[Page] Newydd oddiwrth y Sêr: NEU ALMANAC

Am y Flwyddyn o oedran Y Byd 5634. Crîst 1685. yr hon iw 'r gyntaf ar ôl blwyddyn naid.

Yn yr hwn a Cynhwyswyd amriw o bethau newyddi­on na byant yn brintiedig erioed ôr blaen.

O wneuthuriad Thomas Jones Myfyriwr yn Sywedyddiaeth.

Y Chweched argraphiad.

[figure]

Argraphedig yng haer-ludd, ag ar werth gan yr awdwr [yn▪ yn y frawdle ddu, sef yn Black-Friers yn Llundain, 1685

Y Rhag-Ymadrodd At Y Darllenydd.

ER darfod i mi myfyrio chwech o flynydd­oedd yn y Ffordd hon, etto ni fedrais Gael mo 'r Ffordd ddeheu i ryngu bôdd i bawb o bobl fy 'ngwlâd, ag i rwif yn mawr Gredu mae ofer i mi ddisgwyl hynny Tra y byddwif bŷw, oblegid y saig a fo felus-fwyd Gan y nail, a fŷdd ffîedd gan y llall, ag nid fellu Gida 'r Cymru yn unig, ond hefyd Gida 'r saeson, a phobl Teyrnasoedd eraill Trwy'r bŷd.

Am fôd Cyn anhawsed rhyngu bodd i bawb yng­hylch y rhîn, ni ysgrifenais mor Cimint amdnani y leni a 'r blynyddoedd or blaen, ond ymhylîth yr hîn, rhoddais ar lawr dremiadau'r planedau ar gyfer y dydd­iau fel a digwyddant ynddynt, a 'r nodau hynny a ddengus (i 'rhai a'u deall [...]ant) achosion newidiad yr hîn, ag a eill wasanaethu hefyd i ddwyn ar ddeall [...] i bawb eraill, mae nid wrthsy amcan fy hun, ond mae wrth reol sywedyddiaeth yr ysgrifenais yr hyn sydd ar lawr ynghylch y Tywydd. Nid oes ond saith o bla­nedau tan dduw yn llyfodraethu 'r holl fŷd am y Tyw­ydd, ag nid eill sywedydd ond datgan hollawl dueddiad y planedau tuag at yr holl fŷd i 'r unffordd; ag os oes y fâth anwadalwch neu an ghytundeb rhwng yr hîn neu'r Tywydd, o'r naill gwrr i deyrnas i'r Cwrr arall ag y mae llythyrau rhwng Cydnabyddiaeth a chydnab­yddiaeth yn eu sicrhau, nid iw ryfedd fôd Cymaint rhagor rhwng y Tywydd o'r naill Deyrnas i'r llall, ag am hynny rhy anodd i sywedydd roddi bodlondeb am yr bîn i naillduol wlâd, neu naillduol sîr ar ei phen ei hunnan.

[Page] Er mwyn Cael llê i roddi ar lawr amriw o bethau era­ill newyddach, meiddiais adel allan o'r Almanac hwn yr athrawiaeth i ddysgu darllen Cymraeg. Ond yn y llyfr plygain Cymraeg yr hwn a brintiais y geua di­weddaf, ag sydd etto ar werth yng hymru, y Gellwch gael hyddysg athrawiaeth i ddysgu darllen Cymraeg, ag i ddysguysgrifenu amriw fâth ar ddwylo hefyd. Ond gwiliwch gael eich Twyllo pan eloch i brynu y llyfr plygain hwnnw, oblegid i mae amriw o fân bethau eraill ar lêd rhyd Cymru, un o honynt sydd Tan henw Prif-lyfr newydd, ag un o honynt sydd Tan henw Catechism yn Cynwys pyngciau y Grefydd gristionogol, y ddau hyny nid ydynr ond rhyw ddyfais newydd, ag am hynny gwrthwynebol i'r plygain a ordeiniodd yr Esgobion, ag a brintiwyd Trwy orchymyn y Brenin. Un arall sydd ar werth neu ar Gymell rhyd Cymru, a hwnw or tu allan sydd yn debig yr olwg arno i'r hwn a brintiais i, ond ni does ynddo mo'r addysg i ddysgu ysgrifenu, nag o chwaith mo Ffeiriau Cymru, ag heblaw hynny nid oes ynddo un gair o chwêch wedi yspelio yn gywir yn yr hyn sydd ynddo, ag am hynny ni wna hwnnw ond dottio dŷn yn lle dysgu iddo ddar­llen. Os mynech gael y gwîr Gyfreithlawn blygain, a gwîr Gatechism yr Eglwys, mynwch weled yn ei ddechre ef henw Thomas Jones, ag yn ei ddiwedd ef Athrawiaeth i ddysgu ysgrifenu, ag yno ni thwyllir monoch. Nid oes ganif mor llê i chwanegu at fy llythyr y leni, ond fy môd yn wastadol yn ufydd i'ch gwasanaethu Tra byddwif.

THO. JONES.

Yspysrwydd i'ch Cyfarwyddo i ddeallt yr Almanac sy'n Canlym.

Y Flwyddyn a ranwyd yn 12. o fîsoedd, ag i bôb un mîs o honynt i mae un Tu dalen yn perthyn, a'r Tu dalen hwnnw a ranwyd yn ŵyth o Golofnau

1. Y golofn Gyntaf neu'r nefaf at y llaw aswf sy 'n arwyddo dyddiau 'r mîs.

2. Yr ail golofn, neu'r nesaf onid un ir llaw aswf sy 'n arwyddo dyddiau 'r wythnos: a'r llythyren fawr, sef D. sy'n dangos y suliau.

3. Y Drydydd golofn sy'n dangos y dyddiou gwylion, a'r dydd­iau hynod, a'r henwau sydd bwyntiedig i bôb dydd yn y flwyddyn: yr hôll ddyddiau sydd orchymynedig iw Cadw yn ŵylion, a brin­tiwyd a llythyrenau mawr, a'r lleill oll a llythyrenau llai.

4. Y bedwaredd golofn, lle y gwelwchi 'r arwyddion, sy 'n dangos symydiad yr arwyddion yng horph dŷn, ag ynifail, [...] hynny a ddeuelltwch fel y Canlyn isod.

  • ♈ Y pen, a'r wyneb.
  • ♉ Y gwddwf.
  • ♊ Ysgwyddau, breichiau, dwylo.
  • ♋ Bronau, brwyden, a'r Cylla
  • ♌ Y Cefen, a'r galon.
  • ♍ Y bol, a'r perfedd.
  • ♎ Clûniau, pedrain.
  • ♏ arphed, a dirgelwch.
  • ♐ Y morddwydydd.
  • ♑ Y gliniau, a'r garau.
  • ♒ Y Coesau, Esgeiriau.
  • ♓ Y Traed.

5. Y bumed Golofn, tan o. ll. sy'n dangos. oed y lleuad be­unydd, ond os mynech yr awr, a'r munydyn o'i hoedran, Edrychwch uwch ben y Colofnau, ag yno y Cewch hynny yn uniawn.

6. Y chweched golofn, neu 'r nesaf at y bumed sy 'n dangos dyfodiad y lleuad i'r deheu, a phen llanw 'r môr beunydd o amgylch Cymru, Gyferbyn ar dydd a fynoch o 'r flwyddyn Cewch yr awr tan A a'r munudyn Tan. m.

7. Y seithfed golofn sy'n dangos Codiad, a machludiad y lleuad, yr awr tan. A a'r munud tan. m.

8. Yr wythfed Golofn sy 'n Crybwyll am y Tywydd, a thr [...]miadau 'r planedan.

Jonawr. 1685.
Y lleuad sydd yn 1 Chwarter oed, 2 dydd, 2 awr, 28 munyd o brydnawn. Llawn lloned. 10 dydd, 3 awr, 34 munyd o brydnawn. 3 Chwarter oed, 17 dydd, 7 awr, 5 munyd o brydna. Newidio 24 dydd, 3. awr, 38 munyd o brydnawn
dyddie gwyl, a hynod.oro. llA.M.A. M.Trem, ar hîn.
1aEnwaed Crist.65811n28□ ☉ ♃.
       Lleuad yn mach 
2bBodfan, ag abel6412b40oer, a thebyg i odi
3cSeth, ag enoch86561 34
4DMethusalem97442 27
5eSeimon.108303 20 
6fGwyl ystwyll.11964 14□. ♄. ♀.
7gCed Esgob129505 7□ ♂ ☿.
8aLucian.1310406 0☌ ☽ ☊.
9bMarcell.1411236 55Têg Tros ⚹ ♃ ♀. ychydig ddyddiau.
10cPaul erem1267 50
       Lleuad yn Codi
11D1 Sul. gwedi ystw.1612564n10
12eLlwchaern.171515 38
13fElian Esgob.182477 16oer drachefen
14gFelix193398 44 
15aMaurus2043110 12△ ♃ ☿.
16bMarchell.2152311 30oerder mawr, ⚹ ♄ ♂. ag ondodid rhew ag ☌ ☽ ☋. eira yng hylch y pryd hyn.
17cAnthoni,61512b54
18D2 Sul. g ystwyll.23702 7
19eWestan.247503 21
20fFabian.258404 35
21gAnnes, agnes.269305 48
22aFinsent.2710256 37
23bTymp yn dechreu2811207 00
24cCattwg [...]12157 20
       Lleuad yn mach 
25DTroead St. Paul.1154n30Tywydd hagar hyd ddiwedd y mîs
26ePolicarpus.2205 48
27fJoan auron32557 06
28gOenig.43508 24
29aSamuel54439 42△ ♄ ♀.
30bMarthyr y Brenin.653711 00□ ☉ ☌.
31cMihangel.763012 18□ ☉ ♃.
Chwefror. 1685.
Y lleuad sydd yn 1 Chwarter oed, 1 dydd, 11 awr, a 4 munyd, boreu. Llawn lloned, 9 dydd, 5 awr, a 52 munyd, boreu. 3 Chwarter oed, 16 dydd, 2 awr, boreu. Newidio. 23 dydd, 6 awr, 19 munyd boreu.
dyddie gwyl, a hynod.ar.o. lla.m.A. M.Trem, ar hîn.
       lleuad yn mach. 
1D4 Sul g ystwyll.701b40Anwadal ag oer.
2ePuredigaeth. MARI97302 28
3fllywelyn.10853 14 
4gferonica.118404 0□ ♃ ♀.
5aAgatha129154 45⚹ ♂ ♀.
6bDorothea.139505 30♂ ☉ ☿.
7cRomwald.1410256 14□ ♂ ☿.
8D5 Sul g ywstyll.1511387 0Gwyntiog ag oer.
       lleuad yn Codi.
9eApollonia.Moonnew11505n0
10fAlexander.1712406 20△ ♃ ☿.
11gEuphro.181107 40Peth Tec­cach.
12aTump yn diweddu.19209 0
13bEdward, dyfnog.2025010 20Rhysymol
14cDydd Falentein.2134611 40Teg, ag anwadal ☌ ☽ ☋. Hyd y 27 dydd o'r mîs, ☍ ☉ ♄. Os gellir Coel ar y planedau
15DSul Septagesima.224421b00
16ePolychran.5402 20
17fDiascordia.246373 02
18gUndebyst.257343 40
19aSabin.268304 22
20bEuchar.279255 04
21cY 69 Marthyred.2810205 46
22DSul Sexagesima.2911156 34
       yn mach
23eSerenus. [...]12105n34
24fGwyl S. Matthias.112556 40
25gGoanes.21407 46△ ♃ ☿.
26aTyfaelog.32328 52Têg iawn △ ♃ ♀. Ar y diwedd.
27bFfortuna.43279 58
28cMagar.542011 04
Mawrth. 1685.
Y lleuad sydd yn 1 Chwarter oed 3 dydd, 8 awr, a 4 munyd bore. Llawn lloned 10 dydd, 6 awr o brydnawn. 3 Chwarter 17 dydd, 10 awr y bore. Newidio 24 dydd, 9 awr o nôs.
dyddie gwyl, a hynodar.o. llA.M.A. M.Trem, ar hîn.
       Machludo. 
1DSul ynnyd a.643512b10Oer iawn, a rhai ☌ ♀ ☿. ☌ ☽ ☊. Cafodydd ôd neu od­wlaw, a gwyntiog. Ag anwad­al Tua Chanol y mis.
2eGwyl Ddewi.75201 17
3fMawrth ynnyd.6502 24
4gMercher y lludw.96533 00
5aAdrian.107413 36
6bFfrederig.118294 12
7cThomas, a Sannan.129174 48
8D1 Sul or grawys.131055 24
9ePryden.1410535 56
10fDydd, a nôs yrun h11406 15
       lleuad yn Codi.
11gOswyn.1612456n20
12aGergori.171297 40
13bTudur, Edward.182249 0
14cCandyn, myrth.1931910 20□ ♂ ♀.
15D2 Sul or grawys.2041411 40 
16eCyfodi, Lazerus.21591b0☍ ♄ to ☿ & ♀.
17fPadrig wyddel.642 21☌ ☽ ☋.
18gJoseph gŵr mari.236522 40☌ ♀ ☿.
19aCynbryd.24743 0Sŷch △ ☉ ♂. Ag eglur.
20bTwthert.258283 20
21cBened abad.269163 40
22D3 Sul or grawys.271044 0oer Jawn □ ♄ ♂. A thebyg i rewi, ag odi peth.
23eEgbert frennin.2810524 40
24fAga, P. [...]11405 20
       Machludo.
25gYmweled a Mair.112226n40
26aCastulus.2147 42
27bJo, erem.31468 44☍ ☉ ♃.
28cGideon.42289 46Têg ag Eglur.
29D4 Sul or grawys.531010 48
30eGuido.635211 50 
31fBalbina.742512 52☌ ☽ ☊.
Ebrill. 1685.
Y lleuad sydd yn 1 Chwarter oed 1 dydd, 9 awr, 44 munyd o nôs. Llawn lloned 9 dydd, 3 awr y bore. 3 Chwarter oed 15 dydd, 7 awr o brydnawn. Newidio 23 dydd, 1 awr, 35 munyd o brydnawn.
dyddie gwyl, a hynodar.o llA.M.A. M.Trem, ar hîn.
       lleuad Machl. 
1gTroead. Mari.5401b54Teg ag Eglur.
2aMari i'r Eipht.96352 26
3bRhisiart.107303 8 
4cAmbros, Tyrnog.118253 50△ ♂ ☿.
5D5 Sul or grawys.129204 32Gwyntiog
6eLlywelyn.131054 56☍ ♃ ☿.
7fEthelwal frenin.1410505 20Rhysymol
8gMynediad Crîst.1511355 4Têg, a go anwadlal.
       lleuad yn Codi.
9aAlbinus.12207n0
10bY 7 Gwŷryfon.171168 7 
11cTiberus.182129 14△ ♂ ♀.
12DSul y blodau.193810 21Têg iawn. ☍ ♃ ♀ ☌ ☽ ☋ ag eglur a llariaidd.
13eJustyn.Capri204411 28
14fTuburtius.Capri215012b35
15gOswald.5451 40
16aPadarn.23602 11☌ ☉ ☿.
17bGwener y Croglith.246452 42△ ♄ ☿.
18cOswin257363 13Tywyll a pheth gwlaw.
19DSul Pasc.268273 44
20eCadwalad frenin.279184 10△ ☉ ♄.
21f [...]eimon.281094 30Tymherys a rhysymol
22gBeuno, dyfnog.291104 50
23aSt. Siors, sais. [...]11565 28Têg, a hîn neu dywydd Cymwys i'r amser, ag ☌ ☽ ☊. a ryngo fôdd i'r llafyr­wyr; &c.
       yn Mach.
24bDydd Albertus.112477n40
25cGwyl St. Marc.21388 54
26D1 Sul gwedir pasc.32299 48
27eWalburg frenin.432010 40
28fFyralus ferthyr.54011 30
29gPedro filain.643912 0
30aJosua.75012b40
Mai. 1685.
Y lleuad sydd yn 1 Chwarter oed 1 dydd, 3 awr, 29 mun. o brydnrwn. Llawn lleuad 8 dydd, 10 awr, 48 munyd bore. 3 Chwarter oed 15 dydd, 4 awr y bore. Newidio 23 dydd, 6 awr y bore. 1 Chwarter oed 31 dyd, 2 awr, 59 munyd bore.
dyddei gwyl. a hynodar.o. llA.M.A. M.Trem ar hîn.
       Machludo. 
1bS. Philip S. Iago.5521b18Peth gwlaw
2cAnthanasius.96471 50□ ♄ ☿.
3D2 Sul g. Pasc.107402 25△ ♄ ♀.
4eMelangell.118323 10☍ ♂ ☿.
5fMyned Crist ir nêf.129243 50△ ♃ ☿.
6gTymp yn dechreu.1310164 10Oer ag anwadal, ag ymbell □ ♄ ♂. ☌ ☽ ☋. Gafod o wlaw yng hylch y dydd­iau hyn.
7aStanislos.141184 20
       lleuad yd Codi.
8bDerchafu Crist.1208n0
9cNicholas.1612528 36
10D3 Sul g. Pasc.171469 0
11eAnthoni.182429 36
12fPenusus.1933310 20
13gMael, a sulien.2042411 00
14aBoniface.2151512 27
15bSophia.6612b54Gwresog iawn ag ondodid llyche a ☍ ☉ ♂. Thryfe, sef mellt a □ ☉ ♄. Thyranau.
16cDydd granog.236511 20
17D4 Sul g. Pasc.247371 43
18eSewall Esgob.258222 10
19fSarah.26972 36
20gAnn.279523 0
21aDydd Collen.2810373 20
22bHelen fernhines.2911243 40
       yn Machludo 
23cWilliam Roch. [...]12108n30☍ ♂ ♀.
24D5 Sul g. Pasc.112569 0△ ☉ ♃.
25eUrban bab.21329 30☌ ☽ ☊.
26fAwst. Esgob.321810 0hîn ddâ i'r amser
27gMihangel.43410 30
28aDydd Jou Derchaf.535011 0△ ♄ ♀.
29bGeni, a dychwel ein643611 30△ ♃ ♀.
30cBrenin.752812 01Têg iawn.
31D6 Sul g. Pasc.52012b33 
Mehefin. 1685.
Y lleuad sydd yn Llawn lleuad 6 dydd, 6 awr o brydnawn. Chwarter oed 13 dydd, 4 awr o brydnawn. Newidio 21 dydd, 7 awr, 50 munyd o brydnawn. 1 Chwarter oed 29 dydd, 10 awr y bore.
dyddie gwyl, a hynod.ar.o. llA.M.A. M.Trem ar hîn.
       Machlud. 
1eTymp yn diweddu.97101b0Tywydd yn rhyngu bodd ir llafyr-wyr Trwy ☌ ☽ ☋. Gorph y mîs hwn, ☌ ☉ ☿. ☌ ♀ ☿. sêf Têg ag ymbell Gafod o wlaw ar rai amser­oedd.
2fDydd Gwyfen.107591 30
3gNicomed.118462 0
4aHedrog.129482 30
5bNichodemus.1310493 0
6cDiffyg ar y lleuad.11503 30
       lleuad yn Codi.
7DY Sul Gwyn.1512438n30
8eWiliam Esgob.161369 0
9fBarnim.172279 30
10gMargret.1831810 0
11aSt. Barnabas.194910 30
12bTroead y rhôd.205011 16
13cDydd Sannan.55211 52
14DSul y Drindod.2264012b20
15eGwyl Drillo.2372512 40
16fElidan, Curig.247501 10
17gMylling.258481 40
18aDyddier cŵn dechr.269362 10☌ ☉ ♀.
19bTymp yn dechreu.2710202 30 
20cEdward.281103 0☌ ☽ ☊.
21D1 Sul gwed drind. [...]11463 30 
       yn Machlud. 
22eGwen frewi.112408n30⚹ ♄ ♀.
23fBasilus.21309 0⚹ ☉ ♄.
24gGwyl St. Ioan.32209 30□ ♃ ♀.
25aElogius.431010 0□ ☉ ♃.
26bTyrnog, Twrog.54010 30Go wresog Tua 'r diwedd.
27cY 7 gysgaduried.645010 56
28D2 Sul gw. drindod.753011 10
29eGwyl St. Peter61411 36 
30fa St. Paul.97012b6 
Gorphenaf. 1685.
Y lleuad sydd yn Llawn lloned 5 dydd, 6 awr o brydnawn. 3 Chwarter oed 13 dydd, 9 awr y boreu. Newidio 21 dydd, 10 awr y bore. 1 Chwarter oed 28 dydd, 4 awr o brydnawn.
dyndie gwyl, a hynod.ar.o. llA.M.A. M.Trem ar hîn.
       Machl. 
1gGwyl fair.1075012b50Têg iawn a thywydd Cymwys ☌ ☽ ☋. i'r amser, a hynny a △ ♂ ♀. Rynga fodd i'r llaf­ur-wyr,
2aSwittan.118501 20
3bMarthin, Peplig.129501 50
4cUlricus.1310502 45
5D3 Sul g. drindod.11503 40
       lleuad yn Codi.
6eErsul Santes.1512408n20
7fThomas a Chil.161248 45
8gTymp yn diweddu.172189 10
9aCyrilliws.183129 35
10bY saith frodyr.194610 0
11cGwyl Gower.205010 25Cafodydd Tuar Canol.
12D4 Sul g. drindod.2153310 40
13eDoewan.6611 0⚹ ♄ ☿.
14fGarmon, Banaf.2365011 40□ ♃ ☿.
15gSt. Swithin.2475412b20△ ☉ ♂.
16aCynllo.258591 0Gwresog
17bHilarin.269041 40☌ ☽ ☊.
18cSt. Edward.279492 20Têg ag Eglur
19D5 Sul g. drindod.2810343 10
20eJoseph.2911194 0⚹ ♃ ♀.
       yn Machludo. 
21fDaniel. [...]1248n0Odiaethol Gynhauaf △ ♂ ☿. Gwair Tra y par­hatho 'r mîs hwn.
22gMari fagdalen.112508 20
23aApolin.21408 40
24bChristina.32309 0
25cGwyl St. Iago.43209 20
26D6 Sul g. drindod.54109 50
27eMartha.65010 6
28fSamson.55210 25
29gBeatrice.864011 24☌ ☉ ☿.
30aAbdon.973012b23⚹ ♃ ☿.
31bGarmon.108201 22⚹ ☉ ♃.
Awst. 1685.
Y lleuad sydd yn Llawn lloned 4 dydd, 9 awr, 40 munyd y bore. 3 Chwarter oed 11 dydd, 11 awr o nôs. Newidio 19 dydd, 10 awr, 10 munyd o nôs. 1 Chwarter oed 26 dydd, 10 awr o nôs.
dyddie gwyl, a hynod.ar.o. llA.M.A. M.Trem ar hîn.
       M. 
1cDydd awst.119152b2Têg ag Eglur, a gwresog hyd y 7 dydd, ag yno an­wadal hyd ynghylch □ ♂ ♀. Yr ugain­fed dydd. □ ♂ ☿. ☌ ☽ ☊. ☌ ♄ ♀ ☿. Or mis hwn, ☌ ♀ ☿. Ag yno oèr­ach, a gwl­ypach, a a thywyll a Chym­ylog hyd □ ♂ ♄. Ddiwedd y mis. ☌ ☽ ☋.
2D7 Sul g. drind.1210123 20
3ePendefig.131194 20
       lleuad yn Codi.
4fAristarcus.1267n40
5gOswallt frenin.1512568 10
6aYmpryd Jesu.161528 40
7bAfra.172309 10
8cIllog o hirnant.183209 40
9D8 Sul g. drind.1941010 10
10eLawrens.205010 40
11fGilbart.54011 10
12gClara forwyn.2262511 40
13aHippolit.2371012b10
14bBertram.247551 00
15cGwyl fair gyntaf.258401 50
16D9 Sul g. drind.269252 40
17eHartfford.2710103 30
18fElen.2811254 20
19gSebaldus. [...]11405 0
       lleuad yn Ma. Chlu
20aBarnard.112347n0
21bAthanas.21287 30
22cGwyddelan.32218 0
23D10 Sul g. drind.43148 26
24eGwyl Bartholom.5478 50
25fLewis Ferthyn.6509 8
26gIranaes.5409 35
27aDyddier Cŵn yn di.863510 40
28bAugustin.972811 50
29cJefan y coed.108211b0
30D11 Sul g. drind.119142 5
31eAdrion Esgob121073 10
Medi. 1685.
Y lleuad sydd yn Llawn lloned 2 dydd, 9 awr o nôs. 3 Chwarter oed 10 dydd, 6 awr o brydnawn. Newidio 18 dydd, 10 awr y bore. 1 Chwarter oed 25 dydd 4 awr y bore.
dyddie gwyl, a hynod.aro. llA.M.A. M.Trem ar hîn.
1fDydd Silin.131104b15⚹ ♃ ♂.
2gDydd Sulien.11405 20☌ ☉ ♄.
       lleuad yn Codi. 
3aGregory.1512266n4Rhysymol Têg Trwy 'r mîs hwn, yn enwedig Tua 'r Can­ol Tywydd a Ryngo fôdd ☌ ☽ ☊. Ir llafur wyr
4bErddyl.161126 31
5cMarchell.171587 0
6D12 Sul g. drind.182447 30
7eDunstan.193308 0
8fGanedigaeth mari.204268 30
9gDelwfyw.215129 0
10aNicholas.5509 30
11bDaniel.2361910 43
12cDydd, a nos yrun h.2463211 56☌ ♃ ☿.
13D13 Sul g. drind.257451b9Têg ag □ ☉ ♂. ☍ ♃ ♀. Eglur.
14eGwyl y grôg.268582 50
15fNicodemws.279454 10
16gEdyth.2810325 5
17aLambert.2911196 0 
       Lleuad yn Ma Chludo. 
18bFfeiriolus. [...]1266n0☌ ♀ ☿,
19cGwen Frewi.1106 30Ymbell gafod o wlaw Tua diwedd ☌ ☽ ☋. Y mîs ⚹ ♂ ♀. ag fellu anwad­al, a gwyn­tiog, y diwedd­iff y mis.
20D14 Sul g. drind.21527 0
21eGwyl St. Matthe.32497 30
22fMaurus.43378 6
23gTecla forwyn.54308 40
24aSamuel.65239 18
25bMeugan.61610 4
26cCyprian.871011 30
27D15 Sul g. drind.9831b0
28eLioba.108542 30
29gGwyl St. Michael.119434 0
30gNidau.1210355 15☌ ♃ ☿.
Hydref 1685.
Y lleuad sydd yn Llawn lloned 2 dydd, 11 awr y bore. 3 Chwarter oed 10 dydd, 2 awr o brydnawn. Newidio 17 dydd. 9 awr o nôs. 1 Chwarter oed 24 dydd, 1 awr o brydnawn.
dyddie gwyl, a hynod.ar.o. llA.M.A. M.Trem ar hîn.
1aGarmon.1311126 30Rhysymol
       lleuad yn Codi. 
2bHenffardd.1245n30Têg ar ddech­reu 'r mîs hwn, ag yno anwadal
3cGerdard.1512506 0
4D16 Sul g. drind.161366 30
5eCynhafal.172227 0
6fFflydd.18387 30☌ ☉ ☿.
7gMarcell.193548 0☌ ☽ ☊.
8aCynog, Camarch.204408 30⚹ ♄ ♀.
9bDenys.215189 6gwyntiog □ ♂ ☿. ag aml gafodydd o wlaw.
10cTriphon.5559 43
11D17 Sul g. drind.2364011 0
12eEdward.2473012b20
13fTelemoc.25821 40
14gTudur.269103 0peth Teccach Tros ychydig ☌ ☉ ♃. ddyddiau,
15aMihangel fechan.271004 20
16bGallus.2810505 40
17cEtheldred. [...]11407 0
       lleuad yn Machludo. 
18DGwyl St. Luc.112305n0△ ♄ ♂. ☌ ☽ ☋. o'r 18 dydd hyd ddiwedd y mîs y plan­edau sy 'n addo dryccin o wla­w, a gwynt oer, ag ondodid peth eira.
19ePtolomy.21205 50
20fWendelin,32106 44
21g11000 Gwyryfon.4307 36
22aMari Sala.54408 28
23bTymp yn dechreu.65209 20
24cCadfarch.55410 13
25D19 Sul g. drind.864411 0
26eCrispin grŷdd.973412b50
27fYmpryd.108242 0
28gSt. Simon a Iud.119143 30
29aNarcustus.121045 0
30bBarnard Esgob.1311506 10
31cDogfeal.141207 20
Tachwedd. 1685.
Y lleuad sydd yn Llawn lloned 1 dydd, 3 awr, 26 munyd y bore. 3 Chwarter oed 9 dydd, 9 awr y boreu. Newidio 16 dydd, 6 awr y boreu. 1 Chwarter oed 22 dydd, 11 awr o nôs. Llawn loned 30 dydd, 10 awr, 24 munyd o nôs.
dyddie gwyl, a hynodar.o. ll.A.M.A. M.Trem ar hîn.
       lleuad yn Codi. 
1DGwyl Holl St.12164n40Anwadal, oer. a gywlŷb.
2eGwyl y meirw.16125 27
3fClydod.171486 14□ ♂ ☿.
4gAgricolo.182347 0□ ♄ ♀.
5aBrâd Pwodr gwn193207 47☌ ♃ ☿.
6bLenard20468 34□ ♂ ♃.
7cCyngor Cynfar.214529 21pôb math ar dywydd o ddech­reu 'r mis ⚹ ☉ ♄. Hyd yr 11 dŷdd.
8D21 Sul g. drind.2253010 10
9ePost brydain.6611 00
10fAgoleth frenin.2465812b30
11gMartin.257502 0
12aPadarn, Cadwal.268423 30Têg Tros ych­ydig ddyddiau.
13bBrisius.279345 0
14cNeileg, gadfrael.2810266 30⚹ ♃ ♀.
15D22 Sul g. drind.2911188 4Oer a gwlŷb drachefen.
       lleuad yn Machludo.
16eEdmond Esgob. [...]12124n0
17fHugh Esgob.1175 8⚹ ♄ [...].
18gGalasins.2226 15☌ ☽ ☋.
19aElizabeth.32577 23Or pymtheg­fed dydd hyd ddiwedd y mis y plan­edau sy 'n addo glyban­iaeth oer o ôd, neu ôdwl­aw, ar gyrsiau.
20bAmos.43528 31
21cDigain.54469 38
22D23 Sul g. drind.54010 46
23eClement.762512 0
24fCrysogon.87101b15
25gCatherin.97552 36
26aLins Ferthyr.108403 50
27bAllgof.119255 10
28cTymp yn diweddu.1210106 30
29DSul Adfent1310557 20☌ ☉ ☿.
30eGwyl St. Andrew11408 10△ ♄ ♀.
Rhagfyr. 1685.
Y lleuad sydd yn 3 Chwarter oed 8 dydd, 8 awr o nôs. Newidio 15 dydd, 5 awr, 27 munyd o nôs. 1 Chwarter oed 22 dydd, 2 awr, 20 mun. o brydna. Llawn lloned 30 dydd, 6 awr o nôs.
dyddie gwyl, a hynod.ar.o. llA.M.A. M.Trem, ar hîn.
       lleuad yn Codi. 
1fGrŵst.1512264n0☌ ☽ ☊.
2gLlechid.16125 3Oer a rhysym­ol Têg.
3aCastianus.171486 6
4bBarbera.182347 9Tebyg i odi yng hylch hyn □ ♄ ☿. ⚹ ♂ ☿. O ddyddiau.
5cCowrda.193208 12
6D2 Sul o adfent.20469 15
7eAmbros.2145210 19
8fYmddwyn mair.54511 22
9gJoachim.2363712b40gwynt mawr
10aMaltid.247192 0□ ☉ ♄
11bTroead y rhôd.258113 20Têg Tros ych­ydig ddyddiau.
12cLlywelyn.26934 40
13D3 Sul o adfent.279556 0□ ♃ ♀.
14eNicassus.2810537 5☌ ☽ ☋.
15fAnnan, azar. [...]11508 10Pêth oerach,
       lleuad yn Machludo. 
16gMisael.112403n50⚹ ♃ ☿.
17aTydecho.21305 10Or Pymtheg­fed dydd, hyd ddiwêdd y mis, oer, ag ondodid aml Gafody dd o wlaw, neu ôd,
18bChristopher.32206 30
19cNemel.43108 0
20D4 Sul o adfent.5409 30
21eGwyl St. Thomas.645811 0
22fY 30 merthyr.55612b16
23gFictoria.86401 14
24aAdda, ag Efa.97252 12
25bNatalit Crist.108103 10△ ♄ ☿.
26cGwyl S. Stephen.118554 8⚹ ☉ ♂.
27DGwyl St. Ioan.129405 6☌ ☽ ☊.
28eDydd y Gwirion'd.1310256 4⚹ ☉ ♃.
29fThomas, Jonath.1411107 2△ ♃ ♂.
30gDafydd frenin.Moonnew11488 0Bygwth rhewi.
31aSilfester.1612334n0 

Y nodau Cyffredinol am y flwyddyn. 1685.

LLythyren y Sûl iw. D.
Y prif, neu 'r euraid rifedi iw, 14.
Sarrit, neu 'r Epact iw. 4.
O suliau gwedi 'r ystwyll i mae 5.
Sûl septuagesima, fydd y 15 dydd o chwefror.
Y dydd Cyntaf o 'r grawys, iw y 4 dydd o fawrth.
Sûl y Pasg iw y 19 dydd o ebrill.
Sul y gweddiau, neu 'r erfyniad, iw 'r, 24 dydd o fis mai,
Derchafiad Crîst i'r nêf, iw r 28 dydd o fai,
Y Sûl Gwyn, iw 'r 7 dydd o fehefin.
Sûl y Drindod, iw 'r 11 dydd o fehefin.
O Súliau gwedi 'r drindod i mae 23.
Sûl Adfent, neu dyfodiad Crîst, iw 'r 29 dydd o dachwedd.

Y deffygiadau a ddigwyddant yn y flwyddyn. 1685.

Y Cyntaf o honynt a ddigwydd ar y lleuad, ar y 6 dydd o fis mehefin, ynghylch chwêch o 'r prydnawn, a hwnw a fŷdd diffyg mawr, yn agos dros yr holl Leuad, ag ni welir ymono gyda ni, o herwydd y bydd ef arni ddwy awr a haner Cyn Codi 'r lleuad i'n golwg ni.

Y [...] ail diffyg a ddigwydd ar yr haul, ar yr 21 dydd o fehefin, ynghylch wyth o'r prydwawn, ni fydd êf ond bychan iawn, a phrin a gwelir ef gyda ni.

Y Trydydd diffyg a fydd ar y lleuad, ar y 30 dydd o dachwedd, ynghylch XI. awr or nôs, a hwnnw a fydd diffyg mawr, yn Gyflawn tros y lleuad, ag yn weledig i ni.

Dechreu, a diwedd, y Tympau Cyfraith, yn y Gor­llewinawl fynachlys. yn y flwyddyn. 1685.

TYmp elian sy 'n dech Jonawr 23 dydd, diwedd Chwef. 12. Tymp y pasg, yn dech: Mai 6 dydd, yn diwedd Mehefin. 1. Tymp y drindod yn dech, Mehef. 19 dydd, yn diwedd Gorf. 8. Tymp michangel, yn dech hydr 23, yn diwedd Tachwedd 28.

Cyn rhoddi ar lawr Sywedyddawl farnedigaeth am y flwyddyn, 1685. Tybiais mae Cyfleus oedd roddi i chwi, ailgofiad o'r sywedyddol farnedigaethau a gyhoeddais o 'r blaen, ag amriw o'r Tramgwyddiadau a ddigwyddasant eusus yn gywir yn ol y barnediga­ethau hynny.

YN fy Almanac am y flwyddyn 1681. [ag ar y ddalen ddiweddaf▪ onid un o hono ef] gosodais addurn, am ddiffyg a ddigwyddodd ar yr haul, ar y nawfed dydd o fawrth yn y flwyddyn hono.

Ag ar yr un Tu dalen a 'r Addurn, hyspysais i chwi fôd y diffyg hwnw, [o herwydd ei ddigwydd yn arwydd yr hwrdd] yn perthyn i'r deyrnas hon.

Ag yn y Tu dalen nesaf ar ol yr addurn hwnw, mynegais chwi fôd y diffyg hwnw yn bygwth lloeger, ag anghytundeb, Cythryfwl, a Chynwr rhwng Cymydogion a Chymydogion, a rhwng Cydwladwŷr a Chydwladwŷr, a helbul a blîn-fŷd o achos Crefydd, neu ymrafael ynghylch, Traws-amcan ffyddiau; a marwolaeth gwŷr Enwog ar yr un achos: Nid eill neb wadu nad oedd y farnedigaeth hono yn gywir, o herwydd [yn gyfanedd o, r amser hwnnw hyd yn hyn] ni bŷ Loegr un dydd yn ddiangol oddiwrth yr amriw drafferthion hyn­ny, sef llawer o bapistied, ag o rai craill a Elwir whigs, [Page] a garcharwyd, ag a roddwyd i farwolaeth, o achos ymryfusedd Crefyddau.

Ag yn fy Almanac am y flwyddyn 1682, [ar y bedwaredd ddalen o hono ef] mynegais i chwi [fel y Canlyn] am y seren gynffonfawr.

By Seren filen faith,
A ffagal fawr anial o rin-waith:
Yn hygwth Brydain a bradwriaeth,
Yw, fynegi i'm gwlâd mae 'r genad yn gaeth.

Beth alle fôd wîrach na 'r farnedigaeth hono, fel ag a digwyddodd yn y flwyddyn 1683. ddatguddio Cydfardwriaeth neu blot anferthol yn y deyrnas hon.

Drachefen ar yr un ddalen y dywedais,

Ein Camweddau, a'n beiau y bar
Ddanfon ar ddynion ddial:
Cleddyddau, a Gynnau yn gynar,
A chwyn y byd o fawr eu bâr.

A Thrachefen yn yr un Almanacc, [ar y 19 dalen o hono, sef] Tan Cyfarchwyliad yn mawrth, ysgrifenais y penill hwn, vis.

Nid ydwi 'r flwyddyn yma
Yn ofni dim rhyfela:
Ondodid y rhai sy 'n dal yn dyn,
A ymlywia 'r flwyddyn nesa.

Nid alle ddŷn fyth farnu yn Gyfarwyddach na 'r ddau benill rhod: oblegid yn y flwyddyn nesaf ar ôl eu scrifenu hwynt, sef yn 1683.] a digwyddodd y rhyfel anferthol, rhwng y apistiaid, a 'r Twrciaid wrth ddinas Viena yng wlâd Germany, [...]r hon nid iw ond ychydig ffordd oddiwrth Loegr, lle y lladd [...] 'r ddwy blaid ar un ymladdfa ynghylch 300000; sef Tri chan îl o wŷr.

[Page] Mae 'n debig fôd rhai yn rhyfeddu na baswn yn fy Almanaccau, yn rhagfynegi y rhêw mawr diweddar, ar sychder mawr a fy ar ei ôl ef. Yn y llyfr saesnaeg a wneuthum i ynghylch y seren Gynffonog yn y flwyddyn, 1681. Dywedais yn Eglur fôd y seren hono yn rhagddangos y Pethau hynny, ag amriw bethau eraill, a chan fod amriw o honynt etto heb ddyfod, er mwyn ailgofio i 'rhai a ddarllenodd hwnnw; ag i ddwyn ar d [...]âllt i 'rhai ni fedrent ddarllen a deallt saesnaeg, rhoddais yma ar lawr drachefen yn seasnaeg, ag yn Gymraeg yr amriw bethau a arwyddodd y seren hono, a phar y wledydd a ddieddu 'r blinfyd o 'i herwydd.

BYr draethiad o 'r sywedydd­awl olygiad ar yr ARU­THREDD diweddar, neu Eglur ddatguddiad o 'r dynessau gofudus adfyd a arwyddwyd Trwy 'r serenlosg, neu 'r seren ffaglog, yr hon a fŷ Cŷd yn weledig i lawer o wledydd a Theyrnasoedd yn 'nhachwedd, rhagfyr, a Jonawr. Yn y flwy­ddyn 1680. Gan fôd yn llawn ddatguddiad o anian a, môdd ei haffaethiolaeth, ag ym'har y wledydd yr ymddanghosant.

ABreviary of the Astrologi­cal Speculations of the late PRODIGY: Or a clear dis­covery of the approaching Miseries signified by that Co­met, or Blazing Star, which hath so long been visible to se­veral Countries and Nations, in November, December, and January, in the Year 1680. Being a full discovery of the Nature and Manner of its Ef­fects, and in what Countries they will be Exhibited.

Yr ail argraphiad.

Yma y rhoddaf i chwi yn un­ig rifarn o 'r amriw echrysau a fygythwyd drwyddi, ag ymhar y wledydd a disgynant, ag yn awr ni theimlaf mo alweiriau Celfyddyd, na thyst­i [...]ethau barnedigaeth o her­wydd diffyg lle.

[Page] Y barnedigaeth Cyntaf a roddwyd wrth addurn a dra­sythwyd ar ymddanghosiadCynt a 'r serenlosg i Loeger, ar y 15 dydd o dachwedd, ynghylch pump ar yr orlais y bore, yn y flwyddyn, 1680.

Wrth y Tystiolaethau yn y Cyfriw addurn, y serenlosg a ragddangosodd, Ryfel a newi­diadau mawr yn y bŷd, ynni ynghylch Crefyddau, ag yn benaf ymhylîth gwŷr milwraidd, ag yr arferir llawer o synwyr a dichellion ymlylîth dynion, ag mewn llawer Trybestod a'u gorchwyliant eu hunain yng­hylch salw a chyd fradawl gydsyniadau, i lygru a gor­chfygu Cyfreithiau dâ; ag i newidio Rheolaethau wrth eu Cysswyn ag anturio Teyrn­asoedd, ag y dieddu Crefydd anrhaith mawr drwy 'rhai ni bŷ hi eroed ganddynt, ag y bydde i wŷr boneddigion, neu wŷr ardderchog, mewn rhyw wle­dydd am eu dangos eu hunain yn brysyr i wastadhau Teyrn dry­bestodau, na ymwaredan todd­iwrth hynny heb golli eu bywyd hefyd llawer o dristwch a helbyl a chaethiwed, a hun-amdwyiad i'rhai yn gynfigenus a faglant eu Cymydogion, ag yn ddirgel a ddyfeisiant gau gyhuddiadau [Page] yn eu herbyn hwynt, llawer o ryfeloedd pell, ar naill deyrn­as yn anturio 'r llall, Cornwy­dau mawr, prinder ŷd a newyn.

Yr ail farnedigaeth a radd­wyd wrth symydiad y serenlosg mewn arwyddion, a thra yr ymddanghosodd i Loeger hi a gymerth ei chwimwth chwyfiad Trwy yr arwyddion hyn. ♏ Sarph. ♐ Seathydd. ♑ Gafr. ♒ Defewr, ♓ Pysg. ♈ hwrdd.

Symydiad y serenlosg yn ♏, a fygythiodd lawer o enwir weithredoedd ymhylith dyni­on, megis, rhyfel, ag ymryson, a newidiadau ag aralliadau yn y bŷd, a hynny yn fwyaf ymhylîth milwyr, a hefyd prinder dŵr, a phrinder o ffrwy­thydd y ddaiar, a newyn.

Symydiad y serenlosg yn ♐, a arwyddodd ddrŵg i wŷr mawrion, ag ymryson yng­hylch Crefyddau, a chy­freithiau, hefyd Cryd poeth, a llawer o Glefydon perigl ymhylîth pobl.

Wrth symydiad y serenlosg yn ♑, hî a ragddangosodd lawer o anweddaidd weithredoedd, megis llofruddiaeth, a Chy­ [...]nladd, rhyfeloedd, mar­ [...]h i wŷr mawrion drwy [Page] wenwyn neu greulon foddion eraill, erlidiad am grefydd, ag anghytundeb crefyddau yn eu plîth eu hunain, Cornwydau, a newyn yn llawer o fannau, rhew mawr, eira, Cenllysg, helbul ag adfyd i rhan mwya o bobl.

Symydiad y serenlosg yn ♒, a arwyddoccau hîr barhaus ry feloedd, a Chreulon galanedd ar ddynion, a hefyd marw­olaeth fawr ar ddynion Trwy ddygyn gornwyd, a Thowyll Caddugawl awyr, Gwyntoedd mawrion, llawer o dyrannau, a mellt.

Symydiad y serenlosg yn ♓, a arwyddodd lawer o ymry­son ag anghytundeb ynghylch Crefydd, gwahaniad rhwng Ceramt a chefeillion gynt, helbul mawr ymhylîth gwŷr enwog mawrion.

Symydiad y serenlosg yn ♈, a ragddangosodd Lawer o ddi­stryw, megis rhyfeloedd, Tân­nau dychrynllyd, dinistriad lla­wer Dinas a Thrêf Trwy dwyll, marwolaeth llawer Enwog Orchymynydd, a doluriau llymion ymhenau pobl.

Y Trydydd barnedigaeth a roddwyd wrth liw, a golygiad y serenlosg.

[Page] Ar y Cynta y serenlosg a ymddangosodd yr un lliw ar blaned sadwrn, ag wrth y lliw hwnnw, i roedd hi yn arwyddo, llawer o ddychryndod ag arswyd ymhylîth pobl, grwgnach ag anfodlondeb, herwriaeth neu alltudiaeth i lawer, prinder porthiant, angen, doluriau Creulon, gwynt­oedd Temheslog, llongddryll; rhew ag eira mawrion, a dystry­wiad ffrwythydd Trwy bryfed.

Yn ail y serenlosg a ymdd­angosodd yr un lliw ar blaned Jou, ag wrth y lliw hwnnw hi a ragddangosodd, lawer o ym­dyny ymhylîth dynion ar achosion Crefyddau, Cyfreithi­au, a breinrhydd.

Yn drydydd y serenlosg a ymddanghosodd o liw y blaned mawrth, ag wrth y lliw hwn­nw, hi a fygythiau, lawer o Ryfeloedd, ag ymrafaelion, môr-ymladdfaoedd, gwaed­golli, lladdfaoedd mawrion, Cyflafanladdfau, newidiad rheol­aethau, adwythawl wyntoedd, mêllt a Thyrannau Creulon, Temhesloedd, llongddryll, llawer o ladratta ar fôr a thîr, hîn wresog anfeidrol ar ryw amseroedd yn sychy yn hŷsb afonydd a phydewoedd, prinder o ffrwythydd y ddaiar, a llosgi Trefydd a dinasoedd, [Page] a phoethgryd creulon ymhylîth pobl.

Yn bedwaredd, ag yn ddi­weddaf, y serenlosg a ymdd­angosodd o liw y blaned mer­cher, ag wrth y lliw hwnnw hi a arwyddodd, yr arferid llawer o synwyr a dichellion ymhylîth dynion, a Chymaint Trybestod iw gorchwylio yn eu Cylch, llawer ystrowgar a drŵg Cydsyniadau, ag yn fwyaf ymhylîth gwŷr o ddŷsg, llygru Cyfreithiau, gau ath­ronddysg yn hudo'r bobl yn rhai gwledydd, a hefyd prinder porthiant a newyn.

The Second Impression.

I shall here give you only an account of the several Ca­lamities threatned by it, and in what Countries they'l be Exhibited, and shall not now handle the Terms of Art, nor Testimonies of Judgment for want of more room.

[Page] The first Judgment is given by a Scheam erected on the first appearance of the Comet to England, in November the 15th. day, at 5 a Clock in the Mor­ning, in the Year, 1680.

By the Testimonies in the same Scheam, the Comet fore­shewed, War, and great al­terations in the World, ani­mosity about Religion, and chiefly amongst Men of Mar­tial Discipline; and that much Wit and Policy will be used amongst Men, and with much business will imploy themselves about Vile and Treacherous Consultations, to corrupt and stifle good Laws, and to change Governments by their Plotting, and Invading of Nations, and that Religion will suffer great detriment by those that never had any; and that Gentlemen or Persons of Quality in some Countries for shewing themselves active in regulating State­affairs, will come off with the loss of their Lives: Also much Sorrow, Tribulations, Impri­sonments, and Self-undoing to those who maliciously under­mine their Neighbours, and secretly invent false accu­sations against them. Much [Page] Much Foreign Wars, and one Nation invading another, great Pestilence, scarcity of Corn, and Famin.

The Second Judgment is gi­ven, by the moving of the Comet in signs, and whilst it appeared to England, it had it's transitory motion through these Signs, ♏ Scorpio,Sagittarius,Capricornus,Aquarisus,Pisces,Aries.

The moving of the Comet inthreatens many wicked acti­ons amongst Men, as Wars, Contentions, Controversies, Al­terations and Changes in the World, and chiefly amongst Men of Martial Discipline, also scarcity of Waters, and scarcity of the Fruits of the Earth, and Famin.

The Comet moving inde­notes Evil to Great Men, con­troversies about Religion and Laws, also Fevers and other dangerous Diseases.

By the moving of the Comet in ♑, it foreshewed many in­humane actions, as Murders, and Massacres, Wars, Death to great Men by Poyson or o­ther Violent means, Persecu­tion [Page] for Religion and con­tempt of Religion it self, Plague and Famin in many places, great Frosts, Snow, Hail, Troubles and Calamities to most sort of People.

The moving of the Comet in ♒, signified long lasting Wars, and terrible slaughters of Men, also a great Mortality by a sweeping Pestilence, dark ob­scure Air, great Winds, much Thunder and Lightning.

The moving of the Comet in ♓, signified much strife and con­tention about Religion, divi­sions amongst relations and former friends, great Troubles amongst Great and Potent Per­sons.

The moving of the Comet in ♈, foreshewed many mischiefs, as Wars, dreadful fires the ruining of Cities and Towns by Treachery, the death of many Eminent Commanders, and sharp Diseases in the Heads of People.

The Third Judgment is given by the Colour and Complexi­on of the Comet.

[Page] At First the Comet appeared of the colour of the Planet Saturn, and by that colour it signified many frights and fears among the People, murmuring and repining, exile or banish­ment of many, scarcity of Food, Penury, grevious Sicknesses, Tempestuous Winds, Shipwracks, great Frosts and Snows, and a destruction of Fruits by Worms.

Secondly, The Comet appear­ed of the colour of the Planet Jupiter, and by that colour it foreshewed, much strugling amongst Men for matters of Religion, Laws, and Privi­ledges.

Thirdly, The Comet appear­ed of the colour of the Planet Mars, and by that colour it threatens much War, and Quarels, Sea Fights, Blood­shed, great Slaughters, Mas­sacres, change of Government, Pestiferous Winds, terrible Thunders and Lightnings, Tem­pest, Ship-wracks, much Robe­ry by Sea and Land, excessive Hot weather at some times drying up Rivers and Foun­tains, scarcity of the Fruits of the Earth, the burning of Towns and Cities, and violent Feavers amongst People.

[Page] Fourthly and Lastly, The Comet appeared of the colour of the Planet Mercury, and by that colour it signified much Wit and policy amongst Men, and as much business to imploy it about, many sly and evil Consultations, and chiefly amongst Men of Learning, corrupting of Laws, false Doctrine deluding the People in some Countries, also scar­city of Food, and Famin.

Henwau y gwleddydd [mewn gwyddorig reol] lle y disgwilir y disgin Affeithiolaeth y serenlosg. A rheini iw 'r holl wledydd ag sydd dan lyfodraethiad yr arwyddion lle 'r ymsymydodd y seren ynddynt.

  • AIpht
  • ALbania
  • Alexandria
  • Arabia
  • Augustæ
  • Barbary
  • Bavaria
  • Bergamo
  • Brandeburg
  • Breme
  • Brydain fawr
  • Buda
  • Bularia
  • Burgundy
  • Calabria
  • Capua
  • Cattalonia
  • Cesarea
  • Cleves
  • Compostella
  • Croatia
  • Cullen
  • Dalmatia
  • Denmark
  • Ffex
  • Fflorence
  • Fforrara
  • Fforum
  • Ffraingc
  • Ffrancford
  • Gaunt
  • Germany
  • Hamborough
  • Hassia
  • Hungaria
  • Hispaen
  • [Page] Ingolstad
  • Judea
  • Julij
  • Masedonia
  • Marselles
  • Meclin
  • Media
  • Messina
  • Monserrat
  • Moravia
  • Muscovia
  • Naples
  • Narbon
  • Normandy
  • Norway.
  • Orcades.
  • Padua
  • Piemont
  • Pisaurum
  • Polonia
  • Portugal
  • Ratisbone
  • Rhemes
  • Rhyd-ychen
  • Saxony
  • Slavonia
  • Silesia
  • Stargard
  • Stiria
  • Swevia
  • Syria
  • Tartary
  • Toledo
  • Trent
  • Turkey newydd.
  • Thrace
  • Valechia
  • Valentia
  • Verona
  • Vienna
  • Vrbine
  • Vtrecht
  • Westphalia
  • West India
  • Wormes

Llawer o'r adfyd, a'r aflwydd a henwais yma, a ddigwyddasant yn barod, ar ôl Cyhoeddi fy'nhyraethawd bŷchan yr hwn a'u brudiodd; Ag i nine pobl Brydain faŵr y mae digon o achos i gyfadde ein bod yn gydnabyddys iawn a rhai o honynt i'n rhan ninau, ar hyn sydd etto heb ddyfod i ben o'r blinderau ymma, a fyddant ry siccr i ddisgin ar ryw rai a'i gilidd o'r gwledydd a henwais ymma, etto geill fôd yn agos i ugain mhylynedd ymhellach Cyn­dyfod i ben mo hollt affaith­iolaeth y seren-losg ryfeddol honno.

[Page] Os bydd neb yn ammau a ddarfy i mi yscrifenu o'r blinderau a ddigwyddodd yn ddiweddar Cyn eu dyfod ai na ddarfy, hwynt a allant edrych yn fy nhyraethawd bychan yng­hylch y sernolosg; yr hwn a brintiwyd yn seasnaeg yn y flwyddyn 1681. Ag ynddo ef hwy a gant weled y Cywir ragfynegiad o'r hyn oll a ddigwyddodd o'r amser hwnnw hyd yn hyn, ag heblaw hynny cant weled Cyflawnach dat­guddiad o'r hyn sydd etto i ddyfod, nag a ellir ei ys­grifenu mewn Cyn lleied llê ag i riw rwymedig iddo ymma.

Y llyfr bychan hwnnw a ellir ei gael ynghymru, Tan yr henw.

An Astrological Speculation of the late PRODIGY.

Many of these foremention­ed Miseries and Calamities hath fallen out already since the Publishing of that small Treatise of mine which pre­dicted them; and we the Peo­ple of great Britain, have cause enough to confess that we have been well acquainted with some of them for our share: And what are not yet come to pass of these Calamities, will be too sure to light on some or other of the Countries afore­mentioned, yet it may be near Twenty Years longer before all the effects of that wonderful Comet comes to pass.

[Page] If any should question whe­ther I have writ of those Ca­lamities lately past before they happened or no: They may look into that small Treatise of mine, on the Comet Printed in English in the Year 1681. And therein they shall not on­ly find all the Transactions that fell out hitherto spoken of, but shall also find a fuller dis­covery of what is yet to come then can be written in so small a room as I am here Tyed unto.

That little Book may [...] in Wales, under the name of,

An Astrological Speculation of the late PRODIGY.

Swyedyddawl farnedigaeth am y flwyddyn 1685.

Dau bêth yn y flwyddyn hon sydd nodedig iawn tuag at droeadau'r byd, y Cyntaf o honnynt iw dyfodiad yr haul i arwydd yr hwrdd, ag ar hynny a Gosodwyd yr addurn isod.

[figure]

[Page] Y blaned Gwener yn yr addurn hwn iw arglwyddes yr ail, a'r Trydydd tu o 'r addurn, ag mewn Cyswllt a'r blaned mercher [Arglwydd y pedwaredd, ar pumed ar wythfed o dai yr addurn] yn y Tŷ cyntaf o'r addurn, ag yn bwrrw ei phe­drogledd dremiad at mawrth [Arglwydd y degfed] yn y degfed Tŷ. Hynny syn arwyddo y Cymeriff rhyw rai arfau yn erbyn eu Brenin neu eu pen Llywydd mewn rhyw deyrnas, ag ondodid a Gymerant feddiant o ryw ddinas neu gastell drwy gau allan swyddogion a milwyr eu Brenin, neu geisio hynny yn daer Jawn: Ond mawr a fydd eu hachos i edifaru yn fyan ar ôl iddynt ryfygu gwneuthyr y ffiaidd weithredoedd hynny, o herwydd fod yr haul yn bwrw ei drifliad at y blaned mawrth, hynny sy 'n arwyddo y Cysuriff, ag a Cryfheiff y llywydd 'ei swyddogion ai filwyr yn erbyn ei elynion, Ar blaned mawrth hefyd or degfed Ty, yn bwrrw ei phed­rogledd dremiad at sadwrn yn y saithfed ty, hynny sy 'n rhagddangos y Cynhyrfiff y milwyr o ddifri, ag a llwyr orchfygant ar fyr amser y rhai a wrthynebant eu Brenin drwy Godi yn eu erbyn ef.

Yr ail pêth nodedig Tuagat y sywedyddawl farnedigaeth am y flwyddyn 1685, iw y diffyg a ddigwydd ar y lleuad, ar y 30 dydd o dachwedd, rhwng dêg ag unarddêg o nôs: ag ar y diffyg hwnnw a Gosodais yr addurn isod.

[figure]

O Caer-Ludd, Care-Ludd, y nefoedd sy 'n edrych arnat ag yn dy fygwth ag wyneb digllon iawn; os byost yn ddiweddar yn an esmwyth o herwydd yr helbul a ddisgynodd arnat Trwy dy gyndynrhwydd dy hun; nid oedd hynny ddim wrth yr hyn sy 'n dyfod arnat (Cyn pen nemawr, oni bydd Duw Trugarog wrthit) mawr Jawn a fydd dy ruddfan, a'th ochen dan bwys dy gystuddiadau, y rhain a syrthiant arnat yn ddygyn o herwydd dy gamweddau.

[Page] Amriw sywedyddion yn eu halmanaccau seasnaeg a ddrog­anasant a digwyddau yn y blynyddoedd diweddar, Gornwydau, n [...]u ddwys ddoluriau eraill yn llundain; ond yn wîr ni welais i wrth reol sywedyddiaeth er pan ddechreuais fyfyrio 'r Gelfyddyd, mo 'r achosion i ofni Creulon ddoluriau ymyrydain, yn enwedig yn Llundain hyd yn hyn; ond y rywan wrth y diffyg [...]wn addigwydd ar y lleuad, i rwyfi 'n rhagweled fôd Cornw­ [...], neu ryw ffiaidd Glefyd arall yn debyg i ddisgyn ar Lundain, ag ondodid ar ryw fanau eraill yn y deyrnas hon, ynghylch dechreu 'r flwyddyn o oed Jesu, 1686. Ag mae Gosodiad y diffyg yn y degfed Tu o'r addurn, yn bygwth Gwŷr Enwog, a rheolwŷr a chlefydon os diangant oddiwrth farwolaeth: Ar diffyg hwn hefyd sy 'n Arwyddo Gaua Gwyntiog Jawn, a llawer o Golledion ar fôr, a thîr drwy demhestl gwyntoedd. yr hyn oll sy dueddawl wrth gwrs a naturiaeth y planedau, Ond etto er na haedde'r bobl, yr hwn a wnaeth y planedau, ag a poddodd natur, a chryfder iddynt, a eill attal eu haffaithiolaeth, Megis y dychwelodd ef yr haul ddêg o raddau yn ei ôl, Esay 38. 8. Gore môdd i ymwared oddiwrth Geryddiad yr Arglwydd, iw ymroi yn hollawl i wellau buchedd, a dygyn weddio arno ef am fadd­euant a Trugaredd, ar sawl a wnelo hynny fel y dyle, a fydd siccr o fwynhau addewid ei Greawdr, ai waredwr megis yn, Ezeciel 18. 27, & 28. Pan ddychwelo yr annuwiol [...]ddiwrth ei ddrygioni yr hwn a wnaeth, a Gwneuthur barn a chyfiawnder, hwnnw a Geidw yn fyw ei enaid: am iddo [...]ried a dychwelyd oddiwrth ei holl Gamweddau y rhai a [...]naeth, Gan fyw y bydd byw, ni bydd marw.

Ag yn Matthew 7. 7, & 8. Gofynwch, a rhoddir i chwi: [...]isiwch, a chwi a Gewch, Curwch, agfe agorir i chwi, canys [...] un sy 'n gofyn, sy 'n derbyn, a 'r nêb sy 'n Ceisio sy 'n Cael, i 'r hwn sy 'n Curo yr agorir.

Rhifedi y Blynyddoedd a Aeth­ant heibio er pan ddigwyddodd y pethau isod sy 'n Canlyn.
 I mae o flynyddoedd.
ER pan Greawdd Duw 'r Byd, Genesis 1. 1.5634
Er pan fy'r dwfr diluw, Genesis 6. 17.3678
Er pen dderbyniodd Abraham yr addewid o etifaidd, Genesis 17. 19. Trwy 'r hwn a daeth Crîst o hilio­gaeth Abraham, Matthew 1. 1.3612
Er pan ddinistrwyd Sodom a Gomorra, Genesis 19. 24.3587
Er pan anwyd Moses, Exodus 2. 2.3282
Er pan ddaeth plant Israel o 'wlâd yr Aipht, Ex­odus 14. 22.3181
Er pan ddinistrwyd y ddinas fawr, [ses TROY] lle yr oedd y Cymru yn byw Cyn eu dyfod i 'r ynys hon2868
Er pan ddaeth y Cymru i r ynys hon Y Cymru a Lyfodraethasant yr holl ynys hon yn heddychol dros 1587. o flynyddoedd Cyn dyfod y saeson i wasgu arnynt.2802
Er pan ddaeth y saeson i 'r ynys hon Y Cymru a ymdrechasant a'r season Cyn i 'r Cymru golli Lloeger 238. o flynyddoedd.1235
Er pan gollodd y Cymru Loeger Trwy erlidiad y saeson. Y Cymru ar o'l iddynt Golli Lloeger, a gadwa­sant yr amriw sîroedd a elwir yn awr Cymru, ar eu dwylo eu hunain, (heb ymîsdwng i frenhinoedd na chyfraithiau y saeson) dros 594. o flynyddoedd.997
Er pan ymrôdd y Cymru i fôd Tan Lyfodraethiad brenhinoedd, a Chyfreithiau y saeson.403
Er pan adeiladwyd Teml Salomon, 1 Bren. 6.2701
Er pan Adeiladwyd Llundain.2795
Er pan Anwyd Crîst, rhagfyr 25. Matth. 1.1685
Er pan fedyddiwyd Crîst, Luc 3. 21, 23.1655
Er pan drôdd St. Paul, neu Saul, Jonawr 25. Actau 9.1650
Er pan ladded St. Stephen a cherig, rhagfyr 26. Actau 7. 59.1649
Er pan Groeshoelwyd Jesu, Matth. 20. 19.1651
Er pan ysgrifenodd St Joan ei Efengyl1628
Er pan ddaeth Joseph o Arimathea (discybl, i 'r Jesu,) i frydain fawr, Joan 19. 38.1624
Er pan ddinistrwyd Jerusalem, neu Caer-selem, drwy 'r Rhufeniaid, dan Lyfodraethiad, Titus Vespasia.1615
Er pan dorwyd pen St. Paul yn Rhufain1619
Er pan ysgrifenodd St. Joan y Datcuddiad1590
Er pan fy farw Lucius, y Cyntaf o Gristionogawl fre­nin yn yr ynys hon.1428
Er pan adeiladwyd y Tŵr gwyn yn Llundain1116
Er pan ddyfeisied gwneuthur Clociau, a deiolau, ai gosod mewn Eglwysydd1068
Er pan ddechreuwyd Gwydro, a pheintio yn Lloeger1028
Er pan orchfygodd William y Congcwerwr yr ynys hon619
Er pan wnaed y maer Cyntaf yn Llundain595
Er pan ranwyd y bibl yn llithiau490
Er pan orphenwyd pont Lundain wedi gweithio wrthi 33 o flynyddoedd476
Er pan ddyfeisied gwneuthur Gynnau305
Er pan ddechreuwyd printio llyfrau244
Er pan ddyfeisied gwneuthur, Cerbyday, sef Coaches130
Er pan ymddangosodd yr wybren fel Tân112
Er pan fŷ daear-gryn mawr yn lloegr110
Er pan fy eira mawr iawn yn lloeger105
[Page] Er pan brintiwyd y bibl gyntaf yn Gymraeg97
Er pan fy Cornwyd yn Llundain, y pryd y bŷ farw o hono 30578. o bobl87
Er pan fy brâd y powdr gwn, Tach 580
Er pan fy Cornwyd arall yn llundain, or hwn y by farw o bobl 3541860
Er pan anwyd ein Brenin Charles yr ail, mai 2955
Er pan anwyd y Duc o Efrawc5 [...]
Er pan fy gwrthryfel yn y werddon, yn yr amser a brady­chodd y papistiaid o'r prodesdaniaid ynghylch 300000. o bobl Gristionogawl4 [...]
Er pan dorwyd pen y Brenin Charles y cyntaf, Jonawr 30.37
Er pan fy farw Oliver Crwmwel, Medi 3.27
Er pan ddychwelodd ein Brenin Charles yr ail i Lundain, Mai 29.25
Er pan Goronwyd ein Brenin Charles yr ail, Ebrill 23.24
Er pan briodwyd ein Brenin a'n Brenhines23
Er pan welwyd sêr Cynffonog mawrion yn Lloeger21
Er pan fy 'r Cornwyd diweddaf yn Llundain, y pryd y by farw o hono, 98596. o bobl20
Er pan losgodd Llundain, Medi, 1, 2, 3, 4, 5.19
Er pan fy farw Arglwydd mwnge15
Er pan fy 'r ymladdfa ddiweddaf rhwng y season a'r Holandiers13
Er pan Gyhoeddwyd heddwch rhwng y season a'r Holandiers12
Er pan fy'r drydaniaeth diweddaf ar ŷd11
Er pan weled seren Gynffonog yn y Gogledd, yn mîs Ebrill8
Er pan ddatguddiwyd Cydfradwriaeth y papistiaid, Medi 28.7
Er pan fradychodd y papistiaid, Sir Edmundbury Godffrey Hydref 12.7
Er pan ymddangosodd y seren ar Gynffon ryfeddol o faint, yn Tachwedd, rhagfyr, a Jonawr5
Er pan ymddangosodd seren gynffonog, Awst 14.3
r pan ddatguddiwyd y Cydfradwriaeth diweddaf yn Lloeger, yn Mehefin2
Er pan dorwyd pen Arglwydd Russel, Gorphenaf 21.2

Hanes y bŷd, Ar y dôn ymado a'r Tîr, neu Leav Land.

Y Brytaniaid hyna, trigolion gwlâd Cambria,
gwynedd.
Gwynethia, a
Dehubarth.
Demetia, yn gyfa dan go
Clywch hanes anianol y bŷd anwybodol,
Ar bobol anweddol sydd ynddo.
Ni bŷ 'rioed rwi 'n Credu, amlach pregethu,
Nag amlach rhai 'n pechu, a'i buchedd mor ddrwg:
a chaethach Gyfreithiau, nag amlach droseddau.
A gwneuthur cam golau 'n ein golwg.
Wrth edrych, oes un-dyn, o'r uchaf ei ffortun,
Hyd at y Cardotyn, sy'eb ronyn o fri,
1 Tim. 6. 8, 9, & 17, 18.
Yn ole mi wela, nad yw y gwŷr mwya,
Sy'n Cael eu bŷd lawna 'n bodloni
Y Tlawd sydd yn chwanog i fynd yn gyfoethog,
Jer. 6. 13.
A'r Cyfoethog yn farchog gwiw enwog ar goedd,
A'r Marchog sy a'i Awydd ar fyned yn Arglwydd,
O Arglwydd yn llywydd y lluoedd.
Mae dynion wrth Ffortun, fel hoelion mewn olwyn
Yn sidill iawn sydyn, a'i hilin tru hi,
Preg. 9. 11, 12.
A rheini a fo'n ucha mewn munyd or lleia
A ddigwydda 'r hynt yna I fynd tani.
Y bobl ynfyta, a'r dynion cnafeiddia.
Sy'n cael y lwc amla, a hapusa'n y bŷd
Preg. 10. 6, 7.
Pan fo gwŷr deallus, mwyn, gonest, amcanus
Yn byw yn helbulus heb olud.
[...]r doeth tlawd ni hoffir, a'r dinerth ni adwaenir,
Y Cyfoethog Canffyddir, fe welir heb wâd,
Preg. 9. 15. 16.
[...]tt [...]f ond hutan, diddawn, a di amcan,
[...]e gaiff am ei arian gymeriad,
[...]thineb di ystyrir, a bonedd ni pherchir,
Heb gyfoeth yn siccir, esglusir gŵas glân,
Dih. 8. 10, 11.
[...] marn pobl grintach, nid oes heddiw ddoethach
Y dyn a fo'n eiriach ei arian.
[...]eins âeth yn oerion, ni edwyn gwŷr mawrion
Moi Ceraint tylodion, pan dreinglon ar dro:
a bo dŷn mewn urd [...] [...] arian o'i gwmpas,
Bydd llawer gŵr [...].
Er bôd i ddŷn ddigon o geraint bonddigion,
O amriw wŷr mawrion, a breulon eu brî:
Preg. 10. 19.
Ceiff weled ryw amser mae gwell iddo 'n lloeger
Ei arian or haner na'rheini.
Rhai a brîoda o awydd I fawrdda,
Un sut a marchnata cyfflyba eu
elw
bûdd:
Yr uchaf ei geiniog, a gaiff ferch gyfoethog,
Neu Aeres nodidog, ddŷn dedwydd.
Eraill a garan, yn aryth am arian,
Ag eilwaith hwy 'gilian, nhw doran er dâ:
Ag wedi hyn weithiau, ychydig ddefeidiau,
Neu ugiain o sylltau a'i cysyllta.
Duw yn ei deyrnas, a ordeinodd briodas
Gen. 2. 24. Heb. 13. 4. Preg. 7. 26.
Pôb gwir gristion addas, ufuddwas iw fawl,
Ond rhai sy'n troseddu; eisie deusyfu
Iawn gymorth yr Jesu 'n bûr rasawl.
Gan gimin iw'r trawster, cybydd-dod, a balchder,
Zeph 2. 10.
Nid rhyfedd os gweler, rhyw brinder i'n bro,
Ni rydd y goludog, i'r tlawd gwan [...]nghenog,
Newynog, na cheiniog, na chinio
Mae siamplau efangyledd, o Lazarws oedd glafedd,
Luc 16. or 20. hyd y 26.
A'r gŵr di drigaredd yn gomedd y gwan:
Wrth boeni yn y ffwrnes, i ymoeri o'r mawr-wres
O'r dwfr ni chae difes ûn dafan.
Mae calon dŷd chwanog, yn
Lloches
wâl dri chornelog,
A'r bŷd yn grwn ochrog, cwmpasog, cwymp ôch,
Er rhoddi hwn ynd di, nid ellir mo 'i llenwi,
Bŷdd cornel wâg iddi chwi ai gwyddoch.
Pan lwyddo dâ I gybydd, chwanegu a wna ei awydd,
Ni chaiff iw fodlonrhwydd lawenydd diwall,
1 Tim. 6. 9. 10.
Na heddwch I gysgu, gan ofal am gasglu,
A deusyfu pentyru punt arall.
Ped fae ddyn cyn amled ag
Dŷn a 200 o ligaid.
Argus ei lyged,
I chwilio, ag I weled, a synied yr oes hon,
Gan wŷr a'u Trosedde, fe gae 'dwyllo weithie,
Er Craffed a fydde yn ei foddion,
Brenin Per­sia.
Cambyses a wnae flingo y Barnwr am iddo
Gymeryd ei freibio, I ŵyro barn iawn:
Ai groen yn ei eisteddle, a osoded er flample
I eraill na anghosie 'r Anghyfiawn.
Hawddfyd ir amser 'bu Howel Dda ei arfer,
Brenin Cymru.
Yn farnwr cyfiawnder, eglurder iw glôd:
Materion y cymru, a gae ddechreu, a diweddu
Ai barnu heb eu darnu 'n 'r ûn diwrnod.
Gan amled iw ffalster. a rhagrith rhai eger,
1 Cor. 11. 19.
Ni cheir iawn ffyddlonder o freuder y frest:
Mae Scysmau, a Heresiau, mewn Llawer o fannau,
Gal. 5. 20.
Ag amriw o'm piniwnau, heb ûn onest.
Un Duw sy'n ordeinio, un haul i'n goleuo,
1 Tim. 2. 5. Marc 11. 22. Rhu 1. 5, 15. Heb. 6. 1, 2.
I'r ûn nêf 'rym ni'n ceisio rhodio 'n ddi rus,
Un ffydd i'n hamddiffin, ag un llwybur dibin,
A ddylem ni ddilin yn ddilus,
Rhown barch, ag ufudd-dod, I bawb mewn Awdurdod.
Eu rhoddi gan wybod oddiuchod I ddŷn;
Titus 3. 1. Joan 19. 11. Matth. 17. 27.
Crîst, a'i ddysgyblion, a ufuddhau'n dirion
I greulon swyddogion 'wedd ddygyn.
Y Protestant, byddwch ddianair, Cyd-unwch
A'i gilydd, a gwelwch fôd gelyn i ni,
Rhaff deircaingc ni ddryllir cyn hawsed, fe ai hoesir
Yn hîr, os crydeddir cred iddi.
Preg. 4. 12.
Nid ydyw 'r bŷd ymma ond megis hafotta,
Na hoedl yr hwya, ond rhedfa o fyr hyd:
Rhaid i ni 'n ddiame roi cyfri am ein geirie.
A'n trosedde, a hyll feie 'n holl fywyd.
Matth. 12. 36.
Na werthwch wlâd, nefol, am fur bleser bydol,
I borthi chwant cnawdol anianol, a nwy
Marc 1. 15. Matth. 7. 7.
Edifarhewch, credwch, curwch, a cheifiwch,
A chewch yr hyfrydwch
Parhaus.
paradwy
Codwch, na arhoswch mewn niwl ag anialwch,
I wlâd Canan cerddwch, cyfeiriwch, i'r fro,
Cewch fyw yn dragywydd, ynghaerselem newydd,
Dat. 3.
A pherffaith lawenydd lawn ynno.
ELIS AP [...]

ANNOGAU.

YN fy Almanac am y flwyddyn ddiweddaf, mynegais i chwi fod amriw Lyfrau eraill yn dyfod allan Gydag ef, ag a dyddent ar werth ynghymru ymhob man ag y bydde 'r Alman­accau y Llynedd; ag onid oeddent ymhob man ag i roedd yr Al manaccau, nid arnafi yr oedd y bai: oblegid nid iw Gyfleus mi ddeilio a phob un ag sy 'n gwerthu Llyfrau ynghymru; o herwydd pa gwnawn hynny, bydde fy nhyrafferth yn llawer mwy na 'm hynill: Ag am hynny os bydd diffig neu brinder fy Al­manaccau, neu Lyfrau eraill (a yrais, neu a yrwif allan) mewn un-man ynghymru, Ar y siop-wŷr a fo 'n aros yn y Gymyd­ogaeth honno y bydd y bai, am na phrynant y llyfrau gan y rhai sy 'n eu Cael oddiwrthifi.

Fel ag y mynegais i chwi y llynedd, i rwif etto yn ail fynegi i chwi, fôd fy Almanaccau, a phôb llyfrau eraill ar a roddais allan, a [...] werth.

YNg H [...]r-Lleon, gan Mr. John Minshall, Book-seller.
Yn [...]bergaeni, gan Mr. Samuel Rogers, Grocer.
Yn y Bala, a dôlgelle, gan Mr. Evan Rees.
Yn Llanfylling, gan Mr. Walter Griffithes.
Yng Hyroesyswallt, Gan, Mr. David Lloyd, mercer.
Yng Wrexham, gan Mr. John Hughes.
Yn y Mwythig, gan Mr. Gabriel Rogers, Book-seller.
Yn y Trallwm, gan Mr. Evan Gwyn.

YR amriw siopwyr a henwais uchod, sydd yn derbyn fy llyfrau oddiwrthifi pan ddelont gyntaf allan. a phôb siopwyr eraill ag a'u gwellysio, a eill eu Cael Ganddynt hwy os mynant, fel na bo mo 'i diffig mewn un man ynghymru.

YR amriw Lyfrau a brintiais y llynedd, (heblaw 'r Almanac, a fethais eu Gyru allan Cyn Gynted ag y roedd rhai yn e [...]yl, a hynny drwy fod y print-wŷr yn anibenach wrth y [...] nag yr addawsent i mi: ag am na [...] oeddent allan ar­ [...] [...]'r Almanac, fel ag i 'r [...] ynddo y byddent, i [Page] rwifi 'n deall fod llawer o bobl yng hymru ar a'u ewyllyfie. e heb fedru eu Cael, ond y Leni i 'rwif yn sicrhae i chwi eu bod yn dyfod oddiwrthifi arunwaith a'r Almanac hwn i ddwylo 'r siop-wŷr a henwais eusus: un o honynt a Gewch tan henw Y GWIR ER GWAETHED IW Yr hwn sydd yn dangos yr Eglur wîrionedd am amriw o bethau a fŷ, ag a fydd, a hynny ar ddyriau naturiol a hyfryd.

Ag atto hefyd a chwanegwyd,

Amriw o hên gywyddau odiaethol, o wneuthuriad yr Enwog bryd­yddion Gore Gynt, y rhain sydd am Gymraeg, a chynghanedd, yn rhagoriar waith y prydyddion Gore yn yr oes hon.

Prynwch y gwîr, ag na werthwch

,

Dihar, 23. 23.

UN arall o honynt a gewch Tan henw, YR HEN LYFR, PLYGAIN, A'R GWIR GATECHISM. Yr hwn sy 'n ôl y Comon Prayer, ag arferol wasanaeth Eglwys Loeger, yn cynwys boreuol, a phrydnawnol weddiau, a Chatechism Cy­freithlawn yr Eglwys, diolchgarwch o flaen. ag ar ôl bwyd, a ffeiriau Cymru, Ag wrtho hefyd a chwanegwyd A­thrawiaeth i ddysgu darllen Cymraeg, ag i ysgrifenu amriw fâth ar ddwylo. Ond pan Eloch iw brynu ef, mynwch weled yn ei ddechre, henw Thomas Jones, ag yn ei ddiwedd, athrawiaeth i ddysgu ysgrifenu, ag onide gellwch Gael eich Twyllo Trwy werthu i chwi ryw beth arall na thalo ddim yn ei lê ef, i'ch bodloni yn hytrach am hynny, darllenwch y Tu cyntaf o all ddalen yr Almanac hwn.

ENAINT GWERTHFAWR, neu ddisiomgar feddig­inaeth I bawd ag a fo 'n afiach o wres, neu ymgosi pa fath [...]ynag: y rhai a fo 'n gynefin a'r ymgrafu, sy'n chwanog i feddw nad oes ynddo niwed yn y bŷd heblaw ei ffieidd-dra, ond y rw [...] [...]n Gwybod yn hysbys, ag yn dwyn ar ddallt i chwithe, f [...] yr ymgrafu yn gyntaf yn digaloni, ag yn diffrwytho dŷ [...] a chwedi hynny, oni Iacheir ef mewn Gweddeidd-dra o a [...] diame y megiff yr ymgrafu ddrwg ddoluriau yng-horph, a [...] dynion, megis, ysgyr [...] y frêch fawr, ag amriw [Page] ddoluriau eraill, Ag heblaw hynny, pa Glôd a Geiff Gŵr ifange am gario'r fâth wrthyn Gydymeth a'r ymgrafu gydag ef at ei Cariad, neu pa Glôd a Geiff merch ifange o ddangos iw chariad ddwylo Craohlyd.

Yr Enaint hwn a yrwyd i'r wlâd arunwaith a'r Almanac hwn, ag a fydd ynghymru ar werth mewn blychau bychain, ag ar brîs bychan, un o'r blychau hynny sydd ddigon i Iachau un dŷn o'r ymgrafu, o ddigerth ei fod wedi mynd yn Iwin dros ci holl gorph ef, ag os bydd dros yr holl gorph, dau o'r blychau sy ddigon.

Pan brynoch yr Enaint ymma, ddwy noswaith neu dair wrth fy­ned i'ch gwelu, eneiniwch y mannau lle 'bo 'r ymgrafu arnoch, a chyn pen yr wythnos ar ôl i chwi wneuthyr hyny, eich ffiaidd gyd▪ ymaith sef yr ymgrafu a Gymer ei genad ag a ymedu a chwi yn ddi ffael.

Ag heblaw hynny, os bŷdd plant yn chwanog i fagu llau, Cy­merwch yr. enaint hwn ag eneiniwch Grwyn y plant, a chyn pen y ddeuddydd ni bydd byw un o'r llau, os bydd y plant yn ifengc, gwiliwch roddi ond ychydig ar eu Crwyn ar unwaith, rhag iddo amharu arnynt.

LLyfrau Cymraeg ar werth yn Abergaeni gan Mr. Samuel Rogers. y Bibl. [...] llyfr ficer llanymddyfri, hanes y ffydd, Llwybr hyffordd i 'r n foedd. Galwad i 'r anychweledig, Cyfarwydd-deb i 'r anghyfarwydd, Trysor i 'r Cymru▪ Cynghorion Tâd iw fâb ag ymddiddan rhwng hên ddyn ag angeu. L'yfr Resolu [...]ion.

CEffyl disba'dd, ynghylch pump oed, ynghylch peda'r dyrnfedd arddêg o uchder, Cla [...]r-wyn i gid oddigerth huchen lâs o ddeutu oi drwyn, Taclus iawn ei gorph a'i Lodau, a thrwyn Corog, a gwddw cydnerth a go hîr, a chorph crwn iawn, a [...]d [...]a [...]n a di gest'og, a charnau go Lydain, a Gliniau mawr esgyrnog, a brychni yn dchreu Tori allan ynghylch ei ysgwyddau, ag yn Cerdded yn llydan Iawn yn ôl, heb fedru dim rhygyngu, a chloren fer lawn, ag etto pan gollwyd ef, i roedd iddo. rawn-yn Cyrydd camedd-ei arau, ag y [...]gryffi [...]iad neu Graith ar y Tu alla [...] iw goes ôl ddeheu yn agos i'r egwyd▪ ag enaint gwyrdd ar y r ysgryffiniad hwnw, yr hwn oedd debyg i aros yn nôd hynod arno dros ddau fîs neu drî, y ceffyl hwn a gollodd o borfa yn agos i Abergaeni yn sir fynwy. ar y 14 dydd o fîs gorphenaf yn y flwydd­ [...], 1684. Pwy bynag a ddelo a'r Ceffyl hwnw at un o'r siopwyr a ddyw­ [...]dais eusus eu bod, yn derbyn llyfrau oddiwrthifi, ag a yro Lythyr i mi o [...]ny i 'r Black-Fryars yn Llundain, efe a Geiff drwy ordor Tho. Jones [...]n swllt am ei boen gan, y gwr a ddebynio 'r Ceffyl oddiwrtho.

DIWEDD

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.