Y Pwblican hwn ir' Deml a aeth,
a'j weddj a wnaeth yn do­stur:
Trigaredd (Arglwydd) dôd yn-awr,
i'm pechod mawr dife­sur.
Gwrandawodd Duw ei wed­di bûr,
o c'hydig eglur eiriaeu;
Ac fe a gafodd i ryddhau,
a'i gyfiawnhai 'fynd­adre.
Luc. 18.
R. B.

DEFOSIWNEU Priod.

Printiedig yn LLundain, i Richard Marriot; yn monwent Eglwys St. Dunstan. 1655.

DEFOSIWNEU PRIOD, Wedi ei cymhwyso i bum rhan gweddi: SEF, I. Cyffes. II. Rhagddeisyfiad. III. Deisyfiad. IV. Talu-diolch. V. Erfyniad. Ac Arch arbennig tros y clâf.

A Chynghorieu a gweddiau ar ddydd yr Arglwydd, o flaen Cymmun, erbyn dydd mar­wolaeth, a dydd y farn.

A Dwy weddi beunyddiol, sef boreuol a phrydnhawnol: Wedi ei cyfiaethu yn Gymraec, Trwy waith W. L. M. A.

Rhuf. 11. 14.

Lundain, Printiedig i Richard Marriot yn monwent Eglwys S. Dunstan. 1655.

Viro Amplissimo, Bonarum litt. Fautori exi­mio, eidemque Patrono suo adprimè colendo, THOMÆ MYDDELTONI ARMIGERO, S. nunciat & cultum.

QVum sola Dei O. M. gloria, commu­neque adflictæ suæ, tantumque non de­vastatæ in Cambria Eccle­siæ emolumentum▪ unica ex­stiteri▪ finis, mihi ob oculos posita, cùm ad piissimam D. Valentini Litaniam verten­dam, sermon [...]que Cambro­britannico, hoc est, patrio, [Page] impartiendam animum pri­mùm adpellerem, conatusque collimarem; quin facilem▪ apud Te, Probosque Chri­stianos universos, [...] ac ineptiarum, in quas, in illius versione, impegisse videar, excusationem inve­niam referamque, nullus dubitem.

Ani [...]os ad opus suscipien­dum stimulosque addidit ne­mo; difficultates & impedi­menta quibuscum sum con­luctatus, & multa fuêre & magna; utpote omni om­nium (unico excepto) ope prorsum destitutus, nec non ab ipsis statim juvenibus annis à nativo selo quasi pe­regrinatus, adeò ut ipsius [Page] linguæ [...] penè obli­tus fuerim.

Si tamen hâc meâ (qua­licumque) oper â quemquam Nostratium in veræ solidæ­que pietatis viâ, promovere quietus fuero, votorum ex­optatissimè damnor, satque indeptus videbor, quod & popularibus meis gratuler, ipsique mihi gaudeam.

At verò penso tandem persoluto, facilius multo in­ventu fuit, cujus sub au­spiciis (nimirum Tuis) pr [...] ­diens, Libellus orbem saluta­ret peragraretque, quò Tuâ & clientelâ fretus, nomine­que insignitus, non modò tu­tum se præst aret, exhiberet­que gratum, sed insuper [Page] (quod maximè in votis) te­statum quomodocumque da­ret, quantâ, adversus Te, quamque gratissima grati­tudine animus calet ardei­que, ob multiplices Tuos fa­vores (ni fortasse an Preci­bus, nunquam remuneran­dos) Oxoniæ, Londinique & Linfordiæ collatos cumula­tosquein

Tuum Sacellanum li­cet indignissimum, AT Servum observantissi­mum, humillimum, G. L.

Ad Amicum
De hac versione &c.

QUi movent omnem lapidem docendi
Gratia, gratum faciunt: politè
Per Valentini documenta Wallis hoc facis ipse.
Gloriam spernis, pretium laboris
Despicis, primum Domino, se­cundum
Immolaturus patriæ: Te utrumque reddit amandum.
Euge▪ tu linguam Canaan Bri­tannos.
Edoces, verum pietatis usum
Indicas, veri rudibus viamque detegis unam▪
R. E. M. A. Oxon.

Ad Virum optimum, eun­demque amicum suum carissimum, G. L. Art. Mag. de hâc D▪ Valentini Litaniæ versione Cambro-britannicâ, [...].

QVi parat ignaræ pictate assiste­re Plebi,
Grata Deo parat hic, læta parat Populo.
Ignibus hisce piis Anglus pius ante calebat:
Nunc & Walle cales: tu pius, ille pius.
Exulat (heul) Mystes; nè Numi­nis exulet ardor,
Valentinus adest, Wallus & (Anglus) adest.
J. B. M. A. Oxon.

Ad Walliam de hoc preca­tionum libello Britannicè verso & Christianæ pie­tatis propaganeæ tempore maximè necessario.

TEmpestiva tua est Pietas hæc, Wallia, nati,
Quoque propagetur tempore, grata venit.
Jam tua Sementis crebro fit semi­ne Vorbi;
Ergo opus est Precibus ne ste­rilescat Ager.
Quo bene cedat Opus, licet hoc utare Libello:
Vera fides Verbo crescit, u­trumque Prece.
D. T. M. A. Oxon.

ORATIO Deo Sacrificium. Oranti subsidium. Dæmonibus flagellum.

Hynny yw, GWEDDI SYDD yn Aberth i dduw. yn Gymmorth i Weddiwr. yn Wialen i'r Cythreu­liaid.

Gweddi sydd Clavis Diei. Sera Noctis.

1. Agoriad i egoryd y dydd.

[Page 2] Yn foreu y clywi fy llêf, yn foreu Arglwydd y cyfei­riaf attat: ac yr edrychaf i fynu, Psal. 5. 3.

Myfi a lefais arnat Ar­glwydd: yn foreu yr achub fyn-gweddi dy flaen, Psal. 88. 13.

2. A chlô i gaur nôs.

Yn hwyr y gweddiaf, a byddaf daer, ac efe a glyw fy lleferydd. Ps. 55 17.

Cyfeirier fyn-gweddi ger dy fron fel arogl-darth, a derchafiad fy nwylo ofrwm prydnhawnof, Ps. 141. 2.

Boreu a phrydnhawn.

A Arogl-darthed Aaron [Page 3] arogl-darth bôb boreu, a phan oleuo ef y lampau yn y cyfnos, arogl-darthed arogl-darth llysseuog, Exod. 30. 7, 8.

Y boreu haua dy hâd, a phryduhawn nac attal dy law: canys ni wyddost, pa un a ffynna, ai hyn ymma, ai hyn accw, ai ynteu da fyddant ill dau, yn yr un, ffunyd. Preg. 11. 6.

I. CYFFES-BECHODEU.

CYffes yw rhan o We­ddi, sydd yn chwilio­allan, ac yn dat guddio ein pechodeu, ac yn i lledu hwynt ger bron yr Argl­wydd, fel y lledodd He e­kiah y llythureu a dderby­niaseu ef oddiwrth Freuhin Assyria: neu fel yr egorodd Joshua ogof Makkedah, a dygodd-allan y pum Bren­hin oedd yno yn guddiedig; felly y mae cyffes yn ego­rud y galon, ac yn egluro [Page 5] ein mynwes-bechodeu, iw dwyn hwynt allan i oleuni, a djal. Megis y mae gorud gwythen yn gwellhau an­wyl y cnawd; fellyy mae Cyffes, yn iachhau clefy­dau 'r enaid: canys os cyfa­ddefwn ein▪ pechodeu, cy­fiawn, a ffyddlon yw Duw, fel y maddeuo i ni ein pe­chodeu,1. to▪ 1. 9. ac i'n glan­hâo oddiworth bôb anghyfiawnder. Ar fyrr ei­rieu, Cyfaddef a orchmyn­nwyd gan Dduw, ac a arfer­wyd gan y Sainct, ac sydd (medd Salomon) yn nôd o ddyn cyfiawn; i gyhuddo ei hun, yn nechreu ei weddi. *Breuddwydio a wna dŷn pan gys­go,Somnium narraye vigilan­tis, vitia confiteri poeniten­tis. Sen. [Page 6] ond ni ddichon draethu ei freudd­wyd, nes iddo dde­ffroi Mae cyffes yn arwydd o'n deffroi o gwsg pechod tr­wy râs Duw.

Dywedais, cyffessaf fyn­ghamweddau i'r Arglwydd, a thi a faddeuaist anwiredd fymhechod, Ps. 32. 5.

Os cuddiais fyngham­weddau fel Adda; gan guddio fy anwiredd yn fy mynwes, Job. 31. 33.

Canys yn wyf yn cydna­bod fynghamweddau, am pechod sydd yn wastad ger fy mron, Psal. 51. 3.

Y CYFFES LETANI.

VVEle mewn anwi­redd i'm lluni­wyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy man ar­naf.

O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y llefarwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn, ac etto ni wis heibio bethau bachgenaidd.

O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

[Page 8] Pan gynnyddais-i-fynu, trach wantau 'r cuawd oe­ddynt rŷ galed i mi, ymla­ddasant yn fy erbyn, ac am gorchfygasant; gofalon y bŷd a'm cynhyrfuant, difyr­rwch y bŷd am twyllodd, balchder y bywyd a'm ym­chwyddodd, awydd-fryd dial a'm ymlosgodd, a phe­chod a deirnasodd yn fyn­ghorph marwol.

O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

Rhoddais aelodau fyngn­hawd yd weision i bechod, ac yn arfau i anghyfiawn­der: fy mhen i fwriadu af­lwydd, fy nwylo i wneu­thur anwiredd, fynhafod [Page 9] i dyngu, ac i gablu, fyn­ghlistiau i ymwrondaw ar ymadrodd llygredig, fy lly­gaid i edrych ar wagedd, fynhraed i sefyll ynffyrdd pechaduriaid, ac i rodio yn­ghyngor 'r anuwoyon; yn­gimmaint ac nad oes dim cyfan ynof, wadn y troed hyd y pen.

O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

Naill ai ni wneuthym y pethau y ddylaswn, ne mi ai gwneuthym yn flingar, ac yn ddiofal: esgeulusais am­ser fy ymweliad, ni adna­bu'm yn fy amser, y pe­theu a berthunent i'm he­ddwch.

[Page 10] O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

Pechais yn dy erbyn di, a chamweddais yn erbyn fynghymydog, trwy ddiy­styrwch, ac ammhwyll, trwy ddigter, a thafod anhymo­raidd; o'm gwirfodd, cyn­figen, bwriad drwg, ac anghariadoldeb.

O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

Pechais ynddynt hwy oll, a lygrais trwy fyngeirieu, fynghyngor, neu fy esampl: ynddynt hwy oll, a ddyla­swn argyoeddi, ac ni argy­oeddais, ac ynddynt hwy oll, a ellaswn wellhau, ac ni wellhais.

[Page 11] O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

Pechais yn diesceulyso amser cyfaddas i ymgy­farch tŷ a bwrdd 'r Argl­wydd, gan ddyfod yno yn ddibarod, ac yn anheil­wng, a meddylieu segur, crwydrad, naill ai yn fyn­rhoi oddiar ffordd dy San­ctaidd wasanaeth, neu yn fy rhwystro i ynddo.

O Arglwydd bydd dru­garog wrthyf bechadur.

Pechais yn gwrandaw ar dy air yn amharchus, ac yn anfuddiol, yn galw-ar dy enw yn llesg, ac yn fysgrell, yn ddiaffaith, ac yn ddiaw­ydd, yr hyn beth a droes fy ngweddi yn bechod.

[Page 12] O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

Pechais yn anghofio dy aml ffafreu daionus yn ani­olchgur, ac yn i coffa hwynt yn ddigalongar, ac yn far­waidd, hyd oni ddaeth fy aberth moliant yn aberth ffyliaid.

O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

Torrais fy holl addune­dau am bwriadau, ni che­dwais fy addewid i ymadaw am pechodeu, ac i wellhau fy mychedd.

O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

Oedais fy edifeirwch, gwr­thwynebais gerudd fynghy­dwybod diffodais gynnwrf [Page 13] dy yspryd, Rhoddais heibio y gweithredoedd da, trwy pa rai y gallaswn dy folian­nu di, amgwellhau fy hun, a lleshau fynghymydog.

O Arglwydd bydd dru­garog wrthyf bechadur.

Llygrais fy meddy lieu, am geirieu, am gweithredoedd goreu, trwy ymgleddu lly­gredigarthau fy naturiaeth fy hûn, trwy groesawu pro­fedigaethau dirgel Satan, a gweniaeth gyhoedd y bŷd diffaeth.

O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

Bu'm anhwsmon o'r da­lent o râs, a roddaist i mi, yw anchwanegu; bu'm hael­ffôl o'r amser, a roddaist i [Page 14] mi, i edifarhau, ac i wei­thio-allan fy iechidwriaeth.

O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

Twyllais fynghalon ly­gredig a chyfflybiaeth dai­oni: twyllais dŷb carriad, sydd yn coelio 'r goreu, trwy ragrith; gorfoleddais yn y glôd ni heuddais, i'th ddiglloni di, yr hwn y gei­si wirionedd oddimewn.

O Arglwydd bydd dru­garog wrthyf bechadur.

Rhybrissiais fesur grâs yno fy hûn, ac ai llygrais am balchder: dibrissiais ddaioni fynghymydog: Naill mi ai lleihais gan dyn­nu oddiwrtho, neu mi ai llygrais gan haeru arno au­ghyfiawnder.

[Page 15] O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

Clywais a gwelais dy am­herchi di fy nuw, rhoi a­nair, a gwneuthur cam i'm cymydog, ac ni wneis a fai uniou i'r un; eithr trwy ofn diglloni, trwy dueddol garedigrwydd, trwy wen­iaeth wael, neu wylder a­nuwiol, neu gynfigen an­ghariadol, goehelais godi yn ei cyfiawn amddiffin.

O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

Ni cheisiais bôb amser mo fendithion y fychedd hon trwy foddion da, gwedi i sancteiddio trwy weddi: Ni dderbyniais hwynt bôb [Page 16] amser a diolchgarwch, a bodlonrwydd: Nis mwyn­heuais hwynt bôb amser yn sobr, ac ni rennais hyn oedd tros ben, a chyfriw dduw­ioldeb, ac elusendod ac y dylaswn.

O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

Ni arferais mo'm iawn ddifyrrwch mewn prŷd ac amser, mor grefyddawl, mor gymhedrol, mor ddi­olchgar ac y dylaswn; eithr pechais yn dy erbyn, yn fy llawenydd.

O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

Nid ymgeisiais heddwch a phôb dŷn, ac ni chroesa­wais ymhono pan gyny­gwyd: [Page 17] Ni cherais mo'm gelyn, ni fendithiais yr hwn a'm melltithioddi: Ni wn­eis ddaioni i'r hwn a amca­nodd, neu a wnaeth i mi ddrwg: Ni roddais iddo 'r fâth nawdd a ofynnais gen­nit ti i mi fy hûn.

O Arglwydd bydd dru­garog wrthyf bechadur.

Pechais mewn meddylieu ofer, mewn ewyllyssiau an­fad, mewn gobeithiau anu­wiol, mewn breuddwydiau anllad: gan chwenychu yn ddirgel, olud, a phlese­rau fynghymydog.

O Arglwydd bydd druga­rog wrthyf bechadur.

Pechais yn troseddu fal hyn yn ddibaid, heb gyd­wybod [Page 18] neu edifeirwch: Ac os unrhyw gynnhyrfiadau da dy yspryd di a greasant ynof dduwiol dristwch am danynt; y profedigaeth ne­saf a'm dymchwelodd naill ai i'r hên, neu a'm trochodd mewn rhyw bechod ne­wydd.

O Arglywydd bydd dru­garog wrthyf bechadur.

Cuddiais rai o'r pecho­deu hyn fel Adda, eraill a esgusodais, eraill a wedais yn erbyn tystiolaeth fyn­ghydwybod gyhuddus, er­aill a ymddiffynnais, nid un a edifarhais o hono, ac a wellhais.

O Arglwydd bydd dru­garog wrthyf bechadur.

[Page 19] Pechais aml bechodeu yn ddirgel, ac imi fy hûn yn anymôgel: pechais yn fyn­gweithredoedd goreu, ae yn fy mwriadau duwiol, ca­riadawl, ie pan ymegni ais dy wasnaethu di.

O Arglwydd bydd dru­garog wrthyf bechadur.

Pechais yn yr holl fo­ddion hyn, a gwneuthym la­wer o ddrigioni a ollwn­gais-tros-gôf, llawer a o­llwngais-heibio, heb y sty­riaeth, ac edifeirwch: Ac yn-awr, Beth a wnafi ti o Geidwad dŷn, a Barnwr yr holl fŷd?

O Arglwydd bydd dru­garog wrthyf bechadur.

Trugarhâ wrthyf O Ar­glwydd [Page 20] yn ôl dy drugar­owgrwydd: yn ôl lliaws dy dosturiaetheu dilêa fy an­wireddau. Amen. Amen.

A hyn er mwyn Jesu Grist, yn enw bendigedig ar gei­rieu pwy un, y gorffennwn ein gweddiau am herffaith hyn, gan ddywedyd fal i'n dysgodd ef i hun.

EIn tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. deuet dy deirnas. Bîd dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein pechodau, fal y maddeu­wn ni i'n dyledwyr. Ac nag arwain ni i brofedigaeth: Eithr gwared ni rhag drwg: [Page 21] canys eiddot ti yw'r deir­nas, a'r nerth, ar gogoni­ant yn oes oesoedd Amen.

Bereuol Weddi.

O Arglwydd nefol Dâd, Holl alluog, a thragywyddol dduw, yr hwn a'n cedwaist yn ddian­gol, hyd ddechreu 'r dydd heddyw, amddiffin ni yn­ddo a'th gadarn allu, a chaniadhâ na syrthiom y dydd hwn, mewn un pe­chod, ac nad elom mewn nêb rhyw berygl; eithr bôd ein holl weithredoedd wedi i trefnu ai llywiaw, wrth dy lywodraeth di, i wneuthur yn wastad y peth sydd gy­fiawn yn dy olwg di, trwy [Page 22] Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Prydnhawnol weddi.

GOleua ein tywyllwch, ni attolygwn i ti o Ar­glwydd; a thrwy dy fawr drugaredd, amddiffin ny ni, rhag pôb perigl, ac embydrwydd y nôs hon: er serch ar dy un mâb ein Iechawdur Jesu Grist. A­men.

RHâd ein Harglwydd Jesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr yspryd glân, a fyddo gyda ni oll byth bythoedd, A­men.

II▪ RHAG-DDEISYFIAD.

RHan o weddi yw Rhag-ddeisyfiad, a gyfeirir at dduw, i droi drwg heibio cyn i ddyfod, neu i ysmudo drwg gwedi i ddyfed. Ar drwg a weddiwn rhagddo sydd naill ai drwg-pechod, neu ddrwg-poen. Pan ddio­ddefom, neu pan ofnom ddrwg, ni wasnaetha ei­stedd-i-lawr fel Elijah a Jo­nah yn sarrug, a dymuno, Arglwydd, Cymmer fy eini­oes; either Rhaid i ni We­ddio, fel y gweddiodd Crist rros ei ddyscyblion: Jo. 17. [Page 24] 15. nid i'n cymeryd-allan o'r bŷd; either i'n cadw rhag y drwg. Ac wrth wn­euthur felly, mae i ni adde­wid duw, na themptier 'mhonom ywchlaw hyn a allom. Canys efe, naill a ysmwythâ 'r drwg, neu a chwanega ein nerth iw ddioddef; efe naill a ysmu­da 'r temtasiwn, neu a zydd i▪ ni ei râs, yr hwn sydd ddi­gon i ni. 2. Cor. 12. 9.

Gwaret ni rhag drwg. Luc. 11. 4.

Gwaret fi o'm holl gam­weddau▪ ac na osod fi yn wradwydd i'r ynfyd.

Tyn dy blâ oddiwrthyf. Ps. 39. 8. 10.

Gwaret fy enaid rhag y [Page 25] cleddyf: fy unic enaid o fe­ddiant y ci. Achub fi rhag safn y llew: o blith cyrn Unicorniaid. Ps. 22. 20, 21.

LETANI RHAG - DDEISYFIAD.

ODd wrth 'r holl bechodeu a be­chais, ac oddi­wrth 'r holl be­chodeu a bechaswn, oni buasei i'th râs di fy rhag­flaenu, a'm rhag-rybuddio,

Gwared fi Arglwydd dai­onus.

Oddiwrth fy holl ddir­gel a'm mynwes-bechodeu, [Page 26] oddiwrth bechodeu a chwe­nychwn yn naturiol, neu i'r rhai i'm llithier drwy gymdeithas, neu i'm dyner drwy ddifyrrwch a budd, neu i'm twyser drwy siampl y bŷd diffaeth hwn,

Gwared fi Arglwydd daionus.

Oddiwrth 'r holl becho­dau a glywais yn synghyd­wybod, ac a gyfaddefais a'm genau, ac a alarais a'm calon, ac a ofynnais nawdd am tafod,

Gwared fy Arglwydd daionus.

Oddiwrth 'r holl becho­deu dirgel, ac anwybodawl y rhain ni chlywais yn fyn­ghydwybod, ni chyfadde­fais [Page 27] a'm genau, nial arais a'm calon, ac a'm y rhain ni ofynnais nawdd a'm ta­fod,

Gwared fi Arglwydd dai­onus.

Oddiwrth holl lygredi­gaeth fy naturiaeth, oddi­wrth holl brofedigaeth y Cythrel; oddiwrth weni­aeth y bŷd, oddiwrth chw­antau 'r cnawd a'r llygaid,

Gwared fi Arglwydd dai­onus.

Oddiwrth bôd gwag-fe­ddwl, a dallter deall, cyn­dynrwydd ewyllys, gwir­gamrwydd gwyniau, mar­weidd-dra a chledrwydd calon ac oddiwrth cydwy­bod ddall, farwaidd, serje­dig,

[Page 28] Gwared fi Arglwydd daionus.

Oddiwrth holl feddy­lieu crwydrad, oddiwrth holl ewyllyssiau anllywo­draethus: Rhag troseddu dy orchmynion cyfiawn, sanctaidd, acoddiwrth y cynnwrf cyntaf i bechu yn dy erbyn di, neu yn erbyn fynghymydog,

Gwared fi Arglwydd dai­onus.

Rhag ail-gwympo i'r pe­chodeu a edifarheais am dauynt, rhag troi dy râs yn ddrythyllwch, rhag ma­thru gward dy gyfammod tan draed, rhag dir mygu, a dibrissio moddion ac am­ser iechidwriaeth,

[Page 29] Gwared fi Arglwydd dai­onus.

Oddiwrth bôb anghyd­fod a chamgred, oddiwrth angred, a chilio-oddiwrth y ffŷdd, ac oddiwrth y pe­chod yn erbyn 'r yspryd glân,

Gwared fi Arglwydd dai­onus.

Oddiwrth newyn a phrin­der, oddiwrth blâ a no­deu, ac oddiwrth dy holl farnedigaethau eraill, er­chyll, a thrymion, yn-awr, a phôb amser,

Gwared fi Arglwydd daionus.

Oddiwrth dlodi a chy­fyngder, oddiwrth haint a chlefyd yn fynghorph, [Page 30] oddiwrth drist wch a gor­thrymder yn fy yspryd, rhag colli fy rhyddid, fyn golud, fyngheraint, oddi­wrth an air, ac anllib i'm henw da,

Gwared fi Arglwydd daionus.

Rhag gwneuthur cam yn anystyriol, a rhag cymeryd cam yn anghyfiawn,

Gwared fi Arglwydd daionus.

Oddiwrth dy lîd a'th ddigofaint, oddiwrth ano­baith o'th râs a'th nawdd, ac oddiwrth angeu deisy­fyd,

Gwared fi Arglwydd daionus.

Oddiwrth y farni ddam­nedigaeth, [Page 31] oddiwrth y llyn tân a brwmstan, oddiwrth y cadwynau tragywyddol tân dywyllwch, oddiwrth y pryf ni fydd farw, ar tân ni ddiffydd,

Gwared fi Arglwydd daionus.

Attolwg Arglwydd, gwared fy enaid; Ps. 110. 4. Amen, Amen.

A hyn er mwyn Jesu Grist yn enw bendigedig a geirieu pwy un, y gorffen­nwn ein gweddiau amher­ffaith hyn: gan ddywedyd fal i'n dyscodd ef i hûn.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefordd. &c.

Boreuol Weddi.

OArglwydd nefol Dâd, Holl alluog a thragy­widdol dduw, yr hwn a'n cedwaist yn ddiangol hyd ddechreu 'r dydd heddyw, amddiffin ni ynddo a'th ga­darn allu, a chaniadhâ na syrthiō y dydd hwn mewn. Un pechod, ac nad elom mewn nêb rhyw berigl; eithr bôd ein holl weithre­doedd wedi i trefun, ai lly­wiaw, wrth dy lywodraeth di, i wneuthur y peth sydd gyfiawn, yn dy olwg di, trwy Jesu Grist ein Hargl­wydd. Amen.

Prydnhawnol Weddi

GGleua ein tywyllwch: ny attolygwn i ti ô Ar­glwydd: [Page 33] athrwy dy fawr drugaredd, amddiffin ni rhag pôb perygl, ac em­bydrwydd y nôs hon, er serch ar dy un mâb, ein Je­chawdur Jesu Grist. Amen.

RHâd ein Harglwydd Jesu Grist, a serch Duw, a chymdeithas yr y­spryd glân, a fyddo gida ni oll byth bythoedd. A­men.

III. DEISYFIAD.

RHan arall o weddi yw deisyfiad, trwy 'r hyn yr attoly­gwn ar Dduw roddi i ni, y cyfriw fendi­thion [Page 34] sydd eisieu arnom, neu i barhau, ac i chwane­gu y cyfriw fendithion a dderbyniasom. A'r bendl­thion hyn ydynt naill ai corphorol, ai ysprydol, amserol neu dragwyddol. Am y cyfriw fendithion ac sydd ysprydol, ac yn ym­ganlyn iechidwriaeth, Gwe­ddiwch am danynt yn gynt­af oll; yn gyntaf ceisiwch deirnas dduw, a'i gyfiawn­der ef▪ Ac am y bendithion hyn, gallwn wed dio yn ddiammod: Am fendithion corphorol, Rhaid i ni we­ddio tan ammod, gan ym­roi ac ymddarost wng ein ewyllys i ewyllys Duw, yr hwn a ŵyr beth sydd oreu [Page 35] ar ein llês. Nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wne­ler. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nêf, felly ar y ddaiar hefyd.

TI yr hwn a wrandewi weddi, attat ti y daw pôb cnawd, Ps. 65. [...].

Arglwydd clyw fy lle­fain, y styried dy glustiau wrth lêf fyngweddiau, Ps. 130. 2

Wele yn awr y dechreu­ais lefaru wrth fy Argl­wydd, a mi yn llwch, ac yn lludw: Ona ddigied fy Arglwydd, ac mi a lefaraf, Gen. 18. 27, 30.

Y DEISYFIAD LETANI.

TEilyngu o honot leuwi fynghalon a'm genau a'th fo­liant, holl ddy­ddieu fy mywyd, am dyf­fyddlondeb a'th wnio­nedd, a'th drugarowgrw­ydd i'th, wâs yn nhîr y rhai bywion.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot roddi i mi wybodaeth eglur i we­led fymhechodeu, ewylly­siau sanctaidd iw casau a'i ffieiddio, gwir-edifeirwch [Page 37] i alaru, ac i ymwrthod a hwynt, a bwriad dianwadal yn ei herbyn o hyn allan.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot fyn­golchi yn llwyr-ddwys o­ddiwrth fy anwiredd, a'm glanhau oddiwrth fymhe­chodau, fel y byddaf wyn­nach na'r eira.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot gys­syllu i'm cydwybod, ufudd­dod buchedd, ac aberth marwolaeth Jesu Grist, i siccrhau dy hoffder a'th nawdd i mi.

Attolwg fyngwrandaw [Page 38] Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot greu calon lân ynof ac adnewy­ddu yspryd uniawn o'm mewn, a rhoddi i mi wirio­nedd o'm mewn; a'm cyn­nal a'th hael yspryd.

Attolwg fyngwrandaw Arlgwydd daionus.

Teilyngu o honot roddi i mi y cyfriw rasau sydd eisieu arnaf, ac ymchwane­gu y grasau sydd gennif, fal y cynnyddwyf o nerth i nirth hyd oni ddelwyf yn ddŷn perffaith.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot fyn­gwneuthur yn arf o'th ogo­niant, [Page 39] a chyfeirio fy me­ddylieu, am geirieu, am gweithredoedd, i ehengu, ac i ddyrchafu dy deirnas.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot ga­darnhau teirnas dy nerth ynof, i'm llywodraethu, ac i'm hofni; a theirnas dy râs i'm sancteiddio i wy­bod, i gara, i ufuddhau dy ewyllys.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot fy ner­thu i wneuthur dy ewyllys yn llawen, ac yn ewyllys­gar, yn wastadol, ac yn ddianwadal, fel y gwna dy [Page 40] Angylion a'th Sainct ben­digedig yn y nefoedd.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot ego­rud dy law yn helaeth, i roddi i mi angenrheidiau y bywyd hwn, a ffrwythau y ddaiar mewn prŷd ac am­ser, a pharhau i mi, ie­chid, rhyddid, a he­ddwch.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot roddi i mi dy fendith gyda hwynt, yw trino, yn sobr, yn gyfiawn, yn elu­sengar, ac yn fodlongar.

Attolwg fyngwrandaw [Page 41] Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot fy mendithio yn holl weithre­doedd fyngalwedigaeth â grâs, a nerth, i geisio, i gadw, ac i arferu cydwy­bod dda, tuag at dduw a dŷn hyd ddiwedd fy eini­oes.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot san­cteiddio fy mychedd, a phereiddio fy ni wedd i mi, ac adgyfodi fyngnhawd yn nydd yr Arglwydd Jesu.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot yn ddiweddaf, roddi i mi la­wenydd [Page 42] wenydd fy Arglwydd, etife­ddiaeth fynhâd, coron gy­fiawnder, gogoniant Caerse­lem newydd, ac i'm digo­ni â'r digonolrwydd sydd ger dy fron, a'r digrifwch sydd ar dy ddeheulaw yn dragywydd.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

O Arglwydd clyw fyn­gweddi, a deued fy llêf attat. Amen, Amen.

Ahyn er mwyn Jesu Grist, yn enw bendigedig a geirieu pwy un, y gor­ffennwn ein gweddiau am­herffaith hyn, gan ddy­wedyd, fel i'n dyscodd ef i hun:

[Page 43] Ein tâd yr hwn wyf yn y nefoedd, &c.

Boreuol Weddi.

OArglwydd nefol Dâd, holl alluog a thra­gwyddol dduw: yr hyn a'n cedwaist y ddiangol hyd ddechreu 'r dydd heddyw, amddiffin ni ynddo a'th ga­darn allu, a chaniadhâ na syrthiom y dydd hwn mewn un pechod, ac nad elom mewn nêb rhyw be­rygl, eithr bôd ein holl weithredoedd wedi i trefnu, a'i llywiaw wrth dy lywo­draeth di, i wneuthur yn wastad y peth sydd gyfiawn yn dy olwg di, trwy Jesu [Page 44] Grist ein Harglwydd. A­men.

Prydnhawnol Weddi.

GOleua ein tywyllwch, ni attolygwn iti O Ar­glwydd: a thrwy dy fawr drugaredd amddiffin ni rhag pôb perygl ac emby­drwydd y nôs hon; erserch ar dy un mâb ein Iechaw­dur Jesu Grist. Amen.

RHâd ein Harglwydd Jesu Grist, a chariad duw, a chymdeithas yr yspryd glân, a fyddo gyda ni oll byth bythoedd. A­men.

IV. TALU-DIOLCH.

RHan o Weddi yw Talu-diolch, yr hon (fel y gwahan glwyfus yn yr E­fengil) a drydd yn ôl at dduw, i gyfaddeu, ac i fynegi y petheu a wnaeth yr Arglwydd trosom. Ac mae yn rhan môr angen­rheidiol, ac môr rhywio­gaedd o wasanaeth duw, fel y mae yn ammod y cy­fammod, yn yr hwn 'r ym rwymodd Duw i hun trwy addewid, i'n gwrandaw. Galw arnofi yn nŷdd tra­llod: mi a'th waredaf, a thi a'm gogoneddi, Ps. 50. [Page 46] 15. Yn gimmaint ac oni o­goneddwn ef, yr ydym yn torri 'r cyfammod, ac nid ydym ond transfeddianwyr oi holl fendithion ef ai ym­waredau.

Gwell yw dy drugaredd di na'r bywyd, fyngwefu­sau a'th foliannant.

Fel hyn i'th glodforaf yn fy mywyd, derchafaf fy nwylo yn dy enw, Ps. 63. 3, 4.

Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori, Ps. 119. 164.

Fyngenau a fynega dy gyfiawnder, a'th iechidwri­aeth, canys ni wn refedi arnynt, Ps. 71. 15.

Molaf yr Arglwydd yn [Page 47] fy myw, canaf i'm duw tra fyddwyf, Ps. 146. 2.

Fy enaid bendithia 'r Ar­glwydd: ac na anghofia ei holl ddoniau ef, Ps. 103. 2.

Arglwydd agor fyngwe­fusau, a'm genau a fynega dy foliant, Ps. 15. 15.

LETANI TALU - DIOLCH.

AM râs etholedi­gaeth, trwy bwy un, y dewisaist fi yn ôl bodlonrw­ydd dy ewyllys,

[Page 48] Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am râs creadigaeth, yn ôl dy ddelw dy hun mewn cyfiawnder a gwir-sanctei­ddrwydd,

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am râs prynedigaeth, trwy bwy un i'm gwared­wyd oddiwrth euogrwydd, arglwyddiaeth pechod, o­ddiwrth nerth Satan, ac ail farwolaeth,

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am râs galwedigaeth, trwy waith dy yspryd oddi mewn, a gwasanaeth dy air a'th Sacrafennau oddi allan,

[Page 49] Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd

Am râs cyfiawnhâd, trwy bwy un 'ri'm harwiscwyd a chyfiawnder Jesu Grist,

Fy enaid a'th fawrha di O Arglwydd.

Am fy rhan o Sanctei­ddrwydd, trwy bwy un i'm gwnaed yn greadur ne­wydd,

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am fy llunio yn y grôth, fyngened [...]gaeth, fy me­dydd, goleuad fy neall, cerydd fy ewyllys, ac am yr holl rasau ysprydol a a dderbyniais oddiwrthit,

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

[Page 50] Am ryddid dy air a'th Sacrafennau, am dy gys­secr, ai uchelwyl gym­manfar, ac am dy rasslawn wyneb-pryd yn ein mysg,

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am dy ragwelediad yn cyflawni fy angenrheidiau yn wastadol, ac yn fyn­gwared oddiwrth beryglau.

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am fy rhieni da, fy ma­gwriaeth, fy iechid, rhy­ddid, a heddwch, am gwmffwrdd yn fynghe­raint, am fy mara beuny­ddiol, ac am dy holl fendi­thion daiarol,

[Page 51] Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am fynghadw rhag dry­gau, am fynghymorthwyo mewn drygau, ac am fyng­waredu oddiwrth ddrygau,

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am dy ddioddefgarwch yn arbed, am dy druga­redd yn maddeu, am dy haelder yn rhoddi, je pan bechais yn d' erbyn a llaw uchel,

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am fy hoedl, ac amser i edifarhau, ac i wneuthur gweithredoedd da, ac am dy sanctaidd foddion i wei­thio grâs a iechidwriaeth,

[Page 52] Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am gerudd fynghydwy­bod, am addysg dy air, am gynhyrfiadau dy yspryd daionus, y rhai a'm gwa­harddaiant rhag pechu, neu a wnaethant imi edifarhau am bechu,

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am dy dadaidd gerudd trwy amryw amrafaelion ysprydol â Satan, trwy glefydau, neu friwiau yn fynghorph, trwy orthrym­der yn fy yspryd, colled yn fyngolud, trwy ofid cam­weddau, trwy anghwm­ff yrdd er mwyn, neu o­ddiwrth y Sawl a hoffais, [Page 53] o herwydd cydnybyddi­aeth, naturiol, moesawl, neu gristianol,

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am yr holl Batriarchau a'r Brophwydi Sanctaidd, am fendigedig fam ein Har­glwydd, am yr holl Apo­stolion Sanctaidd a'r Efan­gylwyr, am yr holl Esco­bion duwiol, a Bugeiliaid dy Eglwys, am yr holl lu Merthyri ardderchawg, a chyffeswyr, ac am yr holl ffyddloniaid a fuant fyw a meirw yn yr Arglwydd,

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am ddedwyddol symmu­diad 'r holl Sainct a fuant [Page 54] feirw mewn tangnheddyf o'r pant dagrau hwn i eti­feddiaeth y cyfiawn,

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am dy holl Angylion Sanctaidd, a'r gorchymyn a roddaist yddynt i wasnae­thu arnom, ac i osod ei pe­byll o'n hamgylch i'n cadw yn ein holl ffyrdd, ac i draddodi ein heneidiau i fynwes Abraham,

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am Jesu Grist Awdur a pherffeithydd ein ffŷdd, pen a gwreiddin yr holl gym­wynassau hyn;

Am ei grôth-ymddwyn, a'i anedigaeth;

[Page 53] Am ei enwaediad, a'i fedydd;

Am ei ympryd, a'i bro­fedigaeth;

Am ei addysg, a'i wr­thiau;

Am ei ddirfawring, a'i chwŷs gwaedlyd;

Am ei grôg, a'i ddio­ddefaint;

Am ei farwolaeth, a'i gladdedigaeth;

Am ei fuddugawl dde­scynniad i Uffern;

Am ei ogoneddus adgy­fodiad, acascyniad i'r ne­foedd;

Am ei eisteddfa ar dde­heu-law dduw, i erfyn yn wastad trosom;

Am anfon yr yspryd [Page 56] glân i drigo gyda ei Egl­wys hyd ddiwedd y bŷd;

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am dy fendigedig y­sprid, llewyrchwr fy neall, Sancteiddiwr fy ewyllys, cynnorthwyor fyngwen­did, cyssurwr fynghydwy­bod, arwydd a thystio­laeth fy mabwisiaid, a Sêl fy iechidwriaeth,

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am fy holl ymwaredau priod, am grefydd, he­ddwch, helaethrwydd, ca­dernid, ac anrhydedd y Deirnas a ydwyf yn byw ynddi; am i gwaredu bôb amser, yn enwedig oddi­wrth [Page 57] yr ymgyrch o Syain a phowdrfrâd y Papystiaid,

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Am dy holl ddaioni di­yspys a wnaethost i ni, am 'r holl drugareddau a dder­byniasom oddiwrthit, ac a anghofiasom, ac am 'r holl ddaioni a ddarperaist i'r rhai a'th ofnant, ac a ga­rant dy ddyfodiad.

Fy enaid a'th fawrhâ di O Arglwydd.

Beth a dalaf i'r Argyl­wydd am ei holl ddoniau i mi? phiol iechidwriaeth a gymeraf, ac ar enw'r Ar­glwydd y galwaf. Ps. 116. 12, 13.

Trugaraddau 'r Argl­wydd [Page 58] a ddatcanaf byth: am genau y mynegaf dywi­rionedd o genhedlaeth i genhedlaeth. Ps. 89. 1.

Dyweded y rhai a of­nant yr Arglwydd, bôb amser, Gogoniant i'r Argl­wydd.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r yspryd glân.

Megis ir oedd yn y de­chreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.

Ahyn er mwyn Jesu Grist, yn enw bendigedig a geirien pwy un, y gor­ffennwn ein gweddiau am­herffaith hyn, fel i'n dy­scodd efi hûn:

[Page 59] EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd. &c.

Boreuol Weddi.

O Arglwydd nefol Dâd, Holl alluog a thra­gwyddol dduw, yr hwn a'n cedwaist yn ddiangol hyd ddechreu 'r dydd heddyw, Amddiffin ni ynddo a'th ga­darn allu, a chaniadhâ na syrthiō y dydd hwn mewn un pechod, ac nad elom mewn nêb rhyw berygl; eithr bôd ein holl weithre­doedd wedi i trefnu, ai lly­wiaw, wrth dy lywodraeth di i wneuthur y wastad, y peth sydd gyfiawn yn dy olwg di, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Prydnhawnol Weddi.

GOleua ein tywyllwch, ni attolygwni tiô Ar­glwydd: a thrwy dy fawr diugaredd amddiffin ni rhag pôb perygl, ac en­bydrwydd y nôs hon; er serch ar dy unic fâb ein Je­chawdur Jesu Grist. Amen.

RHâd ein Harglwydd Jesu Grist, a serch Duw, a chymdeithas yr y­spryd glân, a fyddo gyda ni oll byth bythoedd. Amen.

V. ERFYNIAD.

RHan o weddi yw Erfyniad, yn elien­gu, ac yn cyfrannu ein dymmuniadaui [Page 61] eraill: fel y gwelwn yn Abraham, yr hwn a erfyn­niodd tros Sodom, a Mo­ses tros Israel, a Samuel tros Saul. A'r weithred hon sydd gymeradwy gan dduw: canys anghenrhaid a wnâ i ni weddio trostom ein hunain, eithr cariad a bâr i ni ymbil tros eraill. A gweddi gariadol sydd fwy cymeradwy ger bron Duw, na gweddi angenrhei­diol. Hefyd, y mae yn fu­ddioliawn i ni;Si pro te tan­tum roges, pro te tantum ro­gabis: Si au­tem pro omni­bus roges, pro te omnes roga­bunt. Ambr. lib. 1. de Cain. &c. cap. 9. canys er na fuddiant ein gweddiau iddynt hwy, etto buddi­ant [Page 62] i ni ein hunain; ca­nys dychwe­lant i'r mynwesau ein hu­nain, Ps. 35. 13.

Cynghori yr wyf am hynny ymlaen pôb peth fôd ymbiliau, gweddiau, deisyfiadau, a thalu-di­olch: dros bôb dyn, dros Frenhinoedd &c. canys hyn sydd dda a chymeradwy ger bron duw ein Ceidwad. 1. Tim. 2. 1, 2, 3.

Gweddiwch bôb amser, a phôb rhyw weddi, a dei­syfiad yn yr yspryd: a by­ddwch wiliadwrus at hyn yma, trwy bôb dyfal bara, a deisyfiad tros 'r holl [...] a throsof finneu, [Page 63] fel y rhodder i mi yma­drodd drwy agorud fynge­nau yn hŷ, i yspysu dirgel­wch yr Efengil. Eph. 6. 18.

A oes nêb yn eich plith yn glaf? Galw atto Henuri­aid yr Eglwys, a gwe­ddiant hwy trosto. A gwe­ddi 'r ffŷdd a iachâ 'r claf: A'r Arglwydd a'i cy­fyd ef i fynu: ac os bydd gwedi gwneuthur pecho­deu, hwy a faddeuir iddo. Jac. 5. 14, 15.

A minneu, pan glafy­chent hwy, oeddwn a'm gwisg o sachleu: gostyn­gais fy enaid âg ympryd: a'm gweddi a ddychwe­lodd i'm mynwes fy hûn. Ps. 35. 13.

[Page 64] Pedr a gadwyd yn y car­char, eithr gweddi ddyfal a wn aethpwyd gan yr Egl­wys at dduw trosto ef. Act. 12. 5.

Dymunwch heddwch Caerselem, llwydded y rhai a'th hoffant. Ps. 112. 6.

YR ERFYNIAD LETANI.

TEilyngu o honot fendithio dy Egl­wys sydd yn mi­lwrio yma ar y ddaiar, Amddiffin iddi bu­redd [Page 65] athrawiaeth, a gwe­nidogaeth dy Sacrafennau, a phregethiad dy air, 'fel nad allo pyrth Uffern i gyrchfygu.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot i phu­ro oddiwrth bôb anghyd­fod a chamgrefydd, a chy­modi pôb amrafael dwr­stan, fel y gallom gadw undeb yr yspryd mewn cwlwm tangnheddyf.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot i ham­gylchu a chaeraeu dy rag­welediad; ynfydu cyngor, a gwasgaru nerthoedd a [Page 66] bwriadau yrhai a gasânt Sion.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot fendi­thio y rhan honno o'th E­glwys (lle plennaist si, ac wrth fronneu pwy un y go­sodaist fi) â heddwch, a helaethrwydd, ac ymarfer dirwystr, a pharci'th holl ddeddfau.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot fendi­thio ein grasyssol Frenlim Charles, ein brenhines Mari, a phôb un oll a flagurodd o, neu a im­prwyd i'r Sanctaidd hilio­gaeth honno.

[Page 67] Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot fen­dithio llywodraeth a phre­gethiad gwenidogion yr Eglwys, gwna hwynt yn boenus yn ei gwenido­gaeth, ac yn siampl yn ei buchedd, fel y cadwant ei hunain a'r rhai a wran­dawant arnynt.

Attolwg fyngwrandaw Arlgwydd daionus.

Teilyngu o honot fen­dithio 'r Cyngor â doe­thineb, y Barnwyr âg anllygredigaeth, y pen­swyddogion, âg ymwrol­deb, y bobl â ufudd-dod, [Page 68] a'n lluoedd â nerth a bu­ddugoliaeth.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot fendi­thio pôb Mam-Ysgol, a hadleuoedd addysg a du­wiolder; yn enwedig y ddwy Brif-Ysgol o'r deir­nas hon.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot i ben­dithio hwynt oll sydd yn agos, ac yn anwyl i mi, trwy rwymedigaeth natu­riol, a chydnybyddiaeth gristianol.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

[Page 69] Teilyngu o honot i ben­dithio hwynt oll a fuant dda ar fyllês, os bvw vdynt: y sawl a'm dvga-sant-i-fynu ac a'm dysgasant: y sawl a'm cynghorasant, ac a'm rhybyddiasant, y sawl a'm dilladasant, ac a'm porthasant, y sawl a'm ar­gyoeddasant, ac am cery­ddasant pan bechais.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot gofio 'r Eglwysi diwŷg tros y moroedd, adeilada 'r din­istr a' dirdra a wnaethant y gelynion ynddynt; i dwyn hwynt adre a ddeolwyd, i dwyn hwynt alla n a gar­charwyd, roddi ymborth [Page 70] i'r tlodus, gynnorthwyo'r sawl a erlidir am dystio­laeth cydwybod dda, a gwirionedd dy Efengil.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot godi 'r sawl a ddarostyngwyd drwy euogrwydd ei cyd­wybodau, a gerwinder ei pechodau, ac ofn dy ddi­gafaint, a gwendid ei gra­sau, neu euddigedd dy dru­garedd, ac i ddywedyd wrth i heneidieu, My fi yw eich i echidwriaeth.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot lwy­ddo, a sefyll-wrth bawb [Page 71] sydd yn anturio ei hoedl, i amddiffin'r Efengil, Dôs­allan gyda ei lluoedd, gorch guddia ei penneu yn nydd y brwydr, a dwg hwynt a­dre, mewn urddas a gorfo­daeth.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot fendi­tho holl wragedd beuchio­gion âg esgor dibergl, holl blant ieuaingc â duwiol ddygiad i fynu, y morwr â thaith ddedwydd, yr ar­ddwr â chynhauaf helaeth y carcharwr â ddioddefgar­wch a'g ymwared, ac edi­feirwch i bawb sydd mewn caethiwed.

[Page 72] Attolwg fyngwarandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot hyffor­ddi 'r anwybodol, a throi 'r cildynnus, a chadernhau 'r cyfiawn, a chynnorth­wyo 'r gorthrymedig: Rhwyma y rhai yssig ei ca­lonnau Dwg hwynt adre sydd ar gyfeilorn, a thy­wysa 'r crwydrwyr i'r ffordd uniawn.

Attolwg fyngwarandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot gofio dy hên bobl, yr Juddewon, egorud ei llygaid, fel yr edrychant aeno ef a waha­nasant, ac i credant ynddo.

Atolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

[Page 73] Teilyngu o honot yn dy amser daionus, ddwyn cyf­lawnder y Cenhedloedd i mewn, a datguddio moli­annus oleuni dy Efengil i'r sawl sydd etto yn eistedd mewn tywyllwch, a chys­god angeu.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot faddeu i'm erlidwyr, am difen­wyr, i'r sawl sydd yn gwneuthur cam, ac aflony­ddwch i mi, i'm camgyhu­ddwyr, ac i'm drwg eir­wyr, a meddalhau calon­neu fy holl elynion.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

[Page 74] O Arglwydd clyw fyn­gweddi tros fy hun, O Arglwydd clyw fyngweddi dros eraill, O Arglwydd clyw weddiau dy fab Jesu Grist trosom ni i gid, yr hwn sydd yn eistedd ar dy ddeheu-law, gan erfyn trosom ni, ac a ddyscodd i ni ddyfod attat yn ôl perffaith wedd y weddi hon:

EIn tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

Boreuol Weddi.

O Arglwydd nefol Dâd, holl alluog a thra­gwyddol dduw: yr hwn a'n cedwaist y ddiangol hyd [Page 75] ddechreu 'r dydd heddyw: Amddiffin ni ynddo a'th ga­darn allu, a chaniadhâ na syrthiom y dydd hwn mewn un pechod, ac nad elom mewn nêb rhyw be­rygl: Eithr bôd ein holl weithredoedd wedi i trefnu a'i llywiaw wrth dy lywo­draeth di, i wneuthur yn wastad y peth sydd gyfiawn yn dy olwg di, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. A­men.

Prydnhawnol Weddi.

GOleua ein tywyllwch, ni attolygwn iti O Ar­glwydd: a thrwy dy fawr drugaredd, amddiffin ni rhag pôb perygl ac enby­drwydd [Page 76] y nôs hon; er serch ar dy un mâb ein Iechaw­dur Jesu Grist. Amen.

RHâd ein Harglwydd Jesu Grist, a serch duw, a chymdeithas yr yspryd glân, a fyddo gyda ni oll byth bythoedd. A­men.

Letani neilltuol iw mwyn­hau gan, neu tros bobl gleifion, ac a gasclwyd­allan o amryw fanneu o'r Scrythr lân.

YN y dyddieu hyn­ny y clafychodd Hesekiak hyd fa­rw.

[Page 77] Yna y troes ei wyneb at y pared, ac a weddiodd at yr Arglwydd.

A Hesekiah a wylodd âg wylofain mawr. A'r Argl­wydd a ddywedodd, wele mi a chwanegaf at dy ddy­ddieu di bymtheng mhly­nedd. Es. 38. 1, 2, 3, 4, 5.

Y LETANI.

ODduw Tâd o'r nêf, eiddo pwy un yw marwhau, a bywhau archolli a iachau, dwyn-i-wared i'r bedd, a dwyn-i-fynu,

Trugarhâ wrthyf.

[Page 78] Ti yr hwn a iacheuaist Naaman o'i wahanglwyf, a Dafydd o'i ffieiddglwyf, a Job o'i gornwydeu, a Hesekiah o'i glefyd ddio­baith,

Trugarhâ wrthyf.

O Grist mâb Duw, yr hwn a wnaethost i'r dall weled, i'r mud Siarad, i'r byddar glywed, ac i'r clôff gerdded,

Trugarhâ wrthyf.

Ti yr hwn a iacheuaist fam gwraig Petr o'i chrŷd, a gwâs y Canwriad o'i bar­lys, a dêg o wahan glei­fion, ac a gynnorthwyaist y sawl oeddynt * gythreulig,Maniaci.

[Page 79] Trugarhâ wrthyf.

Ti yr hwn a i acheuaist y wraig y buasei gwaedlif ar­ni ddeuddeng mhlynedd, a'r wraig oedd wedi eŷd­grymmu ddeu-naw mhly­nedd, a'r dŷn oedd ynddo yspryd gwendid namyn dwy flynedd deugain wrth lyn Bethesda,

Trugarhâ wrthyf.

Ti yr hwn a godaist ferch Jairus o feirw, a mâb y wraig-weddw o Naim, a Lazarus o'i fêdd,

Trugarhâ wrthyf.

Ti yr hwn a ddygaist ein clefydau, a'n gofidiau, Ti yrhwn a'th henwaist dy hûn yn Feddig y rhai clei­fion, Ti yr hwn a ddywe­daist, [Page 80] Deuwch atta fi bawb sydd yn flinderog ac yn llwythog, ac a addewaist emsmwythdra ac ymborth yddynt,

Trugarhâ wrthyf.

Trwy dy ympryd a'th wiliadwriaeth, trwy dy ne­wyn a'th syched, trwy dy ofid a'th dristwch, trwy dy ddirfawr ing a'th chwŷs gwaelyd, trwy dy lefain a'th ddagreu, trwy dy grôg a'th ddioddefaint,

Trugarhâ wrthyf.

Teilyngu o honot, yr hwn a iacheuaist aml gle­fydau â chyscod Petr, a llawer o heintieu â napkin Paul, llygaid y dŷn dall â chlai a ffoeryn, gwahan­glwyf [Page 81] Naaman â dwfr Jor­ddonen, ac adgyfodaist y marw âg esgyrn dy Broph­wyd, fendithio pôb rhyw foddion, arferwyd neu a arferir i'r iachau arnaf,

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot roddi grâs i mi, i ymddarostwng fy hun yn hollawl i'th ewyllys di, i gymeryd dy ymweliad dy yn ddioddef­gar, ac yn ddiolchgar, ac i yfed o'r cwppan hwn yn ddirwgnach, ac yn ddi­ddig.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot fyn­ghadarnhau yn erbyn holl [Page 82] brofedigaethau y cythrel, fynghynnorthwyo yn holl ingder ac amrafaelion fyn­ghydwybod, ac na âd fyn­hemtio uch-law 'r hyn a all­wyf i ddioddef.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot bar hau fynghôf a'm deall i mi fymharall, a'm synwyr, cwnffwrdd a grasau dy y­spryd glân, fal na ddych­welwyf oddiwrthit.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot (os dy ewyllys di yw) roddi i mi chwaneg o amser i edi­farhau, a'm gwared oddi­wrth byrth y bêdd, a'm har­bed [Page 83] bed fi ennyd, cyn fy myned ymaith, ac na'm gwelir mwych, fal y moliannwyf di etto yn nhîr y rhai by­wion.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Teilyngu o honot, (os ordeiniaist fi i faew) fym­harattoi; gadarnhau fy ffydd, faddeu i mi fy holl bechodeu, a siccrhau i mi fy iechidwriaeth, fal y tal­wyf fy enaid adref yn gwn­ffwrddus, ac yn ewyllys­gar.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Yn ddiweddaf, Teilyn­gu o honot dderbyn fy [Page 84] enaid (pan orchmynnwyf ef) i'th ddwylo, fyngwa­red oddiwrth ofid angeu tragywyddol, ac egorud i mi byrth bywyd tragy­widdol.

Attolwg fyngwrandaw Arglwydd daionus.

Trugarhâ wrthyf Argl­wydd▪ canys llesg ydwy­fi; iachâ fi O Arglwydd, canys fy esgyrn a gystuddi­wyd.

Dychwel Arglwydd, gwared fy enaid; achub fi er mwyn dy drugaredd.

Canys yn angeu nid oes côffa am danat, ac yn y bedd pwy a'th folianna? Ps. 6. 2, 4, 5.

Mae dy saethau ynglŷn [Page 85] ynof, a'th law yn drom arnaf

Nid oes iechid yn fyn­ghnawd o herwydd dy ddi­gllonedd; ac nid oes he­ddwch i'm hesgyrn o ble­git fymhechod.

Canys fynghamweddau a aethant tros fymheu▪ me­gis baych trwm y maent yn rhŷ drwm i mi.

Fynghleisiau a bydra­sant ac a lygrasant gan fy ynfydrwydd.

Crymwyd a darostyn­gwyd fi, beunydd yr yd­wyf yn myned yn alarus.

Fy lwynau a lanwyd a ffieidd glwyf, ac nid oes iechid yn fyngnhawd.

[Page 86] Gwanhawyd, a drylli­wyd fi'n dramawr: Rhuais gan aflonyddwch fyngha­lon.

O'th flaen di Arglwydd y mae fy holl ddymuniad, ac ni chuddiwyd fy enaid oddiwrthit.

Na âd fi O Arglwydd: fy nuw, nac ymbellhâ o­ddiwrthif.

Bryssia i'm cymmorth, O Arglwydd fy iechidwri­aeth. Ps. 38. 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 21, 22.

CYNGHORIEU Ar ddydd yr Arglwydd.

Ysawl a fynno dreulio dydd yr Arglwydd yn ddu­wiol, (os trigo y mae ef lle mae rhyddid tŷ dduw a'i ddeddfau) Rhaid iddo wneuthur rhywbeth o flaen myned i'r Eglwys, a rhywbeth yn 'r Eglwys, a rhywbeth ar ôl bôd yn 'r Eglwys.

O Flaer myned i'r Egl­wys.

I. Gwedi deffroi yn gyntaf fe a ddileu ein ca­lonneu gynhyrfu gan uch­elwyl [Page 88] a mawrhydi y dydd, gan wneuthur rhagoriaeth rhwng hwn a dyddieu eraill, gan ystyried i fôd yn ddydd yr Arglwydd. yn ddydd Sanctaidd. yn ddydd anrhydeddus.

Mawr yw anrhydedd y dydd hwn uch-law eraill.

Duw Tâd a'i anrhyde­ddodd ef.

Aug. de temp. ser. 154. Ar y dydd hwn y glawiodd ef Manna yn gyntaf ar yr Is­raeliaid.

Ar y dydd hwn y lluni­odd ef ddefnyddau 'r bŷd.

Ar y dydd hwn y creu­odd ef yr Angylion.

[Page 89] Duw fâb a'i anrhyd­ddodd ef a'i ogoneddus ad­gyfodiad, a'i raslawn ym­ddangosiad ar ôl hynnu. Canys ar y dydd hwn yr ymddanangosodd ef i'r ddwy Mair a ddaethant at y bêdd. Math. 28. 1. 9.

Ar y dydd hwn 'r ym­ddangosodd ef iw ddyscy­blion gwedi ymgasclu, a Thomas yn absennol. Jo. 20. 19.

Ar y dydd hwn yr ym­ddangosodd ef drachefu iw ddyscyblion, a Thomas yn bresennol. Jo. 20. 28.

Ar y dydd hwn y gwe­lodd St. Joan ef yn rhodio ynghanol y Saith gan­hwyllbren [Page 90] aur. Dat. 1. 10, 13.

Duw yspryd glân a'i an­rhydeddodd ef.

Ar y dydd hwn y dyscyn­nodd ef mewn cafod o ra­sau ar yr Apostolion. Er hyn o amser.

Yr Eglwys a'i anrhyde­ddodd ef, ac a'i gwnaeth yn ddodd eiEt Apo­stolos à Christo hujus diei celebritae­tem acce­pisse, ait Just. Mar. ad Imper. Anton. Ap. 2. uchel­wyl gymanfa. Act. 20. 7.

Y peth a an­rhydeddodd Duw a'i Eglwys fal hyn, n a haloged dŷn.

II. Rhaid i ni roddi heibio o­fâlon y bŷd, [Page 91] a gweithredoedd cyffredi­nol ein galwedigaeth, a'i gadel hwynt yn ol, fel y gadawodd Abraham ei weision, pan aeth i aber­thu ar fynudd Moriah.

III. Rhaid i ni yn glan­hau ein hunain, gan gyfa­ddeu, ac edifarhau, ne ni fyddant ein gweddiau yn yr Eglwys yn gymeradwy i dduw i dduw, na ei dde­ddfau ef yn fuddiol i nin­neu.

Ai yn lladratta, yn ladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogl-darthu i Baal, a rhodio ar ôl du­wiau dieithr, y rhai nid ad­waenoch: Y deuwch ac y sefwch ger fy mron i yn y [Page 92] tŷ hwn? Jer. 7. 9, 10.

A fynnafi gennych ymo­fyn a mi, o dŷ Israel? fel y mae byw fy medd yr Ar­glwydd, nid ymofynnir a mi gennych. Ezek. 20. 31.

Nid yw yn gwrandaw pechaduriaid: ond os nêb ym addolwr duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae ef yn i wran­daw. Io. 9. 31.

Ar Arglwydd a edrych­odd ar Abel a'i offrwm: ond nid edrychodd ef ar Gain, nac ar ei offrwm. Gen. 4. 4, 5.

Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd, a'th allor O Arglwydd y amglychaf. Ps. 26. 6.

[Page 93] O hyn achos yr ym ar­ferent 'r Juddewon scrifen­nu Uwch ben pyrth ei Sy­nagogau ymadrodd Da­fydd; Dyma borth yr Ar­glwydd, y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo. Ps. 118. 12.

Ac yn awr gwedi dy ba­rattoi a'th ddarparu yn y modd yma, Dôs i dŷ Dduw, ac ar y ffordd my­fyria ar rai o'r ymad ro­ddion hyn.

Un peth a ddeisyfais i gau yr Arglwydd, hynny a geisiaf: sef caffel trigo yn hŷ 'r Arglwydd holl ddyddiau fy mowyd: i edrych ar brydferthwch yr [Page 94] Arglwydd; ac i ymofyn yn ei Deml. Ps. 27. 4.

Llawenychais pan ddy­wedent, Awn i dŷ 'r Ar­glwydd. Ps. 122. 1.

Awn iw bebyll ef, ym­grymmwn oflaen ei faingc­draed ef Ps. 132. 7.

Fy enaid a hiraetha, ie a flysia am gynteddau 'r Arglwydd. Ps. 84. 2.

Boreuol weddi ar ddydd yr Arglwydd.

OArdderchoccaf, ac anfarwol dduw, Ily­gad rhagweliad pwy un ni huna byth, Yr wyf yn talu diolch i ti o ufuddgalon, am finghadw oddiwrth enby­drwydd [Page 95] y nôs aeth heibio, ac am fy nwyn yn ddiangol i oleuni a chwmffwrdd y dydd heddyw, Dydd San­ctaidd yw ac anrhydeddus, dydd wedi i gyssegru i'th wasnaethu, a'i neilltuo i'th foliannu di: Gan hynny, Rasussol dduw, cynhyrfed fynghalon, o herwydd ei anrhydedd a'i fawrhydi, fal na wnelwyf fyngwei­thredoedd fy han, fal na cheisiwyf fy hyfrydwch fy hun, ac fal na ddywedwyf fyngeireu fy hun; eithr fal y gwasnaethwyf di yn dy ddeddfau, ac fal y gallwyf gyflawni y dirfawr ddyle­dion a geisi gennyf. Yn gimmaint weithan a'th fôd [Page 96] o lygad glân, ac a fynni dy Sancteiddio yn y rhai oll a nessânt attat, yn dduw, yr hwn ni edrychi ar aberth ffyliaid, ac ni wrandewi ar bechaduriaid, er i bôd yn sengu dy gyn­teddau, ac yn dy ymgy­farch yn dy dŷ gweddi; Attolygwn i ti faddeu i mi fy holl bechodau, bwrw hwynt o'th ŵydd, cyn be­lled ac yw 'r dwyrain o'r gorllewin: Derbyn fi yn gymeradwy yn marwo­laeth a ddioddefaint dy fâb Jesu Grist, fel pan ddel­wyf i'th Deml i amgylchu dy allor, y cyfeiria fyn­gweddi ger dy fron, fel arogl-darth, ac y bydded [Page 97] derchafiad fy nwylo fel 'r roffwm prydnhawnol. Ac fel yr wyf yn deisyfu arnat fyngwrandaw i yn galw arnat ti yn fyngweddi, fel­ly dyro i mi râs i wrandaw arnat ty yn galw arnof fin­neu yn dy air. Gair y gwi­rionedd, a doethineb, y cyfiawnder, a chymmod yw, a gair a ddichon gadw ein eneidiau, yn nydd yr Arglwydd Jesu; caniadhâ imi i wrandaw yn barchus, a'i dderbyn yn addfwyn, a'i gymysgu a ffydd, fal y cy­flawna ef ynof, y gorch­wyl daionus, yr anfonaist o'i blegit.

Ac fal y byddo 'r dydd hwn yn ddydd sanctaidd i [Page 98] ty ymhôb man; Sancteiddia, a pharatoa galonnau dy holl bobl i'th wasnaethu, llenwa lenoedd dy a­ddoliant â'th ogoniant, bydd bresennol gyda chynlleidfydd dy Sainct, agor wefuseu dy wenido­gion, a chanlyn wenido­gaeth dy air a ffrwythla­wnrwydd dy yspryd, fal i bydded nerthol i fwrw-i-lawr gestyll pechod a che­styll Satan, i ehengu dy Eglwys, i berffeithio dy Sainct hyd oni ymgyfarfy­ddom ol mewn undeb ffydd, a gwybodaeth mâb Duw yn wyr perffaith: Ti o dduw, yr hwn a ddichon, wneuthur yr dra ragorol, [Page 99] dros allom ni ofyn, neu fe­ddwl; clyw ni a gwrandaw arnom, er mwyn dy anwyl fâb, i'r hwn gyda 'r Tâd a'r yspryd glân y by­ddo holl nerth, a gogo­niant, gallu, ardderchaw­grwydd, ac arglwyddiaeth yr-awr ac yn oes oesoedd. Amen.

Yn yr Eglwys.

YStyria yn gyntaf fod y man lle yr wyt. yn Borth nefoedd yn Dîr Sanctaidd.Joh. 5. 16. yn Dy dduw.Gen. 28. 17.

Môr hawddgar yw dy bebyll di O Arglwydd y [Page 100] lluoedd! gwynfŷd presswyl­wyr dy dŷ. Gwell yw di­warnod yn dy gynteddau na mîl. Ps. 84. 1. 4. 10.

Yna, bydd ofalus i wneu­thur y petheu a gais Duw yno, sef dau beth; 1. Gweddio. 2. Gwrandaw ar y gair.

Oras? lo­queris cum Deo: Legis? tecum loqui­tur. Hier. Wrth we­ddio; yn gyntaf edrych ar dde­fosiwn dy enaid.

Rhaid dyr­chasu 'r enaid, Ps. 25. 1.

Athywallt 'r enaid, Isa. 1. 15.

A llefain yn grŷf, Heb. 5. 7.

[Page 101] Ag ymbil a duw, Hos. 12. 4.

Heb hyn, ni fydd dy weddi ond dadwrdd, Mat. 6. 7.

Ond udfa ci neu flaidd, Hos. 7. 14.

Ond clôch heb dafod.

Ond cynnyd heb dân.

Ond peledau heb bowdr.

Ond ederyn heb escill.

Ond Cwmmwl heb ddwfr.

On Symbal yn tingcian.

Yr Juddewon a scrifennent uwch ben pyrth ei Synagogau yr ymadrodd hon hefyd.Buxtors. Gweddi heb fe­ddwl-fryd sydd debig i gorph heb enaid.

[Page 102] Yna, yn ail, Edrych-ar ymar weiddiad dy gorph.

Duw sydd ofnadwy iawn ynghyn ulleidfa 'r Sainct, ac iw arswydo yn ei holl amgylchoedd. Ps. 89. 7.

Nun­quam verc­cundioris esse debe­mus quam quum cum Dco agitur. Sen. nat. q. l. 7. ex A­ristot. Noetha dy ben.

Y pedwar He­nuriaid ar hu­gain y syrthia­sant ger bron yr hwn oedd yn ei­stedd-ar Orsedd­faingc, ac a da­flasant ei coro­neu oddiam ei penneu. Dat. 4. 10.

Deuwch addolwn, ac ym­grymmwn: gostyngwn ar [Page 103] ein gliniau, ger bron yr Arglwydd, ein gwneuthur­wr, Ps. 95. 6. Eph. 3. 14.

Yddled arall yw, gw­randaw ar bregethu a darll ain gair Duw, ac wrth wrandaw disgwilir gen­thym,

Yn gyntaf, Ymwranda­wiad.

Llefara Arglwydd, canys y mae dy wâs yn clywed. Isa. 3. 10.

Gwrandaw ferch, a gwêl a gostwng dy glust. Ps. 45. 10.

Gwrandaw af beth a ddywed yr Arglwydd dduw. Ps. 85. 8.

Yr Arglwydd a agorodd galon Lydia, i wrandaw [Page 104] ac i ddal y pethau a leferid gan Paul. Act. 16. 14.

Yr hwn sydd ganddo glust i glywed, gwrandawed beth y mae 'r yspryd yn i ddywedyd wrth yr Eglwisi, Dat. 2. 11.

Y mae fy nefaid i yn gwrandaw ar fy Ilais, Jo. 10. 27.

Ac er mwn hyn, Rhaid i ni yst yried i fôd.

Yn air duw, 1. Thes. 2. 13.

Yn air grâs, Act. 14. 3.

Yn air gwirionedd, Jo. 17. 17.

Yn air y cymmod, 2. Cor. 5. 19.

Yn air y cyfiawnder, Heb. 5. 13.

[Page 105] Yn air y ffŷdd, Rhyf. 10. 4.

Yn air bywyd tragwyddol, Jo. 6. 68.

A'i fôd

Yn Hâd da, Mar. 4.

Yn llaeth pûr, 1. Pet. 2. 2.

Yn fwyd crŷf, Heb. 5. 14.

Ai fôd,

Yn air iachus, 2. Tim. 4. 3.

Yn air bywiol, Heb. 4. 12.

Yn air daionus, Heb. 6. 5.

Ai fôd

Yn well na miloedd o aur ac arian, Ps. 119. 72.

Yn felusach na'r mêl, [Page 106] na diferiad diliau mêl, Ps. 19. 10.

A hyn oll, o herwydd i fôd yn air a ddichon gadw ein eneidieu. Jac. 1. 21.

Yn ail, wrth wrandaw ar air duw, disgwilir i ymgo­fio.

Am hynny, gosodwch fyngeiriau hyn'yn eich ca­lon, ac yn eich meddwl, Deut. 11. 18.

Cuddiais dy ymadro­ddion yn fynghalon, fal na phechwn i'th erbyn, Ps. 119. 11.

A Mair a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon, Luc. 2 51.

Yn ddiweddaf, Cyme­red y Bobl rybydd na yma­dawent [Page 107] ar Eglwys, hyd oni lefara 'r Gwenidog y fendith.

A'r holl Bebl a aethant, bôb un iw dŷ ei hûn, 1. Chron. 16. 42. eithr gwedi i Ddafydd orffen aberthu poeth-offrymmau a hedd­offrymmau a bendithio 'r Bobl, yn enw 'r Arglwydd▪ v. 2.

Yn ddiau mae rhywbeth yn mendith y Gwenidog.

Yn a'r Offeiriaid a'r Le­fiaid a gyfodasant, ac a fen­dithiasant y Bobl; a gwran­dawyd-ar ei llef hwynt; a'l gweddi a ddaeth-i-fynu, iw bresswylfa Sanctaidd ef i'r nefoedd, 2. Chronic. 30. 21.

[Page 108] Na ymadaw a'th Angel, nes iddo dy fendithio di.

Ar ôl bôd yn yr Eg­lwys.

A Cyn-awr gwedi dy ddyfod adref, Rhaid iti heb law hyn,

1. Ymyfyrio ar y petheu a ddysgwyd i ti.

Ei ddigrifwch ef sydd ynghyfraith yr Arglwydd, ac yn ei gyfraith ef, y mae yn myfyrio ddydd a nôs, Ps. 1. 2.

Mor gu gennif dy gy­fraith di: hi yw fy myfyr­dod beunydd, Ps. 119. 97.

[Page 109] Deellais fwy na'm athra­won, o herwydd dy dy­stiolaethau yw fy myfyr­dod. v. 99.

Bydd melys fy myfyrdod am dano, Ps. 104. 34.

Gwresogodd fynghalon a'm mewn: tra oeddwn yn myfyrio, ennynnodd tân, Ps. 39. 3.

Yr anifeiliaid ni chnoient ei cîl oeddent aflan, Lev. 11.

2. Rhaid i ti foliannu Duw am gyfran o'i air a ri­glyddodd Duw i ti y dydd hwnnw.

Bendigedig fyddo Duw, a thâd ein Harglwydd Jesu Grist, yr hwn a'n bendi­thiodd ni a phôb bendith [Page 110] ysprydol, yn y nefolion leoedd yn Grist, Eph. 1. v. 3.

SEF Rhwyddid iw ef; Cwmffwrdd ei ddydd ef; Cymmyn ei Sainct ef; Athrawiaeth ei air ef; Cyfranniad ei Sacra­sennais ef; Doniau y Gwenidog.

3. Rhaid i ti weddio am fen­dith ar air ein iechidwriaeth.Oration is Le­ctio, Lectioni succeda [...] o [...]a­tio. Hier. ad Læt.

Efe yn unic a feder osod ei gyfraith oddi mewn a'i scrifennu yn ein calonnau, Jer. 31. 33.

[Page 111] Paul a blanna, ac A­pollo a ddwfrhâ, ond Duw a rydd y cynnydd, 1 Cor. 3. 6.

Godidowgrwydd y ga­llu syddo dduw, ac nid o honom ni. 2 Co. 4. 7.

Yn ddiweddaf, Dysg dy dylwyth.

A dysgwch hwynt i'ch plant, gan grybwyll am danynt, pan eisteddych yn dy dŷ, a phan rodiech ar y ffordd, pan orweddych hefyd, a phan godych, Deut 11. 19.

Mi ai hadwaen ef, y gor­chymmyn efe iw blant, ac iw dylwyth ar ei ôl, gadw o honynt ffordd yr Argl­wydd, gan wneuthur cy­fiawnder [Page 112] a barn. Gen. 18. 19.

Myfi a'm tylwyth a was­naethwn yr Arglwydd. Josh. 24. 15.

Os fel hyn, y Sancteiddi y dydd gorffwysdra hwn, yn y bŷd hwn, cei gadw gŵyl a Sabboth tragywy­ddol yn y bŷd a ddaw.

Cadwed pôb cyfriw ddŷn oddifewn Eglwys Loegr, ddydd yr Arglwydd, (yr hwn a elwir dydd. Sûl yn gyffredin) yr ŵyl o hyn allan, a holl ddyddieu gwy­lion eraill, yn ôl ewyllys Duw, a deddfau Eglwys Loegr a ordeiniwyd ar hyno ran; sef, yn gwrandaw-ar bregethu, a darllen gair [Page 113] Duw, yn gweddio yn ddir­gel, ac ar gyhoedd, yn cy­faddeu ei beiau i dduw, ac yn edifarhau; yn ymgymodi ei hunain yn gariadus, lle bu anghymmod; yn cymeryd cymmyn Corph a gwaed Grist yn fynych, yn ymwe­lled-ar tlodion a'r cleifion, gan ddylin pôb bychedd dda, a sobr. Canon, 13. o'r rhai hynny 1603.

Prydnhawnol Weddi ar ddydd yr Arglwydd.

OArdderchoccaf Dduw, ac yn Grist Jesu fynhrugarog Dâd, [Page 114] yr wyf yn cyfaddeu y gwendid a'r amherffeith­rwydd oll a aethant oddi­wrthif yn cyflawni gwei­thredoedd y dydd heddyw. Mi a'th ymgyfarchais am faddeuaint pechodau mòr ileig, ac mòr ddiofal, oni ddarfu i'm gweddiau droi yn bechodau, ac yn-awr mewn eisieu maddeuaint. Cwarandewais ar dy air a chalon mòr farwaidd, ac yspryd mòr anhwylys▪ ac i bum wrandawr anfuddiol, ac anghofus iawn. Yn gim­maint O Arglwydd, er gwneuthur o hon af dy waith etto mi ai gwneu­thum mòr ddiesceulys▪ fal y mae i mi ddisgwil yn hyt­trach, [Page 115] felltith n a bendith o­ddiwrth it.Ier. 48. 10.

Ond o Dduw, yr hwn wyt gyfoaethog o druga­redd, ac aml yn ymwared, na chraffa ar y peth a wneis ar fai, cofia nad wyf ond llwch, maddeu, a bwrw­heibio fy holl bechodau, fy esceulustra a'm anwybod: Edrych, nid ar wendid fyn­gnhawd, ond ar ewyllys­garwch fy yspryd, a chu­ddia fy holl amherffeith­rwydd, â pherffaith ufudd­dod dy anwyl fâb, fal y byddent yr aberthau a offrymmais i ti, y dydd heddyw, yn gy­meradwy yn, ac er [Page 116] mwyn yr aberth a offrym­modd Jesu Grist ar y groes trosafi.

Ac fel yr wyf yn dymu­no bôd fy aberthau fi yn gymeradwy i ti, felly by­dded dy ddeddfau di y fu­ddiol i mi. Ac fel yr hau­eist fynghalon â hâd gwer­thfawr dy air, felly na âd i ehediad y nefoedd iw fwytta, nac i ofalon y byŷd iw dagu, eithr descynned grasussawl wlîth dy fendith arno yn fynych, fal y dyged ynof ffrwyth edifeirwch a gwellhâd bychedd.

Ac yn gymmaint a bôd dy air yn drysor gwerth­fawr, ac yn well n a mi­loedd o aur ac arian, ac yn [Page 117] felysach na'r mêl; Bendi­gedig Arglwydd Dduw, Teilyngu o honot barhau dy air i'n Teirnas ni na âd i'n pechodeu gwaeddfawr, sefaniolchgarwch, ac ane­difeirwch, caledrwydd-ca­lon, ac anffrwythlonder tan foddion mòr raflawn, wn­euthur i ti smudo dy gan­hwyllbren, na diffoddi go­leuni Israel. Llewyrcha â goleuni dy efengil yr holl Genhedloedd sydd etto mewn tywyllwch a chysgod angeu: chwanega beunydd att yr Eglwys y rhai a fy­ddant gadwedig, gan fyr­rhau y dyddieu drwg hyn, a chyflawni rhifedi dy e­tholedigion, y gallom ga­dw [Page 118] gorffwysdra tragywy­ddol, a Sabboth ein enei­dieu gyda thydi yn dy deir­nas.

O Arglwydd benditha 'r holl bobl dda yn y deirnas hon o'r ucha hyd yr issa; ein Brenhin ein Brenhines, a'r holl hiliogaeth frenhi­nol; em Eglwyswyr, a'n Penswyddwyr, dy holl E­glwys, a phôb aelod yn­ddi, ymha fan, ac ymha dramgwydd bynnag y bo, a llwydda bôb darpariad a bwriad a ddechreuir i ddyr­chafu 'r Efengil, ac i ehen­gu dy deirnas.

Yn ddiweddaf, O Ar­glwydd, fel y buost yndda wrthif yn [...]amweiniau y [Page 119] dydd hwn; yn ymborthi fyngnhawd a'th gread­uriaid daionus, a'm enaid â gorffwysdra ysprydol y dydd hwn, felly parhâ dy ddaioni i mi y nôs hon, derbyn fi i freichiau dy ra­gweliad, cuddia fi tan blu dy adennydd fal y gor­weddwyf mewn heddwch, ac y cymerwyf fyngorffwy­stra, fal (gwedi deffroi i gwmffwrdd y dydd y foru) y gwnelwyf wasanaeth i ti yn gweithredoedd y galwe­digaeth y gosodaist, ac y trafnaist fi: fal y bydded dy fendith arnaf yn ddi­baid, fal na flinych di yn gwneuthur i mi ddaioni: Yr hyn oll, a pliôb peth [Page 120] arall, a wyddost fôd yn angenrheidiol, ac yn gym­mwys i mi, yr wyf yn i gofyn, yn enw, haedde­digaethau, cyfryngiad, a geirieu dy fâb Jesu Grist, gan ddywedyd fal i'n dys­godd ef i hun:

EIn tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

Cynghorieu i deilwing dderbyn y Sacrafen o Swpper yr Arglwydd.

NI ddylem ryfygu dy­fod att fwrdd yr Ar­glwydd [Page 121] anheilwng ac yn ddibarod.

Na roddwch y peth sydd San­ctaidd i'r cŵn,Vasa pura ad rem divinam. Plaut. in capt. Act. 4. Sc. 1. ac na theflwch eich gemmeu i'r môch, Matth. 7. 6.

Gorchmynnodd Josiah i'r Lefiaid ei parattoi ei hu­nain ai brodyr, ac yna i ladd y pasc, 2. Chro. 35. 4, 6.

Esceulustra paratoad sydd beryglys.

Ar ôl y tammaid, yna yr aeth Satan i mewn i Ju­das, Jo. 13. 27.

Pwy bynnac a fwytao y bara hwn, neu a yfo gwp­pan [Page 122] yr Arglwydd yn an­heilwng, euog fydd o gorph a gwaed yr Argl­wydd, 1. Co. 11. 27.

Yr hwn sydd yn bwytta, ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hûn, v. 29.

O blegid hyn y mae lla­wer yn weiniaid, ac yn llesg yn eich mysc, a lla­wer yn huno, v. 30.

Mae 'r paratoad hwn yn sefyll yn bennaf mewn pum peth.

1. Ymholiad dŷn ci hûn.

Holed dŷn ef ei hun, ac felly bwytaed o'r bara, ac yfed o'r cwppan, 1. Co. 11. 28.

Ypeth pennaf iw ymho­li yw peched,

[Page 123] 1. Mewn meddwl:

Mae holl fwriad me­ddylfryd ein calonneu yn unic yn drigionus, bôb am­ser, Gen. 6. 7.

O'r galon y mae meddy­lyeu drwgyn dyfod-allan, Math 15. 19.

2. Mewn gair:

Yr ydwyf yn dywedyd wrthych mae am bôb gair segur a ddywedo dynion; y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn. Matth. 12. 36

Geirieu llygredig anllad.

Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o'ch geneu chwi, Eph. 4. 29.

Geirieu diglion▪

Sef galw ein brawd, Ra­ca, Math 5. 22.

[Page 124] Geirien anwir, Sef, cel­wydd, drwg abson ac anair, &c.

Pwy bynnac sydd yn ca­ru, neu yn gwneuthur cel­wydd, a gauir-allan o Gaer Selem newydd, Dat. 22. 15.

Geirieu anuwiol, yn er­byn Duw, sef tyngu, a chablu.

Bydded eich ymadrodd chwy, Ie, Ie, Nage, Na­ge: oblegid beth bynnac sydd tros ben hyn, o'r drwg y mae. Math. 5. 37.

Ein erbyn ein hunain, neu er aill, sef rhegi a mell­dithio, &c.

Fel yr hoffodd felldith, felly y daed iddo.

[Page 125] Fel y gwiscodd felldith fel dilledyn: felly daed fel dwfr iw fewn, ac olew iw escyrn, Ps. 109. 17, 18.

3. Mewn gweithred.

Gan adel heb wneuthur y petheu a ddylesym eu gwneuthur, a gwneuthur y petheu ni ddylesym eu gwneuthur: Pwynti'r at y ddau yn ymadroodd yr Apostl:

Nid wyf yn gwneuthur y peth da, yr wyf ei ewyl­lysio:

Ond y drwg, yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn i wneu­thur, Rhyf. 7. 19.

Wele y peth iw ymholi.

[Page 126] Yrheol i holi wrtho yw cyfraith Dduw.

Canys trwy y deddf y mae adnabod pechod, Rhyf. 3. 20.

Nid adnabum i bechod ond wrth y ddeddf, Rhyf. 7. 7.

O hyn achos, y mae 'r Eglwys (yr hon a dref­nodd bôb peth yn gy­wraint, ac yn hyfryd yn y gwasanaeth) yn ordeinio darllain y gorchmynion oflaen gwenidogaeth y Sa­crafen hwn, fal i gwelent dynion ei pechodeu yn nrych cyfraith dduw.

Yr ail peth a geisir gan y cymunwr teilwng yw edi­feirwch a chystydd-calon.

[Page 127] Rhaid ydoedd bwytta 'r oen pasc a dail Surion, Ex. 12.

A christ ein pasc ni sydd raid iw dderbyn âg yspryd drylliedig a chystuddiedig.

âg enaid chwerwllyd.

â llygad gwylofus.

Rhaid iw bwytta 'r bara hwn â chwŷs wyneb, sef ein dagrau.

Ac mi a allaf ddywedyd am y gwin yn y Sacrafen hwn, hwn, fel y dywe­dodd ei fam wrth Salomon, Dihar. 31. 6.

Rhoddwch y gwin hwn i'r rhai trwm ei calon.

Ac er y gallom weiddi gan ystyried ein anheilyng­dod, gyda S. Paul, pwy [Page 128] sydd gymmwys ir petheu hyn?

Etto gallwn yn cwm­ffwrddio ein hunain yn y­madrodd y Psalmwr, ca­lon ddrylliog, gystuddie­dig, o dduw, ni ddirmygi, Ps. 51 17.

Y trydydd peth a geisir gan y Cymunwr teilwng ywCrede & mandu­casti. Aug. in Johan. ffydd.

Raid iddo gredu fôd Jesu Grist yn Messiah, ac yn Iachawdur y bŷd.

Rhaid iddo gredu ddar­fod i groes-hoilio ef, a thywallti waed ef.

Rhaid iddo gredu fôd haeddedigaethau ei grôg a'i [Page 129] ddioddefaint ef, yn abl i gadw pechaduriaid.

Rhaid iddo gredu tra­ddodi haeddedigaethau Crist iddo ef yn y Sacrafen hwn, os cyfrannir ef yn ddyledus, ac os cymerir ef yn deilwng: canys y peth a addewir yn y Testa­ment, a gyflawnir yn y Sacrament.

FFydd yw 'r wisg brio­das: y sawl a ymyscwy­ddodd i'r wledd hebddi, a rwymwyd ddwylo a thraed, ac a daflwyd i'r tywyllwch eithaf, Math. 22. 13.

Yn bedwerydd anghenrhaid yw bwriad dianwadal yn er­byn pechod o hyn allan.

[Page 130] Mae 'r Eglwys yn gwe­nidogaeth y Sacrafen hwn yn gwahodd yn unic, y rhai sydd yn bwriadu dylin hychedd newydd, a chadw gorch mynion Duw, a rho­dio o hyn allan yn ei ffyrdd Sanctaidd ef.

Yr enwaededic yn unic oeddent i fwytta 'r oen pasc

Manna oedd ym gadw mewn crochant or aur pûr, Corph Grist wedi i groes hoilio a amdowyd mewn lliain glân, ac a gladdwyd mewn bedd newydd.

Irrisor est, non pœ­nitens, qui adhuc agit quod poeni­tet. Isidor. Pel. de sum. Bon. Tristwch am bechod heb fwri­ad i wellhau by­chedd, sydd te­big i wahennu [Page 131] llong, heb gau 'r twll, trwy 'r hwn a daetheu 'r dwfr i mewn

Tan y gyfraith, y sawl a ddalieu ryw beth aflan yn ei law, aflan a fyddeu yn­tef, er iddo ymolchi tra fynneu.

Yn bummed, anghen­rhaid yw [...]. ca­riad perffaith a phôb dŷn. Yr oen-pasc oedd ym fwytta heb Sur-does.

* Y neidr a fwrw-i-fyny i gwenwyn cyn yfed.Ber. De mo­do bene vi­vendi. Ser. 28.

Byddwch chwithau gall el Seirph, Math. 10. 16.

[Page 132] Am hynny cadwn ŵyl, nid a hên lefein, nac a le­fein malais, 1. Cor. 5. 8.

Os dygi dy rodd i'r al­lor, ac ynof dysod i'th gôf fôd gan dy frawd ddin yn­dy erbyn:

Gâd yno dy rodd ger bron yr allor, a dôs y­maith: yn gyntaf cymo­der di a'th frawd, ac yno tyred ac offrwm dy rodd, Math. 5. 23, 24.

Y tri gwr doethion a aethant yn gyntaf i Gaer Se­lem, yna i Bethlehem: yn gyntaf i weledighaeth he­ddwch, yna i dŷ bara.

Phiol y fendith yr hon a fendigwn, onid cymmyn gwaed Crist ydyw? y bara [Page 133] yr ydym yn i dorri, onid cymmyn corph Crist yw?

Oblegid nyni yn llawer ydym un bara, ac un corph. 1. Co. 10. 16, 17.

Yr arwyddion a arferir yn y Sacrafen, sef bara a gwin a ddysgant i ni gariad.

Llawer o rawn ŷd a dy­linir y un dorth, a llawer o rawn win a gydwesgir mewn un cwppan.

Os fal hyn yr ymgymo­daist a Duw a dyn, Deua yn nês, profwch a gwel­wch mòr dda yw'r Argl­wydd, Ps. 34. 8.

Bwytewch gyfeillion, yfwch, ie yfwch yn he­laeth fy rhai anwyl. Cant. 5. 1.

Gweddi cyn cymmuno.

O Drugaroccaf a grasus­saf Arglwydd dduw gwahoddaist bawb sydd yn flinderog ac yn llwythog dan feichieu ei pechodau, i ddyfod attat, ac adde­waist esmwythau arnynt, a rhoddi ymborth yddynt; Gwahoddaist hwynt oll sydd arnynt newyn a syched am dy deirnas a'i chyfiawnder, i ddyfod at dy fwrdd, i brofi dy swp­per, ac a addewaist iw di­goni hwynt. Oherwydd pa ham, trwy ffydd yn dy a­ddewidion, yr wyf yn dy­fod [Page 135] attat fendigedig Argl­wydd Jesu, gan attolwg i ti esmwythau arnaf, a rho­ddi ymborth i mi, am di­goni a'th drugaredd, canys sychedu a newynu y mae fy enaid am danat ti, ac am dy iechydwriaeth.

Yr wyf yn cyfaddeu ddarfod i'm pechodau beu­nyddiol fyngwneuthur yn anheilwng o'ni bara beuny­ddiol, yn fwy o lawer o'r Manna hwn, o'r bara by­wyd hyn, a ddaeth-i-wa­red o'r nefoedd.

Yr wyf yn cyfaddeu nad wyf barod yn ôl parattoad dy Gyssecr; etto yn gim­maint a gosodais fynghalon i'th geisio, Ty di O Ar­glwydd [Page 136] dduw daionus, bydd drugarog wrthyf.

Ac er nad wyf abl i ddwyn calon lâd gyda my fi,Dihar. 20. 9. (canys pwy a ddichon ddy­wedyd, mi a lanheais fynghalon?) etto Arglwydd, wele, yr wyf yn dwyn calon gystuddie­dic, ac yspryd dryllie­dic gyda myfi, O dduw na ddirmyga 'r aberth hwn. Ac am y pechodau a be­chais yn dy erbyn, Rhwy­ma hwynt mewn un yscub, a thafl hwynt i waelod môr dy drugaredd cladd hwynt yn archollion, a golcha hwynt ymaith yn gwaed yr oen difeius Jesu Grist; Ac [Page 137] o hyn allan glanhâ fynghy­dwybod a'r unrhyw waed, gan i phuro oddiwrth wei­thredoedd meirwon, i'th wasnaethu di y Duw byw mewn cyfiawnder a gwir-Sancteiddrwydd holl ddy­dieu fy mywyd. Fali byddo 'r Sacrafen bendigedig hwn yn fodd i lonyddu fynghy­dwybod, i chwanegu fy ffydd, i wresogi fyngha­riad, i wellhau fy my­chedd, i gadw fy enaid, i siccrhau i mi, fy môdi, yn un o'r rhifedi bendige­dig, a gânt fwytta ar dy fwrdd, ac a wahoddir i swpper-priodas yr Oen. Caniadhâ hyn, O Argl­wydd, er mwyn Jesu Grist, [Page 138] yn enw a geirieu pwy un y gorffennaf fyngweddiau amherffaith hyn, fel i'm dysgodd ef i hûn.

Ein Tâd yr hwn wyt &c.

Wrth gymmuno.

VVRth dderbyn Swpper yr Argl­wydd, aml feddylieu a fy­ddent rwysteus, yn hy­trach na chynghorus i ni; y rhai ychydig hyn (yn fy marn i) sydd yn bennafiw ystyried.

Yn gyntaf, bydded dy olwg ar weithredoedd yMinister Christi, 1 Co. 4. 1. Dei, 2 Co. 6. 4. N. T. 2 Co. 3. 6. Jesu Chr. 1 Tim. 4. 6. Evangelii, Eph. 3. 7. [...]usquam hominum. J. Mede Diatr. Gwe­nidog, [Page 139] dal salw ar dorri 'r bara, a thywallt y gwin.

Torri 'r bara a ddwg i'th gôf y modd y sigwyd ac y drylliwyd Corph Crist.

Towallt y gwin a ddwg i'th gôf y modd y tywallt­wyd ei waed ef.

Tywalltwyd er dy fwyn di,

Pan en waedwyd ef:

Pan fflang ellwyd ef:

Pan chwysodd yn yr ardd:

Pan goronwyd ef a drain:

Ond yn enwedig pan groeshoiliwyd ef; rhwng pwy beth a'r Sacrafen hwn, y mae cyfflybaeth nodedig,

Pan wanwyd ei ystlys ef.

[Page 140] Gwaed Jesu Grist sydd yn glanhau oddiwrth bôb pechod, 1 Jo. 1. 7.

Dyweyd betheu gwell, na gwaed Abel. Heb. 12. 24.

Gwaed gwerth fawr yw 1. Pet. 1. 19. a hyn oll am i fôd yn waed Duw, Act. 20. 28.

Yn ail, i awn-farna gorph 'r Arglwydd. 1. Co. 11. 29.

Rhaid i ni ystyried y ba­ra cyssygredig, nid fel bara sydd eiddo 'r Arglwydd, eithr fel bara y sydd yr Arglwydd.

Nid fel ein bara cyffre­dinol, brunyddiol ni, eithr fel corph Crist yn Sacra­mentol.

[Page 141] Rhaid i ni ystyried y gwyn, nid fel gwaed y grawn, eithr fel gwaed Crist, mewn gwir etto mewn gwedd Sacramentol.

Mae Crist yn wir-bre­sennol yn y Sacrafen.

Fyngnhawd i sydd fwyd yn wir, am gwaed i sydd ddiod yn wir; bwytta ei gnawd ef yw ac yfed ei waed ef yw, Jo. 6. 56.

Nid yn naturiol, ac yn gorphorol.

Caled yw 'r ymadrodd hon, pwy a ddichon wran­daw arno, v. 60.

Y cnawd nid yw yn lle­shau dim, y geiriau yr yd­wyfi yn i llefaru wrthych, [Page 142] yspryd ydynt, a bywyd ydynt. v. 63.

Yn drydydd, Cymmu­na ar dy linie.

Yr ymwreddiad hwn sydd gymhwysaf.

Mae yn arwyddoccau ufydd a diolchgar gydny­byddiaeth o'r mawr-lles a dderbyniasom yn y Sacra­fen hwn.

Drachefn, y Gwenidog pan ranno, a ninneu pan dderbyniom, ydym yn cydgyssylltu mewn gweddi ferr, etto mewn gweddi fe­lys.

Corph ein Harglwydd Je­su Grist, yr hwn a roddwyd drosot ti, &c.

Gwaed ein Harglwydd Je­su [Page 143] Grist, yr hwn a dywallt­swyd drosot ti, &c.

Nid oes ymwreddiad arall mòr gymmwys i we­ddio, ac ar linie.

Drachefn, fe a ordeini­wyd gan yr Eglwys.

Gwneler pôb peth yn weddaidd, ac mewn trefn, 1. Co. 14. 40.

En fy môd i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf yn bresennol gyda chwi yn yr yspryd, yn llawenychu, gan weled eich trefn chwi, Col. 2. 5.

Ar ôl Cymmuno.

PAn fych gyfrannog o Swpper yr Arglwyed: [Page 144] Yn gyntaf oll, tâl ddi­olch.

Dlêd yw a ddylem am ein Swppereu beunyddiol.

Eucharistia y gelwyd y Sacrafen hwn gynt, hynny yw.

Talu diolch, o herwydd y diolch a ddylem dalu am dano.

Phiol y fendith yw, mae Duw yn ein bendithio ni, mae yn rhaid i ninneu fen­dithio Duw.

Mae Duw yn rhoddi i ni phiol jechidwriaeth, mae yn rhaid i nenneu gymeryd phiol diolchgarwch.

Y Dyscyblion ar ôl cym­munio [Page 145] a gana­santConfisting of 6. Psal. id est, the 113, 114, 115, 116, 117, 118. Drus. obser. sacr. l. 7. c. 15. hymn. A Hymn yw co­wydd-moliant. Matth. 26. 30.

Datgan dy ddiolchgarwch mewn psalmau,Buxtorf. in Lexic. Tal­mud. a hymnau ac odlau ysprydol ar gyhoedd yn y gynulleidfa, ac yn ddirgel ymŷsg dy deulu.

Psalmau cymwys yw, Ps. 8. Ps. 23. Ps. 66. Ps. 103. &c.

Yn ail, fel y mae yn rhaid talu diolch i dduw, felly mae yn rhaid talu elusen i'r tlodion.

[Page 146] Arferol oedd yn yr Egl­wys gyntaf, ac arferol yw etto mewn llawer o fanneu fôd casgl i'r tlodion ar ddydd cymnin.

Gweision Dafydd a ddy­wedasant wrth Nabal, mae ar ddiwrnod da a ddae­thent, sef dydd gwledd. 1 Sa. 25. 8.

Dydd gwledd yw hwni ti; na fydded yn ddydd ym­pryd i'th frodyr tlodion.

Porthodd Duw dy di â bara bywyd, a ommeddi di y briwsion a syrthiant­oddiar dy fwrdd?

Porthodd Duw dy di â gwaed ei fâb, â gwin ei Gyssecr, a omeddi di ddid [Page 147] o'th gell, neu phioled o ddwfr oer?

Dyro yn llawen.

Hoff gan Dduw roddwr llawen 2 Co. 9. 7.

Dyro yn helaeth, gan ystyried y rhodd fawr a eôdd Duw i ti ar y dydd hwn: Ei fâb. Ei anedig fâb. Ei unic anedig fâb. Ei garedig fâb. Ei anwyl fâb.

Yn drydydd, gochel ddychwelyd i'th hên be­chodau.

Golchais fynrhaed, pa fodd y diwynaf hwynt? Can. 5. 3.

[Page 148] Os gwedi i ni ddiangc oddiwrth halogedigaeth y bŷd, trwy adnybodaeth yr Arglwydd, a'n Jechaw­dur Jesu Grist y rhwystrir ni drachefu âr petheu hyn, a'n gorchfygu;

Os fel y ci yr ymchwel­wn att ein chwdiad ein hu­nain: neu fel yr hŵch gwedi i golchi, yr ymdrei­glwn yn y dom;

Ein diwedd a fydd waeth na 'n dechreuad. 2 Pet. 2. 20, 22.

Pa faint mwy cospedi­gaeth (dybygwch chwi) y bernir haeddu o'r hwn a fathrodd fâb Duw, ac a far nodd yn aflan waed y Cyfammod, trwy 'r hwn [Page 149] y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd yr yspryd glân? Heb. 10. 29.

Pan êl yr yspryd aflan allan o ddyn, yna medd efe, Mi a ddychwelaf i'm tŷ, o'r lle y daethym-allan: Ac wedi y delo, y mae yn i gael yn wâg, wedi y yscubo a'i drwsio. Yna y mae ef yn myned, ac yn cymeryd gydag efei hûn saith pspryd eraill, gwaeth nag efei hun: ac wedi y­ddynt fyned-i-mewn, gy­fanneddant yno: ac y mae diwedd y dŷn hwnnw yn waeth na ei ddechreuad. Matth. 12. 43, 44, 45.

Inanis est poeni­tentia, quam sc­quens cul­pa coin­quinat. Aug. ser. 6. de temp. Y sawl a y­molcho wedi cy­ffwrdd [Page 150] a'r marw, ac a gyffyrddo ag ef eilwaith: pa fudd a gaiff efe o'i ymolchiad? Ecclus. 34. 25.

Gweddi ar ôl Cymmuno▪

O Rasussaf Dduw, o­ddiwrth helaethrw­ydd pwy un y descyn pôb dawn daionus, a phôb rhodd berffaith, Myfi, ac oll sydd ynof ydwyf yn moliannu, ac yn mawrhau dy enw Sanctaidd, am dy holl drigareddau, a'th [Page 151] gymmwynasau a roddaist i mi o amser i amser.

Yn enwedig yr wyf yn ddiolchgar, am dy, fâb Jesu Grist, ffynnon a gw­reiddin pôb bendith; am i't i anfon efi'r bŷd i gyme­ryd ein naturiaeth ni arno, ac i farw trosom; Ac am fy ymborthi fi (yr hwn wyf anheilwng o'r lleiaf o'th drigareddau) â haeddedi­gaethau ei farwolaeth ef, a'i ddioddfaint. Bendigedig Arglwydd Dduw, Teilyn­gaist Selio maddeuaint fym­hechodau y dydd he­ddyw; o na âd i mi rwy­go-ymaith dy Sêl, trwy aniolchgarwch, nag ail­gwympo i'm hên becho­dau, [Page 152] oddwrth pwy rai i'm glanheuaist fi, fal na fyddo fy niwedd yn waeth na'm dechreuad. Eithr o hyn al­lan pan demptier fi gan Ddiafol▪ pan huder fi gan y bŷd, pan annogir fi gan fyngnhawd fy hun, Gosod o flaen fy llygaid, trwy dy yspryd cofiadur, mòr ddryd y costiodd i'm Har­glwydd, a'm Jechawdur Jesu Grist ddyhyddo Duw am fymhechodau, sef ty­walltiad ei waed gwer­thfawr, sancteiddiol; fal gan ddwys-ymsynniad yn ei farwolaeth ef, a chan fwynhau ei ddioddefaint chwerw-dost ef, y by­ddwyf farw beunydd i be­chod, [Page 153] a dangos felly mar­wolaeth ein Harglwydd oni ddelo. Fal pan ddelo, gan ddwyn ei wobr gydaf ef, y derbyniwyf goron cy­fiawnder a ddarparodd ef i bawb a'i carant, ac a ddis­gwiliant am ei ymddango­siad, â thraul ei werthfawr waed anllygredig.

Ac yn gimmaint ac ad­newyddu o honaf fynghy­fammod a thy di fy nuw, y dydd heddyw, mewn a­ddunedau a bwriadau i we­llhau fy mychedd: Cyn­northwya fi a'th râs, a chadarnhâ fi â'th nerth, fal y talwyf fy addunedau a wneuthym i ti: Ac fal y cynnyddwyf mewn grâs a [Page 154] duwiolder trwy rinwedd y lluniaeth nefol hwn, hyd onid elwyf yn ddyn per­ffaith yn Grist Jesu; yn enw bendigedig pwy un y gorffennaf fyngweddiau amherffaith hyn, gan ddy­wedyd fal i'm dyscodd ef ei hun.

EIn tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

Y RHAN. I.
Myfyrdod Marwolaeth.

Y Mae holl einiores dŷn christianc­gawl (neu fe a ddyleu fôd) wasta­dol fyfyriaeth am farwc­laeth.

Ehediad aderyn a gyfar­wyddir a'i gynffon, ffordd llong ar fôr a gyfeirir a'i llŷw, felly y trefnir einioes dŷn trwy ddifrif ystyried eiddiwedd.

Adda, y galwyd y dŷn cyntaf, hynny sydd y ar­wyddoccau [Page 156] darn o bridd côch.

Dilladwyd ef a chrwyn d [...]lliwd anifeiliaid meir won.

Bannwyd ef i'r ddaiar i balu, ac i gloddio ynddi. Duw a fynneu fôd iddo ei henw, ei ddillad, ei orch­wyl yn gofiadwyr gwastadol, ac yn rhybyddwyr o'i far­wolaeth.

Yr hên Dadau a ddywe­dant fôd pobl dduw gynt yn ymarferu y Psalm. 90. yn lle gweddi beunyddiol. Yn yr hyn Psalm y mae cyd­nabod hîr o'n byrr eini­oes: a'r dymyniad hwn att Dduw,

Dysc i ni felly gyfrif ein dyddieu, fal 'y dygom ein [Page 157] calon ei ddoethineb. v. 12.

Ona baent doethion, nae ddeallent hyn, nad ysty­rient ei diwedd! Deut. 32. 29.

Yn dy holl weithredoedd meddwl am dy ddiwedd, ac ni phechi di bŷth, Ecclus. 7. 36.

PEN. I.
Mae myfyrdod marwo­laeth yn fuddiol yn erbyn balchder.

PEn delw Nebuchadne­zar oedd o aur ei dy­fron▪ a'i breichiau o arian, ei bôl, a'i morddwydydd [Page 158] o brês, ond ei thraed o oridd. Dan 2

'Beth bynnac yw dy gy­foeth, dy ddoethineb, dy enedigaeth, dy brŷd, dy gyflwr a'th gadernid, y mae dy Sail yn y pridd. Job 3. 19.

Mae rhagor mawr rhwng Sedrwydden a'r Berthen: rhwng y winwydden a'r fiaren, wrth dyfu: tor­rwch-i-lawr a llosgwch hwynt, ac ni fydd rhagor yn ei lludw.

Mae rhagor mawr rhwng gwerin tawlbwrdd, tra barhatho 'r chwareu, eithr pan ddarfyddo, teffir hwyrt i'r gôd yn gym­mysg

[Page 159] Yn y bŷd hwn, rhai a osodir-ar Orseddfainge: eraill i falu yn y felin.

Rhai a ddilladir a phor­phor, ac y sydd yn cael bŷd da, yn helaethwych beu­nydd: mae eraill wrth y drws, heb yddynt gim­maint a briwsion ei byr­ddau. Eithr yn y bedd, y mae 'r cyfoaethog a'r tlawd yn ymgyfarfod, a chornwydau Lazarus yn gwneuthur cystal llwch a lliwiau Jezebel.

Gorthmynnwyd i Saul, gwedi i eneinio yn frenhin, fyned at fedd Rachel: fal y darostynged golwg bedd, uchder ei swydd newydd ef. 1 Sam. 10. 2.

[Page 160] Rhaid i'r Brenhinoedd bentyru ei coronau wrth byrth y bedd, a gosod ei teirn-wiail i lawr wrth draed angeu.

Merched Caerselem y rhain sydd yn falch, yn rho­dio a gwddf estynnedie, ae a llygaid gwammal yn rhy­gyngu wrth gerdded, a thrwstio a'i traed, a ddym­chwelant i'r pwll, lle mae, yn lle pêr-arogl, drewi, ac yn lle iawn-drefn gwallt, moelni, Esay. 3. 16. 24.

Y rhai a ymffrostiant yn ei hên geraint, a'i bonedd, ai carennydd. rhaid yddynt wneuthur ei gwlau yn y tywyllwch, a chydnabod fôd llygredigaeth yn Dâd, [Page 161] a'r prŷ yn fam,ac yn Job. 17. chwaer yddynt, 14.

Myfi a ddywe­ddais, Non Jah, no­men es­sentiæ; sed Eloah, no­men offi­cii. Dii grati î non naturâ, Orig. in Ex. 8Du­wiau ydych chwi, a meibion y Go­ruchaf ydych chwi oll: eithr byddwch feirw fel dynion, Ps. 82. 6. 7.

Pam hynny y balchiaist, o Lwch, a Lludw?

Nulla discretio inter ca­davera mortuorum, nisi quod gravius fœtent divi­tum corpora, distentâ luxu­riâ. Amb. Hexam. l. 6. c. 8.

PEN. II.
Mae yn fuddiol yn erbyn cybydddra.

Ygwr goludog yn'r E­fengil, gwedi adeiladu ei yscuboriau, a dwyn-i-mewn ei gynhay af, a al­wyd-ymaith ac ni ddyg gy­dag ef ddim o'r holl gnŵd a dryssorasei ef.Lu. 12.

Y pryf coppyn a wna ei rwyd o'i ymyscaroedd, ac yn y man, y forwyn a ddaw, ac ai yscuba-ymaith.

Meirch a ddadlwythir yn y cyfnos, ac a droir i'r beudy budr, a chefnau clafr­llyd: [Page 163] felly y troir y cy­foaethogion i'r bedd, ac o'r rhan fwyaf â chydwy­bodau clafrllyd.

Mae melin yn treulio ei hun wrth falu, ac er ibôd yn troi yn wastadol o am­gylch, etto nid yw yn smu­do o'i lle.

Nid yw ond ofer codi yn foreu, a myned yn hwyr i gysgu, a bwytta bara go­fidiau. Canys noeth y dae­thym o grôth fy mam, a noeth y dychwelaf yno, Job. 1. 21.

Câs gennif fy holl lafur yr ydwyfi yn i gymeryd tan haul, am sôd yn rhaid i mi, i adel i'r, nêb a fydd ar fy ôli: a phwy a ŵyr [Page 164] ai doeth, ai annoeth fydd efe?

Etto efe a fydd feistr ar fy holl lafur, yr hwn a gy­merais, ac yn 'r hwn y bum ddoeth tan haul, Dyma wagedd hefyd. Preg. 2. 18, 19.

Dŷn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cyscod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis gŵyr pwy ai cascl, Ps. 39. 6.

Ni ddygasom ni ddim i'r bŷd, ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith. 1 Tim. 6 7.

Pam hynny yr wyt yr gybydd, O Lwch, a Llodw?

[Page 165] Facilè contemnit omnia, qui se semper cogitat mori­turum. Hieron. in Epist. ad Paulin.

PEN. III.
Mae yn fuddiol yn erbyn chwant y cnawd.

Y Mâb afradlon, gan weled aml ddrychau marwolaeth, o achos y newyn mawr, a ymada­wodd a'i ordderchwra­gedd, ai fychedd afrad­lon, ac a ddychwelodd­at ei Dâd, Lu. 15.

Cyfriw un, wrth fyned i butteindy, gyfarfu a [Page 166] chorph marw a ddygwyd iw gladdu: y golwg hwn a wnaeth y fath gyffro yn­ddo, oni throes-yn ôl, ac a fy byw bŷth yn ddiwair, ac yn ddiammeu.

Na theirnased pechod yn eich corph marwol, i ufu­ddhau iddo, yn eich chwan­tau, Rhyf. 6. 12.

Yr wyf yn attolwg i chwi megis dieithriaid a phererinion, ymgedwch oddiwrth chwantau cnaw­dol, y rhai sy yn rhysela yn erbyn yr enaid, 1 Pet. 2. 11.

Y rheswm a aeserau 'r Apostolion i guro-i-lawr ynom drachwant pechod, a phechod ir chwant, yw [Page 167] marwolaeth ein corph.

Pam hynny yr wyt yn drythyllus o Lwch, a lludw?

Ni welwn yn awr. fôd myfyrdod marwolaeth yn bennaf cyfaredd yn er­byn pôb drwg y sydd yn y byd. Canys pôb peth a'r y sydd yn y byd ydiw naill ai chwant y cnawd, a'i chwant y llygaid, neu falchder y bywyd, 1 Jo. 2. 16.

Nihil sic revocat à pec­cato, quam frequens mor­tis meditatic. Aug.

RHAN. II.

NId oes dim mòr ddiammeu ag An­geu, etto nid oes dim mor ammheu­ys ai berthynasau ef. Di­ammeu yw, rhaid i ni farw, ond ymha le, pa am­ser, a pha fodd y byddwn feirw, sydd uwchlau pôb peth yn ammheuys.

PEN. I.
Marwolaeth sydd ddi­ammeu.

ABraham, tâd y ffy­ddloniaid, a chyfaill [Page 169] Duw, a fy farw.

Jacob a ymdrechodd âg Angel, etto Angeu a fy rhy drêch iddo ef.

Dafydd oedd wr wrth fodd calon duw, un a orch­fygodd ddeng mil o Phi­listiaid, etto Angeu, ai gorch fygodd yntef.

Salomon a wyddeu rin­wedd pôb planhigyn o'r Sedrwydden sydd yn Liba­nus, hyd yr yssop a dyf­allan o'r pared, etto nid oedd rhinwedd yn un o'r planuwydd hyn iw wneu­thur ef yn anfarwol.

Y Tadau a fwyttasant Manna, ac a fuant feirw.

Nid oes ond un ffordd [Page 170] i'r bŷd, mae mîl i fyned­allan.

Dŷn pan ddelo i'r bîd sydd tebig i awr-lestr ne­wydd droi, yr hwn ni ymat­tal redeg oni byddo 'r cwbl allan.

Rhedeg yr ydym ninneu fel Petr ac Joan, pwy a ddaw gyntaf at y bedd, Jo. 20. 4.

Ar Sawl sydd yno yn ba­rod ydynt yn pydru, ac yn briwsioni, i wneuthur lle i ninneu, sydd rhaid dysod yno ar ei hôl.

Pridd wyt ti, ac i'r pridd y dychweli. Gen. 3. 19.

Pa wr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? Ps. 89. 48.

[Page 171] Dychwel y pridd i'r ddaiar fel y bu, a dych­wel yr yspryd at dduw ai rhoes ef, Preg. 12. 7.

Ordeiniwyd i bôb dŷn farw unwaith. Heb. 9. 27.

Mae yn anghenrhaid i ni farw, ac ydym fel dyfroedd wedi i tywallt ar y ddaiar, y rhai ni chesclir, 2 Sam. 14. 14.

PEN. II.
Mae 'r amser yn ammheu­ys.

NI ŵyr dŷn bach yn y grôth amser ei ene­digaeth; a chwedi i ddy­fod-i'r [Page 172] bŷd, ni ŵyr mòr amser y bydd rhaid iddo fyned-allan o hono.

Y gwr goludog a adda­wodd iddo ei hun lawer o flynyddoedd, eithr ynfyd, oedd, a'r nôs honno y go­fynnwyd ei enaid oddiwr­tho, Luc. 12.

Wele, mi a heneiddiais yn-awr, ac nis gwn ddydd fy marwolaeth, Gen. 27. 2.

Y naill sydd yn marw yn ei gyflawn nerth, a'i fron­neu yn llawn o laeth, a'i escyrn yn iraidd gan fêr: ar llall a fydd marw mewn chwerwder enaid. Job. 21. 23, 24.

Ni wyr dŷn ei amser, fel y pyscod a ddelir mewn [Page 173] rhwyd niweidiol, ac fel yr adar a ddelir yn y delm: felly y delir plant dynion yn amser drwg pan syrthio arnynt yn ddisymmwth, Preg. 9. 12.

Duw a fynneu fôd y dydd diweddaf yn anwy­bodus i ni, fal y byddym barod bôd dydd.

Ymogelwch, gwiliwch, a gweddiwch, canys ni wy­ddoch pa brŷd y bydd yr amser, Mar. 13. 33.

Cras, Cras, vox corvina. Pœnitenti veniam spospordit, sed peccanti vltam non. Chrysost. Oedi edifeir­wch gan hynny sydd enbyd. A­ddawodd duw faddeuaint os e­difarhei [Page 174] heddyw: eithr onid edifarhei, ni adda­wodd i ti fyw hyd y foru.

Nag ymffrostia o'r dydd y foru, canys Nescis quid vesper serus vehat. Varro.ni wyddost beth a ddig­wydd mewn diwrnod, Dihar. 27. 1.

Naill ai pen am dy be­chodau, neu ben am dy ei­nioes ond odid, dy edifeir­wch, neu dy golledigaeth.

Iddo yn awr, y rhai y dych yn dywedyd, he­ddyw neu foru ni a awn i gyfriw ddinas, ac arho­swn yno flwyddyn, &c. y rhai ni wyddoch beth a fydd y foru: canys beth ydiw eich einioes chwi? [Page 175] tarth ydiw, yr hwn sydd tros ychydig yn ymddan­gos, ac wedi hynny yn di­flannu, Ja. 4. 13, 14.

Beth bynnag a ymafel dy law ynddo iw wneuthur, gwna a'th holl egni, canys nid oes na gwaith, na dy­chymmyg, na gwybodaeth, na doethineb yn y bedd, lle yr wyr ti yn myned. Preg. 9. 10.

Nid ydvm ond Tenanti­aid wrth ewyllys, ac nis gwyddom gynted y daw ein Meistr-tîr i'n taflu-al­lan.

Gwna gan hynny fel y goruchwiliwr synhwyrol, cyn dy droi-allan o'r naill [Page 176] dy, bydd siocr o un ar all. Lu. 16. 24.

PEN. III.
Mae r lle yn ammheuys.

ANgeu a ddaliodd A­bel wrth rodio yn y maes, Gen. 4. 8.

Eli yn eistedd wrth ei ddrws, 1 Sam. 4. 18.

Plaut Job ar wledd, Job 1. 19.

Eglon yn ei stafell hâf, Barn. 3. 20.

Zachariah rhwng y Deml ar allor, Matth. 23. 35.

[Page 177] Zennacherib yn hŷ ei dduw Nisroch, Esay 37. 38.

Ishbosheth yn cysgu yn Aafell ey wely, 2 Sam 4. 7.

Y Philistiaid wrth de­sach yn y chwarwyfa, Barn. 16. 30.

Herod yn ei stedd-ar ei Orsedd-faingc, Act. 12 23.

Disgwil ditheu gan hyn­ny ym hôb man, am yr hwn sydd ym hôb man, yn dy ddisgwil di.

Ac nad anghysured lle dy farwolaeth ym honot ti, canys y ddaiar sydd eiddo 'r Arglwydd a'i chyflawn­der.

PEN. IV.
Mae'r modd yn ammheuys.

MAe marwolaeth na­turiol, pan fyddo dŷn farw fel y diffoddeu lamp, pan nad oes olew mwyach iw ymborthi: Ac mae marwolaeth an natu­riol, pan wthier yr enaid allan o'r tŷ, nid pan ddi­ffydd, ond pan chwythir lamp hoedl allan.

Mae marwolaeth amse­rol, pan ddelo dyn mewn henaint i'r bedd, fel y cy­fyd yscafn o ŷd yn ei ham­ser, Job. 5. 26.

[Page 179] Mae marwolaeth an am­serol, pan dorrir tywysseu oŷd cyn i gwynio i'r cyn­hauaf.

Mae marwolaeth nych­lyd, pan amgylchir r' enaid a chlefyd, megis pan ne­wynir, neu pan flinir dŷn allan o'i drigfa.

Mae marwolaeth ddeisy­fud, yr hwn a ladd yn ddi­rybydd.

Mae marwolaeth ddi­staw, sefymadawiad mewn tangnheddyf, pan ymada­wo 'r enaid a'r corph yn lladradaidd.

Mae marwolaeth a gwm­peinir âg ynfydrwydd, gorphwyll, ac aflony­ddwch. [Page 180] Pwy a ŵyr yn awr pa farwolaeth o'r rhain i gid a ordeiniwyd iddo?

Josiah a fy farw o friw Saeth. 2. Chor. 35. 23.

Prophwyd Duw â dan­nedd llew, 1 Bren. 13. 24.

Abimelech a chwymp darn o faen, Barn. 9. 53.

Jezebel a ddifwyd gan gŵn, 2 Bren. 9. 36.

Y ddau Dywyssog, a'i deuddeg a deigain a ysswyd â thân o'r nefoedd, 2 Bren. 1. 14.

[...]rasm. in Chiliad. Mae deng mîlo ddoluriau yn y bŷd, ac nis gŵyr neb yn ei iechid, pwy un ai dihena ef. Canys [Page 181] i'r Arglwydd dduw y per­thin diangfau marwolaeth. Ps. 68. 20.

RHAN. III.

AC oblegid fod An­geu yu frenhin dy­chryniadau,Job. 18. 14. ac o bôb peth erchyll yn er­chyllaf, a bôd crybwyll an­geu i gorph a gwaed cyn chwerwed a dyfroedd Ma­rah, gwelais yn dda daflu­ynddynt y myfyrdodau hyn iw pereiddio.

PEN. I.
Nid yw An­gen ond [...]. Eu­stath. ad Hom. I [...]liad. Et Lethi c [...]nsanguincus Sopor. Virg. Æn. 6. Ga [...]en. lib. de pu [...]s caus. cwsg.

NId yw huno ond byrr farwolaeth, nid yw marwolaeth ond hîr huno.

O herwidd pa ham yr hên Bobl a alwent y ddau hyn yn frodyr.

Y mae ein cyfaill Laza­rus yn huno, Jo. 11. 11.

A Stephen gwedi iddo [Page 183] ddywedyd hyn, a hunodd, Act. 7. 60.

Ni ewyllysiwn hyn, fro­dyr, i chwi fôd heb wy­bod, am y rhai a huna­sant, 1 Thess. 4. 13.

Mynwenti a elwyd Coemi­teria, [...] apud Athen. l. 4. Dormi­torium. hynny yw, Hunfan­neu.

Melus yn awr yw hûn y gweithiwr, Preg. 5. 12.

Arglwydd os huno y mae, efe a fydd iach, Jo. 11. 12.

O Herwydd hyn hefyd, y galwyd ein beddau yn wlau, Es. 57. 2.

Gwely Job oedd yn llawn o ymdroi, Jo. 7. 4.

[Page 184] Gwely Dafydd a wlych­wyd a dagrau, Ps. 6. 6.

Gwely Nebuchadnezar ai dychrynnodd ef â me­ddylieu aflonydd, a breu­ddwydion erchyll, a gwe­ledigaethau rhyfedd, Dan. 4. 5.

Eithr y gwelu yn He­braeaec a elwyd Dumah, o herwydd iw fôd yn Orph­wysfa ac yn lle distaw.

Mewn heddwch y gor­weddaf, ac yr hunaf, Ps. 4. 8.

In vita vigilant justi, idio in morte dicuntur dor­mire. Aug.

PEN. II.
Angeu a gollcdd ei golyn.

CŴn heb ddannedd a gyfarthant, ond ni frathant nyni.

Seirph heb golynau a chwibanant, ond ni fri­want nyni.

Gwenyn (hwy a ddywe­dant) pan gollant ei coly­nau ydynt yn troi yn ormes byth ar ôl hynny.

Collodd Angeu ei golyn yn ystlys Crist, ac er i fôd yn neidio-arnom, ni ailwn i yscydwyd-ymaith, yn ddiniwed, fel yr yscyd­wodd [Page 186] S Paul y wiber i'r tân, Act. 28. 5.

Wele, yr wyf yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar Seirph, ac yscorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn, ac nid oes dim a wna ddim niwed i chwi, Luc. 10. 19.

Angeu a lyngcwyd mewn buddugoliaeth: O Angeu pa le y mae dy golyn?

I dduw y byddo 'r di­olch, yr hwn sydd yn rho­ddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Horglwydd Jesu Grist, 1 Co. 15. 55, 56.

PEN. III.
Mac Angen yn dda ar ein llês.

NI allwn ddywedyd am Angeu, fel y dywe­dodd Dafydd am Ahimaaz, Gwr da yw hwnnw, â che­nadwriaeth dda y daw efe, 2 Sam. 18. 27.

Yn gyntaf, mae mar­wolaeth, y Corph yn ein rhyddhau ni oddiwrth gorph marwolaeth, oddi­wrth ddeddfau 'r aelodau, y swmbwl yn y cnawd, a gweddillion lly gredigaeth.

[Page 188] Nid wyf yn gwneuthur y peth yr wyf yn i ewylly­sio, ond y drwg yr hwn nid wyf yn i ewyllysio, hynny yr wyf yn i wneu­thur, Rhyf▪ 7. 19.

Yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, v. 23.

Hyn a wna i blentyn i dduw lefain, Ys truan o ddŷn ydwyf fi, pwy am gwared fi?

Wele, Angeu a'th wa­reda, canys v mae yr hwn a fu farw wedi i ryddhau oddiwrth bechod, Rhyf. 6. 7.

Yn ail, mae yn rhyddhau [Page 189] ni oddiwrth drieni ac adfyd y bywyd hwn.

Mae trieni a gofidiau y bywyd hwn mòr aml, oni bau obaith nêf ni fyddeu fawr well nac uffern.

Mae helbyloedd yn dy­fod arnom, mòr amlache­nadwyr Job.

Tebig yw hoedl dŷn i un o ddyddieu r gauaf, byrr a chymylog yw.

Ychydig a drwg ydiw dyddieu blynyddoedd ein einioes. Gen. 47. 9.

Dŷn a anwyd o wraig sydd fyrr o ddyddieu, ac yn llawn o helbyl, Job 14. 1.

Tebig yw dydd marwo­laeth i flwyddyn Jubile, yn yr hon i'n rhyddheuir ni [Page 190] oddiwrth yr holl drygau hyn.

Yno yr anuwolion a bei­diant ai cyffro, yno y gor­phwys y rhai lluddedig. Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghŷd, ni chlywant lais y gorthrym­mudd.

Bychan a mawr sydd yno; a'r gwas a ryddhawyd oddiwrth ei feistr, Job. 3. 16, 17, 18.

O-hyn-a­chos yNon nasci, longè [...]primū; preximum quamprimam mori. C [...]er de cons [...]at. Et Sile [...]us apud Lactant. Cen­hedloedd a ddywedant, y peth goreu yw bôd heb eni, y nesaf yw marw yn fuan.

[Page 191] Arferol ymmysg y Cen­hedloedd oedd wylo wrth enedigaeth, a llawenychu wrth gladdedigaeth ei ce­raint; ad nid yn ansinhwy­rol, medd Ambros. de Fi­de Resurrect.

In ddiweddaf, Angeu fel Angel a'n achub-allan o Sodom, ac an harwain i Zoar, iddinas noddfa.

Angeu a'n trosglyda o garchar i balas; o ddyffryn trieni i deirnas gogoniant: oddiwrth Sibol a chenin i afonydd llaeth a mêl.

O bebyll Kedar, a chyn­teddau 'r anuwiol i fynydd Sion, i ddinas y Duw byw, Caerselem nefol, ac at fyr­ddiwn o Angylion, i gy­manfa [Page 192] a chynulleidfa y cyntaf anedig, y rhai a Scrifennwyd yn y nefoedd, ac at Dduw barnwr pawb, yc at ysprydoedd y cy­fiawn, y rhai a berffeithi­wyd, ac at Jesu cyfryngwr y Testament newydd, Heb. 12. 22, 23, 24.

Tebig yw marwolaeth i borth Dinas trwy 'r hon y teithia 'r drwg-weithredwr i gospedigaeth, a'r Din­aswr gonest iw ddifyrrwch.

Ni wyddom os ein daia­rol dŷ o'r babell hon a ddattodir, fôd i ni adei­lad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwy­ddol yn y nefoedd, 2 Co. 5. 1.

[Page 193] Lle sŷch Duw ymaith bôb deigr oddiwrth yn lly­gaid, a marwolaeth ni bydd mwyach: na thri­stwch, na llefain, a phoen ny bydd mwyach, Dat. 21. 4.

Gan ystyried y petheu hyn, ni allwn gyda Salo­mon ganmol y rhai sydd yn barod wedi marw, yn fwy na'r byw, y rhai sydd yn fyw etto, P [...] 4. 2.

A dywedyd gyda S Paul, byw i mi yw Crist a marw sydd elw, Phil. 1. 20.

PEN. IV.
Bydd adgyfodiad.

NI chythryblia ny ni weled haul yn mach­lyd, gan wybod y cyfyd ef drannoeth. Talodd Duw i Job bôb peth yn ddwbl ond ei blant, canys cuddie­dig nid colledig oeddynt hwy: yna y bydd dydd ad­feriad.

Er yn ôl fynghroen, i bryfed ddifetha y Corph hwn, etto câf weled duw yn fyngnhawd: yr hwn a gâf fi, i'm fy hun i weled, âm llygaid ai gwelant, ac nid arall, er i'm arennau [Page 195] ddarfod ynof, Job 19. 26, 27.

Dy feirw a fyddant byw, fel fynghorph i yr adgyfo­dant, deffrowch, a chen­wch Presswylwyr y llwch, canys dy wlith sydd fel gwlith llysiau a'r ddaiar a fwrw y meirw allan, Es. 26. 19.

Felly, nid yw marwo­laeth ond cyfwng rhwng enaid a chorph, er i gwahanu, etto ymgyssyll­tant drachefn.

Etto, nid adgyfyd y Corph yn unic, eithr dig­wydd i'r corph fel i hên dai, gwedi i tynnu-i-lawr, tai newydd, gwell, a thec­cach a adeiledir yn ei lle.

[Page 196] Efe a henir mewn lly­gredigaeth, ac a gyfodir mewn anllygredigaeth.

Efe a heuir mewn amm­harch, ac a gyfodir mewn gogoniant.

Efe a heuir mewn gwen­did, ac a gyfodir mewn nerth.

Efe a heuir yn gorph ani­anol, ac a gyfodir yn gorph ysprydol, 1 Co. 15. 42, 43.

Fel hyn y tawdd Angeu (fel Alchymist godidog) fettel gwael ein cyrph, ac ai trydd i sylwedd purach.

Pan lygra 'r corph yn y bedd, tebig yw i lieinie a wisgir yn garpie, ac a de­flir i'r dommen; eithr yn yr adgyfodiad i casclir y [Page 197] carpie hynny ynghŷd i wneuthur pappur, yr hwn weithiau a oreurir, ac a drnfnir i dderbyn llythren­nau parchus, nefol.

Illis pia flamma pe­percit Pend. & Greg. Mor. l. 9. c. 49. Y tân a losgodd rwy­mynnau y tri gwr, eithr ni ddeifiodd gim­maint ac un o wallt ei pen­nau, Dan. 3. 27.

Angeu a'n rhyddhâ o­ddiwrth rwymynnau ein pechodau; eithr ni thwylla ny ni o gimmaint ac ewin bŷs, na gwelltyn pen ca­nys maent oll dan gyfrif.

PEN. V.
Daioni Duw.

S. Ambros pan ofynnwyd iddo a oedd ofn marwo­laeth arno▪ a attebodd, nad oedd, o herwydd fôd ganddo Arglwydd daio­nus: y dydd yr ofnwyf, mi a ymd diriedaf ynot ti, Ps. 56. 3.

Ie pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angeu▪ nid ofnas niwed; canys yr wyt ti gyda mi, Ps. 23. 4.

I'th lau y gorchmynnaf fy yspryd, gwaredaist fi O Arglwydd dduw y gwirio­nedd, Ps. 31. 5.

[Page 199] Yr hwn a greuodd ein eneidiau yn ôl ei ddelw ei hûn, ac a'i prynnodd a'i waed ei hûn, ni wrthyd hwynt pan i gorchmynnir iddo.

Stephen wrth ymadel a'r yspryd a welodd y nefoedd yn agored, a mâb y dŷn yn sefyll ar ddeheu-law dduw, Act. 7. 56.

Christ yr hwn sydd yn ei­stedd ar ddeheu-law dduw, a ddywedwyd i fôd yn se­fyll y prŷd hwnnw, i ddan­gos mor barod yw i dder­byn eneidiau ei weision.

Yr ystyriadau hyn os cyssylltir a'n calonnau, a wna i ni lefain fel Dafydd, po a brŷd y deuaf, ac yr [Page 200] ymddangosaf ger bron Duw. Ps. 42. 2.

Ona bai i mi adenydd fel colommen; yna 'r ehe­dwnymaith ac y gorphwy­swn, Ps 55. 6.

Gwae fi fôd yn presswy­lio yn Mesech, yn cyfan­neddu ymhebyll Kedar, Ps. 120. 5.

Fel hên Simeon, yr awr hon, y gollyngi dy wâs mewn tangwheddyf, yn ôl dy air, Lu. 2. 29.

Fel Paul, chwenychu yr wyf ymddattodi, ac i fôd gyda Christ, Phil. 1. 21.

Fel S. Joan, Tyred Ar­glwydd Jesu, Tyred yn fuan, Dat. 22. 20.

RHAN. IV.

Pôb dŷn fel Balaam a ddymmuna farw marwolaeth y cy­fiawn, a bôd ei ddi­wedd ef, fel ei ddiwedd yn­tef: ac nid wyf yn beuo ar­nynt; canys marw yn dda sydd bennaf pwynt yny bŷd, canys mae tragwyddoldeb yn sefyll arno. Ac fel y syrthia 'r pren, felli y gorwedd naill ai tua goglead barnedigaeth, neu thua de­heu ei drugaredd ef, Preg. 11. v. 3.

Nid ellir weithan wneu­thur y gorchwyl mawr hwn [Page 202] o farw yn dda yn ddisy m­mwth; O herwydd pa ham, Mi a gasclais-ynghŷd yn ddiweddaf oll, Gelfyddyd marw yn dda, mewn ychy­dig orchmynion.

PEN. I.
Bydd fyw yn dda.Quisquis malè vivit nescit mori. Sen.

BYw yn dda yw, ofni Duw a chadw ei orch­mynion. Preg 12. 13.

Caru Duw a'n cymydog, Matth. 22. 37.

Gwadu anuwioldeb a [Page 203] chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y bŷd y rawron, Tit. 2. 12.

Gwneuthur barn, a hof­fi trugaredd, a rhodio yn ostwngedig ger bron Duw, Mic. 6. 8.

Edifarhau am ein pe­chodau, credu yn Ghrist, a chadw ei orchmynion, a wnelo hyn nid yscogir yn dragywydd, Ps. 15. 5.

Geill diwrnod têg droi yn brydnhawn bydr; eithr ni ddichon bychedd dda ddiwedd yn farwolaeth ddrwg.

Fel y byddo 'r dechreu­ad, felly y bydd y diwedd.

Dywedir farw Moses yn [Page 204] ôl gair 'r Arglwydd. Canys felly y traetha 'r Hebraeid: ac felly y dosbartha y Cal­da [...]a, bu farw wrth gyssan o eneu 'r Arglwydd: Mae Duw yn cyssanu 'r cyfiawn yn ei marwolaeth, fel pai yn sygno-allan yr enaid a anadlasei ynddynt. Deut. 34. 5.

Hên Hilarion pan oedd yn marw,Hierom. in vit. Hi­lar. a ddy­wedodd wrth ei enaid fel hyn. Dôs-âllan o honaf o fy enaid, O Dôs­allan, pam yr wyt yn ofni, a wasnaethaist dduw agos ers deng mlynedd a thri­gian.

Ystyr y perffaith, edrych [Page 205] ar yr uniawn, canys diwedd y gwr hwnnw a fydd tan­gnheddyf, Ps. 37. 37.

Gwerthfawr yn golwg 'r Arglwydd yw marwo­laeth ei Sainct ef, Ps. 116. 15.

Gwyn eu bŷd y meirw sydd yn marw yn yr Argl­wydd canys maent yn gor­phwyso oddiwrth ei llafur, Dat. 14. 13.

PEN. II.
Cynghorieu neilltuol.

YN amser dy glefyd, Galw dy hûn (fel He­sekiah) i gyfrif, am dy holl [Page 204] [...] [Page 205] [...] [Page 206] bechodau, cymmer alar o'i plegit, cyfaddeu hwynt ger bron Duw yn chwerw­dost, ac ymbil am faddeu­aint.

I Cyrch am y Gweni­dog: ac os bydd rhaid, gwna a gyffes neilltuol wrth ef, a chymmer gyda thy di fudd ei ryddhâd ef:Vid Jo. Cal­vini: Instit. l. 3. c. 4. §. 21, 22. pwy bynnac y maddeuoch ei pechodau, maddeuir iddynt: a'r eiddo pwy bynnac a attalioch, hwy a attaliwyd, Jo. 20. 23.

Os maddeuais ddim, i'r hwn y maddeuais yn golwg Crist y maddeuais, 2 Cor. 2. 10.

[Page 207] 2. Yn ail, gweddied y Gwenidog trosot ti. A oes nêb yn eich plith yn glâf? Galwed àtto Henuriaid yr Eglwys, a gweddiant hwy trosto,

Os bydd wedi gwneu­thur pechodau, hwy a faddeuir iddo, Ja. 5. 14, 15.

3. Yn drydydd, Rho­dded Swpper yr Arglwydd i ti.

Hwn yw 'r Sacramen­tum olim vi­a [...]icum ap­pellabatur. Durand. de rit. Eccles. l. 2. c. 55.gosymdaith a'r lluniaeth goreu, erbyn y fath daith hir­bell.

Mi a allaf ddywedyd wr­thit [Page 208] ti, fel y dywedodd yr Arglwydd wrth Elijah, cy­fod, a bwytta, canys mae i ti lawer o ffordd.

Ac os bwyttei, ac yfi fel Elijah, cei deithio trwy rinwedd y bywyd hwn, i Horeb, mynydd Duw, 1 Bren. 19. 7. 8.

Dymma 'r bara a ddaeth-i-wared o'r nefoedd: Os bwytty nêb o'r bara hwn, ni fydd marw byth.

Yr hwn sydd yn bwytta fyngnhawd i, ac yn y fed fyngwaed i,Vid. Eu­seb. hist. l. 5. c. 45. sydd ganddo fy­wyd tragwy­ddol, ac myfi ai hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaf, Jo. 6. 51, 54.

[Page 209] 4. Trefna dy dŷ. 2 Bren. 20. 1.

Ni wna hyn i ti farw yn ddim cynt, ond yn fwy heddychlawn.

5. Cofia 'r t lodlon. Gwe­di cael groeso helaeth yn hŷ cyfaill, nid yw ond ymorweddiad da roddi rhywbeth i'r gweision wrth fyned-ymmaith.

Gwyn ei fŷd a ystyria wrth y tlawd, yr Arglwydd ai gwared ef yn amser ad­fyd.

Yr Arglwydd ai nertha ef ar ei glaf-wely: cywei­ria ei holl wely yn ei gle­fyd, Ps. 41. 1, 3.

6. Os wyt yn Dâd, neu yn fam plant, Cyrch-am [Page 210] danynt iw bendithio.

Felly y gwnaeth Jacob cyn m arw, Gen. 49. 1.

7. Gwna gwbl dâl (os gelli) i'r sawl y gwnaeth­ost gamwedd, ac a dwyl­laist. Heb ryw daledigaeth, nid oes maddeuaint.

Ymofyn fel Samuel, ŷch pwy a gymerais? neu as­syn pwy a gymerais? neu pwy a dwyllais? neu pwy a orthrymmais i? neu o law pwy y cymerais wobr? ac mi a'i talaf, 1 Sam. 12. 3.

Cyrch am y sawl a wnaethant gam i ti, a ma­ddeu yddynt, ac am y sawl i bwy y gwneist di gam, a gofyn faddeuaint.

8. Yn ddiweddaf, Gor­chymmyn [Page 211] dy enaid i dduw.

Wele fy, gwnaid i mi, fel y byddo da yn ei olwg, 2 Sam. 15.

Nid fy ewyllys i, ond dy ewyllys di a fyddo.

Ac os fel hyn y byddi parod a'r ddydd marwo­laeth, Gwyn dy fŷd, a da fydd it. Pf. 128. 2.

Gwyn ei fŷd y gwâs hwnnw, yr hwn y caiff ei Arglwydd ef pan ddelo, yn gwneuthur fal hyn, ac fal hyn yu marw, Matth. 24. 46.

Gweddi am y madel yn dd [...]d­wydd.

O Ardderchoccaf Ar­glwydd Dduw, y­spryd [Page 212] pôb cnawd, yn llaw pwy un y mae amser pôb dŷn, ac agoriadau 'r bedd, yr wyf yn attolwg i ti yn ostyngedig, o'th ddaioni; faddea i mi fy holl becho­dau, am gwneuthur yn go­fus o'm marwolaeth. Gosod o flaen fy llygaid trwy dy yspryd coffhaus, fôd dy­ddieu fy ymdaith yn ychy­dig ac yn ddrwg; ac nad oes i mi ymma ddinas bar­haus; ac nad yw pôb cnawd a'i holl odidaw­grwydd ond blodeuyn a wywaf, a chywaf, a chy­scod a ddiflannaf; fal gan gyfrif fyn nyddieu fal hyn, y dŷgwyf fynghalon i ddoethineb, ac y darpar­wyf [Page 213] (fel y morwynion call) olew yn fy lamp, ac y gwnelwyf fyngalwedi­gaeth, a'm etholedigaeth yn siccr, cyn myned oddi­ymma, ac na byddwyf mwyach. A phan welech di yn dda fynhaflu ar glaf­wely, a'm hamgylchu â thristwch y bedd, yr wyf yn attolwg i ti, er mwyn dy enw, er mwyn dy dru­garedd. er mwyn dy fâb Jesu Grist, na ymbellhâ oddiwrthif mewn amser an­genrheidiol terfysg, pan gaffwy ofid yn fyngnhawd, a phan na fydd cynnorth­wywr.

Eithr nessâ at fy enaid, ac amgylcha fyngorwe­ddfa, [Page 214] i faddeu fymhecho­dau, i lonyddu synghyd­wybod, i gadarnhau fy ffydd, i esmwythau fym­hoen, ac i dderbyn fy enaid pan orchmynnir ef i ti.

Derbyn ef o Dduw Dâd, canys ty di a oreuodd ef, Derbyn ef o Dduw fâb, canys ty di ai prynnodd ef, Derbyn ef o Dduw yspryd glân, canys ty di ai san­cteiddiodd ef. Derbyn ef o ogoned lân fendigaid Drindod, fal pan dramwyo o'r dyffryn trieni hwn, y teirnasa gyda thy di un Duw byw, tragwyddol, anfarw [...]l, yn heirnas dy ogonia [...]t, byth ac yn dra­gywydd: Amen.

RHAN. I.
Am ddydd y farn.

Gâd i' th fyfyrdod, fel y bydd rhaid i titheu (y Darllennydd cristianogawl) fyned o ddydd marwolaeth i ddydd y farn. canys ordeini­wyd i bôb dŷn farw un­waith, ac wedi hynny bôd barn, Heb. 9. 27.

PEN. 1.
Bydd ddydd barn.

PWngc o'n ffydd yw, Crist yr hwn sydd yn [Page 216] eistedd-ar ddeheulaw dduw ei Dâd, a ddaw oddiyno i farnu 'r byw, a'r meirw.

Enoch y Seithfed o A­ddaf, a drophwydodd am dano, gan ddywedyd, wele y mae 'r Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o'i Sainct;

Iwneuthur barn yn erbyn pawb ac i lwyr-argyoeddi yr holl rai anuwiol o ho­nynt, am holl weithre­doedd ei annuwioldeb, y rhai a wnaethant hwy yn anuwiol, ac am yr holl ei­riau caledion, y rhai a le­farodd pechaduriaid anu­wiol, yn ei erbyn ef, Jud. 14. 15.

Duw a ddwg bôb gwei­thred [Page 217] i farn a phôb peth dirgel, pa un bynnac fy­ddo, ai da, ai drwg, Preg. 12. 14.

Gwelais y meirwon fy­chain a mawr yn sefyll ger bron Duw.

A rhoddodd y môr i fy­nu y meirwon oedd ynddo, A marwolaeth ac uffern a roddasant-i-fynu y meirw oedd ynddynt hwy: a hwy a farnwyd bôb un yn ôl ei gweithredoedd, Dat. 20. 12, 13.

Mae yn nodol-iawn, ddarfod i gamgredwyr wrt­hwynebu pôb pwngc o'n ffydd o ran;Vid Danæum in c [...]t. Haer. contra fidem. neu ya gw­bwl; [Page 218] eithr ni wadodd un camgredwr ddydd y farn eirioed.

Yn y bŷd hwn, medd Salomon, ni ŵyr dŷn ga­riad, neu gâs wrth yr hyn oll sydd o'i blaen. Canys yr un peth a ddamwain i bawb fel i gi­lydd, Q [...] uad sub­stantiam bono­rum & malo­rum tempora­lium, non quo­ad finem. A­quin. 1. 2. q. 114. Ar. 10.yr un peth a ddam­wain i'r cyfi­awn, ac i'r anuwiol, i'r da, aci'r glân ac i'r aflan: i'r nêb a abertha, ac i'r neb ni abertha; fel y mae 'r da, felly y mae r pechadur, a'r nêb a dyngo, fel y nêb a ofno dyngu, Preg. 9. 1, 2.

[Page 219] Oni wna barnudd yr holl fŷd gyfiawnder? Gen. 18. 25.

Rhaid yw bôd dydd i gospi 'r drwg, ac i wo­brwyo 'r rhinweddus.

Dydd a bwy un y rhydd Duw ragor rhwng Hebaewr ag Aiphtwr; rhwng Dafad a gafr: rhwng gwenith ag efrau

Fe fydd dydd y gwnel­wyf fynrhysor neilltuol, arbedaf hwynt hefyd▪ fe yr arbed gwr ei fâb sydd yn i wasnaethu.

Yna y dychwelwch, ac a gwelwch ragor rhwng y cysiawn a'r drygionys, rhwng yr hwn a wasnaetho dduw, a'r hwn nis gwa­snaetho [Page 220] ef, Mal. 3. 17, 18.

Yr wyf yn cydnabod y cospir y drwg weithiau yn y bŷd hwn, i'n siccrhau fôd Duw, etto nid ond weithiau, i'm siccrhau fôd dydd y farn.

Yn ddiau, mae gwobr i'r cyfiawn; yn ddiau, mae Duw a farna 'r ddaiar, Ps. 58. 11.

PEN. II.
Ymddadl.

DIammeu yw, fôd yr enaid, er cynted yr ymadaw a'r corph, yn bre­sennol ger bron Duw, ac yn derbyn barn ddiadlam i [Page 221] iechidwriaeth, neu i dam­nedigaeth.

Y gwr goludog a fu farw, ac yn y man ydoedd yn uffernboeneu, a'r car­dottyn a fu farw, ac yn y man a ddygwyd gan Angy­lion i fynwes Ahraham, Lu. 16. 22, 23.

Fe ellir ymofyn; pam oedd raid wrth ddydd y farn, pan dderbynio pôb dŷn ei farn ar ddydd ei far­wolaeth?

Atteb. 1. Mae pôb dŷn yn gyssylltiedig o enaid a chorph. Bernir yr enaid ar ddydd marwolaeth, a'r corph hefyd ar ddydd y farn.

Canys fel y mae y ddau [Page 222] hyn yn cŷd-bechu, neu yn cŷd-wasnaethu duw, felly cânt gŷd-losgi, neu gŷd-deirnasu.

Rhaid i bôd dŷn dder­byn am y pethau a wnaeth pwyd yn y corph, pa un bynnac ac da, ai drwg, 2 Co. 5. 10.

Etto, yn gimmaint a bôd yr enaid yn gwasnae­thu Duw, neu yn pechu heb y corph yn fynych: pan wahanir hwy, gallir cospi neu wobrwyo 'r naill, er bôd y llall yn huno yn y bedd.

Atteb 2. Rhaid yw bôd barn gyffredinol er mwyn cyhoeddi cyfiawnder Duw.

Mae Duw yn llywodrae­thu [Page 223] pôb dŷn ar ddydd mar­wolaeth yn ôl rheol gy­fiawn; etto y peth a wnaeth Duw yn ddirgel, ef a'i gwna yn golwg 'r holl fŷd, fel y testiolaethant ac y cyd-gan molant gynulleid­fa dynion, Ac Angylion ei uniawn farnedigaethau ef fal hyn:

Cyfiawn ydwyt ti O Ar­glwydd, ac uniawn yw dy farnedigaethau, Ps. 119. 137.

Atteb. 3. Rhaid yw bôd dydd y farn heb law hwn­nw ar ddydd marwolaeth, canys dynion wedi meirw a allant fôd yn arfeu, ac yn achosion o ddrwg, neu dda, o bechod, neu o wasanaeth i dduw.

[Page 222] [...] [Page 223] [...] [Page 224] Y Patriarchau, y Pro­phwydi, yr Apostolion, y Merthyrion a fuant feirw, ac aethant-ymaith: etto maent hwy yn gwneuthur daioni yn Eglwys Dduw, trwy ei Siamplau duwiol, ai llyfrau sancteiddiol.

Jeroboam, Machiavel, Marcion, a phôb camgre­dwr, a dynion anuwiol a fuant feirw, etto maent hwy y gwenwyno 'r awyr âi Samplau drwg, a'i lly­frau celwyddog, ai hathra­wiaethau cythreulig, ac ar ôl ei marwolaeth yn llygru 'r bŷd a ddel ar ôl dros la­wer oes.

Ei hymadrodd hwy a yssa fel cancr, 2 Tim. 2. 17.

[Page 225] O herwydd pa ham, fel y mae barn neilltuol i wo­brwyo 'r da, ac i gospi i'r drwg a wnae­thant ei hu­nain yn y by­wyd hwn;Vid. S. Basil. in lib. de ve­ra virginit. fel­ly fe a fydd barn gyffredi­nol i wobrwyo 'r da, ac i gospi 'r drwg, a fyant ach­lysur gwedi meirw iw gwneuthur gan eraill.

PEN. III.
Yr henwau a roddir i'r dydd hwn.

Y Dydd hwn a elwir yn yr Scrythr lân, Dydd yr Arglwydd.

[Page 226] Och o'r diwrnod! ca­nys dydd yr Arglwydd sydd yn agos, Joel. 1. 15.

Chwi a wyddoch eich hunain yn hyspys, mae felly y daw dydd yr Argl­wydd, lleidr yn y nôs. 1 Thes. 5. 2.

Yn disgwil ac yn bryssio at ddyfodiad dydd duw. 2 Pet. 3. 12.

Y bywyd yma a elwir ein dydd ni, Luc. 19. 42.

Canys meddwl yr ydym ein meddylieu ein hunain, a llefaru ein geirieu ein hu­nain, a gwneuthur ein gweithredoedd ein hunain.

Eithr y dydd hwnnw yw dydd yr Arglwydd, canys ucheldrem dŷn a iselir, ac [Page 227] uchder dynion a ostyngir: a'r Arglwydd yn unic a dderchefir yn y dydd hwn­nw, Es. 2. 11.

Yn ail, fe ai gelwir, Dydd y Datgyddiad, Rhyf. 2. 5.

Ni fu erioed y faeth ago­ryd, ag a fydd ar y dydd hwnnw.

Y nefoedd a agorir a'r dryssau tragwyddol a ddyr­chafant ei pennau, fal y delo Brenhin y gogoniant allan ai holl Angylion i far­nu 'r bŷd, ac y dychwelo gyda ei Sainct ar ôl barnu 'r bŷd.

Y ddaiar a agorir, a'r maen a dreiglir oddiwrth fîn pôb bedd, a phôb bedd a fwrw-i-fynu ei feirwon.

[Page 228] [...]. Gr. Naz. or. pa. 216.Y lly­frau a ago­rir.

Mi a welais y meirwon, fychain a mawr yn sesyll ger bron Duw, a'r llyfrau a agorwyd; a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd; a barn­wyd y meirw wrth y pe­thau oedd wedi ei scrifennu yn y llyfrau, yn ôl ei gwei­thredoedd. Dat▪ 20. 12.

Dirgelwch pôb calon a agorir.

Nid oes dim cuddiedig ar nis amlygir, ac ni bu ddim dirgel ond fel y delei i e­glurdeb. Mar. 4. 22.

Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ôl [Page 229] fy efengil i trwy Jesu Grist, Rhyf. 2. 16.

Uffern a agorir i dder­byn y trieinied, wrth bwy y dywedir, Ewch oddiwr­thif rai melltigedig i'r tân tragwyddol, yr hwn a ba­ratowyd i ddiafol, ac iw angylion, Matth. 25. 41.

Yn drydydd, fe ai gelwir, Dydd y gorphwys.

Edifarhewch gan hynny, a dychwelwch, fel y de­lêer eich pechodau, pan ddelo yr amseroedd i orph­wys o olwg 'r Arglwydd, Act. 3. 19.

Pa lawenychdod o fydd, pan gyfodant ein cyrph py­dron, pryfedog, mewn go­goniant ac anllygredigaeth, [Page 230] fel blodeu a'r ôl hîr auaf?

Pa brydferthwch a fydd, pan ymgyfarfyddant yr enaid ar corph, y ddau hên gymdeithion, pan ym­gofleidiant, ac ymgyssa­nant ar ôl hîr wahaniad?

Pa lawenychdod a fydd gweied taflu Diafol ein ge­lyn gwaethaf ac angeu ein gelyn diweddaf 'r Llyn tân?

Pa brydferthwch a fydd gweled Jesu Christ Jechaw­dwr y bŷd yn dyfod mewn gogoniant, myrddiwn o Angylion yn gwasnaethu arno?

Pa lawenychdod a fydd glywed ymadroddion mw­ynlawn ein rhyddhâd?

Da, wâs da a ffyddlon, [Page 231] dôs-i-mewn i lawenydd dy Arglwydd, Matth. 25. 21.

Deuwch chwi fendigedi­gion fyn nhâd etifeddwch y deirnas a baratowyd i chwi er seiliad y bŷd.

Yn bedwerydd, oran y drwg, fe ai gelwir, Dydd y digofaint.

Yn ôl dy galedrwydd, a'th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint, erbyn ddyd y digofaint, Rhyf. 2. 5.

A diwrnod tywyll, du, diwrnod cymyloc a niwloc, Joel. 2. 2.

Hyfryd yw 'r Haul i ly­gad da, eithr ochenaid i ly­gad gwan.

[Page 232] Trochfan a gorphwysfan yw dydd y farn i'r duwiol, eithr ffwrn danllyd i'r anu­wiol.

Wele y dydd yn dyfod yn llosgi megis ffwrn, ar holl feilchion a holl wei­thredwyr anwiredd a fy­ddant fel sofl, Mal. 4. 1.

Yn bummed, fe ai gel­wir, Dydd mawr. Yr An­gylion y rhai ni chadwasant ei dechreuad, eithr ada­wasant ei trigfa ei hun, a godwodd efe mewn cadwy­nau tragwyddol tan dy­wyllwch, i farn y Dydd mawr, Jud. 6.

Yr Haul a droir yn dywyllwch, ar lloer yn waed, cyn y ddydd mawr [Page 233] ac eglur yr Arglwydd ddy­fod, Act. 2. 20.

Dydd mawr yw yn ddi­au, o herwydd gweithre­doedd mawr nodedig a wn­eir ynddo.

O blegid yr Arglwydd ei hûn a ddescyn o'r nêf, gyda bloedd, a llêf yr Archangel, 1 Thes. 4. 16.

Ac efe a ddenfyn ei An­gylion, a mawr sain ud­corn: a hwy a gasclant ei etholedigion ynghŷd, o'r pedwar gwynt, o eitha­foedd y nefoedd hyd ei hei­thafoedd hwynt. Matth. 24. 31.

Yna y nefoedd a ânt­heibio gyda thwrwf, a'r defnyddiau gan wirwres a [Page 234] doddant, a'r ddaiar a'r gwaith a fyddo ynddi a los­gir, 2 Pet. 3. 10.

Tramawr a fydd rhaid bôd y dydd hwnnw, ar bwy un y gwrandewir ac y bwrir cyfrif am yr holl ddyddieu.

Yn ddiweddaf, fe ai gel­wir yn gyffredinol, ac yn arferol, Dydd y farn, ca­nys Sessiwu fawr yw i'r holl fŷd, pan gyhuddir pôb dŷn, a phan godo pawb ei law, ger bron yr orsedd­faingc.

Henaf gwyr, a gwyry­fon, gwyr ieuaingc a lang­gciau.

Brenhinoedd y ddaiar a a holl bobloedd: Tywysso­gion [Page 235] a holl farnwyr y bŷd.

RHAN. II.

GAn weled y bydd nid yn unic barn neilltuol, eithr cy­ffredinol hefyd, y­morolwn yn nessaf pwy, a pha ryw farnwr yw a drae­tha farn arnom.

PEN. I.
Crist yw 'r Barnwr.

GWir yw, yr holl Drin­dod a'n barnan ni, ca­nys [Page 236] nis gellir gwneuthur gwaith mòr ddirfawr heb gŷ dgytundeb ac awdurdod y tri pherson

Etto y farn a fwrir-ar Grist, am ddiwarth.

Ymddengys ef yn amlwg yn ei ddynawl naturiaeth, ac a rydd y farn.

Y Tad nid yw yn barnu nêb, eithr efe a roddes bôb barn i'r mâb, Jo. 5. 22.

Gosododd ddiwrnod yn yr hwn y barna efe y bŷd mewn cyfiawnder, trwy y gwr a ordeiniodd efe, Act. 7. 31.

Gosodir ni oll ger bron gorsedd-faingc Crist, Rhyf. 14. 10.

Felly, lle y dywedodd [Page 237] Crist, ni ddaethym i i far­nu 'r bŷd, Joh. 12. 47. deellwch y fan am ei gyn­taf, nid am ei ail ddyfo­diad.

Cymmwys yw, fôd Crist, yn farnwr ar y bŷd, yr hwn a farnwyd gan y bŷd; fel yr ymddan­gosa ef unwaith yn y bŷd, ei nerth, a'i ardderchow­grwydd yn golwg ei holl greadiriaid, yn enwedig yn golwg Pontius Pilat, An­nus a Chaiaphas, a'r Judde­won, y rhai ai barnasant, ac a'i croeshoiliasant ef.

A hwy a edrychant arna­fi yr hwn a wanasant, Zach. 12. 10.

Cymmwys yw, gael o [Page 238] ddynion i barnu gan un sydd ddŷn.

Mae yn gwmffwrdd yn erbyn brawychau y dydd hwn, gael i ni yn barnu gan y dŷn Jesu Grist.

Mae 'r naill ddyn yn dduw i'r llall, nag ofnwch, eich brawd Joseph ydwyfi.

PEN. II.
Mae Crist yn farnwr garw.

OEn oedd Crist yn ei ddyfodiad cyntaf, ei­thr ynei ail ddyfodiad llew a fydd.

Mae ei wyntill yn ei [Page 239] law, ac efe a lwyr-lanhâ ei lawr-dyrnu, ac a gascl ei wenith iw yscubor; ei­thr yr a ûs lysg efe â thân aniffoddadwy, Matth. 3. 12.

O-hyn-achos y crynna y Sainctiau goreu, wrth ysty­ried y dydd hwn.

Dafidd oedd ŵr wrth fodd calon Duw: etto,

Dychrynnodd fyngn­hawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedi­gaethau, Ps. 119. 120.

Na ddôs i farn a'th wâs, o herwydd ni chyfiawnheu­ir nêb byw yn dy olwg di, Ps. 143. 2.

Job oedd ŵr rhagorol am bôb rhinwedd dda; etto [Page 240] synnodd arno wrth ysty­ried y barnwr hwn.

I'r hwn pe bawn gy­fiawn, ni attebwn; eithr ymbiliwn am barnwr, Job 9. 15.

Pa beth gan hynny a wnaf, pan godo Duw? a phan ymwelo, beth a atte­baf a attebaf iddo? Job 31. 14.

Paul oedd lestr ethole­dig, on ni wydde ddim ar­no ei hun, etto (medd ef) yn hyn ni'm cyfiawnha­wyd; eithr yr Arglwydd yw hwn sydd yn fy mar­nu, 1. Co. 4. 4.

S. Hierom a addefodd fôd ei holl gnawd ef yn crynnu, cyn fynyched ac [Page 241] y meddylieu ef am y dydd hwn.

Braidd y mae y cyfiawn yn gadwedig, 1 Pet. 4. 18.

Mae llawer yn diangc yn rhwydd yn marn y bŷd; pan bwysir hwynt yn ghlo­rianneu Crist, a geir rhŷ yscafn.

Am hynny iawn i bawb weddio fel y dyscodd yr Eglwys iddo; yn nydd y farn gwared fi Arglwydd daionus.

PEN. III.
Mae Crist yn farnwrQui vult esse injustum, non vul [...]esse Deum. Ber. de temp. ser. 58. cy­fiawn.

EFe a farna 'r bŷd, mewn cyfiawnder: efe a farna 'r bobloedd mewn uniawn­deb, Ps. 9. 8.

Mae 'r Arglwydd yn dy­fod i farnu 'r ddaiar, efe a farna 'r bŷd â chyfiawnder, a'r bobloedd a'i wirionedd, Psal. 98. 9.

O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder iw chadw [Page 243] imi, yr hon a rydd yr Ar­glwydd y barnwr cyfiawn i mi, yn y dydd hw nuw, 2 Tim. 4. 8.

Barnwyr y bŷd a rydd­hânt yr euog, ac a go­spant y cyfiawn;

1. Trwy ofn: Pilat rhag ofn Caesar a gondemniodd Grist, yr hwn a draethasei tyst ei gydwybod yn wi­rion.

2. Trwy gâs, neu gar­riad. Herod. a gondemniodd Joan, Act. 24. 27.

Fedyddiwr i farw, er mwyn serch ar ferch He­redias.

Brodyr Joseph ai tafla­sant ef i'r pwll twy gassi­neb, Gen. 37. 4.

[Page 244] Ond nid ellir llygru 'r barnwr hwn trwy ofn.

Pwy a ofna er sydd oll alluog? a phwy a arswyda ef, yr hwn a ddaw â gallu a gogoniant mawr?

Ac nid ellir llygru 'r barnwr hwn trwy gariad.

Nid yw duw dderby­niwr wyneb, Act. 10. 34.

Nid wrth olwg ei lygaid y barna efe, ond efe a far­na ei bobl mewn cyfiawn­der, Es. 11. 3. 4.

Efe a dâl i bawb yn ôl ei weithredoedd pwy bynu ac a fyddo ai Juddew, ai Groegwr, Rhyf. 2. 6. 9.

3. Trwy wobr. Da y cyn­ghorodd Jethro Moses i e­drych-allan am fornwyr cy­fiawn [Page 245] yn cassau cybydddod, Ex. 18. 21.

Na ŵyra farn, ac na chydnebydd wynebau, na dderbyn Wobr y chwaith: canys gwobr a ddalla ly­gaid y doethion ac a wyra eiriau y cyfiawn, Deut. 16. 19.

Ond nis gellir llygru 'r barnwr hwn felly,

Pe i cymmerei wobr, ni fydd i ti yr un iw rhoddi, yn y dydd hwnnw.

Ond pe i rhoddit iddo deirnasoedd y bŷd a'i go­goniant: efe ai gwrthodeu hwynt: canys Arglwydd yr Arglwyddi yw ef, a Dduw mawr, cadarn, ac ofnadwy, yr hwn ni dder­byn [Page 246] wyneb, ac ni chym­mer wobr, Deut 10. 17.

Cydwybod dda ar y dydd hwnnw a wna fwy o lês,Dictum Thomæ Aquin. na phwrf llawn.

Ni thyccia cyfoeth yn nydd digofaint, ond cy­fiawnder a wared rhag an­geu, Dihar. 11. 4.

PEN. IV.
Mae Crist yn farnwr llawn wybodol.

MEgis, Cyfryw yw cy­fiawnder Crist ac nis gellir i lygruef, felly, cy­fryw yw ei wybodaeth ef ac nis gellir i sommi ef.

Nid wrth glywed ei glu­stiau [Page 247] y cerydda efe, Es. 11. 3.

Nid yn ôl sôn, a thy­stiolaeth eraill (y rhai sydd anysbus) y barna ef ni, ei­thr yn ôl ei amlwg wybo­daeth ei hûn, yr hwn sydd ddidwyll.

Deuwch, gwelwch ddŷn, yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthym, onid hwn yw 'r Crist? Jo. 4. 29.

Nid oes greadur anam­lwg yn ei olwg ef, eithr pôb peth sydd yn noeth, ac yn agored iw lygaid ef, am yr hwn yrydym yn sôn, Heb. 4. 13.

Mae hanes y gair yn ar­wyddoccau y cyfriw ddat­guddiad a phan flingir a [Page 248] phan ddisynnir corph, hyd oni welir yr ymyscaroedd, a dirgelwch naturiaeth.

Hyn a wnaethost, ac mi a dewais: Tybiaist ditheu fy môd fel ti dy hûn; ond mi a'th argyoeddaf, ac a'i trefnaf oflaen dy lygaid, Ps. 50. 21.

O herwydd hyn y dy­wedir i fôd ef yn cadw llyfr coffadwriaeth. Mal. 3. 16.

Rhai pechodau a ddywe­dir i bôd yn ddirgel o ran y dŷn ai gwnaeth. Pwy a ddeall ei gamweddau? Glanha fy oddiwrth fy mei­an cuddiedig, Ps. 19. 11.

Neu o ran y bŷd y go­dinebwr a fwytty ei fara pe­raidd yn ddirgel, Diha. 9. 17.

[Page 249] Ond nid oes un pechod yn ddirgel i dduw: canys mae ef yn gosod ein anwi­redd ger ei fron, a'n dir­gel bechodau yn golwg ei wyneb, Ps. 90. 8.

Am hynny ni fydd ond ofer wadu, neu escusodi, neu heuru 'r weithred a'r eraill: canys nid edrych Duw fel yr edrych dŷn, 1 Sa. 16. 7.

PEN. V.
Mae Crist yn farnwr a­nymbilgar.

FEl nad ellir llygru na sommi 'r barnwr hwn; felly nis gellir eiriol arno: [Page 250] yn awr yw 'r amser cyme­radwy, yn awr yw dydd yr iechidwriaeth, 2 Co. 6. 2.

Ceisiwch yr Arglwydd, tra y galler ei gael, gelwch arno tra fyddo yn agos, Es. 55. 6.

Amser barnedigaeth yw hwnnw, ac er i ni waeddu fel taran ni ettyb nyni, a thorri ein hunain a chyl­lill, fel Prophwydi Baal, nes ffrydio 'r gwaed, ni ystyria nyni.

Y morwynion ffôl a gu­rant wrth ddrws trigaredd, eithr ceuir yn ei herbyn, Matth. 25. 11.

A wrendy Duw ar ei lêf, pan ddelo cyfyngder arno? Job 27. 9.

[Page 251] Yn gimmaint ac i mi ych gwahodd, ac i chithau wr­thod, ac estyn fy llaw, a nêb heb ystyried

Minneu hefyd a chwar­ddaf yn eich dialedd chwi, a minneu a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni. `Diha. 1.

Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf, yn foreu i'm ceisiant ond nim cânt, Diha. 1. 24, 26, 28.

Yna yr addefaf yddynt, nis adnabum chwi erioed: Ewchymaith oddiwrthif chwi weithredwyr anwi­redd, Matth. 7. 23.

RHAN. III.

GAn weled yn ba­rod, pwy, a pha ryw farnwr sydd i ti, bwrw i fôd yn awr yn eistedd a'r Orsedd-faingc, a'i Angy­lion gogoneddus o'i am­gylch, ac yn galu-arnat, i atteb i'r ymofynion hyn.

PEN. I.
Pwy wyt?

I'R ymofyn hwn dy atteb a fydd, mae dyn wyt.

[Page 253] Ail-atteba Crist, os dŷn wyt, dangos i mi fyn nelw, yn ôl 'r hon i'th creuais.

Ceiniog Caesar a adwei­nid wrth ei ddelw a'i an­graph.

Pan welodd Jacob siac­ced ei fâb Joseph, dywe­dodd, siacced fy mâb yw hi, bwystfil drwg ai bwyt­taodd ef, Gen. 37. 33.

Felly y dywaid Crist yn nydd y farn: wyneb-pryd a delw dŷn yw hon, ond rhyw fwystfil drwg a an­rheithiodd fy nelw i.

O meddwyn a gollodd ddelw duw, ac a roes ddelw hwch yn ei lle.

Y cybydd a gollodd [Page 254] ddelw duw, ac a roes ddelw blaidd rheibus yn ei lle.

Y godinebwr a gollodd ddelw duw, ac a roes ddelw gafr yn ei lle.

Y Cadnaw a'r cynnheu­nus a gollasant ddelw duw, ac a roesant ddelw ci neu lwynog yn ei lle.

Ymlygrasant, ei bai nid bai ei feibion ef ydyw. Deut. 32. 5.

Et pejus est comparari ju­mento, quam nasci jumen­tȳ. Chrysost. Dŷn mewn anrhydedd ac heb ddeall, sydd debig i anifeidliaid a ddifethir, Ps. 49. 20.

Ni chaiff bwystfil fyned i Gaerselem newydd: ca­nys [Page 255] oddiallan y mae 'r Cŵn, Dat. 22. 15.

PEN. II.
Yr ymofyn nessaf a fydd, o ba ffydd wyt?

GAn adel-heibio Tur­kied, Juddewon, ac Angrhedwyr, attebi, Cri­stion wyf.

Jacob a haerodd wrth ei Dâd, mae ei wirfâb Esau oedd, ond nid oedd.

Cafodd Eglwys Sardys henw i bôd yn fyw, eithr marw oedd. Dat. 3. 1.

Llawer a ddywedant yn y dydd hwnnw, Arglwydd, bedyddiwyd ni yn dy enw [Page 256] di, galwasom ar dy enw di, prophwydasom yn dy enw di, y rhain ydynt er hynny yn weithredwyr anwyredd.

Henw o ddled yw Cri­stion, yn gystal ac o an­rhydedd.

Virtus fecit mihi patrem A­braham & fratrem Jesum. Orig. in Ezech. Hom. 8. Chwy chwy yw fynghyfeilli­on, os gwnewch y petheu bynnac yr wyf yn i gor­chymmyn i chwi, Jo. 15. 14.

Wrth hyn y gwybydd pawb, mae dyscyblion i mi ydych, os bydd gen­nych gariad iw gilydd, Jo. 13. 35.

Cynnifer o honoch ae a [Page 257] fedyddiwyd on Grist a wis­gasoch Grist, Gal. 3. 27.

Y rhai sydd yn eiddo Crist, a groeshoiliasant y cnawd, a'i wyniau a'i chwan­tau, Gal. 5. 24.

Ai Cristion wyt ti, a gymerast aelodau Crist ac ai gwneist yn aelodau put­tain? 1. Co. 6. 15.

Ai Cristion wyt ti, a we­laist Grist yn noeth, ac ni dilladaist ef: yn newynog, ac ni roddaist swyd iddo: yn sychedig ac ni roddaist ddiod iddo: yn glâf, ac yn gharcher ac nid ymwe­laist ac ef?

Ar fyrr eiriau, Ai Cri­stion wyt ti a fuaist fyw [Page 258] mewn pechodau erchyll, o'th wybod?

Pa gyssondeb sydd rhwng Crist a Belial, rhwng go­leuni a thywyllwch, rhwng cyfiawnder, ac anghy­fiawnder? 2 Co. 6. 15.

Imffrostiasant yr Judde­won i bôd yn blant i Abra­ham, eithr Crist Eorum filii dici­m [...]r quo­rum actus imitamur. Orig. in Ezek. Hom. 4.a ddywedodd mae plant i ddiafol oeddent, o achos i bôd yn gwneuthur ei weithredoedd ef. Jo. 8. 44.

Os oes genuit ond henw Cristion a rhith nid grym duwioldeb, trym­ach a fydd dy farnedigaeth, [Page 259] a mwy anrhaith i oddef, na Thurkiaid, ac Angrhe­dwyr.

A'r gŵas hwnnw, yr hwn a wybu ewyllys ei Ar­glwydd, ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys, a gurir â llawer ffonnod.

I bwy bynnac y rhodd­wyd llawer, llawer a ofyn­ir ganddo, Lu. 12. 48▪

Yn wîr meddaf i chwi, Bydd esmwythach i dîr y Sodomiaid a'r Gommoriaid yn nydd y farn, nac i chwi, Matth. 10. 15.

Gwell fuasei yddynt fôd heb adnabod ffordd cy­fiawnder, na gwedi ei had­nabod, troi oddiwrth y gorchymmyn sanctaidd yr [Page 260] hwn a draddodwyd iddynt, 2 Pet. 3. 23.

Deisyf gan hynny arnoch yr wyfi ar rodio o honoch yn addas i'r galwedigaeth i'ch galwyd iddi, Eph. 4. 1.

A phôb un sydd yn hen­wi henw Crist, ymada­wed oddiwrth anghyfiawn­der, 2 Tim. 2. 19.

Gweddiwn fel y dysgodd yr Eglwys i ni, ar y try­dydd sul yn ôl y pasc.

Holl alluog dduw &c. Caniadhâ i bawb a dder­bynier i gymdeithas cre­fydd Grist, allu o honynt ymogel cyfryw bethau ac y sydd wrthwyneb iw prof­fess, a chanlyn y sawl be­thau oll ac a fyddo yn cyd­tuno [Page 261] a'r unrhyw trwy Jesu Grist ein Harglwydd. A­men.

PEN. III.
Beth yw dy alwedigaeth?

YR ymofyn nessaf a fydd unrhyw ac a ofyn­nasant y morwyr i Jonah; Jon. 1. 8.

Beth yw dy gelfyddyd di?

Ai Penswyddwr wyt ti? ai Gorvchaf? ai penciwd­awd, ai Llywiawdwr, neu Swyddwr gwedi ei ddanson ganddo ef. 1 Pet. 2. 13, 14.

Fe a'th holir yn gyntaf, os amddiffynnaist wir-gre­fydd [Page 262] Dduw, ac os buaist Dadmaeth i'r Eglwys? Es. 49. 23.

Os dadwreiddiaist gam­grefydd, eulyn-addoliaeth, a choelgrefydd? 1 Bren. 15. 12.

Os darparaist wenido­gion i athrawu 'r bobl, a chynheliaeth i'r Gwenido­gion hynnu?

Iehosaphat a anfonodd yr Offeiriadau a'r Lefiaid, â llyfr cyfraith 'r Arglwydd, felly 'r amgylchasant hwy holl ddinasoedd Iuda, ac a ddyscasant y bobl, 2 Chro. 17. 9.

Hesekiah a orchmyn­nodd ir boll, trigolion Ga [...]rsel [...]n [...], am roddi rhan [Page 263] i'r offeiriadau, a'r Lefiaid fel yr ymgryfhaent ynghy­fraith yr Arglwydd, 2 Chro. 31. 4.

Os adeiladaist ac adne­wyddaist dŷ Dduw, a lle­oedd ei addoliant ef, fel y gwnaeth Salomon a Josiah?

Yn ail, os buaist yn Siampl o dduwioldeb a phôb rhinwedd dda i'th bobl?

Dafidd a ddawnsiodd o flaen Arch Dduw, a thŷ Israel ai canllynodd ef: 2. Sa. 6. 14.

Brenhin Niniveh oedd y cyntaf a ddarostyngodd ei hun mewn sachliain a lludw, yna Preswylwyr y ddinas a whaethant yn yr un modd.

[Page 264] Confessor Papa, con­fessor Popu­lus. Cypr. ad Co [...]nel. Romæ Epi­scopum.Mae Si­amplau gwyr mawr yn llu­thiau tôst, neu yn hytrach yn rhwymau ce­dyrn ar y Cyffredin.

Cœsar a lanwodd ei deir­nas â rhyfelwyr, ac Augu­stus â gwyr o ddysc, &c.

Yn drydydd, os darpa­raist ddeddfau uniawn, ac os cyflawnaist hwynt fel i rheolir y sawl sydd yn byw tanynt yn dduwiol, ac yn heddychol.

Cyfreithiau da yw y rhai sydd yn cydsôn â chyfraith naturiaeth, a gair duw.

Ac yna, y cyflawnir hwynt, pan ddelir yr eg­nod [Page 365] yn gystal ar gwybed.

Yn bedwerydd, os co­spaist y drwg, ac os mawr­heaist y da.

Fy llygaidd sydd ar ffy­ddloniaid y tîr, fal y tri­gant gyda mi▪ yr hwn a rodio mewn ffordd ber­ffaith, hwnnw am gwasnae­tha i: Ps. 101. 6. 8.

Yn foreu y torraf-ymaith Justitia non novit patrem, non novit ma­trem, veri­tatem novit.holl anuwo­lian y tîr: i ddiwreiddio holl weithred­wyr anwyredd o ddinas yr Arglwydd.

Brenhinoedd a Llywawd­wyr a anfonwyd gan Dduw er dial ar y drwg weithred­wyr, [Page 266] a mawl i'r gweithred­wyr da, 1 Pet. 2. 14.

Am hynny ni bydd bŷd da pan bardynir y brain a phan gospir y clomennod.

Yn bummed, os gw­randewaist a'r lêf y tlo­dion, os derbyniaist ei dei­syfiadau, os dialaist ei cam­mau

Cyfiawnhewch y cystu­ddiedic a'r rheidus, bern­wch y tlawd a'r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai anuwiol, Ps. 82. 334.

Gan hynny yr awrhon frenhinoedd byddwch syn­hwyrol; Barnwyr y ddaiar cymerwch ddysc, Ps. 2. 10.

Cofiwch y daw (Deus, & dies ultionis) duw a dydd dial.

[Page 267] Ai Gwenidog wyt ti?

Holir dy di.

Yn gyntaf, os deuaist-i-mewn trwy 'r drws, neu os dringiaist-i-fy­nu trwy 'r De Origine aiunt, cum sine vocatione se ingessisse in officium do­cendi, inde factum est, quod in tot errores est prolapsus. Chemnit. de Eccles.ffenestr; os galwodd Duw dy di, neu os ymyscwydd­aist o honot dy hûn.

Fe all dŷn wybod os galwodd Duw ef, wrth y talentau a rodd­wyd iddo.

Yr ydis yn disgwil fôd gan bôb gwenidog, (scien­tiam competentem, si non eminentem, hynny yw) [Page 268] gwybodaeth gymhedrol, onid rhagorol.

Canys gwefusau'r offei­riaid a gadwant wybo­daeth, a'r bobl a ddylent geisio 'r gyfraith o'i enau ef, Mal. 2. 7.

Yn ail, os dyscaist, ac os athrawaist y bobl a ym­ddiriedwyd iti.

Bugeilia fy nefaid, Jo. 21. 16.

Nid ymatteliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw.

Edrychwch gan hynny arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr yspryd glân chwi yn olygwyr, i fugei­lio eglwys dduw, yr hon a [Page 269] brynnodd efe ai briod­waed, Act. 20. 27.

Yr ydis yn disg­wil gan wenidog i fôd yn abl, [...]. ac yn ewyllysgar i athrawu, 2. Tim. 2. 24.

Y sawl sydd anwybodol, ac ni fedr athrawu sydd Gi mûd.

Y Saul sydd wybodol, ac ni athrawa sydd Ddiafol mûd, oni bydd achos cy­freithlon yn llestyr.

Lle ni byddo gweledi­gaeth: methu a wna 'r bobl, Dih. 29. 18.

Ei waed a ofynnaf ar ei law ef, Ezek. 33 6.

Pwy gan hynny sydd wâs ffyddlon a doeth, yr hwn [Page 270] a osodwyd gan ei Argl­wydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn prŷd?

Gwyn ei fŷd y gwâs hwnnw yr hwn y caiff ei Arglwydd pan ddelo yn gwneuthur felly, Matth. 24. 45, 46.

Yn drydydd, os cŷd­attebodd dy fychedd a'th athrawiaeth.

Y nêb a oedd âg anaf arno, ni ddyleu nessau i offrymmu ebyrth yr Ar­glwydd, Le. 21. 21.

Moses wrth fendithio llwyth Lefi, a ddymunodd: Bydded dy Thummim a'th Vrim i'th wr Sanctaidd, hynny yw,* perffeith­rwydd [Page 271] by-chedd, yn-gystal a llewyrch dysceidiaeth, Deut. 33. 4.

Dywedir am Grist i fôd yn Brophwyd galluog, mewn gweithred a gair, ger bron duw a'r holl bobl, Lu. 24. 19.

Ty di yr hwn wyt yn addyscu arall onith ddysci dy hun? yr hwn wyt yn pregethu na ladratter; la­dretti di? yr hwn wyt yn dywedyd, na odineber; a odinebi di? yr hwn wyt ynsfieiddio delwau; a gys­secr-yspeili di? Rhyf. 2. 21, 22.

Bydd yn Siampl i'r ffydd­loniaid mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn ca­riad, [Page 272] mewn purdeb, mewn yspryd, mewn ffydd, 1 Tim. 4. 12.

Ai Swiddwr wyt ti?

Holir dy di os ceifiaist ddim mwy nac a orddeini­wyd i ti, Lu. 3. 13.

Os gwneist a'r tlodion fel y gwnaethant gweision plant Eli: yn awr y rho­ddi, ac onidê, mi a'i cym­meraftrwy gryfder, 1 Sam. 2. 16.

Ai rhyfelwr wyt ti?

Holir dy di os buaist draws wrth nêb, os cam­achwynaist ar nêb, os buaist fodlon i'th gyflog, Lu. 3. 14.

Ai Grefftwr wyt ti?

Holir dy di, os arferaist [Page 273] amryw bwysau, ac amriw fesurau; pôb un o'r ddau sydd ffiaidd gan 'r Argl­wydd, Dih. 20. 10.

Os cymmeraist henw Duw yn ofer, er mwyn cael gwthio dy wael fas­nach ar dy gymydog &c.

Mi allaf yn-awr ddywe­dyd am ein Barnwr, fel y dywedasant plant Jacob am Lywiawdur yr Aipht:

Y mofynnodd y gwr yn gaeth am ein helynt, Gen. 43. 7.

RHAN. IV.

GWelsom yn awr y modd y gwna Crist a ni ar ddydd y farn, yn nessaf y­styriwn y farn ddiweddaf, ddiadlam, a roddir arnom, ac hi a fydd naill ai i iechid­wriaith, neu i golledi­gaeth.

PEN. I.
Barn i iechidwriaeth.

BArn i iechidwriaeth a draethir yn y geirieu hyn:

[Page 275] Deuwch chwi fendigedi­gion fy nhâd, etifeddwch y deirnas a baratowyd i chwi er seiliad y bŷd, Matth. 25. 34.

Yn yr hon farn nid oes gair, na syllaf, na llythy­ren ond yw yn gerdd i'r glust, yn fêl i'r genau, ac yn llawenydd i'r galon.

O fel y gwresoga ein clu­stiau, fel y dawnsia ein ca­lonnau oddifewn wrth gly­wed Crist yn ein galw: Bendigedig blant fy nhâd!

Wrth glywed y llais hy­fryd, a'n gwahodd: Deu­wch!

Wrth glywed gogoni­ant 'r etifeddiaeth, lle [Page 276] bydd rhaid i ni ddyfod; Teirnas, Y Deirnas, Y Deirnas a bara­towyd er ystalm!

Gwyn ei fŷd y bobl a glywant yr hyfrydlais hwn, Ps. 89. 15.

PEN. II.
Barn i iechidwriaeth a draethir yn gyntaf.

Y Gwâs da a wobrwy­wyd, ac a dderbyni­wyd i lawenydd ei Argl­wydd: yna y gwâs drwg [Page 277] a gospwyd, ac a daflwyd i'r tywyllwch eithaf, Matth. 25.

Y rhai ar y llaw ddeheu a elwir i deirnas: yna hwynt ar y llaw asswy a de­flir i'r tân, Matth. 25.

Ni theifl Duw mo'r anu­wiol i uffern, hyd oni we­lant beth o ddedwyddwch y Sainct, i chwanegu ei ga­lar a'i gofid.

Yr anuwiol a wêl hyn, ac a ddigiâ, efe a yscyr­nyga ei ddannedd, ac a dawdd-ymmaith, Ps. 112. 10.

Neu ond odid, Dechreu a wna Crist a barn i iechid­wrlaeth, i dangos mae [Page 278] gwell oedd gantho yn cadw na'n colli.

Hwyrfrydic i lîd yw, Ps. 103. 8.

Ni ymlawenycha mewn marwolaeth pechadur.

Ei naturiaeth ef ai go­gwydda i'n cadw, eithr ein pechodau ni ai hannog i'n damnio.

Os rhaid cospi gan hyn­ny, Daw yn anewyllysgar ac yn ddiweddaf oll.

PEN. III.
Barn i golledigaeth.

BArn i golledigaeth a draethir yn y geirieu hyn:

Ewch oddiwrthif rai [Page 279] melltigedig i'r tân tragwy­ddol,Ite imparat in par atum. yr hwn a baratowyd i ddiafol, ac iw Angylion, Math. 25. 41.

Nid oes gair yn yr ymad­rodd hon, nad yw archoll, na syllaf nad yw gleddyf yn trwyanu 'r galon; na llythyreu nad yw mòr uchel, ac mòr erchyll a thrwst taran.

O fel y crynna lwynau 'r anuwiol, O fel yr ymddet­tyd ei cymmalau, o fel yr ymgurant ei gliniau wrth glywed Crist yn i galw hwynt yn felldigedig!

* Melltigedig o achos [Page 280] poen-colled, Ewch oddi­wrthif.

Dyna ei deoliad oddi­wrtho ef, yr hwn sydd ffynnon y bywyd, a lle­wyrch y gogoniant, a ger bron pwy un y mae di­gonolrwydd llawenydd.

Melltigedig hefyd o a­chos poen-pwyll.

Ewch i'r tân; dyna 'r to­stur. I dân tragywyddol; dyna 'r hîr ofid.

A baratowyd i Ddiafol, ai Angylion, Dyna 'r cy­feillion.

Yn y man ar ôl y farn y canlyn cospedigaeth.

Y rhai anuwiol a ânt i gospedigaeth dragwyddol: ond y rhai cyfiawn i fywyd [Page 281] tragwyddol, Matth. 25. 46.

RHAN. V.

MAe yn ôl yn awr, ac yn ddiweddaf edrych pa gyn­nwrf a wnaeth y­styried dydd mawr yr Ar­glwydd ar ein calonnau. Mae yn fatter braw i rai, o gwmffwrdd i eraill, ac o addysc i bawb.

PEN. I.
Braw i'r drwg.

YR Juddewon pan ddoe­thant i ddal Crist, a ddychwelasant yn nyddieu ei ostyngiad ef: pa fodd y safant o'i flaen ef, pan dde­lo mewn gogoniant ac an­rhydedd?

Fel yr oedd S Paul yn ymresymmu am gyfi­awnder, a dirwest a'r farn a fydd, Per omnem sæ­vitiam & libidi­nem, jus regium servili ingenio exercuit. Tacir. hist. l. 5. Josephus Antiq. l. 20. Felix a ddychryn­nodd, [Page 283] Act. 24. v. 25.

Mòr erchyll a fydd y dydd hwn pan gynnhyrto 'r mynyddoedd, pan doddo 'r brynniau, pan losgo 'r ddaiar, ger i fron ef, ie 'r bŷd ac oll sydd ynddo?

Y mynyddoedd a gryn­nant rhagddo, a'r bryn­niau a doddant, a'r ddaiar a lysg gan ei olwg, y bŷd hefyd, a chwbl ac a drigant ynddo.

Pwy a saif o flaen ei lîd ef? a phwy a gyfyd yn­ghynddaredd ei ddigofaint ef? ei lîd a dywelltir fel tân, a'r creigiau a fwrir-i-lawr ganddo, Nah 1. 5, 6.

[Page 284] Mòr gyfing a fydd ar yr anuwiol, pan fyddo O'r naill dŷ, ei pe­chodau yn cyhuddo. Or tŷ arall▪ cyfiawn­der Duw yn brawychu. Uwch ben, Barnwr digllon yn edrych yn ffyrnig. Odditanynt, Llyngc-Lyn uffern yn egoryd. Oddimewn, Cydwy­bod yn brathu. Oddiallau, y bŷd yn llosgi. Anselm. lib. medit.

A brenhinoedd y ddaiar, a'r gwyr mawr, a'r cyfoe­thogion, a'r pen-Capteni­aid, a'r gwyr cedyrn, a phôb gwr caeth, a phôb gwr [Page 285] rhydd a ymguddiant yn yr ogfeydd, ac ynghreigiau y mynyddoedd: ac a ddy­wedant wrth y myny­ddoedd a'r creigiau, Syrthi­wch arnom ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd-ar yr Orseddfangc, ac oddiwrth lîd yr Oen:

Canys daeth dydd mawr ei digter ef; a phwy a ddi­chon sefyll? Dat. 6. 15, 16, 17.

Gwna yn llawen wr ieu­angc yn dy ieuengctid, a llawenyched dy galon yn nyddieu dy ieuengctid, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yn golwg dy lygaid; ond gwybydd y geilw Duw [Page 286] di i farn am hyn oll, Preg. 11. 9.

Deellwch hyn yn-awr y rhai ydych yn anghofio Duw: rhag i mi ych rhwy­go, ac na byddo gware­dudd, Ps. 50. 22.

Gan wybod ofn yr Ar­glwydd yr ydym yn cyn­ghori dynion, 2 Co. 5. 11.

PEN. II.
Cwmffwrdd i'r duwiol.

YNa y gwelant fáb y dŷn yn dyfod mewn cwmmwl a gallu a gogo­niant mawr.

A phan ddechreuo 'r pe­theu [Page 187] hyn ddyfod, edrych­wch-i-fynu; a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared yn nessau, Lu. 21. 27, 28.

Yr Arglwydd ei hun a ddescyn o'r nefoedd gyda bloedd, â llêf yr Arch-Angel, ac udcorn duw &c.

Am hynny diddenwch ei gylidd a'r ymadroddion hyn, 1 Thes. 4. 16, 17, 18.

Pan aschnnodd Crist, yr Angylion a gysurasant y Dyscyblion yn y modd hyn:

Yr Jesu hwn, yr hwn a gymerwyd-i-fynu oddiwr­t hych i'r nefoedd, a ddaw felly, yn yr un modd ac y gwelsoch ef yn myned i'r [Page 288] nefoedd, Act. 1. 11.

O hyn achos y dywedir fôd yn cyfiawn yn caru dydd ei ymweliad ef, canys yna y derbyniand coron cyfiawnder 2 Tim. 4. 8.

Daionus yw 'r Argl­wydd, ymddiffynfa yn nydd blinder, ac efe a adwyn y rhai a ymddiriedant ynddo, Neh. 1. 7.

Ond ni a glywsom yn barod am hyn, lle galwyd y dydd hwn o ran y duwiol, Dydd y gorphwysdra, a dydd yr ymwared.

PEN. III.
Addysc i bawb.

OS fel hyn yw, pa ryw fath ddynion a ddy­lem [Page 289] ni fôd mewn Sanctaidd ymarweddiad, a duwioldeb? 2 Petr. 3. 11.

Y peth a gododd yspryd S. Hierom i'r fath uchder defosiwnoedd myfyrdod y dydd hwn yn ddibaid.

Ai bwytta, ai yfed, neu beth bynnac a wnaf, ty­bied yr wyf glywed llêf yr udcorn yn fynghlustiau, Adgyfodwch o feirw, a druwch i farn.

Rhaid i ni wneuthur cy­frif, nid yn unic, am ein pechadau rhyfygus, eithr am ein pechodau lleiaf.

Yr ydwyf yn dywedyd wrthych, mai am bôb gair segur a ddywedo dynion; [Page 290] y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y faru Matth. 12. 36.

Rhaid i ni wneuthur cy­frif, nid yn unic, am ein pechodau ein hunain, eithr am bechodau eraill hefyd, a wnaethpwyd trwy ein gorchymmyn, cymdeithas, cyngor, neu ein drwg si­ampl ni.

Rhaid i ni wneuthur cy­frif am ein talentau natu­riol, a grassol, ac am yr amser gwerthfawr a rodd­wyd i ni.

Clyw Swm y cwbl, ofna Dduw, a chadw ei orchmy­nion: canys Duw a ddwg bôb gweithred i farn, pa un bynnac fyddo ai da, ai drwg, Preg. 12. 13, 14.

[Page 291] Byddwch helaethion yn gweithredoedd trigaredd, a charedigrwydd, canys yn ôl y rhain ych bernir, Matth. 25.

Bernwch eich hunain yma, fel nach, bernir, a'r ôl hyn, 1. Co. 11. 31.

Am yr amser, ar lle y gosodir gorsedd-faingc Crist, O fy enaid, na fydd bryssur i chwilio-am bethau mòr ddirgel.

Dyma wybodaeth rŷ ry­fedd i mi, y dirgelodigae­thau sydd eiddo 'r Argl­wydd ein Duw, a'r pethau amlwg a roddwyd i ni, ac i'n plant.

Gweddi am ddydd y farn.

O Fendigedig Argl­wydd Jesu, yr hwn wyt yn awr yn eistedd ar ddeheu-law dduw Tâd, ac oddiyno a ddoi i farnu 'r byw a'r meirw, mewn gallu, a gogoniant mawr; yr wyf yn cyfaddeu fôd fy mhecho dau mo'r orthrwm, a'm cydwybod mo'r euog, ac dydd mo'r erchyll, ag y mae fyngnhawd yn cryn­nu, a'm calon yn toddi oddifewn, gan ystyried fôd yn rhaid i'm ymddangos [Page 393] ger bron gorsedd-faingc dy farnedigaeth gyfiawn, i roddi cyfrif am bôb peth a wneuthym yn y cnawd, beth bynnac yw ai da, ai drwg. O Arglwydd, Mi a wn os dygi fi i farn, n'im cyfiawnheuir yn dy olwg: ac os creffi ar fy anwiredd­au, nid wyf abl i atteb am un peth o fîl.

Am hynny yr wyf yn ap­pelio oddiwrth far dy gy­fiawnder, at ymyscaroedd dy drigaredd, gan attolwg i ti yn y dydd hwnnw, wneuthyr âg enaid dy Wâs, nid fel Barnwr ffyrnig, ei­thr fel Jechawdur trigarog.

O Arglwydd, fe a fydd yn ddydd digofaint, eithr [Page 294] cascl fi tan gyscod dy adeu­ydd, hyd onid êl y digo­faint heibio.

Fe a fydd yn ddydd ty­wyll, niwloc: eithr lle­wyrchady wyneb arnaf, a mi a achubir.

Fe a fydd yn ddydd barn; eithr yn y dydd hwnnw, trwy dy ing a'th ddigofaint gwaedlyd, a wnaethost, ac a ddi oddefaist trosaf, gwared fi Arglwydd daio­nus.

Ac er mwyn hyn yr wyf yn attolwg i ti ro­ddi i mi râs i fyw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y bŷd presen­nol hwn; i gadw cydwybod [Page 295] dda tuag at Dduw a phôb dŷn; i gynnyddu yn ddi­baid, mewn gweithredoedd trigaredd a chariad perffaith; i'm barnu, ac i'm cyhuddo fy hun, yn y bŷd hwn, fel na'm bernir yn y bŷd a ddaw. Fal pa brŷd bynnac y dalio 'r dydd hwnnw fi, na rwymer fi yn yscub 'r efrau, yr hon a deflir i dân aniffoddadwy, eithr i'm cascler gida 'r gwenith i'th yscuboriau, a'm gosoder ar dy ddeheu-law, ac i'm gal­wer yn rhifedi 'r bendige­digion i etifeddu y deirnas, a'r goron, y rhain a bryn­naist, ac a ddarparaist i bawb a'th garant, ac a ddisgwiliant am ddydd dy [Page 296] ymddangosiad. Iti yn-awr O Grist, gyda 'r Tâd, a'th yspryd bendigedig y byddo nerth, a gogoniant yr awr hon, ac yn dragywydd. Amen.

Boreuol Weddi.

O Dragwyddol a go­goneddus Arglwydd Dduw, ac yn Jesu Grist ein trigarog, a'n caredig Dâd, Ny ni dy greaduriaid gwael, llwch a lludw, ydym yn darostwng ein eneidiau a'n cyrph o ufudd galon, wrth droed-faingc dy ogo­neddus Fawrhydi: gan at­tolwg i ti, ogwyddo dy [Page 297] glustiau att ein gweddiau, ac i agoryd dy lygaid ar yn deisyfiadau; Y sawl ydym yn cydnabod, ac yn cy­faddeu o eigion ein calon­nau, yn bôd yn weision anfuddiol, yn blant afrad­lon, ac yn ddrwg oruch­wilwyr o'r amser a roddaist i ni, i edifarhau, ac i wneu­thur gweithredoedd da; ac o'r talentau a ymddiri­edaist i ni iw chwanegu.

Os ein dwylo a roddwn­yn ein mynwesau, fe fydd rhaid i ni i tynnu-allan yn wahanglwyfol. Canys hilio­gaeth tadau afreolus, ac annyfydd ydym: mae ein calonnau yn gutt adar a­flan, o chwantau drew­lyd, [Page 298] a'i meddylieu a fuant ddrigionys, yn ddrigio­nys yn unic, ac yn ddri­gionys bôb amser.

Ac os edrychwn, O Ar­glwydd, ar weithredoedd ein bychedd, nid oes un pechod ni wnaethom, nid oes un gorchymmyn ni thorrasom. Y llygaid hyn sydd yn awr yn edrych tua 'r nefoedd a welsant wa­gedd; y tafod au hyn sydd yn galwarnat a'th gabla­sant; a'r dwylg hyn ydym yn i dyrchafu attat, a ddyr­chafwyd yn fynych yn d' erbyn di, a'th gyfraith. Yn gimmaint ag y a'n gw­naethom ein hunain yn anheilwng o'r lleiaf [Page 299] o'th drigareddau, ac yn deilwng o'r mwy af o'th far­nedigaethau. Ond na wna a ni yn ôl ein pechodau, ac na wobrwya ni yn ôl ein anwireddau.

Arbed ny ni Arglwydd daionus, arbed dy bobl a greuaist yn ôl dy ddelw dy hûn, ac a brynnaist a'th waed dy hûn.

Ah yn ôl lliaws dy do­sturiaethau, (canys erioed y buont i ni) delea liaws ein camweddau. Maddeu ein pechodau, a derbyn ni i'th radlawnrwydd, er ei fwyn ef, ac er mwyn ei ddioddefaint ef, yr hwn a gyflawnodd dy gyfiawnder [Page 300] hyd y ffyrling eithaf.

Ac am fyrr Weddill ein dyddieu, Dyro i ni râs yw cyssegru i'th wasanaeth di, ac i brynnu 'r amser ni allwn alw-yn-ôl, i wneu­thur ein galwedigaeth, a'n etholedigaeth yn siccr, cyn myned oddiymma, ac na byddom mwyach.

Ac o blegid fôd llygre­digaethau ein naturiaeth yn rhy aml, ac yn rhy drech i ni, a bôd Diafol yn rho­dio oddiamgylch yn ddi­baid, megis llew rhuadwy i geisio yn llyngeu ni; Na âd ni i ein hunain, eithr cyfnertha ni a'th râs, a pherffeithia dy nerth yn ein gwendid, a chadw ein [Page 301] eneidiau a'n cyrph yn ddi­frycheulyd, ac yn ddiar­gyoeddus, fal gwedi gor­ffen ein gyrfa, a rhedeg rhediad ein ymdaith natu­riol, y derbyniom goron cyfiawnder, yr hon a gad­waist di (Farnwr cyfiawn) i bawb a garant, ac a ddis­gwiliant am ddydd dy ymddangosiad.

Erfyniwn hefyd am fen­dith ar ein Brenhin, a'n Brenhines, a'r holl hilio­gaeth frenhinol: Ar ein Cynghorwyr Eglwyswyr Lliwiawdwyr: a'r ein cy­feillion, ein ceraint, a'n cydnybyddiaeth: Ar yr holl Eglwys a phôb aelod ynddi mewn adfyd.

[Page 302] Bydded hefyd ein bo­reuol aberth o foliant, ac o ddiolchgarwch yn gyme­radwy ger dy fron; am dy holl drugareddau, a'th ddoniau, cwmffwrdd, ac ymwaredau a roddaist, ac a barhauaist i ni o amser i amser: Yr ydym yn ddi­olchgar i li am dy driga­redd ddiweddaf yn ein cadw oddiwrth embyd­rwydd y nôs aeth-heibio, am roddi esmwythdra i'n cyrph, ac am ein dwyn yn ddiangol hyd ddechreu 'r dydd heddyw.

Arglwydd, pa beth yw dŷn i ti yw gofio, a mâb dŷn i ti i ymweled ag ef? Dyro i ni râs, O Arglwydd, [Page 303] i'th gofio di, a'th holl dri­gareddau, fal y gallom dy foliannu, am dy holl wi­rionedd a'th ffyddlondeb, a ddangosaist i ni yn nhîr y rhai byw; megis in dy­gaist i gwmffwrdd y dydd hwn, felly dôs gyda ny ni yn 'r unrhyw, i'n cysner­thu i wneuthur y pethau a ddylem, yn y galwedigae­thau i'n gosodaist ynthyn, ac i'n gwaredu oddiwrth y peryglau sydd beunydd i'n bygwth, ar mwyn Jesu Grist, yn enw bendigedig, a geiriau pwy un, y gorf­fennwn ein gweddiau am­herffaith hyn▪ gan ddywe­dyd fel in dyscodd ef ei hun yn ei efengil Sanctaidd.

[Page 304] Ein tâd yr hwn wyt yn, &c.

Prydnhawnol Weddi.

O Ardderchoccaf, a byth-fywiol Dduw, yn hwn wyt yn preswilio tragwiddoldeb, ac yn tri­go yn y goleuni ni ddichon llygad marwol nessau-atto; Y Duw yn yr hwn yr ydym yn byw▪ yn symmud ac yn bôd, Ny ni dy weision an­heilwng ydym yn offrwm ein cyrph, a'n gweddiau, yn ufudd, ac yn ostynge­dig ger bron dy dduwiol Fawredd: gan gyffesu a chydnabod, mae mewn pe­chod [Page 305] i'n lliniwyd, ac mewn anwyredd i'n gan­wyd ni. Ac fel pe buasei hynny yn rhŷ fychan, aml­hausom ein camweddau gweithredol, fel tywod ar lan y môr, ac fel y Sêr yn y ffyrfafen. Torrasom dy orchmynion, halogasom dy Sabbothau, amher­chasom dy enw, cam­arferasom dy greadiriaid, ysgeulusasom amser ein ym­weliad, a throesom dy râs yn ddrythyllwch, hyd oni ddarfu i ni gynhyrfu dy ddigofaint, a'th anghym­mod yn dragwyddol; Ar­chollasom ein cydwybo­dau, gwanhausom siccrw­ydd ein iechidwriath, a [Page 306] thristhausom dy lân yspryd, trwy 'r hwn i'n Seliwyd hyd ddydd prynedigaeth.

Ac yn-awr, Arglwydd, os gwnei â ni yn ôl ein haeddedigaethau, gelli dy­wallt-allan ddiluw ddigo­faint a'th gynddaredd ar­nom, i'n yseubo-allan o dîr y rhai byw, i'r ddir­boen a ddarparwyd i Ddia­fol a'i Angylion. Eithr datguddiaist dy hun i fei­bion dynion i fôd yn Ar­glwydd, yn Arglwydd tri­garog, a graslawn, dio­ddefgar ac o fawr ddaioni, yn maddeu anwiredd, ac yn myned-heibio i gam­weddau ei bobl: Dyma dy enw byth, a dyma dy [Page 307] goffadwriaeth o genhed­laeth i genhedlaeth.

O herwydd pa ham yr ydym yn appelio oddiwr­thif, attat, oddiwrth far dy gyfiawnder at ymysca­roedd dy drigaredd: gan attolwg i ti er mwyn Jesu Grist drugarhau wrthym a meddeu ein holl becho­dau a wnaethom yn d' er­byn.

Bydded ei ufudddod ef yn gymeradwy am yn anufudddod ni ei gyfiawn­der ef am ein anghyfiawn­der ni, ei ddioddefaint ef am ein holl bechodau ni, glanhâ hwynt yn ei waed ef, hoilia hwynt wrth ei groes ef, cuddia hwynt yn [Page 308] ei archollion ef, a chlâdd hwynt yn ei fedd ef, fal na chodant byth i'n gwarthry­ddo yn y bŷd yma, nac i'n condemnio yn y bŷd a ddaw.

Ac fel yr yd ym yn deisy­fu arnat fôd yn Dâd triga­rog y ni, felly bydd i ni yn dduw cyssurus, Llefara he­ddwch i'n calonnau a'n eneidiau, a dywed wr­thym, My fi yw eich i­echidwriaeth.

Ac o hyn allan, Dyro i ni râs i farw beunydd i be­chod trwy rinwedd mar­wolaeth dy fâb, ac i adgy­fodi i newydd deb bychedd trwy nerth ei adgyfodiad ef. Diddyfna ein calonnau, [Page 309] a thyn ein chwantau oddi­wrth betheu bydol ni phar­hant ond tros ennyd, a derchafa hwynt ar betheu nefol sydd ar dy ddeheulaw yn dragowydd.

Goleua dywyllwch ein deall, darostwng gyndyn­rwydd ein ewyllys, a chyweiria anhrefn ein trachwantau, a gwanhâ bôb beth a ymddercha yn erbyn dy ewyllys di, fel y byddom cyfriw ac y mynnit ti i ni fôd.

Gwared ni, O Dduw, oddiwrth brofedigaethau Satan, oddiwrth wenni­aeth y bŷd, oddiwrth drachwantau 'r cnawd, ac oddiwrth ddrwg Siampl y [Page 310] genhedlaeth wyroc, drosaus hon, yr ydym ni yn byw yn ei mysg, fel y gallom redeg ffordd dy orchmynion, heb droi ar y llaw ddeheu, nac ar y llaw asswy.

Ac am nad yw dyddiau ein ymdaith ond drwg ac anaml, a bôd yn angen­rhaid i'n pebyll daiorol ym­ddattodi, Dyro i ni râs i dreulio amser ein ymdei­thiad yn dy ofn di, fel y byddom feirw yn dy ffafr di, pa brŷd, pa le, a pha fodd bynnac y gweli yn dda alw-am danom.

Yr ydym hefyd yn dei­syfu arnat ymhellach, bar­hau, a chwanegu dy fen­dithion ar yr Eglwys a'r [Page 311] Deirnas 'r ydym ni yn byw ynddi, ar berson a llywo­draeth ein Brehin ar ymy­fyrdodau ei Gyngor ef, ac ar ymmunedd a dioddef­garwch pawb a gerydd­wyd â blinder ac adfyd yn y bŷd hwn.

Ac am na haeddent hwy fendithion newydd sydd aniolchgar am yr hên; Yrydym ni yn dy fendi­thio, ac yn dy foliannu di, am dy holl drigareddau, a'th ddoniau a roddaist i ni ar lês ein eneidiau a'n cyrph, tuag at fyw yn y bŷd hwn, ac yn y bŷd a ddaw. Yr ydym yn ddiolch­gar am ein creadigaeth, e holedigaeth, cyfiawnhâd, [Page 312] sancteiddrwydd mewn rhyw fesur, a gobaith siccr o'n gogoneddu gyda thy di yn dy Deirnas. Yr ydym yn ddiolchgar am heddwch ein Eglwys, am iechid ein cyrph, am helaethrwydd ein cyflwr, a llwyddiant ein tylwyth.

Ac yn-awr Sancteiddiol Dâd, gan i bôd yn nos ar­nom a ninneu yn barod i gymmeryd ein esmwyth­dra, i'th ddwylo di yr y­dym yn gorchymmyn ein eneidiau, a'n cyrph, ac oll sydd eiddom, gan at­tolwg i ti, yr hwn wyt Geidwad Israel, ac nid wyt byth yn huno, nac yn cysgu, ofalu trosom; ca­nys [Page 313] onid amddiffynni di ny ni, Satan a'n llyngca ni, ie cysgu a wnawn yn dragywydd ac ni chodwn bŷth i'th foliannu di.

O herwydd pa ham, ni attolygwn i ti fôd yn dda wrthym y nôs hon, yn am­ddiffin ni oddiwrth bôb perigl, a roddi i ni esm­wythdra cyssurus, a'n cy­fodi i'th foliannu yn gwei­thredoedd y dydd y foru, fal y byddych di yn dduw i ni, a ninneu yn blant i ti bŷth. Clyw ni, ac atteb ni yn raslawn, yn ein dei­syfiadau hyn, a phôb peth arall a wyddost di fôd yn angenrheidiol, ac yn fu­ddiol in ni, a hyn oll er [Page 314] mwyn Jesu Grist, yn enw bendigedig a geiriau pwy un y gorffennwn ein gwe­ddiau amherffaith hyn, gan ddywedyd fal i'n dyscodd ef ei hun: ‘Ein tâd yr hwn wyt, &c.

Yn dy wely gorchym­myn dy hûn i dduw, yn geiriau Dafydd.

Mewn heddwch y gor­weddaf, ac yr hunaf: ca­nys ti Arglwydd yn unic a wnei i mi drigo mewn dio­gelwch, Ps. 4. 8.

Edrych a chlyw fi O Ar­glwydd fy nuw: goleua fy [Page 315] llygaid, rhag i'm huno yn yr angeu, Ps. 13. 3.

Felly, pan orweddych nid ofni, ie ti a orweddi, a'th gwsc fydd melys, Di­ha. 1. 24.

Grâs o flaen bwyd.

ARglwydd daionus, maddeu i ni ein holl bechodau, y sawl a'n gw­naethant yn anheilwng o'r lleiaf o'th holl drugaredd­au, Bendithia dy greadu­riaid hyn ar lês ein cyrph, a bendithia ein cyrph ar lês ein eneidiau, a bendithia ein eneidiau a'n cyrph i'th [Page 316] wasnaethu di, er mwyn Grist. Amen.

Grâs ar ôl bwyd.

TY di O dduw, yr hwn a'n creuaist a'th nerth, a'n cedwaist a'th ragweliad, a'n prynnaist a'th waed, ac yn-awr a'n porthaist a'th greadiriaid daionus, i ti y byddo moliant a gogoniant yr awr hon a phôb amser. Amen.

TERFYN.

Llundain, Printiedig i Richard Marriot yn monwent Eglwys S. Dunstan. 1656.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.