YR YMARFER O DDUWIOLDEB: Yn cyfarwyddo dŷn i ryngu bôdd Duw.
PWy bynnac wyt sydd yn edrych yn y llyfr hwn, na chymmer arnat fyth ei ddarllen, onid ymroi o'th galon i fôdyn ddifrifol arferwr o dduwioldeb. Etto darllen ef, a hynny yn fuan, rhag cyn i ti ei ddarllen trosto, i Dduw (trwy ryw farwolaeth ddisymmwth) dy dorri di ymmaith am dy hên annuwioldeb cynefin.
Oddieithr i ddŷn wir adnabod Duw, ni ddichon, ac ni chais moi iawn wasanaethu ef. Canys pa fôdd y dichon dŷn garu yr hwn nid edwyn? A phwy â anrhydedda yr hwn y mae yn tybied nad rhaid iddo wrth ei gymmorth? a pha fôdd y cais neb gynnorhwy Duw drwy râs, yr hwn erioed nid adnabu ei drueni ei hûn o naturiaeth? Am hyn y dywed yr Apostol Heb. 11.6. rhaid yw i'r neb sydd yn dyfod at Dduw gredu ei fod ef, a'i fod yn obrwywr i'r rhai sy 'n ei geisio ef. Ac yn gymmaint ac na ddichon bôd dim gwir dduwioldeb, heb wybodaeth o Dduw: na dim ymarfer o jawn wybodaeth gan ddŷn, heb ei adnabod ei hûn: Nyni gan hynny â osodwn i lawr wybodaeth am fawrhydi Duw, a thrueni dŷn, megis yn sylfeini isaf ac angenrheidiaf o Ymarfer duwioldeb.
AGWEDDIAD EGLUR O sylwedd a phriodoliaethau Duw, allan o'r scrythur lân, cyn belled ac y mae yn addas i bob Christion ei wybod: ac yn angenrhaid ei gredu i'r nêb a fynno fôd yn gadwedig.
ER na ddichon vn creadur hysbysu pa beth yw Duw, o herwydd diamgystred yw, yn trigo yn y goleuni yr hwn ni ellir dyfod atto: etto fe ryngodd bôdd iw fawrhydi ef ei ddadcuddio ei hùn i ni yn ei air cyn belled ag y gallo ein dealtwriaeth wan ei ddirnad yn orau, fal hyn:
Duw yw'r un ysprydol, ac anherfynol berffaith sylwedd, yr hwn sydd ai hanfod o honaw ei hûn yn dragwyddol. Yn y Sylwedd Dduwiol yr ydym i ystyried dau beth.
- 1. Yr amryw ddull ar hanfod ynddo.
- 2. Ei briodoliaethau.
Yr amryw ddull ar hanfod yn y Duwdod â elwir persônau. Person yw sylwedd wahanol y Duwdod.
Yn y Duwdod y mae tri pherson:
- Y Tad,
- Y Máb,
- Yr Yspryd glán.
[Page 3]Y tri phersônau hyn nid ydynt dri o sylweddau didolaidd, eithr tri hanfod gwahanredol, neu dri amryw ddull ar handfod o vn ac vnrhyw sylwedd y Duwdod: Ac felly person yn y Duwdod, yw deall anwahanedig, a hanfod anghyfrannol, yn byw o honaw ei hûn, ac heb ei gynnal gan arall.
Yn vndeb y duwdod y mae lluosogedd, yr hwn nid yw ddamweiniol, (canys y mae Duw yn Weithred pur. waith pur, ac ni chynnwys atto ddim damweiniau) na sylweddol, (canys Duw un sylwedd yw yn vnig) eithr personol.
Y persônau yn yr vn sylwedd hon nid ydynt ond tri: yn y dirgelwch hwn y mae alius & alius, arall, ac arall, eithr nid aliud & aliud, peth arall a pheth arall.
Sylwedd y Duwdod ynddo ei hûn, ni wahenir, ac ni wahanredir, eithr y tri phersônau yn sylwedd y Duwdodd a wahanredir yn eu plith eu hunain mewn tair ffordd.
- 1. Wrth eu henwau.
- 2. Wrth eu trefn.
- 3. Wrth eu gweithrediadau.
1. Wrth eu henwau mal hyn.
Y Person cyntaf a elwir y Tád; yn gyntaf, o herwydd ei Fáb naturiol Crist: yn ail, o herwydd yr etholedigion ei blant o fab-wysiad, sef y rhai nid ydynt ei blant ef o naturiaeth, eithr a wnaed yn blant iddo o rás.
Yr ail Person, a elwir y Mâb, o herwydd ei genhedlu ef o sylwedd a naturiaeth ei Dád, ac efe a elwir y Gair: i, o herwydd mai cenedliad gair ym meddwl dyn yw'r peth nessaf a ddichon mewn rhyw fôdd [Page 4] ddangos i ni gyffelybrwydd o'r agwedd y cenhedlwyd ef er tragwyddoldeb o sylwedd ei Dád: ac o herwydd hyn hefyd y gelwir ef Doethineb ei Dad, Dihar. 8.12.2, O herwydd mai trwyddo ef yr hyspysodd y Tâd o'r dechreuad ei ewyllys am ein iechydwriaeth ni: o hyn y gelwir ef logos quasi legôn, y person yn llefaru wrth, neu trwy y Tâdau. O herwyd mai efe yw prif-destyn holl air Duw, neu'r Gair hwnnw am yr hwn y llefarodd Duw, pan addawodd yr hâd bendigedig i'r tadau tan yr hên Destament.
Y trydydd person a elwir yr Yspryd Glân: yn gyntaf, am ei fod yn ysprydol heb gorph: yn ail, o herwydd ei chwthu, ac megis ei anadlu oddiwrth y Tad a'r mâb, sef yn deilliaw oddiwrthynt ill dau. Ac efe a elwir yn Neu yn lân. sanctaidd, yn gystal o herwydd ei fod yn sanctaidd yn ei naturaieth ei hûn, ac hefyd yn ddigyfrwng sancteiddydd holl etholedig bobl Dduw.
2. Wrth eu trefn mal hyn.
PErsônau y Duwdod ydynt naill ai'r Tâd, neu yr rhai ydynt o'r Tàd. Y Tâd yw'r person cyntaf yn y gogoneddus Drindod, heb dderbyn na'i sylwedd na'i ddechreuad gan neb arall, eithr ganddo ei hun, yn cynhedlu ei Fâb, ac ynghŷd gyd a'i Fâb, yn anfon ei Yspryd glân er tragwyddoldeb.
Y persônau y rhai ydynt o'r Tâd yw, y rhai o herwydd eu personol hanfod sy ganddynt holl sylwedd y Duwdod er tragwyddoldeb, wedi ei gyfrannu iddynt oddiwrth y Tád. A rhai hynny ydynt naill a'i oddiwrth y Tâd yn vnig, megis y Mab: neu oddiwrth y Tad a'r Mâb megis yr Yspryd Glân.
Y Mab yw'r ail Person o'r Drindod ogoneddus. Ac ynig genedledig Fâb ei Dâd, nid o rás, ond o naturiaoth; yn cael ei hanfod o'r Tad yn vnig, a holl hanfod [Page 5] ei Dâd trwy genedliad tragwyddol ac ammessuredig, ac ynghŷd a'r Tad yn anfon yr Ysprydd glân. O herwydd eisylwedd berffeith-gwbl, o honaw ei hûn y mae: eithr o herwydd ei berson, o'i Dâd y mae, drwy genedliad tragwyddol. Canys nid yw y sylwedd yn cenedlu sylwedd, eithr person y Tâd sydd yn cenedlu person y Mâb, ac felly y mae ef yn Dduw o Dduw, yn cael oddiwrth ei Dad ddechreuad ei Berson, a'i Drefn, eithr nid dechreuad ei sylwedd a'i amser.
Yr Yspryd Glân ydyw y trydydd Person o'r Drindod fendigedig, yn deilliaw a chwedi ei anfon yn gystal oddiwrth y Tàd ar Mâb, drwy dragwyddol ac anfesurol ysprydoliaeth. Canys fel y mae'r Mab yn derbyn oll sylwedd y Duwdod drwy Genedliad, felly y mae'r Yspryd Glân, yn ei dderbyn yn gyfan trwy ysprydoliaeth.
Y drefn hon rhwng y tri pherson a ymddengys yn hyn: sef fôd y Tâd yr hwn sydd yn cenhedlu, o flaen y Mab yr hwn a genhedlwyd; a'r Tâd a'r Mâb o flaen yr Yspryd glan, yr hwn sydd yn deilliaw oddiwrth y ddau.
Y drefn hon a wasanaetha i ni i osod allan ddau beth: yn gyntaf, y dull pa wêdd y mae y Drindod yn gweithio yn eu gweithrediadau oddiallan: megis bòd y Tad yn gweithio o honaw ei hûn drwy 'r Máb a'r Yspryd glân; y Mab oddiwrth y Tad a thrwy'r Yspryd glan; yr Yspryd glan oddiwrth y Tad ar Mab. Yn ail, i neillduo y dechreuad digyfrwng cyntaf, oddiwrth yr hwn y mae y gweithrediadau cyffredin hynny oddaillan yn tarddu. Oddiymma y deilliaw, yn gymmaint ac y mae y Tâd yn flynnon a gwreiddyn y Drindod, a dechreuad pob gweithrediad oddiallan: enw Duw mewn perthynas, a'r cyfenw creaŵdr yn y Credo, a roddir mewn môdd hynodol i'r Tâd: ein prynedigaeth i'r Mab: a'n sancteiddiad i Berson [Page 6] yr Yspryd Glán, megis gweithredyddion digyfrwng or gorchwyliau hynny. A hyn hefyd yw'r achos y mae'r Mâb fel y mae'n gyfryngwr yn rhoi pob peth ar law ei Dad: ac nid ar yr Yspryd glân; a bôd yr scrythur yn dywedyd cyn fynyched ein bod ni wedi ein cymmodi a'r Tâd.
Oni bae'r drefn oruchel hon, neu'r Deuluaeth, nid oes na chyntaf na diwaethaf, nac vwch nac îs ym mhlith y tri phersônau, canys o ran naturiaeth cydhandfod y maent, o ran braint go-gyfuwch ydynt, ac o ran amser go-gyd-tragwyddol.
Holl sylwedd y Duwdod sydd ym mhob vn o'r tri pherson; eithr a gnawdiwyd yn vnig yn yr ail Person, sef y Gair, ac nid ym mherson y Tád na'r Ysprd glan o herwydd tri rheswm.
1. Fel y gallai Dduw Tâd yn hytrach egluro faint yw ei gariad tu ac at ddynol ryw; yn rhoddi ei vniganedig Fáb i gymmeryd cnawd arno, ac i ddioddef marwolaeth er mwyn iechydwriaeth dyn.
2. Fel y gallai ef yr hwn yn ei Dduwdod oedd yn Fâb i Dduw, fod hefyd yn ei ddyndod yn Fâb dyn: rhag ir enw Mab fyned i arall, yr hwn wrth ei dragwyddol enedigaeth nid ydoedd y Mâb.
3. O herwydd mai gweddeiddiaf oedd i'r Person hwnnw, yr hwn yw sylwedd, a gwir ddelw-lun ei dragwyddol Dad, Adgyweirio. edfrydu ynom ysprydol ddelw Dduw, yr hon a gollasem.
Yn y cnawdoliaeth, ni throed mor Duwdod yn ddyndod, na'r dyndod yn dduwdod, eithr y Duwdod mal y mae yn ail Person, neu'r Gair, a gymmerodd arno y dyndod, sef cwbl o naturiaeth dyn, corph ac enaid, a'i briodoliaethau naturiol a'i wendid perthynasol, ond pechod yn vnig.
Yr ail Person ni chymmerodd arno Berson dyn, ond naturiaeth dyn. Felly nid oes gan y naturiaeth [Page 7] ddynol mo'r hanfod personol o'r eiddo ei hûn, (canys felly y byddei dau Berson yn Ghrist) eithr hanfod y mae efe yn y Gair, yr ail Person. Canys megis na wna enaid a chorph, ond vn person dyn: felly Duwdod a dyndod, ni wna ond vn Person Crist.
Dau naturiaeth y Duwdod a'r dyndod ydynt mor ddiymmod wedi eu cysylltu ynghŷd drwy bersônol vndeb, mal megis na ellir byth eu gwahanu or neulltu, felly ni chymysgir hwynt; eithr parhau y maent byth yn wahanredol wrth eu amryw sylweddol briodoliaethau, y rhai oedd ganddynt cyn eu cyd-gyssylltu. Megis wrth ensampl; Anherfynoldeb y Duwiol anian ni chyfrennir ir dynol anian, na therfynoldeb y dynol i'r Duwiol.
Etto o herwydd yr vndeb personol hwn, y mae y fâth gyfundeb priodoliaethau yn y ddau naturiaeth, fal y mae yr hyn sydd briodol i'r naill, weithiau hefyd iw briodoli i'r llall. Megis pwrcâsu o Dduw yr eglwys ai briod waed; ac y barna ef y bŷd drwy y Gŵr yr hwn a ordeiniodd efe. Act. 20.28. ac 17.31. O hyn y canlyn, er bod dynolryw Crist yn greuedig, ac am hynny yn derfynol, ac yn gynhwysedig anian, ac na ddichon fod yn bresennol ym mhôb man, drwy osodiad gweithredol, neu gynhwysiad cyfleus yn ol ei hanfod naturiol: etto o herwydd bôd ganddo wedi ei gyfrannu atto Bersonol hanfod Mâb Dvw, yr hwn sydd anfeidrol ac anherfynedig; a chwedi ei vno a Duw yn y cyfryw fôdd, ac na ellir yn vnlle byth ei wahanu oddiwrth Dduw, am hynny y gellir dywedyd am gorph Crist ei fôd o herwydd ei bersonol hanfod ym mhôb lle.
3. Y gweithrediadau drwy'r rhai y gwahanredir y tri Pherson.
Y Gweithrediadau ydynt o ddau fàth, naill ai oddiallan: a'r rheini ydynt mewn rhyw fôdd gyffredinol i bob vn o'r tri phersônau: ai oddimewn ynghylch y persônau yn eu plith eu hunain, a'r rheini ydynt hollawl yn anghyfunol.
Gweithrediadau cyfunol y tri pherson oddiallan ydynt y rhai hyn.
Creadigaeth y byd yn perthyn yn neulltuol i Dduw Tad: Prynedigaeth yr Eglwys i Dduw 'r Mab: a Sancteiddiad yr etholedigion i Dduw yr Yspryd Glân. Eithr o ran i'r Tad greu, a'i fod rhagllaw yn llywodraethu 'r byd drwy'r Mab, yn yr Yspryd Glan, am hynny y gweithrediadau hyn oddiallan yn gyffredin yn yr Scrythyrau, a gyfrifir weithiau i bob vn o'r tri pherson, ac am hynny a elwir cyfrannogawl a gwahanol.
Y Gweithrediadau anghyfrannol, neu briodoliaethau y tri pherson oddimewn ydynt y rhai hyn: sef, 1. Cenedlu, a hynny a berthyn yn vnig i'r Tad, yr hwn ni wnaethpwyd, ni chreuwyd, ac ni chenedlwyd gan arall.
2. BodWedi ei genedlu, yn genedledig: a hynny a berthyn yn vnig ir Máb, yr hwn sydd o'r Tad yn vnig, heb ei wneuthu r na'i greu eithr wedi ei genedlu.
3. Deilliaw oddiwrth y ddau: a hynny a berthyn yn vnig i'r Yspryd glán, yr hwn sydd oddiwrth y Tád, a'r Máb, heb ei wneuthur, na'i greu, na'i genedlu, eithr yn deilliaw.
Felly pan ddywedom fod sylwedd y Duwdod yn y Tád yn ddigenedledig, yn y Máb yn genedledig, [Page 9] ac yn yr Yspryd Glán yn deilliaw: Nid ydym yn gwneuthur tri sylwedd, eithr yn vnig yn dangos amryw ddull ár hanfod, drwy 'r hwn y mae'r vnrhyw sylwedd digymmysg, digenedledig, dragwyddol. Yn bod ym mhob vn or tri pherson: sef, hyn nid yw yn y Tâd drwy genedliad, hynny sydd yn y Mâb wedi ei gyfrannu oddiwrth y Tâd drwy genedliad: ac yn yr Yspryd glán wedi ei gyfrannu oddiwrth y Tâd a'r Mâb drwy ddeilliaw.
Y Rhai hyn ydynt weithrediadau angyfunol, ac a wnant neulltuaeth, nid sylweddol, damweiniol, neu resymmol, ond vnion Neu hanfodol, essentialis. fodol wahanrediad rhwng y tri pherson. Felly megis yr hwn sydd Dâd yn y Drindod nid yw yn Fáb: yr hwn sydd Fàb yn y Drindod nid yw yn Dâd: yr hwn yw'r Yspryd glán yn y Drindod, nid yw na'r Tád na'r Mab, ond yr Yspryd yn deilliaw oddiwrth y ddau; er nad oes ond vn ac unrhyw sylwedd yn gyffredin iddynt ill trioedd.
Megis gan hynny yr ydym yn credu fod y Tâd yn Dduw, y Mab yn Dduw, ar Yspryd glân yn Dduw: felly credu yr ydym hefyd, mai Duw yw'r Tâd, Duw yw'r Mâb, a Duw yw'r Yspryd glân. Eithr o herwydd y gwahanrediad bodol hwn, person y naill nid yw, ac ni ddichon byth fod yn berson y llall. Gan hynny tri pherson y Duwdod nid oes mo honynt yn wahanol oddiwrth y sylwedd, eithr mewn môdd: ond yn fodol y mae rhagoriaeth rhyngddynt, ac fe ai gwahanredir o herwydd eu priodoliaeth personol. Megis y Tâd Duw ydyw, yn cenedlu Duw'r Mâb; y Màb Duw ydyw, cenedledig gan Dduw'r Tád; ar Yspryd glan Duw ydyw yn deilliaw oddiwrth y ddau, sef Duw'r Tàd a Duw'r Mâb. O hyn y digwydd fod yr Scrythyrau yn arfer o enw Duw, mewn dwy ffordd, vn ai sylweddol, ac yno yn arwyddocau y tri pherson [Page 10] go-gyd a'i gilydd, ai personol, ac yno drwy Synecdoche. gyfranddwyn nid yw yn arwyddocau ond vn or tri pherson yn y Duwdod. Megis y Tâd, 1. Tim. 2.5. neu'r Mâb, Act. 20 28. 1 Tim. 3.16. neu'r Yspryd glân: Act. 5, 4. 2. Cor. 6.16.
Ac o herwydd nad yw sylwedd y Duwdod (cyffredin i'r holl dri phersônau) ond vn, hwnnw a alwn ni Vndod. Eithr o herwydd bod tri pherson gwahanredol yn yr vn sylwedd diwahanedig hwn, nyni a alwn hwnnw y Drindod. Yn gymmaint a bôd yr Vndod hwn yn y Drindod, a'r Drindod yn yr vndod, yn ddirgelwch sanctaidd: mae yn hytrach iw addoli yn grefyddol drwy ffydd, nag iw chwilio allan yn rhy fanwl drwy reswm, ymmhellach nag y dadcud diodd Duw yn ei air.
Hyd yn hyn y dangoswyd yr amryw ddull ar hanfod yn sylwedd y Duwdod, bellach am ei briodoliaethau.
PRiodoliaethau ydynt fâth ar ddarluniadau o sylwedd y Duwdod, â adroddir yngair Duw, yn ôl gwendid ein dealltwriaeth ni, er mwyn ein cymmorth i ddeall yn haws naturiaeth sylwedd Duw, ac iw ddirnad oddiwrth bôb sylweddau eraill.
Priodoliaethau Duw ydynt o ddau fáth, vn ai galwedigol, ai hanfodol.
Y priodoliaethau galwedigol ydynt o dri máth: 1. y rhai â arwyddocânt sylwedd Duw: 2. y Persônau yn y Sylwedd. 3. y rhai a arwyddocânt ei weithredoedd sylweddol ef.
Un or mâth cyntaf ydyw yr enw Jehovah, neu yn hytrach Jehueh, yr hwn sydd yn arwyddocau hanfod tragwyddol o honaw ei hun, yn yr hwn sydd heb [Page 11] ddechreu na diwedd, y mae pethau eraill oll yn dechreu ac yn diwedd, Esa. 42.8. Psal. 83.18.
Duw a ddywed wrth Moeses Exod. 6.3. Nad adnabnwyd ef gan Abraham, Isaac, a Jacob wrth ei enw Jehovah, (nid o ran nad adwaenent mai enw Duw oedd hwn, canys hwn a arferent yn eu holl Weddiau) ond o ran na chawsent hwy fyw i weled Duw yn cyflawni mewn gweithred yr hyn â addawasai iddynt, sef gwaredu yn rasusol eu hâd hwynt allan o'r Aipht, a rhoi iddynt wir feddiant yngwlâd Canaan. Ac felly nid bod yn vnig yn Dduw Ollalluog, gwneuthurwr pôb dim, eithr hefyd yn cyslawni mewn gweithred i'r plant, yr hyn â addawasei yn ei air iw tâdau, yr hyn beth y mae'r enw hwn Jehovah yn enwedig yn ei arwyddocau. Ac o'r achos yma, y mae Moses yn ei alw ef Jehovah yn y cyntaf, Pryd yr oedd yr holl greadwriaeth wedi ei gwbl orphen, Gen. 2.4. A'r enw rhyfeddol hwn, â argrephir ar dalcen y dêg gorchymmyn, yr hwn a adroddwyd ar ymwared yr Israeliaid, i fod yn rheol cyfiawnder, yn ôl yr hyn y dylent wasanaethu eu Gwaredydd yn nhir yr Addewid.
Yr enw hwn sydd mor llawn o ddirgelwch Ysprydol, hyd onid yw yr Iddewon yn dal fod ei adrodd yn bechod; eithr onid yw bechod ei scrifennu, pa ham y byddei yn anghyfreithlon ei adrodd?
Yr enw sanctaidd hwn ar Dduw a'n dysc ni:
1. Yn gyntaf, beth yw Duw, sef hanfod dragwyddol o honaw ei hun.
2. Yn ail, pa beth yw efe i eraill; oblegid oddiwrtho ef y mae yr holl greaduriaid eraill wedi derbyn ei hanfod.
3. Yn drydydd, fel y gallom ni yn hydda goelio ei addewidion: canys ef a gyfenwir Jehovah, nid yn v [...]ig o herwydd ei hanfod, ac am beri i bôb i bôb peth fod, Eithr yn enwedig o herwydd ei addawidion grasusol [Page 12] y rhai yn ddiammau a gyflawna ef yn ei amser gosodedig; ac felly a bair i hynny fod, yr hyn nid ydoedd o'r blaen. Felly yr enw hwn sydd yn wystl euraid i ni, a'r gael o honom faddeuant on pechôdau mal yr addawodd, ar ein hedifeirwch: A derbyn ein eneidiau ar ddydd marwolaeth, ac yn yr adgyfodiad cyfodi ein cyrph mewn gogoniant i fywyd tragwyddol. Jsa. 55.7. Joan. 11, 15.
Yr ail enw yn hynodi sylwedd Duw yw Eheieh; ni ddarllennir ond vnwaith, Exod. 3.14. o'rvn gwreiddyn ac yw Jehovah; yn arwyddocau ydwyf, neu mi fyddaf: canys pan ofynnod Moeses i Dduw, wrth ba enw y galwai efe ef,
Yno Duw ai cyfenwod ei hûn, Eheieh Ascher Eheieh: ydwyf yr hyn ydwyf: neu mi fyddaf yr hyn a fyddaf: gan arwyddocau ei fod ef yn hanfod tragwyddol, ac anghyfnewidiol: oblegid gan weled fod pob creadur yn amserol, ac yn gyfnewidiol ni ddichon nebryw greadur ddywedyd, ero qui ero: byddaf yr hyn fyddaf. Yr enw hwn yn y Testament newydd, a roddir i'n Harglwydd Crist, lle gelwir ef Alpha ac Omega, y dechreu a'r diwedd, yr hwn sydd, yr hwn a fu, a'r hwn sydd a'r ddyfod, yr hollalluog Datc. r. 8. Canys yr holl amser â aeth heibio, ac a ddaw, sydd beunydd yn bresennol o flaen Duw. Ac at yr enw hwn y mae Christ ei hun yn bwrw amnaid, Joa 8.58. Cyn bod Abraham yr wyf fi. Yr enw hwn hesyd a ddylei ddyscu i ni, ddal ein creadwriaeth cyntaf i'n côf bob amser, a'n llygredigaeth presennol, a'n gogoneddiad sy' ar ddyfod: Ac nid ymfodloni ein hunain, âg mi fûm dda, neu mi fyddaf dda, eithr bod yn dda yn yr amser presennol; fel pa bryd bynnac y danfono Duw am danom, i'n caffo wedi ymbaratoi iddo.
Y trydydd enw yw Iah, yr hwn megis y mae yn [Page 13] dyfod or vn gwreiddyn, felly nid yw ond Crynodeb. crynhoad o Jehovah, ac yn arwyddocau Arglwydd, o herwydd efe yw dechreuad, a hanfod pob hanfod. Enw ydyw a roddir fynychaf i Dduw pan ddigwyddo rhyw ymwared nodedig, neu leshâd, yn ol ei addewid ef o'r blaen: Ac am hynny y gorchymynnir i'r holl greaduriaid yn y nefoedd, ac ar y ddaiar glodfori, ac anrhydeddu Duw yn yr enw hwn Iah. Psal. 68.4.
Y pedwerydd yw Curios Arglwydd, yr hwn yn fynych a arferir yn y Testament newydd. Canys cúreo neu curô a arwyddoca ydwyf: felly [...] a arwyddocâ yr hanfod gyntaf o rywbeth, neu awdurdod. Pryd y rhoddir yn bendant i Dduw y mae'n cyfatteb ir enw Heber-aec Jehovah, ac felly gwedi ei gyfieithu gan y dêg a thrigain cyfieithwyr. Canys Duw sydd felly yn Arglwydd, ac o honaw ei hun yn Arglwydd ar y cwbl. Yr enw hwn a ddylei ddwyn ar gôf i ni beunydd, vfyddhau iw orchymynnion ef, ac ymddarostwng iw ewyllys bendigedig, a'i arfaeth: gan ddywedyd gyd a'g Eli, yr Arglwydd yw efe; gwnaed a fyddo da yn ei olwg ef. 1 Sam. 3.18.
Y Bummed yw, Theos Duw, wedi ei arferu chwechant o weithiau yn y Testament newydd: a chan scrifennyddion halogedig yn sathredig. Yr enw hwn a dyfodd [...], o herwydd ei fod yn rhedeg trŵodd, ac yn amgylchu pob peth, neu [...], yr hyn sydd yn arwyddocau llosgi neu gynneu: Canys goleuni yw Duw, ac awdur gwres, goleuni, a bywyd, yn y creaduriaid oll? naill ai'n ddigyfrwng o honaw ei hûn, neu yn gyfryngol trwy ail achosion. Yr enw hwn a arferir naill ai'n amhriodol ai'n briodol. Amhriodol, pan roddir ef, naill ai trwy Neuffigur. ddull i lywodraethwyr, neu ar gam i culunnod. [Page 14] Eithr pan gymmerir yr enw hwn yn briodol, ac yn ddidueddol, y mae yn arwyddocau tragwyddol sylwedd Duw, yr hwn sydd goruwch pôb peth, a thrwy bôb peth: yn rhoddi bywyd a goleuni i'r creaduriaid oll, ac yn eu cynnal, a'i llywodraethu yn eu hagwedd a'i trefn ryfeddol. Duw sydd yn canfod pawb, ym mhôb lleoedd. Edrychwn gan hynny ym mhôb man pa beth a wnelom yn ei olwg ef.
Hyd yn hyn, am yr enwau sy'n arwyddocau hanfod Duw.
YR enw yn arwyddocau y personau yn yr hanfod, yn bennaf yw vn, sef Elohim.
Elohim sy'n arwyddocau y Barnwyr cedeyrn: enw o'r rhif lluosog ydyw, i hyspysu Trindod persônau yn vndod sylwedd. Ac er mwyn hyn, y mae'r Y spryd glân yn dechreu y Bibl cyssegrlan a'r enw lluosog hwn ar Dduw, wedi ei gysylltu Neu Berf. â Gair or rhif vnig: sef Elohim Bara Duwiau a greawdd. dij creavit, y Duwiau cedyrn, neu yr holl dri phersonau yn y Duwdod a greawdd: yr Iuddewon hefyd a ddaliant sulw ar y Gair bara, ei fôd o dair Yn hebraec. llythyren yn hynodi dirgelwch y Drindod, wrth Beth Ben y Mab; wrth Resh Ruach, yr Yspryd; wrth Aleph, Ab, y Tad. Eithr y dirgelwch sanctaidd hwn a ddysciryn eglurach gen Moeses, Gen. 3.22. Ac Jehovah Elohim a ddywedodd: wele y dŷn a aeth megis vn o honom ni, Ac Gen. 19.24, Jehovah a lawiodd ar Sodom a Gomorha frwmstan a thân oddiwrth Jehovah or nefoedd: hynny yw, Duw y Mâb oddiwrth Dduw y Tâd, yr hwn a roddes bôb barn ir Mâb, Joa. 5.22. edrych Psal, 33.6. Esay 63.9, 10. Y rhif [Page 15] vnig o Elohim yw Eloah, yn dyfod o Alah, efe a dyngodd, o herwydd ymmhób achos mawr lle byddo yn angenrhaid olrhen y gwirionedd, ni ddylem dyngu yn vnig i enw Duw, yr hwn yw y Barnwr mawr cyfiawn yn y nefoedd, ac ar y ddaiar.
Yr enw hwn Eloah, nid arferir, ond yn anfynych megis yn Abac. 3.3. Iob. 4.9. Job. 12.4. ac yn 15 8.36, 2. Psal. 18.32. Psal. 114.7. Vnwaith y mae ganddo enw lluosog wedi ei gyssylltu atto, Iob 35.10. Ond ni ddywed neb pa le y mae Eloah Gosai, yr holl alluog yr hwn am gwnaeth? I ddangos dirgelwch y tragwyddol Drindod. Hefyd yn fynych fe a osodir Elohim y rhif lluósog ynghyd a gair lluosog er mwyn hyspysu y dirgelwch yn ddirfing ach, Gen. 35.7.2. Sam. 7.23. Josu. 24.19. Ier. 10.10. Elohim hefyd, mewn troell ymadrodd a roir yn enw i lywodraethwyr, o herwydd ail-lywyddion Duw ydynt; megis i Moeses Exod. 7.1. Iehovah a ddywedodd wrth Moses, Gwêl mi a'th wneuthym yn Sef Elohim. Dduw i Pharaoh. Sef, mi a'th osodais di yn gennad i arddangos dy fod yn lle yr vn Duw-tri, ac i fynegi ei gennadwri ai ewyllys ef i Pharaoh. Cyn fynyched gan hynny ac y darllenom neu y clywom yr enw hwn Elohim, ni a ddylem feddwl ystyried fod Duwdod y tri pherson gwahanredol yn vnsylwedd, a bôd Duw yn Iehovah Elohim.
Bellach y canlyn yr enwau, a arwyddocânt sylweddol weithredoedd Duw, y rhai ydynt y pump hyn yn enwedig.
1. EL, yr hyn sydd gymmaint ac y Duw cadarn, ac a'n dysc fod Duw, nid yn vnig yn gadarnaf, yn wir gadernid ei hun, oi sylwedd ei hunan; eithr mai efe hefyd, yw'r hwn sydd yn rhoddi pob nerth a gallu ir holl greaduriaid. Am hynny y gelwir Crist Isay 9.6. El Gibbor, y Duw cadarn, nag ofned plant Duw gryfder gelynion, canys El ein Duw ni sydd gryfach na hwynt.
2. Shaddai, hynny yw, Oll-alluog: wrth yr enw hwn yr arferai Dduw ei henwi ei hun wrth y Patrieirch, myfi wyf El Shaddai, sef y Duw cadarn Ollalluog. O blegid ei fod yn gwbl alluog i ymddiffyn ei weision oddiwrth bob drŵg: iw bendithio a phôb doniau ysprydol, ac amserol: ac i gyflawni ei addewidion oll, y rhai a wnaeth ef iddynt, am y bywyd yma, ac am yr hwn sydd i ddyfod, Yr enw hwn a berthyn i'r Duwdod, ac nid i neb-ryw greadur: nagê, nac i ddyndod Crist. Hyn a ddichon ein dyscu ni gyd a'r Patrierch, i osod ein holl ymdiried yn Nuw. Ac heb ammeu nas cyslawna ef ei addewidion.
3. Adonai, fy Arglwydd; yr enw hwn, fal y mae Massoretiaid yn nodi, a geir bedair ar ddeg a chant o weithiau, yn yr hên Destament. Ar gyffelybiaeth y rhoddir yr enw hwn i greaduriaid, eithr yn briodol y perthyn i Dduw yn vnig. Fe ai harferir Malach- 1, 6, Yn y rhif lluosog, er mwyn arddangos dirgelwch y Drindod Sanctaidd. Os fy fi [Page 17] yw Adonim, Arglwydd, ym mhâ le y mae fy ofn? Adonai yr vnig, Adonim y rhif lluosog. Yr enw hwn a roddir i Grist, Dan. 9.17. llewyrcha dy wyneb ar dy gyssegr anrheithiedig er mwyn Adonai (yr Arglwydd Crist.) Clywed yr enw sanctaidd hwn a eill ddyscu i bob dŷn vfyddhau i orchymynnion Duw, a'i ofni ef yn vnig, na chaffc neb ond efe lywodraethu yn ei gywybod, ac ymaflyd yn dynn (a deheulaw ffydd) yn ei air ef, a'i addewid, a honni fod Duw yn Ghrist yn Dduw iddo yniau. Fel y gallo ddywedyd gyd a Thomas, Tydi yw sy Arglwydd am Duw.
4. Yw Helion, sef Coruchaf, Psal. 9.2. ac. 92.9. Dan. 4.17, 24, 25, 34 Act 7.48. Yr enw hwn a rydd Gabriel i Dduw wrth fynegi i'r Fair forwyn y gelwid y dŷn bychan a enid o honi hi yn Fab ir Goruchaf. Luc. 1.32.Felly y darfu i'r. Diafol enwi crist Luc. 8.28. Hyn sydd yn addyscu yn gyntaf, fod Duw yn ei hanfod, ai ogoniant, yn rhagori (tu hwnt i bob mesur) ar holl greadunad ynefoedd a'r ddaiar. Yn ail, na ddylei neb falchio o ddim anrhydedd na mawredd daiarol.
Yn drydydd, os deisyfiwn wir oruwchafiaeth, ymegnio ddylem i gyrhaedd cyfundeb gyd â Duw mewn grâs a gogoniant.
5, Abba, enw o'r Syrianaec, yn arwyddocau Tâd Rhuf. 8.15. Hwn a gymmerir weithiau yn sylweddol am y tri pherson, megis yngweddi yr Arglwydd, weithiau yn bersonol, megis y mae yn Mat. 11.25. Canys Duw sydd Dad i Grist o naturiaeth, ac i gristianogion o fabwys a rhâd. Crist a elwir y Tad tragwy ddol, Esa. 9.6. O herwydd ei fod efe yn ein hadgenedlu ni tan y Testament newydd. Duw a elwir hefyd Wrth yr hwn nid yn goleuni 'r haul ond cysgod.Tad y goleuni, Iag. 1.17. Oblegid ei fod ef yn trigo yn y goleuni na ellir mor dyfod atto, 1. Tim. 6.16. Ac efe sydd awdur nid yn vnig o oleuni'r haul, eithr hefyd, o holl oleuni [Page 18] rheswm naturiol, a grâs goruwch naturiol, yr hwn sydd yn goleuo pob dŷn a'r sydd yn dyfod ir byd. Joan. 1.9.
Yr enw hwn a'n dysca ni, fôd yr holl ddoniau a dderbyniwn ni oddiwrth Dduw, yn deilliaw o'i gariad tadol ef yn vnig.
Yn ail, y dylem ni ei garu ynteu eilwaith megis eu blant anwyl. Yn drydydd, y gallwn ni yn ein oll anghenion a'n trallod alw amo yn hyf, megis ar Dâd am ei gymmorth a'i ymwared. Mal hyn ni ddylem ni grybwyll am sanctaidd Enwau Duw, na byddel hynny yn dwyn ar gôf i ni ei ddaioni ef tu ac atton, a'n dyledion ninnau tu ac attoyntau. Ac y no y cawn ni wybod mor gyssurus yw, gwneuthur pob peth yn enw Duw. Dull ar ymadrod arferedig ar dafod pob dŷn, eithr y gwir ddiddanwch oddiwrtho, (drwy aneallgarwch) sydd adnabyddus galonnau ychydig ddynion.
Doethineb mawr a pheth anrhaethol, i gryfhau ffydd Cristion (a fyfyrio am Grist) yw gwybod, wrth ba enw y mae galw ar Dduw, megis yn yr hwn yr hysbysodd am dano ei hûn, ei fod yn dra ewyllysgar ac yn barottaf iw gymmorth, a'i gynnorthwyo ef yn ei ing a'i adfyd. Chwannogrwydd awyddus i adnabod Duw yw'r dystiolaeth ddiammheuaf o'n cariad ar Dduw, ac o ffafr Duw tu ac attom ninnau, Psal. 91.14, 15, Am iddo roddi ei serch arnaf: am hynny y gwaredaf ef: am iddo adnabod fy enw mi a'i gwrandawaf, mewn ing y byddaf gyd a'g ef, y gwaredaf ac y gogoneddaf ef, &c. A chadarnhâd mawr ar ffydd yw dechreu yn ddeallgar bob peth yn enw Duw
Hyd yma am y Priodoliaeth au Perthynol i enw Duw. enwol.
Y Priodoliaethau sylweddol ydynt o ddau fath, naill ai anghyffredinol ai ymgyfattebol.
Y Priodoliaethau anghyfliedinol ydynt gyfryw, ac na allant mewn neb rhyw fodd gyttuno (neu weddu) i vn mâth ar greadur, ond i Dduw yn vnig. Y rhai hyn ydynt ddau, sef digymmys gedd, ac anherfynoldeb.
Digymnysgedd yw'r hyn drwy ba vn, y mae Duw yn ddilwgr oddiwrth bob cymmysgiad, gwahaniad, lluosogiad, digwyddiadau neu rannau cyfansoddol, iw dirnad, nai deall: megis pa beth bynnag yw efe, hynny yw efe yn hanfodol.
Er bod o Dduw yn dri, nid yw hyn yn rhwystro ei Neu symlrwydd. ddigymmysgedd: canys Duw sydd dri, nid trwy gysylltiad rhannau, eithr drwy gydhanfod persônau.
Anherfynoldeb yw, drwy 'r hyn y mae pob peth sydd yn Nuw heb na mesur na therfyn, na diben, vchod, isod, ymlaen ac yn ôl.
Or ddau hyn angenrheidiol yw tarddu allan dri eraill o briodoliaethau anghyffredin.
1. Ammesuredigaeth, neu, Bod ymhob lle ar vnwaith. boblleaeth, drwy'r hyn y mae ef o anherfynedig amgyrhaedd yn llenwi y nefoedd, a'r ddaiar, ac yn cynnwys pôb lleoedd heb yspaid, lle, neu derfyn yn dichon ei gynnwys ef, ac heb fod yn absennol yn vnlle, mae yn bresennol ym mhob lle.
Y mae pedair grâdd o bresenoldeb Duw, y gyntaf [Page 20] sydd gyffredinol, drwy 'r hon y mae Duw ym mhôb lle, yn Yn llenwi pob man, llanwedigaidd, eithr nid yn vnlle yn gynhwysedigaidd.
Yr ail sydd enwedigol, drwy'r hon y dywedir fod Duw yn y nefoedd, o herwydd bod yno ei allu, a'i ddoethineb, a'i ddaioni mewn môdd mwy rhagorol iw gweled ai mwynhâu: Ac hefyd o blegid oddyno yn arferol y mae ef yn tywallt ei fendithion ai farnedigaethau.
Yn drydydd, mwy enwedigol, drwy 'r hon y mae Duw yn presŵylio yn ei Seintiau.
Yn bedwerydd, mwyaf enwedigol, a digyffelyb, drwy'r hon y mae cyflawnder y Duwdod yn presŵylio ynghrist yn gorphorol.
2. Anghyfnewidioldeb, drwy'r hwn y mae Duw heb gyfnewid oll: yn gystal o herwydd ei sylwedd, ai ewyllys.
3. Tragwyddoldeb, drwy'r hwn y mae Duw heb ddechreuad iw ddyddiau, na diweddiad iw amser: ac heb derfynau, o ran * rhagfynediad, neu ôl-ddilynniad.
Hyd yn hyn am y Priodoliaethau anghyffredin, Perthynasol i Dduw yn vnig: Bellach am y rhai tueddol, neu'r cyfryw ac a edrychant tua'r creaduriaid·
Y Rheini ydynt bump. 1. Bywyd. 2. Deall. 3. Ewyllys. 4. Gallu. 5. Mawrhydi.
BYwyd Duw yw hwnnw, drwy'r hwn, megis trwy'r fwyaf parhaus a phuraf weithred, y mae efe nid yn vnig, yn byw o honaw ei hun, eithr yn fythol ffrŵd o flynnon y bywyd, o'r hon y mae yr holl greaduriaid yn cael eu bywyd: yn gymmaint ac mai ynddo ef, y maent yn byw, yn symud, yn anadlu, ac yn bôd. Ac o blegid nad oes gwahaniaeth rhwng ei fywyd ef ai hanfod, am hynny y dywedir, mai i Dduw yn vnig y mae anfarwoldeb. Act 17.28. 1. Tim. 6.16.
2. Deall neu wybodaeth Duw, yw'r hyn trwy ba vn (wrth vn bur weithred) y mae ef yn gwybod yn berssaith ynddo ei hûn bob peth ar a fu erioed, ydynt, neu a fyddant: ie meddyliau a bwriadau calon pob dŷn oll. Jer. 17.10. Rhuf 8, 33.
Y Gwybodaeth hwn yn Nuw sydd naill ai cyffredinol, drwy 'r hwn y gŵyr Duw o honaw ei hûn bob peth yn dragwyddol. Y da wrtho ei hûn, y drwg wrth y da gwrthgefn iddo; gan osod ar bethau damweiniol, goelbren damweiniaeth, ac ar bethau angenrheidiol, ddeddf anghenrhaid. Ac mal hyn yn gwybod pob peth ynddo acohonaw ei hûn, efe yw'r achos o'r holl wybodaeth sydd ym-mhawb yngystal dynion ac Angelion. Yn ail, neulltuol, yr hwn a elwir gwybodaetn cymmemeradwy, trwy 'r hwn yr edwyn efe wrth eu pennau, ac y cydnebydd yn rasusol a'i etholedigion am yr eiddaw ei hûn. 1 Tim. 2, 19.
Deall hefyd a gynnwys ddoethineb Duw, drwy 'r hwn ei creawdd ef yn hygall bob peth o ddiddym [Page 22] ddeunydd mewn rhif, mesur, a phwys; a rhagllaw a'i rheola, ac a'i cymhwysa hwynt, i wasanaethu ei arfaeth sancteiddiaf, a'i ogoniant ei hunan.
3. Ewyllys Duw yw'r hwn drwy ba yn anhenrhaid iddo ei ewyllysio ei hûn, megis y prif-ddaioni: A thrwy ei ewyllysio ei hûn fe a ewyllysia yn rhwydd ddigymmell oll bethau da eraill, y rhai ydynt oddiallan iddaw.
Ewyllys Duw er nad yw ynddo ei hûn ond vn, megis y mae ei hanfod, etto o herwydd amryw amlygynnau ac effeithiau, fe ai gelwir yn yr Scrythyrau wrth amryw enwau, sef,
- 1. Cariad, wrth yr hwn y deellir Tragwyddol wyllysiad da ein Duw, drwy'r hwn ir ordinhaodd iw etholedigion fod yn gadwedig yn rhâd drwy Grist: ac y rhydd iddynt bob doniau angenrheidiol ir bywyd yma, ac ir hwn sydd ar ddyfod, gan ymfodloni ynddynt hwy, ac yn eu gwasanaeth. 1 Joan 3, 1. Gen. 4, 4.
- 2. Cyfiawnder yw dianwadal ewyllys Duw, drwy 'r hwn y gobrwya efe ddynion ac Angelion yn ol eu gweithredoedd; gan gospi y diedifarus yn ol eu haeddedigaethau, yr hyn a elwir cyfiawnder ei ddigofaint ef: a thalu i'r ffyddloniaid yn ol ei addewidion, yr hyn a elwir cyfiawnder ei râs ef. Rhuf. 2, 5. ac 9, 15, 16.
- 3. Trugaredd, yr hwn yn vnig yw ewyllys da Duw, a pharodrwydd ei serch i faddeu i bechadur edifeiriol ei bechodau ai ddrwg foddion.
- 4. Daioni, drwy 'r hwn y mae Duw yn ewyllysgar yn cyfrannu o'i ddaioni iw greaduriaid: ac o herwydd ei fod ef yn ei gyfrânnu yn rhâd, fe ai gelwir ef Neu rhâdgrâs.
- 5. Gwirionedd, drwy 'r hwn yr ewyllysia Duw yn ddianwadal, y pethau a ewyllysio: gan [Page 23] ddibenu a chyflawni pob peth ar a ddyweddodd yn ei amser gosodedig. Psal. 146, 6.
- 6. Ammynedd, drwy'r hwn y mae Duw yn ewyllysgar yn peidio a chospi y rhai drygionus, cyhyd ac y cennadhâo ei gyfiawnder, a hyd oni byddo eu pechodau hwythau yn addfed.
- 7, Sancteiddwrydd, drwy'r hwn y neulltuir natur Duw oddiwrth bôb halogedigrwdd: ac y cashâ efe bôb brynti; ac felly gan fod yn llwyr bureidd-lân ynddo ei hûn, y mae yn ymhoffi ymhurdeb a diweirdeb ei weision, oddifewn ac oddiallan, yr hyn a dywalltodd efe ynddynt. 1 Pet. 1, 15, 16. 1 Thes. 4, 3.
- 8. Dîg, drwy'r hwn y deellir diymmod a chyfiawn ewyllys Duw, yn ceryddu yr etholedigion, ac yn rhoddi dial a chosbedigaeth ar y Gwrthodedig, am y cammau a gynnigiant iddo ef ac iw ddewisedig. A phan gospo Duw yn dôst, ac yn drwm, yno y gelwir Digofaint, amserol ir Etholedig, tragwyddol ir Gwrthodedig. Psal. 106, 23.29, 40, 41.
4. Gallu Duw yw yr hwn, drwy ba vn y dichon efe o honaw ei hûn, ac yn ddiattal wneuthur pa beth bynnac a ewyllysio, ar a fo yn cydhuno a'i naturiaeth ef, a thrwy yr hwn megis y gwnaeth efe, felly y mae efe rhagllaw yn rheoli y nefoedd a'r ddaiar, a'r holl bethau ynddynt. Yr holl alluog nerth hwn yn Nuw sydd naill ai'n hollawl, trwy 'r hwn y dichon efe ewyllysio, a gwneuthur mwy nac a ewyllysio, neu nac a wnelo, Mat. 3.9. ac 20.53. Rhuf. 9.18. Neu Weithredol, trwy 'r hwn, y gwna Duw beth bynnac a fynno ef ei wneuthur, Psal, 115.3.
5. Mawrhydi yw'r peth, drwy'r hwn y mae Duw o'i wir ollawl awdurdod ei hun yn teyrnasu, ac yn rheoli, megis Arglwydd a Brenin, a'r yr holl greaduriaid, [Page 24] gweledig ac anweledig: a chanddo gyfiawnder a meddiant ar bob peth, megis oddiwrth yr hwn, ac er mwyn yr hwn y mae pob peth. A hefyd gyflawnder gallu, fal y dichon ef faddau anwiredd pawb oll a ewyllysio ef eu harbed, a gorchfygu ei elynion, y rhai a fynno efe roi dialedd arnynt a'i destruwio, heb fod yn rhwymedig i roddi i nebryw greadur refwm o'i weithred: ond gwneuthur ei sanctieddiaf ai gyfiawnaf ewyllys eî hûn, iddo yn gyfraith tra pherflaith a thragwyddol. Oddiwrth yr holl briodoliaethau hyn, y cyfyd vn, yr hwn yw prif-fendigedigrwydd, neu berffeithrwydd Duw.
Bendigedigrwydd yw'r perffaith a'r anfesurol fwyniant a'r lawenydd a gogoniant, yr hwn sydd gan Dduw ynddo ei hûn yn dragywydd, ac sydd achos o bob dedwyddwch a pherffeithwydd, a feddianno pob creadur yn ol ei fesur. 1 Tim. 6.15.
Y mae Pridoliaethau eraill a A gyfrifir. roddir i Dduw ar gyffelybiaeth, ac yn amhriodol, yn y Scrythyrau sanctaidd, megis (trwy ddull ar ymadrodd sef Anthropomorphosis, dynawl agweddiad) aelodau dyn, llygaid clustiau, ffroenau, genau, llaw, troed, &c. neu synhwyreu a gweithrediadau dŷn, megis gweled, clywed, aroglu, gweithio, rhodio, taro, &c. Neu trwy ddull ar ymadrodd a elwir O anwydau dyn. Anthropopatheia, gwyniau, cynhyrfiadau dŷn, sef llawenydd, tristwch, hyfrydwch, pruddder, cariad, cas, &c. Neu mal pan henwer ef trwy Trwy gyffelybrwydd. Analogia, yn graig, yn dŵr, yn astalch, ac felly. Arwyddocâd y rheini pob llyfr o ddeongliad ai hyspysa.
Am yr holl briodoliaethau hyn, rhaid i ni ddal y rheolau cyffredin yma.
NId oes vnrhyw briodoliaeth a ddichon adroddi yn eglur hanfod Duw, o herwydd ei fod yn anherfynol ac anrhaethol.
Pa beth bynnac gan hynny a draethir am Dduw, nid Duw ydyw, eitnr yn hytrach fe eill wasanaethu i gynnorthwyo ein mennyddiau gweinion ni, i ddirnad yn ein rheswm, ac i adrodd ar ein geiriau, Fawrhydi ei dduwiol anian ef, cyn belled ac y bu wiw ganddo ei ddatcuddio ei hûn ini yn ei air.
2. Holl briodoliathau Duw a berthynant i bob vn or tri Pherson, yn gystal ac ir hanfod ei hûn, hyd y goddefo y briodoliaeth bersonol. Megis Trugaredd y Tâd yw Trugaredd yn cenedlu: Trugaredd y mâb yw trugaredd cenedledig, trugaredd yr Yspryd glân yw trugaredd yn deilliaw, ac felly am y lleill.
3. Priodoliaethau Sylweddol: bodol Duw, nid oes ragoriaeth rhyngddynt a'i hanfod. Oblegid eu bod hwy felly yn yr hanfod, fel y maent yn wir hanfod ei hûn. Gan hynny nid oes dim yn Nuw, ar nad ydyw vn ai hanfod ai person.
4. Priodoliaethau sylweddol Duw nid amgenant y naill oddiwrth y llall o ran sylwedd, nac o ran gwir fodol hanfod, (o-blegid beth bynnag fydd yn Nuw sydd vn hanfod syml, ac vn ni chynnwys wahaniad) ond yn vnig yn ein rheswm a'n deall ni, yrhai gan na allwn wybod pethau daiarol wrth vn vnig weithred heb gynnorthwy llawer o weithredon gwahanredol, sydd raid i ni wrth angenrheidiol gynnorthwy gan lawer o weithredon gwahanredol i adnadod yr [Page 26] anfeidrol Dduw. Am hynny (i ddywed yd yn briodol) nid oes yn Nuw lawer o briodoliaethau, ond vn yn vnig, yr hwn nid yw ddim amgen, ond dwywawl hanfod y Duwdod wrth ba briodoliaethau bynnag y galwoch ef. Eithr er mwyn ein rheswm ni, y dywedir eu bod yn gynnifer o briodoliaethau gwahanol. Oblegid ein dealltwriaeth ni a ddirnad wrth enw trugaredd, ryw beth dieithrol oddiwrth y peth a elwir cyfiawnder. Priodoliaethau hanfodol Duw gan hynny nid ydynt ynddynt eu hunain yn wahanol.
5. Priodoliaethau sylweddol Duw nid ydynt rannau, gyneddfau sylwedd y Duwdod, na digwyddiadau yn yr hanfod, megis mewn sail: Ond gwir hanfod Duw yn gyfan ac yn gwbl. yn gymmaint a bod pob cyfryw briodoliaeth nid aliud & aliud, peth arall a pheth arall, eithr yr vn a'r vnrhyw beth. Nid oes gan hynny yn Nuw ddim maintiolaeth, wrth yr hwn y dywedir, ei fod efe yn gymmaint a chymmaint: na chynneddfau o herwydd pa rai y gellir dywedyd ei fod efe y fâth ar fâth: Eithr pa beth bynnag yw Duw, y cyfryw a'r vnrhyw yw wrth ei hanfod. Wrth ei hanfod y mae'n ddoeth, ac am hynny doethineb ei hûn, wrth ei hanfod y mae efe yn drugarog, ac am hynny trugaredd ei hun: wrth ei hanfod y mae yn dda, ac am hynny yn ddaioni ei hûn, wrth ei hanfod y mae yn gyfiawn, ac am hynny yn gyfiawnder ei hûn, &c. I fod yn fyrr, Duw sydd fawr heb faintioli, daionus, cywir, a chyfiawn heb gynneddf: Trugarog heb wŷn, gweithred heb gynnwrf, ym hob lle yn bresennol heb gyflead, heb amser, er hynny yn gyntaf ac yn ddiwaethaf. Arglwydd yr holl greaduriaid, oddiwrth yr hwn y derbynniant oll eu hunain, ar holl ddaioni sydd ganddynt; er hynny nid rhaid iddo ef, ac [Page 27] nid yw yn derbyn dim ychwanegiad daioni neu ddedwyddwch oddiwrth neb arall.
Dymma wir agweddiad Duw, cyn belled ac y datcuddiod efe ei hûn i ni yn ei Air.
Yr athrawiaeth hon (yn anad vn) sydd raid i bob gwir ymarferwr Duwioldeb ei gwybod yn addas, ac angenrhaid ei chredu o ran pedwar achos arbennig, sef,
1. Fel y gallom adnabod ein gwir a'n hunig Dduw, oddiwrth gam ddûwiau ac eulunnod. Canys y portreiad hwn ar Dduw sydd adnabyddus iawn iw Eglwys yn vnig, yn yr hon yr eglurodd efe ei hûn yn rasusol.
2. I sefydlu yn ein calonnau ni fawr ofn ei Fawrhydi ef; tra bôm yn tybied yn rhyfeddol o honaw, am ei symlrwydd a'i anherfynoldeb: a'i addoli ef, am ei ammesuroldeb, anghyfnewidioldeb, a'i dragwyddoldeb: ac yn ceisio doethineb oddiwrth ei ddeall, ai wybodaeth ef: yn ymddarostwng iw fendigedig ewyllys ai arfaeth: yn ei garu ef, am ei gariad, trugaredd, daioni, ammynedd: ffyddio iw air ef, o ran ei wirionedd: ei ofni, o ran ei allu, ei gyfiawnder, a'i ddigofaint: ei berchi ef am ei sancteiddrwydd, ai foliannu ef am ei fendigedigrwydd: A darlynu arno ef tra fôm byw, yr hwn yw vnig Awdur ein bywyd, ein bod, a'r holl bethau daionus sydd genym.
3. I'n cymmell ni i ddilyn Yspryd Duw yn ei sanctaid briodoliaethau, ac i ddwyn (mewn rhyw fesur) ynom ragddelw neu gyffelybiaeth o'i ddoethineb, gariad, ddaioni, gyfiawnder, drugaredd, wirionedd, ammynedd, Zêl, ac oi ddigofaint ef yn erbyn pechod: fel y gallom ninnau fod yn ddoethion, gariadus, gyfion, drugarogion, eirwir, ddioddefgar, ac yn llawn Zêl fel y mae ein Duw ni.
4. Yn ddiwaethaf, fel y gallom ni yn ein holl weddiau [Page 28] a'n myfyrdod, iawn synnied oi ddwywawl Fawrhydi ef. Ac nid yn ôl y gwrthgâs a'r cablaidd drawsfeddyliau, y rhai o naturiaeth a gyfodant ym mhennau dynion: megis y dychymygant fod Duw yn debyg i hên ŵr yn eistedd mewn cadair. A bod y Drindod fendigedig yn debyg ir eulun tri-rhannog a beintiai y pabyddion yn ffenestri eu heglwysi.
Gan hynny pan fŷch i weddio at Dduw, Llefared dy galon wrtho ef, megis with vn Tragwyddol, anfeidrol, ollalluog, sanctaidd, doeth, cyfiawn, trugarog yspryd; a pherffaithgwbl anwahanol hanfod o dri gwahanredol bèrsonau, Tâd, Mâb, ac Yspryd glân: yr hwn gan ei fod yn bresennol ym mhob lle, sy'n llywodraethu y nefoedd, a'r ddaiar: yn dirnad calonnau pawb, yn gwybod trueni pob dŷn; ac yn vnig a ddichon roddi i ni bob doniau a fyddo arnom ni eu heisiau, a gwaredu holl bechaduriaid edifeiriol y rhai a chalonnauffyddlon a geisiant (er mwyn Crist) ei gymmorth ef i fy ned allan o'i holl flinderau, a'u cystuddiau pa fath bynnag. Gen. 17.1. Esay 6, 3. ac 63, 16. Math 11, 28.
Eifiau y gwir wybodaeth hwn am Dduw, sy'n peri i lawer wneuthur eulun o'r gwir Dduw: a hyn yw 'r vnig achos, pa ham y mae cynnifer yn proffessu pob rhan arall o grefydd Dduw mor amharchus, ac mor rhagreithus. Lle pe adnabyddent yn vnion, ni feiddient amgen na ddeuent iw wasanaeth ef. A chwedi dyfod, ei wasanaethu mewn ofn ac anrhydedd: canys cyn belled ac y mae dŷn yn ofni Duw, y mae ef yn ei adnabod: ac yno y mae dŷn yn gwir adnabod Duw; pan gysyllto ei ymarfer at fyfyrdod, a hynny fydd:
1. Pryd y bo dŷn felly yn cydnabod ac yn anrhydeddu mawredd Duw, megis yr eglurodd efe ei hûn yn ei Air.
2. Pryd (oddiwrth wir a bywiol ystyriaeth priodoliaetnau Duw) y maga ynghalon dŷn, gariad, ofn, [Page 29] ac ymddiried yn Nuw: canys medd Duw ei hûn; Os ydwyf fi dâd pa le y mae fy anrhydedd? Os ydwyf fi feistr pa le y maefy ofn? Mala. 1.6, O profwch a gwelwch mor ddaionus yw'r Arglwydd, medd Dafydd Psal. 34.9. Y neb o'i gydnabyddiaeth ni phrofodd ei ddaioni ef, nid edwyn mor ddalonus yw efe. Yr hwn (medd S. Joan 1 Joan. 2.4.) a ddywed ei fod yn adnabod Duw, ac heb gadw ei orchymynnion ef, celŵyddog yw, a'r gwirionedd nid yw ynddo. Cyn belled gan hynny, ac y bôm yn gwneuthur ar ôl Duw, mewn daioni, cariad, cyfiawnder, trugaredd, ammyned, ac eraill o'i briodoliaethan ef, cyn belled a hynny yr ydym yn adnabod Duw.
3. Pryd trwy ochain dirgeledig ac â difrifol ewyllysfryd ein calonnau, y byddom yn hiraethu, am gael perffaith a chyflawn wybodaeth o'i fawredd ef yn y bywyd sydd a'r ddyfod.
4. Yn ddiwaethaf, hyn a ddatcuddia pa cyn lleied yw nifer y rhai a wir adwaenant Ddnw; Canys nid edwyn neb Dduw, ond yr hwn a'i caro ef; a pha fodd y geill dŷn ddewis na charo ef, gan ei fod yn brif ddaioni, pes adwaenai ef? Gan weled fod natur Duw yn ynill dynion i garu ei ddaioni: a phwy bynnac a garo ddim yn fwy na Duw nid yw deilwng o Dduw. A'r cyfryw yw pob vn a esyd serch a hoffder ei galon ar ddim arall ond ar Dduw. Gan hynny os wyt yn credu fod Duw yn Ollalluog pa ham yr ofni gythrauliaid a gelynion, ac nad wyt yn hyderus yn ymddiried yn Nuw; ac yn ymbil am ei gymmorth ef ym mhôb trallodau a pheryglon? Os wyt ti yn credu fod Duw yn anfeidrol, pafodd y llyfesi di ei annog ef i ddigofaint?
3. Os wyt yn credu fod Duw yn siml, pa fodd y clywi di ar dy galon allael rhagrithio a bod yn ffuantwr? Os wyt yn credu mai Duw yw'r prif ddaioni, pa ham nad yw dy serch di wedi ei osod arno ef yn [Page 30] fwy nac ar holl dda bydol; Os wyt yn credu mewn gwirionedd, fod Duw yn farnwr cyfiawn, pa fodd y beiddi di fyw mor ddifraw mewn pechod, heb edifarhau? Os wyt yn gwir gredu fod Duw yn ddoethaf, paham nad wyt yn rhoi arno ef am wastadhâu a threfnu gwrthwynebion, a dirmygon, yr hwn a ŵyr pa fodd i dueddu pob peth ir hyn gorau, ir sawl ai carant ef? Os wyt ti yn gwir goelio fod Duw yn eirwir, pa ham yr amheui di ei addewidion ef? Ac os wyt yn credu fod Duw yn brydferthwch, ac yn wir berffeithrwydd, pa ham nad wyt yn ei wneuthur ef yn brifnod vnig i'th holl hoffdêrau a'th ddymuniadau? Canys o cheri di degwch, efe yw'r teccaf: o chwennychi gyfoeth, efe yw'r cyfoethoccaf: o cheisi ddoethineb, efe yw'r doethaf: pa odidawgrwydd bynnac, a welaist mewn nebryw greaduriaid, nid yw ddim ond megis gwreichionen o'r hyn mewn perffeithrwydd anherfynol fydd yn Nuw. A'r pryd y caffom ddigyfrwng gyfundeb yn y nefoedd gyd â Duw; Ni gawn y pethau hyn oll yn berffaith wedi eu cyfrannu i ni. I fod yn fyrr, ym mhob daioni, efe yw oll yn oll. Câr yr vn Duw daionus hwnnw, ac ti a fyddi yn ei garu ef, yn yr hwn y mae holl ddawn y donniau yn aros. Yneb gan hynny a chwennycho gael gwir wybodaeth am Dduw, rhaid iddo ddyscu ei adnabod ef drwy gariad. Canys Duw cariad yw, a'r gwybodaeth o gar [...]ad Duw sydd uwchlaw pob gwybodaeth. Eph. 3.19. Cany [...] pob gwybodaeth, oddieithr gwybod pa fodd y cerir Duw, ac y gwasanethir ef yn vnig, nidyw ddim ar air Salomon, ond gwagedd o wagedd, a blinder yspryd.
Ennyn gan hynny o fy Arglwyddes, nagê yn hytrach fy Arglwydd Cariad perffaith, dy gariad dy hûn yn fy enaid, yn enwedig gan ryngu bodd i't, yn ôl fy vno i â thi trwy waed Crist, gael o honof fynghafarwyddo trwy wybod aeth dy râs, i gymmun dy [Page 31] ogoniant, yn yr hwn y mae fy mhrif ddaioni am dedwyddyd tragwyddol yn sefyll.
Mal hyn wrth lewyrch ei Air ei hûn y gwelsom y tu cefn i Jehovah Elohim, y tragwyddol drindod; addoli yr hwn sydd wir dduwioldeb, credu yn yr hwn fydd gadwedigol ffydd, ac vnion wirionedd: i'r hwn oddiwrth greaduriaid yn y nefoedd, a'r ddaiar, y byddo Moliant, golluogaeth, a gogoniant yn dragwyddol. Amen.
Hyd yna am wybodaeth o Dduw: Bellach am wybodaeth o ddyn ei hûn. Ac yn gyntaf am gyflwr ei drueni ef, a'i lygredigaeth heb adnewyddiad trwy Grist.
Myfyrdod am drueni dyn heb ei gymmodi a Duw yn Ghrist.
OScerbwd gwael, ym mhâ gwrr y dechreuaf fi adrodd dy drueni didrangcedig? Yr hwn wyt wedi dy euogfarnu, yr awr gyntaf y cymmeraist sylwedd yn y grôth, a chwedi dy farnu i farwolaeth dragwyddol, cyn dy eni i fywyd amserol. Gwir yw, y medraf gael dechreuad ar dy drueni, eith ni wn ym mhâ fan y mae i mi geisio y diwedd. Canys pan oedd Adda ac Efa wedi eu creu ar lûn delw Dduw ei hûn, ac yn preswylio ym mharadwys, mal y gallent hwy, ai hiliogaeth fyw y bywyd anfarwol mewn dedwyddwch, a holl greaduriaid y ddaiar dan eu llywodraeth, ond yn vnig, na chaent archwaethu o ffrwyth vn pren, er mwyn dangos vfydd-dod i'r creawdr holl alluog; er darsod i Dduw eu gwahardd hwy ai gorchymyn i ymgadw oddiwrth hyn o beth bychan, dan boen cospedigaeth angeu tragwyddol, er hyn hwy a gredafant i air y cyrhraul o flaen gair Duw, drwy geisio gwneuthur Duw (pes gallasent) [Page 32] yn gelwyddog. Ac felly drwy fod yn anniôlchgar am yr holl ddoniau a gawsent ar law Dduw, hwynt hwy â aethant yn anfodlon iw cyflwr presennol, fal pe buasai Dduw, yn rhoddi y gorchymmyn hwnnw iddynt, o gynfigen a chrintachrwydd, ac â goeliasant y gwnai diafol hwynt yn gyfrannogion o bethau anrhydeddusach nac â roesai Dduw iddynt erioed, ac yn eu balchder hwy a wnaethant fradwriaeth yn erbyn y goruchaf, a thrwy fod yn ddiystur ganddynt fod yn ddeiliadd i Duw, hwy a chwennychasant fod yn dduwiau eu hunain, neu yn ogyfuwch â Duw. yno nes iddynt edifarhau, (trwy golli llûn delw Dduw) hwy a aethant yn debyg ir cythraul: ac felly eu holl hiliogaeth hwynt, megis heppiliaeth wrthryfelgar (tra byddont fal dithau yn anedifeiriol) ydynt yn ddarostyngedig yn y byd yma, i ddioddef pob trueni helbulus, ac yn y byd a ddaw i'r tân tragwyddol a ddarparwyd i ddiafol ac iw angelion.
Bwrw ymmaith gan hynny dy wagedd amwhyllig, a chymmer olwg ar dy drueni gresynol: yr hyn beth os iawn ystyri, nid wyf yn ammeu, nas gweli di fod yn well o lawer fod o honot heb eni, na bod heb râs i ymarfer a duwioldeb.
Ystyr gan hynny dy drueni,
- 1. Yn dy fywyd.
- 2. Yn dy farwolaeth.
- 3. Ar ôl dy farwolaeth.
Yn dy fywyd.
- 1. Y Trueni sydd yn dilyn dy gorph.
- 2. Y Trueni sydd yn gwrthuno dy enaid.
Yn dy farwolaeth ystyria y perhau ydynt yn gorthymmu dy gorph a'th enaid.
[Page 33]Ar ôl marwolaeth ystyr y trueni a daflant dy gorph ath enaid ynghyd i dân vffern.
Ac yn gyntaf, gadewch inni gymeryd golwg ar y trueni sydd yn canlyn y corph yn ôl trefn pedair oes dŷn.
- 1. Mebyd.
- 2. Ieuengtyd.
- 3. Oedran gŵr.
- 4. Henaint.
1. Myfrdod am drueni mebyd.
BEth oeddit ti pan oeddit yn faban ond megis anifail ar lûn dŷn? onid ymmhoethineb trachwant ith ynnillwyd, dirgelwch cywilydd, a'r gwarth a dyfodd o'r pechod cyntafanedig? Fal hyn i'th fwriwyd ar y ddaiar yn ymdrabaeddu mewn gwaed, a budreddi: yn fudr iawn, pan ddarfu i fab Duw, yr hwn ni bu ddirmygus ganddo gymmeryd arno ddynawl anian, a'r gwendid pyrthynasawl i hynny, etto dybied yn anweddaidd iw sancteiddrwydd ef, fyned ir grôth iw ymddwyn yn ôl y dull a'r modd pechadurus yr ynnillir dyn: a bod yn gywilydd gan dy fam di adrodd y môdd i'th aned. pa ryw achos gan hynny sydd itti i ymffrostio o'th enedigaeth, yr hon oedd yn boen felldigedig i'th fam, ac i tithau dy hûn yn borth trwy'r hwn y daethost ir bywyd helbulus? Ac o ran na fedrit y pryd hynny fynnegi faint oedd dy drueni at eiriau, mewn dagtau ac wylofain dydi ai dangosaist, yn orau ac y medrit.
2. Myfyrdod am drueni ieuengtyd.
BEth ydyw bachgen neu langc ieuangc, ond megis anifail heb ddofi, ai holl weithredoedd yn lledffol, ac yn ffromwyllt, yn wrthnysig i gymmeryd cyngor da er ei glywed, ac mal Eppa heb vmlawenhau mewn dim ond oferedd a ffolineb? Am hynny cyn gynted ac y dechreuaist gael dim nerth, a dealltwriaeth, fe ath gadwed allan o law dan y wialen, dan ofn tâd, a mam, ac athrawon; fal pe buasit wedi dy eni i fyw yn ôl dy sceidiaeth eraill, ac nid yn ôl dy ewyllys dy hûn. Ni bu farch lluddedig crioed chwannoccach i ymadel ai bwnn nac oeddit ti i fyned allan o'r cyflwr caeth yma. Cyflwr ni thâl sòn am dano.
3. Myfyrdod am drueni oedran gŵr.
PA beth yw cyflwr gŵr ond môr, yn yr hwn mal tonnau y mae 'r naill orrhrymder yn dilyn y llall, ar olaf yn waeth na'r cyntaf? Cyn gynted ac y dechreuaist drin y byd, di â ymdroist mewn cwmmwl o drueni. dy gnawd sy 'n dy arwain i drachwant, y byd yn dy hudo i ddigrifwch, ar cythraul yn dy gymmell i bob math ar bechod: ofn gelynion sy'n dy ddychrynu, ac erlyn cyfraith yn dy flino, y mae cammau ar law cymmydogion drŵg yn dy orthrymmu, a gofalon am wraig a phlant yn dy liasu, ac aflonyddwch rhwng caseion cyhoeddus, a gau gymdeithion (gan mwyaf) yn dy orthrechu: y mae pechod yn dy frathu di oddifewn, a Satan yn gosod ei rwyd o'th flaen: cydwybod am bechod sy' n dy gynllwyn o'th ôl; yr awr-hon y mae adfyd a'r dy law asswy yn dy lidio, yn y man y mae helaethrwydd a'r [Page 35] dy law ddehau yn gwenheithio itti; gorvwch dy benmae dial Duw dyledus am dy bechod yn barod ddescyn arnat, a than dy draed y mae safn vffern, yr agored i'th draflyngcu. ac yn y cyflwr gresynol hwn i ba le yr ai di am lonyddwch, ac ymwared? y ma [...] 'r tŷ yn llawn gofalon, y mae 'r maes yn llawn o drafferthion, a'r wlâd o anwybodaeth, y ddinas o gynhennau, y llŷs o gynfigen, yr eglwys o bleidiau, y môr o speilwyr, y tir o ladron. Neu ymhâ ryw gyflwr y mynnit fyw? Gan fod golud iw genfigennu, a thylodi iw ddiystyru, synwyr iw anghoelio, a diniweidrwydd yn wawd, ofergoel iw gwatwor, a chrefydd iw amheu, drygioni yn cael ei fawrhâu, a rhinwedd ei amherchi. Oh pa ryw fâth wîsc o bechod sydd yn dy amgylchu di mewn bŷd o anwiredd? Beth yw dy lygaid, onid ffenestri i edrych ar wagedd? Beth yw dy glustiau, onid fflodiardau i ollwng llifeiriant trawsineb i mewn? Beth yw dy synhwyrau, ond gosgymmon i ennyn tân i'th drachwant? Beth yw dy galon, ond yr enion ar yr hon y darfu i Satan luniollûn echrŷs dy holl amcanion diffaeth? Wyt ti o rieni vrddol? y mae yn rhaid itti dy fwrw dy hûn mewn perigl i ryfel dieithrol, i geisio ynnill anrhydedd daiarol; rhaid itti yn fynych roi dy fywyd yn ddibris mewn câd beryglus rhag dy fwrw di yn llyfrwâs wyt ti wedi dy eni o radd isel? O f'Arglwydd pa fath boen ac anhunedd sydd raid itti ddwyn gartref ac oddicartref i geisio ynnil dy gynhaliaeth? a'r cwbl ond odid yn brin i borth: dy angen; a phan gafto vn ynnill ychydig, yn ô mawr lafur a hir boen, beth am leied o sicrwydsydd iddo yn yr hyn a gafodd? o ran di a weli drwy athrawiaeth beunyddiol, fod yr hwn oedd gyfoethog ddoe, yn dlawd heddyw: yr hwn oedd ddoe yn iach heddyw yn glâf; yr hwn oedd ddoeyn vchel ei grechwen sydd heddyw ag achos iddo i vdo yn alarus; yr hwn oedd ddoe mewn parch, sydd heddyw mewn gwarth [Page 36] ac ammarch: yr hwn oedd ddoe yn fyw, sydd heddyw yn farw: ac ni wyddost pa cyn gynted, neu ym mhâ ryw fôdd, y byddi di farw dy hûn. A phwy a fedr gyfrif ei golledion, ei warthwynebion, ei guriau, ei warthruddiau, ei glefydau, a'r gofidiau y rhai a ddigwyddant i ddyn pechadurus? Heb yngan chwaith am farwolaeth plant, cymdeithion, neu gyfnyseifiaid, yr hyn sydd yn fynych yn chwerwach wrthym, nac yw marwolaeth ei hunan.
4. Myfyrdod am drueni henaint.
PA beth yw henaint onid tommen lawn o yscubion gofidiau? canys os tynnu a wnei i gyrhaeddyd hiroes, y mae'r henaint arfoel yn dy oddiwes, yn dyfod tan ymgrymmu, yn syfrdanllyd, a'r wyneb yn grŷch, a'r dannedd yn bydron, a'r anadl yn ddrewllyd, yn ffrom o anynadrwydd, yn distannu o sychder y cnawd, a'r golwg yn pallu, a'r clywed yn ddiffaeth, a dolur iw amgylchu, y ddaupen yn plygu ynghyd gan wendid, heb ffrwyth o wybodaeth yn yr vn or pum synwyr, ond yn vnig i wybod oddiwrth boen: yr hwn sydd yn gwynio ym mhob aelod oi gorph, heb obaith o gael esmwythdra oddiwrtho, nes iddo ei daflu ef i waelod ei fêdd.
Hyn ymma am y trueni sydd yn canlyn y corph, yr awrhon am y trueni sydd yn canlyn yr enaid yn bennaf yn y bŷd hwn.
5. Myfyrdodau am drueni yr enaid yn y bywyd hwn.
Trueni dy enaid a ymddengis yn eglurach os ystyri,
YN gyntaf, y dedwyddwch a gollodd efe.
Yn ail, y trueni a dynnodd ef ar ei vcha ei hun trwy bechod.
Y ddedwyddwch a gollodd efe, oedd yn gyntaf, bod yn gyfrannog o ddelw Dduw, trwy 'r hyn yr oedd ef yn gyffelyb i Dduw mewn gwybodaeth, i allael yn berffaith ddeall dadcuddiedig ewyllys Duw. Yn ail, gwir sancteiddrwydd, trwy 'r hwn yr oedd efe yn lân oddiwrth bob bai halogedig. Yn drydydd, y cyfiawnder, trwy 'r hwn yr oedd efe yn gallu hyfforddi ei holl alluoedd naturiol, a threfnu yn vnion ei holl weithredoedd, yn deilliaw oddiwrth y galluoedd hynny. Gydâ cholli y dewisedig lûn hwn, efe a gollodd gariad Duw, yn yr hwn yr oedd ei fywyd ai ddedwyddwch yn sefyll. Os colled am olud bydol a'th bruddhâ di yn fawr, pa faint mwy y dylai golled am y nefawl drysor yma dy drymhau?
Yn ail y trueni a dynnodd yr enaid ar ei wartha ei hun, sydd yw ystyried mewn dau beth.
- 1. Pechod.
- 2. Melldith.
Pechod ydyw lygredigaeth cyssredinol, yn gystal o'i naturiaeth, ac o'i weithredoedd: canys y mae ei natur ef yn hylithr i bechu yn oesdadol ym mhob mâth ar bechod, y meddwl wedi ei lenwi yn llawn o wagedd, y dealltwraieth wedi ei dywyllu gan anwybodaeth, yr cwyllys heb chwennych dim ond oferedd a phethau drwg, y mae gwrthuni mor netthol gyd [Page 38] ag ef, fal nad yw'r deisyfiad yn fynych yn vfuddhâu i reoledigaeth rheswm yn yr enaid adgenedledig: a'r ewyllys yn gwibio i ganlyn gwyniau pechadurus. Pa gymmaint gan hynny ydyw nerth y deisyfiad a'r ewyllys yn yr enaid gwrthodedig, yr hwn sydd yn aros yn oesdadol yn ei lygredigaeth anianol? O hyn y mae yn digwyddo fod dy enaid truan wedfei ymwrthuno gan bechod, ymddifwyno gan drachwant, ymanrheithio gan fudreddi, ymchwydddo gan ddrygnaws, ymroi i wyniau, ymddihoeni gan genfigen, yn ymlythu â gormodedd, yn ymdrabaeddu mewn meddwdod, yn berwi gan lid, yn ymlosci gan greulondeb: a gogoneddus lûn Duw, wedi ei gyfnewid i lûn y diafol echryslon, hyd oni ddarfu ir Arglwydd vnwaith edifarhau ddarfod iddo ef erioed wneuthur dŷn, Gen. 6.6.
O ddiwrth y cyntaf sef pechod, y mae y rhan arall o drueni yr enaid yn dyfod, sef melldith, o'r hon y mae dwy râdd:
- Mewn rhan.
- Yn gyflawn;
Melldith mewn rhan ydyw, yr hon yr ydis yn el rhoddi ar yr enaid yn ei fywyd a'i farwolaeth, ac sydd yn gyffredin iddo ef gyd a'r corph. Y felldith ar yr enaid yn y bywyd yma, yw digofaint Duw, yr hwn sydd goruwch ben y fâth greadur, fal y byddo pob peth nid yn vnig gofidiau, eithr rhadau a bendithion hefyd, yn ymchwelyd yn dramgwydd iddo.
Dychryn cydwybod sydd yn ei droi ef oddiwrth Dduw a'i wasanaeth, fal nas beiddia ddyfod yngŵydd ei sancteiddrwydd ef; onid ymroi i gaethiwed Satan, ac iw ddeisyfiadau gwaelion ai drachwantau ei hunan.
[Page 39]Hyn yw melldigedigrwydd yr enaid yn y bywyd: weithian y canlyn melldigedigrwydd yr enai da'r corph ym marwolaeth.
Myfyrdod am drueni y corph a'r enaid wrth farw.
GWedi i'r gwr oedrannus ymdrechu a hir glefyd, a dioddef dygn benyd, ac yn disgwyl cael peth esmwythdra; yno y daw Angau i mewn: llofrudd naturiaeth, melldith Dduw, cigydd vffern, ac â edrych yn ddu-oer arw-ddig yn wyneb yr henddyn: heb na thrugarhau wrth ei oedran, nac ystyried ei hirnych, na chymeryd gwobr o arian, neu aur er cyd-ddwyn: na wna; ni chymmer er arbed ei enioes ef groen am groen, na dim a'r sydd ar ei helw, ond curo i lawr a wna brifrannau ei gorphilyn, ai restio ef i atteb ger bron yr vsdus ofnadwy. A chan dybied na phrysura yr henddyn i ddyfod gyd ag cf yn dra buan: Of Arglwydd pa rifedi o biccellau gofidus y mae efe yn ei ergydio trwyddo ef: sef gwaiw, doluriau, clymmau gwithi, y crŷd, peswch, llafur, poerion oerllyd, cnofeydd, gwewyr, tostedd, a'r cyfryw.
Oh pa fâth oer echryslon olwg ydyw ei weled ef ar ei wely, gwedi i angau roddi iddo ef, ei friw marwolaeth! pa fâth lychwys oer sydd dros ei holl gorph? pa ryw grynfa sydd ar ei holl aelodau? y mae 'r pen yn llammu, a'r wyneb yn glasu, y trwyn yn duo, ar ên yn llaesu, llinynnau y llygaid yn torri, y tafod yn bloesci, ar anadl yn byrhau, yn aroglu yn drwm; y sefnig yn grillian, ac ar bob ebwch o'r genau, y [Page 40] [...] [Page 41] [...] [Page 40] mae llinynnau y galon yn barod i dorri. Yr awr hon y mae 'r enaid truan yn deall yn hysbus fod ei gorph daiarol yn dechreu marw; ac megis o flaen ymddattodiad hollawl, neu ddiwedd adeiladaeth y byd mawr, y try yr haul yn dywyllwch, a'r lloer yn waed, a'r ser a syrthiant o'r wybrennau, a'r awyr a fydd yn slawn tymeftloedd, a serennau gwibiog tanllyd, y ddaiar a grŷn, a'r môr a rua, a chalonnau dynion a lewyg a gan ofn yn disgwyl diwedd a'r y cyfryw ddechruad ofnadwy. felly tu ac at ymddattodiad dŷn (yr hwn yw y byd bychan) ei olygon, y rhai ynt yw cyffelybu ir haul a'r lloer, a gollant eu goleuni, ac ni chanffyddant ddim ond geuogrwydd gwaedlyd pechod: y synhwyrau eraill megis y sêr y rhai ydynt lai, a dy wyllant ac â syrthiant y naill yn ol y llall: ei feddwl, ei reswm, ai gôf, megis nefol nerthoedd yr enaid, a gânt eu hysgwyd gan ech [...]ydus dymestloedd anobaith, a chynfellt o dân vffern; ei gorph daiarol fy'n dechreu siglo a chrynu, a'r defnyddiau gwlybion megis môr a fai yn llenwi, a ruant, ac a chwrnant yn ei dagell, gan ddisgwyl beunydd am derfyniad galarus ar y cyfryw ddechreuad dychrynadwy.
Tra fyddo efe fal hyn tan ddyfyn i atteb yn y sessiwn fawr gar bron Duw, wele y mae cwarter sessiwn i fwrw carcharorion, iw chadw ynddo ei hûn oddifewn. lle y mae rheswm yn eistedd mal barnwr, ar cythraul yn rhoi bil o ditmant cyn helaethed a llyfr Zachari. 5. [...]. yn yr hwn y gosodir ar lawr yr holl gamweddau a wnaethost crioed, a'r holl weithredoed da a esceulusaist eu gwneuthur erioed, a'r holl felldithion, a'r barnedigaethau dyledus i bob rhyw bechod. Dy gydwybod dy hûn a'th cyhudda; a'th côf a dystiolaetha yn dost i'th erbyn, a'r angau a saif wrth y barr yn barod, megis dihenyddiwr creulon i wneuthur diben o honot: Os ty di fal hyn a fyddi yn dy euog-farnu [Page 41] dy hunan; pa fodd y gelli di ochelyd vnion farn Duw, yr hwn sydd yn gwybod oddiwrth dy holl droseddau yn well na thi dy hun? Ti a chwennychit fwrw allan o'th feddwl goftadwriaeth dy anwireddau y rhai sy'n dy orthrymmu; eithr y maent hwy yn dyfod i'th cof yn gynt o lawer o hynny, ac ni fynnant moi bwrw allan, ond llefain wrt [...] Nyni yw dy weithredoedd, ac ni a'th ganllynwn. A thra fô dy enaid ti fal hyn oddifewn allan o hob trefn a thangneddyf, dy blant, dy wraig ath gyfeillion âth syfrdanant, dan ymbil â thi am osod trefn ar dy dda, rhai yn llefain, rhai yn disgwyl, rhai yn ceisio, rhai yn twyllo, rhâi yn tosturio, rhai 'n cyssuro, oll megis cyhyrod i'th frathu, o ran peri i'th ofid fod yn fwy gofidus.
Yr awrhon y cythrauliaid, y rhai a ddaethant o vffern i ddwyn ymaith dy enaid, sydd yn dechreu ymddangos iddo, ac yn disgwyl am dano iw gymmeryd ai ddwyn ymmaith, cyn gynted ac y delo ef alian o'r corph. Aros i mewn a fynnei, ond deall y mae fod y corph yn dechreu marw bob ychydig, ac yn barod fal hên dŷ amharus i syrthio am ei ben: y mae efe yn ofni dyfod allan, o blegid bod yr vfferngŵn hynny yn gwilio ei ddyfodiad.
Oh efe, yr hwn a dreuliodd lawer o ddyddiau a nôsau mewn gwâg ofer ddigrifwch a roddai yr awr hon yr holl fyd (ped fai ar ei law) am gael un awr o amser i edifarhau, ac i ymgymmodi â Duw. Ond ni eill hynny fod, o herwydd y mae ei gorph, (yr hwn oedd yn cydsynnio ag ef i wneuthur pechod) yn anghymmwys ollawi yr awr hon i vno ag ef yngwaith edifeirwch, a rhaid yw bod edifeirwch yn yr holl ddŷn.
Yr awrhon mae efe yn gweled fod ei holl lawenydd wedi darfod, fal pe na buasai erioed, ac nad oes dim iw gael ond poenydiau, y rhai a bery heb drangcna gorphen. Pwy a eill ddatcan yn gyflawn ei osid [Page 42] am y pechodau a aethant heibio, ei ddialedd am ei drueni presennol, a' i ddychryn am y poenau sydd i ddyfod.
Yn hyn o gyfyngdra caeth, y mae ef yn edrych ymmhôb man am ymwared, ac yn ei weled ei hûn ym mhôb ffordd yn ddigynnorthwy. Fal hyn ynghannol ei ddygn galedi a'i drueni, (yn chwannog i glywed y dim lleiaf o g [...]r) y mae efe yn treuthu yr ymadrodd hwn ne [...] cyffelyb wrth y llygaid.
O lygaid, y rhai oeddych gynt mor graff eich golwg a fedrwch chwi ganfod dim ymwared, na gweled ffordd yn y byd i mi i ochel y perigl echryslon yma? ond y mae llinynnau y llygaid wedi torri, ni allant hwy weled y gannwyll sydd yn llosci o'i flaen ef, na gweled gwahaniaeth rhwng dydd a nôs.
Y mae yr enaid (wrth weled nad oes dim cyffur iw gael gan y llygaid) yn dywedyd wrth y clustiau: O glustiau, y rhai oeddych arfer o gymmeryd difyrrwch wrth wrando ymadroddion mwynbêr, a phrydferthlais cerddwriaeth; a fedrwch chwi glywed dim newydd, na sôn am ronyn o gymmorth i mi? Y Clustiau naill a'i y maent mor fyddarion, ac na chlywant ddim yn y byd: a'i y mae'r clyw cyn wanned, ac nas geill ddioddef clywed ei gyfeillion anwylaf yn siarad ag ef. a pha ham y cai y clustiau hynny glywed dim hanes am lawenydd ym marwolaeth, yr rhai ni allent aros clywed newyddion da yr Efengyl yn eu bywyd? ni eill y glust na chymmorth nac ymwared.
Yno y dengys ef ei gwyn wrth y tafod. O dafod, yr hwn â arferit ymffrostio gyd a'r gwychaf, yn awr pa le y mae dy fawrair, a'th ryfyg cynhennus? yr awrhon jn fyng-haledi mwyaf a elli di ddywedyd dim yn fy mhlaid? o ni elli di na dwndrio y gelynion yma a'th eiriau bygythiol, nai hyweddu a'th ymadrodd têg? och, och, y mae 'r tafod er ys deuddydd [Page 43] gwedi colli'r parabl, ni eill yn ei angenoctid mwyaf, na galw am ychydig ddiod, na dymuno ar gyfaill dynnu a'i fys y carnboer sydd ym mron ei dagu.
Gan na fedrodd gael etto ddim gobaith o ymwared, fê ddywed wrth y traed: pa le yr ŷch chwi o draed; yr rhai gynt oeddych gyflym i redeg; a ellwch chwi fy nŵyn i unlle allan or lle peryglus yma? y mae'r traed eusys yn farw sythion: oni symmudir hwy in symmudant.
Yno y try ef ei achwyn at y dwylaw: O ddwylaw, y rhai yn fynych a gawsoch ganmoliaeth am wrolaeth, mewn heddwch a rhyfel, y rhai yn fynych a fuoch yn ymddiffyn i mi fy hùn, ac yn ddestruw i'm caseion, ni bu arnaf fi erioed fwy caledi nac yr awrhon; y mae angau yn edrych yn gethin arnaf, ac yn fy lladd; y mae 'r ellyllon uffernol yn disgwyl o amgylch fy gwely i'm difetha: cynnorthwywch yr awr hon, neu fe ddarfu am danaf yn dragwyddol: Och och, ymae 'r dwylaw mor weinion, ac yn crynu, fal na allant estyn vn llwyaid o wlybanniaeth at y genau i gynnorthwyo natur ffeintiedig.
Yr enaid truan yn ei weled ei hun wedi ei adael yn vnig, ac yn llwyr ymddifad o gyfeillion, ymwared, a diddanwch; ac yn gwybod fod yn rhaid iddo cyn pen awr fyned i'r tragwyddol boenau, â ddychwel at y galon (yr hon or holl aelodau yw'r cyntaf yn byw a'r olaf yn marw) oddyno y mae ef yn adrodd y galarnad tosturus hwn rhyngddo ac ef ei hûn. O pa fath ddiffeithbeth aflawen wyf? pa fodd y mae gofidiau angau im hamgylchu? pa fodd y mae llifeiriant Belial yn fy nychrynu? pa fodd y darfu i faglau y farwolaeth gyntaf a'r ail, fy nal ar vnwaith! Oh mor ddisymmwth y lladrattâodd angau attaf a'i gerddediad dirgeledig! mal yr haul, yr hwn nid yw y llygaid yn ei ganfodyn symmud, er bod ei symmudiad [Page 42] [...] [Page 43] [...] [Page 44] ôr cyflymmaf; O fel y mae angau yn dangos ei lid arnaf yn ddidrugaredd! fedd arfu i Dduw'r drugaredd fy nghwbl wrthod; a'r cythraul yr hwn nid edwŷn drugaredd, sy'n disgwyl am danaf i'm cymmeryd. pa sawl gwaith i'm rhybuddiwyd am y dydd galarus hwn, gan ffyddlon bregethwyr gair Duw, a minnau heb wneuthur ond gwawd o hynny? pa fudd sydd i mi yn awr o'm baichder, a'm tŷ prydferthlân, a'm gwiscoedd gwychion? pa beth a ddaeth o felusdra fy holl ddanteithion? yr holl olud bydol y bum ofalus iw casglu, a roddwn yr awr hon am gydwybod dda, yr hwn yn ddiofal a ddarfu i mi ei esceuluso; pa lawenydd sydd i mi yr awr hon am fy holl gnawdol ddigrifwch a aeth heibio, yn yr hwn y gosodais fy mhrif ddifyrrwch? nid oedd y chwantau cnawdol hynny, ond breuddw ydion twyllodrus, ac yr awr hon a aethant ymmaith megis cysgod diflanedig: eithr meddwl am y poe [...]au tragwyddol y rhai sydd raid i mi en goddef ynghyfair y byrr ddigrifwch hwnnw, sydd i'm poeni cynddrwg ag vffern, cyn fy myned i vffern, Etto yr ydwyf yn gwir gyfaddef mai fal yr haeddais yr wyfyn cael; a myfi wedi fyngwneuthur ar lun Duw yn enaid rhesymmol, ac yn gallu dirnad fynghyflwr fy hyn, a chael cynnyg i mi drugaredd cyn fynyched, ac ymbil a myfi am ei dderbyn, yn gwrthod rhâd Duw, ac yn dewis dilyn trachwantau pechod o flaen crefydd dduwiol i ryngu bodd Duw: fy amser byrr a dreuliais yn ddiriaid, heb ystyried pa gyfrifon a fyddai raid i mi roi yn y dydd diwedd. ac yn awr holl feluswedd fy mywyd pe cesclid ynghyd, ni chystadlei y rhan leiaf om poenau presennol. y llawenydd a gefais nid oedd ond amserol, ac a ddarfu cyn i mi yn brin ond ei ddechreu: fy nhrueni sydd dragwyddol a di-drangc. O na ddarfuasai i mi dreulio yr amser, a fwriais yn ofer yn chwarau cardiau, disiau, a chwaryddiaeth, a'r cyffelyb helynt ddiffaith, yn darllain yr Scrythrau, [Page 45] yn gwrando pregethau, yn derbyn y cymmun, yn wyto am fy mhechodau, yn ymprydio, gwilio, a gweddio, fal y gallaswn i yr awr hon ymadel mewn gobaith diogel o iechydwriaeth tragwyddol! O na bawn yn awr i ddechreu fy mywyd drachefn, oh fel y diystyrwn y byd hwn a'i oferedd! mor bûr ac mor fucheddol y byddwn fyw, mor fynych yr awn i'r Eglwys i sancteidio dydd yr Arglwydd! Ped fai Satan yn cynnyg i mi holl drysor, diddanwch, a goruwchafiaeth y byd hwn, ni chai efe fyth fy hudo i anghofio y gofidian hyn yn yr awr ddiweddaf. O gorphilyn llygredig, a burgyn drewllyd, pa fodd y chwaràdd diafol hudoliaeth a nyni ein dau? Pafodd y darfu i ni wasanaethu, a thwyllo bôb vn y llall? a thynnu damnedigaeth greulon arnom ein deuwedd? yr awrhon y mae fyngyflwr yn fwy grefynus nâ 'r anifail sy'n trigo yn y ffòs; o herwydd y mae yn rhaid i mi fyned i atteb ger bron brawdle cyfion farnwr nef a daiar: lle ni chaf fi neb i ddadleu drosof, ar diawliaid melldigedig yma, y rhai fy gydnabyddus am holl ddrwg weithredoedd a fydddant i'm cyhuddo, ac ni allaf fy escusodi fy hûn, y mae fyngalon fy hûn eusys yn fynghyhuddo, yr wyf yn sicr o gael damnedigaeth o flaen yr orseddfainge, ag oddiyno fy llusgo gán gythrauliaid vffernol, i'r caethiwed anrhaethadwy, a'r poenau didrangc o'r tywllwch eithaf: lle ni chaffi weled mor goleuni mwyach, y peth godidawg cyntaf a'r a wnaeth Duw. myfi yr hwn ym mhlaen llaw oeddwn yn ymogoneddu fy mod yn rhyddwas, ydwyf yr awr hon gwedi fyngwarcháu tan grafangau Satan: fel y betris ddychrynllyd o fewn sbagau y gwalch rheibus. Ym há le y caf [...]etty heno? a phwy a fydd yn gyfeilion i mi? o ddychryn i feddwl am dano! o ofid iw ystyried! ô melldithier y dydd yn yr hwn im ganwyd, na fydded y dydd y beichiogodd fy mam arnaf yn fendigedig, melldigedig fyddo'r dyn a [Page 46] ddywedodd wrth fy nhâd fe aned i ti fab, ac a'i cyssurodd. melldigedig a fyddo y gwr hwnnw, am nas lladdasei fi: O na buasei grôth fy mam yn fêdd i mi, neu na buasai ei chròth byth heb escor. O pa ham i daethym o'r groth i ddioddef yr vffernol arteithiau hyn? ac fal hyn i ddibenu fy nyddiau trwy gywilydd tragwyddol. Melldigedig fo 'r dydd im cysylitiwyd ar fath gorph drygionus. O na allwn gael cymmaint ffafr, ac na chawn weled mo honot ti fyth mwyach; y mae ein ymadawiad ni yn dra chwerw, ac yn alarus, eithr ein hail gyfarfod, ar y dydd ofnadwy hwnnw i dderbyn cyflawndra ein haeddedigol ddialedd, a fydd o lawer mwy echrys ac annoddesusach. Ond beth yr wyf iw feddwl fal hyn, wrth alarnad rhyhwyr yn ceisio oedi yr amser? fe ddaeth yr awr ddiwaethaf: yr wyf yn clywed llinynnau y galon yn torri, y mae 'r ty pridd hwn yn cwympo ar fy mhen; nid oes yma na gobaith, nac ymwared, na lle i drigo yn hwy, y mae yn anghenrhaid i mi gychwyn. Tydi ysgerbwd budr: oh ysgerbwd budr, yn lle bydd wych, bydd waeth, my fi a'th adawaf: ac felly dan grynu, y mae fe yn dyfod allan, ac yn ddisymmwth y mae 'r dreigiau vffernol yn ymaflyd ynddo, ac yn ei ddwyn yn nerthol Mal llif cornant i'r pwll heb waelod, yr hwn sy'n llosci o dân a brymstân: lle yr ydis yn ei gadw mewn carchar poenedig, nes y byddo y dydd mawr ar farn gyffredinol. Yn ôl hyn y rhoir yr scerbwd drgsawr yn y bêdd, yn yr hon weithred gan mwyaf, y mae 'r meirw yn claddu y meirw: hynny yw, y rhai ydynt farwol mewn pechod a gladdant y rhai â fuont feirw am bechod. Ac fal hyn yr anuwiol ar bydoi di-ailgenedledig, yr hwn a wnaeth y ddaiar yn beradŵys iddo ei hûn, ei fol yn Dduw, a'i drachwant yn gyfraith: mal y darfu iddo ef yn ei sywyd hau gwagedd, felly yr awrhon wedi ei farw, efe à feda drueni. Yn ei wynfyd efe a esceulusodd [Page 47] wasanaethu Duw, yn ei adfyd y mae Duw yn ei necau yntau o'i gymmorth, a'r cythraul yr hwn y bu ese yn hir yn ei wasanaethu, sydd yn awr or diwedd yn talu iddo ei gyflog. Ffiaidd oedd ei fuchedd, melldigedig ei farwolaeth. Y cythraul a gafodd ei enaid, ar bedd ei gorphilyn; yn yr hwn sybwll o lygredigaeth, ogof marwolaeth, daiardŷ galar, y gydwn y diffeithwas anheilwng yn pydru, a'r safn ynllawn pridd, ei fol yn llawn pryfed, a'i barwyden yn llawn drygsawr, yn disgwyl adgyfodiad ofnadwy, pryd yr adgysylltir a'r enaid; fel megis y cyttunasant au gilyd i wneuthur pechod, felly y cânt gyd-boenydio gyd a'i gilydd yn dragwyddol.
A hyn am drueni yr enaid a'r corph wrth farw, yr hyn nid yw ond melldith mewn. rhan: Bellach y canlyn cyflawnder melldith, yr hyn yw trueni yr enaid a'r corph yn ôl marwolaeth.
Myfyrdod am drueni dyn yn ol marwolaeth, yr hyn yw cyflawnder melldigedigwrydd.
CYflawnder melldigedigrwydd (pan syrthio ar greadur, ni allo oddef ei bwys) sydd yn ei wthio ef i lawr i ddyfnder diwaelod digofaint anibennus yr oll alluog Dduw, Luc. 16.23. yr hwn a elwir damnedigaeth uffern, Matt. 23.33. y cyflawn felldigedigrwydd hwn sydd naill a'i neulltuol, a'i cyffredinol.
Neulltuol ydyw, (yr hyn mewn mesur llai o gyflawndra) sydd yn discyn a'r yr enaid yn ddi atteg, hwy'n gyntaf ac yr ymwahano ef oddiwrth y corph.
Oblegid yn y munyd yr ymadawo, y mae'n bresennoll yngŵydd ac yngolwg Duw. Canys pan ballo ganddo ef weled a'i lygaid corphorol, gweled a wna mewn môdd ysprydol: fel Stephan, yr hwn a welodd ogoniant Duw, ac Jesu yn sefyll ar ei ddehaulaw, [Page 48] Act. 7.5. Neu fal gŵr a aned yn ddall, ac ni welsai ddim erioed, wedi cael ei olwg drwy fawr wrthiau, yn gweled yr haul, yr hwn ni wessai erioed or blaen. Ac yno trwy dystiolaoth ei gydwybod ei hûn, y mae Crist y barnwr cyfion yr hwn sy'n gwybod pob peth, yn peri iddo (drwy ei anfeidrol allu) ddeall y gôsp a'r farn sydd ddyledus iddo am ei bechodau, a pha gyfryw fydd ei helynt dragwyddol. Ac yn y modd hyn yn sefyll yngolwg y nef, ac yn anghymmwys o herwydd ei aflendid i fyned i'r nef; yr ydis yn dywedyd ei fod yn sefyll ger bron gorseddfaingc Duw. Ac yno yn ddisymmwth y mae 'r angylion drwg, y rhai a ddaethant iw gyrchu, yn ei ddwyn bendramwnwgl i uffern; lle y cedwir ef yngharchar mewn tragwyddol boenau beunyddiol, nes dyfod y farn fawr yn y dydd ofnadwy: eithr nid yn y dygn boenau eithaf, y rhai a dderbyn ef yn gwbl yn y dydd diwaethaf.
Cyffredinol gyflawnder melldith sydd mewn mesur helaethach o gyflawndra, yr hwn a ddiscyn ar y ddau, sef enaid a chorph; pryd y dygir (drwy alluog nerth Crist penbarnwr nef a daiar) un o uffern, a'r llall allan or bêdd, megis carcharorion, i dderbyn barn ofnadwy yn ôl eu drwg weithredoedd. Dadc. 11.18. Dan. 12.1. Joa. 5.18. Pa fodd y bydd y gwrthodedig, pan fyddo 'r mor yn rh [...] ar ddaiar yn crynu, a nerth y nefoedd yn siglo, gan ddychryndod (oddiwrth yr arŵyddion nefol tû ac at ddiwedd y byd) yn amhwyllo. Oh pa fâth gyfarch alarus fydd rhwng yr enaid colledig a'r corph, wrth eu hail gysylltiad yn y dydd dychrynadwy! O sugnedd pechod, a mygn o fudreddi (medd yr enaid wrth ei gorph) pa fodd yr ydis yn fyngorthrechu i fyned drachefn i'th fewn di? nid megis i gyfannedd i drigo, ond megis i garchar i benydio [Page 49] ynghyd. O fel yr wyt yn ymddangos yn fyngolwg fel merch Jephte i'm hanguriol gystudd! O Dduw na buasit ti byth bythol yn pydru yn y bêdd, fal nath welswn byth mwyach! O pâ wradwydd a ddygwn ni ynghyd, wrth glywed adrodd ar osteg o flaen Duw, dynion, ac Angelion, yr holl ddirgel bechodau y rhai a wnaethom ynghyd! a gollais i y nef, o wir gariad ar y fath furgyn drewllyd? a'i ty di yw 'r cnawd yn ol trachwantau yr hwn, yr ymroais i wneuthur cymmaint o odineb? O fol gwrthun pa fôdd y bum mor ffôl ath wneuthur di yn Dduw i mi? O mor wallgofus oeddwn redeg yn wysg fy mhen ir cystuddiau yma o boenau annibennus, er mwyn meddiannu llawenydd munudiol. Chwychwi greigiau a mynyddoedd, pa ham yr ŷch yn neidie fal hyrddod? Psal. 114.4. ac na chwympwch arnaf i'm cuddio rhag wyneb yr hwn sydd yn dyfod i eistedd a'r yr orseddfaingc accw? Oblegid y mae dydd mawr ei ddigo faint ef wedi dyfod, a phwy a ddichon sefyll? Datc. 6.16, 17. O ddaiar pa ham y cryni, fal hyn wrth weled yr Arglwydd, ac nad agori dy safn i' m llyngcu i wared fel y gwnaethost â Chorah, ac mal na 'm gwelid mwy?
O Ellyllon damnedig, mi a fynnwn pe gallech yn ddioed fy rhwygo i yn ddrylliau, dan ammod y drylliech fi oni'm gwnelid yn ddiddim. Eithr tra fŷch di, fal hyn yn ymofidio yn ofer, dros dy drueni, yr Angelion a'th lusgânt di ymmaith yn styrnig, o ymmyl dy fêdd i ryw le cyfagos at frowdle Crist, yn yr hwn le tra fych di fal gafr felldigedig, wedi dy ddidoli i sefyll i wared ar y ddaiar, megis ar law asswy y barnwr, fe gyfrif Crist ar gyhoedd yr holl ddoniau a dywalltodd arnat, a'r holl arteithian a ddioddefodd trosot, ar holl weithredoedd da a adewaist dithau heb wneuthur, a'r holl freiddra [Page 50] gwaharddedig a wnaethost yn ei erbyn ef a'i gyfreithiau.
Dy gydwybod oddifewn, (yn waeth na mil o dystion) a'th cyhudda: y cythrauliaid, y rhai a'th ddenodd di ith holl ddireidi drygionus, a fyddant o'r naill-tu efo ath cydwybod, yn dwyn tystiolaeth i'th erbyn: ar y tu arall y saif y Seintiau bendigedig a'r Angelion i gydbrofi cyfiawnder Crist, gan ffieiddio creadur mor aflan. Oth ol swn echrystawn aneirif gyfeillion colledig, a damnedigion gresynol yn aros am dy gyfeillach. Oth flaen di yr holl fyd yn llosci yn fflam o dân; goruwch dy ben di y bydd y Barnwr llawnddig a chôsp haeddedigol yn barod i adrodd y farn ith erbyn. Oddi tanat genau gwreichionllyd y gauffwrn ddiwaelod yn agored i'th dderbyn. Yn y cyflwr gresynol hwn, fe fydd amhonibl iti ymgadw, o blegit dan yr ammod honno, ti a fynnit pe cwympei y graig fwyaf ar dy uchaf, Dad. 6.16, 17. Ymddangos a fydd anescorol itti, ac etto y mae 'n rhaid i't sefyll allan gyd a'r colledigion eraill i dderbyn y farn hon arnad, sef, Ewch oddiwrthif chwi felldigedig i'r tân tragwyddol, yr hwn a ddarparwyd i ddiafol ac iw angelion, Mat. 25.41.
Ewch oddiwrthif] dyna neullduaeth oddiwrth bob gorfoledd a dedwyddwch.
Chwi felldigedig] Dyna yr yscymundod creulonddwys. Ir tân] dyna greulonrhwydd, Tragwyddol] dyna barhâd y poenedigaeth. A ddarparwyd i ddiawl ac iw angelion] dyna 'r penyd uffernol, a'r penydwyr. O farn [...]fnadwy rhag yr hon ni eill y rhai damnedig mor diangc! yr hon pan adrodder, ni ellir byth ei throi yn ei hôl; yn erbyn yr hon ni ellir bwrw escusodion; oddiwrth yr hon ni ellir myned i fan arall i achwyn, nac i appelio. Felly nid oe [...] i'r rhai colledig ddim i, ddigwyddo, ond poenau uffernol, [Page 51] y rhai a fydd heb esmwythau 'r penyd, na dibennu 'r amser. Oddiwrth yr orseddfaingc hon, rhaid ir angelion dy daslu di (ynghyd ar holl gythreuliaid dammedig ar gwrthodedigion) i'r pwll heb waelod, ar tywyllwch eithaf, yr hwn sy'n llosci o dân a brwmstân yn dragwyddol, Dat. 21.8. Ir fan hon cyn gynted ac ith teflir, ti gei glywed y fâth alar, wylofain, ac ocheneidiau, nad oedd gwaedd Corah, Dathan, ac Abiram pryd eu llyncodd y ddaiar hwynt ddim tebyg ir vdfa yma: nagê wrth glywed yr oernad yma, ti a debygit dy fod yn yffern cyn dy fod yno.
Yn yr hwn bwll heb waelod, gwedi unwaith dy fwrw, ti a fyddi yn syrthio bob amser, ac er hynny byth heb gael gwaelod: ac ynddo y byddi byth yn cwynfan heb neb a dosturio wrthit: ti a wyli yn ddibaid gan angerdd poenau y tân, ac etto dy ddannedd a grŷn rhag maint yr oerfel: ti a wyli wrth feddwl fod dy drueni yn ddi-ymwared: ac a wyli wrth feddwl na wna edifairwch ddim lleshâd: Ti a wyli wrth feddwl, pa wedd am gysgodau o ddifyrrwch byrr, y darfu i't syrthio i ofidiau poenau tragwyddol: ti a wyli wrth weled na eill wylofain y chwaith itti ronyn lleshâd: iê ac yn wylo ti a wyli ychwaneg o ddagrau nâg sydd o ddwfr yn y môr, oblegid y mae dwfr y môr yn beth terfynol, eithr wylofain y gwrthodedig a fydd an-herfynol.
Yno y caiff dy lygaid serchogaidd eu cystuddio wrth edrych a'r ysprydion erchyll: dy glustiau moethusglyw eu dychrynu gan oernad y cythrauliaid yn vdo, a rhingcian dannedd y gwrthodedigion poenedig: dy drwyn meindlws a gaiff ei lenwi a drygsawyr drewedig frwmstan: dy archwaeth dewisol a boenir â newyn anguriol, dy gêg feddw a sŷch gan syched anniffoddadwy: dy feddwl a gystuddic wrth gofio mai o ferch i ddifyrrwch amserol, yr [Page 52] hwn sy 'n dislannu cyn blodeuo, y buost mor ynfyd, a cholli y llawenydd nefol, a rhedeg yngwysc by ben ir poenau vffernol, y rhai a barhânt tu hwnt i dragwyddoldeb. Dy gydwybod yn oestadol a'th frath di pan fyddyliych, mor fynych y darfu i Grist trwy ei bregethwyr gynnig iti faddeuant am dy bechodau, a chynnig teyrnas nefoedd i ti yn rhwydd ac yn rhad, os ty di a wnait gymaint a chredu ac edifarhau: ac mor hawdd y gallysit ti dderbyn trugaredd yn y dyddiau hynny; mor agos a fuost lawer gwaith i edifarhau, ac etto fe ddarfu iti gynnwys i'r byd dy gadw yn anediferiol; ac yn awr fal y mae dydd y drugaredd wedi myned heibio ac ni lewyrcha byth drachefn.
O fal y bydd dy ddealltwrieth ar bigau dûr, wrth ystyried, ddarfod i ti o chwant i gyfoeth darfodedig, golli y trysor tragwyddol, a chyfnewid dedwyddwch nef am drueni vffern! Lle bydd pob rhan o'th gorph (heb na thorr na thrai a'r boenau) yn cael yn vn ffunyd eu penydio yn dragywydd. Yn y Penydiau vffernol yma, fe a'th ddifuddir yn dragwyddol ô olwg bendigedig yr Arglwydd, yn yr hyn y mae gwir ddawn a bywyd yr enaid yn sefyll. Ni chei di fyth weled goleuni, nac un golwg ar lawenydd, ond gorwedd mewn tragywyddol boenau y tywyllwch eithaf. lle na bydd trefn ond dychryndod; na llais ond llais cablwyr, a rhai yn vdo; na sŵn ond sŵn y poenau, ar penydwyr; na chymdeithas, ond gyd â diafol ai angelyon: y rhai gan eu bod mewn penyd eu hunain, ni allant gael dim llonyddwch ond porthi eu cynddaredd yn dy bennydio di. Lle bydd poenedigaeth heb dosturi, trueni heb drugaredd, alaeth heb gymmorth, gweiddi heb ddisdewi, aflonydd heb fesur, cystudd heb esmwythdra, lle mae y prŷf heb farw, a'r tan heb ddiffoddi: lle bydd digofaint Duw yn ymaflyd a'r dy enaid a'th gorph, fal y [Page 53] fflam dân ar y pŷg a'r brwmstan: yn yr hon ti a gei losci yn oestadol, a byth heb ddarfod, marw beunydd, a byth heb farw, beunydd yn ymrwyfo mewn gofidiau angau, a byth heb gael gwared o honynt, nac adnabod diben a'r dy boenau. felly pan ddarfyddo i ti eu dioddef hwynt rif [...]i mil o flynyddoedd, am bob mil o welltglas sydd ar y ddaiar, neu dywod ynglan y môr, nid wyt ti o ronyn nes i gael diben a'r dy boenau, na 'r awr gyntaf i'th taflwyd iddynt: iê y maent cyn belled oddiwrth ddiweddu nad ŷnt hwy ond dechreu beunydd. Ond pe bai yn ôl mîl filiwn o flynyddoedd obaith y cai dy enaid colledig ddibendod ar y penydiau hyn, ê fyddai hynny beth cyssur, feddylied fod ryw amser y diwedd i ddyfod: either cyn fynyched ac y byddo 'r meddwl yn cofio y gair yma byth, dyna vffern arall ynghanol vffern.
Y meddylfryd hwn a bair i'r colledig weiddi ouai, ouai, cymaint a phe dywedent ouc aei, ouc aei. O Arglwydd nid byth, nid byth, eu cydwybod a'i hettyb fal y gareg lefain, aei, aei, byth. byth. oddyma y cyfyd eu tostur Ouai, sef, gwae, ac ôch yn dragywydd.
Dyma yr ail farwolaeth, sef yr union gyffredinol gyflawnder o'r holl felldithrwydd a thrueni: yr hyn sydd raid i'r holl gwrthodedigion colledig ei ddioddef, tra fyddo Duw a'i seintiau yn gyfrannog o ogoniant a dedwyddwch nefol yn dragywydd.
Hyn yma am drueni dŷn ynghŷflwr llygredigaeth, oddieithr ei adnewyddu drwy râs Ynghrist.
Yn ôl hyn i canlyn gwybodath am fywyd dŷn, o herwydd grâdd ei adgenedliad trwy Grist.
Myfyrdod am gyflwr Cristion gwedi ei gymmodi a Duw yn Ghrist.
YR awrhon gadewch i ni weled, mor ddedwydd yw y g [...]r duwiol mewn cyflwr o adnewyddiad wedi ei gymodi á Duw ynghrist. Y gŵr duwiol yr hwn sydd a'i natur lygredig gwedi ei adnewyddu trwy râs ynghrist, ac a wnaethpwyd yn greadur newydd, sydd fendigedig o herwydd tri pheth. Yn gyntaf, yn ei fywyd. Yn ail, yn ei farwolaeth. Yn drydydd yn ôl ei farwolaeth.
1. Ei ddedwyddwch yn ei fywyd, nid yw ond mewn rhan, hynny a gynhwyfir mewn saith o bethau.
Yn gyntaf: O ran ei fod wedi ei ymddwyn trwy'r ysbryd, ynghrôth ei fam, sef yr eglwys. Ioa. 3.5. Gal. 4.26. ac fe â aned, nid o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac yn ôl ewyllys dŷn eithr o Dduw Joan. 1, 13. yr hwn Ynghrist ydyw ei dâd ef: fel y mae llun Duw ei dâd, yn adnewyddu ynddo ef ar gynnydd fwyfwy beunyddiol.
2. Yn ail: efe a gafas yn rhâd, ac yn gyflawn, er mwyn haddedigaethau dioddefaint Crist faddau iddo ei holl bechodau, gwreiddiol a gweithredol, a'r euogrwydd, a'r cospedigaeth a ddigwydd iddynt: a holl gyfiawnder Crist â gyfrifir yn rhwydd ac yn gyflawn iddo: ac felly y mae Duw wedi vno atto: ac yn ei weled yn ddifai ac vnion yn ei olwg, a'i gyfrif. Rhuf. 4, 7, 8, 25.
3. Yn drydydd, y mae efe gwedi ei ryddhau oddiwrth gaethiwed Satan, a'i wneuthur yn frawd i Grist, ac yn gydetifedd i feddiannu teyrnas nefoedd: yn ysprydol frenin ac offeiriaid, i offrymmu aberthau ysprydol i Dduw trwy Iesu Crist. Rhuf. 8, 17. 1 Pet. 2, 5.
[Page 54]4. Yn bedwerydd, y mae Duw yn ei arbed ef fel yr arbed dŷn ei fab ei hun a fai yn ei wasanaethu, ar arbed yma sy'n sefyll fal hyn.
1. Nid yw Duw yn dal sulw ar bob bai, eithr yn cyd-ddwyn a'i wendid: Exod. 34.6.7. Ni theiff Tâd caredig ei fab allan ir drws yn ei glefyd.
2. Nid yw yn ei gosbi pan ei ceryddo, yn ol ei haeddedigaeth, Psalm. 103.10.
3. Y mae ef yn ei geryddu ef yn gymmedrol, pan welo nad oes dim arall a eill beri iddo ef wellhau ei fuchedd, 2 Sam. 7.14, 15. 1 Cor. 11. [...]2.
4. Y mae ef yn rasusol yn derbyn ei ewyllysgarwch, er bod ei vfudd-dod yn amherflaith: ac felly yn dewis amcan ei feddwl, o flaen teilyngdod ei weithred, 2 Cor. 8.12.
5. Y mae efe yn troi y melldithiau a haeddodd ef yn geryddon tadoi; ie pôb peth, gofidiau y bywyd, marwolaeth, ie hyd yn oed ei bechodau, yn ddaioni iddo. Rhuf. 8.28. Psal. 119, 71.
V. Y mae Duw yn rhoddi iddo ef ei ysbryd glân, yr hwn sydd,
- 1. Yn ei sancteiddio trwyddo a'r gynnydd, hyd oni byddo fwyfwy yn marw i bechod, ac yn byw i gyfiawnder. Rhuf. 8, 10.
- 2. Yn sicrhau iddo ei fabwysiad: sef, ei fod ef trwy ras yn blentyn i Dduw. Rhuf. 8.16.
- 3. Yn ei gyssuro ef, i ddyfod mewn hŷfdra, ac ymmddiried ger bron Duw. Ephes. 3, 12.
- 4. A wneiff iddo yn ddiofn ddywedyd Abba Dad Gal. 4, 6.
- 5. A dywallt iw galon ef ddawn gweddi sancteiddedig. Rhuf. 8.26.
- 6. Yn ei roi i goelio ei fod efe, a'i weddiau yn gymeradwy, ac yn cael ei wrando gan Dduw [Page 54] [...] [Page 55] [...] [Page 56] er mwyn Crist ei gyfryngwr. Rhuf. 8.16, [...]7.
- 7. Yn ei lenwi ef
- 1. A heddwch cydwybod.
- 2. Allawenydd yn yr Yspryd glân: iw cyffelybu ir hwn, nid yw pob llawenydd daiarol ond gwael ac ofer yn ei olwg ef. Rhuf. 5.1. ac pen. 14, 17.
6. Y mae ef yn cael ei lywodraeth o newydd ar y creaduriaid, yr hyn â gollasai wrth gwymp Adda: ac o hynny y mae iddo lawn rydd-did i fwynhau yr holl bethau nis gwaharddodd Duw, mal y gallo eu trin a chydwybod dda. O blegit y mae iddo sicrwydd diogel yn y bywyd hwn o wir gyfiawnder yn yr holl bethau yn y nef, ac ar y ddaiar. Ac efe a geiff gyflawn heddychlawn feddiant o honynt yn y bywyd sydd i ddyfod. Psal. 8.5. 1 Cor. 3.22.
O hyn y digwydd nad yw'r holl rai gwrthodedig ond trawsgeidwadau ar y cwbl oll maent yn eu feddu, o ran nid oes iddynt gyfannedd oi heiddaw eu hunain ond vffern. Act. 1.25.
7. Y mae iddo ef sicrwydd o dadol ofal Duw, iw ymddiffyn ddydd a nos: yr hwn ofal sydd yn sefyll yn y tri pheth hyn. sef,
Yn gyntaf, yn darparu iddo holl angenrheidiau ei enaid ai gorph, yn y byd hwn ac yn y byd a ddaw: fel y bo efe yn siccr naill a'i i gael ei gyfraid, neu i gael dioddefgarwch i fod yn fodlon ir hyn sydd ganddo. Math. 6.32.
Yn ail, am fod Duw yn rhoi iw Angelion sanctaidd or chymmyn megis îw wenidogion, i wilio arno ef yn ddyfal, er mwyn ei ddaioni; ie mewn perigl i wersyllu o'i amgylch o ran diogelwch iddo ym mha le bynnac y byddo. Ie cymmorth Duw [Page 57] a'i hymddiffyn ef, mal cwmmwl liw dydd, ac fal colofn o dân liw nos, a'i ragluniaeth a'i ceidw oddi amgylch rhag gallu y cythraul. Psal. 34, 7. Job. 1.10.
Yn drydydd, am fod golwg yr Arglwydd arno, a'i glustiau yn oesdadol yn barod, i we [...]ed ei gyflwr, ac i wrando ar ei gwynfan, ac yn ei amser nodedig, iw waredu ef allan o'i holl orthrymderau.
Hyd yn hyn am fendigedig gyflwr y duwiol, ar dŷn adgenedledig yn y bywyd yma: bellach am ei fendigedig stât yn ei farwolaeth.
Ystryriaeth am wynfydedig gyflwr y dyn adgenedledig yn ei farw [...]laeth.
PAn ddanfono Duw angeu, megis ei gennad i gyrchu y dyn adgenedledig, y mae ef yn dyfod iw gyfarfod hanner y ffordd ir nefoedd; canys y mae ei serch a'i ymarweddiad yno o'i flaen ef. Phil. 3.20. nid yw Angeu na dieithrol nac ofnad wy iddo. Nid yw ddieithrol, o blegid yr oedd efe yn marw beunydd; nac ofnadwy, o ran tra fu fyw, marw ydoedd, a'i fywyd a guddiwyd gyd â Christ yn Nuw. Col. 3, 3. Marw gan hynny iddo ef, nid yw ddim amgen onid gorphywyso oddiwrth ei boen yn y bŷd, a myned adref i dŷ ei dad, i ddinas y Duw byw, i Ierusalem nefol, i blith myrddiwn o Angelion, i'r gynulleidfa gyffredinol, i Eglwys y cyntafenedig, at Dduw barnwr pawb oll, at ysprydion y rhai vnion a berffeithiwyd, at Iesu Cyfryngwr y Testament newydd. Heb. 12.22, 23. Tra fo ei gorph yn glaf, y mae ei fed dwl yn iach, o herwydd bod Duw yn gwneuthur ei wely oll yn ei glefyd, Psal. 41, 3. ac yn ei gryfhau ef â ffydd ac â dioddefga [...]wch ar wely ei dristwch. [Page 58] a phan fyddo yn cychwyn myned i ffordd yr holl fyd; y mae ef (mal Jacob, Moses, a Josuah) yn rhoi cyngor ac athrawiaeth dduwiol iw blant a'i gyfneseifiaid, i wasanaethu y gwir Dduw, a'i anrhydeddu yn vnion holl ddyddiau eu heinioes. Ei enaid bendigedig, ni anadla allan ddim ond bendithion, a'r cyfryw ymadroddion ag a fo arnynt flâs oddiwrth yspryd sancteiddiedig. Megis y mae ei ddŷn ef oddiallan yn gwanhau; felly y mae eî ddŷn ef oddimewn yn cynnyddu, ac yn cryfhâu. Pan fo ymadrodd ei dafod ef yn pallu, y bydd ochneidiau ei galon yn llefaru yn vwch at Dduw. Pan fo golwg y llygaid yn tywyllu, y mae 'r Yspryd glân yn ei oleuo ef oddimewn a helaethrwydd ô oleuni ysprydol. Nid yw ei enaid yn ofnus, eithr yn hyderus i fyned allan o'r corph, ac i drigo gyd a'r Arglwydd. 2 Cor. 5.8. Y mae ef yn ochneidio mal Paul, Cupio dissolvi, Yr wyf yn deisyf fy nattod; a bod gyd a Crist, Phil. 1.23. Ac megis Dafydd, fel y sycheda yr hŷdd am ddyfrneint, felly y sycheda fy enaid am danat ti o Dduw: y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw, Pa amser y caf ddyfod i ymddangos ger bron Duw? Psalm. 42.2. y mae ef yn gweddio gyd a'r Seintiau, pa hyd o Arglwydd yr hwn ŵyt sanctaidd ac vnion? Tyred arglwydd Jesu, tyred chwyppyn. Dat. 22.20. A phan ddêi amser terfynedig ei ymddatodiad, pryd ei bo yn gwybod ei fod yn myned at ei Dad, a'i Waredydd, mewn heddwch cydwybod, a gobaith sicr o gael meddeuant o'i holl bechodau trwy waed yr oen, y mae ef yn canu mal yr hén Simeon fendigedig, ei Nunc dimittis, Yr awrhon Arglwydd y gollyngi dy wâs mewn tanghneddyf yn ol dy air, &c. Luc. 2.29. ac a ddyru ei enaid megis a'i ddwylaw ei hun yn nwylaw ei Dad nefol, gan ddywedyd gyd â Dafydd: i'th [Page 59] ddwylaw di o Dâd yr wyf yn gorchymmyn fy enaid, o blegit ty di am gwaredaist: o Arglwedd Dduw 'r gwirionedd, Psal. 31.5. a chan ddywedyd gyd a' Stephen: Arglwydd Iesu derbyn fy ysbryd. Act. 7.59. cyn gynted ac y rhoddo ef ei yspryd bendigedig i fynu: yn ebrwydd y mae 'r Angelion sainctaidd (y rhai oeddynt yn gwilio arno ef o'i enidigaeth hyd ei farwolaeth) yn dwyn ei enaid i'r nef, fel y dygafant enaid Lazarus i fonwes Abraham, yr hon yw Teyrnas Nefoedd; i fyned i'r hon y mae Angelion da, a gweithredoedd da yn unig yn cydymdeithio a'r enaid: y naill i roi i fynu y peth orchymmynwyd iddynt, a'r llall i gael eu gwobr.
Y corph mewn amser cyfaddas megis Teml sanctaidd yr Yspryd glân, âelod i Grist, pridwerth gwaed Mâb Duw, a esyd ei gydfrodyr yn barchedig i huno yn ei fèdd, megis yngwely Crist, mewn gobaith sicr o gael deffroi yn nydd adcyfodiad y cyfion, i fod efo a'r enaid yn gyfrannog o'r bywyd a'r gogoniant tragwyddol. Ac o blegid hyn, fe elwir yn fendigedig nid yn ynig eneidiau y ffyddlonniaid eithr eu cyrph hefyd.
Hyn yma am y fendith sydd yn descyn ar enaid a chorph y dŷn adgenedledig yn ei farwolaeth. Gadewch i ni weled ym mhellach pa ryw fendith sydd i ddilyn e'i enaid a'i gorph yn ol ei farwolaeth.
Myfyrdod am gyflwr bendigedig y dynadgenedledig yn ol ei farwolaeth.
Y Cyflur yma sydd a thair grâdd arno.
Yn gyntaf o ddydd marwolaeth hyd yr adcysodiad.
Yn ail, o'r adcyfodiad hyd oni adrodder y farn.
[Page 60]Yn drydydd, yn oly farn, i barhau yn dragywydd.
Cyn gynted ac y darfyddo i'r dŷn adgenedledig roddi ei enaid i fynu i Grist, y mae 'r Angelion sanctaidd yn ei dderbyn iw cadwraeth, ac yn ddi-atteg, yn ei ddwyn i'r nef; ac yno yn ei roi yn anrheg gar bron Crist: ile yr ydis yn ei goroni, a choron cyfiawnder, a gogoniant. 2 Tim. 4.8. Dad. 2.10. nid yr hon a haeddodd o herwydd ei weithredoedd da, ond yr hon a addawodd Duw o'i ddaioni haelionus i'r rhai oll o wîr gariad arno, yn y byd hwn a'i gwasanaetho ef, ac a geisio ei ogoniant. Oh pa ryw lawenydd a fydd hynny i'th enaid ti! yr hwn ni bu arferedig o weled dim ond trueni pechaduriaid, gael gweled wyneb brenin y gogoniant! Iê gweled Crist i' th croesawu, cyn gynted ac i'th ddygir di o'i flaen, gan ei Angelion sanctaidd; a'i groesaw yw hyn, euge bone serve: sef yw hynny, da gwnaethost, croesaw wâs da a ffyddlon, &c. dos i mewn i lawenydd dy Feistr: a pha ryw orfoledd a fydd itti weled mil miliwn o Cerubiaid, Seraphiaid, Angelion, Gorseddfeingciau, Arglwyddiaethau, Tywysogaethau, Galluogrwydd? Ephes. 1.21. Yr holl Patrieirch sancteiddiol, Prophwydi, Offeiriaid, Apostolion, Merthyron, Cyfaddefwyr: a holl eneidiau dy gymdeithion, cyfneseifiaid, gwyr, gwragedd, a phlant, ar cwbl oll o Sointiau Duw, y rhai a ymadawsant o'th slaen di mewn gwir ffydd Grist, yn sefyll ger bron gorseddsaingc Duw mewn anrhydedd a gogoniant? Os oedd brenhines Sheba, wrth weled rhwysc ac vrdduniant Salomon, o wir syndod yn dywedyd: dedwydd yw dy wŷr, dedwydd yw dy weision, y rhai sydd yn sefyll oth flaen, i glywed dy ddoethineb: pa lawenychu a wna dy enaid ti, wrth ei weled ei hûn wedi cael ei gynnwys i fod ym mhlith y gynulleidfa [Page 61] ogoneddus yma, i edrych ar fendigedig wyneb Crist, i ddirnad nerth ei ddoethineb? Pa ryw anrhydedd a fydd i't wrth weled cynifer mil o filoedd sydd yno, yn dy groesawu di iw nefol gymdeithas! Canys fel yr oeddynt oll yn llawenychu pan droist i edifarhâu; felly yr awrhon y maent hwy yn llawenach wrth weled dy goroni, ac wrth dy ganfod yn derbyn y goron yr hon oedd ynghadw itti oni ddelit. Oblegid yno ŷ mae Coron Merthyrdod iw gosod am ben y Merthyr a ddioddefod arteithiau er mwyn Efengyl Crist: Coron Morwyndod ar ben y Forwyn a orchsygodd Drachwant. Coron Duwioldeb a Diweirdeb, ar ben y rhai oedd yn gogoneddu Crist yn union, ac yn cadw eu priodas yn ddi-halog: Coron gweithredoedd da, ar ben rhoddwyr elusênau, y rhai a fuant syber wrth dlôdion: coron y gogoniant dilygredig, ar ben y bigeiliaid, y rhai trwy eu pregethau, au ensamplau da, a droesant lawer enaid o lygredigaeth pechod i ogoneddu Duw mewn sancteiddrwydd buchedd. Pwy a ddichon adrodd yn helaeth faint gorfoledd y llu nefol yma, wrth dy goroni di â gogoniant, a'th drwsiadu mewn disclaer wisc cyfiawnder, ac wrth weled Palmwydden buddugoliaeth yn dy law? o wyched sydd ganddynt ddarfod i ti ddiangc rhag holl drueni 'r bŷd, rhwydau y cythraul, a phoenau vffern; a chael o honot yn lle hynny orphywysfa a dedwyddwch yn dragywydd? Oblegid y mae pawb yno yn ymhyfrydu cymmaint mewn happusrwydd vn arall ac yn ei happusrwydd ei hun, a gweled un arall yn cael ei garu gen Dduw cystal a'i weled ei hun. Ie y mae ganddynt gynnifer o amryw fath ar Jawenydd, ac sydd iddynt o gyfeillion i gydlawenhau. Ac yn y gwynfydedig ar bendigedig gyslwr [Page 62] yma, y mae yr enaid yn gorphywys gyd â Christ yn y nef, hyd ddydd yr adcyfodiad: pan gyflawner nifer ei chydwasanaethwyr, a'i chydfrodyr yr hyn y mae 'r Arglwydd yn ei gyfrif yn amser byrr.
Yr ail râdd o ddedwyddwch dŷn yn ôl marwolaeth sydd o amser yr adcyfodiad, hyd oni adrodder y farn ddiweddaf. O herwydd ar y dydd olaf,
1. Yr wybrennau defnyddol, y ddaiar ac oll sydd o'i mewn a ymddettyd, ac a burir a thân, 2 Pet. 3, 10, 12, 13.
2. Ar sain yr vdcorn diweddaf, neu ar lais Crist yr Archangel, yr vnrhyw gyrph ac â oedd gan yr etholedigion or blaen, (er en bod wedi eu troi yn bridd ac yn ddaiaren) a gyfyd drachefn. Ac yn yr vn munud, yr ail dychwel enaid pob rhyw ddŷn iw gorph ei hûn, trwy rinwedd adcyfodiad Crist eu pen; ac a adfywheir ac a gyfodir ou beddau, megis pod faent yn deffroi yn eu gwelau; 1 Cor. 15.52. 1 Thes. 4.14.16. Joa. 5.28. Ezec. 37. Rhuf. 8.11. a phâ wedd bynnac y darfu i erlidwyr creulon ddryllio eu cyrph hwynt yn ddarnau, neu eu difa yn vlw: etto fe gaiff yr Etholedig weled fod yn wir yn y dydd hwnnw: na syrthiodd blewyn o'u pen hwynt.
3. Hwynt hwy a ddeuant allan o'i beddau pob un o honynt, megis Joseph allan o garchar, neu Daniel allan o ffau y llewod, neu Ionah allan o fol y morfil.
4. Gwedi bywhau mal hyn holl gyrph yr etholedigion hwy a godant yn y cyfryw berffeithrwydd naturiaeth ac y buasent yn ôl eu hardymêrwch anianol, o buasent di anafus: ac yn y cyfryw oedran, a [...] y bydd dŷn grymusaf ynghylch ei dair a'r ddêg a'r [Page 63] higain oed, pob vn yn ei ryw priodol ei hûn; yr hyn beth y mae 'r dyscawdwyr yn tybied fod yr Apostol yn pennodi atto yn y geiriau hyn: Oni ddelom ni eu gyd oll yn ddŷn perffaith ym mesur oedran cyflawnder Crist. Eph. 4.13. Tertul. de Resur.
Pa anaf bynnag oedd o'r blaen ar y corph, megis dallineb, neu gloffni, neu wargrymni, y pryd hynny fe dynnir ymaith. Ni bydd Jacob yn glôff, nac Isaac yn ddall, na Leah yn llygadŵyr, na Mephibosheth yn glôff efrydd: Canys gan na fynnai Dafydd na dall na chloff i ddyfod iw dŷ, llai o lawer a fyn Crist o ddallineb a chloffni i aros yn ei gyfannedd nefol. Fe wnaeth Crist yr holl ddeillion i weled, y mudiaid i lefaru, y byddariaid i glywed, ar cloffion i rodio, &c. ar â ddaeth atto ef i ofyn ei râs ar y ddaiar: mwy o lawer yr iachâ efe holl amherffeithrwydd y rhai a gymmero ef yn gyfrannogion o'i ogoniant yn y nefoedd. Ym mhlith y llwythau hynny, nid oes vn egwan, y dŷn cloff a neidia fel yr hydd, a thafod y dŷn mud a gân. Isay 35.6.
Ac y mae'n ddigon hysby sol wrth weled ddarfod i Dduw greu ein rhieni cyntaf ni, nid yn fechgyn nac yn henaf gwyr, ond yhghanol perffeithrwydd eu hoedran, y bydd yr anaplasis, sef y creadwriaeth newydd gwedi marw [...]laeth, ym mhob modd yn breffeithiach na 'r plasis, sef y deunyddiad cyntaf ar ddŷn, o'r hwn y cwympodd ef i gyflwr marwol. Ac nid yw debygol, y gall mebyd, y [...] hwn nid yw ond amherffeithrwydd, a henaint yr hwn sydd lygrydigaeth, gydhuno yn dda â grâdd corph perssaith gogoneddus.
5. Cyrph yr etholedigion wedi eu cyfodi mal hyn a gant bedair tra rhag [...]rol goruwch naturiol rinweddau, o blegid,
1. Fe a'i cyfo [...]ir hwy mewn nerth trwy 'r hwn y galiant fod byth yn gadwedig rhag pob d [...]flyg, a gwendid, [Page 64] ac yn gallu parhau heb arfer o fwyd, diod, neu gŵsc, a'r fâth gynhaliaeth. 1 Cor. 15.43.
2. Mewn anllygredigaeth trwy 'r hyn ni byddant byth digwyddedig i vnrhyw fâth a'r amherffeithrwydd, anaf, clefyd, neu farwolaeth.
3. Mewn gogoniant, trwy 'r hwn y discleiria eu cyrph mor eglur ar haul yn y ffurfafen, a chwedi eu gwneuthyd mor amlyg [...]l, eu eneidiau a oleua trwyddynt yn fwy gogoneddus o lawer nai cyrph. Math. 13.43. o'r hwn ogoniant yr ymddanghosod tri arwyddlewyrch. y cyntaf yn wyneb Moses: Exod. 34.27. yr ail yn y cyfnewidiad ar ddull Crist yn y mynydd, ar trydydd yn wynepryd Stephen. Mat. 17. Act. 6.15.
Tri arwyddocâd diogel o ogoniant ein cyrph ar y dydd gogoneddus hwnnw. Yno y rhydd Dafydd heibio ei wisc bigeilaidd, ac a wisc am dano drwsiad mab y brenin, Jesu nid Jonathan. Yno pob mordecai cywir, yr hwn a alarodd dan sachliain cnawd llygredig, a gaiff ei drwsiadu a harddwych wisc frenhinol: ac a gaiff Goron Ardderchawg ar ei ben, fel y gallo yr holl fyd weled fal y gwneir i'r hwn y mae brenhin y brenhinoedd yn ei anrhydeddu. Os gwna yr awrhon cyfodiad vn haul ir borau ymddangos mor ogoneddus; O mor ogoneddus a fydd y Dydd hwnnw, pan fyddo aneirif fyrdd fyrddiwn o gyrph y Seintiau, a'r Angelion, yn ymddangos yn oleuach nag eglurdeb yr haul! a Chorph Crist mewn gogoniant yn rhagori arnynt oll.
4. Mewn escudrwydd neu gyflymdra, trwy 'r hyn y geill eu cyrph hwy ymgyfodi i gyfarfod yr Arglwydd ar ei ddyfodiad gogoneddus yn yr awyr fel yr eryrod yn ehedeg at sclyfaeth. Math. 24.28.
At yr hwn esgudrwydd ar gyrph y Seintiau y mae 'r prophwyd yn pennodi lle y dywedodd, Esai. 40.31.
Hwy a wellhant eu nerth, ac ehèdant fel eryrod, rhedant ac ni flinant, rhodiant ac ni ddiffygiant. Ac at y [Page 65] flwr hwn y gellir cymhwyso y geiriau hyn o ddoethineb: sef yn amser eu gweledigaeth y discleiriant, ac y rhedant yma a thraw, megis gwieichion mewn sofl.
Ac o herwydd y pedair cynneddfau hyn y mae Paul yn galw cyrph y rhai etholedig a gyfodwyd, yn ysprydol: o blegid mewn cynnedfau y byddant ysprydol, eithr yn unrhyw byth mewn sylwedd. 1 Cor. 15.46.
A pha wêdd bynnag y mae pechod a llygredigaeth yn y cyflwr marwol hwn, yn gwneuthur dŷn yn îs nac Augylion, etto diau pan gorono Duw ef â gogoniant ac anrhydedd, ni fedraf fi ddirnad pa fôdd y bydd dŷn mewn dim oll yn îs na'r Angelion. o blegid Ysprydion ydynt hwy▪ ac felly y mae dŷn hefyd o herwyddd ei enaid; iê a mwy na hynny, hwy a gânt gyrph ysprydol wedi eu ffurfi [...] yn gyffelyb i gorph gogoneddus yr Arglwydd Jesu Grist, Phil. 3.21. Yn yr hwn y mae natur dŷn gwedi ymdderchafu trwy undeb personol i ogoniant y Duwdod, ac i anwahanol gymdeithas y Drindod fendigedig: yr hwn anrhydedd ni chennadhâodd ef erioed iw Angelion. Heb. 2, 16. Ac o herwydd hyn y mae i ddŷn ragorfraint vwch eu llaw hwynt oll. Nagê, nid ydynt hwy ond ysprydion gwedi eu trefnu i fod yn wenidogion i'r etholedig. Heb. 1.14. a chynnifer o honynt ar y cyntaf a wrthwynebodd wneuthur hyn o swydd, ac ni chadwodd y drefn gyntaf osodedig, am eu balchder a daflwyd i lawr i vffern; Nid yw hyn yn lleihau teilyngdod yr Angelion, ond hyspysu faint yw cariad Daw tuag ddynaw! ryw.
Eithr am yr etholedigion, y rhai a fyddant yma yn fyw, ar yr ail dyfodiad disymmwth i Grist; Y [...]ân yr hwn a lysc lygredigaeth y bŷd a'r gweithredoedd o'i fewn, mewn munud ar drawiad amrant llygad, a'i goddiwes hwynt lle y bôn [...], n [...]ill a'i yn [Page 66] malu, mewn melin rhagluniaeth, a'i yn rhodio rhyd meusydd difyrrwch, a'i yn gorwedd mewn gwelŷ llonyddwch, ac felly gen losci eu amhuredd a'i llygredigaeth, o gyrph marwol a'i gwna hwynt yn gyrph anfarwol, a hyn o gyfnewid a fydd iddynt hwy yn lle marwolaeth. 1. Cor. 15.51.
Yno y caiff yr enaid drwy lawenydd gyfarch ei gorph gan ddywedyd: Oh da ymgyfarfuom ni eilwaith fy chwaer anwyl, mor hyfryd yw dy lais, mor howddgar yw dy wynepryd, gwedi gorwedd cyhyd mewn agennau creigian, ac mewn dirgel lochesau 'r bêdd! Can. 2.14. yr wyt ti yn wir yn breswylfa cyfaddas, nid yn vnig i mi i drigo ynot, ond y cyfryw vn y mae 'r Yspryd Glân yn gweled yn gymmwys genddo aros ynddo megis yn deml iddo yn dragywydd. Bellach y darfu gauaf ein holl orthrymderau, llifeiriant ein trueni a sychodd yn hysb. Y mae cyrph ein etholedigion frodyr yn ymddangos yn ddiscleiriach na blodau 'r Lili ar y ddaiar: fe ddaeth yr amser i ganu Halleluiah, a llais yr vdcorn a glywir yn ein tîr, Ty di a fuost fynghyfarwr yngwaith yr Arglwydd, ac yn gyfaill i mi mewn erlidiau, a chammau, er mwyn Crist a'i Efengyl; yr awrhon y cawn ni fyned gyd a'i gilydd i lawenydd ein Harglwydd, Megis y dygaist y groes gyd a'm fi gynt, felly yr awrhon gyd â myfi y cei wisco y goron. Megis yr hauaist gyd â myfi yn helaeth mewn dagrau, felly yr awrhon, y medi yn helaeth gyd â myfi mewn gorfoledd. O bendigedig, iê tra bendigedig a fo 'r Duw daionus! yr hwn (tra fu y rhai gwrthodedig accw yn treulio eu holl amser mewn balchder, chwantau cnawdol, bwyta, yfed, a gwagedd halogedig) a roes i ni râs i gydtynnu a'i gilydd yn gwilio, ymprydio, a gweddio, yn darllain yr scrythyrau, yn cadw y Sabbôthau, [Page 67] yn gwrando pregethau, yn derbyn y Cymmun sainctaidd, yn cynnorthwyo 'r tlawd; gan arfer o weithredoedd Duwioldeb ym mhob gostyngeidyrwydd tu ac at Duw, a rhodio yn gydwybodus i wneuthur yn ôl ein galwadigaeth tû ac at ddynion.
Yn y man ni chei di glywed sôn am dy bechôdau, o herwydd fe a'i maddeuir, ac a'i cuddir, Psal. 32.1. eithr pôb gweithred dda a wnaethost, er mwyn yr Arglwydd, a gyhoeddir ac a obrwyir. Llonna dy galon, o herwydd y mae dy Farnwr yn gnawd o'th cnawd, ac ascwrn o'th ascwrn dithau. Cyfod dy ben i fynu, a gwêl yr Angelion gogoneddus yma, megis llu o Gabrieliaid yn ehedeg attom, i ddywedyd i ni fod dydd ein ymwared wedi dyfod, Dan. 9, 21. Luc. 21.28. ac i'n trosglwyddo ni yn y cymylau i gyfarfod ein iachawdwr yn yr awyr. wele y maent hwy gar llaw: Cyfod gan hynny fyngholomen, fynghariad, fy mhryd ferth, a thyred ymaith. Can. 2, 13.17. Ac felly fel yr iyrchod neu geirw iavainc, y maent hwy yn rhedeg gyd a'r Angelion tu ag at Grist tros ddychrynadwy fynyddoedd Bether.
6. Y byw ar meirw ynghyd, yn y modd hyn gwedi eu bywhâu au gogoneddu, a gynnullir allan o law trwy weinidogaeth sanctaidd Angelion Duw, o hôb cwrr a pharthau 'r bŷd, ac â gippir ynghyd yn y cymylau, i gyfarfod yr Arglwydd yn yr awyr, ac felly a ddeuant gyd ag ef, yn rhan o'i rwysg ogoneddus i farnu y colledigion a'r angelion drwg. 1 Thes. 4.17. 1 Cor 6.1, 3. Y deuddeg Apostol a fyddant yn eistedd ar ddeuddeg gorseddfaingc (yn nesaf at Grist) i farnu y deuddeg llwyth, y rhai a wrthodasant wrando yr Efengyl a bregethwyd trwy eu gweinidogaeth hwynt. Ar holl Seintiau mewn anrhydedd ac urddas, yn nesaf attynt hwythau, megis barnwyr hefyd i farnu yr angelion [Page 68] drwg, a dynion bydawl. Ac megis y derbynniodd pob vn o honynt yn y bywyd yma rás i fod yn chwannoccach nac araill, i osod allan ei ogoniant, ac yn ffyddlonach iw wasanaethu ef; felly y bydd eu gogoniant a'i gwobr hwythau yn fwy nag eraill yn y dydd hwnnw. 2 Cor. 9.6.
Y lle ar fan yr ymgasglant ynghyd at Grist, a'r lle yr eistedd Crist i farnu, a fydd yn yr awyr goruwch dyffryn Iehosaphat, wrth fynydd yr olewydd, yn gyfagos i Ierusalem, ar y tu dwyrain oddiwrth y Deml, fel y mae 'n debygol drwy bedwar o resymmau.
1. Yn gyntaf, O blegid bod yr scrythur sanctaidd yn cynnwys cymmaint a hynny mewn geiriau hygoel: Joel. 3.11, 12. mi a gynnullaf yr holl genedloedd i ddyffryn Iehosaphat, ac a ymresymma ag hwynt yno, Pâr ith alluogion ddescyn i lawr o Arglwydd, deffroed y cenhedloedd a deuant i fynu i ddyffryn Iehosaphat. O blegid yno yr eisteddaf i farnu y cenedloedd o amgylch. Jehosaphat o'i gyfieithu yw, yr Arglwydd a farn, a'r dyffryn hwn a gafodd yr enw yma, oddiwrth y fuddugoliaeth fawr a roes yr Arglwydd i Jehosaphat, ac iw werin ar yr Amoniaid, Moabiaid a thrigolion mynydd Seir, 2 Cron. 20.1, 22, 26. Yr hon fuddugoliaeth oedd arwydd o'r fuddugoliaeth ddiwaethaf a rŷdd Crist y barnwr pennaf iw etholedigion, ar eu holl elynion yn y fan honno y dydd olaf, fel y mae 'r holl Iddewon yn ei ddeongli: Edrychwch Zachar. 14. 4, 5. Psal. 50.1.2, 3, 4, 5. Oll yn cyttuno y bydd y lle yngŷlch yno.
2. Yn ail, O blegid megis y darfu ynghylch yno, groeshoelio Crist a'i draddodi i gywilydd cyhoeddus, felly vwch ben y lle hwnnw yr adcyfodir ei ogoneddus orseddfaingc yn yr awyr, pan ddêl ese i ymddangos mewn Barn, i eglurhau ei [Page 69] fowredd a'i ogoniant. Canys y mae yn addas i Grist farnu y byd a barn gyfion yn y fan honno, lle y bu efe ei hunan yn cael ei euogfarnu, a'i gondemnio yn anghyfion.
3. Yn drydydd, O blegid gan weled y danfonir yr Angelion i gasclu ynghyd yr etholedigion oddiwrth y pedwar gwynt, o'r naill gwrr i'r ne foedd i'r llall, y mae yn hawdd profi y bydd y lle y cynhullir hwynt oll ynghyd iddo, yn agos i Ierusalem, a dyffryn Iehosaphat: yr hon fan y mae y rhai sydd gyfarwydd ym messuryddiaetn y bŷd, yn adrodd ei fod yn gannolbarth wyneb y ddaiar: canys os y terfynau eithaf oddiwrth ba rai, a fydd pedwar cyrrau y byd, rhaid yw i'r ymgyfarfod fod ynghylch y perfydd-bwynt, sef, y canol.
4. Yn bedwerydd: O blegid i'r Angelion ddywedyd wrth y discyblion: mai megis y gweisant hwy Grist yn ymdderchafu oddiar fynydd yr olewŷdd, yr hwn sydd vwchlaw dyffryn Iehosaphat: felly yr vn agwedd y daw ef i wared o'r nefoedd. Act. 1.9.10, 11, 12. Dyma feddwl Aquinas a'r holl Ysgolwyr, oddieithr Lombart ac Alexander Hales.
5. Yn ddiwaethaf: pan fyddo Crist yn eistedd yn ei orseddfaingc ogoneddus, gyd â llawer miloedd o Seintiau, ac Angelion, yn llewyrchu yn oleuach na chynifer o Haulau mewn gogoniant, ac yn eistedd o'i amgylch: a chorph Crist mewn gogoniant a phrydferthwch yn rhagori arnynt oll: y colledigion gwedi eu didôli, ac yn aros ar y ddaiar i wared; canys y llaw ddehau sydd yn arwyddocâu bendigedig, ar llaw aswy melldigedig gyflwr: Crist yn gyntaf a adrodd barn gollyngdod a rhyddhâd, a thragwyddol fendith i'r etholedigion. Yn gyntaf, o herwydd wrth glywed hynny, y myn ef chwannegu [Page 70] gofid y gwrthodedig. Yn ail, i ddangos ei fod ef yn barottach i roi Trugaredd na Barn. Ac fal hyn o orseddfaingc ei Fawrhydi yn yr awyr (yngolwg ac yn ynglyw yr holl fyd) y datcan ef wrth ei etholedigion: Deuwch chwi fendigedig blant fy nhâd, meddiennwch y deyrnas a barotowyd i chwi cyn dechreuad y byd, &c. Mat. 25.34.
Deuch chwi] dyma ein bendigedig vndeb ni â Christ, â thrwyddo ef a'r holl Drindod.
Fendigedig] dyma ein rhyddhâd ni oddiwrth ein holl anwireddau, a'n cyflawn gynyscaeddu â grâs, a dedwyddwch.
Blant fy nhâd] dyma 'r Awdur oddiwrth yr hwn trwy Grist y mae ein hapusrwydd ni yn deilliaw.
Meddiennwch] dyma ein mabwysiad ni.
Y Deyrnas] gwelwch ein etifeddiaeth, a'n meddiant.
A barotowyd] gwelwn ofal Duw dros ei ddewisedig.
Er pan seiliwyd y byd] o rád, tragwyddol, anghyfnewidiol etholedigaeth Duw!
Oh mor rhwymedig yw 'r enediau hynny i garu Duw, yr hwn o'i wir ew yllys da a'i arfaeth, a'i dewisodd ac a'i carodd hwynt, cyn iddynt wneuthur na da na drwg, Rhuf. 9, 3.
Canys yr oddwn newynog, &c.
O Ddaioni Crist, yr hwn sydd yn dal sulw ar holl weithredoedd ei blant, iw gwobrwyo hwynt am danynt! Pa faint yw 'r cariad sydd ganddo ef i gristianogion truain, yr hwn sydd yn cymmeryd pob gweithred trugaredd a wneler iddynt hwy er ei fwyn ef, fel pe gwneuthid iddo ei hûn! Deuwch attaf fi, yn yr hwn y credafoch cyn i chwi fyngweled: 1 Pet. 1.8. yr hwn [Page 71] a garasoch, ac a geisiasoch mor ewyllyscar, a thrwy lawer o orthrymderau.
Deuwch yr awrhon o flinder i orphywys, o gywilydd i ogoniant, o safn angau, i lawenydd bywyd tragwyddol.
Er fy mwyn i y difenwasant chwi, ich erlidiwyd, ac i'ch melldithiwyd.
Ond yr awrhon yr ymddengys i'r holl Esauiaid melldigedig accw mai chwi ydyw y gwir Iac [...]biaid, a gewch dderbyn bendith eich Tad nefol, a bendigedig y cewch fod. Eich tadau, eich mammau, ac'h cynyseifiaid a'ch gwrthodasant, ac a'ch rhoesant ymmaith, er mwyn fyngwirionedd i, yr hwn yr oeddych▪ chwi yn ei faentumio: Ond yn awr fy Nhâd i a fydd yn Dâd i chwi, a chwi a gewch fod yn feibion ac yn ferched iddo yn dragywydd. 2 Cor. 6, 18.
Fe a'ch bwriwyd chwi allan o'ch tiroedd a'ch bywyd, ac ymadawsoch a'r cwbl er fy mwyn i a'm Efengyl, eithr fal y bo yn eglur na chollasoch môch ynnill, eithr ynnill wrth golli: yn lle etifeddiaeth a meddiannau bydol, chwi a gewch feddiannu gyd â myfi etifeddiaeth fyn neyrnas nefol, lle y cewch fod o herwydd cariad yn feibion: O herwydd braint genedigol yn etifeddion: O herwydd anrhydedd yn frenhinoedd, O herwydd sancteidd wydd yn offeiriadau. Ac chwi ellwch yn hyf fyned yr awrhon i'r meddiant, o blegid fyn Nhad a'i darparodd, ac a'i cadwodd i chwi er yr amser cyntaf y gysodwyd sail y byd.
Yn ebrwydd yn ol y farn hon o ryddhâd a bendith, y mae pob vn yn derbyn ei goron yr hon y mae Crist y barnwr cyfion yn ei roi am eu pennau, megis gwobr, yr hon â addawodd esc o'i râs a'i drugaredd, i ffydd a gweithredoedd da y rhai oll a garent ei ymddanghosiad ef mewn gogoniant. 2. Tim. 4.8.
[Page 72]Yno pob un gan gymmeryd ei goron oddiam ei ben, a'i gesyd a'r lawr (fal petteu) wrth draed Crist; a chan ymostwng en hunain ag vn galon, ac un lleferydd, mewn undeb â chyfundeb nefol a ddywedant fal hyn: Dadc, 4.5, 10. Moliant, anrhydedd, a gogoniant, a nerth, a diolch a fyddo i ti yr oen bendigedig, yr hwn wyt yn eistedd a'r yr orseddfaingc, a laddwyd, ac a'n prynaist ni i Dduw a'th waed, o bòb cenedl, ieithoedd a phobloedd, ac an gwnaethost ni yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid i Dduw i deyrnasu gyd â thi yn dy deyrnas yn oes oesoedd. Amen.
Yno y cânt hwy eistedd yn eu gorseddfeingciau, au trefn, megis barnwyr a'r y gwrthodedigion, a'r Angelion drwg, i glodfori a dwyn tystiolaeth o vnion farn Crist y Barnwr goruchaf, 1 Cor. 6, 1, 2.
Gwedi adrodd barnedigaeth y colledigion, y oyflawna Crist ddwy weithred arbennig.
1. Yn gyntaf rhoi yr etholedigion iw Dâd: Ioan. 17.13, 14, 15. Gwel o Dad cyfion dyma y rhai a roddaist i mi, mi a'i cedwais hwynt, mal na chollodd vn o honynt, mi a roddais iddynt dy air di: ac hwy a'i credasant ef, a'r byd a'i cashaodd hwynt am wad oeddynt o'r byd magis nad oeddwn innau o'r byd.
Ac yr awr hon O Dâd myfi a fynnwn i'r rhai a roddaist i mi, fod gyd â mi lle yr ydwyf; fel y gwelant y gogoniant a roddaist i mi, fel y byddwyf fi ynddynt hwy, a thithau ynof finnau, fel y gwneler hwynt yn berffaith yn vn, fal y gwyppo 'r byd mae tydi am hanfonodd i, a'th fod yn ei caru hwynt fel y ceraist fi. Joan. 17.23, 24.
2. Yn ail, Crist a ddyru i fynu y deyrnas i Dduw y Tad, hynny yw, a baid a gwasanaethu swydd ei gyfryngdod, wrth yr hon, megis y mae yn Frenin, Offeiriad, Prophwyd, ac yn ben yr Eglwys, fe [Page 73] fathrodd ei elynion, ac a reolodd ei bobl ffyddlon, â'i Yfpryd, ei air, a'i Sacramentau. Felly pan fo efe yn gado ei Deyrnas o râs, tros ei Eglwys yn y byd hwn, yn ddi atteg fe a lywodraetha fel y mae yn Dduw gogyfuwch a'r Tad, a'r Yspryd glân, yn ei Deyrnas o ogoniant yn dragywydd, Nid i leihau dim a'r deilyngdod ei Ddyndod, eithr i hyspysn yn eglurach ogoniant ei Dduwdod. Felly megis y mae ef yn Dduw, efe a gaiff o hynny allan, ym mhob cyflawnder heb gyfryngau oddiallan, reoli oll yn oll. 1 Cor. 15, 24.
O'r orsedd a'r brawdle yma, y cyfyd Crist a'i holl ogoneddus gynulleidfa o etholedig Angelion, a Seintiau, ac a eiff i fynu yn orfoleddus mewn trefn, a llywodraeth i nef y nefoedd, a'r cyfryw hyfrydlais cerddwriaech nefol iw canlyn: Fal y caffo y gán honno, a ddywedodd Dafydd ei gwirio yn hollawl: fe aeth Duw i fynu mewn gorfoledd, yr Arglwydd gyd a sŵn yr vdcorn, cenwch foliant i Dduw, cenwch foliant i'r Brenin, cenwch foliant: o blegid Duw ydyw brenin yr holl ddaiar, efe biau ymdderchafu mewn mawredd Psal. 47, 5, 6, 7, 9. A'r briodasgerdd honno yn Ioan: ymlawenhawn, ac ymhyfrydwn, a rhown anrhydded iddo ef, o blegid y mae priodas yr oen yn dyfod, a'i wraig ef a ymbaratôdd. Alleluiah: Oblegid yr Arglwyd Dduw ollalluog sy'n teyrnasu. Datc. 19, 6, 7.
Y trydydd a'r ràdd olaf o fendigedig gyflwr y dŷn adgenediedig yn ôl marwolaeth, sydd yn dechrau ar ôl adrodd y farn a bery yn dragwyddol heb drangc na gorphen.
Myfyrdod am gyflwr bendigedig ŷ Dŷn Adgenedledig, yn y nef, gwedi ei derbynnio ef ei fann o ollyngdod, ger bron brawdle Crist, a'r Ddydd y Farn ddiwaethaf.
YMma y mae fy myfyrdod yn llewygu, am pin scrifennu yn cwympo om llaw, y naill heb allael deall, a'r llall heb allael rhoi ar lawr, y diddanwch tra godidog, a'r tragwyddol bwys gogoniant (o'r hwn nid yw holl ddioddefiadau y byd hwn yn deilwng) 2 Cor. 4.17. Rhuf. 8.18. Yr hwn a gânt hwy (sef yr etholedigion) gyd a'r Drindod fendigedig, ei feddiannu, o'r pryd y derbynnir hwynt gyd à Christ yn gyd etifeddion, o'i dernas, a'i lawenydd tragwyddol.
Etto ni allwn roi cais arno fal hyn: y mae'r Scrythur sanctaidd yn dangos allan (i'n dealltwriaerh ni) ogoniant y tragwyddol a'r nefol lawenydd mewn pedwar peth:
- 1. Y Lle.
- 2. Y Golygyn.
- 3. Rhagorfreintiau yr etholedigion yno.
- 4. * Frwythau y rhagorfreintiau hynny.
Y Lle.
Y Lle ydyw nef y nefoedd, neu y drydydd nef, yr hon a elwir paradwys: 1 Bren. 8. 2 Cor. 12.24. Y lle vr escynnodd Crist (yn ei ddynol anian) ymhell vwchlaw yr holl nefoedd gweledig, y Stafell y priodasfab, yr hon y mae y ffurfafen â llen frêithlas o sêr gwreichionllyd, a phlanêdau gogoneddus, yn ei chuddio, mal na eill llygaid llygredigol y cnawd mol chanfod. Yr Yspryd glân (gan ei osod ei [Page 75] hun at ein gwendid ni) sydd yn datcan gogoniant y lle hwnnw, yr hwn nid all neb ei iawn brisio, wrth ei gyflybu a'r pethau gwerth-fawroccaf yngolwg dŷn. Ac am hynny y mae ef yn Ei gyfflybu i'r ddinas fawr sanctaidd a elwir Jerusalem nefol. Lle yn vnig y mae Duw a'i bobl, (y rhai sydd gadwedig, a chwedi eu scrifennu yn llyfr yr oen) yn cyfanneddu: wedi ei hadeiladu oll o aur coeth, yn debyg i wydr gloiw nou risial, ei mur o faen Jasbis, a sail y mur o ddeu ddeg rhywogaeth o feini gwerthfawr, a deuddeg o byrth, a phob un wedi ei adeiladu o un perl, tri phorth yn tueddu tu ac at bob un o bedwar congl y byd; ac Angel wrth bob porth, (fel cynifer o borthorion) fel na chaffo dim aflan ddyfod i mewn iddi. mae yn bedwar ochrog, ac am hynny yn berffaith: yr hŷd, y llêd, a'r vchder sydd o un faint, deudeng mil o stadiau i bob ffordd, am hynny chang, a gogoneddus. a'r hyd canol ei heolydd, y mae afon bur o ddwfr y bywyd yn rhedeg yn oestadol, cyn loiwed a'r grisial, am hynny yn iachus. Ac o'r naill du i'r afon y mae pren y bywyd yn tyfu yn dragywydd: yr hwn sydd yn dwyn deuddeg mâth a'r ffrwythau, am hynny yn ffrythlon. A daily pren sydd iechyd i'r cenedloedd, am hynny yn iachus. Dat 21.
Nid oes gan hynny fangre mor ogoneddus o ran creadigaeth, mor hyfryd o ran diddanwch; mor gyfoethog, o ran meddiant, mor gyssurus o ran cyfannedd. O blegid y brenin yno ydyw Cirst, y gyfraith, cariad: yr anrhydedd, gwirionedd: y dynghneddyf, dedwyddwch: y bywyd, tragywyddoldeb. Y mae yno oleuni heb dywyllwch: llawenydd heb prudd-der, iechyd heb glefyd, cyfoeth heb eisiau: geirda heb anair: glendid heb anaf: esmwythdra heb poen: golud heb rydu, bendith heb drueni: ac hyfrydwch byth heb ddibennu. Mor union y gallwn ni lefain allan gyd á Dafydd am y ddinas [Page 76] hon: Pethau gogoneddus a draethir am danat ti o ddinas Duw, Psal. 87.3. Ac etto yr holl bethau hyn a ddywedir yn ol gwendid ein dealltwriaeth ni. O blegid y mae'r nefoedd yn rhagori ar yr rhain ol [...] mewn gogoniant, cyn belled, na ddichon tafod dŷn ei adrodd, na chalon dŷn ddirnad ei gogoniant, megis y tystiolaetha Paul yr hwn a fu ynddo 1 Cor. 2.5. 2 Cor. 12.4.
O nedwch i ninnau ymhoffi yn y bythod yma o brenniau, neu feini, neu dai wedi eu tylino o bridd, y rhai nid ŷnt ond pebyll annuwioldeb, ac anneddau pechaduriaid; eithr disgwyliwn yn hytrach, ac hiraethwn am y ddinas nefol yma, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. Yr hon y darfu iddo ef, (yr hwn nid yw gywilydd ganddo i alw yn Dduw i ni) ei pharattoi i ni, Heb. 11.10.
2. Y Golygyn.
Y Cyflawn fendigaid, ar gogoneddus olygyn i'r holl ddeallus, a'r rhesymmol greaduriaid yn y nef ydyw Duwdod, mewn Trindod o bersonau; heb yr hwn nid oes na llawenydd na dedwyddwch, eithr gwir gyflawndra gorfoledd sydd yn sefyll yn ei fwynhau ef.
Y Golygyn hwn a gawn ni ei fwynhau mewn dwy ffordd.
Yn gyntaf, trwy fendigedig olwg ar Dduw.
Yn ail, trwy gyfrannogi Cymmun digyfrwng a'i Dduwiol anian ef.
Y wynfydedig olwg ar Dduw ydyw honno yn unig sydd yn rhyngu bodd i anherfynol feddwi dŷn. Canys y mae pob peth yn tueddu at y perfeddbwynt neu 'r canol. Duw ydyw perfeddbwynt yr enaid: am hynny (mal clommen Noah) ni fedr ef gael [Page 77] gorphywys, nac ymlawenhau, nes y dychwelo iw fwynhau ef.
Nid oedd y cwbl a roes Duw i Moeses yn bodloni ei feddwl ef, o ni chai ef weled wyneb Duw: am hynny y mae yr holl Eglwys yn gweddio yn ddifrifol: Duw a drigarhâo wrthym, ac a'n bendithio, a thywynned llewyrch ei wyneb arnom. Psal. 67.1. Pan welodd Paul vnwaith y fendigedig olwg honno; byth o hynny allan ni wnaeth gyfrif, o olud neu ogoniant y byd hwn, yn ei herwydd, mwy nag o dom: ac yn ei holl fywyd o hynny allan ni bu ef ond ocheneidio (cupio dissolvi) yr wyf yn dymuno fy nattod, a bod gyd â Christ. Phil. 1.23. Crist hefyd a weddiodd yn ei weddi ddiwaethaf tros ei holl etholedigion, ar gael o honynt feddiannu y weledigaeth fendigedig yma: Joan. 17.24. Y Tâd, y rhai a roddaist i mi, yr wyf yn ewylly sio lle rwyf fi, fod o honynt hwythau hefyd gyd â myfi: (i ba beth?) fel y gwelònt fyngogoniant, &c. os discleiriodd wyneb Moeses pryd na buasai ond deugain niwrnod gyd â Duw, ac heb weled dim ond ei du cefn: Exod. 34.29. pa fodd y byddwn ni yn discleirio, pan fo 'm yn cael ei weled ef wyneb yn wyneb yn dragywydd, a'i adnabod ef, fel yr adweinir ninnau, ac fel y mae efe? 1. Cor. 13.31. 1 Joan. 3.2. Yno ni elwir yr enaid mwyach, Marah, sef chwerwder, ond Naomi, sef tegwch. Oblegid fe dry Duw ei chwerwder byrr ef, yn brydferthwch a glendid trawyddol. Ruth 1.20.
Yr ail fodd i feddianu y golygyn hwn, yw cael rhydd-deb a chydvndeb tragwyddol gyd â Duw yn y nefoedd. Hyn yr ydym ni yn ei gael, yn gyntaf, trwy fod megis yn aelodau i Grist, gwedi ein vno a'i Ddyndod ef, a thrwy ei Ddyndod, (yn bersonol gwedi ei vno a'r Cair) yr y'm gwedi ein vno ag ef, megis y mae efe yn Dduw: a thrwy ei Dduwdod ar holl Drindod.
[Page 78]Y colledigion yn y dydd olaf a gânt weled Duw (fel barnvvr cyfion) iw cospi, eithr o ran bod y cymmun yma yn niffyg, ni chânt hwy na grâs na gogoniant oddiwrtho. Canys diffyg y Cymmun hwn a wnaeth i'r cythrauliaid (pan welsant Grist) lefain allan, Quid nobis teoum? sef, beth sydd i ni a wnelom a thi, O Fâb y Duw goruchaf? eithr (trwy rym y Cymmun yma) fe eill yr enaid edifeiriol fyned yn hyf a dywedyd wrth Grist (fel Ruth wrth Boaz) lledâ aden gwisg dy drugaredd dros dy lawforwyn, canys fy nghafathrachwr ydwyt ti. Ruth. 3.9. Y Cymmundeb hwn a addawodd Duw i Abraham, pan roddodd efe ei hun yn wobr fawr iddo. Gen. 15.1. Ac y mae Crist yn gweddio a'r iw holl eglwys ef gael ei fwynhau. Y Cymundeb hwn y mae St. Paul yn ei roi ar lawr ar vn gair lle dywedodd, Y bydd Duw i ni oll yn oll. Joan. 17.20.21. 1 Cor. 15.18. Gwir yw fod Duw yr awrhon i ni oll yn oll, eithr trwy gyfrwng, a mesur bychan. Eithr yn y nef Duw ei hûn yn ebrwydd mewn cyflawnder mesur heb gyfranniad, a fydd i ni yn bob daioni, ar a allo ein eneidiau ni, a'n eyrph ei ddeisyf a'i ddymuno. Efe ei hun a fydd yn iachadwriaeth, ac yn llawenydd i'n heneidiau, yn fywyd ac iechyd i'n cyrph, yn lendyd i'n llygaid, yn gerdd i'n clustiau, mêl i'n geneuau, pêrarogl i'n ffroenau, ymborth i'n boliau, goleuni i'n dealltwriaeth: bodlonrhwydd i'n meddyliau: a difyrrwch i'n calonnau: a pha beth a eill fod yn eisiau lle bydd Duw ei hun yn enaid i'n eneidiau ni? Yr holl nerth, synwyr, diddanwch, rhinwedd, lliwiau, perffaithdra, melusdra, a'r holl ddaioni sydd mewn dynion, anifeiliaid, pyfgod, adar, prennau, llysiau, a'r holl greaduriaid, nid ydynt ond megis gwreichion o'r pethau sydd yn Nuw ei hûn mewn perffeithrwydd anfeidrol. Ac ynddo ef y cawn eu meddiannu mewn modd perffeiddiach, a bendigediccah o lawer.
[Page 79]Efe ei hûn a wasanaetha 'r twrn yn eu lle hwynt oll: Na y creaduriad gorau (yr rhai sydd i'n gwasanaothu ni yr awrhon (ni chânt gymmaint o anrhydedd a'n gwasnaethu ni y pryd hynny. Ni bydd eisiau na 'r haul, na'r llenad, i lewyrchu yn y ddinas honno. O blegid y mae gogoniant Duw yn ei goleuo hi Datc, 21, 23. Ni bydd chwaith yn rhaid wrth un math ar greadur pryd y byddom yn cael meddiannu y creawdr ei hunan. Pan fôm ni gan hynny, yn gweled rhyw beth godidog mewn rhyw greadur, dywedwn wrthym ein hunain, pa faint godidoccah yw'r hwn, a roes y godidawgrwydd yma? Pan welom ni ddoethineb dynion, y rhai sydd yn meistroli creaduriaid cryfach nac hwynt eu hunain; a'i deongliad yn rhagflaenori yr haul ar lloer, gan osod ar lawr yr amser yr ecclipfiant, neu y tywyllant hwy: diwedwn wrthym ein hunain, Oh mor rhyfeddol yw doethineb Duw, yr hwn a'i gwnaeth hwynt mor ddoeth! Pan ystyrion ni nerth y Morfeirch, Oliphantiaid, Temestl y gwynt, a thwrf y daran ddychrynllyd; dywedwn wrthym ein hunain mor nerthol, mor alluog, mor ofnadwy yw'r Duw hwnnw, sydd yn gwneuthur y cryfion ar erchill greaduriaid yma! Pan fôm ni yn archwaethu Pethau melusber, dywedwn wrthym ein hunain, Oh mor felus ydyw 'r Duw hwnnw, oddiwrth ba un y cafodd yr holl greaduriad hyn eu melusdra! Pan fôm ni yn gweled cyfliwiau perffaith, y rhai sydd ar flodau, ac adar, neu 'r glendid cariadus sydd a r ferched; dywedwn, oh mor howddgar yw 'r Duw a wnaeth yr rhain yn howddgar!
A os darfu i'n Duw anwyl raglunio i ni gynifer o ddifyrrwch godidog, tra fôm yn myned trwy Bochim, sef y dyffryn hwn o wylofain; Pa fâth ddidanwch yw hwnnw, a ddarparodd ef i ni pan gaffom ni fyned i mewn i lŷs llawenydd ein meistr? Pa fódd [...] bydd ein eneidiau ni yno yn ymhyfrydu o gariad ar [Page 80] y fâth Dduw cariadus? mor ogoneddus yw 'r golwg o Seintiau nefol, ac mor garuaidd yvv golwg ein Iachawdwr grasusavvl.
3, Y Rhagorfreintiau sydd i'r etholedigion yn y nefoedd.
O Herwydd y Cymmun hwn â Duw, fo fydd i'r Etholedigion bedwar o ragorfreintiau tra godidog, yn y nefoedd.
1. Yn gyntaf, hwynt hwy a gânt deyrnas Dduw yn etifeddiaeth: ac â gant fod yn wyr rhŷdd O Ierusalem nefol, 1 Pet. 1.4. St. Paul o herwydd ei fod yn ddinasydd rhyddo Rufain a ddiangodd heb ei fflangellu; Act. 22.26.28. eithr y rhai a fo vnwaith yn ddinasyddion rhyddion O Jerusalem nefol, fyddant byth diangol oddiwrth fflangellau poenau tragwyddol. O blegid y rhyddhâd yma a brynwyd i ni, nid â rhif o arian, ond a gwerthfawr waed Christ, 1 Pet. 1.19.
2. Yn ail: hwy a gânt oll fod yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid; Datc. 5.10. ysprydol frenhinoedd, i deyrnasu gyd â Christ, i orfoleddu goruwch Satan, y byd, a'r gwrthodedigion, Rhuf. 16.20. ac offeriaid Ysprydol o foliant a diolch yn dragywydd, 1 Pet. 2.5. Am hynny y dywedir eu bod yn gwisco Coronau a gynau, Datc. 6.11. O pa gyssur a diddanwch yw hyn i dadau tlodion, a llawer o blant ar eu helw? os hwynt hwy a'u maethant ac a'i meithrinant yn ofn Duw, i fod yn wir gristianogion, yno y byddant yn dadau i gynifer o Frenhinoedd ac Offeiriaid.
3. Yn drydydd eu cyrph hwynt a oleua fel discleirdeb yr haul yn y ffursafen: fel gogoneddus gorph Crist, yr hwn a ddiscleiriodd yn eglurach na'r haul han [...]er dydd, pan ymddanghosodd ef i Paul. Mat. 13.43. Phil 3.21. Act. 22.6. Llewyrch neu [Page 81] gysgod o'r hwn oleuni gogoneddus oedd ymrithiad Moeses ac Elias gyd a'r Arglwydd a'r y mynydd sanctaidd, Luc. 9. Mar. 9.3. Am hynny (medd yr Apostol) fe a gyfyd yn gorph gogoneddus, ie yn gorph ysprydol, 1 Cor. 15.44. nid o herwydd ei sylwedd, ond o herwydd ei gynneddfau, yn ymgynnal trwy foddion ysprydol, a chanddo gyflymdra (fel Angel) i ascyn ac i ddiscyn. Oh pa anrhydedd ydyw fod ein cyrph ni (y rhai sy 'n braenu yn waelach na burgyn yn y byd) yn cael eu hadgyfodi mewn gogoniant yn debyg i gorph mab Duw ei hûn!
4. Yn ddiwaethaf, y maent hwy yno gyd a'r Angelion sanctaidd, heb na blinder na lludded yw cythryblu, yn cynnal Sabboth oesdadol i ogoniant, anrhydded, a moliant y Drindod tra-bendigedig, am greu, gwaredu, a sancteiddio yr Eglwys; ac am ei allu, ei ddoethineb, ei gyfiawnder, ei drugaredd, a'i ddaioni, yn llywodraethu nêf â daiar. Pan fyddych di yn gwrando cydseiniad melysgerdd miwsic, myfyria mor ddedwŷdd fyddi di pan fych gyd â chôr o Angelion, a seintiau nefol yn cydganu dy ran o'r Alleluiah ysprydol honno, a'r y tragwyddol fendigedig Sabbôth: Lle bydd y fâth amryw ddifyrrwch, a digonolrhwydd o lawenydd, a'c nad adwaenant fŷth flinder wrth eu gwneuthur, na diwedd o'u hyfrydwch.
4. Ffrwythau digwyddedig oddiwrth y rhagorfreintiau hynny.
Oddiwrth y rhagorfreintiau hyn, y cyfyd i'r etholedigion dri mâth a'r effeithiau hynod.
HWynt hwy a gânt adnabod Duw trwy wybodaeth perffeithlawn: cyn belled ac y byddo possibl i'r creaduriaid ymgyffred y Creawdr. O blegid yno y cawn weled y Gair, y Creawdwr; ac yn y gair, yr holl greaduriaid a'r a greawdd y Gair: fel nad rhaid i ni ddyscu wrth y pethau a wnaethpwyd, wybodaeth am dano ef, trwy'r hwn y gwnaethpwyd pôb peth. Y creaduriaid godidoccaf yn y bywyd hwn, nid ŷnt ond megis llen dywyll gwedi ei thynnu rhwng Duw â ni; a phan dynnir y llen honno o'r neill du, yno y cawn weled Duw wyneb yn wyneb, a'i adnabod fel i'n adwaenir, 2 Cor. 3.16. 1 Cor. 13.12. Nyni a gawn gydnabyddiaeth a'r allu y Tâd, a'r ddoethineb y Mâb, ac a'r râd yr Yspryd gl [...]n; ac a'r anwahanol anian y Drindod fendigedig. Ac ynddo ef ni gawn adnabod nid yn vnig ein holl gyfeillion y rhai a fu farw mewn ffydd Grist, ond yr holl ffyddloniaid hefyd a'r a fu erioed ac a fydd bŷth. Canys,
1. Y mae Crist yn dywedyd i'r Juddewon y caent hwy weled Abraham, Isaac, ac Jacob, a'r holl brophwydi yn neirna [...] Dduw: am hynny hwy a gânt eu hadnabod hwynt. Luc. 13.28.
2. Yr oedd Adda yn ei ddiniweidrwydd yn gwybod fod Efa yn ascwrn o'i ascwrn ef, ac yn gnawd o'i gnawd ef, cyn gynted ac y deffrôdd efe: Gen. 2.23. gwell o lawer y cawn ni adnabod ein tylwyth, pan ddeflrôm ni gwedi ein perffeiddio, a'n gogoneddu yn yr adcyfodiad.
[Page 83]3. Fe adnabu yr Apostolion Grist yn ol ei adcysodiad, a'r Seintiau y rhai a gyfodasant gyd ag ef, ac a ymddangosasant yn y ddinas sanctaidd. Mat. 27.53.
4. Petr, Iago, ac Ioan a adnabuant Moeses, ac Elias, yn y gwedd newidiad, Mat. 17.3, 4. pafaint mwy o gydnabod a gawn ni y naill a'r y llall, pan fôm ni oll gwedi ein gogoneddu.
5. Yr oedd Diues yn adnabod Lazarus ym monwes Abraham, Luc. 16.23. mwy hytrach y caiff yr etholedigion adnabod eu gilydd yn y nefoedd.
6. Y mae Crist yn dywedyd, Matth. 19.28. y caiff y deuddeg Apostol eistedd a'r ddaudeg gorseddfaingc, i farnu (a'r y dydd hwnnw) y dauddeg llwyth: am hynny hwy fyddant iw hadnabod, ac felly yn ddilynawl yr adwaenir yr holl Seintiau eraill.
7. Y mae Paul yn dywedyd y cawn ni y dydd hwnnw adnabod megis i' n adwaenir ninnau gau Dduw: ac y mae Awstin (o'r lle yma) yn cyssuro gwraig weddw, gan ei sicrháu hi, mai fel y gwelodd hi ei gŵr yn y bŷd hwn a'i llygaid corphorol, felly yn y bŷd i ddyfod y caiff hi adnabod ei galon ef, a pha beth oedd ei feddyliau a'i amcanion. Gan hynny wŷr a gwragedd edrychwch at eich gweithredoedd, a'ch meddyliau. O blegid fo fydd y cwbl iw gweled ryw ddydd yn gyhoeddus▪ edrychwch 1 Cor. 4.5.
8. Yn yr hên Destament yr ydis yn dywedyd, fod y ffyddlonniaid gwedi eu cynnull at eu tadau: wrth hynny mae ein gwybodaeth ni am ein cydnabod; a'n cyfeillion yn parhau heb pallu.
9. Cariad byth ni chwymp ymmaith 1 Cor. 13.8. am hynny gwybodaeth, y sail o honaw, sydd yn aros yn y bywyd arall.
10. Oblegid y dydd diweddaf y dadcuddir barn gyfion yr Arglwÿdd: pryd y gwobrwyir pob dŷn yn ol [Page 84] ei weithredoedd. Rhuf. 2.5, 16. Ac os eglurir gweithred pôb rhyw ddŷn, hytrach o lawer y dygir y gweithredydd i'r goleuni. Os caiff dynion drygionus [...]oi cyfrif am bôb gair ofer, Math. 12.36. mwy o lawer y cair adnabyddiaeth ar yr ofer siaradwŷr eu hunain. Ac oni adwaenir y dynion, ofer iawn yw cyhoeddi eu gweithredoedd. Am hynny (medd yr Apostol) pob dŷn a ddaw ger bron i roi cyfrif am y weithred a wnaeth ef yn ei gorph, &c. 2 Cor. 5.10. gwelwch Doethineb pen. 5.1. Er i amryw raddau a galwedigaethau, sef swyddogaeth, gweinidogaeth, Teuluyddiaeth ballu: iê fe baid Crist a rheoli fel y mae yn gyfryngwr, ac a reola oll yn oll, fel y mae yn Dduw gogyfuwch a'r Tad, ac a'r Yspryd glân. 1 Cor. 15.24, 28.
Y mae cimmaint o ragor rhwng y gwybodaeth a eill dynion ei gael yn y bŷd hwn, a'r gwybodaeth a gawn ni yn y nefoedd, ac sydd rhwng gwybodaeth plentyn ni fedro mor dywedyd yn groiw, a'r dyfcawdwr neu 'r Philosophydd gorau 'n y bŷd. 1 Cor. 13.11.
Y rhai sydd yn sychedu am wybodaeth, byddant hiraethus am fod yn fyfyrwyr o'r ffynnon ddyfnddysc yma.
O blegid yr holl oleuni, trwy 'r hwn yr ŷm yn adnabod dim yn y byd yma, nid yw ddim ond gwir gyscod Duw. Eithr pan fôm ni yn adnabod Duw yn y nefoedd, ni gawn ynddo ef adnabod trefn gwaith y creadigaeth, a dirgeledigaethau gwaith ein prynedigaeth: ie ni a gawn gymmaint o wybodaeth am y creaŵdr a'i weithredoedd, ac yw bossibl i greadur ei ddeall, a'i amgyffred. Eithr tra fôm yn y bywyd hwn, nyni a allwn ddywedyd gyd â Job: Mor fychan yw 'r peth yr ydym ni yn ei glywed am dano? Job 26.14. A'n sicrhau ein hunain gyd â mâb Syrac, fod [Page 85] etto bethau mwy na 'r rhain yn guddiedig, ac na welsom ond ychydig o weithredoedd Duw.
2. Hwynt hwy a garant Dduw a chariad tra pherffeithlawn, gymmaint ac a syddo bossibl i greadur allu. Y môdd i garu Duw ydyw, ei garu ef er ei fwyn ei hun: y mesur, yw ei garu ef yn anfesurol. Canys yn y bywyd hwn (wrth adnabod Duw yn vnig o ran) nid ydym yn ei garu ef ond mewn rhan: eithr pan fo yr etholedigion yn y nefoedd, yn cyflawn adnabod Duw, yno y byddant yn cyflawn garu Duw. Ac o herwydd yr aneirif achosion o gariad, yr hyn a gânt hwy ei adnabod fod ynddo ef, hwy a fyddant mewn serch anfeidrol iw hoffi ef.
3. Hwy a gant eu llenwi â phôb rhyw lawenydd nefol. Ar dy law ddehau (medd Dafydd) y mae llawenydd yn drag ywyddol, Psal. 16.11. Ie (medd ef) hwynt hwy a gânt eu diodi ag afon hyfrydwch. Psal. 36.8. O blegid cyn gynted ac y caffo yr enaid ei gynnwys i fewn gweithredol feddiant a'r ddedwyddol hanfod Duw: y mae ef yn mwynhau oll ddaioni, howddgarwch, gogoniant, a pherffeithrwydd yr holl greaduriaid (o'r holl fyd) ynghyswllt a'r unwaith gwedi eu goflwyno iddo yn y golugiàd ar Dduw. od yw nêb mewn cariad, yno y caiff fwynhau y peth sydd fwy cariadus; od yw nêb yn ymhoffi mewn glendid, nid yw 'r glendid teccaf ond priddlyd wrth yr hwn sydd yno: yr hwn sy 'n ymhyfrydu mewu llawenydd, yno y caiff aneirif rywogaethau o honaw, heb na gofid iw luddias, na phenyd iw dorri: yr hwn sydd yn caru anrhydedd, yno y caiff ef heb anair cynfigen iw wradwyddo. Yr hwn sydd yn caru trysor: yno y caiff feddiannu yr hwn ni ddygir byth oddiarno. Yno y cânt hwy ddealltwriaeth heb anwybodaeth: jechyd heb glofyd, a bywyd, na eill marwolaeth ei derfynu.
Ar un gair, edrychwch pa faint y mae y byd, o [Page 86] herwydd goleuni, difyrrwch a chussur, yn rhagori a'r y grôth gyfyng dywyll, yn yr hon ith cenedlwyd yn blentyn: y cymmaint arall y mae y byd sydd i ddyfod, yn rhagori a'r y byd hwn, mewn llawenydd, ac hyfrydwch dedwyddol. Mor ddedwŷdd fyddwn ni y pryd hynny, pan fo y bywyd hwn gwedi ei gyfnewid, a ninnau gwedi ein trosclwyddo i'r fan honno?
4. Hwynt a lenwir â llawenydd anrhaethadwy: yn dy ŵydd di (Medd Dafydd) y mae cyflawnder llawenydd, Psal. 16.11. a'r llawenydd hwnnw, a gyfyd yn benaf oddiwrth weled Duw: ac o weled yr holl Angelion sanctaidd, ac eneidiau bendigedig y gwŷr eyfiawn perffaith, y rhai sydd mewn llawenydd, a gogoniant gyd ag ef. Ond yn enwedig o'r golwg hyfryd a'r Jesu Cyfryngwr y Testament newydd, Heb. 12.24. ein Emmanuel ni, Duw wedi ei wneuthur yn ddŷn, ei weled ef a fydd yn brif achos o'n dedwyddyd ni, a'n gorfoledd. Os darfu i'r Israeliaid yn Jerusalem floeddio o lawenydd hyd oni ddadseiniodd y ddaiar, wrth weled coroni Salomon; Pa faint a fydd llawenydd yr etholedigion yn y nêf, wrth weled Crist, (y gwir Salomon gwedi) ei ymwisco â gogoniant? O darfu i Joan fedyddiwr yn ei ŵydd ef o wir lawenydd neidio ynghrôth ei fam, Luc. 1.44. Pa faint y cawn ni ymorfoleddu mewn hyfrydwch, pan fo ef nid yn unig gyd â nyni, ond ynom ni yn y nefoedd? Os darfu i'r rhai doethion lawenychu cymmaint, pan welsant ef yn faban yn gorwedd yn y preseb: Mat. 2.10. pa orfoledd a fydd i'r etholedigion o'i weled ef yn eistedd yn Frenin yn ei orseddfaingc nefol? O bu Simeon hên mor llawen wrth ei weled ef yn blentyn yn y deml yn nwylaw offeiriad iw gyflwyno i'r Arglwydd, Luc. 2.28. pa faint mwy a fydd ein llawenydd ni, gael ei weled [Page 87] ef yn Frenin, yn llywodraethu pob peth a'r ddeheulaw ei Dâd? O bu Joseph a Mair mor llawen pan gawsant ef ym mhlith yr athrawon yn y deml, Luc. 2.46. pa faint llawenach a fydd ein eneidiau ni pan welom ef yn eistedd yn Arglwydd ym mhlith Angelion nefol. Dymma y llawenydd hwnnw sydd yn eiddo ein Harglwydd ni, Matth. 25.21. yr hwn (fel y dywaid yr Apostol) ni weloddllygad, ni chlywodd clust, ac ni eill calon dŷn moi ddirnad; 1 Cor. 2.9. yr hwn o ran na eill mor myned ynom ni, nyni a gawn fyned iddo ef.
5. Yn olaf, hwynt hwy a feddiannant y bendigedig a'r gogoneddus gyflwr yma yn dragywydd. Am hynny y gelwir ef y bywyd tragywyddol: ac y mae Crist yn dywedyd: y llawenydd hwnnw ni ddwg neb oddiarnom, Joan. 16, 12. [...]ôb llawenydd arall a dderfydd er maint a fyddo. Gwlêdd Ahasferus a barhâodd gant a phedwar vgain o ddyddian: Esth. 1.4. eithr efe, a'i wlêdd, a'i holl lawenydd aethant heibio. Pe cai ddyn bydol ei gymmeryd i'r gogonniant nefol, i gydgymdeithas ag Angelion, iw ddigoni â pbob mâth a'r lawenydd, ac hyfrydwch, (a hynny dros amser) fe fyddai hyn beth mawr genddaw; eithr cael eu meddiannu hwynt yn dragwyddol heb drangc na gorphen, pwy a eill wrando hynny, heb ryfeddu! a phwy a eill ei synnied, heb synnu o'i blegid? Holl Seintiau Crist (cyn gynted ac y darfu iddynt wir archwaethu y llawenydd tragwyddol hwnnw) oeddynt yn cyfrifholl gyfoeth a digrifwch y byd hwn megis yn golled ac yn dom, wrth ei gyffelybu i'r llall, Phil. 3.8. Ac am hynny (trwy ddyfal weddi, ymprydio, eluseni, wylofain, ffydd, a buchedd dda) yr oeddynt hwy yn dyfal gymeryd poen er mwyn eu sicrhâu eu hunain o'r bywyd tragwyddol hwn: (Ac o serch iddo fe ddarfu iddynt yn ewyllyscar [Page 88] naill a'i gwerthu, a'i rhannu eu holl gyfo, eth bydol au meddi annau Act. 2.45.
Y mae Crist yn galw yr holl Gristianogion yn farcl nadwŷr: a bywyd tragwyddol yn faen gwerthfawr, yr hwn y mae y marchnattwr doeth yn ei bwrcasu, iê, pe rhôn a gorfod iddo dalu am dano gwbl oll ac a feddo. Matth. 13.
Pan glybu Alexander fod cyfoeth mawr yngwledydd y dwyrain, yn ebrwydd efe a rannod ei deyrnas ei hûn sef Macedonia, rhwng ei gapteinniaid a'i filwŷr: Haephestion a ofynnodd iddo beth oedd ei feddwl wrth wneuthur hynny; Alexander a attebodd, mai mwy oedd genthau am gyfoeth yr India (a'r yr hon yr oedd ef yn gobeithio y cai ar fyrr fod yn berchennog) nac am yr holl deyrnas a adawsai Philip ei dâd iddo ef [...] Macedonia. Ac oni ddylai Gristianogion fod yn fwy genthynt am dragwyddol gyfoeth y nêf, sydd mor enwog, (yr hwn a gant ei berchnogi cyn pen hir o ddyddiau) nac am sothach lygredig y ddaiaren lychlyd, yr hwn ni phery ond tros dymmor? Abraham a Sara a adawsant eu gwlâd eu hunain, a'u meddiannau i geisio Dinas, saer ac adeyladydd yr hon yw Duw, Heb. 11.10, 15, 16. Ac am hynny ni phrynasant ddim tir, ond yn vnig lle i gladdu. Y mae Dafydd yn well ganthaw vn dydd yn y lle yma, na mîl mewn lle arall: ie bod yn borthor yn nhŷ Dduw, oedd well ganthaw nac aros mewn gwychion babellau anwiredd, Psal. 84.10. Elias a ymbiliodd yn daer a'r Arglwydd, am dderbyn ei enaid iw deyrnas nefol: Ac a aeth yn ewyllyscar, er ei fod yn myned yno mewn cerbyd tanllyd, 2 Bren. 2.15.
Paul (Pan gafodd vnwaith weled y nêf) oedd beunydd yn dymuno ei ddartodiadd i fod gyd â Christ, Phil. 1.23. Peter (pan gafas ef weled llewyrch y gogoniant tragwyddol a'r y mynydd) a ddeisyfodd [Page 89] gael trigo yno holl ddyddiau ei fywyd: gan ddywedyd, O Arglwydd da i ni fod yma, Matth. 17.4. Pa faint well y tybia Petr yr awrhon o'i fod yn y nefoedd? Crist (ychydig cyn ei farwolaeth) a weddiodd a't ei Dâd am ei dderbyn ef i'r rhagorol ogonniant Joan. 17.5. Ac y mae'r Apostol yn tystiolaethu, mai o herwydd y llawenydd hwn a osodwyd o'i flaen, y dioddefodd ef y groes, ac y dirmygodd gywilydd, Heb. 12, 2. Pe cai ddŷn vnwaith weled yr hyfrydwch hwnnw, fe a ddioddefai (o bai bossibl) gan marwolaeth er cael meddiannu y dedwyddfyd hwnnw vn diwrnod.
St Awstin a ddywaid y bydddai efe fodlon i oddef poenan vffern, er mwyn ynnill y llawenydd yma, yn gynt nac y collai efe ef.
Ignatius (dîsgybl Paul) pan oeddyd yn ei fygwth ef (ac ynteu yn myned i ddioddef) a chreulondeb y poenau, a attebodd trwy fawr ffydd hyderus; tân, crogbrennau, bwystfiloedd, torri fy escyrn, fy nhynnu yn aelodau, llethu fyngorph, holl boenau y cythrauliaid ynghyd, delont arnaf fi, O caf fi feddiannu fy Arglwydd Iesu a'i deyrnas. Y cyfryw gefnogrwydd meddwl a ddangosodd Polycarp, yr hwn ni ellid peri iddo wadu Crist yn y dim lleiaf, rhag ofn vn mâth ar farwolaeth.
A'r vnrhyw feddylfryd yr attebodd Basil iw erlidwyr, pan geifiasant ei ddychrynu ef a marwolaeth: nid ofnai (eb efe) farwolaeth byth, yr hon ni eill ddim niwaid, ond fy nhrwysclwyddo at yr hwn am gwnaeth. O darfu i Ruth adael ei gwlad a chalyn Naomi ei gwaudd, i fyned ac aros gyd â hi yngwlad Canaan, (yr hon nid yw ond portreiad o'r nêf) yn vnig am yr hyn a glywsai hi am Dduw Israel, (er nad oedd iddi hi addewid o gael dim rhan yno) pa fodd y dylit ti ganlyn dy fam sanctaidd yr Eglwys i fyned at Grist i'r nefol a'r tragwyddol Canaan; yn [Page 90] yr hon y rhoes Duw i ti etifeddiaeth tragywyddol, gwedi ei sicrhau trwy gyfammod sanctaidd gwneuthuredig yn ei air ef, scrifenedig a gwaed ei fab, seliedig ai yspryd, ac a'i sacramentau? hyn yw dy ddedwyddwch tragywyddol yn neyrnas nefoedd, lle bydd dy fywyd yn gyfundeb a'r bendigedig Drindod, a'th lawenydd yngwydd yr oen, dy swydd canu, dy gerdd Alleluiah, dy gyd gerddorion Seintiau, ac Angelion: lle y mae ieuengtyd yn cynyddu heb heneiddio byth, glendyd yn parhau heb ddiflannu; cariad yn amlháu bŷth heb oeri, iechyd heb wanhychu, a bywyd yn aros byth heb ddiweddu.
Myfyrdod yn hyfforddi Cristion i gymhwyso atto ei hun yn ddioed y rhagddywededig wybodaeth am Dduw, ac am dano ei hun.
TI a weli gan hynny o ddŷn, mor resynol a melldigedig yw dy gyflwr di, trwy lygredigaeth dy natur, heb Grist: yn gymmaint ac y mae y scrythyrau yn cyffelybu dynion drygionus i lewod, eirth, teirw, cyffylau, cwn, ar fâth greaduriaid gwlltion yn eu bywyd: a diammau fod cyflwr dŷn diadgenedledig yn ei farwolaeth yn waeth na chî, neu 'r creadur bryntaf yn y bŷd. O blegid yr anifail (yr hwn ni wnaed ond er mwyn dŷn) pan fyddo marw y mae yn diweddu ei holl drueni yn ei farwolaeth. Ond dŷn sy 'n meddu enaid rhesymol, ac anfarwol, gwedi ei wneuthur ar lûn Duw, i wasanaethu Duw: pan ddibenno drueni y bywyd hwn, y mae yn rhaid iddo roi cyfrif am ei holl anwiredd; a dechrau goddef y trueni hynny, y rhai ni ddiweddant byth. Nid oes greadur yn y byd ond dŷn yn gorfod iddo roi cyfrif o'i fuchedd yn ei farwolaeth: nid rhaid i greaduriaid anifeilaidd direswm roi cyfrif am eu gweithredoedd, na'r Angelion da er bod ganddynt reswm [Page 91] roi cyfrif chwaith, am nad oes ynddynt ddim pechod. Ac am yr angelion drwg, y maent hwy heb obaith, gwedi eu heuogfarnu yn barod: fel nad rhaid iddynt hwy wneuthur cyfrif ym mhellach. Dŷn yn vnig yn ei farwolaeth sydd i roi cyfrif ger bron Duw am ei fywyd.
Or tû arall yr wyt yn gweled (o ddŷn) mor ddedwyddol a bendigedig yw dy gyflwr gwedi dy wir gymmodi â Duw yn Ghrist, yn hyn o beth dy fod yn cael ail dderbyn llûn delw Dduw, ac adferiad o'th lywodraeth ar yr holl greaduriaid, nid wyt ti ond ychydig is na'r Angelion yn y byd hwn, a gogyfuwch a'r Angelion yn y byd a ddaw; ie o herwydd dy natur wedi ei derchafu trwy bersonol vndeb a Mâb Duw, a thrwyddo ef a gogonniant y Drindod, goruwch Angelion: cyfeill-frawd Angelion mewn grâs ysprydol, a gogonniant tragwyddol. Dy di a welaist mor ogoneddus a pherffaith ydyw Duw, a bod dy brif lawenydd a'th ddedwyddwch yn sefyll ar gaffael tragywyddol gymmundeb a'i Fawrhydi ef.
Yr awrhon (gan hynny) o bechadur anedifeiriol, yn ymyscaroedd Jesu Grist, yr wyf yn deisyf arnat; ie ac yn dy dynghedu fal yr wyt yn caru dy iechydwriaeth dy hûn, yn ddifrifol i ystyried gyd â myfi, mor gau, mor ofer; ac mor wael, yw 'r holl bethau, sydd yn dy attal, a'th rhwydo yn y gresynol a'r melldigedig gyflwr yma, yn yr hwn yr wyt yn byw, ac sydd yn dy rwystro i gael ffafr Duw, a gobaith o dragywyddol fywyd a dedwyddwch.
Myfyrdod am y rhwystrau, sy'n attal pechadur oddiwrth ymarfer Duwioldeb.
YRhwystrau hynny ydynt saith yn arbennig.
1. Yn gyntaf, Camgymeryd yn anwybyddus jawn ddeall rhyw fannau o'r scrythur sanctaidd, a rhyw fannau o brif-byngciau crefydd gristianogawl.
Yr scrythyrau a gamgymerir yw y rhai hyn:
1. Ezech. 33.14.16. Pa bryd byynag y bo yn edifar gan bechadur ei bechod, mi a ollyngaf dros gof yr holl, &c. Oddiymma y mae y dŷn cnawdol yn casglu: y geill ef edifarhau pan fynno.
Y mae yn wir, pa bryd bynnag yr edifarhao pechadur y maddau Duw; eithr nid ydyw yr scrythur yn dywedyd, y geill pechadur edifarhau pan y mynno, ond pan roddo Duw iddo ei râs. Llawer (medd yr scrythur) pan fynnent edifarhau, a wrthodwyd; ac ni allent edifarhau, er iddynt geisio yn ddyfal trwy ddagrau, Heb, 12.17. Pa gyssur y mae yr scrythur hon yn ei roddi i ti, yr hwn nid edifarhaist, ac ni wyddost pa un a wnai a'i cael grâs i edifarhau yn ol hyn, a'i nas ceffych?
2. Math. 11.28. Deuwch attaf fi bawb a'r sydd yn flinderog, ac yn llwythog, ac mi a esmwythâ arnoch. O ddiyma y mae 'r dŷn drygionus yn deall, y dichon ef ddyfod at Grist pan fynno. Eithr y mae yn rhaid iddo wybod, na ddaeth dyn erioed at Grist, ond yr hwn (fel y dywaid Petr) gan adnabod ffordd cyfiawnder, a ochelodd halogedigaethau y bŷd, trwy adnabyddaiaeth ein Harglwydd, a'n [...]chawdwr Jesu Crist. 2 Pet. 2.20, 22. Dyfod at Grist yw edifarhau a chredu. A hyn ni ddichon neb ei wneuthur, oddieithr iw Dâd nefol ei dynnu a'i râs of. Isa. 1.18. Ioa. 6.35, 44.
3. Rhuf. 8.1. Nid oes damnedigaeth i'r rhai sydd [Page 93] yn Ghrist Jesu. Gwir; ond y cyfryw yw y rhai nid ydynt yn rhodio yn ol y onawd, (fel yr wyt ti) eithr yn ol yr Yspryd, yr hyn ni ddarfu i ti etto erioed ymrôi iw wneuthur.
4. 1 Tim. 1.15. Crist Jesu a ddaeth i'r bŷd i iachau pechaduriaid, &c. Gwir; ond y cyfryw bechaduriaid, y rhai mal Paul, a drôant oddiwrth eu buchedd anwireddus: ac nid fel tydi, yr hwn wyt yn parhau i fyw mewn camwedd. Oblegid grâs Duw yr hon, sy 'n dwyn iechydwriaeth i bob dŷn, sydd yn dysgu i ni wadu anuwioldeb, a thrachwantau budol, a byw yn sobr, yn gyfion, ac yn dduwiol yn y byd presennol hwn. Tit. 2.11.12.
5. Dihar. 23.26. Y mae gwr cyfiawn yn cywmpo seithwaith yn y dydd, ac yn cyfodi, &c. (yn y dydd,) nid yw yn yr scrythur: yr hyn beth nid yw i'w ddeall am gwympo i bechod, ond syrthio i drallod, yr hyn y mae ei elyn llidiog yn ei ddarparu i'r cyfiawn; oddiwrth yr hyn y mae Duw yn ei waredu: a phe bai yn meddwl cwympo i bechod, a chodi o bechod, beth yw hyn i ti, yr hwn y gall pawb weled dy godymmau bob dydd, ond ni all na Duw na dŷn weled dy gyfodiad eilwaith drwy edifeirwch?
6. Esay 64.6. Ein holl gyfiawnder ni sydd mal brattiau budron. Oddiyma y mae 'r Cristion cnawdol yn casclu; gan weled nad yw gweithredoedd gorau y Saintiau gorau ddim gwell; wrth hynny y mae ei weithredoedd yntau yn ddigon da: ac am hynny nid rhaid iddo chwaith ymofidio gormod, fod ei grefydd mor amherffaith. Ond nid yw Esay yn y lle yma, yn meddwl gweithredoedd yr adgenedledig: megis gweddiau difrifol yn enw Duw; cardôdau elusenaidd o eigion trugaredd; dioddef o achos yr Efengyl, colli ei dda, a cholli ei waed, a'r fâth weithredoedd, y rhai y mae Paul yn eu galw yn ffrwyth yr Yspryd; Gal. 5.22. Eithr y prophwyd [Page 94] gan wneuthur gostyngedig gyffes yn enw Eglwys y [...] Juddewon, pan syrthiasai hi oddiwrth Dduw i ddelwaddoliaeth, sy'n cydnabod, mai tra fuont hwy trwy waith eu pechodau aflan, gwedi eu neilltuo oddiwrth Dduw, megis cleifion gwahanol o achos eu doluriau heintus, a'i cadachau halogedig, y faent neilltuol oddiwrth ddynion; Nid allai eu cyfiawnder goreu hwynt, fod ond yn wrddedig yn ei olwg ef. Ac er nad yw ein gweithredoedd gorau ni, (o'i cystadlu a chyfiawnder Crist) ddim gwell na brattiau aflan: etto yn nerbynniad Duw er mwyn Crist fe a'i gelwir yn wisc wen; iê lliain pûr disclair, digon anhebyg i frithni y llewpart, a'r gwiscoedd budron. Dad. 3.8. Jer. 13.23. Zac. 3.4.
7. Jaco. 3.2. Mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Gwir; ond nid yw plant Duw yn pechu ym mhob peth fel yr wyt ti, heb na ffrwyno eu trachwantau, na marwhau eu llygredigaethau. ac er bod gweddillion pechod yn aros yn y plant cûaf gan Dduw, onid yw reidiol iddynt lefain beunydd, Ein tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, maddau i ni ein dyledion: Etto yn y Testament newydd, ni elwir neb yn gyffredinol yn bechaduriaid, ond y rhai diailgenedledig. Eithr yr Adgenedledig, o herwydd eu astudrwydd awydd-frydig i wasanaethu Duw mewn purdeb sancteiddrwydd, ym mhob lle a elwir yn Saint. Yn gymmaint a bod Joan yn dywedyd mai pwy bynnag a aned o Dduw, ni pecha; 1 Joan. 3.9. hynny yw, nid yw yn byw mewn aflendid yn ewyllyscar, gan adael i bechod reoli ynddo, fel yr ydwyd ti. Na thwylla mo honot dy hûn ag enw Cristion: pwy bynnag a fo arferol o fyw mewn rhyw bechod anafus, nid yw efe yn byw mewn cyflwr grâs. Pob un gan hynny (medd St. Paul) a enwo enw Crist ymadawed ag anwirodd, 2 Tim. 2.19. Nid [Page 95] yw'r adgenedledig yn pechu ond o wendid, y maent hwy yn edifarhau, a Duw yn maddau; am hynny nid ydynt yn pechu i farwolaeth, 1 Joan. 5.16. Y mae'r colledig yn pechu yn faleusus, o'u llawn awydd, ac yn ymlawenhau ynddo: fel o'i gwir fodd, y mae pechod yn ymadel â hwynt, cyn iddynt hwy ymadel ag ef. Nid edifarhant, ac ni faddau Duw. Am hynny y mae eu pechodau yn farwol, (medd St Joan) neu yn hytrach yn anfarwol, megis y dywaid St Paul, Rhuf. 2.5. Nid jawn escus (gan hynny) yw dywedyd, pechaduriaid ydym ni oll. Gwir gristianogion (di a weli) ydynt oll yn Saint.
8. Luc. 23.43. Y lleidr a drôdd a'r y ffun olaf o'i enau, a dderbynniwyd i Baradwys. Beth am hynny? O caf fi gymmaint o amser, ac y gallwyf ddywedyd wrth farw, Arglwydd trugarha wrthyf, mi gaf finnau yr un ffunyd fy achub am gwaredu. Ond beth oni chai di? ac etto llawer yn y dydd hwnnw a ddywaid Arglwydd, Arglwydd, a'r Arglwydd nid adnebydd mo honynt. Matth. 7.22, 23. Y lleidr a achubwyd, o herwydd iddo edifarhau; eithr ei gyfaill ni chafas râs i edifarhau, efe aeth yn ddamnedig. Gochel gan hynny, rhag wrth hyderu mewn hwyr edifeirwch yn dy ddiwedd ar y ddaiar, o [...]fod arnat edifarhâu yn rhyhwyr heb ddiwedd yn uffern.
9. 1 Joan. 1. Gwaed Jesu Grist sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod, ac 1 Joan. 2.1. O phecha neb y mae i ni ddadleuwr gyd a'r Tâd, Jesu Grist y cyfion, &c. Oh cyssurns! Ond gwrandewch beth y mae S. Joan. yn ei ddywedydd yn yr un lle: fy mhlant bŷchain y pethau hyn a scrifennais attoch fal na phechoch. Os dy di (gan hynny) a adcwi dy bechod, y cyssurau hyn sydd yn dy eiddaw, onid ê ni pherthynant i ti.
[Page 96]10. Rhuf. 5.20. Lle yr amblhâodd pechod, mwy o lawer yr amlhaodd grâs.
Oh odiaeth! eithr gwrandewch beth a ddywaid Paul yn ol hynny: beth a ddywedwn gan hynny, a barhawn mewn pechod, fel yr amlhao gras? na atto Duw. a ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn fyw etto ynddo ef? Rhuf. 6.1.2. Nid yw y lle yma yn dyscu i ni ryfygu, ond na ddylem anobeithio. Nid oes gan hynny yr vn o'r addewidion hyn, yn addo grâs i neb, ond i'r galon edifeiriol.
Seiliau crefydd a gamgymmerir ydynt:
1. Odiwrth athrawiaeth cyfiawnhâd trwy ffydd yn vnig: Cristion cnawdol a gascl; nad ydyw gweithredoedd da angenrheidiol. y mae yn canmol eraill a wnelo weithredoedd da, eithr y mae ef yn coelio am dano ei hun y bydd efe cadwedig trwy ei ffydd, heb wneuthur dim or fâth bethau. Ond ef a ddylai wybod, er nad yw gweithredoedd da angenrheidiol i gyfiawnhau dŷn; etto y maent yn anghenrheidiol i iechydwriaeth: Canys gwaith Duw ydym, wedi ein creu ynghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw i ni rodio ynddynt. Ephes. 2.10. Pwy bynnag gan hynny mewn oedran a synwyr ni wnêl weithredoedd da wedi ei alw, ni eill ef fod yn gadwedig: ac ni ragddarparwyd ef erioed i fywyd tragywyddol. Am hynny y dywed yr scrythur y tâl Crist i bob dŷn yn ol ei weithredoedd, Rhuf. 2.6. 2 Cor. 9.6. Dad. 22.12. Nid yw Crist yn gweuthur cyfrif o ddim oedd yn yr Angelion o'r saith eglwys, ond o'u gwethredoedd Datc. 2. ac 3. Ac yn y dydd diwaethaf, ef a rydd yr etifeddiaeth nefol, yn vnig ir rhai a wnaethant weithredoedd da, yn porthi 'r newynog, yn dilladu 'r noeth, ac felly, Math. 25. Yn y dyd hwnnw cyfiawnder a wisc y goron. 2 Tim. 4.8. Heb gyfiawnder, heb goron, heb weithredoedd da (yn ol ei dalent) heb wobr gan [Page 97] Dduw, oddieithr dial. Bod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, ydyw 'r sail gadarnaf o'n siccrwydd ni i dderbyn bywyd tragywyddol, 1 Tim. 6.19. O blegid gweithredoedd da ydynt wir ffrwythau gwir flydd, yr hon sydd yn ymaflyd yn Grist a'i ufydddod i iechydwriaeth. Ac nid oes ffydd arall yn lleshau yn Ghrist, ond yr hon sydd yn gweithredu trwy gariad. Gal. 3.6.
Ac (oddieithr yngweithred cyfiawnhâd) y ffydd, yr hon sydd yn unig yn cyfiawnhau, nid yw yn unig un amfer, eithr ynghŷ [...] [...]gweithredoedd da: Fel y pren a'i ffrwyth, yr haul a'i lewyrch, y tân a'i wrês, y dwfr a'i wlybanniaeth. a'r ffydd honno, yr hon nid ymgyfiawnhá trwy weithredoedd da o flaen dynion, nid yw ond flydd farwol: yr hon ni chyfiawnha fŷth enaid dyn o flaen Duw. Jag. 2.26. Ond y ffydd sydd yn cyfiawnhâu a bureiddia y galon, ac a sancteiddia yr holl ddŷn trwyddo. Act. 15.9. 1 Thes. 5.23.
2. Oddiwrth athrawiaeth tragwyddol rhagddarpariad Duw a'i ddigyfnewidiol osodiad, y mae ef yn casglu: Os rhagddarparwyd ef i fod yn gadwedig, ni eill ef amgen na bô, os i ddamnedigaeth, ni ei [...]l Moddion wneuthur iddo ddim daioni. Am hynny nid yw holl weithredoedd Duwioldeb ond ofer. Eithr ef a ddylai ddyscu ddarfod i Dduw ragddarparu at y moddion, fel at y diwedd. Yr hwn gan hynny a ragddarparodd Duw i fod yn gadwedig, hynny yw, at y diwedd, a ddarfu iddo ei ragddarparu yn gyntaf i gael ei alw, a'i sancteiddio, a'i wneuthur vn agwedd â llûn ei Fâb, yr hyn yw y moddion, a'r rhai (medd Petr) a ddewiswyd i iachydwriaeth a ddewiswyd hefyd i sanctieddiad yr yspryd, 1 Pet. 2.16. Rhuf. 8.29, 30. Os ty di gan hynny ar dy alwad ach osodi dy hûn at air, ac agwedd Crist dy Arglwydd, ac a vfyddhei i ddaionus gynhyrfiadau yr Yspryd glán, [Page 98] drwy ymadel a phechod, a byw mewn buchedd dduwiol: yno bydded diogel gennit, dy fod yn un or rheini, yn ddiammeu a ragddarparwyd i iechydwriaeth tragwyddol. Os amgen, na feiâ ar ragddarpariad Duw, ond ar dy bechod dy hûn, a'th wrthryfelgarwch. Ymchwel di at Dduw, a Duw yn rasufawl ath dderbyn di, fel y derbynniodd y Tàd y Mâb afradlon; ac wrth dy drôad, fe fydd eglur, yn gystal i Angelion, ac i ddynion; dy fod di yn perthyn i'w etholedigaeth ef. Luc. 15.10, 24. Onîs gwnei; pa ham yr achub Duw dy di?
3. Pan glywo y Cristion cnawdol, nad oes gan ddŷn rydd-did ewyllys at ddaioni, y mae ef yn gollwng awen y ffrwyn at ei feddwl llygredig ei hûn, fel ped fai heb allu nac ymattal, nacymgospi; yn ddigwyddedig yn gwneuthur Duw yn awdur o bechod, gan iddo oddef i ddŷn redeg i'r angenrhaid yma. Ond efe a ddylai wybod roi o Dduw i Adda rydddid ewyllys, i sefyll yn ei ddiniweidrwydd, os mynnai; eithr dŷn a gamarferodd ei ewyllys rhydd, ac a'i collodd ei hun, ac yntau. Gwedi y cwymp, y mae i ddŷn ynghyflwr llygredigaeth, ewyllys rhydd at y drwg, ac nid at y da. Oblegid yn yr stât hon (medd yr Apostol) nid ydym ni yn gallael meddylied vn meddwl da. 2 Cor. 3.5. Ac nid ydyw Duw rwymedig i roi i ni eilwaith yr hyn a gollasom yn enbydus, heb gymmeryd gofal mwyach am ei ynnill drachefn. Ond cyn gynted ac y byddo dŷn yn adgenedledig, y mae grâs Duw yn hyfforddi ei ewyllys at ddaioni, fel y mao ef yn gwneuthur yr holl bethau da, a'r a wnelo, ac ewyllys rhydd: O blegid felly y mae 'r Apostol yn dywedyd fod Duw o'i ewyllys da, yn gweithredu ynom yn gystal yr ewyllys, a'r gwaith, Phil. 2.12. 2 Cor. 7.1. y rhai (fel y mae'r Apostol yn ei ddeongl) ydym yn ein glanhâu ein hunain oddiwrth bob halogrwydd cnawd ac Yspryd, gan berffeithio ein sancteiddrwydd [Page 99] yn ofn Duw. Ac yn y cyflwr yma, y mae i bob cristion ewyllys rhydd; ac fel y mae yn cynyddu mewn grâs, felly y mae ei ewyllys yn cynnyddu mewn rhydd-did: Oblegid pan fo y mâb yn ein gwneuthur ni yn rhydd, yno yr ydym ni yn rhydd ddiogel: ac lle bo yspryd yr Arglwydd yno y mae rhydd-did: Joan. 8.36. 2 Cor. 3.17. canys y mae [...]r yspryd sanctaidd yn tynnu eu meddyliau, Joan. 6.44. nid o'i hanfodd, ond trwy raffau cariad, can. 1.4. Gan lewyrchu eu meddyliau i adnabod y gwirionedd; gan gyfnewidio eu calonnau i garu y gwirionedd adnabyddus; gan nerthu pob vn o honynt yn (ôl y grâs a dderbynniodd) i wneuthur y daioni, yr hyn y mae yn ei garu. Eithr nid wyt ti yn arferu mo rydd-did dy feddwl, cyn belled ac y rhoes Duw ef yn rhydd: O herwydd yr ydwyd ti yn fynych yn ewyllysgar (yn erbyn cyfraith Dduw, i beryglu dy enaid dy hûn) yn gwneuthur peth, yr hyn ped fai gyfraith y Brenin dan boen marwolaeth, neu golli dy dda, yn ei wahardd, neu ei wrthwynebu, nis gwneit. Na wna gan hynny moth ddiffyg ewyllys rhydd i ddaioni, i fod yn gymmaint achos o'th waith yn pechu, ac yw eisiau calon gariadus i wasanaethu dy Dâd nefol.
4. Pan glywo y dyn cnawdol, na ddichon neb (er pan gwympodd Adda) gyflawni cyfraith Dduw, a chadw ei holl orchymynnion: Y mae ef yn hyfedr i bechu yn rhyfygus fel rhai eraill: ac yn ei fodloni ei hûn ac ychydig feddyliau da: ac onid yw ef yn gwbl gynddrwg a'r gwaethaf, y mae ef yn gweled ei fod ei hun yn gystal adgenedledig ac yw 'r gorau. Ac y mae ef yn cyfrif pob ewyllysgar naghau o wneuthur daioni, neu o wrthwynebu 'r drwg, yn amhossiblrwydd y gyfraith. Eithr ef a ddylai ddysgu, ef (yn ol y cwymp) na allodd neb ond Crist, (yr hwn oedd yn Dduw ac yn Ddyn) gyflawni [Page 100] yr holl gyfraith yn berffaith: etto y mae pob gwir gristion, cyn gynted ac ei bo yn adgenedledig, yn dechrau cadw holl orchmynnion Duw mewn gwirionedd, er nas geill mewn perffeithrwydd cyflawn. Ac felly (gyd â Dafydd) maent hwy yn gosod en calonnau i gyflawni gorchmynnion Duw bob amser hyd y diwedd. Psal. 119, 112. Ac yno y mae Yspryd y grâs (yr hwn yn ol yr addewid a dywelldir allan yn amlach dan yr Efengyl) yn eu diddanu hwynt, ac yn eu cynnorthwyo yn eu hamcannion i wneuthur yr hyn a orchymmynno ef iddynt ei wneuthur. Joel. 2.28, 29. Ac wrth wneuthur hynny, y mae Duw yn derbyn eu hewyllys da a'u dyfalwch, yn lle cyflawniad y gyfraith. Gan osod haeddedigaethau Crist, (yr hwn a gyflawnodd y gyfraith trosom ni) i atteb dros ba beth bynnac a fo diffygiol yn ein vfydd-dod ni. Ac o herwydd hyn, y mae St. Joan yn dywedyd, nad yw gorchymynion Duw yn drymmion. 1 Jo. 3.5.
Ac y mae St. Paul yn dywedyd, yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist yr hwn sydd yn fy nerthu i. Phil. 4.15. Ac yr ydis yn dywedyd am Zachari ac Elizabeth, iddynt hwy rodio yngorchymynnion yr Arglwydd yn ddiargyoedd Luc. 1.16. Ac o'r achos yma y mae Crist yn crchi iw ddisgyblion gymmeryd gofal am gadw ei orchmynnion: megis y dystiolaeth gywiraf o'n cariad tu ac atto. Joan. 15.10. Cymmaint gan hynny y mae dŷn yn caru Crist, ac y mae efe yn gwneuthur cydwybod o rodio yn ei orchmynion ef; a pha fwyaf a fo eîn cariad ni tu ae at Grist, lleiaf a fydd ein poen ni yn cadw ei gyfraith.
Melldith y gyfraith, yr hwn (dan y Testament hên) oedd mor ddychrynadwy, dan y newydd trwy farwolaeth Crist a ddidymmwyd i'r adgenedledig. Y toster oedd yn ei gwneuthur yn amhossibl [Page 101] i'n naturiaeth ni o'r blaen, sydd yr awrhon gwed [...] ei dymmeru gan yr Yspryd i'r newydd-enedig, fel y mae hi yn ymddangos yn hawdd, ac yn esmwyth. Yr oedd yr Apostolion yn dirio a'r yr Iddewon, a'r cenedloedd digrêd, nad oedd bossibl cadw'r gyfraith drwy nerth naturiaeth lygredig. Ond pan fyddent hwy yn dyscu Cristiannogion credadwy, y maent hwy yn gofyn vfydd-dod i'r gyfraith (yr hon yw rheol cyfiawnder) sef gwir vfydd-dod, mewn gair a gweithred: marwhau eu haelodan: croeshoelio y cnawd, ei wynniau a'i drachwantau: adgyfodiad i newydd-deb buchedd, rhodio yn yr Yspryd, gorchfygu y byd drwy ffydd. Rhuf. 15.18. Col. 3.5. Gal. 5.24. Rhuf. 6.4, 5. ac 8.11. 1 Joan. 5.4. Fel er na allo neb ddywedyd gid â Christ, pwy o honoch am hargyhoedda i o bechod? fe ddichon pob Cristion adgenedledig ddywedyd am dano ei hûn, pwy o honoch am hargyhoedda fi o fod yn odinebwr; puteiniwr, tynghedwr, meddwyn, lleidryn, occrwr, gorthrechwr, balch, cenfigennus, yn gybydd, yn dorwr y Sabboth sanctaidd, yn gelwyddog, yn esceuluso cyffredin wasanaeth Duw, a'r fath bechodau dybryd gorthrwm? ac onid ê nid yw efe wir gristion. Pan beidio dŷn a gwneuthur cydwybod o ddilyn llywodraeth cyfraith Dduw, yno y mae Duw yn ei. roddi ynteu i fynn iw arwain gan ei drachwantau ei hûn, yr arwydd pennaf o feddwl anghymer adwy, Rhuf. 1.24, 28. Fel hyn y gyfraith (yr hon gwedi y cwymp ni ddichon neb oi naturiol allu ei chyflawni) a gyflawnir mewn gwirionedd gan bob Cristion adgenedledig, trwy rasusol gynnorthwy Yspryd Crist. Rhuf. 8.9. Luc. 11.13. A'r Yspryd hwn a rydd Duw i bob Cristion a weddio am dano, ac a ostyngo ei galon i gadw ei gyfreithiau ef.
V. Pan glywo y dŷn di-adgenedledig, fod Duw yn ymhoffi mwy yn y meddwl oddifewn. nag yn y dŷn oddiallan, yno y mae efe yn meddwl ynddo ei hur, [Page 102] sod pob parch, neu grefydd oddiallan, naill a'i 'n ofergoel a'i yn afraid.
O hyn y digwydda mai anfynych jawn y gostwng ef a'r ei liniau yn yr Eglwys: a'i fod yn gwisco am ei ben wrth ganu Psalmau, neu a'r weddiau cyffredin: yr hyn beth ni chynnygiai y budredd brwnt yngŵydd tywysog, neu ŵr anrhydeddus. Ac am y catwo efe ei feddwl i Dduw, y mae yn tybied mewn pethau eraill y gall ddilyn arferion y byd. Y mae efe yn rhannu ei feddyliau, ac yn rhoi hyn a hyn i Dduw, a hyn a hyn iw drachwantau; ie efe a rêin y dydd Sabbôth â Duw, ac a rydd gan mwyaf, y naill hanner i Dduw, ac a dreulia y llall yn gyfan yn ei ddifyrrwch ei hûn. Eithr gwybydd (o ddŷn cnawdol) na fyn yr hollalluog Dduw mo'i wasanaethu ag hannêrau, o herwydd efe a greawdd ac a warêdodd yr holl ddŷn, Ac fel y mae Duw yn ffieddio gwasanaeth y dŷn oddiallan, heb y galon oddimewn, megis rhagrith: felly y mae ef yn cyfrif gwasanaeth oddimewn, heb anrhydedd oddiallan yn ffieiddbeth halogedig; y mae ef yn gofyn y ddau yn ei wasanaeth. Yn dy weddi (gan hynny) ymostwng ar dy liniau i dystiolaethu dy ostyngeiddrwydd: dercha dy olwg, a'th ddwylaw, i arwyddocau dy grediniaeth: gostwng dy ben i lawr, curâ dy ddwyfron, yn arwydd o'th edifeirwch: ac yn enwedig galw a'r Dduw â chalon bur: gwasanaetha ef yn sanctaidd, yn gyfan, ac yn vnig: Canys Duw, a thywysog y byd hwn, ydynt ddau Arglwydd gwrthwyneb iw gilydd, am hynny nid yw bossibl i neb wasanaethu 'r ddau.
VI. Y mae Cristion diadgenedledig yn cymmeryd gwrando pregethiad yr Efengyl yn beth a ellir ei hepcor, a bod iddo ei ddewis a'i arfer, a'i peidio a'i arfer pan fynno: Ond pwy bynnag wyt a fynnit yn ddiogel sicrhau dy galon, o'th fod yn vn o ddewisedig ddefaid Crist: rhaid itti gymmeryd gofal [Page 103] mawr, a gwneuthur cydwybod (os iw bossibl itti) i wrando pregethu gair Duw: Oblegid yn gyntaf, pregethiad yr Efengyl ydyw 'r prif gyfrwng trefnedig a osododd Duw i ddychwelyd eneidiau, y rhai a ragddarparodd ef eu bod yn gadwedig: am hynny y gelwir yn allu Duw er iechydwriaeth i bob dŷn sydd yn credu. Rh. 1.16. Ac lle nid yw yr ordinhâd hwn, y mae 'r bobl yn golledig. Dih. 29.18. a phwy bynnag a'i gwrthodo, fe fydd esmwythach. I dir Sodom a Gomorha ddydd y farn nac i'r bobl hynny. Luc. 10.12. Yn ail, pregethiad yr Efengyl ydyw baner Crist; at yr hon yr ymgynnull yr holl filwyr, a'r etholedigion bobl. Esay. 11.12. ac 2.2, 3. Pan osoder allan y faner hon megis y gwneir a'r ddydd yr Arglwydd, nid yw efe o bobl Dduw yr hwn ni chyrcho atti, ac ni ddiscyn defnyn o ddwfr ei râs of a'r ei heneidiau. Zac. 14.17. Yn drydydd: dyma 'r moddion cyffredin, drwy'r hyn y mae 'r Yspryd glân, yn ennyn ssydd yn ein calonnau, heb yr hyn ni allwn ni ryngu bodd Duw. Rhuf. 10.14. Os gwrando a'r lais Crist yw'r nôd pennaf ar etholedig ddefaid Crist, ac a'r gyfaill y priod fâb, Joan. 10.2. ac 3, 29. Yno ni ddich [...]n na bo hwnnw nôd dychrynadwy o afr wrthodedig, yr hwn a esceuluso, neu ddiystyro wrando pregethiad yr Efengyl. Na fyddylied neb fod yr ymadrodd hwn yn ffôl: O blegid trwy 'r ffollineb yma a'r bregethu, y mae yn rhyngu bodd i Dduw achub y rhai a gredant. 1 Cor. 1.11. Ofnadwy yw eu cyflwr hwynt gan hynny y rhai sy 'n byw mewn heddwch, heb ofal am bregethiad yr Efengyl. A eill dynion ddisgwyl am drugaredd Dduw a dirmygu y moddion iw gael? yr hwn, medd Crist am bregethwyr ei Efengyl, a'ch dirmygo chwi am dirmyga innau, Lu. 10.16. yr hwn sydd o Dduw, a wrendy eiriaus Duw, am hynny nid ydych chwi yn gwrando, am nad ydych o Dduw. Joa. 8.47. O ni buasai bregethu o Joan fedyddiwr ni buasai [Page 104] yr Juddewon byth yn galaru. oni buasai i'r Israeliaid glywed cennadwri Phineas, in wylasent byth, oni buasai i'r rhai a groeshoeliodd Grist glywed pregeth Petr, ni buasai fyth gynhyrfriw yn eu calonnau, Act. 2.37. oni bai glywed o'r Ninifeiaid bregeth Jonas, ni buasent hwy byth yn edifarhau Joh. 3.5. ac oni wrendewi dithau ac edifarhau, ni byddi di byth yn gadwedig, Luc. 13.5. Dihar. 28, 9.
VII. Yr opiniwn, nad yw 'r Sacramentau ond arwyddion noethion a selau o addewid Duw a'i râs i ni, a wnaeth fawr rwystr ar Dduwioldeb; lle mewn gwirionedd y maent yn selau yn gystal o'n gwasanaeth, a'n hufydd-dodd ni i Dduw: yr hwn wasanaeth, onis cyflawnwn iddo ef, nid yw 'r Sacramentau yn selio dim grâs i ni. Eithr o derbyniwn hwynt tan fwriadu bod yn weision ffyddlon edifeiriol, yno y mae y Sacramentau nid yn vnig yn arwyddocau, ac yn cynnig, eithr yn hytrach yn selio a gweithredu grâs ysprydol oddifewn, yr hyn oddiallan y maent yn ei addo, ac yn ei arwyddocau. Ac i'r perwyl yma, y gelwir y bedydd ymolchiad adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Yspryd glàn; Tit. 3.5. a Swpper yr Arglwydd, cymmun corph a gwaed Crist. 1 Cor. 10.16. Pe coelid y gwirionedd hwn, y Sacrament sanctaidd o swpper yr Arglwÿdd, a gymmeryd yn fynychach, ac mewn mwy parch ac anrhydedd.
VIII, Yr olaf, ac nid y cyff lleiaf, wrth yr hwn y mae Duwioldeb yn cael tramgwydd mewn achosion crefydd, ydyw addurno campau drwg âg enwau rhinwéddau da: megis galw carowsio meddwaidd, yfed iechyd; tywallt gwaed gwirion, gwroldeb; glothineb, lleteugarwch; cybydd-dra, cynnildeb; puteindra caru merched, cyssegr-werth, rhôdd o ddiolchgarwch; balchder, ymddigiad hoiw; gwenheithio, medrusrwydd; meibion Belial, cymdeithion da; [Page 105] poethineb, ffromder; serthedd digrifwch; felly or tu arall, galw llarieidd-dra mewn geiriau a gweithredoedd, rhagrithiad; elusênau, gwâg ogoniant; Duwiolder ofergoel; Zêl mewn crefydd, pûritaniaith; gostyngeidd-dra llyfrdra, gweuthur cydwybod, manyldra, &c.
A thra fôm ni fal hyn yn galw drwg yn dda; a da yn ddrwg; y mae gwir dduwioldeb yn cael mawr rwystr i fyned iw thaith a'i helynt. A hyn yma am y rhwystr cyntaf ar dduwioldeb, wrth gamgymeryd gwir feddwl mannau hynod o'r scrythyrau, a seiliau crefydd gristianogawl.
Yr ail peth sydd yn rhwystro Duwioldeb.
2. Drwg ecsamplau y gwŷr mawr. Ystod bucheddau halogedig yr rheini, y maent hwy yn ei ddilyn o flaen gorchymmyn y Duw sanctaidd. Felly pan welont hwy y gwÿr mwyaf yn y deyrnas, a llawer o'r gwŷr bonnedigion pennaf yn y wlâd, heb gymmeryd na gofal na chydwybod o wrando pregegethau, nac o dderbyn y Cymmun, nac o sancteiddio Sabboth yr Arglwydd, &c. Ethr yn dyngwyr, yn odinebwyr, yn feddwon, yn gribddeilwyr, ac felly, &c. yno y maent hwy yn tybied nad ydyw y sanctaidd ordiniadau hyn, bethau o bwys mawr: canys pe dyddent, ni wnai y cyfryw wŷr mawr doethion cyn lleied cyfrif o honynt. Ac wrth hyn y maent hwy yn tybied nad yw crefydd beth angenrheidiol. Ac am hynny lle dylent (fel Cristianogion) rwyfo yn erbyn ffrwd anuwioldeb tu a'r nefoedd, y maent hwy yn ymroi i fyned gyd a'r llaweroedd bendramwnwgl i vffern; gan dybied fod yn amhossibl i Dduw ollwng cynnifer i ddamnedigaeth. Lle oni bai ddarfod i Dduw y byd hwn ddallu llygaid eu meddyliau, fe ddyscai yr Scrythur Sanctaidd idddynt, [Page 106] nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd, nad llawer o rai gallnog, nad lawer o rai bonneddigion a elwir, &c. 1 Cor. 1.26. Ond gan mwyaf y tlodion sydd yn derbyn yr Efyngyl. Ac ychydig o'r cyfoethogion a fydd cadwedig. Joan. 11.5. Matth. 19.23, 24. Ac er bod llawer gwedi en galw, etto ni bydd ond ychydig wedi eu dewis. Ac nid iw maintiolaeth lliaws yn gallu cadw oddiwrth ddamnedigaeth. megis y derchafodd Duw rai gwŷr i fowredd vwch law eraill; felly y mae ef yn disgwyl iddynt flaenori eraill mewn crefydd a duwioldeb: Onid ê, mawredd gwedi ei gamarfer yn amser eu gorchwyliaeth, a dry yn fwy cospedigaeth iddynt, yn eu dydd cyfrif: y pryd y bydd y gwŷr mawr, a'r galluogion pechadurus, yn gystal a'r tlodion, caethion, eilldudion, yn dymuno i'r creigiau a'r mynyddoedd syrthio arnynt a'i cuddio oddiwrth wyneb y Barnwr, ac oddiwrth ei gyfion haeddedigol ddigofaint. Datc. 6., 15, 16. Nid ydyw ond cyssur gwan i ti, gael cynulleidfa fawr o wyr mawrion gyd â thi, yn gyfrannogion o'th tragwyddol boenedigaethau. Nid yw rhyfedi y pechaduriaid yn yscafnhau, eithr yn trymhau y pechod, megis yn Sodom. gwell yw gan hynny, fod yn gadwedig gyd a'g ychydig yn yr Arch, na bod gyd a'r holl fyd yn boddi yn y diluw. Gwell yw rhodio gyd a'r ychydig Duwiol yn llwybr cyfing yr scrythyrau i'r nefoedd, nac ymwthio gyd a'r dyrfa anuwiol rhyd y ffordd lydan sydd yn tywys i vffern. Matth. 7.13. Na âd gan hynny i samplau gwyr mawr anuwiol dy attal oddiwrth edifeirwch; canys ni eill eu mawredd hwy y dydd hwnnw eu hachub eu hunain odddiwirth eu mawr anfeidrol boenedigaethau.
Y trydydd peth sydd yn rhwystro Duwioldeb.
3. Diangc yn hir heb haeddedigol gosp yn y bywyd hwn. O blegid (medd Salomon) na wneir y farn yn y fan yn erbyn drwg weithredwr, am hynny y mae calonnau meibion dynion gwedi yneroi yn ollawl i wneuthur drwg, heb adnabod fod daioni Duw yn eu tywys i edifeirwch Preg. 8.11. Rhuf. 2.4. Ond pan gamarferer ei ammynedd ef, ac addfedu pechod dŷn, fe fydd ei gyfiawnder ef a'r vnwaith yn dechrau, ac yn gwneuthur diben o bechadur: ac ynghyfair ei fod yn hwyrfrydig i lid, ac yn hir ymaros, fe dery o'r diwedd hyd adref, a thrymder cospedigaeth. 1 Sa. 3, 12. Er eu gadael i redeg fwyfwy ar gyfrif holl ddyddiau eu heinioes, etto bid diau y cant dalu yr hadling eithaf yn nydd eu marwolaeth. Athra fônt yn eu tybied eu hunain yn ddiangol oddiwrth ddialedd, y maent eusys gwedi eu taro a'r trymmaf o farnedigaethau Duw, sef â chalon ni eill edifarhau. Rhuf. 2.5. Y garreg yn yr arennau, neu 'r chwsîgen sydd benyd anguriol yn lladd Cyrph llaweroedd o ddynion. Eithr nid dolur ond y garreg yn y galon; o'r hon y bu Nabal farw, yr hon a laddodd fyrddiwn o encidiau. Gwrthod y maent brofedigaeth Crist a'i groes: ond maent yn cael eu llabyddio gan ddihenyddwr vffern i angau tragwyddol.
O blegid nad yw llawer o'r pendefigion pennaf, a'r bonneddigion gorau, yn cael eu taro a barnedigaeth bresennol, am dyngu yn felldigedig, godinebu, meddwi, treisio, halogi 'r Sabbôth, ac esceuluso yn ddirmygus addoliant Duw, a'i wasan [...]eth: yno dechrau maent hwy ammeu rhagddarparwch Duw a'i gyfiawnder. Y ddau lygad hynny a chwenychent [Page 108] hwy eu tynnu allan o Dduw, mor ewyllysgar, ac y tynnodd y Philistaid lygaid Sampson. Peth iw ofni yn fawr yw, rhag iddynt annog yr Arglwydd i lefain yn eu herbyn, megis y gwnaeth Sampson yn erbyn y Phylistiaid; Gan esceuluso 'r gyfraith a rhodio yn ol eu calonnau eu hunain, hwy a dynnant (hyd y del erddynt hwy) olygon fy rhagluniaeth, am cysiawnder. Arweiniwch fi gan hynny at y prif golosnau hyn ar yr rhai y mae y deyrnas yn sefyll: fel y gallwyf dynnu y deyrnas a'r eu pennau, a chael dial arnynt a'r vnwaith am fy nau lygad. Barn. 16.21, 26. Na âd i ammynedd Duw rwystro dy edifeirwch, ond am ei fod efe yn ymarhous, er mwyn hynny bydd dithau chwannoccach i edifarhau.
Y Pedwerydd peth sy'n rhwystro Duwioldeb.
4. Rhyfygu o drugaredd Duw. O blegid pan argyoedder dynion yn gyfion am eu pechodau, yn ebrwydd y maent hwy yn cymmeryd yn ymdiffyn iddynt y darian yma, sef y mae Crist yn drugarog; ac felly mae pob pechadur yn gwneuthur Crist yn ymddiffynnwr ei bechod ef: Megis ped fuasai ef yn dyfod i'r byd er mwyn pleidio gyd â pechod, ac nid i ddinistrio gweithredoedd y cythrawl. Ar hyn o bêth y mae 'r Cristion cnawdol yn rhyfŷgu, er iddo barhau dros ennyd yn ei bechod, na fyrhâ Duw moi ddyddiau. Ethr beth yw hyn, ond bod yn angrhedadyn dirgel? Gan ammeu, naill, ai nad yw Duw yn gweled ei bechodau; neu os yw yn gweled, nad yw yn gyfion Canys os yw yn credu, fod Duw yn gyfion, pa fodd y geill ef dybied fod Duw, yr hwn fy 'n cospi rhai eraill yn drwm am bechod, yn ei garu ef, yr hwn sydd yn ewyllysio parhau 'n oestad mewn pechod? gwir yw, fod Crist yn drugarog. eithr i bwy? yn vnig ir rhai a edifarhâo ac a drò oddiwrth [Page 109] eu hauwiredd yn Jacob. Ond o bydd neb yn ei fendithio ei hûn yn ei galon, gan ddywedyd, mi gaf danghneddyf, er i mi rodio yn ôl cyndynrhwydd fynghalon fy hûn, gan chwanegu meddwdawd at syched, ni bydd yr Arglwydd trugarog wrth hwnnw, &c. Esay. 59.20. Deut. 29, 19. O ynfydion! a feiddiant ymfendithio eu hunain, pan fyddo Duw yn eu galw hwynt yn felldigedig. Edrych gan hynny pa cyn belled wyt oddiwrth gael edifeirwch ynot dy hûn, cyn belled a hynny wyt oddiwrth siccrwydd am gael trugaredd Yn Ghrist. Gadawed gan hynny y drygionus ei ffyrdd, a'r gwr anwir ei feddyliau, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymmer drugaredd arno, ac at ein Duw ni, ac efe a arbed yn helaeth, Esa. 55, 7.
Nid yw anobaith ynghyful mor beryglus a rhyfyg. O blegid nid ydym ni yn darllain yn yr holl scrythyrau, oddieithr am dri neu bedwar, y darfu i anobaith ofnadwy eu gorchfygu: eithr fe ddarfu i ryfyg diofal ddanfon myrddiwn yn ddisdaw i golledigaeth. Megis gan hynny yr oedd y llangcesau yn Israel yn canu yn eu downsiau, fe laddod Saul ei fil, a Dafydd ei ddengmîl: felly y gallaf finnau ddywedyd, ddarfod i anobaith o drugaredd Dduw yrru miloedd yn golledig: a rhyfyg o drugaredd Dduw yrru deng-miloedd yn golledig: a'i danfon yn fyw i vffern, lle y maent yn aros heb gymmorth, nag esmwythdra; na dim gobaith o ymwared. Fe rôes Duw nawdd i'r lleidr, ond nid iw gyfaill; Luc. 23. Duw a rôes nawdd i vn, fel na byddei i neb anobeithio: ni roes Duw nawdd ond i vn, fel na byddei i neb ryfygu. siccrwydd hyfryd i bechadur a edifarhâo: dim cyssur i'r hwn a fyddo yn aros yn anedifeiriol. Y mae Duw yn aneirif ei drugaredd, eithr yn vnig i'r rhai a drô oddiwrth eu pechodau, iw wasanaethu ef mewn sancteiddrwydd: heb yr hyn ni chaiff neb weled yr Arglwydd. Heb. 12.14. I'th cadw di gan hynny oddiwrth [Page 110] y rhwystr hwn o ryfygu, cofia, mai fel y mae Crist yn waredwr, y mae Moeses yn gyhuddwr. Bydd fyw gan hynny fel pe na bai yr vn Efengyl: bydd farw fel ped fai heb fod vn gyfraith. rhêd dy yrfa yn y bywyd fel ped fait dan lywodraeth Moeses, ymâd a'r bywyd yma fel pe na bait yn adnabod neb ond Crist, ac ef gwedi ei groeshoelio. na ryfyga oni fynni di fod yn golledig; edifarhâ, o mynni fod yn gadwedig.
Y pumed peth sy 'n rhwystro duwioldeb.
5. Cyfeillach ddrwg, yr hyn yn gyffredin a elwir cymdeithion da: Eithr mewn gwirionedd prif offerau 'r cythraul i rwystro pechadur truan i edifeirwch a duwioldeb. Yr arwydd cyntaf o ffafr Duw i bechadur yw rhoi iddo râs i ochel cyfeillion drwg: y cyfryw rai ag sydd yn ewyllyfgar yn ymdrybaeddu mewn pechod, gan ddiystyru moddion eu galwedigaeth, gan watwor purdeb crefydd rhai eraill, a bod yn gywilydd i ffydd gristianogawl trwy eu bucheddau halogedig. Y rhain sydd yn eistedd ynghadair gwatworwyr, Psal. 1.1. O blegid pan fo Duw yn cynnwys pechadur i fod yn vn o'i bobl, y mae efe yn erchi iddo ef ddyfod allan o Babilon. Dad. 18.4. Pob cynulleidfa ddrygionus yw Babilon. Allan o'r hon naill a'i ymgadwed pob plentyn i Dduw, neu os bydd ynddi tybied fod yn clywed llef ei Dâd yn dadfeinio yn ei glust, Fy mâb tyred allan o Babilon. Hwyn gyntaf ac yr edrychodd Crist o'i drugaredd a'r Bedr, efe aeth allan o'r gynulleidfa, yr hon oedd yn neuadd yr Archoffeiriad, ac a wylodd yn chwerwdôst am ei bechod. Luc. 22.62. Dafydd ar ei ddychweliad (yn addunedu dilyn buchedd newydd) a ddywedodd; ewch ymmaith oddiwrthif holl weithredwyr anwiredd, Psal. 6.8. Fel ped fai yn amhossibl [Page 111] fod yn ddyn newydd, hyd oni adawai ymmaith yr holl hên gyfeillach ddrygionus; siccraf profedigaeth o grefydd gwr ydyw dull a buchedd ei gyfeillion. Cyfeillion halogedig ydynt elynion pennaf i dduwioldeb, a diffoddwyr deisyfiadau sanctaidd.
Llawer gwaith y mae Crist dlawd (wrth ymgynnig iw aileni ynot) yn cael ei daflu i'r stabl: tra fo y cyfeillion drygionus hyn, wrth yfed, chwarae, a digrifwch, yn cymeryd y stafelloedd gorau yn lletty dy galon. Oh na âd i gyfeillach daiarol bechaduriaid dy rwystro di i gymdeithas Seint ac Angylion nefol.
Y chweched peth sy 'n rhwystro duwioldeb.
6. Ofn meddylgar, rhag i ymarfer a duwioldeb, wneuthur gŵr (yn enwedig gwr ievangc) i fod yn rhy brûdd ac yn bendrwm: lle mewn gwirionedd ni eill neb gael llawenydd gwell, na mwy achos i orfoleddu na'r duwiol grefyddol gristion. O blegyd cyn gynted ac y maent hwy yn cael eu cyfiawnhau drwy ffydd y mae iddynt danghneddyf gyd â Duw, Rhuf. 5, 2. A mwy llawenyd na hynny ni all fod. Heb law hynny y mae ganddynt eufys deyrnas y grâs wedi descyn iw calonnau, yn sicrwydd y cânt (yr amser y gwelo Duw fod yn dda) escyn i deyrnas ei ogoniant ef. Yn y deyrnas hon o râd y mae tri pheth: yn gyntaf cyfiawnder; Oblegid drwy gael cyfiawnder Christ iw cyfiawnhau ger bron Duw, y maent yn bwriadu byw 'n gyfion o flaen dynion. Rhuf. 14.17. Yn ail tanghneddyf, canys y mae heddwch cydwybod, yn anwahanol yn canlyn ymarweddiad gyfiawn. Yn drydydd llawenydd yr Yspryd glân: yr hwn lawenydd yn vnig sydd iw gael mewn heddwch cydwybod dda, ac sydd vwchlaw pob deall, Phil. 4.7. ni eill [Page 112] na thafod ei ddatcan, na chalon ei ddirnad, ond yn vnig yr hwn sydd iw gaffael, a'i feddiannu. Dymma y cyflawndra llawenydd a addawodd Crist iw ddiscyblion ynghanol eu gorthrymderau; Llawenydd yr hwn ni allai neb ei ddwyn oddi arnynt. Joan, 16.22, 24. Mwyniant y llawenydd hwn yr oedd Dafydd (yn ei edifeirwch) mor ddifrifol yn ei erfyn a'r law Dduw: Dyro drachefn i mi lawenydd dy iechydwriaeth, Psal. 51.12. Ac os ydyw yr Angelion yn y nefoedd, yn llawenychu gymmaint ar droad pechadur: Luc. 15.10. Y mae 'n rhaid i lawenydd pechadur edifeiriol fod yn dra-mawr arurhr yn ei galon ei hûn. Tristwch bydol sydd yn odi mor gynnar am bennau dynion, ac yn llenwi cwysau eu calonnau a gofidiau angau. Cystudd duwiol y rhai duwiol (pan welo Duw yr achos i'w profi hwynt) sydd yn peri iddynt edifeirwch diedifeiriol: 2 Cor. 7.10. Canys hyn sy 'n hyfforddi eu iechydwriaeth. Ac yno ym mhob rhyw orthrymder hwy a allant fod yn ddiogel o gael yr Yspryd glân i fod yn ddiddanydd iddynt; Joa. 14.16. yr hwn a wna i'n diddanwch amlhau trwy Grist, fal yr amlhao dioddefiadau Crist ynom, 2 Cor. 1.5. Ond tra fo dyn yn byw mewn anuwioldeb, nid oes iddo heddwch, medd Esay Pen. 57, 21. ei chwerthiniad ef sydd ynfydrwydd, medd Salomon, Preg. 2.2. Nid iw ei gyfoeth ef ond clai, medd Abacuc: Pen. 2.6, Iê nid yw 'r Apostol yn gwneuthur mwy cyfrif o honynt nac o dom, Phil. 3.8. (wrth eu cyflybu i drysawr y duwiol) a'i holl lawenydd a derfyna mewn wylofain, medd Crist, Luc. 6.25. Na âd gen hynny i'r ofn gau hwn dy rwystro di i ymarfer a duwioldeb. Gwell yw myned yn glwyfus gyd â Lazarus i'r nefoedd, na myned yn llawn o lawenydd a digrifwch gyd â Diues i waelodion vffern. Gwell [Page 113] ydyw alaru dros amser gyd â dynion, na bod yn poeni yn dragywydd gyd â chythreiliaid.
Y seithfed peth sydd yn rhwystro duwioldeb.
7. A'r peth olaf: ydyw gobaith o hir enioes: Canys pe bai ddŷn o fuchedd ddrwg, yn tybied fod y flwydddyn hon, yn flwyddyn ddiweddaf iddo, y mis hwn, yn fîs diwaethaf, yr wythnos hon, yn wythnos ddiwaethaf, a'i possibl na wellhau, ac na chyfnewidiai, ei fuchedd anwireddus? gwnai 'n sier, fe arferat y moddion gorau i gael edifeirwch ac i fod yn ddŷn newydd. Eithr fel y gwr goludog yn yr Efengyl, yn addo iddo ei hûn lawer o flynyddoedd i fyw mewn esmwythdra, hawddfyd, a digonedd; Pryd nad oedd iddo ef vn noswaith i fyw 'n hwy, Luc. 12, 19, 20. Felly llawer o'r glothinebwyr, a'r Epicuriaid drygionus, sy 'n gau addaw iddynt eu hunain lawer blwyddyn o enioes, pan fo edafedd eu hoedl agos wedi ei ddirŵyn hyd yr eithaf. Felly y mae Jeremi yn pennodi yr achos o bechodau, a gorthrymderau yr Juddewon, gan ddywedyd, nid yw hi yn meddwl am ei diwedd. Galar-nad Jer. 1.9.
Nid yw 'r ysbaid hwyaf rhwng dyfodiad dŷn o'r grôth, a'i fynediad i'r bêdd, ond byrr: O blegid dŷn a aned o wraig nid oes iddo ond byrr amser i fyw: ychydig o ddyddiau, a'r rheini yn llawn o helbul. Ac oni bai ymarfer â duwioldeb, pa faint gwell ydyw cyflwr y plentyn a fedyddied ddoe, ac a gladdwyd heddyw, na Methusalem, yr hwn a fu fyŵ naw cant a naw a thrugain o flynyddoedd, ac yno fu farw? O'r ddau dedwyddach yw 'r plentyn, o herwydd bôd yn llai ei bechod, a llai ei gystuddiau. a pheth sydd yr awrhon yn aros oddiwrth y ddau, ond coffadwriaeth yn vnig? Pa hyder a ddylai ddŷn ei roddi mewn hir enioes? [Page 114] wrth weled nad yw holl enioes dŷn ddim amgen, ond marwolaeth arafaidd: Megis y mae 'r Apostol yn professu: dŷn sydd yn marw beunydd, 1 Cor. 15.31.
Gwrando yn dy glust o gyfaill diofal, nid yw dy einioes ond awel o wynt yn dy ffroenau: na hydera arno. Y mae dy enaid a'i drigfa mewn tŷ o bridd, yr hwn a syrth cyn bo hir. Fel y mae yn eglur wrth dywyllni dy olygon, byddarwch dy glustiau, crychiadau dy ddeurudd, Pydrni dy ddannedd, gwendid dy gewynnau, crynfa dy ddwylaw, y Calandr yn dy escyrn, [sef dolur wrth newidiad hîn] byrdra dy gyntun, a phob blewyn gwynn, megis cynnifer o gennadon yn peri i ti ymbarotoi i fyned i'th hîr gartref. Awn, gedewch i ni yn y cyfamser rodio at arch dy dadau, torrwn y cauad, gwelwn yma mai llygredigaeth yw dy dâd, a'r prŷf yw dy fam, ath chwaer: Job. 17.14. A weli di fel y mae yr rhain? felly y mae yn rhaid i tithau fod cyn bo hir o ddyddiau, o ynfyd y mae dy orriau yn myned heibio yn gyflym, ac yn y cyfamser y mae angau ym mhob lle yn disgwyl am danat.
Holl fywyd dyn (oddieithr yr hyn a dreulier yngwasanaeth Duw) nid yw ond ffolineb: Canys y mae dŷn yn byw ddeugain mhlynedd cyn gwybod ei fod ei hunan yn ffôl, a chyn gynted ac ei bo ef yn gweled ei ynfydrwydd, y mae ei hoedl yn terfynu.
Clyw (lafuriwr) cyn itti weled llawer cnwd ychwaneg o gynhauaf, di a fyddi dy hûn yn addfed, ac foi tyrr Angau dy di i lawr a'i grymman. Clyw (dithau greftwr) cyn i lawer chwemis fyned heibio, fo ddaw dy fîs olaf dithau, yn yr hwn ei cai di dithio ymmaith a gadael dy gelfyddyd heibio. Clyw (farnwr pwyllig) cyn pen ychydig dermau, y daw terfyn dy enioes i'th oddiwes, yn yr hwn bryd y rhoi di ymmaith farnu eraill, a myned a wnei dy hunan i'th farnu. Clyw (o ŵr Duw) yr hwn wyt yn myned [Page 115] i'r Pulput; Pregetha y bregeth hon fel ped fai hi 'r olaf a'r sydd ith fryd di wneuthur i'th bobl. Clyw (bendefig goruchel) gâd ymaith dybied yn rhyddâ o'th Anrhydedd; fe rydd angau cyn bo hir dy anrhydedd di yn y llwch: ac a'th wna di cyn waeled a'r ddaiar, yr hon yr wyt yn ei sathru tan dy draed. Clyw di yr hwn sydd yr awrhon yn darllain y llyfr hwn, bydded diogel gennit cyn bo hir, y bydd dau o dyllau, lle y mae yr awrhon dy ddau lygad wedi eu gofod. Ac fe gaiff rhai eraill ddarllain gwirionedd o'r athrawaieth hon a'r dy benglog noeth di, yr hyn yr wyd dythau yn ei ddarllain yn awr yn y llyfr bychan yma. Pa cyn gynted nis gwn i, ond hyn a wn i yn ddiogel, fod dy amser wedi ei osoll a'r lawr, dy fisoedd gwedi eu rhagòrdeinio, aeth ddyddiau wedi eu rhifo: Ic a'th awr ddiwaethaf gwedi ei phennodi: tu hwnt i'r hon ni thai di fyned. Job. 14.5, 14. Psal. 90.12. Dan. 5.26. Joan. 11▪ 9. O blegid yno cyntafanedig Angau wedi ei ymdderchafu a'r ei farch. gwelwlas, Dad. 6.15. a ddescyn wrth dy ddrws, ac er dy holl gyfoeth a'th anrhydedd, (ac wylofain dy gynyseifiaid) a'th ddwg di ymmaith, yn rhwym dy ddwylaw ath draed, mal carcharor iddo, ac a geidw dy gorph dan lwyth o ddaiar, oni ddêl y dydd yn yr hwn ith ddygir allan i dderbyn yn ól y pethau a wnaethost yn y corph, pa vn bynnag a'i da, a'i drwg. 2 Cor. 5.10. Oh na âd gan hynny i gau obaith o enioes anwadal, dy rwystro di i fod yn bresennol ymarferwr o dduwioldeb crefyddol. y mae Duw heddyw yn cynnyg ei râd, ond pwy fydd yn addo y foru? y mae llawer o wyr i [...]uaingc yr awr hon yn vffern, y rhai oedd yn bwriadu edifarhau yn eu henaint, ond foi torrodd Angeu hwynt ymmaith yn eu hanedifeirwch, cyn iddynt ddyfod i'r amser yr oeddynt yn ei ddarparu i edifarhau. Pa hwyaf y byddo dŷn yn glaf, anhawsaf [Page 116] fydd ei iachau. Oblegid y mae arfer o bechod, yn magu caledrwydd calon: Heb. 3.13. A'r rhwystrau y rhai sydd yn dy luddias di yr awr hon i edifarhâu, a sydd yn fwy rhwystr i ti fel y tynnych at henaint.
Gŵr synhwyrol, yn cymmeryd taith bell, ac rhyd ffordd fudr, ni ddyry y pwn mwyaf a'r y march gwannaf. Ac â pha ryw fâth a'r gydwybod, y gelli di osod y bauch mawr o edifeirwch a'r dy henaint dinerth blinedig? Lle 'r wyt yr awrhon yn dy lawn gryfder, heb allu ei godi, eithr yn hytrach yn barod i wegian tano ef. A'i argoel doethineb yw i'r hwn a fo yn myned i fordwyo i daith bell beryglus, aros i chwarau ac i gyscu tra bai 'r gwynt yn gwasanaethu, a'r môr yn dawel, y llong yn hwylus, a' [...] llywydd yn iach, a'r morwyr yn gryfion: Ac yno gosod allan pan fai 'r gwyntoedd yn wrthwynebus, a'r tywydd yn dymestlog, a'r môr yn rhuadwy, a'r llong yn fraenllyd, a'r llywydd yn glâf, a'r morwyr yn ffeintiedig? Am hynny o enaid pechadurus, dechreu droi at Dduw trafyddo dy fywyd, [...]y iechyd, dy gryfder, a'th ieueng tyd yn parhau: Cyn neshau y blynyddoedd, yn yr rhai y dywedi nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt. Preg. 12.1. Y cyntafanedig a'r blaenffrwyth yr oedd Duw erioed yn ei gofyn yn ei wasanaeth, a'r rheini iw haberthu iddo ef yn ddioed. Exod. 22, 29. Exod. 13.2. Felly y dàrfu i Abel gyfiawn aberthu iddo ef o'i flaenffrwyth, a'i ŵyn breision: Gen. 4.4. A rheswm da yw, gael o'r Arg [...]wydd gorau, ei wasanaethu yn gyntaf, ac a'r pethau gorau. Holl weision Duw gan hynny a ddylent gofio gwasanaethu eu creawdr yn nyddiau eu hiouengtid: Preg. 12.1. ac yn blygeiniol mal Abraham, Aberthu i Dduw eu Isaac ieuangc. Gen. 22.3. sef ieuengtid eu heinioes. Ni chewch edrych yn fy wyneb i (ebr Joseph wrth ei frodyr. Gen. 43.3. oni ddygwch chwi [...]ch [Page 117] brawd ieuangaf gyd â chwi. A pha fôdd y cai di edrych yn wyneb Jesu, os rhoddi di flynyddoedd dy ieuengtid i'r cythraul, ac heb ddwyn iddo ef ddim ond dy henaint dda [...]l, gloff, grybachlyd. Cynnig hynny i'th tywysog (medd Malachi. Pen. 1.8.) os ef ni dderbyn y cyfryw [...]w wasanaethu, pa fodd y cynuwys tywysog y tywysogion y fâth vn i fod yn wàs iddo? O Mynnai Brenin Babel, Dan. 1.4. gael gwyr ieueingc têg o benpryd, a'r cyfryw a fai a nerth galluog ynddynt, i sefyll yn ei lŷs: a gaiff Brenin nefoedd nêb i sefyll yn ei lysoedd, ond y clôff a'r dall, y cyfryw yr oedd enaid Dafydd yn eu cashau? 2 Sam. 5.8. Wyt ti yn tybied pan fych di gwedi gwasanaethu Satan a'th brif-flynyddoedd, y rhyngi di fodd Duw â dyddiau 'r cŵn? Oh gochel rhag i Dduw dy droi di heibio, at dy hên feistr d [...]achefn: fel megis y darfu i ti holl ddyddiau dy fywyd wneuthur ei wasanaeth ef: felly y gallo efe yn y diwedd dalu i ti dy gyflog. A 'i amser cyfaddas ydyw hwnnw i gymeryd mewn llaw ddifrifol orchwyl edifeirwch, (yr hwn yw 'r gorchestwaith nawyaf) i droi dy enaid pechadurus at Duw; y pryd na elli a'th holl rym droi dy esgyrn blinedig ar dy wely esmwyth? Os wyt yn ei weled yn beth anawdd i ti yr awr hon, ti a gai ei weled yn a [...]hawsach y pryd hynny. Oblegid fe gynnydda dy bechod di yn gryfach, a'th gryfder yn wannach, dy gydwybod a bwysa arnat, poen a'th pendafada, ofn marwolaeth a'th synna di, ymweliad dy gynyseifiaid a'th syfrdana di, fel oni byddi di ym mlaen llaw, a'th conglau yn llawnion o ffydd, ammynodd, a diddanwch, ni elli na myfyrrio dy hûn, na gwrando geiriau o gyssur gan eraill, na gweddio dy hûn, nac vno ac eraill i weddio trosot. Fe allai mai 'r parlys mûd a'th cymmer di, neu 'r fâth synndod marwol fel na ellych dî na chofio am Dduw, na meddwl am dy gyflwr dy hûn, ac onid wyt ti yn [Page 118] haeddu yn dda i Dduw anghofio dy waredu yn dy farwolaeth, yr hwn nid ŵyt yn meddwl ei wasanaethu ef yn dy-fywyd? ofn marwolaeth a bâr i lawer y pryd hynny lefain, Arglwydd, Arglwydd; ond y mae Crist yn tystiolaethu, nad adnebydd ef mo honynt am yr eiddo ef. Mat. 7.22. Ie llawer yr amser hynny fel Esau, trwy ddagrau a geisiant edifeirwch, ac etto ni fedrant moi gael. Heb. 12.17 O blegid nid oes gan ddŷn rydd-did meddwl i edifarhau pan fynno ei hûn, ond pan fynno Duw roi iddo ei râd. Ac os darfu i drugaredd ei dangos ei hûn mor anymbilgar nad agorai hi ei phyrth i ddeifyfyddion mor dynor a morwynion, a nhwythau mor daer a churo; Math. 25.11, 12. o herwydd ddyfod o honynt yn rhyhwyr i guro. Pa fodd y tybi di y goddef hi i ti fyth fyned iw phyrth, a thithau mor ffiaidd aflan, na feddyliaist di crioed adael pechod, nes i bechod yn gyntaf dy adael di; ac ni churaist eriodd a'th ddyrnau dy hunan a'r gyfair calon edifeirol? Oh mor gyfiawn y mae ei rhâd hi yn gommedd agori pyrth y nef, pan fŷch di yn curo yn dy angenoctid: yr hwn yn dy helaethrwydd ni oddefit i Grist, pan oedd yn curo, ddyfod i mewn i ddôr dy galon. Datc. 3.20. Na hydera a'r edifeirwch diweddar, nac a'r hir einioes: nid ar edifeirwch diweddar; o herwydd peth iw ofni yn fawr ydyw, rhag i'r edifeirwch hwnnw (yr hwn y mae ofn yn ei beri) farw gyda 'r dŷn a fo'n marw. A'r rhagrithiwr yr hwn a dwyllodd eraill yn ei fywyd, a ddichon ei dwyllo ei hûn yn ei farwolaeth. Nid yw Duw yn derbyn ond aberthau ewyllysgr; a'r edifeirwch a ryngabodd iddo ef, y mae yn rhaid iddo fod o'r ewyllys, ac nid o anfodd. Nid a'r fywyd hir, o blegid y mae henaint yn cwympo a'r wartha neu wddf ieuengtid; ac fel nad oes dim siccrach na marwolaeth, nid oes dim mor ansiccr a'r amser i [Page 119] farw. Je yn fynych o amser, pan fo addfedwch pechod yn prysuro, trwy greulonrhwydd yn pechu, y mae Duw yn ddisymmwth yn torri ymmaith fucheddwyr drygionus, naill a'i a'r cleddyf, anghymmedroldeb, glothineb, neu 'r cyfryw glefyd gwrthwynebus: Oni weli di mai 'r yspryd drwg sydd yn rhoi yn dy ben, oedi dy edifeirwch oni elych i'th henaint; Pan yw esamplau beunyddiol yn dangos i ti, nad oes vn o fi [...] a'r sydd yn byw a'r dy lwybr di, fyth yn ei chyrhaeddyd? Gàd i sanctaidd Yspryd Duw dy gynhyrfu di, rhag ymroi o honot mwyach i fwyta as iyfed gydâ 'r meddwon, rhag i'th feistr ddanfon angau am danat yn y dydd ni bŷch yn meddwl am dano, ac mewn awr ni bŷch yn ei ddisgwyl, ac felly yn ddisymmwth dy dorri di ymmaith, a rhoddi i ti dy gyflog gyd a'r rhagrithwyr, lle y mas wylofain a rhingcian dannedd. Mat. 24.48, 49, 50, 51. Eithr o ceri di fywyd hir, ofna Dduw, a bydded hir gennit am fywyd tragwyddol. Dih. 3. 1, 2. Y bywyd hwyaf pan ddêl i'w ddiben eithaf, nid ymddengys ei fod ond fel chwedl a ddywedpwyd, tarth yn diflannu, cysgod yn cilio, breuddwyd, llysieuyn yn tyfu, ac yn blodeuo y borau, a phrydnawn y torrir ef ymmaith, ac, a gwywa; neu fal gwennol gwehydd, yr hon wrth ei thaflu yma a thraw, a ymddadlisa yn fuan i ddiben. Psal. 90.5, 9. Jag. 4.14. Psal. 109, 23. ac. 76, 5. 1 Pet. 1.24. Esay. 38.12. Nid yw ond munyd, (medd St Paul) O ynfydrwydd dŷn gan hynny yr hwn er cael mwyniant pechod dros amser, a anturia golli tragywyddol bwys gogoniant. 2 Cor. 4.17.
Dymma saith brif rwystrau Duwloldeb, y rhai sydd raid eu bwrw allan, fel y saith gythraul o Fair fagdelen, cyn i ti fyth allu dyfod yn wir ymarferwr Duwioldeb; neu gael dim diogel obaith i fwynhau, naill a'i ffafr oddiwrth Grist drwy râd, a'i cymdeithas gyd a'g ef mewn gogoniant.
Y clò cyngan.
I Ddiweddu 'r cwbl; yn gymmaint a'th fod ti yn gweled nad wyt heb Grist, ond caethwas i bechod, aillt i angau, ac ymborth i bryfed, ath feddyliau yn ofer, a'th weithredoedd yn ddiffaith, a'th lawenydd yn b [...]in yn cael dechreuad, ath trueni byth heb adnabod terfyn: Pa ŵr doeth ai yn wysg ei ben i'r cyfryw vffernol boenau, er cael o honaw ef wrth fyw mewn pechod, ynnill iddo ei hùn dros amser emerodraeth Angustus, cyfoeth Croesus, neu hyfrydwch Salomon, cyfrwysdra Achitophel, neu ddainteithfwyd ac esmwthwisc Dives? O ran beth â dal i ddyn (fal y mae ein Iachawdwr yn dywedyd) ynnill yr holl fyd dros amser, a cholli ei enaid ei hûn yn vffern yn dragywydd.
A chan dy fod vn agwedd yn gweled faint yw dy ddedwyddwch yn Ghrist, ac mor ofer yw y rhwystrau, sydd yn cau rhyngot ti ac ef: gochel (fel y mae 'r Apostol yn cynghori) siommiant pechod. Heb. 3.13. Canys y pechod hwnnw, yr hwn sydd yr awrhon yn rhyngu bodd i'th natur llygredig, a fydd ryw ddydd yn elyn i'th enaid cystuddiol: ac (yn y cyfamser) cyn y dirnedech a galeda dy galon ddiedifeiriol.
Y mae pechod fel Sarph yn ymddangos yn dêg i'r golwg, ond gochel y colyn sydd yn ôl: strwyth gwenwynllyd yr hwn, pes adwaenit, di fyddit mor ofalus i ffo rhag pechod, ac rhag y sarph. Canys,
1. Pechod ni wnaeth erioed ddaaioni i neb; a pha fwyaf o bechod a wnel dŷn, mwy ffiaidd y mae yn ei wneuthur ei hûn ger bron Duw, a mwy casâus ger bron dynion daionus.
2. Pechod a dynnodd ar dy vchaf di, yr holl wrthwynebion, Colledion, gwarthruddiau, a [...]hlefydau [Page 121] a'r a ddigwyddodd i ti erioed. Ynfydion (medd Dafydd) Oblegid eu camweddau, ac o herwydd eu hanwireddan a gystuddir. Psal. 107.17. Y mae Jeremi dan gwynofain yn gofyn yr achos; Pa ham y cystuddir dŷn byw? a'r Y spryd glân yn atteb; dyn a gystuddir am ei bechod. Galar-nad Jer. 3.39. O hyn y mae 'r Prophwyd yn llefain yn alarus yn erbyn pechod, megis yn erbyn yr achos o'u holl othrymderau: gwae ni yn awr bechu o honom. Galarn. 5.16.
3. O ni edifarhei di yn fuan am dy bechodau, hwy a dynnant arnat ti etto fwy o ddialedd, gwrthwynebion, colledion, cywilydd, a chospedigaeth nac a ddigwyddodd i ti hyd yn hyn. Darllain Leuit. 26.28. &c. Deut. 28.15. &c.
4. Ac yn ddiweddaf oni thefli di bechod ymmaith, (pan gyflawnir dy anwiredd) Duw a'th teifl di ymmaith am bechod. Gen. 15.16. Oblegit fal y mae ef yn gyfion, felly efe a all ladd a thaflu i vffern holl bechaduriaid calon galed anedifeiriol. Os tydi gan hynny a fynni ochel ffrwythau melldigedig pechod yn y bywyd hwn, a'r digofaint tragywyddol dyledus iddo yn y byd a ddaw, a'th sicrhau dy hûn, nad wyt ti yn un o'r rhai a roddwyd heibio i fod yn golledig; yno gâd i'm cyngor i (o bechadur truan) fod yn gymmeradwy gennit: Torr ymmaith dy bechodau trwy gyfiawnder, a'th anwireddau wrth ddangos trugaredd i'r trueiniaid. Dan. 4.27. O bydded bellach ddiwygiad o'th amryfussedd. Ni ddywedodd Nathan ond vn ddammeg, ac fe droed Dafydd. 2 Sam. 12.1, 2 [...], 4.13. Ni phregethodd Jonas ond vnwaith i Niniueh, a'r holl ddinas a edifarhaodd: Jon. 3.5. Nid edrychodd Crist ond vnwaith ar Bedr, ac efe a aeth allan ac a wylodd yn chwerw dôst. Luc. 22.62. Ac yn awr gan dy fod ti yn fynych, ac yn gariadol yn cael dy ddeisyfu, nid gan brophwyd, ond gan Grist Arglwydd [Page 122] y prophwydi: iê a bod Duw ei hûn, drwy ei gennadon yn attolwg i ti gyttuno ag ef: 2 Cor. 5.20. gâd ymmaith dy odineb, gyd â Dafydd, edifarhâ am dy bechodau fel gwir Ninifit; a thra byddo Crist o'i drugaredd yn edrych arnat, gâd ymmaith dy gyfeillion drygionus, ac wyla yn chwerwdost am dy feiau anwireddus.
Na fodlona mo honot dy hûn a'r grefydd ffurfiol, yr hon a luniodd gwyr diadenedig iddynt eu hunain, yn lle duwioldeb ddiragrith; Canys mewn amldra opinionau, y mae y rhan fwyaf agos wedi colli yr ymarfer o wir ffydd. Na thebyg fod yn Gristion digon da, o blegit dy fod di yn gwneuthyd fel y mae y rhan fwyaf, ac o ran nad wye yn gynddrwg a'r gwaethaf. Nid oes dŷn yn y byd mor ddrygionus, a bod ei ymarweddiad yn tueddu at bob mâth ar feiau. O herwydd y mae anghysondeb [Antipathi] rhwng rhai beiau a'i gilydd. Ond cofia beth y mae Crist yn ei ddywedyd; Oddieithr i'ch cyfiawnder fod yn helaethach na chyfiawnder yr scrifenyddion, a'r Pharasaeaid, nid ewch chwi i mewn mewn un modd i deyrnas nefoedd. Math. 5.20. Ystyria ynot dy hûn belled wyt ti o ôl y Pharisaeiad mewn ymprydio, gweddio, mynych dramwy i'r Eglwys, a rhodi elusenau. Meddwl ynot dy hûn pa nifer O Baganiaid, y rhai nid adwaenent fedydd, etto mewn rhinweddau gwybodawl, a gonestrwydd buchedd, oeddynt yn rhagori llawer arnat ti. pa le wrth hynny y mae bywyd Crist dy feistr? a pha cyn belled wyt ti oddiwrth fod yn wir Gristion? Os wyt ti yn ewyllysgar yn ymroi i fyw mewn vn mâth ar bechod anafus, nid elli di gael enaid adgenedledig; er i ti ddiwygio dy suchedd mal Herod oddiwrth lawer o feiau eraill. Mar. 6.10. Y mae 'n rhaid i'r gwir gristion gymmeryd gofal i rodio mewn vniondeb calon, yn ol holl orchmynnion Duw, yn gystal yn y naill a'r llall. [Page 123] O blegit medd St. Jago, yr hwn a ballo mewn vn pwngc o'r gyfraith (yn ewyllysgar) sydd enog o'r cwbl. Jag. 2.10. Ac y mae Pedr yn erchi i ni roddi heibio (nid peth) ond holl lid, cynfigen, twyll, a rhagrith, &c. 1 Pet. 2.1. Vn pechod sydd ddigon er peri enaid yn golledig, heb edifeirwch: Na freuddwydia am fyned i'r nef rhyd ffordd negosach neu hawsach na 'r hon a linynniodd Duw i ni yn ei Air. Nid ydyw 'r ffordd i'r nefoedd yn hawdd, a chyffredin, ond cul a chyfyng: Mat. 7.14. ie cyn gyfynged ac y mae Crist yn tystiolaethu, fod yn anhawdd i ddyn goludog fyned i deyrnas nefoedd. Math. 19.23. A'r rheini sydd yn myned i mewn, nid ydynt ond ychydig: ac na eill yr ychydig rai hynny mor myned i mewn ond trwy ymdrechu: a bod rhai o'r rheini â ymdrechant heb allu myned i mewn. Luc. 13.24. Hyn a wyddei holl Seintiau Duw (tra fuont fyw yma) yn dda. Pryd yr oeddynt drwy aml ymprydiau, difrifol weddiau, mor fynych yn gwrando y gair, a derbyn y Sacramentau, a thrwy y cyfryw amldra o ddagrau heilldion yn crefyddol erfyn a'r ddwylau Duw, er mwyn Crist, am gael eu derbyn iw Deyrnas.
Oni choeli di hyn o wirionedd; yr wyf fi yn hyspysu i ti mai 'r diafol yr hwn sydd yn peri i ti yr awrhon goelio, fod yn hawdd it fyned i'r nef, a ddywaid it yn ôl hyn ei fod yn waith anhawsaf yn y bŷd. Os wyt ti gan hynny yn chwennych ynnill sicrwydd diogel o iechydwriaeth i'th enaid, ac i fyned y ffordd union i'r nefoedd; cais yn ebrwydd mal morwyn ddoeth olew duwioldeb yn llusern dy ymarweddiad: fel y gellych fod mewn parodrwydd gwasdadol i gyfarfod y Priodfab, pa vn bynnag ei dêl, a'i trwy farwolaeth, a'i trwy Farn. Math. 25.1. Yr hyn fel y gellych yn haws ei wneuthur, Bydded hyn yma i ti yn ymarfer beunyddiol.
Y modd y mae i ŵr neillduol ddechrau y borau mewn Duwioldeb.
CYn gynted ac y deffroech y borau cadw ddôr dy galon yn gauad, na chaffo meddylfryd bydol fyned o'i mewn nes dyfod o Dduw i'w mewn yn gyntaf: a gâd iddo ef o flaen pawb eraill gael y lle cyntaf ynddi. felly pob meddyliau drygionus, naill a'i ni feiddiant fyned i mewn, neu fe ellir yn haws eu cadw hwynt allan: ac fe fydd y galon a mwy o flâs sancteiddrwydd a Duwioldeb arni yr holl ddiwrnod a'r ôl hynny. Eithr oni bydd dy galon a'r dy ddeffrôad cyntaf, gwedi ei lienwi a rhyw fyfyriadau am Dduw, a'i air, a chwedi ei thaclu fel y llusern Yn y Babell, forau, a hwyr, ag olew olewydd Gair Duw; Exod. 27.20.21. a chwedl ei phereiddib ac arogldarth gweddi: Fe gais Satan ei llenwi â gofalon bydol, ac â deisyfiadau cnawdol, hyd onid êl hi yn anghymmwys i wasanaeth Duw, yr holl ddwthwn hwnnw, heb anfon allan ddim ond drygsawr geiriau llygredig celwyddog, a llŵon cablaidd amhwyllig.
Dechrau gan hynny waith pob dydd â gair Duw, ac â gweddi, ac abertha i Dduw ar allor calon ddrylliedig, ruddfan dy Yspryd, Rhuf. 8. A lloiau dy wefusau, Hose. 13.2. Yn offrwm boreuol, a blaenffrwyth y diwrnod, a chyn gynted ac y deffroech dywaid wrtho ef fel hyn.
Neilltuol ymddiddaniad byrr pan ddeffrô dŷn gyntaf y borau.
FY enaid syddyn disgwyl am danat ti (O Arglwydd) yn fwy nac y mae y gwilwyr am y borau: Duw gan hynny trugarha wrthif, a thywynned dy wyneb arnaf, diwalla y borau hwn a'th drugaredd fel y gorfoleddwyf, ac y llawenychwyf dros fy holl ddyddiau. Psal. 130.6. Psal. 67.1. ac 90.14.
Myfyrdod Boreuol.
Yno myfyria neu feddwl.
FAl y gall yr holl Alluog Dduw (yn yr adcyfodiad) gôdi dy gorph di allan o'r bedd o hûn marwolaeth, cyn hawsed ac y gallodd ef y borau hwn, dy ddeffroi di yn dy wely allan o'th hûn naturiaeth. A'r wawriad yr hwn ddydd o adcyfodiad y daw Crist i'w ogoneddu yn ei Saint, a phob vn o gyrph y miloedd o'i Saint gwedi eu gwneuthur vn agwedd a'i gorph gogoneddus ef, yn goleuo mor eglur a'r haul. Mat. 13.43. Luc. 9.31 Phil. 3.21. A'r holl Angelion vn ffunyd, yn llewyrchu yn eu gogoniant: a chorph Crist yn rhagori arnynt oll mewn discleirdeb a gogonniant: a'r Duwdod vwch ei law yntau. Os gwna tywyniad vn Haul, i'r borau fod mor ogoneddus; Pa fâth forau disclaer gogoneddus a fydd hwnnw, yn yr hwn y bydd mil miliwn o gyrph goleuach o lawer na' [...] haul yn ymdda [...]gos, ac yn canlyn Crist, megis cymdeithion gogoneddus i ddyfod i gadw y Seshwn gyffredinol o gyfiawnder, ac i farnu Angelion drwg a dynion anuwiol? Oh ra âd i elw, difyrrwch darfode [...]g, neu wâg ogoniant y diwinod hwn, beri i ti golli dy gyfran, a'th wobr o hyfiydwch [Page 126] a gogoniant tragwyddol y dydd hwnnw, yr hwn yn briodol a elwir adcyfodiad y cyfiawn. Luc. 14.14. Act. 17.31. Y mae gan anifeiliaid lygaid i weled cyffredinol lewyrch y dydd, eithr ymgais di dy orau â llygaid dy ffydd i ragweled goleuni gogoneddus y diwrnod yma.
2. Ni wyddost ti mor agos attat ti yr ydoedd yr yspryd drwg (yr hwn ddydd a nos mal llew rhuadwy sydd yn rhodio oddiamgylch dan geisio dy ddifetha di, 1 Pet. 5.8.) Tra roeddit yn cyscu, ac na ellit ti moth waredu dy hun. Ac na wyddost ti, pa ryw niwâid a wnaethai i ti, oni bai i Dduw (yr hwn ni chŵsc ac ni hûna) dy amgylchu di a'th eiddaw, a'th ymddiffyn a'i Angelion sanctaidd bendigedig. Psa. 121.4. Psa. 34.7.
3. Pan glywych di y ceiliog yn canu; cofia Bedr i wneuthur a'r ei ôl, galw ith gof geilioglais soniarus yr vdcorn ddiwethaf, yr hwn a'th ddeffry di oddiwrth y meirw. Ac ystyria ymhâ gyflwr y byddit ti pe vdcanai ef yr awrhon, ac ymrô i fod yn gyfryw, ac y mynnit dy fod y pryd hwnnw: rhag yn y dydd hwnnw, i ti ddymuno na buasit erioed yn gweled y dydd hwn: a melldithio dydd dy enedigaeth naturiol, eisiau bod wedi dy eni o newydd trwy râd ysprydol. Pan gano 'r ceiliog, y mae 'r lleidr yn anobeithio am ei speilfa, ac yn gadael ymmaith ei amcan a'i fwriad y noson honno: felly y cythraul sy 'n peidio a cheisio gwall ym mhellach, pan glŷwo ef yr enaid bucheddol yn deffroi ei hûn a boreuol weddi.
4. Cofia fod yr Hollalluog Dduw ynghylch dy wely yn gweled dy orweddiad i lawr, ath cyfodiad i fynu: yn deall dy feddyliau, ac yn gydnabyddus a'th holl ffyrdd, Psal. 139.2.3. Cofia yr un ffunud fod ei Angelion sanctaidd, y rhai a wiliodd trosot, ac a'th amddiffynnodd trwy 'r nos, yn gweled hefyd y [Page 127] môdd y deffroaist, ac y codaist. Gwna bob peth gan hynny megis yngwydd yr ofnadwy Dduw, ac yngo [...]wg ei Angelion sanctaidd. Gen. 32.1, 2. Psalm. 91.5.11.
5. Tra fŷch yn gwisco dillad am danat, cofia mai yn orchudd cywilydd y rhoddwyd hwynt a'r y cyntaf a nhwy yn ffrwyth pechod: a'i bod wedi eu gwneuthyd o arwiscoedd crwyn, ac amhuredd anifeiliaid meirwon. Am hynny pa vn bynnag a ystyriech, ai 'r defhydd ai 'r ordeinhâd cyntaf: y mae i ti felly achos fechan i falchio o honynt: Ac achos fawr i fod yn ostyngedig wrth eu gweled a'i gwisco: gan weled nad yw 'r gwiscoedd gwerthfawroccaf, ond llen wych i oruwchguddio y cywilydd budraf. Myfyria yn hytrach mai fal y mae dy wisc yn gwasanaethu i guddio dy gywilydd, ac i gadw dy gorph rhag anwyd: Felly y dylit ti fod mor ofalus i guddio dy enaid a'r wisc briodas honno, sef cyfiawnder Crist; (yr hwn o ran bod ein ffydd iw dderbyn) a elwir cyfiawnder y Saint. Rhuf. 13.14. Datc. 19.18. Rhag tra fôm ni wedi ein trwsiadu yn wychion yngolwg dynion, ein bod yn noeth (a'n holl anharddwch i'w weled) yngolwg Duw. Eithr gallael o honom ein cuddio ein hunain â chyfiawnder Duw (megis a mantell) oddiwrth warth tragywyddol: ac achlesu ein heneidiau oddiwrth yr oerni tanbaid, yr hwn a bair wylofain a rhingciandannedd. Matth. 22.13. Ystyria gyd â hynny pa fâth bobl fendigedig a fyddai ein cenedlaeth ni, pe bai bôb gwîsc o sidan yn cuddio enaid sancteiddiedig. Ac etto fe dybiai ddŷn, mai oddiwrth y rhai, y cyfrannodd Duw fwyaf o'i ddonniau oddiallan iddynt, y dylai ef gael mwyaf diolch oddifewn. Eithr os prifia yn amgen fe brifia eu taledigaeth yn drymmach yn nydd eu cyfrif. Luc. 12.48.
Ystyria fel y mae trugaredd Dduw yn adnewyddu [Page 128] itti bôb borau, gan roddi i ti megis bywyd newydd; ac yn peri i'r haul (yn ôl ei yrfa ddibaid) gôdi drachefn i roi i ti oleuni. na âd gan hynny i [...] oleuni gogoneddus dywynnu 'n ofer; eithr achub y blaen yn hytrach ar gyfodiad yr haul (cyn fynyched ac ei gellych) i dalu diolch i Dduw: gan ymostwng i lawr ar dâl dy liniau wrth erchwyn dy wely, cyfarch ef ar dorriad y dydd â rhyw foreuol ddefosiwn, neu erfynniad neillduol; yn cynnwys cyffes ostyngedig am dy bechodau, maddeuant am dy gamweddau, a diolch am ei holl ddonniau, a deisyf ei rafusol ymddiffyn i'w Eglwys, ac i ti dy hûn, ac i bob peth perthynasol i ti.
Addysc ferr o'r modd y mae darllain yr scrythyrau sanctaidd vnwaith bob blwyddyn trostynt, yn hawdd, yn fuddiol, ac yn barchedig.
ONd megis ac y mae ffydd yn enaid, felly darllain a myfyrio ydynt dad a mam gweddi.
Am hynny cyn i ti weddio y borau, yn gyntaf darllain bennod yngair Duw, yno myfyria dros amser wrthit dy hûn pa bethau godidog a fedri di eu cofio o honaw.
Yn gyntaf; pa gyngor ac addysc at weithredoedd da, neu fuchedd sanctaidd.
Yn ail: pa fygythiau o farnedigaeth yn erbyn y fâth a'r fâth ar bechod, a pha ryw esampl ofnadwy o gôsp a dialedd Daw ar y fâth a'r fâth bechaduriaid.
Yn drydydd, pa fendithion a addawodd Duw i ammynedd, ddiweirdeb, drugaredd, eluseni, zêl nen ddyfal serch yn ei wasanaethu, gariad perffaith, ffydd, a gobaith yn Nuw, a'r cyfryw rinweddau Cristianogawl.
Yn bedwerydd, pa sawl ymwared grasusol a weithredodd [Page 129] Duw: pa fâth fendithiau hynodol a dywalltodd ef, ar yr rhai a fuont weisioncywir a gwresog iddo.
Yn bumed, cymmer y pethau hyn at dy galon dy hûn, ac na ddarllain mor pennodau hynny, megis historiau ofer, eithr megis cynnifer o Lythŷrau, neu Epistôlau gwedi eu hanfon i sawr oddiwrth Dduw o'r nefoedd attat. Canys pa bethau bynnag a scrifenwyd o'r blaen, er addysc i ni yr scrifenwyd hwynt, Rhuf. 15.4.
Yn chweched, darllain hwy gan hynny trwy 'r fâth barch mal pe bai Dduw ei hûn yn sefyll yn dy ymmyl ac yn llafaru y geiriau hyn wrthit, i'th annog di ir cyfryw rinweddau, ac i droi dy feddwl oddiwrth y cyfryw ddrygioni: gan dy sicrhau dy hun os cair y fath bechodau (a'r rhai yr ydwyt yn darllain am danynt yna) ynot ti heb edifeirwch, y daw y cyfryw ddialedd arnat; eithr os arferi di a'r cyfryw Dduwioldeb, a gweithredoedd bucheddol, y cyfryw fendithion a ddigwydda i ti a'th eiddaw.
I fôd yn fyrr, casgl y cwbl a ddarllennech di yn yr Scythur Sanctaidd, a dyro hwy at y ddwy golofn arbennig yma, sef naill a'i i gryfhau dy ffydd, a'i i chwanegu dy edifeirwch: Canys megis yr oedd sustine & abstine, cyd-ddwg ac ymattal, yn grynodeb o fywyd Philosophydd dd: felly crede & resipisce, crêd ac edifarha, ydyw 'r cwbl o broffess gwir Gristion.
Vn pennod a ddarllenner fal hyn trwy ddealldwriaeth, ac a fyfyrier arno dan gymmeryd attat dy hun, a bortha ac a gyssura dy enaid, yn well na phump a ddarllennir ac a redir drostynt heb ddal sulw ar yr ergyd na 'r synwyr, ac heb gymmeryd ystyriaeth o honaw tu ac attat dy hûn. Os darllenni di dri phennod bôb dydd yn y môdd hyn: sef, vn y borau, yr ail brydnawn, a'r trydydd y nôs, (a darllain rhai o'r Psalmau yn lle llith, cynifer ac a osodwyd yn llyfr gweddi gyffredinol yr Eglwys iw [Page 130] darllain a'r foreuol neu brydnawnol weddi) di ddarllenni yr holl scrythur canonical yn y flwyddyn, oddieithr chwe phennod, yr hyn a elli eu ychwanegu at dâsc y dydd olaf o'r flwyddyn. Darllen y Bibl mewn trefn, a'th hyffordda di i ddeall yn well yr histori, a meddwl yr ferythur sanctaidd. Am yr Apocrypha, yr hyn a scrifennwyd trwy Yspryd dŷn, di a elli eu darllen wrth dy feddwl, a chredu iddynt cyn belled ac y maent hwy yn cydhuno a'r scrythur ganonical, yr hon a scrifennwyd trwy waith yr Yspryd glân.
Ond odid tydi a ddywedi na âd dy negesau i ti gymmaint o amser a gallael o honot ddarllen pennod bob borau, &c.
O ddŷn, cofia nad yw 'r bywyd hwn ond byrr, ac nad yw dy holl drafferthion yma ond er mwyn y bywyd byrr hwn; eithr iechydwriaeth neu ddamnedigaeth sydd dragwyddol. Cyfod yn foreuach o hynny bob borau: Siomma dy gnawd swrth o gymmaint a hynny o gyscu, ond na thwylla mo'th enaid am ei ymborth, na Duw am ei wasanaeth. Gwasanaetha yr holl Alluog yn vnion tra fych yn cael iechyd ac amser.
Gwedi i ti (mal hyn) ddarllain dy bennod a bod yn barod i weddio, cofia, fôd Duw yn Dduw sancteiddrwydd, o'r hyn y mae yn ein rhybuddio ni cyn fynyched, gan adrodd, byddwch chwi yn sanctaidd, fal yr wyf finnau yn sanctaidd. Exod. 26.36. Lev. 19.2. 1 Pet. 2.5. A phan ddinistriodd ef Nadab ac Abihu a thân disymmwth am aberthu poeth offrwm â thân dieithr. Levit. 10.2.3. (megis y rhai yn y dyddiau hyn sy 'n aberthu gweddiau o galonnau llawn o dân llid a thrachwant) ni roddodd yr Arglwydd vn rheswm arall am ei farnedigaeth ond hyn: mi a sancteiddir yn y rhai a nessant attaf. Mal pe buasai ef yn dywedyd, oni allaf fi gael [Page 131] fy sancteiddio ynddynt hwy, y rhai ydynt weision i mi, drwy iddynt fyngwasanaethu a sancteiddrwydd pyrthynasol; mi fynnaf fy sancteiddio arnyn [...] hwy, gan eu difa hwynt a'm barnedigaeth gyfiawn, yr hyn y mae eu hanwiredd hwy yn ei haeddu. Ni all Duw gan hynny aros aflendid, neu anharddwch ewyllyscar, yn y rhai a'i gwasanaetho ef: yn gymmaint ac y gorchymynnodd ef i'r Israeliaid, pan fyddent yn y maes yn erbyn eu gelynnion, gloddio â rhaw-ffon i guddio yr hyn a ddaethai oddiwrthynt: ei reswm ydyw, O herwydd bodyr Arglwydd dy Dduw yn rhodio ym mhlith dy wersyllau, i'th waredu, ac i roddi dy elynion o'th flaen di; am hynny bydded dy wersyllau yn sanctaidd; fel na welo ynot ti ddim brynti, a throi oddiwrthit. Deut. 23.13.14.
Os myn ef i wyr fod mor sanctaidd yn amser rhyfel yn y maes: pa faint mwy o sancteiddrwydd, y mae ef yn ei ddisgwyl a'r ein dwylaw ni yn amser heddwch yn ein tai? Am hynny medd Zophar yn Job. Pen. 11.13.14. Os dydi a baratoi dy galon, ac a estynni dy ddwylaw at yr Arglwydd i weddio, os oes ddrygioni yn dy law, bwrw ef ymmaith ym mhell, ac na ddioddef i anwired drigo yn dy luest ai. Canys fel y mae Esay yn dywedyd, Pen. 1.15. O bydd dim afl [...]ndid yn ein dwylaw ni (hynny yw, un mâth ar bechod, am yr hwn nid ydym yn edifeiriol) er ini estyn ein dwylaw atto ef, a gwneuthur llawer o weddiau, fe guddia'r Arglwydd ei lygaid oddiwrthym, ac ni wrendy mo'n erfynniau. Am hynny cyn i ti weddio, gad i Dduw weled dy galon yn gystuddiedig am dy bechod, a'th feddwl gwedi ymroi yn ollawl (trwy gynnorthwyad ei râd ef) i wellhau dy fuchedd. Ac yno gwedi ymolchi a thaclu dy gorph â gwisc fel y gweddai i'th alwedigaeth, ac i ddelw Dduw, yr hon a ddugi, cae ddôr dy stafell, discyn a'r dâl dy ddeulin wrth erchwyn dy wely, neu ryw fan gyfleus arall: [Page 132] ac mewn môdd parchedig derchafa dy galon ynghyd a'th ddwylaw, a'th lygaid, fel yngwydd Duw, yr hwn sydd yn gweled meddylfryd yr enaid o'i fewn, Offrymma 1 Dduw oddiar allor calon ddrylliedig, dy weddi yn aberth boreuol, trwy gyfryngdod Crist, yn y geiriau hyn, neu 'r cyffelyb.
Gweddi y borau.
HOllalluog a gogoneddus Dduw, gyflawn ddiymgyffred Allu, a Mawrhydi, gogoniant yr hwn ni ddichon nef y nefoedd ei gynnwys: Edrych i lawr o'r nefoedd arnaf fi dy was anheilwng, yr hwn wyf yma yn fy ymddarostwng fy hun, wrth droedfaingc gorseddfa dy râd, ac edrych arnaf (o Dâd) trwy deilyngdod a chyfryngdod Jesu Grist dy anwyl Fab yn yr hwn yn vnig i'th fodlonir, O blegit honof fy hûn, nid wyf deilwng i sefyll ger dy fron, neu i lefaru am gwefusau aflan wrth y fâth Dduw sanctaidd ac ydwyt ti. Canys ti a wyddost, mai mewn anwiredd i'm lluniwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf. A darfod i mi ollawl fyw mewn anwiredd: fal y torrais dy holl orchymynnion sanctaidd, trwy ddeisyfiadau pechadurus, meddyliau aflan, geiriau drygionus, a gweithredoedd diffaeth: gan adael heb wneuthur lawer o weithredon Duwioldeb, yr hyn yr wyt yn ei erchi i'th wasanaeth, a gwneuthur llawer o'r drygioni, yr hyn a waharddaist tan boen cospedigaeth dy ddigofaint di.
[Yma y gelli di gyfaddef dy ddirgel bechodau wrth Dduw,1 Bren. 8.27. Dan. 9.18. Psa. 51.5. y rhai sydd drymmaf ar dy gydwybod: a dangos y lle a'r amser a'r sut a'r modd y troseddaist, gan ddywedyd: [Page 133] ond yn enwedig yr ydwyf fi yma yn cyffessu o ddyfnder calon wrthit.] &c.
Ac am y pechodau hynny, (O Arglwydd) yr wyf yn sefyll yma yn euog o'th felldith, a holl drueni y bywyd hwn â thragwyddol gospedigaeth yn nhân vffern yn ôl y bywyd gresynus hwn, os ty di a deli i mi yn ôl fy haeddedigaethau. Ie Arglwydd yr wyf yn cyfaddef mai dy drugaredd sydd yn parhau yn dragywydd, a'th tosturiaethau byth ni phallant: hynny yw 'r achos nas darfu am danaf er ys dyddiau. Eithr gyd â thi (O Arglwydd) y mae trugaredd, ac amlder o ymwared. Gan hynnny: yn amlder dy drugaredd, a'm cyfan ymddiried yn haeddedigaethau Crist yr wyf yn deisyf a'r dy dduwiol Fawrhydi, nad elych i'r farn a'th wâs, ac na chraff a a'r fy anwiredd: canys os gwnei ni chyfiawnheir nêb byw yn dy olwg di. Eithr bydd drugarog wrthif, a golch ymmaith holl frynti fy mhechod, â haeddedigaethau y gwerthfawrocaf waed yr hwn a dywalltodd Jesu Grist drosof. A chan weled iddo ef oddef pwys y felldith, yr hon oedd ddyledus i'm pechodau i: O Arglwydd gwared fi oddiwrth fy mhechodau, ac oddiwrth yr holl farnedigaethau sydd goruwch fy mhen yn ddyledus i mi am danynt: a phellhâ hwy o'th olwg, cyn belled ac yw y dw [...]rain oddiwrth y gorllewin: cladda hwynt ym medd Crist: fel na ffrwythont fyth i gyfodi yn f'erbyn, i'm cywilyddio yn y byd hwn, nac i'm heuog-farnu yn y byd sydd ar ddyfod. Ac nid wyf yn attolygu it yn vnig (O Arglwydd) olchi ymmaith fym mhechôdau â gwaed dy ôen difrycheulyd;Galaru. 3.22. Psa. 130.4. Psal. 143.2. Eze. 3.6.25. 1 Joa. 1.9. Psal. 103.12. eithr glanh u fynghalon hefyd oddiwrth bydrni fy llygredigaeth anianol: Fel y clywyf dy Yspryd ar gynnydd yn llâdd pechod ynof yn ei allu a'i weithrediad. Fel y gallwyf â mwy rhydd-did [Page 134] meddwl, ac ewyllys vfudd, dy wasanaethu di y tragwyddol Dduw, mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder y dydd heddyw. Dyro i mi râs mal trwy gynhyrfiad, achyfarwyddyd dy sanctaidd Yspryd hwnnw, y parhâwyf i fod yn wasanaethwr ffyddlon, a diffûant i ti hyd diwedd fy enioes: Mal pan ddibenno y bywyd marwol hwn, y gallwyf fod yn gyfrannog o anfarwoldeb, a dedwyddwch tragwyddol yn dy deyrnas nefol. Yn y cyfamser o Arglwydd, tra byddo yn rhyngu bodd i'th rhadlawn ewyllys, fod o honof fi yn aros i dreilio, ac i ddibennu y cyfrif bychan sydd yn ôl o'm dyddiau yr hyn a ordeiniaist i'm i fyw yn y dyffryn hwn o drueni: dysc i mi felly gyfrif fy nyddiau, fel y dygwyf fy nghalon i ddoethineb. Ac fel y chwanegech di ddyddiau at fy einioes, felly o Arglwydd daionus chwanega edifeirwch a gwellhâd at fy nyddiau; i fod, megis yr elwyf mewn blynyddoedd, yn cynnyddu mewn grâs a ffafr gyd â thi, a chyd â'th hôll bobl. Ac er mwyn hyn cynnyscaedda fi â'r holl râdau a wyddost eu bod yn ddiffygiol ynof, ac yn angenrheidiol i mi, a phar gynnydd ar yr holl ddoniau da, â drefnaist i mi yn barod: fel y gallwyf â mwy nerth ddilyn y cyfryw fywyd duwiol ac ymarweddiad bucheddol ac y byddo dy enw di yn cael ei ogoneddu, eraill yn cymeryd athrawiaeth dda oddiwrthif, am enaid yn cael ei ymborthi yn llawen â thynghneddyf cydwybod, ac yn llawnach ô orfoledd yr Yspryd glân. Ac yma (O Arglwydd) yn ol fy rhwymedig ddlêd, y talaf i't ddiolch o eigion calon ostyngedig, am yr holl fendithiau, y rhai o'th ddaioni a dywelldaist arnaf:Luc. 1.74.75. Mat. 24.13. Psal. 90.12. yn enwedig, am ddarfod i't o'th cariad haelionus, yn ôl dy ragluniaeth dragywyddol fy ethol i cyn seiliad y byd, fal y byddwn yn sanctaidd ynghrist Jesu: [Page 135] Am ddarfod i ti fynghreu ar dy lûn dy hunan, a dechreu edfrydu [...] ynof, yr hyn a gollwyd yn fy hynafiaid cyntaf: am ddarfod i ti fyngalw trwy waith dy Yspryd ym mregethiad yr Efengyl a derbyniad y Sacramentau, i wybodaeth dy râs cadwedigol, ac i vfydddod dy ewyllys bendigedig: Am ddarfod i ti fym mhrynu am gwaredu o boenau vffern a chaethiwed Satan, â gwerthfawrocaf waed dy vnig-anedig Fab: am ddarfod i ti trwy ffydd yn Ghrist fynghyfiawnhau i, yr hwn o herwydd natur ydwyf blentyn y digofaint: am ddarfod i ti fy sancteiddio i mewn mesur da, â'th Yspryd glân, a rhoddi i mi gyhyd o amser i edifarhau, a hefyd moddion yr edifeirwch. Yr ydwyf yn diolch i ti hefyd Arglwydd daionus, am fy mywyd, fy iechyd, fynghyfoeth, fy ymborth, fyngwisc, fy nhangneddyf, fy hawddfyd, am helaethrwydd; ac am ddarfod i ti fy ymddiffyn y nôs hon, oddiwrth oll niweidiau a pheryglon y corph a'r enaid, am cadw yn ddiangol hyd dechreu y dydd heddyw. Ac fel y darfu i ti ddeffroi fynghorph o gwsc, felly attolwg deffro fy enaid o bechod a diofalwch cnawdol: Ac fel y peraist i oleuni y dydd lewyrchu yn fy llygaid corphorol; felly O Arglwydd daionus, pâr i oleuni dy air a'th Yspryd sanctaidd ddiscleirio yn fynghalon: Dyro i mi râs i rodio (megis vn o blant y goleuni) mewn oll ostyngeiddrwydd y dydd hwn ger bron dy wyneb: fel y gallwyf ymegnio i gadw ffydd à cydwybod lân yn wastad tuac attat ti a dynion, yn fy holl feddyliau, geiriau a gweithredoedd. Bendithia felly Arglwydd graflawn fy holl fyfyriadau am gorchwylion, y rhai a gymmerwyf yn llaw y dydd heddyw,Luc. 16.8. Phil. 2.15. 2 Cor. 2.5.10. mal eu byddont yn tueddu at dy ogoniant di, daioni eraill, ac at ddiddanwch fy enaid am cydwybod fy hûn, yn y dydd ei bwyf yn rhoi y [Page 136] cyfrif diwethaf ger dy fron di, am danynt. Oh fy Nuw cadw dy wâs na wnelwyf ddim drwg i nêb y dydd hwn: a rhyglydded bodd i'th cwylls bendigedig, na allo 'r cythraul, nac vn o'i angelion melldigedig, nam gelynion llidiog wneuthur i mi ortrech ddrwg neu niwaid. Eithr bod o lygaid dy ragluniaeth i wilio drosof am ddaioni, ac nid am ddrwg: A gorchymyn i'th Angelion sanctaidd gastellu o'm hamgyloh, i'm hymddiffyn, a'm cadw i, yn fy mynediad allan, am dyfodiad i mewn, fel yr addewaist, eu caent wneuthur o amgylch yr rhai a ofnent dy enw. Canys i'th law di o Dâd y gorchymynnaf fy enaid, fyngorchwylion, a chwbl oll a'r a feddaf i gael eu cadw, eu hymddiffyn, a'i coleddu gennit: gan fod yn hyspus, na ddichon dim niwaid drwg ddigwyddo i'r peth a gymmerych di yn dy gadwraeth. Ac os digwydda i mi vn amser y dydd hwn trwy wendid dy anghofio di, etto yr wyf yn attolwg i't, (O fy Nuw) yn dy drugaredd fÿnghofio i. Ac nid wyf (rasol Dád yn vnig yn gweddio drosof fy hûn, eithr yn deisyf arnat fôd yn drugarog wrth dy holl Eglwys, a'th bobl etholodig, ple bynnag y maent yn wascaredig yn byw ar wyneb y ddaiar. Cadw hwynt rhag llid, digofaint, a chreulondeb y cythraul, y byd, a'r Anghrist. Dyro i'th Efengyl rwydd-deb rhydd a gorfoleddus trwy'r bŷd, er mwyn troad y rhai a berthynant i'th deyrnas, a'th etholedigaeth.
Bendithia yr Eglwysydd a'r teyrnasoedd (lle yr ydym ni yn byw) â thynghneddyf, eyfiawnder, a chrefydd dda. Ymddiffyn Fawrhydi y brenin, rhag ei holl elynion a channiadhá iddo hir hoedl mewn iechyd,Zac. 3.2. Psal. 91.11. Nehem. 13.31. a dedwyddwch, i lywodraethu arnom. Bendithia y Frenhines, y tywysog, a'r holl dwysogawl heppil. Chwanega ynddynt adonniau ardderchawg, [Page 137] a rhádau Ysprydol, fel eu byddont gymhesur i'r llêodd a drefnaist iddynt. Hyffordda holl Arglwyddi 'r cyngor, Escobion, gweinidogion yr Eglwys, a fwyddogion, i lywodraethu 'r bobl, mewn gwir ffydd, tanghneddyf, cyfiawnder, ac vffydddod. Bydd drugarog wrth yr holl frodyr y rhai a'th ofnant, ac a alwo ar dy enw. A chyssura gynifer o honynt, ac sydd yn glaf, neu yn ddigynnorthwy mewn corph neu feddwl: bydd gariadus yn enwedig, wrth yr holl rai sy 'n goddef adfyd a chystudd er mwyn tystiolaeth i'th wirionedd, a'th Efyngyl sanctaidd: A dyro iddynt ymwared grasusol allan o'i holl flinderau, yffordd y gwelo dy dduwiol ddoethineb fod yn orau: er gogoniant dy enw, helaethrwydd i'th wirionedd, ac er mwyn chwanegu eu cyssur au diddanwch. Prysura dy ddyfodiad o Iachawdwr bendigedig, a therfyna y dyddiau pechadurus yma. A dyro i mi rás i fod fel morwyn ddoeth yn barod, ag olew yn fy llusern, ith cyfarfod ti priodfab fy enaid: pa vn bynnag ei delych a'i yn nydd marwolaeth, a'i yn nydd y Farn: Ac yno Arglwydd Jesu tyred pan fynnych: ie Arglwyd Jesu tyred ar frŷs. Hyn a phôb donniau eraill, a wyddost ti fod yn ddiffygiol ac yn angenrheidiol i mi, y dydd hwn ac yn dragywydd, yr wyf yn ymbil, ac yn deisyf yn ostyngedig eu cael ar dy law o Dád grasusol: Gan roddi i ti dy ogoniant, yn y ffurf ar weddi a ddyscodd Crist ei hûn i mi ddywedyd wrthit. ‘Ein tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw, &c.’
Myfyrdod i'n hannog i weddio y borau.
OS bydd Satan, pan fyddych yn amcanu gweddio, yn ceisio gennit goelio fod dy weddiau yn rhyhir, ac am hynny fod yn well i ti, naill a'i [Page 138] ei gadael hwy heibio, a'i eu torri yn fyrrach: Myfyria, mai gweddi yw 'r aberth ysprydol â'r hon y rhyngir bôdd Duw: Heb. 13.15, 16. Ac am hynny y mae yn anfodloni y cythraul, ac mor wrthwynebus i'th cnawd. Plŷg gan hynny dy serch (byd mynnu bid peidio) at y fâth ymarfer sanctaidd: Gan dy sicrhau dy hun fod hynny yn rhyngu bôdd i Dduw yn fwy, o gymaint ac y mae yn anfodloni dy gnawd ti.
2. Nac anghofia, fel y mae 'r Yspryd glân yn rhoi ar lawr megis yn brifnod ar golledigion: ni alwant ar yr Arglwydd: ni alwasant ar Dduw: Psal. 14.4. A phan feddyliodd Eliphaz i Job dorri ymmaith ofn Duw, a darfod i Dduw ei fwrw ef allan o'i ffafr ef, y mae yn ei argyoeddi am attal ei weddi ger bron Duw: Job. 15, 4. gan wneuthur y naill yn achos o'r llall. Or tu arall addaw o Dduw: Pwy bynnac a alwo ar enw 'r Arglwydd cadwedig fydd. Rhuf. 10.13. Y Mae 'n ddiau y neb ni wnêl gydwybod o'i ddylêd i weddio, nad oes mo râd yr Yspryd glán ynddo ef. Canys Yspryd y grâs a gweddi ydyw yr un, Zech. 12.10. ac am hynny y mae grás a gwedi yn myned ynghŷd. Ond yr hwn a fedro (nos a borau.) weddio at Dduw a chalon edifeiriol, diogel ei fod yn cael ei fesur o râd yn y bŷd hwn: ac y caiff ei ran or gogoniant yn y byd sydd i ddyfod.
3. Cofia mai fel y mae llysiant ar fwyd, a phoen wrth ddywedyd; yn ddau arwydd o gorph clwyfus: felly diffygiant mewn gweddi, pan fych yn ymddiddan á Duw, a diofalwch yn gwrando, pan fo Duw drwy ei air yn llefaru wrthit tithau, ydynt ddau arwydd diammau o enaid clwyfus.
4. Galw i'th côf ddyfal grefydd y Christianogion yn yr Eglwys gynfydedig, y rhai a dreilient lawer noswaith gyfan i wilio ac i weddio, er cael maddeuant [Page 139] am eu pechodau: Ac fel y byddent barod erbyn dyfodiad Crist. Ac megis nad oedd ddigon gan Ddafydd weddio nôs á borau, á phrydnawn, eithr fe godai i fynu hefyd hanner nos i weddio at Dduw, Psal. 55.16.17. Psal 119.62. Ac o darfu i Grist edliw, a cheryddu ei ddiscyblion, am na wilient un awr gyd ag ef i weddio, Mat. 26.40. Pa gerydd a haeddit ti, yr hwn wyt yn tybied fod pedwerydd ran awr yn rhyhir i't i weddio? Os darfu i ti dreilio llawer awr yn edrych ar chwaryddiaeth ofer, ie diwrnodau a nosweithiau cyfan, yn chwarau disiau, a chardiau i fodloni dy gnawd; bydded cywilydd gennit dybied fod gweddi o hyd pedwaredd ran awr, yn beth rhyhir i'w hymarfer i wasanaethu Duw.
5. Ystyria, os ydyw y Papisdiaid, yn eu hofergoel dywyll, mewn tafodiaith anadnabyddus, am hynny yn ddiadeiladaidd, 1 Cor. 14.15. (yr hyn yn unig a weddai i blant Babilon ddirgelaidd fawr, Gen. 11). yn rhuo, ac yn mwmlio forau a hŵyr gymmaint ugeuniau o Ave Mariau, a Phater Nosterau, a'r eu Padêrau, a gweddiau i addoli delwau: Pa fodd y byddant hwy yn eu crefydd ofergoelaidd yn codi yn y farn yn d'erbyn di, yr hwn wyt yn addef dy fod dy hun yn wir addolwr i Grist? Os wyt ti yn tybied fod y gweddiau hyn yn ormod tâsc, y rhai o ran maint sydd fyrrach na'u rhai hwynt, ac o ran ffrwyth o lawer yn fwy buddiol, yn unig yn tueddu at ogoniant Duw, a'th ddaioni dithau, a chwedi eu cynnill ynghyd allan o ymadroddion yr scrythur lân, megis y gallech di lefaru wrth Dduw, yn gystal yn ei eiriau bendigedig ei hun, ac yn dy dafodiaith gartrefol dithau. Bydded cywilydd gennit fod y Papisdiaid yn eu hofergoelus addoliad o'r creaduriaid, Yn eu hymddangos eu hunain yn fwy crefyddol na thydi yn [Page 140] addoli y gwir a'r unig Dduw: Joan. 17.3. Ac mewn gwirionedd gweddi mewn crefydd neillduol, a ddylai fod yn ymadrodd parhaus, ac nid yn ddrylliedig ddarnau.
6. Yn olaf, pan ddêl y fâth feddyliau yn dy ben, naill ai i'th cadw oddiwrth weddio, ai i beri i't abergofi gweddio: cofia mai y rheini ydynt yr ehediaid a anfonodd yr un drwg i ddifa 'r hàd da, a chyrph dy aberthau ysprydol: eithr ymegnia gyd a'g Abraham, iw gwylltio hwynt ymmaith. Math. 13.4, 19. Gen. 25.11. Etto er hynny o byddi di yn deall at ryw amser, fod dy yspryd yn syfrdan, a'th feddwl yn anghymmwys i weddio, ac i grefydd sencteiddiol, na ymdrech ormod y pryd hynny; eithr tan dy ymostwng dy hun wrth glywed dy wendid, a'th syfrdanrhwydd, gan wybod fod Duw yn derbyn y meddwl ewyllysgar, 1 Cor. 8.12. (er ei fod wedi ei orthrymmu gan fauch y cnawd) ymegnia amser arall i dalu ynghyfair dy anewyllysgarwch yn awr, gan ddyblu dy Zêl; ac am yr amser presennol gorchymmyn dy enaid i Dduw yn y weddi ferr yma, neu 'r cyfryw.
Gweddiforeuol arall sy ferrach.
GWir rasusol Dduw a thrugaroccaf Dâd, myfi dy wâs anheilwng wyf yma yn cydnabod, mai fel i'm ganwyd mewn pechod, felly y bum fyw mewn anwiredd, ac a dorrais bôb vn o'th orchmynnion mewn meddwl, gair, a gweithred; gan ddilyn deisyfiadau fy ewyllys fy hun, a thrachwantau fy nghnawd, heb ofal gennif am fy ymddwyn fy hun yn ôl dy air, a'th Yspryd sanctaidd di: Ac am hynny yr wyf yn haeddu yn gyfiawn oll gywilydd [Page 141] a thrueni yn y bŷd hwn, a thragwyddol ddamnedigaeth yn hân vffern, pe gwobrwyit fi yn ôl dy gyfiawnder di, am haeddedigaeth innau. O herwydd pa ham, o nefol Dád, yr wyf yn attolygu i ti (er mwyn dy fáb Iesu Grist, ac er mwyn teilyngdod y farwolaeth chwerw a'r dioddefaint creulon, yr hyn yr wyf yn ei gredu a ddioddefodd trosof) faddau a phardynu i mi fy holl bechodau, am gwaredu oddiwrth y cywilydd a'r d [...]ledd, yr hyn sydd ddyledus i mi o'i plegid. Ac [...]on dy Yspryd glán i'm calon, yr hwn a'm sicrhao i o'th fod ti yn Dad i mi, a minnau yn fâb i tithau, a' th fod i'm caru á chariad digyfnewidiol: a gâd i'th vnrhyw Yspryd fy nhywys i yn y gwirionedd, a chroeshoelio fwyfwy, ynof holl gnawdol a bydol drachwantau, fel y do pechod fwyfwy yn marweiddio ynof: ac fel y gallwyf dy wasanaethu di, mewn diragrithiol gyfiawnder, a sancteiddrwydd y dydd hwn, a holl ddyddiau fy mywyd: fel pan ddiweddo y bywyd marwol hwn, y galiwyf (drwy dy drugaredd Yng-Hrist) fod yn gygyfrannog o'th ogoniant tragwyddol yn dy nefol deyrnas. Ac yma O Arglwydd, yr wyf o eigiawn calon, yn diolch i ti, am yr holl fendithiau a dywelldaist a'r fy enaid, a'm corph: am fy ethol i o'th gariad, fyngwaredu drwy dy Fâb, a'm sancteiddio drwy dy Yspryd glân, am fy ymddiffyn o'm ieuengtyd hyd y dydd hwn a'r awr bresennol, o'th ragluniaeth tra-grasusol.
Yr wyf yn diolch i't yn bendifaddeu, am fy ymddiffyn y nos hon, oddiwrth bôb peryglon, a niweidiau, a'm dwyn yn ddiangol hyd dechrau y dydd heddyw. Yr awrhon O Arglwydd daionus; yr wyf yn attolwg i ti, cadw fi rhag llaw oddiwrth bôb drwg niweidiol i mi, ac rhag syrthio i fewn vn mâth ar bechod gorthrwm i ennyn dy ddigofaint di: gosod dy ofn o flaen fyngolygon, a'th Yspryd i reoli fynghalon, [Page 140] [...] [Page 141] [...] [Page 142] halon, megis y byddo y cwbl oll a feddyliwyf, a ddywedwyf, ac a wnelwyf y dydd heddyw, yn tueddu at dy ogoniant di, daioni eraill, a thangneddyf fynghydwybod fy hûn. Ac er mwyn hynny, yr wyf yn fyngorchymmyn fy hun, fy llwybrau, am gweithredoedd, a chwbl a berthynant i mi, i'th rasusol hyfforddiad a'th cadwraeth di; gan ddeisyfu arnat eu cadw hwynt a minnau, rhag pob drwg: a rhoddi dy râd a'th fendith ar ein holl l [...]fur onest a'n amcanion bucheddol. Ymddiffyn yr holl Eglwys rhag creulondeb y bŷd, a'r Anghrist. Cadw ein Brenin grasol rhag pob twyll a bradwriaeth: cennadhâ iddo lywodraethu arnom yn hir, ac yn ddedwyddol. Bendithia y Frenhines, y Tywysog. Cynysgaedda hwynt a'th nefol râd, a gwared hwy rhag pob drwg. Bendithia yr holl eglwyswyr, a'r swyddogion, â'r cyfryw ddonniau, a rhadau, ac a wyddost ti fod yn angenrheidiol iw lleodd. Synnia ar bawb a'r a'th ofnant, ac a grynant wrth glywed dy farnedigaethau. Cyssura bawb a'r sydd yn glwyfus, ac yn ddiymwared. Arglwydd cadw fi drwy ffydd, ac edifeirwch mewn gwasdadol barodrwydd im diwedd: Fel pa un bynnag ai byw ai marw fyddwyf, i'm ceir yn eiddot ti, i'th ogoniant di, a'm iechydwriaeth dragwyddol innau, trwy Jesu Grist fy vnig Iachawdr. Yn yr hwn enw bendigedig, yr wyf yn erfyn y trugareddau hyn ar dy law, ac yn rhoddi i ti dy fawl a'th ogoniant yn y weddi a sancteiddiodd ef ai wefusau ei hûn, gan ddywedyd.
Ein tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.
Ychwaneg o fyfyrdodau i'n hannog ni i weddio y borau.
NA thybia, fod negesau na thrafferth yn y bŷd (er maint a fyddont) yn escus gweddol i adael gweddi foreuol ymmaith, eithr myfyrria.
1. Mai pa fwyaf fô dy negesau, o ran hynny y mae i ti fwy achos i weddio am rad Duw a'i fendith arnynt: gan weled fod yn sicr na lwydda dim, heb ei fendith ef.
2. Fod llawer dŷn pan fai yn ei dybied ei hûn ddiogelaf, yn cael ei wrthwynebu yn gyntaf o'r cwbl, felly y gelli dithau.
3. Fyned llawer dŷn allan o'i ddrws ac heb ddychwelyd byth yn ei ôl drachefn. Llawer dŷn a gôdodd yn iach lawen y borau, ac a gaed yn farw cyn ynos, felly y gall ddigwyddo i tithau. Ac o byddi mor ofalus (cyn dy fyned allan) i ysed, er mwin cadw dy gorph rhag awyr ddiffaith; pa faint mwy gofalus y dylit ti fod weddio i ymddiffyn dy enaid rhag profedigaet [...]u neweidus?
4. Nad yw 'r amser a dreuliaist ti yn gweddio, yn rhwystro dim, eithr yn hyfforddi, ac yn llwyddo dy waith a'th negesau.
5. Mai, pan fyddych yn myned allan i drin y byd, dy fod yn myned i anialwch llawn o beryglon anadnabyddus: lle y cyfarfyddi á llawer miaren i ddryllio dy enw da, llawer o faglau i rwydo dy fywyd, a llawer o helwyr i ddifetha dy enaid. Maes ydyw o wellt rhywiog, eithr yn llawn o seirph gwenwynllyd. Na anturia gan hynny fyned yn noeth ym mhlîth y mieri hyn, cyn i ti ymbil á Christ am dy ddilladu di a'i gyfiawnder ef: nac i fyned trwy 'r hoenynnau a'r cynllwynau hyn, cyn i ti weddio am ragddarparwch Duw i fod i'th cyfarwyddo; [Page 144] nac i rodio yn droednoeth trwy 'r maes pryfedog hwn, nes i ti gael dy draed wedi eu hymwisgo ag esgydiau paratôad Efengyl Tynghneddyf: a gweddio fod y sarph brês yn oestadol yngolwg dy ffydd: i gael felly fod yn sicr oni ddeui adref yn sancteiddiach, na bythych ddim gwaeth na 'r pryd yr aethost di allan o'r drws.
Am hynny er maint a fyddo dy frŷs, neu er cymmaint a fyddo dy negessau, etto na ddos yn eu cylch, nac allan o'th dŷ, nes i ti or lleiaf ddywedyd y weddi ferr hon, neu 'r cyfryw.
Boreuol weddi ferr.
O Drugarog Dâd, er mwyn Jesu Grist, yr wyf yn attolygu i ti, faddeu i mi fy holl gyhoeddus a dirgeledig bechodau, y rhai ar feddwl, gair, a gweithred a wnaethym yn erbyn dy dduwiol Fawrhydi: A gwared fi oddiwrth yr holl farnedigaethau dyledus i mi am danynt, a sancteiddia fynghalon a'th lan Yspryd, fel y gallwyf o [...]yn allan arwain bywyd duwiolach, a mwy bucheddol. Ac yma o Arglwydd, yr wyf yn aberthu moliant i'th enw sanctaidd am ddarfod i ti fy niddanu i y nôs hon a chymesurdeb o gŵsg, ac esmwythdra. Yr wyf yn attolwg i ti hefyd y dydd hwn, ymddiffyn fy enaid am corph rhag pob rhyw beryglon, a niweidiau. Ac er mwyn hyn, yr wyf yn fyngorchymyn fy hunan, a'm holl orchwylion i'th fendigedig gadwraeth a'th reoledigaeth; gan ddeisyf arnat, pa vn bynnag a wnelwyf ai byw, ai marw, i mi fyw, a marw, i'th ogoniant ti, ac i iechydwriaeth fy enaid truan, yr hwn a brynaist a'th werthfawr waed. Bendithla fi gan hynny, O Arglwydd, yn fy mynediad allan, am dyfodiad i mewn: A chennadhâ pa peth bynnag, a feddyliwyf, a ddywedwyf, neu a gymmerwyf mewn [Page 145] llaw y dydd heddyw, ei fod yn tueddu at ogoniant dy enw di, at ddaioni eraill, a diddanwch fynghydwybod fy hun, pan ddelwyf ger dy fron di, i wneuthur fy nghyfrif diwaethaf. Cennadhâ hyn o nefol Dâd er mwyn dy fab Jesu Grist, yn yr hwn enw bendigedig, yr wyf yn rhoddi i ti dy ogoniant, ac yn erfyn a'r dy ddwylaw, yr holl râdau eraill, a wyddost ti eu bod yn angenrheidol i mi y dydd hwn, ac yn dragywydd, yn y weddi a ddyscodd Crist ei hûn i mi, gan ddywedyd: Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.
Myfyrdodau yn arwain Cristion, fel y gallo ef rodio yr holl ddiwrnod gyd a Duw mal Enoch.
GWedi i ti ddechrau fal hyn, gwilia mor ddyfal ac ei gellych yr holl ddiwrnod yn ôl hynny ar dy feddyliau, geiriau, a gweithredoedd: yr hyn beth a elli di ei wneuthur yn hawdd, os ymbili am gynnorthwy Yspryd Duw, a synnied yr ychydig reolau hyn.
Yn gyntaf, am dy feddyliau.
BYdd ofalus i ddodi heibio bob pechod yn y c [...] nnwrf cyntaf. Taro i lawr blant Babilon wrth y meini, tra fythont yn ieuaingc. Sathra wyau yr Asp (mewn pryd) rhag iddo dorri allan yn sarph. Psalm. 137.9. Esay. 59.5. Bydded pechod yn ddiethr i'r galon, ac nid yn cyfanneddu ynddi. Gochel gwympo yn fynych i'r vnrhyw bechod, rhag i arfer o bechu dynnu ymmaith gydwybod o bechu, ac yno yr ai mor ddigwilydd felldigedig, na wnelech di nac ofni Duw, nac anrhydeddu dŷn.
Na âd i'th feddwl ymfodloni mewn nebryw feddylfryd, [Page 146] yr hwn a fyddo, naill, ai amhossibl i ti ei gyflawni, ai anfuddiol wedi ei wneuthur: eithr yn hytrach meddwl am wagedd y byd, iw ddiystyru: am farwolaeth, i ddisgwyl am dani: am farnedigaeth iw gochelyd: am vffern i ddiangc rhagddi; ac am y nefoedd iw deisyfu.
3. Na ddeisyfia gyflawni dy feddwl ym mhob peth: eithr dysc nacau i ti dy hun y deisyfiadau hynny, (er daed y bônt yn rhyngu bodd i'th naturiaeth) y rhai pan eu ceffych a bair ogan i'th grefydd, a chasineb i tithau. Ystyrria y diwedd ym mhob peth cyn i ti ddechrau y weithred.
Chwilia beunydd fwyfwy i weled dy drueni dy hun, o achos anghrediniaeth, neillduol gariad, ac ewyllyslawn dorriad cyfraith Dduw: a gwêl ddiffyg trugaredd Dduw, trwy haeddedigaethau dioddefaint Crist i fod yn gyfryw: fel pe gofynnid i ti pa greadur waelaf ar y ddaiar? y gallo dy gydwybod atteb; Myfi fy hûn o herwydd fy mhechodau: ac o'r tu arall pe gofynnid i ti, pa beth yr wyt ti yn ei gymmeryd yn beth mwyaf gwerthfawr yn y byd? bod o'th galon i'th atteb, vn defnyn o waed Crist i olchi ymmaith fy mhechodau. Ac fel yr wyt yn prisio yn iechydwriaeth dy enaid, na fydd fyw mewn un mâth a'r bechod rhyfygus. O blegid gwir ffydd, a bwridd i bechu, byth ni chyttunant a'i gilydd.
5. Ymddangos dy fod yn wir wâs i Grist, nid yn vnig yn dy alwedigaeth gyffredinol, megis trwy fynych arfer y gair a'r Sacramentau: eithr hefyd yn neilltuol, gan wneuthur cydwybod i ochel pob pechod adnabyddus: ac i vfyddhau i Dduw ym mhob vn o'i orchymynnion: Mal Josias, yr hwn a drôdd at Dduw, a'i holl galon, yn ôl cyfraith Moeses. 1 Bren. 13.25. A Zachari ac Elizabeth, y rhai a rodiasant yn holl orchymynnion a deddfau 'r Arglwydd yn ddifeius. Luc. 1.6. Eithr o dygwydda it O wendid [Page 147] vn amser gwympo i ryw fâth ar bechod, na orwedd ynddo, eithr ymgyfoda o honaw chwypyn drwy edifeirwch difrifol; gan weddio am faddeuant, nes i'th cydwybod gael ei heddychu, a'th casineb i bechod ei chwanegu, a'th fwriad 'i wellhau ei gydffyrfio yn hollawl.
6. Gochel fod yn hoffi cael canmholiaeth wenhieithus gan y bobl: ni ddaw 'r diwedd o hynny fyth i ddaioni. Ac er i ti gael mawl trwy haeddiant rhyglyddus, derbyn yn gall, rhag iddo brifio yn fwy peryglus na diystyrwch. O blegid nid yw 'r gwyr mawr yn chwennych ond cadw yn isel y rhai a lysant hwy am eu hanneilyngdod: eithr torrant ymmaith y rhai y bônt yn eu cynfigennu am eu mawredd. Hwnnw gan hynny fydd wir vnion gall, yr hwn (wrth ystyried yr ymadrodd o'r blaen) ni byddo yn hoffi, nag yn llysu canmholiaeth. Eithr mogel er dim i feddwl anfodlongar letyfa ynot, canys fe ddichon wneuthur mwy o alaeth nag a wyddost. Trugaredd hynod yw, ym myfg y lliaws o fendithiau a gefaist, gael rhai gwrthwynebion. Y mae Duw yn rhoddi i ti lawer o fendithion, rhag trwy eisiau, a thithau yn blentyn iddo, i ti anobeithio. Ac y mae ef yn danfon rhai gwrthwynebion, rhag mewn gormod llawnder (wrth fod yn ffôl) i ti ryfygu. Llawer o'r rhai a ymgyfodafant eu hunain i vchelfreintiau, a fuasent yn eu bodloni eu hunain a breintiau îs pa gwybuasent eu mawrion beryglau: hoffa gan hynny gymmedroldeb o flaen mawredd, ac yn dy ewyllys di bydded gennit olwg ar ewyllys Duw: rhag i'th weithred dy hûn ymchwelyd yn ddinistr it' dy hunan. Dedwyddol yw 'r dyn yr hwn yn y byd byrr yma, y mae 'r bŷd yn cael lleiaf cydnabod arno, am y byddo ef yn gwir adnabod Duw, ac ef ei hûn. Pa wrthwyneb bynnag gan hynny a ddigwyddo i ti; cofia ei fod yn llai nac y mae dy bechodau yn ei haeddu. Cyfrif [Page 148] gan hynny Grist yn fwyaf llawenydd, a phechod yn fwyaf prudd-der i ti: na chyffelyba vn mâth ar eisiau, i eisiau grâs, nac vn mâth ar golled, i'r golled am ffafr Duw: ac yno yr anfodlonrhwydd oddiallan a orthrymma lai ar dy feddwl oddifewn. A chyn fynyched ac y cynnygio Satan wneuthur cynnwrf o anfodlonrhwydd yn dy feddylfryd, cofia athrawiaeth Paul, ni ddygasom ni ddim i'r byd, ac eglur yw, na allwn ni ddwyn dim allan chwaith. Am hynny o bydd genym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny. Canys y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth, a magl, a llawer o chwantau ynfyd a neweidiol, y rhai sy n boddi dynion i ddinistr, a cholledigaeth. 1 Tim. 6, 7, 8, 9. Gweddia gan hynny gyd ag Agur ddoeth: O Arglwydd na ddyro i mi na thylodi, na chyfoeth, portha fi am digonedd o fara, rhag i mi ymlenwi a'th wadu di, a dywedyd, pwy yw 'r Arglwydd: a rhag i mi fyned yn dlawd a lledratta, a chymmeryd enw fy Nuw yn ofer. Dihar. 30.8.9.
7. Na ddyro fwy o feddwl ar bethau bydol, nac sydd angenrhaid o ran cyflawni dy le, a chynhaliaeth dy fywyd: ac yn wastad gofala fwy am bethau nefol, nac am bethau daiarol; Col. 3.1.2. Phil. 3.20. a bydd [...]d mwy gofidus gennit, am yr ammarch a wnelir i Dduw, nac am y llwyrgam a gynnygier i ti dy hunan: Josu. 7.9. Psal. 139. Ond os cam neilldu ol a gynnygir i ti, cyd-ddyga fel Cristion trwy ammynedd. Ni bu erioed vn diniwaid yn cael cam, os cyd-ddygai yn ddioddefgar, nâs gorfyddai yn y diwedd. Eithr y mae dy enw da (meddi di) yn y cyfamser yn cael anaf: cyd-ddyga hynny hefyd, yn ammyneddgar: Canys yr hwn yn y dydd olaf a rydd i'th gorph di adgyfodiad, a gennadha yn ddiogel, mewn amser gweddol, adgyfodiad i'th enw da. Os ty di a fyddi yn anoddefgar, yn ymwenwyno, ac yn [Page 149] ymofidio o achos bod yn cael cam, y briw, yr wyt yn ei wneuthur it dy hûn, sydd fwy na'r hyn y mae dy wrthwynebwr yn ei wneuthur i ti. Ni elli chwaith mo|'i lawenychu ef yn fwy, na chael o hono glywed fod hynny yn dy ofidio di trwyddot. Eithr o gelli ddangos ammynedd ar y ddaiar, fe ddengys Duw ei fod ntau yn gyfion yn y nefoedd. Gweddia trosto ef; Canys os da wyt ti dy hûn, ni elli na lawenychi, o gweli dy elyn pennaf yn dyfod yn ddŷn da yntau. Eithr os ef ni ymwrthyd â'i dwyll, ac â'i falais, ymro di i weddio gan dy orchymmyn dy hun a'r achos at Farnwr cyfion nef a ddaiar, a chan ddywedyd gyd â Jeremi: O Arglwydd y lluoedd, barnwr cyfiawnder, a chwiliwr yr arennau a'r galon: dialedd sydd eiddot; i ti y datcuddiais fy nghwyn. Jer. 11.20. Yn y cyfamser gwilia (gyd â Dafydd) am yr Arglwydd: bydd o gyssur da, ac ef a ddiddana dy galon.
8. Pa fwyaf a ganmolo eraill arnat ti am ryw weithred odidog, bydd dithau fwyaf gostyngedig yn dy feddylfryd dy hûn. Nac ymhoffa mewn gwâg ganmholiaeth dynion; yr oedd y forwyn Fendigedig mewn ymdrech meddwl, pan gafodd hi ei gwir ganmol gan yr Angel. Hwynt hwy a glodforir gan Angelion yn y nef, y rhai a ochelant ganmholiaeth dynion ar y ddaiar. Nid rhaid i ti chwaith mo'th canmol dy hun; os da gwnei, di gei ddigon i gyhoeddi dy foliant. Na fydd ymosyngar i wybod gweithredoedd rhai eraill, eithr yn hytrach bydd ofalus, na wypo nêb arall vn gamweithred o'th eiddo di.
9. Na chyfrif vn pechod yn fychan, canys y mae dial Duw yn ddyledus i'r lleiaf: ar lleiaf a'th fwriasai di yn golledig, oni buasai i Fâb Duw farw drosot. Bydded gresynus gennit (wrth hynny) drueni dy gyflwr dy hûn: ac fel y byddo 'r achos yn gofyn galara am anwiredd yr anser, Eze. 9.4. gweddia ar i Dduw [Page 150] ei wellhau, ac na fydd di vn or rhai, a'i gwnelo yn waeth.
10. Yn ddiweddaf, mynych-feddwl fyrred yw dy enoics a sicred yw marwolaeth: a dymuna enioes dda, o flaen enioes hir; Canys fel y mae yn well vn diwrnod o enioes dŷn na'r oed hw yaf i garw neu i gigfran: felly vn dydd gwedi ei dreilio mewn dwywawl grefydd, sydd werthfawrocach na holl fywyd dŷn a ddarfyddo yn halogedig.
Moes vnwaith gan hynny bob dydd, rifo dy ddyddiau, i dynnu ymmaith y rhai a ddarfuont, (mal breuddwyd neithiwyr a ddiflannodd) a thynnu ynghyd, y rhai sydd i ddyfod, (gan fod y naill hanner iw cysgu allan, a'r llall yn heibulus, gan orthrymderau y byd, dy afiechyd dy hûn, a marwolaethau cynneseifiaid) gan gyfrif yn vnig y dydd presennol yn eiddot ti; yr hwn treilia fel pe bai heb fod i ti iw dreilio vn dydd ond hwnnw.
Yn ail, am dy eiriau.
COfia fod yn rhaid i ti roi cyfrif am bob gair segur: Mat. 12.36. a bod y gŵr doethaf wrth siarad gormod, yn myned tu hwnt iddo ei hûn. Dihar. 10.19. Gochel gan hynny bôb anibennus ag ofer siarad, o'r hyn anfynych y daw diddanwch, a thramynych edifeirwch: yn enwedig mogel attebion byrbwyll, pryd y mae y tafod yn rhedeg o flaen y meddwl: y gair oedd eiddot ti tra cedwaist ef i mewn, y mae 'n eiddo arall cyn gynted ac yr aeth allan. O gywilydd a gwarth, pan fyddo tafod dŷn ei hun yn dyfod yn dŷst yn ei erbyn, i wradwyddo ei wyneb ei hunan. Ynteu bydded dy eiriau yn anaml, ac yn bwyllig: rhagfyfyria ydyw y peth yr wyt ar fedr ei ddywedyd, yn weddaidd iw ddywedyd: na haera fwy nag a wypych ti ei fod yn wir, a dewis dewi o [Page 151] flaen siarad yn ddiffrwyth, neu chwedleua rheswm di-ddenfydd. Jag. 1.19.
2. Eled dy galon a'th dafod ynghyd mewn honestrwydd, a gwirionedd, cashá ragrith, a chelwydd mewn arall, ffieiddia ynot dy hun: neu fo ffieiddia Duw dy di am hynny. O blegit y mae ef yncashau y dŷn celŵyddog a'r cythraul ei Dad ef vn ffunyd. 1 Pet. 2.1. Psal. 3.2. Os gwybyddir vnwaith dy fod heb wneuthur cydwybod o ddywedyd celwydd; ni choelia vn dŷn mo honot pan fyddych yn dywedyd y gwirionedd; Os celwyddog i'th adwaenant, pryd y traethech wir ni'th coeliant, eithr o byddi yn caru y gwirionedd, fe a goelir i'th air di o flaen llwf vn celŵyddog. Mawr yw 'r meddiant sydd gan Satan ar yr rhai a ymarfero a dywedyd celwydd, megis na fedrant ond dywedyd celwydd, er na byddo iddynt elw yn y byd oddiwrtho: ac er na bô neb arall yn peri iddynt ei ddywedyd. Na âd i'th ddigofaint barhau wedi ei darfyddo 'r achos: gwêl byth ragoriaeth, rhwng yr hwn sy'n gweuthur cam o herwydd ei wendid (neu yn erbyn ei ewyllys,) a'r hwn sy'n trawseddu oi lawnfryd yn falaisus; gâd i'r naill gael trugaredd, ac i'r llall gael cyfiawnder.
3, Cadw dy ymadrodd oddiwrth bob budreddi a ferthrwydd, mor lân, ac y mynnit gadw dy fwyd oddiwrth wenwyn; a bydded dy ymadrodd yn gyfryw ac a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, ac yn peri grâs ir gwrandawyr: Eph. 4 29. Bydd mwy difrifol yn siarad am y grefydd, nac yn siarad am bethau bydol.
O Deelli i't gyfeiliorni, nag ymdro yn wargaled i aros yn dy fai; gorfoledda wrth gael y gwirionedd, a mawryga ef. Myfyria gan hynny ar dri pheth, sef i ddeall yn dda, i ddywedyd yn dda, a gwneuthur yn dda. A phan gyfarfyddych di â phlant Duw, [Page 152] bydd sier o gynnill rhyw leshâd o ddiwrthynt, dysc ganddynt gwbl ac a ellych o ddaioni, a chyfranna ag hwynt yr holl bethau daionus a wyddost dithau. Pa fwyaf o ddaioni a ddyscech i eraill, mwyaf a ddysc Duw i tithau, Marc. 4.24.25. Canys megis y mae rhoddion dynion wrth hir ymarfer o honynt, yn delwi, ac yn darfod: felly y mae donniau Duw o'i hir ymarfer yn cynnyddu, ac yn chwanegu; Megis ysteneid o olew y wraig weddw ddyledog, yr hwn pa fwyaf a dywalltai hi o honi, fwyfwy a fyddai ynddi, 2 Bren. 4.2.
4. Gochel gredu y cwbl a ddywedpwyd i ti, ac na ddywed y cwbl a glywych di: Canys os gwnei, ni chei di hir feddu cyfeillion eywir, na byth eisiau blinderau trymmion. Preg. 3.7. Luc. 2.19. Am hynny mewn cyhuddiadau, bydd yn gyntaf ddiogel o'r gwirionedd, yno barna. Ac fel yr wyt yn prisio geirda calon honest, na ad fyth i gasineb mewn drygnaws beri i ti adrodd, yr hyn a ddarfu i gariad mewn cymdeithas dy rwymo di (er ys hir o amser) iw gadw yn gyfrinachol. Eithr rhag ofn y fàth wyniau, synnia ddau beth:
Yn gyntaf, er maint dy gydnabyddiaeth, na wna yr vn yn gefeillfrawd o'th cyfrinach, ond vn a fyddo yn gwir ofni Duw, y cyfryw nid rhaid i ti byth moi ofni. Canys o digwydda i chwi amrafaelio mewn rhyw bethau neillduol, etto cariad cristianogawl, prif sail eich cyfeillach, ni chwympa ymmaith byth; ac ni chynnwys ofn Duw iddo ef, wneuthur dihirdra â thydi.
Yn ail, na wna ddim yngŵydd dy gyfaill dinasol, am yr hyn ni elli fod yn ddiangol, oddieithr ei gadw yn gyfrinachol: nag vn peth am yr hwn (o daw achos) y bydd rhaid i ti ei ofni; os ef a brifia i fod yn elyn anafus i ti. O gwnaethost ti ddim ar fai, gofyn [Page 153] faddauant i Dduw, a pherswadia dy di dy hun, ac nid dy gyfaill, i gadw dy gyfrinach dy hun. Canys bydd ddiogel pa gefeillach bynnag, a osodir ar sail amgen nag ar wir grefydd, os yr achos o honi a fetha, y mae'r gyfeillach yn myned i'r gwellt: Ac yn hytrach, o herwydd fel y mae Duw yn magu gwirionedd, heddwch, a chymdeithas ymhlith dynion, mal y byddem fyw i wneuthur daioni y naill ir llall: felly y mae 'r cythraul beunydd yn hau celwydd, amrafael, a gelyniaeth, i beri (os gall ef) i'r cyfeillion anwylaf, ddifetha eu gilydd.
5. Na wna goeg-ddigrifwch o wendid vn arall: cofia dy vn dy hunan. Ffieiddia synwyr gâs, a naturiaeth front y dŷn sydd (pan fo ei mennydd yn deall rhyw achos o watwor) yn trafaelio megis gwraig feichiog, nes cael ei ben yn rhydd oddiwrtho. Ie gwell ganddo golli ei gyfaill gorau nai wawd dihiraf: eithr o bydd ynot hoen i fod yn llawen, cymmer ofal mawr am dri pheth. Yn gyntaf, na byddo dy ddigrifwch yn gwrthwynebu iawn grefydd.
Yn ail, na byddo yn erbyn cariad perffaith.
Yn drydydd, na byddo yn erbyn diweirdeb. Ac yno bydd mor llawen ac a fynnych, yn vnig yn yr Arglwydd. Phil. 4.4.
6. Na fydded llawen gennit weled codwm i'th elyn, o blegit ni wyddost pa fodd y bydd dy ddiwedd dy hun. Eithr gorfoledda fwy wrth weled gwellhâd y dŷn dihiraf, nac wrth weled ei gospedigaeth. Na cashâ un dŷn, rhag ofn bod Crist yn ei garu: yr hwn ni fyn 'i ti gashau 'r hwn a garo ef. Yr oedd Crist yn dy garu di, pan oeddit yn elyn iddo; Rhuf. 5.8.10. Eph. 2.4. Am hynny drwy haeddedigaethau ei waed, y mae ef yn erfyn arnat er ei fwyn ef garu dy elyn: nacâ ef (a thithau yn Gristion) os [Page 154] llyfesi. Nid yw ef yn gofyn ond maddeuant o gant o geniogau am faddeuant o ddeng-mil o dalentau. Math. 18.24, 28. ac 25.28. Trugain can-mil o goronau, am ddeg-coron: Ychydig o faddeuant dŷn am anherfynol faddeuant yr holl Alluog Dduw. er i ti dybied, nad yw dy elyn yn haeddu maddeuant, etto y mae Crist yn deilwng i'w anrhyddeddu.
7. Dywed y gwirionedd, ac na ofna wyneb dŷn, pan fyddo gogoniant Duw neu ddaioni dy gymydog yn ei ofyn ar dy law: wrth ynnill câs y Tywysog lawer gwaith yr ynnillir cariad Duw: ni cheiff gwenniaith ond byr barhau mewn cymmeriad, na gwirionedd mor hir aros mewn ammarch.
8. Tybia ei fod yn gyfaill cywir ffyddlon, a ddywedo i ti dy feiau yn eglur mewn dirgelwch. Yr hwn sydd yn dy weled ti yn troseddu, ac heb ddywedyd i ti dy fai, naill a'i mai ef yn gwenhieithio i't am dy ffafr, neu ni feiddia ef rhag ofn mo'th anfodloni. Gresynus ydyw cyflwr yr hwn, wrth ei raid ni feddo un i'w gynghori. Argyoeddiad, bid gyfion bid anghyfion, pa vn bynnag a'i o enau cydymmaith, a'i o enau gelyn y delo, ni wna fyth niwaid i wr synhwyrol. O blegid os bydd hynny yn wir, dyna i ti rybydd i wellhau: os anwir, dyna ddangos i ti beth i'w ochelyd. felly ym mhob ffordd y mae yn gwneuthur gŵr câll yn well, neu yn ddichlynnach. Ond oni elli aros dy argyoeddi, na wna dithau ddim achos o argyoeddiad.
9. Na chrybwylla Dduw, ond trwy ofn ac anrhydedd, megis yn ei glyw a'i olwg. Canys gan weled nad ydym ni deilwng i arferu ei enw sanctaidd yn ein geneuau: llai o lawer y dylem ni gamarfer ei enw bendigedig yn ofer, yn ein hymadroddion. Canys ei arfer beunydd, mewn ofer, byrbwyll, neu gau lyfon, sydd arwydd diamheuus o enaid ni wir ofnodd Dduw erioed. Gweddia gan [Page 155] hynny gyd a Dafydd, pan fyddyoh i lefaru mewn rhyw achos a ddichon beri digofaint fel hyn: Gosod Arglwydd gadwraeth o flaen fyngenau: cadw ddrws fyn gwefusau, Psal. 141.3.
10. Yn olaf, bydd weddaidd yn canmol, yn wybodol yn cyfarch, yn gymdeithgar yn cynghori, yn drugarog yn maddeu, yn ffyddlon yn addo, yn hael yn gwohrwyo twrn da, heb wneuthur taledigaeth rhinwedd, yn wobrau ffafor. 2 Pet. 1.12. Rhuf. 12.10. 2 Thes. 3.15. Psal. 15.4.
Yn drydydd am dy weithredoedd.
NA wna ddrwg er gallael ei wneuthur: O blegid ni chynnwys Duw i'r pechod lleiaf (heb edifeirwch chwerwdôst) ddiangc yn ddigôsp. Na âd vn daioni a'r a ellych heb ei wneuthur. Na wna ddim allan o'th alwedigaeth, nac yn dy alwedigaeth, cyn i ti yn gyntaf gymmeryd cyngor gen air Duw, Psal. 119.101. I wybod a fyddo y peth yn gyfreithlawn, a'i na byddo; a gweddio am ei fendith ef ar dy amcannion, ag yno gwna ef yn enw Duw, â chalon lawn o gyssur; gan orchymmyn y rhâd a'r cynnydd iddo ef, yngallu yr hwn, y mae bendigo, a llwyddo pa orchwyl bynnag a ddarparwyd iw ogoniant.
2. Prydith arweinir i brofedigaeth, i wneuthur gweithred ddrwg, cofia fod Satan gyd a'i orchwyl ef. Na âd gan hynny i blentyn i Dduw fod yn offer i aill cyn ddihired. Cashá y gorchwyl, mal yr wyt yn ffioiddio yr awdur. ymofyn a'th cydwybod y ddau beth hyn: a fynnwn i i ar all wneuthur fal hyn â mi? Mat. 7.11. Pa ryw atteb a rôf i Grist, yn nydd fynghyfrif, Os fy fi (yngwrthwyneb im gwybodaeth a'm [Page 156] cydwybod) a wnaf yr anwiredd, a'r pechod hwn yn ei erbyn ef? Luc. 16.2. 2 Cor. 6.2. Cofia gyd á Joseph, er nad oes vn dŷn yn gweled, etto y mae Duw yn gweled y cwbl. Gen. 39.9.11. Ymâd gan hynny a'th holl bechodau, (gyd á Joseph) yn gystal y rhai ydynt gyfrinachol yngolwg Duw yn vnig, a'r rhai ydynt eglur yngolwg dynion. O blegit Duw fel y mae yn gyfiawn, (oddiethr i't brysuro i edifarhau) a ddwg yr holl bechodau dirgeledig i oleuni cyhoeddus, megis y dygodd rai Dafydd gar bron holl Israel, a char bron yr haul. 2 Sam. 12.12. Bydded gan hynny pechodau dirgeledig mor ofnadwy gennit, ac yw cywilydd agored. A gochel hwynt oll yn gyffredin, mal na byddych yn cennadhau i't dy hûn vn neillduol bechod anwyl, yr hwn y mae llygredigaeth dy anian yn cyttuno yn orau ag efo: oblegit fe fedr y cythraul cyfrwys-ddrwg, ddala enaid dŷn ynglŷn, cyn dynned wrth vn, ac wrth lawer o bechodau: ac yn dynnach wrth vn a fyddo yn rhyngu bodd i ti, nac wrth yr holl rai y byddych yn dechrau eu cashau. Ac fel yr wyt yn chwennych ymadael ar pechod, felly bydd ofalus i ochelyd yr achos.
3. Er mwyn cwblhau gweithredoedd da o fewn dy alwedigaeth, nac ammeu ragluniaeth Duw, er i ti weled y moddlon naill, a'i 'n weinion, a'i 'n ddiffygiol. Ac o bydd y moddion yn ymgynnig i ti bydd ddiogel eu bod hwynt yn gyfreithlon: a chwedi ei ceffych foddion cyfreithlon, gwilia hyderu mwy arnynt hwy, nac ar Dduw ei hun. Cymmeryd poen mewn galwedigaeth gyfreithlon, ydyw moddion cyffredinol Duw, drwy 'r rhai y mae Duw yn bendithio ei blant â phethau oddiallan. Gweddia gan hynny am fendith Duw ar ei foddion ef. Bydded gennit feddylfryd nefol mewn bydol a daiorol drafferth: Gwna dy egni gorau, a gorchymmyn y digwyddiad [Page 157] i ragordeiniad doethineb y goruchaf Dduw. Na feddwl gael llwyddiant wrth foddion a felldigodd Duw. Nid elw yn y diwedd yw, yr hyn a ynnillych wrth golli dy enaid, Math. 16.26. Ymmhob gweithredoedd a moddion gan hynny, ymegnia gyd â Phaul, i gadw cydwybod làn bob amser tu ac at Dduw, a dynion. Act. 24.16.
4. Câr bob pethau daionus er mwyn Duw: a châr Dduw er ei fwyn ei hûn. Tra fyddych yn dal Duw yn gyfaill it, nid rhaid i ti ofni pwy a fyddo gelyn i ti: canys naill, a'i fe a wna Duw dy elyn i fod 'yn gyfaill i ti, a'i fe a'i ffrwyna ef, fel nas gallo wneuthur dim niweid i ti. Rhuf. 8.31. Diha. 16.7. Erioed ni orchfygwyd un dŷn gan ei elyn, nes i'w bechod ef yn gyntaf gael y llaw 'n vchaf arno, a Duw ei adael ef iddo ei hûn. Yr hwn gan hynny a fynno fod yn gadwedig rhag ofn ei elynion, a byw yn wasdod yn ffafr Duw, pryned ynfydrwydd yr amser a aeth heibio ag edifeirwch difrifol: edryched at yr amser presennol trwy fanyldra Duwiol grefydd, a gwilied yr amser sydd i ddyfod trwy ragwybodaeth di-esceulus. Psal. 27.11.12, 13.
5. Dyro i bob dŷn yr a [...]hyd [...]dd dyledus iw alwedigaeth, eithr anrhydedda ddŷn [...]n fwy am ei ddaioni, nác am ei fawre [...]d Ac ar law pwy bynnag y cefaist ti dwrn da, cofi [...] ( [...] y gallu a roddes Duw i ti) fod yn ddiolchg [...] iddo. Cydnabydda hyn yn gariadus o flaen [...] a gweddia trosto at Dduw a chalon ewyllsga [...] a chyf [...]if bob bendith a dderbynniaist oddiwrth Dduw, yn [...]ydd o'i dragwyddol [Page 158] gariad, i'th cymmell i dduwiol fywyd.
6. Na falchîa o achos dy olud bydol oddiallan, nac o achos dy ddoniau ysprydol oddifewn. Nid o achos dy dda bydol oddiallan, o blegit fel eu daethant yn ddiweddar, felly yr ânt ymmaith drachefn yn ddisymmwth, am hynny y golled o honynt Sydd lai i'w chwyno. Nac am ddonniau oddifewn chwaith, canys, fel y darfu i Dduw eu rhoi, felly un agwedd efe a'i dwg hwynt ymmaith, Os (gan anghofio y Rhoddwr) y camarferi di ei ddonniau, i chwyddo dy galon à balchder o'th haeddedigaeth dy hûn; ac i ddrystyru eraill, er mwyn pa rai y darfu i'r Ollalluog Dduw dywallt y cyfryw ddonniau arnat. Oes gennit ti vn rhin dda a bair i ti feddwl yn dda am danat dy hun? y mae arnat titheu ugain o feiau a ddylai yn hytrach beri it ymddangos yn wael yn dy olwg dy hun.
Bydd yn gyfryw vn yngolwg Duw, yr hwn sydd yn gweled dy galon, ac yr wyt yn ymddangos yngolwg dynion, y rhai sydd yn gweled dy wyneb. Na ymfodlona mo honot dy hûn ag enw da oddiallan, pan fyddo dy gydwybod oddifewn yn dywedyd i ti, nad wyt yn ei haeddu, ac am hynny nid eiddo ti mo honaw. Enw da haeddedigol, am beth bynnag y byddo, oddieithr am Dduwioldeb, a bery ychydig, a llai a dàl. Ni ddarllennais erioed yn yr holl scrythyrau sanctaidd am edifeirwch rhagrithiwr; ac nid rhyfedd: Canys yn ôl pechu dychweliad ydyw yr vnig fodd sydd wedi ei adael i iachau pechaduriaid eraill; ond pa ryw fodd sydd i'w gael i'w ddychwelyd ef, yr hwn a drôdd droad ei hun yn bechod? Gwae gan hynny yr enaid nid yw, ac etto sy'n ymddangos yn fucheddol.
7. Dal sulw ar Ddihenydd ofnadwy y dynion meldigedig hynodol, i ffieiddio eu gweithredoedd drygionus; edrych ar fywyd y duwiol, fel y gellych ddyscu [Page 159] gwneuthur ar ei ôl: a'i ddiwedd bendigedig, fel y gellych gael cyssur oddiwrtho. Num. 23.10. Psal. 37.35, 36, 37. Gwna barch i'th well, dal sulw ar y doeth, cynnal gymdeithas y dyn gonest, a chár y dŷn crefyddol. A chan weled fod natur lygredig dŷn yn tueddu at Ragrith: gochel arferu crefydd yn ddibris ac yn scoewan, heb na gofal 1. a chydwybod i gynnyddu yn dduwiolach a sanctaiddiolach oddiwrthi. Ymwrando gan hynny pa fodd yr ymglywych (trwy arferu moddion Duw beunydd) yn marwhau dy lygredigaeth, ac yn cynnyddu mewn sancteiddrwydd: Ac na wna ddim llûn neu wâgfost i ymdangos, yn sancteiddiach oddiallan, nac wyt ti (yngolwg Duw) oddisewn yn dy galon. Math. 23.27, 28.
8. Cais lywodraethu y rhai sy 'n byw tan dy awdurdod trwy gariad, yn hytrach na thrwy ofn: Canys llywodraethu trwy gariad sydd hawdd a diogel, eithr gofal a dychryn a fydd byth yn canlyn creulondeb: Gortrechiad a bair i'r rhai a ortrechir ddisgwyl odsa i fyned oddi dan yr iau, yr hon nid ydynt fodlon iw ddwyn: Ni âd cyfiawnder Duw chwaith, i lywodraeth a seiliwyd ar greulondeb barhau yn hir. Cofia er eu bod trwy ddynol ordinhâd, yn dy wasanaethu di; etto trwy briodol drefn gyfiawnach, gweision i Dduw ydynt, ie a chan eu bod yn Gristianogion, nid megis dy weision, eithr vwchlaw gweision, brodyr anwyl yn yr Arglwydd. Philem. 16. 1 Cor. 9.5. Rheola gan hynny ar Gristianogion (gan dy fod yn gristion) mewn cariad, a thrugaredd, fel Crist dy ben Athro.
9. Cofia, mai o holl weithredoedd dyn, nad oes dim yn peri fod Swyddog yn debyccach i Dduw (rhaglaw i'r hwn yw ef) nac yw, gwneuthur vniondeb yn union. O ran cyflawni yr hyn beth mal y dylit:
[Page 160]Yn gyntaf, bydded gennit ti glust agored i wrando achŵynion cyfiawn am anghyfiawn weithredoedd.
Yn ail, dod felly fenthyg vn glust i'r cyhuddwr, fel y bŷch yn cadw y llall i'r ymddiffynnwr: Canys yr hwn o farno gyd a'r naill du, cyn gwrando y ddau, er iddo farnu yn gyfiawn, y mae ef yn farnwr anghyfiawn.
Yn drydvdd, wrth wrando 'r ddeutu, na ogŵydda at y llaw ddehau o serch, nac at yr aswy o gasineb: megis i goelio rhesymman o debygoliaeth gan gyfaill, o flaen y gwirionedd eglur gan gas-ddyn.
Yn bedwerydd, na ddyro nag o gyfiawnder, (yr hyn yw regia mensura, sef mesur brenhinol,) i'r deiliaid gwaelaf. Eithr gâd i achos y gwan, a'r anghênog, y cryf, ar cyfoethog, fod yn yr vnrhyw bwysau gwastad. Os canfyddi o'r naill du mewn rhyw achos, frynniau vchel o gyfrwysdra dichellgar, ymbleidio cadarn, ag erlid haerllyg gortrech: ac o'r tu arall bannylau isel, tlodi, diniweidra, a gwendid di-ymwaredol. Paratôa dy ffordd (fel y mae Duw yn gwneuthur) i farnu, gan gyfodi pannylau, a thynnu i lawr frynniau, a rhoi anghyffelybiaeth yn gyffelyb. Luc. 3.4.5. Esay 40.3. Fel y gosodych sail dy farn ar dir gwasdad. Mewn achos o vniondeb neu gam rhwng plaid a phlaid, bydded dy gydwybod yn ofalus ius dicere i adrodd y gyfraith yr hon a wnaethpwyd, secundum allegata et probata; yn ol y pethau a haerer ac a brofer; 2 Cron. 19.10. Yn hytrach nag ius dare, i wneuthur cyfraith dy hun, yn ôl awdurdod sic volo, sic jubeo, fef felly yr wyf yn mynnu, felly yr wyf yn gorchymmyn; gan ofni y felldith honno, Deut 27.17. Melldigedig yw 'r hwn a symmudo derfyn tir ei gymmydog. Mewn achosion am fywyd neu farwolaeth, bydded Barnwyr yn gyffelyb i Elohim, mewn cyfiawnder yu cofio trugaredd; [Page 161] Hab. 3.2. Ac felly yn edrych a milain olwg Cyfiawnder ar y weithred, fel y byddo tosturus olwg Trugaredd ar y drwg weithredwr. Gan ddeongli ffafr y gyfraith i fod yn ffafr o fywyd, lle byddo grâs yn addo gwellhâd: eithr o bydd cyfiawnder yn gofyn i vn farw, rhag marw vndeb, a bod yn rhaid torri ymmaith aelod pydrllyd, rhag i'r holl gorph fadru, fiat iustitia, gwneler cyfiawnder. Eithr pan fŷch yn rhoddi y farn ar arall, cofia fod dy farn dy hun yn crogi goruwch dy ben. Ym mhob achos gan hynny barna yn gyfiawn, o blegid yr wyt ti yn ficr o gael Barnwr cyfiawn, ger bron yr hwn y mae 'n rhaid i ti ar fyrder fyned i ymddangos, i gael dy farnu dy hun: y pryd hynny y gelli di adael i'th gyfaill hyn o Farwnad yn dy ol.
Hynny yw:
Llawer sydd (ni wn i o herwydd pa ham) a ymofidiant o herwydd cyfraith y deyrnas: Eithr y gwyr a fo doeth a ddichon atteb gyd a'r Apostol, Nos scimus bonam esse Legem, modò Judex ea legitime vtatur; Nyni a wyddom mai da yw 'r gyfraith, os arfer dŷn hi yn gyfreithlawn. 1 Tim. 1.8. Ac myfi a'i galwaf ef yn Farnwr cyfiawn, calon yr hwn ni ddichon llygredigaeth gwobrau, ofn gelynnion, na chariad cyfeillion ei dynnu oddiwrth ymarfer cydwybodus a'r gorchymynnion [Page 162] yma. Ac wrth yr anaml-fâth anrhydeddus Farnwr hwnnw, y dywedaf gyd â Jehosaphat: ymwrolwch, a gwnewch gyfiawnder, a'r Arglwydd fydd gyd â'r daionus. 2 Cron. 19.11.
10. Yn ddiwaethaf, na wna vn difyrrwch yn arfer bennyddiol i ti. Nid yw yr ymarfer hwyaf o ddigrifwch ond byrr, eithr y poenau am gamarfer digrifwch ydynt dragwyddol. Arfer gan hynny o ddifyrrwch cyfreithlawn cyn belled, ac ei byddo i'th wneuthur yn dy gorph a'th feddwl yn gymmesur ach a chyssurusach i wneuthur gwasanaeth Duw, a'r dyledion perthynasol i'th alwedigaeth. Y mae dy waith yn fawr, nid yw dy amser ond byrr. Ac y mae 'r hwn sydd yn talu gwobr i bob vn fel y byddo ei waith ef, yn sefyll wrth y drws. Dad. 22.12. Jag. 5.9. Meddwl pa waith sydd etto yn ôl, mor araf y gweithiaist yr amser a aeth heibio; a pha gyfrif a fyddei gennit, pe bai dy Arglwydd yn dy alw ger ei fron y dydd heddyw. Bydd ofalus o hyn allan, i wneuthur yr elw gorau a ellych o'r amfer byrr sydd i ti yn ôl, fel y gwnai ddŷn o hên ammodau a fai ym mron myned allan: A phan fych yn bwriadu difyrru yr amser, i't dy hun, cofia leied yw amser dy enioes, ac am hynny na ellir difa llawer o hynny, mewn seguryd, digrifwch, chwaryddiaeth, a gwâg oferedd: Gan weled nad yw 'r cwbl ond yspaid byrr, iw dreilio yn gwneuthur y daioni gorau a fedrych. O blegid ni chreuwyd dŷn er mwyn ymddifyrru, ymddigrifo, neu chwareu: eithr i wasanaethu Duw mewn Crefydd yn ddyfal, ac i wasanaethu ei gymydog yn gydwybodus yn ei alwedigaeth; ac felly yw sicrhau ei hûn o iechydwriaeth tragwyddol. Cyfrif gan hynny golli 'r amser, yn vn o'r colledion mwyaf. Prŷn yr amser yn ofalus, a bydd dra-doeth iw dreilio, fel pan ddêl yr amser, yn yr hwn ni chei mor bod yn [Page 163] [...]rchwyliwr mwyach ar y ddaiar; y byddo dy Arglwydd yn dy groesawu di a'g Euge bone serue, sef da wâs da, ac yn rhoddi i ti le gwell yn y nefoedd, lle cai yn llawen fwynhau llawenydd dy Arglwydd yn dragywydd.
Prydnawnol fyfyrdod.
Yn yr hwyr, pan fyddych yn dy baratoi dy hun i gymmeryd dy esmwythder, myfyria ar yr ychydig byngciau hyn.
1. GAn weled fod dy ddyddiau wedi eu cyfrif, ac vn ychwaneg or cyfrif wedi ei dreilio: a'th fod yn agofach i'th ddiwedd o ddiwrnod.
2. Eistedd i lawr ennyd, cyn i ti fyned i'th wely, ac ystyria wrthit dy hun, pa beth a welaist, a glywaist, neu a ddarllennaist y dydd hwn, a haeddai goffadwriaeth, mwy nac a welsit, a glywsit, neu a wyddit o'r blaen, a gwna y deunydd goreu a cllych o honynt. Eithr yn enwedig galw i'th côf, pa bechod a wnaethost y dydd hwnnw, yn erbyn Duw neu ddŷn: a pha ddaioni a adewaist heb wneuthur: ac ymostwng dy hun am y ddeubeth hynny: O thebygi i ti dy hun wneuthur dim da, cydnabydda mai rhâd Duw oedd hynny, a dyro iddo ef y gogoniant, a chyfrif y dydd hwnnw yn golledig, yn yr hwn ni wnaethost ti ddim daioni.
3. Os gwyddôst i ti wneuthur vn pechod gorthrwm, trwy wendid neu brofedigaeth gref: Na ryfyga gysgu nes darfod i ti ar dy liniau wneuthur cymmod neillduol a Dduw yn Ghrist am hynny: yn gystal drwy gyffessu dy fai, a thrwy ddyfal weddio am gael gollyngdod a maddeuant. Felly wrth wneuthur dy gyfrif yn vnion â Christ bob nôs, fe fydd i ti [Page 164] lai o dâfg, wrth wneuthur y cyfrif diwaethaf, o flaen ei Fawrhydi yn Nydd y Farn.
4. Os dygwydda i ti vn dydd syrthio allan â neb, Na fachluded yr haul ar dy ddigofaint di y noson honno. Eph. 4.26. Os bydd dy gydwybod yn cyhuddo i ti wneuthur cam ag ef, cydnebydd ar bai, ac ymbil ag ef am faddeuant. Os efe a wnaeth gam a thy di, cynnyg ei gymmod iddo, ac oni chymmoda ef, etto maddeu di iddo o'th calon, Math. 5.23. Ond mewn vn modd na ryfyga fod yn ddialwr drofot dy hun. Canys felly yr wyt yn gwneuthur cam deublyg â Duw: yn gyntaf, am gynnyg dwyn cleddyf cyfiawnder o'i law ef, fel pe bai ef heb fod yn gyfiawn, ac yntau wedi cadw talu dial yn ei law ei hun. Yn ail, am gamarfer awdurdod ar ei wâs ef, heb droi 'r achos atto ef iw wrando, ac iw farnu, yr hwn sydd yn Arglwydd, ac yn Feistr i chwi'ch deuwedd. Heb law hynny, yr wyt ti yn tueddu gormod or naill du i fod yn ddialwr. O blegid pe bait ti i roi dial arnat dy hun, ti ai rhoddit yn rhy ysoafn, ac ar dy elyn yn rhy drwm. Am hynny Duw piau dial, ditheu piau maddeu.
Ac yn dystiolaeth ddarfod i ti yn ollawl faddeu iddo ef, gweddia at Dduw am gael o hono faddeuant o'i fai, a gwellhâd o'i fuchedd: ac yn ôl hynny o daw achos (o bydd yn dy allu) gwna iddo gymmwynas, a gorfoledda yn ei wneuthur: Canys yr hwn sydd yn gwneuthur daioni iw clynion, sydd yn ei ymddangos ei hun yn fab Duw, a'i wobr sydd gyd â Duw ei Dâd.
5. Nac arfera o gŵsc megis moddion i fodloni syrthni mwll dy gnawd, Eithr megis yn feddiginiaeth i adneŵyddu dy synwyrau, a'th aelodau blinion: Cymmedroldeb o gyscu sydd yn escydhau y meddwl, ac yn bywhau y corph: eithr anghymmedrol [Page 165] gŵsc sydd yn trymhau y naill, ac yn teŵychu y llall.
6. Cofia fod llawer yn myned iw gwely, ac heb gyfodi byth drachefn, hyd oni deffroer, i adgyfodiwrth lais ofnadwy yr vdcorn diwaethaf. eithr yr hwn sydd yn cyscu ac yn deffro gyd â gweddi, sydd yn cyseu ac yn deffro gyd â Christ. Os dymuni gan hynny gyscu yn ddiofal, ac yn ddiogel, ymddyro dy hun i ddwylaw Duw, tra byddych yn effro: Ac felly dôs i'th wely gyd â pharch i Fawrhydi Duw, ystyriaeth dy drueni dy hun, yr hyn a elli ei argraphu yn dy galon mewn peth mesur, trwy 'r modd hyn, neu'r cyfryw fyfyrdod.
Darllain bennod yn yr unrhyw drefn ac a osodwyd ar lawr i ti iw wneuthur yn y borau: a phan ddarfyddo i ti, gostwng i lawr ar dâl dy liniau wrth erchwyn dy wely, neu ryw le cyfleus arall yn dy stafell, a chan dderchafu dy galon, dy olygon, a'th ddwylaw, at dy D d nefol, yn enw a chyfryngdod ei sainctaidd Fab Jesu, gweddia atto ef, os oes gennit y dawn i weddio.
1. Gan gyfaddef dy bech [...]dau, yn enwedig y rhai a wanaethost y dydd hwnnw.
2. Gan ymbil yn ddifrifol er mwyn Crist am gael maddeuant, a rhyddhâd oddiwrthynt.
3. Gan attolygu ei Yspryd glân i'th rhagflaenu i wellhâu dy fuchedd.
4. Gan roddi diolch, am yr holl ddoniau a dderbyniaist, yn enwedig, am dy gadwedigaeth y dwthwn hwnnw.
5. Gan weddio am lonyddwch, ac ymwared y noson honno.
6. Gán gofio stât yr Eglwys, y Brenin, ar hiliogaeth frenhinol, Gweinidogion gair Duw, a Swyddogion, a'n holl frodyr ymweledig neu erlidiedig.
7. Yn ddiwaethaf, gan dy orchymmyn dy hun a'th eiddo iw gadwraeth grasusol.
[Page 166]Hyn oll, a elli di ei wneuthar yn y geiriau hyn, neur 'r cyfryw.
Prydnawnol weddi.
O Dra-grasusol Dduw, a thrugaroccaf Dád, yr hwn wyt o amgylch fyngwely, yn gwybod yn hysbys fyngorweddfa am cyfodiad, ac wyt yn agos at y rhai oll â alwant arnat mewn gwirionedd a phur deb. Myfi bechadur truan sy 'n attolwg i ti edrych arnaf a golygon dy drugaredd, ac nid craffu arnaf fel yr ydwyf o honof fy hun: O bleg [...]d yno ni che [...]t weled ond creadur diffaith, ac ammur, gwedi ei lunio mewn anwiredd, ac yn byw mewn pechod, fel y mae yn gywilydd gennif dderchafu fyngolwg tu ar nefoedd, gan wybod mor orthrwm y pechais yn erbyn y nefoedd, ac o'th flaen di. O blegid (O Arglwydd) mi a droseddais dy holl orchymynnion a'th union ddeddfau, nid yn unig trwy esceulusdra a gwendid, eithr trwy ryfyg ewyllyscar yngwrthwyneb fyngwybodaeth fy hun; ie yn erbyn cynnwrf dy Yspryd sanctaidd, yr hwn oedd ynfyngalw i oddiwrthynt, fel y darsu i mi anafu fynghydwybod, a digio dy Yfpryd glân, trwy 'r hwn i'm seliwyd hyd ddydd prynedigaeth. Ty di a gyssegraist fy enaid a'm Corph i fod yn demlau i'r Yspryd glân: My fi bechadur gwael, a halogais y ddau á phob mâth ar aflendid, a budreddi. Fy llygaid wrth gymmeryd difyrrwch i graffu ar oferedd, Psa. 139.2, 3.145.18.51.9. Heb. 9.6. Eph. 4.30. fynghlustiau yn gwrando ammur ac an [...]wair ymadroddion, fy nhafod yn cablu ac yn dywedyd celwydd, fy nwylaw mor llawn o amhuredd, fel y mae 'n gywilydd gennif eu codi attat: am [Page 167] traed yn fy nŵyn yn ôl fy llwybrau fy hun: fy rheswm am deall, y rhai sydd mor fywiol mewn masnach fydol, ydynt ddall, ac aneallgar, pan ddelwyf i ddadleu, neu i fyfyrio am nefol ac ysprdol bethau: fynghôf, yr hwn a ddylei fod yn dryssordŷ pob daioni, nid yw mor gymhesur a pharod i gofio dim, ac yw i gofio gwagedd ac ynfydrwydd. Ie Arglwydd trwy wybodaeth alarus yr wyf yn canfod, mai naturiol gan oll fwriad meddylfryd fynghalon fod yn ddrygionus bob amser. fymhechodau ydynt amlach na gwallt fy mhen, ac hwy a dyfasant trosof megis gwahanglwyf ffieiddiol, fel nad oes o wadn y troed hyd y pen, un man na rhan heb fod yn glwyfedig oddiwrthynt. Y maent hwy yn peri i mi ymddangos yn wael yn fyngolwg fy hun: pa faint mwy ffiaidd ydwyf gan hynny yn dy ŵydd di? Ac ymarfer o bechod gan mwyaf a dynnodd ymmaith deimlad cydwybod am bechu, ac a luscodd ar fy uchaf y fath syndra o synwyr, a chaledwch calon, fel nad yw dy farnedigaethau pan adrodder gan ffyddlon bregethwyr dy air yn erbyn fy mhechodau, yn fy nychrynu i ddychwelyd attat ti, trwy edifeirwch difrifol. A phe bai ti Arglwydd yn fyngwobrwyo, yn ol dy gyfiawnder di, am haeddigaeth innau, mi gawn wradwydd a damnedigaeth yn dragywydd. Eithr gan weled, mai o'th trugaredd anfeidrol ei gwaredaist fi hyd yn hyn, ac wyt beunydd yn gwilio am fy edifeirwch: yr wyf yn ostyngedig yn deisyf arnat, er mwyn y dirfawr Angau, ar Dioddefaint gwaedlyd a ddiod defodd Jesu Grist drosof, faddeu a phardynu i mi fy holl bechodau am hanwireddau, ac agoryd imi ffynnon redegog gwaed Crist,Esay. 1.6. Rhu. 3.15. Zech. 13.1. fel yr addewaist ei hagori tan y testament Newydd i'r edifeiriol o dŷ Dafydd: mal y byddo [Page 168] fy holl bechodau am haflendid wedi eu trochi yn ei waed, eu claddu yn ei farwolaeth, a'i cuddio yn ei friwiau, fel na ddelont byth i gael eu gweled mwyach, i'm cywilyddio yn y bŷd hwn, nac i'm heuogfarnu ger bron dy orfeddfaingc yn y bŷd sydd i ddyfod. Ac yn gymmaint o Arglwydd ac y gwyddost, nad oes ym meddiant dŷn droi ei galon, oni bydd i ti yn gyntaf roddi iddo râs i ymchwelyd: a chan weled fod cyn hawsed i ti fyngweuthur yn gyfion, ac yn sanctaidd, ac erchi i mi fod felly: O fy Nuw, dyro i mi râs i wneuthur â orchymynnaist, ac yno gorchymmyn a fynnych di, ac ti am cei yn barod i wneuthur dy orchymmyn sanctaidd. Ac er mwyn hyn dyro i mi dy Yspryd glân, yr hyn a addewaist ei roi (hyd ddiwedd y byd) i'th holl etholedigion bobl. A gád i'th vnrhyw Yspryd glân bureiddio fynghalon, iachau fy llygredigaeth, sancteiddio fy anian, a chyssegru fy enaid am corph, megis y byddont yn demlau yr Yspryd glân, ith wasanaethu di mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder holl ddyddiau fy mywyd: fel pan orphennwyf (trwy gynnorthwy dy Yspryd sanctaidd di) fyngyrsa yn y bywyd darfodedig hwn; y gallwyf yn llawen adael y byd yma, a gorchymmyn fy enaid i'th ddwylaw Tadol, mewn diogel obaith o fwynhau y bywyd tragwyddo gyd â thi yn dy deyrnas nefol, yr hon a ddarperaist i'th Seintiau etholedig, y rhai a garant yr Arglwydd Jesu, ac a ddisgwyliant am ei ddyfodiad.
Yn y cyfamser (o nefol Dâd) yr wyf yn attolwg, i'th lan Yspryd weithredu ynof y cyfryw edifeiiwch difrifol, fel y byddwyf trwy wylofain yn galaru am fy mhechodau a aethant heibio,Mat. 28.20. 1 Tim. 4.7. Mat. 25.34. trwy ofid calon yn ostyngedig am fy mhechodau presennol, ac am holl egni yn gwrthwynebu y cyfryw bechodau budron o [Page 169] hyn allan. A gâd i'th vnrhyw Yspryd glân fynghadw hefyd yn vndeb yr Eglwys, fy nhywys yngwirionedd dy air, am ymddeffyn, nad ysgogwyf byth oddiwrtho i Babeidd-dra, nac i neb ryw amryfusedd arall, na gau addoliad. Agored dy yspryd fy llygaid ledlêd, i weled pethau rhyfedd allan o'th gyfraith di. Ac agor fyngwefusau, fel y byddo fyngenau beunydd yn ymddiffyn dy wirionedd, ac yn gosod allan dy foliant. Chwanega ynof yr holl ddonniau daionus, y rhai o'th trugaredd a ganniadhauaist i mi yn barod; a dyro i mi yspryd dioddefgar, a chalon ddiwair, meddwl bodlonol, serch pur, ymddygiad gweddol, a'r holl radau eraill, a wyddost ti fod yn angenrhaid i mi, i lywodraethu fynghalon yn dy ofn, ac i vnioni fy mywyd yn dy ffafr: fel pa vn bynnag, a'i byw a'i marw a wnelwyf, y gallwyf fyw a marw i ti, yr hwn wyt fy Nuw am gwaredydd. Ac yma o Arglwydd, yn ôl fy rhymedig ddlêd, y rhoddaf i't ddiolch tramawr oddiar Allor calon ostyngedig, am dy holl ddonniau, a'th fendithion, y rhai yn rasusol ac yn helaeth a dywêlltaist ar fy enaid am corph, tu ac at y bywyd hwn, a'r bywyd sydd i ddyfod: yn bendifaddeu am fy etholedigaeth, creadigaeth, prynydigaeth, cyfiawnhâd, sancteiddiad, am hymddiffynniad o'm hieuengtyd hyd y dydd ar awr bresennol yma: ac am y diogel obaith a roddaist i mi o'm gogoneddiad. Hefyd am fy iechyd, fynghyfoeth, fy ymborth, fyngwiscoedd, am dedwyddfyd, ac yn enwedig, am ddarfod i ti fy ymddiffyn y dydd hwn aeth heibio rhag pôb peryglon a niweidiau, yn fyngorph, am henaid,Psa. 119.18. gan fynghynyscaeddu i ar holl bethau ydoedd angenrheidiol i mi. Ac fel yr ordeiniaist y dydd i ddŷn i lafurio ynddo, [Page 170] a'r nôs i gymmeryd ei esmwythdra: Felly yr wyf yn attolwg i't sancteiddio i mi gŵsc ac esmwythder y nos hon, fel y mwynhawyf hynny megis cyssur rhadlawn o'th fendith di. Mal pan ddarfyddo im corph swrth gael ei lonni a'i ddiflino â chymedroldeb o gŵsc a llonyddwch, y gallwyf a mwy nerth rodio gyd â thi, gan wneuthur y cyfryw weithredoedd da a orchymynnaist, pan ryngo bodd i'th ddwywawl allu fy neffroi y borau nessaf. A thra bwyf yn cyscu, Bydd di Ceidwad Israel yr hwn ni huna, ac ni chwsc, o'th ragluniaeth sanctaidd i'm hymddiffyn rhag pob peryglon, fel na allo Satan na'i angelion drwg, nac vn gelyn arall wneuthur i mi ddim drwg, neu niweid. Ac i'r perwyl yma, gorchymmyn i'th Angelion Sanctaidd Gastellu o'm hamgylch, i'm cadw a'm gwaredu: fel yr addewaist y caent wneuthur o amgylch y rhai a ofnant dy enw. A chan wybod fod dy enw yn dŵr cadarn, diogel i'r rhai a redant atto; yr wyf yma yn fyngorchymmyn fy hun (a chwbl a berthyn i mi) ith sanctaidd gadwraeth a'th ymddiffynniad. Os dy ewyllys bendigedig fydd alw am danaf om cŵsc: O Arglwydd, er mwyn Jesu Grist cymmer drugaredd arnaf, a derbyn fy enaid i'th deyrnas nefol. Ac o rhynga bodd it chwanegu dyddiau at fy mywyd, o Arglwydd, chwanega wellhâd at fy nyddiau; a diddyfna fy meddwl oddiwrth serch i'r bŷd, ac i oferedd bydol, a phâr i mi gymmwyso fy ymarweddiad at y nef, a phethau nefol. A pherffeithia ynof beunydd y gorchwyl da a ddechreuaist, i ogoniant dy enw, ac i iechydwriaeth fy enaid pechadurus.Psal. 121.4. Dad. 12.7. Psa. 34.7. Diha. 18.10. O Arglwydd yr wyf yn erfyn arnat am ymddiffyn, a chadw rhag pob neweid drwg, neu berigl, dy holl Eglwys, mawrhydi y Brenin, a'r Frenhines, a'r Tywysog, [Page 171] Cadw hwynt ym mhurdeb dy wirionedd, a llwydda hwynt â phob grâs, a dedwyddwch. Bendithia yr holl Bennaethiaid, Gweinidogion, a Swyddogion o'r Eglwysi ar Teyrnasau hyn, Bawb o honynt â rhadau angenrhaid iw lleoedd, a'i galwedigaethau. A bydd di o Arglwydd, yn ddiddanwch ae yn gyssur i'th holl bobl, y rhai a welaist ti yn dda eu gofwyo ag vn mâth ar glefyd, gwrthwyneb, neu gystudd. Pryssura, o Dâd, ddyfodiad ein Harglwydd ni Jesu Grist. Gwna i mi fod ollawl yn feddylgar am fy niwedd, ac am y cyfrif sydd raid i mi ei wneuthur i ti y pryd hynny: ac yn y cyfamser i ganlyn Crist yn yr adenedigaeth: mal y caffwyf gyd â Christ gyfran yn adcyfodiad y rhai cyfiawn, gwedi dibenno y bywyd marwol hwn. Y doniau hyn, a'r holl fendithiau eraill a wyddost ti (O Dâd) fod yn ddiffygiol ynof, ac yn angenrheidiol i mi, yr wyf yn ostyngedig yn ymbil, ac yn deisyfu eu cael ar dy ddwylaw,Dat. 22, 20. Mat. 19.28. Luc. 14.14. yn enw a chyfryngdod Jesu Grist, dy Fâb, yn y ffurf ar weddi a ddyscodd ef ei hunan i mi iw ddywedyd wrthit. ‘Ein Tàd yr hwn wyt. &c.’
Prydnawnol weddi arall sydd ferrach.
O Dragwyddol Dduw a nefol Dâd, oni bai fy addyscu am sicrhau trwy addewidion dy Efengyl, ac esamplau Petr, Magdelen, y Pwblican, y Mâb afradlon, a llawer eraill o bechaduriad edifeiriol, dy fod ti yn llawn o ddrugarogrwydd, ac yn barod i faddeu i'r pechaduriad trymmaf eu beichiau o bechod, Luc. 22.61. Luc. 7.47. pa bryd bynnac y dychwelant attat ti â chalonnau edifeiriol, gan ymofidio [Page 172] am eu pechodau, a deisyfu da râs: mi fyddwn gwedi anobeithio o rhan fy mhechodau heb ronyn cyssur ynof i ryfygu dyfod o'th flaen di: wrth ystyried calodwch fynghalon, afreoledigaeth fy serch, aflendid fy ymarweddiad, trwy y rhai y troseddais dy holl gyfreithiau, ac yr haeddais dy felldith, yr hyn à allai beri i'm corph gael ei gystuddio â rhyw haint echryflon, am henaid ei nychu gan farwolaeth pechod, am enw da gael ei soddi gan warth gwradwyddus, a gwneuthur fy meddiannau yn agored i bôb mâth ar wrthwynebion a damweiniau. Yr wyf yn cyfaddef O Arglwydd, Mai dy drugaredd di yw 'r achos na ddarfu am danaf. Eithr o fy Nuw, megis y darfu i'th trugaredd yn vnig attal dy farnedigaeth rhag descyn arnaf hyd yn hyn; felly yr wyf yn ostyngedig yn attolwyn i ti, yn ymyscaroedd trugareddau Jesu Grist, yn yr hwn yn vnig i'th fodlonir, na thâl i mi yn ôl fy haeddedigaeth, eithr maddau yn rhwydd ac yn rhâd i mi, fy holl bechodau, a'm hanwireddau: a golch fi yn lân oddiwrthynt â rhinwedd y gwerthfawroccaf waed, yr hwn a gollodd Jesu Grist trosof. Canys efe yw 'r vnig physygwr, a'i waed ef yw 'r vnig feddiginiaeth a ddichon iachau fy nolur. Ac efe yw 'r wir Sarph brês a all fyngwneuthur yn iach oddiwrth y gwenwyn, a'r hwn y darfu i sarph danllyd fy mhechôdau frathu a gwenwyno fy mriwedig am clwyfedig enaid. Dyro i mi (yr wyf yn attolygu it) dy Yspryd glân, i'm sicrhau o'm mabwysiad, ac i gryfhau fy ffydd, i chwanegu fy edifeirwch,Galaru. 3.22. Mal. 3.6. Col. 3.12. Mat. 3.17. Gal. 4.5. 1 Thes. 5.23. i oleuo fy neall, i buro fynghalon, i vnioni fy ewyllys a'm deisyfiadau, i'm sancteiddio trwof, fel y cadwer gwbl oll om hyspryd, fy enaid am corph, yn ddiarg yoedd yn nyfodiad ein Arglwydd Jesu [Page 173] Grist. Ac yr awr'hon O Arglwydd yr wyf yn rhoddi i't ddiolch a moliant ewyllyscar, a'm ddarfod i ti fyngwarcdu y dydd hwn, oddiwrth bob peryglon a niweidiau, er dryced i'r haeddwn, ac er maint fy anwiredd. Yr wyf yn attolwg i ti hefyd fynghadw y nôs hon, rhag y llew rhûadwy, yr hwn ddydd a nôs sy 'n rhodio oddi amgylch gan geisio fy llyngcu. Gwilia di O Arglwydd trosof y nôs hon; i'm gwared rhág ei greulondeb a'i brofedigaethau: a gad i'th trugaredd fod yn achles a tharian i mi, rhag ei angymmodol lid a'i aruthrol ddigofaint. Ac er mwyn hyn, yr wyf yn fyngorchymmyn fy hun i'th ddwylaw a'th gadwedigaeth di, gan attolygu i ti o fy Arglwydd a'm Duw, na chynhwy sech i Satan, nac i'r vn o'i aelodau dissaith allu gwneuthur i mi ddim dirdra neu niweid drŵg y nos heno. A chaniadha o Arglwydd daionus, yn cyscu ac yn effro, yn byw, ac yn marw, i mi gyscu, a deffro, byw, a marw i ti, ac i ogoniant dy enw, ac i iechydwriaeth fy enaid. Arglwydd bendithia a chadw dy etholedigion bobl ym mhob lle. Canniadhâ i'n Brenin hir a dedwyddol lywodraeth arnom, bendithia y frenhines, y Tywysog, a'n holl Swyddogion, a Gweinidogion dy Air. Cyssura bawb a'r y sydd mewn trueni, angen, neu glefyd: o Arglwydd daionus dyro i mi râs i fod yn vn o'r morwynion call, fel y paratôwyf fynghalon megis lamp yn llawn o olow ffydd, a discleirdeb gweithredoedd da, i gyfarfod yr Arglwydd Jesu, hyfryd briodf ab fy enaid, ar ei ail ddyfodiad disymmwth yn ei ogoniant. Canniadha hyn o Dâd nefol, er mwyn Crist Jesu, fy vnig Iachawdwr am Cyfryngwr,1 Petr. 5, 8. yn yr hwn Enw bendigedig, ac yn ei hynod eriau ei hunan y galwaf arnat fel i'm dyscodd:
Ein tâd yr hwn wyt yn y nefoedd &c.
[Page 174] Yn ôl hynny dywaid.
DY râd O Ar glwydd Jesu Grist, dy serch o nefol Dâd, dy gymdeithas a'th diddanwch, o fendigedig a sancteiddlan Yspryd, a fo gyd â myfi ac a gyfanneddo yn fynghalon, y nos hon, ac yn dragywydd. Amen.
Yno dán ymgyfodi gydâ pharch sancteiddiol, myfyria wrth dynnu dy ddillad oddi am danat.
Pethau i fyfyrio arnynt pan fyddych yn diosc oddi am danat.
1. FOd y dydd yn dyfod, pryd i'th ddinoether mor noeth oddiwrth y cwbl a feddi di yn y byd, ac wyt ti yr awrhon oddiwrth dy ddillad: Nid oes gennit ti gan hynny yma ond benthyg yr holl bethau dros amser, megis gorchwyliwr, a hynny i roddi cyfrif. Luc. 16.2. Am hynny tra yr ymddirieder i ti am yr orchwyliaeth hon bydd gall a ffyddlon.
‘Nudus in hunc nundum veni, quoque nudus abibo.’
sef:
2. Pan ganfyddych dy wely, pared hynny i ti feddwl am dy fêdd; Job 17.13. yr hwn sydd yr [Page 175] awrhon yn wely Crist. Canys Crist (gan roddi ei gorph sanctaidd dridiau a theirnos i orwedd yn y bedd) ai sancteiddiodd, ac (megis) a'i twymnodd ef i gyrph ei Saint, i orphywys, a huno ynddo, hyd foreuddydd yr Adcyfodiad: felly yr awrhon nid yw marwolaeth i'r ffyddlonniaid, ond hûn esmwyth, a'r bedd ond gwely Crist, lle y mae eu cyrph yn gorphywys ac yn cyscu mewn tangneddyf: hyd oni lewyrcho hyfryd foreuddydd yr Adcyfodiad iddynt, Esay. 20.26.
Cofia wrth weled dy wely. ‘Ut somnus mortis, sic lectus imago sepulchri.’
sef:
Bydded gan hynny dillad dy wely yn arwyddoccau i ti bridd y ddaiar, yr hwn a'th oruwchguddia: a'th cynfasau dy amdo: dy gwsc dy farwolaeth: dy ddeffroad dy adgyfodiad. A phan orweddych yn dy wely a deall o honot fod cyscu yn nesâu: Dywaid, mewn heddwch y gorweddaf ac i'r hunaf, canys ti Arglwydd yn unig am cyfleaist mewn diogelwch. Psal. 4.8. Fal hyn gan agoryd dy galon bob borau yn grefyddol, a'i chau drachefn bob nos â gair Duw ac â gweddi, megis â chlô ag agoriad: Ac felly gan ddechrau y dydd ag addoliant Duw, a myned rhagot yn ei ofn, a'i ddiweddu yn ei ffafr, di a fyddi sicr o gael bendith Dduw ar dy holl orchwylion, a'th amcannion y dydd hwnnw: a'r noson, ti a elli dy sicrhau dy hûn, y cei gyscu yn ddiogel, ac yn hyfryd ym mreichiau rhagluniaeth dy Dâd nefol.
Hyd yn hyn am y Duwioldob, yr hwn a ddylai [Page 176] bob Cristion ei arferu beunydd yn neulltuol. Yma y canlyn yr hyn sydd raid i Berchen tyaeth ei ymarfer gyd a'i deulu.
Myfyrdodau am dduwioldeb teuluaidd.
OS galwyd ti i gadw tŷ a thylwyth, na thybia fod yn ddigon abl i ti dy hun weddio a gwasanaethu Duw yn union, eithr rhaid i ti beri i bawb a fyddo tan dy lywodraeth wneuthur yr unrhyw gyd â thi. Am gyflawni hyn o ddlêd, yr oedd Duw yn ymfodloni cystal yn Abraham, na chelai ef yr hyn a wnai rhagddo: Canys (medd Duw) mi a'i hadwaen ef, y gorchymmyn ef iw blant, ac iw dylwyth ar ei ôl, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn, fel y dygo'r Arglwydd ar Abraham, yr hyn a lefarodd efe am danaw, Gen, 18.17.19. Ac yr oedd gan Abraham ddeunaw a thrychant o hyfforddus weision, a anesid yn ei dŷ ef; trwy nerth y rhai yr achubodd ef Lot ei nai o ddwylaw ei elynion, Gen. 14, 14. Ac y mae Josuah dduwiolwych yn tystiolaethu ger bron yr holl bobl, er syrthio o honynt oll oddiwrth wir addoli Duw, etto efe a'i dylwyth a wasanaethent yr Arglwydd, Josh. 24.15. Ac y mae Duw ei hun yn gorchymyn yn neillduol bob perchen tyaeth i athrawiaethu eu teulu yn ei Air, a'i dwyn i fynu yn ei ofn a'i wasaneth. Bydded y geiriau hyn yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw, yn dy galon. Ac hyspyssa hwynt i'th plant, a chrybwyll am danynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fynu, &c. Ofna yr Arglwydd dy Dduw a gwasanaetha ef, Deu. 6.7. Yr oedd Dafydd gwedi trefnu ei dŷ yn ôl y gyfraith ho [...], fel na chai ddyn twyllodrus drigo yn ei [Page 177] dŷ, eithr y cyfryw a wasanaethai Dduw, ac a rodiaei mewn ffordd berffaith. Psal. 101.6, 7. Yr oedd Hesther dduwiol yn dyscu ei llancesau i wasanaethu Duw mewn gweddi ac ympryd. Hest. 4.16. Ac er mwyn hyfforddi dy deulu mewn zêl w [...]esog i grefydd vnion, hoffa yn fwyaf y rhai a welych yn ymroi yn orau i wir dduwioldeb. Hynny a fydd buddiol i ti o herwydd dwy achos. Yn gyntaf, fe a fendithia Duw yn hytrach, ac a lwyddianna lafur, a gorchwyl dwylaw y cyfryw weision duwiol. Canys yr oedd Laban yn gweled fod Duw yn ei fendithio oblegid Jacob: Gen. 30.27. Ac yr oedd Potiphar yn deall, Fod yr Arglwydd gyd à Joseph yn llwyddo cwbl oll oedd tan ei law ef: ie pan daflwyd Joseph yn wirion i'r carchar, yr oedd pennaeth y carchar dŷ yn gweled pa beth bynnac a wnai ef, ei fod yn llwyddo: Ac am hynny y rhoddes pennaeth y carcha dŷ yr holl garcharorion tan law Joseph. Gen. 39.3.22.23. Yn ail, pa vnionaf y gwasanaetho dŷn Dduw, ffyddlonaf fydd ei wasanaeth i tithau.
2. Pe bai bob perchen teulu fel hyn yn ofalus yn ôl ei rwymedig ddlêd, i ddwyn i fynu ei blant a'i dylwyth yn ofn Duw, a'i wasanaeth, yn ei dŷ ei hun, yno y llenwid Tŷ Dduw yn well, ac i'r ymwelid â Bwrdd yr Arglwydd yn fynychach ar y dydd Sabboth; a llafur a phregethiad y Bigeiliaid a ddygai ffrwyth yn well nac y mae. Ni byddai strydo [...]dd y trefi, a'r dinasoedd cyn llawned o rai meddwon, anudonwyr, puteinwyr, ac halogedig watworwyr gwir dduwioldeb, a chrefydd sanctaidd; ni byddai lŷs westminster mor llawn o ymrysonau gwrthwynebus, holion ceccrus, ac ymddadlau anghristianogawl; ac ni byddai 'r carchardai bob Sessiwn mor llawn o ladron, spe [...]lwyr ffyrdd fawr, bradwyr, a llofruddion.
Eithr y sywaeth ni wna y rhan fwyaf o berchen tai [Page 178] amgenach defnydd o'i gweision, nac o'i hanifeiliaid; am y caffont hwy eu cyrph i wneuthur eu gwasanaeth, ni waeth ganddynt er i'w heneidiau wasanaethu 'r cythraul. Etto yr achwyn cyffredinol yw, fod gweision da a ffyddion yn anhawdd, ac yn anaml iw cael. Gwir; eithr yr achos o hynny yw, fod cyn amied a [...]uwiol ac halogedig Feistred: Canys esampl ac athrawiaeth meistr duwiol a bucheddol a wna was da a ffyddlon, fel y tystiolaetha esamplau o Abraham, Josuah, Dafydd, Cornelius, &c. Y rhai oedd ganddynt weision da o herwydd eu bod yn feistred duwiol, a chyfryw rai ac oeddynt ofalus i wneuthur eu gweision yn weision i Dduw.
Prif lasur a gofal llawer ydyw, codi ac ardderchafu eu tai; ac etto codont yn forau, ac elont yn hw yr i gyscu, a bwytâont far a gof alwch; fe a'r cwbl yn ofer, canys os yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, (hynny yw, codi teulu) ofer y llafuriant wrtho. Psal. 127.1.2. Canys Duw a seliodd hyn yn gyfraeth digyfaewidiol, y tywallt ei lid ar y teuluoedd ni alwasant ar ei enw ef: ie Duw a dynn y drygionus allan o'i babell, ac a'i diwreiddia o dir y rhai byw. Jer. 10.25. Psal, 52.5. Ie pan gyflawner eu hanwiredd, y gwna ef i r wlàd chwdu allan ei holl Canaanitiaid. Levit. 18.25. Am hynny gwir grefydd, a gwasanaethu Duw ymhlith teulu, ydyw 'r adeilad orau, a'r scrifenadau diogelaf i sicrhau tŷ a thir ar ddyn, a'i etifeddion. Canys y cyfiawn a etifedda y ddaiar ac a bresswylia ynddi yn dragywydd. Psa. 37.29.
Os dymuni gan hynny gael bendith Dduw arnat dy hun, a'th teulu; naill a'i cynt a'i gwedi dy neilldnoi weddi dy hun, galw ynghyd bob borau i ryw stafell gy [...]leus dy holl deulu; ac yn gyntaf, naill a'i cynt a'i gwedi dy neillduol weddi dy hun, galw ynghyd bob borau i ryw stafell gyfleus dy holl deulu; [Page 179] ac yn gyntaf, naill a'i darllain dy hunan iddynt bennod yngair Duw, neu bair i vn arall a fedro ddarilain yn llawnllythyr; O chei ennyd di elli ddeongli iddynt brif adnodau daionus; ac yno gan fyned i lawr ar dy ddeulin gyd â hwynt, mewn modd parchedig fel y dywetpwyd or blaen, cyd-weddiwch yn y modd hyn.
Boreuol weddi tros y teulu.
O Arglwydd ein Duw a'n Tâd nefol, yr hwn wyt unig creawdwr, a llywiawdwr nef a daiar, a phob peth sydd o'i mewn, yr ydym ni yn cyfaddef ein bod yn anheilwng i ymddangos ger dy fron di, gan ystyried yr aml bechodau a wnaethom yn erbyn y nefoedd, ac o'th flaen di; ac fel i'n ganwyd mewn pechod, ac yr ydym beunydd yn torri dy gyfreithiau, a'th orchymynnion sanctaidd, yngwrthwyneb i'n gwybodaeth, a'n cydwybod; er i ni wybod mai ty di yw'r creawdwr yr hwn a'n prynaist â gwaed dy unig anedig fab; a'n diddanudd, yr hwn wyt yn rhoddi i ni yr holl ddaioni a'r rhâdau sanctaidd a feddiannom yn ein heneidiau, a'n cyrph. A pha gwneit ti a nyni mal y mae ein hanwiredd a'n haniolchgarwch yn haeddu; pa beth arall o Arglwydd, a allwn ni ei ddisgwil oddiwrthit, ond cywilydd, a gwarth yn y bŷd hwn, ac yn y bŷd a ddaw digofaint a damnedigaeth dragwyddol? Etto o Arglwydd, yn ufydddod dy orchymyn, ac yn y diogel hyder sydd genym yn anrhaethol ac anherfynol drugaredd dy Fab Jesu Grist, ein Jachawdwr: Nyni dy weision truain, gan chwennych codi oddiwrth orsedfaingc dy gyfiawnder, (lle yr ydym yn gyfiawn gwedi ein euogfarnu) a dyfod ger bron gorseddfaingc dy râd, lle y mae trugaredd [Page 180] yn llywodraethu i faddau pechod aml: ydym ô eigion ein calonnau yn ostyngedig yn attolwg i ti ollwng heibio, a maddeu i ni ein holl feiau a'n hanwireddau; fel trwy rinwedd gwerthfawroccaf waed Jesu Grist, dy oen gwirion, yr hwn a dywalltodd ef yn dra helaeth er mwyn tynnu ymmaith bechodau y byd: y gallo ein holl bechôdau yn gystal gwreiddiol, a gwneuthurol, gael felly eu glanhau a'i golchi ymmaith, fel na byddont byth yn fauch arnom, ac na chyfodont yn y farn i'n herbyn. Ac nyni attolygwn i ti O Dád daionus, er mwyn dirfawr Angau a dioddefaint Crist, Na chynnwys i'r felldith ofnadwy, ar dial echrys, yr hyn y mae dy gyfraith yn ei fygwth, a'n pechodau ninnau yn ei gyfion haeddu, syrthio arnom. Ac yn gymmaint O Arglwydd, ac i'n dyscir gan dy air di, na chaîff delw-addolwyr, godinebwyr, cybyddion, ymrysonwyr, meddwyr, glothinchwyr, a'r cyfryw fucheddwyr afreolus etifeddu teyrnas nefoedd: Tywallt rád dy sanctaidd Yspryd ynom, fel y goleuo ein calonnau i ddirnad aflendid ein pechodau iw ffieiddio hwynt: ac i'n cynhyrfer fwyfwy i fyw mewn newydd-deb buchedd, a chariad i'th Fawrhydi; fel y chwanego ynom beunydd, ufydd-dod i'th air a gofal cydwybodus, a'm gadw dy orchymynnion. Ac yr awrhon O Arglwydd ni roddwn it dramawr ddiolch o ddyfnder calonnau, a'm ddarfod i ti ein bethol, ein creu, ein gwaredu, ein galw, ein cyfiawnhau, a'n sancteiddio mewn rhyw fesur yn y bywyd hwn, ac am roddi i ni ddiogel obaith o ogoniant yn dy deyrnas nefol pan ddiweddo 'r bywyd marwol hwn. Yr ydym yn diolch it hefyd am ein bywyd, ein hiechyd, ein golud, ein rhydd-did, ein ilwyddiant a'n heddwch; yn enwedig o Arglwydd am barhaus gymmorth dy Efengyl sanctaidd i'n plith, am ein harbed hyd yn hyn, a channiadhau i [Page 181] ni y cyfryw amser grasusol i edifarhau. Ni a'th folianwn un agwedd, am yr holl drugareddau eraill a dywelltaist arnom, yn bendifaddeu am ein cadw a'n gwared y nos hon a aeth heibio, oddiwrth bob niweid a allai ddigwyddo i'n Cyrph a'n heneidiau. A chan i ti ein dwyn yn ddiogel hyd dechrau y dydd heddyw, ni attolygwn i ti ein hymddiffyn a'n hyfforddi ni ynddo. Bendithia a chadw ni yn ein mynediad allan, a'n dyfodiad i mewn y dydd heddyw, ac yn dragywydd. Cysgoda nyni o Arglwydd, rhag holl brofedigaethau y fall, a channiadha i ni, fod dy Angelion sanctaidd i'n cadw, a'n gwaredu yn ein holl lwybrau.
Ac er mwyn hyn, yr ydym ni yn ein gorchymmyn ein hunain, a chwbl oll a berthynant inni, ac sydd oddiwrthym, i'th ddwylaw di a'th gadwedigaeth galluoccas. Arglwydd cadw hwynt rhag pob drwg, llwydda hwynt â phob rhadau, a llanw hwynt a'th ddaioni. Ymddiffyn nyni hefyd y dydd hwn, rhag cwympo i fewn un gorthrwm bechod: yn enwedig i'r rhai y mae ein naturiaeth ni yn hylithr i dueddu attynt. Gosod wiliadwriaeth o flaen drws ein gwefusau, fal na ddigiom moth Fawrhydi ag un máth ar ffeilsion neu amhwyllog lyfau, neu á rhyw fâth ar ymadrodd diffaith neu gelŵyddog: Dyro i ni feddyliau dioddefgar, pur a diwair galonnau, a holl radau eraill dy lân Yspryd, a wyddost ti eu bod yn anghenrhaid i ni, fel y gallom dy wasanaethu di, mewn sancteiddrwydd a chyfiawndor. A chan weled fod yn ofer holl lafur dŷn, heb dy fendith di: Bendithia bob un o honom yn ein lleoedd a'n galwedigaethau neilltuol, Ʋniona di weithredoedd ein dwylaw arnom ni, ie llwydda ein g [...] chwylion; Canys oddieithr i ti ein harwain ath [...]ad▪ ni eill ein hamcannion ddibennu 'n dda. A darpar [...] ni O Dâd, yr holl bethau a wyddost ti fod arn [...]m [Page 182] eu heisiau, i'n heneidiau, a'n cyrph y dydd heddyw. A channiadha i ni fedru myned trwy bererindod y bywyd byrr hwn, fel gan fod heb osod ein calonnau ar ddim darfodedig, a gyfarfyddom yn y ffordd: y gallo ein heneidiau hiraethu am ein cartref yn dy deyrnas dragwyddol.
Ymddiffyn (hefyd O Arglwydd) holl stât yr eglwys, a phob aelod neilltuol o honi: yn enwedig ni a attolygwn i ti barhau tangneddyf a llwyddiant yr Eglwysi o'r teyrnasau hyn lle yr ydym yn byw. Cadw a gwared rhag pob drygau a pheryglon, ein grasusol Frenin Charles, y Frenhines, y Tywysog, a'r tywysogawl heppil. Amlhá eu dyddiau mewn hyfrydwch a hawddfyd: ac yn y diwedd corona hwynt, â gorfoledd a gogoniant yn dragywydd. Bendithia holl weinidogion dy air, a Swyddogion, a'r holl radau angenrheidiol i'w llêodd, a llywodraetha di hwynt fel y llywodraethont hwythau arnom ni, mewn heddwch a duwioldeb. Ac o'th trugaredd Arglwydd, cynnorthw ya bawb o'n brodyr sydd yn gystuddiol, yn glwyfus, neu yn rhyw fodd arall yn ddigynnorthwy, yn enwedig y rhai a boenir, naill, a'i â chydwybod ddrwg, o blegit iddynt bechu yn erbyn dy Air, neu am eu cydwybod dda, O herwydd na phechant yn erbyn dy wirionedd. Pâr i'r rhai cyntaf wybod, nad oedd un defnyn o waed Crist, yn ddefnyn o ddialedd, eithr oll yn ddefnynnau o ràd grymmiol i beri maddeuant pechodau, ir troseddwyr mwyaf yn yr hollfyd. Ac am y heill O Arglwydd, na âd i'th hir ddioddefgarwch, nai rhoi hwynt allan o gyssur yn rhybell, na llawenychu gormod ar eu gelynnion; eithr canniadha iddynt ammynedd i oddef, a grasusol a buan ymwared, y ffoidd y byddych yn ei gweled yn orau i'w gynnorthwy hwynt, ac i'th ogoniant dithau.
[Page 183]Dôd râs i bob vn o honom i fod bob amser yn gofgar am ei ddiben diweddaf, ac i fod wedi ymbaratoi â ffydd ac a'g edifeirwch, megis â gwisc briodas, erbyn yr amser y gelwych arnom allan o'r bŷd pechadurus hwn. Ac yn y cyfamser y gallom ni ym mhôb peth, ac o flaen pôb peth, geisio dy ogoniant, fel pan ddarfyddo y bywyd marwol hwn, y byddom gyfrannogion o anfarwoldeb yn dy fendigedig, a'th tra-ogoneddus deyrnas.
Y doniau hyn, a chwbl eraill O nefol D [...]d, a wyddost eu bod yn anghenraid i ni, ac i'th holl Eglwys, yr ydym ni yn ostyngedig yn eu deisyfu a'i herfyn ar dy ddwylaw, gan derfynu ein amherffaith weddi, yn yr odiaethol fôdd ar weddi yr hon a ddyscodd Crist ei hunan i ni, gan ddywedyd: ‘Eid Tàd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.’
Ar ol gweddio aed pob vn o'r teulu ymmaith, gwedi iddynt yn ofn Duw gymmeryd bwyd, a'r b [...]reuol ymborth a drefnodd Duw iddynt: y plant i'r ys [...]l, y gweision at eu gwaith, pob vn at ei swydd, A Meistr a Meistres y teulu at eu galwedigaethau, neu at ryw ymarfer gonest iw difyrru, fel y gwelont yn gymhesur.
Yr ymarfer o dduwi [...]ldeb ar brydiau, a threfn yr ymborth.
CYn ciniaw a Swpper, pan fyddo 'r Bwrdd gwedi ei hilio, meddyl [...]a wrthit dy hunan am y Myfyrdodau hyn; I weithredu ol dyfn [...]ch yn dy galon o dadol raglunaeth Duw, a'i ddaioni tu ac attat.
Myfyrdod o flaen ciniaw neu Swpper.
MYfyria fod newyn yn debyg i'r clefyd â elwir y Blaidd, yr hwn oni phorthi di ef, fe a'th fw ytŷ di ei gyd: Ac nad yw bwyd a diod ond Physygwriaeth neu foddion a drefnodd Duw i ddiddanu, ac i iachau yr amanol wendid hwn, a'r angenrhaid sydd ar ddyn. Arfer gan hynny o fwyta, ac yfed, o ran cynnal a chyssuro gwendid dy anian; yn hytrach nac i gyflawni dymuniadau a thrachwantau dy gnawd. Bwyta gan hynny i fyw, eithr na fydd fyw i fwyta. Arlloeswr tref yr hwn sydd a'i fywiolaeth i garthu, fydd well na 'r hwn sy'n byw yn vnig i lenwi geudai. Nid oes wasanaeth yn y byd mor wael i ddŷn, a bod yn aill caeth iw fol ei hûn, y mae 'r Apostol Paul, yn eu galw hwynt Bol-dduwiau Phil. 3.19. Am hynny ni allwn yn hyfeu cyfenwi, fel y mae 'r scrythyrau yn galw delwau eraill Gullulim, Tomdduwiau. Hab. 2.18.19. 2. Brenhin. 17.12. Ac fel nad oes vn weithred (heb sôn am ordeinhad Duw) yn gwneuthur dŷn yn debyccach i anifail, nac ydyw bwyta ac yfed: Felly camarfer neu ormodedd o fwyta neu yfed, hyd lothineb, meddwi, a chwydu, a wnaiff ddŷn yn waelach neg anifail.
2. Myfyria am ollalluogrwydd y goruchaf Dduw, yr hwn a wnaeth y creaduriaid hyn o ddim: Heb 11.3. Am ei ddoethineb, yr hwn sydd yn porthi aneirif o greaduriaid trwy 'r holl fŷd, gan roddi cynhaliaeth i bob perchen enioes ar a greawdd: Psal. 145.15, 16. Yr hyn sydd yn rhagori ar ddoethincb yr holl Angelion o'r nef: ac am ei rywiogrwydd a'i ddaioni, yn porthi ei wir clynnion. Math. 5.45.
3. Myfyria pa nifer o rywiogaethau ar greaduri [...]d sef bwystfiloedd, pyscod, ac adar, a golla [...] eu bywyd, i fod yn llyniaeth i'th porthi di; ac [Page 185] fel y mae rhagddarpariad Duw o fannau anghysbell, yn trefnu i ti y pethau hyn ynghyd ar dy fwrdd i'th ymborth. Ac fel y mae ef a'r creaduriaid meirwon yma, yn dy gynnal di yn fyw mewn iechyd.
4. Myfyria, gen fod i ti gynnifer o wystlon o dadol haelioni Duw, o'i ddaioni, a'i drugaredd tu ac attad, ac sydd o seiglau o fwydydd ar dy fwrdd: oh na chynnwys dithau yn y cyfryw le, y cyfryw Dduw grasusol i gael ei amherchi trwy watworgerdd, serthedd, neu dyngu: na'th gydfrawd, trwy absen gwradwyddus anair, neu enllib.
Yr scrifen vwch ben bwrdd St Awstin oedd hon:
sef:
5. Myfyria, modd na fwytai dy Arglwydd Jesu Grist, ddim ymborth vn amser, nes iddo yn gyntaf fendigo y creaduriaid, a rhoddi diolch i'w Dâd nefol am danynt. Ac yn ôl ei swpper diweddaf, yr ydym yn darllain iddo ef ganu Psalm. Luc. 9.16. ac 22.19. Mat. 14, 19. ac 26., 21, 30. Canys hyn oedd orchymyn Duw: Pan fwytteych, a'th ddigoni, yna y bendithi 'r Arglwydd dy Dduw, &c. Deut. 8.10. hynny oedd arfer y Prophwydi: canys ni fwytai y bobl ar eu gwleddoedd, nes i Samuel yn gyntaf fendithio eu bwyd. 1 Sam. 9.13. Ac y mae Joel yn dywedyd wrth bobl Dduw. Yna y bwyttewch, gan fwytta ac ymddigoni, ac y moliennwch enw 'r Arglwydd eich Duw. Joel. 2.16. Hyn hefyd a ymarferai [Page 186] yr Apostolion: Canys yr oedd St Paul yn y llong yn rhoddi diolch cyn bwyd yngŵydd yr holl bobl oedd ynddi Act. 27.35. Gwna gan hynny yn y fath sanctaidd weithred, ar ôl y fáth Feistr bendigedig, a dilyn y cyfryw nifer o athrawon teilwng, a'i canlynodd ef, ac a aethant o'th flaen di. Fe al [...]ai o herwydd nad arferaist erioed o dalu diolch ar brydian, am hynny y bydd cywilydd gennit yr awrhon fyned i ddechrau. Na thybia yn gywilydd it wneuthur y peth a wnaeth Crist; eithr yn hytrach bydded cywilydd gennit ddarfod i ti esceuluso cyhyd y cyfryw ddyledus orchwyl Cristianogawl. Ac os rhoddodd Mâb Duw y fàth ddiolch i'w Dâd nefol am y ciniaw o fara haidd ac ychydig byscod; Joa. 6.9. pa fâth ddiolch a ddilai y fâth ddyn pechadurus ac wyt ti, dalu i Dduw am y cyfryw amlder o ddanteithion moethus? pa gynnifer o wir gristianogion, a lawenent gael llenwi eu boliau a'r tammeidiau yr wyt ti yn eu gwrthod, ac sydd arnynt eisiau yr hyn yr wyt ti yn ei weddill? mor galed y mae rhai eraill yn gweithio am eu hymborth, a thithau yn cael dy lyniaeth gwedi ei baratoi it, heb arnat na phoen na gofal? i ddibennu, os oedd delw-addolwyr Paganaidd yn eu gwleddoedd, ynarfer o foliannu eu gau dduwiau; Dan. 5.1.4. Pa gywilydd ydyw i gristion, na folianna y Gwir Dduw (ar ei giniaw neu ei swpper) yn yr hwn yr ydym ni yn byw, yn symmud, ac yn bôd: Act. 17.28.
6. Myfyria, mai rhaid i'r corph, yr hwn yr wyt ti yr awrhon mor foethus yn ei borthi fod (ni wyddost pa cyn gynted) yn fwyd i bryfed, lle y gelli ddywedyd wrth lygredigaeth, ty di yw fy nhâd: ac wrth y pryf, ty di yw fy mam a'm chwaer. Job. 17.14.
7. Myfyria, fel y mae bwrdd llawer dyn wedi ei [Page 187] wneuthur yn fagl iddo, Psal. 69.12. Megis trwy angymmedroldeb, ac aniolchgarwch, y mae y bwyd yr hwn a ddylai faethu ei gorph, yn ei ládd á gormodedd: yn gymmaint, a bod mwy yn cael eu difetha gan y fagl hon, na chan y cleddyf. A chan weled wedi 'r felldith, fod yr arfer o fwyd a diod (ac o'r holl greaduriaid vn agwedd) yn aslan i ni nes ei sancteiddio trwy air 'Duw a gweddi: 1 Tim. 4.4.5. ac nad yw dŷn yn byw yn vnig trwy fara, ond trwy bôb gair a ddaw allan o enau Duw, a'i fendith, yr hyn a elwir ffon y bara: Mat. 4.4. Lev. 26.26. Nac eistedd gan hynny i lawr i fwyta heb weddio, ac na chyfod, cyn i ti roddi diolch i Dduw. Ymbortha i ddigoni dy anian, a chyfod â pheth chwant arnat, a chofia dy gristianogawl frodyr tlodion, sy 'n goddef newyn, ac arnynt eisiau y pethau sydd i ti amlder o honynt.
Gwedi i ti fyfyrio ar y pethau hyn, neu 'r cyfryw, oni bydd vn Samuel yn bresennol yn y lle, derchafa dy galon, dy ddwylaw, a'th olygon, trwy barch ac anrhydedd dyledus, at y Creawdr mawr, a phorthwr yr holl greaduriaid; a chyn bwyd gweddia atto fal hyn:
Grâs cyn bwyd.
O Dra-grasusol Dduw, ac anwyl Dâd, yr hwn wyt yn porthi yr holl greaduriaid bydol, y rhai sydd a'i goglyd ar dy dduwiol ragddarparwch: ni attolygwn i ti sancteiddio y creaduriaid hyn, y rhai a drefnaist i ni: dyro iddynt rinwedd i faethu ein cyrph, mewn bywyd, ac iechyd: a dyro i ninnau râd iw-derbyn yn llariaidd ddiolchgar, megis oth ddwylaw di, fel trwy nerth y rhai hyn, ac eraill o'th fendithion, y gallom rodio mewn vniondeb o'n calonnau, o flaen dy wyneb y dydd [Page 188] heddyw, a holl ddyddiau ein henioes trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Neu fal hyn.
TRa-grafusol Dduw a thrugarog Dád, ni attolygwn i ti sancteiddio y creaduriaid hyn, i'n hymborth: gwna hwynt yn llyniaeth iachus i'n cyrph, a ninnau yn ddiolchgar am dy holl fendithiau, trwy Grist ein Harglwydd an hunig waredwr. Amen.
Grâs arall cyn bwyd.
O Dragwyddol Dduw, yn yr hwn yr ydym ni yn byw, yn symmud, ac yn bod, ni attolygwn i ti fendithio dy greaduriaid hyn i'th weision, megis trwy eu nerth hwynt, y gallom fyw i osod allan dy foliant a'th ogoniant, trwy Jesu Grist, ein Harglwydd a'n hunig Iachawdwr Amen.
Ar ol pob pryd bwyd bydd mor ofalus am danat dy hûn a'th teulu, ac oedd Job am dano ei hun a'i blant, Job. 1.4. rhag pan fyddech yn llon wrth fwyta, neu yfed i ryw ymadrodd lithro allan och geneuau a allo ddigio Duw, neu wneuthur cam a dŷn. Ac am hynny, trwy 'r vnrhyw fath ymddygiad, ac anrhydedd gweddol, dyro ddiolch i Dduw, a gweddia mal hyn.
BEndigedig fyddo dy enw di, O Arglwydd ein Duw, am dy ddoniau daionus hyn, a'r rhai y darfu i ti gyffuro a dadebru ein cyrph: O Arglwydd bydded gwiw gennit vn agwedd borthi ein eneidiau ag ysprydol ymborth dy air, a'th Yspryd sanctaidd i fywyd tragwyddol. Arglwydd cadw ac [Page 189] ymddeffyn dy holl Eglwys: ein grasusol Frenin a'r Brenhines, y Tywysog, a'r tywysogawl heppi [...] Maddeu i ni ein holl bechodau, a'n haniolchgarwch, na chraffa a'r ein hanianol aneirif lygredigaethau, pár i ni oll feddwl am ein diwedd, ar cyfrif sydd raid i ni ei wneuthur y pryd hynny. Yn y cyfamser canniadha i ni iechyd, tanghneddyf, a gwirionedd, trwy Jesu Grist ein Harglwydd, a'n hunig Iachawdwr. Amen.
Neu fel hyn.
BEndigedig a fyddo dy enw sanctaidd Oh Arglwydd, am y doniau yma, â'r rhai y darfu i ti ein llonni a'n llawenu y pryd hyn. Arglwydd maddeu i ni ein holl bechodau, a'n esceulusdra: cadw a gwared yr holl Eglwys, y Brenin, y Frenhines, ar holl rywogaeth frenhinol, a Dôd i ni iechyd, heddwch a gwirionedd trwy Grist ein hunig Jachawdwr. Amen.
Neu mal hyn.
NI roddwn i ti ddiolch O Dâd nefol, am borthi ein cyrph mor rasusol â'th creaduriaid daionus, i'r bywyd amserol hwn; ni a attolygwn i ti un ffunyd borthi ein heneidiau a'th air sanctaidd i fywyd tragwyddol. Cadw O Arglwydd dy holl Eglwys, y Brenin, y Frenhines, a'r hiliogaeth frenhinol. A pharhâ dy râd a'th trugaredd tu ac attom Yn Ghrist ein hunig Jachawdwr. Amen.
Arferiad Duwiolder yn yr Hwyr.
Yn yr Hwyr pan fo 'n amser cyfaddas i ddyfod i gyfannedd ac esmwythdra, galw ynghyd drachefn [Page 190] dy holl deulu. Darllain bennod yn yr un môdd ac yr adroddwyd it yn y Borau. Yno (er mwyn dilyn arfer sanctaidd ein Harglwydd a'i ddiscyblion) cân Psalm: Eithr wrth ganu Psalmau, naill a'i ar ôl Swpper, neu ryw amser arall, cadw y rheoledigaeth hon, sydd yn canlyn.
Rheolau iw cadw wrth ganu Psalmau.
1. GOchel ganu y Psalmau bendigedig o ran difyrwch cyffredinol; megis y bydd rhai dynion o ysprydau aflan, y rhai a ganant y Psalmau sanctaidd ynghymmysc a dyrifau halogedig. Gair Duw ydynt, na chymmer mo honynt yn dy enau yn ofer.
2. Cofia ganu Psalmau Dafydd ag Yspryd Dafydd, Mat. 22.43.
3. Gwna yn ôl dosparth St. Paul, sef, mi ganaf â'r yspryd, ond mi ganaf â'r deall hefyd. 1 Cor. 14.15.
4. Tra fyddoch yn canu, byddwch oll yn bennoethion, ac ymddygwch chwi eich hunein, gydá pharch gweddus, megis o flaen Duw, gan ganu i Dduw yn ei eiriau ei hun: eithr byddwch ddiogel i'r peth hyn wneuthur mwy o ddiddanwch yn eich calonnau, nac o gerddwriaeth yn eich clustiau: Col. 3.16. Eph. 5.19. Canys y canu yn y galon trwy rás, ydyw 'r hyn y mae 'r Arglwydd yn ymhoffi ynddo, yn ôl yr hên odl yma.
5. Ty di a elli o gweli di fod yn dda, ganu yr holl Psalmau trostynt mewn trefn: o ran maent eu gyd, yn dra hyfryd a chyssurus. Eithr o mynni di ddewis rhyw Psalmau neilltuol cyfaddas i ryw amserau, ac achosion: a'r cyfryw (wrth eu mynych arfer) y gallo dy ddynion yn hawsaf eu dal i'w côf.
Yno cân.
Yn y borau. Psal. 3.5.16.22.144.
Yn yr hwyr, Psal. 4.127.141.
Am drugaredd yn ôl gwneuthur pechod Psal. 51.103.
Mewn clefyd neu orthrymder, Psal. 6.13.88.91.137.146.
Ar ôl myned yn iach o glefyd, neu o bechod i'r iawn. Psal. 30.32.
Ar y dydd Sabbath, Psal. 19.92, 95.
Yn amser llawenydd, Psal. 80.98, 107.136.145.
O flaen Pregeth. Psal. 1, 12.147. y rhan gyntaf, a'r bummed, o'r 119.
Ar ôl Pregeth, y Psalm a fynnit ar a fyddo yn perthyn i destyn y bregeth.
Wrth dderbyn y Cymmun. Psal. 22.23.103.111.113.
Am ddiddanwch ysprydol, Psal. 15.19.25.46.67, 112.116.
Yn ôl cael cam neu wradwydd. Psal. 42.69.70, 140.144.
Ar ol y Psalm ymostynged pawb ar eu gliniau mewn modd anrhydeddus, fel yr adroddŵyd or blaen, ac aed y pen teulu (neu y pennaf yno yn ei absen) i weddio mal hyn.
Prydnawnol weddi tros y Teulu.
O Dragwyddol Dduw a thrugaroccaf Dád, Nyni dy weision anheilwng a ymdarostyngwn ein hunain i lawr o flaen troedfaingc dy rad, gan gydnabod ein bod ni yn etifeddu llygredigaeth ein Tadau, a thorri o honom yn weithredol dy holl orchymynion sanctaidd, ar feddwl, gair, a gweithred, fel nad oes dim daioni wrth natur yn cyfanneddu o'n mewn. Canys y mae ein calonnau ni yn llawn o falchder dirgeledig, anoddefgarwch, rhagrith, celwydd, trachwant, gwagedd, halogedigrwydd, anhyder, gormod cariad i ni ein hunain, ac i'r byd, rhy fychan o gariad i ti ac i'th Teyrnas, ac yn wâg heb ddim ffydd, cariad, dioddefgarwch a'r cyfryw râdau ysprydol. Pe bait ti gan hynny yn myned a nyni i'r Farn, ac yn chwilio ein anianol lygredigaeth, a dal fulw ar y ffrwythau ar effeithiau melldigedig a dyfodd o hono: Fe allai Satan ein cyfrif, a'n nodi yn vniawn yn ei eiddo ei hùn, ac ni allem ni ddisgwil dim arall oddiwrth dy Fawrhydi, ond dy ddigofaint ti, a'n damnedigaeth ninnau, yr hyn er ys hir o amser a haeddasom.
Eithr o Dád daionus, er mwyn Jesu Grist dy anwyl fab, yn yr hwn yn vnig i'th fodlonir, ac er mwyn haeddedigaethau yr angau chwerwdôst, a'r dioddesaint gwaedlyd, yr hyn yr ydym yn ei gredu a oddefodd trosom ni: trugarha wrthym, maddau a deleua [Page 193] ein holl bechodau, a rhyddhâ ni oddiwrth y gwarth a'r cywilydd sydd ddysedus i ni am danynt, fel na allont fyth gyffwrdd a nyni, i'n gwradwyddo yn y byd hwn, nac i'n heuog-farnu yn y byd sydd i ddyfod. Ac megis y creuaist ni i'th wasanaethu di, a'r holl greaduriaid eraill i'n gwasanaethu ninnau: felly ni atttolygwn i ti anfon dy Yspryd glân i'n calonnau, fel trwy ei lewyrch a'i weithrediad ffrwythlon, y gwelom ac yr ymwrandawom a'n pechodau, ac a'n llygredigaethau anianol, megis na byddom gwedi ein dallu ynddynt trwy ymarfer, fel y mae y colledigion: eithr bod o honom ni fwyfwy yn eu ffieiddio hwynt, ac o'n calonnau yn dra-ofidus am danynt, gan ymegnio i ymarfer pob moddion da iw gorchfygu, ac i fyned allan o honynt. Oh pâr i ni glywed gallu marwolaeth Crist yn llâdd pechod yn ein cyrph marwol; a rhinwedd ei adg [...]fodiad yn cyfodi ein heneidiau i newydd-deb buchedd. Ymchwel ein calonnau, gostwng ein trachwantau, adneŵydda ein meddyliau, glanhá ein hanian; ac na chynnwys mo honom i soddi yn ein hanwireddau budron, ac yn nifyrrwch pechodlawn yr oes hon, yr hyn both a ddygodd filoedd bendramwnwgl i ddestryw tragwyddol: Eithr gweithia ni beunydd fwyfwy at agwedd a chyffelybiaeth dy Fab Jesu Grist, fel y gallom mewn cyfiawnder, a sancteiddrwydd, dy wasanaethu a'th ogoneddu; megis gan fyw yn dy ofn, a marw yn dy ffafr, y caffom (yn yr amser á osodaist) gyfran o adgyfodiad y cyfiawn, i fywyd tragwyddol. Yn y cyfamser O Arglwydd, chwanega ynom ffydd yn addewidion hyfryd dy Efengyl, edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, diogelwch o'n gobaith yn dy addewidion, ofn dy enw, casineb ein pechodau, a chariad tu ac at dy blant di: yn enwedig tu ac at y rhai y gwyddom fod arnynt eisiau ein cymmorth a'n diddanwch: megis [Page 194] trwy ffrwythau duwioldeb, a bywyd cyfiawn, y byddom sicr o fod dy Yspryd sanctaidd yn aros ynom, a'n bod yn blant i ti trwy fabwys a rhâd. A channiadhâ i ni o Dâd daionus, barhâd o iechyd, tanghneddyf, a chynhaliaeth, a'r holl bethau eraill oddiallan, cyn belled, ac y gwelo dy Ddwywawl Ddoethineb fod yn addas, ac yn angenrhaid, i bob vn o honom.
Ac yma O Arglwydd, yn ôl ein rhwymedig ddlêd, yr ydym yn cyfaddef dy fod yn dra-thrugarog wrthym, mewn holl bethau y bywyd hwn: eithr yn drugarog anfeidrol, mewn pethau o fywyd gwell, ac am hynny yr ydym o eigion ein heneidiau yn rhoddi i ti holl ddiolch ewyllyscar o galonnau gostyngedig, am yr holl fendithiau a doniau a dywelldaist ar ein heneidiau, a'n cyrph: gan gydnabod mai tydi yw Tâd y goleuni oddiwrth ba vn y discyn pôb rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith; ac i ti yn vnig, y traddodwn oll ogoniant, anrhydedd, amoliant am danynt, yr awr hon ac yn dragywydd-Eithr yn bendifaddeu yr ydym ni yn clodfori dy dduwiol Fawrhydi, am ein cadw y dydd hwn yn ddiangol oddiwrth bob peryglon, a niweidiau: mal na ddarfu i'r vn o'r barnedigaethau (y rhai yr oedd ein pechodau yn eu haeddu) ddigwyddo i'r vn o honom. O Arglwydd daionus, maddeu i ni y pechodau a wnaethom y dydd hwn, yn erbyn dy dduwiol Fawrhydi, ac yn erbyn ein cydfrodyr: ac er mwyn Jesu Grist, dyro ein cymmod i ni am danynt. Ac yr ydym yn attolygu i ti vn agwedd, o'th vnrhyw anfeidrol ddaioni a'th trugaredd, ein cadw a'n ymddiffyn, a chwbl a berthynant i ni y nos hon, rhag pob perigl tân, yspail, dychryn Angelion drwg, neu ryw ofn neu niwaid arall, yr hyn o herwydd ein pechodau â allai yn gyfion ddigwyddo i ni. Ac fel y gallom fod yn gadwedig dan gyscod dy escyll di, yr ydym ni yma [Page 195] yn gorchymyn ein cyrph, a'n heneidiau, a chwbl oll ac a feddom, i'th ollalluog gadwedigaeth. Arglwydd bendithia ac ymddeffyn, yn gystal hwy a ninnau, oddiwrth bob drwg· A thra fyddom yn cysgu bydd di o Dâd, yr hwn nid wyt yn cysgu nac yn huno, yn gwilied dros dy blant, a dyro orchymmyn i'th Angelion sanctaidd i wersyllu o amgylch ein tŷ a'n trigfa, i'n ymddiffyn rhag pôb niweidiau: megis gan gyscu gyd â thi, y gallom y borau nessaf gael ein deffro gennit ti, ac felly gwedi ein cyssuro a'n dadebru â chymedroldeb o gŵsc, y byddom yn gymmesurach i osod allan dy ogoniant ynghydwybodus ddledswyddau ein galwedigaethau.
Ac hefyd nyni a attolygwn it (o Arglwydd) fod yn drugarog wrth dy holl Eglwys, a channiadhâ dy barhaus danghneddyf i'r teyrnasau yma lle yr ydym ni yn byw, gan droi oediwrthym yr holl gystuddiau, y rhai y mae pechodau y genedlaeth hon yn llefain am danynt.
Ymddiffyn ein bucheddol Frenin Charles rhag pob bradwriaeth a niwaid, bendithia y Frenhines, y Tywysog, a'r tywysogawl heppil. Bendithia ein holl swyddogion, a gweinidogion dy air, a'r holl rai a'th ofnant di ac â alwant ar dy enw, a'n holl frodyr, a'n chwiorydd Cristianogawl, a'r y sydd yn glwyfus, neu mewn rhyw fodd arall yn orthrymedig: yn enwedig y rhai sydd yn dioddef adfyd er mwyn dy Efengyl sanctaidd, Canniadhâ iddynt ammynedd i oddef dy gerydd, ac ymwared y pryd ar modd y gwelo d [...] dduwiol ddoethineb fod yn orau. Ac na âd i ni byth o Arglwydd anghofio ein diben diwaethaf, ar cyfrif sydd raid i ni ei roddi y pryd hynny. Yn ein hiechyd a'n hawddfyd, pâr i ni feddwl am glefyd ar adfyd i ddyfod, fel na allo y pethau hyn ein goddiwes fel magl: Ps. 91.5, 11, 12. Luc. 21.35. Math. 25.3. Eithr bod o honom mewn mesur da, megis [Page 196] morwynion call, wedi ein paratoi ein hunain e [...] byn dyfodiad Crist, anwyl briodfab ein heneid [...] au. Ac yr awrhon o Arglwydd tra-chyfiawn sanctaidd, yr ydym yn cyfaddef, nad oes un achos [...] dylyt ti (yr hwn wyt yn cashau pechod gymmaint) wrando eirchion pechaduriaid; ond yn unig e [...] ei swyn ef, yr hwn a ddioddefodd am bechod ae ni pechodd. Gan hynny yn unig gyfryngdo [...] dy dragwyddol Fab Jesu Grist, ein Harglwydd, a' [...] Hiachawdwr, yr ydym yn ostyngedig yn ymbil am y rhai hyn, a'r holl ddonlau eraill a wyddost ti e [...] bod yn angenrheidiol i ni, gan gloi ein erfynniau amherssaith hyn, yn y wir sanctaidd weddi a ddyscodd Crist ei hunan i ni i ddywedyd wrthit. Ein Tad, &c.
Dy râd O Arglwydd Jesu Grist, dy serch o nefol Dad, dy gymdeithas a'th ddiddanwch, O sanctaidd a bendigedig làn Yspryd, a fyddo gyd â nyni ac a drigo yn ein plith y nos hon, ac yn dragywydd. Amen.
Yno wedi ymgyfarch y naill y llall, fel y perthyn i Gristianogion, y rhai ydynt lestri y grâs, a themlau yr Yspryd glan, ymadawant yn ofn Duw, bob un iw efmwythdra, gan arfer peth o'r myfyrdod neilltuol a osodwyd o'r blaen, am brydnawn.
Hyn yma am gyhoeddus Arfer O Dduwioldeb perchen tyaeth, efo a'i deulu bob dydd: weithian y canlyn ei Arfer ef o Dduwioldeb gyd a'r Eglwys ar [...]y dydd Sabbath.
Myfyrdod am yr union fodd o Arfer Duwioldeb, ar y dydd Sabbath.
EF a fyn yr hollallu [...]g Dduw gael ei addoli, nid yn unig mewn modd neilltuol, gan ddynion a theulu neilltuol: eithr hefyd mewn trefn fwy cyhoeddus, [Page 197] gan yr holl rai duwiol wedi eu hymgynnill ynghyd mewn Eglwys weledig: megis trwy y moddion hyn yr adnabydder ef, nid yn unig i fod yn Dduw ac Arglwydd i bob neilltuol ddŷn; eithr hefyd i greaduriaid yr holl fyd cyssredinol.
Holi. Eithr pa ham nad ydym ni Gristianogion tan y Testanient newydd, yn cadw y Sabbath ar yr un seithfed dydd, ac yr oeddyd yn ei gadw tan yr hen?
Mi attebaf: Oblegit i'n Harglwydd Jesu, yr hwn yw Arglwydd ar y Sabbath, a'r hwn y mae y gyfraith ei hun yn gorchymyn i ni ei wrando, ei newid o'r seithfed dydd, i'r dydd cyntaf o'r wythnos, ar yr hwn yr ydym ni yn cadw ein Sabbath. Canys y mae 'r Efangylwr Sanctaidd yn rhoi ar lawr, ddyfod o'n Harglwydd i ganol y gynnulleidfa sanctaidd, ar y ddau ddydd cyntaf o'r ddwy wythnos gyntaf yn ôl ei Adcyfodiad, ac yno y bendigodd ef yr Eglwys, ac yr anadlodd ef yr Yspryd glàn ar ei Apostolion, ac a roddes iddynt yr agoriadau gweinidogawl, a'r gallu i rwymo ac i ryddhau pechodau. Joan. 20.19.20, 21, 22, 26. Ac y mae yn debygol iawn ddarfod iddo ef mewn defod barchedig wneuthur felly, bob dydd cyntaf o'r wythnos, tros y deugain niwrnod y bu ef ar y ddaiar, rhwng ei adcyfodiad a'i dderchafiad. Canys y degfed diwrnod a deugain ar ol hynny, yr hwn oedd y dydd cyntaf o'r wythnos, yr ymgynnullodd yr Apostolion ynghyd. Yn yr hwn amser, y rhoddes orchymynnion iw Apostolion, ac y dywedodd iddynt y pethau a berthynent i deyrnas Dduw, Act. 1.3.4. Darllain Ciryl ar Joan. llysr 12. pen. 58. hynny yw, efe a roes arhrawiaeth iddynt y modd y dylent hwy trwy 'r holl Eglwysi (y rhai oeddynt iw troi) newid y Sabbath i ddy [...]d yr Arglwydd: a corphorol aberthau o anifelliaid, i Ysprydol aberthau o foliant, gweddi, a chalonnau [Page 198] edifeiriol; offeiriadaeth Lefi tan y ddeddf, i gristianogawl weinidogaeth yr Efengyl: teml a Synagogau yr Juddewon, i Eglwysi a thai gweddi: Yr hên Sacramentau sef enwaediad a'r oen pâsc, i fedydd a Swpper yr Arglwydd, &c. Fel yr ymddengys wrth yr unrhyw ymadrodd, Act. 19.8. Act. 28.23. Col. 4.11. Wedi ei roddi ar lawr am yr holl gwbl o athrawiaeth Paul, trwy 'r hon y gweithredwyd yr holl gyfnewidiau hyn, lle y dygai ffrwyth. felly megis y bu Grist ddeugain nhiwrnod yn athrawiaethu Moeses ym mynydd Sinai, ac yn dangos iddo y modd y dyscai, ac y llywodraethai yr Eglwys tan y ddeddf: felly ef â arhosodd ddeugain niwrnod i ddyscu ei ddiscyblion yn Sion, pa beth a bregethent, a pha fodd y rheolent yr Eglwys tan yr Efengyl. A chan weled fod yn dra eglur, mai o fewn y deugain niwrnod hynny, yr hyspysodd Crist beth a ddylei gweinidogion y gair ei athrawiaethu, a pha wedd y dylent lywodraethu yr Eglwys hyd ddiwedd y byd; Eph. 4.1.11.12. nid rhaid ammeu, na ddarfu iddo of, o fewn y deugain nhiwrnod hynny hefyd osod ar lawr ar ba ddiwrnod y dylent gadw eu Sabbath, a gwneuthur cyffredinol orchwyl eu gwenidogaeth; yn enwedig, gan weled fod Duw tan yr hên Destament, yn ei ymddangos ei hun mor ofalus yn ei ddeddf Ddefodol, ai ddeddf Ceremoniaidd, i lunio yn gystal yr amser, a'r modd iw addoli ef. Nid ydyw hefyd beth iw anghofio, fel y darfu i'r Arglwydd, yr hwn sydd a'r amseroedd a'r prydiau yn ei feddiant ei hun, ordeinio y dydd cyntaf o'r wythnos ynddo i ddanfon i lawr o'r nef yr Yspryd glân ar yr Apostolion; mal y dechreuasant yn gyntaf ar y dydd hwnnw, ac y parhausant byth yn ôl hynny, i arfer ar gyhoedd eu gweinidogaeth i bregethu y gair, a chyfrannnu y Sacramentau, ac i roi gollyngdod o'i pechodau i'r pechaduriaid edifeiriol. Act. [Page 199] 2.1.4.31.36.37.38.42. Ar y sail hon a'r cyffelyb, y mae Athanasius yn tystiolaethu ddarfod i'r Arglwydd ei hun gyfnewid y dydd Sabbath.
Megis gan hynny y gelwir y Cymmun swpper yr Arglwydd, o herwydd i'r Arglwydd ei ordeinio yn goffadwriaeth o'i farwolaeth: felly y Sabbath Cristianogol a gyfenwir dydd yr Arglwydd, o herwydd i'r Arglwydd ei ordeînio er coffadwriaeth o'i Adcyfodiad. Ac megis y mae enw yr Arglwydd yn anrhydedd i'r naill, felly y mae un agwedd i'r llall. Datc. 1.10. 1 Cor. 11.20. Megis hefyd yr oedd Arglwydd y Sabboth o herwydd ei ragorfraint ardderchawg, a'i awdurdod goruchel yn gailael; felly yr oedd iddo achos hefyd i newid y Sabbath sanctaidd o'r seithfed dydd, i'r dydd ar yr hwn yr ydym ni yn ei gadw. Canys am y Sabbath hwnnw oedd yn canlyn y chwe diwrnod y bu Dduw yn gorphen y Creadigaeth ynddynt; nid oedd mor cyfryw ddi-ail osodiad, neu achos re [...]diol iw sancteiddio yn dragwyddol, na allai yr vn awdurdod ar reswm ac achos mwy, ei gyfnewid a'i droi i ryw ddydd seithfed arall. Canys nid yw 'r gorchymmyn yn dywedyd, Cofia gadw yn sanctaidd y seithfed dydd nessaf yn ebrwydd yn canlyn y chweched dydd o'r Creadigaeth, neu 'r seithfed yma, neu 'r seithfed accw: Eithr yn gyffredin cofia gadw seithfed dydd yn sanctaidd. Ac i ddywedyd yn briodol, megis yr ydym ni yn cymmeryd diwrnod i fod yn wahanrediad amser, a elwir naill a'i dydd naturiol, yn cynnwys 24 o orriau, neu ddydd celfyddydol, yn cynnwys 12 o orriau, sef o godiad haul hyd ei fachludiad; a chyd â hynny ystyried sefyll o'r haul ar brydnawngwaith yn amser Joshua, tros ddiwrnodd cyfan: Jos. 10.12, 13. a myned o'r haul yn ei ôl ddeg a raddau (sef pum awr, agos i hanner diwrnod celfyddydol) yn amser Ezechias: [Page 200] 2 Brenh. 20.11. Ni allai yr Iddewon eu hunain gadw eu Sabboth ar yr amser pennodol, a gwahanredol, a elwid yn y cyntaf y seithfed dydd oddiwrth y creadigaeth.
A chyd a hynny, o herwydd amryw brydnawnau, neu meridianau, a rhagoriaeth yr amser o godiad neu fachludiad yr haul yn y naill fan rhagor y llall, amgena 'r dydd mewn rhyw fan y pedwaredd ran, mewn man arall yr hanner, mewn man arall ddiwrnod cyfan. Am hynny seithfed dydd yr Iddewon ni ellir moi gadw yn ollawl yr vn amser ym mhob man yn y byd.
Yr awrhon ein Harglwydd Jesu Grist, gan fod iddo ef Awdurdod megis Arglwydd ar y Sabboth, ydoedd ganddo hefyd fwy rhefwm ac achos i droi y Sabboth o seithfed dydd yr Iddewon, i'r seithfed dydd, ar yr hwn y mae y Cristianogion yn cadw eu Sabboth.
1. O herwydd bod ei Adcyfodiad ef oddiwrth y meirw, yn gweithredu newydd greadigaeth ysprydol o'r bŷd: heb yr hwn y buasai holl hiliogaeth Adda yn cael eu taflu i'r dinistr tragwyddol, Ac ni buasai holl orchestol orchwyly creadigaeth cyntaf yn peri dim diddanwch i ni.
2. Ac o herwydd y newydd greadigaeth ysprydol hwn, y mae 'r scrythur yn dywedyd, yr hen bethan a aethant heibio, wele gwnaethnwyd pob peth yn newydd: Creaduriaid newydd, pobl newydd, dynion newyddion, gwybodaeth newydd, Testament newydd, g [...]rchymmyn newydd, henwau newyddion, ffordd newydd, caniad newydd, gwisc newydd, gwin newydd, costrelau newyddion, Jerusalem newydd, nef newydd. a daiar newydd. 2 Cor. 5.17. Gal. 6.15. 1 Petr. 2.10. Eph. 4.24. Col. 3.10. Mat. 26.28. Datc. 21. Ac am hynny angenrhaid yw, fod dydd Sabbath newydd yn he 'r hên, i anrhydeddu a moliannu [Page 201] ein Gwaredydd, i fyfyrio ar orchwyl ein iechydwriaeth, ac i ddangos newydd gyfnewid yr hên Destament.
3. O herwydd mai ar y dydd hwn y gorphywysodd Crist oddiwrth holl boenau ei ddioddefaint, ac y gorphennodd anrhydeddus weithred ein prynedigaeth. Os oedd gan hynny dibenniad gwaith y creadigaeth cyntaf, trwy 'r hyn yr oedd Duw yn ei ymddangos ei hun yn ollalluog iw greaduriaid, yn haeddu Sabboth i dowyn cofladwriaeth am y cyfryw orchwyl, er anrhydedd i'r gweithredydd, ac am hynny y mae yn ei alw fy Nydd sanctaidd: Esay 58.13. gwell o lawer y mae creadigaeth newydd y byd, a wnaed trwy adcyfodiad Crist (yn yr hyn yr eglurwyd ei fod yn fab Duw Rhu. 1.4.) yn haeddu Sabboth er mwyn tragwyddol goffadwriaeth o honaw i anrhydedd Crist, am hynny y gelwir yn deilwng Dydd yr Arglwydd: Dat. 1.10. Canys megis yr oedd yr ymwared allan o gaethiwed Babylon, gan ei fod yn fwyaf, yn tynnu ymmaith enw yr ymwared allan o wlad yr Aipht, Jer. 23.7.8. felly y dydd ar yr hwn y darfu i Grist orphen prynedigaeth y byd, a haeddodd yn deilyngach, gael Sabboth iw gadw arno, na 'r dydd ar yr hwn y gorphywysodd Duw yn ôl Creadigaeth y byd. Megis gan hynny yn y Creadigaeth, y dydd cyntaf ar yr hwn y gorphennwyd, a gyssegrw yd yn Sabboth: felly yn amser y Prynedigaeth, y dydd cyntaf ar yr hwn y persteithiwyd, sydd raid ei gadw yn orphywysfa sanctaidd: fel y cadwer y seithfed yn oestad yn ôl Moddol orchymmyn Duw. Yr oedd yr Iddewon yn cadw y dydd olaf o'r wythnos, gan ddechrau eu Sabboth gyd a'r nôs pan orphywysodd Duw: eithr y mae Cristianogion yn anrhydeddu 'r Arglwydd yn well gan ddechrau eu Sabboth gyda'r dydd, pryd y cyfododd yr Arglwydd. [Page 202] Neh. 13.19. Math. 28.1. Yr oeddynt hwy yn cynnal eu Sabboth, er dwyn coffadwriaeth o greadigaeth y bŷd: iê, dydd yr Arglwydd, gan ei fod yn gyntaf o'r Creadigaeth a'r Prynedigaeth, a bâr i ni gofio yn gystal am wneuthuriad yr hên, ac am warediad y bŷd newydd.
Megis gan hynny yr oedd Duw tan yr hên Destament yn dangos ei ogoniant yn y saith o ganhwyllbrennau, a'r chwech o geingciau, &c. Exod. 25.31. gan eu rhoi i feddwl am greadigaeth y goleuni, a gorphywysfa y Sabboth: felly tan y Testament newydd y mae Crist gwir oleuni y bŷd, yn dyfod ynghanol saith o lampau, a saith ganhwyllbren aur, i beri i ni feddwl am anrhydeddu ein gwaredydd, Yngoleuni yr Efengil, ar orphywysfa yr Arglwydd y seithfed dydd. Datc. 1.13. A chan weled-fod y prynedigaeth, yn gystal o ran gallu a thrugaredd yn rhagori ar y Creadigaeth cyn belled, yr oedd yn sefyll gyd â rheswm da, mai 'r gwaith mwyaf a gai anrhydedd y diwrnod. Ac nid yw yr anrhydeddus enw o ddydd yr Arglwydd, yn lleihau gogoniant y Sabboth: eithryn hytrach wedi ei roddi atto, y mae yn chwanegu ei vrddiniant: megis y mae 'r enw Israel wedi ei roi at Jacob, yn peri y Patriarch yn fwy anrhydeddus. Gen. 32.28.
Y Rheswm a gymmerwyd o esampl gorphywysfa Duw oddiwrth weithred creadigaeth y byd, a byrhâodd mewn ffrwyth, byd oni orphywysodd Mâb Duw oddiwrth weithred prynedigaeth y bŷd, ac yno y cyntaf a roddes le i'r olaf.
4. O herwydd fe ragddywedpwyd yn yr hên Destament, y cedwid y Sabboth tan y Testament newydd ar y dydd cyntaf o'r wythnos. Canys yn gyntaf, yn y 110 Psalm, yr hwn sydd brophwydoliaeth am Grist, a'i deyrnas; yr ydis yn adrodd yn eglur, y byddai diwrnod vchel i ymgyfarfod, yn yr [Page 203] hwn y byddai bobl Grist yn ewyllyscar yn dyfod ynghyd mewn harddwch sancteiddrwydd. Yn gymmaint ac na byddai ddim glaw tanghneddyf, ar y sawl o deuluoedd y ddaiar nid elai i fy [...]u i Jerusalem (sef i'r Eglwys) i addoli y Brenin, Arglwydd y lluoedd. Zac. 14.27. Yr awrhon ar ba ddiwrnod y mae cadw y Gwyl sanctaidd, a'r cyfarfod hwn, y mae Dafydd yn dangos yn oleu yn y Psalm 118. Yr hon oedd brophwydoliaeth am Grist, fel yr ymddengys yn Mat. 21.42. Act, 4.11. Eph. 2.20. A thrwy gydsyniiad yr holl Iddewon, megis y mae Hierom yn tystiolaethu. Gan ddangos ym mlaen llaw fel y byddai Crist trwy farwolaeth gywilyddus megis maen gwrthodedig gan yr adoiladwyr, (sef prif lywodraethwyr Judea) etto trwy ei adcyfodiad gogoneddus, yr ai yn ben i'r gongl: y mae ef yn deisyf i'r holl Eglwys gadw yn sanctaidd y dydd, ar yr hwn y gorphennai Crist y gorchwyl rhyfeddol hwn, gan ddywedyd, Dyma 'r dydd a wnaeth yr Arglwydd, gorfoleddwn, a llawenychwn ynddo. adn. 24. A chan weled mai ar y dydd hwn y mae yn eglur fod yn wir, yr hyn a ddywedodd Petr am Grist, sef ddarfod i Dduw ei wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist. Act. 2.36. Ac am hynny y mae 'n rhaid i'r holl Eglwys tan y Testament newydd gadw yn sanctaidd ddydd adcyfodiad Crist. Yr oedd Rabbi Bachai yn gweled hefyd trwy gwymp Addaf a'r y chweched dydd, mai ar y dydd hwnnw, y gorphennai y Messias weithred prynedigaeth dŷn. Zohar ar Gen. Dalen. 21. A chan fwrw at ymadrodd Boaz wrth Ruth, cŵsc hyd y borau, y gorphywysai y Messias yn ei fêdd tros eu holl Sabboth hwynt. Y mae yn casclu oddiwrth yr ymadrodd yn Gen. 1. ar y dydd cyntaf, bydded goleuni, y cyfodai y Messias ar y dydd cyntaf o'r wythnos o farwolaeth i fywyd, ac i gwnai efe i oleuni ysprydol yr Efongyl oleuo i'r bŷd, yr hwn [Page 204] oedd yn gorwedd mcwn tywyllwch a chysgod angau. Yr Awdur o'r llyfr Hebre-aec a elwir Sedar Olam Rabba, pennod. 7. a gofia lawer o bethau anrhydeddus a wnaethpwyd ar y dydd cyntaf o'r wythnos, megis cynifer o arwyddion, neu frudiau, y byddai addoliad Duw tan y Testament newydd iw gyllegru ar y dydd hwn. Megis, ar y dydd hwn y bu gwmmwl Mawrhydi Duw yn goruwchguddio ei bobl. Aaron ai feibion a ddechreuasant wasanaethu swydd eu hoffeir iadaeth. Ac y darsu i Dduw yn gyntaf fendithio ei bobl. Tywysogion y bobl a aberthasant yn gyntaf i Dduw ar gyhoedd. Y dydd cyntaf, ar yr hwn y discynnodd tân o'r nef. Y dydd cyntaf o'r byd, o'r flwyddyn, o'r misoedd, o'r wythnos, &c. Ar cwbl oll yn pennodi y byddai ef yn ddydd cyntaf, ac yn brifŵyl sanctaidd o'r Testament newydd. Y mae St. Augustin yn profi allan o amryw fannau, a rhesymmau, o'r Scrythur sanctaidd, fod y Tadau, a'r holl brophwydi, yn rhagweled, ac yn gwybod fod yr wythfed dydd o Enwaediad tan y Testament hên, yn arwyddocau dydd yr Arglwydd. Ac y cyfnewidid y Sabboth o'r seithfed dydd i'r wythfed, neu i'r dydd cyntaf o'r wythnos. Ac y mae Junius allan o Cyprian yn dywedyd, fod yr Enwaediad wedi ei orchymmyn ar yr wythfed dydd, ar yr hwn ddydd y cyfodai Grist, oddiwrth y meirw. Y mae y gymanfa Foro-Juliense yn mynegi, fod Esay yn propbwydo y cedwid y Sabboth ar y dydd cyntaf o'r wythnos. Os oedd y dirgelwch hwn i'w weled mor amlwg gan y Tadau, tan gysgodau yr hên Destament; diogel ddarfod i Dduw y byd hwn ddallu yn dôst feddyliau y rhai ni allant weled y gwirionedd o hynny, tan oleu ddisclaer lewyrch yr Efengyl. Am hynny y cyfnewid hwn ar y dydd Sabboth tan y Newydd, nid ydoedd ddim ond cyflawni yr hyn oedd wedi ei ffurfio a'i ragbrophwydo tan yr hèn Destament.
[Page 205]5. Yr oedd yr Apostolion yn yr holl Eglwysi Cristianogawl, (y rhai a blannasant hwy) yn ôl meddwl a gorchymmyn ei Harglwydd, ac hyfforddiad yr Yspryd glan, yr hwn oedd bob amser yn eu cynnorthwyo, yn ordeinio i'r Cristianogion gadw y Sabboth sanctaidd, ar y seithfed dydd hwnnw, sef y cyntaf o'r wythnos; 1 Cor. 16.1.2. Am y gasgl i'r Sainct, megis yr ordeiniais i Eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau. Pob dydd cyntaf o'r wythnos &c. Pan ddeloch ynghyd yn yr Eglwys (ar ddydd yr Arglwydd yn y cyfieithiad syriaec ac Arabiaec) i fwyta Swpper yr Arglwydd, i ddangos ac i ddwyn ar gôf marwolaeth yr Arglwydd hyd oni ddêl &c. 1 Cor. 11. Yn yr rhain eiriau gwelwch:
1. Ddarfod i'r Apostolion ordeinio y dydd hwn iw gadw yn sanctaidd: am hynny ordeinhâd ddwywawl, a defod oruchel.
2. Fod y dydd hwnnw yn cael ei enwi y dydd cyntaf o'r wythnos, am hynny nid seithfed yr Iuddewon, nac un arall.
3. Pob dydd cyntaf o'r wythnos: yr hyn sydd yn dangos tragwyddoldeb.
4. Ddarfod ei ordeinio yn holl Eglwysi Galatia, yn gystal ac yn Corinth, a gosod o hono ef holl eglwysi y Sainct yn vndrefn mewn tangneddyf, 1 Cor. 14.33. am hynny yr oedd yn gyffredinol.
5. Mai gorchwylion y dydd hwn, ydoedd casgl [...] i'r tlawd (yr hyn sydd eglur yn Act. 2.42. Ac yn nhystiolaeth Justin Martyr Apol. 2.) gan y rhai a fyddent wedi ymgynnull ynghyd yn y gyn nulleidfa sanctaidd, a'r ol Gweddiau, Pregethiad y gair, a chyfrannu y Sacramentau: am hynny yr oedd yn Ysprydol.
6. Y mynnai ef symmud y pryd i gasglu (er ei fod y'n anghenraid) erbyn ei ddyfodiad ef, rhag i hynny rwystro ei waith ef yn pregethu: eithr nid [Page 206] symmud eu cyfarfod sanctaidd hwy ar ddydd yr Arglwydd; O herwydd hwnnw oedd yr amser gofodedig i addoli 'r Arglwydd yn gyhoeddus, yr hyn sydd yn dangos angenrheidrwydd.
Ac yn yr vnrhyw Epistol y mae St. Paul yn rhagdystiolaethu, na roddes ef iddynt hwy vn ordeinhâd nac athrawiaeth arall, ond yr hyn a dderbynniodd ef gan yr Arglwydd, 1 Cor. 11.1, 2. a'r. 15.3. Yn gymmaint ac y mae ef yn eu gorchymmyn hwy fel hyn, os oes neb yn tybied ei fod ei hûn yn brophwyd, neu yn ysprydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu scrifennu attoch, mai gorchymynnion yr Arglwydd ydynt. 1 Cor. 14.37. Eithr efe a scrifennodd attynt hwy, ac a ordeiniodd yn eu plith, gadw 'r Sabboth ar, y dydd cyntaf o'r wythnos: am hynny cadw y Sabboth ar y dydd hwnnw ydyw gwir orchymmyn yr Arglwydd. A pha fodd y dichon ef fod, naill, a'i yn wir brophwyd, neu fod iddo ddim o râd yspryd Duw yn ei galon, yr hwn gan weled mor eglur, fod dydd yr Arglwydd wedi ei drefnu a'i ordeinio gan yr Apostolion, na chydnebydd, mai gorchymmyn yr Arglwydd ydyw, cadw yn sanctaidd ddydd yr Arglwydd? Y mae 'r Iddewon yn cyfaddef mai yr Apostolion a wnacth y gyfnewid hon ar y Sabbath, Peter Alphon. in Dialog. contra Judeos, Tit. 12. Y maent hwy gan hynny yn ddallach, ac yn ben-feddwach nac Iddewon, y rhai a wadant hynny yn halogedig.
Yn Troas yr vn agwedd yr oedd St. Paul gyd â saith o brif Efangylwyr yr Eglwys, sef, Sopater, Aristarchus, Secundus, Gaius, Timotheus, Tichicus, â Throphimus, a'r holl Gristianogion oedd yno, yn cadw y Sabboth Sanctaidd ar y dydd cyntaf o'r wythnos, yn gweddio, yn pregethu, ac yn derbyn y Cymmun. Act. 20.4, 5, 6.
Ac fel y mae yn beth i'w ddyfal synnied nad yw [Page 207] Luc yn dywedyd, fod y discyblion wedi eu cyrohu i wrando ar Paul yn pregethu, eithr wedi i'r Discyblion ddyfod ynghyd i dorri bara y dydd cyntaf o'r wythnos, hynny yw, i fod yn gyfrannogion o'r Cymmun sanctaidd, ar yr amser y danghosid marwolaeth yr Arglwydd, trwy bregethiad y gair, 1 Cor. 11.26. Paul a bregethodd iddynt hwy, &c. Ac nid oedd neb yn cadw y cyfarfod hwnnw ond y Cristianogion, y rhai yn vnig a elwir yn ddiscyblion, Act. 11.26. Eithr yn Philippi lle nid ydoedd etto yr vn discybl, yr ydis yn dywedyd i Paul fyned a'r eu dydd Sabboth hwy i'r fan lle 'r oedd yr Iddewon a'i Proselitiaid yn arfer o weddio, ac yno y pregethodd ef iddynt, Act. 16.12, 13. felly y mae mor olau a'r Haul, mai defod ac arfer y Cristianogion ydoedd, adael heibio seithfed dydd yr Iddewon, a chadw y Sabboth, a'i hymgyfarfod fanctaidd ar y dydd cyntaf or wythnos, Act. 21.4. A pha ham y mae St. Ioan yn galw hwn yn ddydd yr Arglwydd, ond o herwydd ei fod yn ddydd hysbys ym mhlith pawb iw sancteiddio yn gyhoeddus, er anrhydedd i'r Arglwydd Iesu, yr hwn a gyfododd i fywyd o farwolaeth ar y dydd hwnnw, trwy'r holl Eglwysi a blannasai yr Apostolion? yr hwn y mae St. Ioan yn ei alw dydd yr Arglwydd; er mwyn cynhyrfu Cristianogion yn hytrach i roi coffadwriaeth diolchgar am eu prynedigaeth, trwy adcyfodiad Crist oddiwrth y meirw. A chyd a'r dydd, y trôed hefyd fendith y Sabboth i ddydd yr Arglwydd, o blegid bod yr holl Sancteiddwydd perthynol i'r byd newydd hwn yn Grist, ac oddiwrtho ef yn llifeirio i Gristianogion. Heb. 2.5. at. 2.11. ar. 5.9. Ac o herwydd na ddichon ddyfod Awdurdod mwy na 'r Awdurdod honno oedd gen Grist a'i Apostolion; nac achos debyg i greadigaeth newydd y byd: Am hynny ni ellir byth cyfnewidio 'r dydd hwn i ddydd arall, tra [Page 208] byddo 'r bŷd yn sefyll. Ychwanega at hyn, fel ŷ mae 'r Scrythur yn dangos na wnaethpwyd dim wrth osod a phlannu yr Eglwys yn y cyntaf, ond trwy vnig drefn ac hyfforddiad neillduol yr Apostolion, 1 Cor. 11.34. 1 Cor. 14.36, 37. Titus 1.5. Act. 15.6.24. Ac ni wnaeth yr Apostolion ddim, heb eu hardal oddiwrth Grist, 1 Cor. 11.23.
Ynteu sancteiddio 'r Sabboth ar y seithfed dydd nid yw Ddeddf ceremoniaidd a ddiddymwyd, eithr y gyfraith foesol a thragwyddol a berffeithwyd. Felly yr unrhyw orchymmyn tragwyddol, yr hwn oedd yn rhwymo yr Iddewon i gadw y Sabboth ar y seithfed dydd hwnnw, er mwyn sanctaidd glodfori creadigâeth y byd, sydd yn rhwymo Christianogion i gadw yn hybarch y Sabboth ar y seithfed dydd hwn, er cossadwriaeth o brynedigaeth y byd: canys y pedwerydd gorchymmyn, yr hwn sydd gyfraith soesol, sydd ymerchi cadw seithfed dydd yn sanctaidd yn dragywydd. A Moesolrwydd y gorchymm [...]n hwn, megis am y lleill eu gyd, a ddylem ni ei arferu yn fwy crefyddol tan yr Efengyl, nac yr arferal yr Iddewon tan y gyfraith, yn gymmaint a darfod i ni (yn y Bedydd) wneuthut cyfammod hynodach à Duw i gadw ei orchymynnion: a darfod i Dduw wneuthur ammod a ninnau, i'n rhyddhau oddiwrth y felldith, a'n cynnorhwyo â'i Yspryd i gadw ei gyfreithiau. A bod y gorchymmyn hwn am y Sabboth, yn gystal a'r naw eraill yn foesol, ac yn barhaus, fe ymddengys yn eglur wrth y rhesymmau hyn sydd yn canlyn.
Dêg o resymmau yn dangos fod gorchymmyn y Sabbath yn foesol.
1. O Herwydd bod yr holl resymmau am y gorchymmyn hwn yn foesol ac yn dragw yddol: a darfod i Dduw ein rhwymo ni i uf dddod y Gorchymmyn hwn, â rhesymmau ffiwythlonach, nac i'r un o'r lleill. Yn gyntaf am ei fod ef yn rhagweled, naill. a'i yr esceulusai ddynion anghrefyddol yn ddiofalach, neu eu torrent hwy y gorchymmyn hwn yn hyfach, nac yr un o'r lleill. Yn ail, o blegid mai yn ymarfer a chyflawni y gorchymmyn hwn, y mae cadwraeth yr holl rai eraill yn sefyll: yr hyn sydd yn peri i Dduw achwyn cyn fynyched, fod ei addoliad ef wedi ei esceuluso, neu ei roi i lawr, pan fyddo 'r Sabbath, naill, ai gwedi ei esceuluso, ai ei droseddu. Jer. 17.22, Ezec. 20.19, 20, 21, 24. ac 23.38. Fe allai beri i ddŷn synnu (medd Mr Calvin) Ystyried mor fynych, ac â pha ryw Zel, a thynghedu difrifol y mae Duw yn erchi (i'r rhai a fynnant fod yn bobl iddo ef) sancteiddio y seithfed dydd. Ac fel y mae Duw 'r drugaredd, yn anrhugarog yn cospi â marwolaeth erwin y sawl a dorro y gorchymmyn hwn; megis pe bai hyn yn gwbl o'i anrhydedd a'i wasanaeth.
Ac y mae yn ddiogel, am yr hwn ni wnêl gydwybod o dorri 'r Sabbath, na wna ef (i wasanaethu ei drô) gydwybod o dorri yr un o'r gorchymmynnion eraill, am y gallo ef wneuthur hynny heb ambarch iw gorph, na chwmmwl i'w eirda, ac allan o berygl cyfraith dŷn. Am hynny y gosododd Duw y gorchymmyn hwn ynghanol y ddwy lôch, O herwydd fod ei gadw ef yn gynnorthwy mawr i gadw 'r lleill eu gyd. Anrhydedd cydwybodus i'r Sabbath, ydyw Mam yr holl grefydd a'r ddysc dda [Page 210] yn yr Eglwys. Tynnwch ymmaith y Sabbath, a gwasanaethed pob dŷn Dduw pan fynno, a pha beth a ddaw ar fyrr o grefydd, a thangneddyf, ac o'r drefn yr hon a fyn Duw ei gadw yn ei Eglwys? 1 Cor. 14.33.40. Y dydd Sabbath ydyw dydd marchnad Duw am luniaeth yr wythnos, yn yr hwn ymyn ef i ni ddyfod atto, a phrynu ganddo heb aur nac arian, Fara yr Angelion, a Dwfr y bywyd, Gwin y Sacramentau, a llaeth y Gair, i borthi ein heneidiau: aur wedi ei buro, i gyfoethogi ein ffydd: gwerthfawr eli llygaid, i jachau ein dallineb ysprydol: a gwisco dillad gwynion, o gyfiawnder Crist, fel nad ymddangoso gwarth ein noethder ni. Esa. 55.1.2. Dad. 3.18. Nid yw ef bell oddiwrth wir Dduwioldeb, yr hwn a wnel gydwybod o gadw y dydd Sabbath: eithr yr hwn sydd yn cyd-ddwyn ai gydwybod, i dorri y Sabbath er mwyn ei elw a'i ddifyrrwch ei hun, ni ystyriodd, ac ni wybu ei galon ef erioed, pa beth yr oedd ofn Duw, neu wir Grefydd yn ei feddwl. Canys, am y Gorchymmyn hwn y gellir gwirio ymadrodd St. Jaco: yr hwn a ballo mewn un, sydd yn euog o'r ewbl. Jac. 2.10. Am hynny gan weled ddarfod i Dduw gau o amgylch y gorchymmyn hwn, á chynifer o resymmau moesol, y mae yn dra eglur fod y gorchymmyn ei hun yn focsawl.
2. O Herwydd ei orchymmyn gan Dduw i Adda yn ei ddiniweidrwydd: pryd yr oedd ef yn dal ei ddedŵyddwch, nid trwy ffydd yn haeddedigaethau Crist, ond trwy vfydd-dod i gyfraith Dduw, heb arno eisiau vn Ceremoni i arwyddocau y Prynedigaeth a wnai Grist. Ni eill gan hynny Sabbath o'r seithfed dydd fod yn Ceremoni syml, eithr yn rhan hanfodol o addoliad Duw, gorchymmynnedig i ddŷn, pryd nad oedd ond vn cyslwr i ddynion. Gen. 2.8. Ac os oedd yn anghenrhaid i'n cynteidiau gael dydd Sabboth i wasanaethu Duw yn eu perffeithrwydd, [Page 211] rheittiach o lawer iw hiliogaeth hwy gadw Sabboth, ynghyflwr eu llygrodigaeth. A chan weled i Dduw ei hun gadw y dydd hwn yn sanctaidd, pa fodd y dichon y dyn hwnnw fod yn sanctaidd, â fyddo o wirfodd ei galon yn ei halogi ef?
3. O blegid ei fod yn vn o'r Gorchymynnion a lefarodd Duw â'i enau ei hun, ac a scrifennodd ddwywaith â'i fysedd ei hun ar Lechau o gerrig, i ddangos eu hawdurdod, a'i parhâd. Exod. 34.1. &c. Yr holl orchymynnion a scrifennodd Duw oeddynt foesol., a thragwyddol, a'r rheini a gyfrifir yn ddêg: Pe byddai hon yn Ceremoni iw diddymmu, yno ni byddai ond naw o Orchymynion. Deut. 4.4.13. Y Ceremoniaidd orchymynnion oedd iw diddymmu trwy Grist, a scrifennasit eu gyd o waith Moeses: eithr hwn o'r Sabboth, gyd a'r naw eraill, oedd wedi ei scrifennu a llaw Dduw ei hun, ac a roddasid yn yr Arch, lle na roddesid dim o'r gyfraith Ceremoniaidd: 1 Bren. 8.9. Heb. 9.3. I ddangos y byddent yn rheoledigaeth tragwyddol i'r Eglwys, etto y cyfryw na allai neb yn ollawl eu cyflawni a'i cadw, ond Crist yn vnig.
4. O blegid fod Crist yn tystiolaethu na ddaeth efe i dorri y gyfraith ddefodol: ac na ddiddymmid y lleiaf o honynt yn ei deyrnas ef, tan y Testament newydd. Yn gymmai [...]t, a bod pwy bynnag a dorro vn o'r gorchymynnion lleiaf hyn, ac a ddysco i ddynion felly, lleiaf y [...]elwir ef yn nhsyrnas nefoedd: hynny yw, ni chai ef ddim lle yn ei Eglwys. Rhu. 5.17. Mat. 5.19. Yr awrhon y mae y gyfraith ddefodol yn gorchymmyn vn dydd o'r saith iw gadw yn sanctaidd yn dragywydd. Ac y mae Crist ei hun yn coffhau yn eglur gadw Sabboth ym mhlith ei Gristianogion, wrth ddinistriad Jerusalem, ynghylch dwy a deugain o flynyddoedd yn ôl ei adeyfediad. Yr amser yr oedd holl Ceremonian Moeses (oddieithr [Page 212] bwyta gwaed, a phethau a degid) trwy osodiad cyhoeddus a chyfundeb yr holl Apostolion, wedi eu rhoi hebio a'i diddymmu yn yr Eglwysi Cristianogawl Act. 15.20.21.24.28. Ac am hynny yr oedd Cr [...]t [...]n cynghori ei ddisgyblion i weddio, na byddai eu ff [...]edigaeth hwy yn y gauaf, nac ar y dydd Sabboth. Mat. 24.20. Nid yn y gauaf, am y byddai (o herwydd brynti y ffyrdd a'r tywydd) eu ffoedigaeth hwy yn fwy poenus a thrafferthus iddynt: Nid ar y dydd Sabboth, o herwydd y byddai yn fwy gofidus iw calonnau, dreilio y dydd hwnnw mewn llafur i achub ei bywyd, yr hwn a orchymynnasai Dduw ei dreilio mewn gorchwylion ac arferion sanctaidd, i ddiddanu ei hencidiau. Yr awrhon pe buasai sancteiddiad y Sabboth ar y dydd hwn, ond Ceremoni; ni buasai ddim gofid iddynt orfod ffo ar y dydd hwn, mwy nac ar ddydd aiall o'r wythnos. Eithr lle y mae Crist yn gweled ei fod yn beth ofnadwy, a gofidus, orfod iddynt ffo ar y dydd Sabboth: ac am hynny y mae yn dymuno ar ei eiddo ef weddio at Dduw, na byddai y cyfryw achos: y mae 'n eglur yn dangos, nad ydyw cadw y Sabboth yn Ceremoni wedi ei diddymmu, eithr yn orchymmyn Moesol, wedi i Grist ei ofod a'r lawr a'i gydffurfio ym mhlith Cristianogion. O Mynnwch chwi wybod y diwrnod ar yr hwn yr ordeiniodd Crist i Gristianogion gadw y Sabboth; ef a ddywed St. Joan i chwi mai ar ddydd yr Arglwydd, Dadc. 1.10. O mynnwch chwi wybod pa ryw ddydd o'r wythnos oedd hwnnw, St Paul a ddywed i chwi mai pob dydd cyntaf o'r wythnos ydoedd. 1 Cor. 16.2.
Megis y cynghorodd Crist felly y mae Cristianogion yn gweddio, ac yn ôl eu gweddiau fe ddarfu i Dduw (yehydig cyn dechrau y rhyfel) trwy leferydd rybuddio yr holl Gristianogion yn Jerusalem i ymadel oddiyno, ac i fyned i Pela, tref fechan tu hwnt ir Iorddonen: Euseb, hist. l. 3. cap. 5. Ac [Page 213] felly i ochel digofaint Duw, yr hwn a ddiscynnai ar y ddinas a'r genhediaeth. Gan na ddichon Cristion (felly) heb ofid calon ddiangc i achub e [...] fywyd ar y dydd Sabboth: pa fath orfoledd a diddanwch, a elli fod i wir Gristion a escculuso orchwylion sanctaidd o addoliad Duw yn yr Eglwys, i dreilio y rhan fwyaf o ddydd yr Arglwydd mewn chwaryd [...]ia [...]h gnawdol, neu drafferthion halogedig? A chan wered fod dinistriad Jerusalem, yngysta [...] yn arwyddocau, [...]c yn sicrhau dinistriad y byd: Mat. 24.35. Pwy ni wyl fod yn rhaid i'r Sabboth sanctaidd barhau mewn anrhydedd hyd ddiwedd y byd?
5. O blegid bod yr holl gyfraith ceremoniaidd wedi ei gorchymmyn i'r Iddewon yn vnig, ac nid i'r Cenedloedd: eithr y gorchymmyn hwn o'r Sabboth sanctaidd, (megis priodas) a ordeiniodd Duw ynghyflwr diniweidrwydd, pryd nad oedd ond vn cyflwr i ddynion oll, ac am hynny wedi ei orchymmyn i'r Cenedloedd, yn gystal ac i'r Iddewon. Onid oedd yr holl swyddogion, a pherchen tai tan orchymmyn i beri i'r holl ddieithriaid (yn gystal a'i teuluoedd, a'i deiliaid eu hunain) gadw y Sabboth sanctaidd, megis yr ymddengys wrth y pedwerydd gorchymmyn, ac ymarfer Nehemiah. Neh. 13.15.17. Yr holl Ceremoniau oedd ganolfur o wahaniaeth rhwng yr Iddewon ar Cenedloedd. Eph. 2.14. Eithr gan weled fod y Cenedloedd yn gystal a'r Iddewon, yn rhwym i gadw y gorchymmyn hwn, y mae yn eglur nad yw ef Ceremoni Iddewaidd. A chan weled fod yr vnrhyw awdurdod am y Sabboth, ac sydd am briodas: fe ddichon dŷn ddywedyd, nad yw priodas ond cyfraith Ceremoniaidd, yngystal a'r Sabboth. A chofia, lle yr ydis yn galw priodas ond vnwaith yn gyfammod Duw. Dihar. 2.17. O herwydd i Dduw ei hordeinio yn y dechreuad: felly y gelwir y Sabboth ym mhob lle, Sabboth yr [Page 214] Arglwydd dy Dduw, o ran i Dduw ei ordeinio yn yr vn dechreuad, o ran amser, cyflwr, a pharhâd, Am hynny nid Ceremoniaidd ydyw.
6. Y mae llygredigaeth ein hanian, yr hyn a ganfyddir yngwrthwynebiad cyhoeddus dynion drwg, ac mewn cyfrinachol anewyllyscarwch dynion da, i sancteiddio y Sabbath yn bur, yn dangos yn ddigon eglur fod gorchymmyn y Sabbath yn Ysprydol ac yn foesol. Rhuf. 7.14. Amos 8.5.
7. Oblegid, megis y darfu i Dduw trwy ddeddf dragwyddol, wneuthur yr Haul, ar lleuad, a'r goleuada [...] yn y ffurfafen, nid yn unig i wahanu rhwng y dydd a'r nos, eithr i fod hefyd yn arwyddion, am dymmorau, am ddyddiau, ac am flynyddoedd: felly yr ordeiniodd efe yn yr Eglwys a'r y ddaiar, y Sabbath sanctaidd i fod, nid yn unig yn dymmor gosodedig i'w addoli ef yn barchedig: ond hefyd yn ddosparth tragwyddol, a mesur ar yr amser. megis y mae saith ddiwrnod yn gwneuthur wythnos, pedair wythnos mîs, a deuddegmîs yn gwneuthur blwyddyn: felly saith o flynyddoedd a wna Sabboth o slynyddoedd, saith Sabbothau o flynyddoedd, a wna Jubili, [Blwyddyn hyfrydwch.] neu 80 Jubili, neu 4000 o flynyddoedd, neu ar ôl Ezechiel, 4000 o gufuddau, holl amser y Testament hên, hyd oni ddaeth Crist trwy ei fedydd a'i bregethiad, i ddechrau cyflwr y Testament newydd. Ni allai chwaith fyned ym mlaen yma heb ryfeddu, fel y parhâodd Sacrament yr Enwaediad yn yr Eglwys 39 o Jubiliau, sef o amser Abraham, ir hwn y rhoddasid yn gyntaf, hyd Bedydd Crist yn yr Iorddonen: yr hyn oedd yn union gynnifer o Jubiliau (yn ôl cyfrif Bucholcerus) ac a barhausai y byd o Adda i enedigaeth Abraham. Moeses a ddechreuodd ei weinidogaeth yn yr 80 flwyddyn o'i enioes. Crist a gymmerai ei swydd yn llaw, yn y 80 Jubili [Page 215] o oedran y byd. Yr oedd Joseph yn ddêg a'r hugain, pan ddechreuodd ef lywodraethu ar yr Aipht, Gen. 41.46. Ar Leuitiaid a ddechreuent wasanaethu yn y babell, pan fyddent ddêg a'r hugain oed: felly Crist vn agwedd, i gyfatteb y dull a'r arwyddion hynny, a ddechreuodd ei Weinidogaeth yn y degfed a'r hugain Jubili a'r ôl Moeses, a'r pryd yr oedd ef yn cerdded ar ei ddêg ar hugain oed, Luc. 3.23. ynghanol wythnos ddiwaethaf Daniel: ac felly (gan barhau yn ei weinidogaeth ar y ddaiar tros dair blynedd a hanner) a orphennodd ein prynedigaeth, a phennod Daniel, trwy ei farwolaeth wirion ar y Groes. Y rhan fwyaf o'r holl gyfnewidiau mawrion, a'r dygwyddiadau dieithrol, yr rhai a gwympodd allan yn yr Eglwys, a ddigwyddodd naill a'i yn y flwyddyn Sabbothaidd, a'i yn y flwyddyn Jubili? Megis i ddwyn esampl: Deg wythnos a thrugain Daniel oeddynt yn dechrau yn y flwyddyn gyntaf i Cirus, a'r 3439 flwyddyn o oedran y bŷd, a gynhwysant ynddynt yr vnrhif o flynyddoedd, ac yr oedd y byd yn ei gynwys o wythnosau o flynyddoedd hyd y pryd hynny: a chynifer o wythnosau o flynyddoedd, ac a barhausai y byd o Jubiliau. Dêg wythnos a thrugain o flynyddoedd Daniel, a gynhwysant bedwar cant a dêg a phedwar vgain o flynyddoedd sengl; y byd cyn hynny 490 wythnosau, neu Sabbothau o flynyddoedd. Diwedd-nod Daniel oedd 70 wythnosau, ac un y byd 70 Jubiliau: felly i gyssuro 'r Eglwys am 70 o flynyddoedd o gaethiwed, yr hyn a ddarfuasai iddynt eu ddioddef yn Babilon megis y prophwydodd Jeremi, Pen. 25.11.12. mae Gabriel yn dywedyd i Daniel, mai yn niwedd 70 o wythnosau, neu Sabbothau o flynyddoedd, hynny yw dêg a thrugeinwaith saith-waith o flynyddoedd, neu bumcant onid dêg o flynyddoedd, y gweithredid eu hymwarediad tragywyddol oddiwrth [Page 216] vffern trwy farwolaeth Crist, cyn siccred ac eu cawsent yr awrhon eu gwaredu allan o gaethiwed Babilon. Yr yspaid terfynedig hwn gan Daniel, Pen. 9.27. Oedd yn cynnwys 70 o Sabbothau, neu 10 Jubili o flynyddoedd, yw dechrau yn y rhydd-did cyntaf a ganniadhaodd Cyrus i'r Iuddewon, y flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad ef a'r y Babiloniaid, yr hyn a grybwyllir yn Ezr. 1.1. ac yw yn diweddu yn vnion yr amser y bu farw Crist ar y groes. O farwolaeth Crist, neu ddiwedd olaf wythnosau Daniel, hyd yr vnfed ar ddêg a thrugain i Grist, y mesurir y byd wrth y saith sel, neu saith Sabboth o flynyddoedd, yn gwneuthur un Jubili gyfan. Ar ôl diwedd y saith selau hynny, y mesurir y byd hyd ei ddiwedd wrth y saith o vdcyrn, Dad. 5. ac 8.2. ac 9.7. Pob vn yn cynnwys 249 o flynyddoedd. (Megis y mae rhai yn tybied, ynghylch pen 440 o flynynyddoedd etto, ymddengys y gwirionedd.) Enoch y seithfed yn ôl Addaf, gwedi iddo fyw gynifer o flynyddoedd ac sydd o ddyddiau yn y flwyddyn, sef 365, a gafas ei gyfnewidiad gan DDUW yn y flwyddyn Sabbothaidd. Moeses y seithfed oddiwrth Abraham, megis ail Enoch, a gladdwyd gan Dduw, ac a enesid yn y flwyddyn Sabbothaidd o'r byd, sef 2373. ac yn 777 ar ôl y diluw. (Ar ol cyfrif Broughton) a waredwyd, megis Noah newydd mewn Arch o gyrs, ac a fu fyw yn adeiladydd i'r Eglwys, cyhyd ac ei bu Noah yn adeliadu 'r Arch, sef 120 o flynyddoedd. Yr addewid i Abraham a wnaethpwyd yn y flwyddyn Sabbothaidd, yr hon oedd 2023 o'r byd. Y chweched flwyddyn i Josuah yr hon oedd 2500 o flynyddoedd yn ôl creadigaeth y byd, yn yr hon y meddiannwyd, ac ei rhannwyd y tîr rhwng meibion Israel, oedd flwyddyn Sabbothaidd, a'r 50 Jubili yn ôl creadigaeth y byd. Ar y flwyddyn hon y dechreuodd Moses ei Jubili, a'r hwn (megis a [Page 217] chadŵyn o ddêg ar hugain o ddolennau y rhwymodd ef ranniad meddiant Gwlad Canaan i'r Israeliaid trwy Josuah, hyd at agori teyrnas nefoedd i bawb a gredai trwy Jesu. Ac felly y mae 'n dwyn Eglwys yr Iuddewon, megis gyd â ffrŵd hyfryd o Jubiliau, oddiwrth yr arwyddoc [...]d i'r sylwedd, o Canaan i'r nefoedd, O Josnah i'r Jesu: Canys Crist ar ddiwedd y degfed a [...] hugain Jubili i Moses, ac ar ddechreuad y degfed ar hugain flwyddyn o'i oedran, wrth ei Fedydd a agorodd y nefoedd, ac a roddes y weledigaeth egluraf o'r Drindod fendigedig, ar a welsid er dechreuad y byd. A thrwy arianllais vdcorn ei Efengyl, y mae yn cyhoeddi, yn ôl prophwydoliaeth Esay, iechydwriaeth tragywyddol i bawb a edifarhant, ac a gredant ynddo ef. Esa. 61. Luc. 4.
A blwyddyn genedigaeth ein Iachawdwr Crist, yr hon oedd y 3948 o oedran y byd, oedd ar ddiwedd blwyddyn Sabbothaidd: ar 564 seithweithiad o'r byd: y mae Moses yn gwneuthur oed [...]an cyffredinol pob dŷn, i fod yn ddeg saith, Psalm 90. ac yn gyffredinol o fewn pob saith mhlynedd y digwydd rhyw gyfnewid neu dramgwydd hynodol ym [...]ywyd dŷn; Ac nid rhyfedd, canys fel y mae Hippocrates yn mynegi, fod i'r plentyn yn y gróth ar y seithfed dydd ar ôi ei ymddwyn, ei holl aelodau gwedi eu ffurfio, a'i fod o'r dydd hwnnw allan yn cynnyddu iw berssaith enedigaeth: yr hyn a fydd yn oestadol, naill a'i yn y nawfed, a'i yn y seithfed Fis. Yn ei seithmlwydd oed, y mae 'r plentyn yn bwrw ei ddannedd, a [...]hai newydd yn tyfu yn ei lle. A phob saith mhlynedd yn ôl hynny, y mae rhyw gyfnewid neu ddigwyddiad ym mywyd dŷn; yn enwedig yn naw-gwaith saith sef y flwyddyn Climactericol, yr hon drwy brawf a welwyd yn dynghedsennol i lawer o'r gwyr dyscedig, a fuont yn llewyrch i'r byd [Page 220] [...] [Page 221] [...] [Page 218] Ac os hwynt hwy a ddiangent rhag y flwyddyn honno, etto y rhan fwyaf o honynt a ymadawsant a'r byd hwn o fewn rhyw seithweithflwyddyn. Lamech a fu farw yn y 777 o'i enioes. Methusalem, yr oeswr hwyaf o feibion dynion, a fu farw yn nechreuad ei 900 a 70 o flynyddoedd. Abraham a fu farw, gwedi iddo fyw bum ar hugeinwaith saith o flynyddoedd. Jacob gwedi iddo fyw vn a'r hugeinwaith saith o flynyddoedd. Dafydd gwedi iddo fyw ddengwaith saith o flynyddoedd. Felly y gwnaeth Galen, felly y gwnaeth Petrarch, yr hwn (megis y mae Bodin yn scrifennu) a fu farw ar yr vn dydd or flwyddyn ac y ganesid. Felly y gwnaeth Elizabeth forwynaidd Frenhines, o fendigedig anfarwol goffadwriaeth, yr hon a ddaeth ir byd hwn noswyl genedigaeth y Fair Forwyn, ac aeth o'r byd a'r noswyl Cennadwri Mair Forwyn. [Hi fu gynt y mae hi 'r awrhon, (dyna ddwedyd i chwi ddigon) ar y ddaiar hon ym mhlaenaf, a'r ail Forwyn o'r nef vchaf.] Hipocrates a fu farw yn y 15 seithweithflwydd. Hierom ac Isocrates yn y 13. Plini, Bartolus, a Caesar yn yr 8 seithweithflwydd. A Johannes de temporibus, yr hwn [...] fyw 361 o flynyddoedd, a fu farw yn y 53 seithweithflwydd o'i enioes. Y cyffelyb a eilid ei nodi a'i adrodd am aneirif o rai eraill. Ac mewn gwirionedd y mae holl fywyd dŷn wedi ei fesur wrth y Sabboth: Canys pa nifer bynnag a fyddo dŷn fyw yma o flynyddoedd, etto nid yw ei fywyd ond bywyd o saith o ddyddiau, gwedi eu hamlhau: felly yn y rhif saith y mae cyflawnder dirgelaidd, yr hyn ni ddichon ein dealltwriaeth moi amgyffred.
Yr holl oruchei dresniad hon ar Bethau rhyfeddol cyn fynyched bob yn saith, a'n rhybuddia ni i ddyfal fyfyrio am Sabboth bendigedig y seithfed dydd, i adnabod ac i addoli Duw yn y bywyd hwn: megis o Sabboth i Sabboth, y gallom ni gael ein cyfnewidio [Page 219] i'r tragywyddol Sabboth gogoneddus o hyfrydwch, a dedwyddwch, yn y bywyd sydd i ddyfod.
Wrth ystyriaeth yr hyn beth, hawdd y dichon vn dŷn ar a edrycho yn yr Histori Sanctaidd, ddeall fod holl yrfa a rhôd y byd, yn cael ei lywodraethu, a'i ddarparu, megis mewn cadwyn o raglûniaeth Duw, yr hwn sydd yn trefnu pob peth mewn rhif, mesur, a phwys. Yr holl amseroedd gan hynny, a fesurir wrth y Sabboth: mal na till amser a'r Sabboth byth gael moi gwahanu, Na'i neillduo: Ac y mae 'r Angel yn tyngu Dad. 10.6. Y caiff y mesur hwn or amser barhau, hyd na byddo amser mwyach. Ac megis y cafas y Sabboth ei osodiad cyntaf yn y llyfr cyntaf o'r Scrythyrau, felly y cafas ei ffursiad yn yr olaf: ac megis y mae y llyfr hwn yn Gwrantu yr dydd; felly y mae 'r dydd hwn yn vrddo y llyfr: yn gymmaint a dadcuddio yr pethau sydd ynddo ar ddiwrnod mor sanctaidd, dadcuddiad yr Arglwydd ar ddydd yr Arglwydd. Dad. 1.10. Cyn hawsed iddynt gan hynny dynnu 'r Haul, neu 'r lleuad, a'r sêr allan o'r nefoedd, a deleu y Sabboth sanctaidd (llathen yr amser) allan o'r Eglwys: gan weled ordeinio y Sabboth yn yr Eglwys (yn gystal ar haul ar lleuad yn y ffurfafen) er mwyn gwahaniaeth yr amser.
8. Oblegid i'r holl Eglwys trwy gyttundeb cyhoeddus, er yn amser yr Apostolion, yn oestadol ddal bod gorchymmyn y Sabboth, yn foesol ac yn dragwyddol gyfraith Dduw, a bod cadw y Sabboth ar y dydd cyntaf o'r wythnos yn osodiad o'r eiddo Crist a'i Apostolion.
Y Gymansa a elwid Synodus Coloniensis sy'n mynegi, fod dydd yr Arglwydd yn barchedig yn yr Eglwys byth er amser yr Apostolion. Ignatius Escob Antioch (yr hwn oedd yn byw yn amser St Joan) a ddywed, Cadwed pob un ar a garo Grist, [Page 220] ddydd yr Arglwydd yn sanctaidd, yr hwn sydd ogoneddus o herwydd ei adcyfodiad ef, a brenin y dyddiau, yn yr hwn y gorchfygwyd Angau, ac i'r adcyfododd bywyd i ni yn Ghrist. Justin Martyr, yr hwn oedd yn byw ychydig ar ei ôl yntau, sydd yn dangos fod y Christianogion yn cadw eu Sabbath ar ddydd yr Arglwydd, megis yr ydym ninnau. Origen, yr hwn oedd yn byw yn y 180 flwydd. ar ôl Christ, sydd yn dangos yr achos pam y cyfnewidiwyd y Sabboth i ddydd yr Arglwydd. Orig. Homi. 7, super Exo. Y mae Augustin yn dywedyd, draddodi dydd yr Arglwydd i'r Eglwys trwy adcyfodiad yr Arglwydd ar y dydd hwnnw. Et ex illo coepit habere festivitatem suam, Aug. de tem. serm. 251. sef o hynny y dechreuodd gael bod yn wyl, a Christ a ordeiniedd yn gyntaf ei gadw yn sanctaidd. Ac mewn mam arall, mai 'r Apostolion a archodd gadw dydd yr Arglwydd yn uchelwyl crefyddol, o blegid ar y dydd hwnnw, y cyfododd ein Jachawdwr oddiwrth y meirw, yr hwn hefyd o'r achos honno a elwir dydd yr Arglwydd.
Megis gan hynny ei dywed Dafydd am ddinas Duw, Psal. 87.3. felly y ga [...]af finnau ddywedyd am ddydd yr Arglwydd, Gogoneddus bethau a ddywedir am danat ti o ddydd yr Arglwydd. Canys yr oedd yn ddydd genedigaeth [...]d, y dydd cyntaf yn yr hwn y dechreuodd creaduriaid gae [...] bod. Ynddo ef ei tynnwyd y Golenni allan o dywyllwch. Ynddo ef ei rhoddwyd y gyfraith ar fyn [...]dd Sinai. Ynddo ef y cyfododd yr Arglwydd o farw [...]laeth i fywyd. Ynddo ef y cododd y Seinctiau allan ou beddau, gan sicrhau mai arno ef y cyfodai Cristianogion i newydd-deb buchedd. Ynddo ef y discynnodd yr Yspryd glân ar yr Apostolion. Ac y mae yn ddigon cyffelybus, mai ar y seithfed dydd, pan vdcano 'r saith udoorn, y cwympa Jericho felldigedig y byd [Page 221] hwn, ac a rhyddd ein gwir Jesu i ni y meddiant addewidiol o wlad Canaan nefol. Josh. 6.16. Datc. 10.7.
Y neb a fynno weled cyfundeb yr hên amseroedd, ag arfer yr Eglwys o'r cynfyd yn hyn o beth, darllenned Histori eglwsig Eusebius Lib. 4. Cap. 23. Tert. Lib. de Idololatria. Cap. 14. Chrys. serm. 5. de Resurrectione. Constit. Apostol. lib. 7. Cap. 37. Cyril in Johan. Lib. 12. Cap. 58. o'r meddwl hwn y mae 'r holl iachus scrifennyddion newyddion: Edrych Fox ar Apoc. 1.10. Bucer in Mat. 12.11. Gualt. in Malach. 3. Hom. 23. Fulk ar Testament Rhem. Apoc. 1.10. Chem. Exam. Con. Trid. Par. 4. De diebus festis. Wolph. Chronol. Lib. 2. Cap. 1. Armin. Thes. in 4. praecept. Ac aneirif o rai eraill. Junius ddyscedig a gaiff ddywedyd tros y cwbl. Quamobrem cum dies Dominicus, &c. Am hynny gan weled fod dydd yr Arglwydd yn gystal trwy waith Crist (sef trwy ei adcyfodiad, ai synych yntddanghosiad iw ddiscyblion ar y dydd hwnnw) trwy esampl a gosodiad yr Apostolion, a thrwy arfer oestadol hen brif-Eglwys, a hefyd trwy dystiolaeth yr Scrythyrau, wedi ei gadw a'i osod yn lle 'r Sabboth Juddewaidd: inepte faciunt, y maent hwy yn gwneuthur yn ynfyd, y rhai a ddywedant mai o draddodiad yr ydis yn cynal dydd yr Arglwydd, ac nid o'r Scrythur, megis y gallont hwy yn y modd hwnnw, osod ar lawr a ffurfio traddodiadau dynion. Ac eilwaith, achos y cyfnewid hwn oedd adcyfodiad Crist, a'r lleshâd o adferu 'r Eglwys trwy Grist. Coffadwriaeth o'r hwn leshâd a ddaeth yn lle coffadwriaeth o'r creadigaeth, Non humana traditione, sed Christi ipsius observatione & instituto, nid trwy draddodiad dŷn, ond trwy osodiad ac archiad Crist, yr hwn yn gystal, ar ddydd ei adcyfodiad, ac ar bob wythfed dydd ar ol hynny, hyd oni dderchafodd i'r nef, a ymddanghosodd i'w [Page 222] ddiscyblion, ac a ddaeth iw cynnulleidfaoedd.
9. O blegid fod yr Arglwydd ei hun yn hyspysu mai diben neu 'r achos o'r Sabbath yw bod yn arwydd ac yn athrawiaeth dragwyddol rhyngddo ef ai bobl, mai efe yw 'r Jehovah trwy 'r hwn y Sancteiddir hwynt, ac am hynny rhaid iddo ef yn unig gael ei addoli ganddynt: a than boen cospedigaeth marwolaeth, y mae 'n gorchymmyn ei bobl yn dragywydd i gadw hyn o gossadwriaeth yn ddi-halog. Exod. 31.13.14. Eithr y defnydd, a'r diwedd hwn sydd foesol a thragwyddol. Am hynny y mae 'r Sabbath yn foesol ac yn dragywyddol. y peth a sancteiddiodd Duw yn dragywydd, na ryfyged un dŷn ei wneuthur yn gyffredin, neu yn halogedig. Ar y sail hon, y mae 'r gorchymmyn yn galw y dydd hwn, Sabbath yr Arglwydd dy Dduw, ac y mae Duw ei hun yn ei alw ei ddydd sanctaidd. Ac ar yr unrhyw sail hefyd, y cyssegrodd yr hên Destament ei holl Sabathau, a'i ddydiau gwylion, i addoli, ac anrhydeddu Duw yn unig. Gosod Sabbath gan hynny er anrhydedd i nebryw greadur, sydd bechod gorthrwm, a ffiaidd ddelw addoliad. Canys y mae'r llech gyntaf yn ei wneuthur yn rhan o addoliad Duw, fod Sabbath i'w anrhydedd ef. Felly yn Levit. 23.3.37.38. &c. Ac yn Ezec. 20.20. Neh. 9.14. Y Sabbath a roddir ar lawr am holl addoliad Duw. Ac y mae ein Jachawdwr yn dyscu fod yn rhaid i ni addoli yr Arglwydd Dduw yn unig. Mat. 4. Am hynny cadw Sabbath er anrhydedd i Dduw yn unig. Y mae 'r Yspryd glân yn adrodd ei fod yn un o bechodau mwyaf Jeroboam ddarfod iddo orchymmyn uchelwyl yn ol dychymyg ei galon ei hun. 1 Bren. 12.33. Ac y mae Duw yn bygwth ymweled a [...] Israel a'm gadw dyddïau Baalim, hynny yw, yr Arglwyddi, megis y gwna 'r papistaid i'r Seinctiau, Hos. 2.13. a dywed fod y cyfryw [Page 223] yn ei anghofio ef. Ac mewn Gwirionedd nid oes neb lai ei gofal i gadw Sabbath yr Arglwydd, na 'r rhai sydd fwyaf eu hofergoelion i gadw gwyliau a dyddiau dynion. Am hynny mae Eglwys Rufain yn arferu gorthrwm ddelw-addoliad.
Yn gyntaf, wrth gymmeryd arni ordeinio Sabbothau, yr hyn sydd yn perthyn yn unig i Arglwydd y Sabbath i wneuthur.
Yn ail, wrth gyssegru y dyddiau gwylion hynny i anrhydedd creaduriaid, yr hyn sydd gymmaint a'i gwneuthur hwy yn dduwiau sancteiddiol.
Yn drydydd, gan rhwymo wrth y dyddiau hynny addoliad Duw, gweddiau, ympryd, a haeddegaeth.
Yn bedwerydd wrth ofyn ar y dyddiau hynny o ddychymygiad dŷn, fesur mwy o barch, a sancteiddrwydd, nac ar ddydd yr Arglwydd, yr hwn a orchymynnodd Duw: yr hyn beth sydd o un essaith a pherchi Ang-hrist o flaen Crist. Ein Heglwys ni a ddiddymmodd ac a rodd heibio yn gyfiawn holl ddelw-addolaidd ac ofergoelaidd wyliau: ac y mae hi yn unig yn cadw ychydig ddyddiau Gwylion, er anrhydedd i Dduw ei hun, ac o ran esmwythder i wasanaethyddion. Deut. 5.14. Er bod defod er ys hir amser, yn ein trechu ni i arfer yr hên henwau er mwyn dosparth dinasol: megis yr arferodd St. Luc o enwau halogedig Castor a Phollux. Act. 28.11. a'r Christianogion o Ffortunatus, 1 Cor. 16.17. Mercurius, Rhuf. 16.14. a'r Juddewon o ddydd Mordicheus 2 Macab. 15.37.
10. Yn ddiwaethaf, esamplau o farnedigaethau Duw ar drawseddwyr y Sabbath, â allai yn ollawl selio, a dwyn ar ddeall i'r rhai sydd a'i calonnau heb galedu, mor greulon y mae yr holl Alluog Dduw yn digio wrth yr rhai a halogant ddydd yr Arglwydd yn ewyllyslawn.
[Page 224]Yr Arglwydd (yr hwn sydd ffordd arall yn Dduw 'r drugaredd) a orchymynnodd labyddio i farwolaeth yr hwn (o'i feddwl rhyfygus) oedd yn cynnutta ar y dydd Sabbath, Num. 5.32. Nid oedd y weithred ond bechan, gwir; ond yr oedd ei bechod yn fwy, am iddo (ar achos cyn lleied) ryfygu torri y fàth orchymmyn tramawr.
Nicaenor am iddo rysygu ymladd yn erbyn yr Juddewon ar y dydd Sabbath, a laddwyd ei hun a 35000 o'i wyr.
Llafurwr wrth falu ei ŷd ar ddydd yr Arglwydd, a gafas ei flawd wedi ei losci yn vlw.
Un arall yn dwyn ei ŷd ar y dydd hwn, a gafas ei yscubor a'r holl ŷd oedd ynddi wedi ei llosci gan dân o'r nefoedd, y nosson nessaf ar ol hynny. Desp. de tempore sermo. 117. Thom. cantipra lib. 2.
Hefyd rhyw wr ardderchawg, yr hwn oedd arferol ag halogi y Sabbath wrth helwriaeth, a gafas fab o'i wraig ac iddo ben yn debyg i ben ci, ac â chlustiau á gweflau, yn udo fel bytheiad.
Gwraig chwannog i'r byd; yn nyddu llîn yn Cingstat yn Ffraingc, oedran Crist 1559, wrth arfer gyd a'i morwynion o weithio ei chylfyddyd ar ddydd yr Arglwydd, fe a ymddanghosodd megis tân iddynt yn ennyn yn y llin, eithr heb wneuthur dim niweid: yr ail Sabboth ei llin a gymmerodd dân, ond fe a'i diffoddwyd yn hawdd: eithr a hi heb gymmeryd rhybudd er hyn, y trydydd Sabboth ei cymmerodd dân drachefn, ac a loscodd y tŷ, ac a ddeifiodd y wraig chwannog a dau o'i phlant, fel y buont feirw drannoeth: eithr trwy drugaredd yr Arglwydd, vn plentyn a achubwyd yn ei grŷd ac a dynnwyd allan o'r tan heb losci.
Ar y 13 o Jonawr, oedran yr Arglwydd 1582, ar ddydd yr Arglwydd ym Mharis Garden yn llundain, yr yscaffaldiau a gwympodd dan y bobl, wrth ymarthlygu [Page 225] a'r Arth, fel eu lladdwyd wyth yn ddisymmwth, ac aneirif a friwyd ac a anafwyd. Rhybudd i'r cŷfriw rai, a fyddo 'n cymmeryd mwy difyrrwch ar ddydd yr Arglwydd, o fod mewn chwaryddfau, yn gweled digrifwch cnawdol, na bod yn yr Eglwys yn gwasanaethu Duw ag ysprydol weithredoedd Duwioldeb.
Llawer o esamplau ofnadwy o farnedigaethau Duw o waith tân, yn ein dyddiau ni, a ddigwyddodd i lawer o drefi lle 'r ydoedd halogedigaeth dydd yr Arglwydd yn cael ei groesawn.
Stratfford ar Avon a ddifawyd gan mwyaf, ddwywaith gan dân; bob gwaith ar ddydd yr Arglwydd, sef ar y naill sul, fel pettau heddyw, ac ar gyfein ir vn dydd, ym mhen y flwyddyn drachefn; yn bennaf am halogi dydd yr Arglwydd, a diystyru ei Air yngenau ei weinidogion ffyddlon.
Teverton tref yn Defonsir (coffadwriaeth yr hon a bair im calon wylo o dosturi) oedd yn cael ei rhybuddio yn fynych gan ei Bigail bucheddol, y danfonai Dduw ryw ddialedd trwm arni, am ffieiddfudr halogi dydd yr Arglwydd, yr hyn a ddigwyddai yn bendant o achos bod ei marchnad ar y dydd oedd yn canlyn. Cyn pen hir o amser ar ol ei farwolaeth ef, ar y trydydd dydd o Ebrill, yn oedran yr Arglwydd 1598 y darfu i Dduw (mewn llai na hanner awr) ddifa â thân disymmwth dychrynadwy yr holl dref, ond yr Eglwys, y Dadleudy, a'r Elusendai, neu ychydig o anneddau tlodion. lle gallasai ddŷn weled pedwarcant o dai cyfanneddol ar vnwaith yn llosci, a mwy na dêg a deugain o ddynion wedi i'r flam eu difa. Ac yr awrhon eilwaith gwedi rhoi y llyfr hwnallan gyntaf, ar y pumed dydd o fîs Awst, 1612. (pedair blynedd ar ddêg ar ôl y waith gyntaf) yr enynnodd tân yn yr holl dref eilwaith, [Page 226] ac ei difawyd, oddiethr dêg ar hugain o dai rhai tlodion, yr yscol, a'r elusendai. Y maent hwy yn waeth na deillion, y rhai ni chanfyddant fod bŷs Duw yn hyn o beth. Canniadhaed Duw iddynt ei râs y pryd yr adeiladont hi nessaf, i newid ei dydd marchnad, ac i symmud pob achosion o halogi dydd yr Arglwydd. Cofied trefi eraill dŵr Siloe: Luc. [...]3.4. a chymmeront rybudd wrth weled cospedigaeth eu cymmydogion. Ofnont fygythiau Duw, Jer. 17.27. a chocliont brophwydi Duw os mynnant lwyddo. 1 Chro. 20.20. llawer o esamplau eraill o sarnedigaethau Duw, a ellir eu hadrodd, eithr onid yw hyn yn ddigon, i ddychrynu dy galon rhag halogi yn ewyllyscar ddydd yr Arglwydd, dos rhagot yn dy halogedigaeth, fe a allai ei gwnaiff yr Arglwydd dydi yn ensampl nessaf, i ddyscu eraill i gadw y Sabboth yn well.
Y mae ef yn cospi rhai yn y bywyd hwn, i ddangos y rhydd ef ei ddialedd yn y dydd diweddaf ar yr holl rai a drawseddo ei Sabboth yn ewyllyslawn.
Fel hyn y dangosasom yn eglur, fod gorchymmyn y Sabboth yn ddefodol, a bod ei newid ef, o'r seithfed dydd i'r dydd cyntaf o'r wythnos, wedi ei osod trwy awdurdod Crist a'i Apostolion. Eithr fel wrth gyhoeddi 'r gyfrairh, y cyssylltwyd amryw Ceremoniau perthynol i'r Juddewon yn neilltuol, i beri i'r bobl hyny fod yn fwy gofalus i gyflawni 'r gyfraith: megis wrth y gorchymmyn cyntaf, eu gwarediad o'r Aipht, yn arwyddocau eu gwarediad hwy o vffern: at y pumed gorchymmyn, hŷd y dyddiau Yn Ghanaan, yn argoel o fywyd tragwyddol yn y nefoedd: at y chweched gorchymmyn, dirwest oddiwrth waed, a phethau a dagwyd: yn arwyddo gafal i ymgadw oddiwrth bob math ar lofruddiaeth: ac at y gyfraith ei gyd, Ceremoni y lâs o femrwn, Num. 15.38. iw [Page 227] rhoi i feddwl ymgadw o fewn ymylau 'r gyfraith. Felly vn agwedd at y pedwerydd gorchymmyn y chwanegwyd rhai Ceremoniau a berthynent i'r Juddewon yn briodol, ac nid i bobl era [...]l: megis yn gyntaf, y ddau offrwm gorchymynnedig iddynt ar y Sabboth, Num. 28.9, 10. i ddangos fel y mynnai Dduw ei wasanaethu â mwy anrhydedd ar y Sabboth, nac ar ddyddiau 'r wythnos: yn ail, y gorchymmyn caeth na chynneuid tân ar y dydd Sabboth, na thrwfid bwyd, Exod. 35.2, 3. ac 16.23. ac na wneid neb ryw lafur corphorol, y ddau beth i ddwyn ar gof iddynt eu gwaredigaeth o'r ffwrn dân, a'i caethiwed yn yr Aipht, trwy arweiniad Moses ar y dydd hwnnw: a hefyd i arwyddocau iddynt ymwared tragywyddol eu heneidiau o dân vffern trwy farwolaeth Crist. Yn drydydd, cadw y Sabboth ar y seithfed dydd vnion yn ôl trefn y creadigaeth, gan arwyddocau i'r Juddewon, y deuai Grist, trwy ei farwolaeth (gan orphywys ar eu Sabboth hwynt yn y bedd) i beri iddynt lonyddwch a gorphywysdra oddiwrth faich ac iau y Ceremoniau cyfreithiol, yr hon ni allodd ein t [...]dau ni, na ninnau ei dwyn, Act. 15.10. Col. 2.16, 17.
A pha ddelw bynnac ym mharadwys cyn cwymp dŷn, nad ydoedd cadw y Sabboth ar y feithfed dydd o'r creadigaeth yn Ceremoni, eithr prawf o berffeithrwydd: etto yn ol y cwymp ef a aeth yn ceremoniaidd, ac iw gyfnewid o herwydd yr adferiad trwy Grist. megis y daeth bywyd dŷn yr hwn o flaen y cwymp oedd anfarwol, ar ol hynny i fod yn farwol, a noethni yr hwn o'r blaen llaw oedd yn harddwch, a ddaeth yn gywilydd gwedi hynny: a Phriodas a ddaeth yn arwydd o'r dirgeledig vndeb sydd rhwng Crist a'i Eglwys, Ephes. 5. Ac i gyflawni y Ceremoniau (y [...]hai er mwyn yr Juddewon a chwanegesid at y Sabboth) fe ddarfu i Grist yn ôl ei [Page 228] farwolaeth orphywys yn ei fedd holl ddydd Sabboth yr Juddewon, ac wrth orphywys felly, efe a gyflawnodd yr holl Ceremoniaidd angwanegiadau hynny.
Yr awrhon, fel na ddarfu i ddyspeidiad o'r Ceremoniau cyfylltedig at 1, 5, ar 6 gorchymynnion, ac at briodas, mo ddiddymmu y gorchymynnion hynny, na phriodas, mal na byddent yn ddosparthau tragywyddol o addoliad Duw a chyfiawnder dyn: ni ddarfu chwaith, i ddirymiad y Ceremoniau gosodedig at y Sabboth, ddiddymmu gweddeidd-dra y gorchymmyn am y Sabbath: felly er bod y Ceremoniau wedi eu rhoi heibio, wrth ddyfodiad y Sylwedd: ar cyscod wedi cilio o ran i Grist y corph ei guddio: etto yr orphywysfa fanctaidd, yr hon a orchymnynwyd ac a gadwyd, cyn bod na'r Juddewon yn bobi, na 'r Ceremoniau hynny wedi eu cysylltu at y Sabboth, a barhâodd yn dragywyddol gyfraith Dduw, trwy 'r hon y mae holl hiliogaeth Addaf yn rhwymedig i orphywys oddiwrth eu gorchwylion cyffredinol, mal y gallont gwbl dreulio pob seithfed dydd mewn cyhoedd anrhydedd a gwasanaeth yr vnig Dduw, eu Creawdwr, a'i Gwaredydd: eithr yn syiwedd y pedwerydd gorchymmyn ni chrybwyllir am yn mâth ar Ceremoni.
Y Dadleuon pennaf, yn erbyn defod y Sabboth ydynt dri.
1. Geiriau St Paul at y Galatiaid, cadw yr ydych ddiwrnodau a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd, &c. Gal. 4.10. Eithr nid yw yr Apostol yno yn condemnio neu yn beio ar y Sabboth Moesol, yr hwn a [...]lwn ni dydd yr Arglwydd: a'r hwn a ordeiniasai ef ei hun, yn ôl gorchymmyn Crist, yn yr Eglwysi hynny o Galatia, a Chorinth, ac a gadwasai ei hun mewn Eglwysi eraill, 1 Cor. 16.1. ac 14.37. Act. 20.7. eithr y mae ef yn dywedyd am ddyddiau, [Page 229] am amseroedd, a blynyddoedd yr Juddewon, ac am gadw y Sabboth ar y seithfed dydd yn ô [...] y creadigaeth, yr hyn y mae ef yn ei alw cysgodau pethau i ddyfod, gwedi eu diddymmu yn awr trwy Grist y corph; ac yn y gyfraith hwynt a elwir Sabbothau, eithr gwedi eu gwahanredu oddiwrth y Sabboth Moesol, Col. 2.17. Levit. 23.37, 38.
2. Geiriau St Paul at y Colossiaid, sef, Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd neu am d [...]iod, neu o ran dydd gwyl, neu newydd loer, neu Sabbothau, Col. 2.16. eithr y mae 'r Apostol yn meddwl Sabbothau Ceremoniaidd yr Juddewon, megis o'r blaen.
3. Yr hyn a scrifennodd yr vnrhyw Apostol at y Rhufeiniaid, sef, y mae vn yn barnu diwruod vwchlaw diwrnod, ac arall yn barnu pob diwrnod yn ogyfuwch, &c. Rhuf. 14.5.
Eithr nid yw St Paul yn gwneuthur dim o'r fâth gyfrif, canys nid yw y ddadi yno rhwyng yr Iddewon a'r cenedloedd, eithr rhwng y Cristianogion cryfion a'r gweiniaid, Rhu. 15.1. Y rhai cryfion oeddynt yn cyfrif y naill ddydd vwchlaw 'r llall, megis y mae yn ymddangos wrth fod dydd wedi ei orchymmyn, a'i gadw yn yr Eglwys, ym mhob man yn adnabyddus, a pharchedig with yr enw hwn, sef dydd yr Arglwydd. Ac am hynny mae St Paul yn dywedyd yma, yr hwn sydd yn ystyried ý diwrnod hwn ir Arglwydd y mae yn ei ystyried. Ystyried yr hwn, o herwydd cyfnewid seithfed dydd yr Juddewon, rhai Cristianogion gweinion (fel llawer heddyw) a dybient nad ydoedd angenrheidiol: felly onis myn gwyr (o achos diddymmu dydd yr Juddewon) anrhydeddu a chadw yn sanctaidd ddydd yr Arglwydd, eithr ei gyfrif fel diwrnod arall: y mae hyn (medd yr Apostol) yn argoel o'i gwendid hwy, a hynny sydd raid cyd-ddwyn ag efo, nes eu caffont hwy amser [Page 230] i gael eu hathrawiaethu ym mhellach yn yr iawn. Pob dadl arall a wrthwynebo y gorchymmyn hwn nid yw ond ofer, ac ni thâl moi atteb.
Yr union fodd o gadw yn sanctaidd ddydd yr Arglwydd.
YR awrhon sancteiddiad y Sabbath sydd yn sefyll mewn dau beth. Yn gyntaf, yn gorphywys oddiwrth bob gwaith a gorchwyl cyffredinol, ar a berthyno i'n bywyd anianol ni.
Yn ail, yn cyssegru yr orphywysfa honno yn gwbl ollawl i wasanaethu Duw, ac i arfer y moddion sanctaidd, y rhai a berthynant i'r bywyd ysprydol.
Am y cyntaf.
Y gweithiau, a'r gorchwylion sydd raid i ni beidio â hwynt, ydynt yn gyffredin holl ddinasol a gwledig drafferthion, o'r lleiaf hyd y mwyaf. Exod. 31.12, 13.29, 30.
I hysbysu yn eglurach:
Ymattalier Yn gyntaf, oddiwrth holl weithredoedd ein galwedigaeth hyd yn oed medi amser cynhaiaf.
Yn ail, oddiwrth ddwyn beichiau, a phynnau, megis y mae 'r Carwyr: neu farchogaeth allan o ran elw neu ddifyrrwch: fe a orchymynnodd Duw eu cai yr anifeiliaid orphywys ar y dydd Sabboth, fel y torrid ymmaith oddiwrth ddyn bob achos o ymdeithio, ac o lafurio gyd á hwynt. Deut. 5.14. Exod. 34.21. Jer. 17.21, 22, 27. Y mae Duw yn cennadu iddynt hwy lonyddwch a'r y dydd hwnnw, a'r sawl heb anghenrhaid, sydd yn dwyn eu llonyddwch oddi arnynt ar ddydd yr Arglwydd, fe fydd gruddfanau yr anifeiliaid lluddedig truein yn codi yn y farn yn nydd yr Arglwydd yn [Page 231] eu herbyn. Rhuf. 8.22. Un agwedd yw y rhai sydd yn treilio y rhan fwyaf or dydd hwn yn eu trwsio, au paintio au porthi eu hunain, megis Jesabel, gan wneuthur gwaith y cythraul ar ddydd Duw.
Yn drydydd, oddiwrth gadw ffeiriau a marchradoedd, yr hyn beth yn amlaf y mae Duw yn ei gospi â phlá heintus, tân, neu lifeiriant aruthrol.
Yn bedwerydd, oddiwrth fyfyrio ar lyfrau, neu gelfyddyd, oddieithr ar yr Scrythyrau Sanctaidd, a Duwioldeb. Canys y mae 'n rhaid i ni geisio bod yn draserchog yn yr yspryd ar ddydd yr Arglwydd. I fod yn fyrr, y mae 'n rhaid i ti y dydd hwnnw adael ymmaith bob gorchwyl yn dy alwedigaeth, megis ei gallo yr Arglwydd wrth ei alwad ef wneuthur ei waith ef ynot. Canys ni fendithia 'r Arglwydd ddim ar a ynnillir wrth orchwyl cyffredin ar y dydd hwn: eithr fe brifia megis aur Achan, yr hwn o herwydd ei gael yng-wrthwyneb gorchymmyn yr Arglwydd, a ddug felldith Dduw ar y cwbl arall a gasclesid yn gyfreithlawn. Ac os darfu i Grist fflangellu ymmaith megis lladron, y rhai oeddynt yn gwerthu ac yn prynu yn y Deml, yr hon nid oedd ond Ceremoni iw diddymmu ar fyrr: a ellir tybied y cynnwys ef y rhai hynny i ddiangc yn ddigerydd, a fyddo yngwrthwyneb ei orchymmyn, yn prynu, ac yn gwerthu ar y Sabboth, yr hwn yw ei gyfraith dragywyddol? Crist sy 'n galw 'r cyfryw yn gyssogr-yspei [...]wyr; ac hwy allant yn gystal ledratta y Caregl oddiar Fwrdd yr Arglwydd, a dwyn oddiar Dduw y rhan fwyaf o ddydd yr Arglwydd iw dreilio, a'i fwrw heibio, yn eu trachwantau eu hunain. Fe gaiff y cyfryw rai ryw ddydd weled, fod Barnedigaethau Duw yn drymmach nac y mae dynion yn meddwl eu bod.
Yn bumed, oddiwrth bob d [...]fyrrwch, a digrifwch, y rhai ydynt gyfreithlawn amser arall: Canys oni [Page 232] ddylid gwneuthur gorchwylion cyfreithlawn ar y dydd hwn, hytrach o lawer y dylem ymgadw oddiwrth ein difyrrwch cyfreithlawn, yr hwn sydd yn dwyn ymmaith ein serch, a'n hewyllys oddiwrth fyfyrio pethau nefol yn fwy nac vn weithred neu lafur corphorol. Esay. 58.13.14. Canys ni all fod i ddŷn sydd yn ymddigrifo yn yr Arglwydd, Psal. 37.4. Vn difyrrwch nac hyfrydwch mwy, na sancteiddio dydd yr Arglwydd. Canys a ddichon fod mwy gorfoledd i ddŷn a fyddaî wedi ei euogfarnu, na chael dyfod i lŷs ei Dywysog i gael ei bardwn, a'i faddeuant yn seliedig? neu i vn a fyddai glwyfus anescorol, na chael dyfod at y Physygwr a allai ei iachau ef? neu i fab afradlon a fuasai yn ymborthi ar y mês gyd a'r Môch, na chael ei gynnwys i ddyfod i fwytta bara y Bywyd ar Fwrdd ei Dâd? neu i'r hwn o herwydd ei bechod sydd yn ofni clywed sôn am farwolaeth, na chael clywed diogelwch oddiwrth Dduw am fywyd tragywyddol? Os wyt yn canniadhau difyrrwch i't dy hun, neu i'th wâs, canniadhâ hynny yn vn o'r chwe diwrnod, y rhai sydd eiddot ti, nid ar ddydd yr Arglwydd, yr hwn nid yw eiddo i ti nac iddynt hwythau. Nid oes gan hynny, vn difyrrwch corphorol iw arferu, oddieithr yr hyn a allo ddiddanu 'r enaid i wneuthur gwasanaeth yr Arglwydd yn fwy cyssurus.
Yn chweched, oddiwrth fwyta yn drwm, neu ysed gormodedd o wîn, neu ddiod gref, yr hyn a ddichon ein gwneuthur ni yn syfrdanllyd, ac yn anghymmwys i wasanaethu Duw a'n calonnau, ac a'n medddyliau. Eph. 5.18. Deut. 28.47.
Yn seithfed, oddiwrth bob siarad am bethau bydol, yr hyn a luddias sancteiddio 'r Sabboth, yn fwy na gweithio, gan weled ei gall dŷn weithio ei hun, eithr na all siar ad ond gyd a'g vn arall. Esa. 58.13.
[Page 233]Yr hwn sydd yn cadw y Sabboth yn vnig wrth orphywys, sydd yn ei gadw ef megis anifail. Canys gorphywysfa ar y dydd hwn a orchymynnwyd i Gristianogion cyn belled, ac y byddo yn gynnorthwy i sancteiddrwydd: a gwaharddwyd gwaith cyn belled ac y mae yn rhwystr i addoliad Duw oddifewn ac oddiallan.
Os ydyw gan hynny pob arferion o ddifyrrwch, y rhai ydynt gyfraithlawn amser arall, heb fod iw cynnwys ar y Sabboth; bytrach o lawer y mae pob rhai ydynt anghyfreithlawn bob amser arall, yn ollawl yn waharddedig. Pwy yn ddi-alaeth a ddichon oddef gweled Cristianogion yn cadw dydd yr Arglwydd, megis pe baent yn cynnal digwyl ac yn arlwyo Gwlêdd i Bacchus, ac nid i anrhydedd yr Arglwydd Jesu, Jachawdwr a Phrynwr y byd? O blegid wedi eu gwasanaethant Dduw vn awr fach i ymddangos yn dêg oddiallan, y maent hwy yn treulio y darn arall o ddydd yr Arglwydd, yn eistedd i lawr i fwyta ac i yfed, ac yn cyfodi i chwaren: 1 Cor. 10.7. Exod. 32.6.18.19. Yn gyntaf ymdorlwythant â bwyd a diod, ac yno porthant en trachwantau a chwaryddiaeth a dawnsiau. Yn erbyn y cyfryw halogedigaeth, y mae 'r holl Athrawon Sanctaidd, yn gystal yr rhai hên a'r newydd, yn tystiolaethu ac yn beio yn drachwerw: yn gymmaint a bod Augustin yn gwirio mai gwell yw aredig na dawnsio ar y dydd Sabboth. Aug. in tit. Psal. 91.
Yr awrhon yn enw yr Hollalluog Dduw, yr hwn a orphywysodd yn ol creu nefoedd a daiar: ac yn enw ei dragywyddol Fab Jesu, prynwr ei Eglwys, yr hwn ar fyrr a farna yr holl ddynion, yn ôl yr vfudd-dod a ddangosasont i'w orchymynnion ef: yr wyf yn erchi i ti, yr hwn wyt yn darliain y geiriau hyn, megis y byddo i ti atteb ger bron wynepryd Crist a'i holl Angelion Sanctaidd y dydd hwnnw, gyd-bwyso, ac [Page 234] ystyried, pa vn a wna dawnsio, chwareu interlud, chwareu mwm, cardiau, tabler, towlbwrdd, Bowlio, saethu, chwareu tenis, arthlygu 'r Arth, cwmpniaeth, carowsio, a'r cyfryw arferion ynfyd o Robin Hood, moris-dawnsiau, gwyl mab-sannau, chwareuon Mai, a'r cyffelyb, a'i bod yn orchwylion i Dduw i roi ei fendith arnynt, ac iw cynnwys ar y dydd Sabboth, a'i nad ydynt. A chan weled na ddylid gwneuthur un weithred ar y dydd hwn, oddieithr y cyfryw a fyddo i foliannu Duw, neu 'r cyfryw ac y gallom ddisgwyl bendith Dduw arni; Pa fodd y meiddi di wneuthur y pethau hynny ar y dydd bendigedig hwnnw, ar y rhai ni feiddi di erchi i Dduw ganniadhau ei fendith iw mwynhau? Clyw hyn a dychryna o ienctid halogedig o'r oes halogedig!
O galon rewlyd, gwbl ddi-ystyr a gwâg o râs Duw! yr hon gan fod bob dydd o chwech, bob awr ym mhob dydd, bob munyd ym mhob awr, yn cael archwaethu trugaredd dy Dduw yn Ghrist, heb yr hwn, bob munyd y buasit yn diflannu! Etto ni chlywi di yn dy galon ewyllys i allael treilio yr vn diwrnod hwnnw o'r wythnos, yngwasanaeth dy Feistr, yr hwn a gadwodd ef iw addoliant a'i foliant ei hun. Rhodded dynion ar lawr yr escusion a fynnont, er mwyn ymddiffyn eu halogedigaeth; ac attebont beth bynnac a roddo 'r cythraul yn eu pennau; etto mi ddymunwn arnynt gofio, gan weled mai hên draddodiad yn yr Eglwys ydyw [Lactan. lib. 7. c. 1.] Y bydd ail ddyfodiad yr Arglwydd ar ddydd yr Arglwydd, leied gorfoledd y fae iddynt gael eu goddiwes yn arferu cnawdol ddifyrrwch i ryngu bodd iddynt eu hunain, p [...]yd y byddo eu Meistr hwy yn disgwil eu cael yn ei wasanaethu ef mewn gorchwylion ac arferion ysprydol. Fe ddymunai 'r adyn mwyaf halogedig y pryd hynny yn hytrach gael ei ddal ar ei liniau yn gweddio yn yr Eglwys, nag megis gafr yn [Page 235] crychneittio yn y dawns. Oni ddichon hyn eu cynhyrfu, mi ddymunwn etto ar ein rhai gwychion ammur feddwl, pan fyddont yn dawnsio ar ddydd yr Arglwydd, yngwrthwyneb gorchymyn yr Arglwydd, nad ydynt ond dawnsio ar fîn y pwll; ac na wyddant pa vn gyntaf o honynt a syrth i mewn. I'r hwn yn ôl iddynt gwympo vnwaith heb edifeirwch, ni all mawredd yn y byd eu hachub oddiwrth ddial y Duw mawr, gorchymmyn yr hwn yngwrthwyneb eu gwybodaeth a'i cydwybod, yr oeddynt hwy mor rhyfygus yn ei drawseddu. Oni all gan hynny orchymmyn Duw moth ddychrynu di, na gair Duw moth gynghori di, Ni ddywedaf fi ddim ond y peth a ddywedodd St Joan om blaen i, yr hwn sydd frwnt bydded frwnt etto. Dad. 22.11.
Am yr ail.
Cyssegriad gorphywysfa 'r Sabboth sydd yn sefyll, yn cyflawni tri math ar ddyledion: yn gyntaf, cyn: yn ail, ar: yn drydydd, gwedi gorchwylion cyffredin yr Eglwys.
Y dyledion i'w cyflawni cyn y gwasanaeth cyffredin, ydynt.
1. Noswylio mewn pryd y noson o'r blaen, megis y byddo dy gorph yn ddiflinach, a'th feddwl yn gymmwysach i sancteiddio 'r Sabboth drannoeth. Canys o ddiffyg y parodrwydd hwn, tydi dy hun a'th weision pan fyddoch lluddedig gan lafur a gwilio y nos o'r blaen, a fyddwch mor bendrymmion, y pryd y dylech fod yn gwasanaethu Duw, ac yn gwrando beth a ddywaid ei Yspryd ef wrth yr Eglwys o ran athrawiaeth i'ch eneidiau, Dad. 2.3. Na byddwch yn gallael dal mo'ch pennau i fynu gan gyseu: i ddianrhydedd Duw, tramgwydd yr Eglwys, a gwradwydd i chwi eich hunain. Am hynny y mae 'r Arglwydd yn gorchymmyn i ni, nid yn vnig gadw yn sanctaidd; eithr hefyd ym mlaen llaw [Page 236] cofio y dydd Sabboth i'w gadw yn sanctaidd, gan barotoi ein calonnau, a rhoi heibio bob peth a'n rwystro ni iw gadw ef yn ddydd gogoneddus i'r Arglwydd. Esay. 58.13. Am hynny lle mae 'r Arglwydd yn y gorchymynnion eraill, naill ai yn erchi gwneuthur, neu beidio a gwneuthur: y mae ef yn rhoi y ddau ar lawr yn y gorchymmyn hwn, a hynny trwy Memorandum [sef c [...]ff [...]ad] hynodol. Megis pe bai Feistr yn rhoi siars a gorchymmyn i'w was am edrych yn dda ac yn fanwl at ddeg o bethau mawrion; eithr i fod yn fwy gofalus i gofio vn o'r dêg hynny yn enwedig, er mwyn amryw resymmau dyfnion: Oni ddylai wâs styddlon a garai ei fe [...]str, ddangos mwy gofal hynod am y peth hwnnw, nac am yr holl orchwylion era [...]ll?
Fel hyn yr oodd Moeses yn dyscu y bobl dros nôs i gofio 'r Sabboth: Exod. 16.23. Ac yr oedd hi yn ddefod ac arfer sanctaidd ym mhlith ein henafiaid, pan genid y glôch osber ar y noswyl o'r b [...]aen, fe a ymadawai 'r llafur [...]wr a'i orchwyl yn y maes, a'r Crefftwr a'i gylfyddyd yn ei fŵth, ac aent i'r Eglwys i brydnawnol weddi i baratoi eu heneidiau; mal y gallal eu meddyliau fod yn siriolach i addoli Duw ar y dydd Sabboth,
2. I feddiannu y noson honno dy lestr dy hun mewn sancteiddrwydd ac anrhydedd: 1 Cor. 7.5. Megis y gellych di roi dy enaid yn anrheg burach yng-olwg Duw y borau dran [...]oeth.
3. I godi yn blygeiniol y boreu ddydd Sabbath. Bydd ofalus gan hynny i godi yn foreuach ar y dydd hwn, nac ar y dyddiau eraill: yn gymmaint ac y mae gwasanaeth Duw iw roi o flaen trafferthion bydol: O herwydd nad oes vn Meistr iw wasanaethu cystal a Duw; ac yn y diwedd, nid oes well cyflog yn y byd iw gael, nac am ei wasanaeth ef.
4. Pan fyddych gwedi codi, ystyria wrthit dy [Page 237] hun pa ryw bechadur aflan wyt; ac i ba gyfryw le sanctaidd yr ydwyd yn myned i ymddangos, sef ger bron y gwir Dduw sanctaidd, yr hwn sydd yn gweled y galon, ac yn casau pob amhuredd a rhagrith. Ymhola â thydi dy hun gan hynny cyn i ti gychwyn i'r Eglwys, pa bechodau trymmion a wnaethost yr wythnos a aeth heibio; cyfaddef hwynt oll o flaen Duw, ac yn ddifrifol gweddia am gael maddeuant am danyn, ac felly gwna dy gymmod dy hun â Duw yn Ghrist. Adneŵydda dy addunedau i fyw yn fwy cydwybodus, a gweddia am ychwanegu y doniau a roddwyd i ti, ac am roddi i ti y rhai sydd arnat ti eu heisiau. Eithr yn enwedig gweddia am râs i wrando gair Duw yn fuddiol wrth glywaid ei ddarllen a'i bregethu, a gallael o honot dderbyn y Sacrament sanctaidd yn gyssurus (os dydd i gymmuno a fydd:) a gweddia ar i Dduw a'i Yspryd glân gynnorthwyo y pregethwr, i adrodd rhywbeth i ladd dy bechod, ac i gyssuro dy enaid: Col. 4.3. Yr hyn a elli di ei wneuthur yn y modd hyn, neu 'r cyfryw.
Boreuol weddi ar y dydd Sabboth.
O Arglwydd goruchaf, O Dduw tragwyddol, yr hwn sydd a'i holl weithredoedd yn ogoneddus, a'i Feddyliau yn ddyfnion: Ni ddich [...]n bod dim well na moliannu dy enw, a datcan dy dr [...]gareddau yn y borau, ar y sanctaidd a'r bendigedig ddydd Sabboth. Canys dy cwyllys a'th orchymmyn yw, i ni sancteiddio y dydd hwn yn dy foli a'th wasanaethu: ac i ddwyn ar gôf yn ddiolchgar, yn gystal am greadigaeth y byd trwy allu dy Air, a gwaredigaeth dynawl ryw trwy farwolaeth dy Fab. I ti Arglwydd (yr wyf yn cyfaddef) y mae Mawredd, a gallu [Page 238] a gogoniant, a goruwchafiaeth, a harddweh: Canys y cwbl yn y nefoedd, ac yn y ddaiar sydd eiddot ti: y deyrnas sydd eiddo ti Arglwydd, yr hwn hefyd a ymdderchefaist yn ben ar bob peth. Cyfoech hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthit ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth, a chadernid; yn dy law di hefyd y mae mawrhau, a rhoddi grâs i bawb. Yr awrhon am hynny O fy Nuw, y moliannaf dy enw sanctaidd: oherwydd lle yr oeddwn i bechadur truan gwedi annog dy anfodlonrhwydd a'th ddigofaint cyn fynyched, er hynny o'th rad a'th ddaioni (heb ddal sulw ar fy halogedigaeth a'm gwendid) ryngu bodd it ychwanegu y Sabboth hwn at rif fy nyddiau. Rhynged bodd it hefyd, O Dâd nefol, er mwyn haeddedigaethau Jesu Grist dy Fâb, (adcyfodiad gogoneddus yr hwn y mae 'r holl Eglwys heddyw yn ei glodfori) faddau a gollwng dros góf, fy holl bechodau am camweddau. Yn enwedig O Arglwydd, glanhâ fy enaid oddiwrth y pechodau bryntion hynny, â gwaed dy bur oen gwirion di-frycheulyd, yr hwn sydd yn tynnu ymmaith bechodau y byd. A phâr i'th Yspryd sanctaidd, farwhau fwyfwy fy llygredigaethau, megis i'm adnewydder ar lun dy ddelw di, i'th wasanaethu di mewn newydddeb buchedd a sancteiddrwydd o ymarweddiad. Yma y gelli gyfaddef pa bechod o'r wythnos aeth heibio sy'n gwascu ar dy gydwybod. Joan. 1.29. Ac megis y, darfu i ti o'th trugaredd fynghadw i yn ddiangol hyd ddechreu ydydd bendigedig hwn: felly yr wyf yn ymadolwyn it, ei wneuthur yn ddydd cymmod rhwng fy enaid pechadurus a'th ddwywawl Fawrhydi. Dôd i mi râs i'w wneuthur yn ddydd o edifeirwch tuag attat ti, fely byddo dy ddaioni yn ei selio ef yn ddydd o faddcuant i mi: ac fel y gallwyf gofio mai [Page 239] cadw yn sanctaidd y dydd hwn, yw 'r gorchymmyn ascrifennodd dy fŷs dy hun: Megis ei gallwn i ar y dydd hwn fyfyrio ar weithredoedd gogoneddus ein creadigaeth, a'n prynedigaeth; a dyscu y modd i adnabod, ac i gadw y cwbl eraill o'th cyfreithiau, a'th orchymynnion sanctaidd. Ac yn y man, pan fyddwyf ym mhlith y gynulleidfa sanctaidd, yn ymddangos yn dy dŷ ger bron dy wyneb, i offrwm it ein boreuol aberth o foliant a gweddi; ac i wrando beth a lefara yr yspryd (ym mhregethi ad dy air) wrth dy wâs; O na âd i'm pechodau sefyll megis cwmmwl i attal fyngweddiau, rhag derchafu attat ti; neu i gadw yn ôl dy râd rhag descyn trwy dy air yn fynghalon. Myfi a wn O Arglwydd, ac yr wyf yn crynu wrth feddylied, fod tair rhan o'r hâd da yn syrthio mewn tir drwg. O na âd i'm calon i fod yn deb yg i'r ffordd fawr, yr hon trwy galedwch ac eisiau gwir ddealltwriaeth, nid yw yn derbyn mor hâd nes dyfod yr vn drwg a'i ddwyn ymmaith: nac yn debyg i'r tir creigiog, yr hwn sydd yn gwrando yn llawen tros amser, eithr yn cilio cyn gynted ac y codo, na phrofedigaeth, nac erlid er mwyn dy Efengyl di: nac yn debyg i'r tîr dreiniog, yr hwn gan ofalon y byd a melyswedd buchedd a daga yr hâd megis nas gallo ddwyn ffrwyth i berffeithrwydd: Eithr yn debyg i'r tîr da, y byddwyf â chalon hawddgar gydwybodus, yn gwrando dy air, ac yn ei ddeall a'i gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy ammynedd, yn y mesur y gwelo dy ddoethineb fod yn gynshesur er mwyn dy ogoniant di, a'm diddanwch tragwyddol innau.Matth. 13.1, &c. Luc. 8.25. Col. 4.3. Act. 26.18. Agor hefyd yr wyf yn attolwg it O Arglwydd ddrws yr ymadrodd ith wâs, yr hwn a anfonaist attom ni i agoryd ein llygaid, ac i'n troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniom faddeuaut pechodau, a chyfran [Page 240] ym mysc y rhai a sancteiddwyd trwy ffydd yn Ghrist. A dyro i mi râs i ymostwng fy hunan at ei Weinidogaeth ef, yn gystal pryd y byddo yn fy nychrynu i â Barnedigaethau, a phan fyddo yn fy niddanu i a'th Trugareddau di. Ac fel y byddwyf yn rhoi fyn-rhaserch arno er mwyn ei orchwyl; O blegid ei fod yn gwilio tros fy enaid, megis vn a fydd raid iddo roddi cyfrif am dano i'w Arglwydd. Dyro i mi râs i'm ymddwyn fy hun ym mhlith y gynulleidfa sanctaidd mewn gweddeidddra, a pharch, megis yn dy ŵydd di, ac yngolwg dy Angelion sanctaidd. Cadw fi rhag syrthni a chyscu, ac rhag holl feddyliau gwib-grwydrus, a bwriadau bydol: sancteiddia fyng-hôf megis y byddo yn gymmwys i dderbyn, ac yn hydda i gofio yr holl athrawiaethau buddiol daionus, a ddyscir i ni allan o'th Air di. Ac fel y gallwyf trwy gynnothwy dy Yspryd glân arferu yr addysg ar moddion hynny, i'm hyfforddi mewn hawddfyd, am cyssuro mewn cystudd, er mwyn gwellhau fy muchedd, a rhoi gogoniant i'th enw. A bod y dydd heddyw, yr hwn y mae dynion anuwiol halogedig yn ei dreilio yn eu difyrrwch a'i trachwantau eu hunain, i mi (megis vn oth wasanaethwyr ffyddlon) allael dirfawr ymhyfrydu yn ei gysegru ef I'th anrhydedd a'th ogonedd di, heb wneuthur fy ffyrdd fy hun, na cheisio fy ewyllys fy hun, na dywedyd fyng-eiriau fy hun. Eithr gan roi heibio yn gystal gweithredoedd pechod,1 Thes. 5.12. Heb. 13.17. Esa. 58.13. Esa. 66.33. a gweithredoedd fyngalwedigaeth gyffredinol, y gallwyf trwy dy râs d [...], glywed yn fynghalon ddechreuad y Sabboth tragwyddol, yr hwn mewn llawenydd a gorfoledd anraethadwy a gaf fi ei gyssegru gyd a'th Seinctiau a'th Angelion, [Page 241] i'th foli a'th addoli yn dy deyrnas nefol yn dragywydd. Yr holl bethau hyn yr wyf yn dragostyngedig yn ymbil am danynt, yn enw a chyfryngdod ein Harglwydd Jesu, yn y ffurf ar weddi a ddyscodd ef i ni. ‘Ein Tâd yr hwn wyt, &c.’
Gwedi i ti fel hyn baratoi dy enaid dy hun o'r neilldu, os oes ofal tŷ a thylwyth i ti galw dy deulu yng-hyd, darllain bennod, a gweddia megis yn nyddiau yr wythnos: Eithr cofia ddibennu yr baratoad, ar dyledion neilltuol hyn, fel y gellych di a'th Deulu fod yn yr Eglwys cyn dcchreu y gweddiau. Onid ê fe ddichon eich neillduol arferion fod yn rhwystr ac nid yn barotoad. A thra fyddych di (a'th teulu) mewn hollhawl barch yn myned tu ar Eglwys myfyried pob vn fel hyn wrtho ei hunan.
Pethau i'w myfyrio wrth fyned i'r Eglwys.
1. DY fod yn myned i lŷs yr Arglwydd, ac i lefaru wrth y Duw Mawr mewn gweddi; ac i glywed ei Fawrhydi yn llefaru wrthit tithau yn ei Air: ac i dderbyn ei râd a'i fendith ar dy enaid, a'th lafur-onest, yr hyn a wnaethost yn y chwe' diwrnod a aethant heibio.
2. Dywed wrthit dy hun hyd y ffordd; Fel y brefa 'r hŷdd am yr afonydd dyfroedd: felly 'r hiraetha fy enaid am danat ti ô Dduw. Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw: pa bryd y deuaf, ac yr ymddangosaf ger bron Duw? Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di, na mil yn lle arall: dewiswn eistedd wrth y rhiniog yn nhŷ fy Nuw, o flaen [...]rigo ym-mhebyll annuwioldeb. Am hynny min [...]u a ddeuaf i'th dŷ di yn amlder dy drugaredd, ac [Page 242] a addolaf tu a'th Demlsanctaidd yn dy ofn di, Psal. 5.7. ac 42.1, 2. ac 84.10.
3. Ar dy fynediad i mewn i'r Eglwys dywed, mor ofnadwy yw y lle hwn? nid oes yma onid tŷ i Dduw, ac dymma borth y nefoedd, diau fod Duw yn y fan hon, y mae 'r Arglwydd yn ddiammau gyd a'r bobl yma. Gen. 28.16, 17. 1 Cor. 14.25. A chan ymostwng a'th wyneb tu ar llawr wedi y delych i'th le, dywed: O Arglwydd hoffais drigfan dy dŷ, a lle presswylfa dy ogoniant. Vn peth gan hynny a ddeisyfiais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf, sef caffel trigo yn nhŷ 'r Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei Deml: am hynny 'r aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd: canaf, ie canmolaf yr Arglwydd. Clyw o Arglwydd fy llyferydd, trugarhâ hefyd wrthif, gwrando arnaf, pan lefwyf arnat. Daioni, a thrugaredd yn ddiau am canlynant, oll ddyddiau fy mywyd, a phresswyliaf yn hŷ 'r Arglwydd yn dragywydd. Ac fel dyma y parodrwydd ar gwilio ar ein traed yr oedd Salomon yn ei gynghori i ni ei wneuthur, cyn myned i dŷ Dduw, Psal. 26.8. ac 27.4, 6. ac 23.6. Preg. 5.1.
Yr ail math ar ddyledion iw cyflawni ym mhlith y gynnulleidfa Sanctaidd.
PAn ddechreuo 'r gwasanaeth gad ymmaith dy neillduol fyfyriadau, a gâd i'th calon vno a'r Gweinidog, ac â'r holl Eglwys, o ran eich bod megis yn vn corph yn Ghrist, ac o herwydd bod Duw yn Dduw 'r drefn, efe a fyn wneuthur pob peth yn yr Eglwys o vn fryd ag un galon: Canys y mae gorchwylion yr Eglwys yn gyhoeddus ac yn gyffredinol. 1 Cor. 13.12. Act. 2.2.46, ac. 4.32. Am hynny [Page 243] balchder anwybodus yw i ddŷn dybied fod ei weddiau neillduol ei hun yn flrwythlonach na gweddiau cyffredin yr holl Eglwys. Salomon gan hynny sydd yn cynghori dŷn i beidio a bod yn brysur i draethu dim yn yr Eglwys ger bron Duw. Pre. 5.1. Gweddia gan hynny pan fyddo 'r Eglwys yn gweddio, cân pan ganont hwythau, ac ym mhob gweithred o fyned ar liniau, sefyll, eistedd, a'r cyfryw drefn arferol, a Ceremoniau diniweid (er mwya gochel tramgwydd, a chadw cariad perffaith, a thystiolaeth o'th vfydd-dod) ymosod dy hun at arfer yr Eglwys, yr hon y byddych yn byw ynddi.
Tra byddo 'r Pregethwr yn deongli ac egluro gair yr Arglwydd, edrych arno; canys y mae hynny yn gymmorth mawr i'th annog di i wrando, ac i'th cadw rhag syn feddyliau crwydrus: felly yr oedd llygaid pawb oll yn y Synagog yn eraffu ar Grist tra yr ydoedd yn pregethu: ar holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno, Luc. 4.20. Luc. 19.48. Cofia dy fod yno megis vn o ddiscyblion Crist, i ddyscu gwybodaeth iechydwriaeth er maddeuant pechodau, trwy diriondeb trugaredd ein Duw, Luc. 1.77.
Na fydd gan hynny yn yscol Grist, megis bachgen ofer mewn yscol Gramadeg, yr hwn er clywed yn fynych, sydd byth heb ddyscu ei wers: ac yn myned i'r yscol yn oesdad heb ddyscu vn twrn da: yr wyt ti yn cashau hyn mewn bachgen, y mae Crist yn ei ffieiddio ynot tithau. Gan hynny er mwyn cael o honot fwy budd a llês wrth wrando, dyfal noda.
1. Gyd-glymiad ac eglurhâd y testyn, [neu 'r teest.]
2. Beth yw prif amcan, neu fwriad yr yspryd glân yn y Testyn.
3. Ddosparthiad a rhannau y Testyn.
4. Yr athrawiaethau; ac ym mhob athrawiaeth [Page 244] y prawfiau, y rhesymmau, a'r defnyddiau o honaw.
Y ffordd ar dull hawsaf o'r cwbl i'r bobl y fo cynefin â hi iw cynnorthwyo i gofio'r bregeth: ac am hynny angenrheittiaf ei chael yn arferedig gan Figeiliaid ffyddlawn, y rhai ydynt ewyllyscar iathrawiaethu eu defaid yngwybodaeth Duw, a'i wir Grefydd.
Os bydd dosparth y Pregethwr yn rhyfanylaidd neu yn blethedig, yno gwna dy orau ar gofio:
1. Pa gyfryw bethau a ddyscaist ti, ar na wyddit ti o'r blaen, a bydd ddiolchgar.
2. Pa ryw bechodau yr oedd ef yn eu hargyoeddi, o'r rhai y mae dy gydwybod yn dywedyd i ti, dy fod ti yn euog; ac am hynny rhaid i ti wellhau.
3. I ba rînweddau y mae ef yn annog, y rhai nid ydynt berffaith ynot ti, ac am hynny ymegnia iw harferu â mwy awch a diwydrwydd.
Eithr wrth wrando, bwrw fod pob ymadrodd attat ti dy hun, ac fel pe bai Dduw yn dywedyd wrthit ac nid dŷn: Esa. 2.3. Act. 10.33. ac na fydded cymmaint gennit am glywed geiriau y Pregethwr yn melus-seinio yn dy glust, ac am ymwrando á ffrwyth yr Yspryd yn gweithredu yn dy galon. Am hynny y dywedir cyn fynyched, Dad. 2.7. yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed pa beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi. Ac Onid oedd ein calonnau ni yn llosci ynom tra 'r ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra 'r ydoedd efe yn agoryd i ni 'r Scrythyrau? Luc. 24.32. Ac mae yr fendith wedi ei haddaw ir rhai a wrandawant y Gair fel hyn, Luc. 11, 28. Dyma ein aberthu ein hunain yn gymmeradwy i Dduw. Dyma 'r argoe [...] hynnott af ar Seinctiau Crist: y nôd hawsaf i adnabod defaid Crist: y sein egluraf o etholedigion Duw. Deut. 33.3. Joan. 10.27. Joan. 8.47. Y gwir waed, yr hwn sydd megis yn ein vno ni i fod [Page 245] yn garenydd ysprydol, yn frodyr ac yn chwaiorydd i Fab Duw. Luc. 8.21. Dyma 'r gelfyddyd orau o ddal côf i wrandawr dyfal. Pan ddarfyddo 'r blegeth:
1. Gochel ymadel mal y naw gwahanglwyfus, nes darfod i ti dalu diolch a moliant i Dduw am dy athrawiaeth iachusol trwy weddi, a chanu Psalm. A phan fyddir yn adrodd y fendith, saf i fynu i dderbyn dy gyfran o honi, a gwrando hi megis pe bai Grist ei hun (Gweinidog yr hwn yw efe) yn adrodd y cyfryw wrthit: O blegit yn yr achos hon y mae 'n wir: y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fyng wrando i: Luc. 10.16. Ac y mae 'r dydd Sabboth yn fendigedig, o herwydd i Dduw ei osod ef i fod y diwrnod ar yr hwn, trwy enau ei Weinidogion, y bendiga ef ei bobl y rhai a wrandawant ei Air, ac a ogoneddant ei enw. Canys er nad yw y dydd Sabboth ynddo ei hun, yn fwy bendigedig na 'r chwe diwrnod eraill, etto o herwydd i'r Arglwydd ei ordeinio i arferion sanctaidd vwchlaw eraill, y mae yn rhagori cym mhelled ar ddyddiau eraill, ac y mae bara cyssegredig yr hwn yr ydym ni yn ei dderbyn ar Fwrdd yr Arglwydd, yn rhagori ar ybara cyffredinol, yr hwn yr ydym ni yn ei fwyta ar ein byrddau ein hunain.
2: Os dydd i Gymmuno a fydd, pwysa i fynu at Fwrdd yr Arglwydd, mewn gwise priodas o galon ffyddlon edifeiriol, i fod yn gyfrannog o'r cyfryw wledd fancteiddiol.
Ar pryd y byddont yn bedyddio, aros i wrando mewn holl ddisdawrwydd anrhydeddus, megis y gellych di felly: yn gyntaf, ddangos dy barch i ordeinhâd Duw: yn ail, fel y gellych ystyried yn well dy impiad dy hun ynghorph gweledig Eglwys Grist, a pha ddelw y cyflawnaist addunedau dy gyfammod newydd: yn drydydd, megis y gellych dalu [Page 246] yn ôl y dyledion yn gweddio tros y plentyn a fedyddir (megis y darfu i Gristianoglon eraill yn yr vn achos trosot tithau) ar i Dduw roddi iddo ef y ffrwythau ysprydol o'i Fedydd, trwy ei waed a'i yspryd.
Yn bedwerydd, fel y byddych yn cynnorthwyo 'r Eglwys ym moliannu Duw, am iddo impio aelod arall yn ei gorph dirgeledig.
Yn bumed, fel y gellych di wybod a fyddo effeithiau marwolaeth Crist yn lladd pechod ynot ti, ac a ydwyd ti wedi ymgyfodi i newydd-deb buchedd, trwy rinwedd ei adcyfodiad ef: ac felly i fod yn ostyngedig o achos dy ddiffygion, ac yn ddiolchgar am ei râd ef.
Yn chweched, i ddangos dy fod dy hunan yn wr rhydd o ddinasyddiaeth Grist: ac yn gallael rhoi dy laferydd a'th gyfundeb i ethol erail ir gymdeithas sanctaidd honno.
3. Os bydd yno vn gascl i'r tlawd, dod dy elusen yn rhwydd, ac yn ddirwgnach, megis y bendithiodd Duw dy allu, 1 Cor. 9.5, 6, 7.
A hyn am y dyledion sydd i'w cyflawni yn y gyn [...]ulleidfa sanctaidd.
Yr awrhon am y trydydd mâth ar ddyledion yn ôl dyfod o'r gynulleidfa sanctaidd.
WRth ddychwelyd tu ag adref, neu wedi yr elych i'th tŷ, myfyria ychydig ar y pethau a glywaist. Ac megis yr anifail glân yr hwn sydd yn cnoi ei gil, Levit. 11.3. felly rhaid i tithau ddwyn i'th côf drachefn, yr hyn a glywaist ti yn yr Eglwys: Ac yno gan syned i lawr ar dy liniau, trô 'r cwbl yn weddi, gan attolygu i Dduw roddi y cŷfryw fendith ar y pethau a glywaist, fel y byddont yn gyfarwyddyd i'th fywyd, ac yn ddiddanwch i'th [Page 247] enaid: Psal. 119.11. 1. Canys nes i'r Gair fal hyn fod wedi ei wneuthur yn eiddôm ni, ac megis yn guddiedig yn ein calonnau, yr ydym mewn perigl rhag i Satan ei ledratta ef ymmaith, ac na chaffom ni na budd na llês oddiwrtho. A phan fyddych yn myned i'th ciniaw yn y môdd diolchgar anrhydeddus á adroddwyd o'r blaen, cofia yn ol dy allu fod gyd â thi vn neu ychwaneg o dlodion Cristianogawl yn derbyn gennit ymborth i'w coluddion newynog: Gan wneuthur ar ôl Job yr hwn sydd yn mynegi na fwytaodd ef erioed moi fwyd yn unig, heb fod yr ymddifad, a'r tlawd yn bwyta o honaw, Job 31.17, 18. Dyna orchymmyn Crist ein Harg [...]wydd. Luc. 14.13. Neu o'r hyn lleiaf danfon beth o'th ciniaw i'r tlawd yr hwn sydd yn gorwedd yn glaf yn vn o'r bythod o'r tu ôl, heb ddim llyniaeth yn ei feddiant. O blegid hyn a ddwg fendith ar dy holl lafur a'th weithredon, ac a wnaiff mwy o orfoledd i'th enaid ti ryw ddydd, nag y mae yr awrhon yn ei wneuthur o lês cysfurol iw gorph ef, y pryd y byddo Crist yn dywedyd wrthit: Mat. 25.35.40. O fendigedig blentyn i Dduw, bum newynog a thi a roddaist i mi fwyd: bu arnaf syched a thi roddaist i mi ddiod, &c. Yn gymmaint a i wneuthur i vn o'r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethost: sef yr hyn a wnaethost er fy mwyn i, yr wyf yn ei gymmeryd vn agwedd a pha gwnaethit i mi fy hun medd yr Arglwydd Jesu.
Pan ddarfyddo ciniaw, a moliannu 'r Arglwydd, galw dy deuleu ynghyd, hola â hwynt pa beth a ddyscasant yn y bregeth: canmola y rhai sydd yn gwneuthur yn dda ac na ddigalonna mor rhai sydd a'i côf, neu a'i dealltwriaeth yn wannach, eithr yn hytrach hyffordda hwynt; canys fe ddichon eu hewyllys a'i meddyliau fod yn gystal a'r lleill. Trô at y tystiolaethau Scrythurol yr oedd y pregethwr yn eu hadrodd, ac argrapha y pethau da hynny ar eu coffadwriaethau [Page 248] hwynt drachefn yn ddwysach, Deut. 6.7, 20, 21. Yno cân Psalm, neu ychwaneg. Os bydd yr amser yn cynnwys di elli eu haddyscu, ai holi mewn rhyw fannau o'i Catechism, gan gydsynnied pob dosparth ag athrawiaeth yr Scrythur sanctaidd. Hyn a chwanega ein gwybodaeth ni, ac a flaen-llymma ein coffadwriaeth: gan weled beunydd mai y rhai fydd fynychaf arferol ym mhob celfyddyd, sydd swyaf hyfedr, ac odiaethol: Eithr er dim cofia drefnu yr arferion neillduol hyn megis y gellych di fod yn y gosber gyd â rhai cyntaf, lle y mae yn rhaid i ti dy ymddwyn dy hun yn yr vnrhyw anrhydedd, a duwiol-fryd ac a adroddwyd i ti yn y Foreuol Orchwylwaith sanctaidd.
Ar ol prydnawnol weddi ac ar dy-Swpper ymddwg dy hun yn yr vnrhyw sanctaidd a chrefyddol ymarfer ac a draddodwyd o'r blaen. Ac naill a'i o flaen, ai ar ôl Swpper, os bydd yr amser ar y flwyddyn a'r tymor yn gwasanaethu:
1. Rhodia i'r cauau a myfyrria ar weithredoedd Duw: Canys ym mhob creadur y gelli di ddarllain megis mewn llyfr agored, ddoethineb, gallu, rhagluniaeth, a daioni yr holl-Alluog Dduw. Ac fel na ddichon neb wneuthur yr holl bethau hyn mewn amryw ddull, rhinwedd, glendid, bywyd, cynnyrfiad, cynnedfau, oddiethr ein Duw ni yn vnig. [Praesentem narrat quaelibet herba Deum. Yn y maes mae pob llysieuyn Yn dangos fod nerth Duw gyferbyn.] Psal. 8.1.3. Rhuf. 1.19, 20.
2. Ystyria mor rasusawl yw efe, yr hwn a wnaeth yr holl bethau hyn i'n gwasanaethu ni.
3. Bydded hyn yn achos i'th annog, a'th cynhyrfu di ac eraill i ryfeddu, ac i anrhydeddu ei allu, ei ddoethineb, a'i ddaioni, ac i feddwl y fâth drueiniaid anniolchgar ydym ni, oddieithr i ni mewn oll yfydd-dod ei wasanaethu a'i addoli ef.
[Page 249]4. Os bydd vn cymmydog yn glâf, neu mewn nebryw orthrymder, dôs i ymweled ag ef: O bydd rhai gwedi ymrafaelio, gwna di dy orau ar wneuthur vndeb rhyngddynt, Jag. 5.14.
I ddiweddu, tri mâth ar weithredoedd a ellir eu gwneuthur yn gyfreithlawn ar y dydd Sabboth.
1. Gweithredoedd Duwioldeb, y rhai sydd, naill ai yn vnion yn perthynu at wasanaeth Duw, er eu bod i'w gwneuthur trwy lafur corphorol; megis tan y gyfraith, yr oedd yr offeiriadau yn cymmeryd poen i ladd ac i baratoi yr aberthau, ai llosci hwynt ar yr allor. Mat. 12.5. A Christianogion tan yr Efengyl pan ymdeithiont i bell fannau i addoli Duw, eithr nid yw hyn ond taith diwrnod Sabboth. Act. 1.12. Megis y gwnaeth y Sunamites, yr hon a drafaeliodd oddicartref i wrando gwr Duw ar y dydd Sabboth, am nad oedd iddi ddim addysc iw gael yn agos at ei thrigfa, 2 Bren. 4.22, 23. Ar Pregethwr er ei fod yn poeni ar chwys ar ei dalcen ac yn blino ei gorph, etto nid yw yn gwneuthur ond gwaith diwrnod Sabboth. Canys y diwedd sanctaidd sydd yn sancteiddio y weithred, megis yr oedd y Deml yn sancteiddio yr aur, a'r allor yr offrwm a roddid arni, Mat. 23.17, 19. Neu y cyfryw lafur corphorol trwy 'r hwn yr ymgynnulla pobl Dduw ynghyd, i'w addoli ef: Megis canu yr vdcyrn tan y ddeddf, neu ganu y clych tan yr Efengyl, Num. 10.2, 3.
2. Gweithredoedd cariad perffaith, megis achub hoedl dŷn, neu anifail, porthi, rhoi dwfr, neu drin anifeiliad: gwneuthur arlwy gweddaidd o fwyd neu ddiod, i faethu ein cyrph ein hunain, ac i lonni yr tlawd; ymweled a'r clâf, gwneuthur cascliadau ir tlawd a'r cyfryw bethau, Marc. 3.4, 5. Mat. 12.1.13.
3. Gweithredoedd anghenrhaid, nid escusol, eithr [Page 250] y cyfryw sydd raid eu gwneuthur yn bresennol, ac ni ellid moi gwneuthur o'r blaen, neu eu hoedi hyd amser arall. Megis gwrthsefyll rhuthr gelynnion, neu yspail lladron, diffoddi tân trychinebus, ac i Physygwyr attal neu ollwng gwaed, neu iachau vnrhyw ddolur heintus Marwol arall: Ac i Fydwragedd gynnorthwyo gwraig wrth escor: Mordwywyr allant drin eu gwaith: Milwyr a gwilwyr o cynnygir gosod arnynt allant ymladd: cennadau a allant farchogaeth er mwyn daioni cyffredinol, a'r cyffelib. Yn y cyfryw achosion a hyn y geill dŷn weithio yn gyfreithlawn: Ie a phryd y gelwir hwynt, hwy a allant ar y fath achosion a hyn fyned allan o'r Eglwys, ac oddiar arferion sanctaidd Gair Duw a'i Sacramentau: eithr ymddarparant bob amser i fod yn ddarostyngedig, o ran i'r cyfryw achosion ddigwyddo ar y diwrnod hwnnw a'r amser; ac na chymmerant ddim arian am eu poen, oddieithr am eu cyffyriau, a hynny yn ofn yr Arglwydd trwy wneuthur cydwybod o'i orchymmyn ef.
Pan fyddo amser gorphywys yn nesau, tyn o'r neilldu i ryw fangre gyfleus; a chan ystyried na ddichon vn dŷn byw mewn cyflwr llygredigol, sancteiddio y Sabboth yn y modd ysprydol y dylai, eithr ei fod yn ei droseddu ac yn ei dorri mewn amryw foddau, sef yn ei feddyliau, geiriau, a gweithredoedd; erfyn yn ostyngedig faddeuant am dy wendid a'th ddiffygion, a gwna dy vndeb dy hun â Duw, fel hyn, neu a'r cyfryw aberth brydnawnol.
Prydnawnol weddi neilltuol ar ddydd yr Arglwydd.
O Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw 'r Sabboth. Esa. 6.3. Cynnwys i mi er [Page 251] nad wyf ond llwch a lludw lefaru wrth dy Fawrhydi tra-gogoneddus. Mi a wn dy fod ti yn dân yssol, yr wyf yn cydnabod nad wyf fi ond fel soft wedi gwywo, y mae fy mhechodau o'th flaen di, ac y mae Satan yn sefyll ar fy llaw ddehau i'm cyhuddo i am danynt. Nid wyf yn dyfod i'm hescusodi, eithr i'm barnu fy hun yn euog o'r holl farnedigaethau, yr hyn a allai dy gyfiawnder di yn dra-chyfiawn roddi yn gôsp arnaf fi bechadur truan, am fy mhechodau am hanwireddau. Eu rhif hwynt sydd mor aneirif, eu naturiaeth sydd mor ofidus, fel y maent yn peri i mi ymddangos yn wael yn fyngolwg fy hun, pa faint mwy ffiaidd yn dy olwg di? Yr wyf yn cyffessu eu bod hwy yn fyngwneuthur i cyn belled oddiwrth fod yn deilwng i'm galw yn Fab i ti; onid ydwyf ollawl yn anheilwng i gael enw o fod yn wasanaethydd gwaelaf itti. A pha telit ti i mi yn ôl fy haeddedigaeth, fe ddylai y ddaiar (megis yn flin o ddwyn y fâth fauch pechadurus) agori ei safn am llyngcu megis vn o dylwyth Dathan, i bwll diwaelod vffern. Canys gan na ddarfu i ti arbed y canghennau naturiol, sef yr Angelion gogoneddus eu godidawgrwydd, eithr eu hergydio hwynt allan o'th trigfa nefol, i boenau y tywyllwch vffernol, i'w cystuddio yn dragywydd, pryd na phechasent ond vnwaith yn erbyn dy Fawrhydi; ac a aethwladaist ein hanafiaid cyntaf allan o beradwys am droseddu vn o'th gyfreithiau; och fi, pa ddial a ddylwn i ei ddisgwyl, yr hwn ni throseddais mewn vn pechod yn vnig, eithr pentyrrais bechod ar bechod, heb ddim gwir edifeirwch, gan yfed anwiredd fel dwfr, a bwrw i mewn bob amser,Gen. 18.27. Heb. 12, 29. Job 21.18. heb fwrw dim budreddi allan vn amser: A chwedi troseddu nid vn, eithr dy holl gyfreithiau a'th orchymynnion sanctaidd. Ie y dydd presennol, [Page 252] yr hwn a orchymynnaist i mi yn ddyfal ei gadw yn sanctaidd i'th foli a'th addoli, ni ddarfu i mi moi gadw, ai gynnal mor grefyddol, na pharatoi fy enaid yn y fàth sancteiddrwydd a diweirdeb calon ac oedd gymwys i gyfarfod dy Fawrhydi bendigedig ynghynnulleidfa sanctaidd dy Seinctiau. Ni ddarfu i mi mor ddyfal wrando, a dal sulw ar bregethiad dy air, ac ar gyfrannu dy Sacramentau, â'r cyfryw ostyngeiddrwydd, a pharch crefyddol, fel y dylaswn. Canys er bod fynghorph yn bresennol wrth wneuthur yr arferion sanctaidd hynny, etto o Arglwydd fe ddarfu i lawer o syrthni fyngoddiwes: ac er fy mod yn effro, yr oedd fy meddwl yngwibio yma a thraw, yn llawn o wagedd a meddyliau bydol, fel yr oedd fy enaid megis yn absennol, ac heb fod yn yr Eglwys. Ni ddarfu i mi (fel y dylaswn) fyfyrio wrthif fy hunan, na sôn, na chrybwyll wrth fy nheulu, am yr addysc dda a glyswn, ac a dderbyniaswn ni allan o'th Air sanctaidd, gan dy wenidog ffyddlawn. O herwydd hynny, fe ddarfu i Satan ledratta y rhan fwyaf o'r athrawiaethau hynny allan o'm calon, a minnau greadur truan a'i gollyngais tros gôf, megis pe buaswn erioed, heb eu clywed. Ac nid yw fy nhylwyth yn myned rhagddynt mewn gwybodaeth, a sancteiddrwydd fel y dylent. Ac er i mi wybod lle mae llawer o'm brodyr tlodion yn byw mewn eisiau, a rhai mewn dolur yn ddi-gynnorthwy: etto ni chofiais i synnied ar y naill am helusenau, ac a'r y lleill am cyssurau: eithr ymwledda fy hun, a phorthi fy nhrachwantau.Yma y gelli gyfaddef pa fai bynnac a wnaethost y dwthwn hwnnw, ac â dwys ochenaid dywedyd. Mi dreiliais y rhan fwyaf o'r diwrnod, mewn siarad ofer, chwaryddiaeth ddiles, ac arferion coeglyd. Ie Arglwydd fe ddarfu, &c. Ac am yr holl bechodau [Page 253] hyn, y mae fynghydwybod yn llefain fy mod yn euog; dy gyfraith yn fyngondemnio; ac yr wyf yn sefyll tan dy law i dderbyn y farn, a'r felldith ddyledus am dorri yn ewyllyscar y fath orchymmyn sanctaidd. Eithr beth er fy mod gwedi fy euog-farnu wrth dy gyfraith? Etto Arglwydd y mae dy Efengyl i'm sicrhau fod dy drugaredd vwchlaw dy holl weithredoedd: a bod dy râs yn myned tu hwnt i'r gyfraith, a bod dy ddaioni yn hoffi aros i lywodraethu, lle yr oedd pechodau yn amlhau. Gan hynny yn amlder dy drugareddau, ac yn haeddedigaethau Jesu Grist, fy Iachawdwr, yr wyf yn attolwg i ti O Arglwydd (yr hwn nid wyt yn diystyru calon orthrymedig, nac yn deisyfu marwolaeth pechadur ediferiol) faddau, a gollwng tros gôf, fy holl bechodau am beiau y dydd hwn, a phob dydd o'm bywyd; a rhyddhau fy enaid oddiwrth y farn a'r felldith sydd ddyledus i mi am danynt. Ty di yr hwn a gyfiawnheuaist y Publican drylliedig ei galon am chwe gair o gyffes, ac a dderbynniaist y Mab afradlon, (wedi darfod iddo ddifa ei holl gynhysgaeth o'th râd ti) i'th ffafr drachefn, ar ei edifeirwch: maddeu fy mhechodau i minnau vn agwedd, O Arglwydd, ac na chynnwys i mi fod yn golledig am fy anwireddau. Oh arbed fi, a derbyn fi i'th drugaredd drachefn. A wrthodi di fi o Arglwydd yr hwn wyt yn derbyn yr holl Bublicanod, Puteinaid, a phechaduriaid, ar a edifarhao ac a erfynnio nawdd ar dy law di? A'i fi yn vnig a geuir ac a drosclwyddir allan oddiwrth dy drugaredd?Rhu. 5.20. Eze. 33.11. Luc. 15.13. Mat. 21.31, 32. Gal. 3.22. Bydded ym mhell oddiwrthif fi dybied hynny, Canys yr vn Duw 'r drugaredd ydwyt i mi ac a fuost iddynt hwythau, a'th trugareddau byth [...]i phallant. Am hynny na thâl i mi yn ol fy [Page 254] haeddiant, eithr yn ôl dy dramawr drugaredd di. Na ddangos mo'th cyfiawnder tôst yn fy erbyn i bechadur: eithr ymarfer a'th hir ymaros i gyd-ddwyn â myfi greadur truan o'th eiddaw di. Nid oes gennif ddim i'w anrhegu i ti, yn iawn trosof, ond yn vnig yr archollion gwaedlyd, y chwerw angau, a'r dioddefaint, yr hyn a ddarfu i'th Fab bendigedig, fy Iachawdwr vnig ei oddef trosof. Efe (yn yr hwn yn vnig i'th fodlonir) yr wyf yn ei gyflwyno i ti tros fy holl bechodau, yn y rhai i'th anfodlonir. Efe fynghyfryngwr, erfynniad gwaed yr hwn syddyn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel, ni ddichon dy drugaredd byth moi necau. Goleua fy nealltwriaeth, a sancteiddia fynghalon, a'th Yspryd glán, fel y dêl i'm cof yr holl athrawiaeth, a'r pethau daionus a ddyscwyd i mi allan o'th air sanctaidd, megis y gallwyf gofio dy orchymynnion i'w cadw, dy farnedigaethau i'w gochelyd, a'th addewidion hyfryd i roi fy hyder am goglyd arnynt, yn amser trallod a thrueni. Ac yr awrhon O Arglwydd yr wyf yn fy ymroi fy hun i'th ewyllys trabendigedig, oh derbyn fi i'th serch a'th ffafr, a dena fi felly trwy dy râd attad dy hun, megis y gallwyf fod yn eiddo ti, yn gystal trwy serch a theby goliaeth, a thrwy alwedigaeth a chreadigaeth. A dôd i mi râd felly i gadw yn sanctaidd dy Sabbothau yn y bywyd hwn, fel y gallwyf (pan ddiweddo y bywyd hwn) gadw yn anrhydeddus y Sabboth tragwyddol o foliant a gorfoledd, ym mhlith dy Seinctiau a'th Angelion, i glodfori dy enw bendigedig, yn dy deyrnas nefol yn dragywydd. Amen. Heb. 12.24.
Ac yno gan alw dy deulu ynghyd; gorphen y Sabboth â'r myfyriadau, ac â'r gweddiau a bennodwyd o'r blaen i'r teulu. Ac fe rydd yr Arglwydd y nos honno i ti hûn felysach ac esmwythach [Page 255] nac amser arall, ac a lwydda yn well i ti dy holl orchwylion a'th amcanion yn yr wythnos yn ôl hynny.
Hyd yn hyn am y gyffredin ymarfer o Dduwioldeb, yn gystal yn neilltuol, ac yn gyhoeddus.
Yma y canlyn yr ymarfer anghyffredin ac anaml o Dduwioldeb, trwy 'r hyn y gogoneddir Duw yn ein bywyd.
YR arfer anghyffredin ar Dduwioldeb sydd yn sefyll, naill ai yn ymprydio, ai yn gweuthur gwleddau.
1. Am arfer o Dduwioldeb yn ymprydio.
Y mae amryw fâth ar ymprydio: yn gyntaf ymprydio o anfodd, naill a'i pryd na byddo gan ddynion ddim iw fwyta, megis yn y newyn yn Samaria: 2 Bren. 6.25. neu pan fo llyniaeth ganddynt, ac nis gallant ei fwyta gan glefyd neu gystudd, megis y digwyddodd i'r rhai oedd gyd á St Paul yn y llong. Act. 27.33. Newyn yn hytrach nac ympryd yw hynny.
2. Yn ail, ympryd naturiol, yr hwn yr ydym ni yn ei gadw o ran physygwriaeth, neu iechyd i'n cyrph.
3. Yn drydydd, ympryd dinasol, yr hwn y mae y swyddog yn ei ofod o ran gwell cynhaliaeth i'r wlad; megis i arfer pyscod yn gystal a chig, fel y gallo fod mwy llawnder o'r ddau.
4. Yn bedwerydd, ympryd rhyfeddol, megis ympryd Moeses ac Elias, yr arwyddion, ac un Christ, y sylwedd, dros ddeugain nhiwrnod: Hwn sydd yn hytrach iw ryfeddu nac i'w wneuthur drachefn.
[Page 256]5. Yn bumed, ympryd beunyddiol, pan fyddo dŷn yn ofalus i arfer o ymborthi ar greaduriad Duw yn gymmedrol, megis na byddo hynny yn ei wneuthur yn drymmach, eithr yn fwy hyfforddus i wasanaethu Duw, ac i wneuthur y pethau a berthyn iw alwedigaeth. Hwn yn enwedig a ddylai Weinidogion y gair a Barnwyr ei gadw yn ddyfal. 1 Tim. 3.3. Dihar. 31.4, 5.
6. Yn chweched, ympryd duwiol neu grefyddol, yr hwn y mae dŷn yn ei gadw yn ewyllyscar, i wneuthur ei gorph a'i enaid yn gymhesurach ac yn fwy awchus i weddio at Dduw, o ran rhyw achos hynod. Ac am yr ympryd hwn yn unig i'r adroddwn.
Ympryd Duwiol sydd o ddau fâth, naill a'i neilltuol, a'i cyhoedd.
1. Am ympryd neilltuol.
MEgis y gallom ni yn vnion gyflawni ympryd neilltuol, y mae i ni bedwar peth iw ystyried; yn gyntaf, yr Awdr; yn ail, yr amser a'r achos; yn drydydd, y modd: yn bedwerydd, y diben, sef i ba ddefnydd y mae ympryd neillduol.
1. Am yr Awdur.
Y cyntaf a ordeiniodd ac a drefnodd ympryd, oedd Dduw ei hun ym mharadwys: a'r gyfraith gyntaf ar a wnaeth Duw ydoedd hi, sef gorchymmyn i Adda ymgadw oddiwrth y ffrwyth gwaharddedig. Ni adroddai, ac ni scrifennai Dduw ei gyfraith heb ympryd, ac yn ei gyfraith y mae ef yn gorchymmyn iw holl bobl ymprydio: felly y mae ein Jachawdwr Christ yn athrawiaethu ei holl ddiscyblion yntau tan y Testament newydd un agwedd. Math. 6.17. Ymprydio yn dduwiol ydyw 'r modd nessaf a bair i ddŷn ymddangos yn debyg [Page 257] i Angelion, a gwneuthur [...]wyllys Duw ar y ddaiar, megis y gwneir yn y nefoedd. Je y mae natur megis yn dyscu i ddŷn y ddlêd hon, gan roddi iddo safn bychan, a gwddf cyfyngach: o ran fe fodlonir natur ag ychydig, a grâs â llai. Ac nid yw natur a grâs yn cyttuno yn well mewn vn weithred nac yn ymarfer o ympryd duwiol: canys y mae yn cryfhau y côf, yn goleuo y meddwl, yn llewyrchu y dealltwriaeth, yn ffrwyno trachwantau, yn marwhau y cnawd, yn ymddiffyn diweirdeb, yn achub rhag clefyd, yn cynnal yr iechyd, yn gwaredu rhag drygau, ac yn peri pob mâth ar fendithion.
Torri 'r ympryd hwn a wnaeth i'r Sarph gael y llaw 'n vchaf ar Adda gyntaf, oni chollodd ef ei le ym mharadwys:
Eithr wrth gadw ympryd y darfu i'r Ail Adda orchfygu 'r Sarph a'n hadferu ni i'r nefoedd. Ympryd oedd yn cuddio Noah yn ddiogel yn yr Arch, yr hwn y darfu i anghymmedroldeb ei anghuddio, a'i ado yn noeth lŷmyn yn y winllan. Trwy ympryd y darfu i Lot ddiffoddi fflam Sodom, yr hwn y darfu i feddwdod ei ddeifio â than ymloscach. Ympryd crefyddol, ac ymddiddan â Duw, a wnaeth i wyneb Moeses ddiscleirio o flaen dynion; pryd yr oedd bwyta ac yfed yn ddelw-addolaidd, yn peri i'r Israeliaid ymddangos yn ffiaidd yngolwg Duw. Dyma 'r peth a gippiodd Elias yn ei gerbyd [Page 258] Angelaidd i'r nefoedd, pryd yr oedd Ahab drachwantus wedi ei drosi mewn cerbyd gwaedlyd i uffern. Dyma 'r peth a barodd i Herod gredu y byddai Joan fedyddiwr fyw yn ôl marwolaeth trwy adcyfodiad bendigedig; pryd ar ôl bywyd anghymmedrol, nid allai ef addo iddo ei hun ddim, ond dinistr ac angau tragywyddol. O Dduwiol ordeinhâd gan dduwiol Awdur!
2. Am yr amser.
Nid yw 'r Scrythur sanctaidd yn pennodi un amser i ymprydio tan y Testament newydd; eithr gadael i Gristianogion yn ei dewis eu hunein, ymprydio pan fyddo achos. Rhuf. 14.3. 1 Cor. 7.5. Math. 9.15. Megis pan ddelo dyn yn ymbisiwr taer a gostyngedig at Dduw, am gael maddeuant am ryw bechod gorthrwm; neu o ran ymgadw oddiwrth ryw bechod, i'r hwn y mae dŷn yn gwybod fod Satan yn ei ddenu: neu er mwyn cael meddiannu rhyw fendith hynodol, yr hon sydd diffygiol iddo: neu i droi hcibio ryw farn, yr hon y mae dŷn yn ei ofni, neu sydd wedi digwyddo yn barod iddo ef neu eraill: neu yn ddiweddaf i ostwng ei gorph at ei yspryd, megis y gallo ef yn fwy cyssurus dywallt allan ei enaid ger bron Duw mewn gweddi. Ar yr achosion hyn y geill dŷn ymprydio diwrnod neu yn hwy, megis y byddo 'r achos yn gofyn, a thymer ei gorph, ac angenrheidiau eraill yn rhoi cennad. Lev. 23.32. Esth. 4.16.
3. Am y modd i arfer ympryd neillduol.
Yr union fodd i gyflawni ympryd neillduol, sydd yn sefyll mewn gweithredoedd oddiallan, a gweithredoedd oddifewn.
Y gweithredoedd oddiallan ydynt, dirwest, neu ymgadw tros yr amser yr ymprydiom: yn gyntaf, [Page 259] oddiwrth bob trafferth a gorchwyl bydol, gan wneuthur y dydd ympryd, megis yn ddydd Sabbath, Levit. 23.28. Canys y mae masnach fydol yn dwyn ymmaith ein meddyliau oddiwrth sanctaidd addoliad.
Yn ail; oddiwrth bob mâth ar ymborth, ie oddiwrth fara a dwfr, cyn belled ac y byddo iechyd yn cynnwys: 2 Sam. 3.35. Ezra. 10.6. Act. 9.9. 1. Fel y byddom felly yn cydnabod ein anheilyngdod ein hunain, megis na haeddem na 'n bywyd na 'r moddion o'i gynhaliaeth. 2. Megis trwy gystuddio y corph y gallo 'r enaid, (yr hwn sydd yn dilyn ei naws ef) fod yn fwy gostyngedig. 3. Megis y byddom ni felly yn dial yn dduwiol arnom ein hunain, am gamarferu ein rhydd-did yn arfer o greaduriad Duw, 2 Cor. 7.11. 4. Megis wrth beri i'n cyrph newynu o eisiau daiarol bethau, y gallo ein eneidiau ddyscu newynu ac hiraethu am ysprydol a nefol borthiant. 5. I beri i ni feddwl, mai megis yr ydym ni yn ymgadw oddiwrth fwyd, yr hwn sydd gyfreithlawn, y dylem ni yn hytrach ymgadw oddiwrth bechod, yr hwn sydd yn ollawl yn anghyfreithlawn.
‘Quid prodest vacare corpus at escis, & animum replere peccatis. Aug. de Temp.’
Yn drydydd oddiwrth bob gwisc drwyadl a dillad gwychion: Canys megis y mae camarfer o'r rhain yn ein chwyddo ni â balchder, felly bwrw heibio eu harfer cyfreithlawn sydd yn tystiolaethu ein gostyngeiddrwydd, Exod. 33.5, 6. Hest. 4.1, 2. [Page 260] Ac i'r defnydd hwn yr arferent yn yr hên amser (yn onwedig mewn ymprydiau cyhoeddus) o wisco sachliain, neu ryw wisc salw-fras arall, Jonah 3.5.6. vniawnder yr hyn beth sy'n parhau etto; yn enwedig mewn ymprydiau cyffredinol: o ran dyfod ar y pryd hwnnw i'r gynnulleidfa â cholerau gwedi eu dyfal startsio, a gwallt gwedi ei grychu â haiarn gosod, ac â gwisc brydferth, gwedi ei addurno â llyssiau ac â pher arogl, sydd yn arwyddoccau enaid nid yw na gostyngedig ger bron Duw, nac erioed yn adnabodus a'r vnion arfer o'r cyfryw orchwyl sanctaidd.
Yn bedwerydd, oddiwrth gyflawn fesur o gynefin gŵsc. Fel y gellych di y ffordd honno hefyd ostwng dy gorph: ac megis y gallo dy enaid wilio a gweddio, i fod yn barod erbyn dyfodiad Crist. 2 Sam. 12.16. Joel 1.13. Hest. 4.3. Ac o thorri di yn fynych ar dy gwsc, o ran budd bydol neu ddifyrwch, pa faint mwy y dylit ti wneuthur hynny o ran gwasanaeth i Dduw? Ac o darfu i Ahab er tebygu ir duwiol, yn ei ympryd orwedd mewn sachliain, i dorri ei gŵsc y nôs; 1 Bren. 21.27. beth a dybiwn ni am y rhai a ymroant eu hunain i gyscu ar ddydd ympryd yn yr Eglwys?
Yn bumed ac yn olaf, oddiwrth bob difyrrwch i'n synwyrau oddiallan. Canys megis nad y gwddf yn vnig oedd yn pechu, felly nid y gwddf yn vnig sydd iw gosbi. [Si sola gula peccavit, sola jejunet, & sufficit. Si vero peccaverunt & caetera membra, cur non jejunent & ipsa? Bern. Os y gwddf ei hun sy 'n pechu, ymprydied ef mai 'n ddigon hynny, ond os pecha 'r holl aelodau, pan na chyd ymprydiant hwythau?] Ac am hynny y mae yn rhaid i ni ymegnio i beri i'n golygon (megis ar bob amser, felly) yn enwedig ar y dydd hwnnw, ymprydio rhag canfod oferedd; a'n clustiau rhag clywed music neu gerddwriaeth, oddieithr y cyfryw a wnelo i ni alaru: [Page 261] ein ffroenau rhag pêr arogl, ein tafodau rhag celwydd, gweniaeth, ac enllib, ie rhaid rhoi heibio arfer y gwely priodas, er crefyddol anrhŷdedd i'r Mawredd galluoccaf: megis na byddo felly dim yn rhwystro ein gwir ostyngeiddrwydd, eithr bod o'r cwbl yn argoelion ein bod yn ddifrifol ostyngedig. A hyn am y modd oddiallan.
2. Y modd ar ynprydio oddifewn sydd yn sefyll mewn dau beth.
- 1. Edifeirwch.
- 2. Gweddî.
Edifeirwch sydd a dwy ran iddi.
- 1. Gresyndod am bechodau a aethant heibio.
- 2. Gwellhâd buchedd o'r amser hynny allan.
Y Gresyndod hwn, sydd yn sefyll mewn tri pheth. Yngyntaf, yn cymmeryd golwg ar dy bechod oddifewn, ac yn ymwrando a'th trueni. Yn ail, yn cwyno dy gyflwr ffiaidd. Yn drydydd, yn gwneuthur gostyngedig neillduol gyffes o'th holl bechodau adnabyddus.
1. Am gymmeryd golwg a'r bechod oddifewn, ac ymwr andaw a thrueni.
Yr ymwrandawiad ar golygiad hwn a weithredir ynot: Yn gyntaf, wrth ystyried dy bechodau, yn enwedig dy bechodau mawrion, yn ol amgylchiadau y pryd ar amser, y fan a'r lle, y dull a'r modd, a chyd â phwy y trosseddwyd. Yn ail, Mawrhydi DVW yn erbyn yr hwn eu gwnaeth pwyd hwy; ac yn hytrach am i ti wneuthur y pethau hyn yn ei erbyn ef, ac yntau wedi rhyngu bodd iddo fod yn Dád i ti, a channiadhau i ti gynifer o fendithion diddanaidd, a rhadau daionus. Yn drydydd, wrth ystyried y melldithion a fygythiodd Duw am dy bechod: ac mor greulon y dialodd Duw ar rai eraill am yr vnrhyw fai, ac fel nad oes vnrhyw foddion yn y nef, na 'r ddaiar i'th achub di rhag bod yn golledig dragwyddol, oni buasai i Fab Duw mor garedig farw drosot. [Page 262] Yn olaf, meddwl os ydyw Duw yn dy garu, fod yn rhaid iddo ef dy geryddu cyn bo hir a rhyw gystuddiau dwysion, odieithr i ti achub y blaen arno yn brysur â difrifol edifeirwch. Gâd i'r rhai hyn a'r cyfryw ystyriaethau bigo dy galon â gofid, megis gan doddi ynot o wir resyndod, y gallo hi ymollwng a meirioli i fod yn ffynnon o ddagrau heilldion, i ffrydio i lawr rhyd dy ruddiau galarus. Y galar hwn ydyw dechreuad gwir ympryd; ac am hynny yn fynych wedi ei roi ar lawr am ympryd, sef y rhan gyntaf neu 'r brif ran am yr holl weithred. Mat. 9.15. Psal. 6.
2. Am gwynfan dy gyflwr dy hun.
Cwynfan neu alarnad ydyw ocheneidio allan ruddfan y galon, trwy y lleferydd oddiallan, â dagrau y llygaid. Joel 2.12. A'r cyfryw ddifrifol ymbil a thaerni ei blant mewn gweddi, y bodlonir ein Tâd nefol. Jer. 31.18, 19, 20. Na, pryd y byddo yn ffrwythau ei Yspryd ef ac yn effeithiau o'n ffydd ni, ni all ef fod yn anfodlon iddo. Canys o chlybu ef gwynfan Ismael a Hagar yr hyn a barasai ing a gorthrymder iddynt ei adrodd, Gen. 21.17.18. ac os clyw ef lais y cigfrain ieueingc, a rhuad y llewod; pa faint hytrach y gwrendy ef y galarnad tosturus, yr hyn y mae ei blant ei hun yn ei wneuthur atto ef, yn eu gorthrwmder?
3. Am yr ostyngedig gyffes o bechodau.
Yn y weithred hon y mae 'n rhaid i ti chwarau yn vnion ac yn ddi-hocced â Duw, a chyfaddef yr holl bechodau a wyddost ti, nid vn vnig yn gyffredinol, eithr yn neillduol hefyd, sef pob un gerfydd ei ben. Hyn oedd arfer holl blant Duw yn eu hymprydiau: 1 Sam. 7. Ezek. 9. Dan. 6. Neh. 1. yn gyntaf, o herwydd heb gyffesu nid oes i ti vn addewid o drugaredd, neu faddeuant am dy bechodau. Yn ail, megis y byddych di felly yn cydnabod fod Duw [Page 263] yn gyfiawn, a thithau dy hun yn anghyfiawn. Psal. 51.4. Yn drydydd, megis wrth rifo dy bechodau, y gellych di dynnu dy galon i lawr yn fwy gostyngedig. Yn bedwerydd, fel yr ymddanghoso dy fod di yn wir edifeiriol: Canys nes i Dduw roddi i ti râd i wellhau, fe fydd cywilyddiach gennit gyfaddef dy fai, na gwneuthur y pechod. Pa deccaf ac vnionaf y chwareuych di â Duw yn hyn o both, teccaf a thrugaroccaf y chwery Duw â thithau: canys os cyfaddefi dy bechodau, ffyddlon yw Duw, a chyfiawn fel y maddeuo i ti dy bechodau: a gwaed Jesu Grist êi Fab ef a'th lanhâ di oddiwrth bob pechod. 1 Joan. 1.7.9.
I'th cynnorthwyo di 'n well i gyflawni y tri rhan hyn o edifeirwch, ti a elli ddarllen yn ddyfal gyfryw fannau a rhannau o'r Scrythur sanctaidd ac a fyddo yn crybwyll pechodau cyffelyb i'th rhai neillduol dithau: Megis y gellych di weled melldith Duw ai farnedigaethau ar rai eraill, am yr vnrhyw bechodau, ac wrth hynny dy wneuthur dy hun yn fwy gostyngedig.
Hyn yma am y rhan gyntaf o edifeirwch, yr hwn yw gresyndod am y pechodau a aethant heibio.
Y rhan arall, yr hwn yw Gwellhâd buchedd, sydd yn sefyll: yn gyntaf, mewn gweddi grefyddol: yn ail; mewn gweithredoedd bucheddol.
Y weddi grefyddol, yr hon yr ydym ni yn ei wneuthur yn amser ympryd, ydyw naill a'i ymeiriawl na ddelo y drwg, neu ymbil am bethau daionus angenrheidiol. Ymeiriawl rhag y drwg yw, Pan fyddych di yn erfyn ar DDVW, er mwyn Jesu Grist dy gyfryngwr, am faddeu i ti dy holl bechodau y rhai a ddarfu i ti eu cyfaddef; ac am droi heibio oddiwrthit y barnedigaethau hynny sydd ddyledus i ti am danynt. Ac fel Benhadad, pan glŷbu ef fod brenin Israel yn drugarog, a ymostyngodd ei hun [Page 262] [...] [Page 263] [...] [Page 264] iddo ef, wedi ei ymwregsu â sachliain, ac â rhaff am ei ben: 1 Bren. 20.31.32. felly gan dy fod ti yn gwybod fod Brenin Nêf yn drugarog, tafl dydi dy hun i lawr o'i flaen ef, mewn amryw argoelion, ac arwyddion o ostyngeiddrwydd: yn enwedig gan ei fod ef yn galw arnat yn nydd dy drallod: Psal. 50.15. a diammau y cai di ef yn dra-thrugarog.
Ymbil am bethau daionus angenrheidiol yw, yn gyntaf, deisyfu yn ffyddlawn ac yn wresog gan Dduw siccrhau yn dy galon di, trwy ei Yspryd sanctaidd, faddeuant am dy holl bechodau. Yn ail, ar iddo adneŵyddu dy galon trwy 'r Yspryd glân, fel y byddo pechod beunydd yn diflannu, a chyfiawnder fwyfwy yn cynyddu ynot. Yn olaf, gan ddymuno cyfran o ffydd, ammynedd, a diweirdeb, a'r holl ddoniau eraill sydd arnat eu heisiau: a rhâd, a chynnydd ar yr holl ddoniau a ddarfu i Dduw o'i drugaredd eu canniadhau i ti yn barod, Philip. 4.6. 1 Tim. 5.5.
A hyn am weddi mewn ympryd.
Y gweithredoedd crefyddol mewn ympryd ydynt ddwy. Yn gyntaf, gochel y drwg. Yn ail, gwneuthur da.
1. Am ochelyd drwg.
Y Dirwest, neu yr ymgadw oddiwrth ddrwg ydyw yr hyn a arwyddoceir yn bennaf wrth y dirwest oddiwrth fwyd, &c. Ac ydyw y prif ddiben er mwyn yr hyn i'r ymprydir, megis y gwyddai y Ninifeiaid yn dda: Jona. 3.7, 8. Dydd o ympryd, ac heb ymprydio oddiwrth bechod y mae 'r Arglwydd yn ei ffieiddio. Nid cylla gwag eithr calon bur, sydd mewn cymmeriad ger bron Duw: Os mynni di gan hynny i Dduw droi oddiwrthit ddrwg cystudd; rhaid i ti yn gyntaf droi oddiwrthit dy hun ddrwg camwedd. Ac heb yr ymprydio hwn oddiwrth ddrwg, y mae dy ympryd yn aroglu yn waeth o flaen Duw nac yw [Page 265] dy anadl o flaen dŷn. Hynny a wnaeth i Dduw cyn fynyched wrthod ympryd yr Iddewon. Esa. 1.13, 14. ac 58.2, 3. Zech. 7.5. Ac megis y mae yn rhaid i ti ymegnio i ochel pob rhyw bechod, felly yn enwedig y pechod hwnnw, a'r hwn y darfu i ti ennyn digofaint Duw, naill a'i i yscwyd ei wialen arnat, neu i osod ei law i'th ceryddu di eusys. A gwna hyn trwy ymroad (gyd â chynnorthwy rhâd Duw) na wnelych di byth mor pcchodau hynny drachefn. Canys pa lés i ddyn ymostwng ei gorph trwy ddirwest, os bydd ei feddwl ef yn chwyddo gan falchder? neu ibeidio a gwîn ac â diod gref, ac i feddwi gan lid a digofaint? neu i luddies i ddim cig fyned i'r bol, pryd y byddo celwyddau, enllib, a serthedd (yr hyn sydd waeth na bwyd yn y byd) yn dyfod allan o'th enau? ymgadw oddiwrth fwyd a gwneuthur mawrddrwg ydyw ympryd y cythraul, yr hwn sydd yn gwneuthur drwg, ac yn newynog bob amser.
2. Am wneuthur gweithredoedd da.
[Vis orationem tuam volare ad coelum? Fac illi duas alas, Jejunium & Eleemosynam, Aug. A fyn di i'th weddi hedeg draw, i'r nef uwchlaw ffurfafen? Död ddwy aden iddi ynghyd, dy ympryd a'th elusen.]
Y gweithredoed da, y rhai fel yr wyd yn Gristion sydd raid i ti eu gwneuthur bob dydd, eithr yn enwedig ar dy ddydd ympryd, ydynt naill, a'i gweithredoedd o dduwioldeb tu ag at Dduw, neu weithredoedd cariad perffaith tu ag at dy gyd-frodyr.
Yn gyntaf, gweithredoedd o dduwioldeb tu ag a [...] Dduw, ydynt yr ymarfer o'r holl ddyledion rhagddywededig, ym mhurdeb cydwybod dda, ac yngolwg Duw.
Yn ail, y gweithredoedd o gariad perffaith tu ac at ein brodyr, ydynt, maddeu cammau, a dyledion i'r rhai tlodion ni allo dalu: yn enwedig rhoddi eluseni i'r tlodion a fyddont mewn prinder ac eisiau: Esa. [Page 266] 58.6. Zech. 7.5.9.10. onidê wrth wneuthur lliw o dduwioldeb, ni fyddwn yn arferu cybydd-dra; megis y rhai a wascant ar eu boliau eu hunain, i dwyllo eu gweision, a'i llafurwyr, am eu llyniaeth dyledus. Megis y darfu gan hynny i Grist gysylltu ympryd, gweddi, ac elusen, ynghyd yn yr vn gorchymmyn; felly y rhaid i tithau eu plethu hwynt ynghyd, megis Cornelius, mewn ymarfer. Math. 6. Act. 10.30, 31. Ac am hynny bydd sicr o roddi i'r tlawd ar dy ddydd ympryd or hyn lleiaf gymmaint ac a dreiliasit ti yn dy ymborth dy hun pe buasit heb ymprydio y dwthwn hwnnw. A chofia mai 'r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fêd yn helaeth, ac mai prif ddiwrnod i hau yw hwn. 2 Cor. 9.6. Bydded dy ympryd felly yn dy gystuddio di, megis y byddo yn llonni Cristion tlawd arall: a gorfoledda ddarfod i ti giniawa a swpperu mewn un arall, neu yn hytrach ddarfod i ti borthi Crist newynog yn ei aelodau tlodion. Bendigedig yw 'r hwn sy'n ymprydio fel y portho 'r tlawd; canys tebyga i Grist yr hwn a roddes ei enaid dros ei frodyr, Cyril. in Levit.
Wrth roddi Elusenau, meddwl am ddau beth, yn gyntaf, y Rheoledigaethau: yn ail, y taledigaethau.
1. Rheoledigaethau wrth roddi elusenau, a gwneuthur gweithredoedd da.
1. Rhaid yw eu gwneuthur yn ufydd-dod i orchymmyn Duw: Nid o herwydd ein bod ni yn tybied eu bod yn dda, eithr o herwydd fod Duw yn gofyn y fâth weithredoedd da ar ein dwylaw: a'r cyfryw ufydd-dod (1 Sam. 15.22.) gan y gweithredydd, y mae Duw yn ei gymmeryd o flaen pob ebyrth, a'r gweithredoedd godidoccaf.
2. Rhaid iddynt fod yn deilliaw ac yn tyfu oddiwrth ffydd, onidê ni ryngant fodd Duw: nagê, heb ffydd nid yw y gweithredoedd te [...]caf ond pechodau [Page 267] disclaer, ac elusenau Pharisæaidd. Rhuf. 14.23. Heb. 11.3.
3. Ni wasanaetha i ti dybied y gelli di haeddu y nefoedd o herwydd dy weithredoedd da a'th elusenau; Canys fe ddarfuasai i Fab Duw dywalld ei waed yn ofer, pe gallesid prynu y nefoedd am fwyd neu arian. Y mae 'n rhaid i ti gan hynny geisio meddiant ar y nefoedd, trwy werth gwaed Crist, ac nid trwy haeddedigaeth dy weithredocdd dy hun. Canys dawn Duw yw bywyd tragwyddol trwy Jesu Grist ein Harglwydd: Rhu. 6.23. Etto y mae 'n rhaid i bob gwir Gristion, sydd yn credu ei fod ei hun yn gadwedig, ac yn gobeithio myned i'r nefoedd, wneuthur gweithredoedd da (megis y dywaid yr Apostol) i anghenrheidiau er mwyn pedair achos:
Yn gyntaf, fel y gogonedder Duw. Philip. 1.11. Yn ail, fel y byddych yn ymddangos yn diolchgar am dy Brynedigaeth, Luc. 1.74, 75. Yn drydydd, fel y gwnelych dy etholedigaeth yn ddiogel iti dy hun, 2 Pet. 1.10. Yn bedwerydd, fel y byddych yn ynnill eraill wrth weled dy ddwywolder bucheddol i dybied yn well o'th crefydd Gristianogawl, Mat. 5.16. Ac er mwyn yr arferion hyn y gelwir ni yn waith Duw, wedi ein creu yn-Grist Jesu i weithredoedd da, y rhai a rag-ddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt, Ephes. 2.10.
4. Ni wasanaetha i ti roi mo'th elusen i fedlemmod cryfion, neu westenwyr digywilydd, y rhai ydynt yn byw mewn cwyllyslawn seguryd ac aflendid, eithr i'r tlodion crefyddol onest, y rhai a fyddant naill a'i yn gláf, a'i 'n hên heb allael mor gweithio: neu i'r cyfryw rai a weithio, a'i gwaith heb allael moi cadw: cais afael ar yr rhain y tu cefn i'r hwylfeydd, a dôd gymmorth iddynt. Eithr o chyfarfyddi di ag vn a fynno gardod er mwyn Jesu, a thi heb wybod ei fod yn anheilwng, na naghá mo hono ef: canys [Page 268] gwell i ti roddi i ddêg o Dwyllwyr, na chynnwys i Grist fyned yn ddiymwared, mewn un sanct tlawd. Nac edrych i ba ddŷn eithr dôd ti dy elusen megis pe bait yn ei rhoi i Grist ei hunain.
2. Am daledigaeth Elusenau, a gweithredoedd da.
1. Elusenau ydyw 'r moddion rhagorol i beri i Dduw yn ei drugaredd droi ei farnedigaethau amserol oddiwrthym: pan fyddom ni trwy wir ffydd (yr hon a'i dengys ei hun wrth y cyfryw ffrwythau) yn dychwelyd atto ef. Dan. 4.24.
2. Trugarog roddwyr echwyn ac Elusenau a fyddant blant i'r goruchaf; Luc. 6.35.36. ac yn debyg i Dduw eu Tâd, yr hwn yw Tâd y Trugareddau, 2 Cor. 1.3. Hwy a gân fod yn oruwchwilwyr i gyfrannu ei dda; Luc. 16.2. a'i ddwylaw i roddi ei Elusenau. Ac os ydyw gymmaint goruwchafiaeth fod yn oruwchwiliwr elusenau 'r Brenin; pa faint mwy ydyw bod yn oruwchwiliwr, neu yn rhannwr Elusenau tros Frenyn y Brenhinoedd?
3. Pan fyddo 'r holl fyd yn ein gadael ni, yno yn unig gweithredoedd da, ac Angelion da a'n canlynant, y naill, i dderbyn eu gwobr, a'r lleill, i gyflawni y gorchymmyn a roddwyd arnynt. Date. 13.14. Luc. 16.22. Psa. 91.11. Heb. 1.14.
4. Haelioni mewn Elusenau ydyw y sail gadarnaf y cawn yn y bywyd tragywyddol wobr tra-helaeth, trwy drugaredd a haeddedigaethau Crist. 1 Tim. 6.19.
Yn ddiweddaf, wrth roi Elusenau yr ydym ni yn rhoi ymwared i Grist ac yn ei borthi ef yn ei aelodau; ac yn y dydd olaf fe gydnebydd Crist a'n cariad ni tu ag atto, ac a'n gwobrwya o'i drugaredd. Matth. 25. Ac yno yr ymddengys yn eglur, na chollwyd yr hyn a roddasom ni i'r tlawd, eithr ei roi yn echwyn i'r [Page 269] Arglwydd. Dihar. 19.17. Pa resymmau gwell a all Cristion eu deisyf iw gynhyrfu i fod yn hael i roddi Elusenau?
Hyd yn hyn am y modd i ymprydio. Yma y canlyn y diben ar defnydd o ymprydio.
3. Am y diben nou 'r defnydd o ympryd.
Y gwir ddiben neu 'r defnydd er mwyn yr hyn i'r ymprydir, nid yw i haeddu cariad Duw, neu fywyd tragwyddol, canys hynny a gawn ni yn vnig o Ddawn Duw trwy Grist: nac i osod crefydd mewn dirwest corphorol, canys nid yw ympryd o honaw ei hun yn anthydedd i Dduw, eithr yn gymmorth i'n hyfforddi ni i anrhydeddu Duw. Yr vnion ddefnyddiau oympryd gan hynny ydynt dri:
Yn gyntaf, i ddarostwng y cnawd at yr yspryd: 1 Cor. 9.27. eithr nid i wanhychu ein cyrph, fel yr elom yn anghymmesur i wneuthur dyledus orchwylion ein galwedigaeth. 1 Tim. 5.23. Y cyfiawn medd Salomon a fydd ofalus am fywyd ei anifail, Dihar. 12.10. mwy o lawer am ei gorph ei hun.
Yn ail, fel y gallom ni yn fwy defosionol synnied bendigedig ewyllys Duw, a bwrw allan ocheneidiau ysprydol mewn gweddi wresog ger ei fron ef: Luc. 2.37. 1 Cor. 7.5. canys fel y mae rhyw fâth ar Gythreuliaid, felly hefyd y mae rhyw fâth ar bechodau, ni ellir moi gorescyn, ond trwy ympryd a gweddi ynghyd. Mat. 17.2 [...].
Yn drydydd, megis trwy ein gostyngeiddrwydd difrifol a thrwy ein barnu ein hunain, y gallom ochelyd barn yr Arglwydd: nid o ran haeddedigaeth ein hympryd (yr hyn nid yw ddim) eithr o ran trugaredd Dduw, yr hwn a addawodd symmud ei Farnedigaethau oddiwrthym, pan fyddom ni trwy ympryd yn ddiffuant yn ein ymostwng ein hunein ger ei fron ef. Ac mewn gwirionedd ni arferodd vn plentyn [Page 266] [...] [Page 267] [...] [Page 268] [...] [Page 269] [...] [Page 270] i Dduw, y gorchwyl sanctaidd hwn yn gydwybodus, nas cai ef yn y diwedd gwplhau ei ddymuniad gan Dduw: yn gystal yn derbyn y rhadau a fyddent ddiffygiol iddo, megis y mae 'n eglur, yn esamplau Hannah, Jehosaphat, Nehemiah, Daniel, Esdras, Hester: 1 Sam. 1. 2 Chron. 20. Nehem. 1. Dan. 9. Esd. 8.23. Hest. 9. Ac yn troi ymmaith y Barnedigaethau bygythiol, neu ddigwyddedig arno ef, megis y gellir gweled yn esamplau yr Israeliaid, Ninifeiaid, Rehoboam, Ahab, Ezechias, Manasses. 1 Sam. 7.6. Jonah 3. 2 Cron. 12.5.7. 1 Bren. 21. 1 Cron. 32. 2 Cron. 33.18, 19. Efe yr hwn a roddes ei anwyl Fab o'r nêf i farwolaeth, yn bridwerth trosom pryd yr oeddem ni yn elynion iddo; ni thybia fod dim ar y ddaiar yn rhy anwyl iw ganniadhau i ni, pan fyddom gwedi ein ymddarostwng ein hunain, a'n cymmodi ag efo megis plant a chyfeillion.
A hyn am yr ympryd neillduol.
2. Am yr ympryd cyhoeddus.
YMpryd cyhoeddus ydyw, pan fyddo trwy Awdurdod Swyddog, naill a'i 'r holl Eglwys tan ei lywodraeth ef, neu ryw gynnulleidfa hynod (i'r hon ei perthyn) yn eu hymgynnull eu hunain ynghyd, i gyflawni y rhagddywededig ddyledion o Ostyngeiddrwydd; naill a'i er mwyn cael eu gwared oddiwrth ryw gystudd cyffredin a fyddo yn eu bygwth hwynt, neu wedi eu taro hwynt eusus, megis y cleddyf, dinistr, newyn, haint, neu ryw fath arall ar glefyd ofnadwy; neu er mwyn cael derbyn rhyw fendith gyffredinol, o ran daioni i'r Eglwys; megis i ymbil am gynnorthwy ei Yspryd glán ef, wrth Ethol ac ordeinio Bugeiliaid cymhesur, &c. Neu o ran chwilio am y Gwirionedd allan, a gwneuthur Cyfiawnder [Page 271] mewn achosion anhawdd a phwysfawr, &c, 2 Cron. 20. Act. 1. ac 13.
Pan fyddo rhyw ddrwg iw symmud, y Bigeiliaid a ddylai gyhoeddi i'r bobl, trwy dystiolaeth Gair Duw pa bechodau oedd achos y gorthrymder hwnnw; a galw arnynt i edifarhau, a dangos yn eglur iddynt drugareddau Duw YnGrist os edifarhânt. Y mae 'n rhaid i'r bobl wrando llaferydd Cenadau yr Arglwydd trwy dristwch difrifol am eu pechodau; ac erfyn nawdd yn ewyllyscar YnGrist, ac addo yn ddi-dwyllodrus wellhâd ou bucheddau. Pan fyddo rhyw fendith i'w herfyn, y mae yn anghenrhaid i'r Bigeiliaid ddangos ar gyhoedd i'r bobl reittied wrth y fendith honno, a Daioni Duw yr hwn sydd yn rhoddi y cyfryw râdau er daioni dynion. Y mae 'n rhaid i'r bobl weddio yn ddyfal-astud at Dduw, am ganniadhau y cyfryw râd iddynt, ac am fendithio ei foddion ei hun i'w ogoniant ei hunan, ac i ddaioni ei Eglwys. A phan ddarfyddo y Gorchwyl sanctaidd, cymmered bob Cristion yn ôl ei allu brif ofal am gofio 'r tlawd. A phwy bynnag (pan fyddo 'r achos yn erchi) nid arfero y gorchwyl sanctaidd hwn o ymprydio, efe a ddichon ammeu yn gyfiawn na chlybu ef erioed nerth Cristianogaeth yn ei galon.
Hynny am ymprydiau: yma y canlyn yr arfer o wledda yn sanctaidd.
Am ymarfer o Dduwioldeb wrth Sanctaidd wledda.
GWledd sanctaidd yw diolchgarwch hynodol (gosodedig trwy Awdurdod) iw chyssegru i Dduw ar ryw ddydd arbennig, am ryw fendithion neu ymwaredau odiaethol a dderbynwyd. y cyfryw oedd wlêdd yr oen Pâsc yn mhlith yr Juddewon, i ddwyn ar gôf foliannu DVW am eu gwared hwy o gaethiwed yr Aipht, Exod. 12.15. neu wlêdd [Page 272] Purim, i dalu diolch am eu gwared hwy o fradwriaeth Haman, Hest. 9.16.21. Y cyfryw yn ein plith ni ydyw y pumed o Awst, i glodfori Duw am waredu ein diweddar Frenin James oddiwrth fradwriaeth Gowri. Ar pumed o Dachwedd am waredu y Brenin a'r holl deyrnas oddiwrth y pabaidd Bowdr fradwriaeth. Y cyfryw wleddoedd a ddylent gael eu cyssegru drwy egluro yn gyhoeddus yr hynodol drugareddau hynny, mewn Psalmau ysprydol, a dawnsiau; gan wahodd y naill y llall, a danfon anrhegion pob vn i'w gymmydog: ac yn enwedig danfon cardodau i'r tlodion.
Eithr yn gymmaint ac mai lleshâd ein Prynedigaeth oedd y peth angenrheidiaf i ddŷn ei gael ar law Dduw; neu ar a ganniadhâodd Duw i ddŷn: a gadael o'n Hiechawdwr ei Swpper sanctaidd, yn brif goffadwriaeth o'n prynedigaeth: fe ddylai pob Cristion gyfrif y Swpper sanctaidd hwn yn wlêdd bennaf ac yn hyfrydaf yn y byd yma. Ac megis y mae yn gweithredu yn y cyfrannogion teilwng y diogelwch mwyaf sydd iddynt ou hiechydwriaeth: felly y mae yn tynnu barnedigaeth amserol ar gyrph, ac (heb edifeirwch) cospedigaeth tragwyddol ar eneidiau y rhai a'i cymmerant yn anheilwng. Gadewch i ni weled pa fodd y mae i Gristion ei gymhwyso ei hun yn oreu, i fod yn gyfrannog o'r cyfryw wledd sanctaidd; ac yn westwr teilwng i'r fâth Swpper bendigedig.
Myfyrdodau yn dangos yr vnion fodd o ymarfer Duwioldeb wrth dderbyn Cymmun yr Arglwydd.
ER na ddichon vn dŷn byw o hono ei hun fod yn westwr teilwng i'r cyfryw Arlwy sanctaidd; etto fe ryngodd bodd i Dduw o'i râs, ei gymmeryd ef [Page 273] am dderbynniwr teilwng, yr hwn a ymegnio i dderbyn y Dirgeledigaeth sanctaidd hwnnw, a'r cyfryw sesur addas o barch, ac a adroddodd ef yn ei Air. 2 Thes. 1.11.
Yr hwn a fynno dderbyn y Sacrament sanctaidd hon trwy barch anrhydeddus, rhaid iddo yn gydwybodus gwplhâu tri math ar ddyledion. Yn gyntaf, y pethau sydd raid iddo eu gwneuthur cyn Cymmuno: Yn ail, y pethau sydd i'w gwneuthur wrth Gymmuno: Yn drydydd, y pethau sydd i'w gwneuthur gwedi Cymmuno. Y cyntaf a elwir Paratôad, yr ail Myfyrdod, y trydydd Gweithrediad, neu ymarfer.
1. Am Baratôad.
BOd yn angenrhaid i Gristion ei baratoi ei hun, cyn iddo ryfygu bod yn gyfrannog o'r Cymmun sanctaidd, a ymddengys yn eglur o herwydd pum achos.
Yn gyntaf, o herwydd ei fod yn orchymmyn DVW: Canys os gorchymynnodd ef tan boen marwolaeth, na chai yr vn di-enwaededig fwyta o'r oen Pâsc; nac yr vn enwaededig, nes iddynt fod bedwar Diwrnod yn ymbaratoi: Exod. 12.48. pa faint mwy parodrwydd y mae ef yn ei ddisgwyl gan yr hwn sydd yn dyfod i dderbyn y Sacrament o'i gorph a'i waed? Yr hwn megis y mae yn dyfod yn lle 'r llall, felly mewn llawer gradd y mae yn rhagori ar Sacrament yr oen Pasc.
Yn ail, o herwydd bod esampl Crist, yn dyscu i ni hynny, Joan. 13.5. Canys efe a olchodd draed ei ddiscyblion, cyn iddo gynnwys iddynt fwyta o'i Swpper ef. Gan arwyddocau y dylit ti roi heibio holl amhuredd calon, ac aflendid buchèdd, i'th addurno dy hun â Gostyngeiddrwydd, ac â chariad [Page 274] perffaith, cyn i ti ryfygu dyfod i archwaethu o'i Swpper sanctaidd.
Yn drydydd, am ei fod yn gyngor yr Yspryd Glân: Eithr holed dŷn ef ei hun, ac felly bwytaed o'r bara, ac yfed o'r cwppan, &c. 1 Cor. 11.28. Ac os rhaid i ddŷn Pan eisteddo i fwyta gyd â Thywysog daiarol, ystyrio yn ddyfal pa beth sydd o'i flaen, a bôd yn well iddo osod cyllell ar ei gêg na bod yn anweddus: Dihar. 23.1.2. Pa faint mwy y dylit ti baratoi dy enaid, fel y gellych dy ymddwyn dy hun mewn holl ofn ac anrhydedd, pan fyddych i gael gwlêdd sanctaidd ar Fwrdd Tywysog y tywysogion?
Yn bedwerydd, o herwydd ei fod yn ddefod erioed ym mhlith holl Seinctiau Duw, arfer o barodrwydd Sanctaidd cyn y trinent y Dirgeledigaethau nefol. Nid a'i Ddafydd yn agos at Allor Dduw, nes iddo ef yn gyntaf olchi ei ddwylaw mewn diniweidrwydd: Psal. 26.6. llawer llai y dylit ti heb ymbaratoi, ryfygu myned yn agos at Fwrdd yr Arglwydd. Ni roddai Abimelech, ac ni fwytai Ddafydd a'i wŷr mor bara gosod, ond tan ammod fod eu llestri yn sanctaidd; 1 Sam. 21.4.5. pa faint llai y dylit ti ryfygu bwyta bara yr Arglwydd, neu yn hytrach y bara yr hwn yw 'r Arglwydd, heb i lestr dy galon di yn gyntaf gael ei lanhau gan edifeirwch? Ac os archodd Duw i Josua (fely parasai i Moeses o'r blaen) ddattod ei escidiau oddiam ei draed, o ran anrhydedd i'w sancteiddrwydd ef, yr hwn oedd bresennol yn y lle hwnnw, lle yr ymddangosodd ef â chleddyf yn ei law i ddinistrio ei elynion. Jos. 5.15. Exod. 35. Pa faint hytrach y dylit ti fwrw ymmaith holl serch dy ymarweddiad bydol, pan fyddych yn dyfod i nesâu at y fan lle mae Crist yn ymddangos i olwg dy ffydd, a'r briwiau yn ei ddwylaw a'i ystlys, er gwaredu ei gyfeillion? Ac er mwyn yr achos hon y dywedir ddyfod priodas yr oen, [Page 275] a bod ei wraig ef wedi ei pharatoi ei hun. Dad. 19.7. Paratoa gan hynny dydi dy hun, os mynni yn y byd hwn dy ddyweddio â Christ trwy râs Sacramentaidd; neu yn y nefoedd dy briodi ag ef, trwy ogoniant tragwyddol.
Yn bumed, o blegid i Dduw bob amser daro â Barnedigaethau ofnadwy, y rhai a feiddient arferu ei sanctaidd ordinhadau ef, heb ofn a pharodrwydd dyledus. Efe a osododd Duw gleddyf tanllyd yn llaw Cherubin i daro ein Henafiaid gwedi iddynt ymhalogi a phechod, os amcanent hwy fyned i Beradwys i fwyta y Sacrament o Bren y bywyd. Ofna dithau gan hynny gael dy daro a chlêdd dialedd Duw os rhyfygi di fyned i'r Eglwys â chalon ddiedifeiriol i fwyta Sacrament Arglwydd y bywyd. Efe a darawodd Duw ddengmil a deugain o'r Bethshemitiaid, am iddynt hwy edrych yn amharchus yn ei Arch ef; 1 Sam. 6.19. ac a laddodd Ʋzza â marwolaeth ddisymmwth am iddo gyffwrdd a'r Arch yn Ehud; 2 Sam. 6.6, 7. ac a darawodd Ʋzziah a gwahanglwyf, am fyned i drin swydd yr offeiriad, yr hyn nid oedd yn perthynu iddo. Ofn y fâth ddyrnod a wnaeth i Ezechiah yn ei weddi ddifrifol ddeisyfu ar Dduw na tharawâi efe mor bobl y rhai oedd arnynt eisiau amser i ymbaratoi, fel y perthynai iddynt cyn bwyta yr oen Pasc: ac yr ydis yn dywedyd i'r Arglwydd wrando ar Ezechiah, ac iachau 'r bobl: gan roi ar ddeall, oni buasai weddi Ezechiah, y tarawsai 'r Arglwydd y bobl o ran bod eu parodrwydd angenrheidiol yn niffyg. 2 Cron. 30.18, 19, 20. ar dŷn a ddaeth i'r neithior heb ei wisc priodas am dano, na'i holi ei hun, a gafas ei holi gan arall, ac yno rhwymo ei ddwylaw a'i draed, a'i daflu [...]'r tywyllwch eithaf. Mat. 22.12. Ac y mae St Paul yn dywedyd i'r Corinthiaid, mai o herwydd [...]isiau y parodrwydd hwn yn eu holi a'i barnu eu [Page 276] hunain, cyn iddynt fwyta Swpper yr Arglwydd, y darfuafai i Dduw ddanfon y clefyd ofnadwy hwnnw yn eu plith, o'r hwn yr oedd rhai o honynt y pryd hynny yn gleifion, eraill yn weiniaid, a llawer wedi myned i huno; 1 Cor. 11.29. hynny yw, wedi i Angau amserol eu cyrhaeddyd. Yn gymmaint a bod yr Apostol yn dywedyd; fod pob vn sydd yn bwyta ac yn yfed yn anheilwng, yn bwyta ac yn yfed ei farnedigaeth ei hun; amserol os edifarhâ, tragwyddol os ef nid edifarhâ: a hynny mewn mesur mor echryslon, a phe bai yn enog o wir gorph a gwaed yr Arglwydd, o'r hyn y mae y Sacrament hon yn sèl, ac yn arwydd sanctaidd: Adn. 27. Felly y cospa Tywysogion y cam a wneler a'i Sêl fawr hwynt, yn yr vn stunyd a pha gwneid iw cyrph hwynt eu hunain, yr hyn y mae eu Sêl hwy yn ei arwyddoccâu. Mor drwm echryflon yw bod yn euog o waed Crist, y mae 'n ymddangos yn eglur wrth drueni cystuddiol yr Juddewon byth ar ôl iddynt ddymuned ei waed ef i fod arnynt hwy ac ar eu plant. Math. 27.25. Eithr yno di a ddywedi, mai diogelaf yw ymgadw a pheidio a dyfod vn amser i fod yn gy frannog o'r Cymmun Sanctaidd. Nid felly; canys y mae DVW yn addo tragwyddol gospedigaeth corph ac enaid, ar yr rhai ou llawnfryd a wrthodant ei Sacramentau. A gorckymmyn Crist ydyw; Cymmerwch, bwytewch, gwnewch hyn er coffa am danaf: 1 Cor. 11.24. ac efe a fyn i bawb vfyddhau iw orchymmyn ef tan boen cospedigaeth ei felldith. A chan weled mai y Sacrament hon oedd yr arwydd mwyaf o gariad Crist ar a adaw odd ef yn ei ddydd diwedd iw gymdeithion, y rhai a garodd ef hyd y diwedd; gan hynny esceuluso a gwrthod ei Sacrament, sydd raid iddo fod yn argoel o wrthod ac esceuluso ei gariad, a thywalltiad ei waed: ac ni ddichon bod pechod gorthrymmach ger bron Duw na hwnnw. [Page 277] Heb. 10.29 Nid oes dim a eill dy rwystro di i ddyfod yn rhwydd i Fwrdd yr Arglwydd; ond o ran bod yn well gennit ymado â chariad Duw, nac ymado a'th pechodau budron. O tyred, eithr tyred yn westwr parod i Fwrdd yr Arglwydd, gan woled eu bod hwy yn fendigedig y rhai a elwir i Swpper neithior yr oen. Dadc. 19.9. O tyred! eithr tyred wedi dy ymbaratoi, canys nerth y Sacrament hon a dderbynnir yn ôl eyfran ffydd y Derbynniwr.
Y Parodrwydd hwn sydd yn sefyll yn dy fal ystyried tri pheth: yn gyntaf Teilyngdod y Sacrament, yr hyn a elwir ystyried corph yr Arglwydd, yn ail, dy anheilyngdod dy hun, yr hyn yw dy farnu dy hunan. Yn drydydd, y moddion, trwy y rhai y gelli ddyfod yn Dderbynniwr teilwng; y elwir Cymmun o gorph yr Arglwydd.
1. Am deilyngdod y Sacrament.
TEilyngdod y Sacrament hon a ystyrir mewn tai [...] ffordd: yn gyntaf, wrth Fawrhydi yr Awdur a'i hordeiniodd. Yn ail, wrth werthfawredd ei rhannau o'r rhai y defnyddiwyd. Yn drydydd, wrth oddidawgrwydd y Diben er mwyn yr hyn ei trefnwyd.
Nid oedd yr Awdur na Sanct nac Angel, eithr yr Arglwydd JESV, tragwyddol Fab Duw, canys i Grist yn vnig tan y Testament newydd y perthyn ordeinio Sacrament; o herwydd efe yn vnig a ddichon addo a chyflawni y grâs y mae hi i'w arwyddoccâu. Ac yr ydis yn gorchymm ni ni na wrandawom ar laferydd neb ond ei laferydd ef yn ei Eglwys. [Page 278] Mat. 17.5. Oh mor sancteiddiol y dylem ni gymmeryd yr ordeinhâd a ddaeth oddiwrth y cyfryw Awdur gorvchel?
YRhannau o'r Sacrament bendigedig ydynt tri: yn gyntaf, yr arwyddion daiarol yn arwyddocau: yn ail, y gair dwywawl yn sancteiddio: yn drydydd, y rhadau nefol a arwyddoceir.
Yn gyntaf, yr arwyddion daiarol ydynt fara a gwin, 1 Cor. 11.23, &c. Dihar. 9.5. dau mewn rhif, eithr vn mewn arfer.
Yn ail, y gair dwywawl ydyw 'r gair o ordinhâd Crist, adroddedig gyd â gweddiau a bendithion gan Eglwyswr cyfreithlawn; Heb. 5.4. Num. 16.40. 1 Cor. 10.16. Y Bara ar gwin heb y gair nid yw ddim, ond megis yr oeddynt o'r blaen; eithr pan ddêl y Gair at y defnyddiau hynny, yno y gwneir yn Sacrament, ac y mae Duw yn bresennol gyda ei Ordeinhád, ac yn barod i gyflawni pa beth bynnac a addawo ef. Nid yw y geiriau dwywawl o fendith yn cyfnewid neu yn diddymmu sylwedd y bara ar gwîn: o blegid oni bai fod eu sylwedd yn aros, nid allai fod yn Sacrament: eithr y mae yn eu cyfnewyd mewn arfer ac enw. Canys yr hwn nid ydoedd o'r blaen ond bara a Gwîn cyffredinol i faethu cyrph dynion, sydd yn ôl y fendith wedi ei ddarparu i arfer sanctaidd, sef i borthi eneidiau Cristianogion. Ac lle yr oeddid o'r blaen yn eu galw yn fara a gwin; fe gelwir hwynt yr awrhon wrth enw y pethau sanctaidd a arwyddocânt, sef Corph a'gwaed Crist: i dynnu ein meddyliau yn well oddiwrth yr Elementau hynny oddiallan at y rhadau nefol, yr rhai trwy olygon ein cyrph y maent yn eu arwyddocau i ysprydol olygon ein ffydd. Ni ddarfu chwaith i [Page 279] Grist adroddi y geriau hyn, sef Hwn yw fynghorph, Hwn yw fyngwaed, wrth y bara a'r gwîn, eithr wrth ei ddiscyblion, megis y mae yn eglur yn y geiriau a ant o'r blaen, cymerwch, bwytewch chwi. Mat. 26.26. Nid yw y bara yn gorph iddo ef chwaith ond yn yr vn agwedd ac y mae y cwppan yn Destament newydd, sef trwy ddull a elwir trawsenwad. Ac y mae Marc yn dangos yn eglur, na ddarfu i'n Iachawdwr adrodd y geiriau hyn, sef hwn yw fyngwaed, nes darfod ir holl ddiscyblion yfed o'r cwppan: Mar. 14.23, 24. Ac yn ol hynny o herwydd ei sylwedd naturiol y mae ef yn galw yr peth yn ffrwyth y winwydden, yr hwn o herwydd ei ysprydol arwyddoccâd, a alwasai ef o'r blaen ei waed, Adnod 25. yn ol y dull o gyfenwi Sacramentau oll. Ac nid yw Crist yn erchi i ni ei wneuthur ef, ond gwneuthur hyn er coffa am dano; ac mae efe yn erchi i ni fwyta nid ei gorph yn syml, eithr ei gorph megis ei torrwyd, a'i waed megis y tywalltwyd; yr hyn y mae St Paul yn ei ddeongli i fod yn Gymmun Corph Crist, ac yn Gymmun oi waed ef. 1 Cor. 10.16. hynny yw, gwystl ffrwythlon ein bod ni yn gyfrannogion o Grist, ac o holl haeddedigaethau ei gorph a'i waed. A thrwy fynych ymarfer a'r Cymmun hwn, y myn St Paul i ni ddangos marwolaeth yr Arglwydd nes ei ddyfod o'r nef, 1 Cor. 11.26. ac hyd oni chymmerer ni i fynu fel eryrod i'r awyr i'w gyfarfod ef, yr hwn yw y bendigedig gelain, ac enioes ein heneidiau ni. 1 Thes. 4.17.
Yn drydydd, y rhadau ysprydol ydynt ddwy hefyd; corph Crist megis yr oedd yn dioddef digofaint Duw dyledus i ni, yn groeshoeliedig: A'i waed megis yr oedd (yn yr vn agwedd) wedi ei dywallt trosom er maddeuant o'n pechodau. Y maent hwy hefyd yn ddau mewn rhif, eithr vn mewn arfer, sef Crist gyfan, a'i holl ddonniau wedi ei ymgynnyg i [Page 280] bawb oll, eithr gwedi ei roi mewn gwirionedd i'r ffyddlonniaid. Y rhai hyn ydyw y tair rhan cyfannol o'r Sacrament sendigedig hon, sef yr Arwydd, y Gair, a'r Gras. Yr Arwydd heb y Gair, neu 'r Gair heb yr arwydd, ni ddichon ddim: a'r ddau wedi eu cysylltir ydynt anfuddiol heb y Grâs a arwyddocêir: eithr y tri ynghyd a wnant Sacrament ffrwythol i'r Derbynniwr teilwng. Y mae rhai yn derbyn yr arwydd oddiallan heb y grás ysprydol, megis Judas, yr hwn (fel y dywaid St Awstin) a dderbynniodd fara yr Arglwydd, eithr nid y bara yr hwn oedd yr Arglwydd. Y mae rhai yn derbyn y grâs ysprydol heb-yr arwydd oddiallan, megis y lleidr-Sanct ar y groes: ac aneirif o'r ffyddlonniaid, y cyfryw wrth farw a fyddo yn dymuned ei gael, eithr heb allael ei dderbyn o waith rhyw rwystrau oddiallan; eithr y mae y derbyniwr teilwng i'w ddiddanwch, yn derbyn y ddau yn Swpper yr Arglwydd.
Fe ddewisodd Crist Fara a Gwîn (o flaen defnyddiau eraill) i fod yn arwyddion oddiallan yn y Sacrament fendigedig hon: vn gyntaf, o ran eu bod yn hawsaf i bob math i'w cael: yn ail, i ddyscu i ni mai megis y mae enioes amserol dŷn yn cael ei faethu yn bennaf trwy Fara, a'i gorph ei gyssuro gan win, felly y mae ein heneidiau ni, gan ei gorph a'i waed ef yn cael eu bywhau au porthi i fywyd tragwyddol. Fe ddarparodd Crist wîn gyd a bara i fod yn arwydd oddiallan yn y Sacrament hon, i ddyscu i ni; yn gyntaf, mai megis y mae bwyd a diod yn borthiant perffeithlawn i gorph dŷn: felly y mae Crist i'w enaid, nid mewn rhan, eithr mewn perffeithrwydd, yn gystal yn iechydwriaeth, ac yn borthiant. Yn ail, wrth weled y Gwin Sacramentaidd o'r neilltu oddiwrth y bara, ni ddylem gofio y modd y [...]y walltwyd ei waed gwerthfawroccaf ef allan o'i gorph bendigedig, er cael o honom ni faddeuant o'n [Page 281] pechodau. Yr arwyddion oddiallan y mae 'r Bugail yn eu rhoddi yn yr Eglwys, a thithau sydd yn bwyta a gennu dy gorph: Y Grás yprydol y mae Crist yn ei esdyn o'r nefoedd, ac y mae 'n rhaid i ti ei fwyta ef â genau dy ffydd.
Y godidog a'r tra-rhyfeddol Ddibennau neu 'r ffrwythau o herwydd yr hyn y trefnwyd y Sacrament fendigedig hon, ydynt saith.
Am y diben cyntaf o Swpper yr Arglwydd.
I ddwyn a'r gôf i Gristianogion yn oesdadol yr aberth hêdd yr hon a offrymmodd Crist vnwaith am y cwbl, trwy ei farwolaeth ar y groes, i'n cymmodi ni â Duw, Gwnewch hyn (medd Crist) er coffa am danaf. (Ac medd yr Apostol) cynnifer gwaith bynnae y bwytâoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwppan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd hyd oni ddelo. 1 Cor. 11.26. Ac y mae ef yn dywedyd, mai (trwy y Sacrament hon, a phregethiad y gair) y darfuasai portreio Jesu Grist o flaen llygaid y Galatiaid, megis pe croeshoeliasid ef yn eu plith: Gal. 3.1. Canys y mae 'r weithred i gyd yn dangos marwolaeth Crist; torriad y bara bendigedig, croeshoeliad ei fendigedig gorph: a thywallt y Gwin sancteiddicdig, tywalltiad ei fendigedig waed. Fe aberthodd Crist efe ei hun vnwaith yn gorphorol: eithr cyn fynyched ac y cyssegrir y Sacrament hon, cyn fynyched a hynny yr offrymmir ef gan y ssyddloniaid yn ysprydol.
Oddyma y gelwir Swpper yr Arglwydd yn aberth hêdd, nid yn briodol, neu yn gorphorol, eithr trwy ddull ar ymadrodd, sef o herwydd ei fod yn gossadwriaeth o'r aberth hêdd a offrymmodd Crist ar y Groes. Ac i ddangos rhagoriaeth rhyngddi a'r aberth [Page 282] gorphorol honno, y mae y Tadau yn ei galwyn aberth ddi-waedlyd. Fe a'i gelwir hefyd Eucharist, o ran bod yr Eglwys yn y weithred hon yn offrwm i Dduw aberth o foliant a diolch am ei Gwaredigaeth; yr hyn a weithreded trwy 'r vnig Aberth lesol o Grist ar y Groes. Os darfu i'r olugiad ar Frenin Moab pryd yr oedd ef yn offrwm ei fab ar y mur, i gynhyrfu ei holl dduwiau i ddyfod i'w achub, 2 Bren. 3.27. beri i'r brenhinoedd ydoedd yn gosod arno, dosturio wrtho cym mhelled, ac y peidiasant a'r frwydr, ac y cyfodasant y gwarchae. Pa fodd y dylai y golwg ysprydol ar Dduw Dâd, yn aberthu ei vnig-anedig Fab ar y Groes i waredu dy enaid ti, dy gynhyrfu i garu Duw dy Brynwr, ac i ado pechod, tros yr hwn mewn cyfiawnder ni wasanaethai pridwerth llai!
Am yr ail Ddiben o Swpper yr Arglwydd.
2. I gryfhau ein ffydd: Canys y mae Duw wrth y Sacrament hon yn arwyddocau, ac yn selio i ni o'r nef, mai yn ol yr addewid ar cyfammod newydd a wnaeth efe a nyni Yn Ghrist, y derbyn ef yn ddiogel i'w râd ai drugaredd yr holl ddynion credadwy edifeiriol, ar a dderbynnio ei Sacrament sanctaidd ef yn ddyledus: Ac er mwyn haeddedigaethau marwolaeth a dioddefaint Crist, ef a faddau iddynt eu holl bechodau, mor ddiammau ac y maent yn gyfrannogion o'r Sacrament hon. O herwydd hyn y gelwir y Sacrament sanctaidd Sêl y cyfammod newydd, ac o faddeuant pechodau. Yn ein amheuon mwyaf gan hynny, yn ôl derbyn y Sacrament hon ni allwn ddywedyd yn ddiau megis y dywedodd Mam Sampson: Pe mynnasei 'r Arglwydd ein lladd ni, ni dderbynniasei efe y poeth-offrwm, a'r bwyd offrwm o'n llaw ni, ac ni ddangosasei efe i ni 'r holl bethau hyn: ac ni Pharasei efe i ni y pryd hyn glywed y fath bethau. Rhuf. 4.11. Barn. 13.23.
[Page 283] Am y trydydd Diben o Swpper yr Arglwydd.
3. I fod yn wystl ac yn arwydd-ammod o'r Cymmundeb ffrwythlawn cyfagos yr hwn sydd rhwng Cristianogion â Christ. Phiol y fendith yr hon a fendigwn, onid Cymmun gwaed Crist ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid cymmun corph Crist yw? 1 Cor. 10.16. hynny yw arwydd a gwystl ffrwythlawnaf o'n Cymmun ni â Christ. Yr vndeb hon a elwir aros gyda ni, cyssylltiad ar Arglwydd, trigfa yn ein calonnau: Joan. 14.16. 1 Cor. 6.17. Ephes. 3.17. Ac a osodir allan yn yr Scrythur Sanctaidd mewn lláwer o gyffelybiaethau. Yn gyntaf, trwy gyffelybiaethau o'r winwydden a'r canghennau: yn ail, o'r pen a'r corph: yn drydydd, o'r sail a'r adeilad: yn bedwerydd, o'r dorth a wneir o amryw ronynnau o ŷd: yn bumed, o'r vndeb priodasawl rhwng gŵr a'i wraig, a'r cyfryw. Joan. 15.12. 1 Cor. 10.17. Col. 1.18. Ephes. 5.31, 32. Ac y mae yn dridyblyg rhwng Crist â Christianogion. Y gyntaf sydd anianol, rhwng ein dynawl anian ni, a dwywawl anian Crist ym mherson y gair: yr ail sydd Ddirgeledig, rhwng ein personau ni yn absennol oddiwrth yr Arglwydd, a pherson Crist Duw a Dŷn, yn vn corph dirgeledig. Y trydydd sydd nefol, rhwng ein personau ni yn bresennol gyd â'r Arglwydd, a pherson Crist mewn corph gogoneddus; y tri o gysylltiadau hyn sydd ynglŷn y naill yn y llall. O ni buasai i'n hanian ni yn gyntaf gael ei hvno megis yn vn-sylweddol ag Anian Duw yn yr ail person; ni allasem ni fyth gael ein vno â Christ mewn corph dirgeledig. Ac oni byddwn ni yn y bywyd hwn (er ein bod yn absennol) gwedi ein vno at Grist trwy vndeb Dirgeledig, ni chawn ni fyth gymmun o ogoniant gyd ag ef yn ei gyfannead nefol. Y Cymmun dirgeledig (a grybwyllir yma yn bennaf) a weithredir rhwng Crist a nyni, trwy yspryd Crist yn ein hymgyffred ni: A thrwy ein ffydd ni [Page 284] cynhyrfiedig trwy 'r vnrhyw Yspryd) yn ymaflyd yn-Ghrist hefyd. Y ddaubeth hyn y mae St. Paul yneu osod ar lawr yn fywiol; eithr dilyn yr wyf fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Jesu, Phil. 3.12. Pa fodd y dichon ef gwympo ymmaith yr hwn sydd yn ymaflyd, ac a gynhelir mor neithol? Yr vndeb hon a geiff ef ei deall yn orau yn ei Feddwl, yr hwn a'i clywo fwyaf yn ei Galon. Eithr yn anad amser, gorau y cawn ni deimlaw a chryfhau yr vndeb hon ynom, pan fyddom yn derbyn Swpper yr Arglwydd fel y dylem. Canys yno y cawn ni glywed ein calonnau yn bywiol ymglymmu â Ghrist, a deisyfiadau ein eneidiau wedi eu tynnu trwy ffydd a'r Yspryd glan, megis trwy raffau cariad, nes-nes at ei Sancteiddrwydd ef.
Oddiwrth y Cymmun hwn â Christ y mae yn digwyddo i'r ffyddloniaid lawer o ddoniau anrhaethathadwy.
Megis yn gyntaf, fe gymmerodd Crist eu holl bechodau hwynt arno ef i fodloni cyfiawnder Duw am danynt: ac y mae ef yn rhoddi i ni yn rhâd megis yn eiddom, ei holl gyfiawnder yn y bywyd hwn, a'i etifeddiaeth yn y bywyd tragywyddol pan ddarfyddo hwn: ac y mae ef yn cyfrif yr holl dda neu 'r drwg a wneler i ni, megis pe gwneid iddo ei hunan. Phil. 3.9. 1 Pet. 2.24. Zec. 2.8., 25.
Yn ail, y mae oddiwrth natur Crist yn llifeirio i'n natur ni, gwedi ei huno ag efo, yspryd bywiol ac anadl grâs, yr hyn a'n hadnewydda i fywyd yfprydol: Ac a sancteiddia ein meddyliau, ein hamcannion, a'n serch, megis y byddom beunydd yn cynnyddu ar agwedd Delw Grist. Ephes. 4.23, 24. Rhuf. 8.29.
Yn drydydd y mae ef yn canniadhau iddynt holl râdan cadwedigol, a'r sydd angenrhaid er mwyn cael mwynhau bywyd tragwyddol; megis teimlad o [Page 285] gariad Duw, diogelwch o'n Etholedigaeth, ein adgenedlìad, a'n cyfiawnhâd, â grâs i wneuthur gweithredoedd da: oni ddelom i wladychu gyd ag ef yn ei deyrnas nefol. 2 Cor. 3.18. Joan. 15.5. ac 1.16. Hyn a ddylai ddyscu holl wir Gristianogion i'w cadw eu hunein megis aelodau dihalogedig o sanctaidd gorph Crist, ac i ochelyd pob aflendid a budreddi: gan wybod eu bod yn byw Yn Ghrist, neu yn hytrach fod Crist yn byw ynddynt hwy. Oddiwrth yr vndeb hon â Christ (seliedig i ni yn Swpper yr Arglwydd) y mae St Paul yn argymmennu i dynnu 'r Corinthiaid oddiwrth halogrwydd eulyn-addoliaeth, 1 Corin. 10.14. agodineb, 1 Corin. 10.8.
Yn ddiweddaf, oddiwrth y Cymmun rhag-ddywededig rhwng Crist â Christianogion, y mae Cymmun arall yn llifeirio rhwng Christianogion yn eu plith eu hunein. Yr hwn hefyd a ddanghosir yn fywiol wrth gyfranniad Sacrament Swpper yr Arglwydd, gan fod yr holl Eglwys, er eu bod yn llawer, yn cymmuno oll o'r vn bara yn y weithred sanctaidd honno. Nyni yn llawer ydym vn bara, ac vn corph; canys yr ydym ni oll yn gyfrannogion or vn bara. 1 Cor. 10.17. megis ac nad yw 'r bara yr hwn a fwytawn ni yn y Sacrament, ond vn, er ei wneuthur o lawer o ronynnau, felly yr holl ffyddloniaid, er eu bod yn llawer, etto nid ydynt ônd vn corph dirgeledig, tan yr vn pen yr hwn yw Crist. Fe a weddiodd ein Iachawdwr bum gwaith yn y weddi yr hon a wnaeth yn ôl ei Swpper diweddaf, ar fod o'i ddiscyblion ef yn vn: Joan. 17.2, 11, 21, 22, 23, 26. i ddyscu i ni ar vnwaith fel y mae yr vndeb hon yn rhyngu bodd iddo ef. Y mae 'r vndeb rhwng y ffyddloniaid mor chang, nas gall pellder lleoedd ei gwahanu, mor gadarn, na eill marwolaeth beri iddi ymollwn; mor barhaus, na ddichon amser moi gwisco hi allan; mor ffrwythlawn ac y maga gariad twym yn rhwng rhai ni welsant wyncbau eu [Page 286] gilydd erioed. A'r cysylldiad hwn ar eneidiau a gyfenwir Cymmuny Sainct, yr hyn y mae Crist yn ei weithredu trwy chwech o foddion hynodol. Yn gyntaf, wrth eu llywodraethu hwynt oll ag vn yspryd sanctaidd. Yn ail. trwy eu cynnyscaeddu hwynt oll a'r vn ffydd. Ephes. 4, 4, 5. Yn drydydd trwy dywallt ei gariad ei hun iw holl galonnau hwynt, Rhuf. 5.5. Yn bedwerydd, trwy eu hadgenedlu hwynt ag vn Bedydd. Tit. 3.5. Yn bumed, trwy eu porthi hwynt â'r vn ymborth ysprydol. 1 Cor. 11.33. Yn chweched, trwy fod yn vn pen bywiol ir vn corph o'r Eglwys, yr hon a gymmododd ef â Duw ynghorph ei gnawd ef, Col. 1.18, 22. O hyn y digwyddodd fod y lliaws o'r rhai a gredasant yn yr Eglwys o'r cynfyd, o vn galon, ac vn enaid, mewn gwirionedd, serch a thrugaredd, Act. 4.32. A hyn a ddylai ddyscu i Gristianogion garu y naill y llall, gan weled eu bod oll yn aelodau o'r vn sanctaidd, a'r dirgeledig gorph, o'r hwn y mae Crist yn Ben. Ac am hynny fe ddylai fod rhyngddynt oll gyd-ddioddef Cristianogawl, a chyd-teimlad, i orfoleddu y naill yngorfoledd y llall, i resynu y naill tros y lall, i gyd-ddwyn y naill â gwendid y llall, ac yn gyfnewidiol y naill i borthi angen y llall.
Am y pedwerydd Diben o Swpper yr Arglwydd.
4. I borthi eneidiau y ffyddloniaid, yn niogel obaith o fywyd tragywyddol. Canys y Sacrament hon sydd yn arwydd ac yn wystl i gynnifer ac a'i derbynnio yn ôl gosodiad Crist, y portha ef yn ôl ei addewid (trwy rinwedd ei gorph croeshoeliedig, ai waed tywalldedig) ein heneidiau i fywyd tragwyddol, cyn siccred ac y maethir ein cyrph gan Fara a Gwin i fywyd amserol. Ac i'r diben hwn y mae Crist yngweithred [Page 287] y Sacrament, yn rhoddi ei wir gorph a'i waed mewn gwirionedd i bob Derbynniwr ffyddlawn. Am hynny y gelwir y Sacrament Cymmun corph a gwaed yr Arglwydd. A Chymmundeb ni ddichon fod o bethau absennol, eithr o bethau presennol; ac ni byddai yn Swpper yr Arglwydd, oni bai fod corph a gwaed yr Arglwydd yno. Y mae Crist yn wir bresennol yn y Sacrament, trwy vndeb ddeublyg: y gyntaf sydd ysprydol rhwng Crist a'r Derbynniwr teilwng. Yr ail sydd Sacramentaidd rhwng corph a gwaed Crist, ai ar wyddion oddiallan yn y Sacrament. Y gyntaf, a weithredir trwy waith bod yr vn Yspryd glân wrth gysanneddu yn Ghrist ac yn y ffyddlonniaid, yn corpholaethu y ffyddloniaid megis yn aelodau i Grist eu Pen, ac felly eu gwneuthur yn vn â Christ, ac yn gyfrannogion o'r holl Radau, Sancteiddrwydd, a'r Gogoniant tragwyddol y rhai ydynt ynddo ef: a hynny mor ddiogel a siccr ac y maent yn clywed geiriau yr addewid, ac yn gyfranogion o'r arwyddion oddiallan yn y Sacrament fendigedig. Oddiwrth hyn y deilliaw bod ewyllys Crist yn ewyllys gwir Gristion: a bywyd Cristion yn Ghrist, yr hwn sydd yn by w ynddo. Gal. 2.20. Os edrychwch chwi ar y pethau a vnir, yr vndeb hon fydd hanfodol: os at wirionedd yr vndeb hon, y mae 'n gywir. Os ar y modd y gweithredir, y mae 'n ysprydol. Nid ein ffydd ni sydd yn peri i gorph a gwaed Crist fod yn bresennol, eithr Yspryd Crist yr hwn sydd yn trigo ynddo ef a ninnau. Nid yw ein ffydd ni ond derbyn a gosod at ein eneidiau y rhadau nefol hynny a gynnygir i' ni yn y Sacrament hon.
Yr vndeb arall sef y Sacramentaidd, nid yw naturiol neu gyfleol, either cysylldiad ysprydol rhwng yr arwyddion daiarol, y rhai ydynt Fara a Gwîn, a'r rhadau nefol, y rhai ydynt Gorph a Gwaed Crist, [Page 288] wrth eu derbyn: megis trwy berthynas iw gilidd na byddent ond yr vn ar vnrhyw beth. O hyn y digwydd, pryd y byddo 'r Derbynniwr teilwng yn bwyta a'i enau fara a gwin yr Arglwydd; ei fod ef hefyd ar yr vn amser yn bwyta â genau ei ffydd wir Gorph a Gwaed Crist. Nid o ran fod Crist yn dyfod i lawr o'r nefoedd i'r Sacrament, eithr o ran bod yr Yspryd glân trwy y Sacrament yn derchafu ei feddwl ef at Grist, nid trwy gyfnewidiad lleawl, eithr trwy serch defosionol: onid yw ef drwy sanctaidd fyfyrdod ffydd yn bresennol y pryd hwnnw gyd â Christ, a Crist gyd a'g ef. Ac fel hyn gan fyfyrio, a chredu y modd y croeshoelwyd corph Crist, ac y tywalltwyd ei werthfawroccaf waed er maddeuant o'i bechodau ef, ac er mwyn cymmodi ei enaid ef â Duw: y mae ei enaid ef wrth hyn yn cael ei faethu yn ffrwythlonach â diogelwch o fywyd tragywyddol, nac a eill y bara a'r gwin borthi ei gorph i fywyd amserol. Y mae 'n anghenrhaid fod yn y Sacrament gan hynny yn gystal yr arwyddion oddiallan iw canfod yn amlwg â llygaid y corph; a Chorph a Gwaed Crist, iw canfod yn yspydol â golwg ffydd. Eithr y modd pa ddelw y mae 'r Yspryd glân yn gwneuthur i gorph Crist, (gan ei fod mewn lle absennol oddiwrthym) fod yn bresennol gyd â nyni trwy ein vndeb, y mae St Paul yn ei alw yn ddirgelwch mawr, y cyfryw na ddichon ein dealltwri moi ddirnad. Ephes. 5.23. Nid arwyddion noethion yn arwyddoccâu gan hynny ydyw y Bara a'r Gwin Sacramentaidd, eithr y cyfryw ac y mae Crist gyd â hwynt yn rhoddi, ac yn trefnu i bob derbynniwr teilwng, nid yn vnig ei rinwedd a'i nerth dwywawl, eithr hefyd ei wir Gorph a'i waed, cyn wired ac y rhoddes ef i'w ddiscyblion ei Yspryd glân wrth arwydd ei anadl bendigedig; neu iechyd i'r clwyfus a gair o'i enau, neu gyfwrdd o'i law, neu ei wisc. Ac [Page 289] y mae ymafliad ffydd yn nertholach nag amgyffred craffaf y synhwyrau corphorol, neu reswm. I ddiweddu 'r pwngc hwn: y Sacrament sanctaidd ydyw 'r bara bendigedig hwnnw, yr hwn wedi ei fwyta a agorodd lygaid y discyblion oeddynt yn myned i Emmaus fel yr adnabuont Grist. Luc. 24.30, 31. Dyma y cwppan Ardderchawg a'r hwn y diodwyd ni oll i vn Yspryd. 1 Cor. 12, 13. Dyma 'r Graig honno sydd yn llifeirio o fèl, yr hwn sydd yn bywhau enaid blinedig pob gwir Jonathan a'i harchwaetho á genau ffydd. Dyma y dorth o fara haidd a ymdreiglodd odduchod i daro i lawr bebyll y Midianiaid o'r tywyllwch vffernol. Barn. 7.13. Y Deisen ar dwfr Angylaidd a borthodd Elias ddeugain niwrnod ym mynydd Horeb, 1 Bren. 19.6, 7, 8. y Manna (llyniaeth Angylion) a borthodd yr Israeliaid ddeugain mlynedd yn yr anialwch: eithr hwn yw 'r gwir fara y bywyd a'r manna nefol, yr hwn os bwytawn fel y dylem, a bortha ein eneidiau i fywyd tragwyddol. Pa fodd gan hynny y dylau ein henediau ni wneuthur yr erfynniad at Grist oddiwrth ddeisyfiad ysprydol, y wnaeth gŵyr Capernaum ou chwant cnawdol: Arglwydd dyro i ni y bara hwn yn osstadol. Joan. 6.32, 34, 50, 51, 58.
Y pumed Diben o Swpper yr Arglwydd.
5. I fod yn wystl diogel i ni o'n adcyfodiad. Ar adeyfodiad sydd o ddau fath: yn gyntaf ysprydol adcyfodiad ein heneidiau yn y bywyd hwn o farwolaeth pechod, hyn a elwir yr adgyfodiad cyntaf: Oblegit gan vdcorn leferydd Crist, ym mhregethiad yr Efengyl, y côdir ni o farwolaeth pechod i fywyd y grâs: Bendigedig a sanctaidd yw ef (medd St Joan. Dad. 20.6.) yr hwn sydd a rhan iddo yn yr adg yfodiad cyntaf; Canys nid oes gan yr aîl farwolaeth awdurdod ar y cyfryw. Y mae Swpper yr Arglwydd yn gystal yn fodd ac yn wystl i ni o'r ysbrydol [Page 290] adgyfodiad cyntaf yma, yr hwn am bwytu i yntau fydd byw trwof fi. Joan. 6.57. Ag yno y byddwn ni gwahoddedigion gweddus i eistedd ar y bwrdd gyd â Christ, pan fòm ni fel (Lazarus) wedi ein cyfodi o farwolaeth pechod i neŵydd-deb buchedd. Joan. 12.2.
Cywirdeb y cyfodiad hwn a ymddengys yn y deisysiadau cynnyrfiedig o'i mewn: canys pan fyddir yn gofyn i ti ddyledion crefydd, ac arferion duwioldeb, os dy galon a'th ettyb gyda Samuel: Dyma fi, llefara Arglwydd, canys y mae dy wâs yn clywed. 1 Sam. 3.10. A chyd â Dafydd, o Dduw mae fynghalon yn barod. Psal. 108.1. A chyd â Phaul, Arglwydd beth a fynni di i mi wneuthur? Act. 9.6. Yno yn ddiau fe a'th cyfodwyd ti o farwolaeth pechod, ac y mae i ti ran yn y cyfodiad cyntaf: eithr os wyt ti etto yn anhysbys mewn gwir seiliau crefydd dda, ac wyt yn deall ynot dy hun ryw fâth ar wrthwyneb cyfrinachol i arferion duwiol ffydd, ac yn rhaid dy dynnu megis yn erbyn dy feddwl, i wneuthur gweithredoedd duwioldeb, &c. yno yn ddiammau nid oes i ti ond enw o fod yn fyw, eithr yr wyt yn farw, fel y dywedodd Crist i Angel Eglwys Sardis, Dadc. 3.1. ac nid yw dy enaid ond megis halen i gadw dy gorph rhag drewi.
Yn ail, adcyfodiad corphorol ein cyrph ni yn y dydd diwethaf, sef yr ail gyfodiad, yr hon sydd yn ein rhyddhau ni oddiwrth y farwolaeth gyntaf: yr hwn a fwytâo fynghnawd, ac a yfo fyngwaed, a geiff fywyd tragwyddol, ac mi a'i cyfodaf ef yn y dydd diweddaf. Canys y mae y Sacrament hon yn selio ac yn arwyddoccâu i ni, farw o Grist a chôdi o hono ef drachefn trosom ni, a bod ei gnawd ef yn ein maethu a'n bywhau ni i fywyd tragwyddol, ac am hynny y caiff ein cyrph ni yn ddiogel eu cyfodi i fywyd tragwyddol yn y dydd olaf. Joan. 6.51, 54. Canys gan weled cyfodi ein pen, holl aelodau y corph a godant [Page 291] vn ffunyd yn ddiammau. O blegit pa fodd y geill y cyrph hynny (gan eu bod yn arfau cyfiawnder, Rhuf. 6.13, 19. temlau i'r Yspryd glân, 1 Cor. 6.19. ac aelodau o Grist) y rhai a gawsant eu maethu a'i porthi â chorph a gwaed Arglwydd y bywyd, na chant eu cyfodi drachefn yn y dydd diwacthaf? Ac fel dyma 'r achos y byddis yn claddu cyrph y Sainct yn ol eu marw mor anrhydeddus, gan eu rhoi hwynt i huno yn yr Arglwydd. Au beddrod hwy a elwir gwelau a hun-dai y Sainctiau. Esa. 26.19, 20. Y colledigion a godant yn y dydd diwethaf, eithr trwy alluog nerth Crist fel y mae yn farnwr yn eu dwyn hwynt megis drwg-weithredwyr allan o'r carchar, i dderbyn eu barn a'u gwobr haeddedigol: eithr yr Etholedigion a godant trwy rinwedd adgyf [...] diad Crist, a'r Cymundeb sydd iddynt ag ef, fel y mae yn ben iddynt. A'i adcyfodiad ef ydyw 'r achos a'r siccrhad o'n vn ni. Cyfodiad Crist ydyw ffydd neilltuol Cristion: adcyfodiad y meirw ydyw prif obaith plentyn Duw. Am hynny y byddai y Cristnogion yn y brif-Eglwys, yn arfer o gyfarch eu gilidd yn y borau a'r ymadroddion hyn, fo gyfododd yr Arglwydd; ar llall a attebai, gwir, fe gyfododd yr Arglwydd yn ddiau.
Y chwechwed Diben o Swpper yr Arglwydd.
6. I selio i ni ddiogelrhwydd o'r bywyd tragwyddol. Oh pa beth sydd fwy dymunol neu gariadol na bywyd? a pha beth y mae yr holl ddynion yn naturiol iw ofni, neu iw gasâu, yn fwy na marwolaeth? etto nid yw y farwolaeth gyntaf yma ddim i son am dani wrth ei chyffelybu i'r ail farwolaeth, ac ni thal y bywyd yma ddim chwaith wrth ei gystadlu ar bywyd sydd i ddyfod. Os dymuni di gan hynny fod yn [Page 292] ddiogel o'r bywyd tragwyddol, ymbaratoa dy hun i fod yn dderbynniwr teilwng o'r fendigedig Sacrament yma. Canys y mae ein iachawdwr yn ein siccrhau ni, Os bwytty neb o'r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd: a'r bara yr hwn a roddaf fi yw fyngnawd i, yr hwn a roddaf tros fywyd y byd. Joan. 6.51. Yr hwn gan hynny sydd yn bwyta y Sacrament sanctaidd hon yn ddyledus, a eill ddywedyd mewn gwirionedd, nid yn vnig credo Vitam aeternam, yr wyf yn credu y bywyd tragwyddol: ond hefyd Edo Vitam aetternam, yr wyf yn bwyta y bywyd tragwyddol. Ac mewn gwirionedd dyma bûr bren y bywyd, yr hwn a blannod Duw ynghanol Paradwys yr Eglwys: Ac o'r hwn y mae ef yn addo rhoi i bob gorchfygwr, iw fwyta. Dad. 2.7. Ar pren hwn o'r bywyd, mewn aneirif raddau sydd yn rhagori ar bren y bywyd oedd yn tyfu ymheradwys Eden; Canys yr oedd hwnnw a'i wreiddin o'r ddaiar, hwn o'r nefoedd: hwnnw ni roddai ond bywyd i'r corph, hwn a rydd fywyd i'r enaid; nid oedd hwnnw ond cynnal bywyd y rhai byw, y mae hwn yn adferu bywyd i'r rhai meirwon. Dail y pren hwn a iacha y Cenedloedd credadwy, ac y mae yn dwyn ffrwyth newydd bob mîs, Dadc. 22.6. yr hwn sydd yn eu porthi hwynt i fywyd tragwyddol. Oh Bendigedig ydynt hwy, y rhai sydd yn bwyta yn fynych o'r Sacrament hon! o'r lleiaf sydd vnwaith bob mîs, yn archwaethau o newydd, o'r ffrwyth adnewyddedig, yr hwn a baratôdd Crist i ni ar ei Fwrdd ei hun i iachau ein gwendid, ac i gryfhau ein crediniaeth i fywyd tragwyddol.
Y seithfed Diben o Swpper yr Arglwydd.
7. I Rwymo holl Gristianogion, megis trwy lŵ o ffyddlondeb, i wasanaethu yr vn vnig Dduw, a [...] [Page 293] heb gynnwys yr vn aberth arall yn iawn am bechodau, ond yr vn wir aberth, yr hon trwy ei farwolaeth a offrymmodd Crist vnwaith, a thrwy yr hon y gorphennodd ef Aberthau y ddeddf, ac ei gweithredodd brynedigaeth tragwyddol, a chyfiawnder i'r holl rai credadwy. Ac felly i fod fyth yn brifnôd cyhoedd o broffess, i ddangos rhagor rhwng Cristianogion a phob Sectau a gau grefyddau. A chan weled fod yn yr hên offeren bapisdaidd ryw ddieithr fâth ar Grist yn cael ei addoli, nid yr hwn a aned o'r Fair Forwyn, eithr vn a wnair o'r deisen afrllad: á bod yr ossrymmiad o'r bara-dduw hwn wedi ei wthio ar yr Eglwys megis aberth bodlonol dros y byw a'r marw: y mae holl wir Gristianogion dan boen a pherigl anudon ewyllysgar ger bron yr Arglwydd prif Farnwr nêf a daiar, i ffieiddio yr offeren, megis delw y digofaint, yr hon sydd yn diddymmu ac yn tynnu ymaith oll-alluogrwydd haeddedigaethau marwolaeth a dioddefaint Iachawdwr y byd. Canys wrth dderbyn y Sacrament o Swpper yr Arglwydd, yr ydym ni oll yn tyngu fod yr holl aberthau corphorol wedi terfynu ym marwolaeth ein Harglwydd; a bod ei gorph ef a'i waed vnwaith gwedi ei groeshoelio a'i dywalld, yn dragwyddol facth ac ymborth i'n heneidiau ni.
GOrau modd i ddŷn i ddeall ei anheilyngdod ei hun, ydyw holi ei fuchedd ei hun, yn ol dêg gorchymmyn yr holl-Alluog Dduw. Chwilia gan hynny pa ryw ddyledion a adewaist di heb wneuthur, a pha gamweddau a wnacthost di, yn erbyn pob vn o'r Gorchmynnion: gan gofio os byddi heb edifeirwch a thrugaredd Dduw Yn Ghrist, fod melldith [Page 294] Dduw (yr hwn sydd yn cynnwys oll drueni y bywyd hwn, ar poenau tragwyddol yn nhân vffern pan ddarfyddo hwn) yn ddyledus am dorri y lleiaf o orchmynnion Duw. Deut. 27.26. Gal. 3.10. A chwedi cymmeryd cyflawn olygiad yn gystal ar dy bechodau, a'th trueni, dychwel i ryw le dirgel, ac yno gan dy osod dy hun yngolwg y Barnwr, megis drwg weithredwr euog yn sefyll o flaen yr orseddfaingc i dderbyn ei farnedigaeth, gan blygu dy liniau hyd y ddaiaren, a churo dy ddwyfron a'th ddyrnau, a gwlitho dy ddeurydd a'th ddagrau, cyfaddef dy bechodau, ac yn ostyngedig erfyn ei nawdd a'i drugaredd yn y geriau hyn neu 'r cyfryw.
Cyffes ostyngedig am bechodau, iw gwneuthur at Dduw o flaen derbyn y Cymmun sânctaidd.
O Dduw dâd nefol, pan ystyriwyf y daioni a ddangosaist di i mi beunydd, a'r anwiredd a wneuthym yn erbyn y nefoedd ac o'th flaen di, y mae arnaf fi gywilydd om plegit fy hun, a gwarth sy 'n cuddio fy wyneb megis llen: Canys pa vn o'th Orchymynion na thorrais? O Arglwydd yr wyf yn sefyll yma yn euog o droseddu dy holl gyfreithiau sanctaidd: Canys ni bu serch fynghalon mor awyddus yn glynu wrth dy Fawrhydi di, megis wrh ofer a bydol bêthau:Luc. 15. Y gorchymyn Cyntaf. Deut. 6.5. Mat. 12.37, 38. Lev. 19.14. Psal. 22.5, 6. Psal. 38.8. Nid ofnais i moth farnedigaethau di, i'm dychrynu oddiwrth bechodau, ni choeliais ith addewid, i'm cadw rhag ammau o'm amserol, neu rhag anobeithio o'm tragwyddol gyflwr. Mi wneuthum reol dy dduwiol addoliad, i fod fel y gwelai fy meddwl [Page 295] yn gymhefur, nid fel y gosododd dy air di ar lawr: gan fod yn haws gan fynghalon gofio fy Iachawdwr bendigedig, mewn llun cerfiedig o waith dŷn, nac edrych arno ef yn groeshoeliedig yn ei air a'i Sacramentau, ar ol ei drefnedigaeth ei hun. Lle ni ddylaswn i erioed arferu dy enw (i'r hwn y mae pob glin yn plygu) oddiethr ag anrhydedd crefyddol, nac vn rhan o'th addoliad heb zêl a pharodrwydd dyledus: se ddarfu i mi gablu a chamarferu dy enw sanctaid mewn arferol lyfau byrbwyll: Ie fe ddarfu i mi arferu llyfau i'th enw bendigedig, megis yn fantellau i guddio fy mechodau bryntion. Ac mi fum yn fynych yn bresennol yn dy wasanaeth, mwy o ran defod ac arfer, nac o ran cydwybod, a mwy o ran rhyngu bodd dynion, nac o ran rhyngu bodd i ti, fy Nuw grasusol.
Lle dylaswn i sancteiddio dy ddydd Sabboth, trwy fod yn gyd-edrychiol wrth gyhoeddys orchwylion yr Eglwys, a thrwy fyfyrio yn ddirgel ar air a gweithredoedd Duw, a thrwy ofwyo y claf, a rhoi ymwared i'm brodyr tlodion: Och, yr oeddwn ni yn tybied y gorchwylion sanctaidd hynny yn faich gormod, o horwydd eu bod yn rhwystro fy nifyrrwch ofer:Yr 2 gorchymyn. Deut. 12.32. Mat. 15.9. Gal. 3.1. Y 3 gorchymyn. Phil. 2.10. Eccl. 4.17. 1 Bren. 19.10. Jer. 5.2. Y 4 Gorchymyn. 5 Gorchymyn. Ie fe ddarfu i mi dreilio llawer o'th Sabbothau yn fy nrachwantau halogedig fy hunan, heb fod yn bresennol wrth vn rhan o'th addoliad gogoneddus.
Lle dylaswn i roi pob dyledus anrhydedd im Naturiol, Eglwysig, a dinasol dadau, ni ddarfu i mi ddangos mor fáth ddyledus barch a thraserch i'm rhienl fel yr oedd eu gofal a'i mwyneiddra hwynt yn haeddu.
[Page 296]Nid oeddwn i yn hoffi mo'th Wenidogion di fel y dylaswn er mwyn eu llafur, eithr yr oeddwn yn beio ar eu buchedd, ac yn eu cashâu am iddynt fy argyoeddi i yn gyfiawn. Ac fe ddarfu i mi fy ymddwyn fy hunan yn wrthnysig ac yn ddiystur yn erbyn dy Swyddogion a'th wenidogion, er i mi wybod mae dy ordeinhâd ti ydyw, y dylwn i fod yn vfyddgar iddynt.
Lle y dylaswn fod yn hwyrfrydig i lid, ac yn dosturiol i faddau camweddau, heb gynnwys i'r haul fyned i lawr ar fy nigofaint: Eithr gwneuthur da dros ddrwg, a charu fyngelynion er dy fwyn di: fy fi, och fi, am vn gair diffaith, a dorrais allan mewn llid, gan achlesu a llettyfa bwriadau niweidiol yn fynghalon, fel y dewisais i ymborthi ar fy malais fy hun, o flaen bwyta dy Swpper sanctaidd.
Lle dylaswn i gadw fy meddwl oddiwrth drachwantau budron, am corph oddiwrth bob aflendid: O Arglwydd, mi halogais, ac a ddiŵnais y ddau, gan wneuthur fynghalon yn gawell i feddyliau diffaith, a'm meddylfryd yn gut i'r ysbryd aslan. Ie yr ymwared ar cynnorthwy,Y 6 gorchymyn. Diha. 19. Eph. 4.31. Y 7 gorchymyn. 1 Th. 4.3. Rhnf. 6.13. Yr 8 gorchymyn. Eph. 4.28. Luc. 6.34. Levit. 25.35. yr hyn a roddaist ti (Arglwydd) er mwyn ymgadw oddiwith drachwant, ni allai mom cadw i o fewn terfynau Diweirdeb; Canys gan flysio, ac ewyllysio glendid, sail yr hwn nid yw ond pridd, fe ddarfu i Satan roi swyn gyfaredd i'm cnawd i drachwantu ar ol cnawd dieithr.
Lle dylaswn fyw mewn vniondeb, gan roddi i bawb ei eiddo, a bod yn fodlon i'm cyflwr fy hun; a chan fyw yn gydwybodus yn fyngalwedigaeth gyfreithlawn, dylaswn fod yn barod (yn ol fyngallu) [Page 297] i gyfrannu ac i roi echwyn i'r anghênog: O Arglwydd fe ddarfu i mi trwy orthrymmu, gwascu, a gwobrau, ymgeccri, a'r cyfryw gamgymyreth, trwy liw o'm Galwedigaeth am Swydd, yspeilio a darnguddio oddiar fynghyd Gristianogion: Ie fe ddarfu i mi fiommi a chynnwys Crist lawer amser yn ei aelodau tlodion, i sefyll yn newynog, yn anwydog, ac yn noeth wrth fy nrws: ac yn newynog noethlwm i fyned ymaith yn ddi-ymwared fel y daeth: ar pryd yr oedd culni ei ruddiau yn erfyn am drugaredd, ni adawai galedwch fynghalon i mi ddangos ddim tosturi.
Lle y dylaswn i wneuthur cydwybod i ddywedyd y gwirionedd mewn diniweidrwydd, heb-dwyll, mewn callineb gan farnu yn vnion, ac yn gariadus gan gymmeryd pob peth ar y gorau: a lle y dylaswn i ymddiffyn enw da a chredyd fynghymydog: och fi (wael-ddyn truan) mi enllibiais ac a wradwyddais fynghyd-frawd, a chyn gynted ac y clywn chwedl diffaith mi wneuthum fynhafod yn offeryn i'r Cythraul iw gyhoeddi i eraill, cyn gwybod y gwirionedd o hono fy hun. Yr oeddwn cyn belled oddiwrth ddywedyd vn gair da,Y 9 Gorchymyn. Zac. 8.16. Mat. 10.16. 1 Cor. 13.7. Mat. 11.18, 19. Psal. 50.20. Psal. 15.3. Tit. 1.12. er ymddiffyn ei enw da ef, megis yr oedd yn ddirgel chwerthiniad yn fynghalon glywed anair i vn yr oeddwn yn ei gynfigennu, er i mi wybod heb law hynny fod rhâdau Duw yn llewyrchu ynddo ef mewn mesur cyflawn. Mi wneuthum ddigrifwch o wenheithus, a bûdd o ddrygfawr gelwyddau, yn hyn o beth yn fy nangos fy hun yn vn o'r Cretiaid ac nid yn wir Gristion.Y 10 Gorchymyn.
Ac yn ddiwethaf (O Arglwydd) [Page 298] lle y dylaswn i fod yn gwbl fodlon i'r cyfran a genniadhaodd dy fawrhydi i mi yn y percrindod hwn; a gorfoleddu mewn daioni vn arall megis yn fy vn fy hunan: och, ni wneuthum i swydd ond chwennychu a blysio tŷ y cymmydog yma, a thir y cymmydog draw: Ie gan ddymuned y cyfryw ddŷn yn farw, fel y gallwn i gael ei swydd neu ei etifeddiaeth; gan chwennychu yn hytrach y pethau a ganniadhaist di i rai eraill, o flaen bod yn ddiolchgar am y pethau a roddaist di i mi fy hunan. Fel hyn O Arglwydd y darfu i mi, yr hwn wyf bechadur cnawdol gwedi yngwerthu tan bechod droseddu dy holl sanctaidd a'th ysbrydol orchymynnion, o'r cyntaf i'r olaf, o'r mwyaf i'r lleiaf, ac yma yr wyf yn sefyll yn euog o flaen dy Orseddfaingc di, am dorri dy holl gyfreithiau, ac am hynny yr wyf yn haeddu dy felldith, a'r holl drueni a eill cyfiawnder ei dywallt allan ar y fath greadur melldigedig. Ac i ba le yr af fi am ymwared rhag y trueni hyn? Y mae Angelion yn cywilyddio wrth fy gwrthryfel, ac ni wnant ddim ymwared i mi. Y mae gwyr yn euog o'r vnrhyw drosedd, ac ni allant moi cynnorthwyo eu hunain. Am hynny a anobeithiaf fi gyd â Chain, neu wneuthur am danaf fy hun gyd â Judas? Na wnaf Arglwydd, Canys ni byddai hynny ond dibennu trueni y bywyd hwn, a dechrau poenau didrangcedig vffern: mi appeliaf yn hytrach at Orseddfaingc dy rad lle y mae trugaredd yn rheoli i faddau aml bechodau a throseddau, ac allan o ddyfnder fy 'nrhueni, mi lefaf gyd â Dafydd am ddyfnder dy drugareddau. Pe lleddit ti fi â blinderau, etto myfi mal Job a ymddiriedaf ynot ti. Heb. 13.5. 1 Tim. 6.6. Phil. 4.11, 12. Heb. 4. Psal. 130.1. Job 13.12. Pe rhôn ac i ti fy moddi ynghanol cefnfor dy anfodlonrhwysld, gydâ Jonas, etto mi ddaliaf y fâth afael yn dy drugaredd, fel y gellir [Page 299] fynghodi i fynu yn farw, a nwy ddwylaw am dani hi. A pha teflit ti fi i waelodion vffern, mal Jonas i fol y Pyscodyn: Etto oddiyno y llefwn arnat ti; O Dduw Tâd o'r nef, O Jesu Grist Prynwr y byd, o ysbryd glán fy Sancteiddiwr, tri pherson ac vn Duw tragwyddol, trugarha wrthif bechadur truan. A chan weled mai daioni dy anian dy hun a barodd i ti ddanfon dy vnig-anedig Fab i farw dros fy mhechodau, fel trwy ei farwolaeth ef y gallwn gael fynghymmod gan dy Fawrhydi: O Na thaff ymaith ac na wrthod fy enaid edifeiriol, yr hwn gan ei fod yn anfodlon iddo ei hun am bechod, sydd yn ewyllysio dychwelyd i'th wasanaethu, a'th fodloni, mewn newydd-deb buchedd: Ac estyn dy law ymwaredol o'r nef i achub dy wâs tlawd, yr hwn sydd (megis Petr) yn barod i soddi ynghefnfôr pechodau a thrueni. Golch ymaith liaws fy anwireddau â haeddedigaethau y gwaed, yr hwn yr wyf si yn ei Gredu ddarfod i ti ei dywallt yn helaeth tros bechaduriaid edifeiriol.
Ac ynawr gan fy mod i dderbyn y dydd hwn y Sacrament fendigedig o'th werthfawroccaf gorph a gwaed; O Arglwydd, yr wyf yn attolygu i ti, gâd i'th ysbryd glan drwy dy Sacrament selio i'm henaid, fod o'm holl bechodau trwy dy farwolaeth a'th ddioddefaint yn cael eu cyflawn faddau a'i gollwng dros gôf, megis na ddêl y melldithiau a'r Barnedigaethau, y rhai y mae fy mechodan yn eu haeddu, fyth i'm gwradwyddo yn y bŷd hwn, nac i'm henog farnu yn y byd sydd i ddyfod. Canys fy ssydd ddisigl yw, ddarfod i ti farw dros fy mhechodau, a chyfodi eilwaith or mwyn fynghysiawnhâd. Hyn yr wyf yn ei gredu,Jonah 2.2. Rhuf. 4. ar olaf. O Arglwydd cynnorthwya fy angredmiaeth. Gweithreda ynof hefyd yr wyf yn attolwg i ti ed [...]feirwch [Page 300] difrifol, megis y gallwyf o eigiawn calon, ofidio tros fy mhechodau a aethant heibio, a'i ffieiddio, a'th wasanaethu o hyn allan mewn newydd-deb buchedd â mwy mesur o sancteidddrwydd crefyddol. na âd i'm henaid i fyth anghofio aneirif gariad y cyfryw Iachawdwr anwyl, yr hwn a roddes i lawr ei fywyd i waredu pechadur cyn waeled. A channiadhâ, O Arglwydd, yn ol i mi dderbyn y selau a'r arwyddion hyn o'm Cymmun i rhyngof â thi, i ti fod o hyn allan yn anneddu trwy dy ysbryd glân o'm mewn, a minnau felly i fyw mewn ffydd ynot ti, fel y gallwyf rodio holl ddyddiau fy mywyd mewn duwioldeb tu ag attat ti, Ac mewn brawdol gariad Perffaith tu ag at fynghymydogion: megis gan fyw yn dy ofn, y gallwyf farw yn dy ffafr, ac ar ol marwolaeth bod yn gyfrannog o fywyd targwyddol trwy Jesu Grist fy Arglwydd am hunig Iachawdwr. Amen.
3. Am y moddion trwy ba rai y gelli di ddyfod yn Dderbynniwr teilwng.
Y Moddion hyn ydynt ddyledion o ddau fath: y cyntaf tu ag at Dduw; yr olaf tu ag at ein cymydog. Y rhai ydynt tu ag at Dduw ydynt dri: yn gyntaf, gwybodaeth iachus, yn ail, gwir ffydd, yn drydydd, edifeirwch difrifol. yr hyn tu ag at ein cymydog, nid yw ond vn, sef diammur gariad perffaith.
Gwybodaeth iachus ydyw dealltwriaeth sancteiddiedig am brif seiliau crefydd. Heb. 6.1, 2. Joan. 17.3. 1 Tim. 2.4. 1 Cor. 12.29. 2 Cor. 13.5. Megis [Page 301] yn gyntaf, am Drindod y personau yn vndod y Duwdab. Yn ail, am greadigaeth dyn a'i gwymp. Yn drydydd, am y felldith a'r trueni dyledus i bechod. Yn bedwerydd, am naturiau a Swyddau Crist, ac am brynedigaeth y byd trwy ffydd yn ei farwolaeth ef: yn enwedig, am athrawiaeth y Sacramentau yr hyn sydd yn sicrhau ac yn selio y prynedigaeth hwnnw i ni. Canys fel na ellir adeiladu tŷ, oni roir y sail ar lawr yn gyntaf; felly ni eill crefydd chwaith mor sefyll, oni bydd hi gwedi ei seilio ar wybodaeth diogel o air Duw. Yn ail, oni wyddom ni ewyllys Duw, ni allwn ni, nai gredu, nai wneuthur. Canys megis na ddichon neb wneuthur gorchwylion bydol, ond y rhai sydd a gwybodaeth celfyddgar genthynt i'w gwneuthur: felly heb wybodaeth, rhaid yw i ddynion fod yn fwy aneallgar ac anwybodus mewn ysbrydol a goruchel bethau. Ac etto mewn pethau amserol fe ddichon dyn wneuthur llawer trwy oleuni naturiaeth: Eithr mewn dirgeledigaethau crefyddol, pa fwyaf y bôm ni yn hyderu mewn rheswm naturiol, bell-bell y byddwn ni oddiwrth ddirnad yr ysbrydol wirionedd. 1 Cor. 2.14. Rhuf. 8.7. Yr hyn beth sydd yn eglurhâu fod cyflwr ofnadwy i'r rhai sydd yn derbyn heb wybodaeth, a chyflwr mwy ofnadwy i'r Bigeiliaid hynny y rhai ydynt yn gwenidogaethu iddynt heb eu Cateceisio nai hathrawiaethu.
2. Am wir ffydd, yr hon a ddylai fod mewn Cymunwr teilwng.
Nid y gwybodaeth noeth o'r Scrythyrau, a'r seiliau cyntaf o grefydd, ydyw gwir ffydd, (Canys mae y cythreuliaid, a'r gwrthodedigion mewn mesur tragodidawg yn credu ac yn crynu, Jag. 3.19.) eithr gwir grediniaeth o'r holl bethau ar a ddarfu i'r Arglwydd [Page 302] eu dadcuddio yn ei Air; ac hefyd neillduol osodiad at enaid dyn ei hun o'r holl addewidion o drugaredd, yr rhai a wnaeth Duw yn Ghrist i bechaduriaid credadwy. Ac yn ddilynawl fod Crist a'i holl haeddedigaethau, yn perthyn iddo ef yn gystal ac i vn arall. Canys yn gyntaf, o ni bydd gennym ni gyfiawnder y ffydd, nid yw y Sacrament yn selio dim i ni; Ac y mae pob dŷn yn Swpper yr Arglwydd yn derbyn cymmaint ac y mae yn ei gredu, Rhuf. 4.11. Yn ail, O blegid heb ffydd na allwn ni y rhai ydym yn Cymuno ar y ddaiar ymgyffred Crist yn y nefoedd. Canys fel y mae ef yn trigo ynom ni trwy ffydd. Eph. 3.17. felly trwy ffydd vn agwedd y rhaid i ni ei fwyta ef. Yn drydydd, oblegid heb ffydd ni allwn ni fodloni neu berswadio ein cydwybod ein bod yn Cymmuno yn gymmeradwy ger bron Duw. Heb. 11.6. Rhuf. 14.23.
3. Am edifeirwch difrifol yr hyn a ddylai fod mewn Cymmunwr teilwng.
Gwir edifeirwch ydyw sancteiddiol gyfnewid meddwl, pan fyddo dŷn yn ol iddo gymmeryd golwg teimladwy ar drugaredd Duw, a'i drueni ei hun, yn troi oddiwrth ei holl bechodau amlwg a dirgeledig, i wasanaethu Duw mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder yr holl ddarn arall o'i enioes. Esa. 55.7. Ezec. 33.11. Act. 3.19. ac 26.29. Luc. 1.74.75. Canys fel y mae vn glwth a fyddo wedi ymlenwi â bwyd, yn anghymmesur i fwyta bara: felly yr hwn sydd a'i gonglau yn llawn o bechodau, nid yw weddaidd i dderbyn Crist. A chydwybod gwedi ei ymddifwyno gan fudreddi ewyllysgar, sydd yn gwneuthur yr arfer or holl bethau sanctaidd yn ansanctaiddiol i ni. Heb. 2.13, 14. Tit. 1.13. Ni ellir bwyta mor offrymedig di-frycheulyd oen Pasc, gyd â lefain malis [Page 303] a drygioni, medd Paul, 1 Cor. 5.8. Ac ni eill hên gostrêlau ein llygredig a'n amhur gydwybodau ni, gadw y gwin newydd o werthfawr waed Crist, fel y dywaid ein Iachawdwr. Marc. 2.22. Y mae 'n rhaid i ni gan hynny wir edifarhau, os mynnwn ni fod yn gyfrannogion teilwng.
Cariad perffaith ydyw maddeu yn ewyllysgar i rai eraill a wnaethant i'n herbyn, ac ar ôl cyfundeb, tystiolaeth ddiffuant oddiallan o draserch ein calonnau oddifewn, trwy ymddygiad, geiriau, a gweithredoedd, cyn fynyched ac ir ymgyfarfyddom ni, neu y byddo yr achos yn gofyn. Canys yn gyntaf, heb gariad tu ac at ein cymydog, nid oes vn aberth yn gymeradwy gan Dduw. Mat. 5.23, 24. Yn ail, ô herwydd mai vn brif achos neu 'r diben, er mwyn yr hyn yr ordeiniwyd Swpper yr Arglwydd, ydyw cryfhau cariad Cristianogion y naill tu ag at y llall. Joan. 13.14, 34, 35. Yn drydydd, ni eill vn dyn moi sicrhau ei hun o fod wedi cael maddeuant am ei bechodau gan Dduw, oni bydd ei galon ef yn ymroi i faddau i ddynion y beiau a wnaethant yn ei erbyn ef. Mat. 18.35. Hyn yma am y dyledion cyntaf, sydd raid i ni eu cyflawni cyn dyfod i Fwrdd yr Arglwydd, yr hyn a elwir Parodrwydd neu ymbaratoad.
2. Am yr ail fâth ar ddyledion y rhai sydd raid i Gymmunwr teilwng eu cyflawni wrth dderbyn Swpper yr Arglwydd, sef Myfyrdodau.
Y Gorchwyl hwn o fyfyrdod ysprydol sydd yn ymgynnwys mewn llawer obyngciau.
[Page 304]Yn gyntaf, pan fyddo y bregeth gwedi darfod, a gwledd o Swpper yr Arglwydd i ddechrau ei chyssegru: myfyria wrthit dy hunan fel y mae Crist yn dy wahodd di i fod yn gyfrannog ar ei fwrdd sanctaidd, ac mor garedig y mae yn dy wahodd di: O deuwch i'r dyfroedd bob vn y mae syched arno, &c. deuwch prynwch win a llaeth heb arian, ac heb werth; bwytewch yr hyn sydd dda, ac ymhyfryded eich enaid mewn brasder. Cymmerwch bwytewch chwi, hwn yw fyngorph yr hwn a dorrwyd trosoch, yfwch o hwn eu gyd; Canys hwn yw fyngwaed yr hwn a dywalltwyd er mwyn maddeuant o'ch pechodau chwi. Math. 22. ac 26.26, 27, 28. 1 Pet. 1. Esay. 55.1, 2. Pa fwy o anrhydedd a ellir ei ganniadhau na chael cynhwysiad i eistedd ar fwrdd yr Arglwydd ei hun? pa well llyniaeth a ellir ei roi, nac ymborthi ar gorph a gwaed yr Arglwydd ei hunan? Os oedd Dafydd yn tybied mai mwyaf ffafr a allai ef ei wneuthur i Barzillai ddaionus am yr holl garedigrwydd a ddangosasai ef iddo yntau yn ei orthrymderau, oedd gynnyg iddo, y cai ef fwyta ar ei fwrdd ef gyd ag ef yn Jerusalem: 2 Sam. 19.33. Yn ba faint mwy o ffafr y dylem ni ei gyfrif, pan fyddo Crist mewn gwirionedd yn ein porthi ni yn ei Eglwys ar ei fwrdd ei hun, a hynny a'i dra-sanctaidd gorph a'i waed ei hunan?
2. Fel y darfu i Abraham pan aeth ef i fynu i'r mynydd i aberthu Isaac ei fab, adel ei weision i wared yn y gwastadedd: Gen. 22.5. felly pan ddelych di at ysbrydol aberthiad Swpper yr Arglwydd, gosod heibio holl feddyliau ac amcanion bydol: fel y gellych di yn gwbl feddylio, a myfyrio am Grist, ac aberthu i fynu dy enaid iddo ef, yr hwn a aberthodd ei enaid ai gorph drosot ti.
[Page 305]Yn drydydd, myfyria wrthit dy hun, mor werthfawr ac anrhydeddus yw corph a gwaed Mab Duw, yr hwn yw llywodraethwr nef a daiar: Yr Arglwydd, wrth amnaid yr hwn y mae yr Angelion yn crynu, a chan yr hwn y caiff y byw ar marw eu barnu yn y dydd diwethaf, a thithau yn eu plith. Ac mai hwn yw ef, yr hwn gwedi ei groeshoelio am dy bechodau, sydd yr awrhon yn ymgynnig i'th enaid i'w dderbyn trwy ffydd. Or tu arall, ystyria pa fath greadur pechadurus ydwyt ti: ac fel yr wyt ti yn gwbl anheilwng o'r fath lettywr sanctaidd; A chynddrwg yr wyt ti yn haeddu archwaethu y fath ymborth bendigedig? Gwedi dy gael mewn budreddi, a byth o hynny allan yn ymdrobaeddu mewn budr byllan a thyllau anwiredd; yn dwyn enw Cristion eithr yn gwneuthur gweithredoedd y cythraul; yn addoli Crist gan ddywedyd Ave Rex, Henffych well frennin a'th enau, eithr poeri llyfau yn ei wyneb, ai groeshoelio ef o newydd a'th orchwylion anraslo [...].
Yn bedwerydd, cydsynnia gan hynny, a meddwl a pha wynepryd y beiddidi gynnyg cyfwrdd corph mor sanctaidd a dwylaw mor aftan? neu i yfed y sath werthfawr waed, a'r fath enau celwyddog drygfawr? Neu i lettena y fâth fendigedig westwr mewn stafell mor fudr? Canys os [...]addwyd y Bethshemitiaid, am edi ych yn amharchus yn Arch yr h [...]n Destament, pa farnedigaeth a elli di ei ddisgwyl yn gyfion, yr hwn a'r cyfryw amhur olygon, a chalon, wyt wedi dyfod i edrych a derbyn Arch y Testament [...]wydd, yn yr hon y mae cyflawnder y Duwdod yn presswylio yn gorphorol? Col. 2.3, 9.
Os trawyd Ʋzzah â marwolaeth ddisymmwth, am gyfwrdd Arch y cyfammod, Er nad oedd heb zel! 2 Sam. 6.7. Pa farn oruchel a ddylit ti ei ofni, yr hwn wyt mor hy a hyll ac á dwylaw aflan ryfygu [...]eimlo Arch y Testament tragwyddol, yn yr hon y [Page 306] cuddiwyd holl dryssorau doethineb a gwybodaeth?
Os oedd Joan fedyddiwr (y gwr duwiolaf ar a aned o wraig erioed) yn ei dybied ei hun yn anheilwng i ddwyn ei escidiau ef: O Arglwydd mor anheilwng yw 'r fath briddyn halogedig ac wyt ti, i fwyta ei gnawd sanctaidd, ac i yfed ei werthfawroccaf waed? Mat. 3.11.
Os oedd y bendigedig Apostol St Petr, wrth weled dim ond llewyrch ollallnog nerth Crist, yn ei dybied ei hun yn anheilwng i sefyll yn yr vn cafn ag efo; oh, mor anheilwng wyt ti i eistedd gyd â Christ ar yr vn bwrdd, lle y gelli di ganfod ei aneirif râd a'i drugaredd yn tewynnu?
Os oedd y Canwriad yn tybied nad oedd cronglwyd ei dŷ ef yn deilwng i groesawu y fàth lettywr gogoneddus; pa le a ddichon fod yn gymmwys dan dy asennau di, i sancteiddrwydd Crist i anneddu ynddo? Mat. 8.8.
Os oedd y wraig glwyfus o'r diferlif gwaed, yn ofni cyfwrdd ag ymyl ei wisc ef; pa fodd y dylit ti grynu wrth fwyta ei gnawd ac yfed ei oll-iachusawl waed ef?
Etto os ydwyt ti yn dyfod yn ostyngedig mewn ffydd, edifeirwch, a chariad perffaith, gan ffieddio dy bechodau a aethant heibio, a bwriadu yn ddi-ffuant wellhau dy fuchedd o hyn allan: Na fydded dy bechodau aethant o'r blaen i'th ofni, o ran ni roddir mo honynt fyth yn dy faich di; ae fe fydd y Sacrament hon yn selio i'th enaid ti, fod dy holl bechodau a'r barnedigaethau dyledus iddynt wedi cael eu cyflawn faddau a'u golchi ymmaith yn lân trwy waed Crist. Canys nid ordeiniwyd mor Sacrament hon i'r rhai ydynt berffaith, ond i gynnorthwyo pechaduriaid edifeiriol i berffeithrwydd: Ni ddaeth Crist i alw y rhai cyfion onid pechaduriaid i ed feirwch, Mat. 9.12, 13. Ac y mae ef yn dywedyd, [Page 307] nad rhaid ir iach wrth physygwr ond i'r clwyfus, y rheini a alwodd Crist, a phan ddeuent, y rheini erioed a gynnorthwyai ef. Math. 11.28. Bid yr holl Efengyl yn dystiolaeth na ddaeth yr vn pechadur erioed at Grist am drugaredd, a myned ymmaith heb ei neges. Trocha di vn agwedd dy enaid clwyfus yn y ffynnon hon o waed Crist: ac yn ddi-ammau yn ol ei addewid ef, di a gai dy iachau o'th holl bechodau a'th aflendid. Zach. 13.1. Nid pechaduriaid gan hynny ond y rhai sydd yn anewyllysgar i edifarhau am eu pechodau, a waherddir oddiwrth y Sacrament hon.
Yn bumed, myfyria ddarfod i Grist adael y Sacrament hon i ni yn brif Arwydd a gwystl o'i gariad ef: nid pan oeddynt yn amcanu ei wneuthur ef yn Frenin, Joan. 6.15. (yr hyn a allasai fod megis yn dâl am eu hewyllys da) ond pan oedd Judas a'r Arch offeiriaid yn gwneuthur ei frâd ef, am hynny yn gwbl o'i wir gariad. Pryd yr oedd Nathan yn dangos i Ddafydd ddaed oedd gan y dŷn tlawd ei oenig fechan a laddasai y gwr cyfoethog: Yr oedd ef yn rhoi iddi meddai ef, oi dammaid ei hun i fwyta, ac o'i gwppan ei hun i yfed. 2 Sam. 12.3. ac onid yw cariad Crist gan hynny iw Eglwys yn anrhaethadwy pan fyddo ef yn rhoddi iddî ei gnawd ei hun iw fwyta a'i waed ei hun iw yfed, yn borthiant ysprydol a thragwyddol iddi? Os oes gan hynny ddim cariad yn dy galon di, cymmer phiol iechydwriaeth yn dy law, a pharcha ei gariad ef â chariad am dano, Psal. 116.11.
Yn chweched, pan fyddo y Gwenidog yn dechrau cyffegru y Sacrament sanctaidd, yno dod heibio dy holl weddiau, dy ddarllain, a'th oll fyfyrdodau eraill pa rai bynnac: a gofod dy feddylfryd yn vnig ar ygweithredon, a'r arferion sanctaidd hynny, y rhai yn ol trefnedigaeth Crist a arferir o fewn ac ynghylch [Page 308] y Sacrament sanctaidd: Canys fe ryngodd bodd i Dduw (gan ystyried ein gwendid ni) osod y trefnedigaethau hynny yn gyfryngau î gyfodi ein meddyliau i ddyfrifol fyfyrio ar ei radau nefol.
Pan fŷch di gan hynny yn gweled y Gwenidog yn gosod oddiwrtho y bara ar gwin ar Fwrdd yr Arglwydd, ac yn eu cyssegru hwynt trwy weddi a thrwy ordeinhad Crist, i fod yn Sacrament sanctaidd o fendigedig corph a gwaed Crist; yno myfyria, fel y darfu i Dduw Dàd o'i wir gariad i ddynol ryw, neilltuo, a selio ei vnig-anedig Fab i fod yn foddion oll-ddigonol, ac vnig gyfryngwr, i'n gwaredu ni oddiwrth bechod, ac i'n cymmodi ni a'i râd ef, ac i'n dwyn ni i'w ogoniant.
Pan fyddych di yn gweled y Gwenidog yn torri y bara wedi ei fendigo, y mae 'n rhaid i ti fyfyrio, ddarfod rhoi Jesu Grist tragwyddol fab Duw i farwolaeth, a bod ei fendigedig Enaid a'i gorph (gan deimlad o ddigofaint Duw) wedi eu torri a'i gwahanu am dy bechodau di, cyn wiried ac y gweli di yr awrhon dorri y Sacrament sanctaidd o flaen dy lygaid: a chyd â hynny galw i'th gôf faint yw euogrwydd dy bechodau, a maintiolaeth digofaint Duw i'w herbyn hwynt, gan weled na fodlonid cyfiawnder Duw, ond a'r cyfryw aberth.
Pyn fyddo y gwenidog gwedi bendigo a thorri y Sacrament, ac yn ei ymbaratoi ei hunan i'w chyfrannu; yno myfyria, fod y brenin yr hwn sydd feistr o'r wlêdd yn sefyll wrth y bwrdd i weled ei wahoddedigion, ac yn edrych arnat ti a yw dy wisc briodas am danat: Mat. 22.11. Dad. 19.8. Tybia hefyd fod yr holl Angelion sanctaidd, y rhai ydynt yn gwilio ar yr etholedigion yn yr Eglwys, ac ydynt yn chwennych gweled arferu y dirgeledigaethau sanctaidd hynny, yn dal sylw ar dy ostyngeiddrwydd a'th ymddygiad, 1 Cor. 11.10. Eph. 1. ar olaf. 1 Pet. 1.12. [Page 309] gâd i'th enaid gan hynny, yn y cyfamser y byddo 'r Gwenidog yn dwyn y Sacrament attat ti, aberthu hon, neu'r cyfryw vnig-adroddiad at Grist.
Neillduol draethawd ddiddanaidd i'w hadrodd yn ol cyssegriad a chyn derbyn y Sacrament.
AI gwir yw y presswylia Duw ar y ddaiar? wele y nefoedd, a nefoedd y nofoedd ni allant dy gynhwys di, pa faint llai y dichon enaid y fath ddihiryn pechadurus ac wyf fi dy dderbyn di!
Eithr gan weled fod dy ewyllys bendigedig i ddyfod fel hyn i Swpperu gyd â mi, ac i bresswylio ynof: ni allaf o wir lawenydd na ddywedwyf beth yw dyn pan gydnabyddit ag ef? neu fâb dyn pan wnait gyfrif o honaw? Pa gariad bynnac a fu gwiw gennit ti ddangos i mi o gyflawnder dy râs, yr wyf yn cyfaddef yn rhwydd pa beth ydwyf yn nhrueni fy natur. Yr wyf (i ddywedyd ar vnwaith) yn greadur cnawdol, am henaid wedi ei werthu tan bechod: dyn truan gwedi ei amgylchu â chorph marwolaeth. Etto Arglwydd gan dy fod ti yn galw, wele fi yn dyfod, a chan dy fod ti yn galw pechaduriad, fe ddarfu i mi fyngwthio fy hunan i mewn ym mhlith eraill: a chan weled dy fod ti yn galw yr holl rai sydd yn f [...]nderog, ac yn llwythog; ni welai ddim achos i mi iaros yn ôl. O Arglwydd yr wyf fi yn glaf, ac i ba le yr âf ond attad ti physygwr fy enaid? Tydi a iachauaist lawer, ond erioed ni threwaist di wrth yr vn mor drwm glwyfus: Canys vr wyf yn fwy gwahanglwyfus nac oedd Gehazi, yn fwy aflan na Magdelen, yn ddallach yn fy enaid nac oedd Bartimeus vn ei gorph; Canys myfi a fum fyw hyd yn hyn,Psai. 144.3. Rhuf. 7.14.24. ac erioed heb weled gwir lewyrch dy air. Y mae yn rhedeg o'm henaid fwy llif o [Page 310] chod, nac oedd diferlif gwaed y wraig claf o'r gwaedlif. Nid oedd Mephibosheth yn gloffach i gerdded, nac yw fy enaid i rodio ar dy ôl di mewn cariad. Ni bu fraich Jeroboam yn fwy gwywedig i daro y prophwyd, nac yw fy llaw anafus i, i roi ymwared i'r tlawd. Iachâ fi o Arglwydd, ac ti a wnai cymmaint gweithred a'i iachau hwynt oll. Ac er bod ynof fi eu holl bechodau a'u hanafau hwynt; etto Arglwydd, mor gyfoethog yw dy râd ti, mor fawr yw dy gelfyddyd, megis os mynni, y gelli di ag vn gair, faddau y naill, ac iachau 'r llall. A pha ham y dylwn i ammau dy ewyllys dâ di; pryd na chyst i ti yr awrhon er fyngwaredu, ond vn wên gariadus, yr hwn a ymddangosaist dy hun mor ewyllysgar i'm prynu, er i ti golli holl waed dy galon: Ac yr awrhon wyt yn cynnyg mor rasusol i mi arwydd diogel om prynedigaeth trwy dy waed? Pwy wyf fi o Arglwydd Dduw? a pha haeddedigaeth sydd ynof, i'm prynu ar fâth brîs gwerthfawr? Nid yw ond dy wir drugaredd, ac nid wyf (o Arglwydd) deilwng o'r lleiaf o'th holl drugareddau di: llai o llawer i fod yn gyfrannog o'r Sacrament sanctaidd hon, yr arwydd mwyaf ar a ganniadheuaist i feibion dynion y rhai a geri. Pa fodd y dylwn i o herwydd fy anheilyngdod fy hun, lefain allan rhag ofn, wrth weled dy Sacrament sanctaidd, megis y darfu ir Philistiaid pan welsant Arch yr Arglwydd yn dyfod ir gynnulleidfa; gwac fi yr awrhon bechadur. Oni bai fod dy Angel di yn rhoi cyssur ynof megis yn y gwragedd, nac ofnwch, canys mi wn mai ceisio yr ydych yr Jesu yr hwn a groeshoeliwyd. Ty di yn wir y mae fy enaid yn ei geisio. Ac yma yr wyt ti yn dy Sacrament fendigedig.2 Sam. 7.11. 1 Sam. 5.7. Mat. 28.5. Luc. 2.43, 44. Os oedd Elisabeth gan hynny yn tybied dy bresennoldeb di ynghrôth dy fendigedig [Page 311] sam yn gymaiut anrhydedd iddi oni lammodd y plentyn yn ei chrôth hi o lawenydd; pa fodd y dylai fy enaid i neidio ynof o lawenydd gan dy fod ti yr awrhon trwy dy Sacrament sanctaidd, yn dyfod i drigo yn fynghalon yn dragwyddol? O pa fâth anrhydedd yw hwn, nid bod mam fy Arglwydd, eithr bod fy Arglwydd ei hunan yn dyfod fel hyn i ymweled â myfi? Mewn gwirionedd Arglwydd yr ydwyf yn cyfaddef gyd a'r Canwriad ffyddlawn, nad wyf deilwng i ddyfod o honot dan fy nghronglwyd: ac fel nad rhaid i ti ond dywedyd y gair yn vnig, am henaid a fydd cadwedig: Etto gan rhyngu bodd i luosawgrwydd dy râd, er mwyn crythau yn hytrach fyngwendid i, selio dy drugaredd i mi trwy yr arwydd gweledig, yn gystal a thrwy y gair gweledig; mewn holl offyngeiddrwydd diolchgar y mae fy enaid yn treuthu wrthit gyd a'r Forwyn fendigedig: wele wasanaethyddes yr Arglwydd, bydded i mi yn ol dy air. Cura di Arglwydd a'th air, ath Sacramentau wrth ddôr fynghalon, a minnau megis y Pwblican a guraf fy nwyfron am dauddwrn, cyn gynted ac y gallwyf fel y delech i mewn: Ac onid egyr y door yn ddigon buan, tor hi i lawr o Arglwydd a'th nerth ollalluog, ac yno tyred i mewn a phresswylia ynof yn dragwydd, fel y cafwyf achos gyda Zacheus i gydnabod, heddyw y daeth iechydwriaeth i fewn fynhŷ. A thafl o honof fi allan bob peth a fyddo yn wrthwynebys i ti: Canys yr wyf yn rhoddi y cwbl feddiant o'm calon i'th Fawrhydi bendigedig, gan ymbil na byddwyf byw o hyn allan, Mat. 8.8. Luc. 1.38. Dad. 3.20. Luc. 18.23. Luc. 19.9. hebot ti yn byw ynof, yn dywedyd ynof, yn rhodio ynof, ac felly i'm llywodraethu â'th lân ysbryd, megis na byddo dim i'm bodloni ond y peth a [Page 312] fyddo cymeradwy ger dy fron di. Megis gan ddibenu gyrfa fy mywyd yn dy râd, y gallwyf yn ôl hynny fyw gyd â thi yn dragwyddol yn dy deyrnas o ogoniant. Cennada hyn o Arglwydd Jesu, er mwyn haeddedigaethau dy farwolaeth a'th waed tywalltedig. Amen.
Pan syddo y Gwenidog yn dwyn y bara wedi ei fendigo a'i dorri tu ag attat ti, a chan ei gynnyg i ti, y dywedo wrthit Cymmer, bwyta, &c. Yno myfyria fod Crist ei hunan yn dyfod attat ti: ac yn cynnyg ac yn rhoi mewn gwirionedd i'th ffydd ei wir gorph a'i waed, gyd â holl haeddegaethau ei farwolaeth a'i ddioddefaint, i borthi dy enaid i fywyd tragwyddol: Cyn gypled a bod y Gwenidog yn cynnyg ac yn rhoi yr arwyddion oddiallan i borthi dy gorph i fywyd amserol. Bara yr Arglwydd y mae y Gwenidog yn ei roddi, eithr y bar a yr hwn yw 'r Arglwydd y mae Crist ei hun yn ei roddi.
Pan fyddych di yn Cymmeryd y bara o law y Gwenidog i'w fwyta, yno cyffrô dy enaid i amgyffred ac i ymaflyd am Grist trwy ffydd: ac i osod ei haeddedigaethau cf i iachau dy drueni di. Cofleidia ef mor gynnes a'th ffydd yn y Sacrament, ac y darfu i Simeon hên ei wafcu a'i gofleidio yn ei freichiau pan ydoedd yn ei rwymyn. Pan fyddych yn bwyta y bara, tybia fod yn gweled Crist yn crogi ar y groes, a thrwy ei boenau anrhaethadwy, yn cyflawn fodloni cyfiawnder Duw am dy bechodau di, ac ymegnia i fod yn wir gyfrannog o'r rhâd ysbrydol, megis o'r árwyddion defnyddiol. Canys nid yw 'r Gwir yn absennol oddiwrth yr arwydd, ac nid yw Crist chwaith yn siommi pan yw ef yn dywedyd, hwn yw fynghorph, eithr y mae ef yn ei roddi ei hun mewn gwirionedd i bob enaid a'i derbynnio ef yn ysbrydol trwy ffydd. Canys megis y mae y swpper a arferodd neu a wenidogaethodd Crist yn eiddom [Page 313] ni: felly y mae yr vnrhiw Grist yn wir bresennol yn ei Swpper ei hun, nid trwy drawsylweddiad pabaidd, eithr trwy gyfrannogiad sacramentaidd, trwy 'r hyn y mae ef yn gwir borthi y ffyddlonniaid i fywyd tragwyddol: Nid gan ddyfod i lawr o'r nesoedd attat ti, eithr trwy dy dderchafu di oddiar y ddaiar atto ef, yn ol yr hên ymadrodd, sursum corda: derchefwch eich calonnau: Canys pa le bynnac y byddo y gelain yno i'r ymgascl yr eryrod. Mat. 24.28.
Pan fŷch di yn canfod y Gwîn wedi ei ddwyn attat o'r neilltu oddiwrth y Bara: yno cofia fod gwaed Jesu Grist, wedi ei neillduo mewn gwirionedd oddiwrth ei gorph ar y groes, er mwyn cael o honot ti faddeuant am dy bechodau: Ac mai hwn iw sèl y cyfammod newydd, yr hwn a wnaeth Duw o ran maddeu holl bechodau oll bechaduriaid edifeiriol, ar a gredent yn haeddedigaethau ei waed tywalltedig. Canys nid yw y Gwîn yn Sacrament o waed Crist cynnwysedig yn ei withi, eithr megis y darfu ei dywallt o'i gorph ar y groes er maddenant o'i pechodau ir rhai a gredent ynddo ef, Math. 26.28.
Pan fyddych yn yfed y Gwîn a phryd y bwrir ef allan o'r Caregl i'th Ddwyfron, myfyria a choelia mai trwy haeddedigaethau y gwaed, yr hwn a dywalldodd Crist ar y groes, y cai di faddeuant o'th holl bechodau cyn gypled ac a darfu i ti yfed yr awrhon y Gwîn sacramentaidd, yr hwn sydd ofewn dy ddwyfron. Ar pryd y byddych yn yfed, gosod dy fyfyrdod ar Grist, megis yr oedd ef yn crogi ar y groes; fel pe bait ti megis Mair ac Joan yn ei weled ef yn hoeliedig, a'i waed yn llifeirio i lawr rhyd ei ystlys bendigedig, allan o'r briw erchill, yr hwn a wnaeth y waiwffon yn ei Galon ddiniweid: gan ddymuned fod dy enau yn dynn wrth ei ystlys ef, megis y gellit ti dderbyn y gwerthfawroccaf waed hwnnw cyn ei syrthio ir ddaiaren lychlyd. Ac etto yfed y [Page 314] gwaed hwnnw yn corphorol a'th enau, ni byddai elfydd mor ffrwythlon, ac yfed y Sacrament hon o'r gwaed hwnnw yn ysbrydol trwy ffydd. Canys fe allasai un o'r Milwyr yfed hwnnw, a bod yn golledig er hynny: eithr pwy bynnac a'i hyfo yn ysprydol trwy ffydd yn y Sacrament, a fydd diogel o gael maddeuant am ei bechodau, a bywyd tragwyddol. [Ped faseu faddeuant pechodau neu fywyd tragwyddol ir neb a yfai yn gorphorol, diamau y buasai Mair ac Joan yn ei yfed, ond mae Joan yn dangos fod y rhinwedd yn y crediniaeth o'i dywalldiad of.]
Fel y byddych di yn ymwrandaw ar gwîn Sacramentaidd yr hwn a yfaist, yn cynhesu dy ddwyfron, felly ymegnia i glywed yr Yspryd glân yn cyssuro dy enaid â gobaith hyfryd o faddeuant o'th holl bechodau, trwy haeddedigaethau gwaed Crist. Ac i'r diben hwn, y mae Duw yn rhoi i bob enaid ffyddlon yr Y spryd glân ynghyd ar gwaed sacramentaidd iw yfed, ac ni a ddiodwyd oll i vn yspryd, 1 Cor. 12.13. Ac felly i adcyfodi dy feddwl i fynu oddiwrth fyfyrio am Grist fel y croeshoeliwyd ef ar y groes, i ystyried fel y mae ef yn eistedd mewn gogoniant ar ddeheulaw ei Dâd, i wneuthur cyfryngdod drosot ti, gan anrhegu ei Dâd ag anrhaethadwy haeddedigaethau ei farwolaeth, yr hon a oddefodd ef unwaith drosot ti i fodloni ei gyfiawnder ef, am y pechodau a wnaethost ti beunydd yn ei erbyn. Rhuf. 8. 34. Heb. 7.25. ac 9.24.
Yn ol i ti fwyta ac yfed y Bara ar Gwîn, gwna dy orau felly trwy weithrediad ffydd, a'r Yspryd glân i fod yn un â Christ, â Christ â thithau; megis ac y mae yr arwyddion Sacramentaidd hynny yn troi yn faeth i'th corph, a trwy draul y gwrês yn dyfod [Page 315] yn un ath sylwedd di; ac felly y cei di gryfhau a chynnyddu dy Gymun â Christ fwyfwy. Ac megis y mae yn amhossibl gwahanu y Ba [...]a a'r Gwin gwedi y treulier gan y culla, a [...] y t [...]e [...] i waed a sylwedd dy gorph: felly y mae yn fwy amhossibl tynnu Crist oddiwrth dy enaid ti, neu dy enaid oddiwrth Grist. 1 Cor. 10.17.
Yn ddiweddaf megis nad yw ba [...] y Sacrament, er ei wneuthur o lawer o ronynnau yd, ond vn bara: felly rhaid i ti gofio, er bod yr holl ffyddlonniaid yn llawer, etto nid ydynt ond u [...] corph dirgeledig, or hwn y mae Crist yn ben. Ac a [...] hynny y mae 'n rhaid i ti garu pob Cristion f [...] [...]ydi dy hun, ac megis aelod oth corph.
Hyd yn hyn am y dyledio [...] sydd iw cyflawni wrth dderbyn y Sacrament sa [...]d, yr hyn a elwir rhagfyfyrdod.
3. Am y dyl [...]d [...] [...] cyflawni yn ol derbyn y Cy [...] [...] [...]r hyn a elwir, gweithrediad [...].
Y Ddylêd yr hon sydd [...] i chyflawni yn ol derbyn Swpper yr Arglw [...]dd, a eiwir gweithrediad neu Arferiad: heb yr hyn nid yw yr holl bethau eraill yn gwneuthur i ni ronyn llês na chyssur.
Y gweithrediad hwn sydd i gyflawni dau fath ar ddyledion: Yn gyntaf, y pethau sydd raid i ni eu cyflawni yn yr Eglwys; neu ar ôl i ni fyned adref.
Y pethau sydd raid i ni eu cyslawni yn yr Eglwys ydynt, un a'i neillduol i ni o'n honeidiau ein hunain, heu gysylltedig ar gynulleidfa.
[Page 316]Y neilltuol ddyledion y rhai sydd raid i ti eu cyflawni o'th enaid dy hun ydynt dri: yn gyntaf, rhaid i ti fod yn ofalus (yn gymmaint a bod Crist yn trigo ynot ti yr awrhon) iw groeshawu ef gan hynny â chalon lân, ac á serch pûr: am y mynn y sancteiddiolaf fod yn Sanctaidd gyd a'r Sanctaidd: Psal. 18.26. Canys os darfu i Joseph o Arimathea pan gafodd ef ei gorph marw ef gan Pilat iw gladdu, ei droi a'i amdoi ef mewn lliain main ac aroglau pêr, a'i osod mewn bêdd newydd: pa faint mwy y dylit ti lettyfa Crist mewn calon newydd, a phereiddio ei stafelloedd ef a phêr arogldarth gweddiau, ac oll bur draserch? Os darfu i Dduw orchymmyn i Moeses geisio crochan o aur pûr i gadw y manna a syrthiodd yn yr anialwch? pa fath galon bûr a ddylit ti ei pharatoi i dderbyn y Manna sanctaidd, yr hwn a ddaeth i lawr o'r nefoedd?
Ac megys y daethost di tan alaru fel Joseph a Mair i geisio Crist ir deml, felly yr awrhon wedi i ti ei gael ef ynghanol ei air a'i Sacramentau, bydd ofalus trwy orfoledd iw ddwyn ef adref gyd â thydi, fel y gwnaethont hwythau; Luc. 2.46.
Ac os darfu ir dŷn, yr hwn a gafodd ei ddafad golledig, orfoleddu cymmaint, pa fodd y gelli di wedi i ti gael Jachawdwr y bŷd, na orfoleddych fwy o lawer?
Yn ail mae yn rhaid i ti offrymmu aberth o neillduol ddiolch i Dduw am y rhád ar drugaredd anrhaethadwy hon: Canys fel y mae y weithred hon yn gyffredin ir holl Eglwys, felly ei cymmwysir yn neillduol i bob un or ffyddloniaid yn yr Eglwys, ac am y neillduol drugaredd hon y mae 'n rhaid i bôb enaid offrwm i fynu yn llawen neillduol aberth o roddi diolch. Canys os darfu i'r doethion lawenychu cymmaint pan welsant y Seren yr hon oedd yn eu tywys hwynt at Grist, a'i addoli ef mor grefyddol, [Page 117] pryd yr oedd ef yn blentyn yn gorwedd yn y preseb, ac offrymmu iddo ef aur, myrh, a thus; pa faint mwy y dylyt ti orfoleddu yr awrhon ddarfod i ti yn gystal weled, a derbyn y Sacrament hon, yr hon sydd yn arwain dy enaid di atto ef, lle mae yn eistedd ar ddeheulaw ei Dâd mewn gogoniant? A chan dderchafu dy galon hyd yno, addola ef, ac abertha iddo ef yr aur o wir bûr ffydd, a myrrh calon farweiddiol, a'r thus hwn neu'r cyfryw felus arogldarth o weddi a diolch.
Gweddi i'w dywedyd yn ôl derbyn y Cymmun sanctaidd.
PA beth a roddaf i ti (O Jachawdwr bendigedig) am yr holl fendithiau, y rhai mor rasusol a dywclldaist di ar fy enaid? Pa fodd y gallaf fi roi diolch cymhesur i ti, pryd na allaf fi ond prin eu mynegi? Lle gallesit ti fyngwneuthur i yn anifail, ti am gwnaethost i yn ddŷn ar dy lûn dy hunan: pryd yr oeddwn i trwy bechod wedi colli dy lûn, â myfi fy hunan hefyd: di adneŵyddaist dy lûn trwy dy lân Yspryd ynof, ac á waredaist fy enaid trwy dy waed drachefn: ac yn awr di roddaist i mi dy sêl a'th arwydd o'm prynedigaeth: ie di a'th roddaist dy hun i mi O Jachawdwr bendigedig; Oh pa fath drysor o gyfoeth anrhaethadwy, a ffynon lawnlifeiriol o radau a ynnillodd yr hwn a' th ynnillodd di! Ni chyffyrddodd un dyn a thi trwy ffydd, nas darfu i ti ei jachau ef trŵy râs, o blegid ty di yw Awdur jechydwriaeth, yr ymddiffynfa rhag pob drwg, meddiginiaeth y cláf, bywyd y rhai byw, ac adcyfodiad y meirw. Oedd ond matter bychan gennit ti orchymyn i'th Angelion sanctaidd wilio ar greadur [Page 318] mor wael ac wyf fi, eithr mynnu o honot ti dy hun ddyfod i mewn i'm henaid, yno i'm ymddiffyn, i'm maethu, a'm cy [...]suro i fywyd tragwyddol? O gallodd corphllyn y prophwyd marw adfywhau dyn marw a roesid i gyfwrdd ag ef. Pa faint mwy y geill corph bywi [...]l Arglwydd y prophwydi fywhau y ffyddlon, ynghalon y [...] [...]wn y mae ef yn presswylio? Ac os cyfodi di fynghorph i yn y dydd o laf allan o'r pridd; pa faint mwy y bywhei di fy enaid yr awrhon, yr [...]wn a sancteiddaist di a'th lan Yspryd, ac a bureidd [...]st di a [...] waed? O Arglwydd pa beth mwy a all [...] i ei ddymu [...]o, neu pa beth mwy a allasit ti [...] ga [...]i [...]dhau i mi, na rhoddi dy gorph i mi yn f [...]yd, a [...] waed yn ddiod, a rhoi dy enaid ar law [...] yn [...]ridwerth o'm gwaredigaeth? Ty di Arglwydd a ddioddefaist y boen, a minnau a gefais y bûdd, myfi a gefais faddeuant, a thithau a oddefaist y gospediga [...]th: dy ddagrau di oedd fy ymolchiad i, dy archollion di fy jechyd i, a'r anghyfiawnder a wnaethpwy [...] i ti oedd yn bodloni am y farnedigaeth ddyledus i mi. Fel hyn drwy dy enedigaeth di a ddeuaist yn frawd i mi, drwy dy farwolaeth yn bridwerth i mi, drwy dy Drugaredd yn wobr, d [...]wy dy Sacrament yn ymborth i mi. O lyniaeth nefol! [...]rwy 'r hwn y cyfnewidir meibion dynion yn feibion i Dduw; megis y byddo anian ddynol yn marwhau, ac anian Duw yn bywhau, ac yn rheoli ynom. Mewn gwirionedd yr oedd i'r holl greaduriaid le i ryfeddu, fynnu o'r creawdr ei gau naw mis yngrôth y Forwŷn, (er iw chrôth hi yn ol ei lenwi o'r Yspryd glan, fod yn fwy disclaer na'r ffurfafen olau serennog.) Eithr darfod i ti fel hyn yma dy ymostwng di hun i fyw yn fynghalon yn oestadol,2 Bren. 13.21. yr hon a gefaist di yn fwy aflan na thommen, hyn a ddichon beri i holl greaduriaid nef a dai|'ar [Page 319] sefyll yn syn ac yn fud. Ond gan weled mai dy wir ewyllys a'th râd nefol yw ddyfod fel hyn i gyfanneddu yn fynghalon, mi ddymunwn ar Dduw fod gennif galon mor bûr, ac y dymunai fynghalon ei bod, i'th croeshawu di: a phwy sydd weddol i groesawu Crist? A phwy er cael ei wahodd, ni ddewisai, gyd â Mair, yn hytrach fyned ar ei liniau wrth dy draed, o flaen rhyfygu eistedd gyd â thi ar dy Fwrdd? Er bod arnaf fi eisiau calon bur i ti i aros o'i mewn, etto ni bydd byth arnaf eisiau llygaid llawn o ddagrau i olchi dy fendigedig draed, ac i alaru o herwydd fynghamweddau budron. Ac er na allaf fi wylo cynifer o ddeigrau ac a wasanaethai i olchi dy fendigedig draed, etto fe wasanaetha ddarfod i ti dywalld digon o waed i lanhau fy enaid pechadurus. Ac yr wyf o Arglwydd yn ffyddio yn ollawl, na allai yr holl ddanteithion melyswedd, a'r rhai y darfu ir Pharisead coegfalch dy groesawu, ryngu bodd i ti gystal, a'r deigrau hynny a ddarfu i Fair edifarus eu tywalld tan dy fwrdd. Mi fynnwn gan hynny gyd â Jeremi pe bai fy mhên yn ffynnon o ddagrau, megis gan weled na allaf fi mewn un modd dalu cwbl ddiolch am dy gariad i mi, etto fel y gallwn trwy wylofain beunyddiol dystiolaethu fynghariad i ti; ac er nad oes neb yn deilwng o'r fath râd aneirif: etto hyn yw fynghysur, ei fod ef yn deilwng yr hwn yr wyt ti o'th cariad yn ei gyfrif yn deilwng. A chan i ti yn awr oth wir râd fynghyfrif (ymhlith dewisedigion eraill) yn deilwng o'r ffafr anrhaethadwy yma, a selio trwy dy Sacrament hysbysrwydd oth cariad, a maddeuant o'm pechodau: O Arglwydd sicrhâ dy gariad ith wâs, a dywaid am danaf fi megis y dywedodd Isaac am Jacob, my fi a'i bendithiais ef, am hynny bendigedig fydd ef. Gen. 27.33. Ac fel y gallwyf fi ddywedyd wrthit ti gyd â Dafydd [Page 320] Tydi O Arglwydd, yn awr a fendigaist fy enaid, ac a'i gwnaethost yn dŷ it, ac ef a fydd yn fendigedig ger dy fron di yn dragywydd. A chan weled ryngu bodd i ti fendigo Obed Edom, a'i holl dŷ, tra yr oedd Arch yr Arglwydd yn aros yn ei dŷ: Nid wyf yn ammau na fendithi di fy enaid i am corph yn fwy o lawer, a chwbl sydd yn perthyn i mi, gan ryngu bodd i'th fawrhydi o'th wir ewyllys da dy hun, fyned tan y gronglwyd i aros yn gyfannedd yn fy mythan tlawd i: Bendiga fi ô Arglwydd, fel y byddo i'm pechodau gael cwbl faddeuant trwy dy waed, am cydwybod gael ei sancteiddio trwy dy lán Yspryd, a'm meddwl gael ei oleuo trwy dy wirionedd, am calon ei harwain gan dy Yspryd, am ewyllys ymhob peth fod wedi ei ostwng i wneuthur yn ol dy fendigedig air a'th ewyllys di. Bendithia fi a'r holl radau sydd yn ddiffygiol i mi, a chwanega ynof yr holl ddoniau a'r rhai y darfu i ti fyngynyscaeddu yn barod. A chan weled fy mod yn dy ddal di, nid gerfydd y breichiau, fel Iacob yn ymdrechu oddiallan, eithr oddifewn yn cyfanneddu ynof drwy ffydd: Yn ddiau Arglwydd, ni adawai i ti fyth fyned ymaith, oddieithr i ti fy mendithio, a rhoi i mi enw newydd, calon newydd, ac Yspryd newydd, a nerth trwy allu Duw i orchfygu y byd, y cnawd, ar cythraul. Ac yr wyf yn deisyfu arnat ti o Arglwydd, na chais mor ymadel â myfi felly ceisiaist di oddiwrth Iacob, o ran bod y dydd yn nessau, a'th râd dithau yn dechrau gwawrio ac ymddangos. Canys yr wyf fi o eigion fy enaid, yn ostyngedyg yn ymbil gyd a'r Emmaufiaid arnat ti O Iesu hyfryd, 1 Cron. 17.27. 2 Sam. 6.11. Gen. 32.24. am drigo gyd â myfi o ran bod y nôs yn tynnu yn agos. Canys y mae nôs profedigneth, nôs gorthrymder, ie fy hirnos olaf o farwolaeth yn [Page 321] neshau. O fendigedig Iachawdr aros gyd â myfi yr awrhon ac yn dragywydd. Ac onid aiff dy wyneb di gyd â myfi, nac arwain fi i fynu oddiyma. Tyred gyd â myfi, a bydd fyw gyd â myfi, a nâd nac i angau, nac i fywyd fy neillduo i oddiwrthit. Gyr fi oddiwrthyf fy hunan, a thynn fi attat ti. G [...]d i mi fod yn glâf, eithr yn iach ynot ti, ac ymddanghosed dy nerth di yn fyngwendid. Gad i mi fod i'm gweled megis yn fa [...]w, fel y byddych di yn vnig i'th weled yn byw ynof fi, fel na byddo fy holl aelodau ddim ond offerau i weithredu dy gynhyrfiadau di. Gosod fi megis sel ar dy Galon, a gad i'th Zel di fod wedi ei gosod ar fy vn innau, megis y bwyf allan o gariad á chwbl oll, fel y gallwyf yn vnig fod mewn cariad â thydi. A canniadha O Arglwydd, fel y rhyngodd bodd i ti yn awr ddangos y ssafr hon i mi, i gael eistedd ar dy Fwrdd i dderbyn y Sacrament hon yn dy Dŷ o rad: allael o honof yn ôl hyn trwy dy drugaredd, gael fy nerbyn i fwyta ac i yfed ar dy Fwrddyn dy deyrnas o ogoniant. Ac am dy drugaredd, yr wyf fi yma gyd a'r pedwar anifail ar 24 o hênuriaid yn syrthio ger bron dy Orseddfaingc o rad, gan gydnabod mai tydi a'm gwaredaist a'th waed, a bod iechydwriaeth yn vnig yn dyfod oddiwrthit ti. Ac am hynny i ti yr wyf yn rhoddi y fendith a'r gogoniant, a doethineb, a diolch, a'r anrhydedd, a'r gallu, a nerth, a Mawrhydi, O fy Arglwydd, am Duw, yn dragywydd. Amen.
Yn drydydd, gan weled fod Crist wedi ei aberthu ei hunan drosot ti (a bod y cwbl ar a ellych di ei roddi yn rhy fychan) am hynny mae 'n rhaid i ti dy offrymmu dy hun i fod yn aberth bywiol, sanctaidd, a chymmeradwy gan Dduw, gan ei wasanaethu ef mewn cyfiawnder, a sancteiddrwydd yn dy holl ddyddiau, Rhuf. 12.1. Fal hyn y mae Tertullian [Page 322] yn tystiolaethu, yr adwaenid Cristion rhagor dyn arall yn ei amser ef, yn vnig wrth ei sancteiddrwydd a'i ymarweddiad bucheddol.
2. Am y dyledion rheidiol iw gwneuthur yn ôl y Cymmun yn gysylltedig ar gynulleidfa.
YDyledion iw cyflawni yn gysylltedig a'r Eglwys ydynt dri. Yn gyntaf, diolch cyhoeddus, yn gystal trwy weddiau a chanu Psalmau: fel hyn y gwnaeth Crist ei hunan, a'i Apostolion. Yn aîl, vno a'r Eglwys, i roddi (pawb yn ol ei allu) elusen i'r tlawd. Hyn oedd ddefod ac arfer y brif Eglwys, sef, gwneuthur casglau, a gwleddau o, gariad, yn ol derbyn Swpper yr Arglwydd, i borthi angen eu cydfrodyr tlodion. Yn drydydd, pan ddiweddir rhoddi diolch a moliant, yno saf i fynu gyd a'g oll anrhydedd, i dderbyn Bendith Dduw o enau ei Wenidog ef, ac iw derbyn yn yr un modd a pha bait ti yn clywed Duw ei hun or nefoedd yn ei hadrodd wrthit. Canys trwy eu bendith hwynt y mae Duw yn bendithio ei bobl. Num. 6.23, 27.
Hyn am y dyledion sydd iw hymarferu yn yr Eglwys.
Y Dyledion y rhai sydd raid i ti eu hymarfer yn ol dy fynediad adref, ydynt dri: yn gyntaf, ystyried yn ddyfal a ddarfu i ti dderbyn Crist yn vnion yn y Sacrament. yr hyn a elli di yn y modd yma ei ddeall yn hawdd; canys gan weled fod ei gnawd ef yn wir fwyd, ai waed yn wir ddiod, Joan. 6.56. a'i fod ef mor llawn o râs, na chyffyrddodd neb ag ef erioed drwy ffydd, ond a dderbynniodd rinwedd oddiwrtho; nid possibl fod amgen, os darfu i ti fwyta ei gnawd ac yfed ei waed, nas derbynni di râd a nerth i ymlanhâu oddiwrth dy holl bechodau a'th fudreddi. Canys os darfu ir [Page 323] wraig ni chyffyrddodd ond âi wisc ef, yn y man gael gan ei diferlif gwaed sychu: Marc. 5.29. pa faint mwy y sych difer-lif gwaed dy bechod di, os byddi di yno gwedi gwir fwyta ac ysed gwir gnawd a gwaed Crist? Ond os bydd dy ddiferlif yn rhedeg etto, y mae i ti le i dybied yn vnion, na wir gyffyrddaist di erioed â Christ.
Yn ail, gan weled ddarfod i ti dy gymmodi dy hun á Duw, ac adnewyddu dy gyfammod, ac addunedu gwellhâd a newydd-deb buchedd: y mae yn rhaid i ti gan hynny gymmeryd prif ofal, nad ymroddych di i wneuthur y cyffelyb bechodau ond hynny: gan wybod am yr yspryd aflan, o chaiff ef byth fyned i fewn ith enaid ti drachefn, yn ol ei lanhâu ai yscubo; ef a aiff i mewn i gymmeryd meddiant cadarngryf â saith o gythreuliaid eraill gwaeth nag ef ei hun gyd a'g efo, ac yno diwedd y dyn hwnnw a fydd gwaeth nai ddechreuad. Math. 12.44. Na fydd gan hynny yn debyg ir ci a ddychwelodd at ei chŵydfa ei hun; neu i'r hŵcb wedi ei golchi, yr hon a ymdreigla yn y dom drachefn. 2 Pet. 2.22. Ac na ymchwel at dy lid mal y wiber, yr hon sydd yn rhoi ei gwenwyn heibio tra byddo yn yfed, ac ai cymmer i fynu drachefn pan y darffo iddi. Eithr pan fyddo, naill a'i diawl a'i dy gnawd yn cynnyg dy hudo, neu roi codwm it yn dy bechodau arferedig; Atteb hwynt mal y mae 'r Eglwys ynghaniadau Salomon, dioscais fy mhais (o'm llygredigaeth arferol) pa fodd y gwiscaf hi, golchais fy nhraed, pa fodd y diwynaf hwynt? Can. 5.3.
Yn olaf, o cesant di erioed na gorfoledd na chyssur wrth dderbyn y Sacrament sanctaidd, ymddanghosed hynny yn dy ddelfyfiad chwannog i'w derbyn drachefn. Canys corph Crist, fel yr eneiniwyd ag olew llawenydd yr fwy nai gyfeillion, felly y mae 'n rhoddi arogl pereiddiach na'r holl ennaint yn y [Page 324] bŷd: Psal. 45.7. Heb. 1.9. Y mae ei arogl melysber yn denu yr holl eneidiau a'r a'i harchwaethodd, byth ar ol hynny i ddymuno yn fynychach brofi ei felysdra drachefn. O herwydd arogl dy ennaint daionus, am hynny y llangcesau a'th carant. Can. 1.3. O profwch a gwelwch gan hynny yn fyny h mor dda yw 'r Arglwydd, medd Dafydd, Psal. 34 8. Dyma orchymyn Crist ei hun, Gwnewch hyn er coffa am danaf; ac wrth wneuthur hyn di fyddi yn dy ddangos dy hun yn fwy meddylgar a diolchgar am ei farwolaeth ef. Canys cyn fynyched ac y bwytaoch y bara, ac yr yfoch y cwppan hwn, y dang [...]swch farwolaeth yr Arglwydd nes ei ddyfod. A bydded hyn yn brif ddiben o'th Cymmun, ac o'th fywioliaeth, sef i fod o honoti yn Gristion sanctaidd, yn awyddus i weithredoedd da, wedi ymlanhau oddiwrth bechod, i fywyn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awrhon; Tit. 2.12.14. fel y bych cymmeradwy gan Dduw, buddiol i'th frodyr, ac yn ddiddanaidd ith enaid dy hun, hyn yma, am y modd i ogoneddu Duw yn dy fywyd.
Yma y canlyn yr arfer o dduwioldeb i ogoneddu Duw yn amser clefyd, y pryd y galwer arnat ti i farw yn yr Arglwydd.
CYN gynted ac y dealltych ti fod rhyw glefyd yn ymweled â thydi, myfyria wrthit dy hunan:
1. Na ddaw cystudd allan o'r pridd, ac na flagura gofid allan o'r ddaiar, Job. 5.6. Nid yw clefyd yn digwyddo o ddamwain, neu di amgwydd, (megis yr oedd y Philistiaid yn tybied fod eu Llŷgod, a chlwyf y marchogion yn dyfod, 1 Sam. 6.9.) eithr oddiwrth anwiredd dŷn, yr hyn a dyr allan fel gwreichion. [Page 325] Y mae dŷn (medd Jeremi) yn dioddef am ei bechod. Ynfydion (medd Dafydd) o blegit eu camweddau, ac o herwydd en hanwireddau a gystuddir. Galar. nad. 3.39. Psal. 107.17. Megis gan hynny y mae Salomon yn cynghori gŵr i'w ymddwyn ei hun tu ag at dywysog daiarol! Pan gyfodo yspryd pennadur yn dy erbyn, nac ymâd a'th le; canys ymostwng a ostega bechodau mawrion: Pre. 10.4. felly yr wyf fi yn dy gynghori di i wneuthur a Thywysog y tywys [...]gion. Os bydd yspryd yr hwn sydd yn llywodraethu nef a daiar yn cyfedi yn dy erbyn, na an-obeithied dy galon; Canys y mae edifeirwch yn heddychu am bechodaa mawrion. A phwy bynnac a ddychwelo yn ei gyfyngdra at Arglwydd Dduw Israel, ac a'i ceisio ef, efe a'i caff. 2 Cro. 15.4.
2. Cae ddrws dy stafell, hola dy galon ar dy wely, ac na phecha, praw a chwilia dy ffyrdd. Mat. 6.6. Galar-nad. 3.40. Chwilia mor ddyfal am dy bechod marwol, ac y chwiliodd Joshua am Achan, nes itti ei gael. Canys er bod Duw pan fyddo yn ceryddu ei blant yn craffu ar eu holl anwiredd, etto y mae ef yn cymeryd achos yn bennaf i'w ceryddu, ac i fyned ag hwynt i'r farn am ryw bechod gofidus, yn yr hwn y buont fyw heb edifeirwch.
3. Pan fyddych di fel hyn wedi ystyried dy holl bechodau, ymosod dy hun ger bron Gorseddfaingc Duw, megis lleidr neu lofrudd yn sefyll o slaen Barnwr daiarol: a thrwy gur a gofid calón cyfaddef wrth Dduw dy holl bechodau adnabyddus, yn enwedig dy feiau marwol, yr rhai sydd fwyaf yn anfodloni Duw. Hyspysa hw ynt yn eglur, a dangos y pryd, y lle, a'r môdd y gwnaethpwyd hwynt: megis y perthyn i ddatcan creulonrhwydd dy bechodau, a maint yw dy edifeirwch am danynt. Cyfod dy [Page 326] law, a chydnabydda ger bron Barnwr cyfiawn nef a daiar dy fod yn euog o farwolaeth, a damnedigaeth dragwyddol, am yr echrysson bechodau a'r anwireddau hynny. A chwedi i ti fel hyn dy gyhuddo a'th farnu dy hunan; ymddarostwng dy hun ger bron gorseddfainge ei râd, gan dy sicrhau dy hun pa wedd bynnac yw brenhinoedd Israel, etto fod Duw Israel yn Dduw trugarog. A llefain wrtho ef o galon ffyddlawn edifeiriol, am drugaredd a maddeuant mor daer a haerllyg, ac y clywaist ti ddrwg-weithredwr a fai parod i dderbyn ei farn yn llefain wrth yr usdus am rás a thrugaredd; gan addunedu gwellhâd buchedd, a thrwy gynnorthwyad ei râd ef i ochel byth y cyfryw bechod ond hynny, yr hyn oll a elli di ei wneuthur yn y geiriau a ganlyn, neu 'r cyfryw.
Gweddi pan ddechreuo un fyned yn glaf.
O Farnwr tra-chyfion, etto yn enw Jesu Grist fy nhad grasusol: myfi bechadur truan ydwyf yma yn dychwelyd attat ti, (er fy ngyrru gan ddygn boen a gofid) megis y Mâb afradlon gan newyn ac eisiau. Yr wyf yn cydnabod nad yw y dolur ar penyd hwn yn digwyddo o ddamwein dall neu o dynged, eithr trwy dy ragymweliad nefol, a'th prif ragluniaeth. Dyrnod dy law drom ydyw yr hyn y mae fy mhechod yn ei gyfion haeddu: a'r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi: Etto yr wyf yn deall dy fod ti yn dy lid yn cofio trugaredd, pan ystyriwyf amled ac erchylled yw fy mhechodau, ac mor anaml ac esmwyth yw dy gospedigaethau di. Di a allasit fy nharo i â rhyw farwolaeth ofnadwy ddisymmwth, megis na allaswn i gael nac ennyd nac amser i alw arnat am rás a [Page 327] thrugaredd; Ac felly y darfusau am danaf yn fy mhechodau, ac y buaswn colledig yn uffern byth.
Eithr yr wyt ti o Arglwydd yn ymweled â myfi a'r cyfryw gerydd tadol, ac a arferi wrth ymweled a'th plant anwylaf; gan roddi i nai (trwy 'r clefyd hwn) yn gystal rhybydd ac amser i edifarhau, ac i ymbil â thydi am râd a maddeuant. Nid wyf yn cymeryd gan hynny o Arglwydd moth ymweliad byn, yn arwydd o ddigofaint na chasineb, eithr megis yn ddiogelaf argoel ac arwydd o'th ffafr a'th rywiogrwydd cariadol, trwy 'r hyn yr ydwyt ti a'th Farnedigaethau amserol yn fy nhynnu i'm bar [...]u fy hunan, ac i edifarhau o'm buchedd anwireddus, mal na byddwn gwedi fy mwrw heibio i ddamnedigaeth gyd a'r bŷd annuwiol diedifeiriol. Canys y mae dy air sanctaidd yn fy siccrhau mai 'r hwn a geri yr wyt ti fel hyn yn ei gospi, ath fod yn fflangellu pob mab a dderbynni: ac os goddefaf fi dy gôsp, dy fod yn ymgynnyg dy hun i mi megis ith Fâb, a bod yr holl rai abarhânt i bechu, ac er hynny a ddiangant yn ddi-gerydd (o'r hyn y mae dy holl blant yn gyfrannogion) yn ordderchiaid, ac nid yn feibion: ath fod ti yn fyngheryddu o ran fy llês, megis y gallwn fod yn gyfrannog o'th sancteiddrwydd. O Arglwydd mor llawn o ddaioni yw dy anian, mor rasusol y gwnaethost di â myfi yn amser fy iechyd am helaethrwydd? ac yr awrhon gwedi dy gyffroi o herwydd fy mhechodau am anniolchgarwch, sy gennit y cyfryw dadol a buddiol ddibenion yn gosod y dolur a'r cerydd hwn arnaf.
Yr wyf yn cyfaddef, Arglwydd, dy fod ti yn dra chyfion yn cystuddio fynghorphi â chlefyd; Canys yr oedd fy enaid yn glaf o'r blaen gan hir hawddfyd, ac yn rhy lawn o esmwythdra, tanghneddyf, helaethrwydd, a digonedd bara. Ac yr awrhon, O Arglwydd, yr wyf yn galaru ac yn alaethu [Page 328] am fy mhechodau; yn wyf yn cydnabod fy anwiredd, am pechodau sydd yn oestad ger fy mron. O pa fath bechadur truan wyf fi, gwag o bob daioni wrth natur, a llawn o bob drygioni wrth ymarfer pechadurus! Oh pa fath aneirif liaws o bechodau a wneuthum yn d'erbyn di, tra 'r oedd dy hir ymaros yn disgwyl wrth fyn nroad, a'th fendithiau yn fy nenu i edifeirwch! Etto o fy Nuw, gan weled fod yn briodoldeb i ti, edrych yn fwy ar dy anian dy hun, nac ar haeddedigaethau pechaduriaid; yr wyf yn attolygu i ti o Dâd, er mwyn dy fab Jesu Grist, ac er mwyn haeddedigaethau ei oll wared awl farwolaeth, yr hon yn ewyllysgar a oddefodd ef tros bawb a gredant ynddo. Trugarha wrthyf yn ol lliaws dy drugareddau, tro dy wyneb heibio oddiwrth fy mhechodau, a deleua fy holl anwireddau: na fwrw fi ymmaith oddi ger dy fron di, ac na thal i mi yn ôl fy haeddedig aethau. canys os gwrthodi di fi pwy am derbyn? neu pwy a rydd i mi achles os bwri di fi ymmaith? eithr ty di o Arglwydd ydwyt ymwared y diymwared, canys ynot ti y caiff yr ymddif ad drugaredd. O blegit er bod fy mhechodau yn dra-mawrion, etto y mae dy drugaredd O Arglwydd yn fwy nag hwynt oll. Ac ni allaf fi droseddu cymmaint ac a eill dy râd ti ei ollwng, a'i faddau: Golch gan hynny, o Crist, fy mhechodau â rhinwedd dy werthfawroccaf waed, yn enwedig y pechodau y rhai o galon edifeiriol a gyfaddefais wrthit. Yn Bendifaddau o Arglwydd er mwyn Jesu Grist maddau i mi Yma henwa 'r pechod sydd yn pwyso fwyaf ar dy gydwybod. A chan weled mai o'th cariad y dodaist i lawr dy einioes yn bridwerth drosof, pryd yr oeddwn yn elyn i ti: O gwared yn awr werth dy waed dy hun, pryd na chyst i ti ddim ond un wên gariadus tuag attaf, neu ymddangos [Page 329] yn rasusoi yngolwg dy Dâd trosof fi. Gwna fy undeb i unwaith drachefn ath dad, O Gyfryngwr trugarog; canys er nad oes dim ynof fi a eill iyngu bodd iddo ef, etto mi wn mai ynot ti, ac er dy fwyn di, y bydd ef bodlon i bawb ar a dderbynnych ac a gerych di. Ac os dy ewyllys bendigedig yw, symmud y clefyd hwn oddiwrthif, ac adfera fi im hiechyd cynefin drachefn; fel y gallwyf fyw yn hwy i osod allan dy ogoniant di, ac i fod yn ddiddanwch im cynyseifiaid y rhai sydd a'i goglydd arnaf: ac i geisio i mi fy hunan fwy diogelrhwydd am yr etifeddiaeth nefol, yr hon a ba [...]atoist di i mi. Ac yno, Arglwydd, y cai di weled mor gall a chiefyddol y prynaf fi 'r amser, yr hwn or blaen a ddarfu i mi dreilio mor ddiffaeth ac mor halogaidd. Ac er mwyn caffael o honof fi yn gynt ac yn haws ymadel a'r penyd, ac a'r clefyd hwn, cyfarwydda fi O Arglwydd, yr wyf yn attolwg it oth ragluniaeth goruchel, at y fâth physygwr, neu feddig, megis [...] gallwyf (drwy dy fendith ar dy foddion) gaei fynghynefin jechyd am esmwythder drachefn megis or blaen. A cheni adhâ Arglwydd daionus, megis y danfonaist y clwyf hwn attaf, felly ryngu bodd it ddanfon dy Yspryd glân im calon, trwy 'r hwn y gallo y clefyd hwn fod wedi ei sancteiddio i mi: fel y gallwyf ei arfer megis dy yscol di, yn yr hon y gallwyf ddyscu adnabod mawredd fy nhrueni, a galluogrwydd dy drugaredd; fel y byddwyf mor ostyngedig o ran y naill, megis na anobeithiwyf o'r llall: ac fel y gallwyf felly ymwrthod a phob rhyfyg o gynnorthwy ynof fy hun, neu mewn nebryw greadur arall; fel y gallwyf yn unig osod yr holl hyder o'm hiechydwriaeth yn dy holl-ddigonol haeddedigaethau. Ac yn gymaint a'th fod ti yn gwybod O Arglwydd, y fàth lestr gwan wyf fi, llawn o lescrwydd [Page 330] ac amherffeithrwydd, am bod wrth natur yn ddiclon ac yn amhwyllig i oddef gwrthwyneb a chystudd. O Arglwdd yr hwn wyt roddwr, pob dawn daionus, arfoga fi ag ammynedd i oddef ac i dderbyn dy fendigedig ewyllis a'th ymweliad; ac o'th drugaredd na osod fwy arnaf, nag a allwyf fi ei oddef a'i gynnwys. Dod i mi râs i'm ymddwyn fy hun mewn oll ammynedd, cariad, a gweddeidd-dra, tu ag at bob rhai a ddelont i ymweled a myfi, fel y gallwyf dderbyn yn ddiolchgar, ac yn ewyllysgar gofleidio yr holl gynghorion, ar cyssurau daionus a ddêl oddiwrthynt: ac megis y gallont hwy vn agwedd weled ynof fi y cyfryw siamplau daionus o ddioddefgarwch, a chlywed gennif y cyfryw addysc dduwiol o ddiddanwch, ac a fytho yn dystiolaeth, neu hysbysrwydd eglur o'm ffydd am crefydd gristianogawl; Ac yn athrawiaeth iddynt hwy pa fodd i'w hymddwyn eu hunain, pan ryngo bodd it ymweled ag hwynt ar cyfryw gystudd neu glefyd. Mi wn o Arglwydd fy mod yn haeddu marwolaeth, ac nid wyf yn dymuned byw ddim hwy, nac y byddwyf i wellhau fy muchedd anwireddus, ac mewn mesur gwell i osod allan dy ogoniant. Gan hynny o Arglwydd, os dy fendigedig ewyllys yw, dyro i mi fynghynefin iechyd drachefn, a channiadhâ i mi hoedl hwy. Ond os darfu i ti yn ol dy ragluniaeth dragwyddol, bennodi y clefyd hwn i'm galw allan o'r bywyd darfodedig yma: yr wyf yn fy ymroi fy hunan i'th law di: gwneler dy ewyllys bendigedig, pa vn bynnac a'i trwy fywyd a'i marwolaeth: yn vnig yr wyf yn attolwg i't o'th drugaredd faddeu i mi fy holl bechodau, a pharatoi fy enaid truan, megis trwy wir ffydd a diffuant edifeirwch, y gallo ef fod yn barod erbyn yr amser y gelwych di arno allan o'm corph clwyfedig pechadurus. O Arglwydd Dâd, yr [Page 331] hwn a wrendewi weddi, clyw yn y nefoedd y weddi hon a wneuthum, ac yn y cyfyngder hyn canniadha i mi fy nymuniad, nid er mwyn vnrhiw deilyngdod sydd ynof fi, ond er mwyn haeddedigaethau dy anwyl Fab Jesu, fy vnig Iachawdr am cyfryngwr, er mwyn yr hwn i'r addewaist di wrando arnom, a channiadhau i ni pa beth bynnac a ofynnom yn ei enw ef. Yn ei enw ef gan hynny, ac yn yn ei eiriau ei hun, y terfynaf fi fy amherffaith weddi hon, gan ddywedyd.
Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.
Gwedi i ti fel hyn dy gymmodi dy hun â Duw yn Ghrist.
1. Bydded dy ofal nessaf di i osod dy dŷ mewn trefn a llywodraeth, yn ôl cyngor Esai i'r Brenin Ezechias: Esay 38.1. Gan wneuthur dy ewyllys olaf, a'th lythyr Cymmun, (onis bydd gwedi ei wneuthur eisoes.) os bydd wedi ei wneuthur, yno edrych amo yn fanwl, a sicrhâ ef, ac er mwyn gochelyd pob ammheuon ac ymrafaelion, cyhoedda ef ger bron tystion: mal (os geilw Duw arnat ti allan o'r byd hwn) y gallo fod mewn ffrwyth ac yn ddigyfnewidiol, megis dy wir feddwl a'th ewyllys olaf: ac yno traddoda ef gwedi cloi arno neu ei selio mewn rhyw flwch, i gadwraeth rhyw gyfaill ffyddlon, yngwydd tystion onest bucheddol.
2. Eithr wrth wneuthur dy lythyr Cymmun cymmer addysc Eglwyswr duwiol, am y modd i gyfrannu dy eluseni; a chyngor gwr o gyfraith vniawn-ddoeth, i'w dynnu yn ôl cyfraith.
Pryssura i wneuthur hyn cyn i'th clefyd gynnyddu, a'th côf ddiflannu, rhag i'th lythyr Cymmvn brifio i fod yn lledŵyredd, ac felly wrth fodd vn arall yn hytrach nac yn ewyllys i ti.
[Page 332]3. I ragflaenu amryw ymrafaelion, mi a ewyllysiwn i ti feddwl am ddau beth:
1. Os bydd Duw wedi dy fendithio di â golud bydol, gwna dy ewyllys yn amser dy iechyd: ni wna hyn nath pellhau di oddiwrth dy dda, nath yrru di yn gynt i farw; eithr fe fydd hyn yn fwy esmwythder i'th feddwl, i'th ryddhau di oddiwrth drafferth a blinder mawr, y pryd y byddo arnat ti fwyaf eisiau llonyddwch. Canys pan fyddo dy dŷ di wedi ei osod mewn trefn, di a fyddi yn gallael yn haws osod dy enaid mewn trefn, a darparu dy daith tu ag at y Goruchaf Dduw
2. Os bydd i ti Blant, dod i bob vn o honynt gyfran yn ol dy allu, yn amser dy fywyd; megis y byddo dy fywyd yn ymddangos yn esmwythder, ac nid yn iau arnynt: etto dôd felly, fel y byddo dy blant yn oestadol yn [...]hwymedig i ti, ac nid tydi iddynt hwy. Eithr os cedwi di y cwbl yn dy ddwylaw tra byddych yn fyw, hwynt hwy a allant ddiolch i farwolaeth, ac nid i ti am y cyfran a adewaist ar dy ôl iddynt. Os byddi di yn ddi blant, a Duw wedi dy fendithio â chryn gyfoeth o'r byd hwn, ac o meddyli di eu rhoddi tu ag at elusenaidd neu dduwiol weithred, na throsclwydda mor gwaith hwnnw i ymddiried rhai eraill, gan weled cyn fer sydd o secutorion dynion eraill yn prifio i f [...]d yn fradwyr. Ac os yw cyfeillion mor anffyddlon ym mywyd dŷn, pa faint mwy o achos sydd i ti i anghoelio eu ffyddlondeb hwynt ar ôl dy farwolaeth?
Y mae fiamplau galarus yn dangos pa gynifer o ewyllysiau 'r meirwon yn hwyr o amser, naill ai a guddiwyd, ac a lwyr ddifethwyd, neu t [...]wy ddichellion ac atcasrwydd cyfraith a ddifuddiwyd ac a newidwyd: lle na ddylid wrth gyfraith Dduw dorri ewyllys y marw: ond bod ei holl amcanion duwiol [Page 333] gwedi eu gwneuthur i ben, a'i cyflawni yn gydwybodus, megis yngolwg Duw, yr hwn yn nydd yr adcyfodiad, a fydd Farnwr cyfion i'r byw a'r marw. Gal. 3.15. Heb. 9.17. 2 Cor. 5.10. Rhuf. 2, 15. 1 Cor. 4.5. Act. 7, 31, 32. Ac os digwydda i ddim yn ei ewyllys ef fod yn fwysaidd neu yn amheuus, fe ddylid ei ddirnad y ffordd orau, megis y byddo yn dyfod nessaf at anhrydedd Duw, a meddwl gonesd y testamentwr, sef y marw. Eithr discynned y dial dyledus i'r cyfryw weithredoedd anghristnogawl, ar ben y rhai a'i gwnelant: ac nid ar y deyrnas lle 'r ydis yn cynnwys eu gwneuthur. Cymered gwyr cyfoethogion eraill, rybydd oddiwrth y cyfryw siamplau gresynaidd, i beidio a phriodi eu meddyliau a'i harian, fel na wnelont ddim daioni a'i da, nes i farwolaeth eu hyfgar hwynt.
sef:
Wrth hynny gan ystyried fyrred yw dy enioes dy hun ac ansiccred wyti y gwneiff eraill yn gyfiawn ar ôl dy farwola [...]th, yn y dyddiau anghyfiawn hyn: gâd i mi dy gynghori di (yr hwn a fendithiodd Duw â galluogrwydd, ac a meddwi i wneuthur daioni) i fod yn dy fywyd yn administrator neu yn weinidogaethydd i ti dy hunan, gan wneuthur dy [Page 334] ddwylaw dy hun yn secutorion, ath lygaid dy hunan yn olygwyr; pair i'th lusern roi goleuni o'th flaen, ac nid o'th ôl: dôd i Dduw y gogoniant, ac ti a gei gantho ef mewn amser dyledns dderbyn dy wobr ath taledigaeth, yr hyn o'i ras a'i drugaredd a addawodd es i'th weithredoedd da. Gal. 6.9. Luc. 18.22. Dadc. 14.13.
4. Gwedi i ti fel hyn osod dy dŷ ath enald mewn trefn, (o bydd rhif gosodedig dy ddyddiau heb derfynu) naill a'i fe gymmer Duw drugaredd arnat ti, ac a ddywaid: Arbed (o ddolur angheufol) rhag descyn o honaw i'r clawdd, my fi a gefais iawn, Job 14.5. Job 33.24. Neu ei dadol ragluniaeth ath cyfarwydda di at y fáth foddion, megis trwy ei fendith ef ar eu gwaith, y ceffych gynefin iechyd drachefn. 2 Bren. 20.7. 2 Bren. 5.7, 8; 10. Eithr mewn vn modd gochel di na neb trosot, ddanfon at swynwyr, dewiniaid, neu gonsurwyr, a [...] ymwared: Canys hyn a fyddai adael Duw Israel, a myned at Baalzebub Duw Ecron, am gynnorthwy; megis y gwnaeth Ahaziah felldigedig, 2 Bre. 1, 2, 3. a thorri yr adduned yr hon a wnaethost di a'r bendigedig Drindod yn dy Fedydd: a bydd ddiogel na rydd Duw ei fendith ar y moddion a felldigodd ef: Ond os cynnwys ef Satan i iachau dy gorph di, ofna fod hynny yn tueddu at ddamnedigaeth dy enaid. Yr wyt ti yn cael dy brofi; gochel. Deut. 13.3. ac 18.10. Levit. 20.6.
5. Pan fŷch di wedi danfon am y Physygwr, gochel roddi dy ymddiried yn y Physygwr yn hytrach nag yn yr Arglwydd, megis y gwnaeth Azah; am yr hwn y dywedir, nad oedd ef yn ymgeisio a'r Arglwydd yn ei ddolur, onid a'r Physygwyr: 2 Cron. 16.12. yr hyn sydd fâth ar ddelw-addoliad, ac a ennyn lidiawgrwydd yr Arglwydd, ac a wnaiff y physygwriaeth a gymmerer yn anfuddiawl, ac anffrwythlawn. Arfer [Page 335] gan hynny o Physygwr megis o offeryn Duw, a physygwriaeth megis o foddion Duw. A chan weled nad yw gyfreithlon heb weddi dderbyn llyniaeth cyffredinol, 1 Tim. 4.4. llai o lawer physygwriaeth anghyffredinol (ffrwyth daionus yr hwn fydd yn sefyll ar law Dduw:) cyn cymeryd physygwriaeth gan hynny gweddia yn galonnog at Dduw am ei fendithio ef ith leshaâd, yn y geiriau hyn, neu 'r cyfryw.
Gweddi o flaen cymmeryd physygwriaeth.
O Dad trugarog, yr hwn wyt Arglwydd yr iechyd ar clefyd, y bywyd, a'r farwolaeth, yr hwn wyt yn llâdd, ac yn gwneuthur yn fyw, yr hwn wyt yn dwyn i wared i'r bêdd, ac yn dwyn i fynu. Yr wyf yn dyfod attat, megis at yr vnig physygwr, yr hwn a ddichon iachau fy enaid oddiwrth bechod, am corph oddiwrth glefyd. Nid, wyf yn deisyfu na bywyd na marwolaeth, ond fy ymroi fy hun i'th ewyllys bendigedig. Canys er bod yn rhaid i ni farw, a chwedi ein meirw, bod o'n bywyd megis dwfr a denid ar y ddaiar, yr hwn ni ellir moi gasclu drachefn: etto fe ddarfu i'th rasusol ragluniaeth (tra byddo bywyd yn parhau) ddarparu a threfnu moddion, y rhai a fynni di i'th plant eu harferu, a thrwy arfer cyfreithlon o honynt, i ddisgwyl dy fendith ar dy foddion er mwyn iachâd o'u clefydau, ac adferiad o'u hiechyd iddynt. Ac yr awrhon o Arglwydd yn fy angenoctid hyn, fe ddarfu i mi yn ol dy drefnedigaeth ddanfon am dy wâs, (y physygwr) yr hwn a baratoadd i mi y physygwriaeth yma, yr hwn yr wyf yn ei dderbyn megis moddion gwedi eu danfon o'th tadol a'th cariadol law:1 Sam. 2.6. 2 Sam. 14.14. yr wyf yn attolwg it gan hynny, [Page 336] megis trwy dy fendith ar y swp o ffigus y meddiginiaethaist gornwyd Ezechias fel yr iachauwyd ef: A thrwy ymolchi saith waith yn afon Jorddonen y glanhaist Naaman y Siriad o'i wahanglwyf: ac y rhoddaist ei olwg i'r dyn oedd ddall o'i enedigaeth, wrth iraw ei lygaid a'r clai ac a'r poer, a'i ddanfon ef i ymolchi i lyn Siloam: ac wrth gyffwrdd a'th law a mam gwraig Petr, yr jachauaist hi o'r Crŷd: ac yr jachauaist y wraig a gyffyrddodd ag ymyl dy wisc, oddiwrth y diferlif gwaed: felly rhynged bodd i't o'th ancirif ddawn ath trugaredd, sancteiddio y physygwriaeth hyn i fod yn fuddiol i mi, a rhoi y cyfryw fendith arno fel y gallo (os dy ewyllys bendigedig yw) symmud y clefyd hwn a'r boen oddiwrthif, am hadferu i'm hiechyd am nerth drachefn. Ond os yw rhif y dyddiau, y rhai a osodaist i mi i fyw yn y dyffryn hwn o drueni, yn t [...]nnu at eu diben, a darfod i ti ddanfon y clefyd hwn megis yn gennad i'm galw i allan o'r bywyd marwof hwn, yno Arglwydd gwneler dy ewyllys bendigedig. Canys yr wyf yn fy ymddarostwng fy hunan i'th ragluniaeth bendigedig. Yn unig yr wyf yn deisyfu arnat chwanegu fy ffydd am hammynedd, ac na ad i'th rad a'th trugaredd fod byth yn ddiffygiol i mi, eithr ym mhlith fy holl gyfyngderau, cynnorthwya fi ath lân Yspryd, fel y gallwyf yn ewyllysgar ac yn gysurlawn roddi i fynu fy enaid (gwerth dy waed ti) i'th rasusol ddwylaw a'th gadwraeth. Canniadha hyn O Arglwydd er mwyn Jesu Grist, i'r hwn gyd á thi a'r Yspryd glan, y byddo oll anrhydedd a gogonant, yr awr hon ac yn oes oesoedd. Amen.
Myfyrdod i'r claf.
TRa byddo dy glefyd yn parhau, arfer yn fynych (er mwyn dy ddiddanwch) yr ychydig Fyfyrdodau hyn, ynghylch y dibennau, o herwydd pa rai y mae Duw yn danfon cystuddiau i'w blant: sef y rhai hyn.
1. Megis trwy gystuddiau y gallo Duw nid yn vnig geryddu ein pechodau a aethant heibio, eithr hefyd gweithredu ynom gasineb dyfnach i'n hanianol lygredigaeth, ac felly achub y blaen arnom ni rhag i ni syrthio i [...]awer o bechodau eraill, i'r rhai oni bai hynny, y rhedem ni. Megis tâd da yr hwn sydd yn cynnwys i'w blentyn losci ei fŷs yn y ganwyll, fel y gallo ef yn hytrach ddyscu gochelyd cwympo mewn tán a fyddo mwy. Felly y gall plentyn Duw ddywedyd gyd â Dafydd: da i mi fod wedi fy ngystuddio, fel y gallwyf ddyscu dy gyfreithiau. Canys cyn fynghystuddio mi gyfeiliornais, ond yr awrhon mi gadwaf dy air. Psal. 119.67, 71. Ac medd St Paul yr ydym ni yn cael ein ceryddu gan yr Arglwydd rhag ein damnio gyd ar bŷd. 1 Cor. 11.32. Ag vn groes y mae Duw yn gwneuthur dau feddiginiaeth, cerydd am bechodau a wnawd eifoes, ac achub y blaen ar y pechod i ddyfod. Canys er bod tragwyddol gospedigaeth am bechod (fel y mae yn deilliaw oddiwrth gyfiawnder) yn cael ei gyflawn faddeuant yn aberthiad Crist: etto nid ydym ni (heb ein difrifol farnu ein hunain) wedi ein rhyddhau oddiwrth amserol gerydd am bechod. Canys y mae hyn yn vnig yn deilliaw oddiwrth gariad Duw er daioni i ni. A hyn yw'r achos a'r rheswm, pan ddywedodd Nathan i Ddafydd, oddiwrth yr Arglwydd, fod ei bechod ef wedi ei faddeu: [Page 338] etto nad ymadawai cleddyf cospedigaeth a'i dŷ ef: ac y cai ei fab ef farw yn ddiau, 2 Sam. 10.13. Canys Duw megis physygwr celfyddgar, yn gweled yr enaid wedi ei wenwŷno gan anwiredd cyfanneddol, ac yn gwybod mai llywodraeth y cnawd a dynnai ddinistr i'r yspryd, sydd yn trefnu i ni chwerwaidd bellenigau o gystudd trwy 'r hyn y mae gweddillion pechod yn cael eu puro, a'r enaid yn cael ei iachau yn bureiddiach, y cnawd ei ymddarostwng, a'r yspryd ei sancteiddio: O atcasrwydd pechod, yr hwn sydd yn peri i Dduw geryddu ei blant mor drwm, yr rhai oni bai hynny a gâr ef yn anwyl.
2. Y mae Duw yn danfon gorthrymder i selio i ni ein mabwysiad: Canys y neb y mae 'r Arglwydd yn ei garu, y mae ef yn ei gospi: ac nid yw ond mâb ordderch, yr hwn nid yw yn cael ei geryddu. Heb. 12.6, 7, 8. A phrif-nôd diammau yw, lle mae Duw yn gweled pechod, ac heb fflangellu, yno y mae ei gâs, ac nid ei gariad. Am hynny y dywedir, iddo ef gynnwys meibion anwireddus Eli i barhau yn eu pechodau yn ddi-gosp: am y mynnei yr Arglwydd eu lladd hwynt, 1 Sam. 2.25. O'r tu arall nid oes vn arwydd nac argoel hynodach o dadol gariad Duw a'i ofal, na chael cerydd, neu ryw wrthwyneb, cyn fynyched ac y gwnelom ni vn bai pechadurus. Gorthrymder gan hynny ydyw sêl o fabwysiad ac nid arwydd o felldigedigrwydd. Canys yr ŷd pura a nithir yn lanaf, yr aur goreu a goethir yn fynychaf, y grawnwin melysaf a wescir yn dynnaf, a'r Cristion vnionaf a wrthwynebir yn drymmaf.
3. Y mae Duw yn danfon gorthrymder, i ddiddyfnu ein calonnau ni, oddiwrth ormod serch i'r byd hwn, a gwagedd bydol; ac i beri i ni yn fwy difrifol ddymuned a hiraethu am fywyd tragwyddol. [Page 139] Canys megis na buasau plant yr Israel (oni buasai iddynt gael caethiwed a drygfyd yn yr Aipht) fyth mor ewyllysgar i fyned tu a gwlad Canaan: felly oni bai y gwrthwynebion ar gorthrymderau yn y bywyd hwn, ni byddai blant Duw mor ewyllysgar yn dymuno, ac mor galonnog yn hiraethu am deyrnas nef. Canys yr ydym ni yn gweled llawer o Epicuriaid (sef gwyr masweddus a glythion) a fyddent fodlon i ado 'r nefoedd, tan ammod y caent hwy yn oestad feddiannu eu difyrrwch bydol a'u trachwantau cnawdol, ac o ran na ddarfu iddynt archwaethu erioed lawenydd vn gwell, mor anewyllysgar ac anhawdd yw genthynt ymadel ar bywyd hwn? Lle mae 'r Apostol (yr hwn a welodd ogoniant y nêf, 2 Cor. 12.) yn dywedyd i ni nad oes mwy cyffelybiaeth rhwng gorfoledd y bywyd tragwyddol, a llywenydd y byd hwn, nac sydd rhwng y dom budraf, a'r bwyd blasusaf. Phil. 3.8. neu rhwng y dommen fryntaf a'r ystafell deccaf. Megis gan hynny y mae 'r fammaeth gariadus yn rhoi wermwod neu fwsdard ar ei mynwes, i beri i'r plentyn yn hytrach gashau y fron: felly y mae Duw yn cymysgu gorthrymder weithiau ynghyd â llawenydd, a hawddfyd y byd hwn, rhag iddynt (fel plant y genedlaeth hon,) anghofio Duw, a syrthio mewn gormod cariad i'r byd presennol anwireddus hwn; ac felly myned yn falch o ran eu cyfoeth, o ran eu geirda yn vchel, o ran eu rhydd-dyd yn afiaethus: a gwingo eu sodlau yn erbyn yr Arglwydd pan elent yn freision, Deut. 32.15. Canys os bydd plant Duw yn caru y byd hwn gystal, pan syddo ef (megis llysfam felldigedig) yn gwneuthur cam â ni ac yn ein curo, pa fodd y carem ni y Butain hon pe byddai yn gwenu arnom, ac yn ein gorllyfnu ni, megis y gwna hi a'i chywion bydol? Fel hyn y mae Duw (mal Tad cariadus tra-doeth) yn cymmyscu [Page 340] llawenydd y bywyd hwn i'w blant â chwerwedd gwrthwynebion, megis (gan weled nad oes dim gwir a thrigiannol orfoledd yn y cyflwr bydol hwn) y gallont ocheneidio a hiraethu am fywyd tragwyddol; lle mae diogel a gwasdadol dragwyddol orfoledd i'w gael a'i feddiannu. 1 Pet. 5.6.
4. Trwy gystudd a chlefyd, y mae Duw yn rhoddi ei blant, a'r rhadau y mae ef yn eu ganniadhau iddynt ar ymarfer. Mae ef yn pureiddio ac yn profi eu ffydd hwynt, megis y mae y Gôf-aur am ei aur yn y pair, i'w wneuthur i ddiscleirio yn loiwach ac yn oleuach: y mae ef yn ein cynhyrfu ni i weddio yn fwy dyfal a difrifol, a phrofiff pa ammynedd a ddyfcasom yn ei yscol ef. Yr vnrhyw brofe igaeth y mae ef yn ei wneuthur o'n ffydd ni, an cariad, a'r holl gwbl o'n rhinweddau cristianogawl: yr rhai heb y profiad hwn, a rydau megis hauarn allan o waith, neu a lygrau fel dyfroedd safedig, yr rhai ydynt naill a'i heb redfa, neu heb eu tywalld o lestr i lestr, archwaeth y rhai a erys, au harogl ni chyfnewid. Jer. 48.11. A phwy ni ddymunai gael ei gyfnewid o gyflwr i gyflwr, trwy wrthwynebion a doluriau i iechydwriaeth, yn hytrach na dal arogl ei anian llygredigol i ddamnedigaeth? Canys megis y mae y Camomil a sethrir yn tyfu yn orau, ac yn bereiddiaf ei arogl: Neu fel y mae y pyscodyn yn felysaf, yr hwn sydd yn byw yn y dwfr halldaf: felly yr eneidiau hynny ydynt werthfawroccaf gan Grist, y rhai a arferir ac a orthrymmir fwyaf a'i groes ef.
5. Y mae Duw yn danfon cystuddiau, i ddangos i'r byd ffyddlondeb cariad a gwasanaeth ei blant ef. Pob rhagrithiwr a wasanaetha Dduw tra byddo ef yn ei lwyddo, ac yn ei fendithio ef, megis yr oedd Satan yn heuru ar gam fod Job yn gwneuthur. Job 1.9, 10. Eithr pwy (ond ei Fab anwyl) a'i car [Page 341] ac a'i gwasanaetha ef mewn adfyd, pan fyddo Duw yn ymddangos megis yn ddigllon ac yn anfodlon wrtho? Ie ac a lyna wrtho ef yn dynn ac yn ddiwahanol, pryd y tebygid ei fod ef (a'r guwch erwinaf a gwarth) yn gwrthod dyn, neu yn ei daflu allan o'i ffafr: ie pryd y byddo ef yn briwo, ac yn llâdd, megis pe bai elyn: ie yno â ddywed gyd â Job; Pe lleddit ti fi o Arglwydd mi a obeithiaf ynot ti, Job 13.15. Caru a gwasanaethu Duw, a gobeithio yn ei drugaredd yn amser ein cerydd a'n trueni, ydyw y nôd gwiraf ar wasanaethydd, a phlentyn diffuant i'r Arglwydd.
6. Cystudd sancteiddiedig sydd gynnorthwy odiaethol, i hyfforddi ein gwir droad, ac i'n gyrru ni adref trwy edifeirwch at ein Tâd nefol: yn eu hadfyd (medd yr Arglwydd) i'm borau geisiant, Hos. 5.15. Beichiau yr Aipht oedd yn peri i Israel weiddi ar Dduw. Cyfyngder oedd yn peri i Ddafydd weddio. Clefyd Hezechias a wnaeth iddo ef wylo. A thrueni a wnaeth i'r Mâb afradlon ddychwelyd ac ymbil a'i Dâd am râs a thrugaredd. Exod. 3.7. Psal. 86.7. Esa. 38. Luc. 15.16. Hefyd yr ydym ni yn darllain am lawer yn yr Efengyl, a yrrwyd trwy glefydau a gofidiau i ddyfod at Grist, y rhai pe cawsent iechyd a hawddfyd fal eraill a fuasent yn esceuluso, neu fel eraill yn diystyru eu Hiachawdwr, ac ni chyrchasent fyth atto ef, am ei iechyd cadwedigol a'i râd. Canys fel Arch Noah, pa vchaf y testid gan y llifeiriant, nessaf yr oedd ef yn ymgyfodi tu ag at y nefoedd: felly yr enaid sancteiddiedig, pa fwyaf y curir ef â gofid, negossach y mae yn ymdderchafu tu ag at Dduw. Oh bendigedig ydyw y gofid neu 'r gwrthwyneb hwnnw, yr hwn sydd yn tynnu pechadur o eigion ei galon i ddyfod ar ei liniau at Grist, i gyfaddef ei drueni ei hun, ac i ddeisyfu ei drugaredd anherfynol ef! Oh [Page 342] bendigedig, ie tra-bendigedig fyth a fyddo 'r Crist hwnnw, yr hwn nid yw un amser yn gwrthod y pechadur a ddêl atto ef, er ei fod yn dyfod gwedi i gurfa o gawodydd gofid a thrueni ei yrru!
7. Y mae cystudd yn gweithredu ynom ni drugaredd a thosturi tu ag at ein cyd-frodyr, yr rhai sydd mewn ing a thrueni: drwy 'r hyn y dysgwn ni feddwl a chyd ymwrando a'i gofidiau hwynt: ac i resynu eu cyflwr hwynt, megis pe byddem ni yn cyd ddioddef gyd ag hwynt. Heb. 13.3. Ac er mwyn yr achos hon y mynnai Grist ei hun ddioddef, a chael ei demptio ymhob peth fel ninnau, (eithr heb pechod) fel y gallai fod yn Archoffeiriad trugarog, teimladwy o'n gwendid ni. Heb. 4.15. ac 2.18. Canys ni eill neb mor galonnog dosturio wrth drueni arall, a'r hwn a ddioddefodd ei hun yr unrhyw gustudd. Ar hyn y geill pechadur yn ei drueni yn hŷf ddywedyd wrth Grist: ‘Non ignare mali miseris succurrito Christe.’
8. Y mae Duw yn arfer ein clwyfaur a'n cystuddiau ni, megis yn foddion a siamplau i egluro i rai eraill y ffydd a'r rhinweddau a ganniadhâodd efe i ni; ac hefyd i nerthu y rhai ni dderbynniasant gymmaint mesur o ffydd ac a gawsom ni. O blegit ni eill fod mwy cyssur i gristion gwan, na gweled yr union ei grefydd ynhrymder dolur ei gorph, yn cael ei ymgynnal trwy ammynedd a chyssur cynnyddiol yn ei enaid. Y madawiad bendigedig a chyssurus y cyfryw ddŷn, a'i harfoga ef yn erbyn ofn Angeu, ac a'i sicerâ, fod gobaith y duwiol yn fwy gwerthfawr o lawer nac y geill cig a gwaed ei ddeall, neu lygaid marwol ei weled, yn y dyffryn hwn o drueni. [Page 343] Ac oni buasai weled o honom ni lawer o'r rai a wyddem ni eu bod yn blant i Dduw yn ddiammau, yn dioddef y cyfryw gystuddiau a gofidiau o'n blaen ni; gorthrymder y trueni ar gwrthynebion yr ydym ni yn fynnych yn eu dioddef, a wnai i ni ammau pa vn a wnawn ni a'i bod yn blant i Dduw, a'i nad ydym. Ac i'r defnydd hwn, y mae St Jaco yn dywedyd: Duw a wnaeth Job a'r prophwydi yn siamplau o ddioddef blinder, ac o hir ymaros, Jac. 5.10, 11.
9. Trwy gystuddiau y mae Duw yn ein gwneuthur yn debyg i ddelw Crist ei Fab, yr hwn gan ei fod yn flaenor o'n iechydwriaeth ni, a berffeithiwyd trwy ei ddioddefaint. Heb. 2.7.10. Ac am hynny efe a ddug y groes yn gyntaf mewn cywilydd, cyn iddo ef gael ei goroni mewn gogoniant: ac a archwaethodd y bustl yn gyntaf, cyn iddo ef fwyta y diliau mêl. Math. 27.34. Luc. 24.42. Efe a watworwyd yn gyntaf, dan ei alw Brenin yr Iddewon, gan y milwyr yn neuadd yr Arch-offeiriad, o flaen iddo gael ei gyfarch yn Frenin y gogoniant, gan yr Angelion yn llŷs ei Dâd. Psal. 24.7. A pha mwyaf bywiol y byddo ein Tàd nefol yn canfod llûn ei Fâb anianol yn ymddangos ynom ni, mwyaf oll y car ef hyni: Ac wedi ini dros amser ddwyn ei agwedd ef yn ei ddioddefaint, ac ymdrechu, a gorchfygu; ni a gawn ein coroni gan Grist, ac eistedd gyd â Christ yn ei orseddfaingc ef, ac a gawn dderbyn gan Grist y werthfawr garreg wen, a seren y dydd, i beri i ni lewyrchu yn debyg i Grist yn dragywydd yn ei ogoniant. Rhuf. 8.18. 2 Tim. 4.7, 8. Phil. 3.21. Dadc. 2.17, 18. ac 3.21.
10. Yn olaf, fel y byddo y duwiol yn ymostwng o herwydd eu cyflwr a'u trueni: a chael o Dduw ei ogoneddu am eu gwaredu hwynt oi blinderau a'u cystuddiau, pryd y galwont arno am ei gynnorthwy [Page 344] a'i ymwared. Canys er nad oes vn dyn mor bûr a'r nas caiff yr Arglwydd os craffa ef ar anwireddau, achos gyfion i'w gospi am ei bechod: etto nid yw yr Arglwydd trugarog bob amser ynghystudd ei blant yn edrych ar eu pechodau; eithr weithiau y mae ef yn trefnu blinderau a gwrthwynebion arnynt er mwyn ei ogoniant ei hunan. fel hyn y dywedodd ein Iachawdwr Crist i'w ddisgyblion, na enesid mor dyn yn ddall am bechu hono ef na'i rieni, eithr fel i'r amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef. Joan. 9.3. Felly y dywedodd ef iddynt vn agwedd, nad oedd clefyd Lazarus i farwolaeth, ond er gogoniant Duw. Joan. 11.4. O Anrhaethadwy ddawn Duw, yr hwn sydd yn troi y cystuddiau, y rhai ydynt warth a chospedigaeth dyledus i'n pechodau ni, i fod yn sail o'i anrhydedd ai ogoniant!
Y rhai hyn yw 'r buddiol ar bendigedig ddefnyddiau er mwyn yr hyn, y mae Duw yn danfon clefyd a chystudd ar ei blant, wrth yr hyn, y mae yn eglur i'w weled, nad yw cystuddiau yn arwyddion nac o gasineb Duw, nac o'n colledigaeth ninnau: Eithr yn hytrach arwyddion oi dadol serch i'w blant, y rhai y mae ef yn eu ga [...]u: ac am hynny y cerydda hwynt yn y bywyd hwn, lle ar eu hedifeirwch, y mae iddynt obaith o faddeuant; a hynny sydd well iddynt nag oedi eu cospedigaeth i'r bywyd hwnnw, lle nad oes dim gobaith o faddeuant, na diben ar boenedigaeth. Canys am yr achos hon y byddai y Cristianogion yn y brif eglwys yn rhoi mawr ddiolch i Dduw, am eu cystuddio hwynt yn y bywyd hwn. Pan ofidier ac y gorthrymmer ni, rhoddwn dra-mawr ddiolch i'n tyneraf Dâd am nas goddef i'n liygredigaeth ni fyned ymhellach, eitbr ei ddiwygio a ffrewyll au a gwialennodau. Lactant. ll. 5. pen. 23. Felly yr oedd yr Apostolion yn gorfoleddu [Page 345] am eu cyfrîf hwynt yn deilwng i ddwyn ammarch o achos enw 'r Iesu. Act. 5.41. A'r Hebreaid Cristianogawl a gymmerasant yn llawen eu yspeilio am y pethau oedd ganddynt: gan wybod fod iddynt eu hunain olud gwell yn y nefoedd, ac vn parhaus. Heb. 10.34. Ac o herwydd y dibennau sanctaidd hyn, y mae 'r Apostol yn dywedyd, Na welir vn cerydd tros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder ir rhai sy wedi eu profi drwyddo ef. Heb. 12.11. Gweddia gan hynny yn ewyllyscar galonnog, ar i Dduw fel yr anfonodd ef y clefyd hwn attat ti, fod yn wiw ganddo ddyfod ei hunan i ymweled â thydi yn dy ddolur: gan dy ddyscu di i wneuthur y defnyddiau sanctaidd o hono, er mwyn pa rai i'th cystuddiwyd.
Myfyrdod i vn a elo yn iach o glefyd.
OS darfu i Dduw o'i drugaredd wrando dy weddiau, ath adferu di ith iechyd drachefn; ystyria wrthit dy hun.
1. Ddarfod i ti yr awrhon dderbyn gan Dduw megis bywyd arall. Treilia ef gan hynny i anrhydedd Duw, mewn newydd-deb buchedd. Gad i'th bechod farw o'th glefyd, eithr bydd di fyw trwy râs i sancteiddrwydd.
2. Na fydd yn fwy diosal, o ran cael o honot dy iechyd, ac nac ymorfoledda ynot dy hun am ddarfod i ti ddiangc rhag marwolaeth: Eithr tybia yn hytrach, ddarfod i Dduw (gan weled mor amharod oeddit) o'i drugaredd wrando dy weddi a'th arbed, a rhoi i ti ychydig ysbaid hwy, fel y gellych di wellhau dy fuchedd, a'th osod dy hun mewn trefn a pharodrwydd gwell, erbyn yr amser y galwo ef [Page 346] arnat ti yn ddi-ymaros allan or byd hwn. Canys er darfod i ti ddiangc rhag hwn, fe allai na ddiengi di rhag y clefyd nessaf.
3. Ystyria pa fath gyfrif ofnadwy a wnaethit ti ger bron gorseddfaingc Crist erbyn hyn o amser, pe buasit ti yn marw or clefyd hwn. Treilia gan hynny yr amfer sydd yn ol, fel y gellych di roi cyfrif mwy cyssurus o'th fywyd pryd y rhaid iddo derfynu yn ddiau.
4. Na osod mo ddydd marwolaeth ymhell oddiwrthit: ni wyddost ti er hyn i gyd, agossed ydyw garllaw; a chan i ti gael rhybudd cyn decced bydd gallach. Canys os delir dydi yn amharod yr amser nessaf, fe fydd dy escus yn llai ath farnedigaeth yn fwy.
5. Cofia ddarfod i ti addunedu gwellhâd a newydd-deb buchedd. Ty di addunedaist adduned i Dduw na oeda ei thalu; canys nid oes ganddo flâs ar rai ynfyd, am hynny tal y peth a addunedaist. Pre. 5.4. Yr ysbryd aflan a daflwyd allan; Oh na âd iddo fyned i mewn eilwaith â saith o rai gwaeth nag ef ei hun, gyd a'g efo. Mat. 12.43. Ty di a ocheneidiaist riddfanau tristwch, ti a wylaist ddagrau edifeirwch: fe ath olchwyd ti yn llyn Bethesda, yr hwn oedd yn llifeirio o bum archoll gwaedlyd, nid o eiddo Angel yn cynhyrfu, eithr o Angel cydrycholdeb Duw, cythrybliedig gan ddigofaint dyledus i'th pechodau: yr hwn a ddescynnodd i vffern er mwyn rhoddi i ti y nefoedd ac iechydwriaeth cadwedigol. Psal. 63.9. Na ddychwel yn awr, gyda 'r ci, at dy chwydion dy hun, neu fal yr hwch newydd olchi, i ymdrobaeddu draehefn ym mudreddi dy hên bechodau, ath aflendid: rhag yn ol i ti gael dy rwystro ath orchfygu eilwaith gan frynti dy bechodau, (yr hyn yr awrhon a ddarfu i ti ei ochelyd) i'th ddiwedd di fod yn waeth nath ddechreuad. [Page 347] 1 Pet. 2.20, 21. Dwywaith gan hynny, y mae ein Iachawdwr Crist yn rhoi dyfal rybudd i bechaduriaid iachauol. Yn gyntaf, i'r dŷn a fuasai yn glâf namyn dwy flynedd deugain: wele ti a wnaethpwyd yn iach, na phecha mwyach, rhag digwyddo i ti beth a fyddo gwaeth. Ioan. 5.14. Yn ail, i'r wraig a ddaliwyd mewn godineb; nid wyf finnau yn dy gondemnio di, dos ac na pbecha mwyach. Ioan. 8.12. Gan ddyscu i ni mor beryglus yw ail gwymp, neu syrthio drachefn ir vnrhyw ormod rhysedd. 1 Pet. 4.4. Gochel gan hynny ar dy lwybrau, a gweddia am râs, fal y gellych osod dy galon at ddoethineb, tra parhao y rhif bychan o ddyddiau sydd etto yn anorphen. Ac am y trugaredd presennol, ar iechyd a dderbynniaist bydd gysselyb ir gwahauglwysus diolchgar, a dyro i Dduw hyn yma, neu 'r cyfryw ddiolchgarwch.
Diolch iw adrodd gan vn a êl yn iach o glefyd.
ORasusol a thrugarog Dâd, yr hwn wyt Arglwydd yr iechyd, a'r clefyd, y bywyd a'r farwolaeth; ar hwn wyt yn lladd, ac yn bywhau, yr hwn wyt yn dwyn i wared ir bedd ac yn dwyn i fynu; yr hwn wyt vnig ymddiffynnwr pawb a ymddiriedo ynot: fyfi dy wás tlawd ac anheilwng, yr awrhon (trwy brofiad o'm clefyd poenus) wedi teimlo trymder y trueni dyledus i bechod, a gweled mawredd dy drugaredd yn rhoi maddeuant i bechaduriaid: a chan ystyried a pha ryw dadol dosturi y gwrandewaist fyngweddiau, ac yr adferaist fi i'm hicchyd am neith drachefn: ydwyf yma o eigiawn calon ostyngedig yn dychwelyd (gyd ar gwahanglwyfus diolchgar) i gydnabod, mai tydi yn vnig ydyw Duw sy iechyd, am cadwedigaeth: ac i roi i [Page 348] ti foliant a gogoniant am fy nerth am ymwared oddiwrth y clefyd ar gofid trwm hwnnw: ac am droi fel hyn fyngalar yn llawenydd, fynglefyd yn iechyd, am marwolaeth yn fywyd. Yr oedd fy mhechodau yn haeddu cospedigaeth, a thydi am ceryddaist, ac ni roddaist ti mo honof fi i fynu i angau: my fi oeddwn yn disgwyl o ddydd hyd nôs, pa bryd y gwneit ben am danaf: Yr oeddwn megis garan neu wennol yn trydar: griddfenais megis clommen pan oedd chwerwder y clefyd im gorthrymmu: fy llygaid a dderchefais ir vchelder attat ti o Arglwydd, a thi am diddanaist: canys ti a deflaist fy holl bechodau or tu ol i'th cefn, ac a waredaist fy enaid o bwll llygredigaeth: a phan oeddwn heb gynnorthwy ynof fy hun, nac mewn vn creadur ar all, (yn dywedyd difawyd fi o weddill fy mhlynyddoedd; ni chanfyddaf ddyn mwyach ymysg trigolion y byd) yno yr adferaist fi i iechyd drachefn, ac a roddaist fywyd i mi: O Arglwydd mi a'th gefais di yn barod im gwaredu.
Ac yr awrhon Arglwydd, yr wyf yn cyfaddef nad allai dalu mor cyfryw fesur o ddiolch am y dawn hwn ac a haeddit ar fy llaw. A chan weled nad allaf fi byth dalu i ti drachefn dy ddaioni â gweithredoedd cymmeradwy, Oh na allwn i gyd â Mair Fagdelen dystiolaethu cariad a diolchgarwch fynghalon ag aml ddagrau! Oh pa beth a allaf fi roi i ti o Arglwydd am yr holl bethau da hyn a roddaist im henaid! Yn sicor megis yn fynghlefyd, pryd nad oedd gennif fi ddim arall i roi i ti, yr offrymais Grist a'i haeddedigaethau i ti, megis yn bridwerth dros fy mhechodáu: felly yr awrhon wedi fy adferu trwy dy râd i'm hiechyd am nerth, ac heb fod gennif ddim gwell iw roddi; wele o Arglwydd yr wyf yn fy offrymmu fy hun i fynu i ti,Esa. 38.9, 10. gan attolygu i ti felly fynghynnorthwyo a'th lân [Page 349] Y [...]pryd, megis y byddo hynny sydd yn ol om henioes wedi ei dreilo yn ollawl yn gosod allan dy foliant a'th ogoniant. O Arglwydd maddau fy ynfydrwydd am hanniolchgarwch gynt; am na bum yn fwy gofalus i'th caru di yn ol dy ddaioni, nac i'th wasanaethu di yn ol dy ewyllys, nac i vfyddhau i ti yn ol dy orchymynnion, nac i ddiolch i ti am dy roddion. A chan weled dy fod ti yn gwybod nad allaf o honof fy hun, gymmaint a meddylio vn meddwl da, llai o lawer gwneuthur y peth sydd dda a chymmeradwy yn dy olwg di: cynnorthwya fi a'th râd ac a'th lân Yspryd, fel y gallwyf yn fy hawddfyd dreilio fy iechyd mor grefyddol yn dy wasanaeth, megis yr oeddwn yn fynghlefyd yn daerllyd i ymbil am dano ar dy ddwylaw di. Ac na âd i mi fyth anghofio, nath drugaredd hyn yn fy rhoi yn fy iechyd drachefn, na'r addunedau a'r addewidion hynny, y rhai a wneuthum â thydi yn fynglefyd. Gyd a'm iechyd newydd, adnewydda ynof fi O Arglwydd yspryd vnion: yr hwn am rhyddhâo i oddiwrth gaethiwed pechod, ac a ffurfio fynghalon yngwasanaeth dy râd. Gweithreda ynof fwy casineb a glanastra i'r holl bechodau, y rhai oeddynt achosion o'th lid ti, ac o'm clefyd innau: A chwanega fy ffydd yng-Ghrist Jesu, yr hwn yw 'r Awdur o'm hiechyd, ac o'm cadwedigaeth. Gad i'th lân Yspryd fy nhywys am cynnal i yn y ffordd y dylwn i rodio: a dysc i mi wadu pob annuwioldeb a chwantau bydol, i fyw yn gyfiawn, yn sobr, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awrhon: Fel y gallo eraill wrth gymmeryd siampl oddiwrthif, dybio yn well o'th wirionedd di. A chan nad yw 'r amser (sydd i mi etto i fyw) ond yspaid byrr, ac ychydig rif o ddyddiau, yr rhai ni eill hir barhâu: Dysc i mi o fy Nuw felly gyfrif fy nyddiau fel y dygwyf fynghalon i ddoethineb ysprydol, Tit. 2.12. Psal. 90.12. yr hwn sydd yn [Page 350] arwain i iechydwriaeth. Ac er mwyn hyn gwna fi yn fryttach, ac yn fwy tanbaid yn fy nghrefydd: yn fwy crefyddol yn fynweddi: yn wresoccach yn yr yspryd; yn fwy gofalus i wrando, ac i gael budd oddiwrth bregethiad dy Efengyl: yn fwy ymwaredol i'm brodyr tlodion: yn fwy gwiliadwrys ar fy ffyrdd; yn fwy ffyddlon yn fyngalwedîgaeth: ac ym mhob ffordd yn amlhau ym mhob gweithred dda. Bydded i mi yn amser helaethrwydd hyfryd ofni y dydd drwg o gerydd, yn amser iechyd feddwl am glefyd, yn amser clefyd fyngwneuthur fy hun yn barod i farwolaeth: a phan fyddo marwolaeth yn neshau, fy mharatoî fy hun i'r farn. Bydded fy holl fywyd yn ddiolchgarwch cyhoeddus i ti, am dy râd a'th drugaredd. Ac am hynny O Arglwydd, yr wyf yma o wir ddyfnder fynghalon, ynghyd â mil Miliwn o Angelion, y pedwar anifail, ar pedwar henuriaid ar hugain, ar holl greaduriaid yn y nêf ar ddaiar yn cydnabod fod yn deilwng i ti o Dâd, yr hwn sydd yn eistodd ar yr orseddfaingc, ac i'r oen dy Fab, yr hwn sydd yn eistedd ar dy ddeheulaw, ac i'r Yspryd glân, yr hwn sydd yn deilliaw oddiwrth y ddau, Trindod lân o bersonau mewn vndeb sylwedd, holl foliant, anrhydedd, gogoniant, Dad. 5.11. a gallu, o'r pryd hyn, yn dragywydd. Amen.
Myfyrdod i vn a fyddo ym mron marw.
OS bydd dy glefyd di yn debyg i gynnyddu i farwolaeth; yno myfyria ar dri pheth: yn gyntaf, mor rasusol y mae Duw yn gwneuthur â thydi; yn ail, oddiwrth ba ddrygau y mae marwolaeth yn dy ryddhau di; yn drydydd, pa ddaioni y mae marwoleth yn ei ddwyn i ti.
[Page 351]Yn gyntaf, am drugarog ymwelediad Duw â thydi.
1. Myfyria nad yw Duw yn arfer or gospedigaeth hon ar dy gorph, er mwyn dim ond o ran meddyginiaeth i'th enaid, gan dy dynnu di, yr hwn wyt glaf mewn pechod, i ddyfod trwy edifeirwch at Grist, (dy physygwr) i gael iachau dy enaid. Mat. 9.12.
2. Nad yw y dolur trymmaf, na'r clefyd tostaf, ar a elli di ei ddioddef, ddim i'w gyffelybu i'r gofidiau a'r poenau, y rhai a ddarfu i Grist Jesu dy Iachawdwr eu dioddef drosot ti: Pryd yr oedd efe mewn chwys gwaedlyd yn dioddef digllonedd Duw, poenau vffern,, a'r farwolaeth felldigedig, yr hon oedd ddyledus i'th bechodau di. Luc. 22.24. Psal. 88.7. Esay. 53.4. Heb. 5.7. Gal. 3.13. Am hynny fe a eill efe yn gyfiawn arferu geiriau Jeremi: Edrychwch, a gwelwch, a oes vn cystudd yn debyg i'm cystudd i, yr hwn a wnawd i mi, a'r hwn y darfu i'r Arglwydd fyngofidio yn nydd ei ddigofaint tanbaid? Galar-nad Jer. 1.12. A ddarfu i Fab Duw ddioddef cymmaint er mwyn dy brynu di, ac oni ddioddefi di (ddyn pechadurus) ychydig er mwyn rhyngu bodd iddo ef, yn enwedig pan fyddo hynny er mwyn dy ddaioni di?
3. Pan fô dy glefyd a'th ddolur yn y fan drymmaf, etto mae 'n llai, ac yn esmwythach, nag y mae dy bechodau di yn ei haeddu. G [...]d i'th gydwybod dy hun farnu gan hynny, onid wyt ti yn haeddu gwaeth nag yr wyt yn ei ddioddef.
Na rwgnach gan hynny, eithr wedi i ti ystyried dy aml a'th orthrymmion bechodau, diolch i Dduw na chystuddiwyd mo honot ti â phoenedigaethau a fai trymmach o lawer. Meddylia mor ewyllysgar y dioddefai y rhai sydd boenedig yn vffern, dy boenau trymmaf di fil o flynyddoedd, dan ammod y [Page 352] caent obaith o fod yn gadwedig, ac (yn ol hynny o flynyddoedd) gael esmwythder o'i pennydiau tragwyddol. A chan weled mai trugaredd yr Arglwydd yw na ddarfu am danat ti. Galarnad. 3.2. pa fodd y gelli di na ddioddefych yn amyneddgar ei gerydd amserol ef, gan weled mai y diben yw dy waredu di oddiwrth ddamnedigaeth dragwyddol. 1 Cor. 11.32.
4. Nad oes dim yn digwyddo nac yn damwain yn y cyflwr hwn i ti, ond y cyfryw beth ac a ddigwyddodd i eraill o'th frodyr di yn gyffredinol, y rhai gan eu bod yn ddi-amheus garedig weision i Dduw pan oeddynt yn byw ar y ddaiar, ydynt yn awr yn ogoneddus fendigedig Seinctiau gyd â Christ yn y nefoedd: mal Iob, Dafydd, Lazarus, &c. 1 Pet. 5.9. Yr oeddynt hwy yn griddfan dros amser dan yr vnrhyw fath faich, ond y maent hwy yr awrhon wedi cael eu gwaredu oddiwrth eu holl ofidiau, eu trueni, a'i cyfyngderau. Ac felly vn agwedd cyn bo hir (os arhosi di yn amyneddgar am amser hamddenol yr Arglwydd) y cai dithau hefyd dy waredu oddiwrth dy glefyd a'th boen: naill ai trwy adferiad i'th gynefin iechyd gyd â Iob, neu (yr hyn sydd well o lawer) trwy gael dy dderbyn i'r orphwysfa nefol gyd â Lazarus.
5. Yn olaf, Na roes Duw mo honot ti i fynu i ddwylaw dy elyn, i'th cospi a'th wradwyddo; eithr gan fod yn Dad caredig, y mae efe yn dy gospi di a'i law drugarog ei hun. Pan gafas Dafydd ei ddymunaid, i ddewis ei gosp ei hun, efe a ddewisodd gael ei gosbi gan law Dduw, yn hytrach na thrwy vnrhyw fodd arall: Bid i mi syrthio yn awr yn llaw yr Arglwydd, Canys aml yw ei drugareddau ef, ac na chwympwyf yn llaw dyn. 2 Sam. 24.14. Pwy ni chymmer bob cystudd mewn ffordd dda, pan fytho yn dyfod oddiwrth law Dduw, oddiwrth yr [Page 353] hwn (er nad oes vn gospedigaeth yn hyfryd dros yr amser presennol. Heb. 12.11.) ni wyddom na ddaw dim ond sydd dda? ystyried yr hyn beth a wnaeth i Ddafydd ddioddef melldigedig regiad Shemei trwy sawr ammynedd: 2 Sam. 16.6, 10. a'i geryddu ei hun amser arall am ei annioddefgarwch. Aethum yn fud ac nid agorais fyngenau canys ti a wnaethost hyn. Psal. 39.9. A Job i argyoeddi ymadrodd ynfyd ei wraig, lleferaist fel y llefarei vn o'r rhai ynfydion: a dderbynniwn ni gan Dduw yr hyn sydd dda, ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg? Job 2.10. Ac er bod phiol digofaint Duw dyledus i'n pechodau ni, yn beth arswydus i anian ddynol ein Iechawdwr, fel y gweddiodd efe yn ddifrifol, ar iddi fyned heibio oddiwrtho. Mat. 26.36. Etto pan ystyriodd efe ei fod wedi ei estyn iddo trwy law ac ewyllys ei Dâd, efe a ymostyngodd ei hun yn ewyllyscar i yfed y gwaelodion o honi. adn. 42. Nid oes dim well i'th cryfhau di, ac i'th nerthu yn dy glefyd, na gweled ei fod yn dyfod oddiwrth law Dduw dy Dâd nefol: yr hwn ni ddanfonai mo honaw byth oni bai ei fod efe yn ei weled yn fuddiol ac yn angenrheidiol i ti.
Yr ail fâth ar fyfyrdodau ydyw, ystyried oddiwrth ba ryw ddrygau y mae marwolaeth yn dy ryddhau dî.
Y Mae yn dy ryddhau di oddiwrth gorph llygredig, yr hwn a ynnillwyd yngwynder y cnawd, ym mhoethineb chwant, affendid pechod, ac a aned mewn gwaed budreddi: carchar bywiol i'th enaid, offer fywiol i bechod, sachlen o dom drewllyd: ammhuredd ffroenau yr hwn, ei glustiau, ei ymgorau, a'i fannau eraill (wedi eu iawn hystyried) a ymddengys yn fryntach ac yn ffieiddiach na'r pwll [Page 354] budraf, neu y gaudŷ aflanaf. Yn gymmaint a bod prennau a phlanigion yn dwyn dail, blodau, a ffrwythau, a phêr aroglau; a chorph dyn heb ddwyn dim ond llau, pryfed, pydredd, a sawyr drewllyd. Ei serch sydd lygredig hollhawl, a holl fwriad meddylfryd ei galon sydd yn vnic yn ddrygionus bob amser. Gen. 6.5. O hyn y digwydd na chaiff yr annuwiol fyth ei ddigoni ag annuwioldeb, na'r afiaethus â thrythyllwch, na'r balch â mawredd, na'r dichlyn â rhodres, nar maleisys â dial, nar putteiniwr ag aflendid, nar cybydd ag elw, nar meddwyn ag yfed. Arferau a gwyniau newyddion ydynt beunydd yn cynnyddu: ofnau newyddion a gofidiau ydynt yn cyfodi beunydd. Yma y mae digofaint yn gorwedd mewn cynllwyn; accw y mae gwag-ogoniant yn ddrwg wrthynt: yma y mae balchder yn cyfodi, accw y mae gwradwydd yn bwrw i lawr; a phob vn yn gwilio pa vn a gaiff ymgodi wrth gwymp y llall. Yn awr y brethir dyn yn ddirgel gan hystingwyr ac enllibwyr, fel seirph tanllyd: yn y man y mae ef mewn perigl o gael ei ddifa yn yr amlwg gan ei elynion, o fath llewod Daniel. A dyn duwiol ym mha le bynnac y byddo fyw a gaiff ei orthrymmu yn oestad, mal Lot gan aflendid Sodom.
2. Y mae marwolaeth yn dwyn i'r duwiol ddiben ar bechu, ac ar yr holl drueni dyledus i bechod: Rhuf. 6.7. megis yn ôl marwolaeth, na byddo na thristwch, na llefain, na dim poen mwy: canys fe a sych Duw y dagrau oddiwrth ein llygaid. Datc. 21.4. Ie trwy farwolaeth yr ydym ni yn cael ein neillduo oddiwrth gymdeithas gweithredwyr anwiredd. Ac y mae Duw yn dwyn ymmaith y gwyr cyfion trugarog oddiwrth y drwg sydd i ddyfod. Esa. 57.1. Felly y gwnaeth efe â Iosiah, wele mi a'th gymmeraf di at dy dadau; a thi a ddygir ymaith i'th fedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid yr holl ddrwg yr ydwyf [Page 355] fi yn ei ddwyn i'r fann hon. 2 Bre. 22.20. A Duw a'i cuddia hwynt megis ennyd bach yn y bêdd, hyd onid elo y llid heibio. Esa. 26.20. Felly fel y mae paradwys yn borthladd o lawenydd i'r eneidiau: felly y galwn y bédd yn borthladd ô orphywysfa i'r cyrph.
3. Lle y mae y corph anwireddus hwn yn byw mewn byd o anwiredd, fel na eill yr enaid truan edrych allan i'r llygaid, heb gael ei glwyfo, na gwrando trwy 'r glust heb gael ei anhymmeru, nac aroglu trwy 'r ffroenau heb gael drygsawr: nac archwaethu â'r tafod, heb gael ei hudo: na theimlaw â'r llaw, heb ymhalogi: a phob synwyr ymhob profedigaeth sydd yn barod i fradychu yr enaid: eithr trwy farwolaeth, y caiff yr enaid ei ryddhau, a'i waredu o'r caethiwed hwn, a'r corph llygradwy hwn a wisc anllygredigaeth, ar marwol hwn anfarwolaeth. 1 Cor. 15.53. Oh bendigedig, triphlyg tra-bendigedig a fyddo y farwolaeth honno yn yr Arglwydd, yr hon sydd yn ein gwaredu ni allan o'r fâth fŷd drygionus, ac sydd yn ein rhyddhau ni oddiwrth y fath gorph o gaethiwed a llygredigaeth daiarol.
Y trydydd math ar fyfyrdod yw, ystyried pa ddaioni y mae marwolaeth yn ei ddwyn i ti.
1. Y Mae marwolaeth yn dwyn enaid y duwiol i feddiannu digyfrwng gymmun a'r bendigedig Drindod, mewn hyfrydwch a gogoniant tragwyddol.
2. Y mae yn troi yr enaid o drueni y byd hwn, ymglwyf pechod, ac o gymdeithas pechaduriad, i ddinas y Duw byw, i Ierusalem nefol, ac at fyrddiwn o Angelion, i gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntafanedig, y rhai a scrifennwyd yn y nefoedd, ac at [Page 356] Dduw barnwr pawb, ac at ysprydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd, ac at Iesu, cyfryngwr y Testament newydd. Heb. 12.22, 23, 24.
3. Y mae marwolaeth yn gosod yr enaid mewn cyflawn bresennol feddiant o'r holl etifeddiaeth ar dedwyddwch, yr hyn a addawodd Crist i ti yn ei air, neu a brynodd efe i ti trwy ei waed.
Hyn yw 'r daioni ar dedwyddwch, i'r hyn y mae marwolaeth fendigedig yn dy ddwyn di, a pha wir dduwiol Gristion, ar y sydd yn ieuangc ni ddymunai ei hun yn hên, fel y gallai ei amser gosodedig n [...]sh [...]u, i fyned i mewn i baradwys nefol? Lle y gelli di gyfnewid dy efydd am aur; dy wagedd am happusrwydd; dy waelder am anrhydedd; dy gaethiwed am rydd-did; byrr feddiant am etifeddiaeth dragwyddol; dy gyflwr marwol am anfarwol sywyd. Yr hwn nid yw beunydd yn dymuno y dedwyddwch hyn o flaen pob peth, o'r holl rhai eraill y mae efe yn annheilyngaf iw feddiannu.
Os darfu i Cato vticensis, a Chleombrotus, dau ŵr genhedlig (wrth ddarllain llyfr Plato am anfarwoldeb yr enaid) yn ewyllysgar, y naill dorri ei wddf, a'r llall redeg ar flaen ei gleddyf, fel y gallent (yn ol eu tybygoliaeth hwynt) gael meddiannu y gorfoledd hwnnw. Pa gywilydd yw i Gristianogion (y rhai sydd yn gwybod y pethau hynny mewn mesur mwy odiaethol, a modd cyflawnach allan o lyfr Duw ei hun) na byddent ewyllysgar i syned ir gorfoledd nefol hwnnw? Yn enwedig pan fo eu Harglwydd yn galw am danynt yno. Os bydd gan hynny ynot ti ddim cariad i Dduw, na dymuniad o gael dedwyddwch, neu iechydwriaeth i't dy hun; Pan fyddo amser dy ymadawiad yn nessâu, yr amser hynny meddaf, ar modd ar farwolaeth yr hen a ddarfu i Dduw yn ei gyngor digyfnewidiol ei raglunio, a'i ragddarparu i ti, er cyn dy [Page 357] eni; dyro a thraddoda i fynu dy enaid yn ewyllyscar ac yn llawen i law drugarog Jesu Grist dy Jachawdwr. Ac er mwyn y diben hyn, pan fyddo yr amser yn dyfod, mal i'r ymdderchafodd yr Angel yngolwg Manoah a'i wraig oddiwrth yr allor i fynu ir nefoedd yn fflam yr aberth; felly ymegnia dithau fel y gallo dy enaid yngwydd dy gyfneseifiaid ymdderchafu oddiar allor calon ddrylliedig yn y bêr arogldarth hon, neu yn y cyfryw aberth ysprydol o weddi.
Gweddi i ddyn claf, wedi dywedyd iddo nad yw efe ddyn i'r byd hwn, ond bod yn rhaid iddo ei baratoi ei hun i fyned at Dduw.
O Dâd nefol, yr hwn wyt Dduw ysprydion pob cnawd, yr hwn a wnaethost yr eneidiau hyn i ni, ac a ragluniaist i ni yr amser, megis i ddyfod i'r byd hwn, felly gwedi gorphen ein gyrfa i fyned allan o honaw. Rhif y dyddiau a osodaist i mi ydynt yr awrhon yn darfod, mi a ddaethym i'r terfyn eithaf a osodaist di i mi, tu hwnt i'r hwn ni allaf fi fyned. Mi a wn O Arglwydd, os a'i di i'r farn nad byw vn cnawd cyfiawn yn dy olwg di. A my fi (O Arglwydd) or holl rai eraill a ymddengys yn fwyaf am-mhur ac anghyfiawn; Canys nid ymleddais i mor ymladdiad da, er mwyn ymddiffyn dy ffydd a'th grefydd, mor frŵd a disigl ac y dylaswn: ond rhag ofn anfodloni y byd,Num. 16.22. Jer. 38.16. Luc. 22.53. Psal. 143.2. mi a roddais ffordd i bechodau a beiau; ac er mwyn rhyngu bodd i'm cnawd, mi a dorrais dy holl orchymynnion, mewn meddwl, gair, a gweithred: Fel [Page 358] y mae fy mhechodau yn dal y fath afael ynof, nad wyf yn meiddiaw mor edrych i fynu: ac y maent yn fwy o rifedi, nac yw gwalld fy mhen. Os ty di O Arglwydd a greffi ar fy anwireddau, pa le y safaf. Os ty di am pwysi i yn y clorian fe am cair i yn rhŷ yscafn. Canys yr wyf yn wâg o holl gyfiawnder i haeddu dy drugaredd: Ac yn llwythog o bob anwiredd, a gyfion haeddai dy ddigofaint trymddwys. Ond o fy Arglwydd a'm Duw, er mwyn Jesu Grist dy Fâb, yn yr hwn yn vnig i'th fodlonir ag oll edifeiriol bechaduriaid credadwy: cymmer dosturi a thrugaredd arnaf, yr hwn wyf bennaf pechadur. Bwrw fy holl bechodau i allan o'th gof, a golch ymmaith fy holl anwireddau allan o'th olwg di â gwerthfawroccaf waed dy Fâb, yr hwn yr wyf yn ei gredu iddo ei dywallt (mal Oen difrycheulyd) i [...]anhau fy mhechodau. Yn y ffydd hon y bum fyw, yn y ffydd hon y byddaf farw: gan gredu i Jesu Grist farw dros fy mhechodau, a chyfodi drachefn er mwyn fynghyfiawnhad. A chan weled iddo ef ddioddef y farwolaeth, a dwyn pwys y gospedigaeth, yr hon oedd ddyledus i'm pechodau i; O Dâd, er mwyn ei farwolaeth a'i ddioddefaint ef, yn awr (a myfi yn dyfod i ymddangos ger bron dy orseddfaingc di) rhyddhâ a gwared fi oddiwrth y farnedigaeth ofnadwy, yr hon y mae fy mhechodau yn ei gyfiawn haeddu. A chyflawna â myfi y rasusol a'r gyssurus addewid,Psal. 41.22. Psal. 130.3. Dan. 5.27. Mat. 3.17. Eze. 18.22. 1 Pet. 1.19. Rhuf. 4.25. 1 Cor. 15.3, 4. yr hon a wnaethost yn dy Efengyl: sef pwy bynnac a gredo ynot ti a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn, eithr efe a aiff trwodd o farwolaeth i fywyd. Cryfha O Grist fy ffydd, fel y gallwyf osod oll hyder om iechydwriaeth [Page 359] yn haeddedigaethau dy vfydd-dod, a'th waed. Chwanega O Yspryd glân, fy nioddefgarwch; Na osod fwy arnaf fi nag a allwyf ei ddwyn, a gwna fi i allael dwyn cymmaint ac a ryngo bodd i'th fendigedig ewyllys di. O fendigedig Drindod yn vndod, Creawdwr, Iachawdwr, a Sancteiddiwr, canniadhâ fel y byddo fy nŷn oddiallan yn diflannu, felly fod o'm dyn oddifewn fwyfwy trwy dy râd a'th ddiddanwch yn cryfhau ac yn cynnyddu. O Iachawdwr, dod fy enaid i mewn parodrwydd i fod (megis morwyn gall wedi cael y wisc briodas o'th gyfiawnder a'th sancteiddwydd) yn barod i'th gyfarfod di, ag olew yn ei lusern. Prioda di ef â thydi dy hun, fel y gallo ef fod yn vn â thydi mewn tragwyddol gariad, a chymdeithas. O Arglwydd argyoedda Satan ac ymlid ef ymmaith: gwared fy enaid oddiwrth allu y ci; cadw fi rhagsafn y llew. Yr wyf yn diolch i ti o Arglwydd am dy holl fendithion ysprydol a bydol a ganniadheuaist ti i mi. yn enwedig am fy mhrynedigaeth trwy farwolaeth fy Iachawdwr Crist. Yr wyf yn diolch i ti am ddarfod i't fy ymddiffyn a'th Angelion Sanctaidd o'm ieuengtid hyd yr awr hon. Arglwydd yr wyf yn attolwg i ti, dod orchymmyn iddynt i wilio arnaf nes i ti alw am fy enaid: ag yno ei ddwyn (fel y gwnaethant ag enaid Lazarus) i'th deyrnas nefol. Ac fel y byddo amser fy ymadawiad yn pwyso nes-nes attaf: felly canniattâ o Dduw i'm henaid dynnu nesnes atrat ti: Ac fel y gallwyf yn llawen orchymmyn fy enaid i'th ddwylaw,Mat. 25.4. Dad. 19.7. Psal. 12.10, 11. Luc. 16.22. Mat. 8.11. Luc. 13.18. Act. 7.59. megis i ddwylaw Tàd anwyl, ac Iachawdwr trugarog: a'r pryd hwnnw, O Arglwydd grasusol derbyn fy yspryd. fel y gallwyf wneuthur hyn oll, cynnorrhwya fi a'th râd: a gád i'th Yspryd glân fod gyd â myfi [Page 360] hyd y diwedd; ac yn y diwedd, er mwyn Jesu Grist dy Fab, fy Arglwydd am unig Iachawdwr. Yn enw yr hwn, yr wyf yn rhoi i ti dy ogoniant, ac yn erfyn yr holl bethau hyn ar dy law, yn y weddi yr hon a ddyscodd Crist ei hun i mi gan ddywedyd:
Ein Tâd yr hwn wyt yn yn nefoedd, &c.
Myfyrdod yn erbyn anobaith, neu ammau trugaredd Duw.
YR ydis yn gweled trwy oestadol brawf, pan fo plant Duw yn wannaf, yn agos i amser eu marwolaeth, mai yno y dengys Satan ei nerth fwyaf, ac a esyd arnynt ei brofedigaethau cryfaf: Canys efe a ŵyr mai 'r awrhon y mae iddo gael y fuddygoliaeth neu ni chaiff ef fyth. O blegit os eu heneidiau a ânt i'r nefoedd, ni cheiff efe moi gorthrymmu nai blino hwynt byth ond hynny. Ac am hynny efe a gymmer gymmaint ac a allo o boen, ac a ddengys o flaen eu golygon hwynt yr holl fawrion bechodau a wnaethant, a barnedigaethau Duw dyledus am danynt, felly iw gyrru hwynt (os efe a eill) i annobeithio: yr hwn sydd bechod gorthrymmach na 'r holl bechodau a wnaethent, neu ar a allai efe eu cyhuddo hwy o honynt.
Os bydd Satan gan hynny yn cythryblu dy gydwybod yn fwy tu ag at dy farwolaeth, nag yn amser dy fywyd.
1. Cyfaddef dy bechodau i Dduw: nid yn unig yn gyffredinol eithr hefyd yn neillduol.
2. Gwna jawn a thál i'r gwyr hynny y rhai y gwnaethost ti gamwedd â hwynt, os byddi yn gallael. Ac os wyt ti yn draws neu yn dwyllodrus yn dal, neu yn cadw yn dy feddiant, na thiroedd, na da, y rhai sydd o gyfiawnder yn perthynu i un wraig [Page 361] weddw, neu i blentyn ymddifad, na ryfyga fel yr wyt yn disgwyl am iechydwriaeth dy enaid, edrych yn wyneb Crist y barnwr cyfiawn; nes i ti eu rhoi yn ôl i'r cywir berchennogion drachefn. Canys y mae cyfraith Dduw dan boen ei felldith yn dy orchymmyn di, i roddi yn ei ôl pa beth bynnac a rodded attat ti iw gadw, neu yr hyn y rhoddaist di dy law am dano, neu yr hyn trwy ledrad a thrawsder a ddygaist di, ac yr wyt yn ei gam attal oddiar dy gymydog, tâl hynny erbyn ei ben, a chwanega ei bumed ran atto, Lev. 5.6, 7, 8. Ac oni roddi di yn ôl mal Zacheus y cyfryw dda a thiroedd, ni elli di fyth wir edifarhau, ac heb wir edifeirwch ni elli di fyth fod yn gadwedig. Luc. 13. ac 19.8. Eithr er trwy brofedigaeth y cythraul i ti wneuthur trais a chamwedd, etto os wyt ti yn gwir edifarhau, ac i'th allu yn rhoddi yn ôl, y mae 'r Arglwydd gwedi addo bod yn drugarog wrthyt ti, a gwrando ar weddiau ei wenidogion ffyddlon drosot ti, i faddau i ti dy ddyledion ath pechod, ac i dderbyn dy enaid yn haeddedigaethau gwaed Crist, megys oen di frycheulyd. Gen. 20.7. Jag. 5.
3. Gofyn i Dduw nawdd a maddeuant er mwyn Crist. Ac yno nid yw y blinderau hyn o'r meddwl ddim anghalondid, eithr cyssur: profiadau, ac nid yn gospedigaethau. Y maent yn hysbysrwydd i ti dy fod ar yr union ffordd: Canys y ffordd i'r nefoedd sydd heibio i byrth uffern: hynny yw trwy ddiodef poenau yn dy gorph ar cyfryw amheuon yn dy feddylfryd. Megis trwy fod dy gyflwr di yn y bywyd hwn bob modd yn chwerw, y gallech di archwaethu llawenydd bywyd tragwyddol yn felysach.
Os bydd Satan y dywedyd i ti nad oes gennit ti ddim ffydd, am nad oes mo honot yn ei theimlaw, myfyria.
[Page 362]1. Fod y ffydd unionaf yn fynych â'r teimlad lleiaf, a'r ammheuon mw yaf: eithr cyhyd ac y bŷch yn cashau y cyfryw amheuon, ni roddir mo honynt yn dy faich: Canys y maent yn perthynu i'r enawd, oddiwrth yr hwn y darfu dy yscar. Pan ddiflanno dy gnawd, dy ddyn gwan oddifewn yr hwn sydd yn eu cashau hwynt, ac yn caru yr Arglwydd Iesu, a fydd cadwedig. Marc. 9.24. Math. 14.31.
2. Ai bod yn well ffydd gredu heb deimlad na thrwyddo. Y ffydd leiaf sef cymmaint a gronyn o hâd mwstard, neu gymmaint ac sydd mewn plentyn newydd fedyddio, sydd ddigon i gadw'r enaid a garo Grist, ac a gredo ynddo ef. Job. 13.15. Math. 17.30.
3. Fod plentyn Duw yr hwn sydd yn dymuno teimlaw diogel hysbysrwydd o ffafr Duw, yn cael ei ddymuniad, pan welo Duw fod hynny yn ddaioni iddo: canys efe a addawodd Duw roi dwfr y bywyd i'r sawl a sychedant am dano. Dad. 21.6. Esay. 55.1. Y mae i ni siampl o vn Mr Glover Merthyr sanctaidd, yr hwn ni allai gael dim teimlad cyssurus o'i ffydd, nes ei ddyfod yngolwg y pôst iw losci, ac yno fe gurodd ei ddwylaw ynghyd o wir lawenydd gan ddywedyd wrth ei gyfeillion: O Awstin, efe a ddaeth, efe a ddaeth, gan feddwl llawenydd teimladwy ffydd a'r Yspryd glân. Disgwyl gan hynny wrth yr Arglwydd, ymwrola, ac efe a nertha dy galon. Psa. 27.14.
Os Satan a fanwl ddengys i ti faintioli, lliaws, a gorthrymder dy bechodau, myfyria.
1. Fod ar wir edifeirwch mor hawdd gan Dduw faddeu y pechodau mwyaf, a'r rhai lleiaf, a'i fod efe mor ewyllyscar i faddeu llawer, ac i bard ynu vn. A'i drugaredd ef a ddiscleiria fwy wrth faddeu i bechaduriaid mawr, nag wrth faddeu [Page 363] i droseddwyr bychain: fel y mae yn eglur yn siamplau Manasses, Magdelen, Petr, Paul, &c. Ac lle yr amlhâwyd pechod yno yr ymhyfryda ei râs ef i amlhau yn fwy o lawer. Rhuf. 5.20.
2. Na wrthododd Duw vn dyn erioed, nes i ddyn wrthod Duw yn gyntaf: megis y mae yn eglur yn siamplau, Cain, Saul, Achitophel, Ahaziah, Iudas, &c.
3. Fod Duw yn galw pawb, ie y pechaduriaid y rhai ydynt drwm lwythog o bechod. Mat. 11.28. Ac nad yw efe yn naccâu moi drugaredd i vn pechadur ar a ofynno ei drugaredd ef â chalon edifeiriol. Hyn y mae histori yr Efengyl yn ei dystiolaethu: se ddaeth at Grist bob math ar bechaduriaid clwyfus, dall, cloff, cloff-efrydd, gwahan-glwyfus, a chyfryw ac oeddynt yn glaf o'r parlas, diferlif gwaed, a'r cyfryw ac oeddynt loerig, neu gwedi eu meddiannu ag ysprydion aflan, neu gythreuliaid: etto or rhain eu gyd, nid aeth vn ar a ofynnodd ei drugaredd a'i gynnorthwy, ymaith heb gael ei neges. Os trugaredd a ofynnai, trugared a gai, er maint a fyddai ei bechod, er trymmed a fyddai ei ddolur. A hefyd efe a gynnygiodd, ac a roddes ei drugaredd i lawer or rhai ni ofynnasant mono erioed (gwedi ei gynhyrfu yn vnig gan ymyscaroedd ei dosturi wrth weled eu trueni hwynt) mal i'r wraig o Samaria, i'r wraig weddw o Naim, ac i'r claf oedd yn gorwedd wrth lynn Bethesda, yr hwn a fuasai namyn dwy flynedd deugain yn glaf. Joan. 4. ac 5.5.6, 7. Luc. 7.13. Os darfu iddo ef yn ewyllyscar fel hyn roddi ei drugaredd iddynt hwy, y rhai nid oeddynt yn gofyn, ac os caed ef (fel y dywaid y prophwyd) gan y rhai nis ceisiasant mo hono ef, a rydd efe nâg o'i drugaredd i ti, yr hwn wyt mor daer yn ymbil am dano trwy ddagrau? ac wyt mal y publican truan yn curo mor ddifrifol a dyrnau ysig, ar [Page 364] galon ddrylliedig edifeiriol. Yn enwedig pan weddiech di at dy Dâd yn enw ac yngyfryngdod Iesu, er mwyn yr hwn y mae ef yn addaw canniattau pa beth bynnac a ofynnom ni iddo ef: Ioan. 14.14. Cyn wiried a bod Duw yn eir-wir ni rydd efe nâg i ti. Er i bechodau y Ninifeaid ennyn llid yr Arglwydd i roi y farn yn eu herbyn, etto ar eu hedifeirwch hwy, efe a'i galwodd hi yn ol drachefn, ac a arbedodd y ddinas: pa faint mwy os ty di a edifarhei, vn agwedd i'r arbeda efe ty di, gan weled nad yw ei farn ef etto wedi ei hadrodd yn dy erbyn? Os oedodd efe y farn oll ddyddiau Ahab, yn vnig er mwyn y llûn, neu 'r ymddanghosiad oddiallan a wnaethai efe o ostyngeiddrwydd, pa faint mwy y try efe yn lân heibio ei ddial, os ty di yn ddiffuant a edifarhei o'th bechod, a dychwelyd atto ef am râs a thrugaredd?
Efe a gynnygiodd ei drugaredd i Cain (yr hwn a laddasai ei frawd gwirion) Os gwnei yn dda oni chai di oruchaflaeth? Gen. 4.7. Fel pe buasai efe yn dywedyd, os gadewi di dy lid a'th genfigen, ac aberthu i mi o galon ffyddlon edifeiriol, ty di a'th aberth a fydd cymmeradwy gennyf. Ac i Iudas (yr hwn ai bradychodd ef mor dwyllodrus) gan ei alw ef yn gyfaill, enw cariadol; Mat. 26.50. A phan gynnygiodd Iudas, efe yn ewyllscar a fodlonodd â'r genau (yn yr hwn ni buasai dwyll erioed,) i gusanu y gwefysau gwenhieithus, dan y rhai yr oedd gwenwyn aspiaid yn godechu. 1 Pet. 2.22. Psal. 140.3. Pa buasai Judas yn dirnad y gair hwn cyfaill allan o enau Crist, megis y gwnaeth gwyr Benhadad y gair Brawd o enau Achab, diammau y buasai Iudas yn cael Duw Israel yn fwy trugarog, nag y cafas Benhadad Frenin Israel. 1 Bren. 20.31, 32, 33. Ond yr oedd Duw yn anfodlonach wrth Cain am anobeithio o'i drugaredd, nac am ladd ei frawd; [Page 365] ac wrth Iudas am ei grogi ei hun, nac am fradychu ei Arglwydd. Yn gymmaint ac y mynnent hwy wneuthur pechodau dynion marwol, yn fwy nag anfeidrol ac anherfynol drugaredd y tragwyddol Dduw: neu fel pe gallasent hwy fod yn llawnach o bechodau, nag oedd Duw o drugaredd. Lle y mae y defnyn lleiaf o waed Crist, a mwy haeddedigaeth ynddo, i ynnill trugaredd Dduw er mwyn dy iechydwriaeth di, nag a eill yr holl bechodau (a'r a wnaethost) fod o nerth i cnnyn ei ddigofaint, i'th fwrw i ddamnedigaeth.
Os bydd Satan yn sisial, fod hyn yn wir am drugaredd Dduw, eithr nad oes mo hynny yn perthyn i ti, am fod dy bechodau di yn fwy na phechodau dynion eraill, megis yn bechodau o wybodaeth, ac yn parhau er ystalm o flynyddoedd, a'r cyfryw ac y darfu am rai eraill ou plegit: a chwbl oll (gan mwyaf) wedi eu gwneuthur o'th wirfodd, ac yn rhyfygus yn erbyn Duw a'th cydwybod. Ac am hynny er iddo ef fod yn drugarog wrth rhai eraill, etto ni fydd ef drugarog wrthit ti; myfyria:
1. Fod llawer (o'r rhai ydynt yr awrhon yn ogoneddus ac yn fendigedig Seinctiau yn y nefoedd) wedi gwneuthur yn yr vn ffunyd (pan oeddynt yn byw ar y ddaiar) gymmaint pechodau a mwy nac a wnaethost di erioed, ac a barhausant (cyn iddynt edifarhau) yn y pechodau hynny cyhyd yn helaeth ac y gwnaethost dithau. Megis gan hynny na allai eu holl bechodau hwy, a'r hir aros ynddynt, luddies i drugaredd Dduw, ar eu hedifeirwch hwynt, faddau iddynt eu pechodau, a'i derbyn i'w rád drachefn: Ni dichon chwaith dy bechodau dithau a'th barhâd ynddynt, moi rwystro ef i fod yn drugarog wrthit ti, os edifarhei di fel y gwnaethont hwythau: ic ar dy edifeirwch y mae siampl pob vn o honynt hwy, yn argoel y [Page 366] gwnaiff ef yr vn peth i ti ac a wnaeth iddynt hwythau. 1 Tim. 1.16. Canys fel y mae y pechod lleiaf yngyfiawnder Duw heb edifeirwch yn ddigon i wneuthur vn yn golledig; felly y pechod mwyaf ar edifeirwch yn ei drugaredd ef sydd i gael maddeuant. Dy bechodau mwyaf ac hynaf nid ydynt ond pechodau dŷn: eithr y lleiaf o'i drugareddâu ef ydyw trugaredd Duw. Am dy fod di yn adnabod dy bechodau dy hun, yr wyt ti yn ammau na ellir eu maddau hwynt. Gwêl fel y mae Duw ei hunan yn gollwng yn rhydd y cwlwm amheus hwn. Yr oedd llawer yn nyddiau Esay yn tybied (fel yr wyt tithau) iddynt hwy barhau cyhyd mewn pechod, fel yr aethai yn rhyhwyr iddynt hwy geisio dychwelyd at Dduw am râs a thrugaredd. Eithr y mae Duw yn eu hatteb hwynt: Ceisiwch yr Arglwydd, tra y galler ei gael ef, gelwch arno, tra fyddo yn agos. Esa. 55.6, 7, 8. Fel pe dywedasai efe, tra byddo y bywyd yn parhau, am gair i'w bregethu, yr wyf yn agos i'm cael gan bawb oll a'r am ceisiant, ac a weddîant attaf. Y mae 'r bobl yn ail-atteb: eithr nyni (O Arglwydd) ydym bechaduriaid anafus, ac am hynny ni feiddiwn ni ryfygu galw ar dy enw, neu ddyfod yn agos i'th sancteiddrwydd. Y mae 'r Arglwydd yn atteb i hynny: Gadawed y drygionus ei lwybr, ar dŷn anwireddus ei fyddyliau: a dychweled attaf fi, ac myfi a gymmeraf drugaredd arno ef, ac a fyddaf yn Dduw iddo ef, ac my fi a roddaf nawdd iddo ef yn dra-aml. Eithr nyni a dybiem (medd y bobl) pe buasai ein pechodau ni ond pechodau cyffredinol, y gallai yr addewid hon o drugaredd berthyn i ni. Ond gan fod ein pechodau cymmaint, ac yn parhau cyhyd, am hynny yr ydym ni yn ofni pan elom ni i ymddangos ger bron Duw y bwrw efe nyni heibio. Y mae DƲW yn atteb i hyn drachefn: Fy meddyliau i (O drugaredd) [Page 367] nid yw eich meddyliau chwi: nid eich ffyrdd chwi (o faddau) ydyw fyffyrdd i: canys megis y mae 'r nefoedd vwchlaw 'r ddaiar, felly y mae fy ffyrdd i yn vwch na'ch ffyrdd chwi, am meddyliau i yn vwch na'ch meddyliau chwi. Pe bai gan hynny bob pechadur yn y bŷd, yn fŷd o gyfryw bechaduriaid ac ydwyt ti: etto bydded i ti wneuthur y peth y mae Duw yn ei erchi i ti, sef edifarhau a chredu, a gwaed Jesu Grist, gan ei fod yn waed Duw, a'th lanhâ di a'nhwythau oddiwrtn eich holl bechodau. Act. 20.28. 1 Joan. 1.7.
2. Magis y rhagwelodd Duw yr holl bechodau ar a wnai 'r bŷd, ac etto na allai yr holl rai hynny ei rwystro ef rhag caru y bŷd, fel y rhoddes ef ei vnig-anedig Fâb i farwolaeth, i waredu cynifer o'r bŷd ac a gredent ac a edifarhaent. Joan. 3.16. Llai o lawer y geill dy bechodau di (gan eu bod yn bechodau yr aelod lleiaf o'r bŷd) fod o nerth i rwystro Duw rhag caru dy enaid, a maddau dy bechodau, os tydi a edifarhei a chredu?
3. Os darfu iddo ef dy garu di cyn gued (pryd yr oeddit ti yn elyn iddo èf) fel y talodd ef drosot ti bris mor werthfawr a thywalltiad gwaed ei galon; pa fodd y gall ef yr awrhon na byddo yn rasusol wrthit, pryd nad rhaid iddo er dy waredu, ond bwrw vn golwg yn rasusol arnat? Nac edrych di gan hynny ar faintiolaeth dy bechodau, ond ar anfeidroldeb ei drugaredd ef, yr hwn sydd felly yn fwy na mwy, fel pe rhoit ti dy oll orthrymmion bechodau ynghyd, a rhoi attynt bechodau Cain a Judas, a rhoi attynt hwythau holl bechodau yr holl rai melldigedigion o'r bŷd: (diammau y byddai yn bentwrr mawr) etto cyffelyba y pentwr mawr hwn, ag anherfynol drugaredd Dduw, ac ni bydd mwy cyffelybiaeth rhyngddynt, na rhwng y twmpath lleiaf o bridd y wadd, a'r mynydd mwyaf [Page 368] yn y wlâd. Ni allai gwaedd y pechodau gorthrymmaf a'r a ddarfu i ni ddarllain am danynt, gyrraedd ddim vwch na'r nefoedd, megis gwaedd pechodau Sodome. Gen. 19.13. ond trugaredd Duw (medd Dafydd) sydd oddiar y nefoedd. Psal. 108.4. ac felly vwchlaw ein holl bechodau. Ac os yw ei drugaredd ef yn fwy na'i holl weithredoedd, y mae yn rhaid iddo fod yn fwy nath holl bechodau di. A thra bo ei drugaredd ef yn fwy na phechodau yr holl fyd, edifarhâ, ac nid oes ammau o faddeuant.
Os bydd Satan yn haeru ddarfod i ti yn fynych o amser wneuthur adduned o edifeirwch, a gwneuthur llun o edifeirwch dros amser, ac etto cwympo ir vnrhyw bechodau, drachefn a thrachefn, ac nad oedd dy holl edifeirwch ond rhith twyllodrus, a gwatwor Duw, a chan weled ddarfod i ti mor fynych dorri dy adduned, am hynny fe dynnodd Duw ymmaith ei drugaredd, ac a newidiodd ei gariad, &c. myfyria:
1. Pe rhôn a bod o hyn yn wir, (yr hyn mewn gwirionedd sydd anafus) etto nid yw achos gymhessur o herwydd yr hon y dylit anobeithio; gan weled mai dyma gyflwr cyffredin holl blant Duw yn y bywyd hwn, y rhai sydd yn addunedu cyn fynyched y gadawant ymmaith ryw bechod, nes iddynt ddeall eu gwendid i gyflawni hynny, yr addunedant i beidio ag addunedu. Y mae eu haddunedau yn dangos deisyfiadau eu dyn ysprydol; eu gwaith yn eu torri sy 'n dangos gwendid eu cnawd llygredig. A'n mynych lithro i'r vnrhyw bechodau yr ydoedd Crist yn ei ragweled, pan ddyscodd efe i ni weddio beunydd, O Dâd maddeu i ni ein dyledion. A pha ham y mae Crist yn gorchymmyn i ti, (yr hwn nid wyt ond dyn pechadurus) faddeu i'th frawd saithwaith yn y dydd, os dychwel ef saithwaith yn y dydd, a dywedyd, Y mae 'n edifar gennif? [Page 369] Luc. 17.34. ond i'th siccrhau di, y maddeu ef (gan ei fod ef yn Dduw 'r drugaredd, ac yn ddaioni ei hun) i ti dy ddengwaith a thrugain saithwaith bechodau yn y dydd, y rhai a wnaethost yn ei erbyn ef, os dychweli di atto ef trwy wir edifeirwch. Math. 18.21, 22. Fe iachauwyd yr Israeliaid wrth edrych (a golygon gweiniaid) ar y Sarph brês, cyn fynyched ac y bratheu y seirph tanllyd hwynt yn yr anialwch. Num. 21.9. I'th siccrhau di mai ar dy ddagrau o ediseirwch, y cai di dy iachau trwy ffydd yn Ghrist, cyn fynycned ac i'th frethir di i farwolaeth gan bechod.
2. Fod dy iechydwriaeth gwedi ei seilio nid ar ddi-ysgogrwydd dy vfydd-dod, eithr ar neith disigl cyfammod Duw. Er dy fod di yn anwadalu a Duw, a bod y cyfammod wedi ei dorri o'th du di, etto y mae yn gyfan o'i du ef; ac am hynny y mae pob peth yn ei le, os tydi a ddychweli: Canys nid oes na chyfnewidiad na chyscod o droedigaeth gyd ag ef. Jag. 1.17. Rhuf. 9.11. Efe a glôdd i fynu dy iechydwriaeth, ac a'i gwnacth ef yn ddiogel yn ei arfaeth digyfnewidiol ei hun, ac a draddododd i'th cadwraeth di yr agoriadau, yr rhai ydynt ffydd ac edifeirwch: a thra fyddont yn dy eiddo, di a elli dy beswadio dy hun fod dy iechydwriaeth yn sicer ac yn ddiogel: Canys yr hwn y mae Duw yn ei garu, y mae efe yn ei garu ef hyd y diwedd, ac nid edifarha efe byth am fwrw ei serch ar y rhai a edifarhant ac a gredant. Rhuf. 8.39. ac 11.29. Joan. 13.1.
Yn olaf, o bydd Satan yn dwyn ar ddeall i ti dy fod ti yn ammau yn hir o bryd, a bod yn orau i ti yr awrhon anobeithio, gan weled fod dy bechodau yn cynnyddu, a'th farnedigaeth yn tynnu yn agos; myfyria:
1. Na ddylai vn pechod (er maint a fâi) fod yn [Page 370] achos i beri i Gristion anobeithio, tra byddo trugaredd Dduw o lawer myrddiwn o raddau yn fwy: a bod pob rhyw bechadur edifeiriol credadwy yn cael maddeuant o'i holl bechodau, wedi ei siccrhau trwy air a llŵf Duw; dau beth di-anwadal, yn y rhai y mae yn amhossibl i Dduw fod yn gelwyddog. Eze. 18.22. Heb. 6.18. Ei air yw, pa bryd bynnac y byddo pechadur, pwy bynnac, yn edifarhau o'i bechod, beth bynnac (canys y pryd, y pechodau, a'r pechaduriaid ydynt annherfynedig) o eigion ei galon, efe a ollwng Duw dros gof yr holl anwiredd ar a wnaeth ef, fel na edliwir mo honynt iddo ef mwyach. Oni chymmerwn ni ei air ef (yr hwn na atto Duw i ni ei ammau) efe a roes ei lwf i ni: fel yr wyf byw, nid wyf yn dymuno mo farwolaeth yr annuwiol, ond troi o'r annuwiol oddiwrth ei ffordd a byw. Eze. 33.21. Fel pe dywedasai, oni choeliwch i'm gair? yr wyf yn tyngu myn fy mywyd, nâd wyf yn ymddigrifo yn rhoi vn pechadur yn y bŷd i farwolaeth, am ei bechodau, ond yn hytrach yn chwennych ei waredu ar ei droad a'i edifeirwch.
Myfyrio yr hyn beth a barodd i Tertullian lefain: O dedwyddol ydym, er mwyn y rhai y mae Duw yn tyngu, nad yw yn ewyllysio ein rhoi i farwolaeth. Oh pa fath drueiniaid enbydus ydym ni, oni choeliwn i Dduw pan fyddo ef yn tyngu y gwirionedd hwn i ni. Eurglyw o yspryd trwmbluog, enaid yr hwn a orthryblir gan donneu anobaith anffyddlawn; mor ddedwydd a fyddai weled llawer o'th fath di a Hezechias? (yr rhai a riddfanau megis clomennod gan orthrymder pechod, ac a fyddau yn trydar megis garanod neu wenholiaid rhag ofn digofaint Duw,) yn hytrach na gweled llawer o rai a fyddant marw megis anifeiliaid, heb ddim ysty [...]iaeth o'i cyflwr eu hunain, na dim ofn digofaint [Page 371] Duw, neu 'r Orseddfaingc, o flaen yr hon y maent i ymddangos? Siria a chyssura dy di dy hunan o enaid gofidus, canys os oes ar y ddaiar hon yr vn y darfu i Grist dywalld ei waed trosdo ar y groes, tydi yn dra-diogel ydwyt vn. Diddana gan hynny dy di dy hun yn yr oll-ddigonawl aberth o waed yr Oen, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel. Heb. 12.14. A gweddia tros y cyfryw, ni chawsont erioed etto râs i ystyried a chashau pechod. Ty di yn wir ydwyt vn tros yr hwn y bu Grist farw; Ac oddiwrth yr hwn y bu i yspryd drylliedig (yn barnu wrth ei deimlad yn hytrach na'i ffydd) wascu allan lef alarus ein Harglwydd Grist: Math. 27.46. sef, Fy Nuw, Fy Nuw, pa ham im gadewaist? Ac na ammau cyn bo hir na chai di deyrnasu cyn siccred gyd a'g ef, ac yr wyt ti yr awrhon yn dioddef gyd ag efo: Canys ie ac Amen a ddywedodd hynny. 2 Tim. 2.11. 2 Cor. 1.20. Dad. 3 14. Nid oes vn pechod yn attal dyn rhag iechydwriaeth, ond yn vnig anobaith, a diedifeirwch: Nid oes dim a ddichon wneuthur y pechod yn erbyn yr Yspryd glân yn ddifaddeuant ond eisiau edifeiriwch. Y mae dy ddeisyfiad chwannog i edifarhau mor gymmeradwy gan Dduw, ac yw yr edifeirwch perffeithiaf ar a ddymunit ti ei gyflawni iddo.
Myfyria ar y cyssurau Efangylaidd hyn, ac ti a gai weled mai yn y loes drangcedig olaf wrth farw, y cynnorthw ya Duw dydi a'i lân yspryd, megis pan fyddo Satan yn edrych am yr oruwchafiaeth fwyaf, y caiff ef ei orchfygu yn llwyraf. Ie pan fyddo llinynnau dy lygaid gwedi torri, megis na ellych weled mor goleuni, Iesu Grist a ymddengys i ti i gyssuro dy enaid, a'i Angelion sanctaidd a'th ddygant di iw deyrnas nefol. Luc. 16.22. Yno y caiff dy gyfeillion di dy ganfod, megis Angel Manoah, [Page 372] yn gwneuthur gwir ryfeddodau: pan welont ddŷn diffrwyth yn ei wendid mwyaf (trwy gynnorthwyad Yspryd Duw) yn gorchfygu cryfder pechod, chwerwder angau, a holl egni a gallu Satan: ac ynnhân ffydd, ac arogldarth gweddi, yn ymdderchafu i fynu gyd â'g Angelion, yn orchestol i'r nefoedd.
Addysc i'r rhai a ddelont i ymweled ar claf.
Y Saul a ddelont i ymweled a'r clâf, y mae 'n rhaid iddynt gymmeryd prif ofal na sasant yn fud i lygaid rythu yn wyneb y dyn clwyfus, i'w aflonyddu ef, ac na siaradant yn ofer, i ofyn rhesymmau neu ofynnion anfuddiol, fel y gwna llawer.
Os gwelant hwy gan hynny sod y dyn clwyfus yn debyg i farw, mogelant ei dwyllo ef, eithr yn gariadol ac yn weddus, rhybuddiant ef o'i wendid a'i lescrwydd, a pharant iddo ymbarotoi i fywyd tragwyddol. Vn awr wedi ei threilio yn dda, pan fyddo enioes dŷn agos wedi ei threilio allan, a eill ynnill i ddyn ddiogelrwydd o fywyd tragwyddol. Na wenheithia ef ag ofer obaith o'r bywyd hwn, i fradychu ei enaid i farwolaeth dragwyddol. Rhybuddia ef yn ddi-ragrith o'i gyflwr, a gofyn iddo ar fyrr, yr rhai hyn, neu'r cyfryw gwestiwnau.
Gofynion i holi 'r dŷn claf a fyddo tebyg i farw.
WYt ti yn credu mai 'r hollalluog Dduw, Trindod o bersonau mewn vndod o sylwedd, a wnaeth nefoedd a daiar, a chwbl oll ar sydd ynddynt trwy ei allu ei hunan? Ai fod ef yn oesdadol trwy ei dduwiol ragluniaeth yn eu llywodraethu hwynt? Fel nad oes dim yn digwyddo yn y byd, nac i tithau, ond yr hyn a ddarfu i'w nerth goruchel a'i dduwiol ddoethineb ei ragddarparu o'r blaen iw wneuthur?
2. Wyt ti yn cyfaddef, ddarfod i ti droseddu a thorri sanctaidd orchymynnion yr ollalluog Dduw, mewn meddwl, gair, a gweithred? A haeddu o honot am dorri ei gyfreithiau bendigedig, felldith Duw, yr hwn a gynnwys oll drueni y byd hwn, a phoenau tragwyddol yn nhân vssern, pan ddiweddo y bywyd hwn, pe gwnai Dduw â thydi yn ol dy haeddedigaethau?
3. Onid yw yn ddrwg gennit yn dy galon, ddarfod i ti dorri ei gyfreithiau, ac esceuluso ei wasanaeth a'i addoliad, a chanlyn y byd a'th trachwantau ofer dy hun mor ddyfal? Ac onid arweinit ti fywyd sancteiddiolach, pe byddit i ddechrau byw drachefn?
4. Onid wyt ti o'th galon yn deisyfu dy fod gwedi dy vno â Duw yn Iesu Grist, ei Fab bendigedig, dy gyfryngwr, yr hwn sydd ar ddeheulaw Dduw yn y nefoedd, yn awr yn ymddangos drosot yngolwg Duw, ac yn gwneuthur ei erfynniad atto ef dros dy ena [...]d? Rhuf. 8.34. Heb. 9.24.
5. Wyt ti yn gwadu ac yn ffieiddio pob hyder a chrediniaeth mewn cyfryngwyr neu ddadleuwyr [Page 374] eraill, Seinctiau neu Angelion, gan gredu fod Iesu Grist yr vnig gyfryngwr o'r Testament newydd, yn dichon yn berffaith waredu y sawl a ddelont at Dduw trwyddo ef, gan weled ei fod ef yn byw yn oestadol i wneuthur cyfryngdod trostynt? Ac a ddywedi di gyd â Dafydd wrth Grist: Pwy sydd gennif fi yn y nefoedd ond ty di? ac ni ewyllysiais ar y ddaiar neb gyd a thydi? 1 Tim. 2.5. Heb. 7.25. Psal. 73.25.
6. Wyt ti yn hyderus yn credu, ac yn gobeithio bod yn gadwedig, trwy vnig haeddedigaethau y farwolaeth waedlyd a ddioddefodd Iesu Grist trosot ti? heb osod dim hyder oth iechydwriaeth yn dy haeddedigaethau dy hun, nac mewn vnrhyw gyfryngau na chreaduriaid eraill? gan dy siccrhau dy hun yn ddiogel, nad oes iechydwriaeth yn neb arall: ac nad oes vn enw arall dan y nef, drwy 'r hwn y mae yn rhaid i't fod yn gadwedig. Act. 4.12. Act. 10.43.
7. Wyd ti yn ewyllyscar yn maddeu pob trais a chamwedd ar a wnaethpwyd neu a gynnygiwyd i ti gan bob math ar ddyn pwy bynnac? Ac wyt ti mor ewyllyscar o'th calon, yn gofyn maddeuant gan bawb, ar y gwnaethost di gamwedd ag hwynt hwy mewn gair, neu weithred? ac wyt ti yn taflu allan o'th ca [...]on bob ll [...]d a chasineb oedd ynot ti? Fel y gellych di ymddangos ger bron wyneb Crist (tywysog tanghneddyf) mewn cariad perffaith? Heb. 12.14.
8. Ydyw dy gydwybod yn cyhuddo i ti ddwyn dim ar gam, neu fod yn dal dim wrth fôn brauch, oddiwrth vn wraig weddw, na phlentyn ymddifad, neu oddiwrth neb arall pwy bynnac? Bydd siccr a diogel onis teli di yn ôl mal Zacheus, y da neu y tiroedd hynny, (o byddi di yn gallael) na elli di mor gwir edifarhau, ac heb wir edifeirwch, ni elli [Page 375] di mor bod yn gadwedig, nac edrych yn wyneb Grist pan fyddych i ymddangos ger bron ei Orseddfaingc ef.
9. Wyt ti ollawl yn credu, y cyfodir dy gorph di allan o'r bedd, ar lais yr vdcorn diweddaf? ac y caiff dy gorph ath enaid eu cysylltu yn vn drachefn, yn nydd yr adcyfodiad, i atteb ger bron yr Arglwydd Iesu Grist; ac oddiyno i fyned gyd a'g ef i deyrnas nefoedd, i fyw mewn tragwyddol hyfrydwch a gogoniant?
Os y dyn clwyfus a ettyb i'r holl ofynion hynny, megis Cristion ffyddlawn, yno gadewch i bawb ar a fyddo yn bresennol vno ynghyd i weddio trosto ef, fel hyn, neu mewn geiriau or cyffelyb.
Gweddi iw dywedyd dros y claf, gan y rhai a ddelont i ymweled ag efo.
O Drugarog Dad, yr hwn wyt Arglwydd a roddwr y bywyd, i'r hwn y perthyn diangfau rhag marwolaeth: Nyni dy blant sydd yma gwedi ein ymgynnull, ydym yn cydnabod, nad ydym ni o herwydd amldra ein pechodau deilwng i ofyn vn fendith i ni ein hunain ar dy ddwylaw di: llai a lawer i fod yn negeffwyr at dy Fawrhydi dros eraill: etto o herwydd i ti ein gorchymmyn i weddio y naill dros y llall, yn enwedig dros y claf, ac a ddywedaist mai llawer a ddichon gweddi y cyfiawn gyd â thi: gan hynny yn vfydd-dod dy orchymmyn, ac mewn hyder o'th addewid grasusol, yr ydym ni mor hŷf a dyfod yn ostyngedig ymbilwyr at dy dduwiol Fawrhydi, dros ein anwyl frawd (neu ein chwaer,) a'r hwn yr ymwelaist di â cherydd dy law dadol dy hun. Ni a ddymunem o ewyllys ein calonnau iddo ef gael ei iechyd drachefn, a [Page 376] chael ei gristianogawl gymydeithas yn hwy, yn ein plith: Eithr yn gymmaint ac yr ymddengys (cyn belled ac y gallwn ddirnad) ddarfod i ti raglunio trwy yr ymweliad hyn, i alw arno ef allan or bywyd marwol hwn: yr ydym ni yn darostwng ein deisyfiadau i'th fendigedig cwyllys, ac yn ymbil yn ostyngedig er mwyn Iesu Grist, a haeddedigaethau ei chwerw-angau ai ddioddefaint (yr hyn a ddioddefodd ef trosto ef) ar i ti faddeu a gollwng tros gôf ei holl bechodau: yn gystal y pechod yn yr hwn yr ynnillwyd ac y ganwyd, a'r holl feiau ar troseddau eraill hefyd, ar a wnaeth efe, o'r pryd hynny hyd y dydd a'r awr hon, mewn meddwl, gair a gweithred, yn erbyn dy dduwiol Fawrhydi. tafl hwynt y tu ôl i'th cefn: symmud hwynt cyn belled o'th wydd di, ac yw y dwyrain oddiwrth y gorllewin. Gollwng hwynt dros gof, na ddôd mo hynynt yn ei fauch ef: golch hwynt ymmaith â Gwaed Crist, fel na byddo mwyach hancs am danynt; a gwared efe oddiwrth yr holl farnedigaethau, y rhai ydynt ddyledus iddo am ei bechodau, fel na allont fyth bwyso ar ei gydwybod, na chyfodi yn erbyn ei enaid Ddydd y Farn. a chyfrif iddo ef gyfiawnder Iesu Grist, Megis y byddo yn gyfiawn yn dy olwg di. Ac yn ei gyfyngdra y pryd hyn, ni attolygwn i ti edrych i lawr o'r nefoedd arno ef a'r cyfryw olygiad o râs a thosturi, ac y byddi arfer o edrych ar dy blant yn eu gorthrymder au trueni. Trugarhâ wrth dy was clwysus, megis y Samaritan da: Canys y mae yma enaid clwyfus ac eisiau cynnorthwy y fàth physygwr nefol. O Arglwydd chwanega ei ffydd, fel y byddo 'n credu farw o Grist trosto ef, a bod ei waed ef yn ei lanhau ef oddiwrth ei holl bechodau: ac naill a'i esmwythâ ei boen, a'i chwanega ei ammynedd i oddef dy fendigedig ewyllys. Ac na osod Arglwydd daionus, ddim mwy arno ef, [Page 377] nac a wnelych di iddo allael ei ddwyn: cyfod ef i fynu attat ti, gyd a'r ocheneidiau a'r griddfanau, y rhai ni ellir moi hadrodd. Gwna iddo ef yr awrhon glywed beth yw gobaith ei alwedigaeth, a pha beth yw tra-odidawg fawredd dy drugaredd, a'th allu tu ag at y rhai a gredant ynot ti. Ac yn ei wendid o Arglwydd dangos di dy nerth, ymddiffyn ef rhag oll drwg feddyliau a phrofedigaethau Satan: yr hwn (megis y gwnaeth bob amser oi fywyd) sydd yr awrhon yn enwedig yn ei wendid yn gosod arno, ac yn ceisio ei ddifa ef. Oh achub ei enaid, ac argyoedda Satan, a gorchymmyn i'th Angelion Sanctaidd fod o'i amgylch iw ddiddanu, ac i ymlid ymaith holl ysprydion drygfawr maleusys ymhell oddiwrtho. Gwna iddo ef fwyfwy ffieiddio y bŷd hwn, a dymuno ei ymddattodiad ai fod gyd â Christ. A phan ddelo yr awr dda a'r amser (ym mha vn y rhagluniaist ei alw ef allan or bŷd presennol hwn) dôd iddo râs yn danghneddyfus, ac yn orfoleddus, i roddi i fynu ei enaid i'th ddwylaw trugarog di. Derbyn di ef i'th drugaredd, a gâd i'th Angelion sanctaidd ei ddwyn i'th dragwyddol deyrnas. Gwna ei awr olaf yn awr orau, ei eiriau olaf yn eiriau gorau, ei feddyliau claf yn feddyliau gorau. A phan fyddo llewyrch ei lygaid yn methu, a'i dafod yn pallu yn ei swydd: canniattâ (o Arglwydd) iw enaid allael (gyd â Stephen) ganfod Iesu Grist yn y nefoedd yn barod i'w dderbyn ef: Ac i'th yspryd o'i fewn ef wneuthur erfyn trosto ef ag ocheneidiau anrhaethadwy. Dysc ninnau ynddo ef i weled ein diwedd ein hunain, a'n marwoldeb. Ac am hynny i fod yn ofalus i'n paratoi ein hunain erbyn ein dyddiau diweddaf, a'n gosod ein hunain mewn trefn a pharodrwydd erbyn yr amser y gelwych di am danom yn yr vn agwedd. Fel hyn o Arglwydd yr ydym ni yn gorchymmyn ein anwyl [Page 378] frawd (neu ein chwaer) dy wasanaethydd clwyfus, i'th dragwyddol râd ath drugaredd, yn y weddi a ddyscodd Crist i ni gan ddywedyd.
Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.
Dy Rad, o Arglwydd Iesu, dy serch o nefol Dad, dy gymdeithas a'th ddiddanwch o Yspryd sanctaidd, a fyddo gyd â nyni oll, ac yn enwedig gyd a'th wasanaethydd clwyfus hwn, hyd y diwedd ac yn y diwedd. Amen.
Darllennant yn fynych i'r claf rai pennodau hynodol o'r Scrythyrau sanctaidd: megis,
Y tri phennod cyntaf, ar 14, ar 19, o lyfr Iob.
Y 34 pennod o Deuteronomi.
Y Ddau bennod olaf o Iosuah.
Y 17 pennod o'r cyntaf o'r Brenhinoedd.
Yr 2, 4, ar 12, pennodau, or ail llyfr o'r Brenhinoedd.
Y 38, 40, 65, pennodau o Esay.
Histori dioddefaint Crist.
Yr 8 pennod at y Rhufeiniaid.
Y 15 pennod or llythyr cyntaf at y Corinthiaid.
Y 4 or llythyr cyntaf at y Thessaloniaid.
Y 5 pennod o ail lythyr Paul at y Corinthiaid.
Y pennodau cyntaf ar olaf o St. Iaco.
Yr 11, a'r 12 at yr Hebraeaid.
Llythyr cyntaf Petr.
Y tri phennod cyntaf, neu y tri olaf o'r Dadcuddiad, neu rai o'r rhain.
Ac felly gan athrawiaethu a chynghori y dyn clwyfus i wilied ac i ddisgwyl wrth Dduw trwy ffydd ac ammynedd, nes iddo efe ddanfon am dano; a chan weddio ar yr Arglwydd am roi iddynt gyfarfod [Page 379] llawen yn nhe [...]rnas nefoedd, ac adcyfodiad bendigedig yn y dydd diweddaf: hwy a a [...]lant ymadael pan fynnont yn nhanghneddyf Duw.
Amryw gyssur diddanaidd yn erbyn annioddefgarwch mewn clefyd.
OS yn dy glefyd o herwydd trymder dy boen, y byddi yn annoddefgar, myf ria:
1. Fod dy bechodau yn haeddu poenau vffern, am hynny di a elli trwy fwy ammynedd oddef y cospedigaethau radol hyn.
2. Mai y rhain yw gwialenodiau dy Dad nefol, a bod y wialen yn ei law ef. Os dioddefaist di trwy vfydd-dod gerydd dy rieni daiarol pan oeddit yn blentyn; pa faint mwy y dylit ti yr awr hon dy ddarostw [...]g dy hun (a thithau yn blentyn i Dduw) i gosp dy Dad nefol; gan weled ei fod er tragwyddol ddaioni i ti?
3. Ddarfod i Grist oddef yn ei enaid a'i gorph boenau mwy gofidus drosot ti: am hynny ti a ddylit fod yn fodlonach i ddioddef ei fendigedig ewyllys er mwyn dy ddaioni dy hun. Am hynny medd Petr, Crist a ddioddefodd drosoch chwi gan adel i chwi siampl, fel y canlynech ei ol ef. 1 Petr. 2.21. A gadewch i ni (medd St. Paul) redeg mewn ammynedd yr yrfa o osodwyd on blaen ni, gan edrych ar Iesu pen tywysog, a pherffeithydd ein ffydd ni, yr hwn yn lle y llawenydd a osodwyd o'i flaen a ddioddefodd y groes, &c. Heb. 12.1.2.
4. Nad yw y gofidiau yr ydych chwi yr awrhon yn eu dioddef, ddim ond y cyfryw a gyflawnir yn eich brodyr, y rhai ydynt yn y byd, fel y tystiolaetha Petr: 1 Petr. 5.9. Ie cystuddiau Iob oeddynt o lawer yn fwy gofidus. Nid ocs yr vn or Sainctiau, [Page 380] y rhai ydynt yr awrhon yn yr orphywysfa nefol, na oddefodd gymmaint ac yr ydych chwi yn ei oddef, cyn iddynt fyned yno: Ie llawer o honynt a ddioddefodd yn ewyllyscar, yr holl boenau ar dialeddau, ar a allai Ortrechwyr, neu wyr creulon eu gosod arnynt, fel y gallent fyned ir llawenydd nefol, i'r hwn i'ch gelwir chwi 'r awrhon. Ac y mae i chwi addewid, y bydd i Dduw pob grâs, wedi i chwi oddef ychydig, eich perffeithio chwi, ach cadarnhau a'ch cryfhau ach sefydlu. Ar Duw hwnnw o'i ffyddlondeb, ni âd eich temtio vwch-law yr hyn a alloch, eithr gyd a'r temtasiwn y gwna efe ddiangfa fel y galloch ei ddwyn. 1 Pet. 5.10. 1 Cor. 10.13.
5. Ddarfod i Dduw rag-ddarparu yr amser y caiff dy gystudd di ddiben, yn gystal ar amser e'i cafodd ddechreuad. Namyn dwy flynedd deugain oedd wedi ei ordeinio i'r dŷn clwyfus wrth lynn Bethesda. Ioan. 5.5. Dauddengmhlynedd i'r wraig ar diferlif gwaed: Mat. 9.20. Tri mîs i Moses: Exod. 2.2. dêng nhiwrnod o gystudd i'r Angel o Eglwys Smyrna. Dat. 2.10. Tridiau o bla haint i Ddafydd. 2 Sam. 24.13. Ie y mae rhif dagrau y Duwiol gwedi eu rhoi ar lawr yn llyfr Duw, au maintioli yn gadwedig yn ei gostrel ef. Psa. 56.8. Amser ein blinderau (medd Crist) nid yw ond ychydig: Joan. 16.16. Nid yw digofaint Duw (medd Dafydd. Psal. 30.5.) yn para ond tros amrantyn, ychydig amser medd yr Arglwydd, ac am hynny nid yw yn galw holl amser ein blinder, ond awr o g [...]studd. Dad. 6.11. Ioan. 16. Dafydd sydd yn cyffelybu ein cystudd i gornant, Psal. 110.7. o ran ei chŵyrned: Ac Athanasius i gawod. Cyffelybwch y trueni hwyaf ar a ddioddefo dŷn yn y byd hwn, i dragwyddoldeb y llawenydd nefol, ac nid yw ddim yn e [...] herwydd. Ac fel y mae y [Page 381] golwg ar Fab a enir yn iach ddianaf, yn peri i'r fam anghofio ei llafurus boen o'r blaen: Joan. 16.21. felly y golwg ar Grist yn y nefoedd, yr hwn a aned er dy fwyn di, a wna i ti anghofio yr holl ofidiau angau hyn, fal pe buasent erioed heb fod: Megis Stephan Act. 7. yr hwn cyn gynted ac y gwelodd efe Grist, a anghofiodd ei archollion ei hun, a dychryn y bedd, ac ofn y cerrig: ac yn ddiddanus a orchymynnodd ei enaid i ddwylaw ei Iachawdwr. Anghofia dy boen dy hun, meddwl am friwiau Crist: Bydd ffyddlawn hyd farwolaeth, ac efe a rydd i ti goron bywyd tragwyddol. Dad. 2.10.
6. Ych bod chwi yr awrhon wedi eich galw i'ch ail-holi i yscol Grist, i weled pa faint o ffydd, ammynedd, a duwioldeb a ddyscassoch chwi hyd yn hyn: a pha vn a wnewch chwi mal Iob a'i gallel derbyn peth drwg ar law Dduw, yn gystal ac y darfu i chwi hyd yn hyn dderbyn llawer o ddaioni. Iob. 2.10. Megis gan hynny y gweddiasoch bob amser, bydded dy ewyllys, felly na fydd yn awr yn anfodlon o herwydd yr hyn y mae ei ewyllys bendigedig yn ei wneuthur.
7. Fod pob peth yn cyd-weithio er daioni i'r rhai a garant Dduw; yn gymmaint nad oes nac angau, nac einioes, nac Angelion, na thywysogaethan na galluoedd, &c. A eill ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd Yn Ghrist Iesu ein Harglwydd. Rhuf. 8.28.38.39. Byddwch chwi ddiogel fod pob gwaiwloes yn achub rhag poenau vffern; a phob yspaid esmwyth yn argoel o'r orphywysfa nefol: a pha gynniser o ssynnodiau dybygech chwi a dâl y nefoedd? fel yr oedd eich bywyd yn ddiddanwch i eraill: felly rhowch i'ch cyfeillion siampl gristianogawl i farw, a siommwch y cythraul fel y gwnaeth Iob. Nid yw ond croes Crist wedi ei danfon o'r blaen i groeshoelio cariad y bŷd ynot [Page 383] ti: Megis y gellych di fyned yn dragwyddol i fyw gyd â Christ, yr hwn a groeshoeliwyd trosot ti. Fel yr wyd ti gan hynny yn wir Gristion cymmer i fynn (mal Simon o Cirene) a'th ddwy law ei groes sanctaidd ef, dŵg hi ar ei ol ef, iddo ef; dy boenau ar fyrr a ant heibio, dy lawenydd byth ni dderfydd.
Cyssurau yn erbyn ofn marwolaeth.
OS byddi di yn dy glefyd yn dy glywed dy hun yn ofnus gennyt farw; myfyria:
1. Fod hynny yn arwyddoccau meddwl llwfr aruthr, ofni y peth nid ydyw. O blegit yn Eglwys Dduw nid oes vn farwolaeth, Esay 25.7, 8. A phwy bynnac sydd yn fyw, ac yn credu yn Ghrist ni fydd marw byth. Ioan. 11.26. Gadewch i'r rhai a fyddo byw heb Grist ofni marwolaeth. Nid yw Cristianogion yn marw, ond pan ryngont fodd Duw, maent hwy (fel Enoch) yn cael eu cymmeryd at Dduw, Gen. 5.24. Nid yw eu poenau ond cerbydau tanllyd Elias, iw dwyn ir nefoedd: 1 Bren. 2.11. neu megis cornwydydd Lazarus, i'w danfon i fynwes Abraham Luc. 16.23. I fod yn fyrr, os wyt ti vn or rheini sydd mal Lazarus yn caru Crist, nid yw dy glefyd hyd farwolaeth, ond er gogoniant i Dduw: yr hwn o'i gariad a gyfnewid dy farwolaeth fywiol i fywyd tragwyddol. Ac os darfu i lawer o'r gwyr cenedlig sef, Socrates, Curtius, Seneca, &c. Farw yn ewyllyscar (pryd y galiasent fyw) mewn gobaith o anfarwoldeb yr enaid; a fyddi di wedi cael dy ddygiad i fynu cyhyd yn yscol Grist, (ac yr awrhon wedi dy alw i wledd briodas y bendigedig Oen, Dade. 19.7.) yn vn o'r gwahoddedigion [Page 384] hynny a naccânt ddyfod ir wledd orfoleddus honno? Na atto Duw.
2. Cofia nad yw dy drigfa di yma, ond ail râdd o'th fywyd: o blegit wedi i ti fyw yn gyntaf nawmis ynghroth dy fam, yr oedd yn anghenrhaid dy yrru oddiyno i fyw yma mewn ail-radd ar fywyd. A phan ddarfyddo y rhif or misoedd a osododd Duw i ti i fyw yn y bywyd hwn, y mae 'n rhaid i ti vn ffunyd adel hwn, a myned i'r trydydd radd yn y byd arall, yr hwn ni ddiwedda byth. Yr hwn, i'r rhai sydd yn byw ac yn marw yn yr Arglwydd, sydd yn rhagori cyn belled ar y fath fyd a hwn, ac y mae hwn yn rhagori ar fywyd vn a fâi yn byw ynghroth ei fam. I'r bywyd olaf ar godidoccaf hwn, trwy y drws hwn yt acth Crist ei hun, a'r holl Sainctiau a fuont o'th flaen di; ac felly yr aiff y cwbl o'r lleill ar eu hôl hwynt a thithau. Pa ham y dylit ti ofni y peth sydd gyffredin i holl etholedigion Duw? Pa ham y bydd hynny mor anfodlon gennit ti, yr hyn a gafodd groesaw ganddynt hwy oll? Nac ofna farwolaeth, canys fel y mae hi yn Exodus o'r byd drwg, felly y mae hi yn Genesis o vn gwoll: diwedd yr amserol, ond dechreuad bywyd tragwyddol.
3. Ystyria nad oes ond tri pheth a eill beri marwolaeth mor ofnadwy i ti: yn gyntaf, y golled sydd i ti o'i phlegit: yn ail y boen sydd ynddi: yn drydydd, y digwyddiadau echrysson sydd yn canlyn ar ei hol. Nid yw y rhai hyn eu gyd, ond megis gw [...]eichion o dân ellyll, ac osn diachos. Canys am y cyntaf, os wyt ti yn gadel yma dda darfodedig, y rhai a eill lladron eu lledratta, di gai yn y nefoedd wir drysawr, yr hwn ni ellir byth moi ddwyn oddiarnat. Math. 6.9.10. Nid oedd y rhai hyn ond benthyg i ti, megis i oruchwiliwr dan gyfrif: Y rhai hynny a roddir yn wobr tragwyddol i ti. [Page 385] Os wyt ti yn gadel gwraig gdriadus, di gai dy briodi â Christ, yr hwn sydd gariadusach. Os wyt ti yn gadel plant a chyfeillion, di gai weled yno dy holl henafiaid duwiol, ar plant a ymadawsant: Ie Crist a'i holl Sainctiau a'i Angelion. a chynifer o'th plant ti ac ydynt blant i Dduw, a ddaw yno ar dy ol di. yr ydwyt ti yn gadel meddiant daiarol, a Thŷ o glai: a thi a gai feddu etifeddiaith nefol, ac eisteddle gogoniant, yr hon a brynwyd, a baratowyd, ac a gadwyd i ti. Ioan. 14.1. 2 Cor. 5.1. A pha golled sydd itti? Na, onid yw marwolaeth yn elw i ti? Dos adref, dos adref, a nyni a ganllynwn ar dy ol di.
Yn ail, am y boen ym marwolaeth: y mae ofn marwolaeth yn poeni llawer, yn fwy na gloes angau: Canys y mae llawer Cristion yn marw heb nemawr o gloes na phoen. Planna Angor dy obaith ar y sail gadarn o Air Duw, yr hwn a addawodd berffeithio ei nerth yn dy wendid di, ac ni chynnwys dy demtio di vwchlaw yn hyn a ellych ei ddwyn. 2 Cor. 12.9. 1 Cor. 10.13.
Yn olaf, am y digwyddiadau echryslon yr rhai a ganlynant ar ôl marwolaeth, nid ydynt yn perthynu i ti yr hwn wyt aelod o Grist: Canys fe ddarfu i Grist trwy ei farwolaeth, dynnu ymmaith golyn Angau i'r ffyddlonniaid. Fel nad oes yr awrhon ddim damnedigaeth ir rhai sydd yn Ghrist Iesu. Rhuf. 8.1. Ac y mae Crist wedi rhag-dystiolaethu, fod yr hwn a gredo ynddo ef i gael bywyd tragwyddol, ac nad eiff i ddamnedigaeth, eithr ei fyned ef trwodd o farwolaeth i fywyd. Ioan. 5.24. Ir perwyl hyn, y mae yr yspryd glân o'r nefoedd yn dywedyd, Bendigedig yw r meirw yrhai sydd yn marw yn yr Arglwydd: Au bod o hynny allan yn gorphywyso oddiwrth eu blinderau; a'u gweithredoedd a'u canlynant. Gan hynny er mwyn y ffyddlonniaid y [Page 386] llngcwyd angau mewn buddugoliaeth, a'i golyn, yr hwn yw pechod, a'r cyflog am dano a dynnodd Crist ymmaith yn ollawl. 1 Cor. 15. Oddi yma y gelwir marwolaeth o herwydd ein cyrph ni, yn hun-gwsc, ac yn orphywysfa: Esay, 26. Dad. 14. O herwydd ein eneidiau, ymadawiad mewn heddwch, a myned at ein Tâd nefol: symuaiad oddiwrth y corph hwn, i fyned at yr Arglwydd: ymddattodiad yr enaid a'r corph i fod gyd a Christ. 2 Cor. 5. Beth a ddwedai? gwerthfawr yngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei Seinctiau ef. Nid yw y poenau hyn iti ond llafur a gwewyr i escor ar fywyd tragwyddol. A phwy nid a'i trwy vffern i baradwys chwaithach trwy farwolaeth? Nid oes dim fydd raid i ti ei ofni yn ôl marwolaeth: nid rhaid i ti ofni mo'th bechodau, oblegit i Grist dalu dy bridwerth; na'r Barnwr, oblegit efe yw dy Frawd cariadol: na 'r bêdd, o blegit gwely yr Arglwydd yw: Nac vffern, oblegit dy Iachawdwr sydd yn cadw yr agoriadau: nar cythraul, o blegit mae Angelion sanctaidd Duw yn gwersyllu o'th amgylch, ac nid ymadawant â thydi nes dy ddwyn i'r nefoedd. Ni buost erioed negossach i fywyd tragwyddol; gan hynny gogonedda Grist drwy farwolaeth fendigedig. Dywaid yn gyssur-lawn, tyred Arglwydd Iesu, Canys y mae dy wâs yn dyfod attat: yr wyf yn ewyllyscar, Arglwydd Cynnorthwya fyngwendid.
Saith o feddyliau sancteiddiol, ac ocheneidiau galarus vn claf lêsc yn barod i farw.
YR awrhon yn gymmaint a bod Duw o'i anfeidrol drugaredd felly yn tymeru ein poen a'n clefyd, fel nad ydym ni orthrymmedig bob amser gan eitha gofid; eithr weithiau ynghanol ein trymgur [Page 387] a'n cystudd y mae yn cennadu i ni beth esmwythder a llonyddwch, i'n cyssuro a'n dadebru ein hunain: y mae 'n rhaid i ti gymmeryd prif ofal (gan ystyried mor fyrr yw 'r amser sydd i ti, naill a'i i ynnill, a'i i golli y nefoedd yn dragwyddol) i wneuthur y gorau o bob amser a roddo Duw i ti i gymeryd anadl: a thra fo yr ychydig amser o esmwythder, i gasclu nerth yn erbyn gofidiau mwy. Gan hynny yn y prydiau hyn o esmwythâad, arfer o rai or meddyliau ar ocheneidiau byrrion sydd yn canlyn.
Y meddwl Cyntaf.
GAn weled fod pob dŷn yn dyfod i'r byd hwn mewn dagrau, yn myned trwyddo mewn chwys, ac yn ei derfynu mewn galar; Oh pa beth sydd ynddo, i beri i ddyn ddymuno byw yn hwy ynddo: Oh pa ynfydrwydd yw, lle mae y Mordwywr yn rhwyfo a'i holl nerth i fyned i'r hafn dymunol, ac lle mae 'r ymdeithydd byth heb orphywys nes myned i ben ei daith; ein bod ni yn ofni cael golwg ar y [...] hafn, ac am hynny yn chwennych bwrw ein llestr yn ol, i gael ei churo gan dymestloedd beunyddiol? Yr ydym ni yn wylo wrth weled pen ein taith, ac am hynny yn dymuno ein siwrnai yn hwy, fel y gallem ni fod yn flinach wrth ymdeithio rhyd coeglwybr rhwystrus.
Yr ysprydol Ochenaid ar hynny.
O Arglwydd nid yw y bywyd hwn ond pererindod trafferthus, o ychydig ddyddiau, a llawn drygioni, Gen. 47.9. Ac yr wyf wedi blino arno o herwydd fy mhechodau. Gâd i mi gan hynny (O Arglwydd) ddeisyfu ar dy Fawrhydi yn fynghlaf wely hwn, fel y gwnaeth Elias dan y fêrywen yn ei gystudd: digon yw O Arglwydd ddarfod i mi fyw cyhyd a hyn, yn y dyffryn hwn o drueni: Cymmer fy enaid i'th law drugarog, canys nid wyf well na'm Tadau. 1 Bre. 19.4.
Yr ail Feddwl.
MEddwl â pha ryw fath gorph o bechod i'th lwythwyd, Rhu. 7.24. pa fath ryfel cartrefol a gynnwysir yn y byd bychan; y cnawd yn gwthryfela yn erbyn yr yspryd: anwydau yn erbyn rheswm: daiar yn erbyn y nefoedd, ar fath fyd o'th fewn am y byd o'th amgylch, Iac. 4.1. Gal. 5.17. ac heb fod ond vn modd yn vnig i ddibennu yr ymryson hwn, sef marwolaeth; yr hon (yn yr amser a bennododd Duw) a neilldua dy yspryd oddiwrth dy gnawd, yr rhan bur adgenedledig o'th enaid, oddiwrth y rhan sydd amhur a di-adgenedledig.
Yr Ochenaid ysprydol ar yr ail Feddwl.
YS truan o ddyn wyf fi: pwy am gwared i oddiwrth gorph y farwolaeth hon? O fy anwyl Iachawdwr Iesu Grist, ti am prynaist i a'th werthfawr waed: Ac o blegit i ti achub fy enaid rhag pechod; fy llygaid rhag dagran, am traed rhag llithro; yr ydwyf yma o eigion fynghalon, yn rhoddi yr holl fawl a gogoniant o'm iechydwriaeth i'th vnig râs a'th drugaredd, gan ddywedyd (gyd a'r Apostol Sanctaidd) i Dduw i bo 'r diolch yr hwn a roddodd i mi fuddugoliaeth trwy Iesu Grist ein Arglwydd. Rhu. 7.14. 1 Petr. 2. Dad. 5.9. Psal. 116.8. 1 Cor. 15.57. Psal. 145.9.
Y Trydydd meddwl.
MEddwl mor rheidiol i ti fod yn ddiogel, mai eiddaw Crist yw dy enaid: Canys y mae angau wedi cymeryd gwystlon digonol i'w siccrâu ei hunan o'th corph di, gan weled fod dy holl synhwyrau yn dechrau marw yn barod, oddieithr yn vnig yfynwyr i glywed poen: eithr gan fod dychreuad dy sylweddiad wedi dechrau mewn poen, rhyfedda lai os dy ddiben a derfyna mewn griddfanau. Ond os yw y cystuddiau amserol hyn (yr rhai ydynt yn vnig yn dolurio dy gorph) mor boenus: O Arglwydd, pwy a ddichon oddef tân yssol? pwy a eill bresswylio yn y lloscfeydd tragwyddol. Esay. 33.14.
Yr Ochenaid ysprydol ar y trydydd Meddwl.
O Arglwydd Iesu Grist Mâb y Duw byw, yr hwn wyt yr vnig physygwr a ddichon esmwythâu y dolur ar fynghorph, ac adferu fy enaid i fywyd tragwyddol: gosod dy ddioddefaint, dy Groes, a'th Angau, rhwng fy enaid a'th Farnedigaethau d [...] a gâd i haeddedigaethau dy vfydd-dod sefyll rhwng cyfiawnder dy Dâd am anufydd-dod innau; ac oddiwrth y poenau corphorol hyn, derbyn fy enaid i'th dragwyddol danghneddyf: Canys yr wyf yn llefain arnat gyd â Stephen, Arglwydd Iesu derbyn fy yspryd. Act. 7.59.
Y pedwerydd Meddwl.
MEddwl nad yw yr hyn gwaethaf a eill marwolaeth ei wneuthur, ond anfon dy enaid yn gynt nac y mynnai dy gnawd, at Grist a'i lawenydd nefol: cofia mai 'r hyn gwaethaf hwnw yw dy obaith gorau. Y gwaethaf gan hynny o farwolaeth, sydd yn gynnorthwy yn hytrach nag yn niweid.
Yr Ochenaid ysprydol ar y pedwerydd Meddwl.
O Arglwydd Iesu Crist, Iachawdwr pawb oll ar â ymddiriedant ynot ti: na thro heibio mor hwn sydd yn rhedeg yn ei drueni, at dy Râs, am ymwared a thrugaredd. O datcan y lleferydd melys ynglustiau fy enaid, yr hyn a adroddaist wrth y lleidr edifeiriol ar y groes: sef, y dydd hwn y byddi gyd â [Page 391] myfi ymmharadwys. Canys yr wyfi (gyd a'r Apostol) om henaid yn dywedyd wrthit ti, yr wyf yn deisyf fy ymddattodiad, a bod gyd â Christ. Luc. 23. 43. Phil. 1.23.
Y pummed Meddwl.
MEddwl (os wyt ti yn ofni marw) nad oes ym mynudd Ston vn farwolaeth: Canys yr hwn sydd yn credu yn Ghrist ni fydd marw byth, Ioan. 11.25. Ac os wyt ti yn dymuno byw, yn ddiammau y mae y bywyd tragwyddol (i'r hwn y mae y farwolaeth hon yn dy ddwyn) yn orau o'r cwbl. Yno y mae yr holl ffyddloniaid a ymadawsant (gwedi gwneuthur diben ar eu trueni) yn byw gyd â Christ mewn hyfrydwch: ac yno yr holl rai duwiol ydynt yn fyw a gant eu casclu allan o'u blinderau, i feddiannu yr orphywysfa dragwyddol gyd a'g ef.
Yr Ochenaid ysprydol ar y pummed Meddwl.
O Arglwydd, ti weli lid a malis Satan, yr hwn nid yw ddigon ganddo megis llew rhuadwy rodio oddiamgylch i geisio ein difa holl ddyddiau a nosweithiau ein bywyd, eithr y mae ef yn ei ddangos ei hun bryssuraf, pan fo dy blant ti yn wannaf, ac yn tynnu yn nessaf i'w diben. O Arglwydd cerydda ef, ac ymddiffyn fy enaid. Y mae ef yn ceisio fy nychrynu i â marwolaeth, yr hon y mae fy mhechodau yn ei gwbl haeddu. Ond gâd ti i'th Yspryd glân ddiddanu fy enaid â diogelrwydd o fywyd tragwyddol, yr hwn a brynodd dy werthfawr waed. Esmwytha ar fy mhoen, chwanega fy ammynedd, [Page 392] ac (os dy fendigedig ewyllys yw) dibenna fy mlinderau: Canys y mae fy enaid yn deisyfu arnat gyd a'r hen Simeon fendigedig: yr awrhon Arglwydd gollwng fi dy wâs i ymadel mewn tanghneddyf yn ôl dy air. Luc. 2.29.
Y chweched Meddwl.
MEddylia wrthyt dy hun, pa fath fendith a roddodd Duw i ti vwchlaw llawer miloedd o'r bŷd, lle y maent hwy naill ai yn baganiaid, yr rhai nid ydynt yn addoli 'r gwir Dduw, neu yn ddelw-addolwyr y rhai ydynt yn gau-addoli y gwir Dduw: Ty di a fuost fyw mewn Eglwys wir Gristianogawl, ac a gefaist râd i farw yngwir ffydd Grist, ac i gael dy gladdu ym medd gweision Duw, y rhai oll a wiliant am obaith Israel, cyfodiad eu cnawd yn Adcyfodiad y cyfiawn. Act. 26.6, 7. Luc. 14.14.
Yr ochenaid ysprydol ar y chweched Meddwl.
O Arglwydd Iesu Grist, yr hwn wyt yr adcyfodiad a'r bywyd, yn yr hwn pwy bynnac a gredo a fydd byw, er iddo farw; yr wyf fi yn credu pwy bynnac sydd fyw, ac yn credu ynot ti, na fydd ef byth farw. My fi a wn y caf gyfodi yn adcyfodiad y dydd olaf: o ran yr wyf yn ddiogel dy fod di fy Mhrynwr yn fyw: ac er i bryfed yn ôl marwolaeth ddifa y corph hwn, etto mi a gaf dy weled ti fy Arglwydd, am Duw yn y cnawd hwn. Canniadhâ gan hynny o Grist, er mwyn dy chwerw angau a'th ddioddefaint, i mi fod y dydd hwnnw yn vn o'r rheini, wrth ba rai yr adroddi di y farn hyfryd honno; [Page 393] sef: Deuwch chwi fendigedig blant fy nhad, meddiennwch y deyrnas a baratôwyd i chwi cyn seiliad y byd. Mat. 25.34. Joan. 11.25, 26. Job. 29.25, 26.
Y Seithfed Meddwl.
MEddylia wrthit dy hun, fel y dioddefodd Crist drosot ti farwolaeth felldigedig, a digofaint Duw, yr hyn oedd ddyledus i'th bechodau di: Gal. 3.13. a pha fath boen ofnadwy, a dialeddau creulon a ddioddefodd yr Apostolion, a'r Merthyron yn ewyllysgar er mwyn ymddiffyn ffydd Grist, pryd y gallasent gael byw pe buasent yn rhagrithio neu yn ei wadu ef: pa faint mwy ewyllyscar y dylit ti fod i ymadel yn ssydd Grist, gan fod i ti lai o boenau i'th pennydio, a mwy o foddion i'th ddiddanu?
Yr ochenaid ysprydol ar y seithfed Meddwl.
O Arglwydd y mae fy mhechodau yn haeddu poenau vssern, a marwolaeth dragwyddol; chwaithach y cospedigaethau tadol hyn, a'r rhai i'm cystuddi: Eithr o fendigedig Oen Duw yr hwn wyt yn tynnu ymmaith bechodau y byd, trugarha wrthif, a golch ymmaith fy holl anwiredd, ath werthfawroccaf waed, a derbyn fy ennid i'th teyrnas nefol: canys i'th law di (o Dad) yr wyf yn gorchymmyn fy yspryd, a thydi am prynaist i, o Arglwydd, tydi Dduw y gwirionedd. Joan. 1.29. Datc. 5.1. Psal. 31.5.
Yr awrhon fe ddylai y clwyfus ddanfon am ryw Fugail duwiol dyscedig.
ER dim ar a fo cofia (os bydd i ti fodd yn y byd) ddanfon am ryw Fugail duwiol bucheddol, yn gystal i weddio drosot ti yn dy farwolaeth, (canys Duw yn y cyfryw achos a addawodd wrando gweddiau y prophwydi cyfiawn, ac Henuriaid yr Eglwys, Gen. 20.7. Ier. 18.20. Jag. 5.14, 15, 16.) ac hefyd ar dy gyffes a'th edifeirwch difrifol, i'th rhyddhau di oddiwrth dy bechodau. Canys fel y rhoddes Crist iddo ef alwedigaeth i'th fedyddio di i edifeirwch, er mwyn maddeuant pechodau: Mar. 1.4. Act. 19.4. Felly y rhoes ef hefyd iddo alwedigaeth a gallu ac awdurdod ar dy edifeirwch i'th rhyddhau di oddiwrth dy bechodau. 1 Cor. 5.4. 2 Cor. 10.8. mi a rof i ti agoriadau Teyrnas nefoedd, a pha beth bynnac a rwymech di ar y ddaiar, a fydd yn rhwym yn y nefoedd: a pha beth bynnac a ryddaech di ar y ddaiar, a ryddheuir yn y nefoedd. A thachefn, yn wir meddaf i chwi, y peth a rwymoch ar y ddaiar a rwymir yn y nefoedd, a pha beth bynnac a ryddhaoch ar y ddaiar a ryddheuir yn y nefoedd. Mat. 16.19. ac 18.18. A trachefn, derbynniwch yr Yspryd glân, pechodau pwy bynnac a ollyngoch a ollyngir, a phechodau pwy bynnac a attalioch a attelir. Ioan. 20.21.23. Yr oedd yr athrawiaeth hon cyn hyned yn Eglwys Dduw, ac oedd Job, canys y mae Elihu yn dywedyd iddo, pan fyddo Duw yn taro dyn â dolur ar ei wely, fel y byddo ei enaid yn neshau i'r bëdd, a'i fywyd ir dinistrwyr: os bydd gyd a'g ef gennad o ladmerydd, vn o fil i ddangos i ddyn ei vniondeb: yna efe a drugarhâ wrtho, &c. Job. 33.23.24. Ac yn cydatteb i hyn medd St. Jaco, Os [Page 395] gwnaeth y claf bechodau (ar ei edifeirwch a gweddi yr Henuriaid) hwy a faddeuir iddo. Jag. 5.15. Y mae i'r rhain awdurdod i gan y nefoedd, ac i draddodi (y pechadur aflan di-edifeiriol) i Satan. Datc. 11.6. 1 Cor. 5.5. Canys nid yw arfau eu milwriaeth hwynt yn gnawdol, eithr galluog trwy Dduw, i daflu i lawr, &c. Ac i fod a dial mewn parodrwydd yn erbyn anvfydd-dod. 2 Cor. 4.6. Y mae iddynt yr agoriad i ryddhau, am hynny y gallu i roddi gollyngdod.
Nid yw yr Escobion, a Bugeiliaid yr Eglwys yn maddeu pechod trwy vnrhyw gyflawn awdurdod o honynt eu hunain, (canys felly yn vnig y mae eu Meïstr Crist yn maddau pechodau) eithr yn weinidogawl, megis gweision i Grist a'i oruchwiliwyr, o herwydd ddarfod iw Harglwydd a'i Meistr roddi ei agoriadau yn eu hymddiried ffyddlawn hwynt; a hynny yw, pan fyddont yn mynegi neu yn adrodd, naill a'i yn gyhoeddus, a'i 'n ddirgel trwy air Duw y peth a rwymo, neu y peth a ryddhâo; a thrugareddau Duw i bechaduriaid edifeiriol, neu ei Farn i bechaduriaid styfnig di-edifeiriol: ac felly yn cymhwyso yr addewidion cyffredinol, neu fygythiau, i'r edifeiriol, neu i'r di-edifeiriol. Canys y mae Crist o'r nefoedd trwyddynt hwy (megis trwy ei weinidogion daiarol) yn adrodd pwy y mae ef yn ei ryddhau a'i rwymo, ac i bwy i'r egyr ef byrth y nefoedd, ac yn erbyn pa rai y caua efe hwynt. Ac am hynny nid ydis yn dywedyd, pechodau pa rai bynnac a arwyddoccâoch chwi eu bod yn cael eu rhyddhâu, eithr pechodau yr hwn y ryddhaoch chwi. Y maent hwy gan hynny yn rhyddhau pechodau, oblegit bod Crist trwy eu gweinidogaeth hwynt yn rhyddhau pechodau, megis y darfu i Grist trwy ei ddisgyblion ollwng Lazarus yn rhydd, Ioan. 11.44. Ac fel na allai vn dwfr arall olchi ymmaith wahanglwyf Naaman, [Page 396] ond dwfr yr Iorddonen, (er bod afonydd eraill mor loiwon) oblegit bod yr addewid wedi ei gysylltu at ddwfr yr Iorddonen, ac nid at afonydd eraill; felly er gallael o ddŷn arall adrodd yr vn geiriau, etto nid oes iddynt mor cyffelib nerth i weithio yn y gydwybod, megis y mae pan fyddont wedi eu hadrodd o enau Gweinidogion Duw: oblegit bod yr addewid gwedi ei gysylltu at air Duw yn eu genau hwynt: Joan 20.22, 23. Canys hwynt hwy a etholodd efe, a alwodd, ac a neillduodd efe i'r gorchwyl hwn, ac iddynt hwy y gorchymynnodd efe weinidogaeth y Cymmod. Trwy eu sanctaidd alwedigaeth, a'u hordeiniad hwy a dderbynniasant yr Yspryd glân, a'r gallu gweinidogawl o rwymo a rhyddhau. Hwynt hwy a ddanfonwyd allan gan yr Yspryd glân, i'r gorchwyl hwn, i'r hwn y galwyd hwynt. Act. 1.24. Rhu. 1.1. 2 Cor. 5.18. Act. 13.2.24. Tit. 1.5.
Ac y mae Crist yn rhoi gallu iw weinidogion i faddeu pechodau i'r edifeiriol, yn yr vnrhyw eiriau ac y mae efe yn dyscu i ni yngweddi yr Arglwydd ddymuno ar Dduw faddeu i ni ein pechodau: i siccrhau holl bechaduriaid ediferiol, fod Duw wrth ryddhâd ei weinidogion, trwy haeddedigaethau Crist yn cyflawn faddeu iddynt eu holl bechodau. Felly pa beth bynnac y mae Crist yn ei osod ar lawr yn y nef, in foro iudicij, yn llŷs y farn, yr vn peth y mae ef yn ei adrodd ar y ddaiar, trwy weinidogion ei gymmod in foro paenitentiae, yn llŷs edifeirwch. megis y cymododd Duw y byd ag ef ei hun trwy Iesu Grist, felly y darfu iddo ef (medd yr Apostol) roddi i ni wenidogaeth y cymmod hwn. 2 Cor. 5.18.
Yr hwn a'i danfonodd hwynt i fedyddio gan ddywedyd: ewch a dyscwch yr holl cenedloedd, gan eu bydyddio hwynt, &c. A'i danfonodd hwynt hefyd [Page 397] i ryddhau pechodau, gan ddywedyd, fel y danfonodd fy nhâd fi, felly yr wyf finneu yn eich danfon chwithau: pechodau pwy bynnag a ryddhaoch a ryddheuir iddynt. Ioan. 20.22.23. Megis gan hynny na ddichon neb fedyddio (er iddo arfer yr vn dwfr a'r geiriau) ond yn vnig y gweinidog cyfreithlawn, yr hwn a alwodd Crist ir swydd ddwywawl hon, ac y rhoddes iddo awdurdod ynddi: Heb. 5.4. Felly er gallu o eraill gyssuro â geiriau da, etto ni eill yr vn ryddhau oddiwrth bechod, ond yn vnig yr rhai y gorchymynnodd Crist y Weinidógaeth sanctaidd, a'i air o gymmod iddynt. 2 Cor. 2.10. ac 5.18. Ac am ei Absolusion hwynt, y mae Crist yn dywedyd, yr hwn ach gwrandawo chwi am gwrendy innau: Luc. 10.16. Mewn achos amheus di a ofynni gyngor i gyfreithiwr doeth: ymherygl clefyd di a ofynni gyfarwyddyd dy physygwr dyscedig: ac onid oes dim perygl mewn ofn damnedigaeth, i bechadur fod yn farnwr iddo ei hun?
Caluin ddyscedig sydd yn dangos y pwynt hwn yn dra-eglur: Etsi omnes mutuo nos debeamus consolari, &c. Medd ef, er bod yn ddyledus ini gyssuro a nerthu y naill y llall yn hyder trugaredd Dduw, etto yr ydym ni yn gweled fod y gweinidogion gwedi eu gorchymmyn ai hordeinio megis yn dystion, ac yn feichiau i sicrhau ein cydwybodau o faddeuant pechodau: yn gymmaint ac y dywedir eu bod hwy yn rhyddhau pechodau, ac yn gollwng eneidiau yn rhyddion. Cofied pob dŷn ffyddlawn gan hynny, y dylai efe (os bydd efe oddifewn wedi ei orthrymmu a'i gystuddio gan bwys ei bechod) nad esgluso y cymmorth a'r ymwared y mae 'r Arglwydd yn ei gynnyg iddo ef, sef yw hynny wneuthur o honaw (er mwyn esmwythâu ei gydwybod) gyffes neillduol o'i bechodau wrth ei Fugail a deisyfu ei neillduol gynnorthwy ef, yn gyssur a diddanwch iw enaid: swydd yr hwn [Page 398] yw (yn gyhoeddus ac yn neillduol) weinidogaethu diddanwch Efengylaidd i bobl Dduw.
Y mae Beza yn mawr ganmol yr arfer hon, A Luther yn dywedyd, mai gwell oedd ganddo ef golli miloedd o fydoedd, na chynnwys taf [...]u cyffes neillduol allan or Eglwys. Yr oedd ein Eglwys ni erioed yn llwyr ymddiffyn y gwirionedd o'r athrawiaeth hon; ond yn dra-chyfion a ddiddymmodd yr Anghristnogawl gamarfer o'r babeidd glustgyffes, yr hon y maent hwy yn ei gymmell ar eneidiau Cristianogion, megis aberth dyhuddol, a thâl haeddedigol am bechod: gan wascu eu cydwybodau i gyffessu, pryd y byddont heb deimlad o gledi, ac i rifo eu holl bechodau, yr hyn sydd amhossibl; megis y gallont hwy yn y modd hyn wybod dirgelion pawb, yr hyn yn fynych sydd yn digwydd ei fod yn beryglus, nid yn vnig i'r gwerin, eithr i awdurdodau cyffredinol hefyd. Eithr gwirionedd gair Duw yw, na ddichon vn dŷn a gafas vrddau yn Eglwys Rufain rhyddhau pechadur yn vnion: O blegit agoriadau rhyddhâd neu absolution ydynt ddau: vn ydyw agoriad yr Awdurdod, a hwnnw yn vnig sydd eiddaw Crist; Datc. 3.7. Marc. 2.7. Luc. 5.21. Y llall ydyw agoriad y weinidogaeth, a hwn y mae ef yn ei roddi iw weinidogion ei hun, y rhai am hynny a elwir yn weinidogion Crist: Goruchwilwyr Dirgeledigaethau Duw: cennadau y Cymmod, Escobion, Bugeiliaid, Henuriaid, &c. Mat. 16.19. 1 Cor. 4.1. 2 Cor. 5.20. 1 Cor. 12.10. 1 Ioan. 4.1. Ier. 25.19. Ioan. 20. Mat. 27.4. Eithr nid ordeiniodd Duw erioed yn y Testament newydd, un offeiriadaeth i aberthu, ac nid yw yr enw Hiereus yr hyn yn briodol a arwyddocca Sacerdos sef offeiriad i aberthu, wedi ei roi ar vn swyddog i Grist yn yr holl Destament Newydd. Ac nid ydym ni yn darllain am yr vn a gyffessodd [Page 399] wrth offeiriad yn yr holl Destament Newydd, ond vn, a hwnnw oedd Iudas. Ac nid oes yr vn gwir offeiriad yn y Testament Newydd, ond Crist yn vnig. Ac nid oes vn rhan oi offeiriadaeth ef iw chwplau ar y ddaiar, ond yr hyn y mae ef yn ei gyflawni yn y nefoedd, trwy wneuthur cyfryngdod trosom ni. Heb. 7.15, 24, 27. Heb. 8.4. Wrth weled gan hynny nad ordeiniodd Crist vn drefn ar offeiriadau i aberthu: a bod yr offeiriadau pabaidd yn goeg ganddynt gael eu galw yn weinidogion yr Efengyl, i'r rhai yn vnig y gorchymynnodd Crist ei agoriadau, y mae yn digwydd yn angenrheidiol na eill vn offeiriad pabaidd nac escymuno na rhyddhau vn pechadur yn vnion, ac nad oes iddynt ddim cyfiawnder cyfreithlawn i ymmyrryd ag agoriadau Crist. Eithr nid y camarfer Anghristnogawl o'r ordeinhad oruchel hon, a ddylai fwrw i lawr yr arfer gyfreithlawn o honi rhwng Cristianogion a'u Bugeiliaid mewn cyflyrau o gystudd cydwybod, o herwydd yr hyn yr ordeiniwyd hi yn bennaf.
Ac mewn gwirionedd nid oes vnrhyw foddion mor odiaethol i ostwng calon falch neu i adcyfodi yspryd gostyngedig, ac ydyw yr ymddiddan ysprydol hwn rhwng y Bugeiliaid a'r bobl osodedig tan eu dwylaw hwynt. Os oes gan hynny vn pechod yn pwyso ar dy gydwybod, cyfaddef ef wrth weinidog Duw: gofyn ei gyngor ef, ac os gwir edifarhei, derbyn ei rhyddhâd ef. Ac yno nac ammau in foro conscientiae, sef yn llŷs dy gydwybod, na bydd dy bechodau wedi eu maddau yn ollawl ar y ddaiar, cystal a phe bait ti yn clywed Crist ei hun in foro iudicij, sef yn llŷs y farn yn adrodd maddeuant am danynt yn y nefoedd. Qui vos audit, me audit; yr hwn ach gwrandawo chwi, am gwrendy i. Luc. 10.16. Prawf hyn, a dywaid i mi oni chei di fwy [Page 400] o esmwythder yn dy gydwybod, nac a ellir ei adrodd mewn geiriau. Pe bai ddynion halogedig yn ystyried Teilyngdod y galwedigaeth tra-vchel hwn, hwy a barchent y galwedigaeth yn fwy, ac a anrhydeddent y gwyr sydd ynddaw.
Fe wnai 'r clwyfus yn dda (wedi esmwythhau ei gydwybod, a derbyn ei ryddhâd a chael rhif addas o Gristianogion ffyddlawn i vno ag ef) dderbyn y Sâcrament sanctaidd o Swpper yr Arglwydd, iw gyssuro ef yn ei ffydd, ac i ddigalonni y cythraul yn ei ymgyrchau. O herwydd hyn y mae y gymanfa O Nîce yn galw y Sacrament hwn viaticum, sef llyniaeth yr enaid iw daith. Ac er bod Swpper yr Arglwydd yn orchwyl eglwysig, etto yn gymmaint a darfod i'r Arglwydd (yr ordeinwr cyntaf) ei gyssegru mewn tŷ neillduol, Math. 16.18. a bod St Paul yn galw tâi Cristianogion yn Eglwysi i Grist: a bod Crist ei hun wedi addo fod ynghanol y ffyddlonniaid, lle byddo dau neu driwedi ymgynnull yn ei enw ef. Rhuf. 16.5. Philem. 2. Mat. 18.20. Ni welaf fi reswm, O bydd Cristianogion yn deisyfu (pan fyddont mor glaf na allant ddyfod i'r Eglwys) Na allant dderbyn, ac na ddylai y Bugeiliaid weinidogaethu y Sacramentau iddynt gartref. Y mae ef yn dangos mwy o aneallgarwch na gwybodaeth, yr hwn sydd yn tybied fod hyn yn archwaethu o'r offeren neillduol: Canys yr offeren a elwir yn neillduol, nid o ran ei dywedyd mewn tŷ neillduol, ond o blegit (mal y mae Escob Iewel yn dyscu allan o Aquinas) bod yr ofleiriad yn derbyn y Sacrament ei hun heb ei gyfrannu i eraill, ac yno y mae yn neillduol, er bod yr holl blwyfolion yn bresennol, ac yn edrych arno. Y mae cymmaint o ragoriaeth rhwng y Cymmun hwn, a'r eulun Anghristnogawl o'r offeren neillduol, ac sydd rhwng nêf ac vffern. Oblegit yn y Cymmun mewn neillduol [Page 401] deulu ar y cyfryw achos digwyddedig, yr ydis yn dilyn ordinhad Crist: y mae llawer or brodyr ffyddlawn yn ymgyfarfod, yn aros y naill am y llall: yr ydis yn cofio marwolaeth Crist, ac yn ei dangos, ac y mae y Gweinidog gyd a'r ffyddlonniaid a'r dŷn clwyfus yn Cymmuno. Mae yr athro Caluin yn dywedyd, ei fod efe o ewyllys ei galon yn canniattau rhoddi 'r Cymmun ir rhai clwyfus pan fyddo 'r achos yn gofyn. Epist. 51. Ac mewn man arall y mae ef yn dywedyd, fod llawer o rysymmau trymmion yn ei gymmell ef, fel na allai naccau Swpper yr Arglwydd i'r claf. Epist. 36. Etto mi a ddymunwn ar yr holl Gristianogion ei dderbyn yn fynych yn eu hiechyd, yn enwedig unwaith bob mis efo 'r holl Eglwys. Canys yno ni fydd rhaid iddynt hwy gasclu eu cyfeillion ar y fath achos, na bod eu hunain mor gythrybledig eisiau y Cymmun. Canys fel y mae 'r Athro Perkins yn dywedyd yn rhagorol, nid yw ffrwyth a nerth y Sacrament i'w rwymo wrth yr amser y derbynier ef ynddo: eithr y mae yn ymestyn at yr holl amser o fywyd dyn a'r y fo yn ol: nerth yr hwn, pe bai ddynion yn ei gwbl ddeall, ni byddai raid moi mynych gynghori hwynt iw dderbyn.
Pastores omnes his exoratos vellem, vt in huius controuersiae statum penitius introspiciant; nec fideles ex hac vita migrantes, & panem vitae petentes, viatico suo fraudari sinant, ne lugubris in ijs adimpleatur lamentatio: Paruuli panem petunt, & non sit qui frangat eis. Lam. 4.4. Admonitio ad pastores.
Yn gymraeg fal hyn: Mi a ddymunwn ar yr holl fugeiliaid edrych yn ystyriol ir ddadl hon, ac na adawont i'r rhai ffyddlon a fyddo yn myned o'r bywyd hwn, ac yn ceisio bara y bywyd, gael eu siommi am eu llyniaeth, rhag ofn i'r galarnad trist hwnnw [Page 402] gael ei gyflawni ynddynt hwy: sef y plant a ofynnant fara, ond nid oedd a dorrei iddynt, Galarn. 4.4.
Felly pan fyddo dŷn o fuchedd drygionus yn marw, fe a eill ddywedyd wrth Angau, mal y dywedoedd Ahab wrth Eliah, A gefaist ti fi o fyngelyn? 2 Bren. 22.20. Ac o'r tu arall pan fyddis yn dywedyd i'r pechadur edifeiriol fod Angau yn curo wrth ei ddrws, ac yn dechrau edrych yn ei wyneb; efe a eill ddywedyd am angau mal y dywedodd Daefydd am Ahimaaz, Deled a chroesaw wrtho, o blegit y mae ef yn wr da, ac yn dyfod â newyddion da: efe yw cennad Crist, ac sydd yn dwyn i mi newyddion llawen o fywyd tragwyddol. Ac megis yr oedd y môr coch yn anoddyn i lyngcu yr Aiphtwyr i ddynystr, ac yn llwybr i'r Israeliaid iw tywys i feddiant gwlad Canaan. Felly y mae marwolaeth i'r drygionus yn geuffos i fyned i vffern a damnedigaeth; ond ir duwiol yn borth i fywyd tragwyddol, ac i iechydwriaeth. Ac vn dydd o farwolaeth fendigedig, a wna iawn am holl flinderau bywyd chwerw.
Pan fŷch di gan hynny yn deall fod dy enaid yn ymadel a'th gorph, gweddia a'th tafod os gelli, ac oni elli, gweddia yn dy galon, ath feddwl y geiriau hyn, gan osod golygon dy enaid ar Iesu Grist dy Iachawdwr.
Gweddi wrth roddi yr Yspryd i fynu.
O Oen Duw, yr hwn trwy dy waed a dynnaist ymmaith bechodau y byd: trugarha wrthyf bechadur, Arglwydd Iesu derbyn fy Yspryd. Amen. Ioan. 1.29. Ast. 7.59.
Pan fyddo y dŷn clwyfus yn ymadel a'r byd, yno eled y ffyddlonniaid a fyddo yn bresennol i lawr ar eu gliniau, i orchymmyn ei enaid i Dduw yn y geiriau hyn, neu 'r cyfryw.
O Rasusol Dduw a thrugaroccaf Dâd, yr hwn wyt yn noddfa a nerth i ni, a chymmorth hawdd ei gael mewn cyfyngder; dercha lewyrch dy wyneb yn gariadol yn hyn o bryd ar dy wâs, yr hwn sydd yn dyfod yr awrhon i ymddangos yn dy wydd: Golch ymmaith Arglwydd daionus, ei holl bechodau ef trwy haeddedigaethau gwaed Crist, fel nas rhodder hwynt fyth yn ei fauch. Chwanega ei ffydd, ymddiffyn a chadw ei enaid yn ddiogel rhag diafol ai holl Angelion diffaith. Diddana ef a'th làn yspryd, pâr iddo ef yn awr wybod mai ty di ydyw ei Dâd cariadol, ai fod efe yn fab i ti trwy Fabwys a Rhâd. Gwared o Grist Iesu, werth dy waed dy hun, a nâd iddo efe fod yn golledig, yr hwn a brynaist di mor werthfawr. Derbyn ei enaid, fel y derbynniaist di y lleidr edifeiriol i'th paradwys nefol. Gâd i'th Angelion sanctaidd ei ddwyn ef yno, megis y dygasant enaid Lazarus: a channiadhâ iddo adcofydiad llawen yn y dydd diwaethaf. O Dâd, eurglyw arnom trosto ef, a chlyw dy Fâb dy hun ein vnig Gyfryngwr, yr hwn sydd yn eistedd ar dy ddeheulaw, trosto ef a ninnau oll: er mwyn haeddedigaethau y chwerw angau a'r dioddefaint, yr hyn a oddefodd efe drosom ni. Mewn diogel obaith o'r hyn, ni orchymynnwn ei enaid ef i'rh ddwy law tadol yn y weddi fendigedig, yr hon a ddyscodd ein Iachawdwr yn holl amser ein trallodau i ddywedyd wrthi [...]. [Page 404] Ein Tàd yr hwn, &c.
Hyn yma am arfer duwioldeb wrth farw yn yr Arglwydd. Yma y canlyn yr arfer o dduwioldeb wrth farw tros yr Arglwydd, neu o achos yr Arglwydd.
YR Arfer o dduwioldeb wrth farw tros yr Arglwydd a gyfenwir Merthyrdod.
Merthyrdod ydyw y dystiolaeth, yr hon y mae Cristion yn ei ddwyn i athrawiaeth yr Efengyl, trwy ddioddef pob mâth ar farwolaeth: i wahodd llaweroedd, i nerthu a chyd-ffurfio pawb i gofleidio ei gwirionedd. I'r fath ymma a'r farwolaeth y mae Crist yn addo coron: Bydd di ffyddlon hyd y diwedd ac mi a roddaf i ti goron y bywyd. Datc. 2.10. Yr addewid hon yr oedd yr Eglwys yn credu iddi gystal, megis y galwasant Ferthyrdod. ei hun yn Goron. A Duw, i annog Cristianogion i fyned yn galonnog am y gynglwyst hon, a fynnai trwy ei ragwybodaeth, i Stephen y Merthyr cyntaf gael ei enw allan or gair Coron. [yn Roeg.]
Y Mae tri rhywogaeth ar Ferthyrdod:
1. Sola voluntate, mewn ewyllys yn vnig, megis Ioan yr Efangylwr, yr hwn (wedi ei ferwi mewn pair llawn o olew) a ddaeth allan wedi ei cneinio yn hytrach nai ferwi, ac a fu farw o henaint yn Ephesus.
[Page 405]2. Solo opere, mewn gweithred yn vnig, megis y gwirioniaid o Bethlehem. Mat. 2.
3. Voluntate & opere, yn gystal mewn ewyllys, a gweithred: Megis yn y Brif-Eglwys, Stephen, Polycarpus, Ignatius, Laurentius, Romanus, Antiochanus, a miloedd. Ac yn ein dyddiau ninnau Cranmer, Latimer, Hooper, Ridley, Farrar, Bradford, Philpot, Sanders, Glouer, Taylor, ac ancirif o rai eraill: zêl cynnes y rhai hynny i wirionedd Duw, a'i dygodd i eirias-dân Merthyrdod, i selio ffydd Crist. 1 Pet. 2.19. Nid creulondeb y farwolaeth, eithr gwiriondeb, diniweidrwydd, a sancteiddrwydd yr achos sydd yn gwneuthur Merthyr. Ac nid yw cydwybod gyfeiliornus yn ddigon o achos i oddef Merthyrdod: oblegit gwybodaeth yng-Air Duw sydd raid i hyfforddi cydwybod ynghalon dyn. Canys yr rhai a laddasant yr Apostolion, yn, en cydwybodau cyfeiliornus oeddynt yn tybied fod yn gwneuthur gwasanaeth da i Dduw. A Phaul o zèl, oedd yn chwythu bygythiau, a chelanedd yn erbyn Seinctiau yr Arglwydd. Ioan. 16.2. Act. 9.1. Philip. 3.6. Yr awrhon pa vn a wna achos ein Offeiriaid a'n Myneich Rhufeiniaidd, a'i bod mor sanctaidd, vnion a diniweidiol, ac y gall ddiofalhau a siccrhau eu cydwybodau, i ddioddef marwolaeth ac î roddi pwys a goglyd eu tragwyddol iechydwriaeth arni: Bydded Epistol St Paul at yr hên Rufeiniaid (eithr yn erbyn ein Rhufelniaid newyddion Anghristnogawl) yn farnwr. Ac fe ymddengys yn eglur, fod yr athrawiaeth, yr hon a ddyscodd St Paul ir hên Eglwys o Rufain, yn vnion yn y gwrthwyneb mewn 26 O sylfaenol byngciau gwir grefydd, i'r hon y mae 'r Eglwys newydd o Rufain yn ei ddyscu a'i maentumio: Canys yr oedd St Paul yn dyscu y brif Eglwys o Rufain.
[Page 406]1. Mai o râs Duw y mae ein etholedigaeth ni, ac nid ex praeuisis operibus, sef o'n gweithredoed rhagweledig. Rhuf. 9.11. Rhuf. 11.5.6.
2. Ein bod ni yn cael ein cyfiawnhau o flaen Duw trwy ffydd yn vnig, heb weithredoedd da, Rhuf. 3.20.28. Rhuf. 4.2. &c. Rhuf. 1.17.
3. Nad yw gweithredoedd da yr adgenedledig ou teilyngdod eu hunain yn haeddedigol, sef yn gyfryw ac a ddichon haeddu y nefoedd. Rhuf. 8.18. Rhuf. 11.6. Rhuf. 6.23.
4. Mai y llyfrau hynny yn vnig ydynt ymadroddion Duw, a'r Scrythur Awdurdodol yr rhai a draddodasid i gadwraeth, ac i ymddiried yr Iuddewon. Rhuf. 3.2. ac 1.2. ac 16.16. yr Apochrypha nid ydoedd gyfryw.
5. Fod yr Scrythyrau Sanctaidd gyd a'g Awdurdod Duw. Rhuf. 9.17. ac 3.4. ac 11.32. yn cyttuno â Gal. 3.22. Am hynny vwchlaw Awdurdod yr Eglwys.
6. Fod yn rhaid i bawb yn gystal gwyr llŷg a gwyr llên, ar a fynno fod yn gadwedig, fynych ddarllain a gwybod yr Scrythyrau Sanctaidd yn hyspys, Rhuf. 15.4. ac 10.1.2.8. ac 16.26.
7. Fod yr holl Luniau a wneler o'r gwir Dduw, yn ddelwau llygredig. Rhuf. 1.23. ac 2.22. iw cydsynnied.
8. Nad yw plygu y glîn yn grefyddol o flaen delw, neu addoli vn creadur, ond gwir ddelwaddoliaeth, Rhuf. 11.4. a gwasanaeth celwyddog. Rhuf. 1.25.
9. Na ddylem ni weddio at neb ond at Dduw yn vnig, yn yr hwn yr ydym ni yn Credu. Rhuf. 10.13.14. ac 8.15.27. Am hynny nid at Seinctiau nag Angelion.
10. Mai Crist ydyw ein vnig Gyfryngwr yn y nefoedd, Rhuf. 8.34. ac 5.2. ac 16.27.
[Page 407]11. Nad yw aberth Cristianogion ddim arall, ond ysprydol aberthu eu heneidiau a'i cyrph i wasanaethu Duw mewn sancteiddrwydd, a chyfiawnder. Rhuf. 12.1. ac 15.16. Am hynny nid oes wir aberthiad ar Grist yn yr Offeren.
12. Fod yr addoliad duwiol yr hwn a elwir doulia yn gystal a latria yn perthynu i Dduw yn vnig. Rhuf. 1.9. ac 12.11. ac 16.18. iw cydsyn nied.
13. Fod yr holl Gristianogion i weddio at Dduw yn eu Tafodiaith eu hun Rhuf. 14.11.
14. Nad oes genym ni o honom ein hunain mewn cyflwr llygredigaeth, ewyllys rhydd at ddaioni. Rhuf. 7.18. &c. ac 9.16.
15. Fod trachwant yn yr adgenedledig yn bechod. Rhuf. 7.7.8.10.
16. Nad yw y Sacramentau yn rhoddi grâs ex opere operato, or gwaith gwneuthuredig, eithr maent yn arwydd ac yn insel fod y grâs wedi ei roddi yn barod i ni. Rhuf. 4.11.12. ac 2.28.29.
17. Y dichon pob Cristion vnion gredadwy yn y byd hwn fod yn ddiogel o'i iechydwriaeth. Rhuf. 8.9.16.35. &c.
18. Na ddichon vn dyn yn y bywyd hwn yn ôl cwymp Adda berffaith gyflawni gorchymynnion Duw. Rhuf. 7.10. &c. Rhuf. 3.19. &c. Rhuf. 11.32.
19. Fod gosod crefydd mewn rhagoriaeth a'r fwydydd neu ddyddiau, yn ddelw-addoliaeth. Rhuf. 14.3, 5.6, 17, 23.
20. Mai cyfiawnder cy frifol Crist, ydyw yr vnig beth sydd yn ein gwneuthyd ni yn gyfiawn o flaen Duw. Rhuf. 4.9, 17, 23,
21. Fod cnawd Crist wedi ei wneuthur o hâd [Page 408] Dafydd: nid o afarlladen trwy draws-sylweddiad. Rhuf. 1.3.
22. Fod yr holl wir Gristianogion yn Seinctiau, ac nid yr rhai y mae 'r Pâb yn eu cyssegru, Rhuf. 1.7. Rhuf. 8.27. ac 15.31. ac 16.2. ar 15. ac 15.25.
23. Mai ipse efe Crist, Duw yr dangneddyf: ac nid ipsa hi y Forwyn a yssygai ben y Sarph. Rhuf. 16.20.
24. Fod yn rhaid i bob enaid o gydwybod, fod yn ostyngedig a thalu teyrnged i'r Awdurdodau goruchel, hynny yw i'r swyddogion yr rhai sydd yn dwyn y cleddyf. Rhuf. 13.1.2. &c. Ac am hynny mae 'n rhaid ir Pâb, ac ir holl Breladiaid, fod yn ostyngedig iw Emerodrwyr, Brenhinoedd, au Pennaethiaid, onis mynnant ddwyn damnedigaeth ar eu heneidiau, megis Bradychwyr, y rhai a wrthwynebant Dduw a'i Ordeinhâd ef. Rhuf. 13.1.
25. Mai Paul (ac nid Petr) a ordeiniwyd trwy râs Duw i fod yn brif Apostol i'r cenedloedd, ac felly yn ddigwyddedig i Rufain prif Ddinas y cenedloedd: Rhuf. 15.15.16.19.20. &c. Rhuf. 11.14. ac 16.4.
26. Y dichon Eglwys Rufain gyfeiliorni, a chwympo ymmaith oddiwrth y gwirionedd, cystal ac Eglwys Ierusalem, neu vn Eglwys neillduol arall. Rhuf. 11.20.21.22.
A chan weled fod yr Eglwys newydd-godiad o Rufain, yn yr rhain, ac mewn aneirif o byngciau craill, yn dyscu y gwrthwyncb yn vnion ir hyn a ddyscodd yr Apostol i'r Eglwys gyntaf o Rufain: Barned Duw ar llythyr hwn rhyngddynt hwy a ninnau, pwy o honom sydd yn sefyll yn y wir hên ffydd Gatholic, yr hon a ddyscodd yr Apostol i'r hên Rufeinaid. Ac oni wnaethom ni yn dda ymadel ag hwynt hwy, cyn belled ac y darfu iddynt hwythau ymadel ag athrawiaeth yr Apostol? A pha [Page 409] vn orau a'i dychwelyd at wirionedd St Paul, ai aros yn oesdadol yn ymryfussedd Rhufain? ac os yw hyn yn wir, yna cymmered y mynachod a'r offeiriaid pabaidd ofal, ac arswydant, rhag ofn nad yw hi ffydd, ond tynnach, na gwirionedd, ond bradwriaeth, na chrefydd, ond gwrthryfel, (yn dechrau wrth yr afon Tiber, ac yn diweddu wrth y pren teircaingc a elwir Tibwrn) yr hyn yw achos eu marwolaeth hwynt. A chwedi eu hanfon o ymrysongar fangre gwrthgiliog, yn hytrach nac o eisteddle Appostolaid tanghneddefus; o ran nas gallant hwy gael eu cynnwys i hudo deiliaid i dorri eu llyfau, a thynnu eu hyfydd-dod oddiwrth eu Brenin, i gyfodi gwrthryfel, i ennyn difrodiaeth, i frathu ac i wenwyno Brenhinesau, i lâdd ac i lofruddio Brenhinoedd, i chwythu i entrych awyr holl Bennaethiaid y deyrnas â Phowdwr gwn: Y maent hwy yn taflu eu cyrph eu hunain, yn ddibris iw crogi, ac iw dihenyddio yn aelodau: (au heneidiau yn gadwedig, os perthynant i Dduw,) yr wyf yn dymuno y cyfryw anrhydedd i holl Seinctiau y neb sydd yn eu hanfon hwynt. Ac y mae i mi achos gyfiawn i ofni, na ddichon gwrthiau dwy Arglwyddes Lypsius, Bachgen Blunston, gwelld Garnet, a phedog danllyd y Morwynion gadw mor gwyr hyn yn ddiangol, ac yn ddi-euog o fod yn llofruddiaid iddynt eu hunain, yn hytrach nac yn Ferthyron i Grist.
A pha fâth ar gydwybod y gall vn pabist alw Garnet yn Ferthyr, pryd yr oedd ei gydwybod ei hun yn ei drechi efe i gyfaddef, mai am fradwriaeth ac nid am grefydd yr oedd efe yn marw? Ond os yw osseiriadau y fath Efengyl Bowdwr gwn yn Ferrhyron, y mae yn rhyfedd gennyf fi pwy a ddichon fod yn llofruddion? Os ydynt hwy yn Seinctiau, pwy ydynt Scithiaid? A pha rai ydynt Ganibaliaid, os hwynt hwy ydynt Gatholiccaid?
[Page 410]Ond gan adael yr rhain, os mynnant fod yn fudr, i aros yn ei budreddi yn oesdadol, gadewch i ni (i ffyddlondeb yr rhai y gorchymynnodd yr Arglwydd ei wir ffydd, megis depositum, sef trysawr gwerthfawr, 1 Tim. 6.20.) weddio ar Dduw, ar allael o honom ni arwain bywyd sanctaidd, cyfattebol i'n ffydd sanctaidd, mewn Duwioldeb tu ag at Grist, ac vfydd-dod at ein Brenin: Dihar. 24.21. 1 Pet. 2.17. Mal os ein Iachawdwr a'n cyfrif ni fyth yn deilwng o'r anrhydedd honno, i ddioddef Merthyrdod er mwyn yr Efengyl, pa vn bynnac a'i trwy losci yn gyhoeddus, megis yn nyddiau y Frenhines Mari, a'i trwy gael ein llofruddio yn ddirgel, megis yn nhŷ 'r Inquisition sef yr holiad, neu i oddef ein cigyddio yn gelaneddau megis yn y gosper ym Mharis: neu i gael ein chwythu i fynu gan bowdr gwn, megis i'r amcanwyd i lŷs y Parlement: y gallom ni gael y grâs i weddio am gynnorthwy ei lân Yspryd, i nerthu ein gwendid, ac i ymddiffyn ei achos ef: megis y bôm ni yn selio a'n marwolaethau y gwirionedd Efangylaidd, yr hwn yr ydym ni yn ei addef yn ein bywyd. Megis y byddom holl ddyddiau ein bywyd yn fendigedig trwy ei air ef, yn nyddiau ein marwolaeth yn fendigedig yn yr Arglwydd; ac y nydd y farn yn fendigedig gan ei Dâd ef, Canniadhâ hynny Arglwydd Iesu. Amen. Luc. 11.28. Datc. 14.13. Mat. 25.34. Dad. 22.20.
Ymddiddan hyfryd rhwng yr enaid ai Iachawdwr, ynghylch haeddedig aethau ffnythlawn ei ddioddefaint cystuddiol ef.
Yr Enaid.
ARglwydd pa ham y golchaist di draed dy ddiscyblion?
Crist. I ddyscu i ti pa fodd y mae iti dy baratôi dy hun i ddyfod i'm Swpper i.
En. Arglwydd pa ham y golchit ti hwynt dy hunan? Ioan. 13.14.
Cri. I ddyscu i ti ostyngeiddrwydd os mynni di fod yn ddiscybl i mi.
En. Arglwydd pa ham y darfu i ti o flaen dy farwolaeth, osod allan dy Swpper diwaethaf? Luc. 22.19.
Cri. Fel y gellit ti gofio yn well fy marwolaerh i, a bod yn ddiogel fod yr holl haeddedigaethau a darddodd o honi yn eiddot ti.
En. Arglwydd pa ham yr a'it ti i'r fâth le ac y gallai Judas gael gafael arnat? Ioan. 18.4.
Cri. Fel y gellych ti wybod fyned o honof fi mor cwyllysgar i ddioddef am dy bechod di, ac yr aethost ti erioed i gyfle yn y byd i wneuthur pechod.
En. Arglwydd pa ham y dechreuaist ti dy ddioddefaint mewn Gardd? Ioan. 18.1.
Cri. O Blegid mai mewn Gardd y cafas dy bechod ti ei ddechreuad gyntaf. Gen. 3.3.
En. Arglwydd pa ham y darfu i'th tri etholedig discybl gwympo yn eu trwm gwsc, pan oeddit ti yn dechrau mynod i'th lychwys ath boen? Mat. 26.40.
[Page 412] Cri. I ddangos mai fy fi fy hunan a weithredoedd orchwyl dy Brynedigaeth di. Esa. 63.5.
En. O Arglwydd pa ham yr ydoedd cynifer o ddichellion ac o faglau wedi eu gosod am danat ti? Mat. 26.4.
Cri. Fel y gallwn i dy waredu di o holl faglau yr heliwr ysprydol. Psal. 92.3.
En. Arglwydd pa ham y gydewit ti i Judas (oedd yn dy fradychu) dy gusanu? Math. 26.40.
Cri. Megis trwy oddef geiriau gwefusau twyllodrus, y gallwn yno ddechrau talu iawn am bechod, lle y dygasai Satan ef gyntaf i'r byd. Gen. 3.4, 5.
En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy werthu am 30 o ddarnau arian. Math. 27.3.
Cri. Fel y gallwn ni dy ryddhau di o gaethiwed tragwyddol.
En. Arglwydd pa ham y gwaeddaist ti trwy y fâth lefain cryf a dagrau? Math. 26.39.
Cri. Fel y gallwn i ddiffoddyd creulondeb cyfiawnder Duw, yr hwn oedd mor danbaid wedi ei ennyn yn dy erbyn di
En. O Arglwydd pa ham yr oeddyt ti mor ofnus, ac ith daflwyd i'r fath chwys o ddefnynnau gwaedlyd?
Cri. Mal gan ddioddef y digofaint dyledus i'th pechodau di, y gellit ti fod yn fwy diofal yn dy farwolaeth, a chael mwy o gyssur yn dy wrthwynebion.
En. Arglwydd pa ham y gweddiaist di mor fynych, ac mor ddifrifol, am fyned or cwppan hwnnw oddiwrthit? Math. 26.39, 42, 44.
Cri. Fel y gellit ti ddeall echryslonrhwydd y felldith honno a'r digofaint, yr hon er ei bod yn ddyledus i'th bechodau di, yr oeddwn i y pryd hynny yn ei vfed, ac yn ei oddef trosot. Gal. 3.13.
[Page 413]En. Arglwydd pa ham y darfu i ti ar ol dy ddymuniad, ostwng dy ewyllys dy hun at ewyllys dy Dad?
Cri. I ddyscu i ti pa beth a ddylit ti ei wneuthur yn dy holl flinderau: ac mor fodlon y dylyt ti ymroi i oddef trwy ammynedd y gwrthwyneb, yr hyn a weli di ei fod yn dyfod oddiwrth law gyfiawn dy Dâd nefol.
En. O Arglwydd i ba beth y chwysais di ddagrau o ddyfr a gwaed? Luc. 22.44.
Cri. Fel y gallwn i dy lanhau di oddiwrth dy feiau duon a'th anafau gwacdlyd.
En. O Arglwydd pa ham y mynnit ti dy ddal, pryd y gallesit ti ddiangc gan dy elynion? Luc. 22.51, 54.
Cri. Fel na chai dy elynion ysprydol moth ddala di a'th taflu i garchar, i'r tywyllych eithaf. Mat. 5.25.
En. Arglwydd pa ham y mynnit ti i'th holl ddiscyblion dy adael, a ffòi ymaith? Mat. 26.56.
Cri. Fel y gallwn ni dy gymmodi di â Duw, gan yr hwn yr oeddit tithau yn cael dy adael am dy bechod.
En. Arglwydd pa ham yr oeddyt ti yn sefyll dy hunan i gael dy ddala? Ioan. 18.8.
Cri. I ddangos i ti fod ynghariad i i'th iechydwriaeth di, yn fwy na chariad fy holl ddiscyblion.
En. Arglwydd pa ham y cafas y gwr ieuangc ei ddal gan y milwyr, ai diosc o'i liain: yr hwn a ddaethai oi wely wrth glywed y trwst oedd wrth dy ddala a'th ddwyn at yr Archoffeiriad? Mar. 14.51, 52.
Cri. I ddangos eu creulondeb hwy yn fy llindagu i, am gallu innau yn gwareda fy holl ddiscyblion allan o'i dwylaw creulon hwynt, yr rhai oni buasai [Page 414] hynny, a gawsent eu trin yn waeth ganddynt hwy, nag y triniwyd y gwr ieuangc hwnnw.
En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy rwymo? Mat. 27.2.
Cri. Fel y gallwn ddattod rhaffau dy anwireddau di.
En. Arglwydd pa ham y gwadodd Petr dy di? Luc. 22.57.
Cri. Fel y gallwn dy gyfaddef di o flaen fyn Nhâd, ac fel y gellit ti ddyscu nad oes dim ymddiried mewn dŷn, a bod iechydwriaeth yn deilliaw yn vnig o'm trugaredd i.
En. Arglwydd pa ham y dygaist di Petr i edifeirwch, trwy ganiad y ceiliog? Luc. 22.60.
Cri. Fel na byddai i neb ddirmygu y moddion a ordeiniwyd iw troad, er gwaeled y byddont iw gweled.
En. Arglwydd pa ham y darfu i ti ar ganiad y ceiliog droi ac edrych ar Petr? Luc. 22.62.
Cri. Fel y gellych ti wybod, heb gynnorthwy fyngrâs i, na ddichon vnrhyw foddion droi pechadur at Dduw, wedi iddo ef vnwaith gwympo oddiwrtho ef.
En. Arglwydd pa ham yr oeddyt ti wedi dy ymwisco mewn gwisc o borphor? Ioan. 19.5.
Cri. Fel y gellych ti ddeall mai fy fi ath lanhâodd di oddiwrth dy bechodau gwaedlyd. Esay, 1.8.
En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy goroni â drain? Math. 27.29.
Cri. Mal gan wisco drain, blaen ffrwythau y felldith, y byddai yn eglur, mae fy fi sydd yn tynnu ymmaith y pechodau a'r felldith o'r byd, ac yn dy goroni di â choron y bywyd a'r gogoniant. Datc. 2.10. 1 Pet. 5.
[Page 415]En. Arglwydd pa ham y rhoddwyd corsen yn dy law di? Mat. 27.29.
Cri. Fel y byddai yn eglur na ddaethym i dorri y gorsen yssig. Mat. 12.20.
En. Arglwydd pa ham y gwatworwyd dydi gan yr Iddewon? Mat. 27.29.
Cri. Fel y gellit ti orfoleddu ar gythreuliaid, y rhai oni bai hynny, a fuasent yn dy watwor di, megis y darfu i'r Philistiaid a Sampson. Barn. 16.25.
En. Arglwydd pa ham y mynnit ti halogi dy fendigedig wyneb â phoer? Mat. 26.67.
Cri. Fel y gallwn lanhau y wyneb di oddiwrth gywilydd pechod.
En. Arglwydd, pa ham y cuddiwyd dy wyneb di â gorchgudd? Mar. 14.65.
Cri. Fel, gan ddwyn ymmaith dy ddallineb ysprydol di, y gellit ti ganfod wyneb fy Nhâd, yn y nefoedd.
En. Arglwydd pa ham i'th tarawsant di â dyrnau, ac i'th pwyasant di âffynn? Mat. 27.30.
Cri. Fel y gellit ti fod yn ddiangol oddiwrth ddyrnodiau, a rhwygiadau yr ysprydion vffernol.
En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy gablu? Mat. 27.39.
Cri. Fel y gallai Dduw adrodd tanghnedd yf wrthit ti trwy ei air a'i yspryd.
En. Arglwydd pa ham y rhodded cleisiau ar dy wyneb â chernodiau gwaedlyd? Ioan. 19.3. Esay, 53.2.
Cri. Fel y tywynnai dy wyneb di yn ogoneddus, megis Angel yn y nefoedd. Mat. 13.13, ac 22.30.
En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy fflangellu mor greulon? Joan. 19.1.
[Page 416] Cri. Fel y gellit ti fod yn ddiangol oddiwrth frâth cydwybod, ac oddiwrth fflangellau poenau tragwyddol.
En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy ddwyn yn rhwym i'th gyhuddo ger bron Brawdle Pilat. Math. 27.12.
Cri. Fel y gellyt ti yn y dydd olaf gael dy ryddhau ger bron fyngorseddfaingc i.
En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy gyhuddo ar gam? Luc. 23.2.
Cri. Fel na chait ti moth euog farnu yn gyfiawn.
En. Arglwydd pa ham y traddodid tydi i'th euog farnu gan Farnwr dieithr. Mat. 27.13.
Cri. Fel y gellit ti wedi dy waredu o gaethiwed y gormes deirn vffernol, gael dy roi yn ol i Dduw, eiddaw yr hwn oeddit o gyfiawnder.
En. Pa ham y darfu i ti gydnabod, fod awdurdod i Pilat arnat ti, wedi ei ddodi oddi-uchod? Ioan. 19.11.
Cri. Fel na chai yr Anghrist trwy liw o'i fod yn Ficar i mi, ei dderchafu ei hunan vwchlaw pob gallu, a thywysogaethau. Tit. 3.1. 1 Pet. 2.13.14. Rhuf. 13.1.
En. Arglwydd pa ham y dioddefaist di dy archollion dan Pontius Pilatus, yr hwn ydoedd bennaeth o Rufeiniwr dan Caesar o Rufain.? Luc. 23: 1.2.
Cri. I ddangos mai dichellgar lywodraeth y Caesariaid a'r Escobion o Rufain, a brif erlidai fy Eglwys, ac am croeshoelie i yn fy aelodau. Dad. 11.8, ac 17, 5, 6, 24.
En. Eithr pa ham O Arglwydd y mynnit ti dy gondemnio? Ioan. 19.16. Luc. 23.23.
Cri. Megis y byddai y gyfraith wedi ei chondemnio [Page 417] ynof fi, mal na ellid mo'th condemnio di trwyddi hi. Rhuf. 8.3.
En. Ond pa ham y mynnit ti dy gondemnio, pryd na allent brofi dim yn dy erbyn di? Joan. 19.6. Math. 27.24.
Cri. Fel y gellit ti wybod nad am fy mai fy hun, eithr mai trosot ti y dioddefais i.
En. Arglwydd pa ham i'th arweiniwyd ti allan o'r ddinas i ddioddef? Mat. 27.33. Heb. 13.12.
Cri. Fel y gallwn i dy ddwyn di i'r ddinas nefol i orphywys.
En. Arglwydd, pa ham y darfu ir Iddewon beri i Simon o Cirêne yr hwn oedd yn dyfod o'r maes, ddwyn dy groes di? Luc. 23.26.
Cri. I ddangos y gwendid i'r hwn y darfu i bwys dy bechodau di fy nwyn i: a pha ryw gyflwr fydd i bob Cristion, yr hwn sydd yn myned o faes y bŷd yma tu ag at Ierusalem nefol.
En. Arglwydd pa ham i'th ddinoethwyd o' th ddillad? Ioan. 19.23.
Cri. Fel y gellych di weled fel y darfu i mi ymadel ar cwbl i'th prynu di.
En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy godi ar Groes? Luc. 23.
Cri. Fel y gallwn dy gyfodi di gyd â myfi i'r nef.
En. Arglwydd pa ham y mynnyt ti dy grogi ar bren melldigedig?
Cri. Fel y gallwn dalu iawn am y pechod a wneuthid ti wrth fwyta ffrwyth y pren gwaharddedig: Gen. 2.17.
En. Arglwydd pa ham y mynnyt ti grogi rhwng dau o ladron? Luc. 23.53.
Cri. Fel y gellit ti (fy anwyl enaid) gaell lle ym mhlith yr Angelion sanctaidd.
[Page 418]En. Arglwydd pa ham yr hoeliwyd dy draed ath ddwylaw wrth y groes? Psal. 22.16. Joan. 20.25.
I roi rhydd-did i'th ddwylaw di i wneuthur gweithredoedd cyfiawnder, ac i roi dy draed yn rhydd i rodio mewn ffyrdd tanghneddyf.
En. Arglwydd pa ham y darfu dy groeshoelio yn Golgotha, lle 'r oedd pen-glogau y gwyr meirwon. Mat. 27.33.
Cri. Ith siccrhau di fod fy marwolaeth i yn fywyd ir marw.
En. Arglwydd pa ham na rannai y milwyr dy bais ddi-wniad? Ioan. 19.24.
Cri. I ddangos mai vn yw fy Eglwys heb rwyg anghydfod.
En. Arglwydd pa ham y darfu i ti archwaethu finegr yn gymmyscedig â bustl? Mat. 27.34.
Cri. Fel y gellit ti gael bwyta bara Angelion, ac yfed dwfr y bywyd.
En. Arglwydd pa ham y dywedaist ti ar y groes fe a'i gorphenwyd? Ioan. 19.30.
Cri. Fel y gellit ti wybod, fod y gyfraith wedi ei chyflawni trwy fy marwolaeth i, a'th iechydwriaeth dithau wedi ei weitredu. Rhuf. 10.4. 2 Cor. 3.13.
En. Arglwydd pa ham y darfu i ti lefain allan ar y groes, fy Nuw fy Nuw, pa ham i'm gadewaist? Math. 27.46.
Cri. Rhag i ti wedi dy wrthod gan Dduw, gael dy fwrw allan i lefain ym mhoenau vffern, gwae ac och yn dragwyddol.
En. Arglwydd pa ham yr oedd y fath dywyllwch mawr cyffredinol, pryd yr oeddit ti yn dioddef ac yn llefain ar y groes? Mat. 27.45.
Cri. Fel y gellit ti weled cyffelybiaeth o'r poenau vffernol, a ddioddefais i i'th waredu di o boenau [Page 419] didrangcedig vffern, ac o gadwynau tywyllwch tragwyddol. 2 Pet. 2.4. Jude. 4.
En. Arglwydd pa ham y mynnit ti hoclio dy freichiau ar led?
Cri. Fel y gallwn dy gefleidio di yn garediccach, fy enaid anwyl.
En. Arglwydd pa fodd y darfu i'r lleidr ni wnaethai ddaioni erioed o'r blaen, ynnill paradwys ar y cyfryw edifeirwch byrr? Luc. 23.43.
Cri. Fel y gellych di weled gallu fy marwolaeth i, yn maddau i'r rhai a edifarhâo, megis na byddo rhaid i vn pechadur anobaithio.
En. Arglwydd pa ham na chai y lleidr arall, yr hwn ocdd yn crogi cyn agossed ac yntau attat, feddiannu yr vnrhyw drugaredd? Luc. 23.39.
Cri. Am fy mod i yn gadael yr rhai a fynnwyf fi iw caledu eu hunain yn eu drygioni i ddinistr, fel y byddo i bawb ofni, ac na ryfygo neb. Rhuf. 9.18, 22.
En. Anglwydd pa ham y darfu i ti lefain á'r fath lef vchel, yn rhoddi yr yspryd i fynu? Mat. 26.50.
Cri. Fel i'r ymddangosai na ddygodd neb mom henioes i oddiarnaf, eithr rhoddi o honof fi hon ar lawr o honof fy hunan. Ioan. 10.18.
En. Arglwydd pa ham y darfu i ti orchymmyn dy enaid i ddwylaw dy Dád? Luc. 23.49. Joan. 13.1.
Cri. I ddyscu i tithau pa beth a ddylit ti ei wneuthur wrth ymadel ar bywyd hwn.
En. Arglwydd pa ham y rhwygwyd llenn y deml yn ddwy wrth dy farwolaeth? Mat. 27.51.
Cri. I ddangos na chai ddeddf y lefitiaid fod mwyach yn ganolgae terfyn rhwng yr Iddewon a'r cenedloedd: a bod y ffordd i'r nefoedd yr awrhon [Page 420] yn agored i bawb a gredant. Eph. 2.14. Hebr. 10.19.20.
En. Arglwydd pa ham y crynodd y ddaiar ac ir holldodd y meini wrth dy farwolaeth di?
Cri. O arswyd iddi ddal ei Harglwydd iw farwolaeth, ac i annod creulon galedwch calonnau pechaduriaid.
En. Arglwydd pa ham na thorrai y milwyr dy esgeiriau, fel y gwnaethant ir lladron yr rhai oeddynt yn crogi o'th ddeutu?
Cri. Fel y gellit ti wybod, nad oedd iddynt allu i wneuthur dim ychwaneg i mi, nac a rag-ddywedasai yr Scrythur y gwnaent, ac a ddioddefwn innau, i'th waredu di. Exod. 12.46. Psal. 34.21. Zech. 12.10.
En. Arglwydd pa ham y gwahanwyd dy ysdlys â gwaiwffon?
Cri. Fel y gellit ti gael ffordd i ddyfod yn negossach at fy nghalon.
En. Arglwydd i ba beth y rhedodd y dwfr ar gwaed allan oth fendigedig ystlys? Joan. 19.34.
Cri. I siccrhau i ti fy lladd i, mewn gwirionedd, gan fod gwaed fynghalon yn ffrydio allan, a'r dwfr yr hwn oedd o amgylch fynghalon yn pistyllio ar ei ol: yr hwn pan y tywallter vnwaith y mae 'n angenrhaid i ddyn farw.
En. Arglwydd, pa ham y rhedodd y gwaed o'r neilltu yn gyntaf ar dwfr a'r ol hynny or neilltu yntau, allan o'th fendigedig archoll.
Cri. I'th siccrhau di o ddau beth: 1. mai trwy dywalltiad fyngwaed i, y gweithredwyd cyfiawnhâd a sancteiddiad i th waredu di. 2. mae fy yspryd i, trwy gydwybodus arfer o'r dwfr yn y Bedydd, ar gwaed yn y Cymmun, a weithreda ynot ti gyfiawnder a sancteiddrwydd, trwy yr hyn y cai di fyngogoneddu i. 1 Joan. 5.6.
[Page 421]En. Arglwydd pa ham y darfu i'r beddau agori wrth dy farwolaeth? Mat. 27.52.
Cri. I arwyddoccau, fod Angau trwy fy marwolaeth i, wedi cael ei friw angauol ai orchfygu.
En. Arglwydd pa ham y mynnyt ti gael dy gladdu? Mat. 27.60.
Cri. Fel na allai dy bechodau di fyth gyfodi i fynu yn y farn yn dy erbyn di.
En. Arglwydd pa ham y mynnyt ti y fâth ddau Henuriaid anrhydeddus, sef, Nicodemus, a Joseph o Arimathea, ith claddu? Joan. 19.40.
Cri. Fel y byddai y gwirionedd o'm marwolaeth i (yr achos oth fywyd di) yn eglurach yn ymddangos i bawb oll.
En. Arglwydd pa ham i'th claddwyd mewn bedd newydd yn yr hwn ni roddasid dŷn erioed or blaen? Joan. 19.41.
Cri. Fel y byddai yn eglur, mai fy fi ac nid neb arall a gyfododd: ac mai trwy fy nerth fy hun, ac nid trwy rinwedd neb arall, mal yr hwn a adfywiodd wrth gyffwrdd ag escyrn Elisha.
En. Arglwydd pa ham y darfu i ti gyfodi dy gorph drachefn? Mat. 28.6.
Cri. Fel y gellit ti fod yn ddiogel o fod dy bechodau gwedi eu rhyddhau, ath fod dithau wedi dy gyfiawnhau. Rhuf. 4.25.
En. Arglwydd pa ham y darfu i gynifer o gyrph y Sainct yr rhai a hunassent, gyfodi wrth dy adoyfodiad di. Mat. 27.52.
Cri. I roddi hysbysrwydd, yr adcyfoda holl gyrph y Sainct, trwy rinwedd fy adcyfodiad i yn y dydd diweddaf. Act. 17.31.
En. Arglwydd pa beth a roddaf i ti am dy holl ddoniau hyn? Psal. 116.11.
Cri. Câr dy Greawdr, a bydd yn greadur newydd. Gal. 6.17.
Yr Enaid yn draserchog wrth fyfyrio ar ddioddefaint ei Arglwydd yn treuthu wrtho ei hunan.
PA beth a wnaethost di, O fy Iachawdwr hyfryd, am tra-fendigedig waredydd? pryd y bradychodd Iudas ty di, i'th werthwyd i'r Iddewon, i'th ddaliwyd, megis drwgweithredwr, ac ith arweiniwyd yn rhwym mal Oen i'r lladdfa? Pa ddrygioni a wnaethit ti, y byddai raid i ti fel hyn yn gyhoeddus gael dy farnu, ath cyhuddo ar gam, ath euogfarnu i farw yn anghyfiawn ger bron Annas a Chaiaphas, Osseiriadau Iddewaidd, a cher bron brawdle Pilat Pennaeth o Rufeinydd? Pa beth oedd dy fai? neu i bwy erfoed y cynnygiaist di gam? fel y byddai raid i ti [...] hyn yn dosturus gael dy guro â fflangellau, dy gy [...] â drain, dy fingammu a gwatworgerdd, dy gablu â geiriau, dy gernodio â dyrnau, dy bwyo â ffynn? O Arglwydd pa wedd yr haeddaist di gael dy fendigedig wyneb wedi ei ddis-boiri trosto, ac megis wedi ei guddio â chywilydd? cael rhannu dy ddillad, ath ddwylaw a'th draed wedi eu hoelio wrth y groes? ath cyfodi i fynu ar y pren melldigedig i'th eroeshoclio ym mhlith lladron, a gwneuthur i ti archwaethu Finegr a bustl? ac yn dy angenoctid ath orthrymder marwol goddef y fath lifeiriant anfeidrawl o ddigllonrhwydd Duw, yr hyn a wnaeth i ti lefain allan megis pe buasit ti ar wrthod gan Dduw dy Dâd? Je i gael dy galen ddiniwaid wedi ei gwanu â gwaiwffon felldigedig, a thywallt allan dy werthfawr waed o flaen llygaid dy Fam fendig [...] dig? Oh Iachawdwr anwyl, pa fath greulondeb ar gystudd a gefaist di yn goddef hyn oll, gan weled fy modi yn synnu cyn belled wrth feddwl am dano. [Page 423] Yr wyf fi yn gofyn am dy fai, ac ni fedrai glywed sôn am yr vn ynot ti, na chymmaint a chael twyll yn dy enau. 2 Pet. 2.22. Yr ydis yn holi dy elynnion, ac ni feiddiodd yr vn o honynt dy argyoeddi di o bechod: y cyhuddwyr (a gyflogesid) nid oeddynt yn medru cyttuno yn eu tystiolaeth: y Barnwr oedd i'th fwrw, oedd yn egluro dy ddiniweidrwydd ar gyhoedd: yr oedd ei wraig ef wedi danfon gair iddo, ei bod hi wedi cael ei rhybuddio mewn breuddwyd, o'th fod di yn wr vnion; ac am hynny y dylai efe gymmeryd gofal, rhag gwneuthur anghyfiawnder â thydi. Y Canwriad yr hwn oedd i'th ddihenyddio di, oedd yn cyfaddef am wirionedd dy fod ti yn wr cyfiawn, ac yn wir Fab i Dduw. Yr oedd y lleidr yr hwn oedd yn crogi gyd â thydi, yn dy gyfiawnhau di, gan ddywedyd na wneuthit ti ddim ar fai.
Gan hynny o Arglwydd, pa beth ydyw yr achos o'th wradwydd creulon, a'th ddioddefaint arteithiol? Fy fi o Arglwydd, fy fi ydyw yr achos o'th osidiau hyn: fy mhechodau i a weithredoedd dy gywilydd, fy anwiredd i oedd yr achosion o'th gammau di, my fi a wneuthum y bai, a thithau a bennydiwyd am y camwedd; fy fi ydwyf euog, a thithau a gyhuddwyd; my fi a wneuthum y pechod, a thithau a ddioddesaist y farwolaeth: my si a wneuthum y bai, a thithau a grogwyd ar y Groes. Oh ddyfnder cariad Duw! O ddull ryfeddol nefol râd! Oh anfesurol fesur o dra-vehel drugaredd! Y mae y drygionus yn troseddu, ar cyfiawn yn cael ei gospi: yr euog yn diangc, ar gwirion yn cael ei fwrw. Y drwgweithredwr yn cael ei ryddhau, ar di-niwaid ei gondemnio: yr hyn yr oedd y dŷn drwg yn ei haeddu, yr oedd y dŷn da yn ei ddioddef: y gwâs a wnai 'r camwedd, a'r Meistr a gai 'r cerydd. Pa beth a ddywedai? Dŷn a bechodd, a Duw a fu farw. [Page 424] O Fab Duw pwy a ddichon gyflawn adrodd dy gariad? neu ganmol dy drugarogrwydd? neu dderchafu dy foliant? yr oeddwn i yn falch, a thithau yn ostyngedig, yr oeddwn i yn anufydd a thithau a fuost vfydd. My fi a fwyteiais o'r pren gwaherddedig, a thithau a grogwyd ar y pren melldigedig. My fi a fum ddyn glwth, a thithau a ymprydiaist. Chwant diffaith am arweiniodd i fwyta 'r afal melus, a chariad tra-pherffaith a'th tywysodd di i yfed o'r cwppan chwerw: my fi a brofais flasusaf ffrwyth yr aeron, dithau a archwaethaist chwerwdod y bustl. Efa ynfyd oedd yn gwenu, pryd yr oeddwn i yn chwerthin, eithr yr oedd Mair fendigedig yn wylo, pryd yr oedd dy galon di yn gwaedu, ac yn marw. O fy Nuw, yma yr wyf yn gweled dy ddaioni di, am drygioni innau: dy gyfiawnder di, am anghyfiawnder innau: anuwioldeb fyngnawd i, a duwioldeb dy anian di. Ac yr awrhon o Arglwydd bendigedig, gan ddarfod i ti ddioddef hyn oll er fy mwyn i; pa beth a roddaf i ti am yr holl ddoniau a ganniadheuaist di i mi, enaid truan? mewn gwirionedd Arglwydd, yr wyf yn cyfaddef fy mod i yn dy ddlêd ti yn barod am fynghreadigaeth, yn fwy nag yw bossibl i mi allael ei dalu: Canys o herwydd hynny yr wyf yn rhwymedig a'm holl allu, ewyllys, a thraserch, i'th garu, a'th anrhydeddu di. Os wyf fi yn fy nylu fy hunan i ti, am i ti fy rhoddi fy hunan i mi yn fynghreadigaeth; pa beth yr awrhon a roddaf fi i ti, am dy roddi dy hun trosof fi i'r fâth farwolaeth echryslon, er mwyn fy mhrynedigaeth? Mawr oedd y dawn, oedd i ti fyngreu o ddim, ond pa dafod a ddichon ddatcan yn vniawn mawredd y rhâd hwn, ddarfod i ti fy mhrynu am bris mor werthfawr, pryd yr oeddwn i yn waeth n [...] dim? yn wir Arglwydd oni allaf fi dalu y diolch a [Page 425] ddylwn i ti; (a phwy a eill dalu i ti, yr hwn wyt yn rhoddi dy radau heb synnied haeddedigaeth nac edrych ar faintiolaeth?) amlder dy fendithiau sydd yn fyngwneuthur i mor ddyledog; mal yr aethum cyn belled oddiwrth allael talu corph yr hawl, mal nad yw bossibl i mi dalu cymmaint a'r llog o'th gariad.
Eithr o Arglwydd ty-di a wyddost er pan gollais i dy lun di (o waith codwm fy henafiaid anedwydd) na allaf fi moth garu di am holl allu, ac am holl feddwl, fel y dylwn: Am hynny megis y darfu i ti yn gyntaf daflu dy serch arnaf fi, pryd yr oeddwn i yn blentyn y digofaint, ac yn delpyn or byd colledig; felly yr awrhon yr wyf yn attolygu i ti dywalld dy gariad trwy dy lân yspryd, i'm holl gynneddfau am serch, fel er nas gallaf fi fyth dalu i ti yn y fàth fesur ar gariad, ac a haeddaist di: etto y gallwyf ymegnio i dalu i ti yn y cyfryw fodd, ac a fyddo yn gymmeradwy gennit ti yn dy drugaredd; fel y byddwyf mewn vniondeb calon, i garu fynghymydog er dy fwyn di, a'th caru di vwchlaw pob dim er dy fwyn dy hunan. Na âd i ddim fod yn ddifyr gennif, ond yr hyn a fyddo yn ddifyr ger dy fron di. Ac o Iachawdwr anwyl, na chynnwys i mi syth fod yn golledig, neu wedi fy nhaflu ymmaith, yr hwn a brynaist ti cyn ddrutted a'th werthfawr waed dy hun. O Arglwydd na ád i mi fyth anghofio dy anfesurol gariad hyn, a'th ddawn anrhaethadwy o'm prynedigaeth i heb yr hyn beth, fe fuasai well i mi na buaswn erioed, ra chael bod.
A chan weled dy fod ti yn canniadhau i mi gynnorthwy dy lân Yspryd; Dôd gennad i mi o Dâd refol (yr hwn wyt Dâd yr ysprydau) ynghyfryngdod dy Fab i lefaru ychydig eiriau ynghlustiau fy Arglwydd. Os ydwyt ti o Arglwydd yn sy nirnirmygu [Page 426] am gwrthod am fy anwireddau, fel yr haeddwn, etto bydd drugarog wrthif fi er mwyn haeddedigaethau dy Fab, yr hwn a ddioddefodd gymmaint trosof fi. Beth er nad wyt ti yn gweled ynof fi ddim ond trueni, yr hyn a ddichon ennyn dy ddigter a'th ddigofaint? etto edrych ar haeddedigaethau dy Fab, ac ti a gai weled digon ith annog i drugaredd a thosturi. Gwêl ddirgelwch ei gnawdoliaeth ef, a gollwng dros gôf drueni fy nrhoseddau i. A chyn fynyched ac y byddo archollion dy fab yn ymddangos yn dy olwg, gâd i mhechodau i fod yn guddiedig oth wydd di. Cyn fynyched ac y byddo cochni ei waed yn discleirio yn dy olygon: Oh gâd i euogrwydd fy mhechodau, gael ei dynnu allan o'th lyfr di. Afiaeth fy nghnawd i a enynnodd dy ddigofaint ti: Oh gâd i ddiwairdeb ei gnawd ef dy berswadio di i drugarhau: megis ac y darfu im cnawd i fy nenu i bechu, felly y gallo ei gnawd ef fy nhattroi ith ffafr di. Fy anvfydd-dod i a haeddodd ddial mawr, ond ei vfydd-dod ef a haeddai ddau cymmaint o drugaredd: Canys pa gosp a ddichon dŷn ei haeddu, ar nas dichon Duw, yr hwn a wnawd yn ddŷn haeddu cael maddeuant am dani? pan ystyriwyf faintiolaeth dy ddioddefaint, yno yr wyf yn gweled wiried y dywedir: Ddyfod o Iesu Grist i'r byd i iachau 'r pechaduriaid pennaf. A feiddi di gan hynny O Cain ddywedyd fod dy bechodau yn fwy nag a ellir eu maddau? Yr wyt ti yn dywedyd celwydd fel Llofruddiwr. Trugareddau vn Crist a ddichon faddau i lonaid yr hollfyd o fath Cain, os credant ac ediferhâu. Pechodau yr holl bechaduriad ydynt o fewn rhif, trugareddau Duw ydynt aneirif. Am hynny O Dâd er mwyn Angau chwerw a dioddefaint gwaedlyd dy Fab Iesu Grist, yr hyn a ddioddefodd trosof fi, y rhai a [Page 427] gofiais i yr awrhon wrthit, maddau a phardyna i mi fy holl bechodau, a gwared fi oddiwrth y felldith ar dial, y rhai y maent hwy yn ei gyfiawn haeddu: a thrwy ei haeddedigaethau ef, gwna fi O Arglwydd yn gyfrannog o'th drugaredd di. Dy drugaredd di ydyw y peth am yr hwn yr. ydwyf fi mor ddifrifol yn curo am dano. Ac ni chaiff fy nhaerder ballu a galw, a churo megis y dŷn oedd yn ceifio y torthau ym menthyg, nes i ti godi ac agori pyrth dy râd i mi. Ac oni channiadhei di i mi y torthau, O Arglwydd na naccâ mo honof fi o friwsion o'th trugaredd, a hynny a gaiff wasanaethu i'th lawforwyn newynllyd.
A chan weled nad wyt ti yn gofyn dim am dy holl ddoniau, ond i mi dy garu yngwirionedd fynghalon oddifewn (o'r hyn y mae Creadur newydd yn vnionaf tystiolaeth oddiallan,) a bod cyn hawsed gyd â thydi, fyngwneuthur i yn greadur newydd, a gorchymyn i mi fod yn gyfryw: Crea galon lân ynof o Grist ac adnewydda yspryd vnion o'm mewn: Ac yno y cei di weled mal (gan farwhau yr hên Adda ai drachwantau llygredig) y gwasanaethaf dydi mal creadur newydd, mewn buchedd newydd, rhyd llwybr newydd, â thafod newydd, a moddion newydd, â geiriau newyddion, â gweithredoedd newyddion, er gogonniant i'th cnw, ac i ynnill eneidiau pechadurus eraill i'th ffydd di, trwy fy siampl bucheddol.
Cadw fi yn dragywydd o fy Iachawdwr oddiwrth boenau vffern a chreulondeb y cythraul. A phan fyddwyf i ymadel ar bywyd hwn, danfon dy Angelion sanctaidd im dwyn i fel y dygasant enaid Lazarus i'th deyrnas nefol. Derbyn fi y pryd hynny i'th hyfrydol baradwys, yr hwn a addcwaist [Page 428] ti i'r lleidr edifeiriol, yr hwn ar ei ddiben diwaethaf ar y groes, oedd mor ddefosionol yn crfyn dy drugaredd, a llc yn dy deyrnas. Canniadhâ hyn, o Crist, er mwyn dy enw dy hun: I'r hwn megis y mae 'n gyfiawn ddyledus, y byddo holl ogoniant, ac anrhydedd, mawl, a brenhiniaeth yr awr hon, ac yn oes ocsoedd. Amen.