EGLURHAD BYRR AR Gatechism yr Eglwys YNGHYD A Thystiolaethau o'r Scrythur lan.

O waith y Gwîr-barchedig Dâd yn Nuw JOHN WILLIAMS. Escob Caer-Gei. wedi gyfieithio gan John Morgan Vicar Aber-Conway.

LLUNDAIN. Argraphwyd dros Matth. Wootton, dan lun y tair Dagr yn Fleet-street. 16 [...]9.

[...]

A B C CH D DD E F FF G NG H I J K L LL M N O P PH Q R S T TH U V W X Y Z.

a b c ch d dd e f ff g ng h i j k l ll m n o p ph q r s s t th u v w x y z, &c.

a e i o u w y y.

A B C C H D DD E F FF G NG H I J K L M N O P PH Q R S T TH U V W X Z.

a b c ch d dd e f ff g ng h i j k l ll m n o p ph q r s s t th u v w x y z, &c.

a e i o u w y y.

A B C CH D DD E F FF G NG H I K L LL M N O P PH Q R S T TH U W X Y Z.

a b c ch d dd e f ff g ng h i j k l ll m n o p ph q r r s s t th u v w x y z, &c.

a e i o u w y y.

EGLURHAD BYRR AR Gatechism yr Eglwys.
Y Catechism, hynny yw, Athrawiaeth i'w dyscu gan bob dyn, cyn ei ddwyn iw gonffirmio gan yr Esgob.

RHAN I. Am addnned y Bedydd.

Q. BEth yw dy Enw di?

A. N. neu M.

Q. Paham y gofynnir yn gyntaf, Beth yw dy enw di?

A. I ddwyn im' cof y Ffydd a broffessais yn fy medydd, pan dderbyniais gyntaf fy Enw Christnogawl.

Q. P wy a roddes yr Enw hwnnw ar­nat ti?

A. Fy Nhadau-bedydd a'm Mammau­bedydd wrth fy medyddio, pan im gwnaeth­pwyd yn Aelod o Ghrist, yn Blentyn i Dduw, ac yn Etifedd teyrnas Nef?

Q. Paham y gofynnir, Pwy a roddes yr enw hwnnw arnat ti?

A. I beri i mi gofio y Ddyledswydd yr hon y pryd hynny a addewais i trwy fy Nhadau­bedydd. ei chyflawni.

Q. Paham y rhoddwyd i chwi eich Enw Christnogawl yn y Bedydd?

A. Oblegid fy nghyssegru i Ghrist y pryd hynny, a'm derbyn i gyfammod ag ef, ô herwydd yr unrhyw Reswm y rhoddwyd yr Enw yn yr Enwaediad; megis i Isaac, Gen. 21, 3, 4. i Ioan Fedyddiwr, Luc. 1. 59. ac i'n Hiachaw­dwr, Luc 2 21.

Q. Paham y rhoddodd Tadau-bedydd eich Enw i Chwi?

A. Fal yn ol yr hên arfer yn Eglwys yr Ju­ddewon (a) ac yn Eglwys Christ, y byddeint hwy yn dystion, ac yn feichiau am i mi gyflawni yn well yr hyn a ofynnid gennyf y pryd hynny (b). (a) Esay 8. 2, 3. (b) 1 Pet. 3. 21.

Q. Pa Ragorfreintiau yr ych chwi yn eu der­byn, neu a roddir i chwi yn y Bedydd?

A. Tair o Ragorfreintiau yr wyf yn eu der­byn; megis fe a'm gwnaethpwyd i, I. yn Aelod o Christ: 2. yn Blentyn i Dduw: 3. ac yn Etifedd teyrnas Nef.

Q. Paham y dywedir ych gwneuthur chwi yn Aelod o Ghrist; yn Blentyn i Dduw? &c.

A. Oblegid nid felly y ganed fi (a), eithr fe a'm gwnaed felly yn y Bedydd (b). (a) [Page 3] Ioan 1. 12, 13. cynnifer ac a'i derbyniasant, efe a roddes iddynt allu [neu Fraint] i fod yn fei­bion i Dduw,—y rhai ni aned o waed nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys dyn, eithr o Dduw. (b) Ioan 3. 5, 6. Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o'r yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyr­nas Dduw. Yr hyn a aned o'r cnawd sydd gnawd, a'r hyn a aned o'r yspryd, sydd yspryd.

Q. Pa beth ydyw bod yn Aelod o Grist?

A. Bod yn Aelod o Eglwys Ghrist. 1 Cor. 12. 12. Canys fel y mae y Corph yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl Aelodau 'r un Corph, cyd bônt lawer, ydynt un corph: felly y mae Christ he­fyd, neu 'r Eglwys Christianogol. Adnod 27. Chwy chwi ydych gorph Christ ac aelodan o ran.

Q. Paham y dywedir fod Aelod o Eglwys Ghrist yn Aelod o Ghrist?

A. Oblegid mai Corph dirgeledig Christ yw 'r Eglwys (a), a Christ yw pen (b) y corph hwnnw. (a) Ephes. 1. 22, 23. yr Eglwys, yr hon yw ei gorph. (b) Ephes. 5. 23. Christ yw pen yr Eglwys.

Q. Pa beth yw bod yn Blentyn i Dduw?

A. Bod yn Blentyn i Dduw yw bod mewn cy­fammod â Duw. Felly yr oedd yr Juddewon yn Blant i Dduw (a), ac o'r cyfammod (b) ▪ (a) Deut. 14. 1. (b) Act. 3. 25.

Q. Paham y dywedir ych bod chwi yn gyntaf yn Aelod o Ghrist, a chwedi yn Blentyn i Dduw?

A. Oblegid mae trwy Ghrist y gwnaeth­pwyd fi yn Blentyn i Dduw: Ephes. 1. 5. wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Ghrist iddo ei hun.

Q Pa beth ydyw bod yn Etifedd teyrnas Nef?

A. Bod felly trwy Addewid. Felly y dy­wedir ein bod ni yn cael yr hyn a addawodd Duw, ac o'r hyn y mae i ni hawl trwy'r adde­wid honno: Ioan 3. 36. Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol.

Q. Pa beth a wnaeth dy Dadau-bedydd a'ch Fammau-bedydd yr amter hwnnw trosot ti?

A. Hwy a addawsant. ac a addunasant dri pheth yn fy Enw. Yn gyntaf, ymwr­thod o honof a Diafol, ac a'i holl wei­thredoedd, a rhodres a gorwagedd y Byd anwir, a phechadurus chwantau y cnawd. Yn au, bod i mi gredu holl Byngciau Ffydd Christ. Ac yn drydydd, cadw o ho­nof wynfydedig ewyllys Duw a'i orchym­mynion, a rhodio yn yr unrhyw holl ddy­ddiau fy mywyd.

Q. A pha beth yr ych chwi yn rhwym i ym­wrthod?

A. A'r tri gelyn ysprydol, y rhai a rwy­strant fy nedwyddwch yn y byd hwn, a'm gwyn­fyd tragwyddol yn y byd a ddaw.

Q. Pa rai ydynt?

A. Y Cythraul, y Byd, a'r Cnawd.

Q. Pa beth ydyw ymwrthod a hwynt?

A. Ymwrthod a hwynt, yw eu cashau nhw yn fy nghalon oddimewn yn hollawl, ac ymadel a hwynt yn fy ymarweddiad oddiallan, fel na ddilynwyf hwynt ac n'am tywyser ganddynt.

Q. Beth ydyw 'r Cythraul?

A. Y cythraul yw enw yr holl Angylion coll­edig a gwympodd (a), o ba rai y mae un yn dywysog (b): (a) 2 Pet. 2. 4. Nid arbedodd Duw yr Angylion a bechasant, eithr ef a'u taflodd hwynt i Uffern. (b) Mat. 12. 24, 27. Beelzebub pennaeth y Cythreuliaid Mat. 25. 41. Diafol a'i angylion.

Q Paham y gofynnir gennych yn y lle cyntaf ymwrthod o honoch a Diafol?

A. O herwydd ei fod ef yn Elyn anghym­modol (a) i'n Hiachawdwr (b), ac yn Elyn tra-phe­ryglus i ninnau (c). (a) 2 Cor. 6. 15. Pa gysson­deb sydd rhwng Christ a Belial? (b) Dat. 12. 7. Bu ryfel yn y Nef, Michael a'i Angylion a ryfelasant yn erbyn y Ddraig; a'r ddraig a ryfe­lodd, a'i hangylion hithau. (c) 1 Pet. 5. 8. Y mae eich gwrthwynebwr Diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddiamgylch, gan geisio y neb a allo ei lyngcu.

Q. Pa beth y mae gweithredoedd Diafol yn ei arwyddocau?

A. Pob Pechod: 1 Ioan 3. 8. Fe ymddango­sodd Mab Duw, fel y dattodai weithredoedd Diafol.

Q. Paham y gelwir Pechod yn weithredoedd Diafol?

A. O ran iddo ef bechu yn gyntaf (a), a chwedi fe a hudodd ddynion i bechu (b), ac y mae ef beunydd yn temtio i bechod (c): (a) 1 Ioan. 3. 8. Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod o Ddiafol y mae: o ran y mae Diafol yn pechu o'r dechreuad. (b) 2 Cor. 11. 3. Fe dwyllodd y sarph Efa trwy ei chyfrwystra. (c) Ephes. 6. 11, 12. Gwisgwch oll-Arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion Diafol. Oblegid nid [Page 6] yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn drygau ysprydol, &c.

Q. Pa beth yw 'r ail Gelyn yr ych chwii ym­wrthod ag ef?

A. Y Byd anwir hwn (a), gyd a'i holl rodres a'i wagedd: (a) Gal. 1. 4. yr hwn a'i rhoddes e'i hun tros ein pechodau, fel i'n gwaredei ni oddiwrth y byd drwg presennol yma.

Q. Paham y gelwch ef, Y Byd drygionus hwn?

A. Nid oblegid unrhyw ddrwg yn y byd ei hun; o ran fe a'i gwnaed ef yn dda iawn (a): ond o herwydd y drygioni y mae yn ein tem­tio ni i'w wneud (b); a'r drwg ddeufnydd y mae dynion annuwiol yn ei wneuthur o ho­naw: (a) Gen. 1. 31. gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd. (b) 1 Ioan 2. 15. na cherwch y Byd, na'r pethau sy yn y byd: o châr neb y Byd, nid yw cariad y Tad ynddo ef. Iaco 4. 1, 2, 4.

Q. Beth yw meddwl y gair Rhodres?

A. Anrhydedd a Gogoniant bydol. Act. 25. 23. A daeth Agrippa a rhwysg mawr.

Q. Beth ydyw ymwrthod â rhodres y Byd hwn?

A. Ymgadw yw oddiwrth bob anghymme­drol ddymuniad ar ôl Anrhydedd a Gogoniant y Byd, ac oddiwrth bob balchder ac ymffrôst yn yr hyn y mae 'r un o honom yn ei fwynhau: 1 Ioan 2. 16. balchder y Bywyd nid yw o'r Tad, eithr o'r byd y mae. Phil. 2. 3. Na wneler dim drwy wâg-ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, gan dybied ei gilydd yn well na chwi eich hunain.

Q. Beth yr ych chwi yn ei ddeall wrth Wa­gedd y byd hwn, â pha un y mae 'n rhaid i chwi ymwrthod?

A. Cybydd-dod (a), a elwir chwant y llygaid, 1 Ioan 2. 16. (a) Eccle. 4. 8. Mi a welais wa­gedd tan yr haul; y mae un yn unig ac heb ail, ie, nid oes iddo na mab na brawd: ac etto nid oes diwedd a'r ei lafur oll, ie ni chaiff ei lygad ddigon o gyfoeth, &c. 1 Tim. 6. 9, 10. Y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, &c.

Q. Beth ydyw 'r trydydd Gelyn yr ych chwi i ymwrthod ag ef?

A. Pechadurus chwantau y cnawd. 1 Ioan. 2. 16.

Q. Beth yr ych chwi yn ei ddeall wrth be­chadurus chwant au y cnawd?

A. Pob plesser anghyfreithlon yr ym ni yn dueddol ac yn naturiol i'w ddilyn; megis Aflendid, Meddw-dod a'r cyffelib. Gal. 5. 19, 21. Amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai yw, tor-priodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, &c.

Q. Beth yw 'r ail ddyledswydd yr oeddych chwi wrth ych bedyddio, yn rhwym i'w chy­flawni?

A. I gredu holl byngciau Ffydd Ghrist. Am y rhain edrychwch y Credo.

Q. Beth yw 'r drydedd ddyledswydd a ofyn­wyd gennych chwi yr amser hwnnw?

A. Cadw o honof wynfydedig ewyllys Duw a'i Orchymmynion, a rhodio yn yr unrhyw holl ddy­ddiau fy mywyd.

[Page 8]Am hyn edrychwch y Deg Gorchym­myn.

Q Onid wyt ti yn tybied dy fod yn rhwym i gredu ac i wneuthur megis ac yr addaw­lant hwy drosot ti?

A. Ydwyf yn wir, a thrwy nerth Duw felly y gwnaf, ac yr wy fi yn mawr ddiolch i'm Tad nefol, am iddo fy ngalw ir cyfriw stat Iechydwriaeth trwy Iesu Ghrist ein Hiach­awdwr: ac mi attolygai i Dduw roddi i mi ei rad, modd y gallwyf aros yn yr un­rhyw holl ddyddiau fy einioes.

Q. Paham yr ych chwi yn eich tybied ych hun yn rhwymedig i gredu a gwneuthyr fel hyn y pethau a addawsant hwy drosoch chwi?

A. Oblegid yr hyn a addawyd y pryd hynny, oedd yn fy enw i, ac a wnaed gan feichiau drosof fi.

Q. A ydych chwi yn llwyr-ymroi ynoch ych hun i wneuthur yn ol yr hyn a addawsant hwy drosoch chwi?

A. Ydwyf, trwy nerth Duw, neu oni wnaf, mae'n rhaid i mi ddisgwil colli y ben­dithion perthynol i'r stât honno, y cefais i fy ngalw a'm cynnwys iddi y pryd hynny. Heb. 2. 3. I'a fodd y diangwn, os esgeulusswn Iechyd­wriaeth gymmaint?

Q. Beth yw 'r srat honno?

A. Stât Iechydwriaeth.

Q. Paham y gelwch hi yn stât Iechydwriaeth?

A. Oblegid bod gennyf yn y stât honno yr holl foddion angenrheidiol i Iechydwriaeth, Rhus. 1. 16. Gallu Duw yw 'r Efengyl i Iechyd­wriaeth i bob un sydd yn credu, 2 Tim 3. 15. Er yn fachgen yr wy ti yn gwybod yr Scrythur lân, yr hon [Page 9] sydd abl i'th wneuthur di yn ddoeth i Iechy­dwriaeth.

Q. Pa fodd y daethoch chwi i'r Stât honno?

A. Ein Tad nefol a'm galwodd i iddi trwy Ghrist, ac a roddes i mi hawl ynddi trwy 'r Bedydd. Tit. 3. 5. Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei dragaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth ac adnewyddiad yr Yspryd glân.

Q. Pa fodd y tybiwch y byddwch abl i wneu­thur, ac i ddyfal-barhau yn cyflawni yr hyn a ofynnid gennych y pryd hynny?

A. Mae fy hyder am goglyd ar râs Duw (a) im' rhagflaenu (b), im' cynnorthwyo (c), ac im' cadarnhau (d) i ynddi: 2 Cor. 3. 5. Nid o herwydd ein bod yn ddigonol o honom ein hunain, i feddwl dim megis o honom ein hunain, eithr ein digonedd ni sydd o Dduw. Phil. 2. 13. Duw yw 'r hwn sydd yn gweithio ynoch chwi (b) ewyllysio (c) a gweithredu. (d) Phil. 1. 6. Gan fod yn hy­derus yn hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch chwi waith da, ei orphen hyd ddydd Iesu Ghrist. &c.

Q. Pa fodd yr ych chwi yn tybied y cewch chwi ras Duw?

A. Myfi a weddiaf ar Dduw am dano, Luc 11. 9, 10, 13. Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisi­wch, a chwi a gewch; curwch a fe agorir i chwi, &c. Os chwy-chwi, y rhai ydych ddrwg, a sedr­wch roi rhoddion da i'ch plant chwi; pa saint mwy y rhydd eich Tâd o'r Nef yr yspryd glân i'r rhai a osynno ganddo?

RHAN II. Am y Credo.

Q. BEth oedd yr ail Ddyledswydd a addawyd ei chyflawni yn ych Enw chwi?

A. Bod i mi gredu holl Byngciau Ffydd Ghrist.

Q. Beth yr ych chwi yn ei feddwl wrth y Ffydd Ghristnogawl?

A. Yr Athrawiaeth a ddatcuddiodd ac a gy­hoeddodd Christ, ac sydd gynnwysedig yn y Scrythur Iân. Act. 24. 24. Phoelix a wranda­wodd Paul ynghylch y Ffydd yng Ghrist, neu'r A­thrawiaeth Ghristnogol.

Q. Beth yr ych chwi yn ei feddwl wrth Byng­ciau 'r Ffydd Ghristnogol?

A. Rwy 'n meddwl trwy hynny gyfryw Byngciau o'r Athrawiaeth Ghristnogol, ac sydd fwyaf angenrheidiol eu credu, y rhai a elwir Gwyddorion ymadroddion Christ. Heb. 6. 1.

Q. P'le mae 'r Pyngciau rheini wedi eu cyn­nwys yn fyrr?

A. Ynn Ghredo yr Apostolion.

Q. Paham y gelwir ef Credo 'r Apostolion?

A. Naill ai o herwydd Athrawiaeth yr Apostolion a gynhwysir ynddo, neu nid hwy­rach oblegid yn y rhan fwyaf o hono ei wneud ef yn amser yr Apostolion, neu o amgylch hyn­ny, fel ac yr ym yn darllen am Ffurf o ymadro­ddion iachus, 2 Tim. 1 13.

Q. Adrodd i mi fannau dy Ffydd?

A.

Y Credo. Credaf yn Nuw Dad, oll-gyfoethawg, Creawdwr Nef a Daiar. Ac yn Iesu Ghrist ei un Mab ef, ein Harglwydd ni: yr hwn a gaed trwy'r yspryd glan; a aned o Fair forwyn, a ddioddefodd dan Pontius Pilatus, a groeshoeliwyd, a fu farw ac a gladdwyd, a ddisgynnodd i Uffern; y trydydd dydd y cyfododd o feirw, a esgyn­nodd i'r Nef; ac y mae 'n eistedd a'r dde­heu-law Duw Tad oll-gyfoethawg: Oddi­yno y daw i farnu byw a meirw. Credaf yn yr yspryd glan, yr Eglwys lan gatho­lic, Cymmun y Sainct; Maddeuant pe­chodau; Cyfodiad y cnawd, a'r Bywyd tragwyddol, Amên.

Q. Pa beth yr wyt ti yn ei ddysgu yn ben­naf yn y Pyngciau hyn o'th Ffydd?

A. Yn gyntaf, yr wyf yn dysgu credu yn Nuw Dad, yr hwn a'm gwnaeth i a'r holl fyd. Yn ail, yr wyf yn dysgu credu yn Nuw Fab, yr hwn a'm prynodd i a phob rhyw ddyn. Yn drydydd, yr wyf yn dysgu credu yn Nuw yspryd glan, yr hwn sydd i'm sancteiddio i a holl etholedig bobl Dduw.

Q. Beth yr ych chwi yn ei ddal sulw arno allan o'r tair rhan gwahanredol hyn yn y Credo?

A.

  • 1. Rwy 'n dal sulw ar wahaniaeth per­sonau; y Tad, y Mab, a'r yspryd glân.
  • 2. Ar Undod hanfod neu'r unrhyw naturia­eth; y mae 'r Tad yn Dduw, y Mab yn Dduw, a'r yspryd glân yn Dduw.
  • [Page 12]3. Ar Ragoriaeth swyddau a gweithredia­dau; y Tad sy'n creu, y Mab sy'n prynu, a'r ys­pryd glân sy'n sancteiddio.

Pwngc 1. Credaf yn Nuw. Dâd. Holl-gy­foethawg. Creawdwr Nef a Daiar.

Q. Beth y mae y rhan gyntaf o'r Credo yn crybwyll am dano ac yn ei ddyscu in i.

A. Am Dduw'r Tâd, a'i waith ef yn gwneu­thur y Byd.

Q. Pa beth ydyw Duw?

A. Ysbryd anfeidrol (a), tragwyddol (b), nas gellir ei amgyffred ydyw Duw (c), a chan­ddo bob perffeithrwydd ynddo ei hun ac o hono ei hun (d). (a) 1 Bren. 8. 27. Wele, y Nefoedd, a Nefoedd y Nefoedd ni allant dy gyn­nwys. (b) Ps. 90. 2. O dragwyddoldeb hyd dra­gwyddoldeb, ti wyt Dduw. (c) Job 11. 7. A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw? A elli di gael yr Holl alluog hyd berffeithrwydd? (d) Ex. 3. 14. Ydwyf yr hyn ydwyf.

Q. Am ba achos y dywedir fod Duw yn Dâd?

A.

  • 1. Am iddo greu pob peth. 1 Cor. 8. 6.
  • 2. Fel ac y mae yn Dâd i Ghrist. 2 Cor. 1. 3. Bendigedig syddo Duw a Thâd ein Harglwydd ni Iesu Ghrist.

Q. Beth yr ych chwi yn ei ddirnad wrth y gair Holl-gyfoethawg?

A. 1. Rwy 'n deall fod gan Dduw bob nerth a gallu ynddo ei hun, heb ei fenthyccio o­ddiar neb arall (a), a bod pob nerth a gallu yn dyfod oddiwrtho ef (b). (a) Ps. 62. 11. eiddo Duw yw cadernid. (b) 2 Cron. 20. 12. Oh ein Duw ni, nid oes gennym ni nerth—ond arnat ti y mae ein Llygaid.

2. Ei fod ef yn Alluog i wneuthur pob peth. Matth. 19. 26. Gyd a Duw pob peth sydd bossibl.

Q. Onid oes rhai pethau yn amhossibl i Dduw?

A. Nac oes dim, ond cyfriw bethau ac sydd ag anghydfod rhyng­ddynt a Natur Duw, neu'r fath anghydfod ynthynt eu hunain fal nad all­ant fod o'r unwaith.

Q. Pa riw bethau sydd ag anghydfod rhyng­ddynt a Natur Duw?

A.

  • 1. Y cyfryw bethau ac sydd ddrwg. Hab. 1. 13. Nis—gelli edrych ar ddrwg. Tit. 1. 2. Y digelwyddog Dduw.
  • 2, Y cyfryw bethau ac sy'n cynnwys gwendid, megis bod yn anwybodus neu'n farwol. Heb. 4. 13. Nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef: eithr pob peth sydd yn noeth, ac yn agored i'w lygaid ef, am yr hwn yr ydym yn sôn.

Q. Pa riw bethau sydd ag anghydfod ynthynt eu hunain?

A. Y cyfryw a rhain ynt; sef, bod ac heb fod yn yr un amser; bod yn dammaid o fara, ac yn gorph Christ; bod yn un corph neillduol, ac etto bod yn Llawer o gyrph, megis y dywedant, fod Corph Christ yn yr Offeren Babaidd; neu fod Corph Christ yn y Nef, ac etto yn yr un amser a'r y ddaiar.

Q. Beth y mae'r Nef ar Ddaiar yn ei arwy­docau?

A. Y Byd a'r hyn oll sydd ynddo. Gen. 1. 1. Yn y dechreuad y creawdd Duw y Nefoedd a'r ddaiar. Act. 17. 24.

Q. O ba beth y gwnaeth Duw y Byd?

A. Allan o ddim. Heb. 11. 3. Nid o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir.

Q. Pa fodd yr ydys yn ymddiffyn ac yn cyn­nal y Byd?

A. Trwy 'r un gallu ac y gwnaethpwyd ef gan Dduw. Neh. 9. 6. Ti a wnaethost y Ne­foedd, Nofoedd y Nefoedd a'u holl luoedd hwynt: y ddaiar a'r hyn oll sydd arni, y moroedd a'r hyn oll sydd ynddynt a thi sydd yn eu cynnal hwynt oll.

Pwngc 2. Ac yn Iesu Ghrist. Ei un Mab ef. Ein Har­glwydd ni.

Q. Am ba beth y mae 'r ail rhan o'r Credo yn crybwyll ac yn traethu?

A. Am Dduw'r Mab, a gwaith ei brynedi­gaeth.

Q. Beth a sonir am dano yn y rhan yma?

A. 1. Am Berson ein Prynwr. 2. am ei ostyng­eiddrwydd. Ac yn 3. am ei dderchafiad.

Q. Pa fodd y darlunir ein Gwaredwr?

A. Wrth ei enwau a'i garennydd.

Q. Yn ôl pa enwau y gelwir Mab Duw yn y Scrythur?

A. Fe ai gelwir yn Air, yn Iesu, ac yn Ghrist

Q. Pa fodd y mae 'r enw Gair yn perthyn iddo?

A. Y mae'n perthyn iddo, fel ac yr oedd ef yn bod, cyn ei ddyfod i'r byd. Ioan 1. 1. Yn dechreuad yr oedd y Gair. Col. 1 17. y mae ef cyn pob peth.

Q. O herwydd paham y rhoddwyd yr enw Gair iddo ef?

A. Fel ac yr oedd ef yn dyfod oddiwrth Dduw (a), ac megis trwyddo ef yr eglurodd y Tad ei ewyllys i'r Byd. (b), (a) Ioan 16. 28. Mi a ddaethym allan oddiwrth y Tâd. (b) Ioan 17. 8. Y geiriau a roddaist i mi, a roddais i­ddynt hwy.

Q. Pa fodd y mae'r enw Iesu yn perthyn iddo?

A. Ei enw priod ef ydoedd, yr hwn a rodd­wyd iddo trwy orchymmyn Duw (a); ac wrth yr hwn yr adwaenyd ef ym mhlith dy­nion (b). (a) Matth. 1. 21. Ti elwi ei Enw ef Iesu. (b) Ioan 9. 11. Dyn a elwir Iesu, Luc. 2. 21.

Q. Beth y mae 'r Enw Iesu yn ei arwy­ddoccau?

A. Y mae'n arwyddoccau Iachawdwr.

Q. Paham y galwyd ef Iesu?

A. Oblegid ei fod ef i waredu ei bobl o­ddiwrth eu pechodau. Matth, 1. 21. Gwir yw 'r gair ac yn haeddu pob derbyniad: ddyfod Christ Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid. 1 Tim. 1. 15.

Q. Pa fodd y mae 'r Enw Christ yn perthyn iddo?

A. Fel ac yr oedd ef yn Fessias, neu 'r Christ wedi prophwydo am dano tan yr hên Desta­ment. Dan. 9. 25, 26. Y Blaenor Messias,—Y Messias a leddir, ond nid o'i achos ei hun. Ioan. 20. 31. Y pethau hyn a scrifennwyd, fel y credoch chwi mai 'r Iesu yw y Christ.

Q. Beth y mae 'r gair Christ yn ei arwy­ddoccau?

A. Yr un yw a 'r enw Messias, ac y mae 'n arwyddoccau un wedi ei eneinio, Ioan. 1. 41. Y Messias, Yr hyn o'i ddeongl yw, y Christ, neu 'r Eneiniog: fel ac y mae ar ochr y ddalen, yn y Bibl.

Q. Paham y galwyd ef y Christ neu 'r Enei­niog?

A. Obegid ei fod ef yn ysprydol i gyflaw­ni y swyddan perthynol i Eneiniog yr Ar­glwydd (a), perthynol i Frenhinoedd (b), i O­ffeiriaid (c), ac i Brophwydi (d). (a) Ps. 105. [Page 16] 15. (b) 1. Bren. 1. 34. (c) Ex. 40. 13. (d) 1. Bren. 19. 16.

Q. Pa fodd yr oedd ef yn Frenin?

A. Fel ac yr oedd ef i lywodraethu ei Eglwys, Eph. 1. 22. Efe a ddarostyngodd bob peth tan ei draed ef: ac a'i rhoddes ef yn ben, uwch law pob peth i'r Eglwys.

Q. Pa fodd yr oedd ef yn Offeiriad?

A. Fel ac ye darfu iddo wneuthur Cymmod (a), y mae 'n eiriol dros, ac yn bendithio ei E­glwys. (a) Rhuf. 5. 11. Gorfoleddu yr ydym yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Ghrist, trwy 'r hwn yr awr-hon y derbyniasom y Cymmod. 1. Ioan 2, 2. (b) Heb. 7. 25. Y mae efe yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy. (c) Act. 3. 26. Duw gwedi cyfodi ei fab Iesu, a'i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf, gan eich bendithio chwi, trwy droi pob un o honoch y­maith oddiwrth eich drygioni.

Q. Pa fodd yr oedd ef yn Brophwyd?

A. Fel ac yr oedd ef i ddysgu ei Eglwys, yr hyn a wnaeth ef yn ei berson ei hun (a), a thrwy ei yspryd (b), trwy ei air (c), a'i (d) weinidogaeth. (a) Es. 61. 1. Yr Arglwydd am heneiniodd i efengylu i'r rhai llaryaidd, &c. Luc. 4. 18. (b) Ioan 14. 26. Y Diddanydd, yr y­spryd glan, yr hwn a enfyn y Tâd yn fy Enw i, efe a ddysg i chwi‘yr holl bethau, (c) 1 Pet. 1. 25. Gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd, a hwn yw 'r gair trwy 'r efengyl a bregethwyd i chwi. (d) Matth. 28. 19, 20. Ewch gan hynny, a dysgwch yr holl Genhedloedd, gan ddysgu iddynt gadw pob peth a'r a orchymmynais i chwi. 2 Cor. 5. 18. 19, 20. Ephes. 4. 11. Gal. 6. 6.

Q. Pa fodd yr eneiniwyd Christ?

A. Fe eneiniwyd ef a'r Yspryd glân (a), Yr hwn ni dderbyniodd ef wrth fesur (b). (a) Act. 10. 38. Eneiniodd Duw Iesu o Nazareth a'r yspryd glân (b) Ioan 3. 34. Nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr yspryd. Col. 1. 19.

Q. Pa rai yw 'r perthynaseu, trwy ba rai y darlunir Christ yn y Credo?

A. Y mae dwy o honynt: un sy 'n perthyn i Dduw 'r Tad, fel y mae ef yn unig Fab iddo; a'r llall yn perthyn i ni, megis ein Harglwydd ni.

Q. Pa fodd y mae Christ yn unig Fab i Dduw?

A. Megis y mae 'n cael ei hanfod oddi­wrth y Tâd, Heb. 1. 4, 5. Wedi ei wneuthur o hynny yn well na'r Angylion; o gymmaint ac yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol nâ hwynt hwy; Canys wrth bwy o'r Angylion y dywedodd efe un amser, Fy Mab ydwyt ti, my'fi heddyw a'th genhed­lais di.

Q. Pa fodd y dywedir fod Christ yn Ar­glwydd i ni?

A. 1. Trwy Greedigaeth. Ioan. 1. 3. Trwy­ddo ef y gwnaethpwyd pob peth. Col. 1. 15, 16. 2. Trwy Brynedigaeth a phwrcas. 1 Pet. 1. 18, 19. Nid a phethau llygredig megis aur neu arian i'ch prynwyd,—Eithr a gwerthsawr waed Christ, 1 Cor. 8. 6. 1 Cor. 6. 20.

Q. Beth yr ych chwi yn ei ddal sylw arno yng ostyngeiddrwydd Christ?

A. Ei Gnawdoliaeth a 'i Ddioddefaint.

Q. Pa fodd y gwnaed Christ y gair tragwy­ddol yn Ddyn?

A. Trwy uno natur dyn a natur Duw mewn un person. Ioan. 1. 14. Y gair a wnaethpwyd yn gnawd. Heb. 2. 14, 16.

Pwngc 3. Yr hwn a gaed trwv r Yspryd glan. A aned o Fair for­wyn.

Q. Pa fodd y dygpwyd hyn i ben?

A. Trwy alluog weithrediad yr Yspryd glân. Luc. 1. 35. Yr Yspryd glân a ddaw arnat ti, a north y Goruchaf ath gysgoda di?

Q. Paham y furfiwyd ac yr ymddygwyd Christ fel hyn trwy nerth yr Yspryd glàn, ac nid trwy foddion cyffreddin Cenhedliad?

A. Fel y gallai gymmeryd ein natur ni ar­no, heb gyfrannu o'i llygredigaeth hi. Luc. 1. 35. Am hynny y peth sanctaidd a aner o honot ti a elwir yn Fab Duw. Heb. 10. 5.

Q. O b'le y cafodd ef ei sylwedd corpho­rol?

A. O gorph y forwyn Fair; o herwydd hyn­ny y dywedir mai hâd y wraig yw, Gen. 3. 15. a'i wneuthur ef o wraig, Gal. 4. 4.

Q. Paham y ganed Christ o forwyn?

A. 1. Oblegid ei sancteiddrwydd, Luc. 1. 35. Y peth sanctaidd a aner o honot ti.

2. Er cyflaw ni y brophwydoliaeth, Es. 7. 14. Yr Arglwydd ei hun a ddyry i chwi arwydd: Wele mo­rwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar Fab. Matth. 1. 33. 3. I ddangos gallu Duw Luc. 1. 35. Nerth y Go­ruchaf ath gysgoda di, am hynny hefyd y peth san­ctaidd a aner o honot ti, a elwir yn Fab Duw.

Q. Paham y bu i Ghrist fel hyn ei wneyd yn ddyn?

A. I'w wneuthur ef yn gymmwys i gy fiawni yn hollawl ei swydd, megis Cyfryngwr; fel felly, y gallai farw (a), a chan fod o'r un natur a'r rhai y hu efe farw drostynt, y gallai waredu holl ddynol riw (b). (a) [Page 19] Heb. 2. 9. Fe a wnaed yr Iesu o ychydig yn is na'r Angylion, o herwydd dioddef marwolaeth, Ac Adnod 17. (b) 1 Tim. 2. 5, 6.

Pwngc 4 A ddi­oddelodd. Tan Pon­tius Pila­tus. A groes­hoeliwyd. A fu farw. Ac a gla­ddwyd. A ddisgyn­nodd i Uffern.

Q. Am ba achos y bu i Ghrist ddioddef mar­wolaeth?

A. Fel y gallai fod yn Aberth (a) a thrwy dywallt ei waed, y gallai wneuthur cymmod tros bechod (b). (a) Heb. 9. 26. Efe a dde­lëūodd bechod trwy ei aberth ei hun. (b) 1 Ioan 2. 2. Efe yw 'r iawn tros ein pechodau.

Q. Paham y dywedir i Ghrist ddioddef tan Pontius Pilatus?

A. I arwyddoccau yr amser y bu ef farw, a thrwy hynny gyflawni y prophwydoliaethau am dano ef. Act. 3. 18. Y pethau a ragfynegodd Duw trwy eneu ei Brophwydi, y dioddefai Christ, a gyslaw­nodd efe fel hyn.

Q. Pwy oedd Pontius Pilatus?

A. Rhaglaw Judaea tan Tiberius Ymmerawdr Rhufain. Luc. 3. 1. Matth. 27. 2.

Q. Beth oedd y farwolaeth a ddioddefodd ein Hiachawdwr drosom ni?

A. Angeu 'r Groes. Matth. 27. 35.

Q. Beth ydoedd Angeu 'r Groes?

A. 1. Tost iawn ydoedd oblegid y boen: o herwydd hynny y dywedir i'n Hiachawdwr ddioddeu 'r groes, Heb. 12. 2.

2. Yr oedd yn wradw yddus; ac yn gospe­digaeth a roddid i'r drwg-weithredwyr gwae­laf. Matth. 27. 38. Yna y croeshoeliwyd gyd ag ef ddau leidr; am hynny y dywedir iddo ddiystyru 'r gwradwydd, Heb. 12. 2.

[Page 20]3. Fe a'i cyfrifid hi yn farwolaeth felldigedig, Gal. 3. 13. Gan ei wneuthur yn felldith trosom, canys y mae 'n scrifennedig, melltigedig yw pob un sydd ynghrog ar bren. Deut. 21. 23.

Q. Paham y dywedir i'n Hiachawdwr farw, wedi ei groeshoelio?

A. I ddangos bod ei gorph, pan ydoedd yn fyw, wedi ei wir uno a'i enaid ef. Luc. 23. 46. Efe a drengodd.

Q. Paham y dywedir gladdu ein Hiachaw­dwr wedi ei farw?

A. 1. I ddangos sicrwydd ei farwolaeth ef. Ioan. 19. 40, 41, 42. Yn y fangre lle y croeshoeliasid ef, Yr ydoedd bedd, yno y rhodda­sant yr Iesu.

2. I ddangos claddu corph ein Hiachawdwr yn weddus, pan nad oeddid yn arfer o gladdu eraill a groeshoeliesid.

3. I dystiolaethu y gwaelder diystyraf, Ef. 53. 9. Efe a wnaeth ei sedd gyd a'r anwir, &c.

4. I ddwyn tystiolaeth o wirionedd ei adgy­fodiad. Act. 13. 29, 30. Hwy a'i desgynnasant ef oddiar y pren, ac a'i dodasant mewn bedd, eithr Duw a'i cyfoddodd ef oddiwrth y meirw.

Q. Beth a ddaeth o enaid Christ, wedi ymadael a'r corph?

A. Fe ddywedir ei fod ef yn Uffern (a), ei fyned i Baradwys (b); neu 'r drydedd Nef (c). (a) Act. 2. 27. 31. Ni adewi fy enaid yn Uffern. (b)Luc. 23. 43. Heddyw y byddi gyd a mi ym Mha­radwys. (c) 2 Cor. 12. 2, 3, 4,

Q. Beth y mae Uffern yn ei arwyddoccau yma?

A. Y mae'n anwyddoccau cyflwr o wahani­aeth rhwng yr enaid a'r Corph, Act. 2. 27. Ni adewi fy enaid yn Uffern, ac mi oddefi (i'th sanct weled llygredigaeth, hynny yw, Ni chai enaid a chorph Christ fod mewn cyflwr o wahani­aeth cyhyd; eithr cyn llygru o gorph Christ, y gallai ei Enaid a'i Gorph gael eu cyssylltu drachefn.

Q. Paham nad oedd i'n Hiachawdwr barhau yn y cyflwr hwnnw?

A. Oblegid, nad oedd i farwolaeth gael lly­wodraethu arno, Rhuf. 6. 9.

Q. Onid eill Uffern gael ei chymmeryd am stât y damnedig?

A. Fe fu Hen opiniwn gynt, i Enaid Christ y pryd hynny ddisgyn i Uffern, i orfoleddu ar Ddiafol a'i Angylion.

Q. Beth yr ych chwi yn ei weled yn Nyrcha­fiad ein Hiachawdwr?

A. 1. Ei Adgyfodiad, 2 Ei Esgy nniad, 3. Ei Ogoneddiad, 4. Ei ddyfodiad i farnu.

Q. Beth yw 'r rhan gyntaf?

A. Ei Adgyfodiad ef.

Q. Beth yw Adgyfodiad Christ?

A. Ail undeb neu gysswllt yr un-rhiw enaid a'r un-rhiw Gorph. Luc. 24. 39. Edrychwh ar fy nwylo a'm traed, mai my fi sy hun ydyw.

Pwngc 5. Y trydydd dydd y cy­fododd o feirw.

Q. Pa bryd y cyfododd ein Harglwydd?

A. Y trydydd dydd ar ôl iddo farw, yr hwn y pryd hynny oedd y dydd cyntaf o'r wythnos, ac o hynny allan a alwyd yn ddydd yr Arglwydd, Dat. 1. 10.

Q. Paham y cyfododd Christ y trydydd dydd?

A. 1. I gael cyflawni yr hyn a ddarfuaseu i'r scrythur (a) ac yntef ei hun i ragfynegi (b). (a) Ps. 16. 10. Ni adewi i'th sanct weled llygredigaeth (b) Matth. 16. 21. O hynny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i'w ddisgyblion, fod yn rhaid iddo fyned i Gaer-Salem,—a'i lâdd, a chyfodi y trydydd dydd.

2. Fel na lygrai ei gorph ef, (a) yr hyn a wnae­thai yn ôl arfer natur, pe buasai yn gorwedd yn hwy yn y bedd (b). (a) Ps. 16. 10. (b) Ioan 11. 39. Y mae ef [Lazarus] weithian yn drewi, o herwydd y mae ef yn farw er ys pedwar diwr­nod.

Q. Beth yw tueddiad ac effaith naturiol y pwngc hwn ynghylch Adgyfoddiad Christ?

A. 1. Y mae 'n cadarnhau yr hyn oll a ddy­wedodd, a wnaeth, ac a gymmerodd ef ar­no, Rhuf. 8. 34. ie, yn hytrach yr hwn a gyfod­wyd hefyd.

2. Y mae 'n wystl ac yn siccrwydd o 'n had­gyfodiad ninnau, Rhuf. 8. 11. Yr hwn a gy­fododd Christ o feirw, a fywoccâ [a fwyheiff] hefyd eich cyrph marwol chwi, &c.

3. Y mae 'n hollawl amlygiad o Fuddugoli­aeth ein Hiachawdwr, Rhuf. 6. 9. Nid yw Christ, yr hwn a gyfodwyd oddiwrth y meirw, yn marw mwyach, nid arglwyddiaetha marwolaeth arno mwy­ach.

Q. Beth yw 'r ail rhan yn Nyrchafiad Christ?

A. Ei Esgynniad.

Pwngc 6. A esgyn­nodd i'r Nesoedd. Ac y mae yn eistedd a'r dde­heu-law Duw. Holl-gy­foethog.

Q. Ym mha fodd yr esgynnodd ein Hiachaw­dwr i'r Nefoedd?

A. Efe a esgynnodd yn gorphorol; trwy 'r wybr, yn weledig (a), ac yn orfoleddus (b). (a) Act. 1. 9. A hwynthwy yn edrych, efe a ddyrchafwyd i fynu. (b) Ephes. 4. 8. Pan ddyrchafodd i'r u­chelder; efe a gaethiwodd gaethiwed.

Q. Beth ydyw 'r drydedd ran?

A. Ei Ogoneddiad, neu ei Eisteddiad ar ddeheu-law Duw.

Q. Oedd Christ i drigo yn gorphorol yn y Nef?

A. Oedd, hyd ddiwedd y byd, Act. 3. 21. Yr hwn sydd raid i'r Nef ei dderbyn hyd amser ad­feriad pob peth.

Q. Pa fodd y deellir yr ymadrodd hwn, de­heu-law Duw?

A. Nid yn ôl y llythyren, oblegid Yspryd yw Duw (a), ac nid oes ganddo na chorph nac ae­lodau (b). (a) Ioan 4. 24. (b) Luc. 24. 39. Nid oes gan yspryd gnawd ac esgyrn.

Q. Beth y mae deheu-law Duw yn ei a­rwyddoccau mewn dull ymadrodd dirgele­dic?

A. 1. Y mae 'n arwyddoccau Gallu. Luc. 22. 69. Yn ôl hyn y bydd mab y dyn yn eistedd ar ddeheu-law gallu Duw.

2. Mawredd. Heb. 1. 3, 4. Efe a eistedd­odd ar ddeheu-law y mawredd yn y goruwch-leoedd: H'edi ei wneuthur o hynny yn well na'r Angylion, &c.

3. Goruchafiaeth. Act. 2. 34, 35. Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, eistedd ar fy ne­heu-law, Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfaingc i'th draed.

Q. Beth y mae eistedd ar ddeheu-law Duw yn ei arwyddoccau?

A. Y mae 'n arwyddoccau cyflawn feddi­ant o'r gallu, o'r mawredd ac o'r goruchafi­aeth rheini, Heb. 10. 12. Hwn wedi offrymmu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheu-law Duw.

Q. Beth y mae Christ yn ei wneud ar dde­heu-law Duw?

A. Y mae yn ymddangos yng wydd Duw dro­som ni (a), megis ein Cyfryngwr (b), ein Ei­riolwr (c), a'n Dadleuwr (d). (a) Heb. 9. 24. Fe aeth Christ i'r Nef ei hun, i ymddangos yn awr ger bron Duw trosom ni. (b) 1 Tim. 2. 5. (c) Rhuf. 8. 34. (d) 1 Ioan 2. 1.

Q. Beth yw sylfaen ei gyfryngdod ef?

A. 1. Ei fod ef yn Dduw (a)—Ddyn (b), cyfrannog o matur y ddau▪ (a) Heb. 4. 14. Y mae i ni Arch-offeiriad mawr, Iesu Mab Duw. 1 Ioan 1. 1. A Duw oedd y Gair. (b) 1 Tim. 2. 5. Un cyfryngwr sydd rhwng Duw a dy­nion, y Dyn Christ Iesu.

2. Ei fod ef yn dadleu drosom drwy rin­wedd ac haeddedigaeth ei waed ei hun. Heb. 9. 12. Trwy ei waed ei hun yr aeth efe unwaith i mewn i'r Cyssegr, gan gael i ni dragwyddol ryddhâd.

Q. Ai Christ yw 'r unig Gyfryngwr?

A. Un Cyfryngwr sydd rhwng▪ Duw a dynion, y Dyn Christ Iesu. 1 Tim. 2. 5.

Q. Paham y mae Christ yn unig Gyfryng­wr?

A. 1. Oblegid ei fod ef yn unig yn gyfran­nog o natur Duw a Dyn.

[Page 25]2. Oblegid efe yn unig a ddichon ddadleu dro­som, yr hwn a wnaeth gymmod trwy ei waed. 1 Tim. 2. 5, 6. Un cyfryngwr sydd rhwng Duw a dynion, y dyn Christ Iesu; Yr hwn a'i rhoddes ei hunan yn bridwerth tros bawb. Rhuf. 8. 34.

Q. Paham y dodir yr ymadrodd, Tâd Holl gyfoethog, at y Pwngc hwn?

A. I arwyddoccau, fod Christ, megis ein Cy­fryngwr, wedi ei arwisgo gan y Tad â chy­flawnder Awdurdod, â Gallu ac Arglwyddi­aeth, yn dâl am y gostyngeiddrwydd a gym­merth ef arno. Act. 5. 30. 31. Yr Iesu yr hwn a laddasoch chwi ac a groes-hoeliasoch ar bren▪ Hwn a ddyrchafodd Duw a'i (neu, at ei) ddeheu­law, i fod yn Dywysog ac yn Iachawdwr. Phil. 2. 5. 6. 7, 8, 9, 10, 11.

Pwngc 7. Oddiyno y daw i far­nu byw a meirw.

Q. Beth yw 'r bedwaredd ran o Ddyrcha­fiad Christ?

A. Ei ddyfodiad i farnu. Act. 17. 31. Efe a farna y byd mewn cyfiawnder drwy y gwr a or­deiniodd efe, &c.

Q. O b'le y daw efe?

A. O'r Nef. 1 Thess. 4. 10. Yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o'r. Nef, &c. Matth. 25, 31.

Q. Pwy a farna efe?

A. Pob dyn, y rhai byw, y rhai sydd yr awron, neu a fyddant yn ol hyn, a'r rhai meirw, Act. 10. 42. Efe yw 'r hwn a ordeini­wyd gan Dduw yn farnwr byw a meirw.

Q. Am ba beth y barna efe hwynt?

A. Am bob peth (a), am y dirgel. (b) yn gystal ac am yr amlwg. (a) 2 Cor. 5. 10. Rhaid i ni oll ymddangos ger bron brawdle Christ: fel y der­bynio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corph, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg. (b) [Page 26] Preg. 12. 14. Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel.

Pwngc 8. Credaf yn yr Yspryd glân.

Q. Beth yw 'r yspryd glân?

A. Y trydydd Berson yn y Drindod sanct­aidd. 1 Ioan 5. 7. Y mae tri yn tystiolaethu yn y Nef, y Tâd, y Gair, a'r Yspryd glân.

Q. Paham y gelwir ef yr Yspryd glân?

A. Oblegid ei swydd, yr hyn yw cynnal a sancteiddio a llywodraethu 'r Eglwys, yn lle Christ. Ephes. 5. 25, 26. Fe garodd Christ yr Eglwys ac a'i rhoddes ei hun drosti, fel y sanctei­daiei efe hi a'i glanhau a'r olchfa ddwfr trwy 'r gair, &c. Tit. 3. 4, 5. Ymddangosodd daioni a chariad Duw ein Hachubwr tuag at ddyn;—Yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth ac adnewyddiad yr Yspryd glan.

Pwngc 9. Yr Eglwys lân Gatho­lic. Cymmun y Sainct.

Q. Beth y mae 'r Gair Catholic yn ei arwydd­occau?

A. Y mae 'n arwyddoccau Cyffredinol.

Q. Beth ydyw 'r Eglwys Catholic?

A. Yr holl Ghristianogion, wedi ymdanu ar hyd wyneb yr hôll ddaiur, fel y maent wedi eu casglu ynghyd tan yr un pen, Christ Iesu, Col. 1. 18. Efe yw pen y corph, yr Eglwys.

Q. Paham y Gelwir Eglwys Chrîst yn Ca­tholic?

A. I wneud rhagoriaeth rhyngthi ag Eglwys yr Iuddewon, yr hon a derfynid mewn un deyr­nas yn unic (a), pan mae 'r Eglwys Ghrist­nogol yn cyrraedd at yr holl Genhedloedd (b). (a) Psal. 147. 19, 20. Y mae efe. yn my­negi ei eiriau i Jacob, &c. Ni wnaeth felly ag un Genedl. (b) Matth. 28. 19. Ewch a dysgwch yr holl Genhedloedd. 1 Cor. 12. 13.

Q. A ellir galw Un Eglwys neillduol, megis honno o Rufain, yn Eglwys Catholic?

A. Na ellir, mwy nag y gellir dweid mae dinas Rhufain yw 'r holl fyd.

Q. Pa fodd y dywedir fod yr Eglwys yn san­ctaidd?

A. Megis y dywedid fod yr Iuddewon yn genedl sanctaidd (a), trwy fod mewn cyfam­mod a Duw; ac fel yr ym ninnau dan rwyme­digaeth o fod yn sanctaidd (b). (a) Ex. 19. 6. (b) 1 Thes. 4. 7. Duw a 'n galwodd ni i san­cteiddrwydd.

Q. Beth yw 'r Rhagor-freintiau sy 'n per­thyn i'r Eglwys Gotholic?

A. Y mae pedwar o honynt: 1. Cymmun y Sainct. 2. Maddeuant pechodau. 3. Cyfodiad y cnawd: 4. Bywyd tragwyddol.

Q. Beth yw 'r Rhagor-fraint cyntaf?

A. Cymmun y Sainct. 1 Ioan 1. 3. Ein cym­deithas ni yn wir sydd gyda 'r Tâd, a chyd â ei Fab ef Iesu Ghrist. adnod 7. Os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas a'n gilydd.

Q. Pa fodd y mae dirnad y gair Sainct?

A. Yn gyffredinol, y mae iw ddeall am yr holl rai ydynt aelodau gweledig Eglwys Christ. Rhuf. 1. 7. At bawb sydd yn Rhufain,—wedi eu galw i fod yn Sainct, sef yn Ghrist­nogion.

Q. Ym mha beth y mae 'r Cymmun hwn yn hanfod?

A. Y mae 'n hanfod mewn dau beth.

Yn 1. Mewn cymdeithas yn ordinhadeu gwa­sanaeth Duw (a).

Yn 2. Mewn cariad y naill tuag at y llall (b). [Page 28] (a) Act. 2. 42. Yr oeddynt yn parhau yn A­thrawiaeth ac Ynghymdeithas yr Apostolion, ac yn torri bara ac mewn gweddiau. (b) 1 Cor. 12. 26, 27. Pa un bynnag ai dioddef a wna un aelod, y mae 'r holl aelodau yn cyd-ddioddef, &c.

Pwngc 10. Maddeu­ant pecho­dau.

Q. Beth ydyw 'r ail Rhagorfraint sy 'n perthyn i'r Eglwys?

A. Maddeuant pechodau. Rhuf. 4. 7. Ded­wydd yw 'r rhai y maddeuwyd eu hanwireddau.

Q. Beth ydyw pechod?

A. Torri cyfraith Duw yw pechod, 1 Ioan 3. 4.

Q. Beth yw 'r gospedigaeth ddyledus am be­chod?

A. Marwolaeth, amserol (a), a thragwyddol (b). (a) Rhuf. 5. 12. Trwy un dyn [Adda] y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymmaint a phechu o bawb. (b) Rhuf. 6. 23. Cyflog pechod yw marwolaeth. Matth. 25. 46. Y rhai hyn a ânt i gospedigaeth dragwyddol.

Q. Beth yw 'r Maddeuant pechodau?

A. Maddeuant, pechodau yw, pan na chy­frifo Duw bechod i ni er cospedigaeth. Rhuf. 4. 7, 8. Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwi­reddau—Dedwydd yw 'r dyn ni chysrif yr Ar­glwydd bechod iddo, Rhuf. 5. 13.

Q. Ar ba Ammodau y maddeuir pechod?

A. Ar ein Ffydd a'n Hedifeirwch. Act. 26. 17, 18. Yr ydwyf yn dy anfon di, I agoryd eu lly­gaid, ac i'w troi o dywyllwch i oleuni, &c. Fel y derbyniont faddeuant pechodau, &c. Trwy y ffydd sydd ynof fi.

Q. Trwy ba foddion y cymmodir Duw fel hyn a dyn pechadurus?

A. Trwy Iesu Ghrist, Ephes. 4. 32. Maddeu­odd Duw er mwyn Christ i chwi.

Pwngc 11. Adgyfo­diad y cnawd.

Q. Beth ydyw 'r trydydd Rhagorfraint sy'n perthyn i'r Eglwys?

A. Adgyfodiad y Cnawd.

Q. Beth a ddeellwch trwy Adgyfodiad y Cnawd?

A. Y cyfodir y corph allan o'r llwch (a); a chwedi ei uno ef drachefn a'r enaid, fe fydd yn ogoneddus (b), ac yn anfarwol (c). (a) 1 Cor. 15. 36. Y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fyw­heir oni bydd efe marw, &c. (b) Phil. 3. 21. Yr hwn a gyfnewidia ein corph gwael ni, fel y gwneler ef yn un ffurf a'i gorph gogoneddus ef. (c) 1 Cor. 15. 53. Rhaid i'r marwol hwn wisgo anfar­woldeb.

Pwngc 12, Bywyd tragwy­ddol.

Q. Beth ydyw 'r pedwerydd Rhagorfraint?

A. Bywyd tragwyddol.

Q. Beth sy 'n gynnwysedig yn hwnnnw?

A. Cyflwr o ddedwyddwch perffeithiaf, yr hwn yw perffeithiad ein natur ni (a), a mwyniant o Dduw (b) (a) Matth. 22. 30. Yn yr Adgyfodiad, &c. Y maent fel Angy­lion Duw yn y Nef. (b) Psal. 16. 11. Digonol­rwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy dde­heu-law y mae digrifwch yn dragywydd.

RHAN II. Am y Deng-air neu 'r Deg Gorchymmyn.

Q. PA beth oedd y trydydd peth a adda­wyd yn ych enw wrth ych bedyddio?

A. Cadw o honof wynsydedig ewyllys Duw a'i Orchymmynion, a rhodio yn yr unrbyw holl ddyddiau sy mywyd.

Q. Beth ydyw 'r Arwyddion, neu briodoli­aethau gwir ufudddod a Gesclwch chwi oddi­ymma?

A.

  • 1. Yn gyntaf, gwir ufudd-dod yn gy­ffredinol, sef bod i ni gadw Gwynfydedig E­wyllys Duw a'i Holl Orchymmynion, Psal. 119. 6. Yna ni'm gwradwyddid, pan edrychwn ar dy holl Orchymmynion.
  • 2. Yn ail, fod Gwir ufudd-dod yn ymar­fer Gwastadol o gadw Gorchymmynion Duw a rho­dio yn yr unrhyw. 1 Bren. 6. 12. Os cedwi fy holl orchymmynion, gan rodio ynddynt. Rhuf. 6. 4.
  • 3. Dyfal-barhau yn yr ymarfer hwnnw, hyn­ny yw, holl ddyddiau ein henioes Luc. 1. 74, 75. Fel y gallem ei wasanaethu ef yn ddiofn; mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd.

Q. Chwi a ddywedasoch i'ch Tadau-be­dydd a'ch Mammail bedydd addaw drosoch chwi y cadwech chwi Orchymmynion Duw, dywedwch i mi pa nifer sydd o honynt?

A. Deg.

Q. Pa rai ydynt?

A. Yr hyn a lefarodd Duw yn yr ugein­fed bennod o Exodus, gan ddywedyd, my fi yw 'r Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'ch ddy­godd allan o wlad yr Aipht, o dy y cae­thiwed.

Q. Pa beth a gynhwysir yn yr ymadrodd hwn?

A. Y mae 'n cynwys llawer o Annogaethau Ufudd-dod.

Q. Beth ydynt hwy?

A. Fe a'u cymmerir

  • yn 1. Oddiwrth Aw­durdod Duw, Duw a lefarodd y geiriau hyn.
  • Yn 2. Oddiwrth Bennaduriaeth Duw, My fi yw 'r Arglwydd.
  • Yn 3. Oddiwrth Briodoldeb Duw ynddynt hwy, Dy Dduw, Deut. 26. 16, 17.
  • Yn 4. Oddiwrth ei ddaioni ef tuag attynt hwy, Yr hwn a'th ddygodd allan o wlâd yr Aipht, o dy y caethiwed, Deut. 8. 14.

Q. Adrodd y Gorchymmynion?

A. Na fydded it Dduwiau eraill onid my fi, &c.

Q. Os dêg o Orchymmynion sydd, pa fodd y dywaid ein Hiachawdwr mai dau ydynt; Matth. 22. 38, 40.

A. Dau ydynt, yn ôl eu dosparth i ddwy Lêch; sef cariad i Dduw a'n Gymmydog.

Q. Pa beth yr wyt ti yn ei ddysgu yn ben­naf wrth y Gorchymmynion hyn, sy 'n gyn­nwysedig ar y ddwy Lêch?

A. Rwy 'n dysgu dau beth, Fy nyled­swydd tuag at Dduw, a'm dyledswydd tuag at fy Nghymmydog.

Q. Beth yw dy Ddyledswydd tuag at Dduw?

A. Fy Nyledswydd tuag at Dduw yw credu ynddo, ei ofni a'i garu ef, &c.

Q. Pa sawl Gorchymmyn sy'n perthyn i'r LLech gyntaf?

A. Y pedwar cyntaf.

Y Gor­chymmyn 1.

Q. Beth yw 'r Gorchymmyn cyntaf?

A. Na fydded i't Dduwiau eraill onid my fi.

Q. Pa beth a waherddir yn y Gorchymmyn hwn?

A. Fe waherddir i mi ynddo, [1.] Na fyn­nwyf ac na chydnabyddwyf ddim mwy nag un Duw (a). [2.] Na roddwyf mo'r anrhydedd sy 'n gyfiawn i Dduw, i unrhyw greadur arall pa un bynnag (b). (a) 1 Cor. 8. 4. 6, Nid oes un Duw arall, onid un. (b) Matth. 4. 10. Yr Ar­glwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig, a wa­sanaethi.

Q. Pa beth a ofynnir yn y Gorcymmyn hwn?

A. Credu yn Nuw (a), ei ofni (b), a'i garu a'm holl galon, a'm holl feddwl, a'm holl enaid, ac a'm holl nerth (c), ei addoli ef (d), diolch iddo (e), a rhoddi fy holl ym­ddiried ynddo (f), a galw arno (g). [Page 33] (a) Heb 11. 6. Rhaid yw i'r neb sydd yn dy­fod at Dduw gredu ei fod of. (b) Eccles. 12. 13. Ofna Dduw a chadw ei Orchymmynion, ca­nys hyn yw holl ddyled dyn. (c) Matth. 22. 37. Ceri yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon. (d) Matth. 4. 10. Yr Arglwydd dy Dduw a addoli. (e) Ps. 92. 1, 2. Da yw moliannu yr Arglwydd, a chanu mawl i'th enw di y Goruchaf; (f) Dih. 3. 5. Gobeithia yn yr Arglwydd a'th holl ga­lon, ac nac ymddiried i'th ddeall dy hun. (g) Phil. 4. 6. Na ofelwch am ddim, eithr ym mhôb peth mewn gweddi ac ymbil gẏd â diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hyspus ger bron Duw.

Yr 2. Gor­chymmyn.

Q. Beth ydyw 'r ail Gorchymmyn?

A. Na wna i ti dy hun un ddelw ger­fiedig, na llun dim a'r sydd yn y nefoedd uchod, neu yn y ddaiar isod, nac yn y dwfr tan y ddaiar, na ostwng iddynt ac na a­ddola hwynt: Canys my fi 'r Argiwydd dy Dduw ydywf Dduw eiddigus yn ymwe­led a phechodau y tadau ar y plant hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm cashant, ac yu gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant ac a gadwant fy ngorchymmynion.

Q. Pa beth a waherddir yn y Gorchym­myn hwn?

A. Pob Crefyddol—addoliad a'r a roddir i Ddelw.

Q. Pa beth yw Delw, addoli pa un a wa­herddir yma?

A. Delw yw unrhyw lûn oddiallan, a oso­dir i fynu i'w addoli, megis eulyn, neu gy­ffelybiaeth o Dduw. Lev. 26. 1. Na wnewch Eulynnod i'wch, ac na chodwch i chwi ddelw [Page 34] gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tîr, i ymgrymmu iddi, canys my fi yw 'r Arglwydd eich Duw chwi.

Q. A ydys yn gwahardd yma lûn oddiallan y gwir Dduw, yn gystal a llûn Gau-Dduw?

A. Ydys; oblegid,

  • 1. Nis gellir amgyffred y gwir Dduw, ac nis gellir ei ddarlunio, Es. 40. 17, 18. &c. Yr holl genhedloedd ydynt megis di­ddim ger ei fron ef, &c. I bwy gan hynny y cy­ffelybwch Dduw, &c.
  • (2.) Fe a'i difarnwyd pan arferwyd ef, me­gis yn y LLo Aur, hwn a wnaed i fod yn arwydd o Jehova, yr Arglwydd. Ex. 32. 5. Aaron a adailadodd, allor ger ei fron ef, ac a gyhoeddodd, ac a ddywedodd, y mae gwyl y foru i'r Arglwydd, neu Jehova.

Q. Beth yw y Rhesymmau a gyssylltir wrth y Gorchymmyn hwn?

A. Tri ydynt.

  • 1. Y mae 'r Arglwydd yn Dduw eiddi­gus. (1.) Rhag i ddynion trwy y moddion hyn dybied yn anweddaidd o honof, fel pe byddai debyg i Ddelw (a). 2. Rhag trwy hynny iddynt ymddieithro oddiwrtho, a thy­bied fod hwnnw yn Dduw, yr hwn nid yw Dduw (b). (c) Act. 17. 29. Ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur neu ari­an, neu faen o gerfiad celfyddyd a dychymmig dyn. Deut. 4. 12, 15. Chwi a glywsoch lais yr Ar­wydd, ond ni welsoch lûn dim. (b) Ezec. 14. 5. Y mae ty Israel wedi ymddieithro oddiwrthyf trwy eu Heulynnod.
  • 2. Fe gyfrifir y rhai sy 'n euog o'r pechod hwn, yn Elynion i Dduw, a'r rhai a gospa ef hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth.
  • [Page 35]3. Ac yn y gwrthwyneb, efe à ddengys drugaredd yn ehelaeth i'r rhai a gadwant y Gorchymmyn hwn. Gan ddangos trugaredd i filoedd.

Q. Pa fodd y gall Eglwys Rhufain ei chy­fiawnhau ei hun, am wneuthur Delw o Dduw, a rhoddi addoliad i Ddelw?

A. Y mae nt yn fynych yn gadael allan y Gorchymmyn hwn.

Q. Paham hynny?

A. O ran dywedyd y maent, mae 'r un yw a'r cyntaf; ac felly y mae'nt yn gwneud y trydydd Gorchymmyn i fod yn ail, y maėnt yn gwneuthur y degfed yn ddan.

Q. Ond heblaw bod yr Scrythur yn gwneud y Gorchymmyn cyntaf a'r ail i fod yn ddau, Ex. 20. 3, 4. Deut. 5. 7, 8. Onid oes rha­goriaeth eglur rhynġddynt?

A. Oes; Oblegid y mae 'r Gorchymmyn cyntaf yn gwarafyn i ni fynnu na chydnabod hwnnw am Dduw, yr hwn nid yw Dduw, fel ac y gwnaeth addolwyr Baal a Moloch (a), &c. Eithr gwahardd y mae 'r ail Gorchym­myn addoli y gwir Dduw trwy Ddelw, fel ac y gwnaeth yr Israeliaid yn yr anialwch, a Jeroboam, pan addolasant y LLoi Aur (b). (a) 1 Bren. 16. 31. Amos 5. 26, (b) Ex. 32. 1, 4. 1 Bren. 12. 28. 29. 30. 32.

Q. Pa beth yw 'r ddyledswydd a ofynnir yn yr ail Gorchymmyn?

A. Rhoddi o honom yr addoliad hwnnw i Dduw, yr hwn sydd gyfaddas i'w natur ef. Ioan 4. 24. Yspryd yw Duw; a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef, ei addoli ef mewn Yspryd a gwirio­nedd. Rhuf. 12. 1.

Y 3. Gor­chymmyn.

Q. Pa beth yw 'r trydydd Gorchymmyn?

A. Na chymmer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer canys nid gwirion gan ye Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.

Q. Pa fodd y cymmerir enw Duw yn ofer?

A.

  • 1. Trwy dyngu yn anudon neu siccrhau celwydd trwy lw. Lev. 19. 12. Na thyngwch i'm enw i yn anudon, ac na haloga enw dy Dduw.
  • 2. Trwy dyngu yn fyrrbwyll ac yn gynne­sin. Matth. 5. 34, 35, 36, 37. Yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, na thyngwch ddim,—eithr bydded eich ymadrodd chwi ie, ie, nag ê, nag ê.
  • 3. Trwy gablu neu siarad yn wradwyddus am Dduw a chrefydd, 1 Tim. 6. 1. Fel na chabler enw Duw a'i athrawiaeth ef. Lev. 24. 16.
  • 4. Trwy arfer Enw Duw yn amharchus (a), neu 'r pethau sy 'n perthyn iddo ef (b) a'i wasanaeth (c). (a) Lev. 21. 6. Sanctaidd fy­ddant iw Duw, ac na halogant enw eu Duw. (b) 1 Thes. 4. 2. Y neb sydd yn dirmygu, nid dyn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw. (e) Lev. 22. 2. Ac na halogant fy enw sanctaidd yn y pe­thau y maent yn eu cyssegru i mi.

Q. Pa beth yw 'r rheswm a gysylltir a'r Gor­chymmyn hwn?

A. Nid gwirion gan yr Arglwydd mono, eithr fe ai cospa ef yn dra-ddiamai. Zech. 5. 3, 4. Fe a ddaw 'r felldith i dy yr hwn a dyngo i'm henw ar gam, &c. ac a'i difa ef. Lev. 24. 15, 16.

Q. Pa beth yw 'r Ddyledswydd a ofynnir yn y Gorchymmyn hwn?

A. Anrhydeddu Sanctaidd Enw Duw (a), yn gymmaint a'i arfer yn barchedig mewn llwon (b), Addunedau (c), Addewidion, Ymadroddion (d), ac Addoliad (e); arfer ei Air ef yn barchus (f), a pha beth bynnag sy'n perthyn yn nesaf iddo ef a'i wasanaeth. (a) Ps. 99. 3. Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy, canys sanctaidd yw. (b) Jer. 4. 2. Ti a dyngi, byw yw 'r Arglwydd mewn gwi­rionedd mewn barn ac mewn cyfiawnder. (c) Eccles. 5. 4. Pan addunedech adduned i Dduw, nac oeda ei thalu, Deut. 23. 23. (d) Col. 4. 6. Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi ei dym­heru a halen. Matth. 5. 37. (e) Lev. 10. 3. Mi a sancteiddir yn y rhai a nessant attaf. Es. 29. 23. (f) Es. 66. 2. Ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan a'r cystuddiedig o Yspryd, ac sydd yn crynnu wrth fy ngair.

Y 4. Gor­chymmyn-

Q. Pa beth yw 'r pedwerydd Gorchym­myn?

A. Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Sab­bath, Chwe diwrnod y gweithi, ac y gw­nei dy holl waith eithr y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: ar y dydd hwnnw na wna ddim gwaith: tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th anifail, na'r dyn dieithe a fyddo o fewn dy byrth. Canys mewn cwhe diwrnod y gw­naeth yr Arglwydd nef a daiar, y mor a 'r hyn oll sydd ynddynt, ac a orphwysod y seithfed dydd. O herwydd paham y bendi­thiodd yr Arglwydd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiod ef.

Q. Beth y mae 'r gair Sabbath yn ei arwy­ddoccau?

A. Y mae 'n arwyddoccau Gorphwystra.

Q. Paham y galwyd y seithfed dydd yn Sab­bath?

A. Oblegid i Dduw orphywys y diwrnod hwnnw oddiwrth waith y Creedigaeth, yr hwn a orphennodd efe mewn chwe diwrnod. Gen. 2. 2, 3. Ar y seithfed dydd y gorphenodd Duw ei waith yr hwn a wnaethai efe, ac a orphwy­sodd ar y seithsed dydd; A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef, &c.

Q. Beth a ddêellir wrth fod Duw yn sanctei­ddio y seithfed dydd?

A. Oblegid iddo ei neillduo ef er mwyn Gwasanaeth Sanctaidd. Jer. 17. 24. Sanctei­ddiwch y dydd Sabbath heb wneuthur dim gwaith ynddo.

Q. Beth oedd y Gorchwylion sanctaidd y neillduwyd ef o'u herwydd?

A. 1. Fe a'i neilldnwyd ef i wasanaethu Duw ar gyhoedd; yr hyn oedd, yn pregethu, yn esponi (a), ac yn darllen (b) gair Duw, ac mewn gweddi (c). (a) Act 13. 42. Y cen­hedloedd a attolygasant gael pregethu y geiriau hyn iddynt y Sabbath nesaf. Marc. 6. 2. (b) Act. 15. 21. Y mae i Moses ym mhob Dinas, er yr hên amseroedd, rai a'i pregethant ef, gan fod yn ei ddarllen yn y Synagogau bob Sabbath, Act. 13. 27. (c) Act. 16. 13. Ar y dydd Sab­bath ni a aethom allan o'r ddinas i lan afon, lle y byddid arferol o weddio, neu i'r man lle yr oedd Ty Gweddi.

[Page 39]2. I addoliad cartrefol hefyd a myfyrdod ar air a gweithredoedd Duw. Ps. 92. a elwir yn Psalm i'r Sabbath.

Q. Pa beth a ofynnwyd yn ychwaneg yn y Gorchymmyn hwn?

A. Gorphywys oddiwrth bob gwaith a gorchwyl cyffredin. Ar y dydd hwnnw na wna ddim gwaith; tydi, nath wâs, &c. Es. 58. 13. Neh. 13. 15.

Q. Paham y mae 'r Christianogion yn cadw y dydd cyntaf o'r wythnos yn ddydd Sabbath, ac nid y seithfed?

A. Er coffadwriaeth am Adgyfodiad Christ oddiwrth y meirw ar y dydd hwnnw; Yr hyn oedd yn cadarnhau yn fawr, orphen y cwbl (a) a gymmerasai ef arno hyd at ei farwolaeth. Ioan 19. 30. Efe a ddywedodd, Gorphenwyd, a chan ogwyddo ei ben efe a roddes i fynu yr Yspryd. Act. 17. 3. Rhaid oedd i Ghrist ddioddef a chy­fodi. Ioan. 2. 22.

Q. Pa fodd y mae treulio 'r Dydd hwn?

Q. Mewn gweithredoedd duwioldeb (a) a chariad (b), yn gwasanaethu Duw, ac yn gw­neuthur daioni i eraill. (a) Act. 20. 7. Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, wedi i'r disgyblion ddy­fod ynghyd i dorri bara. (b) 1 Cor. 16. 2. Y dydd cyntaf o'r wythnos, pob un o honoch rhodd­ed heibio yn ei ymyl [Eluseni] fel y llwyddodd Duw ef, yr wythnos or blaen.

Q. Beth y mae 'r ail LLêch yn ei gynnwys?

A. Fy Nyléd tuag at fy Nghymydog.

Q. Beth yw dy ddyled tuag at dy Gym­mydog?

A. Fy nyled tuag at fy ngymmydog yw, ei garu ef fel y fi fy hun, a gwneuthur i bob dyn, megis y chwenychwn iddo wneu­thur i minnau. Caru o honof, anrhydeddu, a chymmorth fy Nhad a'm Mam. An­rhydeddu ac ufuddhau i'r Brenin a'i Swy­ddogion. Ymddarostwng i'm holl Lywiawd­wyr, dysgawdwyr, bugeiliaid ysprydol ac athrawon. Ymddwyn o honof yn ostynge­dig, dan berchi pawb o'm gwell. Na wnel­wyf niweid i neb ar air neu weithred. Bod yn gywir ac yn union ym mhob peth a wnel­wyf. Na b'o na chas na digasedd yn fy nghalon i neb. Cadw o honof fy fy nwy­law rhag chwilenna a lledratta cadw fy nhafod rhag dywedyd celwydd, cabl-eiriau, na drwg-absen. Cadw fy nghorph mewn cymhedroldeb, sobrwydd, a diweirdeb. Na chybyddwyf ac na ddeisyfwyf dda na golud neb arall. Eithr dysgu a llafurio yn gywir, i geisio ynnill fy mywyd, a gwneu­thur a ddylwyf, ym mha ryw fuchedd bynnag, i ba un y rhyngo bodd i Dduw fy ngalw. Matth. 22. 39. Câr dy Gymydog fel ti dy hun. Gal. 5. 14. Matth. 7. 12. Pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy.

Q. Pa rai yw 'r Gorchymmynion sy 'n cynnwys dy Ddylêd tuag at dy Gymmydog?

A Y Chwech diweddaf.

Y 5. Gor­chymmyn.

Q. Beth yw 'r pummed Gorchymmyn?

A. Anrhydedda dy Dad a'th Fam, fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaiar yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

Q. Beth a ddëellir yma wrth y geiriau Tâd Mam?

A. Rwy 'n deall yn fwy enwedig wrthynt,

  • 1. Fy Nhâd a'm Mam yn ôl y cnawd: y rhai yr 'wyf yn rhwym iw caru, eu hanrhy­deddu (a), ufuddhau iddynt (b) au cynnor­thwyo (c). (a) Mal. 1. 6. Mab a anrhyde­dda ei Dâd. (b) Eph. 6. 1. Y plant ufudd­hewch i'ch rhieni yn yr Arglwydd; canys hyn sydd gyfiawn. (c) 1 Tim. 5. 4. Dysged plant arfer duwioldeb, neu fwynder, gartref; a thalu 'r pwyth iw rhieni, trwy eu cynnorthwyo yn eu hangenrheidiau. Marc. 7. 11, 12.
  • 2. Y Brenin a'i Swyddogion (a), Y rhai sydd raid i mi eu hanrhydeddu, au hufuddhau (b) mewn pob peth cyfreithlawn a gonest (c). (a) Es. 49. 23. Fe elwir Brenhinoedd yn Dad­maethod. (b) 1 Pet. 2. 13. 14. Ymddarostyngwch i bob dynol ordinhâd, o herwydd yr Arglwydd, pa un bynnag ai i'r Brenin megis goruchaf; Ai i'r LLywiawdwyr, megis trwyddo ef wedi eu danfon, &c. (c) Act. 4. 19. Ai cyfiawn yw ger bron Duw, wrando arnoch chwi, yn hytrach nag ar Dduw, bernwch chwi.
  • 3. Bugeiliaid Ysprydol ac Athrawon (a), i ba rai y mae 'n rhaid i mi ufuddhau, ac iw cynghorion sanctaidd Ysprydol (b). (a) Barn. 17. 10 Bydd i mi yn Dad ac yn Offeiriad. 1 Cor. 4, 15. (b) Heb. 13. 17. Ufuddhewch i'ch Blae­noriaid ac ymddarostyngwch, oblegid y maent hwy yn gwilio tros eich eneidiau chwi, &c. 1 Tim. 5. 17.
  • [Page 42]4. Pen-teuluoedd a elwir yn Dadau (megis 2 Bren. 5. 13.) i ba rai, os gwâs 'wyf, y mae 'n rhaid i mi ufuddhau mewn pob peth rhesymmol, ar sy'n perthyn i'r cyflwr hwnnw. Eph. 6. 5, 6. Y gweision ufuddhewch i'r rhai sydd Arglwyddi i chwi, &c. nid a golwg-wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, ond fel gweision Christ, yn gwneuthur ewyllys Duw o'r galon Tit. 2. 9▪ 10.
  • 5. Pawb o'm gwell (a), i ba rai y mae 'n rhaid i mi ddangos parch ac ufudd-dod (b) (a) Act. 7. 2. Fe ddywaid St. Stephan, Ha! Wyr Frodyr a Thadau. (b) 1 Pet. 5. 5. Chwi y rhai ieuangaf byddwch ostyngedig i'r Henuri­aid, ie byddwch bawb yn ostyngedig iw gilydd, ac ymdrwsiwch oddifewn a gostyngeiddrwydd. Lev. 19. 32.

Q. Pa fudd a geir am ufuddhau i'r Gorchym­myn hwn?

A. Y mae ynghyd ag ef addewid o hîr eini­eos lwyddiannus, yr hyn sy 'n arferol yn ei ganlyn. Fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddai­ar, &c. Ephes. 6. 1, 2. Anrhydedda dy Dâd a'th Fam, yr hwn yw 'r Gorchymmyn cyntaf mewn addewid.

Y 6. Gor­chymmyn.

Q. Pa un yw 'r chweched Gorchymmyn?

A. Na ladd.

Q. Beth yw 'r pechod a waherddir yn y Gor­chymmyn hwn?

A. Llofruddiaeth, neu lâdd ein Cymmydog ô wirfodd,

Q. Pa sawl math sydd o'r llofruddiaeth, yr ydych chwi yn ei alw llofruddiaeth o wirfodd?

A. Y mae dau fath.

  • 1. Un llai, yr hyn yw llâdd ûn arall mewn byrbwyll, neu mewn am­ryfusedd disymwth, ond yr hyn y mae 'r Scrythur, yn ei alw yn llofruddiaeth. Num. 35. 16, 17. Os ag Offeryn haiarn y tarewiff ef, &c. Llofrudd yw.
  • 2. Un mwy; Yr hyn yw llâdd un arall trwy bwyll, a bwriad (a), a elwir yn arferol yn Fwrdwr gwirfodd. (a) Ex. 21. 14. Os daw dyn yn rhyfygus ar ei gymmydog iw ladd ef trwy dwyll. Num. 35. 20, 21.

Q. Pa gospedigaeth oedd am y pechod hwn?

A. Marwolaeth. Gen. 9. 5, 6. A dywalldo waed dyn, trwy ddyn y tywelldir ei waed yntef, Num. 35, 16, 17, 21.

Q. Pa beth a waherddir yn ychwaneg yn y Gorchymmyn hwn?

A. Na wnelwyf niweid i neb ar air neu weith­red, ac nabo na châs na digasedd yn fy nghalon i neb. Ac felly y mae 'r Gorchymmyn hwn yn gwahardd pob grâdd o'r pechod hwn, a phob herr ac annogaeth tuag atto; Y cyfryw yw Digter sfrywus diachos anghymmedrol (a); Ca­sineb, (b) Malais, Cynsigen ac Ymddial, chwer­wedd a Drwg-Absen (c). (a) Matth. 5. 21, 22. Clywsoch ddywedyd gan Y rhai gynt, na ladd: a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn, eithr yr ydwyf si yn dywedyd i chwi, pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, &c. Ephes. 4. 26. (b) 1 Ioan 3. 15. Pob un ac sydd yn cashau ei frawd, lleiddiad­dyn yw. (c) Eph. 4. 31. Tynner ymaith oddiwrthych bob chwerwedd, a llîd, a dîg, a llefain a chabledd, gyd â phob drygioni.

Q. Pa beth a ofynnir yn y Gorchymmyn hwn?

A. 1. Arafwch, fel na ddigiom eraill, Rhuf. 12. 18. Os yw bossibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlawn a phob dyn.

2. Addfwynder, fel na ddigiom ein hu­nain i wneuthur drwg i eraill, Rhuf. 12. 17. Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg.

3. Cariad, neu barodrwydd i faddeu, ac i wneuthur daioni, Er rhoi i ni achos i ddigio, Rhuf. 12. 20. 21. Os dy elyn a newyna, por­tha ef, &c.

4. Cynnorthwyo arall a fae mewn perygl a chyfyngder, fel ac y gwnaeth y Samariad daio­nus. Luc. 10. 33. &c.

Y 7. Gor­chymmyn.

Q. Beth ydyw 'r Seithfed Gorchymmyn?

A. Na wna odineb.

Q. Beth ydyw Godineb?

A. Torri 'r cyfammod hwnnw (a) a wnaed ym Mhriodas (b) rhwng un Mâb ac un Ferch (c); (Yr hwn [Gyfammod] sy'n gwneuthur y Dyn i fod yn Wr y Ferch, a'r Ferch i fod yn Wraig y Dyn.) (a) Mal. 2. 14. Y hi ydyw▪ gwr­aig dy gyfammod. (b) Heb. 13. 4. Anrhydeddus yw Priodas ym mhawb. (c) Mal. 2. 15. Onid un a wnaeth efe? Matth. 19. 4, 5.

Q. Pa bryd y torrir y Cyfammod hwnnw?

A. Pan fo 'r naill yn ymwrthod a gwely 'r llall yn gwbl; neu gan mwyaf, er mwynhau gwely un arall. Dih. 5. 20, 21. Paham yr ymddigrifi yn y wraig ddieithr, ac y cofleidi fon­wes yr hon nid yw eiddot ti? Canys ffyrdd dyn sydd yngolwg yr Arglwydd, ac y mae ef yn dal ar ei holl lwybrau ef.

Q. A pha benyd y cospid y pechod hwn dan Gyfraith Moses?

A. A marwolaeth. Lev. 20. 10. lladder yn farw y godinebwr a'r odineb-wraig.

Q. Pa beth a waherddir ychwaneg yn y Gorchymmyn hwn?

A.

  • 1. Putteindra, yr hwn a wneir rhwng rhai heb priodi (a); a phob aflendid pa un byn­nag (b). (a) Ex. 22. 16. (b) Gal. 5. 19. Am­lwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw tor­priodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, 1 Cor. 6. 9.
  • 2. Pob dymuniad cnawdol a thrachwant a fae hoff gennym. Matth. 5. 28. Y mae pob un sydd yn edrych ar wraig, i'w chwenychu hi, wedi gwneu­thur eusus odineb â hi yn ei galon.
  • 3. Pob Ysfa tuag atto mewn geiriau (a), gweithredoedd, ymddygiad ac ymdrwssiad (b), gormodedd o unrhyw beth (c). (a) Ephes. 5. 4. Na serthedd, nac ymadrodd ffol, na choeg­ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus. (b) 1 Tim. 2. 9. I'r gwragedd eu trefnu eu hunain mewn di­llad gweddus. (c) 1 Pet. 4. 3. Digon i ni yr am­ser a aeth heibio o'r enioes pan rodiasom mewn try­thyllwch, trachwantau, meddwdod, cyfeddach, di­otta. Dih. 23. 31, 33.

Q. Pa beth a orchymmynir yn y Gorchym­myn hwn?

A.

  • 1. Cadw o honof fy nghorph mewn cym­medroldeb, sobrwydd a diweirdeb, Rhuf. 13. 13, 14. Rhodiwn yn weddus megis wrth liw dydd, nid mewn cyfeddach a meddwdod nid mewn cyd­orwedd ac anlladrwydd.
  • [Page 46]2. Bod yn orchwylus ac yn ddiwair yn fy meddyliau (a), fy ngeiriau (b), a'm hym­ddygiad (c). (a) Matth. 15. 19. (b) Col. 3. 8. (c) Tit. 2. 2, 3.
  • 3. Bod yn wiliadwrus (a), ac yn wastad ar waith mewn rhyw orchwyl daionus (b). (a) 1 Pet. 5. 8. Bydwch sobr, gwiliwch. (b) Ezec. 16. 49, 50. Hyn oedd anwiredd Sodoma——amlder o seguryd—ymddyrchafasant a gwnae­thant ffieidd-dra.

Yr 8. Gor­chymmyn.

Q. Beth yw 'r wythfed Gorchymmyn?

A. Na ladratta.

Q. Pa beth yw 'r lledrad a warafynnir yn y Gorchymmyn hwn?

A. Cymmeryd oddiar un arall, neu ddal o­ddiwrtho ei wir-dda cywir ei hun trwy drais neu dwyll, Lev. 19. 11, 13.

Q. Pa sawl math sydd o hono?

A.

  • 1. Lledrad, a elwir felly yn enwe­dig, neu ddirgel ledrad dan gêl, Ephes. 4. 28. Yr hwn a ledrattaodd, na ledratted mwy­ach.
  • 2. Yspail, neu gymmeryd ymaith trwy drais. Lev. 19. 11, 13. Na ledrattewch—— na cham-attal oddiwrth dy gymmydog, ac na yspei­lia ef.
  • 3. Cribddeiliad, neu gymmeryd ymaith trwy drais tan liw cyfiawnder a dyled; (a elwir elw anghyfiawn Dih. 28. 8.) (a) 1 Cor. 5. 11. Na chyd-ymgymmysgech os bydd neb a henwir yn frawd [neu Ghristion]—yn grib­ddeiliwr.
  • [Page 47]4. Dal cyfiawnder un arall oddi wrtho, fel yn peidio a thalu dyledion cyfiawn, pan ellir (a), neu gam-attal cyflogau y cyflogedigion (b). (a) Ps. 37. 21. Yr annuwiol a echwyna, ac ni thâl adref. Dih. 3. 27, 28. (b) Iaco. 5. 4. Wele y mae cyflog y gweithwyr—yr hwn a gam-attaliwyd gennych, yn llefain, &c.
  • 5. Twyll wrth fasnach mewn pwysau a mesurau anghyfiawn (a), a thrwy eiriau têg (b) yn hudo anwybodaeth ac hygoeledd y pryn­wr. (a) Dih. 20. 10. Amryw bwysau ac am­ryw fesurau, ffiaidd gan yr Arglwydd bob un o'r ddau. (b) Dih. 29. 5. Y gwr a ddywedo weniaith wrth ei gymmydog, sydd yn tanu rhwyd iw draed ef.
  • 6. Anelusengarwch a chrintachrwydd tuag at y tlawd. Dih. 22. 16. Y neb a orthrym­mo y tlawd er chwanegu ei gyfoeth, &c. a ddaw i dlodi yn ddiamai. Es. 3. 15. Beth sydd i chwi, &c. a faloch ar wynebau y tlo­dion.

Q. Beth yw 'r ddyledswydd a ofynnir yn y Gorchymmyn hwn?

A.

  • 1. Gonestrwydd a Chyfiawnder wrth farchnatta rhwng gwr a gwr. Dih. 16. 11. Pwys a chlorian cywir yr Arglwydd a'u piau.
  • 2. Gwneud iawn, os gwnaed cam. Ezec. 33. 15, 16. Os yr annuwiol a ddadrydd wystl▪ ac a rydd yn ei ol yr hyn a dreisiodd—ni choff­heir iddo un o 'r holl bechodau a bechodd. Ex. 22. 1. &c.
  • [Page 48]3. Cariad a thrugarogrwydd tuag at eraill. Lev. 19. 9, 10. A phan gynhaiafoch gynhaiaf eich tir, na feda yn llwyr gonglau dy faes, ac na chynnull loffion dy gynhaiaf, &c. Gad hwynt i'r tlawd ac i'r dieithr.
  • 4. Mynnu galwedigaeth gywir a bod yn ddiwyd ynddi, Ephes. 4. 28. Yr hwn a ledrattaodd, na ledratted mwyach, eithr yn hy­trach cymmered boen, gan weithio a'i ddwylo yr hyn sydd dda, fel y byddo ganddo beth iw gy­frannu i'r hwn y mae angen arno. 2 Thes. 3. 11, 12.

Y 9 Gor­chymmyn.

Q. Beth ydyw 'r nawfed Gorchymmyn?

A. Na ddwg gam-dystioiaeth yn erbyn dy Gymmydog:

Q. Beth ydyw r pechod a waherddir y­ma?

A. Dwyn cam-dystiolaeth neu gam-achwyn; pa un bynnag ai ar lw (a elwir yn arferol Anudon) (a), neu drwy fodd arall (b). (a) Darllenwch y trydydd Gorchymmyn. (b) Luc. 3. 14. Ac na cham-achwynwch ar neb. Luc. 19. 8.

Q. Os tyngu yn anudon oedd wedi ei wa­hardd yn bennaf peth yn y trydydd Gor­chymmyn, ac ailwaith a waherddir yma yn y cyffelib fodd: beth ynteu yw'r rhagoriaeth sydd rhwng y trydydd Gorchymmyn a'r naw­fed?

A. Y mae 'r trydydd Gorchymmyn yn per­thyn i Dduw yn gymmaint ag y mae Dyn, trwy dyngu, yn galw Duw yn Dyst, a thrwy Anudonrwydd, megis yn ei wadu Ef a'i Wi­rionedd: Eithr y mae 'r nawfed Gorchym­myn [Page 49] yn perthyn i Ddyn, ac felly sy'n gwa­hardd anudonrwydd, fel ac y mae, yn Gyntaf, yn tueddu i wneu'd cam ag un arall, yn ei gorph, ei dda, neu ei Enw da. [2.] Megis trwy anudonaeth y dirymmir ac y rhwy­strir, Effaith ac amcan Tystiolaeth trwy Lw. Sef: bod yn derfyn ar bob ymryson. Heb. 6. 16.

Q. Pa beth a waherddir yn ychwaneg yn y Gorchymmun hwn?

A.

  • Pob math ar ddenu a dwyn Dynion i fod yn gau-dystion, fel y gwnaeth Iezebel yn erbyn Naboth (a), a'r Iddewon yn erbyn Christ (b). (a) 1 Bren. 21. 10. (b) Matth. 26. 59.
  • 2. Pob cabl-eiriau (a), a chelwydd (b), a drwg­absen (c). (a) Iaco 1. 26. Os yw neb yn eich mysg yn cymmeryd arno fod yn grefyddol, ac heb attal ei dafod, &c. Ofer yw crefydd hwn. (b) Eph. 4. 25. Gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymmydog, oblegid aelo­dau ydym i'w gilydd. (c) Psal. 15. 1, 3. Pwy a drig yn dy babell, &c. yr hwn ni absenna a'i dafod.
  • 3. Barnu a beio ar eraill yn amryfus. Matth. 7. 1, 2. Na fernwch, fel nach barner, &c.

Q. Pa beth yw 'r dyledswyddau a ofynnir yn y Gorchymmyn hwn?

A.

  • 1. Amddiffyn fy nghymmydog, pan wneir cam ag ef; fel ac y gwnaeth Nicodemus a'n Hiachawdwr, Ioan 7. 50, 51.
  • [Page 50]2. Tybied yn dda, a barnu 'r goreu o un arall. 1 Cor. 13. 4, 5. Cariad, &c. ni feddwl ddrwg. adnod 7. Y mae 'n credu pob dim, y mae 'n gobeithio pob dim.

Y 10. Gorchym­myn.

Q. Pa un yw 'r degfed Gorchymmyn?

A. Na chwennych Dy dy gymmydog, na chwennych wraig dy gymmydog, nai was, nai forwyn, nai ych, nai assyn, na dim a'c sydd eiddo.

Q. Beth yw 'r pechod a waherddir yn y Gorchymmyn hwn?

A. Deisyf a chybyddu da a meddiannau rhai eraill, a gyfrifir yn y drefn hon, ei Dy, ei wraig, ei weision a'i anifeiliaid. Act. 20. 33.

Q. Beth ydyw 'r Cybydd-dod a waherddir yma?

A. Deisyf yn anghyfreithlon eiddo un a­rall, Rhuf. 7. 7. Nid adnabuaswn dra­chwant, oni bai ddywedyd o'r ddeddf, na thra­chwanta.

Q. Beth ynteu sy'n gynnwysedig yn y Gor­chymmyn hwn?

A. Cynhwysiad byrr yw o'r hôll rai eraill a berthyn im cymmydog; ac y mae fel pe dywe­dasid, pa beth bynnag a ellir ei dybied o fod yn rhwystr iddo, na wna mono. Felly y mae 'n Hiachawdwr yn lle Deisyf, mewn un man yn rhoddi, na cham-golleda. Mar. 10. 19. Mewn man arall, Câr dy gymmydog fel ti dy hun, Matth. 19. 19.

Q. Pa beth a ofynnir yn y Gorchymmyn hwn?

A.

  • 1. Bodlondeb i'm stât a'm cyflwr presen­nol (a):
  • Ac yn 2. Dysgu o honof lafurio yn gywir i ynnill fy mywyd (b) yn y cyflwr hwnnw, i ba un y gwêl Duw yn dda fy ngalw (c). (a) Heb. 13. 5. Bydded eich ymarweddiad yn ddi­ariangar, gan fod yn fodlon i'r hyn sydd gennych, &c. Phil. 4. 11. (b) 1 Thes. 4. 11, 12. Gan roddi eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain, a gweithio a'ch dwylo eich hunain (megis y gorchymmynnasom i chwi), &c, Fel na byddo arnoch eisieu dim. (c) 1 Cor. 7. 20. Pob un yn y galwedigaeth y galwyd ef, yn honno arhosed.

RHAN IV. Am weddi 'r Arglwydd.

C. FY anwyl Blentyn, gwybydd hyn yma, nad elli wneuthur y pethau hyn o honot dy hun, na rhodio yng orchymmyni­on Duw, na'i wasanaethu ef, heb ei yspysol rad ef; yr hwn sydd raid i ti ddysgu yn wa­stad ymoralw am dana trwy ddyfal weddi. Gan hynny moes i mi glywed a fedri di ddywedyd Gweddi 'r Arglwydd.

Q. Pa bethau a gynnwysir yn y rhag ym­adrodd hwn, sydd o flaen Gweddi 'r Arglwydd, yn y Catechism?

A. Y mae 'n gynnwysedig ynddo.

  • 1. Yr achos o bob mâth ar weddio at Dduw, yr hyn sydd annigonolrwydd ynom ein hunain (a), a digonoldeb cyflawn ynddo ef (b). Felly y dywedir (a), Gwybydd hyn yma, nad elli wneu­thur y pethau hyn o honot dy hun heb ei yspysol râd ef. (b) 2 Cor. 3. 5. Nid o herwydd ein bod yn ddigonol o honom ein hunain, i feddwl dim megis o honom ein hunain, eithr ein digonedd ni sydd o Dduw.
  • [Page 53]2. Y mae 'n dangos i ba ddeunydd y mae Gweddi; megis y modd i gael yspysol râd Duw, a gynnwysir yn y geiriau hyn, yr hwn sydd raid i ti ddysgu yn wastad ymoralw am dano trwy ddyfal weddi. Luc. 11. 9, 10, 11, 12, 13. Gofynnwch a rhoddir i chwi, ceisiwch a chwi a gewch, curwch ac fe agorir i chwi, &c.
  • 3. Y mae 'n dyscu i ni pa gynneddfau sy' mewn gweddi nerthol effeithiol; sef,
    • [1.] Ei bôd ar bob amser, yn ddibaid, ac yn ddirwystr (a);
    • [2.] Bod o honi hi yn ddiwyd, yng hyd â ffydd ddiyscog, a dwys ac iawn ystyr (b). (a) Luc. 18. 1. Christ a ddywedodd ddammeg wrthynt, fod yn rhaid gweddio yn Wastad, ac heb ddiffygio. (b) Rhuf. 12. 12. Yn dyfal-barhau mewn gweddi, Ephes. 6. 18.

Gweddi'r Arglwydd

Q. Paham y gelwir y Ffurf o Weddi sy 'n dechreu ag Ein Tad, yn Weddi 'r Ar­glwydd?

A. Oblegid i'n Harglwydd a'n Hiachaw­dwr Iesu Ghrist ei gwneud hi Matth. 6. 9. Luc. 11. 2.

Q. I ba beth y gwnaeth ein Hiachawdwr y Weddi hon?

A.

  • 1. Megis Patrwm o Weddi, i'n cyn­northwyo a'n Cyfarwyddo yn well am ba beth y gweddiem, ac am y drefn y mae i ni weddio ynddi; fel na b'om ar goll beth i weddio am dano (a), ac na siaradom yn ofer (b). (a) Luc. 11. 1, 2. Ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddio—Ac efe a ddywedodd wrthynt; pan weddioch, dywedwch, &c. (b) Matth. 6. 7, 8, 9. Pan weddioch, [Page 54] na fyddwch siariadus,—Am hynny gweddiwch chwi fel hyn, &c.
  • 2. Megis Ffurf, sy 'n gymmwys i'w harfer, pan weddiom. Matth. 6. 9. Fel hyn, neu felly gweddiwch. Luc. 11. 2. Pan weddioch, dy­wedwch, Ein Tad, &c.

C. Dywedwch Weddi 'r Arglwydd.

A. Ein Tad, &c.

Q. Pa beth yr wyt ti yn ei erchi ar Dduw yn y weddi hon?

A. Yr ydwyf yn erchi ar fy Arglwydd Dduw ein Tad nefol, yr hwn yw rhoddwr pob daioni, ddanfon ei rad arnaf, ac ar yr holl bobl, fel y gallom ei anrhydeddu ef, ai wasanaethu, ac ufuddhau iddo megis y dy­lem. Ac yr wyf yn gweddio ar Dduw ddanfon i ni bob peth angenrheidiol, yn gy­stal in heneidiau ac in cyrph: A bod yn drugarog wrthym, a maddeu i ni ein pe­chodau; A rhyngu bodd iddo ein cadw an amddiffyn ym mhob perygl ysprydol a Chor­phorol: A chadw o hono nyni rhag pob pe­chod ac anwiredd, a rhag ein gelyn yspry­dol, a rhag angeu tragwyddol, A hyn yr ydwyf yn ei obeithio y gwna efe oi drugaredd ai ddaioni, trwy ein Harglwydd Jesu Ghrist: Ac am hynny yr wyf yn dywedyd, Amen. Poed gwir.

Q. Pa beth yw rhannau cyffredinol y Weddi hon?

A. Tair ydynt: Sef, 1. Y Rhagymadrodd. 2. Yr Erfynnion, ac yn. 3. Y Rhoddi-mawl [Y Doxolog] neu 'r Diweddiad.

Q. Beth ydyw 'r Rhagymadrodd?

A. Ein Tad yr hwn wyt yn y Nefoedd.

Q. Pa bethau sy 'n gynnwysedig yn yr Ymad­rodd hwn?

A. Y mae 'n cynnwys Llawer o resymmau i'n hannog a'n cymmhell ni i gyflawni y ddyled­swydd hon.

Q. Pa Resymmau yw y rheini?

A.

  • 1. Megis y mae Duw yn Dâd, yn rhoddwr pob daioni, ac felly nis gall amgen na dewis, rhoddi, a gwneud y peth sydd oraf ar ein Lles. Luc. 11. 11, 12, 13. Os bara a ofyn mab i un o honoch chwi sy' Dâd, a ddyry efe garreg iddo, &c? Os chwy chwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da ich plant chwi, pa faint mwy y rhydd eich Tad o'r Nef yr yspryd glân (a daionus bethau Matth. 7. 11.) i'r rhai a ofynnant ganddo?
  • 2. Fel ac y mae efe yn Dâd yn y Nêf; ac felly yn ddigonawl i ddeall, ac i ewyllyssio, ac i wneud yr hyn sydd oraf, Ps. 115. 3. Ein Duw ni sydd yn y Nefoedd, efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.
  • 3. Fel ac y mae yn Dâd cyffredin; at yr hwn y gall pawb ddyfod yn hyf. 2 Thes. 2. 16. Duw a'n Tad, yr hwn a'n carodd ni. Ephes. 2. 18. Trwyddo ef y mae i ni ein dau (Iuddewon a Chen­hedloedd) ddyfodfa mewn un Yspryd at y Tad.

Q. Beth yr ych chwi yn ei ddyscu oddi yma?

A.

  • 1. Mai at Dduw yn unic y dylem weddio. Ps. 123. 1. Attat ti y dyrchafaf fy Llygaid, ti yr hwn a bresswyli yn y Nefoedd.
  • 2. Y dylem ni nessau atto mewn ofn a gwyl­der. Mal. 1. 6. Mab a anrhydedda ei Dad—Os wyf fi gan hynny Dad, pa le y mae fy anrhydedd? [Page 56] Eccles. 5. 2. Na fydd ry bryssur ath enau, ac na frysied dy galon i dreuthu dim ger bron Duw: Canys Duw sydd yn y Nefoedd, a thithau sydd ar y ddaiar.
  • 3. Nyni a ddylem ddyfod mewn cywir serch i bôb Dyn, gan ddeisyf o'r galon eu bod nhw mor iachus a dedwydd a ni ein hunain; yr hyn a gynnwysir, pan ddywedom, Ein Tad; ac wrth hynny dymuned yr wyf iddo ef ddanfon ei râd arnaf ac ar yr holl bobl.

Q. Pa sawl Arch a gynnwysir Yng weddi 'r Arglwydd?

A. Chwech. Y mae 'r tair gyntaf yn per­thyn i Ogoniant Duw, a'r tair diweddaf yn perthyn i'n dedwyddwch ninnau.

Arch 1.

Q. Beth yw 'r Arch gyntaf?

A. Sancteiddier dy Enw.

Q. Beth yr ys yn ei feddwl yma wrth Enw Duw?

A.

  • 1. Ni arwyddocceir yn unig drwyddo enw Duw, eithr Duw ei hunan. Ps. 44. 20. Os anghofiasom enw ein Duw, neu estyn ein dwylo at Dduw dieithr. Psal. 20. 1.
  • 2. Priodoliaethau, a Pherffeithrwydd ei natur ef: Ex. 34. 5, 6. Yr Arglwydd—a gyhoeddodd enw 'r Arglwydd—Yr Arglwydd Dduw trugarog a graslawn, &c.
  • 3. Y pethau a neillduir iw anrhydedd a'i wa­sanaeth ef, megis ei air a'i ddydd, &c. Psal. 138. 2. Ymgrymmaf tua'th deml sanctaidd, a chlod­for af dy enw—oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll.

Q. Beth yw meddwl y gair sancteiddio?

A.

  • 1. Trwddo y dygir ar ddeall neillduo unrhyw beth i ymarfer a gwasanaeth sanctaidd: fel hyn y dywedir i Dduw Sancteiddio y seithfed [Page 57] dydd, Ex. 20. 11. A Sancteiddio meibion Israel, Lev. 22. 32.
  • 2. Trwy sancteiddio y deellir arfer peth sanctaidd yn ôl modd sanctaidd: Felly Lev. 22. 32. Sancteiddier fi ym mysg meibion Israel, Dar­llenwch. Lev. 10. 3.

Q. Beth yr ych yn ei weddio am dano yn yr Arch hon?

A. Gweddio yr wyf ar i Dduw ei hun gael ei anrhydeddu, ei adnâbod, ei berchi, ei addoli, a'i wasanaethu, a'i foliannu (a); fel y gallo ei Ragluniaeth ef gael ei ogoneddu, a'i wasanaeth ei berchi: Ac yn enwedig, fel y gallwyf fi a phawb eraill fod mor ddedwydd a'i anrhydeddu ef, ei wasanaeth, a'i Grefydd, trwy ymarweddi­ad Sancteidd-lan, Llesol, a chymmwys i eraill i'w dilyn (b). (a) Ps. 113. 2, 3. Bendigedig fyddo enw 'r Arglwydd o hyn allan, ac yn dragywydd. O godiad-haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw 'r Arglwydd. (b) 1 Cor. 10. 31. Pa un bynnag ai bwytta ai yfed, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw. Math. 5. 16. Llewrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd.

Arch 2.

Q. Beth ydyw'r ail Arch?

A. Deued dy Deyrnas.

Q. Beth a ddeellir wrth Deyrnas Dduw?

A. Y Cyflwr hwnnw a ddechreuir mewn grâs yn y byd hwn (a), ac a orphennir mewn gogo­niant yn y byd a ddaw (b). (a) Rhuf. 6. 14. Nid ydych chwi tan y ddeddf, eithr tan râs. Matth. 21. 43. Fe ddygir Teyrnas Dduw (neu'r Efengyl) oddi arnoch chwi, &c. Matth. 24. 14. (b) Matth. 13. 43. Fe lewyrcha y rhai cyfiawn fel [Page 58] yr Haul yn nheyrnas eu Tâd. 1 Cor. 15. 24. Efe a rydd y deyrnas i fynu, &c.

Q. Pa beth a arwyddocceir trwy ddyfod o'r Deyrnas honno?

A. Gweddio yr ydym yn y geiriau hynny ar i'r Deyrnas hon ddyfod felly mewn gallu (a), fel y byddo iddi gynnyddu lle y mae hi, a chael ei derbyn, lle nad yw; fel y b'o i deyrnas pechod a Satan gael eu llwyr ddinistrio (b), Ac i holl deyrnasoedd y byd fod yn eiddo ein Har­glwydd ni a'i Ghrist, pan deyrnaso efe yn oes oesoedd. Dat. 11. 15. (a) Marc 9. 1. (b) 1 Cor. 15. 25. Mae 'n rhaid iddo deyrnasu hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed ef.

Arch 3.

Q. Beth yw 'r drydedd Arch?

A. Bid dy ewyllys ar y ddaiar, megis y mae yn y Nefoedd.

Q. Pa beth a ddeellwch wrth ewyllys Duw, y gweddiwch am ei wneud ar y ddaiar?

A. Gweddio yr wyf, yn

  • 1. ar i Dduw ddwyn i ben yn ei amser da beth bynnag a addawodd (a);
  • 2. Ar i mi a phawb eraill fod yn barod i ufuddhau i beth bynnag a ofynno (b).
  • 3. A thrwy ammynedd ymddarostwng dan bob cy­studd y mae yn ei ddanfon (c). (a) Ezec. 36. 36, 37. Myfi yr Arglwydd a'i lleferais ac a'i gwnaf.—Ymofynnir a myfi etto gan dy Israel, i wneuthur hyn iddynt. (b) 1 Cron. 28. 9. Gwa­sanaetha ef a chalon berffaith ac a meddwl ewyllys­gar. (c) Act. 21. 14. Ni a beidiasom, gan ddywedyd, ewyllys yr Arglwydd a wneler.

Arch 4.

Q. Beth yw'r bedwaredd Arch?

A. Dyro i ni heddyw ein bara beuny­ddiol.

Q. Beth a arwyddocceir wrth Fara?

A. Pob lluniaeth, ac ymborth er cynhaliad Dyn. Gen. 43. 31, 34. Efe a ddywedodd wrthynt, gosodwch fara.

Q. Oni arferir y gair Bara hefyd mewn Ystyr ysprydol?

A. Gwneir; megis Ioan. 6. 31. Ac felly yr arferir ef hefyd yn y Catechism, lle y dywedir ein bod ni wedi ein dysgu oddi yma, i weddio ar Dduw ddanfon i ni bob peth angenrheidiol, yn gystal i'n heneidiau ac i'n cyrph.

Q. Pa beth a ddeellir wrth Bara beuny­ddiol?

A. Hwnnw sydd beunydd yn angenrheidiol i'n cynneiliaeth, ac yn gymmwys i'n cyssuro. Dih. 30. 8. Portha fi a'm digonedd o fara.

Q. Paham yr ym ni yn gweddio beunydd, Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol?

A. Oblegid ein bod ni bob Dydd yn disgwil wrth Dduw, ar iddo roddi i ni yr hyn y mae arnom ei eisiau; ac er iddo gadw a chynnal a bendithio yr hyn sydd gennym. Deut. 8. 3. Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a'r sydd yn dyfod allan o enau 'r Arglwydd, y bydd byw dyn. Matth. 4. 4. 1 Tim. 4. 4.

Q. Beth a ddysgir i chwi oddi yma?

A.

  • 1. Ymfodloni ar y'r hyn sydd gennyf yn y byd, yr hyn y mae Duw yn ei weled yn dda i roddi i mi, ac yr wyf yn ei dderbyn ganddo. Heb. 13. 5. Byddwch fodlon i'r hyn sydd gennych.
  • 2. Hyderu yn wastadol ar Dduw, oddi wrth yr hwn y daw pob daioni: Iaco. 1. 17. Pob rhoddiad daionus a phob rhodd berffaith oddi uchod y mae, &c.
  • 3. Cyrchu atto am bob daioni y mae arnaf ei eisiau, a'i glodfori ef beunydd am ba beth byn­nag [Page 60] yr wyf yn ei dderbyn. Phil. 4. 6. Ym mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyd â diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hyspys ger bron Duw.

Arch 5.

Q. Beth ydyw 'r bummed Arch?

A. A maddeu i ni ein dyledion, fel y ma­ddeuwn ni i'n dyledwyr.

Q. Beth a ddeellir wrth Ddyledion?

A. Pob pechod, o ba fath a gradd bynnag y bônt. Col. 2. 13. Chwithau pan oeddych yn feirw mewn camweddau—a gyd-fywhaodd efe gyd ag ef, gan faddeu i chwi yr holl gamweddau.

Q. Beth sy 'n gynnwysedig yn y rhan honno; fel y maddeuwn ni i'n dyledwyr.

A. Yno y rhoddir allan,

  • 1. Mor rhagorol ydyw y Grâs hwn o faddeu i eraill, megis dawn, pa le bynnag y bo, a wna ein gweddiau yn gym­meradwy gyd â Duw. Luc. 6. 37. Maddeuwch, ac fe a faddeuir i Chwithau.
  • 2. Mor Angenrheidiol ydyw, megis y mae yn ammod, heb yr hwn ni faddeuir i ni Math. 6. 15. Oni faddeuwch i ddynion eu cam­weddau, ni faddeu eich Tâd eich camweddau chwithau.
  • 3. Mor bwysfawr yw, megis y mae'n achly­sur i Dduw i faddeu i ni. Luc. 11. 4. Maddeu i ni ein pechodau, canys yr ydym ninnau yn maddeu i bawb sydd yn ein dylêd (neu a wnaeth niweid i) ni.

Q. Beth ydyw 'r chweched Arch?

A. Ac n [...]c arwain ni i brofedigaeth, eithrArch 6. gwared ni rhag drwg.

Q. Pa beth a ddeellir wrth Brofedigaeth?

A. Trwyddo yr amcenir y cyfryw achlysur a'r a ddichon brofi purdeb gwr a dianwadalwch [Page 61] ei feddwl, Ac yn y diwedd (oni achubir ei flaen) a all fod yn fodd i ni i dramgwyddo i be­chod, Gen. 22. 1. Fe brofodd Duw Abraham. 2 Cron. 32, 31.

Q. Pa beth ynteu yr ych chwi yn gweddio iw erbyn yn y diwedd-glo hwn; nac arwain ni i brofedigaeth?

A. Gweddio yr wyf na ddygo Duw fi, ac na ado ef i mi gael fy nwyn i'r cyfryw gyflwr, ac a ddichon drwy chwant y cnawd, neu serch ar y byd, neu hudoliaeth y Cythrael, beryglu fy niniweidrwydd i yma, na'm Hiechydwriaeth yn ôl hyn. 1 Cor. 10. 13. Ffyddlon yw Duw, yr hwn ni âd eich temtio uwch law yr hyn a alloch, &c.

Q. Pa beth yw 'r drwg y gweddiwch chwi am gael eich gwaredu rhagddo?

A.

  • 1. Drwg pechod. Hab. 1. 13. Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli Edrych ar anwiredd.
  • 2. Drwg Cystudd a chospedigaeth. Jer. 18. 8. Os y genhedl honno—a dry oddiwrth ei drygioni; myfi a edifarhaf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi.
  • 3. Y Byd drygionus (a), a'i holl hudoliaethau, a'i ddychryn. (a) Gal. 1. 4.
  • 4. Y Cythraul, y temtiwr i bechod, Math. 4 3.
  • 5. Damnedigaeth, yr hwn yw ei gyflog ef. Rhuf. 6. 23. Cyflog pechod yw marwolaeth.

Q. Pa beth yw swmm yr hyn y gweddiwch am dano yn yr Arch hon?

A. Gweddio yr wyf ar ryngu bodd i Dduw fy nghadw am hymddiffyn ym mhob perygl Ysprydol a chorphorol. A chadw o hono fyfi rhag pob pechob ac anwiredd, a rhag ein gelyn Ysprydol a rhag angeu tragwyddol.

Q. Pa beth yw 'r Mawl-adroddiad neu ddi­weddiad Gweddi 'r Arglwydd?

A. Canys ti piau 'r deyrnas ar gallu ar gogoniant, yn oes oesoedd, Amen.

Q. Pa beth a feddylir wrth Fawl-adroddiad?

A. Ffurf barchus yw o fawl a diolchgarwch a arferir yn eglwys Dduw. 1 Cron. 29. 11. I ti Arglwydd, y mae mawredd a gallu a gogoniant a goruchafiaeth a harddwch, &c.

Q. Beth a gynnwysir yn y Mawl-ddatcaniad yma?

A. Y mae 'n cynnwys cyfaddefiad,

  • 1. O ra­gorawl ardderchawgrwydd Duw; yr hyn yw sylwedd ein mawl a'n haddoliad, y Cyfryw yw ei lywodraeth ef tros bob peth (a elwir yma y Deyrnas); a'i Allu, trwy ba un y mae yn eu Cynnal ac yn eu llywodraethu, ac yn Cymmorth pawb a'r sy 'n gweddio arno: Tydi biau 'r deyrnas a'r gallu.
  • 2. O'r anrhydedd a'r diolch yr ym ni iw rhoddi iddo, am ba beth bynnag a dderbyn­niom ganddo, ac o'r diben er mwyn pa un y rho­ddwyd hwynt. Ti biau'r Gogoniant. 1 Cor. 10. 31. Beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogo­niant i Dduw.
  • 3. Yno y cynnwysir, mai fel ac y mae 'r perffeith­rwydd yma yn berffaith ac yn eglur, yn dde­chreuol ac yn ddiwahanol yn Nuw yn unig felly dyledswydd wastadol yr eglwys yma ar ddaiar, a'r eglwys fry yn y Nefoedd, yw rhoddi gogoniant iddo, byth ac yn dragywydd, 1 Pet. 4 11. Fel ym mhob peth y gogonadder Duw trwy Iesu Ghrist, i'r hwn y byddo 'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Amên. Dat. 5. 13.

Q. Pa beth y mae 'r gair Amên, yn ei ar­wyddoccau?

A. Yn niwedd ymadrodd, y mae Amên yn arwyddoccau cyd-gordiad a boddiant (a), dy­muniad a deisyf (b), hyder a goglud (c). (a) 1 Cor. 14. 16. Pa fodd y dywaid yr hwn sydd yn cyflawni lle'r anghyfarwydd, Amên, &c? (b) Jer. 28. 6. Jeremi a ddywedodd, Amên. Poed felly y gwnelo 'r Arglwydd. 1 Bren. 1. 36. (c) 1 Cron. 16. 35, 36. Dywedodd yr holl Bobol. Amên.

Q. Beth wrth hynny yw meddwl y gair Amên, yng-weddi 'r Arglwydd?

A. Yr un peth yw, a phe bae un yn dywedyd, yr holl gwbl y gweddiais i am dano, yr ydwyf yn gobeithio y gwna Duw o'i drugaredd a'i ddaioni trwy in Harglwydd Iesu Ghrist, ac am hynny yr wyf yn dywedyd, Amên. Poed gwir.

RHAN V. Am y Sacramentau.Y Sacra­mentau.

Q. PA sawl Sacrament a ordeiniodd Christ yn ei Eglwys?

A. Dau yn unig, megis yn gyffredinol yn angenrheidiol i iechydwriaeth; sef, Be­dydd a Swpper yr Arglwydd.

Q. A ydyw 'r ddau hyn yn angenrheidiol i Iechy­dwriaeth?

A. Ydynt, yn gyffredinol yn angenrheidiol.

Q. Paham y dywedir eu bod nhw yn gyffredi­nol yn angenrheidiol?

A. Oblegid nid oes neb yn rhydd oddiwrth y rhwym o'u cadw nhw, oddieithr y rhai sydd anghymmwys, ac heb fod iddynt gyfle.

Q. Pa fodd y mae 'r ddau hyn yn angenrhei­diol?

A.

  • 1. Megis mai Bedydd yw'r ffordd i dder­byn rhai i Eglwys Christ (a), allan o ba un nid oes addewid o Iechydwriaeth (b). (a) Matth. 28. 19. Ewch a dysgwch [Disgybliwch] yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwynt, &c. (b) Eph. 2. 12. Estroniaid oddiwrth ammodau yr addewid, heb obaith gennych, Ioan. 3. 5.
  • [Page 65]2. Megis y mae Swpper yr Arglwydd yn Dy­stiolaeth o'n Cyfundeb ni a'r Eglwys (a), a modd i dderbyn y Grâs hwnnw (b) yr hwn a addawyd i ni yn y Bedydd. (a) 1 Cor. 10. 17. Nyni yn llawer ydym un bara, ac un Corph; canys yr ydym ni oll yn gyfrannogion o'r un bara. (b) Adn. 16. Phiol y fendith, yr hon a fendigwn, onid Cym­mun [Cyfranniad] Gwaed Christ ydyw? Y bara yr ydym yn ei dorri, onid Cymmun corph Christ yw?

Q. A oes gan Eglwys Rhufan onid dau Sa­crament yn unig, fel ninnau?

A. Oes, o ran y mae ganddynt bump gvd a'r ddau yma; sêf, Conffirmasiwn, Penyd, Ennaint oddiallan [Enneinio 'r Cleifion yn y perigl Eithaf o'u marwolaeth,] Urddau, a Phriodas; ac y maent yn melldigo pawb oll ac sydd ganddynt lai neu fwy na saith Sacrament, a elwir yn wir ac yn gymmwys felly.

Q. Eithr pa ham na bae mwy na dau Sacra­ment?

A. Oblegid yn unig gan y ddau yma y mae holl arwyddion perthynol i Sacrament gwir ac addas; ac o ba rai y mae y pump eraill yn ddiffygiol.

Q. Pa beth yr wyt ti yn ei ddeall wrth y gair hwn Sacrament?

A. Yr wyf fi yn deall, Arwydd gweledig oddi-allan o ras ysprydol oddimewn a roddir i ni; yr hwn a ordeiniodd Christ ei hun, megis modd i ni i dderbyn y gras hwnnw trwyddo, ac i fod yn wystl i'n sicrhau ni, o'r gras hwnnw.

Q. Pa rai ydyw 'r Priodolaethau sy'n per­thyn i wir Sacrament, megis y gosodir ef allan yma?

A. Y pedwar hyn ydynt.

  • 1. Bod arwydd gweledig oddi-allan, megis Dwfr yn y Bedydd, a Bara a Gwin yn Swpper yr Arglwydd.
  • 2. Gras Ysprydol oddi-fewn, a arwyddocceir drwyddo, megis Adenedigaeth trwy Fedydd, a Chorph a Gwaed Christ yn Swpper yr Arglwydd.
  • 3. Ordeinhâd Duw; fe a'i rhoddir i ni, ac fe a'i ordeinir gan Ghrist ei hunan. Matth. 28. 19. Ewch a dysgwch [Disgybliwch] yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw yr Tad a'r Mab a'r Yspryd Glan. 1 Cor. 11. 23. Myfi a dderbyniais gan yr Ar­glwydd, yr hyn hefyd a draddodais i chwi.
  • 4. Y mae i fod yn fodd i dderbyn y grâs hwn­nw, ac yn wystl i'n siccrhau ni o'r grâs hwnnw: Matth. 26. 28. Hwn yw fy Ngwaed o'r Testament [Cyfammod] newydd yr hwn a dywelldir tros lawer er maddeuant pechodau.

Q. Pa sawl rhan sydd mewn Sacra­ment?

A. Dwy, yr Arwydd gweledig oddi-allan, a'r gras Ysprydol oddi-fewn.

Am y Bedydd.

Q. Pa beth yw'r Arwydd gweledig oddi­allan, neu'r ffurf yn y Bedydd?

A. Dwfr: Yn yr hwn y bedyddir un, Yn Enw 'r Tad a'r Mab a'r Yspryd glan.

Q. Pa beth yw Bedydd Christnogol?

A. Golchiad yw (naill ai trwy daenellu (a), neu dywallt dwfr ar (b), neu drochi (e) un ynddo) yn Enw 'r Tâd a'r Mab a'r Yspryd Glân. (a) Num. 8. 7. Exec. 36. 25. Heb. 10. 22. [Page 67] (b) Marc. 7. 4. Ioan 13. 10. (c) Act. 8. 38.

Q. Pa beth yw'r gras ysprydol oddi-fewn? Neu'r peth a arwyddocceir wrth y Bedydd.

A. Marwolaeth i bechod a ganedigaeth newydd i gyfiawnder (a): Canys gan ein bod ni wrth naturiaeth wedi ein geni mewn pechod, ac yn blant digofaint; drwy Fedydd y gwneir ni yn blant Gras (a). Rhuf. 6. 3, 4, 11. Oni wyddoch chwi am gynnifer o honom, ac a fedyddiwyd i Christ Iesu, ein bedyddio ni iw farwolaeth ef? Claddwyd ni gan hynny gyd ag ef trwy fedydd, ei farwolaeth; fel megis ac y cyfodwyd Christ o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau mewn newydd-deb buchedd.

Q. Pa beth yw 'r cyflwr yr oeddych chwi a phob rhyw ddyn ynddo cyn y Bedydd?

A. Fe a'n ganwyd wrth naturiaeth mewn pechod ac yn blant digofaint. Ephes. 2. 3. Yr oeddym ni wrth naturiaeth yn blant digofaint megis eraill.

Q. Pa beth yw 'r Cyflwr, i ba un y dycpwyd chwi trwy Feddyd?

A. Trwy fedydd y gwneir ni yn Blant Grâs, Ephes. 2. 4, 5. Duw yr hwn sydd gyfoethog o dru­garedd, o herwydd ei fawr gariad, trwy'r hwn y ca­rodd efe ni, ie pan oeddym feirw mewn camweddau, a'n cyd-fywhaodd ni gyd â Christ (trwy râs yr ydych yn gadwedig).

Q. Pa fodd y gwneir chwi yn blentyn Grâs trwy Fedydd?

A. Megis trwyddo yr wyf yn mynd mewn cyfammod a Duw, a chennyf hawl i râs a bendi­thion y cyfammod hwnnw, o'r hwn y mae fy Me­dydd yn fodd ac yn wystl. 1 Joan 3. 2. Yr awron [Page 68] meibion i Dduw ydym, Act. 2. 38, 39. A Pheir a ddywedodd, edifarhewch a bedyddier pob un o ho­noch yn enw Iesu Ghrist er maddeuant pechodau, a chwi a dderbynniwch ddawn yr Yspryd Glân. Canys i chwi y mae'r addewid ac i'ch plant, ac i bawb ym mhell, cynnifer ac a alwo yr Arglwydd ein Duw ni atto.

Q. A ydyw Bedydd ei hun yn ddigonol i Ie­chydwriaeth?

A. Nac ydyw, ei hun heb yr Ail-anedigaeth a arwyddocceir drwyddo, Oni byddwn feirw i be­chod a byw i Dduw trwy Iesu Ghrist, Rhuf. 6. 3, 4, 11.

Q. Pa beth a ddisgwilir gan y rhai a fe­dyddier?

A. Edifeirwch (a), drwy 'r hon y maent yn ymwrthod a phechod; a Ffydd (b) drwy'r hon y maent yn ddiysgog yn credu yr hyn oll a ddatcuddiodd Christ; ac yn enwedig addewidion Duw a wneir iddynt yn y Sa­crament hwnnw. (a) Act. 2. 38. 41. Edi­farhewch a bedyddier pob un o honoch chwi yn enw Iesu Ghrist, er maddeuant pechodau, &c. (b) Act. 8. 37. Os wyti yn credu a'th holl galon, fe a ellir dy Fedyddio.

Q. Pa ham wrth hynny y bedyddir plant bychain, pryd na's gallant o herwydd eu hifiengctid gyflawni y pethau hyn?

A. Oblegid eu bod yn addaw pob un o'r ddau [Edifeirwch a Ffydd] drwy eu meichiau, yr hwn addewid pan ddelont i oedran, y maent hwy eu hunain yn rhwym iw gyflawni.

Q. A ellir rhwymo plant, pan nad ydynt eu hunain yn cyttuno?

A. Gellir; felly yr ydoedd dan y gyfraith (a), pan gymmeryd plant i'r cyfammod; a phan enwaedid arnynt yr wythfed dydd (b), ac o hynny allan fe a'u cyfrifid yn blant i Dduw (c): (a) Deut. 29. 10, 11, 12. Yr ydych chwi oll yn sefyll heddyw ger bron yr Arglwydd eich Duw, pennaethiaid eich llywthau—eich plant—i fyned o honot dan gyfammod yr Arglwydd. (b) Gen. 17. 12, 13, 14. (c) Ezec. 16. 20, 21. Lle­ddaist fy mhlant, ac a'u rhoddaist iw tynnu trwy 'r tân i Moloch.

Q. Pa siccrwydd sydd am fedyddio plant by­chain, a enir o rieni Christianogol?

A. Yr unrhyw ac sydd am fedyddio rhai mewn oedran, a enir o rieni Christianogol; a hynny ydyw, oblegid bod y Cyfammod yn per­thyn iddynt. Act. 2. 39. I chwi y mae'r adde­wid ac i'ch plant. 1 Cor. 7. 14. Pe amgen aflan yn ddiai fyddau eich plant, eithr yn awr [wedi eu geni o rai yn credu] sanctaidd ydynt.

Swpper yr Arglwydd

Q. Paham yr ordeiniwyd Sacrament Swpper yr Arglwydd?

A. Er mwyn tragwyddol gof am aberth dioddefaint marwolaeth Christ, a'r lleshadau yr ydym ni yn eu derbyn oddi wrtho.

Q. Pa ham y gelwir y Sacrament hwn, Swpper yr Arglwydd?

A. Fe a'i gelwir Swpper yr Arglwydd (a), o ran i'r Arglwydd ei ordeinio ar Swpper (b) yn ebrwydd cyn ei farwolaeth. (a) 1 Cor. 11. 20. Nid bwytta Swpper yr Arglwydd ydyw hyn. (b) Matth. 26. 20. 26.

Q. I ba ddiben yr ordeiniodd yr Arglwydd ef?

A.

  • 1. Megis arwydd cyffelybiaeth, a dango­siad o aberth ei farwolaeth ef, (a) a modd i gadw i fynu goffadwriath gwastadol am dano; (a) 1 Cor. 11. 24. Cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fy nghorph, &c. gwnewch hyn er coffa am da­naf.
  • 2. Megis modd i gaeI, a gwystl i'n siccrhau ni o'r lleshâdau yr ym ni yn eu derbyn oddiwrtho (b). (b) Matth. 26. 28. [Y gwin] hwn yw fy ngwaed o'r Testament newydd, yr hwn a dywelldir dros lawer er maddeuant pechodau.

Q. Paham y gelwir marwolaeth Christ yn Aberth?

A. Fe a'i gelwir yn Aberth (a), oblegid bod Christ yn Aberth tros bechod (b). (a) Heb. 9. 26. Efe a ddeleuodd bechod trwy ei aberthu ei hun. (b) 2 Cor. 5. 21. Efe a'i gwnaeth ef yn bechod [yn Bech-aberth] trosom, yr hwn nid adnabu be­chod.

Q. Tros ba hyd y mae 'r Ordinhad hwn i barhau?

A. Y mae i barhau er gwastadol gof am ei angen nes ei ddyfod. 1 Cor. 11. 26. Cynnifer gwaith bynnag y bwyttaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwppan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd hyd oni ddelo. Act. 1. 11.

Q. Pa bech yw y rhan oddiallan, neu 'r arwydd yn Swpper yr Arglwydd?

A. Bara a Gwin, y rhai a orchymmyn­rodd yr Arglwydd eu derbyn.

Q. A raid cymmeryd y ddau, y Bara a'r Gwin, y naill yn gystal a'r llall?

A. Rhaid; o ran yr Arglwydd a orchmynnodd dderbyn y ddau, 1 Cor. 11. 23, 24, 25. Derbyn­niais gan yr Arglwydd—bod i'r Arglwydd Iesu y nos y bradychwyd ef, gymmeryd Bara, &c. Yr un modd hefyd efe a gymmerodd y Cwppan, &c.

Q. Pa beth yw y rhan oddifewn, neu 'r peth a arwyddocceir?

A. Corph a Gwaed Christ, y rhai y mae'r ffyddloniaid yn wir ac yn ddiai yn eu cym­meryd ac yn eu derbyn yn Swpper yr Ar­glwydd.

Q. A ydyw y Bara a'r Gwin yn newid eu natur ar ôl eu cyssegru?

A. Nac ydynt yn amgenach nag yn eu har­fer; O ran y maent yn aros yr unrhyw mewn natur a sylwedd, megis o'r blaen; felly fe a'i gel­wir ef deirgwaith yn Fara. 1 Cor. 11. 26, 27, 28.

Q. Pa beth yw Corph a Gwaed Christ a ddy­wedir yma fod y Ffyddloniaid yn eu cymmeryd yn wir ac yn ddiai?

A.

  • 1. Nid corph a gwaed naturiol Christ ydyw yn ol y llythyren, 1. O ran y mae 'r Ca­techism yn dywedyd, y rhan oddimewn, neu 'r peth a arwyddocceir trwy 'r Bara a'r Gwin yn y Sacra­ment, ydyw corph a gwaed Christ: Ac felly arwyddion ydyw y Bara a'r Gwin o'r corph a'r gwaed hwnnw, ac nid y corph na'r gwaed cnawdol ei hun. 2. Oblegid y dywe­dir, Corph a Gwaed Christ, y rhai y mae 'r ffyddloniaid yn wir ac yn ddiai yn eu der­byn; er gwrthsefyll yr angrhedadyn, y [Page 72] rhai (fel ac y dywaid y 29 Articl) nid ydynt yn bwytta Corph Christ yn Swpper yr Argiwydd.
  • 2. Attebaf, gan ddywedyd yn eglur, mai trwy Gorph a Gwaed Christ y deellir Christ ei hun, yr hwn a ddioddefodd yn ei Gorph, ac a dywalltodd ei waed trosom. Ioan 6. 53, 54, 55, 56. Oui swyttewch gnawd mab y dyn, ac oni yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch, &c. Ei Gnawd a'i Waed; hynny yw, Ef ei hun, fel ac y mae yn canlyn yn ebrwydd, adn. 57. Yr hwn sydd yn fy mwytta i yntef a sydd byw trwof fi.

Q. Pa sodd y mae Corph a Gwaed Christ wedi eu cymmeryd a'u derbyn yn wir ac yn ddiai gan y ffyddloniaid yn Swpper yr Arglwydd?

A. Y mae'r ffyddloniaid yn derbyn Christ (yr hwn fel hyn a ddioddefodd yn ei Gorph ac a dy­walltodd ei Waed) trwy ffydd; Fel mai Christ ei hun yw Cnawd a gwaed Christ; felly bwytta a derbyn yw 'r un â Chredn. Ioan 6. 35. Myfi yw bara 'r bywyd yr hwn sydd yn dyfod attafi, ni newyna: A'r hwn sydd yn creau ynofi, ni sycheda un amser. adn. 51. Os bwytty nêb o'r Bâra hwn, efe a sydd byw yn dragywydd. adn. 54. Yr hwn sydd yn bwytta fy Ngnawd i, &c. adn. 56, 57.

Q. A oes dim rhagor rhwng y Lleshadau [neu'r Doniau] yr y'm yn eu derbyn trwy Grîst, a'i Gîg a'i Waed ef?

A. Oes, mae cymmaint o ragor rhyngddynt, ag sydd rhwng Crîst ei hun, a'r doniau a bwrca­sodd efe i ni.

Q. Pa Leshadau yr ydym ni yn eu derbyn wrth gymmeryd y Sacrament hwn▪

A. Cael cryfhau a diddanu ein henei­diau drwy Gorph a Gwaed Christ, me­gis y mae 'n Cyrph yn cael drwy 'r Bara ar Gwin.

Q. Pa fodd y cryfheir ac y diddenir ein He­neidiau ni trwy gorph a gwaed Christ?

A. Fe gryfheir ac fe ddiddenir ein Heneidiau ni yn Swpper yr Arglwydd, trwy gredu o ho­nom Yng Hrîst, yr hwn a ddioddefodd yn ei Gorph, ac a dywalltodd ei Waed drosom (a); yr hwn yn fwy hyspysol, a bortreiadir i ni ac a osodir allan yn yr Ordinhad yma (b). (a) Ioan 6. 35. Yr Iesu a ddywedodd, Myfi yw bara 'r bywyd; yr hwn sydd yn dyfod attafi, ni newyna, a'r hwn sydd yn credu ynofi, ni sycheda, adn. 51. Myfi yw 'r bara bywiol, yr hwn a ddaeth i wared o'r Nef: Os bwytty neb o'r bara hwn, efe a sydd byw yn dra­gywydd: A'r bara a roddafi, yw fy nghnawd, yr hwn a roddafi tros fywyd y byd. (b) 1 Cor. 10. 16. Phiol y fendith, yr hon a fendigwn onid Cym­mun [neu, Gyfrannogiad] Gwaed Christ ydyw? Y bara yr ydym yn ei dorri, onid Cymmun corph Christ yw?

Q. Pa beth sydd raid i'r rhai a ddelont i Swpper yr Arglwydd ei wneuthur?

A.

  • 1. Eu holi eu hunain (a), a ydynt hwy yn wir edifeiriol am eu pechodau a aeth­ant heibio (b), ac yn siccr amcanu dilyn buchedd newydd (c). (a) 1 Cor. 11. 28. Holed dyn ef ei hun, ac felly bwyttaed o'r bara ac yfed o'r cwppan, &c. (b) 1 Cor. 11. 20, 21. Nid bwytta Swpper yr Arglwydd ydyw hyn. O ran [yn eu Gwleddoedd o Gariad cyn y Cym­mun] un sydd a newyn arno ac arall yn feddw. [Page 74] adn. 31. Pe iawn-farnem ni ein hunain, ni'n bernid. (c) Es. 1. 16, 17, 18. Ymolchwch, ym­lanhewch, bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithre­doedd oddi ger bron fy llygaid, peidiwch a gwneu­thur drwg, dysgwch wneuthur daioni, &c. Deuwch yr awron ac Ymresymmwn, medd yr Arglwydd, &c.
  • 2. A oes ganddynt Ffydd fywiol yn nhru­garedd Dduw drwy Christ; Act. 26. 18. Fel y derbynniont faddeuant pecho­dau—trwy y Ffydd sydd ynof fi. Act. 4. 12. Ac nid oes Iechydwriaeth yn nêb arall; canys nid oes Enw arall, tan y Nêf, wedi ei roddi ym-mhlith Dynion, drwy yr hwn y ma'en rhaid i ni fod yn gadwedig. 1 Cor. 11. 29. Yr hwn sydd yn bwytta ac yn yfed yn Anheilwng, sydd yn bwytta ac yn yfed Barnedigaeth iddo ei hûn, am nad yw yn iawn-farnu Corph yr Arglwydd.
  • 3. Gyd a diolchus-gof am ei Angeu ef: 1 Cor 11. 26. Canys cynnifer gwaith bynnâg y bwyttaoch y Bara hwn, ac yr yfoch y Cwppan hwn, y dangoswch [neu, Mynegwch] Farwolaeth yr Arglwydd hyd oni ddelo. 1 Cor. 6. 19, 20.
  • 4. Ac a ydynt hwy mewn Cariad per­phaith a phob Dyn▪ 1 Cor. 10. 17. Nyni yn llawer ydym ûn Ba­ra, ac ûn Corph; canys yr ydym ni ôll yn Gy­frannogion o'r ûn Bara. Eph. 5. 2. Rhodiwch mewn Cariad, megis y carodd Christ ninnau, ac a'i rhoddodd ei hun trosom ni yn Offrwm ac yn A­berth i Dduw. Matth. 5. 23, 24. Os dygi dy rôdd i'r [neu, hyd at yr] Allor, ac yno dyfod i'th [Page 75] gôf fôd gan dy frawd ddim yn dy erbyn; Gâd yno dy rodd ger bron yr Allor, a dôs ymmaith: Yn gyntaf cymmoder di (neu, cais gymmod) a'th frawd, [a'r hwn y gwnaethost gam, neu yr hwn a ddigiaist] ac yno tyred ac offrwm dy Rodd.
Y DIWEDD.

Hyfforddiad i'r Anwybodus, yng-hylch y Llyfr hwn.

☞ Mae'r Llythrennau a nodir (yn amal iawn yn y Llyfr yma) fel hyn, sef, (a) (b) (c) (d) a'r cyffelib, i gyfarwyddo 'r Darllennydd, at fannau o'r Scrythur sy'n canlyn, ac a amce­nir i brwfio 'r pethau a Nôdwyd felly yn yr Ymadrodd sy' ychydig o'r blaen.

Ychydig fannau allan o Air Duw, yng-hylch Dyledswydd, Canmo­liaeth, a Budd dyscu 'r Scrythur-Lan, a'r Catechism (i'r pwrpas hwnnw;) ac ymddwyn yn ol hynny.

MOses a orchymmyn i holl Israel. Deut. 11. 18, 19.—A dyscwch hwynt (Gorch­mynnion Duw) i'ch Plant, &c.

A Salomon fel hyn. Dih. 22. 6. Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd; a phan heneiddio, nid a­medy â hi.

A Duw Grouchaf sy'n mynegi yn No­dedig am Abraham. Gen. 18. 17, 18, 19.—Abraham yn ddiai a fydd yn Genhedl. eth fawr, &c. ac ynddo ef y Bendithir holl Genhedloedd y Ddaiar: Canys Mi a'i hadwaen Ef, y Gorchym­myn efe iw Blant, ac iw Dylwyth ar ei ôl, gadw o bonynt ffordd yr Anglwydd, &c.

A St. Paul, a orchymmyn. Eph. 6. 4. A Chwithau Dadau—Maethwch eich plant yn addyso ac athrawiaeth yr Arglwydd. Ac yn 2 Tim 1. 13 Y mae 'n erchi i Dimothi, Bydded gennit Ffurf yr Ymadroddion iachus. Ac yn rhoddi 'r Ganmoli­aeth hon, &c. 2 Tim. 3. 14, 15, 16, 17.—Ac er i ti yn Blentyn wybod yr Scrythur-Lân, yr hon a ddichon dy wneuthur di yn ddoeth i Iechydwriaeth, trwy'r Ffydd sy'yng Hrîst Iesu; &c. Ac heb-law hyn ôll;

[Page] Chrîst ei hûn a orchymmyn i'r Iddewon, Ioan. 5. 39. Chwiliwch yr Scrythyrau, &c. Ac iw Ddiscyblion, Matt. 28. 19, 20 Ewch—a dyscwch (neu, a Disgybliwch) yr holl Genhedloedd, gan eu Bedyddio hwynt, &c. gan ddyscu iddynt gadw pob peth a'r a Orchmynnais i chwi, &c. Ac yn Matt. 5. 19. Mae'n dywedid i bawb; Pwy bynnag a wnelo, ac a ddysco i eraill sy ngorchmynnion i, yr hwn a elwir yn fawr yn Nheyrnas Nefoedd. Ac, fyrhau, Lu. 11. 28. Gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando Gair Duw, ac yn ei Gadw, a hynny yw, fel pe dywedasai, dedwydd fyth a fydd pob ûn a wrandawo, a gredo, a ddysco, a gofio, a edi­farhao ac a rodio yn ôl ewyllys Duw megis yr yspysir ef i ddynion yn yr Scrythur. Ac bell­ach, fel y gallom bawb, gyflawni y Dyled­swyddau yma, a gynhwysir yn yr Scrythur Lan, a rhagoraf-Gatechism ein Heglwys ni; Gwir­edifarhawn yn ddioed trwy Râs Duw, am ein Camweddau, a'n hesgeulustra yn hyn; ac ym­egniwn o hyn allan, yn wastad ac o ddifrif, i wneuthur yn well-well beunydd; fel y gallom ôll, Hên ac Ifaingc, ynnill ein rhan o'r Glod a'r Budd a grybwyllir uchod; ac yn gan­lynol, fel y gallom ni, a'r Genedl sy' i ddy­fod ar ein hôl, fod yn ddedwyddach yn y Byd yma; ac yn gyflawn-wynfydedig yn hwnnw a ddaw: A dyweded yr hôll Bobol o ddyfnder eu calonnau, (Duw a'i Canniadhâo) Amên.

Books Printed for and are to be sold by Mat­thew Wotton at the Three-Daggers in Fleet-street.

A Guide to the Devout Christian. In three Parts. The first containing Meditations and Prayers affixed to the Days of the Week; together with many occasional Prayers for Par­ticular Persons. The second for more Persons than one, or a whole Family, for every Day of the Week; together with many occasional Prayers. The third containing a Discourse of the Nature and Necessity of the Holy Sacra­ment; together with Meditations thereon Prayers and Directions for the worthy Recei­ving thereof. To which is added, a Prayer for Ash-Wednesday, or any other time in Lent; for Good-Friday, and any Day of Publick Fasting. The Third Edition Corrected. By John Inett. M. A. Chanter of the Cathedral Church of Lincoln.

Twelve Sermons Preach'd upon Several Oc­casions. By the Right Reverend Father in God Richard Lord Bishop of Bath and Wells.

Bishop Kidder's Demonstration of the Mes­sias, being what was Preached at Mr. Boyle's Lecture, the 2d Part.

—'s 3d part of the Demonstration of the Messias now in the Press.

Dr. Stanhope's Sermon at the Commencement at Cambridge.

—at the Funeral of Dr. Towerson.

—to the Sons of the Clergy at St. Paul's Cathedral.

Remarks on Human Understanding, 1, 2, 3d.

Occasional Paper, N. 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10.

Reflexions on the Growth of Deisme in Engl

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.