Y Gwir anrhededdus Dâd yn Nuw, IAGO VSHER Arch-escob o Armach, ar Priflwydd or Werddon oll.

PRIFANNAU Crefydd Gristnogawl A Llwybraidd fodd byrr or Athrawiaeth o honi

O waith Jago Usher Escob Armagh, A Chyfieithiad Row. Vaughan, Esq.

2 Tim. 1. 13. Dal yn dyn y ffurf ar eiriau purion, yr rhai a glywaist ti gennyf fi, mewn ffydd a chariad yr hon fydd Ynghrist Jesu.

LLVNDAIN, Argraphedig gan Joa. Streater, tros Philip Chetwinde, 1658.

At y Darllennydd.

FY anwyl gydym­deithydd yn y bere­rindod ferr yn hyn o fyd, ti a ddisgwili (yn ol yr arfer) ryw gyfarchiad yn nechreu pob llyfran: we­le yma i ti brawf ar wy­ddorion dy grefydd, dyna y peth rheittiaf yn yr oes hon, (rhaid yw croppian cyn cerdded) nid myned [Page] i lyfr yr offeren, ac yn of­feiriad hefyd, mal yr aeth llawer o Greftwyr yn ddiweddar: fal dyma i ti waith amgenach of­feiriad vn vnionddysg etholedig: os medrai Yr vn om cydnabyddiaeth i errioed ddeall neu ddir­nad pur ddiwehilion ddys­geidiaeth: Ychwaneg o lyfrau eraill i gynnerth­wyo yr vniongrefydd Gymru a gyfieithais i ac a brintiwyd yn ddiwe­ddar, eithr os vn or gre­fydd newydd wyt ti, ath [Page] cydwybod wedi ei ser­rio, ath elustian mal y neidr fyddar, wedi dy rybuddio vnwaith new Ddwy, etto heb amcanu bwrw Y maith dy gau gre­diniaeth, Y mdrobredda yn dy fryntni yn oestadol jnid i ti y scrifennais ac y cymregiais beth o waith Doctor Prideaux Athro r Gadair yn Rhydychen, a Doctor Brough, a Do­ctor Main (rhai a hyde­rid arnynt am ddeong li Gair Duw yn yr oes ddi­waethaf) ond pan aeth [Page] y Rhwygwyr, Y spryd­wyr, y crynwyr y gwrthfedyddwyr yr Anghrogynniaid, ar cro­gynniaid o bresbiteri­aid, i wrteithio r Efen­gyl ac i hau eu hefrau, ac i haeru yn haerllyd mai hwnnw yw r gwenith go­rau, ac wrth fin arfau i anrheithio yr Ecclwys ai Gweinidogion y da ardrwg, mi welwn yn fadws i minnau am cleddyf coch, wedi methu r glas, antu­rio gymeryd Cryman i dorri ymaith y dreiniach, [Page] ar mieri, a dderchafodd i oresgyn ac i orchfygn y gwinwydd melysion; ac er mwyn iti (ddarllenydd mwynaidd) o falu am ochel y gau brophwydi ar bryd­wyr ynfydfodd hynny, a dilyn yr vnionlwybr y gweli di ei ddechrau yna, yr scrifenwyd hyn gan dy gy dwladwr

Parod ith wasanaethu Row. Vaughan.

Gwyddor Gymraeg ir anllythrennog i ddysgu darllain.

Aa Bb Cc Dd Ee Ff ff Gg Hh I L l ll Mm Nn Oo Pp Rr Ss Tt Vu Ww Yy Z, &c. ac felly.

ab c d dd e ff f g h i l ll m n o p r s t u w y z.

A B C D E F G H I L LL M N O P R S T V W Y.

[Page] Ab eb ib ob ub wb yb ac ec ic oc uc wc yb ad ed id od ud wd yd &c.

Y Bogaliaid a e i o u w y. ar lleill eu gyd yw r cyd seiniaid.

Y: sydd a dau swn me­gis yn y gair hynny.

Yn enw yr Tad ar mab ar yspryd glan, Amen.

BOgeiliaid à gald ir gwydd ai gorchwyl
Wna gyrchu gair celfydd
Cydfain gywrain yn geurydd,
Llythrenn au elfennau fydd.
Os ti aflini heb flys ir weithred,
Yr Athro a ddengys,
Dysg rwydd brif dasg a rodd brys
Yw dealliad ewyllys.
Cymer waith fwyniaith i fyned ym mlaen
Moliannus yw r weithred,
Rhag cwympo rhaid croppio crêd
cwyn cywirddoeth cyn cerdded.
Athrylith fendith yn fwynder enaid,
i ynnill vchelder
Trwsioddy Doctor Usher
ir iaith byth Athrawiaeth bêr.
Natur goeth chwilboeth awch helbul oedr an
Wna edrych yn feingul,
ar agwedd yn oer ogul
ar foch a su goch yn gul.
Rhal nadant gwadant roi gwin neu fwy dydd
neu fedydd i fechgin,
Rhwygwyr traws rhegir eu trin
ar Browniaid.—
Gwyn ei fyd ryw bryd gar bron y gwirdduw,
a ger ddo r ffordd vnion
a gochel mal ffel ai ffon
Camwedd a llwybrau ceimion.
Dyddiau a nosau anwesawl pechais
Ym mhob buchodd farwawl,
Dod im ras rhyg as yw r hawl
Duw i farw n edifeiriawl.

Amen, felly y byddo, &

PRIFANNAU Crefydd Cristionogawl yn Drwyaol, Wedi eu gosod ar lawr yn ol gair Duw.

HOL, PA ddiogel sail sydl gennych i adeiladu eich Crefydd arni?

ATTEB. Gair Duw,2 Per. 1. 19. 2 Tim. 3. 51. cynhwysedig yn yr ysgrythyrau.

Holi. Pa beth yw r Scryrhyrau hynny?

Atteb. Ysgrythyrau sanctaidd2 Per. 2. 2. 1 Tim. 3. 10. a scrifennwyd gan Duw ei hu­han, er mwyn athrawiaeth berf­faith iw eglwys.

Hol. Pa beth yr ydych chwi yn e [...] gasglu oddiwath hynny sef fod Duw yn Awdur ir Scrythryrau hynny?

Atteb. En bod gan hynny,Luc. 16. Gal. 1. 8. Esay 8. 20. o argoel tradiogelaf ac vchela awdurdod.

Hol. Pa fodd y maent yn gwa­sanaethu i athrawiaethu yr eglwys yn Berffaith?

Atteb. Yn gimaint ai bod yn ddigonol in hathrawiaethu yn2 Tim. 3. 16, 17. holl byngciau y Ffydd yr rhai y [...] ydyem ni rwym iw credu, ac yn yr holl ddyledion daionus ar yr ydym ni rwym iw harferu.

Hol. Pa beth yr ych yn ei ad­dysguDeut 31. 11, 12. Josu. 8. 35. Joan 5. 39. o hynny?

Atteb. Fod yn Ddyled i ni, ein gwnenthur ein hunain yn gydnabyddys ar Scrythyrau Sanc­taidd hyn, ac naAct. 17. 11. 1 Cor. 4. 6. Dderbynniom vn ddysgeidiaeth heb ei sail ai warrant oddiyno.

Yr ail Brifran.

Hol. Pa beth yw r pwngc cyn­taf o grefydd yr ych chwi iw ddysgu all an o sanctaidd air Duw?

Atteb. Naturiaeth neu anian Duw.

Hol. Pa beth yw Duw?

Atteb. DuwJon. 4. 24. sydd Ysp [...]yd, tra pherffaith,Dudc 18. Act. 17 14. 15. Dih 1. 8. 4. 1 [...] tradouth hol­lalluog a thra sanct [...]idd.

Hol. Pa beth yr ych yn ei [...] wrth alw Duw yn Yspryd? [...] Deut. [...] aduo 12. [...].

Atteb. Nad oes iddo vn co [...] [...] ­ollawl, ac am hynny ni fyddylid i fod ef yn debyg i ddim a ellid ei weled a golwg dyn.

Hol. Pa nifer o dduwian sydd?

Atteb. Un Duw yn vnig eithr tri pherson.1 Tim. 1. 17. Eph 4. 5, 6. 1 Cor. 8. 4. Deut. 4, 35, 39. Math. 28. 19. Joan 5. 7.

Hol. Pa vn yw r persou cyn­taf?

Atteb. Y TadHeb. 1. 35. 1 Pot. 1. 3. Eph. 1. 3. Heb. 1. 6. Joan. 1. 14. Phil. 2. 7. Joan. 5. [...]6. yr hwn sydd­yn cenedlu y mab.

Hol. Pa vn yw'r ail?

Atteb. Y mab cenedledig gan y Tad.

Hol. Pa vn yw r trydydd?

Atteb. Yr yspryd glad yn deilliaw oddiwrth y tad ar mab.Jon. 15. 26. Gal. 4. 6. 1 Jon. 4. 13.

Y trydydd Brifran.

Hol. Pa beth a wnaeth DuwAct. 2. 28. Cap. 15. 18. Psal. 33. 11. Eph. 1. 11. cyn gwneuthur y byd?

Atteb. Efe o flaen holl amfer trwy ei gyngor digyfnewidiol a drefnodd bob rhiw beth a ddig­wyddai.

Hol. Ym mha fodd y cafas yr holl bethan eu dechreuad?

Atteb. Yn nechreuad amser pryd nad oedd i vn creadur,Gen. 1. 1. Heb. 11. 3. Exod. 20. 11. Dud. 4. 11. vn rhiw sylwedd, y creawdd Duw trwy ei air yn vnig, yr holl be­thau mewn ysbaid chwe diwr­nod.

Hol. Pai rai yw r prif gread­uriaid?

Atteb. Angelion a dynion.Heb. 1. 7, 14.

Hol. Pa beth yw naturieth An­gelion?

Atteb. Y maent hwy ollawl yn ysprydawl,Heb. 1. 14. Col. 1. 16. heb vddynt hwy ddim corph.

Hol. Pa beth yw naturiaeth dyn?

Atteb. Y mae ef yn gynwy­sedig o ddwy amriw ran,Gen. 2. 7. Heb. 12. 9. sef corph ac enaid.

Hol. Pa beth yw r corph?

Atteb. Y rhan ddauarol o ddyn oddiallan,Gen. 2:7. Gen. 3. 19. a wnaethpwyd yn y dechreuad o lwch y ddau­ar.

Hol. Pa beth yw r enaid?

Atteb. Yr ysprydol ran i ddyn oddifewn,Eccles. 12. 7. Mat. 10. 28. Dud. 6. 9. 2 Cor. 5. 8. yr hon sydd an­farwol ac ni eill fyth farw.

Hol. Pa fodd y darfu i dduw wneuthur dyn yn y dechreuad?

Atteb. Yn ol ei ddull ai ddelwGen. 1. 26. ei hun.2 Pet. pen.

Hol. Ym mha le yr oedd delw Dduw iw weled yn enwedidiccaf?

Atteb. Ym mherffeiddrwydd ei ddeall,Col. 3. 10. Eph. 4. 24. Eccles. 7. 29. a rhydd-did a sancteid­drwydd ei ewyllys.

Hol. Pe sawl dyn a greywyd yn y dechreuad?

Atteb. Dau Adda y gwr,Gen. 1. 26, 27. Gen. 2. 18. Acts 17. 26. 1 Tim. 2. 23. ac Efa y wraig, oddiwrth yr hyn ddau, yn ol hynny y deilliawdd ac yr hanodd holl ddynawl ryw.

Y pedwerydd Prifran.

Hol. Pa beth y mae Duw yn ei wneuthur yn ol y creadigaeth?

Atteb. Trwy ei ragymweliad y mae ef yn coleddu a llywodrae­thu ei greaduraid,Joa. 5. 17. Nehem. 9. 6. Psal. 119. 91. Heb. 1. 3, 11. Act. 17. 26, 28. Math. 20. 30. Diha. 16. 33. a holl bethau perthynalol vddynt.

Ho. Pa beth a ddigwyddodd i Angelion yn ol eu creadigaeth?

Atteb. Rhai o honynt a arho­s asant yn y flát sanctaidd yn yr hon y creuw yd hwy,2 Pet. 2. 4. Joa. 8. 24. 1 Joa. 3. 8. Math. 15. 32, 41. Joa. 8. 44. 1 Joa. 3. 8. rhai o ho­nynt a gwynpodd ac a ddaethant yn ddiafoliaid.

Hol. A eill yr Angelion da gwympo yn ol hyn?

Atteb. Na allant, eithr hwy a barhant bob amser yn eu sanc­teiddrwydd ai dedwyddwch.1 Tim. 5. 21. Math. 18. 10. Luc. 20. 30.

Hol. A eill yr Angelion drwg fyth ynnill y cyflwr cyntaf a golla­sant?

Atteb. Na chânt ond eu poeni2. Per. 2. 4. Jud. 6. Mac. 25. 41. Dud. 20. 10. Mal. 2. 10. Gen 2. 17. Rhn. 2. 15. yn vffern byth bythol heb ddi­ben.

Hol. Pa fodd y gwnaeth Duw a dyn wedi ei wueuthur ef?

Atteb. Efe a wnaeth gyfam­mod a chyttundeb ac Adda ac ynddo ef a holl ddynawl ryw.2 Pet. 2. 4. Jud. 6. Math. 25. 41. Dad. 20. 10. Mal. 2. 10. Gen. 2. 14. Rhu. 2. 15.

Hol. Pa beth yr oedd dyn yn rhwym iw wneuthur trwy r cyfam­mod hwn?

Atteb. I barhau i fod mor sanctaidd,Luc. 10. 26, 27 Rhu. 7. 7, 12, 14. Gal. 3. 10, 12. 2 Tim. 3. 5. ac y gwnaethai Duw ef yn y cyntaf i gadw holl orchy­mynnion Duw, a byth heb dorri vn o honynt.

Hol. Pa beth a addawodd Duw i ddyn os efe fal hyn a gadwai ei or­chmynion ef?

Atteb. Parhâd ei Ffafor,Gal. 3. 12. Lu. 10. 25, 26, 27, 28. Rhu. 7. 18. Cap. 10. 5. a bywyd tragwyddol.

Hol. Pa beth a fygythiodd Duw wneuthur i ddyn os ef a bechai a thorri ei orchmynnion ef?

Atteb. Ei felldith ofnadwy a marwolaeth dragwyddol.Gen. 2. 17. Gal. 3. 10. Levit. 26. 14, 15, 16. Deut. 18. 15, 16. Gap. 18. 19, 20.

Y pumed Prifran.

Hol. A barhaodd dyn yn yr vfudd-dod hwnnw, yr hyn oedd ddyleddus arno i dduw?

Atteb. Na ddo: Canys Adda ac Efa gan vfuddhâu yn hyt­rach i gyngor y cythrael,Gen. 6. l, 6. Eccles. 7. 29. Joa. 8. 45. Rhu. 5. 14, 15. neg i orchmynnion Duw a fyttasant or pren gwaharddedig, ac felly a gwympasant ymaith oddiwrth Dduw.

Hol. Ai hyn oedd bechod Adda ac Esa yn ving, neu ydym ni yn enog or vnthiw?

Atteb. Nyni oll ydym blant vddynt hwy,Rhu. 5. 12, 14, 15, 16. Gen. 5. 3. ar 8. 2. Psal. 5. 5. Job 14. Rhut. 7. 14, 18, 23. ydym euog or vn­rhiw bechod, Canys ni a becha­som eu gyd ynddynt hwy.

Hol. Pa beth a gynllynodd y pechod yma?

Atteb. Colledigaeth o ddelw Dduw,Eph. 4. 22, 23. Rhu. 3. 21. a llygredigaeth anian a dysodd mewn dyn, yr hwn a el­lwir [Page 9] pechod dechreuol neu gwreiddiol.

Hol. Ym mha beth y mae lly­gredigaeth anian dyn yn Se­fyll?

Atteb. Mewn chwe pheth yn bennaf.

Hol. Pa vn yw r cyntaf!

Atteb. Dallineb ein dealld­wriaeth.1 Cor. 1. 14. Jer. 24. 7. Eph. 4. 17, 18, 19. 2 Cor. 3. 5, 14. Deut. 3. 18. Psal. 119. 16. Dihu. 3. 1. Psal. 106. 21. Rhut. 8. 5, 6. Job 1. 13. Phi. 2. 13. Ephes. 4. 19. yr hwn ni ddichon syn­nied y pethau sydd ò Dduw.

Hol. Pa beth yw r ail?

Atteb. Abergofiad y cof, an­ghymwysi gofio pethau daionus.

Hol. Pa beth yw r trydydd?

Atteb. Gwrthryfelgarwch y meddwl yr hwn sydd at gwbl d­uedd ar bechu ac yn ollawl yn anvfudd i ewyllys Duw.

Hol. Pa vn yw r pedwerydd?

Atteb. Anrhefnedigaeth y chwantau,Rhu. 16. Jac. 3. 15. et 4. 5. megis llawenydd, trymder, cariad, digofaint, ofn ar cyffelib.

Hol. Pa beth yw r pumed?

Atteb. Ofn, a therfy gedd yn y cydwybod, gan enog farnu lle [Page 10] nas dylai, ac escusodi y peth a ddy­lai ei euog farnu.

Hol. Pa beth yw r chweched?Tit. 15. 16. Heb. 10. 22. Rhu. 7. 9. Joan. 16. 2.

Atteb. Pob aelod or corph sy n dyfod yn offeryn parod i wneuthur anwiredd.

Hol. Pa beth yw r Ffrwythau sydd yn deilliaw oddiwrth y llygre­digaeth aniauol hyn?Job 31. 3. Rhu. 6. 13, 19. et cap. 3. 3. 14, 15. 2. Pe [...]. [...] 14. Psa [...]. [...] 57. [...] [...]6. 16, 17. D [...]u. 7. 5. Gal. 5. 19, 20, 21. Math. 15. 19. Math. 12. 34, 35, 36. & cap: 15. 19. Act: 8. 22. Jac. 3. 2. Mat. 25. 42, 43. fay 1. 16, 17. Mar. 7. 21, 22. Deut. 28. 45. Luc. 16. 23, 44 Mat. 25. 41.

Atteb. Pechodau gweithredol, trwy y rhai, y torrwn ni orch­mynnion Duw yn holl yrfa ein heinioes.

Hol. Pa fodd yr ych chwi yn torri gorchymynion Duw?

Atteb. Mewn meddwl, gair, a gweithred, heb wneuthur yr hyn a ddylem ni ei wneuthur, a gwneuthur yr hyn ni ddylem ni ei wneuthur.

Hol. Tan ba ryw gospedigaeth y mae dynol ryw o herwyddei ddech­reuol ni weithredol bechod?

Atteb. Y mae of tan holl bla­nau Duw yn y bywyd hwn, a phoenau didrangcedig yn vffern yn ol y bywyd hwn?

Y pumed Prifran.

Hol. A Ddarfu i Dduw adel dyn yn y cyflwr echrys hyn?

Atteb. Na ddo,Ezec. 16. 6, 6 [...], 62. Zac. 9. Jer. 31. 11. eithr oi i wydd ddihaeddedigol drugaredd, efe a ddaeth i gyfammod newydd a dynol ryw.

Hol. Pa beth yr ydis yn ei gy­nyg i ddyn yn y cyfammod newydd hwn?

Atteb. Gras a bywyd tragwyd­dolRhu. 3. 24, 25▪ Rhu. 5. 15, 16, 17, 19, 20, 21. Eph. 2. 7, 8, 9. 1 Tim. 2. 5, 6. a gynnygir yn rhywdd­rad ir holl rai a gymmodant a Duw, trwy ei Fab Jesu Grist, yr hwn yn vnig yw r cyfryngwr rhwng Duw a dyn.

Hol. Pa beth yr ych chwi iw ystyried yng-CRIST cyfryngwr y cyfammod hwn?

Atteb. Dau beth ei anian, ai swydd.

Pesawl naturiaeth sydd yn­ghrist?

Atteb. Dwy,Rhu. 1. 3, 4. Rhu. 9. 5. Gal. 4. 4. Duwdod, a dyndod, cysylldedig ynghyd mewn vn perfon,

Paham y mae n rhaid i Grist fod yn Dduw?Heb. 4. 14. Pen. 9. 14. Acts 20. 28. 1 Pet. 3. 18. Joa. 2. 19, 21. Eph. 1. 2. Col. 1. 15. 1 Joa. [...]. 20. Rhu. 8. 9. 1 Joa. 4. 13. Col. 2. 13. Rh. 1. 4. Rh. 14. 15. Rh. 8. 34. Joa. 5▪ 25.

Atteb. Mal y byddai ei vfudd­dod ai ddioddefaint o anfeidrol ac aneirif werth, a thaledigaeth, megis yn deilliaw oddiwrth y cyfriw berson a fyddai Dduw gogyfiwch ai dad, mal y gallai orchfygn colyn angan (yr hyn yr oedd ei hûn iw oddef) ac in cy­fodi ni i fynu o farwolaeth pe­chod, tryw anfon ei ysyryd glân in calonnau.

Paham oeddraid i Grist fod yn ddyn?

Atteb. O achos na allai r duwdod mor dioddef, ac yr oedd hefyd yn anghenrhaid,Gal 4. 4. 1 Cor. 15. 21. Heb 2. 13, 16. Rh. 5. 12, 19. Joa. 1. 16. gael or vn anian a droseddasai ddioddes am ycamwedd, a bod ón hanian niyr hon a lygresyd yn yr Adda cyn­taf, i gael ei adferu iw burdeb yn yr ail Adda Crist Jesu ein har­glwydd.

Pa peth yw swydd Crist?

Atteb. I fod yn gyfryngwr rhwng Duw a dyn.1 Tim. 2. 5. 1 Joa. 2. 1. Heb. 12. 24. Job 9. 33. Rh. 8. 3, 4, 10. Gal. 4. 4, 5. Rh. 10. 4. Mat. 5. 17. Heb. 5. 8, 9, 10. Heb. 10. 5, 10. Phil. 2. 7, 8. Joa. 4. 34. Esa. 53. 10, 11. 1. Pet. 2. 24.

Pa beth yr oeddyd yn ei ofyn gan Grist i wneuthur heddwch a chymod rhwng Duw a dyn?

Atteb. Iddo ef roi bodlon­rhwydd am y cyfammod cyn­taf ir hwn yr oedd dyn yn rhwym.

Ym mha fodd yr oedd Crist i roi bodlonrhwydd ir cyfammod cyn­taf?

Atteb. Yn cyflawni y cyfiawn­der yr hyn yr oedd cyfraith Dduw yn ei ofyn gan ddyn, yn dwyn y Gospedigaeth am dorri y gyfraith honno.

Pa fodd y darfu i Grist gyflaw­ni y cyfiawnder hwnnw yr oedd y ddeddf yn ei ofyn gan ddyn?

Atteb. Yn y modd y cafas eiLuc. 13. 5. 1 Pet. 1. 19. Pen. 2. 22. 1 Joa. 3. 5. Esa. 53. 9. Ioa. 8. 29, 46. Pen. 15. 10. Heb. 7. 25, 26. ymddwyn trwy r yspryd glan heb frychewyn o lygredigaeth de­chreuol ac y bu fyw yn sanctaidd holl ddyddiau ei fywyd heb pe­chod gweithredol.

[Page 14] Pa fodd y dygodd ef y gospedi­gaeth yr hon oedd ddyledas i ddyn am dorri cyfraith Dduw?

Atteb. Yn yr hyn y gwnaeth efe ef ei hun yn ewyllysgar ynGal. 3. 13. 21. ar. 2. 23, 24. Esa. 53. 10 11. Mat. 26. 37, 38, 39. Luc. 22. 43, 44. Heb. 5. 7. Phil. 2. 8. Heb. 9. 14▪ 15. ac ad 26. 28. Heb. 10. 20. 12. ar 13. Ioa. 1. 11, 12. sail i felldith y gyfraith, yn gystal yn ei gorph ai enaid, ac a ymo­styngodd ei hun i farwolaeth, gan ei offrwm ei hun ir Tâd yn aberth berffaith am holl bechod plant Duw.

Y seithfed Prifran.

Pa beth a erfynnir ar law dyn am gael donniau yr Efengyl?Joa. 1. 11, 12. Rh. 5. 17. Heb. 36. 14.

Atteb. Iddo ef dderbyn Crist Jesu yr hwn a offrymmodd Duw yn rhâd iddo.

Trwy ba foddion yr ych chwi i dderbyn Crist?

Atteb. Trwy Ffydd,Col. 2. 6, 7. Joa. 1. 12, 13. Pen. 6. 29, 35, 40, 47. Pen. 7. 37, 38. Eph. 1. 13. i gredu addewidion grafusol yr Esen­gyl.

[Page 15] Pa fodd yr ych chwi yn derbyn Crist trwy Fydd?Rh. 5. 17. Heb. 3. 6. Col. 26. 7.

Atteb. Gan ymaslyd y nddo efRh. 9. 30. Ioa. 4. 41, 42, 50, 53. Ioa. 6. 29, 35, 40, 47, 48, 50, 51, 53, 55, 56, 57, 58. Gal. 2. 20. Pca. 3. 27. ai osod ef ai d donian yn gysur im henaid sy hun.

Pa beth yw r prif ddawn cyntaf, yr ym yn el gael wrth dderbyn Crist fal byn?

Atteb. Cyfiawnhâd,1 Cor. 1. 30. 2 Cor. 2. 19, 21. Rh. 5. 11, 16, 17, 18, 19. Rh. 8. 1, 2, 33, 44. (trwy r hyn) ynghrist yr ydis yn ein cy­frif yn gyfiawn, ac felly ein rhy­ddau oddiwrth ddamnedigaeth, a chael diogelwch o fywyd trag­wyddol.

Ym mha beth y sai y cyfiawnhâd hwn?

Atteb. Ym maddenant ein pechodau.1 Ioa. 1. 7, 8. Rh. 4. 3, 4, 5, 5, 6, 7, 8, 9. 1 Cor. 1. 30. Rh. 3. 3, 4. Eph. 1. 7. Esa. 53. 11. ac yn cyfrif cyfiawn­der Crist i ni.

Pa fodd felly y gallwn ni edrych am ein cyfiawnhau yngolwg Duw?

Atteb. Yn vnig trwy haedde­digaethau CRIST JESU,Phil. 3. 9. Rh, 3. 24. Gal. 3. 6. Pea. 2. 16. derby­nedig genym trwy Ffydd.

Pa brifddawn arall yr ym yn ei gael wrth dderbyn Crist?

Atteb. Sancteiddhâd▪ trwy r hyn yr ym yn rhydd oddiwrth greulondeb pechod,1 Cor. 6. 11. 1 Thes. 5. 23. 14. a. 4. Rh 6. 7. Col. 3. 5, 9, 10. Tit. 3. 5, 6, 14. Acts 26. 20. Mat. 3. 8. Acts 2. 26. ac yr adne­wyddir delw Dduw ynom.

Ym mha beth y gwelir y sanctei­ddiad hyn?

Atteb. Mewn edifeirwch ac vsudd dod newydd yn tarddu oddiyno.

Pa beth yw edifeirwch?

Atteb. Ediseirwch ydyw rhodd2 Tit. 25. Ier. 3. 18. 19. 2 Cor. 7. 10, 11. Acts 3. 19. Acts 26. 18. Psa, 119. 111, 112. Duw trwy r hon y gweirhredir cystudd duwiol ynghalon y Ffyddlonniaid, am ddigio Duw eu tâd trugarog am yr anwiri­ddau a wnaethont gyda a chwbl fwriadu ór pryd hynny allan, i ymwrthod ac i arwain bywyd newydd.

Pa beth yr ydych chwi yn ei alw vfadd-dod newydd?

Atteb. Amcaniad gofalus yrLPc. 1. 6, 74, 75. Psa, 116. 6. 1 Pet. 4. 2, 3, 4. 1 Ioa. 3. 3, 4, 5. hyn sydd gan y Ffyddlonniaid i roi vfud-dod diffuantus i holl orchmynnion Duw yn ol me sur y nerth, ar hwn y darfu i Dduw ei nerthu ef.

Pa reoledigaeth sydd inni in cy­farwyddo yn ein vfudd-dod?Exod. 20. 1. Mat. 15. 6, 9. Psal. 119. 105, 106. Deut. 5. 328 Exod. 3. 27, 28. Mat. 22. 37, 38, 39. Mar. 12. 30, 31, 33. Luc. 1, 72. cap. 10. 26, 27. Eph. 4. 24. 1 Tim. 2. 2. Mat. 22. 17, 38.

Atteb. Cyfraith foddol Dduw, cwbl-ris yr hon a gynhwysir yn y deg gorchymynnion.

Pa beth y dy w r (prifrannau or gyfraith hon?

Atteb. Y dyledion ty ag at Dduw, gosodedig i lawr yn y llech gyntaf, ar hyn ddyledus ty ag at ddyn, yn yr ail.

Pa beth yw cwblarch y llech gyn­taf?

Atteb. I ni garu yr Arghwydd ein Duw, an holl galon, an holl enaid ac an holl feddwl.

Pa gynifer o orchymynnion a berthynant ir tabl hwn?

Atteb. Pedwar.Ex. 20. 2.

Pa ddyled a gynhwysir yn y gon­chymyn cyntaf?

Atteb. Fod yn yr holl ner­thoedd oddiffewn,Ad. 2. 3. a chynnedd­fau yr enaid ir gwir dragwyddol-Dduw gael ei groesawn ac ef yn vnig.

Pa ddyled a esodir yn yr ail orchymyn?Ex. 20. 4, 5, 6.

Atteb. Fod holl Foddan Cre­fydd oddiallan a gwasdadol addoliad, iw roddi ir vnrhiw Dduw yn vnig, ac na byddo y gronyn lleiaf o blygu glin y corph, iw roddi i lun neu ddelw, vn ai llun Duw, ai vnrhiw fath arall pa fath bynnac.

Pa beth a ofynnir i ni yn y try­dydd orchymyn?

Atteb. I ni ynghyffredinol dreigl ein dyddiau,Ad 7. arferu Duw (hynny yw ei enwau, ei air, ei weirhredoedd, ei farnedig­aethau, a pha beth bynnac y mynnai ef gael ei adnabod ei hun wrtho) gyd ag anrhydedd, a phob duwiol barch mal ym mhob pethy gallo ef gael dyledus ogoniant iddo.

[Page 19] Pa beth y mae y pedwerydd or­chymyn yn ei erchi?

Atteb. I ni gadw yn Sanctaidd y dydd Sabboath,Exod. 20. 9, 10. gan orphywys oddiwrth gyffredinol drafferta y byd hwn, a chan roddi yr ennyd honno ar orchwylion creiydd yn gystal cyhoeddns, a neilldu­ol.

Pa beth yw cwbl hâd yr ail lech?

Atteb. I ni garu ein cymmydo­gion fal nyni ein hunain.

Pa Orchymynion a berthynant ir dabl hwn?

Atteb. Y chwech olaf?

Pa gyfriw ddyledion a ddango sir yn y pymed gorchymyn yr hwn yw r cynt af or ail dabl!

Atteb. Y cyfriw ddyledion a gyflawnir ag enwedigol barch i benaethiaid, ir tanddeiliaid, ac in cystadlwyr, mal yn enwedig anrhydedd ir holl benaethiaid, vfudd-dod ir cyfriw rai o honynt ac sydd mewn awdurdod, a phob cyfriw ddyledion neillduol, a [Page 20] berthyn i wr neu i wraig tadan a phlant, meistred a gweision, swyddog ar bobl, bugeiliaid ai praidd, ar cyfriw fath.

Pa beth y mae y chweched gor­chymyn yn ei erchi?

Atteb. Amddeffyn a diofal­hauExod. 20. 13. cyrph eugyd ddynion ar holl foddau yn perthyn i hynny.

Pa beth a ofynnir yn y seithfed gorchymyn?

Atteb. Cadwadigaeth diw­eirdeb cyrph dynawl,Ex. 14. o ran y gadwraeth hynny y gorchymyn­nir petiodas ir rhai sydd anghen­rhaid vddynt hynny.

Pa beth a osodwyd yn yr wythfed orchymyn?

Atteb. Pa beth bynnac a ber­thyn i gyfoeth y bywyd hwn,Ex. 20. 15. vn oi on rhan ein hunain, neu o ran ein cymydog. On rhan ein hu­nain i ni lafurio yn ddyfal, mewn galwedigaeth onest, a buddio­gan [Page 21] ein bodloni ein hunain ar cyfoeth a ynnilled yn dda, ai go­sod trwy haelioni i orchwylion da: o ran ein cymydogion, i ni arfer cyfranniad vnion ac hwn­thwy, o herwydd hyn, ac arferu holl foddau a ddichon eu hyffor­ddi yn eu bywioliaeth.

Pa beth y mae r nawfed gorchy­myn yn ei erchi?

Atteb. Arfer o wirionedd yn ein margeinion y naill ar llall yr enwedig,Ez▪ 20. 16. i amddeffyn enw da ein cymydogion,

Pa beth y mae y degfed gorchy­myn yn ei gynwys ynddo?

Atteb. Y mae yn condemnio ac yn hybu holl feddyliau gwib­grwydrus,Ad 17. sydd yn anghyttuno ar cariad sydd ddyledus arnom in cymydogion,Mat. 5. 28. er na bom ni yn ymroi on ewyllys at hynny byth.Rh. 7. 7.

Yr wythfed Prifran.

Pa foddau y mae Duw yn ei arferu i gynnyg donniau ei I Efengyl i ddynion, ac i weithredu a chynny­ddu ei radau ynddynt?

Atteb. Gwenidogarth yr Efengyl oddiallan.Rh. 1. 15 16. Pen. 10. 14, 15, 19, 17. 1 Cor. 1. 21. 3. 6. 2 Cor. 3. cap. 1. 12, 28. Ephes. 4. 11, 12, 13, 14.

Ym mha le yr ydis yn gwneuthur y weinidog acth hon?

Atteb. Y ngweledig Eglwysydd Crist?Mat. 18 17, 18. Acts 11. 26. Pen. 14. 23. Pen 15. 22. Pen. 28. 33, 34. Acts 2. 44, 46, 47.

Pa beth yr ydych chwi yn ei alw yn Eglwys weledig?

Atteb. Cynyllei dfaoddynion sydd yn byw tan foddau iechyd­wriaeth.

[Page 23] Pa beth ydyw r prifbarthau or gwenidogaeth hyn?

Atteb. Cyfranniad y gair ar Sacrameutau.Mat. 28. 19. Acts 2. 41, 42, 44. pen. 20. 7, 17. 1 Tim. 3. 9.

Pa beth yw r gair?

Atteb. Y patth hynny or weinidogaeth oddiallan,1 Tim. 1. 3, 4, 5. sydd yn sefyll yn traddodi neu adrodd y ddy geudiaeth.Pen. 4. 11, 12, 13. Pen. 5. 17. R. 10. 17. 1 Cor. 1. 18. 21, 23, 24▪ Acts 14. 21. Pen. 20. 21, 27, 31, 32. 1 Cor. 1. 8. 1 Tim. 2. 15. Pen. 4 2. Rh. 10. 14, 16.

Pa beth ydyw Sacrament?

Atteb. Sacrament ydywGen. 17. 10, 11. Rh. 4. 11, 12. arwydd gweledig a drefnwyd gan Ddnw i fod yn sêl i gyd­gryfhauPen. 2. 28. 1 Cor. 10. 1, 2, 3, 4. addewidion yr Efengyl i hob gwir aelod i Grist.

Pa beth ydyw y Sacramentan Pen. 23. 24. cap. 12, 13. a ordein wyd gan Grist yn y Testa­ment Newydd?

Atteb. Bedydd a Supper yr Arglwydd.Mat. 28. 19. Pen▪ 26. 26.

[Page 24] Pa beth yw Bedydd?

Atteb. Y Sacrament on cyme­riad cynnhwysedig ir Eglwys,Act. 2. 38, 41, 42. Pen. 8. 36, 37. pen. 1. 5. Tit. 3. 5. Gal' 3. 27, 2 Cor. 1. 13, 15. pen. 12. 13. Heb. 9. 14. yn selio i ni ein genedigaeth new­ydd trwy r Cymun sydd i ni'â Christ Jesu.

Pa beth y mae y defnyddiau neu r elfennau o ddyfr yn y Bedydd yn ei arwyddocâu i ni?

Atteb. Gwaed a haeddedi­gaethauAct. 2. 38. 22. 16. 1 Ioa. 1. 7. Heb. 9 14. 1 pet. 1. 19. Dad. [...]. 5. Dad. 1. 5, 34. Act. 22. 16. Mat. 3. 6, 11. Act. 8. 36. 37. 1 pet 14. Jesu Christ ein Har­glwydd ni.

[Page 25] Pa beth y mae glanhau y corph yn ei arwyddoccau?

Atteb. Glanhau yr enaid trwyMat. 3. 6, 11. Act. 8. 36, 37. Dad. 1. 5. 34. 1 Pet. 14. faddeuant pechodau ac ym wisgo a chyfiawnder Crist?

Pa beth y mae ein bod tan y dyfr an rhyddhau oddiwrtho drachofn yn ei arwyddoccau?

Atteb. Ein marw i bechod,Rhu. 6. 4, 5, 6. Col. 1. 11, 12. 1 pet. 3. 21. trwy rym marwolaeth Crist, an bywhau drachefn i gyfiawnder trwy ei adgyfodiad ef.

Pa beth yw Swpper yr Ar­glwydd?

Atteb. Sacrament on cynha­biaeth yn yr Eglwys yn selio i in ein porthiant ysprydol,Mat. 26. 26, 27, 28. 1 Cor. 11. 2 [...], 23, 24, 25, 26. 1 Cor. 10. 1 [...]. pen. 12. 13. an cynnydd cyfanneddol ynghrist.

[Page 26] Pa beth y mae y defnyddiau fara a Gwin yn Swpper yr Ar glwydd yn ei arwyddoccau ini?

Atteb. Corph a gwaed Crist.Mat. 26. 26, 2 [...]. 1 Cor. 10. 25, 50, 51. pen. 16. 11. 20, 23, 24. 26. Ioa. 6. 33.

Pa beth y mae torraid y Bara a thywallt y gwin yn ei arwyddoc­cau?

Atteb. Y dioddefaint trwy r hynny torrwyd ein Iachawdwr am ein anwireddau ni,Mat. 26. 26, 28. 1 Cor. 11. 24, 25, 26. Esa. 53. 5, 6, 11, 12. tywall­diad ei waed gwerthfawr, a thy­wallt ei enaid ef allan i farwo­laeth.

Pa beth y mae derbyn y bara ar gwin yn ei arwyddoccau?

Atteb. Derbyn Crist trwy Ffydd.1. Cor. 10. 16, 17. pen. 12. 13. Ioa. 1. 12. pen. 7, 37, 38, 40. 6. 27, 29, 35, 36, 40, 48, 43. 2 Cor. 13. 5. Ephes. 3. 17 Heb. 3. 14.

[Page 27] Pa beth y mae y lluniaeth yr hwn y mae ein corph yn ei dderbyn trwy rinwedd yr ymborth hwn oddiallan, yn ei selio ai wrantu i ni?

Atteb. Y maeth perffeithgwbl,Ioa. 6. 3 4, 50, 51, 54, 56, 57, 58. Eph. 4. 16. Eph. 3. 17. ar cynnydd bennyddiol o nerth, yr hwn y mae y dyn oddifewn yn ei fwynhau trwy rinwedd y Cymmun a Christ Jesu.

Y nawfed Prif­ran.

Pan ddiweddo yrfa y bywyd hwn, pa beth a fydd cyflwr dyn yn y byd a ddaw.

Atteb. Pob vn a obrwyi yn ol y bywyd a arweiniodd.Heb. 9 27. 2 Cor. 5. 8, 9, 10. Eccles. 12. 7. Sef a delir iddo yn ol ei haeddediga­eth.

Pe sawl math or farn hon sydd?

Atteb. Dwy fath,Gen. 3. 19. Act. 17, 31. vn yn neill­duol, ar llall yn gryffredinol.

Pa beth a elwch chwi y farn neillduoll?

Atteb. Yr hon yr ydis yn ei roi ar enaid pob dyn,Eccl. 12. 7. Heb. 9. 27. cyn gynted ac ymadawo ef ar corph.

[Page 29] Pa beth yw cyflwr enaid dyn hwy n'gyntaf ac yr ymadawo ar byd yma?

Atteb. Eneidiau plant Duw yn ebrwydd a dderbynnir ir nef,Luc. 16. 22, 25. p [...]n. 23. 43. Dad. 14. 13. Esa. 57. 1, 2. yno i feddianu gorfoledd an­rhaethadwy;2 Cor. 5. 6. 8. 1 Pet. 3. 19. eneidiau y rhai drygionus a anfonir i vffern,Esa. 22. 14. Ioa. 8. 24. yno i oddef poenau didrangcedig.

Pa beth yr ydych chwi yn ei alw y farn gyffredinol?

Atteb. Yr hon y mae Crist ynMat. 13 40, 41, 42, 43, 49, 50. pen. 19. 28. pen. 24. 30, 31. pen. 25 31, 32, 33, 46. ei fawredd parchedig yn ei roi ar bob dyn oll at vnwaith pan dde­lo ef yn y dydd olaf, gyd â gogo­niant ei dâd: âr holl ddynion ar a fu eirioed ynghyd oi fla [...] yn [...]y [...]al mewn corph ag enaid pa yn bynnac a fyddont ai byw aiHeb 1 11. pen. 3, 19, 21. pen. 17. 31. 1 Cor. 4. 15. 1 Cor. 15. 52. 1 Tim. 4. 1. 1 Cor. 3. 15 1 Pet. 5. 4 2 Thes. 1 7, 8. 2 Pet. 2. 10. 1 Thes. 4. 16. Ioa. 4 27▪ marw.

[Page 30] Pa fodd yr ymddengys y meirw flaen gorsed-faingc Crist?

Atteb. Y cyrph y rhai oedd vddynt yn amser eu bywyd,Job 19. 25, 26, 27. Dan. 12. 2, 3. Joa. 5. 28, 29. Joa. 11. 24. 1 Cor. 15. 12, 13, 14, 32, 50, 51. trwy ollallnog nerth Duw, a adferir vddynt drachefn, ac au bywheir ai heneidiau, felly y bydd adgyfo­diad oddiwrth y meirw.

Pa fodd yr ymddengys y rhai byw?1 Thes. 4. 14, 15, 16. Dad. 20. 12, 13.

Atteb. Cynnifer ac a syddo y pryd hynny yn aros yma n fyw,1 Thes. 4. 15, 16. 17. 1 Cor. 15. 51, 52, 53. a gyfnewidir wrth amrantyn lly­gad▪ yr hyn a fydd vddynt yn lle marwolaeth.

Pa farn a lefara Duw ar y cy­fiawn?

Atteb. Deuwch chwi fendige­digMat. 25. 41. Rh. 2. 0, 9. 2 Thes. 1. 9, 10. Rh. 2. 7, 10. Da. 22. 14. blant fyn nhad etifeddwch y deirnas a barotowyd i chwi cyn sei­lio y byd.

[Page 31] Pa farn a adroddir ar y dry­gionus?

Ewch oddiwrthyf fi felldige­digMat. 25. 41. Rh. 2. 8, 9. 2 The. 1. 8, 9. Dad. 22. 15. ir tân tragwyddol yr hwn a ddarparwyd i ddiawl ai Angeli­on.

Pa beth wedihynny?

Atteb. Crist a rydd i fynu ei deyrnas iw dâd a DUW a sydd oll yn oll.

Diwedd.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.