfiawnháwr o'th Berson, ond o'th weithredoedd di; ac yn gyfiawnhawr o'th Berson di, er mwyn dy weithredoedd; yr hyn sydd ffals.

Yn Bedwerydd. Am hynny y mae dy [Page 291] ffydd di yn dwyllodrus; ie y mae hi 'n gyfryw vn, ac a'th âd di dan ddig of aint, yn nydd y Duw Holl-alluog; canys y mae y wîr ffydd, trwy ba vn ein cyfiawnheir, yn peri 'r cneidiau, y sy'n deimladwy o'u cyflwr colledig trwy 'r Gyfraith, i ffoi am Amddi­ffynfa. noddfa, at Gyfiawnder Crist, i gael eu cyfiawnhau trwy hynny (A'r cyfiawn­háad yma, nid yw weithred o rás, trwy ba vn y mae Crist yn gwneuthur dy vfydd-dod di yn gymmeradwy gyda Duw, ir diben hyn; fal y bo i ti gael dy gyfiawnhau trwy dy vfydd-dod dy hun: Eithr gweithred o râs yw'r cyfi­awnháad hynny; trwy ba vn, y mae 'r Enaid yn cael ei gyfiawnhau, er mwyn yr vfydd-dod y gyflawnodd Ctist yn ei Berson ei hun, gan wneuthur a dioddef trosom ni, yr hyn oll y mae 'r Gyfraith yn ei ofyn ar ein dwylo ni) ycyfiawnder hwn (meddafi) o eiddo Crist, y mae gwir ffydd yn ei dderbyn; tan Aden. orchudd pa vn y mae 'r enaid yn llechis; a chwedi ei Bresen­tio. gyflwyno yn ddifrycheulyd, yn y cyfiawnder yma, ger bron Duw, y mae'n cael ei dderbyn yn gymmeradwy gydag ef; ac yn cael ei waredu oddiwrth ddam­nedigaeth tragwyddol.

Anwyb.

Pa beth! A fynnwchi, i ni ymddiried, yn yr hyn a wnaeth Crist yn ei berson ei hun, hebom ni? Y cy­fryw [Page 292] dŷb a hon, a ollyngai Carrei­on. awenau ein trachwantau yn rhydd; ac a odde­fai i bob vn, i fyw fal y mynno. Canys ni waeth pa fodd y byddom byw, os cawn ni ein cyfiawnhau trwy gyfiawn­der personol Crist, oddiwrth ein holl feiau, ond i ni gredu hynny.

Cris

Anwybodaeth yw dy enw; ac fal y mae dy enw, felly hefyd y mae dy Ddealltwriaeth: A'th attebion di a wi­ria yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd: Yr wyt ti yn Anghydnabyddus â chyfiawn­der Crist, trwy ba vn ein cyfiawnheir; ac yr wyt ti 'n Anghydnabyddus hefyd, ynghylch y modd, i ddiogelhau dy Enaid, trwy ffydd yntho ef, oddiwrth bwysfawr ddigofaint Duw. Ie yr wyt ti yn An­ghydnabyddus â gwîr Ffrwy­thau, can [...]yniae­thau. effeithiau by­wiol ffydd, yng-hyfiawnder Crist, sef, i blygu ac i ynnill y Galon at Dduw yn-Ghrist, i garu ei Enw, ei Air, eu Ffyrdd a'i bobl ef; ac nid i ddilyn eu trachwan­tau eu hunain, ac i fyw fal y mynnon, megis yr wyt ti yn dy Anwybodaeth yn dychymmyg.

Gob:

Gofynnwch, a ddatcuddiwyd Crist erioed iddo o'r Nefoedd?

Anwyb.

Pa beth? Gwr ydychi am ddatcuddiadau! Yr wyf yn coelio, nad yw'r hyn a ddywedasochi ill dau; a'r hyn y mae pawb eraill o honoch yn ei [Page 293] ddywedyd, ynghylch y matter yma, ond ffrwyth eich ynfydrwydd a gwen­did eich pennau.

Gob.

Pa ham wr! Y mae Crist mor guddiedig yn Nuw, oddiwrth ddeall­twriaeth naturiol yr holl Ddynion cnaw­dol; fal nas dichon vn Dyn ei adnabod ef iw iechydwriaeth ei hun, oddieithr i Dduw'r Tad ei ddatcuddio ef iddo.

Anwyb.

Hynny yw 'ch ffydd chwi, ac nid fy ffydd i; ac etto nid wyf yn am­meu, nad yw fy ffydd i gystal â'ch ffydd chwithau; er nad oes yn fy nghoppa i gynnifer o opiniwnau gwâg, ac y sydd yn eich pennau chwi.

Cris.

Rhoddwch gennad i minne i lefaru vn gair: Ni ddylaechi siarad mor ysgafn am y pwngc yma; canys hyn a ddywedaf i yn Eon. Mat. 11. 25. hyf (megis y dywedodd fy nghydymaith anwyl o'r blaen) na ddichon vn dyn adnabod Iesu Grist, oddieithr i'r Tâd ei ddatcuddio ef iddo: Ie, ffydd hefyd (â'r hon y mae'r Enaid yn dal gafael ar Grist (os Eph. 1. 18. 19. gwir ffydd yw hi) a weithir yng-halon Dyn, trwy ryfeddol, a mawr allu Eph. 2. 8. Duw; ond yr wi'n Deall. dirnad o Ang­hydnabyddus, na wyddosti (druan gwr) ddim yn y byd, ynghylch gwei­thrediad y ffydd yma yn dy enaid dy hun. Deffro gan hynny, a Ys [...]yria 'n fawr. dwys­ystyria [Page 294] dy drueni dy hun; a ffô at yr Arglwydd Iesu; a thrwy ei gyfiawn­der ef, yr hwn yw cyfiawnder Duw (canys y mae fo ei hun yn Dduw) fei'th waredir di rhag damnedigaeth.

Anwyb.

Yr ydychi yn cerdded Mor [...] mor gyflym, fel nad allafi gyd-gerdded â [...]hwi, ewch Ym­mlaen. rhagoch; y mae 'n rhaid i mi aros ychydig ar ôl. Yna y Pereri­nion, a ganasant fal hyn.

Anwybodaeth, ow! Pa hyd!
A fyddi ynfyd eilchwaith?
A wrthodi Gyngor
Rhàd.
ffri,
Ai gynnig itti ganwaith?
Os gwrthodi, mewn modd
Ynfyd.
synn;
Cydnebydd hyn yn fanwl,
Cyn pen
O amser.
nemmawr, cai 'n
Yn siccr
ddinam
Roi cyfrif am y cwbwl.
Mewn pryd ac amser cofia hyn,
Darostwng Ddyn, nac ofna
Gyngor da; os cymri, efo
Ath achub; gwrando arnaf.
Os byddi byw mewn cyflwr caeth,
Mewn Anwybodaeth ryfedd:
Gwybydd hyn, y byddi 'n siwr,
Golledwr yn y diwedd.
Yna Cristion a lefarodd wrth ei gydy­maith fal hyn.
Cris.

Tyred fy nghydymaith Gobei­thiol, mi a welaf, fod yn rhaid i ni ym­deithio wrthym ein hunain drachefn. [Page 295] Felly mi a welwn Cristion a Gobeithiol yn cerdded ym-mlaen yn fuan; ac An­wybodaeth a ddaeth dan grychneitio ar eu hôl: yna ebe Cristion wrth ei gydy­maith, y mae'n ddrwg iawn gennif dros y gwr Truenus. gresynol yma; y mae 'n ddi­ammeu gennif, y bydd hi caled arno yn y diwedd.

Gob.

Och! Och! Y mae llaweroedd o'n Tref ni yn ei Gyflwr ef, sef, Teu­luoedd, ie Ys [...]ry­doedd. Heolydd cyfain, (a rhei­ni (mewn proffess ar y lleiaf) yn Bere­rinion hefyd) ac od oes cynifer yn ein parthau ni; pa sawl vn (dybygwch chwi) y sydd yn y man, lle y ganwyd hwn yntho?

Cris.

Yn wir y mae'r Gair yn dywe­dyd, Efe a ddallodd eu llygaid fal na welent, &c. Eithr yn awr yr ydym ni wrthym ein hunain; pa beth a feddy­liwn ni am y cyfryw Ddynion a hyn? A ydynt hwy ar ryw amseroedd, dyby­gwchi, dan Argyoeddiadau am bechod, a thrwy ganlyniaeth mewn ofn, fod eu cyflwr yn enbydus?

Gob.

Nage, attebwchi y cwestiwn hwnnw eich hunan; canys yr ydychi 'n hûn nâ myfi.

Cris.

Yr wyf yn atteb gan hynny, eu bod nhwy weithie (im tŷb i) dan argyoe­ddiadau ac Ofn. arswyd; ond o herwydd [Page 296] eu bod wrth naturiaeth yn anwybodus, nid ydynt yn deall fod mo'r argyoeddiadau hynny er daioni iddynt; Ac am hynny y maent yn Nerthol. ddewr yn ymdrechu i mogu a'u llethu hwynt; ac y maent yn parhau yn rhyfygiu, i rodio ynffyrdd eu calonnau twyllod [...]us, gan ddywedyd heddwch wrth eu heneidiau eu hunain, yn y cyflwr hwnnw.

God.

Yr ydwyf yn credu, fod y peth me [...]is yr ydychi yn dywedyd; sef, bod sef ofn parchus. ofn yn gwasanaethu yn fawr, i weitho (trwy help yspryd Duw) ddaioni mewn Dynion, ac i cymhwyso nhw i fyned ar Bererindod, pan y dechreuant ei Taith.

Cris

Diammeu yw hynny, os bydd e fal y dylae fod; canys felly y mae 'r Gair yn dywedyd; Dechreuad doethi­neb yw ofn yr Arglwydd. Dihar. 9. 10.

Gob.

Pa fodd y deallwn ni, beth ydyw gwir ofn yr Arglwydd?

Cris.

Gwir ofn Duw a adnabyddir, wrth y tri pheth yma.

Yn Gyntaf,

wrth ei ddechreuad, yr hwn ydyw argyoeddiad iachusol am bechod; fef, y cyfryw argyoeddiad, ac y sy'n gwasgu 'n galed ar Ddyn, i ymofyn am iechydwriaeth trwy Grist, ac nid i gilio oddiwrth Grist.

Yn All.

y mae 'n gyrru 'r Enaid, i ddal gafael yu dynn ar Grist am Je­chydwriaeth.

Yn Drydydd,
[Page 297]

Y mae 'n gweithio, ac yn cynnal i fynu (yn yr Enaid) barch mawr tuagat Dduw, a'i Air, ai Ffyrdd, gan gadw yn yr Enaid dynerwch calon, ynghyd a gofal ac arswyd, rhag troi, oddiwrthynt, ar y llaw ddehau, na'r asswy, at ddim, ar a ddichon, 1. Ddian­rhydeddu Duw, 2. Dorri heddwch yr Enaid, 3. Dristhau yr Yspryd glân; neu 4. Roddi achlyssur i Elynion yr Arglwydd gablu. Ruf. 2. 23. Psal 51. 8. Es. 63. 10. 2 Sam. 12. 14.

Gob.

Chwi a ddywedasoch yn dda; yr wyf yn credu iw'ch ddywedyd y gwîr. A ydym ni yr-wan, yn agos myned tros y Tîr a reibiwyd?

Cris.

Pa'm yr ydych yn gofyn hynny; a ydychi 'n blino ar yr ymddiddan yma?

Gob.

Nac ydwyf yn wir, eithr dy­munwn wybod, ym-mha Le yr ydym ni.

Cris.

Nid oes gennym yn awr, oddiar dwy Filltir o'r Tîr a reibiwyd, iw fyned trosto: eithr dychwelwn at y matter oedd gennym yn llaw. Nid yw'r Dynion anwy­bodus yn deall fod yr argyoeddiadau yma, y sy 'n peri ofn a braw ynthynt (fod y rhain meddafi) er daioni iddynt; ac am hynny y maent yn ceisio eu mogu hwynt.

Gob.

Pa fodd y maent yn ceisio eu mogu hwynt.

Cris.
[Page 298]

1. Y maent yn tybygu, mai'r Cythrael sy'n gweithio 'r dychryniadau hyn ynthynt, (er yn ddiau oddiwrth Dduw y maent) ac o herwydd eu bod nhw'n tybied felly, y maent yn eu gwrthsefyll, megis pethau y sydd yn rhag-ddarparu eu dinistr hwynt. 2. Y maent hwy o'r opiniwn yma hefyd, fod y dychryniadau hyn, yn tueddu, i an­ [...]heithio eu ffydd hwy, (pan nad oes ganthynt, druain gwyr, ffydd yn y byd!) ac am hynny, y maent yn caledu eu calonnau yn eu herbyn hwynt. 3. Heb­law hyn, y maent yn meddwl, na ddy­lent ofni vn amser; ac am hynny, gan ddirmygu a thagu y cyfryw ddychryni­adau, y maent yn digwyddo i fod, yn bobl rhyfygus, a thra hyderus, er nad oes ganthynt reswm yn y byd am yr hyd [...]r hynny. Ac yn ddiweddaf, y maent yn gweled, fod y dychryniadau hyn yn rhag-ddarparu dwyn oddiarnynt eu gwael sancteiddrwydd eu hunain; ac am hynny, y maent yn eu gwrth wyne­bu hwynt, ai holl Nerth. Egni.

Gob.

Yr wyf yn gwybod Peth o hyn trwy brofiad; canys cyn i mi fy adnabod fy hun, dyma fal yr oedd hi gyda mi.

Cris.

Gadawn yr ymch wedleua hyn, yng hylch ein Cymydog Anwybodaeth, ar hyn o bryd; a moeswch i ni ymddiddan [Page 299] am ryw Gwestiwn arall, a fo buddiol.

Gob.

O lwyr ewyllys fy nghalon; ond mae'n rhaid i chwi ddechreu.

Cris

Oni adwaenechi, ynghylch deng mhlyned i nawr, ŵr o'ch parthau chwi, a elwid Amserol, yr hwn oedd yn dangos (yngolwg dynion) lawer o Zêl mewn cre­fydd y pryd hynny? Mat. 13. 20, 21.

Gob.

Ei adnabad ef! oeddwn yn dda ddigon; yr oedd e'n byw yn Nhref Dirâs; yr hon sydd ynghylch dwy Filltir oddiwrth y Dref a elwir One­strwydd; ac yr oedd e'n byw y drws nessaf i vn Turn­back. Gwrthgiliwr.

Cris.

Gwir a ddywedwch chi; yr oeddent hwy eill dau yn byw dan yr vn

crong­lwyd. Tô. Wel, yr oedd y gwr hwnnw (yr amser hynny) wedi ei ddeffroi yn fawr iawn; canys yr wyf yn credu, iddo gael peth golwg, y pryd hynny, ar ei becho­dau, ac ar y gyflog y sydd ddyledus iddo am danynt.

Gob.

Yr wyfi o'r vn feddwl a chwithe; canys efe a ddeuai yn fynych attafi (o herwydd nid oedd fy Nhŷ i, oddiar Tair milltir oddiwrtho ef) a'r dwr yn diferu i lawr ar hyd ei ruddiau. Yn wir yr oeddwn i yn tosturio wrtho; ac yr ooedd gennif beth gobaith da am da­no: ond gan iddo droi ei gefn ar Gre­fydd, [Page 300] ni allwn gasclu oddiwrth hynny, mai nid pob vn sydd yn dywedyd, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i Deyrnas nefoedd.

Cris.

Ffe a ddywedodd wrthif vnwaith, ei fod ef yn bwriadu myned ar Bererin­dod, megis yr ydym ninne yn awr: eithr yn ddisymmwth, efe a gafodd gydnabyddiaeth âg vn Hunan-Gadw; ac yna efe a aeth yn ddieithr i mi.

Gob.

Yn awr, gan ein bod ni 'n siarad am dano ef, gadewch i ni ystyried, beth a allai fod yr achosion, o'i [...]yllad yn [...]oddi wrth Gre­fydd. ymchwe­liad dysmmwyth ef, a llawer eraill o'i fath ef.

Cris.

Fe ddichon hynny fod yn fuddiol iawn, eithr dechreuwch chwi.

Gob.

Y mae (yn fy marn i) bedwar o res;ymmau am hynny.

Yn Gyntaf, Er bod Cydwybodau y [...]fryw Ddynion wedi eu deffroi; etto er hynny, nid oes dim [...]yfnewidiad yn eu ca­lonn [...] nhw: Ac am hynny, pan y bo grym Euogrwydd eu pechodau wedi ei wisco ymmaith, oddiar eu cydwybodau; fe a ddarfu am yr hyn oedd yn eu cyffroi nhw i fod yn grefyddol; ac yna y troant yn naturiol, iw hèn ffyrdd ly­gredig drachefn: Megis y gwelwn ni Ci, pan y bo yr hyn a fwytaodd ef, yn gwasgu arno; tra y parhao ei gle­fyd [Page 301] e, y mae'n chwdu ac yn bwrw'r cwbl i fynu: nid ei fod e'n gwneuthur hyn­ny o'i fodd; ond o herwydd bod y peth a fwytaodd ef, yn gorwedd yn drwm ar ei gylla ef. Eithr pan y gwellháo ef, a phan y clywo ei gylla yn ysgafn ac yn esmwyth, nid ywe ronyn llai ei awydd, er hyn i gyd, at ei chwdiad; ond y mae 'n troi atto drachefn, ac yn llio. Ily­fu'r cwbl i fynu: Ac am hynny, gwîr yw'r hyn sydd scrifennedig, y ci a ym­chwelodd at ei chwdiad ei hun. Felly 1 Pet. 2. 22. y mae 'r peth yn sefyll gyda'r dynion yma: y maent hwy yn wressog am y Nefoedd, yn vnic rhag ofn poenau Uffern: ac megis y bytho eu hystyriaeth am Uffern ac ofn damnedigaeth yn oeri, ac yn lleihau: felly y mae eu dymunia­dau i'r Nefoedd ac Jechydwriaeth, yn oeri hefyd.

Ac fal hyn, pan y darfyddo Ofn. am eu harswyd a'u heuogrwydd, y mae eu dy­muniadau yn ol y Nefoedd ac happus­rwydd tragwyddol yn marw hefyd; ac y maent hwy yn dychwelyd, at eu drwg arferion drachefn.

Yr Ail Rheswn yw hyn. Mae Ofn caeth. ofn slafaiddyn arglwyddiaethu arnynt. Yr wyf yn dywedyd yn awr, am eu gwaith yn ofni Dynion: canys ofn dyn sydd yn dwyn magl. Ac am hynny, er eu bod Dihar 29. 25. [Page 302] yn ymddangos yn fywiog ac yn wressog am y Nefoedd, pryd y byddo Tân Uffern o amgylch eu clustiau (sef o her­wydd eu bod yn llawn o ddychryniadau oblegit eu pechodau) etto pan êl yr arswyd hwnnw ychydig heibio, hwy a fyddant o feddwl arall, sef, cyfrwy­stra cnaw­dol yw hyn. mai da yw bod yr ddoeth, ac nid rhedeg (am ni wyddant pa be [...]h) i berygl o golli 'r cwbl ar a feddant er mwyn crefydd; neu ar y lleiaf i fwrw eu hunain, i ofydiau ano­cheladwy, ac afreidiol; ac felly y maent yn syrthio, i ymgyfeillachu âr Dynion drwg. byd drachefn.

Yn Drydydd.

Y mae 'r cywilydd, sydd ynglyn wrth Grefydd, yn gor­wedd, megis maen tramcwydd yn eu ffordd hwynt: y maent hwy yn vchel ac yn Feilchion; ac y mae crefydd yn beth gwael a dirmygus yn eu golwg hwynt: Ac am hynny, pan yr angho­fiant boenau Uffern, a'r llîd a fydd; hwy a ddychwelant at eu drwg fuche­ddau drachefn.

Yn Bedwerydd.

Y mae myfyrio am Eu [...]g­rwydd yw 'r rhwyme­digaeth, yr ym ni yn gorw­edd tano, i ddioddef cospedigae­thau amse­rol a thr [...]g­wyddol, am ein pechodau. euogrwydd pechod, a'r cospedigaethau dychrynllyd, a orfydd ar yr annuwiolion eu dioddef yn vffern, yn flinderus iddynt: Nid ydynt hwy fodlon i ddwys-ysty­ried eu trueni, cyn y delo arnynt: er y gallai yr olwg arno yscatfydd (pettaint [Page 303] yn caru 'r olwg honno) beri iddynt ffoi, ir lle y mae'r Cyfiawn yn ffoi iddo, ac yn cael diogelwch: eithr o herwydd eu bod nhw (fal y dywedais i o'r blaen) yn casáu myfyrdodau am Euogrwydd a dychryn: Am hynny, pan y caffont wared unwaith o'u myfyr­dodau a'r braw sy 'n canlyn hynny; ynghylch digofaint Duw, y maent yn ewyllysgar yn caledu eu calonnau, ac yn dewis y cyfryw ffyrdd a moddion, ac a'u caledo nhw fwyfwy.

Cris.

Yr ydychi yn amcanu 'n agos at y Nôd. mark; canys sylfaen y cwbl yw diffyg cyfnewidiad yn eu dealltwriaeth a'u hewyllys. Ac am hynny, nid ydynt ond megis y lleidr sy 'n sefyll o flaen y Bar­nwr; yr hwn sy'n crynu ac yn arswydo yn ddirfawr, ac yn ymddangos fel pettai fo yn edifeiriol o'i galon am ei ddrygioni: eithr nid yw'r cwbl ond rhag ofn y Ceby­str; ac nid o herwydd ei fod yn cashau ei ddrwg weithredoedd, megis y mae 'n eglur; oblegit, ós caiff y gwr hwn ei rydd-did, efe a fydd yn lleidr ac yn Rôg drachefn; eithr pe bai cyfnewidiad grasol yn ei feddwl ai ewyllys ef, fo a fyddai yn amgenach gwr.

Gob.

Yn awr myfi a ddangosais i chwi yr achosion o'u hymadawiad â chrefydd: dangoswch chwithau i minne [Page 304] y dull neu 'r modd o'u hymadawiad hwynt.

Cris.

Hynny a wnaf yn ewyllysgar.

1. Y mae [...]t yn gŵyrdroi eu medyli­au, cyn belled ac y gallont, oddiwrth feddwl 1. am Dduw, 2. am Farwolaeth, ac 3. am y Farn a fydd.

2. wedi hynny. Gwedyn, y maent bob yn ychy­dig, yn rhoddi heibio Dyledswyddau neilltuol, megis, Gweddi ddirgel, Ffrwyno eu Trachwantau, Gwilio, Galaru am Bechod a'r Cyffelyb.

3. Yna y maent yn ymgadw rhag cwmpeini Cristianogion bywiog a gwre­sog mewn crefydd a duwioldeb.

4. Ar ôl hynny, Y maent yn my­ned yn Diofal. ddifraw ac oerllyd ynghylch Dyledswyddau cyhoeddus, megis, Gwrando, Darllein, Ymddiddanion duwiol, a'r cyfryw.

5. Mewn amser hwy a bigant dyllau (megis y dywedwn) ymheisiau rhai o'r gwyr duwiolaf (a hynny yn fileinig iawn) fal y gallont gael lliw (o her­wydd rhyw wendid yr oeddent yn ei weled mewn gwyr da) i daflu Crefydd o'r tu ol iw cefnau.

6. Yna hwy a ddechreuant lynu wrth, ac ymgyfeillachu â Dynion cnawdol, ofer, ac wantan. anllad.

Gwedi hynny, Hwy a roddant le yn [Page 305] y dirgel, i ymddiddanion cnawdol a wantan; a hòff iawn a fydd ganthynt, os gallant weled y fath bethau mewn rhai a gyfrifir yn onest; fel y gallont siarad yn Eonaeh. hyfach am y cyfryw Aflendid faswedd, trwy eu Ensampl hwy.

8. Yna hwy a ddechreuant chwareu â phechodau bychain yn gyhoeddus.

9. Ac yn ddiweddaf, wedi eu caledu, hwy a ymddangosant yn eu lliw eu hun. Ac yn ôl llithro o honynt fal hyn ir llyngclyn o drueni (oddieithr i ryfeddol ràs Duw eu rhagflaenu) fe dderfydd am danynt yn dragywydd, yn eu twyll a'u hudoliaethau eu hunain.

Yn awr mi a welais yn fy mreudd­wyd, fod y Pererinion erbyn hyn, wedi myned tros y Tîr a reibiwyd, ac yn dechreu myned i wlad Beulah, yr hon Esay. 62. 4. sydd wlàd iachus a hyfryd; ac yr oedd y ffordd yn myned yn vniawn trwyddi; ac yma hwy a gymerasant eu hesmwy­thyd tros ryw yspaid o amser.

Yr oeddent yma yn wastadol yn clywed yr adar yn canu, ac yn gweled Caniad. 2. 10, 11, 12. y blodau o ddydd i ddydd yn ymddan­gos ar y ddaiar; ac yr oeddynt yn clywed llais y Math o glommen. Durtur yn y tîr yma. Yn y wlâd hon hefyd yr oedd yr haul yn tywynnu Nos a Ddydd. Ac erbyn hyn yr oeddent ym-mhell oddiwrth Ddy­ffryn [Page 306] cysgod angau; ac h [...]fyd Allan. y maes o gyrraedd y Cawr A [...]aith; ac ni allent ychwaith gymaint [...] gweled Ca­stell Amheyus o'r man [...] oeddent hwy yma, wedi dyfod m [...] golwg i'r Ddinas, yr oeddynt yn myned iddi. Hwy a gyfarfuant yma hefyd, â rhai o drigolion y wlâd: Canys yr oedd y Yr Ange­lion. rhai disclair yn rhodio yn gyffredinol yn y wlad hon, am ei bod hi ar gyffiniau y nefoedd. Yn y wlâd hon hefyd yr adnewyddwyd cyfammod rhwng y priod-fab ar Briod-ferch; Ie â llawenydd Esay 62. 5. priod-fab am y Briod-ferch y llaweny­chodd eu Duw o'i plegid hwynt.

Nid oedd arnynt eisiau na Gwîn nac ŷd; canys hwy a gawsant yma ddi­gonolrwydd, o'r cwbl oll, a fuasent yn ymofyn am danynt yn eu holl Bererin­dod. Hwy a glywsant yma Ʋchel. grôch leferydd, yn dyfod allan o'r Ddinas, yn cyhoeddi, Dywedwch wrth Ferch Sion, wele dy Jachawdwr yn dyfod, wele ei Esay. 62. 11, 12. gyflog gydag ef: a holl drigolion y wlâd ai galwasant yn Bobl sanctaidd, gwaredi­gion yr Arglwydd.

Yn awr wrth ymdeithio yn y wlâd hon, hwy a gawsant fwy o ddiddanwch, nag y gowsant mewn Parthau oedd bellach oddiwrth y Deyrnas, i ba vn yr oeddent yn myned; ac fel yr oeddynt [Page 307] yn nessau at y Ddinas; yr oedd hi'n ymddangos yn Eglurach iddynt nag o'r blaen; yr oedd hi wedi ei hadeiladu â pherlau ac a meini gwerthfawr: yr oedd ei holl heolydd hi wedi eu palmentu âg Aur; Cristion, wrth weled gogoniant naturiol y Ddinas, a thywyniad Pelydr yr haul arni, a glafychodd o wîr serch atti. Gobeithiol hefyd a gafodd Pwl. fâs neu ddwy o'r vn clefyd; Ac am hynny, y buant yma dros dro yn gorwedd, ac yn gwaeddi allan, yn eu llewygfeydd, os gwelwch fy anwylyd, mynegwch iddo sy môd yn glâf o gariad.

Eithr gwedi iddynt wellhau a chry­fhau ychydig, hwy a aethant iw ffordd; ac a ddaethant yn nes-nes, i fan, lle yr oedd Perllannau, a Gwinllanoedd, a Gerddi, ai Pyrth yn agored tua'r Brif­ffordd. Yn awr, wedi dyfod o honynt i fynu, at y lleoedd yma; wele y Garddwr yn sefyll ar y ffordd; a'r Pe­rerinion a ofynnasant iddo; eiddo pwy yw 'r Gwinllanoedd a'r Gerddi hyfryd hyn? Yntef a attebodd, eiddo 'r Bre­nin ydynt; ac hwy a blanwyd yma; er difyrrwch iddo ei hun, a diddanwch i Bererinion; felly 'r Garddwr ai du­godd hwynt i mewn i'r Gwinllanoedd; ac a archodd iddynt adfywio lonni eu hunain â'r dainteithion oedd yno: efe a [Page 308] ddangosodd iddynt hefyd Rhodfeydd y Brenin, a'r Llwynau, lle yr oedd efe yn hoffi i rodio ynthynt, a thanynt; ac yma yr arosasant ac y cysgasant.

Yr awron, deliais sulw yn fy Mreu­ddwyd, eu bod nhw 'n siarad mwy trwy eu cwsg y pryd hyn, nag vn am­ser yn eu holl Daith; ac fal yr oeddwn yn rhyfeddu eu clowed; dywedodd y Garddwr wrthif, pa ham yr wyt ti yn rhyfeddu ynghylch y matter hyn? Y mae Ffrwyth y winwy­dden. Grawn y gwinllanoedd yma­mor felus, fal y parant i wefusau y rhai­sydd yn cysgu i lefaru.

Felly wedi iddynt ddeffroi, mi a'u gwelwn yn ymdacclu, i fyned tua'r Ddinas nefol. Eithr fal y dywedais i, yr oedd tywyniad yr Haul ar y Ddinas (canys yr oedd hi o Aur pùr) yn ogo­neddus Dat. 21. 18. dros ben, fal nas gallent etto graffu arni â'u llygaid, ond trwy Offeryn­nau. Bei­riannau 1 Cor. 13. 12. a wnaethpwyd i'r Pwrpas, diben. perwyl hwnnw. Felly, fal yr oeddent yn my­ned ym-mlaen, mi a welwn ddau wr yn cyfarfod â hwynt, mewn gwiscoedd yn disgleirio fal Aur; a'u hwynebau yn llewyrchu fal yr haul.

Y Gwyr hyn a ofynnasant i'r Pere­rinion, o ba le yr oeddent yn dyfod? A hwy a fynegasant iddynt y gwirio­nedd. Gofynnasant hefyd, ym-mha [Page 309] Le y buasent yn lletteua? Pa Anhaw­ster a pheryglon, pa Gyssuron, a di­fyrrwch a gawsant hwy yn eu ffordd? Hwythau a adroddasant y cwbl oll wrthynt. Yna ebr Gwyr a gyfarfu â hwynt, nid oes i chwi mwyach ond dau anhawsder i fyned trwyddynt, a Ar ôl hynny. chwedyn yr ychi yn y Ddinas.

Yna, Cristion ai Gydymaith a attoly­gasant ar y Gwyr i ddyfod gydag hwynt; hwythau a'u hattebasant, y deuent hwy gyda nhw: Eithr ebr Gwyr, y mae 'n rhaid i chwi ennill hynny trwy eich ffydd eich hun. Felly mi a'u gwelwn hwy, yn myned ynghyd, hyd oni ddaethant mewn golwg i'r Porth.

Yn awr mi a welwn ym-mhellach, fod Ses, mar­wolaeth. Afon rhyngthynt â'r porth, heb vn Bont i fyned trosti; a'r Afon oedd yn ddwfn iawn: A'r Pererinion, pan y gwelsant yr Afon yma, a Ryfe­ddasant. synnasant yn ddirfawr; a'r Gwyr a ddaethai gy­dâ hwynt a ddywedasant; Mae 'n rhaid i chwi fyned trwy 'r Afon yma; onide, Nid yw nattar yn rhoddi gresso i Angeu; er ein bod yn myned trossodd, o'r byd hwn, trwy farwolaeth i ogoniant. ni ellwch chi ddyfod at y Porth.

Yna 'r Pererinion a ddechreuasant y­mofyn, a oedd vn fford arall i fyned at y Porth; hwythau a attebasant, oes; ond ni chafodd neb ond dau, sef Enoch ac Elias droedio 'r llwybr hwnnw, er pan seiliwyd y Byd; ac ni chaiff neb [Page 310] ei throedio hi, hyd oni seinio 'r Vdcorn diweddaf, 1 Cor. 15. 51, 52. Yna 'r Pererinion (yn enwedig Cristion) a dde­chreuasant ddigalonni yn ddirfawr, gan edrych yma a thraw; eithr ni fedrent gael ffordd yn y byd, i ochelyd yr Afon. Yna hwy a ofynnasant i'r Gwyr, a oedd yr afon ym-mhob man o'r vn ddyfnder? Nac ydyw ebe nhw; etto ni allent moi cynnorthwyo hwynt yn y matter yma; canys, ebe Sef, yr Angelion. nhw, chwi ai cewch hi yn ddyfnach neu yn fasach, fal y bo'ch yn credu ym Mrenin y lle.

Yna hwy a ymbaratoisant i fyned ir Dwfr; a phan yr aethant i mewn iddo, Cristion a ddechreuodd foddi; A chan waeddi ar ei gydymaith Gobeithiol, efe a ddywedodd wrtho, yr wyf yn foddi mewn dyfroedd dyfnion; y Tonnau a'r llifeiriant a aethant trosofi. Psal. 42. 7. Psal. 69. 1, 2, 3.

Yna ebr llall, bydd gyssurus fy mrawd: Myfi a glowaf y gwaelod, ac y mae'n galed ac yn dda. Yna ebe Cristion, ah Blinder Cristion ar awr Angeu. fy Ffrind! Gofydiau angau am cylchy­nasant; ni chafi weled y Tîr sy'n llifei­rio a llaeth a mêl. A chydâ hynny, Tywyllwch mawr a dychryndod a syr­thiodd ar Gristion, fal nad allai weled yr hyn oedd oi flaen ef: Yma hefyd y pallodd eu synhwyrau ef, mewn me­ssur [Page 311] mawr; fal na fedrei gofio, nac ymddiddan yn drefnus, am ddim o'r holl bethau y cawsei efe ei Llawen­ychu. lonni trwyddynt, yn ei Bererindod: ond cy­maint ac a ddywedai efe, ydoedd yn arwyddocau; ei fod ef mewn Echryd meddwl ac arswyd calon, rhag iddo foddi yn yr Afon; ac nas cai efe byth fyned i mewn i'r Porth. Yma hefyd y deallodd y rhai oedd yn sefyll ger llaw iddo, ei fod ef yn gythryblus yn ei feddwl, o herwydd y pechodau a wnae­thai efe, cyn, a chwedi iddo ddechreu ei Bererindod. Fe ddaliwyd sulw hefyd, ei fod ef yn cael ei flino, wrth weled (fal y ty by gai fo) Gobli­nod. Ellyllon ac Ysprydi­on drwg, fel y gellyd Deall. dirnad yn fy­nych wrth eu Eiriau ef. Gobeithiol gan hynny a gafodd yma ei lawn waith, i gadw pen e [...] Frawd uwchlaw'r Dwr; ie weithiau efe a Soddei Yn gwbl. yn gwit dan y dwr; ac ym mhen Ennyd, efe a gy­fodei i fynu drachefn yn hanner marw. Gobeithiol hefyd a geisiei ei gyssuro ef, gan fynegi iddo; fy mrawd, mi a we­laf y Porth, a Ange­lion. Gwyr yn sefyll wrtho, i'n derbyn ni i mewn: Eithr Cristion a attebai; am danochi, am danochi, y maent yn disgwyl; canys yr oeddechi yn obeithiol, er pan eich adnabûm chwi: Felly y buoch chwithau, eb efe, [Page 312] wrth Gristion. Ah fy mrawd ebe yn­tef; diau yw, pe bawn i wir Gristion, efe a ddeuai Crist yn awr im cynnorth­wyo i; eithr o herwydd fy mhechodau efe am dygodd i'r fagl, ac am gada­wodd i ynthi: Yna ebe Gobeithiol, fy mrawd, ti a lwyr anghofiaist y Testyn, lle y dywedir am yr Annuwolion; nid oes Rhwymau yn eu marwolaeth, a'i cryf­der Psal. 73. 4. 5. sydd heini. Nid ydynt mewn blin­der fel dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda Dynion eraill. Nid yw'r Gofidiau a'r blinderau, yr ydychi 'n myned trwyddynt yn y Dyfroedd yma, yn arwydd yn y byd, fod Duw wedi 'ch gadel chwi; ond hwy a ddan­fonwyd i 'ch profi chwi; i edrych a gofiwchi y daioni a'r trugareddau, a dderbyniasoch ar ei law ef eisus, a byw arno ef yn eich cyfyngderau.

Yna y gwelwn Cristion yn Rhyfe­ddol. Esay 40. 1, 2. syn fe­ddylgar dros Ennyd: A Gobeithiol a ddywedodd hyn yn ychwaneg wrtho, Bydd gyssurus, y mae'r Arglwydd Jesu yn dy iachau di: Ar hynny y gwae­ddodd Cristion â llêf uchel; O myfi a'i gwelaf ef drachefn! Ac y mae'n dywedyd wrthyf, pan elych trwy'r Dy­froedd myfi a fyddaf gydâ thi; a thrwy'r Afonydd fel na lifont trosot, Esay 43. 2. Yna hwy a ymwrolasant eill dau, a'r [Page 313] Sef y Cy­thrael. Gelyn gwedi hynny a fu mor llonydd ac mor ddiysgog a'r garreg, hyd onid aethant trosodd. Yna Cristion a gafodd Dîr caled yn ebrwydd i sefyll arno; ac fe ddigwyddodd, nad oedd y rhan arall o'r Afon ond bâs; ac fal hyn yr aethant trosodd. Yn awr ar lan yr Afon o'r tu arall, hwy a ganfuant Yr Ang­elion. y ddau wr mewn gwiscoedd disclair drachefn, yn disgwyl am danynt hwy yno. Hwyn gynted ac y daethant allan o'r afon, hwy a gyfarchasant well iddynt; gan ddywedyd, Ysprydion gwasanaethgar ydym ni, wedi ein danfon i Wasa­naethu. weini er mwyn y rhai a gânt etifeddu Iechydw­riaeth, Heb. 1. 14. Fal hyn yr ae­thant ynghyd tua'r porth. Yn awr mae'n rhaid i chwi wybod, fod y Ddi­nas yn fefyll ar fryn vchel; eithr y Pe­rerinion a aethant i fynu i'r Bryn hwn yn esmwyth; am fod † y ddau wr yn Yr Ang­elion. eu tywys erbyn eu dwylo; ac hwy a adawsent hefyd eu Eu mar­woldeb. gwiscoedd mar­wol ar eu hôl yn yr Afon; canys er eu bod wedi eu gwisco à'r dillad hynny, pan yr aethant ir Afon; etto hwy a ddaethant allan o honi hebddynt. Hwy a aethant i fynu gan hynny yn Yn fuan. chwim­wth iawn, ac yn Clai, cyflym. Esgyd; er bod y sylfaen, ar yr hon yr oedd y Ddinas wedi ei hadeiladu, yn vwch nâ'r Cy­mylau. [Page 314] Hwy a aethant gan hynny trwy Ardaloedd yr awyr, dan ymddi­ddan yn ddifyr, ac yn gyssurus; oble­gid iddynt ddyfod trwy'r Afon yn ddi­berygl, a bod ganthynt y cyfryw gy­feillion gogoneddus i ∥ weini iddynt.

Yr ymddiddan ryngthynt â'r rhai Wasa­naethu. disclair oedd, ynghylch gogoniant y Ile: A'r gwŷr a ddywedasant, fod ei Brydferthwch ai ogoniant yn annrhae­thadwy. Yno, ebe nhw, y mae'r Mynydd Sion, y Jerusalem nefol: Yno y mae lliaws anneirif o Angelion, ac Heb. 12. 22, 23. 24. Ysprydoedd y rhai Cyfiawn a berffeithi­wyd. Yr ydychi yn awr (ebe nhwy) yn myned i Baradwys Duw, lle y Cewch weled Pren y Bywyd, a bwyta Dat. 2. 7. o'i ffrwyth aniflannedig ef: A phan ddelochi yno, fe roddir i chwi Wis­coedd Gwynion; a chwi a gewch gyd­rodio Dat. 3. 4. ac ymddiddan â'r Brenin beu­nydd; le a hynny dros holl ddyddiau tragwyddoldeb. Ni chewch weled yno mwyach y fath bethau, ac a welsoch, pan yr oeddech yn y parthau issaf, yn Ardal y Ddaiar, sef, Tristwch, Clefyd, Dat. 21. 4. Blinder a Marwolaeth: Canys y pe­thau cyntaf a aethant heibio. Yr ydychi 'n myned yn awr at Abraham, Isaac, a Jacob, ac at y Prophwydi; y rhai y gy­merodd Esay 57. [...]2. Duw ymaith o flaen y drygfyd [Page 315] oedd i ddyfod; y rhai ydynt yn awr yn gorphwys yn eu stafelloedd, pob vn yn rodio yn ei vniondeb. Yna y Pererinion a ofynnasant iddynt; Pa beth a allwn ni ddisgwyl am dano, a pha beth y sydd i nyni iw wneuthur yn y Lle sanct­aidd hwnnw? hwythau a attebasant, yno y derbynniwch ffrywth eich holl lafur; yno y cewch Lawenydd yn lle Tri­stwch; Gal. 6. 7, 8. yno y medwch yr hyn a haua­soch, sef, ffrwyth eich holl weddiau, eich Elusennau, eich Dagrau, a'ch Dioddefiadau tros y Brenin ar hyd y ffordd. Yno y cewch wisgo Coronau o Aur, a mwynhau tragwyddôl Bresennol­deb y sanctaidd hwnnw; canys yno chwi a gewch ei weled ef megis ac y mae. 1 Joan. 3. 2. Yno hefyd y gwasanaethwch ef yn wastadol â mawl, llawenydd▪ a diolch­garwch, yr hwn yr oeddechi 'n chwen­nychu i wasanaethu yn y Byd; er fod hynny gyda llawer o anhawsder, o her­wydd gwendid eich Cnawd.

Yno y bydd hôff gan eich llygaid we­led, a'ch clystiau glywed hyfryd lais yr Holl-alluog. Yno y cewch fwynhau eich Cyfeillion drachefn; y rhai a aethant ir Ddinas o'ch blaen chwi; ac yno y derbyniwch yn roesawys gyda llawe­nydd mawr, cynifer vn ac a ddelo ar eich hôl ir lle Sanctaidd hwnnw. Yno [Page 316] hefyd eich gwisgir â Gogoniant ac Ar­dderchawgrwydd; a chwi a gewch y fath wiscoedd trwssiadus, ar a'ch gwna chwi 'n gymmwys i farchogaeth gyda Brenin y Gogoniant. A phan y del e gyda sain Udcorn yn y Cymylau, megis ar adenydd y gwynt; chwi a gewch ddyfod gydag ef; a phan eisteddo efe 1 [...]. 4. [...] 9, 1 [...]. ar orsedfa barn, chwi a gewch eistedd yn ei ymyl ef; ie a phan y rhoddo efe Farnar weithredwyr anwiredd, pa vn bynnag ai Angelion, ai Dynion fyddont, chwithau hefyd a gewch roddi eich gair yn ei blaid ef yn y Farn honno; o herwydd eu bod yn elynion iddo ef ac i 1 Cor. 6. 2, 3. chwithau hefyd. A phan ddychwelo ir Ddinas, chwithau hefyd a gewch fyned gydag ef, â sain Udcorn, lle y cewch breswylio yn dragywydd, yn ei ŵydd ef.

Yn awr tra yr oeddent fal hyn yn nessau tua'r Porth, wele liaws o'r llu nefol a ddaeth allan iw Cyfarfod hwynt; wrth ba rai y dywedodd y ddau wr discl [...]ir; dyma'r gwyr a garasant ein H [...]rglwydd ni pan yr oeddent yn y Byd; ac a ymadawsant â'r cwbl er mwyn ei Enw sanctaidd ef; ac efe a'n danfonodd ni iw Cyrchu hwynt; ac nyni a'i dygasom hwynt hyd yma yn eu Taith ddymunol, fal y gallont fyned [Page 317] i mewn, ac edrych yn wyneb eu Prynwr gydâ llawenydd. Yna y llû nefol a floe­ddiasant yn grôch, gan ddywedyd, Bendigedig yw y rhai a elwir i Neithi­or Swpper yr Oen. Dat. 19 9.

Daeth allan hefyd ar yr amser hynny amryw o Vdcanwyr y Brenin, iw cy­farfodd hwynt, wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion disclair, y rhai â'i pe­raidd-gerdd a'i hyfryd lais Ʋchel. Soniarus, a wnaethant i'r Nefoedd ddatseinio. Yr Vdcanwyr hyn a gyfarchasant well i Gristion a'i Gdymaith, ac a ddyweda­sant, Croeso wrthych filoedd o weithiau o'r Byd; a hyn a wnaethant gydâ Bloedd a sain Vdcyrn.

Ar ol hyn, hwy a'u cylchynasant hwy ar bob tu; rhai a aethant ymmlaen, a rhai yn ôl, rhai ar y llaw ddehau, a rhai ar y llaw asswy (megis iw gwarchod a'u cadw nhw, trwy'r parthau vchaf) dan seinio yn ddibaid, â phob rhyw fe­lys-gerdd hyfryd; hyd oni thybiai 'r sawl a allai eu gweled hwynt, ddescyn o'r Nefoedd ei hun iw cyfarfod hwynt. Ac fal hyn hwy a aethant ym-mlaen ynghyd: Ac fal yr oeddent yn rhodio, yr oedd yr Vdcanwyr yn canu yn fynych, gyda llais llawen ac hyfryd, gan eu hymddwyn eu hunain, yn dirion ac yn garuaidd tuag at Cristion a'i Frawd, [Page 318] gan arwyddocau, trwy eu hymddygiad hyfryd tuag attynt, y Groesaw oedd iddynt iw Cymdeithas, ac mor llawened y daethent iw cyfarfod hwynt: Ac yn awr yr oedd y ddau wr megis yn y ne­foedd, cyn iddynt ddyfod atti; ac yr oeddent yn ymfodloni yn ddirfawr, wrth weled yr anneirif lû o Angelion oddiamgylch; ac wrth wrando ar eu melysgerdd a'u peraidd gân Soniarus. Erbyn hyn yr oeddent mewn golwg i'r Ddinas; ac hwy a dybygent glowed o honynt yr holl glŷch yn canu, iw groe­sawi hwynt yno; Eithr vwchlaw 'r cwbl, yr oedd eu calonnau nhw wedi eu llenwi â llawenydd, pan y meddylient, y caent breswylio yn y Ddinas hon, yn dragwy­ddol, gydâ'r cyfryw gyfeillion: oh! pa bin ysgrifennu neu Dafod sydd yn abl Gosod allan. datgan, eu Gogoneddus Lawe­nydd hwynt yn y matter yma. Ac fal hyn y daethant i fynu at y porth.

Yn awr pan ddaethant at y porth, yr oedd yn scrifennedig vwch ei ben ef, mewn llythrennau Aur, Gwyn eu byd y rhai sy'n gwneuthur eu orchymynion ef, fel y byddo iddynt fraint ym mhren y Bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy 'r pyrth i'r Ddinas. Dat. 22. 14.

Yna y clywais y Gwyr disclair, yn erchi iddynt guro wrth y Porth; a [Page 319] phan y gwnaethant felly, rhai o'r Gwyr oddifewn a edrychasant dros y Porth, sef, Enoch, Moses, ac Elias, &c. ac fe ddywedpwyd wrthynt, dymma Bere­rinion wedi dyfod o Ddinas Destryw, o herwydd y cariad oedd ganthynt at Fre­nin y lle yma: Ac ar ôl hynny y Pere­rinion a roddasant i mewn iddynt, bob vn ei Dysti­olaeth. Certificat, y rhai a dderbyniasant yn nechreuad eu Taith: hwythau a'u dygasant i mewn ac a'u dangosasant i'r Brenin; ac wedi iddo eu darllain, efe a ofynnodd pa le y mae 'r Gwyr? hwy­thau a attebasant y maent yn sefyll wrth y Porth: Yna'r Brenin a orchymynodd agor y Porth, fel y dêl (ebe fe) y gen­hedl gyfiawn i mewn, yr hon a geidw wi­rionedd. Esay. 27. 2.

Yn awr gwelwn yn fy Mreuddwyd, y ddau wr yn myned i mewn trwy'r Porth; ac wele hwyn gynted ac yr aethant i mewn, fe a newidiwyd eu gwêdd, ac fe 'i gwiscwyd hwynt â dillad yn discleirio fel Aur. Yno he­fyd y cyfarfu â hwynt rai, â Thelynau a Choronau ganthynt; y rhai a rodda­sant iddynt hwy (y Telynnau i ganu mawl â hwynt, a'r Coronau yn arwydd o anrhydedd) Yna mi a glowais holl Glych y Ddinas yn canu drachefn o wir lawenydd; a dywespwyd wrth y [Page 320] Pererinion, Ewch i mewn i lawenydd eich Arglwydd. Myfi a glowais hefyd y Gwyr eu hunain, yn canu â lleferydd vchel, gan ddywedyd, i'r hwn sydd yn eistedd ar yr Orseddfaingc, ac i'r Oen, y byddo y Fendith, a'r Anrhydedd, a'r Dat. 5. 13. Gogoniant, a'r Gallu yn oes oesoedd.

Yn awr, cyn gynted ac yr agorwyd y Porth, i ollwng y Pererinion i mewn, mi a edrychais ar eu hôl hwynt; ac wele yr oedd y Ddinas yn discleirio fel yr Haul; yr Heolydd hefyd oeddynt wedi Eu pafio. eu palmentu ag Aur, a nifer fawr o wyr yn rhodio ynthi, â Choronau ar eu pennau, a phalmwydd yn eu dwylo, a Thelynnau Aur i ganu mawl â hwynt.

Yr oedd yno rai hefyd âg Adenydd ganthynt; ac yr oed ent yn Atteb y naill y llall, heb orphwys ddydd a nôs gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Esay 6. 2, [...]. yw Arglwydd y lluoedd. Ac o'r diwedd, hwy a gauasant y pyrth; a phan y gwe­lais i hynny, mi a ddymunais fy mod yn eu mysg hwy.

Yn awr fal yr oeddwn yn meddwl yn­of fy hun, am yr holl bethau a welswn, mi a edrychais yn fy ôl, ac a ganfum Anwybodaeth yn dyfod i lan yr Afon; eithr efe a ddaeth trosodd yn ebrwydd; oblegid ni chafod efe hanner y rhwystr a gawsai y ddau wr arall, wrth ddyfod [Page 321] trwyddi. Canys fe ddigwyddodd y pryd hynny, fôd yno Fadwr, yr hwn a elwid Gwag-Obaith, yr hwn a'i du­godd ef trosodd yn ei Cafan. Fâd: felly efe a escynnodd i'r Bryn i ddyfod tua 'r Porth fel y lleill; eithr efe a ddaeth wrtho ei hunan; canys ni daeth neb iw gyfarfod ef, gan roddi iddo 'r cyssur lleiaf yn y Byd. A phan ddaeth i fynu at y porth, fe a edrychodd ar yr yscrifen yr hon oedd vwch ben; a chwedyn fo a dde­chreuodd guro, gan dybied, y cawsei ei dderbyn i fewn yn Ddiaros. ddiattreg: eithr y gwyr a edrychasei dros y porth, a ofyn­nasant, o ba le yr oedd e'n dyfod? A pha beth a fynnei? Yntef a attebodd, mi Luc. 13. 26, 27. a fwyteais ac a yfais gyda'r Brenin, ac efe a ddyscodd yn ein Heolydd ni. Yna hwy a ofynnasant iddo am ei Dystio­laeth. Certifi­cat, fel y gallent fyned i mewn, ai ddan­gos i'r Brenin. Felly fo a chwiliodd yn ei fonwes, ond ni chafodd efe yr vn. Yna ebe nhwy, A oes un gennych? Eithr nid attebodd e iddynt vn gair. Felly hwy a fynegasant y cwbl i'r Bre­nin; eithr efe a neccaodd ddyfod i wa­red iw weled ef; ond efe a orchymyn­nodd i'r ddau wr disclair (y rhai a fua­sent yn cyfarwyddo ac yn cynnorthwyo Cristion a Gobeithiol i ddyfod i'r Ddinas) i fyned allan a chymmeryd Anwybodaeth, Mat▪ 22. 13. [Page 322] a rhwymo eu Draed a'i ddwylo, ai ddwyn ymaith. Ac hwy ai cymmerasant, ac a'i dyga­sant ef trwy'r Awyr, i'r Drws a welswn ar ochor y Bryn, ac ai bwriasant ef i mewn yno. Yna mi a welais fod ffordd i Ʋffern, o Byrth y Nefoedd, yn gystal ac o Ddinas Destryw. Felly mi a ddeffroais, ac wele Breuddwyd oedd.

DIWEDD.

Gweddi wedi ei chasclu o'r Psalmau;

1. Ymbaratoad i weddi.

ARglwydd clyw fy ngweddi, a gwrando ar fy neisyfiadau: erglyw fi er mwyn dy wirionedd a'th gyfiawnder. Clyw ô Dduw fy llefain, a gwrando fy ngweddi, Psal. 143. 1. Psal. 61. 1.

2. Cyffes edifeiriol am bechod.

Wele mewn anwiredd i'm llunniwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf. Drygau anifeiriol a gylchynasant o'm hamgylch, fy mhechodau a'm daliasant, fel na allwn edrych i fynu; amlach ydynt nâ gwallt fy mhen; am hynny y pallodd fy nghalon gennif. Yna 'r ymo­fidiodd fy yspryd o'm mewn: ac y synodd fyng­halon ynof. Gosodaist fy anwiredd ger dy fron, a'n nirgel bechodau yng-oleuni dy wyneb. Os [Page 323] creffi ar anwireddau Arglwydd: ô Arglwydd pwy a saif? Psal. 51. 5. Psal. 40. 12. Psal. 143. 4. Psal. 90. 8. Psal. 130. 3.

3. Gweddi am faddeuant pechodau.

Na ddôs i farn Arglwydd a'th wâs, o her­wydd ni chyfiawnheir néb byw ger dy fron di. Er mwyn dy enw Arglwydd maddeu di fy an­wiredd, canys mawr yw. Pwy a ddeall ei gam­weddau? glanha fi oddiwrth fy meiau cuddiedig. Attal hefyd dy wâs oddiwrth bechodau rhyfy­gus, na arglwyddiaethant arnaf: yna i'm per­ffeithir, ac i'm glanheir oddiwrth anwiredd lawer. Psal. 143. 2. Psal. 25. 11. Psal. 19. 12, 13.

4. Ffydd am gael heddwch Duw.

O Arglwydd fy Nuw, lledais fy nwylaw attat: fy enaid fel tîr sychedig sydd yn hiraethu am da­nat. Wele fel y mae llygaid gweision ar law eu meistred, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law meistres; felly y mae fy llygaid i ar yr Arglwydd fy Nuw, hyd oni thrugarhao efe wrthif. Dychwel Arglwydd, gwared fy enaid: iachâ fi er mwyn dy drugaredd. Psal. 143. 6. Psal. 123. 2. Psal. 6. 4.

5. Ffydd yn ymegnio i orchfygu anobaith.

Paham i'th ddarostyngir fy enaid? a phaham y terfysci ynof? ymddiried yn Nuw; canys etto y moliannaf ef, sef, iechydwriaeth fy wyneb a'm Duw. Canys ennyd fechan y bydd yn ei lîd, ac yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: tros bryd­nawn yr erys wylofain, ac erbyn y boreu y bydd gorfoledd. Trugarog a gras-lawn yw 'r [Page 324] Arglwydd: hwyrfrydig i lîd, a mawr o druga­rogrwydd. Fel y tosturia tâd wrth ei blant, felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a'i hofnant ef. Canys efe a edwyn fy nefnydd i: efe a gofia mai llwch ydwyf fi. Psal. 42. 11. Psal. 30. 5. Psal. 103. 8, 13, 14.

6. Gweddi am adenedigaeth ac am yr yspryd glân.

Crea galon lân ynof ô Dduw, ac adnewydda yspryd vniawn o'm mewn. Dwg drachefn i i mi orfoledd dy iechydwriaeth; ac â'th hael Yspryd cynnal fi; a dyscaf dy ffyrdd i rai an­wir: a phechaduriaid a droir attat. Psal. 51. 10, 12.

7. Gweddi am allu o honom vfyddhau i Dduw yn ein buchedd.

Drylliwyd fy enaid gan awydd i'th farne­digaethau bôb amser. O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau. Mi a rodiaf yn fym-mher ffeithrwydd: gwared fi a thrugarhâ wrthif Psal. 119. 5, 20. Psal 26, 1.

8. Gweddi am fywyd tragwyddol.

Cofia fi o Arglwydd yn ól dy raslonrwydd i'th bobl, ym-wêl à mi â'th iechydwriaeth: fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawe­nychwyf yn llawenydd dy genhedl di: fel y gor­foleddwyf gyd â'th etifeddiaeth. Psal. 106. 4, 5.

9. Diwedd a Diolch i Dduw.

Bendigedig a fo Arglwydd Ddnw Israel bôb amser ac yn dragywydd, a dy weded yr holl bobl felly byddo, Amen: molwch yr Ar­glwydd. Psal. 106. 48.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.