[...] anghyfeillion;
GObeithio y Rhowchi Gennad i geisio bôd yn llawen y Leni, bŷm yn ddigon aflawen amrŷw o flynyddoedd; Nid ellwch wadu nad yscrifennais Cŷn nessed i'r Gwîr ag odid o un, yn enwedig y ddwŷ flynnedd ddiweddaf: Ac etto Enillais fwŷ o Glôd wrth yscrifennu  [...]m y Towŷdd y llynedd nag a allwif fŷth ddwŷn dros y  [...]hinniog; yn Chwefror a Mawrth y llynedd, roedd yn agos  [...]r hôll blanedau mewn Arwŷddion dyfrllud, ar haul tan ddiffŷg mewn Arwŷdd dyfrllud  [...]etyd, y Tystiolaethau hynnŷ wrth Reol yr henuriaid a arwŷddeu wlaw neu Lyba  [...]iaeth mawr, ac er hynnŷ onibae ir ddaear roddi mwŷ o ddŵr nar nefoedd yn yr amser hwnnw, ni chawsem olchi mo 'n llestri mewn chwech neu saith wŷthnos o amser▪ Ac ar amseroedd eraill pan ddisgwiliem sychder, y nefoedd a biseu am yn pennau; Gwe [...]wn fôd yr haul yn ei symmidiad yn llyfodraetha mwŷ ar y Tywŷdd na 'r hôll blanedau eraill, o herwŷdd pan fô 'r haul ymhellaf oddiwrthom Gefen y Gauaf, ni fylystotta ein gwartheg o herwŷdd gwrês ac adnod: A phan fô 'r haul yn ne [...]af attom Gefen yr hâf, ni Rewa ysbigodau ein diodŷdd Cryfion, ac ni Chleddir  [...]o'n defaid yn fŷw dan luchfaoedd o eira; Ac am hynnŷ nid ofer mo 'n hôll ddaroganiad am y Tywŷdd, gan hynnŷ ni rusaf fyned Rhagof, ac nid wif yn ammeu na bŷdd yr hŷn a yscrifennaf Cŷn gywired ar Cywiraf o Almanacc sacsnaeg, er bôd Cymmaint o'r Cymru yn diystyru Gwaith gŵr eu gwlâd, ac yn tybied nad ŷw eu Safnau yn drefnus heb Saesnaeg neu Lading ar eu  [...], mae gormod yn y bŷd yn balchio ar fedru Jeitho [...] dieithrol, i ddottio a hurtio y rhai nad oedd Ganddyn [...]  [...]an iw dwŷn i farchnad y Lading neu 'r saesnaeg yn eu  [...]gtud; er hŷn dymu  [...]wn ar y Tylotta ei ddŷsg  [...] Goelio a chredu fô [Page] pôb Ymadrodd dâ mor gymeradwŷ gyda Duw, yn y Gymraeg ag mewn Jeithoedd eraill, ac nad ŷw gwaeth dŷn gar bron Duw a'i molianno yn Jaith ei fam, na'r Rhai a fedreu ei foliannu yn hôll Jeithoedd y Bŷd: I bwy bynnag a Rhoddwyd llawer llawer a ofynnir ganddo. Luc. 12. 48. Ond lle ni roddodd Duw ond ychydig ddealltwriaeth, ni ddisgwil ef ganddo ond yn ôl ei allu.
Holl Bapistiaid y bŷd, a'r Tyrciaid a Godasant mewn Arfau, i Geisio 'r hŷn nid oes iw gael, nid oes dim a'u bodlona ond mwŷ o oruchafiaeth nag sŷdd ar y ddaear iw Gael, neu fwŷ nag a welo Duw yn ddâ roddi iddŷnt; ond yr esgis ŷw er mwŷn Crefŷdd; os ŷw Cydfradwriaethu, llâdd a lladratta, llosgi tai a threfŷdd, amdwŷo Gwledŷdd a theŷrnasoedd yn dystiolaethau o Grefŷdd, ni a Goeliwn maê Crefŷdd ŷw achos helbul y Bŷd.
Yr anghenfil o Ffraingc a aeth yrywan yn ffidler i holl ddawnswŷr Crêd (oblegid efe sŷ 'n Cyffroi 'r holl chwaryddion) a phan ddarfyddo 'r chwaryddiaeth y ffidler a Geiff y Cyflog a welo 'r dawnswŷr yn dda.
Och, och y Gwŷddelod bradwraidd, yr ydŷchi 'r rywan yn anhawddgar eich trefn; yn llê ymbesgi ar ymborth Jachus, meddwasach ar wenwŷn Ffreinig; a gwewur hwnnw sŷ 'n peri ichwi rywan weiddi ochon ochrî; ochon ochrî. a thyngu myn y mass mae gwell a faseu ichwi Sefŷll gyda St. Patric, na myned at St. Denis: Meddyliwch am y Flwŷddŷn 1641, yr amser a lladdasoch ddau Can mil o Gristionogion mewn gwaed oer ac yn ddiachos, a ydechi yn tybied ollwng o dduw eich gweithredoedd dros go? a Oes arnoch eisieu arian i brynnŷ eich pardwn gan y Pâp, neu a Rwŷstrodd eich pederau Cymmaint na fedrwch mo 'u Cyfri yn uniawn, a fŷochi mor angheuol i'ch Duwiau disiomgar na waredant monoch o'ch Caethiwed; neu a ollyngasoch yn ango henwau eich Seintiau, Whitebread, Picrin, a Phlynced i Alw arnŷnt l fôd yn Gyfryngwŷr drostoch; os byddwch feirw derfŷdd am danoch ôll, os bŷw a fyddwch amdwŷwch y naill y llall, Dychwelwch oddiwrth eich Camweddau, a Cheisiwch y Gwîr dduw, Gofynnwch a Rhod [...]ir i chwi, Ceisiwch a chwi a Gewch, Curwch ac fe agorir  [...]chwi. Canys pob un sy 'n Gofyn sy 'n derbyn, a'r nêb sy 'n Ceisio sy 'n Cael, ac i'r hwn sy 'n Curo yr egorir, Matthew 7.  [...] 8.
[Page] Ymorowch yn unfrŷd i gymerŷd yn ufudd, yr odfa hon  [...]dyfod i wir addoliaeth yr unig wîr Dduw, tan nawdd a [...]  [...]weiniad eich Grasusaf Frenin, a Brenhines, Wiliam a Mari, I rhain, (ni a atolygwn i dduw) y bo hîr hoedel a llwŷddiant yn y bŷd hwn, ac yn ol hynnŷ dragywŷddol fywŷd yn nheŷrnas nêf.
Llundain, Medi 16. 1690.
 Eich Ʋfudd Wasanaethwr, Thomas Jones.
Cyffredinol Sywedyddawl farnedigaeth am y Flwŷddŷn, 1691.
BYdd diffŷg ddwŷ waith ar yr haul yn y Flwŷddŷn 1691. heb yr un ar y lleuad.
Y Diffŷg Cyntaf ar yr haul a ddigwŷdd ar y Trydŷdd ar bymtheg dŷdd o Chwefror, ynghylch pump ar y Glôch y boreu; ac ni bŷdd weledig i ni o herwyd ei fod Cŷn Codi haul.
Yr ail Diffŷg a ddigwydd ar yr haul ar y trydŷdd ar ddêg dŷdd o Awst, ynghŷlch chwêch or prŷdnawn, ac a fŷdd diffŷg mawr Jawn iw weled mewn Gwledŷdd pell tua'r deheu, er na welir ond ychydig neu ddim o hono gyda ni: Y Diffŷg hwn sŷ 'n arwŷddo helbul mawr i Rŷw frenin enwog, ac ondodid angeu a ymweliff ag éf Cŷn pen nemawr, Lewis Meddwl dicheu am dy drosglwŷddiad:
Wrth y Reol a dderbŷniasom gan un on hên deidiau Gŷnt, y Flwŷddŷn hon a ddyleu ddigwŷdd yn wŷntiog auaf a hâf, Gwanwŷn Gwlŷb, a Chynhauaf Gwlawiog, a llifeiriant mawr tua diwedd y Flwŷddyn, Llawndra o Gnŵd y ddaiar ac o ffrwŷthudd Coed, ond prinder o Gîg, o herwŷdd y Clefŷdau, ar farwolaeth a ddigwŷdd ar enifeiliaid. Hebbul a Rhyfel anhoweth drwŷ 'r Bŷd.
Wrth amrŷw dystiolaethau eraill, bŷdd hon yn Flwŷddŷn Ryfelgar iawn, Gorthymder y Werddán a fŷdd rebŷg i barhau tan ddiwedd yr hâf. Swedland a Russia a fŷdd helbulus hefŷd, Gwell a faseu i Swedland eiste yn llonŷdd na chodi i Ryfela y Leni; Ffraingc a ddieddu Lawer o Gaethiwed, nid ŷw Paris yn ddiangol o gythryfwl ynddi chwaith; lle a torrasant ffôs i eraill, syrthiant ynddi eu hunain. Braband, Flanders, a Spain, a yfant yn helaeth o ffiol digofaint yr Arglwŷdd. 'Tua diwedd yr hâf, Llundain a deheudir Lloeger a fyddant mewn Cyffro, ac yn anesmwŷth; ond o holl deŷrnasoedd y bŷd Ffraingc a fŷdd fwŷaf ei chaethiwed, ac ynghŷlch hŷn Coeliant fôd Duw yn Gyfiawn. Hungaria a fŷdd dan chwerw gystudd, a helbulus ei helŷnt dros ychydig amser. Pen llywŷdd Lloeger a fŷdd llwŷddianus iawn y Leni, Duw ai Cynhalio fellu dros lawer o flynyddoedd.
Cyngor i ymwared a Balchder, ac i ymegnio am Jechydwriaeth i'r Enaid, &c.
(1.)
GWrandewch ar gynhanedd gerdd euraid Gyfrodedd,
I ddangos anrhydedd, a rhinwedd sŷ ar hon;
Ar llwŷddiant sŷ 'n digwŷdd o bôb gostyngeiddrwŷdd,
Ac aflwŷdd, a bol-chwŷdd y beilchion.
(2.)
O ufudd-dod daw power, o bower daw Balchder,
O falchder i uchder a Rhyfel yn rhôd;
Mâg Rhyfel dylodi, tro anian trueni,
Ymroi a orfŷdd wedi i ufuddod.
(3.)
Nid digon Gan briddŷn o rwŷsc i orescŷn,
Gan milltir o dyddŷn, i ddilŷn ei ddart;
A chwedi iddo farw, pa Cesclid ei Ludw,
Digon iw gadw a fŷdd godart.
(4.)
Pan oedd Alexander ar Bŷd dan ei faner,
Fe ofnid ei bower, swŷdd ofer i ddŷn;
Pan aeth y Clai drosto, se'i Codid i blastrio,
Ni stoppieu 'r gwŷnt atto gardottŷn.
(5.)
Ond Rhyfedd, ond Rhyfedd i ddŷn yn ei fawredd,
Na ddeall ei ddiwedd, a'i ddechreu;
Pa chwilie 'n ddysgedig, a meddwl yn ffyrnig
Ychydig Awch oerddig a chwardden.
(6.)
Ond Rhyfedd i'r chwannog, a'i bower goludog
Na byddeu drugarog, i anghenog a hèn.
Pan elo fe i ymadel, ar Bŷd i roi ffarwel,
Ni thâl iddo ei gattel ddwŷ Goeten.
(7.)
Nid ydŷw 'r Bŷd ddigon o dammaid i'r gal [...]n;
A hŷn trwŷ ofalon, ond Rhyfedd;
A hitheu 'eb fôd hefŷd ond tammaid i farcud,
Pan fŷch yn y Gwerŷd yn Gorwedd.
(8.)
Dy galon achŷba i 'r Brenin Gorucha,
Os doi i lettyfa dan noddfa Duw nêr,
Heb Galon lân ynod i addef dy bechod,
Nid ydŷw dy dafod ond ofer.
(9.)
Bŷw wrth Lafurio y Bywŷd a 'r dwŷlo,
Nes darfod balchio a chwŷddo drwŷ chwant;
A mynd wrth ein pennau nes dyfod y dyddiau
A'r Cleddeu dialeddau dilwŷddiant.
(10.)
Na chwilia am gyfrwŷddŷd, goeg aspri gwâg ysprŷd,
I geisio Celfyddŷd tŵŷll enbŷd i ti;
Os mynni di yspysrwŷdd, a bôd yn gyfarwŷdd,
Y Bibl iâch hylwŷdd a chwili.
(11.)
Eiff Teŷrnas i ryfel i 'm guttio am y gottel,
I gadw 'r Corph Isel yn uchel ei naid;
Ychydig dan iawn-groes. sŷ 'n dioddeu dolur-loes,
I gadw hir enioes i'r enaid.
(12.)
Pan fyddo 'r Corph priddlud yn poeni am ei fywŷd,
Mae 'r enaid yn hyfrŷd weddio;
A'r Corph pan fo segur, bŷdd Sattan yn brysur,
Yn dyfod ondantur iw demptio.
(13.)
Dy Gorph os doluria, di a werri dy fawrdda,
I dalu hŷd yr eitha i bysygwr;
Ar Jawn bysygwriaeth sŷ 'n rhâd ac yn helaeth
Gyda 'th wŷch odiaeth Jâchawdwr.
(14.)
Cofia di hefŷd mae diles ŷw d'olud,
Pan orffo i ti symmŷd o'th fywŷd i'th fêdd:
Dy Lwŷbŷr gwna 'n union i wlâd yr Angylion,
Yn Gyfion at Goron trugaredd.
(15.)
Cofia dy ddiwedd, ar boen, ar drugaredd;
Dy Gorph eiff i orwedd i Geuwedd y gŵŷs,
Na ollwng di 'n ango mo 'r pêth sŷdd raid wrtho,
Dwŷn d' enaid i rodio paradwŷs.
(16.)
Cofia y daw Jesu heiddiw neu 'foru.
I 'th Alw, i 'th farnu i fynu i'r farn,
Ar ddyled-swŷdd arnad, yn nŷdd adgyfodiad,
I'th farnwr a'th Geidwad bŷdd gadarn.
(17.)
Cofia Cŷn d'orwedd Grefu am drugaredd;
O folia [...]t anrhydedd, a diwagedd waith.
Ni wŷddost di wrth gysgu, ond gobaith ar Jesu,
A godi di o 'th welŷ fŷth eilwaith.
(18.)
Cofia bôb amser, frenin Uchelder,
Na chalŷn di falchder, na thrawster na thrais.
Pan fŷch di yn y ddauar, a 'th esgurn ar wasgar.
Fe fŷdd yn edifar bôb dyfais.
(19.)
Cofia fôd pechod yn gymmaint êi ddyrnod,
Yn pwyso hŷd waelod y dyfnder.
Trugaredd a cheidwad a dalodd am danad,
A dirnad wŷch haeldad uchelder.
(20.)
Ymolch yn berffaeth Cŷn dŷdd y farwolaeth,
I 'r Ail anedigaeth fŷwiolaeth farn;
Fel 'relŷch i'r gwerŷd, a hefyd i'r ail-fŷd,
Ar bywŷd ddiwedd frŷd ddŷdd y farn.
(21.)
Beth bynnag a orfo i'th gorph ei boenydio.
I ddioddeu, neu i rwŷstro, neu i gwŷno heb gêl,
Meddwl yn ddibaid, mewn amser anghenrhaid,
Am d' enaid hoff euraid, a Ffarwel.
Egluriad dalennau 'r misoedd yn yr Almanacc hwn.
Y Flwŷddŷn a Ranwyd yn ddeuddeg o fisoedd, ac i bôb m [...]s o honŷnt i mae dau du dalen yn perthŷn; a'r tu dalen Cyntaf or ddau (neu 'r nesaf at y llaw aswf) a ranwŷd yn chwêch o golofnau.
[Page] 1. Y Golofn Gyntaf o honnŷnt, neu 'r nesaf ac y llaw aswf, sŷ 'n dangos dyddiau 'r mîs, lle y gwelwch, 1, 2, 3, 4, 5, &c.
2. Yr ail golofn sŷ 'n dangos dyddiau 'r wŷthnos, lle y gwelwch a. b. c. D. e. f. g. Gwŷbŷddwch mae 'r llythyren fawr, sef D. sŷ 'n sefŷll am y Suliau y Leni.
3. Y drydedd golofn sŷ 'n dangos y dyddiau gwŷlion, a'r dyddiau hynod, a Gwŷlmabsanctau Cymru; a Gwŷbyddwch fôd yr hôll ddyddiau sŷdd orchymmŷnedig iw Cadw yn ŵylion gwedi 'hargraphu a llythyrennau duach neu fwŷ na 'r lleill.
4. Y bedwaredd golofn sŷ 'n dangos pâ lê y bŷdd yr Arwyddion ynghorph dŷn ac anifail ar bôb dŷdd, fel a gwelwch yn y Golofn hono gyferbŷn a'r dŷdd Cyntaf o Jonawr ysgwŷddau, yn dangos fôd yr Arwydd y dŷdd hwnnw yn yr ysgwŷddau, &c.
5. Y bummed golofn a ddengus godiad y lleuad o'i llawn lloned iw newidiad; a'i machludiad o'i newidiad iw llawn-lloned; Cewch yr awr tan A, a'r mynudŷn tan M. Wrth ac arol N. sŷ'n Arwyddo nôs neu Cŷn hanner nôs: Wrth ac arol B. sŷ 'n Arwŷddo boreu, neu rhwng hanner nos a Chodiad haul.
6. Y chweched golofn sŷ 'n dangos pen llanw 'r môr bôb dŷdd a nôs (yn y flwŷddŷn 1691.) o ddeutu Cymru; Gyferbŷn a'r dŷdd a fynnoch cewch yr Awr tan A, a'r mynud tan M.; a hynnŷ a wasanaetha ddŷdd a nôs, neu foreu a hwŷr, heb fawr fai.
Y Chweched golofn sŷ'n dangol hefyd ddyfodiad y lleuad ir deheu: Sef, ar y nosweithiau Goleu bŷdd y lleuad yn y deheu ar yr un amser a phen llanw 'r môr. Wrth benyd y lleuad ar ddeiol haul, Geill dyn Celfyddger wybod yr awr o'r nôs, Cewch hytrach athrawaeth o hynny y Flwŷddŷn nesaf.
Yr ail Tu dalen, neu 'r nesaf at y llaw ddeheu, sŷ mor hawdd ei deall, nad ŷw reidiol gwneuthur egluriad arni.
HOLL Ffeirau Cymru, A Rhai o Ffeiriau Lloeger ar sydd yn ago [...] i Gymru, mewn Gwell Rheol nag eroe▪ o'r blaen.
Ffeiriau Sîr Fôn.
ABerffraw, dŷdd mercher y Drindod. Gorphenaf 31. Hydref 12. Tachwedd 30.
Bewmares, Chwefror 2. dŷdd Jou derchafael, Medi 8. Rhagfŷr 8.
Llanerch y mêdd, Mawrth 24. Ffeiriau Cyffylau ar y ddau fercher nesaf i'r 22 dŷdd o'r Gorphennaf. Awst 14. Medi 21. Tachwedd 2.
Newborough, Ebrill 30. Mehefin 11. Awst 10. Medi 14. Hydref 31.
Porthaethwŷ, Awst 15. Medi 15. Hydref 13. Tachwedd 3.
Ffeiriau sîr Gaernarfon.
Aber-Conwŷ, Awst 24. Medi 29. Hydref 28.
Abergwŷngregin, Awst 7. Hydref 14. Tachwedd 10.
Bangor, Mehefin 14. Hydref 17.
Bettws, Mai 5. Tachwedd 22.
Y Borth, Awst 15. Hydref. 13.
Caernarfon, Mai 5. Gorphennaf 24. Tachwedd 24.
[Page] Cricceth, Mai 12. Mehefin 20. Hydref 7.
Nefŷn, Mawrth 24. Noswŷl y sulgwŷn. Awst 14.
Penmorfa, Medi 14. Tachwedd 1.
Pwllheli, Mai 2. Awst 8. Medi 13. Hydref 31.
Trê-rhiw, Awst 23. Hydref 27.
Ffeiriau sîr Ddimbych.
Abergeleu, noswŷl y derchafael, Awst 9. Medi 29,
Cerig y Drudion, Ebrill 16.
Dinbŷch, sadwrn y blodau, Mai 3. Gorphenaf 7. Medi 14.
Gwrecsam, Mawrth 12. Dŷdd y derchafael, Mehefin 5, Medi 8.
Holt, Mehefin 11. Hydref 6.
Llan-gollen, Mawrth 6. Mai 20. Tachwedd 11.
Llan-rhaiad ymmochnant, Gorphenaf 13. Hydref 28.
Llan-rŵst, Mehefin 1. a'r 10. Gorphenaf 13. Rhagfŷr 1.
Rhuthŷn, y Gwener o flaen y sulgwŷn, Medi 20. Hydref 31.
Yspyttŷ Ifan, Mehefin 22. Medi 12. Hydref 12.
Ffeiriau sîr Y Fflint.
Caergwrleu, Awst 1. Hydref 16.
Caerwŷs, mis Mawrth 25. Y dŷdd Jou nesaf ar ôl y drindod. Y dŷdd Mawrth Cyntaf ar ôl y 7 dŷdd o'r Gorphenaf. Awst 29.
Y Fflint, Awst 10.
Llan-Elwŷ, dŷdd mercher y Pasg. Rhagfŷr 16.
Llan-Urgaŷn, Mehêfin 26.
Rhŷddlan, Chwefror 2. mîs Mawrth 25. Awst 15. Medi 8.
Yr Wŷrgrig, Gorphenaf 22. Tachwedd 11.
Ffeiriau sîr Feirionedd.
Bala, Mai 3. Mehefin 29. Medi 17. Hydref 15. a'r 28.
Bettws gwerfŷl Gôch, Mehefin 11. Rhagfŷr 10.
Corwen, mîs Mawrth 1. Mai 13. Medi 29. Rhagfŷr 11.
[Page] Dinas ymmowddweu, Mai 22. Awst 30. Tachwedd 2.
Dôlgelleu, Ebrill 30. Mehefin 23. Medi 28. Tachwedd 11. Rhagfŷr 5.
Harlech, dŷdd Jou nesaf ar ôl y drindod, Awst 10.
Llan-drillo, Mehefin 24. Awst 17. Tachwedd 3.
Ffeiriau sîr Drefaldwyn.
Llan-fylling, Dŷdd mercher o flaen y Pasg. Mai 13. Mehefin 17. Medi 24.
Llan-Idos, Ebrill 30. Gorphenaf 6. Hydref 16.
Machynlleth, Mai 5. Mehefin 28. Medi 29. Tachwedd 15.
Trallwngc, Mai 25. Medi 1. Tachwedd 5. Marchnad Rŷdd ar ddŷdd llun y blodau.
Trefadwŷn, Awst 2. Tachwedd 1.
Trêf-newŷdd, Mehefin 13. Hydref 13. Rhagfŷr 1.
Ffeiriau yn sîr Faesyfedd.
Castell-maen, Gorphenaf 7. Tachwedd 2.
Llan-Andrews, Gorphenaf 24. Tachwedd 30.
Maesyfedd, dŷdd Mawrth y Drindod. Awst 3. Hy  [...]ref 18.
Rhaiad ar Gwŷ, Gorphenaf 26. Awst 15. Medi 15.
Trêf y Clawdd, Mai 6. Medi 21.
Ffeiriau sîr Aberteifi.
Abertefi, Chwefror 2. mîs Mawrth 25. Awst 15. Medi 8. Rhagfŷr 8.
Aberath, Mehefin 24. Tachwedd 30.
Cappel-Cynnon, Dŷdd y Derchafael, yr ail dŷdd Jou yn hydref.
Cappel Crîst. Y mercher ar ôl sul y drindod.
Cappel St. Silin, Medi 1.
Llanbadern fawr, sadwrn y Blodau, y sadwrn Cyntaf Cyn natalic ond pan fo ar nôs atolic.
Llanwenog, Jonawr 2.
Llangyranog, Mai 16.
[Page] Llanbeder pont Stephen, mercher y sulgwŷn, Meh [...] 29. Hydref 10.
Llanrhustŷd, Rhagfŷr 18.
Llandysul, Dŷdd Jou Cŷn sul y blodau. Medi 8.
Llanwnnen, Rhagfŷr 25.
Llanwŷddalus, Ebrill 26.
Rhôs, Gorphenaf 25. Awst 2. a'r 10.
Tal y sarn Grîn, Awst 28. Hydref 29.
Trêf hedŷn wrth Emlŷn, Gorphenaf 7.
Tegaron, Chwefror 8. mîs Mawrth 5.
Ystrad meirigc, Mehefin 21.
Ffeiriau sîr Fercheinog.
Aberhonddu, Ebrill 23. 24, 25. Mehefin 24. Awst 29. 30, 31. Tachwedd 6.
Cerig-howel, Mai 1. Awst 10. Rhagfŷr 21.
Y Gelli, Mai 6. Awst 10. Medi 29.
Llanfair ymmuallt, Mehefin 16. Medi 21. Tachwedd 25.
Ffeiriau sîr Gaerfyrddin.
Abercynnen, Tachwedd 11.
Abergwili, Medi 21.
Caerfyrddin, Mai 23. 24, 25. Awst 1. a'r 29. Medi 28. Tachwedd 3.
Cappel-Jago, Gorphenaf 25.
Cappel St. Silin, Jonawr 27.
Castell newŷdd yn Emlŷn, Mehefin 11. Gorphenaf 7. Tachwedd 11.
Castell newŷdd yn 'Rhôs, Mehefin 11.
Cŷdweli, Gorphenaf 21. Hydref 18.
Cynwŷlgaro, Mehefin 11.
Dryslwŷn, Mehefin 20. Awst 24.
Eglwŷs Alcha, Awst 10.
Lacharn, Ebrlll 25.
Llandêbio, dŷdd mercher y sulgwŷn.
Llandeilo fawr, Chwefror 9. Dŷdd llan y blodau, Mehefin 10. Rhagfŷr 28.
Llandeilo fechan, Mehefin 10.
[Page] Llan-dysel, Jonawr 30.
Llan Elii, dŷdd Jou Derchafael, Medi 20.
Llanfihangel Abercowŷn, Medi 29.
Llanfihangel-Euroth, Mai 1. Medi 29.
Llan-Gadog, mîs Mawrth 1. Mehefin 28.
Llan-Gyndeŷrn, Gorphenaf 25.
Llan-gynŷch, Hydref 12.
Llan y Byddar, Mehefin 10. Gorphenaf 6. Hydref 21. Tachwedd 10.
Llanddyfri, dŷdd Mawrth y sulgwŷn, Gorphenaf 20. Tachwedd 15.
Mydrim, Mawrth 7.
Pen y bont ar Sali, Tachwedd. 24.
Pen y bont, Rhagfŷr 22.
Y Tŷ Gwŷn ar Dâf, Chwefror 2. Mawrth 25. Awst 15. Medi 8. Rhagfŷr 8.
Ffeiriau sîr Benfro.
Arberth, Mehefin 24. Tachwedd 30.
Castell newŷdd bach ynghemŷs, Mehefin 29.
Cilgeran, Awst 10.
Castell gwŷs, Hydref 29.
Criswŷl, Dŷdd Llun y Drindod.
Eglwŷs wrw ynghemŷs. Dŷdd y derchafael. Y llun cyntaf ar ôl yr 11 o dachwedd.
Ffair Gyrig yn rhewdraeth, Mehefin 11.
Hwlffordd, Mai 1. Gorphenaf 7.
Llan-Haiaden, Hydref 18.
Matherŷ, Medi 29.
Mwncton wrth Benfro, Mai 3. Medi 4.
Marberth, Tachwedd 30.
Merthŷr, Medi 29.
Newport, Mehefin 16.
Penfro, Mai 3. Medi 14.
Saint Meugan ynghemeŷs, Medi 15. Y dŷdd llun nesa [...] ar ôl yr 11 dydd o Dachwedd.
Winston, Hydref 28.
Ffeiriau sîr Forgannog.
Abertawŷ, Ebrill 28. a'r 29. Gorphenaf 2. Awst 15. Hydref 8.
Brogior wrth wenni, Medi 29.
Caerdŷf, Mehefin 29. Awst 15. Medi 8. Tachwedd 30.
Caerffili, mîs Mawrth 25. Dŷdd Jou ar ôl sul y drindod. Gorphennaf 19. Awst 14. Medi 28. Tachwedd 5. Y dŷdd Jou nesaf o flaen dŷdd Natalic.
Castellnédd, Mehefin 15. Gorphenaf 20. Medi 2.
Dyffrŷn Golluch, Awst 10.
Eglwŷs fair y mynydd, Awst 15.
Llandaff, Chwefror 12. Dŷdd llun y sulgwŷn.
Llan-gyfelach, mîs Mawrth 1.
Llan-Ridian, y Dŷdd llun diweddaf o flaen y Pasg.
Llan-Trissiant, Mai 1. Awst 1. Hydref 17.
Llychwr, Medi 29.
Merthŷr-Tudfŷl, Mai 3. a phôb dŷdd llun o hynnŷ hŷd wŷl fihangel.
Penrhŷn, Tachwedd 30.
Penrhŷs, Mai 6. Mehefin 6. Medi 6. Tachwedd 30.
Pen y bont. Dŷdd Jou Derchafael, Mai 15. Tachwedd 6.
Pont ar Lai, Gorphenaf 22.
Pont-faen, Mai 3. Mehefin 24.
Saint Nicholas, Rhagfŷr 8.
Y Waun, Mai 2. Dŷdd llun y Sulgwŷn. Dŷdd llun y Drindod, Awst 23. Medi 13. Tachwedd 10.
Ffeirian sîr Fynwy.
Abergafeni, Mai 3. Mawrth y Drindod. Medi 14.
Brŷn Bŷga. Dŷdd llun y Drindod, Hydref 18.
Caerlion ar wŷsg, Mai 1. Gorphenaf 20. Medi 21.
Castell bychan, Mehefin 13.
Castell Gwent, y Gwener Cyntaf ar ôl y Sulgwŷn, Awst 1. Yr Ail Gwener ar ôl dŷdd Mihangel.
Castell newŷdd ar wŷsg. Dŷdd y Derchafael, Awst 15. Medi 8. Tachwedd 6.
Mynwŷ. Dŷdd Mawrth y sulgwŷn, Awst 24. Tachwedd 11.
Stow ymhlwŷf Gwinlliw. Dŷdd Jou ar ôl y sulgwŷn.
Rhai o Ffeiriau LLOEGR, y Rhain sydd yn Agos i Gymru.
Ffeiriau sîr Gaerfrangon.
BEwdleu, Chwefror 5. Ebrill 23. Gorphenaf 26. Tachwedd 20.
Caerfrangon, dŷdd llun y blodau, Medi 8.
Ciderminster, dŷdd y Dechafael. Dŷdd Jou ar ôl sul y Drindod, Awst 24.
Styrbrids, Mawrth 18. Awst 28.
Tenburi, Ebrill 15. Gorphenaf 7. Medi 15.
Todington, Awst 24. Medi 29. Tachwedd 23.
Upton, Mehefin 24.
Ffeiriau sîr Gaerloyw.
Caerloŷw, Mehefin 24.
Caerodor neu Brŷsto, Jonawr 25. Gorphenaf 25.
Marsffîld, Mehefin 29.
Michael Dean, Medi 29.
Newent, Noswŷl y Sulgwŷn, Awst 25.
Tewsbri, Chwefror 24. Gorphenaf 22. Awst 24.
Wotton, Medi 14.
Ffeiriau sîr Gaerlleon.
Caerlleon. y dŷdd Jou diweddaf, yn Chwefror. Mehefin 24. Medi 29.
Heledd, dŷdd y Derchafael, Gorphenaf 22. Awst 23. Hydref 18. Rhagfŷr 6.
Malpas, mîs Mawrth 25. Gorphenaf 25. Rhagfŷr 8.
Ffeiriau yn sîr Henffordd.
Bromŷard, Mai 3. Dŷdd llun y Sulgwŷn.
Cingtwn, dŷdd llun y Sulgwŷn, Mehefin 24. Gorphenaf 25. Medi 21.
Henffordd, y pummed llun ar ôl sul ynŷd. Y mercher Cyntaf ar ôl y Pasg, mîs Mawrth 25. Hydref 8. a'r 12.
Llanllieni, Mehefin 29. Hydref 28.
Ross, Gorphenaf 25. Awst 15. Medi 14. Dŷdd Jou lerchafael. Dŷdd Jou ar ól y Drindod.
Ffeiriau sîr y Mwythig.
Bridnsnorth, dŷdd Mawrth ynud, Mehefin 29. Gorphenaf 22 Tachwedd 18.
Croesyllwallt, mîs Mawrth 4. Mai 1. Awst 4. Tachwedd 29.
Eglwŷs-wen, dŷdd llun y Sulgwŷn, Hydref 23.
Elsmer, dŷdd Mawrth y Sulgwŷn, Awst 15. Tachwedd 1.
Llwdlo, y llun, Mawrth, ar mercher nesaf i'r Pâsg, o'i fla [...], mercher y Sulgwŷn, Awst 10. Medi 15. Tachwedd 25.
 [...]wŷthig, Mehefin 22. Awst 1. Medi 21. Y mercher o flaen y Sulgwŷn.
Trêf Esgob, Gwener y Croglith, Mehefin 24. Tachwedd 2.
Wem, Mehefin 26. Tachwedd 10.
Wenlac, Mehefin 24.
Llyfrau Cymraeg (heblaw 'r Almanacc hwn) werth gan Thomas Jones, Tan lûn y Bellen aur, ar frŷnn y Tŵr yn Llundain: A chan bawb craill ar a wertho ei lyfrau ef.
1. Y Gymraeg yn ei disgleirdeb, neu Eirlyfr Cymraeg a saesnaeg.
Yn gyntaf, yn hyspysu meddwl y gymraeg ddieithr, drwŷ gymraeg mwŷ Cynnefinol.
Yn ail, yn dangos y saesnaeg i bôb gair Cymraeg.
Yn drydŷdd, yn dangos y môdd i yspelio pôb gair yn gywir yn y gymraeg a'r saesnaeg.
Yn bedwaredd, yn dangos henwau hôll Physygawl lysiau 'r ddaear, a Choed a ffrwŷthŷdd Coed, yn Gymraeg, ac yn saesnaeg.
Yn bummed, yn da [...]gos Argraphyddol henwau gwledŷdd, gosgorddau, dinasoedd, Trefŷdd, a mannau ym-mrydain fawr, a rhai dros y môr; yn yr hên gymraeg, a'r bresennol gymraeg, ac yn saesnaeg.
Yn chweched, yn rhoddi Athrawiaeth i ddysgu darllain saesnaeg.
Yn seithfed, yn dangos meddwl neu ddeunŷdd yr orddiganau neu 'r Cappiau uwchben y bogeiliaid.
Yn wŷthfed, yn dangos gwir ddeunŷdd yr attaliadau, fel ag y maent yn osodedig ym mhôb llyfr.
Yn nawfed, yn dangos Cyffredinawl doriadau Geiriau, ar môdd i ddeall y cyflawn eiriau wrth eu toriadau.
Yn ddegfed, yn dangos meddwl a deunŷdd y nodau sulw.
Yn unfedarddêg, yn dangos Gwir ddeunŷdd y nodau Cyfeirio.
Yn ddeuddegfed, yn dangos y sel-nodau.
Yn dryd ŷ ddarddeg, yn hyspysu iawn ddeunŷdd y llythyrennau pennigol.
Pwŷbynnag na ddeallo 'r hôll eiriau Cymraeg dieithr a gyfarfyddo a hwŷnt wrth ddarllain amrŷw Lyfrau; gan fôd y Geirlyfr yn hyspysu 'r fath eiriau, na bydded hebddo  [...] dêg o'i werth.
[Page]  [...]  [...]ynnag o'r Cymrŷ a ewŷllysio ddysgu saesnaeg; y  [...]irlyfr ŷw 'r athrawiaeth oreu iddo.
Pwŷbynnag ni fedro yspelio pôb gair yn Gywir yn y gymreg a'r saesnaeg, y geir-lyfr ŷw 'r unig lyfr i ddysgu iddo  [...]ynnŷ.
Er rhucled a medro dŷn ddarllen, ac er cywired a medro gydio, a synnio ei eiriau; etto nid eill ef mo'i alwf ei hun yn gywir orgraphŷdd, na dywedŷd ei fôd yn berffeith ddar  [...]nnŷdd, nag yn berffeith ysgrifennŷdd, hyd oni wŷpo wir  [...]ddwl, a deunŷdd yr orddiganau, yr attaliadau, y torria  [...]au; nodau sulw, a nodau cyfeirio, a'r llythyrennau pen  [...]igol fel a traethwŷd amdanŷnt ôll yn y geir-llyfr.
Y néb ni wŷpo iawn ddeunŷdd yr orddiganau, nid eill ef wŷbod meddwl rhai geiriau.
Y nêb ni chadwo 'r attaliadau fel y dyleu, a dderllŷn  [...]swm dâ megis anrheswm.
Y sawl na 'styrio ar yr ymsangau a'r nodau sulw eraill, ni ŷdd ef iddo ei hun mo'r iawn ddealltwriaeth o'r hŷn a ddarllenno.
Yr hwn na ddeallo mo'r torriadau, (pa un bynnag a fônt ai darnau geiriau, ai unigol nodau, ai ffygurau rhifyddiaeth)  [...]id ŷw yn deall ond rhan o'r hŷn a ddarllenno; ac am hyn  [...]ŷ tywŷll ac anhyfrŷd ŷw ei ddarllenniad iddo.
Y nêb na wŷpo ddeunŷdd y nodau cyfeirio, a fŷdd yn  [...]ottiedig yn yr hŷn a ddarllenno.
Y sawl na ystyrio iawn ddeunŷdd y llythyrennau pen  [...]gol, nid ŷw ef deilwng iw alw yn orgraphŷdd.
Y Geirlyfr Cymraeg a saesnaeg, a ddengus (mewn ffordd  [...]law) wir feddwl a deunŷdd y pethau uchod ôll; ac a wna  [...]ŷn yn berffaith a Chyflawn gymreigwr; yr hŷn sŷ am  [...]osibl i ddŷn yn y bŷd fôd nes dysgu 'r fâth athrawiaethau ag sŷdd yn y Geirlyfr: Ac am hynnŷ, y nèb a garo wŷbodaeth a dysgeidiaeth, ac a'i Caro ei hun,  [...]a bydded heb y Geirlyfr iw gyfarwŷddo: Ac na chwŷned nêb ei fôd yn ddrŷd o herwŷdd ei leied, oblegŷd mawr iawn a fŷ 'r boen a'r drael o'i gyfansoddi a'i Argraphu. Ac er i Leied i mae yn Cynwŷs ynddo lawer miloedd mwŷ o eiriau nag sŷdd yn, Dictionary Dr. Davies sŷdd bedwar Cymmaint ag êf.
[Page] 2. Y Llyfr Gweddi gyffredin, a Gweinidogaeth y Sa [...] ennau, gyda Chynneddfau a deddfodau eraill yr Eglwys; yn ôl arfer Eglwŷs Loegr: Ynghŷd a'r Psalmau darllain a'r Psalmau Canu, fel ag eu maent bwŷntiedig iw darllain a'u Canu yn yr Eglwŷsŷdd.
3. ESponiad neu yspysiad o Gatechism yr Eglwŷs, neu ymarfer o Dduwiol Gariad, a Gyfansoddwyd (nid yn unig er mwŷn Esgobaeth Caerbadon a Ffynnhonnau, ond hefŷd) er llês i bawb.
4. ERthyglau Crefŷdd Eglwŷs Loegr; neu sylwedd ffŷdd y Protestaniaid; drwŷ gyttuniad yr Arch-Esgobion, a'r Esgobion, a'r holl wŷr Eglwŷsig, &c.