Volet hæc sub luce videri,
Judicis argutum quæ non formidæt acumen.

Y Llwybraidd-fodd Byrr O Gristianogawl Grefydd, Gyd Ag adroddiad hynodol o ryw fannau o Athrawiaeth, or hyn, (er mwyn eglurwch) a grybwyll­wyd yn y Llyfran or blaen.

Heb. 6. 1. Am hynny gan adael yr Athra­wiaeth o ddechreuad Crist &c.

Gwaith Jago Usher Escob Armagh, A Chyfieithiad Row. Vaughan, Esq.

LLUNDAIN, Argraphedig gan Joan Streater, tros Philip Chetwinde, 1658.

Y Llwybraidd­fodd o Gri­stianogawl Gre­fydd.
Y modd ar Athrawiaeth or Gre­fydd Gristnogawl.

PA gyfriw reol a adawyd i ni er mwyn ein hyfforddi­ad mewn vnion wyboda­eth or wir Grefydd, trwyr hon y rhaid i ni fod yn gadwe­dig?

[Page 2] Atteb. Yr Scrythyrau San­ctaiddEph. 1. 6. 2 Pet. 12. 1. 2 Tim. 3. 15, 16. or Testament hên a ne­wydd, yr rhai a roddodd Duw i ni, trwy weinidogaeth ei weisi­on y prophwydi ar Apostolion, i adrodd yn berffaith i ni yr holl bethau anghenrhaid i ni iw wy­bod mewn matterion o Gre­fydd.

Pa rai yw prij‘ byngciau▪ Cre­fydd, yr rhai yn yr Scrythyrau san­ctaidd hyn a draddodwyd i ni?

Atteb. Gwybodaeth o anian Duw ai Deirnas.

Beth sydd i ni iw ystyrried yn anian Duw?

Atteb. Yn gyntaf, ei Fodiad Psa 103. 8. 1 Cro. 29 11. neu ei sylwedd, y rhai nid ydynt ond yr vn, ac yno y personau y rhai ydynt dri o rif.

Pa beth a ystyrriwch mewn bo­dad gaeth Duw neụ ei vndod?

Atteb. Ei berffeithrwydd ai fywyd.

Pa fodd y mae i ni ddirnad [...]nPsa. 1. 45. 3, 4, 11, 13. Dduw o herwydd ei berffeith­rwydd.

[Page 3]Ei fod ef yn yspryd tra vnig acMat. 6. 13. Col. 1. 19. Heb. 1. 3. anfeidrol, ai sylwedd o hono ei hunan, heb arno eisiau dim oddi­allan iddo ef.

Pa ham y gelwch chwi Dduw yn yspryd?

I fynegi fod ei hanfod yn gy­friw1 Jo [...]. 5. 7. Jo. 1 24. 1 Tim. 6. 16. nad oes vn corph iddo, ac nid yw sail i vnrhiw anwydau oddiallan, na roddom le i vnrhiw wael feddylfryd am ei Fawrhydi, i seddwl ei fod yn debyg i vn­rhiw beth a ellir ei weled gan olwg dyn.

Beth a ddeallwch chwi wrth yr vnigrwydd neu r symlrwydd o ani­an Duw?

Nad oes na rhannau na chyn­neddfauMal. 3. 6. Gal. 1. 17. ynddo, nad yw y cwbl sydd ynddo yn Dduw, a holl han­fod Duw.

Beth a gesglwch o hyn?

Na eill ef nag ymrannu nag ymgyfnewidio, eithr yn parhau yn oesdadol yn yr vnrhiw gyflwr heb gyfnewidiad vn amser.

Am ba herwydd y gelwch h [...] fod Dun yn anfeidrol?

Atteb. Am ei fod yn anfesu­redig▪, yn gystal am amser a lle.

Pa fodd y mae Duw yn ddiangol oddiwrth oll sesur o amser?

Y modd y mae yn dragwy­ddolDad. 1. 8. Psa. 92. 91. 2 Pet. 3. 8. Joa. 8. 5, 8. Heb. 13. 9. 1 Bren. 8. 27. Ps. 145. 3. Jer. 1. 23, 24. Jer. 23. 24.. heb ddechr [...]uad ac heb ddiwedd, heb na hynach nag ie­u [...]ngach ac iddo holl bethau yn bresennol, iddo ef nid o flaen neu ôl, aeth heibio neu i ddy­fod.

Pa fodd y mae yn anherfynol o herwydd eî le?

Atteb. Yn hynny y mae ef yn llenwi holl bethau a lleoedd, yn gystal oddifewn ac oddiallan ir byd, yn brefennol ym mhob lle, yn gynnwysedig yn vnlle.

Pa fodd y mae ef yn bresennol ym mhob lle? oes iddo ef vn rhan o hono ei hun yma ac vn arall yno?

[Page 5] Atteb. Nag oes canys nid oes iddo ef ddim rhannau, ac am hyn­ny rhaid iddo fod yn gyfin lle bynnac y byddo.

Pa beth a elwch chwi yn fywyd i Dduw?

Atteb. Hynny yw trwyr hwnDeu. 10. 6. Pen. 30. 40. Jo. 3. 10. Heb. 10. 31. 1 Tim. 4. 16. Pen. 5. 17. y mae yr anian dwywawl mewn gweithrediad gwasdadol, tra­syml, ac yn ei symud ei hun yn anherfynol, o herwydd hynny mae yr Scrythyr yn ei alw ef y Duw byw.

Beth a gesglwch chwi yn cyffel­ybn yr anherfynoldeb hwn ar syml­rwydd (neu vnigrwydd) o Anian Duw, ai fywyd ai gynhyrfiad?

Atteb. Hynny sef: pan fyddoDih. 8. 14. 1 Joa. 4. 17. Esa. 43. 25. n [...]rth, cyfiawnder, a thrugaredd yn adroddedig am Duw, rhaid i ni ddeall eu bod hwy ynddo ef heb fesur oll, ac ymhellach, nad ydynt hwy amriw rinweddau ar rhai y mae ei Anian ef yn gyn­neddfol; eithr nid ydynt hwy oll a phob vn o honynt ddim arall ond Duw ei hun, ai hanfod gyfan.

Ym mha beth y mae bywyd Duw yn ei ymddangos ei hun?

Atteb. Yn ei holl Ddigonol­rhwyddJer. 31. 17. Dih. 8. 14. Jer. 1. 10. ai Ewyllys Sanctaidd.

Ym mha beth y mae ei ddoethi­neb yn sefyll?

Mewn gwybodaeth perffaithPe. 42. 19. Pe. 13. 13. Jo. 9. 4. or holl bethau, vn ai sydd neu á eill fod.

Ym mha fodd y mae Duw yn gwybod yr holl bethau? ydyw ef fol yr ydym ni yw gweled vn peth ar ol y llall?

Nag ydyw, eitht ag vn golygiad,Psa. 147. 5. Dih. 8. 12 Jer. 8. 10. Heb. 4. 19. y mae yn canfod yr hol bethau yn wahanredol, pa vn bynnac ai we­di myned heibio, ai presennol ai i ddyfod.

Pa fodd y mae Dum yn oll-all­uog?

Atteb. Am fod iddo allu iJoa. 36. 14. Dad. 18. Mat. 19. 26. Luc. 1. 37. ddwyn i ben oll bethau a ddic­hon fod, pa wedd bynnac yr ymddangosont yn amhossibl i ni.

Ym mha le y gwelir sancteidd­rwydd ei ewyllys ef?

[Page 7] Atteb. Yn ei ddaioni, ac yn eiMarc. 14. 36. Jo. 4. 16. Psa. 33. 5. 1 Tim. 4 1. 0. Ps. 145. 7, 8, 9, 17. Deu. 32. 4. fiawnder.

Ym mba le y mae yn dangos ei ddaioni?

Atteb. Yn bod yn fuddiol a haelionus iw holl greaduriaid, a chan ddangos trugaredd vddynt, yn eu trueni.

Ym mha beth y dengys ef ei gy­fiawnder?

Atteb. Yn gystal yn ei air, ac yn ei weithredoedd.

Pa fodd y dengys ef gyfiawnder yn ei air?

Atteb. O herwydd bod y gwi­rionedd o hyn yn ddiam­mau.

Ym mha fodd y dengys ef gysi­awnder yn ei weithredoedd?

Atteb. Wrth dresnu r hollJob 34. 10, 11. Deu. 32. 4. Ps. 145. 17. bethau yn vnion a rhoddi ir holl greaduriaid yn ol ei gweithre­doedd.

Pa beth a elwch chwi personau yn y Duwdab?

[Page 9] Atteb. Y cyfriw ac sydd v­ddyntRhu. 2. 2. D [...]d. 5. 6. Dad. 22. 12. 1 Pet. 1. 17. Psa. 11▪ 5. yr vn hanfod neu gogysu­wch yn gyffredin a wahanredir (nid gwahenir) vn od [...]iwrth y llall trwy ryw anghyffredinol briodoldeb.

Pa fodd y digwydda hyn fod amriw bersonau yn y Duwdab?

Atteb. Er bod bodadigaeth a hanfod y Duwdod yn vnrgiw a thra syml, mal y mymegwyd, etto modd yr han od nid yw vnrhiw, ac oddiyma y cyfyd gwahanre­diadau y personau, yn hyn, heb law yr hanfod sydd gyffredin vddynt oll ar vnrhiw yn oll, y mae i bob vn rhyw hynodol briodoldeb, yr hyn ni eill fod yn gyffredin ir lleill.

Pa rai yw r Personau hyn a pha rai yw r priodoliaethau perso­nol?

Atteb. Y yerson cyntaf mewn trefn ydyw r Tâd yr hwn a gen­hedla y mab, yr ail yw r mab▪ cenedledig gan y Tâd, y trydydd yw r yspryd glân yn deilliaw oddiwith y tâd ar mab.

Ydyw Duwdod y Tâd yn cenedlu Duwdod y mab?

Atteb. Nag ydyw, eithr per­son y Tâd a genedla berson y mab.

Hyn yma am Anian Duw, beth ydym ni iw ystyrried yn ei deir­uas?

Atteb. Yn gyntaf, yr ordinhad a wn ethbwyd o dragwyddoldeb ollawl, ac yno▪ ei wnenthur, yr hyn a gyslawnir mewn am­ser.

Pa fodd y gwaethhwyd yr or­dinhad?

Atteb. Yr holl bethau mewn amser a gaenr ddyfod i ben, gyd a phob amgylchiad perthynasol ar hynny, a ordeiniwyd i fod felly er tragywyddoldeb oll, drwy sicr a digyfn [...]widiol gyngor Duw.

A ddarfu i Dduw▪ felly cyn iddo wneuthur dyn, ragluniaethu g [...]dw rhai a gwrthod eraill?

[Page 8] Atteb. Do yn ddiammau, cyn2 Tim. 1, 19. Rhu. 9. 11, 21, 22, 23. Mat. 25. 34, 41. 2 Tim. 20. 1 Thes. 3. 6. vddynt wneuthur vn ai drwg ai da Duw yn ei gyngor tragwy­ddol a osododd rai or neulldu, ar yr rhai mewn amser y tywalldai gyfoeth ei drugaredd ac a Fwria­dodd attal hynny oddwrth eraill, ar yr rhai y dangosai ef greulon­deb ei ddigofaint.

Pa beth a gynhyrfai Dduw i wneuthur y rhagoriaeth hyn rhwng dyn a dyn?

Atteb. Yn vnig oi ewyllysRhu. 9. 11, 21, 22, 23. Dih. 16. 4. Mat. 11. 25, 26. Eph. 1. 11. Jud. 4. ei hun, trwy r hyn gwedi iddo arfaethu creu dyn iw ogoniant ei hun, yn gimaint ac nad oedd rwymedig i ddangos trugaredd i uebryw, ac y cai ei ogoniant ymddangos yn gystal yn gwneu­thur cyfiawnder ac yn dangos trugaredd. fe welodd ei nefol ddoethineb fod yn dda ddewis allan rhyw gysrit tu ac at y rhai yr estynnai ef ei drugaredd di­haeddedigol, gan adael y lleill i fod yn wrthddrychau oi gyfi­awnder.

Ym mha beth y mae cyflawniad [...]dinhad Duw yn sefyll?

Atteb. Yngweithredoedd y creadigaeth a rhagluniaeth.

Ym mha fodd yr oedd y creadi­gaeth?

Atteb. Yn nechreuad amser,Ps. 148. 4. Neh. 9. 6. Heb. 11. 3. Gen. 2. 1, 2, 3, 4. Exo. 20. 11. Pen. 31. 17. Col. 1. 10. Gen. 1. 4, 31. cyn bód sylwedd i vnrhyw grea­dur, Duw trwy ei air yn vnig yn yspaid chwe diwrnod a gre­awdd yr holl bethau, yn gystal gweledig ac anweledig, gan wneuthur pob vn o honynt yn dda yn ei ryw.

Beth yw r prif greaduriaid a or­diniwyd i gyflwr tragwyddol.

Atteb. Angelion ollawl ysprydawl ac heb gyrph. A dyn yn cynwys dwy ran, y corph yr hwn sydd ddauarol, ar yspryd, yt hwn sydd ysprydol, ac am hyn­ny nid yn sail i farwoldeb.

O herwydd pa beth y dwedir fod dyn wedi ei wneuthur ar gyffelybbiaeth a llun Duw?

Atteb. O herwydd perffer­thrwydd gallu yr enaid yn hyno­dol, yn enwedig doethineb y meddwl a gwir sancteiddrwydd ei ewyllys rhydd.

Pa fodd yr ych chwi i ystyrried o Ragweliad Duw?

Atteb. Mal y mae yn gyffre­din i'r holl greaduriaid, yr rhai trwy hynny a gynhelir yn eu syl­wedd, ac a drefnir yn ol ewyllys yr Arglwydd, ac mal y mae yn hynodol yn berthyna fol i gyflwr tragwyddol y creaduriaid pen­naf, sef Angelion a dynion.

Pa beth yw r hyn sydd yn per­thynu i Angelion?

Atteb. Rhai o honynt a bar­haodd yn y cyflwr bendigedig, yn yn hwn y creausid hwynt, [...]o a gyfnerthwyd trwy tâs Duw i fod felly yn dragywydd, eraill nis cadwasant, eithr a ymadawson a hynny yn ewyllysgar, ac am hyn­ny [Page 11] a gondemnwyd i boenedi­gaeth dragwyddol yn vffern heb obaith o ddychwelyd.

Pa fodd y trefnwyd cyflwr dynol ryw?

Att. Yn y byd hwn y mae ynGal. 3. 10, 11, 12, 13, 14. Rhu. 27. Pen. 10. 12. Mat. 25. 31, 32. dal with gyfamod deublyg, ac yn y byd a Dduw trwy adroddiad y farn ddeublyg.

Pa vn yw'r cyntaf or cyfamo­d [...]u hyn?

Atteb. Y gyfraith, neu y cyfa­modGo. 2. 3, 9. Pen. 31. 17. Go. 3. 7, 11; 17, 20, 24. Da. 2. 2, 7. Dih. 3. 18. o weithredoedd, trwy yr hwn y mae Duw yn addo bywyd tragwyddol i ddyn trwy ammod y cyflawno gwbl gyfan berffaith yfudd-dod iw gyfraith ef, yn ol y nerth a gawsai ef trwy natur ei greadigaeth, ac yn yr vn ag­wedd yn bygwth marwolaeth iddo ef, oni chyflawna ef hyn­ny.

Pa sel a arferodd Duw, er mwyn cryfhau ei Gyfammod?

Atteb. Y Ddau Bren a blan­nodd ef ym Mheradwys, vn am y bywyd ar llall am wybodaeth [...] da ar drwg.

Pa beth yr oedd Pren y bywyd yn ei arwyddoccau?

Atteb. Y cai ddyn ddiogel­wch o fywyd tragwyddol, os par­hau ef yn ei vfudd-dod.

Pa beth yr oedd y Pren o wybo­daeth or da ar drwg yn ei arwy­ddoccau?

Atteb. Os cwympai ddyn o­ddiwrth vsudd-dod, y cai ef yn ddiammau ei Gospi a marwo­laeth dragywyddol, ac felly gwy­bod wrth brofiad yuddo ei hu­nan, beth oedd ddrwg, megis or blaen y gwyddai wrth brawf yr hyn yn vnig oedd dda.

Pa beth a ddigwyddodd or cy­fammodhwn?

Atteb. Trwy vn dyn y daethRhu. 5. 12. pechod i mewn it byd, a marwo­laeth trwy bechod, ac felly yr aeth marwolaeth tros holl ddy­nion, yn gimaint ac i holl ddyni­on bechn.

Pa beth a ddigwyddodd or cy­fammod hwn?

Atteb. Lle y darfu i DduwGal. 1. 3. fygwth ein rhieni cyntaf, pa ddydd bynnac y bwyttaent or Pren gwaharddedig y caent hwy farw yn ddiau, hwynt hwy gan goelio yn hytrach air y cythrael na chaent farw, a chan gyfuno ai gabledd gwarthlawn ef: trwy r hyn yr haerai fod Duw yn cyn­figennu wrth eu cyflwr, megis pe buasai o ran hynny yn gorafun y Ffrwth, rhag wrth fwyta o hono y digwyddent i fod mal Duw ei hun, hwy aethant i mewn i wei­thred o wrth ryfelgarwch yn er­byn yr Arglwydd ai gwnaethai, ac yn egored a dorrasant ei or­chymyn.

Beth a ganlyn o hyn yma?

Atteb. Yn gyntaf llygrediga­ethGal. 1. 14. Gal. 5. 19. Col. 203, 9, 10 natur a elwir pechod de­chreuol yn myned trwodd o dad i fab mewn etifeddiaeth barhaus, ar hyn y mae holl allu yr enaid ar corph yn haintiedig, a hynny mewn holl ddynion yn vu ag­wedd, [Page 14] ac oddiyno y mae pechod gweithredol yn tarddu.

Dangoswch ym mha fodd y mae prif nerthoedd yr enaid wedi eu diwno trwy y llygred gaeth hyn on Hanian?

Atteb. Yn gyntaf, y deall aTit. 1. 15. ddallodd gan anwybodaeth, ac anghrediniaeth, yn ail y mae r cof yn hylithr i anghofio yr hyn a ddeallo y synwyr, yn drydydd y mae r ewyllys yn anufuddol i ewyllys Duw, a ddeallir ac a go­fir genym, y rhydd dyd ar san­cteiddrwydd yr hyn oedd iddo yn y dech [...]euad wedi ei golli, ac y mae yr awrhon yn tueddu ol­lawl i bechu yn bedwerydd, y mae r anwydan yn barod i reoli yr ewyllys, ac ydynt sail i bob anrhefn, yn olaf y mae y cydwy­bod ei hunan wedi ei amharu ac lygru.

Ym mha wedd y mae r cydwybod mal hyn wedi ei amharu?

[Page 15] Atteb. Gan fod y dyledionRhu. 2. 15. Joa. 8. 9. Rhu. 14. 23. sydd arno yn ddeublyg yn enwe­dig i roi hyfforddiad i wnenthur pethau, ac i roi yn gystal testio­laeth a barn mewn pethau a wnaethbwyd, am y cyntaf ni rydd ddim hyffordiad mewn vn modd, ac wrth hynny yn peri i ddyn bechn yn gwneuthur rhyw weithred, fodd arall yn dda ac yn gyfreithlawn; weithiau fe rydd hyfforddiad, eithr ar ffordd gam ac felly bod yn arweinydd dall, gan wahardd wneuthur pethan y mae Duw yn fodlon vddynt, ac yn gorchymyn gwneuthur pe­thau y rhai y mae Duw yn ei wahardd. Am yr ail ni rydd ef vn farn yn y byd, na rhoi haer ir tro­seddwr fel y dylai, eithr bod ynGal. 1. 4. 1 Chron. 13. 9. Ioa. 16. 2. Eph. 4. 1 [...] 16. 1 Tim. 4. 2. Col. 2. 22. Rhu. 7. 9. Dih. 8. 21. Act. 28. 26. fud ac megis wedi ei serrio a hauarn poeth, y mae weithiau yn rhoddi barn eithr gan farn, gan euog arnu lle y dylai escusodi, ac escusodi lle dylai euog farnu, felly yn llenwi y meddwl ag ofn geu­ol, neu ei borthi ef a chussurau gwag ofer: eithr yn anghussurus [Page 16] ac ofnadw yn poeni yr enaid e­uog megis a Fflamman o dân vffern.

Pa rai yw rhywogaethau pecho­dau gweithredol?

Atteb. Y cyfriw ac ydynt oddi­fewnJa. 2. 14, 15. Eph. 2. 3. ym meddyliau y meddwl a thrachwantan y galon, neu oddi­allan mewn gair neu weithred, trwy r hyn y gwnair y pethau, a ddylasit peidio ai gwneuthur, ar pethau hynny heb wneuthur a ddylasid en cwblhan.

Po beth yw r farwolaeth y mae pob dyn yn sail iddi o herwydd y pe­chodau yma?

Atteb. Melldith Duw, yn gy­stalRhu. 7. 10. Eph. 2. 3. Mat. 5. 28. Es. 1. 16. ar y pethau a berthynant v­ddynt y cyfriw ydynt eu gwra­gedd ai plant, anrhydedd, meddi­annau, arfer o Greaduriaid Duw) ac ar eu cyrph eu hunnain yn eu­bywyd ai marwolaeth.

Pa beth yw r melldithiau yr rhai y maent hwy yn sail ac am­lygyn vddynt yn y bywyd hwn?

Atteb. Holl gystuddian amse­rolDeut. 28. 21, 22. Lev. 26. 16, 17. Jo. 5 14. yn gystal mewn corph (yr hwn sydd sail i aneirif o glefy­dau) mewn enaid, yr hwn a heintir weithian a gwallgofiad neu ynfydrwydd, weithiau a dychryn cydwybod euog, weithi­au a chydwybod mud somedig, weithiau a chaledwch calon, yr hon ni eill edifararhau: ac yny, diwedd ac alldudrwydd ysprydol tan allu y byd ar Cythrael.

Pa beth yw r farwolaeth a gan­lyn y bywyd gresynus hwn?

Atteb. Yn gyntaf nenllduaethLuc. 16. 23, 24 [...]9. Da [...]. 21. 8. [...] Tho. 1. 6. yr enaid oddiwrth y corph, ac yno; neullduaeth a gwahaniad nagwyddol or dyn cyfan oddi­wrth bresenoldeb Duw, gyda phoenan anrhaethadwy yn nhàn yffern yn ddi-drangcedig, yr hon yw yr ail farwolaeth.

Os ydyw holl ddynol ryw yn sai ir ddamnedigaeth hon pa fodd ga hynny y caiff vn dyn fod yn gadwe­dig?

Atteb. Yn siccr trwy y cyfam­mod cyntaf yma or gyfraith, niRh [...]f 3. 19, 20. Pen. 8. 3. Gal. 2. 16. Pen. 3, 10, 11, 12, 21, 22. eill vn cnawd fod yn gadwedig, o ran y mae yn rhaid i bob vn dderb yn ynddo ei hunan y farn o ddamnedigaeth: etto yr Arg­lwydd gan ei fod yn Dduw o drugaredd ni adawodd mo ho­nom, eithr a ddaeth i fewn ail gyfammod a dynol ryw.

Beth yw r ail cyfammod?

Atteb. Yr Efengyl neu y cy­fammodEph. 2. 3, 4, 5. Gal. 3. 10, 17. Io. 1. 12. Rhu. 5. 17. Ep. 2. 13, 14. o Râd, trwy r hyn y mae Duw yn addo bywyd trag­wyddol i ddyn, tan ammod iddo ef gymodi ag ef ynghrist: canys mal y mae yr ammod or naill, barhâd y cyfiawnder hwnnw, yr hyn oedd i fod ym mherson dyn ei hun; felly cyflwr yr ail gyfam. mod yw mwynhau y cyfiawnder [Page 19] hwnnw yr hyn a gair oi du al­lan ym mherson y cyfryngwr Je­su Grist.

Beth a ddlem ni ei ystyrried yn­Grist ein Cyfryngwr?

Atteb. Dau beth ei Anian aiRhu. 2. 21. 22. Jo. 10. 3. Psa. 3. 9. swyydd.

Pa nifer o Anianoedd sydd yn­Ghrist?

Atteb. Dwy, y Duwdod ar Dyndod: yn aros yn gyfannedd wahanredol yn eu sylwedd, prio­doliaethau, a gweithredoedd.

Pa nifer o bersonan ydynt iddo ef?

Atteb. Un yn vnig yr hwn yw person mab Duw▪ canys yr ail person yn y Drindod, a gy­merth arno nîd y person ond anian dyn; sef corph ag enaid rhesymol, yr hyn nid yw yn sefyll yn vnig (megis y gwelwn mewn [Page 20] dynion eraill) eithr ydynt yn gy­fan gynwysedig ym mherson mab Duw.

Beth ydyw r deunydd neur arfer or vndeb rhyfeddol hwn, or ddwy anian mewn vn person?

Atteb. Yn ol in hanian ni gael ei gymeryd i vndeb y person o fab Duw, y dioddefiadan ar v­fudd-dod a gyflawnwyd a ddaeth o anherfynol haeddigol werth▪ gan ei ddioddefaint ef yr hwn oedd Dduw gogyfuwch ar Tad.

Pa bethyw swydd Christ?

Atteb. I fod yn gyfryngwr1▪ Tim, 2. 5. rhwng Duw a dyn.

Pa ran oi swydd a arferodd ef yn berthynasol i Dduw?

Atteb. Ei Offeiriadaeth.

Pa rai ydynt rannau ei swydd offeiriadol?

[Page 21] Att. Bodlonrhydd i gifiawn­derHeb. 2. 7. Pe. 5. 1. Ar. 7. 24. Duw, ai gyfryngdod.

Beth a ofyunir gan Grist i dalu iawn neu fodlonrhwydd am Gyfi­awnder Duw?

Atteb. Talu y pris yr hyn oeddHeb. 7. 24, 25, 26, 27. Rhu. 8. 38. ddyledus am dorriad y gyfraith a droseddasai dynol ryw, a chy­flawniad y cyfiawnder, yr hwn yr oedd dyn trwy y gyfraith yn rhwym iddo, eithr yn ddi-allu iw gyflawni.

Pa fodd yr oedd Crist i dalu y gwerth neu r pris yr hyn oedd ddy­ledus am bechod dynol ryw?

Atteb. Trwy y rhyfeddol o­styngeiddrwydd hwnnw, trwy r hyn yr oedd ef yn ogyfuwch a Duw y gwnaeth ef ei hun o ddi­ddym gymeriad, ac y daeth yn vfudd i farwolaeth, gariodd êf yn gystal mewn corph ac enaid y felldith oedd ddyledus i drose­ddiad y gyfraith.

Pa gyfiawnder a ofynnid gan Grist on hachos ni?

[Page 22] Atteb. Yn gystal dechreuol, yr hyn oedd iddo oi ymddwn yn y groth, (yr hwn a gaed or yspryd glân mewn purdeb a sancteiddr­wydd anian) a gweit hredol, yr hyn a gyflawnodd ef, gan roddi vfudd-dod perffaith yn holl yrfa ei einioes, i holl orchmynnion cyfraith Dduw.

Pa beth yw cyfryngiad Crist?

Atteb. Y rhan honno oi effeir­iadaeth, trwy yr hony mae ynAct. 7. 25. Heb 9. 10. Jag. 8. 34. Joa. 17. 20. Exod. 28. 38. 1 Pet 2. 5. Dad. 8. 3. gwneuthur erfynniad at ei Dâd trosom ni, ac a anrhega oi flaen ef yn gystal ein personau an vfudd-dod amherffaith▪ gan wneuthur pob vn o honynt hwy (pa wedd bynnac▪ yn llygredig ynddynt eu hunain) trwy [...]d­dedigaeth ei daledigaeth ef i fod yn gymeradwy yn ei olwg ef.

Hyn yma am y rhan honno▪ o swydd y cyfryngwr, yr hyn y mae ef yn ei arferu ai weithredu ty ac at Dduw; pa fodd y mae ef yn ei ym­ddwya [Page 23] ei hun mewn pethau perthy­nas i ddyn?

Atteb. Trwy gysrannu i ddynRhu. 5. 15, 17, 19. Act. 13. y gras hwnnw ar prynedigaeth, yr hwn a bwrcasasai ef gan ei Dâd.

Pa rannau oi swydd a orchwyli­odd ef yma?

Atteb. Ei swydd brophwy­dol a brenhinol.

Pa beth yw ei swydd Brophwy­dol?

Atteb. Y Swydd trwy r honDeut. 18. 18. Joa. 1. 18. Pen. 8. 26. Pen. 15. 15. Eph. 2. 17. Esa. 6. 12. Heb. 1. 2. Pe 2. 3. Pe. 3. 1, 2. Mar. 27. 7. Pen. 23. 10. Luc. 24. 25. Act. 16. 4. 1 Cor. 2. 10, 11, 12. y mae yn datcan i ni y donniau buddiol on Jechydwriaeth, ac yn dadcuddio holl ewyllys ei Dad i ni yn gystal trwy y moddau oddiallan▪ y rhai a ragddarparodd ef er mwyn Athrawiaeth ei Ec­clwys, a thrwy oleuo ein meddy­liau oddifewn ai yspryd glan.

Pa beth yw r swydd frenhinol?

Atteb. Y swydd trwy r hon y mae yn llywodraethu ei ddeili­aid-weision, ac yn terfysgu ei elynnion iw gwradwydd.

Ym mha fodd y mae yn rheol ei ddeiliaid?

Gan wneuthur y Prynediga­eth yr hyn a weithiodd ef ynPsal. 26. 89. Jo. 18. 36. Za. 9. 9. 10. Eph. 1. 20, 21, 12. Mat. 22. 7, 13. Luc. 19. 14, 15, 27. Psa. 22. 110. 15, 25, 26. Ep. 1. 21. Luc. 13. 1. Esa. 9. 6, 7. Eph. 5. 26, 27, 29. ffrwythlawn yn ei Etholedigion, gan en galw hwynt yr, rhai trwy ei swydd Brophwydol a ddyscodd i gosteidio y donniau a gynnygi­wyd vddynt, a chan ei llywiaw hwynt gwedi en galw yn gystal trwy yr ordiniadan vma oddial­lan, y rhai a osododd ef yn ei Ecclwys, a thrwy weithrediad yr yspryd glân oddifewn.

Yn ol llefaru mal hyn am ania­noedd à Swydd Crist, Cyfryngwr y Cyfammod newydd, Pa beth sydd i chwi yn awr iw ystyrried ynghy­flwr dynol ryw, yr hwn a ddeil tano ef?

Att. Dau beth, bod yn gyfran­nog o Râd Duw, yr hyn a gy­frennir yn effeithiol trwy waith yspryd Duw ir. Ecclwys Gatho lic yr hon yw coryh ac anwylyd Crist, allan or hon nid oes, dim Jechydwriaeth, ar moddau oddi­allan a ordiniwyd er mwyn a­berthu [Page 25] ac effeithio hynny a gan­niatawyd ir Ecclwys weledig.

Ym mha foddy mae Gras Duw yn effeithiol gyfrannedig ir Ethelo­ledigion, or rhai y maer Ecclwys Gatholic yn gynnwysedig?

Atteb. Trwy yr vndeb rhy­feddol,Joa. 17. 21. 22, 23. 1 Cor. 1. 13. Eph. 2. 2. Pe. 5. 29, 30. Joa. 15. 1, 2, 4, 5. Eph. 4. 15, 16. o herwydd yr hwn y gwneir Crist ai Ecclwys yn vn: mal wrth hynny y mae yr holl Etholedigion wedi en himpio ai cysylltu ynddo ef yn tyfu yng­hyd yn vn corph dirgel or hwn y mae ef yn ben.

Pa beth yw rhwym yr vndeb hwn?

Atteb. Cymmun yspryd Duw, yr hwn gan ei fod yn dyfod o­ddiwrth y dyn Jesu Grist, ar yr holl etholodigion, megis oddi­wrth y pen ir Aelodan, a rydd vddynt fywyd y sprydol, ac ai gwnaiff yn gyfrannogion o Grist ai holl ddonniau.

Pa betb yw r budd a dawn a gy­fyd oddiyma i blant Duw?

Atteb. Cymmodiad a San­cteiddiad.2 Pe. 2. 3, 4. Col. 1. 21.

Pa beth ywr Cymmodiad ar cy­fundeb?

Atteb. Y Rhad trwy yr hwn in rhyddheuir oddiwrth felldith Duw ac an hadferir iw ffafor Ta­dol.

Pa beth yw canghennau y cyfun­deb hwn?

Atteb. Cysiawnhâd a mab­wysiad.

Pa beth yw cyfiawnhad?

Atteb. Y Gras trwy yr honGal. 3. 12, 14. Rhu. 4. 23, 24. Eph. 28. 9. Rhu. 8. 32. Esay 9. 6. Gal. 3. 5. Act. 13. 38, 39. in cysiawnheuir oddiwrth enog­rwydd pechod, ac in cyfrifir yn gyfiawn Ynghrist Jesu ein gwa­redydd.

Pa fodd gan hynny y geill dyn pe­chadurus edrych am ei gysiawn­hau yngolwg Duw?

Atteb. Trwy drugaredd Duw yn vnig, trwy yr hyn y rhydd ef ei fab yn rhwydd iddo gan fwrw pechod dyn ar Grist, a Chyfiawn­der Crist i ddyn, ac felly y pecha­dur [Page 27] yn feddiannol o Jesu Crist a wynha gan Dduw faddeuant oi bechodan, a chyfrif o gyfiawn­der.

Pa beth yw mabwysiad?

Atteb. Y Gras trwy r hwn nidRhu. 8. 3. Gal. 2. 26. ydym ni yn vnig yn cael ein gwneuthur yn gefeillion a Duw, eithr hefyd yn feibion iddo ac yn etifeddion gyda Christ.

Beth yw Sancteiddiad?

Atteb. Y Gras hwnnw, trwy r hwn in rhy ddheuir ni oddiwrth y rhwym ar caethiwed o hechod sydd yn cyfanneddn ynom ac ir adferir ni i rydd dyd cyfiawn­der.

Pa beth yw rhannau Sancteid­diad?

Atteb. Marweiddiad, trwyEph. 4. 22, 23. Rhu. 6. 4, 11, 13. [...]l. 2. 1, 2. yr hyn y gortrechir ein llygredi­gaeth anianol, a bywhad, neu gynhyrfiad trwy yr hyn y glŷn ac yr adnewyddir sancteidd­rwydd yuom.

Oes dim gwahaniaeth iw wneu­thur rhyngddynt hwy y rhai [...] byn a dderbyn Grist?

[Page 28] Atteb. Oes, canys nid oes mo1 Cor. 3. 3. 2 Tim. 2. 3. Jer. 31. 18. 1 Pet. 1. 9. Eph. 3. 20. Heb. 11. 1, 2, 3. Col. 2. 7, 18. Eph. 3. 13, 17. Joa. 11. 12, 16. Gal. 3. 16, 20. Phil. 3. 8, 9. 2 Tim. 1. 6. Heb. 10. 22, 23. Act. 2. 41, 42: rai yn gyfrannog o wybodaeth megis plant bychain ar cyfriw a alwn ni yn wirion, rhai eraill ydynt o ddealldwriaeth, yn yr rhai cyntaf nid ydym ni i fyned ym mhellach nag etholedigaeth Duw, a dirgel weithrediad yr yspryd glân, yn y lleill y mae ychwaneg iw ofyn, ffydd fywiol i ddwyn allan ffrwyth gwir san­cteiddrwydd.

Y dyw yngallu dyn ddyfod ir ffydd ar Sancteiddrwydyma?

Atteb. Nag ydyw, elthr y mae Duw yn eu gweithredu hwynt yn ei blant ef, yn ol y mesur y gwelo ef fod yn gymwys yn eu blant.

Beth a ddeallwch chwi wrth ffydd?

Atteb. Rhodd Duw, trwy yr hyn y mae dyn, yn ei berswadio ei hun, nid yn vnig er gwirionedd [Page 29] A [...] Duw yn gyffredinol, eithr hefyd o addewidion yr Efengyl yn neullduol ac yn gosod Christ ai holl ddonniau yn gyssur iw e­naid ei hun.

Ym mha fodd y dywedir ein cy­fiawnhau trwy ffydd?

Atteb. Nid fel pa byddem yn gyfiawn am deilyngdod y rhin­wedd hon, canys o ran hynny Christ yn vnig yw ein cyfiawn­der: eithr o ran ffydd, a ffydd yn vnig yw r offer yn cymwys i am­gyffred a derbyn, nid i weithio neu i beri ein cyfiawnhad: ac felly in crynoi an dirwyn ni at Grist: mal y byddom yn gyfran­nogion oi holl ddonniau buddi­ol.

Beth yw r sancteiddrwydd a ddi­lyn y ffydd hon i gyfiawnhau?

Atteb. Rhodd Duw, trwy yr hon y mae calon yr vn a gredo yn ymadael ar drwg, a dychwe­lyd i newydd-deb buchedd.

Ym mha beth y mae y rhinwedd hon yn ei ymddangos ei hun?

Atteb. Yn gyntaf, mewn edi­feirwch difrifol, ac yno mewn vfudd-dod cyssurus yn tarddu oddiwrtho.

Pa rai ydynt rannau edifeir­wch?

Atteb. Dwy: gwir gystudd2 Cor. 7. 10, 11. Jer. 31. 18, 19. Act. 11. 21, 23. Act. 26. 20. gweithredig ynghalon y creda­dyn, am droseddu yn erbyn Duw mor rasusol trwy ei anwi­reddau or blaen, a throad at Dduw drachefn gyda ac holl fe­ddylfryd calon, i lynu wrtho byth yn ol hynny, ac i ymgadw oddi­wrth yr hyn a fyddo yn anfodlo­ni ei olwg ef.

Pa beth yw r addysg an hyffor­dda ni ir vfudd-dod hwnnw y mae Duw yn ei ofyn gan ddyn?

Atteb. Y Gyfraith foesol, or hon y crynodeb yw r deg gorch­ymyn.

Pa beth yw r Swm neu r holl [...]bl or gyfraith?

Atteb. Cariad.

Pa beth yw r rhannau o ha­naw?

Atteb. Y cariad sydd ddyle­dus arnom i Dduw gorchymyne­dig yn y cyntaf, ar cariad dyledus arnom in cymydogion gorch­mynedig yn yr ail Tabl neu lech.

Ym mha fodd y gwahanredwch y pedwar gorchymyn a berthyn ir Tabl cyntaf?

Atteb. Y maent hwy vn ai yn gofyn cydffurfiad holl allu yr enaid oddifewn i gydnabod y gwir Dduw, megis y gorchymyn cyntaf; neu yr arfer sanctaidd or moddau oddiallan o addoliad Duw, mal yn y tri a ganlyn.

Pa rai yw r dyledion a berthyn ir moddau oddiallan o addoliad Duw?

Y maent hwy vn ai r cyfriw rai ydynt iw cyflawni bob dydd mal y byddo yr achos yn gofyn, neu y cyfriw ac ydynt bennodol i ryw ddydd arbennig.

Pa orchmynnion a berthyn ir rhyw cyntaf?

Atteb. Yr ail ynghylch addo­liad parchedig y Gresydd; ar trydydd am y parch a ddylai fod genym i Anrhydedd Duw, yn ymddygiad cyffredin ein bywyd.

Pa orchymyn a berthyn ir ail rhyw? Y pedwerydd yn gorchymyn san­ctèiddiad enwed gol ir dydd Sab­boath? Pa fodd y gwahanredwch y chwech o orchymynnion a berthyn ir ail llech neu Dabl?

Atteb. Y pump cyntaf, a ora­fun ac a hyba y cyfriw weithre­doedd ac y mae ewyllys y me­ddwl iw gwneuthur or lleiaf: yr olaf sydd yn erchi gwilied y cyn­hyrsiadan cyntaf a godo yn y ga­lon, cyn ymroi i wneuthur y drwg.

Pa ddyledion sydd berthynasol ir rhyw cyntaf?

[Page 33] Atteb. Y maent yn ddyledus ir cyfriw fath ar ddynion, o achos rhwymau neullduol neu i holl wyr yn gyffredin trwy fath ar Gyfiawnder, y fath gyntaf a ro­ddir i lawr yn y gorchymyn cyn­taf, y llall yn y pedwar nesaf.

Pa beth yw r moddau oddiallan trwy r hyn y cynnygir yr Efengyl i ddynol ryw?

Atteb. Gwenidogaeth yr E­fengyl, yr hyn a arferir yn Ec­clwys weledig Crist.

O Ba rai y mae r Ecclwys wele­dig yn gynnwysedig?

Atteb. O Swyddogion cyho­eddus i fod yn weinidogion iDad. 1. 20. Phi. 1. 1. Act. 20. 27, 28 1 Pet. 5. 1, 2, 3. 1 Tim. 3. 12, 13, Rhu. 11. 7, 8. 1 Cor. 4. 1. Grist, ac yn gyfrannogion o be­thau nefol, yn ol rhagscrifen yr Arglwydd; ar cwbl eraill or Seinctian, yr rhai gyd ag vfudd­dod ydynt iw ymddarostwug eu hunain i ordinhâd Duw.

Pa rai ydynt rannau y weini­dogaeth oddiallau?

[Page 34] Atteb. Cyfrannu y gair ar or­diniadau a arferir at hynny, yr rhai yn enwedigol ydynt y Sa­cramentau, a Barnedigaethau.

Pa beth yw r gair?

Atteb. Y Rhan honno or wei­nidogaethRhu. 3. 19. Pen 7. 9, 10. Gal. 3. 22, 23. oddiallan sydd yn se­fyll yn traddodi neu ddatcan yr Athrawiaeth, ac fel dyma yr offeryn cynefinol yr hwn a arfer Duw i gynnill ffydd.

Pa drefn sydd iw arferu yno yn mynegi y Gair er mwyn cenedlu a magu ffydd?

Atteb. Yn gyntaf, se addrodir1 Cor. 10. 11, 12, 3, 4, 16. Gen. 17. 10, 11. Deu. 3. 6. Rhu. 2. 28, 29. Mat. 3. 11. 1 Pet. 3. 21. Col. 2. 11, 12, 13. cyfammod y gyfraith i wneuthur pechod ai gospedigaeth yn gyd­nabyddus, ar yr hyn y mae brath y cydwybod yn pigo y galon wrth synnied digofaint Duw ac a bair i ddyn anobeithio yn ollawl o fod dim nerth ynddo ef ei hun▪ i fwynhau bywyd tragwyddol; yn ol y paratoad yma y cynnygir trugareddau yr Efengyl, ar yr hyn, y pechadur yn ail-gymeryd gobaith o Bardwn, a erfyn ar Dduw am drugaredd, ac elyd yn [Page 35] hynodol a neullduol at ei enaid ei hun, yr addewidion cyssurus, ac a weithiasant ynddo trwy yspryd Duw ddeisyfiad difrifol or lleiaf i gredu ac i edifarhau.

Pa beth yw Sacrament (reversed ?)

Atteb. Arwydd gweledig aMat. 3. 11. 1 Pet. 3. 21. Col. 2. 11, 12, 13. Act. 2. 40, 41. 42. Pen. 14. 22. Pen. 20. 32. Rhu. 4. 11. ordeiniwyd gan Dduw, i fod yn sêl er mwyn cryfhad a chydffur­fiad addewidion yr▪ Efengyl, ir rheini a gyflawno yr ammodau a ofynnir ganddi.

Pa fodd y gwneir hyn trwy Sa­crament?

Atteb. Trwy gyffelybiaeth cymmwys rhwng yr arwydd ar pethau a arwyddoueir, dawn yr Efengyl a anrhegir ir golwg, a mwynhau hynny a gydffurfir ir cyfriw ac ydynt o fewn y cyfam­mod: Gan hynny megls y mae Pregethu y gair yn foddau cyffredinol o ennyn ffydd; felly yn gystal hynny ar arfer san­ctaidd or Sacramentau ydyn offe­rau yr yspryd glân, i gynnyddu a chydffurfio hynny.

Pe sawl rhyw o Sacramentoedd y sydd?

[Page 36] Atteb. Y gyntaf o gynhwy siad plant Duw ir Ecclwys, yno i sod yn gyfrannogion o gym­mun tragwyddo gyd a hwynt yr2 Cor. 10. 1, 2, 3, 4, 16. Exod. 12. 28. ail oi gadwedigaeth neu ei faeth ai fwyniant yno iw siccrhau oi gyn­nydd beunyddol barhaus yn­ghrist, o ran hynny y mae r cyn­taf vnwaith, ar olaf yn Fynych iw weinidogaethu.

Pa beth a ddeallwch chwi wrth farnedigaethau.

Atteb. Yr ordinhad a oso­dodd Duw er mwyn cydffursiad bygythiau yr Efengyl yn erbyn yr anusuddgar.

Pa fodd yr arferir y Barnedi­gaethau yma?

Atteb. Yn gyntaf trwy y gair yn vnig a thrwy gynghoriad ynMat. 28. 15, 16, 17, 18. 2 Thes. 3. 14. 1 Cor. 5. 4, 5, 11, 13. 2 Cor. 1. 6, 7, 8. ail, rhoddi poenedigaeth, vn ai cadw y troseddwr yngharchar yr Arglwydd, hyd y cyfriw amser y gweler arwyddion o edifeir­wch, neu dorri yr aelod pwdr oddiwrth yr aelodau eraill?

Oedd y weinidogaeth hon or Efengyl bob amfer yn yr vnrhiw foddau?

[Page 37] Atteb. Am y sylwedd yr oedd hi bob amser yr vnrhiw Eithr o ran y moddau priodol a pheno­dol i ryw amserau hwy a wahan­redir i ddwy ryw, yr hên ar ne­wydd.

Beth a elwch chwi yr hen weini­dogaeth?

Atteb. Yr hyn a draddowyd2 Ti [...]. Joa. 9. 22. Heb. 1. 1. Pe. 9. 1, 9, 10. Act. 7. 44. 2 Cor. 3. 7, 11. Mal. 4. 4. Jer. 31. 31, 32, 33. Heb. 11. 13. 1 Cor. 3. 11, 13. Gal. 4. 34. Col. 2. 16, 17. ir Tadau i barhau nes cyflawn­der yr amser, yr hyn ar ddyfodiad Crist oedd iw adgyweirio.

Pa beth oedd briodoliaethau y dogaeth hon?

Atteb. Yn gyntaf gorchymy­nion y gyfraith oeddynt fwy he­laeth, ar addewidion o Grist yn gynhilach ac yn dywyll gwedi eu gosod ar lawr, y rhai olaf, gan eu bod o gimaint yn fwy cyffredin, ai traddodi mor dywyll, megis yr oedd yr eglurhad o honynt ym mhellach oddiwrthym. Yn ail yr addewidion hyn o bethau i ddyfod nid oeddynt ond cysgo­dau gyd a cheffylybiaeth o ar­wyddion a Ffugurau; y rhai pan ddeuai y gwirionedd i olau oe­ddynt i ddiflannu ymaith.

Pa nifer oeddynt y prif foddau ar dibennoedd or hên weinidoga­eth yma?

Atteb. Y cyntaf o Adda i A­braham yr ail o Abraham i Grist.

Pa beth oeddynt y Priodoliae­thau hynodol or olaf or ddwy ddi­bennoedd yma?

Atteb. Yn gyntaf, yr oedd ynLuc. 1. 44, 45. Psa. 44. 19. 26. Rhuf. 9. 4. Act. 13. 17. Deu. 4. 1, 6, 7, 8, 17. Pen. 1. 6, 7, 8. Pen. 14. 2, 29. Pen. 26. 18, 19. fwy enwedigol wedi ei rwymo at ryw deuleu neu genedloedd. Yn ail yr oedd iddo yn gysyllte­dig gyd ag ef, ail adroddiad ar­bennig neu fynegiad or cyfam­mod cyntaf or gyfraith, yn dry­dydd heb law y ceremoniau ar deddfau a helaethwyd yn fawr tan Moses, yr oedd Sacramen­tau hefyd wedi eu chwanegi atto.

Pa beth oeddynt y Sacramentau cyne finol or weinidogaeth hon?

Att. Y Sacrament o gynhwy­siadJoa. 1. 16, 17. Deu. 4. 12. Rhu. 10. 5. Heb. 9. 1, 2. 3 Joa, 7. 22. ir Ecclwys oedd enwaediad gosodedig yn nyddiau Abraham: ar llall o gadwedigaeth beuny­ddol ac ymborthiant yr oen Pasc gosodedig yn amser Moses.

Pa beth yw y weinidogaeth ne­wydd or Efengyl?

Att. A draddododd Crist i ni i barhau hyd ddiwedd y byd?

Pa beth ydynt y priodoliaethau o hwnnw?

Atteb. Yn gyntaf ef ai goso­dirExo. 12. 48 Ac. 7. 8 Ioa. 7. 22. Esa. 41. 1, 2 eP. 6. 3, 4, 5 Pe. 65. 12, 19, 11, Ioa. 16. 10. Mat. 18. 19, 20. Rhu. 12. 25 26. Eph. 3. 5, 6, 9. yn ddiragoriaeth ir holl bobl, pa vn bynnac a syddont ai Jdde­won ai cenedloedd: ac o her­wydd hynny y mae yn Gatholic a chyffredin, yn ail y mae yn llawn o Râs a gwirionedd yn dwyn newyddion o lawenydd hyfryd i ddynol ryw, mal pa beth bynnac a addawyd or blaen gan Grist, yr awrhon a gyflawn­wyd, ac felly, yn lle yr arwyddi­on ar cysgodau a roddasid, y pe­thau eu hunain ac adroddiad he­laeth o holl ddonnian yr Efen­gyl.

Pa beth yw prif byngciau o air y weinidogaeth hon?

[Page 40] Atteb. Fod Crist ein Ja­chawdwrCol. 1. 5, 6. Jo. 1. 7. Pe. 14, 2, &c. (yr a addawsai Duw trwy ei Brophwydi ei anfon yr byd) wedi dyfod yn y cnawd, ac a gyflawnodd waith ein prynedi­gaeth,Mat. 16. 21. 1 Cor. 15. 4. 2 Tim. 2. 8. Mat. 16. 19. Act. 1, 2, 9, 10, 11. Eph. 4. 10. Heb. 1. 3. 2 Tim. 4. 1. ai gael ef trwy yr yspryd glân ai eni o Fair forwyn, a ddi­odd [...]dd tan Pontius Pilat, a groeshoeliwyd, ac a fu farw ar y Groes: y corph ar enaid hwnnw gwedi eu ym wahanu mal hyn, ei gorph a roddwyd yn y bedd, ac a arhosodd tan allu marwolacth: ai enaid aeth ir lle gosodedig i eneidiau y rhai cyfiawn: sef pe­radwys, gorseddfa y bendigedig. Ac iddo ef y try dydd dydd gan gysylltu ei gorph ai enaid dra­chefn, gyfodi oddiwrth y meirw, ac yn ol hynny escyn ir nefoedd: y lle y mae yn eistedd ar dde­heulaw ei Dâd nes dyfod y pryd y delo ef oddiyno ir Farn olaf.

Pa beth yw Sacramentau y weinidogaeth?

[Page 41] Atteb. Y Sacrament o gyn­nhwyfiad iw cymeryd ir Ecclwys yw Bedydd: yr hwn a selia i ni ein genedigaeth ysprydol: y Sacrament arall on cynhaliaeth cadwedigol a beunyddol yw Swpper yr Arglwydd; yr hwn a selia i ni yn ymborthiant yn oe­stadol.

Yn ol diweddu y byd hwn pa beth sydd i ni iw edrych am dano yn y byd sydd i ddyfod?

Atteb. Barn ddeublyg: [...]vn yn neullduol, ar enaid pob rhyw ddyn yn amser ei farwolaeth, y llall yn gyffredinol, ar eneidiau a chyrph holl ddynion ynghyd ar amser en Hadgyfodiad.

YR Amrywogaethau a berthy [...] ir Ddwy Sacrament or Testament Newydd, ar Farn ddeubly [...] yn y byd a ddaw a gymerwch chw [...] allan or pen olaf or darn cynta o llyfran yma.

Diwedd.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.