Pregethau a osodwyd allan trwy awdurdod i'w darllein ymhob Eglwys blwyf a phob capel er adailadaeth i't bobl anny[...]dig. Gwedi eu troi i'r iaith gymeraig [tr]wy waith Edward Iames, ... Certain sermons or homilies appointed to be read in churches. Welsh. 1606 Approx. 1341 KB of XML-encoded text transcribed from 417 1-bit group-IV TIFF page images. Text Creation Partnership, Ann Arbor, MI ; Oxford (UK) : 2008-09 (EEBO-TCP Phase 1). A72359 STC 13678 ESTC S125035 99898893 99898893 150970

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.

Early English books online. (EEBO-TCP ; phase 1, no. A72359) Transcribed from: (Early English Books Online ; image set 150970) Images scanned from microfilm: (Early English books, 1475-1640 ; 1992:1) Pregethau a osodwyd allan trwy awdurdod i'w darllein ymhob Eglwys blwyf a phob capel er adailadaeth i't bobl anny[...]dig. Gwedi eu troi i'r iaith gymeraig [tr]wy waith Edward Iames, ... Certain sermons or homilies appointed to be read in churches. Welsh. Church of England. [8], 195, [1], 172, 171-305, [1], 203, 205-206, 210-305, [3] Robert Barker printiwr i odidawgaf fawrhydi y Brenin a'i printiodd yn Llundain, [London] : anno Dom. 1606. Books 1 and 2 of homilies collection published by the Church of England. Caption title on 2A3: Yr ail rhan o lyfr yr homiliau neu'r Pregethau. Caption title on 3A1: Y drydedd ran o lyfr y Pregethau cyhoedd; begins new pagination. Gathered in 8's. Reproduction of original in the British Library, London, England.

Created by converting TCP files to TEI P5 using tcp2tei.xsl, TEI @ Oxford.

EEBO-TCP is a partnership between the Universities of Michigan and Oxford and the publisher ProQuest to create accurately transcribed and encoded texts based on the image sets published by ProQuest via their Early English Books Online (EEBO) database (http://eebo.chadwyck.com). The general aim of EEBO-TCP is to encode one copy (usually the first edition) of every monographic English-language title published between 1473 and 1700 available in EEBO.

EEBO-TCP aimed to produce large quantities of textual data within the usual project restraints of time and funding, and therefore chose to create diplomatic transcriptions (as opposed to critical editions) with light-touch, mainly structural encoding based on the Text Encoding Initiative (http://www.tei-c.org).

The EEBO-TCP project was divided into two phases. The 25,363 texts created during Phase 1 of the project have been released into the public domain as of 1 January 2015. Anyone can now take and use these texts for their own purposes, but we respectfully request that due credit and attribution is given to their original source.

Users should be aware of the process of creating the TCP texts, and therefore of any assumptions that can be made about the data.

Text selection was based on the New Cambridge Bibliography of English Literature (NCBEL). If an author (or for an anonymous work, the title) appears in NCBEL, then their works are eligible for inclusion. Selection was intended to range over a wide variety of subject areas, to reflect the true nature of the print record of the period. In general, first editions of a works in English were prioritized, although there are a number of works in other languages, notably Latin and Welsh, included and sometimes a second or later edition of a work was chosen if there was a compelling reason to do so.

Image sets were sent to external keying companies for transcription and basic encoding. Quality assurance was then carried out by editorial teams in Oxford and Michigan. 5% (or 5 pages, whichever is the greater) of each text was proofread for accuracy and those which did not meet QA standards were returned to the keyers to be redone. After proofreading, the encoding was enhanced and/or corrected and characters marked as illegible were corrected where possible up to a limit of 100 instances per text. Any remaining illegibles were encoded as <gap>s. Understanding these processes should make clear that, while the overall quality of TCP data is very good, some errors will remain and some readable characters will be marked as illegible. Users should bear in mind that in all likelihood such instances will never have been looked at by a TCP editor.

The texts were encoded and linked to page images in accordance with level 4 of the TEI in Libraries guidelines.

Copies of the texts have been issued variously as SGML (TCP schema; ASCII text with mnemonic sdata character entities); displayable XML (TCP schema; characters represented either as UTF-8 Unicode or text strings within braces); or lossless XML (TEI P5, characters represented either as UTF-8 Unicode or TEI g elements).

Keying and markup guidelines are available at the Text Creation Partnership web site.

wel Church of England -- Sermons -- Early works to 1800. Sermons, English -- 16th century. 2007-03 Assigned for keying and markup 2007-04 Keyed and coded from ProQuest page images 2007-10 Sampled and proofread 2007-10 Text and markup reviewed and edited 2008-02 Batch review (QC) and XML conversion

Pregethau a oſodwy allan trwy awdurdod i'w darllein ymhob Eglwys blwyf a phob capel er adailadaeth i'r bobl anny ••• dig.

Gwedi eu troi i'r iaith Gymeraeg rwy waith Edward Iames.

Robert Barker printiwr i odidawgaf fawrhydi y Brenin a'i Printiodd yn Llundain.

Anno Dom. 1606.

〈1 page duplicate〉
¶ Y rhag-ymadrodd.

MAe 'r Apoſtol S. Pawl yn teſtiolaethu yn oleu na all neb alw neu weddio ar Dduw heb gredu ynddo, na all neb gredu heb wrando, na neb wrando, heb fod rhai ac a bregetho gair Duw iddynt: am hynny pan yſtyriodd y brenin ieuangc duwiol Edward y chweched pa mor ambell oedd gwir bregethwyr gair Duw o fewn ei deyrnas ef, y rhai a fedre addyſcu'r bobl i gredu yn-Nuw, i alw arno ac i gadw ei orchymynion ſanctaidd ef, er iechyd eu heneidiau a gogoniant i enw Duw, fe a barodd wrth gyngor ei Gynghoriaid i wyr duwioll dyſcedig cyfarwydd yngair Duw gynull ac ſcrifennu allan o'r ſcruthyrau ſanctaidd (vnig ffynnon pob doethineb, vnig ymborth yr eneidiau, vnig dywyſog ac arweinudd i wir wybodaeth, rhinwedd a duwioldeb, vnig ddiwreiddudd pob chwyn gwenwynig, vnig wrthladdud pob anwybodaeth, ac vnig gyferbyn yn erbyn pob gauathrawaeth dwyllodrus, yr hon ſydd yn tywys i ofergoel trawſopinionau a delw-addoliad) yr homiliau duwiol ymma: yn y rhai y cynhwyſir y prif byngciau o'n ffydd ni ac o'n dlyed tu âg at Dduw a'n cymydogion: fel y galle yr offeiriaid a'r curadiaid annyſcedig, y rhai ni fedrent yn amgen etto wrth adrodd datcan a darllen yr homiliau hyn, bregethu i'w pobl wir athrawaeth, ac fel y galle bawb o'r bobl wrth wrando, ddyſcu 'n inion ac yn iawn anrhydeddu ac addoli 'r holl-alluog Dduw a'i waſanaethu 'n ddiwyd. Yr homiliau hyn hefyd am eu bod mor fuddiol y orchymynnodd yr ardderchog frenhines Elizabeth eu printio ailwaith, ac hi a rhoddodd yr vn gorchymmyn am eu darllen hwy ac a rhoeſai eu brawd duwiol hi yn y blaen. Ac megis na ellir dywedyd fod ar y ddayar er ioed dywyſog ac a ddangoſodd ymhob peth arall fwy o zeal at Dduw nac o ofal dros ei ddeiliaid, n'ar brenin godidawg, ardderchawg duwiol Iames ein graſuſaf frenin a'n llywydd: felly yn y peth hyn ni ddangoſodd ef ddim lai o'r fath zeal a gofal nac y ddangoſaſe y brenin Edward a'r frenhines Elizabeth o'i flaen ef. O herwydd yntef trwy gyfraith Eglwyſig (fel y gallir gweled yn 46. Canon a wnaeth y Gymanfa Eſcobion ac Eglwyſwyr a gynhaliwyd yn yr ail flwyddyn o'i deyrnaſiad ef ar Brydain fawr, Ffrainc ac Iwerddon, yr hon y gadarnhaodd ei fawrhydi ef a'i awdurdod goruchel brenhinawl) a rhoes orchymmyn caled ar fod i bob Perſon, Vicar a Churat ddarllen yr Homiliau hyn bob ſul a gwyl (o ddiffig pregeth) ymhob Eglwys blwyf a chapel ofewn y deyrnas: fal y galle y rhai ni chlywant lafar pregethwyr ond yn ambell, wrth arfer o glywed darllen y pregethau duwiol dyſcedig hyn yn fynych, ddyſcu mewn amſer gredu yn-Nuw yn inion ac yn ffyddlon, galw arno yn ddifrif ac yn deilwng, gwneuthur y cwbl o'u dlyed at Dduw a'u cymydogion ac ymddw yn felly yn y byd hwn yn ol gwybodaeth, fel y beddai iddynt fwynhau bywyd tragwyddol yn y byd a ddaw trwy ein Iachawdwr IESV GRIST. Etto er nad oedd rheitiach i vn wlad wrth y fath gynhorthwy nac i wlad Gymru am fod pregethwyr mor ambell ynddi, ni ewyllyſiodd Duw ini gael neb o'r Homiliau hyn na'r fath eraill yn y iaith Gymeraeg hyd yr amſer hyn. Ond wele y Cymro hwy yn awr yn dy iaith di dy hun, fel y medrich dithau wrth eu gwrando eu deall hwy. Duw a wnelo iddynt wneuthur iti fawrles ac a'th wnelo dithau yn ddiolchus i Dduw am ei fawr ddaioni.

AMEN.
¶ Rhybydd i bob gweinidog Eglwyſig.

OBlegid bod yr Arglwydd yn gofyn gan ei wâs, a oſododd ef goruwch ei deulu, ddangos ffyddlondeb a challineb yn ei ſwydd: anghenrhaid fydd i chwi o flaen pawb eraill eich ymddwyn eich hunain yn ffyddlonaf ac yn ddieſceuluſaſ o gwbl, yn eich vchel alwedigaeth: hynny yw, yn gymmwys, yn eglur ac yn llawn llythyr, darllein yr Scrythurau ſanctaidd, addyſcu ieuengctyd yn ddyfal yn ei Catechiſm, gwaſanaethu y Sacramentau bendigedig yn weddaidd ac yn barchedig: dewis yn ſynwyrol y cyfryw Homiliau ac a fyddo cymmeſuraf i'r amſer, ac yn gwaſanaethu yn oreu er addyſe i'r bobl a orchymmynnwyd i'ch gofal, a hynny gydâ chyfryw bwyll, megis pan dybyger bod yr Homili yn rhyhir i'w darllein ar vnwaith, yna ei rhannu hi i'w darllein, peth y boreu a pheth bryd nawn. A lle y digwyddo bod rhyw bennod o'r hên Destament wedi appwyntio ei darllein ar Sul neu wyl, yr hon a ellir yn well ei chyfnewid am ryw bennod arall o'r Teſtament newydd a fo gwell i adeiladaeth: da y gwnewch os chwi a dreulia eich amſer yn myfyrio yn dda ary cyfryw bennodau ym-mlaen llaw, fel yr ymddangoſo eich callineb a'ch diwydrwydd yn eich ſwydd, ac fel y gallo eich pobl gael achos i ogoneddu Duw o'ch plegid chwi, a bod yn barottacb i •• eſawu eich trafael chwi a'ch poen, er ychwaneg clod i chwi, ac er cyflawni dlêd eich cydwybodau chwi a nhwythau.

ER na rannaſid y llyfr hwn ond yn ddwy ran yn y Saeſonaeg etto o herwydd wrth brintio y rhan gyntaf ddarfod imi beri nodi rhifedi y dalennau fal y gallid yn hawdd gyfarfod a dechreu pob Homili, pan goſodwyd wrth ddcchreu printio yr ail rhan ddau bres ar waith, ni allwn ni ganlyn y trefn hwnnw, oni byddai i mi rhannu y rhan ddiwethaf yn ddwy rhan: mi a feddyliais mai gwell oedd imi wneuthur felly na bod y rhan gyntaf gwedy nodi rhifedi ei dalennau, a rhifedi dalennau y rhan arall heb ei nodi: am hynny fel y gelli weled mae 'r cwbl gwedi i mi ei rhannu yn dair rhan. Fe a ddengys y Tabul ſydd yn canlyn iti pa Homiliau y ſydd ymmhob rhan o'r llyfr ac ar pa ddalen y mae pob vn o honynt yn dechreu.

¶ Tabul y rhan gyntaf.

1 ANnogaeth i ddarllen yr Scruthyr lân, 2. rhan. dalen 1 2 Am drueni dyn, 2. rhan. d 12 3 Am gadwedigaeth dyn, 3. rhan. d. 24 4 Am wirffyd, 3. rhan. d. 40 5 Am weithredoedd da, 3. rhan. d. 58 6 Am gariad perffaith, 2. rhan. d. 79 7 Am dyngu anudon, dwy rhan. d. 89 8 Am gwympo oddiwrth Dduw, 2. rhan. d. 101 9 Am ofn angau, 3. rhan. d. 115 10 Am vfydd-dod i ſwyddogion, 3. rhan. d. 136 11 Am butteindra ac aflendid, 3. rhan. d. 153 13 Am ymryſon ac ymdaeru, 3. rhan. d. 176

Tabul yr ail rhan.

1 PRegeth am iawn arfer yr Eglwys, 2. rhan. dalen. 1 2 Am ddelw-addoliad, 3. rhan. d. 21 3 Am gyweirio 'r Eglwys a'i chadw 'n lân. 3. 157 4 Am weithredoedd ac yn gyntaf am ymprydio, 2. rh. d. 165 5 Yn erbyn glothineb a meddwdod. d. 189 6 Yn erbyn dillad rhy-wychion. d. 205 7 Ynghylch gweddi, 3. rhan. d. 221 8 Am le ac amſer gweddi, 2. rhan. d. 248 9 Am finiſtrio gweddi a'r Sacrament mewn iaith a ddeallir. dalen. 165 10 Am amryw leoedd o'r Scruthyrau, 2. rhan. d. 284

Tabul y drydydd rhan.

1 PRegeth am eluſenau, 3. rhan. dalen. 1 2 Am enedigaeth Chriſt. d. 27 3 Am angau a dioddeifeint Chriſt, 2. rhan. d. 43 4 Am adgyfodiad Chriſt. d. 72 5 Am y Sacrament, 2. rhan. d. 86 6 Am ddiſcynniad yr Yſpryd glan ar dydd y ſulgwyn, dwy rhan. d. 104 7 Ar wythnos y derchafael, 4. rhan. d. 124 8 Am ſtat priodas. d. 165 9 Yn erbyn ſeguryd. d. 184 10 Am etifeirwch a gwir gymodi a Duw, 3. rhan. d. 197 11 Yn erbyn anufydd-dod a gwrthryfel, 6. rhan. d. 234

¶ Annogaeth ffrwythlon i ddarllen ac i wybod yr Scrythyr lan.

NI ddichon bod vn peth mor anghenrhaid, ac mor fuddiol i Griſtion, a gwybodaeth yn yr Scrythyr lan: yn gymmaint a' i bod 〈◊〉 cynnwys ynddi wir air Duw, yn goſod allan ei ogoniant ef, a dlyed dyn hefyd tuag atto ef. Ac nidoes na gwirionedd, nac athrawiaeth anghenrheidiol i gyfiawnhâd, a thragwyddol Iechydwriaeth, nad ydyw o fewn neu na ellir ei dynnu allan o'r ffrwd 〈◊〉 ffynnon honno o wirionedd. Cynnifer am hynny ac a chwennycho fyned at Dduw ar hyd y fford inion berffaith, rhaid iddynt roddi eu meddyliau a'u bwriadau i wybod yr Scrythyr ſanctaidd, heb yr honni allant nac yn ddigonol adnabod Duw a'i ewyllys, na'u ſwydd a'u dlyed eu hunain: Ac megis y mae diod yn flaſus i'r ſych dig a bwyd i'r rhai newynog, felly y mae darllen, gwrando, chwilio, a myfyrio ar yr Scrythyr ſanctaidd i'r rhai a chwennychant adnabod Duw, neu hwynt eu hunain: a gwneuthur ei ewyllys ef. A'u cyllau hwy yn vnic ſydd yn gwrthwynebu, ac yn caſhau nefol adnabyddiaeth ymborth gair Duw, y rhai ydynt gwedy eu boddi felly mewn oferedd bydol, fal nad ydynt yn caru na Duw, na duwioldeb: o blegid dyna'r achos y chwennychant y fath oferedd, yn rhagorach nâ gwir wybodaeth o Dduw. Megis am y rhai a fônt glaf o'r Cryd. ddeirton, pa beth bynnag a fwyttaont neu a yfont, y maent er melyſed a fytho, yn ei flaſſu cyn chwerwed ac yw' r wermot: nid am fod chwerwder yn y bwyd, ond o blegid yr huwmor neu'r chwaith chwerw, llygredig ſydd yn eu tafodau a'u geneuau hwy: felly y mae melyſdra gair Duw yn chwerw, nid o hano ei hun, ond yn vnic i'r rhai a lygrwyd eu meddyliau drwy hir arfer pechod, achariad y byd hwn. Am hynny gan ym wrthod a barn lygredig dynion cnawdol, y rhai ni ofalant ond am eu cyrph gwrandawn a darllen wn yn barchedig yr Scrythyr lan, yr hon yw ymborth yr enaid. Chwiliwn, yn ddieſcaelus, am ffynnon y bywyd yn llyfrau yr hên deſtament a'r newydd, ac na redwn i bylleu a llacca drewllyd traddodiadau dynion, a Matth. 4. 4. luniwyd trwy ddychymygion dyn, i geiſio i ni gyfia wnhad, a Iechydwriaeth. O herwydd bod yr Scrythyr lan ym cwblgynnwys yr hyn a ddlyē ni ei wnenthyr a'r hyn ddlyem ni ei wachelyd, pa beth a ddlyem ni ei gredu: a pha beth ſydd ini i edrych am dano ar law Dduw yn y diwedd. Yn y llyfrau hynny y cyfarfyddwn a'r Tad o'r hwn, a'r Mab trwy'r hwn, ac a'r Yſpryd glan yn yr hwn y mae i bob peth eu bod, au para: ac yno a gwelwnnad ydyw y tri pherſon hynny onid vn Duw as vn ſylwedd. Yn y llyfrau hyn y cawn ddyſcu ein adnabod ein hunain, mor waelion ac mor druain ydym, ac adnabod Duw mor ddaionus ydyw o hano ei hun, a pha fodd y mae ef yn ein gwneuthurni, a'i holl greaduriaid, yn gyfrannogion o'i ddaioni. Nyni a allwn ddyſcu hefyd yn y llyfrau ymma wybod bodd ac ewyllys Duw, mor gyflawn ac y mae yn weddus ini ar hyn o amſer ei wybod. Ac fal y dywaid yr yſcolhaig mawr a'r pregethwr duwiol S. Ioan aur enau, beth bynnac Chryſoſt. ſydd anghenraid i Iechydwriaeth dyn, fe a gynhwyſir yn gyflawn yn ſcrythyrau Duw. Yr hwn ſydd heb wybodaeth efe a ddichon ddyſcu yno, a chael gwybodaeth: fe gaiff yr hwn ſydd galon galed, a phechadur Cyndyn. gwrthgas, gyfarfod yno a'r tragwyddol boenau a ddarparodd cyfiawnder Duw i'w ofni ef, ac i feddalhau, ac i nawſeiddio ei galon ef, fe gaiff yr vn a orthrymmir gan flinderau yn y byd hwn, yno nerth yn addewidion tragwyddol fywyd i'w fawr gynfford ai ddiddanwch, fe gaiff yr vn y glwyfwyd gan ddiafol hyd angau, feddiginiaeth yno i'w adferu i iechyd ailwaith. Os bydd anghenrhaid athrawiaethu gwirionedd, argyoeddi gauathrawaeth, ceryddu beieu, na chanmol rhinwedd, rhoddi cyngor da, diddanu neu annog, neu wneuthur vn peth arall anghenrhaid i'n Iechydwriaeth ni, Nyni a allwn (medd S. Chryſoſtome) ddyſcu y pethau hyn yn halaeth yn yr Scrythyr lân. Mae yno (medd. Fulgentius) lawn-ddigon o bethau i wyr i'w bwyta, ac i blant i'w ſugno. Mae yno bob peth ac y ſydd addas i bob oedran, i bob gradd, ac i bob math ar ddynion. Nyni a ddylaem wrth hynny fod ar llyfrau hynny n dra mynych yn ein dwylaw, yn ein clyſtiau, ac yn ein geneuau, ond yn fynychaf oll yn ein calonnau. O herwydd Scrythyr Duw yw nefol fwyd ein eneidiau ni, gwrandawiad yr hon a'u chadw ſydd yn ein gwneuthur Matth. 4. 4. Ioan. 17. 17. Pſal. 19. 7, 10. yn wynfydedig, yn ein ſanctaiddio, ac yn ein glanhau, ac yn troi ein eneidiau megis lluſern in traed a diogel ſafadwy a thragwyddol offeryn ein iechydwriaeth, mae hi yn rhoddi doethineb i'r goſtyngedig a'r iſel galon, yn diddanu yn llawenhau, yw llonni ac yn eyſcafnhau ein cydwybod: tryſor gwell yw nag aur, a maini gwerthfawr: melyſach nâ'r mel a'r diliau mel: hon a elwir y rhan orau, yr hon a ddewiſſodd Mair, O herwydd Luc. 10. 42. ynddi y mae tragwyddol ddiddanwch. Yr ydis yn galw gairiau'r Scrythyr lân yn airiu y bywyd Ioan. 6. 68. tragwyddol: o herwydd offer Duw ydynt a oſodwyd i hynny. Mae ynddynt allu i droi drwy addewid Duw, a ffrwythlō ydynt trwy nerth Duw Coloſſ, 1. 6. a chwedŷ eu derbyn i galon ffyddlon mae o hanynt Heb. 4. 12. yn dyfod yn waſtad orchwylion nefol yſprydol. Maent yn fywiol yn fywiog, ac yn alluog mewn gweithrediad, ac yn llymmach na chledd dau finiog, ac yn cyrhaeddid hyd wahaniad yr, enaid ar yſpryd, a'r cymhalau, a'r mêr. Mae Chriſt yn ei alw ef yn adailadydd call yr hwn a Matth. 7. 24. Fuldo. adailado ar ei air ef, megis ar ſylfaen ſiccr, diogel. Gan air Duw y'n bernir ni o blegid Y gair Ioan. 12. 48. (medd Criſt) a ddywedais, hwnnw a farn yn y dydd diwethaf. Ac i'r hwn a gadwo air Criſt yr addewir cariad a ffafor Duw, ac y caiff ef fod yn deml, ac yn drigle i'r drindod ſanctaid. Pwy bynnag ſydd yn ddiwall yn darllen y gair hwn ac yn Ioan. 14. 3. printio yn ei galon yr hyn y mae ef yn i ddarllen, fe leihair ynddo fe y mawr frydd ar bethau darfodadwy y byd hwn; ac fe gynydda ynddo fawr chwant ar bethau nefol, a addewir gan Dduw yn y gair hwnnw. Ac nid oes dim a gadarnhâ ein ffydd ni a'n ymddiried yn-nuw yn gymaint, ac a gaidw i fynu ddiniweidrwydd a phurder calon, aduwiol fywyd ac ymddygiad oddi allan hefyd, megis gwaſtadol ddarllen, a myfyrio ar air Duw. O herwydd yn y diwedd fe droir gan mwyaf i anian a naturiaeth, beth bynnac wrth waſtadol ddarllen a dyfal chwilio yr Scrythyr lân, a brinter ac a argrapher yn y galon. Ac hefyd ffrwyth a rhinwedd gair Duw yw, Llewyrchu. goleuannu y diwybod, a rhoi rhagor o oleu i'r rhai a'i darllenant ef yn ffyddlon ac yn ddyfal, er diddanwch i'w calonnau, ac er eu Hyfhau. eofnhau hwy i gyflawni y peth y mae Duw yn ei orchymmyn. Mae hwn yn dangos goddefgarwch mewn adfyd, mewn hawddfyd goſtyngeidrwydd, pa anrhydedd ſydd ddyledus i Dduw, pa drugaredd a charedigrwydd i'n cymmydog: hwn ſydd yn rhoddi cyngor da mewn pob peth anhygoel ammheus: hwn ſydd yn dangos gan bwy y mae ini edrych am nerth achymmorth ym-mhob enbeidrwydd, ac mai Duw ym vnic roddwr pob buddugoliaeth ym-mhob rhyfeloedd a phrofedigaethau gan ein gelynion, corphorol ac yſprydol. Ac nid hwnnw ſydd yn ennill fwyaf 1. Sam 14. 12, 23. 2. Chro. 20. 6, 7, 27. 1. Cor. 15. 57. wrth ddarllein gair Duw, yr hwn ſydd barottaf i droi dolennau'r llyfr, neu adrodd heb lyfr y peth ſydd ynddo, onid yr hwnn ſydd gwedy ei lwyr droi iddo, yr hwn y mae'r Yſpryd glân gwedy ei gynnhyrfu fwyaf; a chalon yr hwn a'i fywyd ſydd gwedy ei ſymmud, a'i newid i'r peth y mae ef yn ei ddarllen: yr hwn ſydd yn myned beunydd yn ddifalchach, yn ddiddicciach, yn llai ei drachwant, ac yn chwennychu llai ar wag hoffderau bydol: yr hwn (gan ymwrthod â'i hên fywyd drygionus) ſydd yn cynnyddu fwyfwy mewn rhinweddau da. Ac ar ychydig o airiau, nid oes dim yn maenteinio y'n well dduwioldeb meddwl, nac yn gyrru ymmaith anuwioldeb, nag y mae gwaſtadol darrllen a gwrando gair Duw, os cydſylltir hynny â meddwl duwiol a daionus fwriad ar ddyſcu achanlyn ewyllys Duw. O herwydd heb lygad dyſyml pur fwriad, a meddwl da, nid oes dim cymmerad wy ger bron Duw. Ac o'r yſtlys arall, nid oes dim yn tywyllu Chriſt agogoniant Duw yn fwy Eſal. 5. 29. Matth. 22. 29. nag yn dwyn mwy o ddallmeb, a phob drygioni, nag anwybodaeth yngair Duw.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth ynghylch yr Scrythyr lân.

FE ddangoſſwyd yn y rhan gyntaf o'r bregeth, yr hon ſydd yn ein hannog i wybodaeth yn yr Scrythyr lan, paham y mae yr wybodaeth honno yn anghenrhaid, ac yn fuddiol, i bob dyn: Ac mai drwy adnabyddiaeth a gwir ddeall yr Scrythyr, yr adwaenir y rhannau anghenrheidiaf o'n dlyed ni tuag at Dduw, a'n cymydogion. Yn awr ynghylch yr vn peth, chwi a gewch glywed beth a ganlyn. Os ydym yn addef Chriſt paham na bydd arnom gywilydd fod heb wybod ei athrawiaeth ef? lle y mae yn gywilyddus i bob dyn, fod yn anghydnabyddus yn y ddyſc a'r gelfyddyd a gymmero efe arno ei gwybod. Mae 'n gywilyddus i ddyn os gelwir efe yn philoſophydd, fod heb ddarllen llyfrau philoſophiaeth, neu i alw yn gyfraithiwr, yn affronomydd, neu yn feddyg, yr hwn a ſydd anghyfarwydd yn llyfrau 'r gyfraith, aſtronomi, neu feddyginiaeth. Pa fodd y Dywaid neb am hynny, i fod ef yn cyffefu Chriſt ai grefydd, onid ymddyrŷ ef, (gymanit ag y gallo yn gymheſſur) i ddarllen ac i wrando, ac felly i wybod llyfrau Efengyl Chriſt a'i athrawaeth. Er bod celfyddydon eraill yn dda ac yn rhaid eu dyſcu, etto ni ddichonvndyn ammau fod y gelfyddyd hon yn bennaf, ac vwchlaw pob celfyddyd arall yn ddigyffilybaeth. Pa eſcus wrth hynny a wnawn ni (ar y dydd diwethaf ymlaen Chriſt) y rhai a oſodwn ein ewyllys ar ddarllen dychmygion a thraddoddiadau dynion, yn fwy nâ'i ſanctaidd efengyl ef? ac na aliwn gael vn amſer i wneuthur y peth a ddlyem ei wneuthur yn bennaf uwch law pob peth? ac a ddarllenwn yn gynt bethau eraill, nâ 'r peth y dlyem adel heibio ddarllen pob peth arall o' i blegid? Cynifer am hynny o honom ni ac ſydd yn addef Duw, a thrwy wir ffydd yn ymddiried ynddo, ymrown tra y caffom ennyd ac amſer i wybod gair Duw, trwy ei wrando a'i ddarllen yn ddyfal. Ond y rhai nad oes ganthynt ſerch ar air Duw, i guddio eu beiau a roddant yn arferol droſtynt eu hunain, ddau eſcus ofer gwaigion. Rhai ſydd yn eu heſcuſo eu hunain o herwydd eu gwendid au hofn, gā ddywedyd na feiddiant ddarllen yr Scrythyr lan rhag iddynt trwy anwybod gwympo i amryfyſedd; Eraill a haerant ei bod hi mor anhawdd ac mor galed iw deall nad yw weddus i neb ei darllen, onid i yſcolheigion a gwyr dyſcedig. Ond o blegid y cyntaf: anwybodaeth yngair Duw yw achos pob camſynnaeth ac amryfyſedd fal y dywaid Chriſt ei hun wrth y Saducęaid, gan ddwedyd, eu bod hwy mewn Camſynnaiaeth. amryfyſedd o eiſiau gwybod yr Scrythyrau. Matth. 22. 29. Pa fodd am hynny y gall y ſawl a fynnont fod fyth mewn anwybod, ymgadw rhag amryfyſedd? a pha fodd y dawant allan ou hanwybodaeth oni fynnant ddarllen a gwrando y peth a ddichon roddi gwybodaeth iddynt? fe fu yr hwn ſydd yn awr a mwyaf o wybodaeth gantho, ar y cyntaf heb wybodaeth; etto ni pheidiodd ef a darllen rhag cwympo meŵn amryfyſedd, ond fe ddarllenodd yn ddyfal rhag iddo aros mewn anwybod, athrwy anwybod mewn amryfyſedd. Ac oni ddyſcwch chwi wirionedd Duw, yr hwn ſydd anghenrhaid i chwi ei ddyſcu, rhag i chwi gwympo mewn amryfyſedd, wrth yr vn rheſwn y gellwch orwedd yn waſtad, heb gyfodi vn amſer ar eich traed i gerdded, rhag wrth gerdded i chwi gwympo yn y dom; a pheidio a bwyta vn bwyd, da rhag ichwi wrthwynebularu; a pheidio a hau eich llafur, na thrafaelu yn eich celfyddyd, nac arfer vn farchnadaeth, rhag ichwi golli eîch hâd, eîch trafael, eîch golyd; Ac felly wrth yr vn rheſwm, gorau oedd i chwi fyw yn ſegur, heb gymmeryd yn llaw vn peth daionus, rhag i ryw ddrwg ddigwyddo i chwi o hynny. Ond os ydych yn ofni cwympo i amryfyſedd wrth ddarllen yr Scrythyr lan, mi a ddangoſſaf i'wch pafodd y mae i chwi ei darllen hi, heb enbeidrwydd, na phęrigl amryfyſedd; Darllenwch hi yn oſtyngedig, âchalon iſel, trwy fwriad gogoneddu Duw, ac nid eich humain, â 'rgwybodaeth a goffoch ynddi. Ac na ddarllenwch hi heb weddio beunydd ar dduw ar iddo ef gyfeirio eîch darlleniad chwi i ddiwedd da: ac na chymmerwch arnoch ei deongl hi ai hagoryd ymmhellach nag y byddoch yn ei deall hi yn oleu. O herwydd (fal y dy waid S. Auſtin) mae gwybodaeth yr Scrythyr lân yn fawr, yn halaeth, ac megis neuadd vchel, ond mae ' r drws yn iſel iawn, fal na ddichon yr vchel rhyfygus rhedeg i mewn iddi, ond mae ' n rhaid i'r vn a elo i mewn, oſtwng yn iſel a bod yn oſtyngedig. O her wydd balchedd a rhyfyg yw mam pob amryfyſedd, ond nid rhaid i oſtyngeiddrwydd ofni byth gamſynnaid. O herwydd goſtyngeiddrwydd a chwilia, yn vnic i wybod y gwirionedd. Hi a chwilia, ac a ddwg y naîll le, ynghyd a'r llall, a pha le byn̄ac ni chyrhaeddo hi yr yſt yr hi a weddia, hi a ymofyn â'r rhai a wypont, ac ni therfyna hi ddim nas gwypo yn rhyfygus ac yn ddibwyll. Am hynny fe ddichon y goſtyngedig yn eofn chwilio am y gwirionedd yn yr Scrythyr, heb berigl o amryfyſedd. Ac os ydyw ef heb wydbodaeth gantho, mwy o lawer y dyle chwilio a darllen yr Schrŷthyr lân i'w ddwyn allan 'o anwybodaeth. Nid ydwyf yn dywedyd, na all gwr lwyddo wrth wrando yn vnic, ond fe all lwyddo yn fwy a lawer wrth wrando, ac wrth ddarllen. Hyn a ddywedais am ofn darllen o blegid anwybod y darllenydd. O blegid anhy weithdra a chaledrwydd 'r Scrythyr, pwy bynnac ſydd mor wan ac nad ydyw yn abl i dreulio bwyd cryf, etto fe ddichon er hynny ſugno y llaeth melys eſmwyth, ac oedi dyfod at ychwaneg, hyd oni chryfhao, ac hyd oni ddelo i fwy o wybodaeth; O herwydd mae Duw yn derbyn y dyſcedig a'r annyſcedig, heb wrthod neb, gan fod yn Diymmer, dineilltuol indyſterent. ddiduedd i bawb oll. Ac mae 'r Scrythyr mor llawn o ddyffrynnoedd iſel a llwybrau gwaſtad eſmwyth i bob dyn i'w harfer, a rhodio ynddynt, ac o dwynau a mymyddoedd vchel, y rhai ni ddichon nymmor ddringo iddynt. A phwy bynnag a roddo ei feddwl i ddarllen yr Scrythyrau ſanctaidd â myfyrdod diwall, a chwant gwreſog nid poſſibl (medd S. Ioan aur enau) gadel hwnnw heb gymmorth. Ond Chryſoſtom. y naill ai fe ddenfyn Duw ryw athro duwiol, i'w ddyſcu ef, megis y danfonodd i ddangos i'r Eunuch. diſpaidd, pendefig o Ethiopia, a thryſorwr brenhines Candace yr hwn ac yntef a bryd mawr gantho ar ddarllen yr Scrythyr, (er nad ydoedd yn ei deall,) etto am y bryd oedd gantho ar air Duw, fe ddanfonodd Duw ei Apoſtol Philipp atto i agoryd iddo wir yſtyr yr Scrythyr yr ydoedd ef yn ei darllen: neu os bydd arnom eiſiau gwr dyſcedig i'n haddyſcu ac i'n cyfarwyddo, etto fe * oleuonna Duw ein meddyliau ni oddi vchod, ac a ddengys ini bob peth anghenraid ar na byddom yn ei wybod. Ac fe ddywaid Chryſoſtom mewn man arall, nad rhaid wrth ddoethineb gwybodaeth dynawl bydol, i ddeall yr Yſcrythyr, ond dadguddiad yr Yſpryd glan, yr hwn ſydd yn tywallt ei gwir yſtyr hi i'r rhai a chwileant am dano mewn goſtyngeiddrwydd, dyfalwch ac aſtudrwydd. I'r hwn a ofynno y rhoddir, a'r hwn a geiſio a gaiff, i'r hwn a guro yr agorir y porth. Os darllenwn vnwaith, dwywaith, tair, heb ddeall, na pheidwn, ond parhawn yn darllen yn waſtad, gan weddio, a gofyn i eraill, ac felly wrth guro yn waſtadol, yn y diwedd fe a agorir y porth ini, fal y dywaid S. Awſtin; Er bod yn dywedyd llawer o bethau yn yr Scrythyr mewn dirgelion tywyll, etto nid ydys yn dywedyd dim mewn dirgelion tywyll, yn vn lle nad ydys yn ei adrodd yn oleu ac yn eglur mewn lle arall; megis y gallo y dyſcedig a'r annyſcedig ei ddeall ef. Ac am y pethau ydynt, yn yr Scrythyr yn hawdd eu deall ac anghenrhaid i Iechydwriaeth, dylyed pob dyn yw eu dyſcu hwy, eu argraphu hwy yn ei gôf, au harfer hwy yn Frwythlon. Ac am ddirgelion tywyll fe ddyle fod yn fodlon i fod heb eu gwybod, hyd oni ewyllyſio Duw egluro y pethau hynny iddo. Hyd hynny, os bydd diffyg medr, neu amſer cyfaddas arno ni chyfrif Duw hynny yn ffolineb iddo: etto nid gweddus i'r rhai ſydd yn medru beidio a darllen, am fod eraill yn anaddas i ddarllen: ac etto ni ddylauid gadel y cwbl oll heb ddarllen o blegid bod rhyw fannau yn dywyll. Ac i ddiweddu a'r ychydig airiau: fal y dywaid S. Auſtin fe wellhair pawb oll wrth ddarllen yr Scrythyr, fe a gadarnhair y gweinaid, ac a ddiddenir y cedyrn: fal yn ſiccr nad oes neb yn gwrthwynebu darllen gair Duw, ond naill ai y rhai diwybod, ni wyddont mor iachus yw, neu y rhai ydynt mor gleifion, ag y maent yn caſhau, y cyſuruſaf feddyginnieth i'w iachau hwynt: neu ynte mor anuwiol, ag yr ewyllyſſient i'r bobl aros yn waſted mewn tywyllwch, ac heb adnabod Duw. Fal hyn y traethais a'r ychydig eiriau, ran or budd, ar ennill y ſydd yn dyfod oddi wrth ſanctaidd air Duw, vn or Daionus roddion dewiſaf, a braintuſaf, a hyſpyſwyd ac a roddwyd i ddynawl ryw, ymma ar y ddaear. Diolchwn i Dduw ân calonnau am ei rhodd fawr ardderchawg hon, am ei Ddaionus ffafor, a'i dadawl ragddarbodaeth. Bydded lawen gennim adfywhau gwerthfawr rodd ein tad nefol, gwrandawn; darllenwn a gwybyddwn reolau ſanctaidd gorchymmynion, ac ordeiniadau ein Chriſtionogawl grefydd, ar y rhai y gwnaethon ein addewidion i Dduw yn ein bedydd. Goſſodwn i fyny yn Yngheudod. llogeliau ein calononau mewn ofn a goſtyngeiddrwydd y gwerſau anghenrheidiol ffrwythlon ymma. Meddyliwn am danynt nos a dydd, bydded ein myfyrdod an cydſyniaid ynddynt. Cilgnown hwy, fal y gallom gael y Sugn. ſudd melys, y ffrwyth yſprydol, y mer, y mel, y knewyll, y blas, y cyſur, ar diddanwch o hanynt. Sefydlwn, a ſiccrhawn ein cydwybod, ac anhwyllodrus ſiccrwydd gwirionedd, a thragwyddol ddiogelrwydd y pethau hyn. Gweddiwn ar Dduw vnig awdur y myfyrdodau nefol hyn, ar ini allel chwedleua, meddwl, credu, byw, a myned oddiymma yn ol eu gwir athrawaeth, aî gwirionedd hwy. A'r modd hyn y cawn ymddiſſyn Duw, ai rad ai ffafor yn y byd ymma, gyda diddanwch, heddwch, ac eſmwythder annhraethadwy in cydwybod. Ac yn ol y blinfyd hwn, y cawn feddiannu didrangc fendith, a gogoniant nefol: yr hyn a ganiatao Ieſu Griſt ini oll, yr hwn a oddefodd angeu droſſom ni oll, i'r hwn gyda 'r Tâd, a'r Yſpryd glân y byddo anrhydedd, a gogoniant, yn oes oeſoedd. Amen.

Pregeth am drueni dyn a'i ddamnedigaeth i farwolaeth dragwyddol trwy ei bechod ei hun.

NId ydyw yr Yſpryd glân yn ddyfalach mewn dim, wrth ſcrifennu yr Scrythyr lân, nag am dynny i lawr wag ogoniant a balchedd dyn, yr hyn o bob beiau eraill, ſydd gwedy ei blannu yn gyffredinaf ym-mhob dyn, ie er llygredigaeth ein cyntaf dad ni Addaf. Ac am hyn yr ydym ni yn darllen yn amryw fannau yn yr Scrythyr, lawer o werſau gwych yn erbyn yr hên fai gwreiddiedig ymma, er dangos ini ganmolediccaf rinwedd goſtyngeiddrwydd, ein adnabed ein hunain, a chofio pa beth ydym ni o hanom ein hunain. Yn llyfr Geneſis mae yr holl-alluog Dduw yn rhoddi ini deitul neu enw ein hên dâd Addaf, yr hwn enw a ddylei ein rhybyddio ni, i gyd, i yſtyriaid pa beth ydym ni, o ba beth yr ydym, ac o ba le y daethon, ac î ba le yr awn ni, gan ddywedydd fel Gen. 3. 19. hyn, Yn chwys dy wyneb y bwytai dy fara, nes dy ddychwelyd ir ddayar, o herwydd o heni hi y daythoſt, o achos mai pridd ydwyd, ac i'r pridd y dychweli. Ymma gan hynni y gallwn megis mewn drych weled mai daiar, pridd a lludw ydym ni, ac mai yn bridd, a lludw y'n troir ni ailwaith. Ac yr ydoedd yr hen Batriarch Abraham yn cofio yn ddifai yr cnw, a'r teitul ymma llethrod, pridd, llwch, a lludw, a apowyntiodd ac a oſododd Duw ar holl rywogaeth dŷn: ac am hyn pan ydyw fe yn gweddio 'n ddifrif ac yn daer dros Sodom a Gomorrah, mae fe 'n ei alw ei hun wrth yr Gen. 18. 27. enw hyr. Ac yr ydym ni yn darllen yn yr hên deſtament fod Iudith, Heſter, Iob, Ieremi, a gwyr Iud. 4. 21. at 9. 1. Ier. 6. 26. at 25. 34. a gwragedd duwiol eraill, yn arfer ſachliain, ac o daflu llwch, a lludw ar eu pennau, pan fyddent yn galaru am eu buchedd bechadurus, hwy a alwent ac a waeddent ar Dduw, am nerth a thrugaredd â'r fath ceremoni o ſachliain, llwch, a lludw, fal wrth hynny, y manegent i'r holl fyd, pa dybygaeth a bri goſtyngedig iſſel oedd gāthynt am danynt eu hunain, a Daied. pha gyſtadl yr oeddynt yn cofio yr enw a'r titul a ddywedaſſom ni o'r blaen, eu gwradwyddus, lygredig, egwan anian, llwch, pridd, a lludw. Mae lifr y doethineb gan ewyllyſio tynnu ein calonnau beilchion ni i lawr, yn ein hannog ni i gofio yn ddiwall yn cenhedlaeth farwol briddlyd, yr hon ſydd genym ni oddiwrth yr hwn a wnaê thpwyd gyntaf: a bod pawb brenhinoedd, Doeth. 7. 1. a deiliaid, yn dyfod i'r byd hwn, ac yn myned o hano, yn yr vn modd a ſut dull: hyny yw o hanom ein hunain yn flin, ac yn llawn trueni, megis yr ydym yn gweled beunydd. Ac fe orchymynnodd y goruwchaf Duw i'r prophwyd Eſai waeddi ar y byd i gyd, a phan ofynnodd Eſai pa Eſai 40. 7. beth a waeddei, fe attebodd yr Arglwydd, mai glaſwellt yw pob cnawd, a'i ogoniant megis blodau 'r maes: gwywodd y gwelltyn a ſyrthiodd y blodauyn, pan chwythodd Yſpryd yr Argiwydd arno: gwellt yn ddiau yw 'r bobl, yr hwn a grina, a'i flodau a wywa. Ac mae 'r prophwyd ſantaidd Iob yr hwn abrofaſau ynddo ei hun yn halaeth flin a phechadurus gyflwr dyn, yn agoryd hyn i'r byd yn y geiriau ymma, dyn (medd ef) a aned o wraig, ſydd a byr amſer iddo i fyw, ac yn Iob 14, 1. llawn trueni, mae fe 'n cyfodi megis llyſewyn, ac yn gwywo, ac yn difannu megis gwyſcod, ac nid ydyw yn hir aros yn yr vn dull. Ac a ydwyt ti o Arglwydd, yn tybied fod yn gymheſſur agoryd dy lygaid ar y fath vn, a'i ddwyn ef i farn gydâ thi? pwy a ddichon lanhau yr hwn a enillwyd o hâd allan. Mae pawb yn gyffredinol o'u hyblygedd naturiol, mor hollol gwedy ymroi i bechod, hyd (fal y dywaid yr Scrythyr) oni etifarodd Duw iddo wneuthyr dyn er ioed. A thrwy bechod yr enynnodd digofaint Duw yn erbyn yr holl fyd, Gen. 6. 6. at 7. 2. megis y boddodd ef â llif Noah yr holl fyd, ond Noah ei hun a'i ychydig dylwyth. Nid heb achoſion mawrion y mae Scrythyr Duw yn fynych iawn yn galw dynnion ymma yn y byd hwn, a'r enw daear: oh tydi ddayar, ddayar, ddayar, medd y Prophwyd. Ieremi, gwarando air yr Arglwydd. Ier. 14. Mae ein iawn ditul, enw, a galwedigaeth ni pridd, pridd, pridd, a gyhoeddwyd d wy y prophwyd, yn dangos pa beth ydym ni yn wir: pa enw bynnag, pa ditul, pa fraint, new orvwchafiaeth bynnag a roddo dynnion ini, fal hyn yr enwodd efe ni, yr hwn a wyddei orau pa beth ydym ni, a pha fodd y dylyem gael ein galw: fal hyn y goſſod ef ni allan, gan ddywe dyd drwy enau ei Apoſtol S. Paul, fod pawb oll dan bechod, Iddewon, a Groegwyr, ac nad oes vn cyfiawn, Ruf. 3. 12. nag oes vn, nid oes neb yn deall, nac yn ymofyn am dduw, gwyraſant oll hwy aethant oll yn anfuddiol, nid oes vn yn gwneuthur daioni nac oes vn; Mae eu geneuau hwy megis bedd agored, an tafodau y maent yn arfer twyll, gwenwyn lyndys ſydd dan eu gwefuſau, mae eu geneuau, yn llawn melldith a chwerwedd, buan yw eu traed i ollwng gwaed. Diſtryw ac aflywdd ſydd yn eu ffyrdd: ffordd heddwch nid adnabuont: nid oes ofn Duw oflaen eu llygaid. Ac mewn man arall, yr ſcrifenna S. Pawl fal hyn, mae Duw gwedy cau pob cenedl mewn angrhedyniaeth, fal y gallau Ruf. 1. 32. Gal. 3. 22. drugarhau with bawb mae 'r Scrythyr yn cau pawb dan bechod, fal y gallid rhoi yr addewidion drwy ffydd Ieſu Griſt i bawb a gredant. Mae Pawl mewn aml fannau yn ein peintio ni yn ein lliw ein hunain, gan ein galw yn blant digofanit Duw, ie pan y'n ganed: a chan ddywedyd hefyd Epheſ. 5. 3. na allwn feddwl vn meddwl da, o hanom ein hunain, llai o lawer y gallwn ddywedyd neu wneuthur yr hyn ſydd dda o honom ein hunain. Ac mae 'r gwr doeth yn dywedyd yn llyfr y diarhebion, y cwymp y gwr cyfion ſaith-waith yn y dydd. Ac Dihar 24. 16. yr ydoedd Iob, yr hwn a brofwyd hyd yr eithaf, yn ofni ei holl weithredoedd. Ac er ſancteiddio Ioan fedyddiwr ym-mol ei fam, a'i ganmol cyn ei eni, er ei alw ef yn angel, ac yn fawr ger bron yr Arglwydd, gwedy ei lanw o 'i anedigaeth a 'r Yſpryd glân, darparydd Fordd yr Arglwydd ein Iachawdwr Chriſt. Er i Griſt ei ganmol ef gan Luc. 1. 76. ddywedyd, ei fod yn fwy nâ phrophwyd, ac yn fwyaf a aned o wraig, etto mae fe yn caniatau yn eglur, fod yn anghenrhaid iddo gael gan Griſt ei olchi, mae fe 'n deilwng yn derchafu ei Arglwydd a'i feiſtir Chriſt; mae fe 'n ymoſtwng megis annheilwng i ddattod carrei ei eſcid ef, ac yn Math. 3. 11. rhoddi i Dduw yr holl anrhydedd a'r gogoniant; Felly y mae S. Pawl ei hun yn cyffeſſu yn fynych am dano ei hun, pa beth oedd o hono ei hun, gan roddi megis ffyddlonaf wâs, yr holl glod a'r mawl i'w feiſtr a'i Iachawdwr. Felly y mae S. Ioan Efengylwr yn ei enw ei hun, ac yn enw yr holl Dduwiolion (er mor gyfion faent) yn gwneuthur y gyffes gyhoaddus hon: Os dyweddwn ein bod heb bechod, yddŷm yn ein twyllo 'n hunain, Ioan. 1. 9. 10. and 2. 2. ac nid oes gwirionedd ynom: os cydnabyddwn ein pechodau, mae Duw yn gyfion, ac yn ffyddlon 'i faddau ini ein pechodau, ac i' n glanhau ni oddiwrth ein holl anwiredd: os ni a ddywedwn na phechaſon yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a'i wirionedd nid yw ynom. Am hyn mae 'r gwr doeth yn llyfr y pregethwr yn gwneuthur y gyffes gywir gyffreadinol hon, nid oes vn dyn cyfion ar yddayar, yn gwneuthur daioni, ac Pregethwr 7. 21. heb bechu. Ac mae Dafydd yn cywilyddio am ei bechod, ac er hyn heb gywilidd gantho gyffeſſu ei bechod. Mor fynych, mor chwannog, ac mor druan y mae fe 'n deiſif mawr drugaredd Duw Pſal. 51. 1. am ei feiau mawrion, ac nad elai Dduw i farn ag ef? Ac ailwaith, mor gymmwys y mae 'r gwr duwiol ymma yn pwyſo ei bechodau, pan ydyw ef yn cyffeſſu eu bod hwy cy amled mewn rhifedi, ac mor guddiedig, ac mor anodd eu deall, megis y mae 'n ammhoſſibl eu hadnabod, eu cyhoeddi neu eu rhifo hwy? Am hynny a chantho ddifri a gwir a dyfn yſtyried a myfyrdod am ei bechodau, ac etto heb allel dyfod hyd y gwaelod, mae fe 'n gwneuthur ei weddi 'ar Dduw am faddau iddo ei bechodau cuddiedig dirgel, i wybodaeth y rhai ni Pſal. 19. 12. ddichon ef ei hunan ddyfod. Mae fe 'n iawn yſtyried ei bechodau o'r gwraidd dechreuol a llygad y ffynnon, gan ddeall fod eu gogwddiadau, eu cymmelliadeu, eu cynnyrfiadau, eu brathau, eu cyntefin, eu blodau, eu caingciau eu ſothach, eu llygredigaetheu blaendardd eu blaſ, eu chwaith eu naws, a'u haroglau hwy yn aros ac yn para yn waſtad ynddo. Ac am hynny y dywaid, wele mewn anwiredd y'm lluniwyd, nid ydyw yn dywedyd mewn pechodau Pſal. 51. 5. megis am lawer, ond mewn pechod megis am vn, o herwydd mai o vn ffynnon y mae y lleill oll yn tarddu ac yn ffrydio. Mae 'n Iachawdwr Chryſt yn dywedyd nad oes vn da onid Duw, Mark. 10 18. Math. 10. 18. Luc. 18. 19. Ioan. 15. ac hebddo ef na allwn wneuthur daioni, ac naddichon neb ddyfod at y Tâd ond trwyddo ef. Ac mae fe yn gorchymmyn gwedy darfod ini wneuthur y cwbl oll ini addef nad ydym ni onid gweiſiō Luc. 17. 10. anfuddiol. Mai fe 'n goſod y Publican etifarus ymmlaen y Phariſai ſanctaidd balch clodforus. Luc. 18. 14. Mae fe yn ei alw ei hun yn feddyg nid i'r iach, ond i'r cleifion a fyddont ac eiſiau ei eli ef arnynt. Math. 9. Mae efe yn ein dyſcu ni yn ein gweddiau in cydnabod ein hunain yn bechaduriaid ac i ofyn cyfiawnder a rhyddhâd oddiarlaw ein tâd nefol. Mae fe'n dangos mae pechodau eyn colonnau ni ein hunain ſydd yn ein halogi ni. Mae fe 'n dangos fod gair neu feddwl drwg yn haeddu damnedigaeth: Matth. 11. 36. gan ſiccrhau y gorfydd arnom roi cyfrif am bob gair ofer. Mae fe yn dywedyd na ddaeth ef i gadw ond y defaid oedd gwedy eu colli, a'u taflu Math. 18. 11. ymmaith. Herwydd pa ham ni chadwodd ef ond ambell vn o'r Pheriſeaid beilchion, cyfiawnion, dyſcedig, call ſynhwyrol, ſanctaidd, am eu bod hwy yn eu cyfiawnhau eu hunain ger bron dynion â'u ffugſanct eidrwydd yn vnig. Am hynny, fyngharedigion bobl, gochelwn y fath ragrith, gwâg-ogoniant a chyfiawnhâd ein hunain.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am waelder, a thrueni dyn.

YN gymmaint a bod yn anghenrhaid ini ein gwir adnabod ein hun, i'n dwyn i iawn wybodaeth am Dduw: chwi a glywſoch yn yr hyn a ddarllenwyd ddiwethaf, mor oſtyngedig yr oedd pawb o 'r duwiolion, yn meddwl amd anynt eu hunain, a'u bod hwy gwedy dyſcu meddwl felly gan Dduw eu creawdwr yn ei ſanctaidd air. O herwydd o hanom ni ein hunain nid ydym ond afaill ſurion; ac ni allwn ddwyn dim afalau. Nid ydym ni o hanom ein hunain onid tir drwg, yr hwn ni ddichon ddwyn dim onid chwyn danadl, mieri gwŷg, a Llær. graban. Yr ydys yn amlygu ein ffrwythau ni yn y bummed bennod at y Galathiaid. Nid oes gennym na ffydd, na chariad, na gobaith, na goddefgarwch, na diweirdeb, na dim arall ac y ſydd ddaionus, onid o Dduw: ac am hyn y gelwir y rhinweddau hynny yno, yn ffrwythau yr Yſpryd glan, ac nid ffrwythau dŷn. Cydnabyddwn am hynny ein bod ni ein hunain, fal yr ydym yn ſiccr, yn bechaduriaid truain, gwaelion: etifarhawn yn ddifrif ac ymoſtyngwn yn ein calonnau, a gweddiwn ar Dduw am drugaredd: cyffeſwn oll a'n calonnau a'n geneuau ein bod ni yn llawn ammherffeiddrwydd. Cydnabyddwn ein gorchwylion, mor ammherffaith ydynt: ac yno 'ni ſafwn ni yn ynfyd ac yn rhyfygus yn ein meddyliau ein hunain, ac nid ymhonnwn ni o vn rhan o'n cyfiawnhâd trwy'n haeddedigaeth, a'n gweithredoedd ein hunain. O herwydd yn wir mae ammherffeiddrwydd yn ein gweithredoedd gorau ni: nid ydym ni yn caru Duw yn gymmaint ac y dylyem, â'n holl galon, â'n holl feddwl, ac â'n holl allu. Nid ydym ni yn ofni Duw megis y dylyem, nid ydym yn gweddio a'r Dduw ond mewn diffyg, ac anghyflawnder mawr. Yr ydym yn rhoddi, yn maddau, yn credu, yn byw, ac yn gobeithio yn anghyflawn: yr ydym yn dywedyd, yn meddwl ac yn gwneuthur yn ammherffaith: yr ydym yn ymladd yn erbyn diafol, y byd, a'r cnawd, yn am-mherffaith. Am hynny na fydded arnom gywilydd gydnabod ein ammherffeithrwydd yn ein gweithredoedd gorau. Na fyddedd arnom gywilydd ddywedyd fal y dywedai Petr ſanct, dŷn pechadurus ydwyf. Dywedwn Luc. 5. 8. oll gydâ'r prophwyd ſanctaid Dafydd, ni a bechaſom ni a'n tadau, ni a wnaê thon yn feius, Pſal. 106. 16. ni a weithiaſſom yn a'nnuwiol: Gwnawn oll ein cyhoeddus gyffes gydâ'r mab afradlon wrth ein tâd, gan ddywedyd, ni a bechaſom yn erbyn y nefoedd, ac o'th flaen di, o dad nid ydym deilwng Luc. 15. 18. i'n galw yn blant iti. Dywedwn oll gydâ Baruc ſanctaidd, oh Arglwydd ein Duw ni, yn iniawn y rhoddir cywilydd a gwrad wydd ini, a chyfiawnder ac iniondeb i tithau: ni a bechaſom, ni a wnaethon Barnc. 2. 6. yn ddrygionus, ni a ymddygaſom yn annuwiol, yn dy holl gyfiawnderau di. Dywedwn gydâ'r prophwyd ſanctaidd Daniel, o Arglwydd Daniel 9. 7. i ti y perthyn cyfiawnder, ac i ninnau wradwydd. Nyni a bechaſom, ni a wnaethon yn ddrwg, ni a'th ddigiaſom di, ni a giliaſom oddiwrthy ti, ni a aethom yn ein hol oddiwrth dy holl orchymmynion a'th farnedigaethau, llymma fal yr ydym ni yn dyſcu ymoſtwng gan bob rhai o'r duwiolion yn yr ſcrythyr lân: a derchafu, gogoneddu, canmol, clodfori, mawr hau ac anrhydeddu Duw: fal hyn y clywſoch mor ddrwg ydym ni o hanom ein hunain, ac megis ynom ein hunain, neu o hanom ein hunain, nad oes na daioni, na nerth, na Iachawdwriaeth: ond o'r gwrthwyneb, pechod, damnedigaeth, ac angau tragwyddol. Yr hwn beth os ni a'i dwfn bwyſwn, ac a'i hyſtyriwn yn inion, fe fydd haws ini ddeall, mawr drugaredd Duw, a pha fodd y mae 'n Iechydwriaeth ni yn dyfod oddiwrth Griſt yn vnic. O herwydd ynom ein hunain, megis o hanom ein hunain, nid ydym ni yn caffel dim drwy 'r hyn y gallwn gael ymwared o'r blin gaethiwed i'r hwn y'n taflwyd trwy genfigen diafol wrth dorri gorchymmyn Duw yn ein tâd cyntaf Addaf: yr ydym ni oll gwedy myned yn aflan, ond nid ydym ni oll yn abl' in glanhau ein hunain, nac vn o hanom a all lanhau vn arall. Yr ydym i gyd oll wrth anian, a naturiaeth yn blant digofaint Duw, ac nid oes neb o hanom a all ein gwneuthur ein hunain yn blant, ac yn etifeddion gogoniant Duw. Yr ydym yn ddefaid gwedy mynd ar ddidro, ac o'n nerth ein hunain, ni allwn ni ddyfod i'r gorlan ailwaith, gan faint yw ein am-mherffeithrwydd ni a'n gwendid. Gan hynny ynom ein hunain, ni allwn ni orfoleddu, y rhai ynom ein hunain nid ydym ddim onid pechadurus, ac ni allwn lawenhau mewn dim gweithredoedd ac a wneuthon, y rhai ydynt oll mor ammherffaith ac mor amhur, fel na allant ſefyll ger bron cyfiawn orſeddfanigc Duw, fal y dywaid y prophwyd Dafydd, Na ddos i'r farn â'th Pſal. 143. 2. wâs o Arglwyd, can nad byw neb cyfion yn dy olwg di. At Dduw am hynny y dylyem gilio, ac onid ê, byth ni chawn ni na heddwch na gorphwſfa, na llonyddwch i'n cydwybod yn ein calonnau. O herwydd efe yw Tâd y trugareddau a Duw 'r holl ddidanwch. Efe yw yr Arglwydd, 2. Cor. 1. 3. Pſal. 130. 7. gydâ'r hwn y mae aml ymwared: Efe yw y Duw yr hwn o'i drugaredd ei hun ſydd yn ein cadw ni, ac yn goſod allan ei garedigrwydd ai odidawg gariad tuag attom ni, am iddo o'i ewyllys da ei hun ein cadw ni pan oeddym golledig, a darparu brenhiniaeth dragwyddol ini. A'r holl dryſor nefol ymma yr ydys yn eu rhoddi ini, nid am ein haeddiant a'n dylyed a'n gweithredoedd da ein hunain (y rhai o hanom ein hunain nid oes gennym) onid yn vnic o'i drugaredd râd ei hun. Ac er inwyn pwy? yn wir er mwyn Chriſt Ieſu, pur a difrychaulyd oen Duw. Ef yw 'r an wyl garedig fab, er mwyn yr hwn y mae Duw gwedy ei ddiddigio, Ioan. 1. 29. ei foddloni, a'i wneuthur yn vn a dŷn. Efe Pet. 2. 22. Ioan. 1. 47. yw oen Dnw, ſydd yn tynnu ymmaith bechodau 'r bŷd, am yr hwn yn vnic y gellir mewn gwirionedd ddywedyd iddo wneuthur pob peth yndda, ac na chafad twyll yn eu enau, nid oes neb onid efe a ddichon dywedyd, daeth tywyſog y hŷd hwn, ac yno fi ni chafas ddim. Ac ef yn vnic a ddichon dywedyd, pa vn o hanoch am argyoedda fi o bechod? Efe yw yr Archoffeiriad tragwyddol, yr hwn a'i Ioan. 8. 46. offrymmodd ei hun vnwaith droſſom oll ar allor y groes, ac â'r vn offrwm hwnnw a berffeithiodd Haeb. 81. ar 10. 13. dros fyth y rhai a ſancteiddiwyd. Efe yn vnic ſydd gyfryngwr rhwng Duw a dyn, yr hwn a dalodd Gyſryngwr 1. Ioan. 2. 1. 2. ein dylyed ni i Dduw, âi waed eihun: â'r hwn y glanhaodd ef ni oll oddiwrth ein pechodau. Efe yw 'r meddyg ſydd yn iachau ein holl glefydau ni. Math. 1. 21. Efe yw 'r gwaredydd ſydd yn gwared ei bobl oddiwrth ei holl bechodau. Ac ar ychydig eiriau, efe yw 'r ffynnon fawr-ffrŵd gyflawn, o gyflawnder yr hon y dderbyniaſom ni oll. O herwydd ynddo ef yn vnic y cuddiwyd holl dryſor doethineb a gwybodaeth Duw. Ac ynddo ef, a thrwyddo efe yr ydym ni yn cael oddiwrth Duw dâd, bob peth da ac a berthyn i'r corph, a'r enaid. Oh morrh wymedig ydym ni i'r Tâd nefol hwnnw, am ei fawr drugaredd, yr hon a amlygodd ef mor aml ini ynghriſt Ieſu ein harglwydd ni a'n Ceidwad? Pa ddiolch ſydd wiw a digonol ddigon ini ei rhoddi iddo ef? Torrwn allan yn gyttun ag vn meddwl a llaferydd llawen, gan foliannu, a mawrhau yr Arglwydd hwn o drugaredd am ei dirion fwynder a ddangoſodd ef ini, yn ei anwyl garedig fab Chriſt Ieſu ein harglwydd.

Hyd hyn y clywſoch pa beth ydym ni o hanom ein hunain, gwaelion, pechadurus, damnedig. Hefyd ni a glywſom nad ydym ni o hanom ein hunain yn abl i wneuthur vn weithred dda, nac i feddyliaid vn meddwl da: fal na allwn gael ynom ein hunain ddim gobaith Iechydwriaeth, ond yn hytrach y pethau ydynt yn dwyn diſtryw arnom. Ni a glywſom dirion fwynder, a mawr drugaredd Duw Dâd tuag attom, ac mor ddaionus yw efe tuag attom er mwyn Chriſt, heb yn rhyglyddau na 'n haeddedigaetheu ni, ond o'i vnig drugaredd a'i dirion ddaioni ef. O herwydd paham bellach y manegir ichwi drwy nerth Duw, yn halaethach yn y bregeth neſſaf pa fodd y gellir mwynhau y godidog drugareddau mawrion ymma a hyſyyſwyd ini ynghriſt Ieſu, a pha fodd y'n gwaredir ni oddiwrth gaethiwed pechod, angau, ac yffern.

O hyn hyd hynny, a phob amſer, dyſcwn ein adnabod ein hunain, ein eiddilwch, gwaeledd a gwendid, heb foſtio na ffroſtio am ein gweithredoedd da, a'n haeddiant ein hunain. Cydnabyddwn odidawg drugaredd Duw tuag attom, a chyffeſwn mai o hanom ein hunain, y mae 'n dyfod bob drygioni, a damnedigaeth, ac felly o hanaw fe y daw pob daioni ac Iechydwriaeth, megis y dywaid Duw ei hun drwy enau y prophwyd Oſee. O Iſrael, o honot i dy hun y mae dy ddiſtryw, Oſe. 13. 9. ond yno fi y mae dy nerth di, a'th ddiddanwch. Os ni fal hyn yn oſtyngedig a ymmoſtyngwn yngolwg Duw, yn ddiammau yn amſer ei ymweliad, fe a'n derchafa ni i dernas ei anwyl fâb Ieſu Griſt, ein harglwydd, i'r hwn gydâ'r Tâd, a'r Yſpryd glân, y byddo anrhydedd a goniant yn dragywydd. Amen.

¶ Pregeth am gadwedigaeth dynawl ryw, yn vnic drwy Griſt ein Ceidwad, oddiwrth bechod ac angau tragwyddol.

OHerwydd bod pawb yn bechaduriaid gwedy digio Duw a thorri ei gyfraithiau a'i orchymynion, am hynny ni ellir cyfiawnhau vn dyn ger bron Duw drwy ei weithredoedd neu ei orchwilion ei hun er cyſtadl a fytho 'r olwg arnynt: ond mae yn anghenraid i bob dyn geifio cyfiawnder neu gyfiawnhâd arall, yr hwn a dderbynnir oddi ar law Dduw, hynny yw maddauant o'i bechodau a'i droſeddau, yn y rhai y pechodd, ac y troſoddodd efe. A'r cyfiawnhâd a'r cyfiawnder ymma yr hwn ydym yn ei gael drwy drugaredd Duw a haeddiant Chriſt, ac yn ei dderbyn drwy ffŷdd, y mae Duw yn ei gymmeryd ac yn ei dderbin yn lle perffaith a chyflawn gyfiawnhâd ini.

Er cyfiawn ddeall yr hyn beth, ein rhan an dylyed ni yw cofio mawr drugaredd Duw yn waſtadol, pa fodd pan oedd yr holl fyd gwedy eu rhwymo oll mewn pechod, o waith torri y gorchymmyn, y danfonodd Duw ei vnig anedig fab, ein Ceidwad Chriſt, i'r byd hwn i gyflawni 'r gyfraith droſom; ac wrth dywallt ei werthfawr waed i wneuthur offrwm a thal a iawn i Dduw dâd am ein pechodau ni, i eſmwytho ei lid ef a'r digofaint a gymmerth ef yn ein herbyn. Yn gymmaint a thrwy yr offrwm ymma, y golchwyd o'i pechodau, y dygpwyd i ffafor Duw, y gwneuthpwyd yn blant iddo ef, ac yn etifeddion o deyrnas nef, y plant bychain a fedyddiwyd, er iddynt feirw yn fychain, ac ynddiweithredoedd: A thrwy yr vn offrymmiad y golchir hefyd y rhai mewn gweithred a bechant yn ol bedydd, os hwy a droant at Dduw ailwaith yn ddiragrith oddiwrth eu holl bechodau, yn y fath ddull, nad oes dim o frychi pechod yn aros nac yn parhau, yr hwn a gyfrif Duw i'w damnedigaeth hwy. Llymma 'r cyfiawnder y mae Pawl yn ſon am dano, pan yw yn dywedyd na chyfiawnhair neb drwy weithredoedd Gal. 1. 15, 16. y ddeddyf, onid yn rhâd drwy ffŷdd yn Ieſu Griſt. Ac ailwaith y dywaid, Yr ydym ni yn credu yn Ieſu Griſt, y cyfiawnhair ni yn rhâd, trwy ffydd Griſt, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf. O herwydd na chyfiawnheir neb trwy weithredoedd y gyfraith.

Ac er bod y cyfiawnhâd hyn yn rhâd ini, etto nid ydyw yn dyfod mor rhâd, megis pe byddid heb dalu vn rhyw daledigaeth droſto. Ond ymma y diharffa ac y ſynna rheſwn dŷn, gan ymreſymmu fal hyn. Os ydys yn rhoddi iawn am ein prynedigaeth ni, nid ydys yn ei rhoddi i ni yn rhâd. O herwydd os carcharwr a dâl iawn, nyd ydyw ef yn myned yn rhâd: oblegid os ydyw efe yn myned yn rhâd, nid ydyw yn talu vn iawn. O achos beth ywmynd yn rhâd, onid cael rhyddhâd heb dalu iawn?

Fe attebodd mawr ddoethineb Duw i'r ddadl hon ynnirgelwch ein prynidigaeth ni, yr hwn a dymmherodd ei gyfiawnder, a'i drugaredd felly ynghŷd, fal na wnai fe na 'n barnu ni yn ei gyfion farn i dragwyddol gaethiwed diafol a'i ddiymwared garchar vffern yn dragywydd yn ddidrugaredd, na 'n rhydhau ni yn rhyddion heb gyfiawnder, ac heb dalu cyflawn ac inion iawn a thaledigaeth: Ond ynghŷd â'u drugaredd ddiderfynol, fe a gydiodd ac a gyffylltodd ei gymmwys; a'i iniawn gyfiawnder. Fe ddangoſſodd ini ei fawr drugaredd wrth ein rhyddhau ni o'n caethiwed, heb geifio o'n rhan ni gennem dalu, na thâl, Nac iawn, yr hyn beth a fuaſai ammhoſſibl ini ei wneuthur: Ac o herwydd nad eodd yn ein gallu ni wneutbur iawn ein hunain, efe a ddarparodd iawn droſom ni, yr hwn oedd gorph a gwaed ei anwylaf garedig fab Ieſu Griſt, yr hwn (heb law yr iawn a'r taledigaeth ymma) a gyflawnodd y ddeddyf droſom ni yn gwbl: Ac felly y bracheidiodd cyfiawnder a thrugaredd Duw bob vn ei gilydd, ac a gyflawnaſant ddirgelwch ein prynedigaeth ni Am yr hwn gyfiawnder a thrugaredd Duw, gwedy eu clymmu fal y clywchwi ynghŷd, y mae Pawl yn ſôn yn ydrydedd bennod at y Rufeimaid, Pawb a bechaſont, ac ydynt yn Ruf. 3. 23, 24. ol am ogoniant Duw, ond hwy a gyfiawnhair yn rhâd drwy ei râs ef, trwy y prynedigaeth ſydd yn Ieſu Griſt, yr hwn a oſododd Duw yn iawn drwy ffŷdd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder. Ac yn y ddegfed, Chriſt yw diwedd y gyfraith, Ruf. 10. 4. er cyfiawnder i bob dyn a gretto. Ac yn yr wythfed Bennod, Yr hyn oedd yn am-mhoſſibl i'r Ruf. 8. 3. gyfraith, yn gymmaint a'i bod yn egwan oblegid y cnawd, Duw gan ddanfon ei fab ei hun ynghyffelybiaeth cnawd pechadurus, a hynny am bechod a gondemnodd bechod yn y cnawd, fal y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ol y cnawd, ond yn ol yr Yſpryd.

Yn yr hyn leoedd y mae 'r Apoſtol yn dangos tri pheth enwedigol, y rhai ſydd rhaid iddynt gydgerdded yn ein cyfiawnhâd ni; o ran Duw, grâs a mawr drugaredd; o ran Chriſt cyfiawnder, hynny yw taledigaeth i gyfiawnder Duw, neu bridwerth eîn prynedigaeth ni, trwy offrymmiad ei gorph, a thywalltiad ei waed ef, gan gyflawni 'r gyfraith yn gwbl, ac yn gyflawn: ac o'n rhan ninnau, ffydd wir fywiol yn haeddiant Ieſu Griſt: yr hon ffydd er hynny nid ydyw eiddom ni, onid drwy weithrediad Duw ynom. Megis nad ydyw trugaredd a gras Duw, yn vnic, onid hefyd ei gyfiawnder ef yn ein cyfiawnhâd ni: yr hyn y mae 'r Apoſtol yn ei alw yn gyfiawnder Duw: yr hwn ſydd yn ſefyll mewn taledigaeth iawn droſom ni, a chyflawnad y gyfraith. Megis nad ydyw grâs neu râd Duw, yn cau allan gyfiawnder Duw, yn ein cyfiawnhâd ni ond yn vnic yn cau allan ein cyfiawnder ni'hynny yw cyfiawnder ein gweithredoedd ni, fal na byddont yn haeddu ein cyfiawnhad: Ac am hyn ni ſon Pawl ymma, am ddim o ran dyn, tuac at gyfiawnhâd, onid gwir a bywiol ffydd yn vnig, yr hon er hynny yw rhoddſad Duw, ac nid gweithred dŷn ei hun heb Dduw.

Ac etto nid ydyw y ffŷdd hon yn cau allan etifeirwch, gobaith, cariad, echryd, ac ofn Duw, fal na chydſyllter hwy â ffydd ymhob dyn a gyfiawnhair: ond mae hi yn eu cau allan oddiwrth ſwydd cyfiawnhâd: megis er eu bod hwy oll yn breſennol yn yr hwn a gyfiawnhair, etto nid ydynt yn cyfiawnhau ynghŷo; Ac nid ydyw ffydd yn cau allan gyfiawnder ein gweithredoedd da ni, y rhai ſydd raid eu gwneuthur ar ol hynny, megis ein dylyed ni at Dduw (o herwydd yr ydym yn rhwymedig i waſanauthu Duw mewn gweithredoedd da a orchymmynnodd ef yn ei ſanctaidd ſcrythyr holl ddyddiau ein heinioes:) ond yr ydys yn eu cau hwy allan, fal nas gwnelom ni hwy o fwriad cael ein gwneuthur trwyddynt yn ddaionus. O herwydd mae 'r holl weithredoedd da a allom ni eu gwneuthur, yn anghwbl ac yn anghyflawn: ac am hynny ni allant haeddu ein cyfiawnhâd ni: ond mae 'n cyfiawnhâd ni yn dyfod drwy vnic drugaredd Duw yn rhâd: a thrwy gymmaint drugaredd, ac mor rhâd megis pan nad oedd yr holl fŷd yn abl i dalu vn rhan tuag at yr iawn a'r taledigaeth ymma, fe fu fodlon gan ein tâd nefol o'i aneirif drugaredd, heb ein haeddiant ni, ddarparu gwerthfawroccaf dlws, corph a gwaed ein Iachawdwr Chriſt, trwy'r hwn y cwbldelid yr iawn, y cyflawnid y gyfraith, ac y bodlonid cyfiawnder Duw; fal yn awr y mae Chriſt yn gyfiawnder i'r cwbl oll ac a wir gredant ynddo. Fe a dalodd droſtynt iawn trwy ei angan ei hun. Fe a gyflawnodd droſtynt hwy y gyfraith yn y bywyd hwn: megis bellach ynddo fe, a thrwyddo fe, y gellir galw pob Chriſtion yn gyflawnwr y ddeddyf: yn gymmaint a darfod i gyfiawnder Chriſt gyflawni, yr hyn oedd ddyffygiol yn eu gwendid hwy.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am gadwedigaeth dyn.

CHwi a glywſoch oddiwrth bwy y dlye bawb geiſio cyfiawnder a chyfiawnhâd, a pha food y mae 'r cyfiawnder hwn yn dyfod i ddynion drwy angau a haeddiāt Chriſt: Chwi a glywſoch fod yn rhaid wrth dri pheth i fwynhau y cyfiawnder hwn: hynny yw, trugaredd Duw, cyfiawnder Chriſt a gwir a bywiol ffydd, o'r hon ffydd y tardda, y ffrydia, neu y tŷf gweithrewdoedd da. Fe fanegwyd o'r blaen yn halaeth na chyfiawnhair neb drwy ei weithredoedd da ei hun, na chyflawna vn dyn y gyfraith mor gyflawn ag y mae hi yn gofyn ei chyflawni. A hyn y mae S. Pawl yn ei brufo yn ei epiſtol at y Galathiaid gan ddywedyd, Pe rhoeſyd cyfraith a allaſai roddi bywyd yn wir fe fuaſſai gyfiawnder o'r gyfraith. Ac fe ddywaid Gal 3. 21. ailwaith, Os bydd cyfiawnder trwy 'r gyfraith, fe fu farw Chriſt yn ofer. A thrachefn, Chwi y rhai a gyfiawnhair drwy 'r gyfraith, a gwympaſoch oddiwrth râd; Ac hefyd fe ſcrifenna at yr Epheſiaid yn y modd ymma, O râs yr ydych yn gadwedig twy ffydd, a hynny nid o hanoch chwi, rhodd Duw ydyw, nid o weithredoedd, rhag i neb orfoleddu; Ac ar ychydig eiriau, y cwbl o Epheſ. 2. 8. 9. ddadlewad Pawl yw hyn, Os yw cyfiawnder yn dyfod yn rhad, nid yw yn dyfod o weithredoedd: os o weithredoedd, nid yw yn dyfod yn rhad.

At hyn y cyrchai yr holl prophwydi, fal y dywed Petr yn y ddegfed o'r Ac tau, Am Griſt medd S. Petr y mae 'r holl prophwydi yn teſtiolaethu, Act. 10. 433. mai drwy ei enw ef, y caiff pawb a gredo ynddo faddauant o'u pechodau.

Ac yn y modd ymma am gyfiawnhâd yn vnic drwy wir a bywiol ffydd ynghriſt, y ſonnia yr holl hen awdyron, Groegwyr a lladingwyr, ymmyſc y rhai yr enwaf yn enwendig dri, Hilari Baſil, ac Ambros. S. Hilari ſydd yn dywedyd fal hyn yn eglur yn y nawfed canon ar Mathew, ffydd yn vnic a gyfiawnhà; Ac S. Baſil Awdur Groeg a ſcrifenna fal hyn, llymma lawenychu perffaith cyfan yn nuw, pan fytho vn nid yn ei fawrygu ei hun am ei gyfiawnder: ond yn cydnabod fod ei hun a diffyg cyfiawnder a chyfiawnhâd arno, abod yn ei gyfiawnhau ef drwy ffydd ynghriſt yn vnic. Ac mae Pawl (medd ef) yn gorfoleddu mewn bychander a di-yſtyrwch ei gyfiawnder ei hun, ac yn edrych am gyfiawnder Duw trwy ffydd. Llyna Phil. 3. 9. airiau Baſil: A S. Ambros awdur lladin a ddywaid y geiriau hyn, Llymma ordeiniaeth Duw, ar ini y ſawl y ſydd yn credu ynghriſt, gael bod yn gadwedig heb weithredoedd drwy ffydd yn vnic, gan dderbyn yn rhâd faddeuant o'n pechodau.

Yſtyriwch yn ddieſcaelus y geiriau hyn, Heb weithredoedd, Trwy ffydd yn vnig, Yn rhâd y derbyniwn faddeuant o'n pechodau. Pa beth a ellir ei ddywedyd yn oleuach na dywedyd yn rhâd, heb weithredoedd, trwy ffydd yn vnic yr ydym yn cael maddauant o'n pechodau? Yr ymmaddroddion ymma ac eraill o'r fath ymma, fod yn ein cyfia wnhau ni drwy ffydd yn vnic, yn rhad, heb weithredoedd, yr ydym ni yn eu darllen yn fynych yn ſcrifennadau y rhan fwyaf o'r hên ſcrifenyddion gorau. Megis heblaw Hilari, Baſil, ac Ambros, y rhai a gyfrifaſom ni o'r blaen, yr ydym yn darllen yr vn peth yn Origen, S. Chryſoſtom, S. Cyprian, S. Auguſtin, Proſper, Oecumenius, Procopius, Bernardus, Anſelmus, a llawer eraill o awduron groeg a lladin. Etto nid felly y maent yn deall yr ymadrodd hwn, Trwy ffydd y vnic, fal pe byddai y ffydd honno ſydo yn cyfia wnhau, yn vnic mewn dyn, heb wir etifeirwch, gobaith, cariad, echryd, ac ofn Duw, dros vn amſer nac ennyd. A phan ydynt yn dywedyd, fod yn ein cyfiawnhau ni yn rhad, nid ydynt yn meddwl y dlyem, nac y gallwn fod ar ol hynny yn ſegur, megis pe byddid o hynny allan heb edrych yn ol dim o'n rhan ni. Ac nid ydynt hwy yn meddwl y cyfiawnhair ni felly hcb weithredoedd da, fal y gallom fod yn holiol heb wneuthur vn weithred dda, fal y manegwn yn halaethach ar ol hyn. Ond yr ydys yn dywedyd hyn, fod yn ein cyfiawnhau ni drwy ffydd yn vnig, yn rhâd, heb weithredoedd y ddeddyf, i gwbl dynnu ymmaith haeddiant ein gweithredoedd ni, megis pethau analluog i haeddu ein cyfiawnhâd ar ddwylaw Duw, ac felly i gyhoeddi yn eglur wendid dyn, a daioni Duw, ein mawr wendid ni ein hunain, a mawr nerth a gallu Duw, am-mherpheiddrwydd ein gwethredoedd ni ein hunain, ac aml rhad ein Iachawdwr Chriſt. Ac am hynny yn hollawl i ganniatau haeddiant ein cyfiawnhâd ni i Griſt yn vnic a'i werthfawroccaf waed-dywalltiad ef. Dymma 'r ffŷdd y mae 'r Scrythur lân yn ei dangos, dymma 'r graig gadarn, a ſylfaen athrawaeth Chriſtionogawl. Mae holl dadau eglwys Griſt yn cydnabod yr athrawaeth hon: dymma 'r athrawaeth fydd yn mawrygu, ac yn goſod allan wir ogoniant Chriſt, ac yn ffuſto i lawr wagogoniant dyn: Pwy bynnag a amheuo hyn, niddlyid ei gyfrif ef yn Griſtion, nac yn oſodydd allan o ogoniant Chriſt, ond yn wrthwynebwr i Griſt, a'i efengyl, ac yn oſodydd allan o wagogoniant dyn.

Ac er gwired ydyw yr athrawaeth hon (megis yn ſiccr y mae hi yn wiraf ag a ddichon bod) fod yn ein cyfiawnhau ni yn rhâd, heb haeddiant ein gweithredoedd da ein hunain, megis y manega S. Pawl, neu yn rhâd trwy 'r fywiol a'r berffaith ffydd hon ynghriſt yn vnig, megis yr arfer yr hên dadau o ddywedyd: etto fe ddyleid gwir ddeall y wir athrawaeth hon, a'i hamlygu hi yn eglur iawn, rhag i ddynion cnawdol o'i phlegid hi gymmeryd achos i fyw yn gnawdol, yn ôl chwant ac ewyllis, y byd, y cnawd, a'r cythrel. Ac er mwyn na chaffo neb gamſynaid trwy gamgymeryd yr athrawaeth hon, mi amlygaf yn eglur, ac yn fyrr ei huniawn yſtyr hi, fal na allo neb feddwl y dichon ef wrth hyn gymmeryd achos o rydd-did cnawdol, i ddilyn chwantau y cnawd, neu trwy hyn y gellur gwneuthur vn rhyw o bechod, neu arfer o fyw yn anuwiol.

Yn gyntaf deallwch, yn ein cyfiawnhâd ni drwy Griſt, nad yr vn peth yw ſwydd Duw tuag at ddŷn, a ſwydd dŷn tuag at Dduw. Nid gorchwyl dyn ond gorchwyl Duw yw cyfiawnhâd, o herwydd ni ddichon vn dŷn ei wneuthur ei hunan yn gyfiawn nac yn gwbl, nag mewn rhan, drwy ei weithredoedd da ei hun: o herwydd mwyafrhyfyg a allai Antichriſt i oſod yn erbyn Duw oedd ddywedyd ŷ gallai ddŷn trwy ei weithred ei hun dynnu ymmaith ac arllwys ei bechodau, a'i gyfiawnhau ei hunan. Ond gorchwyl Duw yn vnic yw cyfiawnhau, ac nid peth yr ydym ni yn ei roi iddo ef, onid peth yr ydym ni yn ei dderbyn oddiwrtho ef: nid peth yr ydym ni yn ei offrwn iddo ef, ond peth yr ydym ni yn ei gaffael gantho ef, trwy ei drugaredd râd ef, a thrwy vnic haeddiant ei anwyl garedig fab ef, ein vnic brynwr a'n ceidwad, a chyſiawnydd, Ieſu Griſt.

Megis nad hyn yw gwir yſtyr yr athrawaeth ymma: yr ydys yn ein cyfiawnhau ni yn rhâd, heb weithredoedd, neu fe'n cyfiawnhau'r ni trwy ffydd ynghriſt yn vnic: nid yw yr yſtyr, meddaf, mai 'n gorchwyl ni yn credu ynghriſt, neu ffydd Griſt yr hon ſydd ynom ni, ſydd yn ein cyfiawnhau ni, ac yn haeddu ini gyfiawnhâd (o herwydd ni byddai hynny onid ein cyfrif ein hunain yn gyfiawn drwy ryw weithred neu rinwedd ynom ni ein hunain. Ond gwir yſtyr a meddwl yr athrawaeth hon, yw, er ein bod ni'n gwrando gwir air Duw, ac yn ei gredu, er bod ynom ffydd, gobaith, cariad, etifeirwch, ac ofn Duw ac er ein bod ni yn gweuthyr llawer o weithredoedd da, etto rhaid ini ym wrthod a holl haeddiant y rhinweddau ymma, ffydd, gobaith, a chariad, a phob rhinweddau a daionus weithredoedd eraill ar a wnauthom, a wnawm, neu a allon eu gwneuthur, megis pethau o lawer yn rhy weinion, yn rhy analluog, ac yn rhy anghyflawn i haeddu ini ollyngdod o'n pechodau, a chyfiawnhâd, ac am hynny rhaid ini ymddiried, yn vnic ynnhrugaredd Duw, a'r aberth a wnaeth ein Archoffeiriad, a'n ceidwad Chriſt Ieſu mâb Duw a offrymmodd ef vnwaith droſom ni ar y groes, i hebrwng ini trwy hynny râd Duw a gollyngdod, cyſtadl o'n dechreuol bechodau, cyn bedydd, ac o'n pechodau gweithredol, y rhai a wnaethom ar ol bedydd, os ni a wir etifarhawn, ac a drown yn ddiragrith atto fe. Fal er rhinweddoled, ac er duwioled oedd Ioan fedyddiwr, etto yn hyn o beth, am faddeuant pechodau, fe ddanfonodd y bobl oddiwrtho ei hun, ac âu danfonodd hwy at Griſt, gan ddywedyd, wele oen Duw yr hwn ſydd yn tynnu ymmaith bechodau 'r Ioan. 1. 29. byd: felly er maint ac er duwioled rhinwedd yw bywiol ffŷdd, etto mae hi yn ein danfon oddiwrthem ein hunain, ac yn ein gollwng, ac yn ein gyrru ni at Griſt, i gael yn vnic gantho fe ollyngdod o'n pechodau neu gyfiawnhâd: fal y mae ein ffydd ni ynghriſt, megis yn dywedyd wrthym ni fal hyn, Nid myfi ſydd yn tynnu eich pechodau chwi ymmaith, onid Chriſt yn vnic ac atto ef yn vnic y danfonaf chwi er mwyn hynny, gan ymwrthod mewn hyn o beth â'ch holl rhinweddau da, gairiau, meddyliau, a gweithredoedd, a chan oſod a dodi eich ymddiried ynghriſt yn vnic.

¶ Y trydydd ran o'r bregeth am Gadwedigaeth.

FE a ddangoſwyd i chwi yn amlwg na all neb gyflawni cyfraith Dduw, ac am hynny fod pawb oll trwy 'r gyfraith yn golledig. O'r hyn beth y mae 'n rhaid canlyn fod yn gofyn rhyw beth heb law 'y gyfraith i'n Iechydwriaeth ni, hynny yw gwir a bywiol ffydd ynghriſt, yn dwyn allan weithredoedd da, a bywyd yn ôlgorchymmynion Duw. Chwi a glywſoch hefyd yſtyr yr hên dadau ar y geiriauymma, ffydd yn vnig a'n cyfiawnhâ, gwedy ei amlygu mor eglur, megis y gwelwch mai yſtyr yr ymadrodd ymma (fe a'n cyfiawnheir ni trwy ffydd yngrhiſt yn vnig) yn ôl meddwl yr hên dadau yw hyn, Yr ydym ni yn dodi ein ffydd ynghriſt, fod yn ein cyfiawnhau ni yn vnig trwyddo ef: fod yn ein cyfiawnhau ni trwy drugaredd Duw yn rhâd, a thrwy haeddiant ein Ceidwad Chriſt yn vnig, ac nid trwy vn rhinwedd neu weithred dda o'r eiddom ni ein hunain, ſydd ynom ni, neu a allwn ni ei gael, neu ei wneuthur i haeddu hynny: lle mae Chriſt yn vnig yn achos haeddiannol o hono.

Ymma y gellwch weled arfer llawer o eiriau er gwagelyd ymryſſon ynghylch gairiau, gan y rhai ſy ewyllyſgar i ymdaeru ynghylch gairiau, ac hefyd i ddangos y gwir yſtyr, er gwagelyd drwg chwedleua, a cham-ddeall: ac etto fe allai na waſanauthai 'r cwbl i'r rhai ydynt ymryſſongar, o herwydd fe lunia'r ymryſſengar achos o ymryſſon, er na bydder yn roi vn achos iddo i wneuthur felly. Etto ni ddylyid gormodd ofalu am y fath ddynion, os gellir lleſhau y rhai ydynt chwannoccach i wybod y gwirionedd, nag (pan fytho ef goleu ddigon) i ymryſſon yn ei gylch, a thrwy ymryſſongar ac ymddalus ddadl, i'w Gwymmylu gwmlo a'i dywyllu ef. Gwir ydyw, os ni a chwedleuwn yn briodol ac yn inion am gyfiawnhâd, nad ydyw ei'n gweithredoedd ni yn haeddu maddauant o'n pechodau, ac yn ein gwneuthur ni o rai anghyfion, yn gyfiawn ger bron Duw: ond Duw o'i vnic drugaredd, trwy vnic haeddiant a rhyglyddau ei fab Ieſu Griſt, ſydd yn ein cyfiawnhau ni. Etto am fod ffydd yn ein danfon ni yn inion at Griſt am faddauant o'n pechodau, ac mai trwy 'r ffydd a rodd Braicheidio Duw ini yr ydym ni yn cofleidio addewidiō trugaredd Duw, a maddauant o'n pechodau: yr hwn beth nid ydyw neb o'n rhinweddau, na' n gweithredoedd yn ei wneuthur yn briodol: am hynny yr arfer yr Scrythur ddywedyd, fod ffydd yn cyfiawnhau heb weithredoedd. Ac yn gymmaint ac mai 'r vn peth mewn ffrwyth yw dywedyd, ffydd heb weithredoedd a ffydd yn vnic ſydd yn ein cyfiawnhau ni: am hynny ycyhoeddodd hên dadau 'r eglwys, o amſer i amſer, ein cyfiawnhad ni yn y geiriau hyn, ffŷdd yn vnic a'n cyfiawnha ni: heb feddwl dim arall ond yr hyn a feddyliodd S. Pawl, pan ddywad yntef, ffydd heb weithredoedd a'n cyfiawn ni.

Ac o herwydd bod yn dwyn hyn oll i ben trwy vnic haeddiant ein Iachawdwr Chriſt, ac nid drwy ein haeddiant ni ein hunain, na thrwy haeddiant vn rhinwedd ag y ſydd ynom, nac vn weithred ag a ddaw oddiwrthym. O herwydd paham o ran haeddiant yr ydym megis yn ymwrthod ailwaith â ffydd a gweithredoedd a phob rhinweddau eraill. O herwydd mor fawr ydyw yn amherffeiddwch ni drwy lygredigaeth pechod dechreuol, megis y mae 'r holl bethau ſydd ynom ni yn amherffaidd: ffydd, gobaith, a chariad, ofn, meddyliau, geiriau, a gweithredoedd: ac er mwyn hynny, anaddas ydynt i hadeddu vn rhan o'n cyfiawnhad ni. A'r ymmadroddion hynny y rydym yn ei arfer wrth ymoſtwg i Duw, a rhoddi yr holl ogoniant i'n Iachawdwr Chriſt yr hwn a ddyly ei gael ef orau.

Ymma y clywſoch orchwyl Duw yn ein cyfiawnhâd ni, yr hwn y rydym ni yn ei dderbyn yn rhâd gantho ef, trwy ei drugaredd ef heb ein haeddiant ni, trwy wir a bywiol ffydd. Weithian chwi a gewch glywed ſwydd adylyed Chriſtion tuag at Dduw a pha beth a ddylyem ninnau ei rhoddi i Dduw ailwaith am ei fawr drugaredd, a'i ddaioni. Ein ſwydd a'n dlyed ni yw, nid treulio 'n hamſer yn y bywyd preſennol hwn yn a'nffrwythlon, ac yn ſegurllyd, heb ofalu yn ôl ein bedydd a'n cyfiawnhâd, mor ambell weithredon da a wnelom, i ogoniant Duw, a budd i'n cymydogion: pellach o lawer 'on ſwydd a'n dlyed ni yw (yn ol ein gweuthur vnwaith yn aelodau Chriſt) byw yn wrthwyneb ac yn erbyn hynny, gan ein gwneuthur ein hunain yn aelodau diafol, wrth rhodio yn ol ei hudad ef, ac yn ol llithiad y byd, a'r cnawd: drwy 'r hyn y gwyddom ein bod ni yn gwaſanauthu y byd a'r cythrel, ac nid Duw. O achos nid ydyw y ffydd honno yr hon heb etifeirwch ſydd yn dwyn allan naill ai gweithredoedd drwg ai yntau heb ddwyn gweithredoedd da, yn ffydd iniawn, bur, fywiol, ond ffydd farw ddiawlig, mewn ragrith neu liw yn vnic, fal y galw S. Pawl a S. Iaco hi. O herwydd fewyr y diafol, ac mae fe 'n credu eni Chriſt o forwyn, iddo ymprydio dd'eugain diwarnod a de'ugain nos heb fwyd na diod, iddo wneuthur pob 'r hyw wrthiau, gan ei amlygu ei hyn yn Dduw: maent yn credu hefyd i Griſt er ein mwyn ni ddioddef poenedig angau er ein prynu ni o angau tragwyddol, ei ailgyfodi ef y trydydd dydd o angau. Maent hwy yn credu ei eſcyn ef i'r nefoedd, a'i fod ef yn eiſtedd ar ddehaulaw y tâd, ac y daw ef yn niwedd y byd i farnu byw a meirw. Mae 'r diawlaid yn credu y pynciau hyn 'on ffydd ni, ac felly maent yn credu hefyd fod yr holl bethau 'n wir, ac ſydd ſcrifennedig yn yr hên deſtament, a'r teſtament newydd, ac etto er yr holl ffŷdd hon, nid ydynt onid diawliaid, yn aros fyth yn eu ſtât ddamnedig, ac heb wir ffydd Griſtionogawl ganthynt.

O herwydd vniawn a gwir ffŷdd Griſtionogawl yw, nid yn vnic credu 'r Scrythur lân, a bod holl byngciau ein ffydd ni yn wir onid hefyd bod a diogel obaith ac ymddiried yn-nhrugarog addewidion Duw, ar gael eu cadw oddiwrth ddamnedigaeth tragwyddol, trwy Griſt: o'r hon ffydd y canlyn calon garedig barod i gadw ei orchymmion ef. A'r ffŷdd Griſtionogawl hon, nid oes na chan y diawl, nag Chwaith. affeith gan vn dyn, yr hwn yn ei gyffes oddiallan, yn ei enau, neu mewn derbyniad y ſacramentau oddifaes, yn ei ddyfodiad i'r eglwys, ac wrth bob argoel oddiallan, a dybygir ei fod yn wir Griſtion, ac etto ſydd yn ei fywyd a'i weithredoedd yn ymddangos i'r gwrthwyneb.

O herwydd pa fodd y dichon bod gan wr wir ffydd, diogel obaith, a ſiccr ddiogelrwydd ac ymddired yn Nuw y maddauir ei bechodau trwy haeddiant Chriſt, ac yr heddychir rhyngtho â Duw, ac ygwnair ef trwy Griſt yn gyfrannog o deyrnas nêf, pan fytho ef yn byw yn annuwiol, ac yn gwadu Chriſt yn ei weithredoedd? ſiccr yw ni ddichon bod gan y fath ddyn, obaith, a ffydd yn-Nuw. O herwydd fal y gwyddont mai Chriſt yn vnig yw Ceidwad y byd, felly y gwyddont hefyd na feddianna dynion drwg deyrnas Dduw. Hwy a wyddont fod Duw yn caſhau pob anghyfia wnder, y diſtrywa ef bawb a ddywedant gelwydd, y caiffy rhai a wnaethōt weithredoedd da, (y rhai ni ellir heb fywiol ffydd yn ghriſt eu gweuthur) ddyfod i'r ail gyfodiad i fywyd, a'r rhai a wnaethont ddrwg i ailgyfodiad barn; difai y gwyddant y daw i'r rhai ymryſſongar, ac i'r rhai na fyddant vfydd i'r gwirionedd, onid a vfyddhânt i anghyfiawnder, ddigter, llid, a blinder, &c.

I orphen am hynny gan yſtyriaid aneirif ddoniau Duw, a ddangoſſwyd ac a roddwyd ini yn drugarog heb ein haeddiant, yr hwn nid yn vnic an creodd ni o ddim, ac o ddryll o glai, ac o ran ein eneidiau o'i anfeidrol ddaioni a'n cyfododd ni yn debyg ac yn gyffelib iddo ei hun: ie ac lle yr oeddym hefyd gwedy 'n barnu i vffern, ac i dragwyddol angau a roddodd ei fab anianol yr hwn oedd Dduw tragwyddol, anfar wol, gogyfuwch ag ef mewn nerth a gogoniant i'w gnawdoli ac i gymmerid arno ein annian farwol ni, ynghyd a'n gwendid, ac yn yr anian honno, i oddef am ein drygioni angau toſt, cywilyddus o fwriad ein cyſiawnhau ni, an adferu i fywyd tragwyddol, gan ein gwneuthur felly iddo i hun yn anwyl garedig blant, yn frodyr i'w vnic fâb ein Ceidwad Chriſt, ac yn etifeddion tragwyddol gydag ef o'i frenhiniaeth nef.

Nid ydyw doniau Duw mawrion trugarog ymma, (os y ſtyrir hwy yn dda) yn rhoddi ini achos i fod yn ſegur, nac i fyw heb wneuthur gweithredoedd da: nac yn ein gyrru trwy fodd yn y byd, i wneuthur pethau drwg, ond o'r gwrthwyneb os ni nid ydym yn ddiobaith, a'n calonnau cy galetted ac yw'r garreg maent yn ein hannog ni, i'n rhoddi ein hunain i Dduw yn hollol, â'n holl ewyllys, â'n holl galonnau, â'n holl allu, â'n holl nerth, ac i'w waſanaethu â'n holl weithredoedd: gan vfyddhau i'w orchmynion ef trwy 'n hoes, gan geiſio 'n waſtad ym-mhob peth ei ogoniant a'i anrhydedd ef, ac nid ewyllys ein ſynhwyrau, a'n gwag-ogoniant ein hunain: gan ofni yn waſtadol yn ewyllyſgar ddigio Duw, mor drugarog, ac mor garedig brynydd, mewn meddwl, gair, neu weithred.

Ac mae donniau Duw ymma os cwbl yſtyrir hwy, yn ein hannog ni er ei fwyn ef i fod yn barod hefyd i'n rhoddi ein hunain i'n cymydogion, ac i ymroi cy belled ag y gallom â'n holl nerth i wneuthur i bawb ddaioni. Ffrwythau gwir ffydd yw y rhai ymma: gwneuthur daioni i bawb, yn neſſaf ag y gallom, ac vwchlaw pob peth, ac ymmhob peth, derchafu gogoniant Duw, oddiwrth yr hwn yn vnic ymae ini yn ſancteiddr wydd, cyfiawnhâd, Iechawdwriaeth, a phrynedigaeth: i'r hwn y byddo holl ogoniant, mawl ac anrhydedd, yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Deongliad byrr am wir a bywiol a Chriſtionogawl ffydd.

Y Dyfodiad cyntaf at Dduw, bobl dda Griſtionogawl, ſydd trwy ffydd, trwy 'r hon fal y manegwyd yn y bregeth ddiwethaf, yn cyfiawnhair gerbron Duw. A rhag i neb gamſynnaid eiſiau i hiniawn ddeall hi, fe ddylyed nodi yn ddieſcaulus fod yn yr Scrythur lân yn cymmeryd ffydd mewn dwy ffordd. Mae vn ffydd, yr hon yn yr Scrythur a elwir yn ffydd farw, yr hon ni ddwg allan ddim gweithredoedd da, am ei bod yn ſegur, yn heſb, ac yn anffrwythlon. A'r ffydd hon a gyfflyba 'r ſanctaid Apoſtol Iaco i ffydd y Iac, 2. 19. diawliaid, y rhai a gredant fod Duw yn gywir ac yn gyfion, ac a grynant rhag ofn, ac ni wnant ddim er hynny yn dda, onid pob peth yn ddrwg. Y ffydd hon ſydd gan Griſtionogion melldigedig drwg, y rhai a gyffeſāt (fal y dywaid Pawl) Dduw â'u geneuau, onid a ymwadant ag ef yn eu gweithredoedd, gan fod yn atgas, heb iniawn ffydd, ac Tit. 1. 16. yn barodol i bob gweithred drwg ceryddus. A hon yw dirgel grêd yn y galon, trwy 'r hon y mae fe 'n gwybod fod Duw, ac yn cyduno â gwirionedd ſancteiddiaf air Duw, a gynhwyſir yn y ſanctaidd Scrythur. Megis y ſaif hon yn vnic mewn credyniaeth fod gair Duw yn wir. A hon ni elwir yn briodol ddim honi yn ffydd: ond megis y dichon yr vn a ddarlleno comentariau Caeſar, gredu fod y commentariau hynny yn wir, a thrwy hynny fod gantho wybodaeth o fywyd Caeſar, a'i weithredoedd godidawg, am ei fod yn credu ſtori Caeſar. Etto ni ddywedir yn inion ei fod ef yn credu yn Caeſar, oddiwrth yr hwn nid ydyw 'n edrych, am na nerth, na daioni.

Felly yr vn a gredo fod pob peth a adroddir am Dduw yn y beibl yn wir, ac y fytho er hynny yn hyw mor annuwiol, ac na ddichon ef edrych, am fwynhau addewidion a daionus ddoniau Duw: er dywedyd fod gan hwnnw ffydd a chred i air Duw, etto ni ellir dywedyd yn iawn ei fod ef yn credu yn nuw, na bod gātho y fath ffydd a gobaith yn nuw, trwy 'r hon y dichon ef yn ddiogel edrych am rhâd trugaredd, a bywyd tragwyddol oddiar ddwylaw Duw, ond yn hytrach llid, a choſp, yn ol haeddiant ei ddrwg fywyd. O herwydd fal yr ſcrifennir yn y llyfr a elwir yn eiddo didymus Alexandrinus, yn gymmaint a bod ffŷdd yn farw heb weithredoedd, nid ffŷdd ydyw hi yn awr, mwy nag y mae gŵr marw yn ŵr. Am hynny nid y ffydd farw hon yw 'r ddiogel ar anianol ffŷdd a geidw pechaduriaid. Mae ffydd arall yn yr Scrythur, yr hon nid yw (fal honno) yn ſegur, yn anffrwythlon, ac yn farw, ond yn gweithio drwy gariad (fal y manega S. Pawl) ac fal y gelwir y ffydd wâg arall yn ffydd farw, felly y gellir galw hon yn Gal 5. 6. ffydd fyw, fywiol.

Ac nid cyffredinawl gred yn vnic yw hon o bynciau ein ffydd ni: onid hefyd diogel, ſiccrwydd ac ymddired ynnhrugaredd Duw, trwy ein harglwydd Ieſu Griſt, a diogel obaith cael derbin pob peth da ar law Duw. Ac er ein bod ni trwy wendid, a thrwy brofedigaeth ein gelyn yſprydol, yn cwympo oddiwrtho ef trwy bechod, etto os ni a drown drachefn atto trwy etifeirwch, y pardyna ef ni, ac y gollwng dros gôf ein holl gamweddau, er mwyn ei fab ein Ceidwad Ieſu Griſt, ac i gwna ef ni yn etifeddion gydag ef o'i deyrnas dragwyddol: ac hyd oni ddelo 'r deyrnas honno, y bydd ef Ceidwad ac ymddiffynnydd ini yn ein holl beriglau ac enbeidrwydd, pa beth bynnac a ddigwyddo, ac er ei fod ef yn danfon ini weithiau adfyd toſt, etto y bydd ef yn waſtadol yn dâd caredig ini, gan ein ceryddu am ein pechodau, ac er hynny heb dynnu ei drugareddau dros fyth oddiwrthym, os ni a ymddiredwn ynddo, ac a ymroddwn yn hollol iddo, ac a orbwyſwn yn vnic arno, ac a alwn arno, gan fod yn barod i vfyddhau iddo, ac i'w waſanauthu ef.

Dymma 'r ffydd gywir, fywiol, ddidwyll, yr hon nid ydyw yn y genau a'r gyffes oddifaes yn vnic, ond mae hi yn byw, ac yn cyffroi yn y galon oddifewn. Ac nid ydyw y ffydd hon heb obaith ac ymddiried yn nuw, nac heb gariad Duw a'n cymydogion, nac heb ofn Duw a chwant grwando ei air ef a'i ganlyn, wrth wagelyd y drygioni a gwneuthur yn llawen bob daioni.

Y ffydd hon (fal y Deffinia. geilw Pawl hi) yw ſail y donniau yr ydym ni yn edrych amdanynt, ac yn gobeithio eu derbyn oddiar law Dduw: a ſiccrwch a Heb. 11. 1. diogel edrych am danynt, er nad ydynt etto yn ymddangos i'n ſynhwyrau cnawdol ni. Ac yn ol hynny mae fe 'n dywedyd, fod yn rhaid i'r hwn a ddelo at Dduw, gredu ei fod ef, a'i fod yn obrwywr trugarog i'r rhai a wnânt ddaioni. Ac nid oes dim yn canmol gwyr da yn fwy gerbron Duw, na bod y ddiogel ffydd a'r gobaith ymma ynddynt. Am y ffydd hon, y mae tri pheth enwedigol i'w nodi.

Y cyntaf nad ydyw y ffydd hon yn gorwedd yn farw yn y galon: onid mai hi yn fywiol, yn ffrwythlon, yn dwyn allan weithredoedd da.

Yn ail na ellir hebddi wneuthur gwethredoedd da cymmeradwy ger bron Duw.

Yn drydydd, pa fath weithredoedd da y mae 'r ffydd hon yn eu dwyn allan.

Yn gyntaf, megis na ellir cuddio 'r golau, nad ymddangoſo fe mewn rhyw le neu ei gilydd: felly ni ellir cadw gwir ffydd yn ddirgel, canys pan fo'r achos yn gofyn, hi a dyrr allan, ac a'i dengys ei hunan trwy weithredoedd da. Ac megis y mae corph bywiol dŷn yn waſtadol yn arfer pethau a berthynant at gorph naturiol bywiol, er ei ymborth a'i gadwedigaeth, megis y byddo rhaid, cyfaddas, ac achos iddo: felly y bydd enaid dŷn yr hwn ſydd a ffydd fywiol yndo yn waſtadol yn gwneuthur rhyw weithredoedd da; y rhai a fanegant ei fod ef yn fyw ac na bydd ef ſegur. Panglywo dynnion am hynny yn yr Scrŷthur vchel glod ffŷdd, ei bod hi yn gweuthur ini fodloni Duw, fyw gydâ Duw, a bod yn blant i Dduw, os hwy a dybygant am hyn eu bod hwy gwedy eu rhyddhau oddiwrth wneuthur gweithredoedd da, ac y gallant fyw yn y modd y mynnont, maent hwy yn cellwair a Duw ac yn eu twyllo eu hunain. Ac mae hynny yn arwydd eglur eu bod hwy ymmhell oddiwrth feddiannu gwir abywiol ffydd, ac heb wybod beth ydyw hi.

O herwydd gwir a bywiol ffydd Griſtionogawl yw, nid yn vnic credu pob peth am Dduw a gynhwyſir yn yr Scythyr lân, ond hefyd, gobaith ac ymddiried ynnuw, ei fod ef yn pryderu, ac yn gofalu droſom ni, megis y gofala 'r tâd am ei blentyn yr hwn y mae fe yn ei garu: y bydd ef trugarog ini e'r mwyn ei vnig fâb, a bod gennym ni ein Iachawdwr Chriſt yn dragwyddol offeiriad a dadleuwr, yn haeddiannau, offrwm a dioddeifaint yr hwn yr ydym yn ymddiried, fod yn golchi ac yn arllwys ein beiau ni yn waſtadol, pa bryd bynnag trwy wir etifeirwch y trothom ni atto â'n holl galonnau, gan fwriadu ynom ein hunain yn ſafadwy drwy ei râd ef vfyddhau iddo, ai waſanaethu trwy gadw ei orchymmynion ef, ac heb droi byth yn ein hôl at bechod.

O'r fath hon yw 'r wir ffydd y mae 'r Scrythur yn ei chanmol, yr hon pan welo ac yſtyrio pa beth a wnaeth Duw droſom, a annogir hefyd trwy nerth gwaſtadol Yſpryd Duw i'w waſanaethu a'i fodloni ef, i gadw ei ewyllys ef tuag attom, ac i ofni ei ſorriant ef, i barhau yn waſtadol yn blant vfyddgar, i ddāgos ein diolchgarwch iddo, trwy gadw a chanlyn ei orchmynion ef, a hynny yn rhâd, o wir gariad, ac nid rhag ofn coſp na chariad gobrwyau bydol: gan yſtyriaid pa mor eglur heb ein haeddiant ni y derbyniaſom yn rhâd faddauant a thrugaredd.

Fe ddengys y wir ffydd hon ei hun, ac ni ddichon hi fod yn hir yn ſegur. O herwydd ſcrifennedig ydyw, trwy ffydd y bydd y cyfiawn byw. Nid Abac. 2. 4. ydyw nac yn cyſcu nag yn ſegur pan ddyle fod yn neffro ai yn gweuthur daioni. Ac mae Duw trwy Ieremi yn dywedyd ei fod ef yn wynfydedig ac yn fendigedig, yr hwn ſydd a ffydd a ſiccr obaith Ierem. 17. 8. gantho yn Nuw. Canys fe fydd megis pren gwedy ei blannu a'r lan y dwfr, yr hwn a danna ei wraidd a'r lled tuar irder, ac ni ofna wres pan delo, fe fydd ei ddalen ef glâs, ac ni phaid a dwyn ffrwyth felly y bydd y gwyr duwiol (gan ddodi heibio bob ofn adfyd) yn dangos ffrwyth eu gweithredoedd da bob amſer ac y bo cyfaddas eu gwneuthur.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am ffyd.

CHwi a glywſoch yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon fod dau ryw o ffydd, ffydd farw anffrwythlon, a ffydd fyw yn gweithio drwy gariad; Fod y gyntaf yn brophidiol, a'r ail yn anghenrhaid i gyrhaeddyd Iachawdwriaeth, yr hon ffydd ſydd yn waſtad a chariad yn gydſylldedig â hi, ac ſydd yn ffrwythlon yn dwyn pob gweithredoedd da.

Yn awr o blegid yr vn peth gwrandewch beth ſydd yn canlyn, fe ddywaid y gwr call fod yr hwn 〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉 ſydd yn credu yn nuw yn gwrando a'r ei orchyminion ef. Eccl. 32. 27. Canys os ni nid ymddangoſwn yn ffyddlon yn ein ymddygiad, nid ydyw 'r ffydd yr hon yr ydym yn ei chymeryd arnom, onid mewn lliw yn vnic. O herwydd y dangoſir gwir ffydd Griſtionogawl drwy fywyd da, ac nid wrth airiau yn vnig, fal y dywaid S. Auguſtin. Ni wahenir Cib. de fide & operibus ca. 2. bywyd da oddiwrth ffydd yr hon a weithia trwy gariad. A S. Chryſoſtom a ddywaid, ffydd o honi ei hunan ſydd yn llawn gweithredoedd da, er cynted y Sermone de fide & Lege. credo dyn fe a herddir o honynt. Mae S. Pawl yn dangos yn halaeth yn yr 11. Benod at yr Hębręaid, mor llawn yw 'r ffydd hon o weithredoedd da, a pha fodd y gwnâ hi weithredoedd vn yn gymmeradwyſach ger hron Duw, na gweithred Heb. 11. 4. vn arall, gan ddywedyd i ffydd wneuthur offrwm Abel yn well nag offrwn Cain. Hon a Gen. 4. 4. wnaeth i Noah wneuthur yr Arch. Hon a wnaeth Gen. 6. 12. i Abraham ymadel â'i wlad a'i holl geraint, a myned Eccl. 44. 17. Gen. 12. 1. i wlad bell i daring ymmlhith diaithriaid. Felly y gwnaeth Iſaac a Iaco hefyd, gan orbwyſo a gorwedd yn vnic ar y Nerth a'r gobaith oedd ganthynt yn Nuw. A phan ddaethont i'r wlad a ddaroedd i Dduw ei haddo iddynt, nid adailadent ac ni wnaent ddinaſoedd, trefydd, na thai, onid byw fal dieithriaid mewn pebyll a ellid eu ſymmud beunydd. Y ddoedd eu hymddiried hwy cymmaint ynnuw, nad oeddynt yn priſo ar vn peth bydol, am fod Duw gwedy darparu iddynt drigleoedd gwell yn y nef, o'i oſodiad a'i wneuthurdeb ei hun.

Dymma 'r ffydd a baratôdd Abraham ar orchymyn Duw i offrwm ei fab a'i etifedd Iſaac, yr Gene. 20. . hwn a garodd ef yn fawr, a thrwy 'r hwn yr addawſai Dduw iddo eppil aneirif: ym myſc y rhai y genid vn yn yr hwn y bendigid yr holl genhedlaethau: Eccl. 44. 21. yr ydoedd ef yn ymddiried cymaint yn Nuw fal pe lladdeſid ef, etto fod Duw yn abl trwy ei holl-alluog nerth i'w ailgyfodi ef o angau, ac i gyflawni ei addewid. Ni wanobeithiodd ef am addewidion Duw, er bod rheſwm i'r gwrthwyneb. Fe a gredodd yn ddiogel ddigon na wrthodai Dduw ef mewn prinder a newyn yr hyn oedd yn y wlad. Ac mewn pob periglau eraill y dygeſid ef iddynt, fe a ymddiredodd y byddai Dduw iddo ef yn Dduw, yn waſcodydd ac yn ymddiffynnydd, pa beth bynnag a welai ef i'r gwrthwyneb. Dymma 'r ffydd a weithiodd felly ynghalon Moſes hyd oni wrthododd ef ei gymmeryd yn fàb merch brenin Pharao, a meddiannu etifeddiaeth fawr yn Exod. 1. 11. yr Aipht: gan dybaid mai gwell oedd goddef blinder a thrymder gydâ phobl Dduw, na byw dros ennyd bychan mewn melyſder pechod, gyda dynion drwg. Trwy ffydd ni phriſiodd efe ar fygylau brenin Pharao, o herwydd yr ydoedd ef yn ymddiried yn-Nuw yn gymmaint nad ydoedd ef yn priſio am lwyddiant y byd hwn, onid edrych yr ydoedd am wobr yn y nef, gan oſod ei galon ar yr anweledig Dduw, megis pe buaſei yn ei weled ef yn waſtad yn gydrychiol ymlaen ei lygaid. Exod. 4. 22. Trwy ffydd yr aeth plant yr Iſrael trwy 'r môr côch. Trwy ffydd y cwympodd caerau Iericho, Ioſua. 6. 20. hebroddi vn ergyd iddynt, ac y gweithiwyd llawer o wrthiau eraill.

Yn yr holl wyr da a fuont er ioed o'r blaen, ffydd a ddygodd allan eu gweithredoedd da hwy, ac a fwynhaodd addewidion Duw.

Ffydd a gauodd geneuau llewod, ffydd a ddiffododd Dan. 6. 22. rym y tân, ffyd a waredodd rhag min y cleddyf, A'r. 3. 27. ffydd a roddodd gryfder i wyr gweinion, a orchfygodd mewn ryfel, a gwympodd luoedd o'r anghredadwy ac a gyfododd y meirw i fywyd. ffydd a wnaeth i wŷr da oddef yn eſmwyth adfyd. Rhai a watwarwyd, a fflangellwyd, a glymmwyd, ac a dafiwyd i garchar: llawer a gollaſſont eu da ac a fuont fyw mewn tlodi mawr. Rhai a grwydraſont ar frynnau, mynyddau, ac anialwch. Rhai a Rhaccwyd, ddirdynnwyd, rhai a laddwyd, rhai a labyddiwyd, rhai a lifiwyd, rhai a dorrwyd yn ddrylliau, rhai a dorrwyd eu pennau, rhai a loſcwyd heb drugaredd, ac ni fynnent eu rhyddhau, am eu bod yn edrych am gyfodi ailwaith i ſtat oedd well.

Yr oedd yr holl dadau, merthrwyr, a gwyr ſanctaid eraill, y rhai y mae S. Pawl yn ſon am danynt, a'u ffydd gwedy ei ſiccrhau yn-Nuw, pan oedd yr holl fyd yn eu herbyn hwy. Nid oeddynt hwy yn adnabod yn vnic fod Duw yn Arglwydd, yn wneuthurwr ac yn llywodraethwr ar holl wyr y byd, ond yr oedd ganthynt hefyd ddiogel obaith a hyder y byddai fe yn Dduw iddyn hwy, yn ddiddanydd, yn helpwr, yn nerthwr, yn ymborthwr ac yn ymddiffynnwr. Hon ydyw 'r ffydd Griſtionogawl yr hon oedd gan y gwyr ſanctaidd ymma, a'r hon a ddlye fod gennym ninnau hefyd.

Ac er na enwed hwy yn Griſtionogion, etto yr oedd ganthynt ffydd Griſtionogawl, canys hwy a edrychent am holl ddoniau Duw dad drwy haeddiant ei fâb Ieſu Griſt, fal yr ydym ninnau yn edrych. Dymma 'r holl wahaniaeth rhyngthynt hwy a ninnau, eu bod hwy yn edrych pa bryd y dawai ef, a'n bod ninnau yn yr amfer y daeth ef. Am hyn y dywaid S. Awſtin, fe a newidiwyd ac In Ioan. tract. 45. a ſymmudwyd yr amfer, ac nid y ffydd. O achos mae gan bob vn o honom yr vn ffydd yn vn Chriſt, yr vn Yſpryd glan ac ſydd gennym ni oedd ganthynt hwythau, medd S. Pawl. Cans fal y dyſcodd 1. Cor. 8. 6. yr Yſpryd glan nyni i ymddiried yn-Nuw, ac ialw arno fal ein Tad, felly y dyſcodd hwyntau i ddywedyd fal yr ſcrifennir, tydi yw ein Tad ni a'n prynwr, dy enw di ſydd heb ddechreuad ac yn dragwyddol. Eſai. 63. 16.

Duw a roddodd iddynt hwythau ras i fod yn blant iddo megis y rhydd ef yn awr i ninnau. Ond yn awr trwy ddyfodiad ein Ceidwad Chriſt y derbynniaſom yn halaethach Yſpryd Duw i'n calonnau, drwy 'r hwn yr ydym ni yn derbyn rhagor ffydd a diogelach obaith nag oedd gan lawer o honynt hwy. Ond mewn defnydd, yr vn ydynt hwy a ninnau. Mae gennym ni yr vn ffydd yn-Nuw ac oedd ganthynt hwy, ac yr oedd ganthynt hwy yr vn ffydd ac ſydd gennym ninnau. Ac mae S. Pawl yn canmol eu ffydd hwy yn fwy, er mwyn nad ymroem ni ddim llai, ond yn rhagor i Griſt mewn cyffes ac mewn bywyd yn awr ac yntef gwedy dyfod, nag yr ymroe yr hên dadau cyn ei ddyfod ef.

Ac mae 'n eglur wrth holl ymadroddion Paul nad ydyw gwir fywiol a Chriſtionogawl ffydd beth marw, anffrwythlon, ofer, ond yn beth o rinwedd berffaith, ac o ffrwyth rhyfedd, ac o rym i ddwyn pob cynhyrfiadau a gweithredoedd da. Mae 'r holl ſanctaidd Scrythyrau yn gytun yn teſtiolaethu fod gwir ffydd fywiol ynghriſt yn dwyn allan weithredoedd da, ac am hynny y dlye bob dyn ei brofi a'i holi ei hun yn ddieſcaelus, er mwyn gwybod pa vn a wna gwir ffydd fywiol ddigellwair, ai bod yn ei galon ai nid ydyw: yr hyn a ddichon ef ei wybod wrth ei ffrwythau hi. Yr oedd llawer ac oedd yn cyffeſu ffydd Griſt yn y camſyniaeth a'r amryfyſedd ymma, gan dybaid eu bod yn adnabod Duw ac yn credu ynddo, a hwythau yn eu bywyd yn cyhoeddi y gwrthwyneb: yr hwn gamſynniaeth y mae S. Ioan yn ei 1. Ioan. 2. 3. Epiſtol cyntaf yn ei argyoeddi, gan ſcrifennu fal hyn, Trwy hyn y gwyddom ein bod yn adnabod Duw, os ni a gadwn ei orchymmynion ef. Yr vn a ddywedo ei fod yn adnabod Duw, ac heb gadw 1. Ioan. 2. 4. ei orchymynion, ſydd gelwyddog ac nid oes gwirionedd ynddo. Ac yn y man y dyweid, yr vn ſydd yn pechu nid ydyw yn gweled nac yn adnabod Duw. Na thwylled neb ni fy anwyl blant. Ac eilwaith y dywaid, trwy hyn y gwyddom ein bod o'r gwirionedd, ac y bydd i ni ddiogelwch ein calonnau, os ein calonnau a'n cyhuddant mwy yw Duw nâ 'n calonnau, ac efe a ŵyr bob 1. Ioan. 3. 19, 20. peth. Fy anwyl os ein calonnau ni 'n cyhuddant mae i ni hyder ar Dduw y cawn gantho bob peth ac a ofynom am ein bod yn cadw ei orchymynion ac yn gwneuthur y pethau ſy fodlon yn ei olwg. Ac fe ddywaid etto, Pob vn a gretto mai Ieſu yw Chriſt a aned o Dduw: ac ni a wyddom nad oes neb a aned o Dduw yn pechu, eithr hwn a 1. Ioan. 5. 1, 18. genhedlwyd o Dduw a'i ceidw ei hun, a'r drwg ni chyfwrdd ag ef. Ac yn ddiwethaf i gau ar y cwbl, gan ddangos yr achos yr ſcrifennodd ef yr Epiſtol ymma, y mae yn dywedyd Am hyn yr ſcrifennais attoch er mwyn i chwi wybod eich bod yn meddiannu tragwyddol fywyd, y rhai ydych yn credu ym-Mah Duw. Ac yn y drydydd mae fe 'n cadarnhau y cwblam ffydd a gweithredoedd 1. Ioan. 3. da ar ychydig o airiau, gan ddywedyd, Yr vn a wnêl yn dda ei fod ef o Duw, a'r hwn a wnel yn ddrwg nid ydyw yn adnabod Duw. Ac fe ddywaid Ioan, fal y dwg abnabyddiaeth fywiol, a ffydd Duw weithredoedd da, felly y mae fe 'n dywedyd na ddichon gobaith a chariad ſefyll gydâ bywyd drwg. Am obaith yr ſcrifenna fe fal hyn.

Ni a wyddom pan ymddangoſo Duw y byddwn cyffelyb iddo, o blegid ni a gawn ei weled ef fal y mae ef. A phwy bynnac ſydd a'r gobaith hwn ynddo, mae fe yn ei burhau ei hun megis y mae Duw yn bur.

Ac am gariad fal hyn y dywaid, Pwy bynnag 1. Ioan. 3. 32. a gatwo air neu orchymyn Duw, yn hwn y mae per ffaith gariad Duw yn trigo. A thrachefn, Cariad 1. Ioan. 2. 5. Duw yw hyn, ini gadw ei orchmynion. Ac ni ddywad Ioan hyn megis ymadrodd dichellgar 1. Ioan. 5. 3. a ddychmygodd ef o'i ffanſi ei hun, onid megis gwirionedd anghenrhaid diogel a ddangoſwyd iddo gan Griſt ei hun, y gwirionedd tragwyddol annhwyllodrus: yr hwn ſydd yn traethu yn eglur yn llawer lle, na all ffydd, gobaith achariad ſefyll heb weithredoedd duwiol da.

Am ffydd fe a ddywaid, Yr hwn ſydd yn credu ym-mâb Duw ſydd a bywyd tragwyddol ynddo: yr hwn nid ydyw yn credu yn y Mab, ni chaiff weled Ioan. 3. 36. Ioan. 5. 24. bywyd, ond mae llid Duw yn aros arno. Ac mae fe 'n cadarnhau hynny a llw dauddyblyg: Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, mae gan yr hwn ſydd yn credu ynofi fywyd tragwyddol.

Yn gymmaint abod bywyd tragwyddol gan yr hwn ſydd yn credu ynghriſt, mae 'n rhaid o hyn ganlyn fod gan yr vn a fytho a ffydd gantho, weithredoedd da hefyd: a'i fod ef yn ymegnio i gadw gorchymynion Duw yn vfyddgar. O herwydd nid bywyd tragwyddol, onid diderfynol angau a berthyn i ddrwg weithredwyr, y rhai ydynt yn byw yn anufydd ac yn troſeddu ac yn torri gorchymynion Duw yn ddietifeirwch, fal y dywaid Chriſt ei hun, Y rhai a wnant dda a ant i fywyd Mat. 25. 34. tragwyddol, a'r rhai a wnant ddrwg a ânt i dân annherfynol. Ac ailwaith, Myfi ydyw r llythyren gyntaf a'r diwethaf, myfi yw y dechrau a'r diwedd. I'r vn a fyddo ſychedig y rhoddaf yn rhad Gwele. 2. 6. ddwfr o ffynnon y bywyd. Yr vn a orchfygo a gaiff bob peth. Myfi a fyddaf Dduw iddo ac yntef a fydd yn fâb i minnau. Ond i'r rhai ofnus ſydd yn gwanobeithio yn Nuw, ac ar-nynt eifiau ffydd, t'r dynion melldigedig, llofryddion, goddinebwyr, ſwynwyr, addolwyr eulynod, a'r rhai celwyddog, hwy a gânt eu rhan yn y pwll ſydd yn lloſci a thân a brymſton, yr hwn ydyw yr ail angau.

Ac megis y dywaid Chriſt fod ffydd yn ddiammau yn dwyn gweithredoedd da, felly hefyd y dywaid ef am gariad, Pwy bynnag ſydd a'm gorchymmynion gantho ac a'u ceidw, mae fe yn fyngharu i. Ac a'r ol hynny, Yr hwn am car i a geidw Ioan. 14. 23. fyngair, a'r neb ni char fi ni cheidw fyngairiau. Ac megis y profir cariad Duw wrth weithredoedd da, felly hefyd y profir ofn Duw, fal y dywaid y gwr call, Ofn Duw ſydd yn dodi ymmaith bechod. Eccl. 1. 21. a'r. 15. 1. Ac fe ddywaid ailwaith, Y neb a ofna Dduw a wna weithredoedd da.

¶ Y drydydd rhan o'r bregeth am ffydd.

CHwi a glywſoch yn yr ail rhan o'r bregeth hon, na ddylai neb feddyliaid fod gantho fywiol ffydd, yr hon a ganmol yr Scrythur lan, yr hyd ybytho efeyn byw yn a'nufydd i gyfraithiau Duw. O herwydd mae pob gweithredoedd da yn tyfu oddiar y ffydd honno. Ac megis y manegwyd i chwi wrth ſiamplau, fod ffydd yn gneuthur dynnion yn ddiogel, yn llonydd, ac yn oddef-gar ymhob cyfyngder. Yn awr gwrādewch ynghylch yr vn peth, pa beth a ganlyn.

Fe ddichon dyn yn ebrwydd ei dwyllo ei hun, a thybied yn ei fewddwl ei fod ef trwy ffydd yn adnabod Duw, yn ei garu ef, ac yn ei ofni ef, ac yn perthyn atto, er ei fod ef ymmhell oddiwrth wneuthur a bod felly. O herwydd barnudd yr holl bethau hyn yw duwiol a Chriſtionogawl fywyd; Yr vn a glywo ei galon yn ceiſio anrhydedd Duw, ac a fyfyrio a'r gael gwybod ewyllys a gorchymynion Duw, ac a'i goſodo ei hun at hynny, ac a fytho 'n arwain ei fywyd nid yn ol chawntau 'r cnawd i waſanaithu diawl trwy bechod, ond a oſodo ei feddwl i waſanaithu Duw, er mwyn Duw ei hun, ac er ei fwyn ef hefyd i garu ei holl gymmydogion, pa vn bynnag a font a'i ei geraint a'i ei wrthwynebwyr, gan wneuthur daioni i bob dyn pan fytho lle ac amſer yn gwaſanaethu, ac heb wneuthur o'i fodd ddrwg i neb, y fath ddyn a ddichon yn ddifai lawenhau yn Nuw, gan wybod wrth ei fywyd fod gantho yn ddiffuant wir ac vniawn wybodaeth o Dduw, ffydd fywiol, gobaith diogel, a gwir ac vniawn gariad ac ofn Duw.

Ond yr hwn a daflo ymmaith iau gorchymynidn Duw oddiar ei wddf, ac a'i rhoddo ei hun i fyw yn ddietifeiriol yn ol ei gnawdol feddwl a'i ewyllys, ac heb ofalu am wybod gair Duw, chwaethach byw yn ei ol ef: Mae 'r fath ddyn yn eglur yn ei dwyllo ei hun, ac nid ydyw yn gweled ei galon ei hun, os ef ſydd yn meddwl ei fod yn adnabod Duw, yn ei garu ef neu yn ei ofni neu yn ymddiried ynddo. Fe allai y tybygai rhai eu bod yn perthyn at Dduw er ei bod yn byw mewn pechod: ac felly hwy a ddawant i 'r eglwys ac a'u dangoſant eu hunain megis pe byddent anwyl blant Duw. Ond fe ddywaid Ioan yn eglur, os ni a ddywedwn fod ini gymdeithas ag ef, a rhodio 1. Ioan. 1. 7. yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym a'r y gwir.

Eraill ſydd yn ofer feddwl eu bod yn adnabod ac yn caru Duw er na ofalant am ei orchymynnion ef. Ond fe ddywaid Ioan yn oleu ddigon; Yr hwn a ddywaid, mi a'i hadwen ef, ac ni cheidw ei orchymynion celwyddog ydyw, a'r gwirionedd nid yw ynddo. 1. Ioan. 2. 4.

Mae rhai yn credu eu bod yn caru Duw er eu bod yn caſhau eu cymmydogion. Ond amlwg y dywaid Ioan, Os dywaid neb ei fod yn caru Duw ac yntef yn caſhau ei frawd, celwyddog yw. Yr 1. Ioan. 4. 20. hwn a ddywaid ei fod yn y goleuni ac a gaſhao ei frawd yn y tywyllwch y mae fe hyd hyn. Yr hwn 1. Ioan. 2. 9. 10. 11. a gar ei frawd ſydd yn aros yn y goleini ond yr hwn a gaſhâo ei frawd yn y tywyllwch y mae le 'n rhodio, ac ni wyr i ba le y mae yn myned, gan ddarfod i'r tywyllwch ddallu ei lygaid ef. Achefyd ef a ddywaid, wrth hyn yr adwaenir plant 1. Ioan. 3. 10. Duw a phlant diawl: pwy bynac ni wna gyfiawnder, nid yw o Dduw, na'r hwn ni char ei frawd.

Na thywllwch am hynny eich hunain, gan dybied eich bod a ffydd yn-Nuw, neu yn caru Duw neu yn ymddiried ynddo ac yn ei ofni, yr hyd y byddoch byw mewn pechod. O herwydd mae eich by wyd annuwiol pechadurus chwi yn cyhoeddi y gwrthwyneb, pa beth bynnag a dybygoch neu a ddywedoch chwi eich hunain. Dylyed Chriſtion yw bod a'r wir a'r Griſtionogawl ffydd hon ynddo, ei chwilio a'i holi ei hun, pa vn a wna hi ai bod gantho ai nad ydyw, a gwybod pa bethau a berthynant iddi, a pha fodd y mae hi yn gweithio yndo. Nid i'r byd y gallwn ymddiried, oferedd yw y byd a phob peth ac ſydd ynddo. Duw ſydd raid bod yn ymddiffynnwr ac yn nawddwr i ni yn erbyn pob profedigaeth anwiredd a phechod, yn erbyn pob amryfyſedd, ofergoel, delwaddoliad, a phob drygioni. Pe byddai 'r holl fyd o'n rhan ni, a Duw yn ein herbyn, pa elw a allai 'r byd ei ddwyn i ni? Dodwn am hynny ein holl ffydd a'n gobaith yn-Nuw ac ni ddichon y byd na diafol a'i holl nerth orchfygu yn ein herbyn.

Chwiliwn am hynny Griſtionogion da a holwn ein ffydd, pa beth ydyw hi: na wenheithiwn ein hunain, onid edrychwn ar ein gweithredoedd, ac felly barnwn pa fath ffydd ſydd gennym.

Oblegyd y peth hyn y mae Chriſt ei hun yn dywedyd yr Math. 7. 8. adwaenir y pren wrth ei ffrwyth. Gwnawn am hynny weithredoedd da, a thrwy hynny dangoſwn fod ein ffydd yn fŷwiol ac yn Griſtionogawl. Dangoſwn fod ein etholedigaeth yn ddiogel ac yn ſafadwy, drwy 'r rhinweddau a ddylei darddu o ffydd fal y dywaid Petr, Byddwch . Pe . 1. 10. ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn ſiccr. Ac fe orchymmyn ini gyſſylltu ynghŷd â ffŷdd rhinwedd, ynghyd a rhinwedd gwybodaeth, ynghŷd à gwybodaeth gymmedrolder, ynghŷd â chymmedrolder ammynedd, ynghŷd âg ammynedd Dduwioldeb, ynghŷd â Duwioldeb Verſ. 6. 7. garedigrwydd brawdol, ynghŷd â charedigrwydd brawdol gariad. Felly y gallwn yn wirionedd ddangos fod gennym fywiol a Chriſtionogawl ffydd: ſiccrhau ein cydŵybod yn well ein bod yn yr iniawn ffydd, a thrwy y moddion ymma gadarnhau eraill hefyd. Os y ffrwythau hyn ni chanlynant nid ydym onid cellwair â Duw, ein twyllo 'n hunain ac eraill hefyd. Difai y gallwn fod yn dwyn enw Chriſtionogion, ond mae arnom eiſiau gwir ffydd, heb yr hon nid oes neb yn Griſtion.

O herwydd mae gwir ffydd yn dwyn gweithredoedd da yn waſtadol, am hyn y dywaid Iaco, dangos i mi dy ffydd trwy dy weithredoedd. Rhaid i'th orchwylion a'th weithredoedd fod yn dyſtion Iac. 2. 18. eglur o'th ffydd: os amgen os dy ffydd a fydd heb weithredoedd da, nid ydyw onid ffydd y diawl, ffydd yr anuwiol, llun neu ddynwarediad ffydd, ac nid y wir a'r Griſtionogawl ffydd.

Ac megis nad ydyw diafol a phobl ddrwg yn well o herwydd eu ffydd dwyllodrus, ond ei bod hi yn chwaneg o achos damnedigaeth iddynt: felly y rhai a fedyddiwyd, ac a dderbynniaſont wybodaeth am Dduw, ac am haeddiant Chriſt: ac etto o fwriad byw yn ſegurllyd heb weithredoedd da (gan dybied fod ffydd Noeth yn ddigon iddynt, neu gan oſſod eu meddwl ar wag-hoffderau 'r byd) ydynt yn byw mewn pechod ac yn ddietifeiriol, heb ddwyn y ffrwythau a berthynant at y fath vchel alwedigaeth. Ar vcha 'r fath rhyfygus ddynion ac ewyllyſgar bechaduriaid mae 'n rhaid cwympo mawr ddigofaint Duw a choſp tragwyddol yn vffern a ddarparwyd i'r rhai ydynt yn byw yn anghyfion ac yn ddrwg.

Am hynny fal yr ydych yn dwyn enw Chriſt (Griſtionogion daionus) na thwylled cam-dyb am ffydd chwi vn amſer, ond byddwch ſiccr o'ch ffydd a holwch hi wrth eich bywyd, edrychwch ar y ffrwythau ſydd yn dyfod o honi, ſynnwch argynnydd cariad a charedigrwydd o honi, tuag at Dduw a'ch cymmydogion: yno y gellwch ddeall ei bod hi yn wir ffydd fywiol. Os byddwch yn deall ac yn yſtyriaid fod y fath ffydd ynoch llawenhewch am dani hi, byddwch ddieſcaelus i'w phorthi hi, megis yr arhoſſo hi yn waſtad ynoch, cynydded beunydd a thyfed fwyfwy yn waſtadol trwy wneuthur yn dda. Felly y byddwch ſiccr i fodloni Duw trwy eich ffydd: ac yn y diwedd (megis yr aeth gwyr ffyddlon eraill yn y blaen) felly yr ewch chwithau atto ef hefyd, pan fytho ei ewyllys ef, ac y derbynnwch ddiwedd a gwobr diwethaf eich ffydd, yr hwn (fal y gailw S. Peter ef) yw Iachawdwriaeth eich eneidiau, yr hyn Duw a'i canniatao ini yr hwn a'i haddawodd ef i'w ffyddloniaid, i'r hwn y bytho anrhydedd a gogoniant yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Pregeth am weithredoedd da a gyſſyllter â ffydd.

YN y bregeth ddiwethaf y manegwyd i chwi pa beth yw gwir a bywiol ffydd Griſtionogawl, yr hon y ſydd yn gwneuthur i ddyn na byddo ſegurllydd, onid yn ei waith yn waſtad yn gwneuthur gweithredoedd da megis y gwaſanautho 'r lle, ar amſer. Yn awr trwy nerth Duw y manegir yr ail peth a nodwyd o'r blaen am ffydd, na ellir hebddi wneuthur vn weithred dda gymeradwy a hoff gan Dduw.

O herwydd fal y dywaid ein Iachawdwr Chriſt, ni all canghen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, ſef onid erys yn y winwydden: felly ni ellwch Ioan. 15. 4. 5. chweithau onid arhoſwch ynoſi. Myfi yw 'r winwydden chwithaw yw 'r canghennau, yr hwn a arhoſſo ynofi a minnau ynddo yntef, hwnnw a ddwg ffrwyth lawer: cans hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim. Ac mae S. Pawl yn profi fod gan Enoch ffydd, am iddo fodloni Duw: O herwydd heb ffydd ni ellir bodloni Duw. Ac Heb. 11. 5. 6. ail waith mae fe 'n dywedyd at y Rufeiniaid, Pa beth bynnag nid yw o ffydd pechod yw. Ruf. 14. 23.

Ffydd ſydd yn rhoddi goleum i'r enaid. Ac mae y rhai a ſydd heb ffydd mor feirw gerbron Duw, ac yw celanedd heb eneidiau gerbron y byd. Er tecced ac er mor ogoneddus ymmlaen dynion a fytho 'r gwaith a wnelom ni heb ffydd, etto nid yw ymmlaen Duw onid Marw. Megis nad ydyw delw gwedy ei charfio neu' ei pheintio onid rhith neu lun marw o'r peth ei hun, heb nabywyd nac vn gallu i yſcog ynddo, felly y mae gweithredoedd yr holl anffyddloniaid ymmlaen Duw. Maent yn ymddangos yn weithredoedd bywiol ac etto yn wir nid ydynt onid meirw heb fûdd ynddynt i fywyd trag wyddol. Nid ydynt ond llun a lledrith pethau bywiol da, ac nid pethau bywiol da ei hunain. Cans gwir ffydd ſydd yn rhoddi bywyd i'r gweithredoedd, ac ond o'r ffydd honno ni Ddaw gweithredoedd daionus da, o herwydd heb ffydd nid oes vn weithred yn dda ger bron Duw, fal y dywaid S. Awſtin, Nid oes ini ddodi In prefatio Pſal. 31. gweithredoedd da ymmlaen ffydd, na thybied y dichon dŷn cyn byddo ffydd gantho wneuthur vn weithred dda: O herwydd er bod y fath weithredoedd yn ymddangos ger bron dynnion yn ganmoladwy etto nid ydynt ymmlaen Duw onid ofer ac anghymmeradwy. Hwy a gyffelybir i redfa ceffyl a redo oddiar y iawnffordd gan gymmeryd poen fawr yn ofer. Na chyfrifed neb (medd ef) am hynny ei weithredoedd da ymmlaen ffydd. Lle nid oedd ffydd nid oedd gweithredoedd da; Y bwriad medd ef ſydd yn gwneuthur y weithred yn dda, ond rhaid yw bod ffydd yn arwain ac yn cyfarwyddo bwriad dyn.

Ac mae Chriſt yn dywedyd, Os dy lygad di a fydd drwg, fe fydd dy holl goph di yn dywyll. Mae Math. 6. 23. In prefatio Pſal. 31. 'r llygad medd S. Awſtyn yn arwyddoccau y bwriad trwy 'r hwn y mae dyn yn gwethur peth. Megis yr hwn ni wna weithredoedd da â duwiol fwriad a gwir ffydd yr hon a weithia trwy gariad, Mae 'r holl gorph heblaw hynny (hynny yw) holl rhifedi ei weithrydoedd ef yn dywyll, ac nid oes goleuni ynddynt. O herwydd nid ydys yn meſur gorchwylion da wrth y gweithredoedd noethion, ac nid felly yr ydys yn eu adnobod hwy oddiwrth faiau, onid wrth y bwriad a'r diwedd er mwyn yr hwn y gwnaethpwyd hwy. Os cenhedlddyn a ddillatta 'r Noeth, a bortha y newynog, ac a wna y fath weithredoedd eraill, etto can nad ydyw ef yn gwneuthur y pethau hyn o ffydd, er anrhydedd a chariad Duw, nid ydynt iddo ef onid gweithredoedd meirw anffrwythlon ofer. Ffydd ſydd yn canmol y weithred at Dduw. Oblegid fal y dywaid Awſtin na drwg na da fo gennym, mae 'r weithred ni ddaw o ffydd yn ddrwg: lle nid ydyw ffydd Chriſt yn ſylfaen, nid oes vn waithred dda, pa adailadaeth bynnag a wnelont arno. Mae vn weithred yn yr hon y mae pob gweithred dda, hynny yw ffydd yr hon a weithia trwy gariad. Os ydyw honno gennym mae gemnym ſylfaen yr holl weithredoedd da. O herwydd yr ydys yn rhoi rhinweddau nerth, ſynwyr, cymmedrolder, cyfiawnder, oll i gyd at ffydd.

Heb ffydd nid oes gennym vn o'r rhinweddau ymma, ond eu llun au henwau hwy yn vnic, fal y dywaid S. Awſtin, Mae holl fywyd y rhai ſydd heb ffydd yn bechod, ac nid oes dim da heb yr hwn a ſydd awdur pob daioni, lle nid ydyw efe nid oes yno onid lledrith rhinwedd yn y gweithredoedd gorau.

Ac fal y dywaid S. Awſtin wrth agoryd y vers Pſal, 84. 3. hon o'r Pſalm, fe gafodd y golommen nŷth lle caidw hi ei chywon) fod Iddewon anffyddlonion a Hereticiaid yn gwneuthur gweithredoedd da. Maent yn dillatta 'r noeth, yn porthi 'r tlawd, ac yn gwneuthur gweithredoedd y drugaredd: ond o herwydd nad ydynt yn eu gwneuthur â gwir ffydd, maen hwy yn coll ieu cywon. Ond os hwya arhoſant yn y ffydd fe fydd ffydd nyth a noddfa i'w cywon hwy, hynny yw nawddfa i'w gweithredoedd hwy fal na chollant eu holl wobr.

A'r hyn y mae Awſtin mewn llawer o lyfrau yn ei ddadleu yn halaeth, mae S. Ambros yn ei gynnwys mewn ychydig o eiriau, gan ddywedyd, yr hwn trwy annian a fynnei wrthwynebu beiau naill ai trwy ei naturiol ewyllys, ai drwy reſwn, ofer y mae fe 'n harddu amſer y bywyd ymma, ac nid ydyw yn gallu meddiannu gwir rinweddau, o herwydd heb addoli y gwir Dduw nid ydyw yr hyn a dybygir ei fod yn rhinwedd, onid bai.

Ac etto yn eglurach i'r defnydd ymma yr ſcrifenna In ſermone de fide, Lege & Spiritu ſancto. S. Chryſoſtom yn y geiriau hyn, Chwi a ellwch weled llawer heb wir ffydd ganthynt, ac heb fod o gorlan Chriſt, ac etto fal y gwelir, maent yn hoyw mewn daionus weithredoedd y drugaredd. Chwi a'u cewch hwynt yn llawn trugaredd, tiriondeb, a chwedy ymroi i gyfiawnder, e'r hynny nid oes iddynt ddim ffrwyth o'u gweithredoedd, am fod arnynt eiſiau y weithred bennaf. Cans pan ofynnodd yr Iddewon i Griſt pa beth a wnaent i wneuthur gweithredoedd da, fe a attebodd, hon yw gweithred Duw, credu o honoch yn yr hwn a anfonodd ef, fal y galwodd ef ffydd yn waith Duw. Ac er cynted y bytho ffydd gan ddyn, mae fe yn y fan yn ym hoywi mewn gweithredoedd da. O herwydd mae ffydd o honi ei hun yn llawn gweithredoedd da, ac heb ffydd nid oes dim yn dda.

Yn lle cyffelybaeth mae fe 'n dywedyd fod y rhai ſydd yn diſcleirio ac yn Llewyrchu. goleuannu mewn gweithredoedd da heb ffydd yn-Nuw, yn debyg i wyr meirw yn gorwedd mewn beddau gwerthfawr gwych, ac etto heb fuddio iddynt. Ni ddichon ffydd fod yn noeth heb weithredoedd da, o herwydd yno nid yw hi wir ffydd: a phan gydſylltir hi â gweithredoedd, etto mae hi vwchlaw 'r gweithredoedd. O herwydd megis yn gyntaf y mae bywyd mewn dynnion y rhai ydynt wir ddynion, ac yn ol bod bywyd yr ydys yn eu hymborth hwynt: felly mae yn rhaid i ffydd ynghriſt fyned o'r blaen, ac yn ol hynny rhaid yw ei phorthi â gweithredoedd da. Fe ddichon bod bywyd heb ymborth, ond ni ddichon bod ymborth heb fywyd.

Rhaid i ddyn gael ei ymborth trwy weithredoedd da, ond rhaid yw bod ffydd gantho yn gyntaf. Yr hwn a wna weithredoedd da, ac heb ffydd, nid oes bywyd ynddo. Mi a fedraf ddangos vn heb weithredoedd a fu fyw, ac a ddaeth i'r nef, ond heb ffydd ni bu fywyd mewn dyn er ioed. Fe a gredodd y lleidr yn vnic yr hwn a grogwyd pan dioddefodd Chriſt, ac fe a gyfiawnhaodd y trugaroccaf Dduw ef. A rhag dywedyd o neb ailwaith fod arno eiſiau amſer i wneuthur gweithredoedd da, ac oni buaſe hynny y gwnelſai fe hwy. Gwir yw, nid ymryſonaf ddim yn hynny: ond hyn a ddywedaf yn ſiccr ddigon, i ffydd yn vnic ei gadw ef. Pe buaſei fe yn byw ac heb ofalu am ffydd a'i gweithredoedd, fe a gollaſai ailwaith ei gadwedigaeth. Ond hyn yw 'r cwbl yr ydwyf yn ei ddywedyd, i ffydd o honi ei hunan ei gadw ef, ac na chyfiawnhaodd gweithredoedd o honynt eu hunain ddyn er ioed.

Ymma y clywſoch feddwl S. Chryſoſtom gan yr hwn yr ydych yn deall nad ydyw ffydd heb weithredoedd, os bydd lle ac amſer i'w gwneuthur hwy, ac na ddichon gweithredoedd heb ffydd leſhau i fywyd tragwyddol.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am weithredoedd da.

FE fanegwyd i chwi eiſioes ddau beth o'r tri a nodaſid yn enwedig ynghylch ffydd yn y bregeth ddiwethaf.

Y cyntaf yw nad ydyw ffydd vn amſer yn ſegur heb weithredoedd da pan fo pryd ac amſer i'w gwneuthur hwy.

Yr ail, na ellir gwneuthur gweithredoedd da cymmeradwy ger bron Duw heb ffydd.

Weithian awn at y trydydd, Lle y dangoſir pa fath weithredoedd ydyw y rhai a darddant o wir ffydd, ac a hebryngant ddynion duwiol i dragwyddol fywyd. Hyn ni ellir ei ddyſcu yn well na chan Griſt ei hun, i'r hwn y gofynnodd rhyw ŵr mawr yr vn pwngc, Pa weithredoedd a wnafi, eb rhyw ly wodraethwr, i ddyfod i dragwyddol fywyd? i'r hwn yr attebodd Ieſu,

Os mynni ddyfod i fywyd tragwyddol, cadw y gorchymynion. Ond y llywodraethwr heb ei fodloni trwy hyn, a ofynodd ymhellach, Pa orchymynion? Fe wnelſe yr ſcrifenyddion a'r Phariſęaid gymmaint o gyfraithiau a thraddodiadau o'r eiddynt eu hunain i hebrwng dynion i'r nef, heblaw gorchymynion Duw, na wyddai y gwr ymma trwy ba vn y dawai ef i'r nef, ai trwy y cyfraithiau a'r traddodiadau hynny, ai trwy orchymynion Duw.

Ac am hyn y gofynnodd, pa orchymynion yr ydoedd Chriſt yn eu meddwl. I'r hwn y gwnaeth Chriſt atteb golau, gan gyfrif iddo orchmynion Duw, a dywedyd, Na ladd, na wna odineb, na ledratta, na ddwg gamdyſtiolaeth, Anrhydedda dy dâd a'th fam, Car dy gymmydog fal dy hun. Trwy 'r hyn airiau y dangoſodd Chriſt mai gorchymynion Duw ac nad traddodiadau a chyfraithiau dynion yw 'r vniawn ffordd ſydd yn ein hebrwng ni i fywyd tragwyddol: fal y dyleid cymmeryd hon yn gywiraf gwerſ a ddangoſwyd trwy enau Chriſt ei hunan, mai gweithredoedd cyfraith foeſawl Dduw yw gwir weithredoedd ffydd, y rhai a dywyſant i'r bendigedig fywyd ſydd ar ddyfod. Ond yr ydoedd dallineb a chenfigen dyn o'r dechreuad yn barod i gwympo oddiwrth orchymynion Duw. Megis Adda y gwr cyntaf yr hwn er nad oedd gantho orchymmyn onid vn, na fwytae o'r ffrwyth gwaharddedig, etto er gorchymmyn Duw fe a gredodd y wraig yr hon drwy ddichell y ſarph a dwyllaſid: ac felly a ganlynodd ei ewyllys ei hun, gan adel heibio orchymmyn Duw.

Ac er yr amſer hynny etto fe ddallwyd pawb oll a ddaethont o hono, trwy ddechreuol bechod, hyd onid oeddynt barod i gwympo oddiwrth Dduw ai gyfraith, ac i ddychymmygu ffordd newydd i Gadwedigaeth trwy weithredoedd o'u ddychymmyg eu hun: hyd oni chrwydrodd haychen yr holl fyd ynghylch amcanion eu calonnau eu hunain, gan ymwrthod a gwir anrhydedd yr vnic a bythfywiol Dduw, gan addoli, rhai yr haul, y lleuad, y ſer, rhai Iupiter, rhai Diana, rhai Iuno, Saturn, Apollo, Neptun, Ceres, Bacchus, a gwyr a gwragedd meirw.

Rhai ni allid a hyn eu digoni, a addolaſant amryw anifeiliaid, adar, pyſcod, ehediaid, a gwiberod, pob gwlad, tref, a thy haychen gwedy eu rhannu, gan oſod ac adoli delwau y pethau a'u bodlonent.

Mor ynfyd oedd y bobl gwedy iddynt gwympo at eu hamcanion eu hunain, a rhoi i fynydd y tragwyddol a'r bywiol Dduw a'i orchmynion, ac y dychmygaſont iddynt eu hunain aneirif ddelwau a Duwiau.

Yn yr hwn gamſynnaeth a thywyllwch yr oeddynt yn aros nes i'r holl-alluog Dduw gan doſturio wrth ddallineb dyn, ddanfon i'r byd ei gywir brophwyd Moeſes i argyoeddi ac i geryddu yr anfad ynfydrwydd ymma, ac i ddyſcu 'r bobl i adnabod yr vnic fywiol Dduw, a'i wir anrhydedd a'i addoliad. Ond mae llygredig duedd dyn gwedy ymroi mor gwbl i ddilyn ei feddwl ei hun, ac fal y oywedwn, i fawrhau 'r aderyn Fagodd. a faethrinodd ef ei hun, nad ydyw yr holl rybyddiau, annogiaethau, daionus ddoniau na bygythiau Duw, yn abl i'w gadw ef oddiwrth y fath ddychymmygion.

O herwydd er holl ddoniau Duw a dywalltwyd ar blant yr Iſrael, etto pan aeth Moeſes i fynydd i ymddiddan â'r holl-alluog Dduw, nid arhoſaſai yno ond ychydig ddyddiau, nes i'r bobl wneuthur Duwiau newydd. Ac fal y daeth yn eu pennau, hwy a wnaethant lo o aur ac a benlinaſant i lawr ac a'i had dolaſant ef. Ac yn ol hyn Exod. 32. hwy a ddilynaſant y Moabiaid, ac a addolaſant Beel phegor Duwy Moabiaid.

Darllenwch lyfr y Barnwyr, llyfrau y brenhinoedd a'r prophwydi, ac yno y cewch weled mor 〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉 anwadal oedd y bobl, mor llawn o amcanion, a pharotach i ddilyn eu ffanſiau eu hunain nâ ſancteiddiaf orchymmynion Duw. Yno y gellwch ddarllen am Baal, Moloch, Chamos, Melchom, Baal-peor, Aſtaroth, Bel, y ddraig, Priapus, y ſarph bres, y dauddeg arwydd, a llawer o bethau eraill. I ddelwau y rhai mewn goſtyngeiddrwydd mawr y goſodai 'r bobl bererindodau, gan eu trwſio 'n werthfawr, arogldarthu, penlinio ac offrwm iddynt, gan dybied fod hynny yn haeddiant vchel ym-mlaen Duw: ac y cyfrifid hynny vwchlaw holl gyfraithiau a gorchymyniō Duw.

Ac lle daroedd i Dduw orchymmyn na wnaid vn aberth ond yn Ieruſalem, hwyntau o'r gwrthwyneb a wnaethant allorau ac aberthau ymmhob man, yn y mynyddoedd, yn y coedydd, ac yn y tai, heb wneuthur cyfrif o orchymmynion Duw, gan dybied fod eu hamcanion a'u crefydd eu hunain yn well nâ hwy. Ac fe waſcarwyd y camſynnaeth hynny cyfled, fel y llygrwyd nid yn vnic y cyffredin annyſcedig bobl, ond yr offeiriaid a'r dyſcawdwyr hefyd, trwy drachwant, gwagogoniant, ac anwybod i wneuthur yr vn rhyw ffieidd-dra. Yn gymmaint a phan nad oedd gan frenin Ahab onid vn Elias yn wir ddyſcawdr a gwenidawg Duw, yr oedd wythcant a deg a deigain o brophwydi yn ei annog ef i addoli Baal, ac i aberthu yn y coedydd a'r llwyni.

Ac fe a barhaodd y blin gamſynniaeth hynny, nes i'r tri brenin godidawg, Ioſaphat, Ezechias, a Ioſias, dewiſol wenidogion Duw, ddiniſtrio y pethau hynny yn gwbl: a dwyn ailwaith y bobl oddiwrth eu gwâg amcanion, at orchmynion Duw. Am yr hwn beth mae eu hanfarwol wobr, a'u gogoniant hwy yn aros gyda Duw yn dragywydd.

Ac heb law y traddodiadau a ſoniaſom ni amdanynt eiſioes, fe wnaeth tuedd dyn (er cael ei ſanctaidd addunedau ei hun) ſectau, a chrefyddau newydd, a elwid Phariſaeaid, Saducaeaid, ac ſcrifenyddion, a llawer (fal y tybygid oddifaes, ac wrth ymddangoſiad têg eu gweithredoedd) o draddodiadau ac ordeiniadau ſanctaidd duwiol, ond mewn gwirionedd yr ydoedd y cwbl oll yn arwain at ddelw-addoliad, ofergoel a rhagrith, gan fod eu calonnau oddifewn yn llawn cenfigen, balchedd, trachwant a drygioni.

Yn erbyn y ſectau hynny a'u ſancteiddrwydd ragrithiol y gwaeddodd Chriſt yn danbeitach nag yn erbyn vn rhyw ddynion eraill, gan ddywedyd a mynych adrodd y geiriau hyn, gwae chwi ſcrifenyddion a Phariſęaid ragrithwyr, canys yr ydych Matth. 23. 25. yn glanhau y tu allan i'r cwppan a'r ddyſcl, ac o'r tu mewn llawn ydych o yſpail a brynti. Tydi Phariſęad dall, glanha yn gyntaf y tu mewn i'r Phiol. cwppan a'r ddyſcl. O herwydd er eu holl wych draddodiadau, ac ymddangoſiadau eu gweithredoedd da oddiallan, y rhai a wnelſent o'u meddylfryd eu hunain, trwy y rhai yr ymddangoſent i'r byd yn grefyddgaraf ac yn ſancteiddiaf o wyr y byd, etto fe wyddiai Griſt yr hwn a welodd eu calonnau hwy eu bod oddifewn ger bron Duw, yn anſanteiddiaf yn ddiffeithiaf ac ym-mhellaf oddiwrth Dduw o holl wyr y byd, ac am hynny y dywaid wrthynt, O ragrithwyr, da y prophwydodd Eſaias am danoch chwi, gan ddywedyd, Math. 15. 8, 9. Neſau y mae 'r bobl hyn attaf â'u genau a'm anrhydeddu au gweuſau, onid eu calon ſydd bell Eſai. 29. 13. oddiwrthyf: ofer y'm anrhydeddant i gan ddyſcu gorchymmynion dynnion yn ddyſceidiaeth, yr ydych Mat. 15. 3. yn torri gorchymmyn Duw trwy eich traddodiad chwi.

Ac er bod Chriſt yn dywedyd eu bod hwy yn addoli Duw yn ofer, trwy ddyſcu athrawiaethau a gorchymmynion dynnion, etto nid oedd Chriſt trwy hyn yn meddwl diſtry wio holl orchymmynion dynion, o herwydd ef ei hun a fu vfydd i dywyſogion a'u cyfraithiau a wnaeth pwyd er trefnu a llywodraethu 'r bobl. Onid fe a argyoeddai y cyfraithiau a'r traddodiadau a wnaethai 'r ſcrifenyddion a'r Phariſaeaid, y rhai ni wnaethpwyd yn vnig er daionus drefnu 'r bobl, (megis y gwneuthpwyd cyfreithiau moeſol) onid hwy a oſodaſid cyfuwch fal y gwneuthpwyd hwy yn bur ac yn iawn addoliad Duw, megis pe buaſent gogyfuwch â chyfraithiau Duw, neu vwch eu llaw hwy.

O herwydd ni ellid cadw llawer o gyfraithiau Duw, ond gorfod arnynt roddi lle i'w cyfreithiau hwy. Dymma 'r rhyfyg yr oedd Duw yn ei gaſhau yn fawr, i ddyn dderchafu ei gyfraithiau ei hun, a'u gwneuthur yn ogyfuwch â gorchymynnion Duw, yn y rhai y mae anrhydedd ac iawn addoliad Duw yn ſefyll, a pheri gadu heibio er mwyn y rhai hynny ei gyfraithiau ef ei hun.

Fe a oſſododd Duw ei gyfraithiau ei hun trwy y rhai y mynn ei anrhydeddu. Ei ewyllys ef hefyd yw cadw o'r bobl ac vfyddhau i bob cyfraithiau dynion drwy na wrthwynebant ei gyfraithiau ef, megis daionus ac anghenraid i bob daioni cyffredinawl: ac er hyn nid megis yn y rhai yn bennaf y mae anrhydedd Duw yn ſefyll. Ond ſe wnair neu fe ddylid gwneuthur holl foeſawl gyfraithiau dynnion er dwyn dynnion yn well i gadw gorchymmynion Duw, fal o hyn yr anrhydeddid Duw drwyddynt hwy yn well.

Etto nid oedd fodlon gan yr ſcrifennyddion a'r Phariſaeaid na chyfrifaſid eu cyfraithiau hwy yn v wch nâ chyfraithiau goſodedig moeſawl eraill, ac ni fynnent eu galw hwy wrth enwau cyfraithiau bydol eraill, ond hwy a'u galwent yn draddodiadau ſāctaidd, duwiol, ac a fynnynt eu cyfrif hwy nid yn vnic yn iawn ac yn wir addoliad Duw (megis yn wir y mae cyfraithiau Duw) onid hefyd vn vchel anrhydedd Duw, i'r hwn y dylyei orchymyniō Duw roi lle. Dymma 'r achos y dywedai Griſt mor llym yn eu herbyn hwy, gan ddywedyd, mae eich traddodiadau ſydd mor fraintus ger bron dynion, yn gaſineb ger bron Duw. O herwydd fynychaf o'r fath draddodiadau y canlyn troſeddu neu dorri gorchymynion Duw, a mwy o ddefoſiwn i gadw y fath bethau, ac yn fwy yn erbyn cyd wybod eu torri hwy, nâ thorri gorchymynion Duw. Megis y cadwe yr ſcrifenyddion a'r Phariſęaid y Sabaoth yn y fath ofergoel, ac mor arſwydus, hyd oni ddigient wrth Griſt am iddo ar y Sabaoth iachau y cleifion: ac Mat. 12. 2, 13. wrth ei Apoſtolion am iddynt ar y dydd hwnnw, a hwyntau yn newynog gynnull tywys ŷd i'w v wyta, ac am na byddai ddyſcyblon Chriſt yn golchi eu dwylaw cy fynyched ac y gorchymynne eu traddodiadau hwy, y cweryle yr ſcrifenyddion a'r Phariſęaid ar Griſt gan ddywedyd, paham y mae dy ddiſcyblon di yn torri traddodiadau yr henuriaid ond fe a attebodd Chriſt hwy gan ddangos eu bod hwy trwy eu traddodiadau eu hunain Mat. 15. 2, 3. yn torri gorchymmynion Duw.

O herwydd hwy a ddyſcent i'r bobl y fath grefydd ar fod iddynt offrwm eu da i dryſordŷ 'r deml, yn rhith anrhydeddu Duw, gan adel eu tadau a'u mammau y rhai yr oeddynt yn rhwymedig i'w cymmorth, heb ymwared; Ac felly y torraſont orchymynion Duw, i gadw eu traddodiadan eu hunain. Yr oeddynt hwy yn cyfrif yn fwy y llw a wnaid i'r aur neu 'r offrwm yn y deml, nâ 'r llw a wnaid yn enw Duw ei hun, neu i'r deml; Yr oeddynt yn gyflymmach i dalu eu degymmau o bethau bychain, nag i wneuthur pethau mwy a orchymmynnaſai Dduw megis gweithredoedd y drugaredd, gwneuthur cyfiavonder, a gweuthur Math. 23. v. 23. yn ddihocced, yn vniawn, ac yn ffyddlon â Duw a dyn.

Y pethau hyn medd Chriſt ſydd raid eu gwneuthur, ac na a dawer y llaill heb wneuthyd. Ac i ddiweddu, yr oeddynt mor ddeillion ac y tramgwyddwent wrth welltyn, ac y neident dros gŷff. Hwy a fyddent fanol i dynu gwybedyn fach o'u diod, ac er hynny hwy a lyngcent gammel. Am hynny y galwodd Chriſt hwy yn dywyſwyr deillion, gan rybyddio ei ddyſcyblon o amſer i amſer i wagelyd eu athrawaeth hwy. O herwydd er eu bod hwy yngolwg y byd yn wyr perffaith yn eu bywyd a'u hathrawaeth, etto nid ydoedd eu bywyd onid rhagrith, na'u hathrawaeth onid ſurdoes, gwedy ei gymyſcu ag ofergoel, delwaddoliad a chamfarn, gan oſod i fynydd draddodiadau ac ordeiniadau dŷn yn lle gorthymmynion Duw.

¶Y trydydd ran o'r bregeth am weithredoedd da.

FAl y gallai bawb iawn yſtyriaid gweithredoedd da, fe fanegwyd yn yr ail rhā o'r bregeth hon, pa fath weithredoedd da yw y rhai a fynnai Douw i'w bobl rodio yndynt: hynny yw y rhai a orchymmynnodd ef yn ei ſanctaidd ſcrythur, ac nid y fath weithredoedd a ddychymmygodd dynnion o'u ymmenyddau eu hunain, o zêl ddall a defoſiwn, heb air Duw. Ac wrth gamgymmeryd annian gweithredoedd da, fe a anfodlonodd dŷn Dduw yn fawr, ac aeth oddiwrth ei orchymynion ef a'i ewyllys.

Ac fal hyn y clywſoch mor barod oedd y byd o'r dechrau hyd amſer Chriſt i gwympo oddiwrth orchymmynnion Duw, ac i geiſio moddion eraill i'w anrhyddeddu a'i waſanaethu ef yn ol y defoſiwn a wnelſent o'u pennau eu hunain. A pha fodd y goſodaſant eu traddodiadau eu hunain gogyfuwch, neu vwchben gorchymynion Duw.

Yr hyn beth a ddigwyddodd yn ein amſeroedd ninnau, mor gyflawn ac ymmlhith yr Iddewon: a hynny trwy lygredigaeth neu ar y lleiaf trwy eſcaeluſdra y rhai a ddylaſent fwyaf dderchafu gorchymynnion Duw, a chadw ei bur a'i nefol athrawaeth ef a adawodd Chriſt ini. Pa wr ac ynddo na barn, na dyſc, gwedy ei chyſſylltu a gwir zêl tuag at Dduw, na wyla ac na alara ddyfod i mewn i greddyf Griſt y fath gau-athrawaeth, ofergoel, delwaddoliad, a rhagrith, ac anafus faiau, a chamarferon eraill, hyd oni rwyſtrwyd bob ychydig, ac oni ddodwyd heibio fara melys ſanctaidd air Duw trwy ſurdoes y pethau hynny. Ni bu gan yr Iddewon er ioed yn eu dallineb mwyaf cyunifer pererindod at ddelwau mudion, ac ni arferwyd gymmaint o benlinio, o guſanu ac o offrwm, ac a arferwyd yn ein hamſer ni.

Ni bu er ioed y ddeugeinfed ran o'r ſectau a'r gaugrefyddau ymlith yr Iddewon, ac nid arferwyd hwy yn annuwiolach nac mewn mwy o ofergoel, nag yr arferwyd hwy yn hwyr yn ein myſc ni. Yr hyn ſectau a chrefyddau oedd ganthynt y ſawl ragrithiedig gau-weithredoedd yn ei crefydd (megis yn rhyfygus y galwent hi) fal yr ydoedd eu lluſernau (meddent) yn rhedeg droſodd yn waſtad, yn abl i wneuthuriawn nid yn vnig dros eu pechodau eu hunain, onid hefyd dros bawb eraill o'u cymwynaſwyr, brodyr, a chwiorydd mewn crefydd. Megis yn annuwiol ac yn ddichellgar yr hudaſent y bobl annyſcedig, gan gad w mewn llawer mann megis ffeiriau a marchnodoedd o'u haeddedigaethau, y rhai oeddent yn llawn o greiriau ſanctaidd, o ddelwau, ac o weithredoedd gweddill, yn rhedeg droſodd yn barod i'w gwerthu. Pob peth ac oedd ganthynt a elwid yn ſanctaidd, peiſiau ſanctaidd, gwregyſau ſanctaidd, pardynau ſanctaidd, padreuau ſanctaidd, eſcidiau ſanctaidd, rheolau ſanctaidd, a phob peth yn llawn ſancteiddrwydd.

Pa beth a ddichon bod yn ffolach yn annuwiolach neu yn llawnach o ofergoel nag i wyr, gwragedd, a phlant wiſco pais manach i'w gwared oddiwrth y Cryd neu'r nodau. dderton neu 'r cowyn: a phan fyddent farw a phan gladdid hwy, peri taflu hwnnw arnynt, gan obeithio twy hwnnw gael bod yn gadwedig? Yr hyn ofergoel er nad arferwyd (i Dduw y bytho 'r diolch,) ond yn ambell o fewn y deyrnas hon, etto mewn llawer o deyrnaſoedd eraill fe arferwyd, ac a arferir etto, ymhlith dyſcedig ac annyſcedig.

Ond i adel heibio 'r ofergoel aneirif a ſu ganthynt mewn trwſiadau dieithr, mewn gwybodaeth, mewn hun-deiau, mewn cloſterau, mewn Capidylau, mewn dewiſ-ſwydau, diodydd, a'r fath bethau, yſtyriwn pa anferthrwydd a fu yn y tri phwngc pennaf o'u creſydd hwy, y rhai a alwent yn dri anianol neu yn dri ſylfaen diogelaf o grefydd: hynny yw vfydd-dod, di weirdeb, ac ewyllyſgar dlodi.

Yn gyntaf yn rhith vfydd-dod i'w tâd enaid, yr hwn vfydd-dod a wnaethont hwy eu hunain, hwy a ryddhawyd trwy eu rheolau a'u canonau oddiwrth vfydd-dod i'w tadau a'u mammau cnawdol, oddiwrth vfydd-dod i'r yinherodr, i'r brenin a phob gallu bydol, y rhai a ddylent ac wrth gyfraithiau Duw yr oeddent rwymedig i vfyddhau iddynt. Ac felly fe wnaeth cymmeryd arnynt vfydd-dod annyledus iddynt wrthod eu dyledus vfydd-dod.

Ac yn wir honeſtach yw diſtewi na ſon am y modd y cadwent broffes eu diweirdch, a gadu i'r bydfarnu y peth a W. . wyddys yn dda, na thrwy eiriau ſerth bryntion wrth fanegu eu brwnt fywyd hwy, digio cluſtiau duwiol glân.

Ac am eu ewyllyſgar dlodi hwy, y cyfryw ydoedd, fal pan oeddynt mewn meddiannau tlyſſau arian a chyfoeth yn ogyfuwch, neu vwchlaw marſiandwyr, boneddigion, barwniaid, iairll a duwciaid, etto wrth y term twyllodrus dichellgar hwnnw proprium in communi, hynny yw priodol mewn cyffredinolrwydd, y gwatwarent yr holl fyd, gan beri iddynt gredu er eu holl gyfoeth a'u meddiannau, eu bod hwy yn cadw eu llw a'u hadduned, ac yn byw mewn ewyllyſgar dlodi. Ond er eu holl gyfoeth ni allent nerthu na thâd na mam na neb eraill ac oedd wir anghenus dlodion, heb gennad eu tâd Abad, prior, neu warden.

Etto hwy allent gymmeryd gan bawb, ond ni allent roi dim i neb, na allent i'r rhai yr oeddynt rhwymedig wrth gyfraithiau Duw i'w cymmorth. Ac felly trwy eu traddodiadau a'u rheolau hwy, ni chae gyfraithiau Duw reoli yn eu myſc hwy.

Ac am hynny y gallid yn ddifai ddywedyd am danynt yr hyn a ddywedodd Chriſt wrth y Phariſęaid, Yr ydych yn torri gorchymmynion Duw Math. 15. 3. 8. â'ch traddodiadau, yr ydych yn anrhydeddu Duw â'ch gwefuſau, a'ch calonnau ydynt bell oddiwrtho: a pha hwyaf oedd y gweddiau a arferent ddydd a nos mewn lliw a rhith o'r cyfryw ſancteiddrwydd, i ennill ewyllys da gwragedd anwadal, a dynion anddichelgar eraill, fal y gallent ganu offerennau a gwaſanaeth dros eu gwŷr a 'u ceraint, a'u gollwng hwy, au derbyn i'w gweddiau, cyfiawnach a gwirach y dywedir am danynt ymadrodd Chriſt, Gwae chwi ſcrifenyddion a Phariſęid ragrithwyr, canys yr ydych yn difa tai gwragedd gweddwō yn rhith hir weddio, am hynny y derbynniwch farn fwy: gwae chwi ſcrifenyddion a Phariſęaid ragrithwyr, canys amgylchu yr Math. 23. 14. 15. ydych y mor a'r tir i wneuthur vn proſelyt neu frawd newydd, a chwedy darffo i chwi eu derbyn hwy i mewn au cymeryd i'ch ſect, yr ydych yn eu gwneuthur yn blant vffern yn waeth nâ chwi eich hunain.

Moliant i Dduw a oſododd ei oleuni ynghalon ei ffyddlon was a'i wenidawc cywir brenin Harri 8. o goffaduriaeth glodforus, ac a roddes iddo wybodaeth ei air, ac ewyllys difri i geiſio ei ogoniant ef, ac i ddodi heibio bob ſectau Phariſaiaidd coelfucheddol, y rhai a oſodaſai Anghriſt yn erbyn gwir air Duw a gogoniant ei ſanctaidd enw ef, fal y rhoddodd ef yr vn rhyw Yſpryd i'r ardderchoccaf a'r clodforuſaf frenhinoedd Ioſaphat, Ioſias ac Ezechias. Duw a ganiatâo i ni oll ffyddlon a gwir ddeiliaid goruwchelder y brenin, ymborth a'r felus a blaſus fara gair Duw ei hunan, ac megis y gorchymynnodd Chriſt wagelyd ſurdoes rhith grefydd Phariſęaid a phapiſtiaid. Yr hwn er ei fod gan Dduw yn gas, ac yn wyrthwyneb i gyfraithiau Duw, ac i bur grefydd Griſt, etto fe ganmoled i fod yn dduwiolaf bywyd, ac yn ſtât vchaf o berffeiddrwydd. Fal pe gallai ddŷn fod yn dduwiolach ac yn berffeiddiach, wrth gadw rheolau, traddodiadau, a chyffeſau dynion, nag wrth gadw ſancteiddiaf orchymmynion Duw.

Ac ar ychydig airiau i adel heibio y rhywiau eraill ar grefydd, adroddwn ryw fathau o ofergoel a chamarferon papiſtiaid, megis padereuau, fallwyreu Mari, gwerſau ſaint Bernard, llythyrau S. Agathi o'r purdan, offerennau iawn, ſafiadau, Iubilęau, gau-greiriau, padereuau ſanctaidd, clych, bara, dwfr, palmwydd, canwyllau, tân bendigaid, a'r fath bethau coelfucheddol, ymprydiau, ffrieriaethau, brawdoliaethau, pardynau a'r fath farchnadiaethau: y rhai a wnaed gymmaint o honynt, ac a gamarfered er anferth ddirmygu gogoniant Duw a'i orchymynion: gan dybied eu bod hwy yn odidawgaf a ſancteiddiaf pethau a allai fod, i gael bywyd tragwyddolitrwyddynt, a maddauant o bechodau.

Ie hefyd fe dderchafed felly wag-amcanion, ceremoniau anffrwythlon, cy freithiau anuuwiol, goſodiadau a chynghorau Rufain, yn y fath fodd nad oeddid yn cyffelybu dim iddynt mewn awdurdod, ſynwyr, dyſc a duwloldeb, hyd oni ddywedent y dylyei bawb dderbyn cyfraithiau Rufain, megis y pedwar efangylwr, i'r rhai y dylyei holl gyfraithiau tywyſogion roddi lle. Ie ac yr oeddynt o ran hefyd yn gadel heibio ac yn dibriſo cyfreithiau Duw, fal y gellid cadw yn dduwiolach, ac anrhydeddu a mwy oſtyngeiddrwydd y cyfraithiau, goſodiadau, cynghorau, y traddodiadau a'r ceremoniau hynny. Fal hyn y dallwyd y bobl trwy wedd deg y pethau ymma, fal y tybygent fod vfydd-dod iddynt yn fwy ſancteiddrwydd, ac yn berffeiddach gwaſanaeth ac anrhydedd i Dduw ac yn bodloni Duw yn fwy nag vfydddod i orchymynion Duw.

Or fath hyn y bu lygredig agwedd dyn, yn ymrhoi yn ofer i wneuthur o'i ben ei hun newydd anrhyddedd i Dduw, ac i fod gwedy hynny yn well ei ewyllys a'i ddefoſiwn i gadw hynny nag i chwilio allan am orchymynion Duw, a'i cadw. Ac hefyd i gymmeryd gorchymynion dynion yn lle gorchymynion Duw, a gorchymynion Duw yn lle gorchymynion dynion. Ie gorchymynion dynion yn lle y rhai vchaf, ſancteiddiaf a pherffeiddiaf o holl orchmynion Duw. Ac felly yr oedd y cwbl oll yn gymmyſc ddigon, fal yr ydoedd yn anodd i wyr dyſcedig wybod, ac nid oedd honynt nemmor a wyddai neu a gymerai arno wybod, neu ar y lleiaf a feiddiai ddywedyd y gwirionedd, a gwahanu a doſparthu gorchymynion Duw oddiwrth orchymynion dynion. O hyn y tyfodd llawer o gamſyniaeth, ofergoel, delw-addoliad, gwâg-grefydd camfarn, mawr ymryſon a phob anuwiol fywyd.

Am hyn megis y mae gennych zêl at iniawn a phur anrhydedd Duw, fal yr ydychwi yn priſo am eich eneidiau eich hunain, ac am y bywyd a ddaw, yr hwn ſydd heb na phoen na diwedd, rhoddwch eich hunain vwchlaw pobpeth i ddarllen ac i wrando gair Duw: yſtyriwch yn ddiwyd ynddo pa beth a ewyllyſia ef i chwi ei wneuthur, ac a'ch holl egni ymhyderwch i ddilyn hynny.

Yn gyntaf rhaidyw bod gennych ddiogel ffydd yn-Nuw, a'ch rhoi eich hunain yn hollol iddo ef, ei garu ef mewn hawddfyd ac mewn adſyd, ac ofni ei odigio ef bob amſer. Ac er ei fwyn ef cerwch bawb, ceraint a gelynion, am eu bod yn greaduriad ac yn ddelw iddo, a chwedy i Griſt eu prynu megis chwithau. Bwriwch yn eich calonnau pa fodd y gellwch wneuthur daioni i bob dyn yn ol eich gallu, ac na ddrygwch neb, vfyddhewch eich goruwch a'ch llywodraethwyr, gwaſaneuthwch eich meiſtred yn ffyddlon ac yn ddyfal, yn gyſtadl yn eu gwydd ac yn eu abſen, nid rhag ofn coſp yn vnic, ond er mwyn cydwybod, gan wybod eich bod yn rhwymedig i wneuthur felly, trwy orchynmyn Duw.

Nac anufyddhewch eich tadau a'ch mammau, onid anrhydeddwch hwy, cynorthwywch a bodlonwch hwy yn ol eich gallu. Na orthrymmwch, na leddwch, na ffuſtwch, nac ſclawndyrwch neb. Na chaſhewch neb, onid cerwch bawb, dywedwch yn dda am bawb, cynorthwywch a nerthwch bawb hyd y galloch, ie eich gelynion a'ch caſhant chwi, a ddywedant yn ddrwg am danoch, ac a'ch eneiweidiant chwi. Na chymerwch dda neb, na thrachwentwch dda neb yn anghyſion, ond byddwch fodlon i'r peth a ennilloch yn gywir, a rhowch eich da eich hunain yn garedigol pan fo rhaid ac achos.

Gwagelwch bob delwaddoliad, ſwyngyfaredd ac anudon. Na wnewch odineb, anniweirdeb nac vn aflendid, mewn meddwl nac mewn gweithred gydâ gwraig gwr arall, gydâ gweddw, na chydâ merch, neu mewn moddion eraill. Ac wrth drafaelu fal hyn yr hyd y byddoch byw, i gadw gorchmynion Duw (yn y rhai y ſaif pur odidawg ac iawn anrhydedd Duw, yr hyn os gwnair mewn ffydd yr hon a ordeiniodd Duw i fod yn vniawn ffordd a llwybr i'r nef) ni ffaelwch chwi ddyfod fal yr addawodd ef i'r by wyd didranc bendigedig lle y cewch fyw mewn gogoniant, allawenydd gyda Duw dros fyth I'r hwn y byddo moliant, gogoniant ac ymherodraeth dros fyth ac yn dragywydd. Amen.

¶ Pregeth am gariad perffaith a charedigrwydd Chriſtianogawl.

O' R holl bethau ar ydynt dda eu dangos i Griſtionogion, nid oes vn peth mor anghenrhaid ſon a galw am dano beunydd, ac yw cariad perffaith: cyſtadl am fod holl weithredoedd cyfiawnder yn gynhwyſedig ynddo, ac hefyd am fod diffyg cariad yn wradwydd ac yn gwymp ir byd, yn aethwladaeth rhinwedd, ac yn achos o bob drygioni. Ac yn gymmanit a bod pob dyn haechen yn gwneuthur ac yn llunio cariad perffaith iddo ei hun, yn ol ei ewyllys ei hunan: ac er caſed fytho ei fywyd ger bron Duw a dyn, etto fe debyg yn waſtadol fod cariad ynddo. Erwydd paham yn awry cewch glywed doſparth ac yſpyſrwydd goleu cywir o gariad perffaith, nid o ddychymmyg dyn, onid o airiau a ſiampl ein Iachawdwr Ieſu Ghriſt: yn yr hwn ddoſparth ac hyſpyſrwydd y dichon pob dyn megis mewn drych yſtyriaid, a gweled yn oleu heb gamſyniaeth pa vn yw ai bod mewn gwir gariad perffaith ai nad ydyw.

Cariad perffaith yw caru Duw a'n holl galon, a'n holl fywyd, a'n holl nerth, ac a'n holl rym a'n gallu. A'n holl galon, hynny yw, fod ein calonnau a'n meddyliau a'n myfyrdodau gwedy ymroi i gredu ei air ef, i ymddired ynddo ac i'w garu vwchlaw pob peth a garom orau, yn y nef neu ar y ddaear.

A'n holl fywyd, Hynny yw bod ein llawenydd a'n gorfoledd pennaf gwedy ymroi iddo a'i anrhydedd, a bod ein holl fywyd gwedy ymroi i'w waſanaethu ef vwchlaw pob peth, i fyw ac i farw gydag ef. Ac i ymwrthod a phob peth arall yn gynt nag efe: Canys yr hwn a garo ei dad neu ei fam, ei fab neu ei ferch, ty neu dir yn fwy nâ myfi medd Chriſt, nid ydyw deilwng o honofi. Math. 10.

A'n holl nerth, hynny yw â'n dwylaw, â'n traed, â'n llygaid, â'n cluſtiau, â'n geneuau, â'n tafodau ac â holl rym ac a phob rhan o'n cyrph a'u eneidiau y dlyem ymroi i gadw ac i gyflawni ei orchmynion ef. Dymma 'r rhan gyntaf a'r bennaf o gariad, ond nid hyn yw y cwbl.

O herwydd cariad hefyd yw caru pob dyn, da a drwg, car a gelyn, pa achos bynnac a rodder i'r gwrthwyneb, a dwyn ewyllys a chalon dda at bawb, ymddwyn yn dda tu ag at bawb mewn geiriau a golwg, ac ymhob gweithred oddiallan. O herwydd hyn a ddyſcodd Chriſt ei hun ini, a hyn a wnaeth ef yn ei weithredoedd. Dymma fal y dyſcodd ef gariad Duw i ddoctor o'r gyfraith yr hwn a ofynnodd iddo pa vn oedd y gorchymmyn mwyaf a'r pennaf yn y gyfraith.

Car dy Arglwydd Dduw medd Chriſt, â'th holl galon, â'th holl einioes ac â' th holl feddwl. Ac fal Math. 22. hyn y dyſc ef ni am y cariad a ddlye fod yn ein plith y naill tuag at y llall; Chwi a glywſoch ddywedyd, Cardy gâr a chaſhâ dy elyn, ond yr ydwyfi yn dywedyd wrthych, cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melldithiant, gwnewch dda i'r rhai a'ch caſhânt, a gweddiwch dros y rhai a wnel eniwed i chwi ac a'ch erlidiant, fal y byddoch blant i'ch Tad yr hwn ſydd yn y nefoedd, canys mae fe yn peri i'w haul dywynnu ar y drwg a'r da, ac yn danfon glaw ar y cyfion a'r anghyfion: canys os Math. 5. 43. 44. &c. chwi a gar y rhai a'ch carant, pa wobr a fydd i chwi? onid ydyw y Publicanod yn gwneuthur yr vn modd? Os chwi a gyferchwch well i'ch brodyr a'ch anwyl geraint pa rogoriaeth yr ydych yn ei wneuthur; onid ydyw y cēhedloedd yn gwneuthur yr vn peth.

Dymma airiau ein Iachawdwr Chriſt ei hun ynghylch caru ein cymmydogion. Ac yn gymmaint a darfod i'r Phariſęaid â'u melltigedig draddodiadau â'u cam-ddeongliadau, lygru a haŷchen Attal. groni pur ffynnon bywiol air Duw, gan ddyſcu bod y cariad perffaith a'r caredigrwydd ymma yn perthyn at geraint gŵr yn vnic, a bod yn ddigon i ddyn garu y ſawl a'i câr yntef, a chaſhau ei elynion. Am hyn fe agorodd Chriſt ailwaith y ffynnon hon, fe a'i glanhaodd ac a'i carthodd hi, gan roddi i'w wir a'i dduwiol gyfraith cariad, wir ac eglur ddeongliad, yr hon yw, y dlyem ni garu pob dyn, câr a gelyn, gan ddangos hefyd pa fudd a gawn ni o hynny a pha afles o'r gwrthwyneb.

Pa beth a allwn ei ddymuno cyſtadl ar ein lles a chael gan ein tad nefol ein cyfrif a'n cymeryd yn blant iddo ei hun? A hyn, medd Chriſt, y byddwn ſiccr o hono os ni a garwn bob dyn yn ddiwahanol. Ond os ni a wnawn amgen, medd ef, nid ydym well nâ Phariſęaid, Publicanod a chenhedloedd, ac ni a gawn ein gwobr gydâ hwy; hynny yw ein cau allan o rifedi etholedig blant Duw, ac o dragwyddol etifeddiaeth teyrnas nef.

Fal hyn y dyſcodd Chriſt ni am wir gariad, fod pob dyn yn rhwymedig i garu Duw vwchlaw pob peth, ac i garu pob dyn car a gelyn. Ac fal hyn yr ymddug ef ei hun gan gynghori ei elynion, a cheryddu baiau ei gaſogion, a phan nas gallai eu gwella hwy, fe a weddiodd droſtynt.

Yn gyntaf, fe a garodd Dduw dad vwchlaw pob peth yn gymmaint ac na cheiſodd ef na'i ogoniant ei hun na'i ewyllys, onid gogoniant ac ewyllys ei Dad. Nid ydwyf, medd ef, yn ceiſio fy Ioan. 5. 3. ewyllys fy hunan, onid ewyllys yr hwn am danfonodd. Ac ni wrthododd ef farw i gyflawni ewyllys Math. 26. 3. ei Dad gan ddywedyd, Os gellir aed y cwppā hwn oddiwrthyf, ac onid ê bydded dy ewyllys di ac nid fy ewyllys i.

Ni charodd ef ei geraint yn vnic, ond ei elynion hefyd, y rhai a ddygent yn eu calonau gaſineb anferth yn ei erbyn ef, ac â'u tafodau a ddywedent bob drygioni am dano, ac a'i herlidient ef hyd angau â'u holl allu â'u nerth. Er hynny ni thynnodd ef ei ewyllys da oddiwrthynt, ond fe a'u carodd hwy yn waſtad, gan bregethu am gariad iddynt, eu ceryddu am eu camathrawaeth a'u drwgfywyd, fe wnae les a daioni iddynt, gan gymeryd yn oddefgar bob peth ac a ddywedent ac a wnaent yn ei erbyn ef. Pan roddent iddo airiau drwg ni roddod ef iddynt ddrwg airiau ailwaith, pan darawent ef ni tharawodd ef hwy drachefn, a phan oddefodd angau ni laddodd ac ni fygythiodd hwynt. Ond fe a weddiodd droſtynt ac a oſſododd y cwbl ar ewyllys da ei dad nefol. Ond megis na chyffro y ddafad a ddyger i'r lladdfa, ac megis na wrthwyneba 'r oen a ddyger i'w gneifio, felly yr aeth yntef i'w farwolaeth heb wrthwynebu ac Eſai. 53. 7. heb a goryd ei enau i ddywedyd dim drygioni. Act. 8. 32.

Fal hyn y dangoſais i'wch pa beth yw cariad, yn gyſtadl wrth athrawaeth ac wrth ſiampl Chriſt ei hun: trwy 'r hyn y dichon pob dyn ei adnabod ei hun yn ddigamſynniaeth, pa ſtat a chyflwr y mae 'n ſefyll ynddo, pa vn a wna ai bod mewn cariad ac felly yn blentyn i'r Tâd o'r nef, ai nad ydyw.

O herwydd er bod pob dyn haychen yn credu ei fod mewn cariad, etto na holed ef neb arall ond ei galon ei hun, a'i fywyd a'i ymddygiad, ac ni thwyllir ef, onid fe a adnebydd ac a farna yn gywir, pa vn a wna ai bod mewn cariad perffaith ai nad ydyw. O herwydd yr vn ni ddilyno ei chwant a'i ewyllys ei hun, ond a ymroddo yn ddifri i Dduw i wneuthur ei holl ewyllys ef a'i orchymynion, ſiccr yw ei fod ef yn caru Duw yn fwy nâ dim: os amgen, diogel yw nad ydyw yn ei garu ef, pa beth bynnag a gymmero arno: fal y dywaid Chriſt, Os cerwch fi, cedwch fyngorchymynion: O Ioan. 13. 35. herwydd yr hwn ſydd yn gwybod fyngorchymynion ac yn eu cadw, medd Chriſt, hwnnw a'm car i.

Ac fe a ddywaid ail-waith, Yr hwn a'm car i a gaidw fyngair, a'm tad a'i car yntef, ac ni a ddawn ein dau atto ef, ac a arhoſwn gydag ef. A'r hwn ni'm car i, ni cheidw fyngairiau. Ac felly yr hwn a ddygo galon a meddwl da at bawb, ac a arfero ei dafod a'i weithredoedd yn dda at bob dyn, câr a gelyn, fe a ddichon wybod fod cariad yn aros ynddo. Ac yno fe a ddichon fod yn ſiccr gantho fod yr holl-alluog Dduw yn ei gymmeryd ef yn lle anwyl blentyn, fal y dywaid S. Ioan, Fal hyn yr adwaenir yn eglur blant Duw oddiwrth blant diafol: pwy bynnag ni char ei frawd ni pherthyn Ioan. 4. 7. 8. i Dduw.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am gariad perffaith.

CHwi a glywſoch eglur a ffrwythlawn yſpyſrwydd am gariad, ac mor fuddiol ac mor anghenrheidiol ydyw: pa fodd y mae yn cyrhaeddyd at Dduw a dyn, câr a gelyn, a hynny trwy athrawaeth a ſiampl Chriſt: a hefyd pwy a ddichon gwybod am dano ei hun a ydyw ef mewn cariad, ai nad yw. Bellach y canlyn ynghylch yr vn peth.

Mae gwrthgas annian dyn, gwedy ei llygru drwy bechod, a'i nailltuo oddiwrth air Duw a'i ras, yn tybied fod yn erbyn rheſwn i ddyn garu ei elynion, ac mae gantho lawer o reſymmau yn ei annog i'r gwrthwyneb. Ond yn erbyn yr holl reſymmau hynny, y dlyem oſod athrawaeth a bywyd ein Iachawdur Chriſt: yr hwn gan ein caru ni pan oeddem elynion, a ddyſcodd ini garu ein gelynion; fe a gymerodd yn oddefgar lawer o dditenwad ac a oddefodd yn ewyllyſgar lawer o watwar, ffuſto, ac angau creulon hefyd er ein mwyn ni.

Am hynny nid ydym ni aelodau iddo fe, oni chanlynwn ni ef. Fe oddefodd Chriſt, medd S. Petr, droſom ni gan adel ini ſiampl i'w ganlyn ef. Hefyd mae 'n rhaid ini yſtyriaid nad ydyw caru ein 1. Pet. 2. 20, 21. ceraint ddim amgen nag a wna y lladron, y goddinebwyr, y lladdiaid, a phob rhai drygionus eraill: yn gymmaint a bod yr holl Iddewon, y Twrciaid, yr anghredadwy, ie yr holl anifeiliaid gwylltion yn caru y ſawl a'u carant, y rhai y derbyniant eu bywyd neu gymwynaſau eraill ganthynt. Ond caru eu gelyn yw cynneddf briodol plant Duw, a diſcyblon a chanlynwyr Chriſt yn vnig.

Er bod gwrthgas a llygredig annian dyn yn pwyſo yn fynych yn rhy-drwm y drygioni a'r ſyrhad a wnel ei elyn iddo, ac yn tybied mai baich rhy anrhaith ei oddef yw bod yn rhwym i garu y ſawl a'u caſhant, ond fe fyddai eu baich hwy eſmwyth ddigon, ped yſtyriai bob dyn o'r yſtlys arall pa niwed a wnaeth ef i'w elyn, a pha ddaioni a dderbyniodd ef oddiwrth ei elyn. Ac os ni ni fedrwn gael cyflawn daledigaeth, nac wrth dderbyn daioni gan ein gelyn, nac wrth dalu drygioni iddo ailwaith: yno pwyſwn yr holl ddrygioni a wnaethon ni yn erbyn yr holl-alluog Dduw, mor fynych ac mor doſt y digiaſom ef: am yr hynn os ni a ewyllyſiwn gael gan Dduw faddauant, nid oes ini ymwared oni faddauwn y camweddau a wnaethpwyd yn ein herbyn ni, y rhai nid ydynt ond ychydig a bychain iawn wrth y camweddau a wnaethom ni yn erbyn Duw.

Ac os yſtyriwn na haedda yr hwn a wnaeth i ni gamwedd gael maddauant gennym, yſtyriwn ailwaith mai llai o lawer yr haeddem ni faddeuant ar law Duw.

Ac er na haedda ein gelyn faddeuant er ei fwyn ei hun, etto ni a ddylyem faddau iddo er cariad ar Dduw, gan yſtyriaid pa ſawl a pha faint o ddoniau heb ein haeddiant a dderbyniaſom ni gantho ef, a bod Chriſt yn haeddu arnom ninnau er ei fwyn ef faddau iddynt hwy eu camweddau a wnaethant yn ein herbyn ni. Ond ymma y cyfyd cweſtiwn anghenrhaid ei atteb. Os ydyw cariad yn gofyn bod i ni dybied a dywedyd, a gwneuthur daioni i bob dyn, da a drwg; pa fodd y gwna llywodraethwyr gyfiawnder ar ddrwg-weithredwyr, a hynny trwy gariad? Pa fodd y gallant daflu dynion drwg i garchar, a dwyn eu da a'u bywyd oddiarnynt, yn ol cyfraithiau, os cariad nis goddef iddynt wneuthur felly?

I hyn y mae atteb eglur byr, Nad ydyw coſp a dial o honynt eu hunain yn ddrwg, os y dieniwed au cymmer hwy yn oddefgar. Ac i'r dyn drwg y maent yn dda ac yn anghenrheidiol, ac fe a ellir mewn cariad, ac fe a ddlyid trwy gariad eu goſod hwy arno.

Er mwyn egluro 'r hyn beth, deallwch fod dwy ſwydd i gariad, y naill yn wrthwyneb i'r llall, ac etto pob vn o'r ddwy yn anghenrheidiol eu gwneuthur i ddau ryw o ddynnion.

Vn o ſwyddau cariad yw diddanu gwyr daionus dieniwed, nid gan eu gorthrymmu hwy a cham-achwynion, ond eu dewrhau a'u canmol au cyffro a gobrwyon i wneuthur daioni ac i bara mewn daioni; gan eu amddiffyn hwy â'r cleddyf rhag eu gwrthwynebwyr. A ſwydd Eſcobion a bugeiliaid yw canmol gwyr da am y daioni y maent yn ei wneuthur, er mwyn iddynt bara mewn daioni, a cheryddu a choſpi trwy air Duw gamweddau a beiau dynion beius drwg.

O herwyd y ſwydd arall i gariad yw argyoeddi, ceryddu, a choſpi pob drygioni, heb edrych ar berſon neb: ac fe ddlyid arfer hon yn erbyn pob dyn drwg, a drwgweithredwyr yn vnic. A ſwydd cariad yw cyſtadl y naill a'r llall, argyoeddi, ceryddu a choſpi y rhai drwg, a chyſuro a gobrwyo y daionus dieniwed.

Mae S. Pawl yn manegi wrth ſcriſennu at y Rhufeiniad gan ddywedyd, fod y galluoedd goruchaf gwedy eu hordeinio gan Dduw, nid i fod yn ofnadwy i'r rhai a wnant dda, onid i'r drwgweithredwyr, Ruf. 13. 13. i dynnu y cleddyf i ddial ar y rhai a wnant bechod. Ac mae S. Pawl yn erchi i Timothi geryddu pechod yn eofn ac yn ddifri trwy air Duw. Fal y dlyid gwneuthur y ddwy ſwydd yn ddiwall, er ymladd yn erbyn teyrnas diafol, y pregethwr â'r gair, a'r llywodraethwr â'r cleddyf. 1. Timot. 5. 10. Ac onis gwnant nid ydynt yn caru na Duw na 'r rhai y maent yn eu llywodraethu, os hwy eiſiau coſpi a oddefant ddigio Duw, neu ddifa eu deiliaid.

O herwydd megis y mae pob tad naturiol yn coſpi ei fab pan fytho baius, ac onid ê ni char ef mo hono, felly pob rheolwyr teyrnaſoedd, gwledydd, trefi a thai a ddylyent yn garedigol goſpi y rhai a bechont o fewn eu rheol hwy, a chyſuro y rhai a fyddont fyw yn ddieniwed, os hwy a edrychant ar Dduw, neu ar eu ſwydd, neu a garant y rhai y maent yn eu llywodraethu.

Ac fe ddlyid mewn amſer cyfaddas, wneuthur y fath gerydd a choſp yn erbyn y rhai a droſeddāt, rhag o hir oedi i'r troſeddwyr gwympo lwyr eu pennau i bob rhyw ddrygioni: ac nid yn vnic bod yn ddrwg eu hunain, onid hefyd gwneuthur drwg i lawer o ddynion eraill gan eu tynnu ar eu hol, wrth roddi iddynt ſiamplau drwg i wneuthur pechod ac anwiredd ar eu hol hwy. Megis y dichon vn lleidr yſpeilio llawer, a gwneuthur llawer yn lladron hefyd, ac vn dyn cynhennus hudo llawer ac anrheithio trefn eu gwlad yn hollol.

Ac mae cariad yn gofyn torri ynmaith o gorph y wlad y fath ddynion drwg ſydd gyfryw droſeddwyr mawrion yn erbyn Duw a'r wlâd, rhag iddynt lygru dynnion honeſt da. Megis y torr y meddig da ymmaith aelod pwdr, a fytho gwedy methu, o gariad ar y corph i gyd, rhag i'r aelod hwnnw lygru yr aelodau neſaf atto.

Fal hyn y dangoſwyd i'wch pa beth yw gwir Griſtionogawl gariad perffaith, neu garedigrwydd, mor oleu ac na bytho rhaid i neb gymmeryd ei dwyllo. Yr hwn gariad pwy bynnag a'i cadwo, nid yn vnic tuag at Dduw yr hwn a ddylei ei garu vwchlaw pob dim, ond tuag at ei gymydog hefyd, cyſtal câr a gelyn, fe a'i ceidw ef yn ddiammau oddiwrth holl lid Duw, a chyfiawn ddigofaint dyn. Dygwch am hynny y wers ferr bon gyda chwi yn dda, Y dlyid trwy wir Griſtionogawl gariad garu Duw vwchlaw pob peth, a charu pob dyn, drwg a da, câr a gelyn, ac i bob vn y dylyid gwneuthur daioni yn orau ac y gallom: i'r rhai ydynt ddaionus, o gariad i'w Hyfhau. eofnhau ai ſirio hwy, am eu bod yn ddaionus, ac i'r rhai drwg, o gariad annog a cheiſio cael eu coſpi hwy a'u ceryddu: fal trwy hynny y geller naill ai eu hebrwng hwy i ddaioni, ai ar y lleiaf na ddigier Duw ac na waethyger y wlad drwyddynt.

Ac os ni fal hyn a vniawnwn ein bywyd trwy gariad perffaith a charedigrwydd Chriſtionogawl, yno mae Chriſt yn addo i ni, ac yn ein ſiccrhau ei fod ef yn ein caru ni, y cawn ni fod yn blant ei'n tad nefol, wedi ein derbyn eilwaith i'w ffafor ef, ac yn aelodau i Griſt, ac yn ol y bywyd byr preſennol marwol hwn, y cawn fyw gydag ef yn dragywydd, yn ei dragwyddol deyrnas nefol ef. Am hynny iddo fe gyda'r Tâd a'r Yſpryd glan, y bytho holl anrhydedd a gogoniant yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Pregeth yn erbyn tyngu anudon.

MAe 'r holl-alluog Dduw, er mwyn bod ei ſancteiddiaf enw ef mewn anrhydedd a chael gan y bobl ei fawrhau ef, yn gorchymmyn na chymerai neb ei enw ef yn ofer yn ei enau, gan fygwth coſp ar y rhai a'i camarfero ef yn ddirmygus trwy dyngu anudon a chabledd.

An hyn fal y gwybydder ac y cadwer y gorchymmyn hyn yn well, fe a fanegir i'wch pa fodd y mae 'n gyfraithlon i Griſtionogon dyngu, a pha berigl ſydd o dyngu 'n ofer neu yn anudon.

Yn gyntaf pan fo barnwyr yn gofyn llw i'r bobl er mwyn manegi ac agoryd y gwirionedd, neu er gwneuthur cyfiawnder, mae 'r cyfryw lw yn gyfraithlon.

Hefyd, pan fo gwyr yn gwneuthur addewidion ffyddlon, gan alw enw Duw yn dyſt i gadw cyfammodau ac addewidion honeſt, ſtatudau, cyfraithiau, defodau daionus, megis y gwna tywyſogion Chriſtionogawl yn eu cyfvndebau heddwch, er cadwedigaeth eu gwledydd, ac megis y gwna pob rhyw o ddynion addewidion ffyddlon mewn priodaſau y naill i'r llall mewn honeſtrwydd a gwir gymdeithas: a phawb pan font yn tyngu cadw cyfraithiau cyffredinawl, ordeiniadau a defodau daionus, er cadw a chynnal trefn ymhlith dynnion; pan dyngo deiliaid ar fod yn gywir ac yn ffyddlon i'w brenhinioedd a'u harglwyddi. Pan fo barnwyr, llywodraeth-wyr a ſwyddogion yn tyngu gwneuthur eu ſwyddau yn gywir: a phan fytho gwr yn dywedyd gwir er goſod allan ogoniant Duw, ac er Iechydwriaeth i'r bobl, wrth bregethu 'r efangyl yn gyhoeddus, neu wrth rhoddi yn ddirgel gyngor er iechyd eneidiau.

Mae 'r holl fatheu hyn a'r lwaint a thyngu mewn pethau honeſt anghenrheidiol yn gyfraithlon. Ond pan fytho rhai yn tyngu o arfer wrth reſymmu, wrth brynu, gwerthu, a phob ymddiddan beunyddol arall, megis y mae llawer yn dyngwyr mawr arferol, mae'r fath dyngu yn annuwiol, yn anghyfraithlon, ac yn waharddedig wrth orchymmyn Duw. O herwydd nid ydyw y fath dyngu ddim amgen nâ chymmeryd enw Duw yn ofer.

Ac ymma ni a ddylyem weled na waharddwyd llw cyfraithlon, eithr ei orchymmyn ef gan yr holl-alluog Dduŵ. O herwydd mae gennym ſiampl ein Iachawdwr Chriſt, a gwyr duwiol eraill yn yr Scrythur ſanctaidd, y rhai eu hunain a dyngaſont, ac a ofynaſont lwau gan rhai eraill hefyd. A gorchymyn yr arglwydd yw, Ti a ofni dy Arglwyd Dduw ac a dyngi i'w enw ef. Deut. 10. 20.

Ac mae 'r holl-alluog Dduw yn dywedyd trwy ei brophwyd Dafydd, fe a ganmolir pawb a dyngo Pſal. 63. 11. iddo ef. Fal hyn y tyngodd ein Iachawdwr Chriſt yn fynych gan ddywedyd, Yn wir, yn wir. Ioan. 3. 11. Ac mae S. Pawl fal hyn yn tyngu, Yr ydwyf yn 3. Cor. 1. 23. galw Duw yn dyſt. A phan ydoedd Abraham yn heneiddio fe a ofynnod gan ei was lw ar fynnu gwraig i'w fab Iſaac yr hon fyddai o'i genedl ef Gene. 24. 3. ei hun: ac fe a dyngodd y gwas yn ebrwydd ar gyflawni ewyllys ei feiſtr. A phan geiſiwyd gan Abraham, fe a dyngodd wrth Abimelec brenin Gerar, Geneſ. 21. 23. na wnai fe eniwed iddo nac i'w eppil. Ac felly y tyngodd Abimelec i Abraham hefyd. Ac fe dyngodd Dafydd y parhae fe yn gyfaill ffyddlon i Ionathan, ac a dyngodd Ionathan a'r fod yn gydymmaith ffyddlon i Ddafydd hefyd.

Fe a orchymynnod Duw os gwyſtlid vn peth i neb, neu adel peth ynghadw, os y peth hwnnw a ledrattid neu a gollid, y dlyid tyngn y ceidwad hwnnw ger bron barnwyr, na ledrattaſai fe mo hono, ac na wnelſai fe dwyll, gan beri i neb ei ddwyn ef ymmaith, trwy ei gyfvndeb neu ei gydnabyddiaeth ef. Ac mae S. Pawl yn dywedyd, Heb. 6. 16. ymmhob ymryſon rhwng dwy blaid, lle bytho vn yn dywedyd ie, ar llall nag êf, fal na ellir gwybod y gwirionedd, llw a roddo barnwr a ddlyei ddiweddu y fath ymryſon. Ac hefyd Duw a ddywaid trwy y prophwyd Ieremi, Ti a dyngi byw yw yr Ier. 4. 2. Arglwydd, mewn gwirionedd, mewn barn, ac mewn cyfiawnder.

Fal pwy bynnac a dyngo pan fytho 'r barnwr yn gofyn iddo lw, bydded a chydwybod ſiccr fod y tri pheth hyn yn ei lw ef, ac nid rhaid iddo ofni byth Anudonrwydd. anudon.

Yn gyntaf rhaid i'r hwn a dyngo, dyngu mewn gwirionedd, hynny yw gan ddodi heibio bob ffafwr a phob ewyllys nerthu vn o'r ddwy blaid, rhaid iddo oſod y gwirionedd yn vnic ymmlaen ei lygaid, ac o gariad ar hwnnw rhaid iddo ddywedyd y peth a ŵyr ef ei fod yn wir, ac heb ddywedyd dim ymhellach.

Yn ail, mae 'n rhaid i'r neb a gymero llw, ei wneuthur mewn barn, nid yn yſcafn heb ſynnaid beth a wnelo, onid yn yſtyriol gan yſtyriaid pa beth yw llw. Yn drydydd, mae 'n rhaid i'r neb a dyngo dyngu mewn cyfiawnder, hynny yw er mwyn y zêl a'r cariad y mae ef yn ei ddwyn i ymddiffyn y dieniwed, i faentaeno 'r gwir ac i gyfiawnder yr achos, gan roi heibio bob ennill a cholled, pob cariad a ffafwr, er cyfeillach neu garennydd i'r vn o'r ddwy blaid.

Fal hyn y mae llw os ydyw ynddo y tri pheth hyn, yn rhan o ogoniant Duw, yr hon yr ydym ni rhwymedig wrth orchymmyn Duw i'w rhoddi iddo. O herwydd mae fe 'n gorchymmyn ini dyngu yn vnic i'w enw ef. Nid am ei fod ef yn chwenychu ini dyngu, onid megis y gorchymynnodd ef i'r Iddewon offrwm aberthau iddo, nid am ei fod yn hoffi offrymmau, onid i gadw yr Iddewō rhag delw-addoliad. O blegid wrth orchymmyn ini Eſai 42. 8. Pſal. 115. 1. dyngu i'w enw ſanctaidd ef, nid ydyw yn ein dyſcu fod yn hoff gantho lw, onid trwy hynny mae fe 'n gwahardd rhoddi ei ogoniant ef i vn creadur yn y nef yn y ddaear neu 'r dwfr. Hyd hyn y clywſoch i Dduw orchymmyn llwon cyfraithlon, i'r patriarchau, y prophwydi, Chriſt ei hun, a'i Apoſtol Pawl arfer llw. Ac am hyn y dlyei Griſtionogion dybied fod llwau cyfraithlon yn dduwiol, ac yn anghenrheidiol. O herwydd trwy addewidion a chyfammodau gwedy eu cadarnhau trwy lw, mae tywyſogion a gwledydd yn cael eu cadarnhau mewn llonyddwch a heddwch. Trwy addewidion ſanctaidd a galw enw Duw yn dyſt, y'n gwnair ni yn aelodau bywiol i'n Iachawdwr Chriſt, pan addefom ei grefydd wrth dderbyn ſacrament y bedydd. Trwy y cyffelyb addewid ſanctaidd y mae dirgelwch priodas yn rhwymo gŵr a gwraig mewn cariad an-nherfynol, fal nad ydynt yn chwennych yſcar er vn gwrthwyneb ac a ddichon ar ol hynny gwympo.

Trwy lwau y rhai a dwng brenhinoedd, tywyſogion, barnwyr a llywodraethwyr, yr ydys yn cadw cyfraithiau cyffredinawl heb halogi, yr ydys yn gwneuthur cyfiawnder i bawb yn ddiwahaniaeth, yr ydys yn gwared y dieniwed, y plant ymddifaid, y gwragedd gweddwon, a'r tlodion, oddiwrth lofryddwyr, gorthrymwyr a lladron, rhag iddynt gael cam neu eniwed.

Trwy lwau cyfraithlon y cedwir yn waſtadol mewn trefn dda gyfeillach a chariad rhwng y naill a'r llall, ymhob gwlad a dinas a thref a phentref.

Trwy lw cyfraithlon y chwilir allan ddrwg weithredwyr, y coſpir y camweddus, ac yr adferir y rhai a oddefant gam i'w cyfiawnder ailwaith. Am hynny ni ddichon llw cyfraithlon fod yn ddrwg, yr hwn ſydd yn dwyn gydag ef cymmaint o gymmwynaſau daionus anghenrheidiol.

Am hyn, lle mae Chriſt mor ddifrif yn gwahardd tyngu, ni ddlyid deall dim o hano fal pe byddai yn gwahardd pob rhyw lw, ond mae fe 'n gwahardd pob ofer dyngu i Dduw, neu greaduriaid, a phob tyngu anudon, fal y mae yr arfer o dyngu yn gyffredinol wrth brynu a gwerthu, ac yn ein beunyddol ymddiddan, er dangos y dylaid cymmeryd gair pob Chriſtion yn y fath bethau cyſtadl a phe byddai gwedy cadarnhau ei ymddiddan â llw.

O herwydd medd S. Ierom, fe ddlyei air pob Chriſtion fod mor wir ac y gellid i gymeryd ef megis llw. A Chryſoſtom a deſtiolaetha yr vn peth, ac a ddywaid, Nid gweddus ini dyngu, o herwydd pa raid tyngu gan nad yw gyfraithlon i vn o hanom ddyweddyd celwydd wrth y llall?

Fallai y dywedai vn, yr ydys yn fynghymmell ac yn fyngyrru fi i dyngu, o herwydd oni wnafi felly, ni chred y rhai a ymddiddanant â mi, a'r rhai a brynant ac a werthant gydâ mi ddim honofi. I hyn y mae Chryſoſtom yn atteb fod yr hwn ſydd yn dywedyd felly, yn dangos ei fod ei hun yn ddŷn anghyfiawn twyllodrus. O herwydd pe byddai fe cyfiawn, a'i airiau a'i weithredoedd yn cyduno, ni byddai raid iddo dyngu byth. O herwydd yr hwn a arfero gwirionedd a chyfiawnder yn ei ymddiddan a'i fargennon, nid rhaid iddo trwy: ofer dyngu wneuthur i'w gymydogion i gredu, ac ni wan-ymddired ei gymmydog ddim ei eiriau ef. Ac os bydd gwedy myned heb goel arno mor llwyr ac na choelia neb o hano heb dyngu, gwybydded yntef ei fod ef gwedy myned yn llwyr heb goel arno.

O herwydd gwir yw, fal yr ſcrifenna Theophylactus, nad ymddiredir llai i neb nag i'r vn arfero mynych dyngu. Ac mae 'r holl-alluog Dduw yn dywedyd trwy 'r gŵr call, y bydd y gŵr a dyngo llawer yn llawn o bechod, ac nad ymâd gwialen Duw oddi vwch ben ei dŷ ef.

Ond fe ddywaid rhai er eſcuſo ei haml lwau yn eu beunyddol ymadroddion, pa ham na thyngafi a minuau yn tyngu 'r gwir? Etto er eu bod yn tyngu 'r gwir, nid ydynt hwy heb fai am eu bod yn tyngu yn fynych, yn ddiyſtyr, am bethau diffrwyth, heb fod yn rhaid, a phan na ddlyent dyngu, ond y maent yn cymmeryd fancteiddiaf enw Duw yn ofer. Annuwiolach ac anghallach o lawer ydyw y rhai a gamarferant ſancteiddiaf enw Duw, nid yn vnic wrth brynu a gwerthu pethau gwael diffrwyth baunydd ymhob lle, onid hefyd wrth fwyta, yfed, chware, chwedleua, ac ymddadleu; megis pe na allid gwneuthur vn o'r pethau hyn onis gwneid trwy arfer a chamarfer enw Duw, trwy ſon am dano yn ofer, ac yn amharchus, ie trwy dyngu a thyngu anudon iddo, er torri ei orchymmyn ef a thynnu arnom ei ddigofaint ef.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am dyngu.

FE ddangoſwyd i'wch yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon yn erbyn tyngu ac Anudonrwydd. anudon, pa berigl mawr y ſydd o gymmeryd enw Duw yn ofer: ac nad yw pob llw yn anghyfraithlon, nac yn erbyn gorchymmyn Duw: a bod tri pheth yn anghenraid ymmhob llw cyfraithlon.

Yn gyntaf, tyngu o honom er maenteinio 'r gwir.

Yn ail tyngu honom mewn barn, nid yn ddibris, ac yn ddiofal.

Yn drydydd er cariad ar gyfiawnder.

Chwi a glywſoch pa leſhâd a ddaw o lwau cyfraithlon, a pha enbeidrwydd ſydd o lwau anghyfraithlon: bellach ynghylch chwaneg o'r vn peth, deallwch, fod y rhai a wnant addewidion cyfraithlon o bethau da honeſt ac heb eu cyflawni, yn cymmeryd enw Duw yn ofer, cyſtal â'r rhai a wnant addewidion o bethau drwg anghyfraithlon, ac a'u cyflawnant.

Yr ydym yn darllen yn yr Scrythur lân am ddau goſp cyhoeddus ar y rhai ni ofalant gadw addewidion duwiol, ond a'u torrant hwy trwy wybod ac yn ewyllyſgar, er eu bod hwy yn rhwymedig trwy lw i'w cadw hwy.

Yn gyntaf, fe wnaeth Ioſua a phobl Iſrael gyfvndeb ac a ddewid ffyddlon o gariad a chyfeillach Ioſua. 9. 3. tragwyddol â'r Gibioniaid, etto yn ol hynny yn amſer Sawl felldigedig fe laddwyd llawer o'r Gibioniaid ymma, yn erbyn yr addewid ffyddlon honno. Am hynny y digiodd Duw mor greulon fal y danfonodd ef newyn cyffredinol ar yr holl wlad, yr hwn a barhaodd dros dair blynedd. Ac ni thynne Duw ei goſp nes iddo ddial y camwedd hynny trwy farwolaeth ſaith meibion neu geraint neſaf Sawl.

A phan wnaeth Zedechias brenin Ieruſalem addewid o ffyddlondeb i frenin Chaldea. Pan wrthryfelodd Zedechias yn erbyn brenin Nabucadnezar yn wrthwyneb i'w lw a'i vfydd-dod, trwy fod Duw yn goddef fe a orchfygodd y brenin 2. Bren. 24. 17. A'r. 25. 1. anghredadwy hwnnw wlad Iudęa, fe a warchaodd y ddinas Ieruſalem, ac a yrrodd frenin Zedechias i gilio, ac wrth gilio a'i daliodd ef yn garcharwr, a laddodd ei feibion ef ymmlaen ei wyneb, ac a dynnodd ei ddau lygad ef, a'i rhwymodd ef â chadwynau, ac mewn modd greſynol a'i dug ef yn garcharwr i Babilon.

Fal hyn y dengys Duw yn eglur mor gas gantho y rhai a dorrant eu haddewidion honeſt a rwymer trwy lw, ac a wnaer yn ei enw ef. Ac o'r rhai a wnant trwy lw addewidiou drwg ac a'u cyflawnant, mae ini ſiamplau yn yr Scrythur lân am Herod, am yr Iddewon melldigedig, ac am Iephthah. Herod a addawodd trwy lw i'r llances a ddawnſiodd ger ei fron ef, y rhoddai iddi beth bynnac a ofynnai: a hithe wedi ei haddyſcu gan ei mam a ofynnodd ben S. Ioan fedyddiwr. Herod Math. 14. 7. fal y daroedd iddo wneuthur llw drwg, a gyflawnodd ei lw yn waeth, ac yn greulon a laddodd y prophwyd ſanctaidd.

Felly y gwnaeth yr Iddewon cenfigennus lw, gan eu rhegi eu hunain os hwy a fwytaent neu a Act. 23. 12. yfent hyd oni laddent Pawl.

Ac fe wnaeth Iephthah yn ol i Dduw roddi iddo orvwchafiaeth ar feibion Ammon, adduned ynfyd, ar offrymmu i Dduw yn aberth y peth cyntaf a Barn. 11. 30, 31, 35, 39. gyhwrddai ag ef o'i dŷ ei hun, yn ôl ei ddyfod adref. Trwy rym yr hwn lw ynfyd byrbwyll y lladdodd ef yn anſynhwyrol ac yn ynfyd ei vnic ferch ei hun, yr hon a ddaethai o'i dy ef allan mewn llawewydd a gorfoledd i'w groeſewi ef adref. Fal hyn y cyflawnodd ef yn dra chreulon yr adduned a wnaethai ef yn ynfyd, yn erbyn tragwyddol ewyllys Duw a chyfraith natur, gan droſeddu yn erbyn Duw yn ddau-ddyblyg.

An hynny pwy bynnac a wnelo addewid trwy lw, ſynned fod y peth y mae yn ei addo yn dda, yn honeſt ac heb fod yn erbyn gorchymmyn Duw, ac y gall ef ei hun ei gwblhau ef yn gyfiawn. A'r fath addewidion da mae 'n rhaid i bawb eu cadw byth yn ſiccr.

Ond os gwna neb lw vn amſer, naill ai o anwybod ai o genfigen ar wneuthur peth a fyddo yn erbyn cyfraith yr holl-alluog Dduw, neu 'r peth ni all ef ei gyflawni ei hun, gwybydded fod y llw hwnnw yn llw annuwiol anghyfraithlon.

Ac bellach i ddywedyd peth am dyngu anudon er mwyn i chwi gael gwybod faint a blined bai yw anudon ewyilyſgar yn erbyn Duw, mi a ddangoſaf i'wch pa beth yw cymmeryd llw ar lyfr ger bron barnwr.

Yn gyntaf, pan font yn tyngu gan ddodi eu dwylaw ar lyfr yr efangyl, i ymofyn ac i breſentio yn gywir y pethau a ofynnir iddynt, ac na rwyſtrer hwy i ddywedyd gwirionedd, ac i wneuthur iniawnder, nac er ffafor nac er cariad, nac er ofn nac er cenfigen at vn dyn mwy nâ'i gilydd, fal yr helpo Duw hwy a'r pethau a gynhwyſer yn y llyfr hwnnw: rhaid iddynt y ſtyriaid y cynhwyſir yn y llyfr hwnnw dragwyddol wirionedd Duw, ei ſancteiddiaf a'i anherfynol air ef, trwy 'r hwn y derbyniwn faddauant o'n pechodau, ac y'n gwneir yn etifeddion tyrnas nef, i fyw gydag angylion a ſaint Duw dros fyth mewn didrange lawenydd a gorfoledd.

Yn llyfr yr efengyl hefyd y cymhwyſir toſt fygythau Duw yn erbyn pechaduriaid yſtyfnig, y rhai ni wellant eu bywyd, ac ni chredant wirionedd ſanctaidd air Duw, a'r tragwyddol boenau a baratowyd yn vffern i ddelw-addolwyr, rhagrithwyr, celwyddog ac oferdyngwyr, anudonwyr, gau-dyſtion, condemnwyr y difeius, dieniwed, ac i'r rhai o ffafwr a guddiant faiau drwg-weithredwyr rhag iddynt gael eu coſpi.

Megis pwy bynnac yn ewyllyſgar a dyngo anudon ar ſanctaidd efengyl Ghriſt, maent hwy yn hollol yn ymwrthod â thrugaredd Duw, ei ddaioni ef, a'i wirionedd, haeddiant ganedigaeth, bywyd, dioddeifaint, marwolaeth, ailgyfodiad, ac eſcyniad ein Iachawdwr Chriſt: maent yn gwrthod maddauant o'u pechodau a addawyd i bob pechadur etifarus, llawenydd nef a thragwyddol gyfeillach ſainct ac angylion. Yr hyn ddoniau a diddanwch a addawyd yn yr efengyl i wir Griſtianogion, ac wrth dyngu felly anudon ar yr efengyl, maent yn ymroi i waſanaethu diawl, meiſtr pob celwydd, ffalſter, twyll, ac Thyngu anvdon. anudon, gan annog mawr lid a melldith Dduw yn eu herbyn yn y byd hwn, Echrydus. erchyll ddigofaint a barn ein Iachawdwr Chriſt a 'r ddydd y farn ddiwethaf, pan farno ef yn gyfiawn y byw a'r meirw, yn ol eu gweithredoedd.

O herwydd pwy bynnac a ymwrthodo â'r gwirionedd er cariad neu genfigen i vn dyn, neu er elw ac ennill iddo ei hun, mae fe 'n ymwrthod â Chriſt, ac megis Iudas yn ei fradychu ef. Ac er bod yn awr yn ddirgel geudod y fath anudonwyr, etto fe a gyhoeddir yn y dydd diwethaf, pan gyhoedder dirgelion calonnau pawb i'r holl fyd. Ac yno yr ymddengys y gwirionedd ac a'u cyhudda hwynt, a'u cydwybod eu hun, a holl gwmpeini nef yn dwyn teſtiolaeth yn eu herbyn hwy. Ac fe a'u barna Chriſt y barnwr cyfion hwy yn gyfiawn y pryd hynny i ddidranc gywilydd, fal y mae 'r holl-alluog Dduw drwy enau y Prophwyd Malachi Mal. 3. 5. yn bygwth coſpi y pechod hwn o dyngu anudon yn doſt, gan ddywedyd wrth yr Iddewon, mi a ddauaf i'r farn ac a fyddaf dyſt ebrwydd, a barnwr llym, yn erbyn dewinion, goddinebwyr, ac a nudonwyr.

Yr hwn beth a ddangoſodd Duw mewn gweledigaeth i'r Prophwyd Zachari, pan welodd efe Zach. 5. 3. yr hedfanog lyfr, yr hwn oedd vgain cufydd o hŷd, a deg o led, gan ddywedyd wrtho, dymma 'r felldith a aiff allan ar wyneb y ddayar am anghyweirdeb, gau lwaint, a thyngu anudon. A'r fenlltith hon a aiff i mewn i dy y twyllwr ac i dŷ 'r anudonwr, ac a erys ynghenol ei dŷ ef, ac a'i difa ef, a choed a cherrig ei dŷ ef. Fal hyn y clywch gymmaint y mae Duw yn caſhau Anudôf rwydd. anudon, a pha goſp a ddarparodd Duw i gamdyngwyr, ac anudonwyr.

Fal hyn y clywfoch pa fodd, ac ar ba achoſion y mae 'n gyfraithlon i Griſtionogion dyngu: chwi a glywſoch pa gynheddfau a champau a ddylei fod mewn llw cyfraithlon, ac fel y mae llyau cyfraithlon yn dduwiol ac yn anghenrhaid eu cadw.

Chwi a glywſoch nad cyfraithlon tyngu yn ofer, hynny yw nid mewn vn modd onid ar yr achoſion, ac yn y modd y manegwyd i'wch.

Yn ddiwethaf chwi a glywſoch mor ddamnedig yw tyngu anudon, neu gadw llw a wneler mewn byrbwyll neu yn anghyfraithlon. Am hynny galwn am rad Duw yn ddifrif fal y gallom oſod heibio bob ofer dyngu, a thyngu anudon, ac arfer yn vnic lwau cyfraithlon duwiol, a chadw y rhai hynny yn ddihocced yn ol bodd ac ewyllys Duw: i'r hwn gydâ 'r Mâb a'r Yſpryd glân y byddo anrhydedd a gogoniant. Amen.

¶ Pregeth yn dangos mor enbaid yw cwympo oddiwrth Dduw.

MAe 'r gwr call yn dywedyd mai balchedd Eccl. 10. 13, 14. oedd ddechreuad ein mynediad ni oddiwrth Dduw. O herwydd trwy falchedd y troed calon dŷn oddiwrth Dduw ei wneuthurwr. Balchedd medd ef yw dechreuad pob pechod: fe fydd yr hwn ſydd a hi gantho yn llawn o regau, ac yn y diwedd hi a'i Difa. difetha ef. Ac megis trwy falchedd a phechod yr ydym ni yn myned oddiwrth Dduw, felly y mae Duw a phob daioni yn myned oddiwrthym ninnau.

Ac mae 'r prophwyd Oſee yn dangos yn oleu ac yn eglur eu bod hwy yn trafaelu yn ofer, y rhai ſy yn myned oddiwrth Dduw trwy fywyd drwg, ac etto er hynny a geiſiant ei lonyddu a'i fodloni ef ag offrymmau. O herwydd er eu holl offrymmau hwy, mae ef yn myned fyth oddiwrthynt. Yn gymmaint medd y prophwyd, ac nad ydynt yn goſod eu meddiliau i droi at Dduw, er eu bod hwy yn ceiſio 'r Arglwydd â Diadellau. praiddiau. llocceidiau o ddefaid, a gyrfae o wartheg, etto ni chyhwrddant ddim ag ef, o blegid fe aeth y mmaith oddiwrthynt.

Ond am ein troad ni at Dduw neu oddiwrth Dduw, deallwch y gellir gwneuthur hynny mewn llawer o ffyrdd. Weithiau yn vniawn trwy ddelwaddoliad, megis y gwnaeth Iſrael a Iudah y tro hynny. Weithiau yr aiff dynion oddiwrth Dduw o eiſiau ffydd, ac o achos gwan-ymddired yn-Nuw: am y rhai y dywaid Eſai yn y modd ymma, Gwae y rhai a ânt i wared i'r Aipht i geiſio nerth, gan ymddiried mewn cephylau a Eſai. 31 1. gobeithio mewn rhifedi cerbydau, ac mewn nerth a gallu marchogion: nid oes ganthynt obaith yn ſanctaidd Dduw yr Iſrael, ac ni cheiſiant yr Arglwydd. Ond pa beth a ganlyn? fe a âd yr Arglwydd ei law i gwympo arnynt, a'r cynorthwywr a'r hwn a gynorthwyir a ddiniſtrir ynghyd.

Weithiau yr à dynnion oddiwrth Dduw trwy Ver. 3. eſcaeuluſo gorchymmyn Duw tuag at eu cymydogion, y rhai a orchymynant iddynt ddangos cariad o'u calonnau at bob dyn, fal y dywaid Zachari wrth y bobl o blaid Duw. Rhowch inion farn, Zach 7. 9, 10. dangoſwch drugaredd a thoſturi bob vn i'w frawd, na feddyliwch dwyll i'r weddw, i'r plant ymddifaid, i'r dieithriaid neu i'r tlodion: na lunied neb ddrygioni yn ei galon yn erbyn ei frawd.

Ond m phriſaſont ar y pethau hyn, hwy a droeſant eu calonnau ac aethōt ymmaith, hwy a gaeſant eu cluſtiau fel na clywent, hwy a galedaſant eu calonnau megis carreg adamant, fal na wrandawent air yr Arglwydd yr hwn trwy ei Yſpryd ſanctaidd a ddanfonaſai ef gydâ 'r hên brophwydi: am hyn y dangoſodd yr Arglwydd ei fawr ddigofaint arnynthwyntau. Fe ddaeth, medd y prophwyd Iere. 9. 16. Ieremi, fal y dywedais wrthynt, fal na wrandawſant hwy, felly pan weddiaſant hwy ni warandawyd hwyntau: ond hwy a waſcarwyd i'r holl ddinaſoedd, y rhai nid adwaenent, gwnaethpwyd eu tir hwy yn anialwch.

Ar ychydig airiau, cynnifer ac na allant aros gair Duw, ond a ddilynant ryfyg ac yſtyfnigrwydd eu calonnau eu hunain, a ânt yn eu hol ac nid yn eu blaen: (fal y dywaid Ieremi) maent yn Ierer . 7. myned ac yn troi ymmaith oddiwrth Dduw. Ac fe ddywaid Origen, mai hwnnw ſydd yn troi at Dduw yr hwn â'i feddwl, a'i aſtudrwydd, a'i weithredoedd â bwriad ac â gofal a'i rhoddo eu ei hun i air Duw, ac a feddylio am ei gyfraith ef ddydd a nos: a'i rhoddo ei hun yn hollol i Dduw, ac a ymarfero yn ei ddeddfau ai orchymmynion ef. Ac o'r rhan arall fe ddywaid, Pwy bynnag a ymarfero a chwedleu ofer, pan draether gair Duw, mae hwnnw yn troi oddiwrth Dduw. Pwy bynnag pan darllenir gair Duw ſydd yn gofalu yn ei feddwl am bethau bydol, am arian, neu am ennill, fe a droed hwnnw oddiwrth Dduw yn gwbl. Pwy bynnag a rwyder a gofalon am feddiannau, a lenwer a thrachwant cyfoeth: pwy bynnag a fyfyrio am ogoniant ac anrhydedd y byd hwn, hwnnw ſy wedi troi oddiwrth Dduw.

Megis, yn ei dŷb ef, pwy bynnac nid yw a'i feddwl yn vnig ar y peth y mae Duw yn ei orchymmyn, ac yn ei ddangos, y ſawl ni wrandawo ar hynny, nas braicheidio hynny, ac nis printio yn ei galon, o lwyr fwriad ar drefnu ei fywyd yn ol hynny, fe a drodd hwnnw yn llwyr oddiwrth Dduw, er ei fod yn gwneuthur pethau eraill o'i ddefoſiwn a'i feddwl ei hun, y rhai yn ei olwg ef ſydd well, ac yn dwyn i Dduw fwy o anrhydedd.

Mae 'r ſanctaidd Scrythur yn dangos ini fod hyn yn wir wrth ſiampl brennin Sawl, yr hwn 1. Sam. 15. 1. pan ddaroedd i Dduw trwy Samuel orchymmyn iddo, ladd yr holl Amaleciaid a'u diniſtrio 'n gwbl, a'u da, a'u hanifeiliaid, etto o ran trugaredd, ac megis yr ydoedd ef yn tybied, o ran defoſiwn at yr Arglwydd Dduw, fe a gadwodd y brenin Agag, a holl oreuon eu hanifeiliaid hwy i wneuthur o honynt aberth i'r Arglwydd Dduw.

Am yr hwn beth fe ddigiodd Duw yn greulon ac a ddywad wrth y prophwyd Samuel, Yr ydwyf yn etifaru imi wneuthur Sawl yn frenin, o herwydd fe a'm gwrthododd i ac ni chanlynodd fyngairiau. Ac fe a orchmynnodd i Samuel ddangos hynny iddo: a phan ofynnodd Samuel iddo paham yn erbyn gair yr Arglwydd y cadwaſai fe yr anifeiliaid, fe eſcuſodd y peth, o ran o herwydd ofn, gau ddywedyd na feiddiai wneuthur amgen, o blegid y bobl a fynnai wneuthur felly: ac mewn rhan fe a feddyliodd y byddai Dduw bodlon am ei bod hwy yn anifeiliaid teg ac yntef yn eu cadw hwy o feddwl a bwriad da i anrhydeddu Duw â'r aberthau a wnaid o honynt.

Ond Samuel, gan geryddu y fath fwriadau a defoſionau er maint y tybyger eu bod yn anrhydeddu Duw, oni chytunant â'i air ef, trwy 'r hwn yn vnig y gallwn wybod ei ewyllys ef, fe a ddywaid fal hyn, A fynnai Dduw offrymmau ac aberthau, V. 22. ai ynte vfydd-dod i'w air? vfydd hau ſydd well nag aberth, a gwrando arno ſydd well na braſder hyrddod: ie mae gwrthwynebu ei laferydd ef megis pechod dewiniaeth, a bod heb gytuno â'i air ef yn debyg i gas ddelwaddoliad. Ac yn awr yn gymmaint ac iti daflu ymmaith air yr Arglwyddl, y'th daflodd yntef dithau ymmaith fal na byddych brenin.

Trwy 'r holl ſiamplau hyn o'r Scrythur lân y gallwn weled, os gadwn ni Dduw, y gad yntef ninnau. Ac fe ddichō dyn yn hawdd yſtyriaid wrth fygythiau Duw pa flinderau a ganlynant yn ddiogel ddigon ar ol hynny.

Ac er nad yſtyrio ef yr holl flinderau hyn hyd yr eithaf, y rhai ſydd gymmaint ac nas gall vn dyn eu hyſtyriaid hwy yn gwbl ddigon: etto fe ddeall yn hawdd gymmaint o honynt ac a bair iddo ofni a chrynu ac echrydio wrth eu cofio hwy, oni bydd ei galon ef yn galettach nâ'r garreg Adamant.

Yn gyntaf yr ydys yn dangos digofaint Duw tuag attom ni yn yr Scrythur lân wrth y ddau beth hyn, wrth ddangos ei wedd ef a'i wyneb yn ofnadwy arnom, ac wrth droi neu guddio ei wyneb oddiwrthym.

Wrth ddangos ei wyneb yn ofnadwy yr arwyddocair ei ddirfawr lid ef.

Wrth droi neu guddio ei wyneb, yr arwyddocair yn fynych ei fod ef yn hollol yn ein gwrthod ni ac yn ein rhoi ni i fynydd.

Yr ymadroddion hyn a ddywedir wrth gyffelybiaeth cynheddfau dynnion. O herwydd mae dynnion fynychaf yn dwyn gwedd ddaionus ſiriol garedig tuag at y rhai y maent yn eu caru, megis wrth y wedd neu 'r wyneb yr ymddengys ond odid pa ewyllys a meddwl a ddwg ef at eraill.

Wrth hynny pan yw Duw yn dangos ei wedd yn ofnadwy tuag attom, hynny yw pan fytho 'n danfon ei ofnus blaau, cleddyf, newyn neu Nodau. gowyn arnom, mae 'n eglur ei fod ef gwedy digio 'n greulon wrthym. Ond pan fytho ef yn tynnu oddiwrthym ei air, iawn athrawaeth Chriſt, ei raſol nerth a'i gynhorthwy (yr hwn a gydſylltir yn waſtad â'i air ef) ac yn ein gadel ni i'n ſynhwyrau a'n ewyllys a'n gallu ein hunain, mae fe y pryd hynny yn dangos ei fod yn dechrau ein gwrthod ni.

Cans lle dangoſodd Duw i bawb a wir gredant ei efengyl ef wyneb ei drugaredd yn Ieſu Griſt, yr hwn ſydd felly yn goleuo eu calonnau fal (os edrychant arno megis y dlyent) y mae fe yn ei troi hwy yn rhith ei ddelw ei hun, yn eu gwneuthur yn gyfrannogion o'r goleuni nefol, ac o'i Yſpryd glân, ac yn eu cyd-ffurfio hwy ag ef ei hun ymmhob daioni anghenrhaid i blant Duw: felly os hwy ar ol hynny a eſceuluſant hynny, os byddant anniolchgar iddo, oni threfnant eu bywyd yn ol ei ſiampl a'i athrawaeth ef, ac i oſod allan ei ogoniant ef, fe a dyn ymmaith oddiwrthynt ei deyrnas, ei ſanctaidd air, trwy yr hwn y dlye dyrnaſu ynddynt, am nad ydynt yn dwyn y ffrwyth y mae fe yn diſgwyl am dano. Etto mae fe mor drugarog ac mor oddefgar ac nad ydyw yn dangos ei fawrlid arnom yn ddiſymmwth.

Ond pan dechreuom ni laeſu oddiwrth ei air ef, heb gredu iddo, neu heb ei ddangos yn ein bywyd, yn gyntaf mae fe 'n danfon ei genhadon, gwir bregethwyr ei ſanctaidd air, i 'n rhybyddio ac i ddangos ini ein dlyed: megis y mae efe o'i ran ef o'i fawr drugaredd tuag attom, gwedi rhoi ei vnic fab i oddef angau er ein gwared ni o angau, trwy ei angau ef, a'n hadferu i fywyd tragwyddol, i aros gydag ef yn dragywydd ac i fod yn gyfrannogion ac yn etifeddion gydag ef o'i ogoniant tragwyddol a'i deyrnaſ nef. Felly ailwaith y dlyem ninnau o'n rhan ni rodio mewn duwiol fywyd, fal y gweddai i'w blant ef.

Ac os hyn ni waſanaetha, os ni fyth a barhawn yn anufydd i'w air ef a'i ewyllys, heb ei adnabod ef, na'i garu, na'i ofni, na dodi ein cwbl ymddiried a'n gobaith ynddo: ac o'r yſtlys arall os ni a ymddygwn yn angharedigol tuag at ein cymydogion trwy ddirmyg, cenfigen, malaiſ, neu llofryddiaeth, yſpail, goddineb, glothineb, twyll, celwydd, tyngu, a'r fath weithredoedd câs, ac annuwiol ymddygiad: yno mae fe yn ein bygwth a bygylau creulon gan dyngu yn ei lid na ddawe y rhai a wnaent y fath weithredoedd byth i'w orphwyſfa ef, yr hon yw tyrnas nef.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am gwympo oddiwrth Dduw.

CHwi a glywſoch yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon pa ſawl ffordd y cwymp dyniō oddiwrth Dduw.

Rhai trwy ddelw-addoliad, rhai o eiſiau ffydd, rhai wrth eſcaeluſo eu cymydogion, rhai o eiſiau gwrando gair Duw, rhai wrth ymhoffi mewn oferedd pethau bydol.

Chwi a ddyſcaſoch hefyd pa flinder ſydd i'r dŷn ſydd wedi myned oddiwrth Dduw: a pha fodd y mae Duw o'i aneirif ddaioni ar y cyntaf yn arfer trwy ei bregethwyr roddi rhybyddion mwynion i alw dyn ailwaith o'r blinderau ymma: ac y goſod ef ar ol hynny fygythau creulon.

Yn awr oni waſanaetha na 'r rhybydd mwyn, na'r fygythfa greulon hynny: yno y dengys Duw ei greulon wedd arnom, ac a Dywallt. arllwys ar ein pennau anrhaith blagau, ac yn ol hynny fe a dynn oddiwrthym ei nerth a'i gynhorthwy, trwy 'r hyn yr ymddiffynnai ni oddiwrth bob rhyw flinder. Fal y dŷſc yr efangylol Brophwd Eſai ni, yn gytun â chyffelybaeth Chriſt, gan ddywedyd, ddarfod Eſai. 5. 2. 6. i Dduw wneuthur gwinllan deg i'w anwyl blant, a'i chau, a'i Gwalo . murio hi, o bobparth, iddo blannu ynddi ddewiſol winwydd, a gwneuthur Matth. 20. 33. tŵr a gwinwaſc yn ei chanol hi. A phan edrychodd ef am rawn-win, hi a ddygodd iddo rawn-win gwylltion.

Ar ol hyn y canlyn, Yn awr medd yr Arglwydd mi addangoſaf i'wch pa beth a wnaf i'm gwinllan, mi a dynnaf i lawry cauau fal y crinont, mi a dorraf i lawr y gwelydd y fal y Dannely . methrer hwy dan draed, mi a'i gadawaf hiyn anial, ni thorrir ac ni chloddir hi, drain Mieri. dryſi a dyfant droſti, ac mi a orchymynnaf i'r cymmylau na lawiant mwy arni.

Wrth y bygythau hyn y rhybyddir ni, os ni y rhai ydym ddewiſol winllan Duw, ni ddygwn rawn-win da, hynny yw gweithredoedd da, y rhai a fydd hoff yn ei olwg ef, pan edrycho am danynt yn ol iddo ddanfō ei genhadon i alw arnom ni am danynt: ond a ddygwn yn hytrach rawnwin gwylltion, hynny yw gweithredoedd ſurion anffrwythlou diflas, yno y tynn ef ymmaith ein holl ymddyffynfaudd, ac a oddef i gwympo arnom flin blagau o brinder, rhyfel, newyn ac angau.

Ac yn ddiwethaf os hyn ni waſanaetha, fe a'n gad ni yn hoeth, fe a'n rhydd ni i fynydd, fe a drŷ oddiwrthym ni, ni cheibia ac ni chloddia mwy o'n hamgylch, fe a'n gâd ni yn llonydd ac a oddef ini ddwyn y fath ffrwythau ac a fynnom, ie ddwyn gwyddeli, drain, a dryſi; pob drygioni a brynti, yn y fath gyflawnder hyd oni thyfont droſom ni yn gwbl, ie hyd oni chegont, oni thagont ac oni ddiniſtriont ni yn hollol.

Ond ni ddeall y rhai ſydd yn y byd hwn, heb fyw yn ol Duw, ond yn ol eu rhydd-did cnawdol, fawr ddigofaint Duw tuag attynt: na chaua ef ac na chloddia ef mwy o'u hamgylch, y gadef hwynt iddynt eu hunain. Ac maent hwy yn tybied mai rhodd wych ddaionus yw hon gan Dduw, cael pob peth yn ol eu ewyllys eu hun, ac maent felly yn byw, fal pe byddai rhydd-did cnawdol wir rhydd-did yr efengil.

Ond na atto Duw, bobl dda, ini byth chwennychu y fath rydd-did. O her wydd er bod Duw weithiau yn goddef i'r drygionus gael pob peth wrth eu bodd yn y byd hwn, etto diwedd bywyd annuwiol yn y diwedd yw diniſtr tragwyddol.

Fe gafodd yr Iſraeliaid grwgnachus y peth yr oeddynt yn ei chwennych, hwy a gawſant ſofliair Rifedi. 11. 33. ddigon, do hyd onid oeddynt yn dyffygio o honynt. Ond pa beth fu y diwedd? Fe gafas eu bwyd melus hwy ſaws ſur chwerw. Pan ydoedd y bwyd yn eu geneuau, fe gwympodd plâg Duw arnynt, ac a'u lladdodd hwy yn ddiſymmwth.

Felly os ni a fyddwn byw yn annuwiol, a Duw yn goddef ini ddilyn ein ewyllys ein hunain, a chael y peth ſydd hoff ac anwyl gennym, ac heb ein coſpi â rhyw blagau: yn ddiddau mae ef yn ddig annial wrthym. Ac er ei fod ef yn hir heb daro, etto fynychaf pan darawo ef y fath ddynnion, mae yn eu taro hwy dan vn dros fyth.

Felly pan na bytho fe yn ein taro, pan beidio fe â'n blino ni ac a'n ffuſto, a phan fytho yn ein goddef ni i redeg lwyr ein pennau i bob rhyw annuwioldeb, a hoffderau 'r byd, yn y rhai yr ydym yn ymhoffi, heb na choſp na chyſtudd, mae hynyn arwydd ofnus ddarfod iddo ein rhoddi ni i fynydd i ni ein hunain, ac na char ef ni, ac na ofala droſom ni ymhellach.

Yr hyd y bytho gwr yn Yſcythru. yſcathru ei winwydd, yn cloddio ynghylch y gwraidd, ac yn dodi pridd ne wydd attynt, mae gantho ſeddwl arnynt, mae fe 'n gweled arwydd o ffrwythlonder i'w gael oddiwrthynt. Ond pan na oſodo ef na choſt na thrafael arnynt, mae hynny yn arwydd ei fod ef yn tybied na byddant byth da.

A'r hyd y bytho 'r tâd yn caru ei blentyn, mae fe yn edrych arno yn ddigllon, ac yn ei goſpi pan wnelo ar fai: ond pan na bytho hynny yn gwaſanaethu, pan beidio ef â'i goſpi fe, a goddef iddo wneuthury peth a fynno, mae hynny yn arwydd ei fod ef yn medd wl ei ddietifeddu ef a'i daflu ymmaith dros fyth.

Felly yn ſiccr ni ddlye ddim bigo ein calonnau ni yn doſtach, a'n dodi mewn anferthach ofn, na bod ein cydwybod yn ein cyhuddo ddarfod ini ddigio Duw yn ddirfawr, a'n bod ni fyth yn para yn gwneuthur felly: ac nad ydyw Duw yn taro dim o hanom, ond yn ein gadel ni yn llonydd yn ein drygioni yr ydym yn ei hoffi.

Yno yn enwedigy mae 'n oed gweiddi, a gweiddi ailwaith fal y gwaeddodd Dafydd, Na thafl fi ymmaith oddiwrth dy wyneb, ac na chymmer dy Yſpryd glan oddiwrthyf. Arglwydd na thro dy wyneb oddiwrthyf, na thafl fi ymmaith yn dy lid. Pſal. 51. IX. Na chuddia dy wyneb oddiwrthyf, rhag fy mod Pſal. 27. 9. yn debyg i'r rhai a ânt i waered i vfſern. Pſal. 143 7.

Y gweddian galarus hyn ſydd yn dangos ini pa enbeidrwydd anferth y maent hwy ynddo, y rhai y mae Duw yn troi ei wyneb oddiwrthynt; yr hyd y bytho fe yn gwneuthur felly: felly y dlyent ein cyffroi a'n hannog ninnau i weddio ar Dduw, ân holl galonnau, na hebrynger mo honom i'r cyflwr hwnnw, yr hwn yn ddiammau ſydd mor drwm, mor flin ac mor ofnadwy, ac na ddichon na thafod ei draethu na chalon ei ddeall yn gyflawn.

O herwydd pa drymder angheuol a dybygai ddyn yw bod mewn digofaint Duw, gwedy i Dduw ei wrthod, gwedy tynnu yr Yſyryd glân a wdur pob daioni oddiwrtho, wedy ei hebrwng i gyflwr mor warthus, na waſanaetha ef i ddefnydd yn y byd, ond i'w ddamno yn vffern yn dragwyddol? O herwydd nid yn vnic y lleoedd hyn o'r Prophwyd Dafydd ſydd yn dangos y bydd ar droad wyneb Duw oddiwrth neb, y gade wir efyn hoeth o bob daioni, ac ym-mhell oddiwrth obaith ym wared.

Ond hefyd mae 'r lle o Eſai a goffaſom ni o'r blaen yn dangos yr vn peth: yr hwn a fynegodd fod Duŵ yn y diwedd yn ymwrthod âi anffrwythlon winllan, na oddef ef yn vnic iddi ddwyn chwyn, drain a dryſi, ond y coſpa ef ei hanffrwythlonder hi ymmhellach. Mae fe 'n dywedyd na yſcathra efe, ac na chloddia fe hi, ac y gorchymmyn ef i'r cymmylau na lawiont arni. Trwy 'r hyn yr arwyddocair athrawiaeth ei ſanctaidd air ef. Yr hyn mewn cyffely fodd a ddangoſodd S. Pawl wrth enw plannu a dwfrhau, gan feddwl y tynn ef hynny oddiwrthynt, na chaent fod mwy o'i deyrnas ef, ac na thy wyſid hwy mwy byth gan Yſpryd Duw, y dodid hwy ymmaith oddiwrth ei râd ef, ac oddiwrth y doniau oedd ganthynt gynt; ac a allaſent trwy Griſt eu meddianu byth; y dynoethir hwy o'r goleuni nefol a'r by wyd oedd ganthynt ynghriſt, pan oeddynt yn aros ynddo: hwy a fyddant fal y buant vn waith, megis dynnion heb Dduw yn y byd hwn, neu etto mewn cyflwr gwaeth.

Ac ar ychydig airiau, hwy a roddir dan allu diawl, yr hwn a deyrnaſa ymhawb oll ac a defler oddiwrth Dduw: megis y gwnaeth ef i Sawl a Iudas ac yn gyffredinawl i bawb oll ac a weithiant . Sam. 15. yn ol eu meddyliau eu hunain, plant angredadwy a gwanobaith.

Gwagelwn gan hynny, Griſtionogion daionus, rhag ini trwy daflu ymmaith ac ymwrthod â gair Duw, trwy 'r hwn yr ydym yn cael ac yn cadw gwir ffydd yn-nuw, gael ein taflu ar y diwedd ymmaith a'n gwneuthur yn blant anghredyniaeth, y rhai ydynt o ddau ryw, pell bob vn oddiwrth ei gilydd, ie haychen yn wrthwyneb i'w gilydd, ac etto mae pob vn o'r ddau ymmhell oddiwrth droi at Dduw.

Mae 'r naill ryw gan bwyſo eu bywyd pechadurus câs, ynghŷd ag iniawn farn a chyſyngder cyfiawnder Duw, cy belled oddiwrth gyngor a di-ddanwch, (fal y mae yn rhaid bod pawb yr aeth Yſpryd cyngor a diddanwch oddiwrthynt) na chymmerant hwy gan neb eu perſwadio yn eicalonnau y gall Duw eu cymmeryd, neu os gall y cymmer ef hwynt i'w ffafor a'i drugaredd ailwaith. Y rhyw arall wrth glywed caredig a halaethion addewidion Duw, ac felly heb gyrhaeddyd gwir ffydd o'r addewidion hynny, ydynt yn gwneuthur yr addewidion ymma yn halae thach nag y gwnaeth Duw hwy erioed, gan ymddired, er hyd yr arhoſont yn eu bywyd cas pechadurus, etto yn-niwedd eu hoes y dengys Duw ei drugaredd iddynt, ac y cânt hwy ymchwelyd atto ef ailwaith.

Ac mae 'r ddau ryw hyn o bobl mewn cyflwr damncdig, ac etto mae Duw (yr hwn ni ſyn farwolaeth pechadur) gwedy goſod ffordd (os hwy mewn amſer a ymwagelant) i bob vn o honynt i ddiangc.

Y cyntaf, fal y maent yn ofni iniawn farn Duw yn coſpi pechaduriaid, trwy 'r hyn y dlyent Synnu. ddiharffu, a gwanobeithio yn ſiccr oblegid vn gobaith ac a all bod ynddynt hwy eu hunain; felly pe byddyn hwy yn ddiogel ac yn ddiſigl yn credu mai trugaredd Duw yw yr vnic gynhorthwy yn erbyn gwanobaith ac anymddired, nid yn vnig iddynt hwy, ond yn gyffredinawl i bawb oll a fo drwg ganthynt ac a wir etifarant am eu holl bechodau, a chydâ hynny a lynant wrth drugaredd Duw, hwy allant fod yn ſiccr o drugaredd, ac y cânt hwy fyned i Aber. borthladd diogelwch ac ymwared; i'r hon pwy bynnac a ddelo er Drycced. cynddrwg a fu ef o'r blaen, fe fydd allan o berigl damnedigaeth tragwyddol, fal y dywaid Duw drwy enau Ezechiel, Pa bryd bynnac yr etifaro pechadur Ezech. 18. 27. o ddyfnder ei galon mi a ellyngaf dros gôf ei holl enwiredd ef. Am y rhyw arall fal y maent hwy yn barod i gredu addewidion Duw, felly y dlyent fod mor barod i gredu bygythau Duw, hwy a ddlyent gredu y gyfraith cyſtal a'r efengyl; bod vffern a thân tragwyddol yn gyſtadl a bod nef a didranc lawenydd: hwy a ddlyent gredu cyſtal fod yn bygwth damnedigaeth i'r pechadurus a'r drwgweithredwyr, ac yr ydys yn addo Iachydwriaeth i'r ffyddlon mewn gair a gweithred: hwy a ddlyent gredu fod Duw yn gywir cyſtal yn y naill ac yn y llall.

Ac fe ddlye y pechaduriaid y rhai ſydd yn parhau mewn drwg fywyd, feddwl na pherthyn addewidion trugaredd Duw a'r efengyl iddynt hwy, yr hŷd y bônt yn y cyflwr hwnnw, ond yn vnic y gyfraith a'r ſcrythyrau a gynhwyſant ynddynt lid, digofaint a bygythfae Duw: y rhai a ddlye eu ſiccrhau hwy, megis y maent hwy yn rhy Hyf. eofn yn rhyfygu ar drugaredd Duw ac yn byw yn benrhydd ac yn anllywodraethus, felly fod Duw yn tynnu fwyfwy ei drugaredd oddiwrthynt, y cyffroir ef o'r diwedd i ddigofaint a'i fod ef yn arfer weithiau o ddiniſtr yn ddiſymmwth y fath ryfygwyr.

Am y cyfryw ddynion y dywaid S. Pawl fal hynn, Pan ddywedont mae heddwch, nid oes enbeidrwydd, 1. Theſſ. 5. 3. yno yn ddiſymmwth y daw diſtryw arnynt. Gwagelwn am hynny y fath Hyfder. eofnder drwg i bechu. O herwydd er i Dduw addo ei drugaredd i'r rhai a wir etifarhant (a hynny ar y diwedd) etto nid addawodd ef na bywyd hir, na gwir etifeirwch yn y diwedd i bechaduriaid rhyfygus. Ond i'r defnydd hynny fe a wnaeth amſer angau pob dŷn yn anhyſpys, rhag i neb oſod eu gobaith ar y diwedd, a byw hyd hynny i ddigio Duw wewn annuwioldeb.

Canlynwn gan hynny gyngor y gwr call, nac oedwn droi at yr Arglwydd: na Ddyhiriwn. ohiriwn o ddydd i ddydd, o herwydd yn ddiſymmwth y daw llid yr Arglwydd ac mewn amſer llid fe a ddiniſtria y drygionus.

Trown gan hynny yn ebrwydd at yr Arglwydd, a phan drothom gweddiwn ar Dduw megis y gweddiodd Oſee gan ddywedyd, maddeu ein pechodau, Oze. 4. 2. derbyn ni yn raſol. Ac os ni a drown atto â chalon oſtyngedig etifeiriol, fe a'n derbyn ni i'w drugaredd a'i râd, er mwyn ei enw ſanctaidd, er mwyn ei addewid, er mwyn ei wirionedd, a'i drugaredd a addawodd ef i bawb ac a gredent yn ffydolon yn Ieſu Griſt ei vnic naturiol fab ef. I'r hwn vnic Iachawdwr y byd gydâ 'r tâd a'r Yſpryd glàn y bô holl anrhydedd, gogoniant a nerth yn oes oefoedd. Amen.

¶ Annogaeth yn erbyn ofn angau.

NId yw ryfeddod fod ar ddynnion bydol ofn marw, o herwydd mae angau yn eu difuddio hwy o bob anrhydedd, cyfoeth a meddiannau bydol, wrth feddiannu y rhai y mae 'r bydol yn ei gyfrif ei hun yn ddedwydd, yr hyd y gallo fe eu mwynhau hwy yn ol ei ewyllys, ac os efe a ddifeddiannir o hanynt heb obaith eu cael ailwaith, yno ni ddichon feddwl amgen am dano ei hun na'i fod yn annedwydd, am iddo golli ei hoffder a'i lawenydd bydol,

Och, ôch, a feddwl y gwr cnawdol ymma, a ymadawafi dros fyth â'm holl anrhydedd, a'm holl dryſor a'm gwlad a'm cenedl a'm meddiannau, a'm cyfoeth a'm holl hoff-ddigrifwch bydol, y rhai yw llawenydd a bodlonrwydd fynghalon? och ddyfod y dydd hwnnw fyth, pan orffo imi ganu yn iach i'r pethau hynn i gyd ar vnwaith, heb allel eu meddiannu mwy byth. Am hyn nid heb achos mawr y dywaid y gwr call, O angau mor chwerw ac mor ſur yw 'r côf am danati i'r hwn a fytho 'n byw yn eſmwyth yn cael ei fyd yn ol ei ewyllys heb ddim trallod, ac ſydd gwedy ei lenwi a'i fraſhau trwy hynny? Mae eraill ar y rhai nid ydyw y byd yn chwerthin mor gwbl, onid yn eu blino ac yn eu gorthrymmu hwy â thlodi â chlefyd, neu ryw wrthwyneb arall: etto maent hwy yn ofni angau, mewn rhan am fod y cnawd yn caſhau yn anianol ei driſt ymddattodiad, yr hwn y mae angau yn bygwth ei hebrwng arnynt: mewn rhan o blegid afiechyd a phoenedig glefydau, y rhai ni all na byddont loeſion toſt ac anfeidrol ing yn y cnawd, y rhai ydynt arferedig fynychaf o ddyfod cyn angau i wyr cleifion, neu ar y lleiaf, o ddyfod ynghwmpni angau, pan ddelo.

Er bod y ddau achos ymma yn edrych yn fawrion ac yn bwyſig yngolwg gwr bydol, trwy y rhai y cyffroir ef'i ofni angau, etto mae achos arall y ſydd fwy nâ'r vn o'r a choſiō a ſoniaſom ni am danynt, am yr hwn yn ſiccr y mae achos da i ofni angau: a'r achos hwnnw yw 'r ſtât a'r cyflwr i'r hwn yn y diwedd y dwg angau bawb a oſodant eu calonnau ar y byd hwn, heb etifaru na gwellau eu bywyd; yr hwn ſtat a chyflwr a elwir yr ail angau, yr hwn a ganlyn ar bawb o'r fath ddynion yn ol yr angau corphorol ymma.

Ac yn wir dymma 'r angau a ddylyid ei o fni ac echrydio ragddo yn ddirfawr, o herwydd hwn yw colled dros fyth yn ddiymwared o râd a ffafor Duw, o dragwyddol lawenydd, llwyddiant a dedwyddwch. Ac nid yw hwn yn vnic yn golled o'r holl dragwyddol hoffderau ymma, ond mae fe hefyd yn ddamnedigaeth corph ac enaid (heb le i apelio at orvwch na gobaith ymwared) i dragwyddol boenau vffern. Ac i'r ſtat hwn y danfonodd angau y gwr goludog an-nrhugarog, yr hwn y mae Luc yn ſon am dano yn ei efengyl, yr hwn gan fyw ymmhob cyfoeth a digrifwch yn y Luc. 16. 19. &c. byd hwn, a chan ymddigrifo beunydd mewn dainteiddiol fwydau a dillad gwychion, a ddibriſodd Lazarus dlawd, a orweddai yn druan wrth ei horth ef, gwedy ei blago yn flin, ac yn llawn doluriau, ac yn dyddfu o newyn.

Fe areſtiwyd y ddau hyn gan angau, yr hwn a ddanfonodd Lazarus, y gwr truan hwnnw gydag angylion yn y man i fonwes Abraham, lle o orphwyſfa, o ddedwyddwch ac o ddiddanwch. Ond fe ddiſcynnodd y goludog an-nhrugarog i vffern, a phan ydoedd mewn poenau, fe a waeddodd am ddiddanwch, gan gwyno 'n druan rhag ei boen Anrheith ei oddef. aneſcorol, yr ydoedd ef yn ei oddef yn y fflam dân honno, ond yr ydoedd yn rhy hwyr.

Felly i'r lle hwn y mae 'r angau corphorol yn danfon pawb oll a oſodant eu llawenydd, a'u dedwyddwch ar y byd hwn: a phawb oll ac ydynt yn y byd hwn anffyddlon i Dduw ac angharedig i'w cymydogion, gan feirw felly mewn anetifeirwch, ac heb obaith trugaredd Duw.

Am hyn nid yw ryfeddod fod y gwr bydol yn ofni angau, o herwydd mae iddo ef fwy o achos i wneuthur felly nag y mae fe ei hun yn ei yſtyriaid.

Fal hyn y gwelwn fod tair achos i wyr bydol i ofni angau: vn am eu bod hwy trwyddo yn colli eu holl anrhydedd bydol, eu holl gyfoeth, a'u meddiannau, a pha beth bynnag a chwennycho eu calonnau.

Yr ail, o herwydd y clefydau toſtion, a'r poenau chwerwon, y rhai fynychaf y mae gwyr yn eu goddef, naill ai cyn, ai yntau yn amſer angau.

Ond yr achos fwyaf vwchlaw pob achos arall yw, ofn y cyflwr echryſlon o drag wyddol ddamnedigaeth y corph a'r enaid, yr hwn y maent yn ofni ei gwympo arnynt yn ol iddynt ymadel â hoffderau bydol y bywyd preſennol hwn.

Am yr achoſion hyn y mae pob dyn ar a ymroes i gariad y byd hwn mewn ofn, ac yn yr ſtât hon o angau (fal y dywaid yr Apoſtol) trwy bechod, yr hyd y byddont byw yn ybyd hwn.

Ond, tragwyddol ddiolch i'r tragwyddol Dduw yn dragywydd, nid oes vn o'r achoſion ymma, na hwynt oll ynghyd, a ddichon wneuthur i vn gwir Griſtion ofni marw, yr hwn ſydd wir aelod i Griſt, teml yr Yſpryd glân, a mâb Duw, ac etifedd tragwyddol 1. Cor. 3. 16. teyrnas nefoedd. Ond yn y gwrthwyneb y mae fe 'n gweled llawer o achoſion mawrion gwedy eu gwreiddio yn ddiammau ar an-nhwyllodrus a thragwyddol wirionedd gair Duw, y rhai a'i cyffroant ef nid yn vnic i ddodi ymmaith ofn corphorol angau, onid hefyd o blegid yr aml ddoniau a'r godidawg enuill y rhai trwy angau a ddaw i bawb o'r ffyddloniaid, i chwennychu, i ddeiſyf a hiraethu am angau.

O herwydd ni bydd angau iddo ef yn angau, onid rhyddhâd oddiwrth angau, poenau, gofalon, triſtwch, trueni a blinderau y byd hwn: a mynediad i mewn i eſmwythder, dechreuad llawenydd tragwyddol, mwynhâd digrifwch nefol, y rhai ydynt cymmaint na ddichou tafod eu traethu, na llygaid eu gweled, na chluſt eu clywed, na chalon vn gwr daiarol eu deall: mor fawr odidawg yw y donniau y rhai o'i vnic drugaredd a chariad ar ei Fab Ieſu Griſt, a ddarparodd Duw ein tad nefol, ac a oſododd ef i gadw i'r rhai yn oſtyngedig a ymoſtyngant i'w ewyllys ef: ac a'i carant ef yn waſtadol, yn ddiffuant o ddyfnder eu calonnau.

Ac ni a ddlyem gredu na ddichon marwolaeth yr hon a laddwyd gan Griſt, attal neb a'r a ymddiredo yn ddiſigl ynghriſt, tan ei dragwyddol greulondeb a'i gaethiwed. Ond fe a gyfyd o farwolaeth i ogoniant ar y dydd diwethaf, a oſodwyd gan yr holl-alluog Dduw, fal y cyfododd Chriſt ein pen ailwaith y trydydd dydd, wrth ordeiniad Duw. O herwydd, medd S. Awſtin, lle 'dd aeth Chriſt y pen mae 'r aelodau yn gobeithio y cânt hwythau ganlyn a dyfod ar ol. Ac mae S. Pawl 1. Cor. 15. 12. 15. yn dywedyd, Os cyfodwyd Chriſt oddiwrth y meirw, y cyfodir ninnau hefyd.

Ac er rhagor ddiddanwch i bob Criſtion yn hyn o beth, mae 'r Scrythur lân yn galw y farwolaeth gnawdol hon yn gwſc, trwy 'r hwn y tynnir mewn cyffelybiaeth, ſynhwyrau dŷn dros amſer oddiwrtho, ac etto pan ddihuno mae fe 'n llonnach ac yn hoywach nâ phan aeth ef i'w wely. Felly er bod yn gwahanu ein eneidiau ni oddiwrth ein cyrph dros ennyd, etto ar yr ail-gyfodiad cyffredinol ni a fyddwn hoywach, harddach a pherffeiddiach nag ydym ni yn awr.

O herwydd yn awr yr ydym yn farwol, y pryd hwnnw ni a fyddwn yn anfarwol: yn awr wedi ein llygru gan lawer o wendid, yno y byddwn rhyddion oddiwrth bob gwendid marwol: yn awr yr ydym yn gaethion i bob chwantau cnawdol, yno y byddwn yn hollawl yn yſprydol, heb chwennychu dim onid gogoniant Duw a phethau tragwyddol.

Fal hyn nid yw marwolaeth gnawdol onid drws a mynediad i fywyd: ac am hynny nid ydyw mor ofnadwy (os yſtyrir hi yn iawn) ac y mae hi yn ddiddanus; nid dial ond ymwared yn erbyn pob dialedd: nid gelyn onid cyfaill; nid gorthrymmydd creulon, onid tywyſog tirion i'n harwain ni o farwolaeth i fywyd, o driſtwch a phoen i lawenydd a digrifwch, yr hwn a bery byth yn dragwyddol, os derbynnir ef yn ddiolchgar megis cennad Duw, ac os goddefwn ef yn oddefgar er cariad ar Griſt, yr hwn a oddefodd ddolurus angau er cariad arnom ni, ac er ein rhyddhau ni o dragwyddol angau.

Yn gyttun â hyn y dywaid S. Pawl, y mae ein bywyd ni yn guddiediedig gydâ Chriſt yn-nuw: onid pan ymddangoſo 'n bywyd ni yno 'r ymddangoſwn Coloſſ. 3. 4. ninnau hefyd mewn gogoniant gydag ef.

Paham gan hynny yr ofnwn farw, gan yſtyriaid aml a diddanus addewidion yr efengyl, a'r Scrythyrau ſanctaidd? Rhoddodd Duw ini fywyd tragwyddol, medd Ioan Sant, a'r bywyd hwn ſydd yn ei Fâb ef. Yr hwn y mae y Mâb gantho Ioan. 6. 40. mae bywyd gantho, a'r hwn nid oes ganddo Fâb Duw nid oes gantho fywyd. Y pethau hyn, 1. Ioan. 5. 1 . medd S. Ioan, a ſcrifennais attoch y rhai ydych yn credu yn enw Mâb Duw: fal y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol, a'ch bod yn credu yn enw Mâb Duw. Ac fe ddywaid ein Iachawdwr Chriſt, yr hwn ſydd yn credu ynofi ſydd iddo fywyd Ioan. 6. 4. tragwyddol, ac mi a'i hadgyfodaf ef y dydd diwethaf. Ac mae S. Pawl yn dywedyd ddarfod i 1. Cor. 1. 3 . Dduw ordeinio a gwneuthur Chriſt yn ddoethineb, yn gyfiawnder, yn ſancteiddrwydd, ac yn ymwared ini, er mwyn bod i'r hwn a orfoleddo orfoleddu yn yr Arglwydd.

Ac yr oedd S. Pawl yn dibriſo, yn dirmygu, ac yn cyfrif megis tom y pethau oedd fawr gantho am danynt o'r blaen, fal y galle o'r diwedd gael bywyd tragwyddol, gwir ſancteiddrwydd, cyfiawnder, a thrugaredd ynghriſt Ieſu. Yn ddiwethaf, Coloſſ. 3. mae S. Pawl yn gwneuthur dadl oleu yn y modd ymma, Os ein Tâd nefol nid arbedodd Coloſſ. 8. 31. ei fab naturiol, onid ei roddi i farwolaeth droſom, pa fodd na rydd ef bob peth ini gydag ef?

Am hynny os yw Chriſt gennym, y mae gennym gydag ef a thrwyddo ef bob peth ac a allo ein calonau ei ddeifyf neu ei chwenychu: megis goruwchafiaeth yn erbyn angau, pechod ac vffern; mae gennym ffafor Duw, heddwch ag ef, ſancteidrwydd, doethineb, cyfiawnder, nerth, bywyd ac ymwared; mae ini trwyddo ef dragwyddol Iechyd, cyfoeth, llawenydd ac annherfynol fendith.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am ofn angau.

FE ddangoſwyd i'wch o'r blaen fod tri achos pa ham y mae dynnion yn ofni marw.

Y cyntaf yw triſt ym-adel a'u golud a'u hoffderau bydol.

Yr ail yw ofn y gloeſion a'r poenau a ddawant gydag angau.

Yr achos mwyaf a'r diwethaf yw Echrydys. erchyll ofn trneni Cas. echryſlon a thragwyddol ddamnedigaeth yn yr amſer a ddaw. Ac etto nid oes vn o'r achoſion ymma yn cyffro neb o'r gwyr daionus, am eu bod hwy yn eu cadarnhau eu hunaim trwy wir ffydd, cariad perffaith, a diogel obaith o'r llawenydd didranc a thragwyddol fendith.

Mae gan yr holl rai hyn am hynny achoſion mawrion i fod yn llawn llawenydd, am eu bod hwy gwedy eu cyſſylltu â Chriſt trwy wir ffydd, diogel obaith, a chariad perffaith, ac i fod heb ofni nac angau na thrgwyddol ddamnedigaeth. O herwydd ni ddichon angau eu gwahanu hwy oddiwrth Griſt, nac vn pechod ddamno y rhai a ddiogelwyd ynddo ef, yr hwn yw eu hunig lawenydd, eu tryſor a'u bywyd hwy.

Etifarhawn am ein pechodau, gwellhawn ein bywyd, ymddiredwn yn ei drugaredd ef a'i haeddiant, ac ni ddichon angau na'i dynnu ef oddiwrthym, na ninnau oddiwrtho yntef. O herwydd yno (medd S. Pawl) pa vn bynnac a wnelom ai byw ai marw yr ydym ni yn eiddo 'r Arglwydd. Ac fe ddywaid ailwaith, Chriſt a fu farw ac a gyfododd drachefn, fal y byddai ef Arglwydd ar y byw a'r meirw. Wrth hynny os ydym ni eiddo 'r Arglwydd, pan fythom feirw, ni ddichon na chanlyno, nid yn vnic nad ydyw y fath farwolaeth gnawdol yn abl i'n drygu, onid hefyd y bydd hi elw ac ennill i ni, ac y cydſyllta hi ni â Duw yn gyflawnach.

Ac o hyn y dichon pob Chriſtionogaidd galon fod yn ſiccr ddiogel, trwy ddidwyll wirionedd yr Scrythyr lân. Canys Duw, fal y dywaid S. Pawl, a adeiladodd ini dŷ tragwyddol yn y nefoedd, ac a roddodd ini wyſtl o'i Yſpryd. Am hynny . Cor. 5. 1. 5. byddwn bob amſer ddiddanus, o herwydd ni a wyddom yr hyd y bythom yn y cnawd, ein bod ni oddigartref ymhell oddiwrth Dduw, ac megis mewn gwlâd ddieithr, mewn llawer o enbeidrwydd, yn rhodio heb gyflawn olwg, na gwybodaeth am yr holl-alluog Dduw, ac yn ei weled ef yn vnic trwy ffydd yr Scrythyrau ſanctaidd: ond mae 'n ewyllys ni a'n chwant ar fod gartref gydâ Duw a'n Iachawdwr Chriſt ym-mhell oddiwrth y corph, lle y gallom weled Duw yn y modd y mae ef, wyneb yn wyneb, i'n diddanwch an-nherfynol.

Dymma ſûm gairiau S. Pawl, trwy y rhai y gallwn yſtyriaid fod yn cyffelybu ac yn tebygu ein bywyd ni yn y byd hwn i bererindod mewn gwlâd ddieithr, ym-mhell oddiwrth Dduw: a bod angau yn ein gwared ni o'n cyrph ac yn ein danfon ni yn iniawn adref i'n gwlad ein hunain, ac yn gwneuthur ini aros yn breſennol gydâ Duw yn dragwyddol, mewn tragwyddol orphwyſfa a llonyddwch, megis nad ydyw marw yn golled, ond yn fudd ac yn ennill i'r holl Griſtionogion.

Pa beth a gollodd y lleidr a groſhoelwyd gydâ Chriſt trwy angau co phorol? Ie pa ennill a gafas ef oddiwrthi? oni ddywad ein Iachawdwr Chriſt wrtho, heddyw y byddi gydâ mi ym-mharadwys? Luc. 23. 43.

Ac oni leſhaodd ac oni dderchafodd angau yn rhyfedd Lazarus ofidus hefyd, yr hwn a orweddodd yn hir gan ddolur, ac yn druan gan newyn, Luc. 16. 22. wrth borth y gwr goludog pan ddygpwyd ef trwy wenidogaeth angylion i fonwes Abraham, lle o orphwyffa, o lawenydd a diddanwch nefol.

Na thybygwn am hynny, Griſtionogion da, na ddarfu i Griſt ddarparu a pharatoi yn y blaen, yr vn llawenydd a dedwyddwch i ninnau hefyd, ac a ddarparodd ef i Lazarus a'r lleidr. Glynwn gan hynny wrth ei Iechydwriaeth a'i brynedigaeth graſawl ef, credwn ei air ef, gwaſanaethwn ef â'n holl galonnau, carwn ef ac vfyddhawn iddo: a pha beth bynnac a wnaethom ni o'r blaen yn erbyn ei ſanctaidd ewyllys ef, etifarhawn yn awr mewn amſer: myfyriwn o hyn allan wellau ein bywyd, a byddwn ſiccr y bydd ef mor drugarog wrthym ni, ac a fu ef wrth Lazarus neu 'r lleidr: ſiampſau y rhai a ſcrifennwyd yn yr Scrythur ſanctaidd er diddanwch i'r holl bechaduriaid, y rhai ydynt yn gorfod arnynt dreulio eu hoes mewn triſtwch, mewn blinderau, a chyfyngderau y hyd hwn: fel na byddo iddynt wanobaithio am drugaredd Duw, ond ymddired yn waſtadol trwy ei drugaredd ef gael maddauant o'u pechodau, a thragwyddol fywyd, fal y cafodd Lazarus a'r lleidr.

Fal hyn yr ydwyf yn gobeithio fod pob Chriſtion yn deall weithion trwy ddidwyll air Duw, na ddichon corphorol angau na gwaethu na drygu y rhai a wir gredant ynghriſt Ieſu. Ond o'r gwrthwyneb y lleſhâ ac y derchafa ef yr holl eneidiau Criſtionogawl y rhai yn wir etifeiriol am eu baiau ydynt yn myned oddi ymma mewn cariad perffaith a diogel obaith y bydd Duw trugarog iddynt, y maddau fe eu pechodau hwynt er haeddiant ei vnig naturiol fab Ieſu Chriſt.

Yr ail achos pa ham y mae rhai yn ofni marwolaeth yw clefydau toſtion, a phoenau trymmion, y rhai a ddawant naill ai ym-mlaen angau, ai yntau gydag angau pan ddelo. Yr ofn hwn yw ofn cnawd gwael, a gwendid naturiol, a berthyn at annian dyn marwol. Ond mae gwir ffydd yn addewidion Duw, a dyfal feddw am y poenau a'r ing a oddefodd Chriſt ar y groes droſom ni bechaduriaid truain, ynghŷd ag yſtyriaeth am y llawenydd a'r tragwyddol fywyd ſydd ar ddyfod yn y nefoedd, yn eſmwytho ac yn llonyddu y poenau, ac yn lleihau 'r ofn ymma, fal na allo ortrechu y chwant a'r llawenydd calonnog, y ſydd gan enaid Chriſtion, i gael ei wahanu oddiwrth y corph llygradwy hwn, fal y gallo ddyfod i raſol breſenolder ein Iachawdwr Ieſu Griſt.

Os ni a gredwn yn gadarn air Duw, ni a gawn weled nad yw y fath glefydon corphorol, a'r doluriau a'r poenau toſt yr ydym yn eu goddef naill ai cyn ai gydag angau, onid gwialen ein nefol a'n caredig dâd, trwy 'r hon y mae fe yn drugarog yn ein ceryddu ni, naill ai er mwyn profi a chyhoeddi ffydd ei oddefgar blant, fal y ceffer hwy yn ganmoladwy yn anrhydeddus ac yn ogoneddus yn ei olwg ef, pan ddangoſſer yn oleu fod Ieſu Griſt yn farnwr yr holl fyd: ai yntau i goſpi ac i wella yndynr bob peth ac ſydd yn anfodloni ei dadawl ddaioni ef, rhag eu colli hwy yn dragywydd. Ac mae y wialen gerydd hon yn gyffredinol i bawb ac ydynt yn wir eiddo ef.

Taflwn am hynny ymmaith faich pechod, ſydd yn gorwedd yn rhy drwm ar ein Gyddfau. gyddygau, a thrown at Dduw trwy wir etifeirwch a gwellhâd bywyd, rhedwn yn oddefgar yr yrfa a oſodwyd i ni, gan oddef er ei fwyn eſ a oddefodd er ein Iachawdwriaeth ni, bob poenau, a phob triſtwch angau, ie ac angau ei hun, yn llawen pan danfono Duw ef attom, gan fod ein llygaid gwedy Phil. 3, 8. eu goſod, a'u diogelhau ar ein pen, a thywyſog ein ffydd Ieſu Griſt, yr hwn gan yſtyriaid y llawenydd a ddawai iddo, ni phriſodd nac ar gywilydd nac ar boenau angau, ond efe a gydffurfiodd ac a Heb. 12. 2. gydweddodd ei ewyllys ei hunan ag ewyllys ei dâd ac er ei fod yn ddifai ac yn ddieniwed, etto fe a oddefodd wradwydduſaf, a phocnediccaf angau 'r groes. Yn awr am hynny mae fe gwedy ei gyfodi i'r nefoedd ac yn eiſtedd yn dragwyddol ar ddeheulaw gorſeddfaingc Duw dâd.

Cofiwn am hynny y bywyd a'r llawenydd nefol ſydd ynghadw i bawb ac a oddefant ymma yn oddefgar gydâ Chriſt, ac yſtyriwn i Griſt ddioddef y cwbl o'i ddioddeifaint gan bechaduriaid, ac er mwyn pechaduriaid, ac yno y goddefwn yn haws ac yn eſmwythach y gofidiau a'r poenau hynny pan ddelont.

Na Ddiyſtyrwn. fychanwn am hynny gerydd yr Arglwydd, ac na Ymwhithnachwn. rwgnachwn yn ei erbyn ef, ac na chw ympwn oddiwrtho, pan y'n cerydder gantho. O herwydd mae 'r Arglwydd yn ceryddu pob vn a garo, Heb. 1 . 6, 7, 8. ac yn ffuſto pob vn ac a gymmero yn blentyn iddo. Pa fab ſydd, medd S. Pawl, nas coſpo ei dad ef? eithr os heb goſpedigaeth yr ydych, o'r hon y mae pawb o'i blant a'i garedigion ef yn gyfranogion, yno baſtardiaid ydych ac nid meibion o briod. Am hynny gan fod ein tadau daiarol cnawdol yn ein coſpi ni, a ninnau yn eu hofni ac yn derbyn eu coſp hwy yn barchus: oni ddlyem ni fod yn fwy ein goſtyngeidrwydd i Dduw Tâd yr yſprydoedd, trwy 'r hwn y mae ini fywyd tragwyddol? Ac mae 'n tadau cnawdol yn ein coſpi ni weithiau fal y byddo bodlon ganthynt heb ddim achos: ond mae 'n Tâd hwn yn ein ceryddu ni yn gyfiawn naill ai am ein pechodau, o fwriad ar ein gwellhau, neu er budd a lleſhad ini, i'n gwneuthur trwy hynny yn gyfranogion o'i ſancteiddrwydd.

Hefyd fe dybygid nad oes yn yr holl goſp y mae Duw yn ei ddanfon yn y byd preſennol hwn, na llawenydd, na diddanwch, onid poen a thriſtwch: etto mae 'n dwyn gydag ef flas o drugaredd a daioni Duw tuag at y rhai y mae fe yn eu coſpi, a ſiccr obaith o dragwyddol ddiddanwch Duw yn y nefoedd.

Am hynny onid ydyw y gofidiau a'r afiechyd a'r clefydau ymma, ie ac angau ei hun, ddim onid gwialen ein tad nefol, trwy 'r hon y mae fe yn ein nitho ac yn ein puro ni, trwy 'r hwn y rhydd ef i ni ſancteiddrwydd ac y ſiccrha ef ni ein bod yn blant iddo ef, ac yntef yn drugarog dâd i ninnau. Oni chuſanwn ninnau yn llawen ac yn ewyllyſcar â phob goſtyngeiddrwydd megis vfydd blant caredig, wialen ein Tad nefol, gan ddywedyd yn waſtad yn ein calonnau gydâ ein Iachawdwr Ieſu Griſt, y Tad oni all yr ing a'r gofid yr ydwyf yn ei oddef a'r angau yr ydwyf yn ei weled yn neſau Mat. 16. 39. attaf, fyned heibio, ond bod dy ewyllys imi eu goddef hwy, bydded dy ewyllys di.

¶ Y trydydd ran o'r bregeth am ofn angau neu farwolaeth.

FE ddangoſwyd yn y bregeth hon yn erbyn ofn angau ddau achos y rhai ſydd yn peri i wyr bydol ofni marw, etto nid ydyw y rhai hyn yn cyffroi dim o'r ffyddloniaid, na'r rhai ſydd yn byw yn dda, pan ddelo angau, ond maent yn rhoddi iddynt hwy achoſion i lawenhau yn fawr, gan yſtyriaid y cânt eu rhyddhau ar fyrder oddiwrth ofn a thrueni y byd hwn, a'u dwyn i fawr lawenydd a dedwyddwch y byd a ddaw.

Yn awr y trydydd achos a'r hyſpyſaf, paham y mae angau yn wir ofnadwy, yw gofidus gyflwr ac ſtât y bydol a'r annuwiol yn ôl angau.

Ond nid ydyw hyn achos yn y byd i'r duwiol a'r ffyddloniaid i ofni angau, ond o'r gwrthwyneb fe ddlyai eu hymddygiad duwiol hwy yn y byd hwn, a'u cred hwy ynghriſt, a'u gwaſtadol ymlyn wrth ei drugaredd ef, wneuthur iddynt hwy hiraethu yn fawr am y bywyd hwnnw, yr hwn yn ddiammau ſydd yn eu haros hwy yn ol yr angau corphorol hwn.

Ac o blegid yr ſtât anfarwol ymma yn ol y bywyd trāgedig hwn, lle y cawn fyw byth yngwydd Duw mewn llawenydd a llonyddwch, yn ol goruchafiaeth pob clefyd, goſid, pechod ac angau, mae llawer o leoedd goleu yn yr Scrythyr lân i gadarnhau cydwybod wan yn erbyn ofn y fath ofidiau, clefydon, pechod, a chorphorol angau: i eſmwytho y fath echryd ac annuwiol ofn, ac i'n cyſuro ni â gobaith ſtât fēdigaid yn ol y bywyd hwn.

Mae S. Pawl yn chwennych ar i Dduw Tâd y gogoniant roddi i'r Epheſiaid Yſpryd doethineb a dat guddiad i'w adnabod ef, trwy oleuo golwg eu calonnau, fal y gwypent obaith ei alwedigaeth Epheſ. 1. 17, 18. ef, a pha beth yw golud ei etifeddiaeth ef yn ei ſaint: a pha beth yw rhagorol nerth ei fawredd ef yn y rhai ydynt yn credu. Mae S. Pawl ei hun yn dangos deiſyfiad ei galon, yr hyn oedd cael ei ollwng oddiwrth y corph a bôd gydâ Chriſt, yr hyn (eb efe) ſydd orau dim i mi, er bod yn anghenrheidiol Phil. 1. 23. o'u rhan hwynt iddo aros yn y cnawd, yr hyn er eu mwyn hwy ni wrthododd ef ei wneuthur, megis y dywad ſaint Marthin, Oh Arglwydd daionus os byddaf anghenrhaid i'th bobl di i wneuthur daioni iddynt, ni wrthodaf ddim poen: os amgen, o'm rhan fy hun mi atolygaf iti gymmeryd fy enaid attat.

Am y tadau oll o'r hên gyfraith a chynifer oll o wyr ffyddlawn cyfiawn, ac a ymadawſant ymmlaen Derchafel. eſcynniad ein Iachawdwr Chriſt i'r nef, hwy aethant trwy angau a gofid i eſmwythder, o ddwylaw eu gelynnion i ddwylaw Duw, o driſtwch a chlefydon i hyfrydwch ym-monwes Abraham, lle o gyſur a diddanwch, fal y mae 'r Scrythur lân yn tyſtiolaethu yn oleu, trwy airiau eglur ddigon.

Mae llyfr y doethineb yn dywedyd fod eneidiau y rhai cyfiawn yn llaw Dduw, ac na chyfwrdd cyſtudd â Doeth. 3. 1, 2, 3. hwy, y rhai angall oeddynt yn tybied hefyd eu bod hwy yn marw, a blin hefyd y cyfrifid eu diwedd hwy, a'u mynediad oddiwrthym ni yn ddiniſtr, ond maent hwy mewn heddwch. Ac fe ddywaid lle arall, fod y cyfiawn yn byw byth a'u Doeth. 5. 16. &c. gwobr hwy gydâ 'r Arglwydd, a chan y goruchaf y mae gofal am danynt, am hynny y cânt deyrnas hardd a choron dêg. Ac mewn man arall y dywaid yr vn llyfr, Er rhagflaenu y cyfion trwy Doeth. 5. angau dyſyfyd etto fe fŷdd lle caffo gyſſur. Mae geiriau Chriſt mor eglur am Aſcre. fonwes Abraham nad rhaid i vn Chriſtion geiſio eu cadarnhau hwy yn fwy.

Yn awr gan hynny os dymma gyflwr y tadau ſanctaidd a'r gwyr cyfiawn cyn dyfodiad ein Iachawdwr, a chyn ei ogoneddu ef: mwy o lawer y dlye fod gennym ni ffydd ſafadwy a ſiccr obaith yn yr ſtât a'r cyflwr ymma yn ôl angau, gan ddarfod i'n Iachawdwr Chriſt gyflawni eiſoes gyfan waith ein prynedigaeth ni, a'i fod ef gwedy eſcyn i'r nefoedd yn ogoneddus, i baratoi trigleoedd ini gydag ef: ac iddo ddywedyd hefyd wrth ei Dâd, Y Tâd yr wyf yn ewyllyſio fod fyngwaſanaethwyr Ioan 7. 24. gydâ ini lle byddwyf finnau. Ac ni a wyddom fod y Tâd yn ewyllyſio beth bynnag a ewyllyſio y Mâb.

Am hynny yn o l ini ymadel â'r bywyd preſennol hwn, os ni a fyddwn ffyddlon weiſion iddo ef, ni ddichon na bo ein eneidiau gydag ef. Pan labyddiwyd S. Stephan i farwolaeth, ynghenol ei boen a'i gyſtudd, beth yr oedd ef yn ei feddwl fwyaf? pan ydoedd ef medd yr Scrythur lân yn llawn o'r Yſpryd glân fe a edrychodd yn ddyfal tu a'r nefoedd, Act. 7. 55. ac a welodd ogoniant Duw, a'r Ieſu yn ſefyll ar ddeheulaw Duw. Yr hwn wirionedd yn ôl iddo ei gyffeſſu yn Hyf. eofn, yngwydd gelynion Chriſt, hwy a'i bwriaſant ef allan o'r ddinas, ac a'i llabyddiaſant ef, ac ef yn galw ar Dduw gan ddywedyd, Arglwydd Ieſu derbyn fy Yſpryd.

Ac onid ydyw Chriſt yn dywedyd yn eglur yn Verſ. 59. efengyl Ioan, Yn wir, yn wir meddaf i chwi, y neb ſydd yn gwrando fy-ngair ac yn credu i'r hwn Ioan. 5. 14. a'm anfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn: eithr ef aeth trwyodd o farwolaeth i fywyd? Ac oni chyfrifwn ni y farwolaeth honno yn werthfawr trwy 'r hon yr ydym yn myned i fywyd? gwir gan hynny yw gairiau y Prophwyd Dafydd, fod marwolaeth y rhai duwiol yn Pſal. 116. 15. werthfawr yngolwg yr Arglwydd. Aphan ddaroedd i Simeon ſanctaidd gael cyflawni deifyfiad Luc. 2. 28, 29. ei galon, wrth weled ein Iachawdwr Chriſt, yr hyn beth a ddeiſyfai trwy ei oes, fe a'i cofleidiodd, ac a'i braicheidiodd ef yn ei freichiau, gan ddywedyd, Yr awr hon Arglwydd y gollyngi dy was mewn tangneddyf yn ol dy air, cans fy llygaid a welſant dy Iachawdwriaeth, yr hon a baratoaiſt yngwydd yr holl bobl.

Inion am hynny yr ydys yn galw angau y cyfion yn heddwch ac yn fendith yr Arglwydd, megis y dywaid yr eglwys yn enw y rhai cyfiawn a ymadawſont o'r byd hwn, fy enaid tro i'th eſmwythder, yr Arglwydd a fu dda wrthyd, ac a'th obrwyodd di.

Ac yr ydym ni yn gweled wrth yr Scrythyr lân a hên ſtoriau y merthyri, nad oedd neb o'r ſanctaidd, o'r ffyddloniaid, na'r rhai cyfiawn, er pan eſcynnodd Chriſt i'r nef, yn Dowtio. ammau nad oeddynt yn yr yſpryd yn myned at Ghriſt, yr hwn yw ein bywyd, ein iechyd, ein cyfoeth ni a'n iechydwriaeth. Fe welodd Ioan yn ei weledigaeth bedair mil a ſaith vgain o wyryfon ſanctaidd, am y rhai y dywedai, mae y rhai hyn yn dilyn yr oen Ieſu Griſt i ba le bynnag yr êl efe. Ac yn y man a'r ol Gwel. 14. 1. hynny y dywaid Ioan, Mi a glywais lais o'r nef yn dywedyd wrthyf, ſcrifenna, gwyn eu byd y meirw weithian y rhai ydynt yn meirw yn yr Arglwydd, felly y dywaid yr Yſpryd, cans maent yn gorphwys oddiwrth eu poen, ac mae eu gweithredoedd V. 13. yn eu canlyn hwy. Fal wrth hyn y cânt hwy fedi mewn cyſſur a llawenydd, yr hyn a hauaſont hwy mewn trafael ac mewn poen.

Y rhai a hauant yn yr Yſpryd a fedant yn yr Gal. 6. 8. Yſpryd fywyd tragwyddol. Na ddyffygiwn gan hynny yn gwneuthur daioni, o herwydd pan delo amſer gwobr a medi, ni a fedwn yn ddiddyffygiol dragwyddol lawenydd. Am hynny yr hŷd y caffon Verſ. 11. amſer gwnawn dda i bawb, (fal y dywaid S. Pawl.) Ac na chaſclwn ini dryſor ar y ddaear, lle mae gwyfon a rhwd yn llygru, a lladron yn torri trwyodd ac yn lledratta, eithr caſclwn ini dryſorau Math. 6. 19. yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle nis cloddia lladron trwyodd ac nis lledrattânt. O herwydd rhŵd tryſorau y byd hwn, fal y dywaid S. Iaco, a dyſtiolaethant yn ein herbyn ni Iac. 5. 1. i'n barn ar ddydd mawr yr Arglwydd, ac a yſant ein cnawd ni megis tân lloſcedig.

Gwagelwn am hynny (os carwn ein llwyddiant ein hunain) na byddom ni yn rhifedi y blin a'r annedwydd gybyddion hynny, y mae S. Iaco yn erchi iddynt wylo ac vdo am y trueni a ddêl arnynt, Iac. 5. 1. am eu trachwantus gaſclu ac annuwiol gadw eu golud bydol. Byddwn am hynny gall mewn pryd a dyſcwn ganlyn ſynhwyrol ſiampl yr anghyfiawn orvwchwiliwr: trefnwn yn ſynhwyrol ein golud a'n meddiannau, y rhai a fenthyccodd Duw ini ymma dros amſer, fal y gallom wir wrando ac vfyddhau gorchymmyn ein Iachawdwr Chriſt.

Yr ydwyf (medd ef) yn dywedyd wrthych gwnewch gyfeillion i chwi o'r golud twylloddrus, fal pan fo eiſiau arnoch y'ch derbyniant i'r tragwyddol bebyll neu drigfae. Luc. 16. 9.

Yr ydys yn galw cyfoeth yn dwyllodrus, am fod y byd yn eu camarfer hwy i bob twyll a drygioni, y rhai o honynt eu hunain ydynt ddaionus roddion Duw a moddion trwy y rhai y mae gweiſion Duw yn ei waſanaethu ef wrth eu harfer hwy yn weddus. Nid ydyw ef yn gorchymmyn iddynt wneuthur y cyfoethogion yn gyfeillion, a mynnu iddynt eu hunain vchelfraint a derchafiaeth bydol, rhoddi rhoddion mawrion i wyr cyfoethogion, nad oes eiſiau arnynt, ond gwneuthur cyfeillion o'r tlodion a'r anghenus, i'r rhai pa beth bynnac a roddant mae Chriſt yn ei gymmeryd megys pe rhoddid hynny iddo ef ei hun.

Ac i'r cyfeillion hyn y mae Chriſt yn yr efengyl yn rhoddi y fath anrhydedd a gorvwchafiaeth, hyd onid ydyw yn dywedyd y derbyniant hwy y rhai a wnelont ddaioni iddynt i dai tragwyddol. Nid am y bydd dynion yn obrwywyr ini am y daioni a wnelom, ond o herwydd y gobrwya Chriſt ni, ac y cymmer ef bob peth a wnelom i'r fath gyfeillion, megis pe gwnelſem hynny iddo ef ei hun.

Fal hyn wrth wneuthur y tlodion truain yn gyfeillion ini, yr ydym yn gwneuthur ein Iachawdwr Chriſt yn gyfaill, aelodau yr hwn ydynt hwy. Y rhai fal y mae fe yn cymmeryd eu gofidion yn ofid iddo ei hun, felly y mae fe yn cymmeryd eu cynnorthwyad, eu cyſurhad, a'u diddanwch hwy, yn gynorthwyad, yn gyſurhad, ac yn ddiddanwch iddo ei hunan, ac fe rydd ini gymmaint o wobr a diolch, am y daioni a ddangoſom iddynt hwy, a phe byddai fe ei hun gwedy derbyn y fath roddiō oddiar ein dwylaw, fal y tyſtiolaetha ef yn yr efengyl, gan ddywedyd, Pa beth bynnac a wnaethoch i vn o'r rhai lleiaf o'm brodyr hyn, i Math. 25. 40. myfi y gwnaethoch.

Am hynny ſynnwn yn ddiwall na ddyffygio 'n ffydd ni a'n gobaith, y rhai a oſodaſom ni ar y goruchaf Dduw a'n Iachawdwr Chriſt: ac nad oero y cariad yr ydym yn cymmeryd arnom ein bod yn ei ddwyn tuag atto. Ond myfyriwn beunydd yn ddiwall ar ddangos ein bod yn gwir anrhydeddu ac yn caru Duw, trwy gadw ei orchymynion ef, a thrwy wneuthur daioni i bawb o'n cymydogion anghenus, gan gynnorthwyo ymmhob modd ac y gallom eu tlodi hwy â'n cyfoeth ac â'n halaethrwydd, eu hanwybodaeth hwy â'n doethineb ac â'n dyſc; a chan gyſuro eu gwendid hwy â'n nerth ac â'n hawdurdod: gan alw pawb yn eu hol oddiwrth eu drygioni trwy gyngor duwiol, a ſiampl dda: gan barhau yn waſtad yn gweuthur daioni yr hyd y bythom byw.

Ac felly ni bydd rhaid ini ofni angau am vn o'r tri achos a ſoniaſom ni o'r blaen am danynt, nac etto am vn achos arall ac a ellir ei feddyliaid. Ond o'r gwrthwyneb gan yſtyriaid aml glefydon, trallod, a thriſtwch y bywyd perſennol hwn, a pheriglau yr enbaid bererindod ymma, a'r llwyr rwyſtr y mae ein hyſpryd yn ei gael trwy 'r cnawd pechadurus, a'r corph egwan yr hwn ſydd gaeth i angau: gan yſtyriaid hefyd ofidiau ac enbaid dwyll y byd hwn o bob yſtlys: aneſcorol falchedd, trachwant, a goddineb yn amſer hawddfyd: anioddefau a grwgnach y rhai bydol yn amſer adfyd, y rhai ni orphwyſant yn ein cymmell, ac yn ein tynnu ni oddiwrth Dduw, ac oddiwrth ein Iachawdwr Chriſt, oddiwrth ein bywyd, ein cyfoeth, ein tragwyddol lawenydd a'n Iachawdwriaeth: gan yſtyriaid hefyd aneirif gyrchau diafol y gelyn yſprydol, a'u holl Saethau. biccellau tanllyd, vchelfwriad, balchedd, godineb gwag-ogoniant, cenfigen, malis, gogan ac enllib gydâ thwyllau, rhwydau a maglau aneirif eraill, i ddala pawb dan ei arglwyddiaeth: ŷr hwn y ſydd bob amſer fal llew rhuadus, yn rhodio oddiamgylch gan geiſio y neb a allo ei lyngcu.

Y Chriſtion ffyddlon ſydd yn yſtyriaid yr holl 1. Pet. 5. 8. flinderau, enbeidrwydd ac afles ymma, i'r rhai y mae fe yn gaeth yr hydy bytho fyw ar y ddayar hon; ac yn yſtyrio hefyd o'r yſtlys arall fendigedig diddanus ſtât y bywyd nefol, ſydd ar ddyfod, a melus gyflwr y rhai a ymadawſant yn yr Arglwydd: pa fodd y maent gwedy eu ryddhau oddiwrth waſtadol rwyſtrau eu cyrph marwol pechadurus, oddiwrth holl falis, twyll a rhwyſtrau y byd hwn, oddiwrth holl gyrchau diafol eu gelyn yſprydol, i fyw mewn heddwch a gorphwiſfa a didrangc eſmwythder, ynghyfeillach aneirif o angylion ac ynghynlleidfa gwyr cyfiawn perffaith, Patriarchau, Prophwydi, Merthyri a Chyffeſwyr, ac yn ddiwethaf yngwydd yr holl-alluog Dduw a'n Iachawdwr Ieſu Griſt.

Yr hwn ſydd yn yſtyriaid yr holl bethau hyn, ac yn eu credu yn ddiammau (megis y dlyid eu credu hwy) o ddyfnder ei galon, gwedy ei ſiccrhau yn-Nuw yn y wir ffydd hon, a chantho gydwybod eſmwyth ynghriſt, a chadarn obaith a diogel ymddired yn-hrugaredd Duw, trwy haeddiant Ieſu Griſt, ar gael o hono lonydd wch eſmwythder a thragwyddol lawenydd: fe fydd nid yn vnic heb ofn angau corphorol pan ddelo, onid hefyd yn ddiau (megis y gwnaeth S. Pawl) felly Phil. 1. 23. yntef yn llawen (yn ol ewyllys Duw pan welo Duw yn dda ei alw ef o'r byd hwn) a chwenycha yn ei galon gael ymadel â'r holl achoſion hyn o ddrygioni, a byw yn dragywydd gydâ Chriſt Ieſu ein Iachawdur wrth fodd Duw mewn vfydddod perffaith i'w ewyllys ef. At yr hwn Ieſu Griſt, Duw o'i fawr râd a'i drugaredd a'n dycco ni, i deyrnaſu gydag ef yn y bywyd tragwyddol I'r hwn gydâ 'r Tâd nefol, a'r Yſpryd glân y bytho gogoniant yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Annogaeth ynghylch trefn dda ac vfydd-dod i ſwyddogion a Llywodraeth-wyr.

FE greodd ac a oſododd yr Hollalluog Dduw bob peth ac y ſydd yn y nef, yn y ddayar ac yn y dwfr, mewn trefn berffaith odidog. Fe a oſododd yn y nefoedd wahanol ac amryw drefnau a galwedigaethau o Angelion ac Archangelion. Ar y ddayar fe a ddododd ac a oſododd frenhinoedd, tywyſogion, a llywiawdwyr eraill danynt hwythau, ym-mhob trefn ddaionus angenrheidiol. Yr ydys yn cadw y dwfr oddi vchod, ac mae fe yn glawio i lawr mewn dyladwy a chyfaddas amſer. Mae 'r haul, y lleuad, y ſer, yr Bwa 'r drindod. enfys, y Tryſau. taranau, y Lluched. mellt, y cwmmylau a holl adar yr awyr yn cadw eu trefn. Mae 'r ddayar, y coed, yr hadau, y plannigion, y llyſiau, yr ŷd, y glaſwellt a phob rhyw anifeiliad yn eu cadw eu hunain mewn trefn. Mae pob rhan o'r flwyddyn, megis gauaf, haf, miſoedd, noſweithiau a dyddiau yn arhos yn eu trefn. Mae holl byſcod y môr, afonydd a dyfroedd, holl ffynhonnau a ffrydiau, ie y moroedd eu hunain hefyd yn cadw eu gweddaidd a'u harferedig gylch a'u trefn.

Ac mae dŷn ei hunan hefyd ym-mhob rhan o hono, oddifewn ac oddiallan, megis enaid, calon, meddwl, côf, deall, rheſwn, ymadrodd, a phob rhan ac aelod o'r corph hefyd, mewn trefn hardd, angenrheidiol, fuddiol. Fe a oſodwyd i bob grâdd o bobl yn eu ſwyddau a'u galwedigaethau, eu dylyed a'u trefn: rhai mewn graddau vchel, rhai mewn graddau iſel, rhai yn frenhinoedd ac yn dywyſogion, rhai yn iſelwyr ac yn ddeiliaid, yn offeiriaid ac yn wŷr llŷg, yn feiſtri ac yn waſanaethwŷr, yn dadau ac yn blant, yn wyr ac yn wragedd, yn gyfoethogion ac yn dlodion: a phob vn yn rhaid iddo wrth ei gilydd: megis y mae daionus drefnid Duw i'w glodfori ym-mhôb peth, heb yr hwn ni ddichon vn tŷ, vn ddinas na gwladwriaeth ſefyll nac arhos na pharhau.

O herwydd lle nid oes iawn drefn yno y gwladycha camarfer, rhydd-did cnawdol, traha, pechod a Babyloniaidd gymmyſc. Tynnwch ymmaith frenhinocdd, tywyſogion, llywodraethwyr, rheolwyr, barn-wyr a'r cyfryw raddau o drefnio Duw, ni ddichon neb na cherdded na marchogaeth y ffordd fawr heb ei yſpeilio: ni ddichon neb gyſcu yn ei dŷ ei hun a'i wely heb ei ladd, ni ddichon vn dyn gadw ei wraig a'i blant a'i feddiannau mewn llonyddwch. Fe fydd pob peth yn gyffredinol: ac o hyny mae yn rhaid canlyn pob anffawd ac echrys, a llwyr a chwbl ddiſtryw ar eneidiau a chyrph, golud a gwladwriaeth.

Ond bendigedig fo Duw nad ydym ni yn yr Ynys hon o Brydain fawr yn gorfod i ni oddefyr Echrydus. erchyll flinderau, cyfyngderau a'r trueni, y rhai yn ddiammau y maent hwy yn eu goddef y rhai ſy a diffyg y drefn ddaionus hon arnynt. A moliant fyddo i Dduw ein bod ni yn adnabod godidawg rodd Duw a ddangoſodd efe i ni yn y peth ymma. Fe a ddanfonodd Duw i ni rodd arbennig, ein daionns Arglwydd frenhin Iames, y frenhines Ann, tywyſog Henri, ac eppil frenhinol eraill o'u cyrph hwy ill dau, a chyngor duwiol, anrhydeddus doeth; ac ycheliaid ac iſſeliaid eraill mewn trefn dduwiol hardd.

Gwnawn ni am hynny ſy ddeiliaid ein rhwymedig ddlyed gan ddiolch i Dduw â'n holl galonnau, a gweddio arno ef ar gadw y dduwiol drefn hon. Vfyddhawn bawb o waelodion ein calonnau i'w holl dduwiol gynghorau, cyfreithiau, cyhoeddiadau a gorchymmynion, a phob trefn dduwiol arall. Yſtyriwn ſcrychyrau yr Yſpryd glân, y rhai a'n hannog ac a'n gorchymmyn i fod yn vfydd-oſtyngedig, yn gyntaf ac yn enwedig i oruchelder y brenhin, llywydd goruchaf pawb. Yn ail i'r cyngor anrhydeddus, ac eraill bendefigion, llywodraeth-wŷr a ſwyddogion, y rhai trwy ddaioni Duw a oſodwyd ac a drefnwyd arnom. O blegid yr Holl-alluog Dduw yw awdur a pharotoydd y dull a'r drefn ymma. Megis y dywaid Duw ei hûn yn llyfr y diarhebiō, drwyddofi y teyrnaſa brenhinoedd, ac y barna y pennaethiaid Diar. 8. 15. gyfiawnder: drwyddofi y rheola tywyſogion a phendefigion, a holl farnwyr y ddayar. Y neb a'm caranti, mi a'u caraf hwynt.

Yſtyriwn yn dda a chofiwn vchel allu ac awdurdod brenhinoedd a'u cyfreithiau, a'u barnau, a'u ſwyddau, nad ydynt ordeiniaethau dŷn, ond ordeiniaethau Duw: ac am hynny yr ydys mor fynych yn adrodd y gair ymma Trwyddofi. Ymma hefyd y dlyem gofio ac yſtyried mai Duw o'i ddoethineb, o'i ddaioni ac o'i gariad a oſododd y drefn ddaionus ymma i'r rhai a garant Dduw, ac am hynny y dywaid, y neb a'm carant i, mi a'u caraf hwynt.

Yn llyfr y doethineb y gallwn weled yn eglur mai daionus rodd Duw yw gallu, cadernid ac awdurdod brenhin, ac mai Duw o'i fawr drugaredd a'i rhoddes er diddanu ein mawr drueni ni. Canys fel hyn y darllenwn ni yno ddywedyd wrth frenhinoedd, Gwrandewch frenhinoedd, a deallwch farnwyr eithafoedd y ddayar, cluſtymwrādewch Doeth. 6. lywodraeth-wyr y dyrfa: oblegid y cryfoer a gawſoch chwi gan yr Arglwydd, a'r gallu gan y goruchaf. Dyſcwn ymma hefyd gan anghelwyddog a didwyll air Duw, fod brenhinoedd a goruchel bennaethiaid eraill gwedi eu hordeinio gan Dduw, yr hwn ſydd vchaf i gŷd. Ac am hynny y dyſcir hwy ymma yn ddiwall, i ymoſod ac i ymroi i wybodaeth a deall angenrheidiol i drefnu pobl Dduw a roddwyd tan eu llywodraeth hwy, neu y rhai a orchymmynnaſai Dduw iddynt eu rheoli. Ac ymma y dyſcir hwy gan yr holl-alluog Dduw, i gydnabod iddynt dderbyn eu holl allu a'u cryfder, nid o Rufain, onid yn ddigyfrwng oddiwrth Dduw goruchaf.

Yr ydym ni yn darllen yn llyfr Deuteronomium Deut. 32. 35. fod pob coſp yn perthynu i Dduw, wrth yr ymadrodd hyn Myfi piau dialedd, ac mi a'i talaf. Ond rhaid ini ddeall fod yr ymadrodd hwn yn perthyn i lywodraeth-wyr hefyd, y rhai ſy yn lle Duw yn gwneuthur barn, ac yn coſpi trwy gyfreithiau daionus duwiol ymma ar y ddayar. A'r lleoedd o'r Scrythyr lân, y rhai a ellir tybied eu bod yn tynnu ymmaith o blith Chriſtianogion, farn, coſp a lladd, a ddlyid eu deail fel hyn, Na ddlyai neb o 'i vnig awdurdod eu hun gymmeryd arno farnu eraill neu eu coſpi neu eu lladd.

Ond mae yn rhaid i ni adel yob barn i Dduw, i frenhinoedd, i lywodraeth-wŷr, a'r barnwŷr danynt hwy, y rhai ydynt ſwyddogion Duw i wneuthur cyfiawnder, ac ydynt wrth eglur dyſtiolaeth yr Scrythyr a'u hawdurdod a'r cleddyf wedi ei ganiattau iddynt gan Dduw, fel y dyſcodd Paul ni, anwyl a dewiſol Apoſtol ein Iachawdwr Chriſt, i'r hwn y dlyem vfyddhau mor ddieſcaclus ac yr vfyddhaem i'n Iachawdwr Chriſt pe bai ef yn breſennol. Fal hyn yr ſcrifenna Paul at y Rhufeiniaid, Rom. 13. 1. Ymddaroſtynged pob perchen enaid i'r awdurdodau goruchaf, am nad oes awdurdod onid o Dduw, a'r awdurdodau ydynt, gan Dduw y maent gwedi eu hordeinio. Am hynny pwy bynnag ſydd yn ymoſod yn erbyn awdurdod, ſydd yn gwrthwynebu ordinhâd Duw: a'r rhai a wrthwynebant a dderbyniant iddynt eu hunain farnedigaeth: canys tywyſogion nid ydynt ofnus i weithred-wŷr da, onid i'r rhai drŵg. A fynni di fod heb ofn y gallu, gwna'r hyn ſydd dda ti a gai glod gantho; canys gwaſanaethwr Duw yw efe er lles i ti: Ond os gwnai yr hyn ſydd ddrŵg, ofna, am nad yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer, canys gwaſanaethwr Duw yw efe i ddial llid ar yr hwn a wnelo ddrŵg. O herwydd paham angenrhaid yw ymddaroſtwng, nid yn vnig o herwydd llid, ond er mwyn cydwybod. Am hynny y telwch deyrn-ged, oblegid gwaſanaeth-wyr Duw ydynt, yn gwaſanaethu i'r peth ymma.

Dyſcwn ymma gan S. Paul, dewiſol leſtr Duw, fod ar bob perchen enaid (nid yw efe yn dieithro neb, nac Apoſtol nac offeiriad na phrophwyd fel y dywaid S. Chryſoſtom,) o'u rhwymedig ddyled, ac er mwyn cydwybod vfydd-dod a gwarogaeth i'r awdurdodau goruchaf, y rhai ydynt gwedy eu danfon mewn awdurdod oddiwrth Dduw, yn gymmaint a'u bod hwy yn rhaglawiaid i Dduw, yn fugeiliaid i Dduw, yn ſwyddogion i Dduw, yn weinidogion i Dduw, yn farn-wyr i Dduw, wedi eu hordeinio gan Dduw ei hunan, oddiwrth yr hwn yn vnig y mae iddynt eu holl allu, a'u holl awdurdod. Ac nid yw yr vn S. Paul yn bygwth dim llai coſp nâ thragwyddol farnedigaeth i'r holl anufyddion a wrthwynebant y gyffredinol awdurdod ymma: am nad ydynt hwy yn gwrthwynebu dŷn, onid Duw: nid dychymmyg ac amcanion dŷn, ond doethineb, trefn, gallu ac awdurdod Duw.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am vfydd-dod.

YN gymmaint a darfod i Dduw greu a goſod pob peth mewn trefn weddaidd, fe a ddangoſwyd yn y rhan gyntaf o'r bregeth am drefn ac vfydd-dod, y dylyem ni hefyd ym-mhob gwladwriaeth, gadw a chynnal trefn gyfaddas, a bod yn vfydd i bob galluau, a'u hordeiniaethau a'u cyfreithiau: a bod pob llywodraeth-wyr gwedy eu hordeinio gan Dduw, er mwyn cynnal trefn ddaionus yn y bŷd: a hefyd a dylyai y llywodraethwyr ddyſcu llywodraethu a rheoli yn ôl cyfreithiau Duw: a bod eu holl ddeiliaid yn rhwymedig i vfyddhau iddynt, megis gwaſanaeth-wyr Duw, Bei rhan. pe rhôn a'u bod yn ddrŵg, nid yn vnig rhag ofn; onid er mwyn cydwybod hefyd.

Ac ymma, bobl dda, yſtyriwn yn ddiwall nad cyfraithlon i iſeliaid, a deiliaid, mewn vn achos wrthwynebu a gwrthſefyll y galluau goruchaf. O herwydd eglur ydyw geiriau Paul, fod pob vn a wrthwynebo yn ennill damnedigaeth iddo ei hûn. O herwydd pwy bynnag a wrthwynebo a wrthwyneba ordinhâd Duw. Fe gafodd ein Iachawdwr Chriſt ei hûn a 'i Apoſtolion lawer o gammau oddiar ddwylaw gwŷr drŵg anffyddlon oeddynt mewn awdurdod. Etto ni ddarllenſom ni erioed iddynt hwy nac i vn o honynt wneuthur nac anghyfundeb na gwrthryfel yn erbyn y rhai oedd mewn awdurdod. Yr ydym yn darllen yn fynych iddynt oddef yn ddyoddefgar bob trallod, blinder, ſclawndyrau, ing, poenau ac angau ei hun yn vfydd heb na therfyſcu na gwrthwynebu. Hwy a roeſant y cwbl arno ef ſydd yn barnu yn gyfiawn, ac a weddiaſant yn ddwys ac yn ddifrif dros eu gelynion. Hwy a wyddent mai ordinhad Duw oedd awdurdod y galluoedd, ac am hynny yn eu geiriau a'u gweithredoedd hwy a ddyſcent i bawb vfyddhau iddynt, ac erioed ni ddyſcaſant y gwrthwyneb. Fe ddywedodd yr anghyfiawn farnwr Pilat wrth ein Iachawdwr Chriſt, Oni wyddoſt ti fod gallu ynofi i'th groeſhoelio di, a gallu i'th ollwng di yn rhydd: Ieſu a attebodd, Ni bydde i ti awdurdod arnafi, oni bai ei roddi i ti oddi-uchod.

Trwy 'r hyn y dangoſodd Chriſt yn oleu fod gallu ac awdurdod y rheolwyr drwg oddiwrth Dduw, ac am hynny nad yw gyfreithlon i'w deiliaid ſefyll yn eu herbyn hwynt, er eu bod hwynt yn camarfer eu gallu. Anghyfraithlonach gan hynny o lawer yw i ddeiliaid ſefyll yn erbyn eu duwiol a'u Chriſtianogol dywyſogion, y rhai ni chamarferant eu hawdurdod, ond a'i harferant i ogoniant Duw, ac er bûdd a lles i bobl Dduw.

Ac y mae 'r Apoſtol ſanctaidd Petr yn gorchymmyn i waſanaeth-ddynion fod yn oſtyngedig 1. Pet. 2. 18. & 21. i'w meiſtred, nid yn vnig i'r rhai daionus mwynion, ond i'r rhai drŵg gwrthgas hefyd: gan ddywedyd, mai galwedigaeth pobl Dduw yw bod yn oddefus, ac o'r blaid orthrymmedig. Ac yno y mae efe yn datcan ammynedd a dioddefgarwch ein Iachawdwr Chriſt, er mwyn ein hannog ni i fod yn vfydd i 'n llywodraeth-wŷr, ie er eu bod hwy yn annuwiol ac yn ddrwg-weithred-wyr.

Yn awr gwrandawn S. Petr yn ei eiriau ei hûn, o herwydd ei eiriau ef ei hûn a ſiccrhâ 'n cydwybod ni orau. Fel hyn y dywaid ef yn ei Epiſtol cyntaf, Y gweinidogion, ymoſtyngwch mewn pob ofn i'ch meiſtred, nid yn vnig os hwy fyddant dda a mwynion, ond os hwy a fyddant ddrŵg ac anghyweithas hefyd. Canys hyn ſydd raſol os dŵg neb gyſtudd o herwydd cydwybod i Dduw, gan ddioddef yn ddiachos: o herwydd pa glod ſydd er bod yn dda eich ammynedd, pan gernodier chwi am eich beiau: eithr pan wneloch dda, ac er hynny yn dda eich ammynedd yn goddef, hyn ſydd raſol ger bron Duw: canys i hyn y'ch galwyd chwi. Oblegid Chriſt hefyd a ddioddefodd troſom ni gan adel i ni ſiampl, fal y gallech chwi ganlyn ei ôl ef. Geiriau S. Petr ydyw 'r holl eiriau hyn.

Mae Dafydd hefyd yn dangos i ni wers dda yn hyn o beth, yr hwn a erlidiwyd lawer gwaith yn greulon ac yn gamweddus, ac a ddodwyd yn fynych iawn mewn enbeidrwydd a pherigl o'i fywyd gan frenhin Saul a'i bobl, etto ni wrthwynebodd ef erioed, ac nid arterodd na grym nac arfau yn erbyn brenhin Saul, ei elyn hyd angau: ond fe wnai yn waſtad i'w Arglwydd a't feiſtr brenhin Saul waſanaeth cywir, diwall, ffyddlon: yn gymmaint a phan ddaroedd i 'r Arglwydd Dduw roddi brenhin Saul yn ei ogof eihun, ynnwylaw Dafydd, ni wnai efe eniwed iddo, pan 1. Sam. 18. 19. 10, 23, 24, 26. allaſai yn hawdd heb ddim enbeidrwydd corphorol ei ladd ef: ie ni oddefai ef i vn o'i weiſion ddodi ei ddwylaw ar frenhin Saul, ond fe a weddiodd ar Dduw yn y geiriau hyn, Na atto 'r Arglwydd i mi wneuthur y peth hyn i 'm meiſtr, enneiniog yr Arglwydd, gan eſtyn fy llaw yn ei erbyn ef, oblegid enneiniog yr Arglwydd yw efe.

Ac y gallaſai Ddafydd ladd brenhin Saul ei elyn, mae yn eglur ddigon yn llyfr cyntaf Samwel, cyſtal wrth dorriad cwrr ei fantell ef, ac 1. Sam. 24. 5, 7, 19. wrth gyffes eglur Saul ei hunan. Ac mewn man arall hefyd yn yr vn llyfr, pan ydoedd yr annhrugarog a'r afrywog frenhin Saul yn erlid Dafydd ddiddrwg, fe a roddodd Duw frenhin Saul eilwaith i ddwylaw Dafydd, gan daflu brenhin Saul a'i holl lû i gŵſc marwol, fel y daeth Dafydd ac vn Abiſai gydag ef o hyd nôs i werſyllfa Saul, lle yr ydoedd Saul yn cyſcu, a'i waywffon wrth ei ben, gwedy ei gwân yn y ddayar. Yna y dywedodd Abiſai wrth Ddafydd, Duw a roddes heddyw dy elyn yn dy law di: yn awr gâd i mi ei daro ef, adolwg, â gwaywffon hyd y ddayar 1. Sam, 26. 7, 8, 9. vnwaith, ac nis ail tarawaf ef: gan feddwl y lladdai efe ef ar vn ergyd, ac na byddei raid byth ei bryder ef.

A Dafydd a ddywedodd wrth Abiſai, Na ddifa ef, canys pwy a eſtynnai ei law yn erbyn enneiniog yr Arglwydd, ac a fyddai dieniwed. Adywedodd Dafydd hefyd, fel y mae 'r Arglwydd yn fyw naill ai 'r Arglwydd a'i tery ef, neu ei ddydd ef a ddaw i farw, neu ef a ddeſcyn i 'r rhyfel, ac a ddifethir. Yr Arglwydd, a'm cadwo i rhac eſtyn fy llaw yn erbyn enneiniog yr Arglwydd. Ond cymmer yn awr attolwg y waywffon yr hon ſydd wrth ei obennydd ef, a'r phioled ddwfr, ac awn ymmaith: ac ef a wnaeth felly. Ymma y gwelir yn eglur na ddlyem ni wrthwynebu, na drygu mewn modd yn y bŷd enneiniog frenhin, yr hwn yw rhaglaw a rhaglywydd Duw, a'i ſwyddog ef yn y wlâd y mae efe yn frenhin.

Ond fe a ddywaid rhyw vn ond odid, y gallaſai Ddafydd er ei amddiffyn ei hûn, yn gyfraithlon ac â chyd wybod dda ladd brenhin Saul. Ond fe wyddai Ddafydd ſanctaidd na allai fe mewn modd yn y byd wrthwynebu, eniweidio neu lâdd ei oruchaf Arglwydd frenhin. Fe wyddai nad ydoedd ef ond deiliad i Saul, ac er ei fod yn anwyl gan Dduw, a'i elyn ef brenhin Saul allan o ffafor Duw: ac am hynny er maint a annogid arno, etto fe a wrthodai yn hollawl eniweidio enneiniog yr Arglwydd. Ni feiddiai fe rhac gwneuthur yn erbyn Duw a'i gydwybod (er cael o hono le ac achos) ddodi ei ddwylo vnwaith ar y brenhin, vchel ſwyddog Duw: yr hwn a wyddai ef ei fod yn ddŷn a gedwid ac a oedid (er mwyn ei ſwydd) i'w goſpi ac i'w farnu gan Dduw ei hun yn vnig. Am hynny y mae fe yn gweddio mor fynych ac mor ddifrif, na bai iddo ef ddodi ei ddwylaw ar enneiniog yr Arglwydd.

Trwy y ddwy ſiampl ynima, y mae Dafydd (yr hwn a elwir yn yr Scrythyr, yn ŵr wrth fodd calon Duw ei hûn) yn rhoddi rheol a gwers i ddeiliaid yr holl fyd na ſafont hwy yn erbyn eu goruchel Arglwydd frenhin: ac na chymmeront gleddyf drwy eu priodol awdurdod eu hunain yn erbyn eu brenhin enneiniog Duw, yr hwn yn vnig drwy awdurdod Duw ſydd yn dwyn y cleddyf, er maentaenio daioni, a choſpi drygioni: yr hwn yn vnig trwy gyfraith Dduw ſydd a'r cleddyf ar ei orchymmyn, ac i'r hwn hefyd y mae yn perthyn pob gallu, rheolaeth, llywodraeth, cerydd a choſp, megis goruchaf lywodraethwr ar ei holl deyrnaſoedd, gwledydd ac arglwyddiaethau, a hynny trwy awdurdod ac ordeinhâd Duw.

Mae etto athrawiaeth ac hiſtori wŷch yn ail llyfr Samwel, yr hon ſydd i'r defnydd ymma. Wedi darfod i Amaleciad wrth gytundeb a gorchymmyn 2. Sam. 1. 9. Saul ei hûn, lâdd-brenhin Saul, fe a aeth at Ddafydd, gan dybiaid y cai ddiolch mawr gan Ddafydd am ei newyddiau, am ddarfod iddo lâdd gelyn câs Dafydd: ac am hynny fe a ddaeth yn ebrwydd i ddywedyd wrth Ddafyd yr hyn a ddigwyddaſai, gan ddwyn gantho y goron oddiar ben brenhin Saul, a'r fraichled yr hon oedd ar ei fraich ef, er ſiccrhau fod y newyddiau yn wir.

Ond yr ydoedd Dafydd dduwiol mor bell oddi wrth lawenychu am y newyddiau ymma, hyd oni rwygodd ef yn y man ei ddillad, y galarodd ef ac yr wylodd, ac y dywedodd wrth y gennad, Pa fodd nad ofnaiſti eſtyn dy law ar enneiniog yr Arglwydd i'w ddifetha ef? Ac yn y man fe wnaeth Dafydd i vn o'i weiſion ladd y gennad, gan ddywedyd, Bydded dy waed di ar dy ben dy hûn, canys tyſtiolaethodd dy enau dy hûn yn dy erbyn, gan ddywedyd, myfi a leddais enneiniog yr Arglwydd.

Am hynny, gan fod y ſiamplau hyn mor oleu ac mor eglur, fe wŷl pawb nad ydyw ond dygyn anwybod, gwall-gôf ac anwiredd, i ddeiliaid rwgnach, gwrthryfelu, gwrthwynebu, gwrthſefyll, ymgyffroi neu gyfodi yn erbyn eu hanwyl a'u hofnadwy vchel Arglwydd frenhin, a oſododd ac a ordeiniodd Duw o'i fawr ddaioni, er lleſhâd a heddwch ac eſmwythder iddynt hwy. Er hynny credwn yn ddiammau (bobl Griſtionogawl ddaionus) na ddlyem ni vfyddhau brenhinoedd, llywodraeth-wŷr na neb arall, pe bai 'n tadau cnawdol, os hwy a orchymmynnant i ni wneûthur dim yn erbyn gorchymmyn Duw. Yn y fath bethau ni a ddlyem ddywedyd gydâ'r Apoſtolion, Rhaid i ni vfyddhau Duw yn fwy nâ dŷn.

Ond er hynny ar y fath achoſion ni ddylêm ni ſefyll yn erbyn, na gwrthryfelu, na chyfodi, nac ymderfyſcu, nac ymgyffroi yn erbyn ein llywodraeth-wŷr ac enneiniog yr Arglwydd, na neb o'i ſwyddogion, na thrwy rym arfau nac yn vn ffordd arall. Ond yn y fath achoſion ni a ddylêm yn eſmwyth oddef pob cam a drygfyd, gan adel i Dduw farnu 'r cwbl. Ofnwn ofnus goſp y goruchaf Dduw yn erbyn brad-wyr gwrthryfelgar, a hynny wrth ſiampl Chore, Dathan ac Abiram, y rhai a gyfodaſant ac a rwgnachaſant yn erbyn llywodraeth-wŷr a ſwyddogion Duw: ac am hynny yr agorodd y ddayar eu genau, ac a'u llyngcodd hwynt yn fyw. Fe ddifethwyd eraill yn ddiſymmwth â than a ddanfonodd Duw am eu melldigedig a'u gwrthryfelgar rwgnach. Eraill a darawyd â gwahanglwyf brwnt am eu dirras ymddygiad yn erbyn eu rheolwyr a'u llywodraeth-wyr, gweinidogion Duw. Eraill a Rwygwyd. frathwyd i angau gan ſeirph tanllyd. Eraill a blagwyd yn dôſt, megis y lladdwyd mewn vn diwrnod bedair mil ar ddeg a ſaith gant o rifedi, am wrthryfelu yn erbyn y rhai a oſodaſai Duw mewn awdurdod. Abſolon hefyd a goſpwyd am wrthryfela yn erbyn ei dâd, trwy angau dieithr rhyfeddol.

¶ Y drydedd ran o'r bregeth am vfydd-dod.

CHwi a glywſoch o 'r blaen yn y bregeth hon am drefn ac vfydddod, brofi yn amlwg wrth yr Scrythyr lân a ſiamplau, fod pob deiliaid yn rhwymedig i vfyddhau i'w llywodraeth-wŷr, ac na ddylai neb wrthwynebu, wrthryfelu, na therfyſcu yn eu herbyn hwynt, Bei rhan. pe rhon a'u bod yn wyr drwg. Ac na thybyged neb y diangc ef yn ddigoſp, ar a wnel brâd, cydfradwriaeth, traeturiaeth, a gwrthryfel yn erbyn ei oruchel Arglwydd frenhin, er dirgeled y gwnelo ef hynny, pa vn bynnag ai mewn meddwl, ai mewn gair, ai mewn gweithred, er Rhined. cyfrinacholed fytho hynny yn ei ſtafell ddirgel wrtho ei hûn, ai yn gyhoeddus wrth ymddiddan ac ymgynghori ag eraill.

O herwydd ni ellir celu traeturiaeth, na ddêl ef i oleuni yn y diwedd. Fe fyn Duw gyhoeddi a choſpi y dygyn fai câs hwnnw, am ei fod mor iniawn yn erbyn ei ordeiniaeth ef, ac yn erbyn ei oruchel arbenning farnwr ef, a'i enneiniog ar y ddayar. Fe fyn Duw gyhoeddi a choſpi yn ôl ei haeddiant, mewn rhyw ffordd neu ei gilydd, y trais a'r cam a wneler yn erbyn Duw, yn erbyn gwlad wriaeth ac yn erbyn yr holl deyrnas. Canys gwych yr ſcrifennodd y gŵr call yn yr Scrythyr lân, yn y llyfr a elwir Eccleſiaſtes, neu lyfr y Pregethwr. Na felldithia y brenhin yn dy galon, Preg. 10. 20. ac yn dy ddirgel ſtafell na ddywed ddrŵg am dano: canys ehediaid yr awyr a gyhoeddant dy lais, a'r aderyn a ddatguddia dy laferydd. Yrydys gwedi ſcrifennu y gwerſi a'r ſiamplau hyn, er dyſc i ni.

Ofnwn am hynny bawb o honom atcas a dygyn fai gwrthry felgarwch, gan wybod a chofio yn waſtadol, am yr hwn a wrthwynebo neu a ſafo yn erbyn cyffredinol awdurdod, ei fod ef yn gwrthwynebu ac yn ſefyll yn erbyn Duw ei hûn a'i ordeiniaeth: fel y gellir ei brofi wrth lawer o leoedd o'r Scrythyr lân. Ac ymma edrychwn na ddeallom ni y lleoedd hyn a lleoedd eraill o 'r Scrythyr lân (y rhai ydynt mor gaeth yn gorchymmyn vfydd-dod i 'r pennaethiaid, ac a goſpaſant mor dwys wrthryfelgarwch ac anufydddod) na ddeallom (meddaf) mo honynt am y gallu y mae Eſcob Rhufein yn ei gymmeryd arno. O herwydd yn wir nid yw Scrythyr Duw yn cynnwys y drahaus awdurdod honno, yr hon ſydd yn llawn o bob traha, camarferon a chabledd. Ond gwir yſtyr y lleoedd hynny a'r fath leoedd yw clodfori a goſod allan wir ordinhâd Duw, ac awdurdod brenhinoedd enneiniog Duw, a'u ſwyddogion a oſodwyd danynt.

Ac am y gallu y mae Eſcob Rhufein yn ei gymmeryd arno, yr hwn y mae ef yn ei ſialens yn rhy anghyfiawn, megis canlynydd Chriſt a Phetr: ni a allwn yn hawdd weled mor ffalſt, anghywir ac anwireddus yw: a hynny nid yn vnig am nad oes iddo ſail diogel yn yr Scrythur lân, ond hefyd wrth ei ffrwythau a'i athrawiaeth. O herwydd mae ein Iachawdwr Chriſt a S. Petr yn ddifri ac yn gytûn yn dyſcu vfydd-dod i frenhinoedd megis i'r adderchoccaf a'r goruchaf lywodraeth-wyr yn y byd hwn yn nefaf dan Dduw. Ond mae Eſcob Rhufain yn dyſcu fod y rhai ydynt dano efyn rhyddion oddiwrth bob baich a choſt gyffredin, ac o vfydd-dod tuag at eu tywyſogiō, yn eglur ddigon yn erbyn athrawiaeth Chriſt a S. Petr.

Gwell am hynny y gellid ei alw ef yn Anghriſt, ac yn ganlynwr i'r Scrifennyddion a'r Phariſaeaid, nag yn Vicar Chriſt, ac yn ganlynydd Petr. O herwydd nid yn vnig yn y peth hyn, ond mewn matterion trymion eraill o Griſtionogawl greddyf, megis mewn materion o ollyngdod a maddeuant pechodau ac Iechydwriaeth, mae efe yn dyſcu yn iniawn yn erbyn Petr, ac yn erbyn ein Iachawdwr Chriſt, y rhai nid yn vnig a bregethaſant ar eiriau vfydd-dod i frenhinoedd, ond a arferaſant hefyd yr vnrhyw vfydd-dod yn eu bywyd a'u hymddygiad.

O herwydd yr ydym ni yn darllen dalu o honynt hwy ill dau deyrnged i'r brenhin: ac yr ydym Math. 17. 17. yn darllein i'r ſanctaidd forwyn fair, mam ein Iachawdwr Chriſt, a Ioſeph yr hwn a dybid ei fod yn dâd iddo, ar orchymmyn yr Ymmerodr fyned ill dau i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem i'w trethu ym myſc eraill, ac i ddangos eu hufydd-dod i'r llywodraeth-wŷr, er mwyn ordinhâd Duw. Ac ymma nac anghofiawn vfydd-dod Luc. 2. 4, 5. y ſanctaidd forwyn fair: o herwydd er ei bod hi yn anwyl iawn gan Dduw, ac yn fam naturiol i Ghriſt Ieſu, ac yn feichiog fawr yr amſer hynny, a chyn neſſed i'w hamſer ac y cafas hi eſcor yn ei thaith: etto hi a gymmerth y pryd hynny yn llawen y daith honno (er mwyn cydwybod) a hynny yn oerfel gauaf, heb nac eſcus na grwgnach: a hi mor dlawd ac y gorweddodd hi mewn ſtabl ac yr eſcorodd hi yno ar Ghriſt.

Ac yn yr vn modd y mae S. Petr yn ſcrifennu â geiriau eglur yn ei epiſtol cyntaf, Ymddaroſtyngwch i 1. Pat. 2. 18. bob dynol ordinhâd er mwyn yr Arglwydd, ac i'r brenhin fel i'r goruchaf, ac i'r llywiawd-wyr fel i'r rhai trwyddo ef a ddanfonir, er dialedd i'r rhai drwg, ac er mawl i'r rhai da: canys felly y mae ewyllys Duw. Nid rhaid i mi agoryd yſtyr y geiriau hyn, maent hwy o honynt eu hunain mor eglur ac mor oleu. Nid ydyw S. Petr yn dywedyd, ymoſtyngwch i mi megis pen goruchaf yr Eglwys, ac nid yw efe yn dywedyd, ymoſtyngwch i'm canlynwyr i yn Rhufain, ond y mae fe yn dywedyd, ymoſtyngwch i'ch brenhin megis i'ch pennadur vchaf, ac i'r rhai y mae efe yn eu goſod mewn awdurdod dano, o herwydd ewyllys Duw yw i chwi ddangos felly eich goſtyngeiddrwydd, ewyllys Duw yw i chwi fod mewn goſtyngeiddrwydd i'ch pennadur a'ch brenhin.

Ordeinhâd Duw, a gorchymmyn Duw, a ſanctaidd ewyllys Duw yw hyn, fod holl gorph pob teyrnas, a phob dŷn ac aelod o honi, yn oſtyngedig i'w pennadur a'u brenhin, a hynny, fel y dywaid Petr, er mwyn yr Arglwydd, ac fel y dywed Pawl, nid rhac ofn yn vnig, ond er mwyn cydwybod. Rom. 13. 5.

Fel hyn y dyſcŵn gan air Duw roddi i'n brenhin y peth ſydd ddyledus i'r brenhin, hynny yw, anrhydedd, vfydd-dod, trethau, defodau, teyrnged, cymmorthau, cariad ac ofn. Fel hyn y gwyddom Math. 22. 21. mewn rhan, ein rhwymedig ddlyed i'r awdurdod cyffredinol, dyſcwn weithion gyflawni hynny: a Rom. 13. 6. gweddiwn yn ddifrif ac yn waſtadol ar Dduw vnig roddwr pob awdurdod, dros y rhai ſydd mewn awdurdod megis y mae S. Pawl yn erchi, gan ſcrifennu fal hyn at Timotheus yn ei epiſtol 1. Tim. 2. 1, 2. cyntaf, Cynghori yr ydwyf am hynny ym-mlaen pob peth fod ymbil, gweddiau, deiſyfiadau, a diolch dros bob dŷn, dros frenhinoedd, a phawb a oſodwyd mewn awdurdod, fel y gallom fyw yn llonydd ac yn hoddychol, trwy bob duwioldeb ac honeſtrwydd: canys hyn ſydd dda a chymmeradwy gar bron Duw ein Ceidwad. Fel hyn y mae S. Paul yn ddifrif ac yn hyſpyſol yn cynghori ac yn annog pawb i roddi diolch ac i weddio dros frenhinoedd a llywodraeth-wŷr, gan ddywedyd, Vwch law pob peth, megis pe dywedai, Er dim, ac yn bennafdim, gwnewch eich gweddi dros frenhinoedd.

Rhoddwn fawr ddiolch i Dduw am ei fawr a'i odidog rôdd, a 'i ragddarbodaeth ynghylch ſtât brenhinoedd, Gweddiwn droſtynt, ar fod ewyllys da Duw a'i ymddifyn tu ag attynt. Gweddiwn ar iddynt bob amſer oſod Duw ger bron eu llygaid. Gweddiwn ar fod ganthynt ddoethineb, cyfiawnder, llaryeidd-dra, a zêl tu ag at ogoniant Duw, gwirionedd Duw, eneidiau Chriſtianogion, a'u gwlâd. Gweddiwn ar iddynt hwy arfer eu cleddyf au' hawdurdod yn iniawn ac yn gymmwys er maenteinio ac ymddiffyn y ffydd Gatholig a gynhwyſir yn yr Scrythur lân, a'u deiliaid honeſt, da: ac er ofn a choſp i'r bobl ddrŵg afreolus. Gweddiwn ar iddynt yn ffyddlon ganlyn llwybrau y brenhinoedd a'r blaenoriaid y mae ſôn am danynt yn y Beibl, Dafydd, Ezechias, Ioſias a Moſes, ac eraill o'r cyffelyb. A gweddiwn droſom ein hunain ar i ni fyw yn dduwiol mewn ymddygiad Chriſtianogawl, ſanctaidd.

Felly y cawn ni Dduw ar ein hyſtlys, ac yno nid rhaid i ni ofni dim a ddichon dŷn ei wneuthur yn ein herbyn. Felly y byddwn byw mewn gwir vfydd-dod i'n trugarog frenhin nefol, ac i'n Chriſtianogawl frenhin dayarol. Felly y rhyngwn fodd Duw, y cawn ddawn odidog, heddwch cydwybod, a llonyddwch ymma yn y byd hwn, ac yn ôl y byd hwn ni a gawn fwynhau bywyd a fo gwell mewn heddwch, a llonyddwch, a thragwyddol ddedwyddwch yn y nef. Yr hyn beth a ganiattao efe i ni igŷd, yr hwn a fu vfydd hyd angau 'r groes droſom ni i gŷd, Ieſu Chriſt: i'r hwn gydâ 'r tâd a'r Yſpryd glân, y byddo holl anrhydedd a gogoniant yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

¶ Pregeth yn erbyn putteindra ac aflendid.

ER bod aml heidiau o bob drygioni a ddlyent eu ceryddu) bobl Griſtianogol ddaionus) mae gwir dduwioldeb, a rhinweddol fywyd gwedi myned mor Anim. •• . ambell, etto vwch law pob drygioni arall, mae anllywodraethus foroedd godineb neu dor-priodas, putteindra, anlladrwydd, ac afſendid, nid yn vnig gwedi torri i mewn, ond hefyd gwedy llifeirio ganmwyaf dros yr holl fyd, er mawr ddianrhydedd Duw, ac anfeidrol gabledd enw Chriſt, er cyhoeddus ddiſtryw gwir grefydd, a llwyr ddiniſtr daionus gyffredinolrwydd, a hynny mor halaeth, megis trwy fynych arfer o hono, y mae y drygioni hwn gwedy tyfu i'r fath vwchder, megis haychen ym-mhlith llawer o bobl ni chyfrifir ef yn bechod: onid yn hytrach yn ddigrifwch, yn gellwair a nwyſiant ieuengtid, yr hwn ni cheryddir, ond a ddifrawir, yr hwn ni choſpir, ond a chwerddir o'i blegid.

Am hyn anghenrhaid ydyw ar hyn o bryd draethu wrthych am bechod putteindra a godineb, a dangos i chwi faint y pechod ym-ma, ac mor gâs, mor ddigaſog, ac mor ffiaidd ydyw ac y cyfrifwyd ef bob amſer ger bron Duw a phob dŷn daionus, ac mor ddwys y coſpwyd ef gynt, trwy gyfraith Dduw a chyfraithiau llawer o dywyſogion: ac hefyd i ddangos i'wch ryw gyfarwyddyd, fel y galloch (trwy râs Duw) wachelyd erchyll bechod putteindra a goddineb, a byw mewn glendid ac honeſtrwydd. Ac er mwyn bod i chwi yſtyried fod putteindra a godineb yn bechodau ffiaidd yngolwg Duw, chwi a goſiwch orchymmyn Duw, Nawna odineb. Yr hwn air, Godineb, er bod yn ei ddeall ef yn briodol am ymgymmyſc ac anghyfraithlō gyſylltiad gŵr priodol â rhyw wraig arall heb law ei wraig ei hun: neu wraig gydâ gŵr heb law ei gŵr ei hun: etto trwy 'r gair hwn hefyd yr arwyddocceir pob arfer anghyfraithlon o'r aelodau a oſodwyd i genhedlu. Ac mae 'r vn gorchymmyn hwn, yr hwn ſydd yn gwahardd godineb, yn paentio yn gyflawn, ac yn goſod ger bron ein llygaid ni faint pechod putteindra: ac yn dangos yn oleu mor ffiaidd y dylyai fod y pechod ymma gan bob dŷn honeſt ffyddlon.

A rhac i neb o honom feddwl fod gwedy ei ddieithro ef a'i ddoſparth oddiwrth y gorchymmyn hwn: pa vn bynnag fythom ai hên ai ieuangc, ai priodol ai am-mhriodol, ai gŵr ai gwraig, gwrandawn pa beth a ddywaid Duw Dâd trwy ei odidawg brophwyd Moſes, Na fydded puttain ymmhlith merched Iſrael, na phutteinwr ymmhlith Deut. 23. 7. meibion Iſrael. Ymma y gwaherddir pob putteindra, godineb ac aflendid, bob rhyw o bobl, i bob grâdd, i bob oedran yn ddiddieithrad.

A rhac i ni frith-dybied na pherthyn yr arch neu y gorchymmyn hwn attom ni yn wir, gwrandawn beth a ddywaid Chriſt (perffaith ddyſcawdwr pob gwirionedd) yn y Teſtament newydd: Mat. 5. 57, 28. Chwi a glywſoch (medd Chriſt) ddywedyd wrth y rhai gynt, Na wna odineb: ond yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, pwy bynnag a edrycho ar wraig gan ei chwennychu, a wnaeth odineb â hi eiſioes yn ei galon, Ymma y mae ein Iachawdwr Chriſt, nid yn vnig yn cryfhau ac yn cadarnhau ygyfraith yr hon a roddaſe Dduw dâd yn yr hên deſtament, trwy ei waſanaethwr Moſes yn erbyn godineb, ac yn ei gwneuthur hi o gyflawn rym i barhau dros fyth ym-mhlith proffeſwyr ei enw ef yn y Teſtament newydd: ond mae fe hefyd (gan ddamnio angh y faddas ddeongliadau y Phariſę aid a'r ſcrifennyddion, y rhai a ddyſcent fod y gorchymmyn hwn yn peri i ni yn vnig ymgadw rhag godineb oddi allan, ac nid rhag chwantau aflan a gwyniau ammhur) yn dyſcu i ni gyfan a chyflawn berffeithrwydd, purder a glendid buchedd, i gadw ein cyrph yn ddihalog a'n calonnau yn bur, ac yn rhydd oddiwrth bob chwantau drŵg, cnawdol ddeiſyfiadau a chyfundebau.

Pa fodd gan hynny y gallwn fod yn rhyddion oddiwrth y gorchymmyn hwn: lle mae cymmaint ſiars ŵedi ei oſod arnom? a ddichon gwâs wneuthur y peth a fynno, a'i feiſtr yn gorchymmyn y gwrthwyneb iddo? Onid Chriſt yw ein meiſtr, a ninnau iddo ef yn weiſion? Pa fodd gan hynny yr eſceuluſwn ni fodd ac ewyllys ein meiſtr, a chā lyn ein ewyllys a'n ffanfi ein hunain? Fynghyfeillon i ydych chwi, medd Chriſt, os gwnewch y pethau yr wyfi yn eu gorchymmyn i chwi. Yn Ioan. 15. 14. awr fe a orchymmynnodd ein meiſtr Chriſt i ni ymwrthod a phob aflendid yngorph ac Yſpryd. Hyn, wrth hynny, ſy raid i ni ei wneuthur, os ceiſiwn fodloni Duw.

Yr ydym ni yn darllein yn Efangel S. Matthew, i'r Phariſæaid a'r Scrifennyddion ddigio Mat. 15. . wrth Chriſt yn anial, am nad oedd ei ddiſcyblon ef yn cadw traddodiadau yr henafiaid; canys ni olchent eu dwylo cyn cyniawa neu ſwpperu. Ymmhlith pethau eraill fe a attebodd Chriſt ac a ddywedodd, Gwrandewch a deellwch, nid yr hyn ſydd yn myned i mewn i'r genau ſydd yn halogi dŷn, ond y pethau a ddauant allan o'r genau ſydd yn dyfod o 'r galon, a hwynt hwy a halogant ddŷn. Canys o 'r galon y mae meddyliau drŵg yn dyfod, llofruddiaeth, tor-priodas, godinebau, lledrad, camdyſtiolaeth, cabledd. Dymma y pethau ſy yn halogi dŷn. Ymma y gallwn weled nad llofruddiaeth, lledrad, cam-dyſtiolaeth a chabledd yn vnig ſydd yn halogi dŷn, ond hefyd meddyliau drŵg, tor-priodas, godineb a phutteindra.

Pwy ſydd yn awr mor wan ei ſynwyr ac y tybia fod putteindra a goddineb yn bethau bychain yſcafn ger bron Duw. Mae Chriſt yr hwn yw 'r Ioan. 14 6. gwirionedd ac ni ddichon ddywedyd celwydd, yn dywedyd fod meddyliau drŵg, tor-priodas, putteindra a godineb yn halogi dŷn; hynny yw, yn llygru corph ac enaid dŷn, ac yn ei wneuthur ef o deml yr Yſpryd glân, yn dommen front ac yn dderbynfa holl yſprydion aflân: o dŷ Dduw yn drigle ſathan.

Trachefn yn Efangel Ioan pan ddygpwyd y Ioan. 5. 11. wraig a ddaliaſid mewn godineb, ger bron Chriſt, fe a ddywad wrthi hi dôs, ac na phecha mwyach. Onid ydyw ef ymma yn galw putteindra yn bechod? a pha beth yw gwobr pechod, ond tragwyddol angau? Os yw putteindra yn bechod, nid Rom. 6. 23. yw gyfreithlon i ni ei wneuthur, o herwydd fel y dywaid Ioan, Yr hwn a wna bechod oddiafol 1. Ioan. 3. 6. y mae. Ac fe a ddywed ein Iachawdwr fod pob Ioan. 8. 34. vn a wnel bechod yn gaethwas i bechod. Oni bai fod putteindra yn bechod, diau na buaſai Ioan fedyddiwr yn ceryddu Herod am gymmeryd gwraig ei frawd: ond fe a ddywedodd wrtho yn oleu, Nid cyfraithlon yw i ti gymmeryd gwraig Mar. 6. 18. dy frawd. Nid arbedodd ef butteindra Herod, er ei fod ef yn frenhin cadarn, ond fe a'i ceryddodd ef yn Hyf. eofn am ei fywyd melldigedig, drwg, er iddo ef golli ei ben am hynny. Ond gwell oedd gantho oddef angau nâ gweled dianrhydeddu Duw, drwy dorri ei ſanctaidd airch a'i orchymmynion ef, ie nâ goddef mewn brenhin butteindra heb geryddu.

Pe na buaſai putteindra ddim ond digrifwch a chellwair heb achos ei wneuthur cyfrif o hono (megis y tybia llawer am dano yn y dyddiau ymma) yn wir fe fuaſai Ioan yn fwy nâ dwbl allan o'i bwyll, os ai ef tan anfodd brenhin, os goddefai ei daflu i garchar, a cholli ei ben am beth gwael dibris. Ond fe a wyddai Ioan yn dda ddigon mor frwnt, mor ddrewllyd, mor ffiaid yw pechod putteindra yngolwg Duw, ac am hynny ni oddefai ef mo hono heb geryddu; na wnai, mewn brenhin.

Onid ydyw putteindra gyfreithlon mewn brenhin, nid yw gyfreithlon mewn deiliad. Onid yw putteindra gyfraithlon mewn dŷn cyhoedd, a fyddo a ſwydd gyhoedd gantho, yn wir nid yw gyfraithlon mewn vn diſwyddau. Onid yw gyfraithlon nac mewn brenhin nac mewn deiliad, nac mewn cyhoedd ſwyddog, nac mewn vn diſwyddau: yn wir nid yw gyfraithlon nac mewn gŵr nac mewn gwraig, o ba râdd neu oedran bynnac y bônt.

Hefyd yr ydym ni yn darllein yngweithredoedd yr Apoſtolion, pan gaſclodd yr Apoſtolion yr henuriaid a'r holl gynnulleidfa ynghyd, i lonyddu calonnau y ffyddloniaid y rhat oedd yn arhos yn Antiochia (y rhai a aflonyddaſid trwy gauathrawiaeth rhyw Iuddewaidd bregethwyr) hwy a ddanfnaſant air i'r brodyr, weled yn dda gan yr Yſpryd glân a hwyntau, na ddodent arnynt faich Act. 15. 28. amgenach nâ'r pethau anghenrheidiol hyn: ymmhlith pethau eraill hwy a orchymmynnaſant iddynt ymgadw rhag delw-addoliad a godineb, oddiwrth y rhai (eb y hwynt) os chwi a ymgedwch, da y gwnewch.

Edrychwch ymma fal nad ydyw y tadau ſanctaidd bendigaid ymma o Eglwys Ghriſt, yn goſod ar y gynnulleidfa ddim ond pethau anghenrheidiol. Yſtyriwch hefyd fod yn cyfrif putteindra a godineb ym-mhlith y pethau a orchymmynnir i'r brodyr o Antiochia ymgadw oddiwrthynt. Anghenrhaid am hynny yw, wrth gyfundeb a therfyniad yr Yſpryd glân a'r Apoſtolion a'r henuriaid a'r holl gynnulleidfa, fod im felly ymgadw oddiwrth odineb a phutteindra, megis oddiwrth ddelw-addoliad ac ofergoel. Mae yn anghenrhaid er Iachawdwriaeth, ymgadw rhag delw-addoliad, felly y mae ymgadw rhag putteiudra. Oes ffordd ſydd nes a dywys i ddamnedigaeth, nâ delw-addoliad? nag oes. Felly hefyd nid oes ffordd nes a dywys i ddiſtrw corph ac enaid, nâ godineb a phutteindra.

Pa le weithian y mae y bobl a wnânt mor fychan o dor-priodas, putteindra godineb ac aflendid? Mae yn anghenrhaid, medd yr Yſpryd glân, medd y bendigedig Apoſtolion, medd yr henuriaid a holl gynnulleidfa Ghriſt; mae yn anghenrhaid, meddant, er Iachawdwriaeth ymgadw oddiwrth butteindra. Os yw anghenrhaid i Iechyd wriaeth, gwae y rhai gan eſceuluſo eu hiechydwriaeth, a roddant eu meddyliau i bechod mor frwnt, ac mor ddrewllyd, i fai cynddrŵg, ac i ffieidd-dra mor erchyll.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth yn erbyn goddineb.

FE a ddangoſwyd i chwi yn y rhan gyntaf o'r bregeth yn erbyn goddineb, fel y mae y bai hwnnw ar hyn o amſer, yn teyrnaſu vwch law pob bai arall: a pha beth yw yſtyr y gair, Godineb: a pha fodd y mae 'r Scrythur lân yn ein hannog ac yn ein cynghori ni i wachelyd y bai brwnt ymma: ac yn ddiwethaf, pa lygredigaeth ſydd yn dyfod ar enaid dŷn, oddiwrth y pcchod ymma, godineb.

Awn rhagom ym-mhellach a gwrandawn pa beth a ddywaid y ſanctaidd Apoſtol S. Paul am y peth ymma: yr hwn yn ſcrifennu at y Rhufeiniaid, Rom. 13. 12. ſydd gantho y geiriau hyn, Bwriwn ymmaith weithredoedd y tywyllwch, a gwiſcwn arfau y goleuni. Rhodiwn yn weddus megis wrth liw dydd, nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen, eithr gwiſcwch am danoch yr Arglwydd Ieſu Ghriſt: ac na fydded eich gofal dros y cnawd er mwyn porthi ei chwantau.

Ymma y mae 'r Apoſtol yn ein hannog i dafluymmaith weithredoedd y tywyllwch, y rhai, ymmhlith eraill, y mae fe yn galw cyfeddach, meddwdod, cydorwedd ac anlladrwydd, y rhai ydynt oll waſanaeth-wyr i'r bai ymma, a darpariaethau i dywys ac i arwain i'r brwnt bechod cnawdol ymma.

Mae fe yn eu galw hwy yn weithredoedd y tywyllwch, nid yn vnig am fod yn arfer o'u gwneuthur mewn tywyllwch, yn amſer nôs, (o herwydd Ioan. 3. 20. pob vn ar y ſydd yn gwneuthur drwg, ſydd yn caſhau y goleuni, ac niddaw i'r goleuni, rhag argyoeddi ei weithredoedd) ond am eu bod yn ein tywys ac yn ein harwain ar hyd yr vniawn ffordd i'r tywyllwch eithaf, lle bydd wylofain a rhincian dannedd.

Ac mae fe yn dywedyd mewn man arall yn yr vn Epiſtol, na all y rhai ydynt yn y cnawd foddloni Rom. 8. 8. 12. &c. Duw: am hynny yr ydym, medd ef, yn ddyledwyr, nid i'r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd; canys os byw a fyddwn yn ôl y cnawd, meirw fyddwn. A thrachefn y dywaid, Gwachelwch odineb. Pob pechod a wnelo dŷn, oddi allan ei gorph y mae; ond yr hwn a wnel odineb ſydd yn pechu yn erbyn ei 1. Cor. 6. 18. gorph ei hunan. Oni wyddoch fod eich corph yn deml i'r Yſpryd glân ſydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych eiddoch chwi eich hunain? canys er gwerth y'ch prynwyd chwi, am hynny gogoneddwch Dduw yn eich corph &c. Ac ychydig o'r blaen y dywaid, Oni wyddoch fod Verſ. 15. eich cyrph yn aelodau i Griſt. Am hynny a gymmeraſi aelodau Chriſt, a'u gwneuthur yn aelodau puttein? Na atto Duw. Oni wyddoch fod yr hwn ſydd yn cydio â phuttain yn vn corph â hi? Canys y ddau, eb efe, a fyddant vn cnawd: ond yr hwn a gyſſylltir â'r Arglwydd, vn yſpryd yw.

Pa eiriau duwiol y mae S. Paul yn ei hadrodd ymma, er mwyn ein hannog a'n cynghori oddiwrth butteindra a phob aflendid? Teml, medd ef, yr Yſpryd glân ydyw eich aelodau chwi, yr hon pwy bynnag a'i halogo, fe a'i diniſtria Duw ef, medd S. Pawl. Os teml yr Yſpryd glân ydym, onid anghymmheſur yw i ni yrru y ſanctaidd Ypryd hwn oddiwrthym trwy butteindra, a goſod yn ei le ef ddrŵg yſprydion godineb ac aflendid, ac ymgyſſylltu â hwynt a'u gwaſanaethu. Fe a'ch prynwyd chwi, medd ef, yn brid: am hynny gogoneddwch Dduw yn eich cyrph.

Fe brynodd Chriſt yr oen dieniwed hwnnw ni, 1. Pet. 1. 18. o gaethiwed diafol, nid â phethau llygredig, megis arian neu aur, ond â gwerthfawr waed ei galon. I baddefnydd y gwnaeth efe hynny? ai er mwn bod i ni gwympo eilwaith i'n hên affendid an ffiaidd fywyd? Nag ê yn wir, onder mwyn bod i ni ei waſanaethu ef mewn ſancteiddrwydd a chyfiawnder holl ddyddiau ein heinioes: er mwyn bod i ni ei Luc. 1. 75. ogoneddu ef yn ein cyrph, trwy burder a glendid buchedd. Mae fe yn dangos hefyd fod ein cyrph ni yn aelodau i Griſt. Mor anweddaidd, wrth hynny, yw i ni beidio a bod yn gydcorph a'n gwneuthur yn vn â Chriſt, a thrwy butteindra ymgyſſylltu a'n gwneuthur yn vn â phuttain? Pa ammarch, neu pa gam goleuach a allwn ni ei wneuthur i Ghriſt, nâ chymmeryd aelodau ei gorph ef oddiwrtho, a'u cyſſylltu hwynt â phuttainiaid, â diawliaid ac ag yſprydion drŵg? A pha ddianrhydedd ſwy a allwn ni ei wneuthur â ni ein hunain, nâ thrwy affēdid colli y fath odidog fraint a rhydd-did, gan ein gwneuthur ein hunain yn gaethweiſion ac yn druain garcharorion i yſprydion y tywyllwch?

Yſtyriwn gan hynny yn gyntaf ogoniant Chriſt: yn ail ein ſtât, ein braint a'n rhydd-did ein hunain, yn yr hwn y goſododd Duw ni, gan roddi i ni ei ſanctaidd Yſpryd: ac ymddiffynnwn hwnnw yn gefnog yn erbyn ſathan a'i holl fachellion twyllodrus: felyr anrhydedder Chriſt, ac na chollomninnau ein rhydd-did, ond arhos yn waſtadol yn vn yſpryd ag ef.

Hefyd yn ei epiſtol at yr Epheſiaid, mae 'r Apoſtol ſanctaidd yn gorchymmyn i ni fod mor bûr ac mor rhydd oddiwrth odineb, anlladrwydd a phob aflendid, fal na enwer hwy yn ein plith, megis y Epheſ. 5. 3. gwedde i ſainct, na ſerthedd, na geiriau ffôl, na choeg-ddigrifwch, y rhai nid ydynt weddus, eithr yn hytrach diolchgarwch: canys yr ydych yn gwybod hyn, am bob putteinwr, neu aflan, neu gybydd yr hwn ſydd ddelw-addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn-nheyrnas Chriſt a Duw. Ac er mwyn cofio o honom fod yn ſanctaidd, yn bur ac yn rhydd oddiwrth bob aflendid, mae 'r Apoſtol ſanctaidd yn ein galw ni yn ſainct, am ein bod gwedy ein 1. Cor. 6. 9. ſancteiddio a'n gwneuthur yn ſanctaidd trwy waed Chriſt, a thrwy r' Yſpryd glan.

Gan hynny os ydym ſainct, pa beth ſydd i ni a wnelom ag arferion y cenhedloedd. Megis (medd S. Petr) y mae 'r hwn a'ch galwodd chwi yn ſanctaidd, byddwch chwithau hefyd ſanctaidd ymmhob ymarweddiad: o herwydd ſcrifennedig yw, 1. Pet. 1. 15. Le. 11. 44. Am hynny byddwch ſanctaidd, canys ſanctaidd ydwyfi. Hyd hyn y cly wſoch orthrymmed pechod yw godineb a phutteindra, ac mor ffiaidd gan Dduw ef trwy r' Scrythur. Apha fodd nad y pechod ffiaiddiaf ac a ddichon bod, yw yr hwn ni ellir vnwaith ei enwi ym-mhlith Chriſtianogion? llai o lawer y dlyid mewn modd yn y byd ei wneuthur ef.

Ac yn ſiccr os ni a bwyſwn faint y pechod ymma, ac a'i hyſtyriwn ef yn ei iawn rywogaeth, ni a gawn weled mai pechod putteindra yw'r Ylling. llynn diffaithiaf, a'r pwll bryntaf, a'r ſoddfa ddre wllyd, i'r hwn y llifeiria ac y rhêd pob pechod, a phob drygioni arall, lle hefyd y mae iddynt drigfa a phreſwylfod.

O blegid onid yw y godinebwr yn falch o'i butteindra? fel y dywaid y gŵr call, Maent hwy yn llawen darffo iddynt wneuthur yr hyn ſydd ddrŵg, ac yn llawenychu mewn pethau drŵg anianol. Onid ydyw y godinebwr yn ddiog, ac heb ymhoffi mewn vn ymarfer dduwiol, ond yn vnig yn ei hoffddigrifwch brwnt anifeiliaidd hynny? Onid ydyw ei feddwl ef wedy ei luſco a'i dynnu ymmaith oddiwrth bob amcanion rhin weddol, ac oddiwrth bob trafael ffrwythlon, a chwedy ymroi yn vnig i ddychymmygion cnawdol? Onid yw y putteinwr yn rhoddi ei feddwl ar lothineb, er mwyn bod yn barottach i waſanaethu ei wyniau a'i hoffderau cnawdol? Onid ydyw y godinebwr yn rhoddi ei feddwl a'r gybydd-dod, ac i grafu ac i gaſclu oddiar eraill, er mwyn bod yn aplach i faentaenio ei butteiniaid, a'i ordderchadon, ac i barhau yn ei ſerch brwnt anghyfraithlon? Onid ydyw ef yn chwyddo mewn cenfigen yn erbyn eraill, gan ofni hudo ei yſclyfaeth ef, a'i thynnu hi ymmaith oddiwrtho? Hefyd onid ydyw efe yn llidiog ac yn llawn o ddigofaint ac anfodlonrwydd, ie yn erbyn y rhai anwylaf gantho, os rhwyſtrir vn amſer ei ddamuniad cnawdol diawledig ef? Pa bechod, neu pa ryw o bechod ni chyſſylltir â godineb a phutteindra?

Rhyw anghenfil yw efe a llawer o bennau iddo: mae fe yn derbyn pob rhyw feiau, ac yn gwrthod pob rhyw rinweddau. Os ydyw vn pechod yn dwyn damnedigaeth, pa beth a dybygir am y pechod a gyſſylltir ac a gyfeillechir a phob drygioni: yr hwn y mae pob peth ſydd gâs gan Dduw, damnedig i ddŷn, a hôff gan ſathā yn ei ganlyn. Mawr yw 'r ddamnedigaeth ſydd ynghrog vwch - ben godinebwyr a phutteinwyr.

I ba beth y ſonniaf am afleſau eraill a dyfant ac a lifant o Dom. lacca drewllyd putteindra? Oni chollir trwy odineb a phutteindra enw da gŵr neu wraig, yr hwn yw'r tryſor y mae pob dŷn honeſt yn gwneuthur mwyaf cyfrif o hono? Pa dreftadaeth neu fywyd? pa olud? pa dda? pa gyfoeth nas difa putteindra, ac nas dŵg yn ddiddim mewn ychydig amſer? Pa ddewrder a pha gryfder ni wanheir yn fynych ac ni ddiſtrywir trwy butteindra? Pa ſynwyr cyn barotted na ddotier ac na ddeleir trwy butteindra? Pa degwch (er mor odidog fo) nad anffurfir trwy butteindra?

Onid ydyw putteindra yn elyn i brydferth flodeuyn ieuengctid? Ac onid yw yn dwyn penllwydni a henaint cyn yr amſer? Pa ddawn naturiol (er mor werthfawr fo) na lygrir trwy butteindra? Onid yw y frêch fawr a llawer o glefydō eraill yn dyfod o butteindra? O ba le y daw cymmaint o faſtardiaid a phlant ordderch, i fawr anfodlonrwydd Duw, a thorriad priodas ſanctaidd, onid o butteindra? Pa faint ſydd yn difa eu da a'u golud, ac yn cwympo yn y diwedd i ddygyn dlodi, ac yn ôl hynny yn lledratta ac yn cael eu crogi, trwy butteindra? Pa ymryſon a lladdfâu a ddaw o butteindra? Pa ſawl merch a Dreiſir, anwyryfir? Pa ſawl gwraig a lygrir? Pa ſawl gweddw a wradwyddir trwy butteindra? Pa faint y tlodir ac y trallodir y cyfoeth - cyffredin trwy butteindra? Pa faint y dirmygir ac y ceblir gair Duw trwy butteindra a phutteinwyr?

O 'r pechod hwn y daw llawer o 'r yſcaroedd, y rhai a arferir yn y dyddiau hyn mor arferedig, trwy awdurdod gwŷr diſwyddau, er mawr ddigofaint Duw, a thorriad ſancteiddiaf gwlwm a rhwym priodas: o herwydd pan ddarffo i'r pechod ffiaidd ymma ymluſco vnwaith i Fonwes. aſcre y godinebwr, fel y rhwydir ef mewn cariad aflan anghyfraithlon, fe a ddiyſtyra yn y man ei wir a'i gyfraithlon wraig, fe a gaſhâ ei phreſennoldeb hi, mae ei chwmpeini ni yn drewi ac yn wrthwynebus gantho: pa beth bynnag a wnêl hi, a ogenir: nid oes llonyddwch yn y tŷ yr hyd y bytho hi mewn golwg: am hynny, i wneuthur chwedl byrr, rhaid iddi fyned ymmaith, o blegid ni ddichon ei gŵr ei haros hi ym-mhellach. Fel hyn trwy butteindra y troir ymmaith y wraig honeſt ddiemwed, ac y derbynir puttain yn ei lle hi.

Yn yr vn modd y digwydda yn fynych o ran y wraig tuag at ei gŵr. Dymma ffiaidd-dra anferth. Pan ddaeth ein Iachawdwr Chriſt Duw a dŷn i adferu cyfraith ei nefol dâd i iawn yſtyr, meddwl a deall y gyfraith honno, ym-mhlith pethau eraill fe a Iniawnodd. ddiwygiodd gam-arfer y gyfraith hon. O herwydd lle daroedd i 'r Iuddewon arfer hir oddefiaeth trwy ddefod ddodi o 'r gwŷr eu gwragedd ymmaith wrth eu hewyllys am bob achos: fe a geryddodd Chriſt y drŵg arfer hynny, ac a ddyſcodd, pwy bynnag a wrthotto ei wraig, onid am odineb (yr hwn yr amſer hynny wrth gyfraith oedd yn haeddu angau) ei fod yn torri priodas, ac yn gwneuthur i'w wraig hefyd yr yſcarid ef â hi, odinebu, os hi a gyſſylltid â gŵr arall, ac i'r gŵr hefyd a gyſſylltid â hi, odinebu.

Ym-mha gyflwr gan hynny y mae y godinebwyr ymma, y rhai o gariad ar buttain a wrthodant eu gwir a'u cyfraithlon wragedd, yn erbyn cyfraith, vniondeb, rheſwn a chydwybod? Oh mor ddamnedig yw 'r ſtât y maent yn aros ynddi. Diſtryw ebrwydd a gwymp arnynt os hwy ni edifarhânt ac ni wellhânt. O herwydd ni oddef Duw byth ddianrhydeddu, a chaſhâu, a diyſtyru ſanctaidd briodas. Fe a goſpa ryw brŷd y bywyd cnawdol anllywodraethus ymma, ac a wna bod y ſanctaidd ordinhâd ymma mewn parch ac anrhydedd. O herwydd, medd yr Apoſtol, Anrhydeddus Heb. 13. 4. yw priodas ym-mhawb, a'r gwely dihalogedig: eithr putteinwyr a'r godinebus a farna Duw: hynny yw, fe a'u coſpa ac a'u damna hwynt.

Ond i ba beth y cymmerir y boen ymma yn datcan ac yn goſod allan faint pechod yw putteindra, a'r afles a dŷf ac a lifeiria o hono: lle y pallai anadl a thafod dŷn yn gynt nag y gallai gwbl gyhoeddi y pechod hwn yn ôl ei ddiffeithwch a'i anferthrwydd? Er hynny hyn a ddywedwyd er mwyn bod i bawb wachelyd putteindra a byw mewn ofn Duw. Duw a wnêl nas dywedpwyd yn ofer.

¶ Y drydedd ran o'r bregeth yn erbyn godineb.

CHwi a ddyſcaſoch yn yr ail rhan o'r bregeth am odineb, a ddarllennwyd i chwi ddiwethaf, mor ddifrif y mae 'r Scrythur lân yn ein rhybyddio ni i wachelyd pechod godineb, ac i gofleidio glendid buchedd: a'n bod ni yn cwympo trwy odineb i bob rhyw bechod, ac yn myned yn gaeth-weiſion i ddiafol: ac o 'r yſtlys arall y'n gwneir trwy lendid buchedd yn aelodau i Griſt: ac yn ddiwethaf mor bell y dŵg godineb ddŷn oddiwrth bob duwioldeb, ac y denfyn ef yngwyſc ei ben i bob beiau, drygioni ac aflwydd.

Mi a fynegaf i 'wch yn awr mewn trefn â pha goſpedigaethau trymion y plagodd Duw odineb yn yr amſeroedd gynt, a pha fodd y coſpodd llawer o dywyſogion bydol y pechod ymma, fel y galloch weled fod putteindra a godineb yn bechodau mor echryſlon yngolwg Duw a phob dŷn daionus, ac y dangoſais eiſoes.

Yn llyfr cyntaf Moſes yr ydym yn darllen, pan ddechreuodd dynion amlhau ar y ddayar, i wŷr a gwragedd oſod eu meddyliau mor gwbl ar chwantau cnawdol a choeg-ddigrifwch, hyd oni fuont fyw yn ddiofn Duw. Pan welodd Duw eu bywyd ffiaidd anifeiliaidd hwynt, a deall nad oeddynt yn gwellhâu, ond yn hytrach eu bod yn cynnyddu fwyfwy beunydd yn eu pechodau a'u harferon aflan; fe a edifarhaodd Duw iddo wneuthur dŷn: ac er dangos mor ffiaidd oedd gantho odineb, putteindra, anlladrwydd a phob aflendid, fe a wnaeth i holl ffynhonnau y dyfnderoedd dorri allan, ac a egorodd ffeneſtri 'r nefoedd, fel y glawiodd hi ar y ddayar dros ddeugain diwrnod a deugain nôs: ac felly y diſtrywiodd ef yr holl fyd a holl ddynawl ryw, oddieithr wythnŷn o bobl yn vnig: y rhai hynny oedd Noah pregethwr cyfiawnder (fel y geilw Petr ef) a'i wraig, a'i drimab a'u gwragedd.

Oh pa anial blâ a daflodd Duw ymma ar holl greaduriaid bywiol y bŷd, am bechod putteindra? Am yr hwn y dialodd Duw nid ar ddŷn yn Gen. 6. 7. vnig, onid hefyd ar yr holl anifeiliaid, ehediaid, a'r holl greaduriaid byw. Fe a laddeſid dynion ar y ddayar o 'r blaen, etto ni ddyſtrywiwyd y bŷd am hynny: ond am butteindra fe a orchguddiwyd Gen. 4. 8. yr holl fŷd â dwfr, ac a ddifethwyd oddieithr ychydig. Siampl wiw ei chofio er ein dyſcu ni i ofni Duw.

Yr ydym yn ddarllein eilwaith ddinyſtr Sodoma Gen. 19. 24. a Gomorhah a dinaſoedd eraill cyfagos iddynt, trwy dân a brwmſtan o'r nef, am frwnt bechod aflendid, fel na adawyd na gŵr na gwraig, na phlentyn nac anifail, na dim ar a dyfodd ar y ddayar heb ddiniſtr. Calon pwy nid Chryna. echrydia wrth glywed yr hiſtori ymma? Pwy ſy weddi ſoddi mor ddwfn mewn putteindra ac aflendid, na adawo weithian dros fyth heibio y fath gâs a ffiaid fywyd, gan fod Duw yn coſpi aflendid mor dôſt a glawio tân a brwmſtā o'r nef, i ddiſtrywio dinaſoedd cyfain, i ladd gwŷr a gwragedd a phlant, a'r holl greaduriaid byw oedd yn aros yno, ac i ddifa â thân bob peth a dyfai yno. Pa arwyddion a ddichon bod eglurach, o ddigofaint Duw a'i lid, yn erbyn aflendid ac am-mhurder bywyd? Yſtyriwch yr hiſtori hon (ddaionus bobl) ac ofnwch ddialedd Duw.

Onid ydych yn darllein hefyd i Dduw daro Pharao a'i holl dŷ â phlagau mawrion, am iddo yn annuwiol chwennychu Sarah gwraig Abraham? Gen. 20. 3. Felly yr ydym yn darllein am Abimelech brenhin Gerar, er na chyhyrddaſai â hi trwy gydnabyddiaeth cnawdol. Dymma 'r plagau a 'r coſpedigaethau a daflodd Duw ar ddynion bryntion aflan, cyn rhoddi y gyfraith (pan oedd cyfraith naturiaeth yn vnig yn teyrnaſu ynghalonnau dynion) er dangos faint y cariad oedd gantho ef at briodas: ac eilwaith faint y caſhae efe odineb, putteindra a phob aflendid.

Ac wedy rhoddi y gyfraith, ſydd yn gwahardd putteindra, trwy Foſes, i'r Iuddewon, oni orchymmynnodd Duw ddodi i farwolaeth y ſawl a'i torrai hi? Dymma eiriau y gyfraith, Y gŵr Le. 20. 10. yr hwn a odinebo gydâ gwraig ei gymmydog, lladder yn farw y godinebwr a'r odinebwraig, am iddo dorri priodas gydâ gwraig ei gymmydog. Fe a orchymmynnir yn y gyfraith hefyd, Os delir Num. 25. 4. llangces a gŵr ynghŷd mewn putteindra, eu llabyddio hwy ill dau hyd angau. Yr ydym ni yn darllein mewn man arall i Dduw orchymmyn i Moſes gymmeryd y pennaethiaid, y rheolwyr a thywyſogion y bobl, a'u crogi ar grogbrennau yn amlwg, am iddynt naill ai gwneuthur godineb eu hunain, ai am nas coſpaſent ef mewn eraill. Trachefn, oni ddanfonodd Duw y fâth blâ ym-mhlith y bobl am odineb ac aflendid, hyd oni laddodd o honynt mewn vn diwrnod bedair inil ar hugain.

Eiſiau amſer mi a adawaf heibio lawer o hiſtoriau eraill o 'r Beibl ſanctaidd, y rhai a ddangoſant i ni fawr ddialedd a thrwm lid Duw yn erbyn putteinwyr a godinebwyr. Siccr yw fod y greulon goſp a oſododd Duw, yn dangos yn eglur ddigon mor gâs gan Dduw butteindra. Ac nac amheuwn fod Duw yn yr amſer hwn yn caſhâu aflendid, cymmaint ac yr ydoedd ef yn yr hên gyfraith: ac nas coſpa ef y pechod ymma yn ddiammau yn y bŷd hwn, ac yn y bŷd a ddaw: o herwydd Duw yw efe na ddichon arhos drygioni.

Am hynny y dlye bawb wachelyd y drygioni Pſal 5. 4. hwn, ac ſy yn gofalu am ogoniant Duw ac Iechydwriaeth eu heneidiau eu hunain.

Mae S. Paul yn dywedyd ddarfod ſcrifennu pob peth ar a ſcrifennwyd er ſiampl i ni, i ddyſcu ini dfni Duw, ac vfyddhau i'w ſanctaidd gyfraith ef. O herwydd os Duw nid arbedodd y canghennau 1. Cor. 10. 11. naturiol, nid arbed ef nyni y rhai nid ydym ond impiau, os gwnawn y cyfryw droſeddau. Rom. 11. Os diſtrywiodd Duw lawer mil o bobl, lawer o ddinaſoedd, ie a'r holl fŷd, am butteindra, na wenhieithiwn mo honom ein hunain, ac na thybygwn y diangwn ni yn rhyddion, ac yn ddigoſp. O herwydd fe a addawodd yn ei gyfraith ſanctaidd ddanfon plau toſtion ar y troſeddwyr, neu y rhai a dorrant ei ſanctaidd orchymmynion ef.

Fel hyn y clywſoch pa fodd y mae Duw yn coſpi pechod godineb, gwrandawn weithian ryw gyfreithiau a oſododd llywodraethwyr bydol, mewn amryw wledydd er ei goſpi: fel y caffom wybod fod aflendid yn ffiaidd ym-mhob dinas a gwladwriaeth hydrefn, ac ymmhlith dynion honeſt.

Hyn oedd y gyfraith ym-mhlith y lepreaid, Hwy a rwyment yr hwn a ddelid mewn godineb, ac a'i dygent ef dros dri diwrnod trwy 'r ddinas: yn ôl hynny yr hŷd y byddai byw, fe a ddibriſid, a thrwy gywilydd a gwradwydd, a gyfrifid yn ddŷn heb ddim honeſtrwydd ynddo.

Ym-mhlith y Locriaid yr ydys yn tynnu dau lygad y godinebwr.

Y Rhufeiniaid gynt a goſpent odineb, weithiau â thân, weithiau â'r cleddyf. Os delid neb mewn godineb ym-mhlith yr Aiphtiaid, y gyfraith oedd iddo gael ei chwippio yngwydd y bobl, hyd fîl o wialennodiau: a'r wraig a ddelid mewn godineb gydag ef, a dorrid ei thrwyn, fel y gellid gwybod byth o hynny allan ei bod hi yn buttain, ac y ffieiddid hi gan bawb.

Ym-mhlith yr Arabiaid y torrid pennau y rhai a ddelid mewn godineb, oddiar eu cyrph.

Yr Atheniaid a goſpent butteindra ag angau, yn yr vn modd. Felly y gwnai y Tartariaid diddyſc, difedr.

Ac hyd heddyw ym-mhlith y Twrciaid y llabyddir i angau yn ddidrugaredd, y gwr a'r wraig a ddalier mewn godineb. Fel hyn y gwelwn pa gyfreithiau duwiol a wnaethpwyd gynt gan awdurdodau goruchel, er tynnu ymmaith butteindra, ac er maentaenio priodas ſanctaidd, a phûr ymddygiad.

Ac etto nid oedd gwneuthurwyr y cyfreithiau ymma yn Griſtianogion, onid cenheloedd; etto hwy a garent honeſtrwydd a phurdeb buchedd cymmaint, fel y gwnaent gyfreithiau daionus, duwiol, er maentaenio y pethau hynny, heb oddef o fewn eu teyrnaſoedd, odineb a phutteindra i deyrnaſu yn ddigoſp.

Fe a ddywedodd Chriſt wrth yr Iuddewon anffyddlō, y cyfode y Ninifiaid ddydd y farn yn erbyn Matth. 12. 41. y genhedlaeth honno, i'w chondemno, am iddynt hwy etifarhau ar bregethiad Ionas, ac wele (medd efe) vn mwy nâ Ionas ymma, (gan feddwl am dano ei hûn) ac etto nid edifarhaſant.

Oni chyfyd (dybygŵch chwi) yn gyffelyb y Locriaid, Arabiaid, Atheniaid ac eraill o'r fâth hynny, i'r farn yn ein herbyn ni i'n condemno; yn gymmaint ac iddynt hwy ymgadw rhag putteindra ar orchymmyn dŷn, ac mae gennym ni gyfraith ac eglur orchymmyn Duw, ac er hynny nid ydym yn ymadel â'n haflan ymddygiad. Yn wir, yn wir fe fydd eſmwythach yn-nydd y farn i'r cenhedloedd hynny nag i ni, onid edifarhawn ni a gwellhau. O herwydd, er bod angau corphorol, yn ein golwg ni, yn goſp drom, doſt, yn y bŷd hwn am butteindra: etto nid yw y goſp honno ddim wrth y blinedig boenau a orfydd ar odinebwyr, putteinwyr a dynion aflan, eu goddef yn ôl y bywyd hwn.

O herwydd fe a geuir yr holl rai hynny o deyrnas nefoedd, fel y dyweid S. Paul; Na thwyller 1. Cor. 6. 9. Gal. 5. 21. Epheſ. 5. 5. chwi, ni chaiff na godinebwyr, nac addolwyr delwau, na thorwyr priodas, na drythyllwyr, na'r rhai Sodomiaidd, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr etifeddu teyrnas Dduw. Ac y mae Ioan yn dywedyd yn ei weledigaeth, y caiff y putteinwyr eu rhân gyd â lladdwyr, Gwel. 21. 8. cyfareddwyr, a'r delw-addolwyr, a'r rhai celwyddog, yn y pwll ſydd yn lloſci â thân a brwmſtan, yr hwn yw'r ail angau.

Er bod coſp y corph yn angau, etto mae iddo ddiwedd, ond mae coſp yr enaid, yr hwn y mae Ioan yn ſôn am dano, yn dragywydd. Yno y bydd tân a brwmſtan, yno y bydd wylofain ac ſcyrnygu dannedd, Luc. 3. 9. Matth. 13. 30. yno y prŷf a gno gydwybod y rhai a ddamnier, ni bydd marw byth. Oh, calon pwy ni ddifera ddafnau gwaed wrth wrando ac yſtyried y pethau hyn.

Os yſcrydiwn ac os Echrydiwn. crynwn wrth glywed enwi y pethau hyn, pa beth a wnawn wrth eu clywed hwy au goddef, ie a'u goddef byth ac yn dragywydd. Duw a drugarhao wrthym.

Pwy ſydd bellach wedi Suddo. *foddi mewn pechod cyn ddyfned, a chwedy ymadel â phôb duwioldeb cyn llwyred; ac y gwnel yn fwy o'i hoffder a'i ddigrifwch drewllyd brwnt (yr hwn a aiff yn ebrwdd heibio) nag o golli gogoniant tragwyddol? Pwy ailwaith a'i rhydd ei hunan i chwantau cnawdol cyn belled, ac nad ofno ef Rhag poenau. *am boenau tân vffernol? Ond gwrandawn bellach pa fodd y gwachelwn butteindra a godineb, fel y rhodiom mewn ofn Duw, ac y byddom ryddion oddiwrth yr holl artaithiau a'r poenau aneſcorol trymmiō y rhai ſydd ar fedr pob dŷn aflan.

Er gwachelyd godineb, putteindra, a phob aflendid, cadwn ein calonnau yn bur ac yn lân oddiwrth bob meddwl drwg a chwantau cnawdol: o herwydd os y galon a lygrir ni a gwympwn lwyr ein pennau i bob rhyw annuwioldeb. Hyn a wnawn ni yn eſmwyth, os ni pan glywon ein hên elyn Sathan yn ein temptio, ni chytunwn mewn ffordd yn y byd â'i dwyllodrus ddichellion ef, gan ei wrthwynebu ef yn ddewrion, trwy ffydd gadarn yngair Duw, a chan oſod yn ei erbyn ef yn waſtadol yn ein calonnau, y gorchymmyn hwn, a roddodd Duw i ni, Na wna odineb, ſcrifennedig yw, Na wnâ butteindra.

Da fydd i ni hefyd fyw yn waſtadol mewn ofn Duw, a goſod gar bron ein llygaid dôſt fygythiau Duw, yn erbyn annuwiol bechaduriaid: ac yſtyried yn ein calonnau mor frwnt, mor anifeiliaidd ac mor fyrr yw 'r digrifwch a'r hoffder, i'r hwn y mae Sathan yn ein hûdo ac yn ein llithio ni yn waſtad: ac eilwaith fod y goſp a oſodwyd am y pechod hwnnw yn aneſcorol ac yn dragwyddol.

Hefyd arferwn ſobredd, a chymmedrolder a thymmer dda wrth fwytta ac yfed, a gwachelwn bob chwedleu aflan, ac ymgadwn oddiwrth bob cwmpniaeth drŵg, Gwachelwn ſeguryd, ymhoffwn o ddarllen yr Scrythur lau; gwiliwn mewn gweddiau duwiol, a myfyriadau rhinweddol; a phob amſer ymarferwn o ryw boen a thrafel duwiol; a'r pethau hyn a'n cynnorthwyant ni yn fawr i ymgadw rhag putteindra.

Ac ymma y rhybyddir pob grâdd o ddynion, priodol ac am-mhriodol, i garu purdeb a glendid buchedd. O herwydd mae 'r priodol yn rhwym wrth gyfraith Dduw, i garu ei gilydd yn bur ac yn glau, heb i vn o honynt geiſio cariad dieithr.

Mae yn rhaid i'r gŵr lynu wrth ei wraig yn vnig, ag ir wraig lynu wrth ei gŵr yn vnig. Mae yn rhaid iddynt ill dau ymhoffi ynghymdeithas ei gilydd: na chwennycho yr vn o honynt neb arall. Ac fel y maent hwy yn rhwymedig i fyw inghŷd mewn duwioldeb a phob honeſtrwydd, felly eu ſwydd hwy hefyd a'u dlêd yw dwyn eu plant i fynu yn rhinweddol, a darbod na bo iddynt gwympo i Faglau. lindagau Sathan, nac i vn aflendid, ond bod o honynt yn bur ac yn honeſt mewn priodas ſanctaidd, pan ddelo'r amſer.

Felly hefyd y dylyai feiſtred a rheolwyr ddarbod nad arferer na phutteindra nac aflendid ymmhlith eu gwaſanaeth ddynion.

A thrachefn os y rhai ſydd heb priodi a ymglywant ynddynt eu hunain, na allant fyw heb gwmpeini gwraig, priodāt, a byddāt fyw ynghŷd yn dduwiol, o herwydd gwell yw priodi nâ lloſci. I ochel godineb (medd yr Apoſtol) cymered pob 1. Cor. 7. 2. gŵr ei wraig ei hûn, a phob gwraig ei gŵr ei hun.

Yn ddiwethaf, y rhai ſydd yn clywed ynddynt eu hunain, y gallant (trwy weithrediad Yſpryd Duw) fyw yn vnig, ac yn Ddiweir. ymattalus, clodforant Dduw am eu rhoddiad, a cheiſiant bob ffordd ac a allont i gadw ac i gynnal y cyfryw roddiad: megis trwy ddarllein yr Scrythur lân, trwy fyfyriadau duwiol, a gweddiau dyfal, a'r fâth rinweddol arferon eraill.

Os ceiſiwn oll yn y modd ymma ymgadw rhag godineb, putteindra a phob aflendid, a dwyn ein bywyd mewn duwioldeb ac honeſtrwydd, gan waſanaethu Duw â chalonnau glân pûr, a'i ogoneddu ef yn ein cyrph, drwy ddwyn ein bywyd yn ddiddrwg ac yn ddieniŵed, ſiccr y gallwn fod o rifedi y rhai y mae ein Iachawdwr Chriſt yn yr Efengyl yn dywedyd fel hyn am danynt, Gwyn Merth. 5. 8. eu bŷd y rhai glân o galon, canys hwy a welant Dduw: I'r hwn yn vnig y bô pob gogoniant anrhydedd, rheolaeth a gallu yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Pregeth yn erbyn ymryſon ac ymdaeru.

HEddyw y cyhoeddir i 'wch (bobl ddaionus Griſtianogawl) afles a chywilyddus anhoneſtrwydd ymryſon, cynhennau, ac anghyfundebau, er mwyn gwedi i chwi weled megis wedi ei baentio ym-mlaen eich llygaid, anharddwch ac anweddeidd-dra y bai atcas ymma, y troer eich calonnau i gyfodi yn ei erbyn, ac i gaſhau, ac i ffiaiddio y pechod hwnnw, yr hwn ſydd mor gâs, ac mor ofidus, ac mor ddrygionus gan bawb.

Ond ym-mhlith pob ymryſon, nid oes vn mor ddrygionus ac yw ymryſon mewn Chriſtianogawl greddyf. Gâd heibio (medd S. Paul) chwedlau 1. Tim. 1. 4. ac achau anorphen, y rhai a barant gweſtionau, yn fwy nag adailadaeth dduwiol. Niddaw ar waſanaethwr Duw ymladd ac ymryſon, ond bod yn dirion tuag at bob dŷn.

Y cynhennau a'r ymryſonau ymma oedd yn amſer S. Paul ym-mhlith y Corinthiaid, ac y ſydd yr amſer ymma yn ein plith ninnau y Brutaniaid: o herwydd gormodd ſydd o ddynion, y rhai ar eu meingciau cwrw, a'r fath leoedd eraill, a ewyllyſiant ymbyngcio, ac ymgweſtiwnu, nid er adailadaeth, ond er gwag-ogoniant, ac er ymffroſtio o'u cyfarwyddyd; a hynny gan ymreſymmu a chan ymddadleu mor anſyber; fel pan nad ymroddo y naill i'r llall, y maent hwy yn tyfu weithiau o eiriau twymon i chwaneg o anweddeidd-dra.

Ni allai Paul ym-mhlith y Corinthiaid oddef gwarando y geiriau hyn o anghyfundeb ac ymryſon, Eiddo Paul wyfi, Eiddo Apollos wyfi, minnau 1. Cor. 3. 4. eiddo Cephas. Pa beth a ddywede ef, wrth hynny, pe cly wai y geiriau hyn o ymryſon, y rhai ſydd ganmwyaf yngenau pob vn o honom, Phariſai yw hwn accw, Efangylwr yw hwn; mae hwn o'r ffordd newydd, hwn o'r hên ffordd: hwn accw yn frawd newydd, hwn yn dâd Catholic da: hwn yn Bapiſt, hwn yn heretic?

Oh, pa fodd y rhannwyd yr Eglwys? oh pa fodd y torrir ac y rhwygir, y carpiwyd ac y drylliwyd ein dinaſoedd! oh pa fodd y Dattodwyd. myſcwyd ac y chwalwyd pais Chriſt, oedd ryw amſer yn ddi-wniad? oh ddirgeledig corph ein Iachawdwr Chriſt? pa le y mae 'r vndeb llwyddiannus ſanctaidd, allan o'r hwn pwy bynnag y ſydd, nid oes mo hono ynghriſt? Os tynnir vn aelod oddiwrth y llall, pa le y bydd y corph? Os tynnir y corph oddiwrth y pen, pa le y bydd bywyd y corph? Ni ellir ein cyſſylltu ni â Chriſt ein penn oddieithr ein gludio ni ynghŷd â chyfundeb a charedigrwydd bob vn tu ag at ei gilydd. O herwydd y neb nid yw o'r vndeb ymma nid yw o Eglwys Ghriſt, yr hon yw cynnulleidfa a chŷd-vndeb, ac nid doſparthiad ac anghyttundeb.

Mae S. Paul yn dywedyd yr hŷd y byddo i'n plith ni genfigen, ymryſon, a chynhennau, ein bod 1. Cor. 3. 4. ni yn gnawdol, ac yn rhodio yn ddynol. Ac mae S. Iaco yn dywedyd os bydd gennym ni genfigen Iac. 3. 4. chwerw, ac ymryſon yn ein calonnau, nad ymlawenhaom ynddo. O herwydd lle mae ymryſon mae anwadalwch a phob gorchwylion drŵg.

A pha ham na wrandawn ar S. Paul, yr hwn ſydd yn deiſyf arnom lle gallai orchymmyn i ni, gan ddywedyd, Yr ydwyf yn deiſyf arnoch yn enw 'r Arglwydd Ieſu Ghriſt, ddywedyd o bawb o honoch yr 1. Cor. 1. 10. vn peth, ac na byddo anghy fundeb yn eich plith, ond bod o honoch yn vn farn. Os ydyw ei ddeiſyfiad ef yn rheſymmol ac yn honeſt, pa ham nad ydym yn ei ganniatau? Os ydyw ei ddamuniad ef i'n budd ni, pa ham yr ydym yn ei wrthod? Oni chwennychwn wrando ei arch a'i ddeiſyfiad ef, gwrandawn er hynny ei annogaeth ef, lle y mae fe yn dywedyd, Yr ydwyf yn attolwg arnoch rodio o honoch yn deilwng o'r galwedigaeth y'ch Ephe. 4. galwyd iddi, ym-mhob lledneiſrwydd ac addfwyndra, ynghŷd ag ymaros gan oddef ei gilydd mewn cariad, gan ymroi i gadw vndeb yr Yſpryd ynghwlwm tangnheddyf: o herwydd vn corph ſydd ac vn yſpryd, vn ffydd, vn bedydd.

Nid oes (medd ef) ond vn corph, o'r hwn ni ddichon ef fod yn aelod byw, yr hwn ſydd mewn anghyttun deb â'r aelodau eraill. Nid oes ond vn yſpryd, yr hwn ſydd yn cyſſylltu ac yn clymmu y cwbl yn vn. A pha fodd y teyrnaſa yr vn yſpryd hwn ynom, pan fythom gwedi ymrannu yn ein plith ein hunain? Nid oes ond vn ffŷdd. Pa fodd y gallwn ninnau ddywedyd, Mae fe o'r hên ffŷdd, ac yntef o'r newydd? Nid oes ond vn bedydd, ac oni fyddant hwy oll a fedyddiwyd, yn vn?

Mae anghyttundeb yn gwneuthur doſparth, am hynny ni ddyle hi fod ym-mhlith Chriſtianogion, y rhai y mae vn ffydd ac vn bedydd yn eu cyſſylltu ynghŷd mewn vndeb. Ond os diyſtyrwn ddamuniad ac annogaeth S. Paul, etto ar y lleiaf meddyliwn am ei ymbil taer ef, yn yr hwn y mae fe yn gorchymmyn i ni yn ddifrif iawn, ac (fel y gallwn ddywedyd) yn ein tynghedu ni yn y dull a'r Phil. 2. 1. modd ymma, Os oes gan hynny ddim diddanwch yn Ghriſt, os oes cyſſur cariad, os oes dim cymdeithas a'r Yſpryd, os oes dim toſturi a thrugaredd, cyflawnwch fy llawenydd ar i chwi fod yn vn fryd, a chennych yr vn rhyw galon, ac yn meddwl yr vn peth, fel na wneler dim trwy gynnen neu wâg-ogoniant.

Pwy ſydd ac yntho ddim ymyſcaroedd toſturi, na chyffroir â 'r geiriau hyn (y rhai ydynt lymmach nag vn cleddyf dau-finiog) i beidio ag ymryſon ac ymgynhennu?

Am hynny ymegnîwn i gyflawni llawenydd S. Paul yn y man ymma, yr hwn yn y diwedd a fydd llawenydd mawr i ninnau mewn man arall. Darllenwn felly 'r Scrythur, fel y 'n gwneler yn well ein bywyd, ac nid yn ddadleuwyr ymryſongar.

Os bydd anghenrhaid mewn dim ddyſcu, neu ymreſymmu neu ymddadleu, gwawn hynny yn fwyn, yn dirion ac yn llednais. Os digwydd i neb ddywedyd dim yn anweddaidd, cyd-ddyged y naill â gwendid y llall. Yr hwn a fyddo ar y bai, gwellhaed, ac nac ymddiffynned yr hyn a ddywedodd dros y ffordd: rhag iddo wrth ymddadleu gwympo o Amryfyſedd. gamſynnaid lledffrom i wrthgas hereſi gyndyn: canys gwell yw ymroi yn lledneis, nâ gorchfygu trwy dorri cariad perffaith, yr hyn a ddigwydd yn fynych, pan fô pob vn yn wrthnyſig yn ymddiffyn ei opinion ei hûn.

Os ydym ni Griſtianogion, pa ham na chanlynwn ni Griſt, yr hwn a ddywaid, Dyſcwch gennifi, Matt. 11. 29. am fy môd yn llaryaidd ac yn oſtyngedig o galon. Rhaid i'r diſcybl ddyſcu ei wers gan ei athro, ac i'r gwâs vfyddhau gorchymmyn ei feiſtr.

Yr hwn (medd S. Iaco) ſy ddoeth a dyſcedig, Iac. 3. 13. dangoſed ei ddoethineb wrth ymddygiad da ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra. O herwydd lle bytho cenfigen ac ymryſon, nid yw y doethineb hynny yn dyfod oddiwrth Dduw, eithr dayarol, anifeiliaidd a chythreulig yw hi: o herwydd mae 'r doethineb ſydd yn dyfod oddiuchod, yn bûr, yn heddychol, yn foneddigaidd, yn hawdd ei thrin, heb chwennych ymryſon, yn vfydd yn dyſcu, yn ddirwgnach, yn rhoi lle i'r rhai a ddyſcont yn well er eu huniawni hwy. O herwydd byth ni bydd diben ar ymryſon, os ymryſſonwn ni pwy wrth ymryſon a gaiff y llaw uchaf: os pentyrrwn amryfysedd ar amryfyſedd, ac amddiffyn yn wrthnyſſig yr hyn a ddywedaſom yn anſynhwyrol.

O herwydd gwir yw, fod gwrthnyſigrwydd i faentaenio rhyw opinion yn ennynnu cynnen, ymryſon ac ymdaeru, yr hwn yw 'r bai echry ••• af a llygrediccaf ac a ddichon bod yn erbyn cyffredinol heddwch a llonyddwch.

Ac fel y mae yn ſefyll rhwng dwy blaid (oblegid odid yw cael neb a ymdaeru ag ef i un felly y mae fe yn amgyffred dau fai gwrthwynebus: vn yw cwerylu mewn geiriau tanbaid ymryſongar, y llall a ſaif mewn attebion gwrthgas, ac amlhâd geiriau drŵg.

Y naill ſy mor ffiaidd, megis y dywed Paul, Os bydd neb ac a elwir yn frawd yn ddelw-addolwr, 1. Cor. 5. yn ymdaerwr, neu gablwr, neu gridddeilwr, neu yn lleidr, gyd â'r cyfryw vn ni ddylaech fwytta.

Ymma yſtyriwch fod S. Paul yn cyfrif ymdaerwr ac ymſennwr a chwerylwr ym-mhlith lladron a delw-addolwyr: ac fe ddaw yn fynych lai o ddrŵg oddiwrth leidr nag oddiwrth dafod drŵg. O her wydd mae'r naill yn dwyn enw da dŷn, ac nid yw 'r llall yn dwyn ond ei olud ef, yr hwn nid ydyw mor werthfawr ac yw cymmeriad, ac enw da. Nid yw y lleidr yn drygu ond yr hwn y mae efe yn dwyn oddiarno; ond mae 'r hwn ſydd a thafod drŵg gantho yn blino 'r holl dref, ac weithiau 'r hol wlâd.

Ac y mae tafod drŵg yn blâ mor llygredig, fel y mae S. Paul yn gorchymmyn gwachelyd cwmpeini y fath ddynion, ac na wneler na bwytta nac yfed gyd â hwy. Ac er ei fod ef yn erchi i wraig Griſtianogaidd nad ymadawo â'i gŵr, er ei fod ef yn anghredadwy, ac i was Chriſtianogaidd nad ymadawo â'i feiſtr, er ei fod yn anghredadwy ac yn genedl-ddyn: ac er ei fod ef felly yn goddef i Griſtiō gadw cymdeithas ag anghredadwy, etto mae efe yn gwahardd cadw cwmpeini gydâ 'r ymdaerwr a'r cwerylwr, ac na wneid na bwytta nac yfed gydag ef. Ac yn y chweched bennod o'r gyntaf at y Corinthiaid y mae efe yn dywedyd fel hyn, Na thwyller chwi, ni chaiff na godinebwyr, na delwaddolwyr, 1. Cor. 6. na lladron, na chablwyr neu ddifenwyr feddiannu teyrnas Dduw. Mae 'n rhaid bod y bai yn fawr, a baro i'r tâd ddietifeddu ei fâb naturiol. A pha fodd nad yw difenwi a chablu yn ddamnediccaf pechod, ac yntef yn peri i Dduw ein trugaroccaf a'n carediccaf dâd ein difuddio ni o fendigedig deyrnas nef.

Yn erbyn y pechod arall, yr hwn yw talu ſenn dros ſenn, y mae Chriſt ei hûn yn dywedyd, Yr ydwyf yn dywedyd wrthych, na wrthwynebwch Matt. 5. 39 44. ddrŵg, ond cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melldithiant, gwnewch dda i'r rhai a'ch caſânt, a gweddiwch dros y rhai a wnel niwed i chwi ac a'ch erlidiant; fel y byddoch blant i'ch tâd yr hwn ſydd yn y nefoedd, canys mae ef yn goddef i'w haul godi ar y drŵg a'r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn. A 'r athrawiaeth ymma a ddyſcodd Chriſt y cyttuna dyſceidiaeth S. Paul, etholedig leſtr Duw, yr hwn ni orphwys yn ein hannog, ac yn ein galw, gan ddywedyd, Bendithiwch y rhai fy yn eich ymlid, bendithiwch, meddaf, ac na felldithiwch, na thelwch i neb ddrŵg am ddrŵg: os bydd poſſibl (hyd y mae ynochwi) byddwch Rom. 12. 14. 17. heddychlon â phob dŷn.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth yn erbyn ymryſon.

FE ddangoſwyd i chwi yn y bregeth hon yn erbyn cynhennu ac ymryſon, pa anghyfaddaſrwydd ſydd yn dyfod o hynny, yn enwedig pan fytho 'r ymryſon yn tyfu ynghylch ffydd a chrefydd: a pha fodd nad oes diwedd ar ymryſon ac anghyttundeb, pan nad ymroddo y naill i'r llall: a bod trwy hynny yn eſcauluſo ac yn torri 'r vndeb y mae Duw yn ei ofyn gan Griſtianogion: a bod yr ymryſon hwn yn ſefyll yn enwedig mewn dau beth, cwerylu yn danbaid, ac attebion atcas.

Yn awr chwi a gewch glywed geiriau S. Paul, yn dywedyd, Rai anwyl, nac ymddielwch, Rom. 12. 19. ond rhowch le i ddigofaint; canys ſcrifennedig yw, I mi y mae dial, ac mi a'i talaf, medd yr Arglwydd. Deut. 32. 35. Am hynny os dy elyn a newyna, portha ef; os ſycheda, dod iddo ddiod. Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga ddrygioni trwy ddaioni. Geiriau S. Paul ydyw yr holl eiriau hyn. Onid fe alle ond odid y dywed y rhai ſy yn llawn o falchedd, ac na allant oddef vn gair garw, A geblir fi, ac a ſafaf fi fel gŵydd nen ynfyd a'm bŷs i'm genau? A fyddaf fi cyn ynfytted ac mor wirionffol a goddef i bawb ddywedyd a fynno amdanafi, a'm cablu fel y mynno, a bwrw ei holl wenwyn arnaf? Onid gweddus atteb tafodau drŵg yn ôl eu geiriau? Os byddaf fi mor eſmwyth ac mor llednais, mi a chwanegaf atcaſrwydd fy-ngwrthwynebwr, ac a annogaf eraill i wnenthur y cyffelyb.

Y fath reſymmau y maenthwy yn eu gwneuthur (y rhai ni allant oddef dim) er amddiffyn eu hanoddefgarwch. Ac etto pe byddai obaith trwy atteb atcas iniawni atcaſrwydd y dŷn atcas, fe fyddai lai o fai ar y neb a rodde atteb atcas, ond iddo wneuthur hynny nid o lid a chenfigen, ond o fryd a bwriad ar iniawni'r atcas a'r cenfigennus. Ond y neb ni allo wellhau bai dŷn arall, neu na allo ei wellhau heb ei fai ei hunan, gwell yw myned vn i golledigaeth nâ dau.

Am hynny oni all ei lonyddu ef â geiriau tyner, na chanlyned mo hono â geiriau ſerth anghariadus. Os gall ei lonyddu ef wrth oddef, goddefed, ac onis gall, gwell yw goddef drŵg nâ gwneuthur drŵg, gwell yw dywedyd da nâ dywedyd drŵg. O herwydd mae dywedyd da yn erbyn drwg yn dyfod o Yſpryd Duw: ond mae talu drŵg ani ddrŵg yn dyfod o'r yſpryd drŵg.

Nid yw 'r hwn ni allo dymmheru a llywodraethu ei anwydau ond gwan a dirym, tebyccah i wraig neu blentyn nag i ŵr crŷf. O herwydd gwir gadernid a gwroldeb yw gorchfygu llid, diyſtyru camwedd a ffolineb dynion eraill.

Hefyd fe a wybydd pawb pan welont ŵr yn diyſtyru y camwedd a wnêl ei elyn iddo, i'w elyn ef ddywcdyd neu wneuthur yr hyn a ddywad neu a wnaeth, yn ddiachos: ac yn y gwrthwyneb y mae 'r hwn a ddigio ac a ffrommo yn gwneuthur achos ei elyn yn well, ac yn rhoi achos i bawb i dybied fod y peth yn wir. Ac felly wrth fyned ynghylch dial drwg, yr ydym yn dangos ein bod yn ddrygionus: ac wrth geiſio coſpi a dial ffolineb dŷn arall, yr ydym yn dyblu ac yn chwanegu ein ffolineb ein hunain.

Ond y mae gan y rhai gwrthgas lawer o Eſcuſon i eſcuſo. eſcuſodion i eſcuſodi eu hanoddefgarwch. Nid yw fyngelyn i (meddant hwy) deilwng i dderbyn geiriau neu weithredoedd tirion, ac yntef mor llawn o genfigen ac atcaſrwydd. Po an-nheilynga fyddo efe, bodlonaf fydd Duw i tithau, a mwy fydd y glôd a rydd Chriſt i ti, er mwyn yr hwn y dylit ti dalu da am ddrwg, am iddo orchymmyn i ti, a haeddu hefyd arnat ti wneuthur felly.

Fc ddigiodd dy gymmydog dydi ond odid ar air; cofia dithau fynyched a thrymmed mewn geiriau a gweithredoedd y digiaiſt di dy Arglwydd Dduw.

Pa beth oedd dŷn pan fu farw Chriſt droſto ef? Ond ei elyn ef ydoedd, ac an-nheilwng o'i ewyllys da ef a'i drugaredd? Felly â pha dirionder a dioddefgarwch y mae efe yn goddef ac yn dwyn gydâ thydi, er dy fod ti beunydd yn ei ddigio ef? Maddeu dithau i'th gymmydog gamwedd bychan, fel y maddeuo Chriſt i titheu filoedd o gamweddau, gan dy fod di yn pechu beunydd. O herwydd os dydi a faddeu i'th frawd y camweddau a wnaeth â thi, fc fydd hynny arwydd ac argoel diogel y maddau Duw i tithau, yr hwn y mae pawb yn ddyledwyr iddo, ac y mae pawb yn pechu yn ei erbyn.

Pa fodd y mynnit ti fod Duw yn drugarog wrthit ti, os tydi a fyddi greulon wrth dy frawd? Oni chlywi di ar dy galon wneuthur i'th gydymmaith yr hyn a wnaeth Duw i ti, yr hwn nid wyt ond gwâs iddo? Oni ddyle y naill bechadur faddeu i'r llall, a Chriſt yr hwn nid oedd bechadur yn gweddio ar ei dâd dros y rhai yn ddidrugaredd, ac yn drahaus a'i dodaſant ef i angau? Yr hwn pan ddirmygwyd ni ddirmygodd eilwaith, pan ddioddefodd yn gamweddus ni fygythiodd eithr 1. Pet. 2. 23. rhoddodd y dial ar y neb ſy yn barnu yn gyfiawn: a pha beth a wnai di yn ymffroſtio o'th ben, onid ymegnii ar fod yn y corph. Ni elli di fod yn aelod i Ghriſt, oni chanlyni di ôl troed Chriſt: yr hwn (fel y dywed y Prophwyd) a arweniwyd fel oen Eſ. 53. 7. i'r lladdfa, fel dafad o flaē y rhai a'i cneifiai y tawe, ac nid agorai ei enau i gablu, ond i weddio tros y rhai a'i croeſhoelient ef, gan ddywedyd, y Tâd, maddeu iddynt o herwydd ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur.

Y ſiampl ymma, yn y man ar ôl Chriſt, a ganlynodd Stephan, ac yn ei ôl yntef Paul, Pan y'n Luc. 23. Act. 7. 60. 1. Cor. 4. 12, 13. difenwer, medd ef, yr ydym yn bendithio, pan y'n herlidier yr ydym yn goddef, pan y'n ceblir yr ydym yn gweddio. Fel hyn yr addyſcodd Paul yr hyn a arferodd, ac yr arferodd yr hyn a addyſcodd. Rom. 12. 14. Bendithiwch (medd ef) y rhai ſy yn eich ymlid, bendithiwch, meddaf, ac na felldithiwch.

Ai peth mawr i ti ddywedyd yn dêg wrth dy wrthwynebwr, a Chriſt yn gorchymmyn i ti wneuthur daioni iddo. Ni chablodd Dafydd pan ddifenwodd Simei ef, ond dywedyd yn oddefgar, . Sam. 16. 12. Gedwch iddo, a melldithied, ond odid yr Arglwydd a ddyry i mi ddaioni am ei felldith ef.

Mae 'r hiſtoriau yn llawn o ſiamplau am rai o'r cenhedloedd anghredadwy, y rhai a gymmcraſant yn eſmwyth eiriau diyſtyr, trahaus, a gweithredoedd traws, camweddus.

Ac a gaiff y cenhedloedd anghredadwy hynny ein blaenori ni mewn goddefgarwch, y rhai ydym yn proffeſſu Chriſt, dyſcawdwr a ſiampl pob dioddefgarwch? Lyſander pan ddifenwai vn ef a'i gablu, ni chyffroe ronyn, ond dywedyd, Cerdda, cerdda, dos a dywed yn fy erbyn gymmaint ac a fynnych, a chyn fynyched ac y mynnych, ac na âd ddim heb ddywedyd, os gelli di felly Arloeſi. arllwys y pethau drŵg hynny allan o honot, o 'r rhai y mae yn debyg dy fod ti yn llawn: llawer a ddywedant yn ddrŵg ambawb, eiſiau medru dywedyd yn dda am neb. Dyna 'r modd yr ymgadwodd y gwr doeth hwnnw rhag y geiriau trahaus a ddywedpwyd wrtho, gan wneuthur cyfrif eu bod hwy yn dyfod oddiwrth glefyd naturiol ei wrthwynebwr.

Pericles pan y difenwodd rhyw gablwr ac ymſennwr ef, nid attebodd ef vn gair, ond myned i ryw Dreiglfa. rodfa ddirgel: a thu â'r nôs wrth fyned adref, yr ymſennwr hwnnw a'i canlynodd ef ac a'i difenwodd fwyfwy, wrth weled fod y llall yn ei ddiyſtyru: ac wedi ei ddyfod ef hyd at ei borth ef, a hi yn nos tywyll, Pericles a archodd i vn o'i weiſion oleu canwyll, a hebrwng yr ymſennwr adref i'w dŷ ei hûn. Ni oddefodd ef yn vnig yr ymdaerwr ymma yn eſmwyth, ond hefyd talu da am ddrwg, a hynny i'w elyn.

Ond yw gywilydd i ni fy 'n proffeſſu Chriſt, fod yn waeth nâ 'r cenhedloedd anghredadwy, a hynny mewn peth a berthyn at ffydd a chrefydd Griſt? A annog philoſophyddiaeth fwy arnynt hwy, nag a annog gair Duw arnom ni? A weithia rheſwn naturiol fwy ynddynt hwy, nag a wna gwir greddyf ynom ni? A dywyſa doethineb dŷn hwynt hwy i 'r peth nis gall yr athrawiaeth nefol ein tywys ni? Pa ddallineb, pa gyndynrwydd, apha ymfydrwydd yw hyn?

Pericles pan annogwyd ef i ddigofaint â llawer o eiriau chwerwon atcas, nid attebodd ef vn gair. Ond os cyffroir ni â'r gair lleiaf, pa fŷd a wnawn ni? Pa fodd y ffrommwn ni, y gwylltiwn ni, y ffuſtwn ni ein traed wrth y llawr, ac y rhythwn lygaid fel dynion ynfyd? Fe a wna llawer dŷn ddefnydd mawr o beth gwael dibris, ac o wreichionen y gair lleiaf y cynner tân mawr, pan gymmerer pob peth yn y rhan waethaf.

Ond pa faint gwell, a thebyccach i ſiampl ac athrawiaeth Chriſt, fyddai wneuthur o fai mawr yn ein cymmydog, fai bychan, gan ymreſymmu ynom ein hunain fel hyn, Fe a ddywedodd y geiriau hyn am danafi, ond yn ei lid a'i frydaniaeth y dywad ef hwynt, neu y ddiod a'u dywad hwynt ac nid efe, neu efe a'u dywad hwy wrth archiad vn arall, neu fe a'u dywad hwy eiſieu gwybod y gwirionedd, neu fe a'u dywad hwy nid yn fy erbyn i, ond yn erbyn y cyfryw vn ac y tybiodd ef fy mod i.

Ond am ddywedyd drŵg, pwy bynnag ſydd yn barod i ddywedyd drwg am eraill, holed ef ei hunan yn gyntaf, beth yw ef ai bod yn ddifai ac yn lân oddiwrth y bai y mae efe yn ei weled mewn dŷn arall, ai nad yw. O herwydd mae 'n gywilydd i ddŷn feio ar arall, a bod yn euog o 'r vn bai ei hun, neu o fai a fytho mwy. Mae 'n gywilydd i ddŷn dall alw dŷn arall yn ddall, a mwy cywilydd i vn a fô cwbl ddall alw y coegddall yn llygatgam: Canys hyn yw gweled brycheuyn yn llygad arall, ac heb weled y trawſt yn ei lygad ei hun.

Yſtyried hefyd am y neb a arfero ddywedyd drwg, y dywedir fynychaf ddrŵg am dano yntef.

Yneb a ddywetto yr hyn a fynno, er ei foddloni ei hunan, a gaiff glywed yr hyn ni fynnai, er ei anfoddloni.

Cofied hefyd yr ymadrodd ymma, Y gorfydd Mat. 12. 36. arnom roddi cyfrif am bob gair ofer. Pa fodd gan hynny na orfydd arnom roddi cyfrif o'n geiriau llymmion, chwerwon, cynnhennus, y rhai a gyffroant ein brawd i ddigllonedd a thor-cariad? Ac am attebion atcas, er maint y'n cyffroer ni trwy ddrŵg eiriau rhai eraill, etto ni ddylêm ni ganlyn eu hafrywiogrwydd hwynt drwy ddrŵg attebion, os nyni a yſtyriwn mai mâth ar ynfydrwydd a gwallgof yw digllonedd, a bod yr hwn ſy ddig, tros hynny o amſer allan o'i bwyll. Am hynny gwacheled rhag iddo ddywedyd yn ei ymfydrwydd, y peth a orfydd arno ar ôl hynny edifaru am dano.

A'r neb a ymddiffynno nad yw digllonedd yn ynfydrwydd, ond bod gantho reſwm pan fytho diccaf, ymreſymmed ag ef ei hun pan fytho dig: yr ydwyfi yn awr wedi fy-nghyffroi a'm digio, mi a fyddaf yn y man o feddwl arall: pa ham gan hynny y dywedaf yn awr yn fy-niglonedd y peth ar ôl hyn, er i mi ewyllyſio, ni allaf ei newid? Paham y gwnaf ſinnau ddim yn awr, a minnau allan o'm côf, am yr hyn pan ddelwyf eilwaith attaf fy hûn, y byddaf trwm a thriſt? Pa ham na ddichon rheſwm, paham na ddichon duwioldeb, pa ham na ddichon Chriſt ei hunan gael hynny yn awr ar fy llaw i, yr hyn o 'r diwedd a gaiff amſer gennif?

Os gelwir vn yn odinebwr, yn occrwr, yn feddwyn, neu ar enw cywilyddus arall, yſtyried yn ddifrif pa vn yw hynny ai gwir ai celwydd: os gwir, gwellhaed ei feiau, fel na allo ei wrthwynebwr gael achoſion ar ôl hynny i Edliw. ddannod iddo y fath feiau: os ar gam y dywedir hynny arno, yſtyried pa vn a wnaeth ef ai rhoddi achoſion i dybied y fath bethau am dano, ai nas rhoddes: ac felly y gall dorri ymmaith y dyb. dybygaeth honno, o'r hon y mae 'r Sclawndr. enllib ymma yn tyfu, a byw yn ddieſceuluſach. wageloccah mewn pethau eraill.

Ac wrth ein harfer ein hunain yn y modd hyn, ni allwn ni gaeleniwed yn y byd, ond yn hytrach lles mawr oddiwrth geryddau ac Sclawndyrau. enllibiau ein gelyn. O herwydd fe ddichon trahauſdra gelyn fod yn llymmach yſpardun i'n cymmell ni i wellhau ein bywyd, nâ rhybyddiau tyner ein caredigion.

Philip brenhin Macedonia, pan geblid ef gan bennaduriaid dinas Athen, a ddiolchodd iddynt yn fawr, am ddarfod ei wellhau ef oddiwrthynt yn ei eiriau a'i weithredoedd: o herwydd yr ydwyf yn myfyrio, eb efe, yn fy-ngeiriau a'm gweithredoedd, ar ei gwneuthur hwy yn gelwyddog.

¶ Y drydedd ran o'r bregeth yn erbyn ymryſon.

CHwi a glywſoch yn y rhan ddiwethaf o'r bregeth yn erbyn cynnen ac ac ymryſon, pa fodd y gallwn atteb i'r rhai ſy yn ymddiffyn eu geiriau afrywiog mewn ymryſon, ac a ddialant â geiriau y drŵg a wnelo eraill iddynt: ac yn ddiwethaf, pa fodd y mae i ni yn ôl ewyllys Duw ein trefnu ein hunain a pha beth ſy raid i ni ei yſtyried tuag attynt hwythau, pan y'n cyffroer â geiriau tanbaid i gynnen ac ymryſon.

Yn awr, i fyned ym-mlaen yn yr vn peth, chwi a gewch wybod y ffordd i orfod ac i orchfygu eich gwrthwynebwr a'ch gelyn. Dymma'r ffordd orau i ddŷn i orfod ei wrthwynebwr, byw felly, fel y tyſtiolaetho pawb ac ſydd yn adnabod ei honeſtrwydd ef, fod yn ei Sclawndyre. enllibio ef yn ddiachos. Os bydd y bai a haerir arno, o'r fath ac y bô rhaid iddo atteb, er mwyn ymddiffyn ei honeſtrwydd, attebed yn eſmwyth ac yn Araf. arafaidd, yn y modd ymma, fod yn haeru y beiau hynny arno ef yn gamweddus.

O herwydd gwir yw yr hyn a ddywaid y gwr doeth, Atteb araf a ddettrŷ lid, ond gair garw a Dihar. 15. 1. gyffry ddigofaint. Atteb afrywiog Nabal a gyffrôdd 1. Sam. 25. 13. Ddafydd i ddial creulon, ond geiriau tyner Abigail a ddiffoddodd y tân eilwaith, oedd o'r blaen yn fflammychu yn anial.

Ac nid oes Rhwymedi. cyferbyn well yn erbyn tafodau drŵg, na 'n harfogi ein hunain a goddefgarwch, llaryaidd-dra a diſtawrwydd, rhag wrth amlhau geiriau a'n gelyn, ein gwneuthur ni mor ddrŵg ac yntef.

Ond fe alle y goſode y rhai ni allant oddef vn gair drŵg, yn lle eſcus droſtynt eu hunain, yr hyn ſydd ſcrifennedig, Yr hwn a eſceuluſo ei enw Diarh. 26. 5. da ſydd greulon. Ac eilwaith, Atteb yr ynfyd fel yr haeddo ei ynfydrwydd. Ac er i'n Iachawdwr Chriſt am ryw bethau a ddywedid am dano, dewi a ſôn: etto fe a attebodd rai yn ddifrif. Fe a glywodd rai yn ei alw yn Samaritan, yn fab y ſaer, yn gyfeddachwr gwin, ac nid attebodd ddim: ond pan glywodd ef bwynt yn dywedyd, mae cythraul gennitti, fe a attebodd yn ddifrif. Ioan. 7. 20.

Gwir yw fod amfer i atteb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd, rhag iddo fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun: ac weithiau nid yw iawn atteb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd, rhac myned o'r doeth yn gyffelyb i'r ynfyd.

Pan fo'r cywilydd a'r ſyrhâd a wnaer â ni yn gyſſylltedig â pherigl i lawer o ddynion, yna anghenrhaid yw bod yn ebrwydd ac yn barod i atteb. O herwydd yr ydym yn darllen i lawer o wŷr duwiol mewn zêl dda, wrtheb ac atteb tyranniaid creulō a gwyr drwg, yn danbaid ac yn chwerw. Etto nid oedd y geiriau llymion hyn yn dyfod o ddigofaint, llid, cenſigen a chwant ymddial, ond o wir chwant i'w dwyn hwy i adnabod gwirionedd Duw, ac i'w tynnu oddiwrth eu hannuwiol fywyd, trwy geryddfa ac argyoeddfa ddifri lemdoſt.

Yn y zêl hon y galwodd Ioan fedyddiwr y Phariſaeaid Matt. 3. 7. yn genhedlaeth gwiberod, ac y galwodd S. Pauly Galathiaid yn angall, a'r Cretiaid yn Gal. 3. 1. gelwyddog, drwg fwyſtfilod, boliau gorddiog: ac y galwodd ef y gau-apoſtolion yn gŵn, ac yn Tit. 1. 12. ddrwgweithredwyr. Phil. 3. 2.

Ac y mae ei zêl ef yn dduwiol, yn ddiargyoedd, ac wedi ei phrofi yn eglur wrth ſiampl Chriſt, yr hwn er ei fod ef yn ffrŵd ac yn ffynnon pob llaryeidd-dra, tynerwch ac arafwch, etto fe a alwodd y Phariſaeaid a'r Scrifennyddion gwrthnyſſig yn Matt. 23. 11. V. 24. v. 27. dywyſogion deillion, yn feddau gwedy eu gwyngalchu, yn hypocritiaid, yn ſeirph, yn hiliogaeth gwiberod, yn genhedlaeth felldigedig ddrŵg. Hefyd fe a geryddodd Petr yn doſt, gan ddywedyd, Matt. 16. 23. Dôs yn fy ôl Sathan.

Y mae S. Paul hefyd yn ceryddu Elymas y ſwynwr, gan ddywedyd, Oh vn llawn o bob dichell, Act. 13. 10. a phob drygwaith, mab diafol, a gelyn pob cyfiawnder, yr hwn ni pheidi â gŵyro iniawn ffyrdd yr Arglwydd, yn awr wele mae llaw 'r Arglwydd arnat, a thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros amſer.

Ac mae S. Petr yn argyoeddi Ananias yn galed iawn, gan ddywedyd, Ananias, paham y llanwodd Act. 5. 3. Sathan dy galon, i beri i ti ddywedyd celwydd wrth yr Yſpryd glân.

Fe fu y zêl hon mor wreſog mewn llawer o wŷr da, hyd oni chyffrôdd hi hwynt nid yn vnig i ddywedyd geiriau llymdoſt, chwerwon; ond i wneuthur llawer o bethau hefyd, a dybyge rai eu bod yn greulon, ond mewn gwirionedd ydynt yn gyfiawn, yn gariadus ac yn dduwiol: am na wnaethpwyd hwynt o lid, o genfigen neu chwant ymryſon, ond o feddwl gwreſog i ogoneddu Duw a choſpi pechod, gan y rhai a alwyd i'r ſwydd honno.

O herwydd y zêl hon yr ymlidiodd ein Iachawdwr Ioan. 2. 14. Chriſt â fflangell neu chwip, y prynwyr a'r gwerthwyr allan o'r deml. O herwydd y zêl hon y torrodd Moſes y ddwy lêch a dderbyniaſai ef gan yr Arglwydd, pan welodd ef blant yr Iſrael Exo 32. 9. Verſ. 28. yn dawnſio ger bron y llo, fe a'i torrodd ef yn ddrylliau ac a barodd ladd o'i bobl ei hū dair mil o wyr. Nid ydyw y fi am 〈◊◊◊◊◊〉 ond i' rh i a ſodwyd mewn ſwydd ac aw ••• dod. Yn y zêl hon y gwanodd Phinees mab Eleazar, â' gwaywffon trwyddynt Zimri a Choſbi, pan ddaliodd hwynt mewn godineb.

I ddychwelyd gan hynny at eiriau ymryſongar, Num. 25. 8. yn enwedig ynghylch ffydd a chrefydd, a gair Duw (yr hwn a ddylid ei arfer mewn lledneiſrwydd, ſobredd a diweirdeb) fe a ddylid ſynneid yn dda ar eiriau S. Iaco, a'u cofio, lle mae fe yn dywedyd mai o ymryſon y tŷf pob drygioni. A'r brenhin Iac. 3. 16. doeth Salomon a ddywaid hefyd, Anrhydedd yw i wr beidio ag ymryſon, ond pob ffol a fyn ymmyrraeth. Diarh. 20. 3.

Ac o herwydd bod y bai hwn yn ddrwg ar les pob cyfeillach a chyffredinwolrwydd, yr ydys ymmhob dinas hydrefn yn coſpi cyffredin ymſenwyr ac ymdaeriaid â rhyw goſpedigaeth gyhoedd, megis trwy eu goſod ar ſtôl-drochi, ar y pilwri ueu 'r cyfrw.

Ac ni haeddant hwy fyw mewn gwlâd, y rhai, hyd y gallant, ſydd trwy ymſennu ac ymryſon, yn aflonyddu heddwch a thangnheddyf y wlâd. Ac o ba le y daw y cynhennau, yr ymryſonau, a'r anghyfundebau ymma, ond o falchedd a gwâg-ogoniant. Ymoſtyngwn gan hynny, tan alluog 1. Pet. 5. 6. law Dduw, yr hwn a addawodd edrych ar oſtyngeiddrwydd y rhai o yſpryd iſel. Osydym ni Griſtianogion Luc. 1. 48. llonydd, da, ymddangoſed hynny yn ein geiriau a'n tafodau.

Os ymwrthodaſom ni â diafol, nac arferwn mwy dafodau dieflig. Yr hwn a fu ymſennwr ac ymdaerwr, bydded bellach gynghorwr araf. Yr hwn a fu enllibiwr cenfigennus, bydded bellach ddiddanudd cariadus. Yr hwn a fu wâg-ymſennwr, bydded bellach athro yſprydol. Yr hwn a gamarferodd ei dafod yn melldithio, bellach iawnarfered ef yn bendithio. Yr hwn a gamarferodd ei dafod yn dywedyd drŵg, bellach iawnarfered ef yn dywedyd daioni.

Bwriwch ymmaith oddiwrthych bob llid, ymryſon a chabledd. Os gellwch ac os bydd poſſibl, na ddigiwch mewn modd yn y bŷd. Ond os chwi ni ellwch fod yn ddiangol oddiwrth y gwyniau hyn, etto tymmherwch a ffrwynwch hwy fel na allont eich cyffroi i ymryſon ac ymſennu. Os cyffroir chwi â drŵg eiriau, ymarfogwch â dioddefgarwch, tiriondeb a diſtawrwydd, naill ai trwy fod heb ddywedyd dim, ai trwy fod yn arafaidd, yn llaryaidd, ac yn fwynaidd wrth atteb.

Gorchfyga dy wrthwynebwr â chymmwynaſau ac â thiriondeb. Ac vwch law pob peth cedwch vndeb a thangnheddyf: ac na fyddwch dorwyr heddwch ond gwneuthurwyr heddwch. Ac yno yn ddiammau fe a ganiattâ awdur pob diddanwch a heddwch, i ni heddwch cydwybod, a'r fath gydgordiad a chyttundeb, megis ag vn genau ac vn meddwl y gogoneddom Dduw Tâd ein harglwydd Ieſu Ghriſt, i'r hwn y byddo pob gogoniant yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

¶ Yr ail rhan o Lyfr yr Homiliau neu'r Pregethau.
¶ Pregeth am iawn arfer eglwys neu deml Dduw a'r parch ſydd ddyledus iddi.

MAe 'n ymddangos llawer iawn o bobl yn yr amſer hyn eſcaeluſrwydd a gwall mawr am fyned i'r eglwys i waſanaethu Duw eu tad nefol yno, yn ol eu rhwymediccaf ddylyed: ac hefyd ymddygiad anweddaidd anoſtyngedig llawer o ddynion yn yr amſer y byddont gwedy ymgynull: ac am y dichon yn gyfiawn gyfodi ofn digofaint Duw a'i Arſwydus erchyll. echrydus blaau ſydd vwch ein pennau am ein beiau trymmion yn hyn o beth, ymhlith llawer a mawr bechodau, y rhai yr ydym yn eu gwneuthur bob dydd a phob awr ger bron yr Arglwydd.

Am hynny er mwyn cyflawni dlyed ein cydwybodau, a diangc oddiwrth yr Perigl. enbeidrwydd, cyfredinol a'r plaau ſydd vwch ein pennau, yſtyriwn pa beth a ellir i ddywedyd allan o ſanctaidd lyfr Duw am hyn o beth.

Ar yr hyn beth y deiſyfaf arnoch wrando 'n ddieſcaelus, am ei fod yn beth pwyſig ac yn perthyn i chwi oll. Er na ellir cynwys tragwyddol ac anymgyffred fawrhydi Duw, Arglwydd nef a dayar, yr hwn y mae ei orſeddfaingc yn y nef, a'r ddaear yn faingc i'w draed, mewn temlau neu dai a wnaer â dwylo, megis mewn trigfau a allant dderbyn neu gynnwys ei fawrhydi ef, megis y dangoſwyd yn eglur trwy y Prophwyd Eſaias, a thrwy athrawaeth S. Stephan a S. Eſal. 66. 1. Act. 7 48. Pawl yngweithredoedd yr Apoſtolion. Ac lle mae y brenhin Salomon yr hwn a adailadodd i'r Arglwydd y deml brydferthaf ac a fu er ioed, yn dywedyd, Pwy a all adail ty addas teilwng iddo ef? Act. 17. 24. Os y nefoedd a nefoedd y nefoedd ni chynhwyſant ef, llai o lawer y ty yr hwn a adeiledais i? Ac mae fe yn cyfaddef etto ym-mhellach, Pa beth 1. Bren. 8. 27. 2. Cro. 2. 6. ydwyfi fal y gallwn adailadu ty itio Arglwydd? Ond etto er mwyn hyn y gwneuthpwyd ef, iti wrando gweddi a goſtyngeiddiaf ddeiſyfiad dy was.

Pellach o lawer ydyw ein eglwyſi ni oddiwrth fod yn drigfau addas i dderbyn anfeſurol fawrhydi Duw.

Ac yn wir godidawgaf ac yſpyſawl demlau Duw, yn y rhai y mae fe yn ymhoffi fwyaf, ac yn chwennych trigo ac aros ynddynt, yw cyrph a meddyliau gwir Griſtionogion a dewiſol bobl Dduw, yn ol athrawaeth y ſanctaidd Scrythur, addangoſtr yn yr Epiſtol cyntaf at y Corinthiaid. Oni wyddoch, medd yr Apoſtol, mai teml Dduw 1. Cor. 3. 16, 17 ydych, a bod Yſpryd Duw yn aros ynoch? Os llygra neb deml Dduw Duw a lygra hwnnw, canys ſanctaidd yw teml Dduw, yr hon ydych chwi. Ac ailwaith yn yr vn Epiſtol, Oni wyddoch 1. Cor. 6. 19. chwi fod eich cyrph yn deml i'r Yſpryd glan ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddochwi eich hunain, canys er gwerth y prynwyd chwi, gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corph ac yn eich yſpryd y rhai ydynt eiddo Duw.

Ac am hynny fal y dywaid ein Iachawdwr Chriſt yn Efengyl S. Ioan, Maent hwy yn addoli Duw Dad yn inion, y rhai a'i addolant ef mewn Yſpryd a gwirionedd pa le bynnac y gwnelont hynny. O herwydd y fath addolwyr y mae Duw Dad yn edrych am danynt. Duw ſydd Yſpryd Ioan. 4. 24. a'r ſawl a'i haddolant ef rhaid yw iddynt ei addoli ef mewn Yſpryd a gwirionedd, medd ein Iachawdwr Chriſt.

Etto er hyn mae 'r eglwys neu 'r deml ddefnyddiol yn lle gwedy ei oſod a'i appwyntio wrth arfer a ſiamplau gwaſtadol yr hên Deſtament a'r newydd, i bobl Dduw i ymgynull iddo, i wrando ſanctaidd air Duw, i alw ar ei ſanctaidd enw ef, i roi diolch iddo am ei aneirif a'i an-nhraethawl ddoniau y rhai a roddodd ef ini, ac yn ddyledus ac yn gywir i waſanaethu ei ſanctaidd Sacramentau ef, wrth wneuthur a chyflawni yr hyn bethau y ſaif gwir ac iniawn addoliad Duw, a ſoniaſom o'r blaen am dano. A'r eglwys neu 'r deml hon a elwir yn ſcrythyrau yr hên Deſtament a'r Teſtament newydd yn dŷ neu deml yr Arglwydd, o herwydd yr enwedigawl waſanaeth a wna ei bobl i'w fawrhydi ef yno, a ffrwythlon breſenolder ei nefol ras ef, â'r hwn trwy ei ſanctaidd air y cynyſcaedda ef ei bobl a fyddont gwedy ymgynull yno.

Ac i'r tŷ a'r deml Dduw hynny y mae pawb o'r gwir dduwiolion yn rhwymedig i ddyfod bob amſer yn ddyfal, trwy gyffredinol drefn, oni rwyſtrir hwy trwy glefyd neu ryw achos anghenrheidiol arall. Ac fe ddlyei bawb ac a arferant o ddyfod yno, ymddwyn yn llonydd ac yn oſtyngedig, gan wneuthur eu rhwymedig ddlyed a'u gwaſanaeth i'r holl-alluog Dduw ynghynnulleidfa ei ſaint.

Yr holl bethau hyn a ellir eu proſi yn eglur trwy ſanctaidd air Duw, fal yr agorir yn oleu ar ol hyn. Ac mi a ddangoſaf wrth yr ſcrythurau fod yn ei alw ef (fal y mae fe yn wir) yn dŷ Dduw, ac yn deml yr Arglwydd. Pwy bynnag a dyngo Ioan. 18. 10. i'r deml ſydd yn tyngu iddi ac i'r hwn ſydd yn preſwylio ynddi, hynny yw Duw Dad: yr hyn y mae Matth. 23. 21. fe yn ei ddangos yn eglur yn Efengyl S. Ioan, Ioan. 2. 16. gan ddywedyd, na wnewch dŷ fy-nhad yn dŷ marchnad. Ac mae'r Prophwyd Dafydd yn dywedyd yn llyfr y Pſalmau, Minnau a ddauaf i'th dŷ di Pſal. 5. 7. yn amlder dy drugaredd ac a addolaf tu a'th deml ſanctaidd yn dy ofn di. Ac fe a elwir mewn aneirif fannau o'r Scrythur lân yn dŷ Dduw neu dŷ yr Arglwydd, yn enwedig yn y Prophwydi a llyfr y Pſalmau. Weithiau y gelwir yn babell yr Arglwydd, Pſal. 132. 7. weithiau yn gyſſegrfa, hynny yw tŷ neu fangre ſanctaidd yr Arglwydd. Ac hi a elwir hefyd Exod. 7. Leu. 19. 30. 1. Bren. 8. 63. yn dŷ gweddi, megis y geilw Salomon hi, yr hwn a adailadodd deml Dduw yn Ieruſalem, yn dŷ yr Arglwydd yn yr hwn y gelwid ar enw'r Arglwydd. Ac Eſaias yn yr 56. bennod, fy-nhŷ fi a elwir Eſai. 56. 7. yn dŷ gweddi i'r holl bobloedd. Yr hwn dert y mae 'n Iachawdwr Chriſt yn ſon am dano yn y Teſtament newydd fal y mae 'n eglur yn-nhri o'r Math. 21. 13. Marc. 11. 17. Luc. 19. 46. efangylwyr, ac yn-nammeg y Phariſei a'r Publican a aethant i weddio, yn yr hon ddammeg mae 'n Iachawdwr Chriſt yn dywedyd eu myned hwy Luc. 18. 10. i'r deml i weddio. Ac fe waſanaethai Anna y weddw a'r Brophwydes ſanctaidd honno yr Arglwydd Luc. 2. 37. yn y deml, mewn ympryd a gweddi nos adydd. Ac yr ydys yn ſtori yr Actau yn ſon fyned Petr ac Ioan i fynu i'r deml ar yr awr weddi. Ac Act. 3. 1. fel yr ydoedd S. Paul yn y deml yn Ieruſalem yn gweddio fe gymmerwyd i fynu yn yr yſpryd ac Act. 22. 18. fe a welodd Ieſu yn dywedyd wrtho.

Ac megis ym-mhob lle addas y gall y duwiol arfer gweddi ddirgel nailltuol: felly diammau yw mai 'r Eglwys yw 'r lle dyledus goſodedig i weddi gyhoedd gyffredinol. Ac bellach mai hwn yw 'r lle i roddi diolch i'r Arglwydd am ei aneirif a'i an-nhraethawl ddoniau a rôdd ef ini, mae 'n eglur ddigon yn-niwedd Efengyl S. Luc, ac ynnechrau Luc. 14. 53. Act. 2. 46. ſtori 'r Actau, lle mae 'n ſcrifennedig, Yn ol eſcynniad yr Arglwydd, barhau o'r Apoſtolion a'r Diſcyblon yn gytun beunydd yn y deml, gan glodfori a bendithio Duw yn waſtad.

Ac fe fanegir hefyd yn yr Epiſtol cyntaf at y Corinthiaid mai 'r eglwys yw 'r lle goſodedig i arfer 1. Cor. 11. 18, 22. y Sacraméntau. Mae bellach yn rhaid ini ddangos mai 'r Eglwys, neu 'r deml yw 'r lle y dylyid darllen a dyſcu bywiol air Duw, ac nid dychymmygion dynion, a bod y bobl yn rhwymedig i ddyfod yno yn ddieſcaelus, a ellir ei brofi wrth yr Scrythyrau fal y dangoſir ar ol hyn. Yr ydyin yn darllen yn hiſtori Actau 'r Apoſtolion i Pawl a Barnabas bregethu gair Duw yn-nhemlau 'r Iddewon yn Salamis. A phan ddaethant i Antiochia hwy a aethant i mewn i'r Synagog neu 'r Eglwys ar y dydd Sabaoth, ac a eiſteddaſant: ac Act. 13. 14. yn ol llith o'r ddeddf a'r prophwydi, rheolwyr y Synagog a anfonaſont attynt gan ddywedyd, hawyr frodyr, os oes gennych air o gyngor i'r bobl, traethwch. Yna Pawl a gyfododd i fynu a chan amneidio â'i law am oſteg a ddywedodd, O wyr o Iſrael a'r ſawl ſydd yn ofni Duw, gwrandewch. Ac felly fe a bregethodd bregeth o'r Scrythyrau iddynt, megis y dangoſir yn halaeth yno.

Ac yn y ddwyfed bennod ar bymtheg o'r vn hiſtori y tyſtiolaethir pa fodd y pregethodd Pawl Chriſt allan o'r Scrythur yn Theſſalonica. Ac yn Act. 17. 22. Act. 15. 21. y 15. bennod y dywaid Iaco 'r Apoſtol yn y Cyngor a'r gynnulleidfa ſāctaidd o'i gyd-apoſtolion, mae i Moeſes ym-mhob dinas er yr hên amſeroedd rai a'i pregethant ef yn y Synagogau a'r eglwyſydd, lle darllenir ef bob Sabaoth.

Fal hyn y gwelwch wrth y lleoedd hyn, arfer darllein 'r hên deſtament ymmhlith yr Iddewon yn eu ſynagogau bob dydd Sabaoth, ac y gwnaid pregethau yn arferedig ar y dydd hwnnw.

Pa faint cymheſurach gan hynny yw darllen ac agoryd Scrythyrau Duw ac yn enwedig efengylein Iachawdwr Chriſt ini ſydd Griſtionogion, yn ein eglwyſydd, yn hytrach am fod ein Iachawdwr Chriſt a'i Apoſtolion yn foddlon i'r arfer dduwiolaf anghenrheitiaf honno, ac yn ei chadarnhau hi trwy eu ſamplau eu hunain?

Mae 'n ſcrifennedig mewn llawer lle o hiſtori au 'r Mat. 4. 23. Mar. 1. 14. Luc. 4. 14. Math. 12. 9. 20. v. 9. Mar. 6. 2. Luc. 13. 10. efengyl i'r Ieſu fyned o amgylch holl Galilaea a dyſcy yn eu Synagogau hwy, a phregethu efengyl y deyrnas. Yn yr hyn leoedd y goſodir allan yn oleu ei fawr ddiwydrwydd ef yn gwaſtadol bregethu a dyſcu y bobl.

Yr ydych yn darllen yn S. Luc ddyfod o'r Ieſu Luc. 4. 6. Luc. 19. 47. i'r deml yn ol ei arfer, pa fodd y rhodd wyd iddo lyfr y Prophwyd Eſaias, pa fodd y darllenodd ef dext ynddo ac y gwnaeth ar hwnnw bregeth. Ac yn y 19. bennod y dangoſir ei fod ef yn dyſcu beunydd yn y deml. Ac yn yr 8. o Ioan y dywedir ddyfod Ioan. 8. 2. o'r Ieſu yn forau i'r deml a dyfod o'r holl bobl atto eſ ac iddo yntef eiſtedd a'u dyſcu hwy. Ac yn y 18. o Efengyl Ioan mae Chriſt yn teſtiolaethu Ioan. 18. 10. gerbron yr arch-offeiriaid iddo ef ddywedyd ar gyhoedd wrth y byd, a'i fod ef yn athrawiaethu yn waſtadol yn y Synagog ac yn y deml, lle y cyrchai yr holl Iddewon, ac na ddywedodd ef ddim yn guddiedig. Ac yn S. Luc yr Ieſu a ddyſcodd yn y Luc. 21. 37, 38. deml a'r holl bobl a ddauent y borau atto ef i'w glyweb yn y deml.

Ymma y gwelwch ddiwydrwydd ein Iachawdwr yn dyſcu gair Duw yn y deml beunydd, yn en wedig ar y dyddiau Sabaoth, apharodrwydd y bobl hefyd yn dyfod ynghyd, a hynny yn forau ddydd i'r deml i wrando arno.

Yr vn fath ſiampl o ddiwydrwydd yn pregethu gair Duw yn y deml a gewch chwi yn yr Apoſtolion, a'r bobl yn dyfod attynt Act. 5. A'r Apoſtolion Act. 5. v. 21. er darfod eu chwippo a'u fflangellu hwy y dydd o'r blaen, ac er darfod i'r Archoffeiriaid orchymmyn iddynt na phregethent in wy yn enw 'r Ieſu, etto hwy a ddaethant drannoeth yn forau i'r deml, ac ni phaidiaſan a dyſcu a chyhoeddi Ieſu Act. 13. 26. 18. a'r 15. 35. a'r 17. 3. Griſt. Ac mewn llawer o leoedd eraill o hiſtori 'r Actau y cewch yr vn fath ddiwydrwydd yn yr Apoſtolion i ddyſcu ac yn y bobl i ddyfod i'r deml i wrando gair Duw. Ac fe a deſtiolaethir yn y bennod gyntaf o Luc pan ydoedd Zachari y ſanctaidd offeiriad a thâd Ioan fedyddiwr yn aberthu o fewn y deml, fod yr holl bobl yn ſefyll oddiallan yn gweddio dros hir amſer. Cyfryw ydoedd eu gwrês hwy a'u zêl yr amſer hynny. Ac yn yrail o Luc y dangoſir pa daithiau a ſiwrneiau a gymmerai Luc. 1. 10. gwyr, gwragedd a phlant i ddyfod i'r deml i waſanauthu 'r Arglwydd yno ar yr wyl: ond yn enwedig ſiampl Ioſeph a'r fendigaid forwyn fair mam ein Iachawdwr Ieſu Griſt, a ſiampl ein Iachawdwr Chriſt ei hunan ac ef etto 'n blentyn, ſiamplau y rhai ſydd wiw ini eu canlyn; Megis, pe cyffelybem ni ein eſcaeluſrwydd i ddyfod i dŷ yr Arglwydd i'w waſanaethu ef yno, a dieſcaeluſrwydd yr Iddewon y rhai a ddoent bennydd yn forau iawn Luc. 2. 42. i'r deml, weithiau trwy deithiau hirion, a phan na weddai y lliaws yn y deml, fe ddangoſir y zêl wreſſog oedd yndynt wrth eu gwaith yn hir aros allan i weddio. Ni a allwn yn gyfiawn yn y gyffelybaeth hon ddamnio 'n diogi a'n eſcaeluſder, ie a'n diyſtyrwch goleu yn dyfod i dy yr Arglwydd mor anfynych, ac yntef cyn neſed attom, ie a phrin dyfod iddo vn amſer.

Mor bell yw llawer o honom ni oddiwrth ddyfod yn forau ddydd, neu hir aros oddiallan, ac y diyſtyrwn ddyfod oddifewn i'r deml. Ac etto cas gennym glywed enw 'r Iddewon megis pobl ddrwg annuwiol. Ond yr wyfi yn ofni yn hyn o beth ein bod ni yn waeth o lawer nâ 'r Iddewon, ac y cyfodant hwy ddydd y farn i'n damnedigaeth ni, y rhai os cyffelybir ni iddynt, ydym yn dangos y fath ddiogi a dibriſrwydd am ddyfod i dŷ yr Arglwydd i'w waſanaethu ef yno yn ol ein rhwymedig ddlyed.

Ac heblaw Erchyll. echrydus ofn barn Duw yn y dydd diwethaf, ni ddiangwn ni yn y bywyd hwn rhag ei law drom a'i ddial ef, am ddibriſo a diyſtyru tŷ yr Arglwydd, a'i ddyledus waſanaeth ef yntho, megis y mae 'r Arglwydd ei hunan yn bygwth yn y bennod gyntaf o brophwydoliaeth Aggeus yn y Aggeus 1. 9. 10. modd hyn, Am fod, medd ef, fy-nhŷ i yn anghyfannedd a chwithau yn rhedeg bawb i'w dŷ ei hun: am hynny y gwaharddwyd i'r nefoedd wlitho arnoch, ac y gwaharddwyd i'r ddaear ddwyn ffrwyth: gelwais hefyd am ſychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd ac ar yr ŷd, ac ar y gwin, ac ar yr olew ac ar yr hyn a ddŵg y ddaear allan, ar ddŷn hefyd ac ar amfail, ac ar holl lafur dwylo dŷn.

Mele, os byddwn ni mor fydol ac nad gwaeth gennym am dragwyddol farnedigaethau Duw, y rhai etto ydynt Erchyllaf. echryduſaf ac arſwyduſaf oll, ni ddiangwn ni rhag coſpedigaeth Duw yn y byd hwn trwy ſychder a newyn, a thrwy dynnu oddiwrthym bob budd a dawn bydol, am y rhai yr ydym ni megis gwŷr bydol yn gofalu ac yn pryderu fwyaf.

Ond o'r gwrthwyneb pe gwellaem ni y bai, yr eſcaeluſdra, y diogi, a'r diyſtyrwch ymma ar dŷ yr Arglwydd a'i ddyledus waſanaeth ef yno, ac yn ddiwyd ymarfer o ddyfod ynghŷd yno i waſanaethu 'r Arglwydd yn vn ac yn gyttun, mewn ſancteiddr wydd a chyfiawnder ger ei fron ef, mae ini addewidion o ddonian nefol a bydol.

Pa le bynnag, medd ein Iachawdwr, y bytho dau neu dri gwedy ymgynull ynghyd yn fy enw fi Matth. 18. 20. myfi a fyddaf yn ei myſc hwy. Pa beth a ddichō bod mor fendigaid a chael ein Iachawdwr Chriſt i'n myſc? a pha beth a ddichon bod mor annedwydd ac mor eniweidiol a gyrru ein Iachawdwr Chriſt o'n myſc, a chynnwys lle i'n hên angheuol elyn ni ac yntef, yr hên ddraig, y ſarph ſathan diawl, yn ein plith.

Mae yn ſcrifennedig yn yr ail o Luc gwedi i Luc. 20. 46. fair fam Chriſt ac i Ioſeph ei ymofyn ef yn hir, a phan na fedrent ei gael ef yn vn lle, hyd oni thybient ei golli ef, y modd yn y diwedd y cawſant ef yn y deml yn eiſtedd ym-mŷſc y doctoriaid.

Felly os bydd arnom eiſiau Chriſt Ieſu yr hwn yw Iachawdwr ein heneidiau a'n cyrph, ni chyfarfyddwn ddim ag ef yn y farchnad, neu yn y dadleudy, llai o lawer yn y dafarn ym-mhlith cwmpniwyr neu gyfeillion da (fal y gelwir hwy) mor Fuan. ebrwydd ac y cyhyrddwn ag ef yn y deml yn-nhŷ yr Arglwydd, ym-mŷſg dyſcawdwyr a phregethwyr ei air, lle mae ef i'w gael yn ddiau.

Ac am ddoniau bydol mae gennym addewid ein Iawchawdwr Chriſt, Ceifiwch, medd ef, yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder a'r holl bethau Matth. 6. 33. byn a roddir i chwi yn ychwaneg.

Fal hyn y dangoſaſom trwy air Duw yn y rhan gyntaf o'r traethawd ymma mai tŷ yr Arglwydd y dyw'r deml neu'r Eglwys, am fod yn arfer yno o waſanaethu Duw, ſef gwrando a dyſcu ei ſantaidd air ef, galw ar ei ſantaidd enw ef, a rhoddi diolch iddo am ei fawr a'i aneirif drugaredd, a miniſtro ei Sacramentau ef yn ddyledus.

Fe a ddangoſwyd hefyd trwy yr Scrythyrau y dylai yr holl dduwiol griſtionogion yn wŷr ac yn wragedd ar amſeroedd goſodedig ddyfod yn ddiwyd i dŷ 'r Arglwydd i' w waſanaethu a 'i foliannu ef yno, megis y mae ef teilyngaf a ninnau rh wymediccaf: i'r hwn y bytho holl anrhydedd a gogoniant yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am iawn arfer yr Eglwys.

FE a ddangoſwyd yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon trwy air Duw mai tŷ yr Arglwydd yw 'r deml neu 'r Eglwys, am fod yn arfer o waſanaethu 'r Arglwydd yno, hynny yw dyſcu a gwrando et ſantaidd air ef, galw ar ei ſantaidd enw ef, rhoddi diolch iddo am ei fawr a'i aneirif ddoniau, a dyledus finiſtrio ei Sacramentau.

Ac fe a ddangoſwyd eiſioes trwy 'r ſcrythyrau y dylyem ni yr holl dduwiol Griſtionogion ar amſerau goſodedig yn ddiwyd ymarfer o ddyfod i dŷ 'r Arglwydd i'w waſanaethu ac i'w ogoneddu ef yno, megis y mae ef teilyngaf a ninnau rhwymediccaf.

Mae yn aros bellach yn yr ail rhan o 'r bregeth am iawn arfer teml Dduw, bod dangos hefyd trwy air Duw â pha lonyddwch a diſtawrwydd a pharch a goſtyngeiddrwydd y dyle y rhai a ddelo i dŷ Dduw ymddwyn ac ymarwedd. Digon o addyſc ini i wybod Ddaied. gyſtal y gweddai i ni Griſtionogion arfer yn barchedig yr Eglwys a thŷ ſanctaidd ein gweddiau, ped yſtyriem ym-mha fawr barch ac amrhydedd yr oedd eu teml gan yr Iddewon yn yr hên gyfraith, fel y gwelir drwy lawer o leoedd o 'r rhai y dewiſſaf i chwi ambell vn.

Yr ydys yn rhoi yn erbyn ein Iachawdwr Chriſt garbron barnwr bydol yn Efengyl Mathew trwy ddau gau dyſt fegis peth yn haeddu angau, Matt. 26. 61. iddo ddywedyd y gallei ef ddiſtrywio teml Dduw a'i hadeiladu mewn tri diwrnod, heb ddim ammau os hwy a ellent beri i'r bobl gredu iddo ddywedyd dim yn erbyn anrhydedd a mawrhydi yr deml, y byddai ef yngolwg pawb yn haeddu angau.

Ac yn yr 21. o'r Actau pan gafodd yr Iddewon Act. 21. 28. S. Paul yn y deml, hwy a roeſant ddwylo arnaw gan lefain, hawyr o Ifrael cynorthwywch, dymma yr dyn ſydd yn dyſcu ym-mhob man yn erbyn y bobl a'r gyfreith a'r lle ymma: hefyd mae fe wedi dwyn Groegiaid i mewn i'r deml i halogi y lle hwn.

Gwelwch fel y tybygent mai yr vn fath fai oedd ddywedyd yn erbyn teml Dduw a dywedyd yn erbyn cyfraith Dduw, a pha fodd y barnent yn gyfaddas na chaffai neb ddyfod i deml Dduw ond rhai duwiol a gwir addolwyr Duw.

Yr vn peth y mae Tertullus yr areithiwr Ffraeth. hyawdl hwnnw a'r Iddewon Act. 24. 6. yn ei ddodi yn erbyn Paul ger bron barnwr bydol megis peth yn haeddu angau, iddo geiſio halogi teml Dduw. A phan dderbyniodd yr arch-offeiriaid eilwaith y drylliau arian o law Iudas hwy a ddywedaſant, Matth. 27. 6. nid cyfreithlon ini eu bwrw hwynt i'r Corban, yr hwn oedd dryſordŷ 'r deml, o herwydd mai gwerth gwaed ydynt.

Megis na ellent aros nid yn vnig ddyfod vn dŷn aflan ond hefyd ddyfod vn peth marw, yr hwn a fernid yn aflan, i mewn i'r deml nac i vn lle a berthynai atti.

Ac i'r deall hyn y dylid cymmeryd yr hyn a ddywaid S. Pawl, pa gytundeb ſydd rhwng cyfiawnder 2. Cor. 6. 14. ac anghyflawnder? a phâ gyfeillach ſydd rhwng goleuni a thywyllwch? a pha gyſondeb ſydd rhwng Chriſt a Belial? neu pa ran ſydd i'r credadwy ac i'r anghredadwy? a pha gydfod ſydd rhwng teml Dduw ac eulynnod?

Yr hyn eiriau er bod yn eu deall yn bennaf am deml calon y duwiol, etto o herwydd bod yn cymmeryd y gyffelybiaeth a Sum. ſyrth y rheſwn oddiwrth y deml ddefnyddiol, mae yn canlyn na ddylid goddef dim anuwioldeb, yn enwedig o ddelwau neu elynnod, o fewn Teml Dduw, yr hon yw 'r lle i addoli Duw, ac am hynny nid gwell y gellir eu goddef hwy i aros yno nag y dichon goleuni gytuno â thywyllwch neu Griſt a Belial: o herwydd bod gwir addoliad Duw ac addoliad delwau mor wrthwynebus i'w gilydd ac a all fod.

Ac mae eu goſod hwy i fynydd yn y lle y byddir yn addoli yn achos mawr o'u haddoli hwyntau.

Ond i ddychwelyd at y parch a roe 'r Iddewon i'w teml, chwi a ddywedwch eu bod hwy yn ei hanrhydedduhi yn ormod ac yn goelfucheddol, gan lefain, Teml yr Arglwydd, Teml yr Arglwydd, a'u bywyd hwy er hynny yn ddrwg dros ben, ac am hynny yr argyhoeddir hwy yn gyfiawn gan Ieremi Prophwyd yr Arglwydd. Iere. 7. 4.

Gwir yw eu bod hwy yn ymroi yn goelfucheddol i anrhydeddu eu teml, ond mi a fynwn na byddem ni yn rhy fyrr yn rhoi dyledus barch i dŷ yr Arglwydd gymmaint ac yr elſent hwythau yn rhybell.

Ac os ceryddodd y Prophwyd hwy yn gyſion, gwrandewch pa beth y mae 'r Arglwydd yn ei ofyn ar ein dwylo ninnau, fel y gallom wybod pa vn a wnawn ai bod yn feius ai nad ydym. Mae yn ſcrifennedig yn y 4. bennod o Lyfr y Pregethwr gwilia ar dy droed pan fythech yn myned i Eccleſ. 4. 17. dŷ Dduw a bydd barottach i wrando nag i roi aberth ffyliaid, canys ni wyddont hwy eu bod yn gwneuthur drygioni. Na fydd ry ebrwydd o'th enau, ac na fydded dy galon ry fywiog i draethu Preg. 5. 1. dim ger bron Duw. Canys Duw ſydd yn y nefoedd a thithau ſydd ar y ddayar, ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml.

Yſtyriwch fy-ngharedigion pa lonyddwch mewn ymddygiad ac ymarweddiad, pa ddiſtawrwydd geiriau ac ymadroddion ſy ddyledus ynnhŷ Dduw, o herwydd felly y mae fe yn galw yr Eglwys. Edrychwch ydynt hwy yn gwilied ar eu traed fal y rhybyddir hwy ymma, y rhai ni pheidiant â'u hanweddaidd dreiglo a rhodio i fynu ac i fynu ac i waered ar hŷd ac ar draws yr Eglwys, gan ddangos arwydd eglur fychaned gantynt am Ddum ac am yr holl wŷr da ſydd breſenol yno.

A pha wilied y maent hwy ar eu tafodau a'u hymadroddion, y rhai nid yn vnig a ddywedant eiriau yn fywiog ac yn ebrwydd ger bron yr Arglwydd, yr hyn yr ydys ymma yn ei wahardd iddynt, ond hefyd weithiau dywedyd yn frwnt, yn gybyddus ac yn annuwiol, gan chwedleua am bethau ni bônt ond braidd oneſt na gweddaidd i'w dywedyd mewn tafarn, yn-nhŷ yr Arglwydd, heb yſtyried ond rhyfychan eu bod hwy ger bron Duw yr hwn ſydd yn aros yn y nefoedd, fal y mynegir ymma, lle nid ydynt ond pryfed yn ymluſgo ymma ar y ddayar wrth ei dragwyddol fawrhydi ef, ac yn meddwl yn llai o lawer y gorfydd arnynt ar y dydd mawr roddi cyfrif am bob gair ofer ac a ddywedaſant hwy er ioed pa le bynnag y dywedaſant, Mat. 12. 36. mwy o lawer am eiriau bryntion, aflan, drwg a dyweder yn-nhŷ 'r Arglwydd, er dianrhydeddu ei fawrhydi ef, a rhwyſtr a thramgwydd i bawb a'u clywant.

Ac yn wir, am y dyrfa a'r lliaws werin, fe a ddarparwyd y deml iddynt hwy i fod yn wrandawŷr ac nid yn ſiaradwŷr, os yſtyriwn fod yno yn arfer ddarllen a dyſcu gair Duw, yr hwn y maent yn rhwymedig i'w wrando yn ddieſceulus, yn barchus ac yn ddiſtaw, a hefyd yn adrodd gweddiau cyffredinol a rhoddi diolch gan y gwenidawg cyffredinawl yn enw yr bobl a'r holl dyrfa breſennol, â'r hyn, gan wrandaw yn barodol y dylent gytuno gan dywedyd, Amen, megis y dyweid S. Paul at y Corinthiaid, ac 1. Cor. 14. 16. mewn man arall, Gan roddi gogoniant i Dduw ag vn tafod ac ag vn Yſpryd; yr hyn ni ddichon bod pan fytho pob gŵr a gwraig yn llunio. rhithio defoſiwn neilltuol iddo ei hun, yn gweddio o'r neilldu; vn yn gofyn, arall yn roddi diolch, arall yn darllen athrawiaeth, heb ofalu am wrando ar weddi gyffredinol y gwenidawg.

Ac mae yr vn S. Paul at y Corinthiaid yn dyſcu pa barch a ddylid ei arfer wrth finiſtrio 'r Sacramentau yn y deml, gan geryddu y rhai a'i harferent yn amharchus. Onid oes gennych dai i 1. Cor. 11. fwyta ac y yfed ynddynt? ai dirmygu yr ydych yr Eglwys a chynnulleidfa Dduw? ac a ydych chwi yn gwradwyddo y rhai nid oes genthynt? pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf chwi yn hyn? na chanmolaf.

Ac nid ydyw Duw yn gofyn yn vnig y parch hwn oddiallan mewn ymddygiad a diſtawrwydd yn ei dŷ, ond pob goſtyngeiddrwydd oddifewn mewn glanhad meddyliau ein calonnau, gan fygwth drwy y Prophwyd Oſee, Am ddrygioni eu Oſea. 9. 30. gweithredoedd y bwrid hwynt allan o'i dŷ ef. Trwy yr hyn yr arwyddoceir eu tragwyddol dafliad hwy allan o'r tŷ a'r dyrnas nefoedd, yr hyn ſydd erchyll aruthrol.

Ac am hynny y dywaid Duw yn Leuiticus, Perchwch fy-nghyſegrfa, canys yr Arglwydd ydwyfi. Leu. 19. 30. Ac am hynny y dywaid y Prophwyd Dafydd. Mi a ddeuaf i'th dŷ di yn amlder dy drugaredd, ac a addolaf yn dy deml ſantaidd yn dy ofn di: gan ddangos pa barch a goſtyngeiddrwydd a ddylae fod ym meddyliau dynion dwiol yn-nhŷ yr Arglwydd.

Ac i ddangos peth i chwi oblegid y peth hyn allan o'r Teſtament newydd, ym-mha barch y myn Duw gadw ei dŷ a'i deml a hynny drwy ſiampl ein Iachawdwr Chriſt, yr hon trwy reſſwm da a ddylae fod yn bwyſig ac yn gyfrifawl ei awdurdod gydâ phob Criſtion da. Mae yn ſcrifennedig ym-mhob vn o'r pedwar Efangylwr megis Mat. 21. 12. Mar. 11. 15. Luc. 19 45. Ioan. 2. 15. peth godidawg yn heuddu tyſtioleth llawer o dyſtion ſantaidd, am ein Iachawdwr Ieſu Griſt yr Arglwydd trugarog tirion hwnnw yr hwn o blegid ei oſtyngeiddrwydd a gyffelybir i ddafad yr hon a oddef yn ddiſtaw gneifio ei chnu oddi-arni, ac i'r oen yr hwn yn ddiwrthwyneb a arweinid i'r lladdfa, er iddo roddi ei gorph i'r cûrwyr a'i Eſai. 53. 7. Act. 8 32. gernau i'r cernodwyr, er nad attebod i't rhai a'i dirmygent ac ni thrôdd ei wyneb oddiwrth wradwydd a phoeredd, ac er iddo yn ôl ei ſiampl ei hun Eſa. 5. 6. Mat. 5. 36. roddi i'w ddiſcyblon orchymmynion o oddefgarwch ac addfwyndra, etto pan welodd ef annhrefnu, anharddu a halogi y deml ſantaidd tŷ ei Dâd nefol, fe a arferodd doſtrwydd a llymdra mawr, fe a ymchwelodd fyrddau y newidwyr arian ac a daflodd i lawr feingciau y rhai oedd yn gwerthu colommennod, fe a wnaeth fflangell o reffynnau ac a fflangellodd ac a chwipiodd ymmaith y melldigedig gamarferwyr a'r halogwyr hynny ar deml Dduw, gan ddywedyd, Tŷ gweddi y gelwir tŷ fy-nhad, ond chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.

Ac yn yr ail o Ioan, Na wnewch dŷ fy-nhâd yn Ioan. 2. 16. dŷ marchnad. O herwydd megis y mae ef yn dŷ i Dduw pan wneler gwaſanaeth i Dduw yn ddyledus yntho, felly pan fythom ni yn annuwiol yn ei gamarfer a'n hannuwiol ymſiarad am fargenion cybyddus, yr ydym yn ei wneuthur yn dŷ marchnad ac yn ogof lladron.

Ie a'r fath barch a fynnai Griſt ei fod i'r deml, Mar. 11. 16. na allai fe arhos gweled cymmaint a dwyn lleſtr trwyddi. Ac fal y dywedpwyd o'r blaen allan o ſaint Luc, pan na fedrid cael Griſt yn vnlle arall ar y ceiſid ef, ond yn vnig yn y deml, ym-mhlith y doctoriaid; ac yn awr mae fe yn dangos ei allu a'i awdurdod, nid mewn ceſtyll neu frenhindai ym-hlith milwyr, ond yn y deml. Chwi a ellwch weled wrth hyn ym-mhale y gellir cyfarfod gyntaf â'i deyrnas yſprydol ef, yr hon y mae yn dywedyd nad yw o'r byd hwn, ac ym-mhale y gellir ei hadnabod hi yn orau o leoedd yr holl fyd.

Ac yn ol'ſiampl ein Iachawdwr Chriſt, yn y brif-Eglwys gynt yr hon oedd ſanteiddiolaf a duwiolaf oll, ac yn yr hon yr arferid dyledus lywodraeth a thoſt inio wndeb yn erbyn pob rhai drygionus, ni ddioddefid pechaduriaid cyhoedd i ddyfod i dŷ 'r Arglwydd, ac ni dderbynid hwy i weddiau cyffredinawl nac i arfer y ſantaidd ſacramentau gydâ gwir Griſtianogion eraill nes iddynt wneuthur penyd cyhoedd ger bron yr holl Eglwys.

Ac nid oeddid yn gwneuthur hynny yn vnig i'r rhai iſelradd, ond hefyd i'r cyfoethogion, i'r pendefigion a'r galluogion, ie i Theodoſius yr ym-merodr mawr galluog hwnnw, yr hwn am iddo wneuthur lladdfa greulon fe a geryddodd Ambros Eſcob Mediolanum ef yn doſt, ac a eſcymynodd hefyd yr ym-merodr hwnw, ac a'i dug ef i benyd cyhoedd.

A phwy bynag oedd wedi eu troi heibio ac megis eu deol o dŷ yr Arglwydd, hwy a gyfrifid oll (megis yn wir y maent hwy) yn ddynion gwedy eu gwahanu a'u doſparthu oddiwrth Eglwys Ghriſt, ac mewn cyflwr tra enbaid, ac fel y dywaid Pawl, gwedi eu rhoddi i ſathan y diafol dros 1. Cor. 5. 5. amſer: ac fe a ochelid eu cymdeithas hwy gan yr holl wyr a gŵragedd duwiol, hyd oni ddarffai eu cymmodi hwy trwy edifeirwch a chyhoedd benyd. Cyfryw oedd anrhydedd tŷ 'r Arglwydd ynghalonau dynion, a'i barch oddi allan hefyd yn yr amſeroedd hyny, ac mor ofnadwy oedd gau dŷn allan o'r Eglwys a thŷ 'r Arglwydd yn y dyddiau hynny pan oedd grefydd yn bur ac yn anllygredig a heb fod mor llygredig ac yn hwyr o amſer.

Ac etto yr ydym ni wrth ein neilltuo 'n hunain allan o dŷ 'r Arglwydd, o'n gwirfodd yn ein eſcymuno 'n hunain, neu yn ein anghyfaillachu yn hunain o'r Eglwys ac o geifeillach ſaint Duw: neu gwedy dyfod yno yr ydym ni trwy ein anweddaidd a'n amharchus ymddygiad, trwy ynfyd ac am-mhwyllus, ie ac aflan a drygionus feddyliau a geiriau ger bron yr Arglwydd Dduw, yn dianrhydeddu Duw ac yn am-mherchi yn aruthr ei ſanctaidd dŷ ef, Eglwys Duw, a'i ſanctaidd enw a'i fawrhydi ef, i fawr Berigl. enbeidrwydd ein eneidiau, ie a'n ficor ddamnedigaeth hefyd os ni nid etifar hawn yn ebrwydd ac yn ddifrif am y drygioni ymma.

Fal hyn y clywſoch, fyngharedigion, allan o air Duw pa barch ſydd ddyledus i fanctaidd dŷ 'r Argiwydd, fal y dlye yr holl dduwiolion yn ddieſcaelus, ar yr amſer goſodedig ymarfer ddyfod yno: fal y dlyent ymddwyn yno mewn goſtyngeiddrwydd a pharch ger bron yr Arglwydd: pa blagau a choſpedigaethau bydol, a thragwyddol y mae 'r Arglwydd yn ei ſanctaidd air yn eu bygwth ar y rhai a fythont yn eſcaeluſo dyfod i'w ſanctaidd dŷ ef, a'r rhai gwedŷ eu dyfod yno, ydynt yn ymddwyn yn anoſtyngedig, naill ai mewn gweithred ai mewn geiriau.

Am hynny os chwennychwn gael tywydd Ardymherus. tym-mherus, ac felly mwynhau ffrwythau y ddayar: os ni a ddymunwn ddiangc oddiwrth ſychder ac anffrwythlonrwydd, ſyched a newyn, a'r plagau eraill a fygythir ar bawb ac a redant i'w tai eu hunain, neu i'r tafarnau, ac a adawant dŷ yr Arglwydd yn wâg ac yn anghyfanedd: os câs gennym ein fflangellu a'n chwippio, nid â fflangellau neu chwippiau a wnair o reffynnau, allan o'r deml ddefnyddiol yn vnig, megis y gwnaeth ein Iachawdwr Chriſt i halogwyr tŷ Dduw yn Ieruſalem, ond ein ffuſto heſyd a'n gyrru allan o dragwyddol deml a thŷ 'r Arglwydd, yr hon yw ei deyrnas nefol ef, â gwialen hayarn tragwyddol ddamnedigaeth, a'n taflu i'r tywyllwch eithaf, lle bydd wylofain ac yſcyrnygu dannedd: os bydd arnom ofn ac os cas gennym hyn, megis y mae ini achos mawr, gwellhawn ninnau ein eſcaeluſrwydd a'n diyſtyrwch am ddyfod i dŷ yr Arglwydd, a'n ham-mharchus ymddygiad yn-nhŷ yr Arglwydd, a chan ddyfod yno ynghŷd yn ddieſcaulus, gwrandawn yno yn barchus ſanctaidd air yr Arglwydd, gan alw ar ſanctaidd enw 'r Arglwydd, gan roddi i'r Arglwydd ddiolch â'n holl galonnau, am ei aml an nhraethawl ddoniau, y rhai y mae fe bob dydd a phob awr yn eu rhoddi ini, a chan gyfrannu a derbyn ei ſanctaidd Sacramentau yn barchus, a gwaſanaethu'r Arglwydd yn ei dŷ ſanctaidd, fel y gwedde i weiſion yr Arglwydd, mewn ſancteiddrwydd ac vniondeb ger ei fron ef holl ddyddiau 'n heinioes.

Ac yno y byddwn ſiccr yn ol y bywyd hwn, o orphywys yn ei ſanctaidd fynydd ef a thrigo yn ei babell, yno i foliannu ac i fawrhau ei ſanctaidd enw ef ynghynulleidfa ei ſaint ef, yn ſanctaidd dŷ ei drag wyddol deyrnas nefol ef, yr hon a brynodd ef ini trwy angau a thy walltiad gwerthfawr waed ei fâd ein Iachawdwr Ieſu Griſt, i'r hwn Ephe. 3. 18. gydâ 'r Tâd a'r Yſpryd glân, vn tragwyddol fawrhydi Duw, y bytho holl anrhydedd, gogoniant, moliant a diolch yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Pregeth yn erbyn enbeidrwydd addoliad eulynod, neu ddelw-addoliad, a rhy ofer drwſio Eglwyſydd.

Y rhan gyntaf.

FE a ddangoſwyd i chwi ym-mha byngciau y mae gwir harddwch ac addurn Eglwys neu deml Dduw yn ſefyll yn y ddwy homili ddiwethaf, y rhai a ddangoſant iawn arfer teml neu dŷ Dduw, a'r dyledus barch y mae 'r holl Griſtionogawl bobl yn rhwymedig i'w roddi iddo: ſyrth a chynhwyſiad y rhai, yw, bod Eglwys neu dŷ Dduw gwedi i'r ſanctaidd Scrythyrau ei oſod yn lle, yr hwn y dylid darllen, dyſcu a gwrando gair Duw ynddo, a galw ar enw Duw trwy weddiau cyffredinol, rhoddi diolch i'w fawrhydi ef am ei aneirif a'i an-nhraethawl ddoniau y rhai a roddodd ef ini, a miniſtro ei ſanctaidd Sacramentau ef yn ddyledus, ac yn barchus: ac am hynny y dlyei bawb o'r gwir dduwiolion, yn ddiwyd, ar yr amſeroedd goſodedig, ddyfod ynghŷd i'r Eglwys, ac ymarwedd ac ymddwyn yno 'n barchus ger bron yr Arglwydd: a bod yn galw yr Eglwys hon (yr hon a arfer duwiol weiſion yr Arglwydd yngwir waſanaeth yr Arglwydd am ffrwythlon breſenolrwydd rhâd Duw, â'r hwn, y mae fe trwy ei ſanctaidd air a'i adde widion yn cynnyſcaeddu ei bobl a fyddant yno yn breſennol gwedy ymgynull, er mwynhau doniau bydol anghenrheidiol ini, a holl roddion nefol a thragwyddol fywyd) yngair Duw (megis yn wir y mae hi) yn deml yr Arglwydd ac yn dŷ Dduw, ac am hynny fod yn cynnhyrfu ei wir barch ef ynghalonnau 'r duwiol wrth yſtyriaid y gwir harddwch ymma ar dŷ Dduw, ac nid wrth vn ceremoni oddi-allan neu drwſiad gwerthfawr gwŷch ar dŷ neu deml yr Arglwydd.

Yn erbyn yr a thrawaeth eglur hon o'r Scrythyrau, ac yn erbyn arfer y brif-eglwys gynt, yr hon oedd bur a dilwgr ac yn erbyn meddwl a barn hên ddoctoriaid dyſcedig duwiol yr Eglwys, fal y dangoſir ar ol hyn, fe ddug llygredigaeth y dyddiau diwethaf ymma i mewn i'r Eglwys aneirif liaws o ddelwau, ac a drwſient y rhai hynny a rhannau eraill o'r deml hefyd, ag aur ac arian, ac a'u peintiaſont a lliwiau, a'u goſodaſont allan a main ac a pherlau, a'u dilladaſont â ſidan ac a dillad gwerthfawr, gan feddwl a dychymmig yn anghywir, mai hynny oedd yr odidawgafdrwſiad neu harddwch ac addurn ar deml neu dŷ Dduw, ac y cyffroid yr holl bobl yn gynt i 'w ddyledus berchi ef, os byddai bob cornel o hono yn wych ac yn diſcleirio ag aur, a main gwerth-fawr. Er na allaſant hwy yn wir trwy 'r fath ddelwau, a'r fath wych drwſio a'r y deml, wneuthur lles yn y byd i'r ſynhwyrol deallus: ond hwy a ddrygaſont yn fawr wrth hyn y diddrwg angall, gan roddi iddynt achos i wneuthur Erchyll. echrydys ddelwaddoliad: a'r cybyddion wrth yr vn achos megis yn addoli, ac oddifewn yn gwir addoli nid yn vnig y delwau, ond eu defnydd hwy hefyd, yr aur a'r arian, fal y gelwir y bai hynny yn yr Scrythyr lân yn hytrach nag vn bai arall, yn eulyn-addoliad Ephe. 5. Coloſs. 2. neu ddelw-addoliad. Yn erbyn y camarferon diffaith a'r mawr anferthwch hwn mi a ddangoſaf i chwi yn gyntaf awdurdod ſanctaidd air Duw, cyſtadl o'r hên deſtament a'r newydd.

Ac yn ail deſtiolaeth y ſanctaidd a'r hên dadau dyſcedig, a'r doctoriaid allā o'u ſcrifennadau hwy eu hunain a hên ſtoriau eglwyſig fal y galloch ar vnwaith wybod eu meddwl hwy, ac hefyd ddeall pa fath harddwch oedd yn y temlau yn y brif-eglwys gynt yn yr amſeroedd puraf a dilygraf.

Yn drydydd yr argyhoeddir ac yr attebir y rheſymmau a'r dadleuau a wnair i amddiffyn delwau ac eilynod ac anrheſymmol drwſio temlau ac eglwyſydd, ag aur ac arian a thlyſſau ac â main gwerthfawr ac felly cau ar y cwbl.

Ond rhag i neb trwy airiau neu enwau gymeryd achos i ammau, fe dybygwyd fod yn orau ddangos yn gyntaf dim, er ein bod ni yn arfer yn ein ymadroddion arferedig o alw diwgad neu lun dynnion neu bethau eraill yn ddelwau, ac nid yn eilynnod: etto fod yr Scrythyr lân yn arfer y ddau air hyn, delwau ac eulynod, am yr vn peth bob amſer yn ddiwahaniaeth. Maent hwy yn airiau o iaithiau a lleiſiau amryw, ond yn vn mewn yſtyr a deall yn yr ſcrythyrau. Y naill a dynnir o'r gair Groeg Eidolon eilyn, ar llall o'r gair lladin Imago delw, ac felly pob vn o'r ddau a arferir ynghymraeg wrth gyfiaithu 'r ſcrythyrau yn ddiwahaniaeth, megis yr arfere y deg-a-thriugain yn eu cyfiaithiad Groeg Eidola, a S. Ierom yn yr vn lleoedd Simulachra, ynghymraeg delwau.

A'r peth y mae Ioan yn ei alw yn y Teſtament newydd Eidolon, mae S. Ierom yn ei gyfiaithu Ioan. 5 21. Simulachrum megis ym-mhob lle arall o'r Scrythyr y mae fe 'n arfer o wneuthur. A hefyd Tertulian hên Ddoctor dyſcedig iawn yn y ddwy Lib. de Coro. mil. iaith, Groeg a Lladin, wrth gyfiaithu y lle hwn o S. Ioan, Gwagelwch eulynod, hynny yw medd Tertulian, y delwau eu hunain: ar geiriau lladin y mae ef yn eu harfer ydynt effigies ac Imago, hynny yw delw.

Ac am hynny yn y traethawd hwn nid gwaeth pa vn o'r ddau air a arferom ni, neu os arferwn hwy ill dau gan eu bod hwy ill dau (er nad ydynt yn y iaith gymraeg, etto) yn yr ſcrythyrau yn arwyddocau yr vn peth.

Ac er bod cyn hyn i ryw lygaid deillion, yn ddichellgar geiſio eu gwneuthur hwy yn airiau o yſtyr gwahanol, ac arwyddocâd doſparthedig mewn materion ffydd a chrefydd, ac am hynny iddynt arfer enwi y lluniau a'r diwgadau a'r cyffelybiaethau a oſodid i fynu gan y cenhedloedd yn eu temlau neu mewn lleoedd eraill i'w haddoli, yn Eulyn neu Idol; ond y llun a oſodir i fynydd yn yr Egiwys yr hwn yw 'r lle i addoli a alwant hwy yn ddelw: megis pe byddai yn yr Scrythyr lân wahaniaeth mewn yſtyr a deall rhwng y ddau air ymma, eulyn, a delw, y rhai fal y dywedpwyd o'r blaen a wahanir yn vnic mewn llais ac iaith, ac ydynt yn ſiccr mewn yſtyr a gwirionedd yr vn peth, yn enwedig yn yr Scrythyrau a materion ffydd a chrefyd.

Ac fe arferwyd o addoli ein delwau ni ac yr ydys etto yn ei haddoli, ac os goddefir hwy yn gyhoeddus yn yr egiwyſydd a'r temlau hwy a addolir byth, ac felly fe wnair delwaddoliad iddynt, megis y dangoſir ac y profir yn halaeth yn y rhan ddiwethaf o'r bregeth hon.

Am hynny nid ydyw ein delwau ni, ſydd yn y temlau a'r eglwyſydd, ddim amgen nag eulynod, neu Idolau, i'r rhai y gwnaethpwyd eulyn-addoliad ac y gwnair fyth.

Ac yn gyntaf mae ſcrythyrau 'r hên Deſtament gan ddamnio a ffieiddio pob eulyn-addoliad, neu addoliad delwau, a'r eulynod a'r delwau eu hunain hefyd, yn enwedig mewn temlau; mor aml ac mor halaeth ac y byddai waith anniben, ni ellid ei gynwys mewn llyfr o faint bychan gyfrif yr holl leoedd a berthynant at hyn o beth. O herwydd wedy darfod i Dduw ddewis vn bobl neilltuol yn vnic iddo ei hun, o blith yr holl genhedloedd eraill, y rhai nid adwaenēt Dduw, ond a addolent ddelwau a gaudduwiau, fe a rodd iddynt ordeiniaethau a chyfraithiau i'w cadw ac i'w cynnal: ond ni roddodd ef i'w bobl hynny gyfraithiau difrifach nac eglurach am ddim arall nag a roddod ef am ei wir addoliad ei hun, ac am ymwachelyd ac ymgadw rhag eulynod, delwau a delwaddoliad, am fod y delwaddoliad hynny yn wrthwynebuſſaf peth ac a ddichon bod i'w iawn addoliad ef a'i wir ogoniant, yn hytrach nag vn drygioni arall: ac am ei fod ef yn gwybod hyblygedd a pharodrwydd llygredig naws dyn i'r bai cas ffiaidd hwnnw.

O'r cyfraithiau a'r ordeiniaethau hynny a roddodd Duw i'w bobl ynghylch y peth hyn, mi a adroddaf i 'wch rai o'r rhai enweddiccaf i'r defnydd hyn fal y galloch wrth y rhai hynny farnu am y llaill. Mae y bedwaredd bennod o lyfr Deuteronomium yn hynod, ac hi a haeddai ei hyſtyried yn ddieſcaelus, ac mae 'n dechreu fal hyn, Bellach gan hynny o Iſrael gwrando ar y deddfau a'r barnedigaethau y rhai yr ydwyf yn eu dyſcu i chwi i'w gwneuthur, fal y byddoch byw ac yr eloch ac y goreſcynnoch y wlad yr hon y mae 'r Arglwydd Dduw eich tadau yn ei rhoddi i chwi, na Deut. 4. 1. chwanegwch at y gair hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi, ac na laihewch ddim o hanaw ef, gan gadw gorchymmynion yr Arglwydd eich Duw y rhai yr ydwyf yn eu rhoddi i chwi.

Ac yn y mann ar ol hynny mae fe yn adrodd yr vn gairiau dair gwaith neu bedair, cyn ei ddyfod ef at y peth y mae ef yn enwedig yn eu rhybyddio hwy am dano, megis mewn rhag-ddywediad i wneuthur iddynt yſtyried yn wageluſach, Gochel arnad (medd ef) a chadw dy enaid yn ddyfal rhag anghofio o honoti y pethau y rhai a welodd dy lygaid, a chilio o honynt allan o'th galon di holl ddyddiau dy einioes: ond yſpyſa hwynt i'th blant Verſ. 9. Verſ. 12. ac i blant dy blant. Ac yn y man ar ol hynny, A'r Arglwydd a lefarodd wrthych o genol y tân, a chwithau nid oeddych yn gweled llun dim heb law llais. Ac etto yn y man, Gwiliwch gan hynny Verſ. 15. yn ddyfal ar eich eneidiau, o blegid ni welſoch ddim llun yn y dydd y llafarodd yr Arglwydd wrthych yn Horeb o ganol y tân, rhag ymlygru o honoch Verſ. 16. a gwneuthur i'wch ddelw gerfiedig, cyffelybrwydd vn ddelw, llun gwryw neu fenyw, llun vn anifail yr hwn ſydd a'r y ddayar llun aderyn aſcellog yr hwn a eheda yn yr awyr, llun vn ymluſciad ar y ddayar, llun pyſcodyn ar y ſydd yn y dyfroedd tan y ddayar: hefyd rhag derchafu o honot dy lygaid tua 'r nefoedd, a gweled yr haul a'r lleuad a'r ſer, ſef holl lu 'r nefoedd, ac iti trwy gamſynniaeth ymgrymmu iddynt a'u haddoli hwynt, y rhai a rannodd yr Arglwydd dy Dduw i'r holl bobloedd dan y nefoedd.

Ac ail waith, Gochelwch ac ymgedwch arnoch rhag i'wch angofio cyfammod yr Arglwydd eich duw yr hwn a ammododd ef â chwi, a gwneuthur o honoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll ac a waharddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, o herwydd yr Arglwydd dy Dduw ſydd dân yfſol, a Duw eiddigus; pan genhedloch feibion ac wyrion a heneiddio o honoch yn y wlad ac ymlygru o honoch a gwneuthur o honoch ddelw gerfiedig, llun dim, fal y gwneloch ddryganniaeth yngolwg yr Arglwydd dy Dduw i'w ddigio ef: galw 'r ydwyf yn dyſtion yn eich erbyn chwi nefoedd a dayar, gan ddarfod y derfydd am danoch yn fuan oddiar y tir yr hwn yr ydych yn myned dros yr Iorddonen i'w oreſgyn; nid yſtynnwch ddyddiau ynddo, Canys gan eich difa y'ch difeir, a'r Arglwydd ach gwaſcara chwi ym-mhlith y bobloedd, a chwi a denir yn ddynion anaml ymhlith y cenhedloedd, y rhai y dwg yr Arglwyd chwi attynt, ac yno y gwaſanaethwch dduwiau o waith dwylo dyn, ſef pren a maen y rhai ni welant ac ni chlywant, ni fwytant ac nid aroglant, &c.

Pennod odidawg ydyw honn ac nid ydyw yn ſon haechen am ddim ond y peth hyn. Ond o herwydd bod yn rhy hir ſcrifenu'r cwbl, myfi a ddewiſais i'wch ryw brif-byngriau o honi.

Yn gyntaf mor ddifrif ac mor fynych y mae ef yn galw ar nynt i wilied dan bôen ei heneidiau ar y peth y mae yn ei orchymmyn iddynt.

Yn ail pa fodd y mae ef yn ei gwahardd drwy hîr a chyhoeddus gyfrif o'r holl bethau yn y nef, yn y ddaiar, yn y dwfr, na bo gwneuthyr delw neu lun dim yn y byd.

Yn drydedd pa goſpedigeth erchyll a pha ddinyſtr, gan alw nêf a daiar yn dyſtion, y mae ef yn ei gyhoeddi ac yn bygwth ei ddwyn arnynt hwy ar eu plant a'u heppil, os hwy yn erbyn y gorchymyn hwn a wnaent neu a addolent vn ddelw neu lun, yr hyn a waharddod ef mor galed iddynt. A phan gwympaſant hwy i wneuthur ac i addoli delwau, er y gorchymmyn caled hwn, mewn rhan o achos parodrwydd llygredig anian dŷn, ac mewn rhan am fod y cenhedloedd a'r paganiaid oedd yn trigo o'u hamgylch ac oedd yn addoli delwae, yn rhoddi achoſion i ddynt, fe a ddug Duw arnynt yn ol ei air yr holl blâu a'r rai y bygythiaſe hwynt, megis y mae yn eglur yn helaeth yn llyfrau y brenhinoedd a'r croniglau, a llawer o leoedd hynod eraill or hên deſtament y ſydd yn gyfun â hyn. Dewt. 27. melldigedig yw 'r gwr yr hwn a wnelo Deut. 27. 15. ddelw gerfiedig, neu ddelw doddedig ſef ffieidd-dra i'r Arglwydd gwaith dwylo 'r ſaer ac a 'i gyſodo mewn lle dirgel a'r holl bobl a'i hattebant ac a ddywedant, Amen.

Darllenwch y drydedd ar bedwaredd benod ar ddeg o lyfr y doethineb ynghylch eulynnod a delwau pa Doeth. 13. & 14. fodd yr ydys yn eu gwneuthur hwy, yn eu goſod hwy i fynydd, yn galw arnynt ac yn offrwm iddynt, a pha fodd y mae fe yn canmol y pren â'r hwn y gwnaid y crogpren megis dedwydd wrth y pren yr hwn y gwneir y ddelw ag ef, yn y geiriau hyn, Bendigedig medd ef yw 'r pren trwy o'r hwn y daw cyfiawnder, hwnnw yw y crogbren, ond melldigedig yw y ddelw a llaw'r hwn a'i gwnelo, o herwydd yr hyn a wnaed ynghŷd â'r hwn a'i gwnaeth a gyſtuddir, &c.

Ac yn y man mae ef yn dangos fod y pethau oedd ddaionus greaduriaid Duw o'r blaen (megis coed neu gerrig) pan newidier hwy a'u llunio yn ddelwae i 'w haddoli yn myned yn ffiaidd ger bron Duw ac yn dramgwydd i eneidiau dynion ac yn fagl i draed y rhai angall. A phaham? Canys dechreuad godineb oedd ddychymmygu delwau, a'u caffaeliad hwynt oedd lygredigaeth buchedd, o herwydd nid oeddynt o'r dechreuad, ac ni byddant yn dragywydd. Cyflawnder a ſeguryd dŷn a'u dychymygodd hwy yn y byd, ac am hynny y bydd eu diwedd yn fyr, ac felly hyd ddiwedd y bennod, yn cynwys y pyngciau ymma, pa fodd y dychymygwyd delwau yn y cyntaf, ac yr offrymmwyd iddynt, pa fodd y ſicrhawyd drwy ddefodau anraſlon, a pha fodd y cym-mhellodd tyranniaid creulon rai i'w haddoli hwynt, pa fodd y twyllir y gwirion a'r gyffredin bobl trwy gyfarwyddyd a chywreinrwydd y crefftwr a thegwch y ddelw i'w hanrhydeddu hi, ac felly i gyfeliorni oddiwrth adnabyddieth Dduw, a llawer o afradau eraill, ac a ddaw oddiwrth ddelwau.

Ac yn lle crynhodeb ar y cwbl mae fe yn dywedyd mai achos a dechreuad a diwedd pob drygioni yw anrhydeddu ffiaidd ddelwau, a bod y rhai a'u haddolant hwy naill ai allan o'u pwyll ai yn waethaf dynion ac all fod. Gwyl ac edrych yn ddyfal ar yr holl bennod troſti, o herwydd hi a dâl ei hyſtyried, yn enwedig yr hyn a ſcrifennir am dwyllo y gwirion a'r bobl gyffredinol angall drwy eulynod a delwau, yr hyn a adroddir ddwywaith neu dair rhag ei hangofio.

Ac yn y bennod neſſaf y cewch y geiriau hyn, Golwg llun gwedi ei fritho ag am ryw liwiau ſy'n peri chwant ar rai angall i ddymuno dieneidiol Doeth. 15. 5. lun delw farwol i'w hoffi, ac i goelio'r fath bethau. Eithr am y rhai a'u gwnant, a'u coeliant, a'u dymunant, a'u gwaſanaethant, y maent oll yn hoffi pethau drygionus.

Mae y prophwyd yn llawer lle yn llyfr y Pſalmeu yn melldithio anrhydeddwyr delwau, Gwradwydder pawb ar a waſanaethant ddelw gerfiedig a'r rhai a orfoleddant mewn eulynnod, y Pſal. 97. 7. Pſal. 115. 8. Pſal. 135. 18. rhai a'u gwnânt y ſydd fel hwyntau a phob vn a ymddiriedo ynddynt. Ac ym-mhrophwydolieth Eſai y dywaid yr Arglwydd, Myfi ydwyf yr Arglwydd, Eſ. 42. 8. dymma fy enw, a 'm gogoniant ni roddaf i arall, na 'm mawl i ddelw gerſiedig. Ac yn y man, Troer yn eu hol a llwyr-wradwydder y rhai a ymddiriedant mewn delw gerfiedig, y rhai a ddywedant wrth y ddelw dawdd, chwi ydych ein duwiau ni. Ac yn y 40. bennod gwedi iddo oſod allan anymgyffred fawrhydi Duw, mae fe yn gofyn, I bwy gan hyny y cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a oſodwch i fynu iddo? a lunia y ſaer gerfiedig ddelw, ac a oreura yr euryrh hi ag aur, ac a dawdd ef gadwyni o arian, ac a ddewis hwn ſydd arno eiſieu offrwm bren heb bydru? a gais ef ſaer cywraint i baratoi cerfddelw hefyd? Eſ. 40. 18. Ac yn ol hyn y mae fe 'n gweiddi, Oni wyddoch, oni chlywſoch, oni fynegwyd ichwi o'r dechreuad; ac felly mae yn dangos drwy wneuthurdeb y byd, a thrwy faint y gwaith, y gallant ddeall fod mawrhydi Duw, creawdwr a gwneuthurwr y cwbl oll, yn fwy, nac y gellid na'i bortreio, na'i oſod allā drwy vn ddelw neu gyffelybiaeth gorphorol. Ac heblaw y pregethiad hynn, yr ydys ynghyfraith Dduw ei hun, yr hon fel y dywaid yr Scrythyr a ſcrifenodd Duw â'i fŷs ei hun, a hynny yn y llech gyntaf yn y dechreuad, nid yn vnig yn adrodd yn fyr yr athrawieth hon yn erbyn delwau, ond yn ei goſod hi allan ac yn ei phregethu yn helaeth, a hynny, gydâ chyhoeddiad diſtryw i'r ſawl Exod. 20. 4, 5. a ddiyſtyrant, ac a dorrant y gyfraith hon, a'u heppil ar ei hol hwy.

A rhag na yſtyrier arno ac na chofier, yr ydys yn ei ſcrifenu nid mewn vn man ond mewn llawer o leoedd yngair Duw, megis trwy ei ddarllen a'i glywed yn fynych y gallem yn y diwedd ei ddyſcu Leu. 19. 4. Deut. 5. 8, 9. a'i gofio, fal yr ydych hefyd yn clywed darllen beunydd yn yr Eglwys, Duw a lefarodd y geiriau hynn ac a ddywad, myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, na fydded itti dduwiau eraill onid myfi. Na wna i ti dy hun ddelw gerfiedig na llun dim ac y ſydd yn y nefoedd vchod neu yn y ddaiar iſſod nac yn y dwfr dan y ddaiar, na oſtwng iddynt ac na addola hwynt, o herwydd myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus, yn ymweled â phechodau y tadau ar y plant hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm caſant, ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant ac a gadwant fyng-orchymmynion.

Er hynny i gyd ni allodd na godidawgrwydd y lle hwn, ac yntef yn ddechreuad cyfraith yr Arglwydd cariadus, wneuthur i ni ei yſtyried, na'r mynegiad golau wrth gyfrif pob rhyw luniau, beri i ni ei ddeall; na'r ſon am dano mor fynych mewn cynnifer o leoedd, na'i ddarllen a'i glywed ef mor fynych, wneuthur i ni ei gofio ef; nac ofn yr erchyll goſpedigaeth arnom ni, a'n plant, a'n heppil ar ein hol, ein hofn-ni rhag ei droſeddu ef; na maint y gwobr ini a'n plant ar ein hol, ein cyffroi i vfyddhau ac i gadw y fawr gyfraith hon eiddo yr Arglywdd: ond megis pe buaſai gwedi ei ſcrifenu mewn rhyw gornel, ac heb ei chyhoeddi yn helaeth ond gwedi ei thwtſio yn fyr ag yn dywyll: megis pe buaſid heb gyſſylltu ag hi vn goſpedigaeth i'r troſeddwyr, nac vn gwobr i'r vfyddion, Megis gwyr deillion heb gydnabyddieth ac heb ddeall, megis anifeiliaid anrheſymmol heb ofn coſp na gobaith am wobr, ni a leihaſom ac a ddianrhydeddaſſom vchel fawrhydi y bywiol Dduw, trwy waeledd a Salwineb. * ſalwedd amryw a bagad o ddelwau o goed, cerrig a mettelau meirwon.

Ac megis na ellir traethu ac adrodd mawrhydi Duw yr hwn a wrthodaſom ac a ddianrhydeddaſom ni, na'n pechod a 'n troſeddau ninau am hynny yn erbyn i fawrhydi ef: felly y traethwyd yn helaeth yn yr yſcrythur lan waeledd a gwendid a ffolineb dychymygiaeth delwau, trwy 'r rhai y dianrhydeddaſō ni ef, yn enwedig yn y Pſalmau, llyfr y doethineb, y Prophwyd Eſaias, Ezechiel a Barwc, ond yn enwedigol yn y lleoedd, a'r pennodau ymma, Pſal. 115. 45. &c. 135. 15. Eſai 40. 18. 44. 9 Ezechiel 6. 4. 6. Doeth. 13. 14, 15. Barwc o'r 3. hyd y diwedd. Yr hyn leoedd fel yr ydwyf yn eich annog i'w darllen yn fynych ac yn ddyfal, felly y maent yn rhy hîr ar hyn o amſer i'w hadrodd mewn homili. Er hynny mi a dynnaf i'wch ryw brif-nodau byrrion er dangos beth y maent yn ei ddywedyd am ddelwau ac eulynod.

Yn gyntaf yr ydys yn eu gwneuthur hwy a drylliau bach o goed a cherrig neu fettel ac er mwyn hynny ni allant fod yn gyffelybieth i anfeidrol fawrhydi Duw, gorſeddfanigc yr hwn yw yr nef a'r ddaiar yn faingc i'w draed.

Yn ail maent hwy yn feirw, a llygaid iddynt ac heb weled, a dwylo iddynt ac heb deimlaw, traed heb gerdded &c. ac am hyny ni allant fod yn gyffelybiaethau addas i'r bywiol Dduw.

Yn drydedd, nid oes ynddynt allu i wneuthur lles nac afles i neb o'r byd er bod gan rai honynt fwyall, gan rai gleddyf a chan rai waywffon yn eu dwylaw, etto mae 'r lladron yn dyfod i'w temlau ac yn eu hyſpeilio hwy, ac ni allant vnwaith yſcog i'w hymddiffyn eu hunain rhag y lladron: ie a phe byddai eu temlau neu eu heglwyſydd yn cymeryd tân er i'w hoffeiried allel diange a'u cadw eu hunain, etto ni allant hwy yſcog ond aros megis cyffion meirw (megis y maent hwy) i'w lloſgi, ac am hynny ni allant fod yn arwyddion cymheſſur o'r Duw mawr galluog, yr hwn yn vnig a all gadw ei weiſion a diſtrywio ei elynion yn dragwyddol, yr ydys yn trwſſio yn wych mewn aur ac arian a cherig gwerthfawr ddelwau gwyr a gwragedd megis llangceſau neu fachgeneſau drythyll a fytho'n hoffi gwychder, y rhai, meddy Prophwyd Barwch, y mae cariadon iddynt, ac Baruch. 6. 8. er mwyn hynny ni allant ddyſcu i ni na 'n gwragedd na 'n merched, na ſobrwydd na lledneiſrwydd na diwairdeb.

Ac er bod yn awr yu eu galw hwy yn llyfrau gwyr llŷg, etto ni a welwn na allant ddangos vn wers dda nac am Dduw nac am dduwioldeb, ond pob am-mryfyſſedd ac anwiredd. Am hynny fal y mae Duw yn ei air yn gwahardd gwneuthur a goſſod i fynu na delwau nac elynnod, felly y mae ef yn gorchymmyn tynnu i lawr, dryllio a diſtrywio y rhai a gaffont gwedy eu goſſod i fynu.

Mae yn ſcrifennedig yn llyfr y nifeiri nad oes eulyn yn Iacob na delw yn Iſrael, a bod yr Arglwydd Dduw gydâ ei bobl. Yno yſtyriwch nad oes gan y gwir Iſraelieid, hynny yw gwir bobl Dduw, ddelwau yn eu myſg, ond bod Duw gydâ hwy, ac am hynny na all eu gelynion niwed iddynt, fal y mae yn eglur wrth yr hyn a ganlyn yn y bennod honno.

Ac fal hyn y dywaid yr Arglwydd yn Deuteronomium am ddelwau a oſodwyd i fynu eiſoes, dinyſtrwch eu hallorau a thorrwch eu colofnau Deut. 7. 5. hwynt, cwympwch eu llwynau a lloſgwch eu delwau cerfiedig hwynt yn y tan, o herwydd pobl ſantaidd i'r Arglwydd ydych chwi. Ac fe a ail draethir yr vn peth etto yn ddifrifach yn y ddeuddegfed bennodo'r vn llyfr. Yna yſtyriwch beth a ddylei bobl Dduw ei wneuthur i ddelwau lle y cyhyrddont â hwy.

Ond rhag i wyr diſwyddau yn rhith diſtry wio delwau wneuthur terfyſc yn y wlad, rhaid yw cofio ynwaſtad fod inia wnhâd y fath anferch wch cyffredinol yn perthyn yn vnig i ly wiavod wyr a'r rhai ſydd mewn awdurdod, ac nid i wyr diſwyddau, ac am hynny yr ydys yn canmol yn fawr dros ben Aſa, Ezechias, Ioſaphat a Ioſias, daionus 1. Reg. 15. 11. 2. Par. 14, 15. & 24. 31. frenhinoedd Iuda, am dorri i lawr a dinyſtrio a llorau Idolau, a delwau. Ac mae 'r Scrythyr yn manegi iddynt wneuthur y peth oedd inion, yn enwedig yn hynny o beth, gerbron yr Arglwydd.

Ac o'r gwrthwyneb yr ydys yn adrodd trwy air Duw i Ieroboam, Ahab, Ioas, a thy wyſogion eraill y rhai naill ai a oſodoſant i fynydd, ai yntau a oddefaſant heb eu tynnu i lawr a'u diſtrywio, allorau a delwau yn eu plith, wneuthur yn ddrwg yngolwg yr Arglwydd.

Ac os bydd neb yn erbyn gorchymmyn yr Arglwydd yn mynnu goſſod i fynu allorau neu ddelwau neu eu goddef yn eu plith heb ddiniſtrio, mae yr Arglwydd ei hunan yn bygwth yn llyfr y Rhifedi, a thrwy ei Brophwydi ſantaidd, Ezechiel, Michaeas, a Barwch, y daw ef ei hun i'w tynnu hwy i lawr, a pha fodd y chwala y coſpa ac y difa ef y bobl a'u goſodant i fynydd, neu a oddefant allorau delwau ac Idolau heb eu dinyſtro.

Mae ef yn cyhoeddi trwy 'r Prophwyd Ezechiel yn y modd ymma, wele fi (ie) myfi yn dwyn cleddyf arnoch ac mi a ddinyſtriaf eich vchelfeudd, eich allorau hefyd a ddifwynir, a'ch haul-ddelwau a ddryllir, a chwympaf eich archolledigion o flaen eich eulynnod a rhoddaf gelanedd meibion Iſrael Eze. 6. 4, 5, 6. ger bron eu heulynod, a thannaf eich eſcyrn o flaen eich allorau yn eich holl drigfeudd, eich dinaſoedd a anrheithir, eich vchelfannau a ddifwynir, fal yr anrheithir ac y difwynir eich allorau ac y torrir ac y peidio eich eulynod, ac y torrir ymmaith eich haul-ddelwau ac y deleir eich gweithredoedd: yr archolledig hefyd a ſŷrth yn eich mŷſc fal y gwypoch mai myfi ydwyf yr Arglwydd. Ac felly hyd ddiwedd y bennod, yr hyn a dâl ei ddarllen yn ddyfal, y difethir y rhai agos â'r cleddyf, y rhai pell â'r Nodau. cowyn, y rhai a gilient i'r ceſtyll, neu 'r anialwch â newyn, ac os diangai neb, ydygid hwy yn garcharorion i gaethiwed.

Megis felly pe byddai amledd neu eglurder y lleoedd yn abl i wneuthur ini ddeall, neu pe gallai y gorchymmyn caled y mae Duw yn ei roi yn y lleoedd hynny ein cyffroi ni i yſtyrio, neu pe byddai y plaau a'r coſpedigaethau creulon a'r Erchyll. echrydus ddiniſtr a fygythir i'r cyfryw addolwyr belwau neu eulynod, i'r rhai a'u goſodant hwy i fynydd neu a'u maenteiniant hwy, yn gallel magu yn ein calonnau ni ddim ofn, ni a adawen vnwaith ac a ym wrthodem á'r drygioni hyn, gan ei fod yngolwg yr Arglwydd yn gymmaint troſedd Ruf. 15. 4. a ffiaithbeth. Fe a ellid adrodd aneirif leoedd haechen allan o'r hên Deſtament ynghylch hyn o beth, ond gwaſanaethed yr ambell rai hyn dros y cwblar hyn o ennyd.

Chwi a ddy wedwch ond odid fod y pethau hyn yn perthyn at yr Iddewon, a pha beth ſydd ini a wnelom a hwynt? Yn wir ni pherthynant ddim llai attom ni 'r Chriſtionogion nag attynt hwythau. O herwydd os pobl Dduw ydym ni pa fodd na perthyn gair a chyfraith Duw attom ni? Mae S. Paul wrth adrodd vn lle o 'r hên Deſtament yn rhoi 'r vn farn am gwbl o ſcrythyrau 'r hên Deſtament yn gyffredinol, cyſtadl ac am y lle hwn, gan ddywedyd: Y pethau a ſcrifennwyd ymlaen llaw (hynny yw yn yr hên Deſtament) a ſcrifennwyd er addyſc ini. Yr hyn ſydd wir yn enwedig am y cyfryw ſcrythyrau o'r hên Deſtament ac a gynhwyſant yndynt anghyfnewidiol gyfraithiau ac ordeiniaethau Duw: y rhai ni ddylid eu newid vn amſer, ac ni ddylei vn dŷn nac vn oes, nac vn genedl anvfyddhau iddynt. Cyfryw yw 'r lleoedd oll a adroddwyd o'r blaen. Er hynny er eich bodloni chwi ym-mhellach am hyn o beth yn ol fy addewid, mifi a Brwfaf. brofaf yn ddiogel yr athrawaeth hon yn erbyn delwau ac eulynod, a'n dlyed ninnau o'u plegid hwy allan o ſcrythyrau y Teſtament newydd, ac Efengyl ein Iachawdwr Chriſt.

Ac yn gyntaf mae ſcrythyrau 'r Teſtament newydd yn ſon yn llawen mewn amrafael fannau, megis dawn a rhodd odidawg Duw, eu bod hwy y rhai a dderbyniaſant ffydd Griſt, gwedy eu troi Act. 14. 15, 17, 29. Ruf. 11. 12. 1. Cor. 12. 2. Gal. 4 8. oddiwrth ddelwau mudion meirwon at y gwir a'r bywiol Dduw yr hwn ſydd fendigedig yn oes oeſoedd, yn enwedig yn y lle oedd hyn y 14. a'r 17. o Actau neu weithredoedd yr Apoſtolion: 11. at y Rufeiniaid, y 12. o'r Epiſtol cyntaf at y Corinthiaid. Galath. 4. 1. Theſſalon. 1. Ac yn gyffelyb y mae Yſpryd Duw yn ſcrythyrau y Teſtament newydd yn ffeieiddio ac yn Tragaſh •• . dygyn gaſhau ac yn gwahardd eulynod neu ddelwau a'u haddoliad, fal y mae yn eglur wrth y lleoedd hyn, a llawer eraill megis yn y 7. a'r 15. o Actau 'r Apoſtolion a'r cyntaf at y Act 7. 41. a'r. 15. 29. Ruf. 1. 26. Rufeiniaid, lle y cyhoeddir plagau ofnadwy delwaddolwyr, y rhai a rodd Duw i fynydd i wyniau gwarthus, ac i wneuthur pob aflendid affiaiddbethau, y rhai ni ddleid eu henwi, megis yn gynnefin yr â goddineb Yſprydol a chnawdol ill dau ynghŷd.

Yn y cyntaf at y Corinthiaid a'r bummed bennod y'n gwaharddir ni i gadw cyfeillach nac i fwyta nac i yfed gydâ 'r rhai a elwir yn frodyr, neu yn Griſtionogion, ac ydynt yn addoli delwau. Yn 1. Cor. 5. Gal. 5. 20. y 5. at y Galath. yr ydys yn cyfrif delw-addoliad ym-mhlith gweithredoedd y cnawd; ac yn y cyntaf at y Corinth. a'r 10. yr ydys yn ei alw ef yn waſanaeth 1. Cor. 10. 14. cythreuliaid ac yn bygwth y diniſtrir y rhai a'i harferant. Ac yn y chweched bennod o'r vn Epiſtol, ac yn y bummed at y Galathiaid y cyhoeddir na ddaw y fath ddelw addolwyr byth i deyrnas nef. Ac mewn llawer o leoedd eraill y 1. Cor. 6. 9. Gal. 5. 20, 21. bygythir y daw llid Duw ar bawb o'r fath ddynnion. Ac am hynny y mae Ioan yn ei Epiſtol 1. yn ein hannog ni megis plant anwyl i wachelyd delwau. Ac mae S. Paul yn ein rhybyddio i wachelyd 1. Ioan. 21. 1. Cor. 10. 14. addoli delwau os byddwn call, hynny yw os gofalwn am ein Iechydwriaeth ac os ofnwn ddiniſtr, os gofalwn am deyrnas Dduw a bywyd tragwyddol, os ofnwn lid Duw a thragwyddol ddamnedigaeth.

O herwydd nid yw boſſibl ini fod yn addolwyr delwau ac yn wir weiſion Duw, fal y dengys S. Paul yn yr ail at y Corinthiaid, a'r 6. Bennod, 2. Cor. 6. 16. ganddywedyd yn oleu na ddichon bod mwy cyſſondeb na chymdeithas rhwng teml Duw, y rhai ydyw gwir Griſtionogion, a delwau, nag ſydd rhwng cyſiawnder ac anghyſiawnder, goleuni 2. Cor. 6. 14. a thywyllwch, rhwng y credadwy a'r anghredadwy, rhwng Chriſt a'r diawl. Yr hwn le fydd yn profi na ddlyem ni addoli delwau, na'u mynnu yn ein temlau, rhag ofn eu haddoli hwynt, er eu bod o hanynt eu hunain yn ddieniwed. O herwydd ſanctaidd deml Dduw a bywiol ddelw Dduw yŵ 'r Chriſtion, fal y mae 'r lle hwnnw yn dangos yn eglur i'r ſawl a'i darllenont ac a'i yſtyriantef yn dda.

A lle 'r oedd yr holl dduwiolion yn Tragaſhau. dygyn gaſhau penlinio, addoli neu offrwm iddynt eu hunain, pan oeddynt fyw yn y byd, o herwydd bod hynny yn anrhydedd dyledus i Dduw yn vnic, fal y dangoſir yn Actau 'r Apoſtolion yn S. Petr yrhwn a waharddodd hynny i Cornelius, ac yn S. Pawl a Barnabas a waharddaſant yr vn peth i ddinaſwyr Lyſtra. Etto yr ydym ni megis dynnion ynfyd, yn arfer o gwympo i lawr ymmlaen eulynod a delwae meirwon Petr a Pawl, Act. 10. 26. Act. 14. 15. ac yn rhoddi i goed a cherrig yr anrhydedd a dybygent hwy Nad oedd iawn. fod yn ffiaidd ei roddi iddynt eu hunain, pan oeddynt fyw.

Ac fe a wrthododd daionus Angel Duw, fal y mae 'n eglur yn llyfr gweledigaeth Ioan benlinio iddo, pan gynnygodd Ioan yr anrhydedd hwnnw Gwel. 19. 10. iddo. Gwachel, medd yr Angel, wneuthur hynny, o herwydd dy gydwaſanaethwr di wyfi.

Ond nid yw 'r drwg angel ſathan yn chwenychu dim yn gymmaint a chael penlinio iddo, a thrwy hynny ar vnwaith yſpeilio Duw o'i ddyledus anrhydedd a dwyn damnedigaeth ar y rhai a oſtyngont mor iſſel iddo, fal y gwelir yn hiſtori 'r efengyl mewn llawer lle. Ie fe gynnygodd i'n Ma th. 4. 9, 10. Iachawdwr Chriſt bob golud bydol os efe a benlinie i lawr a'i addoli ef. Ond mae 'n Iachawdwr Luc. 4. 6, 7. 8. Chriſt yn argyoeddi Sathan trwy 'r Scrythyrau gan ddywedyd, yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn vnic a waſanaethi.

Ond yr ydym ni wrth beidio ac addoli a gwaſanaethu Duw yn vnic, fal y mae 'r Scrythyr yn ein dyſcu ni, a thrwy addoli delwau yn erbyn yr Scrythyrau, yn tynnu ſathan attom, ac yn barod heb vn gwobr i ganlyn ei ddeiſyfiad ef, ie yn gynt nac y ffaelo gennym, ni a gynnygwn iddo ef roddion ac aberthau er derbyn ein gwaſanaeth.

Ond canlynwn frodyr yn hytrach gyngor daionus Angel Duw, o flaen cyngor dichellgar ſathan, yr angel drygionus a'r hên ſarph, yr hwn yn ol y balchedd trwy 'r hwn y cwympodd ar y cyntaf, ſydd yn ceiſio fyth trwy 'r fath gyſſegr-ladrad ddifuddio Duw, yr hwn y mae ef yn cenfigennu wrtho, o'i ddyledus anrhydedd, ac o herwydd fod ei wyneb ef ei hunan yn Anferth. erchyll ac yn ofnadwy, mae fe 'n ceiſio dwyn anrhydedd Duw atto ei hun, trwy gyfryngiad coed a cherrig, a'n gwneuthur ni gydâ hynny yn elynion i Dduw ac yn erfynwyr ac yn gaethweiſion iddo ei hun, ac yn y diwedd i dynnu arnom yn lle gwobr ddiniſtr a damnedigaeth tragwyddol.

Gan hynny vwchlaw pob peth os ydym yn tybiaid ein bod yn wir Griſtionogion (fal y 'n henwir ni) credwn y gair, vfyddhawn y gyfraith, canlynwn athrawaeth a ſiampl ein Iachawdwr a'n meiſtr Chriſt: trown heibio hudoliaeth ſathan, ſy 'n ceiſio ein hudo i waſanaethu eulynod ac addoli delwau, yn ol y gwirionedd a ddangoſwyd ac a addyſcwyd allan o deſtament ac efengyl ein dyſcawdwr a'n hathro nefol Ieſu Griſt: yr hwn ſydd Dduw bendigedig yn dragywydd, Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth yn erbyn enbeidrwydd delw-addoliad.

CHwi a glywſoch, fyngharedigion, yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon yn erbyn delwau ac eulynod, yn erbyn eulyn-addoliad a delwaddoliad, athrawaeth gair Duw, a dynnwyd allan o Scrythyrau 'r hên deſtament a'r teſtament newydd, gwedy ei gadarnhau trwy ſiampl yr Apoſtolion a Chriſt ei hunan. Yn awr er nad ydyw ein Iachawdwr Chriſt yn derbyn nac yn rhaid iddo wrth dyſtiolaeth dyn, ac er nad rhaid i'r hyn a gadarnhair vnwaith trwy ſiccrwydd ei wirionedd ef, ddim chawneg ſiccrwydd gan athrawaeth ac ſcrifenadau dyn, mwy nac y mae 'n rhaid i'r haul gannaid ar hanner dydd wrth oleu canwyll fach i droi tywyllwch heibio ac i chwanegu ei oleuni: etto er eich bodloni chwi ym-mhellach fe ddangoſir i chwi yn yr ail rhan hon, megis yr addawyd yn y dechreuad, fod yr hên dadau ſāctaidd, a'r hen athrawon dyſcedig yn credu ac yn dyſcu yr athrawaeth hon, ynghylch gwahardd delwau a'u haddoliad, (yr hon a dynnwyd allan o Scrythyrau 'r hên dadau ſanctaidd or hên deſtament a'r teſtament newydd) a bod y brif-eglwys gynt yr hon oedd buraf ac an-llygrediccaf yn ei chynwys ac yn ei derbyn. A hynny a ddangoſir allan o ſcrifenadau 'r hên athrawon ſanctaidd hynny, ac allan o'r hen hiſtoriau eglwyſig a berthynan iddynt.

Mae Tertulian hên ſcrifennydd ac athro o'r Eglwys, yr hwn oedd yn y byd ynghylchwyth-igain Libro contra coronandi morem. mlynedd yn ol dioddeifaint ein Iachawdwr Chriſt, mewn llawer o leoedd, ond yn enwedig yn y llyfr a ſcrifennodd ef yn erbyn y modd yr arferid o goroni: ac mewn traethawd bychan arall, yr hwn y mae fe yn ei enwi, Coron y milwr, yn llym ac yn ddifrifol yn ſcrifennu yn erbyn delwau neu eulynod ac yn eu Goganu. dychanu.

Ac a'r airiau Ioan Sant yn ei epiſtol cyntaf 1. Ioan. 5. 21. a'r bummed bennod: mae 'n dywedyd yn y modd ymma, mae Ioan ſant gan gwbl yſtyriaid y peth hyn yn dywedyd yn y modd ymma, fymhlant bychain ymgedwch oddiwrth ddelwau neu eulynod: nid ydyw fe yn dywedyd yn awr ymgedwch oddiwrth ddelw-addoliad, megis oddiwrth eu gwaſanaeth hwy a'u haddoliad, onid oddiwrth y delwau a'r eulynod eu hunain, hynny yw oddiwrth eu llun a'u cyffelybiaeth. O herwydd peth annheilwng yw i ddelw Duw byw fyned yn llun delw farw.

Onid ydych chwi yn tybaid fod y rhai fy yn goſod delwau ac eulynod mewn eglwyſydd a themlau, ie ac yn eu dodi mewn Ciſtau. pallau vwchben bord yr Arglwydd, megis o lwyr feddwl eu haddoli a'u anrhydeddu hwy, yn yſtyried yn dda gyngor S. Ioan a Thertulian? O herwydd pa vn yw goſod i fynu ddelwau ac eiddolau yn y modd hynny, ai ymgadw oddiwrthynt ai yntau eu derbyn a'u cofleidio?

Mae Clemens yn dywedyd yn ei lyfr at Iaco brawd yr Arglwydd; Pa beth a ddichon bod mor Clem. li. 5. ad Iacob fratrem Domini. ddrwg, ac mor anniolch-gar, a derbyn dawn gan Dduw, a rhoddi diolch am dano i goed a cherrig? Am hynny dihunwch, a deallwch eich Iechyd, o herwydd nid rhaid i Dduw wrth vn dŷn, nid yw yn gofyn dim ac ni ddryga dim ef: Ond nyni yw y rhai yr ydys yn eu cymmorth, neu eu drygu, am ein bod yn ddiolchgar i Dduw neu yn anddiolchgar.

Mae Origen yn ei lyfr yn erbyn Celſus yn dywedyd fal hyn, Mae Chriſtionogion, ac Iddewon pan glywont y geiriau hyn o'r gyfraith, Ti a ofni yr Arglywydd dy Dduw, ac na wna ddelw, nid yn vnic yn ffieiddio temlau, allorau, a delwau 'r duwiau, ond os bydd rhaid hwy a fyddant feirw 'n gynt nag yr halogont eu hunain ag vn annuwioldeb. Ac yn y man ar ol hynny fe a ddywaid, fe daflwyd ym - mhell ac a waharddwyd cerfwr eulynod a gwneuthurwr delwau allan o wlad yr Iddewon, rhag iddynt gael achos i wneuthur delwau, y rhai a allai dynnu rhyw ddynion ffoliaid oddiwrth Dduw, a throi llygaid eu heneidiau i edrych ar bethau dayarol.

Ac mewn man arall o'r vn llyfr, nid yw, medd ef, ddoli delwau 'n vnic yn beth ynfyd gwallgofus, onid hefyd dwyn gydâ hynny heb gymeryd arnom ei weled. Fe ddichon dŷn adnabod Duw a'i vnic fab wrth y rhai a gawſont y fath râd gan Dduw, ac y gelwid hwy yn dduwiau: ond nid poſſibl i neb wrth addoli delwau gael dim gwybodaeth am Dduw.

Mae 'r geiriau hyn gan Athanaſius yn ei lyfr yn erbyn y cenhedloedd, Dywedant attolwg pa fodd yr adwaenir Duw wrth ddelw? oni bydd hynny trwy ddefnydd y ddelw, yno ni bydd rhaid wrth vn llun na diwgad, o herwydd i Dduw ymddangos ym-mhob creadur defnyddiol, y rhai a dyſtiolaethant ei ogoniant ef. Yn awr os dywedant mai trwy 'r pethau byw eu hunain y rhai y mae 'r delwau 'n dangos eu llun, o herwydd yn ſiccr fe adnabyddid gogoniant Duw yn eglurach o lawer o'i ddangos trwy greaduriaid rheſymmol na thrwy ddelwau meirwon anghy ffroedig. Ac am hynny pan ydych yn cerfio neu yn peintio delwau, er mwyn adnabod Duw wrthynt, yn wir, yn wir, yr ydych yn gwneuthur peth an-nheilwng anweddaid. Ac fe a ddywaid mewn lle arall o'r vn llyfr, Ni ddaeth dychymmyg delwau o ddaioni, ond o ddrwg, a pha beth bynnag y ſydd iddo ddechrau drwg, ni ellir mewn dim ei farnu yn dda, am ei fod yn ddrwg hollawl. Hyd yn hyn y clywſoch Athanaſius hên Athro ac eſcob dyſcedig ſanctaidd, yr hwn ſydd yn barnu am ddelwau, fod ei dechreuad a'u diwedd, a chwbl o honynt yn ddrwg.

Mae gan Lactantius hefyd hên ſcrifennydd Lib. 2. cap. 16. dyſcedig, yn ei lyfr am ddechreuad amryfyſedd, y geiriau hyn, Mae Duw oddiar ddyn, ac ni oſodwyd ef iſod, ond rhaid yw ei geiſio ef yn y wlad vchaf. Am hynny diammau nad oes crefydd lle mae delw. O herwydd os yw ffydd a chrefydd mewn pethau duwiol, ac nad oes duwioldeb ond mewn pethau nefol, y mae delwau heb na ffydd na chrefydd ynddynt. Dymma airian Lactantius, yr hwn oedd er ys mwy nâ thrychant ar ddeg o flynyddoedd, ac o fewn trychant mlynedd ar ol ein Iachawdwr Chriſt.

Mae gan Cyrillus hen Ddoctor ſanctaidd, ar Efengyl Ioan ſant y gairiau hyn, fe ymadawodd llawer â'r creawdwr ac a addolaſont y creadur, ac ni chywilyddiaſant ddywedyd wrth bren ti yw fy-nhâd, ac wrth garreg ti a'm cenhedlaiſt i. O herwydd llawer ie haychen y cwbl oll (ôch gan alar) a gwympaſant i'r fath ffolineb ac y rhoeſant ogoniant y duwdod i bethau heb na ſynwyr na theimlad ynddynt.

Mae Epiphanius eſcob Salamis yn Cyprus, gwr ſanctaidd dyſcedig, yr hwn oedd fyw yn amſer yr Ymherodr Theodoſius, ynghylch trychant mlynedd a deg a phedwar vgain yn ol eſcynniad ein Iachawdwr Chriſt, yn ſcrifennu fal hyn at Ioan Patriarch Ieruſalem, Mi aethym, medd Epiphanius, i mewn i ryw Eglwysi weddio, yno y cefais liain ynghrog yn-nrws yr Eglwys, ac arno gwedi ei beintio megis delw Ghriſt neu ryw ſant, (o herwydd nid ydwyf yn cofio 'n dda llun pwy ydoedd) am hynny pan welais lun dyn, gwedy ei grogi yn Eglwys Ghriſt, yn erbyn awdurdod yr Scrythyrau mi a'i torrais, ac a gynghorais geidwaid yr Eglwys ar iddynt Amdoi. amwiſco gwr tlawd a fuaſe farw, yn y lliain hwnnw, a'i gladdu.

Ac yn ol hyn mae 'r vn Epiphanius, gan ddanfon lliain arall heb ei beintio, yn lle yr hwn a doraſſai, at y Patriarch hwnnw, yn ſcrifennu fal hyn, perwch, adolwg, i henuria'd y lle hwnnw, dderbyn y lliain hwn yr ydwyf yn ei ddanfon gydâ 'r gennad ymma, a gorchymmynnwch iddynt o hyn allan nad arferont mwy grogi y fath liain paentiedig yn Eglwys Griſt yngwrthwyneb i'n crefydd ni. O herwydd gweddus yn hytrach yw i'ch daioni chwi, gymmeryd y gofal hwn, ar i chwi dynnu ymmaith bob Trangwydd. petruſder ſydd anweddus i Eglwys Ghriſt, ac yn drangwydd i'r bobl a roddwyd yn eich cadwedigaeth chwi.

Ac fe a gyfiaithodd S. Ierom ei hun y llythyr hwn i'r iaith ladin, megis peth yn haeddu ei ddarllen gan lawer. Ac er mwyn i chwi wybod fod yr eſcob dyſcedig ſanctaidd hwn Epiphanius mewn cymmeriad mawr gan S. Ierom, ac er mwyn hynny iddo gyfiaithu y llythyr hwn megis ſcrifen fawr ei hawdurdod, Gwrādewch pa deſtiolaeth y mae S. Ierom yn ei roddi iddo mewn lle arall, yn ei draethawd yn erbyn amryfyſedd Ioan Eſcob Ieruſalem, lle mae gantho y geiriau hyn, Mae iti, medd ef, Epiphanius Bab ar gyhoedd Pob eſcob a elwid yr amſcr hynny yn Bab. yn ei lythyrau yn dy alw di yn heretic. Yn ſiccr nid ydwyd ŵr i'th roi o'i flaen ef, nac am oedran, nac am ddyſc, nac am dduwioldeb bywyd, nac wrth dyſtiolaeth yr holl fyd. Ac yn y mann ar ol hynny yn yr vn traethawd, medd S. Ierom, Yr ydoedd Eſcob Epiphanius yn y fath barch ac anrhydedd, na chyffyrddodd Valens yr Ymherodr yr herlidiwr creulon, ag ef. O herwydd yr ydoedd y tywyſogion oedd hereticiaid, yn tybaid fod yn gywilydd iddynt erlid y fath ŵr godidawg.

Ac yr ydys yn yr hiſtori eglwyſig dair-rhan, yn y nawfed llyfr a'r 48. bennod yn tyſtiolaethu i Tripart. hiſt. lib. 9. cap. 48. Epiphanius ac yntef yn fyw, wneuthur llawer o wrthiau, ac yn ol ei farw ef fod cythreuliaid gwedy eu bwrw allan wrth ei fedd ef yn llefain ac yn rhuo. Fal hyn y gwelwch pa awdurdod y mae S. Ierom a'r hên hiſtori honno yn ei rhoddi i'r Eſcob ſanctaidd dyſcedig Epiphanius, barn yr hwn am ddelwau mewn eglwyſyddd a themlau, a hwy yr amſer hynny yn dechreu lledrad-ymluſcio iddynt, a dâl ei yſtyriaid.

Yn gyntaf, mae fe 'n barnu fod yn wrthwyneb i Griſtionogawl grefydd ac awdurdod yr Scrythytau, fod delwau yn Eglwys Griſt.

Yn ail fe a daflodd nid yn vnic ddelwau cerfiedig a thoddedig, ond rhai peintiedig hefyd allan o Eglwys Griſt.

Yn drydydd nad oedd fatter gantho pa vn a fyddai ai delw Chriſt, ai delw vn ſant arall, ond os delw a fyddai, ni oddefai ddim o honi yn yr Eglwys.

Yn bedwerydd, ni ſymmudodd ef hi yn vnic allan o'r Eglwys ond ei dryllio hefyd â zêl gadarn wreſſog, a pheri amwiſco corph marw a'i gladdu ynddi, gan farnu nad ydoedd hi yn weddus i wneuthyd dim o honi onid i bydru yn y ddaear, gan ganlyn yn hyn o beth ſampl y brenin daionus Ezechias, yr hwn a dorrodd y ſarph bres yn ddrylliau, ac a'i lloſcodd hi yn lludw, am fod yn gwneuthur delw-addoliad iddi.

Yn ddiwethaf oll mae Epiphanius yn dangos fod yn ddlyed ar eſcobion gwialiadwrus ſynneid na bydder yn goddef vn ddelw yn yr Eglwys, am eu bod yn achos petruſder a thrangwydd i'r bobl a roddwyd yn eu cadwedigaeth hwy. Ac o herwydd na ſcrifennodd S. Ierom yr hwn a gyfiaithiodd yr Epiſtol hwnnw, nac awdyrau yr hên hiſtori eglwyſig dair-rhan (y rhai fal y dangoſwyd a ganmolant Epiphanius yn fawr) nac vn eſcob duwiol dyſcedig arall cyn yr amſer hynny nac ennyd ar ol hynny, ddim yn erbyn barn Epiphanius ynghylch delwau: eglur yw, na chyn hwyſaſid yn y dyddiau hynny, yr hyn oedd ynghylch pedwar cant o flynyddoedd ar ol Chriſt, ac nad arferid dim delwau yn gyhoeddus yn Eglwys Ghriſt, yr hon oedd yr amſer hynny anllygrediccach a phurach o lawer nac yw hi yn awr.

Ac lle ddechreuai ddelwau yr amſer hynny ledrad ymluſcio 'n ddirgel o dai gwŷr i'r eglwyſydd, a hynny yn gyntaf gwedy eu peintio ar lieiniau a pharwydydd, panwele 'r eſcobion gwialiadwrus duwiol hwynt, hwy a'u tynnent ymmaith megis pethau anghyfraithlon gwrthwynebus i ffydd a chrefydd Ghriſt, fal y gwnaeth Epiphanius ymma.

A barn yr hwn y mae yn cordio ac yn cyttuno, nid yn vnic S. Ierom cyfiaithydd ei Epiſtol ef, ac ſcrifennydd yr hiſtori dair-rhan, ond hefyd yr holl eſcobion, ac yſcolheigion dyſcedig duwiol, ie a'r holl Eglwys yn yr amſer hynny, ac er amſer ein Iachawdwr Chriſt dros bedwar cant oflynyddoedd.

Fe ſcrifennwyd hyn yn halaeth am Epiphanius, am fod ymddiffynwyr delwau yn yr amſer ymma wrth weled ei gwaſcu mor galed trwy eglur draethawd a gweithred Epiphanius, Eſcob a doctor o 'r fath henaint, yn ymegnio ym-mhob ffordd (ond yn ofer yn erbyn y gwirionedd) naill ai i brofi nad ydoedd yr epiſtol hyn o waith Epiphanius, na 'r cyfiaithiad o waith Ierom: ac os ydynt meddant, nid mawr y grym, o herwydd, meddant, Iddew oedd yr Epiphanius hwn, a chwedy ei droi i ffydd Chriſt, a'i wneuthur yn eſcob, fe a gadwodd yn ei feddwl y caſineb oedd gantho pan ydoedd yn Iddew yn erbyn delwau, ac felly fe a ſcrifennodd yn eu herbyn, megis Iddew, ac nid megis Chriſtion. Oh ddigywilydd-dra Iddewaidd a chenfigen y cyfryw dychymmygwyr: nhwy addlyent brofi ac nid dywedyd yn vnic mai Iddew oedd Epiphanius.

Hefyd am y rheſwn y maent yn ei wneuthur ni a 'i derbyniwn ef yn llawen, o herwydd oni ddlyid cynnwys barn Epiphanius yn erbyn delwau, am ei fod gwedy ei eni o Iddew gelyn i ddelwau, y rhai ſydd elynion Duw gwedy ei droi i ffydd Griſt, yno y canlyn na ddylai vn ymadrodd na gair yn yr hên ddoctoriaid, a'r tadau ac ſydd o blaid delwau, fod mewn dim awdurdod, o herwydd fod y rhan fwyaf o ſcrifennyddion dyſcedig yr Eglwys gynt, megis Tertulian, Cyprian, Ambros, Auſtin, a rhifedi anerif eraill yn baganiaid, y rhai oeddynt yn ffafrio ac yn addoli delwau, gwedy eu troii ffydd Griſt, ac felly fe allai iddynt oddef rhyw beth i lithro o'u pennau ymmhlaid delwau, megis cenhedloedd, ac nid megis Chriſtionogion.

Fal hyn y mae Euſebius yn ei hiſtori eglwyſig a S. Ierom yn dywedyd yn oleu, mai oddiwrth y cenhedloed y daeth delwau gyntaf attom ni y Chriſtionogion, mwy o lawer y canlyn fod holl ſothach y babaidd Eglwys yn amddiffyn delwau i'w cyfrif o awdurdod bychan, neu heb ddim awdurdod. O herwydd nad yw rhyfedd fod y rhai a ddygwyd i fynydd o'u mebyd ym-mhlith delwau, ac a yfaſont ddelw-addoliaeth agos gydâ llaeth eu mammau, yn dala gydâ delwau, ac yn dywedyd ac yn ſcrifennu yn eu plaid hwy.

Ond yn wir ni ddyleid yſtyriaid gymmaint pa vn a'i vn gwedi ei droi i ffydd Griſt o Iddew neu o genhedl-ddŷn a fyddai 'r ſcrifennydd, er ei gredu neu ei anghredu, ond mor gytun neu anghytun â gair Duw y mae fe 'n ſcrifennu. A pha beth y mae gair Duw yn ei ddywedyd am ddelwau, neu eulynod, a'u haddoliad, chwi a glywſoch yn halaeth, yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon.

Mae S. Ambros yn ei draethawd am farwolaeth yr Ymherodr Theodoſius yn dywedyd falhyn, fe gafas Helen y groes a'r tieitl arni, hi addolodd y brenin yn ddiau ac nid y pren (o herwydd cyfeiliorn y cenhedloedd ydoedd hynny, ac oferedd yr annuwiol) ond hi addolodd yr hwn a grogafid ar y groes, enw yr hwn a'i deitloedd yn ſcrifenedig arni, &c.

Edrychwch weithred yr Ym-herodres ſanctaiadd, a barn S. Ambros oll ynghŷd: yr oeddynt hwy yn tybied mai cyfeiliorn y cenhedloedd, ac oferedd yr annuwiol, oedd addoli 'r groes, ar yr hon y gollyngaſid gwerthfawroccaf waed ein Iachawdwr Chriſt: ninnau a gwympwn i lawr ger bron pob dryll croes o goed, yr hwn nid yw onid delw 'r groes honno.

Mae S. Awſtin y dyſcediccaf o'r holl hên athrawō yn dywedid yn 44. Epiſtol at Maximus, Gwybyddwch nad oes vn o'r Chriſtionogion catholic i'r rhai y mae Eglwys yn eich tref chwi yn addoli neb marw nao vn peth a wnaeth Duw megis Duw Yſtyriwch wrth airi au Awſtin, nad ydyw y rhai a addolant bethau meirwon neu greaduriaid yn Griſtionogion catholic. Mae 'r vn S. Awſtin yn dangos yn y 22. Llyfr o ddinas Duw a'r 10. bennod, na ddylaid adeiladu na themlau nac eglwyſydd i ferthyron neu ſaint, ond i Dduw yn vnic, ac na ddyleid appoyntio offeiriaid i ferthyrō neu ſaint onid i Dduw yn vnic. Mae gan yr vn Awſtin yn ei lyfr o arferon yr Eglwys gatholic, y gairiau hyn, Mi a wnn fod llawer yn addoli beddau a lluniau, mi a wn fod llawer yn cwmpnio yn afradlon a'r feddau 'r meirwon, a chan roddi eu bwyd i gyrph meirwon, ydynt yn eu claddu eu hunain ar y rhai a gladdwyd, ac yn bwrw eu gloddineb a'u meddwdod ar eu ffydd a'u crefydd. Welwch, mae fe 'n cyfrif addoli beddau'r ſaint a'u lluniau, yn gyſtadl crefydd a meddwdod a gloddineb, ac nid yn well. Mae S. Awſtin yn fodlon iawn i Marcus Varro, yr hwn a ddywad fod crefydd yn buraf oll heb ddelwau. Ac fe ddywaid ei hun fod mwy o rym mewn delwau i wyrdroi enaid annedwydd, nag i'w ddyſcu a'i gyfarwyddo: ac fe a ddywaid ymhellach fod pob plencyn, ie pob anifail yn gwybod, nad yw yr hyn y maent yn ei weled ddim yn Dduw: pa ham gan hynny y mae 'r Yſpryd glân yn ein rhybyddio ni mor fynych am y peth y mae pawb yn ei wybod? I'r hyn beth mae S. Awſtin ei hunyn atteb fal hyn: O herwydd, medd ef, pan oſodir delwau mewn temlau, a phan ddodir hwy mewn vwchelder anrhydeddus, a phan dechreuer eu haddoli hwy, yno y mae gwyniau enbaid amryfyſedd yn magu. Dymma farn S. Awſtin De ciuitate Dei. In Pſal. 36. & 113. am ddelwau mewn eglwyſydd, eu bod hwy yn y man yr magu amryfyſedd a delw-addoliad.

Fe fyddai ry hir adrodd yr holl leoedd eraill a ellid eu dangos allan o'r hen ddoctoriaid, yn erbyn delwau a delw-addoliad. Am hyn ni a ymfodlonwn â'r ambell vn ymma ar hyn o amſer.

Bellach am hiſtoriau eglwyſig mewn hyn o beth, fel y galloch wybod paham, pa bryd, a chan bwy yr arferwyd delwau gyntaf yn ddirgel, ac ar ol hynny nid yn vnic eu derbyn i eglwyſydd a themlau Chriſtionogawl, ond yn y diwedd eu haddoli hefyd, a pha fodd y gwaharddwyd, y dywedwyd ac y ſafwyd yn eu herbyn gan eſcobion duwiol, doctoriaid dyſcedig, a chan dywyſogiō Chriſtionogaidd, mi a gynullaf yn fyrr ſtori gryno, o'r hyn a ſcrifennwyd yn halaeth, mewn llawer o leoedd, gan lawer o hên ſcrifenyddion a hiſtoriawyr yn hyn o beth.

Megis y bu i'r Iddewon er bod ganthynt orchymmyn Duw yn oleu ac yn eglur na byddai iddynt wneuthur nac addoli delw, megis y dangoſwyd o'r blaen yn halaeth, gwympo er hynny wrth ſiampl y cenhedloedd a'r bobloedd a drigent o'u hamgulch i wneuthur delwau ac i'w haddoli hwynt, ac felly i wneuthur ffiaiddiaf ddelwaddoliad: am yr hyn y mae Duw trwy ei brophwydi ſanctaidd yn eu ceryddu ac yn eu bygwth hwy yn doſt, ac yn ol hynny a gyflawnodd ei fygythau hynny gan eu coſpi hwy yn dôſt, fal y dangoſwyd vchod: felly gwedy troi rhai o'r Chriſtionogion yn yr hên amſeroed oddiwrth addoliad delwau a gaudduwiau, at y gwir Dduw byw a'n Iachawdwr Ieſu Griſt, o zêl ddall ddiwybod, ac megis gwyrgwedy ymarfer delwau yn hir o amſer, hwy beintiaſont ac a gerfiaſont ddelwau o'n Iachawdwr Chriſt, Mair ei fam ef, a'i Apoſtolion, dan dybied fod hyn yn bwngc o ddiolchgarwch a charedigrwydd tuag at y rhai y derbyniaſſent hwy wir wybodaeth am Dduw, ac athrawaeth yr efengil ganthynt.

Ond ni ddaethe y lluniau a'r delwau hyn etto i'r eglwyſydd, ac ni addōlwyd hwy dros hir amſer ar ol hynny.

Ac rhag i chwi dybied fymod i yn dywedyd hyn a'm pen fy hun yn vnic, heb awdurdod gennyf, mi a oſodaf droſof Euſebius eſcob Ceſarea yr awdur hynaf o'r hiſtori eglwyſig, yr hwn oedd fyw yngghylch y 330. flwyddyn o oedran yr Arglwydd, yn nŷddiau Conſtantinus fawr a Chonſtantius ei fab ef, Ymherodron, yn y 7. lyfr o'i ſtori eglwyſig, a'r bedwaredd bennod a'r ddeg, a S. Ierom ar y 10. bennod o brophwydoliaeth Ieremi, y rhai a ddywedant ill dau yn eglur, i amryfyſedd am ddelwau (o herwydd felly y mae S. Ierom yn ei alw) ddyfod i mewn at y Chriſtionogion oddiwrth y cenhedloedd, trwy ddefod ac arfer baganaidd.

Mae Euſebius yn dangos y modd a'r achos, gā ddywedyd, nid rhyfedd a hwyntau o'r blaen yn genhedloedd, gwedy iddynt gredu iddynt offrwm hynny ein Iachawdwr Chriſt, am y donniau a dderbynaſent gantho, ie (medd ef) ac yr ydym yn gweled yn awr fod yn gwneuthur delwau Petr a Phawl a'n Iachawdwr Chriſt ei hun gwedy eu peintio mewn tablennau, yr hwn yr ydwyf yn tybied ddarfod ei gadw a'i gynnal megis peth didrwg trwy arfer baganaidd. O herwydd felly yr arfer ai y cenhedloedd o anrhydeddu y rhai a dybygent eu bod yn haeddu anrhydedd, o herwydd y dylaid cadw rhyw arwyddion am hen wyr, o achos fod caffadwriaeth y rhai olaf yn arwydd o anrhydedd y rhai a fu o'r blaen, ac o gariad y rhai a ddel a'r ol.

Hyd hyn yr adroddais airiau Euſebius, ac yno yſtyriwch fod S. Ierom ac yntef yn hyn o beth yn cytuno, ddyfod y delwau ymma i blith Chriſtionogion gan rai oedd o'r blaen yn Baganiaid, ac a arferaſent ddelwau, a chwedi eu troi i ffydd Griſt a gadwaſant weddillion o'u paganeidd-dra heb ei gwbl lanhau: o herwydd mae S. Ierom yn ei alw ef yn eglur yn gyfeilioru ac amryfyſedd.

Yr vn fath ſampl a welwn ni yn Actau 'r Apoſtolion Act. 15. 1. am yr Iddewon, y rhai yn ol eu troi at Griſt a fynnaſent ddwyn i mewn yr enwaediad, (yr hwn a arferaſent hwy yn hir,) gydâ hwy i ffydd a chrefydd Chriſt: gydâ 'r rhai y bu ar yr Apoſtolion, yn en wedig S. Pawl, waith mawr i attal hynny o beth.

Ond am yr enwadiad yr ydoedd llai rhyfeddod, am ei ddyfod ef i mewn yn gyntaf trwy orchymmyn Duw. Ond fe ddichon dyn ryfeddu 'n gyfion o blegid delwau, pa fodd y daethont hwy i mewn, mor inion yn erbyn ſanctaidd air Duw a'i orchymmyn cyhoedd. Ond nid oeddid etto'n amfer Euſebius yn addoli delwau, nac yn eu goſod yn gyhoeddus mewn eglwyſydd a themlau, a'r rhai a'u cadwent hwy yn ddirgel, a gyfeiliornent nid o genfigen, ond o ryw zêl.

Ond yn ol hynny hwy a ymluſcaſont o dai dirgel i eglwyſydd, ac felly a fagaſont yn gyntaf goelfuchedd, ac yn ddiwethaf ddelw-addoliad ymmhlith Chriſtionogion, fal y cair gweled ar ol hyn.

Yn amſer yr Ymherodron Theodofius a Martian, y rhai a deyrnaſent ynghylch y 460. o oedran yr Arglwydd, ac er ys 1140. mlynedd pan oedd pobl y ddinas Nola vnwaith yn y flwyddyn yn cadwdydd ganedigaeth S. Phelix yn y deml ac yn arfer o gwmpnio yno yn halaeth, fe a barodd Pontius Paulinus eſcob Nola beintio parwydydd y deml ag hiſtoriau a dynnaſid allan o'r hên deſtament, fal y gallai'r bobl wrth weled ac wrth yſtyried y lluniau hynny, ymgadw'n well oddiwrth loddineb ac oferdraul.

Ynghylch yr amſer hynny y mae Aurelius Prudentius bardd Chriſtionogawl diſcedig yn manegi iddo fe weled mewn eglwys gwedy ei pheintio hiſtori dioddefaint S. Caſſian, merthyr a meiſtr yſcol, yr hwn a laddaſei ei yſcolheigion ei hun yn greulon annial â mil o glwyfau gan ei frathu ef â'u pinniau ſcrifennu o bres, ar orchymmyn y tyrant, medd Prudentius. Ac fal dymma'r peintiadau cyntaf mewn eglwyſydd ac ſydd hynod am eu henaint. Ac felly wrth y ſiampl hyn y daeth peintio, ac ar ol hynny delwau o goed a cherig a defnyddion eraill, i eglwyſydd Chriſtionogawl.

Yn awr os yſtyriwch y dechreuad ymma, nid ydyw dynnion mor barod i addoli llun ar bared neu mewn ffeneſtr a delw fraiſc orauraid, wedy ei thrwſio â cherig gwerthfawr. Ac mae mewn cyflawn ſtori gwedy ei pheintio, ac actau a gweithredoedd llawer o ddynnion, ac ond odid ſumm yr Stori gwedy ſcrifennu wrthi, ddefnydd arall amgen nag ſydd mewn eulyn, neu ddelw fud, a fytho 'n ſefyll wrthi ei hun, ond wrth ddyſcu trwy hiſtoriau peintiedig, fe ddaethpwyd bob ychydig i ddelw-addoliaeth. Yr hyn beth pan ddeallodd gwyr duwiol (megis ymmerodron ac eſcobion dyſcedig eraill) hwy a orchymmynnaſont nad arferid y fath luniau, delwau ac Idolau mwy.

Ac er dangos hynny i chwi mi a ddechreuaf ar ordeiniaeth yr hên ymherodron Chriſtionogawl Valens a Theodoſius yr ail, y rhai a deyrnaſaſant ynghylch pedwar cant mlynedd yn ol eſcynniad ein Iachawdwr Chriſt, y rhai a waharddaſāt wneuthur na pheintio delwau, na lluniau 'n ddirgel: o blegid ſiccr yw nad oedd dim o honynt etto yn gyhoeddus yn yr eglwyſydd yr amſer hynny.

Mae 'r Ymmerodron ymma yn ſcrifennu yn y modd hyn, Valens a Theodoſius yr Ymmerodron at bennaeth y llu, Am fod gennym ofal ar faenteinio crefydd Dduw vwchlaw pob peth, ni chaniatawn i neb, oſod allan, gerfio, neu beintio delw ein Iachawdwr Chriſt, mewn lliwiau, mewn cerrig, nac vn defnydd arall: ond pa le bynnac y cyhwrdder ag ef, yr ydym yn gorchymmyn ei dynny ef ymmaith, a choſpi pawb yn galed ac a amcanant wneuthur dim yn erbyn yr ordeiniaeth a'r gorchymmyn ymma. Mae 'r ordeiniaeth hon yn ſcrifennedig yn y llyfr a a elwir libri Auguſtales y rhai a gaſclodd Tribunianus, Baſilides, Theophilus, Dioſcorus a Satyra, gwyr o awdurdod a dyſc fawr, ar orchymmyn yr Ymmerodr Iuſtinian, ac mae Petrus Erinius gwr dyſcedig godidawg yn ſon am yr ordeiniaeth hon yn y nawfed bennod o'i nawfed llyfr yr hwn y mae 'n ei enwi De honeſta diſciplina, hynny yw, am ddyſceidiaeth honeſt. Ymma y gellwch weled pa beth a ordeiniodd tywyſogion Chriſtionogaidd o'r amſeroedd henaf yn erbyn delwau, y rhai yr amfer hynny a ddechreuaſant ymluſco i blith Chriſtionogion. O herwydd ſiccr yw dros amſer trychant o flynyddoedd a rhagor yn ol dioddefaint ein Iachawdwr Chriſt, a chyn i'r Ymmerodron ſāctaidd ymma deyrnaſu, nid oedd dim delwau yn gyhoedd mewn eglwyſydd neu demlau. Pa fodd y gorfoledde y delw-addolwyr pe byddai ganthynt gymmaint awdurdod a hynafiaeth dros ddelwau ac ſydd ymma yn eu herbyn hwy?

Am ben ennyd fychan ar ol hyn fe dorrodd y Gothiaid, Vandaliaid, Huniaid a chenhedloedd farbaraidd annuwiol eraill i mewn i'r Ital, ac i bob rhan o wledydd gorllewin Ewrop, a lluoedd mawrion grymmus, ac a anrheithiaſont bob lle, a ddiniſtraſont ddinaſoedd, ac a loſcaſant y llyfrau, fal y lleihawyd ac y lleſcawyd gwir grefydd yn amgen nag y credaiddyn. Ac felly gā fod Eſcobion y dyddiau diwethaf hynny, yn llai eu dyſc, ac ynghenol rhyfeloedd yn gofalu llai na 'r eſcobion o'r blaen am hynny o beth, trwy anwybodaeth gair Duw, ac eſceuluſdra 'r eſcobion ac yn enwedig o herwydd bod tywyſogion diwybod heb eu dyſcu yn iawn yn-gwir grefydd, yn rheoli, fe a ddaeth delwau i Eglwys Griſt yn y rhan orllewin honno, lle rheole y bobl farbaraidd hynny, nid yn vnig mewn lluniau gwedi eu peintio, ond gwedi eu gweithio mewn cerrig, coed, neu fettel, a'r fath ddefnydd; ac ni oſſodwyd hwynt i fynydd yn vnic ond fe ddechreuwyd eu haddoli hefyd.

Pan welodd Serenus gwr diſcedig duwiol Eſcob Maſſil y dref bennaf o Galia Narbonenſis, (yr hyn a elwir yn awr prouinſ) yr hwn oedd ynghylch cwechcant o flynyddoedd yn oll ein Iachawdwr Chriſt, y bobl trwy achos delwau yn cwympo i ffieidiaf ddelw-addoliad; fe a dorrodd yn ddrylliau holl ddalwau Chriſt a'i ſaint y rhai oeddynt yn y ddinas honno, ac am hynny yr achwynwyd arno wrth Gregori Eſcob Rufain, y cyntaf o'r enw hwnnw: yr hwn oedd yr Eſcob dyſcedig cyntaf ac a oddefodd oſod delwau yn gyhoedd mewn eglwyſydd, er dim ac a ellir ei wybod trwy vn ſcrifen na hên hiſtori. Ac ar y Gregori hwn y mae 'r holl addolwyr delwau y dydd heddyw yn goſod ſail eu hymddiffynfa.

Ond megis ac y mae pob peth ac ſydd ar fai, o ddechreuad a ellid ei oddef wedi tyfu waethwaeth, nes eu myned o'r diwedd yn anrhaith oddef: felly yr aeth delwau.

Yn gyntaf fe arferodd dynnion hiſtoriau neilltuol gwedy eu peintio mewn llechau, lliainiau a pharwydydd. Yn ol hynny delwau breiſcon, gwychion, yn ddirgel yn eu tai eu hunain.

A chwedy hynny y dechreuodd lluniau yn gyntaf, ac yn eu hol hwy delwau breiſcon gwychion ymluſco i eglwyſydd, er bod gwŷr dyſcedig duwiol yn dywedyd yn eu herhyn hwy.

Yno trwy arfer, yr ymddiffynnwyd yn gyhoedd, y gallent hwy fod mewn eglwyſydd, etto fe waharddwyd eu haddoli hwy.

O'r meddwl ymma yr ydoedd Gregori ei hun, fal y mae 'n eglur wrth lythyr y Gregori hwnnw at Serenus eſcob Maſſil, yr hwn a enwed o'r blaē, yr hwn lythyr a ellir ei gael yn llyfr llythyrau Gregori neu 'r regiſter yn y ddegfed ran o'r pedwerydd llythyr, lle mae fe 'ndywedyd y gairiau hyn, Yr ydym yn canmol ddarfod iti wahardd addoli delwau, ond yr ydym ni yn anghanmol iti eu torri hwy. O blegid vn peth yw addoli'r llun, peth arall wrth lun yr hiſtori yno, yw dyſcu pa beth ſydd i'w addoli. O achos, y peth yw 'r Scruthyr i'r rhai a ddarllenant, hynny y mae 'r llun yn ei gyflawni i'r annyſcedig wrth edrych arno, &c.

Ac yn ol ychydig o airiau, Am hynny ni ddylaſid torri y peth a oſodwyd yn yr Eglwys, nid i'w addoli, ond i addyſcu meddyliau 'r diwybod. Ac ychydig bach ar ol hynny ailwaith, fal hyn y dylaſech ddywedyd, os mynnwch gael delwau yn yr eglwys er mwyn yr addyſc y gwnaethpwyd hwy gynt, yr ydwyf yn goddef eu gwneuthur a'u cadw hwy, a'u dangos hwy, ac nad gweledigaeth yr hiſtori yr hon a hyſpyſa 'r llun, ond yr addoliad yr hwn a roddir yn anweddus i'r llun, ſydd yn eich anfodloni: ac nid gwahardd y neb a fynnent wneuthur delwau, ond gwachelyd ym-mhob ffordd addoli delw.

Wrth yr ymadroddion hyn a dynnwyd ymma ac accw allan o lythyr Gregori at Serenus (o blegid fe fyddai ry-hir adrodd y cwbl) y gellwch ddeall hyd ym-mhale yr ydoedd y peth hyn gwedy tyfu chwechcant o flynyddoedd ar ol Chriſt, fod yn y gorllewin (o blegid nid oeddynt etto mor barod yn Eglwys y dwyrain) yn maenteinio fod delwau neu luniau yn yr Eglwys, ond bod yn gwahardd yn hollol eu haddoli hwy. Ac chwi ellwch weled hefyd gan nad oes vn ſail am addoli delwau yn ſcrifennad Gregori, ond ei fod yn eu dā nio hwy yn hollol, fod y rhai a addolant ddelwau yn goſod Gregori droſtynt yn anghyfiawn. A hefyd oni chyfarwydda delwau yn yr Eglwys ddynion, megis y tebyg Gregori, ond yn hytrach eu dallu hwy, yno y canlyn na ddlyei ddelwau fod yn yr Eglwys, a hynny wrth ei farn ef, yr hwn a fynnai eu goſod hwy yno 'n vnic fal y gallent ddyſcu yr anwybodus.

Am hynny os dangoſir addoli gynt, a bod etto 'n addoli delwau, a hefyd nad ydynt yn dyſcu dim ond amryfyſedd a chelwyddau (yr hyn trwy ras Duw a wnair ar ol hyn) yr ydwyf yn gobeithio wrth farn Gregori ei hun y gorchfygir holl ddelwau a delw-addolwyr. Ond yr amſer hynny yr ydoedd awdurdod Gregori cymmaint yn yr Eglwys orllewin, megis trwy ei annogaeth ef y goſode dynnion ddelwau ym-mhob lle. Ond nid ydoedd eu ſynhwyrau hwy cyſtadl ac y medrent yſtyriaid paham y mynnai efe eu dodi hwy i fynydd, ond hwy a gwympaſont oll yn gadau (trwy eu haddoli hwy) i ddelw-addoliad, yr hwn beth (nid heb achos da) a ofnodd Eſcob Serenus a ddigwydde.

Yn awr pe buaſai farn Serenus yr hwn a dybyge fod yn weddus diniſtr delwau, yn cymmeryd lle, fe fuaſid wedi diniſtr delw-addoliad hefyd; o blegid i'r hyn nid ydyw ni wna neb ddelw-addoliad. Ond pa ddiſtryw ar grefydd, a pha flinder a ganlynodd ar holl gred, o farn Gregori, yr hwn a fynnai oddef delwau mewn eglwſydd, ond dangos na ddlyid eu haddoli hwy, fe a ddangoſodd amſer eiſoes i'n mawr niwed ni a'n triſtwch. Yn gyntaf yn y ſchiſm a'r ymryſon a fu rhwng yr Eglwys ddwyrain a'r eglwys orllewin ynghylch delwau.

Yn ail yn rhanniad yr Ymmerodraeth yn ddwy-ran, o achos delwau, i fawr wanhâd holl Gred, trwy 'r hyn yn ddiwethaf oll y canlynodd llwyr ddiniſtr crefydd Griſtionogol, a'r Ymmerodraeth ardderchawg yngwlad Roeg, ac yn yr holl ddwy-rain, a chynnydd gau-grefydd Mahomet, a chreulon lywodraeth a theyrnaſiad y Saraſeniaid, a'r Twrciaid y rhai ſydd yn awr vwch ein pennau ninnau ſydd yn trigo yn y gollewin, yn barod am bob achos i ddyfod am ein pennau. A'r achos o hyn oll yw ein delwau, a'n delw-addoliad yn eu haddoli hwy.

Ond yn awr gwrandewch orphen yr hiſtori, yn yr hon yr ydwyf yn canlyn fwyaf hiſtoriau Paulus Eutropius de rebus Rom. 23. Diaconus, ac eraill a gydſylldir gydag Eutropius hên ſcrifennydd. O achos er bod rhai o'r ſcrifennyddion ymma yn mawrhau delwau, etto maent hwy yn oleu ac yn halaeth yn canlyn hiſtori yr amſeroedd hynny. Y rhai y mae Baptiſt Platina hefyd yn hiſtori y pabiaid, ac ym-mywyd Conſtantin a Gregori dau o Eſcobion Rufain, a lleoedd eraill Platina ni vitis Conſtantini & Greg. 2. (lle mae fe 'n ſon am y peth hyn) yn eu canlyn yn enwedig.

Yn ol amſer Gregori fe alwodd Conſtantin eſcob Rufain gym-manfa o eſcobion yr eglwys orllewin, ac a gondemnodd Philippicus Ymmerodr y pryd hwnnw a Ioan eſcob Conſtantinoplo hereſi y Monothelitiaid, a hynny yn wir nid heb achos, ond yn gyfiawn iawn. Wedy iddo wneuthur felly trwy gyfundeb y gwyr dyſcedig oedd yn ei gylch ef, fe barodd yr vn Conſtantin Eſcob Rufain beintio lluniau yr hên dadau, a fuaſe yn y chwe Chyngor y mae pawb yn eu cynwys ac yn eu derbyn, a'u goſod yn y mynediad i mewn i Eglwys S. Petr yn Rufain.

Pan wybu y Groegiaid hyn, hwy a ddechreuaſant ymddadleu ac ymreſymmu ynghylch delwau, â'r lladin wyr, ac a ddaliaſant na ddlyai delwau gael lle yn Eglwys Chriſt, a'r lladinwyr a ddaliaſant y gwrthwyneb, ac a darawſant ymmlhaid y delwau. Felly ar yr ymryſſon hyn ynghylch delwau y cwympodd eglwyſydd y dwyrain, ac eglwyſydd y gorllewin, a hwy yn cytuno yn ddrwg o'r blaen, i lwyr elynniaeth, ac byth ni chymmodwyd rhynghynt.

Ond yn hyn o amſer y gorchymmynnodd Philippicus ac Arthenius neu Anaſtaſius yr Ymmerodron dynnu delwau a lluniau i lawr, au' crafu allan o bob lle yn eu teyrnaſoedd hwy.

Yn eu hol hwy y daeth Theodoſius y trydydd, efe a barodd beintio ailwaith y lluniau a anffurfiaſid, a'u goſod eilwaith yn eu lle, ond ni theyrnaſodd y Theodoſius hwnnwond vn flwyddyn.

Ar ei ol ef y daeth Leo y 3. o'r enw hwnnw yr hwn oedd Syriad o anedigaeth, gwr call iawn, duwiol, trugarog, a thywyſog gwrol. Fe barodd y Leo hwn trwy gyhoeddiad dynnu i lawr ac anffurfo 'r holl ddelwau a oſodaſid yn yr Eglwys i'w addoli, ac fe orchmynnodd yn enwedig i Eſcob Rufain wneuthur felly, ac yn yr ennyd hynny fe barodd gynull yr holl ddelwau oedd yn y ddinas Ymmerodraidd Conſtantinopol, a'u goſod yn Bentwr. grug ynghenol y ddinas, a'u lloſci yno yn lludw yn gyhoedd: ac a wyngalchodd ac a grafodd ymmaith bob lluniau a beintiaſid ar barwydydd temlau, ac a goſpodd yn doſt lawer o ymddiffyn wyr delwau.

A phan ddywedai rai am hynny ei fod efyn dyrant, fe attebodd, o bawb oll fod yn eu coſpi hwy yn gyfiawnaf, y rhai nid addolēt Dduw yn iawn, ac ni o falent am fawrhydi'r Ymmerodr a'i awdurdod, ond a wrth ryfelent yn gynfigennus yn erbyn cyfraithiau lleſol iachus.

Pan glywodd Gregori y trydydd o'r enw hwnnw Eſcob Rufain, weithredoedd yr Ymmerodr yn Grecia ynghylch delwau, fe a gynnullodd Gyngor o eſcobion Itali yn ei erbyn ef, ac a wnaeth yno ordeiniaethau o ran delwau, ac am roddi mwy o barch ac anrhydedd iddynt nag a roddid o'r blaen, ac felly fe a gyffrôdd yr Italiaid i godi ac i wrthrhyfelu yn erbyn yr Ymmerodr, a hynny yn gyntaf yn Rafenna. Ac fal y teſtiolaetha Aſpurgenſis ac Antonius Eſcob Fflorenſ, fe a barodd i Rufain a holl Itali o'r lleiafballu o'u vfydd-dod a'u teyrnged i'r Ymmerodr. Ac felly fe a fainteiniodd eu delw-addoliad hwy trwy frâd a gwrthrhyfel. Yr hon ſiampwl a ganlynodd Eſcobion Rufain yn waſtadol ac a aethont trwyodd yn ddigō trawſion.

Yn ol y Leo hynny yr hwn a deyrnaſodd 34. mlynedd y canlynodd ei fab ef Conſtantin y pummed, yr hwn yn ol ſiampl ei dad a gadwodd ddelwau allan o'r temlau. A chan fod y Cyngor a gynullaſai Gregori yn Itali o rhan delwau yn erbyn ei dad ef yn ei gyffroi ef, fe a gynullodd yntef Gyngor o holl wyr dyſcedig ac eſcobion Aſia, a Grecia, er bod rhai yn goſod y Cyngor hwn yn amſer ddiwethaf Leo Iſauricus ei dad ef.

Yn y gynnulleidfa fawr hon, hwy a eiſteddaſant mewn cyngor o'r bedwaredd o Idiau Chwefror, hyd y chweched o Idiau Awſt, ac a wnaethant ynghylch arfer delwau yr ordeiniaeth hon, nid cyfraithlon i neb a gredant yn nuw trwy Ieſu Griſt oſod delwau y creawdwr, na'r creadur, yn eu temlau i'w haddoli: ond yn hytrarch y dlyeid wrth gyfraith Dduw, a rhag trangwydd, dynnu pob delwau allan o'r Eglwys. Ac fe gyflawnwyd yr ordeiniaeth hon ymmhob man lle ceffid delwau yn Aſia neu yn Grecia.

Ac fe ddanfonodd yr Ymmerodr y gyfraith hon a wnaethai'r Cyngor yn Conſtantinopol at Pawl eſcob Rufain, ac a orchymynnodd iddo fwrw 'r holl ddelwau allan o'r eglwyſi: ac yntef gan ymddiried ynghyfeillach Pipin tywyſog cadarn, a wrthododd wneuthur hynny. Ac efe ac Stephanas y trydydd yr hwn a'i canlynodd ef, a gynnullaſant Gyngor arall yn Itali o ran delwau, ac a gondemniaſont yr Ymmerodr a'r Cyngor o Gonſtantinopol o hereſi, ac a wnaethant ordeiniaeth fod delwau ſanctaidd Chriſt fal y galwent hwy, a'r fendigaid forwyn, a ſaint eraill yn wir yn haeddu anrhydedd ac addoliad.

Yn ol marw Cōſtantin y teyrnaſodd Leo y pedwerydd ei fab ef, yr hwn a briododd wraig o ddinas Athen a'i henw Theodora, yr hon hefyd a elwid Hyrene, o'r hon y bu iddo fab a enwid Conſtantin y chweched, ac ef a fu farw a'i fab etto 'n ieuangc ac a adawodd lywodraeth yr Ymherodraeth a rheolaeth ei fab ieuangc i'w wraig Hyrene. Y pethau hyn a wnaethpwyd yn yr Eglwys ynghylch y 760. flwyddyn o oedran yr Arglwydd.

Yſtyriwch ymma attolwg yn yr ſtori hon, nad oedd delwau yn gyhoedd yn eglwyſydd Aſia a Grecia, dros ſaithcant o flynyddodd. Ac nid oes ammau nad oedd yr eglwyſydd neſaf at amſer yr Apoſtolion yn buraf oll.

Yſtyriwch hefyd yn-nechreu yr ymryſon ynghylch delwau na bu o chwech o'r Ymmerodron Chriſtionogaidd, y rhai oedd yn llywodraethwyr vchaf, i'r rhai y dylyeid Vfyddhau wrth gyfraith Duw, onid vn yn vnic ſef Theodoſius, yr hwn ni theyrnaſod onid vn flwyddyn, yn dala oblaid delwau. Fe a gondemniodd yr holl Ymherodron eraill hwy, a holl wyr dyſcedig ac eſcobion Eglwys y dwyrain, a hynny gwedy ymgynnull ynghŷd mewn Cyngorau, heblaw y ddau Ymerodr a enwaſom ni orblaen, Valens a Theodoſius yr ail, y rhai oedd yn hîr cyn yr amſer hynny, ac a waharddaſant yn galed na wnaid dim delwau.

Ac ar ol hyn yn gyffredinol y diniſtre holl Ymmerodron Grecia (oddiethr Theodoſius yn vnic) bob delwau yn waſtadol.

Yn awr o'r gwrthwyneb yſtyriwch mai eſcobion Rufain y rhai nid oeddynt lywiawdwyr gwedy i Dduw eu appoyntio, ond yn vnic yn eu heſcobiathau hunain, ond eu bod yn cymmeryd arnynt awdurdod tywyſogion, yn erbyn gair Duw, oedd yn ymddiffyn delwau yn erbyn gair Duw, ac yn cyffroi terfyſc a gwrthryfel, ac yn gweitho brad bob amſer yn erbyn eu pennaethiaid goruchaf, yngwrthwyneb i gyfraith Duw, ac ordeiniaethau pob cyfraithiau dynawl, gan fod nid yn vnic yn elynion i Dduw, ond yn wrthrhyfelwyr ac yn fradwyr hefyd yn erbyn eu tywyſogion. Dymma 'r rhai cyntaf a ddygaſant delwau yn gyhoedd i'r eglwyſydd, dymma 'r rhai ſydd yn eu hymddiffyn hwy yn yr eglwyſydd, a dymma 'r modd y dar fu iddynt eu hymddiffyn hwy, hynny yw trwy ddirgel gydfwriadau, brad a gwrthrhyfel yn erbyn Duw au tywyſogion.

Ond i fyned yn ein blaen yn yr hiſtori'r hon ſydd wiw ei gwybod. Ym-mabolaeth Conſtantin y chweched, Hyrene yr ymmerodres ei fam ef ynllaw yr hon yr ydoedd llywodraeth ymmerodraeth, a arweinid fwyaf gan gyngor Eſcob Theodor, a Tharaſius patriarch Conſtantinopol, y rhai oedynt yn gweithio ac yn dala yn dynn gydag Eſcob Rufain, i fainteinio delwau: wrth gyngor ac eiriol y rhai hynny hi a barodd yn annuwiol iawn, geibio y fynydd gorph ei thad yn y gyfraith Conſtantin y pummed, ac a orchmynnodd ei loſci ef yn gyhoedd, a thaflu ei ludw ef i'r môr. Yr hon ſiampl fal y mae 'r ſon diammau, a arferaſid ar gyrph tywyſogion yn ein hamſer ninnau, pe buaſai awdurdod y tadau ſanctaidd hynny yn parhau ronyn bach yn hwy yn ein myſc ni.

Yr achos paham y gwnaeth yr Ymmeredores Hyrene hynny âi thâd yn y gyfraith, oedd am iddo ac yntef yn fyw, ddiniſtr delwau, a dwyn ymmaith drwſiadau gwerthfawr yr eglwyſydd, gan ddywedyd fod Chriſt (temlau yr hwn oeddynt) yn fodlon gantho dlodi, ac nid tlyſſau a meini gwerthfawr.

Yn ol hynny fe alwodd yr Hyrene honno, ar annogaeth Adrian eſcob Rufain a Phawl Patriarch Conſtantinopol a Tharaſius yr hwn a'i canlynodd ef, Gyngor o Eſcobion Aſia a Grecia ynninas Nicaea, ac yno gan fod cenhadon Eſcob Rufain yn bennaduriaid o'r Cyngor, ac yn trefnu pob peth megis y mynnent, fe a gondemnwyd y Cyngor a gynnullaſid o'r blaen yn amſer Conſtantin y pummed, ac a ordeiniaſe yn erbyn delwau ar eu diniſtrio hwy, megis Cyngor a chynnulleidfa hereticciaidd, ac a wnaed ordeiniaeth ar oſod i fynydd ddelwau yn holl eglwſydd Grecia, a rhoddi anrhydedd ac addoliad hefyd i'r delwau hynny. Ac felly yr Ymerodres honno heb arbed Diwallrwydd dyfalwch yn y byd i oſod delwau i fynydd, na choſt i'w trwſio hwy 'n yr holl eglwyſydd, a wnaeth Conſtantinopol mewn amſer byrr yn gyffelyb i Rufain ei hun am ddelwau.

Ac ymma y gwelwch ddigwyddo 'r hyn a ofnodd Eſcob Serenus, ac a waharddodd Gregori y cyntaf yn ofer, hynny yw na addolid delwau mewn vn modd. O blegid yn awr nid ydyw yn vnic yr an-nyſcedig angall, y rhai yn enwedig y mae 'r Scrythyr yn dangos fod delwau yn faglau iddynt, ond yr Eſcobion a'r dyſcedig hefyd yn cwympo i ddelw-addoliad trwy achos delwau, ie ac i wneuthur cyfraithiau ac ordeiniaethau i'w maenteinio hwy. Mor anhawdd yw, ie ac mor ammhoſſibl bod delwau yn gyhoedd mewn eglwyſydd a themlau nymor amfer heb ddelw-addoliad, megis mewn ychydig mwy nâ chan mlynedd rhwng Gregori y cyntaf, yr hwn a waharddodd yn galed addoli delwau, a Gregori y trydydd a Phaul a Leo 'r trydydd Eſcobion Rufain, a 'r Cyngor hwn ſydd yn gorchymyn ac yn ordeinio addoli delwau, fal y mae 'n eglur yn ymddangos.

Yn awr pan ddaeth Conſtantin ieuangc yr Ymmerodr ynghylch vgain mlwydd o oedran, fe aeth beunydd leilei ei gymmeriad. O achos fe a'i perſwadodd rhai oedd ynghylch ei fam ef hi, fod Duw gwedy ei hordeinio hi ei hunan i deyrnaſu yn vnic, heb ei mâb gydâ hi. Yr hyn pan gredodd y wraig vchel-fryd honno, hi a ddifuddiodd ei Mab o'i Ymmerodaidd fraint, ac a gymmhellodd yr holl filwyr, a'r penaethiaid i dyngu na oddefent hwy ei mâb hi Conſtantin i deyrnaſu yn ei bywyd hi.

Gwedy i'r tywyſog ieuangc gyffro o herwydd yr an-nheilyngdod hyn, fe a oreſcynnodd lywodraeth yr ymmerodraeth i'w law ei hū trwy rymarfau, a chwedy ei ddwyn i fynydd mewn gwir grefydd yn amſer ei dad, pan welodd ofergoel ei fam Hyrene, a'r delw-addoliad a wnaid i ddelwau, fe daflod i lawr ac a friwodd, ac a loſcodd yr holl ddelwau a oſodaſe ei fam i fynydd.

Ond yn ol ychydig o flynyddoedd, a Hyrene gwedy ei derbyn i ffafor ei mab ailwaith, gwedi iddi ei annog ef i dynnu llygaid ei ewythr Nicephorus, a thorri tafodau ei bedwar ewythr eraill, a gwrthod ei wraig, trwy 'r hyn y dygodd hi ef mewn caſineb gydâ ei ddeiliaid: weithian er mwyn dangos nad oedd hi gwedy newid, ond yr vn wraig ac ydoedd hi pan geibiaſai hi gorph ei thad yn y gyfraith ai loſci, ac y byddai hi mor naturiol man, ac y buaſai hi merch yn y gyfraith garedig, pan welodd hi ei mab yr Ymmerodr yn diniſtr beunydd y delwau a garai hi yn gymmaint ac a oſodaſai hi i fynydd trwy gymmaint côſt, trwy nerth rhyw gyfeillion da hi a ddiſwyddodd ei mâb o'i Ymmerodraeth, ac yn gyntaf, megis mam fwyn garedig, hi a dynnodd ei ddau lygad ef ac a'i taflod ef i garchar, ac yn ol llawer o boenedigaethau a'i lladdodd ef ag angau creulon.

Mae 'n ſcrifennedig yn yr hiſtori a gyſſilltir ac Eutropius, i'r haul dywyllu 'n rhyfedd ac yn ofnadwy dros ddau ddiwarnod ar bymtheg, a bod pawb yn dywedyd i'r haul golli ei oleu am aruthredd gweithred greulon an-naturiol Hyrene, a thynnu allan lygaid yr Ymmerodr. Ond yn ſiccr ewyllys Duw oedd arwyddocau wrth dywylliad yr haul, i ba dywyllwch a dallineb o anwybod a delw-addoliad, y cwympai holl Gred o achos delwau, ac a tywyllid ac a duid eglur haul ei dragwyddol wirionedd ef a goleini ei ſanctaidd air ef trwy niwl a thywyllwch cymylau traddodiadau dynion, megis trwy lawer o ddayar grynfau a ddigwyddaſent ynghylch yr amſer hwnnw, yr arwyddocaodd Duw y ſiglid ac yr yſcydwid ynaruthr eſmwyth ſtat gwir grefydd, trwy ddelw-addoliad.

Ac ymma y gwelwch mor raſſol a rhinweddol arglwyddes oedd yr Hyrene honno, mor garedig nith oedd hi i ewythredd ei gŵr, mor garedig mam yn y gyfraith i wraig ei mab, mor garedig merch i'w thâd yn y gyfraith, mor naturiol mam i'w mâb ei hun, a pha bennaethes ddewr-wych a gafas Eſcob Rhufain o honi i oſod i fynydd ac i faentaeinio ei eulynod a'i ddelwau. Yn wir ni allaſent byth gael gwedduſach ymddiffynnydd i'r fath beth, nâ 'r Hyrene ymma, Vchelfryd yr hon a'i chwant teyrnaſu ni allid ei ddigoni; yr hon yr oedd ei bradau, a weithiai ac a fyfyriai hi yn waſtad, yn dra ffiaidd, yr hon yr aeth ei han-nuwiol ai han-naturiol greulondeb tuhwnt i Medea a Phrogne, y rhai y rhoes eu llofruddiaithiau Erchyll. echrydus ddefnydd, i'r bairdd i ſcifennu tragediau aruthrol. Ac etto mae rhai o'r ſcrifennydion a ſcrifennaſant yr holl Echrydus. erchyll anwireddau ymma, o herwydd y cariad oedd ganthynt at ddelwau, y rhai yr ydoedd hi yn ei maenteinio, yn ei chanmol hi, megis ymmerodes dduwiol a ddanfonaſid oddiwrth Dduw. Or cyfryw yw dallineb coelfuchedd, ac ofergoel, o caiff vnwaith feddiant ar feddwl dyn, ac y cyhoedda feiai tywyſogion drwg, ac a'u canmol hwy hefyd.

Ond ychydig ar ol hynny y drwgdybiodd tywyſogion ac Arglwyddi Gręcia Hyrene, ac a honnafont arni fwriadu ceiſio ſymmud yr Ymmerodraeth at Charles brenin y Ffranconiaid, ac amcanu priodas ddirgel rhwngthi ei hun â'r brenin hwnnw: gwedy gwneuthur hynny yn gyhoedd arni, hi a ddiſwyddwyd ailwaith gan yr Arglwyddi hynny, ac a ddifuddiwyd o'r Ymmerodraeth ac a Deolwyd, aethwladwyd. afwladwyd i yn ys Leſbos, ac yno y diweddodd hi ei bywyd drygionus.

Yr hyd yr oeddid yn gweithio y tragediau ymma yngwlad Groeg ynghylch delwau, fe a ddechreuwyd cyffroi yr vn queſtiwn ynghŷlch arfer delwau mewn eglwyſydd yn Spaen hefyd. Ac yn Eliberi dinas ardderchog a elwir yn awr Garnat y caſclwyd Cyngor o Eſcobion Hiſpaen a gwyr dyſcedig eraill, a chwedy iddynt hir Ymmadrodd draethu ac ymgynghori ynghŷlch y peth hwnnw, fe a gyttnnwyd o'r diwedd gan yr holl Gyngor yn y modd ymma, yn yr articul 36.

Yr ydym ni yn tybied na ddylei fod lluniau mewn eglwyſydd, rhag ofn bod pointio yr hyn a addolir neu a a'nrhydeddir, ar bared. Ac fal hyn yr ſcrifennir yn y 41. Canon o'r Cyngor hwnnw, Ni a welſom fod yn dda rhybyddio 'r ffyddloniaid gymmaint ac y mae ynddynt, na oddefont ddim delwau yn eu tai, ond os bydd arnynt ofn gorthrech eu gwaſanaeth-ddynion ar y lleiaf ymgadwant hwy yn bur oddiwrth ddelwau, ac os gwnant amgen, na chyfrifer hwy o'r Eglwys.

Yſtyriwch adolwg ymma, fod holl wlad fawr yn-nhuedd y gorllewin a dehau Ewrop, nes i Rufain o lawer ei goſodiad nag i Gręcia yn cyfuno â'r Groegwyr yn erbyn delwau, ac nad ydynt yn eu gwahardd hwy yn vnic mewn eglwyſydd, ond mewn tai dirgel hefyd, ac yn eſcymuno y rhai a wnant y gwrthwyneb.

Ac fe wnaeth Cyngor arall hefyd yr hwn a elwir Cyngor Toletum y ddau-ddegfed, ordeinhâd a chyfraith yn erbyn delwau a delw-addolwyr. Ond pan wybu eſcob Rufain a'i blaid i'r Cyngor hwn o Spaen yn Eliberi wneuthur y fath gyfraith yn erbyn delwau, hwy ofnaſant yr ordeiniai yr holl Germaniaid hefyd yn erbyn delwau, ac y gwrthodent hwy: ac a feddylaſont ragflaenu hynny, a thrwy gyfundeb a nerth tywyſog y Ffrā coniaid, yr hwn oedd fwyaf ei gadernid yn-nhuedd y gorllewin, a gynullaſant Gyngor o Germaniaid yn Ffrancfford, ac yno hwy a baraſant gondemnio y Cyngor a fuaſe yn Spaen yn erbyn delwau, ar enw Hereſi Ffelix (o blegid mai Ffelix Eſcob Aquitania oedd bennaf yn y Cyngor hwnnw) ac a gawſant yno dderbyn Actau yr ail Cyngor o Nicaea, a gaſcleſid trwy waith Hyrene yr Ymmerodes ſainctaidd honno (am yr hon y clywſoch chwi ſôn) a barn Eſcob Rufain o blaid delwau.

O herwydd yn gyffelyb i hyn y mae y papiſtiaid yn adrodd hiſtori Cyngor Ffrancfford. Er hynny mae llyfr Charles Mayn a ſcrifennodd ef ei hun, (fal y dengis y teitl) yr hwn ſydd yn awr gwedy ei brintio ac yn gyffredin ynnwylaw pawb, yn dangos fod barn y tywyſog hwnnw a holl Gyngor Ffrancfford hefyd yn erbyn delwau, ac yn erbyn yr ail Cyngor o Nicaea, yr hwn a gynullaſai Hyrene o blaid delwau, ac yn galw y Cyngor hwnnw yn Gyngor rhyfygus, ffol, annuwiol. Ac mae fe'n dangos ddarfod cynull y gynulleidfa hōno yn Ffrancfford yn vniawn yn erbyn Cyngor Nicaea a'i amryfyſedd.

Fal y mae 'n rhaid canlyn naill ai bod dau Gyngor yn Ffrancfford, yn amſer yr vn tywyſog, y naill yn erbyn y llall, yr hyn ni ellir ei ddangos wrth vn hiſtori, ai yntae ddarfod i'r pabiaid a'r papiſtiaid, yn ol eu harfer, lygru yn gwilyddus actau y Cyngor hwnnw, megis yr arferant hwy wneuthur nid yn vnic â Chyngorau, ond ag hiſtoriau ac ſcrifennadau 'r hen ddoctoriaid hefyd, gan eu hanghy wiro, a'u llygru hwy, er maenteinio eu defnyddion a'u bwriadau drwg eu hunain, fal y daeth i oleuni yn hwyr o amſer, ac fal y mae yn ymddangos fwyfwy beunydd yn ein dyddiau ni. Bydded dychmygus rodd Conſtantin, a'r bwriad hynod hwnnw ar anghywiro y Cyngor cyntaf o Nicaea, am bennaduriaeth y Pab, yr hyn a amcanodd y Pâb yn amſer S. Awſtin yn dyſtiolaeth o hyn. Yr hyn fwriad a gwblhaeſid yr amſer hynny oni buaſe i ddiwydrwydd a mawr ddoethineb S. Awſtin, ac Eſcobion dyſcedig duwiol eraill o Affrica, ſefyll yn erbyn hynny ai rwyſtro.

Yn awr i ddyfod tuag at ddiwedd yr hiſtori hon ac i adrodd i chwi y peth pennaf a ddigwyddodd o fainteinio delwau, lle yr ydoedd er amſer Conſtantin fawr, hyd y dydd hwnnw yr holl awdurdod ymmerodrol, a rheolaeth dywyſogol ymmerodraeth Rhufain, yn aros yn waſtadol yn-ghyfiawnder a meddiant yr ymmerodwyr y rhai yr oedd eu trigfa a'u ymmerodrol eiſteddfa yn Conſtantinopol y ddinas frenhinawl.

Pan welodd Leo 'r trydydd, Eſcob Rhufain yr amſer hwnnw, Ymmerodron y Groegiaid wedi ymroi yn gymmaint yn erbyn ei dduwiau ef o aur, ac arian, coed a cherrig, ac am fod gantho frenin Frainct a elwid Charls, gwr mawr ei allu yn y gorllewin, yn hyblyg wrth ei ewyllys, ac am achoſion a geir eu gweled ar ol hyn: mewn lliw o fod gwyr Conſtantinopol dan felltith a reg y pab o blegid delwau, ac am hynny yn annheilwng i fod yn ymmerodron, nac i lywodraethu, ac o herwydd hefyd nad oedd Ymmerodron Grecia gan eu bod mor bell, mor barod wrth Emmaid. amnaid i'w ymddiffyn ef yn erbyn ei elynion y Lumbardiaid, ac eraill oeddynt yn ymryſon ag ef: fe aeth y Leo ymma meddaf ynghylch peth rhyfedd anferth, na chlywad ſon er ioed o'r blaen am y fath, a pheth o eofnder a rhyfyg anghredadwy: o herwydd wrth ei babaidd awdurdod fe a ſymmudodd lywodraeth yr Ymmerodr oddiwrth y Groegiaid, ac a'i rhoddodd i Charles fawr brenin y Francod, a hynny trwy gyfundeb yr Hyrene a ddywedaſom ni o'r blaen, ymmerodes Grecia, yr hon hefyd a fwriadodd i chydſylltu ei hun mewn priodas â'r Charles hwnnw: am yr hyn achos yr A fwladodd. deolodd. aethwladodd ac y diſwyddodd Arglwyddi Grecia hi, megis vn a fradychyſai yr ymmerodraeth fal y clywſoch chwi o'r blaen.

Ac yn ol diſwyddo yr Hyrene honno, y dewiſodd tywyſogion Grecia, trwy gyfundeb cyffredin, megis yr arferent yn waſtad, ac a wnaethont Ymmerodr a'i enw Nicaephorus, yr hwn ni chydnabyddai Eſcob Rufain na gwyr y gorllewin yn Ymmerodr arnynt, o herwydd yr oeddent eiſioes gwedy dewis arall, ac felly y daeth dau Ymmerodr: a'r ymmerodraeth yr hon oedd vn o'r blaen a rannwyd yn ddwy ran o achos delwau a'u haddoliad, megis yn yr hên amſer y rhannwyd brenhiniaeth yr Iſraeliaid o blegid y cyffelyb achos, yn amſer Rehoboam. Ac felly gwedi i Eſcob Rufain ſiccrhau tuag atto gariad Charles trwy y modd ymma, fe dderchafwyd yn rhyfedd mewn gallu ac awdurdod, ac a wnai yn holl Eglwys y gorllewin, yn enwedig yn Itali, y peth a fynnai, yn yr artaloedd hynny y goſodwyd delwau i fynydd, yr harddwyd ac yr addolwyd hwy gan bawb oll.

Ond nid oeddid mor barod yn goſod delwau i fynydd, nac yn eu hanrhydeddu yn gymmaint yn Itali a'r gorllewin, nad oedd Nicęphorus Ymmerodr Conſtantinopol, a'r rhai a ddaethont ar ei ol ef Scauratius, ar ddau Michael, Leo, Theophilus, ac ymmerodron eraill a'u canlynent hwythau yn ymmerodraeth Grecia, yn eu tynnu hwy i lawr, yn eu briwo, yn eu lloſci, ac yn eu diniſtr hwy cy gynted. A phan fynnaſai ymmerodr Theodorus ynghyngor Lions gyfuno ag Eſcob Rufain, a goſod delwau i fynydd, fe a ddifeddiannwyd o'i ymmerodraeth gan oreugwyr Grecia, ac a ddewiſwyd arall yn ei le fe: ac felly fe gyfododd eiddigedd, gwg, caſineb, a gelynniaeth rhwng Chriſtionogion ac ymmerodraethau y gorllewin, a'r dwyrain, yr hwn ni allwyd byth oi ddiffod na'i heddychu. Megis pan ryfelodd y Saraſeniaid gyntaf, a'r Twrciaid a'r ol hynny, yn erbyn y Chriſtionogion, ni chynorthwye y naill ran o Gred ddim o'r llall. O blegid hyn yn y diwedd fe gollwyd ymmerodraeth y Groegiaid, a Chonſtantinopol yr ymmerodraidd ddinas, ac a ddaethont i ddwylo yr anghredadwy, y rhai yn awr a oreſnenaſant y rhan fwyaf o holl Gred, a chwedy meddiannu mwy nâ hanner Hungari, yr hon ſydd ran o ymmerodraeth y gorllewin, maent hwy vwch yn pennau ninnau, i fawr enbeidrwydd a pherigl holl Gred.

Fal hyn y gwelwn pa fôr o flinderau ac aflwydd a ddug maeinteiniaeth delwau gydâ hi, pa rwygiad anferth rhwng yr Eglwys orllewin a'r Eglwys ddwyrain, pa gaſineb rhwng y naill Griſtion a'r llall, Cyngor yn erbyn Cyngor, Eglwys yn erbyn Eglwys, Chriſtionogion yn erbyn Chriſtionogion, tywyſogion yn erbyn tywyſogion, gwrthrhyfelau, bradau, lladdiadau an-naturiol creulon, y ferch yn peri ceibio i fynydd gorph yn Ymmerodr ei thâd a'i loſci, y fam o gariad ar ei delwau yn lladd ei mab ei hun, ac yntef yn Ymmerodr: yn ddiwethaf gwahanu, yr ymmerodraeth a Chred yn ddwy ran, nes i'r anghredadwy y Saraſeniaid a'r Twrciaid gelynion cyffredinol y ddwy ran, orchfygu ie diniſtr a daroſtwng yn greulon y naill rhan, holl ymmerodraeth Grecia, Aſia leiaf, Thracia, Macedonia, Epirus, a llawer o wledydd eraill, ac o daleithiau mawrion gwychion, a goreſcyn rhan fawr o'r ymmerodraeth arall: a dodi'r cyfan mewn ofn anfeidrol, ac enbeidrwydd ofnadwy anferth.

O blegid nid heb achoſion mawr yr ofnir rhag megis y rhannwyd ac y drylliwyd ymmerodraeth Rhufain am ddelw-addoliad, fal y rhannwyd teyrnas Iſrael gynt, am yr vn fath ddelw-addoliad: felly cwympo o'r cyffelyb goſp, am y cyffelyb fai arnom ninnau, ac a gwympodd ar yr Iddewon: hynny yw rhag i'r tyrant creulon gelyn ein gwledydd ni a'n crefydd y Twrc, trwy gyfiawn ddial Duw ein lladd ni 'r Chriſtionogion, a'n dwyn i gaethiwed, fal y lladdodd ac a caeth gludodd brenhiniodd yr Aſſiriaid a'r Babiloniaid yr Iſraeliaid, a rhag dwyn ymmerodraeth Rufain a gwir grefydd, dan draed yn llwyr, megis y dygwyd teyrnas yr Iſraeliaid a gwir greddyf Dduw, at yr hyn a mae 'r peth eiſoes fal y dangoſais o'n rhan ni yn gogwyddo 'n annial: gan fod eiſoes y rhan fwyaf o holl Gred mewn llai nâ thrychant o ſlynyddoedd gwedy ei dwyn i flin gaethiwed a chaethglud dan y Twrc: ac ardderchog ymmerodraeth Grecia gwedy ei hymchwelyd yn llwyr. Ond pe buaſei 'r Chriſtio nogion heb ymrannu fal hyn ynghylch delwau, ac yn dala ynghyd, ni allaſe 'r anghredadwy a drwg greaduriaid, fal hyn lwyddo 'n erbyn Cred, a'r holl flinderau a'r aflwydd hyn a ddaeth arnom o blegid ein galluog dduwiau o aur ac arian, coed a cherrig, yn nerth ac ymddiffyn y rhai a hwythau heb allel eu cynnorthwyo eu hunain, yr ymddiriedaſon ni, hyd oni ortrechodd ein gelynnion anghredadwy ni a'n goreſcyn agos yn gwbl.

Gobrwy cyfion i bawb ac a ymadawant â'r galluog bywiol Dduw, Arglwydd y lluoedd, ac a ymoſtyngant, ac a roddant yr anrhydedd ſydd ddyledus iddo ef, i goed a cherrig meirwon, y rhai y mae llygaid iddynt ac ni welant, traed ac ni cherddant, &c. ac ſydd felltigedig gan Dduw, ynghyd â'r rhai a'u gwnant, a'r rhai a ymddiredont ynddynt.

Fal hyn y deallaſoch, fyngharedigion yn ein Iachawdwr Chriſt, wrth farn hên ddyſcedig a duwiol athrawion yr Eglwys, a thrwy hên hiſtoriau eglwyſig yn cyfuno â gwirionedd gair Duw, a dynnwyd allan o'r hen Deſtament a'r Teſtament newydd fod yn yr hen Eglwys gynt yr hon oedd buraf a dilygraf oll, yn gwachelyd, yn caſhau, ac yn ffieiddio delwau, a delw-addoliad, megis pethau ffiaidd gwrthwyneb i wir Griſtionogawl grefydd, a phan ddechreuodd delwau ymluſco i'r Eglwys, fod Eſcobion, athrawion ac yſcolheigion dyſcedig duwiol, yn dywedyd ac yn ſcrifennu yn eu herbyn hwy, a bod Cynghorau cyfain o Eſcobion a gwyr dyſcedig gwedy ymgynnull ynghŷd yn eu condemnio hwy, ie a darfod i lawer o Ymmerodron ac Eſcobion Chriſtionogawl, e'r es rhagor i ſaithcant ac wythcant o flynyddodd ddifwyno, a dryllio, a diſtrywio delwau: ac am hynny nid er ys ychydig ddyddiau (megis y mynne rhai i chwi gredu) y dechrauwyd dywedyd ac ſcrifennu yn erbyn delwau a delwaddoliad.

Yn ddiwethaf chwi a glywſoch pa ddialedd a pha flinder ac aflwydd a gwympodd o achos delwau ar holl Gred heblaw colled aneirif o eneidiau yr hyn ſydd Echryſlonaf. echryduſaf oll. Attolygwn am hynny ar Dduw ar ini gan gymeryd rhybidd gan ei ſanctaidd air ef, yr hwn ſydd yn gwahardd pob delw-addoliad, a chan ſcrifennadau hên athrawon duwiol, ac hiſtoriau eglwyſig, a ſcrifennwyd ac a gadwyd trwy ordeinad Duw, er ein rhybyddio ni i wachelyd delwaddoliad ac i ddiangc rhag y goſp ar plaau bydol a thragwyddol a fygythir am hynny. Yr hyn beth Duw ein Tad nefol a'i canniatao ini, er mwyn ein vnic Iachawdwr a'n cyfryngwr Ieſu Griſt, Amen.

¶ Y drydedd ran o'r bregeth yn erbyn delwau a'u haddoliad, yn yr hon y cynhwyſir atteb i'r rheſymmau dewiſaf y rhai a arferir ei faenteinio delwau, yr hon ran a ddichon waſanauthu i gyfarwyddo curadiaid eu hunain a gwyr deallus.

YN awr chwi a glywſoch mor oleu ac mor ddifrifol, a hynny mewn llawer o leoedd y mae gair Duw yn dywedyd, nid yn vnic yn erbyn delw-addoliad, ond yn erbyn delwau hefyd: fy meddwl am hyn yn waſtad yw, cy belled ac y'n cyffroir ac y'n annogir trwyddynt i'w haddoli hwy, ac nid megis pe gwaharddid hwy yn hollol yn y Teſtament newydd, heb y fath achoſion ac enbeidrwydd: chwi a glywſoch hefyd allan o'r hiſtoriau eglwyſig ddechreuad, cynnydd a rhwydddeb delw-addoliad trwy ddelwau: a'r mawr ymryſon a fu yn eglwys Griſt yn eu cylch hwy, i fawr drallod a cholled holl Gred. Chwi a glywſoch hefyd ymadroddion yr hên dadau a'r athrawion a'r eſcobion dyſcedig duwiol, y rhai a dynnwyd o'u ſcrifennadau hwy eu hunain, yn erbyn delwau a delw-addoliad.

Mae etto yn ol fod i ni atteb ac argyoeddi y rheſymmau a wnair ym-mhlaid delwau, a'u gormodd beintio a'u goreuro a'u trwſio hwy, ac Eglwyſydd a themlau hefyd, yr hyn a wnair o ran, trwy ddodi y lleodd a oſodwyd o'r blaen at eu rheſymmau hwy: ac o ran wrth eu hatteb mewn moddion eraill. Yr hon ran ſydd iddi y trydydd lle yn y traethawd hwn, am na all y cyffredin bobl ddeall y pethau hyn yn dda, ac na ellir atteb rheſymmau y rhai ſydd yn maenteinio delwau, heb ormod flinder a phoen, oni byddir yn gwybod y traethawd aeth o'r blaen.

Ac er bod yn ail ſôn ymma am bethau a ſoniwyd o'r blaen am danynt, etto nid ydyw yr ail adrodd hyn yn ofer, ond gan mwyaf yn anghenrhaid, am na all yr annyſcedig ddeall yn amgen pa fodd yr ydys yn agweddu y lleoedd hynny yn erbyn rheſymmau y rhai ſydd yn ymddiffyn delwau, a'r rhai oni bai hynny y gellid eu twyllo.

Yn gyntaf mae y rhai ſydd yn ymddiffyn delwau yn dywedyd am yr holl gyfraithau, gwaharddiadau a'r melldithion yr ydym ni yn eu rhoi droſom allan o'r Scrythyrau ſanctaidd, ac o ymadroddion y doctoriaid yn erbyn delwau, a'u haddoliad, eu bod hwy yn perthyn yn vnic i eulynod i Cenhedloedd a'r Paganiaid, Megis delw Iupiter, Mars, Mercuri a'r cyfryw rai, ac nid i ddelwau Duw, Chriſt a'i ſaint. Ond fe a ddangoſir allan o air Duw, acymadroddion yr hên ddoctoriaid, a barn yr hên Eglwys gynt, fod yn gwahardd pob delwau cyſtadl a delwau ac eulynod y cenhedloedd, a'u bod hwy yn anghyfraithlon, yn enwedig mewn eglwyſydd a themlau.

Ac yn gyntaf hyn a wrth-attebir allan o air Duw, fod yr Scrythyrau 'n gwahardd yn oleu, ac yn condemnio 'n eglur, ddelwau y Tad, y Mab, a'r Yſpryd glan, yn gyſtadl yn neilltuol: a delwau 'r drindod, y rhai oedd gennym ymmhob Eglwys, megis y mae 'n eglur wrth y lleoedd ſydd yn canlyn, Ni Welſoch vn llun yn y dydd y llafarodd yr Arglwydd wrthych yn Horeb o genol Dewt. 4. 15, 16. y tân, onid y llais neu 'r llaferŷdd, rhag ymlygru o honoch a'ch twyllo a gwneuthur o hanoch ddelw gerfiedig, neu lun neu gyffelybrwydd, &c. fal y dangoſwyd o'r blaen yn halaeth yn y rhan gyntaf o'r traethawd hwn yn erbyn delwau. Ac am hynny yn yr hên gyfraith yr ydoedd cenol y drugareddfa yr hon a arwiddocai eiſteddfaingc Duw, yn wâg heb ddim ynddi, rhag i neb Exod. 25. 29. Eſai. 40. 18, 19, 20, &c. gymmeryd achos i wneuthur llun neu gyffelybaeth o hono ef.

Gwedy i Eſai oſod allan anymgyffred fawrhydi Duw: Mae 'n gofŷn, i bwy am hynny y cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a oſodwch iddo? a lunia 'r ſaer gerf-ddelw? a oreura 'r eurych hi, ag aur, ac a dawdd ef gadwyni o arian? ac a ddewis, yr hwn fytho arno eiſiau aberth bren heb bydru, a gais ef ſaer cywraint i baratoi cerf-ddelw, fal y gallo yntef oſod rhyw beth i fynydd? Ac ar ol hynny mae fe 'n gwaiddi, O ddynnion blin oni wyddoch, oni chlywch oni fanegwyd i chwi o'r dechreuad, oni ddeallwch ſeiliad y ddaer? fal trwy fawredd y gwaith y gallent ddeall fod mawrhydi Duw gwneuthurwr a chreawdwr y cwbl oll, yn fwy nag y gallid ei amlygu a'i oſod allan mewn delw neu gyffelybaeth gorphorol. Hyd hyn y clywſoch airiau y Prophwyd Eſai, yr hwn nid ydyw o'r 44. hyd y 49. yn ymadrodd am ddim amgen haechen. Ac mae S. Pawl yn Actau 'r Apoſtolion Act. 17. 29. yn dangos yn oleu na ellir gwneuthur cyffelybaeth o Dduw nag mewn aur, nag mewn arian, nag mewn maen, nag mewn defnydd arall.

Wrth y lleoedd hyn a llawer o leoedd eraill o'r Scrythyrau, y mae 'n eglur na ddylid ac na ellir gweuthur i Dduw vn ddelw. O herwydd pa fodd y gellir arwyddocau llun Duw, yr hwn ſydd buraf Yſpryd, yr hwn ni welodd neb erioed mewn cyffelybaeth gorphorol weledig? Pa fodd y gellir dangos mewn delw fechan fawrhydi a mawredd Duw yr hwn ni ddichon meddwl dyn ei amgyffryd, llai o lawer y gellir ei gynwys a ſynwyr? Pa fodd y dengŷs delw farw, fud, lun y bywiol Dduw? Pa fodd y dichon delw, yr hon gwedy iddi gwympo ni ddichon gyfodi ailwaith, na chynnorthwyo ei chyfeillion, na drygu ei gelynnion, oſod allan y cadarnaf a'r galluoccaf Dduw, yr hwn yn vnic a ddichon obrwyo y ſawl a garo, a diniſtrio ei elynion yn dragwyddol? Fe a ddichon dyn am hyn waiddi yn gyfiawn gydâ 'r prophwyd Habacuc, Na rydd y cyfryw ddelw ddyſc, ac nad Habac. 2. 18, 19. ydyw onid athro celwydd. Am hynny y rhai a wnaethant ddelw i Dduw i'w anrhydeddu, a'i dianrhydeddaſant ef yn ddirfawr, ac a leihauſant ei fawrhydi ef, a wnaethont gam â'i ogoniant ef, ac a anghywiraſant ei wirionedd ef. Ac am hynny y dywaid yr Apoſtol S. Pawl am y rhai a wnaethant gyffelybaeth neu ddelw i Dduw, megis gwr Marwol mewn llun ar goed, cerrig, neu ryw ddefnydd arall, eu bod yn troi gwirionedd Duw yn gelwydd. O herwydd hwy a dybygaſont nad Ruf. 1. 25. oedd y ddelw mwy yr hyn ydoedd hi o'r blaen, hynny yw pren neu garreg, ac a dybiaſant ei bod yn beth nad ydoedd, hynny yw yn Dduw, neu yn ddelw Dduw.

Am hyn nid yw delw a wnair i Dduw, yn vnic yn gelwydd ond yn gelwydd dauddyblyg. Ond diafol ſydd gelwyddog ac yn dad celwyddau, ac am hyn y delwau celwyddog a wnair i Dduw i'w fawr ddianrhydedd ef, ac enbeidrwydd i'w Ioh. 8. 44. bobl ef, oddiwrth ddiafol y daethant.

Am hynny yr argyoeddir hwy o ffolineb ac annuwioldeb, am eu bod yn gwneuthur delwau i Dduw neu i'r drindod, o herwydd na ddylid ac na ellir gwneuthur llun Duw megis y mae 'n eglur wrth yr Scrythyrau a rheſwn da, ie o anghrediniaeth y mae gwneuthur llun neu ddelw yn dyfod, gan dybied nad ydyw Duw yn breſennol, oni chair rhyw arwydd neu ddelw o hono: fal y mae 'n eglur wrth yr Hebraeaid yn yr amalwch, y rhai a wnaent i Aaron wneuthur iddynt dduwiau, y rhai a allent eu gweled yn myned o 'u blaen.

Ond maent yn dadleu gan fod rhyw ddangoſiadau a phortreiadau am Dduw, megis yn eiſtedd a'r orſeddfaingc vehel, yn ſcrifennadau Eſaias a Daniel, Paham gan hynny (meddant hwy) na ddichon peintiwr yn yr vn modd oſod allan Dduw Dad mewn lliwiau i'w weled megis barnwr yn eiſtedd a'r ei orſeddfaingc, fal yr ydys yn ei bartreio ef yn i Prophwydi, gan nad oes ond ychydig wahaniaeth rhwng Scrythyr neu ſcrifen a pheintiad?

Yn gyntaf fe a ellir atteb, nad yr vn yw 'r pethau a waharddodd Duw megis peintio lluniau Duw, a'r pethau y mae Duw yn eu goddef megis portreiadau a arfere y Prophwydi ac ni ddylai, ac ni ddichon rheſwn dyn er tecced y bo 'n ymddangos ortrechu yn erbyn cyhoeddus air Duw a'i ſtatutau (fal y gellir eu galw hwy.) Hefyd er bod yn yr Scrythyrau ryw bortreiadau o Dduw, etto os darllenwch beth yn eich blaen, y maent yn eu egluro ac yn dadguddio eu hunain, gan ddangos fod Duw yn Yſpryd pur anfeidrol anfeſuredig, anymgyffryd yr hwn ſydd yn cyflawni nef a dayar, a'r cwbl oll ac nid ydyw 'r llun yn cyflawni na nef na dayar, nac yn dangos beth y mae yn ei arwyddocau, ond yn hytrach darffo iddo oſod allan Dduw mewn cyffelybaeth gorphorol, mae fe 'n gadel dŷn ar hynny, ac yn ei ddwyn ef yn hawdd i hereſi yr Anthropomorphitiaid, ac i feddwl fod gan Dduw draed a dwylo, a'i fod ef yn eiſtedd megis dŷn, yr hyn pwy bynnac a'i gwnelo, medd S. Awſtin yn ei Lyfr De Fide & Symbolo, Cap. 7. Mae fe 'n cwympo yn llwyr gwbl i'r annuwioldeb yr hwn y mae 'r Apoſtol yn ei ffieiddio yn y rhai a droeſant ogoniant Ruf. 1. 23. yr anllygredig Dduw, i gyffelybaeth dyn llygredig.

O herwydd annuwioldeb yw i Griſtion oſod i fynydd y fath ddelw i Dduw mewn teml, a mwy o annuwioldeb o lawer yw goſod y fath ddelw yn ei galon trwy gredu ynddi. Ond i hyn y maent yn atteb, y gellir wrth y rheſwn hwn wneuthur delw Griſt, am iddo ef gymeryd cnawd arno, a myned yn ddyn. Da fyddai pa cydnabyddent yn gyntaf iddent wneuthur hyd yn hyn yn drwg, wrth wneuthur a maenteinio delwau Duw Dad, a'r Drindod ymmhob lle, am yr hyn y argyoeddwyd hwy yn gwbl trwy rym gair Duw a rheſwn da, ac yno ymddadleu am ddelwau eraill.

Yn awram eu dadl hwy y gellir gwneuthur delw Griſt, mae 'r atteb yn hawdd. O blegid yngair Duw a Chriſtionogawl grefydd, ni ofynnir yn vnic a ellir gwneuthur rhyw beth ai na ellir, ond hefyd pa vn a wna ai bod yn gyfraithlon ac yn gyfun â gair Duw ai nad yw. O herwydd fe a ellir gwneuthur ac yr ydys beunydd yn gwneuthur pob annuwioldeb, ac etto ni ddylid ei wneuthur. A geiriau y rheſymmau a oſodwyd o'r blaen allan o'r ſcrythyrau yw, na ddylid ac na ellir gwneuthur delwau Duw. Ac am hynny, nid ydyw ddim amgen ddadleu y gellir gwneuthur lluniau Chriſt, heb brofi hefyd y dylid eu gwneuthur hwy, ond dywedyd rhyw beth rhag tewi aſon, ac er hynny bod heb ddywedyd dim i'r defnydd.

Ac etto mae 'n eglur na ellir gwneuthur i Griſt vn ddelw ond delw gelwyddog, megis y geilw 'r Scrythur yn hyſpyſol ddelwau yn gelwyddau, Ruf. 1. 23. o blegid mae Chriſt yn Dduw ac yn ddyn, am hynny gan na ellir gwneuthur vn ddelw i Dduw, yr hon yw 'r rhan odidawgaf, ar gain y gelwir hi yn ddelw Griſt. Am hynny nid ydyw delw Griſt yn vnic yn ddyffygiol ond yn gelwyddog hefyd, ie yn gelwyddau. Yr vn rheſwn a waſanautha yn erbyn delwau y ſaint y rhai ni ellir wrth vn ddelw arwyddocau eu heneidiau, yr hon yw y rhan odidawgaf o hanynt. Am hynny nid ydynt hwy ddelwau y ſaint y rhai y mae eu heneidiau yn teyrnaſu mewn llawenydd gydâ Duw, ond lluniau cyrph y ſaint, y rhai ſydd etto yn pydru yn y beddau.

Hefyd ni ellir gwneuthur yn awr vn ddelw o gorph ein Iachawdwr Chriſt, o herwydd nas gwyddys yn awr pa lun neu ddiwgad oedd arno ef. Ac hefyd mae yn Grecia ac yn Rufain, ac yn lleoedd eraill, lawer o ddelwan Chriſt, ac etto heb vn o hanynt yn debyg i'w gilydd, ac etto fe a ddywedir mai bywiol a gwir ddelw Griſt yw pob vn o hanynt, yr hyn ni ddichon bod. Am hynny er cynted y gwnelir delw Griſt, yr amſer hynny y gwnair celwydd o hono ef, yr hyn a waharddir trwy air Duw.

Hyn hefyd ſydd wir am ddelwau 'r ſaint oll, o herwydd ni wyddys pa lun neu ddiwgad oedd ar y ſaint. Am hynny o herwydd y dylaid ſeilio crefydd a'r y gwirionedd, ac na ellir gwneuthur delwau heb gelwyddau, ni ddylid gwneuthur delwau na'u goſod i vn arfer o grefydd mewn eglwyſydd a themlau, lleoedd a oſodwyd yn briodol i wir grefydd a gwaſanaeth Duw. A hynny a ddywedwyd ynghylch na ellir gwneuthur vn wir ddelw, nac o Dduw, nac o Griſt, nac o'r ſaint y chwaith, trwy 'r hyn yr argyoeddir hefyd yr hyn a ddywedant hwy, mai llyfrau gwyr llyg yw delwau.

O herwydd eglur yw wrth yr hyn a ddywedwyd, nad ydynt yn dangos nac yn dyſcu ini am Dduw, am Griſt nac am y ſaint ond celwydd, ac amryfyſedd. Am hynny naill au nid ydynt hwy lyfrau, neu os llyfrau ydynt, llyfran geu celwyddog ydynt, a dyſcawdwyr pob cyfeiliorn.

Yn awr pe byddid yn addef neu yn canniatau, y gellid gwneuthur delw Griſt yn gywir, etto mae 'n angyfraithlon i gwneuthur hi neu wneuthur delw vn o'r ſaint, yn enwedig i'w goſod mewn temlau neu eglwyfydd, i fawr ac i anwacheladwy enbeidrwydd delwaddoliad, fal y proſir ar ol hyn.

Ac yn gyntaf o blegid delw Griſt, pe medrid ei gwneuthur hi yn gywir, etto fod yn anghyfraithlon ei goſod hi yngyhoedd mewn eglwyſydd, mae lle godidawg yn Ireneus yr hwn a argyoeddodd yr Hereticciaid a elwid Gnoſtici, am eu bod yn dwyn gyd â hwynt ddelw Griſt, yr hon a wnelfid yn gywir yn ol ei wedd a'i wynepryd ef ei hun, yn amſer Pilat (fal y dywedent hwy) ac am hynny a ddyleid gwneuthur mwy cyfrif o honi nag o'r delwau celwyddog oedd yn ein myſe ni iddo. Ac fe arferau 'r Gnoſtici hynny oſod coronau ar ben y Li. 1. c. 4. ddelw honno, er mwyn dangos eu cariad iddi.

Ond i fyned at air Duw: onid ydyw adolwg, airiau 'r Scrythyr yn oleu, Gwachell rhag dy dwyllo gan wneuthur iti dy hun (hynny yw tu ag at grefydd) vn ddelw gerfiedig, na llun dim, &c. A melltigedig yw yr hwn a wnelo ddelw gerfiedig, Leuit. 26. 1. Deut. 4. 8. Deut. 27. 15. neu ddelw doddedig, ſef ffiaidd-beth i'r Arglwydd, &c. Ac onid cyffelyb yw 'n delwau ni? Onid ydyw ein delwau ni i Griſt ac i'r ſaint gwedy eu cerfo neu eu toddi? onid ydynt gyffelybaeth gwyr neu wragedd? mae 'n dda na chanlynaſom ni y cenhedloedd a gwneuthur delwau anifeiliaid, pyſcod a phryfed. Ac etto fe a ddygwyd llun ceffyl a delw 'r aſſen y marchogodd Chriſt ar ni i'r eglwyſydd ac i'r temlau, mewn llawer lle.

Ac onid ydyw hyn a ſcrifennir ynnechreuad ſancteiddiaf gyfraith yr Arglwydd, ac a ddarllenir i chwi beunydd yn eglur ddigō, na wna lun dim ac y ſydd yn y nef vchod, nac yn y ddaear iſod, nac yn y dwfr dan y ddaear. A allaſid gwahardd neu ddywedyd dim mwy nâ hyn, nac am y rhywiau delwau, y rhai ſydd naill ai gwedy eu cerfio, ai gwedy eu toddi, ai mewn vn modd arall yn gyffelybiaethau? neu am y pethau y gwaharddir gwneuthur delwau o honynt? Onid ydyw pop peth ac y ſydd, naill ai yn y nef, ai yn y ddaear, ai yn y dwfr dan y ddayar? Ac onid ydyw delwau Griſt a'i ſaint yn lluniau, naill ai pethau yn y nef, ai yn y ddayar, ai yn y dwfr? Os arhoſant yn yr atteb aeth o'r blaen, fod y gwaharddiadau hyn yn perthyn at eulynod y Paganiaid, ac nid at ein delwau ni, fe argyoeddwyd yr atteb hynny eiſoes ynghylch delw Dduw a'r Drindod yn halaeth, ac ynghylch delw Ghriſt hefyd gan Irencus.

Ac mae 'n amlwg ym-mhellach wrth farn yr hên brif-Eglwys gynt fod yn rhaid deall cyfraith Dduw yn erbyn pob delwau mewn temlau ac Eglwyſydd, ie yn erbyn delwau Chriſt a'i ſaint. Ac Awg. li. 4. c. 3. de ciuitate Dei. Idem In Pſal. 36. & 113. fe farnodd Epiphanius wrth dorri 'r lliain peintiedig yn yr hwn yr ydoedd llun Chriſt, neu ryw ſant, gan ddywedyd fod yn erbyn ein crefydd ni oddef yn y deml neu 'r Eglwys y fath ddelw (fal y dangoſwyd o'r blaen yn halaeth) na waharddodd gair Duw a'n crefydd ni eulynod y cenhloededd yn vnic, ond delw Ghriſt a'i ſaint hefyd.

Ac mae Lactantius gan ddy wedyd fod yn ſiccr na ddichon bod gwir grefydd lle bytho llun neu ddelw (fal y manegwyd o'r blaen) yn barnu, fod yn gwahardd pob delwau a llunniau yn gyſtadl ac eulynod y cenhedloedd, ac oni bai hynny ni buaſai fe 'n dywedyd ac yn cyhoeddi amdanynt mor gyffredinol. Ac mae S. Auſtin, fal y dywedais, yn canmol Marcus Varro am iddo ddywedyd fod crefydd yn buraf oll hêb ddelwau. Ac mae fe 'n dywedyd ei hun fod mwy o rym mewn delwau i wŷr-droi enaid annedwydd, nac i'w ddyſcu a'i gyfarwyddo. Ac mae 'n dywedyd ym-mhellach y gŵyr pob plentyn, ie a phob anifail, nad Duw yw 'r hwn y mae fe yn ei weled. Paham, medd ef, gan hynny y mae 'r Yſpryd glân yn ein rhybyddio ni mor fynych am yr hyn y mae pawb yn ei wybod? I hynny y mae S. Awſtin yn atteb fal hyn, O herwydd, medd ef, pan oſodir delwau mewn temlau, ac mewn vwchder anrhydeddus, a phan dechrauer vnwaith eu haddoli hwy: yno, yn y man y megir gwyniau enbaid Camſynnaeth cyfeiliorn.

Dymma farn S. Awſtin am ddelwau mewn eglwyſydd, eu bod hwy yn y man yn magu camſynniaeth a delwaddoliad. Mae 'r holl Ymmerodron Chriſtionogaidd, yr Eſcobion dyſcedig a holl wyr dyſcedig Aſia, a Grecia, ac Spaen, gwedy ymgynnull mewn Cynghorau ynghoſtantinopol, ac Hiſpaen, er ys ſaithcant ac er ys wythcant o flynyddoedd ac ychwaneg, gan gondemnio a diniſtrio holl ddelwau Chriſt a 'i ſaint a oſodaſe y Chriſtionogion i fynydd, yn tyſtiolaethu eu bod hwy yn deall fod gair Duw yn gwahardd ein delwau ni, cyſtadl ac eulynod y cenhedloedd.

Ac fal yr ſcrifennir yn llyfr y doethineb 14. nad oedd delwau o'r dechrauad, ac na pharhânt hwy Doeth. 14. hyd y diwedd: felly nid oedd ddelwau yn y dechreauad yn yr hên brif-eglwys gynt, a Duw a ganiatao allu eu diniſtr hwy yn y diwedd. O herwydd yr oeddid yn achwyn ac yn cwyno yn fawr ar yr Orig contr. Cellum. Arnob. lib. 4. & 8. Cypri. contra Demearium. hên Griſtionogion o'r brif-Eglwys gynt, nad oedd ganthynt na delwau nac allorau, megis y tyſtiolae tha Origen, Cyprian ac Arnobius.

Paham am hynny meddwch chwi nad oeddynt hwy yn cytuno â 'r cenhedloedd am wneuthur delwau, ond o eiſiau delwau goddef eu digofaint hwy, pe buaſent hwy yn tybied fod yn gyfraithlon wrth air Duw gadw delwau? Mae 'n eglur gan hynny eu bod hwy yn tybied fod pob ryw ddelwau yn anghyfraithlon yn eglwys neu deml Dduw, ac am hynny nad oedd ganthynt hwy vn ddelw, er bod y cenhedloedd yn anfodlon iawn iddynt am hynny, gan ganlyn y rheol hon, Rhaid yw bodloni Duw yn fwy na dynnion.

Ac mae Zephirus, yn ei nodau ar ymddiffynniad Act. 5. 29. Tertulian, yn cynull mai oer a fuaſai ei holl annogaethau difrifol ef, oni byddai ein bod ni yn gwybod hyn dros y cwbl oll, fod Chriſtionogiō yn ei amſer ef yn caſhau delwau, a'u hardd-drwſiad yn fwyaf dynnion yn y byd. Ac mae Irenęus fal y clywſoch chwi yn ceryddu yr Hereticciaid a elwid Gnoſtici, am eu bod yn dwyn delwau Chriſt gydâ hwy. Ac am hyn nid oedd gan yr hên brif-Eglwys gynt (yr hon yn enwedig a ddylid ei chanlyn megis yr ânllygrediccaf, a'r buraf oll) nac eulynod y cenhedloedd, na dim delwau eraill, am fod gair Duw yn eu gwahardd hwy yn hollol. Ac fal hyn y dangoſwyd trwy air Duw, ymadroddion yr hên a thrawon, a barn y brif-Eglwys yr hon oedd buraf a dilygraf oll, fod pob delwau cyſtadl ein delwau ni, ac eulynod y cenhedloedd yn waharddedig trwy air Duw, ac am hynny yn anghyfraithlon, ac yn enwedig mewn eglwyſydd a themlau.

Bellach os ciliant, yn ol eu harfer, at yr atteb hwn, nad ydyw gair Duw yn gwahardd yn hollol wneuthur pob delwau, ond yn gwahardd eu gwneuthur i'w addoli, ac am hynny y dichon fod gennym ddelwau, trwy na addolom hwy, o herwydd nad ydynt onid megis pethau didddrwg didda, y rhai a ellir eu harfer yn ddaionus, neu yn ddrygionus. Yr hyn ond odid oedd barn Damaſcen Damaſe. lib. 4. de orthodox fide. cap. 17. Greg. epiſt. ad Serenum Maſſil. a Gregori y cyntaf, fal y dywedwyd o'r blaen. A dymma vn o 'u hymddiffynniadau gorau hwy am faenteinio delwau, ac a roeſant droſtynt er yn amſer Gregori y cyntaf.

Difai yr ydym gwedy dyfod at eu hail ymddiffyn hwy, yr hon o ran ni byddai fawr waeth gennym er ei chaniatai, o herwydd nid ydym ni nac mor goelfucheddol nac mor gyndyn ac y caſhaom flodau a weithier mewn carpedau, ac mewn brethynnau, ac mewn arras, neu luniau tywyſogion gwedy eu printio a'u hargraffu ar eu harian bath, yr hyn pan welodd Chriſt yn arian - fath Rhufein, nid ydym yn darllen iddo feio arni. Ac nid ydym yn condemnio celfyddydau peintio, a gwneuthuriad delwau megis pethau annuwiol o hanynt eu hunain: ond ni a allem gyfaddef achaniatau iddynt y gellir goddef delwau y rhai nid arferir mewn crefydd, neu yn hytrach mewn ofergoel, y rhai nid addolir, ac nid oes tybygaeth neu enbeidrwydd yr addolir hwy. Ond nid poſſibl allel goſod delwau 'n gyhoedd mewn temlau heb enbeidrwydd eu haddoli, am hynny ni ddylid eu goddef yn gyhoedd mewn temlau neu eglwyſydd.

Ac am hynny nid oedd gan yr Iddewon, i'r rhai y rhoddwyd y gyfraith hon gyntaf, yr hon, am nad oedd yn gyfraith cermonial, onid moeſawl, ſydd yn ein rhwymo ni cyſtadl a hwyntau, fal y mae 'r holl ddoctoriaid yn ei deongl hi; Nid oedd gan yr Iddewon, meddaf, gan y rhai y dylyai fod gwir yſtyr a meddwl cyfraith Dduw, yr hon a roddwyd iddynt mor briodol, yn y dechrauad ddim delwau yn eu temlau yn gyhoedd, megis y dywed Origenes a Ioſephus yn halaeth. Ac yn ol adferaeth y deml ni chytunent hwy mewn modd yn y byd â Herod, Pilat na Petronius i oſod yn vnic ddelwau Orig. contra Celſ. lib. 4. Ioſ. ant. li. 17. cap 8. lib. 18. c. 5. lib. 18. 15. yn y deml yn Ieruſalem, er nad oeddid yn ceiſio ganthynt eu haddoli hwy. Ond hwy a gynnigent eu hunain yn gynt i angau nag y cyfunent vnwaith ar oſod delwau ynnheml Dduw, ac ni oddefent vn gwneuthurwr delwau yn eu plith. Ac mae Origen yn rhoi y rheſwn hwn yn y chwaneg, rhag tynnu eu meddyliau hwy oddiwrth Dduw i Hylldremmu. lygadrythu ar bethau dayarol.

Ac yr ydys yn eu canmol hwy yn fawr am eu zêl ddifrifol i faenteinio gwir anrhydedd Duw a'i wir grefydd. A gwiryw naddaw na 'r Iddewon na 'r Twrciaid (y rhai agaſhânt ddelwau megis pethau gwedy eu gwahardd yn iniawn wrth air Duw) byth i wirionedd ein crefydd ni, yr hyd ybo main trangwydd delwau yn aros yn ein myſc ni, ac ar eu ffordd hwy.

Os goſodant yn ein herbyn y ſarph breſ, yr hon y oſododd Moſes i fynydd, a delwau 'r cherubiaid, neu ddelwau eraill oedd gan yr Iddewon yn eu teml, mae 'r atteb yn hawdd ddigon. Rhaid ini mewn crefydd vfyddhau i gyffredinol gyfraith Dduw, yr hon ſydd yn rhwymo pawb, ac nid canlyn ſiamplau neilltuol ganadiad, y rhai nid ydynt ymddiffyn ini. Os amgen ni a allem wrth yr vn rheſwm dderbyn ailwaith yr enwaediad, aberthau anifeiliaid, a deddfau eraill a oddeſwyd i'r Iddewon. Ac ni all delwau y Caerubiaid y rhai a oſodid mewn lle dirgel, lle na allai neb ddyfod attynt, na'i gweled, fod yn ſiampl ini i oſſod delwau i fynydd yn gyhoedd mewn Temlau ac Eglwyſydd. Ond i adel yr Iddewon heibio. Lle y dywedant y gellir goddef delwau mewn eglwyſydd a themlau, megis pethau diddrwg didda, trwy na addoler hwynt. O'r gwrthwyneb yr ydym ninnau yn dywedyd nad ydyw delwau Duw, ein Iachawdwr Chriſt a'r Saint, y rhai a oſodir i fynydd, yn gyhoedd yn ein Temlau a'n Eglwyſydd ni, y rhai ydynt leoedd gwedy eu hordeinio i waſanaethu Duw, nac yn bethau diddrwg di dda, nac yn bethau a ellid eu goddef, ond pethau yn erbyn cyfraith a gorchymmyn Duw, yn ol y cyfiaithiad hefyd y maent hwy eu hunain yn eu wneuthur.

Yn gyntaf fe addolwyd yr holl ddelwau a oſodwyd i fynydd yn gyhoedd gan y rhai gwirion annyſcedig yn y man a 'r ol eu goſod hwy i fynydd, ac mewn ychydig ennyd ar ol hynny, gan y rhai doeth a'r rhai dyſcedig hefyd.

Yn ail, am fod yn eu haddoli hwy mewn llawer o leoedd yn ein hamſer ni.

Yn drydedd am fod yn ammhoſſibl goddef delwau Duw a Chriſt a'i ſaint yn enwedig mewn eglwyſi, dros vn ennyd, heb eu haddoli hwy, ac na ellir gochelyd nac ymgadw rhag delwaddoliad (yr hwn ſydd ffieiddiaf peth ac a ddichon bod ger bron Duw) heb ddiniſtr a diſtriwio delwau, a lluniau mewn temlau ac eglyſydd. O herwydd bod delwaddoliad i ddelwau, yn enwedig mewn temlau ac eglwyſydd, yn gyſſylltyn diwahanedig (fal y dywedant) megis y mae delwau mewn eglwyſydd a delwaddoliad yn mynd ynghŷd, ac am hynny ni ellir ymgadw rhag y naill, oni ddiniſtrir y llall, yn enwedig mewn lleoedd cyhoedd. Ac am hynny gwneuthuriad delwau yn enwedig i'w goſod mewn temlau ac eglwyſydd, y lleoedd a nailltuwyd yn briodol i waſanaeth Duw, nid yw ddim amgen nâ 'u gwneuthur i arfer crefydd ac nid yw yn vnic yn erbyn y gorchymmyn hwn, Na wna vn rhyw ddelw, onid hefyd yn erbyn hwn, na oſtwng iddynt ac na addola hwynt. O herwydd gwedy eu goſod i fynydd hwy a addolwyd a addolir yn awr, ac ar ol hyn hefyd.

Ac ymma y profir yn gwbl ac yn gyflawn y peth a Yſonnwyd am dano. grybwyllwyd yn-nechrau y traethawd hwn, hynny yw mai 'r vn fath bethau yw ein delwau ni ac eulynod y cenhedloedd, cyſtadl yn y pethau eu hunain ac yn hyn hefyd, am fod o'r blaen ynarfer, yr arferir yn awr, ie ac byth, o addoli ein delwau ni, yn yr vn agwedd ac yr addolwyd eulynod y cenhedloedd, yr hyd y goddefir hwy mewn temlau ac eglwyſydd. O hyn y canlyn nad ydyw ein delwau ni, na buont er ioed, ac na byddant byth, onid eulynod ffiaidd: ac am hynny nid pethau diddrwg didda ydynt. Aphob vn o'r pethau hyn a brofir mewn trefn, megis y canlyn ar ol hyn.

Ac yn gyntaf mai yr vn fath bethau yw ein delwau ni, ac eulynod y cenhedloedd o hanynt eu hunain, mae 'n eglur ddigon, gan mai aur, arian neu ryw fettel arall, cerrig, coed, clai neu bridd yw defnydd ein delwau ni, megis yr oedd defnydd eulynod y cenhedloedd, ac felly gwedy eu toddi, neu eu bwrw, neu eu cerfio, neu eu naddu, neu eu llunio a'u ffurfio mewn rhyw ffordd arall, yn ol llun neu gyffelybiaeth gŵr neu wraig, Nid ydynt onid meirwon a mudion, gwaith dwylo dyn, a geneuau iddynt ac heb ddywedyd, llygaid ac heb weled, dwylo ac heb deimlo, traed ac heb gerdded: ac felly cyſtadl mewn defnydd ac mewn llun maent yn gyffelyb yn hollol i eulynod y cenhenloedd, yn gymmaint a bod yr holl enwau a roddir i'r eulynod yn yr Scrythyrau, yn wir yn ein delwau ni. Ac am hynny nid oes ammau na chwymp y melldithion a gynhwyſir yn yr Scrythyrau, ar wneuthur-wyr ac addolwyr pob vn o honynt.

Yn ail y profir fod yn eu addoli hwy yn ein hamſer ni, yn yr vn modd ac agwedd, ac yr addolid eulynod y cenhedloedd gynt. Ac o herwydd bod delw-addoliad yn ſefyll yn bennaf yn y meddwl, fe a brofir mai 'r vn fath dŷb a barn a fu, ac y ſydd gan ymddiffynwyr delwau yn ein hamſer ni, am y ſaint y rhai y maent yn gwneuthur ac yn addoli eu delwau, ac oedd gan yr hên genhedloedd am eu duwiau. Ac ar ol hynny y dangoſir fod amddiffynwyr ac addolwyr delwau yn ein plith ni, yn arfer gynt ac etto, yr vn deddfau ac arferon o anrhydeddu ac addoli delwau, ac a arferai y cenhedloedd ger bron eu heulynod. Ac am hynny eu bod hwy yn gwneuthur delw-addoliad cyſtadl oddifewn, ac oddiallan, fal yr oedd y cenhedloedd yr annuwiol ddelwaddolwyr hynny.

Ac ynghylch y rhan gyntaf am dŷb ddelw-addolaidd ein amddiffynwyr delwau ni, Pa beth adolwg ydyw y fath ſaintiau yn ein plith ni, i'r rhai yr ydym yn rhoddi ymdiffynniad rhyw wledydd, gan yſpeilio Duw o'i anrhydedd, onid Dij tutelares, gwarchad-dduwiau y cenhedloedd delw-addolaidd? Cyfryw ac ydoedd Belus i'r Babiloniaid a'r Aſſyriaid, Oſiris ac Iſis i'r Aiphtiaid, Vulcan i'r Lemniaid, ac eraill o'r fath hynny. Pa beth ydyw y Saint i'r rhai yr appoyntir cad wedigaeth rhyw ddinaſſoedd, onid Dij pręſides, Goruwchdduwiau. rhag-dduwiau y delwaddolaidd Genhedloedd? Cyfryw ac ydoedd Apollo yn Delphos, Minerua yn Athen, Iuno yn Carthag, yn Rufain Quirinus? Pa beth yw 'r ſaint i'r rhai yn wrthwyneb i arfer y brif-eglwys gynt, yr adailadir Temlau ac Eglwyſydd, ac y cyfodir allorau, onid Dij Patroni, Diffryd. differ-dduwiau y delw-addolaidd Genhedloedd? Cyfryw ac ydoedd Iupiter yn y Capitol, Venus yn-nheml Paphus, Diana yn-nheml Epheſus, a'r cyffelyb.

Och, ôch, fe dybygid wrth ein tŷb ni a'n gweithred, na ddyſcaſom ni yn crefydd o air Duw ond oddiwrth feirdd y Paganiaid, y rhai a ddywedant, Exceſſere omnes adytis ariſque relictis, Dij quibus imperium hoc ſteterat, &c. y duwiau a gadwent ein teyrnas a ddifannaſant, hwy a adawſont y Temlau, ac a wrthodaſont yr allorau.

Ac lle mae i vn ſant lawer o ddelwau mewn llawer o leoedd, mae i'r ſant hwnnw lawer o enwau, yn dybyccaf ac y ddichon bod i'r cenhedloedd. Pan glywoch ſon am fair o Walſingam, Mair o Ipſwich, Mair o Wilſdon, Mair o ben Rhys, Mair o Fargam a'r fath leoedd, pa beth yw hyn onid dynwared y Cenhedloedd delw-addolaidd? Diana Aegrotera, Diana Coryphoea, Diana Epheſia, & Venus Cypria, Venus Paphia, Venus Gnidia. Trwy 'r hyn y meddyliant yn eglur fod i'r ſaint er mwyn y delwau drigfae yn y lleoedd hynny, ie yn y delwau eu hunain, yr hyn yw gwreiddyn eu delw-addoliad hwy. O herwydd lle nad oes delwau nid oes iddynt y fath gyfryngau.

Mae Terentius Varro 'n dangos fod trychant o Iupiterau yn ei amfer ef, ac nid anamlach oedd Venus a Diana. Ac nid oedd gennym ninnau lai o rifedi o Griſtophorau, arglwyddeſau Mair, a Mair Fagdalen, a ſaint eraill. Mae Oenomaus a Heſiodus yn manegi fod yn eu hamſer hwy ddegmil ar vgain o dduwiau. Yr ydwyf yn tybied nad oedd llai o ſaint gennym ninnau, i'r rhai y rhoddwyd yr anrhydedd a ddylai Dduw ei gael. Ac nid yſpeiliaſant yn vnic y gwir fywiol Dduw o'i anrhydedd dyledus mewn Temlau, dinaſoedd, gwledydd a thiroedd, trwy 'r fath ddychymm ygion ac y gwnaeth y delw-addolaidd Genhedloedd hynny yn y blaen: ond mae ganthynt ſaint nailltuol hefyd i'r mor a'r dyfroedd, megis yr oedd gan y cenhedloedd dduwiau i'r mor ac i'r dyfroedd. Megis Neptun, Triton, Nereus, Caſtor, Pollux, Venus, a'r fath hynny, yn lle y rhai y daeth S. Chryſoſtom, S. Clement, a llawer eraill, ond yn enwedig yr Arglwyddes fair, i'r hon y cân y llongwyr Aue maris ſtella, hanphych-well ſeren y mor. Ac ni ddiangodd y tân hefyd rhag eu dychmygion delw-addolaidd hwy, o blegid yn lle Vulcan a Veſta duwiau 'r tân ym-mhlith y cenhedloedd, fe a oſododd ein gwyr ni S. Agatha, ac y maent yn gwneuthur Llythyrennau. llythyrau ar ei dydd gwyl hi i ddiffod tân â hwy. Mae gan bob celfyddyd a chan bob galwedigaeth ei ſant enwedigawl, megis Duw priodol. Mae gan Yſcolheigion S. Nicholas, a S. Gregori, a chan beintwyr S. Luc, Ac nid oes ar filwyr ddiffyg eu Mars, nac ar gariadon eu Venus ym-mhlith Chriſtionogion. Mae ſant neilltuol i bob clefyd, megis duwiau i'w iachau hwy. S. Roch a S. Anthoni i'r frech fawr. I'r Y clwyf digwydd. gloeſion S. Cornelius, ac ir ddannwydd S. Apolin, &c. Ac nid oes ar anifeiliaid eiſiau duwiau gydâ ni, S. Loe yn cadw 'r ceffylau, S. Anthoni yw bugail y moch, &c. A pha le y mae rhagluniaeth Duw a'u anrhydedd yn hynny o amſer? Yr hwn a ddywaid mi piau 'r nefoedd, mi piau 'r ddayar, yr holl fyd a chymmaint oll ac ſydd ynddo, myfi ſydd yn-rhoddi goruwchafiaeth ac yn goreſcyn, o hanofi y mae cyngor a chynhorthwy, &c. oni byddafi yn cadw 'r ddinas, ofer y mae y gwilwyr yn ei chadw hi, yr Arglwydd a geidw ddŷn ac anifail. Ond ni adawſom ni iddo na nef na dayar na dwfr, na glwad, na dinas, na heddwch na rhyfel i'w rheoli, a'u llywodraethu, na dynnion nac anifeiliaid na chlefydon i'w iachau, fal y gallai wr duwiol weiddi mewn llid a zêl, Oh nef, dayar a moroedd, i ba ynfydrwydd ac annuwioldeb yn erbyn Duw y cwympodd dynion? Pa ddiyſtyrwch y mae 'r creaduriaid yn ei wneuthur i'w creawdwr, a'u gwneuthurwr. Ac os weithiau y cofiwn Dduw, etto am ein bod ni yn ammau naill ai ei allu ef, ai ei ewyllys i gynorthwyo, yr ydym yn cyſſylltu ag ef ryw gynorthwywr arall, megis pe byddai yn Nomen adiectiuum. Enw gwan: gan arfer y gairiau hyn, Y rhai ydynt yn dechreu dyſcu a ddywedant, Duw a S. Nicholas fytho cynorthwywr imi: wrth yr vn a fytho yn Diſtrewi. tiſio. entrewi y dywedir Duw a ſaint Ioan: wrth geffyl, Duw a S. Loy a'th gadwo di. Fal hyn yr ydym ni gwedy myned fal ceffyl a mul, yn y rhai nid oes dim deall: O blegid nid oes vn Duw onid vn yn vnic, yr hwn trwy ei allu a'i ddoethineb awnaeth bob peth, a thrwy ei rag-luniaeth ſydd yn eu llywodraethu hwy, a thrwy ei ddaioni yn eu maenteinio ac yn eu cadw hwy. Onid ydyw pob peth yntho ef, o hano ef, a thrwyddo ef? Paham yr ydwyd yn troi oddiwrth y creawdwr at y creaduriaid? Arfer y cenhedloedd a'r delwaddolwyr yw hyn. Ond Chriſtion ydwyti, ac am hynny trwy Griſt yn vnic y mae iti ddyfodiad at Dduw Dâd, a chynorthwy gantho fe yn vnic.

Nid ydys yn ſcrifennu hyn er gwradwydd i'r ſaint eu hunain, y rhai oeddynt wir waſanaethwyr Duw, ac a roeſant bob anrhydedd iddo ef, heb gymmeryd dim anrhydedd iddynt eu hunain, y rhai hefyd ydynt eneidiau bendigedig gyd â Duw: Ond yn erbyn ein ffolineb a'n annuwiolder ni, am ein bod yn gwneuthur o weiſion cywir Duw, gaudduwiau, gan roddi iddynt hwy allu Duw, a'r anrhydedd ſydd ddyledus iddo ef yn vnig. Ac am fod gennym y fath dŷb am allu a pharodol gynnorthwy y ſaint, mae 'n holl Legendę, hymnau, canlyniadau a'n offerennau ni yn cynwys yndynt eu hiſtoriau, eu canmolau a'u clod hwy a gweddiau arnynt, ie a phregethau hefyd am danynt, ac yn cynnwys eu clod hwy 'n hollol, gan oſod gair Duw heibio yn llwyr. A hynny yr ydym ni yn ei wneuthur yn gwbl i'r ſaint yn gyffelyb ac y gwnai y cenhedloedd delw-addolaidd i'w gaudduwiau.

O blegid y fath opinionau y rhai oedd gan ddynnion am ddynnion marwol, er mor ſanctaidd oeddynt, yr ſcrifennodd yr hên dadau Chriſtianogaidd yn erbyn gaudduwiau y cenhedloedd: ac fe a ddiniſtrodd tywyſogion Chriſtionogawl eu delwau hwy, y rhai pe byddent byw yn awr a ſcrifennent yn ddiddau yn erbyn ein gauopinionau ni am y ſaint, ac a ddiniſtrent eu delwau hwy hefyd. O herwydd eglur yw fod gan ein hamddiffynwyr delwau ni yr vn dŷb am y ſaint, ac oedd gan y cenhedloedd gynt am eu gaudduwiau, a hynny ſydd yn peri iddynt hwy wneuthur delwau iddynt, megis y gwnai y cenhedloedd i'w duwiau. Os dywedant nad ydynt yn gwneuthur ſaint ond yn gyfryngwyr at Dduw, ac megis yn ddadleuwyr droſtynt am y pethau y maent yn ei geiſio gan Dduw. Mae hynny yn inion yn ol arfer delwaddolwyr y cenhedloedd, yn eu gwneuthur hwynt o ſaint yn dduwiau y rhai a elwir Dij medioximi, i fod yn gyfryngwyr ac yn ddadleuwyr, ac yn gynorthwywyr i Dduw, megis pe byddai fe heb glywed, neu rhag ei ddyffygio ef wrth wneuthur pob peth ei hunan. Felly y dyſcai y cenhedloedd fod vn gallu goruwchaf yr hwn a weithiau trwy eraill megis cyfryngwyr, ac felly y gwnaent yr holl dduŵiau yn ddaroſtyngedig i'r dynghedfen: megis y mae Lucian yn dywedyd yn ei ymddiddanion, fod Neptun yn eiriol ar Mercuri gael o hono chwedlaua â Iupiter. Ac am hynny Yn hyn hefyd mae 'n eglur iawn fod ein ymddiffynwyr delwau ni yn vn mewn opinionau a delw-addolwyr y cenhedloedd.

Mae yn ol yn y drydedd ran, fod yr vn fath ceremoniau a defodau ganthynt hwy, wrth addoli ac anrhydeddu delwau eu ſaint, ac y arfer delw-addolwyr y cenhedloedd wrth anrhydeddu eu heulynod.

Yn gyntaf beth a feddylir wrth fod Chriſtionogion yn ol ſiampl y cenhedloedd delw-addolwyr, yn mynd i bererindodau i ymweled â delwau, a hwyntau â'r cyffelyb ganthynt gartref, ond am eu bod yn tybied fod mwy o ſancteiddrwydd mewn rhai o'r delwau, nag mewn eraill, yn y modd yr ydoedd y delw-addolaidd genhedloedd yn tybied: yr hon yw 'r ffordd neſaf i'w dwyn hwy i ddelw-addoliad, wrth eu haddoli hwy, a hynny yn iniawn yn erbyn gair Duw, yr hwn a ddywaid, Amos 5. 4, 5. Ceiſiwch fi a byw fyddwch, ac nac ymgeiſiwch a Bethel, ac nag ewch i Gilgal, ac na thramwywch i Beerſeba.

Ac yn erbyn y rhai oedd ac ofergoel ganthynt mewn ſancteiddrwydd y lle, megis pe clywid hwy yn gynt er mwyn y lle, gan ddywedyd, Yr oedd ein tadau 'n addoli ar y mynydd hwn, ac meddwch chwithau yn Ieruſalem y mae y lle y dylaid addoli. Fe a gyhoeddodd ein Iachawdwr Chriſt, Cred fi fod yr awr yn dyfod y pryd nad Ioan. 4. 21, 13. addolwch y Tad yn y mynydd hwn, nac yn Ieruſalem, ond y gwir addolwyr a'i addolant y Tad mewn Yſpryd a gwirionedd. Ond yr ydys yn gwybod yn rhy dda fod wrth y fath bererindodau yn addoli yn fwy Arglwyddes Venus, a'i Mâb Cupid, yn bechadurus yn y cnawd: nag yr addolid y Tad a'n Iachawdwr Ieſu Griſt yn yr Yſpryd.

A chymheſſur iawn oedd (fal y dywaid Saint Pawl) i'r rhai a gwympaſent i ddelw-addoliad yr hyn oedd odineb yſprydol, gwympo hefyd i Ruf. 1. 26. oddineb cnawdol a phob aflendid, trwy iniawn farn Duw, yn eu rhoi hwy i fynydd i wyniau gwarthus.

Pa beth a feddylir wrthweled Chriſtionogion yn bennoethion ger bron delwau yn ol arfer delw-addolwyr y cenhedloedd? y rhai pe byddai ynddynt na ſynwyr na diolchgarwch a benlinient ger bron dynion, ſaeri, Go faint. gofion, Saermaen. maeſwnnaid, toddwyr, ac eurychod eu gwneuthurwyr a'u llunwyr hwy: trwy waith y rhai y cawſont hwy yr anrhydedd hwy: y rhai oni buaſai hynny y fuaſent yn glampiau bryntion, anweddaidd o glai, neu bridd, neu yn ddrylliau o goed, cerrig, neu fettel, heb na llun na diwgad, ac felly heb na chymheriad nac anrhydedd: Megis y mae 'r eulyn hynny yn cyffeſſu ynghaniaid y bardd Paganaidd gan ddywedyd. Vnwaith yr oeddwn yn Horotius. bren dibris ac fe a'm gwnaethpwyd yn awr yn Dduw.

Pa ynfydrwydd yw i ddyn yr hwn y mae rheſwn a bywyd, ymoſtwng i ddelw farw ddiſynwyr, gwaith ei ddwylo ei hun? onid yw yr ymgrymmiad Gene. 23. 7. a'r 33. 3. a'r penliniad hwn yn addoliad, yr hwn a waharddir mor ddifrif trwy air Duw. Gwybydded a chydnabydded y rhai a gwympant ger 1. Bren. 1. 16. bron delwau 'r ſaint, eu bod hwy yn rhoddi i gyffion a cherrig meirwon yr anrhydedd ni fynne y ſaint eu hunain, Petr, Pawl a Barnabas, ei roi iddynt eu hunain, pan oeddynt fyw: a'r hwn y Act. 10. 25. Act. 14. 1. 4. Gwel Ioan. 19. 10 mae Angel Duw yn ei wahardd ei roddi iddo.

Ac os dywedant nad ydynt yn rhoddi yr anrhydedd hynny i'r ddelw, ond i'r ſant, yr hwn y mae hi yn ei ar wyddoccau, fe a ellir eu argyoeddi hwy o ffolineb, am gredu eu bod yn bodloni 'r ſaint â'r anrhydedd hwnnw, yr hwn a gaſhant hwy megis yſpail o anrhydedd Duw. O herwidd nid ydynt hwy yn anwadal, ond yn awr gan fod ganthynt fwy o ddeall a gwreſoccach gariad tuag at Dduw, mae 'n gaſſach ganthynt ddwyn dyledus anrhydedd Duw oddiarno: ac yn awr pan ydynt megis angylion Duw, maent gyd ag angylion Duw 'n gwachelyd cymeryd iddynt eu hunain trwy gyſſegrledrad, yr anrhydedd ſydd ddyledus i Dduw.

Ac ymma hefyd yr argyoeddir eu hanwireddus gyfrannad hwy o anrhydedd i Latria a Dulia, lle y mae yn eglur na all ſaint Duw oddef rhoddi na chynnyg iddynt gymmaint ac addoliad oddiallan. Ond mae Sathan gelyn Duw, gan drachwantu lledratta anrhydedd Duw oddiarno, yn chwenychu yn fawr gael yr anrhydedd hwnnw iddo ei hun. Am hynny nid ydyw y rhai a roddant i'r creadur yr anrhydedd ſydd ddyledus i'r creawdwr, yn gwneuthur gwaſanaeth cymmeradwy gan neb o'r ſaint, y rhai ydynt anwylion Duw; ond i Sathan gelyn tynghedig Marwol Duw a dŷn. Ac nid yw Haeru. honni a'r y ſaint eu bod hwy yn chwenych y fath dduwiol anrhydedd ddim amgen ond eu cyffeithio hwy â'r gwarth a'r gwaradwydd caſaf a diawleiddiaf ac a ddichon bod: ac yn lle ſaint gwneuthur o honynt ddiawliaid a chythraulaid, cynheddfau y rhai yw ymarddel eu hunain a'r anrhydedd ſydd ddyledus i Dduw yn vnic. Ac hefyd lle maent yn dywedyd nad ydynt yn addoli y delwau, megis yr addole y cenhedloedd eu heulynod, onid Duw a'i ſaint y rhai y mae y delwau yn eu harwyddoccau, ac am hynny nad ydyw eu gorchwylion hwy ym-mlaen y delwau, yn gyffelyb i eulyn-addoliad y cenhedloedd ger bron eu heulynod, Mae S. Awſtin, Lactantius a Chlemens yn proſi yn eglur eu bod hwy wrth yr atteb hwn yn vn yn hollol ac eulyn-addol wyr y cenhedloedd.

Mae 'r cenhedloedd a fynnant fod o'r grefydd buraf, medd S. Awſtyn, yn dywedyd, nid ydym ni Awguſt. in Pſal. 135. yn addoli 'r delwau, ond wrth y ddelw gorphorol yr ydym yn edrych ar arwyddion y pethau a ddlyem ni eu haddoli. Ac mae Lactantius yn dywedyd, Lact. lib. 2. hiſt. fe a ddywed y cenhedloedd, nid ydym ni yn ofni 'r delwau ond y rhai y gwnaed y delwau ar eu llun, yn enwau y rhai y cyſſegrwyd y delwau. hyd Hyn Lactantius.

Ac mae S. Clement yn dywedyd, mae 'r ſarph Lib 5. ad Iacobum Domini. hon y diafol yn adrodd y geiriau hyn trwy enau rhyw wyr, Yr ydym yn addoli delwau gweledig er anrhydedd i'r anweledig Dduw. Yr hyn, medd ef, yn ſiccr ſydd gelwydd goleu. Welwch eu bod hwy wrth arfer yr vneſcuſſon ac a oſode y cenhedloedd droſtynt, yn dangos eu bod hwythau yr vn fath a'r cenhedloedd mewn delw-addoliad. O herwydd er yr eſcuſon hyn, mae ſaint Awſtin, Clemens a Lactantius, yn Profi. prwfo eu bob hwy yn ddelwaddolwyr. Ac mae Clemens yn dywedyd, mai 'r ſarph y diawl ſydd yn dodi 'r eſcuſon hyn yngeneuau delw-addolwyr. Ac mae 'r Scrythyrau er yr eſcus hynny, yn dywedyd eu bod hwy yn addoli coed acherrig, fal y mae ein ymddiffynwyr delwau ninnau 'n gwneuthur. Ac o blegid hynny y mae Ezechiel yn galw Duwiau yr Aſſyriaid yn goed a cherrig, êr nad oeddynt onid delwau eu duwiau hwy.

Felly yr ydys yn galw ein delwae Dduw, a'n delwau ſaint ninnau ar enw Duw, a'i ſaint, yn ol arfer y cenhedloedd.

Ac mae Clement yn dywedyd fal hyn yn yr vn llyfr, ni feiddiant roddi enw yr Ymmerodr i neb arall, o herwydd fe a goſpa ei droſeddwr a'i fradychwr Lib. 5. ad Iacobum Domini. yn y man. Ond hwy a feiddiant roddi enw Duw i arall am ei fod ef er mwyn edifeirwch yn goddef ei droſeddwyr. Ac felly y mae 'n delwaddolwyr ninnau yn rhoddi enwau Duw a'i ſaint a'r anrhydedd hefyd ſydd ddyledus i Dduw, i'w delwau, fal y rhoe eulyn - addolwyr y cenhedloedd i'w eulynod.

Pa beth yw eu bod hwy fal y gwnaeth delwadolwyr y cenhedloedd yn ennynni canwyllau i'w delwau hanner dydd, neu am hanner nos, ond eu hanryddeddu hwy â hynny? O blegid, achos arall nid oes i wneuthur hynny. O herwydd byd y dydd nid rhaid wrthi: ond diaurheb o ynfydrwydd er ioed ydoedd, ennynnu canwyll am hanner dydd, a'r nos nid gwiw emynnu canwyll ger bron y dall: ac nid oes i Dduw nac angen nac anrhydedd o hynny.

Ond gwych yw 'r hyn a ſcrifennodd Lactantius er ys yngh ylch mil o flynyddoedd, am y fath ennyn canwyllau, Ped edrychent hwy ar nefol oleuni 'r haul, medd ef, hwy ddeallent nad oedd rhaid i Dduw wrth eu canwyllau hwy, yr hwn i waſanaethu dyn a wnaeth y fath oleuni têg. Ac lle mae mewn angylch bach yr haul, yr hwn o blegid ei belled o ddiwrthym y dybygid nad yw fwy nâ phen gwr, cymmaint o oleuni, nad yw golwg llygad dŷn yn abl i edrych arno; ond os edrych dyn arno gan hyll dremmu ennyd yn ddianwadal, Lib. 6. Inſtitu. ca. 2. fe a dywyllir ac a ddellir ei lygaid ef a thywyllwch; Pa faint oleuni, pa faint eglurwch a dybygwch ei fod gyd â Dduw, gyd â'r hwn nid oes na nos na thywyllwch, &c. Ac yn y mann ar ol hyn mae fe'n dywedyd, Am hynny a dybygid ei fod ef yn ei iawn gôf yr hwn a offrwm oleu canwyll gŵyr i roddwr y goleuni?

Mae fe 'n gofyn goleu arall oddiwrthym ni yr hwn nid yw fyglyd onid eglur a goleu, hynny yw goleuni 'r meddwl a 'r deall. Ac yn y man ar ol hynn y mae fe 'n dywedyd, Ond mae 'n anghenrhaid i'w Duwiau hwy am eu bod yn ddayarol, wrth oleu, rhag iddynt aros mewn tywyllwch, y rhai y mae eu haddolwyr am nad ydynt yn deall vn peth nefol yn tynnu'r grefydd a arferant i waered i'r ddayar, yn yr hon am ei bod yn dywyll wrth naturiaeth y mae yn rhaid wrth oleuni. Wrth hynny nid ydynt yn haeru fod gan eu duwiau ddim deall nefol, ond yſtyr dayarol fal gan ddynnion. Ac am hynny y credant fod y pethau hynny yn anghenrheidiol iddynt ac yn he ffiawn ganthynt, megis y maent i ninnau, y rhai ſydd rhaid ini wrth fwyd pan fytho newyn arnom, ac wrth ddiod pan fythom ſychedig, ac wrth ddillad pan fythom anwydog, acwrth oleu canwyll i'n goleuo gwedy machludo 'r haul.

Hyd hyn Lactantius, a llawer ychwaneg yr hyn a fyddai rhy hir ei ſcrifennu ynghylch enynnu canwyllau mewn temlau gerbron eulynod neu ddelwau er mwyn crefydd: trwy'r hyn yr ymddengys ynfydrwydd y pethau hyn, a'n bod ni hefyd mewn opiniwn a gorchwylion yn cyfuno 'n hollol a delwaddolwyr y cynhedloedd, yn ein canwyll grefydd. Pa beth yw eu bod hwy yn ol ſiampl delwaddolwyr y cenhedloedd yn arogl-darthu ac yn offrwm aur i ddelwau, yn crogi bagleu, cadwynau, llongau coeſau, braichau a gwyr a gwragedd cyfain o gŵyr ger bron delwau, megis pe byddid yn ein gwared ni trwyddynt hwy neu'r ſaint (fal y dywedant) oddiwrth gloffni, clefyd, caethiwed neu dorrad llongau.

Onid hyn yw Colere imagines, addoli delwau, yr hyn a waharddir mor ddifrif yngair Duw? Os gwadant hyn, darllenant yr 11. o'r Prophwyd Daniel, yr hwn a ddywaid am yr Anghriſt, Duw Daniel 11. 38. yr hwn nid adwaenai ei dadau a ogonedda ef, ag aur ac arian ac â meini gwerthfawr, ac ag anwyl bethau eraill: a'r gair lladin yn y man hynny yw Colit. Yn yr ail o'r Croniclau yr ydys yn galw 'r holl ddeddfau a'r Ceremoniau oddi allan, megis 2. Cro. 29. 28. arogl darthu a'r fath bethau trwy y rhai yr anrhydeddir Duw yn ei deml, Cultus: hynny yw, addoliad, yr hwn a waharddir yn galed trwy air Duw ei roddi i ddelwau. Onid ydyw yr holl hiſtoriau Eglwyſig yn dangos i'n Merthyron ſanctaidd ni yn gynt nag yr ymoſtyngent, y penlinient, neu yr offrymment ronyn o arogldarth ger bron delw, neu eulyn, oddef mil o rywiau angau Erchyll. echrydus creulon? Ac er amled eu eſcuſon hwy, etto eglur yw fod yn gwneuthur yr holl bererindodan ymma, yn arogldarthu, yn ennyn canwyllau, yn crogi baglau, cadwynau, llongau, braichiau, coeſau, gwŷr a gwragedd o gŵyr: yn penlinio, yn cyfodi dwylo, a'r cwbl i'r delwau, o herwydd lle nid oes delwau, neu lle ni bûont, a lle tynnmyd hwy ymmaith, nid ydys yn gwneuthur y fath bethau. Ond yr ydys yn awr, gwedy eu tynnu hwy ymmaith, yn gwrthod ac yn gadel yn wâg yr holl leoedd a fynnuch-gyrchid iddynt pan oedd delwau yno: ie yn awr maent yn ffieiddio ac yn caſhau y lle yn farwol, yr hyn ſydd arwydd eglur eu bod hwy yn gwneuthur y peth a wnaethant o'r blaen, er mwyn y delwau.

Am hynny pan welom wyr a gwragedd yn myned yn fagadau i bererindodau at eulynod, yn penlinio o'u blaen hwy, ac yn cyfodi dwylo ger eu bronnau hwy, yn goſod canwyllau ac yn arogldarthu yn eu gwydd hwy, yn offrwm aur ac arian iddynt, yn crogi i fynu longau, baglau, cadwynau, gwyr a gwraged o gŵyr, ger eu bron hwy, gan haeru fod eu iechyd a'u cadwedigaeth yn dyfod oddiwrthynt hwy, neu 'r ſaint, y rhai y maent hwy yn eu harwyddoccau, fal y mynnent hwy i ni gredu: Pwy, pwy, meddaf, a ddichon ammau nad ydyw ein ymddiffynwyr delwau ni wrth gytuno a delw-addolwyr y cenhedloedd ym-mhob opinionau delwaddolaidd, delwau a ceremoniau oddi allan, yn cytuno a hwy hefyd mewn gwneuthurdeb delw-addoliad ffiaiddiaf?

Ac ichwanegu yr ynfydrwydd hwn, yr adroddai, yr haerai, ac y gwaſcarai ddynnion melldigedig, drwg, y rhai yr ydoedd y delwau hyn yn eu cadwedigaeth, er mwyn cael mwy o fudd ac ennill, yn ol ſiampl delwaddolwyr y cenhedloedd, trwy airiau celwyddog ac ofer chwedleu ſcrifennedig, lawer o wrthiau delwau, megis darfod danfon y ddelw honno trwy wrthiau o'r nef, megis Paladium neu Magna Diana Epheſiorum: darfod cael delw ar ll yn rhyfedd yn y ddayar, fal y cafad pen y gwr yn y Capitol, neu ben y ceffyl yn Capua: darfod hebrwng rhyw ddelw arall gan angylion: dyfod o vn arall o bell o'r dwyrain i'r gorllewin, fal y ſymmudodd arglwyddes Ffortun i Rufain gynt: y cyfryw ddelw i'r arglwyddes fair a wnaeth S. Luc, yr hwn er mwyn hynny y wnaethont hwy o phyſigwr yn beintiwr: vn arall ni allai gant iau o ychen ei hyſcog, megis Bona dea, yr hon ni allai long ei dwyn: neu Iupiter Olympius, yr hwn a chwarddodd watwar am ben y crefftwyr a geiſiaſant ei fymmud ef i Rufain: a rhai o honynt er eu bod yn gerrig, ac yn galed, a wylaſant o wir dirionwch calon, a thoſturi: rhai a chwyſaſant megis Caſtor a Pholux wrth gynorthwyo y rhai a garent, mewn rhyfeloedd, megis y gwna maen Marbl. mynor ar dywydd lled-wlyb: rhai o hanynt a ddywedaſant yn rhyfeddach nag y dywad aſſen Balam yr hwn yr oedd bywyd ac anadlynddo: fe ddaeth y cryppul hwn a hwn ac a gyfarchodd i'r ſaint o dderwen ymma, ac fe a iachawyd yn y man, ac edrychwch ar ei faglau ef: fe addunedodd hwn a hwn ar dywydd creulon a thymeſtl, adduned i ſaint Chriſtopher, ac ſe a ddiangodd, gwelwch ymma ei long ef o gŵyr: fe ddiangodd hwn a hwn o garchar trwy nerth S. Leonard, gwelwch lle mae ei gadwynau ef. Ac anneirifo filoedd o wyrthiau eraill a adroddid trwy 'r cyffelyb neu etto ddigywilyddiach gelwyddau.

Dymma fal y mae ein hymddiffyn wyr delwau ni yn rhoi o ddifrif i'w holl ddelwau yr holl wyrthiau a ddychymmygodd y cenhedloedd am eu heulynnod hwythau.

A phe cydnabyddid ddarfod gwneuthur rhyw weithredoedd rhyfedd, lle mae delwau yn aros, trwy dwyll diafol, (o herwydd eglur yw mai celwyddau a ddychymmygid, a dichellgar hudoliaeth dynion oedd y rhan fwyaf) etto ni chanlyn o hynny y dylid eu hanrhydeddu hwy na 'u goddef, yn fwy nag y goddefodd Ezechias y ſarph bres heb ddiniſtr pan addolwyd hi, er ei goſod hi i fynu trwy orchymmyn Duw, a'i phrofi hefyd trwy wyrthiau cywir mawrion: o herwydd fe a iachawyd yn y man gynnifer ac a edrychodd arni: ac ni ddylei wyrthiau ein hannog ni i wneuthur yn erhyn gair Duw. O herwydd fe a ragrybyddiodd yr Scrythyrau ni y bydd teyrnas Anghriſt galluog mewn gwyrthiau a rhyfeddodau, i gadarn dwyllo 'r holl rai gwrthodedig.

Ond yn hyn y maent yn rhagori ar ynfydrwydd ac annuwioldeb y cenhedloedd, am eu bod yn anrhydeddu ac yn addoli creiriau ac eſcyrn y ſaint, y rhai ſydd yn dangos nad oeddynt hwy ond gwŷr marwol, a chwedi meirw, ac am hynny nad ydyntddu wiau i'w haddoli: yr hyn beth ni chydnabydde y cenhedloedd am eu duwiau rhag y gwir gywilydd. Ond rhaid i ni guſanu y creiriau hynny ac offrwm iddynt, yn enwedig ddie ſul y creiriau.

A phan fythom ni yn offrwm rhag i ni ddiffygio neu edifaru am ein traul, mae 'r muſic a'r gerdd yn adſeinio yn llawen tros holl amſer yr offrymiad, gan glodfori a galwar y ſaint hynny y rhai y mae eu creiriau yno yn ein gwydd ni. Ie ac mae 'n rhaid cadw y dwfr yn yr hwn y gwlychwyd y ereiriau, megis peth ſanctaidd ffrwythlon.

Ydyw hyn yn cytuno â S. Chryſoſtom yr hwn a ſcrifenna fal hyn am greiriau? Na wna gyfrif Homil. de ſeptem Machabeis. o ludw cyrph y ſaint, nac o weddillion eu cig hwy, a'u heſcyrn, y rhai a draulia mewn amſer: ond agor lygaid dy ffydd ac cdrych arnynt gwedy eu dillatta â rhinweddau nefol, ac â rhad yr Yſpryd glân, yn diſcleirio â diſcleirdeb goleuni nefol. Ond yr oedd ein delw-addolwyr ni yn cael gormod ennill oddiwrth greiriau, a dwfr y creiriau, i ddilyn cyngor S. Chryfoſtom. Ac am fod creiriau 'r ſaint yn ennillfawr iddynt, nid oedd ond ambell le nad oeddynt gwedy darparu creiriau iddynt.

Ac er mwyn amlhau'r creiriau hynny, yr oedd i ryw ſaint lawer o bennau vn mewn vn man, ac arall mewn mann arall: yr oedd i rai chwe braich a chwech ar vgain o fyſedd. Ac er i Griſt ei hun ddwyn ei groes, etto pe byddai holl ddrylliau ei gweddillion hi gwedy eu cynull ynghyd, fe fyddai anhawdd iawn i'r llong fwyaf yn lloegr eu dwyn hwy: ac etto hwy a ddywedant fod y rhan fwyaf o honynt yn aros etto heb eu cael yn-nwylo 'r anghredadwy: am y rhai y maent yn gweddio ar eu paderau ar eu cael i'w dwylo, er mwyn y cyfryw ddefnyddion duwiol a hynny.

Ac nid oedd eſcyrn y ſaint yn vnic, ond pob peth a berthyne iddynt, yn grair-weddill ſanctaidd. Mewn rhyw leoedd maent yn cynnyg cleddyf, mewn rhyw le gwain, mewn rhyw le eſcid, mewn rhyw le cyfrwy a oſodaſid ar ryw geffyl ſanctaidd: mewn rhyw le y glo ar y rhai a pob wyd S. Lawrens: mewn rhyw le cynffon yr aſſen, ar yr hon yr eiſteddeſai ein Iachawdwr Chriſt Ieſu a gynnygir i'w guſanu, ac i offrwm iddo, yn lle crair-weddill. O blegid yn gynt nag y bai eiſiau creiriau arnynt, hwy a gymmerent aſcwrn ceffyl yn lle braich morwyn, neu gynffon yr aſſen i'w cuſanu ac i offrwm iddynt, yn lle creiriau. O ddigywilydd-dra dynnion tra-digwilydd a ddychymmygant y pethau hyn? O ffoliaid difedr a chawciod ynfyd, ac anifeiliach nâ chynffon yr aſſen yr hon a guſanent, a gredent y pethau hyn. Yn awr Duw a drugarhao wrth y cyfryw Griſtionogion truain gwirion, y rhai trwy dwyll a dichell y gwyr a ddylaſent ddyſcu idd ynt ffordd y gwirionedd, a wnaethpwyd nid yn vnic yn waeth nâ delw-addolwyr y cenhedloedd, ond heb fod ddim yn gallach nâ 'r aſſynnod, ceffylau a mulod yn y rhai nid oes deall.

O'r hyn a ddywetpwyd eiſoes y mae'n eglur nad yw ein ymddiffynwyr delwau ni yn gwneuthur delwau yn vnic, ac yn eu goſod yn eu tenilau, megis y gwnai y cenhedloedd delw - addolaidd eu heulynod, ond bod ganthynt hefyd yr vn ddelw - addolaidd opinionau am y ſaint, i'r rhai a gwnaethont ddelwau, ac oedd gan y cenhedloedd delwaddolaidd am eu gaudduwiau: ac nad addolaſant hwy eu delwau yn vnic â'r vn ddeddfau, arferon, a Caeremoniau o fergoel a gogylcheddau fal y gwnai y cenhedloedd delw - addolaidd a 'u heulynod: ond mewn llawer o bethau hefyd a'u ragoraſont hwy ymhell ymhob annuwioldeb, ffolineb ac ynfydrwydd. Ac onid yw hyn ddigon i brofi eu bod hwy yn ddelw-addolwyr, hynny yw, yn addolwyr eulynod, wele chwi a gewch glywed eu cyffes gyhoedd hwy eu hunain.

Nid yd wyfi yn meddwl yn vnic ordeiniaethau r' ail Gyngor o Nicaea dan hyrene, na'r Cyngor yn Rufain dan Gregori y trydydd, yn y rhai y dyſcant y dylaid addoli ac anrhydeddu delwau, fal y dangoſwyd or blaen: etto maent hwy yn gwneuthur hynny yn wachelog ac yn ofnus, wrth y rhyfygus a 'r hygabl gyhoeddiad eilyn-addoliad amlwg a wnair i ddelwau, a oſodwyd allan yn hwyr, ie yn ein dyddiau ni, pan ydyw goleuni gwirionedd gair Duw mor ddiſclair, megis vwchlaw eu holl ffiaiddiaf weithredoedd a'u ſcrifennadau, y rhyfeddai ddyn fwyaf am eu hannial anfeidrol ddigywilydd-dra a'u cywilyddus eondra hwy, na ddewiſent iddynt eu hunain ryw amſer a fuaſai dywyllach i draethu eu herchyll gabledd, ond cymmeryd yn awr arnynt wyneb puttain, heb feddwl gwrido wrth oſod allan hoywder eu puteindra yſprydol.

Gwrandewch gabledd y tad parchus Iacobus Naclantus Eſcob Clugium, a ſcrifennodd ef yn ei ddeongliad ar epiſtol S. Pawl at y Rufeiniaid y bennod gyntaf, yr hwn a brintiwyd yn hwyr yn Venis, a hynny a ddichon ſefyll yn lle 'r cwbl: geiriau yr hwn am addoliad delwau ydyw y rhai hyn yn lladin heb newid ſillaf yndynt.

Ergo non ſolum fatendum eſt fideles in Eccleſia adorare coram imagine, vt nonnulli ad cautelam fortè loquuntur, ſed & adorare imagmem, ſine quo volueris ſcrupulo, quin & eo illam venerantur cultu quo & Prototypon eius, propter quod ſi illud habet adorare latria & illa latria: ſi dulia & hyperdulia, & illa pariter eiuſmodi cultu adoranda eſt.

Yſtyr yr hyn yn y iaith Gamberaeg yw hyn, Am hynny y mae 'n rhaid cyffeſſu fod y ffyddloniaid yn yr Eglwys yn addoli nid yn vnig ger bron delw, (fal ond odid y dywaid rhai yn wachelog) ond eu bod hwy hefyd yn addoli 'r ddelw ei hun heb nac ammau na phetruſoer, ie maent yn addoli 'r ddelw ar vn rhyw addoliad ac yr addolir ei Prototupon cenddelw. ſiampl cyntaf hi, hynny yw y peth y gwnaethpwyd hi ar ei lun, am hyn o dylyid addoli 'r peth ei hun yr hwn y gwnaethpwyd hi ar ei lun, ag addoliad llai neu fwy, fe ddylyeid addoli ac anrhydeddu y ddelw hefyd ar vn fath anrhydedd. Hyd hyn y dywad Naclantus.

Cablau yr hwn a argyoeddodd Gregori y cyntaf, wrth awdurdod yr hwn y damned hwy i Vffern, fal y twrddana ei ganlynwyr ef yn echrydus. O herwydd er bod Gregori yn goddef bod delwau, etto mae fe 'n gwahardd eu haddoli hwy, ac yn canmol Eſcob Serenus am wahardd eu haddoli hwy, ac ŷn erchi iddo ddyſcu 'r bobl ymhob ffordd i wachelyd addoli vn ddelw.

Ond mae Naclantus yn chwythu allan ei ddirmygus ddelw-addoliad, gan erchi addoli delwau â'r rhyw vchaf ar addoliad, ac anrhydedd. Ac rhag diffyg awdurdod i'r ddyſceidiaeth iachus hon: Mae fe yn ei gwreiddio hi ar awdurdod Ariſtotl yn ei lyfr o gyſcu a gwilio, fal y gellir ei weled gwedy ei nodi ar ledemyl y ddalen yn ei lyfr brith ef: digywilydd annuwioldeb yr hwn a 'i ddelw-addolaidd farn a oſodais i allan yn halaethach, fal y gallech chwi, fal y dywaid Virgil am Sinon, wrth vn adnabod yr holl ddelw-addolwyr, ac addolwyr eulynod, ac y galloch ddeall i ba ben yn y diwedd y dug goddef delwau yn gyhoedd mewn eglwyſydd a themlau ni, gan gyffelybu amſeroedd ac ſcrifennadau Gregori y contaf, a'n dyddiau ni, ac â chablau yr anifail hwn o Belial a elwir Naclantus.

Am hynny fe a ddangoſwyd ac a fanegwyd bellach trwy awdurdod yr hên dadau ac Athrawion duwiol, trwy gyhoeddus gyffes Eſcobion gwedy ymgynull ynghŷd mewn Cynghorau, trwy arwyddion a rheſymmau, opinionau, actau a gweithredoedd ac anrhydedd delw-addolaidd a wnaethpwyd in delwau ni, a thrwy eu cyhoedd gyffes a'u hathrawaeth hwy eu hunain, y rhai a oſodwyd allan yn eu llyfrau printiedig hwy eu hunain: fod yn addoli 'r delwau gynt, bod fyth yn gyffredinol yn eu haddoli hwy, ie ac hefyd, os credwn hwy, y dylyd eu haddoli hwy; myfi a wnaf allan o air Duw y ddadl gyffredinol hon, yn erbyn yr holl rai fy yn gwneuthur, yn goſod i fynu ac yn ymddiffyn delwau mewn lleoedd cyhoeddus.

Ac yn gyntaf myſi a ddechreuaf ar airiau ein Iachawdwr Chriſt, Gwae y dyn hwnnw o achos yr hwn y del rhwyſtran, pwy bynnac a rwyſtra vn o'r rhai bychain gweinion hyn a gredant yno Matth. 18. 6, 7. fi, gwell oedd iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yngwaelod y mor. Ac yn Dewtronomi mae Duw ei hun yn cyhoeddi fod yn felldigedig yr hwn a wnel i 'r dall fyned oddiar y Deut. 27. 18. ffordd. Ac yn Leuiticus, Na ddod drangwydd o flaen y dall. Ond fe fu ddelwau mewn eglwyſydd Leuit. 19. 14. a themlau ac maent hwy etto, achwy a fyddant byth yr hyd yr arhoſant yno, yn rhwyſtrau ac yn drāgwyddau yn enwedig i'r bobl gyffredinol, weinion, wirion, ddeillion, yn twyllo eu calonnau hwy trwy gywrainrwydd y creftwr fal y tyſtiolaetha yr Scrythyrau mewn llawer man, ac felly Doeth. 13. 14. yn eu dwyn hwy i ddelw-addoliad. Am hynny gwae'r hwn a wnelo, a'r hwn a oſodo i fynn, a'r hwn a ymddiffynno delwau mewn temlau ac eglwyſydd: o herwydd mae coſp ſydd fwy yn eu haros hwy nag angau 'r corph.

Os attebir y gellir tynnu ymmaith y rhwyſtr hwn trwy iawn athraweth a dyfal bregethiad gair Duw, a thrwy foddion eraill, ac nad ydyw delwau mewn eglwyſydd a themlau, yn ddrwg hollol, ac o hanynt eu hunain, i bawb, er eu bod yn ddrwg i rai, ac am hynny y dlyeid dala fod eu goddef hwy yn yr Eglwys megis peth anghyfaddas enbaid, ac nid yn hallol megis peth anghyffraithlon, ac annuwiol.

Yno y canlyn y trydedd pwngc i'w brofi, a hwn yw ef. Nad ydyw boſſibl os goddefir delwau mewn eglwyſydd a themlau, cadw 'r bobl rhag eu haddoli hwy, ac felly gwachelyd delw-addoliad, na thrwy bregethu gair Duw, nac mewn vn modd arall.

Ac yn gyntaf ynghylch pregethu gair Duw, pe canniataid, er goddef delwau mewn eglwyſydd, etto y gallid ymgadw rhag delw-addoliaeth trwy gywir a dyfal bregethu gair Duw: yno y canlynai yn ddiammau y gallid cael gwir a chywir athrawaeth yn waſtadol i aros ac i barhau, cyſtal a delwau: ac felly pa le bynnac y cyfodid delw yn rhwyſtr, yno hefyd wrth reſwn da y dylaid ac y gellid cael a maenteinio pregethwr duwiol da. O herwydd rheſwn yw fod y rhybydd mor gyffredinol a 'r trangwydd, y rhymedi mor halaeth a 'r rhwyſtr, y feddyginaeth mor gyffredinol ar gwenwyn: ond ni ddichon hyn fod, fal y mae rheſwn ac addyſc amſer yn dangos; Am hyny ni ddichon pregethu gadw rhag delw-addoliad, yr hyd y goddefer delwau yn gyhoedd. O herwydd fe a ellir prynu delw yr hon a bery gan mlynedd er ychydig, ond ni ellir maenteinio pregethwr da yn waſtad heb goſt fawr.

Hefyd os y tywyſog a'u goddef, fe fydd yn y man lawer iawn, ie aneirif o ddelwau: ond ni bu erioed ac ni bydd byth bregethwyr da ond yn ambell ac anaml wrth rhifedi 'r bobl ſydd i'w dyſcu. Oblegid mae ein Iachawdwr Chriſt yn dywedyd fod y cynhauaf yn fawr a 'r gweithwyr yn anaml: yr hyn a fu ddigon gwir hyd yn hyn, ac a fydd hyd ddiwedd y byd: ac yn ein gwlad a'n hamſer ni mor wir, a phe byddid gwedy eu rhannu hwy, anodd fyddai gael vn i bob ſir.

Yn awr fe bregetha delwau eu hathrawaeth hwy yn waſtad, i'r rhai a font yn edrych arnynt, hynny yw delw-addoliaeth: yr hwn bregethiad y mae dynion yn barodol iawn yn waſtad, ac yn agweddu: yn annial i wrando arno, ac i'w goelio, megis y mae digonol brawf ymmhob cenhedlaeth ac oes. Ond mae 'n odid clywed gwir bregethwr i attal yr enbeidrwydd hwn, yn rhyw leoedd vnwaith mewn bwyddyn gyfan, nac mewn rhwy le vnwaith mewn ſaith mlynedd, fal y gellir ei brofi yn eglur. Ac ni ellir yn ddiſyfyd ar vn bregeth ddiwreiddio 'n llwyr yr opiniwn drwg a wreiddiwyd ynghalon dyn dros hir amſer. Ac mae mor anaml y rhai ſydd yn agweddu i gredu athrawaeth iachus, ac y mae llawer, ie haychen y cwbl oll yn barod ac yn hyblyg i ofergoel a delw-addoliad: megis y mae yn amlwg fod yn anhawdd, ie haechen yn ammhoſſibl cael ymwared a rhwymedi yn hyn o beth.

Hefyd nid yw amlwg wrth vn hiſtori gredadwy, i gywir ac iniawn bregethi erioed barhau mewn vn lle vwchlaw can-mlywedd: ond mae 'n eglur i ddelwau, ofer-goel, a delw-addoliad barhau lawer cant o flynyddoedd. O blegid mae pob ſcrifennadau, ac addyſc amſer hefyd yn profi, fod pethau da yn myned bob ychydig waeth waeth, hyd oni ddifwyner hwy yn y diwedd yn hollol; ac o'r gwrthwyneb fod pethau drwg yn cynyddu fwyfwy, hyd oni ddelont i gwbl gyflawnder ac annuwioldeb.

Ac nid rhaid ini fynd ymmhell i geiſio ſamplau i brofi hyn; O herwydd fe aeth pregethiad gair Duw (yr hwn yn y dechreu oedd bur odidawg) bob ychydig mewn amſer yn ammhurach beunydd, ac yn ol hynny yn llygredig, ac yn ddiwethaf oll, fe a oſodwyd heibio 'n hollol, ac fe a ymly ſcodd i'w le ef bethau eraill, dychymygion dynnion.

Ac yn y gwrthwyneb ar y cyntaf fe benitiwyd delwau ymlhith Chriſtionogion, a hynny mewn ſtoriau cyfain, yn y rhai yr oedd peth arwyddocâd: yn ol hynny y gwneuthpwyd hwy o goed, cerrig, plaſtr a mettel: ac yn gyntaf hwy a gedwid yn neilltuol, ynnhai gwyr neilltuol, ac ar ol hynny yr ymluſcaſāt i eglwyſydd a themlau, ond yn gyntaf trwy beintio, gwedy hynny yn gyrph breiſcon: ac etto ar y cyntaf ni addolwyd hwy yn vn lle. Ond yn ol hynny ychydig fe ddechrauwyd eu haddoli hwy gan yr annyſcedig, megis y mae 'n eglur wrth yr epiſtol a ſcrifennodd Gregori Eſcob Rufain y cyntaf o 'r enw hwnnw at Serenus Eſcob Maſſil. Or ddau Eſcob hyn, Serenus a dorrodd y delwau ac a'u lloſcodd hwy, am y delwaddoliaeth a wneaid iddynt: Gregori er ei fod yn tybied y gallid eu gado hwy i ſefyll, etto fe farnodd mai peth ffiaidd oedd eu haddoli hwy, ac a dybiodd, megis yr ydys yn awr yn dywedyd, y gallid rhwyſtro eu haddoli hwy wrth bregethu gair Duw, fal y mae fe 'n rhybyddio Serenus i gyfarwyddo 'r bobl, fal y manegir yn yr epiſtol hwnnw.

Ond pa vn ai opinion Gregori, ai barn Serenus oedd oreu yn hyn o beth, yſtyriwch chwi adolwg? o herwydd yn y mann fe argyoeddodd amſer opinion Gregori: o herwydd er bod Gregori yn ſcrifennu, ac eraill yn pregethu, etto yn y mann yn ol goddef delwau yn gyhoedd mewn temlau ac eglwyſydd, fe gwympodd gwyr a gwragedd gwirion yn y mann yn gadau i'w haddoli hwy: ac yn y diwedd fe ddygwyd y dyſcedig hefyd ymmaith gyd â'r cyffredinol gyfeiliorn. megis gyd a'r ffrwd neu'r weilgi a'r cefullif gwyllt.

Ac yn ail Gyngor Nicaea fe a ordeiniodd y gwyr llen a'r eſcobion y dylaid addoli delwau, ac felly o achos y trangwyddau hyn y dallwyd yn y diwedd trwy hudolaeth delwau, nid yn vnic y gwirion a'r annyſcedig, ond y call a'r dyſcedig hefyd: nid yn vnic y bobl, ond yr Eſcobion hefyd: nid y defaid yn vnic, ond y bugailiaid hefyd (y rhai a ddylaſent fod yn dywyſogion i'w tywys hwy i'r iniawn ffordd, ac yn oleini i oleuo mewn tywyllwch) megis arweiniaid deillion yn arwain y deillion, hyd oni chwympodd y ddau i bwll damnedig delw-addoliaeth. Yn yr hwn yr arhoſſodd yr holl fyd hyd ein hoes ni, dros ſaithcant neu wythcant o flynyddoedd, heb fod neb haechen yn dywedyd yn erbyn hynny. A dymma'r ffrwyth a dyfodd o ordeinhad Gregori: yr hwn afiwydd ni ddigwyddaſai byth pe buaſid yn cymmeryd ffordd Eſcob Serenus, ac yn diſtrywo ac yn diniſtr yr holl eulynod a'r delwau: o herwydd nid addola neb y peth nid ydyw.

Ac fal hyn y gwelwch pa fodd a oddef delwau yn neilltuol y daethpwyd i'w goſod hwy i fynu mewn temlau ac eglwyſydd yn gyhoedd, ac etto heb ddim drygioni ar y cyntaf (fal y tybiai wyr dyſcedig call) ac o'u goddef hwy yno yn vnic, yn y diwedd fe ddaethpwyd i'w haddoli hwy: yn gyntaf gan y bobl annyſcedig, y rhai yn anad neb fal y dywaid yr Scrythyr-lân ſydd mewn Doeth. 13. 14. enbeidrwydd ofergoel a delw-addoliad: ac yn ol hynny gan yr Eſcobion, y dyſcedig a'r holl wyr llen eglwyſig, megis y boddwyd ar vnwaith y cwbl oll, y gwyr llyg a'r gwyr llen, y dyſcedig a'r annyſcedig, yr holl oeſoedd, ſectau, a graddau, o wyr, o wragedd, ac o blant, o holl gred, (peth ofnadwy Erchyll. echrydus i feddwl am dano) mewn ffiaidd ddelw-addoliaeth: yr hwn o bob bai arall ſydd gaſaf gan Dduw, a chollediccaf i ddyn; a hynny dros wythcant o flynyddoedd ac ychwaneg.

Ac i'r diwedd hwn y daeth y dechreuad hwnnw o oſodiad delwau i fynu mewn Eglwyſydd, yr hwn a farned y pryd hynny yn beth dieniwed, ond a aeth yn y diwedd nid yn vnic yn llawn eniwed, ond yn ddiſtriw ac yn angheuol ddiniſtr i holl greddyf ddaionus yn gyffredinol. Fal yr ydwyfi yn cau 'r cwbl fel hyn, megis y gall fod yn boſſibl mewn rhyw ddinas neu wlad fechan, fod delwau gwedy eu goſod mewn Temlau ac Eglwyſydd, a gallel er hynny trwy ddifri a pharhaus bregethu gair Duw, a phur efengyl ein Iachawdwr Chriſt, gadw 'r bobl dros amſer byrr oddiwrth ddelwaddoliaeth: felly y mae 'n amhoſſibl fod delwau gwedy eu goſod i fynn ac yn cael eu goddef mewn Temlau ac Eglwyſydd mewn gwledydd mawr, ac amhoſſipplach o lawer fod yn eu goddef hwy yn yr holl fyd dros amſer hîr, ac ymgadw rhag delw-addoliaeth.

Ac fe ofala y duwiol nid yn vnic am eu dinas a'u gwlad, ac iechydwriaeth gwyr o'u hoes eu hunain, ond hefyd am bob lle ac amſer, ac am iechydwriaeth gwyr o bob oes; yn enwedig ni oſodant hwy y tramgwyddau, a'r-maglau hynny dan draed gwledydd ac oeſoedd eraill, y rhai yr ydys yn gweled eiſoes eu bod yn ddiſtryw i'r holl fyd. Am hynny mi a wnaf gynull cyffredinol o'r cwbl oll a draethais hyd yn hyn.

Os bydd y trangwyddau a gwenwyn eneidian dynnion trwy oſod delwau i fynu, yn aml, ie yn anfeidrol os goddefir hwy: a'r rhybyddion yn erbyn y tramgwydd hynny, a'r ymwared yn erbyn y gwenwyn hynny trwy bregethu, yn ambell ac yn anaml, megis y dangoſwyd eiſoes: os bydd hawdd goſod y tramgwyddau, a hawdd darparu y gwenwyn, a'r rhybyddion a'r ym wared yn anodd eu hadnabod a'u cael: os bydd y tramgwyddau 'n waſtad yn gorwedd ar ein ffyrdd ni, a'r gwenwyn yn barod ger ein llaw ni ym-mhob man, a'r rhybyddiau a'r ymwared heb eu rhoi ond yn ânfynych: ac os bydd pawb o hanynt eu hunain yn barottach i dramgwyddo nag i gymmeryd rhybydd, pawb yn barottach i ŷ fed y gwenwyn nag i brofi yr ymwared iachus, (fal y dangoſwyd o'r blaen o ran, ac y dangoſir yn gyflawnach ar ol hyn) ac felly os bydd llawer yn yfed y gwenwyn yn waſtadol ac yn ddwfn, a nymmor heb brofi yr ymwared onid weithiau, a hynny yn egwan: pa fodd na rwyſtrir llawer o'r gweiniaid diegni? Ie pa fodd na thyrr llawer eu gyddfau trwy gwympo? ac na wenwynir yn angheuol eneidiau aneirif o bobl? A pha fodd y dichon cariad Duw, neu gariad ein cymmydogion fod yn ein calonnau ni: oni thynnwn ymmaith a ni yn gallel, y fath dramgwyddau enbaid, a gwenwyn mor wenwynllydd?

Pa beth a ddyŵedaf am y rhai a oſodant dramgwyddau lle nad oedd yr vn o'r blaen, a maglau i draed, nag ê i eneidiau y rhai gwirion gweinion? ac a barant enbeidrwydd tragwyddol ddiſtryw i'r rhai y tywalltodd ein Iachawdwr Ieſu Griſt ei werthfawr waed droſtynt, lle buaſai well na ddychmygaſid ac nad arfereſid er ioed celfyddydau peintio, plaſtro, cerfio, neu doddi, na diniſtr a cholli trwy achos delwau a llunniau vn o hanynt hwy, y rhai y mae eu eneidiau mor werthfawr ger bron Duw. Fal hyn y dangoſwyd nad yw boſſibl i bregethu allel cadw rhag delwaddoliaeth, os goſodir delwau 'n gyhoedd mewn Eglwyſydd a themlau.

Ac mor wir yw nad oes nac ſcrifennu yn erbyn delw-addoliaeth, na chynull cynghorau, na gwneuthur ordeiniaethau yn y gwrthwyneb, na chyfraithiau caled chwaith, na chyhoeddiadau tywyſogion ac Ymmerodron, na Choſp toſt. dygyn goſp, a phoenau creulon nac vn remedi ac a allwyd neu a ellir ei ddychymmyg yn abl i attal ac i gadw rhag delw-addoliaeth os goſodir neu os goddefir delwau yn gyhoeddus.

O herwydd am ſcrifennu yn erbyn delwau a'r addoliad a wnair iddynt, fe adrodwyd i chwi yn yr ail rhan o'r traethawd hwn, lawer o leoedd allan o Tertulian, Origen, Lactantius, S. Awſtin, Epiphanius, S. Ambros, Clemens, a llawer eraill o Eſcobion ſanctaidd dyſcedig ac athrawon yr Eglwys. Ac heblaw hyn mae 'r holl hiſtoriau Eglwyſig a llyfrau Eſcobion ac athrawon dyſcedig ſanctaidd eraill, yn llawn o ſamplau ac ymadroddion godidawg yn erbyn delwau a'u haddolwyr. Ac megis yr ſcrifenaſant hwy yn ddifri iawn, felly yn eu hamſer y pregathaſont hwy ac y dangoſaſont yn bur ac yn ddieſcaelys yn gyfunol a'u ſiamplau a'u ſcrifenadau.

O herwydd pregethwyr oedd eſcobion yr amſeroedd hynny, ac hwy a welid yn funychaf ynghennadwri yr hwn a ddywaid ewch i'r holl fŷd, pregethwch i bawb yr Efengil; nag ynghennadwri a negaſeu tywyſogion y byd hwn: ac fal yr oeddynt yn llawn zêl a diwydrwydd, felly yr oeddynt o ddyſc a bywyd duwiol godidawg ac am bob vn o'r ddau mewn awdurdod a chymeriad mawr gyda 'r bobl, ac felly yn applach ac yn debyccach i berſwado 'r bobl, a'r bobl yn debyccach i'w credu hwyntau ac i ganlyn eu hathrawaeth.

Ond ni alle eu pregethau hwy ddim help, llai o lawer y gallai eu ſcrifennadau hwy y rhai ni ddawent i gydnabyddiaeth onid rhai o'r dyſcedig, mewn cyfflybaeth o'u gwaſtadol bregethau, o'r hyn y mae 'r holl dyrfa 'n gyfrannog.

Ac nid ydoedd yr hen dadau a'r Eſcobion a'r doctoriaid yn pregethu ac yn ſcrifennu yn neilltuol yn vnig, ond hwy a wnaethant ynghŷd hefyd gwedy ymgynull mewn rhifedi mawr, mewn cymmanfau a chynghorau, ordeiniaethau a chyfraithiau eglwyſig yn erbyn delwau a delw-addoliad: ac ni wnaethont felly vnwaith neu ddwy, ond llawer o amſeroedd, ac mewn llawer o oeſoedd ac o wledydd, a gynnullaſont gymanfau a chyngorau ac a wnaethont ordeiniaethau toſt yn erbyn delwau a'u haddoli, megis y dangoſwyd o'r blaen yn halaeth yn yr ail rhan o'r bregeth hon.

Ond nid oedd eu holl ſcrifennadau, eu pregethau, a'u ymgynull mewn cynghorau, eu hordeiniadau a'u cyfraithiau, yn abl nac i dynnu delwau i lawr y rhai y gwnaid delw-addoliaeth iddynt, nac yn erbyn delw-addoliaeth yr hyd y ſafe 'r delwau. O herwydd fe a orchfygodd y llyfrau deillion a'r athrawon mudion hynny (delwau ac eulynod yr wyfyn eu feddwl) o herwydd llyfrau ac athrawon gwyr llyg y galwant hwy, gan ddangos a phregethu delw-addoliaeth trwy eu ſcrifennadau peintiedig a cherfiedig, yn erbyn eu holl lyfrau printiedig hwy a'u pregethu ar dafod laferydd.

Wele, oni allai bregethu ac ſcrifennu gadw dynnion rhag addoli delwau a delw-addoliaeth, oni allai ben a geiriau wneuthur hynny: chwi a dybygwch y gallai goſp a chleddyf ei wneuthur: fy meddwl yw y gallai dywyſogion trwy gyfraithiau a choſpedigaeth doſt, attal anffrwynedig chwant pawb i ddelwaddoliaeth, er goſod delwau i fynu a'u goddef hwy. Ond mae amſer gwedy dangos na ddichon hyn mwy help yn erbyn delw-addoliaeth nag ſcrifennu a phregethu.

O herwydd er i fwy nag wyth o Ymmerodron (awdurdod y rhai a ddylai fod fwyaf wrth gyfraith Duw) o'r rhai y ternaſodd chwech ol yn ol yn neſſaf iw gilidd, fal y manegwyd yn yr hiſtoriau o'r blaen, wneuthur cyfraithiau toſt a chyhoeddiadau yn erbyn eilynod, ac eilyn-addoliaeth, delwau a delwaddoliad, gan oſod coſpedigaethau trymmion, ie a phoen angau ar ymddiffynwyr delwau, ac ar eilyn-addolwyr ac addolwyr delwau: Etto ni allaſont er hynny er ioed na chwbl ddiniſtr delwau a oſodaſid vnwaith i fynu, na chadw dynnion rhag eu haddoli hwy gwedy eu goſod i fynu.

Pa beth a dybygwch chwi wrth hyn a ddigwyddai pettai wyr dyſcedig yn dyſcu i'r bobl eu gwncuthur hwy, ac yn maenteinio eu goſod hwy i fynu, megis pethau anghenreidiol i wir grefydd? I ddibennu mae 'n ymddangos yn eglur wrth holl hyſtoriau ac ſcrifennedau, ac wrth yr amſeroedd aethont heibio, na ddichon na phregethu nac ſcrifennu, na chyfundeb y dyſcedig, nac awdurdyd y duwiol, nac ordeiniaeth Cynghorau, na chyfraithiau tywyſogion, na thoſt goſpedigaeth y troſeddwyr yn hynny o beth, nac vn modd na remedi arall help yn erbyn eilynaddoliad, os goddefir delwau yn gyhoeddus. A gwir iawn y dywedir fod yr amſer aeth heibio 'n ddyſcawdr doethineb i ni ſydd yn dyfod ar ol.

Am hynny oni allae yr hen dadau Eſcobion a doctoriad rhinweduſaf dyſcediccaf a dieſcaeluſaf, a hwy haechen mewn rhifedi yn aneirif, wneuthur dim yn yr amſeroedd aeth heibio, a'u holl ſcrifennadau, pregethau, poen, difritwch, awdurdod, cymynfau, a chyngorau, yn erbyn delwau a delw-addoliad, gwedy goſod delwau i fynu vnwaith: pa beth a allwn ni ei wneuthur y rhai nid ydym yn gyffelyb iddynt hwy, nac mewn dyſc, nac mewn diwydrwydd, nac mewn ſancteiddrwydd bywyd, nac mewn awdurdod, gan ein bod yn ddynnion dirmygus digymmeriad (fal y mae 'r byd yn awr yn myned) ac yn anaml mewn rhifedi ymmyſc cymmaint lliaws a chenſigen dynnion? pa beth meddaf allwn ni ei wneuthur neu ei gwblhau i attal eulyn-addoliad, neu addoliad delwau, os goddefir hwy i ſefyll yn gyhoeddus mewn Temlau ac Eglwyſydd?

Ac oni alle gynifer o Ymmerodron galluog, trwy gyhoeddiadau a chyfraithiau mor doſt, trwy goſpedigaethau, a phoenau mor drymmion ac mor ddygyn, gadw 'r bobl rhag goſod i fynu ac addoli delwau, pa beth a ddigwydd, dybygwch chwi, pan fo dynnion yn eu canmol hwy megis llyfrau anghenreidiol gwyr llyg?

Dyſcwn ni am hynny yn y dyddiau diwethaf ymma, y wers hon gan hen henafiaeth, nad yw boſſibl dros vn amſer hir wahanu delw-addoliad oddiwrth ddelwau, onid megis cyſſyltyn diwahanedig, neu megis y canlyn y cyſcod y corph, pan fytho 'r haul yn ty wynnu felly y mae delw-addoliad yn canlyn ac yn glynu wrth oddefiaeth delwau'n gyhoedd mewn Temlau ac Eglwyſydd. Ac yn ddiwethaf megis y dylaid caſhau a gwachelyd delw-addoliaeth, felly y dylaid hefyd diniſtr a dodi ymmaith ddelwau, y rhai ni allant fod yn hir heb ddelw-addoliad.

Heblaw addyſc a phrawf yr amſeroedd aeth heibio, mae naturiaeth a dechreuad delwau o hanynt eu hunain yn tynnu yn rhy nerthog i ddelw-addoliad, ac mae anian dynnion a'u paradrwydd yn gogwyddo mor drwm at ddelw-addoliad, nad yw boſſibl wahanu a doſparthu delwau oddiwrthto, na chadw dynnion rhag delw-addoliad os goddefir delwau yn gyhoeddus.

Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd am annian a dechrauad delwau yw hyn, fal y mae eu dechrauad hwy yn ddrwg ac ni ddichon dim daioni ddyfod o beth a fo a'i ddechreuad yn ddrwg, am eu bod hwy oll yn ddrwg fal y dywaid Athanaſius yn ei lyfr yn erbyn y cenhedloedd, a S. Ierom ar y chweched bennod o'r Proyhwyd Ieremi: Ac mae Euſebius yn ei ſaithfed llyfr o'i hiſtori Eglwyſig a'r ddaunawfed bennod yn dywedyd, megis y daethont hwy ar y cyntaf attom ni oddiwrth y cenhedloedd (y rhai ydynt ddelw-addolwyr) ac fal y bu dychmygu delwau yn ddechreuâd goddineb yſprydol, fal y teſtiolaetha gair Duw, Doeth. 14. felly megis wrth naturiaeth ac yn anghenreidiol, y dych welant i'r dechrauad o'r hwn y daethont, ac y tynnant ni trwy drais i ddelw-addoliad, ffiaidd gan Dduw a phob dyn duwiol. Ac fe ddaeth dechreuad delwau a'u haddoliad, megis y dywedir yn yr wythfed bennod o lyfr y doethineb, o gariad dall oedd gan y tad anneallus, gan lunio i 'w ddiddanwch ddelw ei fab a fuaſai farw, felly o'r diwedd y cwympodd dynnion i addoli delw yr hwn a wyddent ei fod wedy marw. Pa faint mwy y cwympe wyr a gwragedd i addoli delwau Duw Dâd, ein Iachawdwr Chriſt, a'i ſaint, os goddefir hwy i ſefyll mewn eglwyſydd a themlau yn gyhoeddus?

O herwydd po m wyaf o dŷb a fytho am fawrhydi a ſancteiddrwydd y neb y gwnelir delw iddo, cyntaf y cwymp y bobl i addoli y ddelw honno. Am hynny y mae delwau Dduw, ein Iachawdwr Chriſt, y fendigaid forwyn fair, yr apoſtolion, y merthyron ac eraill o'r rhai ſanctaidd godidawg, yn beriglaf o gwbl rhag enbeidrwydd delwaddoliad, ac am hynny y dlyid gochelyd yn fwy rhag goddef yrvn o hanynt yn gyhoedd mewn temlau ac eglwyſydd. O herwydd nid rhaid fawr ofni rhag cwympo neb i addoli delwau Annas, Caiphas, Pilat, neu Iudas fradwr, pe byddid yn eu goſod hwy i fynu: ond i'r llaill fe brwfwyd yn gyllawn eiſoes ddarfod gwneuthur delw-addoliad, fod yn ei wneuthur etto, ac yn debyg y gwnair yn waſtadol.

Yn awr, fel y ſonniwyd o'r blaen ac y dangoſir ymma yn halaeth, nid ydyw naturiaeth dyn yn tueddu yn amgenach i addoli delwau, os dichon ef eu cael hwy a'u gweled, nag y mae'n gogwyddo i oddineb a phuteindra ynghwmpniaeth puteiniaid. Ac megis na byddid ond ychydig nes er dywedyd wrth wr a fytho gwedy ymroi i chwantau'r cnawd, os bydd ef yn gweled puttain ddrythyll, yn eiſtedd yn ei hymyl, ac yn ei bracheidio hi, Gwachel oddineb, fe farna Duw oddineb wyr a 1. Cor. 6. 16. 1. Theſs. 4. 3. Heb. 13. 4. 1. Ioan. 5. 21. phuteiniaid. O herwydd gwedy ei orchfygu ef a hudoliaeth y buttein, ni wna ef na roi cluſt, na ſynnaid ar y fath rybyddiō duwiol, a chwedy ar ol hynny ei adel ef yn vnic gyda 'r buttain, ni all dim ganlyn onid brynti: felly os goddefwch ddodi i fynu delwau mewn temlau ac eglwyſydd, ofer yr erchwch iddynt wachelyd delwau, fal y mae Ioan ſant yn erchi, a chilio oddiwrth ddelw-addoliaeth, fal y rhybyddia 'r holl ſcrythyrau ni: ofer y pregethwch ac y dangoſwch iddynt yn erbyn delw-addoliad. O herwydd llaweroedd er hyn a gwympant i'w haddoli hwy, naill ai trwy annian y delwau ai trwy dueddiad eu hannian lygredig eu hunain.

Am hynny megis mai temptio Duw yw, i'r hwn a fytho yn gogwyddo at chwantau cnawdol, eiſtedd wrth glun puttain: felly hefyd nid yw goſod delw i fynu yn y parodrwydd hyn ſydd mewn dŷn i ddelw-addoliad ddim onid temptio Duw.

Os dywaid neb nad ydyw y gyffelybaeth hon yn prufo dim, etto yr ydwyf yn deiſyf arnynt adel i air Duw o'r hwn y tynnwyd y gyffelylbaeth, brufo peth. Onid ydyw gair Duw yn galw delw-addoliaeth yn oddineb yſprydol? onid ydyw ef yn galw delw gwedy ei goreuro, yn buttain gwedy peintio ei hwyneb? onid ydyw yſprydol ddrygioni Leuit. 17. 7. a'r 20. 5. Ruf 25. 5. Deu 31. 16. Baruc. 6. hudoliaeth delw, megis gwenniaith puttain drythyll? Onid ydyw gwyr a gwragedd mor barodol i odineb yſprydol, hynny yw i ddelw-addoliaeth, ac i odineb cnawdol? Os gwedir hyn profed holl genhedlaethau y ddayar y rhai oll a fuont ddelw-addolwyr (fal y manegir ymmhob hiſtori) ei fod yn wir. Profed yr Iddewon, pobl Dduw, y rhai a rybyddiwyd mor fynych ac mor ddifrif, ac a fygythwyd mor ofnadwy ynghylch delwau a delw-addoliad, ac a goſpwyd mor doſt am ddelw-addoliad, ac er hynny a gwympaſont atto, fod hyn yn wir: fal y dangoſir yn eglur ddigon yn holl lyfrau 'r hên Deſtament, yn enwedig yn llyfrau y brenhinioedd, y croniclau a'r prophwdi. Profed holl oeſoedd ac amſeroedd, dynnion o bob oes ac amſer, o bob gradd a galwedigaeth, gwyr call, gwyr dyſcedig, tywyſogion, dynnion annyſcedig a chyffredin, fod hyn yn wir.

Os mynnwch gael ſamplau am wyr call, cymmerwch yr Aiphtiaid a 'r Gymnoſophiſtiaid y gwyr callaf o'r byd, cymmerwch Salomon y gwr callaf oll. Am wyr dyſcedig, y Groegiaid, yn enwedig yr Atheniaid, yn rhagori ar bob cenhedlaeth mewn ofergoel a delw-addoliad: megis y mae S. Pawl yn hiſtori Actau 'r Apoſtolion yn dywedyd am danynt. Am dywyſogion a llywodraethwyr Act. 17. 22, 23. cymmerwch y Rufeiniaid, y rhai oeddynt yn rheoli 'r cwbl. Brenin Salomon, a holl frenhinioedd Ruf. 1. Iſrael a Iuda ar ei ol ef, ond Dafydd, Ezechias, Ioſias ac vn neu ddau ychwaneg, yr holl rai hyn, meddaf, ac aneirif o wyr call dyſcedig, tywyſogion, a llywiawdwyr y rhai oeddynt oll ddelw-addolwyr, ydynt ſiamplau i chwi i ddangos fod pob dyn a 'i duedd a 'i ogwydd at ddelwaddoliad.

Er fymod heb ſon am aneirif liaws, a murdd o wirioniaid annyſcedig, y bobl ddiwybod ddifedr, y rhai a gyffelybir i fulod ac i geffylau, yn y rhai nid oes deall, y rhai yn enwedig y mae 'r Scrythur yn rhagddangos ac yn rhagfanegi eu perigl a'u henbeidrwydd i gwympo yn gadau iddelwaddoliad, trwy achos delwau. Ac o ddywedyd gwir pa fodd y gall y bobl ddiddrwg, annyſcedig, ffoliaid, ddiangc rhag rhwydau a maglau eulynod a delwau, yn y rhai y rhwydwyd ac y maglwyd y rhai callaf a gorau eu dyſc?

Am hynny mae 'r ddadl yn dala y ſail ymma yn ddiogel, fod dynnion mor hyblyg o'u naws llygredig i wneuthur goddineb yſprydol, ac ydynt i wneuthur godineb cnawdol.

Yr hyn beth yr oedd doethineb Duw yn ei ragweled, ac am hynny at y gwaharddiad cyffredinol hwn, Na wna ddelwau na lluniau, fe a gyſylltodd achos, yr hon oedd yn ſefyll ar lygredig anian dyn: rhag, medd ef, dy dwyllo drwy gamſynniaid ac iti eu hadoli hwy. Ac o'r ſail hwn, ſef Dew. 4. 16. hyblygedd naturiaeth lygredig dyn yn gyſtadl i oddineb yſprydol, ac i oddineb cnawdol, y canlyn: megis y mae yn ddlyed ar bob llywiawdr duwiol a garo honeſtrwydd ac a gaſhao buteindra, er mwyn gwachelyd godineb cnawdol, ſymmud ymmaith yr holl buteiniaid, a'r coegennod, yn enwedig allan o'r lleoedd yr ydys yn eu drwgdybied yn gyhoeddus, y rhai yr arfer murſennod ddyfod iddynt: felly dlyed yr vn llywiawdr duwiol yw, yn ôl ſamplau y duwiol frenhinioedd Ezechias a Ioſias, yrru ymmaith yr holl buteiniaid yſprydol (eulynod a delwau yr ydwyf yn ei feddwl) yn enwedig allan o'r lleoedd drwgdybys, eglwyſydd athemlau, y rhai ydynt leoedd enbaid rhag gwneuthur delw-addoliad i 'r delwau a oſodir yndynt, megis pe byddent yn y lle apoyntiedig, ac mewn vwchder anrhydedd ac addoliad, fal y dywaid S. Aug. in Pſal. 36. a'r 113. a lib. 4. de ciuit. Dei cap. 3. Awſtin, lle y dylaid addoli yn vnic y bywiol Dduw ac nid coed a cherrig meirwon. Swydd llywiawdwyr duwiol (meddaf) yw, yn yr vn modd ſymmud delwau o'r eglwyſydd a'r temlau, megis puteiniaid yſprydol allan o leoedd tybus, er gochelyd delw-addoliaeth, yr hwn ſydd odineb yſprydol.

Ac megis y byddai yn elyn i bob honeſtrwydd yr hwn a ddygai buteiniaid a choegennod o'u cornelau dirgel i'r marchnadleoedd goleu, i drigo yno, ac i arfer eu marchnadaeth brwnt, felly y mae fe'n elyn i wir addoliad Duw, yr hwn a ddygo eulynod a delwau i'r eglwys, tŷ Dduw, i'w haddoli yno yn gyhoeddus, ac i yſpeilio 'r Duw eiddigus o'i anrhydedd, yr hwn ni rydd ef i arall, nai ogoniant i ddelwau cerfiedig, a'r hwn yr ymwrthodir yn gymmaint, ac y torrir rhwym cariad rhwng dyn ac ef yn gymmaint, trwy ddelw-addoliaeth, yr hwn yw goddineb yſprydol, ac y torrir cwlwm a rhwym priodas trwy odineb cnawdol. Cymmerwch hyn oll yn lle celwydd, oni ddywaid gair Duw ei fod ef yn wir. Melldigedig, medd Duw Deut. 27. 15. yn Dewt, yw 'r hwn a wnelo ddelw gerfiedig ac a'i goſodo hi mewn lle dirgel, a'r holl bobl a ddywedant, Amen.

Fal hyn y dywad Duw, o herwydd yr amſer hynny ni faiddiai neb feddu delwau, nau haddoli yn gyhoedd, ond mewn cornelai dirgel: ac lle mae 'r holl fyd yn deml halaeth i Dduw, pwy bynnac mewn vn gornel o hono a yſpeilio Dduw o'u ogoniant, ac a'i rhoddo i goed a cherrig, fe gyhoeddir hwnnw trwy air Duw yn felldigedig.

Yn awr pwy bynnac a ddygo 'r puteiniaid yſprydol hyn o'u llocheſau dirgel i gyhoeddus eglwyſydd a themlau, fal y gallo gwyr a gwragedd wneuthur puteindra yſprydol yno yn gyhoeddus heb ddim cywilydd, yn ddiammau mae hwnnw gwedy i Dduw ei felldithio yn ddauddyblyg: a phob gwr a gwraig dda dduwiol a ddywedant Amen: a'u Hamen hwy a ſydd ffrwythlon. Ie mae hefyd vnfydrwydd yr holl fyd ſydd yn addef gwir grefydd Griſt, yn awr er yn amſer llawer cant o flynyddoedd, ac hefyd llawer yn ein hamſer ni mewn cymmaint goleuni 'r efengyl, yn rhedeg yn dyrfau dros fôr a thîr (gan golli eu hamſer, treulio a difa eu golud, ymddifadu eu gwragedd a'u plant, a'u tylwyth, a dodi eu cyrph a'u bywyd mewn enbeidrwydd) i Rufain, i Gompoſtela, i Ieruſalem ac i wledydd pell eraill, i ymweled â choed a cherrig mudion meirwon; mae hyn, meddaf, yn prufó yn gwbl barodrwydd llygredig annian dyn, i geiſio eulynod a fyther gwedy eu goſod i fynu vn waith, ac i'w haddoli hwy.

Ac fal hyn y mae 'n eglur cyſtadl wrth ddechreuad a naturiaeth eulynod a delwau, ac wrth barodrwydd a hyblygedd llygredig natur dyn i'w haddoli hwy, na ellir na doſparthu delwau os goſodir i fynu yn gyhoeddus, na chadw a chynnal dynnion os gwelant ddelwau gwedy eu goſod mewn temlau ac Eglwyſydd, oddiwrth ddelw-addoliaeth.

Ac lle maent yn goſod droſtynt ymmhellach, er darfod i'r bobl, tywyſogion, gwyr call, a gwyr dyſcedig, yn yr hên amſeroedd, gwympo i ddelw-addoliad trwy achoſion delwau, etto yn ein hamſer ni nid ydyw y rhan fwyaf, yn enwedig y rhai dyſcedig call, a'r rhai mewn awdurdod, yn derbyn na drwg na thramgwydd oddiwrth ddelwau, nac yn rhedeg attynt i wledydd pell ac yn eu addoli hwy: ac y gwyddont hwy yn ddifai pa beth yw eulyn neu ddelw, a pha fodd yr arferir hwy, ac y canlyn ar hyn nad ydyw delwau mewn eglwyſydd ond pethau diddrwg didda, y rai ni chamarfer rhai ddim o honynt: ac am hynny y gallant ddala yn gyſion (megis y dechrauaſont ddodi droſtynt ynnechreuad y rhan hon) nad yw yn anghyfraithlon nac yn ddrygionus hollol, fod delwau mewn eglwyſydd a themlau, er na thybygir fod hynny yn gyfaddas, rhag perigl i'r rhai difedr.

Yn erbyn hyn y gellir atteb ailwaith, fod Salomon hefyd, y callaf o'r dynnion, yn gwybod yn dda iawn, pa beth oedd eulyn neu ddelw, a thros hîr ennyd na chafodd ef ei hunan ddim drwg oddiwrthynt: ac fe a arfogodd eraill hefyd a'i ſerifennadau duwiol yn erbyn eu henbeidrwydd hwy. Ac etto yn hyn pan oddefodd yr vn Salomon i'w buteiniaid drythyll ddwyn delwau i'w lys a'i balâs, fe annogwyd gan buteiniad cnawdol, ac a yrrwyd gyda hynny i wneuthur godineb yſprydol i eulynod, ac o'r tywyſog duwiolaf a challaf fe aeth yn ffolaf ac yn annuwiolaf.

Gorau am hynny i'r callaf feddwl am y rhybydd Eccl. 3 26. hwn, Yr hwn a hoffo berigl a Ddifethir. ddifhair ag ef: A'r 1. Cor. 10. 12. hwn y ſydd yn tybied ei fod yn ſefyll ſynned na ſyrthio, Ac na oſoded trwy wybod ac yn ewyllyſgar y fath faen tramgwydd i'w draed, ac i draed eraill hefyd, y rhai onid odid a'u dygant hwy yn y diwedd i dorri eu Gyddygau. gyddfau.

Fe wyddai y brenin daionus Ezechias yn ddifai ddigon nad ydoedd y ſarph bres onid delw farw, ac am hynny ni chafodd ef ei hun ddim aniwed oddiwrthi trwy addoli iddi. Ai gadawodd ef hi am hynny i ſefyll, am na chafodd ef ddim drwg o'i hachos hi? Naddo, ond ac ef yn frenin duwiol, ac am hynny yn gofalu am iechyd ei ddeiliaid truain a dwyllaſid gan y ddelw honno i wneuthur delwaddoliaeth iddi, ni thynnodd ef hi i lawr yn 2. Bren. 18. 4. vnic ond fe a'i torrodd hi yn ddrylliau. A hyn a wnaeth ef i'r ddelw honno a oſodaſid i fynu trwy orchymmyn Duw, yngwydd yr hon y gwnelſid gwrthiau mawr, megis yngwydd vn oedd arwydd o'n Iachawdwr Chriſt a ddawai, yr hwn a'n gwaredai ni oddiwrth frath angheuol yr hên ſarph Sathan. Ac nid arbedodd ef hi nac er ei henaint, ai hoedran, yr hon a barhaeſai vwchlaw ſaithcant o flynyddoedd, nac er i lawer o frenhinoedd duwiol da ei goddef hi ai chadw cyn ei amſer ef. Pa fodd, dybygwch chwi, y trwſiai y tywyſog duwiol hwnnw pe byddai fe byw yn awr, ein delwau ni, y rhai a oſodwyd i fynu yn iniawn yn erbyn gorchymmyn Duw, ac heb fod yn arwyddion o ddim ond ffolineb, ac i ffoliad i edrych arnynt, nes eu bod hwy mor gall a'r cyffion y maent yn edrych arnynt, ac hyd oni chwympont i lawr megis hedyddion gwedy eu hofni, wrth lygadrythu arnynt, ac a hwy yn fyw eu hunain hwy a addolant bren neu garreg, aur neu arian marw: ac felly yr ânt yn ddelwaddolwyr ffiaidd melldigedig gan y bywiol Dduw, gan roddi yr anrhydedd ſydd ddyledus i'r hwn a'u gwnaeth hwy pan nad oeddynt ddim, ac i'n Iachawdwr Chriſt yr hwn a'u prynodd hwy gwedy eu colli, i ddelw farw fud, gwaith dwylo dŷn, yr hon ni wnaeth er ioed ac ni ddichon wneuthur dim droſtynt byth: ie yr hon ni all na ſymmud nac yſcog, ac am hynny ſydd waeth nâ phryfyn gwael yr hwn a all ymluſco ac ymſymmud.

Ni chafodd y brenin godidawg Ioſias ddim 〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉 eniwed hefyd gan ddelwau ac eulynnod, o herwydd fe wyddai yn ddifai pa beth oeddynt hwy, a adawodd ef o blegid ei wybodaeth ei hun, eulynnod a delwau i ſefyll, chwaethach eu goſod hwy i fynu? oni chynnorthwyodd ef yn hytrach trwy ei wybyddiaeth a'i awdurdod, y rhai ni wyddent pa beth oeddynt hwy, gan dynnu ymmaith yn llwyr yr holl faini tramgwydd ac a allent fod yn achoſion diſtryw i'w bobl a'i ddeiliaid ef? Ac o blegid bod rhai o honynt heb gael eniwed oddiwrth ddelwau ac eulynod, a dorrant hwy am hynny gyfraith Dduw, Na wna iti dy hun lun dim, &c. Hwy a allant reſymmu yn gyſtadl fal hyn, O herwyd na hudwyd Moeſes gan ferch Iethro, na Boos gan Ruth, y rhai oeddynt ddieithriaid, y galle 'r holl Iddewon dorri cyffredinol gyfraith Dduw, yr hon ſydd yn gwahardd i'r bobl gyſſylltu eu plant â dieithriaid, rhag iddynt hudo eu plant hwy i beidio â chanlyn Duw.

Am hynny y rhai a reſymmant fal hyn, er nad ydyw gyfaddas etto mae 'n gyfraithlon fod delwau 'n gyhoeddus, ac ydynt yn prufo fod hynny yn gyfraithlon trwy ambell ſiampl o wyr dichlyn dewiſol: os dywedant hynny am bawb yn ddiwaniaeth, yr hyn ni ddichon ond rhai ei gadw yn ddieniwed, ac yn ddidramgwydd, mae 'n debyg eu bod hwy yn cyfrif y cyffredin yn lle eneidiau dibris (fal y dywaid hwnnw yn Virgil) am y rhai ni ddylai fod fawr gyfrif am eu colledigaeth neu eu cadwedigaeth y rhai er hyn y talodd Chriſt am danynt mor brid ac am y tywyſog galluoccaf, callaf, a gorau ei ddyſc ſydd a'r y ddaear. Ac pwy bynnac a fynnont gymmeryd hyn yn gyffredinol yn ddidrwg, o blegid bod ambell vn heb gymmeryd aniwed oddiwrtho, er bod heblaw y rhai hynny rifedi aneirif yn myned i ddiſtryw, maent yn dangos nad ydynt yn gwneuthur ond ychydig wahaniaeth rhwng cyffredin Griſtionogion ac anifeiliaid mudion, y rhai y maent mor ddiofal am eu peryglu.

Ac heblaw hyn os Eſcobion, perſonaid, neu eraill ſydd a chur eneidiau arnynt, a ymreſymmant fal hyn, mae 'n gyfraithlon fod delwau yn gyhoeddus er nad ydyw yn gyfaddas; pa fath fugeiliaid y maent yn dangos eu bod i'w cynulleidfaon, y rhai a wthiant arnynt y peth y maent hwy yn ei addef nad ydyw yn gyfaddas iddynt, i lwyr ddiniſtr eneidiau y rhai a orchmynnwyd i'w cadwedigaeth hwy, am y rhai y gorfydd arnynt roddi iniawn gyfrif ger bron tywyſog y bugeiliaid y dydd diwethaf? O herwydd nid ydyw yn vnic yn beth anghyfaddas, ond hefyd yn anghyfraithlon ac yn felldigedig, oſod o flaen y gweiniaid a'r rhai ſydd barod i gwympo o hanynt eu hunain, y fath fain tramgwydd. Am hyn, peth rhyfedd yw pa fodd y gallant alw delwau a oſodir i fynu mewn eglwyſydd a Themlau, heb na budd nac elw oddiwrthynt, ond perigl ac enbeidrwydd mawr, ie eniwed a diſtryw i lawer, neu yn hytrach i aneirif o eneidiau, yn bethau diddrwg? Onid yw eu goſod hwy i fynu yn fagl i'r holl ddynnion ac yn demptio Duw?

Yr ydwyf yn deifif ar y rheſymwyr ymma alw i'w cof eu hordeiniaethau a'u deddfau arferedig eu hunain, trwy y rhai yr ordeiniaſont na ddarllenid yr Scrythyr (er i Dduw ei hun orchymmyn fod gwyr gwragedd a phlant yn ei gwybod hi) gan y bobl annyſcedig ac na byddent yn yr iaith gyffredin, o herwydd (fal y dywedent hwy:) fod yn enbaid hyn, rhag iddynt ddwyn y bobl i amryfyſedd. Dew. 31. 12.

Ac ni waharddant hwy oſod delwau mewn eglwyſydd a Themlau, y rhai ni orchmynnir ond y waharddir hefyd gan Dduw yn galed: ond eu gado hwy yno yn waſtad, ie a'u maenteinio hefyd, gan eu bod hwy yn dwyn y bobl nid yn vnic i enbeidrwydd, ond yn wir i amryfyſedd ffiaidd a delw-addoliad cas? Ac a gauir gair Duw, rhag fal y dywedant enbeidrwydd hereſiau, er i Dduw orchymmyn ei ddarllen ef i bawb, a bod pawb yn ei wybod ef? Ac a oſodir er hynny ddelwau i fynu? a oddefir hwy ac a faentaenir hwy mewn eglwyſydd a Themlau, er bod Duw yn eu gwahardd hwy, ac er maint enbeidrwydd delw-addoliad ſydd oddiwrthynt? Oh ddoethineb fydol gnawdol gwedy ymroi i faeinteinio dychymygion a thraddodiadau dynnion trwy reſymmau cnawdol, a thrwy yr vn rhyw i ddiddymmu ac i wradwyddo ſanctaidd ordeiniaethau, cyfraithiau ac anrhydedd y tragwyddol Dduw, yr hwn a anrhydeddir ac a glodforir yn dragywydd. Amen.

Bellach mae 'n aros ini ynniwedd y traethawd hwn ddangos yn gyſtadl gamarferiad eglwyſydd a Themlau, wrth eu trwſio a'u harddu hwy yn rhy werthfawr ac yn rhy wychion, ac hefyd trwy annuwiol beintio goreuro a dilladu delwau: ac felly y diweddir yr holl draethawd.

Nid oedd gan Griſtionogion yn amſer Tertulian, drugain mlynedd a chant yn ol Chriſt, ddim Temlau, ond tai cyſfredin i'r rhai yr arferent fyned fynychaf yn ddirgel: A chyn ei amfer ef yr oeddynt Tertul. apolog. 139. mor bell oddiwrth fod ganthynt demlau gwedy eu trwſio 'n hardd, fal y gwnaethpwyd cyfraithiau yn amſer Antonius Verus a Chomodus yr Ymmerodron na byddai i Griſtionogion fod yn drigolion mewn tai, na dyfod i gymanfau cyffredinol, nac ymddangos yn yr heolydd nac yn Euſeb. li. 5. cccl. hiſt. vn lle ymmyſc pobl, ac os cyhuddid vnwaith eu bod hwy yn Griſtionogion, na oddefid iddynt ddiangc mewn vn modd yn y byd, fal y gwnaethpwyd ac Apolonius ſenadur pendefigaidd o Rufain, gwedy i'w gaethwas ef ei hun gyhuddo ei fod ef yn Griſtion, ni allai fe ei wared ei hun rhag Hyeronymus. angau, nac wrth yr ymddiffynniad yr hwn a ſcrifennodd ef yn ddyſcedig ac yn ymadroddus, ac a ddarllenwyd yn gyhoeddus yn y ſeneddr, nac er ei fod ef yn ddinaſydd yn Rufain, nac o blegid gwaeledd ac a'nghyfraithlonrwydd ei gyhuddwr, yr hwn oedd gaethwas iddo ef i hun, ac am hynny yn debyg o genfigen i lunio celwyddau yn erbyn ei arglwydd, na thrwy vn modd na chynhorthwy arall yn y byd, fal yr ydoedd yn gorfod ar Griſtionogion drigo mewn ffauau a gogofau, mor bell oeddynt hwy yr amſer hwnnw oddiwrth fod ganthynt demlau cyhoeddus, gwedy eu trwſio a'u harddu fal y maent yn awr.

Yr hyn a adroddir ymma i argyoeddi celwyddau digywilydd y rhai a ddywedant y fath chwedlau peintiedig têg am y deml wych odidawg oedd gan S. Petr, Linus, Cletus a'r deg ar vgain o Eſcobion eraill ar eu hol h wy, yn Rufain, hyd yn amſer yr Ymmerodr Conſtantin, a'r hon oedd gan S. Policarp yn Aſia, a'r hon oedd gan Irenaeus yn Ffrainc, er mwyn gallu wrth y fath gelwyddau yn wrthwyneb i'r holl hen hiſtoriau cywir, faenteinio gormod goreurad a thegwch ar demlau ac Eglwyſydd, yn y dyddiau hyn: yn yr hyn y maent yn dodi haychen holl ſum a ſyrth ein crefydd ni, ond fe a ennillodd yr amſer hynny y byd i Griſtionogaeth, nid wrth deg oreuro a pheintio temlau y Chriſtionogion, y rhai nid oedd ond yn brin tai ganthynt i drigo ynddynt: ond trwy dduwiol ac megis goreurog feddyliau a ffydd gadarn, y rhai ym-mhob adfyd ac erlid, oeddynt yn cyſſeſu gwirionedd ein crefydd ni.

Ac yn ol yr amſer hyn ynghyhoeddiaid Maximian a Chonſtantinus Ymmerodron y galwyd y lle yr oedd Chriſtionogion yn arfer o ddyfod i weddi gyffredin, yn ymgynullfau. Ac yn llythyr yr Ymmerodr Galerius Maximinus y gelwir hwy Oratoria, dominica, hynny yw lleoedd gwedy Euſeb. cap. 19. lib. 9. cap. 9. eu cyſſegru i waſanaeth yr Arglwydd. Ac ymma ar y ffordd y gallwn weled nad oedd yn yr amſeroedd hynny, nac Eglwyſydd na themlau gwedy eu cyfodi i vn ſant, ond i Dduw ei hun, fal y mae S. Awſtin yn adrodd hefyd gan ddywedyd, Nid De ciuita. Dei lib. 8. cap. 1. ydym yn gwneuthur dim temlau i ferthyron. Ac mae Euſebius yntef yn galw Eglwyſydd yn dai gweddi, ac yn dangos fod pawb yn amſer Conſtantin yr Ymmerodr yn llawennychu fod yn lle yr ymgynnull-fannau iſſel, y rhai a ddiniſtraſſe tyroniaid, yn adail temlau vchel.

Welwch hyd amſer Conſtantin dros gwedy trychant mlynedd yn ol ein Iachawdwr Chriſt, pan oedd ffydd a chrefydd Chriſt buraf ac yn wir oreuraid, nad oedd gan Griſtionogion ond cynulleidfannau iſſel, gwael, a thai gweddi bychain, ie gogofau dan y ddayar, a elwir Cryptę, lle rhag ofn erlid yr ymgynullaſont hwy ynghŷd yn ddirgel. Arwydd o'r hyn ſydd yn aros etto yn y gogofau y rhai ſydd etto dan eglwyſydd, i ddwyn ar gôf ini hen ſtat a chyflwr y brif-eglwys gyntaf, ymmlaen amſer Conſtantin, lle yn amſer Conſtantin ac ar ei ol ef yr adailadwyd temlau mawrion, gwych, têg i'r Chriſtionogion, y rhai a elwid Baſilicae: naill ai am fod Groegwyr yn galw pob lle têg mawr Baſilicas: ai am fod yn gwaſanaethu ynddynt y tragwyddol frenin goruchel Duw, a'n Iachawdwr Chriſt. Ac er i Conſtantin a thywyſogion eraill o zêl ddaionus i'n crefydd ni, drwſio a harddu yn wych odidawg demlau Chriſtionogion, etto hwy a gyſſegrent ar yr amſer hynny eu holl Eglwyſydd a'u Temlau i Dduw, ac i'n Iachawdwr Nouel Con. 3. & 47. Chriſt, ac nid i neb o'r ſaint, O herwydd fe ddechreuodd y camarfer hynny yn hîr a'r ol hynny, yn amſer Iuſtinian. Ac fal yr arferwyd y gwychter hwnnw yr amſer hynny, ac y cyd-ddygwyd ag ef megis peth yn dyfod o zêl dda, etto fe ddangoſodd y dyſcedig duwiol yr amſer hynny, y gallaſid treulio hynny yn well mewn moddion eraill.

Bydded S. Ierom (er ei fod mewn moddion yn rhy gu ac yn rhy hoff gantho 'r pethau hyn oddiallan) yn dyſt o hyn, gan yr hwn yn ei lythr at Demetriades y mae 'r geiriau hyn, Gedwch chwi i eraill adail Eglwyſydd, a gorchguddio parwydydd a maini mynor, dwyn ynghyd golofnau mawrion a goreuro eu pennau hwy, y rhai ni chlywant ac ni ddeallant eu hoŷwad a'u harddad gwerthfawr hynny, harddent a thrwſient hwy y dryſau ag Ifori ac ag arian, a goſodant i fynn allorau aur a meini gwerthfawr, nid ydwyf yn beio arnynt, bydded pob gwr lawn yn ei yſtyr ei hun: gwell iddynt wneuthur felly nâ chadw eu cyfoeth yn ofalus: ond mae i ti ffordd arall gwedy ei aypoyntio i ti, dillada Chriſt yn y tlawd, ymweled ac ef yn y claf, a'i borthi yn y newynog, ei letteua ef yn y rhai ſydd ac eiſiau lletty arnynt, ac yn enwedig y rhai ydynt o dolwyth y ffydd. Ac mae 'r vn Ierom yn Son. crybwyll am yr vn peth yn gwplach yn ei draethawd am fywyd gwyr Eglwyſig at Nepotian, gan ddywedyd fal hyn, Mae llawer yn adail muriau, yn cyfodi colofnau Eglwyſydd, mae 'r mynor llyfn yn diſcleirio, mae nen y tai yn goleuo gan aur, mae'r allor gwedy ei hamgylchu a meini gwerthfawr: ond ar waſanaethwyr Chriſt nid oes na dewis nac etholedigaeth.

Ac na oſoded neb yn fy erbyn y deml gyfoethog oedd yn Iudea, yr hon yr oedd ei bord a'i chanwyllernau, ei gefeiliau, ei thuſſerau, ei chawgiau, ei phiolau a'i llwyau, a phob peth arall yn aur: Yr ydoedd yr Arglwydd yn fodlon i'r pethau hyn yr amſer hynny, pan oedd yr offeiriaid yn offrwm aberthau, a phan gyfrifid gwaed anifeiliaid yn iawn am bechod. Ond y pethau hyn i gyd oedd yn myned o'r blaen mewn arwydd, ac a ſcrifennwyd er ein mwyn ni ar y rhai y daeth diwedd y byd. Ac yn awr pan yw 'n Arglwydd ni ac ef yn dlawd gwedy cyſſegru tlodi ei dy, cofiwn ei groes ef, ac ni a gyfrifwn gyfoeth megis llacca a thom. Paham yr ydym ni yn hoffi y byd hyn a alwodd Chriſt y mammon melldigedig? Paham yr ydym ni yn cyfrif cyfuwch, ac yn caru cymmaint, y pethau y mae S. Petr yn ymogoneddu nad oeddynt gantho? hyd yn hyn S. Ierom.

Fal hyn y gwelwch fod S. Ierom yn dangos nad ydoedd y gwychter ym-mhlith yr Iddewon onid arwydd i arwyddocau pethau a ddawent, ac nid ſiampl ini i'w canlyn, a bod yn goddef y pethau hyn oddiallan dros amſer nes dyfod Chriſt ein harglwydd, yr hwn a drodd y pethau hynny oddi allan i Yſpryd ffydd a gwirionedd.

Ac mae 'r vn S. Ierom yn dywedyd ar y ſaithfed o Ieremi, fe orchymmynnod Duw i'r Iddewon yr amſer hynny, ac yn awr i ninnau, y rhai a oſodwyd yn yr eglwys, na byddo ini ymddired yngwycher yr adailad a'r nennau goreurog; a'r parwydydd gwedy eu gorchgiddio â llechau mynor: gan ddywedyd Teml yr Arglwydd, Teml yr Arglwydd: honno yw Teml yr Arglwydd yn yr hon y mae gwir ffydd a duwiol ymddygiad a thyrfa pob rhinweddau yn trigo. Ac ar y Prophwyd Aggeus, mae fe 'n goſod allan wir ac iawn drwſiad a harddwch Teml yn y modd ymma, Yr ydwyf, medd S. Ierom yn tybied mai 'r arian yr hwn yr harddir ty Dduw ag ef, yw athrawaeth yr Scrythyrau, am yr hyn y dywedir, Athrawaeth yr Arglwydd ſydd athrawaeth bur, arian gwedy ei goethi yn y tân, gwedy ei garthu oddiwrth ſothach, a'i buro ſaithwaith. Ac yr ydwyf yn tybied mai 'r aur ywr peth ſydd yn aros yn yſtyr cuddiedig y ſaint, ac ynnirgelwch y galon, ac yn diſcleirio gan wir oleu Duw: Yr hyn ſydd eglur fod yr apoſtol yn ei ddeall hefyd am y ſaint a adailadant ar y ſylfaen Chriſt, rhai arian, rhai aur, rhai faini gwerthfawr: y gellir arwyddocae wrth yr aur yr yſtyr a'r deall dirgel; wrth yr arian, ymmadroddion duwiol; wrth y meini gwerthfawr, y gwaithredoedd ſydd yn bodloni Duw. A'r mettelau hyn y gwnair eglwys ein Iachawdwr Chriſt yn harddach ac yn yn deccach nag ydoedd y Synagog yn yr hên amſer. A'r cerrig bywiol hynny yr adailadir eglwys a thŷ Griſt, ac y rhoddir iddi heddwch yn dragywydd. Geiriau S. Ierom ydyw y rhai hyn oll.

Ac felly nid oedd gymmeradwy gan yr hên Eſcobion a doctoriaid duwiol, ry hoywder temlau ac eglwyſydd, a phlat, a lleſtri aur, ac arian, a dillad gwerthfawr. Fe a ddywaid Chryſoſtom nad rhaid yngwaſanaeth y Sacramentau ſanctaidd wrth leſtri auraid ond meddyliau auraid. Ac mae 2. Offic. ca. 28. S. Ambros yn dywedyd, fe a ddanfonodd Chriſt ei apoſtolion heb aur, ac a gynnullodd ei eglwys heb aur. Mae aur gan yr eglwys nid i'w gadw ond i'w dreulio ar anghenrhaidiau 'r tloddion. Nid ydyw y Sacrament yn edrych am aur, ac nid ydyw y rhai ni phrynwyd am aur, yn bodloni Duw er mwyn yr aur. Harddu a thruſio Sacramentau yw prynu carcharorion o'u caethiwed. Hyd yn hyn S. Ambros.

Ac mae S. Ierom yn canmol Exuperius Eſcob Tolos am ei fod yn dwyn Sacrament corph yr Arglwydd mewn baſced brwyn, a Sacrament ei waed ef mewn gwydr: ac felly yn taflu trachwant allan o'r eglwys. Ac mae Bonifacius Eſcob a merthur, fal y cofir yn yr odeiniaethau, yn tyſtiolaethu, Titul de conſ. can. tribuerien. yn yr hên amſeroedd fod y gwnenidogion yn arfer lleſtri coed ac nid lleſtri aur. Ac fe wnaeth Zepherinus Eſcob Rufain ordeiniaeth ar iddynt arfer lleſtri gwydr. Lib. 1. Iuſt. cap. 14.

Felly yr oedd y gwiſcoedd a arferid yn yr eglwys yn yr hên amſer yn blaen, yn ddiſyml ac yn ddigoſt. Ac mae Rabanus yn manegi yn halaeth ddarfod cyrchu y trwſiad o wiſcoedd gwych a arferid er yn hwyr amſer yn yr eglwys oddiwrth arfer yr Iddewon, a'i fod yn cytuno a thrwſiad Aaron yn hollol haychen. Er maenteinio y rhai hyn mae 'r Pab Innocentius yn cyhoeddi yn Hyf. eon, na ddiddymmwyd holl arferon yr hên gyfraith, fal yr elem ni yn ewyllyſgarach yn y fath ymdrwſiad, o Griſtionogion yn Iddewaidd.

Hyn yr ydys yn ei ddangos nid yn erbyn eglwyſydd a Themlau, y rhai ſydd anghenrheidiol iawn, ac a ddlyent gael eu parch a'u hanrydedd, fal y manegwyd mewn pregeth arall i'r defnydd hynny, nac yn erbyn eu glendid cyfaddas a'u trwſiad hwy; ond yn erbyn rhy wychder Temlau ac eglwyſydd. O blegid Teml ac eglwys Dduw yw hon hefyd, yr hon nid ydyw yn diſcleirio â maen mynor ac yn llewyrchu gan aur neu arian, nac yn tywynnu â meini gwerthfawr, ond a diſymlder a chynhilwch, ac ni arwyddoca na balch athrawaeth, na balch bobl, ond goſtyngedig cynnil heb wneuthur cyfrif o bethau dayarol oddiallan, ond gwedy ei thrwſio 'n hardd â'i thrwſiad oddifewn, fal y manegodd y prophwyd gan ddywedyd, Merch y brenin ſydd yn hardd oddifewn. Pſ.

Yn awr ynghylch anllywodraethus drwſio delwau ac enlynnod yn hardd oddiallan, a pheintiad, goreurad, addurnad gwiſcoedd gwerthfawr, a gemmeu, a maini gwych; pa beth yw hyn ond chwaneg o annogaeth a llithiad i oddineb yſprydol? trwſio puteiniaid, yſprydol yn werthfawr, ac yn wych? yr hyn y mae 'r eglwys ddelw-addolaidd yn ei ddeall yn ddifai ddigon. O herwydd am ei bod hi mewn gwirionedd, nid yn vnic yn buttain, fal y gailw yr Scrythyrau hi, ond hefyd yn buttain front Angharuaidd. wrthun, hên, wywedig, o herwydd yn wir mae hi 'n hên mewn blynyddoedd, a chan ddeall ei heiſiau naturiol a gwir degwch, a'i mawr anferthwch ſydd ynddi o honi ei hunan, mae hi yn ol arfer y fath buteiniaid, yn ei pheintio, yn ei thrwſio ac yn ei gwiſco ei hun, ag aur, meini gwerthfawr, a phob tlyſau gwerthfawr; fal y gallo hi gan ddiſcleirio gan harddwch a gogoniant y rhai hynny fodloni ynfyd ffanſiau cariadon ynfyd; a'u llithio hwy felly i odineb yſprydol gydâ hi: y rhai pe gwelent hi (ni ddywedaf yn Noeth. hoeth) ond mewn dillad diſyml, hwy a'i caſhaent hi megis y buttain anferthaf a bryntaf ac a weled erioed: fal y gellir gweled wrth bortreiad puttain yr holl buttemniaid, mam putteindra, ſydd wedy ei goſod allan gan S. Ioan yn ei weledigaeth, Gwel. 16. 18. yr hon trwy ei gwag-ogoniant a annogodd dywyſogion y ddayar i wneuthur puteindra gydâ hi: lle yn y gwrthwyneb y mae gwir eglwys Dduw megis gwraig ddiwair, gwedy ei dyweddio ag vn gwr (fal y dangos yr Scrythur) yr hwn yw ein Iachawdwr Ieſu Ghriſt, i'r hwn yn vnic y mae hi yn fodlon i ryngu ei fodd a'i waſanaethu, ac nid ydyw hi yn edrych am fodloni llygaid na ffanſiau cariadon dieithr eraill: mae hi 'n fodlon i'w harddwch naturiol ei hun, heb ammau nad trwy y fath wir ddiſymldra y bodlonai hi ef orau, am ei fod ef yn gwybod yn dda 'r gwahaniaeth rhwng wynebpryd gwedy ei beintio a gwir bryd a thegwch naturiol.

Ac ynghylch y fath wag-ogoneddus oreurad a thrwſiad delwau mae gair Duw a ſcrifennwyd yn y ddegfed bennod o brophwydoliaeth y Prophwyd Iere. 10. 3, 4. &c. Ieremi, a Chomentau S. Ierom ar y man hynny, yn haeddu eu yſtyriaid yn ddifrif.

Yn gyntaf gairiau 'r Scrythyrau yw y rhai hyn, Cymmynwyd pren o'r coed, gwaith llaw ſaer, a bwyall, ag arian ac ag aur yr harddwyd hwy, ac â morthwylion y ſiccrhawyd hwy rhag cwympo: megis palm wydden y byddant ac ni lafarant: gan wyr y dygir hwynt, ni allant gerdded: nac ofnwch hwy, cans ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes yndynt. Fal hyn y dywaid y prophwyd.

Ar yr hwn dext mae gan S. Ierom y geiriau hyn, Dymma bortreiad eulynnod y cenhedloedd, y rhai y maent yn eu haddoli: mae eu defnydd hwy yn wael ac yn llygredig, a chan fod eu gwneuthurwr hwy yn farwol, mae 'n rhaid bod y pethau y mae ef yn ei wneuthur, yn ddarfodedig: mae 'n eu trwſio hwy ag arian, ac aur, fal trwy ddiſcleirdeb y ddau fettel hynny, y gallont dwyllo 'r diddrwg. Yr hwn amryfyſedd yn wir a ddaeth oddiwrth y cenhedloedd, am ini farnu bod crefydd yn ſefyll mewn cyfoeth. Ac ar ol hynny yn y mann y mae fe 'n dywedyd, mae iddynt bryd metelau, ac hwy a harddwyd â chelfyddyd peintio, ond daioni nac ennill nid oes yndynt. Ac yn y man ar ol hynny ailwaith, maent hwy yn gwneuthur addewidion mawrion, ac yn dychymygu delw ac ofer addoliad o'u phanſiau eu hunain, maent yn ymffroſtio llawer i dwyllo pob dyn diddrwg, maent yn Diharffu. hurtio ac yn ſynnu deall yr annuſcedig, megis trwy ymadroddion goreurog a doethineb yn diſcleirio trwy loywder arian. A chan eu dychmygwyr a'u gwneuthurwyr y mawrhair, ac y clodforir y delwau ymma, yn y rhai nid oes na budd na lles, y rhai y mae eu haddoliad yn perthyn yn briodol at y cenhedloedd, a'r rhai nid adwaenant Dduw.

Hyd hyn y mae geiriau S. Ierom, yn y rhai y gellwch weled ei farn ef, yn gyſtadl am ddelwau eu hunain, ac am eu peintio, eu goreuro a'u trwſio hwy; mai camſynnaid yw hynny a ddaeth oddiwrth y cenhedloedd, ei fod yn perſwadio mai mewn cyfoeth y mae creſydd yn ſefyll; ei fod yn hurtio ac yn twyllo y diddrwg a'r annyſcedig ag ymmadroddion goreurog diſclair a Hyawdled. ffraethineb arian; a bod hyn yn perthyn yn neilltuol at y cenhedloedd, a'r rhai nid adwaenant Dduw. Am hynny wrth farn S. Ierom, mae cadw, peintio, goreuro, a thrwſio delwau yn gyfeiliornus, yn llithio ac yn dwyn i gamſynnaid, yn enwedig y diddrwg a 'r annyſcedig; yn genhedlaidd ac heb wybodaeth Duw.

Yn ſiccr mae'r Prophwyd Daniel yn 11. Bennod o'i brophwydoliaeth yn dangos fod y fath werthfawr drwſiad ar ddelwau ag aur ac arian a meini gwerthfawr, yn arwydd o deyrnas Anghriſt: yr hwn fal y dengys y prophwyd, a addola Dduw â'r fath bethau gwychion. Yn awr fe gyfododd ac a faenteiniwyd yn arferol y fath anfeſſurol hoywad, a thrwſiad a'r ddelwau, naill ai o offrymmau a annogodd ofergoel, ac a roddwyd mewn delw-addoliaeth, ai o yſpail, lledrad, ac occr, neu dda a gynullaſid trwy anghyfiawnder mewn moddion eraill, o'r rhai y rhoes dynnion drwg ran i'r delwau, neu i'r ſaint, fel y galwant hwy, er mwyn cael maddeuant am y cwbl: fal y dangoſir yn hawdd wrth lawer o ſcrifennadau a hên goffadwriaethau, ynghylch achos adiwedd rhyw roddion mawrion.

Ac yn wir gwedduſſaf man i wario pethau a ennillwyd mor annuwiol, yw eu gwario ar ddefnydd mor annuwiol. Ac mae 'r hyn y maent hwy yn ei dybied ei fod yn dâl i Dduw am y cwbl, yn ffieiddiach yngolwg Duw nâ'u melldigedig ennill hwy, ac nâ melltigedig drauliad y rhan arall. O herwydd mae 'r Arglwydd yn manegi mor Eſai 61. 8. fodlon gantho y fath roddion, ymhrophwydoliaeth Eſaias, gan dywedyd, Canys myfi yr Arglwydd a hoffaf gyfiawnder, gan gaſhau trais mewn poeth offrwm. Yr hyn beth yr oedd y cenhedloedd yn ei ddeall. O herwydd mae Plato 'n Dial. de leg. 20. dangos fod y rhai a fwriadant y maddau Duw i ddynnion drwg, os rhônt iddo ef ran o'r yſpail a'r trais, yn tybied ei fod ef yn debyg i gi, yr hwn a gymmer i lithio a'i hurio i gymmeryd rhan o'r yſpail, er goddef i'r blaiddiau ladd y defaid.

A phe ennillid y da yn gyſion, â'r hwn y trwſied y delwau, etto ynfydrwydd anferth yw gwario 'r da a ennillwyd trwy ſynwyr a gwirionedd, mor ynfyd, ac mor annuwiol. Am y fath ddrygioni yr ſcrifenna Lactantius fal hyn, Ofer y trwſia dynnion ddelwau y duwiau ag aur ac ifori, ac â Lact. lib. 2. Inſti. c. 4. meini gwerthfawr, megis pe gallent gymmeryd hoffder yn y pethau hyn. O herwydd pa ddefnydd ſydd gan y rhai nid ydynt nac yn teimlo nac yn deall, o'r rhoddion gwerthfawr hynny? yr vn defnydd ac y ſydd gan ddynnion meirwon. O herwydd wrth yr vn fath reſwm y maent yn claddu cyrph meirwon, gwedy eu llanw â llyſiau ac aroglau, a chwedy eu dillatta â thrwſiad gwerthfawr, ac y maent yn trwſio delwau y rhai ni chlywſōt, ac ni wybuōt, pa bryd y gwneuthpwyd hwy, ac ni ddeallant pa bryd yr anrhydeddir hwy. O herwydd nid ydynt yn cael na ſynwyr na deall wrth eu cyſſegrad. Hyd yn hyn Lactantius, a llawer gydâ hyn, rhy hir ei adrodd ymma, gan fanegi mai megis y mae plant bach yn chware â babiod bychain, felly y mae 'r delwau gwychion ymma yn fabiod mawrion i hên ddynnion i chwareu â hwynt.

Ac fal y gallom wybod pa beth a farne nid yn vnic gwyr o'n crefydd ni, ond gwyr dyſcedig o'r cenhedloedd hefyd, am drwſio delwau meirwon; nid yw anfuddiol ini wrando pa beth y mae Seneca, gwr call dyſcedig iawn o Rufain a Philoſophydd, yn ei ddywedyd am y ffolineb a arfere hên wyr oedrānus yn ei amſer ef, wrth addoli a thrwſio delwau. Nid ydym, medd ef, yn blant ddwywaith, megis y mae 'r hên ddiarheb gyffredinol, ond yn blant yn waſtadol: ond hyn yw 'r gwahaniaeth, pan fythom henaf ein bod yn chwareu 'r plant: ac yn y chwareuau hyn y maent yn dwyn o flaen eu babiod mawrion gwych (o herwydd felly y mae fe yn galw delwau) ennaint, arogldarth a pher-aroglau. I'r̄ babiod ymma y maent yn offrwm aberth, gan y rhai y mae geneuau ac ni wnant ddim â'u dannedd. Ar y rhai hyn y maent yn goſod dillad a thrwſiad gwerthfawr, a hwynt heb wneuthur dim â dillad. I'r rhai hyn y rhoddant aur ac arian er na wnant ddim a hwynt; ie ac mae eu diffig hwy a'r y rhai a'u derbyniant (delwau y mae fe 'n ei feddwl) yn gymmaint ac ar y rhai a'u rhoddant hwy. Ac mae Seneca yn canmol yn fawr Dionyſius brenin Sicilia am yr yſpail ddigrif a wnaeth ef ar y fath fabiod gwychion a'u tlyſſau.

Ond chwi a ofynnwch beth yw hyn i'n delwau ni, yr hyn a ſcrifennwyd yn erbyn eulynnod y cenhedloedd? ſiccr yw ei fod yn perthyn yn gwbl iddynt. O herwydd pa raid neu pa fwyniant ſydd i'n delwau ni o'u trwſiaid a'u gwychder gwerthfawr? a ddeallodd ein delwau ni pan wneuthpwyd hwy? a wybuont hwy pan drwſiwyd a phan harddwyd hwy? Onid ydys yn gwario y pethau hyn mor ofer arnynt hwyntau, ac a'r wŷr meirw yn y rhai nid oes yſtyr.

Am hynny y canlyn fod cymmaint o ffolineb a drygioni wrth drwſio 'n delwau ni megis babiod mawrion i hen ffoliaid fal plant i chware annuwiol chwareuaeth delw-addoliad ger eu bron, ac oedd ymlhith y cenhedloedd a'r ethnicciaid. Mae 'n Eglwyſydd ni yn llawn o'r fath fabiod wedy eu trwſio a'u harddu'n rhyfedd, gwedy dodi coronau a thyrch ar eu pennau, a meini gwerthfawr am eu Gyddygau. gyddfau, a'u byſedd yn diſcleirio â modrwyau yn llawn o gerrig gwerthfawr, mae eu cyrph meirwon ſythion hwy gwedy eu gwiſco â dillad, gwedy eu ſythu ag aur. Chwi a dybygech mai rhai o dywyſogion Perſia yn eu dillad bailchion, yw delwau ein ſaint ni o wŷr, ac mai rhyw buteiniaid murſennaidd gwedy ymbincio i hudo eu cariadon i aflendid, yw delwau ein ſanteſſau ni, trwy 'r hyn nid ydys yn anrhydeddu ſaint Duw, ond yn eu dianrhydeddu, ac yr ydys yn anharddu ac yn peri ammeu eu duwioldeb, eu ſobredd, eu diweirdeb, eu diofalwch am gyfoeth ac oferedd y bŷd hwn, trwy 'r fath anferth drwſiad, yr hwn ſydd mor bell oddiwrth eu ſobredd a'u duwiol fywyd hwy.

Ac er mwyn cwareu 'r holl chwareuaeth drwyddo, nid digon yw trwſio delwau yn y modd ymma, ond yn y diwedd y daw 'r offeiriaid eu hunain, gwedi eu trwſio mewn aur a meini gwerthfawr hefyd, fel y byddont waſanaethwyr cymmheſur i'r fath arglwyddi ac arglwyddeſau, ac addolwyr gweddaidd i'r fath dduwiau a duwieſau; ac â cherddediad eſmwyth hwy a ânt ger bron y babiod goreurog hynny, ac a gwympant ar eu gliniau ym-mlaen yr eulynnod anrhydeddus hyn, a chan gyfodi eilwaith hwy a offrymmant aroglau a tharthau iddynt, er rhoddi ſiampl i'r bobl o ddauddyblyg ddelw-addoliaeth, gan addoli nid y ddelw yn vnig, ond yr aur a'r cyfoeth hefyd a'r hwny y maent gwedy eu trwſio. Yr hyn beth yn gynt nag y gwnele y rhan fwyaf o'r merthyron gynt, ac yn gynt nag yr offymment hwy vn briwſonyn o arogldarth ym-mlaen vn ddelw, hwy a oddefent yr angau creulonaf a thoſtaf ac allai fod, fal y mae eu hiſtoriau hwy yn dangos yn halaeth.

Ac ymma ailwaith y tâl ei yſtyried yr hyn y maent yn eu roi droſtynt allan o Gregori y cyntaf a Damaſcen, mai llyfrau gwŷr llŷg yw delwau, ac Greg. ep. ad Ser. maſl. Damaſ. de fide ortho. mai Scrythyrau ffoliaid a gwŷr annyſcedig ydyw lluniau. O herwydd fal y dangoſwyd eiſoes mewn llawer man mai llyfrau ydynt heb ddangos dim ond celwyddau, megis y mae 'n eglur ddigon wrth yr Apoſtol Pawl yn y Bennod gyntaf at y Rufeiniaid am ddelwau Duw. Felly yſtyriwch yn dda, adolwg, pa fath lyfrau ac Scrythyrau yw y delwau goreurog peintiedig ymma i'r gyffredin bobl. O herwydd gwedi darffo i'n pregethwyr ni ddyſcu ac annog y bobl i ganlyn rhinweddau 'r ſaint, megis diyſtyru y byd hwn, tlodi, ſobredd, diweirdeb a'r fath rinweddau y rhai yn ddiammau oeddynt yn y ſaint: a dybygwch chwi, cygynted ac y trothont eu hwynebau oddiwrth y pregethwr ac yr edrychant ar y llyfrau cerfiedig a'r Scrythyrau peintiedig, eu gwych oreurog ddelwau ac eulynnod yn llewyrchu ac yn diſcleirio â mettel a maini, a chwedy eu gwiſco a gwiſcoedd gwerthfawr neu megis Cheraea yn Terens, os edrychant ar lechau yn y rhai yr ydys gwedy goſod trwy gelfyddyd y peintiwr ddelw mewn dillad murſennaidd drythyll, a'i phryd yn debyccach i Venus neu i Fflora, nag i Fair Fagdalen, neu os ydyw yn debyg i Fair Fagdalen, tebyg ydyw iddi pan ydoedd hi yn chware 'r buttain, ac nid pan ydoedd yn wylo am ei phechodau: pan drothont, meddaf, oddiwrth y pregethwr at y llyfrau, y dyſcawdwyr a'r Scrythyrau peintiedig hyn, oni chant hwy hwynt yn llyfrau celwyddog, yn dyſcu gwers i eraill am wneuthur cyfrif o gyfoeth, balchedd, oferedd mewn trwſiad, drythyllwch, murſendod, ie ac ond odid puteindra, megis y dyſcwyd Cherea gan y fath luniau? Ac yn Lucan fe ddyſcodd vn wers gan Venus Gnidia ry ffiaidd ei hadrodd ymma.

Onid ydyw y rhai hyn yn llyfrau ac ſcrythyrau tlyſion, meddwch chwi, i ddynnion diddrwg, ond yn enwedig i wragedd a merched ieuaingc i edrych yndynt, i ddarllen arnynt ac i ddyſcu gwerſi ganthynt? Pa beth a dybygant hwy am y pregethwr a ddangoſodd iddynt werſi gwrthwyneb am y ſaint, ac am hynny trwy yr athrawon cerfiedig ymma fe haerir arno gelwydd? neu pa beth a dybygant am y faint eu hunain os credant hwy y llyfrau cerfiedig, a'r ſcrythyrau peintiedig hyn am danynt hwy, y rhai a wnāt y ſaint a dernaſant yn awr gydâ Duw yn y nef, er mawr ammarch iddynt, yn ddyſcawdwyr o'r fath oferedd ac oedd ffiaiddiaf ganthynt yn eu bywyd.

O herwydd pa werſi am ddiyſtyru cyfoeth ac oferedd y bŷd a all llyfrau wedi eu hamgylchu fel hyn ag aur a meini gwerthfawr, a'u gorchguddio â ſidan, eu dyſcu? Pa werſi o ſobredd a diweirdeb a all ein gwragedd ni eu dyſcu gan yr Scrythyrau paentiedig hyn, a'u dillad murſennaidd, a'u golwg yſcafn.

Onid ymmaith rhag cywilydd a'r fath gochlau delw-addoliaeth, a llyfrau ac Scrythyrau delwau a lluniau i ddyſcu ffoliaid, nag ê i wneuthur Chriſtianogion yn ffoliaid ynfyd ac yn anifeiliaid.

Ydyw dynion, a dolwg, a hwythau a'r vn fath lyfrau gartref ganthynt, yn rhedeg mewn pererindod i geiſio 'r vn fath lyfrau yn Rhufain, Compoſtella neu Ieruſalem i gael eu dyſcu ganthynt, a hwythau a'r vn fath ganthynt i ddyſcu gartref? A arfer dynion o berchi rhyw lyfrau ac o ddiyſtyru a dibriſio eraill o'r vn rhyw? A ydyw dynion yn arfer penlinio ger bron eu llyfrau, yn ennynnu canhwyllau ar hanner dydd, yn arogl-darthu, yn offrwm aur ac arian, a rhoddion eraill gar bron eu llyfrau? A ydyw dynion nac yn dychymmygu nac yn credu fod eu llyfrau hwy yn gwneuthur gwrthiau? Siccr yw fod Teſtament newydd ein Iachawdwr Chriſt yr hwn ſydd yn cynnwys ynddo air y bywyd, yn fywiolach yn eglurach, ac yn gywirach delw o'n Iachawdwr nâ 'r holl gerfiedig, toddedig a lluniedig ddelwau yn y byd: ac etto nid ydys yn gwneuthur dim o'r fâth bethau hyn i lyfr neu Scrythur Efengyl ein Iachawdwr, ac a wnair i ddelwau, lluniau, llyfrau ac Scrythyrau gwŷr llŷg a ffyliaid (fel y galwant hwy.) Am hynny, galwant hwy yn y modd y mynnont, eglur yw wrth eu gweithredoedd hwynt nad ydynt yn gwneuthur amgen lly frau nac ſcrythyrau o honynt, nâ 'r rhai a ddyſcant ddelwaddoliaeth brwnt atcas: fel y mae y rhai a arferant y fath lyfrau yn dangos beunydd wrth wneuthur y peth hynny.

Oh lyfrau ac ſcrythyrau yn y rhai yr ſcrifennodd y dyſcawdwr cythreulig Sathan werſi melldigedig o felldigedig ddelw-addoliaeth, i'w ddiſcyblon a'i yſcolheigion llwfr i edrych arnynt, i ddarllen ac i ddyſcu ammherchi Duw, a'u herchyll ddamnedigaeth eu hunain. Oni buom ni rwymedig, dybygwch chwi, i'r rhai a ddylaſent ddangos i ni'r gwrionedd allan o lyfr Duw, a'i ſanctaidd Scrythur, am iddynt gau llyfr Duw a'i ſanctaidd Scrythur oddiwrthym, fel na bai neb o honom mor Hyf. eon a'i agoryd ef vnwaith neu ddarllen arno? ac am iddynt yn lle hynny agoryd i ni ar llêd y llyfrau cerfiedig, gwych goreurog, a'r ſcrythyrau paentiedig ymma, i ddyſcu i ni y fath werſi daionus, duwiol? Oni wnaethont hwy yn dda yn ôl iddynt beidio a ſefyll eu hunain yn y pulpudau i ddyſcu 'r bobl a roddwyd iddynt i'w hathrawiaethu, gan dewi â ſon am air Duw, a myned yn gŵn mudion (fel y geilw y prophwyd hwy) oſod i fynu i ni yn eu lle ar bob colofn a chornel o'r eglwys, y fath athrawon daionus duwiol, mor fudion ac annuwiolach nâ hwy eu hunain? Nid rhaid i ni gwyno eiſiau vn perſon mud, a ninnau a chynnifer o Vicariaid diawlig mudidion gennym (yr eulynnod a'r babiod paentiedig ymma yr ydwyf yn ei feddwl) i athrawiaethu yn eu lle hwy.

Yn awr yr hyd y mae 'r delwau mudion meirwon ymma yn ſefyll gwedi eu trwſio a'u dilladu fel hyn yn erbyn cyfraith Dduw a'i orchymmyn, a'r bobl Griſtionogaidd dlodion, bywiol ddelwau Duw, y rhai a orchymmynnodd Chriſt mor gariadus i ni, megis rhai anwyl iawn gantho, yn ſefyll yn noethion, yn crynu gan anwyd, a'u dannedd yn yſcydwyd yn eu pennau, ac heb neb yn eu dilladu, yn dyddfu gan mewyn a ſyched, ac heb neb yn rhoddi iddynt genniog i'w helpu, lle mae punnoedd yn barod bob amſer yn erbyn ewyllys Duw, i drwſio ac i harddu coed a cherrig meirwon, y rhai ni chlywant nac anwyd, na newyn, na ſyched.

Gan Clemens y mae ymadrodd gwych ynghylch y peth hyn, gan ddywedyd fal hyn, Mae 'r ſarph Lib. 5. ad Iacobum Frat. Domini. diafol trwy enau rhyw ddynion yn dywedyd y geiriau hyn, yr ydym ni er anrhydedd i'r anweledig Dduw, yn addoli delwau gweledig: yr hyn yn ſiccr ſydd gelwydd goleu: o herwydd pe gwir anrhydeddech ddelw Dduw, wrth wneuthur daioni i ddŷn yr anrhydeddech wir ddelw Dduw ynddo ef. O herwydd mae llun Duw ym-mhob dŷn, ond nid yw ei gyffelybiaeth ef ym-mhob dŷn, ond yn vnig yn y rhai ſydd a chalonnau duwiol a meddyliau pur. Os mynnwch chwi gan hynny wir anrhydeddu delw Dduw, yr ydym ni yn mynegi i chwi'r gwir, ar ichwi wneuthur daioni i ddŷn yr hwn a wnaethpwyd ar ôl delw Dduw, ar ichwi roddi parch ac anrhydedd iddo ef, cynnorthwyo 'r tlawd â bwyd a'r ſychedig â diod, y noeth â dillad, y claf â gwaſanaeth, y diethr a'r dilettŷ â llettŷ, y carcharorion ag anghenrheidiau, a'r pethau hyn a gyfrifir megis gwedi eu gwîr roddi i Dduw. Ac mae 'r pethau hyn yn perthyn mor iniawn i anrhydedd Duw, megis pwy bynnag ni wnelo hyn, y mae efe yn gwrthwynebu delw Dduw ac yn gwneuthur llwyr gam â hi. O blegid pa anrhydedd i Dduw yw hyn, rhedeg at ddelwau coed a cherrig, ac anrhydeddu gwâg a meirwon luniau Duw, a diyſtyru dŷn yn yr hwn y mae gwir ddelw Dduw?

Ac yn y man ar ôl hyn y dywaid, Deellwch am hynny mai hudoliaeth y ſarph Sathan yw hyn, ſydd yn llechu ynoch ac yn ceiſio gennych gredu eich bod yn dduwiol pan fôch yn anrhydeddu delwau difywyd meirwon, ac nad ydych yn annuwiol pan ddrygoch neu pan ni wneloch lês i greaduriaid rheſymmol, bywiol. Geiriau Clemens yw y rhai hyn oll.

Yſtyriwch adolwg pa fodd y mae 'r hên athraw dyſcedig hwn, o fewn can mlynedd ar ôl amſer ein Iachawdwr Chriſt, yn dangos yn oleu na ddichon bod na gwaſanaeth i Duw, na chrefydd gymmeradwy gantho, wrth anrhydeddu delwau meirwon, ond wrth gynorthwyo 'r tlodion, bywiol ddelwau Duw, yn ôl S. Iaco, yr hwn a ddywed, Hon yw 'r bur a'r wir grefydd gar bron Duw, ymweled â'r ymddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, ac ymgadw yn ddihalog oddiwrth y byd.

Wrth hynny nid ydyw gwir grefydd a bodlonrwydd Duw yn ſefyll mewn gwneuthur, goſod i fynu, paentio, goreuro, trwſio a dilladu delwau mudion meirwon (y rhai nid ydynt ond babiod a theganau i hên ffyliaid mewn ynfydrwydd a delw-addoliad i ymddigrifo ynddynt ac i chwareu â hwynt) nac wrth eu cuſanu hwy gan ymbennoethi, penlinio, offrwm ac arogl-darthu iddynt, mewn goſodiad canhwyllau, coeſau, breichiau neu gyrph cyfain o gŵyr ger eu bron hwy; neu mewn gweddio arnynt, a cheiſio ganthynt hwy neu gan y ſaint, y pethau a berthynant i Dduw yn vnig eu rhoddi. Ond mae 'r holl bethau hyn yn ofer, yn ffaidd ac yn ddamnedig ger bron Duw.

Ac am hynny mae pawb o'r fath ddynion yn gwario nid yn vnig eu harian a'u poen yn ofer, ond gyd â'u poen a'u côſt, yn ennill iddynt eu hunain ddigofaint Duw a'i ddygyn lid, a thragwyddol ddamnedigaeth corph ac enaid. O blegid chwi a glywſoch brofi yn eglur yn yr Homiliau hyn yn erbyn delw-addoliaeth, trwy air Duw, athrawon yr Eglwys, hiſtorian Eglwyſig, rheſwm ac addyſc amſer, fod yn addoli gynt, a bod etto yn addoli delwau, ac felly bod yn gwneuthur delw-addoliad gan rifedi aneirif er mawr ddigio mawrhydi Duw, ac enbeidrwydd aneirif o eneidiau; ac na ellir mewn modd yn y byd wahanu delw-addoliaeth oddiwrth ddelwan a oſoder mewn eglwyſydd a Themlau, gwedy eu goreuro a'u trwſio 'n wŷch, ac am hynny mai eulynnod diammau ydyw ein delwau ni, ac felly bod y gwaharddiadau, y cyfreithiau, melldithion, by-gathiau o blaau ofnadwy, cyſtal amſerol a thragwyddol a gynnhwyſir yn y ſanctaidd Scrythur ynghylch eulynnod a 'u gwneuthurwyr, eu hymddiffynwyr a 'u haddolwyr, yn perthynu i'n delwau ninnau a oſodir i fynu mewn Eglwyſydd a Themlau, ac i'w hymddiffynwyr, a'u gwneuthurwyr, a'u haddolwyr hwy: a bod yr holl enwau o ffiaidd-dra y rhai y mae gair Duw yn eu rhoi yn yr Scrythyrau ſanctaidd i eulynnod y cenhedloedd, yn perthyn i'n delwau ni, gan eu bod yn eulynnod megis hwyntau, a chan fod yn gwneuthur yr vn fath ddelw-addoliad iddynt.

Ac y mae genau Duw ei hunan yn yr Scrythyrau ſanctaidd, yn eu galw hwy yn ofereddau, yn gelwyddau, yn hudoliaethau, yn aflendid, yn frynti, yn dom, yn felldith, yn ffiaidd-beth ger bron yr Arglwydd.

Am hynny ni ellir ymgadw rhag erchyll ddigllonedd Duw, a pherigl ofnus i ninnau, heb ddiſtryw a llwyr ddinyſtr y fath ddelwau ac eulynnod allan o'r Eglwyſydd a'r Temlau: a Duw a oſodo ynghalonnau holl dywyſogion Chriſtianogol wneuthur hynny.

Ac yn y cyfamſer byddwn ni ſynhwyrol, ac ymwagelwn fy-ngharedigion yn yr Arglwydd, ac na fydded i ni dduwiau dieithr, ond vn Duw yn vnig, yr hwn a'n gwnaeth pan nad oeddym ni ddim, Tâd ein harglwydd Ieſu Griſt, yr hwn a'n prynodd gwedi'n colli, a'r hwn ſydd yn ein ſancteiddio â'i Yſpryd glân. O blegid hyn yw'r bywyd Io. 17. 3. tragwyddol, ei adnabod ef yr vnig Dduw, a'r hwn a ddanfonodd ef Ieſu Ghriſt.

Nac addolwn ac nac anrhydeddwn, er mwyn crefydd, neb ond efe, ac addolwn ac anrhydeddwn ef yn y modd y mae efe ei hunan yn ewyllyſio, ac yn y modd y dangoſodd ef yn ei air y mynnai ef ei addoli a 'i anrhydeddu, nid mewn na thrwy ddelwau nac eulynnod y rhai a waherddir i ni yn galed iawn, nac wrth benlinio, ennynnu canhwyllau, arogl-darthu ac offrwm rhoddion i ddelwau ac eulynnod, gan gredu y rhyngwn ni ei fodd ef felly. O blegid mae 'r holl bethau hyn yn ffiaidd ger bron Duw.

Ond addolwn ac anrhydeddwn Dduw mewn yſpryd a gwirionedd, gan ei ofni a'i garu ef vwch law pob peth, gan ymddiried ynddo ef yn vnig, gan ei foliannu a'i glodfori ef yn vnig, a phob peth Io. 4. 23. arall ynddo ef, ac er ei fwyn ef. O blegid y cyfryw addolwyr a gâr ein Tâd nefol, yr hwn yw'r yſpryd puraf, ac am hynny y mynn ef ei addoli mewn yſpryd a gwirionedd. Y fath addolwyr oedd Moſes, Abraham, Dafydd, Elias, Petr, Paul, Ioan a'r holl Batriarchau, prophwydi, Apoſtolion, merthyron, a holl wir ſainct Duw, y rhai oll megis gwir garedigion Duw, oeddynt elynion a diniſtrwyr delwau ac eulynnod, megis gelynion i Dduw ac i wir grefydd.

Am hynny gwachelwch a byddwch gall, anwylion yr Arglwydd, a'r pethau y mae eraill yn eu gwario yn erbyn gair Duw, ac yn annuwiol i'w damnedigaeth eu hunain, ar goed a cherrig (nid delwau ond gelynion Duw a'i ſaint) gweriwch chwi megis ffyddlon weiſion Duw, yn drugarog ar wŷr a gwragedd tlodion, plant ymddifaid, gwragedd gweddwon, dynion cleifion, dieithraid, carcharorion, ac eraill a fo mewn angen: fal y galloch yn-nydd mawr yr Arglwydd, glywed bendigedig a diddanus leferydd ein Iachawdwr Chriſt, dewch fendigedig i deyrnas fy-nhâd, a barottowyd i chwi er cyn dechreu 'r byd, o blegid yr oeddwn yn newynog, a chwi a roeſoch i mi fwyd, yn ſychedig a chwi a'm diodaſoch, yn noeth a chwi a'm dilladaſoch, yn ddieithr a chwi a'm llettyaſſoch, yngharchar a chwi a ymwelſoch â mi, yn glâf a chwi a'm diddanaſoch. O blegid pa beth bynnag a wnaethoch i'r tlawd a'r anghenus yn fy enw i er fy mwyn i, hynny a wnaethoch erof fi. I'r hon deyrnas nefol, Duw Tâd y drugaredd a'n dygo ni er mwyn Ieſu Ghriſt ein hunig Iachawdwr, cyfryngwr a dadleuwr. I'r hwn gyd a'r Tad a'r Yſpryd glan, vn anfarwol, anweledig a gogoneddus Dduw y byddo 'r holl anrhydedd a'r diolch a'r gogoniant yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Pregeth am gyweirio, cadw 'n lan ac addurno Eglwyſydd yn weddaidd.

ARfer gyffredinol a arferir gan bawb yw pan fwriadont alw eu ceraint a 'u cymydogion i 'w tai i fwytta neu yfed gydâ hwy: neu gael vn ymgynnull gyhoedd i draethu ac i ymddiddan ynghylch vn peth; hwy a fynnant fod ei tai (y rhai a gadwant mewn cywair gwaſtadol) yn lan ac yn deg: rhag eu cyfrif hwy yn fuſcrell ac heb fawr gyfrif ganthynt am eu ceraint a'u cymydogidn. Pa faint mwy, gan hynny, y dylai dŷ Dduw, yr hwn yn gyffredinawl a alwn ni yr Eglwys, gael ei gyweirio yn gyflawn ym-mhob lle, a'i drwſio a'i harddu 'n barchus, a'i gadw 'n lan, ac yn beraidd i ddiddanwch pawb ac a ddelo iddo.

Mae 'n eglur yn yr Scrythyr lan, pa fodd y cwympodd tŷ Dduw, yr hwn a elwid ei Deml ſanctaidd ef ac oedd fam-eglwys holl Iudea, waithiau mewn anghy-wair, ac fel yr halogwyd ac yr anurddwyd ef yn fynych, trwy wall ac annuwioldeb y rhai oedd edrychiaid arno. Ond pan fyddai brenhinoedd a llywiawdwyr duwiol yn y fan a'r lle, fe a roddid yn y man orchymmyn i adcyweirio Eglwys a thŷ Dduw, ac ar gynnull defeſion y bobl tuag at ei adcyweirio ef.

Yr ydym yn darllen yn ail llyfr y brenhinoedd pa fodd y rhoddodd brenin Ioas yr hwn oedd dywyſog duwiol, orchymmyn i'r offeiriaid i droi rhai o offrymmau 'r bobl tuag at gyweirio a gwellau Teml Dduw.

Yr vn fath orchymmyn a roddodd y brenin tra duwiol Ioſias ynghylch adcyweirio ac ail adailad Teml Dduw, yr hon a gafas ef mewn diffyg, anghywair ac adfail mawr. Fe a ryngodd bodd i'r holl-alluog Dduw fod ſcrifennu yn helaeth yr hiſtoriau hyn ynghylch ail-adailadu ac adcyweirio ei Deml ſanctaidd ef er dangos i ni, Yn gyntaf fod Duw yn fodlon i fod gan ei bobl ef le gweddaidd i ddyfod iddo ac i ymgynnull ynghyd i foliannu ac i fawrhau ei ſanctaidd enw ef.

Ac yn ail ei fod ef yn fodlon dros benn i'r holl rai ac a ant yn ddiwall ac yn ddieſceulus ynghylch cyweirio a gwellau cyfryw leoedd ac appwyntiwyd i gynulleidfa pobl Duw ddyfod iddynt, yn y rhai y rhoddant ddiolch i Dduw am ei ddoniau yn oſtyngedig ac yn gyttun, ac y moliannant ei ſanctaidd enw ef ag vn galon ac ag vn lleferydd.

Yn drydedd yr ydoedd Duw yn anfodlon iawn i'w bobl, am eu bod yn adailadu, yn trwſio ac yn harddu eu tai eu hunain, ac yn goddef tŷ Dduw mewn adfail ac anghywair i fod yn anweddaidd ac yn am-mheraidd.

Am hynny y cyffrowyd ef yn ddirfawr yn eu herbyn hwy, ac y plagodd ef hwy, fal y gwelir yn y Prophwyd Aggeus: Fal hyn y dywaid yr Arglwydd, Ai amſer yw hi i chwi eich hunain i drigo mewn tai byrddiedig, a'r tŷ hwn yn anghyfannedd? hauaſoch lawer a chaſclaſoch ychydig, bwyttaſoch ac ni 'ch digonwyd, yfaſoch ac ni 'ch diſychedwyd, gwiſcaſoch ddillad ac ni chadwaſont chwi yn glŷd, a'r hwn a ymgyflogo a gaſcl ei gyflog i gôd ddiwaelod.

Wrth y plagau hyn a oſododd Duw ar ei bobl am eſcaeluſo ei Deml, mae 'n eglur, y mynne Dduw fod ei Deml, ei Eglwys, y lle yr hwn yr arfer ei gynulleidfa ef ddyfod iddo, i'w fawrhau ef, gwedy ei adailadu a'i hatcyweirio a'i maentaeinio 'n dda. Fe ddywaid rhai heb ofalu nac am dduwioldeb nac am y lle o ymarfer duwiol: fe a orchymmynnodd Duw ei hunan adail a chyweirio 'r deml yn yr hên gyfraith, am fod llawer o addewidion mawrion gwedy eu cyſſylltu â hi: ac am e'u bod hi yn arwydd, yn Sacrament, ac yn arwyddocâd o Griſt ei hun, a'r Eglwys hefyd.

I hyn y gellir atteb yn ddigon hawdd, yn gyntaf nad oes dyffyg addewidion ar ein Eglwyſydd ninnau gan fod ein Iachawdwr Criſt yn dywedyd lle bytho dau neu dri gwedy ymgynull ynghŷd yn fy enw fi, myfi a fyddaf yn eu myſc hwy. Am hynny pan fytho lliaws mawr gwedy ymgynull ynghŷd i'r Eglwys, mae Duw a Chriſt Ieſu yn breſennol ynghynnulleidfa ei bobl ffyddlon trwy ei nerth ai dduwiol gynhorthwy yn ol ei ddiogel a'i ddiddanus addewidion. Pa ham gan hynny na ddylei bobl Griſtianogaidd wneuthur Temlau ac Eglwyſydd, a hwynt a chymaint o addewidion iddynt o breſennoldeb Duw, ac oedd gan Salomon am y deml ddefnyddiol a wnaeth ef? Am y rhan arall, ſef bod Teml Salomon yn arwydd o Ghriſt, ni a wyddom yn awr yngoleuni diſcleir Efengyl Ieſu Ghriſt Mâb Duw, fod pob cyſcodau, arwyddion ac arwyddocâd gwedy mynd yn hollawl ymmaith: fod yr holl ofer am-mrhoffidiol ceremoniau Iddewaidd a Phaganiaidd gwedy eu diddymmu yn gwbl: ac am hynny ni wnaethpwyd ein Eglwyſydd ni i fod yn arwyddion ac yn arwyddocâd o'r Meſſias a Chriſt i ddyfod, ond er defnyddiau duwiol anghenrheidiol eraill: hynny yw, megis y mae gan bob gŵr ei dŷ ei hun i aros ynddo i gymmeryd ei eſmwythdra ac ei orphywys ynddo, a 'r cyfryw gyfreidiau eraill: felly y myn Duw holl-alluog fod iddo yntef dŷ a lle i'r hwn yr ymgynull yr holl blwyf a'r gynulleidfa, yr hwn a elwir yr Eglwys a Theml Dduw, am fod yr Eglwys, yr hon yw cynnulleidfa pobl Dduw, yn ymgynull ac yn dyfod ynghŷd yno, i'w waſanaethu ef. Nid am ein bod yn meddwl wrth hyn fod yr Arglwydd, yr hwn ni all nef y nefoedd ei gynnwys a'i amgyffred, yn trigo yn yr Eglwys faen a chalch o waith dwylo dŷn, megis pe byddid yn ei gynnwys ef yn hollawl ynddi, ac na byddai mewn vn man arall: o herwydd ni thrigodd ef erioed felly yn-nheml Salomon.

Hefyd fe a gyfrifir ac a elwir yr Eglwys a'r deml hon yn ſanctaidd, nid o honi ei hun, ond am fod pobl Dduw (y rhai ſy 'n ymarfer o ddyfod yno) yn ſanctaidd ac yn ymarfer yno mewn pethau ſanctaidd nefol.

Ac er mwyn bod i chwi ddeall ym-mhellach pa ham y gwnaethpwyd Eglwyſydd ym-mhlith Griſtianogion, hyn oedd yr yſtyr mwyaf, er mwyn bod i Dduw ei le a'i amſer i'w anrhydeddu a'i waſanaethu gan holl gynulleidfa 'r plwyf yn gyfan. Yn gyntaf, i wrando ac i ddyſcu yno fendigedig air y tragwyddol Dduw. Yn ail, er mwyn bod i holl gynnulleidfa pobl Dduw yn y plwyf alw ar enw Duw ag vn lleferydd, ac ag vn galon fawrhau a chlodfori ei enw ef, rhoddi difrif ddiolch i'r Tâd nefol o vn galon am ei anfeidrol ddoniau y mae ef yn eu rhoddi im beunydd ac yn aml, heb ollwng yn angof roddi yn eluſenau i dylodion, fel y bo i Dduw ein bendithio ninnau yn gyfoethoccach.

Fal hyn y gellwch ddeall ac yſtyried paham y gwnaethpwyd Eglwyſydd gyntaf ym-mhluh Chriſtianogion, ac y cyſſegrwyd ac y goſſodwyd hwy i'r defnyddion duwiol hyn, a phaham y dieithrwyd hwy yn hollawl oddiwrth bob defnyddion bryntion, halog, bydol. Am hynny pwy bynnag ſydd ganthynt feddwl a bwriad bychan ar gyweirio ac adailadu teml Dduw, fe a ddylid eu cyfrif hwy yn bobl annuwiol iawn, yn wrthwyneb i bob trefn dda yn Eglwys Ghriſt, ac yn diyſtyru gwir anrhydedd Duw, a thrwy ſiampl ddrwg yn rhwyſtro eu cymydogion, y rhai oni bai hwynt hwy, a fyddent yn dduwiol ac yn dda eu bwriad.

Mae 'r byd yn tybied nad ydyw ond peth bychan weled eu heglwyſydd yn adfailio ac yn myned i lawr: ond pwy bynnag ni ddodant eu dwylaw i'w cynnal a'i cadw hwy i fynu, maent yn pechu yn erbyn Duw a'i gynnulleidfa ſanctaidd. O herwydd oni bai fod yn bechod eſcaeluſo a dibriſo adcyweirio ac ail-adailadu y Deml, ni buaſai Dduw yn digio yn gymmaint, ac yn plau ei bobl cyn gynted am eu bod hwy yn adailadu ac yn trwſio eu tai eu hunain yn wychion, ac yn dibriſio tŷ eu Harglwydd Dduw.

Mae 'n bechod ac yn gywilydd weled cynnifer o Eglwyſydd gwedy gogwyddo ac adfeilio mor gywilyddus ym-mhob cornel. Os bydd tŷ gŵr ei hun lle mae ef yn trigo, yn gwaethygu, ni orphwys ef nes iddo ei adcyweirio ef ailwaith: ie os bydd ei yſcubor ef, lle y ceidw ef ei ŷd, mewn anghywair, mor ddieſculus fydd ef nes darffo iddo ei chwbl gyweirio hi ailwaith, Os bydd ei ſtabl ef i gadw ei geffyle, neu ei dwlc ef i gadw ei foch, heb fod yn ddiddos yn erbyn glaw a gwynt, mor ofalus a fydd ef i oſod arno gôſt. Ac a fyddwn ni mor ofalus am ein tai cyffredinol gwael, y rhai a ddefnyddir i'r fath reidiau gwael, ac a fyddwn ni anghofus am dŷ Dduw yn yr hwn y traethir geiriau ein tragwyddol iechydwriaeth ni: ac yn yr hwn y miniſtrir y ſacramentau, dirgelion ein prynedigaeth ni: yno y mae ger ein bron ffynnon ein ailanedigaeth; yno yr ydys yn cynnyg i ni gyfraniad corph a gwaed ein Iachawdwr Chriſt. Ac oni wnawn nigyfrif o'r lle yn yr hwn yr ydys yn trin y fath bethau nefol?

Am hynny os bydd genych barch i waſanaeth Duw, os bydd ſyberwyd ac honeſtrwydd, os bydd cydwybod i gadw ordeiniaeth anghenrheidiol duwiol, cedwch eich Eglwyſydd mewn cywcir dda, trwy 'r hyn ni fodlonwch chwi Dduw yn vnig ac ni dderbyniwch yn vnic ei aml fendithion ef. Ond chwi a haeddwch hefyd air da pawb o'r bobl dduwiol.

Yr ail peth ſydd yn perthyn at faenteinio tŷ Dduw yw ei harddu ef a'i gadw yn weddaidd ac yn lan.

Yr hyn bethau a ellir eu cyflawni yn haws pan fo 'r Eglwys gwedy ei chyweirio yn dda. O herwydd megys y bydd dynion yn hyfryd ac yn ddiddan pan welont eu tai a phob peth mewn trefn ynddynt, a phob cornel yn lan ac yn beraidd; felly pan fytho tŷ Dduw gwedy ei drwſio 'n deg a lleoedd gweddaidd i eiſtedd yndo, a phalpud i'r pregethwr, a bwrdd yr Arglwydd i finiſtro ei ſanctaidd ſwpper ef, a'r bedydd-faen i fedyddio ynddo, a'r cwbl yn lân yn weddaidd ac yn beraidd, fe fydd y bobl yn chwannoccach i aros yno, dros yr holl amſer a oſodwyd iddynt.

A pha zêl ac â pha ddifrifwch y mae Chriſt yn taflu y prynwyr a'r gwerthwyr allan o Deml Dduw yn ymchwelyd i lawer fyrddau y newidwyr arian, a chadeirieu y rhai oedd yn gwerthu colomennod, ac ni adawodd ef i neb ddwyn lleſtr trwy y Deml? Fe ddywad wrthynt iddynt wneuthur ty ei Dâd ef yn ogof lladron, mewn rhan trwy ofergoel, rhagrith, gauaddoliad, gauathrawiaeth a thrachwant amfeſurol, ac mewn rhan trwy ddiyſtyrwch, gan gamarfer y lle hwnnw trwy rodio a chwedleua, a thrwy bethau dayarol, heb nac ofn Duw, na pharch dyledus i'r lle.

Pa ogofudd lladron a wnaethpwyd o Eglwyſydd yr holl deyrnas gynt, trwy ddirmygus brynu a gwerthu, corph a gwaed Chriſt yn yr offeren (fal y gwnaethpwyd i'r bŷd yr amſer hynny gredu) mewn dirigae, pen-miſoedd, trentelau, mewn manachlogydd a phriordai: heblaw camarferon echrydus eraill (bendigedig fo enw Duw yn dragowydd) yr ydym ni yn awr yn eu gweled ac yn eu deall. O'r holl ffiaidd bethau hyn y glanhaodd y rhai ſydd yn lle Chriſt Eglwyſydd y deyrnas hon, gan dynnu ymmaith bob gwarth a brynti y rhai trwy ddefoſiwn dall ac am wybod a ymlyſcaſont i'r Eglwyſydd er ys llawer can mlynedd.

Am hynny, oh chwichwi bobl ddaionus Griſtianogawl, fanwyl Ynghriſt Ieſu: chwichwi y rhai nid ydych yn ymogogoneddu mewn crefydd fydol, ofer, ac mewn gwag harddwch a gwychder, ond ydych yn gorfoleddu yn eich calon weled gogoniant duw yn ei oſod allan yn gywir ar Eglwyſydd gwedy eu hadferu i'w hen a'u duwiol arfer, rhowch âch calonnau ddiolch i ddaioni 'r Hollalluog dduw yr hwn yn ein dyddiau ni a oſododd ynghalonnau ei bregethwyr a'i weinidogion duwiol, a hefyd ynghalonnau ei ffyddlon lywiawdwyr a'i lywodraethwyr ddwyn y pethau hyn i ben.

Ac yn gymmaint a bod eich eglwyſydd chwi wedi eu glanhau a'u hyſcibo oddiwrth y brynti pechadurus, ofergoelus, a'r hwn yr halogaſid ac yr anffurfiaſid hwy: gwnewch chwithau eich rhan bobl dda ar gadw eich eglwyſydd, yn weddaidd ac yn lan, na oddefwch eu halogi hwy a glaw a thywydd, a thomm colomennod, dylluanod y drydwy, brain a brynti eraill, yr hyn ſydd frwnt a greſyn ei weled mewn llawer lle o'r wlad hon.

Tŷ gweddi yw hi, nid tŷ i ymchwedleua i rodio i ymdaeru, i gerddoriaeth, gweilch a hebogau neu gwn. Nac annogwch anfodlonrwydd a phlau Duw, gan ddiyſtyru acham-arfer ei ſainctaidd dŷ ef, fal y gwnaeth yr Iddewon annuwiol: ond bydded Duw yn eich calonnau, byddwch vfydd i'w ewyllys ſanctaidd ef: ym-rwymwch wŷr a gwragedd yn ôl eich gallu, tu ag at gyweirio a chadw yn lân yr Eglwys, fel y galloch fod yn gyfranogion o amryw fendithiau Duw, a dyfod yn ewyllyſgarach i'ch Eglwys blwyf, i ddyſcu yno eich dylyed tuag at Dduw, a'ch cymydog, i fod yno yn breſenol, ac yn gyfrannogion o ſanctaidd Sacramentau Chriſt i roddi yno ddiolch i'n Tâd nefol am ei aml ddoniau. Y rhai y mae ef beunydd yn eu tywalt arnoch, yno i weddio ynghyd, ac i alw ar ſanctaidd enw Duw yr hwn a fendiger byth ac yn dragywydd. Amen.

¶ Pregeth am weithredoedd da ac yn gyntaf am ymprydio.

RHodd rad Duw (bobl dda Griſtionogaidd) yw ein bywyd ni yn y byd hwn, nac arferwn ef wrth ein hewyllys yn ol ein chwantae cnawdol ein hunain, ond ymddygwn trwyddo yn y gweithredoedd a weddae ini y rhai a wnaethpwyd yn greaduriaid newydd ynghriſt Ieſu. Y gweithredoedd hyn y mae 'r Apoſtol yn e'u galw yn weithredoedd da, gan ddywedyd, canys ei waith ef ydym, wedy 'n creu ynghriſt Ieſu i weithredoedd da y rhai a ddarparodd Duw ini rodio ynddynt. Ac etto nid yw ei feddwl ef wrth y geiriau hyn ar ein dwyn ni i ymddiried ac i obeithio yn ein gweithredoedd, megis trwy eu haeddiant au teilyngdod hwy i ennill ini ein hunain ac eraill faddeuant pechodau; ac felly yn y diwedd fywyd tragwyddol. O herwydd fe fyddai hynny yn ddirmig yn erbyn trûgaredd Duw, ac anfri mawr i dywaltiad gwaed ein Iachawdwr Chriſt. O herwydd rhodd râd a thrûgaredd Dûw trwy gyfryngad gwaed ei fab Ieſu Ghriſt; heb haeddiant o'n hyſtlus ni, yw maddau ein pechodau a'n cymmodi ni a heddychu rhyngom ni ag ef, a'n gwneuthur yn etifeddion teyrnas nefoedd.

Grâs medd S. Awſtin a berthyn i Dduw ſydd yn ein galw ni; ac yno pwy bynnag a gafodd râs, mae gantho weithredoedd da: wrth hynny nid Aug. de diuerſ. quaeſt. ad Sictplic. li. 1 q. 28. gweithredoeddd da ſydd yn dwyn gras, ond trwy râs y dygir gweithredoedd da. Mae r' rhôd medd ef, yn troi yn grwn, nyd er mwyn cael ei gwneuthur yn gron, ond am ei gwneuthur hi yn gron yn gyntaf, am hynny y mae hi yn troi yn grwn. felly nid yw neb yn gwneuthur gweithredoedd da er mwyn cael derbyn grâs trwy ei weithredoedd da; ond am iddo yn gyntaf dderbyn grâs, am hynny yno mae efe yn gwneuthur gwythredoedd da.

Ac mewn man arall y dyweid, Nid ydyw gweithredoedd da yn myned o'r blaen yn yr hwn a gyſiawnheir, ond mae gweithredoedd da yn dyfod ar ôl gwedi darfod cyfyawnhau dŷn yn gyntaf.

Mae S. Paul am hynny yn dangos fod yn Aug. de fide & op. ca. 4. rhaid i ni wneuthur gweithredoedd da am lawer o achoſion, yn gyntaf i ddangos ein bod ni yn blant vfydd i'n tâd nefol, yr hwn a'u hordeiniodd hwy i ni i rodio ynddynt.

Yn ail am eu bod hwy yn arwyddion ac yn dyſtiolaethau o'n cyfiawnhad ni.

Yn drydydd er mwyn cyffroi a chynhyrfu eraill wrth weled ein gweithredoedd da ni, i ogoneddu ein Tad yr hwn ſydd yn y nefoedd.

Am hynny na fyddwn aneſcud i wneuthur gwythredoedd da, am fod ewyllys Duw i ni rodio ynddynt, gan ein ſiccrhau ein hunain y derbyn pob dŷn gan Dduw yn y dydd diwethaf, am y boen a gymmerth ef yn y wir ffydd, obrwy a fytho mwy nag a haeddodd ei weithredoedd ef.

Ac o herwydd bod yn rhaid ſon am vn weithred dda yn vnig, yr hon y mae ei chlôd yn y gyfraith ac yn yr Efengyl, fe a ddywedpwyd hyn yn y dechreuad yn gyffredinol am bob gweithredoedd da.

Yn gyntaf i droi heibio oddiar ffordd y diddrwg a'r annyſcedig, y maen tramgwydd enbaid hwn, ar fod i neb geiſio ennill neu brynu nef â'i weithredoedd ei hûnan.

Yn ail, i dynuu ymmaith (neſaf y geller) oddiwrth feddyliau cenfigennus a thafodau enllibus, bob achos cyfiawn o enllib, megis petteid yn bwrw heibio weithredoedd da.

Y weithred dda a ſonir am dani yn awr, yw ympryd, o'r hon y mae ſôn am ddau ryw yn yr Scrythur.

Y naill oddiallan yn perthynu i'r corph, a'r llall oddifewn yn perthinu i'r galon a'r meddwl.

Yr ympryd hwn oddiallan yw ymattal oddiwrth fwyd a diod a phob ymborth naturiol, ie ac oddiwrth bob digrifwch a melyſwedd bydol.

Pan fytho 'r ympryd ymma yn perthyn i vn dŷn o'r neilltu, neu i rai, ac nid i holl liaws y bobl, o blegid achoſion a fanegir ar ol hyn, yno y gelwir yn ympryd nailltuol: ond pan fytho 'r holl liaws, gwŷr, gwragedd a phlant mewn tref neu ddinas, ie mewn gwlâd gyfan, yn ymprydio, yno y gelwir yn ympryd cyffredinol.

O 'r fâth hynny yr oedd yr ympryd a orchymmynnwyd i holl liaws plant yr Iſrael ei gadw ar y degfed dydd o'r ſeithfed mîs, o blegid i'r Arglwydd Dduw appwyntio fod y dydd hwnnw yn ddydd glanhâd, yn ddydd cymmod, yn amſer heddychfa, yn ddydd yn yr hwn y glanhawyd y bobl oddiwrth eu pechodau. Y drefn a'r modd y gwnaed hynny ſydd ſcrifennedig yn 16. a'r 23. O Leuiticus. Leuit 16. 30. cap. 23. 29. Y dydd hwnnw yr ydoedd y bobl yn ymgyſtuddio, yn galaru ac yn ochain am eu pechodau aethent heibio. A phwy bynnag ni chyſtuddiodd ei enaid y dydd hwnnw, gan alaru am ei bechodau, ganymattal (fel y dywedpwyd) oddiwrth bob ymborth corphorol hyd yr hwyr, yr enaid hwnnw (medd yr Holl-alluog Dduw) a ddiniſtrir o fyſc y bobl.

Nid ydym ni yn darllein ddarfod i Moſes trwy drefn cyfraith ordeiniaw vn dydd ympryd cyffredinol trwy 'r holl flwyddyn, ond yr vn diwrnod hwnnw. Yr ydoedd er hynny gan yr Iddewon ychwaneg o ddiwrnodiau ympryd cyffredinol, y rhai y mae 'r prophwyd Zacharias yn eu cyfrif, yn Zach. 8. 19. ympryd y pedwaredd mîs, ympryd y pummed mis, ympryd y ſaithfed ac ympryd y degfed mîs.

Ond am nad yw yn ymddangos yn y gyfraith pa bryd yr ordeiniwyd hwy, fe a ddylid tybied ddarfod appwyntio 'r diwrnodiau ympryd eraill, heb law ympryd y ſeithfed mîs, ym myſc yr Iddewon, gan y llywodraethwyr, yn hytrach o ddefoſiwn, na thrwy vn gorgymmyn cyhoedd oddiwrth Dduw.

Wrth ordinhâd yr ympryd cyffredinol hwn, y cymmerodd gwyr da achos i appwyntio iddynt eu hunain ymprydiau neilltual, ar yr amſeroedd y byddēt naill ai yn galaru ac yn ochain dros eu bywyd pechadurus, ai ar yr amſer yr ymroddent i weddio yn ddifrif ar fod yn wiw gan Dduw droi ei ddigofaint oddiwrthynt, naill ai pan rybyddid hwy, ac y dygid hwy i yſtyried eu drwg fywyd trwy bregethiad y prophwydi, neu pan welent mewn rhyw fodd arall berigl preſennol vwch eu pennau.

Y trymder calon ymma yn gyſſylltedig ag ympryd a ddangoſent hwy weithiau trwy ymddygiad ac oddiallan ac ymarweddiad corphorol, gan wiſco ſach-liain, a bwrw lludw a llwch ar eu pennau, ac eiſtedd neu orwedd ar y ddayar. O blegid pan glywo gwŷr da ynddynt eu hunain, faich trwm eu pechodau, a gweled mai damnedigaeth yw eu gwobr hwy, a phan welont â llygaid eu calonnau erchill boenau vffern, maent yn crynu ac yn Yſcrydio yſcrydu, ac yr ydys oddifewn yn eu cyffroi hwy â thrymder calon am eu beiau, ac ni allant lai nâ'u cyhuddo eu hunain, a dangos eu gofyd i'r Holl-alluog Dduw, a galw arno ef am drugaredd. Ac os gwneir hyn yn ddifrif, mae eu meddyliau mor llawn, mewn rhan, o driſtwch a thrymder, ac mewn rhan, a chwant difrif ar gael eu gwared oddiwrth berigl vffern a damnedigaeth, fal y rhoddont heibio bob chwant bwyd a diod, ac y daw yn eu lle hwy ddiyſtyrwch pob peth bydol a phob digrifwch, fal nad oes dim yn eu bodloni hwy yn fwy nag wylo ac ochain a galaru, ac i ddangos wrth eu geiriau a'u hymddygiad corphorol, eu bod hwy yn ddiffygiol o'r bywyd hwn.

Fal hyn yr ymprydiodd Dafydd pan oedd ef yn eiriol ar yr holl-alluog Dduw am fywyd y plē tyn, a ennillaſid mewn godineb o wraig Vrias. Fal hyn yr ymprydiodd Achab pan edifarhaodd ef am ladd Naboth, gan driſtau am ei weithredoedd pechadurus. O'r fath hyn yr oedd ympryd y Ninifeaid a ddygwyd i edifeirwch drwy bregetheaid Ionas.

Pan laddwyd deugain mîl o'r Iſraelaid yn y rhyfel yn erbyn gwyr Beniamin, mae 'r Scrythyr yn dywedyd, fe aeth holl blant yr Iſrael a holl rifedi 'r bobl i Bethel ac a eiſteddaſant i lawr i wylo ger bron yr Arglwydd, ac hwy a ymprydiaſant trwy 'r dydd hyd y nos. Felly yr ymprydiodd Daniel, Heſter, Nehemias, a llawer eraill yn yr hên Deſtament.

Ond os dywaid neb, gwir yw, hwy a ymprydiaſant felly yn ſiccr, ond nid ydym ni yn awr tan iau 'r gyfraith, yr ydym ni yn rhyddion trwy rydddid yr Efengyl: am hynny nid ydyw 'r defodau a'r arferon hynny o'r hên gyfraith yn ein rhymo ni, oni ellir dangos trwy Scrythyrau y Teſtament newydd, neu trwy ſiamplau allan o hono, fod ympryd yn awr dan yr Efengyl yn ymattaliaeth oddiwrth fwyd a diod a phob ymborth corphorol, a hoffderau 'r corph.

Yn gyntaf mae yn wirionedd mor amlwg y dylyem ni ymprydio, nad rhaid ymma ei brofi, mae 'r Scrythyrau yn eglur ſydd yn dangos hynny. Y queſtiwn gan hynny yw, pan fythom ni yn ymprydio, pa vn a ddylem ni ai cadw ein cyrph oddiwrth fwyd a diod dros yr amſer y bôm yn ymprydio, ai na ddylem?

Fe a ellir gweled yn hawdd y dylem ni wneuthur felly, wrth y queſtiwn a ofynnodd y Phariſaeaid i Griſt, ac wrth ei atteb yntef. Pa ham (meddant hwy) y mae diſcyblon Ioan yn ymprydio Luc. 5. 33. yn fynych ac yn gweddio, a diſcyblon y Phariſaeaid, a'th ddiſcyblon di yn bwyta ac yn yfed, ac heb ymprydio dim? Yn y queſtiwn eſmwyth hwn y maent yn cynnwys yn ddichellgar y ddadl neu'r rheſwm hwn: Pwy bynnag nid ymprydio nid yw 'r dŷn hwnnw o Dduw. O blegid gweithredoedd yw ympryd a gweddi a ganmolwyd ac a orchymmynnwyd gan Dduw yn ei Scrythyrau, ac fe a ymarferodd pob gŵr da o Moſes hyd yr amſeroedd hyn, yn gyſtal prophwydi ac eraill, yn y gweithredoedd hyn. Y mae Ioan hefyd a'i ddiſcyblon yn y ddyddiau hyn yn ymprydio yn fynych ac yn gweddio llawer, ac felly yr ydym ninnau y Phariſaeaid yn gwneuthur hefyd. Ond nid ydyw dy ddiſcyblon di yn ymprydio ddim, yr hyn os ti a'i gwada, ni a'i profwn yn ddigon hawdd. O blegid pwy bynnag ſydd yn bwytta ac yn yfed nid ydyw yn ymprydio. Ond mae dy ddiſcyblon di yn bwytta ac yn yfed, am hynny nid ydynt yn ymprydio. O hyn meddant yr ydym yn caſclu nad oes na thydi na'th ddiſcyblon o Dduw.

Mae Chriſt yn atteb gan ddywedyd, A ellwch chwi beri i blant y priodaſ-fâb ymprydio tra fyddo y priodaſ-fâb gyd â hwy? fe ddaw 'r ddyddiau pan dynner y priodaſ-fâb oddiwrthynt yn y dyddiau hynny yr ymprydiant.

Mae 'n Iachawdwr Chriſt megis meiſtr da yn ymddiffyn diniweidrwydd ei ddiſcyblon yn erbyn malis y Phariſaeaid beilchion, ac yn profi nad ydyw ei ddiſcyblon ef yn euog o dorri vn gronyn o gyfraith Dduw, er nad oeddynt y prŷd hynny yn ymprydio; ac mae ef yn ei atteb yn argyoeddi 'r Phariſaeaid o ofergoel ac anwybod. O ofergoel am eu bod yn goſod crefydd yn eu gweithredoedd, ac yn rhwymo ſancteiddrwydd wrth weithrediad y gwaith oddiallan, heb yſtyried i ba ddefnydd yr ordeiniwyd ympryd. O anwybodaeth am na fedrent farnu rhwng amſer ac amſer. Ni wyddent hwy fod amſer i lawenydd ac i ddiddanwch, ac amſer i gwynfan ac i alaru. Y ddau beth hyn y mae efe yn eu dangos yn ei atteb, fal y dangoſir yn helaeth ar ôl hyn, pan ddangoſom pa amſer ſydd gymmheſuraf i ymprydio ynddo.

Ac ymma fyngharedigion, yſtyriwn nad ydyw ein Iachawdwr Chriſt wrth wneuthur ei atteb i'w Queſtiwn hwy, yn gwadu, ond yn cyfaddef bod ei ddiſcyblon ef heb ymprydio, ac am hynny yn hyn y mae efe yn cyttuno a'r Phariſeaid, am ei fod yn wirionedd eglur, nad ydyw 'r hwn ſydd yn bwytta ac yn yfed yn ymprydio. Ympryd am hynny wrth addefiad ein Iachawdwr Chriſt, yw cadw bwyd a diod, a phob ymborth naturiol oddiwrth y corph, dros yr amſer y bydder yn ymprydio.

Ac mae 'n eglur iawn wrth Gyngor Calcedon, vn o'r pedwar Cyngor cyffredinol cyntaf, fod yn y brif-eglwys gynt yn arfer o ymprydio: y tadau a ymgynnullaſent yno hyd yn rhifedi chwe-chant a dêg ar vgain, gan yſtyried ynddynt eu hunain mor gymmeradwy ger bron Duw yw ympryd, pan arferer efe yn ôl gair Duw: ac hefyd gan oſod o flaen eu llygaid, y mawr gamarfer o ympryd oedd gwedi ymluſco i Eglwys Duw yr amſer hynny, trwy eſceuluſdra y rhai a ddylaſent ddyſcu i'r bobl ei iawn arfer hi, a thrwy ddeongladau ofer a ddychymmygaſe ddynion: er mwyn iawnhau y camarferon hynny, ac adferu gweithred mor dduwiol ac mor dda i'w iawn arfer: hwy a ordeiniaſant yn y Cyngor hwnnw fod i bôb dŷn cyſtal mewn ympryd nailltuol ac ympryd cyffredinol, aros trwy 'r dydd heb na bwyd na diod hyd ar ol Goſper: a phwy bynnag a fwyttae neu a yfe cyn darfod Goſper, fe a'i cyfrifid ac a dybygid amdano nad oedd yn yſtyried purder ei ympryd. Mae 'r ordinhâd hon yn dangos mor eglur pa fodd yr arferid ympryd yn y brif-eglvoys gynt, fel na ellir mewn geiriau ei oſod allan yn eglurach.

Ympryd gan hynny wrth ordinhâd y chwechant a'r dêg ar vgain hynny o dadau, gan ſeilio eu barn am y peth hyn ar yr Scrythyrau ſanctaidd, a hirbarhaus arfer y prophwydi a gwŷr duwiol eraill o flacn dyfodiad Chriſt, a'r Apoſtolion hefyd a gwŷr dwyfol eraill yn y Teſtament newydd, yw hyn, Cadw bwyd a diod a phob ymborth naturiol oddiwrth y corph tros yr amſer a oſodwyd i ymprydio. Hyn a ddywetpwyd hyd yn hyn er dangos i chwi yn oleu pa beth yw ymprydio. Yn ôl hyn y dangoſir gwir ac iawn arfer ympryd.

Nid ydyw gweithredoedd da i gŷd o'r vn rhyw. O herwydd mae rhai o honynt eu hunain ac o'u naws priodol eu hunain yn dda bob amſer: megis y mae caru Duw vwchlaw pob peth, caru fynghymydog fel fi fy hun, anrhydeddu tâd a mam, anrhydeddu y galluau goruchaf, rhoi i bawb yr hyn a ddylei, a'r cyffelyb.

Mae gweithredoedd eraill y rhai os yſtyrir hwy ynddynt eu hunain heb fyned ym-hellach, ſydd o'u naturiaeth eu hunain yn ganolig, hynny yw heb na bod yn dda na bod yn ddrŵg, ond a gymmerant eu henw o'r modd yr arferer hwynt, neu o 'r defnydd y gwaſanaethant iddo. Y gweithredoedd hyn os gwneir hwy i ddiwedd da, a elwir yn weithredoedd da, ac ydynt felly yn ſiccr: ond etto nid yw hynny o honynt hwy eu hunain, ond o'r diwedd i'r hwn y maent yn gwaſanaethu.

Yn y gwrthwyneb, os bydd y diwedd i'r hwn y gwaſanaethant, yn ddrwg, yno ni all na bo rhaid iddynt hwythau fod yn ddrŵg. O'r rhyw ymma ar weithredoedd y mae ympryd, yr hwn o hono ei hunan ſydd beth canolig diddrwg didda: ond a wneir yn ddrwg neu yn dda wrth y diwedd y mae yn gwaſanaethu iddo. O herwydd pā wneler ef er mwyn diwedd da, y mae ef yn weithred dda, ond os drwg fydd y diwedd, y mae 'r weithred hefyd yn ddrwg. Ymprydio am hynny gan gredu yn y galon y gall ein hympryd a'n gweithredoedd da ein gwneuthur ni yn wŷr perffaith cyfiawn, ac felly yn y diwedd ein dwyn ni i'r nef: meddwl cythreulig yw hwn, ac y mae 'r ympryd hwn cyn belled oddiwrth fodloni Duw, ac y mae hi yn ymwrthod â'i drugaredd ef, ac yn lleihau haeddiant dioddefaint Chriſt, a thywalltiad ei werthfawr waed ef. Hyn y mae dammeg y Phaſai a'r Publican yn ei ddangos.

Dau ŵr (medd ein Iachawdwr Chriſt) aethant Luc. 18. 10. i fynu i'r deml i weddio, vn yn Phariſęad a'r llall yn Bublican. Y Phariſaead o'i ſefyll a weddiodd ynddo ei hun fal hyn, O Dduw yr ydwyf yn diolch i ti nad ydwyf fal dynion eraill y rhai ydynt drawſion, anghyfion a godinebwyr, neu fal y Publican hwn: yr ydwyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos, yr ydwyf yn degymmu cymmaint oll a feddaf. A'r Publican yn ſefyll o hirbell ni chodai ei lygaid tu â'r nef, eithr curo ei ddwyfron gan ddywedyd, o Dduw bydd drugarog wrthif bechadur. Yn y Phariſęad hwn y mae Chriſt yn goſod allan yngolwg ac ym-marn y bŷd, ŵr perffaith, iniawn, cyfiawn, yr hwn ni halogir â 'r beiau y llygrir dynion eraill yn gyffredinol, megis trawſder, camwobr, cribddeilio a chneifio 'r cymydogion, yſpeilwyr ac anrheithwyr yr holl wlâd, dichellgar a thwyllodrus wrth newid a chyfnewid, yn arfer pwyſau twyllodrus, anudon ffiaidd wrth brynu a gwerthu, godinebwyr, putteinwyr a dynion yn byw yn ddrygionus.

Nid oedd y Phariſaead y fath ddŷn, ac nid ydoedd feius mewn vn bai cyhoeddus. Ond lle'r oedd eraill yn troſeddu wrth adel heb wneuthur, y pethau yr oedd y gyfraith yn eu gofyn, yr oedd hwn yn gwneuthur mwy nag oedd angenrheidiol wrth gyfraith. O blegid yr oedd ef yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos, ac yn talu degwm o gymmaint ac a feddai. Pa beth gan hynny a allei 'r bŷd ei feio yn gyfion yn y dŷn hwn? ie pa beth oddiallan ychwaneg a ellid ei ddymuno ynddo, er ei wneuthur yn berffeithiach ac yn gyfiawnach dŷn? dim yn wir ym-marn dŷn: ac etto mae 'n Iachawdwr Chriſt yn derchafu 'r Publican truan heb ymprydio, o'i flaen ef a'i ympryd cantho: mae 'r achos yn eglur pa ham y gwnaeth ef felly.

O herwydd y Publican gan nad oedd gantho ddim gweithredoedd da i ymddiried ynthynt, a ymrôdd i Dduw, gan gyffeſſu ei bechodau a gobeitho yn ſiccr y cedwid ef trwy râd trugaredd Duw yn vnig. Yr oedd y Phariſęad yn ymogoneddu ac yn ymddiried cymmaint i'w weithredoedd, ac y tybiodd ef ei hunan yn ddiogel ddigon heb drugaredd, ac y cai ef ddyfod i'r nef wrth ei ymprydiau a'i weithredoedd eraill. I 'r defnydd ymma y gwaſanaetha 'r ddammeg hon. O blegid hi a ddywedpwyd wrth y rhai oeddynt yn ymddiried ynddynt eu hunain eu bod yn gyfiawn ac yn diyſtyru eraill.

Yn awr am fod y Phariſęad yn cyfeirio ei weithredoedd at ddiben drwg, gan geiſio trwyddynt gyfiawnhâd, yr hyn yn wir yw priodol waith Duw heb ein haeddiant ni, yr oedd ei ymprydiau ef ddwywaith yn yr wythnos, a'i holl weithredoedd eraill er eu hamled, ac er cyſtal a ſancteiddied y tybygid eu bod hwy yngolwg y bŷd, etto yn wirionedd ger bron Duw yn ffiaidd ac yn ddrwg. Y nôd hefyd y mae rhagrithwyr yn ſaethu atto yn eu hympryd, yw ymddangos yn ſanctaidd yngolwg y bŷd, ac felly ennill moliant a chlod gan ddynion. Ond mae ein Iachawdwr Chriſt yn dywedyd am danynt hwy, eu bod hwy yn derbyn eu gwobr, hynny yw clod a chanmoliaeth dynion, ond gan Dduw nid oes iddynt ddim. O blegid pa beth bynnag a wneler er mwyn diwedd drŵg, a wneir yn ddrŵg yntef trwy 'r diwedd drŵg.

Hefyd, yr hŷd y cadwom annuwioldeb yn ein calonnau, ac y goddefom feddyliau drwg i aros yno, er i ni ymprydio cyn fynyched ac y gwnaeth S. Paul neu Ioan fedyddiwr, a chadw ein hympryd morgaeth ac y gwnaeth y Niniſeaid, ni bydd hynny yn vnig yn anfuddiol i ni, ond hefyd yn beth yn anfodloni Duw yn fawr. O blegid mae efe yn dywedyd fod ei enaid ef yn ffieiddio ac yn caſhau 'r fâth ymprydiau, ie a'u bod hwy yn faich arno ef, a'i fôd yn blino yn eu dwyn hwy. Ac am hynny y mae ef yn gwaeddi yn vchel yn eu herbyn Eſa. 1. 14. hwy gan ddywedyd trwy enau'r Prophwyd Eſai, Wele y dydd yr ymprydioch mae eich chwant yn aros, ac y mynnwch eich holl ddyledion; Wele Eſa. 58. 4. i ymryſon a chynnen yr ymprydiaſoch ac i daro â dwrn anwir. Nac ymprydiwch fel y dydd hwn gan beri clywed eich llais yn vchel. Ai fal hyn y bydd yr ympryd yr hwn a ddewiſaf y dydd y cyſtuddio dŷn ei enaid? ai trwy grymmu ei ben fel brwynen pan wiſco arno ſach-liain a lludw? ai hyn a elwir yn ympryd, neu yn ddiwrnod bodlon gan yr Arglwydd?

Yn awr, fyngharedion, gan nad yw'r Arglwydd yn derbyn ein hympryd ni er mwyn y weithred, ond y mae ef yn edrych ſwyaf beth yw meddwl y galon, ac wrth hynny y mae efe yn cyfrif ein hympryd ni yn dda neu yn ddrŵg, wrth y diwedd i'r hwn y mae efe yn gwaſanaethu. Ein rhan ni yw rhwygo ein calonnau ac nid ein dillad, fal y Ioel 2. 13. mae 'r Prophwyd Ioel yn ein cynghori, hynny yw, mae'n rhaid i'n trymder ni a'n galar fod oddifewn yn y galon, ac nid mewn golwg oddiallā yn vnig, ie anghenrheidiol yw i ni yn gyntaf o flaen pob peth lanhau'n calonnau oddiwrth bechod, ac yno cyfeirio ein hympryd at y diwedd y mae Duw yn ei gyfrif yn ddaionus. Y mae tri diwedd at y rhai os cyfeirir ein hympryd ni, yno y bydd ef yn weithred fuddiol i ni, a chymmeradwy gan Dduw.

Y cyntaf yw cyſtuddio 'r cnawd, rhag ei fod yn rhy drythyll, ond gwedi ei ddofi a'i ddaroſtwng i'r Yſpryd. Dymma 'r peth yr oedd Paul yn edrych arno yn ei ympryd, Yr ydwyf, medd ef, yn coſpi fynghorph, ac yn ei ddaroſtwng, rhag mewn vn modd wedi i mi bregethu i eraill, fy mod fy hunan yn anghymmeradwy.

Yr ail yw, er mwyn gwneuthur yr yſpryd yn ddifrifach ac yn wreſoccach i weddio. I'r defnydd Act. 13. 2. ymma yr ymprydiodd y prophwydi a'r dyſcawdwyr oeddynt yn Antiochia, cyn iddynt ddanfon allan Paul a Barnabas i bregethu 'r Efengyl. I'r vn fath ddefnydd yr ymprydiodd y ddau Apoſtol hynny, pan orchymmynnaſant hwy i Dduw y cynnulleidfaon oeddynt yn Antiochia, Piſidia, Iconium a Lyſtra, fel yr ydym ni yn darllen yn Actau 'r Apoſtolion. Act. 14. 13.

Y trydedd yw, bod ein hympryd ni yn dyſtiolaeth ac yn dŷſt ger bron Duw o'n hafydd ddaroſtyngedigaeth ni i'w oruchel fawrhydi ef, pan fythom yn cyffeſſu ac yn cydnabod ein pechodau iddo ef, a phan yn cyffroer ni oddifewn â thriſtwch calon, gan alaru o'i plegid trwy gyſtuddio ein cyrph.

Dymma dri diwedd neu iawn arfer ympryd; y cynta ſydd yn perthynu yn briodol i ympryd nailltuol; y ddau eraill ſydd gyffredinol yn perthyn i ympryd cyhoeddus ac i ympryd nailltuol. A hyn a ddywedpwyd am iawn-arfer ympryd.

Arglwyddd trugarhâ wrthym a dyro i ni râs fel y bo i ni tra fyddom byw yn y byd blinderog hwn, allu trwy dy gymmorth di ddwyn y ffrwyth hwn, a'r cyfryw ffrwythau eraill o'th Yſpryd di, y rhai a ganmolir ac a orchymmynnir i ni yn dy ſanctaidd air di, er gogoniant i'th enw di, a diddanwch i ninnau, megis yn ol rhedegfa y blin fywyd hwn y gallom fyw yn dragywydd gydâ thi yn dy deyrnas nefol, nid er mwyn haeddiant na theilyngdod ein gweithredoedd ein hunain, ond er mwyn dy drugaredd di, a haeddedigaethau dy anwyl Fâb Ieſu Griſt, i'r hwn gydâ rhi a'r Yſpryd glân, y byddo moliant, anrhydedd a gogoniant yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am Ymprydio.

FE a ddangoſwyd yn yr Homili o'r blaen, fy-ngharedigion, mai ympryd ym-mhlith yr Iddewon fal y gorchymmynnwyd ef oddiwrth Dduw trwy Moſes, oedd ymattal trwy 'r dydd o'r boreu hyd yr hwyr, oddiwrth fwyd a diod a phob math'ar ymborth a lluniaeth corphorol, a phwy bynnag a brofai ddim cyn yr hwyr, ar y dydd a oſodwyd i ymprydio, a gyfrifid ei fod yn torri ei ympryd.

Yr hyn drefn er ei fod yn ddieithr yn-nhŷb rhai yn ein dyddiau ni, am nad arferwyd ef yn gyffredinol yn y deyrnas hon er ys llawer o flynyddoedd, etto fe a brofwyd yno yn ddigon helaeth trwy dyſtiolaethau a ſiamplau o'r Scrythyr lân yn y Teſtament newydd ac yn yr hên, mai felly yr oeddid yn ymprydio ym-mhlith pobl Dduw (yr Iuddewon yr wyf yn ei feddwl,) y rhai cyn dyfodiad ein Iachawdwr Chriſt a fu wiw gan Dduw eu dewis iddo ei hunan yn bobl nailltuol o ſlaen holl genhedloedd y ddayar; ac mai hynny oedd feddwl ein Iachawdwr Chriſt am ympryd; ac mai felly yr arfere'r Apoſtolion o ymprydio yn ôl dyrchafiad Chriſt. Ac yno hefyd y dangoſwyd iawn-arfer ympryd.

Yn yr ail rhan hon o'r Homili y dangoſir na ddichon vn drefn na chyfraith ar a wnel dŷn ynghylch pethau a fyddo o'u naturiaeth eu hunain yn ddiddrwg ddidda, rwymo cydwybodau Chriſtianogion i'w cynnal ac i'w cadw hwy yn waſtadol; ond bod i'r galluoedd goruchaf gyflawn rydd-did i newid ac i ſymmud pob cyfraith ac ordinhâd o'r fâth hynny, pa vn bynnag fyddont ai eglwyſig a'i bydol, pan fyddo'r amfer a'r lle yn gofyn.

Ond yn gyntaf fe a wneir atteb i gweſtiwn a ellir ei ofyn, Pa farn a ddylei fod gennym am y cyfryw ddirweſt ac ymattaliaeth; ac a appwyntir drwy drefnid a chyfraithiau cyhoedd tywyſogion, a thrwy awdurdod y llywodraeth-wyr, er mwyn llywodraeth fydol, heb yſtyried crefydd yn hynny. Megis pan appwyntier amſer i ymprydio mewn rhyw deyrnas er mewyn maentaenio y trefydd pyſcod a fo ar lan y môr, ac er mewyn amlhau pyſcodwyr, o'r rhai y daw morwyr i fyned i longwriaeth, i gyflawni llongau 'r deyrnas, trwy y rhai y gellir Symmud. troſglwyddo cymmwynaſau allan o wledydd eraill, a'r rhai hefyd a allant fod yn ymddyffynfa angenrheidiol i wrthwynebu cyrchau 'r gelynion. Er mwyn cael deall y queſtiwn ymma yn well, mae 'n rhaid i ni wneuthur gwahaniaeth rhwng bydol lywodraeth tywyſogion yn trefnu a llywodraethu eu gwledydd, yn rhagddarbod ac yn rhagddarparu y cyfryw bethau ac a fyddo rhaid er diogelwch ac ymddiffyn eu deiliaid a'u gvoledydd: a rhwng llywodraeth eglwyſig wrth appwyntio rhyw weithredoedd, trwy y rhai megis trwy ail-achoſion y gellir llonyddu digofaint Duw ac ennil ei drugaredd.

Fe ddylyai bob deiliaid Chriſtianogawl, a hynny o barch i'r llywodraethwr, nid yn vnig rhag ofn coſp, ond hefyd (fel y dywaid yr Apoſtol) er mwyn cywybod, vfyddhau 'r holl gyfraithiau goſodegig a wnelo tywyſogion, er mwyn cadw a chynnal eu llywodraeth fydol, trwy na byddent gwrthwyneb i gyfraithiau Duw. Er mwyn cydwybod meddaf, nid cydwybod o'r peth a orchymmynner, yr hwn o'i naturiaeth ei hunan ſydd ddiddrwg ddidda, ond er mwyn cydwybod ein hufydd-dod, yr hon wrth gyfraith Dduw ſydd ddyledus arnom i'r llywodraethwr, megis i weinidog Duw.

Er bod y cyfraithiau goſodedig hyn yn gwahardd i ni ſydd ddeiliaid arfer tros amſer ryw fwydydd a diodydd, y rhai a adawodd Duw trwy ei ſanctaidd air yn rhydd i bob math ar ddŷn eu cymmeryd trwy roddi diolch, ym-mhob lle ac amſer: etto am nad ydyw tywyſogion a llywodraethwyr eraill yn gwneuthur y cyfreithiau hynny er mwyn goſod mwy o ſancteiddrwydd mewn rhyw fwyd neu ddiod nag mewn arall, neu wneuthur vn diwrnod yn ſancteiddiach nag vn arall: ond yn vnig er mwyn llywodraeth fydol a daioni 'r wlâd: mae pob deiliaid yn rhwym er mwyn cydwybod i'w cadw hwy wrth orchymmyn Duw, yr hwn ſydd trwy ei Apoſtol yn erchi i bawb heb nailltuo neb, fod yn ddaroſtyngedig i awdurdod y galluoedd goruchaf.

Ac yn y pwngc ymma, tu ag at am ein dlêd ni ſydd yn trigo yn yr ynys hon, wedi ein hamgylchynu â moroedd, mae i ni achoſion a rheſwm mawr i gymmeryd ffrwythau 'r dyfroedd y rhai a oſododd yr Holl-alluog Dduw o'i ſanctaidd ragweliad, mor agos attom, trwy 'r hyn y gellir yn well gynhilo a chynnyddu ymborth a lluniaeth y tir, er mwyn dwyn ymborth i well newid, fel y geller yn haws gynnorthwyo angenrheidiau 'r tlodion.

Ac fe a weddai ei fod ef yn fruttain rhy foethus yr hwn gan yſtyried y budd ſydd yn canlyn, ni all attal peth ar ei flyſig chwant er mwyn ordinhâd ei dywyſog a chyfundeb gwŷr call y deyrnas.

Pa galon gywir fruttanaidd na ewyllyſai weled ei hên ogoniant wedi dychwelyd eilwaith i'r deyrnas hon, yn yr hyn yroedd hi cyn ein hamſer ni, trwy glod fawr yn rhagori ynghaderind ei llongau ar y môr? Pa beth a frawycha galon ein gelynion ni yn fwy na 'n gweled ni mor gadarn ac mor arfog ar y môr, ac y mae 'r gair i ni fod ar y tir? Pe damune y tywyſog vfydd-dod gennym ni i ymgadw oddiwrth gîg dros vn diwrnod mwy nag yr ydym, ac i fod yn fodlon i vn pryd o fwyd y dwthwn hwnnw, oni ddylai ein budd ein hunain ein hannog ni i vfydd-dod? Ond yn awr lle yr ydys yn goddef i ni gymmeryd dau bryd ar y diwrnod hwnnw, ar yr hwn yr arfere ein rhieni ni mewn lliaws mawr yn y deyrnas hon gymmeryd vn pryd prin o fwyd, a hwnnw o byſcod yn vnig; a ddylyem ni dybied fod yn rhydrwm y baich yr ydys yn ei orchymmyn i ni?

Hefyd yſtyriwn adfail y trefi ar lan y môr, y rhai a ddylei fod yn barottaf o gwbl mewn rhifedi eu pobl i wrthladd y gelyn, ac felly ninnau y rhai ſy yn trigo ym-mhellach yn y tir wrth eu cael hwy yn darian ac yn ymddiffyn i ni, a fyddem diofalach a diogelach. Os ein cymydogion ni ydynt, pa ham nad ewyllyſiwn eu llwyddiant hwy? Os ydynt yn ymddiffynfa i ni, am eu bod yn gyfneſaf i wrthladd y gelyn, ac i attal cynddairiogrwydd y mor oddiwrthym, yr hwn oni bai hwy a dorre dros ein porfeydd tirion ni, pa ham na chynnorthwywn hwy? Ac nid ydym yn cymmell hyn mewn llywodraeth Eglwyfig, gan appwyntio modd i ymprydio, i ymddaroſtwng yngwydd yr Holl-alluog Dduw, fod y modd a'r drefn honno ar ympryd a arferid ym-mhlith yr Iuddewon ac a ganlynwyd gan Apoſtolion Chriſt yn ôl ei dderchafiad ef, o'r fath rym ac anghenrhaid, fal y dyleid arfer y drefn honno yn vnig ym-myſc Chriſtianogion, ac nid vn arall; o blegid ni byddei hynny ond rhwymo pobl Dduw tan iau a baich llywodraeth Moſes; ie ac dyna 'r ffordd iniawn i'n dwyn ni y rhai a rydd-hawd trwy rydd-did Efengyl Ghriſt, tan gaethiwed y gyfraith drachefn; yr hyn na atto Duw i neb ei amcanu na 'i fwriadu.

Ond i'r defnydd hyn y mae yn gwaſanaethu, er mwyn dangos faint y gwahaniaeth ſydd rhwng y drefn ar ymprydio a arferir heddyw yn yr Eglwys, a'r drefn a arferid yr amſer hynny.

Ni ddyleid ac ni ellir rhwymo Eglwys Duw felly wrth vn drefn a wnaethpwyd nac a wneler nac a ddychymmyger ar ôl hyn trwy awdurdod dŷn, fel nas dichon hi yn gyfreithlon ar achoſion cyfiawn ſymmud, newid neu yſcafnhau y deddfau a'r ordeiniaethau eglwyſig hynny, ie a'u gadel yn gwbl, a'u torri pan fônt yn pwyſo at ofergoel ac annuwioldeb, pan fônt yn tynu 'r bobl oddiwrth Dduw yn fwy nâ gweithio adeiladaeth yndynt.

Yr awdurdod hon a arferodd Chriſt ei hun, ac a adawodd ef i'w Eglwys. Ef a'i harferodd hi meddaf: O blegid, y drefn a'r ordinhâd a wnelſe 'r henuriaid, am ymolchi yn fynych, yr hyn a gedwyd yn ddieſceulus ym-mhlith yr Iuddewon, etto am ei bod yn gorbwyſo at ofergoel, y drefn honno meddaf a newidiodd ac a ſymmudodd ein Iachawdwr Chriſti Sacrament buddiol, Sacrament ein ail enedigaeth ni. Yr awdurdod hon ar eſmwytho cyfreithiau ac ordemiaethau eglwyſig a arferodd yr Apoſtolion pan wrth ſcrifennu o Ieruſalem at yr Eglwys oedd yn Antiochia, yr ewylliaſant iddynt na oſodent arnynt faich amgenach Act. 15. 28. nâ 'r pethau anghenrheidiol hyn, ſef bod iddynt ymgadw oddiwrth y pethau a offrymmyd i ddelwau, a gwaed, a'r pethau a dagwyd, a godineb, er bod cyfraith Moſes yn gofyn cadw llawer o bethau eraill.

Yr awdurbod hon a'r newid ordeiniaethau, cyfraithiau a goſodiadau 'r Eglwys, ar ôl amſer yr Apoſtolion, a arferodd y tadau ynlghych y modd y bydde raid ymprydio, fel y mae 'n eglur wrth yr hiſtori deir-rhan, lle 'r ſcrifennir fal hyn: Ynghylch ympryd yr ydym yn gweled fod yn ei arfer Tripart. hiſt. lib 9. 38. ef mewn amryw foddion yn amryw leoedd gan amryw ddynion. Oblegid maent hwy yn Rhufain yn ymprydio dair wythnos ar vntu o flaen y Pâſc, ond ar ſadyrnau a ſuliau, yr hwn ympryd a alwant hwy y Garawys. Ac yn ôl ychydig eiriau yn yr vn man y canlyn, Nid oes ganthynt oll drefn vnwedd ar ymprydio. O blegid rhai a ymgadwant oddiwrth byſcod a chîg hefyd. Rhai pan ymprydiont ni fwyttânt ddim ond pyſcod. Y mae eraill pan ymprydiont a fwyttânt bob adar dyfroedd cyſtal a phyſcod, gan oſod eu ſail ar Moſes fod y cyfryw adar a'u hanffod o'r dwfr yn gyſtal a phyſcod. Mae eraill pan ymprydiont ni fwyttant na llyſiau nac wyau. Mae rhyw ymprydwyr ni fwyttant ddim ond bara yn ſŷch. Eraill pan ymprydiont ni fwyttant cymmaint a bara yn ſŷch. Mae rhai yn ymprydio oddiwrth bob ymborth hyd yr hwyr, ac yno y bwyttant heb wneuthur na dewis na gwahaniaeth o vn bwyd mwy nâ'i gilydd. A mîl o'r fath amryw foddion ar ymprydio a geir mewn amryw leoedd yn y byd, y rhai a arfer amryw ddynion mewn amryw foddion. Ac er yr holl amryw foddion ymma ar ymprydio, etto ni thorrwyd cariad, gwir rwymyn Chriſtianogawl dangneddyf, ac ni thorrodd eu hamryw ympryd hwy vn amſer eu cyfundeb hwy a'u Euſeb li. 9. c. 24. cyttundeb mewn ffydd.

Am ymgadw ryw amſeroedd oddiwrth ryw fwydau, nid am fod y bwydau yn ddrŵg, ond am nad ydynt yn anghenrheidiol, nid yw'r dirweſt a'r ymattaliaeth hwn (medd S. Auguſtin) yn ddrŵg. Dogm Eccleſ. cap. 66. Ac ymgadw rhag bwydau pan fo anghenrhaid ac amſer yn gofyn, hyn (medd ef) ſydd yn perthyn yn briodol i Griſtianogion.

Fal hyn y clywſoch (bobl dda) yn gyntaf fod deiliaid Chriſtianogaidd yn rwhym mewn cydwybod i vfyddhau cyfraithiau tywyſogion, y rhai ni bônt yn wrthwyneb i gyfreithiau Duw. Chwi a glywſoch hefyd nad ydyw Eglwys Griſt mor rhwymedig i gadw vn drefn neu gyfraith neu ordinhâd a wnelo dŷn tuag at oſod allan ddull neu drefn mewn crefydd: megis nad oes gan yr Eglwys gyflawn allu ac awdurdod oddiwrth Dduw, i'w newid ac i'w ſymmud hwy pan fytho anghenrhaid yn gofyn: yr hyn a ddangoſwyd i chwi trwy ſiampl ein Iachawdwr Chriſt, trwy arfer ei Apoſtolion ef, a'r tadau ar ôl eu hamſer hwythau.

Yn awr y dangoſir ar ychydig eiriau pa amſer ſydd gyfaddas i ymprydio, o blegid nid yw pob amſer yn gwaſanaethu i bob peth, ond fel y dywaid y gŵr doeth, Y mae amſer i bob peth, amſer Eccles. 3. 1. i wylo ac amſer i chwerthin, amſer i alaru ac amſer i lawenychu, &c. Mae ein Iachawdwr Chriſt yn eſcuſodi ei ddiſcyblon ac yn argyoeddi y Phariſaeaid am nad oeddynt yn deall arfer ympryd, nac yn y yſtyried yr amſer ſydd gyfaddas i ymprydio. Y ddau beth hynny y mae efe yn eu dyſcu yn ei atteb, gan ddywedyd, Ni all plant y Matt. 9. 15. briodas alaru yr hyd y byddo 'r priodaſ-fâb gyd â hwy. Eu queſtiwn hwy oedd ynghylch ympryd, a'i atteb yntef ſydd am alaru, gan arwyddoccau iddynt yn oleu, nad yw ympryd y corph o ddiallan, yn ympryd ger bron Duw, oni bydd yn gyſſylltedig â'r ympryd oddifewn, yr hwn yw galar a chwynfan yn y galon, fel y manegwyd o'r blaen.

Am amſer ympryd y mae efe yn dywedyd, Fe ddaw 'r dyddiau pan dynner y priodaſ-fâb oddiwrthynt, ac yno yr ymprydiant yn y dyddian hynny. Mat. 19. 15. Luc. 5. 35. Wrth hyn y mae yn eglur nad ydyw hiamſer i ymprydio yr hyd y parhao'r briodas, a thra fyddo'r priodaſ-fâb yn breſennol. Ond pan ddarffo'r briodas a myned o'r priodaſ-fâb ymmaith, yno y mae hi yn amſer cyfaddas i ymprydio.

Yn awr i ddangos i chwi yn olen beth yw yſtyr a deall y geiriau ymma, Yr ydym yn y briodas: a thrachefn, Fe a dynnwyd y priodaſ-fâb oddiwrthym: yſtyriwch, yr hyd y byddo Duw yn datcuddio ei drugareddau i ni, ac yn rhoddi ei ddoniau yſprydol neu gorphorol i ni, fe a ddywedir ein bod ni gyd â'r priodaſ-fâb yn y briodas. Felly yr ydoedd yr hên dâd daionus Iacob yn y briodas pan glywodd fod ei fâb Ioſeph yn fyw, ac yn rheoli yr holl Aipht dan frenhin Pharao. Felly yr oedd Dafydd yn y briodas gydâ'r priodaſ-fâb pan gafodd ef yr oruchafiaeth yn erbyn Goliah fawr, a thorri o hono ei ben ef. Yr ydoedd Iudith a holl bobl Bethulia yn blant y briodas, a'r priodaſ-fâb gydâ hwy, pā ddaroedd i Dduw trwy law gwraig ladd Holophernes pen-tywyſog llu 'r Aſſyriaid, a gorthrechu eu holl elynion. Fel hyn yr oedd yr Apoſtolion yn blant y briodas yr hyd yr ydoedd Chriſt yn gorphorol yn breſennol gyd â hwy, ac yn eu hamddiffyn hwy oddiwrth bob perigl, yſprydol a chorphorol.

Ond yno y dywedir fod y briodas gwedi darfod, a'r priodaſ-fâb gwedi myned ymmaith, pan fo yr Holl-alluog Dduw yn ein taro ni â blinder, ac wrth dybygoliaeth yn ein gadel ni ym - mhlith aneirif o wrthwynebau. Felly y mae Duw yn fynych yn taro rhai neilltuol ag amryw wrthwynebau, megis trallod meddwl, colled ceraint neu dda, hir a pheriglus glefydau &c. yno y mae hi yn amſer cyfaddas i'r dyn hwnnw i ymddaroſtwng i'r Holl-alluog Dduw trwy ympryd, ac i alaru ac i gwynfan am ei bechodau â chalon athriſt, ac i weddio yn ddiragrith gan ddywedyd gyd a'r prophwyd Dafydd Cudd dy wyneb oddiwrth fymhechodau Pſal. 51. 9. Arglwydd, a delêa fy holl amwireddau. Hefyd pan fytho Duw yn cyſtuddio rhyw deyrnas neu wlâdâ rhy feloedd, newyn, Haint y nodau. cornwyd. cowyn, neu glefydau dieithr a heintiau anghydnabyddus, a'r cyfryw flindereu eraill: yno y mae hi yn amſer i bob grâdd o ddynion, vchelradd ac iſſel-radd, gwŷr a gwragedd a phlant, ymddaroſtwng trwy ympryd, a galaru am eu bywyd pechadurus ger bron Duw a gweddio ag vn llefeferydd cyffredinol gan ddywedyd fel hyn, neu ryw fath weddi arall, Bydd drugarog o Arglwydd, Bydd drugarog wrth dy bobl ſydd yn troi attat mewn wylofain ac ympiyd a gweddi, arbed dy bobl y rhai a brynaiſt â'th werthfawr waed, ac na oddefddiſtrywio dy etifeddiaeth a'i gwradwyddo.

Mae ympryd a arferir fel hyn ynghŷd â gweddi yn rymmus iawn ac yn bwyſig ger bron Duw. Felly y dywedodd yr Angel Raphael wrth Tohias. Tob. 12. 8. Mae hyn yn eglur hefyd wrth yr hyn a attebodd ein Iachawdwr Chriſt i'w ddiſcyblon, pan ofynnaſant iddo, pa ham na allent hwy fwrw 'r pſpryd aflan allan o'r hwn a ddygeſid attynt. Ni fwrir y rhywhwn allan (eb efe) ond trwy ympryd a gweddi.

Ni ellir dangos i chwi byth mor nerthol yw ympryd ac mor bwyſig ger bron Duw, a pha beth a all ei gael ar law Dduw, yn well nâ thrwy agoryd i chwi a goſod ger eich bron rai o'r pethau godidog a wnaethpwyd trwy ympryd.

Ympryd oedd vn 'or cyfryngau a'r achoſion a wnaeth i'r Holl-alluog Dduw newid yr hyn a ddarfuaſe iddo ei fwriadu ynghylch Ahab am ladd y gŵr diniwed Naboth, er mwyn cael meddiannu 1. Bren. 21. 19. ei winllan ef. Yr Arglwydd a ddywedodd wrth Elias, gan ddywedyd, dôs a dywed wrth Ahab, a leddaiſt di ac a feddiannaiſt, fel hyn y dywed yr Arglwydd, y fan lle y llyfodd y cŵn waed Naboth y llyfant dy waed dithau hefyd; wele fi yn dwyn dial arnat ti, a mi a dynnaf ymmaith dy hiliogaeth; y cŵn a fwyttant yr hyn a fyddo marw eiddo Ahab yn y ddinas, a'r hwn a fyddo marw yn y maes a fwytty adar y nefoedd.

Y goſp ymma a fwriadaſe 'r Holl-alluog Dduw i Ahab yn y byd hwn, a diniſtrio pob gwr-ryw o gorph Ahab, heb law'r goſp a gwympe arno yn y byd a ddaw. Pan glybu Ahab hyn fe a rwygodd ei dillad ac a wiſcodd ſach-liain, ac a ymprydiodd ac a orweddodd mewn ſachliain, ac a gerddodd yn Droednoeth. ddiarchen: yno y daeth gair yr Arglwydd at Elias gan ddywedyd, Oni weli di'r modd yr ymoſtyngodd Ahab ger fymron i? amiddo ymoſtwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg hwnnw yn ei ddyddiau ef, ond yn-nyddau ei fâb ef y dygaf y drwg hwnnw ar ei dŷ ef.

Ac er i Ahab trwy gyngor annuwiol Ieſabel ei wraig wneuthur lladdfa gywilyddus, ac yn erbyn pob cyfiawnder dietifeddu a difeddiannu yn dragywydd eppil Naboth o'r winllan honno: etto wrth ei vfydd ymoſtyngiad ef i Dduw yn ei galon, yr hyn a ddangoſodd ef oddiallan trwy wiſco ſach-liain ac ymprydio, fe a newidiodd Duw ei farn, fel na chwympodd y goſp a fwriadaſe ef, ar dŷ Ahab yn ei amſer ef, ond hi a oedwyd hyd ddyddiau ei fâb ef Ioram.

Ymma y gwelwn pa rym ſydd yn ein hympryd ni oddiallan, pan gyſſyllter ef ag ympryd y meddwl oddimewn, yr hwn yw (fal y dywetpwyd) trymder calon, ffiaiddio ein drwg weithredoedd a chwynfan o'u plegid. Y cyffelyb ſydd i'w weled yn y Ninifeaid, o blegid wedi darfod i Dduw Ionas 3. 4. amcanu diniſtrio holl ddinas Ninife, a bod yr amſer a appwyntiaſe ef ger llaw, fe a ddanfonodd y prophwyd Ionas i ddywedyd wrthynt, Etto ddeugain nhiwrnod, a Ninife a ddifethir. Ac yn y man gwyr Ninife a gredaſant i Dduw, ac a ymroeſant i ymprydio, ie fe a barodd y brenhin trwy gynghor ei gynghoriaid gyhoeddi gan ddywedyd, dyn ac anifail, eidion a dafad, ni phrofant ddim, ni phorant ac nid yfant ddwfr: ond gwiſced dŷn ac anifeil ſachliain, a gwaedded ar Dduw yn lew, a dattroed pob dyn oddiwrth ei ffordd ddrygionus, ac oddiwrth y camwedd yr hwn ſydd yn eu dwylo hwynt, pwy a wyr a drŷ 'r Arglwydd ac a edifarhâ a dattroi o angerdd ei ddig, fel na ddifether ni?

Ac ar yr edifeirwch hwn eiddynthwy a ddangoſwyd oddiallan trwy ymprydio, rhwygo eu ddillad, gwiſco ſach-liain, bwrw llwch a lludw ar eu pennau, mae r Scrythur yn dywedyd, A gwelodd Duw eu gweithredoedd hwy, ſef troi o honynt o'u ffyrdd drygionus, ac fe ai edifarhaodd Duw am y drwg a ddywedaſe y gwnai iddynt, ac nis gwnaeth.

Yn awr fy-ngharedigion chwi a glywſoch yn gyntaf beth yw ympryd, cyſtal yr hwn ſydd oddiallan yn y corph, a'r hwn ſydd oddifewn yn y galon. Chwi a glywſoch hefyd fod tri diwedd neu fwriad at y rhai os cyfeirir ein hympryd ni oddiallan, mae fe yn weithred dda, a Duw yn fodlon iddo.

Yn drydydd y dangoſwyd pa amſer ſydd gymmheſuraf i ymprydio, yn neilltuol ac yn gyhoedd.

Yn ddiwethaf pa bethau a gafodd ympryd ar law Dduw, wrth ſiampl Ahab a'r Ninifeaid. Am hynny fyngharedigion yn yr Arglwydd, gan fod llawer mwy o achoſion i ymprydio ac i alaru, yn ein dyddiau ni, nag a fu mewn llawer blwyddyn mewn vn oes o'r blaen; ymrown oddifewn yn ein calonnau, ac oddiallan yn ein cyrph, i arfer yn ddiwyd yr arfer ymma o ymprydio, yn y modd a'r agwedd yr arferodd y ſanctaidd brophwydi, yr Apoſtolion a llawer o wŷr duwiol eraill hi yn eu hamſer. Yr vn Duw yw Duw yn awr ac oedd efe yr amſer hwnnw, Duw yn caru cyfia wnder ac yn caſhau anwiredd, Duw ni ewyllyſia far wolaeth pechadur, ond yn hytrach ymchwelyd o hono oddiwrth ei anwiredd a byw, Duw yr hwn a addawodd droi attom ni, os ni ni wrthodwn droi atto ef: ie os ni a drown ein drwg weithredoedd o'i olwg ef, os peidiwn a gwneuthur drygioni, a dyſcu gwneuthur daioni, ceiſio gwneuthur cyfiawnder a chynnorthwyo 'r gorthymmedig, bod yn farnwyr cyfiawn i'r ymddifad ac yn ymddiffyn i'r weddw, torri ein bara i'r newynog, a dwyn y tlawd a fyddo ar ddidro i'n tai, os dilladwn y noeth a bod heb ddiyſtyru ein brawd yr hwn yw ein cnawd ni ein hunain: yno y gelwi (medd y prophwyd) a'r Arglwydd a atteb, ti a waeddi ac yntef a ddywaid, dymma fi. Ie yr vn Duw a wrandawodd ar Ahab a'r Ninifeaid, ac a'u harbedodd hwy, a wrendy ein gweddiau ninnau ac a'n harbed ni, os ni yn ôl eu ſiampl hwy a drown atto yn ddiragrith: Ie fe a'n bendithia ni a'i nefol fendithion tros yr amſer ſydd i ni i aros yn y byd hwn, ac yn ôl rhedfa 'r bywyd marwol hwn, fe a'n dwg ni i'w deyrnas nefol, lle y teyrnaſwn ni mewn dedwyddwch tragwyddol gydâ 'n Iachawdwr Chriſt: I'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yſpryd glân y bo holl anrhydedd a gogoniant yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Pregeth yn erbyn Glothineb a meddwdod.

CHwi a glywſoch, fy-ngharedigion, yn y bregeth o'r blaen, ddull a rhinwedd ympryd a'i iawn arfer; yn awr chwi a gewch glywed mor frwnt o beth yw glothineb a meddwdod gar bron Duw, er mwyn eich cyffroi chwi i ymprydio yn ddyfalach.

Deellwch gan hynny ddarfod i'r Holl-alluog Dduw (er mwyn bod i ni ymgadw yn ddihalog, a'i waſanaethu ef mewn ſancteiddrwydd a chyfiawnder yn ôl ei air) orchymmyn yn yr Scrythyrau i gynnifer o honom ac ſydd yn edrych am ogoneddus ymddangoſiad ein Iachawdwr Chriſt, fyw mewn ſobredd, lledneiſrwydd, a chymmedrolder. Wrth yr hyn y gallwn ddyſcu mor anghenrhaid Tit. 2. 12. yw i bob Chriſtion, ac a fynne fod yn barod yn nyfodiad ein Iachawdwr Chriſt, fyw mewn ſobredd yn y bŷd preſennol hwn, gan na all ef, os bydd ammharod, fyned gydâ Chriſt i 'w ogoniant: ac os bydd efe diarfog yn hyn o beth, ni all ef na bô mewn gwaſtadol berigl gan i gelyn creulon, y llew rhuadus, yn erbyn yr hwn y mae Petr yn ein rhybyddio ni i'n parottoi ein hunain mewn gwaſtadol ſobredd, fel y gallom ei wrthwynebu ef yn gadarn mewn ffydd. 1. Pet. 5.

Am hynny fel y gallom arfer y ſobredd hwn yn ein holl ymddygiad, fe fydd cyfaddas mynegi i chwi faint y mae pob rhyſedd a gormodedd yn digio mawrhydi yr Holl-alluog Dduw, ac mor doſt y mae efe yn coſpi anfeſurol gam-arfer y creduriaid a ordeiniodd ef i borthi anghenrheidiau ein bywyd ni, megis bwyd a diod a dillad.

A chyfaddas fydd dangos hefyd y clefydai niweidiol a'r Aflwydd. echrys mawr ſydd fynychaf yn canlyn y rhai ſydd yn ymroi i ddilyn yn afradlon y cyfryw hoffderau ac ſydd gyſſyltedig a gormodd o fwydydd moethus, neu ddillad rhy werthfawr a rhy wychion.

Ac yn gyntaf fel y galloch weled mor gas ac mor ffiaidd yngwydd yr Holl-alluog Dduw, yw gormodd bwytta ac yfed, chwi a gofiwch yr hyn y mae S. Paul yn ei ſcrifennu at y Galathiaid, lle Gal. 5. 21. y mae efe yn cyfrif glothineb a meddwdod ymmhlith y beiau Erchyll. echrydus, y rhai (medd efe) ni all neb y byddont ynddo etifeddu teyrnas Dduw. Mae efe yn eu cyfrif l wy ym-mhlith gweithredoedd y cnawd, ac yn eu Cyplu. cwplyſu hwy a delwaddoliad, putteindra a llofruddiaeth, y beiau mwyaf ac a ellir eu henwi ym-mhlith dynion: o herwydd mae 'r cyntaf yn yſpailio Dduw o'i anrhydedd, yr aill yn halogi ei deml ſanctaidd ef, hynny yw, ein cyrph ni: a'r trydydd yn ein gwneuthur ni yn gyfeilion i Cain wrth ladd ein brodyr, a phwy bynnag, medd S, Paul, a'u gwnelo, ni allant etifeddu teyrnas Dduw.

Yn ſiccr, mae 'r pechod hwnnw yn gâs ac yn ffiaidd ger pron Duw, yr hwn ſydd yn peri i Dduw droi ei wynebpryd graſol mor bell oddiwrthym, ac y cae ai ni yn llwyr allan o'r drŵs, a'n dietifeddu ni o'i deyrnas nef. Ond y mae fe yn ffiaiddio anifeiliaidd wledda a gloddeſt yn gymmaint, fel y mae efe trwy ei fâb Ieſu Ghriſt ein Iachawdwr yn yr Efengyl, yn cyhoeddi ei Erchyll. echrydus lid yn erbyn pawb a wnânt eu boliau yn Dduw iddynt, gan eu barnu yn felldigedig, â dywedyd, Gwae chwi y rhai ydych lawnion, canys chwi a newynwch. A thrwy enau y Prophwyd Luc. 6. 25. Eſai mae fe yn gweiddi, Gwae y rhai a gyfodant yn foreu, ac a ddilynant ddiod gadarn, ac Eſai. 5. 11. a arhoſant hyd yr hwyr, hyd oni ennynno diod gadarn hwy: ac yn eu gwleddoedd hwy y mae 'r delyn a'r nabl, y tympan, y bibell hefyd a'r gwin; ond gwaith yr Arglwydd nid edrychant, ac gweithred ei ddwylaw ef ni welant: Gwae y rhai cryfion i yfed gwin, a'r dynion nerthol i gymmyſcudiod gadarn.

Ymma y mae 'r prophwyd yn dangos yn oleu fod cyfeddach a gwledda yn gwneuthur i ddynion anghofio eu dlyed tu ac at Dduw: pan fônt yn ymroi i bob rhyw hoffder a digrifwch, heb yſtyried na meddwl am weithredoedd yr Arglwydd, yr hwn a greodd fwyd a diod, fel y dywaid S. Paul, i'w derbyn mewn diolchgarwch gan y ffyddloniaid, y rhai a adwaenant y gwirionedd. 1. Tim. 4. 4. Megis y dylai edrych yn vnig ar y creaduriaid hynny (y rhai ydynt waith dwylo yr holl-alluog Dduw) ein dyſcu ni i'w harfer hwy yn ddiolchus, fel yr ordeiniodd Duw.

Am hynny y maent hwy yn ddieſcus ger bron Duw, y rhai naill a'u a lanwant eu hunain yn afradlon, heb yſtyried y ſancteiddiad ſydd trwy air Duw a gweddi, ai ynte yn anniolchgar a gamarferant ddaionus greaduriaid Duw, trwy rythni a gormodedd a meddwdod, gan fod ordeinhâd Duw yn ei greaduriaid yn gwahardd hynny yn oleu. Pwy bynnag gan hynny a ymroddant i yfed ac i wledda heb yſtyried barnedigaeth Dduw, hwy a oddiweddir yn ddiſymmwth ynnydd dial.

Am hynny y dywaid ein Iachawdwr Chriſt wrth ei ddiſcyblon, Edrychwch arnoch eich hunain Luc. 21. 34. rhag gorchfygu eich calonnau a glothineb a meddwdod a gofalon y bŷd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddiſymmwth. Pwy bynnag gan hynny a gymmero rybydd wrth eiriau Chriſt, gwilied arno ei hunan, rhag Gorchfygu. gormeilo ei galon a glothineb a meddwdod, a'i ddala ef yn ddiſymmwyth gyd â'r gwâs afradlon, yr hwn heb feddwl am ddyfodiad ei feiſtr, a ddechreuodd guro Luc. 12. 26. ei gyfeillon y gweiſion a'r morwynion, a bwytta ac yfed a meddwi, a chwedy ei ddala yn ddiſymmwth ef a gafodd ei ran gyda 'r anffyddloniaid a'r rhagrith-wyr. Pwy bynnag a arfero yfed yn ddwfn ac ymlenwi yn ormodd (gan ymdreiglo ym-mhob drygioni) fe a ddaw arnynt drymgwſc a A chyſglyd. chyſcadur angof ſanctaidd ewyllys a gorchymmynion Duw. Am hynny y llefa yr Holl-alluog Dduw trwy 'r Prophwyd Ioel, deffrowch feddwyr, ac wylwch ac vdwch holl yf-wyr gwin am y Iool 1. 5. gwin newydd, canys torrwyd ef oddiwrth eich mîn chwi. Ymma y mae 'r Arglwydd yn bygwth yn doſt y tynn ef ei ddoniau oddiwrth y rhai a'u camarferant, ac y tynn ef y phiol oddiwrth enau y meddwon. Ymma y gallwn ddyſcu gochelyd cyſcu mewn meddwdod a glothineb, rhag i Dduw ein difuddio ni o fwyniant ei greaduriaid, pan gamarferom ni hwynt yn annaturiol.

O herwydd yn ſiccr ni thynn yr Arglwydd ein Duw yn vnig ei ddoniau oddiwrthym, pan gamarferir hwy yn anniolchus; ond hefyd yn ei lid a'i fawr ddigofaint, fe a ddial ar bawb a'u camarferont hwy yn anghymmedrol. Pe buaſai ein henafiaid cyntaf ni Adda ac Efa heb yfyddhau i'w chwant awyddus yn bwytta 'r ffrwyth gwaharddedig, ni buaſent nac yn colli mwyniant doniau Duw, y rhai a fwynhaent ym-mharadwys yr amſer hynny, nac yn dwyn y fath aflwydd ac echrys arnynt eu hunain a'u holl heppil yn eu hôl. Ond pan aethant hwy tros y terfynau a oſodoſai Duw iddynt, hwy a yrrwyd allan o baradwys, megis rhai an-nheilwng o ddoniau Duw, ni chânt ym-mhellach fwytta ffrwythau yr ardd honno, y rhai a ddarfuaſe iddynt eu camarſer yn gymmaint trwy ormodedd: ac megis troſeddwyr gorchymmynion Duw, fe a'u dygwyd hwy a'u heppil i gywilydd a gwradwydd tragwyddol, ac megis rhai gwedi i Dduw eu melldithio, rhaid iddynt chwyſu am eu bywyd, y rhai o 'r blaen oedd ganthynt helaethrwydd wrth eu hewyllys.

Felly ninnau, os wrth fwytta ac yfed y cymmeron ormod, a Duw o'i helaeth haelioni yn danfon i ni ddigonedd ac amledd, fe a drŷ yn y man ein hamledd ni yn brinder: a lle 'r oeddym o'r blaen yn ymorfoleddu yn ein cyflawnder, fe a'n gwnâ ni yn wâg, ac a'n gwradwydda ni ag eiſiau ac a phrinder, ac a wna i ni lafurio a thrafaelu trwy boen a thrafael, i geiſio yr hyn yr oeddym o'r blaen yn ei fwynhau mewn eſmwythdra. Felly ni âd yr Arglwydd hwy heb goſpi, y rhai heb yſtyried ei weithredoedd ef, a ganlynant wyniau a thrachwantau eu calonnau eu hunain.

Y Patriarch Noah yr hwn y mae yr Apoſtol yn ei alw yn bregethwr cyfiawnder, ac yr oedd Duw yn ei garu yn fawr, a wnaethpwyd yn yr Scrythur lan yn ſiampl i ddyſcu i ni ochelyd meddwdod. Gen. 9. 21. O blegid wedi iddo gymmeryd mwy o wîn nag oedd gymmheſur, fe a orweddodd yn noeth yn ei babell, a'i aelodau dirgel wedi eu dynoethi. Ac er ei fod ef o'r blaen mewn cymmaint parch a chymmeriad, fe a aeth yn awr yn watwargerdd i'w felldigedig ſab Cham, er mawr ddolur i'w ddau feibion eraill Sem a Iapheth, y rhai a gywilyddient dros ymddygiad anifeiliaidd eu tad. Ymma y gellwch weled fod meddwdod yn dwyn gydag ef gywilydd a gwatwar, ac na ddiangc ef yn ddigoſp vn amſer.

Lot hefyd wedi ei Orchfygu. ormeilo gan win a wnaeth bechod lloſc-ach ffiaidd a'i ferched eu hunan. Ymma y mae Lot trwy yfed gwedy cwympo cyn belled allan o'i bwyll ei hun, nad edwyn ef i ferched ei hunan. Pwy a dybyge y cwympe hên ŵr a fai yn y cyflwr blin yr oedd efe, gwedi colli ei wraig a chymmaint ac a fedde, gwedi gweled dial Duw a ddangoſaſid mewn modd ofnadwy ar y pump dinas am eu bywyd drygionus; i anghofio ei ddylêd cy belled.

Ond fel y dywaid Seneca, mae gwŷr gwedy eu gorchfygu gan ddiod, yn ynfydion cynwynol. Lot a dwyllwyd gan ei ferched, ond y mae llawer yn awr yn eu twyllo eu hunain, eiſiau meddwl y dial Duw trwy goſpedigaethau ofnadwy, ar y rhai ſy yn pechu trwy ormodedd. Nid bychan y pla a ennillodd Lot trwy ei feddwdod. O herwydd fe wnaeth weithred gnawdol a'i ferched ei hun, a hwy a feichiogaſant o hynny, fel yr aeth y peth yn gyhoedd, ac ni ellid ei gelu yn hwy. Fe a aned dau blentyn ordderch o'r lloſcach hynny, Ammon a Moab, o'r rhai y daeth dwy genhedl, yr Ammoniaid a'r Moabiaid, y rhai oedd gas gan Dduw, a gwithwynebwyr creuion i'w bobl ef plant yr Iſrael.

Wele, fe a ennillodd Lot iddo ei hunan wrth gyfeddach driſtwch a gofal, a chywiſydd a gwarth tragwyddol hyd ddiwedd y bŷd. O nid arbedodd Duw ei was Lot, yr hwn oni buaſe hynny oedd ŵr duwiol, nai i Abraham, ac a dderbyniaſai angelion Duw i'w dŷ: Pa beth a wna ef i 'r rhai hyn ſydd yn waſanaethwyr i'w boliau fel anifeiliaid, heb dduwioldeb nac ymddygiad rhinweddol, yn ymroi nid vnwaith, onid dydd a nos yn gwbl i gyfeddach a gwledda? Ond gwelwn etto ym-mhellach ſiamplau ofnadwy o ddigllonedd Duw yn erbyn y rhai yn awyddus a gaulynent ei chwantau afradlon. Ammon mab Dafydd 2. Sam. 13. 29. wrth wledda gyd ei frawd Abſolon, a laddwyd yn greulon gan ei frawd Abſolon. Holofernes Iudith. 12. 8. tywyſog dewr galluog, pan orchfygwyd efe gan wîn a gafas dorri ei ben oddiar ei yſcwyddau gā ddwylo gwreigan ddiwryg, Iudith. Simon yr Archoffeiriad a Matthathias a Iudas ei ddau 1. Macc. 16. 16. feibion, gwedy eu gwahodd gan Ptolomaeus mab Abobus yr hwn a briodaſe ferch Simon, yn ôl iddynt fwytta ac yfed yn ddwys, a laddwyd yn fradychus gan Ptolomæus eu cyfathrachwr ei hun. Oni buaſe ymroi o'r Iſraeliaid i ormod moethau, ni buaſent wedi cwympo mor fynych i ddelw-addoliad: ac nid ymroen ninnau heddyw Exod. 32. 6. yn gymmaint i ofergoel, oni bai faint gennym am lenwi ein boliau.

Pan oedd yr Iſraeliaid yn gwaſanaethu delwau, hwy a eiſteddent i fwytta ac i yfed, ac a gyfodent 1. Cor. 10. 7. i fynu i chwarau, fel y dywed yr Scrythur. Felly wrth chwennych gwaſanaethu eu boliau, hwy a ymadawſant â gwaſanaeth yr Arglwydd eu Duw. Felly y tynnir ninnau i gyttuno ag annuwioldeb, pan fo 'n calonnau wedi eu gorchfygu a meddwdod a gwledda.

Felly Herod, pan oedd wedi rhoi ei feddwl ar wledda, a fu fodlon gantho ar ddeiſyfiad merch ei Mat. 14. 9. buttain, ganniatau torri pen ſainctaidd ŵr Duw, Ioan feddyddiwr. Oni buaſe fod y glŵth cyfoethog Luc. 16. 19. mor awyddus i lenwi ei fola, ni buaſei mor an-nrhugarog wrth Lazarus dlawd, ac ni buaſei raid iddo oddef poenau tân anniffoddadwy. Am ha achos y coſpodd Duw Sodom a Gomorrha mor Erchyll. echrydus? Ond am eu balch-wledda a'u gwaſtadol ſeguryd, y rhai a wnaeth iddynt fod mor ddrŵg eu bywyd, ac mor an-nrhugarog wrth y tlawd?

Pa beth a dybygwn ni bellach am ormodedd, trwy'r hwn y daeth llawer i ddiſtryw? Alexander mawr wedi iddo orchfygu yr holl fŷd, a orchfygwyd yntef gan feddwdod, yn gymmaint ac y lladodd ef, ac ef yn feddw, ei gyfaill ffyddlon Clitus, am yr hyn pan aeth ef yn ddifeddw, y cywilyddiodd yn gymmaint ac yr ewyllyſiodd iddo ei hun farwolaeth o wir ofid calon. Er hynny ni pheidiodd ef a gwledda, ond mewn vn noſwaith fe a lyngcodd cymmaint o win, ac a'i dûg ef i Dderton. gryd tôſt, a phan na fynnai mewn modd yn y bŷd ymattal odoiwrth wîn, am ben y chydig ddyddiau fe a ddiweddodd ei oes mewn modd grcſynol. Dyna orchfygwr yr holl fyd wedi ei wneuthur yn gaethwas trwy ormodedd, ac mor wallgofus ac y lladdai ei gyfaill anwyl, ac a'i plagwyd ef â thriſtwch, cywilydd a gofid calon am ei anghymmedrolder a'i ormodedd, etto ni ddichon ef ymadel â'i fai, ond mae efe mewn caethiwed, a'r hwn o'r blaen a orchfygodd lawer, ſydd wedi myned yn awr yn gaethwas i'r bola brwnt.

Felly y mae y meddwon a'r rhai glwth heb allu ganthynt arnynt eu hunain, a pha mwyaf a yfont, mwyaf fydd eu ſyched: mae 'r naill gyfeddach yn annog y llall: ac maent yn myfyrio ar lenwi eu cyllau awyddus. Am hynny y dywedir yn gyffredin, Ni bydd meddw byth diſyched, ac Byth ni lenwir bola'r glwth.

Gwir yw na ellir digoni a bodloni chwantau a thrachwantau calon dyn, ac am hynny rhaid i ni ddyſcu eu ffrwyno hwy ag ofn Duw, fal nad ymroddom i'n chwantau ein hunain, rhag, i ni ennynnu digofaint Duw yn ein herbyn, wrth geiſio cyflawni ein trachwantau anifeiliaidd. Mae S. Paul yn ein dyſcu ni Pa vn bynnag a wnelom ai bwytta ai yfed, neu beth bynnag a 1. Cor. 10. 31. wnelom, ar i ni wneuthur y cwbl er gogoniant i Dduw. Lle y mae efe yn appwyntio megis wrth ddogn a meſur, pa gymmaint a ddylei ddŷn ei fwyta neu ei yfed, hynny yw, cymmaint ac na wneler y meddwl yn ddiog wrth ymlenwi ar fwyd a diod, fel na allo ymdderchafu i ogoneddu ac i foliannu Duw.

Pwy bynnag gan hynny wrth yfed a'i gwnel ei hun yn aneſcud i waſanaethu Duw, na thybyged y diangc ef yn ddigoſp. Chwi a glywſoch mor gas ac mor wrthwyneb gan yr Holl-alluog Dduw gamarfer ei greaduriaid, fel y mae efe ei hun yn dangos, cyſtal wrth ei ſanctaidd air, a ſiamplau ofnadwy ei gyfiawn farn. Yn awr oni ddichon na gair Duw attal ein chwantau afradlon, a'n trachwantau awyddus ni; na ſiamplau ofnadwy dialedd Duw, ein hofni ni oddiwrth anllywodraethus ormodedd bwytta ac yfed: etto yſtyriwn yr aml eniweidiau ſydd yn tyfu o hynny, felly y cawn adnabod y pren wrth ei ffrwyth.

Mae fe yn clwyfo 'r corph, yn mallu 'r meddwl, yn treulo'r golud ac yn blino 'r cymydogion.

Ond pwy a ddichon draethu yr aml beryglon a'r eniweidion ſydd yn canlyn o ymborthi yn anghym-mhedrol? yn fynych y daw angau dyſyfyd wrth wledda; weithiau yr ymollwng yr holl aelodau, fel y dygir yr holl gorph i gyflwr blin. Mae 'r hwn ſydd yn bwytta ac yn yfed yn anfeſurol, yn ennynnu yn fynych y fâth wrês annaturiol yn ei gorph, fel yr annog hynny ei chwant ef i chwennychu mwy nag a ddylyei; neu ynGorehfygu. gormeilo ei gylla ef, ac yn llenwi ei gorph ef yn llawn diogi, ac yn ei wneuthur yn aneſcud ac yn anghym-mheſur i waſanaethu na Duw na dŷn, heb borthi'r corph, ond ei ddrygu; ac yn dwyn llawer o glefydon afiachus, o'r rhai y tŷfweithiau angau diobaith.

Ond pa raid i mi ddywedyd ychwaneg yn hyn o beth? O blegid oni fendichia Duw ein bwydydd ni, a rhoi iddynt rym i'n hymborth ni: a hefyd oni rydd Duw rym i'n naturiaeth ni i dreulo ein bwyd fel y gallom gael lles oddiwrthynt, naill ai ni a'u bwriwn hwy i fynu, ai ynte hwy a ddrewant, yn ein cyrph ni megis mewn pwll neu ſoddfa ddrewllyd, ac felly y llygrant ac a difwynant yr holl gorph.

Ac yn ſiccr mae bendith Dduw ym-mhelloddiwrth y rhai a arferant wledda mor anllywodraethus, fal y mae yn fynych yn eu hwynebau arwyddion eglur o'u hafradionrwydd hwy: fel y dywed Salomon yn ei ddiarhebion: I bwy (medd ef) y mae gwae? I bwy y mae ochain? I bwy y Diarh. 23. 29. mae cynnen? I bwy y mae dadwrdd? I bwy y mae clwyfau heb achos? ac i bwy y mae llygaid cochion? ſef i'r rhai a drigant yn hir yn y gwin. Yſtyriwch adolwg arwyddion dig Duw: gwae, ochain, cynnen, a dadwrdd, clwyfau heb achos, wyneb anniwygus, a chochineb llygaid ſydd yn dyfod i'r rhai a'u rhoddant eu hunain i ormodedd ac i draflyngcu, gan ddychymmygu pob modd i gynnyddu eu chwantau awyddus, gan dymmheru 'r gwin a'i gymmyſcu, fel y gallo fod yn feluſach ac yn foethuſach iddynt.

Fe fydde dda pe cymmere y fath ddynion moethus eu rheoli gan Salomon, yr hwn o blegid yr afles y ſydd yn dyfod oddiwrtho, a waharddodd Ver. 32, 33, &c. edrych ar win. Nac edrychwch, medd ef, ar win pan fytho côch, a phan ddangoſo ef ei liw yn y phiol, neu pan êl efe i wared yn felys: yno yn y di wedd fe a frath fel ſarph, ac a biga fel gwiber: dylygaid a edrychant ar wragedd dieithr, a'th galon a draetha drawſedd: ti a fyddi megis vn yn cyſcu ynghenol y mor, ac fel vn yn cyſcu ym-mhen yr hwylbren: pan y'm curent, meddi, ni chlefychais, pan y'm ffuſtent nis gwybûm, pan ddeffroaf mi âf rhagof ac a'i ceifiaf drachefn. Mae 'n rhaid bod hwnnw yn ddrŵg yr hwn ſydd yn brathu ac yn pigo fel gwiber wenwynllyd, trwy 'r hwn y tynnir dynion i odineb brwnt, yr hwn ſydd yn peri i'r galon ddychymmyg melldith. Diammau fod yr hwn ſydd yn cyſcu ynghanol y mor mewn perigl mawr, canys ebrwydd y gorchguddir ef ô'r tonnau. Mae'r hwn ſydd yn cyſcu ym-mhen yr hwylbren yn debyg i gwympo yn ddiſymmwth. A phwy bynnag, ni chlywo pan darawer ef, ac ni wybydd pan gurer ef, y mae efe wedi colli ei ſynhwyrau yn gwbl.

Felly mae glothineb a meddwdod yn pigo 'r bola, yn peri cnofa waſtadol yn y cylla, yn dwyn dynion i butteindra ac aflendid calon, a pheriglon an-nhraethadwy: fel yr ydys yn difuddio ac yn yſpailio dynion o 'u ſynhwyrau, megis nad oes ganthynt ronyn gallu arnynt eu hunain.

Pwy bellach ni wŷl y cyflwr blin y dygir dynion iddo gan yr anghenfilod anferth ymma, Glothineb a meddwdod. Maent hwy yn aflonyddu 'r corph yn gymmaint, fel y mae Ieſu fab Syrach yn dywedyd nad ydyw 'r bwyttawr mawr yn cyſcu yn eſmwyth vn amſer, yr ydys yn ennynnu Ecclus. 31. 22. ynddo y fâth wrês anfeidrol, o'r hwn y canlyn gwaſtadol wayw a phoen trwy 'r holl gorph.

Ac nid llai hefyd y drygir y meddwſ trwy ormod gwledda: o herwydd weithiau yr ydys yn taro dynion ag ynfydrwydd meddwl, ac yn eu dwyn i wallgofi: mae rhai yn myned mor anifeiliaidd ac mor drymfryd, fel y maent yn hollawl yn myned yn ddiddeall ac yn ddibwyll. Peth Erchyll. echrydus yw i neb ei anafu ei hun mewn vn aelod o'i gorph, ond peth anrhaith ei oddef yw i ddŷn o'i wir fodd i yrru ei hun allan o'i gôf.

Mae 'r Prophwyd Oſee yn y bedwaredd bennod yn dyŵedyd, fod meddwdod a gwin yn dwyn Oſee. 4. 11. y galou ymmaith. Och, i neb ymroi i'r hyn a ddŵg ei galon ef o'i feddiant. Gwîn a gwragedd, medd Ieſu fâb Syrach, ſydo yn gyrru doethineb ar encil. Ie mae efe yn gofyn beth yw einioes yr Ecclus. 19. 2. hwn a orchfyger gan wîn. Chwerwder meddwl yw 'r gwin a y fer llawer o hono, ac fe a chwanega ddig a thrangwydd. Mewn llywodraethwyr y mae yn d wyn creulondeb yn lle cyfiawnder, fel y canfu y philoſophydd call Plato yn ddigon da, Dial 31. 4. pan ddywedodd ef fod mewn dŷn meddw galon greulō, ac am hynny y llywodraetha ef yn y modd y mynno, yn erbyn rheſwm ac iniondeb.

Ac yn ſiccr mae meddwdod yn gwneuthur i ddŷn anghofio cyfraith ac iniondeb, a hynny a wnaeth i frenhin Salomon orchymmyn yn galed na roddid dim gwîn i lywodraeth-wŷr, rhag iddynt yfed ac ebrgofi 'r gyfraith, a chyfne widio barn y rhai gorthrymmedig. Ac am hynny o'r holl ddynion, y mae yfed gormodd dwin yn anrhaith ei oddef mewn llywodraethwr neu ŵr o awdurdod, fel y dyweid Plato: o blegid ni wyr meddwyn pale y mae efe ei hunan. Am hynny os meddwa gŵr o awdurdod, och pa fodd y bydd efe arweinydd i eraill, ac yn rhaid iddo wrth vn i'w arwain ei hunan?

Hefyd, ni feidr dŷn meddw gadw cyfrinach: a llawer gair diffaith, ynfyd, lledffrom a ddywed dynion pan fônt yn eu gloddeſt. Mae meddwdod, medd Seneca, yn dynoethi pob drygioni, ac yn ei ddwyn i oleuni: mae yn troi heibio bob cywilyddgarwch, Seneca. ac yn cynnyddu pob anwiredd. Y balch pan ſo meddw a adrodd ei falchder, y creulon ei greulonder, y cenfigennus ei genfigen, megis na ellir cuddio vn bai mewn meddwyn.

Hefyd, am nad yw yn ei adnabod ei hun, y mae efe yn bloeſci yn ei ymadrodd, yn trangwyddo yn ei gerddediad, heb allu edrych ar ddim yn waſtad â'i lygaid rhythion, mae fe yn credu fod y tŷ yn troi yn grwn o'i amgylch. Y mae 'n eglur fod y meddwl yn myned ym-mhell o'i le, wrth yfed gormodd, megis pwy bynnag a dwyller gan wîn neu ddiod gadarn, mae yn myned; fel y dywaid Salomon, yn watwarwr, yn wallgofus, ac ni all byth fod yn ddoeth. Os bydd neb yn tybied y Diarh. 20. 1. gall ef yfed llawer o win, a bod yn dda yn ei gof, fe all feddwl yn gyſtal, medd Seneca, na bydd efe marw er iddo yfed gwenwyn. O blegid pale bynnag y byddo gormodd yfed, yno mae yn rhaid bod trallod meddwl, a lle y llanwer y bola a bwyd moythus, mae 'r meddwl wedi ei orthrymmu a diogi ſegurllyd. Mae bola llawn, medd Saint Bernard, yn gwneuthur y deall yn bŵl, a llawer Adſororem, Ser. 24. o fwyd yn gwneuthur meddwl hwyr drwm.

Ond, ôch, yn y dyddiau hyn nid gwaeth gan ddynion am eu cyrph na 'u heneidiau; os cânt olud bydol a chyfoeth ddigon i gyflawni eu chwantau anfeſurol, nid gwaeth genthynt beth a wnelont. Ni bydd arnynt gywilydd dangos eu hwynebau meddwon, a chwareu 'r ynfydion yn gyhoeddus. Maent yn tybied eu bod mewn ſtât dda, a bod pob peth yn dda, nes eu gwaſcu hwy â phrinder ac â thlodi.

Am hynny rhag ofn i neb o honom, trwy amledd ei gyfoeth, gymmeryd achos i'w wenhieithio ei hunan yn y gormodedd anifeiliaidd hwn, cofiwn yr hyn a ſcrifenna Salomon, y neb a garo Pro. 21. 17. wledda a ddaw i dlodi, a'r neb a garo win ni bydd cyfoethog. Ac mewn man arall y mae efe yn rhoi gorchymmyn caled, yn y modd hyn, Na fydd vn o'r rhai ſydd yn meddwi ar wîn, nac vn o'r rhai Pro. 23. 21. glythion ar gig, canys y meddw a'r glŵth a ddeuant i dlodi. Yr hwn ſydd yn gollwng ei etifeddiaeth ar hŷd ei gêg, ac yn bwytta ac yn yfed mwy mewn vn awr neu vn diwrnod, nag a allo efe ei ennill mewn wythnos gyfan, ni all na bo ef afradus, ac na ddêl i dlodi.

Ond fe ddywaid rhyw vn, pa raid i neb feio ar hyn? Nid yw efe yn drygu neb, ond ei hun, nid yw efe elyn i neb ond iddo ei hun. Yn wir mi a wn mai dymma hyn a ddywedir yn gyffredinol i amddiffyn y rhai glwth afradlō, anifeiliaidd hyn: ond mae yn hawdd gweled mor niweidiol ydynt, nid yn vnig iddynt eu hunain, ond, trwy eu ſiamplau drŵg, i'r holl wlâd hefyd. Pob vn a gyfarfyddo â hwynt a drallodir ag ymadroddion terfyſcus, ymryſongar: ac maent hwy weithiau yn eu gwyniau anllywodraethus, megis meirch porthiannus yn gweryru ar wragedd eu cymmydogion, fel y dywed Ieremi, ac yn difwyno eu plant a'u merched.

Mae eu ſiampl hwy yn ddrŵg i'r rhai y maent yn aros yn eu myſc, maent yn achos tramgwydd i lawer, a'r hŷd y bônt hwy yn treulo eu golud mewn cyfeddach a gloddeſt, mae diffygion pethau anghenrheidiol ar eu tylwyth hwy, mae eu gwragedd a'u plant yn ddigymmorth, nid oes ganthynt fodd i gynnorthwyo eu cymmydogion tlodion yn eu hangen, megis y galle fod ganthynt, pe byddent fyw yn ſobr. Maent yn anfuddiol i'w gwlâd. O blegid nid yw meddwyn gymmheſur nac i lywodraethu nac i fod tan lywodraeth. Maent hwy yn warth i Eglwys a chynnulleidfa Ghriſt, ac am hynny y mae S. Paul yn eu heſcommuno hwy ym-mhlith putteinwyr a delwaddolwyr, cybyddion a chribddeilwyr, gan wahardd i Griſtionogion gydfwyta gydâ 'r cyfrywddynion.

Am hynny, bobl ddaionus, gwachelwn bawb o honom, bob anghymmedrolder, carwn ſobredd a chymmhedrol ymborth, ymrown yn fynych i ddirweſt ac ympryd, trwy 'r hyn y dercheſir meddwl dŷn yn gynt at Dduw, ac yn barottach i bob gweithredoedd duwiol, megis gweddio, gwrando a darllein gair Duw, er ein diddanwch yſprydol. Yn ddiwethaf pwy bynnag a ofalo am iechyd a diogelwch ei gorph ei hun, ac a ddymuno bod yn waſtad yn ei iawn gôf, neu a chwennycho lonyddwch meddwl, ac a gaſhao gynddaredd ac ynfydrwydd, a fynno bod yn gyfoethog a diangc rhag tlodi, a fo ewyllyſgar i fyw heb ddrygu ei gymmydogion, a bod yn aelod buddiol o gorph ei wlâd, ac yn Griſtion heb gywilyddio Chriſt a'i Eglwys: gwacheled bob anllywodraethus anghymmhedrol gyfeddach, dyſced y fath feſur ac ſydd weddus i vn a fo 'n proffeſſo gwir dduwioldeb, canlyned reol S. Paul, ac felly bwyttaed ac yfed i ogoniant a moliant Duw, yr hwn a greodd bob peth i'w mwynhau mewn ſobredd a diolch garwch, i'r hwn y byddo anrhydedd a gogoniant yn dragywydd. Amen.

¶ Pregeth yn erbyn dillad rhy-wychion.

LLe y darfu eich annog chwi o'r blaen i arfer cymmhedrolder a chymmheſurwydd o fwyd a diod, ac i wachelyd gormodedd, am ei fod lawer modd yn drygu ſtât y wlâd, ac mor gâs ger bron yr Holl-alluog Dduw, yr hwn yw awdur a rhoddwr y creaduriaid hynny i ddiddanu ac i gryfhau ein naturiaeth wan ni, trwy ddiolch iddo ef, ac nid wrth eu camarfer hwy i annog haelioni Duw i 'n coſpi ni 'n dôſt am y fath anllywodraeth.

Mae yn weddus yr vn modd eich rhybyddio chwi am ormodedd brwnt treulfawr arall: am ddillad yr wyfi yn meddwl, y rhai y dyddiau hyn ſydd gwedi myned mor anfeſurol, na ddichon na'r Holl-alluog Dduw trwy ei air attal ein balch dragofal niyn hyn o beth, na chyfreithiau duwiol anghenrheidiol ein tywyſogion y rhai a adroddir yn fynych tan goſpedigaeth, ffrwyno 'r anllywodraeth ffiaidd ymma, trwy 'rhwn y dirmygir Duw yn amlwg, ac yr anufyddheir cyfreithia'u tywyſogion, i fawr Pe igl. enbeidrwydd y deyrnas.

Am hynny fel y gweler yn ein myſc ni ſobrwydd yn y gormodedd ymma hefyd, mi a ddangoſaf i'wch beth yw cymmhedrol arfer dillad yr hwn y mae ſanctaidd air Duw yn ei gynnwys; a hefyd beth yw eu camarfer hwy, yr hwn y mae efe yn ei wahardd: fel y mae yn eglur wrth y niweidiau ſydd beunydd yn cynnyddu, trwy gyfion farn Duw, lle na chedwer y meſur a oſododd ef ei hun.

Os yſtyriwn er mwyn pa fwriad a defnydd yr ordeiniodd Duw ei greaduriaid ni a allwn ddeall yn hawdd ei fod ef yn camattau i ni ddillad, nid yn vnig er mwyn anghenrhaid, ond hefyd er mwyn gweddeidd-dra cymmeſurol. Megis mewn llyſiau, coed ac amryw ffrwythau y mae nid yn vnig lawer o fwyniant anghenrhaid, ond hefyd golwg hyfryd ac aroglau peraidd i'n bodloni ni.

Yn hyn y gallwn weled mawr gariad Duw tuag at ddynion am iddo ddarparu pethau i gynhorthwyo ein hanghenrheidiau, ac i ddiddanu ein ſynhwyrau ni â diddanwch honeſt gweddaidd. Am hynny y mae Dafydd yn y 104. Pſalm gan Pſal. 104. 15. gyfaddef rhagddarparaeth Duw, yn dangos nad ydyw efe yn vnig yn darparu pethau anghenrheidiol megis llyſiau a bwydydd eraill, ond hefyd y cyfryw bethau ac a lawenychant ac a ddiddanant megis gwin i lawenychu 'r galon, ac olew i beri i'r wyneb ddiſcleirio. Am hynny y maent hwy gwedy myned ym-mhellach na therſynau dynol y rhai a waharddant gyfraithlon fwynhau doniau Duw ond yn vnig mewn anghenrheidiau.

Ni chanlynwn ni draddodiadau y rhâi hyn, os ni a wrandawn ar S. Paul, yr hwn wrth ferifennu at y Coloſſiaid, ſydd yn erchi iddynt na Col. 2. 21. wrandawont ar y rhai a ddywedant, Na chyffwrdd, na phrawf, na theimla, gan eu difuddio hwy yn goel-fuchedol o fwyniant creaduriaid Duw.

Ac nid dim llai y dylem ni wachelyd rhag i ni yn rhith Chriſtianogawl rydd-did, gymmeryd rhydd-did i wneuthur y peth a fynnom, gan ymhoywi mewn dillad rhy werthfawr, a diyſtyru eraill, a'n parottoi ein hunain mewn gwychder hoyw i ymddygiad nwyfus, drythyll, drygionus ac anniwair. Er mwyn gwachelyd yr hyn beth fe fydde dda i ni ddyſcu pedair gwers y rhai a ddyſcir yn yr Scrythur lân, wrth y rhai y gallwn ddyſcu ein tymmheru ein hunain, ac attal ein hanghymmedrol naws yn y meſur a ordeiniodd Duw.

Y gyntaf yw, Na bytho ein gofal tros y cnawd Rom. 13. 14. er mwyn porthi ei chwantau, mewn dillad gwychion, megis y gwnaeth y buttain am yr hon y dywaid Salomon iddi bereiddio ei gwely, a'i drwſio â thlyſau gwerthfawr yr Aipht, er mwyn cyflawni Pro. 7. 16. ei chwantau melldigedig: ond ni a ddylem yn hytrach wrth gymmhedrol gymmheſurwydd dorri ymmaith bob achoſion trwy y rhai y gallai y cnawd gael yr oruch afiaeth.

Yr ail ſy ſcrifennedig gan S. Paul yn y 7. bennod o'i Epiſtol cyntaf at y Corinthiaid, lle mae 1. Cor. 7. 31. efe yn dyſcu i ni arfer y bŷd hwn megis pe byddem heb ei arfer. Trwy 'r hyn y mae efe yn torri ymmaith nid yn vnig bob vchelfryd, balchder, a gwâg hoywder mewn dillad: ond hefyd pob tragofal ac anghymmedrol naws, yr hwn ſydd yn ein tynnu ni oddiwrth fyfyrio ar bethau nefol, ac yſtyried ein dlêd tu ag at Dduw. Ni all y rhai ſydd yn ymdrafferthu cymmaint mewn gofal am bethau a berthynant i 'r corph, na byddont ond odid eſceulus a diofal am bethau a berth yn i'r enaid. Am hynny mae 'n Iachawdwr Chriſt yn gorchymmyn i ni na ofalom am ein bwyd, pa beth Mat. 6. 25, &c. a fwyttaom, nac am ein diod pa beth a yfom, nac am ein cyrph pa beth a wiſcom; eithr yn gyntaf ceiſio o honom deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef. Wrth hyn y gallwn ddyſcu gwachelyd gwneuthur y pethau hynny yn rhwyſtr ac yn dramgwydd i ni, y rhai a ordeiniodd Duw yn ddiddanwch i ni, ac er ein cynnorthwyo tu â theyrnas nef. Y drydedd yw, ar i ni fod yn fodlon i'n ſtât a'n galwedigaeth, ac ymfodloni yn yr hyn a ddanfono Duw i ni, pa vn bynnag fytho ai ychydig ai llawer. Yr hwn ni bo bodlon i drwſiad gwael yſcafnbris, fe fydde falch o ddillad gwychion pe galle eu cael. Am hynny mae 'n rhaid i ni ddyſcu gan yr Apoſtol S. Paul, yn gyſtal fwynhau helaethrwydd, a goddef prinder, gan gofio y gorfydd arnom roddi cyfrif Phil. 4. 12. am y pethau a dderbyniaſom, a hynny i'r hwn ſydd ffiaidd gantho bob gormodedd, balchder, ymffroſt ac oferwagedd, yr hwn hefyd ſydd yn caſhau yn hollawl ac yn anfodlon i bob peth ac ſydd yn ein tynnu ni oddiwrth ein dlêd tu ag at Dduw, neu yn prinhau ein cariad ni tu ag at ein cymydogion, a'n plant, y rhai a ddylem ni eu caru fel ein hunain.

Y bedwaredd wers a'r ddiwethaf yw bod i bob dyn edrych ac yſtyried ar ei alwedigaeth ei hun, yn gymmaint a darfod i Dduw appwyntio i bob dŷn ei radd a'i ſwydd, yr hon y dyleuai ei gadw ei hun o fewn ei therfynau. Am hynny ni ddylei bob dyn edrych am gael gwiſco 'r vn fath drwſiad, ond pob vn yn ôl ei radd, yn y modd y goſododd Duw ef. Yr hyn drefn pe cedwid hi yr amſer ymma, diammau y gwneid i lawer wiſco dillad llwydion, o'r rhai ſy yn ymhoywi mewn ſidan a melfed, gan dreulio mwy yn y flwyddyn mewn dillad gwychion, nagyr oedd eu tadau yn ei dderbyn am holl ffrwyth eu tiroedd.

Ond heddyw, ôch pa ſawl vn a allwn ni ei weled yn ymroi yn gwbl i hoffder y cnawd? heb ofalu vn gronyn, ond yn vnig ymwychu, gan oſod eu holl awydd yn gwbl ar wychder a hoywder bydol, a chamarfer daioni Duw ſydd yn danfon iddynt helaethrwydd, i gyflawni eu drythyll wyniau a'u chwantau, heb yſtyried ym-mha radd y goſododd Duw hwynt. Yr oedd yr Iſraeliaid yn fodlō i'r dillad a roddaſe Dduw iddynt, er nad oeddynt ond gwael a diyſtr: ac am hynny Duw a 'u bendithiodd hwyntau yn gymmaint, fel y parhaodd eu heſcidiau hwy a'u dillad heb dreulio Deut. 29. 5. ddeugain mhlynedd, ie ac yr ydoedd y plant yn foddlon i wiſco 'r vn dillad ac a wiſcaſai eu tadau o'r blaen. Ond nid ydym ni byth bodlon, ac am hynny nid oes dim yn tyccio gennym, yn gymmaint, ond odid, a bod yr hwn ſydd yn ymhoywi yn ei Sabl a'i ŵn ffwrr hardd, ei eſcidiau corc, ei ſoccyſau gwychion, ei ddyrnfolau clydion, yn barottach i fferru gan anwyd, na 'r llafurwr tlawd yr hwn a all aros yn y maes trwy 'r hirddydd, a'r gogleddwynt yn chwythu, ac ychydig ddillad Duw a ran yr anwyd fel y rhan y dillad. candryll carpiog yn ei gylch.

Mae n' anhawdd gennym ni wiſco y pethau a adawodd ein tadau i ni, nid ydym ni yn tybieid mai difai y rhai hynny i ni. Rhaid i ni gael vn gŵn y dydd ac vn arall y nôs, vn llaes ac vn cwtta, vn y gayaf ac vn arall yr hâf, vn a dwbl drwyddo ac vn arall wedi wynebu ei ymmylau yn vnig, vn ddydd gwaith ac vn arall ddydd gŵyl, vn o'r naill liw ac vn arall o liw arall, vn o frethyn ac vn arall o ſidan neu ddamaſc. Rhaid ini gael amryw wiſcoedd, vn cyn ciniaw, ac vn arall gwedi ciniaw, vn ar ddull ac arfer Hiſpaen ac vn arall o arfer Twrci: ac ar ychydig eiriau, ni byddwn ni byth bodlon i'r hyn ſydd ddigon.

Mae ein Iachawdwr Chriſt yn erchi i'w ddiſcyblon na feddiannent ddwy bais, ond mae y rhan fwyaf o ddynion yn annhebyg iawn i'w ddiſcyblon ef, a'u cwppyrddau mor llawn o ddillad, ac na wyddant pa ſawl gwiſc y ſydd ganthynt. Yr hyn a barodd i S. Iaco gyhoeddi 'r felldith erchyll hon yn erbyn goludogion bydol: Iddo yn awr chwi gyfoethogion, wylwch ac vdwch Iac. 5. 1, 2, 7. am eich trueni a ddel arnoch: eich golud a bydrodd, a'ch gwiſcoedd, bwyd pryfed ydynt. Moethus fuoch ar y ddayar a thrythyll: maethrin eich calon a wnaethoch megis yn-nŷdd lladdedigaeth.

Yſtyriwch adolwg, mae S. Iaco yn eu galw hwy yn druain er eu holl gyfoeth ac amledd eu dillad, gan eu bod yn braſau eu cyrph i'w diſtryw eu hunain. Beth a fu y glwth goludog gwell er ei fwyd dainteithiol moethus, a'i ddillad gwerthfawr? Oni phorthodd ef ei hun i gael ei boeni yn-nhân vffern? Dyſcwn ninnau ymfodloni os Luc. 16. 19. bydd gennyn ymborth a dillad, fel y mae 1. Tim. 6. 8. S. Paul yn dyſcu, rhag wrth chwennychu ymgyfoethogi i ni ſyrthio i brofedigaeth ac i faglau diafol, ac i lawer o drachwantau angall eniweidiol y rhai ſydd yn boddi dynion i golledigaeth a diſtryw.

Yn wir mae y rhai a ymhoffant mewn dillad gwychion wedi ymchwyddo a balchder, ac yn llawn o amryw wagedd ac oferedd. Felly yr oedd merched Sion a phobl Ieruſalem, y rhai y mae 'r prophwyd Eſai yn eu bygwth am eu bod yn rhodio â gyddfau eſtynnedig, ac yn amneidio a'u llygaid, ac yn rhygyngu wrth gerdded, ac yn tryſtio â'u traed, y clafriai'r Holl-alluog Dduw goronau Eſai 3. pennau merched Sion, ac y dynoethai ef eu gwarthau hwynt. Y dydd hwnnw, medd ef, y tynn yr Arglwydd ymmaith addurn eich eſcidiau, y rhwyd-waith hefyd a'r lloerawg wiſcoedd, y perarogl, a'r breichledau, a'r moledau, y penguwch, a'r llodrau, a'r ſnodennau, a'r dwyfronnegau, a'r cluſt-dlyſau, y modrwyau ac addurn-wiſc y trwyn, y gwiſcoedd ſymmudliw, a'u hefyſau, y miſyrnau hefyd a'r pyrſau, y drychau hefyd a'r lliain meinwych, y coccyllau hefyd a'r gynau. Fel na oddefai yr Holl-alluog Dduw gamarfer ei ddoniau mewn ofer-wagedd a thrythyllwch, na oddefai gan y bobl yr oedd ef yn ei garu yn fwyaf, ac a ddarfuaſe iddo eu dewis iddo ei hun o flaen pawb eraill.

Ac yn wir nid llai yr ofer-wagedd a arferir yn ein mŷſc ni y dyddiau hyn. O blegid yr ydys yn maentaeno ac yn cynnal calonnau vchelfryd beilchion merched Prydain, â chynnifer dull anweddaidd o drwſiadau gwychion gwerthfawr, fel nad oes, megis y dywede yr hên Athro Tertulian, wahaniaeth mewn dillad rhwng modryb honeſt a phuttain gyffredin. Ie mae llawer gwr gwedi gwraigeiddio cyn belled, na waeth genthynt beth a dreuliont i'w hanffurfio eu hunain, gan chwennychu gwagedd newydd, a dychymmyg beunydd bob mâth ar ddull newydd. Am hynny pan oedd rhyw wr yn amcanu gwneuthur lluniau gwŷr pob gwlâd yn eu dillad arferedig, gwedi iddo baentio cenhedloedd eraill, fe a wnaeth lun vn o'r deyrnas hon yn noeth, ac a roddes iddo frethyn tan ei geſail, ac a archodd iddo wneuthur o hono y dull o fynne ei hunan ar ddillad: o blegid yr oedd ef yn newid ei ddull ar ddillad mor fynych, ac na wyddai ef pa fodd y gwnai iddo ddillad. Fel hyn yr ydym ni a'n dychymmygion wrth ein phanſi yn ein gwneuthur ein hunain yn watwargerdd i bobl eraill. Yr hyd y bytho vn yn treulo ei dreftadaeth ar gerfiadau a thorriadau, vn arall yn rhoi mwy am grŷs i ddawnſio ynddo, nag a waſanaethai iddo i brynu dillad gweddaidd, ſyber i'w holl gorph. Mae rhai yn rhoddi eu holl olud am eu gyddfau mewn rwffiau. Mae eraill yn anturio 'r cymmal gorau i'w maentaenio eu hunain mewn dillad gwychion. A phob dyn heb yſtyried ei ſtât a'i radd ei hun yn ceiſio rhagori ar ar all mewn dillad gwychion.

O hynny y mae yn digwydd ein bod ni, mevon amledd a helaethrwydd o bob peth, yn cwyno gan wall a phrinder ac eiſiau, yr hyd y bytho vn yn treulio 'r hyn a allai waſanaethu i lawer, ac nad oes neb yn cyfrannu o'r helaethrwydd a dderbyniodd, ond pawb yn treulio yn anfeſurol yr hyn a ddyleuai waſanaethu i gyflawni anghenion eraill.

Fe a ddarparwyd llawer o gyfreithiau iachus daionus yn erbyn y fath gamarferon, y rhai pe bai bob deiliad cywir yn eu cadw megis y dylent, a allent waſanaethu i leihau peth ar yr ynfyd a'r anllywodraethus ormodedd ymma mewn dillad. Ond ôch ôch nid oes yn ymddangos yn ein plith ni ond rhy fychan o ofn ac vfydd-dod nac i Dduw nac i ddyn.

Am hynny ni allwn na ddiſgwiliom am ofnadwy ddial Duw o'r nef, i ddymchwelyd ein rhyfyg ni a'n balchder, megis y cwympodd ef Herod, yr hwn ac yntef yn ei drwſiad brenhinol, am iddo anghofio Duw, a darawyd gan Angel o'r nef, ac a yſſwyd gan bryfed. Trwy 'r ſiampl erchyll honno Act. 12. 23. y dangaſodd Duw i ni nad ydym ond bwyd pryfed er maint yr ymhoffom ac yr ymddigrifom yn ein trwſiadau gwychion. Ymma y gallwn ddyſcu hyn y mae Ieſu fâb Sirach yn ei ddangos, nad ymfalchiom o blegid ein gwiſcoed dillad, ac nad Ecclus. 11. 4. ymdderchafom mewn amſer anrhydedd, o blegid rhyfedd yw gweithredoedd yr Arglwydd, a gogoneddus, a dirgel, a chuddiedig oddiwrth ddynion: gan ein dyſcu ni mewn goſtyngeiddrwydd meddwl i gofio ein galwedigaeth yr hon y galwodd Duw ni iddi.

Am hynny ymegnied pob Chriſtion i ddiffodd gofalu am fedloni'r cnawd: arferwn felly ddoniau Duw yn y bŷd hwn, fal na byddom rhy ofalus i ddarbod am y corph. Ymfodlonwn yn llonydd i'r hyn a ddanfonodd Duw er lleied fytho. Ac os rhynga bodd iddo ef ddanfon helaethrwydd, na falchiwn ynddo, ond arferwn ei ddoniau ef mewn cymmedrolder, cyſtal er ddianwch i ni ein hunain ac er cymmorth i'r rhai ſy mewn angen. Yr hwn mewn amledd a helaethrwydd a guddio ei wyneb oddiwrth y noeth, y mae efe yn diyſtyru ei Eſai 58. 7. gnawd ei hun, medd y prophwyd Eſai.

Dyſcwn ein hadnabod ein hunain, ac nid diyſtyru eraill. Cofiwn ein bod ni igŷd yn ſefyll ger bron mawhydi yr holl-alluog Dduw, yr hwn a'n barna ni wrth ei ſanctaidd air, yn yr hwn y mae efe yn gwahardd pob gormodedd, nid yn vnig i wyr, ond i wragedd hefyd. Megis na ddichon neb ei Eſcuſo. eſcuſodi ei hunan o ba radd neu gyflwr bynnag y bytho. Ymddangoſwn. Ymgyflwynwn gan hynny ger bron ei orſedd-faingc ef, fel y'n hannog Tertulian, yn y gwychder a'r addurn y mae 'r Apoſtol yn ſôn am dano yn y chweched bennod at yr Epheſiaid, gwedi gwregyſu ein lwynau â gwirionedd, a Epheſ. 6. 14. gwiſco dwyfronneg cyfiawnder, a gwiſco am ein traed eſcidiau parotoad efengyl tangneddyf. Cymmerwn attom ddyſymldra, diweirdeb, gweddeidd-dra, gan oſtwng ein gyddfau dan iau eſmwyth Chriſt. Bydded gwragedd daroſtyngedig Matt. 11. 30. i'w gwŷr, ac dyna hwy gwedi ymddilladu yn wychion ddigon, medd Tertulian.

Pan ofynnwyd i wraig Philo Philoſophydd Paganaidd, pa ham nad oedd hi yn gwiſco aur, hi a attebodd ei bod hi yn tybied fod rhinweddau ei gŵr yn ddigon o wychder iddi hi. Pa faint mwy y dylai wragedd Chriſtianogaidd a gyfarwyddir gan air Duw ymfodloni yn ei gwŷr? Iepa faint mwy y dylei bob Chriſtion ymfodloni yn ein Iachawdwr Chriſt, gan dybied ei fod gwedi ei harddu yn ddigonol â'i rinweddau nefol ef?

Ond ymma yr atteb rhyw wragedd ofer gorwag, eu bod hwy yn paentio eu hwynebau, yn lliwio eu gwallt, yn enneinio eu cyrph, ac yn eu trwſiadu eu hunain â dillad gwychion, er bodloni eu gwyr, er eu gwneuthur eu hunain yn hôſf yn eu golwg hwy, a chynnal eu cariad hwy tu ag attynt. Oh eſcus gwâg, ac atteb cywilyddus, er gwarth i'ch gwyr? Pa beth a ellid ti ei ddywedyd fwy i ddangos ffolineb dy ŵr yn gwpplach, nà haeru arno ei fod yn ymfodloni ac yn ymhoffi ynnhrwſiad diawl? Pwy a ddichon baentio ei hwyneb, a chrychu ei gwallt, a newid ei liw naturiol ef, heb iddi wrth hynny feio ar waith ei gwneuthurwr a'i gwnaeth hi? Megis pe gallai hi ei gwneuthur ei hun yn weddeiddiach nag yr appwyntiodd Duw feſur ei thegwch hi.

Pa beth y mae'r gwragedd hyn yn ei wneuthur ond ceiſio gwellau gwaith Duw? heb yſtyried mai gwaith Duw yw pob peth naturiol, ac mai gwaith diafol yw pob peth annaturiol rhithiedig. Megis pe bai ŵr Chriſtianogaidd call yn hôff gantho weled ei wraig gwedi ymliwio ac ymhoywi yn y dull a arfer putteiniaid fynychaf i hudo eu cariadon i ddrygioni, megis pe gallai wraig honeſt chwēnychu bôd yn debyg i buttain er mwyn bodloni ei gŵr. Nag ê, nag ê, nid ydyw y rai hyn ond eſcuſodion gwâg, a wna y rhai ſy yn chwennychu bodloni eraill yn fwy nâ'i gwŷr. Ac nid yw'r fath wychder ond peth i'w hannog i fyned i'w dangos ei hunan er hudo eraill.

Gwych iawn. Rhaid iddi ymryſon â'i gŵr i'w chynnal hi yn y fâth drwſiad ac a'i gwnelo hi yn waeth hwſwi, a bod yn anfynychach gartref i edrych ar ei hwſwiaeth, ac felly eſceuluſo elw ei gŵr, gan annog ei thylwyth yn fawr i oferdraul a drythyllwch, yr hŷd y bô hi yn gwibio allan i ddangos ei gwagedd ei hunan a ffolineb ei gŵr.

Trwy y balchder ymma y mae hi yn cyffroi eraill yn fawr i genfigennu, y rhai ſy mor orwag eu meddwl a hithau. Nid ydyw hi yn haeddu ond ſenn a gwatwar wrth oſod allan ei holl glôd mewn trwſiad paganaidd Iddewaidd, ac er hynny ymffroſtio o'i chred a'i bedydd. Nid ydyw hi ond treulio yn afradlon olud ei gŵr wrth y fath wychder, ac weithiau mae hynny yn achoſion o gam-wobrau, cribddail a thwyll ym-marchnadon ei gŵr hi, fel y geller ei goſod hi allan yn wychach yngolwg y byd gorwag, i fodloni golwg y cythraul, ac nid golwg Duw, yr hwn ſydd yn rhoddi i bob creadur harddwch gweddaidd cymmhedrol, yn yr hyn y dylem ymfodloni pe o Dduw y byddē.

Pa beth yr wyt ti yn ei wneuthur wrth hynny ond annog eraill i'th demptio, i hudo dy enaid di drwy hudoliaeth dy falchder di a'th ryfyg? Pa beth yr ydwyt ti yn ei wneuthur wrth hynny ond goſod allan dy falchder, ac o drwſiad anweddaidd dy gorph gwneuthur rhwyd i ddiafol i faglu llygaid y rhai a edrychant arnat? O dydiwraig, nid Chriſtianoges, ond gwaeth nag Iddewes, a gweinidoges diafol? Pa ham yr wyt ti yn rhodreſu yn gymmaint yn dy gelain gnawd, yr hwn ryw amſer a ddrewa ac a bydra yn y ddayar y cerddi di arni? Pa fodd bynnag yr ydwyt ti yn dy aroglbereiddio dy hunan, etto ni all na'th beraroglau na'th darthau di na chuddio na gorchfygu dy anifeiliaidd-dra di, y rhai ſy yn hytrach yn dy anffurfio ac yn dy Anniwgadu. anniwygu di yn fwy nag y maent yn dy harddu.

Pa beth oedd feddwl Salomon pan ddywedodd ef am wragedd gorwag a ymdrwſient ac a ymwychent fel hyn, fod gwraig dêg heb arferon da, yn debyg i fodrwy aur yn - nhrwyn hŵch: ond pa mwyaf yr ymwychech di â 'r gwychder ymma oddi allan, lleiaf y gofeli di am harddu dy feddwl oddifewn, ac felly nad wyt ti ond dy ddifwyno a'th anurddo dy hun â'r cyfryw drwſiad, ac nid dy harddu a'th addurno hy hun?

Gwrando, gwrando beth y mae ſanctaidd Apoſtoliō Chriſt yn ei ſcrifennu. Na fydded trwſiadau gwragedd oddiallan, medd S. Petr, megis o blethiadau gwâllt ac amgylch oſodiad aur neu wiſco dillad gwychion, eithr bydded ddirgel ddŷn y galon mewn anllygredigaeth, yſpryd addfwyn a llonydd, yr hyn ſydd gymmeradwy ger bron 1. Pet. 3. 3. Duw: canys felly gynt yr ymdrwſiai y gwragedd ſanctaidd, y rhai oeddynt yn gobeithio ar Dduw, yn ddaroſtyngedîg i'w gwŷr priod. Ac mae S. Paul yn dywedyd y dylei wragedd eu dilladu eu hunain yn weddus gyd â lledneiſrwydd a 1. Tim. 2. 9. cymmheſurwydd, nid â gwâllt plethedig, neu aur neu emmau neu wiſc werth-fawr, eithr megis y gweddai i wragedd fynegi duwiolder trwy weithredoedd da.

Oni chedwch orchymmynion yr Apoſtolion, etto gwrandewch beth a ddywed y Paganiaid y rhai nid adwaenent Griſt, yn y peth hyn. Democrates ſydd yn dywedyd fod harddwch gwraig yn ſefyll mewn ychydig eiriau ac ychydig ddillad. Ac am y fâth drwſiad, fel hyn y dywed Sophocles, Nid harddwch yw hyn, oh ynfyd, ond cywilydd, ac argoel eglur o'th ffolineb di. Socrates ſydd yn dywedyd mai harddwch gwraig yw 'r hyn a ddangoſo ei bod hi yn honeſt. A diarheb yw hon ym-mŷſc y Groegwyr, nid aur a thlyſau ſydd yn gwneuthur gwraig yn dêg, ond ei chynneddfau da. Ac mae Ariſtotl yn gorchymmyn i wraig arfer llai o ddillad, nag y mae 'r gyfraith yn ei oddef: o herwydd nid gwychder dillad, na godidawgrwydd prŷd, nac amledd aur, ſydd yn gwneuthur ei wraig fod mewn cymmeriad, ond lledneiſrwydd a gofal am fyw 'n honeſt ym-mhob peth. Mae'r gorwagedd anllywodraethus ymma gwedi tyfu cymn aint nad oes dim cywilydd o hono.

Yr ydym ni yn darllein mewn hiſtoriau, pan ddanfonodd brenhin Dionyſius wiſcoedd gwychion i wragedd Lacedaemonia, hwy a attebaſant ac a ddywedaſant y gwnai 'r dillad hynny iddynt hwy mwy o gywilydd nag o anrhydedd, ac am hynny hwy a'u gwrthodaſant.

Câs oedd gan wragedd Rhufain yn yr hên amſer y trwſiadau gwychion a ddanfonodd-brenhin Pyrrhus iddynt, ac nid oedd neb mor chwannog ac mor orwag ac y derbine hwy. Ac fe wnaeth y Seneddr gyfraith gyhoedd, yr hon a barhaodd tros hir o amſer, Na byddai i wraig wiſco vwchlaw hanner owns o aur, na dillad amliwiog. Symmudliw.

Ond fe alle yr attebai rhyw furſen Glerſennaidd wammal fi, a dywedyd mai rhaid idddynt hwy wneuthur rhyw beth i ddangos ei bonedd a'u gwaedoliaeth, ac i ddangos cyfoeth ei gwŷr: megis pe na bai vn modd i ddangos bonedd ond yn y pethau hynny a arfer y rhai Dihiraf. coegaf yn gyſtal a'r rhai goreu: megis pe na ellid gwario cyfoeth eu gwyr hwy yn well nag ar y cyfryw oferwagedd: megis pe na buaſid ti wrth dy fedyddio wedi ymwrthod a balchedd a gorwagedd y byd a choeg rodres y cnawd.

Nid ydwyf yn dywedyd yn erbyn dillad cymmhedrol, gweddus i bob gradd, ond yn erbyn gormodedd, yn erbyn gwâg hoffi ac awyddu 'r fath goeg - oferedd, a dychymmygu dull newydd beunydd i borthi balchedd, treulio ar dy gelain gorph cymmaint ac a baro i ti ac i'th ŵr yſpailio y tlawd i faenteinio dy ryfyg di.

Gwrandewch pa fodd y mae y bendeſiges ſanctaidd Heſter, yn goſod allan yr addurnau gwychion hyn (fel yr ydys yn eu galw hwy) pan orfu arni er mwyn gwared pobl Dduw wiſco 'r fâth drwſiad hoyw, gan wybod mai dyna 'r hudoliaeth gymmwyſaf i ddallu llygaid ffyliaid cnawdol. Fal hyn y gweddiodd hi, Ti a wyddoſt o Arglwydd Heſter. 14. yr angen yr ydwyfi ynddo i wiſco 'r trwſiad hwn, a bod yn ffiaidd gennyf arwydd balchedd, yr hwn ſydd ar fy-mhen y dydd yr ymddangoſwyf: mae mor ffiaidd gennif ef a chadach miſglwyf, ac nid ydwyf yn ei wiſco ef ar y dyddiau y caffwyf lonydd.

Trachefn, pa fodd y twyllwyd Holophernes ond trwy ddiſclair lewych dillad, y rhai a wiſcodd y wraig ſanctaidd Iudith, nid am ei bod hi yn ymhoffi ynddynt, nac yn ceiſio coeg-ddigrifwch oddiwrthynt, ond hi a'u gwiſcodd hwy o wir anghenrhaid trwy genhadiad Duw, gan arfer y gorwagedd hyn i orchfygu ofer olygon gelynion Duw. Y fath chwant oedd yn y gwragedd boneddigion hynny, er eu bod yn anewyllyſcar oni bai hynny i wiſco 'r fath ddillad gwychion er peri i eraill eu hanghofio eu hunain.

Fe ganmolir y rhai hyn yn yr Scrythyrau am gaſhau 'r fâth orwagedd, er gorfod arnynt o wîr anghenrhaid yn erbyn ewyllys eu calonnau, eu gwiſco hwy tros amſer. A haedda 'r gwragedd hyn glod, y rhai ni chyffelybir i'r gwragedd hynny nac mewn bonedd nac mewn zêl tu ag Dduw a'i bobl, y rhai y mae eu gorhoffedd a'u cwbl feddwl ar ymwychu ac ymhoywi yn y fath gyfnewidiau a'r ddillad, heb fod byth yn ddigonol, na gofalu pwy a gyfynger ac a orthrymmer am eu dillad hwy, os gallant hwy eu cael hwynt? Ond ofer a gorwag yw 'r gwŷr ſydd yn ddaroſtyngedig ac yn gaethion i ewyllys eu gwragedd yn y fâth chwantau anlly wodraethus?

Ond gorwag y gwragedd ſydd yn tynnu arnynt eu hunain y fâth eniweid ac a baro iddynt ddyfod yn gynt i drueni ac aflwydd yn y byd, ac yn y cyfamſer cael eu ffieiddio gan Dduw, a'u caſhau a'u gwatwar gan ddynion call, ac yn y diwedd yn debyg i gael eu cyſſylltu gyd â'r rhai a edifarhânt yn rhy hwyr, ac a gwynant yn vffern ar oſteg yn y geiriau hyn: Pa lês a wnaeth ein balchedd i ni? Pa elw a gawſom oddiwrth goeg-rodres cyfoeth? Fe aeth yr holl bethau hyn heibio fel cyſcod: ond am rinwedd dda, erioed ni ddangoſaſom arwydd o honi: fel hyn yr ydys yn ein difa ni yn ein hanwiredd.

Os dywedi fod yn rhaid i ti ddilyn yr arfer, a bod arferon y byd yn dy gymmell i'r fath orwagedd; yna y gofynnaf i ti, arfer pwy a ddyleid ei ganlyn? ai arfer y rhai doethion, ai arfer y rhai anſynwyrol? os dywedi mai arferon y doeth, yna y dywedaf wrthit, canlyn dithau hwynt: o blegid pwy a ganlyne arfer ffyliaid, ond ffyliaid? Yſtyria mai cyfundeb y doethion a ddyleid ei gyfrif yn lle arfer. Ac os arferir vn arfer annuwiol, bydd di 'r cyntaf a dorro 'r arfer honno: gwna dy orau ar ei lleihau a'i bwrw i lawr: a thi a ennilli fwy o glod ger bron Duw, a mwy o ganmoliaeth am hynny, nag am dy holl orwagedd a'th ormodedd.

Fal hyn y clywſoch ddangos i chwi allan o air Duw, pa beth y mae Duw yn ei ofyn yn ei air ynghylch cymmhedrol arfer ei greaduriaid. Dyſcwn eu harfer hwy yn gymmhedrol fel yr ordeiniodd Duw. Fe a ddyſcodd Duw i ni i ba achos a defnydd y dylŷem arfer dillad. Diſcwn ninnau ymddwyn yn ei harfer hwy, fel y gwedde i Griſtionogion, gan fod byth yn ddiolchgar i'n Tâd nefol am ei fawr a'i drugarog ddoniau, yr hwn ſydd yn rhoddi i ni ein bara beunyddiol, hynny yw, pob peth anghenrheidiol i 'r bywyd anghenus hwn, i'r hwn y bydd rhaid i ni roddi cyfrif am ei holl ddoniau, yngogoneddus ymddangoſiad ein Iachawdwr Chriſt, i'r hwn gyd â'r Tâd a'r Yſpryd glân, y bô anrhydedd, moliant a gogoniant yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Pregeth neu Homili ynghylch gweddi.

NId oes dim yn holl oes dŷn (fyngharedigion yn ein Iachawdwr Chriſt) mor anghenrhaid ſon am dano ac annog iddo beunydd, ac yw gweddi galonnog wreſſog ddwyfol: yr hon ſydd mor anghenrhaid wrthi, fal na ellir hebddi gael dim ar law Dduw, O herwydd fal y dywaid S. Iaco yr Apoſtol. Pob dawn daionus a phob rhodd berphaith oddi vchod y mae yn diſcyn oddiwrth dâd y goleuni, yr hwn a ddywedir ei fod yn gyfoethog ac yn hael tu ag at bawb a alwant arno: nid am na ddichon ef, neu am na fyn ef roi heb ei ofyn, ond am iddo oſod gweddi yn gyfrwng arferol rhyngtho ef a ninnau.

Nid oes ammau nad yw ef yn gwybod yn waſtad ein anghenrhaidiau ni, ac yn barod yn waſtadol i roddi ini amledd o'r pethau ſydd arnom eu heiſiau. Etto er mwyn ini wybod mai fe yw rhoddwr pob peth daionus, ac ymddwyn yn ddiolchus tu ag atto am hynny, gan ei garu ef a'i ofni a'i addoli 'n bur ac yn gywir, fal y dlyem; fe ordeiniodd yn fuddiol ac yn gall, fod ini yn amfer ein anghenau ymoſtwng yn ei wydd ef, Tywallt. arllwys dirgelion ein calonnau o'i flaen ef, a cheiſio nerth ar ei law ef, â gweddi barhaus dwyfol ddifrif.

Y mae ef yn dywedyd fal hyn trwy enau ei brophwyd ſanccaidd duwiol Dafydd, Galw arnafi yn amſer blinder, a mi a'th waredaf di. Mae fe Pſal. 50. 'n dywedyd hefyd yn yr Efengyl trwy enau ei anwyl fâb Chriſt, Gofynnwch a rhoddir i chwi, ceiſiwch a chwi a gewch, curwch ac fe a agorir i chwi: cans pwy bynnac a ofynno a dderbyn, y neb a gais a gaiff, ac i'r hwn a guro yr agorir. Ac mae Math. 7. 7. S. Pawl gan gytuno â hyn, yn erchi ini weddio ym-mhob mann a pharhau yn hyn, gan roddi 1. Tim. 1. 2, 21. diolch.

Ac nid ydyw 'r Apoſtol bendigedig S. Jaco yn anghyfuno a hynny, ond gan annog pawb yn ddifrif Iac. 1. 5. i weddi ddiwyd y mae fe 'n dywedyd, Os bydd ar neb eiſiau doethineb ceiſied gan Dduw, yr hwn ſydd yn rhoddi yn hael i bawb, heb Edliw. ddannod i neb. Ac hefyd mewn lle arall, Gweddiwch, medd ef, bob vn dros ei gilydd, fal y'ch iachaer, canys Lac. 5. 14, 15. llawer a ddichon gweddi y cyfion os bydd hi ffrwythlon. Pa beth amgen a ddyſcir i ni wrth y lleoedd hyn a'r fath leoedd, onid hyn yn vnig, y myn yr Holl-alluog Dduwer ei ragwelediad a'i ddoethineb nefol, ini weddio arno: y myn ef ein bod ni mor ewyllyſgar o'n rhan ni i geiſio, ac yw yntef o 'i ran ef i roddi. Ffol ac ynfyd am hynny yw rheſwn a meddwl y dynnion hynny y rhai a feddyliant fod pob gweddi yn ofer, ac yn ddiffrwyth: am fod Duw yn chwilio 'r galon a'r arennau, ac yn gwybod meddwl yr yſpryd cyn gofynnom.

O herwydd pe byddai y rheſwm cnawdol hyn yn ddigon i ddiddymmu gweddi, pa ham y gwaeddodd ein Iachawdwr Chriſt mor fynych ar ei Math. 26. 41. ddiſcyblon, gan ddywedyd, Gwiliwch a gweddiwch? Pa ham y goſododd ef iddynt ffurf gweddi, gan ddywedyd? Pan weddioch chwi gweddiwch Luc. 11. 2. fal hyn, Ein Tâd yr hwn wyd yn y nefoedd, &c. Pa ham y gweddiodd ef ei hun mor fynych ac mor ddifrif o flaen ei ddioddeifaint? Yn ddiwethaf, pa ham yr ymgynnullodd y dyſcyblon i'r vn lle yn y man yn ol eſcynniad Chriſt, Act. 1. 14. ac y parhauſont hwy yno mewn gweddi dros hir amſer. Naill ai mae 'n rhaid iddynt gondemnio Chriſt a'i Apoſtolion o ynfydrwydd annial, ai mae 'n rhaid iddynt ganiatau fod gweddi yn beth anghenrheidiol i bob dyn, bob amſer ac ym-mhob lle.

Siccr yw nid oes dim yn yr holl fyd mor fuddiol ac mor anghenrhaid i ddyn a gweddi. Gweddiwch yn waſtad, medd S. Paul, a phob rhyw Coloſſ. 4. 2. weddi, a gwiliwch yn hynny a phob ddiwydrwydd. Ac mewn man arall mae 'n erchi ini weddio 'n Epheſ. 6. 18. waſtad heb orphwys, gan feddwl wrth hynny na ddylyem ni na llaeſu na dyffygio mewn gweddi, ond parhau ynddi hyd diwedd ein hoes. Fe allid adrodd ymma lawer o leoedd i'r vn defnydd fy meddwl i yw manegi anghenrhaid ac arfer gweddi.

Ond pa raid aml brawf ar beth golau? lle nad oes neb mor anwybodus na wŷr ef, neb mor ddall na wŷl ef, fod gweddi yn beth anghenrhaid ymmhob ſtât a phob gradd o ddynion. O herwydd mai trwy ei nerth hi yn vnic yr ydym yn cael mwynhau y tryſorau nefol tragwyddol y rhai a gadwodd y Tâd nefol ac a oſododd ef i fynu i'w blant yn ei anwyl a'i garedig fâb Ieſu Griſt gwedy cadarnhau a ſeilio 'r ammod a'r addewid hon Ioan. 16. 23. ini, os ni a ofynnwn y derbyniwn ni.

Yn awr a ni yn gwybod mawr anghenrhaio gweddi, er mwyn annog a chyffro 'n meddyliau ni a'n calonnau yn fwy etti, yſtyriwn ar ychydig airiau pa rym a nerth rhyfedd ſydd ynddi i ddwyn i ben bethau mawr rhyfedd. Yr ydym ni yn darllen yn llyfr Exod. i Ioſua wrth ymladd yn erbyn Exod. 7 11. yn Amaleciaid eu gorchfygu a'u gortrechu hwy, nid cymmaint trwy rinwedd ei rym ei hun, a thrwy weddi barhaus ddifrif Moeſes: yr hwn yr hŷd y daliai ef ddwylo i fynu tuag at Dduw fe fyddai Iſrael yn goreſcyn, ond pan ydoedd ef yn deffygio ac yn goddef ei ddwylaw i gwympo, fe fyddai Amalec a'i bobl yn goreſcyn, nes gorfod ar Aaron a Hur y rhai oeddynt gydag ef yn y mynydd, gynnal ei ddwylaw ef i fynu, nes myned yr haul i lawr, oni buaſai hynny fe ortrechaſid ac a orchfygaſid pobl Dduw y dythwn hwnnw 'n hollol. Yr ydym ni mewn man arall yn darllen hefyd am Ioſua ei hun, y modd, pan oeddid yn gwarchau Gibeon, gan wneuthur ei oſtyngeiddiaf weddi at yr holl-alluog Dduw, y gwnaeth ef i'r haul a'r lleuad attal eu rhedegfa, a ſefyll yn llonydd ynghenol y nefdros ddiwrnod cyfan, nes i'r bobl Ioſu. 10. 12. gael cwbl ddial ar eu gelynnion.

Ac onid oedd grym mawr yngweddi Iehoſaphat 2. Cro. 20. 22. pan wnaeth Duw ar ei ddeiſifiad ef i'w elynnion ef ymladd â'u gilydd, a diniſtr eu gilydd yn ewyllyſgar. Pwy a ddichon ryfeddu am ffrwyth a rhinwedd gweddi Elias, yr hwn ac yntef yn ddyn, 1. Bren. 18. 45. o blegid gwendid, o'n dull ninnau, a weddiodd ar yr Arglwydd na lawiai hi, ac ni lawiodd hi ar y ddayar dros dair blynedd a chwe mis. Ailwaith fe a weddiodd ar iddi lawio, ac fe gwympodd glaw lawer fal y dygodd y ddayar ei ffrwythau yn llwyddiannus.

Rhy hir fyddai adrodd am Iudith, Heſter, Suſanna a llawer o wyr a gwragedd duwiol eraill, pa faint yn eu holl weithredoedd a ennillaſant hwy wrth roddi eu holl fryd yn ddifrif ac yn ddwyfol ar weddio. Gwaſanaethed ar hyn o ennyd gyſoni 'r cwbl â geiriau Awſtin a Chryſoſtom, o'r Auguſt. ſerne. de tempore. rhai y mae vn yn galw gweddi yn Agoriad. Chryſo. ſuper Math. 22. allwydd nef, a'r llall yn dywedyd yn oleu nad oes dim yn y byd a ddichon bod yn gryfach na gŵr a ymroddo i weddi ddifrif.

Yn awr, fyngharedigion, gan fod gweddi mor anghenrheidiol ac mor rymmus ger bron Duw. byddwn, fal y'n dyfcir trwy ſiampl Chriſt a'i Apoſtolion, ddifriſ a diwyd i alw ar enw 'r Arglwydd. Na laeſwn, na ddyffygiwn ac na pheidiwn, ond beunydd a phob awr, yn forau ac yn hwyr, mewn amſer ac allan o amſer, byddwn ddyfal mewn myfyriadau a gweddiau duwiol. Beth oni chawni ein gweddiau ar y cyntaf? Etto na lwfrhawn ond gwaeddwn a galwn ar Dduw yn waſtadol: fe a wrandy arnom yn ſiccr yn y diwedd, pe ni byddai hynny am vn achos arall, ond am ein taerder ni.

Cofiwn ddammeg y barnwr anghyfiawn a'r weddw dlawd, pa fodd y gwnaeth hi iddo trwy ei Luc. 18. 1. V. 7. thaerder wneuthur â hi gyfiawnder yn erbyn ei gorthymmudd; er nad ofnai na Duw na dŷn. Ac medd ein Iachawdwr Chriſt, oni ddial Duw yn fwy ei etholedigion ſydd yn llefain arno nos a dydd. Fal hyn y dyſcodd ef ei ddiſcyblon ac ynddynt hwy yr holl wir Griſtionogion i weddio 'n waſtad, heb orphwys na dyffygio. Cofiwn ſiampl y wraig o Ganaan pa fodd y gwrthod wyd hi gan Griſt, ac y galwyd hi yn gi, megis vn an-nheilwng i dderbyn donniau ar ei law ef, etto ni pheidiodd Math. 15. 16. hi, ond hi a'i canlynodd ef yn waſtad gan waeddi a galw arno am fod yn drugarog ac yn dda wrth ei merch hi: ac yn y diwedd drwy ei thaerder, hi a fwyn haodd ei damuniad.

Oh dyſcwn drwy y ſiamplau hyn fod yn ddifrif ac yn wreſog mewn gweddi, gan ein ſicrhau ein hunain pa beth bynnac a ofynnom ni i Dduw Dâd yn enw ei fab Chriſt Ieſu, ac yn ôl ei ewyllys ef, y canniata fe hynny ini yn ddiammau. Efe Ioan 6. 23. yw y gwirionedd ei hun ac mor gywir ac yr addawodd, felly fe gyflawna 'n gywir.

Duw o'i fawr drugaredd a weithio felly ynom ni trwy ei Yſpryd ſanctaidd, fal y bo ini yn waſtad wneuthur ein goſtyngedig weddiau arno, fal y dlyem, a mwynhau bob amſer y pethau a fythom yn eu ceiſio, trwy Ieſu Griſt ein Harglwydd i'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yſpryd glan y bytho holl anrhydedd a gogoniant yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth ynghylch gweddi.

CHwi a glywſoch yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon fanegi a phrufo i chwi cyſtadl wrth lawer o dyſtiolaethau pwyſig a bagad o ſamplau daionus o'r Scruthyrau ſanctaidd, fawr anghenrheidrwydd a mawr rym gweddi deilwng ddifrif. Yn awr gwrandewch ar bwy y dlyech alw, ac at bwy y dlyech gyfeirio eich gweddiau. Fe 'n dyſcir ni yn eglur yn y Teſtament ſanctaidd mai'r holl-alluog Dduw yw vnic ffrŵd a ffynnon pob daioni, a'n bod ni'n derbyn ar ei ddwylaw ef pa beth bynnac ſydd gennym yn y byd hwn: I'r defnydd hyn y gwaſanaetha y lle yn S. Iaco, Pob dawn daionus a phob rhodd berffaith oddi-vchod y mae yn diſcyn oddiwrth Dâd y goleuni. Iac. 1. 17. I'r defnydd hyn gwaſanaetha tyſtiolaeth Pawl mewn llawer o leoedd yn ei lythyrau, gan dyſtiolaethu fod Yſpryd doethineb, Yſpryd gwybodaeth, ac Yſpryd gweledigaeth, ie a phob rhodd nefol dda, megis ffydd, gobaith, cariad, rhad a heddwch yn dyfod yn vnic oddiwrth Dduw. Gan yſtyriaid yr hyn bethau mae fe 'n torri allan i'r ymadroddion diſymmwth hyn, gan ddywedyd, Beth ſydd gēniti o ddŷn ar nas derbynniaiſt? Am 1. Cor. 4. 7. hynny pan fytho arnom ddiffyg neu eiſiau dim ac a berthyn nac at y corph nac at yr enaid, rhaid yw ini redeg at Dduw yn vnic, yr hwn yn vnic yw rhoddwr pob peth daionus.

Mae 'n Iachawdwr Chriſt wrth ddyſcu yn ei Ioan. 16. 23. efengyl i'w ddiſcyblon weddio, yn eu danfon hwy at ei Dâd yn ei enw ef, gan ddywedyd, yn wir yn wir meddaf i chwi, pa beth bynnac a ofynoch i'm Math. 6. 5. Tâd yn fy enw i' efe a'i rhydd i chwi. Ac mewn man arall, Pan weddioch, y gweddiwch fal hyn, Luc. 11. 2. Ein Tâd yr hwn wyd yn y nefoedd, &c. Ac mae Duw ei hun trwy enau ei brophwyd Dafydd yn Pſal. 50 15. gorchymmyn ac yn peri ini alw arno fe. Ac mae 'r Apoſtol yn dymuno rhâd a heddwch i bawb oll ac a alwant ar enw 'r Arglwydd a'i fab ef Ieſu Griſt. Ac mae 'r Prophwyd Ioel yn dywedyd, Y Ioel 2. 32. Act. 2. 21. bydd i bwy bynnac a alwo ar enw 'r Arglwydd fod yn gadwedig.

Fal hyn wrth hynny y mae 'n oleu wrth annh wyllodrus air y gwirionedd a'r bywyd, y dlyem ni yn ein holl anghenau redeg at Dduw, cyfeirio ein gweddiau atto ef, a galw ar ei ſanctaidd enw ef, deiſif cynhorthwy ar ei law ef, ac nid ar law neb arall. Am yr hyn os mynnwch etto ychwaneg rheſwm yſtyriwch yr hyn a ganlyn. Mae rhyw gynneddfau anghenrheidiol eu bod mewn pob vn ac a weddier arno, y rhai oni chair yn yr hwn y bythom yn gweddio arno; yno ni thyccia ein gweddi ni ddim ini. ond hi a fydd yn ofer Hollol. Y cyntaf yw bod yr hwn y bythom yn gweddio arno yn alluog, ac yn abl i'n helpu ni. Yr ail yw, ei fod ef yn cwyllyſgar i'n cynorthwyo ni. Y trydedd yw, ei fod ef yn gyfryw vn ac a all glywed ein gweddiau ni. Y pedwaredd yw, ei fod yn deall yn well nâ ni ein hunain pa gymmaint y mae yn rhaid ini wrth gynhorthwy, a pha beth ſydd arnom ei eiſiau.

Os cair y pethau hyn mewn neb arall ond ynnuw yn vnic, yno y gallwn yn gyfraithlon alw ar eraill heblaw Duw. Ond pwy ſydd mor ddwl ac na ddeall yn dda fod y pethau hyn yn briodol yn vnic i'r hwn ſydd yn holl-alluog, ac yn gwybod pob peth, ie dirgelion y calonnau: hynny yw i Dduw ei hun yn vnic. O'r hyn y canlyn na ddylyem ni alw nac ar angel nac ar ſant, ond yn vnic ar Dduw ei hun, fal yr ſcrifenna S. Pawl, Pa fodd y galwant arno ef yn yr hwn ni chredaſant? fal wrth hyn na ellir galw neu weddio heb ffydd ynddo ef yr hwn y byddir yn galw arno ac heb Ruf. 10. 14. ein bod ni yn credu yn gyntaf ynddo, cyn gweddio arno.

Am hyn mae 'n rhaid ini weddio ar-Dduw ei hun yn vnic. O herwydd fe fyddai ddywedyd y dlyem gredu mewn Angel neu ſant neu vn creadur byw arall yn ddirmyg Erchyll. echrydus yn erbyn Duw a'i ſanctaidd air: ac ni ddlyai y meddwl hyn ddyfod o fewn calon vn dyn Chriſtionogaidd, am fod yn ein dyſcu ni yn oleu wrth air yr Arglwydd i oſod ein ffydd yn vnic yn y drindod ſanctaidd; yn enw 'r hwn yn vnic y'n bedyddiwyd ni, yn ol gorchymmyn eglur ein Iachawdwr Chriſt, yn y Math. 28. 18. ddiwethaf o efengyl Mathew.

Ond er mwyn gwneuthur i'r gwirionedd ymddangos yn eglur i'r rhai gwirionaf a lleiaf eu dyſc, Yſtyriwn pa beth yw gweddi.

Mae S. Awſtin yn ei galw hi derchafiad y meddwl at De ſpir. & lit. cap 50. Dduw, a goſtyngedig Tywalltiad. arllwyſiad y galon at Dduw. Mae Iſidorus yn dywedyd mai De ſummo bono lib. 3. c. 8. llwyr—fryd y galon, ac nid llafur y gwefuſau yw hi. Fal wrth y lleoedd hyn y mae gwir weddi yn ſefyll nid cymmaint mewn ſŵn a llaferydd y geiriau oddifaes, ac mewn griddfan a gwaedd yr yſpryd oddifewn at Dduw.

Yn awrgan hynny, oes vn angel neu forwyn neu Batriarch neu Bropwyd ym-hlith ymeirw, yr hwn a all deall neu wybod meddwl y galon? Ierc. 17. 10. Pſal. 7. 9. Gweled. 2. 23. 1. Par. 8 9. Mae 'r Scruthyrau yn dywedyd mai Duw yn vnic ſydd yn chwilio 'r galon a'r arennau, ac mai efe yn vnic a wyr galonnau meibion dynnion. Am y ſaint, mae eu gwybodaeth hwy mor fychan ynnirgelion y calonnau, fal yr ydoedd llawer o'r hen dadau yn Ammeu. dowtio 'n fawr pa vn a wnânt ai gwybod dim ai peidio o'r pethau a wnair ar y ddayar.

Ac er bod rhai yn tybied eu bod hwy yn gwybod; etto mae S. Awſtin doctor o awdurdod a henafiaeth mawr, yn tybied na wyddant hwy Lib. de cura pro mor. agen. cap. 13. De vera relig. cap. 22. beth yr ydym ni yn ei wneuthur ar y ddayar, yn well nag y gwyddom ninnau beth y maent hwy yn eu wneuthur yn y nef. Er Profi. prufo hyn mae fe 'n dodi droſto airiau y prophwyd Eſai, lle mae fe 'n dywedyd na wyr Abraham oddiwrthym ni ac Eſai. 63. 16. nad edwyn Iſrael mo honom. Ei feddwl ef am hynny yw na byddai i ni dybiaid fod eu haddoli hwy, neu weddio arnynt, yn rhan o'n crefydd, ond bod i ni eu hanrhydeddu hwy wrth ganlyn eu bywyd rhinweddol duwiol hwy. O herwyd fal y Lib. 22. de ciwit. Dei. c. 10. mae fe 'n teſtiolaethu mewn man arall, Yr oedd merthyron a gwyr duwiol yr amſeroedd gynt, yn arfer ar ol eu marwolaeth o gael eu cofio a 'u henwigan yr offeiriaid ar waſanaeth, ond nid oeddid erioedd yn arfer o alw nac o weddio arnynt. A pha ham hynny? O blegid, medd ef, mai offeiriad Duw yw'r offeiriad, ac nid eu hoffeiriad hwy: am hynny y mae efe yn rhwymedig i alw ar Dduw ac nid arnynt hwy.

Fal hyn y gwelwch nad ydyw awdurdod yr ſcruthyrau nac awdurdod S. Awſtin yn cenhadu i ni weddio arnynt. Oh na ddarllenai ddynion ac na chwilient hwy yr Scrythyrau yn ddieſcaelus: yno ni foddid hwy mewn an wybodaeth, ond hwy a ddeallent y gwirionedd yn hawdd, am yr athrawaeth hyn ac am bob peth arall. O herwydd yno y mae 'r Yſpryd glân yn ein dyſcu i ni yn oleu: mai Chriſt yw ein vnic ddadleuwr a'n cyfryngwr ni gyda Duw, na ddlyem ni nac ymgais na rhedeg at neb arall. Os pecha neb, medd Ioan Sant mae i ni ddadleuwr gyd a 'r Tâd Ieſu Griſt y cyfion, 1. Ioan. 2. 1, 2. ac ef yw 'r iawn dros ein pechodau. Mae S. Paul yn dywedyd hefyd mai vn Duw ſydd, ac vn cyfryngwr rhwng Duw a dyn, ſef y dyn Chriſt 1. Tim. 2. 5. Ieſu.

A'r hwn y cytuna teſtiolaeth ein Iachawdwr ei hun gan deſtiolaethu na ddaw neb at y Tâd ond yn vnic trwyddo ef: o herwydd mai efe yw 'r Ioan. 14. 6. ffordd, y gwirionedd a'r bywyd: ie a'r vnic ddrws trwy 'r hwn y gallwn fyned i deyrnas nef: o blegyd Ioan. 10. 17. mai ynddo fe yn vnic ac nid yn neb arall y mae Duw yn fodlon. Am yr hyn achos y mae fe 'n Math. 3. 7. gweiddi ac yn galw arnom ar ini ddyfod atto ef, gan ddywedyd, dewch attafi bawb ac ſydd flinderog ac yn llwythog ac mifi a eſmwythaf arnoch. A fyn Chriſt fod mor anghenrheidiol ini ddyfod Math. 11. 28. atto, ac a adawn ni ef yn anniolchus, a rhedeg at arall?

Dymma 'r hyn y mae Duw yn achwyn rhagddo 'n gymmaint, trwy y Prophwyd Ieremi, gan ddywedyd, fe wnaeth fymhobl ddau fai fawrion: hwy a'm gwrthodaſont i ffynnon dwfr y bywyd, ac a gloddiaſont iddynt eu hunain byllau tyllog y rhai ni ddalant ddim dwfr ynddynt.

Onid ydyw hwnnw yn wr angall, meddwch chwi, yr hwn a red i geiſio dwfr i 'r gofer bychan, ac yntef yn gallel myned yn gyſtadl i lygad y ffynnon? Felly y gellir ammau ei ſynwyr yntef yr hwn a rêd at y ſaint yn amſer anghenrhaid, pan allo fyned yn Hyf. eofn a dangos ei ddolur yn ddiofn, a chyfeirio ei weddi at yr Arglwydd ei hunan. Pe byddai Dduw yn ddieithr ac yn Berigl. enbaid ymddiddan ag ef, yno y gallem ni gael achos i dynnu yn ein hol ac i ymgais a rhyw vn arall. Ond mae 'r Arglwydd yn agos at bawb a alwant arno, ſef yr holl rhai a alwant arno mewn gwirionedd. Ac fe fu weddi oſtyngedig yn gymmeradwy bob amſer yn ei olwg ef.

Beth os ydym ni bechaduriaid, oni weddiwn ni ar Dduw am hynny? neu a wanobeithiwn ni gael dim ar ei law efe? paham yntef y dyſcodd Chriſt ni i ofyn meddauant o'n pechodau, gan ddywedyd, maddau ini ein dyledion fal y maddauwn ninnau i'n dyledwyr? A dybygwn ni fod y ſaint Pſal. 113. 8. yn fwy eu trugaredd i wrando pechaduriaid nag yw Duw? Mae Dafydd yn dywedyd, Trugarog a graflawn yw 'r Arglwydd hwyrfrydig i lid a mawr o drugarogrwydd. Mae S. Pawl yn dywedyd ei fod ef yn gyfoethog o drugaredd i bawb a alwant arno. Ac mae efe ei hun yn dywedyd Epheſ. 2. 4. trwy enau ei Brophwyd Eſai, Dros ennyd fechan y'th wrthodais, ond â thrugaredd mawr y'th Eſai. 54. 7, 8. gynullais: dros funyd yn fy llid y cuddiais fy wyneb oddiwrthyd, ond a thrugaredd tragwyddol y toſturiais wrthyd.

Am hyn ni ddlyai bechodau vn dŷn ei attal ef oddiwrth weddio ar yr Arglwydd Dduw; ond os efe fydd gwir etifeiriol a diogel mewn ffydd, bid diogel gantho y bydd yr Arglwydd trugarog wrtho ac y gwrandy efe ei weddiau ef.

Oh ni faiddiafi, medd rhyw vn, drwblo Duw yn waſtad â'm gweddiau: yr ydym ni yn gweled mewn tai a llyſoedd brenhinioedd na oddefir neb i ddyfod i ymddiddan â 'r brenin nac i fwynhau y peth y mae yn ei geiſio, oni chais ef yn gyntaf help rhyw bennaeth neu ŵr mawr. Mae S. Ambros yn atteb y rheſwm hwn yn dda iawn ar y bennod Ambros ſuper 1. ad Rom. gyntaf at y Rufeiniaid. Am hynny, medd ef, yr arferwn o fyned at frenhinioedd trwy ſwyddogion a phendefigion, am fod y brenin yn farwol ac ni wyr efi bwy y rhydd lywodraweth y gwledydd: ond i gael gan Dduw ein caru oddiwrth yr hwn nid oes dim cuddiedig, nid rhaid ini wrth vn helpwr i'n cynorthwyo â'i air da, ond yn vnic meddwl bucheddol duwiol. Ac os rhaid ini wrth rai i eiriol droſom, paham na byddwn bodlon i'r vn cyfryngwr hwnnw yr hwn ſydd yn eiſtedd ar ddedaulaw Dduw Dâd, i fod yn eiriolwr droſom yn dragywydd? Megis y prynodd ac y glanhaodd Heb. 10. 12. gwaed Chriſt ni ar y groes oddiwrth ein pechodau: felly y mae ei waed ef yn a lluog i gadw pawb a ddelont at Dduw trwyddo ef. O herwydd mae i Griſt yn y nef offeiriadaeth dragwyddol, ac mae fe'n gweddio'n waſtad ar ei Dâd dros y rhai ydynt wir etifeiriol gan haeddu ini trwy rinwedd ei archollion (y rhai ydynt yngolwg Duw 'n waſtadol) nid yn vnic gwbl ollyngdod o'n pechodau, onid hefyd pob pethau anghenrheidiol a fo rhaid ini wrthynt yn y byd hwn. Fal y mae 'r vnic gyfryngwr hwn yn ddigonol yn y nef, ac nid rhaid iddo wrth neb i'w helpu.

Fe allai y gofynnai rhyw vn ymma, paham wrth hynny y gweddiwn ni bawb dros ei gilydd yn y bywyd hwn? Yr wir yr ydys yn gorchymmyn ini wneuthur felly wrth orchymmyn eglur Chriſt a'i ddiſcyblon, i fanegi yn hynny cyſtadl y ffydd ſydd genym ynghriſt tuag ar Dduw, a'r cariad Math. 6. 11 &c. Iaco. 5. 14. Coloſſ 4. 3. 1. Tim. 2. 1. y mae pob vn honom yn ei ddwyn at ei gilydd, wrth doſturio am flinderau 'n brodyr a gwneuthur ein goſtyngedig ymbil ar Dduw droſtynt. Ond am weddio ar y ſaint, nid oes gennym na gorchymmyn yn yr holl ſcruthyr, nac vn ſiampl yr hon a allwn ni ei chanlyn yn ddiogel. Megis os gwnair hynny heb awdurdod gair Duw nid oes iddo ſail ffydd, ac am hynny ni ddichon fod yn gymmeradwy ger bron Duw. O herwydd pa beth bynnac nid yw o ffydd pechod yw. Heb. 11. 1. Ruf. 14. 23. Ruf. 10. 14. Ac mae 'r Apoſtol yn dywedyd fod ffydd yn dyfod o wrando, a gwrando o air Duw.

Os goſodi yn fy erbyn etto fod y ſaint yn y nef yn gweddio droſom ni, a bod eu gweddi hwy yn dyfod o gariad difrif, yr hwn ſydd ganthynt at eu brodyr ar y ddayar. I hyn y gellir atteb yn dda. Yn gyntaf na wyr neb pa vn a wnânt ai bod yn gweddio ai nad ydynt, ac os cais neb prwfo eu bod hwy, wrth naturiaeth cariad, gan daeru am eu bod hwy yn gweddio dros ddynion pan oeddynt ar y ddayar, am hynny yn awr y gwnânt hwy hynny yn fwy o lawer, a hwythau yn y nef. Wrth yr vn rheſwm y gellir dywedyd eu bod hwy yn wylo yn y nef pan fythom ninnau yn wylo ar y ddayar: o herwydd ſiccr a diogel yw, yr hyd yr oeddynt ar y ddayar eu bod hwy yn gwneuthur felly. Ac am yr hyn a ſcrifennir yn llyfr gweledigaeth Ioan, fod yr Angel yn offrwm gweddiau 'r ſaint ar yr allor aur: yr ydys yn deall y lle hwnnw ac fe ddlyid ei ddeall ef am y ſaint ſydd fyw etto ar y ddayar, ac nid am y rhai a fuont feirw: ac onid ê pa raid fuaſai i'r Angeloffrwm eu gweddiau hwy a hwy eiſoes yn y nef ymlaen wyneb yr holl-alluog Dduw?

Ond canniataer fod y ſaint yn gweddio droſom ni, etto ni wyddom ni pa fodd: pa vn ai yn enwedig dros y rhai a alwant arnynt hwy, ai yn gyffredinol dros bawb, gan ewyllyſio daioni i bob dŷn fal i gilydd. Os ydynt hwy yn gweddio 'n enwedig dros y rhai a alwant arnynt, yno tebyg yw eu bod hwy yn clywed ein gweddiau ni ac yn gwybod dirgelion ein calonnau ni: ond fe brwfwyd eiſoes caſtadl wrth yr ſcruthyrau ac awdurdod Auſtin nad ydyw hyn ddim yn wir.

Na rown ninnau hyder ac ymddiried ar y ſaint, a'r merthyrion a fuont feirw. Na alwn arnynt, ac na cheiſiwn vn cymmorth ganthynt: ond yn waſtad cyfodwn ein calonnau at Dduw yn enw ei fâb Ieſu Griſt er mwyn yr hwn fal yr addawodd Duw wrando 'n gweddiau, felly yn ſiccr y cwblha efe hyny. Peth yn perthyn i Dduw yw gweddi, yr hon os rhoddwn i'r ſaint mae 'n myned yn warth iddynt, ac ni allant hwy oddef hynny yn dda ar ein dwylo ni. Pan darodd i Pawl iachau rhyw vn clôff yr hwn oedd efrydd o'i draed yn Lyſtra, fe fynnaſai y bobl aberthu iddo ef a Act. 14. 14. Barnabas: yr hyn beth a wrthodaſant hwy, gan rwygo ei dillad a'u hannog hwy i addoli y gwir Dduw.

Felly yngweledigaeth Ioan, pan gwympodd Ioan wrth draed yr Angel i'w addoli ef, ni oddefodd yr Angel iddo wneuthur felly: ond fe orchymmynodd iddo addoli Duw. Yr hon ſiampl ſydd yn manegi ini na fyn y ſaint a'r angylion yn y nef ini wneuthur iddynt hwy vn anrhydedd ſydd ddyledus a pherthynaſol i Dduw. Efe yn vnic yw y Tâd, efe yn vnic ſydd holl-alluog, efe yn vnic a ddichon ein cynhorthwyo ni bob amſer, ac ymhob lle: mae fe 'n goddef i'w haul ddiſcleirio ar y da a'r drwg: mae fe 'n porthi cywion y cigfrain pan lefont arno: mae fe 'n cadw dŷn ac anifail: ni oddef i flewyn o wâllt ein pennau ni ſyrthio: ond mae fe 'n barod i nerthu ac i gadw pawb a ymddiredant ynddo, fal yr addawodd ef gan ddywedyd, Cyn y galwont mifi attebaf, yr hyd y byddont yn dywedyd mifi a wrandawaf, na wan-ymddiredwn am hynny i'w ddaioni ef, nac ofnwn ddyfod ger brō gorſeddfaingc ei drugaredd ef, na cheiſiwn nerth na chynhorthwy y ſaint, ond deuwn ein hunain yn Hyf. eofn heb ammau nas gwrendy Duw ni er mwyn Chriſt, yn yr hwn y bodlonir ef, heb vn cyfryngwr, ac y cyflawna ef ein deiſyfiad ni ymmhob peth ac ſydd gyfun â'i ewyllys ſanctaidd ef. Felly y mae Chryſoſtom hên ddoctor o'r Eglwys Chryſ. hom. 6. da profect. Euangelij. yn dywedyd, ac felly y mae 'n rhaid i ninnau gredu, nid am ei fod ef yn dywedyd felly, ond yn fwy o lawer o herwydd mai athrawaeth ein Iachawdwr Chriſt ei hun yw hynny. Yr hwn a addawodd os ni a weddiwn ar y Tâd yn ei enw ef, y cawn ni yn ddiddau ein gwrando cyſtadl er cymmorth yn ein hangenrheidiau, ac i Iachadwriaeth ein heneidiau, y rhai a brynodd ef ini, nid ag aur nac arian ond â'i werthfawr waed, yr hwn a dywalltodd ef vnwaith dros bawb ar y groes.

Iddo ef am hynny gydâ'r Tâd a'r Yſpryd glân, tri pherſon ac vn Duw, y bytho holl anrhydedd moliant a gogoniant yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Y drydedd ran o'r bregeth o blegid gweddi.

FE a'ch dyſcwyd chwi yn y rhan arall o'r bregeth hon, at bwy y dlyech gyfeirio cich gweddi mewn amſer angen a chyfyngdra; Hynny yw nid at angylion na ſaint, ond at y tragwyddol a'r byth-fywiol Dduw: yr hwn am ei fod yn drugarog ſydd yn barod yn waſtad i'n gwrando ni, pan alwom arno mewn gwirionedd a ffydd berffaith: ac am ei fod ef yn holl-alluog fe ddichon yn ebrwydd gyflawni a chwblhau y peth yr ydym ni yn ei ddeiſif ar ei ddwylaw ef. Ammau ei allu ef a fyddai anffyddlonder eglur, ac yn erbyn athrawaeth yr Yſpryd glân, yr hwn ſydd yn dangos ei fod ef oll yn oll. Ac am ei ewyllys da ef yn hyn o beth, mae ini deſtiolaethau golau yn yr ſcruthur y cynnorthwya ef ni os ni a alwn arno Pſal. 6. 9. mewn amſer blinder. Megis o blegid y ddau achos hyn y dlyem alw arno ef yn hytrarch nag ar neb arall: ac ni ddylai neb ofni dyfod at Dduw yn Hyf. eofn am ei fod yn bechadur. O herwydd fal y dywaid y Prophwyd Daffydd, Trugarog a graſlawn yw 'r Arglwydd, ie ei drugaredd ef a'i ddaioni Pſal. 103. 8. ſydd yn dragywydd.

O ni wrendy efe bechaduriaid yr hwn a ddanfonodd ei fâb ei hun i'r byd i gadw pechaduriaid? os â chalon wir etifeiriol a ffydd ddiogel y gweddian 1. Tim. 1. 15. arno? Os cydnabyddwn ein pechodau mae Duw yn ffyddlon i faddau ini ein pechodau ac i'n glanhau ni oddiwrth ein anwiredd, fal y dangoſir ini yn oleu wrth ſiampl Dafydd, Petr, Mair 1. Ioan. 1. 9. 〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉 Fagdalen, y Publican, a llawer eraill.

Ac lle mae 'n rhaid ini gael nerth rhyw gyfryngwr ac airiolwr, byddwn fodlon iddo ef yr hwn yw gwir gyfryngwr a dadleuwr y Teſtament newydd, ſet ein Harglwydd a'n Iachawdwr Ieſu Griſt. O herwydd fal y dywaid Ioan S. Os pecha neb mae ini eiriolwr gydâ'r Tâd, Ieſu 1. Ioan. 2. 1. Griſt y cyfiawn ac efe yw r' iawn dros ein pechodau. Ac mae S. Pawl yn ei Epiſtol cyntaf at Timothi yn dywedyd fod vn Duw ac vn cyfryngwr rhwng Duw a dyn, ſef y dŷn Chriſt Ieſu, yr hwn a'i rhoddes ei hun yn bridwerth i bawb ac yn deſtiolaeth yn ei lawn bryd.

Yn awr gwedy cadarnhau yr athrawaeth hon, fe a'ch cyfarwyddir chwi am ba bethau, a thros pa fath dynniō y dylyech chwi weddio ar Dduw. Rhan pawb cyn gweddio yw yſtyriaid yn dda ac yn ddieſcaelus pa beth y maent yn ei ofyn ac yn ei geiſio ar law Dduw: rhag os hwy a ddymunant y peth nis dlyent, fyned eu deiſyfiad hwy yn ofer ac yn ddiffrwyth. Fe ddaeth vnwaith at frenin Ageſilaus ryw ymbiliwr taer, yr hwn a geiſiai gantho ryw beth yn daer; gan ddywedyd, Syre, os gwel eich grâs chwi fod yn dda chwi a addawſoch hynny vnwaith i mi, gwir yw, eb y brenin, os cyfiawn y peth yr wyt yn ei geiſio, ac onid ê ni wnaethym onid dywedyd heb addo. Ni chymmerai 'r dyn ei atteb felly gan y brenin, ond fe a ganlynodd arno ym-mhellach gan ddywedyd, fe weddai i frenin gyflawni y gair lleiaf a ddywedai ie pe byddai heb ond amneidio â'i ben. Nid mwy eb y brenin nag y gweddai i'r dyn a ddawai at frenin ddywedyd wrtho neu geiſio gantho bethau oneſt cyfion. Fal hyn y trodd y brenin ymmaith yr ymbiliwr taer anrheſymmol hwnnw.

Yn awr os rhaid bod cymmaint yſtyr pan benliniom ni ger bron brenin dayarol? pa faint mwy y dylyai fod pan benliniom ni ger bron y brenin nefol, yr hwn a fodlonir yn vnic â chyfiawnder ac iniondeb, ac ni dderbyn vn ddeiſyfiad ofer ynfyd anghyfiawn? Da am hynny a buddiol fydd i ni yſtyried yn gwbl ac edrych ynom ein hunain pa bethau a allwn yn gyfraithlon eu gofyn oddiar law Dduw, heb ofn cael Pall. nâg: ac hefyd pa fath ddynion yr ydym ni rhwymedig i'w gorchymmyn i Dduw, yn ein gweddiau beunyddol.

Dau beth yn enwedig a ddylid eu yſtyried yngweddi pob dyn duwiol da: ei anghenrhaid ef ei hun a gogoniant yr Holl-alluog Dduw. Mae anghenrhaid naill ai oddifaes o ran y corph, ai oddifewn o ran yr enaid.

Yr hon rhan o ddŷn am ei bod yn werthfawroccach ac yn odidawgach nâ 'r rhan arall; am hynny y dylyem ni geiſio yn gyntaf y pethau a berthynant at Iechadwriaeth y rhan honno, megis rhôdd etifeirwch, rhôdd ffŷdd, a rhôdd cariad, gweithredoedd da, gollyngdod a maddauant o'n pechodau, dioddefgarwch mewn adfyd, goſtyngeiddrwydd mewn hawddfyd, ac eraill o fath ffrwythau 'r Yſpryd: megis gobaith, cariad, lawenydd, Gal. 5. 22. tangweddyf, ymaros, cymwynaſcarwch, daioni, mwyneidd-dra, dirweſt, yr hyn y mae Duw yn ei ofyn ar ddwylaw pawb a gymmerant arnynt fod yn blant iddo ef, gan ddywedyd wrthynt yn y modd hyn, llewyrched eich goleuni ger bron dynion fal a gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac yr anrhydeddant eich Tâd yr hwn Mat. 5. 16. ſydd yn y nefoedd.

Ac mewn man arall mae fe 'n dywedyd, Yn gyntaf ceifiwch deyrnas Duw a'i gyfiawnder, a'r holl bethau eraill a roddir i chwi. Trwy hyn y mae Math. 6. 33. fe 'n dwyn ar gof i ni y dlyai ein gofal mwyaf ni fod am y pethau a berthynant at iechyd a chadwedigaeth yr enaid. Am nad oes ini ymma, fal y dywaid yr Apoſtol, ddinas barhaus eithr yr ydym Heb. 13. 14. yn ceiſio 'r hon a fydd yn y byd a ddaw.

Yn awr gwedy darffo i ni weddio digon am bethau a berthynant at yr enaid, ni a allwn yn gyfraithlon â chydwybod dda weddio am ein anghenau corphorol, megis bwyd, diod, dillad, iechyd y corph, ymwared o garchar, llwyddiant yn ein negeſau beunyddol, fal y byddo rhaid. Am yr hyn pa ſiampl well a allwn ni i chanlyn nâ ſiampl Chriſt ei hun, yr hwn a ddyſcodd i'w ddiſcyblon, ac yndynt hwythau i bob Chriſtion, yn gyntaf weddio am bethau nefol, ac yn ol hynny am bethau dayarol: fal y gellir gweled yn y weddi a adawodd Math. 6. 9. Luc. 11. 2. ef i'r Eglwys, yr hon a elwir gweddi 'r Arglwydd?

Mae 'n ſcrifennedig yn y cyntaf o lyfrau y Brenhinoedd a'r trydedd Bennod, i Dduw ymddangos i frenin Salomon liw nos mewn breuddwydd gan ddywedyd, Gofyn i mi y peth a fynnych ac mi a'i rhoddaf iti: fe wnaeth Salomon felly, ac a ofynnodd galon gall ddeallus, fal y gallai farnu 'r bobl a deall gwahaniaeth rhwng drŵg a da: pa beth a fyddai dduwiol a pha beth a fyddai annuwiol, pa beth a fyddai gyfiawn a pha beth a fyddai anghyfiawn yngolwg yr Arglwydd.

A bodlon iawn y fu gan Dduw iddo ofyn y peth hyn, ac fe ddywad Duw wrtho, Am iti ofyn y peth hyn ac na ofynnaiſt iti ddyddiau lawer, ar y ddayar ac na ofynnaiſt iti olyd ac na cheiſieſt waed dy elynnion, eithr ceiſiaiſt iti ddeall i fedru gwneuthur barn: wele gwneuthym yn ol dy airiau rhoddais iti galon ddoeth a deallus, fal na bu dy fa'th oth flaen ac na chyfyd dy fath ar dy ol di. Hefyd heblaw hyn mi a rhodais yr hyn ni ofynnaiſt, ſef golyd a gogoniant hefyd: fal na byddo vn o 'r fath ymmyſc y brenhinioedd dy holl ddyddiau di.

Merciwch y ſiampl hon pa fodd na ofynnodd Salomon ac yntef yn cael ei ddewis gan Dduw bethau ofer gwaeg, ond ichel a nefol dreſor ddoethineb. Ac er mwyn iddo wneuthur felly mae fe 'n mwynhau megis yn wobr gyfoeth ac anrhydedd. Wrth yr hyn y gallwn weled y dlyem ni yn enwedig iwchlaw pob peth ofyn pethau a berthynant at deyrnas Dduw, a Iachadwriaeth ein eneidiau, heb ammeu na roddir yr holl bethau eraill i ni: yn ol addewid ein Iachawdwr Chriſt.

Ond ymma mae 'n rhaid i ni ſynned nad anghofiom y diwedd arall y ſonniwyd o'r blaen am dano: hynny yw gogoniant Duw, yr hwn oni feddyliwn am dano ac oni oſodwn ger bron ein llygaid pan fythom yn gweddio, nid oes ini dybied y cawn ni ein gwrando na derbyn dim gan yr Arglwydd. Fe ddaith mam Meibion Zededeus at yr Ieſu yn yr 20. Bennod of Efengil Mathew, Math. 20. 20. gan ei addoli ef a dywedyd; dyweid am im dau fab hyn gael iſte vn ar dy ddeheulaw a'r llall a'r dy law aſſwy yn dy deyrnas. Nid ydyw hi yn yr arch hyn yn gofalu am ogoniant Duw, ond mae hi yn dangos yn oleu ei balchedd a gwag ogoniant ei meddwl, am yr hyn nid heb achos y trodd hi yn ei gwrthol ac y cafas hi ei cheryddu ar law yr Arglwydd. Yn yr vn modd yr ydym ni yn darllen yn Actau 'r Apoſtolion am vn Simon Magus ſwynwr, yr hwn pan gwelodd fod yn rhoddi yr Yſpryd glan wrth oſodiad dwylo 'r Apoſtolion, a gynnigodd iddynt arian, gan ddywedyd: Rhoddwch i minnai hefyd yr awdyrdod hon, fal ar bwy bynnac y goſodwyf fynnwylaw y derbynio ef yr Yſpryd glan. Wrth wneuthur y deiſyfiad hwn ni Act. 8. 19. cheiſiodd ef ogoniant Duw a'i anrhydedd: ond ei ennill a'i elw ei hun, gan obeithio cael llawer o arian trwy y gelfyddyd hon, ac am hyn y dywedwyd yn gyfiawn wrtho, Bydded dy arian gyda thi i ddiſtryw, am dy fod yn tybied y meddiannir dawn Duw trwy arian.

Trwy 'r ſiamplau hyn ar fath ſiamplau eraill ein dyſcir ni, pan wnelom ein gweddi ar Dduw, vwchlaw pob peth i ofalu am anrhydededd a gogoniant ei enw ef. Am yr hyn mae ini y gorchymmyn cyffredinol hwn gan S. Pawl, Pa vn bynnac a wneloch ai bwyta ai vfed au vn peth arall 1. Cor. 10. 32. gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw. Yr Coloſſ. 3. 17. hyn beth y wnawn ni yn orau i gyd, os canlynwn ſiampl ein Iachawdwr Chriſt: yr hwn pan ydodd yn gweddio ar fyned cwppan chwerw angau oddiwrtho ef, ni fynnai gael cyflawni ei ewyllys Math. 26. 36. Luc. 22. 42. ei hun, ond rhoi 'r cwbl oll ar ewyllys a bodd ei Dad.

Ac hyd hyn am y pethau a allwn ni yn gyfraithlon ac yn eofn eu gofyn gan Dduw.

Yn awr y canlyn bod i ni fanegu pa rhyw ddynion yr ydym ni yn rhwymedig mewn cydwybod i weddio droſtynt. Mae S. Pawl gan ſcrifennu 1. Tim. 2. 1. at Timothi, yn ei gynghori ef: ar fod ymbil a gweddio dros bob dyn, heb ddieithro neb pa radd bynnac neu ſtat y font hwy ynddo. Yn yr hwn le mae fe 'n ſon yn enwedig am frenhinioedd a lliwiawdwyr y rhai ydynt mewn awdurdod: gan ddwyn ar gof ini trwy hynny mor fuddiol yw i'r wlad weddio 'n ddieſcaelus dros y galluoedd goruchaf.

Ac nid heb achos y mae yn ei holl lythyrau yn Ruf. 15. 10. Col. 4. 3. 2. Theſ. 3. 1. Epheſ. 6. 19. gofyn gweddiau pobl Dduw droſto ei hun, O herwydd wrth wneuthur felly mae fe 'n manegi mor addas ac mor anghenrheidiol yw galw ar Dduw beunydd dros wenidogion ei ſanctaidd air ef a'i Sacramentau, a'r iddynt gael drws ymmadrodd yn agored, fal y gallont yn gywir ddeall yr ſcruthyrau ai pregethu hwy i'r bobl, a dwyn eu ffrwythau hwy allan er ſiampl i bawb eraill.

Yn y modd ymma yr ydodd y gynulleidfa yn gweddio 'n waſtad dros Peter yn Ieruſalem athros Act. 12. 12. Pawl ymlhith y cenhedloedd, er mawr lwyddiant a chynnydd efengil Chriſt: ac os ni a ganlynwn yn hyn eu ſiamplau da hwy, ac a fefyriwn wneuthur yn yr vn modd, yn ddiammau ni wnawn fawrles ini ein hunain, ac a fodlonwn Dduw hefyd. Fe fyddai rhy hir imi adrodd a rhedeg dros bob gradd o ddynion, am hynny ar yehydig airiau cymmerwch hyn i gau y cwbl. Pwy bynnac yr ydym rhwymedig wrth orchymmyn Duw iw caru, dros y rhai hynny oll yr ydym rhwymedig yn ein cydwybod i weddio. Ond yr ydym ni yn rhwymedig wrth orchymmyn Duw i garu pawb fal ein hunain: ac am hynny yr ydym yn rhwymedig i weddio dros bawb oll cyſtal a throſom ni ein hunain: er ein bod yn gwybod eu bod yn elynnion marwol ini.

O herwydd felly y mae ein Iachawdwr Chriſt yn dangos yn eglur yn yr efengil gan ddywedyd, Yr yd wyf yn dywedyd wrthych cerwch eich gelynion, Marh. 5. 44. bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, gwnewch dda i'r ſawl a'ch caſhant, a gweddiwch dros y rhai a eich herlidiant, fal y byddoch blant eich Tâd yr hwn ſydd yn y nefoedd. Ac fal y dyſcodd ef Luc. 6. 27. ei ddyſcyblon, felly yr arferodd ef ei hun, yn ei fyvoyd gan weddio dros ei elynion ar y groes, a deiſif ar ei Dad faddau iddynt, o herwydd na wyddent pa beth oeddynt yn ei wneuthur: felly hefyd y gwnaeth Luc. 23. 34. y merthyr ſanctaidd S. Stephan pan labyddiwyd ef i angau yn dra chreulon, gan yr Iddewon Act. 7. 60. afrywog gwargaledion, er ſiampl i bawb a ganlynant yn gywir ac yn ddiffuant ſiampl eu Harglwydd a'u meiſtr Chriſt yn y bywyd blin mar wolhwn.

Yn awr i draethu am y queſtion hwn. A ddylcm ni weddio dros y rhai a ymmadawſont o'r byd hwn ai na ddylem. Yn yr hwn os glynwn ni yn vnic wrth air Duw, mae 'n rhaid ini gydnabod nad oes gennym vn gorchymmyn i wneuthur felly. O herwydd nid ydyw 'r Scruthyr yn cydnabod ond dau le ar ol y bywyd hwn. Yr vn yn berthynaſol i fendigedig a dewiſol Duw, a'r llall i'r eneidiau damnedig gwrthodedig: fal y gellir cynull yn hawdd wrth ddāmeg Lazarus a'r gwr Luc. 16. 26. cyfoethog, wrth agored yr hwn le y dywaid S. Auſtin fal hyn ar y geiriau y ddywad Abraham wrth y gwr cyfoethog yn yr efengil: ſef na ddichon y cyſion fyned ir lleoedd hynny lle 'r ydys yn coſpt 'r annuwiolion. Pa beth y mae hyn yn ei Li. 2. Euang. queſt. 1. cap. 38. ar wyddoccau ond na ddichon y cyſion o herwydd barn Duw yr hon ni ellir ei galw yn ol, ddangos vn weithred o drugaredd i gynorthwyo y rhai ydynt yn ol y bywyd hwn gwedy eu tafli i garchar hyd nes talu honynt y ffyrlling eithaf? fal y mae y geiriau hyn yn gwradwydd yr athrawiaeth am gynorthwyo y meirw trwy weddi: felly y maent hwy hefyd yn diniſtr, ac yn tynnu yn lan ymmaith yr amryfyſedd am y purdan, yr hwn a wreiddir ar y geiriau hyn o'r efengil, ni chai di fyned oddi yno nes iti dalu y ffyrlling eithaf.

Yn awr mae S. Awſtin yn dywedyd na ellir mewn modd yn y byd gynorthwyo y rhai yn ol y bywyd hwn ydynt gwedy eu tafli i garchar, er cymmaint y mynnem eu nerthu hwy. A pha ham? am fod barn Duw yn ânnewidiol ac na ellir ei galw hi yn ei hol. Na thwyllwn am hynny mo honom ein hunain gan dybied y gallwn gynorthwyo eraill, neu y gall eraill ein cynorchwyo ninnau a'r ol hyn trwy eu gweddiau da cariadus, o blegid fal y dywaid y pregethwr, Pa vn bynnac Eccl. 11. 3. ai i'r dehau ai i'r gogledd ai pa le bynnac y cwympo 'r pren yno y trig efe: gan feddwl wrth hynny fod pob dyn marwol yn marw mewn ſtat cadwedigaeth neu ddamnedigaeth: fal y mae geiriau 'r efengylwr Ioan yn dangos yn eglur, gan ddywedyd, Yr hwn ſydd yn credu ym-Mab Duw mae iddo fywyd tragwyddol: a'r hwn ſydd yn anghredu Ioan. 3. 36. yn y Mab ni wel ef y bywyd, eithr mae digofaint Duw yn aros arno ef.

Pa le wrth hynny y mae 'r trydydd lle yr hwn y alwant purdan? Neu pa le y nertha ein gweddiau ac a cynorthwyant hwy y meirw? Mae S. Awſtin yn cydnabod yn vnic ddau le yn ol y Llb. 5. Hypugno. bywyd hwn nef ac vffern, am y drydedd mae fe 'n gwadu 'n oleu na ellir cyfarfod ac ef, yn yr holl Scruthyrau.

Mae Chryſoſtom hefyd o'r meddwl hwn, Oni olchwn ni ein pechodau ymmaith yn y byd Chry. in Heb. a hom. 5. hwn na chawn ni ar ol hynny ddim diddanwch. Mae S. Cyprian hefyd yn dywedyd: Y bydd etifeirwch Cypr. contr. Demetrian. triſtwch a phoen yn ol angau yn ddiffrwyth, y bydd wylo 'n ofer a gweddi 'n wag, am hynny y mae 'n cynghori pavob i ddarparu droſtynt eu hunain yr hyd y gallont, o herwydd yn ol eu myned o'r byd hwn nid oes vn lle i etifaru nac i wneuthur iawn.

Gwaſanaethed y lleoedd hyn a lleoedd eraill i dynnu ymmaith y camſynnaeth blin ynghylch purdan allan o'n pennau ni: ac na freiddwydiwn mwy y gellir cynorthwyo eneidiau 'r meirw trwy 'n gweddiau ni. Ond fal y mae 'r Scruthur yn ein dyſcu ni felly credwn fod enaid dŷn pan elo efe allan o'r corph yn myned yn y man y naill ai i'r nef âi i vffern: y naill nid rhaid iddo wrth weddi ac i'r llall nid oes ymwared.

Yr vnic burudd trwy 'r hwn y mae ini obaith cael ein cadw yw angau a gwaed Chriſt, yr hwn os cymmerwn afael arno a gwir a diogel ffydd fe 'n pura ac a'n glanhani oddiwrth ein holl bechodau, cyſtal a phe byddai fe yn awr yn crogi ar y groes. Gwaed Ieſu Griſt, medd S. Ioan ſydd 1. Ioan. 1. 7. yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod. Gwaed Ieſu Griſt, medd S. Pawl, a burodd ein cydwybod ni oddiwrth weithredoedd meirwon i waſanaethu Heb. 9. 14. y Duw byw. Ac fe a ddywaid mewn man arall hefyd: yr ydym gwedy ein ſancteiddio a'n Heb. 10. 10. v. 14. glanhau trwy offrymmiad corph Ieſu Griſt vnwaith. Ie mae fe 'n cydſylltu ychwaneg gan ddywedyd. Ddarfod iddo ag vn offrwm berffeiddio yn dragwyddol y rhai ſydd gwedy eu ſancteiddio.

Dymma am hyn y purudd yn yr hwn y mae 'r holl Griſtionogion yn gobeithio ac yn ymddired: heb ammau dim os hwy a wir etifarant am eu pechodau ac a fyddant feirw mewn ffydd berffaidd, yr ant hwy yn y man o far wolaeth i fywyd. Oni waſanaetha y purudd hyn na obeithiant y cânt hwy ym wared wrth weddiau dynnion eraill pe parhaent hwy yndynt hyd diwedd y byd.

Yr hwn ni allo gael ei gadw trwy ffydd yngwaed Chriſt, pa fodd yr edrych ef am gael ei gadw trwy gyfryngiad dyn? Ydyw Duw yn edrych yn fwy ar ddyn ar y ddayar, nag a'r Griſt yn y nef? Os pecha neb (medd Ioan ſant) mae i ni ddadleuwr gyda 'r Tad Ieſu Griſt y cyſiawn, ac efe yw 'r iawn dros ein pechodau. Ond rhaid yw ini edrych am alw ar y dadleuwr hwn ymrhyd tra caffom ennyd yn y bywyd hwn, rhag gwedy 'n meirw vnwaith na bytho vn gobaith iethyd gwedy ei adel ini.

O herwyd fal y mae pawb yn cyſcu yn ei ddadl eu hun, felly y cyfodir pawb yn ei ddadl ei hun. Ac edrychwch mewn pa ſtat y bu ef farw, yn yr vn ſtat y barnir ef hefyd, pa vn bynnac ai i Ieched wriaeth ai i ddamnedigaeth. Na freiddwydwn am hynny am burdan nac am weddi dros eneidiau y rhai a fuont feirw. Ond gweddiwn yn ddifrif ac yn ddieſcalus dros y rhai y gorchymmynnir ini yn oleu yn yr Scruthyr weddio droſtynt: Hynny yw dros frēhinoedd a liwiawdwyr, dros wenidogion gair Duw a'i ſacramentau, dros ſaint y byd hwn, y rhai hefyd a elwir y ffyddloniaid: ac ar ychdig o airiau dros bob dyn byw, er maint gelynion y fythont hwy i Dduw a'i bobl, megis Iddewon, Twrciaid, Paganiaid, Anghredadwy Hereticciaid, &c. yno y cyflawnwn ni yn gywir orchymmyn Duw yn y peth hyn, ac y dangoſwn ni yn eglur ein bod ni yn wir blant ein Tad nefol, yr hwn ſydd yn goddef iw haill dywynnu ar y da a'r drwg, a'r glaw i lawio ar y cyfion a'r anghyfion. Am yr hyn ac am bob doniau eraill y roddodd ef yn aml iawn i ddynnion er y dechreuad, rhoddwn iddo ef fawr ddiolch fal yr ydym ni rhwymedig a moliannwn ei enw ef yn dragyvoydd. Amen.

¶ Pregeth am le ac amſer gweddi.

FE greodd Holl-alluog Dduw yn y dechreuad, trwy ei allu ei ddoethineb ai dduwioldeb nef a dayar, yr haul y lluad a'r ſêr, ehediaid yr awyr, anefeiliaid y ddayar, pyſcod y mor a'r holl greaduriaid eraill, er bud a lles i ddyn: yr hwn hefyd a greaſai fe ar ei ddelw a'i lun ei hun: ac a rhoddodd iddo ef reolaeth a llywodraeth oddiarnynt hwy oll, er mwyn iddo ef eu harfer hwy yn y modd y harchaſai ac y gorchymmynyſai Dduw iddo ef: ac er mwyn iddo ef hefyd ei ddangos ei hun yn ddiolchus ac yn oſtyngedig yn yr holl ddonniau hyn, y rhai a rhoddwyd iddo ef mor hael ac mor raſlawn heb ei haeddiant ef yn hollol, mewn hyn o beth. Ac er y dylyem ni bob amſer ac ymhob lle fod yn ddiolchus ein harglwydd graſawl, fal y mae 'n ſcrifennedig. Miſi a fawrhaf yr Arglwydd bob amſer. Ac ailwaith pa le bynnac Pſal. 3. 1. y bytho 'r Arglwydd yn teyrnaſu o fy enaid bendithia 'r Arglwydd. Pſal. 103. 1.

Etto eglur yw mae ewyllys Duw yw ini ymgynull ynghyd a'r rhyw amſeroedd nodedig, ac mewn rhyw leoedd nodedig, o fwriad ar glodfori ei enw ef, a chyhoiddi ei ogoniant ef ynghynulleidfa ei ſaint ef.

Am yr amſer y oſododd yr Holl-alluog Dduw iw bobl ymgynull ynghyd yn gyhoedd mae 'n eglur wrth bedwarydd gorchymmyn Duw: Cofia medd Duw gadw 'n ſanctaidd y dydd Sabaoth. Ar yr hwn ddiwrnod fal y mae 'n oleu wrth Actau 'r Apoſtolion yr oedd y bobl yn arferedig o ddyfod ynghyd, ac yn gwrando 'n ddieſcaelus y gyfraith a'r Prophwydi a ddarllened yn eu myſc hwy. Ac er nad ydyw y gorchymmyn hwn yn rhwymo Chriſtionogion mor galed, i gadw ac i gynnal Gwbl-ceremoni y dydd Sabaoth, fal y rhoed ef i'r Iddewon, am ymgadw oddiwrth waith a thrafaelu mewn anghenrhaid mawr; ac ynghylch cadw y ſaithfed dydd yn gymmwys yn ol arfer yr Iddewon. O blegyd yn awr yr ydym ni yn cadw y dydd cyntaf o'r wythnos yr hwn yw ein dydd ſul ni, ac yr ydym yn gwneuthur hwnnw yn Sabaoth ini, hynny yw yn ddydd gorphwyſfa ini, er anrhydedd ein Iachawdwr Chriſt, yr hwn ar y dwthwn hwnnw a gyfododd-o feirw i fyw, ac a orchfygodd angau yn orfoleddus. Etto pa beth bynnac a geffir yn y gorchymmyn hwnnw, megis yn perthyn at gyffraith nattur. Fe ddylai bob pobl Griſtionogaidd gadw a chynnal hwnnw megis peth duwiol iawn, peth cyſion iawn, peth anghenrheidiol iawn i oſod allan ogoniānt Duw.

Ac am hyn wrth y gyrchymmyn hwn fe ddylai fod gennym ni amſer megis vn diwrnod yn yr wythnos, yn yr hwn y dylyem orphwys, ie oddiwrth ein gweithredoedd cyfraithlon rheidiol. O herwydd fal y mae 'n eglur wrth y gorchymmyn hvon na ddlyai neb dros chwech diwarnod fod yn fegur ac yn ddiog, ond trafaelu 'n ddieſcaelus yn yr ſtat y goſododd Duw ef yndi. Felly y rhoddodd Duw orchymmyn goleu ar y dydd Sabaoth, (hynny yw ein dydd ſul ni yn awr) fod iddynt orphwys oddiwrth yr holl drafael a arferir trwy 'r wythnos, ac ar ddyddiau gwaith, o fwriad megis y gwaithodd Duw chwech diwarnod, ac a gorphwyſodd ar y ſaithfedd dydd a bendigodd ac a ſancteiddiodd ef, gan ei ſancteiddio ef i lonyddwch a gorphwyffa oddiwrth bob llafyr: felly y dylyai vfydd bobl Dduw arfer y dydd ſul yn ſanctaidd, a gorphwys oddiwrth eu llafyr, ac ymroi yn hollol i arferon gwir grefydd, a gwir waſanaeth Duw.

Fal na orchymmynnodd Duw yn vnic gynnal y dydd ſanctaidd hwnnw: Ond fe 'n annogodd ac ein cyffrodd ni hefyd wrth ei ſiampvol ei hun i gadw hwnnw yn ddieſcaelus. Fe fydd plant naturiol da nid yn vnic vfydd i orchymmynion eu Tadau: ond fe fydd ganthynt lygaid diwall ar eu gweithredoedd hwy hefyd, ac yn llawen y canlynant y rhai hynny. Felly os ni a fyddwn blant ffyddlon ein Tad nefol, rhaid ini fod yn ofalus i gadw dydd Sabaoth y Chriſtionogion, yr hwn yw 'r ful: nid yn vnic er mwyn gorchymmyn eglur Duw; ond hefyd er mwyn ein dangos ein hunain yn blant caredig, gan ganlyn ſiampl ein graſol Arglwydd a'n Tad.

Fal hyn y mae'n eglur fod ewyllys Duw a'i orchymmyn ar oſod amſer gyhoeddus a diwarnod nodedig o'r wythnos, yn yr hwn y gallai y bobl ddyfod ynghyd, a chofio ei ddonniau rhyfedd ef, ac i rhoddi diolch iddo am danynt megis y mae 'n gymheſyr i bobl garedig addiwyn vfydd. Fe ddechreuodd y bobl Griſtionogaidd ganlyn y ſiampl hon a gorchymmyn Duw, yn y man yn ol eſcynniad ein Harglwyd Chriſt, ac hwy a ddechreuaſont ddewis diwarnod goſodedig o'r wythnos i ymgynull ynghyd arno: etto nid y ſaithfed dydd yr hwn y gadwe r' Iddewon, ond dydd yr Arglwydd, dydd ailgyfodiad yr Arglwydd. Y dydd yn ol y ſaithfed dydd, yr hwn yw 'r dydd cyntaf o'r wythnos.

Am yr hwn ddydd mae S. Pawl yn ſon fal hyn. Pob dydd cyntaf o'r wythnos rhodded pob vn honoch heibio wrtho ei hun i'r tylodiō, yr hyn y mae fe yn ei feddwl. Wrth y diwarnod cyntaf o'r wythnos 1. Cor. 16. 2. y deallir ein dydd ſul ni: yr hwn yw 'r dydd cyntaf ar ol Sabaoth yr Iddewon. Ac mae etto Gwel. 1. 10. yn oleuach yngweledigaeth Ioan, lle mae fe 'n dywedyd: yr oeddwn yn yr Yſpryd ar ddydd yr Arglwydd.

Er yr amſer hynny yr arferodd pobl Dduw yn waſtad ymhob oes, o ddywod ynghyd yn ddiwrthwyneb ar ddydd ſul, i glodfori ac i foliannu enw 'r Arglwydd, ac i gadw y dydd hwnnw yn ofaius, mewn llonyddwch a gorphwyffa, gwyr a gwragedd, plant, gweiſion a dieithraid. Am droſeddi a thorri yr hwn ddiwarnod fe ddangoſodd Duw ei fod yn ddig dros ben: fal y gellir gweled wrth yr hwn am gynull briwydd a'r y dydd Sabaoth a labyddiwyd i far wolaeth. Ond och er hyn oll blin yw edrych ar eofnder annuwiol llawer o rai, ac a fynnant ei cyfrif yn bobl Dduw, y rhai ni ofalant vn gronyn am gadw 'r ſul.

Mae 'r bobl hyn o ddau fath y naill or bydd ganthynt vn neges i'w wneuthur, ni arbedant hono er y ſul: er na bo anghenrhaid mawr, rhaid iddynt farchogaeth ac ymdaith ar y ſul, rhaid iddynt gywain a chludo ar y ſul, rhaid iddynt rwyfo a myned dros afonydd a'r y ſul, rhaid iddynt brynu a gwerthu ar y ſul, rhaid iddynt gadw ffairiau a marchnadoedd ar y ſul: yn ddiwethaf maent yn arfer pob dydd yn gyffelyb, mae dyddiau gwyl a dyddiau gwaith yn yr vn modd.

Mae 'r fath arall etto yn waeth, o herwydd er na fynnāt drafaelu na llafuro ar y ſul fal y maent hwy'n gwneuthur ddiwarnodau genol wythnos, etto ni orphwyſant hwy mewn ſancteiddrwydd megis y mae Duw yn gorchymmyn: ond maent yn gorphwys mewn annuwioldeb a brynti, gan ymhoywi ac ymrodreſu yn eu balchedd, gwingo ac ymbingcio, peintio a lliwio eu hunain i fod yn wych ac yn Bert. ddillyn, maent hwy 'n gorphwys mewn gormodd a rhylanw, newn gloddineb a meddwdod, megis moch a llygod, maent yn gorphwys mewn ymdaeru acymryſſon, mewn cwarelu ac ymladd: maent yn gorphwys mewn drythyllwch a choegchwedleua, ac mewn cnawdolrwydd brwnt: fal y mae yn rhy eglur fod yn dianrhydeddu Duw yn fwy, ac yn gwaſanaethu 'r diawl yn well ddie ſul nag ar vn diwarnod or wythnos heb ei law ef. A byddwch ſiccr fod yr anifeiliaid y rhai y gorchymmynnir iddynt orphywys ar y ſul yn anrhydeddu Duw yn well na 'r bobl ymma.

O herwydd nid ydynt hwy yn digio Duw nac yn torri 'r dyddiau gwyl. Am hynny o chwi bobl Dduw goſodwch eich dwylaw ar eich calonnau, etifarhewch a gwellhewch yr annuwioldeb blin enbaid hwn: ofnwch orchymmyn Duw a chanlynwch ſiampl Duw ei hun yn llawen: na fyddwch anufyddgar i dduwiol drefn Eglwys Griſt, a arferwyd ac a gadwyd o amſer yr Apoſtolion hyd y dydd heddyw? ofnwch ddigofaint a chyfiawn bla-au yr holl-alluog Dduw, os chwi a fyddwch eſcaelus ac heb wachelyd trafaelu a llafuro ar y Sabaoth neu 'r dydd ſul, heb arfer o ymgynull ynghyd i fendithio ac i fawrygu bendigedig enw Duw mewn ſyncteiddrwydd eſm wyth, a pharch duwiol.

Yn awr am y lle yn yr hwn y dylyai bobl Dduw ymgynnll ynghyd, ac yn yr hwn y dylyent yn enwedig gynnal a chadw a ſancteiddio 'r Sabaoth, hynny yw y ſul, dydd gorphwyſfa ſanctaidd: fe elwir y lle hunnw yn deml neu Eglwys Dduw: am fod cynulleidfa bobl Dduw (yr hon yn briodol a elwir yr Eglwys) yn ymgynull yno ar y dyddiau goſodedig i'r cyfryw ymgynull a chyfarfod. Ac yn gymmaint a darfod i'r holl-alluog Dduw oſod amſer nodedig i'w anrhydeddu arno, fe ddylyai fod lle goſodedig i'r bobl ymma i ymgynull a chyfarfod i waſanaethu eu Duw graſol a'u Tâd trugarog.

Gwir yw nad oedd gan y Patriarchau ſanctaidd dros lawer o flynyddoedd na theml nac Eglwys i fyned iddi. Yr achos oedd am nad oedd ganthynt arhoſfa yn vn lle, ond mewn pererindod a chrwydrad parhaus yr oeddynt, fal na allent yn gyfaddas wneuthur vn Eglwys. Ond er cynted y daroedd i Dduw ryddhau ei bobl o ddwylaw eu gelynnion, a'u goſod mewn peth rhydddid yn yr anialwch, fe a oſododd i fynu iddynt dabernacl gwerthfawr gwych, yr hwn oedd megis yr Eglwys blwyf, yn lle i'r holl gynullefdfa ymgyfarfod, i wneuthur eu haberthau ynddo, ac i arfer cadwedigaethau a deddfau eraill.

Hefyd gwedy i Dduw yn ol gwirionedd ei addewid, oſod ei bobl yn llonydd yn nhir Caanan, yr hon a elwir yn awr Iudea, fe a orchymmynnodd i frenin Salomon wneuthur iddo deml fawr odidawg, o'r fath na welwyd onid weithiau: teml gwedy ei thrwſio a'i harddu mor wych ac mor deg, ag oedd weddus a chyfaddas i bobl yr amſer hynny: y rhai ni lithed ac ni chyffroed a dim yn gymmaint ac a'r fath bethau gwychion hardd oddifoes. Hon yr amſer hynny oedd deml Dduw, gwedy ei chyfoethogi a llawer o roddion, a bagiad mawr o addewidion, hon oedd Eglwys blwyf a mam Eglwys yr holl Iddewaeth.

Ymma yr anrhydeddid ac a gwaſanaethid Duw. Ymma yr oedd holl drigolion teyrnas yr Iſraeliaid yn rhwymedig i ddyfod ar dair gwyl arbennig yn y flwyddyn, i waſanauthu eu Harglwydd Dduw ymma. Ond awn yn ein blaen, nid oedd etto yn amſer Chriſt a'i Apoſtolion ddim Temlau neu eglyſydd i Griſtionogion ddyfod iddynt. O herwydd paham? yr oeddynt yn waſtad fynychaf mewn erlidfa trallod a blinder, fal na allent gael na rhydd-did na channad i'r defnydd hwnnw. Etto yr ydoedd yn hoff iawn gan Dduw eu bod hwy yn fynych yn ymgyfarfod ynghyd i vn lle. Ac am hynny yn ol ei aſcenniad ef hwy a arhoſaſant weithiau ynghyd mewn ſtafell oddiuchod, weithiau hwy aethont i'r deml, weithiau i'r Synagogau, weithiau yr oeddynt yngharchar, weithiau yn eu tai, writhiau yn y maeſydd, &c.

Ac fe barhaodd hyn nes i ffydd Griſt Ieſu ddechreu amlhau mewn rhan fawr o'r byd. Yn awr gwedy cadarnhau llawer o deyrnaſoedd mewn gwir grefydd Duw a chwedy i Dduw roddi iddynt heddwch a llonyddwch, yno y dechreuodd brenhinioedd penaethiaid a'r bobl gwedy eu cyffro a zeal a chynheſrwydd duwiol wneuthur eglwyſydd a themlau, i'r rhai y gallai y bobl ymgrynhoi yn well ynghyd, i wneuthur eu dylyed tuag at Dduw ac i gadw yn ſanctaidd y dydd Sabaoth, diwarnod eu gorphwyſfa.

Ac i'r Temlau hyn yr arfere y Chriſtionogion o ddyfod o amfer yn amſer, megis i leoed cyfathas lle gallent yn gytun ymarfer o foliannu ac o fawrhau enw Duw, gan rhoddi iddo ddiolch am y donniau y mae fe beunydd yn eu harllwys arnynt yn drugarog ac yn aml: lle gallent hefyd wrando darllen agoryd a phregethu ei ſanctaidd air ef yn gywir, a derbyn ei ſanctaidd Sacramentau ef a finiſtred iddent yn bur ac yn ddyledus.

Gwir yw mai Temlau enwediccaf ac odidawgaf Duw yn y rhai y mae ef yn ymlawenychu fwyaf ac yn hoffaf gantho drigo yndynt, ydyw cyrph ac eneidiau gwir Griſtionogion, a dewiſol bobl Dduw: yn ol athrawiaeth yr Scruthyrau ſanctaidd y fanegwyd trwy S. Pawl. Om wyddoch chwi medd ef mai Teml Dduw ydychwi a bod Yſpryd Duw yn aros ynoch, mae Teml Dduw 1. Cor. 1. 3. yn ſanctaidd yr hon ydych chwi.

Athrachefn yn yr vn Epiſtol. Oni wyddoch mai Teml yr Yſpryd glân ydyw eich cyrph chwi yr 1. Cor. 6. hwn ſydd yn aros ynoch, os o Dduw yr ydych, ac nad ydych eiddo chwi eich hunain. Etto er hyn mae Duw yn fodlon i'r deml ddefnyddiol yr hon a wnair a chalch a cherrig (cy fynyched ac y delo y bobl ynghyd i foliannu ei enw ſanctaidd ef) i fod yn dy iddo ef ac yn lle yn yr hwn yr a ddawodd Duw fod yn breſennol a gwrando gweddiau y rhai a alwant arno.

Yr hwn beth y mae Chriſt a'i Apoſtolion a phawb eraill o'r tadau ſanctaidd yn ei fanegi trwy hyn yn oleu: o achos er eu bod hwy yn gwybod yn hyſpyſol y gwrandawid eu gweddiau hwy, pa le bynnac y gwnelid hwy, pe byddai hynny mewn gogofau, mewn coedydd ac yn yr anialwch, etto cy fynyched ac y gallent, hwy arferent ddyfod i'r Temlau defnyddiol i ymgydſylltu yno gyda 'r gynulleidfa mewn gweddi a gwir addoliad. Y ſawl am hynny o honoch fy anwyl garedigion a ſydd yn addef bod eich hunain yn Griſtionogion, ac yn ymogoneddu yn yr enw hwnnw, na ddiyſtyrwch ganlyn ſiampl eich meiſtir Chriſt, yſcolheigion yr hwn yr ydych yn dywedyd eich bod: dangoſwch eich bod yn debyg i'r rhai y cymmerwch arnoch fod yn gydmeithion yſcol iddynt: hynny yw Apoſtolion a diſcyblon Chriſt. Cyfodwch i fynu dduwlaw pur a chalonnau glân ymhob lle a phob amſer. Ond gwnewch hynny hefyd yn y Temlau a'r Eglwyſydd ar y dydd Sabaoth. Nid arbedodd ein blaenoriaid duwiol ni, a'n hên dadau ni o'r brif Eglwysgynt ei da i adail Eglwyſydd, ie mewn amſeroedd erlid nid arbedaſant eu bywyd, ie a fentro eu gwaed er mwyn ymgynull ynghyd i'r Eglwyſydd.

Ac y arbedwn ni ychydig o boen i ddyfod i'r Eglwyſydd? Oni chyffro na'i ſiampl hwy, n'a 'n dlyed ni, na 'r ennil a gavon ni o hynny ni? os dangoſwn fod ynom wir ofn Duw, os dangoſwn ein hunain yn wir Griſtionogion, os byddwn ganlynwyr i'n meiſtr Chriſt a'r tadau duwiol y rhai a fuont o'n blaen ni, ac yn awr a dderbynaſant wobr gwir Griſtionogion ffyddlon, mae 'n rhaid ini yn ewyllyſgar ac yn ddifrif ac yn barchus ddyfod i'r Eglwyſydd a'r Temlau defnyddiol i weddio: megis i leoedd gweddaidd gwedy eu goſod i'r defnydd hynny, a hynny a'r y dydd Sabaoth: megis yr amſer wedduſaf i bobl Dduw orphwys oddiwrth eu holl lafur corphorol bydol: ac i'w rhoi eu hunain i orphwyſfa ſanctaidd a duwiol fefyrdod, a'r y pethau a berthynant i waſanaeth holl-alluog Dduw: trwy 'r hyn y gallwn ein cymmodi ein hunain a Duw, bod yn gyfranogion oi Sacramentau parchus ef, ac yn wrādawyr duwiol oi ſanctaidd air ef, er mwyn cael felly ein cadarhau mewn ffydd tuag at Dduw, mewn gobaith yn erbyn pob gwrthwyneb, ac mewn cariad at ein cymydogion. Ac wrth rhedeg fal hyn ein rhedegfa, megis pobl ddaionus Griſtionogawl y gallom yn y diwedd feddiannu gobrwy gogoniant tragwyddol, trwy haeddiant ein Iachawdwr Ieſu Griſt: i'r hwn gyda 'r Tâd a'r Yſpryd ſanctaidd y bytho holl anrhydedd a gogoniant. Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am le ac amſer gweddi.

FE ddangoſwyd i chwi bobl Griſtionogaidd ddaionus yn y bregeth a ddarllenwyd i chwi o'r blaen, ar pa amſer ac ymha le y dylyech ddyfod ynghyd i foliannu Duw.

Yn awr yr ydwyf yn bwriadu goſod ymlaen eich llygaid yn gyntaf mor gyflawn o zeal ac mor ewyllyſgar y dlyech fod i ddyfod i'r Eglwys.

Yn ail faint yw digofaint Duw yn erbyn y rhai a ddiyſtyrant ac ſydd fychan ganthynt am ddyfod i'r Eglwys ar ſanctaidd ddiwarnod yr orphwyſfa. Y mae 'n eglur wrth yr Scruthyrau i lawer o'r Iſraeliaid duwiol a hwy yn awr mewn cathiwed am eu pechodau ym-hlith y Babiloniaid chwennych a dymuno 'n fynych eu bod yn Ieruſalem ailwaith: ac ar eu dyfodiad hwy yn eu hol trwy ddaioni Duw, er bod llawer o'r bobl yn eſcaelus: etto yr oedd y tadau yn ddwyfol iawn i adailadu y deml, fal y galle bobl Dduw ddyfod yno i'w anrhydeddu ef.

A phan oedd Dafydd gwedy ei Ddeol. afllwladu o'i wlad ei hun, o Ieruſalem y ddinas ſanctaidd, o'r gyſegrfa a'r lle ſanctaidd, ac o Babell Duw: pa ddamuniad, pa wres oedd ynddo tuag at y lle ſanctaidd hwnnw? Pa ddeiſyfiadau, pa weddiau y wnaeth ef at Dduw ar gael bod yn drigiannol ynhŷ yr Arglwydd? vn peth a geiſiais gan yr Arglwydd a hynny y ddymunaf ſef gallu myned i dŷ Pſal. 132. yr Arglwydd yr hyd y byddwyf byw. Ac ailwaith llawenychais pan ddywedent wrthyf awn i dy yr Arglwydd. Pſal. 138. 2.

Ac mewn mannau eraill o'r Pſalmau mae fe 'n manegi pa fwriad a pha fryd ſydd gantho, wrth ddymuno mor chwannog ddyfod i deml ac i Eglwys yr Arglwydd: Ymgrymmaf medd ef ac addolaf tua'th deml ſanctaidd. Ac ailwaith mi a ddaithym Pſal. 63. 2. i'th geſegrfa yno y gwelais dy allu a'th gadernid, yno y gwelais dy fawrhydi a'th ogoniant Ac yn ddiwethaf mae fe 'n dywedyd manegaf dy enw im brodyr ynghenol y gynulleidfayth folaf, Pa ham am hynny yr ydoedd gan Ddafydd y fath Pſal. 21. 22. ddymuniad mawr ar dŷ yr Arglwydd?

Yn gyntaf er mwyn cael yno addoli ac anrhydeddu Duw.

Yn an yno y mynnai fyfyrio ac edrych ar allu a gogoniant Duw.

Yn drydedd yno y moliannai enw Duw gyda holl gynulleidfa ei bobl ef. Y fath achoſion y rhai y mae y bendigedig Brophwyd yn eu cofio a ddlyent ein cyffro ninnau, ac enynnu ynom y fath ddymuniaid ſanctaidd difrif, am ddyfod i'r Eglwys, yn enwedig ar ddiwarnodau gorphwyſfa ſanctaidd, i wneuthur yno ein dylyed ac i waſanaethu Duw, er mwyn cofio yno pa fodd y mae Duw o'i drugaredd ac er gogoniant ei enw yn gweithio yn alluog ein cadw ni mewn Iachadwriaeth a duwioldeb ac oddiwrth greulondeb a chyndairiogrwydd ein gelyn creulon, ac yno 'n llawen ym-hlith rhifedi ei bobl ffyddlon ef i glodfori ac i fawrygu ei enw ſanctaidd ef.

Goſodwch ymlaen eich llygaid yr hên dâd Simeon am yr hwn er ei fawr glod ef ac êr ein hannog ninnau i'r fath beth y dywed yr Scruthyrau ſanctaidd hyn. Wele yr oedd gwr cyfion duwiol yn Ieruſalem a 'i enw Simeon yn diſcwyl am ddiddanwch yr Iſrael a'r Yſpryd glan oedd arno ac yr ydodd gwedy ei rhebyddio gan yr Yſpryd glan na wele fe angau cyn iddo weled Chriſt yr Arglwydd: fe ddaith trwy 'r Yſpryd i'r deml.

Yn y deml y cyfla wnwyd yr addewid, yn y deml y gwelodd ef Griſt ac a'i cymmerodd yn ei fraichiau, ac yn y deml y torrodd ef allan i fawr foliant Duw ei Arglwydd. Ac nid oedd Anna hên Brophwydes weddw, yn myned allan o'r deml, gan ymroi i weddi ac ympryd ddydd a nos, a hi yn dyfod hefyd ynghylch yr vn amſer a gyfarwyddwyd gan yr Yſyryd ac a gyffeſſodd ac a ddywedodd am yr Arglwydd, wrth bawb a edrychent am brynedigaeth Iſrael. Ni thorrwyd a'r gwr a'r wraig fendigaid hon am y mawr ffrwyth, ennill, a diddanwch, yr hwn a ddanfonodd Duw iddynt, trwy eu dyfal ddyfodiad hwy i ſanctaidd Deml Dduw. Yn awr y cewch glywed mor ddig y fu Dduw wrth ei bobl am ddiyſtyru ei deml ef a'i dirmygu neu chamarfer hi yn gas.

Yr hyn beth ſydd yn ymddangos yn oleu wrth y plaau a 'r poenedigaethau hynod y oſododd Duw ar ei bobl: yn enwedig wrth hyn, iddo gyffro eu gwrthnebwyr hwy i ffuſto i lawr, ac i ddiniſtr yn llwyr ei deml ſanctaidd ef, ag anghyfaneddrwydd tragwyddol.

Och pa ſawl Eglwys gwlad a theyrnas, eiddo Griſtionogawl bovl yn hwyr o amſer, a dynnwyd i lawr, a rhedwyd droſtynt, a adawad yn anghyfannedd, a blin ac aneirif dyronaeth a chreulondeb gelyn ein Harglwydd ni Chriſt y twrc mawr: yr hwn Whippodd. a fflangellodd y Chriſtionogion mor gyffredinol na chlywad er ioed ſon, ac na ddarllenwyd am y fath? Er ynghylchon pedwar igain mlynedd fe a oreſcynnodd y Twrc mawr ac a ormeiliodd ac a ddug dan ei lywodraeth a'i gathiwed igain o deyrnaſodd Chriſtionogaidd, gan droi 'r bobl o ffydd Griſt a'ugwenwyno hwy a chrefydd ddiawlig Mahomet felltigedig, a chan y naill ai diſtriwio eu eglwyſydd hwy yn hollol, a eu camarfer hwy yn frwnt, a'i gamſynnaeth melltigedig cas ef.

Ac yn awr mae'r Twrc mawr hwn y fflangell chwerw doſt hon o ddial Duw, yn gyfagos i'r rhan hon o Griſtionogaeth hefyd, yn Europ ar gyffiniau Itali, ar gyffiniau Germani, yn agor ei enau yn barod in llyncu ni, i oreſcin ein gwlad ni, ac i ddiſtriwio ein eglwyſydd ninnau hefyd, onid etifarhawn ni am ein bywyd pechadurus, a dyfod i'r Eglwys yn ddieſcaeluſach, i anrhydeddu Duw, i ddyſcu ac i gyflawni ei ewyllys bendigedig ef.

Fe annogodd yr Iddewon yn eu hamſer hwy yn gyfion lid Duw yn eu herbyn, o herwydd iddynt mewn rhan gamarfer ei deml ſanctaidd ef, a delw-addoliad cas y cenhedloedd, ac ofergoelus ofereddau eu dychmygion hwy eu hunain yn erbyn gorchymmyn Duw. Ac mewn rhan o herwydd eu bod hwy yn arfer o ddyfod iddi megis ragrithwyr gwedy llygru a'u trabaeddu a'u halogi 'n anferth, a phob rhyw ddrygioni, a bywyd pechadurus: ac mewn rhan yr oedd llawer honynt yn diyſtyru 'r Deml ſanctaidd, ac nid oedd waeth ganthynt pa vn a wnelent ai dyfod yno ai peidio.

Ac oni annogodd y Chriſtionogion yn hwyr o amſer, ie ac yn ein dyddiau ni hefyd, yn yr vn modd ddigofaint a llid yr Holl-alluog Dduw? Mewn rhan am iddynt anurddo a halogi eu Eglwyſydd, a chamarferon cenhedlaidd Iddewaidd, a delwau ac eulynod: a llawer o allorau gwedy eu camarfer yn ofergoelus ac yn aruthr, a chamarfer yn annial, a llygru yn angharhuaidd, ſanctaidd ſwpper yr Arglwydd, bendigedig Sacrament ei gorph ef a'i waed, a rhifedi aneirif o wagedd ac oferedd o'u dychmygion hwy eu hunain, i wneuthur golwg deg wych oddi allan, ac i anffurfo goſtyngedig ddiſyml a phur grefydd Chriſt Ieſu: mewn rhan maent yn dyfod i'r Eglwys fal ragrithwyr yn llawn o anwiredd a bywyd pechaourus, a meddwl a chred ofer enbaid ganthynt, os hwy a ddaw i'r Eglwys ac a Daenellir. daſcir arnynt ddwfr bendigaid, o gwrandawant offeren, ac o bendigir hwy a'r caregl, er na ddeallant vn gair o'r gwaſanaeth ac er na chlywant vn cyffro i etifeirwch yn eu calonnau, etto fod pob peth yn dda ddigon.

Ffi ar y fath watwar a dirmyg a'r ſanctaidd ordeiniaeth Duw. Fe wnaethpwyd eglwyſydd er defnydd arall, hynny yw i ddyfod yno i waſanaethu Duw yn gywir, i ddyſcu ei ſanctaidd ewyllys ef, i alw a'r ei alluog enw efe, i arfer i ſanctaidd Sacramentau ef, i ymegnio ac i fod mewn cariad perffaith a'th gymydog, i gofio yno dy gymydog tlawd anghennus, ac i fyned oddi yno yn well ac yn dduwiolach nag y daethoſti yno.

Yn ddiwethaf fe annogwyd ac a annogir beunydd lid Duw, am nad gwaeth gan lawer o bobl am ddyfod i'r Eglwys, naill ai am eu bod gwedy eu dallu mor flin na fedrant ddeall dim am Dduw na duwioldeb, ac nad gwaeth ganthynt er rhwyſtro eu cymydogion trwy ſiampl ddiawlig, neu am eu bod hwy yn gweled yr Eglwys gwedy ei hyſcibo o'r olwg wych yn y rhai yr ymhoffe eu ffanſiau hwy yn fawr, am eu bod hwy yn gweled gau grefydd gwedy ei throi heibio, a gwir grefydd gwedy ei hadferu ailwaith: yr hyn y ſydd beth diflas i'w hanflaſus flas hwy: fal y mae'n eglur wrth yr hyn y ddywad rhyw wraig wrth ei chymydoges. Och goſib beth a wnawn ni yn yr Eglwys yn awr, gan fod yr holl ſaint gwedy eu tynnu ymmaith, gan fod yr holl olwg hardd yr oeddym arferedig o'i gweled gwedy myned ymmaith, gan na chawni glywed y fath ganu a chware a'r yr Organ a glywſom ni cyn hyn.

Ond fyngharedigion mae ini achos mawr i lawenychu ac i rhoddi diolch i Dduw, fod ein heglwys gwedy i rhyddhau oddiwrth yr holl bethau ac a anfodlonent Dduw, ac a nurddent ei dŷ ſanctaidd ef a lle gweddi, mo'r wradwyddus, am yr hyn y diniſtrodd ef yn gyfion lawer o genhedlaethau, yn ol dywedydiad S. Pawl. Os llygra neb 1. Cor. 3. 17. deml Dduw fe a'i llygra Duw yntef.

Ac fal hyn y dlyem ni foliannu Duw yn fawr am ddarfod diddymmu yn hollol fal y haeddant yn gywir yr holl arferon delw-addolaidd ofergoelus, y rhai oeddynt yn llwyr ddrwg ac a ddifwynent ogoniant Duw: ac etto fe gadwir yn weddaidd yn yr Eglwyſydd yn arferol y pethau oll trwy y rhai yr anrhydeddir Duw, neu yr adailadir ei bobl ef. Ond yn awr am eich bod chwi yn deall mai ewyllys Duw yn hollol yw y chwi ddyfod i'r Eglwys, a'r ddiwarnodau gorphwyſfa ſanctaid, yn gymmaint ac bod yn clywed pa ddigofaint y mae Duw yn ei gymmeryd, a pha blaau y mae 'n eu harllwys ar ei bobl anufyddgar: lle yr ydych yn gweled pa fendithion y mae Duw yn eu rhoddi, a pha radau nefol ſydd yn dyfod i'r fath bobl, ac a arferant o ddyfod i'w eglwyſydd yn ewyllyſgar. Ac mewn zeal gan fod yn awr yn eich gwawdd chwi, yn garedig ac yn eich galw chwi yn gytun: gwagelwch na ddiogwch wneuthur eich dlyed na edwch i ddim eich rhwyſtro chwi ar ol hyn i ddyfod i'r Eglwys, ar yr amſeroedd a oſodir ac a orchymmynnir i chwi ddyfod.

Mae 'n Iachawdwr Chriſt yn dywedyd mewn dammeg ddarfod arlwy gwledd fawr a gwahodd Lu9c 14. 16. llawer, i lawer eſcuſo eu hunain ac na ddawent. Yr ydwyf yn dywedyd wrthych medd Chriſt na chaiff yr vn o'r gwyr hynny a wahoddwyd brofi o'm ſwpper i. Y wledd fawr hon yw gwir grefydd yr holl-alluog Dduw â'r hon y myn ef ei addoli, a dyledus dderbyniad ei Sacramentau, a gwir bregethiad a gwrandawiad ei ſanctaidd air, ac arfer o'u gwneuthur mewn ymarweddiad duwiol. Yr ydys yn awr yn arlwyo 'r wledd hon yn yr Eglwys, ty gwledd yr Arglwydd. Yr ydys yn eich galw ac yn eich gwawdd chwi ynghyd yno: os gwrthodwch ddyfod ac os chwi a wnewch eſcuſon, fe wnair yr vn atteb ichwi ac a wnaethpwyd iddynt hwythau.

Dewch am hynny yn awr fyngharedigion, a dewch heb oedi, a dewch i mewn yn llawen i dŷ gweddi Duw, a byddwch gyfranogion o'r donniau a arlwyodd ac a ddarparodd ef i chwi. Ond edrychwch eich bod yn dyfod ymma a'ch trwſiad gwyl, nid a gwrthwynebrwydd megis pe byddai well gennych beidio na dyfod, pe byddych ar eich dewis. O herwydd mae Duw yn caſhau ac yn coſpi y fath ffugiol ragrithwyr, fal y mae yn eglur wrth ddammeg Chriſt yn y blaen. Y cyfaill medd Duw pa fodd y doethoſt i mewn ymma heb gennid Math 22. 12. wiſc priodas am danad, ac am hynny fe orchymmynnodd i'w weiſion rwymo ei draed ef a'i ddwylo, a'i daflu i'r tywyllwch eithaf, lle bydd wylofain ac yſcyrnygu dannedd. Am hynny fal y galloch wagelyd y fath enbeidrwydd ar law Dduw, dewch i'r Eglwys y diwarnodau gwyl a dewch yn eich gwiſc briodas, hynny yw dewch a meddwl llawen duwiol, dewch i geiſio gogoniant Duw, ac i fod yn ddiolchus iddo ef, dewch i fod yn vn a'ch cymydogion ac i fyned i gyfaillach a chariad a hwynt hwy.

Yſtyria fod dy holl orchwylion yn drewi ger bron Duw, oni byddi mewn cariad a'th gymydogion. Dewch a chalon gwedy ei charthu a'i glanhau oddiwrth bob chwantau a dymuniadau bydol cnawdol. Yſcydiwch ymmaith bob meddyliau ofer y rhai a allant eich rhwyſtro chwi oddiwrth wir waſanaeth Duw. Mae 'r aderyn pan hedfano 'n eſcydwyd ei hadanedd. Ymmyſcydwa, darpara dy hun i hedfan yn vwch nâ holl adar yr awyr, fal yn ol gwneuthur dy ddylyed yn ddyledus yn y deml ar Eglwys ddayarol hon, y gallech hedfan i fynu a chael dy dderbyn i ogoneddus deml Duw yn y nef, trwy Ieſu Griſt ein Harglwydd, i'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yſpryd glân y bytho holl ogoniant ac anrhydedd, yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Pregeth yn yr hon y manegir y dylyid miniſtro gweddi gyhoeddus a'r Sacramentau mewn iaith a ddealler gan y gwrandawyr.

YMhlith aml arferon pobl Dduw Griſtionogion anwyl, nid oes vn anghenrheittach i bob ſtat ac i bob amſer nâ gweddi gyhoeddus, a dyledus arfer y Sacramentau: o herwydd yn y cyntaf yr ydym yn ceiſio oddiar law Duw yr holl bethau y rhai heb hyn, ni allem gael mo honynt. Ac yn ail y mae fe yn ein breicheidio ni, ac yn ei gynnig ei hun i ninnau i'w fraicheidio.

Am hynny a ni yn gwybod fod y ddwy arfer hynny mor anghenrhaid ini, na thybygwn fod yn anweddus ini yſtyried, yn gyntaf pa beth yw gweddi a pha beth yw ſacrament: ac yno pa ſawl rhyw a'r weddi ſydd, a pha ſawl Sacrament, ac felly y deallwn ni yn well pa fodd y iawn arferwn ni hwynt. Er gwybod pa beth ydynt mae S. Awſtin yn y llyfr am yr Yſpryd a'r enaid yn dywedyd falhyn am weddi. Gweddi, medd ef, yw Aug. de ſpirit. & anima. dwyfoldeb y meddwl: hynny yw ymchwel at Dduw trwy ddymunad duwiol goſtyngedig: yr hon ddymuniad yw diogel ac ewyllyſgar a melus ogwyddiad y meddwl ei hun at Dduw. Ac yn ei ail lyfr yn erbyn gwrthwynebwyr y gyfraith a'r Prophwydi y mae fe 'n galw y Sacramentau yn arwyddion ſanctaidd. Ac wrth ſcrifennu at Bonifacius Aug. li. 2. cont. aduerſ. legis & prophetar. am fedydd plant bychain y dywaid: oni bai fod yn y Sacramentau Rhyw gyffelybaeth i'r pethau y maent yn Sacramentau honynt ni byddent Sacramentau mwy. Ac o'r gyffelybaeth Auguſt. ad Bonifac. honno maent o'r rhan fwyaf yn derbyn en wau y pethau eu hunain y maent yn eu harwyddoccau. Wrth y gairiau hyn o S. Awſtyn mae 'n eglur ei fod ef yn fodlon i ddeffiniad neu ddeſcribiad arferol Sacrament, hynny yw, ei fod ef yn arwydd weledig o rad anweledig, hynny yw yr hon ſydd yn goſodd allan i'r llygaid a'r ſynwyrau eraill oddi allan orchwyl trugaredd rad Duw, ac ſydd megis yn ſelio yn ein calonnau ni addewidion Duw.

Ac felly yr ydoedd yr enwaediad yn Sacrament, yr hwn a bregethodd i'r ſynhwyrau oddi allan enwaediad y galon oddifewn, ac a ſeloedd ac a ddiogelhaodd ynghalonnau 'r enwaededig, addewidion Duw ynghylch yr hâd a addawſed ac a edryched am dano.

Yn awr edrychwn pa ſawl rhyw a 'r weddi a pha ſa wl Sacrament y ſydd. Yr ydym yn darllen yn yr Scruthur am dair rhyw o weddi, o'r rhai y mae dwy 'n neulltuol ac vn yn gyhoeddus.

Y gyntaf yw 'r hon y mae Pawl yn ſon am deni yn ei Epiſtl at Timothigan ddywedyd: Mi a fynnwn i wyr weddio ymhob man gan dderchafu dwylo purion heb ddigter nag ymryſon. A hon 1. Tim. 2. 8. yw gwir a dyfal gyfodſad y meddwl at Dduw heb draethu blinder a dymunad y calonnau trwy laferudd yn gyhoeddus. O'r weddi hon y mae 'r ſiampl yn llyfr Samuel am Haanah mam Samuel, pan weddioedd hi yn y deml yn hrymder ei 1. Sam. 1. 13. chalon, gan ddymuno cael ei gwneuthur yn ffrwythlon. Medd y text yr ydodd hi yn gweddio yndi ei hun a'i llaferudd ni chlywyd. Yn y dull hyn y dylye'r holl Griſtionogion weddio, nid vnwaith yn yr wythnos, neu vnwaith yn y dydd, ond fal y dywaid Pawl wrth ſcrifennu at y Theſſaloniaid 1. Theſ. 5. 7. heb orphwys. Ac fal y mae S. Iaco 'n ſcrifennu, Iaco. 5. 16. Llawer y ddychon gweddi'r cyfion os ffrwythlon y fydd hi.

Yr ail rhyw o weddi y ſonnir am deni yn S. Mathew, lle y dywedir fal hyn, Pan weddiech Math. 6. . dos i'th ſtafell a chwedy cau dy ddrws gweddia ar dy Dad yr hwn ſydd yn y dirgel, a'th Dad yr hwn a wel yn y dirgel a'th obrwya di yn yr amlwg: O'r rhyw hon o weddi mae llawer ſiampl yn yr Scrythyrau ſanctaidd: ond digon i ni adrodd vn yr hon ſydd ſcrifennedig yn Actau 'r Apoſtolion. Mae Cornelius gwr ſanctaidd canwriad o'r Italaidd fyddin, yn dywedyd wrth yr Apoſtol Peter, ag Act. 10. 30. yntef yn ei dŷ yn gweddio ynghylch y nawfed awr ymddangos iddo fe vn mewn dilliad gwynnion, &c. Fe weddiodd y gwr hwnnw a'r Dduw yn y dirgel, ac a obrwywyd yn yr amlwg. Dymma 'r ddwy rhyw weddiau dirgel. Y naill yn y meddwl, hynny yw dwyfol ddercbafiad y meddwl ac Dduw, a'r llall yn y llaferydd, hynny yw dirgel adrodd blinderau a dymyniadau 'r galon mewn geiriau, ond etto mewn ſtafell ddirgel, neu rhyw le neulltuol.

Yr ail rhyw o weddi ſydd gyffredinol neu gyhoeddus. Am y weddi hon y ſon ein Iachawdwr Chriſt, pan mae fe 'n dywedyd. Os cytuna dau o hanoch ar y ddayar am ddim oll beth bynnac a ddeiſyfant rhoddir iddynt gan fynhad yr hwn ſydd yn y nefoedd. Canis ymhale bynnac yr ymgynullo dau neu dri yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu myſc hwynt. Er i Dduw addo 'n gwrando ni pan weddion yn y dirgel trwy wneuthur hynny yn ffyddlon ac yn dduwiol: O herwydd mae fe 'n dywedyd galw arnafi yn-nydd trallod yno mi a'th wrandawaf. Pfal. 50. 15.

Ac medd S. Iaco ac Elias yn wr marwol fe weddiodd ac ni bu law dros dair blynedd a chwemis, Iac. 5. 17. ac fe a weddiodd drachefn ac fe rhoddes y nef ei glaw. Etto mae 'n eglur wrth hiſtoriau y beibl fod gweddi gyffredinol yn rymmuſach ger bron Duw, ac am hynny y dylyed galaru yn fawr na wnair rhagor gyfrif honi hi, yn ein myſc ni y rhai ydym yn addef ein bod yn vn corph ynghriſt.

Pan fygythwyd diniſtr dinas Ninifi o fewn deigain diwarnod. Fe gydſylltodd y brenin a'i bobl eu hunain mewn gweddi ac ympryd, ac hwy a waredwyd. Fe orchymmynnodd Duw yn y Ionas. 3. Prophwyd Ioel gyhoeddi ympryd, ac i'r bobl hen a iauainc, gwyr a gwragedd, ymgynull ynghyd, a dywedyd ac vn llaferydd: arbed dŷ bobl Arglwydd Ioel. 2. 13, 16. ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth: a phan oeddid er fedr difa 'r Iddewon oll mewn vn diwarnod trwy genfigen Haanan, wrth orchymmyn Heſter hwy a ymprydiaſant ac a weddiaſant, ac Heſt. 4. 16, 17. hwy a waredwyd: pan warchaodd Holophernes Bethulia, wrth gyngor Iudith hwy ymprydiaſant Iudith. 8. 14. ac a weddiaſant ac hwy a rhyddhawd. Pan ydodd yr Apoſtol Peter yngharchar fe ymgyſylltodd y Act. 12. 5. gynulleidfa ynghyd mewn gweddi ac fe waredwyd Peter mewn modd rhyfedd.

Wrth yr hiſtoriau hynny mae 'n eglur fod gweddi gyffredinol gyhoeddus yn rymmus iawn i fwynhau trugaredd, ac ymwared oddiar law ein Tad nefol. Am hynny fymrodyr yr atolygaf i chwi er mwyn tirion drugaredd Duw, na fyddwn mwy yn eſcaelus yn hyn o beth: ond megis pobl a fyddant ewyllyſgar i dderbyn ar law Duw y fath bethau, y rhai y mae gweddi gyffredinol yr Eglwys yn eu ceiſio, ymgyſſylltwn ynghyd yn y lle a oſodwyd i weddi gyhoeddus, ac ag vn galon ceiſiwn gan ein Tad nefol yr holl bethau a wyr ef eu bod yn anghenrhaid ini.

Nid ydywyf yn gwahardd gweddiau dirgel i chwi, ond yr ydwyf yn eich annog i wneuthur cymmaint gyfrif a gweddi gyhoeddus ac y mae hi 'n haeddu. Ac ymlaen pob peth byddwch ſiccr yn y tair rhyw hon o weddi fod eich meddyliau gwedy eu cyfodi yn ddwyfol at Dduw, ac onid ef ni bydd eich gweddiau onid diffrwyth, ac fe wirhair ynoch chwi yr ymmadrodd hwn: mae 'r bobl hyn yn neſau attaf a'u geneuau a'u calonnau ymhell oddiwrthyf. Eſa. 29. 13. Math. 15. 8. Hed hyn am y tair rhyw gweddi am y rhai y darllenwn yn yr Scruthur lân.

Yn awr a'r vn fath neu lai o airiau y cewch glywed pa ſawl Sacrament ſydd gwedy i ein Iachawdwr Chriſt eu goſod, ac a ddylent barhau a'u derbyn gan bob Chriſtion mewn amſer a threfn dyledus, ac am yr achos y mynnai em Iachawdwr Chriſt ini eu derbyn hwy. Ac am eu rhifedi hwy ped yſtyrid hwy yn ol gwir arwyddocad Sacrament: ſef am yr arwyddion gweledig y rhai a orchymmynnir yn oleu yn y Teſtament newydd a'r rhai y cydſylltir addewid maddauant o'n pechodau yn rhad a'n ſancteiddrwydd a'n cyſſylltiad ni ynghriſt: nid oes onid dau, bedydd a ſwpper yr Arglwydd. O herwydd er bod i ollyngdod addewid maddeuant pechodau etto nid oes wrth airiau eglur y Teſtament newydd, vn addewid gwedy ei chlymmu a'i rhwymo a'r arwydd weledig yr hon yw goſodiad dwylaw.

O herwydd nid ydys yn y Teſtament newydd yn gorchymmyn yn oleu arfer goſod dwylo mewn gollyngdod fal yr ydys yn gorchymmyn yr arwyddion gweledig mewn bedydd a ſwpper yr Arglwydd: ac am hynny nid yw gollyngdod y fath ſacrament ac yw bedydd a'r cymmyn. Ac er bod i wneuthurdeb offeiriad ei harwydd weledig a'i haddewid, etto mae erni diffig addewid maddauant o bechodau: fal a'r yr holl Sacramentau eraill heblaw y rhai hyn, am hynny nid ydyw na honnag vn Sacrament arall y fath Sacrament ac ydyw y bedydd a'r cymmyn. Ond mewn cymmeriad cyffredinol fe ellir rhoi enw Sacrament i bob peth trwy 'r hwn yr arwyddoccair vn peth ſanctaidd. Yn yr hwn yſtyr y rhoes yr hên dadau yr enw hwn nid yn vnic i'r pump eraill, y rhai yn hwyr o amſer a gymmerid yn lle Sacramentau i Dionyſius. wneuthur ſaith, ond hefyd i lawer o Ceremoniau Bernard de coena Dom. & ablutione pedum. craill megis i olew, golchiad traed, a'r fath bethau, heb feddwl trwy hynny eu cyfrif hwy yn Sacramentau, yn yr yſtyr ac y mae y ddau Sacrament a ddywedaſom ni o'r blaen.

Ac am hynny mae S. Awſtin gan yſtyried gvoir yſtyr ac iniawn ddeall y gair Sacrament, wrth Aug. ad Ianuar. & De doct. Chri. ſcrifennu at Ianuarius, ac yn ei drydydd llyfr hefyd am yr athrawiaeth Griſtionogawl, yn dywedyd fod Sacramentau y Chriſtianogion yn ambell mewn rhifedi, ac yn odidawg mewn yſtyr, ac yn y ddau le hynny mae fe 'n eglur yn ſôn am ddau, Bedydd, a Swpper yr Arglwydd.

Ac er bod yn cynnal trwy drefn eglwys Loegr, heblaw y ddau hyn, ryw arferon a Ceremoniau ynghylch gwneuthur offeiriaid, priodas, a bedydd eſcob, gan holi plant am eu gwybodaeth mewn pyngciau ffydd, a chan gyſſylltu â hynny weddiau 'r Eglwys droſtynt, ac hefyd am ymweliad y clâf: etto ni ddylyai neb gymmeryd y rhai hyn yn lle Sacramentau, yn yr yſtyr a'r deall y cymmerir Bedydd a Swpper yr Arglwydd, ond naill a'i yn alwedigaethau duwiol o fywyd, anghenrhaid yn Eglwys Griſt, ac am hynny yn deilwng i'w goſod allan trwy weithred gyhoeddus gyffredinol gan wenidawg yr Eglwys: ynteu a fernir eu bod yn gyfryw ordeiniaethau, ac a allant gynnorthwyo i athrawiaethu, diddanu, ac adailad Eglwys Ghriſt.

Yn awr a ni gwedy deall pa beth yw gweddi, a pha beth yw Sacrament, a pha ſawl rhyw o weddi y ſydd, a pha ſawl Sacrament hefyd a oſododd ein Iachawdwr Chriſt: edrychwn bellach a oddef yr Scruthyrau a ſiampl y brif-Eglwys gynt, weddi llaferydd (hynny yw, pan yw 'r genau yn traethu rhyw ddeiſyfiadau â'r llaferydd) neu finiſtro rhyw Sacramentau neu vn rhyw weithred, neu Caeremoni gyffredinol gyhoeddus arall, yn perthyn at fudd ac adailadaeth y gynulleidfa dlawd, mewn tafod anghydnabyddus, yr hwn ni ddeall na 'r gwenhidawg na 'r bobl: neu a ddylai vn dŷn arfer yn neilltuoll weddi laferydd mewn iaith nis deall.

I'r cweſtiwn hwn rhaid ini atteb, nas dylyai. Ac yn gyntaf am weddi gyffredinol a miniſtrad y ſacramentau, er y perſwadai rheſwn ni yn hawdd (pe cai ein rheoli ni) y dlyem ni weddio 'n gyhoeddus, a miniſtro y Sacramentau mewn iaith a ddealler, o herwydd mai gweddio 'n gyffredinawl, yw bod i gynulleidfa bobl ofyn vn peth, ag vn llaferydd a chyfundeb meddwl, a miniſtro Sacramentau yw trwy 'r gair a'r arwydd oddi allan, pregethu i 'r derbynwyr anweledig râs Duw oddifewn: ac hefyd am oſod yr arferon hyn, a'u bod fyth yn parhau, er mwyn dwyn ar gof i'r gynulleidfa o amſer i amſer, eu hundeb ynghriſt, ac y dlyent fal aelodau o vn corph mewn gweddi a phob modd arall geiſio a chwenychu bob vn fudd ei gilydd, ac nid eu budd eu hunain heb ennill eraill. Etto nid rhaid ini redeg at reſwn i brwfo y peth hyn, o herwydd bod gennym airiau eglur goleu 'r Scruthur, ac hefyd gyfundeb yr ſcrifennyddion hynaf a dyſcediccaf, yn canmol gweddiau y gynulleidfa yn yr iaith a dealler. Yn gyntaf mae S. Pawl at y Corinthiaid yn erchi 1. Cor. 14. 26. gwneuthur pob peth er adailadaeth: yr hyn ni ddichon bod oni bydd y gweddiau a miniſtrad y Sacramentau mewn tafod cydnabyddus i'r bobl. O herwydd pan draetho 'r offeiriad weddi, neu finiſtro y Sacramentau mewn gairiau na ddealler gan y rhai ſydd breſennol, ni ellir eu hadailadu hwy.

O herwydd megis os yr vtcorn yn y maes, a rydd lais anhynod, ni all neb trwy hynny ymbaratoi i ryfel. Ac megis pan fytho offeryn cerdd yn gwneuthur ſain ddiwahanol, ni ŵyr neb pa beth a genir. Felly pan fytho gweddi neu finiſtrad y Sacramentau mewn iaith anghynabyddus i 'r gwrandawyr, pwy o hanynt a gyffroir i gyfodi ei feddwl at Dduw i geiſio gydâ'r gwenidawg gā Dduw y pethau y mae 'r gwenidawg yn ei airiau a'i weddi yn eu gofyn? Neu pwy wrth finiſtro 'r Sacramentau a ddeall pa rad anweledig a ddylyai y gwrandawyr ddymuno cael ei weithio yn y dyn oddufewn? yn wir neb. O herwydd fal y dywaid S. Pawl mae 'r hwn a ddywedo mewn tafod anghydnabyddus yn eſtron i'r gwrandawyr, yr hyn ſydd anweddus iawn mewn cynulleidfa Griſtionogaidd.

O herwydd nid ydym eſtroniaid i'w gilydd, ond cyd-ddinaſwyr â'r ſaint, ac o dylwydd Duw, ac Epheſ. 26. 19. 1. Cor. 10. 7. 1. Cor. 14. 11. aelodau yr vn corph. Ac am hynny yr hyd y bytho 'r gwenidog yn adrodd y weddi a wnair yn ein henwau ni i gyd, rhaid yw ini roddi cluſt i'r geiriau y mae fe 'n eu hadrodd, ac yn ein calonnau ofyn ar law Dduw, y pethau y mae fe mewn geiriau yn eu gofyn: ac i arwyddoccau ein bod, yn gwneuthur felly, yr ydym yn dywedyd Amen, ar ddiwedd y weddi, yrhon y mae fe'n ei gwneuthur yn ein henwau ni oll. A hyn ni allwn ni ei wneuthur er adailadaeth, oni ddeallir yr hyn aiddywedir.

Am hynny anghenrhaid yw gweddio yn gyhoedd yn yr iaith a ddeallo y gwrandawyr. A phe buaſai gweddus goddef erioed iaith ddieithr yn y gynulleidfa, fe allaſai hynny fod yn amſer Pawl a'r Apoſtolion eraill, pan gynyſcaeddid hwy â mawr wyrthian ac aml iaithoedd: o herwydd fe allaſai hynny annog rhai i dderbyn yr efengil, pan glywſent Hebrewyr o anedigaeth, er eu bod yn annyſcedig; yn dywedyd Groeg, a lladin, ac iaithoedd eraill: ond ni thybygodd Pawl y dylaid goddef hyn yr amſer hynny: ac a arferwn ni hynny yn awr, pan nad oes neb yn dyfod i iaithoedd, heb aſtudrwydd dyfal? Na atto Duw. O herwydd trwy hynny y dygem holl arferon ein heglwys, i wâg ofergoel, ac y gwnaem hwy oll yn ddiffrwyth.

Mae Luc yn ſcrifennu i Petr ac Ioan gwedy eu rhyddhau oddiwrth dywyſogion ac archoffeiriaid Ieruſalem, ddyfod at eu cymydeithion, a dywedyd wrthynt yr holl bethau a ddywedaſe yr offeiriaid a'r henuriaid wrthynt: yr hyn pan glwyſont, hwy a godaſant eu llaferydd mewn cytundeb Act. 4 24. at Dduw gan ddywedyd, O Arglwydd, tydi yw y Duw yr hwn a wnaethoſt nef a dayar, mor, ac oll ſydd yndynt, &c.

Ni allaſent wneuthur hyn pe gweddiaſent mewn iaith ddieithr, yr hon niddeallaſent: ac yn ddiddau, ni ddywedaſant hwy oll â llafarau gwahanedig: ond rhyw vn o honynt a ddywedodd yn eu henwau hwynt oll, a'r llaill gan wrando 'n ddieſcaelus a gyfunaſant ag ef: ac am hynny y dywedir gyfodi o honynt eu llafar ynghyd.

Nid ydyw S. Luc yn dywedyd Eu llafarau, megis am lawer, ond Eu llafar, megis am vn Yr ydoedd yr vn llafar hwnnw am hynny yn y fath iaith ac yr oeddent hwy oll yu ei deall, oni buaſai hynny ni allaſent gyfodi mohoni i fynu â chyfundeb eu calonnau: o herwydd ni ddichon neb gyfuno â'r hyn nis gwyr.

Am yr amſer ymlaen dyfodiad Chriſt ni bu ddŷn erioedi a ddywedai, fod gan bobl Dduw, na chan neb arall, eu gweddiau, neu finiſtrad eu Sacramentau, neu eu haberthau, mewn iaith nas deallent hwy eu hunain. Ac am yr amſer er Chriſt, nes i Draws. ortrechus allu Rufain ddechrau goreſcyn, a rhwymo holl genhedlaethau Europ i fawrhau iaith Rufain mae 'n eglur wrth gyfundeb yr hên ſcrifenyddion dyſcedig, nad oedd arfer iaith ddiethr, anghydnabyddus, ynghynulleidfaon y Chriſtionogion.

Mae Iuſtin. ferthur, yr hwn oedd yn fyw yn 160. Iuſtinus Martyr. Apol. 2. mlynedd o oedran Chriſt yn dywedyd fal hyn am finiſtrad Swpper yr Arglwydd, yn ei amſer ef; A'r ddie ſul mae cynnulleidfaon o'r rhai a arhoſant yn y trefydd, a'r rhai a drigant yn y gwledydd hefyd: ymhlith y rhai yr ydys yn darllen cymmaint ac a ellir, o ſcrifeunadau 'r Apoſtolion a'r Prophwydi. Yn ol i'r darlleudd beidio, mae 'r gwenidawg pennaf yn gwneuthur annogaeth, gen eu hannog i ganlyn pethau honeſt: yn ol hynny, yr ydym yn cyfodi oll ynghyd ac yn offrwin gweddiau, yn ôl diweddu y rhai (fal y dywedaſom) y dygir i mewn fara a gwin a dwfr. Yno mae 'r gwenidawg pēnaf yn offrwm gweddi a diolch â'i holl allu, a'r bobl yn atteb Amen.

Mae 'r geiriau hyn a'u hamgylchau, os yſtyrir hwy yn dda, yn manegi yn oleu, fod nid yn vnic yn darllen yr Scruthyrau mewn iaith a ddealled, ond bod yn gweddio felly hefyd yn y cynnulleidfaon yn amſer Iuſtin.

Fe oſododd Baſilius Magnus, ac felly y gwnaeth Ioan Chryſoſtom. enau aur, hefyd yn eu hamſeroedd, dreſnau cyhoeddus ar wenidogaeth gyhoeddus, y rhai a alwent Leiturgiae, ac yn y rhai hynny hwy a oſodaſant ar y bobl atteb i weddiau 'r gwenidogion weithiau Amen, weithiau Arglwydd trugarha wrthym, weithiau a chyd a'th yſyryd dithau, ac Mae'n calonnau ni gwedi eu cyfodi at yr Arglwydd, &c. Yr hwn atteb ni fedraſe 'r bobl ei wneuthur mewn amſer dyledus, oni buaſai fod y weddi mewn iaith ac a ddeallent hwy. Mae'r vn Baſil wrth ſcrifennu at eglwyſwyr Neocaeſaria, yn dywedyd Epiſtol. 63. fal hyn am arfer gweddi gyffredinol, gan appwynto rhai i ddechreu 'r caniad, ac eraill i ganlyn, ac felly gan dreulio 'r nos mewn llawer o ganiadau a gweddiau, maent ar y wawr ddydd oll ynghyd megis ag vn genau ac vn galon) yn canu i'r Arglwydd ganiad o gyffes, pob vn yn goſod iddo ei hun airiau cymheſur o etifeirwch.

Mewn man arall mae fe 'n dywedyd: os bydd y mor yn deg, pa faint mwy y mae ymgynulliad y gynulleidfa 'n deccach, yn yr hon y danfonir allan ſain cyſſylltedig gwyr, gwragedd, a phlant (megis tonnau 'n ffuſto ar lan y mor) o'n gweddiau ni at Baſil Ruf 4. Dduw? Yſtyriwch ar ei airiau ef, ſain (medd ef) gyſſylltedig gwyr, gwragedd, a phlant: yr hyn ni ddichon bod oni byddai eu bod hwy oll yn deall yr iaith yn yr hon yr adroddid y weddi.

Ac fe a ddywaid Chryſoſtom ar airiau S. Pawl. 1. Cor. 14. Ey gynted ag y clywo y bobl y gairiau hyn, yn oes oeſoedd, maent hwy oll yn y man yn atteb, Amen. Yr hyn ni allent hwy ei wneuthur, oni bai eu bod hwy 'n deall yr hyn a ddywedai 'r offeiriad.

Mae Dionyſius yn dywedyd fod yr holl dyrfa bobl yn canu caniadau, wrth finiſtro y cymmun. Dionyſ. Mae S. Cyprian yn dywedyd fod yr offeiriad yn darparu meddyliau y brodyr â rhag-ddywediad Cyprian. ſer. 6. de oratione Dominica. au ymlaen y weddi, gan ddywedyd derchefwch eich calonnau: ac yno 'r atteb y bobl yr ydym yn eu dyrchafu hwy at yr Arglwydd. Ac mae S. Ambros wrth ſcrifennu ar airiau S. Pawl yn dywedyd, Hyn yw 'r peth y mae fe 'n ei ddywedyd, fod yr hwn a ddywaid mewn tafod ddiethr, yn dywedyd wrth Dduw, yr hwn ſydd yn gwybod pob peth, ond nid ydyw dynion yn gwybod, ac am hynny nid oes ffrwyth o'r peth hynny.

Athrachefn ar y geiriau hyn, os bendigi di neu 1. Cor. 14. roddi diolch â'r yſpryd, pa fodd y dywaid yr hwn ſydd yn lle 'r annyſcedig, Amen, ar dy ddiolchiad di, gan na ŵyr ef pa beth yr ydwyd yn ei ddywedyd? Hynny yw, medd S. Ambros, os ti a fanegi foliant Duw mewn iaith nis gwypo y gwrandawyr. O herwydd pan glywo 'r annyſcedig yr hyn nis deallo, nid edwyn ddiwedd y weddi, ac ni fedr ddywedyd Amen. Yr hwn air yw cymmaint ac yn wir, neu bydded wir, fal y cadarnhair y fendith, neu y rhoddiad diolch. O herwydd gan y rhai a attebant, Amen, y cyflawnir cadarnhâd y weddi, fal y cadarnhair pob peth a ddywedir ymmeddyliau y gwrandawyr, trwy dyſtiolaeth y gwirionedd.

Ac yn ol llawer o airiau pwyſig i'r vn defnydd, mae fe n dywedyd, y cwbl yw hyn: na wneler dim yn yr Eglwys yn ofer, ac mai 'r peth hyn yn enwedig a ddylid llafuro am dano, fef ar fod i'r anyſcedig allel cael lleſhâd, rhag bod vn rhan o'r corph yn dywyll trwy anwybodaeth. Ac rhag tybied o neb ei fod ef yn meddwl hyn oll am bregethu, ac nid am weddi: mae fe 'n cymmeryd achos ar y gairiau hyn ei S. Pawl, (oni bydd cyfiaithydd, tawed yr hwn ſydd ac iaith ddieithr yn yr Eglwys) i ddywedyd, fal y canlyn: Gweddied yn ddirgel, neu ddyweded wrth Dduw, yr hwn 1. Cor. 14. 28. ſydd yn clywed yr holl bethau mudion. O herwydd yn yr Eglwys rhaid i hwnnw ddywedyd, yr hwn a wna lles i bawb oll.

Mae S. Ierom wrth ſcrifennu ar y geiriau hyn ei S. Pawl, pa fodd y dywaid yr hwn ſydd yn Verſ. 16. lle 'r anyſcedig Amen, &c. yn dywedyd, y gwr llyg yw'r hwn y mae S. Pawl yn dywedyd ymma ei fod yn lle yr ânnyſcedig, yr hwn nid oes gantho vn ſwydd Eglwyſig, pa fodd yr atteb ef Amen, ar weddi yr hon nid ydyw yn ei deall? Ac yn y man ar ol hynny ſef ar airiau Pawl pe llafarwn Verſ. 6. a thafodau, &c. Mae fe 'n dywedyd fal hyn. Hyn yw meddwl Pawl: Os llafara neb mewn tafodau dieithr, anghydnabyddus, fe wnair ei feddwl ef yn ddiffrwyth, nid iddo ei hun, ond i'r gwrandawyr: o herwydd beth bynnac a ddywedir, nid yw ef yn ei wybod. Ac mae S. Awſtin wrth ſcrifennu a'r y ddaunawfed Pſalm, yn dywedyd: ni Pſa. 18. a ddlyem ddeall pa beth yw hyn, fal y gallom ganu a rheſwn dŷn, ac nid a thrydar adar. O herwydd mae dylluanod, cawciod, cigfrain, piod, a'r fath adar eraill, gwedy eu dyſcu gan dynnion i Drydar. glegru, ni wyddont pa beth. Ond canu trwy dde all a rhoddwyd trwy ewyllys ſanctaidd Duw i natur dŷn. Ac ailwaith, mae S. Awſtin yn dywedyd, Nid rhaid wrth vn llaferudd pan fythom ni 'n gweddio, ond fal y mae 'r offeiriaid yn gwneuthur, De Magiſt. i ddangos eu meddwl, nid fal y gallo Duw, ond fal y gallo dynnion eu clywed hwy. Ac felly gan ei cofio wrth gyfuno a'r offeiriaid y gallont orbwyſo a'r Dduw.

Fal hyn ein dangoſir trwy 'r Scrythyrau a'r hên ddoctoriaid, na ddylyid wrth weddio neu finiſtro Sacramentau, arfer vn iaith nas deallo 'r gwrandawyr. Megis i fodloni cydwybod Chriſtion, nad rhaid ini dreulio chwaneg amſer yn hyn o beth. Ond etto e'r attal ſafnen gwrthwynebwyr, y rhai ſydd yn ſefyll ormod ar ordeiniaethau cyffredinol, da yw cydſylltu at y teſtiolaethau hyn o'r Scruthyrau a'r hên Ddoctoriaid, vn ordeiniaeth y wnaeth yr Ymherodr Iuſtinian, yr hwn oedd Ymherodr Rufain ynghylch pympcant mlynedd a ſaith mlynedd a 'r igain yn ol Chriſt, yr ordeiniaeth yw hon: Yr ydym yn gorchymmyn i'r holl Eſcobion ac offeiriaid finiſtro 'r Nouel conſti. 23. offrwm ſanctaidd, ac arfer gweddiau yn y bedydd ſanctaidd, nid gan ddywedyd yn yſſel, ond a llaferudd eglur, vchel yr hon a all y bobl oll ei chlywed, fal trwy hynny y cyffroir meddyliau y gwrandawyr a mawr ddwyfoldeb, wrth adrodd gweddiau 'r Arglwydd Dduw, O herwydd felly y mae 'r Apoſtol ſanctaidd, yn yr Epiſtol cyntaf at y Corinthiaid yn dangos, gan ddywedyd, Os bendigi di neu os rhoddi di ddiolch yn yr Yſpryd yn dda, pa fodd y gall yr hwn ſydd yn lle 'r annyſcedig, ddywedyd, Amen, ar dy ddiolchad di? O herwydd ni wyr efe pa beth yr ydwyd yn ei ddywedyd? Yn wir yr ydwyti yn rhoddi diolch yn dda, ond nid ydys yn ei adailadu efe.

Ac ailwaith, fe a ddywaid, yn ei Epiſtol at y Rufeiniaid: A'r galon y credir i gyfiawnder, a'r geneu y cyffefir i Iechadwriaeth. Am hynny o blegid yr achoſion hyn, ymmyſc gweddiau eraill, mae 'n gymheſir i'r Eſcobion a'r offeiriaid crefyddgar, draethu a dywedyd hefyd y rhai a ddywedir yn yr offrwm ſanctaidd, I'n Harglwydd Ieſu Griſt ein Duw ni, gyda 'r Tad, a'r Yſpryd glan, a llaferudd vchel. A gwybydded y crefyddgar offeiriaid hyn, os hwy a eſcaeluſant y pethau hyn, y gorfudd arnynt rhoddi cyfrif am danynt, yn echrydus farn y Duw mawr, a'n Iachawdwr Ieſu Griſt: a phan wypom ninnau hynny, ni orphwyſwn ni, ac ni oddefwn hynny heb ei ddial. Yr ydoedd yr Ymherodr hwn (fal y dywaid Sabelicus) yn ffafro Eſcob Rufain, ac etto ni a welwn pa fath ordeiniaeth oleu y wnaeth ef, am weddio a miniſtro Sacramentau mewn iaith gydnabyddus, er mwyn cyffro defoſiwn da y gwrandawyr trwy wybodaeth, yn erbyn barn y rhai a fynnant mai anwybodaeth ſydd yn gwneuthur defoſiwn da, mae fe hefyd yn ei wneuthur ef yn beth damnedig wneuthur y pethau hyn mewn iaith nis deallo 'r gwrandawyr. Cauwn hyn am hynny trwy gyfundeb Duw a dynnion da na ddylaid gweddio yn gyhoeth na miniſtro Sacramentau mewn iaith nis deallo y gwrandawyr. Yn awr gair neu ddau am weddi neilltuol mewn iaith ni ddeallir.

Ni a gymmeraſom arnom pan dechrauaſom ſon am y peth hwn, brwfo, nid yn vnic, na ddylaid miniſtro gweddi gyffredinol neu Sacrament, mewn iaith nis deall y gwrandawyr ond hefyd na ddylai neb weddio 'n ddirgel, mewn iaith ni byddai fe ei hun yn ei deall. Yr hyn ni bydd anhawdd ini ei wneuthur, oni ollyngwn yn angof pa beth yw gweddi. O herwydd os defoſiwn y galon yw gweddi, yr hwn ſydd yn gyrru 'r galon i ymgyfodi at Dduw, pa fodd y gellir dywedyd fod hwnnw yn gweddio, yr hwn nid yw yn deall y geiriau y mae ei dafod yn eu traethu mewn gweddi? Ie pa fodd y gellir dywedyd ei fod ef yn dywedyd? o herwydd dywedyd yw traethu meddwl y galon trwy laferudd y genau.

Ac nid ydyw llaferudd y draetho dŷn wrth ddywedyd, ddim ond cennadwr y meddwl, i ddwyn allan wybodaeth, am y peth oni bai hynny, a orwedde 'n ddirgel yn y galon, ac ni ellir ei wybod: yn ol yr hyn a ſcrifenna S. Pawl, Pwy a ŵyr medd ef y pethau ſydd mewn dyn, ond yſpryd dyn yn vnic, yr hwn ſydd ynddo? Ni ellir am hynny yn iniawn ddywedyd, ei fod ef yn dywedyd, yr hwn nid yw yn deall y laferudd y mae ei dafod yn ei draethu, ond yn dynwared dywedyd, fal y gwna 'r perot, neu 'r fath adar, ſydd yn dynwared llaferudd dynnion. Ni faidd neb am hynny ac a fytho yn ofni digofaint Duw yn ei erbyn ei hun, ſon am Dduw yn rhy ehud, heb feddwl am ddeall parchus yn ei wydd ef, ond fe ddarpara ei galon cyn rhyfygu dywedyd wrth Dduw. Ac am hynny yn ein gweddi gyffredinol, mae 'r gwenhidawg yn dywedyd yn fynych gweddiwn: gan feddwl wrth hynny rhebyddio 'r bobl i ddarparu eu cluſtiau i wrando, ar y peth y mae er fedr ei erchi ar law Ddduw, a'u calonnau i gyfuno a hynny, a'u tafodau ar y diwedd i ddywedyd, Amen.

Fal hyn y darparodd y Prophwyd Dafydd ei galon, pan ddywedodd ef, parod yw fynghalon o Dduw, parod yw fynghalon, canaf a chanmolaf. Fe ddarodd i'r Iddewon hefyd, yn amſer Iudith, Pſal. 57. 7. cyn iddynt ddechreu gweddio, ddarparu eu calonnau felly, pan weddiaſant hwy a'u holl galonnau, ar i Dduw ymweled a'i bobl Iſrael. Fal hyn y darparaſai Menaſſes ei galon, cyn iddo weddio, a dywedyd: yr ydwyf yn goſtwng gliniau fynghalon, 2. Cro. 33. 12. gan ofyn iti ran o'th drigarog fwynder. Pan fytho 'r galon gwedy ei darparu fal hyn, maer llaferudd a draethir o'r galon, yn beraidd ynghluſtiau Duw, ac heb hyn ni yſtyria ef hi i'w derbyn. Ond o herwydd fod ydyn ſydd yn Twrddan. dadwrdd geiriau diddeall yngwydd Duw, yn dangos nad ydyw ef yn yſtyriaid mawrhydi Duw, wrth yr hwn y mae fe 'n dywedyd: mae Duw yn cymmeryd hwnnw megis vn yn diyſtyru ei fawrbydi ef, ac yn rhoddi iddo ei wobr ymlhith ragrhithwyr, y rhai ſydd yn ymddangos yn ſanctaidd oddifaes, a'u calonnau yn llawn meddyliau ffiaidd, ie yn amſer eu gweddiau.

O herwydd y galon y mae 'r Arglywydd yn edrych erni, fal y ſcrifennir yn hiſtori y brēhinioedd. Os mynnwn ninnau am hyn na byddo ein gweddiau yn ffiaidd bethau, ger bron yr Arglwydd Dduw, darparwn ein calonnau cyn gweddio, ac felly deallwn y pethau yr ydym yn gweddio am danynt, fal y gallo ein ealonnau a'n llaferudd, gydſeinio ynghluſt mawrhydi Duw: ac yno ni ffaelwn dderbyn ar ei ddwylaw ef, y pethau yr ydym yn eu gofyn, fal y gwnaeth gwyr da o'n blaen ni, y rhai a dderbyniaſant o amſer yn amſer y pethau a ddamunent er iechyd i'w heneidiau.

Fe dybygid fod S. Awſtin yn cyd-ddwyn yn y pethau hyn, o herwydd fal hyn y dywaid ef am y rhai a ddygir i fynu mewn gramadeg, neu rhethorei, ac a droir at Griſt, ac am hynny ſydd rhaid eu dyſcu De catechiſandis rudibus. ynghrefydd Griſt: Gwybyddant hefyd medd S. Awſtin nad y llaferudd ond meddylfryd y galon ſydd yn dyfod i gluſtiau Duw. Ac yno y bydd, os digwydds iddynt yſtyried, fod yr Eſcob neu'r gwenhidawg yn yr Eglwys, yn galw ar Dduw a geiriau anghyſſon ac anhrefnus, neu y rhai na bônt hwy yn eu deall, neu eu bod hwy yn cyfrannu yn anhrefnus y geiriau y maent yn eu traethu, na watwarant ddim o honynt. Hyd yn hyn fe a dybygid ei fod ef cyd-ddwyn gr da gwedio mewn iaith ni ddeallir.

Ond yn yr ymadrodd neſaf mae fe 'n agoryd ei feddwl fal hin. Nid am na ddylid gwella y pethau hyn fal y gallo y bobl ddywedyd Amen i'r hyn y maent yn ei ddeall yn dda: ond etto rhaid yw dwyn gyda 'r holl bethau duwiol hyn, ar ddwylo y catecheiſwyr ymma ac athrawon y ffydd: fal y gallont ddeall megis mewn dadleudŷ, y mae daioni y ddadl yn ſefyll yn y ſain, felly ei fod yn yr Eglwys yn ſefyll mewn defoſiwn. Fal nad ydyw ef yn fodlon i neb weddio mewn iaith nis deallo: ond mae fe 'n dyſcu y dadleuwr neu araithiwr cyfarwydd, i ddwyn gyda thafod annyſcedig, anghyfarwydd y gwenhidawg crefyddgar, diddrwg: I grynhoi y cwbl os gwna diffyg deall y geiriau a ddywedir yn y gynulleidfa fod y geiriau yn an ffrwythlon i'r gwrandawyr: paham na wna yr vn peth y geiriau a ddarllenir yn anffrwyddlon i'r darllenudd?

Trugarog ddaioni Duw, a ganniatao ini rad i alw arno megis y dlyem, i'w ogoniant ef, a'n didrāgc ddedwyddwch ninnau. Yr hyn y wnawn ni os ymoſtyngwn ein hunain yn ei olwg ef: ac os bydd ein medd wl ni, yn ein holl weddiau cyffredinol a neilltuol, gwedy eu goſod yn hollol arno ef. O herwydd gweddi y goſtyngedig a aiff trwy y cymylau, ac nis diddenir hi nes dyfod yn agos at Dduw, nid ymmedy hi nes i'r goruchaf edrych arui hi, a gwared y cyfion a gwneuthur barn. Iddo ef am hynny y byddo anrhydedd a gogoniant, yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Addyſc i'r rhai ſydd yn cymmeryd rhwyſtro blegid rhyw leoedd o'r Scruthyrau ſanctaidd, y rhan gyntaf.

FYngharedigion, nid oes calon neb yn abl yn gwbl i ymgyffryd y mawr fudd a'r enill yr hwn a all gwŷr a gwragedd Chriſtionogaidd ei dderbyn os mynnant, wrth wrando a darllen yr Scruthyrau ſanctaidd, llai o lawer y gall fynhafod i draethu hynny â geiriau.

Am hynny pan welodd ſathan ein gelyn ni mai r' Scruthyrau yw 'r ffordd a'r iniawn lwybr i ddwyn y bobl i wir wybodaeth am Dduw, a bod yn halaethu ffydd a chrefydd Griſt yn fawr dros bên wrth ei gwrando a'i darllen hwy yn ddieſcaelus: wrth weled hefyd pa fath rwyſtrau ydynt iddo ef a'i deyrnas, mae fe yn gwneuthur a allo ar na ddarllener hwy yn Eglwys Dduw.

Ac er mwyn hyn fe a gyffrôdd i fynu mewn vn lle neu gilydd dyraniaio creulon, erlid wyr llyminion, a dygyn elynnion i Dduw a'i wirionedd an-nhwyllodrus, i dynnu ymmaith trwy rym y Beibl ſanctaidd oddiwrth y bobl, y rhai hefyd o wir genfigen a ddiniſtraſant ac a ddifaſant y llyfrau hynny â than yn lludw: gan gymmeryd arnynt yn dwyllodrus, fod mynych wrādo a darllen gair Duw yn achos o hereſiau a chnawdol rydddid, a llwyr ddiniſtr pob trefn daionus ym-mhob gwlâd a dinas hydrefn. Os achos o ddrygioni yw adnabod Duw yn gywir, yno mae 'n rhaid ini addef fod gwrandaw a darllen yr Scruthyrau ſanctaidd yn achoſion hereſi, rhydd-did cnawdol, a llwyr ddiſtryw pob trefn ddaionus. Ond mae adnabod Duw a ni ein hunain mor bell oddiwrth fod yn achos drygioni, ac y mae yn ffordd barottaf ie ac yn vnic lwybr i ffrwyno ein holl rydd-did cnawdol ni, ac i ladd holl wyniau ein cnawd ni.

A'r llwybr arferol i gael y cydnabyddiaeth hyn yw gwrando a darllen yn ddieſcaelus yr Scruthyrau ſanctaidd. O herwydd fal y dywaid Pawl, 2. Timoth. 3. 16. mae 'r holl Scruthyrau gwedy eu rhoddi gan Yſprydoliaeth Duw. Ac a dybygwn ni, Griſtionogion, y gallwn ni ddyſcu adnabod Duw a ni ein hunain, yn gynt neu yn well yn ſcrifennadau vn dŷn daiarol, nac yn yr Scruthyrau ſanctaidd, a ſcrifennwyd trwy yſprydoliaeth yr Yſpryd glân? O herwydd ni ddygwyd yr Scruthyrau attom ni trwy awenydd dŷn, eithr dynnion ſanctaidd Duw a ddywedaſant megis y cynhyrfwyd 2. Pet 1. 11. hwy gan yr Yſpryd glân. A'r Yſpryd glân yw athro y gwirionedd yr hwn ſydd, fal y dywaid ein Iachawdwr Chriſt, yn tywys ei ſcwlheigion i bôb gwirionedd. Aphwy bynnac ni ddyſcir ac ni thywyſir Ioan. 16. 13. gan yr athro ymma, ni ddichon ef na chwympo i gamſynniaid dwfn, er mor dduwiol y byddo yn cymmeryd arno fod, pa wybodaeth a dyſc bynnac a fytho gantho ym-mhob gweithredoedd ac ſcrifennadau eraill er tecced y fytho 'r olwg ar ei athrawiaeth ef, ac e'r tebycced fo i wirionedd ymmarn y byd.

Os dywaid neb y dymunai gael gweled gwir ddull a phortreiad perffaith ar fywyd iniawn cymmeradwy gan Dduw, pa le dybygwch chwi, y gallwn ni gael gwell bortreiad na bywyd Ieſu Griſt a'i athrawaeth, neu gyffelyb iddynt, yr hwn y mae yr Scruthyrau yn paentio ac yn goſod allan ei ymddygiad rhinweddol a'i fywyd duwiol mor eglur ymlaen ein llygaid ni, fal wrth edrych ar y portreiad hwnnw y gallom lunio a ffurfio. diwgadu ein bywyd cy neſed ac y gellir yn gyfun â'i berffeiddrwydd ef. Byddwch ddilynwyr i mifi, medd S. Paul, 1. Cor. 11. 1. megis yr ydwyfi i Griſt. Ac mae Ioan S. yn dywedyd y dlyai yr hwn a arhoſo ynghriſt felly rodio megis y rodiodd yntef. A pha le y dyſcwn ni drefn 1. Ioan. 2. 6. bywyd Chriſt ond yn yr Scruthyrau.

Vn arall a fynnai gael meddiginiaeth i iachau pob clefyd ac afiechyd yn y meddwl. A ellir cael hynny mewn lle yn y byd ond yn llyfr Duw a'i Scruthyrau ſanctaidd ef? Fe ddangoſodd Chriſt hyn pan ddywad wrth yr Iddewō yſtyfnig, Chwiliwch yr Scruthyrau, o herwydd yndynt yr ydych Ioan. 5. 39. yn gobeithio cael bywyd tragwyddol. Os ydyw 'r Scruthyrau yn cynwys yndynt fywyd tragwyddol mae 'n rhaid canlyn fod yndynt gyfarwyddyd hefyd yn erbyn pob peth ac ſydd yn ein Attal. rhagod neu yn ein rhwyſtro ni i fywyd tragwyddol.

Os byddwn yn chwenychu gwybod doethineb nefol, pa ham mai gwell gennym ei dyſcu hi gan ddŷn na chan Dduw ei hun, yr hwn, fal y dywaid S. Iaco, yw rhoddwr doethineb? Ie pa ham nas Iac. 1. 5. dyſcwn hi o enau Chriſt ei hun, yr hwn a addawodd fod yn breſennol gyda ei Eglwys hyd diwedd y byd, ac ſydd yn cyflawni ei addewid, nid yn vnig am ei fod ef gydâ ni â'i râd a'i fawr drugaredd, ond hefyd am ei fod ef yn dywedyd yn breſennol wrthym yn ei ſcruthyrau ſanctaidd, i fawr a didranc ddiddanwch pawb ac ſydd a dim blas am Dduw yndynt? Ie mae fe 'n awr yn ei Scruthyrau yn dywedyd yn fuddiolach ini o lawer nag y dywad ef â geiriau ei enau wrth yr Iuddewon cnawdol, pan ydoedd ef yn fyw gyda hwy ar y ddaiar. O herwydd ni fedrent hwy (yr Iddewon ydwyf yn eu meddwl) na chlywed na gweled y pethau a allwn ni yn awr eu clywed a'u gweled, os dygwn gydâ ni y cluſtiau a'r llygaid y clywir ac y gwelir Chriſt â hwy; hynny yw dieſcaeluſrwydd i wrando ac i ddarllen ei Scruthyrau ſanctaidd ef, a gwir ffydd i gredu ei ddiddanus addewidion ef.

Pe gallai vn ddangos dim ond ol troed Chriſt, yr ydwyf yn tybied y cwympe lawer i lawr ac yr addolent: ond i'r Scruthyrau ſanctaidd, lle os mynnwn y gallwn weled beunydd, nid ydwyf yn dywedyd ol ei draed ef yn vnic, ond ei holl lun a'i fywiol agwedd ef, och nid ydym ni yn rhoddi ond ychydig neu ddim parch: pe dangoſai neb bais Chriſt ini fe gymmerai lawer o honom boen fawr neu ninnau a fynnem ddyfod yn agos i edrych arni, ac i'w chuſanu hi hefyd: ac etto ni all yr holl ddillad a wiſcodd ef er ioed ei oſod ef allan mor fywiol ac mor gywir ac y mae 'r Scruthyrau.

Mae llawer er mwyn y cariad y maent yn ei ddwyn at Ghriſt yn trwſio ac yn harddu delwau Ghriſt, a wnair â choed a cherrig neu fettel, â thlyſau, ac aur, a meini gwerthfawr: ac oni ddlyem ni, fy - mrodyr anwyl, yn fwy o lawer gofleidio a pherchi ſanctaidd lyfrau Duw y Beibl cyſſegredig, yr hwn ſydd yn dangos llun Chriſt yn fywiolach ini nag y dichon vn ddelw? ni ddichon delw ond dangos Dull, ffurf. diwgad a llun ei gorph ef, os gall hi wneuthur hynny: ond mae 'r Scruthyrau yn goſod Chriſt allan yn y fath fodd ac y gallwn ni weled Duw a dŷn, ni a allwn ei weled ef, meddaf, yn dywedyd wrthym, yn iachau ein gwendid ni, yn marw dros ein pechodau ni, yn cyfodi o feirw er ein cyfiawnhau ni. Ac ar ychydig o airiau ni allwn yn yr Scruthyrau weled Chriſt oll ei gyd mor gyflawn â llygaid ffydd, fal na allem ni byth heb ffydd ei weled ef â'n llygaid corphorol mor gyſlawn, pe byddai fe ymma yn ein myſc ni yn brefennol.

Chwenyched am hynny a dymuned gwyr, gwragedd a phlant yn eu holl galonnau yr Scruthyrau ſanctaidd: carent hwy, braicheidient hwy, goſodent eu ewyllys a 'u meddyl-fryd ar eu gwrando a'u darllen hwy, fal ar y diwedd y'n ffurfer ac y'n troer ni iddynt hwy. O herwydd tryſordy Duw yw 'r Scruthyrau ſanctaidd, lle ceffir pob peth rheidiol ini ei weled, ei glywed, ei ddyſcu a'i gredu, ac anghenrhaid i feddiannu bywyd tragwyddol. Hynny a ddywedwyd er rhoddi i chwi damed prawf o 'r ennill a ellwch chwi ei dderbyn wrth wrando a darllen yr Scruthyrau ſanctaidd. O herwydd, fal y dywedais yn y dechreuad, ni ddichon vn tafod fanegi na thraethu 'r cwbl. Ac er bod yn eglurach nâ goleu 'r dydd mai anwybod yn yr Scruthyrau yw achos pob Amryfyſedd. camſynnaeth, fal y dywad Chriſt wrth y Saducęaid, yr ydych mewn amryfyſedd am na wyddoch yr Scruthyrau. Ac Math. 22. 29. mae 'r amryfyſedd hynny 'n cadw 'n ol ac yn tynnu dynnyon ymmaith oddiwrth wybodaeth Duw. Ac fal y dywaid S. Ierom, bod heb wybod yr Scruthyrau yw bod heb nabod Chriſt.

Etto er hyn mae rhai yn tybied nad cymheſur i bob rhyw o ddynion ddarllen yr Scruthyrau, am eu bod hwy, fal y dywedant, mewn amryw leoedd yn fain trangwydd i'r an-nyſcedig: yn gyntaf am fod ymadrodd yr Scrythur mor ddiſyml mor Drwſel, arw. anghymmen ac mor blaen, fal y mae yn faen tramgwydd i lawer o ſynhwyrau eſcud dynion moethus. Hefyd am fod yr Scruthyr yn dywedyd i'r rhai a ganmoler megis plant Duw wneuthur llawer o weithredoedd a rhai o honynt yn erbyn cyfraith naturiaeth a rhai yn erbyn y gyfraith ſcrifennedig, a rhai a dybygid eu bod yn ymladd yn oleu yn erbyn honeſtrwydd cyffredinol. Mae'r holl bethau hyn, meddant, yn achoſion o dramgwydd mawr i'r diddrwg, ac yn peri i lawer dybied yn ddrwg am yr Scruthyrau ac i anghredu eu hawdurdod hwy.

Mae rhai 'n anfodlon i wrando ac i ddarllen yr Scruthyr lân o blegid amryw ddeddfau a Ceremoniau, aberthau ac offrymmau 'r gyfraith. Ac mae gwyr call mewm ſynwyr bydol yn tybied fod rhoddi cluſt i reolau a gorchymmynion golau diſyml ein Iachawdwr Chriſt yn yr Efangyl, yn rhwyſtrau mawr i lywodraeth lonydd ſynhwyrol eu gwledydd, megis yn digio pan glywant fod yn rhaid i ddŷn droi ei gluſt dehau at yr vn a'i tarawo ar yr aſwy, a chynnyg ei glôg i'r hwn a geiſiai ddwyn ei bais oddiarno: a'r fath ymadroddion eraill o berpheiddrwydd ym-meddwl Chriſt. O herwydd mae rheſwn cnawdol, gan ei fod yn waſtad yn elyn i Dduw ac heb yſtyried y pethau ydynt o Yſpryd Duw, yn caſhau y fath orchymmynion, y rhai pe deallid hwy yn dda ni wanhaent ly wodraeth farnol na llywiawdwriaeth Chriſtionogion.

Ac mae rhai pan glywant yr Scruthyrau yn peri ini fyw yn ddiofal heb fyfyrio na rhagfwriadu, yn gwatwaru eu diſymldra hwy. Am hynny er mwyn ſymmud a throi heibio y fath rwyſtrau yn neſſaf ac y gallom, mi a attebaf i'r gwrth ymadroddion ymma, y naill ar ol y llall.

Yn gyntaf mi a adroddaf rai o'r lleoedd a dramgwyddir wrthynt o blegid diſymlder ac anghymhēdod yr ymadrodd, ac a ddangoſaf eu hyſtyr hwy.

Mae 'n ſcrifennedig yn llyfr Deuteronomium i'r Holl-alluog Dduw wneuthur cyfraith, Os byddai ŵr farw yn ddieppil fod i'w frawd neu ei garwr neſaf briodi ei weddw ef, a bod yn galw y plentyn cyntaf a enid rhyngthynt hwy yn blentyn i'r hwn a fuaſai farw, rhag deleu enw y marw allan yn Iſrael. Ac os y brawd neu'r carwr noſaf a wrthodai briodi y weddw, yno bod iddi hi dynnu ei eſcid ef ymlaen llywodraethwyr y ddinas, a phoeri yn ei wyneb ef, gan ddywedyd, felly y gwneler i'r gwr nid adailado dŷ ei frawd. Ymma, fyngharedigion, Ceremoniau oedd dynnu ei eſcid ef, a phoeri yn ei wyneb ef, i arwyddhau i holl bobl y ddinas nad y wraig oedd ar y bai am dorri gorchymmyn Duw yn hyn o beth, ond bod y bai a'r cywilydd yn cwympo ar y gŵr hwnnw yr hwn yn gyhoeddus ym-laen llywodraethwyr a wrthododd ei phriodi hi. Ac nid oedd hyn yn warth iddo ef yn vnic, ond ar ei holl eppil yn ei ol ef hefyd: o blegid hwy a elwid ar ol hynny byth, ty yr hwn a dynnwyd ei eſcid.

Lle arall o'r Pſalmau ſydd fal hyn, Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol a chyrn y rhai cyfiawn Pſal. 75. 10. a dderchafir.

Wrth gorn yn yr Scruthur y deallir grym gallu, nerth ac weithiau rheolaeth a llywodraeth. Mae 'r Prophwyd wrth hynny wrth ddywedyd, Torraf gyrn yr annuwiolion, yn meddwl na wanheir hwy yn vnig ac na wnair yn vnic yn egwnan nerth a grym a gallu gelynion Duw, ond yn dywedyd y torrir ac y diſtrywir hwy yn gwbl er bod Duw dros amſer yn eu goddef hwy i orchfygu ac i gael y llaw oreu er mwyn profi ei bobl yn well. Fe a ddywedir yn 132. Pſalm, Mi a baraf i gorn Dafydd flaguro. Ymma y mae corn Dafydd yn arwyddoccau ei deyrnas ef. Am hynny wrth y fath ymadroddion y mae Duw yn addo rhoddi i Ddafydd oruwchafiaeth ar ei holl elynnion. Pſal. 132. 17. Ac mae 'n ſcrifennedig. Pſal. 60. Moab yw fynghrochan golchi, ac ar Edom y taflaf fy eſcid, &c. Yn yr hwn le y mae 'r prophwyd yn dangos mor raſſol y gwnelſai Dduw â'i bobl plant yr Iſrael, gan roddi iddynt oruwch afiaeth fawr yn erbyn eu gelynnion o'u hamgylch. O herwydd er bod y Moabiaid a'r Idumeaid yn ddwy genhedlaeth fawrion; yn bobl failchion yſtyfnig alluog, fe a'u daroſtyngodd hwy, ac a'u gwnaeth yn weiſion i'r Iſraeliaid, yn weiſion meddaf i ymoſtwng iddynt, ac i dynnu eu heſcidiau, ac i olchi eu traed hwy. Moab am hynny yw fy-nghrochan golchi, ac ar Edom y taflaf ſy eſcid: yw cymmaint a phe dywedaſai efe, er balched oedd y Moabiaid a'r Idumeaid yn ein herbyn ni yn yr anialwch, hwy a wnaeth p wyd yn awr yn ddeiliaid, yn weiſion ie yn gaethion ini, i dynnuein eſcidiau ac i olchi ein traed ni.

Yn awr adolwg, pa anweddaidda-dra ſydd yn y fath ymadrodd ac yw hwn, yr hwn a arferir felly mewn arfer gyffredinol ym-myſc yr Hebreaid? Mae 'n gywilydd fod Chriſtionogion mor yſcafn eu pennau, a gwatwaru megis coegwyr ary fath ymadrodion, y rhai a adroddir gan yr Yſpryd glân mewn yſtyrdwys da? Rheſymmolach fyddai i wyr ofer ddyſcu perchidull ymadroddion geiriau Duw, nâ'u gwatwar hwy felly i'w damnedigaeth eu hunain.

Mae rhai hefyd yn trangwyddo wrth glywed fod gan y tadau duwiol lawer o wragedd a gordderchadon. Er bod gordderch (yn ol ymadrodd yr Scruthyrau) yn enw honeſt: o herwydd yr oedd pob gordderch yn wraig gyfraithlon, er nad oedd pob gwraig yn ordderch. Fal y galloch ddeal hyn yn well gwybyddwch fod yn goddef i'r tadau o'r hên Deſtament gael er vnwaith fwy o wragedd nag vn: am ba achoſion chwi a gewch glywed ar ol hyn. O'r gwragedd hyn fe a anefid rhai yn rhyddion a rhai oeddynt gaethwragedd a morwynion. Yr oedd 'ir wraig rydd ragoriaeth oddiar y morwynion a'r caethwragedd: y wraig rydd o anedigaeth a wnaid trwy briodas yn lly wodraethwraig ar y tŷ dan y gwr, a hi a alwid yn feiſtres neu wraig y tŷ, a thrwy ei phriodas yr oedd iddi deitul a chyſiawnder a pherchennogaeth yn holl dda yr hwn a'i priodaſai hi. Morwynion a chaethwragedd eraill a roddid gan eu perchenogion nid ydwyf yn dywedyd bob amſer, ond fynychaf i'w merched ar ddydd eu priodioſau i fod yn llawwynion iddynt. Yn y modd hwn y rhoddodd Pharao brenhin yr Aipht Agar yr Aiphties i Sara gwraig Abraham i fod yn forwyn iddi. Felly y rhoddodd Laban Zilpha i'w ferch Lea ar ddydd ei phriodas i fod yn forwyn iddi. Ac i Rachel y ferch Gen. 29. 24. arall fe a roddodd Bilhah i fod yn llaw forwyn iddi.

A'r gwragedd y rhai oeddynt berchennogion ar eu llawforwynion a'u rhoddent hwy mewn priodas i'w gwyr ar amryw achoſion: fe a roddes Sara ei morwyn Agar mewn priodas i Abraham. Yr vn modd y rhoddes Lea i morwyn Zilpha Gen. 16. 1. i'w gŵr Iacob: felly y rhoddes Rachel ei Gen. 30. 3, 9. wraig arall ef Bilha ei llawforwyn hithau iddo ef, gan ddywedyd, dôsi mewn etti, a hi a blanta ar fyngliniau fi: fal pe dywedaſai, cymmer hi yn wraig, a'r plant a ddygo hi mifi a'u cymmeraf ar fy arffed ac a wnaf iddynt megis pe byddynt plant imi fy hun.

Er gwneuthur y llawforwynion neu 'r caethwragedd hyn yn wragedd trwy briodas, etto ni chawſont hwy fraint i reoli 'r tŷ, ond yr oeddynt yn waſtad tan waſanaerh ac mewn caethiwed i'w meiſtreſi, ac ni alwyd hwy er ioed yn fammau 'r tolwyth yn faeſtreſi neu 'n wragedd y ty: ond hwy a elwyd weithiau yn wragedd, weithiau yn ordderchadon.

Fe oddefwyd amledd o wragedd i dadau 'r hên Deſtament trwy ragoriaeth yſpyſawl, nid er mwyn cyflawni eu chwantau cnawdol, ond er mwyn cael amledd blant, o herwydd bod pob vn o honynt yn gobeithio ac yn ceiſio yn fynych yn eu gweddiau gan Dduw ar i'r hâd bendigaid a addawſai Dduw y dawai i dorri pen y ſarph, ddyfod a geni o'u llwyth hwy a'u tylwyth hwy.

Yn awr am y rhai a gymmerant achoſion o chwant cnawdol a bywyd anllad wrth wrando a darllen yn llyfr Duw y pethau a oddefodd Duw yn y gwyr y mae eu clod yn yr Sruthyr, megis i Noah, yr hwn y mae S. Petr yn ei alw yn 2. Pet. 2. 5. bregethwr cyfiawnder fod mor feddw ar wîn, fal yn ei gŵſc y dinoethodd ef ei ddirgelion ei hun. Gen. 9. 21.

Fe a feddwodd Lot gyfion hefyd yn yr vn modd, Gen. 19. 33, 35 ac yn ei feddwdod fe a orweddodd gydâ 'i ferched ei hun yn erbyn cyfraith nattur.

Ac fe fu i Abraham hefyd (yr hwn yr oedd ei ffydd gymmaint ac y bu ef deilwng o'i phlegid hi i'w Gen. 17. 5. alw trwy enau Duw ei hun yn Dâd llawer o genhedloedd ac yn Dâd y ffyddloniaid) heblaw ei Ruf. 4 17. wraig Sara, gydnabyddiaeth gnawdol â Hagar llawforwyn Sara. Gen. 16. 4.

Yr oedd i'r Patriarch Iacob ddwy chwiorydd yn wragedd iddo ar yr vn amſer. Ac yr oedd i'r Gen. 29. Prophwyd Dafydd ac i'w fâb ef brenin Salomon lawer o wragedd a gordderchadon, &c. Yr hyn bethau a welwn eu gwahardd ini yn oleu wrch gyfraith Duw, ac ydynt yn wrthwyneb i honeſtrwydd cyffredinol.

Fe ſcrifennwyd y pethau hyn a'r fath bethau, fy-ngharedigion, yn llyfr Duw, nid er mwyn i ninnau wneuthur y cyffelyb, a chanlyn eu ſiamplau hwy, neu o blegid y dylem ni dybied fod Duw yn fodlon i'r fath bethau mewn dynion, ond ni a ddylyem gredu a barnu i Noah yn ei feddwdod ddigio Duw yn fawr, ac i Lott wrth gydorwedd â'i ferched wneuthur lloſc-âch ffiaidd.

Wrthynt hwy am hynny y dylyem ddyſcu y wers fuddiol hon. Oni alle wŷr mor dduwiol ac oeddynt hwy y rhai a glywent oddifewn ſanctaidd Yſpryd Duw yn fflammychu yn eu calonnau, gydag ofn a chariad Duw, ymgadw trwy eu grym eu hunain oddiwrth wneuthur pechod Erchyll. echrydus, onid cwympo o honynt mor aruthrol, fal heb fawr drugaredd Duw na allent lai na chael colledigaeth dragywydd: pa faint mwy y dlyem ni nychmeriaid truain, y rhai nid ydym oddife ŵn yn clywed vn cyffroad am Dduw, ofni yn waſtadol, nid yn inic rhag cwympo fal y gwnaethant hwy, ond ein Gorchfygu. gormeilio a'n boddi mewn pechod: yr hyn nis gwnaethant hwy? Ac felly cymmeryd achoſion trwy eu cwymp hwy i gydnabod ein lleſcedd a'n gwendid ein hunain, ac am hynny i alw yn ddifrifach ar yr holl-alluog Dduw â gweddi daer ddieſcaelus, am ei râd efer ein cadarnhau ni a'n amddiffyn oddiwrth bob drwg. Ac er digwyddo ini gwympo ryw aniſer trwy wendid, etto y gallwn trwy etifeirwch o 'n calonnau a gwir ffydd yn ebrwydd gyfodi ailwaith, heb gyſcu ac aros mewn pechod fal y gwna y drygionus.

Fal hyn (bobl dda) y gallwn ddeall y fath bethau a oſodir yn yr Scruthyrau duwiol, fal na throer bwrdd ſanctaidd gair Duw yn fagl, neu yn llindag, neu yn faen trangwydd, er ein drygu ni trwy gamarfer ein deall. Ond gwnawn iddynt y fath oſtyngedig barch, fal y gallom gael ein hymborth anghenrheidiol yndynt, i'n cryfhae ac i'n cyfarwyddo ni, fal y goſododd Duw hwy o'i fawr drugaredd, yn ein holl orch wylion rheidiol, fal y bythom perffaith o'i flaen ef trwy holl dreigl ein bywyd. Yr hyn a ganniatao ef i ni yr hwn a'n prynodd ni, ein Harglwydd a'n Iachawdwr Ieſu Griſt. I'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yſpryd glân y bô holl anrhydedd a gogoniant yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Yr ail ran o'r addyſc i'r rhai a rwyſtrir o blegid rhyw leoedd o'r Scruthyr ſanctaidd.

CHwi a glywſoch, bobl ddaionus, yn yr Homili ddiwethaf a ddarllenwyd i chwi, fawr fudd yr Scruthyrau ſanctaidd. Chwi a glywſoch pa fodd y mae dynion anwybodus heb ddeall duwiol ynddynt yn ceiſio cwerylon i'w diyſtyru hwy. Chwi a glywſoch atteb rhai o'u rheſymmau hwy.

Ni awn yn awr yn ein blaen ac a ſoniwn am y gwŷr call llywodraethus y rhai a rwyſtrir o blegid parablau Chriſt, y rhai a dybygir eu bod yn deleu pob trefn mewn llywodraeth, ac maent yn goſod yn lle ſiamplau rai o'r fath hyn.

Os tery neb di ar dy gluſt ddehau, tro 'r aſſwy atto ef hefyd. A phwy bynnac a ddygo dy bais oddiarnad, dyro dy glog hefyd iddo. Na wyped Mat. 5. 39. Mat. 6. 3. Mat. 18. 8, 9. dy law aſſwy y peth y mae dy law ddehau yn ei wneuthur. Os dy lygad dy law neu dy droed a'th rhwyſtra di, tyn allan dy lygad, torr ymmaith dy law, dy droed, a thafl oddiwrthyd. Os dy elyn a newyna, medd S. Pawl, portha ef, os ſycheda ef, dôd iddo ddiod: Ruf. 12. 20. canys os gwnai hyn ti a bentyrri Rhyſod. farwor tanllyd am ei ben ef.

Fe a dybygid, bobl ddaionus, yngolwg gŵr naturiol fod yr ymadroddion hyn yn anghyfleus ac yn wrthwyneb i bob rheſwn. O herwydd, fal y dywaid S. Pawl, nid ydyw y gwr naturiol yn deall y pethau ſydd o Yſpryd Duw, ac ni ddichon ef 1 Cor. 1. 14. yr hyd y bytho yr hên Adda yn aros ynddo. Mae Chriſt am hynny yn meddwl y mynnai ef ei weiſion ffyddlon mor bell oddiwrth ddial a gwrthladd camwedd, ac y mynnai yn hytrach id dynt fod yn barottach i oddef cam arall, na thrwy wrthod cam torri cariad, a bod yn anoddefus. Fe fynnai fod ein holl orchwylion ni mor bell oddiwrth bob bwriadau cnawdol fal na fynnai ef fod ein cymmydeithion neſaf ni yn gwybod oddiwrth ein gorchwylion da ni, i ennill gwag-ogoniant: a phe byddai ein cyfeillion a'n ceraint mor anwyl gennym a'n llygaid a'n dwylaw dehau, etto os mynnent ein tynnu oddiwrth Dduw ni a ddlyem ymadel â hwynt a'u gwrthod.

Fal hyn os mynnwch fod yn wrandawyr ac yn ddarllenwyr byddiol o'r Scruthyrau ſanctaidd, rhaid i chwi yn gyntaf, ymwadu â chwi eich hunain, a daroſtwng eich ſynhwyrau cnawdol, y rhai ni ddeallant ond y geiriau oddiallan, heb chwylio 'r yſtyr oddifewn. Rhodded rheſwm le i ſanctaidd Yſpryd. Duw: daroſtyngwch eich doethineb a'ch barn fydol, i'w ddoethineb a'i farn dduwiol ef. Yſtyriwch mai gair y bywiol Dduw yw'r Scruthyr, mewn pa ymadrodd dieithr bynnag y traether hi. Dawed hynny yn waſtad i'ch côf chwi, yr hyn y mae y Prophwyd Eſai mor fynych yn ei adrodd, Geneu 'r Arglwydd, medd ef, a'i dy wad, Yr holl alluog a'r tragwyddol Dduw yr hwn a'i inig air a wnaeth nef a daiar a'i cyfarwyddodd ef: Arglwydd y lluoedd, ffyrdd yr hwn ſydd yn y moroedd a'i lwybrau ynnyfnder y dyfroedd, Yr Arglwydd a'r Duw trwy air yr hwn y gwnaethpwyd, y lly wodraethir ac y cedwir yr holl bethau ſydd yn y nef ac ar y ddaiar, a ddarparodd fod hyn felly. Duw y duwiau Arglwydd yr Arglwyddi ie y Duw yr hwn ſydd vnig Dduw anymgyffred, holl-alluog, a thragwyddol, efe a'i dywad, ei air ef ydyw hyn: Ni ddichon am hynny fod amgen na gwirioned yr hyn ſydd yn dyfod oddiwrth Dduw 'r holl wirionedd. Ni ellir na byddir gwedy gorchymmyn yn gall ac yn ddeallus y peth a ddychymmygodd yr Holl-alluog Dduw, er ofered y tybygom ac y barnom ni gaethwyr truain (o aiſiau grâs) am ei ſanctaiddiaf air ef. Mae 'r Prophwyd Dafydd wrth bortreio ini ddŷn llwyddiannus yn dywedyd, Gwyn ei fŷd y Pſal. 1. 1. gwr ni rodiodd ynghyngor yr annuwiolion, ac ni ſafodd yn ffordd pechaduriaid ac nid eiſteddodd yn eiſteddfa gwarwarwyr. Mae tri rhyw o bobl y rhai y myn y prophwyd i wr a fynno bod yn llwyddiannus ac yn gyfrannog o fendithiau Duw wachelyd ac ymgadw rhag eu cymdeithas.

Yn gyntaf, nid oes iddo rodio yn ol cyngor yr annuwiol.

Yn ail, nid oes iddo ſefyll yn ffordd pechaduriaid. Ac yn drydydd, nid oes iddo eiſtedd yngor ſeddfa gwatwarwyr.

Wrth y tri rhyw hyn o bobl, annuwiolion, pechaduriaid, a gwatwarwyr, yr arwyddocair ac y goſodir i lawr yn oleu bob math ar ddrygioni.

Wrth yr annuwiol y mae fe 'n deall y rhai nid yſtyriant yr holl-alluog Dduw, ac ſydd heb ffydd ganthynt, y rhai y mae eu calonnau a'u myfyriadau wedy eu goſod ar y byd fal y maent yn vnig, yn myfyrio am ddwyn i bên eu gorchwilion bydol, eu dychymygion cnawdol, eu chwantau a'u trachwantau brynton, heb ddim ofn Duw.

Yr ail rhyw y mae fe 'n eu galw 'n bechaduriaid: nid y rhai a gwympant trwy anwybod neu wendid, o herwydd felly pwy fyddai rydd? pwy wr a fu ar y ddaiar er ioed onid Chriſt ei hun, yr hwn ni phechodd? Mae 'r cyfion yn cwympo ſaith waith yn y dydd ac yn cyfodi ailwaith. E'r body duwiol yn cwympo etto ni rodiant mewn pechod o wir fwriad, ni ſafant ac nid arhoſant mewn pechod yn waſtad, nid eiſteddant i lawr megis rhai diofal, heb ofni cyfion goſp Duw ani bechod: ond gan ffieiddio pechod trwy fawr râs ac aneirif drugaredd Duw, maent yn cyfodi ailwaith, ac yn ymladd yn erbyn pechod. Mae 'r proyhwyd felly yn galw 'n bechaduriaid y rhai y trowyd eu calonnau yn hollol oddiwrth Dduw, a'r rhai nid yw eu holl fywyd a'u hymar weddiad onid pechod. Maent yn ymfodloni cymmaint ynddo fal y maent yn dewis aros a thrigo yn waſtad mewn pechod.

Y drydedd ryw y mae fe 'n ei galw 'n watwarwyr: hynny yw rhyw o ddynnion y rhai y mae eu calonnau wedy eu llenwi a chenfigen: fal nad ydynt yn fodlon i aros yn inig mewn pechod ac i ddwyn eu bywyd ymhob rhyw o ddrygioni, ond hefyd yn diyſtyru, ac yn gwatwar mewn eraill bob duwioldeb, a gwir fuchedd, bod honeſtrwydd a rhinwedd.

Am y ddau rhyw gyntaf o ddynion ni ddywedaf na allant etifaru a throi at Dduw: ond am y drydedd yr ydwyf yn tybied y gallaf heb berigl barn Duw gyhoeddi na throdd vn o honynt er ioed etto at Dduw drwy edifeirwch, ond iddynt aros yn waſtad yn eu drygioni ffiaidd gan gaſclu iddynt eu hunain ddamnedigaeth erbyn dydd anwacheledig farn Duw.

Yr ydym yn darllen ſiamplau o'r fath watwarwyr yn ail Lyfr y Croniclau, Pādarodd i'r brenin 2. Cro. 3. 10. da Ezechias yn-echrau ei deyrnaſiad ddiniſtr delw-addoliad, purhau y deml ac iniawni crefydd yn ei deyrnas: fe anfonodd genadon i bob dinas, i gynull y bobl i Ieruſalem, i gynnal gwyl y paſc, yn y modd yr ordeiniaſai Dduw. Fe aeth y redegwyr o ddinas i ddinas, trwy dir Ephraim a Manaſſes hed yn Zabulon: a pha beth a wnaeth y bobl meddwch chwi? a glodforaſant ac a folianaſant hwy enw 'r Arglwydd, yr hwn a rhoeſai iddynt gyſtadl brenin, a thywyſog cymmaint ei zeal i ddiniſtr delw-addoliad ac i adferu gwir grefydd Dduw? na ddo naddo, ond medd yr Scruthur hwy a ſennaſant ac a watwaraſant genadon y brenin.

Ac mae 'n ſcrifennedig yn y bennod ddiwethaf or vn llyfr i'r holl-alluog Dduw gan doſtyrio wrth Pen. 36. 15, 16. ei bobl ddanfon ei genadon y prophwydi attynt, i'w galw hwy oddiwrth eu ffiaidd ddelw-addoliad, a'u melltigedig fywyd. Ond hwy a watwaraſant ganadon Duw, gan ddirmygu ei airiau fe a gwneuthur yn drahaus a'i brophwydi ef, nes cyfodi o ddigofaint yr Arglwydd yn eu herbyn hwy fal nad oedd Iechyd: canys fe a rhoddodd hwy i fynu i ddwylo ei gelynnion, ie i ddwylaw Nabuchadnazer Brenin Babilon yr hwn a yſpeiliodd eu da hwy, a loſcodd eu dinas hwy ac a 'i Dygodd. dug hwy a'u gwragedd a'u plant yn gaethion i Babilon.

Ni wnaethy bobl ddrwg oedd y nnyddiau Noah ond gwatwar o air yr Arglwydd, pan dywedodd Noah wrthynt y dialai yr Arglwydd arnynt am ei pechodau. Am hynny y daith y diluw yn ddiſyndod arnynt ac a'u boddod hwy a'r holl fyd.

Fe bregethodd Lott i'r Sodomiaid onid etifarent y diſtriwyd hwy a'u dinas, Hwy a gyfrifaſant ei ymmadroddion ef megis pethau ni allent fod yn wir, hwy a ſennaſant ac a watwaraſant ei rhybyddion ef, ac a'i cyfrifaſant ef megis hen ffol diſynwyr. Ond pan darodd i Dduw trwy ei angel ſanctaidd, gymmeryd Lot a'i wraig a'i ddwy ferched o'u plith hwy, fe lawiodd o'r nef dan a brwmſton ac a loſcodd y ſenwyr a'r gwatwarwyr hynny o'i ſanctaidd air ef.

A pha gyfrif oedd o athrawiaeth Chriſt ymmyſc yr ſcrifenyddion a'r Phariſaeaid? Pa wobr y gafas ef yn ei myſc hwy? Mae 'r efangil yn adrodd fal hyn: yr oedd y Phariſaeaid trachwantus yn ei watwar ef yn ei athrawiaeth. Oh wrth hyn chwi a welwch fod gwyr doethion bydol yn gwatwar athrawiaeth eu Iachawdwriaeth. Mae doethion y byd hwn yn gwatwar athrawiaeth Chriſt megis ffolineb yn eu deall hwy. Fe fu y gwatwarwyr hyn er ioed ac hwy a fyddant byth hyd diwedd y byd. O herwydd mae S. Peter yn prophwydolaethu y bydd y fath watwarwyr yn y byd 2. Pet. 2. 2. cyn y dydd diwethaf.

Gwagelwch gan hyn fy-mrodyr, gwagelwch gwagelwch, na fyddwch watwarwyr ſanctaidd air Duw, nag annogwch ef i arllwys arnoch o'i ddigofaint, fal y gwnaeth ef ar y ſenwyr a'r gwatwarwyr hynny. Na fyddwch leiddiaid ewyllyſgar eich eneidiau eich hunain. Trowch at Dduw yr ennyd y bo amſer i drugaredd: onid ef chwi a etifarhewch yn y byd a ddaw pan fytho yn rhy hwyr, o herwydd yno y bydd barn heb drugaredd.

Fe allai hyn waſanaethu in rhebyddio ni ac i beri ini berchi ſanctaidd Scruthyrau Duw: ond nid oes ffydd gan bawb. Am hynny ni ddigona ac ni fodlona hyn feddyliau pawb: ond fal y mae rhai yn gnawdol felly y parhant ac y camarferant Scruthrau Duw yn gnawdol, i'w rhagor ddamnedigaeth. 2. Pet. 3. 16.

Mae 'r annyſcedig a 'r anwadal (medd ef) yn gwyro 'r ſcruthyrau er diſtryw iddynt eu hunain. Ac mae Ieſu Griſt fal y dywaid S. Pawl i'r Iddewon yn drangwydd ac i'r cenhedloedd yn ffolineb: ond i'r Iddewon a'r cenhedloedd y rhai a alwyd yn nerth ac yn odoethineb Duw. Mae 'r 1. Cor. 1. 23. gwr ſanctaidd Simeon yn dywedyd ei oſod ef yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Iſrael. Fal y Luc. 2. 34. mae Chriſt Ieſu yn gwymp i'r gwrthodedig y rhai er hynny a gollir trwy eu baiau eu hunain, felly y mae ei air ef a'i holl lyfr yn achos damnedigaeth iddynt, trwy eu hanghreduniaeth. Ac fal nad ydyw ef gyfodiad i neb ond i blant Duw trwy Ddewiſiad. mabwys, felly y mae ei air ef a'r holl Scruthyrau yn nerth Duw i Iachadwriaeth yn inig i'r rhai a'u credant. Mae Chriſt ei hun a 'r Prophwydi o'i flaen ef, a 'r Apoſtolion ar ei ol ef, a holl wir wenidogion ſanctaidd air Duw, ie pob gair yn llyfr Duw yn arogl angau i angau i'r gwrthodedig. Mae Chriſt, y Prophwydi, yr Apoſtolion a holl wir wenidogion y gair, ie pob gronyn a thitul o'r ſcruthur ſanctaidd ac fe fu er ioed ac fe fydd byth yn arogl bywyd i fywyd i'r rhai oll y burodd Duw eu calonnau trwy ffydd.

Gwiliwn yn ddifrif na wnelom watwargerdd o lyfrau 'r Sctuthyrau ſanctaidd. Pa tywyllaf a pha anhyweithaf fyddo 'r ymadroddion yn ein deall ni: tybygwn ein bod ein hunain ymhellach oddiwrth Dduw a'i Yſpryd glan eu hawdur hwy. Ymrown i chwilio allan y doethineb a ſydd giddiedig dan riſcul yr Sctuthyr oddifaes. Ac oni fedrwn ddeall yſtyr a rheſwn yr ymadrodd, etto na fyddwn watwarwyr, ſenwyr a dynwaredwyr. O herwydd dyna 'r arwydd a'r argoel eithaf o vn gwrthodedig, o elyn cyhoedd i Dduw a'i ddoethineb. Nid chwedlau ofer i'w gwatwar ydyw y pethau hyn y mae Duw yn eu cyhoeddi mor ddifrif: am hynny cymmerwn hwy fal pethau difrif.

Ac er bod yn goſod allan mewn amryw leoedd o'r Scruthyrau, amryw ddeddfau a Ceremoniau, offrymmau ac aberthau: etto na rhyfeddwn ddim o'u plegid, ond trown hwynt at yr amſeroedd a'r bobl i'r rhai a gwaſanaethent, êr nad ydynt yn anfuddiol i wyr dyſcedig i'w yſtyriaid, ond i'w deongl megis arwyddion a chyſcodau pethau a pherſonau y rhai a eglurwyd ar ol hynny yn y Teſtament newydd.

Ac er nad ydyw cyfrif gwehelyth ac achau'r tadau yn adailadaeth fawr i'r bobl gyffredinol annyſcedig: etto nid oes dim gwedy ei adrodd mor 〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉 amherthynaſol yn holl lyfr y beibl na waſanaetha i ddefnydd yſprydol mewn rhyw fodd, i bawb ac a lafurant i chwilio 'r yſtyr. Nid oes i ni ddiyſtyru y rhai hyn, am na waſanaethant ein deall ni a'n adailadaeth. Ond trown ein trafael i ddeall ac i ddwyn gyda ni y fath ymmadroddion a hiſtoriau ac ydynt gymmeſurach ein deall ni a'n haddyſc, Ac lle 'r ydym yn darllen yn Pſalmau Dafydd pa fodd y dymunodd ef i wyrthwynebwyr Duw weithiau cywilydd, cerydd a gwaradwydd, weithiau dieppiliaeth, weithiau ar eu dyfod i ddiſtryw a diniſtr diſymmwth, fal y dymunodd ef i benaethiad y Philiſtiaid. Gwna, medd ef, luched a gwaſcar hwynt, gyr dy ſaethau a difa hwynt: ar Pſal. 144. 6. fath regau eraill.

Etto ni ddlyaid rhwyſtro mo hanom am y fath weddiau eiddo Dafydd, ac yntef yn Brophwyd, â Duw yn ei garu yn odidawg, a chwedy ei gynhyrfu yn yr yſpryd â zeal wreſog i ogoniant Duw: fe a'i dywaid hwy nid o genfigen ddirgel nag o gaſineb yn erbyn y dynnion, ond fe a ddymunodd yn yſprydol ddiſtryw yr holl fath amryfyſedd a baiau llygredig y rhai a deyrnaſant yn yr holl bobl ddiawlig ac a ymoſodant yn erbyn Duw.

Yr ydodd ef o'r vn meddwl ac oedd S. Pawl, pan roddodd ef Hymeneus ac Alexander a'r goddinebwyr cyhoeddus i ſathan, er eu gwarth bydol, fal y byddai 'r Yſpryd yn gadwedig a'r ddydd yr Arglwydd. A phan ydyw Dafydd yn addef ei fod yn caſhau yr annuwiol: etto mae fe 'n dywedyd mewn man arall ei fod yn eu caſhau hwy nid a chaſineb cenfigennus i wneuthur eniweid i'r enaid, ond a chaſineb perffaith. Yr hwn berffeiddrwydd yſpryd am na ellir ei gyflawni ynom ni, a ni gwedy 'n llygru yn ein gwyniau fal yr ydym, ni ddlyem ni yn vn achos priodol arfer y cyfi yw ddull a'r airiau, o herwydd na allwn gyflawni mewn yſtyr y cyffelyb airiau.

Narwyſtrir ni am hynny onid chwiliwn yſtyr y fath airiau heb ein rhwyſtro, fal y gallom farni am y fath airiau a mwy barch: er eu bod hwy yn ddieithr in deall cnawdol ni, etto gan y rhai ydynt wir yſprydol fe a fernir ddarfod eu cyhoeddi hwy o zeal ac yn dduwiol. Duw am hynny er mwyn eifawr drugaredd a burhao ein meddyliau ni trwy ffydd yn ei fâb Ieſu Griſt, ac a ddifero ddafnau ei rad nefol in calonnau caregog ni, i'w meddalhau hwy, fal na byddom ddiyſtyrwyr a gwatwarwyr ei anhwyllodrus air ef: ond bod ini a phob goſtyngeiddrwydd meddwl a pharch Chriſtionogaidd ymroi i wrando ac i ddarllen yr Scruthyrau ſanctaidd, ac felly i ymborth arnynt oddifewn, fal y byddo mwyaf ddiddanwch in eneidiau a ſancteiddrwydd ei ſanctaidd enw ef: i'r hwn gyda 'r mab a'r Yſpryd glân, tri pherſon ac vn bywiol Dduw y byddo pob clod anrhydedd a moliant yn oes oeſoedd. Amen.

Y drydedd ran o lyfr y Pregethau cyhoedd.
¶ Pregeth am eluſenau a thrugarogrwydd tuag at y tlawd a'r anghenus.

YMhlith yr aml ddyledion y mae r' holl-alluog Dduw yn edrych am danynt gan ei weiſion ffyddlon, y gwir Griſtionogion, trwy y rhai y mynnai ogoneddu ei enw a manegi ſiccrwydd ei galwedigaeth hwyntau, nid oes vn yn fwy cymmeradwy gantho fe, nac yn fuddiolach iddynt hwythau, nâ gweithredoedd trugaredd a thoſturi a ddangoſir at y tlawd, yr hwn a fliner ag vnrhyw gyfyngder. Ac etto er hynny cyfryw ydyw aneſcud ddiogi ein anian hurt ni, at yr hyn ſydd dduwiol a daionus, nad ydym ni mewn dim haechen, yn yſcaeluſach ac yn ddiofalach nag yn hynny.

Peth angenrhaid am hynny yw i bobl Dduw ddyhuno o'u meddyliau cyſclud cyſcadur, ac yſtyried eu dlyed yn hyn o beth. A gweddus yw i bob gwir Griſtion ymofyn a dyſcu yn ewyllyſgar pa beth y mae Duw yn ei ſanctaidd air yn ei ofyn ganthynt yn h n o beth: fal gwedy yn gyntaf wybod eu ddlyed (yr hyn y mae llawer o blegid eu yſcaeluſrwydd yn dangos eu bod heb ei wybod) y gallont a'r ol hyn yn ddieſcaeluſach gyflawni hynny: trwy 'r hyn y gellir eofnhau y dynnion duwiol caredig, i fyned yn eu blaen ac i barhau yn eu trugarog orchwilion o roddi cardodau i'r tylodion, ac fal y gallo hefyd y rhai hyd hyn a eſcaeluſaſant ac a ddiyſtyraſant hynny, (gwedy clywed mor berthynaſol yw hyn iddynt) yn awr yn y diwedd yn yſtyriol ei yſtyried ef, ac ymroi yn rhinweddol i hynny.

Ac er mwyn i bob vn o honoch ddeall yn well yr hyn a ddangoſir, 'ai ddwn yn hawſ gydâ chwi, ac felly cymmeryd ychwaneg ffrwyth o'r hyn a ddywedir pan drinir yn neilltuol bethau neilltuol, mae yn fy mryd i draethu ac adrodd y pethau hyn bob vn o'r neilltu yn y trefn hwn.

Yn gyntaf mifi a ddangoſaf mor ddifrif y mae 'r holl-alluog Dduw yn ei ſanctaidd air, yn galw arnom am roddi cardodau a gwneuthur eluſen, ac mor gymmeradwy yw 'r pethau hyn yngolwg Duw.

Yn ail mor fuddiol yw i ninnau eu harfer hwy, a pha elw a pha ffrwyth a ddygant ini.

Yn drydedd ac yn ddiwethaf mifi a ddangoſaf allan o air Duw pwy bynnac a fytho hael wrth y tylodion ac a'u portho hwynt yn halaeth, y caiff hwnnw ddigon iddo ei hun er hynny: ac y bydd ef byth i maes o enbeidrwydd prinder a diffyg.

Ynghylch y cyntaf, yr hwn yw cymmeriad, braint, a phris eluſenau gerbron Duw, gwybyddwch hyn, fod nerthu a chynnorthwyo 'r tylawd yn eu hangenaua'u cyfyngder, yn bodloni Duw yn gymmaint, fal y mae 'r ſcruthyr yn coffa mewn llawer lle, nad oes dim a ddichon cael ei gymeryd a'i dderbyn mor ddiolchus ar law Dduw.

O herwydd yn gyntaf yr ydym yn darllen, fod yr hollalloog Dduw yn cyfrif fod yn rhoddi yr hyn a rodder i'r tylawd iddo fe ei hun, o her wydd felly y mae'r Yſpryd glan yn teſtiolaethu ini trwy enau y gwr doeth, gan ddywedyd, Y neb a gymmero drugaredd ar y tylawd ſydd yn rhoddi Diar. 19. 17. echwyn i'r Arglwydd. Ac mae Chriſt yn traethu yn yr efengyl, ac mae fe 'n clymmu hynny â llw, megis gwir diogel, fod eluſenau a roddir 'ir tylodion, gwedy eu rhoddi iddo fe ei hun, ac y cyfrifir hwy felly yn y dydd diwethaf: o herwydd fal hyn y dywaid ef wrth roddwyr cardodau, pan eiſteddo ef yn farnwr yn y farn, i roi barn ar bob dyn yn ol ei weithredoedd: yn wir yn wir y dywedaf wrthych, pa weithrededd o drugareedd bynnac awneuthoch i'r vn o'r, rhai lleiaf hyn, chwi au gwneuthoch i mifi, wrth eu bwydo hwy, chwi a'm bwydaſoch i, wrth eu diſychedu hwy, chwi a'm diſy, hedaſoch i, wrth eu dillata hwy, chwi a'm dillataſoch i, wrth eu lleteua hwy, chwi a'm lleteuaſoch i, wrth ymweled â hwy yn gleifion mewn carchar, chwi a ymwelſoch â mifi.

O herwydd yr hwn a dderbynio gennadon brenin, ac a'u creuſewo hwy, mae 'n anrhydeddu 'r brenin, oddiwrth yr hwn y daeth y cenhadwyr hynny, felly 'r hwn a dderbynio 'r tylawd a'r anghenus, ac a'u cynorthwyo hwy yn eu blinder a'u cyfyngderau, mae ef trwy hynny 'n derbyn ac yn anrhydeddu eu meiſtr hwy Chriſt, yr hwn fal yr ydoedd ef yn dylawd ei hun, ac yn anghenus, yr hyd y bu ef fyw yn ein myſc ni, i weithio dirgelwch ein Iachawdwriaeth ni: felly ar ei fynediad ef oddi ymma, fe a addawodd danfon ini yn ei le y rhai a fydde dylodion, drwy y rhai y cyflawnid ei abſen ef. Ac am hynny pa beth bynnac a wnelem iddo ef, hynny ſydd raid i ni ei wneuthur iddynt hwy.

Ac am hyn y dywad yr holl-alluog Dduw wrth Moeſes: ni dderfydd y tylawd o genol y tir yr ydych yn myned iddo: er mwyn iddo gael profiad gwaſtadol o'i bobl, pa vn a wnant ai garu ef ai Deu. 15. 11. pedio: fal wrth ddangos eu hunain yn vfydd i'w ewyllys ef, y gallent eu ſiccrhau eu hunain o'i garedigrwydd a'i ewyllys da yntef tuag attynt: a bod heb ammau fal y derbyniaſant ac y cyflawnaſant hwy ei ewyllys a'i gyfraithau a'i ordeiniaethau efe, (yn y rhai y gorchymynodd iddynt agoryd eu dwylo i'w brodyr y rhai oeddent dylodion yn y tir) felly o'i ran yntef y derhyn yntef hwy 'n garedig, ac y cyflawna yn gywir ei adde widion a wnaeth ef iddynt.

Mae apoſtolion a diſcyblon Chriſt, y rhai wrth ei feunyddol ymddygiad ef, a welſant yn ei weithredoedd ef, ac a glywſont yn ei athrawaeth ef, gymmaint gofal oedd gantho am y tylodion: mae 'r tadau duwiol hefyd, cyſtal cyn dyfodiad Chriſt a chwedy ei ddyfodiad, y rhai a lanwyd yn ddiddau a'r Yſpryd glan, ac oeddynt ſiccr o ewyllys ſanctaidd Duw. Mae pob vn o honynt yn ein rhybyddio yn ddifrif, ac yn eu holl ſcrifēnadau haechen yn waſtadol yn ein cynghori ni, i gofio 'r tlawd, ac i oſod ein cardodau caredigol arnynt.

Mae S. Pawl fal hyn yn gweiddi arnom, diddenwch y gwan-feddwl, cynheliwch y gweiniaid, 1. Theſ. 5. 14. byddwch ymarhous wrth bawb. Ac ailwaith, nac anghofiwch gyweithaſrwydd a chyfranniad, canys â chyfryw ebyrth y bodlonir duw. Heb. 13. 16. Ac mae 'r prophwyd Eſai 'n dangos fal hyn, Tor dy fara i'r newynog, dwg y cyrwydrad i'th dŷ, a Eſai 58. 7. 10. phan welych y noeth dillata ef, ac na ymguddia oddiwrth dy gnawd, toſturia wrth y newynog, a diwalla 'r enaid cyſtuddiedig. Ac mae 'r Tad ſanctaidd Tobi yn rhoddi 'r cyngor hwn, Dod eluſen o'r peth â fytho gennit, ac na chenfigenned Tob. 4. 7. 16. dy lygad wrth roddi dy elûſen, ac na thro dy wyneb oddiwrth neb tylawd, ac ni thry Duw ei wyneb oddiwrthit tithau. Dod ti o'th fara i'r newynog ac o'th ddillad i'r noeth. Ac mae'r tad dyſcedig dûwiol Chryſoſtom yn rhoddi y cyngor Ad populum Antiochenum homil. 35. hyn, Bydded eluſenau trugarog yn waſtad gyda ni, megis dillad arnom: hynny yw mor feddylgar a fythom i wiſco am danom ein dillad, i giddio 'n noethni, i'n cadw rhag oerfel, ac i'n dangos ein hûnain yn weddaiddd, byddwn mor gofus yn waſtad i roddi eluſennau i'r tylodion, ac i'n dangos ein hunain yn drugarogion tuag attynt.

Ond pa beth yw meddwl rhybyddion difrif ac aml annogaethau y prophwydi, apoſtolion, tadau, â Doctoriaid ſanctaidd? yn wir fal yr oedd ynt yn ffyddlon tuag at Dduw, ac yn cyflawni eu dlyed tu ag at dduw, gan ddywedyd i ni pa beth oedd ewyllys Duw: felly o gariad godidawg tuag attom ninnau, hwy a drafaelaſant nid yn inig i'n cyfarwyddo ni, ond i'n perſwado ni fod rhoddi cardodau, a chynnorthwyo 'r tlawd a'r anghenus, yn beth cymmeradwy ac yn aberth godidawg i dduw yn yr hwn y mae fe 'n ymhoffi 'n fawr, ac yn ymfodloni 'n ddirfawr: O herwydd felly y mae y gwr call mab Sirach yn dyſcu ini, gan ddywedyd, fod yr hwn ſydd drugarog ac yn Eccleſ. 35. 3. 7. rhoddi eluſen yn aberthu 'r iawn aberth, diolch a moliant. Ac mae 'n cydſylltu a hynny, fod aberth inion, duwiol, yn gwneuthur yr allor yn fras, a bod ei arogl ef yn beraidd gerbron yr Arglwydd, ie ei fod ef yn gymmeradwy gerbron duw, ac na ollyngir dros gof ei goffadwriaeth ef.

Ac yr ydys yn gwirhau gwirionedd yr athrawaeth hon wrth ſiamplau y tadau ſanctaidd, caredig, am y rhai yr ydym ni yn darllen yn yr ſcruthyrau, ei bod hwy gwedy ymroi i doſturi a thrugarogrwydd tuag at y tylawd ac yn garedig i eſm wytho ei anghenau hwy. O'r fath hyn oedd Abraham, i'r hwn yr ydoedd Duw mor fodlon ac y bu wiw gantho ddyfod atto mewn dull angel, a chymmeryd ei rauſewi i'w dŷ ef. O'r fath hyn yr ydoedd ei garwr ef Lot, yr hwn a garodd Duw yn gymmaint (am dderbyn ei ganhadon ef i'w dŷ, y rhai oni buaſai hynny a gawſent orwedd yn yr heol) ac y cadwodd efe ef a'i holl dylwyth, oddiwrth ddiſtriw Sodom a Gomorha. O'r fath hyn yr oedd y tadau ſanctaidd, Iob, Tobi, a llaweroedd eraill, y rhai a glywſont o'i mewn, megis yn gyhoedd i'w ſynhwhyrau, brofiad o yſpyſawl gariad duw tuag attynt. Ac fal y cafodd yr holl rai hyn (trwy eu trugaredd a'u mawr doſturi, yr hwn a ddangoſaſant hwy i flinedig aelodau truain Chriſt, wrth eu eſmwytho, eu nerthu, a'u cynnorthwyo hwy â'u da bydol yn y byd hwn) fawr ſerch Duw, ac y buont anwyl, hoff, a bodlongar yn ei olwg ef, felly y maent hwythau 'n awr yn cael eu digrifo, wrth fwynhau Duw mewn hoff lawenydd nefoedd, ac hwy a oſodir hefyd ger ein bronnau ninnau, yn-nhragwyddol air Duw megis ſamplau perffaith i'n dyſcu ni, cyſtadl pa fodd y bodlonwn dduw yn y bywyd marwol hwn, ac hefyd, pa fodd y dawn ni i fyw yn llawen gydâ hwy, mewn hyfrydwch a dedwyddyd tragwyddol.

O herwydd gwir iawn yw r hyn a ddywaid S. Awſtin: Mai rhoddi cardodau, a chynnorthwyo 'r tylawd, yw yr iniawn ffordd i'r nef: via coeli pauper eſt, y ffordd i'r nef yw 'r tylawd, medd ef. Hwy a arferēt yn yr amſer gynt, o oſod ar heolydd cyffredin ddelw mercuri, yn dangos a'i fys yr iniawn ffordd i'r dref, ac yr ydym ninnau 'n arfer mewn croeſ-ffyrdd, o oſod croes o goed, neu gerig, er rhybyddio 'r ymdeithydd, pa ffordd y dylai ef droi, pan delo ef hyd etti: ac i'w gyfarwyddo ef yn y iawn ffordd, ond fe a oſododd gair Duw (medd S. Awſtin) yn y ffordd i'r nef, y dyn tylawd, a'i dŷ, fal pwy bynnac a elo 'n iniawn yno, heb droi oddiar y ffordd, rhaid iddo ef fyned heibio i'r tylawd. Y tylawd yw 'r mercuri hwnnw, yr hwn a'n goſod ni yn yr iniawn ffordd, ac os edrychwn ni yn dda ar y nod hwn, ni chyrwydrwn ni yn eppell oddiar y llwybr inion.

Arfer gwŷr call bydol yn ein myſc ni yw, os gwyddont fod neb ſydd îs ei ſtat na hwynthwy, mewn ffafwr rhyw dywyſog, neu bennaeth, yr hwn y maent yn ei ofni, neu yn ei garu, i hwnnw y bydd da ganthynt wneuthur daioni a thwrn da iddo, fal pan fytho rhaid y gallo yntef fod yn eiriolwr droſtynt, naill ai i ennill mael, ai yntef i ddianc rhag twrn drwg, fe ddylai fod cywilydd arnom ni, fod dynnion bydol yn ſynwyrolach ac yn gallach i ennill iddynt eu hunain bethau bydol, y rhai ni pharhant ond dros amſer, nâ nini i geiſio pethau nefol. Mae 'n Iachawdwr Chriſt yn teſtiolaethu am y tlodion, eu bod hwy yn anwyl iawn gantho ef, a'i fod ef yn eu caru hwy 'n odidawg, o herwydd mae fe 'n eu galw hwy yn blant bychain iddo, enw o gariad tra-rhagorol. Mae fe 'n dywedyd eu bod hwy yn frodyr iddo. Ac mae S. Iaco 'n dywedyd i Dduw eu dewis hwy i fod yn etifeddion o'i deyrnas ef: oni ddewiſodd duw (medd ef) dylodion y byd hwn i fod yn gyfoethogion mewn ffydd, ac i fod yn etifeddion o'r deyrnas, yr hon a addawodd ef i bawb ac a'i carant ef? Ac ni a wyddom y bydd y weddi a wnelont droſom ni 'n gyfrifol, ac yn gymmeradwy ger bron Duw, fe wrandewir eu achwynion hwy hefyd. Ac am hynny mae Ieſu fab Sirach yn ein ſiccrhau ni 'n ddiogel, gan ddywedyd, Pan felldithio y tylawd di yn chwerwedd ei enaid, yr hwn a'i gwnaeth Eccl. 4. 6. ef a wrendy ei weddi ef. Byddwch chwithau drugarog am hynny wrth y tylawd.

Ni a wyddom hefyd fod yr hwn ſydd yn cydnabod ei hun yn feiſtr ac yn ymddiffynnydd iddynt, ac ni wrthyd eu cymmeryd hwy yn weiſion iddo, yn abl i wneuthur i ni les ac afles, a bod yn rhaid ini bob awr wrth ei gynorthwy ef. Paham am hynny y byddwn ni nac eſcaelus nac anewyllyſgar i ennill eu cymdeithas hwy a'u ſerch, trwy 'r hyn hefyd y gallwn fod yn ſiccr o ennill ei ſerch ef, yr hwn ſydd alluog ac ewyllyſgar i wneuthur ini bob daioni ac a fyddo er em lles ni a'n llwydddiant. Mae Chriſt yn manegi wrth hyn pa gymmaint gantho am ein caredigrwydd ni at y tlawd, am ei fod ef yn addo gobrwyo 'r rhai a roddant phioled o ddwfr yn ei enw ef i'r rhai a fo arnynt ei eiſiau, a'r gwobr hwnnw yw teyrnas nef.

Diammau am hyn yw fod Duw yn gwneuthur cyfrif mawr o'r hyn y mae fe yn ei obrwyo mor hael. O herwydd mae 'r hwn ſydd yn addo taliad frenhinawl am rodd cardottyn, yn dangos fod yn hoffach gantho fe y rhoddi, na 'r rhodd, a'i fod ef yn cyfrif yn gymmaint wneuthurdeb y peth, a'r ffrwyth a'r ennill ſydd yn dyfod o hono. Pwy bynnac gan hynny a eſcaeluſodd hed yn hyn roddi cardodau, gwybydded yn awr fod Duw yn eu gofyn hwy ar ei ddwylaw ef, a gwybydded yr hwn a fu hael wrth y tylawd, fod ei orchwylion duwiol ef yn gymmeradwy, a bod Duw yn eu derbyn hwy yn ddiolchus, am y rhai hefyd y tal ef yn ddau ac yn dri dyblyg: o her Diar. 19. 17. wydd felly y mae 'r gwr call yn dywedyd, yr hwn ſydd yn cymmeryd trugaredd ar y tylawd, ſydd yn rhoddi echwyn i'r Arglwydd, dros occr ac ennill halaeth, a'r ennill yn enwedig yw bywyd tragwyddol trwy haeddiant ein Iachawdwr Ieſu Griſt, i'r hwn gyda 'r Tad a'r Yſpryd glan, y byddo holl anrhydedd a gogoniant yn oes oeſoedd, Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am eluſennau.

CHwi a glywſoch fy annwyl garedigion, fod rhoddi eluſenau i'r tylodion a'u cynnorthwyo hwy, yn amſer anghenrhaid, mor gymmeradwy gan ein Iachawdwr Chriſt, fal y mae 'n cyfrif y peth a wnelir iddynt hwy er ei fwyn ef, gwedy ei wneuthur iddo ef ei hun. Chwi a glywſoch hefyd mor ddifrif y mae 'r Apoſtolion, y Prophwydi, a'r Tadau ſanctaidd, a'r doctoriaid yn ein hannog ni i hynny. Ac chwi a welwch mor anwyl gan Dduw fu y rhai y mae 'r ſcruthur yn ſon eu bod yn rhoddwyr cardodau da. Am hynny os cyffro na'u ſamplau da hwy, na chyngor iachus y Tadau duwiol, na Chriſt ni, ſerch yr hwn yr ydym ſiccr o'i fwynhau trwy hyn o beth: neu os priſwn y pethau hyn, ymddarparwn o hyn allan i ddangos i Dduw y gwaſanaeth cymmeradwy ymma, gan fod yn barod i nerthu y rhai ſydd dylodion ac mewn blinder.

Yn awr yr ail bryd yr ydwyf yn traethu i chwi am eluſenau, mi a ddangoſaf mor fuddiol yw eu harfer hwy, a pha ffrwyth a ddaw ini, os gwnawn hwy yn ffyddlon. Mae 'n Iachawdwr Chriſt yn dangos yn ei efengil, nad oes ennill i ddŷn er meddiannu 'r holl fyd a'i gyfoeth a'i ogoniant, os cyll ef ei enaid ei hun, neu os gwna fe Math. 16. 26. ddim, trwy 'r hyn y gellir ei wneuthur ef yn gaeth iangau, pechod neu dân vffernol. Trwy hyn y mae fe yn dangos nid yn vnic pa gymmaint y dlyem ofalu am iechyd yr enaid, yn fwy nag elw bydol, ond mae hyn hefyd yn gwaſanaethu i gyffro 'n meddyliau ni, ac i'n cyffro ni yn ein blaen, i geiſio 'n ddieſcalus, a dyſcu trwy hynny, pa fodd y mae ini gadw a chynnal dros fyth ein eneidiau mewn diogelwch: hynny yw, pa fodd y mae ini adnewyddu 'n iechyd, os bydd gwedy colli neu leihau, ac os bydd ef vnwaith gennym pa fodd y gallwn ei faenteinio ef. Ie mae fe trwy hynny yn ein dangos ni hefyd i gyfrif honno yn feddiginiaeth werthfawr ac yn dlws godidawg, yr hon ſydd a'r fath rym a rhinwedd ynddi i gadw ac i gynnal treſſor mor ddigyffelyb.

O herwydd os gwnawn ni gyfrif mawr o'r feddiginieth neu 'r eli a ddichon iachau amryw glefydau trymmion, a heintiau corphorol, mwy cyfrif lawer a ddylem ni ei wneuthur o'r hyn ſydd a gallu ynddo ar yr enaid. Ac fal y gallem fod yn ſiccr ddigon o adnabod, ac o fod gennem mewn parodrwydd, y gyfarwyddyd ſydd mor fuddiol, mae fe megis dyſcawdwr ffyddlon yn dangos ei hun pa beth yw hi, a pha le y mae ini ei chael hi, a pha fodd y mae ini ei harfer a'i threfnu hi. O herwydd pan achwynwyd arno ef ac ar ei ddiſcyblion yn doſt gan y Phariſaeaid, ddarfod Luc. 11. 41. iddynt wradwyddo eu heneidiau wrth dorri traddodiadau 'r henuriaid am iddynt fyned at eu bwyd heb olchi eu dwylaw o'r blaen, yn ol arfer yr Iddewon: mae Chriſt yn atteb i'w cwyn ofergoelus hwy, gan ddangos iddynt y gyfarwyddyd orau i gadw eu heneidiau yn lân, er torri y fath drefnau ofergoelus; Rhoddwch eluſen, medd ef, a phob peth y ſydd lân i chwi: mae ef yn eu dyſcu hwy; mai bod yn drigarog ac yn garedig i gynnorthwyo 'r tlawd, yw 'r vnig lwybr i gadw 'r enaid yn bur ac yn lân yngolwg Duw. Am hynny trwy hyn y dyſcir fod rhoddi eluſeneu Tob. 4. 10. yn fuddiol i lanhau yr enaid oddiwrth gyffaith a brychi pechod.

Mae 'r Yſpryd glân yn dangos yr vn wers hefyd mewn llawer o leoedd o'r ſcrythyr ſanctaidd, gan ddywedyd, fod trûgaredd ac eluſenau yn gwared rhag pechod, yn cadw rhag angau, ac yn rhwyſtro 'r enaid i ddyfod i dywyllwch. Mawr yw 'r diogelwch gar bron y goruchaf Dduw, a all fod gan y rhai a ddangoſſant drugaredd a thoſtûri ar y rhai ſydd mewn blinder: mae 'r pregethwr doeth, mab Sirach yn cadarnhau hyn, Ecclus. 29. 15. pan yw fe 'n dywedyd, fal y mae dwfr yn diffodd tân, felly fod trugaredd ac eluſenneu yn gwrthwynebu pechodau. A ſiccr yŵ fod trûgarogrwydd yn oeri gwrês pechodau yn gymmaint ac na allant graffû ar ddŷn i'w ddrygu, neu os cyfyrddant ag ef neu waethygu arno trwy wendid, mae trugaredd yn y man yn eu ſychu ac yn eu golchi hwy ymaith, megis meddyginiaethau ac eli i iachau eu clwyfau a'u clefydau tôſt hwy.

Ac ar hyny ymae 'r tâd ſanctaidd Cyprian yn cymmeryd achos i'n hannog ni i weithred trugarog rhoddi cardodau a chynorthwyo y tlawd, ac yno y mae ef yn ein rhybyddio ni i yſtyried mor iachus ac mor fuddiol yw cynnorthwyo 'r anghenus, a nerthu 'r blinderog, trwy 'r hyn y gallwn lanhau 'n pechodau ac iachau ein enaidiau clwyfus.

Ond etto fe a ddywaid rhyw ddŷn, pe galle ein eluſenau a'n gweithredoedd caredigol ni at y tlodion olchi ymaith ein pechodau ni a 'n cymmodi ni â Duw a 'n rhyddhau ni oddiwrth enbeidrwydd damnedigaeth, a 'n gwneuthur yn feibion ac yn etifeddion o deyrnas Dduw, yno y diddymmir haeddiant Chriſt ac ofer y tywalltwyd ei waed ef, yno y'n cyfiawnhair ni trwy ein gweithredoedd, fal y dywaid S. Pawl.

Ond deallwch, fy-ngharedigion, nad ydyw y lleoedd o'r Scrythyr a oſſodwyd o'r blaen, nac athrawaieth y merthyr bendigedig Cyprian nac vn gŵr duwiol dyſcedig arall, pan ydynt hwy wrth fawrhau braint, budd, ffrwhth a grym eluſenau rhinweddol hael, wrth ddywedyd eu bod hwy yn golchi ymaith bechodau, ac yn ein dwyn i ffafor Duw; yn meddwl fod ein gwaith a'n gorchwyl caredig ni yn achos dechreuol o 'n cymmeriad ni ger bron Duw, neu y gellir golchi ymaith ein pechodau ni a'n purhau ni a'n glanhau ni oddiwrth holl gyffaith ein anwiredd, o fraint a theilyngdod eluſen: O herwydd ni byddai hynny ond gwir anffurfio Chriſt a'i anrhaithio o'i ogoniant.

Ond hynny maent yn ei feddwl a hyn yŵ yſtyr yr ymadroddion hyn a'r fath ymadroddion, ddarfodd i Dduw o'i ſerch yſpyſawl a'i fawr drugaredd tu ag at y rhai a ordeiniodd ef i iechydwrieth dragwyddol, felly gynnyg ei râd yn enwedigawl, ac iddynt hwythau ei dderbyn ef mor ffrwythlon megis er eu bod oblegid eu bywyd pechadurus oddi-allan o'r blaen yn blant digofaint a diſtryw: etto gan fod Yſpryd Duw yn awr yn gweithio 'n gadarn ynddynt i vfydd-dod i ewyllys Duw a'i orchymmynion, maent yn cyhoeddi wrth eu gorchwylion, a'u bywyd oddi-allan wrth ddangos trugaredd a charedigrwydd at y tlawd yr hyn ni ddichon dyfod ond o yſpryd Duw a'i râd Yſpyſawl, eu bod hwy yn ddiammau yn blant i Dduw gwedi eu hordeinio i fywyd tragwyddol. Ac felly megys wrth eu drygioni a'u hanuwiol fywyd yr oeddynt yn eu dangos eu hunain yn ol barn dynnion (y rhai a gan lynant yr agwedd oddi-allan yn vnig) eu bod yn wrthodedig, a chwedy eu troi heibio: felly yn awr wrth eu hufydd-dod i ſanctaidd ewyllys Duw, ac wrth eu trugarogrwydd a'u mawr doſturi, yn yr hyn y dangoſſant hwy eu bod yn gyffelyb i Dduw yr hwn yw ffynon a ffrŵd pob trugaredd, y dangoſſant yn eglur ac yn oleu yngolwg dynion mai plant Duw ydynt a'i etholedigion ef i iechydwrieth.

O herwydd fal nad yw y ffrwyth da yn achos o fod y pren yn dda, ond rhaid yw i'r pren yn gyntaf fod yn dda, cyn y gallo ef ddwyn ffrwyth da: felly nid ydyw gorchwylion da dŷn yn achoſion o fod dŷn yn dda, ond fe a wnair yn gyntaf yn dda trwy Yſpryd a rhâd Duw yr hwn ſydd yn gweithio 'n rymmus ynddo ef, ac yn ol hyny y mae fe 'n dwyn allan ffrwythau da? Ac yno fal y mae ffrwythau da yn dangos ac yn cyhoeddi daioni 'r pren, felly y mae gweithredoedd da tru-garog dŷn yn proſi ac yn cyhoeddi daioni yr hwn a'u gwnelo hwynt, yn ol ymadrodd Chriſt; wrth eu ffrwyth yr adnabyddwch hwynt.

Os gwrthddadleu neb fod dynion beius drwg weithiauwrth eu gweithredoedd yn ymddangos yn dduwiol ac yn rhinweddol iawn, mi a attebaf fod y grabyſſyn, a'r beren dagu, yn edrych weithiau oddi allan mor goch ac mor ber a ffrwythau daionus da. Ond fe fydd hawdd i'r gwr a gno ac a brofo, farnu rhwng ſur chwerwder y naill a blas peraidd y llall; Ac megys y mae 'r gwir Griſtion mewn diolchgarwch calon am ryddhâd ei enaid yr hwn a brynwyd trwy farwolaeth Chriſt, yn dangos yn fwyn trwy ffrwyth eu ffydd, ei vfyddod i Dduw; fellŷ y mae 'r llall megis marchnadwr gydâ Duw yn gwneuthur y cwbl er ei ennill ei hunan gan dybiaid y gall ef enill nef trwy haeddedigaeth ei weithredoedd, ac mae ef yn anffurfo ac yn tywyllu gwerth gwaed Chriſt, yr hwn yn vnig a weithiodd ein glanhâd ni.

Am hynny yſtyr yr ymadroddion hyn yn yr ſcrythyrau ac ſcrifennadu duwiol eraill, Mae eluſenau yn golchi ein pechodau ni ymaith, a thrugaredd at y tlawd yn deleu ein anwireddau ni, yw hyn, ein bod ni wrth wneuthur y pethau hyn yn ol ewyllys Duw a'n dyled ein hunain, yn cael golchi ein pechodau ymaith, a deleu ein anwireddau, nid trwy eu haeddiant hwy, onid trwy ras Duw, yr hwn ſydd yn gweithio oll yn oll, a hyny o oblegid yr addewid a wnaeth duw i'r rhai a vfyddhânt i'w orchymynion ef: fal y cyfiawnhaid yr hwn ſydd wirionedd wrth gyflawni y gwirionedd ſydd ddyledus ar ei addeŵid ef.

Mae eluſenneu yn golchi ymaith ein pechodau ni am fod yn wiw gan Dduw ein cyfrif ni yn burion ac yn lân pan fythom ni yn eu gwneuthur hwy er ei fwyn ef, ac nid am eu bod hwy yn haeddu ein glanhad ni, neu am fod y fath rym a rhinwedd yndddynt hwy eu hunain.

Mi a wn fod rhai yn ymroddi yn ormod i ymffroſtio am eu gweithredoedd da, ac na byddant hwy bodlon ir atteb hwn: ac nid rhyfedd, O herwydd ni ddichon vn atteb fodloni na gwſnaethu y fath ddynion: am hyny ni a adawn y rhai hyny i'w rhwyſtr cyndyn eu hunain, ac a ddylynwn y duwiol rheſymol, y rhai megis y maent yn gwybod ac yn eu ſiccrhau eu hunain, fod pob daioni, pob haelioni, pob trugaredd, a phob doniau a phob maddeuant o bechodau, a pha beth bynac a ellir ei alw yn dda ac yn fuddiol i'r corph neu i'r enaid, yn dyfod yn vnig oddiwrth drugaredd Duw, a'i vnig ſerch ef, ac nid o honynt hwy eu hunain: felly er cymmaint, er mor odidawg weithredoedd da a wnelont, etto nid ymchwyddant byth gan ofer ymddired ynddynt.

Ac er eu bod hwy yn clywed ac yn darllen yngair Duw ac yngweithredoedd gwŷr duwiol eraill fod eluſenau, trugaredd a charedigrwydd yn golchi ymaith bechodau ac yn deleu anwireddau, etto nid ydynt hwy 'n rhyfygus, ac yn falch yn glynu wrthynt nac yn ymddired ynddynt, nac yn ymſtroſtio am danynt, megis y gwnaeth y Phariſai balch, rhag iddynt gydâ 'r Phariſai gael eu damnio: ond gydâ'r Publican goſtyngedig tlawd, maent yn addef eu bod yn bechaduriaid truain yn annheilwng i edrych tu a'r nef: gan alw ac ymbil am drugaredd fal gydâ 'r Publican y cyhoedder hwy gan Chriſt yn gyfiawn.

Mae 'r duwiol yn dyſcu pan ddywedo 'r Scrythyr fod trwy weithredoedd da trugarog, yn ein cymmodi ni â Duw, fod yn ein dyſcu ni trwy hyny, i adnabod beth y mae Chriſt drwy ei gyfryngad a'i ddadleuad yu ei enill ini gan ei Dâd, pan fyddont ni vfydd i'w ewyllys ef, ie maent hwy trwy 'r fath ymadroddion yn dyſcu argoel fawr o ddiddanus a godidawg ſerch a chariad Duw, yr hwn ſydd yn tadogi arnom ni a'n gorchwylion y peth trwy ei Yſpryd y mae ef yn ei weithio ynom ac yn ei beri ini trwy ei rad. Ac etto er hynny, maent yn gweiddi gydâ S. Pawl, Oh ddynion truain ydym ni: ac yn ad nabod (fal y dangos Chriſt) darffo iddynt wneuthur y cwbl oll, nad ydynt onid gweiſon anfuddiol; a chydâ 'r bendigedig frenin Dafŷdd, oblegid cyfiawn farn Duw, maent yn crynu ac yn dywedyd, Pwy a all aros O Arglwydd, os rhoddi di farn yn ol ein haeddiant ni?

Fal hyn y maent hwy yn ymoſtwng ac y cyfodir hwy gan Dduw. Maent yn eu cyfrif eu hunain yn wael ac a gyfrifir gan Dduw yn bur ac yn lân, maent yn eu damnio eu hunain, ac a gyfiawnhair gan Dduw. Maent yn tybied eu bod eu hunain yn an-nheilwng o'r ddayar a chan Dduw y cyfrifir hwy yn deilwng o deyrnas nef.

Fal hyn y dangoſir hwy trwy air Duw i feddwl yr hyn ſydd inion am drugarog gyfrannad eluſenau, athrwy yſpyſſawl ddaioni Duw a'i drugaredd, hwy a wnair yn gyfrannogion o'r ffrwythau a addawodd ei air ef.

Canlynwn gan hynny eu ſiamplau hwy, a dangoſwn yn vfydd yn ein bywyd y gweithredoedd-hynny o drugaredd, y rhai a orchymynir ini, a bydded gennym iniawn feddwl a barn am danynt, fel y diſcir i ni; felly y byddwn ni megis hwyntau, yn gyfrannogion, ac y cawn dderbyn y ffrwythau a'r gobrwy-au y rhai a ganlynant y fath dduwiol fywyd, felly y cawn trwy brofi wybod, pa ffrwyth a pha ennill y ſydd yn dyfod o roddi cardodau a chynnorthwyo 'r tlawd.

¶ Y drydedd ran o'r bregeth am eluſenau.

CHwi a glywſoch ddwy ran eiſoes o'r traethawd am eluſenau.

Y cyntaf, mor hoff ac mor gymeradwy ger bron Duw yw eu gwneuthur hwy. Yr ail mor anghenrhaid ac mor fuddiol yw ini ymroi iddynt.

Weithian yn y drydedd ran mi a ſymmudaf y rhwyſtr y ſydd yn rhwyſtro llawer o honom i'w gwneuthur hwy.

Mae llawer pan glywont mor gymeradwy ger bon Duw yw rhoddi cardodau, a phelled y mae Duw yn yſtyn ei ſerch tuag at y rhai trugarog, a pha ffrwythau a pha ennill y ſydd yn dyfod iddynt o ddiwrth hynny, maent yn damuno o ewyllys eu calonau ar allel cyrhaeddyd y doniau hyn, a chael eu cyfrif gan Dduw ymmhlith y rai a garai ef ac a wnai erddynt. Ond etto y mae trachwant cybyddus yn tynnu y rhai hyn yn eu hôl fal na allant roddi vn ddimmau, nac vn dafell o fara i'r tlawd, er cael bod yn deilwng o ddoniau Duw, ac felly dyfod i'w ffafor ef. O herwydd y maent yn ofni 'n waſtad, rhag wrth roddi 'n fynych, er na byddai hynny ond ychydig ar vnwaith, iddynt dreulio eu da a'u tlodi eu hunain, fal na allont yn y diwedd fyw arnynt eu hunain, ond y gorfydd arnynt fyw ar eluſenau rhai eraill.

Ac felly y maent yn ceiſio Ymeſcuſo. ymeſcuſſodi i'w cadw eu hunain allan o ſerch Duw: ac y dewiſant yn hytrach trwy gybydd-dod calon, bwyſo at y diawl, na thrwy garedig drugarogrwydd ddyfod at Ghriſt, neu oddef Chriſt i ddyattynt hwy.

Oh na byddai ryw feddig cynnil, cyfarwydd, yr hwn a allai Dywallt. arllwys o honynt yr huwmor llyggredig hon, yr hon y ſydd yn mallu nid eu cyrph hwy yn vnig, ond eu meddyliau hefyd, ac felly gan lygru eu heneidiau hwy, yn dwyn eu cyrph hwy a'u heneidiau i enbeidrwydd tân vffern.

Yn awr rhag bod neb o'r fath hyn yn ein plith ni, fy-ngharedigiō, chwiliwn yn ddieſcaelus am y meddyg hwnnw, yr hwn yw Ieſu Griſt, a thrafaeliwn yn ddifrif ar iddo ef o'i fawr drugaredd ein iawn-gyfarwyddo ni, a rhoddi ini feddyginiaeth breſenol yn erbyn clefyd mor enbaid.

Gwrando di am hynny yr hwn wyt yn ofni rhag wrth roddi i'r tlawd i ti dy ddwyn dy hun i gardotta. Byth ni ellir treulio na difa yr hyn a gymerech ti oddiwrthid dy hun i'w roddi i Griſt; yn yr hyn na chred fi, ond os oes gennid ffydd, ac os ydwyd yn wir Griſtion, crêd yr Yſpryd glân, crêd awdurdod gair Duw, yr hwn ſydd yn dy ddyſcu di fal hyn.

O herwydd fal hyn y dywaid yr Yſpryd glân trwy enau Salomon, Yr hwn a roddo i'r tlawd bŷth ni bŷdd eiſiau arno.

Mae dynion yn tybied mai wrth bentyrru a chadw yn waſtadol yr ânt hwy yn gyfoethogion yn y diwedd, ac mai wrth gyfrannu a gwario, ie am bethau angenrheidiol, duwiol, yr ânt hwy yn dlodion. Ond mae 'r Yſpryd glân yr rhwn ſydd yn gwybod pob gwirionedd, yn dangos ini wers arall wrthwyneb i hon. Y mae fe yn dangos ini fod rhyw fath ar draul yr hwn byth ni leiha y golud, a rhyw fath ar gadw yr hwn a ddwg ddŷn i ddygyn dlodi: O herwydd, lle mae fe 'n dywedyd na bydd byth diffyg ar eluſenwr da: mae ef yn dywedyd ym-mhellach, Ond yr hwn a drotho ei lygaid oddiwrth y rhai ſydd mewn angen a ddaw ei hun i dlodi mawr. Mor bell am hynny yw barn dyn oddiwrth farn yr Yſpryd glan.

Mae'r Apoſtol ſanctaidd yr hwn oedd yn llawn o'r Yſpryd glân, ac a wnaethid yn gydnabyddus a dirgel ewyllys Duw, yn dangos na thlodir byth yr hwn a roddo gardodau 'n hael; yr hwn, medd ef, ſydd yn rhoddi hâd i'r hauwr a rŷdd hefyd fara 'n ymborth i'r bwyttawr, ie fe a amlha eich hâd chwi ac a chwanega ffrwyth eich cyfiawnder. Nid yw ddigon gantho ddangos iddynt na bydd diffyg arnynt, ond mae ef 'n dangos iddynt hefyd pa fodd y darpara Duw iddynt. Yn y modd y mae ef yn darparu hâd i'r hauwr wrth ei amlhau a'i gynnyddu ef, felly yr amlhâ ef eu da hwy, ac y chwanega ef hwynt, ac y bydd ganthynt amledd mawr.

A rhag tybied o honom nad ydyw ei ymadroddion ef ond geiriau ac nid gwirionedd, mae ini ſiampl o hyn yn y liyfr cyntaf o'r brenhinoedd, yr hon y ſydd yn cadarnhau ac yn ſelio hyn megis gwironedd ſiccr.

Pan nad oedd gan y weddw dlawd, yr hon a dderbyniodd Aethwlad exul. afwlad brophwyd Duw Elias, onid dyrnaid o flawd mewn cîſt, ac ychydig o oel mewn ſtên, o'r hyn yr ydoedd ar fedr gwneuthur teiſen iddi ei hun a'i mâb, fal gwedy bwytta hynny y hyddent feirw.

O herwydd yn y newyn mawr hwnnw nid oedd dim lluniaeth chwaneg i'w gael, etto pan roddodd hi ran o hynny i Elias, a Twyllo. ſiommi ei bola newynog ei hun i'w gynorthwyo ef yn drugarog, hi a fendithied felly gan Dduw, fal na ddarfu na 'r blawd na 'r oel, yr hŷd y parhaodd y newyn, ond hwy a barhaeſant dros yr holl amſer hwnnw: ond o hynny y cafas y prophwyd Elias a hithau a'i mab ddigonol ymborth a llynniaeth.

Oh yſtyriwch y ſiampl hon, chwi bobl anghredadwy, anffyddlon, gybyddus, y rhai ydych yn angrhedu gair Duw, ac yn tybied leihau o'i allu ef.

Nid oedd gan y wraig dlawd hon yn yr hîr a'r dygyn brinder hwnw onid vn dyrned o flawd, ac ychydig bach o oel mewn ſtên fach, yr ydoedd ei hunig fab hi ym-mron marw o newyn ger bron ei llygaid hi, a hithau yn debyg y gurio i farwolaeth ac i ddyddfu gan newyn: ac etto pan ddaeth y prophwyd tylawd a cheiſio rhan, yr ydoedd hi mor gofus am drugaredd, ac y gellyngai hi yn angof ei chyfyngder ei hun, ac yn gynt nac y gollynge hi heibio yr amſer i roi eluſen, ac i weithio gwaith cyfiawnder, hi a fentrai ei bywyd ei hun, a bywyd ei hunig fab.

A chwi, y rhai ſydd gennwch amledd o fwyd a diod, a llawer o ddillad a 'r pryfed yn eu bwytta, ie llawer o honoch a Crugau. phentyrrau o aur ac arian, a'r hwn ſydd gantho leiaf ſydd a mwy nâ digon, yn awr yn yr amſer hwn, pan nad oes (i Dduw y bytho 'r diolch) ddim newyn mawr yn eich gwaſcu chwi: er bod eich plant yn cael eu dilladu 'n dda, a'u bwyd yn ddigonol, ac heb vn achos gan newyn i ofni enbeidrwydd angeu; a fwriwch yn eich pennau ofn ac enbeidrwydd prinder anghyffelyb, yn gynt nag y cyfrannoch vn dryll o'ch gormodded i gynorthwyo ac i nerthu Chriſt dlawd newynog, noeth, yr hwn ſydd yn dyfod i gardotta wrth eich drws chwi. Ni fwriodd y weddw druan dlawd hon vn perigl am y trueni a'r diffyg a alle ddyfod arni, ni wan-obeithiodd hi yr addewidion a wnaeth Duw iddi trwy y prophwyd, ond hi a aeth yn y man i dorri newyn prophwyd Duw, ie gan yſtyried ei anghen ef ym-mlaen ei hanghen ei hun.

Ond nyni megis brynti anghredadwy, cyn rhoddi vn hatling a fwriwn fil o beriglon, pa vn a wna y peth a roddwn i'r tlodion a'i gwneuthur iniles ai peidio, pa vn a wna ai bod yn rhaid ini wrtho ailwaith ar ryw bryd arall, ac oni allaſid gwario hynny yn well mewn rhyw ffordd arall, fal y mae 'n haws gwaſcu hoel gadarn allan o bôſt caled, fal y dywaid y ddihaureb, nâ gwaſcu ffyrllin allan o'n byſedd ni.

Nid oes nac ofn, na chariad Duw ymmlaen ein llygaid ni, ni a wnawn mwy cyfrif o hatling nag o geiſio teyrnas Dduw, neu ofni carchar diawl.

Gwrandewch am hynny, chwi gybyddion anhrugarog, pa beth a fydd diwedd y gorchwilion annrhugarog hyn, mor ſiccr ac y porthodd Duw y weddw hon, ac ychwanegodd ef ei ſtor hi, fal y bu ganthi ddigon, ac na bu arni ddim prinder pan oedd eraill yn newynu, felly yn ddiammau y plaa Duw chwithau â thlodi ynghenol amledd. Pan fyddo eraill mewn cyflawnrwydd ac yn cael eu llanw yn ddigonol, chwi a ddarfyddwch ac a dreulwch ymmaith, fe ddiniſtrir eich yſtôr, fe a dynnir eich da chwi oddiwrthych, fe a Ddifhair. ddifethir eich holl ogoniant chwi a'ch cyfoeth, ac chwi a geiſiwch mewn triſtwch ac ocheneidiau, yr hyn pan ydoedd gennych a allaſech chwi ei fwynnhau eich hunain yn heddychlon a'i roddi i eraill hefyd yn dduwiol, ac nis cewch.

Am eich annhrugarogrwydd chwi tuag at eraill, ni chewch neb a ddangoſo i chwi drugaredd. Chwi y rhai oedd genych galonnau caled tuag at eraill, a gewch holl greaduriaid Duw mor galed tuag attoch chwi a phres neu haŷarn.

Och pa ynfydrwydd a gwallgof ſydd yn eich meddyliau chwi, fal mewn matter o ſiccrwydd a gwirionedd na chredwch chwi, i'r gwirionedd, yr hwn ſydd yn dwyn teſtiolaeth 'ir peth ſiccraf ac a all bod. Mae Chriſt yn dywedyd os ceiſiwn deyrnas Duw yn gyntaf, a'i gyfiawnder ef, ni adewir ni mewn eiſiau, fe a roddir pob peth arall ini yn gyflawn. Nage meddwn ninnau, mi a edrychaf yn gyntaf ar allu byw fy hun ac ar fod digon gennyf imi fy hun, ac i'm tolwyth, ac os bydd dim dros ben mi ai rhoddaf i ennill ffafor a ſerch Duw, ac yno fe gaiff y tylodion ran gydâ mi.

Edrychwch adolwg mor wrthgas yw barn dŷn. Mae arnom fwy o ofal i borthi'r gelain, nac ofn gweled diniſtr ein eneidiau. Ac fal y dywaid Cyprian, tra fôm yn ammau rhag darfod ein Sermone de elemoſyna. golud wrth fod yn rhy haelion, yr ydym ni yn gwneuthur na bo dim an mau y derfydd ein hywyd ni a'n iechyd wrth beidio a bod yn haelion, wrth fod yn ofalus rhag treulio 'n golud: yr ydym ni 'n ddiofal am ein treulio ein hunain, yr ydym ni yn caru Mammon, ac yn colli ein eneidiau: yr ydym yn ofni rhag diniſtr ein tref-tadaeth oddiwrthym ni, ond nid ydym ni yn ofni rhag ein diniſtr ni o'i blegid ef, fal hyn yr ydym ni yn caru 'n gyndyn wrthgas yr hyn a ddylyem ni ei gaſhau, ac yn caſhau yr hyn a ddylyem ei garu, yr ydem yn eſcaelus lle dylyem fod yn ofalus, ac yn ofalus, lle nid ydyw raid.

Mae 'r ofn ofer hwn rhag bod eiſiau arnom ni ein hunain os rhoddwn ni i'r tylodion, yn gyffelyb iawn i ofn plant a ffyliaid, y rhai pan welant y gwydr yn diſcleirio 'n loyw, a dybygant yn y man mai mellten lluched yw, etto ni bu loywder gwydr erioed yn lluched, felly ninnau, pan fôm yn tybied y dichon gŵr ddyfod i dylodi, wrth dreulio ar y tylawd, yr ydym ni mewn ofn ofer: o herwydd ni chlywſom ac ni wybuom ddyfod neb er ioed i gyfyngderau wrth wneuthur hynny, na'i adel yn ddigynhorthwy, ac yn ddiymgeledd gan Dduw. Nagê yr ydym ni yn darllen o'r gwrthwyneb yn yr Scruthur fal y dangoſwyd eiſoes, ac y gellir prwfo wrth aneirif o dyſtiolaethau a ſiamplau pwy bynnac a waſanaetho Duw yn ffyddlon ac yn ddiragrith, mewn vn rhyw o alwedigaeth, ni oddef Duw ef i waethygu, llai o lawer i gael ei ddiſtrywo.

Mae 'r Yſyryd glan yn dangos trwy Salomon, na edy Duw enaid y cyfiawn i farw o newyn. Ac am hynny y dywaid Dafydd wrth bawb o'r trugarogion, Ofnwch Dduw ei ſaint ef, o Pſal. 34. 9. 10. herwydd ni bydd eiſiau dim ar y rhai a'i hofnant ef. Mae ar y llewod eiſiau ac maent hwy yn goddef newyn, ond ni bydd ar y rhai ſydd yn ofni 'r Arglwydd eiſiau dim daionus. Diar 10. 3.

Pan oedd Elias yn yr anialwch fe a'i porthodd Duw ef trwy wenidogaeth cigfrân, yr hon forau a hwyr a hebryngodd iddo ef ymborth ddigon.

Pan oedd Daniel gwedy ei gau yngogof y llewod, fe ddarparodd Duw fwyd iddo ef, ac a'i danfonodd yno iddo: ac yno y cyflawnwyd ymadrodd Dafydd, mae eiſiau ar y llewod ac maent yn goddef newyn ond ni bydd ar yr rhai ſydd yn ofni 'r Arglwydd eiſiau dim da: o herwydd yr hŷd yr oedd y llewod y rhai yr oeddid ar fedr eu porthi ar ei gnawd ef, yn rhuo gan newyn, ac yn chwennych eu hyſclyfaeth ar yr hwn nid oedd ganthynt allu, er ei fod ef yn eu gwydd hwy: etto yn yr ennyd hynny y cafodd ef ei borthi 'n gyflawn gan Dduw, yr hwn yr oeddid ar fedr bod i'w gig borthi 'r llewod.

Mor alluog y mae Duw yn gweithio i gadw ac i faenteinio y rhai y mae fe 'n eu caru: mor ofalus hefyd yw efe i borthi y rhai mewn vn ſtât neu alwedi gaeth a'i gwaſanaethant ef yn ddiragrith. Ac a dybygwn ni yn awr yr anghofia ef ni os byddwn vfydd i'w air ef, ac os toſturiwn wrth y tylawd yn ôl ei ewyllys ef? Mae fe 'n rhoddi ini bob cyfoeth cyn ini wneuthur iddo efddimg waſā aeth am danynt, ac a âd efni mewn eiſiau pethau anghenrhaid pan fythom yn gwueuthûr iddo ef waſanaeth cywir? a feddwl neb y gwrthyd Chriſt ac y gad ef yn ddiymborth yr hwn ſydd yn porthi Chriſt? neu a balla Chriſt o bethau dayarol i'r rhai y mae fe 'n addo pethau nefol, am ei waſanaethu ef yn gywir?

Am hynny, fyngharedigion frodyr, ni all bod diffyg arnom ni vn amſer wrth roddi eluſenau i eraill, neu ein gorthrymmu ni gan brinder, y rhai ydym yn porthi yr anghenus. Mae hyn yn wrthwyneb i air Duw, mae 'n wrthwyneb i'w addewid ef, mae 'n wrthwyneb i naturiaeth a chynneddfau Chriſt oddef y pethau hyn: dichellgar ddychymmig diafol ydyw ein hannog ni i gredu hynny.

Am hynny na ſafwn am roddi cardodau yn rhwydd, ac ar hynny yr ymddiredwn y dyry daioni Duw i ni ddigonolrwydd a helaethrwydd, yr hŷd y bythō byw yn y bywyd trangcedig hwn, ac yn ôl treulio'n dyddiau 'n ddaionus ymma yn ei waſanaeth ef a chariad ein brodyr, fe a 'n coronir ni â gogoniant tragwyddol i deyrnaſu gydâ Chriſt ein Iachawdwr yn y nef: i'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yſpryd glân y byddo holl anrhydedd a gogoniant yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Homili neu bregeth o blegid genedigaeth ein Iachawdwr Ieſu Griſt.

YM-mhlith yr holl greaduriaid a wnaeth Duw yn y dechreuad yn odidog ac yn rhyfeddol yn eu rhywogaethau, nid oedd vn (fel y tyſtiolaetha 'r Scrythyrau) i'w gyffelybu i ddŷn mewn vn peth onid odid. hayachen: yr hwn mewn corph ac enaid oedd yn rhagori ar yr holl greaduriaid eraill, yn gymmaint ac y mae 'r haul mewn diſclairdeb a goleuni. llewyrch yn rhagori ar bob ſeren fechan yn y ffurfafen. Ef a wnaethpwyd ar lun a delw Dduw, ef a gynnyſcaeddwyd â phob rhyw ddoniau nefol, nid oedd brycheuyn o aflendid ynddo ef, yr oedd ef yn iach ac yn berffaith ym-mhob rhan oddiallan ac oddifewn, yr oedd ei reſwm ef yn anllygredig, ei ddeall yn bur ac yn dda, ei ewyllys yn vfydd ac yn dduwiol, ef a wnaethpwyd yn hollawl yn gyffelyb i Dduw, mewn cyfiawnder, mewn gwirionedd, ac ar ychydig eiriau, ymmhob rhyw berffaithrwydd.

Wedi ei greu ef a'i wneuthur fel hyn, fe a etholodd yr Holl-alluog (yn arwydd o'i fawr gariad tu ag atto ef) le yſpyſol o'r ddayar iddo ef, paradwys wrth ei henw, lle yr oedd ef yn byw ym-mhob llonyddwch a hyfrydwch, a chantho fawr halaethrwydd o olud bydol, ac heb arno eiſiau dim ac a allai yn gyfion ei ddymuno neu ei chwennych O blegid, fel y dywedir, fe a'i gwnaeth Duw ef Pſal. 8. 6. yn llywodraethwr ar holl weithredoedd ei ddwylo, ac a oſododd bob peth tan ei draed ef, defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd, holl ehediaid y nefoedd a holl byſcod y mor, i'w harfer hwy yn ôl ei ewyllys, fel y bydde raid iddo wrthynt. Ond oedd hyn yn ddrŷch ar bob perffeithrwydd? Ond oedd hon yn ſtât gyflawn berffaith-gwbl fendigedig? A ellid gan iawn ychwanegu dim at hyn, neu a ellid dymuuo dedwyddwch mwy yn y byd hwn?

Ond fel y mae naws a naturiaeth pob dŷn yn gyffredinol, yn amſer llwyddiant a hawddfyd i ollwng yn angof nid yn vnig hwynt eu hunain, ond Duw hefyd: felly y gwnaeth Addaf y dyn cyntaf, yr hwn pan nad oedd iddo ond vn gorchymmyn oddiwrth Dduw, ſef na bai iddo fwytta o ffrwyth pren gwybodaeth da a drwg, er hynny yn anfeddylgar iawn neu yn hytrach yn ewyllyſgar ef a dorrodd y gorchymmyn hwnnw, gan ollwng tros gof orchymmyn caled ei wneuthurwr, a rhoddi cluſt i hudoliaeth ddichellgar y felldigedig ſarph y diafol. O'r hyn y digwyddodd fel megis o'r blaen yr oedd ef yn fendigedig, felly yr aeth ef yn awr yn felldigedig, megis o 'r blaen y cerid ef, felly yn awr y ffiaiddid ef, megis o'r blaen yr oedd ef yn brydferth ac yn werthfawr, felly yn awr yr oedd ef yn waelaf ac yn ddiyſlyraf yngolwg ei Arglwdyd a 'i wneuthurwr; Yn lle bod yn ddelw Dduw, fe a aeth yn awr yn ddelw diawl; Yn lle bod yn ddineſydd nef, ef a aeth yn gaethwas i vffern, heb fod gantho ynddo ei hun vn rhan o'r purder ar 'glendid oedd ynddo o'r blaen, ond gwedi ei frychu a'i anurddo, megis nad oedd ef yn awr ond telpyn o bechod, ac am hynny wrth gyfiawn farn Duw ef a ddamnwyd i angau tragwyddol.

A phe buaſe y bla ddirfawr doſt hon yn aros ar Addaf yn vnig, yr hwn a bechodd yn gyntaf, hi a fuaſei lawer eſmwythach, ac a alleſid yn haws ei goddef. Ond ni chwympodd hi arno ef yn vnig, ond hefyd ar ei heppil a'i blant ef yn dragywydd, fel y dygai holl rywogaeth cnawd Addaf yr vn cwymp a choſpedigaeth ac a haeddaſai eu hên dâd hwy yn gyfiawn am ei fai. Mae S. Paul yn y bummed bennod at y Rhufeiniaid yn dywedyd Rom. 5. 12. ddyfod y cwymp ar bawb i ddamnedigaeth trwy bechod Addaf ei hun, ac mai trwy anufydddod vn dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid. Wrth yr hyn eiriau y'n dyſcir ni, fel megis yn Addaf y pechodd pob dŷn yn gyffredinol, felly hefyd yn Addaf y derbyniodd pob dyn yn gyffredinol wobr pechod, hynny yw, myned yn farwol ac yn gaethion i angau, heb genthynt ddim ynddynt eu hunain ond tragwyddol ddamnedigaeth corph ac enaid. Hwy a aeth ant (fel y Pſal. dywaid Dafydd) yn llygredig ac yn ffiaidd, hwy a aethant oll oddiar yr iawn ffordd, nid oes vn yn gwneuthur daioni, nac oes vn.

Oh pa ſtât druan flinedig oedd hon, fod i bechod vn dŷn ddiniſtrio a chondemno yr holl ddynion, fel na ellid edrych am ddim yn yr holl fyd, ond gloeſon. gloes angeu a phoenau vffern? A fuaſei ryfeddod yn y byd pe buaſei ddyn yn cwympo yn hollawl i anobaith, ac yntef gwedi cwympo fel hyn o fywyd i farwolaeth, o iechydwriaeth i ddiſtryw, o nef i vffern? Ond wele ddirfawr ddaioni Duw a'i dirion drugaredd ef yn hyn o beth! Er bod anwiredd a pechadurus ymddygiad dŷn yn gyfryw ac na haeddai mewn vn modd faddeu iddo, etto rhag ei fod yn llwyr noeth o bob gobaith a chyſſur erbyn yr amſer a ddauai, fe a ordeiniodd gyfammod newydd, ac a wnaeth addeiwid ſiccr o hono, hynny yw y danfonai ef Meſſias neu gyfryngwr i'r byd, yr hwn a wnai eiriol, ac a'i goſodai ei hun yn attaliaeth rhwng y ddwyblaid, i eſmwytho llid a digofaint Duw yn erbyn pechod, ac i waredu dŷn allan o'r flinedig felldith a'r melldigedig drueni y cwympaſai ef iddo, wrth fod yn anufydd i ewyllys a gorchymmyn yr vnig Arglwydd ar'gwneuthurwr.

Yr ammod a'r addewid hwn a wnaethpwyd yn gyntaf i Addaf ei hun, yn y man ar ol ei gwymp, fel yr ydym ni yn darllein yn y drydedd o Geneſis, lle y dywedodd Duw wrth y ſarph yn y modd hyn, Gelyniaeth a oſodaf rhyngot ti a'r Gen. 3. 15. wraig, a rhwng dy had di a'i had hitheu, efe a yſſiga dy ben di, a thitheu a yſſigi ei ſodl ef. Yn ol hynny yr adnewyddwyd y cyfammod hwn yn helaethach ac yn oleuach i Abraham, lle yr addawodd Gen. 12. 3. Duw iddo, y bendithid holl genhedloedd a theuluoedd y ddayar yn ei hâd ef. Trachefn y parhawyd ac y cadarnhawyd yr addewid ymma i Iſaac, yn yr vn dull ar eiriau, ac y gwnaethpwyd Gen. 16. 4. i'w dâd ef o'r blaen.

Ac er mwyn na bai i ddynion anobeithio, ond byw yn waſtadol mewn gobaith, ni orphwyſodd yr Holl-alluog Dduw o gyhoeddi, ac adrodd a chadarnhau a pharhau yr vn addewid, trwy amryw ac amrafael dyſtiolaethau ei brophwydi, y rhai er ſicrhau 'r peth yn well, a brophwydaſant am yr amſer a'r lle a'r modd a'r dull y genid ef, am flinderau ei fywyd ef, dull ei angau ef, gogoniant ei adgyfodiad ef, y modd y derbyniai ef ei deyrnas ac y gwarede ei bobl, a phob gogylcheddau eraill a berthynant i hynny.

Eſaias a brophwydodd y genid ef o forwyn ac y gelwid ef Emmanuel. Micheas a brophwydodd y genid ef yn Bethlehem dinas yn Iudea. Ezechiel a brophwydodd y * daue ef o lwyth a hiliogaeth Dafydd. Daniel a brophwydodd y gwaſanathai 'r holl genhedlaethau ac iaithoedd ef. Zacharias a brophwydodd y dauai ef mewn tlodi yn marchogaeth ar aſſen. Malachi a brophwydodd y danfonai ef Elias o'i flaen yr hwn oedd Ioan fedyddiwr. Ieremi a brophwydodd y gwerthid ef er deg dryll ar vgain o arian, &c.

A hyn oll a wnaethpwyd fel y coelai ac y cyflawn gredai ddynion yr addewid a 'r ammod a wnaeth Duw i Abraham a'i hiliogaeth ynghylch prynedigaeth y bŷd.

Yn awr, fel y dywed yr Apoſtol Paul, pan ddaeth cyflawnder yr amſer, hynny yw cwblhâd a chylch y blynyddoedd a oſodaſid o'r dechreuad, yna y danfonodd Duw, yn ol ei gyfammod a'i addewid, y Meſſias i'r byd, yr hwn a elwid hefyd yn gyfryngwr, nid cyfryw vn ac oedd Ioſuah, Saul neu Ddafydd, ond cyfryw vn ac a warede ddynion oddiwrth chwerw felldith y gyfraith, ac a wnai gyflawn iawn trwy ei angau tros bechodau yr holl bobl, hynny yw fe a ddanfonodd ei anwyl a'i vnig fab Ieſu Ghriſt, yr hwn (fel y dywaid yr Apoſtol) a anwyd o wraig, ac a wnaethpwyd tan y gyfraith, fel y gwaredai ef y rhai oeddynt tan gaethiwed y gyfraith, a'u gwneuthur hwy yn blant i Dduw trwy fabgynnwys.

Onid oedd hyn yn gariad mawr rhyfedd tu ag attom ni y rhai oeddym elynion goleu cyhoeddus iddo ef? tuag attom ni y rhai oeddym wrth naturiaeth yn blant digofaint, a thewynnion tân vffern? yn hyn, medd Ioan ſant, yr ymddangoſodd mawr gariad Duw, am iddo efddanfon ei vnig fab i'r byd i'n gwared ni pan oeddym elynion digaſog iddo ef. Yn hyn y mae cariad, nid am i ni ei garu ef, ond am iddo ef yn caru ni, a danfon ei fab i fod yn iawn ac yn gymmod tros ein pechodau ni. S. Paul yntef ſydd yn dywedyd, Ro. 5. 6. Chriſt pan oeddym yn ddinerth, yn yr amſer, a ſu farw dros yr annuwiol. Diau mai prin y hydd vn farw tros vn cyfiawn. Er hynny tros vn da fe allai y bydde vn farw. Etto mae Duw yn dangos ei gariad tu ag attom ni, o blegid a ni etto yn bechaduriaid farw o Ghriſt troſom.

Y gyffelybiaeth hon a'r cyfryw y mae 'r Apoſtol yn eu harfer i helaethu ac i oſod allan dirion drugaredd Duw a'i fawr ddaioni ef a ddangoſwyd tu ag at ddynion, wrth ddanfon iddynt Iachawdwr o'r nef, yr hwn yw Chriſt yr Arglwydd. Yr hyn ddawn, ym-mhlith eraill, ſydd gymmaint ac mor rhyfedd ac na ddichon tafod ei draethu, na chalon ei feddwl, llai o lawer y gellir rhoddi cwbl ddiolch i Dduw am dano.

Ond ymma y mae ymryſon mawr rhyngom ni a 'r Iddewon, pa vn a wna ai bod yr Ieſu hwnnw a aned o'r forwyn Fair yn wir Meſſias a gwir Iachawdwr y byd a addawyd ac a brophwydwyd cyhyd o'r blaen. Hwynt hwy, fel y maent ac yr oeddynt erioed yn feilchion ac yn warſyth ni chydnabyddaſant mo hono hyd y dydd heddyw, ond edrych a llygad-rythu am vn arall i ddyfod. Mae genthynt y dychymmyg a'r dŷb ynfyd ymma yn eu pennau, y daw y Meſſias, nid fel y daeth Chriſt, megis pererin tlawd, a dŷn truā yn marchogaeth ar aſſen, ond megis brenhin dewr cadarn mewn gogoniant ac anrhydedd mawr, nid fel y daeth Chriſt ac ychydig byſcodwyr, a dynion o gyfrif bychan yn y byd, ond a llu mawr o wyr cedyrn, a chwmpeini mawr o wyr doethion ac o bendefigion, megis marchogion, arglwyddi, ieirll, dugiaid, tywyſogion a'r cyfryw.

Ac nid ydynt yn tybied y goddef eu Meſſias hwy angau yn ddirmygus, fel y gwnaeth Chriſt, ond y gorchfyga ef yn ddewr, ac y goreſcyn yn wrol ei holl elynion, ac o'r diwedd yr ennill ef y fath deyrnas ar y ddayar ac na welwyd erioed ei chyffelyb er y dechreuad.

Yr hyd y maent fel hyn yn llunio iddynt eu hunain Meſſias wrth eu ſynwyr eu hunain, maent yn eu twyllo en hunain, ac yn cyfrif Chriſt yn wael ac yn Wrthodyn. adyn ac ynfyttaf o'r holl fyd.

Am hynny (fel y dywaid S. Paul) mae Chriſt wedi ei groeſhoelio, yn faen tramgwydd i'r Iddewon, ac yn ffolineb i'r cenhedloedd, am eu bod hwy yn cyfrif yn beth anghyſſon, ac yn wrthwyneb i bob rheſwm, y trinid prynwr a gwaredwr yr holl fyd yn y modd y trinwyd ef, hynny yw ei watwar, ei gablu, ei Whippio. fflangellu, ei gondemnio ac o'r diwedd ei groeſholio yn greulon. Hyn, meddaf yn eu golwg hwy ſydd ryfedd ac angyſſon, ac am hynny ni chydnabyddent hwy yr amſer hwnnw ac ni chydnabyddant etto mai Chriſt yw eu Meſſias a'u Iachawdwr hwy.

〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉

Ond rhaid i ni, fy-ngharedigion, y rhai ydym yn gobeithio cael bod yn gadwedig, gredu yn ddian wadal a chyffeſu yn hŷf, mai 'r Ieſu hwnnw a aned o'r forwyn fair yw 'r gwir Meſſias a'r cyfryngwr rhwng Duw a dŷn, yr hwn oedd wedi ei addaw a'i ddarogan cyhyd o amſer o'r blaen. O blegid, fel yr ſcrîfenna 'r Apoſtol, â'r Rom. 10. 10 galon y credir i gyfiawnder, ac â 'r genau cyffeſſir i iechydwriaeth. A thrachefn yn yr vn lle, Pwy bynnag a gredo ynddo ef, ni chwilyddir ef. A hyn verſ. 11. hefyd y cyttuna tyſtiolaeth Ioan ſant a ſcrifennodd ef yn y bedwaredd bennod o'i epiſtol cyffredinol cyntaf, yn y modd hyn, Pwy bynnag a 3. Ioan. 4. 15. gyffeſſo fod Ieſu Griſt yn fab Duw, ynddo ef y mae Duw yn trigo ac yntef yn-Nuw. Nid oes ammau nad yw pob Chriſtion yn gwbl ſiccr o hyn.

Etto nid colli fy-nrhafael a fyddei i mi eich addyſcu a' ch arfogi chwi ag ychydig leoedd o'r Scrythur lân ynghylch y defnydd ymma, fel y galloch attal genau enllibus pawb oll ac a geiſio yn hyttrach yn gythreulig ddyſcu neu amddiffyn y gwrthwyneb.

Yn gyntaf mae i chwi dyſtiolaeth yr Angel Gabriel, a fynegwyd i'r Archoffeiriad Zacharias ac i'r fendigedig forwyn hefyd.

Yn ail mae i chwi dyſtiolaeth Ioan fedyddiwr yn dangos Chriſt â'i fŷs ac yn dywedyd, Wele oen Duw yr hwn ſydd yn tynnu ymmaith bechodau 'r byd.

Yn drydedd mae i chwi dyſtiolaeth Duw dad yn taranu o'r nef ac yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl fab yn yr hwn y'm bodlonir, grwandewch ef.

Yn bedwerydd mae i chwi dyſtiolaeth yr Yſpryd glan yr hwn a ddiſcynnodd o'r nef yn rhith colommen, ac a ddiſcynnodd arno wrth ei fedyddio.

At hyn y gellid angwanegu llawer mwy, yn enwedig tyſtiolaeth y gwyr doethion a ddaethant at Herod, tyſtiolaeth Simeon ac Anna, tyſtiolaeth Andreas a Philip, Nathaniel a Phetr, Nicodemus a Martha, a llawer eraill.

Ond fe fyddai ryhir adrodd y cwbl, ac ychydig leoedd a waſanaetha mewn matter mor oleu, yn enwedig ym-mlith y rhai ſy eiſoes yn ei gredu. Am hynny os cais dirgel genawon Angriſt a dichellgar weinidogion diafol eich hudo a'ch tynnu oddiwrth y gwir Feſſias, a'ch perſwadio i ddiſgwyl am vn arall yr hwn ni ddaeth etto: Na edwch iddynt mewn modd yn y byd eich hudo, ond cadarnhewch chwi eich hunain â'r tyſtiolaethau hyn a'r cyffelyb allan o'r Scrythur ſanctaidd, y rhai ydynt mor ddiogel ac mor ſiccr ac na ddichon holl gythreuliaid vffern byth ſefyll yn eu herbyn hwy. O blegid mor wir ac mai byw Duw, cyn wired yw mai Ieſu Griſt yw'r gwir Feſſias ac Iachawdwr y bŷd, ſef yr Ieſu hwnnw a aned ar gyfenw i heddyw o'r forwyn Fair, heb help gŵr trwy allu a gweithrediad yr Yſpryd glân.

Ac am fod llawer ac amryw draws opinionau a hereſiau gwedy cyfodi yn ein dyddiau ni trwy ddichell a hudoliaeth Sathan, ynghylch ei naturiaeth a'i ſylwedd ef: fe fydd anghenrheidiol a buddiol er eich cyfarwyddo chwi, ddywedyd gair neu ddau ynghylch hynny.

Mae 'r Scrythur lan yn ein dyſcu ni yn olen fod ein harglwydd a'n Iachawdwr Ieſu Griſt o ddwy naturiaeth neilltûol wahanredol, hynny yw, ei ddyndod wrth yr hon y mae efe yn ddŷn cyflawngwbl perffaith, a'i dduwdod wrth hon y mae efe yn berffaith Dduw. Mae yn ſcrifennedig, Y gair (hynny yw yr ail berſon yn y drindod) a Io. 1. 14. wnaethpwyd yn gnawd. Duw gan ddanfon ei o. 8. 3. fab ei hun ynghyffelybiaeth cnawd pechadurus, a gyflawnodd y pethau ni allodd y gyfraith eu cyflawni. Chriſt ac yntef yn vn ffurf a Duw, a gymmerodd arno agwedd gwâs, ac a wnaethpwyd Phil. 2. 7. yn gyffelyb i ddynion, ac a gafwyd yn ei ddull fel dyn. Duw a ymddangoſodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Yſpryd, a welwyd 1. tim. 3. 16. gan angelion, a bregethwyd i'r cenhedloedd ac a dderbyniwyd i fynu mewn gogoniant. Ac mewn man arall hefyd, Vn Duw ſydd, ac vn cyfryngwr rhwg Duw a dŷn, ſef y dŷn Chriſt Ieſu.

Mae y rhai hyn yn lleoedd eglur i brofi ac i ddangos y ddwy naturiaeth ſydd gwedy eu cyfuno a'u cyſſylltu yn vn Chriſt. Yſtyrivon yn ddieſceulus a phwyſwn y gweithredoedd a wnaeth ef yr hŷd y bu fyw ar y ddayar, ac ni a allwn ddeall wrth y rhai hynny hefyd fod hyn yn wir. Wrth fod iddo newynu a ſychedu, bwytta ac yfed, cyſcu a gwilied, pregethu 'r Efengyl i'r bobl, wylo a thoſturio tros Ieruſalem, talu teyrnged troſto ei hun a Phetr, marw a dioddef angau, pa beth a ddangoſodd ef wrth wneuthur hynny, ond hyn yn vnig, ei fod ef yn ddŷn cyflawngwbl fel ninnau? Ac amhynny y gelwir ef yn yr Scrythur lan weithiau yn fab Dafydd, weithiau yn fab y dŷn, weithiau mab Mair, weithiau mâb Ioſeph a'r cyffelyb.

Bellach am iddo faddeu pechodau, gwneuthur gwyrthiau, bwrw allan gythreuliaid, iachau, dynion â 'i air yn vnig, gwybod meddyliau calonnau dynion, bod y moroedd ar ei orchymmyn ef, rhodio o hono ar y dyfroedd, adgyfodi o hono o angau i ſywyd, eſcyn o hono i'r nef, a'r cyfryw i pa beth y mae efe yn ei ddangos wrth hynny, ond yn vnig ei fod ef yn berffaith Dduw, gogyfuwch a'r tâd oblegid ei dduwdod? Am hynny y dywed Y Tâd a minnau yr vn ydym.

Pa le bellach y mae y Marcioniaid, y rhai ſy yn gwadu geni Chriſt yn y cnawd; ac yn dywedyd nad oedd ef yn berffaith ddyn? Pa le bellach y mae 'r Arriaid hynny, y rhai ſy 'n gwadu fod Chriſt yn berffaith Dduw, o'r vn ſylwedd a 'r Tâd? Os bydd yr vn o'r cyffelyb, chwi a ellwch yn hawdd eu hargyoeddi hwy a'r tyſtiolaethau hyn o air Duw, ac â'r cyfryw eraill. Y rhai y mae yn ſiccr gennyf na allant byth eu hatteb.

O blegid yr oedd yn anghenrhaid i 'n Iechydwriaeth ni gael y fath gyfryngwr ac Iachawdwr, ac a fyddai gyfrannog o 'r ddwy naturiaeth yn vn perſon Yr oedd yn anghenrhaid ei fod ef yn ddŷn, ac yr oedd yn anghenrhaid hefyd ei fod ef yn Dduw. O blegid fel y daeth y troſeddiad a thorri'r gorchymmyn trwy ddŷn, felly yr oedd yn gymheſur wneuthur iawn trwy ddŷn. Ac o blegid fel y dywaid S. Paul, mai angau yw cyflog a chyſiawn wobr pechod, am hynny i lonyddu digofaint Duw ac i wneuthur iawn i'w gyſiawnder ef, cymmheſur oedd fod ein cyfryngwr ni yn gyfryw vn ac a allei gymmeryd arno bechodau dynion, a dwyn y goſpedigaeth oedd ddyledus iddynt hynny yw Angau.

Hefyd fe a ddaeth yn y cnawd, ac yn yr vn cnawd a eſcynnodd i'r nef, i ddangos ac i dyſtiolaethu i ni, y caiff yr holl ffyddloniaid a gredant yn ddiſigl ynddo ef yn yr vn modd ddyfod i'r vn drigfa, i'r hon yr aeth ef ein pennadur ni o'r blaen.

Yn ddiwethaf fe a wnaethpwyd yn ddŷn, fel y gallem ni wrth hynny dderbyn ychwaneg o ddiddanwch, cyſtal yn ein gweddiau ac yn ein hadfyd, pan yſtyriom ynom ein hunain, fod i ni gyfryngwr yr hwn ſydd wir ddŷn fel ninnau, a'r hwn y cyhwrdde ein gwendid ni, yr hwn a dempti wyd yr vn modd ac y temptir ninnau. heb. 4. 15.

Er mwyn yr achoſion hyn a llawer eraill yr oedd yn anghenrhaid iddo ddyfod megis y daeth, yn y cnawd. Ond o blegid nad oes ac nas gall fod gan vn creadur o blegid ei fod yn greadur, allu i ddiniſtrio angau ac i roddi bywyd, i orchfygu vffern ac i brynu nef, i faddeu pechodau ac i roddi cyfiawnder: am hynny rhaid oedd i'n Meſſias ni, dlêd a ſwydd yr hwn oedd wneuthur y pethau hynny, fod nid yn vnig yn gyflawngwbl ac yn berffaith ddŷn, ond hefyd yn gyflawngwbl ac yn berffaith Dduw, fel y gallai yn gyflawnach ac yn berffeithiach wneuthur iawn tros ddŷn.

Mae Duw yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl fab yn yr hwn y'm bodlonir; wrth y geiriau hynny yr ydym yn deall ddarfod i Ghriſt lonyddu a diffodd llid ei Dâd, nid am ei fod ef yn vnig yn fâb dŷn, ond yn fwy o lawer am ei fod ef yn fâb Duw.

Fel hyn y clywſoch ddangos allan o'r Scrythyrau, mai Ieſu Ghriſt yw'r gwir Meſſias ac Iachawdwr y byd, ei fod ef mewn naturiaeth a ſylwedd yn berffaith Dduw ac yn berffaith ddŷn, a pha ham yr oedd anghenrhaid ei fod ef felly.

Bellach fel y byddom ni meddylgarach a mwy ein diolch i Dduw yn y peth hyn, yſtyriwn ar ychydig airiau a galwn i'n côf yr amryw a'r dirfawr ddoniau a dderbyniaſom ni oddiwrth enedigaeth ein Meſſias a'n Iachawdr hwn.

Cyn dyfod Chriſt i'r byd, nid oedd yr holl ddynion yn gyffredinol ond cenedlaeth anwir Draws. drofaus, prennau pydron llygredig, tir carregog yn llawn Dryſi drain a gwyddeli. mieri, defaid colledig, meibion afradlon, gweiſion drwg anfuddiol, goruchwilwyr anghyfiawn, gweithredwyr anwiredd, hiliogaeth gwiberod, tywyſogion deillion, yn eiſtedd mewn tywyllwch a chyſgod angau: ac ar ychydig eiriau, nid oeddynt ddim ond plant colledigaeth, ac etifeddion tân vffern. I hyn y mae S. Paul yn dwyn tyſtiolaeth mewn llawer o leoedd yn ei epiſtolau, a Chriſt ei hun hefyd mewn amryw leodd o'i Efengyl.

Ond gwedi ei ddiſcyn ef vnwaith o'r nef a chymmeryd ein naturiaeth egwan ni arno, ef a wnaeth gynnifer oll ac a'i derbyniaſant ef yn gywir, ac a gredaſant ei air ef, yn brennau da, yn dir da, yn ganghennau ffrwythlon prydferth, yn blant y goleuni, yn ddinaſwyr nef, yn ddefaid o'i gorlan, yn aelodau o'i gorph, yn etifeddion o'i deyrnas, yn gywir gyfeillion ac yn frodyr iddo, yn fara melûs bywiol, yn ddewiſol ac yn etholedig bobl Dduw. O blegid fel y dywaid Petr 1. Pet. 2. 24. yn yr ail bennod o'i epiſtol cyntaf, Ef a ddygodd ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren, a thrwy ei gleiſiau ef y'n iachawyd ni.

A lle yr oeddym ni o'r blaen yn ddefaid gwedi myned ar gyfrgoll, efe wrth ei ddyfodiad a'n dug ni adref eilwaith at fugail ac eſcob ein heneidiau, gan ein gwneuthur ni yn genhedlaeth etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn bobl fydd briodoriaeth i Dduw, gan farw dros ein pechodau ni. Yr vn S. Paul at Titus yn y drydedd bennod ſydd yn dywedyd ein bod ni gynt yn annoethion, Tir. 3. 3. yn anvfydd, mewn amryfyſedd, yn gwaſanaethu chwantau, ac amryw felyſwedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn llidiog ac yn caſhau ei gilydd, Ac. eithr gwedi i ddaioni Duw ymddangos i ddŷn, a'i garedigrwydd ef yn Ieſu Griſt, nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, ond yn ôl ei drugaredd yr iachaodd efe ni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Yſpryd glân, yr hwn a dywalltodd ef arnom ni yn helaeth trwy Ieſu Griſt ein Iachawdwr, fel y bydde i ni wedi ein cyfiawnhau trwy ei râs ef, gael ein gwneuthur yn etifeddion yn ôl gobaith y bywyd tragwyddol.

Yn y lleoedd hyn a 'r cyfryw leoedd eraill, y goſodir ger bron ein llygaid ni megis mewn drych, aml ras Duw yn Ieſu Griſt, yr hyn ſydd ryfeddach o blegid nas daeth o'n haeddiant ni, ond yn vnig o'i dirion drugared ef, a hynny pan oeddym yn elynion atcas iddo ef.

Ond er mwyn i ni ddeall ac yſtyried y peth hyn yn well, edrychwn er mwyn pa ddefnyd y daeth ef, yno y cawn ddeall pa ennill a pha fudd a ddug ei enedigaeth ef i ni greaduriaid truain pechadurus. Diwedd ei ddyfodiad ef oedd i achub a gwared ei bobl, i gyflawni y gyfraith droſom ni, i ddwyn tyſtiolaeth i 'r gwirionedd, i ddyſcu a Mat. 1. 21. Mat. 5. 17. phregethu teyrnas ei dâd, i roddi goleuni i'r byd, i Io. 18. 57. Luc. 4. 44. Io. 8. 14. Mat. 9. 11. Mat. 11. 28. Col 1. 22. Heb. 2. 14. 1. Io. 2. 2. alw pechaduriaid i edifeirwch, i efmwytho ar y rhai blinderog a llwythog, i daflu allan dywyſog y bŷd hwn, i'n cymmodi ni ag ef ynghorph ei gnawd, i ddattod gweithredoedd y cythraul, i fod yn iawn dros ein pechedau ni, ac nid dros ein pechodau ni yn vnig, ond tros bechodau 'r holl fyd.

Dymma 'r achoſion pennaf yr aeth Chriſt yn ddŷn, nid er mwyn ennill yn y byd a ddauai iddo ef o hynny, ond yn vnig er ein mwyn ni, fel y gallē ddeall ewyllys Duw, a bod yn gyfrannogion o'i oleuni nefol ef, a chael ein gwared o gigweiniau diawl, ein rhyddhau oddiwrth faich ein pechodan, ein cyfiawnhau trwy ffydd yn ei waed ef, ac yn ddiwethaf cael ein derbyn i fynu i ogoniant tragwyddol, i deyrnaſu yno gydag ef bych. Ond oedd hyn yn gariad mawr godidog i Griſt tu ag at ddynion, ac yntef yn wir ddelw a llun Duw, iddo er hynny ymoſtwng a chymmeryd arno agwedd gwâs, a hynny yn vnig er mwyn ein hachub a 'n gwared ni? Oh mor rhwymodig ydym ni i ddaioni Duw yn hyn o beth Pa faint o ddiolch a moliant fy ddyledus arnom iddo of ain ein Iechydwriaeth a weithiodd of trwy ei anwyl a'i vnig fâd Chriſt? Yr hwn aeth yn bererin ar y ddayar i'n gwneuthur ni yn ddinaſyddion nef, yr hwn aeth yn fâb dŷ ni 'n gwneuthur ni yn feibion i Dduw, yr hwn a fu vfydd i 'r gyfraith i 'in gwared ni oddiwrth felldith y gyfraith, yr hwn aeth yn dlawd i 'n gwneuthur ni yn gyfoethogion, yn wael i 'n gneuthur ni yn werthfawr, an farwolaeth i wneuthur i ni fyw yn dragywydd. Pa gariad mwy a allem ni greaduriaid truein ei ddeifyf neu ei ddymuno •• law Dduw.

m hynny fy anwyl garedigion, nac anghofiawn ddirfawr gariad ein harglwydd a 'n Iachawdwr, na ddangoſwn mo honom ein hunain yn anfeddylgar nac yn anniolchgar tu ag atto ef, ond carwn ef, ofnwn ef, vfyddhawn iddo, gwaſanaethwn ef. Cyffeſſwn ef â 'n geneuau, clodforwn ef â 'n tafodau, credwn iddo â 'n calonnau, a gogoneddwn ef â 'n gweithredoedd. Chriſt yvo 'r goleuni, derbyniwn y goleuni. Chriſt yw 'r gvoirionedd, credwn y gwirionedd. Chriſt yw 'r ffordd, dilynwn y ffordd. Ac o hetwydd mai efe yw ein vnig feiſtr ni, ein vnig athro ni, ein hunig fugail ni a 'n tywyſog pennaf, byddwn iddo ef yn weiſion, yn yſcolheigion, yn ddefaid, yn filwyr.

Tuag at am bechod, y byd, y cnawd, a 'r cythraul, i 'r rhai yr oeddym ni yn gaethweiſion cyn dyfodiad Chriſt, taflwn hwy ymmaith, a ffiaiddiwn hwy, megis vnig elynion pennaf ein heneidiau. A chan ddarfod i Chriſt vnwaith ein gwared ni oddiwrth eu creulon dyrannaeth hwy, nachwympwn byth mwy i'w dwylo hwy, rhag i ni fod mewn cyflŵr gwaeth nag y buom erioed o 'r blaen: dedwydd, medd yr Scrythur, yw y rhai a barhao hyd y diwedd. Bydd ffyddlon, medd Duw, hyd angau, a mi a roddaf i ti goron y bywyd. Eilwaith ef a ddywaid mewn man arall, yr hwn a oſodo ei law ar yr aradr ac a edrycho yn ei ôl, nid yw addas i deyrnas Dduw. Am hynny byddwn gedyrn, a diogel a diſygl, yn helaeth yn waſtad yngweithredoedd yr Anglwydd. Derbyniwn Griſt, nid tros amſer, ond tros fyth. Credwn ei air ef, nid tros amſer ond tros fyth. Awn yn weiſion iddo, nid tros amſer ond tros fyth. O blegid iddo ef yn prynu ni a 'n gwared ni, nid tros amſer ond tros fyth, ac y derbyn ef ni i'w deyrnas nef, i deyrnaſu yno gydag ef, nid tros amſer ond tros fyth. Iddo ef am hynny gyda 'r Tâd a 'r Yſpryd glân y byddo 'r holl anrhydedd, moliant a gogoniant yn oes oeſoedd, Amen.

¶ Pregeth ar ddy gwener y croglith, ynghylch angau a dioddefaint ein Iachawdwr Ieſu Ghriſt.

NId ydyw weddus i ni (fy-ngharedigion ynghriſt) a ninnau yn bobl wedi iddo ef eu gwared oddiwrth y cythraul, oddiwrth bechod a marwolaeth, ac oddiwrth ddānedigaeth dragwyddol trwy Ghriſt, ellwng yr amſer ymma heibio heb na myfyrdod na choffadwraeth am ardderchog weithred ein prynedigaeth a wnaethpwyd ar gyfenw i 'r amſer ymma, trwy fawr drugaredd a chariad ein Iachawdwr Ieſu Ghriſt, troſom ni bechaduriaid truain ei elynion ef.

O blegid os bydd gweithred dŷn marwol, yr hon a wneler er budd i'w wlad, mewn coffadwriaeth yn ein plith ni, gydâ diolch am y dawn a 'r gwelliant ſydd yn dyfod i nioddiwrth hynny: parottach o lawer y dylem wneuthur coffa am ardderchog weithred a dawn marwolaeth Chriſt: trwy yr hyn y prynodd efi ni ddiogel bardwn a maddeuant am ein pechodau, ac y cymmododd ef y Tâd o 'r nêf a nyni, megis yn awr y mae efe yn ein cymmeryd ni yn anwylblant iddo, ac yn wir etifeddion gydâ Chriſt ei fâb naturiol ef o deyrnas nefoedd.

Ac yn wir y mae tirionder Chriſt yn ymddangos yn fwy o lawer am fod yn wiw gantho roi heibio ei holl anrhydedd dduwiol, yn yr hon yr oedd ef yn ogyfuwch â 'i dâd o 'r nef, a dyfod i lawr i 'r dyffryn blinder hwn, i'w wnethur yn ddyn marwol, a bod mewn cyflwr y gwâs gwaelaf, a'n gwaſanaethu ni er budd a lles i ni, ini meddaf, y rhai oeddym yn elynion tyngedig iddo ef ac a wrthodaſem ei ghfreithiau a'i orchymmynion ſanctaidd ef, ac a ddilynaſem drachwantau a hoffderau ein naturiaeth lygredig ein hunain. Etto er hynny, meddaf, fe a'i goſododd Chriſt ei hunan rhwng cyfiawn ddigofaint Duw, a 'n pechodau ni, ac a dorrodd yr ſcrifenlaw 〈◊〉 . 2. 14. trwy 'r hon yr oeddym ni yn rhwym i Dduw, ac a dalodd ein dlêd ni.

Ŷr oedd ein dlêd ni yn ormodd o lawer i ni i'w thalu. Ac heb dale digaeth ni allai Dduw byth fod yn gyttun a ni. Ac nid oedd boſſibl i ni gael ein rhyddhau oddiwrth y ddled ymma o 'n gallu ein hunain.

Am hynny fe fu wiw gantho ef fod ein dalwr troſom, a 'n rhyddau ni yn gwbl.

Pwy yn awr a ddichon yſtyried tôſt ddlêd pechod, yr hon ni ellid ei thalu yn amgen na thrwy farwolaeth gŵr dieniwed diddrwg, ac ni chaſhâ bechod yn ei galon? Os ydyw Duw yn caſhau pechod yn gymmaint ac na chymmerai ef na bŷn nac angel yn iawn droſto, ond yn vnig marwolaeth ei vnig anwyl fab, pwy ni bydd arno ofn pechod Os yſtyriwn ni fy-ngharedigion orfod ar yr oen diniwed hyn oddef angau, fe all fod gennym fwy o achoſion i alaru troſom ein hunain, y rhai a fuom achoſion o'i farwolaeth ef, i waeddi yn erbyn malis a chreulondeb yr Iddewon, y rhai a'i herlidiaſant ef i angau. Nyni a wnaethom y gweithredoedd a barodd iddo ef gael ei daraw a'i glwyfo, nid oedd yr Iddewon ond gweinidogion ein drygioni ni.

Gweddus am hynny yw i ni ddiſcyn yn iſel i'n calonnau a galaru am ein trueni a 'n bywyd pechadurus. Gwybyddwn yn ſiccr os coſpwyd ac os tarawyd anwyl fâb Duw fal hyn am y pechodau y rhai ni wnaethe efe ei hunan: pa faint toſtach y dlyem ni gael ein coſpi am ein amryw bechodau beunyddol y rhai yr ydym yn eu gwneuthur yn erbyn Duw, onid edifarhawn yn ddifrif a galaru am danynt? ni all neb fod mewn ffafor gydâ Duw, a charu pechod, yr hwn y mae Duw yn ei gaſhau yn gymmaint. Ni ddichon neb ddywedyd ei fod ef yn caru Chriſt yn gywir, ac yntef a chymdeithas rhyngtho a'i elyn mawr ef, yr hwn yw pechod, awdur ei angau ef. Yn gymmaint yr ydym yn caru Duw a Chriſt, ac yr ydym yn caſhau pechod. Am hynny ni a ddylem fod yn wagelog iawn rhag bod ein ſerch ni ar bechod, rhag ein cael ni wrth hynny yn elynion i Dduw ac yn fradwyr i Ghriſt.

O blegid nid hwynthwy yn vnig y rhai a hoeliaſant Griſt ar y groes, yw artaithwyr a chroeſhoel-wyr Chriſt, ond y maent hwy oll (medd S. Paul) yn ail-groeſhoelio mâb Duw, hyd y mae ynddynt hwy, y rhai ſy yn gwneuthur drygioni a phechod, y rhai a'i dygaſant ef i farwolaeth. Os cyflog pechod yw angau, a hynny angau tragwyddol, yn wir nid bychan y perigl o fod mewn gwaſanaeth pechod. Os byw fyddwn yn ôl y cnawd a'i chwantau pechadurus, mae S. Paul yn bygwth, ie yr Holl-alluog yn bygwth trwy S. Paul y byddwn meirw. Ni allwn ni fyw i Dduw mewn modd amgen na thrwy feirw i bechod. Os yw Chriſt ynom, yno mae pechod yn farw ynom. Ac os ydyw Yſpryd Duw ynom, yr hwn a gyfododd Chriſt o farwolaeth i fywyd, yr vn Yſpryd a 'n cyfyd ninnau i ailgyfodiad y bywyd tragwyddol. Ond os teyrnaſa pechod ynom, yno mae Duw yr hwn yw ffynnon pob Ro. 5. 6. grâs a rhinwedd, wedi myned oddiwrthym: yno y mae diawl a'i Yſpryd anraſlon yn rheoli ac yn llywydraethu ynom.

Ac yn ſiccr os byddwn feirw yn y cyflwr blin ymma, ni chyfodwn ni i fywyd, ond ni a gwympwn i angau a damnedigaeth byth heb ddiwedd. O blegid ni waredodd Chriſt ni felly oddiwrth bechod, fel y gallem yn ddibryder droi atto eilwaith: ond fe a'n gwaredodd ni, fel y bydde i ni ymwrthod a gwyniau pechod, a byw i gyfiawnder. Ie fe a'n golchwyd ni yn ein bedydd oddiwrth frynti pechod, fel y byddem ni byw o hynny allan mewn purdeb buchedd. Ni a addawſom yn ein bedydd ymwrthod a diafol a'i holl ddichellion, ni a addawſom (megis plant vfyddgar) yn waſtad ganlyn bodd ac owyllys Duw.

Am hynny os efe yw 'n Tâd ni yn ſiccr, rhoddwn iddo ef ei anrhydedd dyledus. Os plant iddo ef ydym ni, dangoſwn ein vfydd-dod iddo, fel y dangoſodd Chriſt yn oleu ei vfyddd-dod i'w dâd, yr hwn (fel y mae S. Paul yn ſcrifennu) a fu vfydd i angau ſef angau 'r groes. A hyn a wnaeth ef droſom ni oll y rhai ydym yn credu ynddo ef.

Ni choſpwyd ef troſto ei hunan, oblegid yr oedd ef yn bur ac yn lân oddiwrth bob rhyw bechod. Fe a archollwyd (medd y prophwyd Eſai) Eſai. 53. 3. am ein pechodau ni ac a ddrylliwyd am ein camweddau ni, efe a gymmerth ein gwendid ni ac a ddygodd ein doluriau ni. Ni wrthododd ef oddef vn boenedigaeth ar ei gorph ei hun er ein gwared ni o dragwyddol boenau. Ei ewyllys ef oedd wneuthur hyn droſon ni, er nas haeddaſom.

Am hynny po mwyaf, y gwelom ni ein bod ein hunain yn rhwymedig iddo ef, mwy o ddiolch a ddylem ni ei roddi iddo ef, a mwy o obaith allwn ni ei gymmeryd y cawn ni dderbyn pob peth daionus arall ar ei law ef, gan i ni o'i haelioni ef dderbyn ei anwyl fâb ef. O blegid (fel y dywaid S. Paul) onid arbedodd Duw ei fâb ei hun, ond ei Ro. 8. 32. roddi ef droſom ni i farwolaeth, pa wedd gyd ag ef na rydd ef bob peth i ni hefyd? Os bydd arnom eiſiau dim nac i'n cyrph nac i'n heneidiau, ni a allwn yn gyfreithlon ac yn hyderus neſau at Dduw, megis at ein tâd trugarog, i ofyn y peth a fynnom ac ni a'i cawn.

O herwydd cynnifer o honom ac ſydd yn credu yn enw Chriſt, fe a roddwyd i ni y gallu i fod yn blant i Dduw. Pa beth bynnag a ofynnom yn ei enw ef, fe a geniatteir i ni. O blegid mae Duw dâd Holl-alluog wedi ei fodloni yn gyſtal ynghriſt ei fab, fel y mae ef er ei fwyn ef yn ein hoffi ni, ac ni Phalla inj. neccy ni o ddim. Mor fodlon fu gantho offrwm ac aberth angau ei fab, yr hon a ddioddefodd ef mor vfydd ac mor ddiniwed, ac y cymmerai ef hi yn lle vnig a chyflawn iawn am bechodau yr holl fyd. A chyfryw ffafor a brynodd ef i ni trwy ei angau oddiar law ei nefol dâd, megis o haeddedigaeth y farwolaeth honno (os ydym wir Griſtianogion ac nid mewn g air yn vnig) yr ydym ni yn awr yn hollawl yngrâs Duw, a chwedy ein rhyddhau yn llwyr od diwrth ein pechodau.

Yn wir nid yw tafod abl i draethu teilyngdod angau mor werthfawr. O blegid yn y farwolaeth hon y mae gwaſt a dol bardwn a maddeuant ein pechodau beunyddol ni, ynthi y mae ein cyfiawnhâd ni, ynddi y 'n gwneir ni yn gymmeradwy, â hi y prynir iechyd tragwyddol ein heneidiau 'ni. Ie nid oes vn peth arall ac a ellir ei enwi dan y nef i gadw ein eneidiau ni, ond yr vnig orchwyl hwn a wnaeth Chriſt wrth offrwm ei werthfawr gorph ar allor y groes.

Siccr yw na ddichon bod gweithred vn dŷn Act. 4. 12. marwol, er ſancteiddied fytho, gael ei chwplu mewn haeddedigaethau gyd a ſanctaidd weithred Chriſt. O blegid yn ddiammau ni thalai ein meddyliau na'n gorchwylion ni ddim, onis gwneid hwy yn gymmeradwy yn haeddedigaethau marwolaeth Chriſt. Mae 'n holl gyfiawnder ni yn rhy ammherffaith iawn, os cyffelybir ef â chyfiawnder Chriſt. O blegid yn ei orchwylion a'i weithredoedd ef, nid oedd brychi pechod, na dim am-mherffeithrwydd. Ac am hynny yr oeddynt yn alluoccach ac yn applach i fod yn wir iawn am ein anghyfiawnder ni, lle mae'n gweithredoedd ni a'n gorchwylion yn llawn ammherffaithrwydd a gwendid ac am hynny o honynt eu hunain yn an-nheilwng i beri i Dduw ein hoffi ni, a llai o lawer i ym-arddel o'r gogoniant ſy ddyledus i weithred Chriſt ac i'w haeddiant.

O blegid medd y prophwyd Dafydd, Nid i ni Pſ. 115. 1. o Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw dy hun dôd di ogoniant. Am hynny fyngharedigion, gogoneddwn yn barchedig ei enw ef, mawrhawn a a chlodforwn ef yn dragywydd. O blegid fe a wnaeth i ni yn ôl ei fawr drugaredd, trwyddo ei hun y gweithiodd ef ein prynedigaeth ni. Nid oedd ddigon gantho ei arbed ei hun a danfon ei Heb. 1. 3. angel i wneuthur y weithred hon, ond fe a fynnai ei gwneuthur hi ei hunan, fel y gallai ei gwneuthur hi yn well, a'i gwneuthur yn berffaithiach prynedigaeth. Ni chyffrôdd ef ronyn er yr aneirif boenau a ddioddefodd ef yn holl amſer ei hir ddioddefaint, megis pe buaſe edifar gantho wneuthur cymmaint o ddaioni i'w elynion: ond ef a egorodd ei galon i ni, ac a'i roddodd ei hunan yn hollawl i fod yn brynedigaeth i ni.

Agorwn ninnau yn awr ein calonnau iddo ef eilwaith, a myfyriwn yn ein bywyd ar fod yn ddiolchus i'r fath Arglwydd, a byddwn bob amſer yn feddylgar am ddawn cymmaint, ie cyfodwn ein croes gyd â Chriſt a chanlynwn ef.

Nid ydyw ei ddioddefaint ef yn iawn ac yn gwbl daledigaeth tros ein pechod ni, ond hefyd yn ſiampl o'r berffeithiaf o ammynedd a dioddefgarwch. O blegid os oedd raid fel hyn i Griſt ddioddef, Act. 14. 3. a myned i mewn i ogoniant ei Dâd, pa ham na weddai i ninnau oddef ein blinderau by châin o adfyd, a thrallodau 'r byd hwn. O blegid yn ſiccr, fel y dywaid S. Petr, fe a oddefodd Chriſt er mwyn gadel i ni ſiampl i ganlyn ei ôl ef. Ac os goddefwn gydag ef, ni a deyrnaſwn gydag 1. Pet. 2. •• . Tim. . 12. ef yn ſiccr yn y nefoedd. Nid am fod gofidiau y byd trangcedig hwn yn cyſtadlu y gogoniant a o. 8. 18. ddaw, ond ni a ddylyem fod yn fodlon i oddef yn llawen, i gael bod yn debyg i Ghriſt yn ein bywyd, megis felly wrth ein gweithredoedd y gallon ni ogoneddu ein Tâd yr hwn ſydd yn y nefoedd. mat. 5. 16.

Ac fel y mae yn boenedig ac yn ſlin ddwyn croes Chriſt yngoſidiau ac aflwydd y byd hwn, felly y mae yn dwyn allan hyfryd ffrwythau gobaith ym-mhawb a'i harferant.

Nac edrychwn cymmaint ar y boen ac ar y gwobr ſydd yn canlyn ein llafur ni. Nag ê ymrown Iaco. 1. 3. yn hytrach yn ein blinderau i oddef yn ddieuog ac yn ddieniwed, fel y gwnaeth ein Iachawdwr Chriſt. O blegid os goddefwn am ein beiau, yno nid yw dioddefgarwch yn cael ei chyflawn 1. Pet. 2. 20. waith ynom. Ond os heb ei haeddu y dioddefwn golli ein da a'n bywyd, os goddefwn ddywedyd yn ddrwg am danom er mwyn Chriſt hyn ſydd raſol ger bron Duw, o blegid felly y goddefodd Chriſt. Ni phechodd ef erioed, ac erioed ni chaed twyll yn ei enau ef. Ie pan ddifenwyd ef a gwatwarau, ni ddifenwodd elwaith: Pan ddioddefodd yn anghyfiawn ni fygythiodd ef ac ni ddialodd ei gam, ond rhoddi ei achos ar yr hwn ſydd yn barnu yn gyfiawn.

Nid yw perffaith ddioddefgarwch yn yſtyried pa beth neu pa faint a oddefo, pa vn ai gan gâr ai gan elyn: ond mae yn edrych ar iddi oddef yn ddifeius ac heb ei haeddu. Ie mae'r hwn ſydd a chariad perffaith yndo, yn gofalu cyn fychaned. lleied am ddial, ac y mae efe yn hytrach yn myfyrio gwneuthur da am ddrwg, i fendithio ac i ddywedyd yn dda am y rhai a'i melldithiant, i mat. 5. 44. weddio tros y rhai a'i herlidiant yn ôl ſiampl ein Iachawdwr Chriſt, yr hwn yw 'r ſiampl a'r gynddelw berffeithiaf o bob llaryeidd-dra a dioddefgarwch yr hwn ag yntef ynghrog ar y groes mewn poen irad, yn gwaedu ym-mhob rhan o'i fendigedig gorph, wedi ei oſod ynghanel ei elynion a'i groeſhoelwyr, ac er eu bod hwy (er maint y poenau anrhaith oddef yr oeddynt yn ei weled ynddo) yn ei watwar ac yn ei ſennu yn ddirmygus heb na ffafwr na thoſturi, etto efe a gymmerth cymmaint toſturi troſtynt hwy yn ei galon, fel y gweddiodd ef ar ei dad o'r nef troſtynt hwy, gan ddywedyd, O Dâd maddeu iddynt, o Luc. 23. 34. herwydd ni wyddant pa beth y maent yn i wneuthur.

Pa ddioeddefgarwch hefyd a ddangoſodd ef, pan ddaeth vn o'i ddiſcyblon a'i weiſion ef ei hunan a oſodaſai ef mewn ymddiried, i'w fradychu ef i'w elynion i farwolaeth? Ni ddywedodd ef mat. 26. 49. waeth wrtho na hyn, Y cyfaill i ba beth y daethoſt? Fal hyn, fyngharedigion, y dylem ni gofio y mawr ſiamplau cariad a ddangoſodd Chriſt yn ei ddioeddfaint, os cofiwn ei ddiodde faint ef yn Frwy thlon. Y cyfryw gariad a charedigrwydd a ddylē ni ei ddwyn tu ag at ei gylydd, os mynnwn fod yn wir weiſion i Ghriſt. O blegid oni charwn ond y rhai a'n carant ninnau pa ragoriaeth yr ydym yn ei wneuthur, medd Chriſt? oni wna 'r mat. 5. 46. publicanod a'r pechaduriaid cyhoedd yr vn peth? Rhaid i ni fod yn berffeithiach nâ hyn yn ein cariad, fel y mae ein Tâd yr hwn ſydd yn y nefoedd yn berffaith, yr hwn ſydd ynperi i lewyrch ei haul dywynnu a'r y da a'r drŵg, ac yn danfon ei law ar y cyfiawn a'r anghyfiawn.

Fal hyn y dylêm ni ddangos ein cariad yn ddiymmer. yn ddineilltuol. yn indyfferent. ddiduedd, cyſtal i'r naill ac i'r llall, cyſtal i elyn ac i gar, megis plant vfydd, yn ôl ſiampl ein Tâd o'r nef. O blegid os bu Chriſt yn vfydd i'w Dâd hyd angau, a'r angau gwradwydduſaf (fal y tybie yr Iddewon) angau 'r groes; pa ham na byddem ni vfydd i Dduw mewn pyngciau llai o gariad a dioddefgarwch?

Am hynny maddeuwn i'n cymmdogion eu beiau bychain, fel y maddeuodd Duw i ninnau er mwyn Chriſt ein beiau mawrion. Nid yw weddus i ni geiſio maddeuant ar law Dduw am ein beiau mawrion a bod er hynny heb faddeu i'n Ecclus. 28. 2. cymmydogion eu beiau bychain yn ein herbyn ni. Ofer y galwn ni am drugared, oni ddangoſwn drugaredd i'n cymmydogion. Mat. 15. 35.

O blegid oni fwriwn lid a digofaint tn ag at ein brodyr ynghriſt allan o'n calonnau, ni faddeu Duw ychwaith y llid a'r digofaint a haeddodd ein pechodau ni arno ef. O blegid tan yr ammod hwn y mae Duw yn maddeu i ni, os ninnau a faddeuwn i eraill.

Nid gweddus i Griſtianogion fod yn dôſt ac yn galed y naill wrth y llall, na thybied na haeddai ein cymmydog faddeu iddo. O blegid er mor anheilwng fytho ef, etto mae Chriſt yn haeddu gwneuthur o honot ti hyn er ei fwyn ef, efe a haeddodd arnat faddeu o honot i'th gymmydyg. Ac mae yn rhaid hefyd vfyddhau i Dduw, yr hwn ſydd yn gorchymmyn i ni faddeu, os mynnwn ninnau ran o'r pardwn a'r maddeuant a brynodd ein Iachawdwr Chriſt vnwaith gan Dduw Dâd trwy dywallt ei werthfawr waed.

Nid des dim mor weddaidd âr weiſion Chriſt a thrugaredd a thoſturi. Am hynny byddwn gariadus tu ag at ei gilydd, a gweddiwn tros ac. 5. 16. ei gilydd, ar ein iachau oddiwrth holl wendid y bywyd hwn, fel y bo i ni wneuthur llai o eniwed i'w gilydd, ar i ni fod o vn meddwl ac o vn Yſpryd, yn cyttuno ynghyd mewn cariad brawdol a chyfundeb fel anwyl blant Duw.

Wrth hyn y cyffrown ni Dduw i fod yn drugarog wrth ein pechodau, ac felly y byddwn Eph. 5. 2. parotrach i dderbyn ein Iachawdwr a'n gwneuthurwr yn ei Sacrament bindigedig, i'n tragwyddal ddiddanwch ac iechyd ein enaidiau. Mae 'n hoſt gan Griſt fyned i mewn a thrigo yn yr enaid y bo cariad a charedigrwydd yn rheoli ynddo, ac y bo ynddo heddwch a chyttundeb.

O blegid fel hyn y mae Ioan ſanct yn ſcrifennu, Duw cariad yw, a 'r hwn ſydd yn aros yngharia d ſydd yn aros yn Nuw a Duw ynddo 1. Ioan. 4. yntef. Verſ. 16.

Wrth hyn, medd ef, y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ef, os ni a garwn ei gilydd. Ac wrth hyn y gwyddom ddarfod ein ſymmudo o farwolaeth Verſ. 13. & 1. Ioau. 2. 5. i fywyd, os ni a garwn ei gilydd. Ond yr hwn a gaſhao ei frawd, medd yr vn Apoſtol, ſydd yn aros mewn marwolaeth, ac mewn perigl o farwolaeth dragwyddol, ac mae efe hefyd yn blentyn 1. Ioan. 3 14. 15 colledigaeth a 'r cythraul, gwedi i Dduw ei felldithio, yr hyd y byddo ef felly, yn gâs gan Dduw a'i holl gwmpeini nef. O blegid fel y mae tangnheddyf a chariad yn ein gwneuthur ni yn fendigedig blant i'r Holl-alluog Dduw, felly y mae caſineb a chenſigen yn ein gwneuthur ni yn blant i ddiafol.

Duw a roddo i bawb o honom ni ras i ganlyn ſiamplau Chriſt mewn heddwch a chariad, ymmynedd a dioddefgarwch, fel y gallom ni ei gael ef yr awrhon i ddyfod i mewn attom, i letteua ac i aros gydâ ni, fel y gallom fod mewn cwbl ddiogelwch, gan fod gennymy cyfryw wyſtl o'n Iechydwriaeth. Os ydyw ef a'i ffafor gennym, ni o. 8. 32. a allwn fod yn ſiccr fod gennym ni ffafor Duw hefyd trwyddoef. O blegid mae efe yn eiſtedd ar ddeheulaw Duw ei Dâd, megis yn ddadleuwr ac yn attwrnai i ddadleu ac i eiriol troſom yn ein holl eiſiau a'n anghenrheidiau.

Am hynny os bydd arnom eiſiau vn rhodd o ddoethineb dduwiol, ni a allwn ei gofyn hi gan Dduw er mwyn Chriſt ac ni a'i cawn hi.

Yſtyriwn a holwn ein hunain pa ddiffyg ſydd ynom o'r rhinwedd hon o gariad a dioddefgarwch. Os gwelwn nad yw ein calonnau yn gogwyddo dim tu ag atti, wrth faddeu i'r rhai a wnaeth yn ein herbyn, yno cydnabyddwn ein diffygion, a dymunwn ar Dduw eu cyflawni. Ond os bydd arnom eiſiau, ac etto heb gennym chwant yn y byd i'r hyn a fo arnom ei eiſiau, yno yr ydym mewn cyflwr blin ger bron Duw, ac fe fydde raid i ni weddio yn daer ar Dduw, ar gael felly newid ein calonnau fel yr ympier ynom galonnau newydd. O blegid oni faddeuwn ni i eraill, ni faddeu Duw byth i ninnau. Ie ni all holl weddiau a haeddedigaethau rhai eraill heddychu rhyngom ni a Duw, oni byddwn ni mewn heddwch a chyttundeb â'n cymmydogion. Ac nid ydyw ein holl orchwylion a'n gweithredoedd dani yn abl i gyffroi Duw i faddeu i ni y ddled ſydd arnom iddo ef, oni faddeuwn ninnau i eraill. Mwy gantho ef am drugaredd nag am offrwm.

Trugaredd a wnaeth i'n Iachawdur Chriſt oddef tros ei elynion, gweddus yw i ninnnau ganlyn ei ſiampl ef.

O blegid ychydig a dâl i ni fyfyrio ar ffrwythau a gwerth ei ddioddefaint ef, eu mawrhau hwy ac ymhoffi ac ymddiried ynddynt, oni chofiwn ei ſiamplau ef yn dioddef, er eu canlyn.

Am hynny os nyni fel hyn a yſtyriwn farwolaeth Chriſt, a glynu mewn ffydd ddiogel wrth eihaeddedigaethau a'i rhyglyddon hi, a'n ffurfio ein hunain i'n gwario ein hunain a chwbl ac ſydd gennym trwy gariad er lles i'n cymmydog, fel y gwariodd Chriſt ei hunan yn hollawl er ein llês ni, yno yr ydym ni yn iawn gofio marwolaeth Chriſt: ac wrth fod fel hyn yn canlyn ôl Chriſt, ni a fyddwn ſiccr o'i ganlyn ef i'r lle y mae ef yn eiſtedd gyd â'r Tâd a'r Yſpryd glân, i'r hwn y byddo holl anrhydedd a gogoniant. Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth ar ddioddefaint ein Iachawdwr Chriſt.

ER mwyn deall o honom yn well fawr drugaredd a daioni ein Iachawdwr Chriſt, yn goddef angau yn gyffredinol tros bob dyn, mae yn rhaid i ni ddiſcyn i waelod ein cydwybod, ac yſtyried yn ddwſn yr achos cyntaf a'r pennaf pa ham y gorfu arno wneuthur felly. Gwedi darfod i'n hên orhendad ni Addaf dorri gorchymmyn Gen. 3. 6. Duw, wrth fwytta 'r afal a waharddaſid iddo ym-mharadwys, trwy annog a hudoliaeth hud ei wraig, fe a ennillodd wrth hynny, nid yn vnig iddo ei hun, ond hefyd i'w holl hiliogaeth byth, gyfiawn lid a digofaint Duw, yr hwn yn ôl y farn a ddatcanaſe ef wrth roddi y gorchymmyn a'i condemnodd ef a'i holl heppil ar ei ôl i angau tragwyddol enaid a chorph.

O blegid fe a ddywedaſid wrtho, O holl brennau 'r ardd gan fwytta y bwyttei, ond pren gwybodaeth da a drwg, ni fwytti o hono. O blegid yn y dydd y bwyttaech di o honaw, gan farw y byddi farw. Ac fel y dywedodd yr Arglwyd felly y bu. Fe a fwyttaodd Addaf o hono, ac wrth wneuthur hynny a fu farw yn ddiau, hynny yw, fe aeth yn farwol, fe a gollodd ffafor Duw ac a daflwyd allan o baradwys, ni chafodd fod yn hwy yn ddineſydd nef, ond yn bentewyn o vffern, ac yn gaeth was i ddiafol.

Hyn y mae 'n Iachawdwr yn ei dyſtiolaethu yn ei Efengyl, gan ein galw ni yn ddefaid colledig, Luc. 15. 4. wedi cyfeilorni a myned ar ddidro oddiwrth wir fugail ein heneidiau. Hyn y mae S. Paul hefyd Ro. 5. 12. yn ei dyſtiolaethu, gan ddywedyd, mai trwy gamwedd Addaf y daeth angeu ar bawb i farwolaeth. Megis bellach nad oedd iddo ef nac i neb o'i heppil na Arddel. chlaim na chyfiawnder yn-nheyrnas nefoedd, ond eu bod gwedi myned yn ad-ddynion ac yn wrthodedig, wedi eu condemnio yn dragwyddol i ddidrangc dân vffern.

Pe buaſai ddynion yn gallu eu hadferu eu hunain a chael maddeuant gan Dduw yn y cyfryw gyfyngder a thrueni, yno y buaſei eu cyſlwr hwy yn haws ei oddef, oblegid y gallaſai ef geiſio rhyw ffordd i'w wared ei hun oddiwrth angau tragwyddol. Ond nid oedd iddo vn ffordd, ni allai ef wneuthur dim ac a alle lonyddu digofaint Duw, yr ydoedd ef yn gwbl anfuddiol yn hynny o beth. Nid oedd vn a wnai ddaioni, nac oedd vn. A pha fodd wrth hynny y gallei ef weithio ei Iechydwriaeth ei hun?

A geiſiai efe lonyddu dirfawr ddigofaint Duw wrth offrwm iddo boeth aberthau, fel yr ordeiniaſid Heb. 9. 27. yn yr hên gyfraith? wrth offrwm iddo waed ychen, gwaed lloi, gwaed ŵyn, gwaed geifr a'r cyfryw? Och, nid oedd yn y rhai hyn na grym na gallu i dynnu ymmaith bechodau, ni allent hwy oeri angerdd ei ddigofaint ef, nac chwaith dwyn dŷn i'w ffafor ef eilwaith, nid oeddynt hwy ond arwyddion a chyſcodau pethau oedd ar ddyfod heb ddim amgen.

Darllenwch yr epiſtol at yr Hebreaid, yno y Heb. 10. 5. cewch weled y peth hyn wedi ei draethu yn helaeth, yno y cewch weled yn oleu fod aberthau gwaedlyd yr hêu gyfraith yn ammherffaith ac heb fod yn abl i wared dŷn o ddamnedigaeth mewn modd yn y byd, megis na byddai i ddŷn wrth ymddiried i hynny ond ymddiried i ffonn grîn, ac yn y diwedd ei dwyllo ei hunan.

Pa beth wrth hynny a wna efe? Ai ceiſio a wnai ef gadw cyfraith Dduw yr hon a rennir yn ddwy dabl neu lech, ac felly ennill iddo ei hun fywyd tragwyddol? Yn ſiccr pe buaſei Addaf a'i hiliogaeth yn gallu cadw a chyflawni 'r gyfraith yn gwbl, gan garu Duw vwch law pob dim, a'u cymydog fel eu hunain, yno y galleſent hwy yn hawdd ddiffodd llid yr Arglwydd, a diangc oddiwrth irad farn angeu tragwyddol a gyhoeddaſai genau 'r Holl-alluog Dduw yn eu herbyn hwy. O blegid ſcrifennedig yw, Gwna hyn a Luc. 10. 27. byw fyddi, hynny yw, Cyflawna fy-ngorchymmynion, ymgadw yn vnion ac yn berffaith ynddynt hwy yn ôl fy ewyllys i, yno y byddi byw, ac ni byddi marw.

Ymma yr addewir bywyd tragwyddol ar yr ammod hwn, os hwy a gadwent y gyfraith. Ond cyfryw oedd freuolder dŷn yn ôl ei gwympo, cyfryw oedd ei wendid a'i Salwedd. eiddilwch, ac na allai efrodio yn vnion ynghyfraith Dduw, er maint fydde ei ewyllys ef i wneuthur hynny, ond fe a gwympai bob dydd a phob awr oddiwrth ei rwymedig ddlêd, gan wneuthur yn erbyn yr Arglwydd ei Dduw mewn amryw ffyrdd, i fawr gynnydd ei ddamnedigaeth ei hun, yn gymmaint ac y mae 'r prophwyd Dafydd yn gwaeddi fal hyn, Ciliaſe bob vn ynwyſc ei gefn, cydymddifwynaſent, Pſal. 14. 3. nid oedd a wnele ddaioni nac oedd vn.

Yn yr achos ymma pa lês a allai ef ei gael trwy 'r gyfraith? yn wir dim. O blegid fel y dywaid S. Iaco, Pwy bynnag a gadwo 'r gyfraith i gŷd, ac a Faclo. ballo mewn vn pwngc, y mae efe yn euog o'r cwbl. Ac yn llyfr Deuteronomium y mae yn ſcrifennedig fel hyn, Melldigedig yw 'r hwn ni Deut. 27. 26. pharhao yngeiriau 'r gifraith hon, gan eu gwnuethur hŵynt.

Wele, mae 'r gyfraith yn dwyn melldith gyd â hi, ac yn ein gwneutbur ni yn euog, nid am ei bod hi o honi ei hun yn ddrwg ac yn aflan (na atto Duw i ni dybied hynny) ond am fod Breuder. breuolder a gwendid ein cnawd ni yn gyfryw, ac na allwn ni byth ei chyflawni yn ôl y perffaithrwydd y mae 'r Arglwydd yn ei ofyn.

Allai Addaf wrth hynny (dybygwch chwi) o|'r beithio neuymddiried cael bod yn gadwedig trwy 'r gyfraith? Na allai ddim. Ond po mwyaf yr edrychai ef ar y gyfraith, mwyaf y gwelai ei ddamnedigaeth ei hun ger bron ei lygaid, megis mewn drŷch gloyw. Megis yn awr o hono ei hun yr oedd ef yn druan ac yn flinderog, heb iddo ddim gobaith ac heb fod byth yn abl i lonyddu mawr ddigofaint Duw, nac etto i ddiangc rhac erchyll farn Duw, i'r hon y darfuaſe iddo ef ac i'w holl heppil gwympo, wrth anufyddhau gorchymmyn caled yr Arglwydd eu Duw.

Ond oh ddyfnder golud mawr drugaredd Duw? Oh ddaioni annrhaethadwy ei ddoethineb nefol ef. Pan oedd pob gobaith cyfiawnder gwedi myned heibio o'n rhan ni, pan nad oedd gennym ddim ynom ein hunain, trwy 'r hyn y gallem ddiffodd angerdd ei lid ef, a gweithio Iechydwriaeth ein heneidiau, a chyfodi allan o'r cyflwr blin yr oeddym ynddo. Yno meddaf yno y daeth Chriſt mab Duw trwy ordinhâd ei dad i lawr o'r nef, i'w archolli er ein mwyn ni, i gael ei gyfrif gydâ 'r annnwiol, i'w farnu i farwolaeth, i gymmeryd cyflog ein pechodau ni arno, ac i roddi ei gorph i'w ddryllio ar y groes amein beiau ni.

Efe (medd y prophwyd Eſai am Ghriſt) a gymmerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau ni, coſpedigaeth ein heddwch ni a roddwyd arno ef, a thrwy ei gleiſiau ef yr iachwyd ni. S. Paul hefyd ſydd yn dywedyd, i Dduw wneuthur yr hwn 2. cor. 5. 21. ni adnabu bechod, yn bechod ac yn aberth tros ein pechodau fel y'n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ymddo ef. Ac yn gyttunol â hyn y mae S. Petr wrth ſerifennu ynghylch y defnydd ymma yn dywedyd, Chriſt a fu farw vnwaith tros ein pechodau ni, y cyfiawn tros yr anghyſiawn &c. At hyn y gellir cyſſylliu aneirif o leoedd eraill i'r vn defnydd, ond digon fydd yr ambell rai hyn tros hyn o amſer.

Bellach (fal y dywetpwyd yn y dechreuad) yſtyriwn a phwyſwn achos ei farwolaeth ef, fel wrth hynny y'n cyffroer ni i'w ogoneddu ef tros ein holl fywyd. Yr hyn os mynnwch ei gynnwys yn vn gair, nid oedd amgen achos o'n rhan ni na throſedd a phechod dyn.

Pan ddaeth yr angel i rybyddio Ioſeph nad ofnai gymmeryd Mair yn wraig iddo, oni orchymmynnodd efe alw y plentyn ar enw Ieſu, oblegid y cadwai ef ei bobl rhag eu pechodau? Pan bregethodd Ioan fedyddiwr Ghriſt, a'i ddangos ef mat. 7. 1. i'r bobl â'i fys, oni ddywedodd ef yn oleu wrthynt, wele oen Duw 'r hwn ſydd yn tynnu ynimaith bechodau 'r byd? Pan oedd y wraig o Ganaan Ioan. 1. 29. yn ymbil a Chriſt am iddo gynnorthwyo ei merch hi oedd yn ddrwg ei hwyl gan gythraul, onid addefodd ef yn oleu ei fod ef gwedi ei ddanfon mat. 15. 24. i gadw defaid colledig tŷ Iſrael, trwy roddi ei einioes troſtynt.

Pechod gan hynny, oh ddyn, ie dy bechod di a wnaeth groeſhoelio Chriſt vnig fâb Duw yn y cuawd, ac a barodd iddo oddef angeu dirmygus gwradwyddus y groes. Pe buaſit ti yn ymgadw yn gyfion, pe buaſit ti yn cadw y gorchymmynion, pe buaſit ti heb ryfygu troſeddu ewyllys Duw yn dy dad cyntaf Addaf: yno ni buaſai raid i Ghriſt ac yntef yn ffurf Duw gymmeryd arno agwedd gwâs; ni buaſe raid iddo ac yntef yn anfarwol yn y nef, fyned yn farwol ar y ddayar; ac yntef yn wir fara yr enaid, ni buaſei raid iddo newynu, ac yntef yn ddwfr iachus y bywyd, ni buaſei raid iddo ſychedu, ac yntef yn fywyd, ni buaſei raid iddo oddef angau. Ond i'r cyfyngderau hyn a llawer o'r cyfryw y gyrrwyd ef gan dy bechodau di, y rhai oeddynt cymmaint ac mor aml, fel y bodlonid Duw am danynt ynddo ef, ac nid wewn neb arall.

A elli di feddwl am hyn, dydi ddyn pechadurus, a bod heb grynu ynot dy hun? A elli di wrando hyn yn eſmwyth heb edifeirwch cydwybod, a thriſtwch calon. A ddioddefodd Chriſt ei ddioddefaint droſot ti, ac oni ddangoſi di ddim toſturi tu ag atto ef? Pan oedd Chriſt ynghrôg ar y groes ac yn rhoddi yr Yſpryd i fynu, mae 'r Scrythyr lân yn tyſtiolaethu i lenn y deml hollti yn ddau, i'r ddayar grynu ac i'r cerrig hollti, i'r beddau ymagori ac i'r meirw adgyfodi. Ac chyffro. oni chynnyrfa calon dŷn ddim wrth gofio mor doſt ac mor greulon y trinwyd ef gan yr Iuddewon am ein pechodau ni? A ddengys dŷn ei fod yn galon-galettach nâ 'r cerrig, a bod yntho lai o doſturi nâ 'r cyrph meirwon?

Galw yn dy gôf, dydi greadur pechadurus, a goſod gar bron dy lygaid Ghriſt wedi ei groeſhoelio, meddwl dy fod yn gweled ei gorph ef wedi ei eſtyn ar y groes, ei ben ef wedi ei goroni â drain pigog, ei ddwylo a'i draed wedi ei trywanu â hoelion, ei galon wedi ei hagoryd â gwaywffon, ei gnawd ef gwedi eiddryllio a'i dorri â chwippiau, ei dalcen ef yn chwyſu dwfr a gwaed. Meddwl dy fod yn ei glywed ef yn awr yn llefain mewn ing anrhaith ei oddef ar ei Dâd, ac yn dywedyd, fy Nuw, pa ham y'm gwrthodaiſt? A ellit ti edrych ar y fath weledigaeth doſturus, neu glywed y fath lais galarus, heb Ddeigrau. ddagrau, pan yſtyriech iddo oddef hyn oll, nid am haeddedigaeth o'r eiddo ei hun, ond am dy ddirfawr bechodau di?

Och i ddynion roddi tragwyddol fâb Duw i'r cyfryw boenau. Och i ni fod yn achoſion o'i farwolaeth ef, ac yn vnig achos o'i gondemno ef. Oni allwn ni yn gyfiawn lefain, ôch i'r amſer y pechaſom ni?

Oh fy mrodyr bydded y ddelw ymma, o Ghriſt wedi ei groeſhoelio wedi ei hargraphu yn waſtad yn ein calonnau ni, cyffroed ni i gaſhau pechod, ac annoged ein meddyliau ni i garu 'r Holl-alluog Dduw yn ddifrif. O herwydd pa ham? onid ydyw pechod, dybygwch chwi, yn beth tôſt yn ei olwg ef, gan iddo ef am droſeddu o ddyn ei orchymmyn ef wrth fwyta 'r afal, gondemnio 'r holl fyd i angau tragwyddol, ac ni fynnai ei lonyddu Heddychu. a'i ddyhuddo ond yn vnig â gwaed ei fâb ei hun? Gwir am hynny, a gwir iawn yw 'r hyn a ddywedoedd Dafydd, fod yr Arglwydd yn caſhau holl weithred-wyr anwiredd, ac na thrig y drygionus Pſal. 5. 4. gyd ag ef.

Mae fe yn gwaeddi yn vchel trwy enau ei brophwyd Eſai yn erbyn pechaduriaid ac yn dywedyd, Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rheffynnau Eſai. 5. 18. oferedd, a phechod megis â rhaffau menn. Oni rôdd efe arwydd eglur faint yr oedd ef yn caſhau ac yn ffiaiddio pechod pan foddodd ef yr holl fŷd oddieithr wythnyn o bobl, pan ddiſtrywiodd Gen. 7. ef Sodom a Gomorrha a thân a brwmſton, pan Gen. 19. laddodd ef mewn tri diwrnod a phlâ 'r nodau 2. Sam. 24. 14. ddengmil a thri-vgein-mil am bechod Dafydd, pan foddodd ef Pharaoh a'i holl fyddin yn y môr Exo. 14. 28. côch, pan drôdd ef Nabuchadonozor y brenhin i ddull anifail pedwar troediog yn crippian ar ei Dan. 4. 33. bedwar-troed, pan oddefodd ef i Achitophel a 2. Sam. 17. 23. Act. 1. 18. Iuddas ymgrogi gan edifeirwch pechod, yr hwn oedd mor erchyll yn eu golwg hwy?

Ond pa raid hynny? Mae 'r ſiampl ymma yn gadarnach, a hi a ddylei ein cyffroi ni yn fwy nâ 'r llaill i gŷd. Fe wnaethpwyd i Ghriſt ac yntef yn fab Duw, ac yn berffaith Dduw ei hunan, yr hwn ni wnaeth bechod erioed, roddi ei gorph i'w ddryllio ac i'w dorri ar y groes am ein pechodau ni. Ond oedd hyn yn arwydd amlwg o ddigofaint ac anfodlonrwydd Duw yn erbyn pechod, na ellid Ca el ei heddwch ef. Eiddiddigio ef. ei ddyhuddo ef mewn modd yn y byd, ond yn vnig trwy anwyl a gwerthfawr waed ei garedig fâb? O dydi bechod, bechod, och fod i ti erioed yrru Chriſt i'r cyfryw gyfyngder. Och i'r amſer y daethoſt ti erioed i'r bŷd. Ond beth a dâl i ni yr awrhon ymofidio? Mae pechod gwedi dyfod, ac wedi dyfod felly fel na ellir ei ochelyd. Nid oes vn dŷn byw, nac oes y cyfiawnaf ar y ddayar, nad ydyw yn cwympo ſeithwaith yn y dydd, fel y dywaid Salomon. Pro. 24. 16.

Ac er darfod i'n Iachawdwr Chriſt ein gwared ni oddiwrth bechod, etto ni wnaeth ef hynny fel y byddem ni ryddion oddiwrth wneuthur pechod, ond fel na chyfrifid pechod i'n damnedigaeth ni. Efe a gymmerth arno gyfiawn wobr pechod, yr hyn yw angau, a thrwy angau fe a orchfygodd Ro. 6. 23. angau, fel y gallem ni trwy gredu ynddo ef, fyw yn dragywydd heb farw byth. Oni ddyle hyn fagu ynom Draha chaſineb at. ddygyn gaſineb i bechod, pan yſtyriom iddo megis wrth gryfder dynnu Duw o'r nef, i wneuthur iddo oddef erchyll boenau ac ing marwolaeth? Och nad yſtyriem ni hyn weithiau ynghanol ein rhodres a'n gorhoffedd, fe ffrwynai hynny wŷniau anllywodraethus ein cnawd ni, fe a leihae ac a lonydde ein deiſyfladau cnawdol ni, fe a attaliai chwantau ein cnawd ni, fel na byddem ni mor afreolus ac mor anllywodraethus ac ydym.

Nid yw gwneuthur pechod yn ewyllyſgar ac yn rhyfygus heb ofn Duw, ddim amgen nâ chroeſhoelio Chriſt o newydd, fel y dywedir i ni yn amlwg yn yr epiſtol at yr Hebreaid. Yr hyn pe Heb. 6. 6. bai gwedi ei argraphu yn ddwfn ynghalon dŷn, yno ni chae bechod deyrnaſu ym-mhob lle yn gymmaint ac y mae, er mawr ofid A dolur. ac artaith ar Ghriſt ſydd yn awr yn eiſtedd yn y nêf.

Cofiwn ninnau a chadwn yn waſtad yn ein meddyliau Griſt wedi ei groeſhoelio, fal wrth hynny y'n cyffroer ni oddifewn i ffiaiddio pechod yn hollawl, ac â zêl a difrifwch calon i garu Duw. O blegid dymma vn ffrwyth arall a ddylei goffadwriaeth am farwolaeth Chriſt ei weithio ynom, ſef cariad difrif diragrith tu ag at Dduw. Felly y carodd Duw y byd, medd Ioan ſanct, fel y rhoddodd Io. 3. 16. ef ei vnig anedig fâb, fal na chollid pwy bynnag a gredai ynddo ond caffael bywyd tragwyddol.

Os dangoſodd Duw gymmaint cariad tu ag attom ni ei greaduriad truain, pafodd y gallwn ni gan iawn nas carom ef eilwaith? Onid oedd hyn yn wyſtl ſiccr o'i gariad ef, iddo roddi ei fâb ei hun o'r nêf? Fe a allaſai roddi i ni angel pes mynnaſai, neu ryw greadur arall, ac er hynny fe fuaſai ei gariad ef yn fwy o lawer nâ'n haeddedigaethau ni. Yn awr fe a roddes i ni, nid angel, ond ei fab. A pha fab iddo? Ei vnig fab, ei fab naturiol, ei fab anwyl, ei fab a wnaethai ef yn arglwydd ac yn llywydd ar bob peth.

Onid ydoedd hyn yn arwydd godidog o'i fawr gariaed ef? Onid i bwy y rhoddodd efe ef? Fe a'i rhoddodd ef i'r holl fyd, hynny yw, i Addaf ac i bawb a ddelai ar ei ôl ef.

O Arglwydd, pa beth a haeddaſai Addaf na neb arall ar law Dduw, fel y rhoddai ef ei fab i ni? Pobl druain ydym ni oll, pobl bechadurus, pobl golledig, wedi ein troi yn gyfion allan o baradwys, wedi ein cau yn gyfiawn allan o'r nef, a chwedy ein barnu yn gyfiawn i dân vffern.

Ac etto, gwelwch arwydd rhyfedd o gariad Duw, fe a roddodd i ni ei vnig anedig fâb, i ni, meddaf, y rhai oeddym yn elynion digaſog marwol iddo ef, fel y gallem ni trwy rinwedd ei waed ef a dywalltwyd ar y groes, gael ein glanhau yn llwyr oddiwrth ein pechodau, a'n gwneuthur eilwaith yn gyfiawn yn ei olwg ef. Pwy a ddichon lai nâ rhyfeddu wrth glywed ddarfod i Dduw ddangos y fath gariad an-nhraethol tu ag attom ni, y rhai oeddym yn elynion marwol iddo? Oh ddyn marwol, ti a ddylauit gan iawn ryfeddu am hynny, a chydnabod ynddo fawr Ddaioni Duw a'i drugaredd tu ag at ddŷn, hon ſy mor rhyfeddol ac nad oes vn cnawd er maint ei ddoethineb fydol, yn abl i'w deall nac i'w thraethu.

O blegid, fel y tyſtiolaetha S. Paul, Mae Ro. 5. 6. Duw yn goſod allan yn eglur ei gariad tu ag attom, am iddo ddanfon ei fâb Chriſt i farw droſom, a ni etto yn bechaduriad ac yn elynion cyhoeddus iddo ef.

Pe buaſem ni wedi haeddu hynny mewn modd yn y bŷd ar ei law ef, ni buaſei ddim rhyfeddod iddo wneuthur hynny, ond nid oedd haeddedigaeth yn y byd o'n rhan ni, yn haeddu iddo wneuthur hynny.

Am hynny, greadur pechadurus, pan glywech ddarfod i Dduw roddi ei fab i farw tros bechodau 'r byd, na thybia iddo wneuthur hynny er mwyn na haeddedigaeth na daioni oedd ynot ti, o blegid yr oeddit ti yr amſer hynny yn gaethwâs i'r cythraul: ond cwympa i lawr ar dy liniau a gwaedda gyd â'r prophwyd Dafydd, O Arglwydd, pa beth yw dŷni ti i'w goffau, neu fâb dŷn i ti i ymweled felly ag ef? A chan ddarfod iddo dy pſ. 8. 4. garu di yn gymmaint, ymegniâ i'w garu yntef eilwaith â 'th holl galon, â'th holl enaid, ac â'th holl nerth, fel wrth hynny y gellech di ddangos nad wyt an-nheilwng o'i gariad ef.

Mi a roddaf ar dy gydwybod di dy hun, oni thybygit ti fod dy gariad wedi ei oſod. wario yn ddrwg ar yr hwn ni alle ar ei galon dy garu dithau. Os gwir hyn (fel y mae yn wir iawn) yna meddwl mor rhwymedig wyt ti i garu Duw, yr hwn a'th garodd di yn gymmaint, ac nad arbedodd ef i vnig anedig fab ei hun oddiwrth angau mor greulon ac mor gywilyddus er dy fwyn di.

Hyd yn hyn y ſoniaſom am achos angau a dioddefaint Chriſt, yr hwn o'n rhai ni oedd pechod erchyll toſt, ac o'r tu arall oedd rôdd rad Duw, yn dyfod o'i fawr drugaredd a'i dyner gariad ef tu ag at ddŷn, heb na rhyglyddon na haeddedigaeth o'n rhan ni. Yr Arglwydd o'i fawr drugaredd a ganiattao i ni nad anghofiom byth fawr ddawn ein Iechydwriaeth ynghriſt Ieſu, ond bod i ni yn waſtadol ein dāgos ein hunain yn ddiolchgar amdano, gan ffiaiddio pob rhyw ddrygioni a phechod, a rhoi ein meddyliau yn gwbl i waſanaeth Duw, ac i gadw ei orchymmynion ef yn ddieſeulus.

Bellach mae 'n rhaid dangos i chwi pa fodd y mae i ni fwynhau angau a dioddefaint Chriſt i'n diddanwch, megis meddyginiaeth i iachau ein clwyfau, fel y gallo weithio ynom y ffrwyth y rhoddwyd hi o'i blegid, hynny yw Iechyd a chadwedigaeth ein eneidau. O blegid fel na wna llês yn y byd iddŷn fod eli gantho, onis geſyd ef ar ei anafle a'i glwyf: felly ni ffrwytha marwolaeth Chriſt i ninnau, onis mwynhawn hi yn y modd yr ordeiniodd Duw. Mae 'r Holl-alluog Dduw fynychaf yn gweithio trwy foddion a chyfryngau ac yn hyn o beth y mae efe gwedi goſod cyfrwng hefyd, trwy 'r hwn y gallwn dderbyn ffrwyth ac elw i iechyd ein eneidiau.

A pha gyfrwng yw hwnnw? yn wir ffydd ydyw. Nid ffydd anwadal ſigledig, ond ffydd ddiogel, ſiccr, ſylfanedig, ddiragrith. Fe a ddanfonodd Duw ei fâb i'r byd, medd Ioan ſanct. I ba ddefnydd? fel na chollid pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol. Merciwch y geiriau hyn, Pwy bynnag a gretto ynddo. Dyna'r Io 3. 15. modd a 'r cyfrwng trwy 'r hwn y mae yn rhaid i ni fwnhau ffrwythau marwolaeth Chriſt, a'i goſod wrth ein clwyfau marwol. Dymma 'r modd a'r cyfrwng, trwy 'r hwn y mae yn rhaid i ni gyrhaeddyd bywyd tragwyddol, ſef ein ffydd ni.

O blegid fel y dywaid S. Paul yn ei epiſtol at y Rhufeiniaid, A'r galon y credir i gyfiawnder, ac a'r genau y cyffeſſir i Iechydwriaeth. Ro. 10. 10.

Pan ofynnodd ceidwad y carchar i S. Paul pa Act. 16. 31. beth a wnai i gael bod yn gadwedig, fe a attebodd fel hyn, Crêd yn yr Arglwydd Ieſu, a chadwedig fyddi di a'th dylwyth. Wedi darfod i'r Efangylwr oſod allan i ni yn halaeth fywyd a marwolaeth yr Arglwydd Ieſu, mae fe yn y diwedd yn cau ar y cwbl yn y geiriau hyn, Hyn a ſcrifennwyd fel y Io. 20. 31. credem mai Ieſu Ghriſt yw mâb Duw, a chaffael o honom trwy ffydd fywyd tragwyddol trwy ei enw ef. Ac i gau ar y cwbl â geiriau S. Paul, y rhai ſy fal hyn, Chriſt yw diwedd y gyfraith er cyfiawnder i bob vn a gredo. Rom. 10. 4.

Wrth hyn gan hynny y gellwch ddeall yn dda, mai vnig fodd ac offeryn iechydwriaeth o'n rhā ni yw ffydd, hynny yw, diogel oglud ac ymddiried yn-nhrugareddau Duw, trwy'r hyn yr ydym ni yn ein perſwadio ein hunain, ddarfod i Dduw faddeu, ac y maddeu ef ein pechodau ni, a darfod iddo ein derbyn ni eilwaith i'w ffafor, ddarfod iddo ein rhyddhau ni oddiwrth rwymau dammedigaeth, a'n derbyn ni eilwaith i rifedi ei ddewiſol bobl, nid er mwyn ein rhyglyddon a'n haeddedigaethau ni, ond yn vnig er mwyn haeddedigaeth angau a dioddefaint Chriſt, yr hwn a wnaethpwyd yn ddŷn er ein mwyn ni, ac a ymoſtyngodd i oddef gwarth y groes, fel trwy hyn y gallem ni gael bod yn gadwedig, a'n gwneuthur yn etifeddion o deyrnas nef.

Y ffydd hon yr ydys yn ei gofyn ar ein dwylo ni. Ac os cadwn honny'n ddiogel yn ein calonnau, diammau y cawn iechydwriaeth gan Dduw, fel y cafodd Abraham, Iſaac ac Iacob, am y rhai y mae 'r Scrythur yn dywedyd iddynt gredu, a chyfrif Gen. 15. 6. Rom. 4. 3. hynny iddynt yn gyfiawnder. A gyfrifwyd hynny i ddynt hwy yn vnig? ac oni chyfrifir i ninnau? Gwnair, os byd gennym ni yr vn ffydd ac oedd genthynthwythau, fe a gyfrifir mor wir yn gyſiawnder i ni, ac y cyfrifwyd iddynt hwythau. O blegid yr vn ffydd ſydd raid iddi ein cadw ni a hwyntau, ſef ſiccr ddiogel ffydd ynghriſt Ieſu, yr hwn, fel y clywſoch, a ddaeth i'r bŷd fel na chollid pwy bynnag a gredai ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol. Io. 3. 15.

Ond ymma mae 'n rhaid i ni wachelyd cloffi gar bron Duw trwy ffydd an-niogel, anwadal, ond bod o honi yn gadarn ac yn ddiogel hyd ddywedd ein hoes. Mae'r anwadal, medd S. Iaco, Iac. 1. 6. yn gyffelyb i donnau 'r môr, ac na feddylied y dŷn hwnnw y caiff ef ddim gan yr Arglwydd. Pan oedd Petr yn dyfod at Ghriſt ar hŷd y dwfr, am iddo laeſu. ballu mewn ffydd, fe fu mewn perigl boddi. Felly ninnau os dechreuwn anwadalu a Dowtio. phethruſo, mae yn berigl rhag i ni foddi fel y gwnaeth Petr, nid i'r dwfr, ond i'r pwll heb waelod yn-nhân vffern.

Am hynny yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y bydd rhaid i ni gymmeryd gafael yn haeddiant angau a dioddefaint Chriſt trwy ffydd, a hynny trwy ffydd gadarn ddiogel, heb ammau na ddarſu i Ghriſt trwy ei offrymiad ei hun yn offrymmedig vnwaith ar y groes, dynnu ymmaith ein pechodau ni, a'n hadferu. hedfryd ni elwaith i ffafor Duwmor gyflawn ac mor berffaith ac na bydd rhaid fyth yn y byd, nac aberth nac iawn arall tros bechod.

Fel hyn y clywſoch ar ychydig eiriau, y modd y bydd rhaid i ni fwynhau ffrwythau a haeddedigaethau marwolaeth Chriſt, fel y gallo weithio iechydwriaeth ein heneidiau ni, hynny yw ffydd ſiccr, ddiogel, berffaith, ddianwadal. O blegid fel yr iachawyd pawb a edrychai yn grâff ar y ſarph brês, ac y gwaredwyd hwy wrth edrych arni, oddiwrth eu clefydau cnawdol a brathau corphorol: colyn frathau conyn frathau felly y gwaredir pawb ac a edrycho ar Griſtwedi ei groeſhoelio a ffydd wir fywiol, oddiwrth glwyfau tôſt eu heneidau, er maint ac er mor angheuol fyddont.

Am hynny, fy anwyl garedigion, os digwydda i ni vn amſer trwy wendid y cnawd gwympo i bechod (fel y mae yn am-mhoſſibl nas cwympom yn fynych) ac os byddwn yn clywed baich trwm pechod yn pwyſo ar ein heneidiau, yn ein poeni ag ofn angau, vffern a damnedigaeth, yno arferwn y modd a'r cyfrwng a appwyntiodd Duw yn ei air, hynny yw cyfrwng ffydd yr hon yw 'r vnig offeryn iechydwriaeth ſydd wedi ei adel i ni yn awr. Edrychwn yn ddianwadal ar Ghriſt wedi ei groeſhoelio â llygaid ein calonnau. Ymddiriedwn gael bod yn gadwedig yn vnig trwy ei angau a'i ddioddefaint ef, a chael golchi ein pechodau ymmaith yn lân trwy ei werthfawroccaf waed ef, fel yn-niwedd y byd, pan ddelo ef eilwaith i farnu byw a meirw, y derbynio ef ni i'w deyrnas nefol, ac y'n cyfleo ymmhlith ei ddewiſol a'i etholedig bobl, yno i fod yn gyfrannogion o'r byvoyd anfarwol tragwyddol, yr hwn a brynodd efe i ni trwy rinwedd ei archollion gwaedlyd. Iddo ef gan hynny gyd â'r Tâd a'r Yſpryd glân y byddo holl anhrhydedd a gogoniant yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Pregeth am adgyfodiad ein Iachawdwr Ieſu Chriſt. Ar ddydd Pâſc.

OS cyffrodd erioed na mawredd na godidawgrwydd vn peth, yſprydol neu gorphorol, eich meddyliau chwi i wrando yn ddieſceulus (bobl ddaionus Ghriſtianogawl a'm hanwyl garedig yn ein harglwydd a'n Iachawdwr Ieſu Ghriſt) nid wyf yn ammeu na châf chwi yn awr yn wrandawyr parod dieſceulus ar y peth ſydd gennif yn awr i'w ddangos i chwi. O blegid dyfod yr ydwyf i fanegi chwi y pwngc mawr diddanus hwnnw o'n ffydd a'n crefydd Ghriſtianogawl ni.

Mor fawr yn ddiau yw defnydd y pwngc ymma, a chymmaint ei bwys a'i bris, ac y tybiwyd bod yn wiw ac yn deilwng cadw ein Iachawdwr Chriſt ar y ddayar tros ddeugain nhiwrnod yn ôl ei gyfodi ef o angau i fywyd, er cadarnhau a ſiccrhau 'r pwngc hwnnw ynghalonnau ei ddiſcyblon ef. Fel (megis y tyſtiolaetha S. Luc yn eglur yn y bennod gyntaf o Actau'r Apoſtoliyn) y bu efe yn Act. 1. 3. aros gydâ e'i ddiſcyblon tros yſpaid deugain nhiwrnod ar vntu yn waſtadol yn ôl ei adgyfodiad, o ennyd. lwyr ſryd yn ei berſon yr hwn oedd yn awr wedi ei ogoneddu, ar ddyſcu ac athrawiaethu i'r rhai a fydde raid iddynt fod yn ddyſcawdwyri eraill, yn gyflawn ac yn berffaith, wirionedd y pwngc Chriſtianogaidd hwn, yr hwn yw gwaelod a ſylfaen yr holl grefydd, cyn iddo ddyrchafu at ei Dâd i'r nefoedd, yno i dderbyn gogoniant ei oruchafiaeth a'i orfodaeth orchfygus.

Yn ſiccr mor ddiddanus i'n cydwybodau ni ydyw'r pwngc hwn, ac y mae efe yn glo ac yn agoriad a'Iwedd holl ffydd a chrefydd Ghriſtianogawl. Os Chriſt ni chyfodwyd, medd yr Apoſtol S. Paul, 1. Cor. 15. 14. &c. ofer yw'n pregeth ni, ac ofer yw'ch ffŷdd chwithau yr ydych yn aros etto yn eich pethodau. Oni chyfodwyd Chriſt, medd yr Apoſtol y mae y rhai ſy wedi huno ynghriſt yn golledig, yno truanaf o'r holl ddyniō ydym ni y rhai ydym yn gobeithio ynghriſt oni adferwyd ef i ddedwyddwch drachefn. Ond yn awr fe a gyfodwyd o angau eilwaith, medd yr Apoſtol Paul, ac a wnaethpwyd yn flaenffrwyth i'r rhai a hunaſant, er mwyn eu cyfodi hwy i fywyd tragwyddol eilwaith: Ie oni bai fod yn wir i Griſt gyfodi eilwaith, ni biddai wir chwaith derchafu o honaw ef i'r nef, nac iddo anfon i lawr o'r nef yr Yſpryd glân attom ni, na'i fod ef yn eiſtedd ar ddeheu-law ei Dâd nefol, yn llywodraethu nef a dayar, yn teyrnaſu, fel y dyweid y prophwyd, o fôr hyd fôr, nac y bydd ef ar ôl y bŷd hwn yn farnwr byw a meirw, i roddi gwbr i'r daionus a barn ar y drygionus. Am hynny fel y ſafo holl Dyrch dolennau lingciau gadwynau ein ffydd ni ynghŷd mewn ſiccr ddiogelwch a chadernid, fe a ryngodd bodd i'n Iachawdwr Chiiſt beidio a'i dynnu ei hun yn y man allan o breſennoldeb corphorol a golwg ei ddiſcyblon, ond fe a ddewiſodd iddo ddeugain nhiwrnod, yn y rhai y dangoſai iddynt, trwy amryw reſymmau ac arwyddion diogel, ddarfod iddo orchfygu angau, a chyfodi yn wir i fywyd eilwaith.

Fe a ddechreuodd, medd S. Luc, ar Moſes a'r Luc 24. 27. holl brophwydi, ac a egorodd iddynt y pethau oeddynt ſcrifennedig am dano ef yn yr holl Scrythyrau, er mwyn ſiccrhau gwirionedd ei adgyfydiad a ſoniaſid am dano ymmhell o'r blaen: yr hyn a wiriodd ef yn ſiccr, fel y dangoſir yn oleu ac yn eglur wrth ei fynych ymddangofiad ef i amryw ddynion ar amryw amſeroedd.

Yn gyntaf fe a ddanfonodd ei angelion at y bedd, y rhai a ddangoſaſant i ryw wragedd y bedd yn Mat. 28. 2. wâg, ond bod y lliainiau amwiſc. claddedigaeth yn aros ynddo. A thrwy'r arwyddion hyn yr addyſcwyd y gwragedd hynny yn gyflawn, ei fod ef gwedi adgyfodi, ac felly y tyſtiolaethaſant hwy yn gyhoeddus. Yn ol hyn yr ymddangoſodd Chriſt ei hun i Fair Magdalen, ac yn ol hynny i ryw wragedd Io. 20. 14. eraill, ac yn y mā ar ôl hynny yr ymeddangoſodd ef i Petr, yno i'r ddau ddiſcybl oedd yn myned i Emmaus. 1. Cor. 15. 5. Fe a ymddangoſodd hefyd i'r diſcyblon lle'r oeddynt wedi ymgynnull ynghŷd rhag ofn yr Iuddewon, Luc. 24. 36. a'r dryſau yn gaead. Ac amſer arall y gwelwyd ef wrth fôr Tiberias gan Petr a Thomas a chā ddiſcyblō eraill, a hwy yn pyſcotta. Fe a welwyd gā fwy na phūcāt brodyr ar vnwaith ymmynydd Io. 21. 5. Galilęa, lle 'r appoitiaſe 'r Ieſu tr wy Angel iddynt fod, pan ddywedodd ef wrthynt, wele fe a aiff o'ch blaen chwi i Galilęa, yno y cewch ei weled ef fel y dyweddod ef i chwi. Yn ôl hyn yr ymddangoſodd ef i Iaco. Ac yn ddiwethaf oll y gwelwyd ef yn amlwg gan yr holl Apoſtolion, yr amſer y cymmerwyd ef i fynu i'r nef. Fel hyn yr ymddangoſodd Act. 1. 9. ef yn fynych ar ol ei adgyfodiad er ſiccrhau a chadarnhau y pwngc ymma. Ac yn y gweledigaethau hyn, waithiau y dāgoſodd iddynt ei ddwylo, ei draed, ei yſtlys, ac a archodd iddynt ei deimlo ef fal na thybygent mai Yſpryd neu ledrith oedd efe. Weithiau fe â fwyttaod gyd â hwy, ond bob amſer fe a ſonne wrthynt am dragwyddol deyrnas Dduw, i ſiccrhau iddynt wirionedd ei adgyfodiad. O blegid yno yr agorodd ef ei de all hwy fel y deallen yr ſcrythyrau, ac a ddywedodd wrthynt, Luc. 24. 27. felly y mae'n ſcrifennedig, ac felly yr oedd yn rhaid i Griſt ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd, a phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef i holl genhedlaethau'r ddayar. Chwi a welwch (Griſtianogion daionus) mor angenrheidiol yw'r pwngc ymma o'n ffydd ni, gan ddarfod ei Griſt ei hun ei brofi ef a rheſymmau ac arwyddiō mor eglur, dros gyhyd o amſer ac ennyd. Yn awr gan hynny, fel yr oedd ein Iachawdwr Chriſt yn ddieſceulus i fynegi y pwngc ymma er ein diddanwch a'n addyſc ni felly byddwn ninnau barod yn ein credyniaeth i'w dderbyn ef er ein diddāwch a'n haddyſc ein hunain. Fel na bu efe farw droſto ei hun, felly nid adgyfododd ef er ei fwyn ei hun. Fe a fn farw, medd S. Paul tros ein pechodau ni, ac a Rom. 4 25. adgyfododd er ein cyfiawnhâd ni. Oh, Dyna air cōfforddus yr hwn a ddlyeid ei gofio yn waſtadol. Fe a fu farw, medd ef, i dynu ymmaith bechod, ac a adgyfododd er ein cynnyſcaeddu ni â chyfiawnder. Ei āgau ef a dynnodd ymmaith bechod a melldith, ei farwolaeth ef oedd yr iawn tros bôb vn o'r ddau, ei angau ef a ddiniſtriodd angau, ac a orchfygodd y cythraul, yr hwn oedd a gallu āgau ny ei feddiant, ei farwolaeth ef a ddiniſtriodd vffern a'i holl ddānedigaeth. Fel hyn y llyngcwyd angau trwy fuddugoliaeth Chriſt, fel hyn yr anrheithiwyd vffern yn dragywydd. Os bydd i neb ammau y fuddugoliaeth hon, dangoſed gogoneddus adgyfodiad Chriſt hi iddo. Oni allai angau ddal Chriſt tan ei lywodraeth a'i allu, fel nad adgyfodai, mae yn amlwg fod gallu angau wedi ei orchfygu. Os gorchfygwyd angau, yno mae yn ſiccr ddarfod diſtrywio pechod, am yr hwn yr ordeiniaſid angau yn gyflog. Os yw pechod ac angau wedi difannu, fe a ddifannodd hefyd greulonder y diafol, yr hwn oedd gantho allu ar angau, ac oedd awdur a dechreuad pechod, a llywodraethwr vffern. Os cafodd Chriſt yr oruchafiaeth arnynt hwy ei gŷd trwy nerth ei angau, ac os profodd efe hynny yn eglur wrth ei orchyfygus a'i wrol adgyfodiad (fel nad oedd boſſibl i'w fawr allu ef gal ei orchfygu ganthynt hwy) ac felly os gwir hyn, i Griſt farw tros ein pechodau ni ac adgyfodi er ein cyfiawnhâd ni pa ham na allwn ni, y rhai ydym aelodau iddo trwy wir ffydd, orfoleddu a dywedyd yn hŷf gyd â'r prophwyd Oſeach a'r Apoſtol Paul, Oſeah 13. 14. 1. Cor. 15. 55. Angau pa le y mae dy gonyn. golyn? vffern pa le y mae dy fuddugoliaeth? I Dduw, meddant, y byddo'r diolch yr hwn a roddes i ni fuddugoliaeth trwy ein harglwydd Ieſu Griſt. Ni arwyddoccaed yn vnig y fuddugoliaeth alluog hon o'i adgyfodiad ef, trwy lawer o arwyddiō yn yr hên deſtament, megis wrth Sāpſō, Barn. 14. 8. pan laddodd ef y llew, yr hwn y daeth melyſder a mêl o'i enau; ac megis y dug Dafydd arwydd o hono, pan achubodd ef ac y lladdodd ef yr oen o enau'r llew, a phan orchfygodd ef ac y lladdodd y cawr 1. Sam. 17. 33. mawr Goliah; ac megis pan lyngcodd y pyſcodyn Ionas, a'i daflu ef eilwaith i dir yn fyw: ond fe a brophwydwyd hefyd ā dano yn dra eglur gan brophwydi yr hên Deſtamēt, ac a'i cadarnhawyd hefyd gan yr Apoſtolion yn y Teſtament ne wydd. Fe a yſpeiliodd, medd S. Paul, dywyſogaethau a Col. 2. 15. nerthoedd, ac a'u herddangoſodd hwynt yn gyhoeddus gan orfoleddu arnynt ynddo ei hun.

Dymma alluog allu yr Arglwydd yr hwn yr ydym ni yn credu ynddo. Trwy ei angau y gweithiodd efe i ni yr oruchafiaeth hon, a thrwy ei adgyfodiad y prynodo efe i ni fywyd tragwyddol a chyfiawnder.

Ni buaſai ddigon i ni gael ein gwared trwy ei angau ef oddiwrth bechod, oni buaſei wrth ei adgyfodiad ef ein cynnyſcaeddu à chyfiawnder. Ac ni buaſem ni nês er ein gwared oddiwrth angau, oni buaſai iddo gyfodi eilwaith i agor i ni byrth nêf i fyned i mewn i fywyd tragwyddol. Ac am hynny y mae S. Petr yn diolch i Dduw Tâd ein harglwydd Ieſu Griſt am iddo o'i fawr drugaredd yn hadennill ni i obaith bywiol, trwy aligyfodiad Ieſu Ghriſt oddiwrth y meirw, i gael etifeddiaeth ddiddiwedd a dilwgr a diddiflannedig yr hon a 1. Pet. 1. 3. roddwyd i gadw yn y nef i ni, y rhai trwy allu Duw ydym gadwedig trwy ffydd, i gael diogelwch a ddarparwyd i'w arddangos yn yr amſer diwethaf.

Fel hyn y gweithiodd ei ail-gyfodiad ef fywyd a chyfiawnder i ni. Fe a aeth trwy angau ac vffern, er ein rhoi ni mewn gobaith y gallwn ninnau trwy ei nerth ef wneuthur yr vn peth. Fe a dalodd iawn dros bechod, fel na chyfrifid pechod i ni. Fe a ddiniſtriodd y cythrâul a'i holl greulonder, ac a fuddugoliaethodd yn ei erbyn ef yn gyhoeddus, ac a ddygodd oddiarno ei holl gaethion, ac a'u derchafodd hwy ac a'u goſododd gyd ag ef ei hun ymmhlith dineſyddion nef odduchod. Fe a fu farw i ddiſtrywio llywodraeth y cythraul ynom ni, ac a gyfododd eilwaith i ddanfon i lawr ei Yſpryd glân i ly wodraethu yn ein calonnau ni, i'n cynnyſcaeddu ni â pherffaith gyfiawnder. Fel hyn y mae 'n wir yr byn a ganodd Dafydd, Veritas de terra orta eſt, & juſtitia de coelo proſpexit: Gwirionedd a darddod o'r ddayar, a chyfiawnder a edrychodd o'r nefoedd, fe a gyhoeddwyd gwirionedd addewidion Duw i ddynion ar y ddayar, neu o'r ddayar y cyfododd y gwirionedd tragwyddol, mâb Duw, i fywyd: a gwir gyfiawnder yr Yſpryd glân a edrychodd i lawr o'r nefoedd, ac a rannwyd yn ddawn haelionus ar yr holl fyd. Fel hyn yr aeth gogoniant a moliant yn ei hôl i fynu at Dduw, am ei drugaredd a'i wirionedd. Ac fel hyn y daeth heddwch i lawr o'r nefoedd at ddynion a chalonnau daionus ffyddlon ganthynt. Fel hyn, fel yr ſcrifenna Dafydd, yr ymgyfarfu Luc. 2 4. Pſal. 58. 10. trugaredd a gwirionedd, ac yr ymguſanodd cyfiawnder a heddwch.

Os wyt yn ammau fod cymmaint o wynfyd a dedwyddwch wedi ei weithio i ti, ô ddŷn, galw i'th gôfmai er mwyn hyn y derbyniaiſt di i'th feddiant dragwyddol wirionedd ein Iachawdwr Ieſu Griſt, fel y ſiccrheid gwirionedd y peth hyn yn dy gydwybod di. Ti a'i derbyniaiſt ef, os derbyniaiſt ef mewn gwir ffydd ac edifeirwch calon: os ar fedr gwellau, ti a'i derbyniaiſt ef yn wyſtl tragwyddol o'th iechydwriaeth. Ti a dderbyniaiſt ei gorph ef, yr hwn a ddrylliwyd vnwaith, a'i waed ef, yr hwn a dywalltwyd er maddeuant o'th bechodau di. Ti a dderbyniaiſt ei gorph ef fel y bydde i ti gael ynot y Tâd, y Mâb a'r Yſpryd glân i drigo gydâ thi, i'th gynnyſcaeddu di â grâs, i'th gadarnhau di yn erbyn dy elyniyn, ac i'th ddiddanu di â'u preſennoldeb. Ti a dderbyniaiſt ei gorph ef i'th ſiccrhau di o ddedwyddwch tragwyddol, a bywyd dy enaid.

O blegid, fel y dywaid S. Paul, gydâ Chriſt Eph. 2. 1. trwy Fydd y'th adfywhawyd di o angau i fywyd, o fywyd i râs, ac y'th Symmudwyd. droſglwyddwyd mewn gobaith o angau corphorol a thragwyddol, i fywyd tragwyddol gogoniant yn y nêf, lle y dylai dy ymddiygiad ti a'th galon a'th ddymuniad fod wedi eu goſod. Nac amheuwch wirionedd y peth hyn, er maint ac er vched y pethau hyn. Nid yw weddus i Dduw wneuthur ond gweithredoedd mawrion, er mor ammhoſſibl fyddont yn dy olwg di. Gweddia ar Dduw ar gael o honot ffydd i ddeall y mawr ddirgelwch hwn o adgyfodiad Chriſt: fel trwy ffydd y gellych gredu yn ddiogel nad oes dim yn am-mhoſſbl gyd â Duw. Dŵg di ffydd yn vnig at ſanctaidd air a Sacramentau Chriſt. Bid i'th edifeirwch diddangos dy ffydd: bid i'th Luc. 18. 27. lwyr fryd ti ar wellau ac i vfyddd-odd dy galon di i gyfraith Dduw ddangos yn ôl hyn dy gredyniaeth di. Ymegnia ar allu o honot ddywedyd gyd â S. Paul, Ein gwladwriaeth ni ſydd yn y nefoedd, Phil. 3. 20. o'r lle'r ydym yn edrych am yr Iachawdwr, ſef yr Arglwydd Ieſu Griſt, yr hwn a gyfnewidia ein corph gwael ni, fel y gwneler yn vn ffurf a'i gorph gogoneddus ef, o herwydd y grym twy'r hwn y dichon ef ddareſtwng pob dim iddo ei hun.

Fel hyn, bobl Ghriſtianogawl ddaionus, yn gymmaint a darfod i chwi glywed y mawr a'r godidog ddoniau ſydd yn dyfod oddiwrth alluog a gogoneddus adgyfodiad Chriſt, megis pa fodd y talodd efe iawn tros bechod, y gorchfygodd ef y cythraul, angau ac vffern, ac y cafodd yn fuddugoly llaw vchaf arnynt i gŷd, i'n gwneuthur ni yn rhyddion ac yn ddiogel oddiwrthynt: gan ŵybod ein bod ni trwy ddawn ei adgyfodiad ef, gwedi cyfodi gyd ag ef trwy ffŷdd, i fywyd tragwyddol, gan fod mewn cyflawn ddiogelwch o'n gobaith, y cyfodir ein cyrph ni hefyd o angau, i'w gogoneddu mewn anfarwolaeth au cyſſylliu a'i gorph gogoneddus ef, a chennym yn y cyfamſer ei Yſpryd ſanctaidd ef yn ei ein calonnau, megis ſêl a gwyſtl o'n et feddiaeth dragwyddol, trwy gynnorthwy yr hwn Yſpryd y'n cyflawnir ni â phob cyfiawnder, trwy allu yr hwn y byddwn abl i orchfygu ein holl wyniau drygionus, y rhai ſy yn cyfodi yngwrthwyneb i ewyllys Duw. Medi darfod, meddaf, i ni yſtyried y pethau hyn yn dda, dangoſwn bellach yn y rhan arall o'n bywyd, ein ffydd ſydd gennim yn y pwngc ffrwythlon hwn, gan ein cydffurfio ein hunain ag ef, wrth gyfodi beunydd oddiwrth bechod i gyfiawnder a ſancteiddrwydd buchedd.

O blegid pa lês fydd i ni, medd S. Petr, os 2. Pet. 2. 20. gwedi diangc oddiwrth halogedigrwydd y hyd trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a'r Achubwr Ieſu Chriſt, y ceffir ni eilwaith gwedi ymrwyſtro â'r vn pethau, ac wedi ein gorchfygu ganthynt? Gwell fuaſei i ni, medd ef, na wybaſſem ffordd y cyfiawnder, nâ chwedi ei gwybod, cilio oddiwrth y gorchymmyn ſanctaidd a roddwyd i ni. Felly y digwydd i ni yr hyn a ddywaid y wir ddiarheb, Y ci a ymchwelodd at ei chwydiad ei hun, a'r hŵch wedi ei golchi i'w ymdreiglfa yn y dom.

Pa gywilydd fydde i ni gwedi ein golchi mor lân ac mor rhad oddiwrth ein pechod, droi at ei frynti ef eilwaith? Pa ffolineb fyddei i ni gwedi ein cynnyſcaeddu felly vnwaith â chyfiawnder, ei cholli hi eilwaith? Pa ynfydrwydd fydde i ni golli yr etifeddiaeth yr ydym ni wedi ein goſod ynddi yr awron, er gwael a darfodedig hoffder pechod? Pa annhirionder fyddai, a'n Iachawdwr Chriſt wedi dyfod attom i letteu ac i drigo ynom, i ni i yrru ef ymmaith oddiwrthym, a'i ddeol a'i ymlid ef allan o'n heneidiau, ac yn lle 'r hw n y mae ynddo bob grâs a rhinwedd, cymmeryd Yſpryd anraſol diafol, dechreuad pob drygioni ac aflwydd? Pa fodd y gallwn ni ar ein calonnau ddangos y cyfryw ddygyn angharedigrwydd i Griſt, yr hwn a'n galwodd ni yr awrhon mor fwyn i'w drugaredd, a'i cynny giodd ei hunan i ni, ac a ddaeth yn awr i mewn i ni? Ie pa fodd y beiddiwn ni fod mor hŷf a gwrthod preſennoldeb y Tad, y Mâb a'r Yſpryd glân? (O blegid lle mae 'r vn o honynt, yno y mae Duw oll yn gwbl yn ei fawrhydi, ynghŷd â'i ddoethineb a'i ddaioni) a bod heb ofni, meddaf, enbeidrwydd a pherigl y cyfryw ymwrthodiad ac ymadawiad bradwraidd? Chwi frodyr a chwiorydd Chriſtianogawl ddaionus, edrychwch arnoch eich hunain, yſtyriwch y braint yr ydych ynddo, na edwch i ffolineb golli yr hyn y mae grâs wedi ei brynu mor brid, a chwedi ei gynnig, na oddefwch i ynfydrwydd a dallineb ddiffodd y fath oleuni mawr ac a ddangoſwyd i chwi.

Yn vnig cymmerwch galon a chyſſur, gwiſcwch am danoch holl arfogaeth Duw fel y galloch Eph. 6. 13. ſefyll yn erbyn eich gelynion, y rhai a fynnent eich daroſtwng chwi a'ch dwyn tan eu caethiwed. Cofiwch ddarfod eich prynu chwi oddiwrth eu gwâg ymarweddiad hwy, ac na phrynwyd eich rhydd-did chwi nac ag aur, nac ag arian ond a phridwerth gwerthfawr waed yr oen difrycheulyd 1. Pet. 1. 18. Ieſu Griſt, yr hwn a ddarparwyd yn y blaen cyn goſod ſylfaenau 'r bŷd, eithr a yſpyſwyd yn yr amſer diweddaf er eich mwyn chwi, y rhai ydych trwyddo ef yn credu i Dduw, yrhwn a'i cyfodes ef oddiwrth y meirw, ac a roddes iddo ef ogoniant fel y byddei eich ffŷdd chwi a'ch gobaith ar Dduw.

Am hynny fel y canlynaſoch hyd yn hyn ofer wyniau eich meddyliau, ac felly anfodloni Duw i fawr enbeidrwydd eich eneidiau: felly bellach megis plant vfydd wedi eich puro trwy ffydd, ymrowch i rodio ar y ffordd y mae Duw yn ewyllyſio, fel y galloch dderbyn diwedd eich ffydd, hynny yw, iechydwriaeth eich eneidiau. Ac fel y rhoddaſoch eich cyrph yn arfau anghyfiawnder i bechod, Rom. 6. 13. 19. felly ymrowch bellach yn weiſion i gyfiawnder fel y'ch ſancteiddier ynddo.

Os ydych yn ymhoffi yn y pwngc hwn o'n ffydd ni, fod Chriſt gwedi adgyfodi o angau i fywyd, canlynwch ſiampl ei adgyfodiad ef, fel y mae S. Paul yn cynghori gan ddywedyd, Os claddwyd ni gyd â Chriſt trwy fedydd i farwolaeth, Rom. 6. 4. byddwn feirw beunydd i bechod, gan farwhau a lladd ei wyniau a'i drach wantau drygionus ef. Ac fel y cyfodwyd Chriſt o angau trwy ogoniant ei Dâd, felly cyfodwn ninnau i newydddeb buchedd, a rhodiwn ynddo yn waſtodol, fel y gallom ninnau megis plant naturiol, fyw yn y cyfryw ymarweddiad ac a baro i ddynion wrth weled ein gweithredoedd da ni, ogoneddu ein tâd yr hwn ſydd yn y nefoedd. Mat. 5. 16.

Os cyfodwyd ni gan hynny gyd â Chriſt trwy ffydd i obaith y bywyd tragwyddol, cyfodwn hefyd gyd â Chriſt yn ôl ei ſiampl ef, i fywyd newydd, ac ymadawn â 'n hên fywyd. Yno y byddwn wedi cyfodi yn gywir, os ceiſiwn bethau nefol, os bydd ein ewyllys ar y pethau ſydd odduchod, ac nid ar y pethau ſydd ar ddayar.

Os ewyllyſiwch wybod pa beth yw 'r pethau dayarol a ddylech ei rhoi heibio, a pha beth yw 'r pethau nefol odduchod a ddylech ymgais a hwynt a'u canlyn: mae S. Paul yn dangos hynny yn ei Col. 3. 5. epiſtol at y Coloſſiaid, lle y mae efe yn ein cynghori ni fel hyn, Marwhewch eich aelodau y rhai ſydd ar y ddayar, godineb, aflendid, gwŷn, drygchwant, cybydd-dod, yr hon ſydd gaudduwiaeth, o achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufydd-dod, ymmha rai y rhodiaſoch chwi gynt pan oeddych yn byw ynddynt: ond yn awr rhoddwch chwi ymmaith y cwbl, digter, llid, drygioni, difenwi a ſerthedd allan o'ch genauau: na ddywedwch gelwydd wrth ei gilydd, gan i chwi ymddioſc o'r hên ddŷn ynghyd â'i ymarferiō, ac ymwiſco â'r newydd yr hwn a adnewyddir i wybodaeth yn ôl delw 'r hwn a'i creodd.

Dymma 'r pethau dayarol y rhai y mae S. Paul yn cynghori i chwi eu bwrw oddiwrthych, a thynnu eich calonnau oddiwrthynt: o blegid wrth ganlyn y rhai hyn yr ydych yn dangos eich bod yn ddayarol ac yn fydol. Frwythau 'r hên Addaf dayarol ydyw y rhai hyn. Y rhai hyn a ddylech chwi beunydd eu lladd, wrth ymoſod yn erbyn eu deiſyfiadau hwy, fel y galloch gyfodi i gyfiawnder.

Rhoddwch eich meddylfryd o hyn allan ar bethau nefol, ymbiliwch a chwiliwch am drugaredd, tirionder, llaryeidd-dra, ymmynedd, gan ddwyn gyd â'i gilydd, a maddau i'w gilydd, os bydd gan vn gweryl yn erbyn neb, megis y maddeuodd Chriſt i chwi, felly gwnewch chwithau. Os dilynwch y rhinweddau hyn a'r cyfryw yn yr hyn ſydd yn ôl o'ch bywyd, yno y dangoſwch yn oleu eich bod chwi gwedi cyfodi gyd â Chriſt, eich bod yn blant nefol i'ch tâd o'r nêf, oddiwrth yr hwn megis oddiwrth y rhoddwr y mae y rhadau a'r doniau hyn yn dyfod. Fel hyn y gellwch brofi fod eich ymddygiad chwi yn y nêf, lle mae eich gobaith: ac nid ar y ddayar, wrth ganlyn Iac. 2. 14. Phil. 3. 20. chwantau amfeiliaidd eich cnawd.

Rhaid i chwi am hynny yſtyried eich bod wedi eich glanhau a'ch adnewyddu, fel y bydde i chwi o hyn allan waſanaethu Duw mewn ſancteiddrwydd a chyfiawnder holl ddyddiau eich bywyd, Os gwrthodwch râs cymmaint yr hwn y'ch galwyd iddo, pa beth yr ydych yn ei wneuthur, ond pentyrru i chwi eich hunain ddamnedigaeth fwyfwy, ac felly annog Duw i ddigio wrthych, ac i ddial arnoch y cyfryw watwar ar ei ſanctaidd Sacramentau ac yr ydych yn ei wneuthur wrth eu camarfer hwy yn gymmaint?

Ymrowch, anwyl garedigion, i fyw ynghriſt, fel y bytho Chriſt byw ynoch chwithau yn waſtadol, yr hwn os bydd gennych ei ffafor a'i gynnorthwy, yno y mae gennych eiſoes fywyd tragwyddol ynoch, ac ni all dim eniweid i chwi. Pa beth bynnag a wnaethoch hyd yn hyn, chwi a welwch fod Chriſt wedi cynnig i chwi bardwn am dano, a'ch derbyn chwi yn hollawl i'w ffafor eilwaith, Io. 14. 20. ac er cwbl ſiccrhau hynny i chwi, mae gennych Griſt yr awr hon yn trigo ac yn cyfanneddu ynoch. Yn vnig ymddangoſwch yn ddiolchgar yn eich bucheddau, bwriedwch ochelyd ac ymwrthod Col. 3. 17. â phov peth yn eich ymarweddiad ac a allo ddigio golygon trugaredd Duw. Ymegniwch i gyfodi eilwaith yr vn ffordd ac y cwympaſoch i bydew ac i bwll peched.

Os â'ch tafod y pechaſoch, cyfodwch ynddo eilwaith, a gogoneddwch Dduw ag ef, arferwch ef i glodfori ac i folianu enw Duw, fel y dianrhydeddaſoch Dduw ag ef. Ac fel y drygaſoch enw eich cymmydog, neu y niweidiaſoch ef mewn vn modd arall, felly rhoddwch eich bryd ar ei adferu ef eilwaith iddo. O blegid heb wneuthur iawn, ni dderbyn Duw na'ch cyffes chwi na'ch edifeirwch. Nid digon i chwi ymwrthod â'r drygioni, oni bydd i chwi hefyd ymwroli ac ymegnio i wneuthur daioni. Trwy ba achos bynnag y troſeddaſoch, trowch yn awr yr achos hwnnw i anrhydeddu Duw, ac i wneuthur llês i'ch cymmydog.

Gwir yw, fod pechod yn grŷf a 'n gwyniau ni yn afreolus. Anhawdd yw daroſtwng a gwrthladd ein naturiaeth, yr hon ſydd gwedi ei llygru a'i lefeinio â ſur chwerwder y gwenwyn a dderbynaſom ni wrth etifeddiaeth a threftadaeth oddiwrth ein hên dâd Addaf. Ond etto cymmerwch gyſſur, medd ein Iachawdwr Chriſt, myſi a orchfygais y bŷd, a'ch holl elynion eraill chwi droſoch chwi. Nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi, medd yr Apoſtol S. Paul, oblegid nad ydych tan Ro. 6. 16. y gyfraith ond tan râs.

Er bod eich gallu chwi yn wan, etto fe a gyfodwyd Chriſt i'ch cadarnhau chwi yn eich rhyfeloedd, ei Yſpryd glân ef a gynnorthwya eich gwendid chwi. Mewn ymddiried yn ei drugaredd ef, cymmerwch arnoch garthu ymmaith hên Surdoes. lefain pechod, yr hwn ſydd yn llygru ac yn ſuro melyſder a chroywder eich bywyd chwi ger bron Duw, fel y byddoch megis toes newydd peraidd croyw, heb ddim ſurdoes lefeinllyd anwiredd, felly y dangoſwch eich bod yn fara melys croyw pur i Dduw, fel y byddo ef bodlon i chwi.

Lleddwch, meddaf, ac aberthwch wyniau bydol dayarol eich cyrph: O blegid fe a offrymmwyd Chriſt ein oen pâſc ni troſom ni, i ladd gallu pechod, i'n gwared ni oddiwrth berigl pechod, ac i roddi i ni ſiampl i farw i bechod yn ein bywyd. Fal y bwyttaodd yr Iuddewon eu hoen Paſc ac y cadwaſant eu gŵyl er coffadwriaeth o'u gwarediad allan o'r Aipht: felly cadwn ninnau ein gŵyl Bâſc mewn diolchgar goffadwriaeth o ddoniau Chriſt, y rhai a weithiodd ef yn aml i ni yn ei ailgyfodiad a'i fynediad at ei Dâd, trwy 'r hyn y gwaredwyd ni o garchar a chaethiwed ein holl elynion.

Felly awn ninnau heibio i wyniau ein hên ymarweddiad, fal y'n gwareder allan o'u caethiwed hwy, ac y'n cyfoder gydâ Chriſt. Yr Iuddewon Exo. 12. 5. a gadwent eu gŵyl wrth ymgadw rhag bara lefeinllyd tros ſaith niwrnod. Cadwn ninnau Griſtianogion ein gŵyl mewn modd yſprydol, hynny yw, wrth ymgadw ac ymattal nid rhag bara lefeinllyd corphorol, ond rhag hên ſurdoes pechod, ſurdoes cenfigen ac anwiredd.

Bwriwn ymmaith oddiwrthym ſurdoes athrawiaeth lygredig, yr hwn a haloga ein heneidiau ni. Cadwn ein gŵyl tros holl yſpaid ein bywyd, gan fwytta bara purdeb buchedd dduwiol, gwirionedd athrawiaeth Chriſt. Fel hyn y dangoſwn ni fod doniau a rhadau Chriſt yn ffrwythlon ynom, a bod gennym iawn gredyniaeth a gwybodaeth am ei ſanctaidd adgyfodiad ef: ac os goſodwn ein ffydd yn gywir ar rinweddau ei ailgyfodiad ef yn ein bywyd, a'n cydffurfio ein hunain at y ſiampl a'r arwyddoccâd a ddeellir wrth hynny, ni a fyddwn ſiccr o gyfodi a'r ôl hyn i ogoniant tragwyddol, trwy ddaioni a thrugaredd ein harglwydd Ieſu Griſt, i'r hwn gyd â'r Tâd a'r Yſpryd glân y byddo 'r holl ogoniant, diolch a moliant yn oes oeſoedd, Amen.

¶ Pregeth ynghylch teilwng dderbyniad, a pharch Sacrament corph a gwaed Chriſt.

MAe mawr gariad ein Iachawdwr Chriſt tu ag at ddynion (bobl ddaionus) nid yn vnig yn ymddangos yn rhodd a dawn brid ein prynedigaeth a'n iechydwriaeth ni trwy ei angau a'i ddioddefaint ef, ond hefyd am iddo yn garedigol ddarparu fod y weithred trugarog honno mewn gwaſtadol goffadwriaeth, fel y gallai gael lle ynom, ac na ddifuddid hi o'i defnydd a'i ffrwyth. O blegid megis nad yw tadau caredig yn fodlon ganthynt ddarparu i'w plant feddiannau gwerthfawr ac etifeddiaeth dêg, ond maent hwy hefyd yn darbod ac yn gofalu ar gadw yr vnrhyw iddynt, a'u dyfod i'w meddiant a'u mwyniant hwy hefyd: felly nid digon oedd gan ein Harglwydd a'n Iachawdwr ni brynu ffafor ei Dâd i ni eilwaith (yr hon yw ffynnon pob daioni a bywyd tragwyddol) ond hefyd o'i fawr ddoethineb fe a oſododd ffyrdd a moddion iddi i fod yn fuddiol ac yn elw i ni.

Ymmhlith y ffyrdd a'r moddion hynny y mae cyhoedd weinidogaeth coffa ei farwolaeth ef ar fwrdd yr Arglwydd: yr hyn er ei fod yngolwg rhai, o rinwedd fechan, etto pan iawn arferer ef gan y ffyddloniaid, y mae nid yn vnig yn helpu eu gwendid hwy (y rhai wrth eu naturiaeth wenwynig ſy barottach i gofio camweddau nâ chymmwynaſau) ond y mae hefyd yn cadarnhau ac yn diddanu y dŷn oddifewn ynddynt hwy â heddwch Exo. 12. ac a llawenydd, ac yn eu gwneuthur hwy yn ddiolchgar i'w gwaredwr, trwy ofal diwyd ac ymarweddiad duwiol.

Ac megis yr ordeiniodd Duw yn yr hên amſer fod cadw coffadwriaeth am ei ryfeddol ddoniau ef yn gwared ei bobl, wrth fwytta 'r oen pâſc, a'i ddeddfau a'i ceremoniau: felly yr ordeiniodd ac y ſiccrhaodd ein anwyl Iachawdwr ni goffadwriaeth o'i fawr drugaredd a ddangoſodd ef yn ei ddioddefaint wrth ordeinio ei ſwpper nefol, lle mae yn rhaid i bob vn o honom ni fod yn wahoddedigion, nid i lygadrythu ac i hylldremio ond i fwytta, ac i Mat. 26. 26. 1. Cor. 11. 24. ymborth ein hunain, nid i gyflogi eraill i ymborth droſom, fel y byddom byw wrth ein bwyd ac nid meirw gan newyn yr hŷd y bo eraill yn Derbyn. yſu 'r cwbl.

I hyn y mae ei orchymmyn ef yn ein hannog Luc. 22. 19. 1. Cor. 11. 24. Mat. 26. 28. ni, gan ddywedyd, Gwnewch hyn, yfwch o hwn oll. I wneuthur hyn y mae ei addewid ef yn ein llithio ni, Hwn yw fynghorph yr hwn a roddwyd troſoch, Hwn yw fy-ngwaed yr hwn a dywalltwyd troſoch.

Am hynny mae 'n rhaid i ni ein hunain fod yn gyfrannogion o'r bwrdd hwn, ac nid Hylldremmu. llygadrythu ar eraill: am hynny mae yn rhaid i ni ymbaratoi wrth y bwrdd hwn mewn modd dyledus parchedig, rhag, megis y mae phyſygwriaeth a ddarparer i'r corph, yn gwneuthur mwy o eniwed nag o lês, os camarferir hi, felly, i'r phyſygwriaeth hon ſy ddiddanus i'r enaid, os derbynir hi yn ammharchedig, droi yn fwy o eniwed ac o driſtwch i ni. Ac y mae S. Paul yn dywedyd fod yr hwn a fwyttao ac a yfo yn an-nheilwng yn bwytta ac yn 1. Cor. 11. 29. yfed i ddamnedigaeth ei hun.

Am hynny rhag ofn dywedyd wrthym ni fel y dywetpwyd wrth yr hwn a wahoddaſid i'r wledd fawr, y cyfaill pa fodd y daethoſt di ymmaheb wiſc Mat. 22. 12. priodas am danat? Ac er mwyn gallu o honom arfer cynghor S. Paul yn ffrwythlon, Profed dŷn ei hun ac felly bwyttaed o'r bara hwnnw ac yfed o'r cwppan hwnnw, Mae yn rhaid i ni yſtyried fod tri pheth yn anghenrheidiol yn yr hwn a ddelo yn weddaidd i fwrdd yr Arglwydd, fel y dylaid dyfod i'r cyfryw ddirgeledigaethau ſanctaidd, hynny yw.

Yn gyntaf, bod iddo roi dledus fri ar y dirgeledigaeth hyn, a'i ddeall fal y dylei.

Yn ail, bod iddo ddyfod mewn ffydd ddiogel. Ac yn drydydd, bod gantho newydd-deb a phurdeb buchedd ar ol derbyn y dirgeledigaethau hyn.

Ond o flaen pob dim rhaid i ni fod yn ſiccr o hyn yn enwedig, ſef bod gwaſanaethu a miniſtrio y ſwpper hon y modd y gwnaeth ein harglwydd a'n Iachawdwr, ac yn y modd y gorchymmynnodd ef, ac yr arferodd ei Apoſtolion ef a'r tadau duwiol yn y brif-eglwys gynt. O blegid (fel y dywaid y gwr gwiw gan Sanct Ambros) y mae ef yn annheilwng o'r Arglwydd, yr hwn a ſiniſtro y dergeledigaeth hwn mewn modd amgen nac yr ordeiniwyd ef gan yr Arglwydd. Ac ni all ef fod yn grefyddgar yr hwn a ryfygo ei gymmeryd mewn modd amgen nag y mae'r awdur yn ei roddi ef.

Am hynny rhaid i ni wachelyd rhag i ni yn lle coffadwriaeth i wneuthur ef yn aberth, rhag yn lle cymmun i ni ei wneuthur ef yn fwyd cartrefol, rhag na bo gennym yn lle dwy ran, onid vn, rhag wrth ei wneuthur tros y meirw i ni y rhai ſy fyw golli ei ffrwyth ef.

Canlynwn yn hytrach yn y pethau hyn gyngor Cyprian ynghylch y cyfryw bethau, hyny yw, glynu yn ddiogel wrth y dechreuad cyntaf, cadw yn ddiogel draddodiad yr Arglwydd, gwneuthur er coffadwriaeth am yr Arglwydd yr hyn a wnaeth yr Arglwydd ei hun, yr hyn a orchymmynnodd ef ei hun ac a ſiccrhaodd ei Apoſtolion ef. Os aferwn y gofal a'r rhagddarbodaeth hyn, yno y gallwn weled y pethau ſydd angenrheidiol yn y derbyniwr teilwng, o'r hyn bethau, hwn yw'r cyntaf, ſef bod i ni iawn ddeall y peth ei hun.

Yngylch y peth hynny ni a allwn ein perſwadio ein hunain yn ſiccr, na all y gŵr diwybod na dyledus berchi nac iawn arfer y rhadau rhyfeddol a'r doniau yr ydys yn eu cynnyg ac yn eu rhoddi yn y ſwpper hwnnw: onid naill ai ni wna efe ond bri a chyfrif bychan arnynt, er mawr rwyſtr Chriſtianogion, ai ynteu fe a'u diyſtyra hwy yn hollawl, i'w lwyr go lledigaeth ei hun.

Ac felly wrth ei eſceuluſdra y mae efe yn haeddu i blaau Duw gwympo arno ac wrth ei ddirmyg a'i ddiyſtyrwch yn haeddu colledigath dragwyddol.

Am hynny i wachelyd y drygau a'r niweidion hyn, canlyn gyngor y gŵr doeth, yr hwn ſydd yn Pro. 23. 1. cynghori i ti pan eiſteddech i fwytta gydâ thywyſog dayarol, yſtyried yn ddyfal beth ſydd ger dy fron. Felly yn awr yn fwy o lawer y mae yn rhaid i ti chwilio ac yſtyried yn ofalus pa ddainteithion ac ammheuthynfwyd ſydd gwedi eu harlwyo i'th enaid di ar fwrdd brenhin y brenhinoedd lle yr wyt ti wedi dyfod nid i ddigoni dy fola a'th ſynhwyrau i lygredigaeth, ond dy ddŷn oddifewn i anfarwoldeb a bywyd, nac i yſtyried y creaduriaid dayarol yr wyt ti yn eu gweled, ond y rhadau nefol y rhai y mae dy ffŷdd di yn edrych arnynt ac yn eu canfod. O blegid nid yw'r ford hon (medd Chryſoſtom) i gawciod ſiaradus i ddyfod iddi, ond i'r eryrod y rhai a hedant i'r lle mae'r corph marw yn gorwedd.

Ac oni ddichon y cyngor hwn eiddo dŷn ein perſwadio ni i ddyfod i fwrdd yr Arglwydd yn ddeallus, gwelwch gyngor yr Arglwydd yn y fâth beth, yr hwn a orchymmynnodd i bawb ddyſcu eu plant a'u heppil nid yn vnig yn-neddfau a ceremoniau 'r Pâſc, ond yn yr achos hefyd a'r defnydd yr ordeiniwyd efo'i blegid: lle y gallwn ddyſcu fod yn gofyn ar ein dwylo ni yr amſer ymma wybodaeth berffaithiach, ac na all y diwybod yn ffrwythlon ac yn fuddiol ymarfer yn ſacramentau'r Arglwydd.

Ond i ddyfod yn nes at y matter, mae S. Paul wrth feio ar y Corinthiad am halogi ſwpper yr Arglwydd, yn dangos mai anwybod am y peth ei hun, ac am ei arwyddoccad, oedd achos eu bod hwy yn ei chamarfer: o blegid yr oeddynt yn dyfod yno yn ammharchus heb yſtyried corph yr Arglwydd. Oni ddylem ni am hynny, wrth gyngor y gŵr doeth, wrth ddoethineb Duw ac wrth ſiampl ofnadwy y Corinthiaid, yſtyried a gwachelyd na bo i ni ymwthio i'r bwrdd hwn mewn anwybodaeth ammharchedig ddiddyſc, am goſpdigaeth yr hyn beth y gofidiodd ac y griddfāodd eglwys Griſt er ys llawer o ddyddiau a blynyddoedd? O blegid pa beth a fu achos cwymp ffydd a chrefydd Griſt, ond eiſiau gwybod y peth hyn? Pa beth a fu achos y tywyll gaudduwiaeth yn hwyr o ddyddiau, ond eiſiau gwybodaeth yn y peth hyn? Pa beth a fu achos yr offerennau aflafar anneallus, ond eiſiau gwybodaeth yn y peth hyn? Pa beth fu a pha beth yw'r achos o fod cyn fychaned cariad a charedigrwydd ymmyſc dynion, ond eiſiau gwybodaeth yn y peth hyn? Llafuriwn ninnau felly i ddeall ſwpper yr Arglwydd, fel na bo i ni roi achos yn y byd i leihau gwaſanaeth Duw, nac achos o gaudduwiaeth, o offerennau mudion, o gaſineb a chenfigen, felly y gallwn ddyfod yno yn hyfach i'n diddanwch.

Etto nid rhaid i ni dybied fod y cyfryw gyfarwydd wybodaeth yn anghenrhaid i bob dŷn, fel y byddo ef abl i ddatcan ac i draethu holl brif byngciau dyfnddyſc yr athrawiaeth hon: ond hyn ſydd raid i ni ei wybod yn ſiccr, nad oes vn ceremoni ofer wag, nac vn arwydd noeth diddeall, nac vn argoel neu ffigur anwir ynddo o beth nid yw breſcnnol: ond, fel y dywaid yr Scrythur, bord yr Arglwydd, coffadwriaeth am Griſt, dangoſiad ei farwolaeth ef, Mat 26. 26. cymmun corph a gwaed yr Arglwydd mewn ymgorpholaeth ryfedd, yr hwn trwy weithrediad 1. Cor. 11. 27. yr Yſpryd glân (gwir rwymyn ein cyſſylltiad ni a Chriſt) a weithir trwy ffydd yn eneidiau'r ffyddloniaid, trwy 'r hyn y mae nid yn vnig eu heneidiau hwy yn byw i fywod tragwyddol, ond y maent hwy hefyd yn ſiccr obeithio enill i'w cyrph hefyd adgyfodiad i anfarwolaeth.

Yr hên dadau catholic wrth weled iawn ddeall ac yſtyr y mwyniant a'r vndeb hwn, ſydd rhwng y pen a'r corph, rhwng Chriſt a'r gwir ffyddloniaid; a dyſcu yr vn peth hefyd i'w pobl, nid ofnent Iren. 'i. 4. ca. 34 Ignat. ep. ad Eph. Dioniſius. Origenes. Optatus. Cypr. de cæna Dnica. Athanaſ de pco in ſpi. anct. alw 'r ſwpper hwn rhai o honynt yn eli anfarwolaeth ac yn gyferbyn arbenning yn erbyn angau; eraill yn gymmun yn ein gwneuthur ni yn vn a Duw, eraill dainteithion ac ammheuthynfwyd ein Iachawdwr, gwyſtl iechyd tragwyddol, ymddiffynfa'r ffydd, gobaith yr adgyfodiad, eraill, ymborth anfarwolaeth, y rhâd iachus, a cheidwad y bywyd tragwyddol. Pe cofiem ni yn fynych yr holl ymadroddion hyn o'r Scrythur lân a'r hên dadau duwiol y rhai a ddywetpwyd yn wir ac yn gywir am y wledd nefol hon; hwy a ennynnent ein calonnau ni yn ddirfawr i chwennychu bod yn gyfrannogion o'r dirgeledigaethau hyn, ac i awyddu yn fynych am y bara hwn, ac i ſychedu yn waſtadol am yr ymborth hwn: Nid gan yſtyried yn bennaf y creaduriaid dayarol ſydd yn aros, ond gan ddala ein gafael yn waſtadol yn y graig o'r hon y gallwn ſugno melyſder iechydwriaeth dragwyddol, a glynu wrthi trwy ffydd. Ac ar ychydig eiriau, fel hyn y mae'r ffyddloniaid yn gweled ac yn clywed ac yn adnabod caredig drugareddau Duw wedi ei ſelio, yr iawn a wnaeth Chriſt wedi ei gadarnhau tu ag attom, a maddeuant pechodau gwedi eu ſiccrhau. Ymma y gallant weled ac megis clywed gweithio ynddynt lonyddwch cydwybod, cynnydd ffydd cadarnhâd gobaith, helaeth waſcariad caredigrwydd brawdol, a llawer eraill o amryw radau Duw. Y rhai ni all y rhai ſy wedi boddi mewn pwll dwfn tomlyd dallined ac anwybodaeth, gael gwybod eu blâs.

Oddiwrth y rhai hynny, fymrodyr anwyl, ymolchwch ynny froedd bywiol gair Duw, lle y gellwch ddeall ac adnabod ymborth yſprydol y ſwpper werthfawr hon, a'r ymddiriedau, a'r ffrwythau llwyddianus y mae hi yn ei ddwyn gyd ag hi.

Yn awr y canlyn bod yn rhaid gydâ'r wybodaeth hon, ffydd ſiccr ddianwadal, nid yn vnig ar fod marwolaeth Chriſt yn bridwerth digonol tros yr holl fyd, i gael maddeuant pechodau a heddychu Duw Dâd; ond hefyd ddarfod iddo wneuthur ar ei groes aberth perffaith a digonol troſot ti, a llwyr lanhau dy bechodau di, fel nad wyt ti yn cydnabod vn Iachawdwr, nac vn prynwr, nac vn cyfryngwr, nac vn dadleuwr, nac vn eiriolwr ond Chriſt yn vnig, ac y gellych ddywedyd gyd â'r Apoſtol ddarfod iddo dy garu di a'i roddi ei hun troſot ti.

O blegid hyn yw glynu yn ddiogel wrth addewid Chriſt yr hwn a wnaeth ef wrth ordeinio 'r ſacrament hwn, ſef gwneuthnr Chriſt yn eiddot dy hunan, a goſod ei haeddedigaethau ef attat dy hun. Ymma nid rhaid i ti wrth help vn dŷn arall, nac vn aberth nac offrwm arall, nac vn offeiriad arall i aberthu, nac vn offeren, na modd yn y byd a oſodwyd trwy ddychymmyg dŷn.

Ac ni allwn fod yn ſiccr fod ffydd yn offeryn anhepcor anghenrhaid yn yr holl ceremoniau ſanctaidd hyn, O blegid, fel y dywaid S. Paul, heb Heb. 11. 6. ffydd y mae yn am-mhoſſibl bodloni Duw. Pan ddiniſtriwyd llawer o'r Iſraëliaid yn yr anialwch, fe fwyttaodd Moſes ac Aaron a Phinees y Manna ac a fodlonafant Dduw, am eu bod hwy, medd S. Auguſtin, yn deall y bwyd gweledig yn yſprydol, In Ioan. ho. 6. yn yſprydol yr oedd chwant y bwyd hwnnw arnynt, yn yſprydol y bwytaſant, fel y digonid hwy yn yſprydol. Ac yn wir megis na all y bwyd corphorol borthi'r dŷn oddiallan, oni roir ef mewn cylla iachus difreg, i'w dreulio: felly ni phorthir y dyn oddifewn oddeithr iddo dderbyn ei fwyd i enaid a chalon iachus, ddifreg mewn ffŷdd. Am hynny, medd Cyprian, pan wnelom y pethau hyn, nid rhaid i ni hogi a golymmu ein dānedd ond a ffydd De cæ. do. bur berffeithgwbl y torrwn ac y rhannwn y bara cyfan hwnnw.

Fe a wis. wyddys yn dda am y bwyd yr ydym ni yn ei geiſio yn y ſwpper hwn, mai ymborth yſprydol ydyw, maeth ein eneidiau, gwledd nefol ac nid dayarol, bwyd anweledig ac nid corphorol, ſylwedd yſprydol ac nid cnawdol, fal nad ydyw meddwl lluniaeth y gallwn ni fwynhau ei fwytta ef a'i yfed heb ffydd, neu dybaid mai hynny yw ei fwynhau ef, ond breuddwydio am ymborthiad cnawdol a'n ymrwymo yn iſelfryd, a'n caethiwo ein hunain i'r elementau elfennau a'r creaduriaid: lle y dlyem ni wrth gyngor Cymmanfa Nicęa, dderchafu ein meddyliau trwy ffydd, a gadel heibio y pethau oddiſod dayarol ymma, a'i geiſio ef yno lle mae haul cyfiawnder yn tywynnu yn waſtadol. Am hynny (dydi yr hwn wyt yn chwannog i fyned i'r bwrdd hwn) cymmer y wers hon gan Euſebius Emiſſenus Euſeb emiſſen de Euch. hên Dâd duwiol, Pan elych i fynu at y cymmun parchedig i'th ddigoni â bwyd yſprydol; edrych i fynu trwy ffydd ar ſanctaidd gorph a gwaed dy Dduw, rhyfedda yn barchus, teimla ef â'th feddwl, derbyn ef a llaw dy galon, a chymmer ef yn hollawl â'th ddŷn oddifewn.

Fel hyn y gwelwch, fy-nghraedigion, y modd y mae yn rhaid i ni wrth ddyfod i'r bwrdd hwn, dynnu ymmaith holl wraidd an ffyddlondeb, pob anymddiried a gwanobaith yn addewidion Duw, fel y gallom yn gneuthur ein y hunain yn aelodau bywiol o gorph Chriſt: o blegid ni all yr angrhedadwy a'r diffŷdd ymborth ar y gwerthfawr gorph hwnnw: lle mae y rhai ffyddlon a'u bywyd ac a'u trigfa ynddo ef, a'u hundeb ac megis eu cydymgorpholaeth gydag ef.

Am hynny profwn a holwn ni ein hunain yn ddiragrith ac yn ddiffuant, pa vn a wnawn ai bod yn ganghennau bywiol o'r wir win-wydden, yn wir aelodau o ddirgel gorph Chriſt, ai nad ydym; a ddarfui Dduw buro ein calonnau ni trwy ffydd, i gydnabod ei efengyl ef yn bur ac yn diffuant, ac i dderbyn ei drugareddau ef ynghriſt Ieſu: fal nad ydym ni ar y bwrdd hwn yn derbyn yn vnig y Sacrament oddiallan, ond y dawn yſprydol hefyd, nid yr arwydd, ond y gwirionedd, nid y cyſcod yn vnig, ond y corph hefyd, nid i angau, ond i fywyd, nid i golledigaeth, ond i Iechydwriaeth: yr hyn, Duw a ganiattao i ni ei wneuthur trwy haeddedigaethau ein harglwydd a'n Iachawdwr, i 'r hwn y bô holl anrhydedd a gogoniantyn oes oeſoedd, Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth ynghylch teilwng dderbyniad a pharch Sacrament corph a gwaed Chriſt.

CHwi a glywſoch, bobl ddaionus, yn y bregeth a adroddwyd i chwi yn hwyr o amſer, paham y rhyngodd bodd i'n Iachawdwr ordeinio y coffadwriaeth nefol hwnnw o'i farwolaeth a'i ddioddefaint: ac y dylei bob vn o honom gadw 'r coffa hynny ar y bwrdd hwn yn ein preſennoldeb ein hunain, nid trwy eraill. Chwi glywſoch hefyd â pha wybodaeth am y dirgeledigaethau braintus byn y dylyem ddyfod yno. Chwi a glywſoch a pha ffydd gadarn y dylem ein dilladu a'n trwſio ein hunain, fel y bôn gyfrannogion addas gweddaidd o'r ymborth nefol hwnnw.

Yn awr y canlyn y trydydd peth ſy anghenrhaid yn yr hwn ni fynne fwytta o'r bara hwnnw nac yfed o'r cwppan hwnnw yn an-nheilwng, hynny yw newydd-deb buchedd a duwiol ymarweddiad. O blegid fod newydd-deb buchedd, megis ffrwythau ffydd, yn anghērhaid yn y rhai a fo gyfrannogion o'r bwrdd hwn: ni allwn ddyſu wrth fwytta yr oen cyffelybiaeth, i'r hwn ni dderbynnid neb ond a fydde Iuddew, gwedi enwaedu arno a chwedi ei ſancteiddio o'r blaen. Ie mae S. Paul yn tyſtiolaethu, er bod y bobl yn gyfrannogion o'r Sacramentau tan Moſes, etto am fod 1. Cor. 10. 7. rhai o honynt yn ddelw-addelwyr, yn butteinwyr, yn temptio Chriſt, yn rwgnachwyr, yn chwennychu pethau drwg, fe a'u diniſtriodd Duw hwy yn yr anialwch, a hynny er ſiampl i ni, hynny yw, fel y bai i ni Griſtianogion edrych ar i ni ddyfod i'n Sacramentau mewn ſancteiddrwydd bywyd, heb ymddiried yn y cymeriad oddiallan, a heb ein halogi â chynneddfau llygredig anghariadus. O blegid mae 'n rhaid cyfiawnhau byth y farn hon a roes Duw ei hun: Trugaredd a ewyllyſiaf ac nid aberth.

Am hynny, medd S. Baſil, mae yn rhaid i'r hwn a ddelo at gorph a gwaed Chriſt, er coffa am yr hwn a fu farw ac a gyfododd eilwaith, nid yn vnig fod yn bur ac yn lân oddiwrth bob brynti y cnawd a'r yſpryd, rhag iddo fwytta ac yfed i ddamnedigaeth ei hun: ond hefyd yn eglur dangos coffadwriaeth o farwolaeth yr hwn a fu farw ac a gyfododd eilwaith er ein mwyn ni, yn y pwngc ymma, ar fod iddo yntef farw i bechod ac i'r byd, a byw o hyn allan i Dduw ynghriſt Ieſu ein harglwydd. Wrth hynny mae yn rhaid i ni ddanges tyſtiolaeth oddiallan, wrth ganlyn arwyddoccâd dioddefaint Chriſt, ym-mhlith y rhai nid hyn yw 'r lleiaf, ſef rhoddi diolch i'r holl-alluog Dduw am ei holl ddoniau, y rhai a gynhwyſir yn gryno yn angau a dioddefaint ac adgyfodiad ei anwyl garedig fâb ef.

Ac oblegid y dylyem ni yn bennaf ar y bwrdd hwn roddi 'r diolch hwnnw i Dduw, am hynny y mae 'r tadau duwiol yn ei alw ef Euchariſtia, hynny yw, Rhoddi diolch. Megis pe dywedaſent hwy, Yn awr yn hytrach nag vn amſer arall y dylyech glodfori a moliannu Duw. Yn awr y gellwch weled defnydd, ac achos, a dechreuad a diwedd pob rhoddi diolch. Os llaeſwch yn awr, yr ydych yn dangos eich bod eich hunain yn draanniolchus, ac na bŷdd vn dawn arall byth abl eich cyffroi chwi i ddiolch i Dduw, a chwitheu ymma heb yſtyried cymmaint a chynnifer o ddoniau buddiol.

Wrth hynny gan fod Duw 'r peth, a'r peth ei hun hefyd yn ein rhybuddio ni i roddi diolch, offrymmwn i Dduw yn waſtadol, fel y dywaid S. Paul, trwy Griſt offrwm ac aberth moliant, hynny yw, ffrwyth y gwefuſau yn cyffeſu ei enw ef. O blegid fel y mae Dafydd yn canu, yr hwn a abertho i Dduw ddiolch a moliant ſydd yn ei ogoneddu ef.

Ond mor ambell ac analm yw dynion diolchgar ymron. ynghyfer yr anniolchgar Wele, fe a lanhawyd deg o rhai gwahanglwyfus yn yr Efengyl, ond ni ddychwelodd ond vn o'r dêg i roddi diolch am ei iechyd. Ie happus fydde pe medrem ni gael dau a roddai ddiolch yn ddiffuant ym-mhlith deugain o gymmunolion. Mor angharedig ydym, mor anghofus ydym, mor falch gardottaion ydym, ac nad ydym ni, nac yn gofalu am ein budd ein hunain, nac yn gwybod ein dlêd tu ag at Dduw, ond yn bennaf dim ni chyfaddefwn ni gwbl ac yr ydym yn eu derbyn. Ie ac os cymmhellir ni trwy allu Duw i wneuthur hynny, etto mor oer ac mor ddiwres yr ydym yn gwneuthur hynny nad oes ond ein gwefuſau ni yn ei foliannu ef, a'n calonnau yn ei oganu ef, nad oes ond ein tafodau ni yn ei fendithio ef, a'n buchedd yn ei felldithio ef, nad oes ond ein geiriau ni ei anrhydeddu ef, a'n gweithredoedd yn ei dianrhydeddu ef.

Oh am hynny dyſcwn roddi ymma ddiolch i Dduw yn inion, fel y cynyddo ei odigog ddoniau a'i radau a dywalltodd ef arnom, ac a hwy wedi eu rhoddi i gadw yn-nrhyſordy ein calon ni, yr ymddangoſont mewn pryd ac amſer cyfaddas yn ein bywyd ni a'n hymarweddiad, er gogoniant i'w enw ſanctaidd ef.

Hefyd am newydd-deb buchedd, mae 'n rhaid yſtyried yr hyn y mae S. Paul yn ei ſcrifennu, ein bod ni, er ein bod yn llawer, yn vn bara ac yn vn corph, am ein bod ni i gŷd yn gyfrannogion o'r vn bara. Wrth hynny y mae efe yn dangos nid yn vnig ein cyfundeb ni â Chriſt, ond yr vndeb hwnnw hefyd â'r hwn y dylai y rhai a fwyttânt ar y bwrdd hwn fod gwedi eu cyſſylltu ynghŷd. O blegid ni ddylent hwy fod wedi ymwahanu oddiwrth ei gilydd trwy anghyttundeb gwâg-ogoniant, chwāt anrhydedd, cynnen, cenfigen, dirmyg, caſineb, malais: ond bod wedi ymgyſſylltu ynghyd â rhwymyn cariad yn vn corph yſprydol, megis y mae gronynnau'r bara hwnnw wedi eu cyſſylltu yn vn dorth. Oblegid y rhwymyn a'r cwlwm cariad ymma, y galwai y gwir Griſtianogion, yn amſer tynerwch Eglwys Griſt, y ſwpper hwn yn ſwpper cariad. Megis pe dywedent na ddylai neb eiſtedd ar y ſwpper hwnnw ac a fai allan o gariad, neb a fai yn dwyn gŵg a dial yn ei galon, neb ac na ddangoſai ei garedigrwydd a'i gariad trwy roi rhyw gardod a chynnorthwy i rai o'r gynnulleidfa. A hyn oedd eu harfer hwy. Oh dyna wahoddedigion duwiol, yn gwneuthur dyledus gyfrif o'r wledd hon.

Ond ôh greaduriaid truain ydym ni yr amſer ymma y, rhai heb gymmodi a'n brodyr a'r rhai y gwnaethom gam, heb wneuthur iawn i'r rhai y paraſom ſom iddynt gwympo, heb na meddwl na thoſturi tu ag at y rhai a allem eu cynnorthwyo yn hawdd, heb gydwybod yn y byd am enllib, dirmyg, drygair, ymryſon, digofaint, neu chwerwedd calon. Ie a ninnau wedi ein llwytho â dirgel gaſineb Gen. 4. 8. Gen. 27. 41. 2. Sam. 20. 10. Cain, â chuddiedig genfigen Eſau, â rhagrithiol ffalſder Ioab, a ryfygwn ni ddyfod i fwrdd ei ſanctaidd ddirgeledigaethau ofnadwy ef? oh ddŷn i ba le yr wyt ti yn ymwthio mor anweddaidd. Bwrdd tangnheddyf a heddwch yw hwn, ac yr wyt titheu yn barod i ymladd. Bwrdd diniweidrwydd yw hwn, ac yr wyt titheu yn dychymmygu drygioni. Bwrdd toſturi yw, ac yr wyt titheu yn an-nrhugarog.

Onid ydwyt ti nac yn ofni Duw gwneuthurwr y wledd hon, nac yn perchi Chriſt yr hwn yw 'r vwyd a'r ymborth ſy yn y wledd? nac yn yſtyried ei briodaſferch ef a'i anwyl wahoddedigion? nac yn gofalu am dy gydwybod yr hwn ſydd weithiau oddifewn yn dy gyhuddo di? Am hynny o ddŷn, gofala am dy iechydwriaeth dy hun, chwilia a hola dy ewyllys da a'th gariad tu ac at blant Duw, aelodau Chriſt ac etifeddiō etifeddiaeth nef, ie tu ac at ddelw Dduw, y creadur godidawg dy enaid dy hun. Os gwnaethoſt yn erbyn neb, heddycha ag ef yn awr. Os peraiſt i neb dramgwyddo yn ffordd Duw, yn awr goſod ef eilwaith ar ei draed. Os aflonyddaiſt ar dy frawd, dyhudda a llonydda ef yn awr: os gwnaethoſt di gā ag ef, yn awr gwna iawn iddo: os twyllaiſt di ef, tâl iddo yn awr: os megaiſt ganfigen, yn awr cofleidia gydymdeith as: os megaiſt gas a digaſedd, dangos yn awr dy gariad a'th garedigrwydd yn oleu, ie bydd barod ac ewyllyſgar i beri Iechydwriaeth enaid dy frawd, a'i leſhad, a'i ddaioni a'i fôdd, megis yr eiddot dy hū. Na haedda faich trwm ofnadwy digofaint Duw, am dy ewyllys drwg tu ag at dy gymmydog, ac am ddyfod mor ammharchus i fwrdd yr Arglwydd. Yn ddiwethaf, megis y mae ymma ddirgeledigaethau heddwch, a Sacrament cydymdeithas Griſtionogaidd, Chriſoſt. ad pop. Ant. ho. 6. wrth yr hyn yr ydym yn deall pa gariad clau diragrith a ddylai fod rhwng y gwir gymmunolion: felly y mae ymma hefyd arwyddion purder a diniweidrwydd bywyd, wrth yr hyn y gallwn ddeall y dylyem lanhau ein heneidiau oddiwrth bob aflendid, anwiredd a drygioni, rhac i ni wrth dderbyn bara 'r Sacrament, ei fwytta ef mewn lle aflā (fel y dywed Origen) hynny yw, mewn enaid In Leuit. 23. ho. 14. gwedi ei halogi a'i ddifwyno gan bechod. Ynghyfraith Moſes, y gwr a fwytae o'r aberth tâl-diolch a'i aflendid arno, a Ddifhaid. ddifethid o fŷſc ei bobl: ac a dybygwn ni y bydd eſcuſodol y dŷn drygionus pechadurus, ar fwrdd yr Arglwydd? Yr ydym ni yn darllen yn S. Paul guro a choſpi Eglwys Corinthus am gamarfer ſwpper yr Arglwydd, ac ni a allwn 1. Cor. 11. 30. weled yn amlwg fod yn blino ac yn gorthrymmu Eglwys Ghriſt yn dôſt er ys llawer o flynyddoedd, am halogi a dirmygu'n anferth y Sacramēt hwn. Am hynny edrychwn bawb a phob vn o honom ni ar ein ymarweddiad a'n bywyd, a gwellawn hwy. Ac yn awr yn enwedig galwn ein hunain i gyfrif, fal Chwitho ar. y byddo chwith gennym am ein drwg ymarweddiadd aeth heibio, fel y bô cas gennym bechod, fel y bô i ni riddfan a galaru tros ein pechodau, fel y bo i ni mewn Dagrau. deigrau eu tywallt hwy ger bron duw, fel y bô i ni mewn diogel obaith ddeiſyfac erfyn eli ei drugaredd ef, yr hwn a brynnwyd ac a bwrcaſwyd trwy waed ei anwyl garedig fâb ef Ieſu Ghriſt, i iachau ein Clwyfau. gweliau angheuol ag ef.

O blegid yn ſiccr oni lanhawn ni trwy wir edifeirwch gyllau bryntion ein heneidiau, ni all na ddigwyddo, megis y mae bwyd a dderbynier i Chryſ. vbi ſupra. gylla oer afiach yn pydru ac yn difwyno 'r cwbl, ac yn achos o glefydau a fo mwy, felly ein bod ninnau yn bwytta 'r bara iachus hwn, ac yn yfed y cwppan hwn i'n tragwyddol golledigaeth.

Fel hyn y mae yn rhaid i ni ac nid i eraill, chwilio a holi yn gwbl ac yn gyflawn, ac nid edrych yn yſcafn ac yn ddifraw, arnom ein hunain ac nid eraill, ein cydwybodau ein hunain, ac nid bywyd rhai eraill, yr hyn a ddylyem ni ei wneuthur yn iniawn ac yn gywir ac â cherydd cyfiawn.

Oh, medd S. Chryſoſtom, na neſaed Iudas at Chryſ. vbi ſupra. Mat. 20. 18. y bwrdd hwn, na ddaued vn dŷn chwannog iddo. Os bydd neb yn ddiſcybl, bydded ef breſennol. O blegid, medd Chriſt, gydâ 'm diſcyblon y bwytâf y Pâſc.

Pa ham y gwaeddai'r gwaeinidog yn y brifeglwys gynt, Od oes neb yn ſanctaidd, deued yn nes? Pa ham yr oeddynt yn gwaſanaethu y dirgeledigaethau hyn a drws y gangell wedi ei gaued? pa ham y gorchymmynid i'r rhai a fyddent tan benyd cyhoeddus, a'r rhai oeddynt yn dyſcu crefydd Griſt fyned ymmaith yr amſer hwnnw? onid am na chynnhwſai y bwrdd hwn vn dŷn anſanctaidd, aflan, pechadurus, y gwneid hynny? Am hynny oni feiddia gweiſion ryfygu dyfod i ſwrdd eu meiſtred dayarol, y byddont wedi eu digio: edrychwn na ddelom ni iŵydd ein harglwydd a'n barnwr, a'n pechodau heb eu holi.

Os ydynt hwy ar y bai y rhai a guſanant law eu brenhin â mîn aflan budr; oni byddi di ar y bai a thithau ac enaid drewllyd yn llawn chwant a godineb a meddwdod a balchder, yn llawn meddyliau drygionus, yn chwythu anadl anwiredd ac aflendid ar fara a chwppan yr Arglwydd? Fal hyn y clywſoch pa fodd y dylech ddyfod yn barchus ac yn weddaidd i ſwrdd yr Arglwydd, a chennych wybodaeth allan o'i air ef am y Sacrament hwn a'i ffrwythau, a chan ddwyn gyd â chwi ffydd wir ddianwadal, yr hon yw gwreiddyn a ffynnon newydd-deb buchedd cyſtadl i glodfori Duw ac i garu ein cymydogion, ac i lanhau ein calonnau oddiwrth frynti a budreddi. Megis na pharo anwybodaeth i ni ei ddiyſtyru ef, ac na pharo anffyddlondeb i ni golli ei ffrwyth ef, ac na ddygo pechod ac anwiredd ddialedd Duw arnom ni: ond trwy ffydd mewn gwybodaeth, a newedd-deb buchedd mewn ffydd, fe a'n cyſſylltir â Chriſt ein pen yn ei ddirgeledigaethau hyn, i'n mawr ddiddanwch ni yn y byd hwn, megis y gallom ni gael cyflawn a gwir fwyniant o hono ef, i'n llawenydd tragwyddol a'n didrangc fywyd, i'r hwn y dycco ef ni yr hwn a fu farw troſom ac a'n prynodd, Ieſu Griſt y cyfiawn, I'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yſpryd glân vn tragwyddol a gwir Dduw, y bô holl foliant, anrhydedd a llywodraeth yn oes oeſoedd, Amen.

¶ Pregeth am ddiſcynniad yr Yſpryd glân, a'i amryw ddoniau. Ar ddydd y Sulgwyn.

CYn manegi mawr ar amryw ddonian yr Yſpryd glân, o'r rhai y mae Eglwys Duw bob amſer yn gyflawn, fe fydd anghenrhaid dangos i chwi ar fyrr, o ba le y cafas gwyl y Pentecoſt neu 'r Sulgwyn ei dechreuad. Am hynny deellwch fod yn arfer o gadw gŵyl y Pentecoſt bob amſer y degfed diwarnod a deu gain ar ôly Pâſc, yr hon oedd vchelwyl mawr ymmhlith yr Iuddewon, yn yr hon yr oeddynt yn cadw coffad wriaeth o'u hymwared allan o'r Aipht, a choffadwriaeth hefyd am gyhoeddiad y gyfraith yr hon a roddaſid iddynt ar fynydd Sinai ar y dwthwn hwnnw.

Fe a ordeiniwyd ac a orchymmynnwyd cadw'r dydd hwnnw yn vchelwyl, nid gan vn dŷn ar y ddayar, ond o enau yr Arglwydd ei hun, fel yr ydym ni yn darllein yn y 23. o Leuiticus, a'r 16 o Le. 23. 16. Deut. 16. 9. Deuteron. Ylle a appwyntiaſid i gadw'r wŷl hon oedd Ieruſalem, lle'r oedd cyrchfa fawr o bobl o bob man o'r bŷd, fel y gellir gweled yn amlwg yn yr ail bennod o Actau 'r Apoſtolion, lle yr ydys yn ſon. cryb-wyll am y Parthiaid, y Mediaid, Act. 2. 9. yr Elamitiaid, trigolion Meſopotam a, a Iudęa, a Chappadocia, a Phontus, ac Aſia, a Phrygia, a Pamphylia, a llawer o'rcyfryw leoedd: wrth yr hyn y gallwn weled pa gynnal mawr arbennig a arferid ar yr wyl honno.

Ac fel y rhoddwyd hyn yn orchymmyn i'r Iuddewon yn yr hên gyfraith, felly o ran y ſiccrhaodd ein Iachawdwr Chriſt ef yn ei Efengyl, gan ordeinio megis Sulgwyn newydd i'w ddiſcyblon, pan ddanfonodd ef yr Yſpryd glân mewn dull gweledig yn rhith tafodau tanllyd gwahanedig, Act. 2. 3. ac y rhoddodd iddynt allu i lefaru ac ymadrodd yn y cyfryw fodd ac y gallai bawb eu clywed hwy a'u deall yn eu tafodiaith eu hunain. Yr hyn wrthiau, fel y bai mewn coffadwriaeth tragwyddol, fe a dybygodd yr Eglwys fod yn dda cadw'r dythwn hwnnw yn ŵyl, yr hwn a elwir yn gyffredinol y Sulgwyn. Ac ymma y gellir yſtyried, megis y rhoddwyd y gyfraith ar fynydd Sinai i'r Iuddewon y degfed dydd a deugain ar ol y Pâſc: felly y rhoddwyd pregethiad yr Efengyl, trwy gadarn allu yr Yſpryd glân, i'r Apoſtolion ar fynydd Sion y degfed dydd a deugain ar ôl y Pâſc.

Ac o hyn y cafas yr ŵyl hon ei henw Pentecoſt, o rifedi y dyddiau. O blegid (fel y mae S. Luc yn ſcrifennu yn Actau'r Apoſtolion) wedi dyfod dydd Act. 2. 1. y Pentecoſt (hynny yw wedi cyflawni deng nhiwrnod a deugain) a'r Apoſtolionynghŷd ac yn gyttun yn yr vn lle, y daeth yr Yſpryd glân yn ddiſymmwth yn eu mŷſc hwy ac a eiſteddodd ar bob vn o honynt yn rhith tafodau tanllyd gwahanedig. Yr hyn a wnaethpwyd yn ddiammau er mwyn dangos i'r Apoſtolion a phawb eraill, mai efe ſydd yn rhoddi hyawdledd ac ymadrodd i bregethu'r Efengyl, mai efe ſydd yn agori'r genau i fynegi mawrion weithredoedd Duw, mai efe ſydd yn ennynu ynom ni zel wreſog tu ac at air Duw, ac yn rhoddi i bawbdafod, ie tafod tāllyd, fel y gallont yn hŷf ac yn hyderus ac yn galōnog gyfaddef y gwirionedd yngolwg yr holl fŷd, megis y cynnyſcaeddwyd Enon â'r Yſpryd hwn.

Yr Arglwydd, medd Eſai, a roddes i mi dafod Eſai. 50. 4. dyſcedig, i fedru mewn pryd lefaru gair i'r diffygiol. Ac mae'r prophwyd Dafydd yn gwaeddi am gael y rhodd hon, gan ddywedyd, Agor fy-ngwefuſau, o Arglwydd, a'm tafod a fynega dy foliant. Pſ. 51. 15. O blegid y mae ein Iachawdwr Chriſt yn dywedyd yn ei Efengyl wrth ei ddiſcybblon, Nid chwychwi yw y rhai ſydd yn llefaru, ond Yſpryd eich Tâd yr hwn ſydd yn llefaru ynoch. mat. 10. 20.

Mae'r holl dyſtiolaethau hyn allan o'r Scrythur làn, yn dangos yn oleu ddigon, fod dirgelwch a dawn tafodau yn arwyddoccau pregethiad yr Efengyl, a chyhoedd gyffeſſiad ffydd Griſt, ym-mhob vn ac a fyddo feddiannol o 'r Yſpryd glân. Megis os bydd neb yn Griſtion mud, heb gyfaddef ei ffydd yn gyhoeddus, ond megis yn ei guddio ac yn ei goluro ei hun rhac perigl yn yr amſer a ddaw; mae fe yn rhoddi i ddynion achos cyfiawn mewn cydwybod i ammau fod rhâd yr Yſpryd glâd ynddo ef, gan ei fod yn dafodgaeth ac heb allu dywedyd. Fel hyn gan hynny y clywſoch ordinhâd cyntaf gwyl y Pentecoſt neu'r Sulgwyn cyſtal yn yr hên gyfraith ym-mhlith yr Iuddewon, ac ymmyſc Chriſtianogion yn amſer yr Enfengyl.

Bellach yſtyriwn pa beth yw 'r Yſpryd glân, ac felly pa fodd y mae efe yn gweithio ei wyrthiau rhyfeddol mewn dynion.

Yr Yſpryd glân ſydd ſylwedd yſprydol dduwiol, y drydedd berſon yn y Duwdod, yn wahanredol oddiwrth y Tâd a'r Mâb ac etto yn deilliaw oddiwrthynt hwy ill dau. Mae Credo Athanaſius yn teſtiolaethu fod hyn yn wir, ac fe a ellir ei brofi yn hawdd hefyd trwy dyſtiolaethau amlwg allan ſanctaidd air Duw.

Pan fedyddiwyd Chriſt gan Ioan yn afon Iorddanen, yr y dym ni yn darllein ddyfod o'r Yſpryd Mat. 3. 16. glân i lawr yn rhith colōmen, a tharanu o Dduw o'r nef a dywedyd, Hwn yw fy anwyl fâb yn yr hwn y'm bodlonir.

Ymma yſtyriwch dri amryw berſon dri amryw berſon gwahanedig, Y Tâd, y Mâb a'r Yſpryd glân, ac etto nid ydyw'r tri hyn dri Duw onid vn Duw. Felly pan ordeiniodd Chriſt Sacrament y bedydd, fe a ddanfonodd ei ddiſcyblon i'r holl fŷd, ac a orchymmynodd Mat. 28. 18. iddynt fed yddio'r holl genhedloedd yn enw 'r Tâd a'r Mâb a'r Yſpryd glân. Ac mewn man arall Io. 14. 16. y mae efe yn dywedyd. Mi a weddiaf ar y Tâd ac efe a rydd i chwi ddiddanwr arall. A thrachefn, Pan ddelo y diddanwr yr hwn a ddanfonaf oddiwrth Io. 16. 7. y Tâd.

Mae'r lleoedd hyn a'r cyfryw leoedd eraill o'r Teſtament newydd, mor oleu ac mor eglur yn dangos gwahaniaeth yr Yſpryd glân oddiwrth y perſonau eraill yn y drindod, fel nad yw boſſibl i neb ei ammau oddieithr iddo gablu tragwyddol w irionedd gair Duw.

Tu ag at am briodol naturiaeth a chynneddfau yr Yſpryd glân, yr vn yw â Duw 'r Tâd a Duw 'r Mâb, hynny yw, Yſprydol, tragwyddol, digreedig, anymgyffred, oll-alluog, ac ar fyr eiriau, mae fe yn Dduw ac yn Arglwydd tragwyddol. Am hynny y gelwir ef Yſpryd y Tâd, am hyn y dywedir ei fod ef yn deilliaw oddiwrth y Tâd a'r mâb, ac am hyn y cyſſylltir ef gydâ 'r Tâd, a'r Mab yn y gorchymmyn a roddwyd i'r Apoſtion i fedyddio yr holl genhedloedd, yn gyd-radd â hwy.

Ond fel yr ymddangoſo hyn yn eglurach yngolwg pob dŷn, fe fydd anghenrhaid dyfod at y rhan arall, hynny yw, rhyfeddol a nefol weithredoedd yr Yſpryd glân, y rhai ſy yn manegi yn amlwg i'r bŷd ei alluog a'i dduwiol allu ef.

Yn gyntaf y mae yn amlwg ei fod ef yn rhyfeddol yn llywodraethu ac yn cyfarwyddo calonnau y Patriarchaid a'r prophwydi yn yr hên amſer, gan oleuo eu meddyliau hwy â gwybodaeth y gwir Feſſias, a chan roddi ymadrodd i brophwydo am bethau a ddigwydde yn hir o amſer ar ôl hynny. O blegid, fel y tyſtiolaetha S. Petr, Nid trwy 2. Pet. 1. 21. ewyllys dŷn y daeth y brophwydoliaeth gynt, eithr dynion ſanctaidd duwiol a ddywedaſant megis y cynnhyrfwyd hwy gan yr Yſpryd glan. Ac am Zacharias yr archoffeiriad y dywedir yn yr Efengyl, iddo ac ef yn llawn o'r Yſpryd glan brophwydo Luc. 1. 67. a moliannu Duw. Felly y gwnaeth Simeon, Anna, Mair a llawer eraill, i fawr ryfeddod ac aruthredd pob dŷn.

Hefyd, onid oedd yr Yſpryd glan yn weithredwr Mat. 1. 18. &c. galluog ynghenedliad a genedigaeth Chriſt ein Iachawdwr? Mae Saint Mathew yn dywedyd, cyn myned Ioſeph a Mair ynghŷd ei chael hi yn feichiog trwy 'r Yſpryd glan. Ac fe a ddywedodd yr Angel Gabriel yn oleu wrthi y dauai hynny i ben, gan ddywedyd, yr Yſpryd glan a ddaw Luc. 1. 35. arnat, a nerth y goruchaf a'th gyſcoda di. Peth rhyfedd yw i wraig feichiogi a dwyn plentyn, heb adnabod gŵr. Ond lle y bytho yr Yſpryd glan yn gweithio, nid oes dim yn ammhoſſibl, fel y mae yn ymddangos yn oleu wrth yr adenedigaeth oddifewn, a ſancteiddiad dynion.

Pan ddywedodd Chriſt wrth Nicodemus, Oddieithr geni dŷn drachefn o ddwfr ac o'r Yſpryd glan, ni all ef fyned i mewn i deyrnas Duw, fe Hurtodd. ſynnodd arno yn ei feddwl, ac a ddechreuodd ymreſymmu â Chriſt, gan ddywedyd, Pa fodd y genir dŷn ac ef yn hên? a all ef fyned i groth ei fam drachefn a'i em? wele dymma bortreiad amlwg o ddŷn cnawdol. Nid oedd gantho ond ychydig ddeall am yr Yſpryd glân, ac am hynny mae efe yn myned yn Ddwl. bŵl ynghylgh y gwaith, ac yn gofyn pa fodd y galle hynny fod yn wir. Ond pe buaſe ef or tu arall yn gwybod mawr allu yr Yſpryd glân yn hyn o beth; mai efe ſydd yn gweithio adgenhedliad ac ail-enedigaeth yn y dŷn oddifewn; ni buaſe ddim rhyfeddod gentho am eiriau Chriſt, ond yn hytrach fe a gymmeraſai achos o hynny i glodfori ac i ogoneddu Duw. O blegid fel y mae tri pherſon nailltuol gwahanredol yn y drindod: felly y mae ſwydd neilltuol wahanredol i bob vn o honynt.

Y Tad i greu, y Mâb i waredu, a'r Yſpryd glan i ſancteiddio ac i adgenhedlu. Am y diwethaf o'r rhai hyn, po mwyaf y cuddier ef oddiwrth ein deall ni; mwyaf y dylyai gyffroi pôb dŷn i ryfeddu dirgel a galluog weithrediad yr Yſpryd Duw glân ynom ni. O blegid yr Yſpryd glan ac nid dim arall ſydd yn bywoccau meddyliau dynion, ac yn cyffroi amcanion daionus duwiol yn eu calonnau hwy, y rhai ſydd gyttunol a gorchymmyn ac ewyllys Duw, y rhai oni bai hynny ni chaent hwy byth yn eu naturiaeth drofaus ddrygionus eu hunain.

Yr hyn a aned o'r cnawd, medd Chriſt, ſydd Io. 3. 6. gnawd, a'r hyn a aned o'r Yſpryd ſydd Yſpryd. Megis pe dywedai fel hyn, Mae dŷn o'i naturiaeth ei hun yn gnawdol, yn llygredig ac yn ddrygionus, yn bechadurus ac yn anufydd i Dduw, heb vn wreichionen o ddaioni ynddo, heb vn amcan rhinweddol duwiol, wedi ymroi yn vnig i feddyliau drwg a gweithredoedd annuwiol. Ond am weithredoedd yr Yſpryd, ffrwythau ffydd, amcanion cariadus duwiol, od oes gantho yr vn o honynt ynddo, maent, hwy yn dyfod oddiwrth yr yſpryd glan yn vnig, yr hwn yn vnig ſydd yn gweithio ein ſancteiddiad ni, ac yn ein gwneuthur ni yn ddynion newydd ynghriſt Ieſu.

Oni weithiodd yſpryd ſanctaidd Duw yn rhyfeddol yn y bachgennyn Dafydd, pan wnaed ef o fugail tlawd yn brophwyd brenhinol? Oni weithiodd 1. Sam. 17. 15. yſpryd Duw yn rhyfeddol yn Mathew yn eiſtedd wrth y dollfa, pan wnaed ef o Bublican Mat. 9. 9. balch, yn efangylwr vfyd goſtyngedig? A phwy a ddichon amgen nâ rhyfeddu, wrth yſtyried wneuthur Petr o byſcodwr gwirion yn Apoſtol galluog pennaf? a gwneuthur Paul o erlidiwr creulon gwaedlyd, yn ddiſcybl ffyddlō i Griſt, ac yn a thro'r cenhedloedd. Cyfryw yw gallu 'r yſpryd glan iaileni dynion, ac megis i eſcor arnynt o newydd, fel na byddont ddim tebyg i'r rhai oeddynt o'r blaen. Ac nid yw ddigon gantho weithio yſprydol a newydd enedigaeth dŷn oddifewn, oddieithr iddo drigo ac aros ynddo hefyd.

Oni wyddoch mai teml Dduw ydych a bod Yſpryd Duw yn aros ynoch, medd S. Paul? Oni 1. Cor. 3. 16. wyddoch am eich cyrph mai temlau ydynt i'r Yſſpryd glân yr hwn ſydd ynoch? A thrachefn y dywed, Nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Yſpryd.

A pha ham? Am fod Yſpryd Duw yn trigo ynoch. A hyn y cytuna athrawiaeth Ioan Sant 1. Ioh. 2. 27. yn fcrifennu fel hyn, yr ennaint a dderbyniaſoch (yr Yſpryd glân y mae yn ei feddwl) ſydd yn aros ynoch. Ac y mae athrawiaeth Petr yn dywedyd yr vn peth, yn yr hwn y mae'r geiriau hyn, Yſpryd 1. Pet. 4. 14. y gogoniant ac Yſpryd Duw a orphy wys arnoch.

Oh pa gyſſur yw hyn i galon gwir Ghriſtion, feddwl fod Yſpryd Duw yn aros ynddo? Os bydd Duw gyd â ni, medd S. Paul, pwy a ddichon Ru. 8. 31. bod yn ein herbyn? Ond fe alle y dywed rhyw vn, Pa fodd y gallaf wybod fod yr Yſpryd glân yn aros ynof? Yn wir fel yr adnabyddir y pren wrth Gal. 5. 22. ei ffrwyth, felly yr adwaenir yr yſpryd glân. Ffrwythau 'r Yſpryd glân yn ôl meddwl S. Paul, yw y rhai hyn, Cariad, llawenydd, tangnheddyf, ymaros, cymmwynaſcarwch, daioni, ffŷdd, llaryeidd-dra, dirweſt. O'r gwrthwyneb, gweithredoedd y cnawd yw y rhai hyn, Tor-priodas, godineb, aflendid, digywilydd-dra, delw-addoliad, ſwngyfaredd, caſineb, llid, gelyniaeth, digofaint, ymryſonau, terfyſcau, hereſiau, cenfigennau, lladdiadau, meddwdod, cyfeddach, a'r cyffelyb.

Dymma 'r drŷch a'r gwydr, yn yr hwn y gelli dy weled dy hunan, a gwybod pa vn ſydd ynot ai'r Yſpryd glân, ynteu yſpryd y cnawd. Os gweli fod dy weithredoedd yn ddaionus ac yn rhinweddol, yn cytuno ag iniawn reol gair Duw, heb arnynt na blas nac archwaith y cnawd, ond yr yſpryd, yno bydd ſiccr dy fod di wedi dy gynyſcaeddu â'r yſpryd glân: heb hynny os tybygi di yn dda o honot dy hunan, nid wyt ti ond dy dwyllo dy hunan.

Y mae'r yſpryd glân bob amſer yn ei ddangos ei hunan wrth ei ddoniau ffrwythlon graſol, Hynny yw, trwy eiriau doethineb, trwy eiriau gwybodaeth, yr hyn yw iawn ddeall yr Scrythyrau, trwy ffydd i wneuthur gwrthiau, trwy iachau 'r clwyfus, trwy brophwydoliaeth, yr hyn yw manegi 1. Cor. 12. 7. dirgelion Duw, trwy wahaniaeth yſprydion, trwy amryw dafodau, a chyfieithiad tadfodau a'r cyfryw. Ac fel y mae 'r holl ddoniau hyn yn dyfod oddiwrth yr vn yſpryd, a chwedi eu rhoddi yn ddoſparthedig i bob dŷn, yn ôl y meſur y rhyngo bodd i'r yſpryd glan gyfrannu: felly nid heb achos da, y maent hwy yn dwyn dynion i ryfeddu o blegid duwiol allu Duw.

Pwy ni ryfedda o blegid yr hyn ſydd ſcrifennedig yn Actau'r Apoſtolion, wrth glywed eu eofn gyffes hwy gar bron y Cyngor yn Ieruſalem? Ac wrth yſtyried pa fodd yr aethant oddiger bron y Cyngor yn llawen ac yn hyfryd am eu cyfrif yn deilwng i ddwyn ammarch er mwyn enw'r Ieſu? Gwaith galluog yr Yſpryd glân oedd hyn, yr hwn am ei fod yn rhoddi dioddefgarwch a llawenydd mewn profedigaethau a blinderau, a elwir yn yr Scrythur lân ar enw y diddanwr.

Pwy ni ryfedda wrth ddarllein pregethau nefol dyſcedig Petr a'r diſcyblon, wrth yſtyried na ddygwyd hwy erioed i fynu mewn yſcol o ddŷſc, ond gwŷr a alwyd oddiwrth eu rhwydau i fod yn Apoſtolion? Gwaith galluog yr Yſpryd glân oedd hyn hefyd, yr hwn am ei fod yn cyfarwyddo calonnau 'r gwirion yngwir wybodaeth Dduw a'i ſanctaidd air, a elwir wrth ei iawn enw a'i ditul, Yſpryd y gwirionedd.

Mae Euſebius yn ei hiſtori eglwyſig yn adrodd hiſtori ryfedd, am ryw phyloſophydd dyſcedig cyfrwyſ-gall, yr hwn ac ef yn wrthwynebwr mawr i Li. 11. ca. 3. Griſt a'i athrawiaeth, ni ellid trwy ddŷſc yn y bŷd ei droi i'r ffydd, ond a fedre yn hawdd atteb yr holl reſymmau a ellid i roi yn ei erbyn ef, heb boen yn y byd. Yn y diwedd fe a gyfododd i fynu ryw ddyn gwael diſyml, a'i ſynwyr yn fychan a'i ddyſc yn llai, yr hwn a gyfrifid yn ynfyd ym-mhlith y dyſcedigion: a hwn yn enw Duw ni fynnai lai nag ymddadleu â'r philoſophydd balch hwn. Fe a ofnodd yr Eſcobion a'r gwyr dyſcedig oedd yno am hyn o beth, ac a dybiaſant y gwradwyddid hwy oll yn gyhoeddus o'i blegid ef. Er hynny efe a aeth yn ei flaen, a chan ddechreu yn enw 'r Arglwydd Ieſu, ef a ddug y philoſophydd yn y diwedd, yn erbyn pob tybygaeth, i gydnabod fod gallu Duw yn ei eiriau ef, ac i roddi lle i'r gwirionedd. Onid oedd hyn yn weithred ryfedd, fod i ddŷn truan diddyſc wneuthur y peth ni allai Eſcobiō a gwyr dyſcedig deallus byth ei wneuthur? Mor wir yw geiriau Beda, Lle y bo yr Yſpryd Hom. 9. ſuper Luca. glân yn addyſcu ac yn cyfarwyddo, nid rhaid edrych am ddŷſc.

Llawer ychwaneg a ellid ei ddywedyd ymma am amryw ddoniau a rhadau 'r Yſpryd glân, y rhai ſydd odidog a rhyfeddol yn ein golwg ni, ond ni chynnwys yr amſer wneuthur hîr draethawd ar y cwbl. A chan ddarfod i chwi glywed y rhai pennaf, chwi a ellwch yn hawdd ddeall y rhai eraill. Yn awr fe a fyddai anghenrhaid agoryd y pwngc ymma, A ydyw pawb ac ſydd yn ymffroſtio fod yr Yſpryd glan genthynt, yn ei arddel yn gyſiawn ai nad ydynt? Yr hyn beth am ei fod yn anghenrheidiol ac yn fuddiol, a agorir ac a amlygir (a Duw yn y blaen) yn y rhan neſaf o'r homili hon.

Yn y cyfamſer, rhoddwn (fel yr ydym rwymediccaf) wir galonnog ddiolch i'n Tâd o'r nef, ac i'w fâb Ieſu Griſt, am ddanfon y diddanudd hwn i lawr i'r bŷd, gan attolwg iddo yn oſtyngedig, weithio yn ein calonnau ni trwy allu ei Yſpryd glân, fel y bo i ni wedi ein hadgenhedlu a'n ail-eni ym-mhob daioni a ſobredd a gwirionedd, gael yn y diwedd ein gwneuthur yn gyfrannogion o fywyd tragwyddol yn ei deyrnas nefol ef, trwy Ieſu Griſt ein harglwydd a'n Iachawdwr, Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth ynghylch yr Yſpryd glân, yn agoryd y dowt ymma, Pa vn a wna ai bod pawb ac a ymarddel o'r Yſpryd glân yn ymarddel o hono yn gyfiawn, ai peidio.

PAN ydoedd ein Iachawdwr Chriſt yn myned allan o'r bŷd at ei Dâd, fe a addawodd ddanfon iddynt ddiddanwr arall yr hwn a Io. 14. 15. arhoſai gyd â hwy yn dragywydd i'w cyfarwyddo ymmhob gwirionedd. Ac y mae 'r Scrythur lân yn tyſtiolaethu yn oleu ddigon ddarfod cyflawni hynny yn ffyddlon ac yn gywir. Ac ni ddylyem ni dybied ddarfod addo neu roddi y diddanudd hwn yn vnig i'r Apoſtolion, ond hefyd i gyffredinol eglwys Griſt, yr honſydd waſcaredig tros yr holl fŷd. O blegid oni bai fod yr Yſpryd glân yn waſtad yn breſennol, yn llywodraethu ac yn cadw ei Eglwys o'r dechreuad, ni allaſai hi byth oddef cynnifer a chymmaint o frwydrau blinder ac erlid, heb gael mwy o golled ac o eniwed nac a gafodd hi.

Ac y mae geiriau ein Iachawdwr Chriſt yn oleu iawn yn y peth hyn, gan ddywedyd yr arhoſai Yſpryd y gwirionedd gyd â hwy yn dragwyddol; y byddai ef gyd â hwy trwy ei râd a'i rinwedd a'i allu, hyd ddiwedd y bŷd. Mae efe hefyd yn y weddi a wnaeth ef at ei Dâd ychydig o flaen ei farwolaeth, yn eiriol nid yn vnig troſto ei hun a'i Apoſtolion, ond yn ddiwahaniaeth tros bawb oll ac a gredent ynddo ef trwy eu geiriau hwy, hynny yw tros ei holl Eglwys. Mae S. Paul yn dywedyd hefyd, Y neb nid oes gantho Yſpryd Chriſt, nid yw eiddo ef. A hefyd yn y geiriau a ganlynāt, Ni a dderbyniaſō Rom. 8. 14. yſpryd mabwyſiad, trwy'r hwn yr ydym yn llefain Abba Dâd. Wrth hyn gan hynny, y mae yn amlwg ac yn eglur i bawb, ddarfod rhoddi 'r Yſpryd glân, Verſ. 15. nid yn vnig i'r Apoſtolion, onid hefyd i holl gorph Eglwys Griſt, er nad yn yr vn dull a mawrhydi ac y daeth ef i lawr yr ŵyl y Pentecoſt. Ond yn hyn y mae 'r ymryſon, A ydyw pawb yn ymarddel yn gyfion o'r Yſpryd glân ai nad ydynt? Mae Eſcobion Rhufain er ys llawer o amſer yn ymarddel o hono yn daer, gan ymreſymmu droſtynt ei hunain yn y modd hyn. Yr yſpryd glân, meddant hwy, a addawyd i'r Eglwys, ac nid ymedy ef bŷth a'r Eglwys: ond nyni yw 'r pennaduriaid vchaf a'r rhan odidowgaf o'r Eglws, am hynny mae yr Yſpryd gydâ ni yn dragywydd, a pha bethau bynnag a orchymmynnom ni, maent yn wirionedd diammau, ac yn ymadroddion nefol yr yſpryd glan.

Fel y bo i chwi yn well ddeall gwendid y ddadl hon, fe fydd anghenrhaid dangos i chwi yn gyntaf pa beth yw gwir eglwys Griſt, a chwedi hynny ei chyffelybu hi ac eglwys Rufain, fel y geller gweled pa fodd y mae 'r naill yn cyttuno a'r llall. Gwir eglwys Griſt yw cynnulleidfa neu gydymdeithas gyffredinol y ffyddloniaid ac etholedig bobl dduw, wedi ei hadeiladu ar ſail yr Apoſtolion ar prophwydi, ac Ieſu Ghriſt ei hun yn bencongl-faen. Ac y mae iddi yn waſtadol dri nôd neu farc, trwy y rhai yr adnabyddir hi. Athrawiaeth bur ddifreg, miniſtro y Sacrament au yn ol ſanctaiod ordeinhâd, ac iawn arfer Diſcyblaeth. llywodraeth eglwyſig. Mae y portreiad ymma ar yr Eglwys yn gyttunol ag Scrythyrau Duw, ac ag athrawiaeth yr hên dadau, fel na all neb yn gyfiawn feio arno. Bellach os cyffelybwch yr Eglwys ymma ag eglwys Rufain, nid megis yr oedd hi yn y dechreuad, ond fel y mae hi yn awr ac y bu hi er ys nawcant o flynyddoedd ac ychwaneg: chwi a ellwch weled yn hawdd fod ei ſtât hi mor bell oddiwrth naturiaeth y wir eglwys ac nas dichon dim fod bellach. O blegid nid adeiladwyd hwy ar ſail yr Apoſtolion a'r prophwydi, gan gynnal pur ac iachus athrawiaeth Chriſt Ieſu, ac nid ydynt nac yn trin y ſacramentau, nac yn arfer Allweddau agoriadau 'r eglwys, yn y modd y goſododd ac yr ordeiniodd ef hwy ar y cyntaf: ond hwy a gymmyſcaſant eu traddodiadau a'u dychymmygion eu hunain, gan newid a chyfnewid, ychwanegu a thynnu ymmaith, fel y gellir canfod eu bod hwy yn awr wedi eu troiar ddull newydd.

Fe a orchymmynnodd Chriſt i'w Eglwys Sacrament ei gorph a'i waed: hwythau a'i newidiaſant ef yn aberth tros fyw a meirw. Fe a finiſtrodd Chriſt y Sacrament hwn i'w Apoſtolion, a'i Apoſtolion i eraill yn ddiwahanol yn y ddwy ryw: hwythau a yſpeiliaſant y bobl o'r cwppan, gan ddywedyd fod vn rhyw yn ddigon iddynt hwy. Nid ordeiniodd Chriſt arfer yn y Bedydd vn Element. elfen ond dwfr yn vnig, yr hwn pan gyſyllter y gair ag ef, a wnair (medd S. Auguſtin) yn Sacrament cyflawn perffaith: maent hwythau, gan dybied eu bod yn ddoethach nâ Chriſt, yn credu na wneir mo hono yn iawn ac yn drefnus, oddieithr iddynt arfer rhyw ſwyn-gyfaredd, oddieithr iddynt fendigo 'r dwfr, oni bydd olew a halen a phoeryn a chanwyllau, a'r cyfryw Ceremoniau mudion eraill, heb waſanaethu i ddefnydd yn y bŷd, yngwrthwyneb i reol oleu Sanct Paul, yr hwn ſydd yn gorchymmyn gwneuthur pob peth yn yr Eglwys er adeiladaeth. 1. Cor. 1. 14. Fe a ordeiniodd Chriſt awdurdod yr Allwyddau. agoriadau i eſcymnuno pechaduriaid cyhoeddus, ac i ollwng a rhyddhau y rhai a fo gwir edifeiriol: maent hwythau yn camarfer y gallu hwnnw fel y gwelont hwy fod yn oreu; gan felldithio 'r duwiol â llyfr a chlôch a chanwyll, a chan ryddhau 'r annuwiol y rhai a wyddys eu bod yn an-nheilwng o gydymdeithas Chriſtianogion: a phwy bynnag a fynno weled ſiampl o hyn, chwilied eu bucheddau hwy. Ar ychydig eiriau, edrychwch beth a ddywedodd ein Iachawdwr Chriſt am yr ſcrifēnyddion a'r Phariſeaid yn yr Efengyl, hynny a ellir ei ddywedid yn Eofn. hŷfac â chydwybod dda am eſcobion Rhufain, ſef darfod iddynt ymwrthod, a'u bod yn ymwrthod beunydd a gorchymmynion Duw, i oſod i fynu eu traddodiadau eu hunain.

Gan fod hyn yn wir, fel y mae yn rhaid i bawb ac ſydd gātho ddim goleuni yngair Duw gyfaddef, ni a allwn ddiweddu â rheol S. Auguſtin: Nad yw eſcobion Rhufain a'u canlynwyr, yn wir Eglwys Griſt, llai o lawer y dylyid eu cymmeryd hwy yn bennaethiaid ac yn llywodraethwyr ar yr Eglwys. Pwy bynnag (medd ef) ſydd yn anghytuno â'r Scrythyrau ynghylch pen yr Eglwys, Aug. contra Petil. Donatiſtae epiſtol. cap. 4. etto nid ydynt hwy o'r eglwys er eu bod hwy ym-mhob man ac y mae 'r Eglwys. Dyna le eglur, yn proſi yn amlwg yn erbyn eglwys Rufain.

Pa le yn awr y mae 'r Yſpryd glân, yr hwn y maent hwy yn ymarddel o hono mor daer? Pa le yn awr y mae Yſpryd y gwirionedd, yr hwn ni oddef iddynt gyfeilorni? Os poſſibl ei fod ef lle nid yw gwir Eglwys Griſt, mae efe yn Rhufain: ac onid ê nid yw 'r cwbl ond gwagfoſt, heb ddim amgen.

Mae S. Paul, fel y clywſoch o'r blaen, yn dywedyd, Os oes neb heb Yſpryd Chriſt ynddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef. A chan droi y geiriau, fe Rom. 8. 9. a ellir dywedyd yn wir, Yr hwn nid yw yn eiddo Chriſt, nid yw'r Yſpryd gantho. Yn awr fel y gallom adnabod pwy ſydd yn eiddo ef, a phwy nid ydyw, fe a roddwyd i ni y rheol hon, fod ei ddefaid ef bob amſer yn gwrando ei leferydd ef. Ac y mae Ioa. 10. S. Ioan yn dywedyd, fod yr hwn ſydd o Dduw yn gwrando gairiau Duw.

O hyn y canlyn fod y Pabau wrth fod heb wrando lleferydd Chriſt, fel y dlyent, ond goſod eu traddodiadau Ioa. 8. eu hunain o flaen eglur air Duw; yn dangos yn oleu i'r bŷd, nad ydynt hwy o Griſt, ac nad yw ei Yſpryd ef ynddynt.

Ond ymma y dodant hwy droſtynt eu hunain, fod llawer o byngciau angenrheidiol heb eu traethu yn yr Scrythur lân, y rhai a adawyd i ddatguddiad yr Yſpryd glan. Yr hwn ſy wedi ei roddi i'r Eglwys yn ol addewid Chriſt, ac a ddyfcodd lawer o bethau o amſer i amſer, y rhai ni allai yr Apoſtolion etto eu dwyn gyd â hwy. I hyn y gallwn atteb yn hawdd â geiriau eglur Chriſt yn Ioa. 16. dangos i ni mai ſwydd briodol yr Yſpryd glân yw, nid appointio ac ordeinio cyfreithiau newydd yngwrthwyneb i'r athrawiaeth y mae ef gwedy ei dangos o'r blaen, ond deongl ac egluro y pethau a ddangoſodd ef o'r blaen, fel y gellid eu deall hwy yn iniawn ac yn dda. Pan ddel Yſpryd y gwirionedd, medd ef, efe a'ch tywys chwi i bob gwirionedd. Pawirionedd y mae efe yn ei feddwl? A yw efe yn meddwl amgē wirionedd nag a ddatcuddiaſai Ioa. 16. 13. ef eihun yn ei air? Nag yw. O blegid y mae efe yn dywedyd, Ef a gymmer o'r eiddoſi, ac a'i mynega i chwi. A thrachefn, Ef a ddŵg ac gof Ioa. 16. 14. i chwi yr holl bethau a leferais wrthych.

Am hynny nid rhan a dylêd Chriſtion yw, yn rhith bod yr Yſpryd glân gantho, dwyn ei ddychymmygion a'i freuddwydion ei hunan. Ond rhaid iddo ddarbod yn ddyfal fod ei athrawiaeth a'i gyfreithiau ef yn cyttuno â Theſtament ſanctaidd Chriſt. Os amgen, wrth wneuthur yr Yſpryd glân yn awdur o'r pethau hynny, mae efe yn dywedyd celwydd yn erbyn yr Yſpryd glan, i'w golledigaeth ei hun.

Bellach i adel heibio eu hathrawiaeth hwy, ac i ddyfod at byngciau eraill. Pa beth a dybygwn ni, neu a farnwn am falchedd afrifed y Pâb? Mae'r Scrythur yn dywedyd, duw a wrthladd y beilchion ac a rydd râs i'r rhai vfydd. Ac y mae 1. Pet. 5. 5. hi yn galw yn fendigedig y rhai ſy dlodion yn yr Yſpryd, ac yn addo y derchefir y rhai a ymoſtyngo. Mat. 5. 3. Mat. 23. 12. Luc. 14. 11. & 18. 14. Ac y mae ein Iachawdwr Chiiſt yn erchi i bawb o'r eiddo ef ddyſcu gantho ef, am ei fod yn llaryeidd ac yn oſtyngedig o galon. Am falchedd, mae S. Gregoriyn dywedyd mai gwreiddyn pob drygioni yw hi. A barn S. Auguſtin yw ei bod hi yn gwneuthur dynion yn gythrauliaid.

Am hynny, a all vn dŷn ac a ddarllennodd neu a ddarllenno fucheddau 'r Pabau, ddywedyd yn gywir fod yr Yſpryd glân ynddynt hwy? Yn gyntaflle y mynnant eu galw yn Eſcobion cyffredinol ac yn ben ar holl eglwyſydd Crêd, mae gennym farn Gregori yn eglur yn eu herbyn hwy, yr hwn Lib 3. Ep. 76. 78. wrth ſcrifennu ac Mauritius yr Ymmerodr, ſydd yn condemnio Ioan Eſcob Conſtantinopol am yr vn peth, ac yn ei alw ef am hyn yn dywyſog balchedd, yn ganlynudd Lucifer, ac yn flaenorwr Anghriſt. S. Bernard hefyd ſydd yn cyttuno a hyn ac yn dywedyd, Pa falchedd mwy a all fod, nâ bod Ser 3. de reſur. Dom. i vn dŷn oſod ei farn ei hunan o flaen barn yr holl gynnulleidfa, fel pe byddai yſpryd duw ynddo ef yn vnig? Ac mae S. Chryſoſtom yn cyhoeddibarn erchyll yn eu herbyn hwy, gan ddywedyd yn oleu, Pwy bnnag a geiſio bod yn bennaf ar y ddayar, y Dial. lib. 3. caiff ef wradwydd yn y nef; a'r hwn ymdrecho ani fod yn oruchaf, na chyfrifir ef ym-mhlith gweiſion Chriſt. A thrachefn y dywaid, Peth da yw dymuno Super Ma . gwaith da, ond ceiſio y radd bennaf o anrhydedd, ſydd wagedd diledryw. Onid yw y lleoedd hyn yn ddigonol yn argyoeddi eu balchedd anllywodraethus hwy yn cymmeryd arnynt eu hunain oruchafiaeth vwch law pawb eraill, cyſtal gweinidogion ac Eſcobion, a brenhinoedd ac ymmerodron? Ond fel yr adwaenir y llew wrth ei ewinedd, felly dyſcwn ninnau adnabod y gwŷr hyn wrth eu gweithredoedd.

Pa beth a ddywedwn ni am yr hwn a barodd rwymo y brenhin ardderchog Dandalus â chadwyn Ger ei wddwg. erbyn ei wddf a gorwedd dan ei fwrdd ef a chnoi eſcyrn fel ci?Sabellic. A dybygwn ni fod gantho ef yſpryd Duw yntho? ac nid yn hytrach yſpryd diarol? Ennead. 9. l. 7. Y cyfryw dyrant creulon oedd Bab Clemens y chweched. Pa beth a dybygwn ni am yr hwn a Ddanſiolodd. sathrodd yr ymmerodr Frederic yn falch ac yn ddirmygus tan ei draed, gan ddywedyd amdano ei hun y wers hon o'r Pſalm. Ar y llew a'r aſp y cerddi, ar genaw llew a'r ddraig y ſethri? A ddywedwn Pſal. 91. 13. ni fod gantho ef yſpryd Duw ynddo, yntau yn hytrach yſpryd diafol? Y cyfryw dyrant oedd Bâb Alexander y chweched. Pa beth a ddywedwn am yr hwn a arfogodd ac a annogodd y mâb yn erbyn ei dâd, gan beri ei ddal ef a'i newynu i angeu, yn erbyn cyfraith Dduw a naturiaeth hefyd? A ddywedwn ni fod yſpryd Duw ynddo, ynteu yn hytrach yſpryd diafol? y cyfryw dyrant oedd y Pab Paſchalis yr ail. Pa beth a ddywedwn am yr hwn a ddaeth i'w Babaeth fel Cadno. llwynog, a reolodd fel llew, ac a fu farw fel ci? A ddywedwn ni fod Yſpryd Duw yndo, ynteu yn hytrach Yſpryd diafol? y cifryw dyrant oedd y Pâb Bonifacius yr wythfed. Pa beth a ddywedwn am yr hwn a wnaeth i Harri yr ymmerodr a'i wraig a'i blentyn ieuaigc ſefyll wrth borth y ddinas yn y gayaf garw yn eſceirnoeth droednoeth, heb ddim yn eu cylch ond gwlanen deneu heb fwytta dim o'r boreu hyd yr hwyr, a hynny tros dri diwarnod? A ddywedwn ni fod Yſpryd Duw ynddo, ynteu yn hytrach yſpryd diafol? y cyfryw dyrant oedd y Pâb Hildebrand.

Llawer o ſiāplau eraill a ellid eu hadrodd ymma, megis am y Pâb Ihoan y buttain honno, yr hon a Ganed iddi. eſcorodd ar blentyn yn yr heol wrth gerdded proſeſiwn: am y Pâb Iulius yr ail, yr hwn o'i wir-fodd a daflodd agoriadau Petr i afon Tibris: am y Pâb Urban y chweched yr hwn a barodd ddodi pump o Gardinaliaid mewn Ffettanau. ſachau a'u boddi: am y Pâb Sergius y trydydd yr hwn a erlidiodd gorph marw ei flaenor Formoſus a gladdeſid er ys wyth mlynedd: am y Pâb Ioan y pedwerydd ar ddêg o'r henw hwnnw, yr hwn pan gafodd ei elyn mewn gafael, yn gyntaf a barodd ei ddioſc yn noeth lymmyn, ac eillio ei farf, a'i grogi erbyn ei wâllt tros ddiwrnod cyfan, ac yno ei oſod ar aſſen a'i wyneb yn ôl, a'i ddwyn felly amgylch y ddinas o ddirmyg arno, a'i guro yn flin â gwiail, ac yn ddiweddaf oll ei yrru allan o'i wlâd, a'i ddeol a'i afwladu yn dragywydd.

Ac i ddibennu, cymmerwch y wers hon ar fyrr eiriau, Pa le bynnag y gweloch yſpryd rhyfyg a balchder, yſpryd cenfigen a chaſineb, ac ymryſon, a chreulonder, llofruddiaeth, cribddail, ſwyn-gyfaredd, conſurio, a'r cyfryw; byddwch ſiccr mai yſpryd diafol ſydd yno ac nid yſpryd Duw, er maint y rhith ſancteiddrwydd a gymmeront arnynt yngolwg y byd. Oblegid fel y mae 'r Efengyl yn ein dyſcu ni, Yſpryd Ieſu yſpryd daionus yw, yſpryd ſanctaidd, yſpryd llaryaidd, yſpryd goſtyngedig, yſpryd trugarog, yn llawn caredigrwyddd a chariad, yn llawn trugaredd a thiſturi, heb dalu drwg am ddrwg, na chreulōder am gariad, ond â daioni yn gorchfygu drygioni, ac yn madden pob camwedd o eigion eigalon.

Yn ôl y rheol hon pwy bynnag a fyddo byw, am dano ef y gellir dywedyd yn ddiogel fod gantho Yſpryd Duw ynddo: os amgen, dyna arwyddeglur ei fod ef yn cymmeryd arno enw 'r Yſpryd glân yn ofer.

Am hynny, fy anwyl garedigion, yn ôl cyngor da Ioan ſanct, Na chredwch bob yſpryd, eithr 1. Io. 4. 1. profwch yr yſprydion ai o Dduw y maent. Llawer medd Chriſt, a ddeuant yn fy enw i, ac a ymrithiant yn rhith angylion y goleuni, ac a dwyllant, pe bydde boſſibl, yr etholedigion. Hwy a ddeuant attoch Mat. 24. 24. yngwiſcoedd defaid, onid oddifewn bleiddiaid rheibus ydynt. Fe fydd ganthynt oddiallan Mat. 7. 15. rith ſancteiddrwydd mawr a diniweidrwydd bywyd, megis y bydd anhawdd i chwi eu hadnabod hwy. Ond dymma y rheol ſydd raid i chwi ei chanlyn, wrth eu ffrwyth yr adnabyddwch hwy. O blegid os byddant annuwiol a drŵg, am-mhoſſibl yw bod y pren yn dda, yr hwn y maent yn tyfu Mat. 7. 16. arno. Cyfryw rai oedd holl Bâbau Rhufain gan mwyaf, fel y mae yn eglur yn hiſtori eu bucheddau hwy. Am hynny da y cyfriſir hwy ym-mhlith y gau brophwydi a'r gaugriſtiau, y rhai a dwyllaſant y byd tros gyhyd o amſer.

Arglwydd nef a dayar an hymddiffynno ni rhag eu creulonder a'u balchder hwy, fel na ddelont hwy byth i'w winllan ef, i drallodi ac i darfu ei braidd bychan ef: ond cael o honynt eu gwradwyddo a'u gorchfygu ym-mhob man o'r byd: a'r vn Arglwydd o'i fawr drugaredd a weithio ynghalon pob dŷn, trwy alluog nerth yr yſpryd glân, fel y bo pregethu a derbyn a chanlyn yn gywir ddiddanus efengyl ei fâb ef Ieſu Ghriſt ym-mhôb lle, er curo i lawr bechod, ac angau a'r Pâb a'r cythraul, a holl deyrnas Anghriſt, fel y gallom ni o'r diwedd fel defaid gwaſcaredig wedi eu caſclu ynghŷd i'r vn gorlan, gael gorphrwys ynghŷd ym-monwes Abraham, Iſaac a Iacob, a bod yno yn gyfrannogion o'r bywyd tragwyddol heb drangc hcb orphen trwy haeddigaethau Ieſu Griſt ein Iachawdwr Amen.

¶ Homili neu bregeth ar wythnos y derchafael, Bod pob peth daionus yn dyfod oddiwrth Dduw.

YR wyf fi yn bwriadu heddyw, Griſtianogion daionus, fanegi i chwi haeddediccaf glod a chanmoliaeth yr Holl-alluog Dduw, nid yn vnig wrth yſtyried rhyfeddol greadwriaeth y byd hwn a'i gadwedigaeth a'i lywodraeth, yn yr hyn y mae ei allu a'i ddoethineb ef yn ymddangos yn odidog, i'n Cyffro. cynnyrfu ni i'w anrhydeddu ac i'w ofni ef: ond yn enwedig wrth yſtyried ei helaetha'i haelionus ddaioni ef yr hwn y mae ef yn eiroi beunydd i ni ei greaduriaid rheſymmol ef, er mwyn y rhai y gwnaeth efe 'r holl fŷd a'i holl gymmwynaſau a'i olud. Pe cofiem ni yn dda ac yn ddyfal ei ddaioni godidog hyn, fe a ddylai ein cyffroi ni hefyd i'w garu ef o wir ewyllys ein calonnau, ac i'w glodfori ef mewn gair a gweithred, ac i'w waſanaethu ef holl ddyddiau ein hcinioes.

Ac yr ydwyfyn gobeithio nad rhaid i mi lawer o amgylchon geiriau i'ch cyffroi chwi i wrando yn ddyfal ar beth mor wiw i mi ei draethu ac mor fuddiol i chwithau ei wrando. Yn vnig mi a ewyllyſiwn fod eich meddyliau wedi eu dirgel gynheſu ynoch, i Cyffro. gynhyrfu ynoch ddiolchgarwch i ddaioni yr Holl-alluog Dduw ymmhôb pwngc ac a egorer i chwi yn nailltuol yn fy-nrhaethawd i. Os amgen, pa beth a dâl i ni wrando a gwybod mawr ddaioni dduw tu ag attom, a gwybod fod pob peth daionus yn dyfod oddiwrtho ef, megis o lygad y' ffynnon ac oddiwrth vnig a wdur pob dâioni; neu wybod fod yn rhaid i bob peth ac a ddelo oddiwrtho ef, fod yn ddaionus ac yn iachus: oni phair ei glywed efi ni ddim ond ei wybod yn vnig: Beth a fu well doethion y bŷd er bod ganthynt wybodaeth am allu a Duwdod Duw, trwy ei ddirgel yſprydeliaeth ef: a hwytheu heb ei anrhydeddu a'i ogoneddu ef yn eu gwybodaeth, megis Duw? Pa glod oedd iddynt hwy weled ei ddaioni ef, wrth yſtyried creadwriaeth y bŷd, a hwythau heb fod yn ddiolchgar iddo am ei greaduriaid? Pa beth a haedddodd y dallineb a'r anniolchgarwch hyn ar law Dduw, ond bod iddo ymwrthod a hwy yn gwbl? ac felly gwedi i dduw eu gwrthod, ni allent amgen na chwympo i eithaf anwybodaeth ac amryfyſedd. Ac er eu bod hwy yn gwneuthur cyfrif mawr o honynt eu hunâin yn eu ſynwyr a'u gwybodaeth, ac yn ymogoneddu yn eu doethineb: etto hwy a ddifannaſant ynnallineb Rom. 1. 21. eu meddyliau, ac a aethant yn ffoliaid, ac a gyfrgollwyd yn eu ffolineb. Ni all bod amgen diwedd i'r rhai a neſſant at Dduw trwy wybodaeth, ac a ânt oddiwrtho trwy anniolchgarwch, ond dygyn golledigaeth.

Fe a welodd Dafydd yn ei ddyddiau ef fod hyn yn wir. O blegid mae efe yn dywedyd yn ei Pſalmau, Pſa. 73. 27. wele difethir y rhai abellânt oddiwrthit, peraiſt dorri ymmaith bob vn a butteinio oddiwrthit. Fe a welodd y ſanctaidd brophwyd Ieremi fod hyn yn wir, O Arglwydd, medd ef, y rhai oll a'th wrthodant a wradwyddir, ſcrifenner yn y ddayar y rhai a gilant oddiwrthit ti, am iddynt adel yr Arglwydd, ffynnon dyfroedd y bywyd.

Ni wna lles, bobl ddaionus, gwrando manegi daioni Duw, oddieithr i hynny ennynnu ein calonnau i'w anrhydeddu ef ac i ddiolch iddo. Ni wnaeth lles i'r Iuddewon, er eu bod yn bobl ddewiſol Dduw, wrando llawer am Dduw, gan na dderbyniaſant ef i'w calonnau trwy ffydd, ac na ddiolchaſant iddo am y doniau a roddodd efe iddynt: eu hanniolchgarwch hwy a fu achos o'u diſtryw.

Gwachelwn ni arfer y cyfryw rai, a chanlynwn yn hytrarch ſiampl yr Apoſtol bendigedig S. Paul, yr hwn pan welodd ef mewn dwfn fyfyrdod, ryfeddol weithredoedd yr holl-alluog Dduw, ac yſtyried anfeidrol ddaioni Duw yn trefnu ei greaduriaid, fe a dorrodd allan yn y diwedd i'r geiriau hyn, O honaw ef, a thrwyddo ef, Rom. 11. 36. ac ynddo ef y mae pob dim oll. A chwedi iddo adrodd y geiriau hyn, ni ſafodd ef ar hyn yn vnig, ond yn y man fe a gyſſylltodd y geiriau hyn, Iddo ef y byddo gogoniant yn oes oeſoedd, Amen. Ar ſail y geiriau hyn eiddo S. Paul y mae yn fy mrŷd i wrandawyr, adailad fy-nghyngor i chwi heddyw. Lle y gwnâf fy-ngoreu, yn gyntaf ar brofi i chwi fod pob dawn daionus a phob rhodd berffaith yn Iac. 1. 17. diſcynoddiuchod, oddiwrth Dâd y goleuni.

Yn ail, mai Ieſu Ghriſt ei Fab ef yw'r cyfrwng trwy'r hwn yr ydym yn derbyn ei haelionus ddaioni ef.

Yn drydydd, mai trwy allu a rhinwedd yr Yſpryd glân yr ydys yn ein gwneuthur ni yn addas ac yn abl i dderbyn ei ddoniau a'i radau ef.

Yr hyn bethau os yſtyriwn bob vn o'r nailltu, ac yn bwyllog yn ein meddyliau, hwy a'n cymmhellant ni mewn parch goſtyngedig, yn ôl ein rhwymedig ddlŷed, i roddi diolch idddo â thyſtiolaeth ein calonnau am ei haedddigaethau ef tu ag attom ni. Ac fel y bo traethiad y peth ſydd gennym yn llaw, er gogoniant i'r holl-alloug Dduw, galwn o vn ffydd a chariad ar Dâd y drugaredd, oddiwrth yr hwn y mae pob dawn daionus, a phob rhodd berffaith yn dyfod, trwy gyfryngad ei anwyl fâb ein Iachawdwr, ar ini gael ein cynhorthwyo trwy Breſennoldep. gydrycholdeb ei Yſpryd glân ef, ac ac ar ini ymddwyn yn iachus o'n rhan ninnau, wrth ddywedyd, ac wrth wrando, er iechydwriaeth ein eneidiau.

Ynnechreuad fy ymadrodd wrthych, Griſtionogion da, na thybygwch fy mod yn cymeryd arnaf fynegi i chwi odidawg allû, a doethineb annhraethadwy yr holl-alluog dduw: fel pa mynnwn i chwi gredu y gellir mynegi hyn i chwi mewn geiriau. Nagê, ni ellir tybied y gall geiriau dŷn gynwys y peth ni all dim ei ymgyffred. A gormodd rhyfyg yw i Lwch. lethrod a lludw dybied y gall ef yn gymheſſur fanegi ſylwedd ei wneuthurwr Mae 'n myned ymmhell tuhwnt i ddeall doethineb vn dŷn marwol, draethu yngwbl ei dduwiol fawrhydi ef, yr hwn ni all yr angylion ddeall mo hono. Am hynny ni a adwn heibio ſôn am aniā ddyfn anchwiliad wy yr holl-alluog Dduw, gan gydnabod ein gwendid yn hytrach nag yn ynfyd geiſio cynnwys yr hyn ſydd vwch law deall dŷn. Gwedduſſach yw i ni mewn goſtyngeiddrwydd iſſel, berchi ac ofni ei fawrhydi ef yr hwn ni allwn ei ymgyffred, nag wrth chwilio 'n rhy fanol cael ein gortrechu â'i ogoniant ef. Ni a drown yn gyntaf ein holl gydſynnaid dros ennyd i atteb ei ddaioni ef tuag attom yn yr hyn atrafaelwn yn fuddiolach, ac y gallwn yn Hyfach. eofnach chwilio.

Ni ddichon yſtyried ei fawr allu ef ond gwneuthyr i ni Arſwydo. echrydio, ac ofni: fe allai yſtyriaeth ei vchel ddoethineb ef yn hollol ddigalonni ein gwendid ni, fod ini ddim a wnelom ag ef: ond wrth yſtyriaid ei ddaioni anfeidrol ef, yr ydym yn Ymhyfhan. ymeofnhau ailwaith i ymddired yn dda iddo ef. Trwy ei ddaioni ef yr ydym ni yn ymſiccrhau ar ei gymeryd ef yn ymddiffynfa, yn obaith, ac yn ddiddanydd, yn Dâd trugarog yn holl lwybrau 'n heinioes. Mae ei allu a'i ddoethineb ef yn ein cymmell ni i'w gymmeryd ef yn Dduw hollalluog, anweledig, yr hwn ſydd yn ternaſu yn y nef, ac ar y ddaer, a chantho bob peth dan ei draed, ac ni fyn neb o'i gyngor, na neb i ofyn rheſwm am ei weithred. O herwydd fe all wneuthur y peth y fynno, ac ni all neb ſefyll yn ei erbyn ef. O achos mae fe'n gweithio pob peth yn ei farn ddirgel, fal y mae yn fodlon gantho fe: ie y drygionus i ddamnedigaeth fal y dywad Salomon. O achos yr anian hyn y gelwir efe yn yr ſcrythyr yn dân yſol, ac yn Dduw ofnadwy. O'r rhan hyn am hynny ni allwn ni gael cyfaillach ag ef, na dyfodiad atto. Ond mae ei ddaioni ef ailwaith yn tymheru toſtedd ei vchel allu ef, yn ein * eofnhau ni, ac yn ein dodi ni mewn gobaith, y bydd ef gydâ ni, ac y bydd ef yn eſmwyth wrthym.

Ei ddaioni ſydd yn ei gynhyrfu ef yn yr ſcrythyr i ddywedyd, Hoff yw gennyf fod gydâ maibion dynion, Ei ddaioni ef ſydd yn ei gynhyrfu ef i 'n galw ni atto, i gynnyg i ni ei gymdeithas, a'i breſennolder. Ei ddaioni ef ſydd yn goddef yn oddefgar i ni gyfeiliorni oddi wrtho, ac i ymaros wrthym ni yn hir, er ein hennill ni i etifeirwch. O'i ddaioni y gwnaeth ni yn greaduriaid rheſymmol, ac ef yn gallu ein gadel ni yn anifeiliaid anrheſymmol. Ei drugaredd ef oedd gael o hanom ni ein geni ym-myſc Chriſtionogion, a thrwy hynny bod yn nês o lawer i iechydwrieth ac i obaith bywyd tragwyddol, lle galleſſid (oni bai ei ddaioni ef) ein geni ni ymmyſc paganiaid heb Dduw ac heb obaith bywyd tragwyddol. A pheth y mae ei laferydd caredig mwyn ef yr hwn a draethir yn ei air ef, (lle y mae efe yn ein galw ni i'w breſenoldeb a'i gymdeithias) yn ei fanegi amgen, onid ei ddaioni ef yn vnic heb Edrych. ſynned am ein haeddiant ni? a pheth amgen ſydd yn ei gyffroi ef i'n galw ni atto pan ydym yn cyfeiliorni oddiwrtho, i'n goddef ni yn oddefgar er ein hennill i etifeirwch heb vn tippyn o'n haeddiant ni? Daued y rhai y ſydd gwedi eu gogoneddu yn y nef, yn awr oll ynghŷd, a gwrandawn pa atteb a wnelont hwy yn y pyngeiau a ſoniaſſom ni o'r blaen am danynt, pa vn ydoedd eu cread cyntaf hwy ai o ddaioni Duw, ai o hanynt eu hunain. Yn wir fe a attebai Ddafydd, ac a ddywedai droſtynt oll, Gwybyddwch yn ſicr mai'r arglwydd yw Duw, efe a'n gwnaeth ac nid ni ein hunain. Pe gofynnid iddynt ailwaith i bwy y dlyid diolch am eu chſiawnhâd hwy, ac am eu iechydwriaeth hwy? pa vn ai i'w haeddiant hwy ai i vnic ddaioni Duw?

Er bod pob vn yn y pwngc hyn yn addef yn ddigonol wirionedd y peth hyn yn ei berſon ei hun, etto attebed Dafydd ar hyn o amſer, megis eu genau hwy oll; yr hwn ni ddichon ddewis na ddywedo, Nid i ni o Arglwydd ond i'th enw di y rhoddir pob diolch, er mwyn dy drugaredd a'th wirionedd di. Os goſynnwn ni ailwaith o ba le y daeth eu gweithredoedd a'u gorchwylion gogoneddus hwy, y rhai a wnaethont yn eu hoeſoedd, â'r rhai y boddlonaſant ac yr addolaſant hwy Dduw yn gymmaint: hebryngwn i mewn ryw dŷſt arall i deſtiolaethu yr vn peth, fel yngenau dau neu dri yr adnabydder y gwirionedd.

Yn wir mae 'r prophwyd Eſai yn teſtiolaethu gan ddywedyd, O Arglwydd ti a'th ddaioni a Eſ. 26. wneuthoſt yr holl weithredoedd hyn ynom, ac nid ni ein hunain. Ac er cynnal i fynu wirionedd y peth hyn, yn erbyn yr holl ymgyfiawnhawyr, a'r hypocritiaid, y rhai a yſpeiliant yr holl-alluog Dduw o'i anrhydedd, ac a'i rhoddant iddynt eu hunain, mae Saint Pawl yn dwyn i mewn hyn, Ni allwn ni, medd ef, o hanom ein hunain megis 1. Cor. 3. o hanom ein hunain, feddwl vn meddwl da: onid mae 'n holl allu ni, o ddaioni Duw, o herwydd yndo efe y mae i ni oll ein bod, ein bywyd, a'n Cwhw. fan. cynhyrfiad. Os mynnwch wybod etto ymmhellach pa le y cawſant hwy eu rhoddion, a'u aberthau, y rhai a offrymment hwy yn waſtad yn eu bywyd i'r holl-alluog Dduw, ni allwn lai nâ chyduno â Dafydd, lle mae fe yn dywedyd, O'th law hael di, o Arglwydd, y derbyniaſom yr hyn a roddaſom i ti. Am hynny os ydyw 'r compni ſanctaidd hyn yn addef mor Hyf. eofn fod yr holl ddaioni a'r rhadau, â 'r rhai y cynyſcaeddid eu heneidiau hwy, yn dyfod oddi-vorth ddaioni Duw yn vnic, beth rhagor a ellir i ddywedyd i Brofi. brufo fod pob daioni yn dyfod oddiwrth yr holl-alluog dduw? Ai addas i ni dybied fod pob daioni yſprydol yn dyfod oddiwrth Dduw, oddi-vchod yn vnic, a bod vn daioni arall megis daioni natur neu ffortun (fal y galwn hwy) yn dyfod o vn achos arall? ydyw Duw a'i ddaioni yn harddu 'r enaid a'i holl alluon, megis y mae efe, ac a ddaw y doniau â 'r rhai y cynnyſcaeddir y corph oddi-wrth neb arall? Os ydyw ef yn gwneuthur yr hyn ſydd fwyaf, oni all ef wneuthur yr hyn y ſydd lai? Mwy o waith (medd Sainct Awſtin) yw cyfiawnhau pechadur, a'i greu ef o newydd o ddŷn drwg yn ŵr cyfion, nâ gwneuthur o newydd y nêf, a'r ddayar, yn y modd y gwneuthpwyd hwy eiſoes.

Rhaid yw ini gyfuno pwy ddaioni bynnag ſydd ynom, o rad, o natur, neu o ffortun, ei fod o Dduw yn vnic, megis yr vnig awdur a'r gwneuthurwr; Ac etto ni ddlyid meddwl ddarfod i Dduw greu yr holl fyd cyffredinawl yn y modd y mae efe, ac iddo ef gwedi ei wneuthur ef vnwaith, roddi i fynu ei reolaeth ef, ac y gallwn ni am hynny ei arfer ef yn ol ein ſynhwyrau a'n dychymygion ein hunain, ac felly nad ydyw ef yn cymeryd dim mwy o ofal amdanaw: megis y gwelwn fod y ſaer llongau wedi iddo orphen gwneuthur ei long, yn ei rhoi hi yn llaw 'r llongwr, heb ofalu mwy am dani. Nagê, ni chreodd Duw y byd, a bod gwedi hynny heb ofalu am danaw, ond mae fe yn cadw hwn yn waſtad â'i ddaioni, mae yn ei gynnal bob amſer yn ei grêad: o herwydd yn amgen, heb ei ddaioni enwedigawl ef, ni allai ſefyll yn ei ſtât.

O'r achos hyn y mae Saint Paul yn dywedyd, Y mae fe 'n cadw ac yn cynnal pob peth â'i air Heb. 1. 3. rhag iddynt hebddo ef gwympo yn ddiddim o'r hyn y gwneuthpwyd hwy. Oni byddai fod y daioni hyn yn breſennol ym-mhob lle, fe a ai bob creadur allan o'i iniawn drefn, ac ni byddai vn creadur yn ei iawn gynneddf, yn yr hon y crewyd ef. Mae fe am hyn yn anweledig ym-mhob lle, ac ym-mhob creadur ac yn cyflawni nêf a dayax â'i breſennolrwydd: yn y tân i roddi gwrês, yn y dwfr i roddi gwlybni, yn y ddayar i roddi ffrvoyth, yn y galoni roddi nerth, ie mae fe yn ein bara ni a'n diod i roddi ymborth ini, o herwydd hebddo ef ni all y bara a'r ddiod roddi llyniaeth, na llyſeuyn iechyd. Fal yr addef y gwr call yn oleu, gan ddywedyd, nid amledd ffrwythau ſydd yn porthi dynion, ond dy air di o Arglwydd a geidw y rhai a ymddiredant ynoti. Ac mae Moſes yn cyfuno â hynny, lle mae fe yn dwedyd nad ydyw dŷn yn byw ar ſara'n vnig, onid ar bob gair ac y ſydd yn dyfod o enau'r Arglwydd. Nid y llyſewyn na 'r eli ſydd yn rhoddiiechyd, onid dy air di, o Arglwydd (medd y gwr call) y ſydd yn iachau pob peth.

Am hynny nid gallu y creaduriaid ſydd yn gweithio yn ffrwythlawn onid daioni Duw ſydd yn gweithio yndynt. Yn ei air ef yn wir y mae pob peth yn ſefyll. Trwy y gair hwn y gwneuthpwyd nef a daiar, a thrwy y gair hwn y cynhelir, y maentaenir ac y cedwir hwy mewn trefn, medd S. Petr, ac y byddant hwy hyd oni thynno 'r holl-alluog Dduw ei allu oddiwrthynt, ac y goſodo ef eu gollyngdod hwy.

Oni byddai fod daioni Duw fal hyn yn ffrwythlon yn ei greaduriaid i'w rheoli hwy, pa fodd y gellid cadw y mor mawr yr hwn ſydd yn rhuo, ac yn trafaelu i orchguddio 'r ddaear, o fewn ei derfynau a'i dorlennydd, fal y cedwir efe.

Fe welodd y gwr ſanctaidd Iob yn eglur ddaioni Duw yn y pwngc hyn, ac a addefodd oni byddai fod eſpyſſawl ddaioni duw yn cadw y ddae ar, na ellyd na orchgiddiai y môr hi, mewn ychydig amſer. Pa fodd y gallai yr elementau a hwy mor anghyttun ac mor wrthwyneb i'w gilydd, gyfuno ac aros ynghŷd mewn heddwch er ein gwaſanaethu ni heb ddifetha ei gilydd, oni byddai fod daioni Duw felly yn eu tymheru hwy? pa fodd na loſcai ac na ddifai y tân y cwbl oll, pe gollyngid ef i fyned lle y mynnai, a phe nad attelid ef trwy ddaioni Duw o fewn ei rôd, i wreſſogi yn feſurol y creaduriaid iſod hyn i'w haeddfedu?

Yſtyriwch anfeidrol faint y ddayar, mor drom ac mor fawr yw hi: pa fodd y gallai hi ſefyll mor ddiogel yn y lle y mae hi, oni byddai fod daioni duw yn ei chynnal hi, i ni i drafaelu arni? Tydi (medd Dafydd) o Arglwydd a ſeiliaiſt y ddayar, â'th air y cynhaliaiſt hi, fel nad yſcogai, ac na chwympai.

Yſtyriwch yr anifeiliaid a'r pyſcod cryfion, etto trwy ddaioni Duw ni orchfygant yn ein herbyn, onid hwy a gedwir mewn caethiwed i'n gwaſanaethu ni. Oddiwrth bwy y daeth y gyfarwyddyd hyn i'w Goreſcyn. gormeilio hwy, ac i wneuthur iddynt waſanaethu er budd ini? ai o ymmennydd dŷn? Nagê, yn hytrach fe ddaeth y gyfarwyddyd hyn oddiwrth ddaioni Duw yr hwn a gynhyrfodd ddeall dŷn i gael ei feddwl ar bob creadur. Pwy, medd Iob, a oſododd ewyllys a deall ym-mhen dŷn onid daioni duw yn vnic? Ac (fal y dywaid yr vn Iob, yr ydwyf fi yn deall fod meddwl ym, mhob dŷn, ond cynhyrfiad yr holl-alluog ſydd yn rhoddi deall.

Ni allaſai ddyn (bobl dda Griſtionogaidd) a'i ſynwyr ei hun byth ddychymmyg cinnifer o ddychymmigion ym-mhob celfyddyd, a gwybodaeth, oni bualai fod daioni yr holl-alluog Dduw yn breſennol gydâ dynion, yn cyffroi eu ſynhwyrau a'u mefyrdodau hwy i wybod naws a naturiaeth ei holl greaduriaid ef, i'n gwafanaethu ni yn ddigonol yn ein holl rhaidau a 'n anghenau. Ac nid yn vnic i waſanaethu yn anghenrheidiau ni, onid hefyd i waſanaethu ein boddlonrwydd a'n digrifwch ni vwch ben anghenrhaid: Mor hael yw daioni duw tuag attom ni, er ein hannogi ddiolch iddo, os bydd calonnau ynom.

Ni allai y gŵr call yn ei fyfyrdod nailltuol, lai na chaniatau fod yr hyn a adroddais i chwi yn wir. Yn ei law efe (medd ef) yr ydym ni a 'n geiriau, Doeth. 7. a 'n holl ddoethineb, a 'n holl gelfyddydon, a gweithredoedd ein gwybodaeth. O herwydd efe a roes ini wir gyfarwyddyd, am ei greaduriaid, i adnabod anian y byd, rhinweddau 'r elementau, dechreuad a diwedd yr amſeroedd, a'u newidiad a'u amfrafael rywiau hwy, cylch y flwyddyn, a threfn y ſêr, natur yr anifeiliaid a gallu 'r gwyntoedd a meddyliau dynion, gwahaniaeth y planedau, rhinwedd gwraiddiau, a pha beth byunac y ſydd guddiedig a dirgel mewn natur, mi a'u dyſcais oll.

A gwneuthurwr y pethau hyn a ddāgoſodd imi y doethineb ymma. Ac ailwaith fe a ddywaid, Pwy a all chwilio y peth ſydd yn y nef? O herwydd anhawdd ini chwilio y pethau ſydd ar y ddaiar, ac yn ein golwg beunydd, o herwydd (medd ef) am-mherffaith yw ein ſynhwyrau, a 'n meddliau a'n amcanion ſydd anhyſpys. Am hyn ni all neb chwilio yſtyr y pethau hyn, oni roi di iddo ddoethineb, a danfon dy Yſpryd oddiuchod.

Os ydyw y gŵr call yn addef fod pob peth da o Dduw, paham na chydnabyddwn ninnau hynny? a thrwy adnabod hynny paham nad yſtyriwn ein dlyed tu ag at Dduw, ac na roddwn ddiolch iddo am ei ddaioni. Mi a welaf fod gennyf ormod amledd o ddefnydd, a ellid ei ddwyn i mewn i Brofi. brufo y peth hyn.

Pe cymmerwn arnaf ddangos pa fodd y mae daioni yr holl-alluog Dduw yn ymddangos ym-mhob lle o'r byd yn ei greaduriaid: Mor rhyfedd ydynt yn eu creaduriaeth, mor hardd yn eu trefn, mor anghenrhaid i'n rhaidiau ni: rhaid fyddai i bawb oll gydnabod nad oes iddynt awdur arall onid yr holl-alluog Dduw. Ei ddaioni ef ſydd rhaid iddynt ei ganmoll a'i fawrhau, ym-mhob lle, i'r hwn y byddo anrhydedd a gogoniant yn os oes oeſoedd, Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth ar wythnos y Derchafel.

MI a fanegais yn y rhan gyniaf o'r bregeth hon (Griſtionogion da) i'ch myfyrdod chwi, fawr ddaioni yr hollalluog Dduw ynghread y byd hwn a'i holl harddwch, er mwyn rhaidiau a diddanwch dŷn, fel y cyffroid ni yn hytrach i gydnabod ein dylyed ailwaith i'w fawrhydi ef. Ac yr ydwyf yn gobaithio ddarfod i hynny gyffro ynoch chwi nid yn vnic gredyniaeth, onid hefyd ddarfod eich cyffro chwi i roddi eich diolch yn ddirgel yn eich calonnau i'r holl-alluog Dduw, am ei garedig fwynder.

Ond fe allai y dwedai rhyw ddyn, y cytuna ef ar hyn, fod pob peth daionus a berthyn at yr enaid, neu a grewyd gydâ ni yn y corph, yn dyfod oddiwrth Dduw, megis oddiwrth awdur pob daioni, ac nid oddiwrth neb arall; Ond am y pethau ſydd allan o hanynt hwy ill dau, y rhai a alwn yn dda ffortun, megis cyfoeth, awdurdod, derchafiad ac anrhydedd, f'allai fod rhai yn tybied eu bod hwy yn dyfod o'n diwidrwydd ni, a dyfaldod ein poen, a'n trafael ni, yn hytrach nag y tybient eu bod yn bethau vwch na dawn naturiaeth.

Yn awr, bobl dda, yſtyriwch od oes vn awdur o'r pethau hyn yn cyd-weithio a phoen a diwydrwydd dŷn, ai addas rhoddi y pethau hynny i neb arall heblaw Duw: fal y camſynnai y cenhedloedd y philoſophyddion, a'r beirdd, y rhai a gymmeraſant ffortun, ac a'i gwneuthant hi yn dduwies, i'w hanrydeddu am y fath bethau? Na atto duw (Griſtionogion da) ini dderbyn yn ddifri y dychymmyg hyn, y rhai ydym addolwyr y gwir Dduw: gweithredon, ac arferon yr hwn a gyhoeddwyd yn eglur ini yn ei air ef.

Opinionau ac ymadroddion dynion anghredadwy ac nid Chriſtionogion ydyw y rhai hyn, o herwydd maent hwy yn wir yn credu, ac yn dywedyd, (fal y dywad Iob) fod Duw yn aros yn Iob. 22. y cymmylau, heb ddarbod am danom ni, Epicuriaid yw y rhai a ddychymygant fod duw yn rhodio o amgyllch y nefoedd, heb ofalu am bethau oddidano, ond bod yr holl bethau hyn yn dyfod wrth ſiawns neu ddamwain neu trwy drefnid ffortun, Ddigwydd. ac nad oes gan Dduw vn ergid ynddynt.

Pa beth yw dywedyd hyn, amgen na thybied gydâ'r ffol yn ei galon nad oes Duw? y rhai nid argyhoeddwn ni yn amgen, onid â geiriau Duw Pſal. 14. Pſal. 99. ei hun, drwy enau y prophwyd Dafydd, Gwrando, medd efe, fymhobl, myfi ydwyfdy Dduw di, ie dy Dduw di mi bieu holl anifeiliod y coedydd, y defaid a'r ychen a grwydrant ar y mynyddoedd, mi a adwen holl adar y nefoedd, gwaith fy-nwylaw yw tegwch y maes, holl amgylch y bŷd, a'r holl amledd y ſydd ynddo. Ac ailwaith trwy y prophwyd Ieremi, A dybygidify mod i yn Dduw o leoedd agos, ac nad ydwyf Dduw o leoedd pell oddiwrthyf, medd yr Arglwydd? A all dŷn ei guddio ei hun mewn lle mor ddirgel, fel nas gwelwyf ef? onid ydwyf yn llanw nef a dayar, medd yr Arglwydd?

Pa vn o'r ddau hyn a ddlyem ni ei gredu orau? ai ffortun yr hon y maent hwy yn ei phaintio yn ddall o'i dau lygad, yn anwadal yn ei rhodd bob amſer, yn-nwylaw yr hon y dywedant fod y pethau hyn? ai yntau Duw, yngallu ac ynnwylaw yr hwn, y mae y pethau hyn yn wir: yr hwn am ei wirionedd, a'i ddianwadalrwydd, nid argyoeddwyd er ioed etto? o herwyd mae ei olygon ef yn edrych trwy nef a dayar, a gweled y mae ef bob peth yn gydrychiol â'i lygaid, nid oes dim rhy dywyll iddo na rhy guddieddig oddiwrth ei wybodaeth ef, ie ymmeddyliau dirgel ein calonau.

Gwir yw fod pob cyfoeth, pob gallu, pob awdurdod, pob iechyd pob llwyddiant, a phob hawddfydd, oddiwrth Dduw, o'r hyn ni chaem ni vn rhan heb ei gyfraniad hael ef, ac oni bai ei fod yn dyfod oddiuchod. Yn gyntaf mae Dafydd yn teſtiolaethu am gyfoeth a meddiannau: Os rhoddi di lwyddiant, hwy a gynnullant, os Pſa. 104. 28. agori dy law hwy a lanwir â daioni, ond os troi di dy wyneb oddiwrthynt hwy a drallodir. Ac fe ddowaid Salomon, Bendith yr arglwydd Pro. 10. ſydd yn cyfoethogi dynion. A hyn y cyfuna y wraig ſanctaidd Anna, lle ydywaid hi yn ei chaniad, 1. Sam. 2. Yr arglwydd y ſydd gwneuthur yn dlawd, ac yn gwneuthur yn gyfoethog, yn dyrchafu, ac yn tynni i lawr, efe a ddichon gyfoddi 'r anghenus o'i flinder ac o'r dommen, efe a all gyfodi 'r tlawd, ai oſſod i eiſtedd gydâ thywyſogion, ac i gael gorſeddfa gogoniant: o herwydd efe biau holl derfynau 'r ddaiar.

Yn awr os gofyn neb pa welliant y ſydd ini o wybod, fod pob dawn daionus, megis doniau naturiaeth a ffortun, (y rhai a alwir fellŷ) a phob rhodd berffaith, megis o râd o blegid yr enaid, yn dyfod oddiwrth Dduw, ac mae ei roddion ef yn vnig ydynt hwy? Yn wir am lawer o achoſion maê 'n addas ini wybod hynny. O herwydd fellŷ yr adnabyddwn, os addefwn ni y gwirionedd, pwy yn gyfion a ddlyai gael diolch am danynt hwy: felly y lleihair ein balchedd ni gan ddeall, nad oes dim yn dyfod o hanom ni ein hunain, onid pechod a bai: ac os bydd dim daioni ynom, i roddi yr holl glod a moliant am hynny i'r holl-alluog dduw, fe wna hyn ini nad ymdderchafom ymlaen ein cymmydogion: ac na Ddiyſtyrom. fychanom neb am fod ei ddoniau ef yn Anamlach. ambellach nâ 'n doniau ni, o herwydd bod Duw yn goſſod ei ddoniau lle y mynno: fe wna hyn ini wrth yſtyriaid ein donniau, beidio a'n derchafu ein hunain ym mlaen ein cymmydogionfe wna hyn i'r gwrdoeth beidio ac ymmogoneddu yn ei ddoethineb, a'r cryf yn ei gryfder, ac i'r cyfoethog beidio ac ymogoneddu yn ei gyfoeth, onid yn y Duw byw, yr hwn yw awdur yr holl bethau hyn: rhag os gwnaent felly eu ceryddu hwy â geiriau S. Pawl, Pa beth ſydd gennyd ar ni dderbyniaiſt, ac os derbyniaiſt paham yr wyt yn ymffroſtio fel pe nas derbyniaſit?

Pwnc o ddoethineb mawr, fynghymydeithion yw addef fod pob peth da yn dyfod oddiwrth yr holl-alluog Dduw, o herwydd wrth addef hynny ni a wyddom i ba le yr awn i'w ceiſio hwy os bydd eu diffyg hwy arnom, fel y maê S. Iacoyn Iac. 1. 5. gorchymmyn ini, gan ddywedyd, Os bydd neb ac eiſiau doethineb arnaw, gofynned hi gan Dduw, yr hwn ſydd yn rhoddi yn helaeth i bawb, ac heb edliŵ i neb, ac hi a roddir iddo. Fel y gwnaeth y gwr call, ac yntef ac eiſiau y fath rodd arno, ei daith at Dduw am dani, fal y teſtiolaetha ef yn ei lyffr, Yn ol (medd ef) imi wybod na allwn fod yn ddiweir oni chaniatae Dduw hynny imi; (ac megis y mae eſe yn ſcrifennu yno, doethineb vchel oedd wybod rhodd pwy oedd hi) mi a fryſiais at yr Arglwydd ac a eiriolais yn ddifrif o wraidd fy-ng halon arno ef ar ei chael hi.

Gwae fi, fy-nghymdeithion, nad elem ni at Dduw yn ein diffygion a'n anghenau, megis y mae S. Iaco yn gorchymmyn ini, a'r gwr doeth yn dangos ini ei fyned ef. Mi a fynnwn, pe credem ni yn ddianwadal mai Duw yn vnic ſydd yn eu rhoddi hwy, o herwydd nid aem ni mwy mor fynych, er cyflawni ein haifiau a'n dyffygion, at y diawl a'i waſanaethwyr fal y gwelir beunydd. O herwydd os bydd diffyg iechyd arnom, i ba le yr aiff y bobl gyffredinawl ond at ſwynau a hudoliaethau a'r fath eraill o ddichellion diawl.

Ped adnabyddem mai Duw yn vnic yw rhoddwr y dawn hyn, ni a arferem y Cyfryngau. cyfarddonau a appwyntiodd ef, ac a arhoſem ei Hamdden. arfod ef, hyd oni welai efe fod yn dda roddi hyn ini. Ped adnabyddai y marſiandwr a'r marchnadwr bydol mai Duw ſy yn rhoddi cyfoeth, fe fyddai fodlon i fyw ar gymmaint ac a alle efe ei gael, trwy foddion inion cymmeradwy gan Dduw, ac ni chaiſiai fod yn gyfoethoccach nag y goddefai gywirdeb iddo fod, ni chaiſai ef ennill ac ni ofynnai gyfoeth ar law diawl.

Na atto Duw, meddwch chwi, i neb gymmeryd eu cyfoeth oddiwrth ddiawl. Yn wir y ſawl ſydd yn ymgyfoethogi trwy occr, drwy drais, drwy anudonrwydd, drwy ledrad, drwy dwyll a hocced, maent yn derbyn ei cyfoeth oddiwrth ddiawl. A phawb oll ac a ymroddant i'r fath ffyrdd, ac a ymwrthodaſant a'r wir ffordd yr hon a oſododd Duw, a'i gwrthodaſant ef, ac a aethant yn addolwyr y diawl er mwyn eu mael a'u hennill. Y fath ddynnion hyn ſydd yn cwympo ar eu glinian i lawr ymmlaen y diawl ac yn ei addoli ef wrth ei orchymmyn. O herwydd mae fe 'n addo os gwnânt hwy felly, y rhydd efe iddynt hwy y byd a'r cyfoeth y ſydd ynddo. Ni allant hwy yn well waſanaethu y cythrel nag wrth wneuthur ei fodd ef a'i orchymmyn: a'i ddymuniad a'i ewyllys ef yw ini ymwrthod â'r gwirionedd ac ymroi o honomi ffalſedd, i gelwydd ac anudo nrwydd.

Y rhai gan hynny a gredant yn berffaith yn eu calonnau mai Duw a ddlyid ei anrhydeddu, ac mai iddo ef y dlyid gofyn rhodd pob peth anghenreidiol, ni ddlyent geiſio vn ffordd arall i gyflawni eu anghenau ond cywirdeb a gwirionedd, na gwaſanaethu neb ond Duw i gael pob peth anghenrheidiol. Ni cheiſiai wr yn ei angen ei gynorthwyo ei hun drwy ledrad. Ni roddai wraig ei chorph i oddineb er mwyn ennill i gynorthwyo ei hangen a'i thlodi. Os Duw yn wir yw awdur bywyd, iechyd, cyfoeth a braint, awn atto ef megis at yr awdur, ac ni a'i cawn gantho, medd S. Iaco. Ie doethineb mawr vchel yngolwg y gwr call yw gwybod pwy yw rhoddwr y pethau hynny: o herwydd ym-myſc llawer o gelfyddydon eraill, doethineb yw adnabod a chredu fod pob daioni a rhadau yn dyfod oddiwrth Dduw megis yr awdur.

Yr hyn ped yſtyrid yn dda fe wnai ini feddwl fod yn rhaid ini roddi cyfrif am yr hyn y mae duw yn ei roddi ini i'w drefnid, ac a'n gwnai ni yn ddyfal i'w treulio hwy i ogoniant duw a budd i 'n cymydogion, fel y gallom roddi cyfrif da yn y diwedd a chael ein canmol am fod yn oruchwilwyr da, megis y caffom glywed y gairiau hyn gan ein barnwr, da was da ffyddlon, buoſt ffyddlon ar ychydig, mi a'th wnaf yn llywydd ar lawer, dos i mewn i lawenydd dy feiſtr. Hefyd os byddwn yn credu mai Duw yw awdur pob rhodd ac ſydd genym, fe wnaiff hynny ini fod yn ddiſtaw ac yn oddefus pan dynner hwy oddiwrthym ni ailwaith. O herwydd Duw o'i drugaredd a'u canniataodd hwy ini i'w harfer: felly weithiau mae efe yn eu tynnu hwy oddiwrthym ni yn gyſion ailwaith er profi ein goddefgarwch ni, er arfer ein ffydd ni, ac felly wrth dynnu ychydig oddiwrthym, neu roddi yn brinnach, mae efe yn ein dangos ni i'w harfer yn fwy i'w ogoniant ef, pan roddo ef hwy ailwaith ini.

Mae llawer a fedran ddywedyd â'i geneuau eu bod yn credu mai Duw yw awdur peb dawn da ac ſydd ganthynt. Ond mewn amſer profedigaeth maent yn mynd yn eu gwrthol o'r grêd hon, maent yn dywedyd hyn mewn gairiau ac yn eu gweithredoedd yn ei wadu. Edrychwch arfer y byd, ac edrychwch ydyw ef yn gywir. Edrychwch ar y gŵr cyfoethog yr hwn a gynyſcaeddwyd â golud, os tynnir ei gyfoeth ef oddiwrthto trwy adfyd, pa ffrommi, a pha lidio a wnaiff ef? pa rwgnach ac anobeithio? os twitſir enw da vn dŷn a fyddo mewn dim cyfrif gan dafod drŵg, mor aneſmwyth fydd efe, ac mor ddyfal i ddial i lid? Os bydd gan neb doethineb, os cyfrif rhyw cwyllyſwr drwg ef yn ffwl ac os honnir ei fod ef felly, mor flin gantho fod yn ei gyfrif ef felly? A dybygwch chwi fod y rhai hynyn credu yn ddifri fod Duw yn rhoddwr y doniau hyn? paham na oddefant yn eſmwyth i dduw gymmeryd atto ei roddion ailwaith, y rhai a ganiataodd efiddynt hwy yn rhad, ac y rhoddodd eu benthyg dros cyhyd amſer?

Ond chwi a ddywedwch, bodlon fyddwn i roddi i Dduw ailwaith y doniau a roddodd ef imi, pe cymmerai fe hwy ailwaith oddiwrthif: ond yn awr yr ydys yn myned a hwy oddiwrthif trwy aflwyddiannus ddigwydd, a thrwy furſennod ffailſton, a thrwy goeg-ddynion drwg: pa fodd y gallaf oddef hyn yn eſmwyth? I hyn y gellir atteb fod yr holl-alluog Dduw o nattur anweledig, ac na ddaw ef at vn dŷn mewn dull gweledig, yn ol arfer dŷn, i gymmeryd oddiwrtho y donniau a roddodd ef eu benthyg: ond pa beth bynnac a ewyllyſio Duw ei wneuthur yn y peth hyn, fe a'i dwg i ben trwy 'r offerau a ordeiniodd ef i hynny. Mae gantho angylion da, mae gantho angylion drwg, mae gantho ddynnion da, mae gantho ddynnion drwg, mae gantho ef law a cheſair, mae gantho wynt a Tharanau. thryſau, gwres ac oerfel: mae gantho aneirif offerau a chenhadon trwy y rhai y mae fe 'n gofyn ailwaith y pethau a orchymmynnodd ef Doeth 16. v. 24. i'n cadwedigaeth ni, fal yr addef y gwr doeth: Rhaid i'r creadur waſanaethu ei wneuthurwr i beri dialedd ar yr anghyfion. O herwydd, fal y dywaid yr vn awdur, mae fe 'n arfogi 'r creadur i ddial ar ei elynnion, ac weithiau i brofi ein ffydd ninnau mae fe 'n cyffro y fath gawadau.

Ac am hyn pa fodd bynnac neu trwy ba offerau bynnac y cymmer Duw ei ddonniau oddiwrthym, rhaid ini fod yn fodlon mewn ammynedd i farn Duw, a chydnabod mai efe ſydd yn rhoddi ac yn dwyn ymmaith, fal y dywaid Iob, yr Arglwydd a roddodd yr Arglwydd a ddygodd ymmaith, pan oedd ei elynnion ef yn gyrru ei anifeiliaid ef ymmaith, a phan oedd diawl yn lladdei blant ef, ac yn poeni ei gorph ef â chlefyd toſt.

Y fath larieidd-dra oedd yn y brenin a'r prophwyd ſanctaidd Dafydd, fal pan regwyd ef gan Simei yngwydd ei holl lu, fe a'i cymmerodd yn oddefgar heb regi ailwaith, ond gan addef mai Duw oedd awdur ei ddiniweidrwydd a'i enw da ef, a chan ei offrwm ef iddo i wneuthur o hono 'r hyn a fai fodlon gantho: Gedwch iddo, medd ef wrth vn o'i farchogion yr hwn a fynnaſai ddial y gabledd honno, o herwydd yr Arglwydd a ddywedodd vrtho ef, melldithia Ddafydd, onid odid fe ddyry yr Arglwydd imi ddaioni am ei felldith ef y dydd hwn.

Ac er bod yr offeryn weithiau yn gwneuthur yn ddrwg yn ei orchwyl ef ſydd yn dyfod o genfigen, etto o herwydd bod Duw yn troi ei orchwyl drwg efi brofiad ein āmynedd ni, ni a ddylyem yn hytrach ymoſtwng i oddefgarwch nâ digio wrth wialen Duw, yr hon onid odid gwedy iddo ein ceryddu ni er ein haddyſcu, a dafla ef i'r tân, fal y mae hi 'n haeddu.

Cydnabyddwn felly hefyd yn gywir mai rhoddion Duw yw ein holl ddonniau ni a'n braint, fel y byddom barod i'w rhoddi hwy i fynu pan ewyllyſio a phan fo bodlon gantho fe hynny ailwaith. Addefwn trwy ein holl oeſoedd fod pob peth da yn dyfod oddiwrth Dduw, pa beth bynnac fytho ei henw neu ei natur, nid vn vnig y pethau llygradwy ymma am y rhai y ſoniais i yn awr ddiwethaf, ond yn fwy o lawer y rhadau yſprydolbuddiol i'n eneidiau ni, heb ddaioni y rhai ni alwir neb i'r ffydd, ac ni chynhalir ynddi, fal ar ol hyn yn y rhan neſa o'r homili hou y manegaf ichwi. Yr ennyd hynny, nac anghofiwch yr hyn a ddywedwyd wrthych eiſoes, nac anghofiwch fod eich barn yn gyttunol a gwirionedd yr athrawaeth hon, nac anghofiwch ei harfer hi yn holl ſtât eich bywyd, trwy 'r hyn y gellwch gael y ſendith y addawodd ein Iachwdwr Chriſt, Bendigedig yw y rhai a wrandawant air Duw, ac a'i cadwant. Yr hon fendith canniataed ef ini oll, yr hwn ſydd yn teyrnaſu ar y cwbl oll, vn Duw mewn trindod, y Tâd y Mab a'r Yſpryd glân: i'r hwn y bytho holl anrhydedd a gogoniant yn oes oeſoedd, Amen.

¶ Y drydedd ran o'r bregeth ar Wythnos Derchafael.

MI a addewais fynegi i chwi fod pob doniau a phob rhadau Yſprydol yn dyfod yn enwedig oddiwrth Dduw. Yſtyriwn wirionedd y peth hyn, a gwrandawn beth a dyſtolaethir yn gyntaf am ddawn ffŷdd, y dyfodiad cyntaf i fywyd Chriſtionogawl, heb yr hon ni ddichon neb fodloni Duw. O herwydd mae S. Paul yn cyffeſu yn oleu mai dawn Duw yw hi. Ac ailwaith mae S. Peter yn dywedyd mai trwy allu Duw yw nad ydym yn ſiglo yn ein gobaith tuag atto ef. Gweithred Duw yn wir ynom ni yw y cariad perffaith â'r hwn y carwn ein brodyr. Os etifarhawn yn ol cwympo, trwyddo fe yr ydym yn etifarhau, yr hwn ſydd yn eſtyn ei la w drugarog i'n cyfodi ni i fynu. Os bydd vn ewyllys ynom i gyfodi, efe ſydd yn rhagflaenu ein ewyllys ni, ac yn ein Agweddu. hyweddu ni i hynny. Os yn ol dryllaid y galon y clywn ni ein cydwybodau mewn heddwch a Duw trwy ollyngdod o'n pechodau, ac felly gwedy 'n cymmodi ailwaith i ffafor Duw, ac i obaith bod yn blant iddo ac yn etifeddion bywyd tragwyddol; pwy ſydd yn gwneuthur y gwrthiau hyn ynom? Ai ein haeddiant ni a'n teilyngdod, a'n hegni, a'n ſynhwyrau a'n rhinwedd? nag ê yn wir. Ni fyn S. Paul i bridd a chlai, Ymryfygu. ymeofnhau i'r fath ryfyg: ac am hynny y dywaid fod y cwbl o Dduw yr hwn a'n cymmododd ni ag ef ei hun trwy Ieſu Griſt. O herwydd yr ydoedd Duw ynghriſt pan gymmododd ef y byd ag ef ei hun.

Duw Tâd y drugaredd a weithiodd y dawn vchel hyn ini, nid yn ei berſon ei hun ond trwy gyfryngiad, ac nid trwy gyfryngwr llai nâ'i vnic fab ei hun, yr hwn nid arbedodd ef oddiwrth boen na choſp er gwneuthur lles ini. O herwydd arno efe y goſododd ef ein pechodau ni, arno fe y goſododd ef dalu iawn droſom ni, efe a wnaeth ef yn gyfryngwr rhyngtho ef a ninnau, cyfryngiad yr hwn oedd mor gymmeradwy gan Dduw Dâd o herwydd ei vfydd-dod cyflawn perffaith, fal y cymmerodd efe ei weithred ef yn gwbl iawn am ein holl anufydd-dod a'n gwrthrhyfelgarwch ni: cyfiawnder yr hwn a gymmerodd ef i bwyſo yn erbyn ein pechodau ni: pridwerth yr hwn a oſodai ef i ſefyll yn erbyn ein damnedigaeth ni.

Pa beth ſydd gennym i ryfeddu ynom ein hunain am dano yn y peth hyn, fyngharedigion anwyl? Nid oes, o'm tŷb, lai gennym nag a ddywad Sanct Paul wrth gofio rhyfeddol ddaioni Duw yn hyn; Yr wyf yn diolch i Dduw trwy Ieſu Griſt ein Harglwydd: o herwydd trwyddo ef y derbyniaſom yr vchel rodd hon o râd. O herwydd megis trwyddo ef (ac efe yn ddoethineb tragwyddol) y gwnacth Duw dâd y byd a phob peth a gynhwyſir ynddo: felly trwyddo ef yn vnic ac yn hollol y mynnai ef adferu pob peth yn y nef ac ar y ddayar.

Trwy ein cyfryngwr nefol hwn am hynny yr ydym yn adnabod ffafor a thugaredd Duw Dâd, trwyddo ef yr ydym yn adnabod ei ewyllys ef a'i ſerch tuag attom. Oherwyd ef yw llewyrch gogoniant ei dad, a gwir lun ei berſon ef, efe yw 'r hwn y mae 'r Tâd yn fodlon i'w gymeryd yn fâb anwyl iddo ei hun, i'r hwn y mae 'n rhoddi awdurdod i fod yn ddyſcawdwr ac yn athro ini, ar yr hwn y mae fe yn gorchymmyn ini wrando gan ddywedyd Gwrandawch arno fe: Trwyddo ef y mae 'n Tâd nefol, yn ein bendithio mewn nefolion bethau, â phob bendith yſprydol: er mwyn yr hwn, (fal yr ſcrifenna Ioan,) y derbyniaſom râd a ffafor. I'r ceidwad a'r cyfryngwr hwn y rhoddodd Duw Dad allu yn y nef ac ar y ddayar, a chyfiawnder ac awdurdod i rannu i olud ef a'i roddion a orchymmynnwyd iddo: o herwydd felly yr ſcrifenna 'r Apoſtol, I bob vn o honom y rhoed grâs yn ol meſur dawn Chriſt. Ac ar hynny i wneuthur yn ol yr awdurdod a roeſid iddo, gwedy iddo ddwyn pechod a'r cythrel i gathiwed megis na wnelent mwy eniwed i'w aelodau ef, fe a eſcynnodd ailwaith at ei Dâd ac oddiyno y danfonodd roddion hael i'w anwyl weiſion ac mae fyth gantho allu i rannu doniau ei Dad yn waſtad yn ei Eglwys, i'w chadarnhau hi a'i diddanu. A thrwyddo ef yr ordeiniodd yr holl-alluog Dduw ddattod y bŷd a galw yn ei flaen i'w barnu fyw a meiw: ac yn ddiwethaf, trwyddo ef y condemnia ef y drygionus i dân tragwyddol yn vffern, ac y rhydd ef i'r daionus fywyd tragwyddol ac a'u geſyd yn ddiogel yn ei wydd yn y nef yn dragwyddol.

Fal hyn gwelwch fod y cwbl o Dduw, trwy ei fab Chriſt ein Harglwydd a'n Iachawdr. Cofiwch meddaf ailwaith eich dlyed o ddiolch, na fydded diffyg hynny byth: ymgyſſylltwch yn waſtadol i ddiolch: ni ellwch chwi byth offrwm i Dduw well aberth: o herwydd mae fe ei hun yn dywedyd, Aberthau moliant a diolch a'm anrhydeddant i. Yr hyn a ddeallodd y prophwyd ſanctaidd Dafydd Pfal. 56. yn ddifai pan ddywedodd ef mor ddifrif wrtho ei hun fal hyn, fy enaid bendithia 'r Arglwydd, a chwbl ſydd ynof ei enw ſanctaidd. Ac ailwaith, fy enaid bendithia 'r Arglwydd, ac nac Pſal. 103. 2. 2. anghofia ei holl ddonniau ef.

Duw a roddo ini râs, bobl dda, i adnabod y pethau hyn ac i'w hyſtyried hwy yn ein calonnau. Nid yw yr adnabyddiaeth a'r yſtyr hyn ynom ni ein hunain, a thrwyddom ein hunain ni allwn ddyfod iddo, a thrueni mawr fyddai ini golli gwybodaeth mor fuddiol.

Galwn am hynny yn oſtyngedig ar yr Yſpryd ſanctaidd hwnnw, yr Yſpryd glân, yr hwn ſydd yn dyfod oddiwrth ein Tâd trugarog, ac oddiwrth ein cyfryngwr Chriſt, ar iddo ef ein cynnorthwyo a'n cynhyrfu ni â'i breſenoldeb, megis, yndo ef y gallom wrando daioni Duw a fynegir ini er ein Iachawdwriaeth. O herwydd heb ei gynhyrfiad bywiol dirgil ef ni allwn vnwaith gymmaint ac enwi ein cyfryngwr, fal y tyſtiolaetha Paul yn eglur. Nid oes neb (medd ef) a all ddywedyd yr Arglwydd Ieſu eithr yn yr Yſpryd glan, llai o lawer y gallwn ni gredu a gwybod y 1. Cor. 11. 3. dirgelion mawr hyn a agorir ini trwy Griſt.

Mae S. Paul yn dywedyd nad edwyn neb bethau Duw onid Yſpryd Duw. A nyni, medd ef, 2. Cor. 2. 11. a dderbyniaſom nid yſpryd y byd, ond yr Yſpryd yr hwn ſydd o Dduw, fel y gwypom y pethau a roddes Duw ini. Mae 'r gwr doeth yn dywedyd fod yn aros yngallu a rhinwedd yr Yſpryd glan, bob doethineb a gallu i adnabod Duw a'i fodloni ef. O herwydd mae fe 'n ſcrifennu nad ydyw yngallu dŷn iniawni ei ffordd. Pwy a ŵyr dy gyfrinach di oddieithr iti roddi doethineb ac anfon dy Yſpryd ſanctaidd o'r vchelder. Anfon, medd ef, Sap. 9. 17. am hynny (gan weddio) o'th nefoedd ſanctaidd, a gyrr ef o orſeddfaingc dy ogoniant, fel y cymmero ef boen yn breſennol gydâ mi, ac y gwypwyf beth ſydd fodlon genniti. Verſ. 10.

Gweddiwn ninneu a chyſtadl galon ag y gweddiodd yntef, ac ni phalla gennym gael ei gynhorthwy ef. O herwydd ebrwydd y cair ef gan y rhai a'i carnat, a'r rhai a'i ceiſiant a'i cânt ef. O herwydd hael a mwyn yw Yſpryd doethineb.

Yn ei allu ef y gallwn yn ddigonol wybod ein dlyed at Dduw, ynddo ef y 'n diddanir ni, ac y 'n Hyfhair. eofnhair i rodio fel y dlyem, ynddo fe y byddwn lleſtri addas i dderbyn gras yr Hollalluog Dduw.

O herwydd efe ſydd yn glanhau ac yn puro 'r meddwl trwy ei weithrediad dirgel. Ac efe 'n vnig ſydd breſennol ym-mhob lle trwy ei allu anweledig, ac ſydd yn cadw pob peth dan ei lywodraeth. Mae fe 'n goleuo 'r golon i feddwl meddyliau teilwng am yr holl-alluog Dduw, mae fe 'n eiſtedd yn-nhafod dŷn i'w gyffro ef i ddywedyd i anrhydedd Duw. Nid oes vn iaith yn guddiedig rhagddo, o herwydd y mae fe 'n gwybod pob iaith, efe yn vnic ſydd yn rhoddi nerth yſprydol i holl alluon ein cyrph ni a'n eneidiau.

Mae 'n rhaid ini gydnabod mai gallu ei Yſpryd ef ſydd yn cynnorthwyo ein gwendid ni, ac yn ein cynnal ni i gadw 'r ffordd yr hon a ddarparodd Duw, ac i rodio 'n inion yn ein taith. Trwy yr Yſpryd hwn, yr hwn ſydd yn gweddio droſom ni a pharhaus ocheneidiau, y gallwn ddyfod yn eofn mewn gweddi a galw ar yr holl-alluog Dduw megis ein Tad. Os bydd vn dawn gennym trwy yr hwn y gallwn weithio i ogoniant Duw a lles ein cymydogion, fe weithir y cwbl trwy ei vn Yſpryd ef ei hun, yr hwn ſydd yn rhannu i bob vn o'r Ruf. 8. 6. &c. Gal. 5. 22. &c. 1. Cor. 12. 11. nailldu megis yr ewyllyſia ef. Os bydd gennym ddoethineb nid yw o hanom ein hunain, ni allwn ymogoneddu ynddi, megis pe byddai ei dechreuad hi o hanom ni, ond ni a ddylyem roddi 'r gogoniant i Dduw, oddiwrth yr hwn y daeth hi attom ni, fal yr ſcrifenna 'r prophwyd Ieremi, y neb a ymffroſtio ymffroſtied yn hyn, ei fod yn deall ac yn fy adnabod i, canys myfi ydwyf yr Arglwydd a wna drugaredd a barn a chyfiawnder yn y ddaiar, o herwydd y rhai hynny a ewyllyſiaf medd yr Arglwydd. Ier. 9. 14. Ni ellir cael y doethineb hyn onid trwy addyſc Yſpryd Duw, ac am hynny y gelwir hi yn ddoethineb yſprydol. Ac ni allwn ni chwilio yn vn lle yn ſiccrach am yr wybodaeth hon o ewyllys Duw, wrth yr hon y dlyem gyfeirio ein gweithredoedd a'n gorchwylion, nag yn yr ſcruthyrau ſanctaidd. O herwydd hwynt hwy, medd ein Iachawdwr Chriſt, ydynt yn teſtiolaethu am dano Iohn. 5. 3 . ef, Fe a ellir galw yn wybodaeth ac yn ddyſc yr hyn a geffir mewn lleoedd eraill allan o'r gair: ond mae 'r gwr doeth yn teſtiolaethu 'n oleu nad ydynt oll ond oferedd oni bydd ynddynt y ddoethineb hon am Dduw. Doeth. 13. 1.

Ni a welwn i ba oferedd y daeth yr hên philoſophyddion y rhai oeddynt heb yr wybodaeth hon, yr hon a gair ac a chwilir am dani yn ei air ef. Ni a welwn â pha oferedd y cymyſcir athrawaeth yr Yſcolwyr, am na chwiliaſant yn y gair hwn am ewyllys Duw, ond yn hytrach yn ewyllys rheſwm, yn hên arferon, yn llwybr y Tadau, yn arferon yr Eglwys.

Darllenwn am hynny a thrown ddolennau 'r ſcruthyrau ſanctaidd ddydd a nos, o herwydd Pſal. 1. 2. Pſal. 119. 105. Gwyn ei fyd yr hwn ſydd a'i holl ewyllys arni. Honno ſydd luſern i'n traed i rodio. Honno hefyd ſydd yn rhoddi doethineb i'r gwirion a'r diſyml. Ioa 5. 39. Ynddi hi y cawn fywyd tragwyddol. Yn yr ſcruthyrau ſanctaidd hyn y cawn ni Griſt, ynghriſt y cawn ni Dduw, o herwydd efe yw gwir lun ei Heb. 3. Ioan. 14. 9. Dad. Yr hwn ſydd yn gweled Chriſt ſydd yn gweled y Tad.

Ac o'r gwrthwyneb, fal y dywaid S. Ierom, anwybod yr ſcruthyrau yw bod heb adnabod Chriſt: bod heb adnabod Chriſt yw bod mewn tywyllwch ynghenol ein goleini cnawdol bydol o reſwm a philoſophi: bod heb Griſt yw bod mewn ffolineb: o herwydd efe yw vnic ddoethineb ei Dâd yn yr hwn y mae cyflawnder y Duwdod yn gorphorol. A'r hwn pwy bynnac a gynyſcaeddir Col. 2. 9. trwy ffydd yn ei galon ac ſydd wedi ei wreiddio mewn cariad, fe a oſododd ſail ddiogel i adail arno, trwy r' hyn y gall ef ymgyffred gydâ 'r holl, ſaint beth yw'r lled a'r hŷd a'r dyfnder, ac adnabod cariad Chriſt. Yr wybodaeth a'r ddoethineb gwbl gyffredinol hon y mae S. Paul yn ei dymuno i'r Epheſiaid ymma, megis y tryſor mwyaf a ellir ei Epheſ. 3. 19. gael tan ynefoedd. Am y ddoethineb hon y mae y gwr doeth yn ſcrifennu fal hyn megis y profaſai ef eiſoes, Pob daioni a ddaeth imi gydag y hi, a golud annifeiriol trwy ei dwylo hi. Ac mae 'n cydſylltu Doeth 7. 11. 12. 13. ailwaith yn yr vn man mai hi yw eu mam hwynt oll: o blegid diball dryſſor yw hi yr hwn pwy bynnac a'i harfero y maent hwy yn ymgyfeillach â Duw.

Mi a allwn â llawer o airiau gyffroi rhai o'r fawl a'm clywant ymma i chwilio am y ddoethineb hon, i neilltuo eu rheſwm i ganlyn gorchymmyn Duw, i daflu oddiwrthynt ſynhwyrau eu ymmhenyddau, i ffafro y ddoethineb hon, i wrthod doethineb a ſynwyr y bŷd ynfyd hwn, i brofi ac i arogli honno, at yr hon y galwodd ffafwr ac ewyllys Duw hwy, a'r hon yn ddiwethaf yr ewylliſia ef ini ei meddiannu, pe gwrandawem arno. Mi a fryſiaf at y drydedd ran o'm text yn yr hon yr adroddir ym-mhellach mewn doethineb pa fodd y mae duw yn rhoddi i'w ddewiſol ddeall cyffroad y nefoedd a chyfnewidiad ac amgylchennau yr amſer. Yr hyn beth fal y canlyn mewn geiriau yn gyflawnach yn y text a adroddais ddiwethaf i chwi: felly mae 'n rhaid iddo ganlyn yn y rhai a gynyſcaedder â'r doethineb Yſprydol ymma. O herwydd fal y medrant chwilio pale y gallant gael y ddoethineb hon, ac y gwyddant gan bwy y gofynnant hi: felly y gwyddant hefyd mai mewn amſer y cair hi, ac am hynny hwy fedrant eu tymmheru eu hunain i gyfaddaſrwydd yr amſer, heb oddef vn amfer i fyned heibio, yn yr hwn y gallant drafaelu am y ddoethineb hon a chynuyddu ynddi. Hwy a wyddont fod Duw o'i aneirif drugaredd a'i addfwynder yn rhoddi ymma amſer a lle i etifaru. Ac maent yn gweled y drygionus yn camarfer eu hamſer mewn balchedd (fal yr ſcrifenna Iob. 24. Iob) ac am hynny y mae 'r duwiol yn cymeryd gwell afel ar yr amſer, i'w brynu allan o'r fath gam-arferon yn y rhai y difwyna 'r drygionus efe. Fe a feidr y rhai ſydd a'r ddoethineb hon oddiwrth Dduw ganthynt gynull addyſc wrth ddyfal a difrif a ſtudrwydd y bydol yn y bywyd preſennol hwn. Maent hwy yn diſgwil eu hamſer, ac yn ymroi ar bob amſer cyfaddas, i gynull golud, i helaethu eu tiroedd a'u treftadaeth: maent yn gweled yr amſer yn myned rhagddo ac am hynny maent yn cymeryd gafael arno, ie yn y fath fodd megis yn fynych y maent yn colli eu cyſcu a'u heſmwythder, ac yn goddef llawer o boenau wrth orddiwes yr amſer a gynnygir, gan wybod na ellir cael ailwaith yr hyn a elo vnwaith heibio: fe ddichon etifeirwch ganlyn, ond nid oes vn rhwymedi i'w gael. Paham am hynny na wilia y rhai ydynt ddoethion yſprydol yn eu cenhedlaeth, eu hamſer i gynyddu mor fuan yn ei ſtât, ac i ennill ac i fuddio 'n dragywydd? maent yn ymreſymmu pa angof anifeiliaidd a fyddai i ddŷn a gynyſcaeddir â rheſwm, fod heb wybod ei amſeroedd a'i dymhorau, pan ydynt yn gweled y Ciconia yn adnabod ei thymhorau, y turtur hefyd a'r garan a'r wennol a gadwant amſer eu dyfodiad: eithr fymhobl i ni wyddant farn yr Arglwidd, medd Ieremi. Ierem. 8. 7.

Mae S. Pawl yn gorchymmyn ini brynu 'r amſer am fod y dyddiau yn ddrwg. Nid cyngor S. Pawl yn vnig yw hwn ond cyngor pawb eraill hefyd, ac a roeſont erioed orchymmyn am ddoethineb. Ni roddwyd ac ni orchmynnwyd vn gorchymmyn yn ddifrifach nac am adnabod yr amſer. Ie am fod Chriſtionogion yn clywed mor flin y mae Duw yn yr Scrythyrau yn achwyn ac yn bygwth y rhai nid adnabyddant amſer eu ymweliad, y dyſcir hwy yn hytrach i ymroi i hynny.

Yn ol i'n Iachawdwr Chriſt broffwydo â daigrau wylo am ddiniſtr Ieruſalem, yn y diwedd y mae'n dangos yr achos, Oh na wybaſit amſer dy ymweliad. Oh Prydain yſtyria amſer trugarog ymweliad Duw a ddangoſir iti o ddydd i ddydd, ac etto nid yſtyri di? Ni'th yrrir di â choſp i wneuthur yr hyn y ddylaid, ac ni'th annogir a donniau i roddi diolch, pe gwybyddit pa beth a ddichon gwympo arnat am dy heddwch.

Fy-mrodyr, er bod y bŷd yn gyffredinol yn ymroi i anghofio Duw, gwiliwn ni yn neilltuol ar ein hamſer, ac ennillwn yr amſer trwy ddyfalwch, ac ymrown i'r goleuni a'r grâs a gynnygir ini. Oni chyffro ffafwr a barn Duw, trwy yr hon y mae yn gweithio yn ein hamſer ni, mo honom i gofio y pethau a berthynant i'n Iechywriaeth: etto annoged cenfigen y cythrel a drygioni'r byd ni, (y rhai yr ydym yn gweled eu bod yn gweithio beunydd yn yr amſeroedd periglus diwethaf ymma, yn y rhai y gwelwn fod ein dyddiau gwedy eu goſod mor enbyd,) i wilied yn ddyfal ar ein galwedigaeth, i rodio ac i fyned yn ein blaen ynddi. Cyffroed y blinder a'r byrr lawenydd ammharhaus (y rhai a welwn yn anwadalrwydd ein dyddiau yr hyd y bônt yn ein dwylo) ni yn ddifrif i fod yn gall, ac i bwyſo graſſol ewyllys Duw tuag attom, yr hwn fal y dywaid y prophwyd, ſydd yn eſtyn ei law ar hŷd y dydd tuag attom ni, fynychaf ei law drugarog, ac weithiau ei law drom: megis gwedy ein addyſcu gan hynny y gallom ddiangc rhag yr enbeidrwdd ſydd raid cwympo ar yr anghyfion, y rhai ſydd yn byw mewn llwyddiant ynol eu hewyllys, heb wybod ewyllys Duw tuag attynt, ond yn ddiſymmwth yr ânt i waered i vffern.

Gadwn ein cael yn wilwyr ac mewn heddwch yr Arglwydd fal yn y diwedd y'n ceffer heb na brychni na bai. Ie ymhyderwn Griſtionogion da, i gadw perſennolder ei Yſpryd ſanctaidd ef yn ddyfal. Ymwrthodwn a phob aflendid, o blegid Doeth. 1. 1. 4. yſpryd purder yw ef. Gwagelwn bob rhagrith, o herwydd yr yſpryd ſanctaidd hyn a Gilia. ffŷ oddiwrth dwyll. Taflwn heibio bob cenfigen a drwg ewyllys, o herwydd nid aiffyr yſpryd hwn i galon ddrygionus. Taflwn ymmaith y clamp pechod ſydd o'n hamgylch, o herwydd ni chyfannedda ef mewn corph caeth i bechod. Ni allwn ni fod yn ddiolchus i'r holl-alluog Dduw a gweithio 'r fath eniwed i Yſpryd y grâs, trwy 'r hwn y'n ſanctaiddir ni. Os ymhyderwn nid rhaid ini ofni, ni a allwn oreſcyn ein holl-elynnion a ymladdant Heb. 11. yn ein herbyn. Yn vnig ymegniwn i dderbyn Yſpryd y gras yr hwn a gynnygir ini. Mae ini ddiddanwch yn yr holl-alluog Dduw am ei ddaioni. Yr ydym ni yn ſiccr o gyfryngiad ein Ia chawdwr Chriſt. Heb. 10.

Ac fe adrodd yr Yſpryd ſanctaidd hwn ini y peth ſydd iachus ac a'n cadarnha ni ym-mhob peth. Am hyn ni ddichon na bo gwir yr hyn a ddywaid Paul, O hono ef, ynddo ef, a thrw yddo ef y mae pob peth: ac ynddo ef yn ol y bywyd darfodedig hwn y cawn bob peth. O hewydd mae S. Pawl yn dywedyd, pan ddaroſtyngo Mâb Duw bob peth dano, y bydd Duw oll yn oll. 1. Cor. 15. 28.

Os ewylly ſiwch wybod pa fodd y bydd Duw oll yn oll, yn wir yn y modd ymma y gellwch ddeall hynny. Yn y byd hwn chwi a welwch mae 'n gorfod arnom fenthycca llawer o bethau gan lawer o greaduriaid i gyflawni ein anghenion: nid vn peth ſydd yn ddigon i'n holl anghenion ni. Os bydd newyn arnom, ni a chwenychwn fara. Os bydd ſyched arnom, ni a geiſiwn dorri 'n ſyched â chwrw neu win. Os bydd annwyd arnom, ni a geiſiwn ddillad. Os byddwn cleifion ni â geiſiwn feddyg. Os byddwn trymion ni a geiſiwn ddiddanwch gan gymdeithion neu gyfeillion, megis nad oes vn creadur wrtho ei hun a ddichon bodloni ein holl diffygion ni, a'n chwantau.

Ond yn y byd a ddaw yn y llwyddiant tragwyddol hwnnw, ni cheiſiwn ac ni ddymunwn mwy ein diddanwch a'n buddiau neilltuol gan amryw greaduriaid: ond ni a gawn feddiannu pob peth a allom ei ddamuno a'i geiſio, yn-nuw, a Duw a fydd pob peth ini. Fe fydd yn dâd a mam ini, yn fara ac yn ddiod, yn ddillad, yn feddig, yn ddiddanwch: fe a fydd yn bob peth ini, a hynny mewn modd bendigediccah, ac fal y bodlonir ni 'n gyflawnach nag y bodlonodd y creaduriaid hyn ni er ioed, mewn rhagor eglurwch nag y dichon rheſwm dŷn ei ymgyffred, ni all llygad weled, na chluſt glywed, na chalon dŷn ymgyffred y llawenydd a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant ef.

Cauwn y cwbl ag vn llaferydd a geiriau S. Pawl: Iddo ef yr hwn a ddichon wneuthur pob peth yn fwy trâ-rhagorol nac yr ydym ni yn dymuno o herwydd y nerth ſydd yn gweithio ynom, y byddo gogoniant yn yr Eglwys trwy Griſt Ieſu tros yr holl genhedlaethau hyd yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Annogaeth i'w hadrodd lle maent yn arfer mvnd o amgylch ar wythnos y derchafael i edrych ar ffinniau a therfynau eu trefydd.

ER ein bod ni yn awr gwedy ymgynull ynghŷd, Griſtionogion da, yn bennaf i foliannu ac i roddi diolch 'ir holl-alluog Dduw am ei ddoniau mawrion, wrth edrych ar y maeſydd yn llawn o bob rhyw ffrwythau er ein ymborth ni 'an Llnmaeth. porthiant: ac i wneuthur ein gweddiau goſtyngedig ar ei dadawl rygweliad ef i gadw 'r ffrwythau hyn, gan ddanfon y fath dywydd tymherus fal y gallom gynnull y ffrwythau hynny i'r defnydd y darparodd ef hwy ini: Etto yn ail fe roddwyd ini achos arall, hynny yw yſtyried, wrth dreiglo a'r y dyddiau hyn, hên ffiniau a therfynau ein plwyfau a phlwyfau ein cymydogion neſaf o'n hamgylch, er mwyn gallu o honom fod yn fodlon i'r hyn ſydd Abiaffom. eiddom ni, ac na ymryſonom yn gynhennus am bethau eraill i dorri cariad, trwy oreſcyn ar i gilydd neu ſialains y naill gan y llall ymhellach nag y goſododd ein hên dadau hwy allan yn heddychlon, wrth hên arfer a chyfiawnder er ein budd ni a'n diddanwch.

Camſynnaeth mawr yn ſiccr y fyddai ini, y rhai ydym Griſtionogion ac yn addef yr vn ffydd, ac yn edrych beunydd am yr etifeddiaeth nefol yr hon a brynwyd i bob vn o honom trwy waeddywalltiad en Iachawdwr Ieſu Griſt, ymryſſon ac ymgynhennu am ffinniau a therfynau dayarol ein plwyfau, ei aflonyddu 'n bywyd ein h unain, er traulio 'n da trwy 'r fath draul a choſt mewn cyfraith.

Ni a ddlyem gofio nad ydyw ein trigfa ni onid darfodadwy a byrr yn y bywyd marwol hwn. Mwy yw 'r cywilidd ini ymryſon a châs anfarwol yn ein plith ein hunain, am feddiannau mor ddarfodedig, a cholli felly ein etifeddiaeth dragwyddolyn y nef.

Fe oddef cariad yn ddifai i Griſtion faenteinio ei gyfiawnder yn llonydd. A rhan gwladwr da yw cynnal yn oreu ac y gallo rydd-did, ffiniau a therfynau ei drêf neu eu wlâd. Ond ymgynhennu am ein cyſiawnder a'n dlyed trwy dorri cariad perffaith, yr hon yw vnig nôd a lifrai Chriſtion, neu trwy dorri heddwch ac eſmwythder duwiol, yn yr hon y'n rhwymir ni mewn vn gynideithas gyffredinol o dolwyth Chriſt yn vn teulu cyffredinol Duw, fe waherddir hynny yn holloll: ac mae hynny yn ffiaidd ac yn gas gan Dduw, yr hyn ſydd yn fynych yn annog llid yr holl-alluog Dduw i ddwyn oddi arnom weithiau 'n gwbl ein buddiau an rhydd-did am ein bod yn eu camarfer felly o blegyd matteron cynnen ymryſon ac a'nghyfundeb.

Mae S. Pawl yn ceryddu y Corinthiaid yn fawr iawn, am y fath ymgyfraithio ymryſongar yndynt ei hunain, er dwyn gair drwg i'w profeſſ yngwydd gelynnion crefydd Griſt: gan ddywedyd wrthynt, Mae diffyg mawr yn eich plith, gan eich bod yn ymgyfreithio â'i gilydd. Paham yn 1. Cor. 6. 7. gynt nad ydych chwi yn goddef cam? paham nad ydych yn gynt yn cymmeryd colled? Os ceryddodd S. Pawl y Chriſtionogion hynny am fod rhai o honynt am eu cyfiawnder eu hunain yn ymgyfreithio yn ymryſongar, gan ganmol trwy hynny amunedd mewn Chriſtion: Os mynai ein Iachawdwr Chriſt yn hytrach ini ddioddef cam, Mat. 5. 39. a throi 'r rudd aſwy i'r hwn a'n tarawo ar y rudd ddehau, i ddioddef vn cam yn ol y llall yn hytrach nag ymddiffyn yr eiddom allan o gariad: ym-mha ſtât wrth hynny y maent hwy ger bron Duw ſydd yn gwneuthur y cam? I ba felldithion y cwymp y rhai trwy gaudyſtion a dwyllant eu cymydogion neu eu plwyfau o'u cyfiawnder a'u hiniawn feddiant? y rhai nid arbedant dyngu i ſanctaidd enw Duw awdur pob gwirionedd er goſod allan eu camwedd a'u celwydd? Oni wyddoch chwi medd S. Pawl na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw?

Pa beth wrth hynny a enillwn er halaethu ychydig ar ffiniau a meddiannau ein tiroedd a cholli meddiant yr etifeddiaeth dragwyddol? Gochelwn am hynny rhag i ni wrth faenteinio ein ffinniau a'n meddiannau wneuthur cam a thrais ag eraill. Gochelwn rhoi ferdit ddiſymmwth mewn pethau amheuus. Yſtyriwn yn dda rhag taeru o honom fod vn peth yn ſiccr wir, yr hyn nid ydym yn ei wybod neu yn ei gofio 'n dda, nac y marddel o'r peth nid oes gennym gyfiawnder da yndo.

Mae'r holl-alluog Dduw yn gorchymmyn yn ei gyfraith, Na ſymmud derfynau dy gymydog y rhai afuant o'r blaen o fewn dy etifeddiaeth. Na ſymmud, medd Salomon, mor hen derfynau a oſododd dy henafiaid. Ac rhag ini dybied nad yw onid bai bychan, deallwn, fod yn ei gyfrif ef ymmlhith melldithion Duw a gyhoeddir yn erbyn pechaduriaid. Melltigedig (medd yr holl-alluog Dduw, trwy Moeſes) yw 'r hwn a ſym mudo derfyn ei gymydog, a dyweded yr holl bobl gan at teb, Amen. Megis i gadarnhau y felldith ar bwy bynnac y cwympai.

Mae 'r rhai hynny yn annog dial Duw arnynt eu hunain yn annial y rhai ſydd yn torri twynau a marciau y rhai a oſodwyd er yr hên amſeroedd, i rannu terfynau a ffinnau yn y maeſydd, er dwyn y perchennogion i'w cyfiawnder. Maent hwy yn gwneuthur yn ddrwg dros ben y rhai a arddant derfynau 'r maeſydd, y rhai oſododd gwyr gynt trwy fawr ludded, trwy 'r hyn y newidir cof-lyfrau yr Arglwyddi (y rhai yw goleuni 'r deiliaid am eu tir) ac y troir hwy weithiau i dreiſio 'r ymddifad tylawd, a'r weddw dylawd.

Ni wyr y dynion trachwântus ymma pa eniweid y maent yn ei wneuthur. Weithiau trwy 'r fath dwyll a dichell y gwnair ymryſon ac anllywodraeth mawr wrth ymhelcyd am eu tiroedd, ie weithiau lladdiadau mawrion a thywallt gwaed, o'r hyn bethau yr ydwyti yn euog yr hwn a roddaiſt yr achoſion.

Am hynny mae 'r fath ddichellion trachwantus am dir a da dy gymydog yn gâs gan yr holl-alluog Dduw. Na fydded medd S. Paul i neb orthrymmu na thwyllo ei frawd: canis yr Arglwydd ſydd ddialudd ym-mhob cyfryw beth Duw pob cyfiawnder ac iniondeb yw Duw, ac am hynny mae fe 'n gwahardd yn ei gyfraith bob mâth ar ddichell a thwyll yn y geiriau hyn, Na wnewch gam mewn barn, mewn pwysa meſur, bydded gennit garrec gyfiawn ac epha gyfiawn. Deu. 25. 15. Cloriannau anghywir medd Salomon ydynt ffiaidd gan yr Arglwydd. Diar. 11. 1.

Cofiwch yr hyn a ddywaid S. Paul, mai Duw ſydd ddialudd pob cam ac anghyfiawnder, megis yr ydym yn gweled ymlaen ein llygaid beunydd, fal y mae 'r hyn a ennillir trwy dwyll a dichell yn tyccio 'n anraſion. Mae addyſc amſer yn dangos i ni nad ydyw yr holl-alluog Dduw yn goddef vn amſer y trydydd etifedd i fwynhau y meddiannau a gynnullodd ei Dâd trwy gamwedd, ie ac weithiau hwy a ddygir oddi-arno ei hun cyn ei farw.

Nid ydyw Duw yn rhwym ei gynnal y meddiannau a geſclir trwy ddiawl a'i gyngor. Fe a geidw yr holl feddiannau a'r da ac a fwynhair ac a feddiannir trwyddo efe, ac a'u ymddiffyn hwy rhag pob gorthrech trahaus. Felly y teſtiolaetha Salomon, Yr Arglwydd a ddiwreiddia 'r beilchion, ond efe a gadarnhâ derfyn y weddw. Ac yn Diar. 15. 25. ſiccr, medd Dafydd, gwell yw ychydig a gynullir trwy gyfiawnder, nag aml olud y treiſwyr.

Gochelwn am hynny, bobl dda, bob drwg ddichellion er ennill a maenteinio a chynnal ein meddiannau, ein tiroedd, ein terfynau, ein rhydd did, gan gofio fod yr holl feddiannau hynny yn ſefyll dan ddial Duw.

Ond pa ſôn yr ydym am dir a da? Mae 'r ſcruthyrau yn dywedyd fod Duw yn ei lid yn diwreiddio teyrnaſoedd am gam a gortrech, ac yn ſymmud brenhiniaethau o vn genedl at arall am anghyfiawnder, a thrais a chyfoeth a gnnullir trwydwyll. Hyn, medd Daniel, a wna 'r hwn ſydd ſanctaidd, fal y gwybydder mai efe ſydd yn llywodraethu ar frenhiniaeth dŷn, ac a'i rhydd i'r neb y Dan. 4. 25. mynno efe.

Hefyd beth yw achos prinder, cyfyngder, drudaniaeth a newyn? ydynt hwy yn ddim amgen nag arwydd o lid Duw yn dial y cam a'r trais a wnawn ni a'i gilydd? Mae Agge prophwyd Duw yn E dliw. dannod gan ddywedyd, Hauaſoch lawer a chludaſoch ychydig, bwytawſoch ond nid hyd ddigon, yfaſoch ac nid hyd fod yn ddiwall, gwiſcaſoch bob vn ac nid hyd glydwr iddo, a'r Agge. 1. 6. 8. hwn a ymgyflogo ſydd yn caſclu i gyflog i god dyllog. Edrychaſoch am lawer ac wele ychydig, dygaſoch adref a chwythais arno medd yr Arglwydd.

O yſtyriwch am hynny lid Duw yn erbyn lloffwyr cynullwyr a goreſcynwyr ar dir a meddiannau eraill. Peth galarus yw gweled mewn llawer lle y modd y mae dynnion trachwantus yn ein hamſer ni yn arfer aredig a thraiſio ar diroedd ei cymmydogion, yr hyn diroedd ſydd yn gorwedd yn neſaf attynt: pa fodd y mae dynnion trachwhantus yn yr amſer hyn yn aredig mor agos i'r cwyſau cyffredin, a'r treiglfau a wnaeth dynnion yr amſeroedd gynt yn fawriō ac yn llydain, mewn rhan er i'w gymydog gael lle gwell i rodio ac mewn rhan er rhagorborfa y cynhaeaf er ymborth i anifeiliaid ei gymydog tylawd.

Cywilydd yw gweled na ellir digoni llawer o ddynnion trachwhantus yn ei gorchwilion: fal lle y gadodd eu rhieni hwy o'u tiroedd lwybrau llydain, megis y gallid yn hawdd ddwyn elorau arnynt a myned a chyrph i'w claddu yn Griſtionogaidd, pa fodd y mae dynnion yn tymhigo y fath lwybrau elor, y rhai o waith hîr arfer a ddylyid eu cadw fyth i'r defnydd hynny heb eu torri: Ac yn awr er hyn maent hwy yn eu aredig hwy yn hollol, ac yn troi y cyrph i'w dwyn o amgylch ymhellach hyd yr heolydd, neu os gadawant vn terfyn o'r fath hyn, mae hi yn rhy gyfyng i neb i rodio erni.

Gymydogion da fe a ddylaid edrych ar y fath oreſcyn rhyfedd. Fe a ddylaid edrych ar y pethau hyn yn y dyddiau imma, pan ydym ni yn treiglo oddiamgylch. Ac yn ol hyn y dylaid rhybyddio ac iniaw ni y dynnion ſydd yn gwneuthur y pethau hyn er mael neilltuol iddynt eu hunain, a chywilydd i'r plwyf, a cholled i'r tlawd. Fe a ddylaid wrth rodio yſtyried yr heolydd cyffredin er mwyn gwybod pa leoedd y goſodwch eich diwarnodau gwaith yn ol yr ſtatudau da a ddarpawyd i'r defnydd hynny. Gorchwyl da o drugaredd yw gwellau ffyrdd dyfnion enbaid, fal nad elo dy gymydog tylawd ſydd yn marchogaeth ar aneifil gwan Yn ffeſt. ynglyn yndi, ac felly bod gwaſanaethu y farchnad yn waeth, gan fod y dynnion tylodion y rhai a ddygant luniaeth yno, yn ofni dyfod o'r achos hynny. Os mynnwch am hynny i'r holl-alluog Dduw wrando eich gweddiau er cynnydd eich ŷd, a'ch anefeiliaid, a'u cadw hwy rhag cawadau annhymherus, rhag Cenllyſe. ceſair, a'r fath ſtormŷdd, cerwch inioneb a chyfiawnder, dilynwch drugaredd a chariad perffaith, yr hyn y mae Duw yn ei ofyn ar eich dwylaw chwi. Yr hyn y mae 'r hollalluog Leuit. 23. 22. Deut. 23 19. Leuit. 19. 9. Dduw yn edrych arno fwyaf wrth wneuthur ei gyfraithiau moeſawl i'r Iſraeliaid, gan orchymmyn i'r perchennog na chaſclent eu hŷd yn llwyr y cynhauaf, na grawnwin eu hole wyddond gadel peth o'r tywyſ yn eu hol i'r lloffeiō tylodion.

Wrth hyn yr ydoedd yn meddwl eu dwyn hwy i gymmeryd trugaredd ar y tylawd, i gynnorthwyo 'r anghennus, ac i ddangos trugaredd a lledneiſrwydd. Ni ellir colli 'r hyn er ei fwyn ef a rodder i'r tylawd. O herwydd yr hwn a rydd hâd i'r hauwr a bara i'r newynog, yr hwn ſydd yn anfon y cynharlaw a'r glaw diweddar ar eich maeſydd chwi i lenwi eich yſcuboriau chwi ag ŷd, a'ch gwinwryfoedd chwi â gwin ac olew efe meddaf yr hwn ſydd yn talu am holl weithredoedd daionus yn ail-gyfodiad y cyfiawn, efe yn ſiccr a dâl am bob gorchwylion trugarog a wneler i'r anghennus, er mor anabl a fytho 'r tylawd i'r hwn y gwnelir hwy i dalu.

Oh, medd Salomon, na âd ti i drugaredd a gwirionedd ymadel â thi, clymma hwy am dy Doeth. 3. 3 9. wddf, ſcrifenna hwy ar lêch dy galon, felly y cei di râs a deall gerbron Duw a dynnion. Anrhydedda 'r Arglwydd â'th gyfoeth ac â chynffrwyth dy doreth, felly y llenwir dy yſcuboriau â digonoldeb a'th winwryfoedd a lenwir o win newydd. Ie mae Duw ei hun yn addo agoryd ffeneſtri 'r nef ar y gŵr hael cyfion, fal na bytho dim diffyg arno. Fe a attal y Locuſt rhag difa eich ffrwythau chwi. Fe a rydd i chwi heddwch a llonyddwch i gaſclu eich ffrwythau, fal yr eiſteddo pob vn o honoch yn llonydd dan ei winwydden heb ofni rhac i elyn oddifaes eich goreſcyn: ni rydd ef yn vnig i chwi ymborth i'ch ymborthi, ond fe a rydd i chwi gylla iachus hefyd, fel y galloch gael eich diddanu yn eich bwyd ac ym-mhob peth gael eich digoni.

Yn ddiwethaf fe a'ch bendiga chwi â phob Amledd. cyflawnder yn y bywyd darfodedig hwn, ac a'ch cynyſcaedda chwi a phob rhyw fendith yn y byd a ddaw yn-nheyrnas nef, trwy haeddiant ein harglwydd a'n Iachawdwr: i'r hwn gyda 'r Tâd a'r Yſpryd glân y byddo anrhydedd yn dragywydd, Amen.

¶ Pregeth am ſtât Priodas.

MAe gair yr holl-alluog Dduw yn teſtiolaethu ac yn mynegi o ba le y daeth dechreuad priodas, a phaham yr ordeiniwyd hi. Hi a ordeiniwyd gan Dduw o fwriad ar fod i ŵr agwraig fyw yn gyfraithlon mewn cymdeithias gyfaillachgar dragwyddol, i ddwyn ffrwyth ac i wachelyd goddineb, fel y gallid cadw cydwybod dda o'r ddwy blaid, a ffrwyno llygredig hyblygedd y cnawd o fewn terfynau honeſtrwydd.

O blegid fe waharddodd Duw bob aflendid a phuteindra, ac o amſer i amſer fe a goſpodd yn dôſt y gwyniau allywodraethus ymma, fal y manegodd pob hiſtori ac oes.

Hefyd fe a ordeiniwyd cynnal a halaethu eglwys Duw a'i deyrnas trwy 'r fath fywyd, nid yn vnig am fod Duw trwy ei fendith yn rhoddi plant, onid hefyd am fod yn eu dwyn hwy i fynu gan eu tadau a'u māmau duwiol yngwybodaeth gair Duw, fal y gallid yn y modd hyn trwy eppiliaeth draddodi oddiwrth y naill at y llall wybodaeth am Dduw a'i wir grefydd, fal yn y diwedd y gallai lawer fwynhau anfarwolaeth dragywyddol.

Am hynny, o herwydd bod priodas yn gwaſanaethu cyſtadl i wachelyd pechod a bai, ac i halaethu teyrnas Dduw: rhaid i chwi a phawb eraill a ddawant i'r ſtât honno gydnabod dawn Duw â meddyliau pur diolchus, am iddo felly reoli eich calonnau chwi fal nad ydy ch yn canlyn ſiampl y byd drygionus, y rhai a oſodant eu meddyliau ar frynti pechod, er eich bod chwi eich dau yn ofni Duw ac yn caſhau pob brynti.

O herwydd yn ſiccr, godidawg rodd Duw yw hyn. Lle mae ſiampl gyffredin dynnion bydol yn dangos fod y diawl gwedy rhwymo eu calonnau hwy, a'u llindagu hwy mewn llawer o rwydau fal yn eu ſtat o weddwdod y maent yn rhedeg i lawer o ffiaidd bethau cyhoeddus, a'u cydwybod heb wrthwynebu hynny. Y fath ddynnion hyn ac ydynt yn byw mor ddiobeith ac mor frwnt, mae S. Pawl yn dangos pa farn ſydd yn aros ar eu medr; Ni chaiff na goddinebwyr na phuteinwyr etifeddu teyrnas Dduw. Yr ydych chwi wedi diangc rhac yr Echrydus. erchyll farn Duw hon, os chwi . Cor. 5. 9. a fyddwch fyw ynghŷd yn ol ordeinhad Duw heb ymado y naill a'r llall.

Ond ni fynnwn i chwi fod yn ddiofal heb wilied, o herwydd fe a brawfdiawl bob peth i geiſio rhwyſtro a lluddio eich calonnau a'ch bwriadau duwiol chwi, os rhowch iddo dyppŷn bach o le: o herwydd naill ai fe a drafaela i dorri y cwlwm a ddechreuwyd rhyngoch, neu ar y lleiaf fe a gais ei rwyſtro ef ag amrafael flinder ac anfodlonrwydd.

Ahyn yw ei ddichel pennaf ef i wneuthur anghytunded yn eich calonnau chwi, fal lle mae yn awr gariad mawr melus rhyngoch, fe a ddwg yn lle hynny anghytundeb chwerw difias. Ac yn ſiccr mae ein gelyn hwn megis oddiuchod yn ceiſio treiſio nattur a chyflwr dŷn: o herwydd mae 'r ffolineb hyn gwedy tyfu gyda ni o'n Ieuengctyd, ſef dymuno rheoli, tybied yn dda am danom ein hunain, megis nad oes neb yn tybied fod yn addas iddo berchi arall o'i ſlaen ei hun. Mae 'r bai melltigedig hwn o yſtyfnigrwydd ewyllys a'n rhygaru ein hunain, yn addaſach i dorri ac i wahanu cariad y galon, nag i gynnal cytundeb.

Rhaid am hyn i bobl briodol roddi eu meddyliau yn ddifrif i gytundeb, a rhaid iddynt geiſio yn waſtad gan Dduw nerth ei Yſpryd ſanctaidd ef, i reoly eu calonnau, ac i rwymo eu meddyliau ynghytundeb.

Mae 'n anghenrhaid i'r rhai priodol arfer y weddi hon yn fynych, gan weddio y naill dros y llall yn fynych, rhag i gaſineb ac anghytundeb gyfodi rhyngthynt. Ac am nad oes ond rhai yn yſtyried hyn, a llai etto yn ei gyflawni (gweddio dros i gilydd yr ydwyf yn ei feddwl) ni a welwn pa fodd y mae diawl yn ſennu ac yn gwatwar yr ſtat hon, mor ambell y mae y rhai priod heb ymdaeru, ymryſon, ymſennu, etifaru, rhegu chwerw, ac ymladd. Ac Pwy bynnac ſydd yn gneuthur y pethau hyn nid ydynt yn yſtyried mai llithiad y gelyn yſprydol ydyw hyn, yr hwn ſydd hoff iawn gantho hynny: o herwyddd oni bai hynny hwy a ymegnient â phob hydr yn erbyn y drygioni hyn, nid yn vnic trwy weddi ond trwy bob diwydrwydd ac a allent.

Ie ni roent le i annogaeth llid, yr hwn a'u cyffro hwy i'r fath airiau neu ddyrnodau gairwon llymmion, yr hyn yn ddiddau yw hudad diawl, profedigaeth yr hwn os ni a'i canlynwn, fe a ddechrau ac a weua ynom ni yn ſiccr bob trueni a thriſtwch. O herwydd mae hyn yn wir ſiccr iawn, y canlyn o'r fath ddechreuad y torrir gwir gytundeb yn y galon, trwy 'r hyn ar fyrr ennyd y dyrrir bob cariad o'r galon allan.

Yno ni ellir na bytho 'n druan gweled fod yn rhaid iddynt hwy fyw ynghŷd a hwy heb allel bod ynghŷd yn gyttun. Ac mae hyn i'w weled ymmhob lle haechen yn arferol. Ond pa beth yw 'r achos? Yn wir am nad ydynt yn yſtyriaid dichellion twyllodrus diawl, a'u bod am hynny heb ymroi i weddio ar Dduw ar fod yn wiw gantho attal ei allu ef.

Hefyd nid ydynt yn yſtyriaid pa fod y maent yn cynnorthwyo bwriad diawl, gan ganlyn llid eu calonnau, trwy fygwth y naill y llall, trwy droi pob peth yn eu ynfydrwydd dibyn dobyn, trwy beidio a rhoddi i fynu eu cyfiawnder (fal y tybygant hwy) ie a thrwy beidio 'n fynych a rhoddi i fynu y rhan gamweddus. Os chwenychi di am hynny fod heb y trueni hwn, os chwenychi fyw yn heddychlon ac yn ddiddanus mewn priodas, dyſc weddio 'n ddifrif ar Dduw ar iddo lywodraethu eich calonnau chwi eich dau â'i Yſpryd glân, ac attal gallu diawl, trwy 'r hyn y parha eich cytundeb chwi yn dragywydd.

Ond mae 'n rhaid cydſylltu â'r weddi hon ddieſcaeluſrwydd godidawg: am yr hwn y mae S. Petr yn rhoddi y gorchymmyn hwn, gan ddyweddyd, Chwi y gwyr cydgyfanneddwch a'ch gwragedd, fel y gwedde i rai gwybodol, gan roddi anrhydedd i'r wraig megis i'r lleſtr gwannaf, fel rhai ſydd gydetifeddion grâs y bywyd, rhag rhwyſtro eich gweddiau chwi.

Mae 'r gorchymmyn hwn yn perthyn yn neilltuoll at y gwr, o herwydd efe a ddylai fod yn arweinydd ac yn awdur cariad, yr hyn ſydd yn cael lle pan fytho efe rheſymmol ac nid yn rhy greulon, ac os goddef ef y wraig i gael rhan o'i meddwl. O herwydd y wraig yw 'r creadur gwannaf, ac ni chynyſcaeddir hi â'r fath rym a chadernid meddwl, am hynny yr aflonyddir hwy yn gynt, ac maent yn barottach i bob gwyniau gweinion, ac i bob hyblygedd meddwl nag yw gwyr, ac maent hwy yn yſcafnach ac yn oferach yn eu ffanſiau a'u hopinioneu.

Rhaid i'r gŵr yſtyriaid y pethau hyn fal na byddo efe yn rhy afrywog, am hyn rhaid iddo am ryw bethau na chymero ef arno weled mo honynt, rhaid iddo ddeongl pob peth yn fwyn.

Ond mae 'r cyffredin bobl yn barnu nad addas i ŵr fod mor llaryaidd. O herwydd hwy a ddywedant mai arwydd yw hyn o lyfrdra gwraigaidd: ac am hynny y tybygant mai rhan gŵr yw cyffroi ac ymladd â'i ddwrn a'i ffon.

Ond beth bynnac a dybygant hwy, mae S. Petr yn ddiammau yn barnu yn well beth ſydd addas i wr, a pheth ſydd reſymmolaf iddo ei wneuthur. O herwydd medd ef, rheſwm a ddylaid ei afer, ac nid ymladd. Ie mae fe 'n dywedyd ymhellach y dylai y wraig gael rhyw barch ac anrhydedd, hynny yw gan ei harbed hi, a dwyn gydâ hi, yn hytrarch am ei bod hi yn lleſtr gwannaf, yn galon frau, ac yn annwadal, ac hi a gyffroir â gair yn Fuan. ebrwydd i ddigofaint. Ac am hynny gan yſtyriaid ei gwendid hwn hi, hi addylai yn hytrarch gael ei harbed.

Felly ni fegi di gytundeb yn inig, ond ti a gai ei chalon hi i'w rheoli yn ol dy ewyllys, O herwydd fe gedwir naturiaeth honeſt i wneuthur ei dlyed yn hytrach wrth airiau mwynion nag wrth ddyrnodau.

Onid am yr hwn a wnel bob peth trwy greulondeb a bod yn dôſt, ac a arfero 'n waſtad o fod yn llym yn ei airiau a'i weithredoedd, pa beth a ennill ef yn y diwedd? yn wir dim, ond ei fod ef yn hyfforddi gweithred diawl, mae fe 'n gyrru ar encil gytundeb, cariad, addfwynder peraidd, ac yn dwyn i mewn anghytundeb, caſineb a blinderau mwyaf ac a allant fod mewn cariad rhwng y naill a'r llall a chyfeillach bywyd dyn.

Heb law hyn hefyd, mae hynny yn dwyn drygioni arall gydag ef, mae 'n diniſtr ac yn rhwyſtro gweddi: o herwydd yr ennyd y byddir yn cynnal y meddwl mewn ymryſon ac anghytundeb, ni ellir arfer gwir weddi, O herwydd mae gweddi'r Arglwydd yn edrych cyſtadl ar y cwbl yn gyffredinol ac ar bob dyn o'r neilltu; yn yr hon yr ydym yn traethu 'n gyhoedd ein bod ni yn maddau i'r ſawl a wnaeth yn ein herbyn, fal yr ydym yn ceiſio gan Dduw faddauant o'n pechodau. Yr hyn beth pa fodd y gellir ei wneuthur yn inion pan fyddo eu calonnau hwy mewn anghytundeb? Pa fodd y gallant weddio y naill dros y llall pan fo 'r naill yn caſhau 'r llall.

Os tynnir immaith nerth gweddi, pa fodd yr ymgynhaliant mewn diddanwch? O herwydd ni allant mewn vn modd arall wrthwynebu diawl nac etto fod eu calonnau yn ſefyll mewn diddanwch diogel ym-mhob enbeidrwydd ac anghenrhaidiau ond trwy weddi.

Fal hyn y mae pob afles cyſtadl yſprydol a chorphorol yn canlyn yr arferō afrywog, chwerw, llym, creulon hyn, y rhai ydynt addaſach i anifeiliaid gwylltion, nag i greaduriaid rheſymmol.

Nid ydyw S. Petr fodlon i'r pethau hyn, ond mae diawl yn eu chwennychu hwy yn llawen: gochelw ch chwithau yn fwy am hynny. Ac etto fe ddichon gwr fod yn wr er nad arfero ef y fath greulondeb, ie pe byddai weithiau heb gymmeryd arno weled arferon ei wraig. A rhan gwir Griſtion yw hyn, yr hyn ſydd hoff gan Dduw: ac mae hyn hefyd yn gwaſanaethu 'n dda i ddiddanu ſtât priodas.

Yn awr o blegid dlyed y wraig pa beth ſy weddus iddi hitheu: a gamarfer hi fwynder a thirionedd ei gwr, ac a dry hi yn ol ei hewyllys bob peth dibyn dobyn? Na wnaed ddim o hynny. O herwydd mae hynny mor gwbl hefyd yn erbyn gorchymmyn Duw.

O herwydd fal hyn y mae S. Petr yn pregethu 1. Pet. 3. 1. iddynt hwy, Chwi wragedd byddwch oſtyngedig i'ch gwŷr priod. Nid gorchymmyn a rheoli yw bod yn oſtyngedig, ac etto hwy allant wneuthur y pethau hyn i'w plant a'u Teuleu. tylwyth: Ond am eu gwŷr rhaid iddynt fod yn oſtyngedig iddynt hwy, a pheidio a gorchymmyn, a chyflawni goſtyngeiddrwydd ac vfydd-dod. O herwydd yn ſiccr mae hyn yn magu cytundeb yndra rhagorol, pan yw 'r wraig yn barod ar orchymmmyn ei gwr, pan yw hi yn ymroi i'w ewyllys ef, pan fytho hi yn ym-egnio i geiſio ei fodloni ef a'i lawenhau, pan wachelo hi bob peth ac a allai ei ddigio ef, O herwydd fal hyn y gwirhair geiriau 'r bardd yn gywir, y caiff gwraig dda wrth fod yn oſtyngedig i'w gwr, reoli fal y byddo hoff a llawen gantho ddyfod yn gynt adref etti. Ond o'r yſtlys arall, pan fytho eu gwragedd hwy yn afrywog ac yn llymion ac yn chwerwon, fe yrrir eu gwyr hwy trwy hynny i gaſhau ac i gilio allan o'u tai, fal pe bai rhyngthynt ryfel a'u gelynnion. Ac etto mae yn odid na chwympo weithiau ryw wrthyneb rhyngthynt, o herwydd nad oes neb yn byw heb fai: ond yn enwedig am fod y wraig yn lleſtr gwannaf, gochelant hwy rhag ſefyll yn eu baiau a'u hatcaſrwydd, ond cydnabyddant hwy yn gynt eu ffolineb a dywedant, fyngwr, fal hyn y gyrrodd fy-nigofaint fi i wneuthur hyn ymma neu hyn accw, maddauwch imi, ac ar ol hyn mi a wachela. A pha parottaf y byddo gwraig i wneuthur yn erbyn ei gwr, parottaf y dylai hi fod i wneuthur fal hyn: ac nid er mwyn ymgadw oddiwrth ymryſon a anghytundeb yn vnic y dylai wneuthur hyn, ond yn hytrach er mwyn gorchymmyn Duw, fal y mae S. Pawl yn ei adrodd ef yn y geiriau hyn, y gwragedd ymoſtyngwch i'ch gwyr priod megis i'r Arglwydd, oblegid y gwr yw pen y wraig megis y mae Chriſt yn ben i'r Eglwys.

Ymma y gwelwch fod Duw yn gorchymmyn i chwi gydnabod awdurdod y gwyr a rhoddi iddo barch vfydd-dod.

Ac mae S. Petr yn dywedyd yn y lle a adroddwydd o'r blaen, i fodrabedd ſanctaidd gynt ymdrwſio nid oddi allan o blethiadau gwallt, ac amgylch oſodiad aur, neu wiſcad dillad gwychion, onid gan obeithio ar Dduw a bod yn ddaroſtyngedig i'w gwr priod, megis yr vfyddhaodd Sara i Abraham gan ei alw ef yn Arglwydd, merched yr hon fyddwch chwi, medd ef, o wneuthur yn dda.

Addas a fyddai i wragedd argraphu yr ymadrodd hwn yn eu meddyliau.

Gwir yw fod yn rhaid iddynt hwy yn enwedig oddef poenau a doluriau eu priodas, am fod yn gorfod arnynt roi heibio rydd-did eu llywodraeth a bod mewn doluriau eſcor, ac yn dwyn eu plant i fynu.

Yn y ſwyddau hyn maent hwy mewn periglau mawrion: heb y rhai y gallent fod, pe byddent heb briodi.

Ond mae S. Petr yn dywedyd mai hwn yw 'r trwſiad pennaf i wragedd ſantaidd, gobeithio ac ymdeiried yn-nuw, hynny yw, nad ymgadwaſant rhag priodas oblegid ei gofalon a'i doluriau, a'i henbeidrwydd, ond gorchymmyn i Dduw bob peth a allai ddigwyddo ynddi, gan obeithio cael ei nerth ef yn ſiccr yn ol iddynt alw arno am ei gynnorthwy.

O wraig gwna dithau felly ac yno y trwſir di 'n odidawg gerbron Duw a'i holl Angylion a'i Saint, ac nid rhaid iti geiſio ym-mhellach am wneuthur gwaith a fyddo gwell: O herwydd bydd oſtyngedig i'th wr, ſynna ar ei ddymuniadau ef, ac yſtyria beth y mae ef yn ei ofyn ar dy law di, felly y gelli di anrhydeddu Duw, a byw yn heddychlon yn dy dŷ.

Ac heblaw hyn fe ganlyn Duw di â'i fendithion, fal y llwyddo pob peth gydâ thi, cyſtadl iti ac i'th wr, ac fal y dywaid y Pſalm, Gwyn ei fudd pob vn ſydd yn ofni 'r Arglwydd, ſef yr hwn ſydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef canys mwynhei lafur dy ddwylo, gwyn dy fyd a da fydd it. Dy wraig ſydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd yſtlyſau dy dŷ: a'th blant fal planhigion oliwydd o amgylch dy ford. Wele fel hyn yn ddiau y bendithir y gwr a afno 'r arglwydd medd Dafydd.

Bydded hyn ym-meddwl y wraig yn waſtad yn hytrarch am fod gwiſc ei phen hi yn ei rhybyddio am y peth hyn, trwy 'r hyn yr arwyddoccair ei bod hi dan lywodraeth ac mewn vfyddodd i'w gwr: Ac fel y goſododd natur y wiſc honno i fanegi ei hufydd-dod hi, felly y mae S. Pawl yn gorchymmyn fod i bob rhan arall o'i dillad hi ddangos gŵyledd a ſobredd. O herwydd onid yw gyfraithlon i wraig fod yn bennoeth, ond dwyn ar ei phen arwydd o'r gallu ſydd erni, pa le bynnac yr elo hi: mwy y gofynnir ar ei llaw hi ddangos yr hyn a arwyddocair wrth hynny; Ac am hynny y galwodd yr hên wraged o'r hen fyd eu gwyr yn Arglwyddi ac a ddangoſaſant eu parch yn yfyddhau iddynt.

Ond onid odid hi a ddywaid fod y gwyr hynny yn gwir garu eu gwragedd. Mi a wn hynny yn dda, ac yr ydwyf yn ei gyſio yn ddifai. Ond pan ydwyf yn eich rhybyddio chwi i'ch dlyed, na chofiwch chwi eu dlyed hwy tuag attoch. O herwydd pan fythom ni ein hunain yn dyſcu ein plant i vfyddhau ini, megis i'w tadau a'u mammau, neu pan fythom yn addyſcu 'n gweiſion ac yn dywedyd wrthynt y dlyent vfyddhau i'w meiſtri nid â llygad waſanaeth, ond fel gweinidogion Chriſt: pe dywedent hwy wrthym ninnau Coloſſ. 3. 22 Epheſ. 6. 5. ailwaith am ein dlyed ninnau ni thybygem ni eu bod hwy yn gwneuthur hynny yn dda.

O herwydd er bod gan ŵr gyfaill yn ei fai? ni wnae hynny ei fod ef yn ddifai. Ond hyn ſydd raid iti edrych arno, am fod dy hun yn ddifai. O herwydd Adda a fwriodd y bai ar y wraig, a hithau a'i bwrodd ar y ſarph: etto nid eſcuſwyd yr vn o honynt. Ac am hynny na ddwg attafi yn awr y fath eſcuſon, ond goſod dy holl ddiwydrwydd i wrando y dylait ti vfyddhau i'th ŵr.

O herwydd pan wyf yn rhybyddio dy ŵr i'th garu di ac i'th gyſuro, etto ni phaidiaf a goſod allan y gyfraith a oſodwyd i'r wraig, cyſtadl ac y mynnwn i'r gŵr wneuthur yr hyn a ſcrifennir yn y gyfraith iddo yntef.

Dos di am hynny ynghylch y pethau a berthynant iti yn vnig, a dangos dy hun yn hynaws i'th ŵr. Neu yn hytrach os vfyddhau di i'th ŵr er mwyn gorchymmyn Duw, yno adrodd pa beth a ddylai ef ei wneuthur, ond cyflawna di yn ddieſcaelus y pethau y mae gwneuthurwr y gyfraith yn gorchymmyn iti eu gwneuthur: O blegid fal hyn yr vfyddhai di i Dduw yn oreu os peidi di a thorri ei gyfraith ef.

Nid yw 'r hwn ſydd yn caru ei gyfaill yn gwneuthur gorcheſt yn y bŷd: ond mae 'r hwn a anrhydeddo y neb ſydd yn ei gaſhau ef ac yn ei ddrygu, yn haeddu mawrglod, Felly meddwl dithai os goddefi di ŵr anhwaith y caidi am hynny wobr mawr.

Ond os ceri di ef yn inig am ei fod ef yn dirion ac yn fwyn: pa wobr y rhydd Duw iti am hynny? Etto nid ydwyf yn dywedyd hyn fal pe ewyllyſiwn i'r gwyr fod yn anhowaith tuag at eu gwragedd, ond annog yr ydwyfi y gwragedd i ddwyn yn ddioddefus gydag anhywaithder eu gwyr. O herwydd panwnelo pob vn o'r ddwy ran ei gorau i gyflawni eu dlyed vn i'w gilydd, yno yn y man y canlyn budd mawr i'w cymydogion, wrth eu ſiampl hwy. O herwydd pan fyddo 'r wraig yn barod i oddef gwr anhywaith, a phan na byddo 'r gwr rhy doſt wrth wraig atgas anhywaith, yno y bydd pob peth yn eſmwyth mewn porthladd ddiogel. Fal hyn yn yr hen amſer y gwnai bob vn ei ddylyed a'i ſwydd eihun, ac nid oeddynt ofalus i edrych am ddlyed eu cymydogion. Yſtyria adolwg i Abraham gymmeryd atto fab ei frawd, ac ni faiodd ei wraig arno ef am hynny. Ef a orchymmynnodd iddo fyned i daith bell gydag ef, ac ni ddywad hi ddim yn ei erbyn ef, ond hi a vfyddhaodd i'w orchymmyn ef.

A thrachefn yn ol holl flinderau a gofidiau a phoenau mawrion y daith honno, yn ol gwneuthur Abraham megis yn Arglwydd o'r cwbl oll, etto fe ganniataodd i Lot yr oruchafiaeth: ac fe a a oddefodd Sara hynny mor ddiddig ac yr attaliodd hi ei thafod rhag yngan vnwaith y fath airiau ac a arfer gwragedd eu dywedyd fynychaf yn y dyddiau hyn, pan welant eu gwyr yn y lleoedd iſaf, ac yn oſtyngedig i rai iauangach nâ hwynt hwy, yn y man hwy a'i Edliwiant. dannodant iddynt â gairiau ymryſongar, ac a'u galwant hwy yn ffyliaid, yn llyfron ac yn ddihyder, am wneuthur felly.

Ond yr oedd Sara mor bell oddiwrth ddywedyd y fath airiau, ac na feddyliodd hi vnwaith ddywedyd felly, ond bod yn fodlon i ddoethineb ac ewyllys ei gŵr.

Ie, heb law hyn, gwedy darfod i Lot gael fal hyn ei ewyllys, a gadel i'w ewythr y rhan leiaf o'r tir, fe a gwympodd i ddygyn berigl: yr hyn beth pan wybu y Patriarch hwn, yn y man fe a oſododd ei holl wŷr mewn arfau, ac a ddarparodd fyned ei hun a'i holl dylwyth a'i gymdeithion yn erbyn llu'r Perſiaid: yn yr hwn gyflwr nis cynghorodd Sara ef i'r gwrthwyneb, ac ni ddywad hi wrtho fal y gallaſid dywedyd: fyngŵr i ba le yr a'i di mor fyr-bwyll? pa ham y rhedi fal hyn lwyr dy ben? pa ham yr ymgynnygi i'r fath beriglon mawrion? Paham yr wyd mor barod i anturio dy fywyd dy hun, ac i oſod mewn enbeidrwyd fywyd dy holl dylwyth dros ŵr a wnaeth a thi'r fath gam? Ar y lleiaf onid oes gennit ofal am danat dy hun, cymmer drueni arnafi, a minnau er dy fwyn di gwedy gadel fy-ngwlâd a'm cenedl, ac heb imi na chynnorthwywyr na chenedl, a mi gwedy dyfod cy belled o'm gwlâd gydâ thi: toſturia wrthyf, ac na wnâ fi ymma'n weddw, i ddwyn arnaf y fath ofalon a blinderau.

Hyn a allaſai hi ei ddywedyd. Ond ni ddywad Sara, ac ni feddyliodd y fath airiau: ond hi a'i cadwodd ei hun yn ddiſtaw ym-mhob peth.

Hefyd yn yr holl amſer ac y bu hi heſp heb ei phoeni fel gwragedd eraill wrth ddwyn ffrwyth yn ei dŷ ef, beth a wnaeth ef? fe a achwynodd nid wrth y wraig ond wrth yr holl-alluog Dduw.

Ac yſtyriwch fel y gwnaeth pob vn honynt ei ddlyed fal yr oedd yn addas iddynt. O herwydd ni ddiyſtyrodd ef Sara am ei bod yn heſp, ac ni Edliwodd. ddannododd iddi hynny. Yſtyriwch hefyd y modd y gyrrodd Abraham y llaw forwyn allan o'i dŷ pan ddeiſyfodd hi arno wneuthur felly. Fal wrth hyn y gallaf brofi 'n gywir fod pob vn honynt yn fodlon i'w gilydd ym-mhob peth.

Ond etto na oſodwch eich llygaid ar hyn o beth, ond edrychwch ymhellach pa beth a wnaethpwyd cyn hyn, fod Agar yn diyſtyru ei meiſtres, Geneſ. 16. a bod Abraham ei hun gwedy ei gyffro ychydig yn ei herbyn hi, yr hyn ni allai na bai annioddefus a dolurus iawn i wraig ddiwair rwydd ei chalon.

Na fydded gwraig ry bryſſur i ofyn yr hyn ſy ddledus ar y gŵr iddi hi, lle dlai hi fod yn barod i gyflawni ei dlyed ei hun, o herwydd nid yw hyn, yn haeddu fawr glôd. Ac felly o'r yſtlys arall nag yſtyried y gwr yn inig beth a ddlyai 'r wraig ei wneuthur, ac na ſafed yn rhy ddifrif i edrych ar hynny, o herwydd nid ei ran ef a'i ddlyed yw hyn. Ond fal y dywedias, bydded pob vn o'r dwyblaid barod ac ewyllyſgar i wneuthur yn enwedig yr hyn ſydd yn perthyn atto ei hun. O herwydd os ydym rhwymedig i droi y rudd aſwy at ddieithriaid pan darawant ni ar y rudd ddeheu, pa faint mwy y dylem oddef gŵr toſt afrywog? Ond etto nid wyfi 'n meddwl y dyle wr guro ei wraig, ni atto Duw hynny. O herwydd y cywilydd mwyaf yw hynny ac a ddichon bod, nid yn gymmaint i'r wraig a gurir, ac i'r gwr ſydd yngwneuthur y fath orchwyl.

Ond os digwydd fod iti y fath wr, na fydd ry driſt, meddwl di fod gwobr mawr gwedi ei oſod i fynu ar dy fedr ar ol hyn, a bod clod fawr iti yn y byd hwn os byddi di goddefgar.

Ond etto wrthych chwi y gwyr y dywedaf, na fydded vn bai mor fawr ac y gyrro chwi i ffuſto eich gwragedd. Ond beth a ddywedaf am eich gwragedd, peth anreith ei oddef yw i wr honeſt oſod i law ar ei forwyn i'w fuſto hi. Am hynny os yw yn gywilydd mawr i ŵr fuſto ei forwyn, oni ddlyai ef ei geryddu 'n fwy am guro ei wraig rydd? A hyn a allwn ei ddeall wrth gyfraithiau a wnaeth Paganiaid, y rhai a roddant rydd-did i'r wraig i ymado oddiwrth y gwr a'i tarawo hi, megis gwr an-nheilwng o'i chy mdeithias hi ymmhellach. O herwydd y peth toſtaf a ddichon bod yw iti drin mor wael ie megis vn caeth, gymmar dy fywyd, yr hon a gydſylltwyd â thi o'r blaen, i fod yn gyfaill i ti yn y pethau rheitaf o'th fywyd di. Ac am hynny fe a ellir cyffelybu y fath wr (os gellir ei alw ef yn wr ac nid yn anifeil gwŷllt) i vn a laddo ei dâd neu fam.

A lle gorchymmynnir ini ymwrthod â thadau a mammau er mwyn ein gwaragedd, ac etto nid ydym yn gwneuthur vn cam â hwy yn hynny, ond yr ydym yn cyflawni cyfraith Dduw: pa fodd am hynny na welidi mai ynfydrwydd annial yw iti wneuthur yn drahaus â'r hō y gorchymmynnodd Duw iti ymadel a'th dad ath fam er ei mwyn? Ie pwy a all goddef y fath ddirmyg? pwy a ddichon yn ddigonol oſſod allan faint drygioni yw gweled yn yr heolydd cyhoedd gymydogion yn rhedeg ynghŷd ynghylch tŷ y fath ŵr afreolus, megis at fedlem ynfyd a fai yn ceiſio dymchwelyd y cwbl oll ſydd gantho? Pwy ni thybygai mai gwell oedd i'r fath wr ddymuno i'r ddaiar agored a'i lyncu ef, na'i weled byth mwy yn y farchnad?

Ond fe allai y goſodi droſot dy hun, i'r wraig dy annog di i wneuthur hyn. Ond yſtyria dithau ailwaith mai lleſtr gwan yw 'r wraig, a'th wneuthur di yn rheolwr ac yn ben erni, i gyd-ddwyn â'i gwendid hi yn ei goſtyngeiddrwydd. Ac am hynny myfyria di ddangos clod dy awdurdod honeſt, yr hyn ni elli di ei wneuthur yn well nag wrth beidio a chyhoeddi ei gwēdid hi yn ei goſtyngeiddrwydd. O herwydd fel y gwelir y brenin yn bendefigeiddiach, po godidawgaf a phendefigeiddiaf y fo ei ſwyddogion ai raglawiaid ef, y rhai pe dianrhyddai ef, a phe diyſtyrai ei hawdurdod hwy a'u braint, fe a'i dinoethai ei hun o rhan fawr o'i anrhydedd ei hun: felly os diyſtyri dithau yr hon ſydd gwedy ei goſod yn y lle neſaf iti dy hun, yr ydwyd yn llai hau ac yn peri i odidawgrwydd dy awdurdod dy hun adfeilo. Cyfrif yr holl bethau hyn yn dy feddwl a bydd fwyn'a thirion: deall ddarfod i Dduw roddi plant rhyngot ti a hithau a'th wneuthur di yn dâd, ac wrth hynny llonydda di dy hun,

Oni weli di yr llafurwyr, mor ddyfal y maent yn trin eu tir a ddarfu iddynt eu rhentu vnwaith, er maint fyddo beiau 'r tir megis yn lle ſiampl, er ei fod ef yn rhy ſych, er ei fod ef yn dwyn chwyn lawer, er na allo ef ddioddef gormod gwlybni, etto mae fe 'n ei aredig ef, ac felly yn ennill ei ffrwythau ef: felly pe arferiti yr vn dyfalwch i addyſcu ac i drefnu meddwl dy wraig briod, pe ymroiti i chwynnu bob ychydig y chwyn drygionus o arferon anaddas allan o'i meddwl hi trwy addyſc iachus, ni allid na chait ti dderbyn ar fyrr o hynny ffrwythau melus eich diddanwch chwi eich dau.

Am hynny, fel na ddigwyddo rhwngoch chwi ymryſon, gwnâ'r cyngor hwn a roddaf iti ymma: pa beth bynnac anfelus a ddigwyddo gartref: os gwnaeth dy wraig ddim ar fai diddana hi, ac na chynydda ei thrymder hi. O herwydd er maint o ofidiau a fo yn dy flino di, etto ni chaidi ddim a'th flino 'n fwy nag eiſiau ewyllys da dy wraig gartref. Pa wrthwyneb bynnac a elli di ei enwi, etto ni chaid di vn mor anrhaith ei oddef a bod yn ymryſon a'th wraig. Ac am hyn yn fwyaf dim y dylait ti berchi y cariad hwn.

Ac os yw rheſwm yn peri i ti oddef rhyw gam ar ddwylo dynnion eraill, mwy o lawer y dylaid oddef cam ar law dy wraig. Os bydd hi tylawd na Edliw. ddannod iddi. Os bydd hi gwirion na watwar hi, ond bydd di dirionach wrthi. O herwydd dy gorph di yw hi gwedy ei gwneuthur yn vn cnawd â thi.

Ond ti a ddywedi onid odid ei bod hi yn wraig lidiog, yn feddwen, yn anefeil aidd, heb ſynwyr a rheſwm ynddi: am yr achos hyn toſturia wrthi yn hytrach. Nag ynfyda yn dy lid ond gweddia ar yr Holl-alluog Dduw, rhybydia a chynnorthwya hi â chyngor da, ymegnia di ar ei rhyddhau hi o'r holl wyniau hyn: ond os curi di hi, ti a chwanegi ei gwyniau drŵg hi, o herwydd ni wellhauir cyndynrwydd ac atcaſrwydd trwy gyndynrwydd, onid trwy amynedd ac addfwynder.

Yſtyria pa wobr a gaidi ar law Dduw? O herwydd lle y galliti ei churo hi, etto os rhag ofn Duw yr ym-atteli di adwyn yn oddefgar gyda ei baiau mawrion hi, yn hytrarch o ran y gyfraith ſydd yn gwahardd i wr droi ymmaith ei wraig pa fai bynnac a fo erni, ti a gai wobr mawr. A chyn y derbynnech ŷ gwobr hynny, ti a gai lawer budd arall. O herwydd trwy hyn y gwnair hi yn vfyddach, a thithau a wnair er ei mwyn hi yn fwynach.

Mae 'n ſcrifennedig mewn hiſtori fod i ryw philoſophydd diethr wraig felldigedig atgas feddw. Pan ofy nnwyd iddo paham yr ydoedd ef yn dwyn gydâ ei harferō drwg hi; fe attebodd, Trwy hyn, ebefe, mae imi gartref athro a ſiampl i ymddwyn pan fyddwyf allan. O herwydd, medd ef, mi a fyddaf gwell fy amynedd ymlhith eraill gwedy fynyſcu ac ymarfer beunydd i ddwyn gyd â hi. Yn wir cywilydd yw bod Paganiaid yn ddoethach nâ nyni, nyni meddaf i'r rhai y gorchymmynnir bod yn gyfelyb i Angylion, ie i Dduw ei hun mewn amynedd. O gariad ar rinwedd ni yrrai y philoſopydd hwn Socrates ei wraig oddiwrtho. Ie rhai a ddywaid mai am hyn y priododd ef ei wraig, i ddyſcu y rhinwedd hon genthi.

O blegyd hyn, am fod llawer heb fod mor gall a'r gwr hwn: fynghyngor yw, yn gyntaf ac ym-mlaen pob peth i ŵr wneuthur ei orau i geiſio gwraig dda rinweddol honeſt. Ond os digwydda ei dwyllo ef, ac iddo ddewis gwraig yr hon nid yw na da nac iawndda, yno canlyned y gwr y philoſophydd hwn, ac addyſced ei wraig ymmhob cynneddfeu da, ac na chyhoedded y pethau hyn byth yngolwg y byd.

O herwydd oni bydd y marſiandwr gwedy cytuno yn gyntaf â'i oruchwiliwr fal y gallai arfer ei farchnad-negeſau 'n llonydd, ni oſod ef ei long dan hwyl, na'i law ar ei farſiandiaeth: felly gwnawn ninnau fal y caffom gyfeillach ein gwragedd, y rhai yw goruchwiliaid ein gorchwylion ni gartref yn eſmwyth ac yn llonydd ddigon: a thrwy hyn yr aiff pob peth yn llwyddianus, ac felly yr awn ni trwy beriglau blin-fôr y byd hwn.

O herwydd fe fydd ſtât ein bywd ni yn fwy anrhydedd a diddanwch ini nâ 'n tai, ein gweiſion, ein harian, ein tîr, ein meddiannau, ar cwbl oll ar a ellir eu cyfrif, fal na all yr holl bethau hynny os bydd ymryſon ac anghytundeb, weithio ini vn diddanwch, felly y troir pob peth i'n budd ni, a'n bodd, os tynnwn y iau hon mewn vn cytundeb calon a meddwl.

Am hynny ymegniwch i arfer eich priodas fal hyn, ac felly y'ch arfogir chwi o'r ddau yſtlys. Chwi a ddiangaſoch rhag maglau diawl a chwā tau anghyfraithlon y cnawd, ac a gawſoch lonyddwch cydwybod trwy ordeinhâd priodas a ordeiniodd Duw, am hynny arferwch weddio 'n fynych arno, ar ei fod ef yn breſennol gydâ chwi, ac ar iddo efe gynnal cariad a charedigrwydd rhyngoch chwi. Gwnewch eich gorau o'ch rhan chwi i'ch ymarfer eich hunain a lledneiſrwydd ac ammynedd, a dygwch yn llonydd gydâ 'r camſynnaid a ddigwyddo; fal hyn y bydd eich ymddygiad chwi yn hyfryd ac yn ddiddanus iawn.

Ac er ei ryw wrthwyneb ganlyn (yr hyn ni ddichon bod yn amgen) ac er i aflwydd digwyddo, weithiau mewn vn ffordd, ac weithiau mewn ffordd arall: etto yn y trallod a'r gwrthwyneb cyffredinol hwn, cyffodwch eich dwylaw eich dau tuâ 'r nefoedd, gelwch am gynorthwy a nerth gan Dduw awdur eich priodas chwi, ac yn ſiccr fe fydd addewyd eich ymwared chwi yn agos: O blegid mae Chriſt yn dywedyd yn yr efengyl, Os cyduna dau neu dri o honoch ar y Math. 18. 19. ddaiar am ddim oll, beth bynnac a ddeiſyfant a roddir iddynt gan fy-nhad yr hwn ſydd yn y nefoedd.

Paham am hynny yr ydwyd yn oſni perigl, lle y mae iti addewid mor barod, a chymmorth mor agos?

Rhaid i chwi ddeall hefyd mor anghenrhaid yw i Griſtion ddwyn croes Chriſt, o herwydd heb hon byth ni wybyddwn mor ddiddanus yw cymmorth Duw ini. Am hynny rhoddwch ddiolch i Dduw am ei fawr ddawn, gan ddarfod i chwi gymmeryd arnoch ſtât priodas, a gweddiwch yn waſtaddol ar i'r holl-alluog Dduw eich ymddiffyn a'ch maenteinio ynddi yn llwyddiannus, fal na ormeiler chwi gan vn profediagaeth, na gwrthwyneb: Ond vwchlaw pob peth, gochelwch na roddoch achoſion 'i ddiawl i rwyſtro ac i luddio eich gweddiau chwi, trwy ymryſon ac angytundeb. O herwydd nid oes ymddiffynfa nac atteg gadarnach yn ein holl einioes ni nâ gweddi, trwy 'r hon y gallwn alw am nerth Duw a'i fwynhau, trwy 'r hon y gallwn gael ei fendith ef, ei rad, ei ymddiffyn, a'i nawdd, felly i barhau hyd onis caffom y bywyd ſydd well yn y byd a ddaw. Yr hwn fywyd a ganniatao ef ini yr hwn a fu farw droſom ni oll, i'r hwn y byddo pob anrhydedd a chlod yn dragywydd, Amen.

¶ Pregeth yn erbyn ſeguryd.

YN gymmaint a bod dyn yr hwn a aned nid i eſmwythder a llonyddwch, ond i lafurio ac i drafaelu, gwedy dirywio, a chwympo gan lygredigaeth nattur trwy bechod cyn belled allan o ryw, fal y mae 'n coelio nad yw ſeguryd ddim yn ddrwg, ond yn hytrach yn beth canmoladwy gweddaidd i wŷr cyfoethogion, ac am hynny y cofleidir hi yn chwannog gan y rhan fwyaf o ddynion, megis peth yn cytuno yn dda â'u meddylfryd cnawdol hwy, ac fe a ochelir yn dieſcaelus bob poen a thrafael megis peth poenus gwrthwyneb i ddigrifwch y cnawd: anghenrhaid yw mynegi i chwi y dlyai bob dŷn (wrth ordeinhâd Duw yr hon a oſododd ef allan yn nattur dŷn) ymroi i drafaelu yn ei alwedigaeth gyfraithlon, a bod ſeguryd (oblegid ei bod yn wrthwyneb i'r ordeinhad honno) yn bechod mawr, ac hefyd (oblegid llawer o ddrygioni a melldithion mawrion y rhai a darddant o hon) yn beth drwg iawn: er mwyn bod i chwi, pan dealloch hynny, gilio 'n ddiwall oddiwrthi, ac ymroi o'r yſtlys arall bob vn yn ei alwedigaeth i drafaelu ac i weithio 'n honeſt, yr hyn fal y gorchymmynnwyd ef i ddyn wrth ordeinhâd Duw, felly y mae iddo aml fendithion ac amryw ddonniau.

Yn ol i'r holl-alluog Dduw greu dyn, fe a'i goſododd ef ym-mharadwys i'w chyweirio hi a'i chadw, ond pan droſoddaſe ef orchymmyn Duw gan fwyta firwyth y pren a ddarodd i Dduw ei wahardd, fe a'i taflodd yr holl-alluog Dduw ef yn y man allan o Bradwys i'r dyffryn blin gofodus hwn, gan orchymmyn iddo lafurio 'r ddaiar, o'r hon y tynnaſid ef, a bwyta ei fara yn chwys ei wyneb holl ddyddiau ei einioes.

Ordeinhâd ac ewyllys Duw yw i bob dŷn yn y bywyd marwol darfodedig hwn, ymroddi i ryw waith honeſt duwiol, ac i bob dŷn wneuthur ei negeſſau ei hun a rhodio 'n inion yn ei alwedigaeth.

Dŷn, medd Iob, a aned i gymmeryd poen. Ac Iob. 5. 7. mae Ieſu fab Sirach yn gorchymmyn ini na Eccle. 7. 14. chaſaom waith poenus, nac hwſmonnaeth, ar fath eraill a greodd y goruchaf.

Mae 'r gwr doeth hefyd yn cynghori ini, Yfed dwfr o'n pydew ein hun, ac o'r ffrydau a fyddant yn rhedeg allan o'n ffynnon ein hun, gan feddwl Dichar 5. 15. wrth hynny y dlyem fyw ar boen ein gwaith ein hunain, ac nid ar boenau eraill.

Pan glywodd S. Pawl fod rhai ym-myſc y 2. Theſ. 3. 7. Theſſaloniaid yn byw yn anllywydraethus ac yn annhrefnus, hynny yw heb weithio dim, onid bod yn rhodreſgar, heb ennil eu bywyd trwy ludded, ond gan fwyta 'n rhâd o lafuriau eraill, mae n' gorchymmyn i'r Theſaloniaid nid yn inig eu tynnu eu hunain oddiwrthynt, a pheidio a bod iddynt gymdeithas â'r fath ddynnion anllywodraethus, ond hefyd o byddai neb yn eu myſc hwy na waithiai, na byddai i hwnnw fwyta, na chael ei ymborth ar ddwylaw eraill.

A'r athrawaeth hon eiddo S. Pawl ſydd a'i ſail ar ordeinhad cyffredinol Duw, yr hon yw, y dlyai bawb drafaelu. Ac am hynny y dlai bawb vfyddhau iddi, ac ni ddichon neb yn gyfion ei ddieithrio eu hun oddiwrthi.

Ond pan ddywedir y dlyai bawb drafaelu, nid ydys yn meddwl hynny mor gyffyng a phe bai raid i bawb weithio â'u dwylo: ond fal y mae llawer math ar waith, megis gwaith y meddwl, gwaith y corph, a gwaith pob vn o'r ddau, felly y dylai bob dŷn (o ddieithr na allo ef drafaelu) er ennill i fywyd ei hun yn honeſt ac er budd i eraill hefyd, ymarfer mewn rhyw drafael honeſt, yn ol y galwedigaeth y goſododd Duw ef ynddi; fal pwy bynnac a wnelo les i'r wlad ac i gymdeithas dynnion, â'i ddiwydrwydd ac a'i drafael, pa vn bynnac ai gan lywodraethu 'r wlâd yn gyffredinol, neu gan fod mewn ſwyddau neu weinidogaethau cyffredinol, neu gan wneuthur vn peth cyffredinol anghenrhaid i'w wlâd, neu trwy gynghori a dyſcu eraill, neu mewn pa beth bynnac y trafaelo, os bydd hynny buddiol i eraill, ni ddylaid cyfrif mo hwnnw 'n ſegur er na wnelo ef vn gwaith corphorol, na phallu o'i lunniaeth iddo, os gwilia fe ar ei alwedigaeth, er na weithio â'i ddwylo. Ni ofynner am i neb weithio gwaith y corph ac ſydd o ran eu ſwydd a'u galwedigaeth yn gweithio gwaith y meddwl er budd a chymmorth i eraill.

Mae S. Pawl yn rhybyddio Timothi i ochelyd a gwrthod y gwragedd ſegurllyd y rhai nid ydynt (medd ef) yn vnig yn ſegur yn rhodio 'r tai oddiamgylch, eithr hefyd yn ofer-iaithus, ac yn rhodreſgar, yn adrodd pethau anweddaidd.

Mae 'r Prophwyd Ezechiel wrth gyfrif pechodau 1. Timo. 4. 10. y Sodomiaid yn cyfrif ſeguryd yn vn o'r rhai pennaf. Wele, medd ef, hyn oedd anwiredd Ezech. 16. 36. dy chwaer Sodoma, balchder, digonedd bara, ac amlder o ſeguryd oedd ynddi, y rhai hyn oedd yn Sodō ai merched, hynny yw y dinaſoedd oeddynt oſtyngedig iddi. Mae diniſtr Erchyll. echrydus y ddinas honno a'r wlad o'i hamgylch, yr hwn a fu trwy dân a brymſton a ddiſcynnodd o'r nef, yn manegi yn eglur flined pechod yw ſeguryd, ac fe ddylai hynny ein rhybyddio ni i gilio rhagddo ac i gofleidio honeſtrwydd a phoen Duwiol.

Ond os ymrown i ſeguryd a diogi, gan grwydro yn ewyllyſgar, a thraulo yn anllywodraethus, heb ymroi i vn gwaith honeſt, onid byw megis caccwn ar ffrwythau trafael rhai eraill, yno yr ydym yn torri gorchymmyn yr Arglwydd, ac yn cyfeiliorni oddi wrth ein galwedigaeth, ac yn cwympo i enbeidrwydd llid Duw a'i ddigofaint trwm ef, i'n diſtriw tragwyddol, oddieithr trwy etifeirwch droi o honom ni ailwaith at Dduw yn ddiffuant.

Mae 'r drygioni a'r melldithion a ddawant o ſeguryd cyſtadl i'r corph a'r enaid yn amlach nag y gellir mewn amſer byrr eu cyfrif. Rhai o honynt a ddangoſwn i chwi, fel wrth yſtyried y rhai hyn y galloch yn haws adnabod y llaill o honoch eich hunain. Llaw ſegurllydd, medd Salomon, a fydd tylawd, ond llaw y rhai llafurus a'ucyfoethoga hwy. Ac ailwaith, Y neb a lafurio ei dîr a ddigonir o fara, ond y neb a ganlyno oferwyr, angall yw. Ac etto, Y diog yr hwn nid ardd o herwydd oerder y gauaf, aiff i gardotta 'r haf, y prydni Diar 10 4. Diar 12. 11. bidd dim ganddo ef.

Ond pa raid ini ſefyll yn hir i broſi hyn, fod tylodi yn canlyn ſeguryd? Mae addyſc amſer gwedy dangos ini hynny yn rhy gwbl (fal y mae 'r trueni 'n dra mawr) yn y deyrnas hon, O herwydd Diar 20. 4. ni ellir haeru fod vn achos o'r aml gardotta ſydd ymhlith y ran fwyaf o'r tylodion, yn gymmaint a ſeguryd ac yſcaeluſrwydd tadau amammau, y rhai ni ddygant eu plant i fynu nac mewn dŷſc dda, nac mewn llafurwaith honeſt, nac mewn vn gelfyddyd ganmoledig, trwy 'r hyn pan ddelent i oedran y gallent ennill eu bywyd.

Mae addyſc amſer beunydd yn dangos nad oes dim mor wrthwyneb ac mor enbaid i gorph dŷn ac yw ſeguryd, gormodd eſmwythder a chyſcu, ac eiſiau trafaelu. Ond er bod y fath anfuddiau yn fawrion ac yn ddrygionus: etto am eu bod yn perthyn fwyaf at y corph a'r golud oddiallan, ni ellir eu cyffelybu hwy i'r aflwydd a'r drygioni ſydd trwy ſeguryd yn digwyddo i'r enaid o'r rhai yr adroddwn ambell vn.

Nid ydyw ſeguryd yn vnig vn amſer: ond mae iddi yn waſtad gynffon hîr o faiau eraill yn glynu wrthi, y rhai a lygrant ac a ddifwynant ddŷn yn gwbl, fal y gwnair yn y diwedd na byddo ef ddim amgen onid clamp o bechod.

Llawer o ddrygioni (medd Ieſu fab Sarach) Eccl. 33. 28. a ddaw o ſeguryd. Mae S. Barnard yn ei galw hi yn fam pob drygioni, ac yn llyſfam pob rhinwedd, gan ddywedyd ym-mhellach ei bod hi yn darparu ac megis yn gwneuthur llwybr i dân vffern. Lle byddir gwedy derbyn ſeguryd vnwaith, yno y mae diawl yn barad yn waftad i roi ei droed i mewn, ac i blannu pob rhyw ddrygioni a phechod, i dragwyddol ddiſtryw enaid dŷn. Ac mae 'n Iachawdwr Chriſt yn traethu fod hyn yn wir, gan ddywedyd yn y 13 o Math. A thra 'r oedd y dynnion yn cyſcu y daeth ei elyn ef, ac a hauodd Mat. 13. 25. efrau ymhlith y gwenith.

Yn wir gorau amſer ac y ddichon diawl i gael i weithio ei ddichellion yw, pan fyddo dynnion yn cyſcu, hynny yw pan fônt hwy yn ſegur. Yno y mae fe 'n trafaelu 'n galed ar ei waith, yno y dala ef ddynion gyntaf yn ei fagl diſtryw, yno y llanw efe hwy a phob anwiredd, i'w dwyn hwy, oni bydd eſpyſawl ffaſwr Duw, i gwblddiſtryw. Am yr hyn y mae gennym ddwy ſampl odidawg fywiol ymlaen ein llygaid. Y naill ym-mrenin Dafydd yr hwn wrth aros gartrefyn ſegur, fal y traetha 'r ſcruthyr, ar yr amſer yr elſai frenhinoedd eraill i'r rhyfel, fe ai twyllodd Sathan ef yn ebrwydd i ymwrthod a'r Arglwydd ei Dduw, ac i wneuthur dau bechod drymmion yn ei olwg ef, 2. Sam. 11. godineb a llofruddiaeth. Yr oedd y plaau a ganlynaſant o hynny yn erchyll ac yn greulon, fal y gall y rhai a ddarllenant yr hiſtori weled yn ddigon hawdd. 2. Sam. 12.

Y ſampl arall ſydd am Samſon, yr hwn yr hyd yr oedd ef yn rhyfela yn erbyn y Philiſtiaid, gelynnion Barn 16. 18. pobl Dduw, ni allwyd dala na Gorchfygu. gormeilio mo hono: Ond yn ol rhoddi o hono ei hun i eſmwythder a ſeguryd, Ni wnaeth ef yn vnig oddineb gyda 'r buttain Dalila, ond fe a'i daliodd ei elynnion ef hefyd, fe a dynnwyd ei lygaid ef yn druan, fe a ddodwyd mewn carchar, fe oſodwyd i falu mewn melin, ac a wneuthpwyd yn watwargerdd i'w elynnion.

Os cwympodd y ddau hyn, a hwy mor odidawg gwyr, a Duw yn eu caru yn gymmaint, a chwedy eu cynyſgaeddu a donniau godidawg nefol, y naill o brophwyliaeth ar llall o nerth; a'r fath wyr na allwyd eu gormeilio er ioed n'au goreſcyn, trwy flinder, na thrwy boen, na thrwy drallod, os goreſcynnwyd ac os cwympodd y fath wyr i bechodau trymmion, wrth eu rhoddi eu hunain dros ennyd bychan i eſmwythder a ſeguryd, ac felly os derbynniaſant am hynny blaau blin ar law Dduw: pa bechod, pa felldith, pa ddrygioni a pha blaau a ddylai y rhai ſydd drwy eu hoeſoedd yn eu rhoddi eu hunain yn hollol i eſmwythder a ſeguryd, eu hofni am hynny?

Na thwyllwn mo honom ein hunain, ac na thybiwn na ddaw ond ychydig o ddrwg o fod heb wneuthur dim. O herwydd gair gwir yw hwn, fod yr hwn ſydd heb wneuthur dim yn dyſcu gwneuthur drwg.

Am hynny byddwn bob amſer yn gwneuthur rhyw waith honeſt, fal na chaffo diawl ni 'n ſegur: mae fe'n waſtad yn ei waith, ac nid yw yn ſegur dros vn ennyd: ond mae 'n rhodio 'n waſtad i geiſio ein llyngcu ni. Am hynny gwrth wynebwn ef a gwiliwn yn ddyfal mewn gwaith a gorchwyl, a gwnawn yr hyn ſydd dda. O herwydd ni ddelir yn hawdd ym-maglau diawl yr hwn ſydd yn ymarfer mewn gorchwylion honeſt.

Yn oldwyn dyn (trwy ſeguryd neu eiſiau rhyw gelfyddyd honeſt i fyw erni) i dylodi a diffyg am bethau anghenrhaid, ni a welwn mor hawdd y dygir ef er mwyn ei ennill i ddywedyd celwydd, ac i wneuthur pob twyll, i dwyllo ei gymmydog, i dyngu anudon, i gaudyſtiolaethu, ac weithiau i ledratta a lladd, neu i arfer rhyw beth annuwiol arall, i geiſio byw. Trwy 'r hyn y cyll ef yn gwbl nid yn vnig ei enw da, ei gymeriad honeſt, a'i gydwybod dda, ie ei fywyd hefyd: ond fe annog hefyd arno ei hun lid a digofaint Duw ac aml ac amrafael blaau trymmion eraill.

Welwch ymma ddiwedd dynion ſegurllyd diog, y rhai ni all ei dwylo ddioddefgwaith honeſt: colli eu henw a'u gair da, eu cymeriad, a'u bywyd yn y byd hwn, ac heb fawr drugaredd Duw, y mae yn ennill diſtryw tradwyddol yn y byd a ddaw.

Onid oes achos da wrth hynny i ochelyd ac i ymgadw rhag ſeguryd, gan fod y rhai a'i cofleidio, ac ai canlyno hi, onid odid yn cael am eu hyfryd ſeguryd, anhyfrydwch chwerw ſur? Yn ddiammau gan fod gwyr da duwiol yn yſtyriaid y mawr a'r aml ddrygau a ddigwydd i wledydd o blegid ſeguryd, hwy a ddarparaſant ac a wnaethant o amſer i amſer yn ddieſcaelus gyfraithiau toſt difrif, i geryddu a gwella y bai hwn.

Yr oedd gan yr Aiphtiaid gyfraith ar i bob dŷn ddyfod a'i enw bob wythnos at Lywydd pennaf y wlad, a manegi yno pa gelfyddyd a arferai ef, o fwriad ar goſpi ſeguryd yn ol ei haeddiant, a gobrwyo poen ddyfal yn ddyledus?

Ni cheryddai yr Atheniaid bobl ſegurllydd ddiog ddim yn llai na'r rhai a wnaent faiau mawrion trymmion, gan yſtyriaid (fal y mae 'r gwirio nedd) fod ſeguryd yn gwneuthur llawer o ddrygioni. Fe fynnai 'r Areopagitiaid gyfrif manol o'i fywyd gan bob dŷn. Os caent hwŷ rai ſegurllyd heb wneuthur lles i'r wlad mewn rhyw fodd neu gilydd, hwy a yrrid allan ac a Aethwladid ddeolid. alltudid. afwladid megis aelodau anfuddiol, y rhai a waethent ac y lygrent y corph.

Ac fe wnaethpwyd yn y deyrnas hon lawer o gyfraithiau duwiol da yn fynych, na bai oddef crwydrddynion ſegurllyd, na gwibwyr ofer, i fyned o dref i dref, ac o le i le, heb goſpi, am na waſanaethent na Duw neu tywyſog, ond a lyncant ffrwythau melus lludded rhai eraill, gan eu bod onid odid yn gelwyddog yn feddwon, yn dyngwyr, yn lladron, yn buttein-wyr, yn llofruddiaid, yn gwrthod pob llafur honeſt, heb eu rhoddi eu hunain i ddim amgen ond i ddychymmyg drygioni, i'r hyn y maent yn chwannoccach ac yn fwy eu hawydd na 'r llew i'w yſclyfaeth.

I wella y drygioni hyn, dyged pob tadau a mammau ac eraill y rhai ſybd a gofal a llywodraeth ieuengtyd arnynt, hwy i fynu mewn dŷſc dda, mewn trafael a rhyw gelfyddyd, fal y gallont ar ol hyn nid yn vnig gael eu lluniaeth yn ddigonol, ond cynorthwyo a chyflawni anghennau a dyffygion eraill hefyd.

Ac medd Sanct Paul, yr hwn a ledrattaodd na ledratted mwy, eithr cymered boen yn hytrach yn gweithio a'i ddwylaw y peth ſydd dda, fel y byddo Epheſ. 4. 28. gantho beth i'w gyfrannu i'r anghenog. Mae 'r Prophwyd Dafydd yn tybied mai gwynfŷd yr hwn y fyddo 'n byw ar ei lafur, Canys, medd ef, mwynhei lafur dy ddwylo, gwyn dy fyd a da Pſal. 128. 2. fydd it.

Mae 'r gwynfyd a'r bendith hyn yn ſeſyll yn y pyngciau hyn a'r fath eraill.

Yn gyntaf, fal y dywaid Salomon, rhodd Eccl. 3. 13. Duw yw i wr fwyta ac yfed a mwynhau llafur ei ddwylo.

Yn ail, pan fyddo gŵr yn byw ar ei lafur ei hun (os bydd ef honeſt a da) mae 'n byw arno mewn cydwybod dda. A threſor an-nhraethadwy yw cydwybod inion.

Yn drydedd mae fe yn bwyta ei fara heb ymryſon ac ymdaeru ond yn eſmwyth ac yn llonydd, pan fyddo ef yn llafurio yn llonydd am dano, yn ol rhybydd S Paul.

Yn bedwaredd nid yw ef gaeth i neb am ei fwyd, ac nid rhaid iddo er mwyn hynny orbwyſo ar ewyllys da neb, ond mae fe felly 'n byw ar yr eiddo, fal y gall ef roi rhan i eraill hefyd.

Ac yn ddiwethafmae 'r llafurwr a'i dylwyth yr hyd y byddont yn trafaelu 'n galed ar eu gwaith, yn rhyddion oddiwrth lawer o brofedigaethau, ac achoſion pechod, y rhai y mae y dynion ſydd yn byw yn ſegur mewn perigl o honynt.

Ac ymma y dyle grefftwyr a gwaithwyr y rhai a weithiant ac a lafuriant am eu Cyflog. hur, yſtyried eu cydwybod tu ac at Dduw, a'u dlyed tu ac at eu cymydog, na chamdreuliont eu hamſer mewn ſeguryd, gan dwyllo y rhai ſydd mewn coſt fawr wrth dalu yn brid am fwyd a chyflog. Mae 'n hwy yn wir yn waeth nâ dynnion ſegur, am eu bod yn gofyn cyflog dros fod yn ſegur. Llai o berigl ger bron Duw yw bod yn ſegur heb ddim ennill, nâ thrwy ſeguryd ennill o godau eu cymydogion gyflogau am y pethau nis haeddaſant.

Gwir yw fod yr hollalluog Dduw yn ddig wrth y rhai a dwyllant gyflog-ddynion o'n cyflog. Mae gwaedd y camwedd hwnnw yn eſcyn i fynu gerbron Duw am ddial. Ac mor wir yw fod cyflogddŷn a wnel dwyll yn ei waith yn lleidr ger bron Duw. Na fydded i neb medd S. Pawl dwyllo ei frawd, canys yr Arglwydd ſydd ddialudd ymmhob cyfryw beth. 1. Theſ. 4. 6.

Am hynny yr hwn a ewyllyſia bod a chydwybod dda tu ac Dduw, y gwaithwr hwnnw, meddaf, yr hwn ſydd yn ſefyll yn vnig ar râd Duw, yr hwn ſydd yn rhoddi digon iddo i fyw, treulied ei amſer mewn gwaith ffyddlon, a phan orffo arno beidio a gweithio o blegid clefyd neu ryw wrthwyneb arall, etto gwybydded am iddo ef yn ei iechyd waſanaethu Duw a'i gymydog yn gywirna bydd eiſiau arno yn amſer anghenrhaid. Am fod Duw yn edrych ar ei ffyddlondeb ef yn ei iechyd, fe a'i gobrwya ef mewn prinder, gan gyffroi calonnau dynnion da i gynnorthwyo y fath ddŷn a fo gwedy adfeilio mewn clefyd. Ac o'r yſtlys arall beth bynnac a eniller drwy ſeguryd, ni bydd ffrwyth ynddo i nerthu pan fo rhaid.

Am hynny gocheled y gwaithwr y bai hwn, ſeguryd a thwyll, gan gofio fod S. Paul yn rhybyddio pawb i oſod heibio bob twyll rhagrith a Epheſ. 4. 25. chelwydd, a dywedyd gwirionedd ac iniondeb wrth eu cymydogion, canys, medd ef, aelodau ydym i'w gilydd, yn vn corph dan vn pen, yr hwn yw Chriſt ein Iachawdwr.

Ac ymma y gellid rhybyddio gweiſion gwyr mawr o fewn y deyrnas hon, y rhai a dreuliant eu hamſer mewn ſeguryd mawr, heb yſtyried yr amſer cyfaddas, gan anghofio nad yw gwaſanaeth yn etifeddiaeth, ac yr ymluſca oedran arnynt. Lle byddai ddoethineb iddynt dreulio eu hamſer mewn rhyw boen dda, fal y gallai eu gwybodaeth hwy gynnyddu, ac felly y gallent hwyntau fod yn barottach i waſanaeth pob gŵr. Bai mawr arnynt yw, na cheiſiant ddyſcu ſcrifennu 'n dêg, i gadw llyfr cyfrif, neu ddyſcu iaithoedd, ac felly cael doethineb a gwybodaeth yn y fath lyfrau a gweithredoedd ac ſydd gwedy eu printio yn awr yn aml ym-mhob iaith.

Yſtyried gwyr iauaingc bris gwerthfawr eu hamſer, ac na threuliant ef mewn ſeguryd, coegedd, chwareu, cyfeddach a chwmpniaeth oferddynion. Nid yw ienengctyd ond oferedd, a rhaid yw rhoi cyfrif ger bron Duw am dano, er mor llawen a hyfryd a fyddych yn dy ieuengctyd. Gwna yn llawen wr ieuangc, medd y pregethwr, yn dy Pregeth. 11. 9. ieuengtid, a llawenyched dy galon yn amſer dy ieuengctid: rhodia yn ffordd dy galon ac yn ol trachwantau dy lygaid, ond gwybydd y geilw Duw ei hun di i'r farn am hyn oll.

Duw o'i drugaredd a oſodo ynghalonnau a meddyliau y rhai ſydd a chleddyf coſp yn eu dwylo, neu ſydd a thylwyth dan eu llywodraeth, drafaelu i ddiwygio beiau mawrion pawb ac ſydd yn byw yn ſegurllyd ac yn anfuddiol yn y wlad, i fawr ddianrhydedd Duw a phlaau trymmion ei bobl druain ef. Nid yw gadel pechod heb goſpi ac eſcaeluſo dwyn i fynu ieuengctid, ddim amgen onid enynnu llid Duw yn ein herbyn, a chynull plaau ar ein pennau.

Yr hyd y goddefwyd y bobl oddinebus i fyw yn ddrythyll heb eu ceryddu, yr hyd hynny y parhaodd ac y cynnyddodd y pla yn Iſrael, fal y gellwch weled yn llyfr y Rhifedi. Ond pan goſpwyd hwy, yn y man yr attaliwyd y plâ. umeri. 25 8.

Synned am hynny bob ſwyddog ar yr hyn a orchymynnir iddo. Gwellhaed perchen tai y camarferon hyn yn eu tylwyth. Arferant yr awdurdod a roddodd Duw iddynt, na faenteiniant wibwyr a dynnion ſegurllyd, ond rhyddhant y wlad a'u tylwyth o'r fath ſegurwyr drygionus, fal yn ol tynnu ymmaith ſeguryd mam pob drygioni, y trotho 'r holl-alluog Dduw ei erchyll lid oddiwrthym ac y cadarnhao ef ammod ei heddwch arnom ni 'n dragywydd, drwy haeddiant Ieſu Griſt ein vnig Arglwydd a'n Iachawdwr, i'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yſpryd glân y byddo holl anrhydedd a gogoniant yn oes oeſoedd, Amen.

¶ Pregeth am etifeirwch, neu wir gymmodi a Duw.

NId ydyw yr Yſpryd glân yn llafurio 'n fwy am ddim yn yr holl ſcruthyrau nag am faeddu i bennau dynnion etifeirwch, gwella eu bywyd a throi yn ebrwydd at Arglwydd Dduw y lluoedd.

Ac nid rhyfedd paham. O blegid yr ydym ni bob dydd a phob awr trwy ein drygioni a'n anufydd-dod cyndyn yn cwympo 'n erchyll oddiwrth Dduw, gan bwrcaſa trwy hynny ini ein hunain (pe gwnai Dduw a ni yn ol ei gyfiawnder,) dragwyddol ddamnedigaeth. Fel nad oes vn athrawaeth mor anghenrhaid yn eglwys Dduw, ag yw athrawaeth etifeirwch, a gwellhâd bywyd. Ac yn wir fe a gydſylltodd gwir bregethwyr efengyl teyrnas nef a newyddiau llawen llewyrchus Iechydwriaeth, yn eu holl bregethau duwiol i'r bobl, y ddau hyn ynghŷd, etifeirwch a maddauant pechodau: fel yr appointiodd ein Iachawdwr Ieſu Griſt ei hun, gan ddywedyd. Rhaid oedd i Griſt ddioddef, a Luc. 14. 46. chyfodi o feirw y trydydd dydd, a phregethu etifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymmhlith y cenhedloedd oll.

Ac am hynny y mae 'r Apoſtol yn yr Actau yn Act. 20. 21. dywedyd fal hyn, Chwi a wyddoch deſtiolaethu o honof i'r Iddewon ac i'r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch yr hwn ſydd yn-Nuw, a'r ffydd yn ein Harglwydd Ieſu Griſt. Ac oni ddechreuodd Ioan fedyddwr Mab Zacharias ei wenidogaeth ag athrawaeth edifeirwch, gan ddywedyd, Edifarhewch Math 32. canys daeth teyrnas nefoedd yn agos?

Yr vn fath a thrawaeth a bregethodd ein Iachawdwr Mat. 3. 2. Chriſt ei hun ac a orchymmynnodd ef i'w Apoſtolion ei phregethu. Mat. 4. 17.

Mi a allwn ymma oſod llawer o leoedd o'r Prophwydi yn y rhai yr addyſcir yn dra difrif yr athrawiaeth iachus hon o edifeirwch, megis y peth anghērheitiaf i bob grâdd o ddynniō: ond vn a fydd digon ar hyn o bryd. Dymma eiriau y Prophwyd Ioel, Ond yr awr hon medd yr Arglwydd, dychwelwch attafi â'ch holl galon, mewn ympryd mewn wylofain acmewn galar. A rhwygwch eich Ioel. 2. 12. 13. calonnau ac nid eich dillad ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw: o herwydd graſlawn a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint ac aml o drugaredd ac edifeiriol am ddrwg. Trwy 'r hyn y deallwn fod gwedy rhoddi ac apointio ini reol dragwyddol yr hon a ddylaid ei chadw a'i chynnal bob amſer, Nad oes vn fordd arall i eſmwytho digofaint Duw nac i laryeiddio ei lid ef, nac i droi heibio oddiwrthym nac i ochelyd creulondeb ei lid ef, a'r plaau a'r diſtryw y rhai trwy ei inion farn a appointiodd ef eu dwyn arnom.

Lle mae fe 'n dywedyd, Ond yn awr medd yr Arglwydd trowch attaf fi nid heb achos mawr y mae 'r Prophwyd yn dywedyd felly. O herwydd darfod iddo o'r blaen oſod allan yn halaeth echrydus ddial Duw yr hwn ni allai neb ei aros am hynny y mae 'n eu cyffro hwy i edifeirwch fel y mwynhaent drugaredd: megis pe dywedaſai, Ni fynnaf i chwi gymmeryd hyn fal pe na byddai ddim gobaith am râs: o blegid er i chwi haeddu am eich pechodau eich diſtrywio 'n gwbl, ac er i Dduw yn ei gyfion farn ordeinio danfon arnoch ddiſtrŷw mawr: etto yn awr a chwi haechen ar fin y cleddyf, os trowch chwi yn ebrwydd atto ef, fe a'ch derbyn chwi yn fwyn ac yn dirion iawn i'w ffafor ail waith.

Trwy hyn y'n rhebyddir ni nad yw edifeirwch vn pryd yn rhy hwyr, os bydd gwir a difrif. O blegid am fod yn galw Duw yn yr ſcruthyrau yn Dâd ini, yn ddiammau mae fe 'n dilyn natturiaeth a chyneddfau tadau mwyn trugarog, y rhai ni cheiſiant ddim yn gymmaint a throad a gwellhâd eu Luc. 15. 11. plant, fal y mae Chriſt yn dangos yn halaeth ynnammeg y mab afradlon. Onid yw yr Arglwydd ei hun yn dywedyd trwy y Prophwyd, Na fyn ef farwolaeth pechadur onid troi o hono oddiwrth ei Ezec. 18. 23. Eſai. 1. 17. anwiredd a byw. Ac mewn lle arall, Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn fel y maddeuo ini ein pechodau ac y'n glanhao ni 1. Ioan. 1. 9. oddiwrth bob anwiredd.

Ac fe gadarnheuir yr addewidion diddanus hyn trwy lawer o ſiamplau 'r ſcruthyrau. Pan dderbynnodd yr Iddewon a phan gafleidiaſant hwy yn ewyllyſgar gyngor iachus y Proph wyd Eſai, fe a eſtynnodd Duw yn y man ei law i'w cymmorth Eſa. 37 36. hwy, a thrwy law ei Angel fe a laddodd mewn vn noſwaeth y milwyr gwrolaf dewraf yn llu Senacherib. At yr hyn y gellir cyſſylltu Manaſſes, yr hwn yn ol pob rhyw ddrygioni melldigedig a drodd at yr Arglwydd ac efe a wrandawodd arno, ac a'i adferodd ef i'w frenhiniaeth ailwaith. Yr vn gras a ffafor a gafodd y wraig bechadurus Magdalen, Zacheus, y lleidr truan, a llawer eraill.

Yr holl bethau hyn a allant waſanaethu yn lle 2. Cro. 3. 13. ddiddanwch ini, yn erbyn profidigaeth ein cydwybodau, trwy y rhai y mae diawl yn ceiſio yſcydwyd neu yn hytrach ddiddymmu ein ffydd ni. O herwydd fe ddylai bob vn honom gymmeryd hyn atto ei hun a dywedyd, Etto tro yn awr at yr Arglwydd ac na phared coffadwriaeth dy fywyd o'r blaen i ti lwfrhau, ie po gwaethaf fu dy fywyd bydded dy edifeirwch a'th ymchwelad dithau difrifach a gwreſoccach ac yn y man y cei di weled cluſtiau 'r Arglwydd yn agored i'th weddiau.

Ond ſynnwn yn ddifrifach ar orchymmyn yr Arglwydd ynghylch y peth hyn. Trowch attaf, medd ef trwy y Prophwyd Ioel, a'ch holl galonnau, mewn ympryd, wylofain a galar. Rhwygwch eich calonnau ac nid eich dillad. Yn y geiriau hyn mae fe 'n cynnwys pob peth a ellir ei ddywedyd am edifeirwch. Yr hwn yw troad yr holl ddŷn at Dduw, odd wrth yr hwn y cwympodd ef trwy bechod.

Ond er mwyn gallel o honom yn well ddwyn gydâ ni yſtyr yr holl draethawd, ni a yſtyriwn yn gyntaf mewn trefn bedwar o brif byngciau: hynny yw, Oddiwrth ba beth y mae 'n rhaid ini droi, At bwy y mae 'n rhaid ini droi, A thrwy bwy y gallwn ni droi, A pha fodd y dylem droi at dduw. Yn gyntaf, o ba le neu oddiwrth ba bethau y mae 'n rhaid ini droi. Yn wir rhaid ini droi oddiwrth y pethau trwy y rhai y 'n attaliwyd, y'n tynnwyd, neu y'n arweinwyd ni oddiwrth Dduw, a'r rhai hyn yn gyffredinol yw ein pechodau ni, y rhai fal y teſtiolaetha y prophwyd ſanctaidd Eſai ſydd yn yſcar rhwng Duw a ninnau, ac yn cuddio ei wyneb ef oddiwrthym, fal Eſai 59. 2. na wrandawo arnom. Ond dan enw pechodau y cynhwyſir nid yn vnig y geiriau a'r gweithredoedd anfad y rhai a gyfrifir wrth gyffredin farn dynion yn frynton ac yn anghyffraithlon ac felly yn bechodau ffiaidd; onid hefyd gwyniau aflan a chwantau 'r cnawd oddifewn, y rhai, fel y dywaid S. Paul, a wrthhyfelant yn erbyn ewyllys Ruf. 7. ac Yſpryd Duw, ac am hynny a ddylaid yn ddifrif eu ffrwyno a'u cadw yn iſel. Rhaid ini edifaru am gau opinionau Amryfys. camſynnus, a fu gennym ni am Dduw, a'r ofergoel melldigedig ſydd yn tyfu o hynny, ſef addoli a gwaſanaethu Duw yn anghyfraithlon a'r fath bethau eraill. Rhaid i'r rhai a wir droant at yr Arglwydd ac a edifarhant yn inion, ymwrthod â'r holl bethau hyn. O herwydd am fod llid Duw yn cwympo o blegid y pethau hyn ar blant anufydd-dod, nid gwiw edrych am ddiwedd coſp, yr hŷd y bydo y pethau hyn yn Epheſ. 5. 6. parhau ynom. Am hynny y condemnir ymma y rhai a ddangoſant eu bod yn bechaduriaid edifeiriol, ac er hynny nid ymadawant a'u delw-addoliaeth a'u hofergoel. Yn ail rhaid yw ini edrych at bwy y dylem droi. Reuertimini vſ que ad me, medd yr Arglwydd, hynny yw, Trowch hyd attafi. Rhaid yw ini am hynny droi at yr Arglwydd, ie rhaid ini droi atto fe yn vnig, o herwydd efe yn vnig yw 'r gwirioned a ffynnon pob daioni. Ond rhaid ini ymegnio i droi hyd atto ef, ac na orphwyſom ni, ac nac arhoſſom chwaith, nesi ni ei gyrhaeddyd ef a chaell gafael ynddo. Ond rhaid yw gneuthur hyn trwy ffydd. O herwydd am fod Duw yn Yſpryd ni ellir mewn vn ffordd amgen ei gyrhaeddyd ef na chaell gafael ynddo.

Am hynny yn gyntaf maent hwy mewn amryfyſed mawr y rhai ni throant at Dduw ond at y creaduriaid neu at ddychymygion dynion, neu at eu haeddiant eu hunain.

Yn ail y camſynna y rhai a ddechreuant droi at yr Arglwydd ac a lewygant am hanner y ffordd cyn y delont at y marc a oſodwyd iddynt.

Yn drydydd, am nad oes gennym ddim o honnom ein hunain i anrhegu Duw, a'n bod mor barod i gilio oddiwrtho yn ol ein cwymp ac oedd ein hendâd Addaf, yr hwn gwedy iddo bechu a geiſiodd ymguddio o olwg Duw; rhaid yw ini wrth gyfryngwr i'n dwyn atto, i'n cymmodi ni ag ef yr hwn ſydd ddig wrthym am ein pechodau. Ieſu Griſt yw 'r cyfryngwr hwnnw, yr hwn ac yntef yn wir fâb naturiol Duw, gogyfuwch ac o vn annian â'i Dad, a gymmerodd arno ar yr amſer goſodedig, ein nattur wael ni ynghroth y fendigedig forwyn, a hynny o'i ſylwedd anllygredig hi, fal y byddai ef cyfryngwr rhwng Duw a ninnau ac y llynyddai ei lid ef.

Am dano efe y mae 'r Tâd ei hun yn llafaru Math. 3. 17. o'r nef gan ddywedyd, Hwn yw fy anwyl fâb yn yr hwn y'm bodlonwyd. Ac mae fe ei hun yn yr efengil yn gweiddi gan ddywedyd, myfi yw y ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dyfod at y Tâd ond trwyof fi. O herwydd efe Iohn 14. 6. yn vnig, ag aberth ei gorph a'i waed a wnaeth iawn i gyfiawnder Duw am ein pechodau ni. Ac mae 'r Apoſtolion yn teſtiolaethu i Dduw ei dderchafu ef, i roddi etifeirwch i Iſrael a maddeuant 1. Iohn 2. 2. 1. Pet. 1. 19. Act. 5. 31. o'u pechodau. Y ddau beth hyn a orchymynnodd ef ei hun eu pregethu yn ei enw ef. Am hynny mae y rhai a bregethant edifeirwch heb Griſt i'r diſyml a'r rhai ſydd heb wybodaeth, gan ddyſcu ei bod yn ſefyll yn vnig mewn gweithrredoedd dynnion, mewn amryfyſedd mawr. Maent hwy yn wir yn adrodd llawer o bethau am weithredoedd da, am wellhâd bywyd ac aferon, ond heb Griſt nid ydynt oll ond ofer ac anfuddiol.

Mae 'r rhai ſydd yn tybied iddynt wneuthur llawer tuag at etifeirwch, o gymmaint a hynny ymmhellach oddiwrth Dduw, am eu bod yn ceiſio yn eu haeddiant a'u gweithredoedd eu hunain y pethau a dylaid eu ceiſio yn ein Iachawdwr Ieſu Griſt yn vnig, ac yn haeddiant ei farwolaeth ef, ei ddioddeifaint a thywalltiad ei waed ef.

Yn bedwaredd, mae 'r prophwyd ſanctaidd hwn Ioel yn dangos yn eglur, pa fodd y dylaid troi neu etifaru, gan gynnwys yr holl bethau ac a ellir eu hyſtyried ymma oddi mewn neu oddiallan.

Yn gyntaf, fe a fyn ini droi at Dduw ân holl galonnau: trwy 'r hyn y mae fe 'n tynnu ymmaith ac yn troi heibio bob rhagrith, rhag gallu Eſai 29. 13. dywedyd hyn yn gywir wrthym ni, Y bobl hyn ſydd yn neſſau attaf â'u geneuau ac i'm anrhydeddu a'u gwefuſau, a phellau eu calon y maent oddiwrthyf.

Yn ail, mae fe 'n gofyn gwir a phur gariad tuag at Dduwioldeb a thuag at wir anrhydedd a gwaſanaeth Duw, hynny yw bod i ni ymwrthod â phob peth ac ſydd wrthwyneb ac yn erbyn ewyllys Duw, a rhoddi ein calonnau iddo ef a holl nerth ein cyrph a'n eneidiau, yn ol yr Deut. 6. 5. hyn a ſcrifennir yn y gyfraith, Ti a geru yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon â'th holl enaid, ac â'th holl nerth.

Ni adewir am hynny ini ddim ymma i'w roddi i'r byd ac i wyniau 'r cnawd. O herwydd mai y galon yw ffynnon ein holl weithredoedd ni, mae cynnifer ac ſydd yn troi at yr Arglwydd â'u holl galon yn byw yn vnig iddo ef. Ac nid oes neb yn etifaru yn gywir ſydd yn cloffi o'r ddau yſtlys, ac weithiau yn gwaſanaethu Duw, ond etto a dybygant fod yn gyfraithlon iddynt yn y man waſanaethu 'r byd a'r cnawd.

Ac o herwydd bod llygredigaeth naturiol ein cnawd ein hunain, a'i wyniau drygionus ef, yn ein rhwyſtro ni, mae fe yn gorchymmyn ini hefyd droi trwy ympryd: nid gan ddeall wrth hynny ryw ofergoelus ymmattal a dewis bwydau, ond gwir geryddu a dofi y cnawd, trwy yr hyn y tynnir ymmaith oddiwrtho ymborth gwyniau bryntion a rhyfig a balchedd cyndyn.

At ympryd y mae fe'n cydſylltu wylo a galaru, y rhai a gynhwyſant yndynt bob argoel etifeirwch oddi allan, ac anghenrhaid iawn ydynt, megis felly y gallom o ran oſod allan gyfiawnder Duw, wrth ein bod trwy hynny yn cyfaddef ein bod yn haeddu coſp ar ei law ef; ac o ran er attal y rhwyſtr a roeſom ni yn gyhoedd i'r gweiniaid. Fe welodd Dafydd hyn yn ddifai, yr hwn nid oedd ddigon gantho wylo a galaru yn ddirgel am ei bechodau, Pſal. 25. at 35. at 51. at 393. at 143. ond hefyd yn ei Pſalmau 'n gyhoedd fe fynegai ac oſodai allan gyfiawnder Duw yn coſpi pechod, ac a attaliai felly y rhai allaſent gamarfer ei ſiampl ef i bechu yn Hyfach. eofnach. Am hynny mae y rhai ni wnânt na chyfaddef a chydnabod eu pechodau na galaru amdanynt, ond yn hytrach a ymogoneddant ac a lawenychant yn anuwiol ynddynt, ym-mhellaf o gwbl oddiwrth wir etifeirwch.

Bellach rhag tybied o neb fod edifeirwch yn ſefyll yn vnig mewn wylo a galaru oddiallan, mae fe'n adrodd y peth y mae 'r cwbl yn ſefyll arno, pan ydyw yn ydywedyd, Rhwygwch eich calonnau ac nid eich dillad a throwch at yr Arglwydd eich Duw. O blegid arfer pobl y dwyrain oedd rwygo eu dillad pan ddigwyddei ddim anrhaith ei oddef iddynt. A hyn a ddynwaredai ac a ganlynai 'r hypocritiaid ryw amſer, megis pe bai etifeirwch cwbl yn ſefyll yn y fath ymddygiad oddiallan. Am hynny mae fe yn dangos fod yn gofyn ganddynt ryw beth arall, hynny yw, fod yn rhaid iddynt fod a'u calonnau gwedy eu rhwygo, fod yn rhaid iddynt ddygyn-gaſhau a ffieiddio pechodau, a chan ymwrthod â hwy yn gwbl rhaid iddynt droi at yr Arglwydd eu Duw, oddiwrth yr hwn yr aethant o'r blaen ymmaith. O herwydd nid y Ceremoni oddiallan a fodlona Duw, ond gofyn y mae ef galon ddrylliedig gyſtuddiedig yr hon ni ddiſtyra ef byth, fal y Pſal. 51. 17. teſtiolaetha y prophwyd Dafydd. Wrth hyn ni waſanaetha y Ceremoniau oddiallan i ddefnydd yn y byd ond cy belled ac y maent yn ein cyffroi ni, a chy belled ac y gwaſanaethant i ogoneddu Duw, ac i adail eraill.

Yn awr mae fe 'n cydſylltu a'r athrawaeth a'r annogaeth hon ryw reſymmau duwiol, y rhai y mae fe 'n goſod eu ſail ar nattur a chynneddfeu Duw, a thrwy y rhai y mae fe 'n dangos na ddichon gwir edifeirwch fod yn anfuddiol nac yn anffrwythlon. O herwydd megis ymhob peth arall y gloeſa ac y llewyga calonnau dynnion os gwybyddant eu bod yn llafurio 'n ofer: felly hefyd yn enwedig yn y peth hyn, rhaid ini ochelyd na oddefom ein perſwado nad yw 'r cwbl yr ydym ni yn ei wneuthur onid colli 'n poen. O herwydd o hynny y cyfyd naill ai anobaith diſymmwth, ai rhyfygus Hyfder. eofnder i bechu, yr hyn hefyd yn y diwedd ſydd yn tywys i anobaith.

Am hynny rhag digwydd iddynt y cyfryw beth, mae fe yn eu ſiccrhau hwy o râd a daioni Duw, yr hwn ſydd yn barod i dderbyn i'w ffafwr ailwaith y rhai a droant yn ebrwydd atto. Yr hyn y mae 'n ei Brofi. brwfo â'r teitlau, a'r enwau, â'r rhai y mae Duw yn ei ddeſcribio ei hun ac yn ei oſod allan wrth Moeſes gan ddywedyd yn y modd ymma: O herwydd graſlawn a thrugarog yw efe, hwyrfrydig, i ddigofaint ac aml o drugaredd, ac edifeiriol Exod. 34. 6. am ddrwg. Yn gyntaf mae yn ei alw ef yn raſlawn, cyfryw vn ac o'i nattur ei hun ſydd barottach i wneuthur daioni nac i goſpi. At yr hyn y mae 'n debyg fod ymadrod Eſai yn perthyn, Gadawed y drygionus ei fford, a'r gwr anwir ei Eſa 55. 7. amcanion, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymmer drugaredd arno, ac at ein Duw ni, o herwydd mae fe 'n barod iawn i faddeu.

Yn ail mae fe 'n dangos ei fod ef yn drugarog, neu yn hytrach, ynol y gair Hebrew, ymyſcaroedd trugaredd: trwy 'r hyn yr ar wydocceir ſerch naturiol tadau at eu plant. Yr hyn y mae Dafydd yn ei oſod allan yn dda iawn gan ddywedyd, fel y toſturia tâd wrth ei blant y toſturiodd Pſal. 103. 13. yr Arglwydd wrth y rhai a'i hofnant ef: canys fe adwaene ein defnydd ni, cofiodd mai llwch oeddem ni. Yn drydydd, mae fe 'n dywedyd ei fod ef yn hwyrfrydig i lid, hynny yw, yn dda ei ammynedd, ac nid annogir yn hawdd i lid.

Yn bedwaredd, ei fod ef yn aml o drugaredd: o herwydd efe yw ffynnon ddiwaelod pob daioni, yr hwn ſydd yn llawen gantho wneuthur daioni i ni. O'r achos hyn y creodd ac y gwnaeth ef ddynion er mwyn cael o hono rai i wneuthur daioni iddynt, ac i'w gwneuthur yn gyfrannogion o'i gyfoeth nefol.

Yn ddiwethaf, mae fe yn etifeiriol am ddrwg, hynny yw, mae fe 'n galw yn ol y goſp a fygythodd pan welo ef dynion yn edifaru, yn troi, ac yn gwellhau. Am hynny nid heb achos cyfion yr Nouatiani ydym ni yn caſhau ac yn ffieiddio opinionau melldigedig y rhai a geifiant yn annuwiol berſwado 'r diſyml a'r bobl ddiwybod, os digwydda ini yn ol dyfod vnwaith at Dduw a'n himpo yn ei fâb ef Ieſu Griſt, gwympo i ryw bechod erchyll, na bydd edifeirwch ond anfudd ol ini, nad oes mwy obaith cymmod, na chael ein derbyn ailwaith i ffafwr a thrugaredd Duw. Ac er rhoi lliw gwell ar eu hamryfyſedd enbaid echryſlon, hwy a arferant roi troſtynt y chweched ar ddegfed bennod o'r epiſtol at yr Hebreaid, a'r ail bennod o ail epiſtol Petr, heb yſtyriad nad yw yr apoſtolion yno 'n dywedyd am ein cwympau beunyddol ni, i'r rhai yr hyd y dygom gydâ ni y corph hwn o bechod, yr ydym ni yn gaethion: ond am gwympo oddiwrth Griſt a'i efengyl yn llwyr ac yn gwbl, yr hyn ſydd bechod yn erbyn yr Yſpryd Mat. 12. 13. Marc. 3. 28 glân, yn hwn ni faddeuir byth: am fod y cyfryw yn cwbl ymwrthod â'r hyn a wyddant ei fod yn wir, ac yn caſhau Chriſt a'i air, maent yn ei groſhoeli ac yn ei waiwar ef (i'w diſtryw annherfynol) ac am hynny yn cwympo i anobaith, ac edifarhau nis gallant.

Ac mai hyn yw gwir yſtyr glân Yſpryd Duw, mae 'n eglur wrth lawer o leoedd o'r ſcruthyrau y rhai a addawant i'r holl bechaduriaid gwir edifeiriol, ac i'r rhai a droant at yr Arglwydd eu duw â'u holl galon, bardwn rhâd a maddeuant o'u pechodau. Er Profi. prwfo hynny, fal hyn y darllen wn, Iſrael, medd y prophwyd ſāctaidd Ieremi; os troi di tro attaf fi medd yr Arglwydd: hefyd os rhoi heibio Ierem. 4. 1. dy ffiaidd-dra oddiger fymron, yna ni'th ſymmudir. Drachefn, geiriau Eſai yw y rhai hyn, Gadawed y drygionus ei ffordd, a'r gwr anwir ei amcanion, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymmer drugaredd arno, ac at ein Duw ni, o herwydd'y mae fe 'n barod iawn i faddeu. Ac mae 'r duwiol yn y prophwyd Oſee yn annog y naill y Oſea. 6. 1. llall yn y modd ymma, deuwch a dychwelwn at yr Arglwydd canys efe a ſclyfaethod, ac efe a'n iachâ ni, efe a darawodd, ac a'n meddyginiaetha ni.

Eglur a golau yw, y dylaid de all hyn am y rhai a fuaſent gydâ 'r Arglwydd vnwaith, ac a aethent oddiwrtho ef trwy eu pechodau a'u hanwireddau. O herwydd nid troi yr ydym at yr hwn ni buom gydag ef o'r blaen, ond yn hytrach dyfod yr ydym atto. Ond i bawb a droant at yr Arglwydd eu Duw yn ddiffuant y cynnygir yn hael ffafwr a thrugaredd Duw, er maddeuant o'u pechodau. O hyn y canlyn o anghenrhaid er i ni yn ol ein dyfod at Dduw a'n himpo yn ei fab ef Ieſu Griſt, Eccl. 7. 20. gwympo i bechodau mawrion, (o herwydd nid oes gwr cyfion ar y ddaiar yr hwn ni phecha, ac os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein 1. Ioan. 1. 8. twyllo ein hunain a'r gwirionedd nid yw ynom.) etto os cyfodwn ni ailwaith trwy edifeirwch, ac os â chyflawn frŷd ar wellau ein bywyd y ciliwn at drugaredd Duw, gan gymmeryd gafael ſiccr erni trwy ffydd yn ei fâb ef Ieſu Griſt, yno y mae gobaith an-nhwyllodrus y pardyna ac y maddeu efein pechodau ini, ac y derbynnir ni ailwaith ffafwr ein Tad nefol. Mae 'n ſcrifennedig am Ddafydd Cefais Ddafyd fab Ieſſe, glywith Act. 13. 22. 2. Sam. 7. fodd fynngalon yr hwn a gyflawnodd fy holl ewyllys, dymma clod duwiol i Ddafyd ſiccr yw hefyd ei fod ef yn credu yn ddiogel yr addewid a wnaethywyd iddo ynghylch i Meſſias, yr hwn a ddelai o'i had ef o herwydd y cnawd, a'i fod trwy 'r ffydd honno gwedy ei gyfiawnhau a'i impo yn ein Iachawdwr Ieſu Griſt oedd i ddyfod: ac etto fe gwympodd ar ol hynny yn echryſlon, gan wneuthur 2. Sam. 7. 16. godineb ffiaidd, a llofruddiaeth ddamnedig etto cyn gynted ac y criodd ef Peccaui, mi a bechais, 2. Sam. 11. 4. 14. at yr Arglwydd, fe a faddeuwyd iddo ei bechod 2. Sam. 12. 13. ac a'i derbyniwyd i ffafwr ailwaith.

Deuwn weithian at Petr, am yr hwn ni all neb ammau nad oedd ef gwedy ei 〈◊〉 ein Iachawdwr Ieſu Griſt, yn hin cyn idde ei wadu ef. Yr hyn a ellir ei brwfo 'n hawdd wrth yr atteh a Brofi. wnaeth ef yn ei enw ei hun, ac enw ei gymydeithion yr Apoſtolioni in Iachawdwr Chriſt, pan ddywad ef wrthynt, A fynnwch in wrthaw hefyd fyned ymmaith O Arglwyd, ebe •• , at bwy yr awn ni •• genniti y mae geirian y bywyd tragwyddol, Ioan. 6. 67. ac yr ydym ni yn credu ac yn gwybod mai tydi ydwyt Chriſt Mab y Duw byw. At 〈◊〉 y gellir cyſſylltu yr vn fath gyffes eiddo Petr lle y mae Chriſt yn rhoddi iddo y deſtiolaeth an-nwhy llodius hon. Gwyn dy fŷd ti Simon Mab Ionas canys nid cig a gwaed a ddatcuddiodd 〈◊〉 iti eithr fy nhad yr hwn ſydd yn y nefoedd. Mae 'r Math. 16. 17. geiriau hyn yn ddigon i brofi fod Petr gwedy ei gyfiawnhau eiſoes trwy ei ffydd fywiol hon yn vnig anedig Fab Duw o'r hon ffydd y gwnaeth ef gyffes mor odidawg ac mor gyhoedd. Ond onid ymwadodd ef a'i feiſtr ar ol hynny yn dra llwfr, er darfod iddo glywed gantho, Pwy bynnac a'm gwado fyngwydd dynion, minneu a'i gwadaf yntef yngwydo fy-nhad yr hwn ſydd yn y nefoedd. Etto er hyn cy gynted ac a llygaid wylofus a chalon alarus y cyduabu ef ei fai ac a ciliodd at drugaredd Duw frwy edifeirwch, gan ymaflyd ynddi a gafael ddiogal, trwy ffydd gadarn yn yr hwn a wadaſe fe mor gywilyddus, fe faddeuwyd ei bechodau, ac i ddiogelhau ac i ſiccrhau hynny, ni phallwyd iddo o'i le yn ei apoſtoliaeth. Ond edrychwch pa beth a ganlyn. Yn ol i'r vn Apoſtol ſanctaidd Act. 2. gyda 'r diſcyblon eraill ar ddydd Sulgwyn dderbyn yr yſpryd glan yn halaeth, fe wnaeth farmawr yn Antiochia gan ddwyn cydwybodau y ffyddloniaid i ammau wrth ei ſiampl ef, hyd oni orfu ar Pawl ei wrthwynebu ef yn ei wyneb, Gal. 2. 11. am nad oedd ef yn troedio yn iniawn at wirionedd yr Efengyl. A ddywedwn ni yn awr ddarfod e gau 〈◊〉 a'i gloi allan o ras a thrugaredd Duw, ac na ellid pardynn y troſeddiad hwnw, trwy 'r hwn y buaſe fe faen trangwydd i llawer? Na atto Duw ini ddywedyd felly. Ond fel na ddyger y ſiamplau hyn i mewn er mwyn ein eofnhau ni i bechu, gan ryfygu yn-nhurgaredd a daioni Hyſhau. Duw, ond er mwyn na byddo i ninnau os cwympwn trwy wendid y cnawd a phrofidigaeth y cythreui, i'r fath bechodau, anobeithio am drugaredd a daioni Duw felly niae 'n rhaid ini wilied a gochelyd na feddyli om yn ein calonnau, ac na chredom, y gallwn edifarhau yn iawn, a throi ac yr Arglwydd yn ffrwythlon, trwy ein nerth a'n grym ein hunain, O herwydd gwir yw hyn am bawb, Hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim. Ioan. 15. 5. Drachefn. Nid ydym ddigonol honom ein hunain 2. Cor. 3. 5. i feddylio dim da megis o hanom ein hunain. Ac mewn lle arall, Duw ſydd yn gweithio ynoch Philip. 2. 13. ewyllyſio a gweithredu o'i ewyllysds

Am hynny er darfod i Ioremi ddywedyd o'r blaen: Ieremi. 4. 1. Iſrael os troi di attafi, medd yr Arglwydd, etto ar ol hynny mae e 'n dewedyd Tro di fi o Arglwydd ac mi a droir o herwydd ti yw yr Arglwyd fyn-Nuw.

Ac am hynny mae 'r hen dad ••••• os yn traethu Ambro de vocatione gentium, li. 1. c. 9. yn oleu fod troad y galon at Dduw yn dyfod oddiwrth Dduw, fal y mae yr Arglwydd ei hun yn teſtiolaethu trwy ei Brophwyd gan ddywedyd, Ac mi a roddaf iti galon i'm adnabod i, mai myfi yw yr Arglwydd: ac hwy a fyddant bobl imi, ac mi a fyddaf eu Duw hwy: o blegid hwy a droant attafi a'u holl galon.

Wedi i ni yſtyried y pethau hyn yn dda, gweddiwn yn ddifrif ar y bywiol Dduw ein Tad nefol, ar fod yn wiw gantho trwy ei Yſpryd glân weithio gwir a diragrith edifeirwch ynom, fal yn ol llafur a phoen lluddedig y bywyd hwn y gallom fyw 'n dragwyddol gyda ei Fab ef Ieſu Griſt, i'r hwn y byddo pob clod a gogoniant yn oes oeſoedd, Amen.

¶ Yr ail rhan or bregeth am edifeirwch.

HYd hyn y clywſoch, fy ngharedigion; mor anghenrhaid yw athrawaeth edifeirwch, ac mor ddifrif trwy holl ſcruthyrau Duw, y gyrir hi arnom, ac y goſodir hi allan, cyſtadl gan yr hen Brophwydi a chan ein Iachawdwr Ieſu Griſt, a'i apoſtolion.

Ac yn gymmaint ac mai troad yr holl ddyn at Dduw yw hi, oddiwrth yr hwn yr ydym trwy bechod yn myned ymmaith: fe ddylaid marco ynddi y pedwar pwngc ymma. Hynny yw, o ba le, ac oddiwrth ba pethau y dylem droi, at bwy y mae n rhaid troi, a thrwy gyfryngiad pwy y dylaid gwneuchur felly, felly byddo 'n troad yn ffrwythlon: ac yn ddiwethaf oll pa fodd yr ymddygwn wrth droi, fal y byddo hynny buddioi ini ac y gallom fwynhau y peth yr ydym yn ei geiſio trwyddo.

Chwi a glywſoch hefyd, megis y mae opinionau y rhai a ballant ddawn edifeirwch i'r rhai yn ol eu dyfodiad at Dduw a'u himpiad yn ein Iachawdwr Ieſu Griſt, a gwympant trwy wendid y cnawd, heu brofedigaeth y cythrel, i ryw bechod mawr, câſ, yn enbaid ac yn echryſion: felly fod yn rhaid ini ochelyd na thybygom mewn modd yn y byd y gallwn o honom ein hunain ac o'n nerth ein hunain droi at yr Arglwydd ein Duw, oddiwrth yr hwn yr aethom ymmaith trwy ein drygioni a'n pechod.

Yn awr y dangoſir i chwi pa rai yw rhannau edifeirwch, a pha beth a ddylai ein cyffroi ni i edifaru, ac idroi at yr Arglwydd ein Duw yn ebrwydd.

Edifeirwch, fel y dywedwyd o'r blaen, yw gwir droad at Dduw, trwy 'r hyn y mae dynion yn ymadel yn hollol â'u delw-addoliad a'u drygioni, ac yn cofleidio trwy ffŷdd dduwiol gariad ac addoliaid y gwir Dduw yn vnig, ac yn ymroi i bob rhyw weithredodd da, y rhai a wyddont trwy air Duw eu bod yn gymmeradwy gantho.

Yn awr mae pedair rhan i edifeirwch, y rhai gwedi eu goſod ynghŷd a ellir eu cyffebybu i yſcol ferr, hawdd ei Dringo. thringad, ar hŷd yr hon y tringir o bwll-diwaelod diſtryw, i'r hwn y taflaſem ni ein hnnain trwy ein baiau beunyddol a phechodau trymmion, i gaſtell neu dŵr tragwyddol a didrangc Iachedwriaeth.

Y cyntaf yw dryllio 'r galon. O herwydd rhaid ini fod yn flin gennym o ddifrif am ein pechodau, a galaru a thriſtau 'n ddiragrith am ini trwyddynt hwy ddigio mor doſt, Dduw mor hael ac mor drugarog, yr hwn a'n carodd ni yn gymmaint ac y rhoddodd ef ei vnig anedig fâb i oddef marwolaeth chwerw, ac i dywallt anwyl waed ei galon er ein prynu a'n rhyddhau ni. Ac mae 'r galar a'r triſtwch hwn oddi fewn yn y galon am drymder pechod, os bydd ef difrif a diragrith, yn aberth i Dduw fal y teſtiolaetha y Prophwyd Dafydd, gan ddywedyd, Aberthau Pſal. 51. 17. Duw ydynt yſpryd drylliedig, calon ddrylliedig gyſtyddiedig o Dduw ni ddirmygi.

Ond er i hyn gymmeryd lle ynom, rhaid ini ddarllen a gwrando gair Duw yn ddyfal, yr hwn ſydd yn paentio yn oeleu gar bron ein llygaid ni, ein aflendid naturioll, a ffieidd-der ein bywydd pechadurus. O herwydd oni byddwn yn clywed yn gwbl faich ein pechodau, pa fodd y gallwn driſtau yn ddifrif am danynt? pa driſtwch attolwg, oedd mewn Dafydd am y goddineb 2. Sam. 12. a'r llofruddiaeth a wnelſe, cyn clywed o hono air yr Arglwydd trwy enau y Prophwyd Nathan? fal yn gellid dywedyd yn ddifai gyſcu hono ef yn ei bechodau.

Yr ydym yn darllen yn Actau 'r apoſtolion yn ol i'r bobl glwywed pregeth Petr eu cydbigo hwy Act. 2. 37. yn eu calonnau: Yr hyn byth ni buaſe oni baſai iddynt wrando pregeth Petr. Am hynny nid oes ond ychydig obaith am y rhai nid oes meddwl ganthynt nac am wrando nac am ddarllen gair Duw, y goſodant hwy eu traed nau gafaelion ar y ffon gyntaf o'r yſcol hon, ond yn hytrach ſoddi ddyfnach ddyfnach i bwll diwaelod diſtryw. O blegid os ydynt hwy ar vn amſer trwy bigad eu crdwybod, yr hwn ſydd yn eu cyhuddo hwy, yn clywed na galar na thriſtwch na thrymder oddifewn am eu pechodau, etto am fod arnynt eiſiau eli a diddanwch gair Duw yr hwn a ddiyſtyrant, ni bydd hynny ond modd a chyfrwng i'w dwyn hwy i lwyr anobaith yn hytrach na dim arall.

Yr ail yw gwir gyffes a chydnabod ein pechodau gerbron Duw, yr hwn trwyddynt hwy a ddigiaſom ni yn gymmaint, megis pe gwnai ef â ni yn ol ei gyfiawnder, yr haeddaſom fil o vffernau, pe gallai fod cynnifer. Etto os ni â chalon driſt ddrylliedig a wnawn ein cyffes ddiragrith at Dduw, fe faddeu ini yn rhwyddd ac yn rhâd, ac a ollwng dros gof ein holl anwireddau, ni, ac ni chofia honynt mwy.

At hyn y perthyn ymadrod goreuraid y Prophwyd Dafydd, lle mae fe 'n dywedyd yn y modd ymma. Cydnabyddaf fy-mhechod wrthit a'm han wiredd ni chuddiais: cyffeſaf yn fy erbyn fy anwireddau i'r Arglwydd, a thi a faddeuaiſt Pſal. 32. 5. boen fy-mhechod. Ac fal hyn y dywaid Ioan efengylwr, Os cyfaddefwn ein pechodau ffyddlon yw ef a chyfion, fel y maddeuo ef ini ein pechodau, ac y'n glanhao ni oddiwrth bob 1. Ioan 1. 8. anwiredd.

Yr hyn y ddylaid ei ddeall am y gyffes a wnair wrth Dduw. O herwydd y rhai hyn yw geiriau In Epiſtola ad Iuliannm comitem 30. S. Awſten: fe a ofynnir wrth gyfraith Dduw am y gyffes yr hon a wnair wrth Dduw, am yr hon y mae Ioan Sainct yn ſon, gan ddywedyd, Os cyfaddefwn ein pechodau ffyddlon yw ef a chyfion fel y maddeuo ini ein pechodau, ac y'n glanhao ni oddiwrth bob anwiredd. O blegid heb y gyffes hon ni faddeuir pechod. Hon am hynny yw 'r brif gyffes bennaf yr hon a orchymmyn ſcruthyrau a gair Duw ini ei gwneuthur, ac heb yr hon byth ni chawn bardwn a maddeuant o'n pechodau.

Yn wir mae heblaw hon ryw arall o gyffes, yr hon ſydd anghenrheidiol: ac am hon y mae S. Iaco yn dywedyd fal hyn, Cyfaddefwch eich Iaco 5. 26. beiau y naill i'r llall a gweddiwch tros eu gilydd fel y'ch iachaer: megis pe dywedai, Agorwch yr hyn a'ch doluria fel y caffoch ymwared. Ac fe a orchymmynnir hyn i'r hwn ſydd yn achwyn ac i'r hwn ſydd yn gwrando fod i'r naill ddangos ei ddolur i'r llall. Y gwir yſtyr yw hyn, y dylai y ffyddloniaid gydnabod eu baiau i'w gylydd trwy y rhai y cyfododd ac y tyfodd rhyw genfigen, caſineb, grwyth, neu falis rhyngthynt, fal y geller heddychu rhyngthynt megis brodur, heb yr hyn nid oes dim a wnelom ni a all bod yn gymmeradwy gan Dduw, fel y teſtiolaetha ein Iachawdwr Chriſt ei hun, gan ddywedyd, Os dygi dy rodd i'r allor, ac yno dyfod 'ith gof fod Math. 5 23. gan dy frawd ddim yn dy erbyn, gâd ti yno dy offrwm ger bron yr allor, a dos ymmaith, yn gyntaf cymmod a'th frawd, ac yno tyred ac offrwm dy rodd. Fe a ellir hefyd cymmeryd yr ymadrodd hwnnw fal hyn: y dylem ni gyfaddef ein gwendid a'n Egwanrwydd. eiddilwch vn i'w gilydd, fel wrth wybod gwendid eu gilydd y gallom gydweddio yn ddifrifach ar yr holl-alluog Dduw ein Tad nefol, ar fod yn wiw gantho bardynu ein gwendid ni er mwyn ei fâb Ieſu Griſt, ac na chyfrifo ef mo hono ini pan roddo ef i bawb yn ol eu gweithred.

Ac lle mae 'r gwrthwynebwyr yn gwyrdroi y lle hwn i faenteinio eu cyffes gyfrinachol ag ef, maent yn eu twyllo eu hunain ac eraill yn gywilyddus: o blegid pe deallid y tert hwn am gyffes gyfrinachol fe fydde yr offeiriaid mor rhwymedig i gyffefu eu baiau wrth wŷr llŷg a'r gwŷr llŷg i gyffefu wrth yr offeiriaid, ac os gweddio yw maddeu pechodau, yno wrth y lle hwn mae gan y llygion gymmaint o awdurdod i faddeu pechodau 'r offeiriaid ac y ſydd gan yr offeiriaid i faddeu pechodau 'r bobl.

Fe a welodd Iohannes Scotus, yr hwn hefyd a elwir Iohan. Scot in 4. ſenten. diſt. 17. queſt. 1. Duns, hyn yn ddifai, yr hwn a ſcrifenna fal hyn, nid ydwyf fi yn gweled i Iaco roddi y gorchymmyn hwn na'i oſod allan megis peth gwedy ei dderbyn gan Griſt. O blegyd yn gyntaf o ba le y cafodd ef awdurdod i rwymo 'r holl Eglwys, ac ef yn Eſcob o Ieruſalem yn vnig. Oni ddywedi di fod yr Eglwys honno yn y dechreuad yn fam Eglwys, ac felly ei fod ef yn Eſcob pennaf, yr hyn ni channiata eſcobaeth Rufain byth. Yſtyr yr ymadrodd am hynny yw, megis yn y geiriau hyn, Cyfeddefwch eich pechodau i'w gilydd: ſefannogaeth i oſtyngeidrwydd, trwy 'r hyn y myn ef ini gyfaddef yn gyffredinol i'n cymmydogion ein bod ni yn bechaduriaid, yn ol yr ymadrodd hwn, Os dywedwn ein bod heb bechod yr ydym yn ein twyllo ein hunain a'r gwirionedd nid oes ynom.

Ac lle maent hwy yn goſod ymadrodd ein Iachawdwr Ieſu Griſt wrth y gwhan-glwyfus, i Brwfo. brofi fod cyffes gyfrinachol yn ſefill ar air Duw Math 8. 4., Dos ac ymddângos i'r offeiriad, onid ydynt yn gweled ddarfod glanhau y gwhan-glwyfus o'i wahan-glwyf cyn i Griſt ei ddanfon ef at yr offeiriad, i'w ddangos ei hun iddo? Wrth yr vn rheſwm rhaid yw ein glanhau ni oddiwrth ein gwahan-glwf yſprydol, meddwl yr wyf fod yn rhaid maddeu ein pechodau ni, cyn delom i gyffeſu? Pa raid ini am hynny gyfrif ein pechodau ynghluſt yr offeiriad a hwy gwedy eu deleu eiſoes?

Am hynny y mae Ambros ſanctaidd ar yr 119. Ambros. Pſalm yn dywedyd yn dda iawn, Dos dangos dy hun i'r offeiriad. Pwy yw 'r gwir offeiriad ond yr hwn ſydd offeiriad tragwyddol yn ol vrdd Melchiſedech? Trwy 'r hyn y mae 'r tâd ſanctaidd yn deall gan fod gwedy newid yr offeiriadaeth a'r gyfraith, na ddylem ni gydnabod vn offeiriad arall, nac vn ymwared o'n pechodau onid ein Iachawdwr Aeſu Griſt, yr hwn ac ef yn ben Eſcob ſydd ag offrymmiad ei gorph a'i waed a offrymmodd ef vnwaîth ar allor y groes, yn dragywydd yn glanhau yn ffrwythlon y gwahanglwyf yſprydol, ac yn golchi ymmaith bechodau pawb ac a'u cyffeſant hwy yn gywir ac a ddauant atto ef.

Eglur a goleu yw nad oes ſail i'r gyffes hon yngair Duw, onid ê ni buaſai gyfraithlon i Nectarius Eſcob Conſtantinopol ar achoſion cyfion Sozomenes eccleſ. hiſt. lib. 7. cap. 16. ei thynnu hi ymmaith. O blegid pan gamarferir trwy ddrygioni dŷn, vn peth ac a ordeiniodd Duw, fe ddylaid tynnu ymmaith y camarfer a goddef y peth ei hun i aros.

A hefyd geiriau Sanct Awſtin yw y rhai hyn: Beth ſydd imi a wnelwyf a dynnion, fal y gwrandawent hwy fynghyffes i, fal pe gallent hwy iachau fynoluriau i? Rhyw o ddynion rhy ofalus am Lib. 10. confe cap. 3. wybod bywyd dynion eraill, a diog i wellau ac i emendio eu bywyd eu hunain. Paham y ceiſiant glywed gennifi pa ſut ydwyfi, pan na fynnant glywed gennit ti pa beth ydynt hwy? Apha fodd y gwyddont pan glywont fi yn adrodd am danaf fy hū, pa vn yr ydwyf ai dywedid gwir ai nid ydwyf? O blegyd na wyr vn dyn marwol pa beth y ſydd mewn dŷn ond yſpryd dŷn yr hwn ſydd ynddo?

Pe buaſid yn amſer Auguſtin yn arfer cyffes gyfrinachol, ni buaſe fe yn ſcrifennu fal hyn.

Am hynny na oddefwn arwain ein cydwybod at y gyffes hon, ond arferwn mewn ofn ac mewn echryd y wir gyffes a orchymmyn Duw yn ei air, ac yno yn ddiammau, fal y mae ef yn ffyddlon ac yn inion, fe faddeu ini ein pechodau, ac a'n glanha ni oddiwrth ein holl anwiredd.

Nid ydwyfyn dywedyd os trallodir cydwybod neb, na allant fyned at ryw gurat neu fugail dyſcedig, neu at ryw wr duwiol dyſcedig arall, a dangos iddo eu trallod a'r hyn ſydd yn blino eu cydwybod, fel y gallont dderbyn gantho eli iachus gair Duw. Ond mae 'n erbyn rhydd-did Chriſtionogawl rwymo neb i rifo ei bechodau, fal yr arferwyd cyn hyn yn amſer dallineb ac anwybod.

Y drydedd ran o edifeirwch yw ffydd, trwy 'r hon y cymmerwn afael ar addewidion Duw am bardwn rhâd a maddeuant o'n pechodau: a'r addewidion hyn a ſeliwyd ini â marwolaeth a thywalltiad gwaed ei fâb ef Ieſu Griſt: O blegid pa fudd a pha ennill a fyddai ini er bod yn driſt am ein pechodau, er galaru ac ochain am ini ddigio Tâd mor hael drugarog, neu gyfaddef ein baiau a'n camweddau er difrifed y gwnelir hynny, oni chredwn ni yn ſiccr a pherſwado ein hunain y maddeu Duw ini ein holl bechodau er mwyn ei fâb Ieſu Griſt, ac yr anghofia ef hwy allan o'i olwg.

Pwy bynnac am hynny a ddyſcant edifeirwch heb ffydd fywiol yn ein Iachawdwr Ieſu Griſt, nid ydynt yn dyſcu ini amgen edifeirwch nag edifeirwch Iudas, fal y gwna yr holl yſcolwyr, y rhai a dderbynniant yn inig y tair rhan hyn mewn edifeirwch, drylliad y galon, cyffes y geneu, a thaledigaeth gweithred. Ond mae 'r tri hyn yn etifeirwch Iudas, yr hwn mewn lliw oddiallan aeth ymhellach lawer nag edifeirwch Petr: O blegid yn gyntaf, yr ydym yn darllen yn yr efengyl fod Iudas mor driſt ac mor drwm, ie ei lanw ef felly ag ing a blinder meddwl, fel na alle aros byw yn y byd ymhellach. Oni wnaeth ef hefyd Math. 27. 5. cyn ymgrogi gyffes gyhoedd o'i fai gan ddywedyd, pechais gan fradychu gwaed gwirion? Ac yn wir yr oedd hon yn gyffes Hyf. eofn, yr hon a allaſai ei ddwyn ef i drallod mawr. O blegid trwyddi, fe haerodd ar yr archoffeiriaid a'r henuriaid dywallt gwaed gwirion a'u bod hwy yn llofruddiaid ffiaidd. Fe wnaeth hefyd ryw fath ar daledigaeth pan daflodd ef yr arian ailwaith iddynt.

Nid ydym ni yn darllen dim o'r fath beth ym-Mhetr er iddo ef wneuthur pechod mawr a bai blin, gan wadu i feiſtr. Yr ydym ni yn gweled ei fyned ef allan ac iddo wylo 'n chwerw; am yr hyn y mae Ambros yn ſcrifennu fal hyn, fe fu ddrwg De penitentia diſtinct. cap. Petrus gan Petr, ac fe a wylodd am iddo gamſynnaid megis dŷn: Mi a welafbeth y ddywad ef, mi a wn iddo ef wylo: yr ydwyf yn darllen am ei ddeigreu ef, ond nid ydwyf yn gweled pa iawn a dalodd ef.

Ond pa fodd y derbynniwyd y naill ailwaith i ras Duw a'i ffafwr, ac y gwrthodwyd y llall: ond am i'r naill trwy ffydd fywiol yn yr hwn a wadaſe efe, gymmeryd gafael ar drugaredd Duw, a bod y llall heb ffydd, trwy'r hyn yr anobeithodd ef am ddaioni a thrugaredd Duw.

Eglur am hynny a goleu yw, er difrifed y triſtaom ni am ein pechodau, y cydnabyddom ac y cyfaddefom hwy; etto ni bydd y cwbl o hyn oll onid cyfryngau a moddion i'n dwyn ni i lwyr anobaith, oni byddwn yn credu yn ddiogel y pardyna Duw ein Tâd nefol ni er mwyn ei fâb Ieſu Griſt, ac y maddeu ef ini ein holl faiau a'n camweddau, ac yr anghofia ef hwy yn hollol. Ac am hynny fel y dywedaſom o'r blaen, pwy bynnac ſydd yn dyſcu ini edifeirwch heb Griſt, ac heb ffydd fywiol yn-Nuwnhugaredd Duw, maent yn dyſcu yn vnig edifeirwch Cain neu Iudas.

Y pedwaredd yw gwellhau y bywyd, neu fywyd newydd yn dwyn allan ffrwythau teilwng o edifeirwch. O herwydd rhaid bod y gwir edifeirrol gwydy eu newid a'u ſymmud yn gwbl, rhaid iddynt fod yn greaduriaid newydd, nid oes Math. 3. 7. iddynt fod weithian yr hyn a oeddent o'r blaen. Ac am hynny dygwch ffrwythau addas i edifeirwch. Trwy hyn y dyſcwn, os chwenychwn lonyddu llid Duw, nad oes ini rhagrithio onid troi atto ef ailwaith trwy wîr a difreg edifeirwch, yr hyn a ellir ei adnabod ai fane gi trwy ffrwythau da, megis trwy arwyddion ſiccr anhwyllodrus.

Fe dafla y rhai ſydd o waelod eu calonnau yn adnabod en pechodau, ac yn wir ddrwg ganthynt am eu baiau, ymmaith bob rhagrith, ac a wiſcant am danynt wir oſtyngeiddrwydd ac iſelder calon, rii dderbynnant hwy yn inig feddig-yr enaid, ond hwy y chwenychant ef yn awyddus iawn. Nid ymmataliant hwy yn inig oddiwrth bechodau eu bywyd o'r blaen ac oddiwrth bob baiau brynton eraill, ond hefyd hwy a giliant rag eu holl achoſion hwy ac a'u gochelant ac a'u caſhant. Ac fel yr ymrhoeſant hwy o'r blaen i aflendid bywyd, felly o hyn allan hwy a ymrhoddant a phob dyfaldod i ddieniweidrwydd, bywyd pur, a gwir Dduwioldeb.

Mae ini yn lle ſiampol y Ninifiaid y rhai a'r bregeth Ionas ni chyhoeddaſant ympryd yn inig, a gorchymmyn i bawb oll wiſco ſachliain, ond hwy a droeſant hefyd oll o'u ffordd ddrygionus, ac Ionas. 3. 6. 7. oddiwrth anwireddau eu dwylaw. Ond vwchlaw pawb eraill godidawg yw hiſtori Zacheus. O blegid yn ol iddo ddyfod at ein Iachawdwr Chriſt, fe a ddy wad: Wele Arglwydd hanner fy ngolyd a rhoddaf i'r tylodion ac os dygum ddim Luc. 19. 8. oddiar neb trwy dwyll, mi ai talaf ar ei bedweredd.

Ymma y gwelwn yn ol ei edifeirwch nad oedd ef mwyach y gwr a fuaſe o'r blaen ond ei fod ef gwedy ei gwbl newid ai ſymmud: yr ydoedd ef cy belled oddiwrth barhau ac aros fyth yn ei drachwant awyddus, ac oddiwrth ddwyn dim ar neb yn gamweddus, fal yn hytrach yr ydoedd ef yn ewyllyſgar ac yn barod i wneuthur iawn i bawb ar a gwnelſe gam a hwy.

At hyn y gallwn gydſylltu y wraig bechadurus Luc. 7. 38. yr hon pan daeth at ein. Iachawdwr Chriſt a ollyngodd y fath ddeigrau aml, o'r llygaid drythyll hynny, a'r rhai y hudaſai hi lawer i ynfydrwydd, ac y golchodd hi o honynt ei draed ef y rhai a ſychodd a gwallt ei phen, o'r llygaid meddaf y rhai y arferaſe hi o'u goſod allan mor hoyw, gan wneuthur honynt rhwydau i'r diawl Trwy hyn y gallwn ddyſcu pa daledigaeth y mae Duw yn ei ofyn gennym, hynny yw beidio honom a drygioni a gwneuthur yr hyn a ſydd dda, ac os gwnaethom gam a neb ymhydyru a'n holl allu i wneuthur gwir iawn, gan ganlyn mewn hyn ſiampol Zacheus a'r wraig bechadurus honno, a chyngor Ioan fedyddiwr mab Zacharias, yr hwn a rhoddodd ef i'r rhai a geiſient gyngor gantho. Hwn oedd y penyd yr hwn a oſodai Griſt yn Ioan. 5. 13. gyfredinol a'r bechaduriaid. Dos na phecha mwyach.

Y penyd hwn ni allwn ni byth gyflawni hono, heb ei hyſpyſawl râs ef yr hwn a ſydd yn dywedyd, Hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim. Ioan. 15. 5. Ein rhan ni am hynny ar y lleiaf yw chwenychu ein iechyd a'n Iachadwraith ein hunain, a gweddio yn ddifrif ar ein Tad nefol ein cynnorthwyo ni ai Yſpryd ſanctaidd, fel y gallom wrando ar laferydd y gwir fygail a'i ganlyn ag vfydd-dod dyledus.

Gwrandawn laferydd holl-alluog Dduw, pan galwo ef ni i edifeirwch, na chaledwn ein calonnau, fel y gwna yr anghredadwy, y rhai a gamarferant yr amfer y mae Duw yn ei rhoddi iddynt i edifeirwch, ac a troant i barhau eu balchedd a'u diyſtyrwch am Dduw adyn, y rhai ni wyddont pa faint y maent yn tynnu digofaint Duw yn eu herbyn eu hunain, am galedrwydd eu calonnau, y rhai ni allant edifaru ar ddydd y dial.

Lle trofoddoſom ni gyfraith Duw, edifarwn, am gyfeiliorni oddiwrth Arglwydd mor ddaionus: Cyfaddefwn ein anheilyngdod ger ei fron ef, ac ymddiredwn gael am dano bardwn ynhrugaredd rhad Duw er mwyn Chriſt. Ac o hyn allan ymegniwn i rhodio mewn hywyd newydd, megis plant gwedy eu hail-eni, trwy 'r hyn y gogoneddwn ein Tad yr hwn ſydd yn y nef, ac y dygwn yn ein cydwybodau deſtiolaeth dda am ein ffydd. Er mwynhau felly yn y diwedd feddiant y bywyd tragwyddol, trwy haeddiant ein Iachawdwr, i'r hwny byddo mawl ac anrhydedd yn dragywydd, Amen.

¶ Y drydydd ran o'r bregeth am edifeirwch.

CHwi a glywſoch (bobl anwyl yn ein Iachawdwr Chriſt) adrodd wrthych yn y bregeth ddiwethaf, wir rhannau ac arwyddion edifeirwch, hynny yw drylliad y galon, a thriſtwch ein calonnau, a chyffes ddiffuaint yngeiriau ein gennauau ger bron Duw am ein bywyd a'nheilwng, a ffydd gadarn yn haeddiant ein Iachawdwr Chriſt am bardwn: a bwriad ynom ein hunain drwy ras Duw am ymwrthod a'n bywyd drwg o'r blaell, a chwbl droi at Dduw, i ogoneddu ei enw ef mewn bywyd newydd, ac i fyw yn drefnus ac yn garedig, er didddanwch ein cymydogion ym-hob unondeb, i fyw yn ſobr ac yn llednais ynom ein hunain, ac i arfer ymmattaliaeth a chymydrolder mewn gair a gweithred, a marwolaethu ein aelodau daiarol ymma a'r y ddaiar, Yn awr er ychwaneg erſwadaeth eich cyffro chwi i'r rhannau hyn o edifeirwch, mi a fanegaf i chwi rhyw achoſion a ddyle eich cyffro chwi i edifeirwch.

Y gyntaf yw gorchymmyn Duw yr hwn mewn cynifer le o'r ſcruthyrau ſanctaidd glan ſydd yn gorchymmyn ini droi atto fe. Oh medd ef wrth yr Iſraeliaid, dychwelwch meihion Iſrael at yr hwn y llwyr-giliaſoch oddiwrtho. Ac ailwaith Eſai 31. 6. dychwelwch dychwelwch oddiwrth eich ffordd ddrygonus, canys tŷ Iſrael paham y byddwch feirw? ac mewn lle arall mae fe 'n dywedyd trwy Ezech. 33. 11. enau ei Brophwyd Oſea: Ymchwel Iſrael at yr Oſea. 14. 1. Arglwydd dy Dduw: canys ti a ſyrthiaiſt trwy dy anwiredd dy hun.

Cymmerwch gyda chwi y geiriau hyn, a dychwelwch at yr Arglwydd a dywedwch wrtho ef maddeu di ein holl an wiredd cymmer ni yn ddaionus, a thalwn it loi ein gwefyſau. Mae ini yn yr holl leoedd hyn orchymmyn eglur gwedy i Dduw i rhoddi am ini droi atto ef.

Am hynny rhaid yw ini ochelyd, rhag, (a ni eiſoes trwy ein aml bechodau a'n anwiredd gwedy annog ac enynnu llid Duw yn ein herbyn) trwy dorri y gorchymmyn hwn ddyblu ein baiau a phenturu damnedigaeth ar ein pennau ein hunain, trwy ein pechodau a'n troſoddiadau beunyddol, trwy y rhai yr annogwn lygaid ei fawrhydi ef; Yr ydym ni haeddu yn dda pe gwnae ef a ni yn ol ei gyfiawnder ein troi ymmaith dros fyth fel na chaffom fwynhae ei ogoniant tragwyddol ef.

Pa faint fwy am hynny y haeddwn boenau tragwyddol vffern, os pan gelwer ni mor fwyn ailwaith yn ol ein gwrthrhyfel, a phan orchymmyner ini droi, ni wrandawn ar laferudd ein Tad nefol, onid treiglo fyth yn ol cyndynrwydd ein calonnau?

Yr ail achos yw addewidion diddanus peraidd y rhai a gydſylltodd yr Arglwydd ein Duw ni a'r gorchymmyn hwn, oi vnig drugaredd ai ddaioni. O blegyd nid yw ef yn dywedyd yn inig tro attafi o Iſrael: ond hefyd os troi di a rhoi heibio dy ffiaidd-dra Ieremi 4. 1. oddiger fymron, yna nith ſymmudir. Ac mae y geiriau hyn hefyd gennym yn y Prophwyd Ezechiel. Pa bryd bynnac y byddo edifar gan bechadur Eze ch. 18. ei bechod o ddyfnder ei galon mi a ellyngaf dros gof ei holl an wiredd ef medd yr Arglwydd, ac ni chofieir mwyach honynt. Fal hyn ein addyſcir ni yn gwbl y pardyna y maddeu ac yr anghofia Duw ein holl bechodau ni yn rad yn ol ei addewid, fel byth nad Ddanodir. edliwir hwy ini: os gan fod yn vfydd iw orchymynnion a chymeryd ein llithio gan ei addewidion peraidd ef, trown ni atto ef yn ddiffuaint.

Y pedwaredd achos yw brynti pechod, yr hwn yw 'r fath beth fel yr hyd y byddom yn aros ynddo ni all Duw na chaſhao ef ac na ffieiddio ef ni, ac ni ddichon bod vn gobaith y dawn ni byth i'r Ieruſalem newydd, oddieithr ein glanhau a'n puro oddiwrtho. A hyn ni bydd byth, oni thrown ni (gan ymwrthod a'n bywyd o'r blaen) a'n holl galon at yr Arglwydd ein Duw ac oni chiliwn ni at ei drugaredd ef a llwyr fryd gwellhau ein bywyd, a chymmeryd gafael ddiogel erni trwy ffydd yngwaed ei fab ef Ieſu Griſt.

Pe drwgdybiem fod vn aflendid ynom am yr hwn y byddai gaſ a ffiaidd gan y tywyſog daiarol yr olwg arnom: pa boen y gymmerem i ſymmud ac i droi hwnnw heibio? Pa faint fwy y dylem yn ddieſcaelus ac ar frys droi heibio 'n brynti aflan yr hwn ſydd yn gwahanu ac yn doſparthu rhyngom ni a Duw, ac yn cuddio ei wyneb ef oddiwrthym, fal na wrandawo ef o honom? Ac yn wir trwy hyn y Gwydys. gwis pa mor frwnt peth yw pechod, am na ellir ei olchi ef ymmaith mewn vn modd arall, onid trwy waed inig anedig Fab Duw, Ac oni chaſhawn hwnnw ai ffiaiddio o ddyfnder ein colannau, ac oni chiliwn rhagddo 'n ddifrif, er ein glanhau ni oddiwrth yr hwn y coſtodd i inig anedig Fab Duw ein Iachawdwr waed ei galon.

Mae Plato yn ſcrifennu mewn rhyw le, pe gallid gweled rhinwedd a llygaid corphorol, yr enynnid pawb yn rhyfedd iw charu hi: felly o'r gwrthwyneb, pe gallem weled a'n llygaid corphorol frynti pechod a'i aflendid, ni allem ni mewn modd yn y byd aros mo hono, ond ni a'i caſhaem ac a gochelem ef megis gwenwyn preſennol marwol. Mae addyſc amſer gwedy dangos ini mewn dynnion, gwedy darpho iddynt wneuthur rhyw fai mawr neu rhyw bechod ffiaidd brwnt, os daw ef vnwaith i oleuni, neu os digwydd iddynt ddechreu ymwrando ag ef, mae arnynt gymmaint gywilydd am fod eu cydwybod yn goſod brynti 'r weithred ymlaen eu llygaid hwy) na feiddiant edrych yn wineb vn dyn, llai o lawer y beiddiant ſefyll yngwydd Duw.

Yr achos bedwaredd yw anſiccrwydd a breuolder ein bywyd, am fod hwn o'r fath na wyddom ni y cawn ni fyw vn awr neu bedwaredd rhan i'r awr. Ac mae addiſc amſer yn dyſcu ini beunydd fod hyn yn wir, o achos bod yn gweled rhai ſydd yn awr yn llawen ac yn hoenus, ac weithiau yn cwmpnio ac yn cyfeddach gydâ eu cyfeillion, yn cwympo 'n farw yn yr heolydd, yn ddiſymmwth ac weithiau dan y Bwrddau. bordau gydâ eu bwyd. Fal y mae 'r ſiamplau hyn yn ofnadwy iawn ac yn dra-erchyll: felly y dylent ein cyffro ni i geiſio bod yn vn a'n barnwr nefol, fel y gallom a chydwybod da ymddangos ger ei fron ef, pa bryd bynnac y bô bodlon gantho alw am danom, pa vn bynnac ai yn ddiſmmwth ai mewn modd arall, o herwydd nid oes gennym vn ſcriſen ar ein bywyd mwy na chanthynt hwythau.

Ond fel yr ydym yn ſiccr mai rhaid ini farw, felly y mae 'r amfer y byddom farw yn a'nſertenol. O herwydd mae 'n heinioes ni yn ſefyll ar law Dduw, yr hwn pan mynno a dug hi oddiwrthym: Ac yn wir pan delo y Rhingill. ſwyddog vchaf yr hwn yw angau ni fyn ef vn pall, ond rhaid yw paratoi yn ebrwydd yn y modd y cyhwrddo ef a ni in preſentio ger bron gorſeddfaingc Duw, yn ol yr hyn a ſcrifennir le cwympo 'r pren pa vn bynnac ai tuar gogledd ai tuar gorllewyn yno y bydd efe. A'r hyn y cytuna geiriau Merthur Eccleſ. 11. 3. ſanctaidd Duw Sainct Cipryan gan ddywedyd, megis y caffo Duw di pan galwo ef yn dy ol, felly y barna ef di.

Canlynwn am hynny gyngor y gwr call lle mae fe 'n dywedyd, Na fydd hwyrfrydig i droi at yr Arglwydd: Ac nac oeda o ddydd i ddydd: O blegyd yn ddiſymmwth y daw digofaint yr Arglwydd, a thra y byddech di yn ddifraw i'th ddryllir, a thi a ddifethir yn amſer dialedd. A'r geiriau hyn yr ydwyf yn deiſif arnoch ei marco yn ddyfal, am eu bod yn goſod yn fywiol ymlaen eich llygaid ynfydrwydd llawer o ddynnion, y rhai gan gamarfer hir amunedd a daioni Duw, ni feddyliant am edifaru na gwella eu bywyd. Na ddil n medd ef dy ewyllys dy hun, a'th gryfder dy hun i rhodio yn ffordd dy galon dy hun. Na ddywed, pwy am daroſtwng i o herwydd fyngweithredoedd: o blegit yr Arglwydd gan ddial a ddial dy draha di. Ac na ddywed mi a bechais a pha driſtwch fu imi: o blegit mae 'r Arglwydd yn ymarhous eithr ni faddeu ef iti. Na fydd ddifraw o herwydd maddeuant, i chwanegu pechodau ar bechodau. Ac na ddywed, aml yw ei drugaredd ef, efe a faddeu luoſogrwydd fymhechodau i. O blegit trugaredd a digofaint a fryſſia gantho ef, a'i ddigofaint ef a orphywys ar bechaduriaid; fal pe dywedai, ydwyt ti yn grŷf ac yn gadarn? ydwyt ti yn ieuanc ac yn hoenus? oes genniti olud a chyfoeth y byd hwn? neu pan bechaiſt oni dderbyniaiſt goſp am hynny: na wnaed vn o'r pethau hyn di yn ddioccach i edifaru ac i droi at yr Arglwydd ar frys. O blegit yn-nydd coſp a dial diſymmwth ni chynnorthwyant honot: ac yn enwedig pan naill ai trwy bregethu gair Duw, ai ynte trwy ryw gynhyrfiad yr Yſpryd oddifewn, neu mewn rhyw fodd arall i'th alwir i edifeirwch, nac eſcaeluſa yr amſer y gynnigir iti, rhag pan dymnunech edifaru na cheffech râs i wneuhur felly.

O herwydd rhodd ddaionus Duw yw edifaru, ac ni chaniata fe honi byth i'r rhai gan fyw mewn diofalwch cnawdol a Watwarant. ſenna ei fygythau ef, ac a geiſio rheoli ei Yſpryd ef yn y modd y mynnont, fel pe bai ei weithredoedd a'i ddoniau ef yn rhwym wrth eu ewyllys hwy.

Yr achos bummed yw er gochelyd plaau Duw a chwbl ddiſtryw, y rhai trwy inion farn Duw a ſafant vwch bennau pawb o'r rhai ni throant at yr Arglwydd mewn modd yn y byd. Mi a'u rhoddaf hwy medd yr Arglwydd i drallod a drygfyd drwy holl deyrnaſoedd y ddaiar, yn wradwydd Ier. 24. 9. ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith ymhob mann lle y gyrrwyf hwynt. Ac mi a anfonaf arnynt y cleddyf, newyn a haint, nes eu darfod oddiar y ddaiar yr hon a roddais iddynt ac iw tadau. A phaham oedd hyn? Am galedu honynt eu calonnau ac am na throent hwy oddiwrth eu ffyrdd drygionus, nag ymwrthod a'r anwireddau y rhai oedd yn eu dwylo fal yr ymadawai gynddaredd llid yr Arglwydd oddiwrthynt.

Ond etto nid yw hyn yn ddim ymron anrhaith ei oddef a thragwyddol boenau tân vffernol, yr hwn y orfydd i bawb ei oddef ar y ſydd yn ei galedrwydd a'i galon ddiedifeiriol yn pentyru iddo ei hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a dadguddiad cyfiawn farn Duw, lle os edifarwn ni a bod yn ddrwg gennym oddifrif am ein pechodau, ac os trwy gwbl fwriad gwellhau ein bywyd y ciliwn ni at drugaredd Duw, ac os cymmerwn afael ddiogel erni trwy ffydd yn ein Iachawowr Ieſu Griſt, a dwyn ffrwythau teilwng o edifeirwch: ni thywallt ef yn vnig eiaml fendithion arnom yn y bywyd hwn, onid hefyd ar y dydd diwethaf yn ol llafur lluddedig y bywyd hwn, fe a'n gobrwya ni ag etifeddiaeth ei blant, yr hon yw teyrnas nefoedd, a bwrcaſwyd ini trwy farwolaeth ei fab ef Ieſu Griſt ein Harglwyd, i'r hwn gydâ'r Tad a'r Yſpryd glan y byddo pob moliant, gogoniant ac anrhydedd yn oes oeſoedd. Amen.

¶ Homili yn erbyn an ufydd-dod a gwrthryfelgarwch.
Y rhan gyntaf.

MEgis yr appwyntiodd Duw creawdr ac Arglwydd pob peth ei angelion a'i nefol greaduriaid i waſanaethu ac i anrhydeddu ei fawrhydi ef: felly yr oedd ei ewyllys ef ar fod i ddyn, ei greadur pennaf ef ar y ddayar, fyw mewn vfyddod i'w greawdwr a'i Arglwydd: ac am hynny er cynted y darfu i Dduw greu dŷn, fe a roddodd iddo orchymmyn a chyfraith, yr hon, ac ef etto mewn ſtât diniweidrwydd ac yn trigo ym-mharadwys, a fydde raid iddo ei chadw, megis gwyſtl ac arwydd o'i ddyledus a'i rwymedig vfydd-dod: ac a gyhoeddodd farwolaeth arno os efe a droſedde ac a dorre y gyfraith a'r gorchymmyn hwnnw. Ac fel y mynnai Dduw i ddŷn fod yn ddaroſtyngedig vfydd iddo ef, felly y gwnaeth ef holl greaduriaid dayarol yn ddaroſtyngedig i ddŷn, y rhai a gadwaſant eu dlyedus vfydddod i ddŷn, yr hŷd yr arhôſodd dŷn mewn vfydddod i Dduw: a phe buaſei ddŷn yn aros yn waſtad yn yr vfydd-dod hynny, ni buaſei na thlodi, na chlefydau, na heintiau, nac angeu na dim o'r blinderau eraill y cyſtuddir ac y gorthrymmir dynion â hwy yn awr mor âfrifed ac mor dôſt.

Felly ymma y gellir gweled dechreuol lywodraeth Duw goruwch dynion ac angelion, ac yn gyffredinol ar bob peth; a llywodraeth dŷn ar greaduriaid y ddayar, y rhai a wnaeth Duw yn ddaroſtyngedig iddo ef: a hefyd y dedwyddwch a'r cyflwr gwynfydedig y buaſai angylion a dynion a'r holl greaduriaid ynddo, ped arhoſaſent yn eu dledus vfydd-dod i Dduw eu brenhin: o blegid yn y frenhinol lywodraeth gyntafhyn, yr hyd yr arhoſodd y deiliaid mewn dledus vfydd-dod i Dduw eu brenhin; yr hŷd hynny y dangoſodd Duw tu ag at ei holl ddeiliaid ei gariad a'i ffafor a'i ras, mwynhau y rhai ſydd berffaith ddedwyddwch: wrth yr hyn y mae yn eglur mai vfydd-dod yw 'r rhinwedd bennaf o'r holl rinweddau, ie a gwreiddyn pob rhinwedd, ac achos pob dedwyddwch. Ond megis y parhauſe pob dedwyddwch a gwynfyd, pe buaſe vfydd-dod yn parhau: felly pan dorrwyd vfydd-dod, a dyfod anufydd-dod a gwrthryfel i mewn, fe a ddaeth pob pechod a thrueni i mewn gydâ 'n hwy, ac a oreſcynnaſant y bŷd. Awdur cyntaf yr anufydd-dod a'r gwrthryfel ymma, gwreiddyn pob drygioni, a mam pob aflwydd, oedd Lucifer, yr hwn ar y cyntaf oedd odidog greadur Duw, a'i rwymediccaf ddeiliad, ac am wrthryfelu yn erbyn mawrhydi Duw, a aeth o angel diſclair gogoneddus, yn ddiafol ac yn gythraul duaf a haccraf i gŷd; ac a gwympodd o vchder nef, i bwlla gwaelod vffern. Yma y gellwch weled awdur cyntaf a dechreuwr gwrthryfel a'i gobrwy: ymma y gellwch weled pennadur a thâd gwrthryfel, yr hwn wrth berſwadio ein rhieni ni Adda ac Efa i gālyn ei anufydd-dod a'i wrthryfelgarwch ef yn erbyn Duw eu creawdwr a'u harglwydd, a'u dug hwy tan fawr ſorriant ac anfodd Duw, a barodd eu deol a'u hafwladu hwy allan o baradwys, cyfle pob hyfrydwch a daioni, i'r ddaiar flinderog hon, dyffryn pob trueni, ac a barodd iddynt gael gofidiau yn eu meddyliau, aflwydd, clefydau, heintiau ac angau yn eu cyrph: a'r hyn ſydd erchyllach ac ar uthrach nâ 'r holl drueni bydol corphorol, fe a weithiaſai wrth hynny dragwyddol a didrangc angau a cholledigaeth iddynt hwy, oni buaſe fod i Dduw trwy vfydd-dod ei fâd Ieſu Griſt adferu ac adcyweirio yr hyn a ddarfuaſe i ddŷn wrth ei anufydd-dod a'i wrthryfelgarwch ei ddiſtrywio, ac oni buaſe iddo felly o'i drugaredd ei bardynu ef a maddeu iddo: o'r holl bethau hyn a phob vn o honynt y mae 'r Scrythur lân yn teſtiolaethu mewn amryw leoedd: fel hyn y gwelwch na allai na'r nêf na pharadwys oddef anufydddod a gwrthryfel ynddynt, ac nad ydynt leoedd i anufyddiō gwrthryfelgar i arhos ynddynt. Fel hyn y gwelwch mai anufydd-dod a gwrthryfelgarwch yw 'r pechod cyntaf a'r mwyaf, a gwreiddyn yr holl bechodau eraill, a'r achos cyntaf a'r pennaf o bob trueni, gofidiau, clefydau, heintiau ac angau bydol corphorol, a'r hyn ſydd waeth nâ'r rhai hyn oll fel y dywetpwyd, gwirachos anghau a cholledigaeth dragwyddol hefyd.

Yn ôl torri vfydd-dod fel hyn tu ag at Dduw, a gwrthryfela yn erbyn ei fawrhydi ef, a dyfod pob afl wydd a thrueni i mewn gyda hynny, a goreſcyn y byd, rhag llwyr ddifetha a dinyſtro pob peth, fe a adferodd ac a atcyweiriodd Duw eilwaith, trwy gyfreithiau a roddodd ef i ddynion, reol a threfn vfydd-dod yr hon a ddymchwelaſid fel hyn trwy wrthryfel; ac heb law 'r vfydd-dod ſy ddyledus i'w fawrhydi ef, fe a ordeiniodd nid yn vnig mewn teuluoedd a thylwythau fod y wraig yn vfydd i'w gŵr, y plant i'w rhieni, y gweifion i'w meiſtred: ond hefyd pan amlhaodd dynion ac ymwaſcaru yn helaethach tros yr holl fŷd, fe a oſododd ac a ordeiniodd yn ei air ſanctaidd fod ym-mhob dinas ac ym-mhob gwlâd amrafael lywodraethwyr a rheolwyr yſpyſol, i'r rhai y bydde raid i'r rhan arall o'i bobl ef fod yn vfydd.

Megis wrth ddarllen yr Scrythur lân y gallwn weled mewn llawer iawn, ac agos mewn aneirif o leoedd yn yr hên deſtament ac yn y newydd, fod brenhinoedd a thywyſogion, yn gyſtal y rhai drwg a'r rhai da, yn teyrnaſu trwy ordinhâd Duw, a bod eu deiliaid yn rhwymedig i vfyddhau iddynt: a bod Duw yn rhoddi i dywyſogion ddoethineb a gallu ac awdurdod mawr: fod Duw yn eu hymddiffyn hwy yn erbyn eu gelynion, ac yn diniſtr eu gelynion hwy yn ofnadwy: Pro. 28. 14. fod ofn y brenhin megis rhuad llew ieuangc, a'i lid ef megis cennadon angau, a bod y neb a'i cyffrô ef Pro. 20. 2. i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun: a llawer o bethau eraill ynghylch awdurdod tywyſogion, a dyled-ſwydd deiliaid.

Ond ymma adroddwn ddau le hyſpyſol allan o'r teſtament newydd, y rhai a all ſefyll yn lle 'r cwbl eraill. Y cyntaf allan o epiſtol S. Paul at y Rhufeiniaid yn y drydydd bennod ar ddeg, lle mae efe yn ſcrifennu fel hyn at bob deiliaid, Ymddaroſtynged Rom. 13. 2. pob perchen enaid i'r awdurdodau goruchaf am nad oes awdurdod ond oddiwrth Dduw, a'r awdurdodau y ſydd, gan Duw y maent wedi eu hordeinio. Am hynny pwy bynnag ſydd yn ymoſod yn erbyn yr awdurdod, ſydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw, a'r rhai a wrthwynebant a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. Canys tywyſogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i'r rhai drwg. A fynni nad ofnech y gallu? gwna 'r hyn ſydd dda, a thi a gei glod gantho. Canys gwaſanaethwr Duw ydyw, er llês i ti: eithr os gwnei 'r hyn ſydd ddrwg, ofna, am nad yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: canys gweinidog Duw yw efe, i ddial llid ar yr hwn a wnelo ddrwg. O herwydd pa ham anghenrhaid yw ymddaroſtwng, nid yn vnig o herwydd llid, ond er mwyn cydwybod. Canys am hynny y telwch deyrnged: O blegid gwaſanaethwyr Duw ydynt yn ymroi i'r peth ymma. Telwch gan hynny i bawb eu dledion: teyrnged i'r neb y byddo arnoch deyrnged: toll i'r hwn y byddo arnoch doll: ofn i'r hwn y byddo iawn bod ofn, parch i'r hwn a ddyle barch. Dyna etriau S. Paul.

Yr ail lle iydd yn epiſtol cyntaf S. Petr yn yr ail bennod, a'i eiriau ef yw y rhai hyn. Ymddaroſtyngwch 1. Pet. 2. 13. i bob dynol ordinhâd er mwyn yr Arglwydd, ac i'r brenhin fel i'r goruchaf, ac i'r llywiawd-wyr fel i'r rhai trwyddo ef a ddanfonir er dialedd i'r rhai drwg ac er mawl i'r rhai da. Canys felly y mae ewyllys Duw, fel y galloch trwy wneuthur yn dda oſtegu anwybodaeth dynion ffolion. Megis yn rhyddion, ac nid fel rhai yn cymmeryd rhydd-did yn lle cochl malis, eithr fel gwaſanaeth-wyr Duw. Perchwch bawb: cerwch gydymdeithas brawdol: ofnwch Dduw, anrhydeddwch y brenhin. Gweinidogion, ymddaroſtyngwch mewn pob ofn i'ch meiſtred, nid yn vnig i'r rhai da cyweithas, eithr i'r rhai anghyweithas hefyd. Hyd hyn allan o S. Petr.

Wrth y ddau le hyn o'r Scrythur lân y mae yn eglur ddigon fod brenhinoedd a brenhineſau a thy wyſogion eraill (oblegid am a wdurdod a gallu y mae efe yn dywedyd, pa vn bynnag y bo ai mewn gwŷr ai mewn gwragedd) wedi eu hordeinio gan Dduw, ac y dylai eu deiliaid vfyddhau iddynt a'u hanrhydeddu: fod y cyfryw ddeiliaid ac ſydd anufyddion a gwrthryfelgar yn erbyn eu tywyſogion, yn anufyddion i Dduw, ac yn annog eu damnedigaeth eu hunain: fod llywodraeth tywyſogion yn ddawn mawr oddiwrth Dduw wedi ei roddi er llês i'r wlad, yn enwedig i'r daionus a'r duwiol: er mwyn cyſſur a diddan wch y rhai y mae Duw yn rhoi ac yn dyrchafu tywyſogion: ac o'r gwrthwyneb, er ofn a choſpedigaeth i'r rhai drŵg a'r annuwiol.

Yn ddiweddaf, os dylai weiſon vfyddhau i'w meiſtred, nid yn vnig os byddant cyweithas, ond er eu bod yn anghyweithas hefyd: felly, ac yn hytrach o lawer, y dylyai ddeiliaid fod yn vfydd, nid yn vnig i'w tywyſogion da cyweithas, ond hefyd i'r rhai llym-doſt creulon.

Am hynny nid o ddamwain a thynghedfen (fel y galwant hi) nac o vchelfryd gwŷr neu wragedd bydol yn dringo o honynt eu hunain i arglwyddiaethu, y digwydd bod brenhinoedd a brenhineſau a thywyſogion a llywodraeth-wyr eraill ar bobl a fo deiliaid iddynt: ond y mae pob brenhinoedd a brenhineſau a llywiawdwyr eraill wedi eu happwyntio yn hyſpyſol gan ordinhâd Duw. Ac megis y mae Duw ei hun, yr hwn ſydd o fawrhydi a gallu a doethineb anfeidrol, yn rheoli ac yn llywodraethu pob peth yn y nef ac yn y ddayar, megis pengoruwch ac vnig frenhin ac ymmerodr ar y cwbl, am ei fod ef yn vnig yn gallu dwyn a chymmeryd arno ofal a chur tros y cwbl: felly yr appwyntiodd, y goſododd ac yr ordeiniodd ef dywyſogion dayarol ar deyrnaſoedd hyſpyſol ac arglwyddiaethau yn y ddayar, er mwyn gwachelyd pob ymgymmyſc ac anllywodraeth, y rhai a fyddent yn y bŷd, pettai heb lywodraethwyr; ac er mawr lonyddwch a lles i ddynion dayarol eu deiliaid hwy: a hefyd fel y gallai y tywyſogion eu hunain, mewn awdurdod, a gallu a doethineb a rhagddarbod aeth a chyfiawnder yn llywodraethu eu pobl a'u gwledydd a roddwydd tan eu gofal hwynt; fod yn gyffelybiaeth o'i nefol lywodraeth ef, hyd y galler arwyddoccau a dangos chyffelybrwydd o fawrhydi pethau nefol, trwy waeledd pethau dayarol. Ac o blegid y gyffelybſaeth honno ſydd rhwng vnig lywiawdwr nef, a theyrnaſoedd dayarol a lywodraether yn dda, mae ein Iachāwdwr Chriſt mewn amryw ddammegion yn dywedyd, Mat. 18. 23. & 22. 2. fod teyrnas nef yn debyg i ddyn a oedd frenhin: ac fel yr ydys yn fynych yn yr Scrythur lan yn rhoi enw brenhin i Dduw; felly y mae 'n wiw gan Dduw ei hun yn yr vn Scrythyrau wneuthur tywyſogion dayarol yn gyfrannogion o'i enw yntef, a'u galw hwy yn Dduwiau: a diāmau mai o blegid y cyffelybrwydd llywodraeth y ſydd neu a ddylei fod rhyngthynt a Duw eu brenhin, y mae efe yn gwneuthur hynny.

A pho neſſaf at gyffelybiaeth llywodraeth nefol y delo tywyſog dayarol yn ei lywodraeth, mwyaf dawn trugaredd Duw yw efe i'r wlâd a'r bobl y byddo efe yn teyrnaſu arnynt: a pho pellaf yr elo tywyſog dayarol oddiwrth ſiampl y llywodraeth nefol, mwyaf pla digofaint Duw, a choſpedigaeth cyfiawander Duw yw efe i'r wlâd a'r bobl, y rhai o herwydd eu pechodau y goſododd Duw y cyfryw frenhin a llywodraethwr arnynt. O blegid y mae yn eglur wrth yr Scrythyrau a pheunydd trwy addyſc amſer fod maentaenio pob rhinwedd a duwioldeb, ac o hynny dedwyddwch a llyddiant teyrnas a phobl, yn ſefyll yn fwy ar dywiſog doeth daionus, nag mewn lliaws mawr o wyr eraill a fo deiliaid: ac o'r gwyrthwyneb, y mae cwymp pob rhinwedd a duwioldeb, ac o hynny adfail a llwyr ddiniſtr teyrnas a phobl, yn tefu ac yn dyfod yn fwy oddiwrth lywodrethwr dibwyll drwg, nag oddiwrth lawer milo wyr eraill a fo deiliaid.

Fel hyn y dyweid yr Scrythur lân, Gwyn dy fyd di y deyrnas, medd y pregethwr, ſydd a'th frenin wedi Pre. 10. 17. ei eni o bendefigion, a'th dywyſogion yn bwytta eu bwyd yn eu hamſer, er cryfder ac nid er diotta. A thrachefn, Brenhin doeth cyfiawn ſydd Diaur. 16. 29. 4 Eccleſ. 10. Eſai 32. 12. yn cyfoethogi ei deyrnas a'i bobl: a brenhin daionus, trugarog, rhadlon ſydd megis ymguddfa rhag gwynt, a lloches rhag llifeiriant, megis afonydd dyfroedd mewn ſychder, megis cyſcod craig fawr mewn tir ſychedig. A thrachefn y mae 'r Scrythyr lan am dywyſogion dibwyll drygionus yn dywedyd fel hyn, Gwae di 'r wlad ſydd a bachgen yn frenhin i ti, a'th dywyſogion yn bwytta yn foreu. A thrachefn, Pan fytho 'r annuwiol Preg. 10. 16. yn llywodraethu, y bobl a ocheneidiant. A thrachefn, Tywyſog angell a ddinyſtria 'r bobl, Diau. 28. Diaur 29. 2. a brenhin cybydd a anrheithia ei ddeiliaid.

Fel yn y dywaid yr Scrythyrau, fel hyn y tyſtiolaetha amſer am dywyſogion da a drŵg.

Pa beth wrth hynny a wna deiliaid? Ai vfyddhau a wnant i dywyſogion dewr, gwrol, doeth, daionus, a dirmygu ac anufyddhau a gwrthryfela yn erbyn bechgyn a fo yn dywyſogion iddynt, ac yn erbyn llywodraethwyr dibwyll drygionus? Na atto Duw. O herwydd peth peryglus enbaid fydde rhoi ar ddeiliaid farnu pa dywyſog ſydd ddoeth a duwiol, a'i lywodraeth yn dda, a pha dywyſog nid yw felly: megis pe galle 'r droed farnu 'r pen: rhyfyg echryſlon fydde hynny, ac ni all amgen na magu gwrthryfelgarwch. O blegid pwy ſy mor barod ac mor hyblyg i wrthryfela, ac yw y cyfryw yſprydion vchelfryd? O ddiwrth bwy y daw y cyfryw gwymp anferth ar deyrnaſoedd? Ond mwyaf echrys ac all fod yw gwrthryfel? a phwy ſy barottaf i'r drygau mwyaf, ond y dynion gwaethaf? wrth hyny gwrthryfelwyr, y rhai gwaethaf o'r holl ddeiliaid, ſydd barottaf i wrthryfel, y gwaethaf o'r holl feiau, a phellaf oddiwrth ddledſwydd deiliad da: megis o'r gwrthwyneb, y deiliaid goreu ſydd gadarnaf a dian wadalaf mewn vfydddod, megis y rhinwedd oreu a phennaf ar ddeiliaid da. Wrth hynny mor an-nheilwng o beth fydde wneuthur y deiliaid gwaethaf a hyblyccaf i wrthryfel a phob drygioni, yn farnwyr ar eu tywyſogion, ar eu llywodraethwyr ac ar eu cynghorwyr, i farnu pa rai o honynt ſydd dda ac a ellir eu goddef, a pha rai ſydd ddrŵg ac mor anhawdd eu goddef ac y mae yn anghenrhaid eu rhoi nhwy heibio gan wrthryfelwyr, y rhai ſydd bob amſer yn barod, megis y deiliaid gwaethaf, i wrthryfela yn gyntaf yn erbyn y tywyſogion goreu, yn enwedig os ieuaingc fyddant mewn oedran, os gwragedd fyddant, os byddant tirion a chyweithas yn eu llywodraeth; o blegid eu bod yn gobeithio wrth eu drygionus hyder y gallant yn hawdd oreſcyn eu gwendid a'u tirionder hwy; neu o'r hyn lleiaf y gallant ofni meddyliau y cyfrwy dywyſogion yn gymmaint, fel y caffont ddiangc yn ddigoſp am eu gweithredoedd echryſlon.

Ond gan fod y gwrthryfelwr goreu yn waeth na'r tywyſog gwaethaf, a gwrthryfel yn waeth na llywodraeth waethaf y tywyſog gwaethaf a fu erioed etto: y mae gwrthryfelwyr yn weinidogion anghynnhefur, a gwrthryfel yn feddyginiaeth anaddas afiachus i ddywygio dyffygion bychain mewn llywodraeth, gan fod y cyfryw ymwaredau drygionus yn waeth o lawer nag vn clwyf neuan-nrhefn ac a all bod ynghorph y deyrnas. Ond pa beth bynnag a fo y tywyſog neu ei lywodraeth, mae yn eglur fynychaf am y cyfryw dywyſogion ac y bo rhai o'u deiliaid yn tybied eu bod yn dduwiol iawn, ac yn llawen ganthynt fyw tan eu llywodraeth hwy, fod eraill o'u deiliaid yn tybied fod yr vn tywyſogion yn ddrwg ac yn annuwiol, ac am hynny yn ewyllyſio cyfnewid.

Am hynny pe bai bob deiliaid ac ſydd anfodlon i'w tywyſog yn gwrthryfela yn ei erbyn, ni bydde vn deyrnas byth heb wrthryfel ynddi. Cymmeſurach fydde i wrthryfelwyr wrando ar gyngor y doethion, a rhoi lle i'w barn hwy, a chanlyn ſiampldeiliaid vfyddion, megis y mae yn rheſymmol bod i'r rhai y mae 'r cyfryw wyniau drwg wedi dallu eu meddyliau, roi lle i'r rhai a fo o ſynwyr a barn ddifreg, a bod i'r rhai gwaeth af roi lle i'r rhai goreu: ac felly y galle deyrnaſoedd barhau mewn hir vfydd-dod, heddwch a llonyddwch.

Ond beth os bydd y tywyſog yn angall ac yn ddrwg yn ſiccr, a bod yn amlwg hefyd yngolwg pob dŷn ei fod ef felly? Yr wyf finneu yn gofyn, beth os o achos drygioni ei ddeiliaid y mae'r dywyſog yn angall ac yn ddrwg? A annog y teiliaid trwy eu hanwireddau Dduw i roi iddynt, er eu coſpi yn deilwng, dywyſog angall drŵg, a chwedy hynny gwrthryfelu yn eu erbyn ef, ac yn erbyn Duw hefyd yr hwn er coſpedigaeth arnynt am eu pechodau, a roes iddynt y cyfryw dywyſog?

A fynnwch chwi glywed yr Scrythur lân ynghylch hyn o beth? y mae duw, medd yr Scrythau O •• e 13. 11. lan, yn peri i'r annuwiol deyrnaſu o blegid pechodau'r bobl. A thrachefn, rhoddaf it frēhin yn fy nîg (vn drwg y mae yn ei feddwl) a dygaf ef ymmaith yn fy llid, gan feddwl yn enwedig pan ddygo ef ymmaith frenhin da am bechodau 'r bobl: megis yn hwyr o flynyddoedd y dygwyd ymmaith ein Ioſias daionus ni brenhin Edward yn ieuangc ac yn-nechreuad ei oes am ein pechodau ni. Ac o'r gwrthwyneb y mae 'r Scrythyrau yn dangos 2. Par 2. 9. fod Duw yn rhoddi doethineb i dywyſogion, ac yn gwneuthur i frenhin da doeth deyrnaſu ar y Diarh. 16. bobl y bo efe yn ei garu, ac a fo yn ei garu yntef. A thrachefn, Os y bobl a vfyddhânt Duw, yna y llwyddant hwy a'u brenhin, os amgen, hwy, a ddyfethir a'u brenhin hefyd, medd Duw trwy enau 2. Sam. 12. 2 . Samuel.

Ymma y gwelwch mai Duw ſydd yn goſod tywyſogion drwg yn gyſtal a rhai da, ac am ba achos y mae efe yn goſod pob vn o'r ddau. Os mynnwn ninnau na chael rhoi i ni dywyſog da, na pharhau o hono, yn awr a chennym ninnau y cyfryw vn, cyffrown Dduw i wneuthur hynny, trwy fod yn vfyddion i Dduw ac i'n tywyſog. Os mynnwn gael tynnu ymmaith dywyſog drwg (pan ddanfono Duw y cyfryw vn) a chael vn da yn ei le, tynnwn ninnau ymmaith ein camweddau, y rhai ſydd yn annog Duw i oſod y cyfryw vn arnom ni, yno naill ai fe a'i tynn Duw ef ymmaith, ynteu fe a'i gwna ef o dywyſog drwg yn dywyſog da, os nym yn gyntaf a newidiwn ein drygioni i ddaioni.

A fynnwch chwi glywed yr Scrythur lân? y mae calon y brenhin yn llaw 'r Arglwydd, ac efe Diarh. 21. 10. a'i trŷ hi lle mynno ei hun. Fel hynny y dywaid yr Scrythur. Am hynny trown ni oddiwrth ein pechodau at yr Arglwydd â'n holl galonnau, ac efe a drŷ galon y brenhin i'n llonyddwch a'n llwyddiant ni: os amgen, nid yw ond drygioni dauddyblyg a thridyblig i ddeiliaid am eu pechodau haeddu cael tywyſog drygionus, a chwedy hynny gwrthryfela yn ei erbyn ef, ac annog Duw i'w plago fwyfwy. Nag ê, naill ai haeddwn gael tywylog da, ai goddefwn yn ymmyneddgar y cyfryw vn ac a haeddaſom. A pha vn bynnag a fo 'r tywyſog ai drwg ai da, moeſwch i ni, yn ôl cyngor yr Scrythur lân, weddio tros ein tywyſog, ar barhau a chynnyddu o hono mewn daioni, os da fydd ef, ac ar wellhau o hono, os drwg fydd.

A fynnwch chwi glywed yr Scrythyrau ynghylch y pwngc angenrheidiol ymma? Cynghoriyr 1. Tim. 2. 1. ydwyf am hynny, medd S. Paul, ymmlaen pob peth, fod ymbil, gweddiau, deiſyfiadau a thalu diolch tros bob dŷn. Tros frenhinoedd a phawb a oſodwyd mewn awdurdod, fel y gallom ni fyw yn llonydd, ac yn heddychol trwy bob duwioldeb, ac honeſtrwydd; canys hyn ſydd dda a chymmeradwy gar bron Duw ein ceidwad, &c. Dymma gyngor S. Paul. A phwy, adolwg, oedd dywyſog ar y rhan fwyaf o'r bŷd, pan roes ſanctaidd Yſpryd Duw, trwy enau S. Paul, y wers hon iddynt? yn wir, Caligula, Claudius neu Nero, y rhai oeddynt nid yn vnig heb fod yn Griſtianogon, ac yn baganiaid, ond hefyd naill ai yn llywodraeth-wyr angall, ai yn dyranniaid o'r creulonaf.

A fynnwch chwi glywed gair Duw wrth yr Iddewon, pan oeddynt garcharorion tan Nabuchadonoſor brenhin Babylon, wedi iddo ladd eu brenhin hwy, a'u pendefigion, a'u rhieni, a'u plant, a'u ceraint, a lloſci eu gwlad hwy a'u dinaſoedd, hyd yn oed Ieruſalem ei hunan, a'r Deml ſanctaidd, a dwyn y gweddillion eraill o honynt yn gaethion, yn fyw gyd ag ef i Babylon?

A fynnwch chwi glywed beth y mae prophwyd Baruch yn ei ddywedyd wrth bobl Dduw a hwy mewn caethiwed? Gweddiwch dros eiuioes Baruch. 1. 11. Nabuchadonoſor brenhiu Babylon, a thros einioes Baltaſar ei fâb ef medd y prophwyd, ar fod eu dyddiau hwynt fel dyddiau y nefoedd ar y ddayar: ac ar roddi o'r Arglwydd i ni nerth, a goleuo o hono ef ein llygaid ni, fel y byddom ni byw tan gyſcod Nabuchadonoſor brenhin Babylon, a than gyſcod Baltaſar ei fâb ef, ac y gwaſanaethom hwy lawer o ddyddiau, ac y caffom ffafor yn eu golwg hwynt. Gweddiwch hefyd troſom ni at yr Arglwydd ein Duw, o herwydd ni a bechaſom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw.

Dyna eiriau y prophwyd Baruch, y rhai a ddywedodd ef wrth bobl Dduw am y brenhin hwnnw oedd genhedl-ddŷn a thyrant a chreulon orthrymmudd iddynt, ac a laddaſai lawer mil o'u cenhedl hwy, ac a anrheithiaſe eu gwlad hwy, gan gyfaddef i'w pechodau hwy haeddu cael y cyfryw dywyſog i deyrnaſu arnynt.

Ac a gaiff yr hên Griſtianogion, wrth gyngor S. Paul, weddio tros Caligula, Claudius neu Nero? A gaiff yr Iddewon weddio tros Nabuchadonoſor? Gan nad oedd yr ymmerodron a'r brenhinoedd hyn ond dieithraid iddynt, a phaganiaid ac anffyddloniaid, llofruddwyr, tyranniad a gorthrymwyr creulon arnynt, ac anrheithwyr eu gwlad hwy a'u gwlad-wyr a'u ceraint, ac a loſcaſant eu pentrefydd, a'u trefi a'u dinaſoedd a'u temlau hwy? ac oni weddiwn ni tros hir a llwyddiannus a duwiol deyrnaſiad ein tywyſog naturiol, ac nid dieithr (yr hyn yr ydys yn ei farcio yn lle dawn mawr yn yr Scrythur lân) ein tywyſog Chriſtianogaidd, ein graſuſol oruchaf, ac nid tywyſog paganaidd anghrededyn? Oni weddiwn ni gydag iechyd ein trugaroccaf a'n carediccaf bennaeth, yr hwn ſydd yn ein cadw ni a'n gwlad mewn heddwch a llonyddwch a diogelwch, ac nid ydyw nac yn greulon, nac yn dyrant, nac yn anrheithio ein da ni, nac yn tywallt ein gwaed, nac yn diſtrywio ac yn lloſci ein trefi a'n dinaſoedd a'n gwledydd ni, fel yr oedd y rhai hynny, tros y rhai er hynny y clywſoch y dylyai eu deiliaid weddio?

Na ddangoſwn cymmaint o anniolchgarwch tu ag at Dduw a'n goruchaf, a bod o honō heb ddiolch i Dduw yn waſtadol am y llywodraeth ymma, a'r mawr a'r gwaſtadol ddoniau a chymmwynaſau yr ydys yn eu tywallt arnom trwy 'r cyfryw lywodraeth.

Na wnawn cymmaint pechod yn erbyn Duw, yn ein herbyn ein hunain ac yn erbyn ein gwlad, a bod o honom heb weddio ar Dduw yn waſtadol, ar hir barhau o'r cyfryw raſol lywodraethwr arnom ni a'n gwlad. Ac onid ê ni a fyddwn annheilwng i fwynhau 'r cymmwynaſau a'r doniau hynny ar law Dduw, y rhai a gawſom hyd yn hyn trwyddo ef; ac a haeddwn gwympo i'r holl aflwydd a blinderau, y rhai yr ydym ni a'n gwlad trwy ras Duw wedi diangc oddiwrthynt hyd yn hyn trwy 'r cyfryw lywodraeth.

Pa beth a ddywedwn ni am y deiliaid hynny? a allwn ni eu galw hwy yn ddeiliaid, y rhai nid ydynt nac yn diolch nac yn gweddio vn gronyn ar Dduw tros y cyfryw raſol oruchaf? ond ydynt eu hunain yn cyfodi mewn arfau, yn cynnull torfeudd a byddinoedd o wrthryfelwyr i dorri'r heddwch cyffredinol ſy wedi parhau cyhyd, ac i wneuthur, nid rhyfel, ond gwrthryfel, i roi eu graſuſol oruchaf mewn perigl, i beryglu ſtat eu gwlad (yr hon y dylyent fod yn barod i golli eu bywyd yn eu hymddiffyn) ac a hwy yn Frutaniaid, i yſpeilio, i anrheitbio, i ddiſtrywio ac i loſci Bruttaniaid, a hynny ym-Mhrydain, i ladd ac i fwrdrio eu cymmydogion a'u ceraint a'r gwlad-wyr eu hunain, i wneuthur pob drygioni ac aflwydd, ie a mwy nag a wnai neu a allai elynion dieithr ei wneuthur.

Pa beth a ddywedwn am y dynion hyn, y rhai ſydd yn ymddwyn mor wrthryfelgar yn erbyn eu graſol oruchaf, a hwythau yn rhwymedig wrth air Duw, pe buaſe Dduw am eu hanwiredd yn rhoddi iddynt genhedlddyn creulon anghredadwy i deyrnaſu arnynt, i vfyddhau iddo ac i weddio troſto? Pa beth a ellir ei ddywedyd am danynt hwy? mae eu hangharedigrwydd, eu hannatturiolder, eu hanwiredd a'u hechryſlonder yn eu gweithredoedd, cyn belled yn paſſio ac yn rhagori ar bob peth ac ar bob dim ac a aller ei adrodd neu ei draethu mewn geiriau.

Yn vnig damunwn i'r cyfryw rai edifaru o honynt ar frŷs, a hynny â'r fath ddwys ofid calon, ac y mae 'r fath erchyll bechodau yn erbyn mawrhydi Duw, yn ei ofyn; y rhai o wir ddygyn anniolchgarwch ſydd yn cyfodi, nid yn vnig yn erbyn eu graſol dywyſog ac yn erbyn eu gwlâd naturiol, ond yn erbyn eu holl wlad-wyr gwragedd, a phlant; yn eu herbyn eu hunain, eu gwragedd a'u plant a'u ceraint, a thrwy ſiampl mor annuwiol yn erbyn holl Gred, ac yn erbyn pob mâth ar bobl trwy 'r holl fŷd.

Y cyfryw edifeirwch, meddaf, a'r cyfryw ofid calon, ac ſydd weddus i'r cyfryw ddrygioni ac a amcanaſant hwy, Duw a'i caniattao i bawb a gyfodaſant ar feddwl ac amcan drygionus. A Duw o'i drugaredd a ganiattao i ninnau ac i bob deiliaid eraill, fod o honom yn anghyffelyb i'r cyfryw rai, ac yn gyffelyb i ddeiliaid daionus, naturiol, caredig, vfydd: ie ar fod o honym nid yn gyffelyb yn vnig i'r cyfryw rai, ond yn gyfryw rai ein hunain, ac nid yn vnig i ddangos pob vfydd-dod ein hunain, ond cynnifer o honom ac ſydd abl, hyd yr eithaf o'n gallu, a'n nerth a'n deall, i atal ac i ddaroſtwng y cyfryw wrthryfelwyr a gwrthryfeloedd yn erbyn Duw, a'n graſol oruchaf, a'n gwlâd naturiol, ar bob achos ac a gynnygier i ni. Ac onis gwnawn y cwbl ac a allom eiwneuthur, ni a fyddwn annuwiolaf dynion, a theilyngaf i oddef yn y diwedd y cyfryw ddygyn blaau ac a dywalltodd Duw ar wrthryfelwyr bob amſer eirioed.

Gwnawn waſtadol weddiau at yr holl-alluog Dduw o eigion ein calonnau ar iddo roddi ei râs, a'i allu, a'i nerth i'n graſol frenhm Iames, i oreſcyn ac i ddaroſtwng pawb oll o'i wrthryfelwyr cartrefol, a ei elynion dieithr; fel gwedy daroſtwng a llonyddu pob gwrthyfel, a gwrthladd a throi heibio bob rhyfeloedd oddiallan, y gallom nid yn vnig fod yn ddiogel, a hir-barhau mewn pob vfydd-dod i'n graſol oruchaf, ac yn y cyfryw fywyd heddychol tangneddefol ac a gawſom hyd yn hyn tan ei fawrhydi ef, mewn pob diogelwch: ond fel y bo i'n graſol frenhin Iames, ac i ninnau ei ddeiliaid ef, fyw ynghyd mewn vfydd-dod i Dduw brenhin y brenhinoedd, a'i ſanctaidd gyfreithiau yn y byd hwn, mewn pop rhinwedd a duwioldeb; fel y gallom yn y byd a ddaw fwynhau ei deyrnas dragwyddol ef: Yr hyn a attolygaf i Dduw ei ganiattau, i'n graſol oruchaf ac i ninnau i gyd, er mewn ei Fâb ein Iachawdwr Ieſu Griſt, i'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yſpryd glan, vn Duw a brenhin tragwyddol y bô pob gogoniant, anryhdedd adiolch byth heb ddiwedd. Amen.

Felhyn y clywſoch y rhan gyntaf o'r Homili hon bellach bobl ddaionus.

Gweddiwn.

OAlluoccaf Dduw, Arglwydd yr arglwyddi, llywodraethwr yr holl greaduriaid, vnig roddwr pob buddugoliaeth, yr hwn yn vnig wyt abli gyfnerthu 'r gwan yn crbyn y galluog, ac i orchfygu aneirif liaws o'th elynion â golwg ychydig o'th weiſion a fo yn galw arnat ac yn ymddiried ynot: Ymdiffyn o Arglwydd dy waſanaethwr di a'n llywydd ninnau tanat ti ein brenhin Iames, a'r holl bobl a orchymmynnwyd tan ei ofal ef. O Arglwydd gwrthladd greulondeb pawb oll ac ſydd elynion cyffredinol i'th wirionedd di a'th dragywyddol air, i'w tywyſog a'u gwlâd naturiol eu hunain, yn amlwg tan y goron a'r deyrnas ymma o Brydain, yr hon a ddarfu i ti o'th dduwiol ragluniaeth ei happwyntio yn ein dyddiau ni i lywodraeth dy waſanaethwr ein goruchaf a'n graſol frenhin. O drugaroccaf Dâd, os bydd dy ſanctaidd ewyllys di, meddalha a thynera galonnau carregog pawb ar ſydd yn ymdderchafu yn erbyn dy wirionedd di, ac yn ceiſio naill ai trallodi llonyddwch y deyrnas ymma o Brydain, a gorthrymmu ei choron hi, a thro hwy i wybodaeth dy Fâb, vnig Iachawdwr y byd, Ieſu Chriſt, fel y gallom ni a hwythau ynghyd ogoneddu dy drugareddau di. Goleua, attolygwn i ti, eu calonnau anwybodus hwy, i gofleidio dy wirionedd di a'th air, ac onid ê goſtwng eu creulonder hwy (O alluoccaf Arglwydd) fel y gallo ein gwlâd Griſtianogaidd ni, gydâg eraill ac ſydd yn cyffeſu dy enw ſanctaidd di, gaffael trwy dy nerth a'th gynnorthwy di, ddiogelwch oddiwrth bob gelynion, heb dywallt gwaed Chriſtianogion, fel y Diddener pawb oll ac a orthrymmir trwy eu creulondeb hwy, ac y cyſſurer y rhai ſy mewn ofn eu creulonder hwy: ac yn ddiwethaf fel y gallo pob teyrnaſoedd Chriſtianogaidd, ac yn enwedig y deyrnas ymma o Brydain, tan dy ymddiffyn a'th nawdd di, barhau yngwirionedd dy Efengyl di, a mwynhau perffaith heddwch, llonyddwch a diogelwch: ac fel y gallom ninnau am y trugaredauhyn, yn gydſſylltedig, ag vn gyſſon galon a lleferydd, yn ddiolchgar roi i ti bob moliant ac anrhydedd: fel y bo i ni wedi ein cyſſylltu ynghyd yn ein plith ein hunain mewn vn duwiol vndeb a chyttundeb, yn waſtad fawrygu dy ogoneddus enw, yr hwn gyd a'th Fab ein Iachawdwr leſu Chriſt, a'r Yſpryd glan, wyt vn tragwyddol, ollalluog a thrugaroccaf Dduw, i'r hwn y bo pob moliant ac anrhydedd byth heb ddiwedd. Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth yn erbyn Anufydd-dod a gwrthryfelgarwch.

MEgis y darfu i mi yn y rhan gyntaf o'r traethawd yma ynghylch vfydddod deiliaid i'w tywyſogion ac yn erbyn anufydd-dod a gwrth-ryfelgarwch, adrodd i chwi amryw leoedd allan o'r Scrythur lân er profi hynny: felly y bydd da er dangos a chadarnhau 'r athrawiaeth iachus hon yn well, adrodd i chwi allan o'r Scrythur lân ſiampl neu ddwy o vfydddod deiliaid, nid yn vnig i'w llywodraethwyr daionus graſion, ond hefyd i'w tywyſogion dryonus anghyweithas. Megis nad oedd Saul o'r fath oreu, ond o'r fath waethaf ar dywyſogion, am ei fod allā o ffafor Duw am ei anufydd-dod yn erbyn Duw yn arbed, trwy gam-doſturi, y brenhin Agag, yr hwn a orchymmynnaſe 'r Holl-alluog Dduw ei ladd, yn ôl cyfiawnder Duw yn erbyn ei elyn tyngedig: ac er bod Saul o ddwyfoldeb ar fedr aberthu i anrhydedd a gwaſanaeth Duw y cyfryw bethau ac a arbedaſai ef o'r eiddo 'r Amaleciaid: etto fe a argyoeddwyd Saul am ei gam drugaredd a 'i ddwyfoldeb, ac a ddywedpwydd iddo mai gwell y buaſai vfydd-dod yn rhyngu bodd Duw, nâ 'r cyfryw dynerwch: ac y mae 'r tirionder pechadurus hynny, medd Saint Homil 1. aduerſus Iudaeos. Chryſoſtom, yn greulonach gar bron Duw, nag ydyw lladd a cholli gwaed pan fyddo Duw yn gorchymmyn.

Er mor ddrygionus oedd brenhin Saul, ac er ei fod allan o ffafor Duw, etto 'r oedd ei ddeiliad Dafydd, y goreu i gyd o'i holl ddeiliaid ef, a'r dewrwychaf oll yngwaſanaeth ei dywyſog a'i wlad mewn rhyfeloedd, yr vfyddaf a'r carediccaf mewn heddwch, ar cywir af a'r ffyddlouaf bob amſer i'w oruchaf a'i arglwydd, a phellaf i 1. Sam. gyd oddiwrch bob math ar wrthryfel, yn viyddhau iddo yn waſted. Am yr hwn waſanaeth poenedig, 2. Sam. cywir, ffyddlon, y talodd brenhin Saul iddo nid yn vnig ag angharedigrwydd mawr, ond fe a geiſioedd hefydd ēi ddiſtrywio a'i ladd ef ymmhôb modd ac allai: fel y gorfu ar Ddafydd achub ei einioes, nid trwy wrthryfel na gwrthwynebu, on wrth gilio ac ymguddio allan o olwg y brenhin.

Er hynny i gyd, pan daeth brenhin Saul ryw amſer wrtho ei hun i'r ogof lle 'r oedd Dafydd, fel y gallaſai Ddafydd yn hawdd ei ladd ef, etto ni wnai ef ei hunan niweid iddo, ac nis goddefai i'r vn o'i wyr oſod dwylo arno.

Amſer arall yr aeth Dafyd i mewn liw nos gydag vn Abiſai, gwr dewrwych creulon, i'r babell lle 'r oedd brenhin Saul yn gorwedd ac yn cyſcu, lle gallaſai ef etto yn haws ei ladd ef, etto ni wnai ef ei hunan eniwed iddo ac nis goddefai i Abiſai (yr hwn oedd ewyllyſgar a pharod i lladd brenhin Saul) vnwaith gyffwrdd ag ef.

Fel hyn y gwnaeth Dafydd a'i dywyſog, er bod brenhin Saul yn waſtadol yn ceiſio ei ladd a'i ddyfetha ef. Nibydd anghymmheſur, gyda gweithredoedd Dafydd, adrodd ei eiriau ef hefyd, a dangos i chwi beth a ddywedodd ef wrth y rhai a'i hannogaſant i gymmeryd ei fantais a'i gyfle i ladd brenhin Saul ei elyn angheuol, pan alle. Na atto 'r Arglwydd i mi, medd Dafydd, wneuthur . Sam. 24. 7. y peth hyn i'm meiſtr enneiniog yr Arglwydd, gan eſtyn fy llaw yn ei erbyn ef: o blegid enneiniog yr Arglwydd yw efe. Pwy a eſtynne 1. Sam. 26. 9. i law yn erbyn enneiniog yr Arglwydd ac a fyddai ddiniweid? fel y mae 'r Arglwydd yn fyw naill ai 'r Arglwydd a'i tery ef, neu ei ddydd ef a ddaw i farw, neu efe a ddiſcyn i'r rhyfel ac a ddifethir: yr Arglwydd a'm cadwo i rhag eſtyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd.

Dyna eiriau Dafydd a ddywedodd ef ar amryw amſeroedd wrth ei weiſion a'i hannogent ef i ladd brenhin Saul, pan oedd amſer a chyfle yn gwaſanaethu iddo i wneuthur hynny. Ac ni adawn ni heibio ychwaith, y moddwedi i Amaleciad, meddai efe, ladd brenhin Saul, a hynny ar orchymmyn Saul ei hun (am nas mynnai efe fyw yn hwy, am iddo golli 'r maes yn erbyn ei elynion y Philiſtiaid) a'r Amaleciad hwnnw yn 1. Sam. 24. 4. 1. Chro. 10. 4. 2. Sam. 1. 10. gwneuthur ffrwſt mawr i ddwyn y gair a'r newyddion cyntaf o hynny i Ddafydd megis pe buaſei lawenchwedl gantho ef farwolaeth ei elyn angheuol, ac yn dwyn gyd ag ef y goron oedd am ben brenhin Saul, a'r fraichled oedd am ei fraich ef, megis profedigaethau o wirionedd ei newyddion, ac megis anrhegion addas a hyfryd i Ddafydd, yr hwn a appwyntiaſe Dduw i fod yn frenhin yn y deyrnas ar ôl Saul: etto cy belled oedd Dafydd ffyddlon dduwiol oddiwrth fod yn llawen gantho y newyddion imma, ac yr ymaflodd 2. Sam. 1. 13. 17. ef yn ei ddillad ac a'u rhwygodd hwynt, ac a wylodd, ac a alar-nadodd ac a ymprydiodd: a chy belled oedd ef oddiwrth roddi diolch i'r gennad, nac am ei gennadwri a'i newyddion, nag am ei anrhegion a ddygaſai ef, ac y dywedodd ef wrtho, Pa fodd nad ofnaiſt di eſtyn dy law i ddifetha enneiniog yr Arglwydd? ac yn y man efe a orchymmynnodd i vn o'i weiſion ladd y gennad, ac a ddywedodd, Bydded dy waed di ar dy ben dy hun, canys dy enau dy hun a dyſtiolaethodd yn dy erbyn, gan ddywedyd, myfi a leddais enneiniog yr Arglwydd.

Y ſiampl hon, fy-ngharedigion, ſydd odidog, ac fe a ddylid yſtyried ei gogylcheddau hi yn dda, er mwyn addyſcu pob deiliaid yn eu rhwymedig a'u dyledus vfydd-dod, ac i'w dychrynu hwy yn waſtadol rhac amcanu na gwrthryfel nac eniwed yn erbyn eu tywyſog.

O'r naill ran, nid oedd Dafydd yn vnig yn ddeiliad da cywir, ond hefyd yn gyfryw ddeiliad ac a waſanaethaſei ei dywyſog mewn heddwch a rhyfel, ac achubaſai ei anhrydedd a'i wlad-wyr oddiwrth fawr berigl yr angrhedadwy, a gelynion dieithr creulon oeddynt yn rhyfela yn erbyn y brenhin a'i wlâd: Am yr hyn beth yr oedd Dafydd mewn ffafor odidog gyd a'r holl bobl, fel y gallaſai ef gael aneirif o honynt ar ei orchymmyn, pe buaſei yn amcanu dim.

Heb law hyn, nid oedd Dafydd yn ddeiliad cyffredinol cwbl, ond etifedd cyfneſaf i'r goron a'r deyrnas, a chwedi i Dduw ei appwyntio i deyrnaſu ar ôl Saul: ac megis yr oedd hynny yn chwanegu ffafor y bobl a'i gwyddent tu ag at Ddafydd, felly yr oedd hefyd yn gwneuthur gwahaniaeth a rhagoriaeth rhwng cyflwr Dafydd a'r deiliaid cyffredinol hollawl. A'r hyn ſy fwyaf i gyd, yr oedd Dafydd yn fawr ac yn odidog mewn ffafor gyd â Duw: ac o'r gwrthwyneb, yr oedd brenin Saul allan o ffafor Duw (am yr achos a ddywetpwyd o'r blaen) ac megis yn elyn i Dduw, ac am hynny yn gyffelyb mewn heddwch a rhyfel i fod yn niweidiol ac yn ddrwg i'r wlad, ac yr oedd llawer o'i ddeiliaid ef yn gwybod hynny, am ddarfod i Samuel ei geryddu ef yn gyhoeddus am ei anufydd-dod i Dduw, yr hyn a allaſai beri i'r bobl wneuthur llai o fri a chyfrif o hono.

Yr oedd brenhin Saul hefyd yn elyn angheuol Ddafydd, er nas haeddaſai Ddafydd, yr hwn trwy ei waſanaeth ffyddlon, poenus, buddiol, angenrheidiol, a haeddaſai yn dda gan ei wlâd a chan ei dywyſog hefyd, a brenhin Saul wedi haeddu 'r gwrthwyneb: ffieiddiach a chaſach o hynny oedd ei anghare digrwydd, a'i gaſineb, a'i greulonder ef tu ag at ddeiliad cyſtal. Etto ni wnai Dafydd na lladd na drygu 'r cyfryw elyn ei hunan, am ei fod yn dywyſog ac yn Arglwydd iddo, na goddef i neb arall na'i ladd ef, na'i niweidio, na rhoi llaw arno, pan allaſai ei ladd ef heb na chynnwrf, na therfyſc, na pherigl am einioes vn dŷn.

Bellach attebed Dafydd i'r cyfryw ymofynion ac y mae y rhai a fo chwannog i wrthryfel yn arfer o'i gwneuthur. Oni chyfodwn ac oni wrthryfelwn ni, yn enwedig a ninnau yn wŷr cyſtal ac ydym, yn erbyn tywyſog ſy gâs gan Dduw, ac ſy elyn i Dduw ac am hynny heb fod yn debyg i lwyddo nac mewn rhyfel nac mewn heddwch, ond i fod yn niweidiol ac yn echryſlon i'r wlâd? Na wnewch, medd Dafydd ddaionus dduwiol, deiliad ffyddlon i Dduw ac i'r cyfryw frenin. Ac felly yr argyoedda ef nad yw y cyfryw ddeiliaid ac a amcanant wrthryfela yn erbyn y cyfryw frenin, nac yn ddeiliaid da, nac yn wŷr da. Ond meddant hwy, oni chyfodwn ac oni wrthryfelwn ni yn erbyn tywyſog a fo mor angharedig ac na yſtyrio ac na ofalo, nac am ein gwaſanaeth ffyddlon, cywir, poenus ni, na diogelwch y rhai a ddêl ar ei ôl? Na wnewch medd Dafydd ddaionus, yr hwn nis gallai ddim o'r cyfryw angharedigrwydd beri iddo ymadel a'i ddyledus vfydd-dod i'w oruchaf. Oni chyfodwn ni, meddant hwy, ac oni wrthryfelwn ni yn erbyn ein gelyn cydnabyddus angheuol, yr hwn ſydd yn ceiſio ein bywyd ni? Na wnewch medd Dafydd dduwiol, yr hwn a ddyſcaſai 'r wers a ddangoſodd ein Iachawdwr Chriſt yn eglur ar ôl hynny, Na bo i ni wneuthur eniweid yn y byd i'n cyd-ddeiliaid er eu bod yn ein caſhau, ac er eu bod yn elynion i ni: llai o lawer y dylyem wneuthur eniweid i'n tywyſog, er ei fod yn elyn i ni. Oni chynnullwn ni lu o'r cyfryw gyfeillion da ac ydym ninnau, a thrwy beryglu ein bywyd, a bywyd y rhai a ſafo yn ein herbyn, a pheryglu holl ſtât ein gwlad, i ſymmudo tywyſog cynddrwg? Na wnewch medd Dafydd dduwiol, o blegid myfi, pan allaſwn heb gaſclu gallu a lliaws o wŷr, heb na therfyſc, na pherigl am fywyd vn dŷn, heb golli dafn o waed, fy-ngwared fy hun a'm gwlad oddiwrth dywyſog drwg, etto nis gwnawn.

Ond ydynt hwy, medd rhai, yn gapteniaid glewion calonnog, yn wyr dewrion, ac yn gyrph gwŷr da, y rhai ſydd yn anturio trwy nerth ladd a difuddio eu brenhin, ac yntef yn dywyſog drwg, ac yn elyn angheuol iddynt? Hwy a allan fod mor lewion ac mor ddewrion ac y mynnont, etto, medd Dafydd dduwiol, ni allant hwy fod nac yn wŷr da, nac yn dduwiol a wnelont felly: o blegid myfi, nid yn vnig a geryddais, ond hefyd a orchymmynnais ladd megis dŷn drygionus, yr hwn a laddaſe frenhin Saul fy ngelyn i, er ei fod yn blino ar ei fywyd am golli 'r oruchafiaeth yn erbyn ei elynion, ac yn dymuno ar y dŷn hynny ei ladd ef.

Pa beth a wnawn ni i dywyſog drŵg annuwiol, i dywyſog angharedig a fo gelyn i ni, a chas gan Dduw, a niweidiol i'r wlad, &c. Na oſodwch ddwylo arno trwy nerth, medd Dafydd ddaionus, ond gedwch iddo fyw, hyd oni appwyntio ac oni weithio Duw ei ddiwedd ef, naill ai trwy angau naturiol, ai mewn rhyfel trwy elynion cyfreithlon, ai trwy ddeiliaid bradwraidd. Fel hyn yr attebai Ddafydd dduwiol: ac y mae S. Paul, fel y clywſoch o'r blaen yn ewyllyſio i ni weddio gyda 'r cyfryw dywyſog.

Os gwnai y brenhin Dafydd yr attebion hyn, y rhai yn ſiccr wrth ei weithredoedd a'i eiriau a goffeir yn yr Scrythur lan, y mae efe yn eu gwneuthur i'r holl fath ymofynion ynghylch tywyſogion drŵg, tywyſogion angharedig, tywyſogion creulon, tywyſogion a fo gelynion angheuol i'w deiliaid da, tywyſogion a fo allan o ffaſor Duw, ac felly yn niweidiol neu yn debyg i fod yn eniweidiol i'r wlad. Pa atteb, dybygwch chwi, a wnai efe i'r rhai a ofynnant, oni allant hwy (a hwythau yn ddeiliaid drwg angharedig) i fawr berigl bywyd llawer o filoedd, ac i ddygyn berigl ſtat y wlad a'r holl deyrnas, gaſclu ynghŷd fagad o wrthryfelwyr, neu ddifuddio, neu ddychrynu, neu ddifetha eu tywyſog naturiol cariadus, yr hwn nid yw elyn i neb, ond yn dda i bawb, ie iddynt hwy y rhai gwaethaf o'r cwbl, yr hwn ſydd yn maentaenio heddwch gwaſtadol, a llonyddwch a diogelwch, yr hwn ſydd dda wrth y wlad, ac anghenrheidiol i ddiogelwch yr holl deyrnas? Pa atteb a wnai efe i'r rhai ofynnant, oni allant hwy yn greulon ac yn annaturiol geiſio difetha tywyſog mor heddychol ac mor drugarog? Pa beth, meddaf, a attebai Ddafydd, yr hwn ſydd yn dywedyd mor barchus am Saul, ac yn goddef brenhin drwg mor ddioddefgar? Pa beth a attebai ac a ddywedai ef am y cyfryw ymofynion? Pa beth a ddywedai, ie pa beth a wnai ef i'r rhai a amcanant bethau cymmaint, ac yntef yn dywedyd ac yn gwneuthur fel y clywſoch chwi o'r blaen i'r hwn a laddaſe 'r brenhin ei feiſtr ef, er ei fod yn dywyſog drygionus anial? Os coſpodd ef y cyfryw ddŷn ag angau megis drwg-weithredwr, a pha gerydd geiriau y difenwe ef, ie a pha artaith marwolaeth wradwyddus y difethe efe y cyfryw vffern-gwn yn hytrach na drwg-ddynion, y cyfryw wrthryfelwyr yr ydwyf yn ei feddwl, ac y ſoniais ddiwethaf am danynt? O blegid os ydyw y rhai ſy anufydd i dywyſog drwg angharedig, yn annhebyccaf i gŷd i Ddafydd y deiliad da hwnnw: pa beth ydynt hwy rhai ſy yn gwrthryfela yn erbyn tywyſog o'r naturiolaf a'r carediccaf? Ac os bu Ddafydd yr hwn oedd cyſtal deiliad ac vfyddhau brenhin mor ddrygionus, yn deilwng i gael ei wneuthur ei hunan o ddeiliad yn frenhin: pa beth y mae y rhai ſy cynddrwg deiliaid ac y gwrthryfelant yn erbyn eu tywyſog graſol, yn deilwng o'i gael?

Yn wir ni all dŷn dayarol nac adrodd ar eiriau na meddwl mewn calon, y ddamnedigaeth erchyll ofnadwy y maent hwy yn deilwng o honi, y rhai wrth ddiyſtyru bod yn ddeiliaid heddychol dedwydd i'w tywyſog da, ſy deilyngaf o fod yn gaethion truein ac yn gaethweiſion gwael i'r tywyſog vffernol Satan, i oddef tragwyddol gaethiwed ac artaith gydag ef. Digon yw 'r vn ſiampl hon am y deiliad daionus Dafydd allan o'r hên Deſtament, ac o herwydd ei hynod odidowgrwydd hi a gaiff waſanaethu tros y cwbl.

Yn y Teſtament newydd, godidog ſiampl y wynfydedig forwyn fair mam ein Iachawdwr Chriſt, ſydd gyntaf yn ymgynnyg i ni. Pan aeth cyhoeddiad a gorchymmmyn tros holl Iudea oddiwrth Auguſtus ymmerodr Rhufain, ar i'r bobl ymgynnull i'w dinaſoedd a'i cyfanneddau eu hunain i'w trethu yno: etto 'r wynfydedig forwyn er ei bod o waed brenhinol hên frenhinoedd naturiol Iudea, ni ddiyſtyrodd hi vfyddhau gorchymmyn tywyſog dieithr o genhedl-ddŷn, wedi darfod i Dduw oſod y cyfryw vn arnynt hwy: ac nid ymeſcuſododd hi am ei bod yn feichiog fawr, ac yn agos at ei amſer i eſcor: ac ni thuchanodd hi o blegid hŷd a maithied y daith o Nazareth i Bethlehem, lle 'r oedd raid iddi fyned i'w threthu: ac ni rwgnachodd hi o blegid toſtedd a llymder yr amſer trymder a dyfnder gayaf, ynniwedd mis rhagfyr, amſer anghymmheſur iawn i ymdaith arno, yn enwedig daith cy belled i wraig yn ei chyflwr hi: ond hi a rôdd heibio bob eſcuſon, ac a vfyddhaodd ac a ddaeth i'r lle appwyntiedig, a phan ddaeth hi yno hi a gafodd cymmaint cyrchfa ac Ymwaſe. ymſang o bobl, fel na chafodd hile mewn vn lletty, ond gorfod arni ar ôl ei hir ſiwrnai faith flin, gymmeryd ei lletty mewn ſtabl, lle hefyd yr eſcorodd hi ar ei phlentyn bendigaid: a hynny ſydd yn dangos mor agos at ei hamſer y cymmerodd hi ei thaith honno.

Yr vfydd-dod ymma a ddangoſodd y bendefigaidd 〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉 arglwyddes rinweddol hon tu ag at dywyſog paganaidd dieithr, ſydd yn ein dyſcu ni (y rhai nid ydym wrthi hi ond gwael a diſas) pa vfydddod ſy ddyledus arnom i'n naturiol a'n graſol oruchaf. Etto yn hyn o beth y mae vfydd-dod holl genhedl yr Iuddewon (y rhai heb law hynny oeddynt genhedlaeth war-galed) i orchymmyn yr vn tywyſog anghredadwy, yn profi, fod y cyfryw Ghriſtianogion ac nid ydynt yn barod iawn yn vfyddhau eu naturiol a'u graſol oruchaf, yn waeth o lawer nâ 'r Iuddewon cyndyn y rhai 'r ydym ni er hynny yn eu cyfrif yn waethaf pobl yn y bŷd.

Ond ni ddyle vn ſiampl fod mewn mwy o rym gyd â nyni Ghriſtianogion, nâ ſiampl Chriſt ein meiſtr a'n Iachawdwr, yr hwn er ei fod yn Fab Duw, a ymddug er hynny yn barchufaf i gŷd tu ag at y rhai oeddynt mewn awdurdod yn y bŷd yn ei amſer ef, ac nid ymddug ef yn wrthryfelgar, ond fe a ddyſcodd yr Iuddewon yn gyhoeddus i dalu teyrnged i ymmerodr Rhufain, er ei fod yn dywyſog dieithr paganaidd, ie fe a dalodd ei hun a'i Apoſtolion deyrnged iddo: ac yn ddiweddaf pan ddygpwyd ef gar bron Pontius Pilatus, yr hwn oedd ŵr dieithr wrth enedigaeth, a chenedl-ddŷn, ac ef yn arglwydd ac yn rhaglaw ar holl Iudea, fe a gyfaddefodd mai oddiwrth Dduw yr oedd ei awdurdod a'i allu wedi ei roddi iddo, ac a ddioddefodd yn ymmyneddgar farn marwolaeth boenedig gywilyddus, yr hon a rôdd y barnwr hwnnw yn anghyfiawn yn ei erbyn ef, heb na grwgnach, na murmur, nac vn gair drwg.

Mae llawer ac amryw eraill o ſiamplau o vfydd-dod i dywyſogion er eu bod yn ddrwg, yn y Teſtament newydd, er llwyr wradwyddo pobl anufyddion wrthry felgar: ond fe a all yr vn hon fod yn ſiampl dragwyddol, yr hon a roddodd Mâb Duw, Arglwydd pob peth, Ieſu Griſt i ni ei Griſtianogion a'i weiſion ef: a hon a all waſanaethu tros y cwbl i ddyſcu i ni vfyddhau tywyſogion, er eu bod yn ddieithr, yn ddrygionus ac yn gainweddus, pan oſodo Duw am ein pechodau y cyfryw rai arnom. O'r hyn y canlyn yn anwacheladwy, am y rhai ſy yn anufyddhau neu yn gwrthryfela yn erbyn eu naturiol a'u graſol oruchaf, pa fodd bynnag y bont yn eu galw eu hunain neu y bo eraill yn eu galw hwy, nad ydynt wir Ghriſtionogion, ond gwaeth nag Iudddewon, gwaeth nâ phaganiaid, a chyfryw ac ni chânt bŷth fwynhau teyrnas nêf, yr hon a brynodd Chriſt wrth ei vfydd-dod, i bob gwir Ghriſtion, a fo vfydd iddo ef brenhin yr holl frenhinoedd, ac i'w tywyſog ac a oſododd ef arnynt: yr hon deyrnas, priodol le pob cyfryw ddeiliaid vfyddion, yr attolygaf i Dduw ein Tâd nefol er mwyn ein Iachawdwr Ieſu Ghriſt ei chaniattau i ni: i'r hwn gydâ 'r Yſpryd glân y bo pob moliant, anrhydedd a gogoniant yr awr hon ac yn dragywydd, Amen.

Fel hyn y clywſoch yr ail rhan o'r bregeth hon; bellach boblddaionus Gweddiwn.

Y weddi fel o'r blaen.

¶ Y drydedd ran o'r bregeth yn erb yn Anufydd-dod a gwrthryfelgarwch.

MEgis yn y rhan gyntaf o'r traethawd hwn y dangoſais i chwi athrawiaeth yr Scrythur lân ynghylch vfydd-dod deiliaid cywir i'w tywyſogiyn, ſef yn gyſtal i'r rhai drwg ac i'r rhai da: ac yn yr ail rhan o'r vn traethawd y cadarnheiais yr athrawiaeth honno ag amryw ſiamplau godidog wedi eu tynnu allan o'r Scrythur lân.

Felly y mae yn ôl yr awrhon fod i mi ddangos i chwi yn y drydedd ran hon, mor ffiaidd pechod yn erbyn Duw a dŷn yw gwrthryfelgarwch, ac mor ofnadwy yr ennynnir ac y cynneuir digofaint duw yn erbyn pob gwrthryfelwyr, a pha erchyll blagau a choſpedigaethau ac angeu, ac yn ddiwethaf pa dragwyddol golledigaeth ſydd vwch eu pennau hwy: a pha fodd o'r gwrthwyueb y mae deiliaid da vfyddion mewn ffafor Duw, ac yn gyfrannogion o heddwch, a llonyddwch a diogelwch ac eraill o amryw ddoniau Duw yn y bŷd hwn, a thrwy ei drugareddau ef yn ein Iachawdwr Chriſt, o fywyd tragwyddol yn y bŷd a ddaw.

Mor erchyll pechod yn erbyn Duw a dŷn yw gwrthryfelgarwch, nid poſſibl yw adrodd yn ôl ei faint. O blegid yr hwn ſydd yn enwi gwrthryfel, nid vn pechod y mae yn ei henwi, megis y mae lladrad, yſpeilio, a lladd a'r cyfryw, ond mae fe yn enwi holl bwll a ſugndraeth yr holl bechodau yn erbyn Duw a dyn, yn erbyn ei dywyſog, ei wlâd, ei wlad-wyr, ei rieni, ei blant, ei geraint, ei garedigion a phob math ar ddŷn yn gyffredinol; pob pechodau, meddaf, yn erbyn Duw a dŷn wedi eu pentyrru ynghŷd, y mae efe yn eu henwi, yr hwn ſydd yn enwi gwrthryfelgarwch.

O blegid tu ag at am bechu yn erbyn mawrhydi Duw, pwy nid yw 'n gweled fod gwrthryfelgarwch yn cyfodi yn gyntaf, o ddirmygu Duw a'i ſanctaidd ordeiniaethau a'i gyfreithiau, yn y rhai y mae efe mor doſt yn gorchymmyn vfyddddod, ac yn gwahardd anufydd-dod a gwrthryfelgarwch.

Ac heb law y dianrhydedd y mae gwrthryfelwyr yn ei wneuthur i ſanctaid enw Duw, trwy dorri eu llw a wnaethant i'w tywyſog gan alw enw Duw a'i fawrhydi yn dŷſt: pwy ni chlyw yr erchyll lyau a'r ſanctaidd enw Duw, a arferir beunydd ym-myſc gwrthryfelwyr, ac y ſydd yn eu myſc hwy, neu yn clwyed y gwirionedd am eu hym ddygiad hwy? Pwy nis gwyr fod gwrthryfelwyr, nid yn vnig eu hunain yn gadel heb wneuthur, yr holl weithredoedd angenrheidiol ac a ddylid eu gwneuthur, ar ddiwrnodau gwaith, tra fônt hwy yn cyflawni ffiaidd waith eu gwrthryfelgarwch, ac yn cymmell eraill a chwennychent fod yn gweuthur daioni, i wneuthur yr vn peth: ond hefyd pa fodd y mae gwrthryfelwyr nid yn vnig yn gadel dydd Sabbaoth yr Arglwydd heb ei ſancteiddio, a theml ac eglwys yr Arglwydd heb fyned iddi, ond hefyd â'u gweithredoedd anwireddus yn hologi 'r dydd Sabbaoth yn erchyll, gan waſanaethu Sathan, a thrwy wneuthur ei waith ef, gwneuthur y dydd hwnnw o ddydd yr Arglwydd yn ddydd Satan?

Heb law hynny, maent hwy yn cymmell gwŷr da a fydde dda ganthynt waſanaethu 'r Arglwydd ac ymgydgynnull yn ei deml a'i Eglwys ef ar y dydd hwn, i ymgynnull ac i ymgyfarfod yn arfog yn y maes i wrthladd cynddaredd y cyfryw wrthryfelwyr. Ie mae llawer o wrthryfelwyr rhag iddynt adel vn rhan yn y llech gyntaf o'i gyfraith ef heb dorri, nac vnrhyw bechod yn erbyn Duw heb wneuthur, maent meddaf, yn gwrthryfela er maentaenio delwau ac eulynnod, a'r gaudduwiaeth y maent hwy yn ei wneuthur ac a wnaent hwy iddynt: ac o ddirmyg ar Dduw, yn dryllio ac yn rhwygo ei ſanctaidd air ef, ac yn ei ſathru tan eu traed, megis y gwnaethant yn hwyr o flynyddoedd.

Tu ag at am yr ail llêch o gyfraith Dduw, a phob pechod ac a ellir ei wneuthur yn erbyn dyn, pwy nis gwŷl nad yw gwrthryfel yn eu cynnwys hwy i gŷd? O blegid yn gyntaf y mae gwrthryfelwyr nid yn vnig yn dianrhydeddu eu tywyſog, yr hwn yw tad eu gwlâd hwy, ond hefyd yn dianrhydeddu ac yn cywilyddio eu tadau a'u mammau naturiol, od os rai ganthynt; yn cywylyddio eu ceraint a'u caredigion, yn dietifeddu ac yn anrheithio tros fyth eu plant a'u hetifeddion.

Lladradau, yſpeilfau, lladdiadau, y rhai o'r holl bechodau ſydd ffieiddiaf gan y rhan fwyaf o ddynion, nid ydynt mewn dynnion yn y byd yn gymmaint ac mor echryſlon ac mewn gwrthryfelwyr. O blegid y lladron pennaf, a'r llofruddion creulonaf ac a fu erioedd, yr hyd y bônt yn ymattal rhag gwrthryfela, megis, nad ydynt lawer mewn rhifedi, felly nid ydyw eu hanwiredd a'u damnedigaeth hwy yn ymwaſcaru ond ym-mhlith ychydig, nid ydynt yn anrheithio ond ychydig, nid ydynt yn tywallt gwaed ond ychydig.

Ond y mae gwrthryfelwyr yn achos o aneirif o yſpeilfau, a lladdedigaethau lliaws mawr, a hynny ar y rhai y dylyent hwy eu hym ddiffyn rhag anrhaith a gorthrech eraill: ac megis y mae gwrthryfelwyr yn llawer mewn rhifedi, felly y mae eu hanwiredd a'u damnedigaeth hwy yn ymdanu ac yn cyrhaeddyd at lawer. Ac os yw putteindra a godineb ym-mhlith y cyfryw ddynion ac ſydd hyblyg i'r cyfryw anwiredd, yn bechodau o'r fath echryſlonaf, megis y maent yn ſiccr: pa beth yw treiſio gwragedd priod, a halogi ac auwyryfu morwynion a gwyryfon, y rhai ſy bechodau cynnefin ymmŷſc gwrthryfelwyr?

Heb law hynny, y mae gwrthryfelwyr wrth dorri eu crêd a roeſant, y llw a wnaethant i'w tywyſog, yn euog o anudon echryſlon: y mae yn rhyfedd gweled pa gam-liwiau a gau-achoſion y mae gwrthryfelwyr trwy ddywedyd celwyddau enllibus ar eu tywyſog a'i gyngor, yn eu dychymmyg i goluro eu gwrthryfel: yr hon yw 'r fath w aethaf ac echryſlonaf ar gam-dyſtiolaeth ac a all fod.

Pa beth a ddywedaf am chwennychu gwragedd, a rhai, a thiroedd, a golud, a gweiſion gwyr eraill, felly mae gwrthryfelwyr, y rhai o'u bodd ni adawent ddim i neb o'r eiddo ei hun?

Fel hyn y gwelwch fod gwrthryfelwyr, yn torri ac yn troſeddu holl gyfreithiau Duw, a bod pob pechod ac a ellir ei wneuthur yn erbyn na Duw na dŷn, yn gynnwyſedig mewn gwrthryfelgarwch: y pechodau os chwennych neb eu galw ar enw arferol y ſaith pechod pennaf, neu 'r ſaith pechod marwol, Balchder, cenfigen, llid, cybydddod, diogi, glothineb a godineb, fe a gaiffweled eu bod hwy i gŷd mewn gwrthryfelgarwch ac ymmhlith gwrthryfelwyr.

O blegid yn gyntaf, megis y mae vchelfryd a chwant cael goruchafiaeth, yr hon yw vn o gynneddfau balchder, yn cyffroi meddyliau dynion i wrthryfela, felly o falchder a rhyfyg ddieflig Lucifer y mae yn dyfod, bod i ychydig o ddeiliaid gwrthryfelgar ymoſod yn erbyn mawrhydi eu tywyſog, yn erbyn doethineb y cyngor, yn erbyn nerth a gallu 'r holl bendefigion, a holl ffyddlen ddeiliaid a phobl yr holl deyrnas.

Tu ag at am genfigen, llid, llofruddiaeth, chwant gwaed, a thrachwantu golud a thiroedd a thyddynnau gwŷr eraill, pethau cyſſylltedig diwahanol ydynt i bob gwrthryfelwyr, a chynneddfau priodol ſydd fynychaf yn cyffroi dynion drygionus i wrthryfela.

Hefyd y rhai trwy loddeſt, a gloddineb, a meddwdod, a gormodd wychder, a chwareuon anllywodraethus, a dreuliaſant eu hunain yn anllywodraethus, y rhai hynny ſydd barottaf a chwannoccaf i wrthryfela, wrth yr hyn y maent yn gobeithio dyfod o hŷd i olud eraill trwy drais ac anghyfraith. A lle mae glythion a meddwon eraill yn cymmeryd gormod o'r cyfryw fwydydd a diodydd ac a ddelo i'r bwrdd, y mae gwrthryfelwyr mewn ychydig amſer yn difa ac yn treulio yr holl ŷd yn yr yſcuboriau, yn y meuſydd, ac ymmhob lle arall, mewn llofftydd, mewn ſtor-dai, mewn Celloedd. ſeleri, yn difa diadellau cyfain o ddefaid, a gyrfau cyfain o ychen a gwartheg.

Ac meis y mae 'r cyfryw wrthryfelwyr ac a fo gwedi eu priodi, wrth adel eu gwragedd eu hunain gartref, yn gwneuthur yn anraſlon iawn: felly y mae y rhai a fo heb eu priodi, y rhai yn waeth nag yſtalwyni a meirch, a hwy yn awr wedi cymmeryd rhydd did oddiwrth gerydd y gyfraith, yr hon oedd yn eu ffrwyno hwy o'r blaen, trwy rym yn halogi gwragedd a merched gwyr eraill, yn treiſio morwynion a gwyryfon: y mae y rhai hyn meddaf yn gwneuthur yn gywilyddus, yn ffiaidd, ac yn echryſlon tros ben.

Felly y mae pob pechodau, o bob enw ac y geller galw pechodau, a thrwy bob modd ac y gellir gwneuthur pechodau, i gŷd yn heidiau ac yn fagadau yn canlyn gwrthryfel, ac i'w cael yn gwbl ymmyſe gwrthryfelwyr.

Bellach lle mae 'r Scrythur lan yn dangos mai haint y nodau, newyn, a rhyfel yw 'r plaau a'r blinderau bydol mwyaf ac a all fod, y mae yn eglur fod yr holl blaau hyn, yn hollawl ac ynghŷd yn canlyn gwrthryfel, yn yr hon megis y mae eu holl flinderau hwy, felly y mae ynddi mwy o aflwydd ac echrys nag ynddynt oll.

O blegid, fe a wyr pawb pan ymgyrcho tyrfaoedd mawr o wŷr yngyŷd, yr hyn mewn gwrthryfel ſydd yn digwydd o blaid y deiliaid cywir ac o blaid y gwrthryfelwyr, wrth eu bod yn gorwedd ynghŷd mor aml, ac wrth halogi 'r awyr a'r lle â thom ac a budreddi, wrth wrês yr hin, ac wrth eu llettyon afiachus, a'u bod yn gorwedd yn fynych ar y ddayar, yn enwedig mewn oerfel a gwlybiniaeth tywydd gayaf, wrth eu lluniaeth a'u maeth afiachus bob amſer, ac weithiau newyn ac eiſiau bwyd a diod mewn prŷd ac amſer, a chymmeryd gormodd amſer arall: fe a ŵyr pawb, meddaf, trwy y moddion hynny fod haint y nodau a chowyn a phob mâth ar glefyd ac afiechyd arall yn cyfodi ac yn magu yn eu mŷſchwy, a'r clefydau hyn ſydd o'r diwedd yn difa mwy o wŷr nag y mae mîn ac awch y cleddyf yn eu lladd yn ddiſymmwth yn y maes. Fel nad haint y nodau yn vnig, ond pob clefydau, a heintiau, ac afiechyd arall ſydd yn canlyn gwrthryfel, y rhai ſyfwy erchyllac ofnadwy na phla a nodau a chlefydon ac a ddanfoner yn vnion oddiwrth Dduw, fel y ceir gweled yn amlyccach ar ôl hyn.

Tu ac at am newyn a phrinder, cyfeillion priodol i wrthryfel ydynt: o blegid tra fo gwrthryfelwyr mewn y chydig amſer yn anrheithio ac yn difa yr holl ŷd a'r arlwy angenrheidiol a gynnullaſe ddynion trwy boen, er eu cynhaliaeth yn hyd y flwyddyn; a thra fyddont yn rhwyſtro i wŷr eraill, llafuiwyr ac eraill, oddiwrth eu hwſmonnaeth a'u gorchwylion angenrheidiol eraill, i wneuthur arlwy erbyn yr amſer a ddaw, pwy nis gwŷl y bydd anghenrhaid bod dygyn brinder a newyn yn canlyn yn y man ar ol gwrthryfel?

Hefyd lle 'r ydoedd y brenhin doeth a'r prophwyd duwiol Dafydd yn barnu fod rhyfel yn waeth nâ newyn ac na Cywyn. haint y nodau, am fod 2. Sam. 24. 24. Duw yn goddef y ddau hyn yn fynych er mwyn gwellhau dynion, ac nad ydynt bechodau o honynt eu hunain: ond mae rhyfeloedd a phechodau ac anwireddau dynion y naill blaid neu 'r llall, yn gyſſylltedig â hwy; ac am hynny rhyfel yw 'r mwyaf o'r plaau bydol hyn: ond o'r holl ryfeloedd, gwyethaf yw rhyfel gartrefol rhwng deiliaid yn eu plith eu hunain, a ffieiddiach o lawer yw gwrthryfel nâ'r rhyfel honno, gan eu bod yn annheilwng o'i galw yn rhyfel, y mae hi yn rhagori cymmaint ar bob rhyfel mewn pob drygioni, a phob echrys, a phob ffiaidd-dra. Ac am hynny y mae ein Iachawdwr Chriſt yn cyhoeddi diſtryw ac Mat. 12. 25. anghyfannedd-dra i'r deyrnas a fo trwy derfyſc a gwrthryfel wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun.

Yn awr, fel y dangoſais o'r blaen fod haint y nodau a newyn, felly y mae etto yn eglurach o lawer, fod pob gofid, a thrueni ac aflwydd yn doſtach mewn gwrthryfel, ac yn canlyn gwrthryfel yn fwy nag vn rhyfel arall, am ei bod yn waeth o lawer nag vn rhyfel arall. O herwydd heb law bod y gofidiau a'r aflwydd cyunefinol arferol ymma yn canlyn gwrthryfel, megis anrheitbio ŷd a phethau eraill angenrheidiol i waſanaeth dŷn; yſpeilio, lloſci a diſtrywio tai, a phentrefydd, a threfi, a dinaſoedd; tlodi nid yn vnig llawer o wyr goludog, ond gwledydd cyfain; lladd a mwrdrio llawer mil o wyr; treiſio a halogi gwragedd a gwyryfon, yr hyn bethau pan eu gwnole'n gelyniō dieithr yr ydym yn ymofidio o'u plegid, fel y mae i ni achos mawr: etto mae 'r holl ofidiau hyn heb fod neb o'ngwlad-wŷr ein hunain yn gwneuthur anwiredd ynddynt.

Ond pan fydder yn gwneuthur yr holl aflwydd hyn mewn gwrthryfel, a hynny gan y rhai a ddylent fod yn garedigion, gan wladwyr, gan geraint, gan y rhai a ddylent ymddiffyn eu gwlâd a'u gwlad-wyr rhag y cyfryw flinderau; nid yw 'r aflwydd elfydd cymmaint ac yw 'r aflwydd a'r anwiredd pan fo driliaid yn annaturiol yn gwrthryfela yn erbyn eu tywyſog, yr hŵn y dylēt ei ymddiffyn ei anrhydedd a'i einioes, pe bai raid iddynt wrth hynny golli eu heinioes eu hun: pan fo gwladwyr yn terfyſeu cyffredinol heddwch a llonyddwch eu gwlâd, yr hon y dylent wario eu heinioes yn ei hymddiffyn: pan fo 'r naill frawd yn ceiſio ac weithiau yn dwyn bywyd y llall, y tad yn ceiſio peri lladd ei fâb ac yntef mewn oedran gŵr, a'r tadau trwy eu beiau eu hunain yn dietifeddu eu plant, a'u ceraint, a'u hetifeddion yn dragwywydd, i'r rhai y gelleſent brynu bywyd a thiroedd, megis y mae tadu naturiol yn cymmeryd gofal a phoen, ac yn myned mewn mawr gôſt a thraul gydà 'u meibion: ac i ddywedyd y cwbl ar vnwaith, yn lle pob llonyddwch, a llawenydd, a dedwyddwch, y rhai ſy yn canlyn heddwch bendigedig a dyledus vfydd-dod, dwyn i mewn drallod, a thriſtwch ac aflonyddwch meddwl a chorph, a phob aflwydd a gofid; i droi pob trefn dda ben dra mwnwgl; i ddwyn pob cyfreithiau da i ddirmyg, ac i'w Ddanſial. mathru tan draed; i orthrechu pob rhinwedd ac honeſtrwydd, a phob dyn rhinweddol honeſt; ac i ellwng pob drygioni ac anwiredd, a phob dŷn drygionus anwir yn rhydd i wneuthur eu hewyllys drygionus, y rhai yr oedd cyfreithiau iachus or blaen yn eu ffrwyno; i wannhychu i ddifetha, ac i ddifa gallu 'r deyrnas eu gwlâd naturiol, trwy dreulio a gwario arian a thryſor y tywyſog a'r deyrnas, a lladd y bobl, eu gwlâd-wyr eu hunain, y rhai a ddylent ymddiffyn anrhydedd eu tywiſog, a braint eu gwlâd yn erbyn ymgyrch gelynion dieithr: ac felly yn ddiwethaf, i wneuthur eu gwlâd trwy eu haflwydd hwy yn wannach, ac yn barod i fod yn ſclyfaeth ac yn anrhaith i bob gelynion dieithr a chwennycho ryfela yn eu herbyn; i beri dygyn a thragwyddol gaethiwed, ac alltudedd a diſtryw i holl wŷr eu gwlâd, i'w plant, i'w ceraint, i'w caredigigon a adawer yn fyw, y rhai trwy eu hannuwiol wrthryfel y maent yn achos o'u rhoi i ddwylo gelynion dieithr, hyd y mae ynddynt hwy.

Mewn rhyfeloedd yn erbyn gelynion dieithr y mae gwŷr ein gwlâd ni ein hunain wrth gael yr oruchafiaeth, yn ennill clôd am eu dewredd; ie er cael o honynt eu gorchfygu a'u lladd, etto maent hwy yn ennill clôd ddaionus yn y bŷd hwn, yn meirw mewn cydwybod dda am waſanaethu Duw, a'u tywyſog, a'u gwlâd; ac y maent yn blant Iechydwriaeth dragwyddol: ond mewn gwrthryfel er dewred ac er glewed fythont, etto maent hwy yn ennill cywilydd ymma am ymladd yn erbyn Duw, a'u tywyſog a'u gwlâd, ac am hynny maent hwy yn gyfion yn cwympo i vffern yn wyſc eu pennau, os meirw fyddant, ac yn byw mewn cywilydd ac ofnus gydwybod, os diangant.

Ond y maent yn fynych yn cael eu gobrwyo ag angau cywilyddus, a'u haelodau a'r bolion, yn cael eu crogi wrth gadwyni, a'r brain a'r barcuttanod yn eu bwytta, yn cael eu cyfrif yn annheilwng o anrhydedd claddedigaeth, ac felly y mae diafol, onid edifarhânt (megis nad ydynt fynychaf) yn lluſco eu heneidiau hwy i vffern, ynghanol eu drygioni.

Ac o blegid y goſp ar artaith hon, y mae S. Paul yn dangos trefn vfydd-dod, nid yn vnig rhag ofn angau, ond hefyd er mwyn cydwybod tu ag at Dduw, rhag ofn tragwyddol golledigaeth yn y hŷd a ddaw. Am hynny, bobl ddaionus, moeſwch i ni megis plant vfydd-dod, ofni ofnus goſpedigaeth Duw, a byw mewn llonydd vfydd-dod i gael bod yn blant Iechydwriaeth dragwyddol.

O blegid megis mai 'r nef yw cyfle deiliaid daionus vfyddion, ac mai vffern yw carchardy a dyfn gaethle gwrthryfelwyr yn erbyn duw a'u tywyſog: felly y mae 'r deyrnas honno yn ddedwydd ac yn gyflun nêf, lle bo mwyaf o vfydd-dod deiliaid yn ymdddangos: ac o'r gwrthwyneb, lle bo mwyaf o wrthryfelau a gwrthryfelwyr, dyna lle y mae gwir gyffelybaeth vffern, a'r gwrthryfelwyr yw cyffelybiaethau 'r diawliaid a'r cythreuliaid, a'u capten yw llun anraſlon Lucifer a Satan, tywyſog y tywyllwch; ac megis y maent hwy yn dynwared ei wrthryfelgarwch ef, felly yn ddiammau y cânt fod yn gyfrannogion yn vffern o'i ddamnedigaeth ef; ac megis yn ddiammau y caiff plant tangnheddyf fod yn etifeddion nef gydâ Duw 'r Tâd, a Duw 'r Mab, a Duw 'r Yſpryd glân, i'r hwn y bo pob anrhydedd a gogoniant yn oes oeſoedd, Amen.

Fel hyn y clywſoch y drydedd ran o'r bregeth hon, bellach bobl ddaionus, Gweddiwn.

Y weddi fel o'r blaen.

¶ Y bedwaredd ran o'r bregeth yn erbyn Anufydd-dod Anufydd-dod a gwrthryfelgarwch.

ER mwyn eich addyſcu chwî ymmhellach, bobl ddaionus, a dangos i chwi faint y mae 'r Hollalluog Dduw yn ffieiddio anufydd-dod a gwrthryfelgarwch, yn anwedig pan fo gwrthryfelwyr yn ymdderchafu mor vchel ac yn ymarfogi mewn arfau, ac yn ſefyll yn y maes i ymladd yn erbyn Duw a'u tywyſog a'u gwlâd: ni bydd am-mherthynol dangos rhai ſiamplau allan o'r Scrythyrau a ſcrifennwyd er ein tragwyddol addyſc ni.

Ni allwn wybod yn y man, bobl ddaionus, mor aruthrol bai yw bradwriaeth a gwyrthryfel, os galwn i'n côfddirfawr lid ac erchyll ddigofaint yr Holl-alluog Dduw yn erbyn y cyfryw ddeiliaid ac nid ydynt ond yn vnig yn grwgnach, yn manſon a murmur oddifewn yn erbyn eu llywodraethwyr, er nad yw eu dirgel fradwriaeth hwy ſy wedi ei fagu mor gyfrinachol yn eu calonnau hwy, yn torri allan nac yn ymddangos mewn gweithredoedd goleu, er bod yn anodd i'r rhai y darfu i ddiafol ei hudo cy belled yn erbyn gair Duw, ſefyll ar hynny: ie mae yn ei frŷd ef etto chwythu 'r Rhyſodyn. marworyn, ac ennyn eu calonnau gwrthryfelgar hwy i fflammychu i weithredoedd goleu, oddieithr i râs Duw ei wrthladd ef ar frys.

Pan duchanodd rhai o blant yr Iſrael yn erbyn eu llywodraethwyr a oſodaſe Dduw arnynt, Nu. 11. 1. Nu. 12. 10. Nu. 16. Pſal. 77. hwy a goſpwyd â gwahan glwyf brwnt: a llawer a loſcwydd â thân yn ddiſymmwth oddiwrth yr Arglwydd: weithiau y difethwyd llawer miloedd Nu. 21. 6. â haint y nodau: weithiau y daeth ſeirph tanllyd dieithr ac a'u brathaſant hwy i angau: a'r hyn ſydd erchyllaf o gwbl, rhai o'r pennaethiaid a'u byddin o rwgnachwyr gyd â hwynt, ni chawſant farw trwy farwolaeth arferol naturiol dynion, ond y ddayar a ymegorodd ac a'u llyngcodd hwy a'u gwragedd a'u plāt a'u tylwyth yn fyw i vffern.

Y diniſtr ymma ar y cyfryw Iſraeliaid ac oedd rwgnachwyr yn erbyn Moſes, yr hwn a appwyntiaſe Dduw yn oruchaf ac yn ben-llywydd arnynt; ſydd wedi eu ſcrifennu yn llyfr y Nefoiri, a lleoedd eraill o'r Scrythyrau, er côf a rhybydd tragwyddol i bob deiliaid, mor anfodlon gan Dduw rwgnach a drygair y bobl a fo deiliaid yn erbyn eu tywyſogion; o blegid, fel y dywed yr Scrythur, nid oedd eu grwgnach hwy yn erbyn eu tywyſog yn vnig, yr hwn oedd greadur marwol, ond yn erbyn Duw ei hun hefyd.

Wrth hynny os cwympodd y cyfryw blaau dieithr erchyll ar y cyfryw ddeiliaid, ac a ddywedaſant ddrygair yn vnig yn erbyn eu pennaduriaid: pa beth a ddigwydd i gyfryw annuwiol genawon y cythraul ac ſydd yn cydfwriadu, yn ymarfogi, yn caſclu lliaws mawr o wŷr mewn arfau, ac yn eu tywyſo gydâ hwynt yn erbyn eu tywyſog a'u gwlâd, gan anrheithio ac yſpeilio, lladd a mwrdrio 'r holl ddeiliaid cywir ac a ſafant yn eu herbyn hwy, os gallant eu goreſcyn? Ond y ſiamplau hyn a ſcrifennwyd i'n hattal ni nid yn vnig rhac y cyfryw annuwioldeb, ond hefyd rhac murmur a dywedyd vn gair drwg yn erbyn ein tywyſog: yr hyn er dirgeled y gwnelo dŷn, etto mae 'r Scrythur lân yn dywedyd y bydd i adar yr awyr eu cyhuddo hwy ac y mae'r 〈◊〉 ſiamplau hyn a ddangoſwyd o'r blaen allan o'r Scrythur lân, yn dangos na ddiangant hwy rhag coſpedigaeth erchyll am hynny.

Bellach tu ac at am weithred gwrthryfel, ymmyſc llawer o ſiamplau a oſodir alian yn yr Scrythur lân, y mae ſiampl Abſolon yn hynod: yr hwn wrth gydfwriadu yn erbyn ei dâd Brenhin Dafydd, a gymmerth gyngor gwŷr ſynhwyrol iawn, ac a gaſclodd liaws mawr anfeidrol o wrthryfelwyr. Yr Abſalon hwn er ei fod yn wr têg glân o gorph, o fonedd mawr ac yn fâb i'r brenhin ac mewn ffafor fawr ymmŷſc y bobl, ac mor anwyl garedig gan y brenhin ei hun, fel y rhodddes ef orchymmyn ar gadw ei einioes ef, er ei fod yn gwrthryfela yn ei erbyn ef: Pan oedd y rhan fwyaf o ddynion, o herwydd yr achoſion hyn, yn ofni cyffwrdd ag ef, fe a ddaeth pren mawr ac a eſtynnodd ei fraich megis ar fedr hynny, ac a'i daliodd ef erbyn llaes gudyn ei wallt teg, yr hwn a ymdrôdd ynghylch y gangen ac ef yn Ffo. cilio ar frŷs yn bennoeth tan y pren hwnnw, ac a'i crogodd ef erbyn gwallt ei ben yn yr awyr, i roi athrawiaeth dragwyddol, na all na glendid corph, na boneddigrwydd, na ffafor y bobl, na ffafor y brenhin ei hun, achub bradwr gwrthryfelgar rhag dyledus goſpedigaeth: gan fod Duw brenhin yr holl frenhinoedd wedi digio wrtho yn gymmaint ac y byddai bob pren ar y ffordd yn gynt nac y byddai ef heb ddyledus goſp am ei fradwriaeth, yn grogpren iddo, a gwallt ei ben ei hun yn lle cebyſtr i'w grogi ef, yn gynt nac y byddo arno eiſiau vn. Dyna ſiampl aruthrol, bobl ddaionus, i'w hyſtyried. Hefyd Achitophel, er ei fod yn wr doeth dros ben mewn matterion eraill, a fu gynghorwr annuwiol i Abſalon i wrthryfela 2. Sam. 15. 12. & 16. 21. 23. & 17. 23. yn erbyn ei dâd, o eiſiau arteithiwr cyfaddas, i'w grogi am ei fradwriaeth, fe a aeth ac a ymgrogodd o'i waith ei hun. Dyna ddiwedd teilwng i bob cyfryw wrthryfelwyr, y rhai yn gynt nac y bônt heb gael dyledus goſpedigaeth, trwy gyfiawn farn Duw a ânt yn arteith wyr arnynt eu hunain. Dyna fel y digwyddodd i bennaethiaid yr wrthryfel honno, heb law vgain mil o'r gwrthryfelwyr cyffredin a laddwyd yn y maes ac yn & 18. 7. yr ymlid.

Felly y gellir gweled yn yr Scrythur lan pa fodd y llonyddwyd yn ddiſymmwth yr wrthryfel 2. Sam. 20. a'r terfyſc mawr a gyffrôdd y bradwr Seba yn Iſrael, wedi ei wraig druan beri torri pen y bradwr pennaf.

Ac fel y mae 'r Scrythyrau yn dangos, felly hefyd y mae addyſc amſer beunydd yn egluro na bu i gynghorion a chydfwriadau ac amcanion gwrthryfelwyr erioed ddyfod i ddiben da, ond i ddiwedd echryſion. Pſal. 21. 12.

O blegid er bod Duw weithiau yn llwyddo gelynion cyfiawn cyfreithlon, y rhai nid ydynt ddeiliaid, yn erbyn ei gelynion dieithrol: etto ni rôdd ef erioed hîr-lwyddiant i ddeiliaid a fo gwrthryſelgar yn erbyn eu tywyſogion, er maint fydde eu hawdurdod a'u rhifedi.

Ni allei bump tywyſog neu frenhin, (o blegid felly y mae 'r Scrythur yn eu galw hwy) a'u holl liaws canthynt, lwyddo yn erbyn Codorlaomer, Gen. 14. i'r hwn yr addawſent warrogaeth ac vfydd-dod, ac y parhaeſent felly ennyd o flynyddoedd, ond hwy a ddifethwyd ac a ddaliwyd yn garcharorion gantho ef cymmaint vn: ond Abraham a'i deulu a'i genedl, rhai nid oeddynt ond megis dyrnaid, ac heb fod yn ddeiliaid i Codorlaomer, a'i goreſcynnaſant ef a'i holl lu yn y rhyfel, ac a waredodd y carcharorion.

Felly er bod rhyfel mor greulon ac mor ofnadwy ac ydyw, etto mae Duw yn llwyddo ychydig mewn rhyfeloedd cyfreithlon yn erbyn llawer miloedd o elynion dieithrol: ond ni lwyddodd ef erioed etto ddeiliaid a fai yn gwrthryfela yn erbyn eu naturiol oruchaf, er maint, er boneddigced, er cynnifer, er dewred, er doethed ac er called faent, ond bob amſer hwy a oreſcynnwyd ac a ddaethant i ddiwedd cywilyddus: cymmaint y mae Duw yn ffieiddio gwrthryfel yn hytrach nâ rhyfeloedd eraill, er heb law hyn ei bod yn ofnadwy ac yn ddiniſtr mawr ar ddynion.

Er bod weithiau nid lliaws mawr o'r cyffredin annoeth gwael, ond gwyr mawr eu ſynwyr a'u bonedd a'u hawdurdod, yn cyffroi gwrthryfel yn erbyn eu tywyſogion cyfreithlon (lle dylai wir fonedd ffieiddio, a gwir ddoethineb ddygyngaſhau y fath dayogaidd ac ynfyd wrthryfel) er eu bod yn gwneuthur hynny yn rhith llawer o achoſion ac yn cymmeryd arnynt fwriadu dywygio a gwellhau cyflwr y wlâd (yr hon y mae gwrthryfel yn fwy nâ dim arall yn ei difetha) neu ddiwygio ffydd a chrefydd (lle nid oes dim fwy yn erbyn pob gwîr grefydd nac yw gwrthryfel) er iddynt wneuthur lliw a golwg têg o feddwl ac amcan ſanctaidd wrth ddechreu eu bradwriaeth a'u gwrthryfel â ffug-waſanaeth Duw, (fel y dechreuodd Abſolon annuwiol ei wrthryfel trwy aberthu i Dduw) er eu bod yn lledu ac yn dwyn can thynt fanerau ac arwyddion y ſydd hoff a chymmeradwy gan y bobl gyffredin annoe th ddiwybod, o'r rhai y maent yn hudo ac yn tynu attynt lioſydd mawr wrth ei ffug-liwiau a'u lledrith: etto er maint fai liaws y gwrthryfelwyr, er boneddigced er called ac er doethed fai eu pennaethiaid hwy, er tecced ac er ſancteiddied fai ei ffugliwiau hwy: etto cyfryw yw ac a fu erioed ddiſymmwth ddiniſtr pob gwrthryfelwyr, o ba rifedi neu ſtât, neu gyflwr bynnag y baent, pa liw neu achos bynnag y baent yn ymhoni o hono; fel y mae Duw wrth hynny yn dangos nad yw efe yn caniattau nac i fraint na theilyngdod dŷn yn y byd, nac i liaws pobl yn y byd, nac i bwys a maint achos yn y byd, fod yn rheſwm digonol i ddeiliaid i gyffroi terfyſc yn erbyn eu tywyſogion.

Trowch troſtynt a darllenwch hiſtoriau pob cenedl, edrychwch groniclau ein gwlâd ni troſtynt, gelwch i'ch cof gynnifer gwrthryfel ac a fu yn yr hên amſer, a rhai hefyd ſydd etto hawddgof gan lawer, ac ni chewch chwi weled ddarfod i Dduw erioed lwyddo gwrthryfel deiliaid yn erbyn eu tywyſog cyfraithlon naturiol, ond o'r gwrthwyneb, ddarfod goreſcyn a llâdd y gwrthryfelwyr, ac artaithio yn ofnadwy gymmaint ac a ddaliwyd o honynt yn garcharorion.

Yſtyriwch lwythau mawrion pendefigaidd dugiaid, Marchioniaid, ieirll ac arglwyddi eraill, y rhai y gellwch dderllein eu henwau mewn croniclau ac ſydd yn awr wedidiffodd a darfod: chwiliwch allan achoſion eu cwymp hwy, a chwi a gewch weled nad eiſiau eppil ac etifeddion gwrryw a wnaeth i dai a gwaedoliaeth pendefigion a gwŷr mawr ddarfod, yn gymmaint a gwrthryfal.

A lle 'r oedd gwrthryfelwyr gynt yn cymmeryd arnynt mai er mwyn diwygio a gwellhau cyflwr y wlâd yr oeddynt yn gwrthryfela, a bod yn awr yn dechreu gwneuthur ffydd a chrefydd yn lliw ac yn achos o wrthryfel: Yſtyried pob deiliaid duwiol ſynhwyrol yn dda bob vn o'r ddau, ac yn gyntaf ynghylch ffydd a chrefydd.

Os barnodd Duw fod yr heddychol frenhin Salomon yn gymmheſurach i adeilad ei deml ef (wrth yr hyn y deellir trefnu ffydd a chrefydd) na'i dad Dafydd, er ei fod yn frenhin duwiol dros ben, am fod Dafydd yn rhyfelwr mawr, a chwedy tywallt llawer o waed, er mai yn ei ryfeloedd yn erbyn gelynion Duw y gwnaethe efe hynny: wrth hyn y gall pob deiliaid duwiol rheſymmol yſtyried fod tywyſog heddychol (yn enwedig y cyfryw ac oedd ein brenhines ddiwethaf ni Elizabeth os yw ein tangnhedd uſaf a'u trugaroccaf frenhin Iames, yr hwn hyd yn hyn ni thywalltodd ddim gwaed, na ddo waed ei elynion, a'i fradychwyr ) yn debyccach ac yn gymmhefurach o lawer i oſod i fynu neu i faentaenio gwir grefydd nac yw gwrthryfelwyr gwaedlyd, y rhai ni thywalltaſant waed gelynion Duw fel y gwnaeth Dafydd, ond ſydd yn ceiſio tywallt gwaed caredigion Duw, gwaed eu gwlad-wyr eu hunain; eu caredigion a'u ceraint cuaf eu hunain, a diniſtr eu graiuſafdywyſog a'u gwlad naturiol, y rhai y dylent fod yn barod i golli eu gwaed yn eu hymddiffyn, os bydde 'r achos yn gofyn.

Mae yn hawdd barnu pa fath grefydd yw 'r hon y mae dynion yn ceiſio ei goſod i fynu trwy 'r cyfryw foddion: cyſtal crefydd ydyw hi yn ſiccr, ac y mae gwrthryfelwyr yn wŷr da ac yn ddeiliaid vfyddion: a chyſtal crefydd yw ac ydyw gwrthryfel yn ffordd i ddywygio ac i wellau ac i drefnu 'r hyn a fo ar fai, a hitheu ei hunan yn fwyaf anaf ac yn fwaf an-nrhefn ac anniwyg ac a all fod.

Ond megis y mae gwirionedd Efengyl ein Iachawdwr Chriſt yn abl i faentaenio gwir grefydd, os dyſcir hi yn heddychol ac yn ſobr, er iddynt hwy golli eu bywyd a fo yn ei dyſcu hi: felly y bydde raid i grefydd ynfydffol gael y cyfryw foddion cynddeiriog i'w maentaenio ac yw gwrthryfel, a'r cyfryw ymddiffynwyr ac yw gwrthryfelwyr, y rhai a fo parod nid i farw ym-mhlaid gwir grefydd, ond i ladd pawb ac a feiddio dywedyd dim yn erbyn eu coelfuchedd hwy a'u gaudduwiaeth annuwiol.

Bellach, ynhgylch y lliw a'r achos y mae gwrthryfelwyr yn eu cymmeryd arnynt o ddiwygio a gwella cyflwr y wlâd, fe all pob dyn ac ni bo gantho ond hanner llygad weled mor ofer ac mor weigion ydynt, gan fod gwrthryfel, fel y dangoſais o'r blaen, yn fwyaf cwymp a diniſtr ar wlad ac a all fod. A phwy bynnag a edrycho o'r naill du ar berſonau a llywodraeth anrhydeddus gynghoriaid y brenhin, y rhai trwy brawf llawer oflynyddoedd a wyddys eu bod yn anrhydeddus ac yn ffyddlon i'w tywyſog, yn fuddiol ac yn broffidiol i'r holl deyrnas: a phwy bynnag o'r tu arall a yſtyrio pa fath ddynion eu ſtât a'u cyflwr yw 'r gwrthryfelwyr, y rhai ſy yn cymmeryd arnynt geiſio diwygio 'r llywodraeth breſennol, a'i gaſod mewn trefn well; fe all weled mai y rhai gwaed-wylltaf a'r rhai ynfyttaf, y rhai anllywodraethuſaf, y rhai a wariaſant eu holl diroedd a'u golud yn annuwiol, y rhai ſy mewn dlêd tros eu pennau, a'r rhai o blegid eu gwaith yn lledratta yn yſpeilio ac yn lladd, ni feiddiant ddangos eu hwynebau mewn vn wlad a fo a llywodraeth dda ynddi, y rhai ſy annuwiolaf a gwaethaf eu hymarweddiad a'u bywyd, a chyfryw rai ac ni fynnant neu ni fedrant fyw mewn heddwch, y rhai hynny, meddaf, ſy byth barottaf i gyffroi terfyſc a gwrthryfel ac i gymmeryd plaid gwrthryfelwyr.

Ac onid ydyw y rhai hyn yn wŷr cymmwys, dybygwch chwi, i wellau cyflwr y wlad pan fo gwedy gwaethygu, y rhai a anrheithiaſāt ac a wariaſant eu holl gyfoeth a'u golud eu hun? Yr hyn y maēt hwy yn ei alw diwygio a gwellau cyflwr y wlad, nid ydyw yn ſiccr ddim ond anffurfio ac annrhefnu ie a llwyr ddifetha cyflwr da 'r wlad, fel y bydde amlwg ddigon pe cae y cyfryw ddynion eu hewyllys, ac fel y mae yn amlwg ddigon ac yn rhy amlwg wrth yr hyn a wnaethpwyd yn y gwledydd lle y dangoſant hwy eu hanllywodraeth ac er na thrigent ond ychydig ennyd yno hwy a wnaethant y cyfryw ddiwygiad a threfn, ac y bu iddynt ddiſtrywio pob lle, ac anrheithio pob dŷn lle delent, fel y bydd gwaeth o'u plegid hwy y plentyn ſy etto heb eni, ac a'u melldiga hwy lawer blwyddyn ar ôl hyn.

Am hynny na chanlyned vn deiliad cywir ſynhwyrol y faner a gyfoder i wrthryfela, ac y bo gwrtryfelwyr yn ei dwyn, er bod llun yr aradr wedi ei baentio arni, a'r geiriau hyn neu 'r cyfryw, Duw a lwyddo 'r Aradr, wedi eu ſcrifennu arni mewn llythrennau mawrion, a gwybyddwch nad oes neb yn rhwyſtro 'r Aradr yn fwy nâ gwrthryfelwyr, y rhai nid arddant eu hunain ac ni adawant i eraill aredig. Ac er bod rhai gwrthryfelwyr yn dwyn llun pum harcholl yn eu banerau, yn erbyn y rhai ſy yn rhoi holl oglud eu hiechydwriaeth yn archollion Chriſt, nid gwedi eu paentio ar gadach gan ryw baentiwr annuwiol, ond yn yr archollion hynny a ddug Chriſt yn ei werthfawr gorph: er eu bod heb wybod pa beth yw croeſ Griſt yr hon ni feidr na phaint wr na charfwr ei gwneuthur, etto maent yn dwyn delw 'r groes gwedi ei pheintio mewn cadechyn yn erbyn y rhai y peintiwyd croes Ghriſt yn eu calonnau, ie er peintio honynt yn eu * banerau, Hoc ſigno vinces: yn yr arwydd hon y gorfyddi a chanlyn yn lledffron orchwyl Conſtantin fawr yr Ymherodr Chriſtionogaidd godidawg hwnnw gorchfygwr gelynion Duw, arwydd anweddaidd i elynion Duw, eu tywyſog a'n gwlad, neu pa faner arall bynnac a ddygont, etto na chanlyned vn deiliad da duwiol (gan obeiddio gorchfygu neu dyccio yn dda) neb ac a ddygant y fath fanerau o wrthryfel. O herwydd fe gair ſiamplau o'r fath weithredoedd cyſtal mewn hên hiſtoriau ac mewn gwrthryfoloedd a fu yn hwyr ofewn o gof hygof ein tadau ni, a ninnau ein hunain: felly er maint yr ymrithient ac er dwyn honynt y banerau hyn, fe gyfrifer (er mwyn eu cofio yn dragywydd) fawr ac echrydus laddfau aneirif liaws a milioedd o'r bobl gyffredin, y rhai a laddwyd mewn gwrthryfeloedd, erchyl ddihenudd ycyffrowyr a'r penaethiaid a thruan andŵaeth eu gwragedd hwy a'u plant, a dietifeddu etifeddion y gwrthryfelwyr yn dragywydd, anrhaith a diſtryw y bobl a'r wlad lle dechreuwyd y gwrthrhyfeloedd fal y gallai y plentyn na aneſid etto ruddfan a galaru o'u plegid hwy, cwbl ddiſtryw ac angau cywilyddus yr holl wrthrhyfelwyr, y rhai a oſodir allan cyſtadl mewn hiſtoriau cenhedlaethau dieithr a chroniclau ein gwlad ni ein hunain, rhai o honynt ſydd hygof ddigon y rhai pe cynullid oll ynghyd a wnaent lawer o lyfrau mawrion: ond o'r gwrthwyneb fe a allid cynwys mewn ychydig liniau neu eiriau yr holl lwydiant a gafodd gwrthrhyfelwyr mewn vn oes, gwlad, neu amſer. I gaued am hyn y cwbl gwacheled pob deiliad da gan yſtyried pa mor echrudus bechod yn erbyn Duw, eu tywyſog a'u gwlad ac yn erbyn holl gyfraithiau Duw a dynion yw gwrthrhyfel, yr hwn nid yw vn pechod neilltuol yn vnig, ond yr holl bechodau yn erbyn Duw a dŷn gwedu eu pē tyru ynghyd, gā yſtyried erchyll fywyd a gweithredoedd a diwedd ac angau cywilyddus pob rhebel a gwrthryfelwr hyd yn hyn, andwaeth truā eu gwragedd hwy a'u plant a'u tolwydd a dietifeddu eu etifeddion hwy yn dragywydd, a chan yſtyriaid vwchlaw pob peth y dragwyddol ddamnedigaeth a ddarparwyd i'r holl wrthryfelwyr diedifeiriol yn vffern gyda diawl dechreudd cyntaf gwrthrhyfel a Phennaeth mawr yr holl wrthrhyfelwyr: gwacheled meddaf bob deiliad da (gan yſtyriaid y pethau hyn) bob gwrthrhyfel, megis y drygioni mwyaf ac a all bod, a chofleidied vfydd-dod dyledus i Dduw a'i dywyſog, megis y rhinwedd fwyaf oll, fel y gallom ddiangc rhag pob drygioni a blinderau ac a ganlynant wrthrhyfel yn y byd hwn a damnedigaeth tragwyddol yn y byd a ddaw, ac y mwynhaom heddwch lonyddwch a diogelwch a holl ddoniau eraill a bendithion Duw y rhai a ganlynant vfydd-dod yn y bywyd hwn, ac a meddiannom yn ddiwethaf yn ybyd a ddaw deyrnas nefoedd, lle enwedig i'r holl ddeiliaid a vfyddhant i Dduw a'u tywyſog.

Yr hwn Duw brennin yr holl frenhinoedd ai canniatao ini er mwyn vfydd-dod ei fab Ieſu Griſt i'r hwn gyd â'r Tad a'r Yſyryd glan vn Duw ac anfarwol frenin y byddo holl ddyledus anrhydedd gwaſanaeth ac vfydd-dod gan ei holl greaduriaid yn oes oeſoedd, Amen.

Fel hyn y clywſoch y bedweredd rhan or bregeth hon yn awr bobl dda weddiwn.

Y weddi fel o'r blaen.

¶ Y bummed rhan o'r bregeth yn erbyn gwrthrhyfelgarwch ac a'nufydd-dod.

YN ol athrawaeth a ſamplau am vfydd-dod dyledus deiliaid i'w brenhinioedd, mi a fynegais yn ddiwethaf ichwi pa fath bechod ffiaidd yn erbyn Duw a dŷn yw gwrthrhyfel, a pha blau erchyll, a choſpedigaeth a marwolaeth gydag angau tragwyddol yn y diwedd ſydd yn ſeſyll vwch bennau yr holl ddynnion gwrthryfelgar.

Ni bydd ammherthynaſol nac anfuddiol ddangos yn awr pwy y mae 'r cythrel, awdur a dechreuad pob gwrthrhyfelgarwch, yn eu harfer yn bennaf, i gyffro deiliaid i wrthrhyfelu yn erbyn eu tywyſogion cyfraithlon, fel gan eu adnabod y galloch gilio oddiwrthynt ac oddiwrth eu damnedig hudoliaeth hwy, a gochelyd pob gwrthrhyfelgarwch ac felly diangc rhag y plaau erchyll a'r far wolaeth echrydus, ac yn ddiwethaf y ddamnedigaeth tragwyddol ſydd ddyledus i bawb o'r gwrthrhyfelwyr. Er bod llawer o achoſeon gwrthrhyfelgarwch ac a ellir eu cyfrif, ie cynnifer haechen ac ſydd o faiau mewn gwyr a gwragedd, fal y dangoſwyd o'r blaen: etto ymma mi a gyhwrddaf yn inig a'r achoſion pennaf ac a arferir fynychaf, yn enwedig vchelfrud ac anwybod.

Wrth vchelfrud yr wyf yn meddwl anghyfraithlon ac aflonydd chwant mewn dynnion i fod mewn ſtat ſydd vwch nag y rhoddodd ac y oſododd Duw iddynt. Wrth anwybod nid ydwyf yn yſtyried eiſiau cafarwyddyd mewn celfyddydon a gwybodaethau, ond eiſiau gwybod ſanctaidd ewyllys Duw a fanegwyd yn ei ſanctaidd air ef. Yr hwn ſydd yn dyſcu cyſtadl i gaſhau yn drarhagorol bob gwrthrhyfelgarwch megis gwraidd pob drygioni, ac i lewyrchu mewn vfydd-dod megis dechreuad a gwaelod pob daioni, fel y manegwyd or blaen hefyd.

Ac fel y mae y rhai hyn yn ddwy o'r achoſeon pennaf o wrthrhyfelgarwch: felly y mae dau rhyw o ddynnion yn y rhai yn enwedig y mae y baiau hyn yn teyrnaſu, trwy y rhai yn bennaf y mae 'r diawl awdur pob drygioni yn cyffro pob anufydd-dod a gwrthrhyfel. Gwedy i'r bchelfrud aflonydd vnwaith gwbl fwriadu trwy rhyw ffordd neu gilydd gwblhau eu medddylfrud, pan pan na allont mewn modd cyfraithlon heddychlon dringo cyfuwch ac y dymunant, hwy a amcanant hynny trwy gadernid a grym ar fau, a phan na thyccio hyn ganthynt eu hunain yn erbyn awdurdod arferol a gallu cyfraithlon tywyſogion a liwiawdwyr, hwy a geiſiant nerth a chynnorthwy gan y cyffredin diwybod, gan eu camarfer hwy i'w defnyddion anwireddus.

Gan hyn am nad oes ond ambell o bennau cenfigennus vchelfrud yn bennau ac yn arweiniaid a bod amledd o ddynion anwybodus yn wenidogion ac yn gynnorthwywyr gwrthrhyfel: Y prif bwngc o'r rhan hyn a fydd cyhoeddi i'r diſyml a'r anwybodus, pwy yw y rhai a fu yn arferol gyffrowyr gwrthrhyfel, fal y gallont eu hadnabod hwy: ac felly eu rhebyddio hwy i ochelyd dichelgar ehudad y fath ddynion vchelfrud aflonydd, ac felly ymgadw rhagddynt: fel y goreſcynnir ac y cwbl ddiffodir yn ebrwydd ac yn hawdd heb nymmor lafur enbeidrwydd na choled, (eiſiau maenteiniaeth gan y cyffredin) bob gwrthrhyfel a gyfroir gan y chydig o bennau vchel eu bwriad.

Fe Wis. wyddys yn dda cyſtadl wrth yr holl hiſtoriau ac wrth addiſc amſer beunyddol na cheiſiodd neb ymgyrhaeddyd a thringo mor vchel fwriadus vchlaw ymherodrwyr, brenhinioedd, a thywyſogion, ac na chyffrodd neb y bobl anwybodus mor echryſlon i wrthrhyfel yn erbyn eu tywyſogion, na rhyw ddynnion a gymmerant yn dwyllodrus arnynt eu hunain yn enig, enw eglwyſwyr, ac a fynnant eu cyfrif felly. Rhaid imi ymma etto yn fyrr (bobl ddaionus) eich cofio chwi allan o ſanctaid air duw am ymarweddiad ein Iachawdwr Ieſu Griſt a'i apoſtolion ſanctaidd (pennaethiaid a phenaduriaid pob gwir wyr eglwyſig yſprydol) tuag at dywyſogion a rheolwyr eu hamſer hwy: er nad oeddent liwiawdwyr o'r gorau, fal y gwybyddoch pa vn a wna y fath ddynion ai bod yn ddiſcyblon Criſt a'i apoſtolion ac felly yn wir yſprydol, y fath ddynnion (meddaf) ac a geiſiant ymgyrhaeddyd a thringad mor vchel neu a ddyſcan yn dra chenſigennus, neu yn dra echryſlon wneuthur gwrthrhyfel yn erbyn eu tywyſogion cyfraithlon: yr hwn yw 'r gwaethaf o holl weithredoedd y cnawd a gorchwylion anwireddus.

Mae 'r ſcruthyrau ſanctaidd yn dywedyd yn oleu fod Chriſt ei hun a'i apoſtolion Saint Pawl, Saint Peter, ac eraill, yn vfydd eu hunain i'r lliwiawdwyr, a'r galluodd goruchel, y rhai a rheolent pan oeddent hwy ar y ddaiar ac yn annog eraill yn ddyfal ac yn ddifrif i fod yn yr vn modd yn vfydd i'w tywyſogion a'u lliwiawd wyr: Wrth yr hyn y mae 'n eglur y dyle wyr llen a gwenydogion Math. 17. 25. Mar. 12. 14. Luc. 20. Math. 27. Luc. 23. Ruf. 3. 1. Tit. 2. 1. Pet. 2. Iohn 6. 15. 18. 36. Math. 20. 25. Mar 10. Luc 22 25. Mar. 13. 8. Luc. 9. 2. Cor. 1. 1. Pet. 5. eglwyſig, yn enwedig eu hunain ac ymlaen pawb, fod yn vfydd i'w tywyſogion ac annog eraill i'r vn fath vfydd-dod. Ac fe gadarnhaodd ein Iachawdwr Chriſt hynny yn ei athrawaeth gan ddyſcu nad oedd ei deyrnas ef o'r byd hwn, athrwy ei ſiampl, gan gilio rhag y rhai a fynnaſe ei wneuthur ef yn frenin, gan wahardd i'w apoſtolion a thrwyddent hwy i'r holl wyr llen dywyſogaidd deyrnaſu ar y bobl a'r cenhedloedd, Ac efe a'i Apoſtolion ſanctaidd yn enwedig Petr a Phawl a waharddodd i holl wenidogion eglwyſig deyrnaſu ar Eglwys Griſt. Ac yn wir yr hyd y cynhalodd gwenidogion eglwyſig y drefn a oſodwyd yn gair Chriſt iddynt, a'r hyd y cadwaſant eu hunain yn heyrnaſoedd Chriſtionogion yn vfydd i'w tywyſogion, megis y mae 'r ſcruthyr lân yn en dyſcu hwy: yr oedd Eglwys Chriſt yn rhydd oddi wrth ymryſon a chynhennau ymchwyddus, ac nid oedd ſtat teyrnaſoedd Chriſtionogaidd mor llawn o gynnwrf a gwrthryfel.

Ond yn ol i vchelfryd a chwant teyrnaſu ddyfod vnwaith i wenidogion eglwyſig, braint y rhai yn ol ſiampl ein Iachawdwr a'i athrawaeth a ddyle ſefyll yn bennaf mewn goſtyngeidd wydd: a chwedy i Eſcob Rufain ac ef wrth drefn gair Math. 18. 20. Luc. 9. 22. 27. Duw heb fod ddim amgen onid Eſcob o'r vn eſcobaeth honno, ac heb allel erioed lywodraethu honno yn inion, daeru trwy falchedd anrhaith oddef, mai fe nid yn inig yw pen yr holl eglwys ſydd wedy ei gwaſcaru dros wyneb yr holl ddaiar, ond hefyd Arglwydd holl deyrnaſoedd y byd, fal y goſodir i lawex yn oleu yn ei gyfraithiau Canon ef ei hun, yn wrthwyneb iawn i athrawaeth a ſiampl ein Iachawdwr Chriſt, ficar yr hwn a ficar ei apoſtol S. Decret. li. 3. cap. vnic. & li. 5. tit. 9. cap. 5. in Gloſ. ſanctaidd ef, y myn ef ei fod, Petr meddaf, canlynwr yr hwn y cymmer arno fod: yn ol i'r vchelfryd hwn gael ei gynwys, achwedy ei Eſcob Rufain daeru hyn vnwaith, fe a aeth yn anhraithiwr ac yn ddiſtrywydd cyſtadl o'r eglwys yr hon yw teyrnas ein Iachawdwr Chriſt, ac o'r Ymherodraeth Griſtionogaidd a phob teyrnas Griſtionogawl megis tyron cyffredinol ar y cwbl.

Ac lle cyn iddo daeru hynny yr oedd cariad a ſerch mawr rhwng Chriſtionogion pob gwlad a'i gilydd, o hyn y dechreuodd tyfu cenfigen a chaſineb mawr rhwng Eſcob Rufain a'i wyr llen a'i gymdeithion o'r vn rhan, a gwyr llen Groeg a Chriſtionogion y dwyrain o'r rhan arall, am eu bod yn gwrthod cydnabod fod vn fath goruchel awdurdod gan Eſcob Rufain arnynt: ac Eſcob Rufain am yr achos hyn ym-mhlith eraill nid yn inig yn eu galw'hwy ac yn eu cymmeryd hwy yn Schiſmatici. lle rhwygwyr yr eglwys, ond heb orphwys yn eu herlid hwy, a'r Ymherodwyr hefyd, eiſteddfod y rhai a'i gorphwyſfa oedd yn Grecia, gan annog y deiliaid i wrthrhyfelu yn erbyn eu harglwyddi goruchel, a chan gyffro caſineb marwol a rhyfeloedd creulon rhyngthynt hwy a thywyſogion Chiſtionogaidd eraill. Ac yn ol i Eſcobion Rufain ſymmud titul yr Ymherodr, a chybelled ac y gallai, yr Ymhoerodraeth hefyd oddiwrth ei Arglwydd yr ymmerodr o Grecia ac o Rufain hefyd trwy gyfiawnder, at dywyſogion Chriſtionogaidd y gorllewin, hwy a fuont am ben ennyd byrr cynddrwg wrth Ymmerodwyr y gorllewin ag a fuaſent hwy o'r blaen i Ymmerodwyr Grecia, fe a ellir gweled yn hiſtoriau a chroniclau i Eſcobion Rufain arfer rhyddhau deiliaid o'u llw o vfydd-dod a wnaent i Ymerodwyr y gorllewin eu huchel Arglwyddi, i Eſcobion Rufain gyffro 'n an-naturiol y deiliaid i rebelio yn erbyn eu tywyſogion, ie y mab yn erbyn y tad: gyffro Rhyfeloedd creulon gwaedlyd ym-mhlith tywyſogion Chriſtionogaidd yr holl deyrnaſoedd: erchyll fwrdder llawer mil o Griſtionogion a laddodd Chriſtionogion eraill: a'r hyn a ganlynodd o hynny y colled truan ar gynnifer o ddinaſoedd gwledydd treſi a theyrnaſoedd, y rhai a fu ryw amſer ynnwylo 'r Chriſtionogion, yn Aſia, Africa ac Europa: cwymp blin yr Ymmerodraeth ac Eglwys Grecia (rhan rhyw amſer fraintiſaf o Grêd) i ddwylo 'r Twrciaid, lleihad adfeiliad a chwymp truan galarnus ar grefydd Griſtionogaidd, echrydus gynnydd buchedd Paganiaid a gallu 'r anghredadwy a'r anifeiliaidd a'r cwbl trwy hocced ac annogaeth Eſcob Rufain yn bennaf: hyn oll a ellir ei weled meddaf yn ſcrifennedig yn hiſtorian a chroniclau y rhai oeddent yn ffofro ac yn caru Eſcob Rufain, fel y gŵyr pawb yn dda ar ſydd gydnabyddus a'r hiſtoriau hynny: fe a ymddangoſodd balch fwriad a dichellion twyllodrus Eſcob Rufain yn yr holl orchwylion hyn; wrth eu tra eofnder yn anrheithio ac yn yſpeilio yr Ymerodwyr, o'u trefi, dinaſoedd, a theyrnaſoedd, yn Itali, Lumbardi, a Cicili, y rhai er hên amſeroedd a berthynent i'r Ymmerodraeth, a chan eu cyſſylltu hwy a'u Heſcobaeth o Rufain, neu eu rhoddi hwy i ddieithriaid i'w dala dan yr Eglwys neu Eſcob Rufain megis in capite, ac megis dan yr vchel Arglwyddi o honynt, yn yr hwn gylltyd y maent yn dala y rhan fwyaf honynt hyd y dydd heddyw. Trwy y moddion balch bradychus hyn a thrwy anrheithio eu Harglwyddi goruchel y daeth Eſcobion Rufain o offeiriaid, ac heb fod ddim amgen mewn cyfiawnder ond Eſcobion vn ddinas, neu Eſcobaeth, trwy gam oreſcyn yn Arglwyddi mawr, llawer o Arglwyddiaethau, yn dywyſogion cedyrn, neu yn hytrach yn Ymmerodwyr, megis yn taeru fod llawer o dywyſogion a brenhinioedd yn gaethion yn oſtyngedig ac yn ddeiliad iddynt, fal y gellir gweled yn yr hiſtoriau hynnya ſcrifennodd eu tylwyth a'u cyfeillon hwy eu hunain.

Ac yn wir er pan cyrhaeddodd yr Eſcobion o Rufain ymma trwy ymdringo a bradau yr ore ſcynniaeth ymma, ac er pan daethont hwy i'r maint a'r vchelder hwn, hwy a ymddygaſant yn debyccach i Dywyſogion, Brenhinioedd, ac Ymmherodwyr, ym-mhob peth nag i offeiriaid, Eſcobion, gwyr eglwyſig, neu yſpryddol (fely mynnant hwy eu galw) yn vn peth. O blegid yn ol y cyfrif hwn y trinaſant hwy frenhinioedd a thywyſogion o deyrnaſoedd eraill trwy Gred, cyſtadl a'u goruchel Arglwyddi yr Ymmerodwyr: gan rhyddhau yn arferedig eu deiliaid hwy o'u llw o vfydddod, a chan eu cyffro hwy felly i rebelio yn erbyn eu tywyſogion naturiol, am yr hyn y cewch beth ſiamplau yn y rhan ddiwethaf.

Am hyn gan adnabod mai y rhai hyn yw offerau a gwenidogion eſpyſawl y diawl i gyffro pob rebeliwn, gocheled pob deiliad da hwy, ac ehudad y fath oreſcynwyr dieithr a'u canlynwyr, ac ymgofleident bob vfydd-dod i Dduw, a'u tywyſogion a'u gor chelon naturiol, fal y mwynhaont fendith Duw a ffafwr eu tywyſogion ym-mhob heddwch, eſmwythder a llonyddwch a diofalwch yn y byd hwn, ac a meddiannont yn y diwedd fywyd tragwyd dol yn y byd a ddaw trwy Griſt ein Iachawdwr: yr hyn Duw Dad er mwyn ein Iachawdwr hwnnw Ieſu Griſt a'i canniatao ini oll, i'r hwn gyda 'r Yſpryd glan y byddo holl anrhydedd yn oes oeſoedd, Amen.

Fel hyn y clywſoch y bummed rhan o'r bregeth hon, bellach bobl ddaionus, Gweddiwn.

¶ Y chwechod rhan o'r homili yn erbyn anufydd-dod.

YN awr yn gymmaint a bod camweddau, treiſiau, yſpail a thyraniaeth Eſcob Rufain, gan dreiſio cyſtadl ar eu Harglwyddi naturiol yr Ymmerodwyr, ac ar yr holl freh inioedd Chriſtionogaidd, a'u teyrnaſoedd, a chan gyffro yn waſtadol y deiliaid i rebelio yn erbyn eu gorchuchel Arglwyddi, am yr hyn y rhybyddiais chwi or blaen mewn rhan) yn anrhaith oddef: ac am y tybyged fod yn fwy na rhyfedd i ddeiliaid ddal yn y modd hynny gyda threiſiwr dieithr ânnaturiol, yn erbyn eu goruchel Arglwyddi a'u gwlad naturiol.

Mae 'n aros bellach imi ddangos yr achoſion trwy y rhai yr ymgylchynaſant y pethau hyn, ac fellu cau y cwbl o'r trawthawd cyfan hwn am vfydd-dod a gwrthrhyfel. Deallwch mai trwy anwybod yngair Duw yn yr hwn y cad waſant bawb (ond yn enwedig y bobl gyffredin) y gwaithiaſant ac yr amgylchanaſant hyn oll, gan wneuthur iddynt gredu fod beth bynnac y ddywedent hwy yn wir, beth bynnac a wnaent yn ddaionus ac yn dduwiol, a bod dala gyd a hwy ymmhob peth yn erbyn tad a mam, tywyſog, gwlad a phawb oll, yn dra haeddiannol. Ac a dywedyd gwir i pa ddrygioni ni thywys dallineb diwybod ddynnion Diddrwg. diſyml.

Trwy anwybod y perſwadodd gwyr llen yr Iddewon i'r bobl ofyn am rhyddhau Barabas murdderwr terfyſcus, ac i adel ein Iachawdwr Chriſt i'w groefhoeli yn greulon, am iddo ef geryddu vchelfryd ac ofergoel a baiau eraill yr archoffeiriaid a'r gwyr llen.

O herwydd fal y tyſtiolaetha ein Iachawdwr Chriſt na wyddie y rhai a croeſhoelent ef beth oeddynt yn ei wneuthur: felly y mae 'r Apoſtol S. Pawl yn dywedyd pes adwaenaſent ni chroeſhoeliaſent 1. Cor. 2 8. Arglwydd y gogoniant, ond ni wyddent pa beth oeddynt yn ei wneuthur. Mae 'n Iachawdwr Chriſt eihun yn rhag-ddangos hefyd y dawae 'r amſer pan trwy anwybod y tybyge y rhai a herlidient ac a laddent eu apoſtolion a'u ddiſcyblon ef eu bod yn gwneuthur gwaſanaeth da i Dduw: yr hyn a wirhair hefyd y dydd heddiw.

Ac ni chadwodd Eſcobion Rufain bobl Dduw mewn anwybod, yn en wedig y cyffredin, mewn vn modd yn gymmaint, ag wrth gadw gair Duw oddiwrthynt, a'i gadw ef dan len tafod dieithr yr hwn nis adwaenent. O blegid megis yr oedd dyrru pob cenedl i arfer 〈◊〉 naturiol dinas Rufain (Ie yr oeddynt hwy yn Eſcobion, yr hyn a ddangoſai rhyw gydnabod o vfydd-dod yddynt) yn gwaſanaethu tro ac vchelfrud Eſcobion Rufain: felly y gwaſanaethodd hynny yn fwy o lawer eu bwriad dichellus hwy, iddynt gadw y bobl mor ddeillion fel na wyddent am pa beth y gredent, a pha beth y orchymmynnodd Duw iddynt ac fel felly a cymmerent eu holl orchymynion hwy yn lle gorchymynnion Duw.

O herwydd megis na oddefent fod arfer yr ſcruthyrau na gwaſanaeth yr eglwys yn vn iaith ond yn lladin: felly ni ddyſced ond i ambell iawn o'r bobl ddiſyml, weddi'r Arglwydd, pyngciau y ffydd, a'r dêg gyrchymmyn, yn vn iaith ond yn lladin yrhon ni ddeallent: trwy 'r anwybod cyffredinol hwn, yr oedd pawb yn barod i gredu beth bynnac y ddywdent hwy, ac i wneuthur beth bynnac y orchymmynnent.

O blegid (mi arferaf ymmadrodd yr Apoſtol) pe gwybuaſai ddeiliaid Ymmerodwyr allan o air Duw, eu dylyed tuag at eu tywyſogion, ni chymmeraſent e'u perſwadio gan Eſcob Rufain i ymwrthod a'u huchel Arglwydd yr Ymherodr, yn erbyn Greg. . a'r 3. anno domini 26. &c. eu llw o vfydd-dod, ac i wrthrhyfelu yn ei erbyn ef, yn vnic am dafli hono ddelwau (i'r rhai y gwnaed delwaddoliaeth) allan o'r deml, yr hyn y berſwadodd Eſcob Rufain iddynt ei fod yn hereſi. Pe gwybuaſent gymmaint o air Duw a'r dêg gorchymmyn, hwy a welſent fod Eſcob Rufain nid yn inig yn fradwr i'r Ymmerodr ei vchel Arglwydd, ond i Dduw hefyd, ac yn erchell gablwr ei fawrhydi ef, am alw ei ſanctaidd air a'i orchymmyn ef yn hereſi: ac hwy a wyddaſent fod yr hyn y gymmerodd Eſcob Rufain yn achos cyfion i rhyfelu yn dyblu ei faiau tra anferth ef, ſydd gwedy eu pentyru ag erchyll annuwioldeb a chabledd. Ond rhag i'r bobl druain wybod gormod ni oddefe ef fod ganthynt gymmaint o air Duw a'r dêg gorchymmyn yn gyfan ac yn gwbl, ond fe a dynne oddiwrthynt yr ail orchymmyn gan ddangos ei annuwioldeb trwy ei ddichellus gyſſegrledrad. Pe buaſai ddeiliaid yr Ymherodwyr hefyd yn . Orchymyn. gwybod ac yn deall gair Duw, y wrthryfelaſent hwy a'r amſer arall yn erbyn eu huchel Arglwydd, ac y nerthaſent hwy trwy wrthrhyfel ei ddiſwyddo ef, yn vnig am fod Eſcob Rufain yn eu perſwado hwy mai ſymoni a hereſi oedd i'r ymmerodr rhoi braintau eglwyſig, na derchafiaeth i'w gapelenaid dyſcedig neu eraill o'i wyr llen dyſcedig, yr hyn y wnelſe yr holl ymherodwyr Chriſtionogaidd o'i flaen ef yn ddirhwyſtr? y fuaſent hwy meddaf am fod Eſcob Rufain yn eu cymmell hwy i gredu hynny, yn gwrthrhyfelu dros ddeigain mlynedd ynghyd yn ei erbyn ef, trwy dywallt cymmaint o waed Chriſtionogaidd a lladd cynifer mil o Griſtionogion, ac yn y diwedd yn diſwyddo eu huchel Arglwydd pe buaſent hwy yn gwybod ac yn deall dim o air Duw? yn enwedig pe gwybuaſent iddynt wneuthur y cwbl o hynny i dynnu oddiwrth eu huchel Arglwyddi a'u etifeddion yn dragywydd eu hên gyfiawnder i'r ymmerodraeth a'i rhoddi hi i Eſcob Rufain a'i wyr llen, fel y galle ef am vn Archeſcobaeth ac am vn cerpyn o Rufain yr hwn a alw ef pal, na thale ond braidd ſwllt, dderbyn llawer mil o goranau aur, a chan Eſcobion eraill hefyd ſummau mawr o arian am eu bulau yr hyn ſydd wir ſymoni? Y fua ſe Griſtionogion meddaf a deiliaid trwy wrthrhyfel yn tywallt cymmaint o waed Chriſtionogaidd ac yn diſwyddo eu tywyſog naturiol godidawg dewr, i dd wyn y peth i'r diben hyn, pe gwybaſant beth oeddynt yn ei wneuthur neu pe deallaſant air Duw?

Ac fal y gwnaeth y treiſiwr vchelfrud hwn Eſcob Rufain i ffrydiau o waed Chriſtionogion orchguddio holl Itali a Germani yr hwn y dywalltodd deiliaid anwybodus trwy wrthrhyfel yn erbyn eu Harglwyddi naturiol ac Ymherodwyr, y rhai y gyffroeſant hwy i hynny trwy y fath gau eſcuſon: felly nid oes vn wlad yn-Ghred yr hon ni thaſcwyd erni waed deiliaid trwy eu gwrthrhyfel yn erbyn eu naturiol vchel-alluoedd yr hon y gyffrowyd trwy'r vn rhyw Eſcobion Rufain. Ac i rhoddi i chwi vn ſiampl o'n gwlad ni ein hunain fe a gymmerth Eſcob Rufain gweryl yn erbyn brenin Ioan o Loeger am ddewis Stephan Langthon i Eſcobaeth Canterburi, yn yr hyn beth yr oedd gan y brenin hên gyfiawnder yr hwn y arferaſe ei rhyeni ef holl frenhinioedd Lloeger oi flaen ef, ac Eſcob Rufain heb iddo vn cyfiawnder, onid darfod iddo dreiſio ar frenin Lloeger a brenhinioedd eraill, megis y gwnelſai o'r blaen ar ei vchel Arglwydd yr Ymherodr, gan fyned yn eu herbyn hwy hyd yr vn ffordd ac yn yr vn modd, felly fe felltithiodd brenin Ioan ac a rhyddhaodd ei ddeiliaid ef o'u llw o vfydd-dod i'w huchel Arglwydd.

Bellach pe gwybuaſe Saeſon yr amſer hwnnw eu dlyed i'w tywyſog a oſodwyd allan yngair Duw, y fuaſe gynifer o'r pennaethiaid a Saeſon eraill deiliaid naturiol o achos i'r treiſiwr dieithr annaturiol hwn felltithio eu brenin hwy yn ofer a gwneuthur lliw o'u rhyddhau hwyntau o'u llw o vfydd-dod i'w Harglwydd naturiol, ar ſail mor wann neu yn hytrach heb vn ſail yn gwrthrhyfelu yn erbyn eu huchel Arglwyd y Brenin? A fuaſai ddeiliaid Saiſnig yn dala yn erbyn Brenin Lloeger ac yn erbyn Saeſon gyda Brenin Frainc a Francod y rhai y gyffroeſe Eſcob Rufain yn erbyn y deyrnas hon? y ddanfonaſent hwy i geiſio ac y dderbynaſent hwy y Dolpin o Ffrainc a llu mawr o Frangod i deyrnas Loeger? y dyngaſent hwy lw o vfydd-dod iddo gan dorri eu llw i'w Harglwydd naturiol Brenin Lloeger, Ac y ſafaſent hwy dan ei faner ef gwedy ei lledu yn erbyn Brenin Lloeger? Y ddyraſent hwy eu huchel Arglwydd Brenin Lloeger allan o Lundain y ddinas bennaf yn Lloeger, ac allan o'r rhan fwyaf o Loeger hefyd, hyd tu y gorllewyn o'r afon Trent ie hyd yn Lincoln ac allan o Lincoln hefyd, a rhoddi 'r cwbl dan feddiant y Dolphyn o Ffrainc yr hwn a'u cadwodd dan ei feddiant hîr ennyd? y fuaſent hwy a hwy yn Saeſon yn annog tywallt gwaed cynifer o Saeſon ac aneirif eraill o ddrygioni a blinderau i Loeger eu gwlad naturiol, y rhai a ganlanaſant y rhyfeloedd creulon a'r gwrthyfeloedd bradychus hynny ffrwythau bendithion Eſcob Rufain? Y ddyraſent hwy eu huchel Arglwydd Brenin Lloeger i'r fath gyfyngder fal y gorfu arno ddaroſtwng ei hun i'r gau dreiſiwr dieithr, Eſcob Rufain, yr hwn a'i dyrrodd ef i ſurendro coron Loeger i ddwylaw ei gannad ef, yr hwn yn lle arwydd ei fod ef yn feddiannol honi a'i cadwodd hi yn ei ddwylo lawer o ddiwarnodau, Pandolphus. ac yno fe a rhoddodd hi i fynu ailwaith i frenin Ioan, dan ammod i frenin Ioan a'i etifeddion ddala 'r goron a Brehiniaeth Loeger dân Eſcob Rufain a'r rhai a ddoe ar ei ol ef megis deiliaid Eſcobion Rufain yn dragywydd, yn arwydd o hynny y talai frenhinoedd Lloeger dreth bob blwyddyn i Eſcob Rufain megis deiliaid yn dala dano ef? Y fuaſe Saeſon yn dwyn eu huchell Arglwydd a'u gwlad naturiol i gathiwed a goſtyngeiddrwydd i gau dreiſiwr dieithr, pe gwybuaſent a phe buaſent yn deall dim o air Duw? Allan o'r ſtat galarnus hon a blin dyranaeth, yſpail ac anrhaith y bleiddiaid awyddus hyn o Rufain a ganlynodd ar ol hyn, ni allodd Brenhinioedd na theyrnas Loeger rhyddhau eu hunain dros lawer iawn o flynyddoedd yn ol hynny: gan fod Eſcob Rufain nid yn inig yn yſpeilio yn waſtadol trwy ei wenidogion, o deyrnas ac oddi ar frenin Lloeger aneirif dreſor, ond yn hirio hefyd a'r arian hynny ac yn maenteinio gelynnion dieithr yn erbyn teyrnas a Brenhinioedd Lloeger, i'w cadw hwy yn y fath vfydddod, fel na wrthodent dalu beth bynnac y chwenyche y bleiddiaid gwalfawr hynny yn awyddus, na gwneuthur beth bynnac y oſode y tyraniaid creulon hynny arnynt. Y fuaſe Saeſon yn goddef hyn? Y baraſent hwy hyn trwy wrthrhyfel y dybygwch chwi, a hynny oll am felltith diachos Eſcob Rufain, pe gwybuaſent a phe deallaſent hwy fod Duw yn melltithio y fath Eſcobion a thyraniaid, a threiſwyr melltigedig? fal y dangoſwyd ar ol hynny yn amſer Brenin Harri wythfed, a Brenin Edward y chweched, a'r frenhines Elizabeth, a'n Graſol frenin yr hwn ſydd yn awr yn teyrnaſu, lle nid oes diffyg nac o felltithion y Pab, nac o aml fendithion Duw.

Ond gan fod Eſcob Rufain yn deall yn amſer Brenin Ioan ddallineb ac anifeiliaidd anwybodaeth yn-gair Duw ac ofergoel y Saeſon, a pha mor barod oeddynt i addoli yr anifail Babilonaidd o Rufain, ac i ofni pob bygythau a melltithion diachos, fe a'u camarferodd hwy fel hyn, ac a ddug trwy wrthrhyfel y deyrnas odidawg hon a Brenhinioedd Lloeger tan ei dyranaeth tra chreulon, i fod yn yſclyfaeth i'w drachwant a'i yſpail wael awyddus ef dros amſer hir, ie rhyhir o lawer.

Ac er cyſſylltu ac ymadroddion hiſtoriau bethau o gyffadwriaeth ſydd hwyrach, allaſai Eſcob Rufain gwnnu y fath wrthrhyfeloedd yngwledudd y deheu a'r gorllewyn, yn amſer Brenin Hari wythfed a Brenin Edward, ond gan gamarfer anwybod y bobl? Onid yw eglur i Eſcob Rufain amcanu yn hwyr trwy ei Batriarchau a'i Eſcobion gwyddelig (i'r rhai y danfonwyd o Rufain eu Bulau ac o'r rhai y daliwyd rhai) dorri barrau a pherthi heddwch cyffredinol Iwerddon, yn vnig am ei fod ef yn ymddired y gallai yn hawdd gamarfer anwybod y Gwyddelaid gwylltion? Neu pwy na wyl iddo ef ar yr vn fath obaith etto yn hwyrach, annog torri heddwch cyffredinol Lloeger, (am fod yn flin iawn gantho fod hwn yn parhau mor hîr, ac mor fendigaid) trwy wenidogaeth ei Gapalenaid ymrhithiedig, y rhai a ymluſcant mewn trwſiad gwyr llygion ac a rhiniant ynghluſtiau rhai o artaloedd y Gogledd, y rhai a wyddont leiaf am eu dlyed at Dduw a'u tywyſog o holl bobl y deyrnas, y deiliaid am hynny deillion diſyml hyn, megis rhai addas parod iwneuthur yr hyn y fwriadai ef, y hebryngodd ef trwy ei offeren offeiriaid, megis y dall yn arwain y dall, i glawdd dyfn gwrthrhyfel * echrydus, ddamnedig iddynt hwy eu hunain ac enbaid i ſtat y deyrnas, oni buaſe i Dduw o'i drugaredd oſtegu yn rhyfedd y temeſtl creulon hwnnw, nid yn inig heb warth i'r wlad, ond haechen heb dywallt dim gwaed Chriſtionogaidd Saeſon.

Ac etto mae peth y ddlyed galarnu am dano 'n fwy nad ydyw y bobl gyffredin yn inig, onid ambell dywyſog ieuanc anghyfarwydd hefyd, yn goddef Eſcob Rufain a'i gardinelaid a'i Eſcobion i'w camarfer hwy, i orthrymmu Chriſtionogion eu deiliaid ffyddlon, y naill ai eu hunain ai yntef gan annog dyfod a galluodd Chriſtionogion allan o vn wlad i wlad arall, i orthrymmu Chriſtionogion gan agored lle trwy hyn i'r Mwraid a'r anghredadwy i ddyfod i feddiannu teyrnaſoedd agwledudd Chriſtionogaidd, yr hyd y byddo tywyſogion eraill trwy annogaeth Eſcob Rufain yn ymdaro a rhyfeloedd cartrefol ac yn cael eu blino gan wrthrhyfeloedd, heb fod na'r ennyd na+'r gallu ganthynt i gyſſylltu eu gallu cyffredinol ynghyd i ymddiffyn eu cyfeillion y Chriſtianogion yn erbyn goreſcynniaeth gelynnion cyffredinol Cred, y budreddiaid anghredadwy.

Och na byddem ni yn clywed ac yn darllen yn inig yn hen hiſtoriau ac heb weled a'n llygaid a theimlaw a'n dwylaw fel yr ydys yn gorthrymmu Chriſtionogion o newydd yn brenſennol, fel y mae deiliaid yn gwrthrhyfelu, fel y tywalltir gwaed Chriſtionogion, fel yr adfeilia ac y cwymp Cred, fel y mae Anghred yn cynyddu yr hyn ſydd alarnus a thruan ei weled, a hyn a annogir yn awr megis yn yr hên amſeroedd trwy Eſcob Rufain a'i wenidogion, gan gamarfer anwybod gair Duw, yr hwn ſydd etto 'n aros mewn llawer o dywyſogion a phobl.

Y ffrwythau triſt chwerwon ymma o anwybod y ddlye gyffro pawb i wrando ac i gredu gair Duw, yr hwn ſydd yn dangos yn gywir ac yn oleu pa faint ddrygioni yw anwybod, a pha faint a pha gyſtadl rhodd Duw yw gwybod gair Duw. Ac er mewn dechreu ar wyr llen Rufain y rhai er eu bod yn ymffroſtio yn awr, fal y gwnae wyr llen yr Iddewon rhyw amſer, na allant hwy fod heb Ieremi 18. wybodaeth: Etto mae 'r Arglwydd yn ei air yn haeru eu bod hwy mewn anwybod, ac yn eu bygwth hwy hefyd am iddynt ddiyſtyru gwybodaeth Ezechiel 7. 26. gair Duw a'i gyfraith, y diyſtyrai yntef hwythau, fel na byddent offeiriaid iddo ef. Mae Oſea 4. 6. Duw hefyd yn gochymmmyn i frenh nioedd cyſtadl ag i offeiriaid ymhydyru i gael deall a gwybodaeth yn gair Duw, gan fygwth ei fawr lid a'i ddiſtryw arnynt oni wnant felly.

Ac mae 'r gwr doeth yn dywedyd wrth bawb yn gyffredinol tywyſogion ofſeiriaid a phobl, lle Diaur. 19. 8. nid oes deall nid oes na daioni na iechyd i'r enaid ac mai Ofer yw y dynnion oll, ſydd heb adnabod Duw a'i air ſanctaidd ef. A bod y rhai fydd yn rhodio Sap. 13. 1. Ephc. 4. 18. Ioh. 12. 35. yn y tywyllwch heb wybod i pa le yr ant: ac y cwymp y rhai ni ddyſcant i lawer o ddrygioni fel y cywympodd pobl Iſrael y rhai am eu hanwybod Eſai 5. 13. yn-gair Duw a gaeth gludwyd. Aphan trwy anwybod ar ol hynny ni fynnent nabod amſer eu Luc. 19. 44. 23. 34. Act multis locis. hymweliad ond croeſhoeli Chriſt ein Iachawdwr, herlid ei apoſtolion ſanctaidd ef, a bod mor ddall ac mor anwybodus fel pan wnaent yn dra drwg ac yn dra chreulon, y tybygent eu bod yn gwneuthur gwaſanaeth da cymmeradwy gan Dduw (fel y mae llawer trwy anwybod yn tybied hyd y dydd heddyw) yn y diwedd trwy eu hanwy bod hwy a'u dallineb, fe ddiſtriwyd yn erchyll eu gwlad hwy eu trefi a'u dinaſoedd, Ieruſalem ei hun, a theml ſanctaidd Dduw, fe laddwyd y rhan fwyaf o'u pobl hwy ac y ddyc pwyd y gweddill i ga ethclud blin annial. Yr hwn a'u gwnaeth ni thoſturia wrthynt a'r hwn a'u lluniodd ni thrugarha Eſai 27. 11. wrthynt a'r cwbl o hyn am eu bod yn anneallgar.

Ac mae 'r ſcruthyr ſanctaidd yn dangos am y Oſee 4. Bar. 3. Eſai 6. 9. Math. 13. 14. 15. Ioh. 12. 40. bobl ni welant a'u llygaid, ni chlywant a'u cluſtiau, ac ni ddeallant a'u calonnau, na throir hwy ac na chedwyr honynt. Ac fe gyfaddef y drygionus eu hunain gwedy eu damnio i vffern, mai anwybod yngair Duw y dygoedd hwy yno, gan ddywedyd, Ni a gyfeiliornaſom o ffordd y gwirionedd, ac ni thywynnodd llewyrch cyfiawnder arnom ni, ac ni chododd haul cyfiawnder arnom ni. Doeth. 5. 6. Nini a lanwyd o ffyrdd anwiredd a diſtryw ac a rhodiaſom trwy anialwch anhyffordd, eithr ni adnabuom ni ffordd yr Arglwydd. Ac mae 'n Iachawdwr Chriſt ei hun a'i Apoſtol S. Pawl yn dyſcu ini fod anwybod am air Duw yn dyfod o'r Math. 13. 19. 2. Cor. 4. 2. 3. 4. Math. 7. Iohn . diawl, yn achos pob camſynnaeth ac amryfyſedd, megis y digwydda mewn deiliaid anwybodus y rhai a welant y brychewyn lleiaf yn llygad y tywyſog neu gynghorwr, yn hytrach na'r trawſt yn eu llygaid eu hun, ac yn gyffredinol hwn yw achos pob drygioni ac yn y diwedd achos damnedigaeth dragwyddol gan fod barn Duw yn gadarn tuag at y rhai yn ol dyfod goleuni efengil Chriſt i'r byd ſydd yn caru tywyllwch anwybod, yn fwy na goleuni gwybodaeth gair Duw. Math. 11. 15. 139. 43. Luc. 8. 8. Ioan 5. 39. Pſal. 1.

O herwydd yr ydys yn gorchymmyn i bawb ddarllen, wrando, chwilio a myfyrio 'r ſcruthyrau, ac fe addewiros gwnant hwy felly y rhydd Duw iddynt hwy ddeall, yr ydys yn gwahardd i neb gredu na gwr marw, nac Angel o'r nef a ddywedo, Math. 7. 7. Lut. 11. 9. Luc. 16. 30. 31. Galath. 1. 8. Deut. 5. 32. Deut. 17. 14. 15, &c. Rom. 13. 1. Pet. 2. Pſal. 118. Pſal. 18. Ephe. 5. 14. . Theſ. 5. 2. 4 Ioan. 12. 35. 36. mwy o lawer os dywed y Pab o Rufain ddim yn erbyn neu yn wrthwyneb i air Duw, oddiwrth yr hwn ni ddlyem droi nac i'r llaw ddeheu, nac i'r llaw aſſwy. Yngair Duw y dlye dywyſogion ddyſcu adnabod Duw a llywodrathu dynnion: yngair Duw y dlye ddeiliaid ddyſcu vfydd-dod i Dduw, a'u tywyſogion. Feddyſcir yngair Duw i hên a ieuaingc, gwyr a gwragedd, i bob ſtat, rhyw, ac oedran eu dlyed neilltuol.

O herwydd mae gair Duw yn eglur yn goleuo llygaid pawb, yn lyſern goleu yn iniawni cerddediad pawb. Dihunwn am hynny o gwſc tywyllwch anwybod, ac agorwn ein llygaid fel y gwelom y goleuni, cyfodwn o weithredoedd y tywyllwch fel y diangom rag tywyllwch tragwyddol ei ddyledus wobr ef, a rhodiwn yn-goleuni gair Duw yr hyd y caffom y goieuni, fel y gwedde i blant y goleuni, gan iniawni felly gerddediad ein bywyd yn y ffordd ſydd yn tywys i'r goleuni a'r bywyd tragwyddol, fal yn y diwedd y gallom gael a mwynhau y bywyd hwnnw, Yr hyn Duw Tad y goleuni, yr hwn ſydd yn aros yn y fath oleuni ni ellir ei ymgyffryd na dyfod atto, a'i caniatao ini trwy oleuni y byd ein Iachawdwr Ieſu Griſt, i'r hwn gyda 'r Yſpryd glan vn Duw gogoneddus y byddo holl anrhydedd mawl a diolch yn dragywydd, Amen.

Fal hyn y clywſoch y chweched rhan o'r Homili hon Bellach bobl dda gweddiwn: y weddi o'r blaē.

Moliant ac anrhydedd i Dduw.

¶ Rhoddwn ddiolch Dduw am ei ddaioni.

HOll-alluog DduW a thrugaroccaf Dad yr ydym ni yn maWr ddiolch iti, am fod yn Wiw genniti o amfer yn amſer ein gWared ni dy Weiſion anheilwng, oddiwrth Wrthrhyfelgar fradau a chythreulig gydfWriadau dynnion drWg anufydd, y rhai pe buaſai eu gallu cymmaint a'u cenfigen a'u hyd cymmaint a'u drWgleWyllys, a phe buaſai dy drugaredd a'th doſturi di heb fod yn fWy na'n teilyngdod ni a'n haeddiant a fuaſent er es llawer o amſer gwedy goſod ein anrhydedd ni yn y lwch, anheithio'r deyrnas a dwyn diſtryw diymwared ar y cwbl oll: ond yn enwedig o fendigedig Arglwydd yr ydym o eigion ein calonnau yn diolch, am iti ddangos dy fawr allu a'th drugaredd ſanctaidd, trwy y rhai yr ymddiffynnaiſt ac a gwaredaiſt ein graſuſaſ frenin, ein brenhines, ein tywyſog, ein penaethiaid, ein Eſcobion, ein boneddigion a holl ſtat y deyrnas, o'r rhwydau a'r maglau a oſodaſe aelodau Angriſt ac offerau 'r diawl i'w difa hwy i gyd er vnwaith yn ddiſymmwth. Yr ydym ni yn cydnabod ger dy fron di ac yn erbyn ein hwynebau 'n hunain, in hanufydd-dod ni a'n hanwireddau haeddu y diſtryw echrydus hwn: nid ini am hynny ond i'th enw di y bô moliant a gogoniant yn dragywydd, o herwydd ti a ddatguddiaiſt faglau angau, ti a'u torraiſt ac a drylliaiſt hwy ac a'n gwaredaiſt, ni dy weiſion. Weithian o Arglwydd ni atolygwn iti er mwyn dy Eglwys, er mwyn dy fawr drugaredd, er mwyn dy anwyl fab ac er dy fwyn dy hun, crea ynom ni galonnau diolchus, fal y gallom nos a dydd, awr ac orig a phob amſer ac ym hob lle ddiolch iti a chlodfori a moliannu a mawrhau dy enw di 'n oes oeſoed: crea ynom gâlonau edifeiriol, fel y llwyr droddom oddiwrth ein baiau a'n anwireddau: crea ynom galonnau ſanctaidd, dyro in ffydd ni gynnydd, gwna ein cariad ni yn ffrwythlon mewn gwir vfydd-dod, ragflaena ni yn ein holl weithredoedd a'th barhaus gymmorth a gwna ni yn weiſiō teilwng, fal y gallom fwynhau dy drugareddau mawrion rhyfedd di yr hyd y parhaffo 'r haul a'r lluad. Megis y buoſt hyd hyn, felly bydd di fyth yn geidwad ein graſuſaf frenin Iames ac yn waſcodudd iddo a'r ei ddehaulaw, cadw ef rag drwg, ac na neſaued meibion anwir atto i'w ddrygu, pan dyomygo ei elynion ddychymmig yn ei erbyn ef na âd'r dychymmig hwnnw ſefyll, a phan bwriado ei deiliaid anuſydd gwrthrhyfelgar fwriad i'w eniweduf, gwaſcara di y bwriad hwnnw a gwna fe mor ddiffrvyth a'r man vs yr hwn y chwal ac a chwyth y gwyn oddiar wyneb y ddayar. Ac am feibion Belial, Eppil Babilon ac aelodau Anghriſt, na âd o Dduw i'n hanwreddau ni rhoi achoſion iddynt hwy i orfoleddu ac i ddywedyd yn watwarus pale y mae eu Duw hwy yn awr: ond arllwys arnynt hwy gyndaredd dy lid, fe y cryno'r ddayar ac y gwybyddo'r byd mai ti yr hwn vyd yn teyrnaſu yn y nef yw twr, cadernyd, a naw dlfa dy Eglwys a'th eneiniog Iames. Gwrando 'n gweddiau ni o Arglwydd yn drugarog er mwyn dy anwyl Fab Ieſu Griſt ein vnig Geidwad cyfryngwr a dadleuwr, Amen.

Baiau a ddiancgaſant wrth brintio.

YN lle i hynny, darllen i'r deſnydd hynny: rhan 1. d. 4. l. 17.

Yn lle a'n cyfiy awn ni, darllen a'n cyfiawnha ni: rhan 1. d. 36. l. 24.

Yn lle llawer iawn, darllen mewn llawer iawn: rhan 2. d. 1. l. 6.

Yn lle hefyd ymddygiad, darllen hefyd yn ymddygiad: rhan 2. d. 1. l. 14.

Yn lle pan pan, darllen pan: rhan 3. 288. l. 3.

Yn lle tangnhedd uſaf, darllen tangnhedduſaf: rhan 3. d. 281. l. 20.

Os digwydd iti wrth ddarllen gyfarfod ag vn gair gwedi ei rannu yn ddau neu ddau gweddi myned yn vn, neu dd yn lle d neu d yn lle dd, l yn lle ll, neu ll yn lle l, neu vn llythyren amgen yn lle arall, neu lythyren rhagor mewn rhyw air, neu lytheren lai nac a ddylai fod, neu 'r llytheren a ddylai fod yn flaenaf gwedi ei goſod yn olaf, ac o'r gwyrthwyneb: gwella'r bai, a dwg gyda mi, ni allwn i well, ciſiau bod y gweithwyr yn gwybod y iaith: ac am hynny yn fynych wrth geiſio gwella vn bai a ddarfyddai imi ei ſarco hwy a wnaent ddau neu dri.