PSALM. 1.
1
Y Sawl ni rodia, dedwŷdd ŷw
yn ôl drŵg ystrŷw gyngor,
Ni saif ar ffordd troseddwŷr ffol,
nid eiste 'n stôl y gwatwor.
2 Ond ei hôll serch e fŷdd yn rhwŷdd,
ar ddeddf yr Arglwŷdd uchod:
Ac ar ei ddeddf, rhŷdd ddŷdd a nôs,
yn ddiddos ei fyfyrdod.
2
3 F [...] fŷdd fel pren plann ar lan dôl;
dŵg ffrwŷth amserol arno,
Ni chrina ei ddalen, a'i holl waith,
a lwŷdda yn berffaith iddo.
4 Nid fellu bŷdd y drŵg dirûs.
ond fel yr us, ar gorwŷnt:
Yr hwn o'r tîr a'i chwŷth a'i chwâl,
anwadal fŷdd ei helŷnt.
3
5 Am hŷn y drŵg ni saif mewn barn
o flaen y cadarn unlawi [...]
Na'r pechaduriaid mawr eu bâr,
ynghynulleidfa 'r cyfiawn
6 Canŷs vr Arglwŷdd D'uw fel hŷn,
a edwŷn ffŷrdd gwirioniald:
Ac es ni âd bŷth i barbau,
mo lwŷbrau pechaduriaid.
PSALM. 2.
1
PAham y terfŷsc gwŷr y Bŷd,
a pham y cyfŷd rhodres?
Pam mae 'r bobloedd yn cŷd-war,
yn eu bwriadau diles?
2
2 Codi y mae brenhinoedd Bŷd,
a'u brŷd yn gŷd-gynghorol:
Yn erbŷn Duw a Chrîst (ein plaid)
y mae pennaethiaid bydol.
3 Drylliwn eu rhwŷmau, meddant [...]w [...] ▪
ni wnawn ni mwŷ ufudd-dod:
Ac ymaith taflwn eu trom iau,
Ni ohânt yn frau mo'n gorfod.
3
4 Ond Duw'r hwn sŷdd uwch wŷbrol [...]
a chwardd am ben eu geiriau:
Yr Arglwŷdd nêf a wêl eu bâr,
efe a'u gwatwar hwŷthau.
5 Yna y dywaid yn ei lîd,
a hŷn fŷdd rhŷ-brid iddŷn:
O'i eiriau ef a cyfŷd braw▪
a'i ddig a ddaw yn dd [...]ŷn,
4
6 Gosodais inne [...] ( [...]eddai ef)
a llaw grêf yn dragywŷdd,
Fy mrenin i, yn llywŷdd llon,
ar sanctaidd Seion fynŷdd.
7 Dymma'r ddeddf a ddywedai yn rhwŷdd,
hon gan yr Arglwŷdd clywais:
Ti ŷw fy mab (o'm perffaith rŷw)
heddŷw i'th genhedlais.
5
8 Gofŷn i'm, a mi it' a'i rhŷdd,
hôll wledŷdd iw 'tifeddu:
Y cenedlaethau dros y Bŷd,
igŷd a gai eu meddianu.
9 Ti a'u briwi hwŷnt yn dy farn,
a gwielŷn haiarn hirion:
Ti a'u maluri, hwŷthau ân
mor fân a llestri priddion.
6
10 Am hŷn yn awr frenhinoedd coeth,
byddwch ddoeth, a synhwŷrol:
A chwithau farnwŷr cymrwch ddŷsg,
i ostwng terfŷsg fydol.
11 Gwasnaethwch chwi yr Arglwŷdd nêf,
ac ofnwch ef drwŷ oglud:
A byddwch lawen yn Nuw cû,
etto drwŷ grynu hefŷd.
7
12 Casenwch y mab rhag ei ddig,
a'ch bwrw yn ffyrnig heibio.
A gwŷn ei fŷd pôb calon lân,
a ymddlriedan yntho.
PSALM. 3.
1
O Arglwŷdd, amled ydŷw'r gwŷr;
sŷdd yn drallodwŷr i mi:
A llawer iawn i'm herbŷn sŷdd,
o ddŷdd i ddŷdd yn codi.
2 Dywedai lawer or gwrthgŷrch blaid
vn drwm am f'enald eisoes:
Nid oes iddo yn ei Dduw Iôr,
chwaith fawr ystôr o'i einioes.
2
3 Tithau O Arglwŷdd ymhôb man,
ydwŷd yn darian i mi;
Fy ngogoniant wŷt; tuar nen
a codi fy mhen i fynu.
4 Ar Dduw yr Arglwŷdd a'm holl lais
a gelwais yn dosturaidd,
Ac ef a'm clybu i ar frŷs,
o'i uchel freinllŷs sanctaidd.
3
5 Mi orweddais, ac a gysgais,
ac mi a godais gwedi:
Canŷs yr Arglwŷdd oedd i'm dal,
i'm cynnal, ac i'm codi.
6 Nid ofnaf fi, o'r achos hwn,
mo fyrddiwn sŷdd yn barod,
O bobloedd o'm hamgŷlch yn dŷnn,
i'm herbŷn wedi dyfod.
4
7 Cyfod ti Arglwŷdd, achub fi,
drwŷ gosps fy ngelynnion:
Tarewaist yr ên, torraist eu daint,
er maint yr annuwiolion.
8 I'r Arglwŷdd bŷth (o achos hŷn)
a perthŷn iechŷdwriaeth:
Ac ar ei bobl a disgŷn gwlîth,
ei fendith yn dra helaeth.
PSALM. 4.
1
DUw fy nghyfiawnder clywaist fi,
i'm cledi pan i'th el wais:
Rhŷddhaist fi, dod i'm un wêdd
drugaredd, clŷw fy oer-lais.
2 O feibion dynnion hŷd ba hŷd
a trowch trwŷ gŷd ymgabledd,
Fy mharch yn warth? a hynnŷ sŷdd
drwŷ gelwŷdd, a thrwŷ wagedd.
2
3 Gwŷbyddwch ethol o Dduw cûn,
iddo ei hûn y duwiolaf:
A phan alwŷf arno yn hŷ,
efe a wrendy arnaf.
4 Ofnwch, a thewch, ac na phechwch,
meddyliwch ar eich gwelŷ:
5 Aberthwch, gobelthiwch Dduw nêr,
rhodd cyfiawnder ŷw hynnŷ.
3
6 Pwŷ (medd llaweroedd) y prŷd hŷn,
a ddengŷs i'n ddaioni?
O Arglwŷdd dercha d'wŷneb prŷd,
daw digon iechŷd i ni.
7 Rhoist i'n calon lawenŷdd mwŷ:
(a hynnŷ trwŷ dy fendith:)
Nag a fyddai gan rai yn trîn,
amlder o'u gwîn a'u gwenith.
4
8 Mi orweddaf ac a hunaf,
a hynnŷ fŷdd mewn heddwch:
Can's ti Arglwŷdd o'th unig air,
a bair i'm ddiogelwch.
PSALM. 5.
1
ARglwŷdd clŷw 'ngweddi yn ddiball,
Duw deall fy myfyrdod:
2 Erglŷw fy llais a'm gweddi flin,
fy Nuw a'm brenin hŷglod.
3 Yn foreu gwrando fi fy Naf,
yn foreu galwaf arnad:
4 Can's nid wŷd Dduw i garu drŵg,
ni thrîg i'th olwg anfad.
2
5 Ni saif ynfydion yn dy flaen,
na'r rhai a wnaen anwiredd:
Y rhal hŷn sŷdd gennŷt yn gâs,
sef diflas it bôb gwagedd.
6 Y rhai a ddywedant ffŷg a hûd,
a phôb gwŷr gwaedlud creulon,
Ti a'u tynni hwŷnt o'r gwraidd,
fel ffiaidd annuwiolion.
3
7 Dof finneu tua'th dŷ mewn hêdd,
am dy drugaredd galwaf:
Trwŷ ofn a pharch, a goglud dwŷs,
i'th sanctaidd Eglwŷs treiglaf.
8 I'th gyfiawnder arwain fi Nêr,
[...]h [...]g blinder a chasineb.
Duw gwna dy ffordd heb ofn y rhain,
yn wastad oflaen fy wŷneb.
4
9 Can's iw genau nid oes dim iawn,
mae llygredd llawn iw ceudod:
Eu gyddfau fel ceulannau bêdd,
a gwagedd ar eu tafod.
10 Distrywia hwŷnt iw camwedd, Iôn,
o'u hôll gynghorion cwŷmpant,
Ymaith a nhwŷ, a'u hôll ddifri,
i'th erbŷn di rhyfelant.
5
11 A'r rhai a'mddiried ynot ti,
a'm it' gysgodi drostŷnt,
Llawenhant, y rhai a'th gâr,
cei fawl yn llafar ganthŷnt.
12 Canŷs ti (Arglwŷdd) anfoni wlîth,
dy fendith ar y cyfion:
A'th gywŷr serch fel tarian gref,
rhoi drosto ef yn goron.
PSALM. 6.
1
O Arglwŷdd na cherydda fi,
ymhoethni dy gynddaredd:
Ac na chospa fi 'n dy lîd,
o blegid fy enwiredd.
2 O Arglwŷdd dy drugaredd dôd,
rwŷf lesg mewn nychdod rhŷbrudd:
O Arglwŷdd tyred, iacha fi 'n chwŷrn,
mae fy esgŷrn mewn cystudd.
2
3 A'm henaid i o'r llesgedd hŷn,
sŷdd mewn dychrŷn sceler:
Titheu O Arglwŷdd, pa rŷw hŷd
a rhoi arnaf adfŷd brudd-der.
4 Duw gwared f' enaid, dychwel di,
iachâ fi a'th drugaredd:
5 Nid oes yn angeu gôf na hawl,
a phwŷ ath fawl o'r pridd-fedd?
3
6 Diffygiais gan ochain bôb nôs,
mewn gwâl anniddos foddfa:
Rwŷ'n gwlychu drwŷ y cystudd mau,
a'm dagrau fy ngorweddfa.
7 O ddig i'm câs, a goddef drŵg,
fy ngolwg sŷ'n tywŷllu;
A chan y dwfr a rêd yn rhaff,
ŷnt angraff, ac yn pylu.
4
8 Pôb un a wnelo, aed ymhell,
na dichell nac enwiredd,
Canŷs clybu yr Arglwŷdd fy llais,
pan lefais am drugaredd.
9 Yr Arglwŷdd clybu ef fy arch,
rhof finneu barch a mollant:
Fe dderbŷn fy ngweddi i a'm [...],
am hŷn yr haedd og [...]
5
10 Fe wradwŷddir, fe [...],
yn ddîhir fy ngelynnion:
Ac fe ddychwelir drŵŷ fodd [...],
hwŷnt yn ddisymwth ddigon.
PSLAM. 7.
1
O Achub fi fy Nuw, fy Nêr,
can's mae fy hyder ynod:
Rhag fy erlidwŷr gwa [...]ed fi,
can's mae o'r rheini ormod.
2 Rhag llarpio f'enaid fel y llew,
heb un dŷn glew a'm gwerŷd:
A'm rhwŷgo i yn ddrylliau mân,
fel dyna amcan gwaedlŷd.
2
3 O Arglwŷdd Dduw os gwnaethŷm hŷn,
os drŵg sŷ yn fy nwŷlaw,
4 Na thrwŷ ymddiried, dwŷll i nêb,
pe bawn wrthwŷneb iddaw;
5 I erlid f' oes y gelŷn doed,
dalied, a rhoed fi'n isaf:
A sathred f' urddas yn y llwch,
drwŷ 'r diystyrwch eithaf.
3
6 Cyfod o Dduw, cyfod i'th ddîg,
a gostwng bîg pôb gelŷn:
A deffro drosof yn y farn,
sef cadarn ŷw d' orchymŷn.
7 Pan welŷch yr hôll bobl yn llu,
a ddaw o'th ddautu attad:
Duw dychwel i'th farn er eu mwŷn,
a gwrando 'n cwŷn yn wastad.
4
8 Duw dyro i'r bobl y farn glau,
a barn di finnau Arglwŷdd:
Ac fel yr haeddals dôd farn iawn,
yn ôl fy llawn berffeithrwŷdd.
9 Derfŷdd anwiredd y rhal drŵg,
gwna 'n amlwg ffordd y cyfion:
Can's union wŷd, a chraff, Duw cu,
yn chwllio deutu'r galon.
5
10 Ac am fôd Duw yn canfod hŷn,
Duw ŷw f'amddiffŷn inneu:
Duw sŷdd iachawdwr i bôb rhai,
sŷdd lân ddifai eu calonnau.
11 Fellu mae Duw bŷth ar yr iawn,
a Duw ŷw'r cyfiawn farnŷdd,
Wrth yr annuwiol ar bôb tro
mae Duw yn digio beunŷdd.
6
12 Ac oni thrŷ 'r annuwiol câs,
fe lifa ei loŷwlas gleddeu:
Ar i blŷg i mae bwa 'r Iôn,
a'i barod lymmion saethau.
13 Sef arfau angeu at y nôd,
y maent yn barod ddigon:
Ac ni saetha ergŷd bŷrr
at yr erlidwŷr poethion.
7
14 Wele hanes y gelŷn drŵg,
efe a ymddwg ar draha:
O cnŵŷdd ar gamwedd, beichiog fŷdd
ar gelwŷdd yr esgora.
15 Cloddiodd ef bwll hŷd eigion llawr,
o fwriad mawr i'r truan:
Ac ef a syrthiodd ymron bawdd,
i'r dŷfn, iw glawdd ei hunan.
8
16 Ei hôll enwiredd ar ei ben,
o uchder nen a ddiscŷn:
A Duw a ddymchwŷl yr un wêdd,
ei gamwedd ar ei gorŷn.
17 Im Harglwŷdd Dduw rhof finneu glôd,
câf ganfod ei gyfiawnder:
A chanmolaf ei enw yn rhwŷdd,
yr Arglwŷdd o'r uchelder.
PSALM. 8.
1
O Arglwŷdd ein Iôr ni a'n nerth,
mor brŷdferth wŷd drwŷ'r hôll fŷd:
Dy enw, a'th barch, a roist uwch ben
daiar ac wŷbren hefŷd.
2 Peraist ti nerth o enau plant,
a rhai a sugnant beunŷdd;
Rhag d' elynion, tawed am hŷn,
y gelŷn a'r dialŷdd.
2
3 Wrth edrŷch ar y nefoedd faith,
a gweled gwaith dy fysedd,
Y lloer, y sêr, a threfn y rhôd,
a'u gosod mor gyfannedd.
4 Pa beth ŷw dŷn it iw goffau,
o ddonniau ac anwŷl-fraint?
A pheth ŷw mâb dŷn yr un wêdd
lle rhoi ymgeledd cymaint?
3
5 Ti wnaethost ddŷn o fraint a phris,
ychydig îs Angylion:
Mewn mawr ogoniant, parch, a nerth,
rhoist arno brydferth goron.
6 Ar walth dy ddwŷlo îs y nêf,
a gwnaethost ef yn bennaeth:
Gan osod pôb peth tan ei draed,
iddo a gwnaed llywodraeth:
4
7 Defaid, gwartheg, a hôll ddâ maes;
a'r adar llaes eu hesgŷll,
Ehediaid nêf, a'r pŷsg o'r don,
sŷ'n tramwŷ'r eigion erchŷll.
8 O Arglwŷdd ein Iôn ni, a'n nerth,
mor brydferth wŷd drwŷ'r hollfŷd!
Dy enw a'th barch a roist uwch ben
daiar ac wŷbren hefŷd.
PSALM. 9.
1
CLodforaf fi fy Arglwŷdd Iôn,
o'm calon, ac yn hollawl:
Ei ryfeddodau rhof ar lêd:
ac mae'n ddylêd eu canmawl.
2 Byddaf fi lawen yn dy glôd,
ac ynod gorfoleddaf:
I'th enw (o Dduw) y canaf glôd,
wŷd hynod, y Goruchaf.
2
3 Tra dychwelir draw'n eu hôl
fy holl elynol Iuoedd,
Llithrant o'th flaen, difethir hwŷ,
nl ddônt hwŷ mwŷ iw lleoedd.
4 Can's rhoist fy marn yn fatter dâ,
gwnaethost eisteddfa union:
E [...]s [...]ddaist ar y gwîr yn siwr,
tydi ŷw 'r barnwr cyfion.
3
5 Ceryddaist, a distrywiaist di
y cenhedlaethi cyndŷn:
Diwreiddiaist ynfŷd yn y bôn,
ni bŷdd bŷth sôn am danŷn.
6 Distrywiaist dithau (elŷn glâs)
do lawer dinas hyfrŷd:
Darfu dy nerth bŷth, darfu hŷn,
a'r côf o honŷn hefŷd.
4
7 Ond yr Arglwŷdd iw nerth a fŷdd,
ac yn dragywŷdd perŷ.
A pharod fŷdd ei faingc i farn,
a chadarn ydŷw hynnŷ.
8 Canŷs efe a farna 'r bŷd,
a'r bobl igŷd sŷdd yntho,
Trwŷ gyfiawnder, heb ofni nêb,
a thrwŷ uniondeb yno.
5
9 Gwna'r Arglwŷdd hefŷd hŷn wrth raid,
trueiniaid fe'u hymddiffŷn:
Noddfa a fŷdd i'r rhain mewn prŷd,
pan fo caledfŷd arnŷn.
10 A phawb a'th edwŷn rhôn eu crêd,
a'u holl ymddiried arnad:
Canŷs ni adewaist (Arglwŷdd) nêb,
a drodd ei wŷneb attad.
6
11 Molwch chwi'r Arglwŷdd yr hwn sŷdd,
yn sanctaidd fynŷdd Seion:
A dywedwch i'r bobl fel yr oedd
ei hôll weithredoedd mawrion.
12 Pan chwilio efe am waed neu drais,
fe gofia lais y truain:
Pan eisteddo ar faingc y frawd,
fe glŷw y tlawd yn ochain.
7
13 Dy nawdd Arglwŷdd, dydi im' sŷdd
dderchafŷdd, o bŷrth angeu:
A gwel fy mlinder gan fy nghâs,
ar sŷdd o'm cwmpas inneu.
14 Fel a mynegwŷf dy hôll wŷrth,
a hŷn ymhŷrth merch Seion:
Ac fel a bwŷf lawen, a ffraeth,
i'th lechŷdwriaeth dirion.
8
15 Y cenhedloedd cloddient ffôs,
lle a suddent, agos boddi:
I arall lle cuddiasant rwŷd,
eu traed a faglwŷd ynddi.
16 Yr Arglwŷdd nêf fel hŷn yn wir,
adwaenir wrth ei farnau:
A'r annuwiol a wnaeth y rhwŷd,
yn hon a dalwŷd ynteu.
9
17 Yr annuwiol i uffern [...],
ac yno gwnaed ei welŷ:
A'r rhai a ollyngant Dduw dros [...] ▪
bŷdd yno fŷth eu llettŷ
18 Can's bŷth y gwirion, a'r dŷn tlaw [...]
hŷd ddŷdd brawd a cofir:
Y gweinlaid a'r trueinlaid hwŷ,
eu gobaith mwŷ ni chollir.
10
19 O cyfŷd Arglwŷdd yn dy wŷn,
na âd i ddŷn mo'th orfod:
Barna'r cenhedloedd gar dy fron,
a'th farn yn union gosod.
20 Gŷrr arnŷnt Arglwŷdd ofn dy rŷm,
yn awchlŷm i'th elynnion:
Fel a gwŷbyddont, pe baent mwŷ,
nad ydŷnt hwŷ ond dynnion.
PSALM. 10.
1
O Arglwŷdd pam a sefi di,
oddiwrthŷm ni cŷn belled?
Pam yr ymguddi di a'th rŷm,
pan ydŷm mewn caethiwed?
2 Y drygrai sŷdd yn blino'r tlawd,
gan drallawd, a chan falchder:
Yn y dichellion a wnae'r rhain,
hwŷnt hwŷ eu hunain dalier.
2
3 Hôff gan ddŷn drŵg ei chwant ei hun,
pawb yn gydtûn a'i bechod:
Bendithio mael ydŷw eu swŷdd,
a'r Arglwŷdd maent iw wrthod.
4 Yr annuwlol ni chais Dduw nêr,
(mae ef o falchder cyfuwch)
Ni chred ef, ac ni feddwl fôd,
un fâth awdurdod goruwch.
3
5 Am fôd ei ffŷrdd mewn llwŷddiant hîr,
ni wel mo'th wîr gyfammod:
Bŷdd dordŷn wrth elynnion mân,
fel chwŷthu tân mewn sorod.
6 Fe ddywedodd hŷn a'i feddwl sŷth,
ni ddigwŷdd bŷth im adfŷd:
Ni'm symudir o oes i oes,
ni châf na gloes, na drygfŷd.
4
7 Yn ddichellgar, dwŷllgar iawn,
a'i safn yn llawn melldithion:
Tan ei dafod mae camwedd,
a thraws enwiredd creulon.
8 Mewn cilfechŷdd disgwŷll fan,
i lâdd y truan gwirion:
Ac ar y tlawd â llygad llŷm
yn dangos grŷm ei galon.
5
9 Fe orwedd fel y llew mewn ffau,
i fwrw ei faglau trawsion:
Y gwan a'r tlawd a dŷn iw rwŷd,
ac yno a daliwŷd gwirion.
10 Fe duchan, fe a'mgryma ei hun,
fel un ar farw o wendid,
Ac ef yn grŷf, â fel un gwael,
ar wan i gael ei ergŷd.
6
11 Yn ei galon dwedodd am Dduw,
nad ydŷw yn gofiadur:
Cuddiodd ei wŷneb, ac ni wêl
pa beth a wnêl creadur.
12 Cyfŷd Arglwŷdd, dercha dy law,
dy fôd i'n cofiaw dangos:
Ac nag anghofia pan fo rhaid,
dy weiniaid a'th werinos.
7
13 Paham a cablant hwŷ wîr Dduw,
yr enwir annuw lledffrom?
Pam a meddyliant arnat ti
nad ymofynni am danom?
14 Gwelaist hŷn, canfyddi drais,
a chospi falais anfad:
Tydi ŷw gobaith tlawd, a'i borth,
a chymmorth yr ymddifad.
8
15 Tor ymaith yr annuwiol rŷm
yn gyflŷm, a'r maleusus;
Cais allan eu hanwiredd hwŷ,
ni chai di mwŷ 'n ddrygionus.
16 Yr Arglwŷdd sŷdd yn frenin bŷth,
ef ŷw'r gwhelŷth lywŷdd:
Distrywŷd pob cenhedlaeth grêf
o'i dîr ef yn dragywŷdd.
9
17 Duw, gweddi'r gwan a glywaist di,
ac a gysuri 'r galon:
Tro eilwaith attom y glust dau,
a chlŷw weddiau ffyddlon.
18 Tros yn ymddifad a rhoi farn,
a'r gwan fŷdd cadarn bellach:
Megis nas gall daiarol ddŷn
mo'r pwŷso arnŷn mwŷach.
PSALM. 11.
1
CRedaf i'r Arglwŷdd yn ddi-nam:
paham a dwedwch weithian
wrth f' enaid, ymmaith hêd i'th frŷn,
fel wrth aderŷn bychan?
2 Wele 'r annuwiol a'u bwâu,
a'u cawell saethau 'n barod,
Am wirioniaid yn llechu 'n fain,
i saethu 'r rhain o gysgod.
2
3 Y seilfain oll i lygredd aeth:
ond beth a wnaeth y gwirion?
4 Mae'r Arglwŷdd yn ei ddinas grêf,
gwarediff ef y cyfion.
Yr Arglwŷdd o'i orseddfa frŷ
at y tlawd trŷ ei olwg,
Gweithredoedd holl hiliogaeth dŷn,
iw lygaid ydŷn amlwg.
3
5 Mae'r Arglwŷdd o'r naturiaeth hon,
prawf gyfion er ymgeledd:
Ond câs ŷw gan ei enaid fe
ddŷn drŵg a hoffe wagedd.
6 Ar bechaduriaid marwor tân,
a brwmstan a ddaw 'n gafod,
A gwŷnt tymhestlog uchel iawn,
fel dyna lawn wialennod.
4
7 Can's cyfion ydŷw 'r Arglwŷdd nêr,
cyfiawnder mae 'n ei garu,
A'i wŷneb at yr union trŷ,
a hynnŷ iw ymgleddu.
PSALM. 12.
1
O Achub bellach Arglwŷdd cu,
fe ddarfu'r trugarogion:
A'r hôll wirionedd ar ball aeth,
blith hiliogaeth dynnion.
2 A gwefus gweniaeth dwedant ffûg:
er twŷll a hûg i'r eiddŷn,
A chalon ddyblŷg yr un wêdd
a cair oferedd ganthŷn.
2
3 Yr Arglwŷdd torred o'i farn faith
wefusau 'r gweniaeth diles:
A'r hôll dafodau ffrostus iawn
a fytho llawn o rodres
4 Gallwn orfod a nerth tafod,
dwŷ wefus ddewr sŷdd eiddom:
Fel hŷn a dwedant hwŷ yn rhwŷdd,
a phwŷ sŷdd Arglwŷdd arnom?
3
5 Ynteu ein Duw a ddwedodd hŷn
rhag llethu'r gwael-ddŷn codaf:
Y dŷn gofudus, tlawd, a'r caeth,
mewn iechŷdwriaeth dodaf.
6 Pur iawn ŷw geiriau Arglwŷdd nêf,
ei addewid ef sŷdd berffaith,
Fel arian o ffwrn, drwŷ aml dro
wedi ei goeth buro seithwaith.
4
7 Arglwŷdd, yn ôl dy air di
a'i cedwi mewn hyfrydwch
Bŷth rhag y ddrŵg genhedlaeth hon,
dy weision i gael heddwch.
8 Pan dderchafer y trawsion blin,
da ganthŷn drîn anwiredd.
Fellu daw dynnion o bôb parth
i fwŷ-fwŷ gwarth o'r diwedd.
PSALM. 14.
1
FE ddwedai 'r ynfŷd nad oes Duw,
ac Fellu bŷw drwŷ goegni:
Ymlygru'n ffiaidd, ni chais gêl:
nid oes a wnêl ddaioni.
2 O'r nêf yr edrychodd Iôn
ar hôll drigolion daiar,
A roddai nêb ei goel ar Dduw,
a cheisio bŷw 'n ddeallgar.
2
3 Fe giliodd pawb at lygredd bŷd,
ymdroent lgŷd mewn bryntni:
Nid oes un a wnêl well nâ hŷn,
nâg un a fŷn ddaioni.
4 Eu gwddf sŷ fêdd agored gau
maent â thafodau 'strywgar:
A gwenwŷn lindis sŷ'n parhau
dan eu gwefusau twŷllgar.
3
5 A'u genau llawn (fel gwenwŷn llîth)
o felldith, ac o fustledd:
Ac anian fywiog ŷw eu traed,
i dywallt gwaed a dialedd.
6 Distrŷw, anhap sŷ'n eu ffŷrdd
ni' dwacnant briffŷrdd heddwch,
Nid oes ofn Duw'n eu golwg hwŷ
ni cheifiant mwŷ 'difeirwch.
4
7 Pam? oni wŷddant hwŷ eu bôd
drwŷ bechod, y môdd ymma,
Yn ysu fy mhobl a'u cildroi
un wêdd a chnoi y bara?
8 Gweddio'r Arglwŷdd hwŷ ni wnânt,
yn hŷn dychrynant luoedd,
Am fôd Duw 'n dala gydâ'r iawn,
yn un a'r cyfiawn bobloedd.
5
9 Gwradwŷddech gyngor y tylawd
fel a gwnewch drallawd etto:
Am i'r tlawd gredu a dae llwŷdd
oddiwrth yr Arglwŷdd iddo.
10 Pwŷ â all roi i Israel,
o Selon uchel iechŷd?
Pwŷ ond ein Duw? yr hŷn pan wnêl,
bŷdd Iago ac Israel hyfrŷd.
PSALM. 16.
1
CAdw fi Dduw, can's rhois fy mhwŷs
a'm coel yn dra-dwŷs arnad:
2 Fy Arglwŷdd wŷd; mae dan fy mron,
y gyffes hon yn wastad:
Nad lles it ŷw, na'm dâ, na'm rhin:
3 Ond i drin sainct daiarol,
I lesu 'r rhain fy 'wllŷs ŷw,
y rhai sŷ'n bŷw'n rhinweddol.
2
4 I'r rhai a redant at Dduw gau,
y daw gofudiau amlder:
Eu diod offrwm o waed, ni
offrymaf fi un amser.
5 Hefŷd gwn mae 'r Arglwŷdd ŷw
fy môdd i fŷw, a'm phiol
A thydi Iôr, sŷ'n rhoi 'mi ran,
a chyfran yn ddigonol.
3
6 A thrwŷ Dduw syrthiodd i mi ran,
o fewn y fan hyfrydaf:
Digwŷddodd i mi, er fy maeth,
yr e ifeddiaeth lanaf.
7 Bendithi [...]f finneu Dduw fy Iôr,
hwn a roes gyngor i mi
F'arc [...]au hefŷd ddŷdd a nôs,
sŷdd im yn dangos hynnŷ.
4
8 Rhois fy nêr (bob awr) gar fy mron:
o'r achos hon ni lithraf,
Can's mae ef ar fy neheu law,
ymma na thraw ni syflaf.
9 O herwŷdd hŷn, llawen a llon
ŷw fy nghalon: ac ellwaith
Hyfrŷd ŷw 'mharch, a di-ddig,
a'm cnawd a drig mewn gobaith.
5
10 Can's yn uffern ni 'dewi di
mo'm henaid i, i aros:
Na'th anwŷl sanct (drwŷ naws y bêdd)
i weled llygredd ceuffos.
11 Dangosi i'm lwŷbr i fŷw'n iawn,
dy fron ŷw'r llawn lawenŷdd:
Can's yn dy nerth, nid yn y llwch,
'mae digrifwch tragywŷdd.
PSALM. 17.
1
O Clŷw gyfiawnder Arglwŷdd mâd,
ystŷr fy nâd i'th grybwŷll,
Clust ymwrando ar weddi glau
sŷdd o wefusau didwŷll.
2 Disgwilia 'marn oddiwrthit ti,
can's da y gweli 'r union:
Profaist a gwŷddost ganol nôs
mor ddiddos ydŷw 'nghalon.
2
3 Pan chwilia ft fi (da ŷw dy gôf)
ni chefaist ynof gamwedd,
[...]y myfŷr mâd, na'm meddwl llaes,
[...]a [...]daed i faes o'm dannedd.
4 I ochel cydwaith dynnion drŵg,
drwŷ d'air a'th amlwg gyngor,
Ffordd y dŷn traws haerllŷg llŷm,
fe ddysgwŷd i'm eu hepcor.
3
5 Ond yn dy union lwŷbrau di,
Duw cynnal fi yn wastad,
Rhag llithro allan o'th iawn hwŷl,
Duw disgwŷl fy n [...]herddediad.
6 Galw yr wŷf arnad am dy fôd
yn Dduw parod i wrando,
Gostwng dy glust, a chlŷw yn rhôdd
fy holl ymadrodd etto
4
7 Cyfranna dy ddaionus râd,
(ti rhwn wŷt geidwad ffyddlon)
I'r rhai sŷ'n ymroi dan dy law,
8 Rhag broch, a braw y trawsion.
Cadw fi fy Nuw rhag eu twŷll,
fel anwŷl ganwŷll llygad:
Ynghysgod dy adenŷdd di,
o cadw fi yn wastad:
5
9 Rhag yr annuwiol, a'i fawr bwŷs,
a rhag fy'nghyfi wŷs elŷn,
Y rhai a geisiant fy enaid i,
gan godi yn fy e [...]bŷn.
10 Maent hwŷ mor dordŷn, ac mor frâs,
ac yn rhŷ gâs eu geiriau:
Ac yn rhoi allan ffrôst ar lêd,
gan falched eu parablau.
6
11 Maent hwŷ yn amgylchu 'n flin,
lle yr ŷm ni 'n cyniwer,
Ac a'u golygon tua'r llawr
mewn gŵg a thramawr hyder.
12 Maent hwŷ fel Llew, dan godi gwrŷch
a fae yn chwennŷch ysclyfaeth:
Neu fel Llew ifangc (er i les)
a geisiai loches diffa [...]th.
7
13 Cyfod Arglwŷdd, o'i flaen ef, sâf,
dy help a gâf i'm henaid,
A tharo i lawr a'th gleddŷf noeth
yr enwir fflamboeth tanbaid.
14 Rhag gwŷr dy law, rhag gwŷr y bŷd,
fŷ a'u rhan igŷd oddiymma,
Gan lenwi eu boliau, a rhoi iw plant
yn fawr eu chwant, a'u traha.
8
15 Minneu mewn myfŷr, fel mewn hun
a welaf lun d'wŷnebprŷd,
A phan ddihunwŷf o'r hun hon
a byddaf ddigon hyfrŷd.
PSALM. 18.
1
O Iôr fy 'ngrŷm, caraf di'n fawr,
fy'nghreiglawr, tŵr fy'mwared:
2 fy Nâf, fy nerth, fy nawdd, fy Nuw,
hwn ŷw fy holl ymddiried.
3 Pan alwŷf ar fy Nuw hynôd,
i'r hwn mae clôd yn gyfion,
Yna i'm cedwir ynddiau
rhag drygau fy'nghafeion.
2
4 Gofudlon angeu o bôb tu
oeddŷnt yn cyrchu i'm herbŷn,
A llifodd afonŷdd mawr y fall
yn ddiball er fy nychrŷn.
5 Pan ydoedd fwŷaf ofn y bêdd,
a gwaedlŷd ddiwedd arnaf,
Ag arfau angeu o bôb tu,
a'm câs yn nesu attaf.
3
6 Yna gelweis ar fy Nêr,
ef o'r uchelder clywodd,
A'm gwaedd a ddaeth hŷd gar ei fron,
a thirion a croesafodd.
7 Pan ddigiodd Duw, daeth daiar grŷn,
a fail pob brŷn a siglodd.
A chyffro drwŷ'r wlâd ar ei hŷd,
a'r hôll fŷd a gynhyrfodd.
4
8 O'i eneu tân, o'i ffroenau tarth,
yn nynnu pob parth wŷbren:
9 A chan gymylau dan ei draed,
du a gwnaed y ffurfafen.
10 Ac fel yr oedd ein Iôr fel hŷn,
uwch Cherubŷn yn hedeg:
Ac uwch law adenŷdd gwŷnt,
mewn nefol helŷnt lan-deg.
5
11 Mewn dyfroedd a chymylau frŷ,
mae ei welu heb ei weled:
12 Mae e'n gyrru cenllŷsg mân,
a marwor tân i wared.
13 Gyrrodd daranau, dyna ei lêf,
gyrrodd o'r nêf gennadon.
14 Cenllŷsg, marwor, mellt yn gwau,
fel dyna ei saethau poethion.
6
15 Distrywlaist dy gaseion gŷnt
gan chwŷthlad gwŷnt o'th eneu,
Gwasgeraist di y moroedd mawr,
gwelwŷd y llawr yn oleu.
16 Fellu gwnaeth Duw a mi'r un modd,
anfonodd o'r uchelder,
Ac a'm tynnodd o'r lle yr oedd
O'm hamgŷlch ddyfroedd lawer.
7
17 Fe a'm gwaredodd Duw fel hŷn,
oddiwrth fy'ngelŷn cadarn,
Yn rhŷdrwm i mi am ei fôd:
rhof i Dduw'r glod hŷd ddŷdd farn.
18 Safent o'm blaen, ni chawn ffordd rŷdd,
tra fum yn nŷdd fyngofud:
Ond yr Arglwŷdd oedd i'm dal,
a'm cynnal yn fy ngwendid.
8
19 Fy nâf el hun a'm rhoes yn rhŷdd,
efe a fŷ waredŷdd i mi:
Ac o draserch i mi a gwnaeth,
na bawn i gaeth ond hynnŷ.
20 Yr Arglwŷdd am gobrwŷa'n ôl
fy ngwastadol gyfiawnder:
Ac yn ôl glendid fy nwŷ law,
tâl i'm a ddaw mewn amser.
9
21 Ceis [...]ais ffŷrdd fy Arglwŷdd nêr,
ni wneuthŷm hyder ormod,
Na dim sceler, erbŷn fy Nuw,
gochelais gyfrŷw bechod.
22 Mae ei ddeddfau, ger fy mron.
a'i hollawl gyfion farnau:
Ac ni rois heibio'r un or rhain,
hwŷ ŷnt fy nghoel-faen inneu.
10
23 Bum berffaith hefŷd o'i flaen, ac
ymged wais rhag bŷw'n rhŷddrwg,
24 A'r Arglwŷdd gobrwŷodd fi yn llawn
yr hŷn fu'n iawn iw olwg.
25 I'r trugarog, trugaredd rhoi,
i'r perffaith troi perffeithrwŷdd:
26 I'r glân, gwnei lendid, ac i'r tŷn
a byddi gyndŷn Arglwŷdd.
11
27 Mawr ydŷw dy drugaredd di,
gwaredi 'r truan tawel:
Ac a ostyngi gar dy fron,
rai a golygon uchel▪
28 Ti a oleui fynghanwŷll i,
am hynnŷ di a garaf,
Dydi a droi fy nôs yn ddŷdd,
a'm tywŷll a fŷdd goleuaf.
12
29 Oblegid trwŷddot ti, fy Nâf,
a torraf trwŷ y fyddin:
Trwŷ fy Nuw neidiais yn glir,
tros uchel sûr yn ddichlŷn.
30 Os perffaith ydŷw ffordd Duw nêf,
a'l air ef sŷdd buredig:
Ac i bôb dŷn yntho a grêd
mae'n fwccled bendigedig.
13
31 Pwŷ sŷ Dduw? dywedwch yn rhwŷdd,
pwŷ ond yr Arglwŷdd nefol?
A phwŷ sŷdd graig, ond ein Duw?
disigl ŷw'n dragwŷddol.
32 Duw a'm gwregysodd i a nerth,
a rhoes i'm brydferth lwŷbrau
33 Fe roes fy'nrhaed ar lwŷbr dâ,
gorseddfa'r uchel fannau.
14
34 Efe sŷ'n dysgu rhyfel im
gan roi grŷm i'm pawennau:
Fel y torrir bwa o ddur
yn brysur rhwng fy mreichiau.
35 Daeth o'th ddaioni hŷn igŷd,
rhoist darian iechŷd i mi:
A'th law ddelieu yr wŷt i'm dwŷn,
o'th fwŷnder yr wi'n tyfu.
15
36 Ehengaist i mi lwŷbrau têg,
i redeg buan gamrau:
Nid oes ynof gymmal gwan,
ni weggian fy mynyglau.
37 Erlidiais i fy nghâs yn llŷm,
a daethŷm iw goddiwedd:
Ac ni throis gam i'm hôl mwŷ
nes eu bôd hwŷ'n gelanedd.
16
38 Gwnaethŷm arnŷnt archollion hŷll
fel sefŷll nas gallasant:
Ond trwŷ amharch iw cîg a'u gwaed,
i lawr dan d [...]ed syrthiasant.
39 Gwregysaist fi a gwregŷs nerth,
at wrês ac angerth rhyfel
A'r rhai a ddaeth i'm herbŷn i,
a gwŷmpaist di'n ddiogel.
17
40 Fel hŷn a gwnaethost i mi gau
ar warrau fy ngelynnion,
A'm hôll gâseion difethaist di,
rhoist hwŷnt i weiddi digon.
41 Ac er gweiddi drwŷ gydal dŷdd
ni ddae achubŷdd attŷnt,
Er galw'r Arglwŷdd, ni ddae nêb
a rodd [...] atteb iddŷnt.
18
42 Maluriais hwŷ fel llwch mewn gwŷnt,
fel dyna helŷnt efrŷdd:
Ac mi a'u sethrais hwŷnt yn ffrom,
fel pridd neu dom heolŷdd.
43 Gwaredaist fi o law fy nghâs,
rhoist bawb o'm cwmpas danaf:
Dae rai ni welsent fi erioed
a llaw, a throed, hŷd attaf.
19
44 Addaw ufŷdd-dod, ond fe gaid,
gan blant estroniaid gelwŷdd:
45 A phlant estroniaid twŷll a wnant,
ond crynnant iw stafellŷdd.
46 Ond bŷw ŷw'r Arglwŷdd ar fy mlhaid,
fy nghraig fendigiad hefŷd,
Derchafer Duw: yntho ef trig
fy nerth a'm hunig iechŷd.
20
47 Fy Nuw tra fo a'i nerth i'm dal,
rhoi dial hawdd a gallaf:
Rheoli pobloedd, canŷs efo
sŷdd yn eu twŷso attaf.
48 Fy ngwaredŷdd, a'm derchafŷdd,
o chyfŷd rhal i'm herbŷn,
Ond ti o Dduw, a'm dug ar gais
rhag drwg a thrais y gelŷn.
21
49 Am hŷn canmolaf di yn rhwŷdd,
o Arglwŷdd Dduw y lluoedd:
Canaf dy glod, a hŷn fŷdd dŷsg,
ymŷsg yr hôll genhedloedd.
50 Duw sŷdd yn gwneuthur. (o'i s [...]wr râd)
fawrhâd i frenin Dafŷdd,
Ac iw eneiniog ei wellhâd,
ac iw hâd yn dragywŷdd.
PSALM. 19.
1
DAtgan y nefoedd fawredd Duw,
yr unrhŷw gwna'r ffurfafen:
2 Y dŷdd i ddŷdd, a'r nôs i nôs.
sŷ'n dangos cwrs yr wŷbren.
3 Er nad oes ganthŷnt air, nag laith,
da dywaid gwaith Duw lywŷdd,
Diau nad oes na môr na thîr,
na chlywir eu lleferŷdd.
2
4 Aeth eu sain hwŷ drwŷ 'r hôll fŷd,
a'u geiriau hŷd eithafoedd:
Yr haul teg, a'i gwmpas pell,
a'i babell yn y nefoedd.
5 O'r hon a cyfŷd ef y rhôd,
fel priod o'i orweddfa,
Iw gwrs eiff drwŷ lawenŷdd mawr,
fel cawr yn rhedeg gyrfa.
3
6 O eithaf hŷd eithafoedd nêf
y mae ef, a'i amgylchiad:
Ac ni all dim (lle rhŷdd ei dro)
ymguddio o'i oleuad.
7 Dŷsg yr Arglwŷdd sŷdd berffaith ddawn
a drŷ i'r iawn yr enaid,
Rhŷdd ei siccir dystiolaeth
wŷbodaeth i'r ffyddloniaid.
4
8 Deddfau Duw sŷdd yn union,
llawenant galon ddiddrwg,
A'i orchymŷn sŷdd bur ddieu,
a rŷdd oleu i'r golwg.
9 Ofn yr Arglwŷdd sŷdd lân, ac bŷth
a perŷ'n ddilŷth hyfrŷd,
Barnau'r Arglwŷdd ŷnt wîr iawn
igŷd a chyfiawn hefŷd.
5
10 Mwŷ deisyfiedig ŷnt nac aur,
ie na chouth aûr o lawer.
Melusach hefŷd ŷnt na'r mêl,
sef dagrau dil mêl tyner.
11 Can's ynthŷnt dysgir fi, dy wâs,
ar addas, a'r uniawnder:
A'r holl gamp o'u cadw nhwŷ,
a ennill obrwŷ lawer.
6
12 Er hynnŷ igŷd, pwŷ a all
iawn ddeall ei gamweddau?
O gwna fi'n lân, (a bŷdd ddiddig)
o'm holl guddledig feiau.
13 Duw attal feiau, rhyfig, chwant,
na thyfant ar fy 'ngwarthaf;
Yno byddaf wedi 'nglanhau
o'm holl bechodau mwŷaf.
7
14 O Arglwŷdd fy mhrynwr i, a'm nerth,
bydded yn brydferth gennŷd
Fy'madrodd, pan ddêl gar dy fron,
a'm myfŷr calon hefŷd.
PSALM. 20.
1
GWrandewed di yr Arglwŷdd Nêr,
pan ddêl cyfyngder arnad,
Enw Duw Jacob, ein Duw ni,
a'th gadwo di yn wastad.
2 O'i gysegr rhoed help a nerth,
a braIch o brydferth Seion:
3 Cofied dy offrwm poeth a'th rôdd,
'bo rhain wrth fodd ei galon.
2
4 Rhoed i ti wrth dy fôdd dy hun,
dy ddymun, a'th adduned:
Dy fwriad iach, a'th a [...]faeth tau,
a'th weddiau gwrandawed.
5 Yn enw ein Duw gorfoleddwn
yn hŷf, a chodwn saner:
A'th ddeisyfiadau gwnaed yn rhwŷdd,
yr Arglwŷdd o'r uchelder.
3
6 Yr Arglwŷdd gwerŷd (fellu gwn)
o'i gysegr hwn ei eneiniog:
Gwrendŷ ei arch, gŷrr iddo rŷm,
yn gyflŷm, ac yn gefnog.
7 Rhai ar gerbydau rhônt eu pwŷs,
rhai ar feirch ddwŷs ymddiried:
Minneu ar enw 'r Arglwŷdd Dduw,
mai hwnnw ŷw'n hymwared.
4
8 Hwŷ a syrthiasant ôll yn serth,
er maint eu nerth a'u ffrostio:
Codasom a safasom ni,
o Dduw a thi i'n llwŷddo,
9 Cadw ni arglwŷdd a'th law grêf,
boed Brenin y nêf drosom:
Gwrandawed hwnnw arnom ni,
a'n gweddi a'n cri pan alwom.
PSALM. 21.
1
O Arglwŷdd, yn dy nerth a'th rin,
Mae'r brenin mewn llawenŷdd:
Ac yn dy iechŷd, yr un wedd,
mae ei orfoledd beunŷdd.
2 Holl ddeisyfiad ei galon lân,
iddo yn gyfan dodaist:
Cael pob dymuniad wrth ei fôdd,
ac o un rhôdd nl phellaist.
2
3 Can's da 'r achubaist ei flaen ef,
a danniau nêf yn gyntaf:
Ac ar ei ben, (ddaionus Iôn,)
rhoist goron aur o'r puraf.
4 Fe a ofynnodd gennŷt oes,
a rhoddaist hiroes iddo:
A'r hon dy rôdd, dros bŷth a bŷdd,
nid a'n dragywŷdd heibio.
3
5 I'th iechŷdwriaeth I mae'n bŷw,
a mawr ŷw ei ogoniant:
Gosodaist arno barch a nerth,
a phrydferth ŷw ei lwŷddiant.
6 Rhoist dy sendith uwch pob tawl,
yn rhodd dragwŷddawl iddo:
A llewŷrch d'wŷneb bŷth a fŷdd,
yn fawr lawenŷdd arno.
4
7 Am fod y brenin yn rhoi ei grêd
a'i 'mddiried yn yr Arglwŷdd:
Dan nawdd y Goruchaf tra fo,
gwn na ddaw iddo dramgwŷdd.
8 A thydi Arglwŷdd a'th law lân,
cau allan dy elynnion;
Rhag dy ddeheulaw (er a wnant)
ni ddiangant, dy gaseion.
5
9 Di a'u gosodi 'n nŷdd dy ddig,
fel ffwrnais ffyrnig danllŷd:
Yr Arglwŷdd o'u lîd a'u difa,
a'r tân a'u hysa 'n enbŷd.
10 Diwreiddi di eu ffrwŷth o'r tîr,
a'u hâd yn wîr ni thyccian:
11 Am fwriadu it ddrŵg milen:
heb ddwŷn i ben mo'u hamcan.
6
12 Ti a'u gosodi nhwŷ 'r naill du,
a thi a'th lu iw herbŷn:
Ac a selu dy fwâu,
a [...]u hwŷnebau cyndŷn.
13 Ymddercha ditheu f' Arglwŷdd cûn,
i'th nerth dy hun a'th erfid:
Ninnau a ganwn, o'n rhan ni,
i foli dy gadernid.
PSALM. 22.
1
DAngos fy Nuw, fy Nuw, a'm grŷm,
pa achos i'm gadewaist:
Pell wŷd o'm iechŷd, ac ô nâd
fy mloeddiad, llwŷr i'm pellaist
2 Fy Nuw 'rwŷ'n llefain, ditheu heb,
roi i'm mor atteb etto,
Bôb dŷdd a nôs mae 'nghri 'n ddiffael,
heb etto gael dihuddo.
2
3 A thi wŷt sanct, sanct i barhau,
lle daw gweddiau'n wastad:
A holl dŷ Israel, a'u clôd,
a'u pwŷs, a'u hystod attad.
4 Ynot gobeithial 'n tadau ni,
a thydi oedd eu bwccled:
Ymddiried ynot Arglwŷdd hael,
ac fellu cael ymwared.
3
5 Llefasant drwŷ ymddiried gŷnt,
da fuost iddŷnt, Arglwŷdd:
Eu hachub hwŷ a wnaethost di
rhag cledi, a rhag gwradwŷdd.
6 Fo'm rhifir inneu megis prŷf,
nid fel gŵr crŷf ei arfod:
Fel dirmŷg dynnion, a gwarth gwael,
a thybiant gael eu hystod.
4
7 Pawb a'm gwelent, a'm gwatworent,
ac a'm mîn-gament hefŷd,
Ysgwŷd eu pennau yn dra hŷ,
a chwedi hynnŷ dywedŷd,
8 Ar yr Arglwŷdd rhoes bwŷs a chrêd,
doed ef iw wared allan,
Os mŷn ei ollwng ef ar lêd,
cymmered iddo ei hunan.
5
9 Duw tynnaist fi o groth fy mam,
rhoist ynof ddinam obaith,
Pan oeddwn i yn sugno hon,
aco'i dwŷ fron a'm harchwaith.
10 Arnat ti bwried fi o'r bru,
arnat ti bu fy 'mddiried:
Fy Nuw wŷt ti o groth fy mam,
ffyddiais it am fy ngwared.
6
11 Oddiwrthif fi ymhell na ddôs,
tra fo yn agos flinder:
I'm cymorth i, gan nad oes neb
a drotho ei wŷneb tyner.
12 Bustŷch lawer, a chryfion iawn,
daethant yn llawn i'm gogŷlch:
A theirw Basan o bôb parth,
yn codi tarth o'm hamgŷlch.
7
13 Egorant arnaf eneu rhŵth
I'm bygwth fel y llewod,
A faent yn rhuo eisiau maeth,
o raib ysclyfaeth barod.
14 Fel dwfr rwŷfi'n diferu'n chwŷrn,
a'm hescŷrn, si [...]l [...] 'r rheini:
Fy nghalon o'm mewn darfu'n llwŷr,
fel cwŷr a fae yn toddi.
8
15 Fel pridd lester mae fy nerth,
yn sychu 'n anrferth dywedaf,
Fy'nhafod wrth fy ngên sŷ 'nglŷn
i'r pridd yn sydŷn syrthiaf.
16 Can's cŵn cylchasant fi, fy Nêr,
a chadfa sceler ddiffaith:
Tyllasant fy nwŷ law a'm traed,
ac fellu gwnaed fy artaith.
9
17 A rhifo fy hôll esgŷrn i,
gan gulni hawdd a gallaf,
Maent hwŷthau'n gweled hynnŷ'n wŷch,
bôb tro yn edrŷch arnaf.
18 Rhyngthŷnt iw mŷsg fy nillad mau
yn rhannau dosparthasant,
A hefŷd ar fy mrhif-wisc i
coelbrenni a fwriasant.
10
19 Titheu fy nerth, a'm Harglwŷdd dâ,
nac ymbellhâ oddiwrthwi,
O bryssia, dydi ŷw fy mhorth,
a thyred, a chymorth i mi
20 O tyred ac achub yr oes fau,
rhag ofn y cleddeu ffyrnig,
A gwared o feddianau 'r eî
fy enaid i sŷ'n unig.
11
21 Ymddiffŷn fi rhag y llew glŵth,
dŵg o'i safn rhŵth fy enaid,
Achub a gwrando fi yn chwŷrn
rhag cŷrn yr unicorniaid.
22 Mynegaf finneu d'enw 'n bur
i'm brodŷr yn yr orsedd.
Ymŷsg y gynnulleidfa lân,
dy glod a wna'n gyfannedd.
12
23 Hâd Iaco, ac Israel, chwychwi
'rhai ydŷch yn ofni'r Arglwŷdd,
Drwŷ ofn iddo rhowch foliant,
a gwîr ogoniant ebrwŷdd.
24 Ni'ch ffieiddiodd, ni'ch dirmygodd,
ni cnuddiodd ei wŷnebprŷd,
Ond gwrandawodd weddi y gwan,
a'i duchan yn ei adfŷd.
13
25 Honot ti bŷdd, ac i ti gwêdd
mewn aml orsedd fy moliant.
I Dduw rhof f'addunedau'n llon
gar bron y rhai a'i hofnant
26 Diwellir y tylawd, a'r rhai
a geisiai at yr Arglwŷdd,
A'i molant ef, a gelff (gwîr ŷw)
ei enaid fŷw'n dragywŷdd.
14
27 Trigolion bŷd a dront yn rhwŷdd
at yr Arglwŷdd, pan gofiant:
A hôll dylwŷthau'r ddalar hon
dônt gar ei fron, ymgrymant.
28 Can's elddo'r Arglwŷdd ŷw'r deŷrna [...],
a hôll gwmpas y bydoedd:
Ac uwch eu llaw, es unig sŷdd
ben llywŷdd y cenhedloedd.
15
29 Y cyfoethogion a fwŷdtânt,
addolant yn eu gwŷnfŷd:
Rhai ânt i'r llŵch gar ei fron,
a rhai, braint meirwon hefŷd.
30 Y rhain oll a'u hâd, un frŷd
a wnânt iddo gŷd wasanaeth:
Y rhain ir Arglwŷdd drwŷ'r holl dîr
a rifir yn genhedlaeth.
16
31 Dônt dangosant uniondeb
y rhal sŷdd heb eu geni:
Hŷn addawodd, ef a'i gwnaeth,
hynnŷ a ddaeth o ddifri.
PSALM. 24.
1
YR Arglwŷdd 'pia'r ddaiar lawr,
a'l llawnder mawr sŷ'n eiddo:
Yr Arglwŷdd a bia yr holl-fŷd,
a'r bobl igŷd sŷdd ynddo.
2 Efe a osododd ei sail hi, a'i gwêdd,
yn rhyfedd uwch y moroedd:
Ac a'i gosododd hi yn lân,
yn drigfan uwch llif ddyfroedd.
2
3 Er hŷn, Pwŷ a ddringa yn hŷ
i gysegr frŷ yr Arglwŷdd.
A phwŷ a seif a theilwng wêdd,
yngorsedd ei sancteiddrwŷdd.
4 Dŷn a llaw lân, a meddwl dâ,
ac yn ddidraha ei enaid,
Di orwag, ac ni roes un tro
er twŷllo ei gyfneselfiaid.
3
5 Gan yr Arglwŷdd caiff hwn wlîth
ei raslawn fendith helaith,
A chyfiawnder o bob rhŷw
gan Dduw yr iechŷdwriaeth.
6 Hon sŷ gan Dduw'n genhedlaeth grêf,
a'i ceisiant ef yn effro,
A [...]eisiant d'wŷneb, dynna eu maeth,
sef gwîr genhedlaeth Iago.
4
7 Derchefwch bŷrth eich pennau'n hŷ,
a chwithau ddôrau bythol.
Can's brenin mawr daw i'ch mewn chwi,
sef pen brî gogoneddol.
8 Pwŷ ŷw'r brenin gogonedd?
Arglwŷdd rhyfedd ei allu:
Yr Arglwŷdd ŷw, cyfion ei farn,
a chadarn i ryfelu.
5
9 Derchefwch bŷrth eich pennau
ehengwch ddorau bythol,
Can's brenin mawr daw i'ch mewn chwi,
brenin o frî gogonol,
10 Pwŷ meddwch ydŷw'r brenin hwn,
a gofiwn ei ogoniant?
Iôr y lluoedd ŷw brenin hêdd,
a gogonedd, a ffynniant,
PSALM. 25.
1
F'Arglwŷdd dechefais f'enaid i
hŷd attad ti yn union.
2 Fy Nuw, fy ngobaith, gwarth ni cha,
na lawenhâ 'ngelynnion.
3 Sawl a obeithiant ynot tl,
yr rheini ni wradwŷddir,
Gwarth i'r rhai 'wnêl am i ham
rŷw dwŷll neu gam yn ddihir.
2
4 Arglwŷdd dangos dy ffordd di,
a phar i mi ei deall:
Dŷsg ac arwain fi 'r un wêdd
yn dy wirionedd diball.
5 Can's dydi ydwŷd Dduw fy maeth,
a'm iechŷdwriaeth unig:
Dy ddisgwŷl yr wŷf rhŷd y dŷdd,
a hynnŷ fŷdd i'm ddiddig.
3
6 O cofia dy nawdd a'th serch di,
a'th fawr dosturi Arglwŷdd:
Cofia fôd ynot ti erioed,
lawn ddioed drugarogrwŷdd.
7 Na chofia yr enwiredd mau,
na llwŷbrau fy ieuenctŷd:
Ond Arglwŷdd, coffa fy'nghur i
er dy ddaioni hyfrŷd.
4
8 Yr Arglwŷdd sŷdd uniawn a da,
a'i ffŷrdd i'm noddfa ydŷnt:
Fe arwain (fel y mae yn rhaid)
y pechaduriaid ynthŷnt.
9 Fe ddŷsg ei lwŷbrau mewn barn iawn▪
i'r rhai ufudd-lawn ystig,
Hyddŷsg ei ffŷrdd i bôb rhai
a fyddai ostyngedig.
5
10 I'r sawl a gadwo ddeddfau'r Iôn:
a'i union dystiolaethau,
Gwirionedd, a thrugaredd fŷdd
ei lywŷdd yn ei lwŷbrau.
11 Er mwŷn dy enw (o Arglwŷdd mau)
Duw maddeu fy enwiredd,
Fy'nrhoseddiad i mawr ŷw,
mwŷ ydŷw dy drugaredd.
6
12 Pa rŷw ŵr yn ein mŷsg nî
sŷdd yn pur ofni'r Arglwŷdd:
Fe ddengŷs y ffordd iddo fo,
hon a ddewiso'n ebrwŷdd,
13 O hŷn y caiff fy enaid cu,
le i lettu vn esmwŷth:
A'r holl ddaiar, a'i gwellhâd,
a rŷdd ei hâd iw dylwŷth.
7
14 Ei hôll ddirgelwch a ddysg fo
i'r sawl a ofno'r Arglwŷdd:
Ac o'l holl gyfanneddau glân,
efe a'u gwna'n gyfarwŷdd.
15 Tueddu'r wŷf at f' Arglwŷdd mâd,
yn wastad a'm golygon:
Can's ef yn unic, (yn ddioed)
'rŷdd fy nau droed yn rhyddion.
8
16 Tro attaf, dôd i'm nawdd diddig,
can's unig wŷf, a rhŷ-dlawd.
17 Gofudiau 'nghalon ŷnt ar lêd,
Duw gwared fi o'm nychdawd.
18 Duw, gwêl fy mlinder, a'm poen fawr,
a madde 'nawr fy mhechod:
19 Gwêl fy ngelynnion a amlhânt,
ac a'm casânt yn ormod.
9
20 Cadw f' enaid, ac achub fi,
na wnelo'r rheini i'm wradwŷdd:
Rhois fy mhwŷs arnat ti fy Nâf,
a rhodiaf mewn perffeithrwŷdd.
21 Cadw fi, fy uniondeb maith,
can's rhois fy'ngobaith ynod.
22 Duw cadw di holl Israel,
gwared, a gwêl ei drallod.
PSALM. 26.
1
BArn fi (O Dduw) a chlŷw fy llais,
mi rodials mewn perffeithrwŷdd,
Ac ni lithraf, am roi 'mhwŷs,
yn llawnddwŷs ar yr Arglwŷdd.
2 Prawf di fy muchedd Arglwŷdd dâ,
a hola ddull fy mywŷd,
A manwl chwilla 'r galon fau,
a phrawf fy arennau hefŷd.
2
3 O flaen fy llygaid, 'rwŷf ar lêd
yn gweled dy drugaredd:
Gwnaeth dâl ar hynnŷ ar bôb tro,
i'm rodio i'th wirionedd.
4 Nid cŷd eistedd gyda gwagedd,
neu goegwŷr yn llawn malais:
5 Câs gennif bob nnuwiol rîth,
ac yn eu plîth ni 'steddais.
3
6 Mi olchaf fy nwŷ-law yn lân,
can's fellu byddan, f' Arglwŷdd:
Ac a dueddaf tua 'th gôr,
ac allor dy sancteiddrwŷdd.
7 Y môdd hŷn teilwng ŷw l mi,
luosogi dy foliant:
Sef addas i mi fôd yn lân,
i ddatcan dy ogoniant.
4
8 Arglwŷdd cerais i dy dŷ,
lle' teru' dy anrhydedd:
9 N'âd f' enaid i a'm hoes ynghŷd
a'r gwaedlŷd llawn enwiredd.
10 Eu dwŷlaw hwŷnt sŷ sceler iawn,
i maent yn llawn maleisiau.
A deheu law yr holl rai hŷn;
sŷ'n arfer derbŷn gwobrau.
5
11 Minneu 'n ddiniwed, (fellu gwêdd)
ac mewn gwirionedd rhodiaf:
Gwared fi drwŷ dy ymgeledd,
cymer drugaredd arnaf.
12 Fe saif fy nhroed i ar yr iawn
ni sŷfl o'r uniawn droedfedd:
Mi a'th glodforaf Arglwŷdd dâ,
lle bytho mwŷa'r orsedd.
PSALM. 27.
1
YR Arglwŷdd ŷw fy ngoleu igŷd,
a'm iechŷd: rhag pwŷ'r ofnaf
Yr Arglwŷdd ŷw nerth f' oes am hŷn,
rhag pwŷ dae ddychrŷn arnaf?
2 Pan ddaeth rhai anfad, sef fy nghâs,
o'm cwmpas er fy llyncu,
Llithrasant, a chwŷmpasant hwŷ,
ni ddaethant mwŷ i fynu.
2
3 Ni ddae ofn ar fy nghalon gu,
pe cyrchai llu i'm herbŷn:
Neu pe codai gâd, môdd hwn,
mi ni wanffyddiwn ronŷn.
4 Un peth a ofynniais i Dduw Nâf,
a hynnŷ a ofynnaf etto:
Cael dyfod i dŷ'r Arglwŷdd glân,
a bôd a'm trigfan yno.
3
I gael ymweled a'i deml dêg,
a hyfrŷd osteg ynthi
Holl ddyddiau f' einioes yr wŷf gaeth
o fawr hiraeth am dani.
5 Can's y dŷdd drŵg fe'm cuddfa efe
iw Babell ne ddirgelfa
Iw breswŷlfod, mewn craig grêf,
câf gantho êf orphwŷsfa.
4
6 Bellach fe'm codir uwch fy nghâs,
sŷdd mewn galanas i mi:
Aberthaf, caraf, mola'r Iôn
yn ffyddlon bŷth a'm hynnŷ.
7 Gwrando arnaf fy Arglwŷdd bŷw,
brysia a chlŷw fy oernad:
Trugarhâ wrthif, gwêl fy nghlwŷf,
y prŷd y galwŷf arnad.
5
8 Fel hŷn mae 'nghalon o'm mewn i
yn holi ac yn atteb,
Ceisiwch fy wŷneb ar bôb tro:
fy Nuw rwŷ yn ceisio d'wŷneb
9 Na chuddia d'wŷneb, na lŷs dy wâs
fy mhorth am hurddas fŷost:
Duw fy iechŷd na wrthod fi,
o paid a sorrl'n rhŷ dôst.
6
10 O gwrthŷd fi fy nhâd a'm mam
a'm dinam gyfnesafiaid:
Gweddia'r Arglwŷdd, ef er hŷn
o'i râs a dderbŷn f'enaid.
11 Duw dŷsg i mi dy ffordd yn rhwŷdd
o herwŷdd fy ngelynnion,
Ac arwain fi o'th nawdd râd
yn wastad ar yr union.
7
12 Ac na ddyro fi, er dy râs,
wrth fôdd yr atcas elŷn,
Can's ceisiodd fy nghaseion mau
dvstion gau yn f' erbŷn.
13 Oni bae gredu o honof fi,
bum wrth fron torri 'nghalon,
Y cawn i weled da Duw'n rhâd
o fewn gwlâd y rhai bŷwion.
8
14 Disgwŷl di ar yr Arglwŷdd dâ,
ymmwrola dy galon:
Ef a rŷdd nerth i'th galon di,
os iddo a credi'n ffyddlon.
PSALM. 28.
1
A Tad Iôn a rhoddaf lêf,
Duw nêf na fŷdd di fyddar:
Na thaw, rhag fy mŷnd mor drîst,
a bôd mewn cîst dan ddaiar.
2 O Arglwŷdd, erglŷw fy llais i,
a derbŷn weddi bruddaidd:
Pan godtwŷf fy nwŷ law o bell,
Duw, tua'th gafell sanctaidd.
2
2 Ac na ddarostwng fi, fy Iôr,
dan ddwŷlo'r annuwolion:
Y rhain sŷ'n arfer mînau mêl,
a rhyfel yn eu calon.
4 Yn ôl bwriad eu calon gau,
a'r twŷll ddyfeisiau eiddŷnt,
Yn eu drŵg weithredoedd hwŷ,
Duw tâl eu gobrwŷ iddŷnt.
3
5 Am na 'styriant weithredoodd Duw,
ef a wna ddistrŷw arnŷnt:
Am na welent ei wŷrth, a'i râd,
ni wna deilad o honŷnt.
6 Bendigaid fytho'r Arglwŷdd nêf,
fe glybu lêf fy'ngweddi:
7 Yr Arglwŷdd ŷw fy nerth, a'm-rhan,
a'm tarian, a'm daioni.
4
Ymddiriedais iddo am borth
a chefais gymorth gantho:
Minneu o'm calon, drwŷ fawr chwant,
a ganaf foliant iddo.
8 Yr Arglwŷdd sŷdd nerth i bôb rhai,
a ymddiriedai'n ddiflin;
A'i eneiniog a fŷdd maeth,
ac iechŷdwriaeth iddŷn.
5
9 Gwared dy bobl dy hun yn ddâ,
bendithia d'etifeddiaeth:
Portha, cyfŷd hwŷ, am hŷn
dôd iddŷn dragwŷddolfaeth.
PSALM. 29.
1
RHowch i'r Arglwŷdd, rhowch yn chwŷrn,
(chwi blant y cedŷrn) foliant:
Cydnabyddwch ei barch, a'i nerth,
yn brydferth, a'l ogoniant.
2 Rhoddwch i enw yr Arglwŷdd glôd,
heb orfod mwŷ mo'ch cymmell,
Addolwch Arglwŷdd yr holl fŷd,
mor hyfrŷd ŷw ei babell.
2
3 Llais yr Arglwŷdd uwch dyfroedd,
Duw crŷf pâr floedd y daran:
Uwch dyfroedd lawer ei mae hwn;
nid ŷw ei sŵn ef fychan.
4 Llais yr Arglwŷdd, pan fo llŷm,
a ddengŷs rŷm a chyffro:
A llais yr Arglwŷdd a fŷdd dwŷs,
fel y bo cymwŷs gantho.
3
Llais yr Arglwŷdd a dŷr yn fân
y cedr wŷdd hirlân union,
Yr Arglwŷdd a dŷr yn usuwŷdd,
y cedr-wŷdd o Libânon.
6 Fel llwdwn unicorn, neu lô llon
fe wna i Libanon lammu,
7 A Sirion oll; llais ein Iôr glân
a wna i fflam dân wasgaru.
4
8 Llais yr Arglwŷdd, drwŷ ddyrŷs lŷn,
a godai ddychrŷn eres:
Yr Arglwŷdd a wna ddychrŷn fflwch
drwŷ holl anialwch Cades.
9 Llais yr Arglwŷdd 'pla'r glôd,
pâr i'r ewigod lydnu:
Dinoetha goed; iw deml iawn ŷw
i bôb rhŷw ei folianu.
5
10 Yr Arglwŷdd gŷnt yn bennaeth oedd,
ar y llif ddyfroedd cethin:
Yr Arglwŷdd fu, ef etto sŷdd,
ac fŷth a fŷdd yn frenin.
11 Yr Arglwŷdd a rŷdd iw bobl nerth,
drwŷ brydferth gyfanneddwch.
Yr Arglwŷdd a rŷdd iw bobl yn flith
ei fendith, a hîr heddwch
PSALM. 30.
1
F'Arglwŷdd mi a'th fawrygaf di,
canŷs myfi a d derchefaist,
Am gelynnion yn llawen
uwchlaw fy mhen ni roddaist.
2 Fy Nuw pan lefais arnat ti,
rhoddaist i mi iechŷd,
3 Cedwaist fy enaid rhag y bêdd:
a rhag diwedd anhyfrŷd.
2
4 Cenwch i'r Iôn, chwi ei hôll sainct,
a maint ŷw gwrthiau'r Arglwŷdd:
A chlodforaf gar ei fron,
drwŷ gofion o'i sancteiddrwŷdd.
5 Ennŷd fechan saif ei ddîg,
o gael ei fôdd trîg bywŷd:
Heno brŷdnawn gwŷlofain sŷdd,
y boreu ddŷdd daw iechŷd.
3
6 Dywedais yn fy llwŷddiant hîr,
ni'm syflir yn dragywŷdd:
O'th ddaioni dodaist, Dduw Nêr,
sail cryfder yn fy mynŷdd.
7 Cuddiaist dy wŷneb ennŷd awr,
a blinder mawr a gefais.
8 Arnad (O Arglwŷdd) drwŷ lef ddir,
fy Arglwŷdd i'r ymbiliais.
4
9 Pa fudd (O Dduw) sŷdd yn fy ngwaed,
pan fwif dan draed yn gorwedd?
A phwŷ a gân i't yn y llawr,
dy glôd a'th fawr wirionedd?
10 Clŷw fi Arglwŷdd, a thrugarhâ,
dôd gymorth da i'm bywŷd,
11 Canŷs yn rhâd a troist fy mâr,
a'm galar, yn llawen-fŷd.
5
Am i ti ddattod fy sâch grŷs,
rhoist wregŷs o lawenŷdd:
12 Molaf a chanaf â'm tafod,
i'm Harglwŷdd glod dragywŷdd.
PSALM. 31.
1
MI a 'mddiriedais ynod Nêr,
fel na'm gwradwŷdder bythoedd:
Duw o'th gyfiawnder gwared fi,
a chlŷw fy nghri hŷd nefoedd.
2 Gogwŷdd dy glust attaf ar frŷs,
o'th nefol lŷs i wared,
3 A bŷdd i'm yn graig gadarn siŵr,
yn dŷ a thŵr i'm gwared.
2
4 Fy nghraig wŷd, am castell crŷf,
wŷf finneu hŷf o'th fawredd:
Er mwŷn dy enw tywŷs fi,
ac arwain i drugaredd.
5 A thŷnn di fi o'r rhwŷd i'r lann,
a roesan er fy maglu:
Fy holl nerth sŷdd ynot ti,
da gelli fy ngwaredu.
3
6 Dodaf fy ysprŷd yn dy law,
ac âf gar llaw i orwedd,
Da a gwaredaist fi yn fŷw,
(O Arglwŷdd Dduw'r gwirionedd)
7 Llwŷr a ceiff y neb a fâg,
iw galon orwag aflwŷdd,
Ond mi osodais yn llwŷr faith
fy ngobaith yn yr Arglwŷdd.
4
8 Mi a 'mhyfrydaf ynot ti,
canfuost fi mewn amser,
Ac adnabuost, wrth fy rhaid
fy enaid mewn cyfyngder,
9 Llawen fyddaf finneu am hŷn,
i'm gelŷn ni'm gwarcheaist:
Ond fy nhraed yn eheng rŷdd
da beunŷdd a sefydlaist.
5
10 O dangos dy drugaredd Dduw,
can's cyfŷng ydŷw arnaf,
F [...] llygaid, f'enaid, a'm bol sŷdd
[...]n diodde'r cystudd gwaelaf.
11 [...] mywŷd mewn mawr ofud oedd,
fy hôll flynyddoedd, blinion,
12 Fy nerth a ballodd o'm gwaith gŷnt,
a'm hesgŷrn ŷnt yn freuon.
6
13 A gwatwor i'm gelynnion wŷf,
fy'nghŷd blwŷf a'm gwatworent:
Fy hôll gymdogion a phôb dŷn,
gan ddychrŷn a'm gochelent.
14 Fe a'm gollyngwŷd i dros gôf,
fel marw a fo esceulus:
Hawdd ŷw hepgor llester twn,
o byddai hwn drŵg flasus.
7
15 Can's clywais ogan llawer dŷn
o'm dautu, dychrŷn oerloes;
Hwŷ a 'mgynghorent ar bôb twŷn,
bwriadent ddwŷn fy einioes.
16 Ond yn fy ngobaith (Arglwŷdd bŷw)
a dywedais fy Nuw ydwŷd,
Mae fy amseroedd ar dy law,
nid wŷ mewn braw, nac arswŷd.
8
17 Tyred a gwared fi dy wâs,
oddiwrth fy nghâs, a'm herlid:
18 A dangos d'wŷneb i'm o'th râd,
rhag brâd y rhai sŷ'm hymlid.
19 O Arglwŷdd, na wradwŷdder fi,
a rois fy ngweddi arnad:
Ond i'r annuwiol gwarth a wêdd,
a mŷnd i'r bêdd o lygriad.
9
20 Cau gelwŷddog safnau 'rhain
sŷdd yn accain crasder,
O ddiystyrwch, a thor tŷnn,
yn erbŷn y cyfiawnder.
21 Mor fawr ŷw dy râd di-drai,
a roist i'r rhai a'th ofnant:
Cai o flaen meibion dynnion glôd,
ac ynod ymddiriedant.
10
22 Oddiwrth sŷth feilchion (o'th flaen di)
a cuddi hwŷnt yn ddirgel.
Yn dy babell cuddi 'rhai,
rhag sen tafodau uchel.
23 Mi a fendigaf Dduw yn hawdd,
dangosawdd im' ei gariad,
A gwnaeth ryfeddod dros ei wâs,
mewn cadarn ddinas gaead.
11
24 Ofnais i gŷnt om gobaith drŵg
fy 'nhroi o'th olwg allan
25 Ond pan lefais arnat ti
y clywaist fi yn fŷan
26 O cerwch Dduw ei hôll sainct ef,
da a clŷw lêf ffyddloniaid:
Ac ef a dâl yn helaith iawn,
i'r balch anghyfiawn tanbaid.
12
27 Cymmerwch gysur yn Nuw Iôn,
es a rŷdd galon ynoch:
Ac os gobeithiwch ynddo ef,
ei law yn grêf 'fŷdd drosoch.
PSALM. 32.
1
Y Sawl sŷ deilwng gwŷn ei fŷd,
drwŷ fadde igŷd ei drosedd,
Ac a gyfgodwŷd ei hôll fai,
a'i bechod, a'i anwiredd.
2 A'r dŷn a gwŷnfŷd Duw a'i llwŷdd
ni chyfri'r Arglwŷdd iddo
Mo'i gamweddau: yr hwn ni châed
dim twŷll dichell-frâd yntho.
2
3 Minneu, tra celwn i fy mai
yn hên yr ai 'mhibellion:
A thrwŷ sy rhuad i bôb dŷdd,
cvstuddio a bŷdd fy nghalon
4 Dy law ditheu, y dŷdd a'r nôs
sŷdd drom drwŷ achos arnaf:
Troi ireidd-dra fy esgŷrn mêr
fel sychder y gorphennaf.
3
5 Yna a trois inneu ar gais,
addefais fy anwiredd:
6 Tŷst yn fy erbŷn fy hun fum,
maddeuaist i'm fy nghamwedd.
7 Amserol weddiau am hŷn,
a rŷdd pôb glanddŷn arnad:
Rhag ofn mewn ffrydau dyfroedd maith,
na cheir mo'r daith hŷd attad.
4
8 Rhŷw loches gadarn wŷd i mi,
rhag ing i'm cedwi 'n ffyddlon:
Amgylchyni fi ar lêd
a cherdd ymwared gyson
9 Ditheu (O ddŷn) dŷsg geni fi
y ffordd y rhodl'n wastad,
Mi a'ch gynghoraf di rhag drŵg,
I mae fy ngolwg arnad.
5
10 Fel y march neu ful na fŷdd,
y rhal sŷdd heb ddeall:
Mae yn rhaid genfa neu ffrwŷn den,
i ddal eu pen yn wastad.
11 Caiff annuwiolion, a wnant gam,
fawr ofud am eu traha:
A ffyddloniaid D [...]w, da gwêdd,
trugaredd a'u cylchyna.
6
12 Chwithau'r cyfion yn dirion ewcli
a llawenhewch yn hylwŷdd,
A phôb calon union sŷth,
clodforwch fŷth yr Arglwŷdd.
PSALM. 33.
1
PA rai bynnag, yn Nuw yr Iôn,
sŷ gyfion, llawenychwch:
I bawb sŷdd yn iawn yn bŷw
gweddus ŷw diolchgarwch.
2 A thannau telŷn molwch ef,
rhowch hŷd y nef ogoniant:
Ar y nabŷl gywair ei thôn,
ac ar y gyson ddegtant.
2
3 Cenwch i'r Iôn fawl a mawrhâd,
wiw gerdd o ganiad newŷdd:
Cenwch iddo yn llafar glôd,
bŷdd parod eich lleferŷdd.
4 Am mai union ydŷw ei air,
ffyddlon a cair ei weithred:
5 Cyfiawnder a barn, ef a'u câr,
Llawn ŷw'r ddaiar o'i nodded,
3
6 Gair yr Arglwŷdd a wnaeth y nêf,
a'i Ysprŷd ef eu lluoedd:
7 Cascla ef ynghŷd y môr,
a'i drysor ŷw'r dyfnderoedd.
8 Yr hôll ddaiar ofned ein Duw,
a phôb dŷn bŷw a'i breswŷl:
9 Ei arch a saif, a'i air a fŷdd,
a hynnŷ sŷdd iw ddisgwŷl.
4
10 Fe a ddiddymmodd, (fy Nuw Iôr)
hôll gyngor y cenhedloedd:
A thrwŷ lysiant gwnai'n ddi rŷm,
amcanion llŷm y bobloedd.
11 Ond ei gyngor oddi frŷ,
a beru 'n dragwŷddoliaeth:
A'i galon-frŷd ef ei hun,
uwch pôb rhŷw un genhedlaeth.
5
12 A phôb cenhedloedd, dedwŷdd ŷnt,
os Duw iddŷnt sŷdd Arglwŷdd:
A'i etholion ef a'u gwnaeth
yn etlfeddiaeth hylwŷdd,
13 O'r nefoedd frŷ yr edrŷch Duw,
ar lwŷbrau pôb rhŷw ddynnion,
Ac o'i breswŷlfa edrŷch ar
y ddaiar a'i thrigolion.
6
14 Yr hwn a luniodd galon dŷn,
a edwŷn ei weithredoedd:
15 Ac ni chedwir un bydol un,
o'i nerth ei hun na'i luoedd.
16 A pheth palledig ydŷw march,
i gael parch, ac ymwared:
Ac ni all achub o law'r Nêr,
[...]o i farchog er ei gryfed.
7
17 Gwelwch olwg Duw a'i fawl,
maent ar y sawl a'i hofno:
A'i drugaredd sŷdd ar lêd,
i'r sawl a 'mddiried yntho.
18 Er mwŷn gwared, pan fo rhaid,
rhag angeu enaid adŷn:
I borthi y tylawd yn glau,
rhag eisiau, a rhag newŷn.
8
19 Ein henaid gan yr Arglwŷdd hael,
sŷ'n disgwŷl cael eu bywŷd:
Efe a borth ein henaid gwan,
efe ŷw'n tarian hefŷd.
20 Sef yn unig yn Nuw yr Iôn,
mae'n calon yn llawenu:
Ac yn el enw sanctaidd ef,
mae hon yn grêf yn credu.
9
21 Duw dy drugaredd dôd i ni,
sef ynot ti a credwn:
D [...] drugaredd, a'th nawdd l'n dôd,
canŷs ynod ymddiriedwn.
PSALM. 34
1
DIolchaf fi a chalon rwŷdd,
i'r Arglwŷdd bôb amferau:
Ei foliant ef, a'i wîr fawrhâd,
sŷ'n wastad yn fy'ngeneu.
2 Fy enaid sŷdd yn bostio 'n rhwŷdd,
o'm Harglwŷdd, ac o'm perchen:
A phôb difalch hynnŷ a glŷw,
ac a fŷdd bŷw yn llawen.
2
3 Molwch fy Arglwŷdd gyda mi,
cŷd folwn ni ei enw
4 crlais arno yn f' ofn caeth,
a gwrando wnaeth fy ngalw.
5 Y sawl a edrŷch arno ef,
a llewŷrch nêf eglurir:
Ni wradwŷddir o honŷnt nêb,
a'u hwŷneb ni chwllyddir.
3
6 Wele, y truan a roes lêf,
a Duw o'r nêf yn gwrando:
A'i gwaredodd o'i holl ddrŵg,
a'i waedd oedd amlwg idddo.
7 Angel ein Duw a drŷ yn gŷlch,
o amgŷlch pawb a'i hofnant:
Ceidw hwŷnt: a llawer gwell
na chastell ŷw ei warant.
4
8 Profwch, gwelwch ddaued ŷw
yr Arglwŷdd bŷw i'r elddo:
A gwŷn ei fŷd pôb dŷn a grêd,
roi ei ymddiried yntho.
9 Ofnwch Dduw ei ainct (heb gêl)
a'i gwnêl ni bŷdd pall arnŷn.
10 Nag eisieu dim sŷdd dda er bôd,
ar gnawon llewod newŷn.
5
11 Chwŷchwi feiblon dowch yn nês,
gwrandewch hanes ystyriol:
Dowch, a dysgaf i chwi yn rhwŷdd,
ofni yr Arglwŷdd nefol.
12 Y sawl a chwennŷch fywŷd hir,
a gweled gwir ddaioni:
Caied ei eneu rhag drŵg di bwŷll,
a'i safn rhag twŷll a gwegi.
6
13 Gwrthod ddrŵg, gwna ddâ, cais hêdd,
hon hŷd y diwedd dilŷn:
A chadw'r heddwch wedi ei gael,
fel dyna ddiwael destŷn
14 Yr Arglwŷdd sŷdd yn dal golwg
ar y dŷn diddrwg cyfion:
A'i glustlau ef o'i lawn wîr fôdd,
egorodd i'r rhai gwirion.
7
15 Wŷneb yr Iôn a'i guwch sŷ dŷnn,
yn erbŷn gweithwŷr diffaeth:
I goffa o honŷnt ef a'i tŷrr
ar fŷrr o'r ddaiar ymaith.
16 Hawdd a clybu fy Nâf o'r nêf,
leferŷdd llêf y cyfion:
A thra buan (o'i râd, a'i rôdd)
a tynnodd o'u trallodion.
8
17 Agos ŷw ein Duw at gûr
y galon bur ddrylliedig:
A dâ a ceidw ef bôb prŷd
yr ysprŷd cystuddiedig.
18 Trwch, ac aflwŷddiannus iawn,
a fŷdd gŵr cyfiawn weithieu:
Ei ddrygau ôll, Duw oddi frŷ
a'u tŷn, a'u trŷ i'r goreu.
9
19 Ceidw ei escŷrn ef ei hun
o honŷnt un ni ddryllir:
Drŵg a ladd y diried wâs,
a ffrwŷth ei gâs a lleddir.
20 Hôll wasanaethwŷr Duw ei hun,
yr Arglwŷdd cun a'u gwared:
I'r Sawl a'mddiried yntho êf,
ni all llaw grêf mo'r niwed.
PSALM. 35.
1
PLeidia (o Arglwŷdd) yn fy hawl,
â'r sawl a derŷ'n f'erbŷn:
Lle'r ymrysonant a myfi,
ymwanâ di a'r gelŷn.
2 Mae dy gymmorth? o moes ei gael,
ymafael yn y darian:
O cyfod, cais dy aftalch gron,
a dŵg dy waŷwffon allan.
2
3 Argaua ar y rhai sŷ ar gam,
i'm herlid am fy mywŷd:
Wrth fy enaid dywaid fel hŷn,
myfi a fŷn i't iechŷd.
4 Gwarth a gwradwŷdd 'fo i bôb grâdd,
a geisio lâdd fy enaid:
A thrwŷ gywilŷdd troed iw ôl,
y ffals niweidiol gablaid.
3
5 Fel 'r ûs oflaen gwŷnt y bôn,
Angel yr Iôn i'w chwalu:
6 A rhŷd ffordd dywŷll lithrig lefn,
a hwn wrth gefn iw gyrru.
7 Cloddio pwll, a chuddio y rhwŷd
a wnaethbwŷd i'm heb achos:
Heb achlysur, maglau a wnaid
i'm henaid yn y cyfnos
4
8 O deued, cwŷmped yn ei rwŷd,
yr hon a guddwŷd allan:
Glyned a syrthied iw delm rwŷll,
a'i drapp o'i dwŷll ei hunan.
9 Ond am fy enaid i (Amen)
bŷdd llawen yn yr Arglwŷdd:
Fe a fŷdd hyfrŷd gantho hŷn,
lle daw i'r gelŷn aflwŷdd.
5
10 O Arglwŷdd dywaid f'esgŷrn i,
pwŷ sŷdd a thi un gyflwr?
Rhag ei drêch, yn gwared y gwan,
a'r truan rhag ei 'speliwr.
11 Tystion gau a gode yn llŷm,
a holent i'm beth anfad:
12 Drŵg i'm am dda, talent heb raid,
a'm henaid gwnaent ymddifad.
6
13 Ond fi, tra fyddent hwŷ yn glâf,
rhown amdanaf liein sach:
Drwŷ hîr ymostwng ac ymprŷd,
cymrais fy mŷd yn bruddach.
Yr un dosturiol weddi fau,
a ddaeth o'm geneu allan,
A droes eilwaith (er fy lles)
i'm mynwes i fy hunan.
7
14 Mi a ymddygais yn brudd dylawd,
fel am fy mrawd neu 'nghymmar:
Neu fel arwŷl un dros ei fam,
ni cherddais gam heb alar.
15 Hwŷthau yn llawen doent ynghŷd,
pan bwŷsodd adfŷd attaf:
Ofer ddynnion, hagar lu
fŷth yn min-gammu arnaf.
8
16 Ymŷsg y rhagrithiol watwor-wŷr,
rhoent eiriau sur, anweddaidd
Hwŷ a 'sgyrnygent arnaf fi,
bôb daint, a rheini 'n giaidd.
17 Arglwŷdd edrŷch, ow pa hŷd
a bŷdd fy mŷd i'm gorfod?
Gwared fy enaid rhag y bêdd,
a'm hoes o 'winedd llewod.
9
18 Minneu a ganaf i ti glôd,
lle bô cyfarfod lluoedd:
Ac a folaf dy enw a'th ddawn,
wrth lawer iawn o bobloedd.
19 Na fydded lawen fy nghâs ddŷn,
i'm herbŷn heb achosion:
Ac na throed (i fwrw 'mrâd)
mo gwrr ei lygad digllon.
10
20 Nid ymddiriedant ddim mewn hêdd
dychmygant ryfedd gelwŷdd:
Dirwŷn dichell, a gosod crŷw
i'r rhai sŷ'n bŷw yn llonŷdd.
21 Lledu safnau, taeru yn dŷnn,
dywedŷd hŷn yn un-blaid,
Ffei o honot, i ffordd a thi,
[...]i a'th welsom di a'n llygaid.
11
22 Titheu (O Arglwŷdd) gwelaist hŷn,
mor daer yn f'erbŷn fŷon:
Ac na ddôs oddiwrthif ymhll,
rhag dichell fy nghaseion.
23 Cyfod, deffro, fy Nuw i'm barn
yn gadarn gyd a'm gofud:
24 Dydi a fynni'r uniondeb,
ni watwar neb o'm plegid.
12
25 Na âd i'r gelŷn calon wael
ddigwŷdd cael ei wŷnfŷd:
Na gorfoleddu fy llyngcu'n grwn,
llyngcasom hwn yn ddŷbrŷd.
26 Gwarth a gwradwŷdd iddŷnt a ddêl
sŷ'n codi uchel chwerthin
Gwiscer hwŷnt a gwarth a châs,
sŷdd i'm galanas rŷ flin.
13
27 Llawen fo'r lleill, a llawn o glôd,
sŷ'n coelio môd yn gyfion.
Dw [...] [...]ant bydded i'n Duw fawrhâd,
[...] [...]oddi llwŷddiad iw weision.
28 M [...]neu fy Arglwŷdd gyda 'r rhain,
myfyriaf arwain beunŷdd
Dy gyfiawnder a'th fawr glôd,
â'm tafod yn dragywŷdd.
PSALM. 36.
1
WRth gamwedd dŷn annuwiol sur
mae'n eglur vn fy nghalon:
Nad oe [...] ofn Duw, na'i farn, na'i ddrŵg
oflaen eu golwg trawsion.
2 Mae yn cŷd ddwŷn a'i fai ei hun,
ni wêl mo'i wrthun drosedd:
Nes cael yn eglur i'r hôll fŷd
ei gâs-fŷd, a'i anwiredd.
2
3 Os ei ymadrodd, mae heb wîr,
ei eneu dihir, hŷ-dwŷll,
Ni fŷn wneuthur dim da ychwaith,
y drygddŷn diffaith di-bwŷll:
4 Ef yn ei welŷ ni chais hûn,
ond gosod llun ar gelwŷdd:
Os yn effro, neu yn ei waith,
ni ochel daith annedwŷdd.
3
5 Dy drugaredd (fy Arglwŷdd Iôn)
sŷdd hŷd eithafon nefoedd:
A'th wirionedd sŷdd yn gwau,
hŷd y cymylau dyfroedd.
6 Dy uniondeb, fel mynŷdd mawr,
dy farn fel llawr yr eigion:
Dy nerth fŷth fellu a barhâ,
i gadw dâ, a dynnion.
4
7 O mor werthfawr (F'Arglwŷdd Dduw)
i bawb ŷw dy drugaredd:
I blant dynnion da iawn ŷw bôd,
ynghysgod dy adenŷdd.
8 Cyflawn o frasder ŷw'r tŷ tau,
lle llenwir hwŷthau hefŷd:
Lle cânt ddiod gennŷt Iôn,
o flasus afon hyfrŷd.
5
9 Gyda thi mae y ffrwd hon,
a dardd o ffynnon einioes:
A'th dêg oleuni, ac a'th râd,
cawsom oleuad eisoes.
10 O ystŷn etto i barhâu,
dy drugareddau tirion:
Ni a'th adwaenom di a'th ddawn,
i'r rhai sŷdd uniawn galon.
6
11 O Dduw im herbŷn i na ddoed,
na ffŷrdd, na throed y balch-ffol,
A llestair attaf, fel na ddaw
na gwaith, na llaw'r annuwiol.
12 Fellu y syrthiodd gŷnt, yn wîr
y rhai enwir, a'u drygwaith,
Fellu gwthiwŷd i lawr hwŷ,
heb godi mwŷ yr eilwaith.
PSALM. 37.
1
NA ddal ddrwg-dŷb yn dy ben,
nac o genfigen ronŷn,
Er llwŷddo'r enwir, a wnai gam:
cei weled llam yn canlŷn.
2 Hwŷ a dorrir fel gwellt glâs,
neu lysiau diflas gwŷwon
A hwŷ a grinant yn ddilwŷdd,
a hynnŷ'n ebrwŷdd ddigon.
2
3 Crêd i'r Arglwŷdd, a gwna ddâ,
gobeithia yr hŷn fŷdd oreu:
Bŷdd ymarhous yn y tîr,
a di a borthir yn ddieu.
4 Bŷdd di gysurus yn dy Dduw,
di a gei bôb gwiw ddymuniad:
5 Dy ffŷrdd cfêd iddo, yn ddilŷs
fe rŷdd d'ewŷllŷs attad.
3
6 Crêd yntho ef, fo'th ddŵg i'r lan,
mŷn allan dy gyfiawnder:
Mor oleu ar haul hanner dŷdd,
fel hynnŷ bŷdd d'eglurder.
7 Ymddiried i Dduw, disgwŷl, taw,
a heb ymddigiaw gronŷn:
Er llwŷddo i ddryg ldŷn ei fawr fal,
yr hwn a wnai yn gyndŷn.
4
8 Paid a'th ddîg, na ofudia chwaith:
gâd ymaith wŷllt gynddaredd:
Rhag i hynnŷ dyfu i fôd,
yn bechod yn y diwedd.
9 O herwŷdd hŷn disgwŷl yr Iôn,
gwel ddiwedd dynnion diffaeth:
A disgwŷl ef: meddianna'r tîr,
a'r drŵg fe'i torrir ymaith.
5
10 Goddef y drygddŷn dros dro bach,
ni welir mwŷach monaw:
Ti a gai weled y lle a bu,
heb ddim yn ffynnu ynthaw.
11 Ond y rhai ufudd a hawddgar,
y ddaiar a feddiannant:
A'r rheini, a thangnhefedd hîr,
diddenir yn eu meddiant.
6
12 Bwriada'r drygddŷn o'i chwerw ddaint
ar ddrygu braint cyfiawnddŷn:
13 Duw yn ei watwar ynteu a fŷdd,
sŷ'n gweled dŷdd ei derfŷn.
14 Ynnylu bwa, tynnu clêdd,
ŷw trawsedd yr annuwiol,
Fe lâdd y truan, fel dŷdd brawd,
i'r tylawd, a'r defosionol.
7
15 Ei fwa torrir yn ddellt mân,
a'i glêdd a â'n ei galon:
16 Mawr ŷw golud yr ysceler,
ond gwell prinder y cyfion.
17 Yr Arglwŷdd a farn bôb rhŷw fal,
tŷrr freichiau'r rhai annuwiol,
Ac ef a gynnal yn ddi ddîg,
y cyfion ystig, gweddol.
8
18 Edwŷn Duw ddyddiau, a gwaith,
Pôb rhai o berffaith helŷnt:
Ac yn dragywŷdd Duw a wnaeth,
dêg etifeddiaeth iddŷnt.
19 Efe a'u ceidw hwŷnt igŷd,
na chânt ar ddryfŷd wradwŷdd,
Yn amser newŷn hwŷ a gânt,
o borthiant ddigonolrwŷdd.
9
20 Y rhai traws enwir, heb ddim cwŷn,
fel brasder ŵŷn a doddant:
Caseion Duw fŷdd dynnion drŵg,
hwŷ gyda'r mŵg diflannant.
21 Y gŵr annuwiol a fŷn ddwŷn
yn echwŷn, bŷth ni thalai:
A'r gŵr cyfion trugarog fŷdd,
ac a rŷdd, nis gommeddai.
10
22 Sawl a fendigo Duw (yn wîr)
y tîr a etifeddant:
A'r rhai a felldithio, 'r tîr
igŷd a fwrir allan.
23 Camrau'r duwiol sŷ wrth drefn Duw,
a hynnŷ ŷw ei wŷnfŷd:
24 Er ei gwŷmpo ef ni friw,
fe'i deil llaw Duw e'n ddiwŷd.
11
25 Aethŷm i bellach yn ŵr hên
bum fachgen rwŷ'n cydnabod:
Ni welais adel hâd gŵr dâ,
na cheisio eu bara 'ngherdod.
26 Echwŷn a benthig ceir bôb dŷdd,
trugarog fŷdd y cyfion:
A'i hâd ef drwŷ y nefol wlîth,
a gaiff o'i fendith ddigon.
12
27 Arswŷda ddrŵg, a gwna di dda,
a chyfannedda rhag llaw:
28 Duw a gâr y farn ddi dwn,
ninnau a roddwn arnaw.
Nid ymedŷ ef a'i sainct,
ceidw heb haint y rheini:
Ond hâd yr annuwiolion gau
a ddônt i angeu difri.
13
29 Y Ddaiar caiff y cyfion sŷth,
lle a preswŷl bŷth mewn iawndeb:
30 A'i eneu hyfrŷd wŷbodaeth,
a'i dafod traeth'ddoethineb.
31 Deddf ei Dduw sŷdd yn ei fron,
a'i draed (gan hon) ni lithrant:
32 Dŷn drŵg a ddisgwil lâdd y dâ,
ond ni chaiff yna ffynniant.
14
33 Ni âd yr Arglwŷdd (er ei gais,
nac er ei falais llidiog)
Y gwirion yn ei waedlŷd law,
I hwn ni ddaw barn euog.
34 Gobeithia yn yr Arglwŷdd tau,
a chadw ei lwŷbrau'n gywir:
Cei feddianu, cei uwch o râdd,
a gweled llâdd yr enwir.
15
35 Gwelais enwir yn llŷm ei big,
a'i frîg fel gwŷrddbren lawri:
36 Chwiliais, a cheisiais yr ail tro,
'r oedd efo wedi colli.
37 Ystyria hefŷd y gŵr pur
ac edrŷch du'r cyfiawnedd:
[...] a gei weled cyfrŷw ddŷn,
[...] derfŷn fŷdd tangnefedd.
16
38 A gwêl y rhai drwŷ drais sŷ'n bŷw,
ynghŷd i ddistrŷw cwŷmpant:
Fe a ddiwreiddir plant y fall,
i ddiwedd gwall, a methiant.
39 Iechŷd y cyfion sŷ o Dduw Nêr,
a'i nerth mewn amser cyffro:
40 Cymorth, ceidw, o ddrŵg y tŷnn,
a hŷn am gredu yntho.
PSALM. 38.
1
FY Arglwŷdd, na cherydda fi,
ym mhoethni dy gynddaredd:
Ac na chosba fi yn dy lîd
oblegid fy enwiredd,
2 Can's glŷn dy saethaū ynof fi,
a phennau'r rheini'n llymmion:
A dodaist arnaf y llaw dau,
a rhoist ddyrnodiau trymmion.
2
3 Nid oes mo'r iechŷd gan dy lîd,
i'm cnawd ond gofud creulon:
Ac nid oes (gan fy mhechod chwŷ [...]n)
mor hêdd i'm hesgŷrn sychion.
4 Can's fy nghamweddau aent i'r nen
a thros fy mhen tyfasant,
Un wêdd a bauch rhŷ drwm o bwŷs
fel hŷn mor ddwŷs i'm llethant.
3
5 Fy nglheifiau sŷdd yn bwdwr ddu
yn llygru gan f'ynfydrwŷdd:
6 Crymmais, a phellais bêth bôb dŷdd,
sef galar sŷdd, ac aflwŷdd.
7 Can's mae fy lwŷnau'n llawn o wrês,
a'm cnawd heb lês, nac iechŷd:
8 Llesg-wan, ac ysig ŷw fy mron,
lle gwaedda calon nychlŷd.
4
9 Clŷw Arglwŷdd fi, 'herwŷdd o'th flaen
yn hollawl mae 'nymuniad,
Ni chuddiwŷd mo'm ochenaid i,
oddiwrthit di fy ngheidwad.
10 Llamma 'nghalon, palla fy nerth,
a'm golwg prydferth hefŷd.
11 Cyfnesaf, cyfalll, câr nid gwell,
hwŷ aent ymhell i'm hadfŷd.
5
12 A'm caseion i yn nesau,
a'u maglau ffug, a'u dichell,
Safai fy ngheraint i yn sŷnn,
i edrŷch hŷn o hirbell.
13 Minneu fel dŷn byddar awn
megis pe bawn heb glywed:
Neu fel y mudan (dan dristau)
heb enau yn egored.
6
14 Yn fud fel hŷn a gwn fy môd,
fel un a thafod efrŷdd;
Heb ddywedŷd unwaith [...]ir o'm pen,
i dalu senn a cherŷdd.
15 Gan i'm gredu i ti yn rhwŷdd,
O Arglwŷdd Dduw goruchaf,
Rhwŷdd a hyspŷs gennif fi
ŷw, a gwrandewi arnaf.
7
16 Mi a ddymunais arnat hŷn,
rhag bôd i'm gelŷn wawdio:
O llithrai fy nhroed ronŷn bâch,
fe fŷdd llawnach gantho.
17 Cloffi yn barod 'rwŷf yn wîr,
a dolur hîr sŷ'm poeni:
18 Addef yr wŷf mai iawn i'm fôd,
fy mhechod sŷ'n ei beri.
8
19 A'm gelynnion sŷdd yn fŷw
yn aml ei rhŷw, a chryfion,
Sŷdd yn dwŷn câs i mi ar gam,
s [...]f am fy môl yn gyfion.
20 Y rhai a dalant ddrŵg am dda
a'm gwrthwŷneba 'n efrŷdd,
A hŷn am ddilin 'honof i
y pur ddaioni beunŷdd.
9
21 Duw, nac ymâd, na fŷdd ymhell,
pan ddelo dichell ffyrnig,
22 B [...]yssia, cymorth fi 'n y bŷd:
fy Nuw, a'm iechŷd unig.
PSALM. 39.
1
ADdewais gadw 'ngeneu'n gu,
rhag pechu yn fy ngeiriau:
2 Y dŷn annuwiol lle a bo
bwriadais ffrwŷno 'ngeneu.
3 Tewais, tewais fel dŷn mud,
rhag dywedŷd peth daionus,
Pan a cyffrois o hîr ddal,
ymattal oedd ofudus.
2
4 Yn fy nghalon cododd gwrês,
a'm mynwes o'm myfyrdod.
Fel y tân enynnu a wnaeth.
a rhŷdd yr aeth fy nhafod.
5 O dangos i'm (fy Arglwŷdd nêr)
pa amser a diweddaf,
Rhifedi'nyddiau, a pha hŷd,
o fewn y bŷd a byddaf.
3
6 Rhoddaist fy nyddiau fel llêd llaw:
i'm heinioes daw bŷrr ddiwedd.
Diau yn d'olwg di (o Dduw)
fôd pôb dŷn bŷw yn wagedd,
7 Sef mewn cysgod a rhodia gŵr,
dan gasclu pentwr ofer,
Odid a wŷr wrth dyrru dâ,
pwŷ a'u mwŷnha mewn amser,
4
8 Bêth bellach a obeithiaf fi,
Duw rhois i ti fy nghalon.
9 Tŷn fi o'm camweddau yn rhwŷdd,
n'ad fi'n wradwŷdd i ffolion.
10 Yn fudan gwael yr aethŷm i,
a hŷn tydi a'i parodd:
11 O tŷn dy gosp oddiwrth swrn,
sef pwŷs dy ddwrn a'm briwodd.
5
12 Pan gosbech di am bechod ŵr,
'fe wŷfwa'n siŵr ei fawredd,
Fel y gwŷfŷn: gwelwch wrth hŷn
nad ŷw pôb dŷn ond gwagedd.
13 Clŷw fyngweddi o Dduw o'r nêf,
a'm llê [...], a gwel fy nagiau:
Dy was caeth wŷf (o clŷw fy mloedd)
ac fellu'r oedd fy nheidiau.
6
14 O paid a mi, gâd i'm gryfhau,
cŷn darfod dyddiau 'mywŷd.
15 O gwna a mi sŷ'mron fy mêdd
drugaredd a syberwŷd.
PSALM. 40.
1
BUm yn dyfal ddisgwŷl Nêr,
ef o'r uchelder clybu,
Clust ymwrandawodd ef fy llais
pan lefais ar i fynu.
2 Cododd fi o'r pydew blîn,
a'r pridd tra gerwin tomlŷd,
A rhoes ar graig fy nhroed i wau,
a threfn fy nghamrau hefŷd.
2
3 A newŷdd gerdd i'm geneu rhoes,
clôd iddo trois yn hylwŷddd.
4 Pawb a ofnant pan welant hŷn,
a chredant yn yr Arglwŷdd.
5 Pôb gŵr yn ddieu dedwŷdd ŷw
a rotho ar Dduw ei helŷnt:
A'r balch, a'r ffals, a'r chwedlau tro
nid edrŷch efo arnŷnt.
3
6 Aml (o Dduw) ŷw'r gwrthiau tau,
fel dy feddyliau ynni:
A heb un dŷn yn dysgu i ti,
nac yn blaenori hynnŷ.
7 Y rhai pe ceisiwn i drwŷ grêd,
eu rhoi ar lêd, a'u canu,
Mwŷ amlach ydŷnt nag a gall
un dŷn heb pall eu treuthu.
4
8 Ni fynnaist offrwm rhôdd, na gwerth,
na chwaith un aberth genni:
Er hŷn fy nghlustiau i mewn prŷd,
hwŷ a egorwŷd i mi.
9 Hŷn pan wrthodaist, dywedais di
Duw wele fi yn dyfod:
10 Megis o honof mae gwîr pur
yn dy ysgrythur hynod.
5
11 A rhvngwn i dy fôdd yn llawn,
(o Dduw) rwŷ'n fodlawn ddigon:
Dy ewŷllŷs a'th lân ddeddf
sŷ'n greddf yn nautu'r galon.
12 Mi a bregethais dy air cu
ynghanol llu mawr anian:
Ac ni thawaf fy Arglwŷdd gwŷn,
ti wŷddost hŷn dy hunan.
6
13 Dy iownder, iechŷd, a'th air gwir,
ni bum chwaith hîr i'w celu,
Na'th drugaredd, na'th roddion dâ
rhag un gynlleidfa maith-lu.
14 Ditheu (o Dduw) rhagof na chêl
dy dawel drugareddau.
Dy [...]awdd a'th wîr gosod ar lêd,
bônt bŷth i'm gwared inneu.
7
15 Dagrau o'm hamgŷlch fŷdd uwch rhîf,
a throso'n llîf mae pechod.
Amlach ydŷnt na'm gwallt i'm brîg,
a'm calon ddig sŷ'n darfod.
16 Tyred (fy Arglwŷdd) helpa'n rhôdd,
a rhynged bôdd i't hynnŷ:
Bryssia i'm gwared, na thrîg yn hwŷ,
a bŷdd gynhorthwŷ i mi.
8
17 A chŷd-wradwŷdder hwŷnt ar gais
a fŷn drwŷ drais fy nifa:
A throer iw hôl y rhal y sŷ
yn chwennŷch i mi ddirdra
18 Annedd-wâg yn lle tâl
I rhai a dyfal dafod.
Er gwradwŷdd i'm a ddywedant hŷn
ffei, ffei, ar destŷn dannod.
9
19 Y rhai a'th geisiant di bôb prŷd
bônt lawen hyfrŷd hylwŷdd,
A dyweded a'th gâr di (Dduw nêr)
mawryger enw'r Arglwŷdd.
20 Cofia (o Dduw) fy môd yn wan,
ac yn druan, a thyred,
(O Dduw fy nerth) na thrîg yn hîr,
tyr'd rhag y dir i'm gwared.
PSALM. 41.
1
GWŷn ei fŷd 'r ystyriol frawd,
a wnêl ar tylawd syberwŷd:
Yr Arglwŷdd ystyriol o'r nêf
a'i ceidw ef rhag drygfŷd.
2 Duw a'l ceidw, a bŷw a fŷdd
yn ddedwŷdd yn ddaiarol:
O na ddyro ef yn rhôdd
wrth fôdd y rhai gelynol.
2
3 Yn ei welŷ pan fo glâf
rhŷdd y Goruchaf iechŷd:
A Duw a gweiria oddi frŷ
ei welŷ yn ei glefŷd.
4 Dywedais inneu yna'n rhwŷdd,
dôd f' Arglwŷdd dy drugaredd,
Iachâ di'r dolur sŷ dan f'ais,
lle pechais mewn anwiredd.
3
5 Traethu y gwaethaf a wnai 'nghâs
am danaf, atcas accen:
Pa brŷd a bŷdd marw'r gwan,
a'i enw dan yr wŷbren?
6 Os daw i'm hedrŷch, dywaid ffug,
dan gasglu crug iw galon,
Ac a'i traetha pan êl i ffwrdd
i gyfwrdd a'i gyfeillion.
4
7 Fy holl gaseion doent ynghŷd,
i frad igŷd yn f'erbŷn:
Ac i ddychmygu i mi ddrŵg,
a minneu'n ddiddrwg iddŷn.
8 Yna dywedent hwŷ yn rhwŷdd
tywalltwŷd aflwŷdd arno,
Mae ef yn gorwedd yn ei nŷth,
ni chyfŷd bŷth oddiyno.
5
9 F'anwŷl gyfaill rhwŷm i'm wrth grêd,
fy 'mddiried a'm dewis-ddŷn,
A fu yn bwŷdta 'mara erioed,
a godai ei droed yn f'erbŷn.
10 Ond di dy hunan cyfod fi,
o'th ddaioni, Duw o'r nêf,
Fellu a gallaf fi ar hŷnt
gael talu iddŷnt adref.
6
11 Dâ gwn fy môd wrth dy fôdd,
wrth hŷn, na chafodd cas-ddŷn,
A gwn na chaiff un gelŷn glâs
ddim urddas yn fy erbŷn.
12 Fellu a gwn amdanaf fi,
di a'm cynheli'n berffaith:
Gan fy rhoi bŷth gar dy fron
o fŷsg y dynnion diffaith.
7
13 I Dduw Israel boed yn flîth
y fendith (Iôr goruchaf)
Yn oes oesoedd: a thrwŷ air llen,
Amen, Amen a draethaf.
PSALM. 42.
1
YR un wêdd ag a brêf yr hŷdd
am yr afonŷdd dyfroedd:
Fellu a mae fy hiraeth i
am danat ti Duw'r nefoedd.
2 Fy enaid i sychedig ŷw
am fy Nuw bŷw, a'i gariad:
Pa brŷd a dôf fi gar dy fron,
fy Nuw a'm cyfion ynad?
2
3 Fy nagrau oeddŷnt ddŷdd a nôs
yn fwŷd i'm, achos gofŷn
Am fy Nuw bôb pen awr bâch,
ple mae fe bellach? meddŷn,
4 O gofio hŷn wrthif fy hun
fel tywallt ffun fy enloes:
Ynghŷd a theulu Duw yr awn,
pa cawn fy meddwl eisoes.
3
Hŷd at dŷ Dduw yn ystig iawn
yr awn dan ganu'n gelfŷdd,
Fel tyrfa a fae yn cadw gwŷl,
hŷn bum iw ddisgwŷl beunŷdd.
5 Trwm wŷd f'enaid o'm mewn: paha [...]
a rhoi brudd lam ochenaid?
6 Disgwŷl wrth Dduw, a doi gar bron
ei wŷneb tirion cannaid.
4
7 Fy enaid o'm mewn pan fo prudd,
a â yn rhŷdd o'th gofion,
A chofio yr Iorddonen iâch,
a'r mynŷdd bâch o Hermon.
8 Dyfnder îs dyfnderau sŷdd,
ac ar eu gilŷdd galwant;
A dŵfr pôb ffrŵd, pôb llîf, pôb ton,
hwŷ dros fy mron a aethant.
5
9 Fy Nâf a roes y dŷdd i'm hêdd,
a'r nôs gyfannedd ganu,
I ganmawl hwn, fy Nuw a roes
i'm einioes iw foliannu.
10 Paham a bum i dros gôf cŷd?
Duw, wrthŷd yr achwŷnaf:
Er gorthrymder y gelŷn cam,
mewn galar pa'm y rhodiaf?
6
11 Trwŷ f'esgŷrn taro cleddŷf llŷm
mewn gwarthlid i'm, oedd edliw
I'm o'm gelynnion er fy ngwae,
dy Dduw p'le mae fe heddiw?
12 Trwm wŷd f'enaid o'm mewn: paham
a rhoi brudd lam ochenaid?
13 Disgwŷl wrth Dduw, a doi gar bron
ei wŷneb tirion cannaid.
PSALM. 44.
1
CLywsom a'n clustiau (o Duw cu)
a'n tadau fu'n mynegu
I ni, dy wŷrthiau gŷnt a oedd
yn yr amseroedd hynnŷ.
2 Sef y cenhedloedd tynnaist hwŷ,
a'th bobl yn fwŷfwŷ plennaist.
Llâdd estroniaid heb ado un,
a'th bobl dy hun a gedwaist.
2
3 Nid a'u clêdd eu hun yn wir,
a cawsant dîr, na thyddŷn,
Nid a nerth eu breichiau'n fflŵch
a cadwŷd heddwch iddŷn:
Ond dy law ddeheu, a'th fawr nerth,
a'th olwg prydferth effro.
O herwŷdd i't eu hoffi: hŷn
a barodd iddŷn lwŷddo.
3
4 Ti Dduw, fy mrenin ydwŷd; o
pâr i Iago lwŷddiant:
5 Lladdwn, a sathrwn yn d'enw dl
y rheini a'n cassauant.
6 Nid yn fy mwa mae fy ngrŷm
[...]a'm cleddŷf llŷm f'amddiffŷn,
7 Ond tydi Dduw achu [...]st fi,
a rhoist warth frî i'r gelyn.
4
8 Am hynnŷ molwn di bôb dŷdd,
cei yn dragywŷdd fawredd,
Canwn i'th enw gerdd gan dant,
o glôd a moliant ryfedd.
9 Ond ti giliaist ymaith bêth,
daeth arnom feth a gwradwŷdd;
Nad ait ti allan gyda'n llu,
cyfagos fŷ i dramgwŷdd.
5
10 Gwnaethost i ni droi heb drefn,
ein cefn at y gelynnion:
Fellu yr aeth ein dâ o'n gwlâd
yn sclyfiad i'n caseion.
11 Rhoist ni yn fwŷd (fel def [...] gwâr)
ar wasgar i'r cenhedloedd,
12 A gwerthaist dy bobl ar brîs bâch
nid hytrach dy oludoedd.
6
13 Rhoist ni yn watwar (o Dduw Iôn)
i'n cymydogion gwrthrŷm,
A diystyrwch ôll a gwarth,
i bawb o bôb parth ydŷm.
14 Dodaist ni yn ddihareb chwîth
ymlhîth yr hôll genhedloedd:
Ac yn arwŷdd i ysgwŷd pen,
a choeg gyfatcen pobloedd.
7
15 Fy ngwarth bŷth, o'm blaen daw'n hawdd,
fy chwŷs a dawdd fy rhagdal,
16 Gan lais gwarthruddwr, cablwr câs,
a gwaith galanas dial.
17 Er dyfod arnom hynnŷ igŷd
ni throes na'n brŷd na'n cofion,
Ac ni buom i'th air (o Nêr)
un amser yn anffyddlon.
8
18 Ein calon yn ei hôl ni throed,
ni lithrai'n troed o'th lwŷbrau:
19 Er ein gyrru i ddreigaidd gell
a'n toi a mantell angeu.
20 Os aeth enw Duw o'n cô,
ac estŷn dwŷlo i arall:
21 Oni wêl Duw y gau-grêd hon?
ein calon mae'n el deall.
9
22 O herwŷdd er dy fwŷn yn wî [...]
o Dduw i'n lleddir beunŷdd,
Fel y defaid ymron eu llâdd,
fel dyna râdd y llonŷdd.
23 O deffro cyfud Dduw, mewn prŷd
pa'm yr wŷd cŷd yn gorwedd?
A dihuna, a chlŷw fy nghrî,
a chofia fi o'r diwedd.
10
24 Paham a cuddi d'wŷneb-prŷd▪
o darbod hŷd ein blinder,
Ein henaid mathrwŷd yn y llŵch,
gan dristwch a gorthrymder.
25 Wrth y llŵch mae'n bol ynglŷn
fel dyna derfŷn gwagedd.
26 Duw cyfod cymorth, gwared ni
o egni dy drugaredd.
[...]
[...]
PSALM. 45.
1
TRaethodd fy nghalon bethau dâ,
i'r brenin gwna fyfyrdod:
Fy nhasod i fel pin sŷdd
yn llaw 'scrifennŷdd parod.
2 Uwch meibion dynnion tegcach wŷd,
tywalltwŷd rhâd i'th eneu,
Am i Dduw roi arnat wlîth
ei fendith fŷth, a'i radau.
2
3 Gwisg dy gleddeu yngwâfg dy glun,
o gadarn gûn gogonedd
A hŷn sŷdd weddol, a hardd iawn,
mewn llwŷdd, a llawn gorfoledd.
4 Marchog ar y gwîr yn rhwŷdd,
Iledneisrwŷdd, a chyfiawnedd,
A'th law ddeheu di a ei drwŷ
bethau ofnadwŷ rhyfedd.
3
5 A thanat ti pobloedd a sŷrth,
gan wŷrth dy saethau llymmion;
Briwant hwŷ, a glynant yn glau
ymmronnau dy elynnlon.
6 Dy lân orseddfaingc (o Dduw frŷ)
a beru i dragwŷddoldeb,
Awdur-falngc dy deŷrnas sŷdd
awdurol, rhŷdd uniondeb.
4
7 Ceraist uniondeb, caseist gam,
o achos pa'm, Duw lywŷdd,
Fy Nuw rhois arnat ragor fraint,
sef ennaint y llawenŷdd.
8 Aroglau mŷrrh, ac aloes dâ,
a chasia ar dy ddillad,
Pan ddelŷch di o'th Iferi dai,
lle i'th lanwai'r holl wlâd.
5
9 Merched brenhioedd yn gwau
gyda'th garesau cywir,
O'th du deau'r frenhines daeth,
mewn gwifg aur coeth o Ophir.
10 Clŷw hŷn, o ferch, a hefŷd gwêl,
a chlust isel gwrando:
Mae'n rhaid i't ollwng pawb o'th wlâd,
a thŷ dy dâd yn ango.
6
11 Yna bŷdd gan y brenin wŷch
gael edrŷch ar dy degwch:
Dy Arglwŷdd ŷw, gwna iddo foes,
i gael i'th oes hyfrydwch.
12 Merched Tirus a rhôdd ddâ:
a'r bobloedd appla ô olud,
A ymrysonent gar dy fron,
am roi anrhegion hefŷd.
7
13 Ond merch y brenin, glân o fewn,
anrhydedd llawn sŷdd iddi,
A gwisg o aur, a gemmau glân
oddiallan sŷdd am dani.
14 Mewn gwaith nodwŷdd a daw hon,
yn wŷch gar bron ei Harglwŷdd,
Ac a'i gwŷryfon gyda hi
daw attad ti yn ebrwŷdd.
8
15 Ac mewn llawenŷdd mawr a hêdd,
ac mewn gorfoledd dibrin,
Hwŷnt a ddeuant wrth eu gwŷs
igŷd i lŷs y brenin.
16 Dy feibion yn attegion tau
yn lle dy dadau fyddant,
Twŷsogaethau drwŷ fawrhâd,
yn yr hôll wlâd a feddant.
9
17 Coffâf dy enw ymhôb oes,
tra caffwŷf einioes i mi:
Am hŷn y bobloedd a rŷddd fawl,
bŷth yn dragwŷddawl i ti.
PSALM. 46.
1
GObaith a nerth i'n ŷw Duw hael;
mae help iw gael mewn cyfwng.
2 Daiar, mynŷdd, aent i'r môr:
nid ofnaf f'angor deilwng.
3 Pe ymgymysgai'r tir a'r dwfr,
nid ofnwn gynnwrf rhuad,
Ped ai'r mynyddoedd i'r môr mawr,
a'r brynniau i lawr y gwastad.
2
4 Dinas Duw lle llawen 'fŷdd,
cyfagos glennŷdd afon,
Cyssegr preswŷlfa y rhâd
gan ddyfal rediad Cedron.
5 Duw sŷdd yn trigo o'i mewn hi
ni âd hi [...] gi unwaith:
6 Duw a [...]morth ar wawr ddŷdd.
a phresw [...] fŷdd perffaith.
3
6 Y cenhedloedd pan fŷddent ddîg,
a ffyrnig y teŷrnasoedd,
Tolldai y ddaiar o'i flaen ef
pan glywid llêf Duw'r lluoedd
7 Mae yr Arglwŷdd gyda ni,
Iôr annifeiri luoedd:
I mae Duw Iago yn ein plaid,
gŷr help wrth raid o'r nefoedd.
4
8 Y wlâd, o dowch lgŷd vn rhwŷdd,
a gwaith yr-Arglwŷdd gwelwch,
Y môdd a gosododd ar
y ddaiar anniddanwch.
9 Gwna i ryfeloedd beidio'n wâr
hŷd eitha'r ddaiar lychlŷd:
Dr [...]llia y bŵa, tŷr y ffon,
llŷsg y ce [...]bydon hefŷd.
5
10 Peldiwch, gwŷddwch mal fi ŷw
eich unig Dduw, a'ch banar,
Ymŷsg eenhedloedd mi gâf barch,
a'm cyfarch ar y ddaiar.
11 I mae yr Arglwŷdd gyda ni,
Iôr anifeirl luoedd,
I mae Duw Iago vn ein plald
gŷr help wrth raid o'r nefoedd.
PSALM. 47.
1
CEnwch, a churwch ddwŷlo 'nghŷd
hôll bo [...]l y bŷd cyfannedd,
A [...]lafar genwch i Dduw nêf,
gan leisio a llêf gorfoledd.
2 Ofni Duw uwch daiar gron,
sŷdd dros hon yn frenin,
3 Dŵg bobloedd danom, a phôb gwaed,
a than ein traed fe'u disgin.
2
4 Fe a rŷdd i ni feddiant siŵr,
gwlâd Iago, gŵr a garai.
5 Duw a dderchafodd wrth y sain,
yr utgorn gain pan leisiai.
6 O cenwch, cenwch, glôd i'n Duw,
ein brenin ŷw, o cenwch,
7 Duw dros y bŷd fŷ frenin call
drwŷ ddeall i'm hyfrydwch
3
8 Brenin ŷw ef, dâ a gwnaeth,
lywodraeth ar wŷr bydol,
Ac mae'n eistedd yn ei lêf,
gorseddfa nêf sancteiddiol.
9 Ymgasglant bendefigion bŷd,
ynghŷd a llu Duw Abram,
Duw 'bia tariannau y tîr,
drwŷ foliant hîr yn ddinam.
PSALM. 48.
1
MAwr ŷw ei enw'n ninas Duw,
a hynod ŷw yr Arglwŷdd;
A'i drigfa ef yno sŷdd
ym mvnŷdd ei sancteiddrwŷdd.
2 Tegwch brô, llawenŷdd gwlâd,
ŷw Seion lathriad fynŷdd,
Yn ystlysau y gogledd lawr,
Tre'r brenin mawr tragywŷdd.
2
3 Adwaenir Duw ymhlasau hon
yn gymorth digon hynod.
4 Ac wele nerth brenbinoedd bŷd
daent yno i 'mgŷd gyfarfod.
5 A phan welsant, rhyfedd a fu,
ar frŷs brawychu rhagor:
6 Dychrŷn a dolur ar bôb ffaig,
fel dolur gwraig wrth esgor.
3
7 Ti a dwŷrein-wŷnt drylli'n frau,
eu llongau ar y moroedd.
8 Fel a clywsom gwelsom ni,
yn ninas rhi' y lluoedd:
Hŷn yn ninas ein Duw ni,
sicrha Duw hi bŷth bythoedd.
9 Duw disgwiliasom am dy râs
i'th deml, ac addas ydoedd.
4
10 Duw, fel yr aeth dy enw o hŷd,
fellu drwŷ'r bŷd i'th folir:
Dy law ddeheu sŷdd gyflawn,
a chyfiawn i'th adwainir.
11 A brŷn Seion a lawenhâ,
a merched Iuda hefŷd:
A'u llawenŷdd yn parhau
o ran dy farnau hyfrŷd.
5
12 Ewch, oddiamgŷlch Seion sail,
a'i thyrau adail rhifwch,
Ei chadarn fur, a'i phlasau draw
i'r oes a ddaw mynegwch.
13 Ein Duw ni bŷth ŷw'r Duw hwn,
hŷd angeu credwn yntho,
A hŷd farwolaeth hwnnw a fŷdd,
yn dragywŷdd i'n tywŷso.
PSALM. 49.
1
GWrandewch chwi bobloedd igŷd,
trigolion bŷd, deallwch,
2 Gwerin, tylawd, bonheddig, a chrŷf
cyfoethog hŷf ystyriwch.
3 O'm geneu daw doeth air didwŷll,
a'm calon pwŷll fyfyriaf,
4 A'm clust gwrandawaf ddammeg ddwŷs
a'm llais cerdd lwŷs a ganaf.
2
5 Pa ham yr ofnaf ddrygau'r bŷd
yn amser adfŷd atcas?
Pan fo anwiredd wedi cau,
wrth fy sodlau, o'm cwmpas.
6 Mae llawer rhai o wŷr y bŷd
mewn golud a'mddiriedant,
A thrwŷ siarad am werth, a rhi
y rheini a rhodresant.
3
7 Ond ni wareda neb mo'i frawd,
ni thâl yn ddidlawd drosto,
Ac ni chymer Duw'r fâth dâl,
nac iawn mor sâl am dano.
8 Pryniad enaid dŷn, drud fŷdd,
a hŷn bŷth gorfŷdd peidio,
9 Fel y gallo efe fŷw bŷth,
heb fŷnd i nŷth yr amdo.
4
10 Gwelir mai'r bêdd ŷw llettŷ'r doeth,
y ffôl a'r anoeth unwêdd:
Marw ŷw'r naill, a marw ŷw'r llall,
i arall gâd ei annedd.
11 Meddwl am eu hadeilad bŷth,
yn ddilŷth a parhauant,
Am hŷn wrth eu henwau yn wir
eu Tai a'u tir a alwant.
5
12 Ni pherŷ dŷn o gnawdol drâs,
mewn urddas er ei adail
Diau pôb dŷn, pan ddêl ei ddŷdd,
a dderfŷdd fel anifail.
13 Dymma eu ffordd, ffordd ffoledd fŷdd,
na welant ddŷdd yn passio:
Er hŷn eu hîl a ddêl iw hôl,
fŷdd yn eu canmol etto.
6
14 Angeu ŷw terfŷn pôb dŷn bŷw,
i hwn nid ŷw ond tammaid:
Myned sŷdd raid o'r tŷ i'r bêdd,
yn rhwŷm un wêdd a'r defaid.
15 Daw dŷdd i'r cyfion dranoeth têg,
daw i'm ychwaneg ystŷn:
Daw i'm o'r bêdd godiad i fŷw,
deheulaw Dduw a'm derbŷn.
7
16 Er codi o ŵr mewn parch neu dda,
nac ofna di un gronŷn:
Ei olud ef, na'i barch, na'i ddâ,
i'r bêdd nid â iw ddilŷn.
17 Hwn tra fu fŷw yn rhodio llawr,
gwnai'n fawr o hono ei hunan,
Gwna 'honot ti dy hun yn fwŷ,
a hwŷnt hwŷ a'th ganmolan.
8
18 At oes ei dadau hwn pan ddêl,
aiff i'r bêdd dirgel efrŷdd.
19 Dŷn mewn anrhydedd, heb ddeall
(fel llwdn o wall) a dderfŷdd.
PSALM. 50.
1
DUw y duwiau, Arglwŷdd cu,
gan lefaru a alwodd,
O godiad haul, hŷd fachlud hwn,
yr hollfŷd crwn cyffrôodd.
2 O frŷn Seion daeth Duw nâf,
hon sŷdd berffeithiaf ddinas,
Mewn tegwch, a goleuni mawr,
a llewŷrch gwawr o'i gwmpas.
2
3 Doed rhagddo'n Duw, heb fôd fel mud,
o'i flaen fflam danllŷd yssed,
A mawr dymhestloedd iw gŷlch êf,
pan ddêl o'r nêf i wared.
4 Geilw ef am y nefoedd frŷ,
a'r ddaiar obrŷ danom,
I gael barnu ei bobloedd ef,
fel hŷn rhŷdd lêf amdanom.
3
5 O cesglwch attaf fi fy Sainct,
y rhai drwŷ rŷdd-frai [...]t brydferth,
A wn̄aethan ammod a myfi,
a'i rhwŷmo hi drwŷ aberth.
6 A phan ddangoso mintai nêf
ei farnau êf yn union,
Sef Duw a fŷdd yn barnu ei hun,
yr unig gûn sŷdd gyfion.
4
7 Clŷw di fy mhobl; traethaf yn ffraeth
dystiolaeth yn dy erbŷn,
Ditheu Israel: ac iawn ŷw
Duw, sef dy Dduw a'th ofŷn.
8 Ni chei di am yr ebŷrth tau,
na'th boeth offrymau gerŷdd;
Nac am na baent hwŷ gar fy mron,
y cyfrŷw roddion beunŷdd.
5
9 Ni chymeraf o'th dŷ un llô,
na hŷfr a fô'n dy gorlan,
10 Mi bia'r dâ'n y maes sŷ'n gwau
ar fîl o frynniau allan.
11 Pôb aderŷn erbŷn ei ben,
a adwen ar y mynŷdd,
Pôb dâ maesŷdd, y lle y maen,
sŷdd o'm blaen i beunŷdd.
6
12 Nid rhaid i'm ddangos i ti hŷn,
pe delai newŷn arnaf,
Ac yn eiddo fi yr hôll Fŷd,
a'i ddâ igŷd yn llownaf.
13 A'i cîg teirw fŷdd fy mwŷd?
na thŷb: nid wŷd ond angall:
A'i gwaed hyfrod fy niod fŷdd?
dŷsg o newŷdd ddeall.
7
14 Dôd dy oglud ar Dduw yn drwm,
a thâl yr offrwm pennaf;
Cân ei fawl ef: a dôd ar lêd
d'adduned i'r Goruchaf:
15 Galw arnaf yn dy ddŷdd blin,
yno cai fi'n waredŷdd:
Yna a ceni i mi glôd
am droi y rhôd mor ddedwŷdd.
8
16 Duw wrth yr enwir dywaid hŷn:
a'i 'ti perthŷn fy neddfau?
Paham a cymri di, na'm clôd,
na'm hammod yn dy eneu?
17 Sef, câs fu gennŷt ti iawn ddŷfg,
ac addŷsg ni chymeraist.
A'm geiriau i (fel araith ffôl)
igŷd o'th ôl a deflaist.
9
18 A phan welaist leidr, rhedaist,
a rhwŷdaist ran oddiwrtho:
Ac os gordderchwr brwnt aflan,
mynnaist ti gyfran gantho.
19 Gollyngaist di dy safn yn rhŷdd
yn efrŷdd ar ddrygioni,
A'th dafod di a redeu ym mhell
at ddichell, a phôb gwegi.
10
20 Eisteddaist di, dwedaist ar gam
ar fâb dy fâm, er enllib.
21 Pan wnaethost hŷn, ni'th gosbais di,
a thybiaist fi'n gyffelŷb.
22 Ond hwŷ na hŷn tewi ni wnaf,
mi a'th geryddaf bellach,
Mi a ddangosaf dy hôll ddrŵg
oflaen dy olwg haŷach.
11
23 Gwrandewch, a pheidiwch tra fo'ch bŷw
a gollwng Duw yn ango;
Pan ni bô neb i'ch gwared chwi,
rhag ofn i mi eich rhwŷgo.
24 Yr hwn abertho i mi fawl
ŷw'r sawl a'm gogonedda.
I'r neb a drefno ei ffordd yn wiw
gwir iechŷd Duw a ddysga.
PSALM. 51.
1
TRugaredd Arglwŷdd dôd i mi,
Duw o'th ddaioni tyner;
Ymaith tŷn fy enwiredd mau
o'th drugareddau lawer.
2 A golch fi hefŷd yn llwŷr ddwŷs
oddiwrth fawr bwŷs fy meiau:
Fy Arglwŷdd, gwna'n bur lân fyfi
rhag bryntni fy nghamweddau.
2
3 Canŷs adwaen fy nghamwedd,
a'm brwnt anwiredd ysig,
Beunŷdd maent gar fy mron i,
4 Yn d'erbŷn di yn unig.
A gwneuthŷm minneu hŷn oedd ddrŵg,
yn dy lân olwg distrŷch,
Fel i'th gyfiawner yn ôl d'air,
yn burair pan y bernŷch.
3
5 Mewn pechodau lluniwŷd fi,
ac mewn drygioni du-gas,
Fellu yr wŷf o groth fy mam
yn bŷw bôb cam yn atgas.
6 Ac wele ceri di y gwir
o fewn y gywir galon:
Am hŷn dysgaist ddoethineb iach
i'm o'th gyfrinach ffyddlon.
4
7 Ag Isop hefŷd golch fi'n lân,
ni byddaf aflan mwŷach,
Byddafi o'm golchi fel hŷn,
fel eira gwŷn, neu wŷnnach.
8 Pâr i minneu weled hêdd,
gorfoledd a llawenŷdd,
I adnewŷddu f'esgŷrn i
a ddrylliaist di a cherŷdd.
5
9 O cuddia di dy wŷneb-prŷd
oddiwrth fy mŷd bechodau,
Fy anwireddau tŷn eu lliw,
o Arglwŷdd bŷdd wiw weithiau
10 Duw, crea i'th wâs galon bûr
dôd i mi gysur beunŷdd,
I fŷw yn well tra fwŷ'n y Bŷd,
dôd ynof ysprŷd newŷdd.
6
11 O Dduw na ddyro di o chwaith,
fi ymalth o'th olygon,
Ac na chymer dy. Ysprŷd glân
oddiwrthif, druan gwirlon,
12 Gorfoledd etto dŵg im i,
drwŷ roddi i'm dy iechŷd,
A chynnal a'th ysprydol ddawn
fi i fŷw yn uniawn hefŷd.
7
13 A dysgaf inneu dy ffordd wir
i'r enwir, a'th addoliad:
A phôb pechadur tro i'r iawn,
a chŷrch yn uniawn attad.
14 Rhag gwaed, gwared fi o Dduw,
sef Duw fy iechŷd wriaeth,
A'm tafod o'th gyfiawnder di
a gân gerdd wisgi yn hŷ-ffraeth.
8
15 Duw, egor ditheu fy min mau,
a'm geneu mi a ganaf
O Arglwŷdd, gerdd i'th fawl a'th nerth,
fel dyna'r Aberth pennaf.
16 Canŷs Aberth ni's ceisi di,
ac ni fynni offrwm-poeth:
Pe mynasit, cawsit hŷn,
nid rhaid i't dderbŷn cyfoeth.
9
17 Ond Aberthau Duw igŷd,
ŷw ysprŷd pur, drylliedig,
Ac ni ddiystyri (o Dduw Iôu)
y galon gystuddiedig.
18 Bŷdd di dda wrth Seion frŷn,
o Arglwŷdd, hŷn a fynni,
Ac wrth Gaersalem, dy dre tâd,
a gwna adaeilad arni.
10
19 Cei di aberth iownedd coeth,
cei offrwm poeth yn rhagor,
Cei aberth llôsg, a bodlon fŷch,
cei fustŷch ar dy allor.
PSALM. 52.
1
PA'm y rhodresi yn dy frâd,
a'th ddrŵg fwriad (o gadarn?)
A maint trugaredd Duw bôb dŷdd,
ac fellu bŷdd hŷd ddŷdd-farn.
2 Dychymŷg drŵg ŷw'r fyfyrdod,
a gwaith dy dafod sceler,
Hwn sŷdd fel ellŷn llŷm o ddur,
a'i swŷdd ŷw gwneuthur ffalsder.
2
3 Ni hoffaist dda, gwnait ddrŵg yn hawc,
a'r traws yn fwŷ na'r union,
4 Hoffaist eiriau distrŷw, a bâr,
ti gelŷn twŷllgar creulon
5 Duw a'th ddistrywia ditheu bŷth,
fe dŷnn dy chwŷth o'th gaban:
Ac a dŷnn dy wraidd di igŷd,
o dîr y bywŷd allan.
3
6 Y rhai a'i gwelant, a arswŷdant,
canŷs hwŷ afyddant gyfion,
A hwŷ a chwarddant am ei ben,
pan welont ddiben creulon.
7 Gwelwch y gŵr, ni rôdd ŷn ddwŷs
ar Dduw na'i bwŷs, na'i oglud,
Ond ar ddrygioni yn rhoi nerth,
a rhif, a gwerth ei olud.
4
8 Mi fel oliwŷdden werdd
yn nhŷ Dduw, cerdd a ganaf,
Ymddiridaf iddo yn hawdd,
bŷth dan ei nawdd y byddaf.
9 Mi a'th folaf, a'th obeithiaf,
bythoedd drwŷ ymddiried.
Da ŷw dangos gar bron dy Saint
dy enw, a maint dy weithred.
PSALM. 53.
1
DWedai'r ynfŷd wrtho ei hun
nad oes un Duw, na dial:
Ei ddrŵg ffieidd-dra, a'i drais tŷnn,
a ddengŷs hŷn yn ddyfal.
2 Edrychodd Duw i lawr or Nêf,
ar ddynnion ef a graffodd,
Oedd neb yn deall, oedd un bŷw
yn ceisio Duw o'i wirfodd?
2
3 Ciliasai bawb yn ôl ei gefn
a hwŷ drachefn cŷd lygrent:
Nid oedd neb a wnelal yr iawn,
nac un yn gyfiawn 'honŷnt.
4 Pa'm na 'styria gweithwŷr tra
eu bôd yn bwŷdta 'mhobloedd,
Fel y bara? ac heb ddim bri;
ni alwent fi o'r nefoedd.
3
5 Ofn heb raid arnŷnt a ddaeth,
y rhai a'ch caeth warchaeodd:
Can's trwŷ eu gwasgar i bôb parth,
mewn gwarth Duw a'u gwasgarodd.
6 Och fi na roid i Israel,
o Seion uchel iechŷd:
Pan roddo Duw ei bobl ar lêd
o drom gaethiwed adfŷd.
4
7 Yna a bŷdd Iago yn iâch,
ac Israel bâch yn hyfrŷd:
Yna a bŷdd Iago yn iâch,
ac Israel bâch yn hyfrŷd.
PSALM. 55.
1
O Dduw gwrando f'ngweddi brudd,
nac ymgudd rhag fy nghwŷnfan,
2 Erglŷw, a gwêl fy ngwael ystâd,
a llais fy nâd a'm tuchan.
3 Hŷn rhag rhuadaidd lais fy nghâs,
a phwŷs dŷn llŷm ias enwir:
Y rhai a daerant arnaf ddrŵg,
a'u llîd yn amlwg gwelir.
2
4 Gofud calon sŷ'n dwŷn f'oes,
daeth angeu loes hŷd attaf:
5 Mae ofn ac arswŷd arnaf caeth,
a dychrŷn daeth ar f'uchaf.
6 O dra ofn dwedwn yn fy nghri,
gwae fi am esgill clommen,
Yna'r ehedwn i le rhŷdd,
i gael i'm lonŷdd amgen.
3
7 Wele, awn i grwŷdro ymhell
lle cawn ystafell fechan:
8 Yna bryssiwn ar fy hŷnt,
rhag rhuad gwŷnt tymhestlan.
9 Dinistria di hwŷnt (Arglwŷdd da)
gwahana eu tafodau.
[...] [...]Sef yn y ddinas amlwg drais
a welais, a chynhennau.
4
10 Dŷdd a nôs ei chylchu yn drô,
a rhodio rhŷd ei chaerau,
O i mewn a mae anwiredd mawr,
ac ar ei llawr bechodau.
11 Gan faint ei hanwireddau hi,
a maint drygioni beunŷdd,
Nid yma twŷll, na dichell chwaith
fŷth ymaith o'i heolŷdd.
5
12 Ni wnaeth fy nghâs y gwaith hŷn;
na gelŷn, goddefaswn:
Na dŷn atcâs yn ei rôch,
yn hawdd y gochelaswn.
13 Ond tydi ŵr, fy nghyfaill gwâr,
fy ng [...]ymmar, a'm cydnabod,
14 A fu mewn cŷd gyfrinach ddwŷs
yn Eglwŷs Dduw'n cyfarfod.
6
15 Terfŷsg angeu arno y dêl,
i'r pwll yr êl yn lledfŷw:
Sef ymherfedd eu cartref cau
nid oes ond drygau distrŷw.
16 Minneu gweddiaf ar Dduw bŷw
yr hwn a'm clŷw mewn amser,
17 Hwŷr a boreu, a chanol dŷdd,
a hŷn a fŷdd drwŷ daerder.
7
18 Gwaredodd Duw yr enioes fau
mewn hêdd yn nyddiau drygnaws,
Lle'r oedd orblaen yn f'erbŷn lu,
ef ar fy nhu troes liaws.
19 Duw a'u gostwng, ac a'm clŷw,
sef brenin ŷw er cynnoes:
Hwŷthau heb ymado a'u chwant,
fy Nuw nid ofnant eisoes.
8
20 Ef wedi cymmod, a rhoi llaw,
drwŷ godi braw a frochodd,
Ef â'r un llaw (yn erbŷn hêdd)
yr un glyfaredd torrodd.
21 Ei eiriau fel ymenŷn gwŷrdd,
a'i fwriad ffŷrf am ryfel:
Pan fo oel 'ar ei dafod doeth
tŷn gleddŷf noeth yn ddirgel.
9
22 O bwrw d'ofal ar dy Dduw,
o mynni fŷw heb syrthio:
Duw a geldw y cyfion bŷth,
a'r drŵg fe'i chwŷth i gwŷmpo.
23 Pôb dŷn gwaedlŷd, bradog dro,
nid oesa fo hŷd hanner,
(Fy Arglwŷdd Dduw) ond ynot ti
mae 'ngobaeth i bôb amser.
PSALM. 56.
1
DUw dy nawdd rhag marwol ddŷn
hwn yn ei wŷn a'm llyngcai:
Sef ymryfelu a mi bŷdd,
a beunŷdd i'm gorthrymmai.
2 Llyngcent fi beunŷdd o dra châs,
(dy râs o Dduw goruchaf)
Rhai beilch rhŷ dynnion, maent yn llu
yn poeth ryfelu arnaf.
2
3 Y dŷdd y bai mwŷaf fy ofn
rhown ynot ddofn ymddiried.
4 Molaf, credaf, nid ofnaf gnawd,
doi yn ddi-dlawd i'm gwared.
5 Yn fy ymadrodd i fy hun,
a ceisiant lun i'm maglu:
Ac ar bôb meddwl, a phôb tro
y maent yn ceisio ynrygu.
3
6 Ymgasglu, llechu, dirgel hwŷl,
a disgwŷl fy hôll gerdded,
Drwŷ fwrladu i mi loes,
a dwŷn i'm heinioes niwed.
7 A ddiangant hwŷ? Duw tâl y pwŷth,
dôd iddŷnt ffrwŷth enwiredd;
Disgŷn dy bobloedd yn dy ddîg,
dôd iddŷn [...] ysig ddiwedd.
4
8 Duw rhifaist bôb trô ar fy rhôd,
fy nagrau dôd i'th gostrel:
Mae pôb peth yn dy lyfrau di
a wneuthŷm i yn ddirgel?
9 Y dŷdd a llefwŷf, gwn yn wîr
dychwelir fy ngelvnnion:
Am fôd drosof fy Nuw, a'i law,
mi wn a daw yn union.
5
10 Gorfoleddaf yngair fy Nuw,
gair f' Arglwŷdd bŷw a folaf,
11 Yn-Nuw a rhôf ymddiried siŵr,
beth a wnêl gŵr nid ofnaf.
12 O Dduw, mae arnaf fi'n ddylêd
lawer adduned ffyddlon,
Ac mi a'u talaf hwŷnt yn rhwŷdd
i ti fy Arglwŷdd cyfion.
6
13 Am i't ludd dwŷn fy oes, a'm gwaed,
a llestair i'm traed lithro,
Fel a rhodiwŷf gar dy fron
yngoleu'r bŷwion etto.
PSALM. 57.
1
DY râs, dy nawdd (fy Nuw) i'm dôd
sef ynod ymddiriedaf:
Nes myned heibio'r aflwŷdd hŷn
dan d'edŷn ymgysgodaf.
2 Ymddiried f'enaid ar Dduw sŷdd,
ar Dduw drwŷ ffŷdd a galwaf,
A chwblhâf ei air yn iawn,
sef cyfiawn ŷw'r Goruchaf.
2
3 O'r nêf a denfŷn geidwad i'm,
rhag nerth dŷn llŷm, a'm llyngcai:
Denfŷn fy Nuw ei nawdd, a'i hêdd,
a'i lân wirionedd didrai.
4 Ym mŷsg y llewod mae fy oes,
plant dynnion poeth foes eirlau,
Eu dannedd sŷdd fel gwaŷw, neu saeth,
a'u tafod gwaeth na'r cleddeu.
3
5 Ymddercha Dduw, y nêf uwchlaw,
oddiyno daw d'arwŷddion,
A bydded dy ogoniant ar
y ddaiar, a'i thrigolion.
6 Oflaen fy nhraed y rhoesant rwŷd,
ac fellu 'm rhwŷmwŷd weithian,
Ar fy ffordd cloddiasant glawdd,
i'r hwn yn hawdd syrthiasan.
4
7 Parod ŷw fy nghalon (o Dduw)
o parod ŷw fy nghalon.
Canaf i't, a datcanaf wawd
o fawl fy nhafawd cyson.
8 Deffro dafod, a deffro dant,
a chân ogoniant beunŷdd,
Nabl a thelŷn, heb ado un,
deffrôf fy hun, ar lâs-ddŷdd.
5
9 Mawl i't (o Arglwŷdd) pan ddeffrôf
a rôf ymŷsg y bobloedd,
A chlodfori dy enw a wnâf
lle bo amlaf cenhedloedd.
10 Canŷs cyrhaeddŷd y mae dy râs
hŷd yn nheŷrnas nefoedd,
A'th wirionedd di hŷd at len
yr wŷbren, a'i theŷrnasoedd.
6
11 Ymddercha (Dduw) y nêf uwchalw,
oddiyno daw d'arwŷddion,
A bydded dy ogoniant ar
y ddaiar a'i thrigolion.
PSALM. 58.
1
AI'r uniondeb (o bobloedd wŷch)
yr ydŷch yn ei ddywedŷd?
A ydŷch chwi, o blant dynnion,
yn barnu'r union hefŷd?
2 Gweithio malais yn eich bron,
ac ystrŷw calon dwŷllgar:
A gwaith eich dwŷlo, trowsder blin,
tra foch yn trîn y ddalar.
2
3 Y rhai annuwiol aent ar gam,
o groth eu mam newidient,
Ac ar gyfeiliorn mŷnd o'r bru,
a chelwŷdd hŷ a draethaent,
4 Un wêdd a gwenwŷn y sarph ŷw
y gwenwŷn bŷw sŷdd ynddŷn:
Neu'r neidr fyddar yn trofau
dan gau ei chlustiau cyndŷn.
3
5 Yr hon ni wrendu ddim ar lais
na'r wers a gais y rhin-wŷr,
Nac un gyfaredd a'r a wna
y cyfarwŷdda o swŷn-wŷr.
6 Duw, torr eu dannedd yn eu safn,
diwreiddia'r llafn o dafod:
Duw dryllia'r bonau, a gwna'n donn
bôb grudd i'r cnawon llewod.
4
7 Todder hwŷnt fel dŵr ar dîr,
fellu diflennir hwŷthau:
Os mewn bwa 'rhoent saeth gron,
boed torri hon yn ddrylliau.
8 Boent hwŷ mor ddiffrwŷth, ac mor hawdd
a malwen dawdd y todder:
Neu fel rhai bâch ni welai'r bŷd,
o eisieu prŷd, ac amser.
5
9 Tâl Duw iddŷnt ffrwŷthau eu llîd,
'gŷnt nac y llosgid ffagldan:
Tŷnn hwŷnt ymaith yn dy ddîg
cŷn a twŷmnai cîg mewn crochan.
10 A phan weler y dial hŷn,
fe chwardd y glanddŷn cyfion:
Pan fo rhŷdd iddo olchi ei draed
yngwaed yr annuwiolion.
6
11 Yna dywaid rhai fôd iawn,
a ffrwŷth i gyfiawn bobloedd.
A bôd ein Duw yn farnwr ar
y ddaiar a'i therfynoedd.
PSALM. 59.
1
FY Nuw gwared fi rhag brâd
a rhag twŷll fwriad gelŷn,
Derbŷn drosof rhag y rhai
a godai yn fy erbŷn
2 Ac ymddiffŷn fi yn bur
oddiwrth weithredwŷr camwedd,
Achub fi rhag câs y bŷd,
a rhag gwŷr gwaedlŷd hŷ-gledd.
2
3 Ac wele, maent hwŷ i'm cynllwŷn,
amcanent ddwŷn fy mywŷd,
Nid ar fy mai yr haeddes hŷn,
ond tynder gelŷn gwaedlŷd.
4 Duw, rhedent hwŷ yn barod iawn,
a dim ni wnawn iw herbŷn:
Edrŷch ditheu, fy Arglwŷdd rhêd,
a thyred i'm hymddiffŷn.
3
5 Ti Dduw y llu, Duw Israel,
o deffro, gwêl enwiredd,
I'r cenhedloedd na âd di'n rhâd,
lle gwnant drwŷ frâd eu trawsedd.
6 Maent hwŷ yn arfer gyda'r hwŷr,
o'mdroi ar ŵur o bôb parth,
A thrwŷ y ddinas clywch eu sŵn,
un wêdd a'r cŵn yn cyfarth.
4
7 Maent hwŷ a thafodau rhŷdd,
awch clêdd a fŷdd iw genau,
Pwŷ meddant hwŷ all glywed hŷn,
ac a wna i'n herbŷn ninnau?
8 Ond tydi fy Arglwŷdd, a'm Duw,
a'u gwêl, a'u clwŷ, a'u gwatwar,
Am ben ei gwaith a chwerddi di
y cenhedlaethi twŷllgar.
5
9 Ti a attebi ei nerth êf,
a'th law grêf a'm hymddiffŷn;
10 Duw a'm rhagflaena inneu chwŷp,
câf weled trip i'm gelŷn.
11 Na lâdd hwŷnt rhag i'm pobloedd
anghofio dy weithredoedd:
Gwasgar, gostwng hwŷ'n dy nerth,
Duw darian prydferth lluoedd.
6
12 Am bechod eu tafodau hwŷ,
a'u geiriau, fwŷfwŷ balchedd,
Telir iddŷnt, ni rônt air têg
ond celwŷdd, rhêg, a choegedd.
13 Duw difa, hwynt yn dy lîd,
Difa nhw igid bellach,
Gwŷbyddant, mai Duw Iago sŷdd
drwŷ'r bŷd yn llywŷdd hytrach.
7
14 Maent hwŷ yn arfer gyda'r hwŷr
o ymdroi yn llwŷr o bôb parth,
A thrwŷ y ddinas clywch eu sŵn,
un wêdd a chŵn yn cyfarth.
15 I gael ymborth crwŷdro a wnânt,
ac bŷth ni chânt eu digon,
Byddant ar hŷd ddŷdd a nôs
yn aros dan ymryson.
8
16 Minneu a ganaf i'th nerth tau,
a'th nawdd yn foreu molaf:
Nerth i'm, a nawdd, buost (o Nêr)
pan fu gorthrymder arnaf.
17 I ti canaf, o Dduw fy nerth,
a'm hymadferth grymusol,
Sef tydi ŷw fy Nuw, fy Nâf,
fy nhŵr, fy noddfa rasol.
PSALM. 60.
1
O Dduw, dydi a'n gwrthodoist,
ar wasgar gyrraist ymaith:
O sorraist wrthŷm yn ddi-gêl,
tro attom, dychwel eilwaith.
2 Crynnaist di y ddaiar gron
a holltaist hon yn ddrylliau,
Canŷs o'th lîd ti, siglo a mae,
iachâ, a chau ei briwiau.
2
3 Dangosaist i'th elynnion di
o bwŷs caledi ormod,
A'r ddiod a roist yn eu mîn,
oedd megis gwîn madrondod.
4 Rhoddaist faner, er hŷn igŷd,
i bawb o'r bŷd a'th ofnant,
I faneru drwŷ dy air gwîr,
dros lu y Tîr lle trigant.
3
5 Fel y gwareder drwŷ lân hwŷl,
bôb rhai o'th anwŷl ddynnion:
O achub hwŷnt a'th law ddeheu,
a gwrando finneu'n ffyddlon.
6 Yn ei sancteiddrwŷdd dwedodd Duw
llawen ŷw 'nghyfammod,
Mi a rannaf Sichem rhŷd y glŷn,
mesuraf ddyffrŷn Succod.
4
7 Myfi hiaf y ddwŷ dref-tâd,
sef Gilead, a Manasse,
Ephraim hefŷd ŷw nerth fy mhen,
a Juda wenn f'annedd-le.
8 Ym Moab ymolchi a wnâf,
dros Edom taflaf f'esgid,
A chwardded Palestina gaeth
a'i chwerthin aeth yn rhŷ-brid.
5
9 Duw, pwŷ a'm dŵg i'r ddinas grêf,
pwŷ a'm dŵg i drêf Edom?
10 Er i't ein gwrthod, pwŷ ond ti,
o Dduw a mleddi drosom.
Ynot yn unig, mae'n coel ni,
par hon i ti na'n gwrthod,
Er nad aethost o flaen ein llu,
bŷdd ar ein tu mewn trallod.
6
11 O unig Dduw bŷdd i ni borth.
ofer ŷw cymorth un dŷn.
12 Yn Nuw gwnawn wrollaeth fawr,
fe sathra i lawr y gelŷn.
PSALM. 62.
1
FY unig Dduw ydŷw fy mlhaid,
mae f'enaid yn ei ddisgwŷl,
O hono ef, a thrwŷ ei rŷm,
daw iechŷd i'm o'm han-hwŷl.
2 Duw ŷw fy nghraig, a'm hunig nerth,
ac ymadferth fy einioes,
Ac am hŷn drwŷ 'mddiffŷn hîr
heb ysgog, gwir 'câf aros.
2
3 Pa hŷd y mae'n eich brŷd barhâu,
i fwrw eich maglau aflwŷdd?
Lleddir chwi ôll: gwthir yn llwŷr
fel magwŷr ar ei gogwŷdd.
4 Ymgasglent, llunient gelwŷdd mawr
iw roi i lawr o'i fawredd,
Ar eu tafodau rhoent fendith
a melldith dan eu dannedd.
3
5 Fy enaid dôd (er hŷn igŷd)
ar Dduw dy frŷd yn ddyfal,
Yntho gobeithiaf fi er hŷn
efe a'm tŷn o'm gofal.
6 Sef craig ymddiffŷn ŷw ef i'm,
fy nhŵr, a grŷm fy mywŷd,
Am hynnŷ credaf fi yn wîr
na'm mawr ysgogir ennŷd.
4
7 Yn Nuw yn unig mae igŷd,
fy iechŷd, a'm gogoniant,
Fy nghraig ŷw, cadernid maith,
a'm gobaith yn ddilyssiant.
8 Gobeithiwch yntho, gar ei fi on
tywelltwch galon berffaith,
Ac ymddiriedwch tra fo'ch bŷw,
a dywedwch, Duw ŷw'n gobaith.
5
9 Plant Adda, gwagedd ŷnt igŷd,
plant gwŷr sŷdd hûd, a gwegi,
Gwagcach na gwagedd yn eu tawl,
mewn mantawl wrth eu codi.
10 Na rowch eich coel ar gam na thrais
rhaid ŷw i falais drwccio:
Os cynnydda cyfoeth y bŷd,
na rowch mo'ch goglud arno.
6
11 Duw a lefarodd hŷn unwaith,
mi glywais ddwŷwaith hynnŷ,
Sef, mai Duw bia'r nerth igŷd,
gostyngiad bŷd, neu ffynnu.
12 O Arglwŷdd, ti hefŷd a fêdd
drugaredd, a daioni,
I bawb dan gwmpas wŷbren faith,
yn ôl ei waith a teli.
PSALM. 63.
1
TYdi o Dduw ŷw y Duw mau,
mi geisia'n foreu attad:
Mae fy enaid yn dra sŷch,
a'm cnawd mewn nŷch am danad.
2 Mewn llê heb ddŵfr, mewn crinder crâs,
ceisiais o'th râs dy weled,
Fel i'th welswn yn y demi gŷnt,
ar helŷnt nerth gogoned.
2
3 Can's dy drugaredd (o Dduw bŷw)
llawer gwell ŷw na'r bywŷd,
A'm gwefusau y rhôf i't fawl,
a cherdd ogonawl hyfrŷd.
4 Fellu tra fwŷf fi fŷw a gwnâf,
ac fellu i'th folaf etto;
Ac yn dy enw di sŷdd gu
y câf dderchafu 'nwŷlo.
3
5 Digonir f'enaid fel a mêr
a chyflawn frasder hefŷd,
A'm geneu a gân y moliant tau,
a phur wefusau hyfrŷd.
6 Tra fwŷf yn fy ngwelŷ clŷd,
câf yn fy mrŷd dy gofio,
Ac yngwiliadwriaethau'r nôs
câf achos i fyfyrio.
4
7 Ac am dy fôd yn gymmorth i'm,
drwŷ fawr rŷm dy drugaredd,
Fy hôll orfoledd a gais fôd
dan gyfgod dy adenŷdd.
8 Y mae f'enaid wrthŷd ynglŷn
dy ddeheu sŷ'n ynghynnal:
9 Elont i'r eigion drwŷ drom loes,
y rhai a'm rhoes mewn gofal.
5
10 Syrthiant hwŷ ar fin eu harf,
sŷ noeth er tarf i'r gwirion
A chwedi eu meirw hwŷnt hwŷ dôd
yn fwŷd llwŷnogod gwŷlltion.
11 Ond y brenin yn enw ei Dduw
boed tra fo bwŷ yn llawen:
A phawb a dyngont iw fawredd
a gaiff orfoledd amgen.
6
12 Ond o'r diwedd daw yn wîr,
fe a dywelldir tywod,
I gau safnau y rhai sŷdd
yn tywallt celwŷdd parod.
PSALM. 64.
1
O Arglwŷdd Dduw, erglŷw fy llêf,
a chlŷw, o'r nêf fi'n erfŷn:
O Dduw cadw fy enioes i
sŷdd yn ofni'r gelŷn.
2 A chuddia fi dros ennŷd bâch
rhag cyfrinach 'rhai drŵg:
A rhag terfŷsg 'rhai sŷ'n gwau,
iwneuthur cammau amlwg.
2
3 Hogi tafodau fel y clêdd,
a dywedŷd bustledd ddigon,
Saethant ergŷdlon i'm sarhau,
a'r rhain oedd eiriau chwerwon,
4 I saethu'n ddirgel bigau dur,
yn erbŷn pur ei galon,
Yn ddisymmwth heb ofni nêb,
a thrwŷ gasineb creulon.
3
5 Ymgryfhânt hwŷ yngwaith y fall,
gan guddio'n gall eu rhwŷdau,
Yna y dywedant pwŷ a'n gwêl
yn bwrw dirgel faglau?
6 Gan chwilio dyfnder drygau trŵch,
ofewn dirgelwch eigion.
A phawb iw gilŷdd yn rhoi nôd
o eitha gwaelod calon.
4
7 Ond y mae Duw a'i saeth ynghudd,
rhŷdd yn ddirybudd ergŷd,
Ef a dâl adref yr hawl hon,
yn ddyfn archollion gwaedlud.
8 Gwaith tafodau drŵg lle bô,
a fŷnn lwŷr syrthio arnŷnt,
Pôb dŷn a'i gwêl a bybia'n well
gilio ymhell oddiwrthŷnt.
5
9 Yna y dywaid pawb a'i gwêl,
gwaith y goruchel ŷw hŷn,
Can's fellu y deallant hwŷ
y cosbir fwŷfwŷ'r gelŷn.
10 Ond yn yr Arglwŷdd llawenhâ,
ac a gobeithia'r cyfion,
A gorfoledda yntho'n iawn
bôb dŷn ag uniawn galon.
PSALM. 65.
1
I Ti (O Dduw) y gweddai mawl
yn y sancteiddiawl Seion,
I ti y telir drwŷ hôll gred,
bôb gwîr adduned calon.
2 Pawb sŷdd yn pwŷso attad ti,
a wrendŷ weddi dostur,
Ac attad ti y daw pôb cnawd,
er mwŷn gollyngdawd llafur.
2
3 Pethau trawsion, a geiriau mawr,
myfi i'r llawr bwriasant,
Ond tydi Dduw rhoi am gamwedd
drugaredd a maddeuant.
4 Dy etholedig dedwŷdd ŷw,
caiff nesnes fŷw i'th babell,
Trîg i'th gynteddau, ac i'th lŷs,
a'th sanctaidd weddus gangell.
3
5 Duw ein c [...]idwad, attebi ni
o'th ofni i'th gyfiawnedd,
Hôll obaith wŷd drwŷr ddaiar hon,
a'r môr cynhyrf-don rhyfedd.
6 Hwn a siccrhâ bôb uchel frŷn
a'i wregŷs yn gadernid,
7 Hwn a ostega'r môr, a'r don,
â rhuad eigion enbŷd.
4
8 A hôll breswŷlwŷr eithaf bŷd
sŷ'n ofni 'gŷd d'arwŷddion,
I ti gan foreu a chan hŵŷr,
y canant laswŷr ffyddlon.
9 Dyfrhau y ddaiar sŷch yr wŷd,
afon Duw llanwŷd drosti,
Darperaist lif-ddyfr rhŷd ei llawr
iw thramawr gyfoethogi.
5
10 Pôb rhŷch yr wŷd yn ei ddyfrhau,
a'i chwŷsau'r wŷd iw gostwng:
A'i rhoi ym mwŷd mewn cafod wlîth,
iw chnŵd rhoi fendith deilwng.
11 Coroni'r ydwŷd ti fel hŷn
y flwŷddŷn a'th ddaioni,
Y ffordd hŷn, a'r môdd (Duw nêr)
diferaist, frasder arni.
6
12 Ef a ddifera ffrwŷth dy serch
ar bôb rhŷw lannerch ddyrŷs,
Pôb mynŷdd sŷch yn uchder gwlâd
o ffrwŷth dy râd y dengŷs.
13 Drwŷ dy fendith y gwastad dîr
a guddir ôll a defaid,
Crechwennant, canant bawb ynghŷd,
a'r wlâd ag ŷd ei llonaid
PSALM. 66.
1
YN Nuw ymlawenhewch igŷd,
yr hôllfŷd, a datcenwch
2 Ogoniant ei enw hŷd y nêf,
a'i foliant êf a draethwch.
3 Wrth Dduw dywedwch, pair dy law
i'th elŷn oerfraw anfad,
Rhag amled ŷw nerth y llaw hon
â dy gaseion darad.
2
4 Fellu'r hôll fŷd igŷd, a'u rhî
i ti a ymostyngant,
Canant i't sawl, ac ânt hŷd lawr,
i'th enw mawr y canant.
5 O dowch, edrychwch, ofnus ŷw
gweithredoedd ein Duw cyfion,
Ofn ei weithredoedd a rŷdd ddŷsg
ymŷsg hôll feibion dynnion.
3
6 Fe droes y môr côch yn dîr sŷch,
ai wŷr yn droed-sŷch drwŷddo,
A thrwŷ yr afon: llawen fu,
eu bôd heb wlychu yno.
7 Ef fŷth fŷdd lywŷdd cadarn gwŷch,
a'i olwg edrŷch beunŷdd
Ar y cenhedloedd drwŷ'r hôll fŷd,
ni chyfŷd rai anufŷdd.
4
8 O bobloedd, molwch Dduw ar gais,
a moeswch lais ei foliant;
9 Hwn sŷ'n dal bywŷd yn y gwaed,
a ddeil ein traed na lithrant.
10 O Dduw profaist, a choethaist ni
un wêdd a choeithi arian.
11 Yn gaeth a dygaist ni i'th rwŷd,
ein cŷrph a wasgwŷd weithian.
5
12 Aethom drwŷ ddwfr, a thân yn gaeth,
bu rai'n marchogaeth arnom;
O peraist hŷn, ni bu chwaith hîr,
i ddiwall dîr a daethom.
13 Ag offrwm poeth i'th dŷ yr âf,
talaf fy addunedau,
14 Y rhai mewn cyfing, rhag mwŷ trais,
addewais a'm gwefusau.
6
15 Poeth ebŷrth breision i't a rôf,
aroglaeth côf cyfammod,
Ychen, hyrddod, offrymmu a wnâf,
ac etto rhoddaf fychod.
16 O dowch yn nês, a gwrandewch chwi
sŷ'n ofni Duw ymhôb oes,
Mi a fynegaf i chwi'n ffraeth
pa lês a wnaeth i'm heinioes.
7
17 L'efais i arno a'm geneu,
a'r tafod mau a'i molodd;
18 Pe troeswn fy nghalon at fai,
Duw a'm gwrandawsai'n anodd.
19 Diau Duw a'm clybu yn hawdd,
gwrandawodd ar fy ngweddi,
Bendigaid ŷw: fe a'm clywawdd,
ni throes mo'i nawdd oddiwrthi.
PSALM. 67.
1
TRugaredd Duw a fo i'n plith,
a rhoed ei fendith drosom,
A thywŷnned ei wŷnebprŷd,
a'i nawdd, a'i iechŷd arnom.
2 Fel y gwŷper Duw dy ffŷrdd
drwŷ'r ddaiar gydwŷrdd gnydoedd,
A'th iechŷdwriaeth di (o Dduw)
ymŷsg pôb rhŷw genhedloedd.
2
3 Duw, moled pobloedd bŷth dy di,
rhônt fawl a bri drwŷ'r hollfŷd:
4 A'r hôll genhediaedd îs wŷbren,
byddant lawen, a hyfrŷd.
Canŷs ti a ferni yn uniawn
y bobl drwŷ lawn wŷbodaeth,
Ac a roi'r hôll genhedloedd ar
y ddaiar mewn llyfodraeth.
3
5 Duw, moled pobloedd bŷth dy di,
rhônt fawl a bri drwŷ'r hollfŷd:
6 Yna rhŷdd tîr ffrwŷth i'n plîth,
a Duw ei fendith hefŷd.
7 A Duw, sef Duw ei hun, ein tâd,
a rotho ei râd a thycciant,
A therfynau y ddaiar gron,
a phawb ar hon a'i hofnant.
PSALM. 68.
1
YMgyfoded un Duw Nêr,
gwasgarer ei elynnion,
Un drygddŷn 'honŷnt nag arhoed,
o'i flaen ffoed ei gaseion.
2 Os chwalu mŵg mewn gwŷnt sŷ hawdd,
os tawdd cŵŷr wrth eiries-dân,
Fel hynnŷ oflaen Duw (yn wîr)
yr enwir a ddiflannan.
2
3 Ond llawenycher ger bron Duw
y cyfion, iw orfoledd;
A'u hyfrydwch hwŷnt a fŷdd
yn llawenŷdd cyfannedd.
4 Cenwch, a molwch enw Duw,
sef hwn uwch ŷw na'r nefoedd
Yn marchogaeth, megis ar farch,
iddo rhowch barch bŷth bythoedd.
3
5 A gorfoleddwch gar ei fron,
Duw tirion, tâd ymddifaid
Ac i'r gweddwon mae'n farnwr dâ
yn ei breswŷlfa gannaid.
6 Duw a wna rai mewn tŷ 'n gydtun.
ei hun mae'n gollwng gefŷn,
Ac yn rhoi trigfan mewn tîr crâs,
i ddynnion atcas cyndŷn.
4
7 Pan aethost (Dduw) oflaen dy Iu,
dy daith a fu drwŷ ddrysni:
8 Y ddaiar crynnodd oflaen Duw,
a'r nêf rhoes amrŷw ddefni.
Ac fellu Sinai oflaen Duw,
(sef un Duw Israel hawddgar)
9 Ar d'etifeddiaeth hidlaist law,
i ddiflinaw y ddaiar.
5
10 Gwrteithiaist hon, dy bobloedd di
sŷdd ynthi yn preswŷlio:
O'th râd darperaist i'r tylawd,
i gael digondawd yno.
11 Yr Arglwŷdd Dduw a roddai'r gair,
mawr mintai'r cantoressau:
12 Cilient gedŷrn: gweiniaid arhônt,
yr yspail rhônt yn rhannau.
6
13 Pes ymdroech mewn parddu a llŵch,
chwi fyddwch fel y glommen,
A'i phlu yn aur ac arian têg,
yn hedeg îs yr wŷbren.
14 Hon, pan wasgarodd Duw yn chwŷrn
bôb cedŷrn o'i gaseion,
Oedd mor ddisglair, ac mor wenn,
ag eira ar ben brŷn Salmon.
7
15 Mynŷdd Duw (sef Seion) sŷdd
fel Basan fynŷdd tirion:
Mynŷdd Basan uchel ei grîb
cyffelib ŷw i Seion.
16 Chwychwi fynyddoedd cribog, pam
a bwriwch lam mewn cyffro?
Duw ar Seion ei serch a roes,
lle mŷn ef eisoes drigo.
8
17 Rhîf ugain mîl o filoedd ŷw
angylion Duw mewn cerbŷd:
Ynghyssegr Sinai bu ei wlîth,
bŷdd Duw iw plith hwŷ hefŷd.
18 I'r uchelder y derchafaist,
a chaethgludaist gaethiwed,
Dodaist ddonniau y Duw Iôn,
i ddynnion oedd ddiniwed.
9
19 Bendigaid fŷth fo'r Arglwŷdd mau
am ddonniau ei d [...]ni:
A'i iechŷdwriaeth i ni n llwŷth
o ber-ffrwŷth ei haelioni.
20 Efe ei hun ŷw'n Duw ni igŷd,
sef Duw ein iechŷd helaeth,
Drwŷ'r Arglwŷdd Dduw cawn yn ddiswrth
ddiangc oddiwrth farwolaeth.
10
21 Duw yn ddiammeu a dŷrr ben,
a thalcen ei elynnion,
A choppa walltog y rhai a fô
yn rhodio mewn drŵg creulon.
22 Dygaf fy mhobloedd (meddai ef)
hŷd adref fel o Basan,
A dygaf hwŷnt iw hôl drachefn,
fel o'r môr don-lefn allan.
11
23 Fel y gwlychech di dy draed
yn llîf gwaed dy gasseion,
Ac y llyfo dy gŵn heb gêl
y gwaed a ddêl o'u calon
24 Gwelodd pawb (O Dduw) dy ystâd,
yn dy fynediad sanctaidd,
Mynediad fy Nuw frenin frŷ,
fel hŷn iw dŷ cysegraidd.
12
25 Y cantorion, hwŷ o'r blaen,
cerddorion aen ôl ynol,
Yna'r gwŷryfon, beraidd gân,
a'r tympan yn eu canol.
26 Clodforwch Dduw, hynnŷ sŷdd ddâ
ymhôb cynlleidfa ddiwael,
A chlodforwch Arglwŷdd Iôn,
chwi sŷdd o ffynnon Israel.
13
27 Doed Benjamin y llywŷdd bâch,
doed bellach dugiaid Juda,
Doed Nephtali, a Zabulon,
a'u tywŷsogion yna.
28 Dy Dduw a drefnodd i ti nerth,
a'i law sŷdd brydferth geidwad
Duw cadarnhâ etto yn faith
arnom waith dy gariad.
14
29 Er mwŷn Caersalem adail dêg,
rhŷdd cedŷrn anrheg i ti.
30 Difetha dyrfa y gwaŷw-ffyn,
a'r rhai a fŷn ryfelu.
Dewr fel teirw, nwŷfus fel lloe,
y rheini a roe'yr [...]rian:
Delont i'r iawn, tŷn nerth a nwŷ,
a gostwng hwŷ yn fuan.
15
31 Y pendefigion o'r Aipht draw
a ddaw, ac Ethiopia,
At Dduw yn brysur i roi rhôdd,
ac aberth gwirfodd yna.
32 Hôll deŷrnasoedd daiar lawr,
i Dduw mawr cenwch foliant,
Cenwch, cenwch ei glôd yn rhwŷdd,
sef Arglwŷdd y gogoniant.
16
33 Hwn a farchogodd y nêf frŷ,
a hynnŷ o'r dechreuad:
Wele, daw nerthol sain ei lêf
o eiha'r nêf i wastad.
34 Rhoddwch gadernid i Dduw nêr,
sef uchder ei ragoriaeth,
Sŷdd ar Israel dêg, a'i nerth
uwch wŷbrau prydferth gywaeth.
17
35 Duw, o'th gysegr i'th ofnir di,
Duw Israel dodi nerthoedd,
A chadernid wŷd i'th blaid,
bendigaid fŷch oes oesoedd.
PSALM. 69.
1
A Chub fi Dduw (yr hwn a'm gwnaeth)
tros f'enaid daeth llîf-ddyfr-loes,
2 Yr wŷf mewn dyfnder tom ynglŷn,
heb le i'mddiffŷn f'einioes.
O'r dyfnder daethŷm fel ar fawdd,
a'r ffrŵd a lifawdd uchod:
3 Sychodd fy nghêg, blinodd fy llais,
a'm llygaid pellais ganfod.
2
4 A hŷn wrth ddisgwŷl Duw a'i râs,
wele fy nghâs yn amlach.
Na'r gwallt ar ben fy nghoppa frŷ,
a'r trawsion fŷ'n gadarnach.
Y rhai celwŷddog, taerion ŷnt,
rhois iddŷnt, beth ni chelais.
5 Adwaenost (Dduw) f'ynfydrwŷdd mau,
a'm beiau fi ni chuddiais.
3
6 O'm plegid i dim gwarth ni chânt,
y rhai a goeliant arnad,
Na âd (Dduw'r lluoedd) fefl, na thrais
i'r rhai a ymgais attad.
7 (Duw Israel) sef er dy fwŷn,
yr wŷf yn dwŷn gwarthrudd-deb,
A thrwŷ gywilŷdd ymarhois,
mewn chwŷs y tois fy wŷneb.
4
8 I bobl ddiarth wif (gwn pa'm)
i blant fy mam fel estron:
9 A'm fôd fy serch a'm zêl i'th dŷ
i'm hysu hŷd fy nghalon.
Can's cabl y rhai a'th gablant di
ar f'ucha i mae'n disgŷn.
10 Fy nagrau, cystudd, a'm hun-brŷdd
ŷnt warth igŷd i'm herbŷn.
5
11 A phan wisgwn i liain sâch,
bum ddlystyrach lawer,
12 Bum chwedŷl drŵs i grŷf a thlawd,
i'r meddw yn wawd iw harfer.
13 Ond f'Arglwŷdd Dduw gwnâf attad ti
fy ngweddi yn amserol.
O gwrando fi i'th wir-fawr hêdd,
ac i'th wirionedd grasol.
6
14 Duw, gwared fi, a gwna fi'n rhŷdd,
o'r dom y sŷdd i'm suddo.
Sef caseion, dyfroedd dyfn,
a mi heb ofn o gyffro.
15 Na lifed dwfr drosof yn ffrŵd,
na'm llyngced amrwd ddyfnder,
Na chaued pydew arnaf chwaith,
mo'i safn diffaith un amser.
7
16 Gwrando fi bellach Arglwŷdd Dduw,
can's da ŷw dy drugaredd,
Yn amlder dy dosturi mawr
edrŷch i lawr rhag trawsedd.
17 O'm cyfyngder oddiwrth dy wâs
na chudd mo râs dy wŷneb,
Rwŷf yn gweddio yn fy ngloes,
Duw bryssia moes i'm atteb.
8
18 Nesâ at f'enaid Arglwŷdd mau,
er fy rhyddhau, a'm gwared,
Moes ymddiffŷn, rhag cael o hon
gan fy ngelynnion niwed.
19 Duw di a weli o bôb parth
fy ngwradwŷdd, gwarth, a'm cywilŷdd,
O herwŷdd rhodio gar dy fron
mae fy ngelynnion beunŷdd.
9
20 Mewn gorthrwm ofid yr wŷf fi
a gwarth yn torri 'nghalon:
Disgwŷl cymhorthwŷr, ni ddoe neb,
ni chawn gysurdeb tirion.
21 Bustl a roesan yn fwŷd i mi,
finegr i dorri syched.
22 Eu bwrdd boed iddŷnt fagl aflwŷdd,
a'u llwŷdd yn dramgwŷdd bydded.
10
23 Ar eu llygaid dalllneb doed,
iw lwŷnau boed crynfeuŷdd.
24 Tywallt arnŷnt dy ddîg a'th lîd,
doed iddŷnt ofud beunŷdd.
25 Boed eu palasau'n wâg heb wêdd,
ac anghyfannedd iddŷn.
Na allo neb na dŷdd na nôs
mo'r aros yn eu tyddŷn.
11
26 Can's yr hwn a darawsid ti
mae 'rheini yn ei erlid,
A'r doluriau sŷdd o'th friw
y maent iw hedliw hefŷd.
27 Dôd gamwedd ar eu camwedd hwŷ,
na ddônt mwŷ i'th gyfiawnder,
28 Ymaith o lyfr y bywŷd llawn,
o fŷsg y cyfiawn tynner.
12
29 Finneu pan fwŷf ofudus wan,
a phan fwŷf druan hefŷd,
Dy iechŷdwriaeth di (O Dduw)
eilchwaith i fŷw a'm cyfŷd.
30 Moliannaf d'enw Duw ar gân,
fel dyna f'amcan inneu.
31 A hŷn fŷdd gwell gan Dduw'n chwŷrn
nag ŷch a chŷrn a charnau.
13
32 A phôb truan, pan welo hŷn,
a ennŷn o lawenŷdd,
A'ch calon chwi sŷ'n ceisio Duw
cyfŷd i fŷw o newŷdd.
33 Duw gwrendŷ dlawd, ni ddirmŷg lêf,
ei gaethwâs ef sŷ fethiant,
34 Nêf, a daiar, môr, a hŷn
a ymlŷsg ynthŷn, molant.
14
35 Can's Duw a geidw Seion dêg,
a threfna'n 'chwaneg Juda,
Adeilada ddinasoedd hon,
i ddynnion yn breswŷlfa.
36 Ie, ei weision ef, a'i hîl,
a'i heppil a'i meddiannant,
A'r rhai a hoffa ei enw fô:
yn honno a breswŷliant.
PSALM. 71.
1
MI a'mddiriedais ynod Nêr
na'm gwradwŷdder bythoedd,
2 Duw o'th gyfiawnder gwared fi,
a chlŷw fy nghrî hŷd nefoedd.
3 Duw bŷdd yn graig o nerth i mi
i gyrchu atti'n wastad,
A phâr fy nghadw i yn well
ti ŷw fy nghastell cauad.
2
4 Duw gwared fi o law'r trahaus,
a'r gŵr trofâus, a'r traws-ddŷn:
5 Ynot ti Dduw bu 'ngoglud maith,
a'm gobaith er yn blentŷn.
6 O grôth fy mam a tynnaist fi,
rhoist ynof egni etto:
I titheu fŷth, am hŷn o hawl,
y canaf fawl heb peidio.
3
7 I lawer dŷn bum anferth iawn,
ti ŷw fy nerthlawn lywŷdd
8 fy safn bŷdd lawn o'th fawl gan dant,
ac o'th ogoniant beunŷdd.
9 Nac esceulusa fi, na'm braint
yn amser henaint truan:
Er pallu'r nerth, na wrthod fi
Duw edrŷch di ar f'oedran.
4
10 Mêdd fy nghaseion 'rwŷf yn wann,
hwŷ a ddisgwŷlian f'anaf:
Ymgynghorasant yn ddisŷnn,
gan ddywedŷd hŷn am danaf:
11 Duw a'i gwrthododd (meddant hwŷ)
erlidiwch fwŷfwŷ bellach,
A deliwch êf, nid oes drwŷ'r bŷd
yr un a'i gwerŷd haŷach.
5
12 Er hŷn o frâd (Duw) bŷdd di well,
na ddôs ymhell oddiwrthi,
Fy Nuw prysura er fy mhorth,
ac anfon gymmorth i mi.
13 Angeu gwarthus rhai a gânt
a wrthwŷnebant f'enioes,
Gwradwŷdd a gwarth iddŷnt a drîg,
a gynnig i mi ddryg-loes.
6
14 Fy ngobaith inneu a saif bŷth
yn ddilŷth a safadwŷ,
Ymddiried ynot (Dduw) a wnâf,
ac mi a'th foliannaf fwŷfwŷ.
15 Dy iechŷdwriaeth sŷdd i'm geneu,
yr hwn ni thau fynudŷn,
A'th gyfiawnder, ac ni wn i
ddim o'r rhifedi arnŷn.
7
16 Ynghadernid yr Arglwŷdd Dduw
tra fwŷ fi bŷw a credaf:
A'th gyfiawnder hŷd y brig,
yn unig hŷn a gofiaf.
17 Duw, di a ddyscaist i mi hŷn,
do er yn blentŷn bychan:
A hŷd yn hŷn 'r wŷf yn parhau
[...] osod d'wrthiau allan.
8
18 O Dduw na wrthod fi yn hên,
a'm pen, a'm gên yn llwŷdo,
Nes i'm ddangos i'r rhai sŷ'n ôl
dy wrthiau nerthol etto.
19 Dy gyfiawnder yn uchel aeth,
yr hwn a wnaeth bôb mawredd:
Duw pwŷ sŷdd debŷg i ti?
nid ydŷm ni ond gwagedd.
9
20 Duw gwnaethost di i'm fŷw yn brudd,
a gweled cystudd mynŷch,
Troist fi i fŷw, dychwelaist fi,
drwŷ 'nghodi o'r beddrod-rŷch.
21 Mwŷ fŷdd fy mawredd nag a fu,
troi i'm diddanu inneu,
22 Yna molaf dy air am hŷn,
ar Nabl offerŷn dannau.
10
O Sanct Israel; canaf hŷn,
ar delŷn, ac a'm geneu:
23 Am i ti wared f'enaid i,
gwnâf i ti hyfrŷd leisiau.
24 Canaf i't hefŷd gyfion glôd
a'm tafod: wŷt iw haeddu,
Am i't warthu, a gwarthruddio,
fy nghâs sŷ'n ceisio 'nrygu.
PSALM. 72.
1
DUw dôd i'r brenin farn o'r nêf,
dôd iw fâb ef gyfiawnder,
2 Yna rhŷdd rhwng pobl iawn frawd,
ac i'r dŷn tylawd unionder.
3 Hêdd a chyfiawnder yn ôl hŷn,
cair ymhôb brŷn a mynŷdd.
4 Y gwan a'r llesg achub a wnâ,
fe ddryllia y gorthrymmŷdd.
2
5 Hwŷ a'th ofnant ar bôb trô,
tra treiglo haul a lleuad,
6 Fo ddisgŷn fel glaw ar wellt glâs,
neu gafod frâs ar wastad.
7 Iw ddyddiau ef cerir yr iawn,
a'r cyfiawn a flodeua,
Ac aml fŷdd hêdd ar ddaiar gron,
tra fo'r lloer hon yn para.
3
8 Llwŷdda efe o fôr hŷd fôr,
o'r ffrŵd hŷd oror tiredd,
9 Ei gâs ymgrymant, llyfant lŵch,
hŷd yr anialwch cyrredd.
10 Cedŷrn o Tharsus frenhinoedd,
ac o'r ynŷsoedd canol,
O Seba, ac Arabia dêg,
dae pawb a'u hanrheg reiol.
4
11 Yr hôll frenhinoedd doent yn llu,
a than ymgrymmu atto,
A'r hôll genhedloedd, fel yn gaeth,
a wnânt wasanaeth iddo.
12 Can's y dŷn rheidus, a'r gŵr gwan,
fo'i gwerŷd pan weddio.
Bŷdd i bôb dŷn yn nerthol dŵr,
a'r na bo pleidiwr gantho.
5
13 Fe a erbŷd y tylawd mewn rhaid,
fe achub enaid glanddŷn:
14 Fe a'i gwerŷd rhag twŷll a drŵg,
gwerthfawr iw olwg ydŷn.
15 Fellu bŷdd bŷw; rhoir iddo dda,
sef aur o Seba ddedwŷdd,
Hwŷ a weddiant arno fo,
gan ei fendithio beunŷdd.
6
16 Rhŷd pen y mynŷdd ŷd a gân,
fel brig coed Liban siglant,
A'r plant cŷn amled a'r gwellt glâs,
o'r ddinas a flagurant.
17 Os haul mewn wŷbren bŷth a drŷ,
bŷth peru enw iddo,
Pawb a'i bendithia ef yn wîr,
pawb a fendithir yntho.
7
18 Bendigaid fo yr Arglwŷdd Dduw
(sef Duw yr Israel dirion)
Efe yn unig sŷ'n parhau,
i wneuthur gwrthiau mawrion.
19 Bendigaid fytho ei enw bŷth,
gogonedd dilŷth iddo,
A'i glôd llenwir y ddaiaren:
Amen, Amen, hŷn fyddo.
PSALM. 73.
1
YN wîr da Duw i Israel,
wrth bawb a wnêl yn union:
2 Minneu lithrais, trippiais frŷ,
swrth-wael fu fy amcanion.
3 Cynfigennus wrth y ffôl,
a'r dŷn annuwiol dihir,
Braidd na chwŷmpais yn y bêdd
pan welais eu hêdd mor enwir.
2
4 Gan nad oedd arnŷnt rwŷmau caeth,
i gael marwolaeth ddynol:
Lle maent yn bŷw yn heini hŷf,
yn iraidd grŷf ddigonol.
5 Ac ni ddae arnŷnt lafur blin
hŷd y bawn i 'n eu deall,
Na dim dialedd, na dim gwun,
fel y dae ar ddŷn arall.
3
6 Am hynnŷ fŷth maent yn ymddwŷn,
fel o fewn cadwŷn balchder,
A gwiscant amdanŷnt yn dŷnn
(megis dilledŷn) drawsder.
7 A'u llygaid hwŷnt wrth dewhân
daent yn foglymmau drosodd,
A'u golud hwŷ, er hŷn o wun,
uwch meddwl dŷn a dyfodd.
4
8 Treuthu eu trawsder, bôd yn dŷnn,
a bostio hŷn ar wasgar;
9 Egori safn at wŷbren frŷ,
a thafod crŷ' drwŷ'r ddaiar.
10 Rhai o'i bobl ef a chwant
a ymddychwelant ymma,
Yn gweled y dwfr yn loŷw lân,
a thybio a cân eu gwala.
5
11 Ymresymmant hŷn yn fŷw,
pa'm? ydŷw Duw yn canfod?
Pwŷ sŷdd yn ddrŵg, a phwŷ sŷ'n dda?
ydŷw'r gorucha'n gwŷbod?
12 Wele y drygddŷn mwŷa ei chwant
caiff fwŷaf llwŷddiant gwastad;
Yn casglu golud a mawr dda,
hwnnw sŷdd fwŷa ei godiad.
6
13 Ofer iawn fu i mi warhau,
a llwŷr lanhau fy nghalon▪
Golchi fy nwŷlo, caru gwîr,
a bôd yn hîr yn gyfion:
14 Cael fy maeddu rhŷd y dŷdd:
ond trwstan fŷdd uniondeb,
Os y boreu, ac os prŷd-nawn,
myfi a gawn wrthwŷneb.
7
15 Hŷn os dwedwn, a feddyliwn,
o rŷw feddalaidd ammeu,
Wele a'th blant di y gwnawn gam,
i ddwŷn un llam a minneu.
16 Pan geisiwn ddeall hŷn yn llwŷr,
o nerth fy synwŷr ddynol,
Hynnŷ i'm golwg i oedd flîn,
nes cael rhŷw rîn ysprydol.
8
17 Pan euthŷm i gyssegr Duw,
lle cefais amrŷw olau,
Yna deallais i pa wêdd,
y bŷdd eu diwdd hwŷthau.
18 Gwŷbum i ti eu gosod hwŷ,
lle caent lam mwŷ'n y diwedd
Sef mewn lle llithrig rhwŷdd gwŷmp trŵch,
anialwch anghyfannedd.
9
19 Ond gwedi rhoddaist iddŷnt ŵth,
disymmwth y pallasant,
Mŷnd o'r Bŷd heb liw na llun,
o'u hofn eu hun darfyddant.
20 Fel breuddwŷd pan ddihunai un,
y gwnai di iddŷn f'Arglwŷdd,
O'r newid hon y caiff fy nghâs,
drwŷ yr hôll ddinas wradwŷdd.
10
21 Bum i ddîg wrthif fi fy hun,
ac oerni fu 'n fy nghalon,
22 Nas deallaswn hŷn yn gŷnt,
bum ffôl un hŷnt ag eidion.
23 Er hŷn etto bum gyda thi,
lle im twŷsi 'n ddilysiant,
24 Wrth fy llaw ddeheu: wedi hŷn
fy nerbŷn i ogoniant.
11
25 Pa'm? pwŷ (O Dduw) sŷdd gennif fi
ond tydi yn y nefoedd?
Dim ni ddymunwn gyda thi,
wrth weini daiar leoedd.
26 Fy nghalon i, a'm nerth, a'm cnawd,
sŷdd mewn palldawd beunŷdd,
Ond tydi Dduw sŷdd ar fy rhan,
a'm tarian yn dragywŷdd.
12
27 A elo ymhell oddiwrthŷd ti,
y rheini gwnaent vn ddiffaith:
Ac a butteinio oddiwrthit ti,
y rheini torrir ymaith.
28 Ond mi ddôf nesites at fy Nuw,
fy ngobaith ŷw i'm calon,
29 Traethaf fi ei nerth, a'i wŷrth,
ofewn dy bŷrth, merch Selon.
PSALM. 74.
1
PAham (O Dduw) oddiwrthŷm ni
y cili yn dragywŷdd?
Paham y digi mor danbaid
wrth ddefaid dy borfeuŷdd?
2 Cofia y bobl a brynaist gŷnt,
rhoist iddŷnt etifeddiaeth,
Mynŷdd Seion, dy breswŷlfa,
i'r rhain yn drigfa helaith.
2
3 Ymddercha (Arglwŷdd) taro'n drwm,
pôb gelŷn gorthrwm difa
Yn dragywŷdd, a wnaeth na thrais,
na dyfais i'th gysegrfa.
4 Dy elynnion daethant i'n mŷsg,
rhuasant derfŷsg greulon:
A gosodasant dan gryfhau,
fanerau yn arwŷddion.
3
5 Iw charfio'r saeri goreu gŷnt,
a roesant wŷnt iw bŵŷill:
6 Drylliant i'r llawr gerfiadau hon,
ag eirf, gyfeillion erchŷll.
7 Llosgasant ôll dy eglwŷs lân,
a'i phŷrth a thân yn ulw
A halogasant mewn dull dîg,
y noddfa lle trîg d'enw.
4
8 Awn, gwnawn gŷd-artaith meddant hwŷ,
a dinŷstr drwŷ yr holl wlâd:
Llosgasant hôl demlau y tir,
gwnaethant yn wir eu bwriad.
9 Nid oes un arwŷdd i ni iw gael,
na phrophwŷd diwael destŷn.
Na gwŷbedŷdd, a ŵŷr pa hŷd,
y peru'r bŷd i'n herbŷn.
5
10 Dywaid pa hŷd (O Dduw Iôn)
y gwna d'elynnion warthrudd?
A rŷdd dy gâs ei gabledd fri
arnat ti yn dragywŷdd?
11 Paham y tynni 'n ôl dy law,
(sef dy ddeheulaw berffaith,
Hon sŷdd i'th fynwes) allan tŷnn,
a difa d'elŷn diffaith.
6
12 Can's o'r dechreuad Duw ei hun
ydŷw fy nghun, a'm brenin,
Fe a wna iechŷdwriaeth hîr,
i bawb drwŷ'r tîr a'i dilin.
13 Rhanu a wnaethost di a'th nerth
y môr, a'i anferth donnau,
Gwahenaist, torraist uwch y don,
bennau y blinion ddreigiau.
7
14 Drylliaist di ben, (nid gorchwŷl gwan)
y Lefiathan anferth:
I'th bobl yn fwŷd dodaist efô,
wrth dreiglo yn y diserth.
15 Holltaist y graig, tarddodd ffynnon,
ac aeth yn afon ff [...]ŵd-chwŷrn,
A diysbyddaist yn dra sŷch
afonŷdd dyfr-grŷch cedŷrn.
8
16 Di bia'r dŷdd, di bia'r nôs,
goleu o baul dlws geinwedd:
17 Seiliaist y ddaiar, lluniaist hêf;
a gauaf o'th ogonedd.
18 Fy Arglwŷdd bellach cofia hŷn,
i'r gelŷn gŷnt dy gablu,
Ac i'r ynfydion roi drŵg frî,
a'th enw di ddirmygu.
9
19 Oes dy durtur na ddôd ar gawdd,
dan nawdd anifail creulon,
Na âd o'th gôf (O Arglwŷdd da)
dy dyrfa, y rhai tlodion.
20 Duw, edrŷch ar dy gyfamod,
a gwêl waelod y gwledŷdd:
Mae ymhôb man drigfa dŷn traws,
mae o honŷnt liaws efrŷdd.
10
21 Na ddychweled y truan tlawd
mewn difrawd, ac mewn gwradwŷdd,
Y dŷn anghenus, lle [...]g, a gwan,
a ddatcan d'enw Arglwŷdd.
22 Cyfod, dadla dy ddadl (O Dduw)
dy enw ŷw'n dragywŷdd:
Coffa gabledd, yr hon drwŷ'r Bŷd
a gait gan ynfŷd beunŷdd.
11
23 Duw, nac anghofia lais a sô [...]
d'elynnion, y cenhedloedd,
Eu sŵn, a'u rhodres, a'u dadwrdd
a ddring i gwrdd a'r nefoedd.
PSALM. 75.
1
CLodforwn di (dragywŷddol Dduw)
a'th enw ŷw yn agos.
Maint ŷw dy enw a'th nerth i'th hŷnt
dy wrthiau ŷnt iw dangos.
2 Dwedaist, pan dderbyniwŷf y llu
mi rôf farn gu, ac union:
3 Fel y nerthais sylfeini'r bŷd,
oedd rŷdd, a'i gŷd-trigol.
2
4 Minneu a ddwedais hŷn o'm brŷd,
wrth y rhai ynfŷd, peidiwch,
Wrth annuwiolion poethion chwŷrn,
eich mepcŷrn na dderchefwch.
5 Och, na dderchefwch chwi mo'ch cŷrn
na siglwch rychwŷrn ragdal,
Ac na ddwedwch yn warr-sŷth
nid rhaid i'n fŷth mo'r gofal.
3
6 O herwŷdd, nid o'r dwŷrain draw,
i ddŷn y daw derchafiad,
Nid o'r gorllewin, na'r deheu,
y daw i chwithau godiad:
7 Can's ar law Duw a mae y farn,
na fŷdd gŵr cadarn rŷ gru,
Gostwng heddiw y naill heb pall,
a chodi'r llall y foru.
4
8 Can's yn llaw'r Arglwŷdd phiol sŷdd
cymysg-wîn hŷd-wŷdd ynthi,
Tywalldodd hwn; drŵg ddynnion bŷd,
yfant igŷd o honi.
9 Mynegaf finneu, ac i'm côf,
ei gerdd (Duw Iagof) canaf:
Torraf gŷrn annuwiolion,
a phen y cyfion codaf,
PSALM. 76.
1
YN Juda, ac yn Israel dî [...]
adweinir ein Duw cyfion,
2 Ei babell ef vn Salem sŷdd,
a'i breswŷlfŷdd yn Seion.
3 Yno y drylliodd y bwa, a'r saeth,
a'r frwŷdr gwnaeth yn ddarnau:
A thorrodd ef yn chwilfriw mân
bôb tarian, a phôb cleddau.
2
4 Trawsion fu cedŷrn mynŷdd gŷnt,
mewn yspail helŷnt uchel,
Uwch a chryfach wŷt na hwŷ,
nid rhaid bŷth mwŷ mo'u gochel.
5 Pôb cadarn galon a ymroes,
ac ni ddeffroes o'i gyntŷn:
Pawb a ddiffrwŷthodd pan ddaeth braw,
ni chae un llaw ei dderbŷn.
3
6 O'th waith (Daw Iagof) a'th amharch,
y cerbŷd a'r march rhoi i huno.
7 Ofnadwŷ wŷd, pwŷ i'th lîd ŵg,
a saif i'th olwg effro.
8 Pan ddêl o'r nefoedd dy farn di,
yr wŷd yn peri ei chymrŷd,
Y ddaiar ofnodd, a'i hôll lu,
rhoist i ostegu ennŷd.
4
9 I farnu pan gyfododd Duw
i gadw yn fŷw y gwirion,
A'r rhai oedd lonŷdd yn y tîr,
oeddŷnt yn gowir galon.
10 Can's poethder dŷn ŷw dy fawl di,
fellu gostegi ei drallod:
Eu gwrês i'r dâ a fâg grêt ffŷdd,
i'r drŵg a fŷdd yn ddyrnod.
5
11 Eich rhôdd i'r Arglwŷdd Dduw addewch,
a llawn gwblhewch eich gobrwŷ,
Pawb sŷdd o amgŷlch Seion dêg,
rhowch anrheg i'r ofnadwŷ.
12 Ef a ostyngodd uchel frŷd,
ac ysprŷd gwŷr rhyfelgar:
Fe ŷrr ofn ynghanol goêdd,
hôll frenhinoedd daiar.
PSALM. 77.
1
FY llais at Dduw, pan roddais lêf,
fy llais o'r nêf fo'i clybu,
A'm llais gweddiais ar Dduw Nêr,
pan oedd blinder yn tarddu.
2 Y dŷdd y rhedai 'mriw, a'r nôs
ni pheidiai achos llafur,
Mewn blîn gyfyngder gwn fy môd,
a'm hoes yn gwrthod cysur.
2
3 Yna y cofiwn Dduw, a'i glôd,
pan syrthiai drallod enbŷd:
Yna gweddiwn am fy mai,
pan derfysgai fy ysprŷd.
4 Tra fawn yn effro, ac mewn sann,
heb allel allan ddywedŷd,
5 Ystyriais yna'r dyddiau gŷnt,
a'r helŷnt hên o'r cynfŷd.
3
6 Cofiwn fy ngherdd, y nôs fy hun:
heb gael amrantun, chwiliwn,
A chalon effro, geneu mud,
a'm hysprŷd ymddiddanwn.
7 Ai yn dragywŷdd a cilia'r Iôn?
a fŷdd ef bodlon mwŷach?
8 A ddarfu bŷth ei nawdd, a'i air?
a gair ei addaw bellach?
4
9 A anghofiodd drugarhau?
a ddarfu cau ei galon?
A bald ef bŷth (meddwn i)
fel hŷn a sorri yn ddigllon?
10 Marwolaeth i'm ŷw'r meddwl hwn?
a throis yn grwn i gofio
Ei fawr nerth gŷnt: coelio a wnâf
waith y goruchaf etto.
5
11 Cofiaf weithredoedd (fy Arglwŷdd)
a'th wrthiau hylwŷdd cofiaf.
12 Am bôb rhyfeddod, a phôb gwaith,
a myfŷr maith y traethaf.
13 O Dduw, pa Dduw fel di dy hun,
dy ffo [...]dd di sŷ'n sancteiddiol:
14 Dy waith dengŷs dy nerth i'r bŷd,
par i ni igŷd dy ganmol.
6
15 Dy nerth fawr hon a roist ar lêd,
wrth wared yr hên bobloedd,
Iagof a Joseph a su gaeth,
a'u hôll hiliogaeth luoedd.
16 Y dyfroedd gwelsant, ofnasant hŷn,
a dychrŷn cŷn eu symmud:
17 Cymylau dwfr cŷlch wŷbr yn gwau,
a mellt fel saethau enbŷd.
7
18 Dy daran rhuodd frŷ yn y nen,
dy fellt gwnaent wŷbren oleu,
Y ddaiar isod a gyffrôdd,
ac a ddychrynodd hitheu.
19 Yn egion môr mae y ffordd dau,
a'th iwŷbrau mewn dyfr sugnedd,
Ac ni adweinir bŷth mo'th ôl,
yn dy anfeidrol fawredd.
8
20 Dy bobloedd a dwŷsaist di
drwŷ anial ddrysni efrŷdd,
Dan law Mosos, a'i frawd Aaron,
fel defaid gwirion llonŷdd.
PSALM. 78.
1
FY mhobl igŷd gwrandewch fy neddf,
a hoed fy nghreddf i'ch calon,
Clust ymostyngwch i'm geneu,
i ystŷr geiriau ffyddlon.
2 Mewn diharebion, i barhau,
fy ngeneu a egoraf:
A'r hên ddamhegion oedd ar hŷd
y cynfŷd a ddangosaf.
2
3 Y rhai a glywsom gŷnt eu bôd,
ac ŷm yn gwŷbod hefŷd,
Ac afynegodd yn ddiau
ein tadau er y cynfŷd.
4 Heb gêl mynegwn ninneu'n ffraeth,
hŷn iw hiliogaeth hwŷthau:
Canmolwn Dduw i'r oes a ddêl,
ei nerth a'i uchel wrthiau.
3
5 Fellu gorchmynnodd ef fôd côf,
yn Iagof, ac i'r hynaf
Yn Israel ddysgu hŷn iw blant,
gogoniant y Goruchaf.
6 Fel y gwŷpid o oes i oes,
y rhoes ef ei dyssiolaeth:
O Dâd i fâb, o fâb i ŵŷr,
i gadw llwŷr wŷbodaeth.
4
7 Gobeithio yn Nuw, cofio ei waith
sŷdd fel rhaith eneidiol:
I gael cadw ei orchymmŷn,
rhoes Duw'r wers hŷn yn rheidiol.
8 Rhag ofn mŷnd o'r genhedlaeth hŷn
yn gyndŷn ac annufŷdd:
A cha [...]on wan, ac ysprŷd gwael
heb afael yn eu llywŷdd.
5
9 Eu tadau hwŷ fel plant Ephraim,
yn arfog lŷm eu saethu,
Troesant eu cesnau yn y gâd,
ymroi a dadynylu.
10 Cyfammod Duw a wrthodent,
ni rodient yn ei gyfraith,
11 Anghofio ei wŷrth a welsent gŷnt,
a'i ddeddfau oeddŷnt berssaith.
6
12 Yn nhîr yr Aipht, ym maes Zoan,
gwnaeth Duw gyflafan fwŷfwŷ:
13 Rhoi dwfr y môr yn ddau dwrr crŷch,
a'r llawr yn sŷch i dramwŷ.
14 Y dŷdd a chwmmwl, y nôs a thân
tywŷsai'n lân ei bobloedd:
15 Holldi'r creigiau, a'i troi'n llŷnn,
ai llenwi'n fwŷn a dyfroedd.
7
16 Er tynnu dwfr o'r garreg lâs,
er llithro'n loŷwlâs-ffrydau:
17 Yn yr anialwch digient Dduw,
chwanegent amrŷw felau.
18 Yn y diffaethwch profent Dduw,
oes fwŷd i fŷw? meddylient:
19 A all Duw gael i'n ymma fwŷd
mewn cyfrŷw lochwŷd? dwedent.
8
20 Er taro'r graig a rhedeg dŵr
yn ffrydau, cyflwr diball:
All ef roi i ni fara a chîg,
i'n cadw yn ddiddig ddiwall?
21 Pan glybu Duw yr araith hon,
fel tân yn wreichion nynnodd,
Wrth Iagof ac wrth Israel,
a llîd yn uchel digiodd.
9
22 A'i ddîg oedd a'm na chredent rôl,
ei Duw a'i fŷwiol fawredd,
Ac na welent pa iechŷd oedd
yn ei weithredoedd rhyfedd.
23 Gorchymmŷn wŷbren, a'i gwar [...],
egorŷd drysau'r nefoedd:
24 A Manna'n fwŷd, fel gw [...]nith nêf,
a lawiodd ef iw luoedd.
10
25 Rhoi i ddŷn ga [...] rhŷw luniaeth dâ
sef bara yr Angylion:
Gyrr hŷd wŷbren ddwŷrain wŷnt,
gyda'r deheu-wŷnt nerthol.
27 Fel y llŵch rhoes gîg iw hel,
ac adar fel y tyfod:
28 Ynghŷlch eu gwersŷll, a'u trigfeŷdd,
y glawiai beunŷdd gafod.
11
29 Bwŷdta digon o wlêdd ddiwael,
a chael eu bwŷd dym nunol:
30 Ac heb ommedd ar eu blŷs,
nac mo'u h [...]wŷllŷs cnawdol.
31 A'u tameidiau hwŷ iw safn,
(gwir ofnwn y Goruchaf:)
Yn Israel lladdodd yn ei ddîg
wŷr etholedig, brasaf.
12
32 Er hŷn pechent, ac ni chredent,
iw iâch radau rhyfedd:
33 Treuliodd Duw eu hoes am hŷn,
mewn dychrŷn, ac oferedd.
34 Tra fyddai Duw yn eu llâdd hwŷ,
os ceisient dramwŷ atto:
Os daent drwŷ hiraeth at ei râs,
yn foreu glâs iw geisio.
13
35 Os cofient fôd Duw iw hôll hŷnt,
yn graig iddŷnt, a gwaredŷdd:
36 (Er ceisio siommi Duw'n y daith,
a'u gweniaeth, ac a'u celwŷdd:
37 Er nad oedd eu calon yn iawn,
na ffyddlawn iw gysammod:)
38 Er hŷn trugarodd Duw o'r nêf,
a'i nodded ef oedd barod.
14
Rhag eu difa, o'i lid y troes,
ac ni chyffroes iw hartaith:
39 Cofiodd ddŷn, os marw a wnai,
nas gallai ddychwel eilwaith.
40 Pa sawl gwaith y cyffroesant hwŷ
wrth fyned trwŷ'r anialwch?
Gan ddigio Duw, a'i lwŷr dristhau,
yngh [...]eigiau y diffaethwch.
15
41 Troesant, profasant Dduw a'u chwant,
gan demptio Sanct vr Israel;
42 Anghofio eu cadw hwŷnt fel hŷn,
rhag cael o'u casddŷn [...]fael.
43 Rhoesai'n yr Aipht arwŷdd o'i râs.
a'i wrthiau yn ninas Zoan.
44 Y môdd y troes eu dwfr yn waed,
ni chaed dim glân-ddwfr allan.
16
45 Rhoes Duw yngwlad yr Aipht iw plan,
waed, gwŷbed, llau, a llyffaint:
46 Lindŷs, locust, i ddifa'u ffrwŷth,
a chenllŷsg lwŷth, a mall haint.
47 Distrywiodd Duw eu hŷd, a'u gwŷdd
48 Eu coedŷdd, a'u hen 'feiliaid:
A chenllŷsg, taran, mellt a roes,
b [...] wrth eu heinioes danbaid.
17
49 Rhoes arnŷnt bwŷs ei lîd, a'i fâr,
ac ing anghreugar diglion:
Ffrwŷth ei lidaiawgrwŷdd ef, a'i ŵg▪
anfonodd ddrŵg angylion.
50 Rhŷw ffordd, a hon iw lîd a droes
heb ludd iw heinioes angeu,
Ond dwŷn eu bywŷd hwŷ drwŷ haint;
yn ei ddigofaint ynteu.
18
51 Yna tarawodd un D [...]w Nâf
y plant cyntaf anedig:
Yn n [...]ir yr Aipht, a phebŷll Cam,
sef am ei fôd yn llawn-ddig.
52 Ond (gan droi at ei bobl yn hawdd)
fe'u twŷsawdd drwŷ'r anial-fan,
Fel arwain defaid, lwŷbrau pell,
yn wael ddiadell fechan.
19
53 Arweiniodd hwŷntwŷ yn ddi-ofn,
drwŷ'r môr (ffordd ddofn) heb wlyc [...]
A'i hôll elynnion heb fwŷ stôr,
fe wnaeth i'r môr eu llyngcu.
54 Rhoes hwŷ i etifeddu'n rhŷdd,
ym mynŷdd ei sancteiddrwŷdd:
Yr hwn a ddarfu ei warhau,
a llaw ddeheu yr Arglwŷdd.
20
55 Rhoes ef y wlâd i ddwŷn pôb ffrwyt [...]
rhoes i bôb llwŷth ei gyfran
O Israel, ac yn eu plaid,
troi'r hên drigoliald allan.
56 Er hŷn temptient, a digient Dduw
hwn unig ŷw sancteiddiol:
Ac ni fynnent mor ufuddhau
iw dystiolaethau nefol.
21
57 Ond mŷnd ar gîl, ac ymlaccâu,
fel eu hôll dadau twŷll-naws;
Megis bwa a fae mewn câd,
ac yntho dafliad gŵŷrdraws.
58 Hwŷntwŷ yn fynŷch a'i cyffroent,
mewn camwedd troent oddiwrtho
At ŵŷlfa nôs, a delw o bren,
fel hŷn y digien efo.
22
59 Ond y Gorucha'n gweled hŷn,
a ddigiodd wrthŷn hwŷthau:
Fellu dirmygodd Israel,
a gadel ei ammodau.
60 Yna'r ymadawodd efo,
a chysegr Shilo di [...]ion:
Ei bebŷll a'i brîf yscol ddŷsg,
lle' basai 'ymŷsg ei ddynnion.
23
61 Ei n [...]rth a roes i garchar caeth,
dan elŷn daeth eu mawredd:
62 Ei bobl ei hun i'r cleddeu llŷm,
(fel dyna rŷm ei 'ddigedd:)
63 Ei wŷr ieuaingc fo'i rhoes i'r tân,
gwŷryfon glân rhoes heibio:
64 Ei offeiriaid i'r cleddŷf glâs,
a'r weddw ni chafas wŷlo.
24
65 Yr Arglwŷdd gwedi hŷn deffroe,
fel un a ddoe o gysgu:
Neu fel gŵr cadarn wedi gwîn,
yn erwin ŷw dychrynnu.
66 Taflodd y gelŷn yn ei ôl,
rhoes mewn tragwŷddol wradwŷdd,
67 Rhoes ŵŷrion Joseph dan un pwŷth
ac Ephraim lwŷth i dramgwŷdd.
25
68 Gwedi cilio y rhain igŷd,
fe roes ei frŷd ar Juda:
Ar fynŷdd Seion (ei dreftâd)
o gariad iw breswŷlfa.
69 Yna yr adeiladodd ef:
adeilad grêf a hawddgar,
Yn gysegr lŷs bŷth i barhau,
fel hên seiliadau'r ddaiar.
26
70 Etholodd ef Ddafŷdd ei wâs,
yr hwn oedd ddifas fugail:
Ac a'i dug ef i'r maes yn lân,
o'i gorlan, a'i ddefeid-gail:
71 O borthi defaid mammau ŵŷn.
iw ddwŷn i borthi dynnion:
Jagof, ac Israel, a'u plant,
dyna ei feddiant ffyddlon.
27
72 Ynteu a'u porthodd hwŷnt yn ôl
ei berffaith reiol galon:
Ac a'i trinodd hwŷ'n brŷdferth,
o nerth ei ddwŷlaw cyfion.
PSALM. 79.
1
LLawer cenedl (O Dduw) a ddaeth
i'th etifeddiaeth unig.
Rhoed Caerselem, a'i chyssegr hi,
yn garneddi o gerrig.
2 Rhoi cŷrph dy weision, wrth eu rhaid
i hediaid y ffurfafen:
I'r enifeiliaid rhoi cîg dy saint,
fel dymma fraint aflawen.
2
3 Fel ffrydau dwfr tywallt a wnaed,
eu gwaed o amgŷlch dinas
Caerselem, heb roi corph mewn bêdd,
fel dyna ddiwedd atcas.
4 Yn ddirmŷg, gwradwŷdd, ac yn warth
i bawb o bôb parth ydŷm.
5 O Dduw pa hŷd? wŷd bŷth yn ddîg?
ai fel tân ffyrnig poethlŷm?
3
6 Tywallt dy lîd ar bobl estron.
y rhai nid adwaenon mono [...].
Ac ar deŷrnasoedd na eilw,
(Duw) ar dy enw hynod.
7 Can's ŵŷrion lagof (bobloedd gu)
y maent iw hysu'n rhyfedd▪
Ac a wnaethant i rheini fôd
preswŷlfod anghyfannedd.
4
8 Na chofia'n camwedd gŷnt i'n hoes.
Duw bryssia moes drugaredd:
Dy nodded a'n rhagflaeno ni
sŷ mewn trueni'n gorwedd.
9 O Dduw ein iechŷd cymorth ni,
er mwŷn dy fri gogonol:
A gwared er mwŷn dy en [...]u,
ni rhag pechodau mar [...]
5
10 Pan ofynnant [...]e mae'n Duw
dôd arnŷnt [...]ŷw ffonnod:
I ddial gwae [...] dy dduwiol blant,
ac yno-anthwŷ wŷbod.
11 Duw, doed ochenaid ger dy fron
dy garcharorion rhy-gaeth:
Ac yn dy ddirfawr ogoniant,
ymddiffŷn blant marwolaeth.
6
12 Ein cymdogion a'th gablodd di,
tâl i rheini yn gwblol
Eu cabledd iw mynwesau eu hun,
O Arglwŷdd gun gorchestol.
13 Ninnau dy bobl a'th ddefaid mân,
a wnawn i't gân ogonol,
O oes i oes bŷth i barhau,
ac i'th fawrhau'n dragwŷddol.
PSALM. 80.
1
CLŷw di fugail i Israel,
sŷ'n arwain fel y defaid,
Hîl Iagof, a llewŷrcha di,
a 'steddi ar Gerubiaid.
2 Fel y gwelo Ephraim hŷn,
Benjamin a Manasses:
Cyfod, cymorth a gwared ni,
o'th fawr ddaioni cynnes.
2
3 Llewyrcha d'wŷneb, dychwel ni,
Duw di a'n cedwi'n gyflŷm:
4 Duw y lluoedd clŷw'n gweddi,
pa hŷd y sorri wrthŷm?
5 Llewa'i bara drwŷ wŷlo yn dôst
a wnaethost di i'r eiddod:
Rhoist iddŷnt ddagrau ar bôb awr,
drwŷ sefur mawr yn ddiod.
3
6 Duw ein gelynnion o bôb parth
rhoist ni yn warth i'n gwatwar:
7 Llewyrcha d'wŷneb, dychwel ni,
Fellu i'n cedwi'n gynnar.
8 Dygaist o'r Aipht winwŷdden îr,
[...]hoist iddi dîr i' dyfu:
A'r [...]ll genhedloedd o bôb man,
trois [...] [...]llan cŷn ei phlanu.
4
9 Arloesaist y [...]îr o'i blaen hi,
a pheraist iddi [...]reiddio:
10 Llanwodd, cudd [...]dd bôb brŷn a llawr,
fel cedrwŷdd mawr y [...] brigo.
11 A'u hiraidd frîg ystŷn y [...] oedd
hŷd foroedd ac afonŷdd:
12 Pam y rhwŷgaist gae'r fâth lwŷn,
i bawb i ddwŷn ei ffrwŷthŷdd?
5
Pawb ae heibio yn tynnu ei grawn,
pan oedd hi'n llawn ffrwŷth arni:
13 A'r baedd o'r coed yn tirio ei llawr,
a'r bwŷst [...]il mawr iw phori.
14 O Dduw y lluoedd, edrŷch, gwêl,
a dychwel i ymgleddu
Y winllan hon a blennaist di,
a'th law, a'i rhoddi i dyfu.
6
15 Lle cadarnheist i ti dy hun,
dy brif blanhigin dedwŷdd:
16 Llyg [...]wŷd a'i clêdd, a'r tân yn faith,
[...]ŷn o waith dy gerŷdd.
17 I gr [...]f [...]au gŵr dy ddeheu law,
boed d [...]ostaw dy fraich nerthol:
Hwn a siccrheist i ti dy hun,
sef dros fâb dŷn dewisol.
7
18 Tros hwn tra rhoddŷch d [...] dy law,
oddiwrthaw ni ddychwelwn:
O Dduw, dadebra, bŷwha ni
ar d'enw di y galwn.
19 A dadymchwel nyni i fŷw,
O Arglwŷdd Dduw y lluoedd:
Tywynna arnom d'wŷneb prŷd,
ac ni gawn iechŷd bythoedd.
PSALM. 81.
1
O Cenwch fawl i Dduw ein nerth,
cerdd brydferth cenwch iddo:
A llafar lais, a geneu ffraeth,
gerddoriaeth i Dduw Iago.
2 Cymerwch gathl y psallwŷr glân,
a moeswch dympan hefŷd:
A cheisiwch ganu gyda hŷn
y nabl, a'r delŷn hyfrŷd.
2
3 Cenwch udcŷrn ar loer newŷdd,
y prŷd sŷdd nodol iddo:
4 Sef deddf ŷw hon ar ŵŷl uchel,
Duw yr Israel ac Iago.
5 Yn Joseph clymmodd hŷn yn ddŷsg,
pan ddaeth o fŷsg yr Aipht wŷr:
Lle clywais iaith oedd ddieithr im,
heb ddeall dim o'i hystŷr.
3
6 Dwedodd fy Nuw: drwŷ nerth fy mraich
tynnais faich eich ysgwŷddau:
Ac fellu tynnais eich dwŷ law,
i'm madaw a'r ffwrneisiau,
7 mewn blinder gelwaist arnaf fi,
gwaredais di sut ymma:
Wrth lais taran fy mhrofiad oedd,
ynglan dyfroedd Meriba.
4
8 Fy mhobl Israel gwrando fi,
os ystyri yn ffyddlon:
9 Na fŷdd i ti arall yn Dduw,
na chrymma i au-dduw estron.
10 Myfi yr Arglwŷdd Dduw a'th ddug
o'r Aipht dîr sarrug allan:
Llanwaf dy fol heb ddiffŷg dafn,
lleda dy safn yn llydan.
5
11 Ni choeliai Israel fy rhybudd,
ni fyddent ufŷdd i mi:
12 Gollyngais hwŷnt iw ffŷrdd eu hun,
iw yngor cyndŷn hynnŷ.
13 Och na wrandawsai Israel,
gan rodio'n ffel fy llwŷbrau:
14 A phwŷs fy llaw llethaswn fron
eu hôll elynnion hwŷthau.
6
15 Caseion ein Duw, yn ei lîd,
a ostyngesid iddo.
Ac ef a roesai yn y tîr
ammodau hîr i'r eiddo.
16 Ein Duw a roesai iddŷnt borth,
drwŷ frasder cymorth rhadol:
Rhoi mêl o'r gra'g, rhoi llaeth yn flîth,
a gwenith yn ddigonol.
PSALM. 82.
1
HOll farnwŷr Bŷd mae Duw'n eu mŷsg,
pe cymrent addŷsg gantho:
Duw barna ar y duwiau mân,
a'i farn sŷ lân heb wŷro.
2 Pa hŷd y rhoddwch farn ar drô,
gan bleidio gyda'r trawsion?
3 I'r tlawd, ymddifad, rheidus trwch,
paham na fernwch union?
2
4 Gwrandewch chwi ar y gwan, a'r gwael,
a'r tlawd heb gael mo'i gyfraid:
(Pan ddêl y rheini gar eich bron)
o ddwŷlo'r trawsion diriaid.
5 Gwŷr heb wŷbod, heb ddeall chwaith
sŷ'n rhodio taith tywŷllni:
Ni syflent hwŷ, pe siglai 'nghŷd,
yr holl fŷd, a'i sylfeini.
3
6 Dywedais mai Duwiau ŷ'ch yn siŵr,
a phlant i'r gŵr Goruchaf:
Er hŷn fel dŷn marw a wnewch,
un gwŷmp a gewch a'ch hynaf.
7 Duw cyfŷd, a dyro farnau ar
y ddaiar a'i theŷrnasoedd:
Can's mawr ŷw d'etifeddiaeth, di
a feddi'r holl genhedloedd.
PSALM. 83.
1
NA ostega, na thaw, na fŷdd
di lonŷdd Duw y lluoedd:
2 Wele, d'elynnion yn cryfhau,
gan godi 'pennau i'r nefoedd.
3 Ymgyfrinachu dichell un,
y lle mae ganthŷn fwriad,
A dychymygu diben brudd.
i ni sŷ'n ymgudd danad.
2
4 Dywedant, dowch difethwn hwŷnt
na byddo o honŷnt genedl:
Ac na byddo (meddant hwŷ)
am Israel mwŷ mor chwedl.
5 Ymgyngorasant bawb ynghŷd,
ac yn un frŷd i'th erbŷn.
6 Edom, Ismael, Moab blaid [...]
a'r hôll Hagariaid cyndŷn.
3
7 Gebal, Ammon, Amalechlaid,
Philistiaid a gwŷr Tirus:
8 Assur, yn gydfraich a phlant Lot,
fel dyna gnot maleisus.
9 Tâl ditheu adref yn y man,
megis i Midian greulon,
I Sisera, neu i Jabin swrth.
a laddwŷd wrth lan C [...]on.
4
10 Yn Endor gŷnt ou laddfa fawr,
ar bŷd y llaw [...] ar wasgar:
Gwna 'honŷnc hwŷthau laddfa ail,
a'u cŷrph yn dail i'r ddaiar.
Gosod eu honedd hwŷ fel Zeb.
ac Oreb yr un diwedd:
A'u rywŷsogion fel Zeba,
a Zalmuna i o [...]wedd.
5
12 Dwedent y mynnent yn eu bŷw
gysegrsa Duw iw meddiant:
13 [...]el troi ad rhod, neu wellt mewn gwŷnt,
dyna yr hŷnt a gafant.
14 Fel a ll [...]sg tân bôb pren crîn,
a'r fflam yr ei [...]hin mynŷdd:
15 Fellu a'th 'storm, ymlid hwŷ'n gŷnt
na dychrŷn corwŷnt efrŷdd.
6
16 Llanw eu tâl o warth a chwus,
ceisiant ar frŷs yr A [...]glwŷdd.
17 Ac yn dragwŷddol iddŷnt bŷdd,
gywilŷdd, mefl, a gwradwŷdd.
18 Di [...]ether hwŷnt: gwŷbydded dŷn bŷw
mai d'enw di ŷw Jehofa:
Ac mai ti unig Dduw sŷdd ar
y ddaiar yn orucha.
PSALM. 84.
1
DY Babell di mor hyfrŷd ŷw
(O Arglwŷdd bŷw y lluoedd)
2 Mynŷch chwenychais weled hon,
rhag mor dra thirion ydoedd.
Mae f'enaid i (fy Iôn) mewn blŷs
i'th gysegr lŷs dueddu:
Fy nghalon i, a'm hôll gnawd ŷw,
yn Nuw bŷw'n gorfoleddu.
2
3 Aderŷn y tô cafodd dŷ,
a'r wennol frŷ iw chywion
Lê wrth dy allor di iw trin,
fy Nuw a'm brenin tirion.
4 Owŷn ei fŷd a drîg yn dy dŷ,
cai [...] dy foliannu ddigon:
5 Ac yn [...]t ti sŷ'n cadarnhau,
a'th lwŷbrau yn eu calon.
3
6 Pe rhôn a gor [...]od ar y rhain
rhŷd glŷm wŷlo [...]in dramwŷ.
Gosodant ffynnon iddŷ [...] nhw,
a'r glaw a leinw fwŷfwŷ.
7 Ant rhagddŷnt bawb o neth i nerth
nes cael yn brydferth ddyfod:
I 'mddangos i Dduw gar ei fron,
yn Seion ei breswŷlfod.
4
8 Arglwŷdd Dduw, clŷw di fi,
a'm gweddi O Dduw lagof:
9 Gwêl wŷneb d'eneiniog, a'i stâd,
Duw'n tarian na âd fi'n angof.
10 Gwell ŷw na mîl, un dŷdd i'th dŷ,
am hynnŷ mwŷ dewisol
Im fôd ar riniog y d [...]ŵs tau,
na phlasau yr annuwiolion.
5
11 Sef, haul a tharian ŷw Duw mâd.
a rŷdd [...]âd a gogoniant.
Ni lestair ef ddaioni maith,
i'r rhai a b [...]ff [...]ith rodiant.
12 O Arglwydd Dduw y lluoedd maw▪
anfon i lawr dy gymmod:
Dedwŷdd ŷw'r dŷn a rotho 'i grêd,
a'i hôll ymddiried ynod.
PSALM. 85.
1
DA ŵŷd i'th dir (Jehofa Nêr)
dychwelaist gaethder Iago:
2 Maddeuaist drawsedd dy bobl di,
mae eu camwedd wedi ei guddio.
3 Tynnaist dy lîd oddiarnom ni,
troist o dd [...]g loni awchlŷm:
4 O Dduw ein nerth tro ninnau'n well,
a'th lî [...] bŷdd bell oddiwrthŷm.
2
5 Ai bŷth a digi wr [...]hŷm ni▪
a sorri di hŷd ddiwedd?
A sait dy lîd o oes i oes?
Duw gwrando, moes drugaredd.
6 Pam? oni throi di a'n bŷwhau,
a llawenhau yr eiddod?
7 O dangos i'n dy nawdd mewn prŷdd
fellu cawn iechŷd ynod.
3
8 Bêth a ddywaid Duw amdanaf
mi a wrandawaf hynnŷ:
Fe draetha [...]êdd iw bobl, a'i sainct,
rhag troi ym mraint ynfydu.
9 I'r rhai a ofnant Arglwŷdd nêf,
mae ei iechŷd ef yn agos:
Fellu a caiff gogoniant hîr,
ofewn ein tîr ni aros.
3
10 Ei drugaredd, a'i wirionedd,
ar unwaith cyfarfuant:
Ei uniondeb, a'i hêdd ynghŷd,
drwŷ'r tîr a 'mgŷd-gusanant.
11 Gwirionedd o'r ddaiar a dardd;
uniondeb chwardd o'r nefoedd:
12 Duw a ddenfŷn i'n ddaioni,
a'n tîr i roddi cnydoedd.
4
13 Uniondeb oedd oflaen Duw nêf,
a'r cyfion ef aed rhagddo:
A Duw a rodia yn ei waith,
fel i'r un daith ag efo.
PSALM. 86.
1
GOstwng O Arglwŷdd y glust dau,
clŷw fy ngweddiau trymmion:
Gwrando fi sŷ druan a thlawd,
o'th barawd drugareddion.
2 Cadw fy oes, gŵr cynnwŷs ŵŷ,
ac i ti 'rydwŷ'n credu:
Duw bŷdd achubwr da i'th wâs,
o'th râs tyrd i'm gwaredu.
2
3 Trugarhâ wrthif Arglwŷdd mâd,
canŷs arnad llefa'n ddibaid:
4 Einioes dy wâs, Duw llawenha
canŷs attad coda f'enaid:
5 Canŷs di O Arglwŷdd ydwŷd ddâ
i'th bobloedd, a thrugarog,
I'r rhai a alwant arnat ti,
mae dy ddaioni'n bleidiog.
3
6 O Arglwŷdd clŷw fy llais, mor llŷm,
a'm gweddi i'm myfyrdod:
7 Clŷw fy llais, gwel fy nghlwŷf,
y dŷdd y bwŷf i'm trallod.
8 Ymŷsg y duwiau nid oes un,
fel dydi gun gogoned:
Ymŷsg gweithredoedd cymmain hŷn,
nid oes yr un un-weithred.
4
9 Y bobloedd ôll a wnaethost (Iôn)
o'th flaen dôn, ac addolant:
A pha lê bynnag ar y bônt
i'th enw rhônt ogoniant.
10 Can's tydi ydwŷd fawr, a phur,
yn gwneuthur rhyfeddodau:
A thydi'n unig ŵŷd yn Dduw,
ni cheisiwn amrŷw dduwiau:
5
11 Dŷsg i mi dy ffordd (Arglwŷdd)
câf yn rhwŷdd dy wirionedd:
Gwna fy nghalon yn un a thi,
ac ofnaf fi dy fawredd.
12 Fy Arglwŷdd Dduw, moliannaf di
a hôll egni fy nghalon:
Ac i'th fawr enw bŷth ar dant,
y rhôf ogoniant cyson.
6
13 Mawr ydŷw dy drugaredd di,
tuagattaf fi yn barod,
Gwaredaist f'enaid i o'r bêdd,
ac o'r gorddyfnedd isod.
14 Duw, daethant arnaf fi wŷr beilch,
fel llu o weilch ewin-ddrŷd?
Ceisient ddwŷn f'einioes o'r bŷd hwn,
iw golwg gwn nad oeddid.
7
15 Ond tydi'n unig ŵŷd hawddgar,
a chlaiar dy drugaredd.
Hwŷr i lîd, i gymmod hawdd,
llawn o nawdd, a gwirionedd.
16 O edrŷch arnaf, moes dy râs
i mi dy wâs i'th orllwŷn:
Dôd i'm dy nerth, cadw fel hŷn
fi blentŷn dy lawforwŷn.
8
17 O Dduw dôd o'th serch arwŷdd,
er gwradwŷdd i'm caseion:
Pan welant dy fôd yn rhol nerth
i'm, ac ymadferth ddigon.
PSALM. 88.
1
O Dduw fy iechŷd, nôs a dŷdd
mae 'ngweddi'n ufŷdd arnad,
2 Gostwng dy glust, O Arglwŷdd nêf,
a daed fy llêf hŷd attad.
3 Can's mae fy enaid mewn dull caeth,
a'm heinioes aeth i'r beddrod:
4 Fel gŵr marw a rhifwŷd fi,
a'm nerth oedd wedi darfod.
2
5 Mor farw a rhai wedi eu llâdd,
a'u taflu 'nghlâdd mewn angof,
A leddit di mor siŵr a hŷn,
na bae bŷth 'honŷn atgof.
6 Gosodaist fi mewn dyfnder trŵch,
ac mewn tywllwch eithaf,
7 Rhoist bwŷs dy ddîg ar y corph mau,
a'th hôll fôr-donnau arnaf.
3
8 Pellheist fy hôll gydnabod dâ,
'rwŷf yn ffieidd-dra iddŷn:
Ni châf fi fyned at un câr,
yr wŷf mewn carchar rhydŷn.
9 Y mae fy ngolwg (gan dy lid)
mewn gofud o fawr gystudd.
Duw llefais arnad yn fy mraw,
gan godi 'nwŷlaw beunŷdd.
4
10 Ai i'r meirw dangosi wŷrth?
a ddont i'th bŷrth, a'th foli?
11 A draethir dy fawl yn y bêdd,
a'th lân wirionedd heini?
12 Ai mewn ty wŷll y mae dy râd?
a'th iawndeb yngwlâd ango?
13 Fel hŷn (Duw) llefais arnat ti,
o clŷw fy ngweddi etto.
5
14 Pam (O f'Arglwŷdd a'm Duw) i'm rhaid
y rhoi f'enaid ar wrthod?
Ac y cuddi dy wŷneb prŷd?
fy nghoel igŷd fŷdd ynod.
15 Truan ymron marwolaeth wŷf,
mewn trâ glwŷf o'm ieuengctŷd
A'th ofni bum yn nychbeth gwael.
gan ammeu cael mor iechŷd.
6
19 Dy ddig a lifodd drosof fi,
d'ofn sŷdd i'm torri'n efrŷdd,
Fel dyfr y daethant yn fy nghŷlch,
do, do, o'm hamgŷlch beunŷdd.
17 Ymhell oddiwrthŷf rhoist bôb câr,
pôb cyfaill hawddgar heibio,
A'm hôll gydnabod a fu gŷnt,
yr ydŷnt yn ymguddio.
PSALM. 89,
1
MYfyriaf gerdd bŷth i barhau,
o drugareddau'r Arglwŷdd:
A'l wirionedd i'm geneu fŷdd,
hŷd yn dragywŷdd ebrwŷdd.
2 Sef dwedais hŷn: cair bŷth yn wir,
adeiledir trugaredd:
I barhau bŷth cair yn y nêf
dy gadarn grêf wirlonedd.
2
3 Fel hŷn (O Dduw) attebaist i'm,
mi wneuthŷm rwŷm gan dyngu
I Ddafŷdd f'etholedig wâs,
a'r gair o'm grâs yn tarddu.
4 Fel hŷn sicrhâf dy hâd di bŷth,
a gwnaf wehelŷth drefniad.
I'th gadarn faingc o oed i oed,
mi rôf bôb troed yn wastad.
3
5 Am hŷn siccrwŷd tragwŷddawl
y nêf o fawl dy wrthiau:
Yngorsedd, Sainct, ynghyrchfa hêdd,
am bur wirionedd d'eiriau.
6 Pwŷ sŷdd cystal a'n Harglwŷdd eu,
pe chwilid llu'r wŷbrennau?
Ymŷsg Angylion pwŷ fel Iôn,
sef ymhlith meibion Duwiau?
4
7 Drwŷ gynulleidfa ei Sainct ef,
Duw o'r nêf sŷdd ofnadwŷ:
A thrwŷ'r hôll fŷd o'n hamgŷlch ni,
ei ofni sŷdd ddyladwŷ.
8 Pwŷ sŷdd debig i ti Dduw bŷw,
O Arglwŷdd Dduw y lluoedd?
Yn gadarn Iôr, a'th wir i'th gŷlch,
o amgŷlch yr hôll nefoedd.
5
9 Ti a ostyngi y môr mawr,
a'r don hŷd lawr yn ystig:
10 A nerth dy fraich curi dy gâs,
yr Aipht, fel gwâs lluddiedig.
11 Eiddot ŷw nêf, a daiar igŷd,
seiliaist y bŷd a'i lanw:
12 Gogledd, deheu, Tabor, Hermon,
sŷ dirion yn dy enw.
6
13 I'th fraich mae grŷm, mae nerth i'th law,
a'th grêf ddheulaw codi:
14 Nawdd a barn ŷw d'orsedd hir,
a nawdd a gwir a geri.
15 Eu gwnfŷd i'r hôll bobl a fŷdd,
a fo eu llawenŷdd ynod:
Ac yn llewŷrch dy wŷneb glân
y rhodian i gyfarfod.
7
16 Yn d'unig enw di a cânt,
fawl a gogoniant beunŷdd,
Yn dy gyfiawnder codi wnant,
ac fellu byddant ddedwŷdd.
17 Can's ti wŷd gryfeder eu nerth hwŷ,
lle caffent fwŷ o dycciant:
Dydi a dderchefi eu cŷrn,
ac fellu cedŷrn fyddant.
8
18 Can's o'r Arglwŷdd, a'i ddaioni,
y daw i ni amddiffin:
O Sanct Israel drwŷ ei law,
oddiyno daw ein brenin.
19 I'th sanct y rhoist gŷnt wŷbodaeth,
drwŷ weledigaeth nefol:
Gosodais gymorth ar grŷf gun,
derchefais un dewisol.
9
20 Cefais (eneiniais ef yn ôl)
fy ngwâs dewisol Dafŷdd
21 Ag olew sanct: Braich a llaw grêf,
rhoist gydag ef ein llywŷdd.
22 Ni chaiff gelŷn ei orthrymmu,
na'i ddrygu un mâb enwir:
23 O'i flaen y coetha ei elynnion,
a'i hôll gaseion dihir.
10
24 O'm gwirinedd, a'm trugaredd,
rhôf fi ddigonedd iddo,
Ac yn fy enw i yn wîr,
dyrchefir ei gorn yno.
25 Gosodaf ei law ar y môr,
ac o'r goror bwŷgllŷdd:
A gosodaf ei law ddeheu,
hŷd terfynau'r afonŷdd.
11
26 Ef a weddia arnaf fi
iw galedi, gan ddywedŷd,
Ti ŷw fy nhâd, fy Nuw, fy ngharn,
yn gadarn o'm ieuenctŷd.
27 Minneu gwnaf ynteu im yn fâb,
yn gynfab, ac etifedd
Ar frenhinoedd y ddaiar lâs,
yn uwch ei râs, a'i fawredd.
12
28 A chadwaf iddo (yr un wêdd)
drugaredd yn dragwŷddol:
A'm cyfammod iddo yn llawn,
yn ffyddlawn, ac yn nerthôl.
29 Gosodaf hefŷd bŷth iw hâd,
nerth a mawrhâd uwch bydoedd:
A'i orsedd faingc ef i barhau,
un wêdd a dyddiau'r nefoedd.
13
30 Ond os ei blant ef (drwŷ afrôl)
nid ânt yn ôl fy nghyfraith.
Os hwŷ ni rodiant, gan barhau,
i'm barn a'm llwŷbrau perffaith.
31 Os fy neddfau a hologant,
ni chadwant fy hôll eirchion,
32 Yna ymwelaf a'u cam gwrs,
a gwiail scwrs, neu goedffon.
14
33 Ond ni thorraf ag ef un nôd,
o'm hammod, a'm trugaredd:
Ac ni byddaf fi ddim yn ôl,
o'm ystyriol wirionedd.
34 Ni thorraf fy nghyfamod glân,
a ddaeth allan o'm geneu,
Ac ni newidiaf air o'm llŵ,
mi rois hwnnw yn ddieu.
15
35 Yn fy sancteiddrwŷdd tyngais im
na phallwn ddim i Ddafŷdd,
36 Bŷdd ei hâd êf yn ddi draul
o'm blaen fel haul tragywŷdd.
37 Yn dragywŷdd ficcrheir êf,
fel cwrs (îs nêf) planedau
Haul neu leuad, fellu y bŷdd▪
ei gwrs tragywŷdd yntau.
16
38 Di a'n ffieiddiaist ni ar fŷrr,
ac yn ddiystŷr lidiog
Di a gyffroist yn dra blîn,
wrth dy Frenin eneiniog.
39 Diddymaist di dy air i'th wâs,
a'th râs, a'th addewidion:
Ac a'i halogaist ef yn fawr,
gan daflu i lawr ei goron.
17
40 A drylliaist ei fagwŷrŷdd êf,
a'i gaer grêf rhoist yn adwŷ,
41 Yn egored fellu y mae
yn brae i bawb sŷ'n tramwŷ.
42 Iw gymdogion gwarthrudd ŷw êf,
a than law grêf ei elŷn,
A llawen iawn y codent floedd,
bôb rhai a oedd iw erbŷn.
18
43 Troist hefŷd fîn ei gleddeu ef,
a'i law oedd grêf a blygaist:
44 Darfu ei lendid ef, a'i wawr,
a'i drwŷn i'r llawr a fwriaist.
45 Prŷd ei ieuenctŷd heibio'r aeth,
a thi a'i gwnaeth cyn fyrred,
A bwriaist drosto wradwŷdd mawr,
o nen hŷd lawr y torred.
19
46 Pa hŷd fy Nuw y byddi 'nghudd?
ai bŷth, fy llywŷdd nefol:
A lŷsg dy lîd di fel y tân
yn gyfan yn dragwŷddol?
47 O cofia f'eos ei bôd yn ferr,
ai'n ofer gŷnt a gwnaethost
Hôll blant dynnion? O dal dy law,
ac yno ni ddaw yn rhydost.
20
48 Pa ŵr sŷdd a'i oes dan sêl,
na ddêl marwolaeth atto?
Pwŷ all ddiangc, ac ni ddaw
y caib a'r rhaw iw guddio?
49 O mae dy nodded Arglwŷdd gŷnt?
mae helŷnt dy drugaredd?
Mae dy lŵ, o ystyriol ffŷdd,
i Ddafŷdd o'th wirionedd?
21
50 Cofia Arglwŷdd, yn wradwŷdd llŷm
lle'r y dŷm ni, dy weision:
Yr hwn a dawdd i'm mynwes i,
gan ffrôst y Cawri mawrion.
51 Yr hwn warth 'r oedd d'elynnion di
i't yn ei rhoddi'n llidiog,
(Fy Arglwŷdd Dduw) a'r un fyr-hâd
i droeidlad dy eneiniog.
22
52 Moler yr Arglwŷdd bŷth, Amen,
a bŷth Amen, hŷn fytho.
Moler yr Arglwŷdd bŷth, Amen,
a bŷth Amen, hŷn fytho.
PSALM. 90.
1
DUw buost i'n yn Arglwŷdd dâ,
ac yn breswŷlfa i drigo,
O brŷd i brŷd, fellu yr aeth
pôb rhŷw genhedlaeth heibio.
2 Er cŷn rhoi sail y mynŷdd mawr,
cŷn llunio llawr cwmpas-fŷd,
Duw o dragwŷddol ŵŷd, cŷn nêb,
hŷd dragwŷddoldeb hefŷd.
2
3 Weithiau i ddinistr y troi ni,
troi ditheu wedi'n rhyddha;
A dwedi cŷn ein mŷnd i'r llŵch,
dychwelwch feibion Adda.
4 Can's dêg can mlynedd fel doe ŷnt,
Pan elo eu helŷnt heibio,
O'th flaen di, megis gwŷlfa nôs,
ni chaiff ymddangos etto.
3
5 Nid ŷw dŷn ond fel hun, neu ail
i ddail, neu i llfeiriant.
Neu megis glâs lysieun gwan,
mor fŷan a newidiant.
6 Yr hwn y boreu gwŷrddlâs fŷdd,
a gwawr o newŷdd arno:
Ond pan a torrer ef brŷdnawn,
yn fŷan iawn mae'n gwŷwo.
4
7 Can's yn dy lîd difethwŷd ni
gan ofni dy ddigofaint
8 Rhoist di ein beiau gar dy fron,
a'n hôll ddirgelion dryghaint:
9 Can's drwŷ dy ddîg mae'n dyddiau ni
a'n tegwch wedi darfod,
A'n hôll flynyddoedd ŷnt ar ben,
fel gorphen chwedl gorfod.
5
10 Ein hôll flynyddoedd ŷw saith ddêg,
dau bump 'chwaneg os bŷdd grŷm:
Yna ein nerth ae'n boen blin iawn,
i ffordd yr awn yn gyflŷm.
11 Ond pwŷ a edwŷn nerth dy lîd?
mawr ofud sŷdd o'th sorri:
Sef fel y mae dy ofn di'n fawr,
dy ddîg sŷdd ddirfawr i ni.
6
12 Dŷsg i ni rifo'n dyddiau gwael,
i'n calon gael doetheneb,
13 Duw pa hŷd? a dôd yn hawdd
i'th weision nawdd ac undeb.
14 Yn foreu iawn diwalla ni
a'th fawr ddaioni eisoes,
Fel y caffom ni lawen fŷd
yn hyfrŷd dros ein heinioes.
7
15 Gwna ni yn llawen, buom brudd
pan oedd yn gystudd dybrŷd:
A chwedi llawer blwŷddŷn drom,
y rhai a gawsom adfŷd.
16 O Dduw, gwna weled dy fawr waith,
a'th wrthiau maith i'th weision,
A'th odidawgrwŷdd, a'th ffyniant,
ymŷsg eu plant a'u hwŷrion.
8
17 Arnom doed rhâd Duw, a'i nerth,
ei allu prydferth weithio,
Duw dôd ein gwaith ni mewn trefn ddâ
Duw trefna waith ein dwŷlo.
PSALM. 91.
1
Y Sawl a drigo doed yn nês,
yn lloches y Goruchaf,
Ef a ymerŷs i gael bôd
ynghysgod hwn sŷdd bennaf.
2 Fy hôll ymddiffŷn ŵŷd a'm llwŷdd,
wrth fy Arglwŷddd a dywedaf,
A'm hôll ymddiried tra fwi fŷw
sŷdd yn fy Nuw Goruchaf.
2
3 Can's ef a werŷd yr oes dau,
oddiwrth faglau yr heliwr,
A hefŷd oddiwrth blâ, a haint,
echrysaint, ac anghyflwr,
4 Ei esgŷll drosot êf a rŷdd,
dan ei adenŷdd byddi
Yn ddiogel: a'i wiredd grêd
fŷdd gŷlch a bwccled i ti.
3
5 Ni ddychryni er twrf y nôs,
na'r dŷdd o achos hed-saeth,
6 Er haint, neu blâ, mewn tywŷll sŷdd,
neu hanner dŷdd marwolaeth.
7 Wrth dy ystlŷs a cwŷmpa mîl,
a dengmil o'th law ddeheu:
Ac ni ddaw drŵg yn dy gyfŷl,
a thi a'i gwêl yn ddieu.
4
8 A'th lygaid gweli, di y dâl
i'r enwir gwammal anian.
9 Sef fy hôll obaith ŵŷd (O Dduw)
ac uchel ŷw dy drigfan.
10 Ni ddigwŷdd niwed i't, ond dâ,
na phlâ, na dim echryslon,
I'th Eglwŷs, a'th gynlleidsa nawdd,
11 A archawdd iw Angyllon,
5
I'th ffŷrdd dy gadw, a'th gynllwŷn,
a'th ddwŷn a'i dwŷlaw hardd dêg
12 Rhag digwŷdd it ddrŵg (hŷd yn oed)
taro dy droed wrth garreg.
13 Dy sangfa fŷdd ar y llew dîg,
a'r asp wenwŷnig sethri:
Ar greulon geneu'r llew o'r graig,
ac ar y ddraig y sengi
6
14 Mi a'i gwaredaf ef rhag brâd,
am roi ei gariad arnaf,
Am adnabod fy enw mau,
yn ddieu y derchafaf.
15 Geilw arnaf, mi a'i gwrandawaf,
mewn ing y byddaf barod,
Gwaredaf hefŷd rhag ei gâs,
a chaiff drwŷ urddas fawrglod.
7
16 Fe gaiff fŷw yn ddigon i hŷd,
caiff yn y Bŷd hîr ddyddiau.
Dangosaf iddo radlawn faeth,
a'm iechŷdwriaeth innau.
PSALM. 92.
1
MOliannu 'r Arglwŷdd dâ iawn ŷw,
a chyfarch Duw yn bennaf:
A chanu bŷth i'th enw fawl,
a'th ganmawl (y Goruchaf)
2 Y boreu am dy drugaredd,
am dy wirionedd sôn y nôs,
3 Ar ddectant, Nabŷl, a thelŷn,
myfyrio hŷn, a'i ddangos.
2
4 Sef drwŷ dy weithred llawen wŷf,
nynu rwŷf yn fy Nuw Nâf,
Yngwaith dy ddwŷlaw fy Nuw Iôr,
beunŷdd a gorfoleddaf.
5 Dy weithredoedd ond mawrion ŷnt?
6 Dy helŷnt nis gŵŷr angall:
Dy feddyliau o ddyfn iawn frŷd,
hŷn nis geill ynfŷd ddeall.
3
7 Pan flodeuo yr enwir ddŷn,
megis llysieuŷn iraidd,
Pan fo drŵg-weilch yn grêf eu plaid,
Duw yno rhaid eu diwraidd,
Y drŵg flagur uchel yr ânt,
a hwŷ a syrthiant beunŷdd:
8 Titheu yr Arglwŷdd yn ddi gêl,
wŷt uchel yn dragywŷdd.
4
9 O Arglwŷdd wele dy elynnion,
dy gaseion difethir;
A hôll weithredwŷr trais a cham,
yn ddinam a wasgerir.
10 Tydi a dderchefi fy nghorn,
fel yr unicorn perffaith,
Hefŷd a gwerthfawr olew îr,
i'm tanellir ellwaith.
5
11 Fy llygaid a welant hŷn hefŷd,
fy ngwŷnfŷd o'm gelynnion,
A'm clustiau a glywant ar frŷs
f'ewŷllŷs am ddrŵg ddynnion.
12 Y cyfion a flodeua i'r nen,
fel y balmwŷdden union,
Cynnyddu yn iraidd iawn y bŷdd,
fel cedrwŷdd Libanon.
6
13 Y rhai a blanwŷd yn nhŷ Dduw,
yn goed-wŷdd bŷw y tyfant,
Ac ynghynteddau ein Duw ni
y rheini a flodeuant.
14 A dwŷn eu ffrwŷth a wnant o faint,
yn amser henaint etto,
Tirion, iraidd, a phrofadwŷ
a fyddant hwŷ yn hilio.
7
15 I ddangos nad traws, ac nad cam
ŷw f' Arglwŷdd a'm cadernŷd,
Ac nad oes yntho na chamwedd,
na dim anwiredd ynfŷd.
PSALM. 94
1
O Arglwŷdd Dduw, Duw mawr ei rŷm,
dialwr llŷm pôb traha.
O Dduw y nerth, ti bia'r tâl,
ar dial, ymddiscleiria.
2 Ymddercha di farnwr y Bŷd,
a thâl igŷd eu gobrwŷ,
I'r beilchion, a'r trahaus rho
y tâl a fo ddyladwŷ.
2
3 Pa hŷd? (O Arglwŷdd) o pa hŷd,
a chwardd gwŷr bud drygionus?
Yr ymfalchiant yn eu drŵg
gan fygwth amlwg ffrostus?
5 A'th bobl di Arglwŷdd a faeddant,
a chystuddiant dy dreftâd,
6 Y weddw, a'r dieithr a laddant,
llofrŷddiant yr amddifad.
3
7 Dwedasant hŷn heb geisio cêl,
ein gwaith ni wêl yr Arglwŷdd:
Ac ni ddeall Duw Iago hŷn,
i ni ddisgŷn aflwŷdd.
8 Ymwasg y bobloedd difraw dôn,
ystyriwch ddynnion angall,
Chwithau ynfydion, O pa brŷd
y rhowch eich brŷd ar ddeall?
4
9 Hwn a wnaeth glust i bôb bŷw,
oni chlŷw ef yn amlwg?
Ac oni wêl hwnnw yn hawdd
a luniawdd i ni olwg?
10 Oni cherydda hwnnw chwi
sŷ'n cosbi pôb cenhedlaeth?
Ac oni ddeall hwnnw sŷ'n
dysgu i ddŷn wŷbodaeth?
5
11 Gŵŷr yr Arglwŷdd feddwl dŷn
mai gwagedd ydŷn diffaith,
12 Duw, dedwŷdd ŷw a gosbech di,
a'i 'fforddi yn dy gyfraith:
13 Yr hon a ddŷsg i ddŷn warhau,
i fwrw dyddiau dihir,
Tra boer yn darparu'r clawdd,
y fann y bawdd yr enwir.
6
14 Can's ein Iôr ei bobl ni âd,
a'i wir dretâd ni wrthŷd,
15 Ef at iawn farn a gadarnhâ,
a phôb dŷn dâ a'i dilŷd.
16 Pwŷ a gyfŷd gyda myfi,
yn erbŷn egni trawsedd?
Pa rai a safant ar fy nhû
yn erbŷn llu anwiredd?
7
17 Oni bai fôd Duw i mi yn borth,
ac ystŷn cymorth i mi,
Braidd na ddaethai i mi y loes
a roesai f'oes i dewi.
18 Pan fawn yn cwŷno dan drymhau,
rhag bôd i'm camrau lithro.
Fy Arglwŷdd, o'th drugaredd brud,
di a'm cynhelud yno.
8
19 Pan fo ynof' amlaf yn gwau,
bôb rhŷw feddyliau trymmion,
Dae dy ddiddanwch di ar dro,
i gysuro fy nghalon.
20 A oes gyfeillach i ti Dduw,
a maint ŷw'r annuwolion?
Hwn a lunia enwiredd maith
yn lle y gyfraith union.
9
21 Y rhai sŷ'n ymdyrru ynghŷd,
ar frŷd dwŷn oes y cyfion:
Ac yn eu cyngor yr ymwnaed
i geisio gwaed y gwirion.
22 Yr unig Iôr sŷdd er hŷn,
yn llwŷr amddiffŷn f'enaid:
Ef ŷw fy nerth o'm hôl a'm blaen,
a sylfaen fy ymddiried.
10
23 Efe a dâl i bôb dŷn drŵg,
yn amlwg am ei gamwedd:
Y maleisus tŷn Duw o'r Bŷd,
am ei chwŷd o enwiredd.
PSALM. 95.
1
O Dowch a chanwn i'r Arglwŷdd,
ef ŷw llywŷdd ein bywŷd:
Ymlawenhawn yn ei nerth,
ef ŷw ein prydferth iechŷd.
2 O dowch yn un-frŷd gar ei fron,
a chalon bûr ddiolchgar:
Bryssiwn at Dduw dan lawenhau
a chanwn psalmau'n llafar.
2
3 Herwŷdd yr Arglwŷdd, nêf a llawr,
y sŷ Dduw mawr yn ddieu:
Tywŷsog mawr ŷw ef mewn trin,
a brenin yr hôll dduwiau.
4 Efe bia'r hôll ddaiar gron,
a'r dyfnder eigion danaw:
Uchelder hefŷd, eithafoedd,
mynyddoedd sŷdd yn eiddaw.
3
5 Ef bia'r moroedd uwch pôb traeth,
ac ef a'u gwnaeth i ruo:
Ei ddwŷlaw ffurfiasant yn wir
y sych-dîr, ac sŷdd arno.
6 O dowch, addolwn, cŷd-ymgrymmwn,
ac ymostyngwn iddaw:
Ef ŷw ein Harglwŷdd, un-ben rhi,
ef a'n gwnaeth ni a'i ddwŷlaw.
4
7 Canŷs ef i ni sŷdd Dduw dâ,
a phobl ei borfa ydŷm:
A'i ddefaid ŷm, os chwi a glŷw
ei air ef heddiw'n gyflŷm.
8 Meddyliwch fôd eich bai ar lêd,
na fyddwch galed galon:
Fel yn nŷdd prawf mewn anial dîr,
lle 'cofir bôd ymryson.
5
9 Y lle temtiodd eich tadau fi,
a'm profi i'm adnabod:
Faint ydoedd y gweithredoedd mau,
yn ddieu cawsant wŷbod.
10 Dros ddeugain mlynedd a'r llîn hon
drwŷ fawr ymryson, dywedais,
Pobl ŷnt cyfeiliornus iawn,
a'u calon yn llawn malais.
6
Canŷs nid adwaenent fy ffŷrdd mau,
ond amlhâu eu tuchan:
11 Wrthŷnt i'm llîd y tyngais hŷn,
na ddelŷn i'm gorphwŷsfan.
PSALM. 96.
1
O Cenwch bŷth i'r Arglwŷdd mâd,
a molwch ganiad newŷdd:
Yr hôll ddaiar datcenwch fawl,
yr Arglwŷdd nefawl beunŷdd.
2 Cenwch chwi glôd i'r Arglwŷdd nêf,
a'i enw ef bendithiwch,
A'i iechŷdwriaeth drwŷ grefŷdd,
o ddŷdd i ddŷdd cyhoeddwch.
2
3 Datcenwch bŷth ei glôd, a'i râd,
yngwlad y cenhedlaethoedd,
A'i ryfeddodau ef ym mhlith,
pôb amrŷw, amrith bobloedd.
4 Canŷs ein Harglwŷdd sŷdd Dduw mawr,
a rhagawr ganmoladwŷ,
Uwch yr hôll dduwiau y mae ef,
yn Frenin nêf ofnadwŷ.
3
5 Duwiau y bobl eulynnod ŷnt,
ni ellŷnt mwŷ na chysgod:
Ein Duw ni 'wnaeth nêf a llawr,
fel dyna ragawr hynod.
6 Canŷs mawr ŷw gogoniant nêf,
ac o'i flaen ef mae harddwch,
Yn ei gysegr ef mae nerth,
a phrydferth ŷw'r hyfrydwch.
4
7 Chwi dylwŷ thau y bobloedd, trowch,
yn llawen rhowch i'r Arglwŷdd,
I'r Arglwŷdd rhowch ogonedd hŷ,
a nerth, a hynnŷ'n ebrwŷdd.
8 Rhowch ogoniant iw enw ef,
yr Arglwŷdd nêf bŷth bythoedd,
A bwŷd offrwm iddo a rowch
a chwi ddowch iw gynteddoedd.
5
9 Addolwch F' Arglwŷdd gar ei fron
iw gyssegr, ddigon gweddol:
A'r ddaiar rhagddo, hŷd, a llêd,
dychrynned yn aruthrol.
10 I'r hôll genhedloedd dwedwch hŷn
yr Arglwŷdd sŷ'n teŷrnasu:
Nid ysgog y Bŷd sŷ'n siccr iawn,
ef a ŵŷr uniawn farnu.
6
11 O llawenhaed nefolaidd dô,
i'r ddaiar bô gorfoledd:
Rhued y môr a'i donnau llawn,
a'r pŷsg sŷ ofewn ei annedd.
12 A gorfoledded y maes glâs,
ei dŵf, a'i addas ffynniant:
A phôb pren gwŷrdd sŷdd yn y coed,
i'r Arglwŷdd rhoed ogoniant.
7
13 Am ei ddyfod, wrth ei ammod
a'i farn sŷdd hynod iawnwedd:
Barna yn gyfion yr hôll Fŷd,
a'r bobl a'i gŷd-wirionedd.
PSALM. 97.
1
YR Arglwŷdd ydŷw ein pen-rhaith,
bô perffaith y ddaiaren:
Ynysoedd cedŷrn yr hôll Fŷd,
bônt hwŷ igŷd yn llawen.
2 Niwl a thywŷllwch sŷ o'i gŷlch ef,
hyfrydwch nêf gyfannedd:
Iawnder a barn ydŷnt yn sail,
ac adail maingc ei orsedd.
2
3 Tân eiff o'i flaen ef, ac a lŷsg
ym mŷsg ei hôll elynnion:
4 A'i fellt yn fflamio trwŷ'r hôll Fŷd,
oedd olwg enbŷd ddigon.
5 Oflaen Duw, fel a tawdd y cŵŷr,
y bryniau'n llwŷr a doddent:
Oflaen hwn (yr Arglwŷdd) ar
y ddaiar a ddiflannent.
3
6 Yr hôll nefoedd yn hysbŷs
a ddengŷs ei gyfiawnedd,
A'r hôll genhedloedd a welsant,
ei fawr ogoniant rhyfedd.
7 Gwradwŷdd i'r rhai a wasnaethan
y delwau mân cerfiedig:
Addolwch êf (nid eulun gau)
hôll dduwiau darfodedig.
4
Dy farnedigaeth (O Duw Iôn)
a glybu Seion ddedwŷdd:
Merched Juda (o herwŷdd hŷn)
sŷ'n ynnŷn o lawenŷdd.
Canŷs ti (O Arglwŷdd) ŷw fy Nâf,
goruchaf dros y ddaiar:
Rhagorol ŷw'r derchafiad tau
uwchlaw'r holl dduwiau twŷllgar.
5
10 Pôb drygioni chwi a gasewch,
caru a wnewch yr Arglwŷdd,
Hwn sŷdd yn cadw oes ei Sainct,
iw dwŷn o ddrygfraint aflwŷdd.
11 Mewn daiar yr egina eu hâd,
goleuad daw i'r cyfion,
Yn ôl tristwch fe dru y rhôd,
i lân gydwŷbod union.
6
12 Yn yr Arglwŷdd, o'r achos hon,
chwi gyfion llawenychwch,
Drwŷ goffa ei sancteiddrwŷdd êf,
a llais hŷd nêf moliennwch.
PSALM. 98.
1
CEnwch i'r Arglwŷdd newŷdd gân,
ei waith sŷ lân ryfeddod:
Ei law ddeheu, a'i fraich a wnaeth,
i'n iechŷdwriaeth parod.
2 Yr Arglwŷdd, hysbŷs i'n a gwnaeth
ei iechŷdwriaeth cyhoedd,
A'i gyfiawnder yn dra hawdd
datcuddiawdd i'r cenhedloedd.
2
3 Fe gofiodd ei drugaredd hîr,
a'i wîr i dŷ yr Israel,
Fel a gwelodd terfynau'r Bŷd
ei iechŷd yn ddiymgel.
4 I'r Arglwŷdd a chaniad llafar,
chwi yr hôll ddaiar cenwch.
A llafar laîs, ac eglur lêf,
frŷ hŷd y nêf a lleisiwch.
3
5 Cenwch i'r Arglwŷdd Dduw fel hŷn
a'r delŷn, a chywirdant:
A chyda'r delŷn lais a thôn,
rhowch iddo gyfion foliant.
6 Canu yn llafar, ac yn rhwŷdd,
oflaen yr Arglwŷdd frenin:
Ar yr udcŷrn, a'r chwŷth-gŷrn prês,
fel dyna gyffes ddibrin.
4
7 A rhued y môr mawr igŷd,
a'r Bŷd, ac ôll sŷdd ynthŷnt,
8 Y llif-ddyfroedd, a'r mynŷdd glâs,
i mae yn addas iddŷnt.
9 Curant, canant, oflaen Duw cu,
yr hwn sŷ'n barnu'r Bydoedd.
I'r Bŷd a rhŷdd ei farn yn iawn,
ac yn uniawn i'r bobloedd.
PSALM. 99.
1
YR Arglwŷdd Dduw ŷw ein Brenin,
am hynnŷ crŷn y bobloedd:
Mae'n eistedd rhwng dau gerubŷm,
fe grŷn bôb daiar-leoedd.
2 Canŷs Brenin mawr ŷw'r Iôn,
yn Seion ei dderchafel:
Ac uwchlaw pobloedd yr hôll Fŷd,
a'r sŷdd o rydid uchel.
2
3 Cŷdfoliannant o'r nêf i'r llawr,
dy enw mawr sancteiddiol:
Ofnadwŷ hefŷd ŷw dy drîn,
4 Ditheu (O Frenin nerthol)
A geri farn, darperi iawn:
yn gyfiawn heb draws-osgo,
A barnedigaeth bûr ddidôst,
a wnaethost di yn Iago.
3
5 Derchefwch yr Arglwŷdd, ein Duw,
sef sanctaidd ŷw ei fawredd:
Ymgrymwch oflaen ei stôl draed,
fellu parhaed ei rinwedd.
6 Moses, ac Aaron sanctaidd blaid,
ymhlith offeirlaid gyrrodd:
Samuel a alwai ei enw êf,
ynteu o'r nêf attebodd.
4
7 Mewn colofn o niwl a bu wiw,
gan Dduw lefaru wrthŷnt,
Tra suant hwŷ yn rhyngu ei fôdd
a'r ddeddf a roddodd iddŷnt.
8 Gwrandewaist arnŷnt, dodaist gêd,
a'u harbed, gan ymattal:
Duw Nâf, dy nawdd parod fu,
a hwŷthau'n haeddu dial.
5
9 Derchefwch chwi ein Iôr am hŷn,
yn Seion frŷn cyssegraidd,
Ymgrymwch iddo tra fo'ch bŷw,
yr unig Dduw sŷdd sanctaidd.
PSALM. 102
1
O Arglwŷdd, erglŷw fy ngweddi,
a daed fy nghri hŷd attad:
2 Na chudd d'wŷneb, mewn ing tra fwŷf,
clŷw, clŷw, pan alwŷf arnad.
3 Fy nyddiau aethant fel y mŵg,
sef cynddrwg im cystuddiwŷd:
Fy esgŷrn poethant o achos hŷn,
fel 'tewŷn ar yr aelwŷd.
2
4 Fy nghalon tarawŷd a chrŷn iâs,
ac fel y gwellt-glas gwŷwodd:
Fel yr anghofiais fwŷdta mwŷd,
dirmygwŷd fi yn ormodd.
5 Glynodd fy esgŷrn wrth fy nghroen,
gan faint fy mhoen, a'm tuchan:
6 Fel un o'r anialwch, lle trig
y pellg, a'r dylluan.
3
7 Neu fel un o adar y tô,
a fai yn gwilio ei fywŷd.
Yn rhodio'n unig ar ben y tŷ:
Rŵŷf an-hŷ, ac anhyfrŷd.
8 Fy ngelynnion a thafod rhŷdd,
hwŷ beunŷdd a'm difenwant:
A than ynfydu yn eu gŵŷn,
i'm herbŷn a tyngasant.
4
9 Fel llŵch a lludw yn fy mhlâ,
a fu'r bara a fwŷdteis.
Yr un wêdd yn y ddiod mau
fy nagrau a gymysgais.
10 A hŷn fu o'th ddigofaint di,
am i't fy nghodi unwaith:
O herwŷdd bôd dy ddig yn fawr,
i'r llawr i'm teflaist eilwaith.
5
11 Fy nyddiau troesant ar y rhôd,
ac fel y cysgod ciliant;
A minneu a wŷwais o achos hŷn,
fel y glaswelltŷn methiant.
12 Ond tydi Dduŵ, fy Arglwŷdd dâ,
a barha yn dragwŷddol,
O oes i oes dy enw a aeth
mewn coffadwriaeth grasol.
6
13 O cyfŷd bellach, trugarhâ,
O Dduw bŷdd ddâ wrth Seion:
Mae'n fadws wrthi drugarhau,
fel dymm [...]'r moddau'n union:
14 Canŷs hôff gan dy weision di,
ei meini, a'i magwŷrau,
Maent yn tosturio wrth ei llŵch,
a'i thristwch, a'i thrallodau.
7
15 Yno yr hôll genhedloedd bŷw
yr Arglwŷdd Dduw a ofnant,
A'r hôll Frenhin [...]edd trwŷ'r hôll Fŷd,
a rônt i't gŷd ogoniant.
16 Pan adeiledir Seion wŷch,
a hon yn dd [...]ŷch i'r gwledŷdd;
Pan weler gwaith yr Arglwŷdd nêf,
y molir e'n dragywŷdd
8
17 Edrychodd hwn ar weddi'r gwael,
rhoes iddŷnt gael eu harchau:
18 Scrifennir hŷn, a'r oes yn ôl
a gaiff ei ganmol ynteu.
19 Canŷs Duw edrychodd o'r nêf frŷ,
ar ei gyss [...]g [...]-dŷ, Seion:
20 Clybu ei gruddfan, iw rhyddhau
plant angeu, ei garchorion.
9
21 Fel y cŷdleisient hwŷ ar gân
yn Seion lân, ei foliant;
Ac ynghaer Salem yr un wêdd,
ei fawredd, a'i ogoniant.
22 Hŷn fŷdd pan gasglo pawb ynghŷd;
yn unfrŷd iw foliannu:
A'r hôll deŷrnasoedd dônt yngŵŷdd
yr Arglwŷdd, iw wasnaethu.
10
23 Duw ar y ffordd lleihadd fy nerth,
byrrhâdd fy mrhydferth ddyddiau,
A mi'n disgwŷl rhyddhâd ar gais,
24 Yno a dywedais inneu,
O Dduw na thorr fy oes yn frau,
ynghanol dyddiau f'oedran:
Dy flynyddoedd sŷdd erioed,
o oed i oed a byddan.
11
25 Di yn y dechreu, dodaist sail,
oddisod adail daiar:
A chwmpas wŷbren uwch ein llaw,
ŷw gwaith dy ddwŷlaw hawddgar.
26 Darfyddant hwŷ, parhei di bŷth,
treiliant fel llŷth trwsiadau.
27 Troi hwŷnt fel gwisg, llygru a wnânt
fel u newidiant hwŷthau.
12
Titheu Arglwŷdd, yr un wŷt ti,
a'th flwŷddau ni ddarfyddant.
28 Hôll blant dy weision gar dy fron,
a'u hŵŷrion a breswŷliant.
PSALM. 103.
1
FY Enaid mawl Sanct Duw, yr Iôn,
a chwbl o'm eigion ynof.
2 Fy enaid na âd fawl Arglwŷdd nêf,
na'i ddoniau êf yn angof.
3 Yr hwn sŷ'n maddeu dy hôll ddrŵg,
yr hwn a'th ddŵg o'th lesgedd;
4 Yr hwn a werŷd dy oes yn llon,
cei goron o'i drugaredd
2
5 Hwn a ddiwalla dy eneu d [...]
â'i lawn ddaioni pybŷr:
Drwŷ adnewŷddu i't dy nerth,
mor bry dferth a'r hên Erŷr.
Yr Iôn cyfiawnder, barn a wnai
i'r rhai sŷdd orthrymedig.
7 Dangos a wnaeth ef brif ffŷrdd hên,
i Foesen yn nodedig.
3
Ac i Israel ei hôll ddawn,
8 Duw llawn ŷw o drugaredd:
Hwŷr ŷw ei lîd, parod ei râd,
fel dyna gariad rhyfedd.
9 Nid ymryson ef a ni bŷth,
nid beunŷdd a chwŷth ddigofaint.
10 Nid yn ôl ein drygau a gwnai
a ni: ni'n cosbai cymmaint.
4
11 Cŷhŷd ag ŷw'r ffurfafen fawr
oddiar y llawr o uchder,
Cymmaint i'r rhai a'i hofnant êf,
fŷdd nawdd Duw nêf bôb amser.
12 Os pell ŷ w'r dwŷrain oleu hîn
oddiwrth orllewin fachlud;
Cŷn belled ein hôll bechod llŷm,
oddiwrthŷm ef a'u symmud.
5
13 Ac fel a bŷdd nawdd, serch, a chwant,
Tâd dâ iw blant naturiol,
Fellu cawn serch ein Tâd o'r nêf,
os ofnwn ef yn dduwiol.
14 Efe a'n hedwŷn ni yn llwŷr,
fe ŵŷr mai llŵch ŷw'n deunŷdd:
15 Oes dŷn fel gwellt-glâs sŷ'n teghan
neu ddail, neu flodau maesŷdd.
6
16 Yr hwn, cŷn gynted ac y dêl
y gwŷnt a'i awel drosodd,
A chwŷthir ymmaith fellu o'i lê,
na wŷddis ple a tyfodd.
17 Ond graslawn drugaredd a fŷdd,
yn lân dragywŷdd feddiant,
O oes i oes heb drangc, heb drai,
gan Duw i'r rhai a'i hofnant.
7
18 A'i gyfiawnder i blant y plant
a gadwant ei gyfammod:
O chofiant ei orchmynion ef,
mae Teŷnas nêf yn barod.
19 Yno mae ei orseddfa êf,
sef yn y nêf dragwŷddol:
A llyfodraeathu mae ef bôb peth,
drwŷ ei Frenhiniaeth nefol.
8
20 Bendithiwch chwi yr Arglwŷdd Iôn,
angylion, a'i hôll gedŷrn:
Ei lân orchymmŷn ef a wnewch,
a'i lais gwrandewch yn drachwŷrn.
21 Bendithiwch chwi yr Arglwŷdd nêr,
ei luoedd tyner tirion.
Ei wŷllŷs gwnewch, canlynwch wîr,
chwychwi ei gywir weision.
9
22 Bendithiwch chwi yr Arglwŷdd nêf,
ei hôll waith ef sŷ hylwŷdd:
Ymmhôb man ôll o'i drefn a'i hawl,
O f'enaid mawl di'r Arglwŷdd.
PSALM. 104.
1
FY enaid mola'r Arglwŷdd bŷw;
O f' Arglwŷdd Dduw y mawredd
Mawr wŷt, gogoniant a gai di,
ymwisgi ag anrhydedd
2 Megis ei ddillad a gwisg fo
amdano y goleuad:
Rhŷdd yn ei gŷlch yr wŷbr ar dân,
yn llydan, fel llen wastad
2
3 Ar ddwfr rhoes sail ei stafellau,
gwnaeth y cymylau iddo
Yn gerbŷd olwŷnog: mae ar ei hŷnt
uwch esgŷll gwŷnt yn rhodio.
4 Gwnaeth bôb chwthiad iddo'n hêdd,
gogonedd y ffurfafen;
A'i weinidogion yn fflam dân,
a wibian rhŷd yr wŷbren.
3
5 Crêf a rhoes sail y ddaiar gron,
fel na syfl hon oddiyno:
Yr hon a berŷ fel a rhoes,
o oes I oes heb gilio:
6 Tydi (Dduw) dilledaist hon
a'r eigion yn fantellau;
Ac oni bae dy ddeheu law,
ae'r dwfr uwchlaw y brynniau.
4
7 Gan dy gerŷdd maent hwŷ yn ffo,
fel pan synnio taran:
Drwŷ fraw a brŷs rhŷd y ddôl,
y dwfroedd yn ôl a lithran.
8 Weithiau a codai'r dwfr yn frŷn:
weithiau fel glŷn panylent,
Lle trefnaist iddŷnt bannwl cau.
ac weithiau a gorphwŷsent.
5
9 Gosodaist derfŷn lle'r arhônt,
ac fel nad elont drosto:
Ac na ddelont mŷw dros lawr
y ddaiar fawr, iw chuddio,
10 Rhoes Duw ffynnon i bôb nant,
a phawb a yfant beunŷdd:
A rhêd y ffrydau rhŷd y glŷnn,
rhwng pôb brŷn a'u gilŷdd.
6
11 Yfiff yno anifeiliaid maes,
assynnod myng-laes gwŷlltion,
Heb ymadel a llawr y nant,
hŷd onid yfant ddigon.
12 Ac adar awŷr dônt garllaw,
i leisiaw rhwng y coedŷdd:
Yn canu ei fawl o bren i bren,
cŷd byngciau llawen ufŷdd.
7
13 Dwfr ar fynyddoedd lle ni ddaw,
fe wlŷch a glaw oddiarno:
A'r gwastad dîr efe a'i gwlŷch,
bôb grwn a rhŷch i ffrwŷtho.
14 Parodd i'r gwellt dyfu wrth raid
anifeiliaid: a'r llysiau,
Er dâ i ddŷn: Lle rhoes o'r llawr,
ymborthiant mawr rhag angeu.
8
15 A gwŷn llawena calon dŷn,
ag olew tywŷn wŷneb.
A bara nerthir calon gŵr,
mewn cyflwr digonoldeb.
16 Prenniau'r Arglwŷdd o ffrwŷth llawn,
o'i unig ddawn a tyfon.
Y coed cedrwŷdd brigog mawr,
a roes e'n llawr Libanon.
9
17 Lle mae nythod yr adar mân,
mewn prenniau glân cadeiriog:
Lle mewn ffynnidwŷdd glwŷswŷdd glŷn
mae tŷ'r aderŷn bywiog.
18 Y mynŷdd uchel a'r brŷn glâs,
ŷw llwŷbr danas fychod:
Ogof yr hŷll-graig a wna lês,
yn lloches i'r cwningod,
10
19 Fe roes i'r lleuad i chwrs clau,
a'i chyfnewidiau hefŷd:
A'r haul o amgŷlch y Bŷd crwn,
o godiad hwn iw fachlŷd.
20 Tywŷllwch nôs a roed wrth raid
i fwŷstfiliaid y coedŷdd.
21 Y llewod rhuant am ymborth,
gan Dduw o gymorth beunŷdd.
11
22 A chwedi cael yr ymborth hŷn,
pan ddêl haul attŷn unwaith,
Ymgasglant hwŷ i fŷnd iw ffau,
ac iw llochesau eilwaith.
23 Y prŷd hwn cyfŷd dŷn iw waith,
ac iw orchwŷliaeth diwŷd;
Ac fellu yr erŷs tan yr hwŷr
lle a caiff yn llwŷr ei fywŷd.
12
24 O Dduw, mor rhyfedd ŷw dy waith
o'th synwŷr perffaith tra-doeth!
Gwnaethost bôb peth, a doethder dawn,
a'r tîr sŷ lawn o'th gyfoeth.
25 I'r llydan fôr, y dwfr a'm lŷsg,
lle mae'r pŷsg yn llammu▪
Lle a neidiant, yn ddifeth,
o bôb maintioleth fellu.
13
26 Yno yr â y llongau glân
dros Lefiathan heibio.
Yr hwn 'osodaist di, lle mae
yn cael ei chwarae yntho.
27 Hwŷnt disgwŷliant, yn ei brŷd
gael oddiwrthŷd borthiant:
I dderbŷn dy rôdd, ymgasglu ynghŷd,
am eu bywŷd byddant.
14
28 Duw, pan agorech di dy law,
oddiyno daw daloni:
Pôb anifail, a phôb rhŷw beth,
a ddaw yn ddi-feth i ni.
29 Pan guddiech di dy wŷneb-prŷd,
a thynnu d'ysprŷd allan,
Crynant, trengant, ac ânt iw llŵch,
mewn diwedd trŵch, a-thrwstan.
15
30 Duw, pan ollyngech di dy [...]âd,
fel rhôddi cread newŷdd,
Y môdd hwn wŷneb yr hôll dîr
a adnewŷddir beunŷdd.
31 Ir Arglwŷdd gogoneddus fŷdd
drwŷ [...]wr lawenŷdd bythoedd.
Yr Arglwŷdd yn ddiammeu a fêdd,
orfoledd yn y nefoedd.
16
32 Ein Duw o'r nêf a edrŷch ar
y ddaiar, a hi a ddychrŷn,
Os cyffwrdd a'r mynyddoedd draw,
y mŵg a ddaw o honŷn.
33 Canaf i'r Arglwŷdd tra fwŷ bŷw,
canaf i'm Duw tra fythwŷf:
34 Mi lawenhaf yn fy Iôn,
bŷdd ffyddlon hŷn a wnelwŷf.
17
35 Y trawsion ôll, o'r tîr ânt hwŷ,
ni bŷdd mwŷ'r annuwiolion:
Fy enaid, mola Dduw yn rhôdd
mae hŷn wrth fôdd fy nghalon.
PSALM. 105.
1
CLodfored Pawb yr Arglwŷdd nêf,
ar ei enw ef a gelwch,
A'i weithredoedd ymŷsg pobloedd,
yn gyhoedd a fynegwch
2 Cenwch ei gerdd, clodforwch hwn,
a'i ddidwn ryfeddodau.
3 Y rhai a gais el enw, (y Sanct)
llawenant eu calonnau.
2
4 Ceisiwch yr Arglwŷdd, a'i nerth mawr,
a'i fôdd bôb awr yn rhadlon,
5 Cofiwch ei hôll ryfeddodau,
a barn ei eneu cyfion.
6 O hâd Abraham ei wâs fô,
o feibion Iago yr ethol:
7 Ef ŷw'n Duw, a'i farn ef aeth
dros hôll hiliogaeth fydol.
3
8 Bôb amser cofiodd ei gyngrair,
ei air, a'i rwŷm ammodau
9 Ag Abraham, Isaac a'u hîl,
a mîl o genedlaethau.
10 Fe roes i Iago hŷn yn ddeddf,
ac yn-rhwŷm greddf dragwŷddol.
11 Ac i Israel y rhoes lân
wlâd Canaan yn gartrefol.
4
12 Pan oedd anaml iawn eu plaid,
a hwŷ yn ddieithraid ynddi;
13 Ac yn rhodio o'r wlâd i'r llall,
Yn dioddef gwall, a chledi:
14 Llesteiriodd iddŷnt gam yn dŷnn:
o'r achos hŷn brenhinoedd,
A geryddodd yn eu plaid:
a'i air a gaed yn gyhoedd.
5
15 Am eneiniog na chwrddwch:
na ddrygwch fy mhrophwŷdi.
16 Galwodd am newŷn ar y tîr.
yn wîr dug fara o honi.
17 Oflaen ei blant gyrrodd râs,
Joseph yn wâs a werthwŷd.
18 A'r ei draed rhoed haiarn tŷnn,
mewn gefŷn a cystuddiwŷd.
6
19 Gwisgodd y gefŷn hŷd y bŷw,
nes i air Duw amseru:
Drwŷ Dduw a cafodd ef ryddhâd,
a phrifiad ar ei garu.
20 Yna gyrrwŷd iw gyrchu fo
gar bron hên Pharo fienin:
Ac a gollyngwŷd ef ar lêd,
o'i gam gaethiwed rhŷ-flin.
7
21 Ac yno ei osod ef a wnaeth
yn bennaeth ar ei deulŷ,
Ac o'i hôll gyfoeth ef, a'i wlâd,
ond dâ fawr hâd oedd hynnŷ.
25 I ddysgu rheol wŷr ei lŷs
ei wllŷs a'i fodlondeb:
I fforddio henuriaid yr hôll wlâd,
yn wastad mewn doethineb.
8
23 Daeth Israel i'r Aipht tîr Ham.
lle'r oedd yn ddinam estron;
24 Lle llwŷddodd Duw bî [...] Iago bâch
yn amlach na'i casei [...]n.
25 Yna troes eu calon gau,
i lwŷr gasau ei bobloedd:
Iw weision ef i wneuthur twŷll,
a llîd (nid amhwŷll) ydoedd.
9
26 Duw gyrrodd Foesen ei hên wâs,
ac Aaron o râs ddewisol.
27 Yn nhîr Ham i arwŷddhau
ei nerth, a'i wrthiau nodol.
28 Rhoes Duw dywŷllwch dros y wlâd,
er hŷn ni chaed ufudd-dod.
29 Eu dyfroedd ôll a droed yn waed,
a llâdd a wnaed eu pysgod.
10
30 Iw tîr rhoes lyffaint, heidiau hŷll,
yn 'stefŷll ei brenhinoedd:
31 Daeth ar ei air wŷbed, a llau,
ymhôb mannau o'u tiroedd.
32 Fe 'fwriodd arnŷnt genllŷsg mawr,
a thân eu llawr a losgodd;
33 Eu gwinwŷdd, a'u ffigŷswŷdd mâd,
a choed y wlâd a ddrylliodd.
11
34 Ceiliogod rhedŷn, a lindŷs brŵd,
yn difa cnŵd eu meusŷdd,
35 uwchlaw rhîf, drwŷ ŷd, gwellt, gwair
a hŷn drwŷ air Duw ddafŷdd.
36 Y cyntaf anedig, pôb pen llwŷth,
a'u blaenffrwŷth ef a drawodd;
Ymhôb man drwŷ dîr ei gâs;
a'i bobl o'i râs a gadwodd:
12
37 Ac a'u dug hwŷnt yn rhŷdd mewn hêdd,
oewinedd eu caseion,
Heb fôd honŷnt un yn wan,
ag aur ac arian ddigon.
38 A llawen fu gan wŷr y wlâd,
o'r Aipht pan gaed eu gwared:
Daeth arnŷnt arswŷd y llaw grêf,
a ddaeth o'r nêf i wared.
13
39 Rhoes Duw y dŷdd gwmmwl uwchben,
fel mantell wen a tôawdd,
A'r nôs goleuodd hwŷnt a thân,
fel hŷn yn lân a twŷsawdd.
40 Fe a roes iddŷnt ar y gair
gîg sofl-Iâir, iw bodloni:
A bara, o'i orchymmŷn ef,
a ddaeth o'r nêf iw porthi.
14
41 Holltodd y graig, daeth dwfr yn llîf,
fel pe baent brif afonŷdd:
Cerddodd yn genllif, a rhoes wlŷch
rhŷd pôb lle sŷch o'r gwledŷdd.
42 Cofio a wnaeth ei air, o'i râs,
i Abram ei wâs ffyddlon.
43 A thrwŷ fawr nerth, yn rhŷdd o gaeth
a gwnaeth ei ddewisolion.
15
44 Tir y cenhedloedd iddŷnt rhos,
a'u llafur troes iw meddiant:
45 Er cadw ei air, a'i gyfraith ef,
rhowch hŷd y nêf ei foliant
PSALM. 106.
1
MOlwch yr Arglwŷdd, canŷs dâ ŷw
moliennwch Dduw y llywŷdd:
Oblegid ei drugaredd frŷ
a berŷ yn dragywŷdd.
2 Yr Arglwŷdd pwŷ all draethu ei nerth,
a'i hôll brŷdlawnferth foliant?
3 A wnêl gyfiawnder gwŷn eu bŷd,
ei farn igŷd a gadwant.
2
4 O Arglwŷdd, cofia fi dy wâs
yn ôl dy râs i'r eiddod:
Ymwel a mi mewn cystudd caeth,
a'th iechŷdwriaeth parod.
5 Fel a gwelwŷf, (ac a llawenwŷf)
wŷch urddas d'etifeddiaeth,
Ac a cŷdganwŷf fawl un dôn,
a'th ddewisolion odiaeth.
3
6 Pechod, camwedd, ac annoethedd,
gwnaethom gyda'n tadau:
Fe a gaed arnom ormod gwall,
heb ddeall dy fawr wrthiau.
7 Yngwlâd yr Aipht, wrth y môr côch▪
yn gyndŷn grôch anufŷdd:
Heb gofio amled fu dy râs
haeddasom atcas gerŷdd.
4
8 Etto er mwŷn ei enw ei hun,
Duw gwŷn a ddaeth i'n gwared:
I beri i'r Bŷd gydnabod hŷn,
ei fôd ef cŷn gadarned.
9 Y dyfn-fôr côch, a'i ddyfrllŷd wlŷch,
a wnaeth e'n sŷch iw geurŷdd:
Trwŷ ddyfnder eigion aent ar frŷs,
fel mŷnd rhŷd ystlŷs mynŷdd.
5
10 Fel hŷn a dug hwŷnt trwodd draw,
o ddwŷlaw eu caseion:
Ac a tywŷsodd ef ei blant
o feddiant eu gelynnion.
11 Y dwfr a guddiodd yr Aipht rŷw,
nid oedd un bŷw heb foddi:
12 Yna a credent iw air êf,
a'i gerdd hŷd nêf ae'n wisgi.
6
13 Er hŷn tros gôf mewn amser bŷrr,
a rhoent ei bybŷr wrthiau:
Heb sefŷll wrth air un Duw Iôr,
na'i gyngor, na'i ammodau.
14 Ond cododd arnŷnt chwant a blŷs,
yn y dyrŷs anialwch:
Gan demptio Duw a rheibus fol,
ynghanol y diffaethwch.
7
15 Rhoes iddŷnt lenwi eu hôll flŷs,
rhoes an-nhycciannus aflwŷdd.
16 Lle digient Foses wrth eu chwant,
ac Aaron Sant yr Arglwŷdd:
17 rae'r ddaiar yn y man,
a llyngcai Ddathan ynfŷd:
Ac a dderbyniodd i'r un llam,
hôll lu Abiram hefŷd.
8
18 Ac yn ei ddîg enynnodd tân,
yn fuan yn en canol:
Llosgi y rhain, eu terfŷn fu,
yn ulw, y llu annuwiol.
19 Yn Horeb gwnaethant dawdd-lûn llô
ac iddo ymgrymmasant:
20 I lun llô a borai wellt mân,
a troesan eu gogoniant.
9
21 Anghofient wrthiau Duw ar hŷnt,
(a faseu gŷnt achubwr)
22 Yngwlâd yr Aipht. Môr côch, tîr Ham
heb feddwl am eu cyflwr.
23 Dwedodd mai eu difetha wnae
oni bae iw wâs moesen
(Drwŷ sefŷll o'u blaen yn ei lîd maith)
droi ymaith eu drŵg ddiben.
10
24 Dirmygent hwŷ y prydferth dîr,
ac iw air gwir ni chredent:
25 Ond yn eu pebŷll grwgnach drô,
ac a [...]no ni wrandawent.
26 Yno derchafodd Duw ei law,
iw cwŷmpio draw 'n 'ranialwch:
27 Rhŷd tiroedd, a phobloedd anghu,
iw tanu mewn diystyrwch.
11
28 A Baal-Peor aent ynghŷd,
ymgredu igŷd ag efo:
Ebŷrth y meirwon a fwŷdtênt,
a Duw a roddent heibio.
29 Fel hŷn digiasant f'Arglwŷdd Dduw,
a chyfrŷw goeg ddychmygion:
Ynteu anfonodd blâ 'n eu mŷsg,
arnŷnt yn derfŷsg creulon.
12
30 Yna cyfododd Phinehes,
mewn cyfiawn wrês i ddial:
A phan roes hwn ei farn yn ddâ,
Duw ar y plâ 'roes attal.
31 A chyfrifwŷd y weithred hon,
yn weithred gyfion yntho,
O oes i oes (drwŷ air Duw Iôn)
pan ddelai sôn amdano.
13
32 Ac wrth lan dwfr Meribbah gŷnt,
yno a cyffroent gynnen.
Lle digient Dduw a'u crasder ffraeth,
am hŷn bu'n waeth i Foesen.
33 Wrth gythruddo ysprŷd y Sanct,
hwŷ a barasant hefŷd
Iw eneu draethu gair ar fai,
na weddai ei ddwedŷd.
14
34 Ni laddent chwaith bobloedd y wlâd
wrth archiad Duw y lluoedd,
35 Ond ymgymyscu a hwŷnt yn gu,
a dysgu eu gweithredoedd.
36 A gwasnaethu eu duwiau gau,
y rhai fu faglau iddŷnt.
37 Aberthu eu plant, yn fâb, yn ferch,
o serch i'r cythraul 'roeddŷnt.
15
38 A thywalltasant wirion waed,
dan draed gau-dduwiau Canaan.
Y tîr (wrth aberthu eu plant)
a gwaed llygrasant weithan.
39 Fellu o'u gweithredoedd eu hun,
yn un ymhalogasant:
Putteinio wrth eu cwrs, a'u brŷd,
ac fellu cŷd-lygrasant.
16
40 Wrthŷnt enynnodd Duw mewn dîg
am hŷn, a ffyrnig gyffro:
Câs a ffiaidd, fellu yr aeth
ei etifeddiaeth gantho.
41 O'r achos hŷn eu rhoddi a wnaeth
dan bôb cenhedlaeth gyndŷn,
Mewn cyflwr câs dan estron blaid,
a'u câs yn feistraid arnŷn.
17
42 Eu gelynnion aethant yn ffrom,
a'u llaw fu drom, a ffyrnig,
Fellu a darostyngwŷd hwŷ,
a mwŷfwŷ fu eu dirmig.
43 Mynŷch-waredodd Duw ei blant,
hwŷ a'i digiasant ynteu
[...]'u cwrs eu hun: daeth cystudd hîr
am waith eu henwir feiau.
18
44 Pan welai arnŷn ing, na thrais,
fe glywai lais eu gweddi,
45 Gan gofio ei air, rhoi nawdd a wnaeth
o'i helaeth fawr ddaioni.
46 A throi yn drugarog a wnaeth,
ygwŷr yn gaeth a'u cludent,
rhai a fase'n fawr eu câs:
rael mwŷ cymwŷnas ganthŷnt.
19
47 Achub ninnau o blîth y rhain
i arwin dy enw hŷ-glod,
Arglwŷdd Dduw, cymell ni'n gu
i orfoleddu ynod.
Duw Israel bendigaid fŷdd,
yn dragywŷdd, Jehofa:
dweded yr hôll bobl Amen,
molwch Dduw pen gorucha.
PSALM. 107.
1
MOlwch yr Arglwŷdd, canŷs dâ ŷw,
moliennwch Dduw ein llywŷdd,
Megid ei drugaredd frŷ
a berŷ yn dragywŷdd.
Y gwaredigion canent fawl,
i Dduw gerdd nodawl gyson:
sawl achubwŷd, caned hŷn,
o law y gelŷn creulon.
2
A gasglodd o bedwar-rhan y Bŷd,
dowch chwi i gŷd-ganeuau:
dîr y dwŷrain dowch mewn hêdd,
gorllewin, gogledd, deheu.
4 Drwŷ yr anialwch, ŵŷrdraws hŷnt
lle basent gŷnt yn crwŷdro
Allan o'r ffordd: heb drêf na llan,
lle cent hwŷ fan i drigo.
3
5 Drwŷ newŷn, a syched bu'r daith hon,
a'u calon ar lewygu:
6 Ar Dduw a galwent y prŷd hŷn,
pan oeddŷn ym mron trengu.
Yna eu gwared hwŷnt a wnaeth,
o'u hôll orthrym-gaeth foddion,
7 Rhŷd yr iawn ffordd fe'u dug mewn hêdd,
i dref gyfannedd dirion.
4
8 Addefant hwŷthau gar ei fron,
ei fwŷnion drugareddau:
Ac er plant dynnion fel a gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau:
9 Diwallu o honaw einioes dŷn,
rhag newŷn, a rhag syched:
Ac o'i fawr râs eu cadw igŷd,
pan oedd y Bŷd yn galed.
5
10 Y rhai mewn tywŷllwch a drig,
ynghysgod llewig angeu,
Yn rhwŷm mewn nychdod, ac mewn bâr,
a heŷrn mawr ar eu sodlau.
11 A hŷn o herwŷdd iddŷnt fôd,
mewn anufudd-dod eithaf,
A llwŷr ddirmygu gair Duw Iôr,
a chyngor y Goruchaf.
6
12 A thrymder calon cwŷmpiwŷd hwŷ.
nid oedd neb mwŷ a'u cododd.
13 Ar Dduw mewn ing a rhoesan lêf,
ac yntef a'u gwaredodd.
14 Ef a'u gwaredodd, ac a'u dŵg,
o dywŷll-ddrwg, caeth-glud,
O gysgod angeu eu rhyddhau,
a thorri eu rhwŷmau hefŷd.
7
15 Addefent hwŷthau gar ei fron,
ei fwŷnion drugareddau,
Ac i blant dynnion fel a gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.
16 Can's y pŷrth prês, torrodd yn chwŷrn
a'r barrau o heŷrn hefŷd:
17 Am eu bai, a'u camwedd yn hir,
a poenir y rhai ynfŷd.
8
18 A hwŷnt yn galaru 'r bwŷd,
fe'u dygwŷd at bŷrth angeu.
19 Ar Dduw mewn ing a rhoesant lêf,
achubodd ef hwŷnt hwŷthau:
20 Gan yrru ei air iw iachau,
ae iw rhyddhau yn fŷan,
A hwŷnt a'i air tynnu a wnaeth
o'u methedigaeth allan.
9
21 Cyddefant hwŷthau gar ei fron,
ei fwŷnion drugareddau:
Ac i blant dynnion fel a gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.
22 Aberthant hefŷd aberth mawl,
iw ogoneddawl fawredd,
A mynegant ei waith, a'i wŷrth,
yn ei bŷrth mewn gorfoledd.
10
23 Y rhai ânt mewn llongau i'r don,
a'u taith uwch mawrion ddyfroedd,
24 A welsant ryfeddodau'r Iôn,
a hŷn mewn eigion moroedd.
25 A'i air cyffroe dymhestloedd gwŷnt,
y rhai'n a godŷnt donnau
26 Hŷd awŷr frŷ, o eigion llawr,
ac ofn bôb awr a godau.
11
27 Gan ysgwŷd, a phendroi fel hŷn,
dull meddwŷn, synnai arnŷnt.
28 Ar Dduw mewn ing a rhoesant lêf,
daeth êf a chymorth iddŷnt.
29 Gwnaeth e'r ystorm yn dawel dêg,
a'r tonnau'n osteg gwastad,
30 Yn llawen ddistaw doen i'r lan,
i'r man a bae eu dymuniad.
12
31 Cyffesent hwŷthau gar ei fron,
ei fwŷnion drugareddau,
Ac i blant dynnion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.
32 Hôll gynulleidfa ei bobl ef,
clôd Duw hŷd nêf derchafant:
Hôll eisteddfod pennaethiaid hên,
yn llawen a'i moliannant.
13
33 Y ffrydau'n ddyrŷs dir a wnai,
fe sychal ddwfr lle tarddo.
34 A thir ffrwŷthlawn a wnai'n ddiffrwŷth,
lle trig drŵg dylwŷth yntho.
35 Troes yr [...]nialwch yn llŷn glâs,
a'r tir crâs yn ffynhonnŷdd,
36 Lle gwnai ef drigfa i'r gwael ddŷn,
i dorri ei newŷn beunŷdd.
14
37 Lle yr hauasant feusŷdd glân,
a llawer gwinllan dyner,
Y rhai a roddant lawnder ffrwŷth,
a chnydlwŷth yn ei amser.
38 Can's cynŷddasant hwŷ gan wlith
grasol fendith un Duw cun,
A'u hanifeiliaid hŷsb a b [...]ith,
rhoes yr un fendith arnun.
15
39 Daeth caethder gwedi hŷn igŷd,
a drŵg fŷd, iw gostwng:
Gadawodd eu gorthrymmu, a'u plau,
cawsant flinderau teilwng,
40 Eu dirmŷg ar y beilchion troes,
ac ef a'u rhoes i grwŷdro,
Mewn drysni, heb lun ffordd iw chael,
lle buant wael eu dwŷlo.
16
41 Rhoes e'r tylawd i well bri,
dug o'r trueni allan,
Gan lwŷddo ei deulŷ, a'i hôll blaid,
fel defaid wrth ei gorlan.
42 Y rhai cyfiawn a welant hŷn,
a chanthŷn bŷdd yn hyfrŷd:
A'r enwir ceuir ei ddwŷ ên
ar ei gynfigen ynfŷd.
17
43 Pa rai sŷ ddoeth i ddeall hŷn,
fe roddir iddŷn wŷbod
Faint ŷw daioni f'Arglwŷdd gwŷn
wrth hŷn a cânt gydnabod?
PSALM. 108.
1
PArod ŷw fy nghalon (O Dduw)
O parod ŷw fy nghalon,
Canaf i't, a dadcanaf wawd,
o fawl fy nhafawd ffyddlon.
2 Deffro dafod, a deffro dant,
a chân ogoniant beunŷdd,
Y nabl, a'r delŷn yn gytun,
deffro fy hun ar las-ddŷdd.
2
3 Mawl i ti f'Arglwŷdd, pan ddeffrof,
a rôf ym mŷsg y bobloedd:
A chlodfori dy enw a wnaf,
lle amlaf y cenhedloedd.
4 Can's cyrhaeddŷd y mae dy râs,
hŷd yn Nheŷrnas nefoedd.
A'th wirionedd di hŷd at nen
yr wŷbren a'i therfynoedd.
3
5 Ymddercha Dduw y nêf uwchlaw,
oddiyno daw d'arwŷddion.
A bydded dy ogoniant ar
y ddaiar a'i thrigolion.
6 Fel y gwareder drwŷ lân hwŷl,
bôb rhai o'th anwŷl ddynnion:
O achub hwŷnt a'th law ddeheu,
a gwrando finneu'n ffyddlon.
4
7 Yn ei sancteiddrwŷdd dwedodd Duw
llawen ŷw fy nghyfamod.
[...]i a rannaf Sichem rhŷd y glŷnn,
mesuraf ddyffrŷn Succod.
8 Myfi pla'r ddwŷ dre-tâd,
sef Gilead a Manasse:
Ac Ephraim ydŷw nerth fy mhen,
a Juda wen fy neddf-le.
5
9 Ym Moab, ymolchi a wnaf,
dros Edom taflaf f'esgŷd.
A chwardded Palestina gaeth,
ei chwerthin aeth yn rhŷ brid.
10 Duw pwŷ a'm dŵg i'r ddinas grêf,
pwŷ am dŵg i drêf Edom?
11 Er i't ein gwrthod, pwŷ ond tydi,
O Dduw, a'mleddi drosom.
6
12 O unic Dduw, bŷdd i'n yn borth,
mae'n ofer cymorth undŷn.
13 Yn Nuw a gwnawn wroliaeth fawr
fe a sathra i lawr ein gelŷn.
PSALM. 109.
1
O Dduw fy moliant i, na thaw,
2 mae dwŷlaw'r annuwiolion:
A'u tafod twŷllgar, a'u safn rhwth,
arnaf yn bygwth digon.
3 Daethant o'm cŷlch a gelriau câs,
rhoent ddiflâs senn anynad.
4 Fel hŷn a talent ddrŵg am ddâ,
A châs a gâf am gariad.
2
Ac fel yr oeddŷnt hwŷ fel hŷn,
i'm herbŷn wedi codi,
Fy wŷneb attad ti a drois
ac arnat rhois fy ngweddi.
6 Dod sathan ar ei ddeheu law,
i'r swŷdd a daw yn barod,
7 A phan roer barn, yn euog boed,
a'i weddi troed yn bechod.
3
8 Bydded ei oes yn ferr, mewn gwall,
a'i swŷdd i arall hefŷd,
9 Yn ymddifaid a bo ei blant,
a'i weddw yn fethiant ddi-brŷd.
10 A boed ei blant yn crwŷdro Bŷd,
i gymrŷd mân gerdodau:
A cheisiant hŷn rhŷd ddyrŷs dîr,
lle bytho hîr eu prydau.
4
11 Yn rhwŷd y rheibiwr ei ddâ sŷrth
a'i lafur pŷrth ddieithriaid:
12 Na ddêl nawdd iddo am ei fai,
na chwaith iw rai ymddifaid.
13 Doed distrŷw dial ar ei hîl,
a'i heppil a ddinistrer,
14 Am bechodau ei dâd a'i fam
a caiff ef lam rŷw amser.
5
15 A bydded hŷn igŷd gar bron
yr Arglwŷdd gyfion farnwr,
Yr hwn a'i torro, fel na bo
mwŷ gofio i anghyflwr.
16 Erioed ni cheisiodd wneuthur hêdd,
na thrugaredd i'r egwan,
Ond erlid y tlawd, ar isel râdd,
a cheisio llâdd y truan.
6
17 Hoffodd felldith, a hi a ddaeth
ac fel a gwnaeth bŷdd iddo:
Casâodd fendith, ac ni chai,
ond pell yr ai oddiwrtho.
18 Gwisgodd felldith fel dillad gŵr,
a daw fel dŵr iw galon,
Fel olew doed iw esgŷrn fo,
hŷdoni chaffo ddigon.
7
19 A'r felldith bŷdd o'i gŷlch yn dŷnn,
fel yn ddilledŷn iddo▪
A'i gwisgo hi a fo iddo'n dasg,
fel gwregŷs gwasg amdano.
20 A hŷn gan Dduw a gâf yn dâl,
i'r gelŷn gwamal enbŷd,
A ddywedo, neu a wnelo gam,
neu niwed am fy mywŷd.
8
21 Di Dduw er mwŷn dy enw gwnâ,
o herwŷdd mai dâ d'ymwared;
Gwna dy drugaredd a myfi:
a bryssia di i'm gwared.
22 O herwŷdd tlawd a rheidus wŷf,
a dirfawr glwŷf i'm calon.
23 Fel symud cyfgod a fai'n ffo,
hŷn er na welo dynnion.
9
Mor ansefydlog ŷw fy 'stâd;
ar gwibiad geiliog rhedŷn,
24 Fy nghnawd yn gul, fy ngliniau'n wan
a siglan o dra-newŷn.
25 Gwarth wŷf i'm câs, yn fy ngwael ddrŷch,
a hwŷnt wrth edrŷch arnaf
A'm diystyrent ar roi tro,
a than bensiglo attaf.
10
26 Cymorth fi Arglwŷdd, fy Nuw,
cadw fi'n fŷw a'th nodded:
27 Fel a gwŷper mai gwaith dy law,
ŷw'r llês a ddaw i'm gwared.
28 Melldithiant, nac eiriachant hwŷ
dôd fendith fwŷ i minneu,
Bŷdd gwarth i'm gwrthwŷnebwŷr câs,
gorfoledd i'th wâs ditheu.
11
29 A gwarth a gwradwŷdd gwisger hwŷ
ac fwŷfwŷ a dêl attŷnt
A mantell laes o gwilŷdd mawr,
gwisg di hŷd lawr amdanŷnt.
30 Ond fi, gan ddiolch i'm Iôr mau,
a'm geneu mawl a ganaf:
Ac a rôf glôd iw enw cu,
lle bytho'r llu yn amlaf.
12
31 O herwŷdd ar ddeheulaw'r tlawd
y saif ddŷdd brawd yn gefnog;
I gadw ei enaid ef yn gu,
rhag ei farnu yn euog.
PSALM. 110.
1
DWedai'r Arglwŷdd wrth f'Arglwŷdd mau
ar fy llaw ddeheu eistedd:
Nes rhoddi y rhai a gais dy waed
dan dy draed i orwedd.
2 Arglwŷdd denfŷn ffrewŷll dy nerth
o ddinas fawrwerth Seion,
Pan lyfodraethech yn eu mŷsg
gwna derfŷsg ar d'elynnion.
2
3 Yn nŷdd dy nerth dy bobl a ddaw
ag aberth llaw'n wŷllysgar,
Yn sanctaidd hardd, daw'r cynnŷrch tau
o wlîth y boreu hawddgar.
4 Yr Arglwŷdd tyngodd, ac ni wâd,
ti sŷ'n offeiriad bythol,
Wrth urdd Melchizedeck oddi frŷ
a berŷ yn dragwŷddol.
3
5 Yr Arglwŷdd ar dy ddeheu law,
Brenhinoedd draw a friwa,
Yn nŷdd ei ddîg gwna'n archollion,
Frenhinoedd cryfion, medda.
6 Ar y cenhedloedd rhŷdd farn iawn,
a'u gwlâd gwna'n llawn celanedd:
A llawer pen dros wledŷdd mawr,
a dŷrr i lawr yn un-wedd.
4
7 O wir frŷs i'r gyflafan hon,
fe ŷf o'r afon nesa
A gaffo ar ei ffordd yn rhwŷdd,
a'r Arglwŷdd a'i derchafa.
PSALM. 111.
1
CLodforaf fi fy Arglwŷdd Iôn,
o wllŷs calon hollawl,
Mewn cynnulleidfa gar eu bron,
mewn tyrfa gyfion rasawl,
2 Mawr iaw [...] iw gwrthiau'n Arglwŷdd ni
hysbŷs i rheini a'i hoffant.
3 Ei waith, a'i iawnder perŷ bŷth,
a'i wehelŷth ogoniant.
2
4 Yr Arglwŷdd a wnaeth ei goffau,
am ryfeddodau nerthol:
Can's Arglwŷdd nawdd-fawr ŷw i ni,
llawn o dosturi grasol.
5 I bôb rhai a'i hofnant êf,
rhŷdd gyfran grêf at fywŷd:
Ac yn dragywŷdd a mŷn fôd
côf o'i gyfammod hefŷd.
3
6 Mynegodd ef iw bobl igŷd,
gadernŷd ei weithredoedd:
A rhoddi iddŷnt hwŷ a wnaeth
'tifeddiaeth y cenhedloedd.
7 Gwirionedd, a barn ydŷw gwaith
ei burlan berffaith ddwŷlo:
A'i orchymynnion sŷdd ffyddlon iawn,
a dâ a gwnawn eu gwrando.
4
8 Y rhain sŷ gwedi eu sicrhau,
dros bŷth yn ddeddfau cyfion:
Gwedi eu gwneuthur hwŷ mewn hêdd
a thrwŷ wirionedd union.
9 Anfonodd gymmorth iw bobl ef,
cyfammod grêf safadwŷ,
Archodd hŷn: boed iddo fawl;
fancteiddiawl, ac ofnadwŷ.
5
10 Dechreuad pôb doethineb ddofn
i bawb ŷw ofn yr Arglwŷdd,
Dâ ŷw deall y sawl a'i gwnai,
a'i ofn a sai'n dragywŷdd.
PSALM. 112.
1
DEdwŷddol ŷw mewn buchedd ddâ,
y sawl a ofna'r Arglwŷdd,
A'i orchmynion anwŷl ŷnt,
bŷdd iddo helŷnt hylwŷdd.
2 Ei hâd fŷdd nerthol yn y tîr,
bendithir hîl rhai union:
3 Golud a chyfoeth yn ei dŷ,
tros bŷth a perŷ'n gyfion.
2
4 Yr union yn y tywŷll cau
caiff fôdd i oleu weled:
Ystyriol, a thosturiol iawn,
a chyfiawn fŷdd ei weithred.
5 Gŵr dâ a fŷdd trugarog fwŷn,
rhŷdd echwŷn a chymwŷnas.
A'i air mewn pwŷll a barn a rŷddd,
[...]'i weithred fŷdd yn addas.
3
6 Ni 'sgogir bŷth y cyfiawn, gwna
ei goffa yn dragywŷdd;
7 A chalon ddisigl, ddwŷs, ddiofn,
a sail ddofn yn yr Arglwŷdd.
8 Hwn yn nerth Duw diofnog fŷdd,
ac atteg sŷdd iw galon:
Hŷdoni chaffo yn llawn ddwŷs,
ei wllŷs ar ei elynnion.
4
9 Rhannodd, a rhoes i'r tlawd yn hŷ,
bŷth perŷ ei gyfiawnedd,
A chryfder ei goron ef yn wir,
derchefir mewn gogonedd.
10 Yr anwir edrŷch, ffromma o ddîg,
drwŷ ffyrnig ysgyrnyglad:
Yr annuwiol a dawdd, fel hŷn
'fŷdd terfŷn eu dymuniad.
PSALM. 113.
1
CHwi weision Duw molwch yr Iôn,
molwch ei enw a llafar dôn,
2 Bendigaid fytho ei enw êf.
3 O godiad haul hŷd fachlud dŷdd,
Mawr enw yr Iôn moliannus fŷdd,
yn y Bŷd hwn, ac yn y nêf.
2
4 Derchafodd Duw uwch yr hôll Fŷd,
A'l follant aeth uwch nêf igŷd.
5 Pwŷ sŷ gyffelib i'n Duw ni?
Yr hwn a breswŷl yn y nêf,
6 I'r ddaiar hon darostwng êf,
gwel ef ein cam, clŷw ef ein cr [...].
3
7 Yr hwn sŷ'n codi'r tlawd o'r llŵch,
A'r rheidus o'i ddiystŷrwch,
8 iw gosod uwch pennaethiaid Bŷd.
9 I'r ammlhantadwŷ mae'n rhoi plant,
Hîl têg, a thylwŷth, a llwŷddiant;
am hŷn moliennwch Dduw igŷd,
PSALM. 115.
1
NId i ni Arglwŷdd, nid i ni,
a rhoddi y gogonedd,
Ond i'th enw dy hun yn hawdd,
am dy nawdd, a'th wirionedd.
2 Pa'm y dwedant amdanat ti
y cenhedlaethi effron:
A thrwŷ edliw hynnŷ yn fwŷ,
ple mae eu Duw hwŷ yrawron.
2
Sef ein Duw ni mae yn y nêf,
lle a gwnaeth ef a fynnodd.
4 Eu delwau hwŷ, aur, arian ŷn,
a dwŷlo dŷn a'u lluniodd.
5 Safn heb draethu: llun llygaid glân,
y'rhain ni welan ronŷn:
6 Trwŷn heb arogl, clustiau ar lêd
Sŷdd heb glywed, ganthŷn.
3
7 Ac i bôb delw i mae dwŷ law
heb deimlaw, traed heb symŷd:
Mae mwnwgl iddŷnt heb roi cais,
fel dyna ddyfais ynfŷd.
8 Fel hwŷnt ydŷw y rhai a'u gwnant
a'r rhai a gredant iddŷnt:
Am hŷn ni ddyleu neb drwŷ grêd
roi mo'i ymddiried arnŷnt.
4
9 O Israel, dôd ti yn rhwŷdd
ar yr Arglwŷdd dy holl-frŷd.
Ef ŷw dy nerth a'th ddŵg i'r lan,
dy borth a'th darian hefŷd.
10 O tŷ Aaron, dôd titheu'n rbwŷdd
ar yr Arglwŷdd dy holl-frŷd:
Ef ŷw dy nerth a'th ddŵg i'r lan,
dy borth a'th darian hefŷd.
5
11 Y rhai a ofnwch Arglwŷdd Iôn,
rhowch arno eich union holl-frŷd:
Efe ŷw 'r neb a'ch dŵg i'r lan,
eich porth a'ch tarian hefŷd.
12 Duw nâf a'n cofiodd, ac i'n plith
fe roes ei fendith rhadlawn,
I dŷ Israel rhŷdd ei hêdd,
ac un-wêdd i dŷ Aaron.
6
13 Y sawl a'i hofnant, bendithiant ef,
yr Arglwŷdd nêf canmolan,
A'i enw sanct o'r nêf i'r llawr,
bendithied mawr a bychan.
14 Yr Arglwŷdd hefŷd arnoch chwi,
a wna ddaioni amlach:
Ac a chwanega ar eich plant.
ei fwŷniant yn rymusach
7
15 Mae i chwi fendith, a mawr lwŷdd
gan y gwir Arglwŷdd cyfiawn:
Yr hwn a wnaeth y nefoedd frŷ,
a'r ddaiar obrŷ yn gyflawn.
16 Y nêf, ie'r nefoedd fawr uwchlaw;
sŷdd yn eiddaw Duw yr Iôn,
A'r ddaiar, lle a preswŷliant,
a roes ef i blant dynnion.
8
17 Pwŷ a folant yr Arglwŷdd? pwŷ?
gwn nad hwŷnt hwŷ y meirwon,
Na'r rhai a ânt i'r bêdd yn rhwŷdd,
lle a mae distawrwŷdd ddigon.
18 Ond nyni daliwn yn ein côf
fŷth fŷth fendithio'r Arglwŷdd.
Molwch yr Arglwŷdd yr un wêdd,
a mawl gyfannedd ebrwŷdd.
PSALM. 116.
1
DA gennif wrando or Arglwŷdd nêf
ar lais fy llêf, a'm gweddi:
2 Am iddo fy nghlywed i yn hawdd,
bŷth ceisiaf ei nawdd i mi.
3 Mae maglau angeu i'm cynllwŷn,
ym mron fy nwŷn i'm beddrod:
4 Cefais ing: Ond galwaf fy Nêr
i'm hoes, moes dyner gymod.
2
5 Cyfion ŷw'r Iôn trugarog iawn,
ein Duw sŷdd lawn o nodded.
6 Duw a geidw'r gwirion: bum i
mewn cynl, daeth i'm gwared.
7 O fy enaid, dadymchwel o'r llŵch,
tyred i'th Ionyddwch bellach:
Am i'r Arglwŷdd fôd i ti'n ddâ,
i'th orphwŷs brysia yn hyfach:
3
8 O herwŷdd i Dduw wared fy oes,
a'm cadw rhag gloes angeu,
Fy nhraed rhag llithro i lam drŵg,
a'm golwg yn ddi ddagrau.
9 Yn y ffordd hon oflaen fy Nuw,
ym mŷsg gwŷr bŷw a rhodiaf.
10 Fel a credais, fellŷ tystiais,
ar y testŷn ymma.
4
11 Yn fy ffrŵst, dwedais hŷn,
mae pôb dŷn yn gelwŷddog,
12 Ond O Dduw, beth a wnaf i ti,
am dy ddaioni cefnog?
13 Mi gymmeraf, gan roi mawl,
y phiawl lechŷdwriaeth,
Ac a alwaf, er mwŷn fy llwŷdd,
ar enw yr Arglwŷdd perffaeth.
5
14 I'r Arglwŷdd talaf yn foreu.
fy addunedau ffyddlon,
Y prŷd hwn oflaen ei lu,
y môdd a bu'n fy nghalon.
15 Marwolaeth ei sainct, gwerthfawr ŷw
yngolwg Duw, O cenfŷdd,
16 Dy wâs, dy wâs wŷf, mewn dirmŷg,
mâb dy forwŷnig ufudd.
6
Datodaist fy rhwŷmau yn rhŷdd,
fy offrwm fŷdd dy foliant.
17 Enw'r Arglwŷdd nid â o'm cô,
i hwnnw a bo'r gogoniant.
18 I'r Arglwŷdd bellach tala'n frau
fy a [...]dunedau cyfion.
19 Ynghaer Selem dy sanctaidd dŷ,
oflaen dy deulŷ ffyddlon.
PSALM. 118.
1
MOlwch yr Arglwŷdd, can's da ŷw
moliannu Duw y llywŷdd,
O herwŷdd ei drugareddau,
sŷdd yn parhau'n dragywŷdd:
2 Dweded Israel dâ ŷw ef,
a'i nawdd o'r nêf ni dderfŷdd,
3 Dweded tŷ Aaron mai dâ ŷw
trugaredd Duw'n dragywŷdd.
2
4 Y rhai a'i hofnant ef yn lân,
a ganan yr un cvwŷdd,
Rhôn iw drugaredd yr un glôd,
am ei fôd yn dragywŷdd.
3
5 Yn f'ing gelwais ar f'Arglwŷdd eu
hawdd gantho fu fy nghlywed:
Ef a'm gollyngodd i yn rhŷdd.
a'i lân dragywŷdd nodded.
4
6 Yr Arglwŷdd sŷdd i'm gyda mi,
nid rhaid i'm, ofni dynnion.
7 Yr Arglwŷdd sŷdd ynghŷd â mi,
i gosbi fy ngelynnion.
8 Gwell gobeithio yn Nuw gwŷn,
nag mewn un dŷn o'r aplaf:
9 Gwell ŷw gobeithio yn yr Iôn,
na'r tywŷsogion pennaf.
5
10 Doed y cenhedloedd arna'i gŷd,
a'u brŷd ar wneuthur artaith:
Ond yn enw yr Arglwŷdd Nâf,
myfi a'u torraf ymaith.
11 Daethant o'm cŷlch fel gwenŷn mân,
ac ar amcan diffaith,
Ond yn enw'r Arglwŷdd Nâf,
myfi a'u torraf ymaith.
6
12 Os daethant o'm cŷlch fel gwenŷn mân:
fel diffodd tân mewn godaith,
Yn enw yr Arglwŷdd yr wŷf fi
yn eu diffoddi ymaith.
13 Fy nghâs-ddŷn gwthiaist atta'n grŷf
i geisio gennif syrthio.
14 Duw a'm cadwodd, ef ŷw fy mhorth,
a'm hiechŷd i'm cynorthwŷo.
7
15 Am orfoledd Duw bŷdd sôn
yn nhai rhai cyfion duwiol,
Mae'r Arglwŷdd Dduw, a'i law ddeheu,
a wnaeth y gwrthiau nerthol.
16 Deheulaw'r Arglwŷdd drwŷ ei nawdd
ef a'i derchafawdd arnom,
A deheu law yr Arglwŷdd nêr,
a wnaeth rymusder drosom.
8
17 Nid marw, onid bŷw a wnâf,
mynegaf waith yr Arglwŷdd,
18 Hwn a'm cospodd, ac ni'm lladdodd,
yn hytrach liuddiodd aflwŷdd.
19 Agorwch i'm bŷrth cyfiawnder,
o'u mewn Duw nêr a folaf.
20 Porth yr Arglwŷdd, fel dyna fo,
ânt iddo y rhai cyfiawnaf.
9
21 Minneu a'th folaf yn dy dŷ,
o herwŷdd i ti 'nghlywed,
Yno a canaf nefol glôd
i't, am dy fôd i'm gwared.
22 Y maen, ein pen congl-faen ni,
a ddarfu i'r seiri ei wrthod.
23 O'r Arglwŷdd Dduw a tyfodd hŷn
sŷ ganddŷn yn rhyfeddod.
10
Yr Arglwŷdd a'i gwnaeth, dymma'r dŷdd,
er mawr lawenŷdd i ni,
24 Yntho cymrwn orfoledd llawn,
ymlawenhawn am hynnŷ.
25 Attolwg Arglwŷdd y prŷd hŷn
yr ŷm yn erfŷn seibiant:
Atolwg Arglwŷdd Dduw pâr i'n,
y prŷd hŷn gaffael llwŷddiant.
11
26 Bendigaid ŷw y sawl a ddêl
yn enw yr uchel Arglwŷdd.
O dŷ Dduw bendithiwŷd chwi,
drwŷ weddi a sancteiddrwŷdd.
27 Yr Arglwŷdd sŷdd yn Dduw i ni,
rhoes i'n oleuni rhagor.
Deliwch yr oen, a rhowch yn chwŷrn
yn rhwŷm wrth gŷrn yr allor.
12
27 Tydi O Dduw wŷt Dduw i mi,
am hŷn tydi a folaf:
(Dâ gwêdd it fawl, fy Nuw wŷt ti)
a thydi a dderchafaf.
29 Molwch yr Arglwŷdd, can's da ŷw
moliannu Duw y llywŷdd,
O herwŷdd ei drugaredd frŷ,
a berŷ yn dragywŷdd.
PSALM. 122.
1
I Dŷ'r Arglwŷdd (pan ddweden)
i'm llawen iawn oedd wrando:
2 Sai'n traed o fewn Caer-Salem bŷrth,
yr un ni sŷrth oddlyno.
3 Caersalem lân ein dinas ni,
ei sail sŷdd ynddi ei hunan,
A'i phobl sŷdd ynddi yn gyttun,
a Duw el hun, a'i drigfan.
2
4 Gan's yno a daw y llwŷthau 'nghŷd,
yn unfrŷd, llwŷthau'r Arglwŷdd:
Tystiolaeth Israel a'i drig-fod,
a chlôd iw fawr sanctelddrwŷdd.
5 Can's yno cadair y farn sŷdd,
eisteddfod Dafŷdd sŷ yno.
6 Erchwch i'r ddinas hêdd a mawl:
a llwŷdd i'r sawl a'th garo.
3
7 O fewn dy gaerau heddwch boed,
i'th lysoedd doed yr hawddfŷd.
8 Er mwŷn fy mrodŷr mae'r arch hon;
a'm cymydogion hefŷd.
9 Ac er mwŷn tŷ'r Arglwŷdd, ein Duw,
hwn ynot ŷw'n rhagorol:
O achos hŷn yr archaf fi,
i ti ddaioni rhadol.
PSALM. 126.
1
PAn ddychwelodd ein gwir Dduw Iôn
gaethiwed Selon sanctaidd;
Mor hyfrŷd gennŷm hŷn bôb un,
a rhai mewn hun nefolaidd.
2 Nyni a'n genau, yn ddâ'n gwêdd,
gorfoledd ar ein tafod:
3 Ymhlith cenhedloedd dwedent hŷn,
fe wnaeth Duw drostŷn ormod.
2
4 Gwrthiau mawr a wnaeth Duw yn wîr,
ein dwŷn i'n tîr cynnefin:
O gaethiwed y gelŷn llŷm,
am hŷn yr ŷm yn chwerthin.
5 O cynnull ein gweddillion ni,
trô adre 'rheini eilwaith,
Gan dy ilf-ddyfroedd fel a gwlŷch,
y deheu fŷch, a'r diffaith.
3
6 Y rhai sŷ'n hau mewn dagrau blîn,
hwŷntwŷ dan chwerthin medant:
Fellu f'Arglwŷdd dan droi y Bŷd,
dŵg ni igŷd i'r meddiant
7 Y rhai dan wŷlo aeth o'r wlâd,
fel taflu hâd rhŷd gryniau;
Drwŷ lawenŷdd a dônt ynghŷd,
fel casglu ŷd yn dyrrau.
PSALM. 129.
1
LLawer gwaith cefais gystudd mawr,
Israel yn awr dyweded,
O'm hieuengctŷd i'r arw hon,
fe ŵŷr fy mron eu trymmed.
2 A llawer gwaith a cefais lîd,
o'm gwan ieuengctŷd allan,
A blin gystudd ar lawer trô,
ac etto ni'm gorfuant.
2
3 Yr Ardd-wŷr arddent fy nghefu mau,
drwŷ rwŷgo cwŷsau hirion:
4 Y cyfion Nêr torrodd yn frau,
blêth-didau'r annuwiolion.
5 Pa rai bynnag a roesant gâs
ar degwch dinas Seion,
Gwradwŷdder hwŷnt, cilient iw hôl,
y rhai annuwiol creulon.
3
6 Byddant fel y glâs-wellt a fai
ar bennau tai yn tyfu,
Yr hwn fŷdd, cŷn y tynner fô,
yn gwŷwo, ac yn methu
7 Ni leinw'r medelwr ei law,
ni chair o honaw ronŷn:
I'r casclwr ni thâl ddim mo'i droi,
na'i drin, na'i roi mewn rhwŷmŷn:
4
8 Fel na bai bŷth gwiw gan y rhai
ar a dramwŷai heibio,
Ddywedŷd unwaith, Duw a rô llwŷdd,
neu'r, Arglwŷdd a'ch bendithio.
PSALM. 130.
1
O'R dyfnder gelwais arnat Iôn,
2 O Arglwŷdd tirion gostwng
Dy glust, ystyria y llais mau,
clŷw fy ngweddiau teilwng.
3 Duw, pwŷ a saif yn d'wŷneb di,
os creffi ar anwiredd?
4 Ond fel i'th ofner di yn iawn,
yr wŷd yn llawn trugaredd.
2
5 Disgwŷliaf f' Arglwŷdd, wrth fy rhaid,
disgwŷliodd fy enaid arno.
Rhois fy hôll obaith yn ei air,
fy enaid a gair yn effro.
6 Ac am yr Arglwŷdd, gwilio y dŷdd
fwŷ na gwiliedŷdd difri,
A edrŷch blygain bôb pen awr,
a welo'r wawr yn codi.
3
7 Un wêdd diswŷlied Israel,
yn ddirgel am yr Arglwŷdd,
Can's mae nawdd gyda'r Arglwŷdd nêf,
mae yntho ef rywiogrwŷdd.
Ei drugareddau ânt ar lêd,
fe rŷdd ymwared i ni
8 Fe werŷd Israel, fel hŷn,
fe'i tŷn o'i hôll ddrygloni.
PSALM. 132.
1
O Cofia Ddafŷdd fy Nuw Nêr,
a'i hôll wrth-flinder hefŷd;
2 Pa lŵ adduned a roes fo
i Dduw Iago, gan ddywedŷd,
3 Nid âf ofewm pabell fy nhŷ,
a'm gwelŷ mwŷ nis dringaf:
4 Ni roddaf i'm dau lygad hûn
amrantun, chwaith ni chysgaf.
2
5 Nes 'caffwŷf gyfle yn ddi-rus,
i Arglwŷdd grymmus Iago.
6 Wele'n Ephrata clywsom fôd
lle o breswŷlfod iddo.
Cawsom hi ym meusŷdd y coed,
7 pawb doed iw bebŷll tirion,
Awn ymgrymmwn, pawb ufuddhaed,
wrth ei faingc draed yn union.
3
8 F'Arglwŷdd, cyfod i'th esmwŷth lŷs,
a'th arch o rymmus fawredd
9 Gwisged d'offeiriaid gyfion fraint,
gwisged dy Sainct wirionedd.
10 Er mwŷn Dafŷdd dy ffyddlon wâs,
na thŷn dy râs yn llidiog:
Ac na wrthneba di er neb,
mo wŷneb dy enneiniog.
4
11 I Ddafŷdd rhoes Iôn lŵ gwir,
a chedwir hwn heb ŵŷredd,
O ffrwŷth dy gorph rhôf ar dy faingc,
i't iraidd gaingc i eistedd.
12 Fy neddfau a'm cyfammod i,
dy feibion di os cadwant;
O blan i blan, o gaingc i gaingc
hwŷ ar dy faingc a farnant.
5
13 Can's fy Arglwŷdd, o serch a bôdd,
a rag-ddewisodd Seion:
[...] drigo ynthi rhoes ei frŷd,
gan ddwedŷd geiriau tirion.
14 Hon fŷdd fy ngorphwŷsfa i,
o hoffder ynthi trigaf.
15 Bendithiaf hi a bwŷd di ball,
a'i thlawd diwall o faraf.
6
16 Ag iechŷdwriaeth, mêdd Duw nâf,
a gwisgaf ei heglwŷswŷr,
A rhoddaf yngeneu pôb Sanct
o'i mewn, ogoniant psallwŷr.
17 Paraf hŷn ôll, ac fellu bŷdd,
corn Dafŷdd yn goronog:
Fellu darperais, gan fy mhwŷll,
brîf ganwŷll i'm eneiniog.
7
18 Am ei elynnion, o bôb parth
y gwiscaf warth, a gwradwŷdd,
Paraf hefŷd iw goron fo
flodeuo, mêdd yr Arglwŷdd.
PSALM. 135.
1
O Molwch enw'r Arglwŷdd nêf,
ei welsion êf moliennwch,
2 Y rhai a saif iw dŷ, a'i bŷrth,
i'n Duw a'i fawr wŷrth cenwch.
3 Molwch yr Arglwŷdd can's dâ ŷw,
clôd i'r Iôr bŷw a berthŷn:
Cenwch ei glôd dros yr hôll Fŷd,
a hyfrŷd ŷw y testŷn.
2
4 Oblegid yr Arglwŷdd, a'i nawdd,
ef a etholawdd Iago,
Ac Israel, iw mŷsg a trig,
yn deulu unig iddo.
5 Can's mawr ŷw'r Arglwŷdd yn ei lŷs,
mi a wn yn hysbŷs hynnŷ:
Ym mhell uwchlaw'r hôll dduwiau mân,
mae'r Arglwŷdd glân, a'i allu.
3
6 Hŷn ôll a fynnodd a wnaeth êf,
yn uchder nêf eithafon:
Ar ddaiar, ac yn y môr cau,
a holl ddyfnderau'r eigion.
7 O elthaf daiar cyfŷd tarth,
daw'r mellt o bôb parth hwŷthau,
Ac oer dymhestloedd, glaw, a gwŷnt,
a godŷnt o'i drysorau.
4
8 Yn nhîr yr Aipht dynnion, a dâ,
a llawer plâ a trawodd.
Y cyntaf-anedig o bôb un,
a'i law ei hun a llâddodd.
9 I'th ganol di, o'r Aipht greulon,
rhoes Duw arwŷddion rhyfedd,
Ar Pharo' a'i hôll weision igŷd:
dug drwŷ'r hôll fŷd orfoledd.
5
10 O nerth ei fraich efe a wnaeth,
lawer cenhedlaeth feirwon:
A lladdodd lawer yr un wêdd
o ben brenhinedd cryfion
11 Sêf o'r Amoriaid Sihon fawr,
ac Og, y cawr o Basan:
A'r un ddinistriad arnŷnt aeth,
a hôll frenhiniaeth Canaan
6
12 A'u hôll diroedd hwŷnt igŷd:
gyda'u hôll fywŷd bydol,
I Israel i roi a wnaeth,
yn etifeddiaeth nerthol.
13 Dy enw (O Arglwŷdd) a'th nerth crŷ,
a berŷ yn dragywŷdd,
Ac o genedl i genhedlaeth
dy goffadwriaeth, lywŷdd,
7
14 Canŷs ar ei bobl a rhŷdd ef farn
yr Arglwŷdd cadarn cyfion,
Ac yn ei hôll lywodraeth bur,
bŷdd dostur wrth ei weision.
15 Y delwau ôll, gwaith dwŷlaw ŷn,
a dyfais dŷn anffyddlon;
O aur ac arian dŷn a'u gwnaeth,
o hîl cenhedlaeth weigion.
8
16 O waith dŷn, geneu rhŵth sŷdd,
heb ddim llyferŷdd iddŷn:
Ac mae llun llygaid mawr eu llêd,
a'r rhain heb weled gronŷn.
17 Dwŷ glust dynnion i bôb un,
heb glywed mymrŷn etto,
Eu safn sŷdd eheng, ac ni chaid
na chwŷth nag enaid yntho.
9
18 Uu fôdd a'r delwau fŷdd y rhai
a'u gwnêlai hwŷnt a'n dwŷlo,
Ac nid ŷw well na'r rhain yr un,
ynthŷn a ymddiriedo.
19 Tŷ Israel, na choeliwch chwi,
Tŷ Aaron, Lefi ufudd,
20 I'r rhain ddim, ond i'r Arglwŷdd nêf
bendithiwch e'n dragywŷdd.
10
21 Bendithier fŷth mawr enw'r Iôn,
o Seion hên a barchem,
Bendithier, a moler ei enw fo,
sŷ'n trigo ynghaer Selem.
PSALM. 136.
1
MOlwch yr Arglwŷdd, can's dâ ŷw,
moliennwch Dduw y llywŷdd,
Can's ei drugaredd oddi frŷ,
a berŷ yn dragywŷdd.
2 Molwch chwi Dduw y duwiau'n rhwŷdd
3 ac Arglwŷdd yr arglwŷddi,
4 Hwn 'unig a wnaeth wrthiau mawr,
drwŷ ei ddirfawr ddaioni.
2
5 Gwnaeth a'i ddoethineb nêf uwchben,
a'r ddaiaren, a'r dyfroedd,
6 Y rhai ŷw prîf sylwedd y Bŷd,
ac igŷd o'i drugaredd.
3
7 'Rhwn a wnaeth oleuad mawr;
o'r nêf hŷd lawr a'i fawredd.
8 Haul y dŷdd, A'r lleuad y nôs,
9 i ddangos ei drugaredd.
10 'Rhwn a darawodd yr Aipht iw ddi [...]
a'r blaen-anedig ynthi
11 Ac a ddug Israel iw daith,
ac ymmaith o'u hôll gledi.
4
12 A hŷn drwŷ law grêf, a braich hîr,
o rŷm ei wir ogonedd:
13 A hollti'r môr côch yn ddwŷ ran,
o anian ei drugaredd.
14 Dug Israel i'r lan yn wŷch,
fel dyna ddrŷch gorfoledd:
15 Ysgyttio Pharo, a'i hôll lu,
a hŷn a fu ei drugaredd.
5
16 A dwŷn ei bobloedd yn ddichwŷs,
drwŷ wledŷdd dyrŷs anian:
17 Taro brenhinoedd er eu mwŷn,
ac fellu eu dwŷn hwŷ allan.
18 Llâdd llawer brenin cadarn llon,
19 sef Sihon yr Amoriaid:
20 Ac Og o Basan yn un wêdd,
o'i fawr drugaredd dibaid.
6
21 A'i hôll diroedd hwŷnt igŷd,
eu rhoi yn fywŷd bydol
22 I Israel ei wâs a wnaeth,
yn etifeddiaeth ne [...]thol.
7
23 Hwn mewn cystudd a'n cofiodd ni,
o'i fawr ddaioni tirion
24 Ac a'n hachubodd y [...]ddiswrth
oddiwrth ein hôll ely [...]nion.
25 Yr hwn a ymbŷrth bôb rhŷw gnawd,
yn ddi dlawd o'i drugaredd,
26 Clodforwch Dduw brenin y nêf,
rhowch iddo êf ogonedd.
8
27 Molwch Arglwŷdd yr arglwŷddi,
uwchben pôb rhi o fawredd
Duw'r duwiau, Iôr uwchben pôb Iôn.
[...] ffynnon y drugaredd.
PSALM 137.
1
PAn oeddŷm gaeth yn Babilon,
ar lan prîf afon groŷw,
Mewn coffadwriaeth am Selon,
hidlason ddagrau'n loŷw.
2 Rhoddasom ein telynu 'nghrôg,
ar goed canghennog irion,
Lleyr oedd prenniau helŷg plan,
o ddeutu gl [...]n yr afon.
2
3 Y rhai a'n dug i garchar caeth,
i ni yn ffraeth gofynnen,
(A ni'n bruddion) gerdd i Seion,
o sywaith pêth nis gallen▪
4 O Dduw pa fôdd a canai [...]êb,
(rhoem atteb yn ystyriol)
I chwi o gerdd ein Harglwŷdd dâd,
a ni mewn gwlâd estronol?
3
5 Os â Caersalem o'r côf mau,
anghofied deheu gani:
6 Na throed fy nhafod, oni bŷdd,
hi'n ben llawenŷdd i mi
7 Cofia di Dduw, blant Edom lem,
yn nŷdd Caersalem hawddgar:
Noethwch, dinoethwch (meddei rhain)
ei mur, a'i maen i'r ddaiar.
4
8 Bŷdd gwŷn eu bŷd y sawl a wnêl
i ti, merch Babel rŷ-dost,
Yr unrhŷw fesur, gan dy blau,
i ninnau fel y gwnaethost.
9 Y sawl a gymro dy blant di,
boed y rheini fendigedig,
Ac a darawo'r heppil tau,
a'u penn [...]u wrth y cerrig.
PSALM. 138.
1
RHôf fawrglod i ti, fy Nuw Iôr
o ddyfnder calon canaf:
Yngŵŷdd hôll Angylion nêf
a'm hôff lêf a'th foliannaf.
2 Ymgrymmaf tua'th sanctaidd dŷ,
dan ganu o'th drugaredd,
A'th enw mawr uchlaw pôb pêth,
a'th air, difeth wirionedd.
2
3 Y dŷdd y gelwais arnat ti,
gwrandewaist fi yn fŷan:
Yno nerthaist a chrêf blaid,
fy enaid i oedd egwan.
4 Doed brenhinoedd y ddaiar hon,
a rhoen i't union foliant.
Addolent ôll ein gwir-Dduw ni,
canŷs dy eiriau di a glywsant.
3
5 Yn ffŷrdd yr Arglwŷdd yr un wêdd,
ac am ei fawredd canant:
Gan ddangos drwŷ'r hôll Fŷd ei fraint,
a maint ŷw ei ogoniant.
6 Uchel ŷw'r Iôn, etto fe wêl
yr ufudd isel ddynnion:
A gwêl o hirbell, ar eu plau,
y beilch a'r gwarrau sythion.
4
7 Pe bae yn gyfŷng arna'r Bŷd,
ti a'm bŷwheuit eilwaith:
Gan ystŷn llaw i ddwŷn dy wâs
oddiwrth rai atcas ymaith.
8 Yr Arglwŷdd a gyflawna a mi,
Duw dy ddaioni rhag llaw,
Ac yn dragvwŷdd i mi dôd:
na wrthod waith dy ddwŷlaw.
PSALM. 139.
1
ARglwŷdd, manwl a chwiliaist fi,
da i'm adwaeni hefŷd:
2 Fy eisteddiad, codiad, gwŷddost hŷn,
a'm meddwl cŷn ei ddwedŷd.
3 Yr wŷt ynghŷlch fy lloches i,
a'm ffŷrdd sŷdd i ti'n hysbŷs:
4 Nid oes air nas gwŷddost ei fôd
ar flaen fy nhafod ofnŷs.
2
5 O'm hôl ac o'm blaen i'm lluniaist,
dy law a ddodaist arnaf:
6 Gwŷbodaeth ddieithr ŷw i mi,
a'i deall hi nis medraf:
7 I ba le'r âf fi i roi trô,
i 'mguddio rhag dy Ysprŷd?
I ba le ffoâf rhag dy ŵŷdd,
drwŷ gael ffordd rwŷdd i lathlŷd?
3
8 Os dringaf tua'r nefoedd frŷ,
wŷt yno i'th dŷ perffaith:
Os tua'r dyfndwr, gostwng trô,
yr wŷt ti yno eilwaith.
9 Pe cawn adenŷdd boreu wawr,
a mŷnd i fôr mawr anial,
10 Yno bŷdd dy ddwŷ-law di,
i'm tywŷs i, a'm cynnal.
4
11 A phe meddyliwn, yr ail tro,
ymguddio mewn tywŷllwg,
Canol y nos fel hanner dŷdd,
mor oleu fŷdd yn d'olwg.
12 Nid dim tywŷllach nôs i ti
nag ŷw goleuni haf-ddŷdd:
A'r ddau i ti maent yr un ddull,
y tywŷll a'r goleu ddŷdd.
5
13 Dâ gwŷddost y dirgelwch mau,
fy 'rennau a feddiannaist,
Ynghrôth fy mam pan oeddwn i,
yno dy di a'm cuddiaist.
14 Can's rhyfedd iawn a gŵnaethost fi
a'th waith di sŷ ryfeddod,
A'm henaid a ŵŷr hynnŷ'n ddâ,
a hon a wna i't fawrglod.
6
15 Ni chuddwŷd fy ngrŷm rhagot ti,
pan wnaethost fi yn ddirgel,
Fel llunio dŷn o'r ddaiar hon,
ofewn pridd eigion isel.
16 Dy lygaid gwelsant fy nhrefn wael,
cŷn i mi gael perffeith-lun.
Roedd pôb peth yn dy lyfr yn llawn,
cŷn bôd yn iawn un gronun.
7
17 Mor anwŷl dy feddyliau i'm,
mor fawr ŷw sum y rheini:
18 Wrth fwrw, amlach gwn eu bôd
na'r tywod o rifedi.
Myfyrio pan ddeffrowŷf' fi,
'rwŷf gyda thi yn gwblol.
19 O Dduw, pa achos yn dy lîd,
na leddid yr annuwiol?
8
O Dduw pe cospid rhai o'r rhain
y sŷdd yn arwain traha,
Wrth y gwaedlŷd fe gaid dwedŷd,
dydi dôs oddiymma.
20 Y rhai amdanaf f' Arglwŷdd cu,
sŷ'n treuthu pethau sceler,
A'th elynnion dibris eu llw,
cymrasant d'enw'n ofer.
9
21 Ond câs ŷw gennif, O Dduw Iôn,
dy holl gaseion gwaedlŷd?
Ond ffiaidd gennif fi bôb dŷn,
a ae yn d'erbŷn hefŷd?
22 A llawn gâs y caseais hwŷnt,
ŷnt fel ar bwŷnt gelynnion,
23 O chwilia fi, O Dduw yn hŷ,
cei hynnŷ yn fy nghalon.
10
Duw prawf fy meddwl yn fy mol,
24 Oes ffordd annuwiol gennif;
Gwêl fi, tywŷs, dŵg fi yn f'ol,
dôd ffordd dragwŷddol i mif.
PSALM. 140.
1
RHag gŵr drŵg gwared fi (fy Nêr)
rhag gŵr y trawsder efrŷdd,
2 Rhag sŷ'n bradychu yn ddirgel,
a chasglu rhyfel beunŷdd.
3 Fel colŷn sarph yn llithrig wau,
ŷw eu tafodau llymion:
Gwenwŷn yr asp sŷdd yn parhau
dan eu gwefusau creulon.
2
4 Rhag y dŷn drŵg, rhag y gŵr traws
sŷ'n myfŷr lliaws faglau.
Duw gwared fi, rhag gosod brâd,
ynghŷlch fy ngwstad lwŷbrau.
5 Y beilch cuddiasant fagl, a rhwŷd,
wrth hon gosodwŷd tannau;
Ar draws fy ffŷrdd i ddal fy nhroed:
ynghudd a rhoed llinynnau.
3
6 Dwedais wrth f' Arglwŷdd fy Nuw wŷd,
tŷn fi o'u rhwŷd a'u maglau:
O gwrando 'n fuan f' Arglwŷdd nêf,
ar brudd lêf, fy ngweddiau.
7 Fy Arglwŷdd ŷw fy nerth igŷd,
a'm coel, a'm iechŷd calon;
Ti a roist gudd tros fy mhen mau,
yn nŷdd yr arfau gloŷwon:
4
8 I'r dŷn annuwiol, Duw na âd,
ddymmuniad drŵg ei 'wŷllŷs;
Rhag ei wneuthur ef yn grŷ,
a'i fŷnd yn rhŷ drahâus.
9 A'i holl ddymuniad drŵg i mi,
a'i regen weddi greulon,
Y rhain yn llwŷr a ddont ymmhen
y capten o'm caseion.
5
10 Syrthied arnŷnt y marwor tân,
ac fellu llosgan ymaith,
Bwrier hwŷnt mewn ceuffosŷdd nant,
fel na chyfodant eilwaith.
11 Dŷn llawn siarad fŷdd anwastad,
ni eistedd ef yn gryno:
A drŵg a ymlid y gŵr traws,
o hŷn mae'n haws ei gwŷmpo.
6
12 Dâ gwn y rhŷdd yr Arglwŷdd dâl
i ddial cam y truan,
Ac yr iawn farna y dŷn tylawd
sŷ'n bŷw ar geidwad fechan.
13 Y rhai cyfiawn drwŷ yr holl fŷd,
dy enw a gŷd foliannant
A'r hôll rai union, heb ofn nêb,
oflaen dy wŷneb trigant.
PSALM. 141.
1
O Brysia Arglwŷdd clŷw fy llais,
o prysur gelwais arnad;
O'r man lle bwŷf, gwrano fy llêf,
a doed i'r nêf hŷd [...]d.
2 Fy ngweddi gar dy fron a ddaw,
gan godi dwŷlaw'n uchel,
Yn arogl darth, ac aberth hwŷr,
fel union ddiŵŷr lefel.
2
3 O Arglwŷdd gosod, rhag gair ffraeth;
gadweidiaeth ar fy ngeneu,
Rhag i'm gam-ddwedŷd, gosod ddôr
ar gyfor fy ngwefusau.
4 Na phwŷsa 'nghalon ar ddrŵg bêth,
ynghŷd bleth a'r annuwiol:
Nag mewn cŷdfwriad gwaith neu wêdd,
rhag twŷll eu gwlêdd ddaintethol.
3
5 Boe [...] [...]p a cherŷdd y cyfiawn,
fel ol [...] gwerthlawn arnaf;
Ni friwa fy mhen, pa mwŷaf fô,
mwŷ trosto a weddiaf.
6 Eu barnwŷr pe bwrrid i'r llawr,
ar greigiau dirfawr dyrus:
Gwrandawent ar fy 'madrodd i,
a chlywent hi yn felus.
4
7 Fel darnau cynnŷd o goed mân,
a fwrian rhŷd y ddaiar,
Mae'n hesgŷrn ninnau yr un wêdd,
ym mron y bêdd ar wasgar.
8 Mae 'ngolwg a'm holl obaith i,
Duw arnat ti dy hunan:
Duw bŷdd di'n unig yn fy mhlaid,
na fwrw f'enaid allan.
5
9 Cadw fi Arglwŷdd rhag y rhwŷd,
hon a osodwŷd i mi,
Telm yr annuwiol a hoenŷn main,
rhag ofn i'r rhain fy maglu.
10 Yr anwireddwŷr heb ado un,
cwŷmpant eu hun iw rhwŷdau,
Ymddiried ynot ti a wnâf,
ac fellu diangaf finneu.
PSALM. 142.
1
RHois weddi ar yr Arglwŷdd nêf,
yn llŷm fy llêf ymbiliais;
2 A'm holl fyfyrdod gar ei fron,
o'm calon a tywelltais.
3 Ond pan fynegais it fy nghur,
a'm dolur o'm meddyliau,
Dâ gwŷddit ti bôb ffordd, a'r man,
a rhoesan i mi faglau.
2
4 O'r tu deheu nid oedd i'm neb,
trown f'wŷneb, a'm hadwaenai,
Na nawdd, na neb, o du'n y bŷd,
fy mywŷd a ymgleddai.
5 Arnad llefais, wrthŷt dwedais,
Duw, di a ydwŷd union:
Fy nghwbl obaith wŷt ti yn wîr,
a'm rhan yn nhîr y bŷwion.
3
6 O ystŷr Arglwŷdd, faint fy nghri,
rwŷf mewn trueni digllon:
Rhag fy erlidwŷr gwared fi,
mae rheini yn rhŷ gryfion.
7 O garchar caeth fy enaid tŷnn,
dy enw am hŷn a folaf:
Pan weler dy fôd ar fy rhan,
y cyfion tywŷsan attaf.
PSALM. 143.
1
ERglŷw fy arch, O Arglwŷdd mâd,
rŵŷf arnad yn gweddio:
O'th wirionedd, a'th gyfiawnedd,
gosynnaf i't fy ngwrando.
2 Ac na ddôs i'r farn a'th wâs, gwael,
(pa lês i'm gael cyfiawnder?)
Am nad oes dŷn bŷw gar dy fron
yn gyfion pan ei teimler.
2
3 Y gelŷn a erlidiodd f'oes;
mewn llŵch i'm rhoes i orwedd:
Fel y rhai meirwon a fai'n hîr,
îs tywŷll dir a'u hannedd.
4 Yna fy ysprŷd mewn blin ing,
a fu mewn cyfing-gyngor:
5 Ac ar fy nghalon drom daeth braw:
ond wrth fyfyriaw rhagor.
3
Mi a gofiais y dyddiau gŷnt,
a helŷnt gwaith dy ddwŷlo,
Am hŷn myfyriais, fy Nuw Nâf,
am hŷn myfyriaf etto.
6 Fy nwŷlaw attad rhois ar lêd,
lle mae fy amddiried unig,
Am danad f'enaid sŷdd yn wir,
un wêdd a'r tîr sychedig.
4
7 Yn ebrwŷdd gwrando fi yn rhôdd,
O Arglwŷdd, pallodd f'ysprŷd:
Rhag i mi fyned i'r pwll du,
fel rhai a ddarfu eu bywŷd.
8 Pâr i'm ar frŷs glywed dy nawdd,
canŷs ynot hawdd a credais:
A dŷsg i'm rodio dy ffŷrdd rhâd,
fy enaid attad codais.
5
9 A gwared fi fy Nuw, a'm Iôn,
rhag fy ngelynnion astrus,
Am fôd fy lloches gyda thi:
10 O dŷsg i mi d'ewŷllŷs:
Canŷs di ydwŷt y Duw mau,
boed d'Ysprŷd tau i'm tywŷs
Ar yr uniondeb yn y tir,
dyna dy wir ewŷllŷs.
6
11 Duw, er mwŷn d'enw, fi bŷwha,
a helpa f'enaid tyner,
Allan o ing, Duw cair ei ddwŷn,
ac er mwŷn dy gyfiawnder.
12 A gwna ar elynol blaid,
caseion f'enaid, gerŷdd:
Difetha hwŷnt er mwŷn dy râs,
mi ydwŷf dy wâs ufudd.
PSALM. 144.
1
BEndigaid fo'r Arglwŷdd, fy nerth,
mor brydferth yr athrawa
Fy nwŷlo i ymladd, a'r un wêdd
fy mysedd i ryfela.
2 Fy nawdd, fy nerth, fy Nuw, fy nghrêd,
fy nhŵr, f'ymwared unig:
Trwŷddo ef fy mhobl a gâf
tanaf yn ostyngedig.
2
3 Pa beth ŷw dŷn, dywaid O Dduw,
pan fyddŷt iw gydnabod?
A mâb dŷn pa beth ŷw fo,
pan fŷch o hono'n darbod?
4 Pa bêth ŷw dŷn? peth yr un wedd
a gwagedd heb ddim o hono;
A'i ddyddiau'n cerdded ar y rhôd,
fel cysgod yn mŷnd heibio.
3
5 Gostwng y nefoedd, Arglwŷdd dâ,
ac edrŷch draha dynnion:
Duw cyffwrdd a'r mynyddoedd frŷ,
gwna iddŷnt fygu digon.
6 Iw gwasgar hwŷnt gŷrr fellt i wau,
iw llâdd gŷrr saethau tanbaid.
7 Disgŷn, tŷn fi o'r dyfroedd mawr:
hŷn ŷw, o law'r estroniaid.
4
8 Duw gwared fi, geneuau'r rhain
a fŷdd yn arwain gwegi:
A'u deheu-law sŷdd yr un bwŷll,
ddeheu-law twŷll, a choegni.
9 I ti Dduw, canaf o fawrhâd,
yn llafar ganiad newŷdd,
Ar Nabl, ac ar y Dêg tant,
cei gerdd o foliant beunŷdd.
5
10 Duw i frenhinoedd rhoi a wnaeth,
ei swccraeth at iawn reol:
Dan ymwared Dafŷdd ei wâs,
rhag cleddŷf câs newidiol.
11 Duw gwared, achub fi wrth raid,
rhag plant estroniaid digus,
A'u safn yn llawn o ffalsder gau,
a'u dehau yn dwŷllodrus
6
12 Bŷdd ein meibion fel plan-wŷdd cu
o'r bôn yn tyfu yn iraidd:
A'n merched ni fel cerrig nâdd,
mewn conglau neuadd sanctaidd.
13 A'n conglau'n llawnion o bôb peth,
a'n defaid, difeth gynnŷdd.
Yn filoedd (mawr ŷw'r llwŷddiant hwn)
a myrddiwn i'n heolŷdd.
7
14 A'n hychen cryfion dan y wêdd,
yn hŷ-wedd, ac yn llonŷdd:
Heb dorr, na soriant i'n mŷsg ni,
na gweiddi i'n heolŷdd.
15 Dedwŷdd ydŷw y bobl sŷ,
a phôb peth fellu ganthŷnt:
Bendigaid ŷw'r bobl y rhain ŷw,
a'r Arglwŷdd yn Dduw iddŷnt.
PSALM. 145.
1
MI a'th fawrygaf di, fy Nuw,
canŷs dy di ŷw fy llywŷdd,
Bendithio dy enw bŷth a wnâf,
mi a'i molaf yn dragywŷdd.
2 Dy enw a folaf fi bôb dŷdd
a'th glôd a fŷdd heb orphen,
3 Yr Arglwŷdd sŷdd glôd-fawr heb wêdd,
a'i fawredd fŷdd heb ddiben.
2
4 Cenedl wrth genedl a rônt fawl
i'th ogoneddawl wrthiau;
Gan danu dy nerth rhŷd y bŷd,
a dwedŷd dy gynneddfau,
5 Am dy ogonedd mawr, fy Nâf,
mynegaf, a'th gadernŷd.
6 Sôn am dy bethau ofnadwŷ,
gwnânt hwŷ a minneu hefŷd.
3
7 Llwŷr goffadwriaeth o honot ti,
a'th fawr ddaioni a draethant:
Ac o'th gyfiawnder fy Nuw Iôn,
a llafar dôn y canant:
8 Sêf graslawn ŷw ein Arglwŷdd ni,
ac o dosturi rhyfedd:
Hŵŷr, ac anniben ŷw i ddîg:
llawn frydig i drugaredd.
4
9 Da ŷw yr Arglwŷdd i bôb dŷn,
a'i nodded sŷ'n dycciannol:
Ac ar ei hôll weithredoedd êf
daw nawdd o'r nêf yn rasol.
10 Dy hôll weithredoedd di i'th lwŷdd,
O Arglwŷdd a'th glodforant:
Dy wŷrth pan welo dy Sainct di,
y rheini a'th fendithiant.
5
11 Gan sôn am drugaredd, a grâs
dy deŷrnas, a'i chadernŷd:
Fel dyna'r gerdd sŷdd yn parhau,
yn eu geneuau hyfrŷd.
12 Fel a parent trwŷ hyfrŷd glôd,
gydnabod a'th deŷrnassiad,
A'th nerth ym mŷsg hôll ddynol blant,
a'th lawn ogoniant gwastad.
6
13 Brenhiniaeth dy deŷrnas frŷ,
a berrŷ yn wastadol,
A'th lywodraeth o oed i oed,
hon a roed yn dragwŷddol.
14 Yr Arglwŷdd cynnal ef yn llonn,
y rhai sŷ 'mron eu cwŷmpod.
Ac ef a gyfŷd bawb yn wir,
a'r a ostyngir isod.
7
15 Wele, mae llygaid yr hôll fŷd
yn disgwŷl wrthŷd Arglwŷdd,
Ditheu a'u porthi hwŷnt igŷd,
bawb yn ei brŷd yn ebrwŷdd.
16 A phan egorech di dy law,
o honi daw diwall-faeth?
D'ewŷllŷs da ŷw ymborth bŷw,
a hynnŷ ŷw eu lluniaeth.
8
17 Hôll ffŷrdd yr Arglwŷdd cyfion ŷnt
a'i wrthiau ydŷnt sanctaidd:
18 Agos i bawb a ydŷw fo,
a eilw arno'n buraidd.
19 Sef ar y gwŷr a'i hofnant ef,
fe glŷw eu llêf iw gwared,
Fe rŷdd eu hwllŷs hwŷnt, a'u harch,
o'i wir barch, Iôn gogoned.
9
20 Pôb dŷn a garo'r Arglwŷdd nêf,
caiff gantho ef ei 'mddiffŷn:
A chan ddifetha rhŷdd oes ferr,
i bôb ysceler cyndŷn.
21 Fy enaid traethed fendith rhwŷdd,
a mawl yr Arglwŷdd nefol:
A phôb cnawd rhoed iw enw, y Sanct,
ogoniant yn dragwŷddol.
PSALM. 146.
1
Fy enaid mola'r Arglwŷdd nêf,
2 Mi a'i molaf ef i'm bywŷd:
Dangosaf glôd i'm Harglwŷdd Dduw,
tra gallwŷf fŷw na symmud.
3 Na hyderwch ar Dwŷsogion,
nac ar blant dynnion bydol:
Am nad oes ynthŷnt hwŷ igŷd,
na help nac lechŷd nerthol.
2
4 Pan êl y ffun o'r geneu gwael,
a'r corph i gael daiar lân,
Fellu dychwel, fel dyna'r dŷdd
a derfŷdd ei hôll amcan.
5 Y prŷd hwn gwŷn ei fŷd efô
a rotho ei hôll obaith
Ar Dduw Iago yn gymorth dâ,
paw-êl oddiymma ymaith.
3
Hwn Dduw a wnaeth nêf, daiar, môr,
a'r hôll ystôr sŷdd ynthŷnt:
6 Hwn a saif yn ei wir ei hun,
prŷd na bo un o honŷnt.
7 Yr hwn i'r gwael a rŷdd farn ddâ,
a bara i'r newŷnllŷd,
Fe ollwng Duw y rheidus gwâr,
o'i garchar, ac o'i gaeth-fŷd.
4
8 Yr Arglwŷdd egŷr lygaid dall,
ef a dŷr wall gwael ddynnion:
Ymgleddu'r gwan 'mae'n Harglwŷdd ni,
a hoffi y rhai cyfion.
9 Dieithraid, a'r ymddifad gwan,
a'r weddw druan unig,
Duw a'u pŷrth: ond dyrysu 'wnai
hôll ffŷrdd pôb rhai cythreulig.
5
10 Yr Arglwŷdd yn teŷrnasu a fŷdd,
dy Dduw tragywŷdd Seion:
O oes i oes perŷ dy lwŷdd;
molwch yr Arglwŷdd tirion.
PSALM. 147.
1
MOlwch yr Arglwŷdd, can's da ŷw
canu i Dduw yn llafar:
O herwŷdd hyfrŷd ŷw ei glôd,
a dâ ŷw bôd yn ddiolchgar.
2 Caersalem dinas gyflawn fŷdd,
yr Arglwŷdd sŷdd iw darpar:
Gan gasglu Israel ynghŷd,
a fu drwŷ'r Bŷd ar wasgar.
2
3 Yr unig Arglwŷdd sŷ'n iachau,
yn rhŷdd o friwiau'r galon.
Yr Arglwŷdd rhwŷm eu briwiau'n iawn
y rhai dol [...]r-lawn cleifion.
4 Yr Arglwŷdd sŷdd yn rhifo'r sêr,
a phôb rhŷw nifer 'honŷnt:
Ef a'u geilw hwŷnt ôll yn glau,
wrth briod enwau eiddŷnt.
3
5 Mawr ŷw ein Harglwŷdd ni o nerth,
a phrydferth o raslondeb;
Ac mae'n bell iawn uwch ben pôb rhîf,
sôn am ei brif ddoethineb.
6 Yr Arglwŷdd unig fŷdd yn dal
i gynnal y rhai gweiniaid,
Ac ef a ostwng hŷd y llawr
y dorf fawr annuwioliaid.
4
7 Cenwch i'r Arglwŷdd fel y gwêdd,
clodforedd iddo a berthŷn:
O cenwch, cenwch gerdd i'n Duw,
dâ ydŷw gyda'r delŷn:
8 Hwn a chymylau toaes y nen,
a glaw'r ddaiaren gwlychodd,
I wellt gwnaeth dyfu ar y fron,
a llysiau i ddynnion parodd.
5
9 Hwn i'r anifail ar y brŷn
a rŷdd yr hŷn a'i portho:
Fe bortha gywion y cig-frain,
pan font yn llefain arno.
10 Nid oes gantho mewn grŷm un march,
na serch, na pharch, na phleser:
Nac mewn esgair, neu forddwŷd gŵr,
fel dyna gyflwr ofer.
6
11 Yr Arglwŷdd rhoes ei serch ar ddŷn
yr hwn y sŷn ei hoffi;
Ac sŷdd yn disgwŷl cael ei nawdd,
caiff hwn yn hawdd ddaioni.
12 O Caersalem gyflawn o lwŷdd
molianna'r Arglwŷdd eiddod;
O Seion sanctaidd, dôd un wêdd
i'th Dduw glodforedd barod.
7
13 Herwŷdd yr Arglwŷdd a'i fawr wŷrth,
a wnaeth dy bŷrth yn gryfion:
A rhoes ei fendith, a thycciant,
ymlhîth dy blant a'th wŷrion.
14 Hwn a roes heddwch yn dy frô,
fel y cynnyddo llwŷddiant,
Ac a ddiwallodd yn eich plith,
o frasder gwenith, borthiant.
8
15 Ei orchymmŷn, ef a ddenfŷn
o'i ddawan fawr air cymhesur,
Hwn ar y ddaiar â ar lêi,
ac yno rhêl yn brysur.
16 Eirch i'r eira ddisgŷn [...] fel gwlân:
eirch rêw fel tân, fel lludw,
17 Eirch iâ, fe ddaw yn defŷll cri,
pwŷ 'erŷs oerni hwnnw?
9
18 Wrth ei air eilwaith ar ei hŷnt,
fe bair i'r gwŷnt ochneidio
I doddi'r rhain, ac fellu bŷdd
i'r hôll afonŷdd lifo.
19 Grŷm ei air, a'i ddeheu law grêf,
a ddengŷs ef i Iago,
A'i ffŷrdd a'i farn i Israel,
a'r rhai a ddêl o hono.
10
20 Ni wnaeth efe yn y dull hwn,
a nêb rhŷw nasiwn arall:
Ni wŷddent farnau'r Arglwŷdd nêf,
O molwch ef yn ddiball.
PSALM. 148.
1
OMolwch yr Arglwŷdd o'r nêf,
rhowch lêf i'r uchel leoedd.
2 Molwch hwn hôll Angelion nêf,
molwch ef ei hôll luoedd.
3 Yr haul, a'r lleuad, a'r hôll sêr,
y gloŷwder, a'r goleuni.
4 Nêf y nefoedd, a'r ffurfafen,
a'r dwfr uwch ben y rheini.
2
5 Moliannant enw'r Arglwŷdd nêf,
hwŷnt a'i air ef a wnaethbwŷd.
Dywedodd y gair, a hwŷ fel hŷn
ar ei orchymmŷn crewŷd.
6 Rhoes reol iddŷnt i barhau,
fel deddfau bŷth iw dilŷn:
Rhoes bôb peth yn ei lê'n ddi os,
[...]ad elo dros ei derfŷn.
3
7 Molwch yr Arglwŷdd o'r ddaiar,
chwŷchwi ystrywgar ddreigiau,
8 Y tân, a'r cenllŷsg, eira, a tharth,
a'r gwŷnt o bôb parth ynteu.
9 Mynyddoedd, bryniau, ffrwŷthion wŷdd,
a'r tirion gedrwŷdd briggog:
10 Anifeiliaid, ac ymlusgiaid maes,
ac adar llaes asgellog.
4
11 Brenhinoedd daiar, barnwŷr-bŷd,
swŷddwŷr ynghŷd a'r bobloedd,
12 Gwŷr iefaingc, gwŷryfon, a gwŷr hên,
Pôb bachgen ymhôb oesoedd.
13 Molant ei enw ef ynghŷd,
uchel a hyfrŷd ydoedd,
Ei enw ef sŷdd uchel ar
y ddaiar oll, a'r nefoedd.
5
14 Can's corn ei bobl a dderchafawdd,
yn fawl a nawdd i'r eiddo,
I Israel, ei etholedig,
a drig yn agos atto.
PSALM. 149.
1
CEnwch i'r Arglwŷdd, ac iawn fŷdd,
rŷw ganiad newŷdd rhyfedd:
A chlywer ynghynlleidfa'r Sainct,
ei fawr fraint, a'i orfoledd.
2 Boed Israel lawen, a ffraeth,
yn Nuw a'i gwnaeth yn ddibrin:
A byddant hyfrŷd blant Seion,
yn Nuw eu tirion frenin.
2
3 Molant ei Enw ar y bibell,
a thympanell, a thelŷn;
4 Can's bodlon ŷw, iw bobl igŷd,
rhŷdd iechŷd i'r lledneis ddŷn.
5 Iw Sainct ef doed gorfoledd iawn,
a hon yn llawn gogoniant,
Yn eu gwlâu, (yn llawen ddull)
ac yn eu stefŷll canant.
3
6 Yn eu genau bŷdd cerdd bôb awr,
i'n Duw a'i fawr ryfeddod,
Ac yn eu dwŷlaw bŷdd iw drîn,
y cleddŷf deufin parod;
7 Ar estroniaid i'n dial ni,
ac i gosp boeni'r bobloedd.
8 I roi mewn caethder cadwŷn drô
i rwŷmo eu brenhinoedd.
4
I roi eu pendefigion chwŷrn,
mewn gefŷn heirn ffyrnig,
9 I wneuthur arnŷnt union farn,
yn gadarn Scrifennedig.
Dymma'r glân ardderchogrwŷdd fŷdd
iw sainct y sŷdd yn credu;
Clodforwch ôll yr Arglwŷdd nêf,
O molwch ef am hynnŷ.
TERFYN Y PSALMAU.