TREFN YMARWEDDIAD gwîr Grîstion: NEU Lwybr hyffordd i'r Cymro i rodio arno beunydd gŷd a'i Dduw.
Myfi a waeddaf a'r Dduw, a'r Arglwydd am hachub i.
Hwyr a boreu a hanner dydd y gweddiaf, a byddaf daer; ac efe a glyw fy lleferydd.
Edward Wynn. D. D.
A Brintiwyd yn LLUNDAIN, 1662.
Y LLYTHR AT BLWYFOLION Llangeinwen a Llangaffo yn ynys FÔN.
MOr weddus ac mor angenrheidiol ydyw i wyr a gwragedd, Cyfoethog a Thlawd, Hên ac ieuangc, o bob gradd ac oedran sy yn proffessu Christianogrwydd, fyw a rhodio yn grefyddol ac yn union ger bronn duw a dynion, a fy destyn llawer pregeth a adroddais i chwi ar gyhoedd yn yr Eglwys: Ac at hynn hefyd (fal y gwyddoch) y byddai fy ymddiddanion beunyddiol, a'm cynghorion yn tueddu; Ac mewn gwirionedd [Page] nedd yr wyf yn gobeithio ni bu hynny yn ofer: etto yr awron hefyd (fal y galloch gynnyddu mewn grâs) y gwelais yn dda osod ar lawr yn y llyfran hwnn Trefn ymarweddiad Gwîr Gristnogion; er eich mwyn chwi yr yscrifennais ef, er eich mwyn chwi y perais i, brintiaw ef ar fy n'raul fy hun: ûn peth a ddeisyfaf arnoch er fy mwyn innau, neu er mwyn eich eneidiau eich hunain; sef, ar i chwi rodio yn ôl y drefn honn; ac yna y bydd llawenydd yn nydd y farn i chwi ag i minnau yr hwnn ydwyf weinidog Crist ai Efengyl, a'ch dyscawdwr chwithau yn yr unrhyw
Y Boreu pan ddeffry y Gwîr Grîstion efe a ddywaid fal hynn.
FY enaid bendithia yr Arglwydd a chwbl sydd ynof ei enw Sanctaidd ef: Fy enaid bendithia yr Arglwydd, ac nac anghofia ei ddoniau ef: Parod yw fy nghalon o dduw, parod yw fy nghalon, canaf a chanmolaf: Deffro fy ugogoniant, deffro fy enaid, minnau a ddeffroaf yn foreu, i Glodforidy enw di, O Arglwydd, ym mysc y bobloedd, canys mawr yw dy drugaredd tuag at pawb ath ofnant, a mawr yw diogelwch y Sawl a ymddiriedant yuot: Mi a orweddais ac a gyscais ac a ddeffroais, canys ti, O Arglwydd, am cynheliaist; yn foreu y gan hynny y clywi fy llêf, yn foreu y cyfeiriaf attat, ac yr e drychaf i fynu, gan weddiaw arnat: Oh pâr i mi glywed dy drugarogrwydd y boreu, o herwydd ynot ti yr ydwyf yn gobeithio; pâr i mi wybob y ffordd y rhodiwyf, oblegid attat ti yr wyf yn derchafu fy enaid. Dysc i mi wneuthur dy ewyllys di y dydd heddyw, a thywysed dy [Page 2] yspryd daionus fi i dîr uniondeb; co [...]ded dy ddeheulaw fi i fynu a chynnal fi.
Amen.
Yna y cyfyd oi wely yn enw yr Tâd ar Mâb ar Yspryd glân: a chwedi iddo wisgo am dano, efe a â ar ei liniau, ac a weddia, gan ddywedyd.
O dragwyddol dduw a thrugaroccaf dâd, yn yr hwnn yr wyf yn gobeithio, yn yr hwnn yr wyf yn unic yn ymddiried, yr hwnn am cyfodaist i fynu yr awrhon o'r gwely hwnn, wedi i ti roddi i mi hîr hûn ac esmwythdra heddychol: yr hwnn hefyd am Cyfodi i fynu o'm bedd yn yr adgyfodiad dyweddaf; ac megis ac yr ydwyf yn gobeithio y bydd fy 'ngyfodiad y pryd hynny i ogoniaut, felly bydded yr wyf yn attolwg itti fy 'nghyfodiad yr awr honn i râs: ac megis yr wyf fi yn gobeithio y câf fi y pryd hynny gyd 'ath Sainct etifeddu y deyrnas a baratowyd i ni er seliad y bŷd, a chael rhann or etifeddiaeth yn y goleuni, a'm derbyn jr trigfannau tragwyddol; felly yr wyf yn attolwg i ti fy sancteiddio i fal y gallwyf y dydd hwnn, fal plentyn i ti rodio yn y [Page 3] goleuni; a rhynged fodd i ti fy nerbyn i drachefn y dydd heddyw i'th wasanaeth di.
O Arglwydd derbyn yr aberth foreuol honn yr ydwyf yr awrhon yn ei hoffrwm ith fawredd di: i ti yr ydwyf yn offrwm fy enaid am corff, cymmer di hwynthwy ith ymgeledd, ac amddiffyn fi oddiwrth bob drwg: y mae fy enaid yn drîst jawn, a'm calon yn ocheneidio oblegid i mi trwy fy mhechodau a'm hanwireddau dy ddigio di; etto yr wyf yn ymgyssuro ac ymlawenychu ynot ti oblegid fod dy drugaredd yn parhau yn dragywydd: yr ydwyf yn gobeithio caffael maddeaunt am danynt oll trwy haeddedigaethau gwerthfawroccaf waed Crist yr hwnn a dywalltwyd i ddileu pechodau dy holl etholedigion.
Bendigedig a fyddo dy enw sanctaidd di, am fy mendithio i, am cadw oddiwrth holl enbydrwydd y nôs honn a aeth heibio mewn heddwch ac jechyd: Cadw fi, O Arglwydd, y dydd hwnn a phob amser oddiwrth bob peth a wnelo niwed i mi, yn enwedig oddiwrth bechod a drygioni: gwna i mi fod yn wastadol yu dy ofni di, a'th anrhydeddu ym mhob peth er mwyn hynny, a bydded dy yspryd sanctaidd yn fy rheoli, fal y byddo pob peth a feddyliwyf, [Page 4] pob gair a lefarwyf, a phob gweithred a wneulwyf y dydd heddyw yn tueddu at dy ogoniant di, er budd a lleshâd im Cyd-Gristionogion, ac er diddanwch im cydwybod fy hunan: megis ac y mae diwedd fy enioes yn neshau, felly O Arglwydd, tynn di fi yn nês attat ti, a phann yw fy nghorff yn heneiddio ac yn myned yn wann, adnewydda fy enaid fal yr eryr, a chryfhâ fy yspryd gan orfoleddu ynot, fal y bo fy edifeirwch am ffydd yn-Grist yn gadarnach, fal y gallwyf yn y diwedd, gael diwedd fy ffydd, sef iechydwriath fy enaid trwy Jesu Grist fy Arglwydd ir hwnn gyda thydi ar ysprid glân y byddo yr gogoniant yn oes oesoedd.
Amen.
Neu os bydd yr amser yn caniadu efe a weddia, fal hynn.
HAllalluog Dduw, Tâd y trugareddau, ac Arglwydd y goleuni, yr hwnn amdygaist i o dywyllwch i oleuni, o anwybodaeth i adnabyddiaeth am wirionedd dy efengyl ac o feddiant Sathan attat ti dy hun, Caniadha i mi yr awrhon ddyfod ger bronn gorseddfaingc dy râs di, a chael gweuthur [Page 5] fy neisyfidiau yn ysbys i ti yn-Ghrist Jesu: yr ydwyf yn cydnabod nad ydwyf na theilwng na chymmwys i ymddangos ger bronn dy fawredd di, nac i lefaru wrthit am gwefusau aflan, y mae fy nghalon wedi ei halogi gan bechod, ar cwbl y sydd ynof yn llygredig, o wadn y troed hyd y penn nid oes dim cyfan ynof a hynn a bair im' ofni dyfod o'th flaen di, ac yn hyttrach ceisio gyda fy hên-dâd Adda ymguddio o'th olwg di; ond mi a wn, Arglwydd, nad gwiw i mi geisio hynny; y mae dy Apostol Sanctaidd yn tystiolaethu i mi nad oes un creâdur an-amlwg yn dy olwg di, eithr pob peth sydd noeth, ac yn agored i'ch lygaid di, yr wyt ti yn bresennol ymmhob lle, yn gweled pob peth, ac yn gwybob pob peth, i ba le gan hynny ydd âf oddiwrth dy yspryd, ac i ba le y ffoaf o'th ŵydd di? er hyn attat ti y gerfydd i mi ddyfod, eithr trwy ŵylder a pharchedig ofn, ac etto mewn hyfdra ac mewn hyder ar dy drugaredd di: pa ham yr ofnaf a thithau mor garedig yn fy ngwahadd? pa ham yr arswydaf a thithau yn fy nghalw i? pa ham yr anobeithiaf gaffael trugaredd gennit, a thithau mor drugarog yn derbyn pob pechadur edifeiriol? ni ommeddaist ti moth drugaredd ir lleidr ar y groes ac efe [Page 6] yn cydnabod ei drosedd a thrwy edifeirwch a ffydd yn deisyf dy iechydwriaeth di; Tydi a drugarheaist wrth y wraig o Ganaan, wrth Fair Fagdalen, wrth y Publican, ie wrth dy elynion yn dy gernodio, yu dy watwor, yn dy groeshoelio; oh na ddiystyra gan hynny fy-ngweddiau i bechadur truan, Derbyn fi, ie fi, O Arglwydd, yr hwnn ydwyf yn dyfod yn llwythog o bechodau attat ti, ac esmwyth-hâ arnaf: Gwrando, O Dduw Trugarog, gwrando, a chynnorthwya dy wâs yr hwnn a greaist, na ddirmyga weddian dy greadur yr hwnn a brynnaist: Pan gollaswn i y diniweidrwydd ar grâs yn yr hwn im creaist, tydi a ddescynnaist o'r nesoedd gan gymeryd arnat agwedd gwâs i adnewyddu dy ddelw ynof fi; Tydi a'th darostyngaist dy hûn, im derchafu i; Tydi a werchwyd im prynnu i, Tydi a archollwyd im iachau i, Tydi a fuost farw fal y byddwn i byw. Jacob wrth gymmeryd dillad ei frawd Esau am dano a bwrcasodd iddo ei hûn y fendith, ond tydi gan gymeryd fy naturiareth i arnat, a aethost tan y felldith i obrynnu i mi y fendith: O mor rhagorol oedd dy gariad ti tuag atta fi! a oeddwn i yn haeddu hyn ar dy law di? pa wasanaeth a wnaethwn i ti i ryglyddu hyn? pa beth a welaist ynof fi [Page 7] pan roddit dy serch arnaf? nid oedd fy serch i arnat ti, nid oeddwn i yn dy garu di, nid oeddwn i yn usuddhau i ti, nac yn meddwl am danat, yr oeddwn i yn elyn i ti, yn droseddwr o'th holl gyfreithiau, yn ddychymygwr pob drigioni, yn dibrisio dy fendithion, yn diystyru dy farnedigaethau, yn cablu dy enw, ac yn dirmygu dy ordeiniadau: etto tydi am ceraist, ac am gwaredaist, tydi am gwaredaist o feddiant y tywyllwch, ac o faglau Diafol, ac am symmudaist ith deyrnas dy hûn: y mae gan hynny, O Arglwydd, fy enaid yn ymgrymmu ger dy fronn di, ac mewn Parch Gost yngedig yr ydwyf yn rhoddi i ti fawr ddiolch am dy fawr gariad a pha un im ceraist: O bydded i mi weithian dy garu ditheu a chariad parhâus oblegid i ti fy ngharu i yn gyntaf; na âd i mi ûn amser anghofio dy drugareddau tuag attaf, n'ar adduned a wn aethym ith wasanaethu di yn ffyddlon hyd y diwedd: Bydded yn hoff gennif dy glodfori, ac yn dda gennif dy foliannu; Bydded yr holl ddajoni a wnaethost erof yn scrifennedig yn fy ngholon, ac megis yr wyt ti yn anghwanegu dy fendithion, felly O Arglwydd anghwanega fy niolchgarwch innau, ac megis ac yr wyt ti yn amlhau fy nyddiau felly rhnged fodd i ti amlhau dy [Page 8] radau ynof fi; ac yn gymmaiut rhoddi o honot i mi y dydd hwnn yn ychwaneg at ddyddiau fy enioes, gwna i mi ei dreulio ef yn dy wasanaeth di yn ôl fy ngalwedigaeth: Cadw fi y dydd heddywoddiwrth bechod, Cadarnhâ fy ffydd i yn-Ghrîst Jesu, sicrâ fy-ngobaith i ar ei addewidion ef, a pherffeithia fy nghariad tuag attati am brodyr: Pâr ith Angylion etholedig fy amddiffyn; Athrawiaetha fi ath air, Cymmorth fi ath râs, a rheola fi arh yspryd: Bydded fy holl feddylian am geiriau am gweithredoedd y dydd heddyw a phob amser yn rasol, ac yn gymeradwy ger dy fronn di; Gwna fi yn wiliadwrus i ddisgwyl am dy ddyfodiad di ir farn, gan weddio bob amser ar gael fy-nghyfrif yn deilwng i ddiangc rhag yr holl ddrygau sydd ar ddyfod ar y bŷd ac i gael rhodio ger dy fronn di yn wastadol yn y bŷd ymma trwy râs, ac yn y bŷd y ddaw gorphwyso gyda thi mewn gogoniaut; Caniadha hynn, nefol dâd, a pha beth bynnag arall a wyddost ti fod yn angenrheidiol i mi er mwyu Crîst Jesu fy Arglwydd ir hwnn gyda thydi ar yspryd glân y byddo yr holl anrhydedd ar gogoniaut yr awrhon ac yn dtagywydd.
Amen.
Yna y Gwîr Cristion wedi dyfod oi ystafell, a eilw ei wraig ai blant, ei weision ai forwynionynghyd: a chwedi iddo ei bendithio hwynt, efe a weddia fal hynn.
O Dragwyddol Arglwydd, a thrugaroccaf dâd, yr hwnn wyt awdur pob daioni, ac oddiwrth yr hwnn y mae pob rhodd berffaith yn dyfod, yr hwnn oth drugared an gwnaethost ni yn gyfrannogion o amryw fendithion; yr ydym yn mawr ddiolch i ti am danynt oll, ac yn enwedig am yr esmwythdra a roddaist in cyrph ni y nôs honn a aeth heibio, gan adel i ni huno mewn heddwch, yr awr-hon, Arglwydd, yr ydym yn offrwm ith wasanaeth di, ein heneidiau, a'n cyrff, gan ddeisyfu arnat eu derbyn hwy, a gwrando ein gweddiau ni.
Yr ydym yn attolwg i ti ein cadw ni trwy nerthol allu dy yspryd sanctaidd oddiwrth bob pechod a phob drwg; hyfforddia ni felly ath râs fal y byddo ein holl feddyliau, a'n geiriau, a'n gweithredoedd y dydd heddyw a phob amser yn gymeradwy ger dy fronn di: megis ac y darsu i ti yr awrhon ddeffroi ein cyrph ni allan oi hûn naturiol, felly rhynged fodd iti ddeffroi ein heneidiau ni allan o gŵsc pechod, rhag (a [Page 10] nyni yn dywedyd heddwch a diogelwch) i dinistr ddisymwth ddyfod ar ein gwartha ni; ac megis ac y dygaist ni i oleuni y dydd hwnn, felly dyro râs i ni i rodio yn y goleuni megis plant y dydd; ac megis y gwiscaist ein cyrph ni ar dillad ymma sy am danom felly hefyd yr ydym yn attolwg i ti wisgo ein heneidiau ni a mantell cyfiawnder Chrîst Jesu. Cyscoda ni, O Arglwydd, tan gyscod dy adenydd, a dyro orchmmyn ith Angylion sanctaidd gastellu o'n hamgylch ni, a phob peth a roddaist i ni, rhag i ddiafol nac i ysprydion na dynion drygionus allu gwneuthur neb rhyw niwed i ni: Sancteiddia ein amcanion ni, trefna waith ein dwylaw ni, a bydded pob ûn o honom ni yn ofalus i gyflawni ein galwedigaethau; Dyro bardwn i ni O Arglwydd, am ein holl bechodau; Na chafia dreulio o honom lawer jawn on hamser mewn oferedd, gamarferu o honom dy greaduriaid, a bŷw yn aniolchgar am dy fendithion: Tro heibio, o Drugarog Dâd, yr holl farnedigathau a haeddasom; anghwanega ein hedifeirwch a'n duwiol dristwch: cadarnhâ ein ffydd ni yn-Ghrîst, a gwna ni yn ufydd i ti ac ith ordeiniadau: Cynnal ni O Arglwydd, mewn jechyd, heddwch, lwyddiaut a llawenydd. Bendithia hefyd gyda nyni, dy holl etho ledigion; Rheola [Page 11] galon dy wasanaethwr Charles ein grasusaf frenin a'n pen llywydd, Bendithia y frenhines Catherin, y frenhines Mari, y Tywysawg Jaco, ar holl Tywysagol heppil: Bendithia holl Arglwyddi yr cyngor, a holl swyddogion y brenin: Bendithia holl weinidohion dy efengyl; Preswylied gair Crîst yn helaeth yn dy wasanaethwr yr hwnn a ddanfonaist i bregethu dy efenygl i ni or plwyf hwnn, bydded dy yspryd sanctaidd di yn ei nerthu ef, ac yn ei wneuthur ef yn ddyfal i osod ei hun yn brofedig gan Dduw yn weithiwr difefl trwy iawn gyfrannu gair y gwirionedd: Bendithia ein holl frodyr a'n chwiorydd, ein tadau a'n mammau, ein gwragedd a'n plant, ein ceraiut a'n cymmydogion: Cyssura y rhai angyssurus, meddyginiaetha y rhai clwyfus, a dychwel ith wirionedd y rhai ynt ar gyfeliorn: Maddeua, O Arglwydd, holl ammerpheithrwydd ein gweddiau ni, a'n annheilyngdod i dyfod ger dy fronn di: a pha beth bynnag ar sydd yn eisiau ynom, cyflawna di ef ym mherpheithrwydd a theilyngdod yr Arglwydd Jesus Grîst yr hwnn yw ein unic Jechawdur, ac an dyscodd ni i weddio, gan dywedyd.
Ein Tâd yr hwnn wyt yn y nefoedd Sancteiddier dy enw, Deued dy deirnas, Bid [Page 12] dy ewyllys ar y ddajar megis y mae yn y nefoedd, Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol, a Maddeu i ni ein dyledion megis y maddeuwn uinnau in dyled-wyr, ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg, canys eiddot ti yw yr deirnas ar nerth ar gogoniaut yn oes oesoedd.
Amen.
Neu fal hyn, gan ddywedyd.
O Arglwydd, y Goruchaf Dduw, Tâd y tragwyddoldeb, a ffynnon pob doethineb a thrugaredd; trwy dy râs di yr ydym ni yr awrhon yn ymgyflwyno o flaen dy fawrhydi a'th ardderchwagrwydd, O Dyro attolwg, i ni yspryd Grâs a Gweddi, fal y gallom ni mewn ofn a pharch tuag at dy fawredd gydnabod ein gwaeledd ein hunain, a thrwy ffydd yn-Ghrist dderchasu calonnau pûr a dwylaw glân atti ein duw: Yr ydym ni mewn pôb gostyngeiddrwydd yn cydnabod nad ydym ni'o herwydd lliaws ein pechodau a'n llygredigaethau naturiol deilwng na chymmwys i ddanfon ein gweddiau, cennadon ein heneidiau, attat ti, trwy obeithio caffael ein gwrando: y mae ein cyflwr yn resynnol jawn, oblegid nad [Page 13] ydym ni o honom ein hunain ddigonol i wneuthur dim ond dy ddigio di ath anfodloni; Trwy anufydd-dod ein Rhieni in clwyfwyd ni ac nid oes ûn mann iach ynom, o wadn y troed hyd y penn nid oes dim eyfan, ond archollion a chleisiau a gwelîau crawnllyd, y mae ein holl nerthoedd ni wedi eu llygru, y mae ein Deall ni yn llawn tywyllwch ac anwybodaeth heb synied y pethau fs o Dduw ac yn perthyn in iechydwriaeth; Y mae ein cydwybodau ni yn halogedig ac wedi eu serio, y mae ein côf ni yn dda am ddrwg, ac yn ddrwg am dda; y mae ein hewyllys ni yn wrthwynebus ith ewyllys di, a'n serch ni yn oestadol ar oferedd y bŷd hwnn; y mae ein holl feddyliau ni yn ffôl, ein geiriau ni yn segur, ein gweithredoedd goreu ni yn ammerphaeth, a'n holl ymarweddiad yn feius ger bronn duw a dynion. Ac o herwydd hynn, O Arglwydd, nid rhyfedd i ti yr hwnn wyt yn cashau anwiredd a phechod na hoffi ni y rhai ydym yn llawn o honynt, nid rhyfedd ein bod yn alar ith Angylion sanctaidd, ac yn rhwystr ith Sainct gan ein bod yn gaethweision i Satan, ac yn haeddu pôb melldith a damnedigaeth.
Ond er maint yw ein trueni ni, etto y mae dy drugared di yn swy o lawer, er amlhau [Page 14] ein pechodau ni, etto y rhagor-amlhaodd dy râs di; y mae dy drugaredd di ardy holl weithredoedd, a chyda thydi y mae ffynnon y bywyd: Pan nad oedd na Saint nac Angel, na Cherub na Seraphin, nac ûn creadur yn y nef, nac ar y ddajar yn gallu gwneuthur ein heddwch ni a'n duw, Tydi dy hun a ddanfonaist dy unic-anedig fâb Crîst Jesu i fod yn jawn ac yn gymmod tros ein pechodau ni. Ynddo ef gan hynny yr ydym ni yn dyfod attat ti gan obeithio y byddi fodlon i ni, canys ynddo ef ith fodlonir; bydded ei burbed ef yn jawn tros ein ammhurdeb ni, perffeithrwydd ei ufydd-dod ef yn ddadolwch tros ein ammherffeithrwydd a'n hanufydd-dod ni; a bydded haeddedigaethau ei ddioddefaint ef yn ddigonol ymwared i ni oddiwrth y poenau tragwyddol a haeddasom ni eu dioddef: ac wedi i ni gael ein derbyn drachefn ith tâs, pâr i ni glywaid llef gorfoledd dy iechydwriaeth yn ein heneidiau yn oestadol; a bydded ysprydol ffrwythau dy râs di yn amlwg ynom ni; Dyro i ni ffydd ar dy addewidion, tangneddyf cydwybod, llawenydd yn yr yspryd glân, zel am weithredoedd da, ac yspysrwydd sicr o'n gwynfyd tragwyddawl.
Ac yn gymmaint na ddichon yr ûn o honom ni sefyll oni bydd i ti ein cynnal ni, [Page 15] na rhodio oni bydd i ti ein harwain ni, na byw oni bydd i ti ein bywhau ni, na theyrnasu gyda thydi oni bydd i ti ein coroni ni; yr ydym yn attolwg i ti ein cynnal ni a'th ddeheulaw, na syrthiom oddiwrthit ti; ein hyfforddio ni a'th râs, fal nad elom ar gy feiliorn allan o lwybrau dy orchymmynion di; ein bywhau ni a'th yspryd, na byddom feirw hwyach mewn pechod; a'n coroni ni a'th ogoniant, fal na chollom ein hetifeddiaeth.
Sancteiddia ni, O Arglwydd, yn dy wirionedd, dy air sydd wirionedd; Meddalhâ galedwch ein calonnau ni; ag wedi ein darostwng dan dy gystuddiau; llawenbâ ni a'th dâdawl dosturiaethau; Dyro i ni wybodaeth a dealltwriaeth i ryngu bodd i ti yn ein holl weithredoedd; Gwna i ni eu dechreu hwynt bob amser yn dy ofn di, au diweddu hwynt ith ogoniaut: Gwna i ni rodio bob amser ger dy fronn di fal y byddom berffaith: Bydded ein myfyrdod ni nôs a dŷdd, ar dy gyfraith; a gwna i ni mewn ffydd, ammynedd, gofal a gostyngeiddrwydd gyflawni gweithredoedd ein galwedigaethau.
A rhag i'n haniolchgarwch ni beri i ti ddal dy fendithion oddiwrthym ni, yr ydym yn ewyllysio o eigion ein calonnau glodfori dy enw fanctaidd am yr holl drugareddau a ddangofaist i ni, or dŷdd i'n ganwyd hyd [Page 16] yr awr-hon: Aml ac amryw ddoniau a roddaist ini, y rhai a ddiddana ein heneidiau, ac a ddiwalla ein cyrph, O Bydded gwiw gennit gynnal ein heneidiau a'n cyrph mewn grâs ac jechyd, ith ogonedu di; Tydi a lewyrchaist ein tywyllwch ni a phûr oleuni dy efengyl, gan roddi i ni dy air yn llusern i'n traed ac yn llewyrch i'n llwybrau; Gwna i ni, O' Arglwydd, rodio yn ôl y goleuni hwnnw, a bydded ein hymarweddiad ni megis ein proffes yn Grîstianogaidd ac yn fucheddol: Tydi a'n cedwaist ni yn ddiangol oddiwrth bob drwg y nôs a aeth heibio, Cadw ni felly hefyd y dydd hwnn oddiwrth bôb drygioni a phechod a lidiai dy ddigofaiut i'n herbyn.
A chyda ni, O nefawl Dâd, yr ydym yn attolwg i ti fendithio dy holl bobl trwy yr holl fŷd sy yn dy garu di, ac yn dy ofni: Chyscoded dy ddeheulaw hwynt, a'th nerthol allu rhag holl ruthrau a drwgswriadau eu caseion: Trugarhâ wrth y sawl sydd yn dioddef trosot ti, a chymfforddia hwynt; ymgeledda y diymgeledd; Portha y newynog; Dillada y noeth; Cyfoethoga y tlawd, a Diwalla bôb ûn ar sydd yn dwyn eisiau; O Arglwydd, Llywodraetha di ar ein llywodraethwyr ni, Bendithia ein Brenin Charles, ar holl swyddogion sydd mewn awdurdod [Page 17] tano; Dyro iddynt ddoethineb nefol yr honn sydd bûr, heddychol, boneddigaidd, hanwdd ei thrîn llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd a di-ragrith: Bendithia holl weinidogion dy air, nac ofnant draethu dy efengyl dy mewn purdeb; Cynyscaedda, O Arglwydd, ath radau ysprydol, ac ath ddoniau godidawccaf dy wasanaethwr yr hwnn a ddanfonaist in haddyscu ni or plwyf hwnn; Nertha ef fal y gallo gyflawni dy wasanaeth di, a bydded pôb ûn o honom ni eu wrandawyr ef yn wneuthurwyr o'th air di; Dychwel ir jawn ysawl sydd wedi myned ar gyfeiliorn: Gwna ddajoni ir sawl sydd yn ein cashau ni, a bydded rhagorol olud dy râs yn wobr ir sawl sydd yn ein caru, ac yn gweddio trosom, ni, Ac yn ddiweddaf, Arglwydd, yr ydym yn deisyfu arnat ein bendithio ni o'r teulu hwnn y dydd heddyw, na ddeffygied yr ûn o honom ni yn dy wasanaethu di, ac na fydded yn flîn gennym dy wasanaeth; Gwna i ni felly fyw ymma yn dy ofn di, fal y caffom farw yn dy ffafor di, a theyrnasu gyda thydi mewn gogoniant yn nheyrnas nefoedd yn oes oesoedd.
Caniadhâ hynn, o drugarog dâd, a pha beth bynnag arall a wyddost ti fod yn anghenrheidiol i ni er mewn Crîst Jesu ein [Page 18] Harglwydd, ir hwnn gyda thydi, a'r yspryd glán, y byddo yr holl ogoniant y dydd hwnn, ac hyd yn dragywydd.
Amen.
Ar ôl hynn y derllyn efe Psalm, neu Bennod, or scrythur lân yn eglur; ac wedi iddo ei ddarllen, efe a adrodda Fannau y ffydd Apostolic, gan ddywedyd.
CRedaf yn Nuw Tâd Hollalluog Creawdwr nef a dajar, ac yn Jesu Grîst ei ûn mâb ef ein Harglwydd ni, yr hwnn a gaed trwy yr yspryd glân, a aned o Fair forwyn, a ddioddefodd tan Pontius Pilat, a Groshöeliwyd, a fu farw ac a gladdwyd, a Descynnodd i uffern, y trydydd dydd yr adgyfododd o feirw, a escynnodd ir nefoedd, ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw duw tâd hollgyfoethog, oddiyno y daw i farnu byw a meirw: Credaf yn yr yspryd glân, yr Eglwys lân gotholic, Cymmun y Saint, Maddeuant pechodau, adgyfodiad y cnawd, a'r Bywyd tragwyddol.
Amen.
Yn ôl hynny efe a â ar ei liniau ac a weddia fal hynn.
O Arglwydd Dduw, wele yr nefoedd, ie nefoedd y nefoedd nid ydynt yn amgyffred dy ardderchawgrwydd di, etto tydi a ymddarostyngaist dy hunan i edrych ar y pethau sy yn y nefoedd ac ar y pethau sy ymma ar y ddajar; yr ydym ni yn cydnabod dy fawr drugaredd tuag attom ni, yn gymmaint a darfod i ti roddi cennad i ni, y rhai ydym fal y sofl sŷch a chrîn, i ymddangos ger bronn dy ragorol ardderchawgrwydd di, yr hwnn wyt dân yssol, ac nyni etto heb ein difetha ganddo; Yr ydym yn cydnabod dy ddajoni di tuag attom ni, yn gymmaint a chaniadhau o honot i ni bechaduriaid truain, wneuthur ein gweddiau a'n deisyfiadau ger dy fronn di yr awr-hon: Yr ydym, O Arglwydd, yn ewyllysio bendithio dy enw sanctaidd am roddi i ni wybodaeth o'th wirionedd a'th efengyl: Bydded y cyfran hwnnw o'th air a glywsom ni ei ddarllen yr awr-hon wedi ei yscrifennu yn ein calonnau ni, fal y gallwn ni heddyw fyfyrio arno, fal y cofiom ef holl ddyddiau ein henioes; a bod i fendigedig hâd dy air di felly wreiddio yn ein calonnau ni, fal y [Page 20] gallom ni ddwyn ffrwyth addas i edifeirwch; gan fod yn oestadol yn ufydd ith air di, ac yn rhoddi i ti, O Dduw Tâd, i ti o Dduw Mâb, i ti o Dduw Yspryd glân, Tri Pherson, ac ûn Duw yr holl anrhydedd a'r gogoniant yr awr-hon ac yn dragywydd.
Amen.
A chyn cymmeryd lluniaeth, efe a weddia, fal hynn.
O Arglwydd Hollalluog Dduw yr hwnn pan greaist y bŷd a phôb peth y sydd ynddo, a welaist fod pôb peth a wnaethost yn dda odieth; trwy dy air y crewyd hwynt, a'th air di sydd yn eu cynnal hwynt; Sancteiddia. nyni attolygwn i ti, dy greaduriaid hynn y rhai a ddarparaist er lluniaeth i'n cyrph ni; Gwna hwy yn jachus i ni, a dyro râs i ninneu iw derbyn yn sobr yn gymmhedrol, a byw yn ddiolchgar i ti am danyut trwy Jesu Grîst ein Harglwydd.
Amen.
Neu fal hynn.
O Dragwyddol Dduw, a thrugaroccaf dâd, yr hwnn wyt yn agos at y rhai [Page 21] oll a alwant arnat mewn gwirioned; yr hwnn wyt yn rhoddi ir anifail ei borthiant, ac i gywion y gigfrân pan lefant, eithr dy blant yr wyt ti yn eu diwallu hwynt a braster gwenith, ac yn rhoddi iddynt bôb dajoni: megis, O Arglwydd, y darparaist i ni y creaduriaid dajonus hynn, ac a roddaist rydid i ni i gyfrannu o honynt, felly bid i ni eu cymeryd hwy yn sobr; a thrwy y nerth a roddant i ni, dy wasanaethu di ath ogoneddu yn-Grîst Jesu ein Jechawdr.
Amen.
Neu fal hynn.
Bendithia, O Arglwydd, dy Greaduriaid hynn, Sancteiddia hwynt i ni, a ninneu ith wasanaeth di trwy Jesu Grîst ein harglwydd.
Amen.
Ar ôl iddo fwyta, efe a rydd ddiolch i Dduw, gan weddio fal hynn.
YR ydym yu ewyllysio, O Arglwydd nefol Dâd glodfori a moliannu dy enw bendigedic am yr holl drugareddau a ddangosaist i ni or dydd i'n ganwyd ni hyd yr [Page 22] awr-honn, ac yn enwedig am i ti borthi a diwallu ein cyrph ni a'th greaduriaid jachus a dderbyniasom ni y prŷd hwnn: Parhaed, O Arglwydd, dy ddajoni di tuag attom ni; tro heibio dy farnedigaethau oddiwrthym ni, a gwna ni yu oestadol yu ddiolchgar i ti am yr holl fendithion yr wyt ti yn eu rhoddi i ni yn-Ghrîst Jesu ein Harglwydd.
Amen.
Neu fal hynn.
O Arglwydd, bendigedic fyddo dy enw Sanctaidd, yr hwnn a'n creaist ni ar ol dy ddelw dy hun; yr hwnn a'n prynnaist ni a gwerthfawroccaf waed dy anwyl fâb; ac yr awrhon a borthaist ein cyrph ni ath greaduriaed dajonus; Portha ein heneidiau ni ath radu ysprydol, a gwna ni yn gyfrannogion o fara yr bywyd, sef Crîst Jesu ein Harglwydd: Amdiffyn yr Eglwys, Bendithia ein Brenin, a chadw y deyrnas mewn tangneddyf.
Amen.
Neu fal hynn.
O Arglwydd, Rhoddwr pôb dajoni a phorthwr pôb dŷn a'r sydd yn disgwyl [Page 23] wrthit ac yn ymddiried ynot; yr hwnn an cynhaliaist ni er pan escorodd ein Mammau arnom hŷd yr awr-hon, gan roddi i ni bôb peth anghenrheidiol, a chan ddiwallu ein cyrph ni y prŷd hwnn a'th greaduriaid: Yr Israeliaid a fwytasant ac a lwyr ddiwallwyd, ie cawsant eu dymuniad ac ni ommeddaist hwynt or hynn a flysiasant, Ond tra yr ydoedd y bwyd yn eu safnau y cynneuedd dy ddiglonedd yn eu herbyn hwy a lleddaist y brasaf o honynt: a hynn yn gyfiawn a ddigwyddodd iddynt, oblegid eu murmur au haniolchgarwch; Ac fal hyn hefyd y gelli di wneuthur a ninneu: Ond yr ydym yn attolwg i ti gymeryd trugaredd arnom, a'n dyscu ni i foliannu dy sanctaidd enw ac i osod allan ein diolchgarwch tuag attat ti mewn sancteiddrwydd buchedd ac ufudd-dod i gyflawni dy orchymynion trwy Jesu Grîst ein Harglwydd.
Amen.
Pan fyddo yn myned at ei waith, efe a gofia y lleoedd ymma or scrythur lân, ac a fyfyria arnynt yn ei galon.
1o. Y peth y mae yr Apostol Paul yn ei yscrifennu at y Collossraid. 3. 17.
[Page 24] Pa beth bynnag a wneloch ar air neu ar: weithred, gwnewch bôb peth yn enw yr Arglwydd Jesu.
2o. Y peth y mae y Prophwyd Dafydd yn i ddywedyd. Psal. 127. 1, 2.
Os yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, ofer y llasuria ei adeiladwyr wrtho; os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas, ofer y gwilia y ceidwaid: ofer i chwi foreu godi, myned yn hŵyr i gyscu, bwyta bara gofidiau, felly y rhydd efe hûn iw anwylyd.
3o. Y peth y mae St Paul yn i yscrifennu at y Phillipiaid. 4. 13.
Yr wyf yn gallu pôb pêth trwy Grîst yr hwnn sydd yn fy nerthu i.
4o. Y peth y ddywedodd Duw wrth Adda, Gen. 3. 17, 18, 19.
Am wrando o honot ar lais dy wraig a bwyta o'r prenn yr hwnn y gorchymynafwn i ti, gan ddywedyd, Na fwyta o honaw; Melltigedic fydd y dajar o'th achos di: trwy lafur y bwytei o honi holl ddyddiau dy enioes, Drain hefyd ac ysgall a ddŵg hi i ti, a llysiau y maes a fwytei di; trwy chwŷs dy wyneb y bwytei fara, hyd pan ddychwelech ir ddajar, oblegid o honi ith gymerwyd, [Page 25] canys pridd wyt ti ac ir pridd y dychweli.
5o. Y peth y mae Crîst yn ei ddywedyd yn ei ddammeg wrth y gweithwyr: Math. 20. 4.
Ewch ir winllan, a pha bêth bynnag a fyddo cyfiawn mi ai rhoddaf i chwi.
Ac wrth ddechreu ei waith, efe a weddia fal hyn.
O Arglwydd Dduw yr hwnn wyt yn gweithio yn dy weision ewyllysio a gweithredu; heb dy gymmorth di ni ddichon nêb wneuthur dim da; ac oni fendithi di ein llafur, nid ydym ond megis rhai yn hau y gwynt, ac ni fedwn ni ond y corwynt: nid yw yr holl boen yr ydym ni yn ei gymeryd ond ofer-drafferth, diles, anfuddiol; ar cyflog yr y dym ni yn ei ennill, ar ydym ni fal y mae y Prophwyd Haggai yn dywedyd, yn ei gasclu i gôd dyllog; O Rhynged fodd i ti gan hynny fendithio fy llafur i y dydd heddyw, a bydded prydferthwch yr Arglwydd fy Nuw arnaf fi, a threfna weithred thred fy nwylaw ynof fi, ie trefna waith fy nwylaw: bydded budd i mi oddiwrth fy-ngwaith y dydd heddyw, a bydded y [Page 26] niant ith enw di trwy Jesu Grîft fy Arglwydd.
Amen.
O bydd efe yn myned oddi cartref, efe a ystyria yr achos sydd yn peri; efe a fynn wybod pa fodd y mae yr Arglwydd yn cael gogoniant oddi-wrth ei ymdaith ef; pa leshâd a fydd iddo ei hûn, ei dylwyth a'i Gyd-Grîstianogion.
A chyn myned allan, efe a weddia fal hynn.
O Arglwydd byth-fywiol Dduw, yr ydwyf yn cydnebod y byddaf oni chaf dy brefennoldeb di gyda myfi, megis Cain felldigedic, yn wibiad ac yn gwrwydrad ymma ar y ddaiar; ond y mae yn ddiammau gennif o câf dy yspryd di gyda myfi, y câf fy-nhywys a'r hyd yr union: Tydi, O fy Arglwydd, wyt a ffordd, y gwirionedd ar bywyd; tydi a arweiniaist dy bobl Israel trwy yr anialwch, ac ai tywysaist hwynt trwy y môr côch, ac a roddaist dîr Canaan yr hwnn oedd yn llifeirio a llaeth a mêl yn etifeddiaeth iddynt. Oni bydd ith yspryd ti fy arwain i y dydd heddyw, mi a wn na wnaf ond myned ar gyfeiliorn yn anialwch [Page 27] pechod, a suddo a wna fy enaid yn nyfnder oferedd a helbulon y bŷd hwnn, ac felly ni ddoaf fi byth i wlâd yr addewid, nac i feddiannu yr etifeddiaeth a addewaist ith bobl. O na fwrw fi gan hynny oddi ger dy fronn ac na chymmer dy yspryd sanctaidd oddi-wrthif; o byddi di gyda myfi, ni bydd i mi niwed ie pe rhodiwn ar hyd glynn cyscod angau, o câf fi dydi i'm hyfforddio ni bydd bossibl i mi gyfeiliorni. Tydi a wyddost, Arglwyd, nad yw holl blant Adda ond dieithriaid a phererinion ar y ddajar, ac nad oes i ni ymma ûn ddinas barhaus, â bôd yn rhaid i ni ymdeithio yn y bŷd ymma i ddarparu pethau angenrheidiol in cyrph : O drugarog Dâd, bydded fy ymdaith i felly y dydd heddyw yn y bŷd ymma, fal na byddo hynny yn rhwystr i mi rhag cael preswylio gyda thydi yn y bŷd a Ddaw: Bydded i mi felly ofalu am bethau yn perthyn ir corff, fal na ollyngwyf tros gôf y pethau sydd yn perthyn ir enaid: Cadw fi oddiwrth Gybydd-dod, Meddwdod, a phôb pechod; ac na âd ir ûn o'm gelynion neshau attaf i'm drygu: Bydded dy ofn di o flaen fy llygaid, a gwna fi yn ofalus ith ogoneddu di yn fy holl ffyrdd. Dysc i mi rodio ymma ar hyd llwybrau ffydd ac ufudd-dod Abraham, fal y gallo fy enaid, ar ôl fy [Page 28] ymdaith yn y bŷd hwnn, gael ei ddwyn gan dy Angylion sanctaidd i fynwes Abraham, ai wneuthur yn gyfrannog or llawenydd, ar esmwythfyd, ar gogoniant tragwyddol yn n heyrnas nefoedd trwy Jesu Grîst fy Arglwydd, am unic Jechawdr.
Amen.
Ganol dydd y gweddia efe fal hynn.
O Dragwyddol Dduw, Arglwydd y gogoniant, yr hwnn wyt haul y cyfiawnder ir sawl sydd yn dy ofni di; ac wyt yn dyfod a meddyginiaeth yn dy escyll i iachau eneidiau clwysus dy bobl sydd yn ymddired ynnot, ac yn disgwyl wrthit: Yr hwnn wyt yn rhoddi amryw achosion i bôb creadur i foliannu dy enw sanctaidd; wele fi! y gwaelaf o'th holl greaduriaid mewn mawr ostyngeiddrwydd, ae o eigion calon yn rhoddi i ti foliant a diolch am dy drugareddau tuag attaf fi y boreu-gwaith hwnn, wrth fod yn bresennol gyda myfi im cymmorth; ac am i ti fy nerthu i mewn sancteiddrwydd i ddechreu y dydd heddyw i gyslawni gweithredoedd fy ngalwedigaeth yn ôl dy ewyllys di; Oh na welit ti, O Arglwydd, yn dda wneuthur dy breswylfod yn fy-ngalon [Page 29] i trwy dy râs o hynn allan; a bôd yn wastadol gyda myfi nes it ti fy nwyn i attat ti dy hûn ir gogoniant tragwyddol. Os dechreuais i yn dda y dydd heddyw, gwna i mi fyned ym-mlaen, gan barhau yn gwneuthur dajoni; ac megis ûn o blant y dydd i rodio yn y goleuni, gan fyned ym-mlaen, o râs i râs, o rinwedd i rinwedd, ac o weithred dda bwygilydd, nes cael ymddangos oth flaen di yn Sion.
Yr ydwyf yn attolwg i ti darfu oddi-wrthif fi holl feddyliau gwibiog; ac ofer-amcanion y dŷdd hwnn: Bydded fy holl fwriad ar gyflawni dy orchymynion; ac uniona fynghamrau, hyffordia fy llwybrau y dydd hwnn a phôb amser i Sobrwydd a Diniweidrwydd: Parod ydwyf bôb awr i syrthio, ac i gilio oddi-wrthit; oh na ddigia wrthif, canys ti a wŷddost fy nensydd; mai llŵch ydwyf: o bydd i mi trwy wendid syrthio, bydded dy ddeheulaw di im codi; a chadw fi rhag pechodau rhyfygus ac rhag syrthio yn dragywydd. Dyse i mi sancteiddio dy enw di, ceisio dy deyrnas, a gwneuthur dy ewyllys. Dyro i mi ychwaneg o wŷbodaeth jachus, ac wedi derbyn gwybodaeth y gwirionedd na âd i mi o'm gwîr fôdd bechu ith erbyn: Ysprydola fy-nghalon a gwîr ffŷdd, gobaith, a chariad; Bydded gennif [Page 30] ofn ith fawrhydi, Zêl ith ogoniant, a bydded newyn a syched arnaf ar ôl cyfiawnder: Gostega fy-nghydwybod, eglura fy meddwl, sancteiddia fy nealldwriaeth, Cadarnhâ fyngôf, a llewyrched goleuni dy wyneb-pryd arnaf, ac yn y diwedd dŵg fi enaid a chorff, ir goleuni tragwyddol trwy Jesu Grîst fi Arglwydd.
Amen.
Pan fyddo yn noswylio, ac yn dyfododdiwrth ei waith, efe a gofia y lleoedd ymma or scrythur lân, ac a fyfyria arnynt yn ei galon.
1o. Dŷn a â allan iw waith ac iw orchwyl hyd yr hwyr. Psal. 104. 23.
2o. A phan aeth hi yn hwyr, Arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwiliwr galw yr gweithwyr, a dyro iddynt eu cyflog. Math. 20. 8.
3o. Nid pôb ûn ar sydd yn dywedyd wrthif, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwnn sydd yn Gwneuthur ewyllys fy nhâd yr hwnn sydd yn y nefoedd. Math. 7. 21.
4o, Da, wâs da, a ffyddlon, buost ffyddlon ar ychydic, mi a'th osodaf ar lawer, Dôs i lawenydd dy Arglwydd. Math. 25. 21.
A chwedi iddo ddyfod iw dŷ, a myned iw ystafell, efe a weddia fal hynn.
O Arglwydd yr hwnn wyt fy-ngoleuni, am hiechydwriaeth, nerth fy mywyd, yr hwnn a roddaist i mi, o'th fawr gariad i mi yn-Ghrîst Jesu, y dydd heddyw iechyd a heddwch i fyned ynghŷlch gweithredoedd fy ngalwedigaeth, a grâs iw cyflawni hwynt yn dy ofn di: Yr ydwyf yn ewyllysio yn fawr a hynny o eigion fy-nghalon, ddangos fy niolchgarwch tuag attat ti, am dy werthfawr drugareddau hynn a wnaethost i mi bechadur truan: Ti, o Dduw, yw fy Nuw i; fy enaid a'th folianna, a'm genau a'th fawl di a gwefusau llafar; Gwell yw dy drugaredd di nar bywyd, am hynny ith clodforaf yn fy mywyd, ac y derchafaf fy dwylo yn dy enw; derchafaf fy nwylo atta ti, O Argswydd, am calon hefyd, a deisyfaf arnat fy mendithio : Bendithia fy llafur i y dydd heddyw, yna y ddajar a rydd ei ffrwyth, ac y câf ymborth, ar pethau a wyddost ti eu bôd yn angenrheidiol i mi; yna y llawenychaf a byddaf hyfryd a moliannaf dy enw; ie yr holl bobl a'th foliannant, a holl derfynau y ddajar a'th ofnant. Tra fo i mi fyw yn y bŷd hwnn, na [Page 32] âd i mi fyw mewn seguryd; Gwna i mi gofio yn wastadol y gair a yscrifennodd dy Apostol St Paul, sef, os byddai neb na fynnai weithio, na fyddai i hwnnw fwyta chwaith: Bydded i mi bôb dŷdd fôd yn ofalus i weithio a'm dwylo yr hynn sydd dda, fal na byddaf ormesol ar eraill, eithr fal y byddo gennif beth iw gyfrannu ir hwnn y mae angen arno: Na fydded ir newynog le i achwyn arnaf wrthit ti, nad ydwyf yn ei borthi ef; na'r sychedic nad ydwyf yn rhoddi iddo ddiod; na'r noeth nad ydwyf yn ei ddilladu; na'r clâf nad ydwyf yn ymweled ag ef; na'r ymddifad ar weddw nad ydwyf yn eu cynghori, nag yn eu cyssuro : O Bydded i mi yr hwnn wyf yn disgwyl caffael trugaredd gennit ti, yr hwnn ydwyf beunydd yn derbyn dy sendithion di, wneuthur trugaredd i eraill, a bôd bôb dŷdd yn gwneuthur Da i bawb, ond yn enwedic i'r rhai sydd o deulu y ffydd. Trefna, O Arglwydd, felly fy holl weithredoedd, ac hyfforddia fi yn fy mhererindod ymma ar y ddajar, fal y gallwyf rodio yn ddi-bechod, a gweithio yn ddi-berigl, fal pan fyddo amser fy ymdattodiad yn neshau, y gallwyf ddywedyd gyda dy Apostol, mi a ymdrechais ymdrech dêg, mi a orffennais fy-ngyrfa, mi a gedwais y ffŷdd; a thithau, O Arglwydd, [Page 33] yr hwnn wyt y barnudd cyfiawn, Corona fi yn y dŷdd hwnnw a choron cyfiawnder, a derbyn fi enaid a chorff ir orphwysfa ar llawenydd tragwyddol, trwy Jesu Grîst fy Arglwydd, am Jechawdr, yr hwnn gyda thydi, ar yspryd glân, sydd yn teyrnasu yn dragywydd, yn ûn Duw heb drangc na gorphen.
Amen.
Pan fyddo y Gwîr Grîstion yn ymdeithio, efe a gofia ac a fyfyria ar y Bannau hynn o'r scrythur lân.
1o. YN ôl ychydic ddyddiau y Mâb ienangcaf a gasclodd y cwbl yn-ghŷd ac a gymmerth ei daith i wlâd bell, ac yno efe a wascarodd ei dda gan fyw yn afradlon;
Ac wedi treulio y cwbl y cododd newyn mawr trwy yr wlâd honno, ac yntef a ddechreuodd fod mewn eisian: Luc. 15. 13, 14.
2o. Rhyw ddŷn oedd yn myned i wared o Jerusalem i Jericho, ac a syrthiodd ymmysc lladron, y rhai wedi ei ddiosc ef ai archolli, a aethant ymmaith, gan ei adel ef yn hanner marw. Luc. 10. 30.
3o. A dau o honynt oedd yn myned y dydd [Page 34] hwnnw i duêf ai henw Emâus, yr honn oedd yn-ghŷlch trugain ystâd oddi-wrth Jerusalem;
Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan ai gilydd, am yr holl bethau hynn a ddigwyddasent;
A bu fal yr oeddynt yn ymddiddan ac yn ymofyn ai gilydd; Yr Jesu ei hun hefyd a nesâodd, ac a aeth gyda hwynt. Luc. 24. 13, 14, 15.
4o. Yna y Gollyngodd ef ymmaith ei frodyr, a hwy a aethant ymmaith, ac efe a ddywedodd wrthynt, Nac ymrysonwch ar y ffordd:
Felly yr aethant i fynu o'r Aipht ac a ddaethant i wlâd Canaan at eu Tâd Jacob. Gen. 45. 24, 25.
5o. Ac Angel Duw yr hwnn oedd yn myned o flaen byddin Israel a symmudodd, ac a aeth o'i hôl hwynt; ar Golofn niwl aeth ymmaith o'i tû blaen hwynt, ac a safodd oi hôl hwynt;
Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Aiphtiaid a llu Israel, ac yr ydoedd yn gwmmwl ac yn dywyllwch ir Aiphtiaid, ac yn goleuo y nôs i Israel. Exod. 14. 19, 20.
6o. Yna y cyfododd Balaam yn foreu ac a gyfrwyodd ei assyn, ac a aeth gyda thywysogion Moab,
[Page 35] A dig duw a ennynod am iddo fyned, ac Angel yr Arglwydd a safodd ar y ffordd iw wrthwnebu ef,
A gwelodd yr assyn Angel yr Arglwydd ac a orweddodd tan Balaam; yna yr ennynodd dig Balaam, ac efe a darawodd yr assyn ai ffonn. Num. 22. 22, 23, 27.
7o. Y Cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail, ond tosturi y drygionus fydd creulon. Dihar. 12. 16.
A phan ddelo efe iw lettu, neu iw gartref, efe a weddia fal hynn.
O Arglwydd Dduw, yr hwnn a fuost yn breswylfa ith bobl Israel ym mhôb cenhedlaeth, ac a addewaist fod gyda dy bobl bôb amser hyd ddiwedd y bŷd: wele, fi yn cydnabod dy fawr drugaredd tuag attafi, am fod yn wiw gennit fod gyda mi y dydd heddyw, gan fy hyfforddio i ar fynhaith, a'm cadw oddiwrth falais a dichellion lladron, ac oddi-wrth Gwmpeini a chymdeithas dynion afreolus ac annuwiol: Yn gyfiawn y gallesit ti adel i mi syrthio i'w plith hwy, a goddef iddynt fy yspeilio am harcholli, ie fy-nieneidio hefyd; o herwydd i mi yn fynech jawn (ysywaeth) syrthio oddi-wrthit ti, a thrwy fy mhecodau [Page 36] a'm hanwireddau archolli ac ail-groeshoelio Mab Duw, ai osod yn watwargerdd.
Yn hîr jawn, O Arglwydd, y bûm i yn cashau addysc, ac yn taflu dy eiriau i'm hôl; ie pan welwn leidr, Cyttunwn ag ef, a'm cyfran fyddai gyda yr godinebwyr, gollyngwn fy safn i ddrygioni, am tafod a gydblethai ddichell: ac oblegid hynn y galleht ti yn dy gyfiawnder er ystalm fy nhaflu i ir pydew archyll, yno i gyd-ddioddef a'r ysprydion uffernol, boenau tragwyddol: Ond tydi, O Arglwydd, o'th fawr ddajoni am harbedaist, ac a wnaethost i mi ddeall; ac am dyscaist i osod fy ffordd yn jawn, ac a ddangosaist i mi dy iechydwriaeth. Oh Rhynged fodd i ti rhag-llaw fy arbed, a'm tywys a'r hyd lwybrau cyfiawnder, gan orchymmyn ith Angel fy amddiffyn yn fy holl ffyrdd. Oh mor rhagorol oedd dy gariad ti tuag atta fi! nid oedd gan Fâb y dŷn le i roi ei benn i lawr; a phan escorwyd arno ef, nid oedd iddo, nac ir fendigedic forwyn Fair, ei fam ef, le yn y llettu, ond yn yr ystabl, yn y preseb fal pe buasei anifeiliaid, ac nid dynion yn gwmpeini cyfaddas iddynt; ac etto ti a ddarparaist i mi, wael bechadur truan, ystafell glŷd, a chwedi ei thanu, ac yn barod, a chwmpeini dynion sydd yn dy ofni di, ac yn fy-ngaru [Page 37] inneu: Oh na âd i mi byth anghofio dy drugareddau hynn, eithr gwna fi yn wîrddiolchgar i ti am danynt, gan fyw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol holl ddyddiau fy enioes er gogoniant i'th enw mawr di, trwy Jesu Grist fy unic Jechawdwr.
Amen.
Prŷd goleu Canwyll, efe a weddia fal hynn.
O Arglwydd Dduw, yr hwnn wyt y gwîr oleuni, ac ynot ti nid oes dim tywyllwch; Goleua dywyllwch ein calonnau ni, a thrwy dy fawr drugaredd amddiffyn nyni oddi-wrth bôb perigl ac enbydrwydd y nôs honn; a gwareda ni oddiwrth weithredoedd y tywyllwch, ac yn niwedd ein henioes dŵg ni ir goleuni tragwyddol er serch ar dy ûn Mâb Jesu Grîst ein Harglwyd a'n unic waredwr.
Amen.
A chyn myned o hono i gyscu, efe a eilw ar ei holl dylwyth yn-ghŷd; a chwedi iddo holi y rhai ieuangcaf o honynt ynghylch egwyddorion y Grefydd Gristianogawl; efe a weddia fal hynn.
O Arglwydd, Tragwyddol Dduw, yr hwnn wyt yn preswyliaw yn y nefoedd, a'th ogoniant yn cyrhaeddyd hyd eithaf y ddajar, ir hwnn nid oes dim yn guddiedic, a cher bronn yr hwnn yr ymgrymma yr holl Genhedloedd: Edrych, nyni attolygwn i ti, yn drugarog arnom ni, y gwaelaf, ar anheilwngaf o'th holl Greaduriaid, yn ymmostwng ymma ger dy fronn di, gan gydnabod a cyffesu ein haml a'n hamryw bechodau, y rhai a wnaethom ith erbyn, ac yn-gwrthwyneb ith anrhydedd. Llidiasom di i ddigofaint, ac yn gyfiawn yr ennynodd dy fâr i'n herbyn; a thydi a elli yn gyfiawn ein difetha ni, fal na byddo dim mwy o honom: Ond gyda thydi, O Arglwydd, y mae trugaredd fal ith ofner; ac yr wyt yn llawn tosturi: Cerydda ni ond etto fal plant i ti, mewn cariad, ac nid mewn llidiawgrwydd, fal in gwellhâer ac y hyddom cadwedic. Na chofia bechodau ein ievengctyd, na chamweddau ein henaint, [Page 39] eithr yn ôl dy drugaredd edrych arnom: er dy fwyn dy hun, O Arglwydd; er mwyn dy sanctaidd enw gostwng dy glûst a gwrando ein gweddiau ni; er mwyn dy anwyl Fâb Crîst Jesu derbyn ni ith ffafor a'th râs, a dyro î ni iechydwriaeth: Crea galonnau glân ynnom, O Dduw, ac adnewydda yspryd union o'n mewn; a chynnorthwyed dy yspryd sanctaidd di ein gwendid ni, a chyd-tystiolaethed a'n hyspryd ni ein bôd ni yn blane i ti, wedi derbyn yspryd Mabwysiad, trwy yr hwnn yr ydym yn llefain Abba, Dâd; ac fal y gallwn ddyfod mewn hyfdra at orseddfaingc grâs, a dywedyd.
Ein Tâd yr hwnn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw, deued dy deyrnas, Bîd dy ewyllys ar y ddajar, megis ac y mae yn y nefoedd, Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol, a Maddeu i ni ein dyledion, megis ac y maddeuwn ni i'n dyled-wyr, Ac na arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drŵg, canys tydi pia yr deyrnas, y nerth a'r gogoniant yn oes oesoedd.
Amen.
Neu fal hynn.
O Arglwydd Dduw, y Gwîr a'r Bywiol Dduw, a'r Brenin Tragwyddol, yr hwnn a wnaethost y ddajar trwy dy nerth, ac a sicrh eaist y bŷd trwy dy ddoethineb, ac a estynnaist y nefoedd trwy dy synŵyr; yr hwnn yn unic sydd gennit Anfarwoldeb, ac wyt yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod atto; Yr hwnn a wisgaist Ardderchawgrwydd a nerth: get bronn yr hwnn yr ymgrymma, ie, holl Frenhinoedd y ddajar, ac yr addola yr holl Genhedloedd. Nyni attolygwn i ti, edrych arnom ni y gwaelaf a'r anneilwngaf o'th holl greaduriaid yn ostyngedic yn ymgrymmu ger bronn Gorsedd-faingc dy râs, gan ymofidio o herwydd ein pechodau, a chan gydnabod ein gwendid.
O Arglwydd, yr ydym yn cydnabod ac yn cyfaddef fod yr holl gospedigaethau a osodaist arnom ni yn llai ac yn esmwythach o lawer nag a haeddasom; ie yn gyfiawn y gelli di felly ymddial arnom ni gan beri i ni ddioddef dinistr tragwyddol oddi-ger bronn yr Arglwydd ac oddi-wrth ogoniant ei gadernid ef; Canys nid adwaenasom di ein duw, fal y dylasem; ac ni buom ufydd i Efengl ein Harglwydd Jesu Grîst: Yn gyfiawn y gelli di ein chŵdu [Page 41] ni allan o'th enau, megis pethau ffiaidd ac aflân i ti; ie yn gyfiawnaf y gelli di ein torri ni ymmaith yn ddisymwth, yn ein pechodau, a'n taflu ni bendramwngl i uffern (y llynn di-waelod hwnnw sydd yn llosci a thân a brwmstan yn oes oesoedd) yno i gael ein poeni a'n llosci gyda Sathan a'i Angylion melltigedic yn dragywydd.
Ond tydi, O Arglwydd, tydi yw yr hwnn wyt yn dileu pechodau dy bobl er dy fwyn dy hun, ac ni chofi mo'i hanwireddau hwy mwyach; Tydi yw yr Jehofa, y Duw trugarog, a garslawn, hwyr-frydig i ddîg ac aml o drugaredd a gwirionedd; yn llawn tosturi, yn gyfoethog o drugarogrwydd: Oh bydded hyspys i ni ragorol olud dy râs yn dy gymmwynasgarwch i ni yn-Ghrist Jesu, o bywhâ ni yn ôl dy air: Pura, O Arglwydd, dajonus; glanhâ, ac yscuba holl ffiaidd ac aflân gonglau ein calonnau; Cymmhwysa, a pharatôa ni ith wasanaeth: Dŷsc i ni wneuthur y pethau a ryngant fodd i ti; a Thywysed dy yspryd dajonus nyni i gyfiawnder; Ac er mwyn dy gyfiawnder dŵg ein eneidiau ni allan o ing: Dywaid wrth ein heneidiau ni, mai tydi wyt ein iechydwriaeth ni, a maddeu i ni ein holl bechodau; pechodau ein ievengctyd, a phechodau ein henaint, ein hesceulustra yn gado heb wneuthur [Page 42] y pethau a orchymmynaist i ni eu gwneuthur, a'n parodrwydd i wneuthur y pethau a waherddaist; ein heulyn-addoliaeth a'n coel-grefydd; nid amgen cablu dy enw sanctaidd, halogi dy Sabathau, ammherchi dy ordeiniadau, a dirmygu dy weinidogion; ein Meddwdod a'n anghariadoldeb, ein Godineb, ein trais a'n twyll; ein celwydd a'n hanudonrwydd, ein cybydd-dra a'n trachwantau: O Arglwydd, yn ôl lliaws dy dosturiaethau dilêa ein holl anwireddau: er dy fwyn dy hun, O Arglwydd, er mwyn dy ogoniant, er mwyn dy gariad, er mwyn dy sanctaidd enw, Gostwng dy glûst a Gwrando ein gweddiau ni; er mwyn dy anwyl Fâb Jesu Grîst, Derbyn ni yn rasusawl, Cyfleidia ni ym mreichiau dy drugaredd, Cusana ni a chusanau dy fîn: Tydi wyt ein Tâd ni, a ninneu ydym dy Blant di; dy Blant afradlon ysywaith; etto yr awrhon yn ewyllysio dychwelyd atta ti: O edrych arnom a thrugarhâ, Cuddia warth a noethder ein heneidiau ni a mantell cyfiawnder Crîst Jesu ein Brawd hŷnaf: Diwalla a phortha ein heneidiau newynllyd ni a'r Manna nefol, a'th rhadau ysprydol; Dyro drachefn i ni orfoledd dy iechydwriaeth, ac a'th hael yspryd cynnal ni, a chynnorthwya ein gwendid ni; a chyd-tystiolaethed dy yspryd di a'n [Page 43] hyspryd ni ein bôd ni ein blant i ti wedi derbyu yspryd Mabwysiad trwy yr. hwnn yr ydym yn llefain Abba, Dâd.
O Dâd trugarog, nid ydym ni yn rhyfygu dyfod ger dy fronn di gan hyderu ar ein teilyngdod a'n cyfiawnderau ein hunain; nag ydym ddim, Arglwydd: Nid yw ein cyfiawnderau ni ond brattiau, ac felly nid ydynt ddigonol i guddio ein noethni ni, ie nid ydynt hwy ond brattiau budron, ac felly ni wnant hwy ond ein difwyno ni, ni wnant hwy monom ni yn hardd ger dy fronn di: Ond yr ydym ni yn dyfod atta ti yn enw, a thrwy gyfryngiad dy anwyl Fâb Crîst Jesu ein unic Jechawdr, gan fôd yn ddi-ammau gennim ni y rhoddi i ni pa bethau bynnag a ofynnom ni genniti yn ei enw ef. Yr ydym ni gan hynny yn gofyn dy nawdd di, yr ydym ni yn gofyn maddeuant o'n holl bechodau, yr ydym ni yn gofyn y cyfryw radau a doniau ysprydol ar a wyddost ti eu bôd yn angenrheidiol i ni, Yr ydym yn gofyn dy yspryd glân i'n sancteiddio ni, i'n diddanu, ac i'n cynnorthwyo: Oh cymmoder dydi a nyni yn dy anwyl Fâb yn yr hwnn ith fodlonwyd, yr hwnn a aeth yn iawn, ac yn ddadolwch, tros ein pechodau ni, gan dywallt ei werth-fawroccaf waed trosom ni; a thrwy haeddedigaethau ei farwolaeth [Page 44] ef, Cyflwyner ni yn sanctaidd, yn ddifeius ac yn ddi-argyoedd ger dy fronn di. Ystyria ein breuolder a'n hanwadalwch, ac a nerthol allu dy yspryd sanctaidd cynnorthwya ein gwendid, Cadarnhâ ein ffydd ni yn-Grîst Jesu: Na âd nac i dichell Diafol, nac i dwyll y Bŷd, nac i chwant y Cnawd, nac i ddrygionus faleisiau ysprydion na dynion annuwiol allu byth ein symmud ni oddi-wrth obaith yr Efengl. Oh na wahaner monom ni er dim oddi-wrth y cariad sydd gennit ti tuag attom ni yn-Ghrîst Jesu; eithr Bendithia ni, O Arglwydd; bendithia ein heneidiau ni, bendithia ein cyrff ni, bendithia ein da ni, bendithia yr holl fendithion a roddaist i ni, a Dyro i ni râs a doethineb i arferu y bendithion yr wyt ti wedi eu rhoddi i ni, er Gogoniant ith enw, er lleshâd i'n cyd-Gristianogion, ac er diddanwch i'n cydwybodau ein hunain yn y dŷdd diweddaf: ie Bendithia, O Arglwydd, ein holl amcanion, Bydded y gwasanaeth yr ydym ni yr awr-hon yn ei wneuthur i ti, yn gymeradwy ger dy fronn; A Chaniadha, nyni attolwgwn i ti, ein heirchion hynn, a pha bethau eraill a wyddost ti fôd yn angenrheiddiol i ni er gogoniant ith enw, trwy Jesu Grîst ein Harglwydd.
Amen.
Neu fal hynn.
O Dragwyddol Dduw, Arglwydd y gogoniant, yr hwnn wyt hefyd yn llawn o drugaredd a haelioni, Trugarhâ wrthym ni Bechaduriaid truain, edrych arnom ni yn dy drugaredd a'th swyneidd-dra, ac na ddirmyga weddiau dy ostyngedic weision: Tydi wyt ein Creawdwr ni, oh na ddi-ystyra yn dy ddigofaint waith dy ddwylo dy hûn; Tydi wyt ein pryniawdwr ni, Oh na thafl ymmaith oddi-wrthit ti y rhai a brynaist a'th wrthfawroccaf waed; Na âd i'n drygioni ni ddestrywio y peth y bu i ti o'th ddajoni unwaith ei adeiladu: Yr awr-hon, o Arglwydd, tra fo i ni amser i edifarhau, tro attom ni lewyrch dy wyneb-prŷd, megis ac y troaist at Petr, fal y gallwn ninneu hefyd wylaw yn chwerw-dôst a galaru o herwydd ein pechodau.
Yr ydym yn cydnabod, Arglwydd, pebuasei dy ewyllys di i wneuthur a nyni yn ôl ein haeddedigaethau y buasem ni er ystalm wedi diodeff dialedd dragwyddol, canys nid oes dim dajoni ynom ni, ac nid ydym yn haeddu amgenach na chyflog pechod, sef marwolaeth: o herwydd pa ham yr ydym yn deisyf arnat roddi cennad i ni i appello at [Page 46] orsedd-faingc dy râs, ac yno i gaffael maddeuant, nid o herwydd ein haeddedigaethau ni, ond o herwydd haeddedigaethau dy anwyl fâb Crîst Jesu, yr hwnn a roddodd ei hunan i ddioddef angeu ar y Groes trosom ni bechaduriaid: Ynddo ef nid oedd dim twyll, dim pechod, etto efe a wnaed yn bechod faly gallem ni bechaduriaid truain ddiangc wobr ein pechodau; efe yr hwnn oedd roddwr y gyfraith, a'i hawdur hefyd, etto a aeth tan felldith y gyfraith, ei gyfraith ei hûn, fal y gallai efe yn llwyr brynu ni, a'n gwaredu oddi-tan y felldith honno: ie efe Pan oeddym ni yn gaeth-weision i Ddiafol, ac yn bentewynion uffern a'n hachubodd ni o feddiant y naill, ac a'n gwaredodd ni o blâ a ffenyd y llall.
Oh na fydded i ni gan hynny mwyach bechu ith erbyn di, eithr megis pobl sanctaidd, wedi eu puro i ti dy hûn, Gwna ni yn wastadol yn bobl awyddus o weithredoedd da; ie discleiried ein goleuni ni ger bronn dynion, fal y gwelont ein gweithredoedd da ni, ac yr anrhydeddant tydi ein Tâd ni yr hwnn wyt yn y nefoedd: Dyro i ni râs i ddilyn buchedd dduwiol; Caniadhâ i ni doethineb nefol; Anghwanega di ein ffŷdd, ein dwyfolder, ein gobaith, ein Cariad, ein hedifeirwch, a ffôb rhinwedd Gristianogawl [Page 47] ynom ni: Tydi a orchymmynaist i ni, O Arglwydd, ffyddlon-gadw dy orchymmynion, a'th ddeddfau, a bôd bôb amser yn ufydd i'th air; Yr ydym yn ostyngedic yn cydnabod ein llygredigaeth a'n gwendid, ac yn cyffesu na ddichon yr ûn o honom ni hebot ti gyflawni ûn o honynt, etto trwy dy hollalluog help a'th gymmorth nyni a wyddom nid oes dim yn ammhosibl: Nyni a wyddom nad oes ynom ni ddim da yn trigo, a chwblhau yr hynn sydd dda, nid ydym yn medru arno; etto nyni a wyddom y gallwn bôb peth trwy Grîst yn ein nerthu ni: Oh Rhynged fodd i ti, gan hynny, gynnorthwyo ein gwendid ni, a phâr i ni ddeall ffordd dy orchymmynion, a gostwng ein meddyliau i gadw dy dystiolaethau; Bydded ein dyfyrrwch ni yn dy gyfreithiau di, a bydded dy air yn fyfyrdod hyfryd i ni: Dyro i ni râs a gallu i gyflawni dy sanctaidd orchymmynion, ac o'th fawr drugaredd gwna ni yn gyfrannogion o'th ŵynfydedic addewidion yn-Ghrît Jesu ein Harglwydd, ir hwnn gyda thydi ar yspryd glân y byddo yr holl ogoniant yn oes oesoedd.
Amen.
Neu fal hynn
O Arglwydd Dduw, nesol a thragwyddol Frenhin, ac yn Jesu Grîst ein trugaroccaf Dâd; wele, ni wael bechaduriaid a thruain, ydym yn cydnabod mai i ti yn unic y perthyn yr anrhydedd a'r gogoniant; ac nid oes dim yn ddyledus i ni ond Cywilydd, a'th ddigofaint, a'th fâr i'n herbyn, o herwydd ein ffieidd-dra, a'n haml a'n hamryw bechodau, y rhai a wnaethom ni o amser bwygilydd, yn erbyn dy ardderchawgrwydd di: Nyni a bechasom yn erbyn y nefoedd, ac yn dy erbyn di, ac mwyach nid ydym ni deilwng i gael ein galw ein blant i ti: os edrychi arnom ni megis ac yr ydym wedi dyfod allan o lwynau ein hên-dâd Adda, y mae yn rhaid i ni gydnabod y gallasai dy gyfiawnder di beri i ni wybod faint yw dy sorriant yn erbyn pechaduriaid, a hynny cyn dyfod allan o grôthau ein Mammau: Os edrychwn ni arnom ein hunain, a'r môdd y treuliasom ein hamser o'r dŷdd i'n ganwyd hyd yr awr-honn, y mae yn rhaid i ni trwy gywilydd gydnabod na bu ein bucheddau ni amgenach na gwrthryfelgarwch gwastadol yn erbyn dy sawredd di: Nid oes ûn mâth a'r bechod nad ydym [Page 49] ni yn euog o honaw, nid oes ûn o'th orchymmynion sanctaidd, or mwyaf hyd at y lleiaf, or cyntaf hyd y diweddaf nad ydym ni eusys wedi ei droseddu: a hynny nid yn unic yn amser anwybodaeth a thywyllwch y rhoesom ni ein hunain i weithredu y drygioni hynn, ond wedi i dwymder dy drugaredd lewyrchu arnom ni, a goleuo tywyllwch ein calonnau ni, a'n gwresogi yn dy wasanaeth; ie yr awrhon yr ydym ni ysywaeth mor llwythog o bechodau, ac o anwireddau, ac y mae ein gweddiau ni a'n gwasanaeth mor am-mherffaith fal y gelli di yn gyfiawn droi heibio dy wyneb heb edrych arnom ni yn drugarog; ti a elli yn gyfiawn gau dy glustiau, rhag gwrando ein gweddiau ni; ie ti a elli yn gyfiawn yn torri ni ymmaith yn ein pechodau, a dywedyd wrthym ni Ewch chwi rai Melltigedic oddiwrthif fi, ir tân tragwyddol, yr hwnn a baratowyd i Ddiafol ac iw Angylion: Y mae ein pechodau ni yn llefain am dy ddial arnom ni, ie y mae Sathan yn barod i gyflawni dy farn di arnom ni, y mae uffern yn barod i'n llyngcu ni, a'r tân tragwyddol i'n difetha: Ond, O Arglwydd, tydi wyt y tŵr cadarn ym-mha ûn yn unic y gallwn ni fôd yn ddiogel; tydi wyt y Graig a'r ba ûn er ir glâw ddescyn a'r llifeiriant dyfod, a'r [Page 50] Gwyntoedd chwythu, a Sathan ruthro i'n bwrw nii lawr, etto y gallwn sefyll yn ddiyscog a bôd yn gawedic: Tydi, O Arglwydd, o egoraist ffynnon i dŷ Ddauydd, ac i breswylwyr Jerusalem iw pechod a'i haflendid Golch ni, O Arglwydd, nyni bechaduriaid aflân, yn y ffynnon honno, a glanhâ ni oddiwrth ein hanwireddau: Tydi a egoraist ddrŵs i bechaduriaid truain i ddyfod attati, ac nyni a wyddom pwy yw y drŵs hwnnw, sef dy anwyl Fâb Crîst Jesu; Mewn hyder gan hynny, ar dy drugaredd di, a'i deilyngdod ef, yr ydym ni, bechaduriaid gwael a thruain, yr awrhon yn dyfod attati; ac yn deisyf arnat er mwyn Crîst Jesu, drugarhau wrthym ni: er bôd ein pechodau ni mor hên a'n tâd Adda, er eu bôd hwy mor gyflawn eu rhifedi a'r sêr yn y nefoedd, er eu bôd hwy mor uchel a Cedrwydd Libanon, etto nyni a attolygwn i ti er ei fwyn ef i diwreiddio hwy allan o honom ni, a'u claddu hwynt tan tragywyddol anghof, fal na ddichon yr ûn o honynt luddias ith fendithion ddescyn arnom ni, na pheri gofid a'r ein cydwybodau ni yn ein bywyd, nac anobaith ynom ni yn niwedd ein dyddiau, na sefyll i fynu yn y farn i gondemnio na'n heneidiau na'n cyrff yn y dydd diweddaf; Ac o herwydd bôd ein holl gomffordd a'n diddanwch ni yn sefyll yn anic [Page 51] yn sicrwydd dy druga edd tuag attom ni, Nyni a attolygwn i ti yspysu i ni dy gymmod a'th gariad tuag attom ni, a selia i bôb ûn a honom ni yr awr-honn bardwn a'm ein holl gamweddau; a danfon dy yspryd sanctaidd i'n calonnau ni i adnewyddu ein bucheddau ni, i gadarnhau ein ffydd ni, ac i'n nerthu ni yn erbyn holl ddichellion a phrofedigaethau y bŷd y cnawd a'r cythraul: Gorchguddia noethder ein heneidiau ni a chyfiawnder dy fâb Crîst Jesu; Paratôa ni, a gwna ni yn addas i fôd yn breswylwyr o'r deyrnas dragywyddol yr honn a bwrcasodd dy anwyl fâb i ni trwy ei werth-fawr angeu a'i ddioddefaint: Bydded ith râs ein tywys ni yn ein holl ffyrdd, bydded dy air yn llusern i'n traed, ac yn llewyrch i'n llwybrau; darostynged dy drugarog gystuddiau falchder ein gwâg feddyliau, a dyweddied dy dadawl ddajoni ein colannau ni mewn barn, cyfiawnder, serch, a chariad, i fôd yn ffyddlon i ti hyd angeu, fal pan deuo angeu y gallwn gaffael diwedd llawen a cyssurus; ac ar ôl angeu, y gallwn fôd yn gyfrannogion o'r adgyfodiad gogoneddus ir anrhydedd a'r bywyd tragywyddol, trwy Jesu Grîst ein Harglwydd.
Amen.
A chwedi iddo ef weddio fal hynn, efe a dderllyn gyfran o'r scrythur lân; ac yn ôl hynny efe a adrodda Fannau y ffŷdd Gatholic: A chwedi hynny, gan fyned yn ostyngedic a'r ei liniau, ef a ddywaid.
Arglwydd dangos dy drugaredd arnom.
Ac yr ettib y sawl fydd presennol.
A chaniadhâ i ni dy iechydwriaeth.
Ynteu a ddywaid.
Arglwydd cadw y Brenhin.
Hwythau.
A Grwrando ni yn drugarog pan alwom arnat.
Ynteu.
Gwisc dy weinidogion ag jawnder.
Hwythau.
A gwna dy ddewisol bobl yn llawen.
Ynteu.
Arglwydd cadw dy bobl.
Hwythau.
A bendithia dy etifeddiaeth.
Ynteu.
Arglwydd dyro dangneddyf yn ein dyddiau.
Hwythau.
Canys nid oes neb arall yn ymladd trosom, ond tydi Dduw yn unic.
[Page 53] Ynteu.
Duw glanhâ ein calonau ynom.
Hwythau.
Ac na chymmer dy yspryd glân oddiwrthym.
Yn ôl hynny efe a weddia fal hynn.
HOllalluog Arglwydd, a thrugaroccaf Dâd, yr ydym ni, dy greaduriaid pechadurus, yn deisyf arnat dderbyn ein haberth brydnawnol hynn o foliant a diolch am dy fawr drugareddau, a wnaethost i ni o amser i amser, o'r awr i'n ganwyd ni hyd y nôs honn: ac yn enwedic am dy drugareddau ysprydol yn-Ghrist Jesu; am ein hetholedigaeth, a'n creedigeth, am ein galwedigaeth, a'n prynedigaeth, am ein sancteiddiad, a'r gobaith sydd gennym ni y cawn ein gogoneddu; am ein hiechyd, ein heddwch, ein llwyddiant a'n llawenydd; am yr amser hefyd a'r moddion yr wyt ti yn eu roddi i ni i'n dwyn ac i'n tywys i edifeirwch, ac am i ti ein cadw ni yn ddiogel y dŷdd heddyw oddi-wrth bôb drŵg. Pa beth ydym ni, O Dduw, a pha beth yw tŷ ein tadau ni i ti fôd mor drugarog a hynn, i'n rhag-flaenu ni, a'n dilyn a'th ddajoni, ac a'th barhaus hoffder? wele! nid ydym ni ond [Page 54] llai na'r lleiaf o'th drugareddau di: Ond, O Arglwydd, dyro i ni, nyni attolygwn i ti, ûn bendith etto yn ychwaneg, Gâd i ni gymmeryd cwppan iechydwriaeth, a dysc i ni foliannu dy enw sanctaidd, a gosod allan ein diolchgarwch tuag attat ti mewn sancteiddrwydd a phurdeb buchedd, ac ufudd-dod hollawl i'th orchymmynion di.
Cadarnhâ ni yn y ffŷdd Gatholic, Apostolaidd, yr hon yr ydym nî yn ei phroffesu: Bendithia y rhann hwnnw o'th air a glywsom ni yr awr-honn; Bydded yn arogl peraidd bywyd i fywyd i bôb ûn o honom ni, ac nid yn arogl marwolaeth i farwolaeth: a chyda nyni yr ydym yn attolwg i ti fendithio dy holl bobl ym-mha fann bynnag a'r y mae'nt: Bydded rhwydd-deb i'th efengl di trwy yr holl fŷd; llwydda a maentimia gyfiawnder dy Eglwys, fal y gwradwydder Anghrist, ac y bwrier i lawr deyrnas Satan, fal y llawenycho dy saint, ac y gorfoledda dy etifefeddiaeth.
Bendithia yr holl bobl yn y deyrnas honn, yn enwedic ein Grasusaf frenhin Charles, a'r frenhines Catherin, y srenhines Fair, mam ein brenhin, y Tywysawg Jaco, a'r holl dywysogawl heppil; Bendithia yr holl Arglwyddi yr cyngor, y pen-swyddogion, a'r holl fonedd; Bendithia holl weinidogion [Page 55] dy air, pa ûn ai Arch-Escobion, ai Escobion, ai Offeiriaid a Diaconiaid; Egor lygaid pôb ûn o honom ni i weled a'n calonnau i ystyried yn y dyddiau hynn o'n hymweliad y pethau a berthynant i'n heddwch: Bydd di, o Arglwydd, yn ddiddanudd i'r cystuddiedic, yn physygwr i'r clywfus, yn Dád i'r ymddifad, ac yn lle priod i'r weddw: A thydi, o Dâd trugarog, trugarhâ wrth bôb dŷn a'r sydd yn ymddiried ynot; Gwna i bawb dy garu, a'th ofni; Llewyrched goleuni dy wyneb-prŷd ar y sawl sydd etto yn gorwedd mewn tywyllwch ac anwybodaeth: Dyro faddeuant i'r sawl sydd yn ein cashau ni, ac yn ein herlyd, tro hwy attat, a rhwyma di etto hwynthwy a nyni mewn ûn rhwymyn y tangneddyf a charedigrwydd, a chymdeithas ysprydol; ac am y sawl sy yn ein caru ni, megis ein Rhieni, ein Brodyr, ein Chwyiorydd, ein ceraint, ein cymmydogion a'n gweinidogion, ar sawl o ewyllys da a gofiasant ein gwendid ni gan weddio trosom, nyni attollygwn i ti eu gobrwyo hwynt ag amlder dy ddajoni ac a'th drugareddau, a chynnyscaedda hwynt a'th nefol râs a llwydda hwynt a phób dedwyddwch yn eu holl weithredoedd.
Ac yn ddiweddaf, Arglwydd yr ydym yn attolwg i ti, ein cadw ni o'r teulu hwnn y [Page 56] nôs honn oddi-wrth bôb drŵg, oddi-wrth bôb pechod ac anwiredd, oddi-wrth ystryw a chyrch y cythral, oddi-wrth dân a themestl, oddi-wrth ladron ac ysprydion drŵg, ac oddi-wrth bôb peth arall a chwennycho wneuthur niwed yn y bŷd i ni: Tydi a wnaethost addewid y cai y cyfiawn fyned mewn heddwch, a gorffywys mewn tangneddyf yn eu ystafelloedd; Tydi, O Dâd trugarog, a'n gwnaethost ni yn gyfiawn trwy ffŷdd yn-ngyfiawnder dy fâb Crîst Jesu, Caniadhâ i ni gan hynny dy dangneddyf di fal y gallom ni orffywys ynot ti; Caniadhâ i ni gyscu felly y nôs honn, fal y gallo ein calonnau ni fôd yn oestadol yn neffro yn yr Arglwydd, ac fal y gallo ein hailodau lludedic ni gael en dadflino; Gwna i ni orwedd a huno mewn heddwch, a gwna i ni drigo mewn diogelwch; ac os bydd dy ewyllys di i osod cospedigaeth arnom ni; yr honn yr ydym ni er ystalm wedi haeddu oblegid ein pechodau, etto, O Arglwydd, yr ydym yn attolowg i ti roddi ini râs i dderbyn dy gerydd di drwy ammynedd a diolchgarwch. Ac os bydd dy ewyllys di alw am danom ni y nôs honn i roddi i fynu ein cyfrif i ti am ein holl weithredoedd, O Arglwydd, nyni attolygwn i ti dderbyn ein heneidiau ni ir gogoniāt, a'r bywyd tragywyddol trwy Jesu Grîst ein Harglwydd.
Amen.
Neu fal hynn.
O Arglwydd Dduw, y Duw byw a'r Gogoneddus, yr hwnn wyt yn anfeidrol o allu ac ardderchawgrwydd; a llewyrch dy wyneb-prŷd yn swy disclaer na llewyrch yr haul ganol dydd; Llewyrcha ein calonnau ni, nyni attolygwn i ti, gan roddi i ni jawn ac iachus wybodaeth am dy ewyllys di, ac fal y dichon ein tafodau a'n gwesusau fynegi dy foliant di yr awrhonn, ac na âd i ni gyfeiliorni oddi-wrthit ti mewn tywyllwch ac anwybodaeth, eithr rhodio yn wastadol megis y gweddai i blant y dydd yn-gholeuni dy wirionedd ac yn ffyrdd dy orchymmynion: Cadw ni, O Dâd, y goleuni, o dydi Geidwad Israel, yr hwnn nid wyt nac y huno nac yn cyscu, cadw nyni rhag nerthoedd y tywyllwch, a chymmer ni y nôs honn a phôb amser i'th ymgledd; Maddeua i ni ein holl anwireddau a'n pechodau y rhai ydynt yn swy o rifedi na sêr y nefoedd; y rhai ydynt hefyd yn drymmach ar ein heneidiau ni, na phe bai holl fynyddoedd y ddajar wedi eu treiglo au bwrw ar ein cefnau. O Dyro i ni rhai ydym yr awr-honn yn dyfod attat ti yn flinderog ac yn llwythog, esmwythfyd; a bydded dy [Page 58] jau di arnom ni fal y gallom ufydd-hau i'th lywodraeth. Y nos a gerddodd ymmhell a'r dydd a neshâodd; oh bydded i ni fwrw oddi-wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisco am danom arfau y goleuni fall y gallom wrthsefyll yn y dydd drŵg biccellau tanllyd y fâll ac wedi gorphen pôb peth, sefyll; sef, sefyll yn y cyfiawnder, sefyll yn y gwirionedd, sefyll mewn tangneddyf, sefyll yn y ffydd, fall y gallom dd erbyn yn y diwedd, ddiwedd ein ffydd, sef iechydwriaeth ein heneidiau: Os ydyw dy ewyllys di i anghwanegu ein dyddiau ni, O Arglwyddd, anghwanega hefyd ein hedifeirwch ni; Diddyfna ein calonnau ni oddiwrth wagedd, ac ofer-bethau y bŷd hwnn, a bydded ein hymarweddiad ni yn wastadol yn y nêf, a ba le yr ydym yn disgwyl am ddyfodiad yr Arglwydd Jesu, yr hwnn a gyfnewidia ein cyrph gwael ni fal y gwneler hwy yr ûin ffurf ai gorph gogoneddus ef, yn ôl y nerthol weithrediad trwy yr hwnn y dichon efe, ie, ddarostwng pôb peth iddo ei hun; Ac felly, O Arglwydd, gan roddi i ti fawr ddiolch am i ti ein hethol ni, ein creu ni, ein galw ni, ein prynnu ni, ein sancteiddio, a rhoddi gobaith i ni o gael ein gogoneddu; ac hefyd am i ti ein cadw niy dydd heddyw oddi-wrth bôb drŵg, i'th ddwylo di, O [Page 59] Nefol Dâd, yr ydym yn gorchymmyn ein heneidiau a'n cyrph, a pha beth bynnac arall a'r sydd ar ein helw ni; gan fod yn ddiammau gennym ni, os byddi di gyda ni, y byddwn diogel, ac y cawn huno mewn heddwch a gorphywys mewn tangneddyf yn ein hystafelloedd.
Bendithia dy holl bobl ym-mhôb mann, yn enwedic dy bobl yn y deyrnas honn: Rheola galonnau ein swyddogion: Cynnyscaedda a'th nefol râs holl weinidogion dy air, yn enwedic dy wasanaethwr yr hwnn sydd yn llaffurio yn y gair a'r athrawiaeth yn ein plith ni; bydded iddo ef oddi-wrthym ni barch dau-ddyblyg, a bydded pôb ûn o honom ar sydd yn gwrando arno, yn usudd i gadw, a gwneuthur yn ôl yr athrawiaeth iachus y mae efe yn ei draethu i ni: Ac, O Arglwydd, danfon ychwaneg o weinidogion gofalus, bucheddol, dyscedic i bregethu dy efengl di, ac i wasanaethu dy Sacramentau yn y wlâd honn; Dyro ddiddanwch i'r sawl sydd mewn anghysur; Dyro iechyd, os yw dy ewyllys, ir sawl sydd dan glefyd; Diwalla y sawl sydd mewn eisiau; Dyro faddeuant i'r sawl sydd yn ein cashau ni; Bydded dy gariaid tuag at y sawl sydd yn ein caru ni, a gwrando ar y sawl sydd yn gweddio trosom ni; ac na âd [Page 60] i ni byth dy anghofio di: Pan fyddo ein cyrph ni yn huno, bydded ein heneidiau ni yn neffro yn yr Arglwydd, a phan fyddo dy ewyllys di i alw am ein heneidiau ni, yr ydym yn attolwg i ti eu derbyn hwy i'r orphywysfa, a'r llawenydd, y gogoniant a'r bywyd tragywyddol trwy Jesu Grîst ein Harglwydd.
Amen.
Neu fal hynn.
HOllalluog a Thragywyddol Dduw, Creawdwr dynyon ac Angylion, creawdwr nêf a dajar, a phôb peth a'r sydd yn y nêf, ac sydd ar y ddajar, trwy Ragluniaeth yr hwnn i'n cadwyd ni o'r dydd i'n ganwyd hyd yr awr-honn: yr ydym yn attolwg i ti o'th fawr drugaredd yn-Ghrîst Jesu, faddeu i ni ein holl bechodau, a'n hanwireddau; ffoledd ein meddyliau, oferedd ein geiriau, a drygioni ein gweithredoed: O Dduw cyfiawn a thrugarog, pa hŷd y cyfaddefwn ni ein pechodau, ac y gweddiwn am faddeuant, gan ddywedyd ein bod ni yn edifar gennym o'i plegid, ac etto y dychwelwn at yr unrhyw ddrygioni drachefn? Oh na fydded felly ond hynny; na âd i ni syrthio eilwaith i'r camweddau hynny y mae arnom ni yr awrhonn gywilydd o'i plegid, y rheini [Page 61] a ddygasant eusys dristwch ar ein heneidiau ni, ac (oni ymadâwn ni yn hollawl a hwynthwy) a ddygant farwolaeth, a'r peth sydd waeth, dŷ dragywyddol ddigofaint ti; Dyro i ni gan hynny, O Arglwydd, nerth a gallu i orchfygu ein holl wendid, ein holl nŵyfau a'n holl chwantau cnawdol ein hunain: Dyro i ni râs i ffieiddio ac i gas-hau pôb peth y sydd yn ffiaidd yn dy olwg di, a Bydded yn hôff ac yn wŷch gennym ni fod yn gwnenthur y pethau sydd yn rhyngu bôdd i ti yn ôl dy ewyllys; Ysprydola ein calonnau ni a gwîr ffydd yn dy fâb Crîst Jesu; Dyro gennad i ni i gymmeryd gafael ar ei gyfiawnderau ef, ac i obeithio am jechydwriaeth trwy ei haeddau ef: Gwna i ni dy garu di yn bûr, yn ddiragrith, ac o'r galon yn fwy a thu-hwnt i holl bleserau, gwâg-rodres, a chyfoeth y bŷd hwnn, ac i garu ein cyd-Gristianogion megis ein hunnin.
Rhynged fodd i ti, O Arglwydd, ein bendithio ni, a'n cadw y nôs honn oddi-wrth bôb drŵg, oddi-wrth bechod, ac oddi-wrth ddrygionus faleisiau 'ysprydoedd y tywyllwch: wele! ni huna ac ni chŵsc Ceidwad Israel; Oh Bydded yr Arglwydd Jesu Grîst yn geidwad arnom ni y nôs honn, a phobamser; pa ûn y byddom a'i cyscu a'i yn [Page 62] nefro, gâd i ni fôd yn wastadol, enaid a cborph, tandy ymgeledd a'th lywodraeth di: Tydi wyt yr alpha a'r omega, y cyntaf a'r diweddaf, bydd felly hefyd nyni attolygwn i ti, yn ein meddyliau ni, a chyfarwydda ein holl eiriau ni, a'n gweithredoedd i ddatcan ac i osod allan ogoniant dy ardderchawgrwydd di. Amddiffyn ein cyrph ni, ein da, a phôb peth a roddaist i ni; Cadw ein heneidiau ni yn bûr ac yn ddi-halog, a bydded ein hysprydoedd ni yn wastadol yn sanctaidd ger dy fronn di: Dysc i ni wadu pôb annuwioldeb, ac ymwrthod a phôb drygioni a phechod; a hyd y gwelo dy ddoethineb di fôd yn dda i ni fwy yn y bŷd hwnn, OArglwydd dyro i ni râs i fyw yn sobr, yn gyfiawn ac yn dduwiol, fal pan fo ni yn ymadel a'r bŷd hwnn y byddo ein hymadawiad ni o hono, fal Gollyngiad Simeon, mewn tangneddyf yn ôl dy air di, a gâd i'n llygaid ni weled dy iechydwriaeth: A derbyn, O Arglwydd, ein heneidiau ni i'r gogoniant nefol, i'r bywyd tragywyddol, trwy Jesu Grîst ein Harglwydd.
Amen.
Yna efe ai dylwyth er gogoniant i Dduw a ganant ûn o Psalmau Dafydd, a chwedi hynny, efe a fendithia ei dylwyth, gan ddywedyd.
TAngneddyf Dduw yr hwnn sydd uchlaw pôb deall; a gattwo eich calonnau a'ch meddyliau yn-gwybodaeth a chariad duw, a'i fâb Jesu Grîst ein Harglwydd: a Bendith duw hollalluog y Tâd, y mâb, a'r yspryd glân a fyddo i'ch plith ac a drigo gyda chwi yn wastad.
Amen.
Ac ar ôl hynnefe a â (ac os bydd Gwraig ganddo) efe a'i cymmer hi gyd'ag ef iw ystafell, a chan fyned a'r eu gliniau wrth erchwyn en gwely, neu ryw fann cyfleus arall, y gweddiant fal hyn, gan ddywedyd.
O Dragywyddol Dduw, ceidwad pôb rhyw ddŷn, rhoddwr pôb dajoni, yr hwnn wyt Dduw yr heddwch a'r cariad, yr hwnn wyt awdur tangneddyf a charwr cytundeb, yr hwnn a'n cyfylltaist ni mewn glân ystâd Briodas, yr honn a arwyddoccâ i ni y [Page 64] dirgel undeb y sydd rhwng Crîst a'i eglwys: O Bydded, nyni attolygwn i ti, rhyngom ni y cyfryw gariad sanctaidd, parhaûs, ac sydd rhwng Christ a'i Briod, sef dy etholedigion bobl di; Ac yn ôl yr addewid a'r adduned a wnaethom ni ger dy fronn di a'th bobl, Gwna i ni ym-mha gyflwr bynnag ar y byddom, a'i mewn gwynfyd a'i adfyd, iechyd a'i clefyd, garu a mawr-hau ein gilydd, fal y gallom gael cyssur, cymmorth a diddanwch y naill oddi-wrth y llall: O bŷdd plant iddynt y gweddiant fal hynn.A chan ddarfod i ti drugar-hau wrthym ni gan roddi i ni blant, y rhai ydynt (fal y mae dy Brophwyd sanctaidd yn tystiolaethu) dy etifeddiaeth di, a'th wobr yw ffrwyth y grôth yr ydym yn ostyngedic yn deysyf arnat eu bendithio hwynt; ac megis ac y mae'nt yn cynnyddu mewn Corpholaeth, oh bydded iddynt gynnyddu mewn grâs a ffafor gyd a' thydi a'th bobl. Cyscoda ni, O Arglwydd, y nôs honn dan gyscod dy adenydd; amddiffyn a chadw ni oddi-wrth bôb drŵg, a bydded ein gobaith ni yn wastadol ynot ti: Na âd i ni gyfeiliorni oddi-wrthit, ac o'r diwedd dŵg ni i'r trigsannau tragywyddol, trwy Jesu Grîst ein Harglwydd.
Amen.
Os Gŵr gweddw yw efe, yna y gweddia efe fal hyn, gan ddywedyd.
O Arglwydd, yr hwnn wyt yn rhoddi ac yn cymmeryd ymmaith, Bendigedic a fyddo dy enw sanctaidd; Bendigedic a fo'ch di, O Arglwydd, am roddi i mi, dy wasanaethwr annheilwng (pan oeddwn yn unic ac yn ddi-ymgeledd) wraig yr honn ym-mhôb peth tros ei holl ddyddiau a fu ffyddlon i mi; Os bydd iddo blant o honi hi. ac hefyd a ddygodd i mi Blant graslawn: ie Bendigedig a fo'ch di, o Arglwydd, am dy fawr gariad a'th drugareddau tuag atti hi, yn ei bywyd a'i marwolaeth; am i ti ei chynnyscaeddu hi ag amryw radau rhagorol a rhinweddau nodedic, sef, a gwybodaeth iachus, ffydd werthfawr, edifeirwch ddiragrith, ufydd-dod, ammynedd, gobaith, cariad, ac am i ti ei symmud hi allan o drallod y bŷd hwnn i'r gogoniant nefol, i gael rhann o etifeddiaeth y Sanict yn y goleuni tragywyddol.
O Arglwydd, dyro i minneu hefyd ac i'm plant a roddaist i mi, yr unrhyw radau, a gwna ni yn yr amser y gweli di yn dda, yn gyfrannogion o'r un-rhyw ogoniant: Yn y cyfamser rhynged bôdd i ti ddyweddiaw fy [Page 66] enaid i i ti dy hûn mewn cyfiawnder a gwîr sancteiddrwydd, mewn tiriondeb ac mewn trugaredd: par i mi dy garu a'th anrhydeddu, dy ofni, a bôd yn ufydd i ti; ac os bydd dy ewyllys di i mi eilchwail gymmeryd Gwraig yn briod i mi, oh bydded i mi ei phriodi hi ynot ti, ac i'th ogonianr: Dyro i mi y cyfryw ûn a'r sydd yn wasanaeth-ferch i ti, ac yn dy addoli; y cyfryw ûn y sydd rinweddol, a'm câr, ac a ufydd-ha i mi; y cyfryw ûn y gallwyf ymddiried ynddi, yr honn a wna lês i mi ac nid drŵg holl ddyddiau ei bywyd: Nid da dim hebot ti, ac o byddi di, O Arglwydd, gyda myfi, ni bydd byth ousiau arnaf. Oh na chymmer dy yspryd fanctaidd oddi-wrthif, ac na fwrw fi oddiger dy fronn: Bydded dy lygaid a'r dy wâs bôb amser, a'th glustiau yn egored i'm gweddiau; na âd fi, fy Nuw, nac ymboll-ha oddiwrthif, bryssia i'm cymmorth, O Arglwdd, fy iechydwriaeth: Bydded fy myfyrdod yn dduwiol, a'm hûn y nôs honn yn esmwyth ac yn heddychol: a hynn caniad-hâ i mi er mwyndy anwyl fâb Crîst Jesu fy Arglwydd.
Amen.
Os Gŵr ievangc, anweddog yw, yna efe a weddia fal hynn.
O Dduw tragywyddol, yr hwnn a greaist, a luniaist ac a wnaethost bôb peth i'th ogoniant ac wyt yn trefnu pôb peth ar a wnaethost wrth gyngor dy ewyllys dy hun; Gwna i mi fôd bôb amser yn ddarostyngedic i'th ewyllys di; a hynn, O Arglwydd, a wn yw dy ewyllys di, sef fy sancteididad i, ar ymgadw o honof rhag godineb, ac ar fedru o honof feddiannu fy llestr fy hun mewn sancteiddrwydd a pharch ac nid mewn gwyn trachwant megis y cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw: Tydi a wyddost fy-ngwendid, a'r llygredigaethau cnawdol sydd ynof, ac mor chwannog ydwyf i'm halogi fy hunan, enaid a chorph, trwy aflendid a ffieidddra pechod: ac oni buasei i ti a'th râs fy rhagflaennu, diammau y buaswn i er ys-talm yn angymmeradwy, yn llosci mewn gwyniau gwarthus, ac felly yn bentewyn o dân uffern; ac etto oni ddilyni di fyfi a'th ras, mi 'a wn nid allwyf onid pechu i'th erbyn; Yr ydwyf gan hynny yn attolygu i ti, er mwyn yr Arglwydd Jesu Ghrîst, yr hwnn ni wnaeth bechod, ac ni chafwyd twyll yn ei enau, etto ae ddioddefodd tros ein pechodau ni, i'm cadw i [Page 68] rhag pechod. Ac os rhynga fodd i ti i mi newid fy ansawd a phriodi; bydded i mi briodi ynot ti, er anrhydedd i'th enw gogoneddus: A Dyro i mi wraig a'th ofna di, wedi ei chynnyscaeddu gēnit a rhadau ysprydol, a rhinweddau dajonus; gyd a'r honn y gallwyf fyw yn sanctaidd, mewn cariad, yn llwyddiannus, ac mewn bodlonrwydd.
Bendithia y bendithion a roddaist i mi; Gwna fi yn wîr-ddiolchgar am danynt, a'i harferu mewn scbrwydd a diweirdeb: Na fydded fy serch i a'r bethau da jarol yn fwy nac ar bethau nefol: Na fydded i mi gyfrif a phrisio anrhydedd a chyfoeth y bŷd uwchlaw Crîst Jesu; ie, bydded yn fodlon gennif fi golli yr cwbl, fal yr ennyllwyf Grîst: Bydded ei gyfiawnder ef yn fantell i'm henaid, a'i iochydwriaeth ef yn wisc i mi; yna gan lawenychu y llawenycha fy enaid, ac y gorfoledda ynot ti.
Cadw fi y nôs honn oddi-wrth bôb drŵg; Dyro orchymmyn i'th Angylion etholedic i gastellu o'm hamgylch; Gwna i mi hûno mewn heddwch a phan ddeffrowyf; dŵg fi ar gôf i'th glodfori di yn-Grîst Jesu fy unic iechawdr, i'r hwnn gyda thydi a'r yspryd glân y byddo yr holl anrhydedd yr awr-honn ac hyd yn dragywydd.
Amen.
Yna gan ddiosc oddi am dano, efe a fyfyria ar y lleoedd hynn o'r scrythur lân.
1o. Y nôs y gerddodd ym-mhell, a'r dydd a nesh âodd; am hynny bwriwn oddiwrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwiscwn arfau y goleuni. Rhyf. 13. 12.
2o. Rhaid i'r llygradwy hwnn wisco anllygredigaeth, ac i'r marwol hwnn wisco anfarwoldeb;
A phan ddarffo i'r llygradwy hwnn wisco anllygredigaeth, ac i'r marwol hwnn wisco anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a scrifenwyd, Angeu a lyngcwyd mewn buddugoliaeth. 1 Cor. 15. 53, 54.
3o. Nyni a wyddom os ein dajarol Dŷ o'r babell honn a ddattodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragywydawl yn y nefoedd,
Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisco a'n tŷ sydd o'r nef:
Os befyd wedi ein gwisco nid yn noethion i'n ceir,
Canys ninneu hefyd y rhai y'm yn y babell honn ydym yn ocheneidio yn llwythog, yn yr hynn nid y'm yn chwennych ein diosc, ond [Page 70] ein harwisco, fal y llyngcir yr hynn sydd farwol gan fywyd:
Ar hwnn a'n gweithiodd ni i hynn ymma yw Duw, yr hwnn hefyd, a roddes i ni ernes yr yspryd. 2 Cor. 5. 1, 2, 3, 4, 5.
A chan fyned iw wely yn Enw yr Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd glân, efe a ochymmyn eiu hun i Dduw, fal hynn, Gan gofio hefyd yr adduned y wnaeth y Brenin Dafydd gynt i rymmus Dduw Jacob, gan ddywedyd.
NI ddeuaf i fewn pabell fy-nhŷ, ni ddringaf a'r erchwyn fy-ngwely, ni roddaf gwsc i'm llygaid, na hûn i'm amrantau, hyd oni caffwyf lê i'r Arglwydd, prefwylfod i rynomus Dduw Jacob. Psal. 132. 3, 4.
I'th ddwylo di, O Arglwydd, yr wyf yn gorchymmyn fy enaid a'm corph, a phôb peth a'r sydd a'r fy helw: gyda thydi y mae ffynnon y bywyd, ac yn dy oleuni di y gwelaf oleuni; tydi a oleui fy-ng hanwyll, tydi a lewyrchi i mi yn fy-nhywyllwch: Edrych, a clyw fi, O fy Nuw, goleua fy llygaid rhag i'm huno yn yr angeu.
Amen.
Os bydd iddo liw nôs ddefroi o'i hûn efe ae weddia fal hynn, gan ddywedyd.
O Arglwydd Dduw yr hwnn o'th fawr drugaredd a ddanfomist dy Angel liw nôs i ddefroi Petr, ac iw warcdu ef o law Herod, fal y gallei fe yr hwnn oedd dy ddyscibl di, dystiolaethau gwirionedd dy efengl i'th bobl: Trwy dy drugaredd di, O Arglwydd, i'm deffrowyd yr awr-honn; oh gwared fi allan o feddiant y tywyllwch, a chadw fi rhag maglau diafol; Gwiscer fy enaid a'th arfogaeth di, fal y gallwyf sefyll yn erbyn ei gynllwynion ef, amgylch-wregysa fy lwynau a gwirionedd, a gwiscer am fy-nhread escidiau paratôad Efengl tangneddyf: Dyro dy gyfiawnder a'm danaf fal gwisc, a phâr i mi dy ganlyn di; os bydd dy ewyllys di i mi ddioddef trosot, yr hwnn a ddioddefaist angeu trosof fi, bechadur truan, Bydded ewyllysgar gennif fy-ngwadu fy hûn, a chyfodi fy-ngroes a'th ddilyn di: Tydi a ddyweddaist, Gorfoledded dy Sainct mewn gogoniant, a chanant a'r eu gwelâu: Sancteiddia fi, O Arglwydd, ac yna y byddaf sanctaidd, yna y gorfoleddaf a chanaf i ti; canaf i'r Arglwydd tra fyddwyf byw, [Page 72] canaf i'm duw tra fyddwyf: bydd melus fy myfyrdod a'm danat, mi 'a lawenychaf ynot: fy enaid bendithia yr Arglwydd.
Gogoniant i'r Tâd, i'r Mâb ac i'r yspryd glân.
Megis ydd oedd yn y dechreu, y may yr awr-honn, ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd.
Amen.
Ar dydd yr Arglwydd y bydd mwy gofal y Gwîr Grîstion: efe a ddeffry yn foreuach nac y byddei ei arfer; a chan fendithio duw am ei ddajoni tuag etto ef, efe a gyfyd o'i wely yn Enw yr Tâd a'r Mâb a'r Yspryd glân: ac efe a fyfyria a'r y partiau hynn o'r scrythur lân. viz.
1o. COfia y dydd Sabboth iw sancteiddio ef. Excd. 20. 8.
2o. Dymma yr dydd a wnaeth yr Arglwydd, gorfoleddwn a llawenychwn ynddo. Psal. 118. 24.
3o. Yn awr Crist a gyfodwyd oddi-wrth y meirw, ac a wnaed yn flaen-ffrwyth i'r rhai a hunasant; 1 Cor. 15. 20.
4o. Os cyd-gyfodasoch gyda Chrîst, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle y mae Crîst yn eistedd ar ddeheulaw Dduw. Col. 3. 1.
5o. Ac wedi darfod y dydd Sabboth Mair Fagdalen a Mair mam Jaco, a Salôme, a brynnasant ber-aroglau i ddyfod iw enneinio ef,
Ac yn foreu jawn y dydd cyntaf [Page 74] o'r wythnos y daethant at y bedd, ar haul wedi codi:
Ac wedi, iddynt fyned i mewu i'r bedd, hwy a welsant fâb ieuangc yn eistedd o'r tu dehau wedi ei ddilladu a gwisc wenllaes, ac a ddychrynnasant; ac efe addywedodd wrthynt, Na ddychrynnwch, Ceisio yr ydych yr Jesu o Nasareth, yr hwnn a gros-hoeliwyd, efe a gyfodes, nid yw fe yma. Mar. 16. 1, 2, 5, 6.
6o. Chrîst ein Pasc ni a aberthwyd trosom ni, am hynny cadwn ŵyl, nid a hên lefain, nac a lefain malais a drygioni, ond a bara croiw purdeb a gwirionedd. 1 Cor. 5. 8.
A chan benlinio efe a weddia fal hynn.
HOllalluog Dduw, creawdur pôb peth, Tâd yr Arglwydd Jesu Grîst, yr hwnn erom ni ddynion ac er ein iechydwriaeth a ddescynnodd o'r nefoedd ac a gnawdiwyd drwy yr yspryd glân O Fair forwyn, ac a wnaethpwd yn ddŷn, a groes-hoeliwyd, a fu farw ac a gladdwyd, a'r trydydd dydd a adgyfododd yn ôl yr scrythurau: Mawr yw dy weithredoedd di, O Arglwydd, a dyfniawn yw dy feddyliau. Tydi er coffa i ti mewn chwe diwrnod greu y nefoedd, y ddajar a'r môr a phôb peth ynddynt, ac ar ôl [Page 75] hynny trwy farwolaeth ac adgyfodiad yr Atglwydd Jesu Grîst ein prynnu ni dy greaduriaid rhesymmol a'n gwaredu ni oddi-wrth ein holl elynnion, gan roddi i ni y fuddu goliaeth arnynt, a sancteiddiaist y dydd hwnn yn Sabboth Cristianogawl: Oh bydded i mi ac i'th holl bobl, y rahi a elwir a'r ôl dy enw di, yn Gristianogion, ymadaw oddiwrth bôb anghyfiander, a'th wasanaethu di mewn sancteiddrwyd y dydd hwnn; Bydded yn ddydd o orfoledd ac o lawenydd i'th holl eglwys. Mawr a fu dy ddajoni a'th gariad tuag attafi ar hyd yr wythnos; ti a roddaist i mi heddwch, iechyd a grâs i gyflawni gweithredoedd fy-ngalwadigaeth; Heddyw, O Arglwydd, dyro gennad i mi ymgyfarfod a'th bobl yn dy deml i wnenthur fy neisyfidau attati; i'th foliannn, ac i wrando a'r dy weinidog yn traethu dy air mewn gwirionedd: Bywhâ fi a'th air i gyflawni fy addunedau i ti, i ystyried dy weithredoedd, i addoli dy ardderchawgrwydd, i fawrygu dy ddoethineb, i gydnabod dy fawredd, i groesawu dy gariad, i lawenychu yn dy ddajoni, ac i ofni dy farnedigaethau: Na fydded fy-mhechodau i yn lluddias i'm gweddiau gael dyfod ger dy fronn di, na'm henaid halogedic megis Achan beri i'th ddigllonedd ennyn yn erbyn dy bobl; Sancteiddia [Page 76] fy enaid a'm corff i'th sancteiddio di y dydd hwnn: Bydded i mi gadw gŵyl i ti ymma mewn purdeb, fal y gallwyf gadw gŵyl i ti yn y gogoniant yn y bŷd a ddaw, trwy Jesu Grîst ein Harglwydd.
Amen.
Pan ddeuo efe o'i ystafell, efe a eilw ei dylwyth i'r ün-lle; a chan wneuthur, a gwoddio fal y byddei arferol bôb boreu, a'r hyd yr wythnos, efe a chwannega weddio fal hynn, gan ddywedyd.
O Dragywyddol Dduw, nefol a thrugarog Dâd, i ti y byddo yr holl anrhydedd a'r gogoniant am bôb rhyw ddawn a roddaist i ni bechaduriaid truain er ein sancteiddiad a'n heichydwriaeth. Yr ydym yn cydnabod fod dy Sabbath a'th ordeiniadau di yn fudd-fawr i ni ac yn foddion rhagorol i ni i gaffael iechydwriaeth trwy ein harglwydd Jesu Grîst: Mawryger gan hynny yn dragywydd dy ddoethineb a'th ddajoni di yr hwnn a welaist yn dda ein dyddyfnu ni oddi-wrth bethau y bŷd hwn trwy ddeddf tragywyddol, yr honn a scrifennaist a'th fŷs dy hun, gan orchymmyn i ni sancteiddio [Page] [Page] [Page 77] ûn dydd o'r saith i ti, yn yr hwnn y gallym ymhyfrydu ynot ti ein duw, a'th wasanaethu mewn llawenydd a dyfod i'th ŵydd di mewn gorfoledd, i'th byrth a diolch ac i'th lysoedd a moliant: Cymmer drugaredd arnom, O Arglwydd, ac na chofia dreulio o honom ein blynyddoedd a'n dyddiau mewn oferedd, ac esceuluso dy wasanaethu fal y dylasem ar dy ddydd dy hun; oh dyro i ni, nyni attolygwn i ti, dy lân yspryd, a gwna i ni o hynn allan rodio yn dy ddeddfau a gostwng ein calonnau o gadw y gorchymmyn mawr hwnn, sef, o gadw yn sanctaidd i ti y dydd Sabbath: ac ir perwyl ymma yr ydym yn attolwg i ti, yn gyntaf ein cymmhwyso a'n paratoi ni i gyflawni mewn purdeb i ti orchwyl y dydd hwnn. Dysc i ni holi ein hunain, ein ffyrdd, ein hymarweddiad, a'r gweithredoedd a wnaethom a'r hyd yr wythnos ddiwaethaf; ac am y pethau a gamwnaethom, i fod yn wîr-edifeiriol, ac i adnewyddu ein cyfammod a thydi, i fod fwy bucheddol a'r hyd yr wythnos ymma y sydd yn awr wedi dechreu: Pura hefyd ein calonnau ni, a chartha allan o honynt bôb halogrwydd cnawd ac yspryd a chyflanwa di hwynthwy a meddyliau sanctaidd, ac ystyriaethau nefol, fal na byddo le ynddynt i dderbyn hudoliaethau y bŷd, na themptasiwnau [Page 78] Diafol. Caniadhâ hefyd ini gael dyfod mewn amser cyfaddas, ac mewn gostyngeiddrwydd, i'th Teml di; ac yno bydded ein gofal ni yn fawr ar wrando arnat ti yn dy ordeiniadau.
Bendithia yr holl gynnylleidfa a fyddant gydrychiol ger dy fronn di y dydd hwnn; bydded eu haberth yn gymmeradwy, a gwrando o'r gyd-weddiau dy eglwys: Bendithia holl weinidogion dy air, yn enwedic dy wasanaethwr yr hwnn a ddanfonaist, i'n mawr gomfford ni, iw draethu ef i ni o'r plwyf hwnn: Bydded iddo fôd yn daer mewn amser ac allan o amser, argyoedded, cerydded, a llefared y pethau a weddai i athrawiaeth jachus: Tithau, O Arglwydd, yr hwnn sydd gennit agoriad Dafydd, agor ein clustiau a'n calonnau hefyd, i ddal a'r y pethau a lefarer ganddo, er cadarnhau ein ffydd yn-Ghrîst, ac er iechydwriaeth ein heneidiau trwy ei waed ef: A phan ddychwelwn o'th deml wedi caffael yno y tryssor a'r perl gwerth-fawr, sef, dy air sanctaidd, bydded i ni ei guddio ef yn ein calonnau, ac o lawenydd am dano; ymfodloni i ymadel a phôb peth y sydd a'r ein helw, yn hyttrach na chael ein dyfuddo o hono: Dŵg ar gôf i ni ei gofio ef, i fyfyrio arno, ac i ymddiddan a'm dano: Na fydded i ni [Page 79] anghofio a'r y dydd sanctaidd hwnn, y gwaith a'r llafurus gariad a ddylym ni ddangos i'n brodyr; a thra fo'm ni yn gwneuthur dajoni iw cyrff hwy, bydded ein gofal mwyaf ni, am wneuthur dajoni iw heneidiau: Bydded i ni ac i'th holl bobl ymgadw y dydd hwnn oddi-wrth bôb chwaraeddiaeth a dyfyrrwch bydol, oddiwrth segurid a chwantau y cnawd, oddi-wrth bôb pechod, ie oddi-wrth y gweithredoedd sy gyfreithlon i ni eu gwneuthur a'r hyd yr wythnos. Gwna ni yn sanctaidd megis ac yr wyt ti yn sanctaidd; a bydded i ti yr hwnn a ddechreuaist ynom ni waith da, ei orphen ef hyd ddydd Jesu Grîst, fal pan ddeuo y dydd hwnnw y gallwn ni gael cadw Sabbath tragywyddol i ti yn y nefoedd: a hynn yr ydym yn eu ddeifyf arnat er mwyn Crîst Jesu, Arglwydd y Sabbath, i'r hwn gyda thydi o Dâd, a'r yspryd glân, am groedigaeth y bŷd, yr hwnn a ddechreuaist ar y dydd hwnn, am brynnedigaeth y bŷd yr hwnn a' orffennaist ar y ddydd, hwnn, ac am sancteiddiad y bŷd trwy ddescynniad yr yspryd glân ar y dydd hwnn, yr ydym yn cydnabod fôd yn ddyledus, ac yr ydym ninnen yn ewyllysio rhoddi yr holl anrhydedd a'r parch, yr awr-honn ac hyd yn dragywydd.
Amen.
A chan cyfodi oddi-ar ei liniau, yn ei sefyll a'i wŷneb tu'ar nef, efe a ddywaid.
1. TI Dduw a folwn: ti a gydnabyddwn yn Arglwydd.
2. Yr holl ddajar a'th fawl di: y Tâd tragywyddol.
3. Arnat ti y llefa yr holl Angylion: y nefoedd a'r holl nerthoedd o'u mewn.
4. Arnat ti y llefa Cherubin a Seraphin: a lleferydd dibaid.
5. Sanct, Sanct, Sanct: Arglwydd Dduw Sabaoth.
6. Nefoedd a dajar sydd yn llawn: o'th ogoniant.
7. Gogoneddus gôr yr Apostolion: a'th fawl di.
8. Moliannus nifer y Prophwydi: a'th fawl di.
9. Ardderchawg lu y Merthyri: a'th fawl di
10. Yr Eglwys lân trwy yr holl fŷd: a'th addef di.
11. Y Tâd: o anfeidrawl fawredd.
11. Dy anrhydeddus wîr: ac unic fâb.
13. Hefyd yr yspryd Glân: y diddanwr.
14. Ti Crîts: yw Brenin y gogoniant.
15. Ti yw tragywyddol: fâb y tâd.
[Page 81] 16. Pan gymmeraist arnat waredu dŷn: ni ddiystyraist frû y wyryf.
17. Pan orchfygaist holl nerth angeu: yr agoraist deyrnas nef i bawb a gredant.
18. Ti sydd yn eistedd a'r ddeheu-law Dduw: yn-gogoniant y tâd.
19. Ydd ym ni yn credu mai tydi a ddaw: yn farnwr arnom.
20. Can hynny yr attolygwn i ti gynnorthwyo dy weision: y rhai a brynaist a'th werth-fawr waed.
21. Pâr iddynt gael eu cyfrif gyd a'th Sainct: yn y gogoniant tragywyddol.
22. Arglwydd cadw dy bobl: a bendithia dy etifeddiaeth.
23. Llywia hwy: a dyrcha hwy yn dragywydd.
24. Beunydd ac fyth: y clodforwn dydi.
25. Ac anrhydeddwn dy enw: byth ac yn oes oesoedd.
26. Teilynga Arglwydd: ein cadw y dydd hwnn yn ddibechod.
27. Arglwydd, trugarhâ wrthym: Trugarhâ wrthym.
28. Arglwydd poed dy drugaredd a ddêl arnom: megis ydd ym yn ymddiried ynot.
29. Arglwydd ynot yr ymddiriedais: na'm gwradwydder yn Dragywydd.
Amen.
Yna y cymmer efe ei holl deulu gyd ag ef ac yr â efe gyda hwynt tu a'r eglwys: ac ar hyd y ffordd y bydd fe yn eu cynghori hwynt, gan ddangos iddynt mor anghenrheidiol ydyw cadw y ddydd hwnnw yn sanctaidd i'r Arglwydd: gan eu hannog hwynt hefyd i baratoi eu calonnau i gyd-tynnu a gweinidog gair duw mewn gweddi att yr Arglwydd, ac i fôd yn astud i wrando y pyngciau a draethir iddynt.
1o. MI 'a Ddeuaf i'th dŷ di yn amlder dy drugaredd, ac a addolaf tu a'th deml Sanctaidd yn dy ofn di. Psal. 5. 7.
2o. Arglwydd hoffais drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant. Psal. 26. 8.
3o. Vn peth a ddeisyfiais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf, sef caffael trigo ynnhŷ yr Arglwydd holl dyddiau fy mywyd, i edrych a'r brydferthwch yr Arglwyd, ac i ymofyn yn ei deml. Psal. 27. 4.
4o. Gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mîl, dewiswn gadw drŵs yn-nhŷ fy Nnw, o flaen trigo ym-mhebyll annuwioldeb. Psal. 84. 10.
5o. Llawenychais pan ddywedent wrthif, awn i dŷ yr Arglwydd. Psal. 122. 1.
Ac wrth fyned i mewn i'r Eglwys, efe a ddywaid yn ei galon.
MOr hawdd-gar yw dy bebyll di, O Arglwydd y lluoedd, gwynfŷd preswylwyr dy dŷ, yn wastad i'th foliannant.
A chan fyned iw faingc (os hydd y gweinidog heb ddechreu y gwasanaeth) efe a â a'r ei liniau ac a weddia fal hynn:
O Arglwydd, mor ofnadwy yw y lle hwn, nid oes ymma onid tŷ i Dduw, ac dymma borth y nefoedd: A thŷ gweddi yw dy dŷ di o Harglwyd; Ac. wele fi bechadur truan trwy dy gennad ti wedi dyfod i'r lle hwnn i offrwm fy-ngweddiau i ti gyda dy gynnulleidfa sanctaidd, ydd wyf yn attolwg i ti fy-nghynnyscaeddn i a'th nefol râs iw cyflwyno hwynt mewn gostyngeiddrwydd ger dy fronn di yn-Ghrîst Jesu, ac i nes-hau attat, nid am gwesusau ond am calon hefyd, gan gredu yn ffyddlon dy fôd ti yn obrwywr i'r rhai fy yn dy geiso di; a'th fôd ti yn agos at y rhai a alwant arnat, sef y rhai a alwant: arnat mewn gwirionedd: Tydi a addewaist fôd yn-ghanol dy gynnulleidfa pau ymgyfarfyddant yn dy enw di, i wrando [Page 84] arnynt, ac i ganiadhau iddynt eu deisyfiadau: oh rhynged fodd i ti fôd yn bresennol gyda dy bobl yr awr-honn yn y lle hwnn, ac na âd i ni fôd yn wrandawyr anghofus, eithr yn wneuthurwyr o'th air di, a bydded ein calonnau ni megis y tîr dâ, yr hwnn wedi derbyn yr hâd â ddŵg ffrwyth, felly bydded i ninnau wedi derbyn bendigedic hâd dy air di fôd yn ffrwythlawn mewn gweithredoedd da i ogoniant dy enw, ac er iechydwriaeth ein heneidiau trwy Grîst Jesu ein Harglwydd.
Amen.
Wedi ir Gweinidog orffen y gwasaneth, a bendithio yr Gynnulleidfa, efe a weddia fal hynn, gan ddywedyd.
O Drugarog Dâd, yr hwnn a welaist yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sy yn credu: rhynged fodd i ti trwy nerthol allu dy lân yspryd, a phregethiad dy air sanctaidd, weithredu yn fy-nghalon i wîr a bywiol ffydd yn-Ghrîst, a beunydd anghwanegu y ffydd honno, a'i chadarn-hau ynof fi; trwy ba ûn y gallwyf gymmeryd gafael a'r haeddau Crîst Jesu er fy-nghyfiawnhâd a'm heichydwriaeth tragywyddol: a chan roddi fy holl ymddiried a'm goglud arno ef y gallwyf fôd yn siwr o gaffael maddeuant [Page 85] pechodau, a phôb peth dajonus a addewaist i roddi i mi yn y cyfammod newydd: A hyn Caniadhâ i mi ac i'th holl eglwys er mwyn Crîst Jesu ein Harglwydd.
Amen.
Yna gan gofio y peth y mae St Paul yn ei scrifennu at y Corinthiaid.
HEfyd am gascl i'r sainct, megis yr ordeiniais i yn Eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau:
Y dydd cyntaf o'r wythnos, pôb ûn o honoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori, fal y llwyddodd duw ef. 1 Cor. 16. 1, 2.
Ac os bydd ûn dŷn tlawd yno yn deisyfu cael cymmorth, efe a fydd parod i gyfrannu iw gyfreidiau ef: ac onidê efe a rydd heibio ym-mlŵch y tlodion, ddryll o arian erbyn y bydd rhaid wrtho i'r tlawd.
A chan fyned tuag adref, ni bydd mói ymddiddanion ef a'i gymmydogion am bethau bydol: yn gofyn pa newydd, neu pa fôdd yr oedd y farchnad, ond yn hyttrach am bethau yn perthyn iw hiechydwriaeth, sef, yn-ghylch y pyngciau o [Page 86] athrawiaeth a draethwyd iddynt y dwthwn hwnnw allan o air duw.
A chwedi iddo ddyfod iw dŷ, a myned iw ystafell, efe a weddia fal hynn.
O Arglwydd Gogoneddus, yr hwnn a wnaethost bôb peth trwy dy air, yr hwnn sydd yn tragywydd yn fywiol ac yn nerthol yn diwreddio ac yn tynnu i lawr, yn difetha ac yn destrywio, yn adeiladu ac yn plannu, yr hwnn ni ddychwel attat yn wâg, eithr a wnâ yr hynn a fynnych: Rhynged fodd i ti fynnu i mi yr hwnn a glywais dy air di y dydd heddyw, felly ei gadw ef a'i ystyried yn fy-nghalon fal i'm cadwer rhag llwybrau yr yspeilydd, ac fal na lithro fynhraed allan o'th ffyrdd di: diwreiddied o honof fy holl lygredigaeth, a thynned i lawr fy holl falchder, difethed yr hên ddŷn, a dêstrywied gorff pechod ynof; adeiladed fiyn dy wirionedd fal y caffwyf etifeddiaeth ym-mlith y rhai a sancteiddiwyd, a phlaned fi (yr hwnn nid ydwyf trwy naturiaeth amgenach na'r gin-groen) i fôd yn llysieuyn pêr-aroglaidd yn dy andd di: ie impied fi (yr hwnn nid ydwyf trwy naturiaeth, onid cangen o'r oliwydden wŷllt) yn y wîr oliwydden i ddwyn ffrwyth addas i edifeirwch. [Page 87] Cefais dy air di y dydd heddyw▪ bydded i mi ei fwyta ef, a bydded i mi yn llawenydd, ac yn hyfrydwch i'm calon: bydded yn fwy gan fy enaid iw gael ef; na phe buasei yn caffael miloedd o aur ac arian.
Bendithia dy wasanaethwr yr hwnn a'i traethodd i mi; bydded iddo ef fôd yn ofalus i edrych a'r y weinidogaeth a dderbyniodd iw chyflawni hi: Agor iddo ef ddrŵs ymadrodd i adrodd dirgelwch Crîst ac agor fy-nghalon inneu a chalonnau ei holl wrandawyr ef i ddal a'r yr athrawiaeth iachus y mae efe yn ei bregethu i ni allan o'th air di: a hyn er gogoniant i'th enw, ac er iechydwriaeth ein heneiddiau Caniadhâ er mwyn Crîst Jesu ein Harglwydd, i'r hwnn gyda thydi a'r yspryd glân y byddo yr gogoniant yn oes oesoedd.
Amen.
Yna y mynn efe weled (os bydd tlodion wrth ei ddrŵs) eu gwasanaethu hwynt: ac a'r ôl hynny y cymmer ynteu hefyd luniaeth, gan roddi diolch i'r Arglwydd, rhoddwr pôb dajoni, am dano: Ac wedi iddo a'i dylwyth giniawa, y geilw efe arnynt oll ir ûn mann, a chan eu holi hwynt yn-ghylch y pyngciau a bregethwyd iddynt y dwthwn hwnnw; gan [Page 88] ddwyn ar gof iddynt, os bydd iddynt ollwng tros gôf, ac egluro iddynt y peth nid oeddynt yn ei ddeall, y derllyn efe cyfran ôr scrythur lân ac y canant Psam.
Yna efe a weddia fal hynn.
O Arglwydd nefol Dâd, hollalluog a thragywyddol Dduw yr hwnn a'n cynnyscaeddaist ni a'th râs i gadw hyd yn hyn y dydd hwnn, sef dy Sabbath, yn sanctaidd i ti; Rhwydda ni, nyni attolygwn i ti, a'th barhaus gymmorth fal y gallom ei ddiweddu ef i'th ogoniant; ac megis y profasom ddajonus air duw, a nerthoedd y bŷd a ddaw, felly bydded i ni gynnyddu mewn grâs a gwybodaeth ein Harglwydd a'n hiechawdr Jesu Grîst, ac yn y diwedd cael gan dy drugaredd fywyd tragywyddawl, trwy yr ûnrhyw Jesu Grîst ein Harglwydd.
Amen.
Yna yr â efe a'i holl dylwyth gyda'g ef tu'ar eglwys, gan wnethur megis y gwnaeth efe y boreu: a chwedi gorffen y brydnawnol weddi a'r beegeth, os bydd cymmydog iddo yn glâf, yr â efe i ymweled ag ef, a phan deuo efe i dŷ y clâf, efe a ddywaid.
[Page 89] Tangneddyf fyddo yn y tŷ hwnn, ac i bawb y sydd yn trigo ynddo.
A phan ddeuo efe at y clâf, ef a'i cynghora i fôd yn ddioddefgar tan gerydd yr Arglwydd, gan ddangos iddo allan o'r scrythur lán nad ydyw clefydau yn dyfod ar ddamwain ouid oddi-wrth yr Arglwydd y mae'nt: megis o'r lleoedd hyn. Deut. 32. 29. Myfi sydd yn lladd ac yn bywhau, myfi a archollaf, ac mi a feddyginiaethaf, ac ni bydd a achubo o'm llaw i. Ac 1 Sam. 2. 6. Yr Arglwydd sydd yn marwhau ac yn bywhau, efe sydd yn dwyn i wared i'r bêdd ac yn dwyn i fynu. Ac Job. 5. 18. Yr Arglwydd a glwyfa ac a rwym, efe a archolla, a'i ddwylaw ef a iachânt. Ac hefyd, Esay. 30. 36. a Hoseah 6. 1. Ac hefyd efe a ddengys iddo mai arwyddion o gariad Duw ydyw ei geryddon ef.
Canys y nêb y mae yr Arglwydd yn ei garu y mae efe yn ei geryddu, ac yn fflangellu pôb mâb a dderbynio. Heb. 12. 6. A hynny y mae yr Arglwydd yn ei wneuthur a'i blant er dajoni iddynt, i garthu eu pechodau allan o honynt, iw profi hwynt, i anghwanegu [Page 90] eu hammynedd, a'u gostyngeiddrwydd; ac am hynny y dyleu yntef fôd yn ddiolchgar i Dduw am ei ymweliad trugarog ag ef; a'i fendithio am roddi arno glefyd mor esmwyth, ae nid haint llŷn; neu glefyd cymeriad, cael, yr hwnn a fuasei yn gyrru ym-mhell ei geraint a'i gyfeillion oddi-wrtho, onid clefyd dienbyd, yr hwnn nid yw yn rhwystro ei gymmydogion i ddyfod atto iw gyssuro.
Os byddd efe yn ammeu nad oes ganddo iachus wybodaeth, ynae mewn yspryd addfwynder, yr holda efe ef yn-ghylch egwyddorion y grefydd Gristianogawl: ac yn enwedic yn-ghylch edifeirwch, a ffydd, y Cyfammod newydd, a Chrîst Mâb duw cyfryngwr y cyfammod hwnnw; ac yn-ghylch maddeuant pechodau trwy ffydd yn-Ghrîst.
Ac oni bydd efe yn deall y pethau hyn, nac yn gwybod oddi-wrthynt: yna mewn addswynder yr argyoedda efe ef am iddo esceuluso dyfod, pan oedd efe yn ei iechyd, ir cynnulleid-faoedd sanctaidd i wrando a'r weinidogion gair duw yn traethu y pyngciau hynn ac eraill i'r bobl: Ac y dengys efe iddo yn-ghylch y pethau hynn.
[Page 91] Ac hefyd a'i cynghora ef i holi ei hunan, i gofio ei bechodau, ac i alw yn daer a'r yr hollalluog Dduw yn-Ghrîst Jesu am faddeuant am yr holl ddrŵg a wnaeth efe ac hefyd am ei esceulustra yn gadel heb wneuthur y dâ a orchymmynasei duw iddo i wneuthur.
Os bydd y Clâf yn clywed baich ei bechodau yn drwm, yn gweled ei ffieidddra, ac yu ammeu trugaredd duw: yna y dengys efe iddo, er amlhau pechod etto y rhagor amlhaodd grâs duw, ac mor rhâd y mae duw yn ei roddi: efe esyd ger ei fronn ef hefyd ddigonolrwydd y cyfiawnder sy yn-Ghrîst Jesu, ac addewidion yr efengl i bechaduriaid edifeiriol, credadwy, y rhai sy yn ymddiried nid yn eu haeddedigaethau eu hunain, eithr yn haeddedigaethau yr Arglwydd Jesu, yr hwnn a ddadolychodd tros bechodau yr etholedigion.
Yna y gweddier fal hynn.
O Arglwydd y Byth-fywiol Dduw, yr hwnn yn y dechreuad a seiliast y ddajar; a'r nefoedd ydynt waith dy ddwylo, ond hwy a ddarfyddant a thi a barhêi, ie hwy oll a heneiddiant fal dilledyn, fal gwisc y newidi [Page 92] hwynt, a hwy a newidir, tithau yr ûn ydwyt a'th flynnyddoedd ni ddarfyddant: Ti a wnaethost bôb dŷn, ond o fyrr ddyddiau y gwnaethost ef, a thra fyddo yn y bŷd hwnn, yn llawn o helbul y mae, fal blodeuyn y daw allan, ond efe a dorrir ymmaith, fal cyscod y cilia, ac ni saif; ti a guddi dy wyneb ac efe a drallodir, dygi ymmaith ei anadl, ac efe a drenga, ac a ddychwel iw lwch. Ar Gwirionedd o hynn a welwn ni yn eglur yn ein Brawd hwn [neu ein chwaer honn] yr hwnn oedd ddoe mewn iechyd ac yn heinif, ond heddyw yn glaf ac yn wann: wele! yr ydym yn ymgrymmu ger dy fronn di, ac yn attolygu i ti, er dy drugareddau yn-Ghrîst Jesn, drugarhau wrtho ef: Tydi a wnaethost addewid trwy dy Apostol y byddai i weddi'r ffydd iachau yr clâf, ac i ti ei gyfodi ef i fynu, ac o byddai wedi gwneuthur pechodau y maddeuid hwynt iddo; Gwrando ni gan hynny, y rhai a raesom ein hymddired ynot, yn gweddio trosto ef; Anfon iddo borth o'th sancteiddfa, ac byth yn nerthol amddiffyn ef, na âd ir gelyn gael y llaw uchaf arno, nac i'r enwir neshau iw ddrygu: Tydi wyt dduw yr ammynedd, esmwytha a'r ei boenau ef; Tydi wyt Dduw y trugaredd, cadarnhâ ei ffydd ef; Tydi wyt Dduw y gobaith, sicrhâ ei galon ef; Tydi wyt Dduw y diddanwch, golyga, ymwel, [Page 93] a chyssura ef; Tydi wyt Dduw yr heddwch, sancteiddia ef, a chadwer ei yspryd, ei enaid a'i gorph yn ddiargyoedd hyd yn nyfodiad yr Arglwydd Jesu. Maddeu iddo ei holl bechodau, a dyro iddo dy dangneddyf di: Rhoddaist iddo yr hyn oedd dda, bydded yn ewyllysgar ganddo dderbyn yr hynn fy ddrŵg hefyd; megis ac y llawenychodd yn ei iechyd a'i hawdd-fyd, felly llawenyched yr awr-honn hefyd yn ei glefyd a'i adfyd, ac megis ac nad oedd gywilyddus ganddo fyw, felly na fydded arswyd arno farw y chwaith: Bydded iddo ym-mhôb ansawd, a phôb amser fendithio dy enw di, O Arglwydd; Na ddyro arno fwy nac y gallo efe ei ddioddef, dyro dy law a'r ei enau, rhag iddo dy gablu di a llefaru fal y llefarai ûn o'r ynfydion; Na fydded iddo edrych a'r hyfrydwch y bŷd hwn onid rhoddi ei serch yn hollawl a'r bethau nefawl.
Nyni a ewyllysiem i ti ddywedyd y Gair wrth ein brawd hwnn, megis ac y dywedaist wrth y clâf o'r Parlys, Cyfod, cymmer dy wely, a rhodia; ond nis gwyddom ni pa ûn yr ydym ni yn gofyn fal y dylem a'i peidio; Dy ewyllys di, O Arglwydd, ac nid yr eiddom ni a wneler: Gwna ni yn ddoeth i iechydwriaeth, a dysc i ni felly gyfrif ein dyddiau fal y dygom ein calonnau i ddoethineb: [Page 94] Bydded ein brawd hwnn a phôb ûn o honom ninneu yn barod ag olew yn ein lampau i gyfarfod a'r priod-fab, a chael myned i mewn gyda'g ef i'r llawenydd tragywyddawl.
Gwrando ni, O Arglwydd, yn gweddio trosto ef; gwrando arno ef yn gweddio trosto ei hûn, a phôb ûn o honom ni ynGhrîst Jesn ein dadleuwr, yn yr hwnn yn un [...]i'th fodlonwyd, ac yn enw yr hwnn yr ydym yr dibennu ein gweddiau am-mherffaith hynn a'r weddi berffaith yr honn a ddyscodd efe i ni yn yr Efengl, gan ddywedyd.
Ein Tâd yr hwnn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw; Deuet dy deyrnas: Bid dy ewyllys ar y ddajar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol: a Maddeu i ni ein dyledion, fal y maddeuwn ni i'n dyledwyr: ac nac arwain ni i brofedigaeth: eithr gwared ni rhag drŵg.
Amen.
Yna y cynghora efe y clâf i wneuthur ei lywodraeth a'r ei dda bydol, i osod ei dŷ mewn trefn, i dalu ei ddyledion, i gofio y tlawd a'r eglwys; ac o gwnaeth efe gam a nêb, i ofyn maddeuant iddo ac iw fodloni: A chan ei orchymmyn ef i gadwraeth yr Arglwydd yr â efe tuag [Page 95] adref: gan gofio y lleoedd hyn o'r scrythur lân
1o. WRthit ti i'm cynhaliwyd o'r bru, ti a'm tynnaist o grôth fy mam, Psal. 71. 7. O'm ienengtid i'm dyscaist o Dduw, ver. 17. Na wrthod fi ychwaith, O Dduw, mewn henaint a phen llwydni, hyd oni fynegwyf dy nerth i'r genhedloedd honn, a'th gadernid i bôb ûn a ddelo. ver. 18.
2o. Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae dengmlynedd a thrugain, ac os o gryfder y cyrheuddir pedwar ugain mlynedd, etto eu nerth fydd boen a blinder: Canys ebrwyddy derfydd, ac ni a ehedwn ymmaith. Psal 90. 10.
3o. Dos a dywaid wrth Hezeciah, fal hyn y dywaid Arglwydd Dduw Dafydd dy dâd; clywais dy weddi di, gwelais dy ddagru, wele mi a chwaneg af at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd. Esay 38. 5.
4o. Y Cyfiawn a flodeua fal Palm-wydden ac a gynnydda fal Cedr-wydden yn Libanus:
Y rhai a blanwyd yn nhŷ yr Arglwydd a flodeuant ynghynteddoedd ein Duw.
Frwythant etto yn eu henaint, tirfion ac iraidd fyddant. Psal. 92. 12, 13, 14.
5o. Fal y tosturia tâd wrth ei blant, felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai ai hofnant ef. Psal. 103. 13.
A chwedi iddo dyfod adref, a myned iw ystafell efe a weddia fal hynn.
O Dâd trugarog, Arglwydd nef a dajar, yr yd wyf mewn gwîr ostyngeiddrwydd, ac o eigion calon, yn rhoddi mawr ddiolch i ti, am it ti fy nerbyn ii'th eglwys, ac i'th yspryd dajonus fy nbywys i dîr uniondeb, yr hwnn sydd megis tîr Canaan yn llifeirio o laeth a mêl, sef a didwyll laeth y gair, ac a'th farnau di, y rhai sy felusach na'r mêl, ie na diferiad diliau mêl: o'th drugaredd, Arglwydd, (canys felly y rhyngood bodd i ti) y datcuddiaist i mi y pethau a guddiaist rhag y doethion a'r deallus, y rheini a ddymunasant weled y pethau yr ydwyf fi yn eu gweled, ac nis gwelsant a clywed y pethau yr ydwyf fi yn eu clywed ac nis clywsant. Oh mor rhwymedic gan hynny ydwyf fi i'th foliannu di, i fynegi y boreu am di drugaredd, a'th wirionedd y nos-weithiau: mor rhwymedic ydwyf i'th addoli ac i'th wasanaethu: ond ysywaith o Arglwydd, y mae fy llygredigaeth a'm gwerdid cymmaint, y mae yn rhaid i mi trwy gywilydd, a thrymder calon gyfaddef mai gwrandawr anffrwythlawn a fum i hyd yn hynn, yn dirmygu di ordeiniadau, ac yn dibrisio [Page 97] gair yr iechydwriaeth, heb ddeall y peth a glywais o eusiau dal sulw arno, heb gofio y peth a ddeallais, o eusiau ei ystyried a'i bwyso, ac heb ymhyfrydu yn y peth a gofiais, o eusiau cariad a hoffder arno.
O Arglwydd, haeddu yr ydwyf ryw gospedigaeth erchyll ac ofnadwy, oblegid i mi esceuluso iechydwriaeth cymmaint; Ond, O Dâd trugarog, yn gymmaint a gweled o nonot yn dda yn awr roddi i mi yspryd doethineb a datcuddiad i adnabod Crîst Jesu, gan oleuo fy llygaid, a chan sancteiddio fynghalon i roddi fy serch arnat ac i garn dyair sanctaidd, gan fy ffieiddio fy hunan o herwydd i'm yn hîr iawn ei ddi-brisio, a chas-hau addysc; yr ydwyf yn attolygu i ti, bardynu fy esceulustra a maddeu i mi y dirmyg a wnaethym a'r dy air ac a'r dy orchymmyn: ac o hynn allan rhynged fodd i ti roddi i mi râs i rodio yn ôl y goleuni y mae dy air yn ei roddi i mi, ac na fydded i mi mwyach gyfeillach a gweithredoedd anffrwythlawn y tywyllwch, eithr gan ymwrthod yn hollawl a hwynthwy a chan wadu pôb ānuwioldeb a chwantau bydol, i mi o hynn allan fyw yn sobr yn gyfiawn ac yn dduwiol, gan ddisgwil a'm y gobaith gwynfydedic ac ymddangosiad gogoniant y duw mawr a'r iechawdr Jesu Grîst, i'r hwnn gyda thydi a'r [Page 98] yspryd glân y byddo yr holl anrhydedd yr awrhonn ac hyd yn dragywydd.
Amen.
A chyn myned o hono i gyscu y geilw efe a'r ei holl deulu i'r un-lle, ac ai hola hwynt yn-ghylch y pethau a glywsant eu treuthu iddynt y dydd hwnnw gan y gweinog eglwysic. A chan wneuthur a gweddio fal y byddant arferol bôb nôs, y gweddiant etto yn ychwaneg, fal hynn.
MEwn llawenydd a diolchgarwch, O Arglwydd, nefol Dâd, yr ydym ni yn cydnabod dy fawr gariad a'th drugaredd tuag attom ni; am fôd yn wiw gennit roddi i ni bechaduriaid truain râs, a rhydd-did, ac iechych i gadw y dydd heddyw yn Sabbath sanctaidd i ti, i ymgyfarfod yn dy deml, i wneuthur ein gweddiau a'n deisyfiadau attat, i gyffesu ein pechodau, i broffesu ein ffydd, ac i wrando a'r ddarllen dy air, a phregethu dy efengl.
Bendigedic a fo dy enw gogoneddus a derchafedic, am breswylio o air Crîst ynom ni mor ehelaeth: Rhynged fodd i ti ddwfr-hau a nefol wlîth dy fendith, hâd dy air di yr hwnn a hauwyd yn ein calonnau m y dydd heddyw: ie felly bendithia y rhan honno [Page 99] o'th air a derbyniasom ni, fal y gallom gynnyddu mewn grâs, a chan gludo ein hyscubau y gallom ddwyn ffrwyth da, a gorfoleddu ynot ti yn wastadol.
Y mae arnom ni ofn, Arglwydd, ddarfod i ni ballu cadw y dydd heddyw mor sanctaidd ac y dylasem ni; Pardyna, nyni attolygwn i ti, ein am-mharodrwydd ni i ddyfod ger dy fron di; ein hymddygiad am-mharchus yn dy dŷ di; claiarwch ein zêl yn dy wasanaeth di, a'n gollwng trôs gôf yr athrawiaethau iachus a draethwyd i ni: Anghofia, o Arglwydd, ein holl wendîd ni, a'r holl bechodau a wnaethom ni a'r hyd yr wythnos a aeth heibio, a'r dydd hwnn hefyd; bydded i ni o hynn allan well-hau ein bucheddau a chyflawni ein haddunedau, dy garu a'th wasanaethu, ac ym-mhôb dim ufydd-han i ti: estyn dy ddeheu-law i'n hamddiffyn ni y nôs honn oddi-wrth bôb drŵg, Cadw ein cyrph ni oddi-wrth farwolaeth, a'n heneiddiau ni oddi-wrth ddamnadigaeth: ac a'r ôl ein bywyd ni yn y bŷd hwnn, dŵg ni o'th drugaredd i'r bywyd tragywyddawl yn-nheyrnas nefoedd, fal y gallom yno gyd a'r holl Angylion sanctaidd mewn llawenydd gadw sabbath o foliant i'th enw gogoneddus yn oes oesoedd: A hynn Caniadhâ i ni er mwyn Chrîst Jesu ein Harglwydd.
Amen.
Pan rybuddia yr gweinidog eglwysic ei blwyfolion i baratoi eu hunain i fôd yn gyfr annogion or Sacrament sanctaidd o Gorph a Gwaed Crîst Jesu, Y bydd y gwîr Grîstion Gofalus ddau-ddydd neu dri cyn yr amser, iw holiei hunan, ac i ddarllen yscrythur lân, a llyfrau dwyfol eraill, yn enwedic y chweched bennod a'r hugain o Fathew; a'r ddwyfed bennad a'r hugain o Luc; a'r unfed bennod a'r ddeg o Epistol cyntaf Paul at y Corinthiaid; i ymprydio, i roddi elusen, ac i weddio.
Efe a weddia fal hynn.
O Dragywyddawl Dduw, a thrugaroccaf Dâd yr hwnn trwy dy Apostol a orchymynaist i bôb dŷn ei holi ei hûn, cyn bwyta o'r bara ac yfed o'r cwppan sanctaidd: mi a'm holais, ac wele yr ydwyf wedi'm cael fy hunan yn euog o aml ac o amryw bechodau sef Ymma y gwna efe gyffes gostyngedic o'r holl bechodau a ŵyr efe ei fôd yn euog o bonynt.
yr ydwyf yn ffiaidd yn fy-ngolwg fy hûn, ac yr ydwyf yn awr, o Arglwydd, yn fy marnu fy hûn, yn haeddu pôb math a'r gywilydd, trueni, ac [Page 101] aflwydd yn y bŷd ymma, a damnadigaeth dragywyddol yn y bŷd a ddaw; Ond tydi a ddywedaist, pe jawn farnem ni ein hunain, ni'n bernid; ie tydi a addewaist faddeuant a bywyd i bôb pechadur a edifarhâo ac a ddychwelo oddi-wrth ei holl bechodau, ac a greto yn-Ghrist Jesu.
Gan hyderu, gan hynny a'r dy drugaredd di, ac a'r deilyngdod yr Arglwydd Jesu yr hwnn a ddioddefodd ddirmyg, poenau, a marwolaeth trofof fii'm gwareddu oddi-wrth dy digofainc di, a chwedi ei gladdu, ac a'r y trydydd dydd a adgyfododd i'm cyfiawn-hau; yr ydwyf yn dyfod attat ti, ac yn deisyf arnat roddi cennad i mi i ddyfod i'th swrdd di, i swyta o gnawd, ac i yfed o waed Crîst Jesu, fal i'm cyrf-heir, ac y diddenir fy enaid, trwyddo ef; Ond na fydded i mi ddyfod nes i ti guddio fy noethni i, a'r wisc briodas, sef a mantell Cyfiawnder yr Arglwydd Jesu.
Ni fwytâi yr Phariseaid heb ymolchi yn gyntaf, na fydded i minneu ychwaith fwyta o swpper yr Arglwydd nes i ti fy-ghanhau i: Cartha allan o honof holl fryntni pechod; golch fi yn llwyr ddwys oddi-wrth fy anwiredd, a glanhâ fi oddi-wrth fy holl bechodau; ac wedi i ti fwrw yr yspryd aflan allan o honof, cyflanwa fy enaid a'th radau [Page 102] ysprydawl, sef a bywiol ffydd yn Ghrist, a gobaith yn ei addewidion, a chariad perffaith tuag atta ti a'm brodyr, ag edifeirwch ddiragrith, a duwiol fwriad i'th wasanethu mewn gostyngeiddrwydd ac ammynedd, ac a gwybodaeth iachus am y pethau a berthynant i'm hiechydwriaeth, fal na byddo le iddo nac iw gyfeillion ddychwelyd a chyfanneddu ynof.
Er pan fu'm i ddiwaethaf, Arglwydd, yn eistedd a'r dy fwrdd di, y pechais yn fynych jawn ysywaeth i'th erbyn, er maint oedd fy-mrŷd i'th wasanaethu di yn ffyddlon: oh na fydded i mi mwyach wneuthur felly; na fydded i mi fal y ci ddychwelyd iw chwdfa, na chyda'r hŵch wedi i ti yn awr fy-nglanhau i, i mi fyned ac ymdreiglo yn y dom; eithr bydded fy hymarweddiad o hynn allan yn sanctaidd a'm henaid yn ddihalawg: a selied dy lân yspryd di i'm henaid, bardwn a'm fy holl pechodau; ac na syrthied y melldithion a'r barnedigaethau a haeddais arnaf fi, nac i'm cywilyddio yn y bŷd ymma, nac i'm damnio yn y bŷd a ddaw; a hynn Caniad-hâ i mi er cariad a'r dy ûn Mâb Crîst. Jesu fy Arglwdd
Amen
Pan fyddo y Gwîr Grîstion yn derbyn y Sacrament y Gweddia efe fal hynn.
O Arglwydd nid ydwyf fi deilwng i ti ddyfod tan fy-nrhonglwydi, ond y mae i ti groesaw; Tyred i mewn, O dydi frenhin y gogoniant, a dywaid wrthif megis ac y dywedaist wrth Zacheus gynt, heddyw y daeth iechydwriaeth i'r tŷ hwnn: Aros a chyfannedda gyda myfi hyd na chaffwyf ddyfod a chyfannedu gyda thydi yn dragywydd yn y nefoedd: Bydded blâs y Manna nefawl ymma yn wastadol yn fy-nghenau, a bydded i mi ymborthi arno yn fy-nghaton trwy ffydd gan roddi diolch.
Amen.
Cyn gynted ac y derbynio efe y Sacrament y gweddia efe fal hynn.
O Arglwydd, fy llawenydd a'm gogoniant fy ngwaredwr a'm hiechydwriaeth, mor felus yw dy gorff di i'm henaid i, mor hyfryd ydyw yfed o gwppan yr iechydwriaeth: dy gnawd di sydd fwyd yn wîr, a'th waed di sydd ddiod yn wîr: wele! yn awr yr wyf yn asgwrn o'th asgwrn di, ac yn gnawd o'th gnawd di, yn awr i'm cyfansoddwyd [Page 104] ynot, i'm cyssylltwyd a thydi. Oh nafydded byth wahaniad rhyngom; aros di ynofi, a minneu ynot ti, fal y byddwyf byw trwy oti.
Amen.
Pan deuo efe iw dŷ, gan alw y sawl a dderbyniasant y Sacrament atto yr ûn mann, hwynthwy a weddiant fal hynn.
O Arglwydd, Brenhin y gogoniant, ti yn unic wyt Arglwydd, ti a wnaethost y nefoedd; nefoedd y nefoedd, au holl luoedd hwynt: y ddajar a'r▪ hynn oll sydd arni; y Moroedd a'r hynn oll sydd ynddynt; a thi sydd yn eu cynnal hwynt oll: a llu y nefoedd a ymgrymmanti ti: ti yw yr Arglwydd Dduw yr hwnn a ddetholaist Abramac ac a'i dygaist ef allan o Ur y Caldeaid, ac a roddaist iddo enw Abraham: ti hefyd a welaist gystudd ei hâd ef, yn yr Aipht, ac au gwaredaist hwynt o law Pharaoh eu gorthrymmudd, ti au tywysaist hwynt trwy yr môr coch, ac au harweiniast hwynt rrwy yr anialwch: Bara hefyd o'r nefoedd a roddaist iddynt wrth eu chwant, a dwfr o'r graig a dynnaist iddynt wrth eu rhaid, ac au dygaist hwynt i etifed du y wlâd a addewaist iddyut.
Ie, O Arglwydd, ti a welaist ac a dosturiaist [Page 105] wrth ein cyflwr gresynnol ninneu hefyd; Canys pan oeddym ni yn gaeth-weision i Satan, ti a'n gwnaethost ni yn gymmwys i gael rhann o etifeddiaeth y Sainct yn y goleuni; ac a'n gwaredaist ni allan o feddiant y tywyllwch, ac o faglau diafol, gan ein symmud ni i deyrnas dy anwyl Fâb, ti a'n etholaist ni i fôd yn bobl briodol i ti dy hûn; a phan nad oedd gennym ni nac enw nac anrhydedd yn y bŷd, tydi a'n hanrhydeddaist ni ag enw rhagorawl, enw newydd, gan ein galw ni a'r ôl enw dy fâd Crîst, yn Gristianogion; ac a ddiwallaist ein heneidiau ni gan roddi i ni Fanna nefol iw fwyta, sef cnawd dy anwyl fâb, ac a'n diodaist ni a dwfr bywiol o'r graig ysprydol, yr honn yw Crîst.
Mawr, O Arglwydd, yw dy gariad ti tuag attom ni; pe llefarem a thofodau dynion ac Angylion, ni byddym ni abl i roddi i ti y mawl yr wyt ti yn ei haeddu: Dafydd er mwyn Jonathan a dderbyniodd ei fâb ef Mephibosheth iw fwrdd frenhinnawl; ac yr oedd hynny yn drugaredd, yn barch, ac yn anrhydedd mawr iddo: Ond tydi, Brenhin nef a dajar, a'n derbyniaist ni (canys felly y rhyngodd bodd i ti) i'th fwrdd dy hun i borthi yno ein heneidlau ar gorph a gwaed dy fâb Crist Jesu; oh mor fawr yw y trugaredd hynn a wnaethost a nyni, mor ardderchawg [Page 106] yw yr parch a'r anrhydedd a roddaist i ni: nyni a wyddom, Arglwydd, na ommeddi ni o ddim bellach, yn gymmaint a gweled o honot yn dda roddi i ni dy anwyl fâb; Dyro i ni gan hynny, nyni attolygwn i ti, wîr edifeirch am ein holl bechodau a wnaethom; bydded i ni newynu a sychedu ar ôl cyfiawnder, hiraethu am dy râs di; Dyro i ni ychwaneg o wybodaeth am Dduw, doethineb nefawl, ffydd, gobaith, cariad, ammynedd, gostyngeiddrwydd, a diolchgarwch am dy holl drugareddan; ac yn enwedic am i ti roddi i ni dy anwyl fâb Crist Jesu i'n prynnu, i'n gwaredu, ac i'n byw-hau: A chan i ni ei dderbyn ef, bydded i ni rodio yn addas o hono, i bôb rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym-mhob gweithred dda, a chan ymlan-hau oddi-wrth bôb halogrwydd cnawd ac yspryd i berpheithio sancteiddrwydd yn ofn duw: dyro i ni nerth i orchfygu ein holl brofedigaethau, a gwna ni yn ffyddlon i ti hyd y diwedd, ac yn y diwedd corona ni a choron y bywyd, trwy Jesu Grîst ein Harglwydd, ir hwn gyda thydi o Dduw Tâd a'r yspryd glân y byddo yr anrhydedd yr awrhonn ac hyd yn dragywydd.
Amen.
Pan fo ystât y deyrnas, trwy orchymmyn oddi-wrth y brenhin, wedi ymgynnull ynghyd ym-Mharliament, y gweddia efe fal hynn.
O Arglwydd Dduw yr hwnn wyt yn sefyll yn-ghynnulleidfa y galluog, ac wyt yn barnu ym-mlith y duwiau; yr hwnn wyt Dád y goleuni, ac oddiwrth yr hwnn y mae pôb rhoddiad dajonus, a phôb rhodd berphaith yn dyfod; yr hwnn wyt yn dyscu gwybodaeth i ddŷn, ac hebot ti nid oesûn dŷn yn medru gwneuthur na meddwl dajoni yn y bŷd: Bydd di, O Arglwydd, gyda dy weision sydd yr awrhonn trwy orchymmyn yn grasusaf fernhin Charles wedi ymgyfarfod ym-Mharliament i ymgynghori ynghylch pethau yn perthyn i fawredd y brenhin a'r deyrnas; Dyro iddynt Doethineb nefol, Gwna iddynt fod o ûn meddwl ac o ûn galon, i geisio dy anrhydedd di, o Dduw; i fod yn wasanaethgar i'r brenhin, ac i gadw heddwch yn ei deyrnasoedd ef. Caniad-ha hynn er mwyn Crîst Jesu, brenhin y brenhinoedd, ir hwnn y byddo yr holl anrhydedd yn oes oesoedd.
Amen.
Pan fo Seneddr o Escobion, Deuoniaid, Archdiaconiaid a difinuddion eraill trwy orchymmyn y brenhin i ymgynghori ynghylch pethau yn perthyn ir eglwys, y gweddiae efe fal hynn.
O Arglywydd Dduw yr hwnn a addewaist fod gyda dy Apostolion iw dyscu, iw hyfforddio, ac iw cynnorthwyo bôb amser hyd ddiwedd y bŷd; Bydd gyda dy wasanaeth-ddynion sydd yn awr wedi ymgynnull ynghyd trwy orchymmyn mawredd y brenhin i ymgynghori yn ghylch pethau yn perthyn ir Eglwys; Dyro iddynt yspryd doethineb a deall, yspryd cynghor a nerth ysprydol, yspryd gwybodaeth a gwir dduwioldeb, chyflanwa hwy, O Arglwydd, ac yspryd dy sanctaidd ofn, i faentimio gwirionedd dy efengl, yn erbyn pôb heresi, a phôb ffals ddysceidiaeth ac opinion annuwiol, a hynny er anrhydedd i'th enw di, yr hwnn wyt yn teyrnasu yn ûn duw heb drange na gorffen.
Amen.
Os bydd yr annuwiol yn drŵg-fwriadu yn ei erbyn ef, yn ymgyfreithio agef ar gam, yn ei drallodi, neu yn ei erlyd, yna y gweddia efe fal hynn.
O Dragywyddol Dduw yr hwnn wyt yn gweled holl weithredoedd meibion dynion, ac yn gwybod dirgelion eu calonnau, trugarhâ wrthif fi bechadur truan, maddeu i mi fy holl amryfusedd, fy-ngwendid a'm hanwiredd: pridd y ddajar yw defnydd pob dŷn, ac am bridd y ddajar ydd ŷm yn ymdrechu, y naill frawd yn ceisio disodli y llall a phôb cymmydog yn rhodia yn dwyllodrus: esceuluso yr ydym ymdrechu myned i mewn i'r porth cyfyng, ac am bethau nefol ni feddyliwn; bodlon ydym i dreulio ein da mewn oferedd, ac i orthrymmu yr diniwed, ond ag ychydic iawn yr ymadawn i wneuthur dajoni, ac i borthi y tlawd; yn gyfiawn y gelli gymmeryd oddi-arnom dy fendithion y rhai a roddaist i ni, ac yn gyfiawn y gelli ddanfon dy drymmion farnedigaethau arnom, yn gyfiawn y gelli di yn cau ni allan o deyrnas nefoedd, ac yn gyfiawn y gelli yn bwrw ni bendramwnwgl i uffren, yno i gael ein poeni yn dragywyddawl: Ond er mwyn dy fâb Crîst Jesu arbed ni, a [Page 110] chymmer drugaredd arnom ddrwg-weithredwyr truain, a sancteiddia ein calonnau ni, fal y byddom o hyn allan yn bobl briodol i ti awyddus o weithredoedd da, gan roddi heibio ein holl ddrygioni, pôb chwerwedd, a llid, a llefain, a chabledd; a bod yn gymmwynasgar iw gilydd, yn dosturiol, yn maddeu, ac yn rhodio mewn cariad megis ac y carodd Crîst ninneu.
O Arglwydd, maddeu 'r sawl fydd yn dwyn malais tuag attaf, ac yn bwriadu drŵg i mi, Bendithia di y sawl sydd yn fy melldithio. i, a phan weli di yr amser yn dda, tro eu calonau hwy, a gwna hwy yn fuddiol i mi : ond os dy ewyllys di a fydd i'm profi i trwyddynt hwy, sancteiddia y profiad hwnnw i mi, a dyro i mi ammynedd a dioddefgarwch, fal y byddo i ti y gogoniant: Bydd drugarog wrthif, O Arglwydd, ac na âd iddynt gael y llaw uchaf arnaf i'm llwyr-ddifetha, na âd iddynt ûn amser beri i mi dy anghofio di : fy nuw i ydwyt ti, clyw, O Arglwydd, lef fy-ngweddiau, cadw fi rhag y trawsion sy yn bwriadu drygioni yn eu calon, y rhai a olymmasant eu tafodau fal seirph y rhai y mae gwenwyn Asp tan eu gwesusau, a chadw fi rhag dwylo yr annuwiol y rheini a fwriadasant fachellu fy nrhaed, ti wyt nerth fy iechywriaeth, bydd dy yn nawddwr ac [Page 111] yn gynnorthwywr i mi, a dadleu fy nadl yn erbyn y rhai a ddadleuant i'm herbyn, fal y dichon y rhai a hoffant dy gyfiawnder, ganu a llawenychu, a dywedyd yn wastad; Mawryger yr Arglwydd, yr hwnn a gâr lwyddiant ei wâs: A'm tafod inneu, O Arglwydd, a lefara am dy gyfiawnder, a'th foliant ar hyd y dydd, gan ddywedyd, gogoniant, anrhydedd, ac ardderchawgrywdd a fyddo i'r Arglwydd Dduw yn oes oesoedd.
Amen.
Pan fyddo barnedigaethau yr Arglwydd ar y bobl; pan fyddo yr tywydd yn ddrŵg, clefydau, a drudaniaeth yn y wlâd, yna y gweddia gyda'i deulu fal hynn.
O Drugaroccaf Arglwydd, yr ydym ni yn ostyngedic yn attolygu i ti, faddeu i mi ein haml a'n pwys-fawr bechodau: nis gallwn ni obeithio y tynni di dy gospedigaethau oddi-wrthym, hyd oni faddeuych i ni ein pechodau; ac ni allwn ni dybied a maddeui di i ni ein pechodau, hyd oni ddêl ein gostyngeiddrwydd ni a'n hedifeirwch, i ofyn dy drugaredd: nyni a fuom rhy ddiog i ddyfod pan oeddyt ti mewn mwyneidd-dra yn rhoddi gwahodd i ni; Ac yn awr ti a [Page 112] wiscaist gyfiawnder am danat yn lle trugaredd in cymmell ni i ddyfod attat ti; yr awrhonn ydd wyt yn dechreu tywallt ffiolau dy ddigofaint am ein pennau, a thra yr ydym yn cwyno rhag ûn o'th farnedigaethau, yr wyt ti yn ein bygwth ni ag eraill: y mae haint y nodau yn ymdanu a'r hyd ein heolydd ni, ac yn myned oddi-amgylch megis i geisio yr neb allo i ddifa; nid oes nerth yn y byd abl i sefyll yn ei erbyn, ac y mae yn bygwth gwneuthur tai a dinasoedd hefyd, yn anghyfannedd: Tra yw y nodau yn yssu yr bobl, yr ydym yn clywed sŵn rhyfel, ac y mae yr cleddyf yn galw am y rhai a gaffo eu difa; ac yn y cyfamser y mae yr nefoedd wedi duo uwch ein pennau, a'th cymmylau di yn defnynnu culni arnom; a diammeu y daw newyn i lyngcu yr hynn a adawo yr nodau a'r cleddyf yn fyw, oni bydd gwiw gennit ddanfon i ni dywydd ardymherus, fal y gallom dderbyn ffrwythau yr ddajar yn eu prŷd au hamser.
O Arglwydd Dduw, y mae ein pechodau ni wedi haeddu hynn i gyd, ac nid ydym yn ei wadu ac nis gallwn: nid oes gennym ni le i fyned ond at dy drugaredd di, ac nid oes ini ffordd at honno ond trwy gyflawn haeddedigaethau dy fâb di Jesu Grîst ein Jechawdur: yr ydym yn credu, Arglwydd, anghwanega [Page 113] di ein ffydd ni, ein dwyfolder; ein hedifeirwch, a phôb rhinwedd Gristianogawl ynom ac er rhyglyddon dy fâb, ac er mwyndy drugaredd edrych i llawr ar dy weision sy mewn cystudd: gorchymmyn i'th Angel attal ei law, a chofia na allwn ni dy foliannu yn yr angeu, na rhoi i ti ddiolch yn ypwll; Dos allan gyda'n lluoedd, pan elont hwythau allan; a phâr i ni wybod mae ynot ti y mae ein cadernid ni a'n hymwared. Goleua yr nefoedd uwch ein pennau, ac na ddŵg oddi-arnom ni y mawr helaethrwydd a'r hwnn y coronaist ti y ddajar, ond meddwl am danom ni yr hwnn wyt yn rhoddi ymborth i'r cigfrain pan alwant arnat: yna y moliannwn ac y clodforwn dy ogoneddus euw gan dy foliannu yn wastad, a dywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw y lluoedd; nef a dajar sydd yn llawn o'th ogoniant, gogoniant a fo i ti Arglwydd goruchaf.
Amen.
Trôs ystat y deyrnas, y byddinoedd, y llynges, ac am heddwch, y gweddia efe fal hynn.
O Dragywyddawl Dduw a'n trugaroccaf Dâd, ti yw Arglwydd y lluoedd, ac [Page 114] oddi-wrthit ti y mae nerth yr holl genhedloedd; os tydi ni chedwi y ddinas a'r deyrnas, ofer y gwylia y ceidwad ofer y cynghora y pennaithiaid; er cyfiawned fo yr amcanion, er doethed fo yr cynghorion, er cryfed fo yr lluoedd, etto ni allant gael y fuddugoliaeth a'r gorfod, oni bydd i ti ddyscu eu dwylo i ymladd, au bysedd i ryfela: ti yw cadarn obaith holl gyrrauiyr ddajar, a phawb a'r sydd yn myned ac yn aros yn y môr llydan, O Arglwydd, yr awrhon y mae arnom ni eusian dy gymmorth ar fôr ac ar dîr, ac er mwyn trugaredd Crist na ommed ni o'r ûn o'r ddau: Bydd di gyda ein lluoedd ni, a chyda lluoedd ein caredigion sy ar ein plaid; a bydd gyda ein llongau ni ar y môr, nac ymâda'r naill nac a'r llall, yn dy allu a'th fawr drugaredd, hyd oniddygech hwynt yn eu hôl gyda'g anrhydedd a diogel heddwch: O Arglwydd tro gleddyf ein gelynion iw mynwes eu hunain, oblegid yr oeddym ni yn ceisio heddwch ac yn ei dilyn hi, ond tra yr oeddym ni felly, yr oeddynt hwythau yn ymbaratoi i ryfel. Dy weision dy ydym ni, a drŵg gan ein calonnau ni tros ein pechodau; Arglwydd, maddeu hwy i ni; ac yno y gobeithiwn ynot y tywellti dy holl fendithion arnom ni, y bydd heddwch yn ein caerau a ffyniant yn ein palasau, y dychweli gaethiwed [Page 115] Jacob, y gwnei ddajoni yn dy ewyllysgarwch i Sion, yr adeiledi furiau Jerusalem, ac i bydd i ninneu guro ein cleddyfau yn sychau a'n gwayw-ffyn yn bladuriau, y mwynhawn ni lafur ein dwylo, y bydd gwyn ein bŷd, a da fydd i ni: Caniad-ha hynn, O Arglwydd, er cariad ar dy ûn mâb Jesu Grîst ein Cyfryngwr a'n Dadleuwr, ir hwnn gyda thydi a'r yspryd glân y byddo yr holl anrhydedd, y parch, y gallu a'r bendith yr awrhonn ac dragywydd.
Amen
Y CATECHISM, NEU Yr modd y bydd y gwîr Grîstiō yn holi ei Blant a'i dylwyth ieuangc, ac yn dyscu iddynt egwyddorion y Gredfydd Gristianogawl.
Cwestiwn. BEth yw dy enw di?
Atteb. N. neu M. neu'r cyfryw.
Cwest. Pwy a roddes yr enw hwnnw arnat ti?
[Page 118] Atteb. Fy nhadau bedydd, a'm mammau bedydd wrth fy medyddio; pan i'm gwnaethpwyd yn aelodi Grîst, yn blentyn i Dduw, ac yn etifedd teyrnas nêf.
Cwest. Pa beth a wnaeth dy dadau-bedydd a'th fammau bedydd yr amser hwnnw-trosot ti?
Atteb. Hwy a addawsant, ac a addunasant dri pheth yn fy enw i.
- Yn gyntaf, ymwrthod o honof a Diafol ac a'i holl weithredoedd a'i rodres, gorwaged y bŷd anwir, a phechaduriol chwantau y cnawd.
- Yn ail; bod i mi gredu holl byngciau ffydd Grîst.
- Ac yn drydydd, cadw o honof wynfydedic ewyllys duw a'i orchymmynion, a rhodio ynddynt holl ddyddiau fy mywyd.
Cwest, Onid wyt ti yn tybied dy fôd yn rhwymedig i gredu ac i wneuthur megis ac yr addawsant hwy trosot ti?
Atteb. Ydwyf yn wîr; a thrwy nerth duw felly y gwnaf: ac ydd wyf yn mawr ddiolch i'm Tâd nefol, am iddo fy ngalw i gyfryw iechydwriaeth hynn, trwy Jesu, Grîst ein Jechawdur. [Page 119] Ac mi attolygaf i Dduw roddi i mi ei râd, modd y gallwyf aros ynddo holl ddyddiau fy einioes.
Cwest Adrodd i mi fannau dy ffydd.
Atteb. Credaf yn Nuw Dâd holl-gyfoethog, Creawdur nef a dajar; ac yn Jesu Grîst ei ûn Nâb ef, ein Hargswydd ni, yr hwnn a gafŵyd trwy yr yspryd glân, a aned o Fair forwyn, a ddioddefodd tan Bontius Pilat, a groef-hoeliwyd, a fu farw, ac gladdwyd: Descynnodd i uffern; y trydydd dydd y cyfododd o feirw; Derchafodd i'r nefoedd, ac eistedd y mae a'r ddeheulaw Dduw tâd hollalluog: oddi-yno y daw i farnu byw a meirw: Credaf yn yr yspryd glân; yr eglwys lân Gatholic, Cymmun y Sainct, Maddeuant pechodau, Cyfodiad y cnawd, a'r Bywyd tragywyddol.
Amen.
Cwest. Pa beth yr wyt ti yn ei ddyscu yn bennaf yn y pyngciau hyn o'th ffydd?
Atteb.
- Yn gyntaf, yr wyf yn dyscu credu yn Nuw Dâd, yr hwnn a'm gwnaeth i a'r holl sŷd.
- Yn ail dyscu credu yn Nuw fâb, yr hwnn a'm prynodd i a phôb rhyw ddŷn.
- Yn drydydd, dyscu credu yn Nuw yspryd [Page 120] glân, yr hwnn sydd i'm sancteiddio i, a holl etholedig bobl Dduw.
Cwest. Ti a ddywedaist ddarfod i'th dadau bedydd, a'th fammau bedydd addo trosot ti, fod i ti gadw gorchymmynion duw, dywet tithau i mi, pa nifer sydd o honynt?
Atteb. Dec.
Cwest. Pa rai ydynt?
Atteb. Y rhai hynny a lefarodd duw yn yr ugeinfed bennod o Exodus, gan ddywedyd, Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw yr hwnn a'th ddûg ymmaith o dîr yr Aipht, o dŷ y caethiwed.
- 1o. Na fydded i ti dduwiau eraill onid myfi.
- 2o. Na wnâ i ti dy hûn ddelw gerfiedic, na llûn dim ar y sydd yn y nefoedd uchod, neu yn y ddajar isod, nac yn y dwfr tan y ddajar. Na ostwng iddynt, ac na addola hwynt, oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw wyf Dduw eiddigus, yn ymweled â phechodau yr tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt, ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fy ngorchymmynion.
- [Page 121] 3o. Na chymmer Enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer, canys nid gwirion gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.
- 4o. Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Sabbath: chwe diwrnod y gweithi ac y gwnei dy holl waith: eithr y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: ar y dydd hwnnw na wnâ ddim gwaith, tydi, na'th fâb na'th ferch, na'th wâs, na'th forwyn, na'th anifail, na'r dŷn dieithir a fyddo o fewn dy byrth: Canys mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd nef a dajar, y môr, a'r hyn oll sydd ynddynt; ac a orphywysodd y seithfed dydd: o herwydd pa ham y bendithiodd yr Arglwydd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef.
- 5o. Anrhydedda dy dâd a'th fam, fal yr estynner dy ddyddiau ar y ddajar, yr honn a rydd yr Arglwdd dy Dduw i ti.
- 6o. Na lâdd.
- 7o. Na wnâ odineb.
- 8o. Na ladratta.
- 9o. Na dŵg gam-dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.
- 10o. Na chwennych dŷ dy gymmydog, na chwennych wraig dy gymmydog, na'i wâs na'i forwyn, na'i ŷch, na'i assyn, na dim a'r sydd eiddo.
[Page 122] Cwest. Beth yr wyt ti yn ei ddyscu yn bennaf wrth y gorchymmynion hynn?
Atteb. Yr ydwyf yn dyscu dau beth: fy nylêd tu ag at Dduw, a'm dylêd tuag fy-nghymmydog.
Cwest. Pa beth yw dy ddylêd at tuag Dduw?
Atteb. Fy nylêd tuag at Dduw yw, Credu ynddo, ei ofni, a'i garu a'm holl galon, a'm holl nerth, ei addoli ef, diolch iddo, rhoddi fy holl ymddiriaed ynddo, galw arno, anrhydeddu-ei sanctaidd enw ai air, a'l wasanaethu yn gywir holl ddyddiau fy mywyd.
Cwest. Pa beth yw dy ddylêd tuag at dy gymmydog.
Atteb. Fy nylêd tuag at fy-nghymmydog yw, ei garu fal fi fy hûn; a gwneuthur i bôb dŷn megys y chwennychwn iddo wneuthur i minneu; Caru o honof, an'rhydeddu, a chymmorth fy-nhâd a'm mam; Anrhydeddu, ao ufydd-hau ir brenhin a'i swyddogion: Ymddarrostwng i'm holl lywiawdwyr, dysescawdwŷr, Bugeiliaid ysprydolac athrawon; Ymddwyn o honof yn ostyngedic, gan berchi [Page 123] pawb o'm gwell: Na wnelwyf niwed i nêb ar air na gweithred: Bod yn gywyr ac yn union: ym-mhôb peth a wnelwyf: Na bo na châs na digasedd yn fy-nghalon i nêb: Cadw o honof fy nwylaw rhag chwilenna, a lladratta; Cadw fy nhafod rhag dywedyd celwydd, cableiriau, na drŵg absen: Cadw fy nghorff mewn cymmedroldeb, sobrwydd, a diweirdeb: Na chybyddwyf, ac na ddeisyfwyf dda, na golud nêb arall; eithr dyseu, a llafurio yn gywir, i geisio ennill fy mywyd, a gwneuthur a ddylwyf, ym-mha ryw fuchedd bynnac y rhyngo bodd i Dduw fyngalw.
Cwest. Fy anwyl blentyn, gwybydd hyn ymma, nad wyt ti abl i wneuthur y pethau hyn o honot dy hûn, nac i rodio yn-gorchymmynion duw, nac iw wasanaethu ef, heb ei yspysol râd ef; yr hwn sydd rhaid i ti ddyscu yn wastad ymoralw am dano trwy ddyfal weddi. Gan hynny moes i mi glywed a fedri di ddywedyd Gweddi yr Arglwydd.
Atteb. Ein▪ Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, fancteiddier dy enw; Deuet dy deyrnas: Bid dy ewyllys ar y ddajar, megis y mae yn y nefoedd: Dyro i ni heddyw ein-bara beunyddiol: A maddeu i ni ein dyledion, fal y maddeuwn [Page 124] ni i'n dyledwŷr: ac na thywys ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drŵg. Canys ti pia'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant, yn oes oesoedd.
Amen.
Cwest. Pa beth ydd wyt ti yn ei erchi a'r Dduw yn y weddi honn?
Atteb. Yr ydwyf yn erchi ar fy Arglwydd Dduw, ein tâd nefol, yr hwn yw rhoddwr pôb dajoni, ddanfon ei râd arnaf, ac yr holl bobl; fal y gallom ei anrhydeddu ef, a'i wasanaethu, ac ufydd-hau iddo megis y dylem; ac ydd wyf yn gweddio ar Dduw ddanfon i ni bôb peth anghenrheidiol yn gystal i'n heneidiau ac i'n cyrff: a bôd yn drugarog wrthym, a maddeu i ni ein pechodau a rhyngu bodd iddo ein cadw, a'n hamdeffyn ym-mhôb perigel ysprydol a chorfforol; a chadw o hono nyni rhag pôb pechod ac anwiredd, a rhag ein gelyn ysprydol, a rhag angeu tragywyddol. A hyn yr ydwyf yn ei obeithio y gwnâ efe, o'i drugaredd a'i ddajoni trwy ein harglwydd Jesu Grîst: ac am hynny ydd ywf yn dywedyd, Amen, poet gwîr.
Cwest. Pa sawl Sacrament a ordeiniodd Crist yn ei eglwys.
[Page 125] Atteb. Dau yn unic, megis yn gyffredinol yn anghenrhaid iiechydwriaeth, sef, Bedydd a Swpper yr Arglwydd.
Cwest. Pa beth yr wyt ti yn ei ddeall wrth y gair hwnn Sacrament?
Atteb. Yr wyfi ym deall, arwydd gweledig oddiallan, o râs ysprydol odd:-fewn a roddir i ni; yr hwn a ordeiniodd Crîst ei hûn, megis modd i ni i dderbyn y grâs hwnnw trwyddo, ac i fôd yn wystl i'n sicr-hau ni o'r grâs hwnnw.
Cwest. Pa sawl rhann y sydd mewn Sacrament?
Atteb. Dwy, arwydd gweledig oddi-allan, a'r grâs ysprydol oddi-fewn.
Cwest. Pa beth yw yr arwydd gweledig oddi-allan, neu yr ffurf yn y bedydd?
Atteb. Dwfr; yn yr hwn y trochir y neb a fedyddir, neu yr hwn a daenellir arno, yn enw yr Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd glân.
Cwest. Pa beth yw yr grâs ysprydol oddi-fewn?
[Page 126] Atteb. Marwolaeth i bechod, a genedigaeth newydd i gyfiawnder: Canys, gan ein bod ni wrth naturiaeth wedi ein geni mewn pechod, ac yn blant digofaint, trwy fedydd i'n gwneir ni yn blant grâs.
Cwest. Pa beth a ddisgwylir gan y rhai a feddyddier?
Atteb. Edifeirwch, trwy yr honn y mae'nt yn ymwrthod a phechod; a ffŷdd trwy yr honn y mae'nt yn ddi-yscog yn credu addewidion duw, y rhai a wneir iddynt yn y Sacrament hwnnw.
Cwest. Pa ham wrth hynny y bedyddir plant bychain, pryd n'as gailant o herwydd eu ievengctid gyflawni y pethau hynn?
Atteb. Ie, y mae'nt hwy yn eu cyflawni hwy trwy eu meichiau, y rhai sy yn addaw, ac yn addunedu pôb ûn o'r ddau yn eu henwau hwynt; y rhai pan ddelont i oedran, y mae'nt hwy eu hunain yn rhwym i'w cyflawni.
Cwest. Pa ham yr ordeiniwyd Sacrament Swpper yr Arglwydd?
[Page 127] Atteb. Er mwyn tragywydol gôf am aberth dioddefaint Crîst, ar les-hâd yr ydym ni yn ei dderbyn oddi-wrtho.
Cwest. Pa beth yw y rhann oddi-allan, neu'r arwydd, yn Swpper yr Arglwydd?
Atteb. Bara a gwîn, y rhai a orchymmynodd yr Arglwydd eu derbyn.
Cwest. Pa beth yw y rhann oddi-fewn, neu'r peth a arwyddoceir wrth yr arwyddion hynny?
Atteb. Corff a gwaed Crîst, y rhai y mae yr ffyddlonniaid yn wîr ac yn ddiau yn eu cymmeryd, ac yn eu derbyn, yn Swpper yr Arglwydd.
Cwest. Pa leshâd yr ydym ni yn ei gael wrth gymmeryd y Sacrament hwnn?
Atteb. Cael cryfhau a diddanu ein heneidiau trwy Grîst, megis y mae ein cyrff yn cael trwy yr bara a'r gwîn.
Cwest. Pa beth sydd raid ir rhai a ddêl i Swpper yr Arglwydd ei wneuthur?
[Page 128] Atteb. Eu holi eu hunain, a ydynt hwy yn wir edifeiriol am eu pechodau a aeth heibio, ac yn sicr-amcan dilyn buchedd newydd: a oes ganddynt ffydd fywiol yn-nrhugaredd duw trwy Grîst, gyda diolchus gôf am ei angeu ef; ac a ydynt hwy mewn cariad perffaith a phôb dŷn.
Y PSALMAU Y Rhai y bydd y Gwîr Grîstion arferol eu canu gyd a'i dylwyth.
PSAL. I.
PSAL. IV.
PSAL. VI.
PSAL. VIII.
PSAL. XIII.
PSAL. XV.
PSAL. XIX.
PSAL. XXIII.
PSAL. CXXXIII.
Gogoniant fyth a fyddo ir Tâd ir Mâb rhâd a'r Glân yspryd fal y bu y mae ac y bydd ûn duw tragywydd hyfryd.
Amen
GWELL DUW NA DIM.