CANWYLL Y CYMRU; SEF …

CANWYLL Y CYMRU; SEF, GWAITH Mr. Rees Prichard, gynt Ficcer Llanddyfri.

A brintiwydd or blaen yn bum rhan, wedi ei cyssylltu oll yng [...]yd yn un LLYFR.

The Divine POEMS OF Mr. Rees Prichard, Sometimes Vicar of Llandovery in Carmarthenshire

Y Chweched Argr [...]hiad gydac ymchwanegiad helaeth.

Argraphwyd yn y Mwythig gan Thom [...] lle y gellir chael Printio pob math ar Copiau am [...] gweddaidd▪ a chael ar werth amry [...] L [...]frau Cy [...] ­raeg a Saesnaeg.

Y Rhag-Ymadrodd.

Anwyl Gyd wladwyr,

YN gymaint a bod Myfyrdod a Thueddiadau y rhan fwŷa or cyffredinol gymru annysgedig yn rhedeg ar ryw wag rimynau ae oser benhillion diffrwy [...]h; y rhai sydd aflesol ac anfoddiol iddynt eu hunain au gwrandawyr. ac i Dduwwel­ed yn dda ei ddirfawr drugaredd sendithio gwaith y Parche­dig Awdwr Mr. Rys Prichard, Yr hwn a dd [...]sparthwyd be­dair o weithiau'n eich mysc. ac hesyd oedd yn awr wedi mynd cyn bringed nad oedd braidd un o honynt iw gael ar werth trwy hell Gymru. A bod yn gynwysedig yn y Llyfr hwn holl swm a sylwedd y Grefydd Gristnogol, Ynghyd ac Annegaeth ddifrifol i amryw Ddyledswyddau buchedd Sanctaidd i ba u [...] y bu'r Llyfr hwn yn un or achlysur mwyaf (oddigerth y Bethl Sanctaidd) i ddwyn llawer ir iawn ffordd, ac i 'madel au camweddau au pechodau; Yr hyn y fu'r Achosion i'n rhoddi ni ar waith iw aîl Argraphu y Bummed waith hon tan obeithio y bydd iddo'r tro hwn gael ei gyflawn groeso fel y byddef arferedig a chael Yng-Hymru: Canys nid alla i lai na dwyn ar ddeuall i thwi, mae dymma'r tro cyntaf i cafodd ef i osod allan gan wyr o grefydd Egl [...]ys Loegr bod ei Awdwr Parchedig ef yn wir Aelod o'r un [...]hyw; Etto fe ryfygodd rhai oi Osodwyr allan, chwanegnatto mewn amryw gwrr dalennau beth ou Furdoes eu hunain neu or san lleiaf yr hyn oedd wrthwynebol i Ath-awiaeth y Eiccar dyscedig­gan hynny na ddisgwilied neb weled un Gwrthreswm yn yr Argraphiad hwn▪ ond gwaith perffaith ei Awdwr cyntaf. Hefyd mi dywygiais amryw feian a cham speliadau trwy gorph y Llyfr hwn, ac mae'n ddrwg jawn genni fod yn gor­fod arnaf illwng heibio gymmaint o eiriau trwsgwll lygred­ig, a Saesnaeg candryll; Y rhain a ellwch chwi darro'n rhy [Page] aml wrthynt; Eithr bydded gydnabyddus i chwi na chaws hynny mor bod honi bysc sod cymmaint o'r Cymru (yn en­wedig un Neheubarth) wedi dysgu rhan fawr o honaw a [...] eu Tafod leferydd, a phan ddamweinio i'r rhain daro wrt [...] Eirieu wedi i newid eu tacluso au perffeithio: Etto mae' [...] rhy enbydus y bydde iddynt farnu'n ebrwydd, i mi anffur­fio ac anrheithio'r cyfan, ac na thal ef boerun; Ac am hynny mae ty'ngobaith i'r escusodwch fi am y cyfryw feiau ac hefyd am ddim arall ac y lithrodd o'm hanfodd yr hy [...] yw llwyr ddymuniad

Eich tra ufudd a'c [...] Gostyngedig Wasanaethwr Thomas Dursto [...]

An Account of the Reverend Mr. Rees Prichard Vicar of Landovery in Carmar­thenshire, taken out of the Athaene Oxonienses Prin­ted at Oxon in the Year 1691 in the 2d. volume of which Book, Page the 29, are these following words.

REES PRICHARD was born (as it seems) at Llanymdyfri in Carmarthenshire, and being [Page] Educated in those parts, he was sent to Jesus Col­ledge in Oxon Anno: Dom: 1597. Aged 18 or there­abouts was Ordain'd Priest at Wittham or Wytham in Essex. by John Suffragan Bishop of Colchester: on Munday the 25 of April in 1602 Took the degree of Bacheler of Arts in Iune following, and on the 6th. of August the same Year had the Vicarage of Llanymdysri before mention'd commonly called Landovery, Collated on him by Anthony Lord Bishop of S. Davids. On the 19 of November Anno 1613 he was Instituted Rector of Llannedy in the Diocess of S. Davids (presented there unto by King James the first) which be held with the other living by Dispensation from the Arch Bishop. The 28 of October 1613. Confirmed by the great Seal on the 29 of the same month, and qualified by being Chaplain to Robert Earl of Essex. In 1614 May the 17 he was made Preb [...]ndary of the Colegiate Church of Brecknock by the afore­said Anthony Bishop of S. Davids; And by the title of Master of Arts, (which degree he was perswad­ed to take by Doctor Laud his Diocesan) he was made Chancellor of S. Davids, (to which the Pre­bend of Llowhadden is annext) on the 14 day of September Anno 1626, upon the Resignation of Richard Baylie Bachelor of Divinity of S. John's College. In Wales is a book of his Composi [...]ion that is Common among the people there and bears this title.

Gwaith Mr. Rees Prichard gynt Ficcer Llan &c The work of Mr. Rees Prichard sometimes Vicar of Landovery in Carmarthenshire Printed before [Page] in three Books but now Printed together in one Book &c. With an addition in many things out of manuscripts not seen before by the publisher be­sides a fifth part now the first time imprint Lon­don Anno Dom 1672 in a thick octavo. It contains five parts, and the whole Consists of several Poems and Pious Carols in Welsh, which some of the Au­thers countrymen commit to memory, and are wont to sing. He also translated divers Books in­to welsh, and wrote somethig upon the 39 Ar­ticles; Which whether printed i know not some of it i have seen it manuscripts, He died at Llanymdyfri about the month of November in 1644 and was (as I presume) buried in the Church there, In his Life time he gave Lands worth 20l. per Annum, for the settling a free school at Llanym­dyfri together with an house to keep it in. After­wards the house was possess'd by four School­masters successively, and the money paid to them. At length Thomas Manwaring son of Roger some­time Bishop of S. Davids who married Elizabeth the only daughter of Samuel son of the said Rees Prichard, did retain (as i have been inform'd by Letters thence) and seil'd upon the said Lands under the pretence of paying the School-master in money, which accordingly was done an year or two, but not long after (as my informer tells me) the River Towy breaking into the house, carried it away: And the Lands belonging therunto are occupied at this time, being 1682. By Roger man­waring son and heir of Thomas before mentioned; so that the school is in a manner quite forgotten

Llythyr yr Awdwr at ryw Arglwydd, ir hwn yr oedd yn ei fryd ef gyss­egru ei Lyfr.

ARglwydd grassol na ryfedda,
Wedd Eglwyswi tlawd i'th goffa,
Ac yn
Meiddio.
mentro Urddas Cymru,
Ar fath lyfran dy
Bresento.
anrhegu.
Dy real at Eglwys Christ ai
Anrhydedd
hurddas
Dy wasanaeth da i'th Brins a'th Deyrnas,
Dy serch ath
Gofal,
garc am genel Cymru,
Y bair i bawb dy anrhydeddu,
Ym mhlith miloedd a'th anrhegant,
A thalentau mawr ei moliant,
Arglwydd da cennada finne,
Dy gydnabod a'm demmeie.
Cymrodd Arglwydd yr Arglwyddi,
Rodd y weddw dlawd heb siommi,
Er na thalei rhodd ond Dymme,
Am roi'r cwbwl ag a fedde.
Cymmer dithe Arglwydd Serchog.
Rodd o'r fath gan wr dyledog,
Sy'n wllysgar i'th anrhegu,
A rodd well pe bae'n ei feddu.
Haeddaist well, Diddanwch Cymru,
Cawsit well, pe basse genni▪
Pwysa'r rhodd yn ol yr 'wllys,
Hi gyd-bwysa roddion prinsys.

Llythyr arall at y Darllen­ydd fel y mae'n dybygol.

GOgonjant Duw, a lles Brittaniaid,
deisyfiad
Canlyniaeth Fryns a gwaedd y gw­einiaid,
Y wnaeth printio hyn o lyfran,
A'i roi rhwngoch Gymru mwyn fan
Abergofi pûr bregethiad,
Dyfol gofio ofer Ganiad,
A wnaeth im droi hyn o werseu.
I chwi'r Cymru yn ganiad [...]u.
Am weld
Y Psalme Cymraeg o gyfieithiad Mr. Salsbury
Dwfn-waith enwog Salsb­ury,
Gan y diddysc heb ei hoffi:
Cymrais sessur byrr cyn blaened,
Hawdd iw ddyscu, hawdd iw 'Styried.
Gelwais hon yn Canwyll Cymro,
Am im chwennych
oddifrif.
brudd oleuo,
Pawb 'or Cymru diddysc, deillion,
I wasanaethu Duw yn union
Er mwyn helpu'r annyscedig,
Sydd heb ddeall ond ychydig,
Y cynnhullais hin mor gysson;
Mae gan eraill well Athrawon.
Duw oleuo pawb o'r Cymru,
I wir nabod a'i wasanaethu;
Duw a wnel i hyn o Ganwyll,
Roi ir dall oleuni didwyll.

Cyngor i wrando ac i ddarllen Gair Duw.

O Cais gwr, na gwraig, na bachgen,
Ddyscu'r ffordd i'r nefoedd lawen
Psal. 119.19.
Ceisied air Duw iw gyfrwyddo;
Onid e, fe aift ar ddidro
Mae'r nef yn mhell,
Mat. 7 14.119, 105 [...]
mae'r ffordd yn ddyrys
[...] trammwy'n fach, mae rhwystre anhappys
Mae'r porth yn gul i fyned trwyddo;
Heb oleu'r gair nid aer byth atto
Mae'r nef uwchlaw yr haul a'r lleuad,
Mae'r ffordd yn ddierth itti ddringad:
Rhaid Christ yn ysgol cyn dringnadech,
Ai air yn ganwyll cyn canfyddech,
Mae llawer craig o [...]wystre cnawdol,
mat. 18.7, a'r 16 24, Psal. 119 92
Mae llawer mor o drallod bydol,
Cyn mynd ir nef, rhaid myned drostynt,
Heb oleu'r gair nid aer byth trwyddynt
Mae llawer mil o lwybrau Ceimion,
O ddrysswch blin, o ffosydd dyfnon;
Cyn mynd i'r nef, rwi'n dywedyd wrthyd
Heb oleu'r gair ni elli ei
gochelud
gweglyd.
Di elli fynd i uffern danllyd,
Lwyr dy ben heb un cyfrwyddyd:
Ynwysg Rhuf. 1.16,
Nid aiff neb ir nef gwnaed allo,
Heb y'fengyl iw gyfrwyddo.
Nid goleu'r haul; nid goleu'r lleuad,
Nid goleu'r dydd, na'r ser sy'n gwingad,
Ond goleu'r gair a'r fengyl hfryd,
All dy oleuo i dir y bywyd.
Cymmer lantern Duw'th oleuo▪
A'r Efengyl ith gyfrwyddo:
Troed i a'r llwybyr cûl orchŷmmynwy [...]
Di ae'n union i Baradwys.
[Page 2]
2 pet. 1.19.
Y gair yw'r ganwyll ath oleua
Y gair yw'r gennad ath gyfrwydda,
Y gair ath arwain i beradwys,
Y gair ath ddwg ir nef yn gymmwys.
Dilyn dithe oleuni'r gair,
Gwna beth archodd un mab Mair,
Gwachel wneuthur a wrafynwys,
Di ei'n union i baradwys,
Seren wen sy'n arwain dyn,
O fan i fan at Grist ei hun,
Yw'r Efengyl, i gyfrwyddo,
Pawb ir nefoedd ai dilyno
Bwyd ir enaid, bara'r bywyd,
Gras ir corph, a maeth i'r yspryd,
Jer 15, 16.
Lamp ir troed a ffrwyn ir genau.
Yw gair Duw a'r holl scrythyrau,
Llaeth i fagu'r gwan ysprydol,
1, pet. 2.2, ps. 19, 8,
Gwin i lonni'r trist cystuddiol,
Manna i borthi'r gwael newynllyd,
Ydyw'r gair, a'r, fengyl hyfryd,
Eli gwych rhag pob rhyw bechod,
Dihar, 4, 22
Oyl i ddofi gwûn cydwybod,
Triag gwerthfawr rhag pob gwenwyn,
Ydyw'r gair, a balsam addfwyn,
Jer. 23, 29.
Mwrthwl dur i bario'n cnappe,
Bwyall lem i dorri'n ceingcie,
Rheol gymmwys i'n
Tacclu
trwssiadau
Ydyw'r gair, ac athro i'n dyscu.
Udcorn pres i'n
galw
gwssio ir frawdle,
Lle Barn
Cloch in gwawdd i wella'n beie,
cenad yn cyhoeddi. Rhuf, 3.30
Herawld yn proclaimo'n heddwch.
Ydyw'r gair an gwyr ddiddanwch.
Y gair yw'r drych sy'n gwir ddinoethi,
Ein holl frychau a'n holl frynti,
Ac yn erchi i ni eu gwella
Tra fo'r dydd a'r goleu'n para,
Y gair yw'r hâd sy'n adgenhedlu,
1, pet. 1 23,
Yn blant i Dduw, yn frodyr Jesu,
Yn deulu'r nef, yn demle i [...] yspryd,
Yn wir drigolion tir y bywyd.
Heb y gair nid wi'n dyc [...]ymmig,
B' wedd y bydd dyn yn gadwedig,
Lle mae'r gair yn Benna o'r moddion
Ordeiniodd Christ i gadw Christion,
Heb y gair ni ellir nabod
Er wrth ole­uni nattur a gwaith y Cre­adigaeth y Pabyd dir Duw mewn rhan; etto i iechydwriaeth ni nebydd neb ef heb y gair Rhuf 1, 16.
Duw, na'i nattur na'i lan hanfod,
Na'i fâb Christ, na'r sanctaidd yspryd,
Na rhinweddau'r Drindod [...]yfryd.
Heb y gair ni ddichon un d [...]n.
Nabod 'wyllys Duw na'i ganlyn.
Na gwyr ddysc'r ffordd i addoli,
Nes i'r gair roi iddo oleuni.
Heb y scrythyr ni ddealla,
Un dyn beth ei gwymp yn Adda,
Na'i drueni, na'i ŷmwared,
Trwy fab Duw o'r fath gaethiwed,
Heb y gair ni all neb gredu.
Yn Ghrist Jesu fu'n ei brynu;
Rhuf. 10.14 17
Cans o wrando'r gair
O ddifrif
yn brydd,
Y mae i Griston gyrraedd ffydd,
Heb y gair nid yw Duw'n arfer,
Troi un enaid oi ddiffeithder,
Ond trwy'r gair mae'n arferedig,
Droi'r Eneidau fo cadwedig.
Act, 13, 48
Ar gair y trodd yr Apostolion,
Y Cenhedloedd yn Gristnogion;
Heb y gair peth dierth yw,
Droi pechadur byth at Dduw.
A phregethiad yr Efengyl.
Act. 2, [...].
Y trodd Pedr gwedi tair mil,
O Iddewon i wir gredu,
Ar ol iddynt ladd yr Jesu.
Jac. 1, 18,
Trwy had y gair ŷr adgenhedla,
Yspryd Duw'r pechadur mwya,
Ac ai gwna yn oreu ei ryw,
Yn frawd i Grist, yn fab i Dduw.
Y gair sy'n cynnwys ynddo'n helaeth,
Faint sydd raid at Jechydwriaeth
Ioan, 5.39,
Chwilia hwn a chais e'n astyd;
Ynddo mae'r tragwyddol fywyd.
Iac, 1 19.
Crist sy'n erchi't lafurio
Am y gair ath draed ath ddwylo,
Iuc, 6.27
Mwy nag am y bwyd y dderfydd▪
O chwennychu fyw'n dragywydd.
Fel y llef dyn bach am fronne,
Fel y ca's tir cras gawade,
Fel y brefa'r hydd am ffynnon,
Llef am eiriau'r fengyl dirrion,
Gwerth dy dir a gwerth dy ddodren
Gwerth dy grys oddi am dy gefen,
Gwerth y cwbwl oll sydd gennyd.
Cyn bech byw heb air y bywyd.
Gwell it fod heb fwyd heb ddîod,
Heb dy, heb dân heb wely, heb wascod.
Heb oleu'r dydd a'r haul garuaidd,
Na bôd heb y fengyl sanctaidd,
Tôst yw aros mewn Cornelyn,
Lle na oleu'r haul trwy'r flwyddyn:
Tostach trigo yn y chwarter.
Lle na oleuo'r gair un amser.
Na thrig mewn gwlad heb law ar brydie
Mewn glyn heb haul, mewn ty heb ole,
Mewn tre heb ddwr, mewn llong heb gw­mpas,
Mewn plwyf heb ryw bregethwr addas
ymadel
Gado'r wlad ar plwyf, a'r pentre,
Gado'th dad▪ a'th fam, ath drasse.
Gado'r tai a'r tir yn ebrwydd▪
Lle na bytho gair yr Arglwydd.
Gwell it drigo mewn gogofe,
A chael gwrando'r fengyl weithie
Nag it drigo mewn gwlad ffrwythlon,
Lle na bytho'r fengyl dirion,
Tost yw trigo mewn tywyllwch;
Lle na chaffer dim diddanwch;
Tristach trigo yn rhy hair,
Lle na chaffer gwrando'r gair,
Nid gwaith trigo 'mysc y Twrcod,
Sydd heb ofni Duw nai nabod,
Nag ir drigo'n dost dy dreigyl,
Lle na chlywer Christ nai fengyl,
Tynn i Loeger. tynn i Lundain,
Tynn dros fôr tu hwnt i Rufain,
Tynn i eithr byd ar dreigyl,
Nes y caffech gwrdd a'r fengyl.
Blin it weld yr haul a'r glaw.
Mewn plwyfe ddeuty yma a thraw,
A'th plwyf dithe (peth yscymmyn)
Heb na haul na glaw trwy'r flwyddyn.
Oni bydd un bregeth
Lymdost. Jac. 1.19.
ddurfing,
Yn y plwyf lle bech yn taring,
Dos
allan
i maes i'r plwyf lle'i bytho;
Nad un sabbath heb ei gwrando.
Pan fo eisiau a'r dy fola,
Di âe i'r gell i geisio bara;
Pan bo newyn ar dy enaid.
Nid ai i un lle, i geisio ei gyfraid.
Beth y dâl it borthi'r corphyn,
Mat, 16.26.
O bydd d' enaid mawr o newyn.
All dy gorph di gael difyrrwch;
Pan fo d' enaid mawr o dristwch?
Drwg ît ladd y corph a newyn,
Eisie bara tra fo'r flwyddyn:
Gwaeth o lawer lladd yr yspryd;
Eisie ei borthi a bara'r bywyd.
Llef gan hynny ar y ffeiriaid,
Mal. 2, 7,
Am roi bwyd i porthi d' enaid;
Rwyt ti'n rhoi dy ddegwm iddyn,
Par i nhwyntau dorri'th newyn.
Luc. 10.16.
Gwrando'r gair o enae'r [...]eiriad,
Fel o enau Christ dy geidwad;
Christ a rodd awdurdod iddo,
Ith gynghori a'th rybuddio,
O p [...]r Christ i fleiriad noethlyd,
Dy rybudd [...]o wella'th fywyd;
2. pet. 2, 16.
Rwyt ti'n rhwym i wneuthur archo,
Pe doe assen i'th rubyddio.
Pe doe Suddas i bregethu,
Fengyl Grist ti ddylid ei dyscu?
F' all y fengyl gadw d' enaid,
Er ith athro dost gamsymaid.
mat. 23.23
Os dy fugail sydd anweddaidd,
Ai athrawiaeth yn Gristnogaidd;
Dysc y wers, na ddysc e [...] arfer;
Gwachel feieu Paul a Pheder,
Na wna bris oi wedd nai wiscad,
P'un ai gwych ai gwael fo'i ddillad.
Nid llai grym y fengyl gyngan,
O'r siaceed ffris nair gassog sidan.
Cymmer berl o enau llyffran,
Cŷmmer aur o ddwylo aflan,
Cymmer win o bottel fydur,
Cymmer ddysc o ben pechadur.
Gwrando fengyl, Christ yw Hawdwr,
Pa fath bynna fo'r pregethwr.
Prissia'r gair na phrissia'r gennad;
Crist ei hun ai
Danfonodd
helodd attad.
Cadw'r geiriau yn dy galon,
Nid ei dwyn gan gigfrain duon:
Luc, 8, 512
Had yw'r gair i'th adgenhedlu,
Os ir galon y derbynu.
Dyfal chwilia di'r Scrythyrau,
Darllen air Duw nos a borau:
Jo. 5.39.
Dilyn arch y gair yn ddeddfol,
Hynny'th wna di'n ddoeth anianol.
Cadw'r gair bob pryd ith galon.
deut, 6.6.7.
Ac hyspussa hwn ith feibion:
Sonnia am dano nos a bore.
Y mewn, y maes wrth rodio ac eisie.
Dod ê'n gadwyn am dy
Gwddf.
fwnwg,
Dod ê'n rhactal o flaen dy olwg.
Dod e'n

fodrwy.

Ps, 119.98

signet ar dy fyssedd,
Na ddos hebddo led y droedfedd.
Gwna'r gair beunydd ŷn gydymmaith,
Gwna'n gywely it bob noswaith,
Gwna ê'n gyfaill wrth siwrneia,
Gwna'r peth archo wrth chwedleua
Gwna fe'n ben Cynghorwr itti,
Ps, 119.24.
Gwna fe'n athro ith reoli:
Fe ry'r gair it gan well gyngor,
Nag a roddo un rhyw Ddoctor.
Nad ê i drigo yn yr Eglwys,
Gyda'r ffeiriaid 'rhwn ai traethwŷs,
Dwg ef adref yn dy galon
Gen, 18.19.
Ai fynega rhwng dy ddynion.
Gwna di'r gair yn ddysclaid benna,
Ar dy ford tra fech yn bwytta
Jer. 15.16. ps. 119.130
Gwedi bwytta cyn cyfodi,
Bid y gair yn
selusswyd
juncats itti
Rho i'th enaid nos a boreu
Frecfast fechan o'r scrythureu
Rho iddo ginio brudd a swpper
Cyn yr elych ith esmwythder.
Fel y porthi'r corph a bara
Portha d' enaid bach a'r manna;
Nad ith enaid hir newynu
Mwy na'r corph sy'n cael ei fagu.
Mae'r bibl bach yn awr yn gysson
Yn iaith dy fam iw gael er coron;
Gwerth dy grys cyn bod heb hwnnw
psal. 119.72
Mae'n well na thref dy dad ith gadw
Gwell nag aur, a gwell nag arian
Gwell na'r badell fawr na'r crochan;
rhuf, 15.4.
Gwell dodrefnyn yn dy lettu,
Yw'r bibl bac [...] na dim a feddu.
Fe ry goinffordd, fe ry gyngor,
Fe ry addysc gwell na Doctor,
Fe ry lwyddiant a diddanwch
Fe ry't lawer o ddedwyddwch.
Fe ry sara i borthi d' enaid
Fe ry laeth i fagu'th weiniaid
Fe ry gwin ith lawenhau,
Fe ry eli i'th iachau.
Pwy na phryne'r bibl sanctaidd
Sydd mor werthfawr ac mor gruaidd?
Pwy na werthei dŷ ai dyddyn,
I bwrcassu'r fath ddodrefnyn?
Dymma'r perl y fyn yr Jesu
I bob Cristion doeth i brynu
Fel y
marsiand­wr.
Marsiant call a werthe
I brynn
y gras ŷ so­nier [...]m da­no yn y bibl.
hwn faint oll y fedde.
Gan i Dduw roi inni'r Cymru
Ei air sanctaidd i'n gwyr ddyscu
Moeswch i ni fawr a bychain,
Gwympo i ddyscu hwn ai ddarllain.
Moeswch i ni wyr a gwragedd
Gyda i gilydd heb
ddeisyf
ymhowedd,
Brynu bob un iddo lyfyr,
I gael darllain geiriau'r scrythyr
Moeswch i ni bawb rhag gwradwydd
Ddyscu darllain ga [...]r yr Arglwydd
Gan i Dduw ei ddanfon adre,
Attom bawb yn iaith ein mamme
Nadwn fynd y gwaith yn ofer,
Y fu gostfawr i wyr Lloeger,
Rhag na fetrom wneuthur cyfri,
Dydd y farn a gyfryw wrthuni.
Gwyr a gwragedd, Merched, Meibion,
Cymrwn ddysc oddiwrth y Saeson,
Rhai a fedrant bob un ddarllain,
Llyfr Dduw 'n ei iaith ei hunain.
Gwradwydd blin i ninnau'r Cymru,
Oni cheifiwn weithian ddyscu,
Darllain gair Duw a'r scrythurau,
Dan eu printio 'n iaith ein mammau.
Ni chyst bibl inni weithian,
Ddim tu hwnt i goron arian;
Gwerth hên ddafad y fo marw,
Yn y clawdd ar noswaith arw.
O meder un o'r tylwyth ddarllain,
Llyfr Duw yn ddigon
Cyfarwydd
cywrain:
Fe all hwnnw 'n ddigon esinwyth,
Ddyscu 'r cwbwl o'r holl dylwyth.
Ni bydd Cymro 'n dyscu darllain,
Pob Cymraeg yn ddigon Cywrain;
Ond un misgwaith, beth yw hynny?
O's bydd 'wyllys gantho i ddyscy.
Mae 'n gwilyddus i bob Christion,
Na chlyw arno stofio coron,
Ac un misgwaith oi holl fywyd,
Ynghylch dyscu 'r fengyl hyfryd,
Mae 'r Cobleriaid ai morwynion,
Ar rhai gwaetha, mysc y Saeson,
Llaweroedd
Bob yr un a'r bibl ganthynt,
Ddydd y nôs yn darllain ynddynt.
Mae 'r pennaethiaid gyda ninnau,
A'i tableri ar ei
bryddeu
bordau,
Heb un bibl, nac un plygain,
Yn eu tai▪ na neb iw darllain.
Peth cwilyddys gweld cobleriaid;
Yn rhagori ar Bennaethiaid,
Am gadwriaeth eu heneidiau,
Ar peth rheitia mewn neuaddau
Y cobleriaid hyn y gyfyd,
Dydd farn yn anian aethlyd,
I gondemnio'r fath benaethiaid,
Sydd mor ddibris am yr enaid,
Pob merch
Eurych
tincer gyda'r Season
Feidir ddarllain llyfrau Mawrion:
Ni wyr merched llawer Scwier,
☞ Gyda ninne ddarllain pader.
Gwradwydd tost sydd ir Brittanniaid
Fôd mewn crefydd mor ddieithriaid
Ac na wyr y canfed ddarllain
Llyfr Duw'n ei Iaith ei hunain,
Bellach moeswch i'n rhag cwilydd
Bob rhai ddyscu pwyntiau crefydd,
Jona 17, 3,
Ac ymroi i ddyscu darllain,
Llyfyr Duw a'n iaith ein hunain.
Felly gallu ddyscwn nabod,
Y gwir Dduw ai ofni'n wastod,
Ac oi nabod ai wir ofni,
Fe ry'r
di ddiwedd
di drangc fywyd inni.
Duw ro grâs a grym i Gymru
Nabod Duw ai wir wasanaethu.
Christ a nertho pob rhai ddarllain,
Llyfr Duw'n ei hiaith eu hunain.

Hil Brutus.

H'IL Brutus sâb Sylfus. Britaniaid brwd ho [...]nus,
Caredig, cariadus, cyd redwch i'm bron,
I wrando' [...] wllysgar â chalon ufuddgar,
Fy llefain am llafar hiaethlon.
[Page 11]Mae rhôd y ffurfafen yn dirwyn y bellen
On heinioes, nes gorphen, heb orphwys nos na dydd
A ninne heb feddwl, nes dirwyn y cwbwl,
Yn chwympo ir trwbwl tragywydd
Fel llong dan ei hwyle, yn credded ei siwrne
Tro'r morwyr yn chware▪ neu'n chwrnu ar y nen
Mae'n heinioes yn passio, bob amser heb staio,
Beth bynnag a wnelo ei pherchen.
Mae'r Ange glâs ynte yn dilyn ein sodle,
Ai
Piccell
ddart ac ai saethe, fel lleidir disôn,
Yn barod i'n corddi, ynghanol ein gwegi
Pan bom ni neb ofni ddyrnodion.
An bywyd fel bwmbwl, ar lynwyn go drwbwl,
Syn diffodd cyn meddwl ei fod ef yn mynd;
A ninne cyn ddyled; nad ym yn ei weled,
Nes darffo iddo fyned i helynd,
Mae'r byd ynte'r cleirchyn, yn glaf ar ei derfyn,
Bob ennyd yn rofyn, rhwyso tu ai fedd,
Ai ben wedi dottio, ai galon yn steintio,
Ai fwystil yn wastio yn rhyfedd.
Rym ninnau blant dynion, heb arswyd nac ofon
Yn trysto gormoddion ir gwr marwaidd hen,
Fel morwyr methedig, y drystent mewn perig,
Ir llongau sigedig nes sodden,
O nedwch i'n drysto, ir byd sy'n ein twyllo,
Fel iâ pan y torro, gric dan ein trâd,
An gollwng heb wybod, i'r farn yn amharod,
Cyn in i gydnabod ei fwriad.
Ond moeswch yn garcus, i'n bawb fod yn daclu [...]
I fyned yn weddus, ni wyddom pa awr;
O flaen y Messias, yng wisc y briodas,
A thrwssiad cyfaddas i'r neithiawr,
A nedwch ein dala, pan delo'r awr wae [...]
Mewn medd-dod, puteindra, rhag rhwystir i'r [...]
Heb oyl yn ein llestri heb gownt on tale [...]
Ar cwbwl on cyfri vn berffaith,
[Page 12]Mae'r fwyall ar wreidde y cringoed e'rs dyddie,
Mae'r wyntill yn dechreu dychryn yr ûs,
Mae'r Angel ar Cryman, yn bwgwth y graban,
Iw bwrw i'r boban embeidus,
Mae'r farn uwch ein penne, mae'r dydd wrth y drysa [...]
Mae'r udcorn bob bore, yn barod rhoi bloedd,
Mae'r môr ar monwentydd ac uffern yn ufydd,
Roi'r meirw i fynydd a lyngcodd.
Ar Barnwr sydd barod, ar saint sy'n ei warchod,
Ar dydd sydd ar ddyfod, i ddifa hyn o fyd,
An galw ir holl ddynion, o flaen y Duw cyfion,
I gyfrif am y gawson oi olud.
Rym ninnau'n ymbesci, ar bechod a brynti;
Heb feddwl am gyfri, na gorfod ei roi,
Yn wastio ein talente, borthi 'n trachwante,
Doed barn a diale, pan deloi.
Fel Cowri cyn diluw, fel Sodom cyn distryw,
Fel Pharo ar cyfryw, (eu cyfri nid gwaeth)
Yr ydym ni'n pechu, a'n grym ac a'u gallu,
Heb fedru difaru ysowaeth.
Ymbescu ar bechod fel môch ar y Callod,
Ymlenwi ar ddiod, fel ychen ar ddwr,
Ymdroi mewn putteindra fel perchill mewn llacc [...]
Yw'n crefydd, heb goffa cyfyngdwr.
Tynu a rhegu, a rhwygo cig Jesu,
Ac ymladd am gwnnu y gawnen i gyd.
Cyfreitha'n rhy ddiaid, nes mynd yn fegeriaid,
A gadel y gweiniaid mewn gofid.
Y mae'r haul, ac mae'r lleuad yn gweld ein 'mddygia [...]
Mae'r ddaiar yn beichiad, ein buchedd mor ddrwg
Mae'r sanctaidd Angylion yn athrist eu calon,
O weled cristnogion yn gynddrwg
Mae'r ffeiriad, mae'r ffermwr mae'r 'rhwsman a'r creff­tw [...]
Mae'r Bayli ar Barnwr, ai bon [...]dd o [...] bron
Bob un am y cynta, yn digio 'r gorucha,
Heb wybod p'un waetha eu harferion.
[Page 13]Mae'r ffeiriad yn loettran, mae'r Barnwyr yn bribian
Mae'r Bonedd yn tiplan o dafarn i Dwlc;
Mae'r Hwsmon oedd echdo heb sedrn Cwmbnio,
Yn yfed Tobacco yn ddidwlc,
Putteindra'r Sodomiaid, meddwdod y Parthiaid,
Lledrad y Cretiaid, (or credwch y gwir)
Ffalstedd gwlad Graecia, gwangred Samaria.
Sy'n awr yn lletteua ymhob rhandir,
Mae'n anfoes i'm draethu, ein campau m'r Cymru.
Rhag cwilydd mynegu'n ymddygiad i'r byd ☜
Etto rhaid meddwl, y traetha Duw'r cwbwl,
Pan delo'r dydd trwbwl i trefnyd.
Gwell i ni'r awran, gael clywed eu datcan,
Er peri i ni'n fuan difaru tra fom:
Na gweled ein taflu, i'r tywyll garchardy,
O eisie difaru tra syddom,
Gan hynny mifynwn, gael gennych pe gallwn,
Ymbilio am bardwn yr ennyd y boch:
A gwella'n 'wllyscar, cyn eloi'n ddiweddar,
Rhag bod yn edifar pan ddeloch.
Mae'n ofer difaru, a chrio a chrynu,
Pan ddeli'r i'n barnu, bawb ar y barr:
Ni cheir ond cyfiawnder, er cymmaint a grier,
Pan eloi yn amser diweddar.
Meddyliwn gan hynny, cyn delo Christ Jesu,
Or nefoedd i'n barnu, bob un wrth ei be [...];
Am fod vn edifar, a deisyf ei ffafar,
Cyn t [...]fler ni ir carchar aniben,
FE ddaw yn dra digllon,
Yr ail rhann
a llu o Angylion
I ddial ar ddynion [...] dirmyg mor ddu:
Yn daran echrydus ir Bobl anrasus:
Su'rwan mor frowns yn pechu.
Yno o waith cymmaint, y fydd y digofaint,
Ei we [...]sion ai geraint y gare mor
[...]
gu
Ai sanctaidd Angylion, y grynant yn greulon
Pan ddelo mor ddigllon i farnu.
[Page 14]Yr haul a dywylla, y Lleuad a wridia.
Y nefoedd y gryna, bob modfedd yn grych:
Ar stowta o blant dynion, rhag echryd ac ofon,
A gria'n hiraethlon wrth edrych.
De dawdd y ffurfafen, fe syrthia pob seren,
Fe losgar holl ddairen oddiarni'n boeth;
Ar tyrau ar Cestill, a gwympant yn gandryll.
A phob rhyw bebyll a'n bilboeth.
Y creigydd y holltant, y glennydd y doddant,
Y mor [...]edd y sychant, ar syrthiad y Sêr:
A phob rhyw Fwystfilod, ymlusciaid a physcod,
Y drenga [...]t ar waelod y dyfnder,
Pa wasafa pa wewyr, pa gynffwrdd pa gysur,
Y fydd gan bechadur na chodo ei big?
Pan welo'r fath drallod, ar bob peth yn dyfod
O herwydd ei bechod yn unig.
Brenhinoedd cadarnblaid cowri capteiniaid,
Datc 6 15, 16.
Beilchion a gw liaid gwcha'r awr hon:
A griant ar greigydd, am bwnian eu mhennydd,
Au cuddio rhag cerydd Duw cyfion,
Yn hyn o lwyr drafel, fe gan yr Archangel,
E Udcorn mor uchel ond awchus y cri,
Nes ciywo rhai meirw, (yn grai ac yn groyw)
Y llef yn eu galw i gyfri.
A'r meirw a godant, ar drawiad yr amrant,
Or llwch lle gorweddant pan glywant y cri:
Ar byw a newidir, a phawb a gyrl aeddir,
I'r Wybren lle berni'r eu brynti.
Y Barnwr mawr ynte, yn gyflym ai Gledde,
Ai dafal ai bwyse y bwysa ddrwg a da;
Gan rânnu'r Eneidie, wrth gywir fesure,
Y cyfion oi gore a'r gwaetha.
Nid edrych e'n llygad, yr Empriwr nar Abad,
Ni phrisia fe drwssiad, na galwad un gwr:
Ond rhanu cyfiawnder i'r Brenin a'r beger,
Heb ofni displ [...]sser na chryfdwr,
[Page 15]Fe egir ŷ Llyfre, fe rwyga eu Calonne,
Datc 20.12
Fe ddengys eu bie yn amlwg i'r Byd;
Fe deifil anwiredd pawb yn eu danedd,
Fe ddial ar gamwedd y gwynfyd,
Ni ddiangc gair ofer, na'r flyrling y dreulier,
Mat. 12.36, Preg. 12 14
N [...]'r funud y waster heb ystyr a phwys;
Na gwagedd na gwegi, na beie na brynti,
Nas gorfydd eu cyfri yn gyfrwys
Puteindra'r gwyr mawrion ar gwragedd bonddigion
Sy'n harfer y gweision heb wybod i'r gwyr;
Ar mawrddrwg ar mwrddriad a'r flalstedd a'r lladrad
A wneir i bob llygad yn eglur,
Pa wyneb iradus, pa galon echrydus
Pa gynffwrdd gofidus? gwae a feddo i fath:
A fydd y pryd hynny, gan bobl sydd heddu,
Mor ffyrnig yn pechu y sywaeth.
Ni ddiangc na llymaid, na thippyn na thamaid,
Mat. 10 42.
A roddir ir gweiniaid er mwyn Jesu gwyn.
Heb ymdâl am dano, a chyfri a chofio,
Y briwsion y ballo'r cerlyn.
Yno y detholir, y Defaid ar Geifir.
Ac yno y bernir pawb wrth y pol;
Y Defaid i'r deyrnas mewn harddwch ac urddas,
Ar Geifr i'r ffyrnais Uflernol.
Yno ŷr a'r cyfion yn llawen ei calon,
Mewn gynau tra gwynion yn union ir nêf.
Datc 7, 9,
I dderbyn go [...]escyn or deyrnas ddiderfyn,
A roddodd Duw iddyn yn gartref.
A geifir damnedig, ar bobl fileinig.
Sy'rywan yn dirmyg y Barnwr ar dydd,
A deflir yn glymme, mewn cadarn gadwyne,
I uffern i'r poene tragvwydd.
Yn uffern y llefan, gan flined eu llosefan,
Yn ebrwydd ar Abram, am ddafan o ddwr:
Ond llefent hyd * ddiffin, ni chant hwy un droppyn;
Na thamaid na thippyn o swccwr.
[Page 16]Cans yno'n dragywydd, mewn carchar a chystudd,
Heb obaith y derfydd ei dirfawr gûr;
I'r erus anwiredd yn rhingcian eu Dannedd,
Heb derfyn na diwedd oi dolur,
Ac yno'r awn ninne, i estyn ein gwefle,
Am dreulio'n dyddie mewn pechod mor dal,
O ddiffyg i'n wilio, a dyfal weddio.
A gwellhau cyn delo dydd dial.
Meddyliwn gan hynny, tro'r amser yn gadu,
mar 13, 33.
Am brudd edifaru, nid yw foru i neb;
A 'madel a'n brynti, a'n gwagedd a'n gweg',
Cyn delom i gyfri ac atteb,
Duw Jesu dewisol y brynaist dy bobol.
Or ffwrnais uffernol, oedd ffyrnig ei phwys;
Cadw'n eneidie, pan delont ir trawdle,
A dwg hwy i gadeirie Paradwys.
Os gofyn Deheubarth, na Gwynedd o un-parth,
Pwy ganodd y dosparth i'ch dispwyll rhag ing.
Eglwyswr sy'n hoffi▪ eich dadwraidd och didri.
Ach cofio am eich cyfri cyfing.

Truenus gyflwr Dyn trwy naturiaeth.

ADda werthodd bawb o'r Byd,
Ir hên sarph am afal drŷd,
Ni ddaw un o [...]rampe Satan,
Nes dêl Christ i dynnu allan.
Y mae Satan ynte'n cadw,
Pob pechadur gwrryw a benyw,
Yn ei g [...]rchar tonnog tywyll,
Esa. 42.7.
Nes del Crist iw dorri e'n gandryll.
Mae'r carchar cyn dywylled,
Ac nad ym yn abal weled.
On tost gyflwr a'n gofidi.
Nes del Christ a goleu i ni.
Joan, 8, 12.
Rym ni'n aros heddyw heno
Mewn tywyllwch dan ein dwylo
Ac heb weled ein trueni
Act. 26, 18,
Nes del Christ i ddangos i ni
Rym ni'n farw yn ein pechod
Eph, 2.1.
Rym ni heb weld mo'n câs nai ganfod,
Rym ni' ngorwedd mewn tywyllwch,
Ac heb geisio gwell diddanwch.
Rwy ti'n ymladd ymhlaid Satan,
Rwy ti'n elyn it dy hunan:
Rwy ti'n myned byth ar ddidro.
Mat. 18, 11 12.
Nes del Christ ith droi a'th rwystro.
Rwy ti eisus gwedi'th golli,
Ath gondemnio † cyn dy eni,
Sef yn lwy­nau Adda,
Oni cheisi Ghrist ith helpu,
Yn golledig i'r arhosi.
Mae'r sarph ai cholun wedi'th frathu
Mae dy enaid bach or brath yn gryddfu
Cais Ghrist yn feddyg i'th Jachau,
Onis ceisi † marw y wnai.
sef damne­dig fyddi
Mae d' enaid gwedi'r diawl i speilio.
O'r holl ddonieu y roes Duw iddo,
Cais gan Ghrist ei ail ddilladu,
Onis ceisi yn siwr di sythu
datc. 3, 18.
Mae'r fallt a'r follt o bechod tanllyd
Gwedi'th glwyfon wenwynllyd;
Cais gan Ghrist Jachau dy glwyfe,
Onis ceisi'r fall ath bie.
Mae d' enaid fach fel Dafad wirion,
Rhyng palfau'r llew ar Bleiddiaid digllon
Cais Ghrist mewn pryd i'th ddwyn oi grampe
Onis ceisi'r blaidd ath bie.
Mae'r diawl fel ffowler gwedi dala,
2 Tim. 2, 26
D' enaid bach a rhwyd or gryfa,
Di ddoi byth o rwydan Satan,
Nes del Christ i'th dynnu allan.
Io. 8, 34.
Rwyt ti'n ufudd wâs i bechod,
Rwyt ti'n pechu bob diwrnod,
Cais gan Ghrist roi grâs a chryffder
It i wasanaethu mewn cyfiawnder.
Eph. 2. 3:
Rwyt ti'n blentyn i'r digofaint,
Wrth naturiaeth fel dy geraint,
Cais gan Ghrist dy adgenhedlu,
Rhag dros fyth it aros felly,
Rwyt ti'n slaf ir Cythraul aflan,
Rwyt ti'n byw dan feddiant Satan
Cais 'mhryd gan Ghrist dy dynnu,
O law'r fall i aros felly.
Luc. 11, 21.22
Mae'r gwr cadarn yn heddychlon,
Yn cadw ei gastell yn dy galon,
Nes cael Christ i ddwyn ei Arfau,
Nid cadar'n byth oth asgrau.
Rwyt ti yn gangen wyllt anftrwythlon
Esa. 5.4.
Heb ddwyn ffrwyth ond grawnwin surion
Oni wellha Christ dy nattur,
I dân uffern boeth i'th deflir,
Fe wnaeth y diawl di'n elyn Duw,
Col. 1, 21.
O blentyn grasol gore ei ryw;
Cais gan Ghrist dy
Heddychu,
reconsilio.
Rhag aros byth yn elyn iddo.
Rwyt ti'n un or cywion bychain,
Y sydd yn pori rhyng y cigfrain,
Mat. 23.37
Os Christ Jesu ni'th adaina,
Cigfrain uffern a'th sclyfaetha.
Rwyt ti'n gorwedd mewn tywyllwch
Heb wyr nabod llwybrau heddwch,
Oni oleua Christ ein llwybrau,
Awn i uffern ar ein pennau.
Rwyt ti'n haeddu pob caledi,
Gwedi'th ddamnio
sef yn adda
cyn d' eni:
Oni chei gan Ghrist ith helpu,
Yn ddamnedig ei yr arhosi,
Rwyt ti'n elyn i'r gorucha,
Rwyt ti'n slaf i'r Cythraul penna,
Rwyt ti'n crewyn Uffern isod:
Nes del Christ i olchi'th bechod.
Rwyt ti'n euog o bob tramgwydd,
Deut. 28.15.16.17.
O bob nychdod, o bob aflwydd,
O bob gofid, o bob trallod,
Nes cael Crist i olchi'th bechod.
Drwg tu fewn a drwg
tu allan Rhuf 3.10. hyd y 19.
tu fâs,
Llawn o bechod tlawd o râs,
Aflan ofid, dwl, di wybod.
Nes cael Christ i olchi'th bechod,
Dyma gyflwr, pob rhyw Ghristion,
Medd y Scrythur yn blaen ddigon,
Hyd nes delo Christ ein Prynwr.
I'n hail eni, I wellhau'n cyflwr,
Oni chawn ni Ghrist i'n helpu,
rhuf. 5, 6 2 Cor. 3.5.
A'n hail weithio, a'n gwaredu,
Ni all dyn o'i rym ei hunan,
Wellhau ei gyflwr mwy na Satan,
Ni all Peder ni all Pawl.
Ni all Angel, ni âll Diawl,
Ni all neb ond Christ yn unig.
Gadw enaid dŷn colledig.
Chwilia'r nêf: ar ddaiar, a'r Awyr,
Chwilia'r mor, a phob creadur;
Di gei weled na all un,
Ond Christ gadw enaid Dyn.
Oni cheisi Ghrist ein prynwr,
Gan ei dad i wellhau'th gyflwr.
I bwll uffern ir ai i drigo.
Eisio ceisio cymmorth gantho.
Ni bydd un Dyn yn gadwedig,
O'r holl fyd er maint eu rhyfig,
Ond y dyn y gaffo ei gadw.
Er mwyn Christ ein ceidwad croyw.
Ac ni cheidw Christ un Christion,
mat 7.21,
O'r holl fyd er maint a grion.
Ond y dyn a gretto yn brudd.
Yn Ghrist trwy wir a [...]ywiol ffydd,
Y neb a gretto yn Ghrist yn gywir,
Fe gaiff hwnnw ei gadw yn siccir,
Io 3, 36.
Y neb ni chredo ynddo'n syth,
Ni chaiff hwnnw ei gadw byth.

Bywyd a Marwolaeth Christ.

POB rhyw Ghristion ac sy'n caru,
Nabod Christ a fu'n ein prynu,
Clywch fi'n adrodd genedigaeth.
Prynwr Crêd a'i brûdd Farwolaeth,
Jo. 1 1, 3, Dihar 8.22 1 Jo 5.7
Y Gair mab Duw oedd or dechreuad▪
Cŷn bod nef na daiar na 'deilad,
Yn ail Berson or glan Drindod.
Rhwn y wnaeth y Bŷd mor barod.
I'r oedd e'n Arglwydd cuwch a'i Dâd,
Yn y nefoedd yn llawn o rad,
Yn rheoli'r holl Angylion,
Cyn ei ddywad at blant Dynion.
rhuf, 9, 5,
Roedd e'n Dduw galluog grymmus
Roedd e'n Arglwydd anrhydeddus,
Roedd e'n Frenin mawr ei rad.
Roedd e'mhob pwynt cuwch ai Dâd,
Phil. 2, 67
Pan ddaeth or nef i brynu dyn,
Fe gymmerth orno'n lliw a'n llûn,
Jo, 3, 13
A'n gwir gnawd o Fair ei Fam,
Rhon oedd Wyryf bûr ddinam.
Hi Feichiogodd arno'n rhyfedd,
O râd yr yspryd glan ai rinwedd.
Heb fod iddi wneud na nabod.
Gwr erioed, er bod yn Briod,
Ac felly'r aeth mab Duw yn ddyn,
Job, 1 14,
O naturiaeth mair ei hun,
(Heb ei halogi a dim pechod,)
Yn y groth trwy rad y Drindod.
Dwy naturiaeth amlwg yn.
Rhuf. 1 3 4,
Sydd i'n prynwr Duw a dyn;
Un o'i Dad, a'r llall o'i fam,
Dwy wahanol, dwy ddinam;
Mab i Dduw, a mab i ddyn;
Heb un person iddo ond
Y mae'r duwdod yn dri pherson ond yr ail berson a gy­mmerodd at­to natur dyn; ac a'l hunodd yn y fath fodd a'r duwdod ac nad yw'r ddwy natur ond un person
un;
Mab i ddyn, o fam heb dâd,
Mâb Duw mawr heb fam y câd.
O ran ei ddyndod mae'n y mryd,
I ddangos iwch ar hyn o bryd,
Y Dull, a'r modd, y ganed Jesu,
Pan y daeth o'r nef i'n prynu.
Pan daeth mair i Fethlem hygar,
I dalu treth i'r Emprwr Cesar,
Daeth ei amser hi Escori.
Fel y traetha'r fengyl i ni.
Ond waith cymmaint oedd y cwmpni
Oedd yn gorwedd ym-mhob Ostry,
F' orfu ar Fair yn fawr ei gofal,
Fynd i escori hwnt i'r stabal.
Yno ymhlith y mûd nifeilod,
Gwchdra
Heb ddim * stade, Duw'n i wybod,
Fe escorodd mair wen ddiddig,
Ar ein prynwr ddydd Nadolig.
Gwedi geni'n prynwr hyfryd,
Heb fod arni boen na gofyd:
Yn dra llawen hi a rwyme,
Brenin nefoedd mewn cadache,
Gwedi rwymo, hi rhoi i orwedd,
Yn y preseb yn ddiryfedd,
Ac y fydde bodlon ddigon,
I bob peth oedd Duw'n i ddanfon,
Yno cyn i'r wawr gael torri,
Fe ddanfone Dduw gwmpeini,
O fugeiliaid, mewn gwiriondeb;
I addoli e yn y preseb?
Rhai ddanfonwyd gan Angelion,
Yn dra llawen iawn eu calon,
Yr enciniog
I dre Fethlem o wir bwrpas,
I gael gweled y Messias;
Gyhoedd
Ac i
Gyhoedd
faneg i bawb hefyd,
Fel y dwetse'r Angel hyfryd,
Mae fe oedd Christ y gwir geid wad
Rhwn addawsid o'r dechreuad:
Ac y byddei fawr lawenydd,
I'r holl fyd o'r chwedel newydd;
O ran geni'r boreu hwnnw,
Y Iachawdwr y ddoi'n cadw.
Yno y dawe lu o Angylion,
Ac y ganen hymnau mwynion,
I'r Tâd nefol o'r uchelder,
Am roi i ddynion y fâth fwynder
A'r hyn fe'm ddangosse Seren,
Rymmus, rasol, yn yr wybren;
Rhon y ddywede â'i goleuni
Fôd y prynwr gwedi eni.
Yno y dawe [...]ên wyr doethion
O'r Dwyrain dir yn dra union
I Judea wrth y seren
I ymofyn Christ yn llawen;
Rhai y geisient gael copinod:
Gan y Brenin creulon Herod
Ble gennassid Christ y cyfion,
Brenin grassol yr iddewon.
Yno y dywede'r ffeiriaid mwya
Mae ym methlem trêf o Juda
Y suwr ennid y Messias
Medde'r Prophwyd hên micheas.
Pan y clowe'r doethion hyn,
Daethont yn faith ac yn dynn
I dre Fethlem wrth y Seren.
Dan ymofyn Christ yn llawen.
Ond pan daethont hwy yn agos,
I'r ty, lle'roedd Christ yn aros
Fe ddisgynne'r Seren dlws;
Ac arhosse uwch ben y drws.
Yno yr aent i mewn yn llawen,
Lle roedd Mair a Christ yn fachgen,
Ac y gwympent ar eu daulin
I addoli'r grasol frenin.
Rhoddent hefyd
Rhagorol.
rial roddion
Y berthyne i Crist yn
Gyttun
gysson,
Aur, a ffrancwmsens o'r gore,
A Myrh gwerthfawr, teg'rogle.
Herod ynte pan y clywais,
Eni Christ y gwir Fessias,
Efe fynnei lâdd e'n blentyn
Bach yn sugno yn ei rwymyn,
Os fe helodd lu o fwytswyr,
Gwaedlyd, creulon, dig difesur,
I lâdd yr holl blant bach o ddeutu,
Cyn y methe ladd y Jesu.
Hwynte laddson yr holl fechgin
Oedd ym methlem etto'n egin
Fach a mawr dan ddwy flwydd oedran,
A mab Herod gâs ei hunan.
Yno y gorfu ar fair fyned
Ganol nos i ddechre cerdded
Tua'r aipht a'i phlentyn ganthi
Lle archasse'r Angel iddi.
Yno y bu Christ yn aros,
Gyda'r Sibsiwns lawer wythnos
Nes cael clywed marw Herod
Oedd yn ceisio'i ladd heb wybod
Yn ol marw Herod greulon,
Fe ddoe Christ i wlad Iddewon,
Luc 2 51 46
Ac y fyddei ostyngedig,
I Fair ac i Joseph ddiddig
Pan yr oedd e'n ddeuddeg oed,
Peth rhyfedda a fu erioed,
Efe ymbyngcie â Doctoriaid,
Nes bae'r doethion arno'n syniaid,
Yno yn ddeg ar hugein oedran,
Pan fedyddiwyd ef gan Joan,
Fe ddescynei arno yr Yspryd,
Ar lun clommen hygar hyfryd,
Ac fe lefe Dduw ei hunan,
Frŷ or nef lle clywe'r cwppan.
Hwn yw f' unig fab aberthwyd.
Ynddo ef ŷm llwyr fodlonwyd,
Gwedi'r yspryd ddescyn arno,
Fe ddoe'r Cythraul ynte i dempio;
Ond er maint oedd cyrch y Cythrel
Rhodd Christ iddo
Cwymp
ffwyl ddiogel;
Yn ol hyn fe ae i bregethu,
Yr efengyl wen oi ddautu,
Ac i ddechreu gwneuthur gwrthie.
Ymhob tir y ffordd y cerdde,
Fe drodd y dwr yn gynta'n Win
Jo 2, Mat 11 5.
Fe lwyr Jachaodd pob clefyd blin:
Ac fe wnaeth i'r deillion weled,
Ac i'r byddar clust drwm glywed,
Fe wnaeth ir cripliaid yn ddifraw
Luc, 13, 13.
Neidio a thrippio yma a thraw.
Ac fe wnaeth i'r gwrelgyn grwcca,
Godi chefn or unjawna.
Ynte rodiodd ar y môr,
Gan ostegu i rwyf ai rôr:
mar 6▪
Ac fe wnaeth i'r Storom wynt,
Beidio a chwythu yn ei hynt.
I ddangos inni ei fod e'n Dduw,
Fe gododd tri o f [...]w i fyw,
Merch i Iairus mab i'r Weddw,
Lazar gwedi drewi a marw.
Porthodd pim mil a phum torth
Luc 7.8.
Mawr oi bwer, da oi borth:
Llanwodd ddwy Long o'r pysc mwya,
Jo. 11. Luc. 5,
Pan y methe ar bawb eu dala,
Bwriodd lawer cythrael allan,
Or rhai cleifion, Lloerig egwan,
A chlust malchus gwedi dorri,
Luc. 22.
A Jachaodd ef
yn ebrwydd
toc heb Eli.
Llawer gwrthie gydâ hyn,
Y wnaeth ein prynwr Jesu gwyn,
Cyn i Suddas frwnt ei werthu,
I'r Jddewon ai fredychu.
Ni chaed twyll erioed oi ene,
Nid oedd un dyn a'i hargyoedde,
Roedd e'n ddiddrwg fel yr oen.
1 pet. 2.22. Jo. 8.46.
Yn fachei barch yn fawr ei boen
Pan ddaeth yr awr 'roedd Duw yn ei osod,
I aberthu e dros ein pechod,
Fe ddoe Suddas ac a'i gwerthe,
I'r iddewon am Geinioge.
Ni chadd ddim ond hanner Coron,
(Am ei roi e'n llaw'r Iddewon,
mat. 19.15.
I fynd ac ef yn rhwym at Gaiaphas,
Gwedi holi yn dost gan Annas,
Yn y man y daeth at Gaiaphas
Fe ddoe tustion ffals oi gwmpas,
Ac y fynent brwfio arno.
Lawer peth nas gwydde oddiwrtho,
Caiaphas ynte ai
Hole.
hexame,
Yn galed iawn am fil o bethe,
Ac ai tynge trwy'r Duw byw,
mat. 26.63
Gyfadde ai ef oedd fab i Dduw,
Ac am i'r Jesu adde'n glir,
Mae'r fe oedd Christ, mab Duw yn wi [...]
Braidd na fynne pawb ei lethu,
A'i labyddio cyn ei farnu
Yno y poerwyd yn ei wyneb
Mar. 14.56.
Bwbach ddaliwyd mewn ffolineb
Ffystwyd ei ben a gwielyn,
A chernodiwyd e'n ysscymmŷn.
Ar y bore yr Jddewon,
A'r offeiriad, a'r gwyr mawrion,
Y ddoent â Christ gwedi glwmmu,
At Bilatus iddi i farnu.
Pilat gwedi holi e'n galed,
Heb gael ynddo fai na niwed,
Mat. 27.
Dan lanhau a golchi i ddwylo
Y rodd barn marwolaeth arno.
Cynta peth y farne Pilat,
Oedd ei chwippio heb ei ddillad
Yn ol hynny i groes hoelio,
Ar y crog pren nes
Marw,
departo.
Felly chwippiwyd Christ yn dost,
O hewl i hewl, o bost i bost:
Ac ni adewid modfedd arno
Oi ben iw draed heb ei
Eflangellu
scwrgio,
Gwedyn dewi silwyr Pilad
Ac hwy
Ddioscent.
stripent Christ o'i ddillad.
Ac a'i gwiscent e'n cyn frafied
Mewn hên santell goch i scarled
Yn ol hyn fe blethe rhain,
Anfad goron fawr o ddrain,
Ac a'i gwiscent ar arleisie
Christ, nes rhed ei waed yn bibe
Rhoddent hefyd yn ei law
Gorsen dan ymgrymmu draw,
A'i watwaru â geiriau mwynion,
Dydd dawch brenin yr iddewon
Gwedi diosc Christ drachefen,
[...]hoesont y groes ar ei gefen,
[...]ddo i llusco ir Benglogfa,
Io. 19, 17
[...]le croeshoeliwyd ar ei bucha.
Pan yr aethont iw groeshoelio.
Tyllwyd ei draed a'i ddwy ddwylo:
Ac hwy hoeliwyd yn fileinig,
A thair hoel o haiarn ffyrnig,
Er maint oedd ei boen a'i loese,
Etto er hyn ni gore o'i ene;
Ac ni yngane wrth y poenwyr
Act 8.32.
Mwy na'r ddafad dan law'r cneifwyr.
Ond fe offrwmme ar y groes
Pan oedd chwerwa a blina'r loes,
Ei enaid gwynn, a'i waed i gyd
Yn aberth dros bechodau'r byd,
Luc. 23 34, 46.
Ac orchmyne ei enaid gwirion,
Yn llaw ei dad y Barnwr cyfion
Dan
ddeisyf
ymhwedd arno am fadde
[...]r iddewon a'i croes hoelie,
Felly y bu farw'r Jesu,
Ar y pren croes wrth ein prynu,
Ac y rhodd êf waed ei galon,
Dros eneidiau'r gwir gristnogion.
Felly y rhodd Duw ei anwylyd
I groes-hoelio trwy fawr benyd,
Er mwyn prynu ein eneidie,
Fe waredir y sawl a gre­tto ac edifar­hao.
A'u gwaredu o'u holl boene.
Rhoddwn ninne foliant iddo.
Ddydd a nos heb ddim diffygio,
Am ei gariad ai drugaredd
Yn prynu enaid dyn mor rhyfedd
Diolch mawr a moliant hyfryd
Y fo i'r Tâd a'r Mab a'r Yspryd
Am brynu enaid dyn mor britted
Ai ddwyn ir nef o dost gaethiwed

Adroddiad o gariad Christ at y Byd

CLvwch adrodd mawr gariad mâb Duw ar y [...]
Pan ddaeth ef or Nefoedd i'n prynu mor [...]
Er peri i chwi gofio, am gar [...]ad mab Duw,
Ai foli'n wastadol, tra fyddoch chwi byw.
Pan dwyllodd y Gythrael ar afal y wraig
I dorri'r Gorchymmyn, trwy demptiad y dd [...]
Fe'n gwert [...]wyd am afal i'r diawl cymain u [...]
Heb neb alle'n prynu, ond mab Duw ei hun.
Mâb Duw pan y gwelodd ein cyflwr mor [...]
Fe ddaeth yn ei un swydd, or nefoedd yn b [...]
O blith yr Angelion, i grôth y wen Fair,
I gymrud em nattur, i' [...] gwared ni or pair
Mair a feichiogodd, ar unig fab Duw,
O rad y glân Yspryd, (ond tra rhyfedd yw,
Pan oedd hi'n [...]û [...] forwyd. tra ieuangc mewn [...]
Heb fod iddi hanfod, ac un gwr erioed.
Pan ddaeth amser escor, fe aned mab Mair
Mewn Stabal y Methlem, ar botte [...] o wair,
L [...]e i trowd ef mewn cadach, ai osod i law [...]
I o [...]wedd mewn preseb; ond happus or awr.
Pan aned ein prynwr danfonwyd or nêf,
Angelion rhialwych tra llawen eu llêf,
I faneg dan ganu yr amser ar pryd;
Y ganed Christ Jesu, Jachawdwr y byd.
A'r Doethion or Dwyrain pan godfen ei pen
A gweled ei Seren, mor w [...]ch ac mor wen,
Hwy ddaethant or dwyrain i F [...]thlem yn bôst
I ddoli'r dyn bychan, mewn llawer o gôst
Herod pan glywodd ef eni mab Duw▪
Fe helodd ei fwytswyr, iw fwrddio fe'n fyw▪
Ac rhag iddo ddiangc, fe laddodd bob un,
O fechgin bach Bethlem, ai Blentyn ei hun
Mair hithe gododd ar hyd nos heb ddim trŵst,
[...]c aeth at y Sibswns ai phlentyn ar ffrŵst,
[...]e bu hi'n hir aros ni wn i pa bŷd,
[...]es darfod am Herod ai fwytswyr i gyd,
Pan ddarfu am Herod daeth Christ yn i ôl,
[...]r Alpht i Judea, at genedl ry ffôl,
[...]e bu e'n pregethu'r Efngyl yn hir,
Bobl ben galed na chreden mor gwir.
Gwrthie tra gwerthfawr y wnaeth ef lawer pryd,
[...] ddangos mae 'r Jesu oedd ceidwad y Bŷd;
[...] chrede 'r Jddewon nai wrthie nai wir.
[...]nd ceisio i fradychu ar Fôr ac ar Dir.
Suddas fradychus a chusan tra châs,
[...]'i gwerthod e'n nwylo 'r lddewon di râs,
[...]rachwant ar Arian ai gyrodd e'n bôst,
[...] ymgrogi mewn cebyst▪ i ffortun oedd dôst,
Y nos y bradychwyd fe chwysodd y gwaed,
[...]n daran dosturus oi ben hyd i draed,
Luc. 22.44.
[...]rth feddwl cyn chwerwed a blined o'r loes,
[...]fydde arno oddef am [...]chod pob oes.
Dalie'r Iddewon ê a ffaglau ac a ffynn,
[...]an oedd e'n gweddio yn ol Swpper yn Syn▪
[...]wy rhwyment a chordau hwy lluscent trwy fraw,
[...]t Annas a Chaiphas iw holl dan law.
Pilat yn fynych ai holodd e'n
Ysgafn
chwai,
[...]eb allel cael ynddo na phechod na bai,
[...]nd dan olchi ei ddwylo fe wnaeth ac ef gam.
[...]e'i barnodd i farw heb wybod pa ham.
Fe farnodd ei chwippio oi ben hyd ei draed,
[...]es bod ei Gorph purwyn yn lliwio gan waed,
[...] chwedyn i hoelio ar grogpren trwy gur
[...]wy ei ddwylaw ai ddeu droed a hoelion o ddur,
Goronwyd Christ hefyd a choron o ddrain
[...] wiscwyd mewn mantell o Scarled coch main:
[...] addolwyd mewn gwatwar dan blygu pob glin
[...] gurwyd a chorsen dan ystyn y min
Fe rowd ar ei ysgwydd y groes iw dwyn
Nes mynd ir benglogfa heb nemawr o gwyn
Ar honno'n fileinig fe hoeliwyd yn fyw,
Ac felly ar grogpren fe grogwyd mab Duw▪
Er maint oedd ei gystudd ai gamwedd ai gûr,
Pan hoeliwyd ef felly, a'r hoelion o ddûr:
Ni' gorodd oi enau ni ofynodd pa ham
Mwy na'r oen dan law'r cneifiwr er maint oedd i g [...]
Ond llefain yn
D [...]
irad or groes ar ei Dad,
Am fadde i'r Jddewon a sugnent ei waed:
O achos na wyddent ar hynny o bryd.
Eu bod hwy'n croeshoelio Jachawdwr y Bŷd
Ac felly bu farw mab Duw ar y groes
Wrth ddwyn ynddo ei hunan y blinder ar loes▪
A'r poenau a'r pennyd ar dial i gyd,
Oedd Duw yn ei ofyn am bechod y Bŷd,
Trwy ange tra phoenfawr a phridwerth ei w [...]
Fe wnaeth heddwch hyfryd rhyng Dynion ai Dâ [...]
Fe'n dygodd ni eilwaith mewn ffafar a Duw,
Molianwn ni yr Jesu tra byddom ni byw
Fe ddygodd ar grogpren ein pechod bob
Fe'n * golchodd o'n beie trwy wir waed ei hu [...]
Fe'n gwnaeth ni'n Frenhinoedd a Offeiriaid i Dd [...]
Molianwn ni yr Jesu tra fyddom ni byw.
Cyflawnodd y gyfraith bodlonedd ei Dâd,
Fe brynodd ein pardwn fe'i seliodd a'i waed
Fe'n tynodd o'r carchar fe rwygydd ein sach,
Molianwn ni'r Jesu yn fawr ac yn fach.
Ai angeu fel Sampson fe droediodd i lawr
Gyhuddwr ein Brodur y wiber gôch fawr.
Fe rwygodd ei deyrnas, fe sigodd ei siol,
Datc [...] ▪ 9 [...]
Moliannwn nir Jesu a ynnillodd y gol,
Fe ddofodd lidiawgrwydd a dicter ei Dâd
Fe'n gwnaeth yn blant iddo trwy fabwys a rh [...]
Fe rodd i ni gyfran o deyrnas ein Duw,
1 Pet 3,
Molianwn ni'r Jesu tra fyddom ni byw.
Coronau goreuraid ar bennau pob un,
2 Tim. 4.8
A gynau gwŷch gwynion tra lluniedd eu llun
A Brynodd ef i ni, a Theyrnas gwlad nêf,
Molianwn ni'r Jesu yn llawen ein llef,
Gogoniant a gallu, a diolch bob pryd,
A fytho'r glan Drindod am ein prynu mor ddryd;
A mawr glod a moliant i'n prynwr a'n pen,
A dyweded pob Christion yn wastad Amen.

Awn i Fethlem.

AWN i Fethlem bawb gan danu,
Neidio, dawnsio a difyrru,
I gael gweld ein Prynwr credig
A aned heddyw ddydd nadolig.
Mae ê 'Methlem wedi eni
Yn ystabal tu hwnt i'r
Ty llettu.
ostri,
Awn bob Christion i
loffrwm iddo
gyflwyno
Ac i roddi golwg arno.
Dymma'r Ceidwad a ddanfonwys,
Tâd tosturi o Beradwys.
I'n gwaredu rhag
Damnedig­aeth.
marwolaeth,
Ac i weithio'n Iechydwriaeth,
Awn i Fethlem bawb i weled,
Y dûll ar modd ar man i ganed
Fel y gallom ei addoli,
A'i gydnabod gwedi eni
Ni gawn Seren i'n goleuo
Ac yn serchog i'n cyfarwyddo,
Nes y dycco hon ni'n gymwys,
I'r lle sanctaidd lle mae'n gorphwys
Mae'r Bugeiliaid gwedi blaenu,
Tua Bethlem dan lonychu
I gael gweld y grasol Frenin
Ceisiwn ninne bawb ei ddilyn,
Y mae'r plentyn yn y Stabal
Gwedi drin gan Fair yn rhial
A'i roi orwedd yn y preseb
Rhyng yr ych a'i Dadmaeth Joseb.
F' aeth y Doethion i gyflwyno.
Ac i roi
rhoddi [...]
anrhegion iddo.
Aur â thûs a myrh or gore
A'i
Offrw [...]
bresentio ar eu glinie,
Rhedwn ninne iw gorddiwes,
I gael clywed rhan oi gyffes,
Dysgwn ganthyn i gyflwyno,
A rhoi cl [...]d a moliant iddo.
Yn lle aur rhown lwyr gred ynddo
Yn lle T [...]us rhown foliant iddo,
Yn lle Myrh rhown wir ddifeirwch,
Ac fe [...] cymmer trwy hyfrydwch.
Mae'r Angelion yn llawenu;
Mae'r ffurfafen yn tywynu,
Mae llû Nêf yn canu hymne;
Caned dynion ryw beth hwynte,
Awn i Fethlem i gael gweled,
Dan. 1.14.
Y rhyfeddod mwya wnaethped.
Gwneuthur Duw yn Ddŷn naturiol,
I gael marw dros ei bobol.
Awn i weld yr hen
Er ei fod yn hen etto mae yn hardd, heb i dorri gan oedran.
ddihennydd,
A wnaeth y nef y mor ar mynydd.
Y cyntaf
Alpha oediog Tad goleuni,
Yn ddyn bychan newydd eni.
Awn i weled Duw y gair,
Brenin nef ar arphed Mair,
Gwedi cymryd Cnawd Dyn arno,
Yn fab bach yn dechreu sugno.
Awn i weled y mab rhád,
Hûn
fel yr oedd ef yn Dduw
na'i Fam cyfoed ai Dâd,
Mab a Thad y Fâm ai serch,
Yn lleia ei sôn yn fwya ei serch,
Awn i Fethlem i gael gweled,
Mair a mab Duw ar ei harffedd,
Mair yn dala rhyng ei Dwylo,
Heh. 1.3.
'R Mab sy'n cadw'r Byd rhag cwympo
Awn i weld Congcwerwr Ange,
Gwedi rwymo mewn Cadache.
A'r mâb a rwyga Deyrnas Satan
Yn y craits heb allu crippian,
Awn i weled y Messias,
Prynwr Crêd ein hêdd a'n hurddas,
Unig Geidwad ein eneidie,
Ar fraich Mair yn sugno bronne,
Awn i weled hâd y wrâig,
Y bwyntiodd Duw i bwnio'r Ddraig:
Ac i sigo ei siol wenwynig.
Am beri bwytta'r ffrwyth gwarddedig.
Awn i weled y mâb y gâd,
Y rhyfedd iawn o'i fam heb Dâd,
A'i fam yn Wyryf jeuangc oed.
Mam heb nâbod gwr erioed.
Awn i weld y ferch yn
I Grist fel yr oedd e'n ddyn * i Grist fel i'r oedd en Dduw.
fam,
Ar fam y ferch ddinwyf ddinam
Y ferch yn magu Thâd oi rwŷmyn,
A'r Tad yn sugno bronne'r plentyn,
Awn i weld y pen saer gore,
Y wnaeth yr haul ar holl Blaenede.
Y nefoedd fawr a'i Rŵrn mor rhial,
Yma'n gorwedd yn y Stabal.
Awn i weld duw'r Gogoniant
'Rhwn sy'n mesur nef a'i
span
rychwant,
Yn y preseb heb un gader.
Yr Oen mwyn yn salw ei biner.
Awn i weld yr oen Bendigaid,
Ni bu fath o flaen Bugeiliaid:
Oen i Dduw y ddaeth mewn pryd,
Dynu ffwrdd bechode'r Byd.
Awn i weld ein Prynwr boŷw,
Sydd i farnu byw a meirw,
Rhwn a'n dûg i'r nefoedd dirion,
Ar adenydd yr Angylion,
Dymma gwelwch e'n ddistwr,
Y gore i gyd yn wanna gwr;
Duw yn ddyn a dyn yn Dduw,
Y gwelo'n llun tra dedwydd yw.

Christ sydd yn oll yn oll.

CHrist ei un fydd ôll yn ôll,
Yn cadw dyn rhag mynd ar gô
Nid neb nid dim, ond Christ ei hu [...]
Y ddichyn cadw enaid dyn.
Y Sarph a'r afal gynt a'n twyllod [...]
Y Sarph â phechod a'n gwenwynodd
Y sarph â'n tynnodd o beradwys.
Y sarph i
I stad o go­lledigaeth.
Uffern boeth an gyrrwys
Mae mor siwr i bob dyn fyned
I bwll uffern i gaethiwed,
A phyt faem ni eisioes ynddo,
Oni cheidw Christ ni rhagddo.
Christ y ddaeth o'r nef i'n prynu
Christ o'n cadwodd gwedi'n damnu,
Christ o'n cystudd a'n gwaredodd
Christ a'n dwg i deyrnas nefoedd
O gramp y llew o ene'r wiber,
O rwyd y fall o balfe'r Teiger,
O'r pwll, a'r pair o'r deyrnas aflan
Y tynnodd christ ei ddefaid allan
Ni all Satan ladd a mwrddro,
Fwy nag all mab Duw ddadfywio
Y laddo'r ddraig ai cholun gau
Gwaed yr oen oll ei jachau.
Jesu Ghrist yw had y wraig
Y bwyntiodd Duw i droedio'r ddraig,
Gen. 3.15
I sigo ei siôl i rwygo ei theyrnas,
I dynnu dyn o'i chrampe adcas,
Ni orchfyga neb o'r ddraig,
Ond trwy gymmorth hâd y wraig;
Ni ddaw dyn o'i theyrnas aflan,
Nes y tynno Christ ef allan.
Christ yn unig yw'r Hâd dinam
Y bromeisiodd Duw i Abram,
Gen. 22 18.
I'n rhyddhau oddiwrth y felidith,
A rhoi i ni'r nefol fendith,
Christ yn unig ydyw'r Silo
Y ddanfonodd Duw i'n ceisio.
O gaethiwed pob rhyw bechod
I wasai aethu'r sanctaidd Drindod.
Gen. 49 10.
Christ ei hun yw pren y bywyd,
Sy'n rhoi maeth i bawb o'r holl fyd,
Ni bydd marw yn dragywyddol.
Neb y fwytto'r ffrwyth Sancteiddiol.
Christ yw'r arch a'r achles esmwyth
Cadwodd Noah rhag boddi a'i dylwyth
Christ yw'r arch sy'n cadw ninne,
Rhag pob dilyw a diale.
Gen, 28 12 Jo. 1 51.
Chrst ei hun yw ysgol Jago,
Oedd o'r nef ir ddaiar yn pheico
Ar yr hwn y mae i'n ddringad,
Os ir nef i mynwn ddwad.
Act. 31 [...]
Christ yw'r Prophwyd mawr y helodd
Duw o'i fynwes fry o'r nefoedd,
I fynegi 'wyllys hyfryd,
Gwrandawn arno dân boen bywyd
Christ yw'r Sarph o efydd prêslyd
Sy'n Jachau brâth neidir danllyd
Awn bob rhai a'n dolur atto,
Fe'n Jacha ond edrych arno.
Christ yw'r ffeiriad mawr offrymwys
Heb, 9, 1 12
Waed ei galon dros ei Eglwys,
Ar y groes i Dad sancteiddiol,
Dros y byd i gadw ei bobol,
Psal. 2, 6
Christ yw'n Brenîn grymmus grasol
Sydd trwy râs yn
rheoli.
llywio ei Bobol,
Ac yn gostwng ei gelynion,
Fel y gallant gael y goron
Christ yw'r bugail sy'n bugeilia,
Jo. 10.11.28,
Enaid Christion rhag ei ddifa,
Ni chaiff Llew na blaidd na Llwynog
Ddwyn oi braidd nac oen na mammog
Christ yw Prins ein gwir dangnefedd,
Esa. 9, 6, Col. 1, 20
Y ddiffoddodd bob digllonedd;
A gwaed i groes yn Dduw yn ddyn
Y gwnaeth e'r ddwyblaid ddig yn un
Cau. 2, 1.
Christ yw'r Rhossyn coch o Saron
Sydd ai liw yn confforddi'r galon,
Ac ai arogle yn rhoi bywyd,
I'r trwm feddwl ar gwan yspryd,
Jer. 8 22.
Christ ei hun yw'r Balm o Gilead,
Sy'n iachau pob archoll
anobeithiol
ddesprad
A ro [...]d Satan a dart pechod,
I'n eneidiau a'n cydwŷbod
Jo. 6.33.35
Christ yw'r Manna ddaeth o'r nefoedd
Duw ei hun oi ras ai rhoddodd;
Y neb yn ffyddlon ai bwyttatho,
Ni ddaw byth ddim newyn arno,
Ex, 30,
Christ yw oen y pasc aberthwyd
Dros ein pechod pan groeshoeliwyd
Rhwn sy ai waed yn cadw'r enaid,
Rhag ir Angel drwg ei scliffiad,
Christ yw'n Hallor arogldarthu,
Ar yr hon y mae aberthu,
Pêr Arogle mawl a gweddi,
Fore a hwyr i Dad goleuni.
Christ yw Meddyg y cristnogion.
Rhwn a gwerthfawr waed ei galon,
Sy'n Jachau archollion pechod
Pan na'll dim amgenach gydfod
Christ yn unig yw'n cyfryngwr
Sy'n cymmodi a'n creawdwr;
1 Tim 2, 5
Nid oes neb ond Christ ei hun,
All cymmodi Duw a dyn.
Christ yw'r Twrne sydd yn dadle.
O flaen Duw am fadde'n beie
1 Joan 2, 1
Pan bo Satan yn cyhuddo,
Ac yn canlyn
Cennad
grawnt i'n plago,
Christ yw'n Brenin, Christ yw'n ffeiriad
Christ yw'n Prophwyd, Christ yw'n ceid
Christ yw'n bugail, Christ yw'n barnwr
Christ yw'n Pen, a Christ yw'n Prynwr wad-
Christ cyn cynfyd ydyw'r Alpha,
Datc, 1, 11.
Christ heb derfyn yw'r Omega
Dechre, diwedd Jechydwriaeth.
Meibion dynion ai derchafiaeth
Christ yw dewr Gwngcwerwr angau
Christ a'i speiliodd o'i holl arfau,
Christ a lyngcodd angeu melyn,
2 Tim. 1 10
Christ y dynnodd ffwrdd ei golyn
Christ sy'n cadw'r holl
Agoriade datc 1, 18
Allwedde,
Sydd ar ustern ac ar Ange;
Ni faidd Diawl nac Angau
cyffwrdd
dwytsio,
Neb nes cael gan Grist ei
rhoi cennad
lwo
Christ yw'r Pelican cariadus
Sydd a gwaed ei galon glwŷfus
Yn Jachau ei adar bychain,
Gwedi'r sarph eu lladd yn gelain
Christ yw'r Pelican trugarog
Sydd a gwaed ei galon serchog
Yn Jachau ei frodur priod.
Gwedi'r diawl eu lladd a phechod
Nid oes eli ac y wnaethpwyd,
Nac un
Feddyg­iniaeth
fetswn a dychmygwyd
All Jachau un archoll pechod
Ond gwaed Christ, gwir eli'r Drindod,
Christ yw'r Perl y dd'lem 'mofyn,
Nid tlawd perchen cyfryw berlyn;
Mat. 13 45.46▪
Dos dros fôr a thir yw geifio,
Gwerth sydd genit cyn bod hebddo,
Christ sydd bob dim sydd angenrhaid,
Col. [...] 19
O flaen Duw i gadw'r enaid,
Ni fyn Duw ond Christ ei hun,
Yn iawn dal am enaid dyn.
2 Jo. 2 [...]
Christ yn unig Christ ei hunan
Christ heb neb, mewn rhan, na chyfran
Christ heb ddim ond Christ ei hun
Yw unig geidwad enaid Dyn.
Christ yw'n
pri [...] wert [...]
rhanswm Christ yw'n haberth,
Christ yw'n hoffrwm, Christ yw'n cyfnerth
Christ yw'n tryssor. Christ yw'n golyd,
Christ yw'n gwir Jachawdwr hefyd,
1 Tim 2, [...] Heb. 9.1 [...]
Christ sydd gyflawn o bob doniau,
Angenrheidiol i'n heneidiau:
Mae pob peth yn Ghrist ei hun,
Ac sydd raid i gadw dyn,
Christ ei hunan yw'n cyfiawnder
A'n Sancteiddrwydd, a'n gwir Ddoethder,
1 Cor 1 [...] 30
A'n ymwared a'n holl bryniad,
Christ yw'n comffwrdd Christ yw'n ceidwad.
Christ heb ddim ond christ ei hunan
Sy'n dad-ddigio Duw yn fuan;
Christ heb ddim,
Rhuf. 5. [...] 2 Cor [...] 21
ond Christ yn unig
Sy'n cyfiawnu dyn colledig
Christ heb help na Sant na Santes,
Christ heb gymmorth dyn na dynes,
Christ heb neb ond Christ ei hun,
Yw unig geidwad enaid dyn.
Christ yn unig 'ymdrabaeddodd,
Yn y wyn wryf pan ein Prynodd:
Esa. 63.3 5
Ni bu neb o blant yr holl fyd
Yn ei helpu i gadw ein bywyd,
Ni wnaeth Peder ond ei wadu
Na'r Postolion ond difannu;
Ni wnaeth mair ond wylo'n irad
Tra fu Christ yn chware'r ceidwad,
Ni ddûg nêb ond Christ ei hunan
Esa, 53, 6.
Bwys, a baich ein pechod aflan.
Ni chwyssodd neb o'r gwaed yn ddagrau
Ond mab Duw, dan bwys ein beiau
Ni chroeshoeliwyd ond Christ Jesu,
Am ein pechod wrth ein prynu:
Ni bu neb, ond Christ ei hun,
Yn boddhau Duw yn jachau dyn:
Ni bu neb, ond Christ ei hunan
Yn ein dwyn o feddiant Satan:
Heb. 2, 14 15,
Ni bu nêb yn lladd, yn llyngcu
Angeu didrangc, ond Christ Jesu,
Christ ei hun y lyngcodd Angau'
Col. 2.14.15.
Christ y Speiliodd awdurdodau
Christ y gwnnodd ein
Rhwymedi­gaeth.
'Bligassiwn
Christ y dalodd gwerth ein pardwn.
Christ ei hun y wnaeth ein heddwch.
Christ y brynodd ein dedwyddwch:
Col 1.20 Gal, 4.5
Christ a'n gwnaeth yn feibion Duw;
Christ a'n cadwodd † oll yn fyw
Sef y fydd­loniaid,
Christ ei hun y wnaeth y cwbwl;
Y dynnodd enaid dyn o'i drwbwl:
Nid neb, nid dim, ond Christ ei hun,
Dan Dduw y gadwodd enaid dyn.
Ni bu Angel, ni bu Brophwyd
Ni bu Sant, na dyn a fagwyd,
Ni bu neb ond Christ ei hun
Yn gweithio iechydwriaeth dyn.
Ni fyn Duw na chymmorth Angel
Cyfrwng sant, na'i draul, na'i drafel,
1 Tim, 2.5. Heb, 7.25.
Gwaed Merthyri, na gwaith dynion
Ond Gwaith Christ i gadw Christio [...]
Christ yw'r iawn sydd am bob pecho
Jawn amgenach ni all gydfod;
Ni fyn Duw am bechod drewilyd
Jawn sydd lai nâ gwaed ei Anwylyd
Na ddôdd waed na gweithred un dy [...]
Gyda gwaed dy brynwr purwyn:
Ni chyttuna trech di byw,
Waed pechadur a gwaed Duw
Gwaed yr Jesu, gwaed y cymmod
Ydyw'r gwaed sy'n golchi pechod,
Ni aill gwaed yr holl Ferthyr▪ *
Tystion Christ a ddioddefa­sant er mwyn y gwirionedd,
Olchi ffwrdd y lleia o'th frynti,
Nid gwaith saint, nid gwaith angelio [...]
Ydyw cadw enaid Christion:
Gwaith ein prynwr Christ yn unig,
Sydd yn cadw dyn colledig.
Gwaith dwy nattur mewn un perso [...]
Sydd yn cadw enaid Christion:
Rhaid i'n prynwr Duw a Dyn,
Weithio'r gwaith cyn cadwer un
Nid gwaith Duw na dyn neilltuol
Ond gwaith Duw a dyn cyssylltiol,
O ddwy nattur mewn un person,
Sydd yn cadw enaid Christion
Rhaid i'th Brynwr fod yn Dduw,
Esa. 9, 6,
Ac yn ddyn, (er dolwg clyw)
Cyn y galler cadw d' enaid.
Nai rhyddhau o boen afrifaid.
Rhaid ei fod e'n Dduw galluog
I ddad ddigio d' Arglwydd llidiog,
Col, 1, 20. Luc. 1.71.
Ath ryddhau o feddiant Satan.
Ath elynion fawr a bychan
Rhaid ei fod e'n ddyn di-frychau,
Heb. 7, 26.
I gael marw dros dy feiau,
A'i farwolaeth yn cystadlyd,
A marwolaeth pawb o'r holl fyd.
Nid oes yn y nef na'r ddaiar,
O'r fath brynwr perffaith hygar,
Ond y gair y wnaed yn gnawd
Jesu Grist ein Duw a'n brawd.
Nid oes neb gan hynny ddichon
Gadw enaid un rhyw gristion,
Ond y prynwr mawr Christ Jesu,
Duw a dyn, a fu'n ein prynu.
Nid oes jechydwriaeth ddiwall,
I ni gaffel mewn neb arall,
Ond y gaffom yn Ghrist Jesu,
Rhwn ordeiniodd Duw i'n prynu.
Nid oes enw dan y nefoedd
Act, 4 12,
Gwedi roddi i ni'r bobloedd,
All ein gwneuthur yn gadwedig
Onid Enw'r Jesu'n unig.
Ni fyn Duw ond Christ ei hunan,
Ni fyn Duw un
Cyfaill 1 Tim, 2.5.
partner aflan,
I gydweithio gidai anwylyd,
Yn y gwaith sy'n cadw'r holl-fyd.
Ni fyn Mâb Duw neb yn Bartner,
Esa, 63, 3.
I gydweithio gwaith dau hanner
Yn y gwaith o'n jechydwriaeth:
Nid nêb teilwng, o'i gwmpniaeth
Fe fyn naill ai bod yn hollol,
Yn Jachawdwr idd ei-bobol,
Neu na fwrw byth ynghyd.
A chreadur sy'n y byd.
Ni fyn Christ roi i sant nac Angel,
Esa. 42.6.
Dyn na delw o un fettel,
Bart na pharsel, rhan na chyfran
O'i gogoniant sy'ddo ei hunan,
Os bydd un rhyw ddyn mor angall,
Ac ymofyn ceidwad arall,
Cymred hwnnw yn Achubydd,
A gadawed Ghrist yn llonydd,
Ceisied eraill Saint a delwe,
A'i gwaith gwael i gadw eu 'neidie;
Ni chais f' naid archolledig,
Geidwad byth ond Christ yn unig
Duw rho imi dy anwylyd,
Christ yn arch wi'n geisio genyd;
Rho i mi fynech gyda hynny,
Rhoist im ddigon o rhoi'r Jesu,
Duw rho i mi Grist yn geidwad
Christ yn Frenin, Christ yn ffeiriad,
Christ yn Brophwyd, Christ yn Brynwr,
Christ yn help ym hob cyfyngdwr.
Os cai ddim ond Christ ei hunan,
Gan fy nefol Dâd im cyfran,
Mi gâf ddigon yn fy 'nghrist,
Er na chaffwyf ddim ond Christ,
Os câf i Grist, fe dry fy rhyw,
O fâb i'r fâll yn blentyn Duw,
O ddyn ar goll, o Slaf i Satan,
Yn wir aelod iddo ei hunan.
Er cael Aur, ac er cael arian,
Er cael Tai a thiroedd llydan;
Beth wyf nes er cael pob cyfraid,
Nes cael Christ i gadw f' enaid:
Tynu fy llygaid, tynn fy nghalon,
Tynn fy ngolud am cyfeillion,
Tynn y cwbl oll sydd gennif,
Cyn y tynnech Grist oddiwrthyf.
Sonied Milwyr am ryfela,
Sonied Morwyr am dda'r India,
Sonied Carl am lanw ei Gist,
Sonied Christion byth am Grist.

Hil Adda.

HIL Adda gamweddus blant Efa drafaelus,
A deiliaid gofydus
Uffern
Gehenna,
Dihunwch, dihunwch, o'ch trymder a'ch tristwch
Daeth i chwi ddiddanwch o'r mwya.
Caus heddyw medd Gabriel. geirwir ei chwedel,
Negesswr o
O gyngor Duw.
gwnsel Jehofa,
Y ganed ein prynwr, Christ Jesu'n Jachawdwr,
Mab Duw, ein Achubwr ni'n benna,
Gan hynny crechwennwch a gwir orfoleddwch,
A chennwch, a seiniwch
achub ni ddeisyfwn
hosanna,
I Dduw yn'r uchelder, ir ddaiar esmwythder,
I ddynion y mwynder o'r mwya.
Cans hwn ydyw'r hedyn, a'r helpwr. a'r himpyn.
Addewyd o'r gwreigin i Adda,
I sigo siol Satan (y Sarph) dan ei wadan
Pan helwyd o'r berllan
Hyfryda, Abram,
araula
A dymma'r Hâd dinam, addewis Duw i
Yn fendith o'n hên fam Sara
A'i heppil. lin olin, hyd Ddafydd y Brenin.
O Jesse y gwreiddin
Bonheddicca
rhiala.
A thymma i chwi'r Silo, oedd Jacob yn seinio,
Y ddawe i'n bendithio Juda,
Pan ddygid y goron, oddiar yr iddewon.
A'i rhoddi i
Sef Herod
estron Duw mea.
A thymma'r Prins addfwyn, Emmanuel ir fwyn,
Mab grassol y forwyn Faria,
Addewid i Achas trwy'r prophwyd Esaias
I'n harwain i'r deyrnas bradwysa
A dymma'r Messias, addawodd Micheas,
O Fethlem dinas Ephrata,
Y gennid i'r bobol, yn Frenin tragwyddol,
Iw harwain i'r nefol orphwysfa,
A thymma i chwi'r Prophwyd, ar Brenin addawy.
A'r ffeiriad y bwyntiwyd yn benna,
I offrwm ei hunan, yn aberth bereiddlan,
I ddattod gwaith Satan fileina,
Chwi glywsoch i Satan gynt dwyllo 'n berllan,
A'i hocced y wreigan hên Efa,
I fwytta yn rhy flyssig, yr afal gwarddedig,
A chwedyn rhoi ychydig i Adda.
Pan demptiodd y gelyn ar afal y ddeu-ddŷn,
I dorri gorchymmyn Jehofa,
F' aeth Adda a ninne, yn euog o Ange,
I
I gyfru golled a [...]
Uffern a'i phoene diffeithia.
O Uffern ac, Ange, nid oedd neb a alle,
Yn prynu trwy boene pa bynna
Ond unig mab graslon, yr Ustus tra chyfion,
Y ddygsom mor greulon o'r cynta:
A'r mab hwnnw ynte oedd raid iddo ddiodde,
Ar grogpren yr ange diffeithia:
Gan wir gymryd arno gnawd dyn i'w groeshoel [...]
A throsom ddad ddigio Jehofa:
Ac os Duw ni fynne roi un mab i ddiodde,
Er cadw ein eneidie rhag poenfa,
Mewn carchar Uffernol, a phoene tragywyddol
Y bysse'r holl bobol pwy bynna
Pan welodd Duw grassol, ein stad mor dostun
O'i gariad rhagorol yn benna,
F' addawodd ein helpu, trwy ddanson i'n pryn
I un mab Christ Jesu an wyla,
Ac felly pan welas Duw yr amser cyfaddas,
Fe'n gyrrodd o'i deyrnas bradwysa,
I'r ddairen anhyfryd, ei unig anwylyd,
Ein cnawd i gymmeryd yn gynta,
A chnawd dyn y gymmerth, ein prynwr yn brydfer [...]
O Fair yr eneth anwyla;
Yn daran rhyfeddol, trwy'r yspryd sancteiddiol
Heb weithred dyn cnawdol nai goffa,
[Page 45]Ond rhyfedd, rhyfeddod! fe aned heb bechod
O forwyn yn gwrthod a gwra,
Yn berffaith ddŷn cnawdol, heb weithred gorphorol.
Trwy'r yspryd sancteiddiol gorucha.
Os merch wrth feichiogi, a merch wrth escori
A merch wedi geni'r mab cynta;
Oedd mair pan ei magodd, a merch pan briododd
A merch pan
Ymad­awodd
ddepartiodd oddiyma
O waith iddo gymryd, ein poene a'n penyd,
Fe aned ir trist fyd yn llymma.
Mewn Stabal anghymmen, ym mhreseb yr ychen,
Lle trowd ef mewn gwlanen o'r tlotta
Ac etto er peri i'r Bŷd ei addoli,
Er maint oedd ei dlodi ai lymdra,
Fe wnaeth Duw ei Seren, mor ddisglair ar heulwen,
I'w
disgwyl
waitio yn yr wybren isela.
Daeth hefyd wyr doethion Astronomers mawrion,
Brenhinoedd o galon Caldea
Pob un ar ei ddeu lin, i addoli'n ei rwymyn
Eu Duw a'i Brenin arbena.
Fair anrheg rhagorol, yn gweddu'n berthnasol
I swydde neillduol Messia;
Offrymsont hwy hefyd, i'r Brenin bâch hyfryd,
Aur. Thus, per aroglyd a Myrra.
Daeth hesyd Angelion, i fanneg i ddynion
Mae ef oedd yr union Fessia.
A'r ceidwad a'r Prynwr, a'r unig Jachawdwr,
Addawse'n Creawdwr o'r cynta.
A'r nefoedd agorodd a'r ddairen oleuodd
A'r Angel a lefodd yn lewa,
Gogoniant yn y goruchaf ar y dda iar tangneddyf
Gloria in excelsis. Pax & in Terris
Pan aned Prins happus
Gogoniant yn y goruchaf ar y dda iar tangneddyf
Europia.
Y gollsom yn wallus trwy Efa drachwantus,
Yn ddigon anhappus o'r cynta.
Ni gowsom drachefen, ond gwych oedd y Horten.
Pan Anwyd y Bachgen Messia.
[Page 46] I ddattod gwaith Satan, i groefi flin amcan
A'n cynnull o'i gorlan dywylla,
Y daeth Christ ein Harglwydd, or nef yn ei unswyd
I'n cadw rhag aflwydd a phoenfa.
Gan gymmaint oedd cariad, y gr [...]ssol ucheldad,
Tu ag attom blant anllad hên Efa,
Fe rodde ei 'nwylyd, iw grogi'n anhyfryd,
I brynu ein bywyd o boenfa,
A chymmaint oedd cariad Christ attom yn wast [...]
Eu frodur tra irad eu poenfa;
Ac y rhoi ynte'n danbaid, ei fywyd a'i Enaid,
I farw dros ddefaid ei borfa.
Yr Ange a haeddasom se'i talodd ef drosom,
A'r dyled adawsom heb gwpla,
Ein scrifen fe dorriodd, a'r fforffet fe dalodd,
A'n pardwn fei prynodd o'r pritta,
Gwaed gwerthfawr ei galon, ai fywyd gwyn gwirio
Offrymmodd ef drosom yn fwyna,
Yn aberth ir drindod, trwy gywilydd a dann [...]
Yn
Pridwer [...]
ranswm dros bechod pwy bynna,
Duw dad a ddad ddigwyd, a'n ranswm y dalwy
A'n pardwn y seliwyd yn siwra,
Christ ai pwrcasodd, a'i fywyd fe'i prynodd
A'r
sef pob [...] dad­edifeiriol uf [...]
byd a waredodd oi boenfa,
Dros bechod yr holl fyd▪ offrymmodd ei fywyd,
I'w prynu o'i penyd a'i poenfa:
Os ynddo y credwn, mae'n siwr i ni bardwn
Heb
heb berg
ddansier o ddwnsiwn Gehenna.
Cans Satan orchfygwyd, ac angeu gongcwerwyd,
Ac uffern yspeiliwyd yn
A [...] rhai [...]
spwylfa: garchar uffe [...]
Eneidie plant dynion o grampe'r gwyr duon
Y gariodd y gwirion Pessia.
Adda a'n taflwys, i uffern heb orphwys
O berllan beradwys esmwytha;
Christ ynte a'n cododd, o uffern i'r nefoedd
I orphwys yn Llysoedd Jehofa
[Page 47]Cans dymma'r oen tirion a ladde'r Iddewon,
Etifedd gwyn gwirion Jehofa,
Dymuniad tra hyfryd cenhedloedd yr holl fyd,
Eu comffordd a'u hiechyd gorucha
A thymma'r Maen siccir, wrthode'r Adeilwyr,
Maen tramgwydd, craig rhwystur: Judea.
Ein perl a'n Prins ninne yr holl genhedlaethe
Christnogion
Oni addefwn ni Ghrist yn ein bywyd yn gyst al ac yn ein geirieu ni thal ein ha­ [...]defiad ddim
sy'n adde'r Messia,
Er bod ein pechode, heb fesur na fwyse.
A'n brynti fel Pentre Gomorrah,
Etto os credwn, a gwellhau tra gallwn,
Fe bair i ni bardwn y bara:
Un droppyn sancteiddlon, o wir waed ei galon,
All olchi ein holl ffinion ddiffeithdra.
Pe baent hwy cyn goched ar Pwrpwl neu Scarled,
A'u gwneuthur cyn wyned ar Eira
Weithian os credu a wnawn nine i'r Jesu,
A chwympo iw wasanaethu'n ufudda
Tit. 1.16
Fe ddug yn eneidie i'r nef lle mae ynte,
I ganu holl hymne Jehofa
Lle mae mwy hyfrydwch, a nefol
go­goniant
rhialtwch
Llawenydd a heddwch o'r mwya,
Nag allo clûst glywed, na Llygad i weled,
Na chalon ystyried pwy bynna
Moliannwn gan hynny, ac eitha o'n gallu
Ein prynwr Christ Jesu anwyla.
Am brynu'n eneidie, drwy chwerw loes ange,
O Uffern a'i phoen diffeithia,
O molwn ni'n wastod, pob person o'r drindod
Mewn undod mor barod er Adda.
I'n tynnu mor rasol, o'r carchar uffernol.
I fyw yn y nefol orphwysfa.

Cyngor i Bechadur i ddyfod at Jesu Ghrist.

Mat. 11.28.29.
DEre hên Bechadur truan,
Dere at Grist trwy ffydd dan rudd­fan,
Mae mab Duw yn d' alw atto,
Od yw pechod yn dy flino.
Christ ei hun sy'n galw arnad,
Jo. 7.37,
Christ sy'n erchi i ti ddwad:
Christ sy'n cynnig dy
Adfywio
reffresio
Os trwy ffydd i doi di atto
Dere at Grist er maint yw'th drosedd
Dere er cynddrwg oedd dy fuchedd
Dere'm mhryd cais gymmorth gantho
F' all dy gadw yr awr y myno
Er dy golli yn
gwbl 13.
gwitt yn Adda,
Er i'r cythrel câs dy ddala,
Er it ddigio Duw mor danllyd,
Crêd yng-Hrist fe geidw'th fywyd.
[...]an. 3.36. Psal 51.5
Er dy ennill mewn anwiredd
Er it fyw mewn a flan fuchedd
Dere at Grist cais gymmod gantho,
F' all dy olchi a'th ail greo
Zech. 13.1
Er dy fod ti'n elyn Duw,
Wrth naturiaeth a'th ddrwg ryw;
Rhuf, 5.10
Cred yng Hrist, fe'th wna yn elyn
I'th nefol dâd yn anwyl blentyn
Er dy fod ti'n slâf ei Satan.
Ac yn wâs caeth yn ei gorlan;
Eph. 2.2 Luc, 1.79.
Cred yng-Hrist fe'th dyn oi grampe
Fe'th ddwg o'i dywyll gell i'r goleu,
Er dy fod ti'n haeddu'th ddamnio.
Rhuf. 5.18 Joan. 6.47.
A'th droi i uffern i'th boenydio,
Cred yn Ghrist fe'th ddwg i'r nefoedd
I glodfori'r hwn a'th greuodd.
[Page 49]Er dy fod ti megis
gwrthryfelwr,
Rebel,
Gwedi'th droi o Sant yn Gythrel:
Cred yng-Hrist, bydd un o'i blant,
Fe'th dry o Gythrel etto yn Sant.
1 Cor. 6.11.
Er dy fod ti'n ddŷn damnedig,
Yn hen Adda ein tâd gwenwynig;
Cred yn Ghrist fe'th geidw etto,
Rhuf. 5.12.19.
Er i Adda hên dy ddamnio.
Er i Satan entrio i'th lettu,
Ai oresgyn heb ei nadu;
Cred yn Ghrist, fe ddwg ei' arfau,
Fe dry Satan dros y trothau,
Er i'r lladron speili [...] d' enaid,
Luc. 10.30.
A'th archolli yn dra
Peryglus.
embaid;
Cred yn Ghrist, y gwir Samariaid,
Fe jacha d' archollion
Annobeithiol.
despiad.
Er ir danllyd sarph dy frathu,
A'th wenwyno nes dy nafu,
Cred ynghrist, fe ddofa 'r poen:
Fe jacha'r clwyf a gwaed yr oen.
Er it fynych gyfeiliorni,
Megis dafad gwedi cholli;
Cred yn Ghrist, fe ddaw yn fuan,
O'r nef i'th droi o'r gors i'r gorlan.
Er it bechu fil o weithie,
Er it haeddu cant diale;
Cred yn Ghrist ti gel faddeuant.
Am dy bechod oli a'th drachwant.
Eph. 1.7.
Er bod lliw dy fai cyn goched,
Ac yw'r pwrpl côch ne'r Scarled,
Esa, 1.18.
Cred yn Ghrist, trwy waed fe'th olcha,
Nes bech di mor wyn ar eira.
Er bod dy feie mewn rhifedi,
Yn fwy na gwallt dy ben o gyfri;
Cred i'th Brynwr, Duw a Dyn,
Act. 10.43.
Fei maddeu i ti bob yr un.
Cymmer gyssur cwyn dy galon,
Cred yn Ghrist dy brynwr tirion;
Edifara am dy frynti,
Christ a fydd yn Geidwad i ti.
Mae Christ i'th wawdd, mae Christ i'th alw,
Mae Christ i'th gymmell atto'n groyw:
Pam y byddi marw yn irad,
Eisie dwad at dy Geidwad.
Ezek. 33.11,
Christ y ddaeth o'r nefoedd auraid,
Ir bŷd i gadw pechaduriaid;
Luc. 19.10.
Ei swydd, ai grefft ai waith yn unig,
Yw cadw eneidiau rhai colledig.
Dyn colledig ydwyt tithe,
Rhuf. 3.23.
Fel y mae pawb o honom ninne,
Pam na ddoi tra fytho 'n galw,
At dy Geidwad Christ i'th gadw?
Nid yw'th bechod ddrwg ddyn angall,
Fwy na phechod Saul neu arall:
Fe gadd Saul faddeuant gantho:
Ditheu aei os credu ynddo.
Nid yw 'th bechod fwy nag allo,
Christ eu maddeu ai
Tynnu ymmaith.
deleuo,
Na'th holl feie nath holl frynti,
Fwy nag allo Christ eu golchi,
Ni all Satan byth dy lygru,
Fel na allo Christ dy helpu,
Na'th ddifwyno gwnaed ei waetha,
Fel na allo Christ dy wella.
Christ all wneuthur heb fawr drafel,
Oen o flaidd, a Sant o Gythrel,
Act. 9.13.14.15.
Hên ddyn aflan, yn suw,
A dŷn ir fall, yn ddŷn i Dduw.
Ni wnaeth Christ ond ar Zache,
Ai droi'n Sant ar hynny o eirie;
Fe'th dry ditheu 'n oen os myn,
O lwdwn du yn llwdwn gwynn.
Duw galluog ydyw Christ.
Yn maddeu beiau'r truan trist,
Yn newid naws, yn gwella nattur,
1 Jo. 3.8.
Yn dattod gwaith y diawl heb rwystur,
Holl alluog yw dy Brynwr,
Fe all
adnewyddu,
reparo gwaith y temptiwr,
F' all ei daflu beunydd allan,
O galonnau'r bobol aflan.
Pe bae saith rhyw gythrel ynod,
Pet fae Leng tu fewn ith gaudod;
Mar. 5.8.9.13,
Fe try Christ hwy oll fel cylion,
Ar gair cynta 'maes o'th galon,
Nid oes grym gan un creadur
Mar. 16.9.
Hindro
rwystro
gwaith dy Brynwr prysur;
Ni all dyn na diawl ei rwystro,
Jer, 32, 17.
Roi i ti râs os credu ynddo.
Nid oes dyn yng-hrist yn credu,
Na bo'n cael grâs i difaru;
Ac i wellau ei fuchedd beunydd,
Act. 15.9. 2 Cor. 5, 17
Nes yr elo'n ddyn o newydd,
Ni ddaeth dyn i geisio gras,
At fab Duw erioed nas cas,
Nac i fegian cymmorth gantho
Esa. 45.19.
Nas rhodd Christ e'n ebrwydd iddo,
Dere dithe cais ras gantho,
Nad ith bechod brwnt dy rwystro:
Ni ddaeth Christ i gadw enaid,
Mar. 2, 17,
Ond eneidiau pechaduriaid.
Ni ddaeth Christ i gadwo ddifri,
Ond y rhai oedd Gwedi colli:
Swydd a chrefft mab Duw yn unig.
Ydyw cadw rhai colledig
Dere dithe'n fuan atto,
Mae'n dy gathrain mae'n dy gyffro:
Dere atto cred yn unig,
Fe wna Christ di'n ddyn cadwedig,
Duw rô grâs i tithe ddwad,
Yn ddi-aros at dy Geidwad,
Trwy ffydd fywiol a difeirwch
I gael gan Grist râs a heddwch,

Cyngor i Bechadur i ddyfod at Grist.

DEwch bawb sydd drwm lwythog dan bechoda bal,
Dewch at eich Jachawdwr sydd gwawdd chwi bob rhal
I laesu'ch trwm lwythe a'ch blinder a'ch cryd;
Mae'n addo'ch reffresio, dowch atto mewn pryd
Dewch bawb at eich Ceidwad a'ch Prynwr ach pen
A'ch Brenin a'ch Prophwyd a'ch ffeiriad a'ch Llen;
A'ch meddyg, a'ch bugail a'ch Castell a'ch Craig,
A'ch unig Jachawdwr, Concwerwr y ddraig.
Dewch bawb at Grist Jesu sy'n gwawdd pawb mor fwyn
I ddwad hyd atto i wneuthur eich cwyn;
Ond dangos eich dolur, bid ef fawr, bid ef fach,
A deisyf ei gymmorth fe'ch hela'n holl jach
Fe'ch dad ddrys och drystwch fe'ch gwna'n wir rhydd
Fe dal eich holl ddyled fe'ch cymmorth yn brydd,
Fe laesach trwm lwythe a'ch dagrau fei sych,
Fe gweiria'ch archollion fe'ch gwna chwei'n holl wych
Fe wna heddwch rhyngoch ar barnwr ei Dâd,
Fe fyn i chwi bardwn trwy bridwerth ei waed,
Fe'ch dug chwi drachefen mewn ffafar a Duw,
Fe'ch cadw mewn cariad tra fyddoch chwi byw.
Fe'ch gylch och pechodau a'i waed bob yr un
Fe essyd byth ynoch ei yspryd ei hun;
Fe'ch gwna chwi yn feibion yn ferched iw Dâd,
A chyd etifeddion oi Deyrnas yn rhâd,
Fe droedia'ch gelynion fei teifil ir llawr,
Fe ddug ei holl arfau fei dylid fel Cawr
Fe dyn i holl gryfder, fe ddadwraidd ei nŷth
Fe'ch gwna y gongcwerwyr ar Satan dros fyth,
Pe gwypech blant dynion, mor dost ydyw'ch ca [...]
Ach cyflwr colledig heb nerth Duw a'i Ras
Ni chyscech. ni fwyttech nes dyfod at Christ,
I wella'ch tost gyflwr â chalon drom drist.
Beth 'ym ni rhai goreu, wrth nattur a rhyw,
Ond plant i'r digofaint, heb gyfnerth mab Duw,
A gweision i bechod, a slafiaid i'r fall,
A rhanwyd i uffern, plant Angeu di-ball?
Mae pawb gwedi nyrddo gan bechod, och! och!
Cyn ddued a'r Moyrys, cyn frynted a'r moch:
Rhaid ddyfod at Jesu i newid ein grân,
A golchi'n aflendid, cyn gwneler ni'n lân,
Fe wnaeth yr hen Adda ni'n elynion i Dduw
Yn blant i'r digofaint, heb ddim modd i fyw:
Rhaid dyfod at Jesu i'n cymmodi' a'i Dad,
Cyn gwneler ni'n feibion, trwy fabwys a rhad.
Fe dynnodd y gelyn bob dyn yn ei rwyd,
A'r fale gwarddedig, trwy wall Efa lwyd.
Ni thorrir o'r groglath, ni'n tynnir ni maes,
Nes tynnor hael Jesu a'i Rym ac a'i râs.
Mae'n henaid fel dafad yn Satan y blaidd;
Ynghrafangc y gelyn, a diangc nis baidd;
Rhaid cymmorth y bugail, Christ Jesu a'i râs,
Cyn tynner un enaid o'i grafangc i maes.
Mae'r Angel dinistriol goruwch ein tai.
Yn ceisio'n destrywio, waith cymmaint yw'n bai.
Rhaid iro'n * cynnorau, a gwaed un mab Duw,
Cyn pasto'r fall heibio, na'n gadel yn fyw.
Mae holl blant dynion dan feddiant y fall,
Mewn dwngwn ddû, tywyll. yn gorwedd, yn ddall
Wrth gadwyn o bechod, nes delo mab Mair,
In tynny o'r dwngwn a'i râs ac â'i Air:
Ni thynner dyn allan o deyrnas y fall,
A'r pechod lle herys, gwnaed pawb ore ac all,
Nes rhwymo Christ Satan, trwy gryfder a ffors,
A thynnu dyn allan, fel ni [...]el or gors,
Mae pawb mewn tywyllwch, wrth nattur yn byw
Dan gyscod yr angeu heb nabod o Dduw;
Mae'n rhaid i Ghrist Jesu'n goleuo a'i ras
A'n tynnu o'r tywyllwch, cyn deler i maes
Mae pechod mor frainllyd, mor ddrewllyd, mor grai
Yn nyrddo, yn nafu, yn ffecto pob rhai,
Ni olchir, ni thynnir ni flottir i maes,
Nes golcho gwaed Jesu; mae frynti mor gâs
Mae pechod fel mynydd o blwm ar ein gwarr,
Mae'n gwascu cyn drwmed nes plygo pob garr:
Fe'n hela trwy'r ddaiar i uffern ŷn grwn,
Oni ddawn at Christ Jesu i lacsu'r fath bwn
Mae'r fall fel gwr cadarn, yn arfog heb grun,
Yn cadw gorescyn o galon pob dyn.
Ni ddichon yr holl-fyd ei daflu o'i B'âs
Nes delo Christ attom i dwmblan e'i maes
Mae'r fall gwedi'n clwyfo an brathu bob rhai
Mae'n harcholl yn rhedeg bob amser heb drai:
Ni ddichon un meddyg dan Haul ein Jachau
Nes delo Christ attom ai waed i'n glanhau
Fe ddygodd y Gelyn ein trwssiad a'n gras
Fe'n gadodd yn groen llwn, yn noeth ac yn ga [...]
Dewn at ein brawd hyna, Christ Jesu bob un
Fe guddia'n holl noethder a'i ddillad ei hun
Mae pawb gwedi marw mewn pechod bob pryd
Heb bwer i wneuthur daioni'n y byd,
Nes delo'r Bywiawdwr Christ Jesu i'n bywhau
A'n codi o bechod, ac felly'n cryfhau
Dewch at y sarph efydd dangosswch eich clwyf
Lle brathodd y neidir chwi'n fynych trwy nwyf;
Edrychwch yn graffys at Grist ar y groes
Fe rêd yr holl wenwyn se ddofa'r holl loes
Dangoswch eich dolu'r i'ch prynwr heb aeth
Ni bu dan y nefoedd un Meddyg o'i fath;
Pob archoll, pob dolur, pob pechod, pob crach
A phur waed ei galon fel gyrr yn holl Jach,
Ni ddichon nac eli, na metswm, na maeth,
Na physic, na phlastr, na llysie, na llaeth
Na dim ag a enwer, ond Gwaed Jesu Ghrist,
Jachan archoll pechod, mae'r archoll mor drist,
Mae llawer all hela cornwydion yn Jach
Ar frech fawr, ar cryge, ar clar gwan, a'r crach;
Ni ddychon meddygon y byd cymmain un,
Jachau archoll pechod, ond mab Duw ei hun
Ni ddichon Angelion er amled o'u rhif
Er cymmaint o'u cryfder er cystal o'u
An­rhydedd
brif,
Gadw un enaid, rhag myned ar goll
Nes cadwo Christ Jesu, ein helpwr ni oll,
Ar Saint ar Santessau, pyt faent oll ynghyd
Er amser hen Adda, hyd ddiwedd y byd;
Ni allent hwy gadw un enaid traent byw
Rhag myned i uffern heb gymmorth mab Duw
Pa rhoddir ti'n offrwm nifeiliaid y byd
Alonydd o olew, a'th olud i gyd
A'th gyntaf anedig, a'th fywyd, a'th waed
Ni chedw t ti' d' enaid heb help y mab rhad
Pa chwilit ti'r nefoedd, a'r ddaiar yng-hyd,
A'r awyr, a'r moroedd hyd ddiwedd y byd;
Ni ellit ti ganfod, tra fyddit ti byw
Yn geidwad ith enaid ond unig mab Duw.
Nac ymgais am Geidwad heb law Christ ei hun,
Mae'n geidwad galluog, yn Dduw ac yn ddyn
Nid oes Jechydwriaeth (nac enw dan nef)
I gael mewn neb arall▪ ond sydd ynddo ef
Ni chedwir un enaid or oes hon y sydd
Na'r oesoedd y bassodd, na'r oesoedd y fydd,
Ond unig eneidie y gatwo Mab Duw,
Y rhest eisie credu y gollir bob rhyw
Ymafel yn dy Brynwr, yn Ffest a llaw dy ffydd
O mynni gael dy gadw, dal d' afel yntho'n brydd,
Na choll oth afael arno nes caffech rym a gras
Oddiwrtho i gadw d' enaid, a byth bod iddo'n was.
Na 'mddiried ith weithredoedd nath ddysc nath dda nath ryw
Ni all dim gadw d'enaid, ond ffydd yn un mab Duw
O rhoi d'ymddiried yntho ni chollir d' enaid byth,
Heb Grist os ceisi ei gadw di ai cholli ef tros byth
Mae pawb o feibion dynion er Adda hyd ddiwedd byd,
Gan bechod gwedi llygru a'u damnio bawb ynghyd,
Ni chedwir un o honynt rhag ange ac Uffern drist,
Gwnaed pawb i gore ac ailant nes cadwer hwy gan ghrist
Dewch bawb gan hynny'n gyfran at geidwad'r holl fyd
I gadw eich trist eneidie y gollwyd oll ynghyd,
Yr un a ddelo atto fei dûg i'r nefoedd wen,
Yr un a beidio dwad f' a'i Uffern ar ei ben
Na fydded neb mor angall mor ddwl mor ddall mor ffôl
A throi oddiwrth y ceidwad sy'n galw'n eich hol
Ni ddiangc neb rhag Angeu ni ddringad un i'r nêf
Ni bydd un dyn cadwedig nes caffo ei gymmorth ef.
Ni chedwid Noe na Daniel nac Abram Job na Phawl,
Na Mair nac Ann na Martha na neb o rwydau Diawl,
Na'r plentyn newydd eni, nac un o heppil dyn,
Trwy nerth au gallu hunain ond trwy nerth Crist i hun
Ni chedwir neb tro gantho o hyn i ddiwedd byd,
Ond y rhai gadwo'r Jesu mae pryniad dyn mor ddryd
Ni fyn y barnwr cyfion surhad am bechod dyn,
Lai nag ange gwerthfawr, a gwaed mab Duw ei hun
Gan hynny ofer ceisio help Angel Sant na dyn,
Na phardwn Pab, na Fferen i gadw enaid un:
Does dim ag aller enwl beth bynnag fytho i ryw.
All cadw ennaid Christion, ond Angeu un mab Duw
Ni chymmer Duw'r dialau jawn lai am bechod dyn,
Nag angeu holl blant dynion neu angeu'r cyfryw un
Y fae eu Angeu cystal ac Angeu pawb o'r byd
Nid oes un Angeu felly, ond Angeu'r prynwr dryd.
Ni ddichon neb fodle ni cyfiawnder Duw wrth hyn,
Heb angeu ac ufydd dod ein prynwr Jesu gwyn,
Y neb ni cheisio ei gymmorth er cymmaint a fo'i scil,
Ni bydd e'n abl atteb, i Dduw am un o fil.
Mae rhai'n credu gallant trwy gwaith a'i gwedd i hun
A'i hympryd ai cardodau wir haeddu cymmain un,
Gael diangc poenu Uffern a dringo chwip i'r nêf,
Heb help y gwir Jachawdwr Ffei ffei beth wnant ac ef
Ond pan fo rhain yn tybied y dringant uwch y Ser.
I Uffern boeth y cwympant lle sy [...]thiodd Luciffer:
Yn uffern y cant weled heb Grist ni ddichon dyn,
Fynd byth i deyrnas nefoedd trwy rym ai allu i hun.
Ni ddichon un dyn heuddu trugaredd ar law Duw
Ni bu 'rioed arno ddyled ni bydd byth tra fo byw
Mae pawb yn rhwym ei ddoli ai foli ac uchel lêf,
Heb ddled arno er hynny pawb yn ei ddyled ef
Ni ddichon gweddi un dyn nai cardod o un rhyw
Nai hympryd nai difeirwch, fodloni'r cyfiawn Dduw
Nes darfo i Grist yn gynta, Gymmodi'r dyn ai Dâd,
A golchi a sancte [...]ddio y weithred dda ai waed.
Mae'n rhaid i Grist ail greu pechadur ar ei lûn,
Ai droi'n greadur n [...]wydd, a'r ddelw Duw ei hun
A newid ei feddyliau ai raen ai rym ai ryw,
Cyn gallo dyn feddiannu na gweled Teyrnas Dduw,
Mae'n rhaid i Grist heddychu rhyng dyn a Duw ei dâd
A'i olchi oi bechodau trwy rym ei werthfawr waed
Ai wisco ai Sancteid rwydd ai holl rinwedde ei hun,
A dodi yspryd ynddo, cyn galler cadw'r dyn.
Mae'n rhaid i Grist ein gwared▪ o law a gallu'r fall
Sy'n cadw mewn caethiwed mewn carchar tywyll dall
Yn rhwym ein traed a'n dwylo mewn cadwyn pechod câs
Ynglyn a chyscod angeu cyn delom fyth i maes
Mae'n rhaid i Grist ddi-arfu y fall sy'n cadw Llŷs,
Ynghalon pob pechadur▪ ai rwymo'n ffast ai fŷs,
A'i daflu oi neuadd allan, a chadw'r llys ei hun
Cyn elo'r fall o'i gastell na'r ddraig o galon dŷn
Mae'n rhaid i Grist ein gwneuthur yn blant i Dduw i dad
A'n hadgen [...]edlu'n feibion trwy fabwys prudd a rhad,
A'n gwneuthur yn etifeddion ir holl allu [...]g Dduw
Cyn gallom gael Peradwys er cystlad y fo'm byw,
[Page 58]Mae'n rhaid i Ghrist ein tynnu, o bob trueni m [...]
O rwydau'r fall uffernol, a gwefleu'r angeu glâ [...]
A'n gwneuthur ŷn gyfrannog, o Ffafar Duw ai ra [...]
Cyn gallo neb feddiannu, o'r deyrnas lle ma'i Da [...]
Ambossibl yw gan hynny, i un rhyw fath o ddy
Feddiannu Teyrnas nefoedd, trwy rym ai allu ei hu [...]
Na diangc o law Satan, gweflau'r angeu glas,
Na dial Duw ai felldith, heb gymmorth Christ ai r [...]
O bwedd i diangc un dyn, rhag dial Duw a'i f [...]
Rhag melldith drom y gyfraith rhag carchar pechod t [...]
Rhag gallu Prins tywyllwch rhag dannedd ange tri [...]
Trwy nerth a'i rym ei hunan▪ heb gymmorth Jesu Cri [...]
Mae'n rhaid i ninne'r dy [...]ion repento a chalon brûdd
A chredu'n Ghrist ein ceidwad trwy wir a bywiol ffydd
A pheunydd wella ei'n buchedd, trwy nerth ei yspryd
A bôd yn bobl newydd cyn dycca Christ ni ir nef,
Dewn bawb gan hynny'n gyfan, at Grist ein ceidwad prû [...]
Trwy alar a difeirwch, a gwir a bywiol ffydd
Yr un a ddelo atto, fei dûg ir nefoedd wen,
Ar dyn a beidi'o dwad, fa i uffern ar ei ben,

Cynhyrfiad i foli'r Arglwydd Jesu.

CYffredin a bonedd, trowch heibio bob masw [...]
A moeswch or diwedd gyttuno,
Ar foli'n garedig y bore Dd y'n dolig,
Ein Prynwr arbennig a'i gofio.
Pan wnaeth Duw mor gymen y ddau-ddyn or ddaia
Fe rhodd hwy'n y berllen i dario;
I gymryd i plesser, mewn heddwch a 'smwythder
O'r prenê melus-per oedd yno;
Pan gwelodd ein gelyn 'ni gyflwr y ddau ddyn
Ai bod hwy mor gyttun yn rhodio,
Ar ddaiar mor ffrwythlon, yn rhoi iddynt ddigon
Heb drafel ar ddynion lafurio,
Ac yno daeth Satan, mewn meddwl ac amcan
A'r gaffel ymddiddan a hudo,
Yn union at Efa fel llester o'r gwanna,
A gadel hen Adda fynd heibio,
Be bwyttech ti dammed, o'r Afal goreired
Nad ydych yn beidded i
Cyffwrdd
dwtshio;
Eich llygaid agore; chwi fyddech fel duwie;
Fel dymma'r rhinwedde sydd arno
Yr afal ir gymrodd, a'r tammaid hi bwyttodd
Ac adda ni pheidiodd a'i
brofi
dasto,
Nes caffel ansmwythder (ond ydyw'n beth sceler)
Yn dal am y plesser aeth heibio.
Hwy aethant eill dauwedd, oblegid eu balchedd
Yn euog o'r diwedd boenydio;
A ninne lin olin, sy'n dyfod o'r gwreiddin
Heb alle ond i dilyn nhwy yno
Pan gwelodd Duw cyfion y poene mor greulon
A ninne mor weinion yn
Soddi Rhuf. 5 6.
singco
Rhodd i ni gyfryngwr, wrth weled ein cyflwr,
Christ Jesu'n Jachawdwr i'n swccro,
Hwn aned yn unig y bore ddy'n dolig;
(Hwn ydyw'r gwir Feddyg iw gofio.)
Mewn presseb anghymen; ond gwych oedd ein fforten
[...]an cawsom fath Gapten i'n
Arwain
Ledio,
Dwŷ nattur neu rinwedd [heb gymmysc ei sylwedd]
Sydd ynddo [heb ddiwedd iw cofio]
Y Duwdod, y Dyndod, ynghyd iw cydnabod:
[...]c felly mae'n gorfod conffesso.
Mae Dduwdod cyn uchled a'i Dâd y gogoned
Pob amser i'w weled yn
Teyrnassu
rhaino
[...]i ddyndod heb allel cyrhaeddyd mor uchel
[...]s credwn ni
Geiriau
chwedel ein Credo,
[...]nd mawr oedd y cariad, pan rhodde'r ucheldad,
O fenyw'r fath Geidwad i'n swccro,
[...]n berffaith ddyn cnawdol fel pob un o'i bobol
[...]nd pechod yn hollol
Wedi neillduol
excepto.
Pan oeddem yn barod, oblegid ein pechod,
I fynd i'r pwll isod i drigo
Mewn ffwrnes uffernol, a chystudd anfeidrol
Heb obaith
Dychwely.
ymwrthol oddiyno;
Fe redodd yn feichie, fe seliodd ein bande,
Heb. 7.22
Fe'n unig a fedrei ddad ddigio:
Fe'n dygodd ni o'r gofyd; fe roddodd i'n rydd dyd.
Fe barodd i'n iechyd y baro.
Nid aur o'r melyna, nid cyfoeth o'r India.
Allasse bwrcassa pardwnio:
Ond bywyd y plentyn, y gwir Dduw a'r gwyr ddyn
Da iawn ydyw mosyn am dano
Trwy hwn y bodlonwyd▪ trwy hwn y dad ddigiwyd
Ac heb hwn ni allwyd ei bl [...]ssio:
Er mwyn hwn yn union, mewn pob rhyw anghenion,
Y gwrendy pob Christion a geisio.
F' offrymmyd ei hunan, yn Aberth bereiddlan,
Rhag ofan i Satan gongcwerio;
Fe figodd e o'i sowdwl, fe wnaeth wrth fy meddw
Fe gadwodd y cwbwl a gretto.
Er bod ein gweithred yn amal iw gweled
Esay, 64. [...]
Mewn moddion afrifed iw cownto;
O ddiffyg ffydd hynod, bob amser yn barod,
Nid ydynt ond pechod iw
Pri [...]
swmno.
Trwy ffydd i'n diddennir, trwy ffydd i'n perffeith [...]
Trwy ffydd i'n en nillir, ni'n gyfrdo;
O ras trwy ffydd fywiol, medd Pawl yr Apost [...]
Mae Christ yn ein dethol ni atto.
Eph. 2.
Ni cheisiodd un bridwerth, gan un dyn un aberth
(Er cymmaint y cymmerth ê i blago)
Ond yspryd drylliedig, a chalon buredig:
O dewch yn garedig i wrando.
Psa 51. [...]
Trwy stydd a derbynniwn▪ pob peth ag ofynnw
Nid oes dim ag allwn ddymuno,
Mar. 11.
Nas ceffir ond credu, yn hael gan yr Jesu
Can's fe fydd ar gallu lle mynno
[Page 61]Trwŷ ffydd 'ngwaed gwirion ein Prynwr gwyn grasson
Fe olchir ein beion pan orffo,
Rhoi cownt am ein gweithred▪ o flaen y gogoned,
Ond iddo gael gweled repento.
O! byddwch yn addas, trwy fynych gymdeithas
A gwisc y briodas yn gryno,
I fynd i'r llawenydd, ymhell or aflonydd,
Yn barod pan orfydd apirio.
A byddwch fal Seintie, ag oel i'ch lanterne,
Bob nos a phob bore ich goleuo:
Rhag dyfod y Priod, heb rybudd na gorfod'
Mewn amser heb wybod i gnoccio.
A gwnewch eich gwasanaeth, i'r Drindod yn helaeth,
Tra'r dydd Jechydwriaeth heb ba [...]o;
Rhag dysod tywyllwch, rhesymmol y gwelwch,
Prŷd hwnnw ni ellwch mor Gweithio
Gweddiwch yn dduwiol, ar eich cadw'n ddiangol,
A bôd yn wastadol yn effro;
Cans agos yw'r amser, medd Matthew dafod ber,
Fe orfydd ar fyrder ymado.
O byddwch gariadus, wrth fodd Duw a'i wllys,
Chwi gewch fod yn ddilys yn
Teyrnasu
rhainio,
Mewn smwythder, dedwyddwch, llawenydd llonydd­wch
A phethau na fedrwch ystyrio.
Nid oes yno glefyd, na thristwch nac adfyd,
Na gofal na gofid i'w gofio;
Datc 7.16.17.
Ond
Cerdd
miwsic pereiddlon, gan sanctaidd Angelion,
Na ddichon un galon, fyfyrio.
Gan hynny blwyfolion, chwigwympwch yn ffyddlon
O ddyfnder eich calon weddio,
Ar Dduw o'i wir fawredd a'i aml drugaredd,
Yno'n dwyn ar ein diwedd i drigo.

Gwahoddedigaeth arall i foli Christ Jesu

DEwch bawb yn garedig, yn ffres ac yn ffrolig
Yn awr yn nadolig i foli mab Duw,
A Psalms ac a Hymne, yn hwyr ac yn fore
Am gadw'n eneidie rhag distryw,
Dewch cenwch yn llafar, nes dadsain y ddaiar
A dringad eich trydar i'r trydydd nef;
I gyffro'r Angylion, i gyd ganu a dynion,
I Dduw am ei dirion dangneddef.
Pan na'lle na dynion, na Saint nac Angelion
Na dim daiarolion. mewn daiar na dwr,
Ein Cymmorth na'n helpu, fe helodd Duw ei'n prynu
Ei unig fab Jesu'n Jachawdwr.
Pe Dâd a sae perchen, deg plentyn ar huglen?
Y rodde'n aflawen y gwaetha iw lâdd,
Ar grogpren echryslon, i gadw ei elynion
A'i gyrrei yn greulon i ymladd?
Duw nid arbedodd, roi'r un mab a feddodd,
Ar niwya a garodd o'r byd i gyd.
I farw dros ddynion, ar grogpren echryslon,
Pan oeddem elynion gwenwynllyd.
Gan hynny'n enwedig, trwy wylie'r nadolig.
Rhown ddiolch caredig ein cariadus Dâd,
Am roddi mor rasol, ei etifedd naturiol
I fod i ni'n nerthol Geidwad.
A molwn yn nefa, a mosiant or mwya,
Fab Duw gorucha gwir Jechyd y byd;
Am ddywad o'i fawredd oi nefol anrhydedd
I'n tynny mor rhyfedd o'n gofyd,
O'r nefoedd orucha, o fynwes Jehofa,
Daeth mab Duw anwyla olud i ni:
I gymryd ei ddyndawd, o Fair at ei Dduwdawd
Ai wnenthur yn gyd frawd i ni▪
[Page 63]I'r Stabal anghymen, o'r nefoedd ddisglairwen
I breseb yr ychen, o'i oruchaf Lŷs;
O blith yr Angelion, i gadw plant dynion
Y daeth yr oen tirion cariadus.
Mab Duw gorucha Duw'r gair mi ai henwa
Etifedd Jehofa, Duw mab y Duw mawr;
Y wnaed yn ddyn enawdol. o Fair yn rhyfeddol,
I achub ei bobol drallod fawr,
Y Duw'r hwn a greodd, nêf, daiar a dyfroedd
Y Duw'r rhwn y luniodd yr Haul yn y nef,
Y wnaethpwyd yn blentyn, yn fachgen yn fwydyn
A milwyr cyffredin ai lladdef,
Dewn bob rhai gan hynny, clodforwn yr Jesu
Ymrown bawb i ganu, gogoniant a mawl
Ar Dafod a thanne, yn hwyr ac yn fore
I'n Prynwr mewn hymne nefawl,
A g [...]lwn y nefoedd. y dd [...]iar ar moroedd
A phawb o'r lluoedd sydd ynddynt yn llonn,
I gyd ganu moliant, a chlod a gogoniant
I Awdwr ein ffyniant yn ffyddlon,
Fel Sadrach or ffyrnes fel Zachri oi gyffes,
Fel Miriam a Moses ar lann y mor,
Clodforwn yr Jesu, y ddaeth i'n gwaredu
O'r ffwrn a'r carchardŷ
gwangcus
catcor
A threuliwn ei wylie, er cof am ei ddonie
Y modd ac y gwedde i wyl Jesu gwyn
Mewn nefol hyfrydwch, a duwiol ddifyrwch,
A phrudd ddiolchgarwch gennyn.
Mae'r Arglwydd yn erchi, i'n bawb fod yn firi,
A llawen a llonni, mewn Llan ac mewn Llys
Yn awdwr ein heddwch, a Thâd ein diddanwch
Trwy fod ein difyrrwch yn weddus
Gan hynny'n enwedig, yn awr y nadolig
A'r galon yn ffrolig a'r wyneb yn ffres.
Gwir orfoleddwch yn Awdwr eich heddwch
Rhowch ymaith bob triflwch anghynes
Trwssiwch eich Teie, hwynwch eich byrdde,
A phob sir or gore o gariad ar Ghrist;
Gwahoddwch i gilydd, i gynal llywenydd,
Na chedwch ei wyl ddydd yn ath [...]ist,
Cwnnwch eich calon, cymm [...]rwch eich, digon,
Gochelwch ormoddion mae meddwi yn gas.
Na cheisiwch lawenydd, mewn diod na bwydydd
Ond yn eich Achub [...]dd addas.
A chenwch drwy'r Gwylie, dduwiol ganiade.
Na soniwch am senne ar wylie'n gw'r Sant.
O [...]d siriwch eich hunain ar Fab Duw sy'n darllain.
Fod ganddo iw'ch gywrain faddeua [...]t,
Nac ewch ir Tafarne, ar aflan St [...]wdeie.
Florian y gwylie mae'n gwilydd y gwaith;
Amherchi Duw'n prynwr, bodloni'n gwrthnebwr.
Mae'r cyfryw au dwndwr d [...]ffa [...]th,
Ymmaith ar Cardie, ar dwndrian a'r disie,
A'r gloddest a'r gwledde bair Christion yn glaf.
A'r meddwdod a'r tyngu, fy'n nyrddo anafu,
Nadolig Duw J [...]su anwyl [...]f
Cymrwch y Psalmau, ar Fengyl wen olau,
Yn lle'r pâr Cardiau, os gwyr da i'ch heb ddig,
Ffittiach i Gristion na'r par cardiau brithion,
Yw'r Efengyl wen dirion Nadolig.
Gan hynny ymsiriwch, a gwir orfoleddwch,
A neidiwch a molwch eich prynwr mawr,
Cenwch glôd iddo, a churwch eich dwylo,
Hyfrydwch ynddo yn ddirfawr,
Rhowch foliant rhagorol, i'r yspryd Sancteiddiol,
Sy'n dangos i'r bobol o'r Bibl yn rhâd;
Fod pardwn ac Jechyd, a hed [...]wch a ywyd,
I'w gael yn ein hyfryd Geidwad
I'r Tâd 'rhwm a'n creodd, i'r ma [...] rhwm an prynodd
I'r yspryd a'n gloywodd a'r gair a'r dwr glân,
Y bytho bob enyd, ogoniant tra hyfryd.
Ym mhob mann o'r holl fyd yn gyngan.

Annogaeth i Ddiolchgarwch am ein Prynedigaeth trwy Grist.

CUrwch bawb eich dwylo ynghyd,
Psal. 47.
Bendithiwch Dduw o bryd i bryd
Am roi unig fab i'n prynu,
Pan yr oeddem gwedi'n
Colli
damnu,
Cwympwch bawb ar ben eich glinie,
Aberthwch iddo nos a bore,
Clod a molia [...]t nerth a gallu,
Am roi unig fab i'n prynu.
Pys ystvriem faint yw'r dyled,
Y sydd arnom iddo o'r parthed.
Ni wnaen swydd a nos a bore,
Ond ei foli ar ein glinie.
Pan yr oeddem gwedi myned,
Act. 26.18. 1 Jo. 3 8. Eph. 2.2. Luc. 4.18.
Dan [...] Satan i gaethiwed.
Fe [...]odd Duw ei fab i'n prynu,
Pan na alle neb ein helpu.
Carcharorion dan law Satan,
Yn y
Carchar
dwnsiwn mawr yn cwynfan,
Beth yn byssem bawb yn gryddfu,
Oni bysse'r Jesu ein prynu,
Ni oedd lûn i
Heddychu Col. 1.20.
reconsilo,
Duw'r cyfiawnder gwedi digio,
Oni bysse ei un mab Jesu
Farw drosom er ein prynu:
Nid oedd lûn gwaredu Enaid,
Un pechadur o'r pŵll tanbaid
Oni bysse i'r Jesu gyfion,
Dalu drosto waed ei galon,
Christ y rodd ei werth fawr waed,
Yn Bridwerth drosom ni iw Dâd;
Ac a'n tynnodd trwy fawr gryfder,
Heb. 2.14.
O law Satan oedd y Sieler.
Adar oeddem gwedi'n dala,
Psal 124 7
Yn rhwyd Satan iddi difa,
Christ y dorrodd y rhwyd drosom,
Ninne'r
sef y ffydd­loniaid
Adar a ddianghasom
Dafad oeddem aethe ar ddidro
I blith bleiddiaid i gyrwydro
O'r wir gorlan ym mharadwys,
Ar ol Satan pan i'n tempt [...]wys
Christ yw'r Bugail y ddoe i' mofyn
Hon i blith
Anifeiliaid gwylltion
Bwystfilod yscymmyn,
Ac y ddyge'r Ddafad adre,
O eneu'r Diawl ar ei 'scwydde.
Ni yw'r gwir y gas eu speilio
A'n harcholli wrth dramwyo
I Jericho o Jerusalem
Luc. 10 33 34 35
Heb neb an cwnne o'r clawdd lle 'roeddem
Christ yw'r mwyn Samaritan
Y rwyme'n harcholl yn y man,
Ac a'n dyge hyd yr ostri.
Yno i'n swccro a'n cynfforddi,
Y Sarph a'n brathodd ym mharadwy [...]
A chol pechod pan i'n twyllwys:
Christ eliodd ein archollion,
Yn fwyn Jawn â gwaed ei galon
Nid oedd dim a alle helpu,
Israel gwedi'r Seirph eu brathu
Ond golwg hyll ar Sarph o brês
Dim amgenach ni wnae lês.
Nid oedd dim a'n helpe [...] ninnau,
Jo. 3.14 15
Gwedi'n brathu a chol pechodau
Ond Christ Jesu gwedi hoclio
Oedd y Sarph yn
Arwyddoccau
represento.
Tebyg oedd ein cyflwr egwan
I adar bach y Pelican
Y fae'r neider wedi nafu
Nes cae'nt waed eu mam i'w helpu
Pan y gwelodd Christ ein cyssur,
Megis Pelican twym ei natur,
Heb. 9 14
Fe rodd i ni waed ei galon
I elio ein archollion.
O considrwn ninne'n
cyflwr
câs
A'r daioni mawr a'r grâs
Y ddaeth i ni'r Byd colledig
Drwy ddioddefaint Crist yn unig
Slafiaid Satan. Gweision pechod.
Plant digofaint bwyd Bwystfilod
Oeddem bawb oni base'r Jesu
Ddaeth o'r nef ir groes i'n prynu
Beth yw dyn heb gyfnerth Christ,
Ond gwas a slâf i'r cythrel trist.
Gwedi Dduw ei farnu eiswys
Fynd i uffern o beradwys,
Nid oes dyn a ddichon gadw
Ei enaid bach rhag iddo farw,
Nes y caffo gyfnerth Jesu
A'i waed gwerthfawr iddi olchi
Nid oes dyn a ddichon wneuthur
Jo. 3 18
Jawn i Dduw am bechod budur
Nes y caffo waed yr Oen
I dalu'r pris i ddofi'r poen
Christ yw'r Oen di fryche i gyd,
Sy'n tynnu ffwrdd bechode'r Byd
Ac yn dofi llid ei Dâd,
A'i fywyd gwyn, a'i werthfawr waed
Christ yw'r ffeiriad sy'n y nef
Heb. 4 14
Yn gwneuthur trosom weddi gref
Gwedi offrwm gwaed ei galon
rhuf 8 34
Ar y groes yn bridwerth drosom
Christ yw gwir oleuni'r Bŷd
Christ yw'n Bywyd oll i gyd
Christ yw'n cynffordd Christ yw'n ceidwad
Christ yw'n Helpwr o'r dechreuad
Heb Grist nid ym ond colledig,
Jo. 3.36.
Trwy Grist yr ym ni'n gadwedig:
Heb Grist ni chawn weled Duw;
Trwy Grist ni gawn ynddo fyw:
Datc. 21.8, 27.
Pob dyn aiff i uffern drist,
Ond y gretto yn Jesu Grist:
Ac heb Grist ni ddichon un dyn,
Fynd i'r nêf er maint o'i rofyn,
Dysgwn bawb gan hynny g [...]edu,
Yn ein Prynwr mawr Christ Jesu;
Act. 3.93.
A meddyliwn wrando arno
Os 'n y nef y mynwn dario.
Prynodd Christ â Gwaed ei galon,
Yr holl fyd o'i poenau trymion;
Llawer mil o'r byd er hynny,
Joan. 3.36,
Ant i uffern eisieu credu.
Er croes hoelio'r Jesu drosom,
A rhoi taliad llawn am danom,
Mat. 7.19, 21.
Etto ni bydd neb cadwedig,
Ond y gretto ynddo'n unig.
Credwn yn Grist ac fe'n cedwir,
Oni chredwn yna i'n collir;
'R un y gretto gaiff ei gadw,
Rhwn na chretto collir hwnnw,
Nid aiff un na mawr na bâch.
Bŷth i Uffern i roi gwâch,
Ond y dŷn y beidio a chredu,
Yn y prynwr mawr Christ Jesu.
Porth y nef sydd lêd agored,
Ddydd a nos heb arno gaued,
I bob grâdd o gywir griffion,
Ac y gretto ynddo'n ffyddlon,
Ni bydd son byth am ein beie,
Na'n drwg nattur▪ na'n pechode;
Hwy faddeuwyd, ac hwy
dynir alla
flottir.
A gwaed Christ i maes o'r Llyfur,
Christ a'n golchodd o'n pechodau,
Christ a brynodd ein eneidiau
Christ a'n
Sef os ufudd hawn iddo
dwg i deyrnas nefoedd
Nyni biau'r maint y brynodd
O molianwn ninne'r yr Jesu
Ddydd a nos am iddo ein prynu
Ac n [...] anghofiwn tra chwyth ynom
Heb, 5.9,
Faint o bethau wnaeth ef erddom,
Glôd a gallu mawl a moliant
Gwir anrhydedd a gogoniant,
I fo i'n prynwr mawr a'n Pen,
A ddweded nêf a daiar, Amen

Cynghorion i'r Sawl a ddymunai gael ffafr Duw a maddeuant Pechodau.

PWY byna ge [...]sio madde,
Ei bechod a'i drosedde.
A chael pardwn gan Dduw gwyn
Rhaid dilyn hyn o werse,
Yn gynta adde'th bechod
Dih. 28.13.
Yn
Oddifrif
brudd o flaen y Drindod
Na chais gelu dim rhag Duw,
Does dim nad yw'n ei wybod
Gwedyn prawf ddeallu
Pa ddial wyt ti'n haeddu,
rhuf. 6.23
A pha angeu
Tragywy­ddol
didrangc maith
Am dan dy waith yn pechu.
A deall [...]od dy feie,
Yn haeddu uffern boene;
Gwedyn cais a chalon drist
Joel, 2.13
Gan Dduw er Crist ei madde.
A dysc yn brudd gydnabod,
Nad oes o flaen y Drindod,
Iawn am bechod ond gwaed Christ
Ai angeu trist a'i ufddd dod
1 Pet 1 18 19. Matt 20 28
A chred i'th Brynwr Jesu
Yn gwbl gyflawn dalu,
Ar y groes yn ddigon drûd
Am feiau'r byd sy'n credu:
Matt 3 17
A gwybydd fod Duw'n fodlon
Yr iawn y wnaeth Christ droson
Ac er ei fwyn yn barod iawn,
Roi pardwn llawn i'r ffyddlon
A chred y madde i tithe
Jo. 3 16 Heb 8 12 Jo. 14 14
Dy bechod ath drossedde,
Ond it geisio er mwyn Christ,
A chalon drist eu madde.
Na chytcam geisio celu
Mor Pechod wyt ti'n garu;
Adde'r cwbl gerbron Duw,
Peth ofer yw ei wadu.
1 Cor 11 13
A barn dy hun yn euog,
O flaen yr Holl-alluog.
Fel na'th farner ar ddydd
Barn
brawd
Ar goedd trwy wawd digassog
Jac 4 9 10
Alara am dy bechod,
Yn ol ei weld a'i nabod;
Ac ymofidia nos a dydd,
Nes i ti'n
Ddifrifol
brudd ei wrthod
Gwna'r galon brudd ochneidio
A'r llygaid ddyfal wylo:
A gwna ir yspryd brudd dristhau
Edifarhau a
Galaru Ezec 36 26
mwrno
A chais gan Dâd goleuni
Roi calon dyner i ti;
Ac ymofidia ymbell awr,
Am dan dy fawr ddrygioni
Na orphwys byth yn ceisio
Nes cael gan Dduw dy wrando
A rhoi calon it dristhau,
Edifarhau ac wylo,
[Page 71] I [...] ol it fwrno ennyd,
Psal 119 114
Am dan dy bechod oflyd,
Dala afel tra fech byw
Ar brommais Duw ai 'ddewid
Mat. 5 4.
Mae Duw'n ei air yn addo,
Diddannu rhai fo'n
galaru
mwrno
A rhoi hefyd bardwn clir
I bawb y wir
edifarhau
repento,
Repenta'th fŷwyd anllad
A chred yn Ghrist dy geidwad;
Luc. 13 5 Jo. 3 16 Esa 55 7
Gid dy feiau tra hynod chwyth
Ni chollir byth o hanad
Mae Duw yn addo helpwr
A cheidwad a diddanwr
Esa. 35 4
I bob dyn difeirol trist
Sef Jesu Grist dy brynwr
Mae Duw yn addo madde,
Esa. 1 16 17 18
Dy bechod ath drossedde
Ath olchi'n lân oth fry [...]ti i gyd
Ond gado ym mhryd dy feie
O byddi di difeiriol,
Jer 3 12
Mae'n addo bod yn rassol
Diddig, tirion, mwyn, a
Hael Rhuf 5 1
ffri
A byth a thi'n heddychol
Mae'n addo dy lwyr olchi
Oddi wrth dy feie ath [...]rynti
Yngwaed ei fab [o cosia hyn]
Ath droi mor wynn ar Lili,
Dal afel siwr fel Christion
Ar hyn o addewidion
Nêf a daer ant heibio [clyw]
Mat. 24 35
Cyn torro Duw bromeision
Casa dy bechod oflyd,
Fel neidir gas wenwynllyd
Rhuf 12 9
Sy'n ceisio'th ladd o gysgod llwyn
Dan gêl, a dwyn dy fywyd
[Page 72]Na ddere ir man lle gallo
Dy bechod tair dy hudo:
Dihar. 4.14.15.16.
Passio heibo, neu dro'n d' ôl,
Na ddos fel ffôl ith demptio,
Os doi a draws y neidir,
Dihar 6.27.28.
A cholyn hon feth frathir;
O doi'n rhy agos at y tân,
Medd Scrythur lân feth loscir,
Gan hynny ymgadw arnad.
Rhag tramwy lle bo'r temptiad:
2 pet. 2.20.21 22
Gwell it droi na mynd ir mann
Nid wyt ond gwann ac anllad;
Na thro at bechod eilwaith
Fel ci neu fôchyn diffaith
Y rêd ir dom yn frwnt ei fri
Yn ôl ymolchi unwaith
Dih. 24.1.
Na ddilyn ddrwg gyfeillach.
Ath
Yrro
helo'n ffolach ffolach
Ni thâl ceisio troi at Dduw:
Nes gado'r cyfryw ffrythnach.
A glyn wrth bobl dduwiol
A
Craffa psal. 119.63 phil. 3.17. Ps. 51.10.
Marca eu ymddygiad grassol,
Da a difyr yw'r fath wyr,
Ith ddwyn ir llwybyr nefol
A chais gan Dduw trwy weddi
Dy droi oddiwrth ddrygioni
Ath gyfrwyddo tra fech byw,
I garu Duw a'i ofni,
A nâd ir fall dy ddallu,
Ath annog mwy i bechu,
Sathra. Rhuf 16.20
Damssing Satan dan dy draed
Trwy rinwedd gwaed yr Jesu
Na ddere at y meddwon,
Rhag newid dy arferion,
Fel y newid y môr glâs
A heli flâs yr afon.
[Page 73]Y mâd â phôb cyfeillach:
Ath helo'n annuwiolach:
Tynn oddiwrthynt, casa eu ffyrdd,
Sef
Pyg.
pitch y nyrdd dy gadach.

Cyngor i gredu yn Christ, a danghossiad o'r newidiad rhyfeddol sydd yn y Dyn a gretto.

CRêd yn Ghrist, llef am dy geidwad,
Mae Duw 'n cynnig Christ i fagad;
Derbyn Ghrist pan y cynnico,
Os gwnei ti fyddi hebddo.
Y dyn a gretto yn Ghrist yn
oddifrif
brûdd,
Trwy galon rwydd a bywiol ffydd,
Mae Christ yn rhoi i hwnnw râs,
I fyw fel Sant o hynny maes,
Mae Christ yn rhoi ei yspryd iddo,
Jo 7.39. Gal, 3.22.
I ail eni, a'i ail lunio,
Ai lwyr droi yn ddŷn o newydd,
O rebel ffol yn blentyn ufydd,
Mae 'n rhoi ei air i wir oleuo,
Mae 'n rhoi ei râs i gynnorthwyo;
Mae 'n rhoi ei yspryd i reoli;
Mae 'n rhoi ei hun yn bob peth i ni,
Nid oes lûn i ddyn wrth hyn,
Y gretto yn gryf yn Jesu gwyn,
Na chaffo râs a grym oddiwrtho,
I fyw fel sant os cred ef ynddo,
Jo, 15.5
Mae crêd yn tynnu grâs a gallu,
Oddiwrth Ghrist ir dyn ddifaru,
Act. 15.9
Am bob bai o'i fuchedd aflan,
A byw fel sant o hynny allan.
1 Jo. 3, 3,
Oni bydd dy ffydd yn tynnu
Grâs o Grist i'th adnewyddu;
Dy ffydd sydd ffalst ni thâl hi ddimme,
Jac, 2.14.
Nes tynno hi râs i wellhau 'th feie.
Mae bywiol ffydd yn tynnu grâs,
A grym O Ghrist, O hynny
Allan 2 Cor. 5, 17.
maes
I roi heibio bob hên grefydd,
Ac i wneuthur ôll o newydd.
Er creuloned a fo'th nattur,
Er bychaned a fo'th synwŷr;
Crêd yn Ghrist a galw arno,
F' all dy wella'r awr y mynno,
Er creuloned oedd y jailer;
Er bod Saul yn filain sceler,
A manasses gwaeth nag bwynte,
Fe gwnaeth Christ hwy'n saint or gore,
Fe'th wna dithe o bechadur,
Oflyd, aflan, drwg dy nattur,
Yn wir sant; os credu ynddo,
Luc 7.39.50
A thynny gras a grym oddiwrtho.
Fe wnaeth Christ. o hên erlidwr,
Saul yn ebrwydd yn bregethwr;
Ac o'r wreigin ddrwg dros ben,
Y gigfran ddu, yn glommen wenn.
Crêd yn Ghrist a chalon gywir,
Fe wella Christ dy naws ath nattur▪
O fab ir fall fe'th wna di'n gristion
O elyn Duw yn blentyn graslon.
Na thyb dy fod yn credu'n gywir,
Oni newid Christ dy nattur:
Y dyn a gretto yn Ghrist yn ffyddlon,
Fe newid Christ ei ddrwg arferion.
Cenfydd Saul, a chenfydd Zache,
Cenfydd Mari Magd'len hithe;
Di gei weled Christ yn newid,altro,
Buchedd pob dyn pan y cretto.
Er bod Saul fel Blaidd y bore,
Cyn credu yn Ghrist yn difa 'alle;
Fe wnaeth Christ cyn canol dydd,
Y Blaidd yn oen, pan drowd ir ffydd,
Cyn i Zache fyn'd yn gristion,
Roedd e'n pilio pawb o'r tlodion:
Gwedi credu fe rodd Zache,
Ran ir tlawd o'r maint y fedde.
Er i Fagdlen fyw'n rhyfygus,
Cyn credu yn Ghrist a phechu'n rhwyfus;
Fe fu Fagdlen ar ol credu,
Fyw fel Santes nes ei chladdu.
Felly dithe a newidi
Dy arferion ond it gredu:
Nes newidiech dy arferion
Nid yw'th ffydd ond
Tyb cas.
phansi ffinion.
Ffydd heb weithred ddu'n ei dilyn,
Sydd ffydd farw; ydd heb eulyn,
Efydd i'th ddallu. ffydd i'th dwyllo,
Ffydd sydd barod i'th gondemnio.
Ni bydd tân heb wres llo bytho;
Ni bydd dwr heb wlybr wydd ynddo;
Gal. 5.6.
Ni bydd 'fallen dda heb fale;
Na bywiol ffydd heb dduwiol ffrwythe.
Os dwaid un el fod e'n credu,
1 Jo. 3.6. Hyd. 11,
Ac heb wella ei feie er hynny,
Nid oes dim ffydd gan hwn, ond ffrôst;
Yn tywyllo 'i hun yn daran dôst;
Ni all dyn sy'n credu'n ffyddlon,
Jo. 7.39. Gal. 5.22.
Lai nâ gwella ei ddrwg arferion,
Waith bôd Christ yn rhoi 'lân yspryd,
Ir pechadur 'wella ei fywyd.
Nad dy dwyllo ddryg ddyn aflan,
Ile bo ffydd mae buchedd burlan:
Od yw dy ffydd yn talu ei gweled,
Jac. 2.14.
Moes ei dangos wrth dy weithred.
Onid yw dy ffydd yn fywiol,
Yn dwyn gair a gweithred rasol.
Jac. 2.13.
Nid yw hon ond ffydd mewn enw.
Ffydd na ddichon byth dy gadw,

Cyngor i ochelyd cwmpeini drwg &c.

Y Neb a fynno fyw yn ddeddfol,
Yn ôl gwllys ei Dâd nefol,
Dihar. 1.10.15. Psal. 26.4.5.
Cynta peth sydd raid i wneuthur,
Tynnu o blith y drwg weithredwyr.
A rhoi i fynu ddrwg gwmpniaeth,
Yn dragywydd heb ddim hiraeth.
Megis [...]oesen gwmpni'r Aiphtiald,
Heb. 11.27. Gen. 12.1, 4
Lot ac Abram y Caldeaid.
Gen. 12.1, 4
Fel y tâg y gwyg y Gwenith;
Fel y sura fineg lefrith,
Fel y nyrdda pŷg dy gadach;
Dihar. 22.24, 25.
Felly 'th nafa ddrwg gyfeillach.
Gochel neidir rhag dy frathu.
Gwachel blâg rhag dy ddifethu,
Ac o ceri Jechydwriaeth.
Gochel ddilyn drwg gwmpniaeth.
Tynn o Sodom tyred allan,
Rhed o blith y bobol aflan,
Gad oferwyr cadw d' enaid,
Tynn o blith yr anffyddloniaid.
Tra fu Foesen gyda'r Aiphtiaid,
Tra fu Abram gyda'r Syriaid,
Ni 'mddangosei'r Arglwydd iddynt,
Nes eu tynnu ymhell oddiwrthynt.
Rho gwmpniaeth plant y fall,
Heibio 'n ebrwydd o dwyt gall:
Ni bydd cydfod rhyng Duw 'r heddwch,
A chyfeillion plant tywyllwch.
2 Cor. 6.15.
Gwedyn dilyn brûdd gyfeillach,
Pobol dduwiol ddoeth
Ddirwystur
ddiannach,
Rhai i ddyscant itti adnabod,
Dihar 13.22
Y gwir Dduw a'i ofni'n wastod.
Tra fu Saul yng hwmhni Samuel.
1 Sam. 19.24.
Fe aeth Saul yn sant o gythrel:
Tra fu'n dilyn pobol ddiffaith.
F' aeth y sant yn gythrael eilwaith.
Dilyn Brophwyd, fe'th oleua;
Dilyn athro, fe'th gyfrwydda;
Dilyn sant fe'th wna di'n sanctaidd;
Dilyn ffôl ti ddoi 'n ffia dd.
Gwedy'n canlyn ar dy liniau,
Ar Dduw ddangos i ti lwybrau,
Ath lwyr droi yn dra awyddus,
Psal. 25 4. Psal. 119.176.
O bob llwybyr traws twyllodrus.
Nes goleuo Duw dy lygaid.
Nes dadfywio Christ dy enaid,
Ni chanfyddi ffordd y bywyd,
Eph. 5.8.
Mwy na'r dall yr haul wen hyfryd.
Cymmer lantern Duw 'n dy law,
I'th oleuo ymma a thraw;
Nid aift neb i 'dir y bywyd,
Heb oleuni'r Scrythyr hyfryd,
Gwna'r peth archo'r fengyl itti,
Jac. 1.22,
Paid a phôb peth na boi'n erchi;
Hi'th gyfrwydda fyn'd o'r diwedd,
I gael bywyd a thrugaredd.
Gwedyn gwachel yn ystyriol,
Rhag bwy'n ôl dy 'wyllys cnawdol,
Rhuf. 8.13,
Nac wrth fôdd dy galon gynnil,
Ond yn ôl goleuni'r fengyl,
Ac or ceisi gael derchafiaeth,
Psal. 128.1.
Grâs a dawn, a iechydwriaeth;
Dewis dilyn cerdd heb golli,
Y ffordd a dysco'r Arglwydd îtti,
Hi fydd cyfyng ar y dechre,
A gwrthnebus ith drachwante:
Mat. 7.13.
Ar y diwedd hi fydd esmwyth,
Ith ddwyn at Grist yn ddisymwyth,
Mat. 11.30.
Ffordd i ddestryw sydd yn wastad,
Ac yn esmwyth ei dechreuad'
Dihar 14.12.
Ond yn niwedd ffordd annuwiol,
Y mae'r pwll a'r ffôs uffernol.
Datc. 2.13. Deut. 5.32.
Gwedi dechreu'r ffordd trwy rinwedd
Praw ei dilyn hyd y diwedd;
Ac na chytgam droi oddiarni,
Nes dy ddwyn i wlad goleuni.
Nid wyt nês er derchu 'r
Daith.
fiwrne,
A throi gwedyn at dy feie;
Nid oes Bromais gael y goron,
Heb barhau, hyd Angeu 'n ffyddlon,
Fe ddechreuodd Saul a Suddas,
Heb 10.38.29.
Fynd tu ar nêf ar drot fel Demas,
Waith deffygio cyn diweddu,
Mat. 11.19.
F' aeth y tri ir poeth garchar dŷ
Dilyn Grist ar air a gweithred,
Troedia 'r ffordd y fu e'n gerdded;
Gwna 'r peth archodd yn y scrythur,
Ni throi droedsedd dros y llwybyr,

Galarnad Pechadur.

O Arglwydd Tad diddanwch,
Clyw gwynfan a difeirwch,
Hên Bechadur gwael ei
Gyflwr.
gas.
Sy'n deisyf gras a heddwch.
Mi'th ddigiais di mor greulon,
Fy nhâd a'm Harglwydd tirion,
Fel na faidd fy 'nghalon drom
Luc. 18, 18.
Droi attad o'm golygon.
Gan hynny am pen ir ddaiar,
Fel Publican edifar.
Ir wyf dyn annuwiolaf was,
Yn crio am ras a ffafar,
[Page 79]A'th ffafar wi'n ei ofyn,
Er mwyn fy, mhrynwr purwyn,
Y fu droswi ar y groes,
Yn godde loes escymmyn,
Ac oni chafi Bardwn,
Er mwyn ei loes ai
ddioddesaint
Bassiwn,
F' orfydd arnai fynd yn bost,
I uffern dôst ai Dwngiwn.
Os Arglwydd er yn blentyn,
'Rwi 'n pechu 'n dôst ith erbyn;
Heb wneuthur pris oth Gyfraith gaeth,
Ond byw yn waeth nag un dyn,
Dy Enw mawr y geblais,
Dy Scrythur a ddirmygais;
A'th Efengyl gywir iach,
Fel chwedel gwrach y brissiais.
Y gwerthfawr waed y gollaist.
O'th galon pan i'm prynaist,
Wy'n ei dyngu ddydd a nôs
Heb brisio 'r loes a gefaist.
Dy Sabboth a'th ddydd Sanctaidd,
Y dreuliais innau 'n ffiaidd,
Mewn cyfeddach, meddwdod brwnt.
A maswedd tu hwnt i weddaidd,
Pan fo pawb ar eu gliniau,
I'th foli nôs a borau,
Mewn rhwy dwll yn chwareu 'r Cnaf,
O'ch! och! y byddaf innau.
Er bôd dy Air mor felus,
Psal. 19.10
Ar mêl ir enaid iachus,
Chwerwach oedd gen inne ei flas,
Na'r wermod câs gwrthnebus.
Codineb a Phutteindra,
Fal ûn o blant Gomorrah!
Fûm i yn eu ddilyn cyd,
Nes mynd or byd gan mwya
[Page 80]I Hyfed ai charawsio,
A sugno tarth Tobacco,
Fu fy swydd dros ennyd fawr,
Gwae finneu nawr ei gofio!
Fy leuengctid mewn oferedd,
Rhwyf, rhyfyg, ceccran, coegedd,
Y lwyr dreuliais gyda mam,
Heb feddwl am fy niwedd.
Yr y wân ar fy niwedd,
Ni welai'n well fy muchedd,
Na'r pryd gwaetha 'rioed or blaen,
Os dwedai'r plaen wirionedd.
Gan hynny rwi'n rhyfeddu,
Pa fodd yr wyt ti'n gallu,
Godde cyd fy mhechod taer,
Heb bery'r ddaer fy Llyngcu,
Os nid oes mawr o feie,
O frynti a chamwedde,
Nad wyf ynthynt lawer pryd,
(Gwae finne) hyd y clustie,
Oni bai fôd dy nattur,
Yn rasol tu hwnt ei fesur,
Yn uffern goeg, cyn hyn yn rhôst,
Y byssei'n dôst fy nghysur.
Os Arglwydd 'rwi'n cyfadde,
I'm haeddu er ys dyddie,
Fyn horri'n gwitt o blith y byw,
Waith cymmaint yw fy meie,
Oni bai fod dy fawredd,
Yn rasol tu hwnt, i ryfedd,
Gwann obeithio 'n gwitty wnawn,
Fel Cain na chawn drugaredd,
Ond dymma s'ym comfforddi,
Pan byddwi ym-mron ymdo [...],
Fod Trugaredd Duw a'i R [...]s,
Yn fwy na'm câs ddrygioni.
[Page 81] Fy meiau sydd cyn amled,
A Swnd y môr er mâned,
Ond dy ras sydd gan mîl mwy;
Na'r môr sy'n hwy'n amgyffred.
Gan hynny rwi'n
Y dyn a gretto a [...] a ddychwelo oddiwrth ei ddrygioni a ddichon o­beithio am drugaredd, Esay 55.7. Ond barn sy'n perthyn u i'r sawl sy'n mynd ym ml­aen yn eu camwedde Psal. 68 21
gobeithio,
Lle cafas pechod rainio,
Y caiff dy rwydd ath nefol râs,
Ar bechod câs gongcwero.
Di fuost Dduw trugarog,
I bechaduriaid enwog,
Na fydd waeth i minne am râs,
Bechadur câs anffodiog.
Pan drodd y Ninifeaid,
Oddiwrth eu beie afrifaid;
Er cymmaint oedd eu pechod câs,
Hwy gawsant râs eu llonaid,
Er cynddrwg oedd Manasses,
Y gwaetha 'rioed y glywes;
Fe gas gennyt bardwn mwyn,
Yn ol ei gwyn a'i gyffes.
A Dafydd Brophwyd ynte,
Er amled oedd ei feie;
Pan y llefodd am dy ras,

Psal 32 5. Luc 7 37.

Yr oedd ynddi ffydd a new­ydd-deb buch­edd gyda ga­lar am bechod,

Yn rhwŷdd fe gas eu madde,
Fe gafodd Mary Magdelen,
Yn ol hir chwareu'r butten,
Wrth wylo'n hallt y dagrau dwr,
Dy ras a'th ffafwr lawen,
Pan trodd y mab afradys,
Tuag attad yn ei un crys,
Fe gadd gwedi chwareu'r ffol,
Dy ras yn ôl ei 'wllys,
A minne sy'n gobeithio,
Er immi'n dost dy ddigio,
[...] câf er mwyn sy mhrynwrMwyn.gwâr,
Dy ras ath ffafar etto,
A'th ffafar wi'n fegian,
Yn daer, yn dôst, yn druan,
Er mwyn Jesu nôs a dydd,
Ar dagre o'm grûdd yn
Diferu
dropian,
O! cofia Arglwydd cyfion,
I Ghrist fy Mhrynwr tirion,
Offrwn droswi yn
Iawn
syr-had,
Ar grog-pren, waed ei galon.
A chofia iddo dalu.
Dros f'enaid i'r pryd hynny,
Y cûr, a'r poen, a'r angeu, a'r bri,
Ag oeddwn i yn haeddu.
O moes gan hynny bardwn,
Er mwyn ei loes ai
ddiodde­faint.
bassiwn;
Ac er ei gûr ai waedlyd chwys,
Na chais ail
Iawn
Satisffactiwn.
Ond maddeu 'n rasol immi,
Fy meiau ôll a'm brynti;
A golch yn llwyr fy mhen a'm traed,
Yngwerthfawr waed ei
Archollion. Esay. 1.18.
weli.
Er bod fy mai cyn goched,
Ar pwrpl coch neu'r scarled,
Dafn.
Droppyn bach o'i waed er hyn,
A'm gwna mor wyn ar
Gwisc pen gwraig.
foled,
Gan hynny mae fy hyder,
Ar Grist, ei waed, a'i fwynder,
Y caf genyd, yn ddi-nag.
Drugaredd ag esmwythder,
A dwyn at Grist yn gymmwys,
Fy enaid i Baradwys,
I gael rhan ym-mhlith dy Saint,
O'r nef, ar maint y brynwys.
Ir hon o'th râs a'th fawredd,
Duw dwg ni ôll o'r diwedd,
I'th foliannu fyth bob awr,
Am dan dy fawr drugaredd.

Cynghorion Duwiol

FAnwyl blentyn
Tyred.
dere'n nes,
Gwrando gyngor er dy lês,
Prawf i ddilyn tra fech byw,
Os ceisi fynd i Deyrnas Dduw.
Ofna Dduw tra bywyd ynod;
Parcha ei Enw mawr yn wastod,
Galw arno a'th holl galon.
Jer. 29.13.
Gwrando ei Air, a chadw ei orchmynion
Cymmair Air Duw yn wastadol,
Yn Gynghorwr ac yn rheol;
I reoli dy holl fywyd,
Ym-mhob gorchwyl a fo gennyd.
Dyna'r Lantern a'th oleua;
Dyna'r Athro a'th gyfrwydda,
I wachelud pôb drygioni;
Ac i'th ddwyn at Dad goleuni.
Gwachel wneuthur mawr na bychan,
Yn ôll d' wllys ffol dy hunan;
Y mae pechod gwedi
Sef ewyllys dyn
llygru,
Nes cael grâs i adnewyddu.
Praw gan hynny ffrwyno
Dy dyb.
phansi;
Ffiaidd gantho bob daioni,
Nes del gair Duw i'th gyfrwyddo,
Rhuf. 8.7. Tit. 3.3.
Pob peth drwg sydd felus gantho.
Gwachel bechod er bychaned,
Colyn Sarph sydd dan ei siacced:
Plesser byrr a bair hir
Tristwch
alaeth;
Cyflog pechod yw marwolaeth,
Os cadd Adda gymmaint ddial,
Am fwytta tammaid bach o Afal,
Duw pa saint y fydd dialau
Sawl sy'n byw ar gyfryw
Sef pechod­au.
falau
O
Digwydd­odd.
bu Siawns id 'bechu unwaith,
Gwachel byth rhag pechu'r eilwaith:
Nid oes iawn am bechod bychan,
Ond gwaed calon Christ ei hunan.
Tro 'ddwrth bechod na ddymchwela;
Câs yw'r ci a fwytto ei hwdfa;
Ail yw hwn ir mochyn diffaith,
'El or dwr ir dommen eilwaith.
Deut 1.37.
O dehorwyd Mosen fwyn lan,
Am un pechod 'fynd i Ganaan;
Bwedd na rwystrir pobol ddiffaith?
Fynd ir nef am bechu ganwaith
Casa falchder megis Neidir;
Dihar 16 18
Ymdderchafo, fe ostyngir:
Yn ol balchder y daw codwm;
Balch ei droed a drip ir cawdrwm:
1 Tim. 3.6.
Os taflodd Duw ar Angel penna,
Am ei falchder ir ywll issa;
I ble taflir llwch a lludw,
Y falchio'n waeth na hwnnw?
Byth na chwennych wely arall,
Rhwn ai gwnel nid yw ond angall,
Dihar. 6 28 29.
Y neb y sango ar y poeth dan
Nid oes lun na losco ei wadan.
Os cas Pharoh blâg môr greulon,
Gen. 12.17
Am chwenych Sara yn ei galon;
Pa fâth blag a dial caled,
Gaiff y sawl y wnelo'r weithred?
Mat. 5.37.
Gwachel dyngu dim ond ie,
Or diawl y daeth yr ofer lŵe:
Zech, 5.3, 4.
Melldith Duw fel mwg y leinw,
Y ty lle cablir Duw a'i enw.
Os lladdwyd Senacherib y
Y digred, Esay. 37 38.
Pagan,
Am gablu Duw o lêd ei safan,
Bwedd y diangc y Christnogion,
Y gablo Christ y gwaed ei galon?
Er dy fywyd parcha'r Sûl,
Dere ir Eglwys gwrando, gwyl,
Exod. 31.14
Galw ar Dduw, a gado'r pottian,
Na wna'r Sûl yn wyl i Satan.
Os pwyodd Duw a'r fâth
Laddfa
ddihenydd
Y dyn ddydd Sûl am gasglu briwydd,
Bwedd y pwya bedwar ascwrn.
Num. 15 35 36.
Y dreulio'r Sûl yn waeth na'r Sadwrn;
Ma cham attal ddim o'th ddegwm,
Na ddarnguddia ddim o'th offrwm;
Rwytti'n Speilio Duw'r diale,
Wrth ddarnguddio dy ddegymme.
Melldigedig ym-mhob rhyw,
Mal. 3.8, 9, 10. 11, 12.
Ydyw'r dyn a Speilio Dduw:
Cauad,
Stoppi'r nef, ar ddaer, ar llafyr,
Y mae pawb or cam ddegmwyr.
Casa feddwdod yn dy fywyd,
Nid a ir nef un meddw chwdlyd:
1 Cor. 6.10▪ Es. 5.11.14
Uffern goeg sy'n lledy safan,
Am gael llyngcu'r meddw aflan.
Os daeth Esau mor ddannodus,
Gen. 25 34.
Am werthu fraint am
Phiolaid o Gawl.
fes o bottus:
Pa ddannodiaeth ddaw i'r meddw,
Wertho'r nêf am bot o gwrw?
Na fydd gybydd, na fyn occor,
Deut. 23.19
Cistu ir hael yw'r cybydd

Brwnt.

Dih. 28.8.

angor:
Y gascto'r Tad trwy gŷbydd-dra,
Mab afradys a'u gwastraffa.
Haws i gammel fynd yn fuan,
Luc. 18.25
Ymma a thraw trwy'r nodwydd fechan,
Nag ir cyhydd anrhugarog,
Fynd i mewn ir nêf oreurog,
Gwachel dreisio nêb or tlodion,
Dihar. 22.
Christ ei hun yw'r Ustys cyfion;
Y dreisio'r tlawd fe big llygad,
Christ ei hun y cadarn Geidwad,
1 Bren. 21.
Ahab frenin am ddwyn gwinllan
Naboth ei gymydog truan,
2 Bren. 10.7.11.
A gâdd golli ei frenhiniaeth,
Llâdd ei blant a'i holl genhedlaeth.
Os daeth Difes dan law Satan,
Am ballu ir tlawd oi dda ei hunan
I ba law ddiawl yr a'r Gwyr mawrio [...]
Sy'n dwyn y maint sy'n helw'r tlodion
Gwachel ledrad, gwachel dwyllo,
Zech, 5.2.3.4.
Ni ddaw ennill byth oddiwrtho;
Lle bo lledrad y bydd aflwydd,
Dial Duw, a dyfal dramgwydd.
Os lladdodd Duw holl dylwyth Ac [...]
Jos. 7.24, 25.
Am grach guddio lledrad bychan,
Oni ddial Duw ar ladron,
Sy'n Dwyn maint sy'n helw'r tlodion
Gwachel gadw cam fessurau,
Micha. 6.10.11.
Yn dy dŷ nac amryw bwysau;
Ffiaidd cas yw'r dafal anwir,
Ger bron Duw, a'r pwys anghywir,
Maint ennillo Dyn trwy falstedd,
Ar y dafal o anwiredd,
Bob ychydig mae ê'n gossod,
Yn y cwd a'r pwrs heb waelod.
Byth na chytcam dderbyn
Sef er gwyrobarn.
gwabar
Honno lwngc sy'th helw o heinar;
Ni âd gwabar Ben na chynffon,
Byth yn helw'r plant ar wyron,
2 Bre. 5.27.
Y claf gwân y gas Gehezi,
Gydâ gwabar mewn
Côd.
bwdgedi;
Am y wabar y mae'n rhigyl,
Y
[...],
handwya hi 'r plant ar Eppil,
Gwachel gelwydd trech ar dîr,
Er dy fywyd dywed wîr,
Y cythrel brwnt ar wiber lâs,
Jo. 8.44.
Yw tâd a mam y celwydd câs.
Os bu farw Ananias,
Act. 5.5.10
Yn ebrw­ydd
Toc am ddywedyd celwydd atcas,
A'i wraig hefyd wrth farn Duw,
Casawn gelwydd tra fom byw.
Na lysenwa nêb er nam
Y dwl, na'r dâll, nar cloff nar cam;
Duw wnaeth dyn, a'i lun, a'i liw,
Y gablo ddyn fe gabla Dduw
Os barna Christ ir ffwrnais danllyd
Y neb y alwo ei frawd yn ynfyd;
Mat. 5.25.
I ble barna 'r nêb sy'n galw
Ei dâd a'i fam, ar gant llysenw;
Na thâl ddrwg dros ddrwg i un dyn,
1 Thess 5.15 Rhuf, 12.20
Os mynni fôd i Dduw yn blentyn.
Helpa, swccra dy elynion,
Na wna gam ag un rhyw gristion,
Pa ragoriaeth sydd rhwng Christion,
Mat 5.46▪
A'r un gwaetha o'r Iddewon,
Os dai dalu drwg dros ddrwg,
Dant am ddant a gwg am wg.
Gwachel wneuthur drwg ar hyder,
Cael trugaredd pan ith farner:
Felly cei di farn anffafrol,
Fynd dros fyth ir tân tragwyddol'
Deut. 29.18 19.20.
Os gorfydd atteb pan ein barner
Ger bron Duw am bôb gair ofer:
B' wedd attebwn, gwae fynghalon!
Mat. 12.36,
Am ein drwg an câs fargenion?
Na cham arfer un or donie,
Roes dy nefawl Dâd I tithe,
Fe ddaw dydd y gorfydd rhoddi,
An bôb Talent gownt a chyfri.
Mat 25.19.30.
Os taflodd Christ twllwch i'r eitha,
Y dyn ai dalent eisie ei helwa;
I ble taflir
Ben-dr [...] Mwnwgl.
drimbwl, drambwl,
Y gwas y dreulio 'r stoc a'r cwbwl?
[Page 88]Bydd di barod hedddyw heno
Ag oel ith Lamp, a'th wisc yn
Yn drwss­adus.
Gyfrdr [...]
Fynd o flaen dy farnwr prydd,
Y foru o bossibl ydyw'r dydd
Os caeodd Christ y porth mor ebrwyd
Ir sawl * ymron oedd mewn perodrwydd
Bwedd y cant hwy borth agored,
S'eb ym gweirio er pan ganed?
Bwrw heibio pob pibyddiaeth,
Meddwl am dy Jechydwriaeth:
F' orfydd
Myned.
paccio pawb oddi ymm [...]
Naill ai'r nef, ai'r twllwch eitha.
Onid aer ir nêf heb ymwthio,
Ac ymdrechu a thraed a dwylo:
B' wedd y Spyda'r nêb sy'n credu,
'Rânt it nêf wrth chware'a chyscu?
1 Cor. 9.14 Mat. 7.21.
Cyn cael cynglwyst rhaid ÿmdrech [...]
Cyn cael cyflog rhaid gwasanaethu,
Cyn cael nefoedd mae'n rhaid byw,
Ymma yn gynta wrth 'wllya Duw,
Datc. 2.10.3.12.
Ni ry Christ i nêb moi goron,
Ond ymladdo a'i elynion:
Ni ry i neb or geiniog fechan,
Mat. 20.8.
Ond y weithio dro'n y winllan,
Ni thâl dwedyd Arglwydd▪ Arglwyd [...]
Ni cheir nêf am eiriau masswŷdd;
Yn Gristnogaidd f orfydd byw
Cyn 'tifedder Teyrnas Dduw,
O herwydd hyn 'rwi'n cynghori,
Pawb a garo 'r nêf o ddifri.
Fyw'n gristnogaidd ac yn buwr,
Felly cant hwy'r nêf yn
Siccr.
suwr.
Or daw gofyn pwy a'u cant,
Bugail
Trist.
chwerw mawr ei chw [...]
Rwystro'r defaid ym mob twll,
Ar eu pennau fynd ir pwll,

Cyngor i wr ieuangc.

F' Anwyl Blentyn cês dy lythyr,
Serchog, Sanctaidd llawn o Synwyr,
Sy'n dymuno cyngor ffyddlon,
Ith gyfrwyddoi fyw fel Cristion.
Argoel Grâs yw'th weld cyn Janged.
Mor fawr dy chwant, mor
Ddifrifol.
brudd dy syched
I Nabod Duw i ddyscu'r Scrythur,
I ddofi'r Cnawd a
Drwg chwant.
nwyfiant Nattur.
I gyflawnu dy ddymuniad,
Derbyn hyn o gyngor difrad,
I gyfrwyddo dy holl fuchedd,
O'th fabolaeth hyd dy ddiwedd,
Yn dy ieuengctid F' enaid cofia,
Wir wasanaethu Duw gorucha,
Preg. 12.1.
Ac addoli dy Greawdwr,
Cyn i wendid waethu 'th gyflwr,
Dechre ddyscu trech yn blentyn,
Dihar 22.6.
Nabod Duw a'th Brynwr pur-wyn,
Hoffi Air a chadw ei gyfraith:
Hynny 'th wna yn hen-wr perffaith,
Tempra 'th lester tra fo'n newydd,
A'r gwîn gwyn o dduwiol grefydd;
Fe arogla hyd dy ddiwedd,
A gwynt peraidd dy lân fuchedd.
Planna 'n gynar yn dy galon,
Hâd pôb grâs a'th wnel yn Gristion;
Rhag i'r gelyn blannu'r efrau,
Eisie i hau a hâd Rhinweddau.
Cais flodeuo yn dra chynnar,
Gŷda'r Spring fel Almond hygar:
Y pren na ddycco blodau'r gwanwyn,
Trwy'r cynhaiaf fe fydd difwyn.
Exod. 22.29.
Mae Duw'n gofyn gan ei dylwyth,
O flaen pob peth gael y blaen-ffrwyth,
Ac ni fyn y Duw goruchaf,
Gan ei blant na'r Ail na'r olaf,
Rho gan hynny flaen dy gryfdwr
I wasanaethu dy Greawdwr;
Ac na ddyro trech yn plentyn,
Flaen ffrwyth d'oes i wasanaethu'r gelŷr
Drwg it roddi'r gwîn i Satan,
A rhoi i Grist y gwaddod aflan;
Rhoi dy nerth i
Iryngu bodd.
blessio 'r dryg wr
A rhoi 'th wendid i'th Greawdwr.
Melldigedig yw'r dyn ynfyd,
A ro i'r gelyn rym ei fywyd;
Ac na rotho i'w Brynwr diddig,
Ond yr henaint gwann methedig,
Gwachel arfer ddrwg yn blentyr
Arfer ddrwg a'th nyrdda 'n Scymmyr
Ac a dry yn ail naturiaeth,
Nes yr elech beunydd waeth waeth
Os Arferu bechu yn blentyn,
A dibrisio Duw yn llengcyn
Jer. 13.23.
Yn hên nid haws it wella hyn.
Nag i'r Dynion duon. Moyrys fynd yn wyn,
Rho gan hynny gorph ac yspryd
Yn dy ieuengctid yn dra hyfryd,
I wasanaethu dy Greawdwr,
Ac i ymladd a'th wrthnebwr.
Dan. 1.
Megis Daniel trech yn llengcyn,
Gwrthod win a chwrw melyn,
Ac na ro dy fryd ar foethe,
Ond ar nabod Duw a'i ddeddfe.
1 Sam. 3.
Dysc fel Samuel trech yn fachgen,
Sefyll o flaen Duw yn llawen,
Ac ymwrando o Air y bywyd,
Beth y ddywetto 'r Arglwydd wrthy
Fel Josias yn llange bychan
2 Br. 22, 1, 2
Rhodia 'n union o wyth allan;
A rho 'th fryd ar gadw 'r gyfraith,
Ofni Duw, a byw yn berffaith,
Dysc y Scrythur lân o'th sebyd,
Megis Timoth yn dra pharffid;
Honno 'th wna di'n ddoeth annianol.
2 Tim. 3 15
Yn gristnogaidd ac yn dduwiol,
Dôs fel Christ bob Sul i'r Eglwys,
Gydâ 'th Dâd Fam a'th Fagwys;
Luc. 4.16.
Ac o ddeuddeg oedran F' enaid,
Luc. 2.
Dechre ymddiddan a'r Doctoriaid.
Gwrando 'r fengyl, Gwrando 'r gyfraith
Dysc bôb un o'r ddau yn berffaith,
A chais fyw yn gynnil gynnil,
Yn ol cyfraith Dduw a'i fengyl.
Mewn tywyllwch 'rwyti'n rhodio,
Cymmer Lantern Duw'th oleuo;
Heb oleuni'r Scrythur hyfryd,
Nid aer byth i dir y bywyd.
Er bôd Duw yn y nefoedd ucha,
Mae yn ei Air a thi 'n chwedleua,
Ac yn dangos ei holl 'wllys,
Yn y Scrythur itti yn hyspys.
Edrych dithe yn y Scrythur,
Beth a fyn dy Dduw it wneuthur;
Gwna beth bynnag fo'n orchymyn,
Ac na
Na wna.
fedla fo e'n wrafyn.
Gwachel dorri 'r Pwngcie lleiaf,
O holl gyfraith Dduw goruchaf,
Rhuf. 6.23. Deut. 18.15 Ezek, 18.4. Damnediga­eth.
Y mae lleîa 'n haeddu Angeu.
Melldith Dduw a didrangc bo eneu.
Fe fyn Duw y branwr cyfion
Am bob pechod y wnel dynion,
Naill ai
dioddefaint
ange [...] 'r dyn a becho.
Neu angeu Christ yn daliad drosto
Ac lle pechaist fil o weithie
Act. 3.19.
Yn erbyn Duw nes haeddu ange
Edifara am bob pechod
Dihar 28 13
A chais bardwn gan y Drindod
Adde'th bechod ger bron Duw,
Fawr a bychan o bôb rhyw;
Ac 'mofydia am dy wegi,
Nes maddeuo'r Arglwydd ittl.
Edifara am dy wendid
A'th holl
Drwg chwantau Luc. 13.3
nwyfiant yn dy ieuengctid
Oni wyli'r dwr yn heli,
Duw a'th farna am y rheini:
Jer. 31.19.20. Psal, 32, 5.
Ni chadd Ephraim nes cwilyddio
Ni chadd Dafydd nes ochneidio
Fadde nwyfiant ieuengctid iddyn;
Nis cei dithe nes eu canlyn
Gwachel oedi hyd y foru
Rhag it farw heno wrth gyscu
Ac i'r Angeu glâs dy lysco
I'r sarn yn llangc, cyn ymgweirio
Mae yn uffern fil o filiodd
O wyr Ifaingc y bwrpassodd
Yn eu henaint brudd ddifaru,
Heb gael harfod wneuthur felly
Edifari 'nawr gan hynny,
Ni wyddys pwy a fydd y foru
Cymmer Barchell tra cynniger
Rhag nas caffech pan y ceisier
Ac lle'rwyt ti'n pechu beunydd,
Edifara bob ddiwedydd;
Rhag i'r dwr sy'n sio'n sceler,
Eisie ei
ddispyddu.
blwmpo soddi'r llester,
Gwedi gwir ddifaru unwaith;
Gwachel nyrdo'th drad yr eil-waith;
Na thro'r gyda'r hwch'r dommen
A'r ci i fwytta'th hŵd drachefen,
Ond cais ddilyn buchedd newydd
Eph, 4, 22.23.24. 1 Pet. 1.14, 15, 17,
Trwy Sancteiddrwydd a gwir grefydd
A chall dreulio'th einioes fechan,
Mewn duwiolder prudd ac ofan
Dod dasg arnad nos a bore.
Foli Duw ar ben dy linie:
Nad i ddiwrnod fyned drosod
Psal. 55.17
Heb addoli'r sanctaidd Drindod.
Ac i'th helpu fynd yn dduwiol,
Psal 19 7, 8 Rhuf. 8.13 14.
I orchfygu nwyfiant cnawdol
Cymmer gyfraith Dduw i'th ddysgu
A'i lân yspryd i'th gyfnerthu.
Cyfraith Dduw sydd daran rymmus
I droi'r Enaid cyfeiliornus
Psal 119 9, 99.
Ac i roddi dysg a deall
I'r rhai Jeuaingc annoeth angall
Gwna beth archo'r gyfraith i ti,
Gwrando'r cyngor mae'n i roddi:
Os dilynn i'r gyfraith gyfion,
Hi'th wna'n ddoethach na'th Athrawon,
Cadw afael siccir ynddi,
Plyg dy war ymostwng iddi,
Hi rydd râs a pharch a phower
O'i chadw hi mae gwobor lawer
Psal 19.11
Os arferu fyw yn berffaith
Nawr yn llange yn ol y gyfraith.
Fe fydd hawdd trwy fawr lawenydd,
It fwy'n sanctaidd yn dragywydd.
1 Sam 2 30.
[...]nrhydedda Dduw dy Dade.
Duw a'th anrhydedda dithe:
Os drimygu di i wasanaethu
Fe ddirmyga dy ddiwallu.
Os gwasanaethu Dduw yn blentyn,
Duw'th wasanaetha dithe'n hen ddyn;
Ac a bair i'r brain dy borthi,
1 Bren 17.6
Cŷn bo arnad fawr galedi
Ni'th ddanfonwyd i'r byd ymma,
I wasanaethu'r byd na'r bola;
Ond i wasanaethu Duw yn weddaidd,
Esay. 43.7.
Fel y gwna'r Angelion Sanctaidd,
Pan y codech gynta o'th wely,
Ps. 139.18.
Cosia Dduw a chwymp i wasanaethu,
Ac na ddôs o'th stafell allan,
Nes i addoli â pharch ac ofan,
Er Maint a fo dy fusnession,
A'th
Gdofiiau.
glamwri a'th orchwylion:
Na ddod law ar un o'r rheitia,
Nes addoli Duw yn gynta.
Ni bydd llwyddiant, ni bydd llonydd,
Ni bydd comfford,
Jer. 10.25.
na llawenydd,
Lle bo trafferth o bôb rhyw,
Heb ddim pris am foli Duw.
Dan. 6.10.
Er bod busnes fawr gan Ddaniel,
Yn y cwrt dan Frenin Babel,
Tair gwaith beunydd y gweddie,
Yn ei stafell er ei linie.
Pan yr elech o'r drws allan,
At un gorchwyl fawr na bychan,
Cais gan Dduw dy
Oddifrif.
brudd fendithio,
A rhoi rhâd ar waith dy ddwylo.
Fel y llwyddodd Duw orchwylion,
Joseph gynt a Daniel dirion;
Gen. 39.3. Gen. 6.3.
Felly llwydda d' orchwyl diti [...]e,
Os gweddii arno 'n ddie.
Ple bynna bech, beth bynna wnelech,
Ai da drwg y mann y mynnech,
Duw 'mhôb man sy'n disgwyl arnad,
Gwachel bechu yng-wydd ei lygad,
Psal. 139.7.
Gwna i eraill bôb daioni,
Y ddymynyd wneuthur itti,
Mat. 7.12.
Na ro i arall waeth fesure,
Nag a fynit roi i tithe.
Na wna weithred er dy gyffro,
Na bo Duw yn warant iddo,
Ac na allech yn ddiwawd.
Gyfri am dano ar ddydd
Barn,
brawd.
Gwna'r Duw byw yn wir Dduw itti,
Ac yn
Ofalus
garcus cais i addoli;
Psal. 34.10.
Galw arno, a molianna,
Felly yn wastad fe'th ddiwalla.
Gwachel gymryd ar un amser.
Enw'r Arglwydd mawr yn ofer,
Cans nid gwirion gantho hwnnw,
Gam arferu ei sanctaidd enw.
Treuli 'r Sabboth ôll yn llwyr,
Mewn sanctiddrwydd fore a hwyr,
Ac na ddyro ran na chyfran,
O ddydd Duw i
Ryngubodd
blessio Satan.
Anrhydedda dy Rieni,
Parcha
llawenha:
llonna swcera rheini;
Felly hestyn Duw dy ddyddie,
Ac y parcha d'eppil dithe.
Gachel gytcam ddigalonni,
Na rhoi ammarch i'th Rieni:
Dih. 16.18. Dih. 30.17. 1 Thess 4 3 4 1 Cor. 6.15.
Odid gweled diwedd dedwydd,
I Fe [...]ch falch neu fâb anofydd.
Gwachel rhag godineb fflaidd,
Cadw'th gorph yn lester sanctaidd:
Ac na wna er golud Rhufain.
Chwant. 1 Cor. 6.19.
Aelod Christ yn Aelod puttain.
1 Cor. 6.19.
Gorwedd gyda'th wraig dy hun,
Na chais arall wrth dy wyn,
Esay 28 1, 7, 8, Dih 23.29 &c.
Ac na chytcam wneuthur Temel,
Yspryd Duw, yn wâl i'r cythrel.
Er mwyn Jesu gwachel feddwdod,
Gwaeth yw hwn nag un rhyw bechod,
Mae'n troi dyn i gyflwr cythrel,
Ugain gwaith nag un anifel.
Matt 22 39.
Câr a'th galon bob rhyw Ddŷn
Fel y carech di dy hun;
Ac na wna i un dŷn niwed,
Ar air meddwl nac ar weithred
Gal 6 10
Gwna i bob dyn ore ac allech
Gwna yn ffyddlon yr hyn y wnelech,
Ond na chytgam er mwyn un dyn
Wneuthur dim a fo Duw'n
Yngwahardd
gorafyn,
Gad i gyfraith Dduw'th reoli
Deut, 5, 32
Ym-mhob gorchwyl y fo i ti:
Nid oes un rhyw orchwyl perffaith,
Ond yr un sy'n ol y gyfraith.
Cofia f' enaid nad oes genyd
Ddydd
Siccir
siertennol ar dy fywyd
Treulia bob dydd mor ddigamwedd
A pha bae ef ddydd dy ddiwedd

Cyngor i wasanaethu Duw

Y Sawl y fynno gael esmwythder
Llwyddiant, heddwch, cyfoeth, cryf [...]er
Llwyddiant daiarol a rhydd had rhag aflwydd bydol y gaiff y duwiol cyn belled ac y bo hynny er da­ioni iddynt.
Parch a ffynniant tra fo'nt byw,
Cwympent i wasanaethu Duw.
Y neb a fynno ddiaingc hefyd,
Rhag trallodion tost ac adfyd.
Nychdod, niwed anhap, aflwydd,
Cwympent i wasanaethu'r Arglwydd
Dyled pob dyn tra fo byw,
Ydyw prudd wasanaethu Duw,
Trwy lwyr gadw ei orchymynion,
Ar bob pryd o wyllys calon.
psal 34, 10 1 Tim. 4 8,
Rheitia gorchwyl, penna gweithred
Mwŷa ei ennill gore ei
Gweddill
wargred
Siwra ei wabar tro dyn byw,
Ydyw
Oddifrif
prudd wasnaethu Duw.
Dŷna'r unig waith a bwyntiwyd
[...] bawb wneuthur pan ein creuwyd;
Dyna'r gwaith y gorfydd cyfri
Do [...]ta am dano ddydd ein
Cyfyngder
didri,
Gwrando'r gair a chadw'r Gyfraith,
Beth yw Gwasanaethu Duw
Credu'r fengyl yn ddiragraith
Byw yn ol ei gwir oleuni
Yw gwasanaethu Duw o ddifri
Gwneuthur y fo Duw'n orchymyn,
Gwechlyd 'rhyn a fo e'n wrafyn
Dilyn ei Air tra fom byw,
Ydyw gwir wasanaethu Duw,
Dau ryw o wasanaeth ffyddlon
Y fyn Duw ar law pob Christion
Un trwy ffydd a chrefydd dduwiol,
Llall trwy foes a buchedd rassol.
Yn grefyddawl rhaid ei wsnaethu,
Trwy wir grefy [...]d ai foliannu
Yn gyhoeddus, ac yn ddirgel
Yn y ty▪ ac yn y Demel;
Lev. 23 3 Luc 4, 16 Act 20, 7
Yn yr Eglwys yn gyhoeddus
Ar bôb Sabboth yn dra pharchus
Gyda'r dyrfa ar ein glinie
Ag un galon▪ ac un gene
Ar ddydd gwaith mewn stafell ddirgel
Gydâ'n tylwyth fel mewn Temel
Fore a hwyr trwy alw arno,
Mat 6.6 Act, 10 30. Deut, 6.7 Jos 24 15 Jer, 10 25
Gwrando ei Air, a'i wir fendithio;
Rhaid gwasanaethu Duw yn foesawl,
Trwy lân fuchedd tra christnogawl;
Ym mhôb mann, ac ar bôb achos,
Hyd yr awr ddiwaetha o'n heinioes
Rhaid yw byw yn ddi-esceulus
Yn ol cyfraith Duw ai 'wllys
Nid yn ol ein
dychymyg
ffansi'n hunain
Os gwasnaethwn Dduw yn gywrain,
Rhaid yw dilyn buchedd deddfol,
Yn ol wllys ein Tâd nefol,
Luc. 1.74, 75,
A rhyngu fôdd, tro fom ni byw,
O'r ceisiwn wir wasanaethu Duw.
Y neb na wsnaetho Dduw yn brûdd,
Yn ol ei Air trwy fywiol ffydd,
Ni all hwnnw gwnaed ei ore,
Rhuf 14.23.
Byth foddloni Duw â'i Foese.
Duw y fyn i bôb rhyw Gristion,
Ei wasanaethu a'i holl Galon,
Mat. 22.37
A'i holl Enaid, â'i holl feddwl,
A'i Aelodau ôll a chwbwl.
Rho dy Gorph yn Aberth bywiol,
I wasanaethu dy Dâd nefol:
A rho d' anwyl Enaid hefyd.
I Addoli ef yn hyfryd.
1 Cor. 6.20.
Christ a Brynodd Gorph ac Enaid
Ar y groes â'i waed bendigaid;
Mae e'n disgwyl cael ei Addoli,
Genym â phôb un o'r rheini.
Ni fyn Duw ein Tad galluog,
Un gwasanaeth dau hannerog:
Ond fe fyn ei Addoli'n hyfryd,
Gân bôb Gwâs a'r Corph a'r yspryd.
Yspryd ydyw Tad trugaredd;
Ac mewn yspryd a gwirionedd,
Joan. 4.24. Dih. 23.26.
Y mae yn gofyn ei addoli,
O'r tu mewn a chalon wisci,
Ofer rhedeg dros badere,
O'r tu
Allan
faes a geirie 'r Gene,
Oni bydd y Galon hefyd.
Yn gweddio yn yr yspryd,
Nid oes mann ar Gorph un Christion,
Tu fewn, tu faes, yn oed y Galon,
Na fyn Duw ei lwyr Gyssegru,
Oll a chwbwl iw wasanaethu,
Er bob Satan weithie 'n fodlon,
Gymryd genym ran o'r Galon
Ny fyn Christ na phen na sowdwl,
Mat 22 37
Oni chaist ef ôll a chwbwl.
Rho dy Enaid iw fenditho,
Ac i orfoleddu ynddo:
Rho dy yspryd i gydnabod,
Psal 10 312
Faint o bethau wnaeth ef erddod.
Rho dy fryd ar bethau nefol,
Ac na sercha ddim daiarol:
Col 3 2.
Meddwl am y wlâd y gorfydd,
Aros ynddi yn dragywydd.
Rho dy gorph a'th holl Aelodau,
Fawr a bychan yn eu graddau
Bôb yr un mewn gweddaidd gyflwr,
Rhuf. 12.1.
I wasanaethu dy Greawdwr.
Rho dy Galon iw bur garu,
Yn ddiragrith, a'i wasanaethu;
Ac i lynu'n ddyfal wrtho.
Gan roi llwyr ymddiried ynddo,
Rho dy Dafod iw Glodfori,
Ddydd a nôs ar eitha o'th allu;
Psal, 51.15
Ac i ddatcan ei Ddaioni,
Ym mhôb tyrfa delech iddi,
Rho dy lygaid i
i ddal sulw
atendio.
Ac i ddyfal ddisgwyl arno,
Ps. 121 1.2
Gan eu drycha tu ar mynydd,
O'r lle daw dy holl lâwenydd.
Jac 1, 19
Rho dy Glust i wrando'n barchus,
Ar ei Air, a'i Arch, a'i' wllys,
Ac i dderbyn yn ddisigil,
Addewydion yr Efengyl.
Rho dy Ddwylo yn awyddus
[...] bob Gweithred sydd ddaionus;
Deut, 11, 11
A chyfranna ei fendithion,
Eph, 4, 28
Wrth eu rhaid i'th frodyr tlodion.
Psal. 95.6.
Rho dy Liniau iw addoli,
Ac i'm ostwng iddo o ddifri,
Gan roi parch ac ofan iddo,
Pa le bynna galwech arno.
Rho dy draed i droedio ei lwybrau,
Ac i rodio'n ffordd ei ddeddfau;
Ac i dramwy yn Gristnogaidd,
Iw Lys ai Demel b [...]rchus sanctaidd,
Jos. 22.5.
Rho dy enaid Rho dy yspryd,
Rho dy gorph a'th galon hefyd,
A phôb peth ag y sydd ynod,
Ddydd a nôs i foli 'r drindod.
Parch
o achos bod y duwiol yma mewn llawer o betheynllith r; ac o achos bod Duw yn profi eu ffydd, a'u hymynedd hwynt y maent hwy fel er aill, yn fynych, heb anrhydedd, iecbyd, a golud bydol; a megis
Anrhydedd, union olud,
Gwir dderchafiad, Hir oes iechyd,
Heddwch, ffynniant o bôb rhyw,
Y geir o wir wasnaethu Duw.
Dôs lle mynnech, doed y ddelo,
Gwnaed pôb gelyn waetha ag allo,
Yn ddigonol di gei fyw,
Os ti a wir wasnaethu Dduw.
Yn y dref ac yn y wlâd,
Ar bôb gorchwyl di gei râd,
A gwir lwyddiant ar y feddu,
Os yr Arglwydd a wasnaithu?
Bydd dy Faesydd, bydd dy Winllan
Bydd dy Lettŷ, bydd dy gorlan,
Yn dra ffrwythlawn, heb dim aflwydd
Os ti wir wasanaethu'r Arglwydd.
1,
Duw a'th wnaeth yn ddyn deallu [...]
Ar ei lûn ei hun yn weddus:
Rhesymau,
Rwyti 'n rhwym i wasnaethu 'n ffyddl [...]
Am dy wneuthur felly'n Gristion,
2.
Christ a'th Brynodd o law Satan,
A'i wir waed, ac nid ag Arian:
Am i Grist mor brid dy Brynu,
Rwyt ti 'n rhwym ei brûdd wasnaethu,
3.
Duw a'th borthodd yn ddigonol,
O'r Groth hyd yr awr bresennol,
Am dy Borthiant, os ystyri,
Rwyt ti'n gaeth i wir Addoli,
4.
Di Addewaist yn dy Fedydd,
Wir wasnaethu Christ yn ufydd:
Oni wasnaethu Dduw fel Christion,
Rwyti gwedi tyngu'n udon.
5,
Duw a wnaeth i bob Creadur,
Dan y nef d' wasnaethu'n bryssur:
Rwyt ti'n gaeth ar ben dy linie,
Am y rhain i wasnaethu ynte,
6
Duw a wnaeth ir Byd gweledig,
Brudd wasnaethu Dyn yn
Diwyd
ystig,
Fal y gallei 'r dyn a'i ryw,
Ynte 'n
Oddifrif
brûdd wasnaethu Duw.
7
Y dyn a anghofio wasnaethu Duw,
Yn ei râdd, tra fyddo byw,
Mae'n anghofio 'r gweithred mwya,
Bwyntiodd Duw i wneuthur ymma,
8.
Nefoedd, daiar dwr, angelion,
Adar, Pyscod, Bwystfil gwylltion,
Ac ymlysciaid o bob rhyw,
Sy'n ei grâdd yn moli Duw,
Nid oes un o'r holl greaduriaid,
Gwyllt na dôf, na dwl na diriaid,
Heb wasnaethu Duw trwy fawl,
Ond yn unig dyn a diawl:
9.
Cywilydd, Gwradwydd maes o fessur
Ydyw gweled pob creadur,
Yn Gwasnaethu Duw yn ffyddlon,
A'i ddibrissio gan blant dynion,
B'wedd y cyfyd dŷn ei ben,
Pan ddwetto Christ o'i Orsedd wen,
Nad oes neb yn ei wasnaethu,
Waeth na'r dyn y fu e'n brynu.
Mae mwy Dyled ar bob christion,
Lwyr wasnaethu Duw yn ffydddlon,
Nag y sydd ar un Creadur,
Ac y wnaeth Duw dan yr awyr.
Nid â i Uffern un Creadur,
Gyda'r Diawl i'r poen difessur,
Onid Dynion gwaetha eu rhyw,
Eisie gwir wasanaethu Duw.
Rhag i tithe fynd i
Llosci
frwylian,
I dân Uffern gyda Satan,
Nag anghofia tra fech byw,
Ym mhob man wasanaethu Duw.
Er nad oes neb yn haedd­u trugaredd a bywyd tragy­wyddol am eû gwasanaeth; am fod ein gweithredoedd goreu yn am­herffaith, etto y mae gwasn­aethwyr Duw i gael hŷnny oll, am fod Duw oi gari­ad ai ras, er mwyn Crist we di addo hynny iddynt. Eph. 2, 7, 8, 9,
Enoch am wasanaethu Duw.
Y gâdd fynd ir nêf yn fyw
Yn ei gnawd a'i wir gorpholaeth'
Cyn cael gweled dim marwolaeth.
Noah am wir wasanaethu'r Arglwydd,
Gadd ei gadw yn ddi dramgwydd,
Yn yr arch, a'i Dylwyth hefyd,
Pan y soddodd Duw yr holl fyd.
Abram y gâdd barch a golud,
Ffafar Duw, ac Isaac hefyd,
Holl wlad Canaan, au Thai mawrion,
Am wasanaethu Duw yn ffyddlon,
Isaac yntef am fendithio,
Duw'n y maesydd wrth fyfyrio,
Y gâdd lafur ar ei ganfed,
Gan yr Arglwydd am ei weithred,
Joseph ddiwair am wasnaethu,
Duw a pheidio godinebu,
Gâs ei dynnu maes o'r dwngiwn;
A'i roi 'n ben ar wlad y Sibswn
Josuah rymmus ynte am lynu,
Wrth yr Arglwydd a'i wasnaethu,
Y gadd ennill Brenhiniaethe,
A phôb Tir a Gwlad a gerdde.
Hên Elias y gadd ei borthi,
Gan y Cigfrain yn ei dlodi,
Ai ddwyn ir nêf mewn
Cerbyd,
Coits danllyd,
Am wasnaethu Duw yn ei fywyd
Shadrach, Mesach, Abednego,
Am wasnaethu Duw ai gofio,
A waredwyd yn dra hyfryd,
O'r tan poeth a'r ffyrnes danllyd.
Daniel am wasnaethu yn ufydd,
Duw'n ei Stafell dair gwaith beunydd
Y gadd ddiaingc rhag y Llewod,
A'i waredu
Allan,
maes o drallod,
Pwy erioed a wnaeth wasanaeth,
Ir gwir Dduw heb wabar helaeth?
Pwy a danodd ei ogoniant,
Na chadd gantho barch o ffynniant?
Ni agorodd un dyn etto,
Dut, 28,
Ddrws ei Demel heb ei wabro,
Ac ni nynnodd un offeiriad,
Dan yr Allor heb lawn daliad.
Ni ry un dyn byth gwppanaid,
Er ei fwyn o ddwr i'r Gweiniaid,
Mal. 1.30.
Ac ni chaiff ei wabar gantho,
Ar ei ganfed medd Sant Mattho.
Gore Meistr iw wasnaethu,
Mwya ei barch yw'r Arglwydd Jesu,
Goreu 'n talu taliad ffyddlon,
Am wasanaeth i'w holl weision,
Meistr grasol meistr grymmus,
Meistr
Rhagorol Datc. 1.8.
rhial gogoneddus,
Meistr y wna ei holl weision,
Yn Offeiriaid a Thwysogion.
Meistr a wna iddynt eiste,
Yn y nefoedd mewm cadeirie,
Mewn esmwythder a ded wyddwch,
Mawr ogoniant a Rhialtwch,
Cor. 2.9.
Meistr y rydd i'w holl weision,
Deyrnas hardd ac auraidd goron;
A'r fâth bethau mawr arbennig,
Na all calon dyn ddychymyg.
Pwy gan hynny na wasnaethe,
Grist yn ddyfal ar ei linie?
Rhwn sy'n gwabru ei gywir weisio [...]
A'r fâth deyrnas, â'r fath goron;
Pwy na
Ddirmygei.
scorniei 'r Byd ar Cnaw [...]
A'r cythrael câs, a'i saig ai Sawd,
Ac ystyrie faint yw cyflog:
Holl wasnaethwyr Duw galluog?
Er nad oes un gwâs yn haeddu
Cael un wabar am wasnaethu;
Luc. 17, 10.
Etto o'i ras mae Duw yn addo
Teyrnas nêf ir rhai gwasanaetho,
Gwâs i Bechod, gwâs i gythrel,
Gwâs i Angeu trist trwy drafel,
Yw pob gwâs sydd yn gwasnaethu,
Na bo gwâs ir Arglwydd Jesu,
Pan y delo 'r Angeu digllon
Fynd ir
O flaen gor­seddfaingc Christ.
barr a phob rhyw weision
O! pun oreu 'r amser hynny,
Wâs ir Cnawd a gwâs ir Jesu?
2 Pet. 3.7.
Pan y llosco 'r Byd yn chywl boe [...]
A'i holl olud, a'i holl gyfoeth;
O! pun oreu 'r amser trist,
Wâs ir Byd, a gwâs i Ghrist?
Pan dderchafer Plant y drindod,
A throi i uffern weision pechod:
Hi fydd chwerw 'r amser hynny,
Ado'r Arglwydd heb wasnaethu.
Mwy o ennill sydd o awr,
Yn gwasnaethu 'r Arglwydd mawr,
Nag a gaffom o'n holl fywyd,
Yn gwasnaethu 'r Byd anhyfryd
Am wasnaethu'r byd yn gyfan,
Ni cheir ond y poen a'r
Trafferth,
ffwdan,
A'r twyll tôst wrth fynd o hono.
Yn noeth fel y daethpwyd iddo.
Am wasnaethu 'r Cnawd trwy Blesser
Gal. 6.8.
A'i fodloni ag esmwythder,
Ni cheir cyflog gantho 'sywaeth,
Ond oes ferr a
damnediga­eth,
llygredigaeth.
Am wasnaethu un rhyw Bechod,
Pe's Gwasnaethem hwn yn wastod,
Ni cheir gwedi'r hir wasanaeth,
Gantho ond gwradwydd a Marwolaeth,
Am wasanaethu Tâd y celwydd,
Er ei fôd yn cynnig gwledydd,
Nid oes troedfedd dir gan Satan,
Ond pwll uffern iddo i hunan.
Am wasnaethu 'r Arglwyd Jesu,
Y mae Teyrnas iw meddiannu,
A Gogoniant a dedwyddwch,
A gwir fywyd mewn rhialtwch.
Ymrown ninne tra fom byw,
Bawb
Oddifrif.
i brûdd wasnaethu Duw:
Dyna 'r Meistr gore i wsnaethu,
Dyna 'r gorchwyl rheitia i bennu.
A meddyliwn bawb am ymladd,
A phôb gelyn sydd yn ein gwrthladd.
Yn ein duor, yn ein
Rhwystro.
stoppi
Weithio 'r gwaith sydd reita i ni.
Ac fel gwaithwyr cywir ffyddlon,
Call, cofiadur, ‖ carccys, cyfion.
gofalus.
Cwympwn bawb i wîr wasnaethu
Duw tro amser gras yn gadu.
Esay. 55.6.
Oni wasnaethwn Dduw tro'n ymma,
A thro amser grâs yn para,
Ni gawn fynd ir pwll yn gyngan,
Ar ein pen i wsnaethu Satan.
Yn y Pwll hi fydd edifar.
Trwy ddifeirwch rhy ddiweddar,
Mor ddi bris ddirmygu'r Drindod,
Ac mor rhwydd wasnaethu pechod,
Yno hwylir heilltion ddagrau,
Luc. 13.28
Yno bloeddir gan y poenau:
Ond pe hwylydd perfedd allan
Ni ddoir byth o grampau Satan
Cwympwn bawb yn brûdd gan hynny
I wasnaethu Duw tra i'n heddy:
A rhown ffarwel bawb i bechod,
Trwy lwyr droi i wasnaethu'r Drindod
Felly cawn ni pan fo rheitia
Gwedi' byrr wasanaeth ymma
Byth wasnaethu'r Arglwydd tirion,
Yn y nef ym-mhlith Angelion.
I'r hon nefoedd o'n Creawdwr,
Er mwyn Jesu Ghrist ein prynwr,
Dwg ni oll i'th wir wasnaethu
Gyda'th Sainct a'th nefol Deulu.

Am weddi ai pherthynasau.

TYnn d' Esgidie cyn gweddiech;
Rhwym dy assyn cyn aberthech
Golch dy draed cyn mynd i'r Cymmun
Ystyria geisiech cyn ei ofyn.
Cyn gweddio edifara;
Wrth weddio dyfal weithia,
Ps. 118.21.
Yn ôl gweddi bydd ddiolchgar,
Felly caiff dy weddi ffafar.
Y diawl a gais bob dydd dy demptio,
Y Cnawd bob awr a fyn dy dwyllo;
Y byd a'i bethau gais d' orchsygu;
Praw trwy weddi eu gwrthnebu.
Da yw gweddi ymhob lleoedd
1 Tim 2, 8
Da yw gweddi bob amseroedd;
Da yw gweddi dros bob dynion
1 Tim. 2.1.
Mae'n dda gweddi 'm-mhob achosion
Aberth hyfryd i'r gorucha;
Psal. 141 2.
gwialen
Whip yn
fflangellu
Scwrgio'r Diawl a'i dyrfa;
Nerth i'r gwan ym-mhob gofidi
Nawdd rhag bob drwg ydyw gweddi.
Agorriad
Allwedd aur i ddatcloi'r bore,
Bollt y nos i gau dy ddryse.
Twr i'th gadw rhag drygioni
Ddydd a nos yw deddfol Weddi
Gweddi brûdd sydd drech na dynion,
Exod. 17 11 Gen. 19.3. Mat. 17.21. Ex. 32.14
Gweddi daer a drodd Angylion
Gweddi a fwriodd Ddiawlaid allan,
Gweddi orchfygodd Duw ei hunan,
Na ddibrisia ddim o'th weddi,
Mae'n y nef fel thus yn llosgî,
Mae ar ddaer yn clwyfo Satan
Mae'n ennill fawr it dy hunan.
Mewn ffydd a pharch a llwyr fryd calon
Mewn Zêl, ac awch a meddwl union
Mewn deall
Cryf
drud a dyfal geisio
Mewn hyder prudd y mae gweddio
Cwyd d' olŷgon plŷg dy liniau
Tan dy ddwylo agor d' enau;
Deffro dy yspryd cur dy ddwyfron.
Llwyr weddia a'th holl galon.
Nid a'r Bial na'r Llo na'r ddelw,
Sant na Santes y mae galw:
Ond ar Dduw trwy Grist yn unig,
Joan 6.23.
Am bob peth sydd arnat ddiffyg
Ni wyr neb ond Duw o'n cyflwr
Ni all neb ond Duw roi swccwr,
Ni chlyw neb ond Duw ein gweddi
Ar Dduw'n unic y mae gweiddi
Psal. 50, 15.
Duw sy'n erchi galw arno
Duw sy'n addo rhoi ond ceisio,
Duw sy'n gwrando pob prudd weddi;
Duw all tynnu pawb o'i tlodi.
Esay 63.16.
Ni wyr Abram, ni wyr Jaco:
Ym-mha gyflwr yr 'ym ynddo;
Ni wyr neb ond Duw ei hunan,
Beth ŷw'n cais, a maint yw'n cwynfan,
Psal. 65.2.
Peth perthnassol i Dduw'r lluoedd,
Ydyw gwrando gweddi miloedd,
A fo'n ceisio mil o bethe,
Ar un pryd mewn amryw Jeithe
Ni wyr mair i'm tyb ddim Saesneg
Ni wyr Martha ddim gwyddeleg
Ni wyr Clement Saint ddeallu,
Beth y ddywaid un o [...] Cymru.
Ni wyr Abram ddim o'n cyflwr,
Ni all Clement roi i ni Swccwr,
Ni chlyw peder ddim o'n gweddi
Ar Dduw'n unig y mae gweiddi.
Mat. 4.10.
Parcha'r saint yn fawr yn fychan,
Ond addola Dduw ei hunan:
Rho anrhydedd gweddus iddynt,
Etto na weddia arnynt.
Ni bu
Ucheldad
Batiarch, ni bu Brophwyd
Ni bu Bostol ag y glyw-wyd,
Wneuthur gweddi (a'r ddarllenes)
Etto 'rioed at Sant na Santes.
Nid oes
Addewid. Joan, 16, 23 24
Brommais yn y fengyl,
I ni gael dim trwy fawr ymbŷl;
Ond y gaffon trwy ymbilian,
Er mwyn Jesu Grist ei hunan.
Christ yn unig yw'n cyfryngwr
1 Tim. 2, 5
Christ yw'n twrneu a'n dadleuwr
Nid oes arall all gyfryngu,
Rhwng Duw a dyn ond Christ Jesu,
Er mwyn Jesu y mae ceisio,
Faint y geisiom wrth weddio,
Ar ddeheulaw'r Tad mae'n eiste.
Rhuf. 8 34
Er mwyn derbyn ein gweddie
Cymred eraill hên Saint Catrin
Dewi Clement, Martha, Martin
Byth ni cheisiaf i gyfryngwr,
Rhyngwi a Duw ond Christ fymrhŷnwr
Cais yn eiriol wrth weddio
Nerth yr yspryd ith gyfrwyddo
Ni all neb weddio'n hyfryd,
Rhuf 8.26,
Heb gyfrwydd-deb y glan yspryd
Heb yr yspryd f' allir sonio
Am Dduw mawr ac am weddio
Ond ni ddichon un dyn ddywedyd
Wrth Dduw mawr heb nerth yr yspryd
Duw ni phrifia weddi'r Tafod
Heb y galon a'r gydwybod.
Mat. 15 8,
Gweddi'r enaid prudd a'r yspryd
O flaen Duw sydd aberth hyfryd
Cais a'r genau cais a'r galon
Un or ddau sydd lai na digon
Cydia'r genau gyda'r yspryd.
Hynny bair cynghanedd hyfryd,
Gwell yw'r galon heb y gene
I weddio ambell weithie.
Nag yw'r genau heb y galon
Gweddi o'r fath sydd weddi ffinion
Gwell oedd gweddi Moesen hyfryd
Ex. 14.15
Wrth siwrneia heb ynganyd,
Na gwaith gwefus yr Jddewon
Yn gweddio heb y galon
Cais a geisiech trwy wir ffydd,
Na chymmer ball ond begia'n
Oddifrif
brûdd,
Nac amme dderbyn 'rhyn a geisiech
O ceisi'n daer di gei ofynnech,
Ni chau'r Adar bach o'u safne
Nes y llanwo ei mam eu bolie
Ac ni ddyle ddynion dewi,
Nes cyflawno Duw ei gweddi.
Rhyfedd yw mor daer y begian,
Llawer dŷn am fwyd ac Arian,
Ac mor llwfr y gweddiant,
Am drugaredd a gogoniant.
Hael yw Duw ir sawl a'i ceisiant,
Rhwydd yn rhoi ir rhai ofynnant
ac. 1.51
Rhoi yn brudd heb ddim danodiaet [...],
Rhoi ei rhaid i bawb yn helaeth,
Fal y gwrendu mam ar blentyn,
Ps. 103.13
Y fo'n llesain yn ei rwymyn
Felly gwrendy Duw ein gweddi,
Pan y llefon mewn gofidi.
B' wedd na wrendu Duw dy wedd
Rhuf. 8.26 17.34
Lle ma'r yspryd glân yn gweiddi
A Christ Jesu'n ymbil-drosod,
Ar ddeheu-law'r Tâd yn wastod?
Os yn enw Christ y ceisi,
Joan. 16.23 14
Os yn eiriol y gofynni;
Di gei naill ai'r hyn ofynaist,
Neu beth gwell na'r hyn y geisiaist
Os bŷdd d' Arglwydd yn
Oedi.
dehin [...]
Rhoi ofynnech wrth weddio:
Mae e'n d'annog geisio'n daerach,
Nea ddymuno rhyw beth rheittiach,
Cais ogoniant Duw yn gynta
Cais nefolion bethau nessa:
Matt. 6, 33
Cais ei deyrnas a'i gyfiawnder
Di gei's cwbwl heb ddim pringder
Gwachel geisio tra fech byw,
1 Jo 5.14
Ddim yn erbyn ewyllys Duw,
Digio Duw y mae dy weddi,
Os ceisi'r pethna fynno'i roddi
Ffol yw ceisio bydol bethau,
Pan aller cael nefolion dlysau;
Serchu'n fawr mewn daiar domlud;
Heb wneuthur pris o'r nefoedd hyfryd
Nattur Mochyn brwnt anhygar
Yw rhoi fryd ar drwyno'r ddaiar,
Col. 31.2
Nid naturiaeth un or bobloedd,
Sydd a'i Tâd yn nheyrnas nefoedd,
Cais y peth y mae Duw'n addo;
Yn ei Air ac yn ei
Yn Cenhadu i ti ofyn
lwo.
Cais y rhain er hyn yn weddus
Os cenhada ei sanctaidd 'wllys.
Gwna dy weddi byth yn ddiwall,
Matt. 26.39
Yn yr Jaith a fech yn ddeall
Gwell yw pum gair ac ystyriech,
Nag yw deng-mil nas deallech.
Gwatwor Duw a'i dwyllo ei hun,
1 Cor, 14 19
Wrth weddio y mae dyn,
Pan y ceisio wrth
dywedyd llawer.
friwgawthan,
Gan Dduw'r peth nas gwyr ei hunan
Nad i'r min ragflaenu'r meddwl
Pâr i'r galon bwyso'r cwbwl,
Ni all Duw un amser odde,
Matt, 15.7 8.
Heb y galon weddi'r gene.
Duw yw chwiliwr y calonnau,
Jer. 17.10 Jo. 4.24
Duw ei hun yw Tâd y golau,
Duw fyn gweddi brudd o'r galon
Duw ni phrisia eiriau gweigion.
Tro bob meddwl aflan heibio
Pan y byddech yn gweddio,
A rhwym gartre dy fydolrwydd
Trech yn
ymddiddan
parlo ti a'th Arglwydd
Ni chae assyn Abram sangu,
Lle bae Abram yn aberthu,
Gen. 22.5.
Nad i'th fydol feddwl dithe,
Dramwy lle bo dy weddie
Megis Abram rhaid it darfu.
Pob rhyw rwystrau wrth aberthu,
Gen. 15.11
A rhyfela ar busnesson,
Ath ddehoro i adail Sion,
Pa ddyfala ceisio Satan,
Pan weddiech droi d' amcan
Rheittia 'gyd y ddylit weddio,
Jac, 4, 7
A'i wrthnebu nes y cilio,
Fel y cilia'r Llew crafangog
Pan y clywo ganiad ceiliog;
Felly cilia Satan greulon,
O'r lle clywo weddi ffyddlon,
Ni all
Ych gwyllt
Bual drigo'n heppell.
Lle bo gwichiad cyw neu barchell
Ni all Satan yntef drigo,
Lle bo dynion yn gweddio,
Oni bae fod Satan ddyrngas
Yn gweld gwddi'n rhwygo ei deyrnas
Ac yn awchlym yn ei glwyfo,
Byth ni rwystre i neb weddio
Ond os ceri Jechyd enaid,
Na gogoniant Duw, nath gyfraid,
Nad i Satan byth dy rwystro,
Wrando'r gair, nac i weddio
Wrth weddio llef heb orphwys
Dros bob g [...]âdd sydd yn yr Eglwys:
Ac nac arfer megis
dyn digred
Pagan,
Weddio'n unig it dy hunan.
Nid gwir Blant yr Eglwys Sanctaidd,
Ond Bastardîad anghristnogaidd,
Yw pawb na weddio'n ffyddlon,
Dros yr Eglwys, Sanctaidd Sion
Os gweddiodd Abram fwyna,
Dros dre Sodom a Gommora,
B'wedd na ddylem ni' Christnogion,
Psal, 51, 18.
Alw ar Dduw dros dylwyth Sion
Christ sy'n erchi i bawb weddio:
At bob amser heb ddeffygio,
A Saint Paul sy'n chwennych i ni,
Luc, 18.1 1, Tim 2, 8, Dan. 6, 10
Ym-mhob man ymarfer gweddi,
Daniel rasol a weddie,
Dair gwaith beunydd ar ei linie:
A'r Brenhinol Brophwyd Dafydd.
Psal, 119 164
Yweddie saith waith beunydd,
Christ ein prynwr ynte ynglos
A weddie tra fae'r nôs;
Luc. 6, 12
Ac y dreulie'r dydd tro canto
Yn pregethu neu'n gweddio,
Ym-mhob man ac ar bob amser
Y mae gweddi o fawr bwer;
Jac, 5.16
Os y galon a fydd parod,
I ymbilian ar hael Drindod.
Ar y moroedd ar y mynydd,
Yn ein Teie, ar ein maesydd
Y
Mae'n ddy­ledus
dirpere i'n weddio,
Ym-mha fan y bom ni ynddo,
Gyda Pheder yn ein llettu,
Gyda Dafydd yn y gwelu,
Gyda Daniel rhyng y Llewod
Act, 10, Psal 63 6
Y mae'n rhaid gweddio'n wastod.
Ni ddiffodde ar un tymmor,
O [...] Tân sanctaidd ar yr allor;
I fynegi byth na ddyle,
Ddiffodd
Gwres, Lev, 6 13
zêl dy weddi dithe,
Dŷn sydd demel ir gorucha
Calon dyn yw'r Allor benna.
Fore a hwyr y mae Duw'n ceisio,
Num, 28.3 4 Dihar, 23.26
Gael o'th galon aberth iddo
Nad dy demel er dy fywyd,
Fore a hwyr heb aberth hyfryd;
Ac nad galon dydd i bassio,
Heb roi clod a moliant iddo,
Felly byddi di
Psal. 55.17. Gyfeillachgar
ffamiliar,
A'th Greawdwr ac mewn ffafar;
Felly cei di gan y Drindod,
Dy rwyddhau a'th helpu'n wastod,
Nid oes dim a
Ddyle
ddirper rwystro,
Dyn gwllysgar i weddio:
Ac i weithio ei orchwyl hefyd,
Pa ryw bynna fo'i gelfyddyd,
F'all dŷn weithio ei gelfyddyd,
A gweddio'n ddyfal hefyd:
Ni chais gweddi'r galon rwystro,
Hynt y traed na gwaith y dwylo
Ex. 14.15. Jos. 10.12. Mar. 1, 35 Act. 27.
F'alle Foesen wrth siwrneia,
F'alle Josuah wrth ryfela,
Christ wrth ymdaith, Paul wrth fo [...]
Deddio eu busnes a gweddio,
Er bod esgus yn lwfedig,
Lawer pryd mewn pwyntiau pwysig,
Nid oes esgus ellir enwi,
All d' escuso am dy weddi,
Gelli beidio mynd i'r Eglwys
Pan fech glâf o'r haint ath rwystrw
Ond er clafed flin a fyddech
Rhaid gweddio nes
Ymadawiad
departech,
Gelli beidio rhoi elusen,
Pan na byddo'i yn dy berchen:
Ond er cymmaint a fo'th dlodi
Nid oes peidio byth a gweddi.
Ym-mhob cyflwr ar bob amser,
Y mae gweddi yn ei themper,
Nad gan hynny ddim dy rwystro,
Ym-mhob cyflwr brudd weddio
Yn ein trallod, yn ein gwynfyd,
Yn ein nychdod, yn ein iechyd
Ym mha gyflwr y bôm ynddo
Y gall Christion brudd weddio.
Nid yw carchar, nid yw cloion,
Nid yw rhwystrau holl blant dynion
Na'r byd oll yn rhwystro gweddi
Fynd bob awr at Dâd goleuni.
Tyn di dafod dyn o'r gwreiddie:
Torr ei draed, a rho fe'n gwarche:
Fe all gweddi'r galon saethu,
Trwy bôb clo at Dduw er hynnŷ
Ac wŷl a gwaith, ar nôs a dydd,
Ar foreu a hwyr caiff gweddi brûdd
Fynd at Dduw, y prŷd y mynno:
Doed pan dêl, hi gaiff ei chroeso
Er na chae'r frenhines Hesther
Fynd at Frenin ond rhyw amser
Fe gaiff gweddi heb ei rhwystro
Fynd at Duw yr awr ei mynno.
Cwyn fel Daniel ar y wawr-ddydd,
Psal. 119.62.
Cwyn di ganol nôs fel Dafydd:
Mae Duw'n barod gwrando geisiech
Galw arno'r awr y mynnech.
Er na chaffo dyn ei hunan,
Fynd i'r nêf at Christ i ymddiddan,
Fe gaiff gweddi Pôb rhyw gristion,
Fynd atto'r awr y mynnon,
Awyr.
Trwy'r gwynt, a'r glaw, trwy'r Aer a'r tonne
Trwyr 'r Sphêrs i gyd a'r holl Blanede,
Yr aiff gweddi fel
Mellt.
llycheden
O flaen Duw uwch law'r ffurfafen
Ni all nef, na Daer na dynion,
Awdurdodau nac angelion,
Rwystro gweddi gael ymddiddan
Bôb awr â Christ ei hunan.
Nid rhaid iddi ofyn cennad,
Peder gwynn i gael agoriad,
Hi gaiff mynd trwy'r holl Angelion
O flaen gorsedd Christ yn
hyf.
eon
Hi gaiff gan Dduw wrando ei chys [...]
Hi gaiff gan Ghrist
ddadle Rhuf, 8 26
bledio ei dolur,
Hi gaiff gan yr yspryd ruddfan,
Ac ochneidio drosti'n gyngan,
Ni thry rhoddwr pob daioni
Adre'n waglaw mo'th brûdd weddi;
Ond fe leinw Christ ei bynwes▪
Esay. 45 19.
Ac ai nertha i gael ei neges.
Oni chaiff hi'r hyn a geisio
Hi gaiff well na hynny gantho,
Os ni edy Christ un amser,
Weddi ffyddlon fynd yn ofer:
O! pa ddyled s' arnom roddi,
I'r gwir Dduw am oddeu'n gweddi,
Fynd oi flaen yr awr y mynnom
A chael gantho'r hyn geisiom.
Braich yw gweddi sy'n cyrhaeddyd
O'r byd hwn ir nefoedd hyfryd;
Ac yn cymryd o dryssore,
Duw beth bynna s' arni eisie,
Gweddi
ddifrifol
brûdd sydd gennad hŷ
A red dros ddŷn i'r nefoedd fry
Ac y gaiff bob awr ymddiddan,
Yn ddi stop a Duw ei hunan,
Gweddi laddodd gawr tra chadarn
Gweddi agorodd byrth o haiarn,
1 Sam 17.45 Act. 12.5, Jac. 5.17
Gweddi gauodd safne llewod:
Gweddi dynn ddyn o bob trallod
Gweddi glôdd y nef yn hir
Gweddi droes y mor yn dir:
1 Bren 17 22
Gweddi wnaeth i'r meirw godi
Nid oes dim mor gryf a gweddi,
O! ba ddiolch s' arnon roddi?
[...] gwir Dduw am adel gweddi
[...]ned atto'r awr y mynnom,
[...] chael gantho'r pethau geisiom
Clôd a gallu, Diolch, Moliant.
[...]rch Angrhydedd a Gogoniant,
[...] fo i roddwr pôb Daioni,
[...]dd mor fwyn yn gwrando'n gweddi
PAn yr elech i weddio,
Edifara am aeth heibio;
[...] llwyr ymolch oth holl frynti.
[...]s dymynu wrando'th weddi.
Joan. 9.3 [...]
Duw ni wrendy bechaduriaid,
[...] fo'n byw mewn pechod diriaid
[...] orfydd madel a drygiôni,
[...]yn gwrandawo Duw dy weddi.
Os mewn malis, rhyfyg, mwrddro,
Nid, a thrais, y doi weddio,
[...] dy Dduw ar hen dy linie
Esay. 1▪ 15
[...]uw a'th wrthyd a'th weddie
Melldith Moab sydd yn cwympo;
[...]r yr anwir wrth weddio,
[...]eisio maent heb gael eu
Desyfiad
Canlyn,
[...]m fod dwylo, rhain yn scymmyn
Y neb a alwo ar yr Arglwydd
[...]madawed a'i halogrwydd,
1 Tim. 2, 8
[...]c ymolched ei ddwŷ ddwylo
[...]ddiwrth waed o cais ei wrando
Tirion yw Duw a thosturiol
Joel 2.12 13
[...] rhai a fydd edifeiriol:
[...]difara am dy frynti,
[...]c fe wrendy Duw dy weddi
Os difaru am y cwbwl
[...]t fae'th fai mor gôch a'r pwrpwl
Esay, 1.18
[...]hrist a'th olch mor wyn a'r lili,
[...] a wrendy'n rhwydd dy weddi
Pan y delech i weddio.
Jer. 4.14
Tro bob meddwl ofer heibio;
A rhwym gartre dy fodolrwydd
Trech yn
Yn llefaru
parlo ti a'th Arglwydd
Brwnt yw gweled pacc a ffardel
Ar dy gefen yn y demel:
Bryntach yw gweld dy fydolrwydd
Pan gweddiech ar yr Arglwydd
Pan gweddiech galw'n gynnwys,
Ar Dduw dros bôb stad o'r eglwys,
Ac nac arfer megis Pagan,
Weddi'n unig it dy hunan.
1 Tim. 2, 1.2.
Galw'n gynta dros fren [...]inoedd,
Am gael grâs i drin eu pobloedd
Mewn gwir grefydd a llonyddwch
Hedd, uniondeb, a dedwyddwch
Eph. 6.19.
Gwedyn galw dros Eglwyswyr,
Am gael grâs i draethu'n eglur,
Holl ddirgelwch yr Efengyl,
A phregethu'r gwir yn rhigyl,
A gweddia dros swyddogion.
Ar i Dduw roi grym a chalon,
Iddynt gospi pob rhyw drossedd
A
Cynnal
maintainio ffydd a rhinwedd.
Cais gan Dduw fendithio hefyd
Pob scolheigion o gelfyddyd;
Fel y gallont lenwi'r gwledydd
A goleuni moes, a chrefydd
Nac anghofia o'r cyffredyn,
Ond gweddia hefyd drostyn;
Fel y gallont fyw'n ei galwad,
Mewn ufydd dod, hedd, a chariad.
A gweddia dros druenniaid,
Sydd mewn trallod, custudd embaid;
Ar i Dduw dosturio wrthynt
A rhoi help a chymffordd iddynt

[...]hybydd i Ddyn feddwl am Dduw y bore, ac i roddi diolch iddo am ei gadw'r nôs rhag niwed.

Y Bore pan ddihunech gynta
Cod d' olygon at
Dduw
Jehofa;
Meddwl am ei foli'n ddiwall;
Cyn meddyliech am ddim arall.
Gofiamai Duw oedd y Ceidwad,
Y fu neithiwr yn dy wiliad,
Heb roi amrant iddo i gyscu
Rhag ir llew dy ladd a'th lyngcu
Oni bae Dduw a'i Angelion,
Sy'n castellu bobtu ei weision,
Psal. 34.7
Dyn ni bydde heb ei lyngcu
Gan y gelyn tra fae'n cyscu
Mwy yw perigl dyn sy'n cyscu
Yn ei wely heb nawdd Jesu,
Nag oedd perigl Ddaniel hynod,
Gynt wrth gyscu rhwng y llewod.
Y mae'r scrythur yn mynegi
1 Pet 5.8
Fod y diawl yn troi o bob tu
Ddydd a nôs yn ceisio llarpio
Megis llew pwy bynnag allo,
Pwy sy'n rhwystro'r llew i'n llŷngcu,
Ond ein ceidwad mawr Christ Jesu?
Pet, 121.4
Rhwn sydd nos a dydd heb heppian
Yn cadw ei braidd rhag rhuthre Satan,
Meddwl dithe faint yw'r dyled
Y sydd arnad ir gogoned;
Am dy gadw mor ddihangol,
Rhag y gelyn yn wastadol.
Megis y mae'r dyled arnad
Rho fawr foliant iddo'n wastad;
Ac abertha ar dy linie,
Ddiolch iddo nos a bore;
Meddwl fel y gallse Satan,
Yn dy gwsc dy ladd heb yngan
A'th ddwyn ir farn yn amharod
Oni basse Grist dy warchod.
Meddwl fal y gallse'r gelyn,
Oni basse i Grist d' amddiffyn,
Ladd dy Blant, a dwyn dy gyfoeth
Llosci'th dy, a'th, flino boenoeth
Cofia fal y gallse'th daro,
Ag ynfydrwydd nes gwall-bwyllo
Fal na allassyd ddim o'r cyscu
Oni basse i Grist ei nadu,
Bydd gan hynny dra diolchgar
Ith wir geidwad am ei ffafar
Yn dy gadw mewn esmwythder
Rhag y gelyn yn ddibryder.
Pa bae iddew yn dy warchod
Tra 'itti'n cyscu rhwng bwystfilod
Di roit ddiolch fil o weithie
Am dy gadw o'u crafange
Er bod Christ ei hun i'th warchod
Trech yn cyscu rhwng y llewod
Sydd bob awr yn ceifio'th lyngcu,
Ni roi ddiolch iddo er hynny
Agor d' olwg, gwel ei ffafar,
Cymmer rybydd, bydd ddiolchgar
A rho ddiolch ar dy ddau-lin,
I Grist Jesu am d'amddiffyn.
Felly ceidw Christ di'n wastod
Ac y tann ei adain drosod;
Ac i'th geidw mewn esmwythder,
Rhag bôb perigl yn ddibryder.
Gwachel feddwl dim a'th galon
Gwachel edrych a'th olygon:
Gwachel ddwedyd dim a'th ene,
Nes moliannu Duw y bore.
Rho iddo flaen ffrwyth dy wir galon
Exod. 34 26
Blaen ffrwyth d' eirie a'th feddylion:
Duw a fyn y ffrwythau cyntaf
Ni fyn Duw na'r [...]il na'r olaf,
Cynta peth a wna'r uchedydd
Moli Duw pan torro'r wawr-ddydd:
Cynta peth a ddyle ddynion
Foli Duw o ddyfnder calon
Y Fron rh­uddyn
Rhobin bach cyn gwlycho'i ene,
A gan ir Arglwydd psalm y bore,
Am ei chadw'r nôs rhag niwed
Er bod gwely hon yn galed,
Llawer dyn yn waith na'r deryn,
Gwyn o'i wely megis mochyn
Heb gydnabod Christ ei geidwad,
Na rhoi diolch am ei warchad.
Peth cwilyddys i blant dynion
Fod yn waeth na'r Adar gwylltion,
Sy'n clodforu nos a boreu.
Dduw, mor ddyfal am ei ddonieu

Diolch Foreu [...]l pan ddihuner gynta

DUW fy 'ngheidwad, Duw fy'nghryf­dwr
Duw fy nghastell rhag y drygwr
Der [...]yn foliant ar fy nwylo,
Am fy nghadwr nôs aeth heibio
Rhwit ti'n gwilied daetu'ng wely,
Ddydd a nos tra fyddwi'n cyscu;
Ac yn tannu d' adain drosof;
Pan gollwngwi'r Byd yn angof.
Rwyti'n rhoddi i'm esmwythder
A llonyddwch mawr bob amser
Gan
AdfywIo
reffresio beunydd felly,
F' egwan gorph a melus gyscu,
Ni winc, ni chwsc, ni hun, ni heppi [...]
Fy nhâd grasol tra fwy'n
Gogysgu.
slwmbrau
Ond fe'm ceidw yn ei gessel
Tra fwi'n cyscu y [...] ddiogel:
Pa fath ffafar yw hon ymma?
Dy fod ti y Brenin mwya,
Yn ymoistwng i ddiwallu
Llwch a lludw tra fo'n cyscu
Byth ni byddai'n abal rhoddi
Y degfed ran o ddiolch itti;
Ag sydd arnaf (Dad caredig)
Am y ffafar hon yn unig
Clod a gallu, diolch, moliant,
Gwir anrhydedd, a gogoniant,
Y fo nôs a dydd i'r Drindod,
Sydd mor ddiflin yn fy ngwarchod

Diolch i Grist am amddiffyniad ac esmwythder.

O Fyng Heidwad, o fy Mugel
Rhwn am cedwaist yn dy geffel
Neithiwr rhag i'r blaidd fy llyngcu,
Rwi o'm calon i'th glodfori
Dan dy adain Christ di'm cedwaist
Yn dy freiche di'm coffeidiaist;
Rhoddaist i mi brudd esmwythder:
Rwi'n ddiolchgar am dy fwynder
Nedaist Satan im difethu;
Nedaist ddynion im gorthrymmu:
Nedaist dân a gwynt fy speilio
Nac anhunedd im dihuno.
Bendigedig a fo d' enw.
Christ fyng Heidwad am fy nghaw,
A gogoniant itti rodder
Am roi i mi'r fath esmwythder

Rhybydd i ddyn wrth ddilladu y corph i we­ddio, am ddillad ac arfau i'r enaid.

P [...]n y bech yn gwisco'th ddillad
Cais arfogaeth Duw am danad;
Fal y gallech ymladd ynddyn,
Megis Cristion a phob gelyn.
Nid wyt nes er dillad twymglŷd
I guddio'r cnawd, i
Rwystro.
ddyor anwyd
Oni bae it gael pilynod,
Iddyor bai, i guddio pechod
Cais gan hynny holl arfogaeth
Duw i'th gadw rhag gelyniaeth
Eph. 5.11.
Ac rhag pechod, ac rhag trafel
Twyll y byd, a'r cnawd, a'r cythrel
Heb y rhain nid ŷm ond noethion
I ryfela a'n gelynion,
Ac nid possibl i neb hebddyn
Gael y trecha ar un gelyn

Gweddi wrth wisco am danad yn ceisio Arfog­aeth Duw i'th cadw rhag gelyniaeth pechod.

GWisc dy
Arfau,
Armwr oll am danaf,
O fyng Heidwad galluoccaf;
Fel y gallwyf megis Cristion.
ymladd ynddynt a'm gelynion
Nâd o'm coryn hyd fyng wadne
Un rhyw aelod heb ei arfe;
Rhag fy nghlwyfo gan y Temptiwr,
Lle bo eifie un rhyw armwr,
Nâd i'r byd a'i ofer bethe,
Nâd i'r cnawd a'i nwyfys chwante.
Nâd i'r Diawl a'i ruthreu Scymmyn
Beri immi bechu'n d' erbyn,
Ond rhoi immi rym a chryfdwr,
I orchfygu pob gwrthnebwr,
Ac i ymladd dan dy faner,
Nes ym dygech i'th esmwythder
CHrist fy nghraig am Iechydwriaeth
Arall.
Gwisc am danaf dy Arfogaeth
Nad un aelod heb ei wisco.
Rhag ir gelyn fy anrheithio.
1 Thess 5 8
Gwisc y pen â Helm y gobaith
Brest ar
Dwyfroneg
gorfl [...]t gyflawn berffa [...]th
Lwyne a gwregis gwir ddifeirwch
Eph. 6 14 16 17.
Traed â scidie efengyl heddwch
Rho dy Air yn gleddyf immi,
Ffydd yn
Traian
fwccler i ddiffoddi,
Holl biccellau tanllyd Satan,
A phrûdd weddi i sefyll allan,
A rho rym fel milwr ffyddlon,
Im ryfela a'm gelynion,
Rhythreu Satan chwantau cnawdol,
Twyll y byd, a phechod marwol
A rho gymmorth i gorchfygu
A'u darostwng a'u gwrthnebu;
Fel y gallwi byth d' addoli,
Megis plentyn ir goleuni
Felly beunydd yn ddibryder,
Mi ryfelaf dan dy faner,
Ac y roddaf itti foliant,
O fy Nuw tra ynwi chwythiant, A [...]n

Rhybydd wrth ymolchi,

PAn yr elech i ymolchi,
Cais yn daer gan Dduw trwy weddi
Olchi d' enaid oddiwrth bechod
A'i lanhau a gwaed y cymmod
Nid wyt nes er dwr ŷr Afon,
I olchi'r cnawd oddiwrth amrhyddion,
Nes y golchech dy gydwybod
A gwaed Christ, oddiwrth dy bechod,
Nid wyt nes er wyneb glân,
A chalon front, heb râs heb ran;
Ni fodlonir Duw yn bûr,
Ag wyneb glan, heb galon
Lân,
glûr

Gweddi ferr wrth ymolchi

GOlch ô Grist a'th waed fy mhechod
Golch fy enaid a'm cydwybod
Golch fy meddwl oddiwrth wegi,
Golch fi'n llwyr oddiwrth fy mrynti
Golch fy mhen, am traed, a'm calon.
Jo, 13 5
Fel y golchaist d' Apostolion,
Sych ar tywel main fy mrynti
A rho d' yspryd sanctaidd immi.
Golch fi'n neigru gwir ddifeirwch
Golch fi'n ffynnon grâs a heddwch:
Zech 13.1. Datc 1, 5
Golch fi a'th waed mor wynn ar lili,
Fal y gallwi'n bûr d' addoli,

Gweddi foreuol; iw harferu [o ran ei matter] yn y man ar ol codi ac ymolchi

DUW trugarog tâd tosturi,
Er mwyn Christ rho bardwn immi
Am fy meiau oll a'm pechod
Sydd mewn rhif yn fwy na'r tywod,
Psal 40 12
Nid oes pwynt o'th holl gyfreithie.
Nas trosseddais llwyr, gwae finne;
Nac un dawn a roddaist immi
Nas arferais a ddrygioni.
Drwg fy nhûb, a gwaeth fy ngweithre [...]
Brwnt fy nhafod, maith fy hocced,
Poeth fy nattur oer fy ngweddi;
Arglwydd maddeu'r cwbwl immi.
Mâddeu'r maint a wnaethoi'n d' erbyn
O bechodau er yn blentyn:
Psal, 25.7.
Ac na thywallt ar fy lletty▪
O'r dialau maent yn haeddu,
Ond rho ras a chymmorth immi,
Byth o hyn allan dy addoli.
Ath wasnaethu mewn sancteiddrwydd
Pur uniondeb ac onestrwydd
Tynn bob rhwystyr sydd i'm hattal
I'th wasnaethu di mor ddyfal;
A rho
Gallu
bwer yn ol hynny,
Immi'n ddiflyn dy wasnaethu
Llwyr ddiwreiddia o'm calon ofer
Yr holl frynti fum i'n arfer;
Au gwir blanna yn eu cyfle,
Râs a dawn tra chwyth i'm gene
Dysc fi gadw dy orchmynion
A'u gwir garu a'm holl galon;
A'u cymmeryd yn lle rheol,
I fyw wrthynt yn wastadol.
A chyfrwydda a'th lan yspryd,
Ei 'reoli fy holl fywyd,
A'm holl eiriau a'm amcanion,
Yn oll d'wllys a'th orchmynion.
Arglwydd, ffrwyna fi rhag pechu
Byth yn derbyn mwy ond hynny
A rho bwer immi'n wastod,
Gael y trecha'n erbyn pechod
Helpa fi ryfela yn erbyn,
Y Byd, a'r cnawd, a'r cythrel scymmy [...]
Fal y gallwyf gael y goron,
A gorchfygu fy ngelynion
Tanna droswi d' adain rasol,
psal. 17.8.
Cûdd fi dani yn wastadol;
Nad un gelyn wneuthur niwaid,
Mewn un modd i'm corph na'm henaid
Cadw fi rhag cwrp a thramcwydd
Cwilydd, Colled, anap, aflwydd
Nychdod, niwed a'r fath hynny.
Os bydd d' wyllys yn cenhadu
Nertha fi a'th yspryd sanctaidd,
1 Thess. 4.11.
Dreulio'r dydd hwn yn gristnogaidd,
Trwy gymmeryd poen i'm galwad
I'th wasnaethu'n brûdd yn wastad
Pâr i'm dreulio'r dydd presennol
Mor ddeallus ac mor ddeddfol
A pha gwypwn ar y
Siccra
siwra
Mae'r dydd hwn yw'r dydd diwaetha
Nad fi oed i gwella 'muchedd
O ddydd i ddydd hyd fy niwed;
Ond tra heddyw byth yn para,
Par yn ddyfal immi wella
Heb 3, 7, 8
Nad i'r cnawd rhyfygus embaid
Beri immi ddamnio'r enaid
A'i roi boeni yn dragwyddol,
Am dippyn bach o blesser cnawdol
Nad i wagedd y byd ymma
preg. 1 2▪
Rhwn fel llwyd rew a ddiflana
Beri im golli gwir lawenydd.
A mawr fraint y byd na dderfydd
Tra fo'r dydd a'r goleu'n para,
Jo 12.35
Pâr im weithio ar yr eitha,
Y peth a berthyn at fy
Jechydw­raeth.
Jechyd,
Rhag ir nôs fyng orddiweddyd,
Pâr im fod bob awr yn barod
Ag oyl im lamp, a'm goleu'n gwarchod
Dwad Christ im gwawdd i'r neithior
Tra fo'r nef a'r porth yn agor,
Pan bwi fiera yn y carn,
Par im feddwl am dy farn
A'r dydd du y gorfydd atteb,
Ar y
o staen orsedd faingc
bar am bob ffolineb,
Gwna im feddwl am y cyfri,
Orfydd arnom bawb i roddi,
Am y pechod lleia wneler,
Hyd yn oed ein geiriau ofer.
Croesa 'nawr y maes o'th lyfyr,
Yr holl frynti fûm i'n wneuthur
Ac na thafia yn fy nannedd,
Ddydd y farn o'm câs anwiredd.
Maddeu'n awr yr holl dalente,
S' arna i o ddyled yn dy lyfre;
A llawr
Gossod allan.
flottia a gwaed Jesu.
'Rhatling eitha s' arna i dalu,
Gwedi maddeu'r cwbwl ymma
Nertha fi ddiweddu'n gyrfa;
Fel y gallo f' ennaid orphwys,
Gyda Christ yng lân Baradwys;
Llê câf gyda'r holl Angelion,
A llû'r nêf heb
Ammeu.
ddowt nac ofon
Dy foliannu trwy lawenydd.
Mewn dedwyddwch yndragywydd Amen

Rhybydd i ymgadw tra fo'r dydd, rhag Rhu­threu'r Byd, y cnawd a'r cythrael, an i wisc [...] ac arferu Arfogaeth Duw yn eu herbyn.

YN y mann yn ol it godi,
Cofia fod tri gelyn itti,
Rhai amcanant dy
anafis
andwyo,
Oni ymgedwi rhag dy dwyllo,
A'r un gwanna o'n gelynion,
Sydd gan cryfach nag un Christion,
Oni chawn ni gan Grist Jesu,
Nerth ac arfeu iw gorchfygu.
Llef gan hŷnny ar dy Brynwr,
Dy ffwrneisio megis Milwr,
Ai arfogaeth ac a chalon,
I orchfygu dy elynion.
GWisc dy ben a helm Gristnogaeth
Ond bydd­ed gennit sail am dy o­baith
Gobaith cryf am Iechydwriaeth
Nad ir sarph na'r Diawl dy glwyfo,
Ar dy ben trwy Anobeithio
Gwisc gyfiawnder am dy ddwyfron
Ni all Diawl a
Dryll­mawr.
dwbwl canon,
Wneuthur byth na drwg na niwed,
Ir rhai wisco'r cyfryw Gorsled,
Rhwym dy ganol a gwirionedd
Eph 6.14
Na ragrithia yn dy fuchedd;
Hardd, a chryf, a chryno odiaith
Ydyw gwregis gwir, di ragreith
Gwisc dy draed a scidiau'r fengyl,
Bydd ddioddefgar ym-mhob treigyl;
Cans trwy oddef llawer trallod.
Act. 14 22
Y mae mynd i lŷs y Drindod.
Cymmer fywiol ffŷdd yn
Tarian
fwccler,
Derbyn frâth a saetheu'r wiber:
Bywiol ffydd yn Ghrist a all,
Ddiffodd tanllyd saethu'r fall
Cymmer awchlym gledde'r Yspryd;
Grymmus air y Scrythur hyfryd;
Dyna'r cleddyf llymm ei lafan,
Sy'n rhoi ffwyl a chlwyf i Satan.
Cadw arfeu Duw yn wastad,
Cymain un bôb awr am danad;
Nad un pryd dy ddala hebddyn;
Rhag dy glwyfo gan y gelyn;
A gweddia ar y Drindod,
Am gael grŷm a gras i orfod
Y tri gelyn hyn yn wastad
I wasnaethu Duw yn d' alwad
Os cwrdd Satan a ni'n noethion;
Heb Arfogaeth Duw am danon:
Mae ê'n chwareu 'n dôst â hwnnw,
Sydd heb Armwr gantho yw gadw▪
Os bydd pen heb Helmet ddilys,
Dwyfron.
Brest heb bais, na lwyn heb wregys,
Troed heb escyd, llaw heb gledde.
Sarph a'n clwyfa, gwnawn ein gore.
Bydd gan hynny megis milwr,
Yy dy gylch bôb awr a'th Armwr,
Ym-mhob mann yn dyfal wilio.
Rhag i'r gelyn dy anrheithio.
Pan yr elech gynta allan.
Gwachel ddirgel rwydeu Satan
Rhwn sy'n ceisio dy fachellu,
Ar bob cam a'th hela i bechu.
Mae e'n fawr ei lîd a'i hocced;
Mwy ei dwyll na'i rym, er cryfed:
Mae fel llew yn troi o bobtu,
Ddydd a nôs yn ceisio 'n llyngcu.
Dichell.
Hocced Sarph, llidawgrwydd Gwiber,
Cryfder Llew, ffyrnigrwydd Teiger,
Awŷdd Blaidd, Bradwriaeth Cadno,
Sydd gan Satan lle tramwyo,
Nid yw'n cyscu, nid yw'n gorphwys,
Nôs na dydd er pan ei cwympwys;
Ond amcanu llâdd a mwrddro,
Am ei chwyth pwy bynnag allo.
Bydd gan hynny ar dy
Wiliadwri­aeth,
wachel,
Ym-mhôb mann rhag rhwyd y cythrel:
Cais gan Ghrist bôb awr dy helpu;
Christ a'th nertha ei orchfygu.

Gweddi yn erbyn temptiad a rhuthre Satan.

POrtho'r mawr y pwll di waelod,
Ceidwad drwsseu uffern issod,
Rhwymwr Satan, llyngcwr ange.
Clyw fy ngwaedd o'th nefol gartre.
Y mae Satan rhwn orchfygaist,
A'r Draeg waedlyd rhon a rwymaist,
Yn amcanu fy
Anafu.
andwyo.
Oni châf dy help ei ffrwyno,
Mae ef nôs a dydd heb Gyscu,
1 Pet. 5.8.
Megis llew yn ceisio 'm llyngcu.
Ac yn barod i'm
Difa
defowrio,
Oni chedwi di fi rhagddo.
Mae e'n tannu ei groglaethe
Ddydd a nos ar draws fy llwybre:
Nid oes llun na syrthiwyf ynddynt,
Oni chedwi di fi rhagddynt
Nid oes afal têg gwarddedig,
Na bo beunydd yn ei gynnig;
Nac un pechod na bo e'n ceisio,
Genni wneuthur ith lwyr ddigio.
Nid oes twrn da fwi'n amcanu,
Na bo'r ddraig yn ceisio ei nadu,
Ac yn
Rhwystro.
dyor yn rhy fynych.
Y gwaith goreu fwi'n ei chwennych.
Ni chai fwytta pryd o fara,
Ni cha'i gyscu mewn esmwythdra,
Ni cha'i yfed draucht o ddiod,
Na bo e yn ceisio ei droi'n bechod.
Ni châi ddwedyd gair o'm gene,
Na gweddio ar fynglinie.
Na bo Satan yn amcanu,
Wrth weddio beri im bechu.
Pan bo mwva chwant fy nghalon,
Ith wasnaethu [Christ] yn ffyddlon
Dyna'r pryd y cais fy rhwystro
A'r holl
Dichell.
gwning a fo gantho.
A phyt faet ti'n gadel iddo,
Redeg arnai heb ei ffrwyno
Gwn na byddei well fy nrheigil,
Nag oedd dien Job a'i eppil.
Arglwydd gwêl ei waedlyd fwriad,
Lleiha,
Tola ei falchder, torr ei ruad;
Rhwym ei ferr, byrhâ ei gadwyn
Siga ei siol, a
Attal
stoppa ei wenwyn,
Tydi G [...]rist sy'n rhwymo'r wiber,
Luc. 11 32
Ti sy a'r gadwyn am ei ddwŷfer:
Tydi speiliodd o'i holl arfe;
Tydi gadwodd ein eneidie.
Gwisc dy
Arfogaeth
armwr oll am danom.
Dôd dy rymmus yspryd ynnom,
Dysc ein dwylaw i ryfela;
Nad ith weision gael y gwaetha.
Nâd o Ghrist ir sarph ein twyllo;
Nâd ir wyber ein handwyo;
Nâd ir llew ein lladd na'n llyngcu;
Nâd ir gelyn ein gorchfygu.
Gwann ym ni, a chryf yw ynte;
Can-mil cryfach Christ wyt tithe
Nertha'n gwendid trwy dy gryfdwr,
I orchfygu ein gwrthnebwr.
Call yw'r Sarph, a dwl ym ninne;
Doeth yw'r ddraig, a llawn bachelle;
Oni helpu di ni'n prynwr
Aiff dy bridwerth gan y Bradwr.
Gwna ni'n ddoeth i weld ei rwyde;
Câll.
Ffel i wechlyd i groglathe:
Cryf i
Wrthwyne­bu.
wrthladd ei ddichellion;
Call i wrthod ei gynnigion.
Arglwydd edrych ar dy weision
Nertha'th frodyr gael y Goron:
Helpa bawb sydd dan dy faner
Ddwyn eu croes a throedio'r wiber

Cynghorion yn erbyn profedigaetheu Satan.

OS promeisa Satan itti,
D [...]i a thiroedd am ei addoli
Dywaid nad oes troedfedd fechan,
Ond pwll uffern gantho ei hunan
Os bydd Satan yn dy annog,
I halogi gwraig cymmydog:
Heb. 13 4
Dywaid fod dialau'n barod,
A barn Duw am gyfryw bechod
Os cais Satan genyd feddwi
A
Yfed
charowsio gwin yn wisci;
Dywaid yr a'r holl rai meddwon,
1 Cor. 6 9 10,
Ddydd y farn ir tân a'r brimston
Os cais Satan genyd dyngu
Cig a gwaed yr Arglwydd Jesu;
Zech 5 2 3.4 Heb 10, 29
Dywaid nad oes un rhyw bechod
Waeth na chablu gwaed y cymmod
Os cais Satan genyd dreisio
Y rhai tlodion a'u handwyo;
Exod. 22, 22.23.24 Dihar. 22 22.23
Dywaid nad gwaeth pigô llygaid
Christ ei hun, na threisio ymddifaid
Os cais genyd wneuthur ffalstedd,
Ac udonaeth ac anwiredd;
Dywaid fôd Duw'r Barnwr cyfion
Mal. 3 5. Jer. 17.1,
Yn ei pre [...]ntio ar dy galon
Os cais genyd mewn dirgelwch
Weithio gweithred y tywyllwch;
Job. 34, 21 22.
Drwaid fôd Duw a saith llygad.
Ym mhôb mann yn edrych arnad
Os cais Satan gennyd gablu,
Dy gyd-gristion gwedi nafu;
Dih 17, 5.
Mae e'n ceisio megis bradwr,
Gennyd gablu dy Greawdwr.
Os cais gennyd ddwedyd celwŷdd,
Mae'n amcanu yn ddigwilydd,
Datc. 21.8,
Lâdd a dwyn dy enaid gwirîon;.
Ir pwll poeth a'r tân a'r Brimston,
Os cais gennyd wan obeitho,
Am drugaredd, er
Edifaru
repento;
Mae'n ei fryd dy ddwyn ir deyrnas;
Ir aeth Cain, a Saul, a Suddas.
Os cais Satan gâs dy rwystro,
I dŷ Dduw, y mae'n dymuno;
Dy droi maes or nef yn ddirgel,
Eisie addoli Duw'n ei Demel.
Os cais gennyd droi dy wegil,
Rhuf, 10, 17
Pan pregethir yr efengyl;
Mae e'n ceisio dy
Rwystro
ddehoryd,
Rhag cael profi pren y bywyd,
Os cais Satan gennyd gyscu,
Yu yr Eglwys wrth wasnaethu;
Mae e'n ceisio genŷd
Gwatwar
foccian
Duw'n ei lys ai dŷ ei hunan
Gwachel gyscu wrth weddio▪
Gwaeth na'r diawl yw'r dyn y foccio
Duw'n ei Demel, ar awr weddi,
Ar ei lin yn rhith addoli
Os cais gennyd fynych arfer,
Oedi bwytta'r sanctaidd swpper;
Wrth dy ddyor ir Comuniwn,
Mae'n dwyn ymaith
Mae'n sel o bardwn ir grasol; nid fr anrasol.
Sêl dy bardwn
Os cais gennyd lwyr anghofio
'R fengyl sanctaidd gwedi gwrando;
Mae e'n ceisio dwyn o'th galon
Hâd y gair â'th wnele'n gristion
Os caiff gennyd fod yn fodlon,
Ddwyn heb sulw enw criston,
Fe wnae felly yn ddiogel,
Wâs i Ghrist, yn was i gythrel
Os cais genyd ti broffessio
Jac, 2.14.17.
Ffydd heb weithred yn cydweithio;
Mae'n dy dwyllo trwy ffydd farw,
Drysto'r ffydd ni all dy gadw
Os cais gennyd ti ddihirio,
Edifeirwch nes
Awr angeu Preg 9, 10,
departo;
Mae'n dy rwystro geisio ffafar
Duw, nes eloi'n rhy ddiweddar.
Ni ad Satan un rhyw bechod
Nad amcana gael dy orfod;
Ni ad garreg heb ei threiglo,
Nes y paro it dramcwyddo.
Bydd bob amser ar dy wachel;
2 Cor 2, 11,
Nos a dydd y rhodia'r Cythrel.
Nid oes mann nad yw e'n tannu,
Ei groglatheu i'n bachellu
Yn yr Eglwys, yn y berllan,
Yn y shiop ac oddiallan;
Ar y ford, ac yn y gwely,
A cais Satan dy fachellu,
Bydd gan hynny megis milwr,
Yn dy gylch bob awr a'th
Arfe
armwr,
Ym-mhob man yn dyfal wilio,
Rhag i Satan dy andwyo
GWae'r dyn a fo gwyllt yn blentyn,
Glwth yn llangc a charl yn gleirchyn
Hwnnw dreuliodd ei holl oedran,
Ym-mhob oes wrth 'wllys Satan.
Gwachel f' enaid rwyde Satan
I'th fachellu ym-mhob oedran:
Ar bob llwybyr fe amcana,
A rhyw groglaeth gael dy ddala.
Yn dy ieuengctid fo gais genyd
Dreulio d' amser yn
Ddifudd
ddi-broffid
Mewn pibyddiaeth ac of [...]redd,
Heb na dysc, na dawn, na rhinwedd
Yn d' wroldeb, fe braw'th dynnu.
I
Yfed
garowsio a gordderchu,
Ac i nyrddo dy lân lester
A thrythyllwch a diffeithder,
Yn dy henaint, fe braw'th rwystro,
Droi at Dduw trwy wir
Edifaru
repentio;
Ac y dry dy fryd yn benna,
At fydolrwydd a chybydd dra
Praw gan hynny ym-mhob oedran,
Lwyr ymgadw rhag twyll Satan,
Rhwn y gais dy gyfyrgolli,
Trwy'r peth mwya fech yn hoffi.

Cynghor ŷ ddyfal weddio ar bôb achos, ac ym-mhôb gorchwyl.

ER fy mendith nac anghofia
Dair gwaith beunydd ar y lleia.
Psa; 55 17,
Brûdd weddio ar dy ddaulin.
O flaen Duw dy dâd a'th Frenin.
Cyn mynd allan y boreu-ddydd
Cyn ciniawa y canol-ddydd,
Cyn swpperu: o gweddia
'R tri phryd hyn, yn ddisceulusdra.
Côd dy ddwylo i weddio
Cyn gostwngech law i weithio
Cais gan Dduw fendithio d' orchwyl
Cyn y delych yn ei gyfyl.
1 Thess. 5.19.
Ac wrth wneuthur dŷ orchwylion▪
Arfer brûdd weddie byrrion:
A bydd
Yn ymbil
eiriol yn dy weddi,
Ar i Dduw roi cymmorth itti.
Os bydd trym. waith a ffrwst arnad,
Os bydd trafferth ar ddydd marchnad
Gwybydd (f' enaid) a gwna gweddi
Fwy o lês na rhwystur i ti,
Er bod Dafydd yn rhyfelwr,
Ac mewn trafferth mwy nag un gwr,
Psal. 119.194.
Etto er hynny saith waith beunydd,
Y gweddie 'r Brenin Dafydd,
Josuah rymmus y weddie,
Yn y
Yrÿmladd­fr. Jos. 10.12, 13.14.
frwydyr ac ymladde
'R oedd e ai galon yn gweddio,
Ac yn ymladd a'i ddwy-ddwylo,
Nid oedd gweddi rhain yn rhwystyr,
Ar un gorchwyl faent yn wneuthur,
Ond rhyddhau a llwyr fendithio,
Pob rhyw waith y wnel eu dwylo.
Arfer dithe weddi hyfryd,
Ym mhob gorchwyl y fo genyd,
Di gei weld y gwna gweddi,
Psal. 34: 10.
Rwydd deb mawr a chynffwrdd i ti.
F' all yr hwsmon, f' all y geilwad,
Alw ar Dduw a dala 'r Arad.
Fel y gallont ddwedyd ffregod,
Wrth yr Ychen a'r nefeilod'
F' all Trafaeliwr ganu Psalme.
A gweddio ar ei siwrne
Fel y gallont ganu maswedd,
A chwedleua am oferedd.
F' all y Cryddion f' all y Taelwŷr
Foli Duw a chwareu'r crefftwyr;
Gan roi eu breichie i ddyfal weithio,
A'u calonnau i weddio.
F' all y gwragedd hên wrth nyddu,
F' all y merched wrth fidanu;
F, all pawb ddilyn eu celfyddyd,
A gweddio 'n ddyfal hefyd,
Gyda Moesen ar y mynŷdd.
Gydag Isaac ar y maesydd,
Gen 4.63
Gydag Ifan yn yr Eglwys,
Y mae gweddi yn dra chymmwys.
Cyn yr elech ir drws allan.
At un gorchwyl mawr na bychan,
Cais gan Dduw dy
Oddifrif
brudd fendithio
A rhoi rhâd ar waith, dy ddwylo
Duw sy'n rhoddi rhâd a llwyddian [...]
Duw sy'n danfon ffawd a ffyniant▪
Lle'i cyfarcher fe ry fendith,
Lle'i anghofir fe ddaw melldith.
Cais ei yspryd ith gyfarwyddo,
Cais ei râs ith gynnorthwyo,
Cais ei fendith ar bob gweithred,
Felly daw it râd o'i barthed.
Dechre'r gwaith yn enw'r Jesu,
Cais ei gyfnerth i ddibennu;
Yn ei ddiwedd cais ei ogoniant,
Felly cei o'th weithred ffynniant
Fel y llwyddodd Duw orchwylice
Joseph gynt a Daniel ffyddlon,
Felly llwydda d' orchwyl dithe
Os gweddi i arno'n ddie
Oni wnei dy weddi'n addas,
Dug ei adail Bŵth fel Jonas
A Physcotta megis Peder,
Ac heb ddala dim un amser.
Di gei dwttan a thrafaelu
Ac ymrwyfan a thrafferthu,
Ddydd a nos a phoeni'n ofer,
Heb fod dim yn well un amser.
Ofer codi ar y wawr-ddydd;
Ofer bwytta bara cystudd:
Ofer gwiliaid hir nôs gaia,
O's yr Arglwydd ni'n bendithia
Ofer adail teie newydd;
Ofer cadw caere trefydd,
Ofer poeni trwy rymustra,
Os yr Arglwydd ni chyd-weithia.
Rhag i'th lafur fynd yn ofer,
O gweddia'n brudd bôb amser,
Ar i'r Arglwydd dy fendithio;
Felly ffyna gwaith dy ddwylo
CYn rhoi llaw ar gorn yr Arad,
Cod dy ddwylo ti ath eilwad
Cyngor i'r Llafurwr
At Dduw mawr am dy fendithio
A rhoi rhâd ar waith dy ddwylo
Ofer hau a rhedig llawer;
Ofer llyfnu'r maint a hauer:
Oni ddyru Duw ei fendith,
Dan y gwys y pydra'r gwenith
Dyn sy'n hau a Duw sy'n hadu
Duw sy'n peri'r llafur dyfu,
A dwyn ffrwythau ar ei ganfed
Ir sawl s' ynddo yn ymddiried
'R un a geifio ffrwyth o'r ddaiar
Psal. 104 14
Rhâd a llwyddiant ar ei heiniar
Prûdd weddied ar yr Arglwydd
Fe gaiff lwyddiant heb ddim aflwydd
Gwell yw gweddi gydag oged
I gael
Yd
llafur ar ei ganfed
Na chwech arad ac ogedi;
Lle na byddo sôn am weddi
Fe gai Isaac wrth fyfyried
Lafur gan Dduw ar ei ganfed
Gen 24 63
Pan bae eraill heb weddio
Braidd
Pring yn cael y chweched ganddo
Gen 26 12
O gweddia dithe'r Hwsmon
Ar dy Dduw o ddyfnder calon
Am roi rhâd ar waith dy ddwylo
Felly cei di ddigon gantho

Gweddi yr Hwsmon.

LLuniwr Daiar, helpwr dynion
Awdwr hadau'r ddaiar ffrwythlon
Rhoddwr gwlaw, Cynnyddwr
Yd
llafur▪
Gwrando weddi Hwsmon prysur.
Rwy fi'n mynd i drin y ddaiar
Ac i hau yn hon y heiniar,
Heb gael gweled mwy mo hono
Oni roi dy fendith arno.
Arglwydd ofer ydyw plannu,
Hau yn gyngan a gorllyfnu,
Oni pheri di iddo egino,
A rhoi rhâd a chynnydd arno.
Ni ddaw hedyn byth trwy'r ddaiar,
O'r maint oll sydd genni o heiniar,
Oni pheri di iddo darddu,
Tyfu allan a chynnyddu,
Rwy gan hynny'n begio'n brysur,
Duw dy fendith ar fy llafur,
Fel y gallwi gael oddiwrtho,
Född fel Christion im
Cynnal
maintumio
Agor i'm ffenestri'r nefoedd
Gwlawia fendith ar fy nhiroedd;
Portha fi a brasder daiar,
A rho lwŷddiant ar fy heiniar.
Nâd ir nefoedd, fynd yn brês
Lev. 16.18 19.20,
Na'r ddaer yn harn rhag gormod gwrês
Nâd ir meusydd mawrion fethu
Am ein llesgedd yn dy wasnaethu,
Rho wrth fessur y gwlaw cynnar,
Yn ei bryd, a'r gwlaw diweddar
Hinon dempraidd gwrês
Tymherus
cymmedrol
Rhâd a llwyddiant ar dy Bobol.
Gwardd y
prysed Amos 4 9
Locwst, gwardd y lindis,
Gwardd y gwlith sy'n brychu'r barlis
Gwardd y gwrês a'r gwynt
Mellt
a'r lluched
Sydd yn peri'r llafur niwed.
Corona flwyddyn â daioni,
Tywallt frasder dy râd arni
Gwisc y dolydd ôll [...] defaid,
A'n mynyddoedd a [...]ifeiliaid.
Dyro ymborth i blant dynion
Dyro wellt i'r Scrib [...]aid mudion
Dyro win ac olew'n helaeth,
I ddiwallu d' etifeddiaeth.
Dyro i'n gynhaiaf ffrwythlawn,
Rhâd o'r maesydd ac o'r fisgawn
Hâd o'r Ardd, a ffrwyth o'r Berllan
Mêl o'r graig a llaeth o'r gorlan
A bendithia waith eîn dwylo
Arglwydd grassol byth tra chantho
Felly ni'th fendithiwn dithe
Ar ein dau lin nôs a bore.

Cyngor i'r Trafaeliwr

CYn y dodech droed mewn gwarthol
Fynd i fiwrnai angenrheidiol
Cais gan Dduw fendithio'r siwrne
A'th ddwyn eilchwaith yn jach adref,
Cais ei Angel i'th gyfarwyddo,
Amddiffyn
Cais ei adain i'th
daith
brotecto
Cais ei fendith ar dy siwrneu
Fe rwyddha dy holl negeseu.
Fel y helodd Duw ei Angel,
Gyda Thobi ar ei drafel.
Felly hel ef heddyw heno,
Help i bawb a alwant arno.
Dysc Psal 50.15
Dysc gan wâs y
Ucheldad
Patriarch gore,
Alw ar Dduw wrth fynd i'th siwrne,
Gen, 24.12
Am fendithio dy amcanion;
Di gei
llwyddiant
ffawd wrth fodd dy galon,
Oni cheisi ar dy linie,
Gan fab Duw ryddhau dy siwrne
Cei drafaelu ar yr ormes,
A dwâd adre heb dy neges.
Gwell yw gweddi i Drafaeliwr
Nag yw'r gwin yn amser sychdwr:
Mellt
Gwell nâ chastell rhag y lluched,
Gwell na dim rhag pob drwg dynged
Gwell yw gweddi ith amddiffyn.
Wrth siwrneia rhag y gelyn,
Nag un cleddyf dur na Phistol
Carneu meirch na mil o bobol
ymdeithia
O gweddia' dithe'n wastod,
Wrth siwrneia, ar y Drindod,
Ac fe ddyry ei Angelion,
Ith rwyddhau wrth fodd dy galon

Gweddi Trafaeliwr

HElpwr pob trafaeliwr ofnus
Ceidwad cryf pob gwan gofidus
Gwrando'n rasol o'th orseddfa
Waedd trafaeliwr wrth siwrneia
Arglwydd mae'n rhaid i'm drafaelu,
I wlad bell nad wi'n i medru
Ac ni wn a ddo i mwy adre
Oni lwyddi di fy siwrne.
Tydi Arglwydd sydd yn
rheoli rhuf 11 36
llywio,
Y bŷd hwn a'r maint sydd ynddo
Fel na ddigwydd ond y fynnech
Ir rhai anwyl ac a garech
Rwi gan hŷnny'n deisyf arnad
O'th drugaredd ac o'th gariad
Roi im rwydd-deb yn fy siwrne
Am dwyn yn holl iach lawen adre
Danfon d' Angel im cyfrwyddo
Im cymfforddi am
Amddiff­yn.
protectio,
Im rhwyddhau yn fy negesse,
Am dwyn eilchwaith yn iach adre
Tanna drosswi d' adain rasol
Cûdd fi deni yn wastadol,
Nâd un gelyn wneuthur niwaid
Ar y ffordd im corph na'm henaid
Danfon Raphael dy anwyl-was
Im rhwyddhau am dwyn o gwmpas
Fel y rhelaist gyda Thobi
I rwyddhau o bôb
Gofydi,
clamwri.
Bydd o'm blaen fel mwl y boreu,
Bydd y nôs fel tanllwyth oleu,
Exod. 13 21, 22.
Im cyfrwyddo, Christ dy hunan
Megis Israel tua Chanaan
Di gyfrwyddaist y gwir doethion,
Gynt a'r seren ir ffordd union
O! cyfrwydda felly finne,
Nes fy nwyn i ben fy siwrne:
Fel y cedwaist Dobi ianga,
Rhag y pysc a fynnei ddifa,
Felly cadw finne'n rasol,
Rhag pob perigl yn ddihangol
Cadw fi rhag rhwyde Satan.
Ai aelode, pobol aflan;
A nâd iddynt wneuthur niwed
Im na chwilydd,
Rhwystr
stop, na cholled,
Nad y
Tryste
Dwrw, nâd y
Mellt
llyched,
Nad y storom wneuthur niwed
Nâd ir fall na'r ddraig fy nrygu
Nac un gormail fy ngorthrymmu
Cadw fi rhag bradeu lladron
Perigl dyfroedd a drwg ddynion
Llettu anwir, bwydydd afiach,
Rhwystyr ffordd, a drwg gyfeillach
Cwyn fy nghalon, nertha f' yspryd;
Rhwydda fy ffordd a'th gymorth hyfryd
Helpa'ngheffyl a'm cyfeillion;
Dwg ni dre wrth fodd ein calon
Rho di rwydd-deb yn ein busness;
Helpa bawb i gael ei neges,
Ag sy a meddwl onest gantho,
Fel y gallon dy fendithio.
Arglwydd cadw ni rhag tramcwydd
Cwilydd, colled, anap, a flwydd.
Nychdod, niwed, croes a dolur
Colli'r ffordd a'r cyfryw rwystur
Arglwydd dwg ni yn iach lawen,
At ein ffryns i dre drachefen;
Fel y gallom dy glodfori,
Ddydd a nos am it ein helpu.

Cyngor ir Milwr

CYn yr elech i ryfela,
Dros y goron, oh! gweddia,
Ar Dduw'r lluoedd am roi calon,
Cyfarwydd­yd. Psal, 144.1.2,
Scil a grym ir milwr ffyddlon
Duw sy'n rhoddi grym a chryfdwr,
A chryfrwydd-deb i bôb milwr,
Scil ir byssedd i ryfela.
Cyfodi
Tosso'r Peic a thynnu'r bwa.
Duw y lluoedd sydd ryfelwr.
Ac yn noddfa mewn cyfyngdwr
Duw sy'n rhoddi'r fuddugoliaeth;
Exo. 15.3.
Cais ei holp, fe 'rhy yn helaeth
Gwell yw gweddi mewn cyfyngdwr
Wrth ryfela i bob sawdiwr.
Nag un
Arfogaeth
harnais i'w ymddiffyn;
Gwell na glaif i glwyfo'r gelyn
Pladur
Mwy y laddodd dwylo Moesen
Wrth eu dercha tua'r wybren,
Exod 7.11
Nag y laddodd cledde Josuah,
A holl Israel wrth ryfela.
Jonathan a'i weddi laddodd,
O'r Philistiaid fwy o filoedd,
1 Sam 14,
Nag y laddodd Saul a'r cledde.
A'i Ryfelwyr oll a'u harfe.
Chwyrnach ydoedd gweddi Dafydd,
I droi i'r cawr a'i dorr i fynydd,
1 Sam 17
Na'r holl gerrig aeth o'i goden,
Er eu glynu yn ei dalcen.
Hên Elias heb-ddim arfe,
Ond i weddi y ddifethe
Ddau ben capten a'u cwmpeini;
Beth sydd gryfach nag yw gweddi?
2 Bren 1
Cryfach ydoedd gweddi Judith
Na'r holl welydd cedyrn aryth,
I ymddiffyn tre Bethulia,
Rhag Holphernes idd ei difa,
Arfer dithe brudd weddio,
Wrth ryfela a'th ddwy ddwylo;
Fel arferodd dewr wych Josuah;
Di gei lwyddiant wrth ryfela.
Dôd dy ddwylaw i filwrio
Dôd dy galon i weddio;
Di gei weled y gwna gweddi,
Fwy na dwylaw o
Gwrolder, Gweddi'r milwr.
wrhydri
ARglwydd grymus, Llywydd lluoedd
Pen rheolwr pôb rhyfeloedd
Unig roddwr buddugoliaeth,
Gwrando ngweddi o'm milwriaeth
Rym ni ymma ym-mhlaen y goron,
A'n Prins, a'n gwlad, a'n da, a'n dynion
Yn rhyfela a gwir diras,
Sy'n amcanu treisio'r Deyrnas
Duw gwradwydda eu hamcanion,
A'u bwriadeu a'u dichellion;
Tola eu balchder, torr eu cryfdwr,
Dofa eu hawch, gostega eu cynnwr
Nertha ninne dy wael weision
Chware'r gwir ym-mhlaid y Goron:
A rho inni rym a gallu,
Ee concwerio a'u gorchfygu.
Arglwydd grassol cwyn ein calon
Ymladd drossom a'n gelynion
Hel dy fraw ath ofon arnynt
Dyro
Cwymp
ffwyl a gwradwydd iddynt
Er nad ydym yma ond gronyn
Ir fâth nifer sydd i'n herbyn
Etto rym yn ddigon grymmys
Os tydi a fydd o'n hystlys
Arglwydd gwynd, nid llai dy bwer,
1 Sam 14 6
Mewn ychydig nag mewn llawer,
Os mewn gwendid rwyt fynycha
Yn mynegi d' allu mwya
Barn 7.
Peraist gynt i Gedeon ddifa,
Ef a thrychant o'r gwyr-gwanna
Lû aneirif o'r Midianiaid
Oedd cyn amled a'r locustiaid,
Jonathan ai
Yr hwn. oedd yn dwyn ei arfau.
gludydd arfe,
Helodd miloedd i droi cefne
Pan ŷ helaist ofon arnyn.
Pwy a feiddie droi yn d' erbyn?
Rhoddaist rym i Samgar fraeni,
Barn 3 3 1.
Chwechant gwr, a'u lladd a'r
Irai Barn, 15 [...]5.
ierthi,
Ac i Sampson 'ladd heb orphen
Fil o wŷr â gên yr assen,
Di ddifethaist trwy law gwreigin
Ben tywysog Brenin Jabin;
Barn 4 21 Pen. 5 20
Ac a wnaethost ir planede
Ymladd drossot yn eu gradde
Gelli Arglwydd mawr os mynny;
Roi i ninne rym a gallu,
I orchfygu ein gelynion
Er nad ym ond milwyr gweinion
Os tydi a fydd o'n hochor,
Nef a daiar, dwr a chefnfor
Haul a Lloer, a gwynt ystormys
A ryfelant ar ein hystlys.
Arglwydd mawr os byddi o'n hystlys
Pet fae'r Twre, a'r Pâb a'r Spanis
A holl uffern yn ein herbyn
Ni roem ddim o'r garrai er-ddyn
Tydi'n unig sydd ryfelwr
Gennit ti mae
Meder
scil a chryfdwr
Ti sydd roddwr buddigoliaeth,
Ti sy'n achub rhag marwolaeth
Ti sy'n peri'r rhyfel beidio:
Ti sy'n torri
Gwaywffon
spêr yn
Yn ddarn­au.
yfflo:
Ti sy'n rhoddi'r march i gyscu
Ti yn unig sy'n gorchfygu
Doro gomffordd i'n calonne;
Doro gryfder yn ein breichie;
Doro scil i'n bawb ryfela,
Megis milwyr ir gorucha.
Gwna'r capteniaid megis Josua
Ymwroli i ryfela;
A bydd gyda rhain dy hunan,
I gyfrwyddo ei
Bwriad,
plot a'i hamcan,
Doro galon ym-mhôb milwr
Deall Dewrder, scil, a chryfdwr,
Gallu gwllus hyder con,
I
Gwrthwy­nebu.
gonfronto ein gelynion
Dôd d' Angelion i'n castellu,
Rhag-pob gelyn tra ni'n cyscu:
A dod lu o'th filwyr penna,
I'n cyfnerthu wrth ryfela.
Bydd dy hun yn disgwyl arnom.
Ac yn
Rheoli
llywio'r hyn a wnelom
Nâd i'n wneuthur yn wrthnebus
Ddim yn erbyn dy lân 'wllys,
Gwna ni'n gywir bawb i'n Brenin
Gwna ni'n ffyddion ir cyffredin
Gwna ni'n ufydd i'n rheolwyr,
Ac heddychlon a'n lletteuwyr,
Luc. 3.14,
Gwna ni'n fodlon bawb i'n cyflog;
Nâd i'n speilio un cymmydog
Na
Gorthrym­mu.
gormeilio mawr na bychan;
Ond byw'n weddus yn dy ofan
Nâd i'n ddilyn afreolaeth,
Na chynhennu mewn cwmpniaeth
Nac ymdynnu a'n Captenni.
Na byw'n aflan mewn drygioni
Nad i'n dreisio gwraig na morwŷn,
Nac anrheithio un dyn addfwyn;
Rhag i'th lid gyfodi'n herbyn,
A'n troi bawb tan ddwylo'r gelyn
Gwna ni bawb yng hanol rhyfel,
Fyw fel pobol yn dy demel:
Y fae bob yn awr yn galw.
Am dy gymmorth idd ei cadw
Lle'r ym beunydd ym-mhyrth ange,
Ar flaen peics a geneu'r gynne;
Pâr i'n fyw bôb awr yn d' ofan,
A throi heibio'n buchedd aflan.
Ni wyr un pa awr, pa ennyd
Y rhy gyfrif am ei fywyd,
Gar dy from o Farnwr cyfion;
Pâr in fyw gan hynny'n union
Gwna ni'n barod ddwad attad
[...]ôb rhyw awr O anwyl Geidwad:
Nâd in fyw un awr mewn pechod
Rhag ein cyrhaedd yn amharod,
Nad i'n wneuthur dim drygioni
Nac un
Gweithred
herc na allom roddi
Cyfrif
Gownt oi blegid heb gwylyddio,
Ddydd y farn pan doir i
Ymddangos
ympirio.
Arglwydd achub ni dy weision,
A gwradwydda ein gelynion;
Cadw ein Brenin a'i frenhiniaeth;
A rho iddo'r fuddugoliaeth.

Cyngor ir Porthmon.

OS dwyd Borthmon dela'n onaist,
Tal yn gywir am y gefaist;
Cadw d' air, na thorr addewid;
Gwell nag Aur mewn côd yw credid,
Na chais ddala'r tlawd wrth angen;
Na thrachwanta ormod fargen;
Na fargenna a charn lladron;
Ni ddaw rhâd o ddim y feddon.
Gwachel brynu mawr yn echwyn;
Pawb ar air y werth yn scymmyn;
Prynu 'n echwyn y wna i Borthmon
Ado'r wlâd a mynd i'r Werddon
Gwachel dwyllo dy fargenwyr;
1 Thess. 4.6
Duw sydd Farnwr ar y twyllwyr;
Pa dihangit tu hwnt ir Werddon
Duw fyn ddial twyll y Porthmon
Byth ni rostia un o'r twyllwyr;
Dihar 12 27
Rhyn y heliant medd y Scrythyr;
Ni ddaw twyll i neb yn ennill;
Fe red ymmaith fel trwy'r rhidill
Gwachel feddwi wrth Borthmonna
Gwin hel Porthmon i gardotta
Os y Porthmon y fydd meddw
Fa'r holl stoc i brynu'r Cwrw,
Dela'n union,
Bydd ofa­lus am
cara d' enaid▪
Na ddifanna a da gwirioniaid:
Pa difannyd ir
Gwledydd issel
Low Cwntres,
Dial Duw y fyn d' orddiwes,

Cyngor cyn mynd i garu

PAn yr elech gynta i garu
Gen 24 7
Galw ar Dduw os myn di ffynnu;
Cais ei yspryd i'th gyfrwyddo
Hebddo nid oes lûn it lwyddo
Rhodd arbennig oddiwrth Dduw,
Yw gwraig rasol▪ weddaidd
Dihar 19 14,
wiw:
Rhodd na chaiff pob rhai o honi
Ond y fawl y fo'n ei ofni
Cais gan d' Arglwydd hyn o rodd;
Di gei
Addas preg 7 26
fâtsio wrth dy fodd
Cais ai nerth ai help a'i gyngor:
Dihar 10 24.
Di gei bob rhai ar dy ochor
Ymddarostwng i'th Rieni,
Briodi
Cyn y ceisiech briod itti:
Col 3 20
Cais eu hwllys mewn môdd addas;
Felly ffynna dy briodas.
Gen 27 46
Fe fyn Duw it ymgynghori
A'th Dad, a'th fam, cyn priodi;
Barn 14 2
Ac ymfaitsio'n ol eu hwllys;
Tro na cheisiont faits anweddys
Ni fyn Dyw i'th dâd dy fwrw,
Lle na byddo Duw'n dy alw,
Lle na allo'r Galon hoffi,
Lle na bo cyfaddas itti.
Os llawn o râs. os glan o ryw
Os pûr o gorph, a môdd i fyw,
Os mwyn, os doeth, os da yw'r ferch,
Lle galwodd Duw di rho dy ferch
Mae'r Tâd a'r fam, yn rhwym ith
Gynnorth­wyo
ffwrddro
Mae'n erbyn Duw, ir rhain dy rwystro;
Cyffroi'r yspryd a wna hynny
Bar 14, 4 5 Col 3 21 1 Cor. 7 9
A themptio'r cnawd i odinebu
Na ddigia'th dâd o bydd lle i beidio
Ym-mhob peth gweddus gostwng iddo;
Cais ei gyfnerth yn barchedig;
Cais yn fwyn, fe ddyru'n ddiddig
Cais wraig dduwiol o'r iawn ffydd,
O grefydd Ghrist, heb nag, heb
gyndynrw­ydd.
Mewn un gwely byth ni chytfydd,
Gwr a gwraig o amryw grefydd
2 Cor 6 14
Cais wraig
Onest
ddiwair o rieni;
Rhyw a ym lysc i ddrygioni;
Ezek 16 44
Oni cheidw Duw rhag Nam,
Fe drippiar ferch lle trippio'r fam,
Cais wraig hygar. gryno, gruaidd;
Na phanfia forwyn ffiaidd;
Trist ac oer, a dôf, a diflas,
Y fydd cariad at un atcas
Cais wraig ddistaw, dda ei nwyde
Ddôf ei nattur, bâch ei chwedle
Gwaeth na defni, gwaeth nag Arthes,
Gwaeth nâ gwiber yw Scoldies
Cais wraig fedrus, ddoeth rinweddol;
Dih. 27 15 Dih. 17 12
Honno'th gwyd yn Ben i'th bobol;
Honno leinw dy gornele,
Honno bair'th galon chware,
Cais wraig hygar, a gwraig fedrus
Cais un rasol a chyffurus;
Llom yw'r ford, ac oer yw'r gwely
Dihar 3 [...] 22.23,
Lle bo'r wraig lieb drefnu'r lletty
Cais wraig weddus ar ei gwên
Nid rhy ieuange, nid rhy hên;
Dih. 17 22.
'R hên rhy oer a'th lâdd a'i pheswch;
A'r llall a bair ir aflonyddwch,
Cais un ufydd megis Sarah;
Cais un ddiffym fel Rebecca:
Cais un serchog megis Rachel;
Cais un fedrus fel mam Lemuel.
Cais un rasol, hygar, hyfryd
Syber, Sanctaidd, lân ei bywyd;
Araf, weddus, dda ei hymddygiad,
Hi dâl mwy na chyfoeth tair gwlad
Dihar 11 16
Gwachel goegen falch ddifeder:
Gwachel
Un afrywi­og Dih. 21.19
Soga sur, ansyber:
Gwachel un oludog ffrom ffôl;
Honno'th flina di a'th bobol,
Gwachel wraig rhy wen, rhy gynnes
Hi fydd neidir yn dy fynwes;
Odid gweled medd y fran,
Wraig rhy wen a chalon lân.
Na chais wraig a
Cynnyfgaeth
gwaddol lawer,
Ac heb fedru trin ei phwer;
Mwg a niwl, a llif yn treio,
Yw gwaddol mawr heb fedru drinio
Os bydd ond dwy it gael dy dewis
Un yn frâs, a'r llall yr fedrus;
Gâd i fynd y frâs ddifeder;
Cais y fedrus a'th holl bwer.
Y ddoeth a'r dda, a ddaw i ddigon
Dihar 31 15 18.25.
O ddydd i ddydd hi wella ei dynion
Ni chwsc hi'r nôs, ni phaid ei byssedd
Nes cael cyfoeth ac Anrhydedd.
Y ddol a fwrw ei Thy i lawr,
Dih, 14.1,
A'r ddoeth a adail Drefydd mawr
Y ddol a bair i'w gwr ochneidio
A'r ddoeth a ddwg anrhydedd iddo
Y ffôl ei phen y flina Gawr
Ac anrheithia'r gwaddol mawr,
Gan lwyr droi ei
gan yru llawer yn ychydig
Phacc yn Phardel,
Nes gwradwyddo'r ffrins a'r genel
Archolt calon, baich anesmwyth,
Defni dyfal, gwawd iw thylwyth.
Ja yn gwascu, Sarph yn priccio,
Iw gwraig ddrwg; gwae'r gwr a'i caffo
Duw a'i yspryd a'th gyfrwyddo
I gael'r ore a'th fodlono,
O ddawn, o dda, o ras, o ryw,
With fodd dynion, wrth fodd Duw

Canmoliaeth Gwraig dda,

GWell Bachgen doeth na brenin ynfyd
preg. 4.13 71 Dihar. 16 32.
Gwell Enw da nag ennaint hyfryd
Gwell pwyll nag Aur; gwell grâs na grym.
Gwell dyn na da; gwell Duw na dim.
Gwell Igir ddoeth yn ofni Duw,
A 'chydyg bach o fodd i fyw,
Dih. 15 16
Na'r ddol ddiddawn o genel grin,
A thryssor mawr heb fedry drin
Gwraig rinweddol, hygar, hyfryd
Sydd gan gwell na byd o olud
Dihar 31 10 14.
Gwell na Thir, na Thai, na thryssawr
Gwell na'r Perls a'r Meini gwerthfawr.
Llong yn llawn o werthfawr dlysse,
Perl a chan-mil o rinwedde
Mae'n gwerthfawr.
Gemm na feidir neb ei brisseo
Yw gwraig dda ir sawl a'i caffo
Piler Aur mewn morteis Arian,
Twr rhag angeu i ddyn egwan,
Dihar. 1 [...] 4.
Coron hardd, a Rhan rhagorol
Grâs ar râs yw gwraig rinweddol

Rhybydd a chyngor ir Godtnebwr

GWrando'r Godinebwr aflan,
Air o gyngon genni'n gyngan;
Cyn yr elech di mor ddiriard,
Yn dy
chwant
wyn i ddamnio d' enaid.
Gwel dy fargain front anhywaith
Cyn y bwriech dy hun ymmaith
Ystyria;
Marca d' ennill, bwrw'th golled
Ystyr ble 'rwyt ti yn myned
Rwyt ti'n mynd i dy putteiniaid
I
Rhyngu bodd
blessio'r corph, i ladd yr enaid
I ddigio Duw, i nyrddo ei Demel
I 'mado a Christ, i'm lynu a chythrel,
Rwyt ti'n mynd fel ffôl i werthu,
D' enaid anwyl, Pridwerth Jesu
Ffafar Duw, a'i deyrnas lawen
Am gael gorwedd gyda phutten
Dih. 7 27
O! na wna mor dôst a'th enaid,
Ai roi rwygo rhwng cythreuliaid,
Y nhân uffern am gael gronyn
O
Plesser
drythyllwch ir cnawd melyn
O' na werth y nêf gyfoethog
Ffafar Duw a'th brynwr serchog,
Gwir Angelion, gwlâd goleuni
Am gael plesser mewn drygioni,
Pwylla, Aros, nad dy dwyllo.
Margain hallt yw'r fargain honno;
Am gael tippyn o drythyllwch,
Na werth nef, a'i holl ddedwyddwch,
Cno dy dafod, plg dy lygad.
Tro dy wegil, na fydd anllad;
Gwachel
Ymswyn rhag ir fall d' orchfygu;
Ac na chytcam ôdinebu
Cenfydd Satan sy'n dy arwain,
Wrth edefyn i dy'r buttain,
(Megis arwain ŷch ir lladdfa)
Dihar 7 22 23. 1 Cor 6 18
I ladd d' enaid trwy butteindra
Clyw'r 'postolion ar Prophwydi
A'r holl Scrythur i'th gynghori
Wechlyd rhag y cyfryw bechod
Eph 5 56
Rhag dy daflu i uffern isod.
Ai di uffern i'th
Boeni
dormentio;
Ai di'r Brwmstan poeth ith
Bobi
frwylio?
Am gael gorwedd megis filam,
Datc. 21 8
Ambell pryd ym maglau puttain
Ai di orwedd ir tywyllwch?
Ai di'r carchar di-ddiddanwch?
Ai di drigo at blant Satan?
Am gofleidio menyw aflan
A droi di ffafar Christ oddiwrthyd,
A'i Angelion hygar, hyfryd?
Heb gael dim oddiwrth y fargain
Ond cusanu gwefle Puttain
Ffei rhag cwilydd, tro yn d' wrthol,
A dos adref yn ddifeiriol:
Na werth nef am gariad puttain;
Ni wnai Esau o'r fath fargain.
Cymmer gyngor, ofna Dduw;
Carcca d' enaid tra fech byw;
Gwachel wneuthur ti a'th
Langcet
Riain,
Aelod Christ yn aelod puttain,
1 thess 4 3, 4.
Cadw'th gorph yn lester Sanctaidd;
Temel Dduw yw corph caruaidd,
1 Cor 6 15 19.
Aelod Christ, preswylfa'r Drindod;
Gwachel nyrddo hwn a phechod
Gwybydd nad oes pechod gassach
Na godineb brwnt a lloscach,
Y wnaeth ddifa da a dynion
A'r dwr diluw, tân a brwmston
Digio Duw, a
boddhau
phlessio'r cythrael,
Gryddfu'r yspryd, nyrddo ei Demel,
Croeshoelio Christ, halogi aelod,
1 Cor, 6 9 10
Y mae'r rhyfyg brwnt yn wastod
Pydru'r corph, a damnio'r enaid
Dihar. 5 8.9.10 11
Llygru'r enw, nyrddo'r ddwy-blaid
Difa'r cyfoeth,
Dlfwyno
stainio'r eppil,
Mae'r godineb brwnt yn rhigil,
Llanw'r deyrnas o fastardiaid,
Llanw'r Eglwys o Burreiniaid
Llanw'r Tai o gam 'tifeddion,
Mae godineb medd y doethion,
Dih 6.26
Hela dynion i gardotta
Wna godineb a phutteindra;
Ac fel
Fflam
gwaddath o dân prysur,
Difa cyfoeth godinebwyr
Pan bo pôb rhyw bechod diffaith,
Heb lâdd un ond un ar un waith;
Mae godineb brwnt mor sceler
Yn lladd dau bob gwaith y gwneler
Er nad oes un pechod atcas,
Ag all torri rhwym priodas;
Mre godineb câs yn torri
'R holl briodaseu mae'n halogi
Gwaeth na lleidir gwnaeth na mwrddrwr
Gwaeth na neb yw'r godinebwr
Sy'n lladd enaid dau ar un waith
Dihar 6.30.31, 32
Pan bo'r lleill yn lladd cydymmalth
Nid yw'r lleidir, wrth i ofyd
Ond lledratta i gadw ei fywyd
Mae'r putteiniwr yn ei afrad
Wrth butteindra'n
Yn fwy nu'r lleidr
lladd ei enaid
Er na fynnei'r Phariseaid
Lâdd y sawl 'amharchei henafiaid;
Etto mynnent lâdd er hynny
'R wraig y fyddei'n godinebu,
Cyfraith Dduw sy'n gaeth yn erchi.
Yn ddi ffafar lâdd a meini;
Lev 20 10
Y gwr a'r wraig a odinebo;
Mae'r godineb yn gâs gantho
Mee'r godineb brwnt mor
Diffaith
ffinion
O flaen Duw a'i holl Angelion;
Ac na fyn i neb o'r brodyr,
1 Cor. 5.11
Fwytta 'nghyd a'r godinebwyr,
Mae mor ffinion mae mor ffiaidd;
Ac na fyn y Scrythur Sanctaidd,
Un waith enwi peth mor fudur.
Eph. 5.3
Chwaethach arfer i ni iw wneuthur,
Christ sy'n erchi cadw'r llygad,
Rhag y cyfryw bechod anllad:
Mat. 5.28
Mynych trwy'r ffenestri'r llygaid
Job. 31, 1
Y mae hwn yn ll âdd yr Enaid
Cyn trachwantech un wraig wenn,
Tyn dy lygad ffwrdd o'th ben;
'Rhwn na ffrwyna lygad
godlnebus
wantan
Yn Nhan uffern y caiff
Llosci
frwylian
Y mae'r pechod hwn mewn calon
O flaen Duw yn bechod creulon;
Er na ddelo byth mewn gweithred,
Mae a'i chwant yn llâdd yr enaid

Cyngor i'r Meddwyn

OS meddwyn wyt yn arfer chwiffio,
Gwin, a Chwrw, a Thobacco
Llêf am râs ar Dduw yn fuan
I orchfygu meddwdod aflan.
Os cwympaist yn y wins o feddwdod
Llêf am gymmorth oddi-uchod;
Ni all dyn na diawl nac Angel
Godi o'r wins o'r cyfryw nifel
Nid a'r eythrel meddw o'th goryn,
Mwy na'r cythrel mûd o'r plentyn,
Nes dêl Christ a'i nefol yspryd.
I droi 'maes trwy weddi ac ympryd.
O gweddia dithe'n wastod,
Am gael nerth yn erbyn meddwdod,
Ac ymprydia rhag gormoddion
Ac rhac tramwy lle bo'r meddwon
Nid gwell meddwyn er gweddio
Heb wachelud ac ymprydio.
Gweddi ac ympryd sydd yn groyw
Yn gorchsygu'r cythrael meddw
Os gweddi i 'n erbyn meddwdod
Ac heb ochelud teie'r ddiod;
1 thess. 5.22.
Ni thâl gweddi i ti ddime,
Eisieu gwaglud y Tafarne.
Dannedd Llew yw dannedd meddwdod
Ni chyll ei ddant o'i graff o honod,
Nes dêl Christ y Llew diofan
I sigo ei siol a'th dynnu o'i safan
Ni ddaw march or ffôs lle soddo.
Nes del chwech neu saith iw lusco:
Ni ddaw dyn o'i feddwdod af [...]an,
Nês del Christ iw lusco allan
Na chymmell neb i yfed gormod,
Y fed pawb ei rhaid or ddiod
Os myn un feddwi megis ei,
Meddwed ê na feddwa di.
Rho barch i'th well o doi iw plith
Trwy berchu'r bol heb ufed rhith:
Os perchi'r gwr trwy chwafftio'r cwppan
Wrth berchu'r ffrind d' amharchu'th hun­an
Jechyd trist, ac Jechyd afiach
Yw yfed Jechyd a'th wna'n glafach
Byth ni pharcha Jechyd un,
A waetho'm Jechyd i fy hun.
Rhai sy'n chwerthin am fy mhen.
Am fod yn sobr heb fawr wen
Minneu'n wylo'r deigreu heilltion
Psal. 119.136.
Weid pôb rhai o'r rhain yn feddwon,
Y meddw chwarddodd am fy môd,
Yn cadw ngheiniog yn fy 'nghôd
Y nawr sy'n wylo'r dwr yn ffrwd
Wrth feggian ceiniog tâch o'm cwd,
Er mwyn Jesu gwachel feddwdod
Gwaeth yw hwn nag un rhyw bechod;
Mae'n troi dyn ar lûn y cythrel
Ugain gwaeth nag un Anifel,
Tynn o'r Dafarn gochel feddwdod,
Na chais fynd yn drech na'r ddiod,
Ni chadd un mor trecha arni
Ond y gilie'n ebrwydd rhagddi
Alexander y
Orchfygaist
gongcweriodd,
Yr holl fyd y ffordd y cerddodd
Ond y ddiod yn dra [...]
A gwngeriodd Alexander.
Gwell yw diangc nag ymdrech
Gwell yw cilio nag ymdynnu,
Gwell rhoi'r gore i'r hwrswn Cwrw.
Nag ymostwng iddo'n feddw.
Profaist
Treiaist feddwyn dy rym ddengwaith
Cwympaist dan y ddiod ganwaith.
Oni chymru'r traed oddiwrthi.
Hi rudd etto godwn itti.
Rhai a fyn maflud cwymp ar Cwrw
A mynd yn drech na'r ddiod loyw,
Ni bu 'rioed y gâdd y trecha,
Ond y gilie oddiwrthi'n gynta,
O doi at dan fe lusc dy grimpe
O doi at Sarph hi frath dy sodle;
O doi at Bûg ond cwrdd fe'th nyrdda.
O doi at ddiod gref hi'th feddwa
Cil rhag Sarph rhag iddi'th frathu;
Cil rhag plâg rhag iddo'th nafu
Cil rhag tân rhag iddo'th losci
Cil rhag gwin rhag iddo'th feddwi,
O holl slafiaid y byd ymma,
Caetha slâf yw'r slaf i fola;
Ni chais hwn tra bywyd gantho.
Ond ei fola'n feistir iddo.
F' ar meddw ir
Tafarndy
Inn yn gall yn gwmpli
Fe ddaw maes heb gôf heb gyfri
Fel dyn rhesymol
F' â mewn fel dyn f' â maes fel nifel,
Fe chwd fel ci, fe roch fel cythrel
E' ollwng meddwyn Duw ai ddonie,
Dihar 23.20 21.
Tai a thir i fynd i chware,
Fei geidw ei afel ar bob
ar bob fen­yw ofer
Sini
Fe gyll ei hun, a'i gôf, a'i gyfri
Gynt ni feddwe ond bedlemmiaid,
A'r rhai gwaetha o'r begeriaid
'Nnawr ni chaiff bedlemmiaid tlodion;
Le i feddwi gan fonddigion.
Brwnt gweld Barnwr mewn anhemper
Neu Bendefig draw yn y gwtter
Brwnt gweld cawr yn
Caethwas
flaf i'r cwrw;
Brynta gyd gweld ffeiriad meddw
Cyfraith dda oedd dodi meddwon,
Fel plant bychain dan
Golygwyr Drefnu
drycholion;
Os ni fedrant fwy na bechgin
pwrpas
Ordro ei hun ac ordro ei lifing
Nid oes reswm na naturiaeth
Gan y meddw drin ei arfaeth,
Esieu un o'r rhain i
i arwain
arail,
Gwaeth yw'r meddw na'r anifail
Blin na fedre un dyn meddw,
Nai reoli 'hun yn hoyw;
Och! na gadel i neb arall
Lwyr reoli'r meddwyn angall
Gwae medd Duw y dyn y gotto,
[...] boreu glâs ddydd i gwympnio
Esay. 5.11
[...] arhoso gyda'r ddiod,
[...] y nynnir ê gan feddwdod
Y mae uffern boeth a Satan
[...] lledannu ac llêd eu safan
[...] yn chwenych llyngcu'r meddw,
Esay. 5.14 22.24
[...] ei feddwdod cyn bo marw
Gwae fo crŷf i chwafftio cwrw,
[...]c i gymmysc diod loyw;
[...]i âd Duw na gwraidd na hmpin
[...]eb ei difa ir fath feddwyn.
Gwaer o ddiod gref i feddwi
Ei gymmydog iw ddinoethi;
[...]ae Duw'n digio wrtho'n llidiog
[...]m ladd enaid ei gymmydog,
Tŷnn ar frys or gors o feddwdod
[...]hag dy lyngcu yn ammharod,
[...] hir aros ar draeth sugyn,
[...]lwyr i'th lwngc tra fech yn rofyn
Pob pechadur a gais guddio
[...]aint o feie a fo arno
[...]nd y meddw fyn ddinoethi,
[...] datcuddio ei holl frynti
Adda geisiodd guddio'n
Ofalus
garcus
[...]i droseddau a dail ffigys;
[...]oe y fynne lwyr ddatcuddio;
[...]n ei feddwdod faint oedd gantho,
Christ sy'n gwardd i gristion fwytta,
Gen. 9.21
[...]yda'r meddw glwth ei fola.
[...]c ymgadw rhag dwad atto,
[...]el rhag dyn a'r cowyn arno.
1 Cor. 5 11 2 Thes. 3 6
Fel y gyrr y mwg o'r llester,
[...]r holl wenyn o'i esmwythder
[...]lly gyrr y meddwdod aflan
[...]s a dawn o'r galon allan.
Ni bu meddant frenin Babel.
Dihar, 23.29.30.
Ond saith mlynedd ar lûn nifel,
Y mae'r meddw ar lûn mochyn,
Hwy nâ hwnnw lawer blwyddyn▪
Einioes ferr a chylla afiach.
Lletty llwm a drwg gyfeillach,
Coppa twnn a siacced frattog,
Y gaiff meddwyn yn lle cyflog
Fe werth y meddwyn dref ei Dâd
A'r maint y fedd o fraint yn rhâd,
A phob nifel sy'n ei helw,
Gwerth ei grys i brynu'r cwrw.
Fe medu'r meddw a'i holl bethe,
Ai aur. ei arian a'i holl drysore
Ei Dai, ei dir, ei blant, ei briod
Oni ni 'medu byth a'i feddwdod
Gwir Dduw'r meddw ydyw
Bachus oedd yr hên eulyn addolwŷr yn ei gy­fri yn Dduw yr gwin.
Bachus,
Tafarn hwdlyd yw ei Eglwys,
Gwraig y Dafarn yw ei ffeiriad;
Y pot ar bib yw ei
Y rhai mewn Cym­mundeb ac ef Deut 21 18 19, 20.21. Luc. 21, 34 35.
gyfnessiad;
Bydd di sobr trech di'n fachgen
Nad ir bol a speilio'r cefen:
Nad ir afrad ieuaingctid hala,
Bol mewn henaint i gardotta,
Cyfraith Dduw a fyn labuddio,
Pob oferddyn ac a feddwo?
I ddiwreiddio'r cyfryw frynti,
Ac i rwystro eraill feddwi,
Fe ddaw Crist yn chwyrn heb wybo [...]
Ar ddyn meddw i ddial meddwdod
Fe [...] gwahana fe'i rhy orwedd,
Mewn tân poeth i ringcian dannedd
Duw ro grâs i bob rhyw Gristion,
1 Cor. 6, 9.10.
Yfed deigryn lai na digon,
Cyn yr yfo fwy na'i gyfraid.
I lâdd ei gorph, i ddamnio ei Enaid.

Can yngylch y Diawl a'r Meddwon.

YCythrael twyllodrys sybeunydd heb orphwys
Ond ceisio'n ofalus ein twŷllo
1 Pet. 6.8.
wneuthur pechode, pôb amryw o feie:
Duw gatwo'n heneidie ni rhagddo
Fel y bydd cysgod ar ddisclair ddiwrnod
Ein dilyn yn wastod wrth rodio▪
Felly mae ynte yn canlyn ein sodle,
Yn gosod ei fagle i'n cwympo
Duw gatwo pôb Christion rhag Satan angh­yfion
O 'wllys fynghalon rwi'n ceisio,
Gael dwyn ein eneidie'ddwrth bôb rhyw ofeie
O
O gyflwr▪ colledigaeth
uffern a'i phoene, a'i rwystro
Meddwdod yw'r gore a'r penna o'r heintie
O hono mae'r beie yn himpio;
Tyngu, putteindra, glothineb, lladratta,
Ac ymladd yw'r mwya sydd ynddo
Lle bo'r mwya gynlleidfa fe gân
Gân y trumpet
y dantara,
Gyfeillion dewch yma i gwmpnio,
I hala hi'n fuan trwy'r ffenest ac allan,
Mi fydda fy hunan yn campio
Ac yno hwy ddawan, fel Sawdwyrs yn fuan
I'r man lle bo Satan yn ceisio.
I gymryd eu hafraid heb Gofalagarcco am yr enaid
A llawer o'r gweiniaid sydd hebddo
Dechreuan yn llonydd, fel haul wen foreuddydd
Nes cwnnu tês splennydd a thwymo
Y ddaurydd y gocha, y tafod y floesga
Y ddeu droed y ffaela a rhodio.
Gwedi darffo iddyn yfed, yn barod i fyned
Fym Hostes am hened moes etto;
Llanw di'r pottie, yn llawn o'r un gore,
Ni awn i ddechre
Ymyfed
carowsio
Bellach moes ymma ddalen o'r India,
A'i henw hi'n benna Tybacco:
Pibell a thewyn, neu ganwyll i nynnyn
Nad orfod eu gofyn hwy etto;
Yscadan moes bellach, neu gig y fo hallt [...]
Spardyn
Cydyfed
cyfeddach y baro
Yf hefyd yn hoyw, nes bo rhai yn fedd [...]
A darfod y cwrw a'i spendio
Yno bydd dwndwr a briwo gŵr hwfw
Oni bydde ê gwmpniwr i growsio;
Gelwch yn galed. na
Arbedwch
speriwch ag yfed
Na chwrw na chlared lle bytho
Rhai fydd yn i fwrw rhai fydd yn i gadw
A rhai fydd yn arw yn i
Hyfed
sipio;
Rhai yn eu saesneg, yn ei ffrangeg
A rhai yng wyddeleg yn
Ymddadlu
pledio
Rhai fydd yn tyngu rhai fydd yn cynhen [...]
A'r cythrael yn gwenu'n eu
Gyrchu attynt,
hawnto;
Atto f' eneidie, ceisiwch eich harfe
Nid rhaid i chwi odde ddim gantho
Yno bydd cleisie, ond odid glanastre,
Anhappus yw'r chware lle bytho,
Y cythrael cenfigennus y bradwr,
Twyllodrus
hocte­d [...]
Anghenfil anghenius lle delo;
Nid oes neb heb ei feie, yn llawn o bechode,
Nid ydy rhai gore
Diange
yn scapio;
Na bon hwy'n rhy ufudd yn rhyw feie nai gilydd
Yn dilyn llyferydd y
Y Diafol
Cadno
O Arglwydd gorucha, 'rho ras i ni wella
A chadw blant Adda rhag llithro
Maddeu'n pechode, a dwg ein henedie,
I'r man lle bych dithe'n gorphwyso

[...]ngor i ymgadw rhag lletteua meddylie drwg [...] [...] y galon, ac i troi hwynt i fyfyrio ar ddaioni

MAe holl feddwl dyn ysywaeth,
Gen 6 5,
Gwedi lygru wrth naturiaeth:
[...]i fyfyria ond drygioni
[...]es y darffo ei ail eni,
Nid oes dyn ag all myfyrio;
seddwl da gwnaed goreu ag allo
2 Cor 3 5
[...]es cael gallu Duw a'i radau,
gyfrwyddo ei feddyliau,
Ogweddia'n daer gan hynny
Psal 51 1
Ac ir Arglwydd adnewyddu,
Dy feddyliau a'th amcanion,
I fyfrio ar yr union,
Felly denfyn Duw ei yspryd
I oleuo dy feddylfryd,
Luc 11 13
Ac i newyd dy feddyliau
[...] fwriadu'r hyn sydd orau
Nâd i feddwl drwg letteua,
Yn dy galon rhag dy ddifa,
Jer 4 14
Gwâs yn ceifio lletty i Satan
Bôb yn awr yw'r meddwl aflan
Dôd dy feddwl a'th fyfyrdod
Ar y pethau sydd oddi uchod
Col 3 12
Lle mae Christ dy brynwr hygar
Nid ar bethau s' ar y ddaiar
Rho dy fryd ar bethau nefol,
Ar na sercha ddim daiarol
Meddwl am y wlad y gorfydd,
Aros ynddi yn dragywydd.
Meddwl am y pethau brynodd
Christ ai waed it yn y nefoedd
Heddwch Duw a choron hyfryd
Teyrnas hardd, a
Tragwydd­ol,
didrangc fywyd.
Psal 139
Meddwl dy fod tra fech byw,
Bob rhyw ddydd yngolwg Duw:
A bôd Duw yn gweld d' ymddygi [...]
Ym-mhob mann a chil ei lygad.
Meddwl fod y gelyn gwaedlyd,
Ddydd a nos fel llew newynllyd,
1 Pet 5, 8
Yn troi daetu ith orweddfa,
Bob yn awr yn ceisio'th ddisa,
Meddwl am reoli d' eiriau,
A'th weithredoedd, a'th feddyliau,
Wrth fodd Duw, rhag iddynt beri,
Gwascfa ith enaid ddydd dy gyfri,
Meddwl fal y daw dy Brynwr,
Datc 1 7 Mat 25 10
Yn y cymmylau i chwareu'r Barnwr,
Ac ymgweiria iw gyfarfod,
Fel priod-ferch gwrdd a'i phriod
Rhuf 14 12. Preg 12 14 1 Cor 4.5.
Meddwl fal y gorfydd rhoddi,
Ddydd y farn mor fanol gyfri,
Am y meddwl drwg a'r bwriad,
Ag y roir am weithred anllad.
Meddwl fal yr awn oddi ymma,
Ir ty priddlyd am y cynta,
Mewn Cŵd canfas heb un
Geiniog.
Beni,
Pa bae inni rent Arglwyddi.
Meddwl fod yr angeu aethlyd,
Datc 6 8
Ar farch glâs yn gyrru'n ynfyd;
Fel na ddichon hên nac ifangc,
Rhag ei saeth a'i ddyrnod ddiangc,
Meddwl hefyd y daw Ange,
Megis lleidir am ein penne,
[...]reg. 9 12
Heb un udcorn i'n rhybyddio.
Yn ddi-ymgais i'n anrheithio.
Jac. 4 14
Meddwl nad yw bywyd un dyn
Cloch a [...] ddwr
Ond fel ‖ Bwmbwl ar y llyn wyn,
Neu fel Padell bridd neu wydur,
'Rhwn yn hawdd y dyrr yn glechd [...]
Meddwl fal y rhêd ein heinioes
Job 76 Luc 12 19 20.
Megis llong dan hwyl heb aros
[...]c ŷ dderfydd am ein hamser,
Cyn î'n dybied dreulio ei hanner
Meddwl fod y byd yn gado
Pawb yn llwm i fynd o hono
Ac fel ia yn torri danynt,
Pan bo rheitia ei gymmorth iddynt,
Meddwl na ddaw aur nac arian,
Tai na thir or droedfedd fychan
Gyda neb i fynd ir frawdle.
[...] roi cyfrif am eu beie,
Meddwl pan y delo ange,
Gorfydd gado'r bŷd a'i bethe:
A mynd o flaen Christ yn wisci,
Heb 9 27
Am y Cwbwl i roi cyfri
Meddwl fal y bydd dy dlysseu,
A'th holl olud, a'th holl swyddeu
Yn ymofyn newydd feistri.
Cyn y caffech gwbwl oeri
Meddwl dosted y fydd pechod
Yn dolurio dy gydwybod,
Pan y tafler yn dy ddannedd,
Datc 20 12
Ddydd y farn dy holl anwiredd
Meddwl fal y gorfydd rhoddl
Ddydd y farn ir Arglwydd gyfri
Am bob gweithred ddrwg y wnelom,
preg 12 14 Mat 12 36 Datc 6 15 16,
A'r gair ofer ag y ddwetom
Meddwl fal y bydd gwyr gwychion,
Sydd heb ofni Duw na dynion,
Ddydd y farn yn crio'n scymmyn,
Am ir Creigydd gwympo arnyn.
Meddwl fal y bydd y duwiol,
Datc 7 9. hyd yr 16
Yn y nef mewn braint rhagorol,
Yn clodfori Duw gorucha.
Pan bo eraill yn
Uffern
Gehenna,
Datc 21 8 Marc 9 44
Meddwl fal y mae'r annuwiol
Yn ymdroi mewn tân uffernol
Ar pryf didrangc yn ei bwytta
1 Joan 2 15
Bob yn awr heb gael ei wala
Meddwl am hyn, a dibrissia,
Y byd hwn a'i wagedd mwya:
A myfyria trwy wir grefydd,
Ar air Duw a'r byd na dderfydd
Meddwl dyn a rêd heb orphwys
Ar y drwg neu'r da gyrhaeddwys,
Oni cha'ff beth da i fyfyrio
Ar y drwg fe rêd tra gantho.
Meddwl dyn fel maen y felin
Y dreulia ei hun nes mynd yn gilin
Oni roir rhyw rinwedd dano
Idd i ffalu a'i fyfyrio
Meddwl weithio'r gwaith y bwyntiodd
Dy greawdwr pan ith greuodd
A 'i wasnaethu a'th holl
Nerth sal 84 10
bwer,
Yn dy alwad tra cech amser
Meddwl mae gwell un diwrnod
Yn gwasnaethu'r sanctaidd Drindod,
Na'th holl ddyddiau a'th holl oefad
Yn gwasnaethu dim amgenach
Thess. 5.3
Meddwl cyn y gwnelech bechod
B'wedd i attebi ddydd dy drallod
A pha fodd y gallu ddiangc
Ddydd y farn rhag angeu didrangc
Dôd dy feddwl ar ddaioni
Nâd ar wagedd iddo ymborthi;
Hawdd y gallu ei gyfrwyddo,
Os mewn pryd y ceisi ffrwyno
Hawdd yw diffodd y wreichionen
Cyn y' mafloi yn y nenbren;
[...] 4 7
Hawdd yw newid meddwl aflan
Os gwrthnebyr hwn yn fuan
Tro gan hynny'n ebrwydd heibio,
Bôb drwg feddwl pan ddechreuo;
Rhag ir gelyn mawr ei
Dichell
hocced,
Droi'r feddwl ir ddrwg weithred,
Lladd blant Babel tra font fechgin,
Sang a'r sarph tra foi'n y plisgin,
Tynn y
Cancar
gangren cyn ei gwreiddio,
Torr ddrwg feddwl cyn cynnyddo
Gâd wreichionen fach i gynnu,
Yn dy do, hi lysg dy lettu:
Gad i feddwl drwg letteua
Yn dy galon fe'th anrheithia.
Na letteua feddwl aflan,
Yn dy galon mwy na Satan;
Os lletteui rwyt ti'n derbyn,
Paratowr lle
Yr Harbengir o flaen y gelyn,
Rho dy fryd ar gadw'r gyfraith
A byw wrthi, yn ddiragraith;
1 Thess 5 18.
Ac na ollwng Dduw o'th feddwl,
Ond bendithia am y cwbwl,
Na fwriada ddrwg o'th galon,
I anrheithio dy gyd gristion:
Lev. 19 7 1 Jo. 3 5
Lladdfa
Mwrddwr yw'r fath feddwl gwaedlyd,
Gwachel rhagddo er dy fywyd,
Na thrachwanta wraig cymmydog
Ac na hoffa ei llygaid serchog,
Mat. 5 28.
Nad ith feddwl redeg arni,
Cans godineb yw ei hoffi
Gwachel roi dy fryd na'th fwriad
Zech. 7 10. Dihar 23 10 11.
Ar anrheithio un ymddifad
Trais a blin orthrymder yw
Y cyfryw fwriad o flaen Duw,
Gwachel chwennych Aur nac arian,
Tai na thir, trwy dwyll a chogian
1 Tim 6 10
Nid yw'r cyfryw chwant a bwriad,
Ger bron Duw ddim llai na lledrad
Rhwym dy feddwl, nâd e'i wibian,
Ar oferedd mawr na bychan,
Nac ar ddim na ellech roddi,
Cyfrif
Cownt am dano ddydd dy ddidri.
Cadw'th galon rhag drwg fwriad
Fel y cedwi'th law rhag lledrad:
Marc. 7 21. Zech 8, 17
Mae'n rhaid atteb yn cyn gaethed,
Am ddrwg fwriad, a'r ddrwg weithred

Cyngor i lywodraethu'n geiriau wrth fodd Duw

BId dy eiriau yn wastadol,
Yn gristnogaidd ac yn rassol
Yn rhoi grâs ir holl wrandawyr,
Ac adeiliad tra chymmessur:
Eph 4 29.
Y mae bywyd, y mae Angau,
Yn y tafod, yn y genau:
Dih 13 3.
Gochel ddywedyd geiriau diriaid
Cadw d' enau, cedwi d' enaid,
Dilyn d' Arglwydd yn dy eirie,
Dywaid fel y dywede ynte;
Ni ddaeth twyll na gair anweddaidd,
1 Pet. 2, 22 23, Jac. 1 19. Dih 10 19
Erioed y maes o'i enau sanctaidd.
Traetha'n bwyllog, gwrando'n escud,
Mae dauglust, un tafod gennyd;
Aml eiriau bair cyfeiliorni;
Ni ddaeth drwg i neb o dewi
Cyn y dywedych, meddwl ennyd,
B' wedd y myn mâb Duw id ddywedyd
Yno dywaid'r hyn sydd rassol.
Mat 5 37
A da i adail rhai an-neddfol.
Na ddoed ymadrodd brwnt o'th ene
Eph. 5 4.
Na gair ffol, na choeg ddigrife.
Senn, na ffrost, na
Gwawd
phrwmp, na chelwydd
Oni bid rassol dy lyferydd.
Cadw d' ene rhag gair diriaid,
Felly gelli gadw d' enaid;
Oni ffrwyni d [...]fod anwir,
Psal. 39 1. Mat. 12 37.
Yn ol d' eiriau ith gondemnir.
Arfer iaith ac
Llefe, ydd Psa, 145.1 Col 3.16. Jac 1, 26 Jac. 5, 12 Heb 10 29.
Aeg gwlad canaan,
Bid am Dduw a'i air d' ymddiddan;
W [...]th dy eiriau y cair gwybod,
O bwy wlad yr wyt yn hanffod,
Nâd ith dafod arfer tyngu.
Cig a gwaed yr Arglwydd Jesu:
Rwyt ti'n
Sathru
damsing gwaed y cymmod
Pan arferech gyfryw bechod.
Am air Duw nid oes id yngan
Heb anrhydedd, parch, ac of an;
Ac os cymru ei enw'n ofer,
Di ei'n euog pan ith farner,
Dywaid beunydd leia ag allech,
Dywed yn rassol pan y dwedech;
Oni ddwedi eiriau hyfryd,
Gwell it dwei a sôn na dwedyd,
Gwachel sod yn ddau dafodiog:
Dihar 6.16 17. Joan 8 44
Câs gan Dduw bob dyn celwyddog;
Tâd y celwydd ydyw'r Cythrel.
Gwas ir Diawl yw'r ffalst ei chwedel.
Arfer draethu'r gwir o'th galon,
Zech 8 16 Psal 101 7
Hoff yw'r gwir gan Dduw a dynion;
Ni chaiff dyn celwyddog gredu
Gair o'i wir pan bo'n ei dyngu
Na chno un dyn
Or tu cefn
llwyr ei gefen,
Ac nac arfer gair
Anair, Psal 64 [...] Dih 4. [...]4 psal 140 3. Jac 3 6.
drwg absen;
Gwaeth na chledde llym dau finiog,
Ydyw enllib dyn celwyddog.
Na ddwg dafod drwg anhappus,
Gwaeth yw hwn na gwenwyn lindys,
Gwaeth na marwor poeth yn llosci
Gwaeth na saethe unor Cowri.
1 Pet 2.1. Mat 5 22.
Er fy mendith na lyssenwa
Neb yn rhwyl, neu'n ffol, neu'n
dyn gwag
rhaca,
Rhwn a alwo ei frawd yn lletffol
Mae e'n haeddu tân uffernol.
Gwachel adrodd faint y glywech,
Gwachel ddwedyd faint y wypech
Dywaid wir pan orffo ei draethu;
Nes bo rhaid, gwell weithie ei gelu,
1 Pet 3 8. Lev 19 17.
Bydd ddeallgar pan ganmolech
Bŷdd
Mwyna [...]dd.
gwrteisiol pan cyfarchech;
Bydd gariadus wrth geryddu;
'Bydd drugarog wrth gyfrannu.

Gweddi am lywodraethu'r geirie, a'r geneu wrth fodd Duw;

Psal 51 15
ARglwydd agor fyng wefussedd
I foliannu'th Dduwiol fawredd,
A chyfrwydda di fy nhafod
I ddatcanu maes dy fawr-glod,
Llanw ngenau o'th wir foliant,
Ith fendithio am fy llwyddiant,
Ps. 40 10.
Ath glodfori, Dâd trugarog
Yn y dyrfa fawr luosog,
Llunia ngeiriau
Llywodra­ethu. Psal. 141 3,
llywia'n hafod;
A chyfrwydda fy myfyrdod:
Clo a datclo fy nwy wefys;
Nâd fi draethu ond dy wllys
Arglwydd cadw ddrws fy ngenau,
Nad fi draethu ffiaidd eiriau;
Gwawd
Ffrwmp, na ffrost, na senn, na chabledd
Geiriau ffol, na dim anwiredd
Bid fy myfyrdod fy holl galon,
Psal. 19.14.
Bid fy ngweithred a'm amcanion;
Bid fy ngeiriau oll yn ddiddrwg,
A chymeradwy yn dy olwg,

Cyngor i ddyn fod bob amser ai ymddygiad yn Cristnogaidd.

BId d' ymddygiad yn gristnogaidd.
Yn
fwynaidd
'n gwrteisiol ac yn gruaidd,
Ym mhob tyrfa 'delych iddi,
Megis plentyn i'r goleuni.
Bydd fel feren yn disgleirio;
Bydd fel canwyll yn goleuo,
Bydd fel patrwn o gristnogaeth,
[...]r rhai ddelo [...]'th gwmpniaeth,
Bydd dra Sanctaidd ir galluog,
Bydd yn union i'th gymmydog,
1 pet. 1.15 Tit. 2.12.
Bydd yn sobr it dy hunan,
Dyna'r tri phwynt rheitia allan,
Bydd mor ddiddrwg ac yw'r Glomen
Bydd mor gall ar Sarph drachefen,
Bydd ddioddefgar fal y ddafad;
Hoff gan Ghrist y fath ymddygiad,
Bydd yn dempraidd megis Daniel,
Cadw'r cnawd mewn diet isel,
Gwachel Win a bwyd rhy foethus
Rhag dy fynd yn afreolus,
Eph. 5.18.
Bydd yn * ddiwair, nid yn anllad;
Bydd fel Joseph yn d' ymddygiad
Rwyt ti yngolwg Duw bob amser,
Bydd gan hynnŷ lân a syber.
Dela'n union wrth fargenna;
Na thwyll un dyn wrth farchnatta;
1 Thes. 4.6, Tit, 2, 2
Duw el hun sydd union farnwr,
Rhyng y gwirion plaen ar twyllwr,
Bydd o ffydd a chrefydd union;
Ofna Dduw o ddyfnder calon;
Deut, 6, 13.
Na wna ddrwg o flaen ei lygad:
Ym mhob mann mae'n disgwyl arnad.
Heb 13, 7 1 pet 2 17 Rhuf. 12 18
Dilyn gyngor doeth bregethwyr
Ymddarostwng ith Reolwyr:
Bydd gariadus a'th gymdogion,
Ac beddychol â phob Christion,
Bydd drâ grasol yn d' eiriau,
Psal. 15 4. Mat. 5, 48, Rhuf. 16.16
Bydd yn fedrus yn dy chwedlau,
Bydd yn gywir yn dy bromais;
Bydd ym-mhob peth lan a
ar afaidd
llednais
Bydd di berffaith ymhôb tyrfa;
Bydd fel Sant ym-mhlith y gwaetha;
Er diffeithed y fo'r cwmpni,
Bydd fel Noah ym mysc y cowri.
Cyfarch bob dyn yn dra siriol:
Rhuf. 13.1.7. Lev. 19, 32.
Gostwng i'th well yn gwrteisiol;
Parcha'r henaint a'r Awdurdod,
A rhor blaen i'th well yn wastod.
Bydd ddioddefgar a chymmesur;
Cor. 3 8. Diha 16.32
Na fydd boeth na thwym dy nattur;
Godde gamwedd cyn cynhennu,
Y ddioddefodd hwnnw orfu.
Wrthwyn­ebu
Ymddarostwng i'th oreuon;
Duw ei hun a wrthladd beilchion;
ddiwid Dihar. 16 5.
Ac fe ddyru râs yn * ystig,
I'r rhai ufudd gostyngedig.
Na falchia am un rhi [...]wedd,
Nac am gyfoeth ac anrhydedd
Ond rho ddiolch prudd am danynt,
Rhag i Dduw dy adel hebddynt.
1 Tim. 2 9.
Bydd di gryno yn dy ddillad
Dos yn lan yn ol dy alwad,
Torr dy bais yn ol dy bwer,
Na fydd goeg na brwnt un amser,
Gwachel bechu ir cwmphniaeth
Cyflog pechod yw marwolaeth:
Rhuf. 6, 22.
Cynifer gwaith y bych yn [...]echu,
Cynifer Angeu wyt yn haeddu,
Mae cyfathrach er y dechre,
Rhwng pob pechod brwnt ac Ange;
Fal na ddichon un dyn bechu
Na bo Angeu yn ei lyngcu
Na fydd anllad yn dy chwedle,
Eph. 5.11.12. Esay. 29 15.
Na fydd aflan mewn cornele;
Ym-mhob cornel bid d' ymddygiad,
Fal pyt faed wrth groes y farchnad,
Os cais dyn, na Diawl nac Angel.
Gennyd bechu yn y dirgel,
Zech. 4.10.
Cofia fod Duw a saith lygad,
Ym-mhob man yn disgwyl arnad,
Er nad ydyw dyn yn gweled,
Yn y dirgel lawer gweithred;
Y mae Duw yn gweld y cwbwl,
Jer. 16 17.
Pan na byddo dyn yn meddwl,
Os troseddu yn y dirgel,
1 Cor. 4.5.
Duw ddatcuddia dy holl ‡ gwnsel
Gŷngor
Ac y
Ddatcudd­ia.
faneg dy ymddygiad,
I'r byd yngwydd haul a Lleuad;
Gochel ddilyn drwg gwmpnieth,
Pobol anwir ddigristnogaeth:
2 Thes. 3 6.
Os fe nyrdda rhain d' ymddygiad,
Fel y nyrdda'r pitch dy ddillad,
Fal y hallta'r mor y
gyrhaeddyd
granffo,
O'i Dwr croyw ddelo atto:
Felly nyrdda pobol scymmun,
Foesau'r goreu ddelo attyn
Gochel neidir rhag dy frathu;
Gwachel bla rhag dy ddifethu;
Psal. 26.4.5
Ac o ceri Jechydwriaeth,
Gochel ddilyn drwg gwmpniaeth.
Câr a'th galon bob dyn duwiol,
Psal. 119.36,
Bydd gyfeillgar ar rhinweddol
Dilyn arfer y rhai doethion,
A ffieiddia'r annuwiolion.

Cyngor ynghylch Bwytta ac Yfed.

GOchel eiste i lawr i swytta,
Nes bendithio'r bwyd yn gynta:
Gochel godi pan eisteddech,
Nes rhoi diolch am y fwyttech.
Christ ni fwyttei fara barlis,
Jo. 6 9, 11
Chwaethach bwyd oedd well i *
Flâs Deut. 28, 15.18. 1 Tim. 4, 4 5.
relis.
Nes yn gynta ei fendithio,
A rhoi mawl iw Dâd am dano
Bam y cytcam un dyn fwytta,
Bwyd sy ar felldith er cwymp Adda:
Nes yn gyntaf i fendigo,
A Gair Duw a gweddi drosto.
Tost yw gweled mor nifeiliaidd.
Mor anneddfol, mor anweddaidd,
Y rhed llawer dyn i fwytta,
Bwyd fel buwch a red ir borfa.
Tost yw eu gweld yn cwnnu,
Oddiar ford i fynd i gyscu,
Fel y moch or crwcca ir dommen.
Heb roi diolch mwy na'r Assen,
Nid oes Sôn am ras cyn bwytta.
Nac am fendith Duw gorucha,
Nac am ddiolch gwedi porthi,
Deut. 6 11 12. Deut. 1, 10
Mwy na'r môch y fae'n eu pesci.
Er bod Duw yn rhoi gyrchymmyn,
I bawb yn ôl torri newyn.
Roddi moliant ar yr eitha;
I'r Duw mawr am lanw eu bola.
Gochel fwytta ond dy ddigon,
Na fydd chwannog i ddanteithion,
Mwy na rhaid ô
Ymborth
ffâr lysieulyd,
Bair ir cnawd orchfygu'r yspryd.
Os rhoi ir cnawd fwy na'i gŷfraid,
[...]wyt ti'n porthi gelyn diriaid,
Os rhoi iddo lai na digon,
[...]wyt ti'n lladd cydymmaith ffyddlon.
Nac yf ddiod tu hwnt ei fesur,
Gronyn bach a wsnaeth nattur,
Diod gadarn sydd yn peri,
[...] wŷr nerthol gwympo deni.
Gwin a wnaeth i Noah ymnoethi.
Gen. 9, 21, ar 19.33.
Gwin a yrrodd Lot i ymlosci.
Gwin a dorrodd gwddwg llawer,
Gwin orchfygodd Alexander.
Psal. 6.9.22, Hos. 13, 6.
Nad dy ford yn fagal it ti,
Trwy lothineb câs a syrthni.
Rhag ir gelyn du dy hela,
Gablu Duw yn llawn dy fola,
Mae dau lygad yr ychedydd,
In eu gwaith wrth fwytta ei fwydydd,
Un yn gweld ei ymborth hyfryd,
Disgwyl.
Llall yn gwarchad rhag y barcyd.
Bid dy lygaid ditheu'n waetian,
Ddydd a nôs rhag rhwydeu Satan,
Rhwn y gais a'th fwyd dy faglu.
Wrth giniawia a swpperu.
Pan fo'r ceiliog côch yn bwytta,
Bydd ei lygaid hwnt ac yma,
Rhag ir barcyd llwyd ei scliffiaid,
Tra fo e'n bwytta heb feddyliaid,
Felly bydded dy ddau lygad
Dithe uwch dy fwyd yn gwiliad,
Un yn canfod dy Greawdwr.
Llall yn gwarchod rhag y Temptiwr.
Gôchel fwytta dim a baro,
[...]th gyd gristion gwan dramcwyddo,
Y mae'r Scrythur lân yn gwrafyn,
1 Cor. 8.1.
[...]d trwy fwyd dramgwyddo un-dŷn.
Na châr fwyta bwyd dy hunan,
Dyro rann i'r tlawd a'r truan.
Galw'r gwann i brofi'th ginio;
Rhan a'r hwn s' eb damaid ganth [...]
Ni chiniawe hên Dobias,
Nes cae'r gweiniaid bach oi gwmpa [...]
Ac ni
Archwae­the
chorfte ddim danteithion
Nes rhoi rhann ir bobol dlodion
Job ni fwyttai fwyd yn felus,
Job, 31 17.
Nes bae ymddifaid wrth ei ystlus,
Ac ni bydde iach ei galon,
Nes rhoi cyfran ir rhai tlodion:
Galw dithe'r gweiniaid tlodion,
I gael cyfran o'th ddanteithion,
Luc, 14, 13.14.
Felly gelwir dithe ar fyrder,
I gael rhan or nefol swpper.
Gwachel rwgnach ond bydd fodlon,
I beth bynnag fo Duw'n ddanfon
Bara Dwr oedd ffâr ddigonol,
Gynt ir

Ucheldad­au.

Dan. 1, 12. 2 Bren. 4.42.44. 2 Tim. 6 8 Gen 18.8

Patriarchiaid duwiol,
Daniel bach a fydde fodlon,
Fwytta ffa a ffacbys duon;
A holl feibion y Prophwydi.
Cymrent fara Haidd yw porthi,
Pam na byddwn ninne fodlon,
I beth bynna fo Duw'n ddanfon,
Bid ef lawer bid ef ronyn,
Trwy gael modd i dorri newyn
Crist yn rhith Angel oedd un or tri a fwytadd gydag Abram canys fel gel­wir ef yn far­nydd y Byd.
Fe fu'r Drindod Sanctaidd fodlon
Wledda gydag Abram ffyddlon,
Ar gig Llo a llaeth a menyn,
Bara twym heb fwy o'm heuthyn.
Nawr nid nês gan bob ofer-ddyn,
Er cael bwyd i dorri newyn,
Oni bae cael chwech o seigie,
Gwin a chan i borthi chwante.
Rhaid cael saws, a rhaid cael fineg,
[...]haid cael capera, Sampier garlleg,
[...]yn y gallo llawer fwytta,
[...]yd o fwyd gan faint oi † traha,
Balchder
Y mae'r saws yn awr yn costi,
Yr oes hon mewn gwres a gwegi,
[...]wy nag oedd y breision seigie,
Gynt yn costio i'r hên Deidie,
Gynt ni cheisie Alexander,
[...]aws un amser gyda'r swpper,
Ond y saws oedd yn ei gylla,
Chwant ir bwyd yn ol rhyfela,
Cyrus ynte fyddei fodlon,
I swpperau ar lann afon,
Lle cair ddwr i dorri syched,
Ef ai Filwyr yn eu lludded.
Rhaid yn awr i bobol ofer,
Gael eu gwin ar ginio a Swpper;
Rhaid cael peint neu ddau o glared,
Cyn el tammaid bwyd i wared
Duw ro fara ir bobol dlodion
Duw a'n gwnelo ninne'n fodlon,
Duw faddeuo'n traha i ni;
Duw fendithier am ein porthi.

Gras cyn bwyd.

POrthwr mawr y pum mil gwerin
A'r pum torth haidd a'r ddau byscodyn
Portha ninne dy wael weision,
A'r hyn ymborth wyt yn ddanfon
A bendithia'r bwyd a'r ddiod,
Rhwn a roddaist yma i'n gwarchod
Fel y gwir fendithiaist cyn hyn,
Oen y Pasc, a'r ddau byscodyn,
A rho iddynt rŷm i'n porthi,
I'th wasanaethu a'th addoli,
1 Bren, 19.1,
Fel y rhoddaist rym o'th wiwras,
Gynt ar deisen hên Elias,
A phâr iddynt i'n cymfforddi
A'n cryfhau a'n gwir ddigoni,
Dan. 1.
Fel y peraist ir
Bwyd,
ffâr issel,
Ar y ffacpus borthi Daniel
A nad i ni o'th ddanteithion
Gymryd gronyn mwy na digon,
Ond y maint y fo'n i'n helpu.
Yn ein galwad i'th wasanaethu,
Eithr pâr i'n roddi moliant,
It bôb amser am ein porthiant,
A chydnabod mae Duw
Hollalluog
Celi.
Ginio a swpper sy'n ein porthi.

Grâs yn ôl Bwyd.

POrthwr grassol pôb creadur,
Gwyllt a dôf yn ôl ei nattur,
Psal. 145, 15.16.
Derbyn foliant am ein porthi,
Mor ddigonol a'th ddaioni.
Er pan ddaethom o'r groth allan,
Tydi'n porthaist fawr a bychan,
Am dy fwynder yn ein porthi,
Rym ni bawb yn diolch i ti.
Nid oes gennym ddwr i yfed,
Bara i fwytta grym i gerdded,
Goleu i ganfod nerth i godi,
1 Chron. 29.11.12. Mat, 6.11.
Ond y roddech Arglwydd i ni.
It ti Arglwydd am ein porthiant,
Am ein iechyd am ein llwyddiant,
Am ein heddwch a'n llawenydd
Y bo 'moliant yn dragywydd.

Gras cyn bwyd.

LLygaid pôb creadur bywiol,
Sydd yn edrych Arglwydd grassol,
[...]c yn tristio cael eu porthi,
[...]nnyd Rhoddwr pôb daioni.
Rhwyti'n agor dy law rassol,
Ac yn porthi pôb peth bywiol,
Gan roi ymborth wrth ei nattur,
Yn ei bryd i bôb Creadur,
O bendithia ni dy weision,
A'r holl fwydydd a'r dainteithion,
Y bartoaist ar ein meder,
I'n digoni ginio a swpper,
A rho inni râs i fedru,
Bawb yn ddyfal i'th glodforu,
Am dy
Gofol
garc, a'th rodd, a'th fwynder,
Yn ein porthi ginio a swpper.
DUW dod fendith ar ein hymborth,
Duw rho iddynt rym a chymmorth,
Arall [...]yn bwyd.
In digoni a gwir gryfdwr,
Ith wasanaethu di'n Creawdwr,
Er bôd llawer bwyd yn
Foethus
ddainti;
Nid oes ynddynt rym i'n porthi,
Nac i dorri dim o'n newyn.
Oni roi dy fendith arnyn:
O gan hynny; Duw bendithia,
Yr holl fwydydd a roeist ymma;
Fel y byddo pwer ynddyn.
Borthi'n cyrph a thorri'n Newyn.
Lle mae llawer sort o fwydydd,
Yn troi'n eri yn ein colydd,
Am eu cymryd yn afradlon,
Ac yn magu câs glefydion,
Rho dy râs inn' Arglwydd sanctaidd
Gymryd pôb bwyd yn dymheraidd
Fel y gwnelont lessiant inni.
Ac na fagont, haint na syrthni,
Rho rym ynddynt i'n cyfnerthu,
Yn ein galwad ith wasnaethu,
Ac i foli d' enw'n wastad,
Er mwyn Jesu Grist ein ceidwad.
DErbyn Arglwydd loi'n gwefufedd,
Cras yn ol bwyd:
Am dy ffafar a'th drugaredd,
Yn ein porthi mor ddigonol,
A'r creaduriaid sydd bresennol.
Derbyn Ddiolch ar ein dwylo,
Am roi inni gystal cinio,
Er nad ydym yn ei haeddu,
Mwy na'r sawl sydd yn newynu,
Rhoed pôb gene ag y borthaist,
Foliant itti am y roddaist,
Ninne roddwn it' ogoniant,
Yn dragywydd am ein porthiant,

Gras cyn bwyd.

DUW mawr o'r nêf sancteiddia,
Ni oll a'r ymborth ymma,
Wyt ti'n roddi wrth ein rhaid,
I'th blant a'th ddefaid borfa,
A phâr i ni gydnabod,
Fôd pôb daioni'n dyfod,
Oddi-wrthyd [grassol wyd]
Yn oed a bwyd a'r ddiod.
A dysc in' bawb foliannu,
Dy enw a'th glodforu,
Am ein porthi'n well na neb,
Bôb amser heb ei haeddu.
Ac er mwyn d' anwyl blentyn
Yr ym ni'n daer yn
Deisyf
canlyn,
Arnad roddi bara a dwr
I'r neb seb swccwr ganthyn,
A rhoddi grâs i ninne,
[...] wasanaethu nôs a bore.
[...]s ein dyccer lle mae'n
Chwant.
blys,
[...]h nefol lŷs a'th Gartre;
Lle mae gwir fwyd a diod,
[...]n para byth heb ddarfod,
[...]n dy blâs lle mae dy blant,
[...]eb arnynt chwant na thrallod.

Gras gwedi bwyd.

DUw pam yr wyt i'n porthi,
Mor foethus ac mor ddeinti,
Yn wastadol heb ddim trai,
A gadel rhai mewn tlodi?
Pa ham yr wyt yn danfon,
[...] ni dy waelaf weision,
[...]wy nag sydd raid i ni ym mhell,
A gado'n gwell yn llymion?
Cans yr ym yn cyffessu,
Nad ydym neb yn haeddu.
Cael mwŷ swccwr ar dy law,
Na'r neb sy draw'n newynu.
Ond dy fod ti o'th fwynder,
A'th gariad a'th drugaredd,
Yn rhoi inni fwy ym-mhell,
Na'r sawl sydd well ei buchedd
Ar hyder y rhoem ninne,
Fwy ddiolch byth i tithe,
Na'r sawl sydd mor llwm ei
Ymborth.
ffâr,
[...]th foli ar ei glinie.
I ti gan hynny rhodder,
O'n geneu ni bôb amser,
[...]lôd a moliant tra ynom chwyth
[...] ginio byth a swpper.

Gras cyn Swpper.

COdwn bawb ei pen a'n
Wynebpryd
ffriw
At Ghrist 'rhwn yw'n
Paratowr drosom
profeie [...]
A chanlynwn arno e'n daer,
Roi fendith ar ein Swpper,
Mae e'n porthi pôb peth byw,
Er maint o'i rhyw a'i [...]ifer,
Ag yn rhoi i'r rhain i gyd,
Eu bwyd mewn pryd a themper
Nid yw un o Adar tô
Yn descyn na bo i fwynder,
Erys.
Yn partoi i hwn ar * hast.
Ei ginio, brecffast, Swpper,
Pa faint mwy y
Ofala.
carcca Duw,
Am ddyn rhwn yw ei
Ei lun
bicter,
A rhoi iddo 'i raid bob tro,
Ond bwrw arno ei hyder?
Mae e'n rhoddi i ddyn, yn fwyd
Y grewyd ar ei feder,
Llyssie, llafur, 'nifail glan,
Pŷsc. adar mân heb nifer,
Ni wnaeth Duw un gene' rioed.
Mewn tir, mewn coed, mewn dyfnde
Nes partoi ei ymborth tyn
I'r geneu cyn ei ganer,
Llawer rhyw o nifail glâu,
A physcod mân ac adar,
Y rodd Duw i borthi dyn,
A'i lladd bob un cyn bwytter.
Pam nad ystyr dynion hyn?
A rhoddi cyn y cymrer,
Glod a moliant * prudd bob tro
Ir Arglwydd ginio a swpper
Duw agoro'n llygaid dall,
[...] weld heb wall a rodder,
A'n geneue ar bob cam,
Iw foli am ei fwynder.
Clod a moliant bob rhyw awr,
Ir Arglwydd mawr y rodder;
Am ddiwallu'n cylla gwâg,
Ar ginio ag ar swpper,
Dl lenwaist Christ ein cylla,
Ag ymborth o'r dainteithia:
Gras yn ol cinio,
Llanw eneu pawb o'th Blant,
A moliant am eu Bara.
Yn foethus iawn di'n porthaist,
Yn rasol di'n diwallaist,
Rho i ni weithian ras bob cam
[...]th foli am y roddaist.
Di roddaist inni'n cinio,
Ac ymborth in
cynnal
maintumio;
Rym ni'n rhoddi nôs a dydd,
It foliant prydd am dano.
Mae dyled arnom roddi.
It' foliant am ein porthi,
Oh! rho galon inni a chwant,
I roi mawr foliant itti.
Pob Bol ag wyt yn lanw.
Clodforent byth dy enw;
A bendithient ar bob cam,
Dy fawredd am eu cadw.

Arall yn ol Swpper,

RHown foliant prydd bob amser,
difrifol
Ir Arglwydd ginio a swpper.
Am roi ymborth in mor hael,
Heb adel
diffyg,
ffael na phringder
Rhown iddo ddiolch hyfryd,
Am gael êin bwyd a'n jechyd,
A'n llawenydd a'i fawr ras,
In cadw
Allan.
maes o ofyd.
A cheisiwn gantho'n rasol,
Er mwyn ei fâb sancteiddiol
Borthi'r enaid yn ei bryd,
Ai air, a'i yspryd nefol.
A thywallt ei fendithion.
Ai ras yn ddyfal arnon.
Fel y gallon nos a dydd,
I foli'n brydd o'r galon.

ARALL

GWyr a gwragedd, gweision, plant,
Rhown foliant am ein porthi,
I'r hael Dduw s'o bryd i bryd
Yn rhoi maeth hyfryd inni,
Mae'n diwallu pob peth byw,
Bôb pryd a rhyw ddaioni,
Ac o'i law. o'i râs, a'i rôdd,
Yn rhoddi mōdd i'n peri.
Mae'n rhoi bara inni o'r ddâr,
A gwyllt a
dof.
gwâr i'n pesci,
Pysc o'r môr a mêl o'r graig,
A llawer saig heb enwi.
Mae e'n porthi pôb rhyw gnawd
Fel un dan fawd ei costi,
Heb anghofio'r adar man,
Na'r llew, na'r fran sy'n gweiddi,
Mae e'n porthi dyn yn rhin
Psa. 147.9.
A chan a gwin yn
Moethus
ddeinti,
A brwd â rhost o lawer rhyw,
Heb neb ond Duw'n i peri.
[...] rhown ninne foliant prydd,
[...]ob nos, bob dydd heb dewi;
[...]r hael Dduw am dan ei
Help,
borth
[...]y'n rhoi'r fath ymborth inni.

Cerydd am esceulusso ceisio bendith ar. a rhoi diolch am ymborth.

FE gwylyddia hên ddŷn bâs
Brwnt.
Ddechreu'n henwr ddwedyd grâs;
[...]ultach oedd i hwn gwilyddio,
Fod ê cŷd heb i
Arferid
bracteisio,
Na chwilyddied un rhyw ddyn,
Mat 15 36
Ddilyn arfer Christ ei hun;
Ond cwilyddied pob ofer ddyn
Arfer bwytta ei fwyd fel mochyn
Fe nebydd ych, fe nebydd assen,
Pwy yw porthwr, pwy yw perchen;
Esay. 1.3.
Ac y roddant ddiolch iddynt,
Yn y meder y fo ganthynt.
Llawer dŷn yn waeth na nifel.
Ni adwaenant Ghrist eu Bugel,
Rhwn sy'n wastad yn eu porthi,
Act. 14.17
A'i trwm lwytho â daioni.
Y mae'r adar bach yn canu,
Clod i Dduw yn ol swpperu,
Ac yn rhoddi moliant iddo,
Nes bo
Llawenydd
llewyrch i 'ni gwrando,
Mae'n hwy bob un yn ymdynnu
Am y gore allo ganu;
Mawl ir Arglwydd nos a bore,
Sy'n rhoi bwyd i lanw eu bolie
Y mae dynion hwynte'n tewi
Gwedi'r Arglwydd mawr eu porthi.
Heb roi clod na moliant iddo
Mwy na'r pysc s' eb lafar gantho▪
Ond na dyle'r fath gan hynny,
Fod yn uffern yn newyn u?
Eisie nabod Duw'n ei cymmorth,
A rhoi diolch am eu hymborth,
O na fydded un-rhyw Gristion,
Yn gyffelyb ir fath ddynion;
Ac o byddant yn
Ddi ddi­stawrwydd. Gweddi,
ddigwnsel,
Maent hwy'n waeth nag un anifel,
DUW Nâd inni fwytta o'th ddonie,
Fel y bwytty'r moch afale
Heb dderchafu pen na llygad,
I weld o ble maent yn dwad.
Ond par inni godi'n pennau
A chydnabod fod y donniau
Oll yn dwad sydd i'n porthi,
Oddiwrthyt Tad goleuni,
A phar inni foli d' enw,
Am dy fwynder yn ein llanw,
Ath fendithio yn dragywydd.
Am ein iechyd a'n llawenydd.

Cyngor i gyfrannu a'r anghenus yn ol ein gall [...]

GWae'r goludog di dosturi,
Gaeeo, Dih 21, 13,
Stoppio ei glust rhag gwrando tlo [...]
Fe gaiff hwnnw ddyfal grio,
Yn y pwll, heb neb iw wrando.
Pan bo ei wraig, a'i blant, a'i draffe
Uffern cerraint
Yn chwdu'r gwin yn hai Tafarne,
Ynte fydd mewn carchar caled.
Heb y dwr i dorri ei syched.
Jaco ddyweid nad oes crefydd;
Luc. 1.27. Jac. 2, 14.15.16, 17.
Na Christnogaeth yn y cybydd:
Ni ddiwallo'r gwragedd gweddwon
Yn ei hadfyd, a'r rhai tlodion
Ifan anwyl ynte ddwede▪
1 Jo. 3.17
[...] gwel carl ei frawd mewn eisie.
Ac heb roddi dim iw † swccrio,
gynorthwyo
Nid yw cariad Duw ddim ynddo.
Christ y ddywaid i'r a'r Camel.
Mar. 10.25
Trwy grai'r nodwydd yn ddi-drafel
Cyn yr êl y carl goludog,
I'r nef, os bydd yn anrhugarog
Christ a'n rhoddodd yn Stiwardiaid,
goruchwyl­wyr.
I gyfrannu rhwng y gweiniaid,
Y dâ roddodd dan ein dwylo,
Rhannwn rhyngthynt rhag ei ddigio
Os bydd marw un rhag newyn,
Bydd gwaed hwnnw ar ein cobyn:
Ni all cyfoeth mawr yr holl-fyd,
Wneuthur iawn am dan ei fywyd.
Rho dy gardod yn ddi-attal,
Os bydd llawer dyro'n amal,
Os bydd ychydig dyro ronyn,
[...]nd rho'n llawen heb ei wrafyn
Dyro'n siriol dy elusen,
Hôff gan Dduw bôb rhoddwr llawen,
Dyro 'roddech yn garjadus,
2 Cor. 9.7. Luc. 14.13.14.
Ni fyn Christ un rhodd wrthnebus.
Er na roech i'r tlawd ond cyfran
Er mwyn Christ o'i dda ei hunan,
Mae e'n addo gwabar ffrwythlon,
Am gyfrannu hynny i'r tlodion.
Na ddihiria hyd y foru,
Roi'r peth allech roddi heddu:
Dih. 3.27.28. Gal. 6.10
Rho yn rhwydd a rho Yn hawddgar,
Di-flâs y fydd rhodd ddiweddar
Rhown medd Paul tra genym bwer,
Gwnawn ddaioni tra chawn amser:
[...]' all y
Tywysog
; Monarch mwya heddu,
Fod yn begian dwr y foru.
Roedd gan Difes wrth giniawa
Lawer saig o'r bwyd
Maethusa,
danteithia
Nid oedd gantho ar ei swpper,
O'r dŵr oer mewn fflam a phoethder
Wrth frecwasta ar ddanteithion,
Ni chae Lazar gantho o'r briwsion
Wrth swpperu ni chae ynte.
Ddafan dwr er maint y grie,
Fe roi'nawr y byd am lymmed,
O ddwr oer i dorri ei syched,
Pes rh [...]'r nef ar ddaer am droppyn
Dafn
O'r dwr oer nis cae er
Ceisio
canlyn
Nid oes gantho o'i holl olud,
O'r dwr oer yn uffern danllyd,
Ni bydd gan y llawna ei Gistie
Foru o bossib fwy nag ynte
F' aeth mor noeth mor llwm oddiyma
Ac y daeth ir byd o'r cynta
Pe cae e'r nef am hanner ffloring
Nid oes gantho iw phrynu or ffyrling
Heddyw gall y gwyr goludog,
Rannu llawer ir newynog
E' alle foru trwy ryw ddamwain
Na bydd ganthynt ddim eu hunain
Rhown gan hynny tra 'peth genym
Ir dyn tlawd i dorri newyn;
Foru o bossib ni bydd dimme,
I gyfrannu ir mwya ei eisie,
Esay. 58 7.8.
Torr dy fara ir newynllyd
Fe fendithia Duw dy olud:
Ni bydd llai dy gig i'th grochon
Er y roddech i rhai tlodion,
Bren. 17
Ni bu'r weddw o Sarepta
D [...]ottach er y gâdd Elisa,
Ni bu llai ei hoel na'i thoesyn,
Er rhoi teisen iddo o ronyn.
Gwelais lawer o'r gwyr mawrion,
Dih. 22.16.
Yn cyrwydro am dreisio tlodion,
O [...]d ni welais gwedi 'ngeni,
Ddyn ar feth am helpu tlodi,
Goegedd,
diogi
syrthni, trawsedd,
gwneuthur
traha.
Helodd lawer i gardotta:
Oni ni yrodd roddi Cardod,
Ddyn erioed i fynd ar anffod.
Gwyn ei fŷd medu Brenin Dafydd,
Y dyn dynno'r tlawd o'i gystudd:
Duw ei hun mewn amser adfyd,
Ai tynn ynte maes oi ofyd.
Psal, 41.1 2, 3,
Duw a'i gwared o'i drollodion,
Duw a'i ceidw rhad gelynion,
Duw ei hun a gweiria ei wely,
Dih. 19.17.
Pan fo claf heb allel cysgu.
Rhowch ir tlawd eu rhaid yn echwyn
Christ ei hun a'n feichie trostyn
Ac y dâl i chwi drachefen,
Maint y roddoeh wrth eich angen:
Pwy ond iddew brwnt ni
anturia Mar, 10 29, 30.
fentre?
Roi yn echwyn ir fath feichie
Rhwn sy'n talu ar ei ganfed,
I ddyledwyr ei holl ddyled,
Rychi'n tristio gwaeth meichneon,
Na mâb Duw am swmpe mawrion,
Trystwch Grist am grach dipynne
Geisio'r tlawd mae'n abal meichie,
Mae e'n-talu ar ei ganfed,
I bob Christion ei holl ddyled:
Dwl yw'r cybydd ni all hebcor,
Dim ir tlawd am gymmaint occor
Ennill
Nid oes occor wi'n ei nabod:
Fwy ei fael nag occor cardod;
Mae'n dwad adref ar ei chanfed;
Pan fo rheittia cael ei gweled,
Nid oes drysor ar ddaiaren,
Well na chardod ac elusen:

Duw arad obrwya y rhai y roddant el­usennau o gariad atto ef.

Mat 10.42 Ond o her­wydd bod ein gweithredo­edd goreu ni yn amherff­aith nid yd­ynt hwy yn haeddu byw­yd tragynyd­dol.

Esay 64.6 Luc. 17.10. Gal. 2 16 Er hynny lle bo ffydd y mae gweith­redoedd da: Mar 7 17 Jac. 2.18

Hi fydd gwell yn nydd dy drallod,
Nag aur coeth ac Arian parod
Fe dreulia'r Aur fe ryda'r Arian,
Fe fwyty'r pryfed lawnd a Sidan,
Fe lwyda'r bwyd fe sura'r ddiod,
Nid oes dim all gwaethu Cardod,
Pan losco'r byd yn wenffiam ole,
A'r tai a'r tir a'r holl dryssore.
Fe fydd cardod uwch-law'r boban,
Ym Haradwys yn dy
dwr y by­wyd.
waetian * ddisgwyl
Pan ddel Ange glâs i'th geisio,
Fynd i'r barr yn noeth i ympirio,
Goreu stor medd Christ yw cardod,
Ddydd y farn o flaen y Drindod
Pan bo'r tai, a'i tir, a'r trasse,
Gwedi'th ado dan law ange,
Fe fydd cardod yn dy ddilyn,
Nes dy ddwyn i Lŷs y brenin.
Mwy o ennill sydd yn dyfod,
I'r dyn sydd yn rhoddi cardod,
Nac ir tlawd sydd yn ei dderbyn
Mae'n e'n cael llawer am y gronyn.
Fe geir manna am y briwnsion
Aqua Vitae am ddwr afon.
Gwisc ddisgleirwen am hên gadach,
Ar law Christ a'i wir gyfeillach,
Gwna gan hynny ffrins o'r golud,
Ac or Mammon oll sydd gennyd,
Felly ith dynner ar ddydd tywyll,
Attynt ir dragywyddol bebyll.
Luc. 16 9.
Storir lle bydd dy breswylfod
Gwerth sydd gennit dyro gardod,
Na wanffyddia fel dŷn llanas,
Werthu Tyddyn i gael Teyrnas,
Gyrr o'th flaen yn nyrnau'r tlodion,
[...]ryssor lle na speila'r lladron,
[...]drych beth a roddech iddyn,
[...] law Christ y cei i dderbyn
A roech i'th wraig a'th blant a'th drase
[...]y wraig ath blant ath ffrins a'u pie:
Y roech i Grist ar tlawd a'r truan,
[...]torio'r wyt i ti dy hunan.
Tryssora oth flaen ir nefol Bebyll;
Luc. 12 33.35.
Dod olew i'th lamp mae'r ffordd yn dywyll
Gwna bwrs di-draul o'r da ni dderfydd
Mae Christ ei hun yn rhoi it rybudd.
Haua'n amal tra cech amser,
2 Cor. 9.6,
Fel y rhoddo Duw it bwer!
Ar ei ganfed di gei fedi.
Yn ei bryd▪ oni ddeffygi.
Torr dy fara i'r newynog,
Gal. 6.9,
A di llada'r noeth anwydog,
A'r cyrwydrad dyro lettŷ.
Esay. 59.7.
Duw ei hun sy'n erchi hynny.
Byd yn llygad i'r rhai deillion
Traed i'r Cloff a nerth i'r gweinion,
Job. 29 12 13, 15.16.
Rhyscwy'r weddw car dieithriaid,
Mam a thad ir plant ymddifaid.

Cyngor i bob penteulu i lywodraethu ei dŷ yn dduwiol

OS mynni sod yn ddyn i Dduw
Yn Gristion sanctaidd tra fech byw
Gwna dy dŷ yn Eglwys fechan
A'th deulu'n dylwyth Duw ei hunan.
Gwna dy dy yn Demel
gyttun
gysson,
Gwna dy dylwyth fal Angelion
Yn eu gradde o bob galwad,
[...] wasanaethu Duw yn ddifrad,
Gwna dy dŷ yn demel sanctaidd,
I addoli Duw yn weddaidd,
Gan bob enaid a fo ynddo;
Foreu a hwyr yn ddi-ddeffygio,
Dewis feini o bobl rasol.
Gwedi
naddu.
sgwario i gyd wrth reol
Yn byw yn sanctaidd ac yn gymwys,
I adeilo dy lân Eglwys,
Nad un maen anghymwys ynddi,
Nac un drwg ddyn ddwad iddi
Nid rhai aflan ond rhai cymmwys,
Y fyn Duw yn feini Eglwys.
Tro'r mae'n aflan oll oddiwrthyd,
Ni fyn Duw'r fath feini sarnllyd;
Tŷ i Grist, nid ty i Gythrel,
Y fydd d' Eglwys di ath Demel:
Ffittiach ydyw pobol aflan?
Fod yn fain i gorlan Satan,
Ac yn danwydd uffern drist,
Nac yn fain i Eglwys Grist,
Main anghymwys main afluniaidd,
Sy'n anffurfio Temmel gruaidd:
Dyn aneddfol dyn anesmwyth.
A bair anglod ith holl dylwyth.
Na ddod glogfain câs anghymwys
Heb ei scwario yn dy Eglwys
Ac na dderbyn i'th dy deddfol
Rai di grefydd at rai grassol.
Ni wna meini câs anghymmwys,
Ond diwreiddio gwelydd d' Eglwys,
Na'r rhai a flan drwg di grefydd,
Ond troi'th dŷ ai dorr i fynydd,
Gyrr yr aflan ffwrdd oth deulu.
Cyn y ceisiech Grist ith lettu:
ni ddaw Crist i gysuro neb ond y Sainct
Ni ddaw Christ ir lle ammherffaith,
Nes troi'n gynta'r aflan ymmaith,
Jo. 14.23
Byth ni chydfydd mewn un Demel,
Wir blant Duw a phlant y cyth [...]ael,
Mwy na'r gwenin bach a'r mwg,
Mor yspryd glan a'r yspryd drwg,
Ni thrig Brenin lle bo môch;
Brwnt ei buchedd, cas ei rhoch;
Ni thrig Christ a'i Yspryd gwiwlan
Yn yr un tŷ ar rhai aflan.
Os bydd ith dy rai digrefydd
Meddwon, marllyd, ac anufydd,
Tro hwy
allan
maes fel Dafad Glafrllyd,
Rhag Clafrio'r faint sydd gennyd,
Fel y bwriodd Abram Ismael
Ffwrdd o'i dŷ, am chwareu'r Rebel,
Gen 21.
Felly bwrw dithe'r aflan,
Ffwrdd o fysc dy dylwyth allan;
Ni adawe Dafydd Frenin,
Was annuwiol yn ei gegin;
Psa, 101.7,
Na ad dithe ddrwg weithredwr
Yn dy dŷ nac yn dy barlwr
Un gwas aflan a bair anair,
Onest,
I laweroedd o rai † diwair:
Nâd gan hynny'r aflan orphwys
Yn dy dŷ nac yn dy Eglwys
Myn rai duwiol ith wasanaethu,
Os dedwyddwch a chwennychu,
Duw fendithia waith y duwiol,
Pan ddel aflwydd ir anneddfol.
Gwâs fel Joseph Duwiol geirwir,
Y dyn bendith ar ei feistir:
Jos. 7.25.
Ond y drwg ddyn megis Achan
All
nafu
andwyo'r tŷ ar Gorlan,
Os bydd gwas crefyddol gennyd,
Duw fendithia dy holl olud;
Fel y gwnaeth ef er mwyn Jago,
Gen. 30.30,
I holl olud Laban lwyddo,
Gwell gwas duwiol,
Addfwyn
llariaidd, llonydd
A dyn lwyddiant ar dy faesydd,
Na'r digrefydd goreu gaffech,
A dyn aflwydd ar y feddech.
Gwell y llwydda gorchwyl gwâs
Diddrwg, llariaidd, llawn o râs,
Nag y llwydda gwaith anneddfol,
Gwâs digrefydd grymmus graddol,
F' all gwasanaethwr doeth crefyddol,
1 Pet. 3.1 2,
Droi i feistr fod yn ddeddfol,
Fal y dichon gwraig y
digred,
Pagan
Droi ei gwr yn Gristion gwiwlan,
Oni cheisi bobol ddeddfol,
Ith wasanaethu yn gresyddol,
Byth ni bydd dy dŷ yn Demel,
Ond yn wal a
guely.
glwth ir Cythrel.
Nid wyd nes er gweision Cryfion,
I gyflawni dy orchwylion:
Oni byddant hefyd (Clyw)
Grŷfi gwplau gorchwyl Duw.
Na fyn un ith dŷ a'th drigfa,
Nes bo o deulu'r ffydd yn gynta;
Nac un gwâs tra fyddech byw
Nes bô'n gynta'n wâs i Dduw.
Ni fyn Eglwys Dduw it dderbyn,
Twrc na Phagan itti'r Cymmun;
Na fyn dithe yn dy Deulu,
Rai di grefydd ith wasanaethu.
Ni bydd gwas digrefydd cywir,
Nac ir Arglwydd Dduw na i feistir;
Cans arferol ir fath ddryg wâs,
Werthu feistir megis Suddas.
Cais gan hynny bobol sanctaidd,
Pobol dduwiol, pobol weddaidd,
Ith wasanaethu tra fech byw,
Os gwnei dy d [...], yn Eglwys Dduw
Bydd dy hunan yn oleuni,
Ac yn batrwn o ddaioni,
[...]th holl bob ol mewn sancteiddrwydd,
Glendid buchedd, ac onestrwydd,
A rho siampl dda i ddilyn,
Yn y neuadd, yn y gegin;
Mewn gair, gweithred, ac ymddygiad,
I bob rhai fo'n disgwyl arnad.
Rhodia gyda Duw fel Enoc,
Bydd bob amser yn
Gochelgar
wagelog,
Cofia fod Duw a saith llygad
Ym mhob man yn disgwyl arnad,
Gwachel ddwedyd dim nai wneuthur
Ond y fytho tra chymessur;
O flaen Duw a chroes y farchnad,
A phar gofio hyn yn wastad.
Bydd mor sobr, bydd mor sanctaidd
Bydd mor gynnil, bydd mor weddaidd
Bydd mor ddeddfol, bydd mor gymmwys
Yn dy dŷ ac yn dy Eglwys.
Y mae dyled ar Ben-teulu.
Ddysgu dylwyth wir grefyddu,
Nabod Duw a chadw ei ddeddfe
Credu yn Ghrist a'i ddoli yn ddie
Fel y dysce Abram ebrwydd
Bawb oi dŷ i ofni'r Arglwydd,
Gen. 18 19.
Felly dysc dy blant ath Deulu
I nabod Duw a'i wir wasanaethu,
Jo. 17 3.
Dysc dy blant a dysc dy bobol,
I wir nabod eu Tâd nefol
A'r Jachawdwr a ddanfonwys
Dyma'r ffordd ir nef yn gymmwys,
Planna gyfraith Dduw yn wastadol,
Yng halonne pawb o'th bobol;
Sonia am danynt hwyr a bore,
Y mewn y maes wrth rodio ac eiste.
Deut. 6, 6. 7, 8.
Duw sy'n erchi'r Tadau ddangos
Deddfau'r Arglwydd iw holl blantor
A rhoi'n laesie ar eu dillad
Er mwyn cofio gair Duw'n wastad.
Darllain bennod or scrythure,
Ith holl dylwyth nos a bore;
Par i bawb
all adrodd Jac. 1, 22.
repeto allont,
A byw'n ol y wers y ddyscont,
Bydd Reolwr, bydd offeiriad,
Bydd Gynghorwr, bydd yn
Barnwr
Ynad,
Ar dy dŷ, ac ar dy bobol.
I reoli pawb wrth reol.
Bydd Offeiriad iw cyfrwyddo,
Bydd Gynghorwr iw rhybyddio
Ac i draethu'r fengyl iddynt,
Ac i brudd weddio drostynt.
Bydd reolwr i
gymmell.
gompelio,
Ac i gospi'r rhai droseddo,
Ac i beri bawb oth bobol.
Fyw'n gristnogaidd ac yn
Ag arfe­rion da gan­thynt,
foesol.
Bydd di Farnwr i gyfrannu,
Union farn, rhwng pawb oth deulu
I roi tâl ir da a'r duwiol,
A diale ir anneddfol,
Gwna di gyfraith gyfiawn gymmwy [...]
I reoli'th dy a'th Eglwys:
Par ith bobol yn ddiragraith,
Fyw yn gymmwys wrth y gyfraith
Dysc i bawb yn gynta ei dyled;
Dangos b'wedd y dylent fyned,
Gwedi dyscu'r gyfraith groyw,
Par ir wialen beri ei chadw,
Bydd a'th law, a bydd a'th lygad.
Yn llwyr ddisgwyl ar eu ymddygiad
Nâd i neb, ar air na gweithred
Droi ar draws heb gerydd caled
Pâr i bawb o'th Dŷ ddiscleirio,
[...]egis seren yn goleuo,
[...]n rhoi llewyrch dysc ac
Anrhyd­edd
urddas
[...] bob rhai fo'n trigo o gwmpas
Par ith dylwyth di ragori,
Newn duwioldeb a daioni
[...]el'r oedd tylwyth Noe dduwiola
In rhagori'r holl fyd cynta.
Par ith wraig fod megis Seren
Siriol, sanctaidd, lonydd, lawen
Yn esampl o Sancteiddrwydd,
Mewn gair, gweithred,
Jer. 35.6.
ac onest [...]wydd
Par ith holl blant fod yn foesol,
Yn gristnogaidd ac yn rassol,
Yn ymostwng iw rhieni,
Fel plant Rechab yn y stori.
Par ith Dylwyth fod yn ffyddlon
Megis tylwyth tŷ Philemon,
Rhwn y wnaeth ei Dŷ yn Eglwys,
Gan mor sanctaidd ei rheolwys.
Par ith bobol fyw mor gymmwys,
yn dy Dŷ ac yn dy Eglwys,
Ac mor sanctaidd ym-mhob Cornel
A pha baent ynghorph y Demel
Nad hwy ddangos gwaeth cŷnheddfe
Nâd hwy wneuthur fryntach castie,
Yn y tŷ nag yn yr Eglwys,
Ond par iddynt fyw yn gymmwys
Nâd hwy dorri un gorchymmyn,
Or rhai lleia heb ei gwrafyn,
Nâd hwy ddylyn un drwg arfer,
Heb eu cyffroi wella ar fyrder,
Nâd i fawr na bychan dyngu,
Dih. 26.3. ac 23.13.14.
Enw'r Arglwydd mawr. na'i gablu
Na dibrissio gwaed y cymmod
Heb roi dial am ei bechod.
Nâd hwy drelio'r Sabboth sanctaidd
Mewn oferedd anghristnogaidd;
Nac mewn gloddest a phibyddiaeth,
Heb roi union gospedigaeth,
Nâd un wrando'r gair yn ofer
Heb ei ddilyn gwedi clywer;
Ai ail gnoi a sôn am dano,
A byw'n ol y wers y ddysgo
Nâd un fynd y nôs i gyscu
Nes penlinio wrth ei wely;
Ac addoli Duw yn gynta,
Cyn y rhoddo iw gorph esmwythd [...]
Nad un fynd y nos i gyscu
At un gorchwyl mawr na bychan
Nes addoli Duw'n ei stafell.
Ar ei ddaulin heb ei gymmell.
Nâd un daro ei law ar Arad,
Nac ar orchwyl o un galwad;
Nes y Cotto ei law yn gynta,
Am gael Cymmorth Duw gorucha,
Nâd un fyned i siwrneia,
Nac i forio, nac i ffeiria,
Nes ymbilio'n daer a'r Arglwydd,
I ddwyn adre yn ddi dramcwydd.
difrifol
Nâd un arfer megis mochyn,
Fwytta ei fwyd a llanw i growyn
Nes bendithio'r bwyd yn gynta
A chydnabod Duw gorucha.
Nad un godi megis nifel,
Gwedi llanw ei fola a'i fottel;
Heb roi diolch
Gofalus.
prudd a moliant,
Ir Tad nefol am ei borthiant.
Nad fod un o'th deulu'n eisie
Ar wasanaeth, nos na bore:
Wrth wasanaeth, Duw bydd ‡ garco [...]
Nas gwasanaetho neb e'n 'scelus,
Nad hwy arfer geirie lloerig,
Nac ymadrodd brwnt, llygredig
Sen na rheg, na llw, nac enllib,
Fsrwmp, na ffrost, na dim cyffelyb
Dysc dy blant, a rhwym dy bobol
I arseru geir [...]au grassol.
Geiriau baro maeth a chyssur,
Gras ac urddas ir gwrandawyr.
Nad hwy arfer castie bryntion
Nad hwy watwor pobol wirion:
Nad hwy gablu rhai anafus,
Na buchanu'r tlawd gofydus.
Nad hwy
Yfed
chwiffo yn y Seler,
Nad hwy feddwi ar un amser;
Nad hwy ‖ sugno mwg o'r ddalen,
gormod o'r Tobacco
Sydd yn spelio'r bol a'r cefen.
Nad hwy hoffi ffasiwn anllad.
At ei gwallt nac ar dillad;
Par i bob un fynd yn weddaidd
1 Cor. 11 14
Fynd yn gryno ac yn gruaidd.
Ar y Sabbath nad hwy ir pebyll
Lle mae'r deillion yn ymgynnill,
Nac i dramwy ir tafarne,
Lle mae'r Diawl yn cadw ei wylie,
Dos ith ‡ Eglwys blwyf y sulie,
gwel beth a ddywedir yn y pummed ddalen yng­ylch gwran­do'r gair mewn plwyfe er aill oni bydd pregeth yn dy bl [...]yf dy hunan
A'th holl Dylwyth wrth dy sodle,
I addoli Duw'n gyhoeddus,
Gyda'r dyrfa yn ddisceulus,
Nad ith dylwyth drigo gartre
Amser gosper ar y sulie:
Nad hwy loetran ar y Sabboth,
[...]awl y chwario chwarien drannoeth
Na ddod ormod waith anesmwyth
Ddyddie'r wythnos ar dy dylwyth;
Llwa ambell awr yn llawen, * Caniatta
[...]r deffygiol godi gefen.
Ar y Sabboth nad hwy'n segur,
Par i bob un chwilio'r scrythur,
Ac i weithio gwaith Duw'n escyd,
O flaen un gwaith a fo gennyd.
Dysc dy dylwyth ar y Sulie,
Ymresym­mu.
Bob rhyw un i ganu Psalme,
Ac ymbwngcio'n
Llawen
llon a'i gilydd,
Am air Duw a phyngciau crefydd,
Ar bob Cinio, ar bôb Swpper,
Par i ryw un darllain Chapter,
I roi ymborth i bob Enaid,
Pan bo'r Corph yn cael ei gyfraid
Nad dy dŷ, na hwyr na bore,
Heb wasanaeth a gweddie;
Gwell ith dylwyth fod heb swpper,
Tra font byw na bod heb osper
Nad ith Eglwys fod un amser
Heb wasanaeth pryd a gosper,
Nac heb aberth hwyr a bore,
Ir Tâd nefol am ei ddonie,
Nad un cornel a fo ynddi.
Heb ei ysgubo o bob brynti,
A'r yscubell o ddifeirwch,
Nes cael ffafar Duw a'i heddwch,
Golch i llawr a heilltion ddagrau,
Trwssia ei
Muriau
gwelydd â rhinweddau▪
Nâd ei hallor heb dân arni.
Ac arogle mawl a gweddi,
Cais dy hunan chwareu'r ffeiriad,
Galw ar Enw Duw yn wastad;
Pâr ith bobl gydfyfyrio,
Gyda thi trech yn gweddio,
Bob penteulu Carccus cymmwys,
Ddyle fod fel gwr o'r Eglwys,
Yn Cynghori yn rhybyddio,
Pawb o'i dŷ yn ore ac allo.
A'r fath drefen sy'n yr Eglwŷs,
Yn rheoli pawb yn gymmwys,
Ddyle fôd yn nhŷ pob Christion,
I reoli'r Ty a'r dynion
Gossod un neu ddau o'th deulu,
Fel wardeniaid ith gyd-helpu,
Gadw 'ith bobol oll wrth drefen,
Ai rheoli yn dy absen.
Rhaid yw disgwyl ar arferion,
Ac ymddygiad pawb o'th ddynin,
Ac ar lwybre rhai sy'n pechu.
Fel y gallech eu ceryddu.
Nad un drwg-ddyn heb ei gospi,
Yn ol messur ei ddrygioni,
Rhag i arall bechu fwy fwy,
Am it ffafrio'r anghymradwy,
Dyro rybydd ir Trosseddwr,
Dair gwaith, pedair, wellhau ei gyflwr.
Cyn ei daflu ffwrdd o'r gorlan,
Oni wella tro fe allan.
Os bydd meddwon na bydd sobor,
Os bydd drel na dderbyn gyngor,
Un digrêd na charo gresydd.
Tro hwy maes yn ol cael rhybydd.
Os bydd morwyn yn scoldies,
Ac heb berchi Sara ei meistres;
Bwrw Hagar o'r drws allan,
Gâd ei feistres gael ei hamcan.
Nâd ith ddynion fôd yn segur,
Gen. 16.
Rho ryw dasc i bawb iw wneuthur
Maeth diffrwythder mammaeth gwradwydd
Yn cyd-ddwyn â segurllydrwydd,
Myn weld pawb o'th blant ath deulu
Yn mynd mewn pryd, pôb nôs i gyscu
Preg. 10.18
Arfer ddrwg yw gadel gweision,
Fynd i gyscu pan y mynnon,
Pan boi'n amser mynd i gyscu,
Cais gan Ghrist fendithio 'th deulu,
A bod arnynt oll yn geidwad,
Gwedyn cymmer di dy gennad,
A rho rybydd ith holl bobol,
Alw ar Dduw yn
Barchedig
dd [...]osionol,
Fawr a bach, ar ben ei glinie,
Cyn yr elont iw gwelaue.
Ac rhag ofon i Dduw gyrchu,
Rhai o'u Cwsc i fynd iw barnu,
Pâr i bob un lwyr ymgweirio,
Fynd o flaen Duw cyn y cysgo
Os yn llyn y llywodraethu,
Dy holl dylwyth ath holl lettu:
Duw fendithia'th dŷ a'th dylwyth
Ac a'th gwna chwi oll yn esmwyth
Jo. 14.23,
Christ a Bresswyl yn dy demel
Christ a'th wrendy yn dy drafel.
1 Sam. 2 30
Christ a'th dderbyn o'th lân Eglwys,
Ar dy ddiwedd i Baradwys.

Dyledswydd plant i'w rhieni

OS plentyn wyt, rho wir anthydedd
Eph, 6.2, 3
Ith dâd, ath fam, trwy barch a mawred
Duw sy'n erchi eu hanrhydeddu,
Os grâs a hir oes a chwennychu.
Gwna'r peth archo dy rieni,
Praw ymmhob peth eu bodloni,
Trwy na cheisiont gennyd bechu,
Gwna bob peth y font yn fynnu.
Derbyn gyngor▪ derbyn gerydd
Derbyn gosp dy dâd, yn ufydd.
Derbŷn ddysc pan fo'n dy ssiacco,
Dihar 4.1.
Derbyn bob athrawiaeth gantho.
Os dwl, os dall, os poeth os
Lleuatglaf
lloerig
Os anioddefgar a dotiedig,
Y fydd dy dad, a'th fam mewn henaint
Godde ei gwendid trwy ddioddefaint
O bydd dy dâd a'th fam mewn tlodi
1 Tim 5.4.
A chenyd tithe fodd iw peri
Maetho'n dirion y ddau henddyn
Fel y maethsont dithe'n blentyn,
Dilyn fiampl y
Math o A­deryn
Ciconia,
Sy'n porthi ei dâd, pan fo ef gwanna,
Yn cweirio ei nyth, yn ei adeinio
Yn hen yn wann heb allu cyffro.
Dilyn arfer y
Math ar byscod.
Dolphiniaid,
Sy'n porthi eu Tâd a'u mam yn weiniaid
Gan ei cadw pan font gwanna
Rhag ir pyscod mawr eu difa
Gwradwydd mawr ei feibion dynion
Fod yn waeth na'r Adar gwylltion,
Gwaeth na'r pyscod mewn caledi,
Wrth y rhai rodd bywyd inni,
Od wyt wr mawr o alwad uchel
Ath dad yn dlawd, a'i radd yn issel
Rho barch ith dâd, er cuwch o'th alwad
Anrhydedd a'th fam yn wastad,
Gen, 45
Er bod Joseph yn rheoli.
Gwlad yr Aipht, a'i dâd mewn tlodi,
Fe wnae Joseph fawr anrhydedd,
Iw dâd ei hun er maint o'i waeledd,
1 Bren. 2.
Er bod Solomon yn frenin,
Ar ei orsedd yn gyffredin,
Fe ddiscynne oddiar ei orsedd,
I berchi fam a mawr anrhydedd
Er bod Christ yn Dduw, yn ddyn
Yn uwch na neb, yn well nag un.
Luc. 2.51.
Fe barche, ei fam fe barche ei dadmaeth
Fe fydde ufydd iw hathrawiaeth
Byd faet ti Duwc, nid llai dy ddyled
I berchi'th dâd a'th fam er tloted;
Ni ry'chelfraint rydd-did itti,
Leusu'th ddyled i'th rieni,
Mae'th dâd yn dâd, pyt fae ef cobler
A thitheu'n fâb, pyt fae ti'Scwier,
Tra fech di'n fâb, mae Duw'n dy rwymo
Roi parch ith dâd pwy bynna fytho.
Pan oeddyd wan heb fedru cwnnu
Heb fwyd i gnoi, heb laeth i Lyngcu,
Heb glwtt ith gylch, dy fam a'th helpodd
Pa dal y roi ir hon ath fagodd?
Yn hîr hi'th ddygodd dan ei gwregis
Ai gwaed hi'th borthodd yno naw mi [...];
Ai llaeth hi'th olchodd o'th holl frynti;
Pa dâl pwyth y wnai di iddi?
Yn glaf hi geisiodd dy ddiddanu
Lawer nôs, gan golli ei chyscu;
Gan dy lwlan rhwng ei breichie,
Pan baet ti ar dorri'n rhenge.
Rho anrhydedd prûdd gan hynny,
Ith rieni am dy fagu.
Nad wall arnynt hyd dy farw
Tro gwerth ceiniog yn dy helw.
Y parch, a'r bri, a'r bwyd, a'r trwssiad
A roech ith dad yn hênwr ingnad
Blinderus.
,
Y ry dy fab i titheu 'n henddyn
Wrth union farn, cyn dêl dy derfyn
Y garthen rawn y fu ar wely,
Dy dad wrth orwedd, yn y beudy,
Y geidw'th fab i tithe orwedd,
Ar y daflod cyn dy ddiwedd.
Y messur cwtta 'rhwn y roddech,
Luc. 6 38.
A roddir itti pan heneiddiech:
Yr wyr y ddial medd y wlad,
Y messur bach y roech ith dâd.
Bydd gan hynny hael a serchog,
Rhwŷdd, a thirion, a thrugarog;
Wrth dy dad ath fam mewn henaint,
Fel y caffech ditheu'r cymmaint.
Gen. 26.34.35
Na ddos fel Esau i briodi.
Heb gael cennad dy rieni;
Odid i Dduw 'rioed fendithio,
'R fath briodas wyllt, na i llwyddo
Os anweddus yw'th Rieni,
Nid oes itti o'u amherchi;
Na'i bychanu hyd eu diwedd,
Ond gweddio am wella ei buchedd,
Gen. 9.25.
Cham am Watwar Noah ei Dad,
Drwm felldithiwyd yn ei had;
Ar felldith hon s' eb fyned etto;
O grwyn y
pobl dduon 2 Sam. 18 9.
Mŵrs y ddaeth o hono.
Absalon dêg y fu y anufydd.
A thraws iw dad, hên frenin Dafydd,
Duw a'i crogodd wrth ei locsen,
Am ei drawsedd wrth frig derwen,
Farcha'th dad a'th fam gan hynny,
Helpa'r ddau pan fônt yn ffaelu,
Felly hestyn Duw dy ddyddie.
Yn y tir lle bo dy dreigle.

Pa betheu a ddyle ddyn fyfyrio arnynt ar y Sab­both wrth fyned ir Eglwys, a pha fodd ŷ mae iddo ymddwyn ei hun yno.

CYn dy fynd ir Llann, wrth gerdded
Meddwl, i ble rwyt ti'n myned?
O flaen pwy? ac i ba bwrpas,
A dôs gwedyn iddi'n addas,
* Rwyti ti'n mynd i Dŷ'r Gorucha,
O flaen Duw yr Emprwr mwya,
I chwedleua ar dy ddau-lin,
A'th Greawdwr ac a'th Frenin.
Rwyt ti'n mynd i lys Jehofa
I gael clywed Duw gorucha,
Yn ymddiddan a thi'n hyfryd
Dêg a thêg o air y bywyd.
Rwyt ti'n mynd yn brudd i add [...]
O flaen Duw dy holl gamwedde,
Ac i ddeisyf ei drugaredd,
Grâs a grym i wella'th fuchedd
Rwyt ti'n mynd ei geisio pardwn.
Nawdd, a grâs, ac

Rhyddhad rhan o swydd gweinidog yw cyhoeddi maddeuant ir credadyn edifeiriol ac nid i neb arall

Luc 24 47

absolusiwn
Gan dy Ghrist, trwy enau'r ffeiriad,
Am dy bechod a'th gam'ddygiad
Rwyt ti'n mynd i lwyr weddio
Ar yr Arglwydd mawr sy'n addo,
Rhoi i ni bob peth sydd angenrhaid,
At y corph, ac at yr enaid,
Rwyt ti'n myned i fendithio
Duw am bob dawn y geist gantho
Ac i roddi ir gorucha.
Esa 55, 7 Jo 20 23. Esa. 57 21,
Glod a moliant gyda'r dyrfa
Rwyt ti'n mynd i wrando'n hyfryd,
Fengyl Ghrist a gair y bywyd
Gwllys Duw, a'i gyfraith sanctaidd:
Num 6, 23. &c.
I'th gyfrwydda i fyw'n gristnogaidd,
Rwyt ti'n mynd i geisic cŷfran
O hael fendith Duw ei hunan,
Psal 100 2.
Ith ryddhau y ffordd y cerddech
Ac i lwyddo'r hyn a wnelech,
Psal 42 1
D [...]s gan hynny trwy lawenydd
I dŷ Dduw a dirfawr awydd;
A hiraetha am fynd yno,
Fel yr Hydd am ddyfroedd Silo
Dôs yn llawen, dos yn siriol,
Dôs yn
hyf
con, dôs yn foesol,
Dôs yn fuan, dos yn fore,
Dôs i dŷ Dduw ar dy linie.
Dôs ir Eglwys gyda'r cynta,
[...]os yno gyda'r ola:
[...]ra fech yno, na fydd segyr,
Preg 9 10
Gweithia waith dy Dduw yn bryssur,
Na fydd segur yn nhŷ Dduw.
[...]weithia ei waith yn brudd trech byw;
[...]elldigedig yw'r dyn gwallys,
Jer. 48 10,
A wnel gwaith ei Dduw yn 'sceulus.
Cwymp yn issel ar dy ddau-lin,
Llef yn eiriol ar dy Frenin;
Jer 29 13 Mat 15 7 8.
Prûdd weddia a'th holl galon
Na ragrithia o dwyd Gristion.
Gwrando'r gair yn dra awyddus
Derbyn hwn ir galon garcus.
Dih 5.1 Ps. 119 11. Mat 13 23.
Nad ir brain a'r fall i scliffied
Nes i ffrwytho ar ei ganfed
Gwachel edrych hwnt ac ymma,
Gwachel gyscu na chwedleua;
Ond gwna naill ai
oddifrif
prudd weddiO,
Gwrando'r gair, a mynd oddiyno.
Ni all Duw yr union farnwr
Aros edrych ar ragrithiwr,
Y fo'n cymryd arno ddoli,
Ac heb wneuthur hyn o ddifri
Pan weddio'r gwr eglwysig,
Sef yn dy galon
Cyd weddia ag e'n
Yn ddyfal
ystig;
Air yng air o'r ddechre ir diwedd,
Mewn cyttundeb a chynghanedd
Pan bregethir yr efengyl,
Gochel droi at hon dy wegyl:
rhuf 1, 16
Gallu Duw yw'r fengyl helaeth
[...]ydd yn gweithio'n iechydwriaeth
Craffa'n fanol ar y ffeiriad
[...]ro'n pregethu a'th ddau lygad
Cadw ei eiriau yn dy galon
Luc 4 20
[...] chais ddilyn ei gynghorion
Luc. 10 6
Cymmer bob gair ag y ddwetto,
Megis cyngor i'th rybuddio;
O bûr
Mae Christ yn llefaru. trwy'r gwei­nidog, pan mae efe yn llefaru peth­au cyttun a'r scrythyrau. Esa, 8.20
enau Christ ei hunan.
I fyw'n weddaidd yn ei ofan,
Na ddôs adre heb ystyriaeth,
Nes cael diwedd y gwasanaeth:
Ac na chytgam dan boen melldith
Fynd i maes nes cael y fendith.
Bydd d' ymddygiad yn yr Eglwys,
Yn gristnogaidd ac yn gymmwys,
Megis yng wydd Duw ei hunan,
Ai Angelion fawr a bychan.

Cyngor i ymbaratoi cyn dyfod i addoli'n gy­hoeddus.

TYn dy 'scidie, golch dy dillad,
Ymsancteiddia, cyn dy ddwad:
I dy'r Arglwydd i addoli:
O flaen gorsedd Tâd goleuni,
Cyffrô d' ysprŷd, cwyn dy galon
Dring ir mynydd uwch daerolion;
Gwêl yr hwn sydd anweledig.
Cyn ynganech wrtho orig.
Cyn y delech o flaen Duw.
Meddwl byth mae Brenin yw
Ac na ddere at dy frenin.
Nes y delech ar dy ddau lin,
Brenin nefoedd, Tâ [...] Angelion,
Creuwr daiar Barnwr dynion;
Duw'r diale, Tâd goleuni,
Wyt ti ar feder i addoli
Dere'n barchus, dere'n barod,
Dere'n brûdd o flaen y drindod;
Dere'n sanctaidd, dere'n ffyddlon,
Di gi d' arch wrth fôdd dy galon
Côd dy olwg, tan dy ddwylo;
Plŷg dy ddau lin, gostwng iddo;
Cur dy ddwyfron, bydd edilar,
[...] ddeu'th bechod, cais ei ffafar
Galw ar y Tad yn danllyd
Yn enw'r mâb, trwy nerth ŷr yspryd;
Cais ei deyrnas a'i gyfiawnder,
Da gei'r cwbwl yn ddi bringder.
Cais ogoniant Duw ŷn benna:
Cais nefolion bethau nessa;
Cais ei ras yn dra awyddus;
Cais dy raid os bydd ei 'wllys
Preg. 51.
Cyn dy fynd i ddrws yr Eglwys
Edrych fod dy droed yn gymmwys
Bwrw heibio draws feddylie.
A gâd fydol fwriad gartre,
Gen. 22, 5.
Abram ffyddlon cyn addole.
Rwymeu assen yn yr Hendre:
Felly dyle bob dyn rwymo,
Traws feddyliau cyn gweddio,
Moesen hyfryd cyn y dewe,
O flaen Duw fe dynnei 'scidie;
Exod, 3.5
O tynn dithe dy fydolrwydd.
Cyn o doech o flaen dy Arglwydd
Joseph ynte fynne ymgweirio
Gen 41.14
Cyn ymddangos o flaen Pharo
Felly ymgweiria dithe'n
Yn lan
fyw
Cyn ymddangos o flaen Duw
Hester dduwiol hithe ymolchwys
Cyn mynd o flaen Ahasuerus:
Ymolch dithe o'th ddrygioni.
Cyn rhoech o flaen Duw dy weddi,
Pan y delech i dy Dduw,
Gwel mor hoff, mor hawddgar yw
A phan ddelech tyrd ac amcan.
Mewn anrhydedd, parch ac ofan,
Cwymp yn issel ar dy ddau lin,
Yn ei lŷs o flaen dy frenin:
Ac nac yngan air o'th êne,
Nes ymostwng ar dy linie,
Ni ry neb o'r sainct
Yn gorfo­leddu Dat 4.10.
triumphant,
Yn y nêf ir Arglwydd foliant;
Nes y tynnont eu Coronau,
Ac ymostwng ar eu gliniau.
Pan y cytcam llŵch a llydy,
Dwad o'i flaen heb ymgrymmu?
Pan y delont i weddio,
Mat 26 39
Ac i feggian pardwn gantho.
Christ ein Meistir fe 'mostwnge,
Ar ei wyneb pan gweddie;
Braidd y gostwng rhai o'r gweision
Un o'i glinie pan gweddion.
Jago fwya gynt addole
Grist mor ddyfal ar ei linie;
Nes caledi yn y Demel,
Groen pôb glin fel Carn y camel
Moesen, Aaron, Josua, Samwel,
Dafydd, Selef, Joas Daniel;
A'r holl Sainct sy'n rhoi goleuni
I ni ar linie brudd addoli.
Gwedi cwympech ar dy ddau-lin
Mewn mawr barch o flaen dy Freni [...]
Ystyr beth trwy brudd fyfyrio,
Psal. 5.1.
Sy'n dy fryd i ddwedyd wrtho.
Daniel ras [...]ol y fyfyrie,
O flaen Brenin cyn llefare;
Dithe ddylid brûdd fyfyrio,
O flaen Duw cyn yngan wrtho:
Dan 4 19
Yn ol ystyr beth a ddwedech,
Cûr dy ddwyfron cyn gweddiech;
A chydnebydd d' anheilyngdod;
A chais bardwn am dy bechod.
Llef o'i flaen a chalon bryssur
[...]w bydd rassol îm bechadur;
[...]n anheilwng edrych arnad;
[...]waethach derbyn fy nymuniad
Hael yw Duw ir sawl a'i ceisiant
[...]wydd yn rhoi ir rhai ofynnant;
[...]hoi i bawb heb ddim dannodiaeth
[...]n rhwydd ei rhaid yn daran helaeth.
Y peth a geisiech, cais trwy stydd
Na chymmer ball ond beggia'n brŷdd;
Nac amme dderbyn 'r hyn a geisiech;
O ceisi'n daer di gei ofynnech
Nac amme 'wllys da dy Dâd.
Na gallu Duw, sy'n rhoi mor rhâd
Duw galluog, Tâd gwyllysgar,
Helpwr rhwydd yw'n Harglwydd hygar

Gweddi'r hwn sy'd myned i addoli Duw'n gyhoeddus.

DUW trugarog, Tâd goleuni
Rhoddwr grâs a phôb daioni
E mwyn Christ clyw weddi
Un yn ym­bil
eiriol,
Un o'th blant dros bawb o'th bobol,
Rym ni heddyw yn ymgynnull
Ith addoli yn dy bebyll;
Duw rho allu in'a meder,
Ith addoli fal y
Dyleu
dirper,
A bendithia di'n cyfarfod,
A chyfrwydda ein myfyrdod.
A dod
Awydd
awen yn ein calon,
Ith addoli bawb yn ffyddlon
Gwna ni'n addas ac yn weddaidd
I glodfori d' enw sanctaidd;
Gwna ni'n barod, ac yn † garcus
Ojalus
Bawb i wrando d' air yn barchus.
Duw paratoa di'n calonnau.
Christ sancteiddia di'n meddyliau;
Awydd­fryd.
Awcha'n zel, chwanega'n hawydd
I'th addoli mewn gwir grefydd
Cwyn y galon, destro'r yspryd.
Nynna a'th râs ein hawen oerllyd,
Sesydla
Setla'r meddwl, dysc y genau
I'th glodfori am dy ddoniau,
Tynn oddiwrthym draws fwriadn
Nâd i'r rhain wyr droi'n meddyliau;
Par in 'wrando d' air yn fuddiol,
A gweddio'n
Barchus
ddefosionol,
O cyfrwydda a'th lân yspryd
Ni weddio bawb yn danllyd
Fel y caffom gennyd wrando
A rhoi inni fom yn geisio,
Dôd dy fysedd yn ein clustie
Par in 'wrando d' air yn ole:
A rho feder i bob calon,
I ddeallu hwn yn union,
Gwedi deall hwn a'i gofio,
Duw rho gymmorth iw
Arferyd.
bracteisio,
Ai wir ddilyn yn awyddus,
Helaeth
Nes y dycco ffrwyth § toraethus:
Duw beddithia di'n pregethwr,
2 Thess. 3 1
Rho 'ddo ddeall gras a chryfdwr
I bregethu gair y bywyd
Inni'n bur o'th fengyl hyfryd
Gole'i seddwl a'i fyfyrdod
Nynn ei galon, dysc ei dafod;
Nertha i
Rannu
barthu'r gair yn fedrus
Inni bawb yn ol dy 'wllys.
Nertha e'in tynnu o'r tywyllwch
Act 26 18.
I'r goleuni a'r diddanwch.
O gorlannau tywyll Satan.
I wir deyrnas Christ a'i gorlan.
Gwna ei athrawiaeth inni'n rymmus.
Gwna inni ddilyn yn awyddus:
[...]wna ini bawb i garu ynte,
[...]le mae'n gwiliad ein eneidie
Duw bendithia ef a ninne;
Heb 13 14.
Duw sancteiddia di'n calonne;
Duw rho ras a meder inni,
Bawb yn bryssur dy addoli

paratoâd i'r cymmun.

POB rhyw Ghristion ag ŷ garo,
Ddyscu'r môdd y mae ymgweirio,
Mynd yn lan i fwrdd yr Arglwydd,
Dysced hyn o werseu'n ebrwydd,
Cyn yr elych
Yn fyrr hwyll
rhwp ir cymmun,
Ystyr ble yr wyt ti'n rofyn;
A pha beth yr wyt ti a'r feder
I
Dderbyn
resefio yn y swpper,
Nid i ford rhyw
pennaeth
Emprwr llidiog,
Ond i ford yr holl alluog,
Rwyt ti'n rofyn mynd i fwytta
Bwyd sydd gan mil gwell na Manna,
Gwell na manna os fel Christion
Y derbynni hwn yn ffyddlon,
Jo 6 49 50 1 Cor 11 29
Gwaeth na gwenwyn os trwy anras
Y derbynni hwn fel Suddas.
Meddwl ditheu am ei dderbyn
Yn gristnogaidd fel y perthyn;
Mewn sancteiddrwydd, ffydd, a gobaith,
Glendid pûr a chariad perffaith,
Gwachel redeg yn ammharod,
[...] ford Christ yn lla wn o bechod
Rhag it dderbyn barnedigaeth
Lle caiff eraill Jechydwriaeth.
Cofia'u garcus,
pa
pa sancteiddrwydd?
Pa ymgweirio, pa barodrwydd?
Exod 12.
Gynt ossododd Duw ar dasc,
Cyn cae Israel fwyta'r Pasc.
Joan 13.4.5.
Cofia hefyd pa ymolchi?
Pa lanhau, a pha syberwi?
Y wnaeth Christ a'i ddwylo tynner
Ar ei Saint cyn
profi
tastio o'i swpper
O na ddere ditheu'n sarnllyd
Yn dy rwd a'th bechod drewllyd
I ford Christ heb lwyr ymolchi
O'th holl feie a'th holl frynti,
1 Cor. 5.7
Bwrw lefein pôb rhŷw bêchod
Llid cenfigen, malis, meddwdod
Rhyfig, ffaistedd. ffwrdd oth galon
Ni thrig Christ y man lle byddon
Cofia fel y
Aeth i mewn. Jo. 13.27
lientrodd Satan,
Gŷnt yn Suddas fradwr aflan;
Yn ol iddo fwyta'r tammaid
Yn ei bechod brwnt mor embaid
Gwachel dithe rhag digwyddo
Y fath beth yr eilch waith etto;
Os ti ddoi i ford yr Arglwydd
Yn d' aflendid heb barodrwydd
1 Cor. 11.30.
Cofia ir Corinthiaid feirw,
A nychu'n hir, o'r gwrês a'r gwayw;
O waith mynd yn amharodol
Llwyr ei pen i [...] bwrdd sancteiddiol
Gwachel ditheu fynd yn rhwyscus,
Ir ford hon heb ofan parchus,
Heb ystyried beth sydd arni,
Rhag dy farw yn dy frynti,
1 Cor. 11.28, 31.
Hola dy hun, a myn wybod
Wyt ti'n difar am dy bechod,
Ac oes gennyd ffydd a gobaith
Calon lân a chariad perffaith,
Barna dy hun yn ddiweniaith,
Fel na farno Duw di'r eilwaith?
Ac lle gwelech ddim yn eisie,
Can gan Ghrist ei roi neu fadde,
Pedwar peth sydd Angenrheidiol;
I rhai fynn cymmun o'n ddeddfol;
(1) Ffydd gristnogaidd, (2) gwir ddifeirwch
[3] Cariad perffaith, [4] Diolchgarwch.
Nid oes llûn bôd heb y lleia,
O'r rhai hyn cyn mynd i fwytta;
A'r neb êl ir swpper heb ddyn,
Ni chaiff lês oddiwrth y cymmun
Ffydd sy gynta'n angenrheidiol
I gredu i Ghrist roi hun yn hollol;
Ar y groes i farw drostom,
Am y pechod oll y wnaethom.
Ffydd sy'n cyrraedd ffrwyth y pardwn
Y bwreassodd Christ trwy
Ddiodde­saint
bassiwn;
Ac yn derbyn ar y swpper;
Crist eî hun a'i holl gyfiawnder
Nid yw Christ yn fwyd ir bola,
I gnoi a dant ai roi ir cylla:
Bwyd yw Christ i borthi'r enaid.
Jo. 6.35.
Yn ysprydol trwy ffydd dambaid.
Ni all neb fwynhau'n ysprydol
Christ a'i waed,
Eph. 3.17.
a'i gorph sancteiddiol
Ond yn unig trwy ffydd rymmus
Ddêl o galon edifarus.
Mae'n Efengyl inni'n dangos
1 pet. 3.22 Jo. 6.63
Fôd Christ yn y nêf yn aros;
Ac na ddichon un dyn cnawdol,
Fwytta Christ, ond yn ysprydol.
Ffydd gan hynny sydd angenrhaid
I gyrraedd Christ i borthi'r Enaid;
Ac i ddercha'r galon atto,
O myn Enaid borthi arno;
Bwyd ir enaid, bwyd ir galon,
Bwyd yw Christ ir meddwl ffyddlon,
Bwyd i gymryd trwy ffydd fywiol
Bwyd i fwytta yn ysprydol.
Pan fo'r corph yn cymryd bara,
Yn y Cymmun er i goffa:
Cwynn dy galon y pryd hynny,
A thrwy ffydd mwynhâ Ghrist Jesu
Nessa at ffydd rhaid Edifeirwch,
Am bob pechod trwy ddyfalwch;
A llwyr fwriad gwella beunydd,
Troi at Dduw mewn buchedd newydd
Edifara o ddyfnder calon,
Am bôb bai trwy ddagrau heilltion
Ac na ddere i ford yr Arglwydd
Nes difaru, rhag cael tramcwydd.
Golch dy faril, carth dy waddod:
Na ddôd win mewn
Llester
Casc o bechod;
Rhag ir gwin mewn llester aflan,
Dorri'r casc a rhedeg allan.
Ni thrig Duw, na'r oen, na'r Glommen,
Lle bo pechod a chynfigen;
Golch gan hynny'n lân dy lester
Os derbynni Grist na'i swpper.
Chwd dy feddwdod, cladd dy frynti,
Gâd dy faswedd brwnt a'th wegi;
Attal nwyfiant, ffrwyna nattur;
Gwella'th fuchedd, na fydd segur.
Golch dy ddwylo mewn gwiriondeb
2 Cor, 7, 1
Golch dy feddwl mewn duwioldeb,
Golch mewn cariad ben y chynffon,
Os derbynni Ghrist ith galon.
Sacrament­um requirit Sacramentem
Câr gyfiawnder, dilyn sobrwydd,
Arfer lendid a sancteiddrwydd;
Gwisc am danad gariad perffaith;
Nâd un bai dy nyrddo'r eilwaith.
Nid oes rhoi i gwn o'r pethe sanctaidd
Sancta; Sancte, Sanctis. mat 7 6
Na'r gwerthfawr berl's ir môch anghruaidd,
Na'r manna gwyn mewn halog grochan.
Na chymmun Christ mewn cylla aflan
Mewn pott o aur y dodir manna,
A chelain Christ mewn crŷs or meina,
Heb 9 4 mat. 27 59
A'r gwin o'r
Grawn
Grap mewn baril gruaidd
A'r cŷmmun hwn mewn calon Sanctaidd
Y trydydd peth sy'n rhaid ei geisio
Yw cariad perffaith cyn resefio.
Heb ddwyn meddwl drwg at un dyn
Pell, nac agos, car na gelyn
Cariad ydyw'r
Nodau
arms glân tirion,
Sydd gan Ghrist ar lifreu weision:
Ac wrth gariad yr adwaenir
Defaid Christ oddiwrth y geifir
Nid yw Christ yn derbyn un-dyn
I fwynhau ef yn y cymmun;
Ond yr hwn y fo'n ddiragraith
A phob dyn mewn cariad perffaith
Jo. 13 3.
Pŷt fae gennyd fil o ddonie,
A bod cariad itti'n eisie:
1 Cor 13 1 2, 3.
Nid wyt deilwng byth i ddwad,
I ford Crist, heb berffaith gariad
Car gan hynny dŷ gymdogion,
mat 5 24 44,
Maddeu'n rhwydd ith holl elynion
Ac os gwnaethost gam ag undyn,
Cymmod cyn bwytteuch y cymmun
Gwachel ddwad yn ddigofus,
I ford Crist mewn llid a malis
Rhag i Satan fynd i'th gylla
Gyda'r tammaid gwedi fwytta
Dysc di gan y neidir dorchog.
Chwdu maes dŷ wenwŷn llidiog,
Cyn dy fynd ir ford yn llawen
Rhag i'th falis ladd ei pherchen
Neidir fraith medd rhai a'i gwalas
Fwrw'i gwenwyn ar y gamlas,
Cyn y hyfoi ddwr o'r afon,
Rhag ir gwenwyn dorri chalon,
Bwrw dithe dy lid allan,
A'th ddrwg feddwl, a'th draws amcan,
A'th holl falis a'th gensigen,
Rhag ir rhain
Nafu
andwyo ei perchen,
Or bydd gennyd y tri ymma
[1] Ffydd, [2] Difeirwch, [3] Cariad coda
Dere ir cymmun, mae i ti gresso
Christ ei lûn sy'n d' alw atto
Jo. 19.34.
Pan y gwelych dorri'r bara,
A thywalltu'r gwin ir cwppa,
Cofia fel y torre'r wayw ffon,
Gorph dy Grist nes gwaedu ei galon
Quid paras dentem & ventrem.
Pan derbynnech o lawr ffeiriad,
Fara a gwin yn ol cyssegrad,
Derbyn Grist trwy ffydd i'th galon;
Portha d' Enaid arno'n ffyddlon
Crede & manducasti Eph 3 17 Nolite para­re sauces fed­eor Sursum corda
Nid a dannedd y mae bwytta,
Christ yn gnawdol a'i roi'r bola,
Ond trwy ffydd y mae'n ysprydol,
Fwytta Christ o'r galon fywiol
Cod dy galon dring ir nefoedd,
Edrych ar yr hwn a'th brynodd;
Cofia faint y wnaedd ef erddod,
Pan croeshoeliwyd am dy bechod.
Crêd i Ghrist a'r groes a'i hoelion
Offrwm drossodd waed ei galon,
A phwrcassu bywyd itti.
Rwyt ti'n bwytta Christ o ddifri,
Os gofynni pa ddaioni,
Ddyru Christ o'r swpper itti,
Pan dderbynnych hi'n gristnogaidd
Mewn gwir ffydd a chariad perffaidd
Mae'n rhoi i ti gyflawn bardwn
Mat 26 28.
O'th holl bechod
Rhyddhâd.
absoluwsiwn,
Gwedi'r Brenin mawr ei selu,
A gwaed gwerthfawr calon Jesu.
Mae'n Rhoi pardwn mae'n rhoi bywyd
Mae'n rhoi cynffwrdd mae'n rhoi iechyd:
Ioan 6.51. 1 Cor 10 16.
Mae'n rhoi yspryd glân a'i ddonie
Mae'n rhoi 'hun ai holl rinwedde
Mae'n dy wneuthur di'n gyfrannog
Oi holl ddonie mawr galluog;
Ac mewn yspryd mae ê'n trigo,
Yn dy galon byth
Tra fo ef
tro ganto
Mae'n porthi d' Enaid egwan
A'i wir gorph a'i waed ei hunan
Joan 6.55.56. Eph. 1.13.14.
Ac yn rhoddi nefol Yspryd,
Itti'n ernest o'r gwir fywyd.
O ba ddyled mawr sydd arnad
I foliannu Christ yn wastad.
Am dy wneuthur yn gyfrannog
Or fath Swpper fawr gyfoethog.
A phwy daliad sy'n dy bwer
I roi iddo am ei fwynder,
Felly'n porthi d' enaid aflan,
Ai wir waed a'i gnawd ei hunan
Na fydd dithe mor nifeiliaidd,
A mynd o'r llann yn anweddaidd
Nes rhoi clod a moliant iddo.
Am yr ymborth y gêst gantho.
Christ ni fwyttei fara barlis,
Chwaethach bwyd oedd well i
Flas
relis
Heb roi moliant mawr am dano
I'w Dâd nefol heb anghofio.
Pwy faint mwy na ddylit tithe
Fwytta Christ y penna or seigie,
Heb roi diolch i'r Duw cyfion,
Am ei fâb o ddyfnder calon,
A gwawdd nef a daer a dynion
Seraphiniaid ac Angelion,
I'th gyd helpu 'foli'r Arglwydd,
Am ei gariad a'i gredigrwydd.

Gweddi cyn derbyn y cymmun

ARglwydd grassol rhwn y roddaist
Jesu Grist y mwya geraist
Fôd yn
Bridwerth.
ranswm dros ein beiau
Ac yn ymborth i'n eneidiau
Dyro râs i minne'n sanctaidd
Ymbartoi fel Christion gweddaidd
'Dderbyn Christ trwy ffydd i'm calon
I borthi f' [...]naid arno'n
Hyf.
eon.
Carth fy meddwl am cydwybod,
Golch fi'n llwyr oddiwrth fy mhechod
Gwna fi'n llestei glân i dderbyn
Christ i'm calon yn y cymmun
Cryfha fy ffydd amlha fyngobaith,
Ennyn ynwi gariad perffaith;
Sancteiddia'r corph, cyfrwydda'r enaid,
I dderbyn Christ y bwyd bendigaid,
Cwyd fynghalon cuwch a'r nefoedd
Lle mae Christ yr hwn am prynodd
Par i'm henaid borthi arno,
A thrwy ffydd gael grym oddiwrtho.
Pâr im gredu fod i mi bardwn,
Am fy mai er mwyn ei
dioddef­aint.
bassiwn
A rhan hefyd o'i holl ddonie,
Y bwrcassodd trwy loes ange,
Pâr im gredu y daw i drigo
Yn fynghalon byth tro gantho,
Ac na 'medy 'sanctaidd yspryd,
Nes fy nwyn ir nefoedd hyfryd,
Nad gan hynny i mi nyrddo
1 Cor. 6 19.
Ei Demel Sanctaidd lle mae'n trigo,
Nac halogi byth om llester,
Ond ei gadw'n lân bob amser,
Pâr im hefyd i glodfori,
Nos a dydd ar eitha o'm gallu
A'i fendithio'n brudd bôb amser,
Am yr ymborth sy'n ei swpper.

Pennillion ar gynneddfau, rhai dynion a phe­theu ac y sonier am danynt yn 'Scrythyr a'r Apocrypha

DYsg fy mâb wrth godwm Adda,
Weld mor brid yw'r pechod lleia
Ac mor enbyd bwytta gronyn,
O'r peth y fo Duw yn wrafyn.
Efa hên a'i chwymp a'i hanffod,
Esa.
Sy'n rhoi itti rybudd hynod;
Na chytcamech tra fech byw.
Wrando ar Satan o flaen Duw.
As câdd Adda gymmaint dial
Am ei waith yn bwytta afal,
Ystyr faint y fydd diale,
Rhai sy'n byw a'r gyfryw fale.
Blin yw'r Afal a wnae'r dincod
Ar bôb Dant o'r byd heb wybod
Na sydd un o'r rhai ddymune,
Gael ei maeth ar gyfryw 'Fale,
Oni byssei Grist ddiodde,
Ar bren drosom ddu loes Ange,
Yysse'r byd i gyd mewn attal
Ym mhwll uffern am un Afal,
Er maint y fo drwg y Ddraig,
Hâd y wruig Gen. 3 15.
Dod dy drist yn hâd y wraig;
Mae ef gwedi sigo ei siol,
Torri ei chrib a thynnu chol,
Sarph.
Os Brath sarph a cholyn pechod
D' enaid bach heb allu orfod:
Nid oes dim a wnaid lês,
Nes mynd at Grist y sarph o brês
Adda gollodd hên Baradwys
Paradwys
Am yr afal gynt y fwytwŷs:
Gwachel dithe golli'r llall,
Am fath fale os wyd gall.
Y dyn y wnelo ddrwg fel Cain,
Medd Duw'n amlwg ac yn blai'n
Cain,
Nid ymedy drwg a'i dŷ,
Nes del dial oddi frŷ
Gwachel dywallt gwaed, dyn gwition
Megis Cain y Mwrddwr creulon:
Y dywallto gwaed yn siccir,
Gen 9.6
Ei waed yntef a dywelltir
Na wna lanas yn y dirgel,
Duw ddatguddie fwrddrad Abel,
Yn y dirgel os gwnei fowr-ddrwg
Abel
Duw a'i dial yn yr amlwg
Bydd fyw'n wirion megis Abel;
Ofna Dduw, Arfer a'i Demel;
Ostrwm iddo nôs a bore
Aberth brûdd, ar ben dy linie.
Offrwm Mal. 1, 13 14.
Pan offrymmech ddim i Dduw,
Offrwm iddo'r gore o'i ryw:
Ffiaidi gantho, ac nid hôff,
Y Gwan, a'r Gwael, y claf, a'r Clôff
Os offrymmu a'th holl gaion,
Duw y dderbyn dy anrhegion:
Enos.
Oni offrymmu o'th lwyr sôdd,
Byth ni dderbyn Duw dy rôdd.
Gen. 4 26.
Pan fo pawb yn mynd yn ddiog,
I wsnaethu'r Holl alluog;
Cyffro bawb o'r byd fel Enos.
I addoli Duw heb aros.
Cais gan bawb wasnaethu Duw
[...]yled pôb gwir Gristion yw:
[...]ossod allan ei Ogoniant.
Di gae gantho
Dedwydd­wch. Enoch
ffawd a ffynniant
Rhodia gyda Duw fel Enoc,
Dilyn lwybrau'r Holl alluog,
Cofia fod Duw'n disgwyl arnad,
Ym-hob man a chil ei lygad
Gwyl pa ymdal y gadd Enoc.
Am wsnaethu'r holl alluog:
Mynd ir nef cyn gweled Ange
Pwy gan hynny nas gwsnaethe.
Dysc gan Enoch dair gwers rasol,
1. Fôd dy enaid yn aufarwol,
2. A bôd ith Gorph Adgyfodiad;
3. Ac ir Duwiol nefol daliad,
Rhodia gyda Duw gen. 5.24
Na wna frynti yn y Cornel
Mae Duw'n gweld pob pechod dirgel:
Ac am hynny meddwl fyw,
Megis un sy'ng olwg Duw.
Pyt fae itti gryfder Cawr,
Duw y fyn dy dorri fawr,
Ath roi'n fwyd i borthi'r chwilod
Os ymroi di ddilyn pechod
Oni alle gawr ddifannu,
Pan ddaeth Diluw dwr i farnu;
gen. 6
Bwedd y dichon gwangc ddihangyd?
Pan y dêl y diluw tanllyd.
Er cyndrwg y fo'r Byd o bobtu
Er cymmaint y fo o rai'n pechu;
Bydd di berffaith yng wydd Duw,
Noah
Dilyn no tra fyddech dyw
Gwachel ddilyn arfer Tyrfa,
Y fo'n pechu am y cynta
Gwell na hynny yw dilyn un,
Y ofno Dduw, y barcho ddyn
Dlljw:
Gwêl mor ddrewllyd yw putteindra
Gwêl mor gâs gan Dduw ddiffeithd [...]
Pan na wasnaethe dyfroedd Lai.
Noah.
Na'r dŵr dilyw i gospi'r bai.
Os byw y wnai di Megis No,
Yn ŵr perffaith ar bob trô,
Byddi gyda Noah gadwedig,
Pan bo eraill yn golledig.
Gwell it ddilyn Noah ei hunan,
Mewn perffeithwydd, ffydd, ac ofan;
Nag it ddilyn yr holl fŷd,
Mewn drygioni, a boddi gŷd,
Arch, neu Long,
Gwna dy long tra' i'n amser grâs
Cyn y delo'r diluw câs:
Mae'n ddiweddar gwneuthur Bâd,
Pan bo'r Diluw'n boddi'r wlâd
Gwell o lawer, nid ychydig,
Ein bod gyda Noah gadwedig,
Yn y llong, na chyda llawer:
Bwa.
Yn y diluw du a'r dyfnder,
Pan y gwelech fwa 'r Drindod,
Cofia farn Duw a'i gyfammod:
A bendithia ei dduwiol fawredd
Am ei fwynder a'i drugaredd.
Ystyr amryw liwiau'r Enfys,
Glâs a cloch yw'r ddwy farn gofus
Glâs oedd Dŵr y diluw cynta,
Coch yw Tâd y farn ddiwaetha,
Lle mae'r bwa yn gyffredin
Ai gyrn ir ddaer, heb faeth, heb linin
Y mae'n dangos mor heddychlon
Yw hi yn Ghrist rhwng Duw a dynion
Meddwdod Noah
Gwachel Satan hên a'i rwyde,
Pan y bech tra diofal gartre:
Ef a'th ddilyn megis No,
Nes rhoi itti ffwyl ryw dro,
Oni ddichon Satan ddala;
[...]oe ai rwyde o butteindra;
[...]e brawf ddala Noe heb wybod.
Yn hên wr a rhwyd o feddwdod
Od ei mae drigo i Gomorra.
Lle mae meddwdod a phutteindra
Cadw arnad megis Lot'
Lot.
Rhag d' halogi a'r hwy a'r pot,
Sodom
Oi gweld di'r dre bech yn byw
Yn pechu'n gas yn erbyn Duw
Tynn fel Lot i maes o Sodom
Cyn disgynno arni'r storom.
Gwell bôd gyda Lot ei hunan
Ar y mynydd dan y geulan;
Na bôd gyda holl wyr Sodom,
Yn y dre yn godde'r storom.
Meddwod Lot.
Pwy ymgadwe yn well na Lot,
Yng hanol Sodom rhag y pot?
Yn yr ogof pwy y feddwe,
Ar y gwin yn gynt nag ynte?
Lloscach Lot.
Or dihengaist rhag putteindra
Rhwng y
Tai put­teiniaid
styw, dai yn Gomorra;
Gwachel wneuthur pechod afian,
Gartre ym mysc dy ffryns dy hunan,
Os dihangaist rhag y tan,
Tân.
O ganol Sodom am fyw'n lân;
Gwachel rhag dy losci'r eilwaith,
Gwraig Lot
Yn dy dŷ am fyw yn ddiffaith,
Os gadewaist Sodom un waith,
Ni ddymchwela i Sodom eilchwaith
Trowd gwraig Lot yn Bil o halen,
Am droi hwyneb Hwyr ei chefen.
Gomorra Puttein.
Agor d' olwg, gwel mor ffyrnig
Y mae Duw yn cospi rhyfig:
Pan y llosce a than a brimston
Dre Gommorra o'i achosion.
Llef Sodom
Clŷw mor cuwch y gweiddia pechod
Ddydd a nôs yn ghlustie'r drindod,
Ac na ddichon pechod dewi,
Nes di alo Duw ei frynti,
gwlad Sodom
Och! mor ddrewllyd ac mor embaid▪
Ydyw lloscach y Sodomiaid;
Pan bo'r wlad yn drewi etto.
A'r mwg a'r tarth lle bont yn trig [...]
Gwachael haeddu rhêg dy Dâd;
Byth nis gorfu cam na'i Hâd,
Cam
Melldith noe sy'n glynu'r ffinion,
Byth yng-hrwyn y Moyrys duon,
Megis Sem, trwy ddawn a rhâd
Sem▪
Cuddia gwilydd Noe dy Dâd;
A phan ddel mewn gwth o oedra [...]
Na watwara megis Canaan.
Solomon
Parcha bathseba dy fam,
Anrhydedda hi ar bôb cam;
Rho'r llaw ddehau iddi'n ufydd,
Fel roddei Selef Ddafydd,
Abraham
Cynta peth y wnel dy ddwylo,
Pa le bynna ir elech iddo,
Godi allor gydag Abram
I addoli Duw'n ddigytcam
Crêd bob gair a enau Duw,
Fydd Abra­ham.
Gwir, a phur a pherffaith yw;
Nef a daiar a ddiflanna,
Cyn el jot o'i Air heb gwpla
Lle harcho Duw itt' fyned, dô [...]
Ufydd dod Abraham
Y peth orchmynno gwna yn glos;
Bydd mor ufydd ac oedd Abram
Gwna'r peth archo yn ddigytcam
Offrwm d' Isaac os Duw arch
Ac enwaeda'r cnawd o barch,
Gado Ddelwau aur dy dâd,
Dôs pan harcho maes o'th wlâd
Dysc gan Isaac fod yn ufydd,
Isaac
[...]wyn a llariaidd, dof a llonydd
[...]elly byddi suwr i fyw,
Mewn ffafar dyn, mewn ofan Duw
Gwely'th Briod na haloga.
Ond bydd fodlon i'th Rebecca;
Rebecca
Fel y bydde Isaac sanctaidd;
O flaen Duw mae hyn y weddaidd,
Os bydd geiriau Jacob genyd,
Gwachel ddwylo Esau waedlyd;
Cais gan Dduw a pheth digwnt
Jacob
Yw'r geiriau braf ar gweithred brwnt.
Pan bwriadech geifio gwraig,
Bydd i Jacob yn Scholhaig,
Dilyn gyngor Mam a thâd,
O mynny lwyddiant ar dy Hâd
Na fydd lwth i lanw'th fola
Esau gâs y cwylydd mwya,
Am roi i Jacob ei holl afel,
Dros phiolaid o gawl Gruel,
Esau
Ffei or afrad, ffei or meddwdod
Na werth nef am fwyd a diod;
Esaw gollodd Ganaan decca,
Am werthu fraint i lanw ei fola
O [...] cais meistres yn y cornel,
Genyd orwedd gyda'i 'n ddirgel
Cilia gyda Joseph allan.
Joseph
Na ladd d' enaid er ei chusan.
Dos i garchar, godde gûr,
Gorwedd mewn cadwynau dûr,
Cyffion
Cyn y gwnelech megis filain
Aelod Christ yn aelod puttain.
Na châr buttain tra fech byw
Na haloga Demel Dduw;
Ni wnai Joseph beth mor ffinion,
O serch pydru yn y cyffion.
Puttein
Margain front fel Margain Esaw,
Margain y bair cnoi ac wylaw,
Ydyw gwerthu'r nefoedd be [...]ffaith
Am gyfeillach puttain noswaith
Ioseph waith na fynne orwedd,
Derchafiaid Joseph
Gyda'i feistres mewn anwiredd,
Y gas mynd yn Brins arbennig,
Ar yr Aipht am stopio rhyfig.
Gw [...]ll bôd gyda Ioseph ddiwar
Am [...]onestrwydd yn y carchar,
Na bôd gyda Herod Frenin,
Reuben
A Herodias rhwng ei ddaulin,
Os dringhady wely'th dad,
Gyda Reuben hyna o'r gwaed;
Judah gaiff yr holl Difeddiaeth
Ni chei ditheu ond yr hiraeth,
Simeon
Simeon gwachel werthu'th frawd
Drwg y gwyddost beth yw'r flawd
Fe fydd Joseph gwedi werthu,
Yn troi Simeon ir carchardy,
Moses
Dysc gan foesen fod yn fwyn
Araf, llednais, da dy gwyn,
Hawddgar, ffyddlon. prûdd. di-dwŷll,
Cefnog, diddig, da dy bwyll.
Gwêl pwy filwyr sydd gan Dduw
Phorao
Yn plygu'r Brenin cryfa'n fyw,
Llau, a llyffaint, ceiliog rhedyn
Yn troi Pharo'i geisio canlyn.
Canaan
Os ceisi i fynd o'r Aipht i Ganaan,
Lle mae'r mêl a'r llaeth yn dropian;
Rhaid id fyned trwy'r mor coch
Er maint ei rym, er cuwch ei roch
Gwachel laru ar y Manna
Manna.
Claf iawn wyt oni elli fwytta;
Ac os ceisi Bwmps a phannas;
O flaen Manna, mae 'ti anras.
Cyn gadawo Duw ddim eifie,
Soflieir,
Ar y sawl y gatwo ei ddeddfe,
[...]afr ir nefoedd lawio Manna,
A Chwailes iddynt hwy i'w fwytta
Na wrthneba byth o'r ffeiriad,
Corah
Angel Duw yw wrth ei alwad;
Gwachel 'rhag ir ddaer dy lyngcu
Os fel Corah y gwrthnebu.
Gwachel fedlo maes o'th alwad
Bethau perthyn at offeiriad:
Ni fyn Duw ond ffeiriad gweddaidd,
Offeiriad
Drin yr Arch a'r pethau Sanctaidd
Gwel mor gaeth y myn Duw inni,
Gadw Sabboth heb ei halogi,
Pan y pare ir holl gymmanfa
Labuddio'r dyn am Sûl friwedda
Treulia'r Sabboth byth yn Sanctaidd
Dere i Demel Dduw yn weddaidd,
Sabboth
Ac nac arfer trafech byw,
Waith y cythrael ar ddydd Duw,
Gwelwn allu Duw bob un,
Yn stoppio'r haul wrth weddi dŷn
Ac attal hon dros ddiwrnod cyfan
Haul
Uwch ben ei lûheb fynd or un mann.
Cofiwn bawb mae'n cwilydd yw,
Os stopdia'r Haul pan harcho Duw
A'n bod ninnau crach fudreddi,
Pan harcho Duw, heb fedru ymstoppi.
Os ceisir genyd 'ddoli delwe,
Josuah
Megis Josua atteb dithe,
Nid addolaf tra fwy byw,
Mi am tylwyth ond fy Nuw.
Zimri, Zimri, gwêl y cledde
Zimri
S'uwch dy ben gan Dduw'r diale,
A'r ffon wayw sydd gan Phines.
Ith drywanu ti ath Langces.
Balaam
Balaam Balaam agor lygad,
Gwel yr Angel sy'n dy warchad
Tro yn d' wrthol, gwachel fribi
Gwrando'r assen yn d' argoeddi
Na châr buttain mwy na chythrel
Samson
Na ro iddi byth o'th gwnsel:
Hi dyrr gwddwg▪ hi dyn galon
Gwr pyt fae mor gryf a Samson
Na faintumia bobol ddrwg,
Gibeah
Ond bydd arnynt byth ar d' ŵg,
Gibeah loscwyd a'i holl bobol
Am ymddiffyn gwyr anneddfol
Benjamin
Benjamin erdolwg clyw,
Pam y tynny ddial Duw,
Ar dy dŷ a'th ben dy hunan,
Am ymddiffyn plant i Satan?
Cymmer rybydd oddiwrth Eli,
Eli.
Ddysgu'th blant a'u dyfal gospi
Lle na chospo'r Tâd a'r wialen,
Duw a'r cledde dyrr eu cefen▪
Dysc gan Samuel trech yn blentŷ [...]
Brûdd wasnaethu Duw ai ganlyn
Samuel
Ac arferu hyd dy ddiwedd.
Fyw yn gyfiawn, yn ddigamwedd
Dysc gan Samuel Farnwr gwych
Na chymmerech fuwch nac ych:
Ond rhoi barn ym mhob rhyw fatt [...]
I bob dyn yn ol cyfiawnder.
Joel mab Samuel
Beth ennillodd Joel aflan
Wrth gam farnu ac wrth fribian?
Colli swydd ai etifeddiaeth,
Ennill cwilydd a dannodiaeth.
Uzzah gwachel gwrdd a'r Arc,
Gâd ir ffeiriad hynny o garc
Arch
Trin dy swydd dy hun a'th alwad
Nid yw'r arch yn perthyn attad
Bydd ddioddefgar megis Jôb
Job,
Trech yn glaf, na lef ôb ôb;
Yn dy golled gwachel gablu:
Duw sy'n rhoi, a Duw sy'n tynnu
Pe dyge Dduw sydd yn dy helw
Pe'th drawe'n glaf, nes bae ti marw;
Dywaid, pyt fae Dduw'n fy mlingo,
Etto mi ymddiriedaf ynddo.
Canol nôs fel Brenin Dafydd,
Cod i lawr, penlinia'n ufydd,
A molianna Dduw'r pryd hynny,
Dafydd
Pan bo eraill yn hwrn gyscu,
Hôff o beth a hyfryd yw,
Ganol nôs glodfori Duw,
A rhoi diolch, iddo'r bore,
Am ei râs ai amal ddonie;
Bydd mor difar am dy bechod
Ac oedd Dafydd Broffwyd hynod;
Ac na orphwys wylo'n irad,
Nes cael ffafar Duw ai gariad,
Wyla nes bo'th wely'n foddfa
Bwyta ddeigre gyda'th fara,
Gwisc di sâch, a thro mewn
llwch
llythrod
Nes cael pardwn am dy bechod,
Er melyned y fo'th gydyn,
Gwachel f' enaid chwareu'r coegyn;
Absalon
Ac nac arfer locse hirion,
Rhag dy faglu fel Absalon
Os aiff Dafydd i felina,
Ganol nos at wraig Uria:
Fe ddaw un ganol-ddydd gole,
I felina iw felin ynte:
Gwel mor fyr yw Plesser oflyd;
Y wnai Amnon golli fywyd;
Gwel mor cherw yn y diwedd,
Amnon
Y blâs pechod ac anwiredd.
Tamar
Na ddod d' en [...]id byth mewn peryg
I gyflawni chwant a rhyfyg;
Fe fydd chwerw ac edifar
Yn y diwedd dreisio Tamar
Dôd dy dŷ mewn ordro addas,
Hezeciah
Fel y dode Hezecias:
A bydd barod byth yn gwiliad
Ange, cyn y delo attad.
Gwachel chwennych gwinllan Naboth,
Trais y lef am ddial boenoth;
Naboth.
Gwinllan Naboth os trachwantu,
Teyrnas Israel y fforffettu,
Ahab, Ahab, dela'n union,
Na ddwg winllan Naboth wirion,
Ac o's dygu trwy udonaeth,
Ahab.
Duw ddifetha dy hiliogaeth.
Er maint y fo'th boen a'th drafel
Daniel.
Cwymp i addoli Duw fel Daniel,
Dair gwaith yn y dydd o leia,
Dyna'r unig waith sydd reitia,
Cau dy stafell 'plyg dy linie,
Côd d' olygon, agor d' ene.
Cae'r stafell
Ac addola Dduw yn brûdd,
Felly dair gwaith ar bôb dydd.
Serch dy daflu i fysc y llewod
Ffau y llewod
Na 'sceuluffa 'ddoli'r Drindod;
Y bwystfilod gwaetha eu nattur
Fedrant ffafrio gwir Addolwyr
Nac ymgrymma byth i ddelw,
O serch gorfod arnad farw,
A mynd gyda Sadrach hyfryd,
Sadrach.
Ar dy ben i'r ffwrnais danllyd
Duw yn unig sydd iw addoli
Nid yw'r ddelw ddim ond gwegi
Coed a cherrig, Aur ac arian
Bwbach nad all helpu hunan.
Pan bo'r cwppan wrth dy fin,
Belsazzar
Yn cablu Duw, yn yfed gwin
Gwachel Angau dig dy daro
Fel Belsazzar wrth garowsio.
Pan bech yn carowsio'n dal
Llaw ar y wal
Gwêl y llaw sydd ar y wal,
Yn scrifennu o flaen d' wyneb,
Dy farn aethlyd a'th lothineb.
Bydd drugarog fel Tobias
Wrth bôb tlawd y fo o'th gwmpas;
Tobias
Ac na fwytta bryd yn iachus,
Nes rhoi rhan ir tlawd anghenus
Helpa'r gwan, a chladd y marw
Swccra'r noeth, cyfrwydda'r weddw
Bydd yn rhyscwy i'r ymddifaid
Na fydd anfwyn wrth ddieithriaid.
Raphael
Pan y bech ar feder gwreicca,
Cais gan Dduw dy helpwr haela,
Raphael sanctaidd i'th gyfrwyddo,
Cyn ymlygrech wrth ymfatsio
Sara
Cyn gorweddech gyda Sara,
Llaw yn llaw a hi gweddia,
Ar ir Arglwydd roi 'ti lwyddiant
Help a chymmorth, ffawd a ffyniant
Dysc gan Dobi Ifangc berchi,
Dy Dâd a'th fam a'u cymfforddi
Pan bont marw, cladd hwy'n weddaidd,
Tobi ifangc
Hyn fydd rasol a Christnogaidd.
Bydd fyw'n gyfiawn ac yn gynnyl,
Efengŷl
Fel pyt faet heb un Efengyl,
A bydd farw'n gystal d' obaith,
A phyd faet heb weld y gyfraith,
Os gofynni anwyl gristion,
Pwy wnaeth hyn o werseu byrrion
Gwâs i Grist sy'n ceisio d' hwppo
Tua'r nêf a'i draed a'i ddwylo.

Llythyr yr Awdwr at ryw Eglwyswr a ddeis­yfodd arno droi ar gân Gatechism Eglwyr Loeger.

DY
Awydd­fryd.
Zeal at Dduw a'i Eglwys,
Fy mrawd, mi wn a barwys
It geisio troi holl bwngciau'r ffydd,
Ar gân mor brudd, mor gymmwys.
2.
Di weli fod yn hawsach,
Gan Gymru [heb eu hammarch]
Ddysgu caniad ofer serth.
Na'r Peth sydd werthfawroccach
3.
Gan hynny ceisiaist genni,
Droi'r pyngcie hyn iw canu;
Fel y gallo'n Defaid mân,
Yn rhwydd ar gân ei dyscu.
4.
Wrth weld dy dduwiol fwriad,
Ni phellais o'th ddymuniad:
Ond mi droes dy byngcie'n fyrr,
Yn blaen yn Eglur ganiad.
5.
Ni cheisiais ddim cywrein waith,
Ond messur esmwyth, perffaith,
Hawdd iw ddyscu ar fyrr dro,
Gan bawb a'i clywo deir gwaith,
6.
Derbyn yn gressawgar,
A geisiaist mor 'wllysgar;
Er nad ydyw'r gwaith ond gwael
Mae'n chwennych cael dy ffafar
7.
O caiff ein Duw ogoniant,
Na'n defaid dippyn llessiant;
Rym ni'n dau yn cael ein gwynn
O'r gorchwyl hyn trwy lwyddiant.
8.
Duw roddo dy ddymuniad.
Duw fyddo ceidwad arnad;
Waith bôd fy ffrwst, a'm gwaith yn fawr
Mi gymra nawr fy nghennad

CATECHISM.

Holiad,
FY Mhlentyn hygar hoyw
Er Christ beth yw dy enw
Maneg i'm o galon brydd.
Dy grêd a'th ffydd yn groyw,
Atteb,
Fy enw yw Cynedda,
Y gollwyd gynt yn Adda;
Etto

Os creda­dyn edifeiriol, ufydd ac nid gweithredwr, anwiredd wyt ti, feth ged­wir di.

Heb. 5, 9 Mat. 7.23,

gedwyd trwy râs Duw,
Yn Ghrist 'rhwn yw'r Messia,
H▪
Pwy roes dy enw itti,
Lle'r oeddyd gwedi'th golli,
Gyda'r byd trwy Adda gaeth,
A'th droes i'r fath drueni?
A.
Fy nhadeu a Mammeu bedydd,
Trwy lân ac union grefydd,
Pan bedyddiwyd fi a dŵr
Wrth arch fy Mhrynwr ufydd
H.
Pwy lês sy'n dwad itti,
O'th fedydd gwedi'th olchi
Yn y dwr gan ffeiriad Duw,
Waith cymmaint yw'th drueni
A
Rwi'n
Nid wyt ti felly mwy na Simon Ma­gus er dy, fedyddio a Dwr onit wyt i hefyd wedi'th fedyddio a'th san­cteiddio a'r Yspryd glan. Mat. 3 11. Rhuf. 8 14.
Aelod pûr im prynwr.
Rwi'n Blentyn im Creawdwr,
Rwi'n 'tifedd mawr o deyrnas nêf,
Rwi'nghrist yn ore 'nghyflwr,
H.
Pa beth yw'r llw a'r Amod
Y wnaeth dy feiche dr [...]ssod?
Pan dderbyniaist hyn o fraint,
Ym mhlith y sainct trwy gymmod
At▪
Addawsant dri pheth drossof,
Nas gadaf byth yn angof,
Ond mi cadwaf hwynt i gyd,
Trwy Dduw, tro bywyd ynof
Hol,
[Page 238]
Beth ydyw'r tri pheth hynny
Addawsant id' gyflawni?
Pan yr oeddyt mor ddirym,
Mynega im os medru.
At
1.
Yn gynta dôd im wrthod
Y Diawl, a'i dwyll. a'i gymmod,
A'r byd anwir, mawr ei wawd,
A chwanteu'r cnawd a'i bechod:
2.
Yn nessa bôd im gredu.
Holl byngcie ffydd Christ Jesu
Y rhai'n y Gredo, bôb yr un,
All bôb rhyw ddyn ei dyscu
3,
Yn drydydd cadw'n
Gofalus.
garccys
Orchmynnion Duw a'i 'wllys,
A byw'n ei hôl yn dda fy moes
Holl ddyddiau f' oes yn weddys
H.
Beth ydwyt ti yn dybied?
A'th rwymwyd di cyn gaethed;
Ac y rhaid itt' gredu hyn.
Ai cwpla'n dynn trwy weithred.
1.
A. Yn wir rwi'n rhwym i gredu,
Ac hefyd i gyflawni.
Hyn i gyd, a hynny wnâf,
Trwy nerth Duw nêf heb ffaelu
2.
Ac yr wyf yn ddiolchgar,
Im Duw am gymmaint ffafar,
Am galwodd i ir cyfryw stâd,
Yn ghrist fyng Heidwad hygar
3.
Ac mi't olygaf arno.
Roi grâs im byth i drigo.
Yn y cyfryw stâd trwi byw:
Nes tynno Duw fi atto.
H.
A Drodd immi yn bryssur
Holl fannau'th ffydd yn eglur:
A mynega im ar llêd,
Beth yw dy Gred ath hydyr,
A.
[Page 239]
R Wi'n credu yn Nuw galluog
Tad Jesu Grist drugarog
Creawdw r nêf a daer, a dwr,
Joan. 14 1
A'u pen Rheolwr enwog.
Ac rwyfi'n credu hefyd,
Yn Ghrist fy Mhrynwr hyfryd,
Y wnaed yn Ddyn o'r wyryf Fair,
Trwy râd ei
Lân i
ddiwair yspryd.
Yr hwn a wir ddioddefwys
Dros ddyn Bons Pilatwys;
Ac a hoelwyd ar y groes.
Nes marw o'r loes a'i lladdwys
A chwedi marw ar Groes-pren,
Fe gladdwyd yn y ddaeren;
Fe ddiscynnodd er ein mwyn,
Act. 2 31
I uffern dwym, aflawen
Ar trydydd dydd fe gododd,
O farw lle gorweddodd,
Gwedi Gorfod Angau glâs:
A'r Gelyn câs a'n twyllodd
Ac yno fe dderchafwys.
Ir drydedd nêf yn gymmwys
Lle'r eiste nawr ar law dde'r Tâd,
Yn geidwad pur iw Eglwys;
O'r Nef fe ddaw yn hoyw,
I farnu'r byw a'r meirw,
Mewn gallu a gogoniant mawr
Pan ddel yr awr i'n galw,
Rwi'n credu'n ffyddlon hefyd,
Ir glân a'r Sanctaidd yspryd
Sy'n deilliaw oddiwrth y Tâd a'r Mab,
2 Joan 5 7 Jo. 15, [...]
Gwir roddwr rhâd a Bywyd.
Rwi'n credu yn suwredig,
Fôd Eglwŷs lân gatholig,
O bob Nasiwn, oes a thir,
Gan ghrist yn wir gadwedig.
[Page 240]Rwi'n credu bod yn gyngan,
I bawb o'r Saint eu cyfran,
Yn Jesu Crist ein Prynwr drûd,
A'i ddoniau 'gyd yn gyfan.
Acts. 3.9
Rwi'n credu bod maddeuant,
I bawb a wir' ddifarant,
Er mwyn mâb Duw a dalodd iawn,
Tra chyflawn am eu nwyfiant,
Rwi'n credu Adgyfodiad,
Im Cnawd pan del yr
Barnwr
Ynad.
A'i udcorn mawr i'n codi o'r llywch.
I gyfri cywch a'r lleuad.
Ac yr wi'n credu'n hollol,
Fôd Bywyd mawr tragwyddol,
I holl Blant, Duw a'i Saint ynghyd,
Yn ol y Byd presennol, Amen.
H.
Pa
Pwy ‖ bethei benna ddyscaist.
O'th Gredo' rhon adroddaist?
Cais grynhoi yn fyrr ynghyd
Ffrwŷth hyn i gyd a draethaist
A.
Rwi'n dyscu credu'n gynta
Yn Nuw'r gwir Dad gorucha,
Rhwn a'm creawdd a'r holl Fŷd,
Mewn dull a phrŷd o'r glana
Yn ail yr wyf yn credu.
Yn Nuw'r mab f' Arglwydd Jesu
1 Cor. 6 11. Eph. 1.4.
A'm Prynodd i a phob rhyw ddyn,
A'i waed ei hun i'n helpu
Yn drydydd credaf hefyd,
I Dduw'r Sancteidd lan Yspryd
Am Sancteiddiodd a phob rhyw
Etholodd Duw i fywyd.
H.
Di addewaist trwy feichneon
Lwyr gadw'r holl orchmynnion:
A sawl un or rhain y sydd,
Iw cadw'n brûdd o'r galon?
[Page 241]Mae deg gorchymmyn croyw
Y roes Duw inni cadw;
[...]id roes torri un o'r rhain,
Rhag mynd yn gelain farw
H.
Pa rai er Christ yw rheini?
Moes glywed, praw eu henwi
Cais fyw'n sanctaidd yn eu hol,
A gwna hyw'n Rheol itti.
A,
Y rhai ar fynydd Sina,
A draethodd Duw gorucha,
Ai enau hun o'r tan a'r mwg
Yng olwg ei gymmanfa,
A'r rhai trwi ddwylo Moesen
Y roes Duw ar ddwy
Llech
dablen;
Gwedi printio a'i fys ei hun
Yn hawdd i ddyn ei darllen
Y rhai sydd ddigon eglur,
Iw tynnu
Allan
maes o'r Scrythur
O'r ugeinfed bennod dlws,
O Exodus gymmessur.
H,
Beth yw'r Gorchmyn cynta,
A'r ail a'r llaill? mynega;
Praw eu traethu cymmain-hun,
Yn oed yr un diwetha.
A.
1,
MYfi yr Holl alluog,
Yw d' Arglwydd Dduw trugarog
Na fyn un Duw ond myfi,
Sydd un a thri Galluog,
2
Na wna un ddelw itti,
Cerfiedig, iw haddoli;
Na llun dim o'r nef na'r ddaer,
Na'r dwr na'r
awŷr.
Aer im
Digio
Siomi.
Na ostwng i'r fath wagedd,
Na 'ddola'r fath oferedd;
Pridd, a choed, a cherrig ŷn.
Gwaith dwylo dyn a'i fyssedd
[Page 242]Cans myfi dy Arglwydd grymmys
A'th
Arglwydd.
Jor wyf Dduw eiddigus,
Sy'n ymweld a phechod cant
O dadau ar blant camweddus
Ac yn rhoi cospedigaeth.
Hyd dair oes a chenhedlaeth
O'r rhai sydd yn fy 'nghasau,
Trwy garu gau addoliaeth,
Gan ddangos trugareddau,
I'r sawl a gatwo 'n neddfau,
Ac iw plant, au hâd, au hîl
Hyd fil o genhedlaethau.
3.
Nac Enwa Dduw un amser,
Heb ofon, parch, a phryder;
Cans nid gwirion yw dy lw,
Os cymru ei enw'n ofer,
Cofia gadw yn sanctaidd
Y Sabboth wenn yn weddaidd,
A threulio'r Sul tra fech di byw'
Yn addoli Duw'n gristnogaidd,
Fe rodd Duw chwech diwrnod.
Id weithio d' orchwyl
Dy hun.
priod;
Y seithfed dydd rhaid cwympo'n fai [...]
I weithio gwaith'y Drindod.
Ar y diwrnod hwnnw:
Na wna ddim gwaith serch maw [...],
Na'th fâb, na'th ferch na'th wâs na'th far [...]
A'r dierth arch ei gadw;
O achos mewn chwech die,
Y gwnaeth Duw'r byd ai bethe,
Ar nef a'r ddaer, a'i môr, a'u llu,
A'r cwbwl sy'n ei
Yn ŷ cwrre eithaf o hon­ynt,
dible.
A'r seithfed dydd f' orphwysodd,
Gan hŷnny fe fendithiodd.
Yr Arglwydd Dduw y seithfed dy [...]
Ac ef a'i prûdd sanctaiddiodd.
5
Rho barch a gwir ufudd-dod,
I'th Dâd a'th fam yn wastod,
[...]el hestynno Duw yn hir,
Dy oes ar dir dy drallod.
6.
Gwachel ladd un Christion,
Na thywallt gwaed y gwirion;
Gwaed y lêf yn dost ei lais;
Gen. 4.10.
Duw ddial trais llofruddion.
7.
Na wna odineb aflan,
Dihar 5 15.18
Gwna'n fawr 'oth wraig dy hunan;
Yf dy ddwr o'th
Ffynon.
winsh dy hun.
Na chwrdd ag un oddiallan,
8.
Na Iedratta
Y gronyn lleiaf.
fymryn,
Trech byw, o olud un dyn;
Na thwylla neb: nac arfer drais,
Er.
Serch godde clais a newyn.
9.
Na fydd di dyst celwyddog,
Yn erbyn dy gymmydog,
Dywaid wir am bôb rhyw ddyn:
Na sclawndra un dieuog.
10
Na chwennych dŷ Cymmydog
Na cham­gyhudda,
Na'i wraig, na'i wâs calonnog;
Na'i forwyn wenn, na'i farch, na'i ych:
Na dim na byth perchennog.
O Arglwydd Dduw bydd dirion.
Wrth bawb o'th Blant, a'th weision?
Gostwng di'n calonne'n faith,
Gweddi.
I gadw'th gyfraith gyfion.
O Arglwydd grasol madde,
Ein pechod a'n trossedde:
A scrifenna'r gyfraith hon,
Ar leche ein calonne.
H.
Beth wyt ti'n ddyscu'n benna,
O'r gyfraith hon? mynega;
A rho im, yn gryno ynghyd.
Ei Ffrwyth i gyd yn gwtta,
A.
[Page 244]
Rwi'n dyscu dau beth enwog,
Fy nau ryw ddyled serchog.
Un tuag at fy Arglwydd Dduw,
Llall at pôb rhyw gymmydog
H,
Ya gynta moes im glywed,
Yn gyflawn beth yw'th ddyled
At yr Holl-alluog Dduw,
Sy'th rwymo i fyw yn gystled,
A.
Heb 11 6 Heb 12 28 Mat 22 37 Deut. 12 22 Psal 145 2.
Fy nyled at Dduw cyfion,
Yw credu ynddo'n ffyddlon
A'i ofni'n fawr trwy barch a ffydd,
Ai garu'n brudd o'm calon;
Yno i wir addoli.
Fel y mae air yn erchi;
A'i fendithio bob rhyw awr,
Am gael ei sawr ddaioni;
A llwyr ymddiried ynddo,
A galw'n gywir arno,
Perchi Air, a'i Enw'n brûdd,
A bôd yn ufydd iddo;
Ac felly ei anrhydeddu.
Yn gywir, a'i wasnaethu
Ddydd a nos tra ynof chwyth,
Ar eitha byth o'm gallu,
H.
Beth yw dy ddyled enwog
Tuag at bob rhyw gymmydog?
Moes i glywed immi'n glur,
O galon bur yn rhywiog.
A Fy nyled at gymmydog
Yw garu'n daran serchog,
Fel y caraf fi fy hun;
Pyt fae fy ngelyn llidiog;
mat 22 39 mat 5 44 mat 7 12.
A gwneuthur i bôb Christion,
Fel y dymune 'nghalon,
Iddynt hwythe wneuthur im,
Heb ddangos llym fessuron;
[Page 245]A charu fy rhieni,
A'i cymmorth hwy a'u Perchi:
1 Tim 5 4.
A gwneuthur heb ddim nag, na son
Sef pob peth cyfrei­thlon
Bôb § peth a sôn yn erchi;
Ac ufuddhau i'r Brenin,
A'i swyddwyr sy'n f' amddiffin
1 Pet. 3 13.14. act. 4.19
A'i anrhydeddu trwy fawr barch
A gweithio ei arch yn ddiflin;
A gostwng i'm dyscawdwyr,
Athrawyn a chynghorwyr,
1 Thess 5 12.13.
Sy'n cyfrwyddo immi fyw,
Wrth 'wllys Duw a'r scrythyr,
A pherchi mawr a bychan
1 Tim. 6.1 Lev. 19.32.
O'm gwell o bob rhyw oedran,
Ac ymostwng iddŷnt hwy
Heb wneuthur mwy o dwrddan;
Mat. 5.22. Lev 19.17. 1 Thess. 4.3.4 5. Mat. 51.28.
Ac na wnelwyf niwed,
I neb ar air na Gweithred,
Na dwyn câs at un rhyw ddyn;
Na chlwyfo un ar aned;
A chadw 'nghorph yn dempraidd;
Yn sobor ac yn sanctaidd,
Rhag pob rhyfyg fel rhag plag.
Yn

Dihalog.

Epe. 4, 28 1 Thes. 4.6.

ddiwair ag yn weddaidd;
A chadw'n nwylo'n benna,
Rhag chwiwio a lledratta,
Ac rhag gwneuthur twyll na cham
Ond gweithio am eu bara;
Eph. 4.25. Psa, 50.19.
A chadw 'nhafod beunŷdd'
Rhag cabledd, twyll,
Un heb broffes gristnogol
a chelwŷdd
Ac rhag dwedyd drwg am neb
Fel ‡ ethnic heb i fedydd;
A chadw nghalon angall.
Rhag chwennych golud arall;
Ond trafaelu wrth fodd Duw,
2 Thess 3 8.10.
I geisio byw yn ddiwall,
[Page 246]
Rhuf. 7.18.
Gwybydd hyn yn eglur,
Nad wyt ti'n abal gwneuthur,
Rhuf, 3, 12▪
Hyn i gyd o'th rym dy hun,
Lle 'rwyti 'n ddyn pechadur.
Ni elli gadw'r Gyfraith,
Na rhodio ynddi'n berffaith,
Jo, 15.5.
Na gwasnaethu Duw'n ddifrâd,
F' anwyled
Heb gael ei Rad ef (f' anrhaith.)
Gan hynny rhaid id ddysgu,
Trwy weddi attolygu.
Ar Dduw mawr o hyn î mas,
Roi nefawl Ras i'th helpu,
H.
Moes glywed im gan hynny,
A fedru di fynegu.
Gweddi'r Arglwydd yn ddibaid?
Ond ê mae'n rhaîd ei dyfgu,
A
EIn Tad o'r drŷdedd Nefoedd,
Ein Tad trwy Grist a'n prynodd
Sancteiddier bŷth dy enw mawr,
Gan bawb (bôb awr) o'th lûodd
Deued dy deyrnas rasol.
In plith dy blant, dy bobol:
A rheola ni bôb pryd,
A'th Air a'th yspryd nefol.
Dy 'wllys di wnel dynion,
Ar dir ym-mysg daerolion:
Fel yn y Nêf y gwnair heb nâg,
Gan
Gorsedd­feingciau, awdurdodau, sef Angelion ysgatsydd o radd uchel,
Thronau ag Angelion,
Rho heddŷw inni fwytta,
Bôb rhai'n beunyddawl fara,
A phôb peth sydd raid ini
'Th wsnaethu di'r Gorucha.
A maddeu i ni'n pechode,
Fel y maddeuom ninne,
I'r fawl a wnaethont lawer gwai [...]
I'n herbyn faith drofeddi,
[Page 247] N [...]c arwain ni yn ddirgel,
I brofedigaeth uchel;
[...]nd gwared ni, rhag pob drwg
Damwain,
ffawd.
O'r bŷd a'r Cnawd, a'r Cythrel,
Cans tydi bie'r deyrnas,
A'r nerth a'r gallu o gwmpas,
A'r gogoniant ôll i gyd,
Hyd ddiben Byd yn addas. Amen.
H
Beth wyt ti yn ei geisio,
Gan d' Arglwydd wrth weddio,
Yn y weddi fechan hon,
Gan droi d' olygon attot,
A.
Yn gynta'r wyfi'n erchi,
At f' Arglwydd, Tâd goleuni,
Roi i ni râs tra fom ar dir,
Bob rhai iw wîr addoli,
Gwedin i'r wyfi'n
Dymuno.
eiriol,
Am bob peth anghenrheidiol,
[...]'r enidie a'r cyrph ynghyd,
Tra ni'n y byd presennol:
A maedde ein holl ddrygioni,
Ein beiau oll a'n gwegi,
A thrugarhau wrth bawb ar llêd,
A wnelont niwed inni;
A'n cadw yn ddiangol,
Rhag pob rhyw bechod

Mae pob pechod ŷn farwol.

Rhuf. 6.23.

Ti elli obei­thio felly os garssol wyt ti Joan 9.31,

marwol,
A phob perigl, a phob plâg,
Corphorol, ag ysprydol,
A hyn yr wi'n beithio▪
Y wna fy Nuw heb beidio,
Er mwyn ei fâb fy Mhrynwr gwyn,
Y gaiff
Fy arch,
fynghanlyn gantho.
H.
Attebaist hyn yn gymmwys.
Mynega im cyn gorphwys.
Pa sawl Sacrament di drist,
Ordeiniodd Christ iw Eglwys?
A.
[Page 248]
F' ordeiniodd ddau'n ei fywyd
Tra rheidiol at ein iechyd,
Y cynta o'r ddau yw bedydd pûr,
Yr ail yw'r Swpper hyfryd,
H.
O dwyt ti yn deallu,
Dymunwn it hyspyssu,
Beth yw Sacrament yn bûr?
Mynega yn glir os medru
A,
Mae'n arwydd plaen gweledig
rhagorol 1 Cor. 10
O ddirgel ras ‡ arbennig,
Trwy'r hwn y rhoddir Christ ei hun
Ai ddonie i ddyn cadwedig
H.
Pa nifer sydd o rannau,
Ymhawb o'r Sacramentau?
Maneg i'm ar goedd y Plwy,
A dangos hwy yn olau,
A.
Mae dwy ran amlwg meddŷnt▪
Ymhob rhyw un o honynt
Yr arwydd amlwg or tu fâs,
A'r dirgel râs sydd ynddynt,
H.
Beth ydyw'r nôd gweledig,
A'r arwydd digon tebyg,
Sy'n y Bedydd or tu fâs,
Yn selu'r grâs ar bennig?
A.
Y Dwr yn y bedyddfan,
Lle trochir y dŷn bychan,
Yn Enw'r Tacirc;d a'r Mâb dri phryd
A'r sanctaidd yspryd purlan▪
H.
Beth ydyw'r grâs ysprydol
Nas cenfydd llygad cnawdol
Y mae'r Dwr yn arwyddoccau,
Sy'n golchi brychau'r bobol,
A,
Gwaed Christ mâb Duw ei hun [...]
Sy'n golchi'r enaid aflan,
Oddiwrth bob rhyw bechod câs,
Lle'r oedd e'n wâs i Satan,
[Page 249]Ac hefyd yn i wneuthur,
Gwaed Christ syn gwneu­thur hyn,
Yn gristion o bechadur,
Ac yn Blentyn Duw trwy râs,
O Elyn câs trwy nattur,
H.
Beth ydys yn ei geisio,
Gan rai ddel iw bedyddio,
Beth sydd raid mynega 'n rhês,
I'r rhai gais llês oddiwrtho
A,
Mae ffydd ac edifeirwch yn anghen­rheidiol i fod (ar y lleia mewn proff­es) yn y rhai y fedyddier mewn oedran sef y sawl na fedyddiwŷd erioed o'r blaen, Act. 2.38. ar. 8.36, 37.
Edifeirwch a ffydd fywiol,
Sydd ddau beth anghenrheidiol,
I bôb dyn a ddel yn brudd,
I geisio bedydd grasol,
Difeirwch i ymwrthod
Phob rhyw sort o bechod;
Ffydd i gredu tra fo byw,
Addewid Duw a'i ammod,
H.
Pa ham y rhwydd fedyddir,
Plant bychain pan eu genir?
Pan na allant yn ddifeth
Gyflawni 'r peth a geisir.
A▪
Y maent hwy trwy meichnafon;
Yn cwpla eu Haddewidion,
Nes y delont hwy mewn maint
I dalu'r faint addawson,
H
Mynega pam ordeiniwyd
Y Swpper pan ddechreuwyd
Pam i'r ys yn arfer hon
Trwy ddefod 'rhon ni
wrthodwyd
lyswyd.
A,
Er mwyn tragwyddol goffa,
Am Angeu Christ a'i laddfa,
A'r holl Lesad y ddaw i ddyn
Oddiwrth ei wŷn a'i boenfa▪
H.
[Page 250]
Beth ydŷw'r rhan a weler,
Tu allan yn y Swpper,
A'r nôd a'r arwydd or tu fâs
Sy'n selu'r grâs addawer,
A.
Y Bara a'r gwin o'r Cymmun,
Orchmynodd Christ ei dderbyn,
1 Cor. 11 24 25
Er cofio ei gorph a'i waed ei hun
Sy'n cadw dyn rhag newyn
H,
newyn Ys­prydol
beth ydyw'r rhan ni welwn
A'r grâs sydd o'r Comuniwn,
Rhwn arwyddocair wrth fara a gwin?
Mynega'n rhin er dolwyn.
A,
Corph Christ ai waed sancteiddiol,
Offrymmodd dros ei bobol,
Yn eglur Jo. 6.50.
I brynu dyn i dalu Duw;
A'n porthi i fyw'n dragywyddol
H.
Pa lês a gaiff Cristnogion,
a chalon edifeiriol ffyddlon sanctaidd.
Y gymro o * wllys calon,
Y Sacrament sancteiddiol hyn
O'r Swpper pyn dderbynion,
A.
cael porthi ein heneidie,
Ar Ghrist ei hun ai ddonie,
A chadarnhau eu hegwan ffydd,
A madde yn brudd eu beie,
Fel y bydd y bara ffrwythlon,
Mat. 26 26, 27, 28
A gwin yn porthi'r galon.
Felly Christ ai waed wrth raid
Sy'n porthi'r enaid ffyddlon,
H,
Pa beth sydd rhaid o brysur
I bob rhyw Ghristion wneuthur
Y ddel i Swpper Christ yn
Llawer,
llon,
O cais yn hon gael cyssur,
A,
Cor. 1, 11.28
Rhaid iddo holi'n fanol;
A fo ef wir ddifeiriol
Am ei bechod o bob rhyw
Yn erbyn Duw âi bobol,
[Page 251]A hol ŷn nesa at hynny,
A fo e'n llwyr fwriadu,
Gwellau ei fuchedd wrth fodd Duw
A chwedi byw heb bechu,
Ac hefyd mynny gwybod,
Oes gantho ffydd dan ammod
Am drugaredd Duw trwy Ghrist,
2 Cor. 13, 5
I fadde ei at [...]rist bechod.
A chredu i'r Arglwydd Jesu,
A'i werthfawr waed i brynnu,
Pan na alle neb ond Christ,
Mat. 5, 23.24. Luc. 17, 34
Trwy angau trist ei helpu.
Rhaid hefyd holi eilchwaith:
A fo e mewn cariad perffaith
A phob dyn gan fadde'n brudd,
I bawb bob dydd eu drygwaith

Pethau iw hystyried, a'i harferu, pan ddel y nôs

GWêl y mae d' oes yn darfod
Mae'n llai beunydd o ddiwrnod,
Rwyt ti 'n nês y leni ith ddiwedd,
O un flwyddyn nag y llynedd.
Gochel fynd un nôs i gysgu,
Yn dy bechod nes difaru,
A chymmodi a'r Duw cyfion,
Cyn y cauech dy olygon.
Nâd un nôs ir haul fachludo.
Ar dy lid yn ôl it ddigio:
Eph. 4.26.
Gwell it gysgu gydag Arthes,
Nag a malais yn dy fynwes.
Mwy yw perigl Dŷn sy'n cyscu,
Yn ei welŷ heb nawdd Jesu,
Nag oedd perigl Daniel hynod,
Gynt wrth gysgu rhyng y Llewod,
Y mae'r scrythur yn mynegu,
Fod y Diawl yn troi o bobtu,
Ddydd a nôs yn ceisio llarpio
Megis Llew pwy bynnag allo.
Pwy sy'n rhwystro 'r Llew i'n llyngcu,
Psal. 121.4.
Ond ein Ceidwad mawr Christ Jesu,
Rhwn sydd nôs â dydd heb heppian,
Yn cadw ei braidd rhag rhuthrau satan;
Llawer dyn sy'n mynd iw welu,
Hêb ddihuno mwy ond hynny,
Nes y galwo'r Udcorn aethlyd,
Hwynt ir farn i ddwyn eu penyd,
Yn ol dy boen a'th waith y dydd,
Pan ddelo'r nôs ymro yn brudd,
I roi i Dduw brydnhawnol Aberth,
O galon bur a geiriau prydferth,
Diwedd a'r Dydd fel y dechreuaist,
Cau dy ddrysau fel agoraist,
Gâd i Weddi
Difrifol
brudd bob dyddie,
Gloi bob hwyr a datgloi 'r bore.
Duw fyn offrwm bêr brydnhawnol
Num. 28, 4
Fel yr aberth bêr foreuol,
Mawl y nôs fel mawl y bore,
Gen 18.19. Jos, 24.15.
Nâd un pryd dy fawl yn eisie.
Galw 'nghyd dy blant a'th bobol,
Dywaid osber yn dra deddfol;
Gwna dy dŷ yn demel fechan,
Chwareu'r ffeiriad doeth dy hunan▪
Prudd weddia ar dy linie,
Deut 6.6,
Darllain beunod o'r Scrythyre,
Dysc dy blant mewn pwyntiau crefydd
Luc 19.8.
Duw 'th fendithia yn dragywydd.
Psal 42, 8.
Cofia 'r nôs dy waith y dydd;
O gwnaethost gam, gwna iawn yn brudd
Os digiaist Dduw. cais bardwn gantho,
Os cefaist râs rho foliant iddo.
Na ddôs i gyfgu yn dy bechod.
Rhag mynd o'th gwsc ger bron y Drindod
Ac na
Huned
slwmbred dy ddau amrant.
Nes ymbilio am faddeuant,
Y dyn y
Feiddia
fentro fynd i gyfcu,
Yn ei bechod cyn difaru,
Mae e'n mentro mwy o lawer,
Na phe cysge gyda gwiber,
Rhag dy fynd ir barr i'th farnu,
Mat. 24.44.
Ganol nos tra fech yn cysgu
Gwachel fynd fel dyn diwybod
Byth i'th wely yn amharod.
Pan edrychech ar dy wely
Cofia'r bedd lle'r ae i'th gladdu:
A chyn rhoi dy gorph i orwedd,
Dyfal feddwl am dy ddiwedd
Psal. 90 12
Pan y tynnech dy holl ddillad,
Ond dy gris oddi am danad
Cofia fel y gorfydd gado,
Yma'r cwbwl ond yr amdo,
1 Tim. 6 7
Pan y cano ceiliog peder,
Amwisc
Nes dihunech o'th esmwythder,
1 Cor. 15 52 Jo 5 28
Meddwl f' enaid fel y deffru
Udcorn Christ di gwedi'th gladdu

Hymn yw chanu i Dduw cyn mynd i gysgu

FAnwyl Dâd am carcus Geidwad,
Psal 1 [...]1 4
Rhwn wyt nos a dydd im gwiliad,
Bendigedig o fo d' enw,
Nos a dydd am dan fy nghadw
Di'm castellaist i'r dydd heddu,
A'th Angelion bach o'm dautu,
Psal 34▪ 7.
Ac orchymynnaist iddynt
Cynnal▪
f' atteg,
Rhag im daro'n rhoed wrth garreg,
Dithau'm cedwaist yn ddihangol,
Rhag holl rwydau'r Sarph uffernol
Rhwn sydd nôs a dydd heb gyscu,
Yn ceisio 'nifa a'm bachellu.
Porthaist finne heddyw'n ddichwith,
A mêl o'r graig, a brasder gwenith
Ac di roddaist immi yfed
Phiol lawn i dorri'm syched.
Dithe am cedwaist rhag pob tramgwydd,
Cwilydd, colled, anap aflwydd,
Nychdod, niwed; ac am hynny
Gofal
Rwi o'm calon i'th glodforu.
Cymraist gymmaint; garc am danaf,
Y dydd heddyw dâd goruchaf,
A phyt fassyt heb un plentyn,
Ond myfi i garcu drostyn.
Bendigedig yn dragywydd,
Y fo 'ngheidwad a'm derchafydd,
Rhwn sy'n carcu cymmaint droswyf
Ddydd a nôs ple bynnaf 'r elwyf. Amen

Diolch am dân a chynnessrwydd.

PEn
Paratowr Psa. 145.15.
prosiwr pôb anghenrhaid,
Gwir ymgleddwr corph ac enaid,
Rwi'n bendithio d' enw hyfryd,
Am roi tân i dorri f' anwyd.
Duw mor rassol yr ordeiniest.
Tân rhag anwyd, tŷ rhag temest
Bwyd rhag new [...]n. Dwr rhag syched
I ymgleddu dyn pengaled,
Oni bysse itti greu;
Tân in
Gwasanae­th [...].
Gweinif a'n cynhessu
Bwedd y gallsei ddyn ymdaro,
Heb y tân, pa bassem hebddo▪
Er bôd tân yn beth anhepcor
Etto 'sowaeth nid oes nemmor,
Ym-mhlith miloedd y ront itti,
Am ei tân o'r
Diolch
godamersi.
Arglwydd agor ein golygon,
I gydnabod maint dy roddion,
A'n geneuau i'th glodfori
Am ein tŷ, a'n tân, a'n gwely.
Y mae'n gwell yn gorwedd allan
Yn yr oerfel tôst yn gruddfan
Duw cynnhessa rhain a'th ffafar,
A gwna ninne ddiolchgar.

Gweddi wrth fŷnd ir gwely,

CEidwad Israel a'i achubwr,
Castell cryf pob gwann di-swccwr
Er mwyn d' anwyl fâb Christ Jesu,
Gwrando 'ngwaedd wrth fynd i ngwely.
Arglwydd mawr 'r wi ar fy 'nglinie,
Wrth fy ngwely yn cyfadde,
Nad wyf deilwng edrych arnad'
Chwaethach dwad yn nes attad,
Etto er hyn yr wi'n hyderu,
1 Joan 5.14.15 Joan 16, [...]
Y caf er mwyn dy fâb Christ Jesu,
Nid yn unig gennyd wrando.
Ond rhoi immi'r peth wi'n geisio;
A bod immi byth yn gryfdwr,
Ac yn geidwad, ac yn Swccwr,
Rhag pôb niwed y ddigwyddo,
Yn enwedig immi heno.
Arglwydd rwyfi'n mynd i orwedd,
Heb wybodaeth am fy niwedd;
Os ni wyr un dyn pan gysco.
P [...] un a wna ai codi ai peidio,
Achos da i ddyn gan hynny.
Cyn yr elo'r nos i gysgu,
Lwyr ymgweirio fynd at Dduw,
Rhag na chotto mwy yn fyw.
O herwydd hyn rwyfi yn dwad,
Attad ti fy Nuw am Ceidwad,
Ar fy naulin heno i' mhwedd,
Am dy gymmorth a'th drugaredd.
Bydd di gastell, bydd di geidwad,
Bydd di graig a lloches ddifrad,
Im castellu yn ddybryder.
Heno rhag pôb anesmwythder,
Y mae'r Llew sy erioed heb gyscu,
1 Pet. 5.8.
Ddydd a nos a chwant im llyngcu;
Ac ni wela'i lun i rwystro.
Oni chedwi di fi rhagddo,
Derbyn fi gan hynny ith fynwes,
Dôd fi rhwng dy ddwy-fron gynnes,
Fel y gallwi'n esmwyth orwedd,
Psal. 17.8.
Heno'm mhreichiau dy drugaredd.
Arglwydd tanna droswi d' adain,
Cadw fi rhag bradeu'r filain;
Fel y gallwi yn ddybryder,
Gyscu deni mewn esmwythder,
Gosod
Llu, Psal. 34.7.
wersyll oth Angelion;
Im castellu rhag pob ofon:
Par ir rhain fy llwyr ddiwallu.
Yn dy goel tra fyddwi'n cyscu.
Bydd dy hun a'th rasol lygad,
Goruwch y rhain yn fyng wiliad,
Psal. 34.15.
Nad i neb rhyw ddrwg fy nrygu,
Na thramwyo lle bwi'n cyscu.
Rho lonyddwch ac esmwythder,
Immi henno a phob amser;
Rho im henaid wir ddiddanwch;
Rho im corph ei hyn a'i heddwch,
Ac rhag immi fynd im barnu,
Gar dy fron pan fyddwi'n cysgu,
Nâd im fyned yn ddiwybod,
Byth im gwely yn amharod.
Nad im roddi cwsc im llygaid.

Gydag addef pechod, cyn cael trugaredd rhaid credu yn Ghrist ac ymadel a phechod

Nes ymbilio a thi'n dambaid,
Am gael pardwn am y cwbwl.
Ar y wnaethum mi o'th feddwl,
Pâr im adde fy holl gamwedd.
A'm holl wendid a'm hanwiredd,
Fel y gallwi gwedi hadde,
Gael maddeuant gennyd tithe,
Par im wylo ac alaru.
Am fy'ngwaith mor rhwydd yn pechu.
A'mofydio'n dost gan gynddrwg
Y fu muchedd yn dy olwg
Par im fyned mor ddifeiriol
Heno im gwely ac mor ddeddfol,
Act. 13.38, 39. Dih. 28.13. Jac. 4 9.
A pha gwypwn na chawn noswaith,
Mwy i edifaru'r eilchwaith,
Par im grio'n daer am bardwn,
Er mwyn Christ a'i waedlyd
Ddiodde­faint
bassiwn
Am y wnaethum erioed o feie,
Fel na byddo ûn heb fadde
Golch fi oddiwrth fy meiau'n llwyr-ddwys
Yng waed Christ yr oen a'm prynwys
Clâdd fy mhechod yn ei
Archollion
weli,
Psal. 51 2
Nad ef eilchwaith adgyfodi.
Nad fod un om ffiaidd frynti.
Yn dy lyfyr heb ei groesi,
Rhag i hwnnw fy ngwradwyddo,
G [...]r dy fron pan ddelwy
Ymddang [...]s Mat. 22 12 13 Mat 25 4
ympirio,
Par im fod ar wisc briodas,
Ddydd a nos bob awr o'm cwmpas,
Ac olew im lam [...] a hwnnw'n llosci,
Yn disgwyl Christ, im galw i gyfri
Diogela 'nghalon egwan,
Fôd yn siccr immi gyfran,
O'r dedwyddwch y bwrcassodd.
Christ yw trodur yn y nefoedd,
Weithian Arglwydd mi orweddaf,
Ac mewn heddwch myfi gysgaf;
Cans tydi o Dduw'r diddanwch
Am cyflei mewn [...]iogelwch.

Myfyrdod pan ddihuner o gysgu ganol nôs

MOr hyfryd ac mor weddus,
Yw canu i Dduw yn rymmus
Ganol nôs pan fo pôb dyn.
Yn cysgu hûn yn felus.
Psal. 92 1, 2
Mor dda, mor ddwys, mor ddeheu,
Yw moli ei Enw'r boreu!
A myfyrio yn ddi-ddal,
Am dan ei amal ddonieu;
A deffro'r corph cyscadur,
A chalon barod brysur,
I glodforu enw Duw.
Peth hyfryd yw i wneuthur;
Psal. 119.62
A chwnnu lawr o'r gwely,
Fel Dafydd iw foliannu.
Ar ein dau lin ganol nôs.
Yn ddi-flin dros ein helpu;
A chofio ei drugaredd,
Ei gymmorth a'i ymgeledd.
I blant dynion bob rhyw bryd.
O ddechreu byd i ddiwedd;
A rhoi ar bwys y gwely,
Pan bydd o'r byd yn chwrnu,
Glod a moliant prûdd, di nam
Ir hael Dduw am ein helpu
[Page 259]Clod a gallu, Diolch moliant,
Gwir anrhydedd, a gogoniant
Y fo nôs a dydd ir Drindod,
Sydd bob amser yn ein gwarchod

Psalm 23.

FY Mugail yw'r Goruchaf.
Pa fodd gan hynny ffaeliaf?
I rwi'n ymddiried ynddo fe
Ni edy eisie arnaf.
Y mae ef im castellu.
A'i râs, a'i rym o ddeutu,
Fel na ddichon gwr na gwraig
Ni Diawl, na draig fy nrygu
Y mae ef im porfela,
Mewn dolydd o'r
Hyfryda
areilia,
Lle mae dyfroedd tawel iawn,
A thîr yn llawn o borfa.
Pan elw'i dros ei lwybre,
Fe'm cyrch i eilchwaith adre
Ac er mwyn ei enw ei hun,
Fe'm try ir un sydd ore.
Ac os digwydda weithie,
Im rodio ynghysgod ange,
Nid rhaid immi ofni un
Cans Duw ei hun am cadwe.
Y mae ef yn bresennol,
Im hachub yn wastadol.
Ai wialen wenn, a'i fach, a'i ffonn,
Am gwna i yn
Llawen▪ iawn
llon anianol
Er cynffordd im a chyssur,
O anfodd fy ngwrthnebwyr.
Rhodd im ford gyfoethog iawn
A Seigie'n llawn o suwgur,
[Page 260]Eneiniodd f' Arglwydd hefyd.
Fy mhen ag oel yn hyfryd;
Ac fe wnaeth fy mwttri'n llawn,
A'i radlawn ddawn a'i olud
Ei fwynder a'i drugaredd;
Am dilyn hyd y diwedd,
Yn ei Demel tro ynwi chwyth,
Y bydd fy nyth a'm
Trigfa,
hannedd.
Ir tâd, ir mab, ir yspryd.
Ir drindod, undod hyfryd,
Y bo clôd a moliant mawr.
Bôb dydd, bob awr, bôb ennyd.

Y modd y dyle ddyn grassol ddeffro ei gorph [...] enaid ganol nos i glodfôri Duw.

DIhun, dihun o gysgu,
Fy enaid bâch prawf ganu
Glod a mawl o galon brûdd,
Psal. 103 1, 2.
Ir Arglwydd sydd ith helpu,
Dihûn, dihun mae achos
Id wiliad fel yr Eos,
I glodfori d' Arglwydd mawr,
[...]eb gysgu awr or hir nos
Dihûn Dihûn a chofia
Drugaredd y gorucha
A'r modd ith helpodd prynwr Crêd
Er pan ith aned gynta
Yfe yw d' unig helpwr,
Dy nawdd, dy nerth, dy swccwr,
Dy Ghrist, dy graig, dy gadarn
Arglwydd,
lo [...]
A'th dynnodd o'r cyfyngdwr
Fe'th greawdd cyn berffeithied.
Fe'th dynnodd o gaethiwed,
Fe'th adgenhedlodd o'th ddrwg rân,
Joan▪ 8.36.
Ai yspryd glân bendiged,
[Page 261]Fe 'th alwodd o blith deillion,
I gredu'r fengyl dirion,
Fe'th gyfiawnhaodd yn rhâd trwy ffydd,
Yn Ghrist d' Achubydd ffyddlon,
Yn foethus iawn fe'th borthodd,
Yn drefnus fe'th ddialladodd.
Fe'th dderchafodd i fawr fraint.
Rhag cwrp a haint fe'th gadwodd,
Esay. 56.5.
Fe rodd id enw hyfryd.
A
cymmeriad 1 Cor. 3.21, 22, 23.
chredit a syberwyd,
Heddwch llwyddiant, a grâs a dawn,
A llawer iawn o olud.
Fe wnaeth it fyw mewn cariad,
Hawddgarwch a chymeriad,
Gyda phob glân
Fath
sort o ddyn.
Heb gâs gan un or teir-gwlad.
Ni phallodd erioed etto,
O'r peth y fae ti'n geisio,
Fe na haeddyt feger taer,
Mor briwsion ar ei ddwylo.
Gen. 32.10.
Nid oes un dŷn ar aned,
Sydd arno fwy o ddyled
I glodfori 'r un Duw tri,
Nag s' arnad ti oi
oi plegid
parthed.
Dihûn gan hynny a chofia.
Garedigrwydd y gorucha,
A'r modd i'th helpodd prynwr cred,
Er pan ith aned gynta,
A thra fo it ben a thafod,
Psal. 146.2.
Mynega byth ei fawrglod,
Ai ddaioni yn ddi ddal.
Tra chwyth ac anal ynod.
Ir Tâd ir Mâb ir Yspryd,
Ir Drindod undod hyfryd,
Y bo clôd a moliant mawr.
Bôb dydd bob awr bob enyd.

Diolch am Etholedigaeth ac amryw ddoni [...] Ysprydol.

O Arglwydd Dduw goruchaf
Nid yw'r don­ie hyn yn per­thyn i bawb, canys er bod llawer gwedi ei galw etto ychydig a ddewiswyd Eph. 1.4,
Pa ddull, pa fodd y gallaf
Roi it ddiolch llawn ar llêd,
Fel y mae'r ddyled arnaf?
Cyn gwneuthur nef a daiar
O'th ras yn-Ghrist a'th ffafar,
Di'm detholaist fod yn un,
O'th blant dy hun yn gynar
Di'm creaist inne o'r priddyn
Oedd frwnt a gwael ei eulyn,
Ar dy lun a'th wedd dy hun,
Yn lana dyn o'r gweryn,
Di'm tynnaist yn dra lluniaidd,
O groth fy man yn berstaidd
Lle gallasyd fy'n rhoi 'maes,
Yn grippil câs anghruaidd.
Di'm gwnaethost inne'n Gristion,
Ym-mhlith dy bobol ffyddlon,
Lle gallessyd heb ddim dysg.
Fy'n rhoi ym mysc Iddewon
A chwedi Adda 'ngwerthu,
I Satan gynt wrth bechu,
Di am prynaist o'i law'n rhâd
A gwerthfawr waed yr Jesu,
Ni
arbedaist.
Speriaist roddi i farw,
Dy unig fab i'm cadw,
Ac i
Grogi
hongian ar y groes,
Dan lawer loes oedd chwerw,
Tit. 3.3 4.5.6, 7.
Di'm adgenhedlaist gwedyn,
I fod yn anwyl blentyn,
It trwy fabwys prudd a grâs,
Pan oeddwn wâs y gelyn,
[Page 263]Di aethost yn dâd i mi.
A minneu'n blentyn i ti,
Joan 1.12.
Di'm ail wnaethost ar dy wedd
Yn etifedd i'r goleuni,
Eph. 2.10 Jac. 1 18.
Di'm gelwaist inne hefyd,
A'th air a'th nefol yspryd,
O blith miloedd o rai cas
I gaffel gras ac Jechyd:
O 'blith y bobol feddwon,
Ar mud, a'r dwl, a'r deillion,
Di'm gelwaist a'th air dwys
I fonwes d' eglwys dirion,
A gwaed dy fab di'm golchaist
A'th yspryd di'm sancteiddiaist
2 pet 1 4. Rhuf 3 24.25, 26 ar 6, 5.
Rhan o'th nattur rhoist immi
Am pechod ti ddirymaist;
Ac er fy mod yn sarnllyd,
A'm gweithred yn frycheulyd,
Di'm cyfiawnhaist o'th râs yn rhâd
Trwy ffydd yngwaed d' anwylyd:
A rhoist i'm gadarn obaith
Er i mi farw unwaith,
1 Thess. 4, 13 16 17
O ran y cnawd pan ddel y cri,
Y caf gyfodi'r eilwaith.
A derbyn yn
Didwyll Col. 3.4
ddiffuant
Gan f' Arglwydd wir ogoniant
(Er mwyn Christ) a nefol fraint
Ym mhlith y Saint
ac sy'n gor­foleddu yn y nef. Psal, 16.11
triwmphant
Lle caf fi wir lawenydd.
A heddwch y dragywydd,
Parch anrhydedd tra ynwy chwyth
A gwynfyd byth ni dderfydd,
Am hyn o ddoniau 'sprydol,
Fy 'nhad am Harglwydd nefol.
Rwy'n rhwymedig ar fy llw
Glodfori d' enw grassol.
[Page 264]A thro dim deall genni,
Yn ddyfal dy addoli,
A'th folianu bob rhyw awr,
Am dan dy fawr ddaioni.
Ia hael Dad 'rhwn a'n creuodd,
Ir Jesu 'rhwn a'n prynodd,
Y byddo clod a mawl bob cam,
A'r Yspryd a'm Sancteiddiodd.

Gweddi'n erbyn Gorthrymder Gwrthwynebwy

DIhûn, dihûn, pa ham y cyscais [...]
Erioed hyd hyn fy Nuw ni heppia [...]
Nid Baal wyt: o danfon swccr!
Tynn dy wâs o dôst gyfyngdwr,
Sych fy nagre, torr fy magal,
Gwared f' enaid llaesa 'ngofal,
Gwel fynghystudd clyw fy 'nghwynfat
Barn fy hawl rhyddhâ fi weithian.
Fy'nhraig i wyt o nâd fi syrthio,
Fy Nhŵr cadarn, nad f' anrheithio,
Fy Nuw fy
Arglwydd
Nêr, o dere im help [...]
Fy Nefawl Dâd nâd fy ngorthrymm
Galluog wyt di elli helpu,
Psal, 46, 1.
Unig ddoeth y modd ei medru,
Trugarog Dâd o dere a swccwr,
Hawdd yw'th gael mewn tost gyfyngd [...]
Gwradwydda fwriad fyngelynion,
lleihau.
Tola falchder fynghaseion:
Gwascar gyngor tyrfa waedlyd,
amddiffynfa
Er mwyn Christ rhyddha fi o'm pe [...]
DUW fyng rhaig, am Twr am nodd [...]
Duw fy Jechyd am ymddin [...]
Gostwg glust a gwrando 'ngweddi,
Mewn cyfyngdra a gofidi,
Duw rhoist gennad i'm gelynion,
Fy 'ngorthrymmu heb achosion,
Am difetha'n llwyr gan mwya,
Os tydi ar frys ni'm helpa.
Di roist gennad i estroniaid,
Lwyr amcanu difa f' enaid
A'r sawl nad wi'n nabod etto,
Lw [...]r amcannu fy anrheithio.
Rhai na wn i ddim oddiwrthyn,
Rhai na wneuthym ddim iw herbyn,
Rhai na chanfu 'rioed fy llygaid
Sydd yn ceisio speilo f' enaid,
Arglwydd maent hwy gwedi 'maglu,
Ac yn barod im difethu,
Oni ddoi di ym mhryd a swccwr
Im gwaredu om cyfyngdwr.
Deffro o gyscu f' unig Geidwad
Mae fy llong mewn trallod irad
O cerydda'r gwynt a'r tonneu
Rhag im soddi yn ei rhwydeu
Nâd im llong am taccal dorri
Rhaffau Llong
Bydd di borth ac Angor i mi,
Llaesa'r Storom sy'n sy mlino
Moes dy law a nâd fi singcio.
Erchaist i mi ddwad attad,
Yn fy nhrallod, anwy Geidwad
Attad ti fy Nuw'n
psal 50 1 [...]
trottian
Danfon im ymwared weithian:
Dyfod
Di adewaist wrando yngweddi:
Yn fy nhrallod ond im weiddi
Gweiddi arnad yr wi yn wastod:
Arglwydd weithian tynn fi o'm trallod
Di wrandewaist weddi Jonas,
Gynt o fol y morfil atgas,
Di achubaist o'i flindereu.
Gwrando 'ngwaedd, ac achub finneu▪
Di a waredaist Ddafydd frenin.
Oddiwrth Saul oedd yn ei ddilyn,
Gwared finne o'm trallodion,
Bren, 19,
Ac o ddwylo fy 'ngelynion,
Di waredaist hên Elias,
O law waedlyd gwreigm ddiras,
Mat. 17 15
Gwared finne yn fy nolur.
O law waedlyd fy ngwrthnebwyr.
Di dosturiaist yn dra diddig,
Gynt wrth Dâd y plentyn
gwallgofus
lloerig,
O tosturia wrthyf finne,
Sy'n dy ganlyn megis ynte.
Mat, 15.
Di roest help i'r wraig o Ganaan,
Y fu'n daerllyd yn ei fegian,
O rho help a nerth i minne,
Sydd am cais mor daer a hithe,
Er nad oes ym-mhwer un dŷn,
Cythraul,
Rwymo'r Ddraig sy'n codi im herbyn,
Etto Arglwydd mawr di ellu,
Rwymo hon ai llwyr ddirymmu.
Cymmer yn dy law dy waywffon,
Cyfod ymladd a'm gelynion;
Torr hwy ym-maith yn eu gwegi.
Nâd hwy wneuthur trallod i mi.
Gyrr dy Angel i wascaru.
Sawl sy'n chwenych fy ngorthrymmu,
Gyrr dy saetheu a difetha,
Sawl sy a'i bwriad ar fy nifa,
Duw di elli 'y modd y mynnech:
Fy'n rhyddhau y maes o orthrech;
Er dy fawredd dere a chymffordd,
A gwir rydd-did im yn rhyw ffordd:
Nad im Gelyn gael fy llyngcu.
Na'm gwradwyddo na'm, gorthrymmu
Nad i'r Byd y chwaith gael dwedyd
Iddo gaffael arnai ei wnfyd,
Dangos i mi eglur, arwydd.
O'th ddaioni a'th garedigrwydd
Fel y gwelo'r byd o bobtu.
Mae tydi sydd yn fyngharu.
Nid wi'n ceisio help Gwyr mawrion,
Na Phenaethiaid na Th'wyssogion,
Ond yn unig cymmorth difrad,
Gennit ti fy Nuw a'm ceidwad.
Nâd i minne gael fy nhwyllo,
Lle rwi'n hollol itti'n trystio,
Dere weithian ac ymwared;
Ynot ti mae f' holl ymddiried,
Nâd i minne gael fy nhwyllo;
Lle rwi'n hollol itti'n tristio:
Dere weithian i'm diddanu,
Arglwydd nâd i'm llygaid ballu
Dere Arglwydd dere bryssia,
Gwared f' enaid o gyfyngdra,
Fel y galiwyf dy foliannu,
Trwy lawenydd am fy helpu

Diolch am ymwared o ddwylo Gelynion

ANgelion Duw, a meîbion Dynion,
Nêf a daiar, au Thrigolion
Molwch Dduw ar eitha eich gallu,
Ddydd a nos am fyngwaredu.
Mewn
Caledfyd
ing trallod a chyfyngdwr,
Y gweddia is ar fy mhrynwr,
Ac o'r nêf o blith Angelion,
Clybu lêf fynghwyn hiraethlon
Sarph ossododd fa gâl embaid
A chryglathe i ddala f' enaid;
Rhwyd a chroglath Duw ai torrodd
F' ennaid inne fei gwaredodd,
Helodd Angel im dad-ddrysu,
Rhodd ei ysyryd im diddanu;
Tanodd drosswi Adain hyfryd,
Ac fe'm tynnodd o'm holl ofyd.
Duw a glybu ein gwaedd iradus
Christ
ymbiliodd
eiriolodd drosswi'n rymmus,
A'r glân yspryd a'm diddanodd
Ac o'm trallod fe'm gwaredodd.
O molianned pob creadur,
F' Arglwydd mawr yn ol ei nattur,
Am ei gymmorth a'i dosturi,
Yn syngwared o'm gofidi.
Teirw Basan a'm cylchynnodd
Nadroedd tanllyd am herlidiodd;
Bleiddiaid blin ac Unicorniaid,
Amcanassant ddifa f' enaid.
Duw a barodd i'r rhain darfu,
Pan oedd mwya eu chwant i'm llyngcu
Duw a dorrodd gyrn a dannedd
Y Bwystfilod yn o'r diwedd,
O molianned pob creadur,
F' Arglwydd mawr a chalon bryssur
Am ei
Gofal
garc yn achub f' enaid,
O rhyng cyrn yr Unicorniaid,
Gwyr grefydd, gwragedd gwaedlyd
Y gynllwynodd am fy mywyd;
Ac amcansant fy
Nafu
amdwyo.
Difa f' enaid am anrheithio.
Duw ddatguddiodd eu dichellion,
Duw ddiddymodd eu hamcanion;
Duw a ddyryssodd eu bwriade;
Duw waredodd f' enaid inne.
O molianned pob creadur,
Dduw fy nhraig a chalon bryssur
Am ddwyn f' enaid o drallodion
A gwradwyddo fy ngelynîon,
Clôd a gallu▪ Diolch, Moliant,
Gwir anrhydedd a gogoniant,
Y fo nôs a dydd i'r Drindod
Am fy 'nhynnu maes o drallod.
MEgis Daniel rhwng y llewod
Arall byrrach
Megis Jonas rhwng Morfilod,
Y gweddiais ar yr Arglwydd,
Ac o'r nef fe'm clybu'n ebrwydd
Stoppiodd safneu'r llewod rheibus,
Ffrwynodd e'n y
Morbysc. mawr
whâl afradus
Torrodd awch y Sarph am llyngce,
Tynnodd f' enaid o'u crafange.
Nefoedd, Daiar, Dwr ac awyr,
Tân, a gwynt, a phôb creadyr,
Molwch f' Arglwydd mawr yn wastod
Am fy'nhynnu
Allan.
maes o drallod

Rhan o'r Psalm 69.

DUW achub f' enaid gwlrion.
O'r llif a'r dyfroedd mawrion,
Sydd om hamgylch bob rhyw awr,
Im rhoi mewn dirfawr ofon.
Mi soddais mewn gofydi
Nid oes sefyllfa immi:
Y ffrwd a lifodd dros fy Mhen
Yr wyf ar
Agos
haychen boddi.
Mi griais nes im flino,
Fy ngheg sydd gryg gan grio;
Hir ddisgwiliais am dy râs,
Nes imi lâs ddeffygio.
Amlach yw 'ngelynion,
Na'm gwallt, neu'r gro o'r alon:
A'r rhai s' eb achos im casau
Ynt ffel, a chlau, a chryfion,
Cedryn yw'n gwrthnebwyr
Syn ceisio'm lladd heb ystyr:
Telais iddynt fwy nâ'u rhan,
A minne yn wann difessur.
Di 'dwaenost fy ffolineb.
A'm gwendid a'm gwiriondeb:
A'm holl feie sydd mor blaen,
Bôb awr o flaen dy wyneb.
Duw nad gwilvddio o'm plegyd
Y rhai arhossant wrthyd,
Na gwradwyddo un o'th blant,
A'th geifiant yn ei gofyd.
Mi ddygais lawer gwradwydd,
Do er dy fwyn di Arglwydd,
A gwrthwyneb lawer pryd.
Gan Blant y byd trwy aflwydd
Mi aethym yn ddieithriol
Oddiwrth fy mrodyr cnawdol▪
Ac fel estron ar bob cam,
Gan blant fy mam naturiol.
Cans zêl dy dŷ am
Bwŷttaodd.
hyssodd
A gwawd y rhai'th wradwyddodd
A syrthiodd arnaf er dy fwyn:
Duw clyw fy nghwyn o'r nefoedd!
Mi wylais ddeigre heilltion,
Mi ymprydiais ddyddie hirion
Gan gystudio f' enaid prydd.
O ddydd i ddydd yn greulon
Mi wiscais sach a lludw,
Fel un y fae mron marw
A chalon drist, ac wyneb tlawd,
Nes mynd yn wawd i'r meddw,
Ond mi weddiaf arnad,
Mewn pryd o Dduw fy ngheidwad.
Tâd trugaredd gwrando fi,
A dwg fy ngweddi attad.
[Page 271]Duw tynn fi o'r pydew tomlyd
A nad fi gwympo oddiwrthyd:
Gwared fi oddiwrth fynghâs,
A dwg fi maes o'm gofyd.
Duw nad i'r llif fy moddi,
Na'r pydew mawr fy llyngcu
Nâd i'r ffos fy llimpro'n fyw'
Duw grassol clyw fyngweddi
Duw gwrando nghwyn iradys,
Dy fwynder sydd gymfforddu,
Tro ar fyrder at dy wâs,
Dy help a'th râs sydd felys
Na thro dy wyneb grassol,
Oddiwrth dy wâs cystuddiol,
Rwy mewn trallod dere ar frys
A thynn fi o'r llys anweddol.
Nessa at f' enaid gwirion.
A thynn fi oddiwrth drallodion
Gwared fi oddiwrth fy mraw,
A thynn fi o law 'ngelynion
Di wyddost beth yw f' ofan,
Am cwilydd maith am gogan
anglod.
Mae 'ngwrthwynebwyr ger dy fron,
Duw tro eu hamcanion aflan
Mae 'nghalon ymron torri:
Gan gymmaint yw 'ngofidi,
Ac ni feddai neb o rym:
A ddengys im dosturi.
Duw dere ar frys im helpu.
Im cymmorth a'm diddanu.
Tynn fi o'm trallod er mwyn Christ
Gwna i 'nghalon drist
Chwerthin.
grechwennu
O dere Farnwr cyfion,
A Barna di f' achofion;
Gwel y camwedd wi'n i gael,
Ar ddwylo gwael elyn ion,
[Page 272]Mâb Duw bydd di Ddadleuwr,
I bledio dros dy wsnaethwr;
Ddywedyd.
Nâd ir gelyn ddwyn fy rhan
Lle rwyfi'n wann di swccwr.
A thïthe Tâd diddanwch,
Cynffordda fi'n fy nhristwch:
Cwyd fynghalon drist heb ffael,
A phar im gael llonyddwch,
Dwg gymmorth im drachefen,
O'th Jechydwriaeth lawen;
Psal. 51.8.12
A'th hael yspryd cynnal fi;
Nâd drallod dorri 'nghefen,
Pâr i mi glywed beunydd,
Orfoledd a llawenydd,
Fel y chwarddo 'nghalon wann
Y ddrylliwyd dan dy gerydd,

Psalm 30. Diolch am ymwared o gystudd.

OR Dwst, o'r dom, o'r dyrfa,
Or Llywch, o'r Llaid, a'r Llacca,
Di am derchefaist un Duw tri,
Gan hynny mi'th folianna
Di nadaist i'm gelynion,
Gael arnai wynn ei calon,
Pan i'r oeddwn glâf a gwan,
Yn gorwedd dan drallodion:
Mi lefais arnad Arglwydd,
Rhag mynd i'r bedd trwy wradwydd
Di wrandewaist ar fy llef.
Rhoest help o'r nef yn ebrwydd▪
Gwrandewaist f' enaid hyfryd,
Rhag mynd i uffern danllyd.
Am corph egwan, trist ei wêdd
Rhag mynd i'r bêdd lle dylyd.
[Page 273]Gan hynny feibion dynion,
Ar Sainct a'r holl Angelion
Wneuthur.
Cenwch foliant un Duw tri,
Am ddelio a mi mor dirion.
Ni pheru ei lid ond ennyd,
Ei
Heddwch digofaint
hêdd sydd well na bywyd:
Dy
Heddwch digofaint
fâr a erys dros brydnhawn,
Ar boreu cawn lawenfyd.
Tra fum i yn llwyddianus
Mi ddwedais yn rhyfygus,
Na'm symudud tra fawn byw
Ond i cawn fyw'n fin-felus.
Os Arglwydd o'th ddajoni,
Di fuost gryfder i mi.
Nes it ddigio wrth dy wâs,
gyflwr
Am troi i gâs anigri.
Pan droest oddiwrthwi dy wyneb
O achos f' anuwioldeb
Yno y syrthiais bob rhyw awr
I drallod mawr ddihareb▪
Ac yno y llefais arnad,
Yn daer, yn dôst yn irad,
Am doffurio wrthi ŷm-mhryd,
Arbed
A spario mywyd anllad:
Diriaid
Pa les o Arglwydd hyfryd?
Y gai oddiwrth fy mywyd?
Pan ddescynwi'n dost fyngwedd,
I'r pwll a'r bedd lle dylyd.
A fydd i'r llwch glodfori.
Dy enw di o ddifri?
A fynegof dy wir fy nâf,
Pan byddaf gwedi trengi?
Clyw Arglwydd moes drugaredd,
A rho gynorthwy rhyfedd,
mi druan dôst fy 'nghâs,
Yn ôl dy ras bendigedd,
[Page 274]Di roeist o Dduw yn hygar,
Lawenydd yn lle galar,
A dioscaist fy sach-wisc,
Pan oeddwn mysc rhai 'n trydar▪
O Arglwydd fy Nuw grasol.
Rhof ddiolch itt yn dragwyddot
O herwydd ti'm gwaredaist i,
I'th foli di yn hollol.

Am ddiwedd y Byd,

PAwb sy'n chwennych dyscu'r pryd
Y daw Christ i farnu'r Bŷd,
Rheitiach yw i bob rhai ddyscu
Ymbartoi cyn mynd iw barnu.
Ffol o bethei feibion dynion
Geisio gwybod mwy na Angelion,
A deallu wrth draws amcan,
Ddirgel gwnsel Duw ei hunan
Nid oes dyn na Diawl, nac Angel,
All ddeallu dim o'i gwnsel,
Na'r holl fyd yn abal dadclo,
Un cyfrinach y fo gantho.
Mar. 13 32
Ofer yw i neb chwennychu,
Nabod dim y fo Duw'n gelu,
A mynegi wrth draws amcan
Beth nes
Sef fel i'r oedd ef yn ddyn Deut 29, 29.
gwydde Christ eu hunan.
Dysc gan Ghrist y peth hyspyssodd,
Na chais wybod dim y gelodd,
I ni perthyn a ddatguddiodd
I Dduw'r cwbwl nas mynegtodd
Na chais wybod tra fech byw
Ddim o ddirgel betheu Duw;
Ac os ceisi mae'n ddiogel
Boen a chwilydd am dy drafel.
Y mae'r môr yn boddi llawer,
[...]ydd yn chwennych gweld ei ddyfnder,
Ar haulwenn yn dallu llygaid,
Pawb edrycho arnai'n ddiriaid,
Dydd y farn sydd siwr i ddyfod
Y pryd nid oes ond Duw yn ei wybod
Ffol yw'r dyn y ceisio
rhagfyne­gu▪
ddrogan
Y dydd nas gwyr ond Duw ei hunan.
Dweded pawb ei dewis chwedel
Nid oes dyn na diawl nac Angel
Wyr y dydd na'r awr, na'r flwyddyn,
Y daw Christ i farnu arnyn.
Gwiliwch bawb a byddwch barod,
A disgwyliwch nes ei ddyfod
Ar y dydd a'r awr nas gwypoch
Y daw Christ yn ddirgel attoch.
Mat. 25.15.
Jago a Pheder gynt ofynnodd
[...] Grist cyn ei ddercha ir nefoedd,
Athraw dangos cyn dy ddercha
I ni'r pryd a'r dydd diwaetha,
Mat, 24.3 36. Act. 1.7.
Christ attebe ei ddisgyblion,
Nid perthynas i blant dynion
Wybod Cwnsel y gorucha
Am y dydd a'r awr ddiwaetha
Mae Duw'n cadw hynny'n ddirgel:
[...]ddo ei hunan yn ddiogel
Gwiliwch bawb a byddwch barod
Nes y dêl ni chaiff neb wybod
Nid yw'r doetha o blant dynion
Na'r anwyla o'r Angelion,
Yn deallu hŷn o amser,
Gweglwch gredu chwedlau ofer.
Elias gynt medd rhai y ddwede,
parhau bŷd chwe-mil o flwydde
Yn ôl hynny fe ddiweddid
[...]rwy dân poeth, nes ail
adnewyddu
reniwid.
Agos
Dwy fil heb un gyfraith ‖ haychen,
Dwy fil dan gyfreithieu Moesen
Dwy fil dan Efengyl Jesu,
Os cae barhau cyd a hynny.
Tair oes meddant sydd ir byd,
Un
sef yn scri­fennedig
heb gyfraith oll i gyd,
Llall dan drymlwyth cyfraith Foesen,
Drydedd dan y fengyl lawen.
Y ddwy oes gynta aethant heibio
A'r drydydd oes sy'n parhau etto,
Hyd pa hyd y peri weithian,
Nis gwyr neb ond Duw ei hunan.
Mil a feith-gant aethant heibio
A thair ar ddeg o'r oes mor gryno:
Fe all pawb with hynny wybod,
Nad oes fawr o hon heb ddarfod,
Pawb o'r doethion a gyttuna,
Mae byrra oes yw'r oes ddiwaetha;
Os er mwyn y detholedig,
Hi sydd fyrrach nid ychydig.
1 Joan 2.18
Ifan alwe'r oes hon ymma,
Yn ei ddyddiau'r oes ddiwaetha.
Os diwaetha'r amser hynny.
Mae hi'n awr ymron terfynu.
Diwedd pob peth oedd yn nessid
1 Pet 4.7
Pan oedd Peder yn y Pulpid,
Nid oes lun nad ydywr diwedd
Nawr wrth hynny'n agos rhyfedd.
Yn amser Paul yr oedd gan mwya.
Yr oes a'r dydd a'r awr ddiwaetha
'Rwan yn ein hamser ninnau,
Mae'r diwaetha o'r
Munud yw'r drigein­fed ran o awr
munudiau.
Y Byd sydd gwedi mynd yn gleirchyn
Ac yn Grippil medd Saint Awstyn
Mae ê'n cerdded ar ffynn Maglau,
Nid oes [...]emmawr iddo o ddyddiau
Gwiliwn bawb a byddwn barod
mat. 24.33.
Mae'r dydd mawr yn agos dyfod
Mae medd Christ ymron y dryssau.
Trwssiwn bob rhai ein * Lusernau.
Lampau
Siccir yw y daw ar fyrder,
anhŷspys
Anfertennol ydyw'r amser:
Pwy cyn gynted nis gwyr un dŷn,
Byddwn bob awr ar ein
Ymbaratoi i gyfarfod a Christ
rofyn.
Nid oes dyn medd Christ ei hunan,
Wyr y dydd at awr yn gyngan
Nac un Angel detholedig,
Na neb ond y Tad yn unig.
Ofer yw gan hynny i ddynion
Geisio
Mynegu
maneg yr amseron,
Y mae'r Tâd yn gadw'n gyngan,
Yn dra dirgel iddo ei hunan.
Etto Napeir henwe'r flwyddyn
Y gwnae Duw ar bob peth derfyn,
Ac y bydde'r flwyddyn hynny
Cyn mil seith-gant o oes Jesu
Dweded pawb ei dewis chwedel
Nid oes dyn, na Diawl, nac Angel,
Wyr yr awr, na'r dydd na'r flwyddyn
Y gwna Duw ar bob peth derfyn.
Byddwn barod bawb gan hynny,
Edifarhawn heno heddu;
Ar y dydd a'r awr nis gwypon
Y daw Christ yn ddirgel atton.
Fel na nabu serchog Rachel'
Moi * Thymp nes myned ar ei thrafel
Amser es­cori
Felly ni chaiff dynion nabod,
Dydd yr Arglwydd nes ei ddyfod
Pan ddaeth amser Rachel wisgi,
[...] ei phlentyn bach escori,
[...] orfu esgori a'r y bachgen,
Ar y ffordd dan fôn y dderwen
Felly gorfydd at y ddaiar
Sy'n beichiogi er yn gynnar
Gwympo i escori ar y meirw
Pan ddel udcorn Christ i'w galw.
Fel y daeth y Tâd at Brwmstom
Yn ddisymmwth am ben Sodom.
Luc. 17.28.29.30.
Felly daw y dydd diwaetha,
Pan fo'r byd yn cyscu'n smala▪
Ni wyr neb mor awr na'r amser
Byddwn bob awr ar ein pryder,
A'n Lusernau yn ein dwylo,
Gyda'r merched call yn gwilio
Mat. 25 4
Mae'r arwyddion gwedi cerdded
Y fynegodd Chrift cyn blaened
Ond bod ychydig o'r Iddewon,
Etto heb gredu'r fengyl dirion.
Mat. 24 9. Act. 12.2
Fe ferthyrwyd y Postolion.
A mil miloedd o'r Christnogion
Ym-mhlaid y ffydd a'r Efengyl;
Fe wyr holl gred hyn yn rhigyl.
Luc 19.43.44. Mat. 24 2.
Fe-ddistryw wyd Tre Gaersalem,
Nid oes maen ar faen lle gwelem;
Hitheu'r Demel fawr a losgwyd
A'r Iddewon a wascarwyd.
Mat. 24, 14
F' aeth y fengyl hawddgar hyfryd
Ar farch gwynn ar Draws yr holl fy [...]
Nid oes cornel dan y nefoedd.
Na bu'r fengyl ynddo'n rhyw-fodd,
Mat. 24.24
Nifer mawr o gristiau ffeilsion
Ynghred ac anghred a godason,
Twyll
A thrwy * hocced Tad y celwydd
Mat. 24.6 7
Troesant lawer i gam grefydd
Rhyfel blin rhwng Twrc a Christi [...]
Y fu'n fynnych iawn ni glywson
Son mawr sydd am ryfel etto.
Rhoed Duw hedd ir sawl ai caro.
Newyn mawr a thost ddrudaniaeth
[...] fu'n llawer gwlad ysowaeth;
[...]aint; a Phlag, a chwarren waedlyd;
[...] fu'n hwyr ar hyd yr holl-fyd.
Daiar grŷn y fu o'r mwya.
Nes syrthio temel fawr ddiana,
A bwrw lawr y trefydd mawrion
Luc. 21.11.
[...]wre a chestyll yn
Gan-dryll
seb wrthon
'R haul
Dywyllodd Luc, 21.25
ecclipsodd or' Tywylla,
Nes mynd dydd yn nos gan mwya;
A'r mor mawr aeth dros y bangcau
Boddodd miloedd o eneidiau.
Y mae
Y Pab
Anghrist ynte'n rhochain,
Ys llawer dydd yn Eglwys Rhufain
Ac yn
Lladd
mwrddro'r Saint heb orphwys,
Eifiei alw'n benn i'r Eglwys.
Cariad perffaith ynte oeredd, Mat 24 12
Ni char mâb o'r Tâd a'i magodd:
Gwaudd
Merch a mam yn y gyfraith Mar 13.12
a chweger sy'n
Ymdaeru
ymsowtan,
Cais gan frawd ei frawd ei hunan.
Ffydd ysowaeth sy'n mynd lai lai.
Crêd o gryn fyd aeth yn garrai
Asia, Affric, Græcia ffyddlon,
Luc. 8.8
Sydd yrwan heb gristnogion.
Nid oes un o'r holl arwyddion
Ond dymchweliad yr Iddewon,
Na bont eisoes gwedy dyfod;
Gwiliwn bawb a byddwn barod.
Y mae'r Barnwr mawr yn cychwyn
Mae ys dyddie ar ei rofyn;
Act 10.42
Fe ddaw wethian yn dra hoyw,
I roi barn ar fyw a meirw.
1 Thess, 4 16.
Mae ef gwedi hogi gledde
A golymmu ei holl saethe,
Mae ei fwa yn ei annel,
Ac yn barod mynd i ryfel.
Mae fraich rymmus gwedi hestyn
Mae ei Angelion ar ei rofyn,
Mat. 24 37.38, 39.
Fe ddaw fel y diluw tanllyd,
I roi barn ar bawb o'r holl fyd.
O meddyliwn ninne am wiliad
Ac am ddisgwyl ei ddyfodiad,
A bôd bawb a'n cyfri'n barod
Ac yn daclus cyn ei ddyfod.

Cofiwch Angeu.

BYrr yw'n hoes ac
Ansafad wy
Ansertennol
Heddyw'n fyw, y foru'n farwol
Gynne'n gawr, y foru yn gelain;
Dymma gyflwr dyn a'i ddamwain
Ni bydd ymma am ben ennyd,
Un O honom heb ei symmyd:
O meddyliwn am ein siwrne.
Heno ysgatfydd rhaid ei dechre.
Fel y rhêd yr haul ir hwyr.
Fel y treulia'r ganwyll gwyr,
Fel y syrthia'r Rhoslyn gwynn;
Fel y diffidd tarth a'r lynn:
Felly treulia, felly rhêd,
Felly derfydd pobol Grêd,
Felly diffydd bywyd dyn,
Felly syrthiwn bôb yr un.
Fel llong dan hwyl, fel pôst dan sawd
Fel saeth at farc, fel Gwalch at ffawd
Fel mwg ar wynt, fel llif arddwr,
Y
Rhedeg ar frys
Posta ymmaith einioes gwr,
Fel saeth y rhêd. fel Post y gyrr,
Fel Cwyr y tawdd, fel ia y tyrr
Fel dail y syrth, fel gwellt y gwyn
1 Pet. 1 24
Fel Tarth y trig, fel Lamp y treula.
Ni ddifannwn fel y cyscod
Ni lwyr doddwn fel y manod
Ni
Collwn ein harddwch
ddiharffwn fel glaswelltyn
Ni ddiffoddwn fel yr Ewyn.
Ni cheir gweled mwy o'n hôl,
Nag ol neidir ar y ddôl.
Neu ôl llong aeth dros y Tonne,
Neu ôl saeth mewn awyr dene.
O! gan hynny, heddyw, heno
Moeswch i 'ni bawb ymgweirio
Fynd ar
Frys
ffrwst, a thynnu oddiyma,
Lle na chawn o'r hir arhosfa.
Mewn tai o glai yr ym yn trigo
Storm gron y bair eu syrthio;
Gwiliwn rhag ir angeu ein saethu,
A briwio 'r wal tra fom yn Cyfgu.
Fel y trewir pysc a thryfer,
Fel y saethir
Ceilog Coed.
Phesant dyner.
Fel y torri'r blodau'r ardd.
Fel y lleddir
Gweirglo­ddiau.
gweunydd hardd:
Felly trewir dyn heb wybod,
Felly saethir yn ddiarfod,
Felly torrir gwchder dyn,
Felly'n lleddir bôb rhyw un.
Fel dwr diluw ar y cynfyd.
Fel tân gwyllt ar Sodom aethlyd
Fel
Mellten
llych eden, fel y ddraig
Fel y gwewyr blin ar wraig:
Felly'n chwyrn, ac felly'n danllyd
Felly'n
Disymm­wyth.
immwngc, felly'n aethlyd
Felly'n flîn, ac felly'n draws,
Y daw'r Angeu ar ein
Gwartha.
traws;
Brau yw'n cnawd, a bâch yw'n cryfdwr
Gwann yw'n grym, a gwael yw'n cyflwr,
[...]ippyn bâch o groes neu gerydd,
[...] yn troi a'n torr i fynydd.
Gwrach all lladd y Cawr a chôgail,
Blewyn bâch all dagu'r bugail,
Drâen at draws all ladd yr hwsmon,
Duw mor
Dirym
ddisyrth yw plant dynion
Y gwann, y gwael, y dwl, y dall
Y lâdd y cryf, y gwymp y call
Y
Drel
bwr di barch, â maen nid mawr
A friwia'n caer, a ddifa'n Cawr
Beth yw dyn wrth hyn ond tarth
A mwg, a niwl, a gwellt, a gwarth
A gwyddir crin, a rhew, a rhossyn
A stên, o bridd, a gwynt, ac ewyn
Y dewr, y doeth, y gwych, y gwalchaidd
Y cryf, y call, y capten cruaidd,
Ein pen, a'u pont, a'n grym, a'n grâs
Y gafodd gwymp gan angeu cas:
Fel y cwymp holl ddail yr allt,
Fel y
Cneifia
croppia'r gwelle'n gwallt
Fel y gwywa lili'r maes,
Fel y tyrr y gwydyr glâs:
Felly gwywa, felly tyrr,
Felly
Tyrr.
craccia'n bywyd byrr,
Felly cropiir einioes dyn,
Felly cwympwn bob yndun.
Fel ty bugail ein symmudir,
Fel stên briddiyd ein candrillir,
Fel dilledyn y darfyddwn,
Fel y llwydrew y diflannwn.
Ni chawn aros mwy nâ'n tadau,
Awn ir ffordd yr aethont hwyntau:
Rhaid i'n fynd i wneuthur cyfri,
A rhoi
Lle
rhŵm i eraill godi,
Nid oes lle in' aros ymma,
Ond dros ennyd i hafotta;
Gwedyn gorfydd ar bawb symmyd,
Fynd ir ffordd yt aeth yr holl-fyd.
Y mae'r angeu glâs a'i fwa,
Yn ein herlid ym-mhôb tyrfa;
Nid oes un dyn all ddihangyd.
Rhag ei follt ai saeth wenwynllyd.
Mae ê'n ddirgel yn marchogaeth,
Ar farch glâs ym-mhôb cenhedlaeth
Nid oes dyn all diangc rhagddo
Aed i'r wlâd a'r mann y mynno
Er bôd Hasael gynt na'r ewig,
Er bôd sawl fel eryr ffrolig,
Er bod Jehu'n gynt nag ynte,
Ni ddihangodd un rhag Ange.
Er gwroled gwr oedd Sampson
F' orfu
Ymostwng▪
ildio ir angeu digllon
Felly gorfydd arnom ninnau.
Pyt fae ei gryfder yn ein breichiau.
Alexander y
Orchfygodd
gwncweriodd
Yr holl fyd y ffordd y cerddodd:
Angeu gwedi'r
Oruchafia­eth.
concwest sceler
Y gwngewerodd Alexander.
Lladdodd angeu bôb Cwngcwerwr,
Lladdodd galen y physsygwr,
Lladdodd Luc y meddyg goreu;
Pwy all ddiange mwy rhag angeu?
Fel y ‖ damsing meirch Rhyfelwyr,
Sathra
Dan eu traed bôb
Math
sort o filwyr;
Felly damsing angeu diriaid,
Y Brenhinoedd fel begeriaid,
Lladdodd Angeu Abel wirion
Lladdodd Angeu Sanctaidd Aaron;
Lladdodd Cain a Cham yscymmyn:
Nid yw'r Angeu'n arbed undyn
Pharo'r
Tŷwysog
Prins ac Eli'r ffeiriad
Esay'r Prophwyd, Joel yr
Barnwr
Ynad;
Noah'r
Ucheidad
Patriarch, at hen Dadeu
Y ddifethwyd gan yr Angeu.
Fel na arbede Herod greulon,
Ladd y bychain mwy na'r mawrion
Felly gwn nad arbed Ange,
Hên nac ifangc mwy nag ynte.
Pe rhoed iddo Aur yn bynnau
Mil o wledydd a'i Coronau,
Ni chaed gantho arbed bywyd
Dyn, dros Awr, Pe rhoed yr holl fyd.
Ni chaiff neb
Ei ddymun­iad.
ganlyniaeth gantho
Ymbil
Er * ymhwedd ac er ceisio,
Mwy nac y cae Bilat ddigllou
O' [...] ganlyniaeth gan Iddewon.
Ni ry Angeu pan y delo,
Awr o
Amser.
resbyt i ni ymgweirio,
Nac un rhybŷdd o'i ddyfodiad,
Mwy na'r Ci cyn lladd y ddafad,
Ond fel lleidir fe ddaw'r Angeu,
Yn ddisymmwth am ein penneu,
Tro ni'n cyscu yn ddiofon,
Fel Philistiaid am ben Sampson
Os bydd diffyg dim ir siwrne
Oyl ir lamp, na gwisc ir Cefne
Ni chaer gan yr Angeu melyn,
Aros inni fynd i 'mofyn,
Ond fel Brenin Babel ddiras,
Yn troi Shadrac
Yn ebrw­ydd.
whip ir ffwrnas;
Fe dry'r Angeu bawb y granffo,
Ir ffwrn briddlyd fel ei caffo,
Fel y daw y lleidir difiog,
Gwylle.
Ganol nôs am ben goludog:
Felly daw yr angeu i'n Cyrchu,
Yn ddiymgais tro ni'n cyseu.
Fel y teru gwr a thryfer,
Bysc tro e'n gorphwys yn ddibryder;
Felly teru angeu ddyrnod,
Ar blant dynion mor amharod,
Fel na wyr y glomen dyner.
Nar pryd na'r mann y teru'r
Adarwr
ffowler.
Felly'n hollol ni wyr un dyn
Na'r pryd na'r modd y bydd ei derfyn
Mewn un ffordd yr ym yn dwad,
I'r Byd hwn dan wylo'n irad;
A thrwy fil o ffyrdd heb
Dal sulw
farccio,
Rym ni'n mynd y maes o honno
Nid oes un mann yn ddi bryder
Na ddaw'r Angeu glâs a'i Dryfer
I roi i ni ddirgel ddyrnod;
Ym mhob mann, och! byddwn barod.
Wrth droi'r defaid mewn lle dirgel;
Y daeth angeu ar draws Abel;
Gwachel ditheu gael ei ddyrnod.
Wrth droi ddautu dy anifeilod,
Ar y genffordd wrth siwrneia
Y bu farw Rachel fwyna;
Wrth siwrneia gwachel ditheu,
Rhag cyfarfod ar glâs Angeu,
Pan oedd holl blant Job yn gwledda
Y daeth Angeu ar eu gwartha;
Nid oes
Siccrwydd.
gwarant gennyd titheu
Yn dy wledd rhag dyrnod Angeu
Holophernes a fu farw,
Yn ei gwisc pan oedd ef meddw:
Gwachel dithe yn dy feddwdod,
Rhag i Angeu roi ti ddyrnod.
Belsazzar er maint oedd gantho
Dan 5.
Y fu farw wrth
Ymyfed
garowso;
Wrth garowsio gochel ditheu,
O [...] wyt gall rhag dyrnod Angeu.
Fe rodd Angeu anfad ddyrnod,
Act 12
Ar y faingc i frenin Herod:
Ar y faingc y dyle farnwyr,
Gofio Angeu mawr ei hydyr.
Saethodd Angeu saeth wenw ŷnllyd,
Trwy gorph Ahab yn ei Gerbyd;
1 Bren 22
Yn dy
Cerbyd
Gôach ymgadw ditheu
Rhag dy daro a bollt Angeu
Fe ddaeth angeu megis
lleiddiad Barn 3
mwrddriw [...]
Ar draws Eglon yn ei barlwr;
Gochel dithe rhag ai biccell,
Trech yn gorphwys yn dy Stafell,
Pan oedd Dises yn ei Sidan
(Ai phâr foethus) oll yn hedfan,
Fe ddaeth angeu ac ai lladdodd
Gochel dithe balch ei wiscoedd.
Luc 12 20
Gwedi'r cerlyn adail llawer;
A chrynhoi dros hirfod amser;
Fe ddaeth Angeu ac ai lladdodd.
Cyn cael profi o'r petheu gafglodd,
Gochel ditheu'r
Gwyr gwl­adaidd cyfoe­thog.
Cob a'r Cerlyn,
Sy'n crynhoi dros lawer blwyddyn
Rhag ir Angeu dy gyrhaeddyd.
Cyn cael profi dim oth olud
Fe ddaeth angeu i drywanu
Dau fab Aaron wrth Aberthu
Wrth yr allor dyle'r ffeiriad,
Lev 10 2,
Ofni Angeu ia ddyfodiad,
Pan oedd Senacherib y brenin,
Yn y Demel ar ei ddaulin.
2 bren 19 35
Fe ddaeth angeu ca a'i lladdwys,
Ofnwch angeu yn yr Eglwys,
Num 25, 8
Fe rodd angeu frath ei Zimri
Wrth gyd orwedd gyda Chosbi;
Gochel dithe wrth butteinia,
Rhag ir angeu glas dy ddala,
Nynn dy lamp. a gwisg dy drwssiad
Cyn dêl angeu'n agos attad;
Gwna dy gownt ath gyfri'n barod.
Cyn dy alw o flaen y drindod
Bydd di barod heddyw heno,
Ag Oel ith lamp ath wisc yn gyfrdo,
Fynd flaen dy farnwr prudd,
Gyfan-gwbl
Y foru o bossib ydyw'r dydd,
Ni wyr Peder ni wyr Pawl.
Ni wyr Angel, ni wyr Diawl,
Ni wyr planed ni wyr dyn,
Na neb o'n hawr ond Duw ei hun.
Rhyd dydd, rhyd nos, yn glâf yn Jach
Ar for a thir, yn fawr yn fach.
Mewn tre a gwlad bawb byddwch barod
Ni wys pwy wlad y cawn ni'r dyrnod,
Gweithiwch bawb tro'r dydd yn para,
Cyn cotto'r haul crynhowch y manna,
Derbyniwch ras, tro Duw'n ei gynnig.
Partowch eich rhaid cyn delo'r diffyg,
Gamp.
Cyn colli'r Gôl cyn delo'r nos
Cyn torri'r pren, cyn cwympo ir ffôs.
Cyn cau y porth, cyn mynd ir garn,
Cyn canu'r corn, cyn rhoddi'r farn
Rhed am y chwyth gwna waith dy Dduw,
rhinweddol Yn ebrwydd
Dwg ffrwyth yn rhin o'r gore ei ryw
Dos chwip ir wledd a'c yn gyfrdo
Cais dy gyfraid cyn ymado.

Cân ar y Flwyddyn 1629 pan oedd yr Yd yn afiachus. trwy lawer o wlaw.

DUw frenin trugarog Duw dâd hollalluog,
Duw porthwr newynog na new yna ni
Sy'n canlyn dy ffafar a chaion edifar,
Yn ol dy hir watwar a'th Siommi
Er mwyn dy drugaredd, anfeidrol ath fawredd,
Er mwyn dy wir Tifedd, dofa dy lid;
Gwrando di'n gweddi, madde'n drwg nwydi
A chymmorth ein tlodi a'n hadfyd
[Page 288]Ni Bechasom ŷn d' erbyn yn daran yscŷmmyn
Nes tynnu hir newyn, a niwed i'n plith;
Ac amryw ddiale sy'n gryddfu'n calonne,
Heb allel hir odde dy felldith.
Ni dorsom dy gy [...]raith sydd gyfion a pherffaith,
Do lawer canwaith cyn cwnnu o'r man;
Fel rhai a fai'n tybiaid, na bae genyd lygaid,
I ganfod fileiniaid mor aflan.
D' enw Gablassom dy air y gasausom.
Dy fyngyl y droedsom yn ddibris dan draed,
Dy sabboth halogwyd, dy demel adawyd,
Dy grefydd a lygrwyd yn irad.
'Ni drosom dy ddeddfau, fel pobl a dybiau,
'Na ddeuau dialau, am ddilyn ffordd ddrwg
'Neu rai a fae'n credu na bae gennyd allu
Cospi.
'I'm plagio am bechu yn gynddrwg.
Pan yrraist gennadon, i
ddangos Psal 58 4
faneg ein beion,
A'n troi ir ffyrdd union, yn dirion yn daer
Ni gausom ein clustie, rhag clywed eu geirie
Fel neidir a fydde yn fyddar.
Pan yrraist dy weision, i'n gwawdd rhai deillion
Ith swpper yn dirion i
Trigo
darrio'n dy lŷs.
Ni ballsom o'r dwad ni droesom ir farchnad
A'n fferem, yn anllad anhappus.
Luc 14
Ni fynnwn mor Manna▪ ni thrig e yn ein cylla.
Ni charwn ni bara a beru byth.
Llysiau gwy­ddelig Num 11 56
'Ond garlleg ag wininiwn, a phanas a phompiwn
Fel Twrchod a garwn m'n aryth,
Ni fynwn mor fengyl, sy'n cnoi ni mor rhigyl,
Ni drown ein gwegil at [...]on lawer gwaith;
Ni chaiff hi'n ceryddu na'n dangos na'n dysgu,
Mae'n draws yn gwrthnebu ein dryg waith.
Ni adwn ni'r scrythur r [...]oli'n drwg nattur,
Na'th gyfraith gym [...]essur gymhwyso mor traws,
Ond byw wrth ein
meddyl fryd
ffansi a'n trachwant angwegi
Heb fynnu theoli ein dryg-naws,
[Page 289]Gan hŷnny waith troedio dy gyfraith a gado,
Ni aethom ar ddidro yn ddidrangc gwae ni
Fal defaid a rede o'r llafur ir ffaldie,
Ar ol llanw eu bolie i boeni.
Mae'n gloddest a'n traha fel mawr ddrwg Gommorra,
Yn llefain am wascfa i wascu ar ein cest,
Ni thaw byth oi penne, nes delo diale,
I wascu ar ein crilie a
Ympryd.
dirwest,
Mae pob gradd o ddynion o fychain i fawrion
Yn pechu yn greulon yn erbyn dy Grist.
Fel pobol wrth raffe a dynne ddiale,
O'r nef am eu penne yn athrist.
Mae'r ffeiriad yn gadu dy bobol i bechu,
Heb geisio eu nadu i uffern ar naid;
Ar un ac y geisio a'r fengyl eu rhwystro,
Fe gaiff eie
amharch
anfrifo yn ddiriaid,
Mae'n parchus reolwyr och Dduw'n rhy segur
Yn godde troseddwyr drist soddi'r wlad
Heb gospi ar cledde na'r bobol na'r beie'
Sy'n
Sathru
damsing dy ddeddfe mor irad.
Mae'r bobol gyffredin fel Israel heb Frenin,
Na Ffeiriad iw meithrin na Prophwyd iw maeth
Yn byw'n anhywaith, fel pobol heb gyfraith,
Heb grefydd, heb obaith ysywaeth.
Mae'r rheibus swyddogion yn speilio rhai gwirion
Yn hyfach na'r lladron (llwyr edrych ar hyn)
Ar carliaid yn bwytta y tlodion fel bara.
Neu'r morfil y lyngca'r
pennog
Sgadenyn
Mae'r gweision cyfloge, a'r hirwyr yn chware
Mae'r gweithwyr yn eiste heb ostwng eu pen,
Yn
ynftowt
tordain yn blino, heb fynnu or gweitho.
Nes delech iw priccio ac angen.
[...]lae'r Taner ar Panwr a'r Baccer ar Bwtsiwr
Gwydd gôf a Thaeliwr a Thiler a Ghrŷdd;
A'r Hwsmyn a'r Crefftwyr diffr wyth Uchelwyr,
Yn mynd yn Dafarnwyr digrefydd,
[Page 290]Mae'r gwragedd ŷn gado eu nyddiad ai Cribo
Ai gweuad a'i gwnio i dwymo Dwr;
Gwerthassant ei rhode a'i cyffion a'i Cribe;
I brynu costrele Tafarnwr.
Mae'r mwrddriwr ar gwibiad ar bawd ŷ cnaf anllad
Ar lleidir a'r gwilliad ar ffeiriad ffol,
A Shini a Siangco, a lisens i
Werthu
witro,
Bir Cwrw, Tobacco heb reol,
Pe ceisie na'r cythrel, na'i fam godi capel,
Wrth ochor dy demel er dime'n y dydd,
I gadw Tafarnd ŷ cyhoeddus yng-Hymru,
Fe gae ei gennadu yn ufydd
Duw dere oth arfer a chyngor ar fyrder,
Torr lawer o'r niser, sy'n nafu'r byd
Cyn bwyttont eu gilydd cyn nafont y gwledydd,
Cyn llygront dy lan grefydd hyfryd,
Mae'r gweision mor
Foethus
ddainti na fynent hwy gorffi
Ond gwyn fara ei meistri neu fustro a wnant
cadw stwr
A'r merched ar gyflog ond odid yn feichiog,
Am fod yn rhy wreslog meddant.
Mae pob rhyw o alwad, yn ddibris am danad
Yn ceisio ei codiad▪ ai cadw ei hun,
Heb geifio d' ogoniant ti Arglwydd ein llwyddiant
Na'th fawrglod na'th foliant na'i 'mofyn.
O achos gan hynny fod pawb yn troseddu
A phob gradd yn pechu a'i buchedd ar draws
Di geisiaist trwy fwyndra ac enyd o wascfa
I'n cyffro i wella ein drwg naws
Yn fwyn ac yn serchog fel Arglwŷdd trugarog
A fae'n dra chwannog i'n hynnill drwy dêg
Di geisiaist yn dirion, trwy amryw fendithion
In tynnu ir ffordd union yn loywdeg.
Pan ffaeliodd dy fwynder wella'n drwg arfer,
Bygythiaist a chryfder a llymder i'n llâdd,
Hogaist dy gledde, golymaist dy saethe,
Paratoist dy arfeu i ymladd.
[Page 291]Ond gwedi ti ymgweirio, rhoest rybudd cyn clwyso
Bygythiaist cyn taro a'n torri ni i lawr,
Offrymaist i'n ffafar▪ o byddem ni edifar,
A ninne'n dy watwar yn ddirfawr
Pan welaist Dduw cyfion na thyccie fygythion.
Di yrraist yn llymmion dy saethe i'n lladd,
A'n curo a'n corddi a llawer o ofidi.
Na allem na'i dofi nai gwrthladd
Gelwaist dy weision,
rhifaist Dat. 6
mwstriaist d' angelion
A'th dri march mawrion, Côch glâs a du.
A gyrraist hwy'n ddiriaid, ar holl greaduriaid.
I'n plagio fileiniaid a'n gryddfu.
Rhoest ddu-rew digassag haf poethlyd
aflwyddianus
anffodiog,
Gwynt stormus scethrog yn scathru'r yd,
Llifeiriant i'n soddi ar moroedd i'n boddi.
A chan ryw ofidi i'n herlyd.
Twymynne cynddeiriog drudaniaeth digassog
Marwolaeth llym
anwadal
orig mewn llawer mann
A yrraist in cyffro i brysur repentio,
A'n
Deisyf
cathrain ith geisio yn gyfan.
Pan welaist na alle hyn oll o ddiale.
Ein dadtroi o'u beie, i wellhau'n byd,
Di yrraist drachefen hir newyn a chwarren,
A rhyfel aflawen i'n herlyd.
Y chwarren y laddodd ddiharebrwydd o filoedd,
Mewn amryw leoedd a gormod llid
Nes llenwi'r mon wentydd a thlodi'r holl drefydd,
Lle gyrraist dy gerydd i'w hymlid
A'r rhyfel anffodiog, y ddaeth yn ddigassog,
Cledde yn llidiog i'n tlodi an lladd,
Nes difa'n rhyfelwyr, a'n trysor a'n llafur,
A'n gyrru'n ddi gyssur i ymladd
Soddaist ein llonge, diddymaist ein
bwriade
plottie
Troest fin ein cledde taflaist ni ir clawdd.
Dallaist ein doechion dychrynaist ein dewrion
Gwerthaist ni ir cassion a'n ceisiawdd.
[Page 292]Y Cornwyd ar Cleddy, y wnaeth i ni grynu,
A dechreu difaru dau forcu neu dri;
A chanlyn a chrio am dynnu'r plag heibio
Nes itti lwyr wrando ein gweddi,
Pan dynnaist di'r Chwarren a'r rhyfel aflawen
Ni droesom draehefen dri chyfydd i'n hol;
Fel cwn at eu chwdfa ith ddigio a'th hela,
Yn dofi a'n difa'n anffafriol:
Gan hynny di yrrest y Storom a thempest,
Yngbanol y gloddest i'n plagio a gwlaw;
Nes nafu'n cynhaua a defnydd ein bara
A chospi'n hir draha a chyr-law.
Tywalltaist dy felldith mor drwm ac mor dryfrith,
Ar farlis a gwenith a phob ymborth gwr.
Fel y gwrthneba nifeiliaid ei fwytta
Ni phraw'r cwn mo fara yr llafurwyr.
Mae'r March yn ffieiddio ar Mochen yn gado
Y llafur sy'n llwydo ar egin yn llawn,
Gan gynddrwg aflasus, yw'r pileorn ar barlis
Y gaed o'r anilis Ysgawn.
O Arglwydd ni haeddson dy felldith yn gyfion
Ar lafur or fisgon a'r fasced a stôr,
A newyn a nychdod, am hir anufydd-dod,
O ddiffyg it ragod ein goror.
Ein dirmyg a'n traha, ar ddiod a bara.
A bair i ni fwytta oni attal Duw;
Y ffacpŷs ar callod ac ymborth nefeilod,
Ar crŵst ŷm ni'n wrthod heddyw.
Ni fuom yn poeri y blawd oedd a rhydi
A'r Bara a'r pinni ni bwriem o'n pen;
A'n begers mor foethus yn taeru ar farlis,
Ni phrofent ond canis
Yn agos
haychen,
Ni fuom yn bwytta Gormoddion o fara,
Fel pobol Gomorra'n cam arfer eu bvd.
Heb ddiolch am dano na swpper na chemo.
Nes i ni dy ddigio yn danllyd,
[Page 293]Ni fuom yn yfed, nes myned cyn dynned,
Na allem ni gerdded. namyned, o'r mann
Nes arllwys ein ceudod, lle hyfsom ni'r ddiod
Yn waeth na'r nifeilod aflan:
Bu deie'n tafarne. y [...] llawnach ddydd sulie,
0 addolwyr bolie, yn addoli diawl
Nag oedd ein heglwysydd o ddynion o grefydd
lth' ddoli di'n usydd, Duw nefawl
Tair gwaith o leia, y llanwn ni'r bola,
Bob dydd pan bo byrra, gan bori ein bwyd:
Ond prin mewn saith die, y cofiwn ni dithe,
Syn llanw ein bolie â bras fwyd.
Ni filnwn yn ebrwydd, yn d' eglwys o Arglwydd
Er maint yw ein haflwydd an hoflyd
Balchder,
'tra
Ni flinwn ni'n aros, mewn tafarn dros wythnos
Er oered o'r hirnos aia.
Fe yf un cyn cinnio, o fir a thybacco,
Faint y ddigono ddeugeinyn ar bryd:
Fei chwda drachefen. gan dynned ei botten,
Heb feddwlam angen a gofyd.
Mae'n meddwdod yn crio am newyd in' pigo.
Mae'n gloddest yn ceisio dwyn prinder i'n cell,
Mae'n hafrad ysowaeth yn gosyn drudaniaeth,
A hirbryd trwy hiraeth ein cawell.
Yn gyfiawn gan hynny, O Arglwydd y gallu
A newyn ein gryddfu am wrthod grâs;
A thorri a difa cynhalieth ein bara.
A pheri i ni fwytta ein † carcas,
Ond Arglwydd trugarog er mwyn dy eneiniog
Cnawd
Na ddanfon yn llidiog hir newyn i'n lladd,
Na nychdod ein gryddfu, na pblag i'n difethu
Na rhyfel na chleddu i'n
Gwrth­nebu
gwrthladd.
Ond madde yn rassol ein trawsedd
R [...]feddol
anguriol
Na wna ni yn Siampol, i bobol y byd:
Ond arbed ni'n dirion a gwella'n harferion,
A newid ein ffinion fywyd,
[Page 294]Nac edrych Dâd cyfion. ar drossedd dy weision
Na'n beie mawrion, i'n lladd gan ei maint:
Ond edrych yn hyfryd, ar ange d'anwylyd
I ddofi dy danllyd ddigofaint.
Er mwyn ei rinweddl. a'i sywyd a'i ange,
Ai sydd dod ai wrthie, ai werthfawr waed,
Madde in i baslwys, tro ni ir ffordd gymmwys,
A chadw ni yn dy eglwys yn wastad.
Golch ein pechode, yng-waed ei welie,
Croes-hoelia ein beie, a'n grygie ar ei groes
Rhwyga'n
rhwym
bligassiwn, a doro i ni bardwn,
Er mwyn ei ddryd
Ddiodd­efaint
bassiwn a'i hir loes,
Na alw ni i gyfri, am dan ein drygoni,
Na ddere in cospi, am ein gwegi a'n gwaith:
Ond arbed dy weision, er mwyn dy fâb gwirion,
A'th wnaeth yn dra boddlon unwaith.
A danfon dy yspryd, i wella'n drwg fywyd,
A'n helpu ddychwelyd, a chalon iach,
Ith gywir wasnaethu, a'th ofni, a'ih garu,
A'n
rhwystro
deor i bechu dim mwyach,
Duw attal dy wialen, dad-ddigia drachefen
Tro dy wyneb yn llawen, nad newyn i'n lladd:
Madde'n trosedde, gwir wella'n drwg nwyde,
Sancteiddia'r calonne sy'n d' wrthladd,
Duw gwella di'r tywydd, bendithia di'r maesydd
Tro'n tristwch yn
Lawenydd
wenydd, na newin a ni:
Rho râd ar y fisgawn. gwna'r farchnad yn gyflawn
Diwalla ni a'th radlawn ddaioni.
Rho ymborth ir Ghristion. rho ogor ir eidion,
Rho'r fengyl ir gwirion y garo'r gair;
Anrhyd­edd
Rho heddwch ir deyrnas, ac iechyd ac urddas,
In pen
rheolw [...]
Llywydd Charles ddiwair.
Mil chwechant ac ugain, a naw mlynedd cywrah
Medd holl ddoethion Brydain oedd oedran ein brawl
A'n Prynwr, a'n ceidwad, pan gwympodd y gawal
Y lanwodd y farchuad a chwd-flawd.
[Page 295] RHeolwr y Nefoedd a'r ddaiar a'r moroedd,
Arall
Ar tywydd, a'r gwyntoedd o'r glynnedd, a'r glaw
[...]w gwynfan tosturiol, ac achwyn dy Bobol,
Gan dywydd drychinol a hir law.
Y mae'r Gwynt, y mae'r Tonne, mae'r glaw a'r diale
A'r Sêr yn eu gradde; a'r nefoedd yn grych,
Barn 5 10,
Yn ymladd i'n herbyn drosseddwyr escymmyn,
I'n plago a newyn yn fynych.
Mae'r haul oedd i'n porthi, gwres a goleuni
Yn awr gwedi sorri yn edrych yn sur
Gan ballu rhoi thwymder, ai gwres with ei harfer,
Nes pydru'r naill hanner o'n llafur
Mae'r Lleuad yn wylo, fel Gwraig y fae'n mwrnio
Bob nos mae'n ymguddio, mewn cwmwl o'n gwydd
I ollwng ein deigre, gan amled o'n beie,
Nes soddi'r Llasurie ag aflwydd,
Mae'r tonne cynddeiriog a'r wybren gasodog,
A'r cymmyle glybyrog yn glawio bob awr
Afonydd o ddrwg fyd gan gynddrwg o'n bywyd
I'n blago ag adfyd yn ddirfawr,
Mae'r
Gorthr­ymiad
ormes yn sathru y llafur sy'n tyfu
Mae'r gwynt yn cawdelu y dalo o frig,
Nes iddo ddihidlo, mallu, ac egino.
Gan wlaw yn ei guro yn ffyrnig.
Mae'r llafur s' eb fedi, yn barod i golli,
Heb dywydd i dori, na'i daro ynghyd.
Mewn cyflwr anhygar: Duw moes i'n dy ffafar
I gwnnu o'r ddaiar sopassyd.
Mae'r maint sy'n ei helem fel gwellt yn y dommen,
Yn ddigon anghymen, yng
Bola
hwman y dâs.
Yn twymo, yn mygu, yn llwydo, yn mallu,
A chwedi llwyr bydru o gwmpas.
Mae'r maint sy'n y scubor, gogyser a gogor
Yn twymo heb gyngor, yn mygu heb gel
Yn barod i nynu mab Duw dere i'n helpu,
A nad ti lwyr fethu ein trasel.
[Page 296]A'r maint fydd ac feder ein cinnio a'n swpper,
Sydd gynddrwg ei biner, a'i dymmer mor dost
Ac oni chawn gennyd Duw grassol gyfrwyddyd
Fe'n
Cospl
plagir ni ag adfyd hir dost,
'Agor dy lygad O Arglwydd ein ceidwad,
'A chenfyd mor irad, id weled mor
Cofnad [...]
hyllffinio
Holl ymborth Christnogion yn pydru mor
'O esie cael hinon i gynnill.
Duw grassol tosturia difwynodd ein bara,
(Hir nychdod y faga dan fogel dy blant)
O ddifyg it ei rwystro, a'i ddyfal fendithio,
A rhoddi rhâd arno a llwyddiant,
'Duw beth y feddyliwn, am had yd y gwanwyn
'O bwy le ei ceisiwn, o cawn fyw yn cyd
'Mae pawb yn achwyngar, ddifwyno ei holl heini [...]
'Duw dangos dy ffafar am had yd
Duw grassol tosturia, wrth ddefaid dy borfa
Na thorr ffon ein bara i beri i ni boen
Esa 31
Madde'n trosedde gwella'n drwg nwyde.
Cyssura'n calonne
Dilawenyd
dihoen.
'Gorchymmyn i'r haul wen, ymddangos drachefn
'Gwna'r lleuad, a'r Seren yn Siriol i'th Saint;
'Rho hinon a chyssur, i'r poenfawr lafurwyr:
'A dofa dy bryssyr ddigofaint
Agu
Rhwylla'r wybrenne, a gwascar y cwmle
Cerydda'r cafade ‡ cu ydwyd a rhwydd
cariads
Gostega'r dost ormes, Rho degwch a chrastes
I'r llafur anghynnes, Arglwydd
'Ond yma Duw'r gallu 'rwi'n brudd yn cyffesu,
'Mae'n pechod sy'n tvnnu'r fath ddial ar ein traws
'A'th stormydd anrassol a'r tywydd drychinol
'I'n cospi dy bobol rhy-draws.
Di lenwaist ein bolie. mor gyflawn a'th ddonie,
Na chodem o'n heiste i ostwng ein glîn,
I roddi it foliant na chlôd am ein porthiant,
Nes tynnu aflwyddiant i'n dilyn
[Page 297]Yr eidion ar assen a edwyn en perchen,
A'r ci fydd llawen, wrth ei portho allaeth;
Ond Pobol ddlwybod ni finant gydnabod,
Nac adde mae'r Drindod oi Tudmaeth.
Yr wyt yn ein porthi, ag amryw ddaioni
Fel un a fae'n pesci pascwch yn rhin;
Ni chodwn on penne i weld mwy nag ynte,
0 ble mae'r fath ddonnie yn disgyn.
Gan hynny di yrest y storom a thempest,
I gospi ein gloddest a dyrc-hin a glaw;
I beri i ni nabod, a gweled mae'r Drindod,
Sy'n porthi ni yn wastod a'i ddwylaw,
Er maint o'r ddial y roeist om ein penne,
I gospi ein beie, gan gynddrwg ym yn byw;
Ni buom er y
er am­ser Wiliam Gong­cwerwr
concwest yn byw mor anouest
A chymaint ein gloddest ac heddyw.
A'r storom yn chwythu a'r glaw yn ein gryddfu,
A'r llafyr yn pydru, heb adrodd ond gwir,
Yn Heie'r Tafarne yn chwydu ddydd Sulie.
A'r gablu rym ninne rhai anwir,
Pan ddylem weddio; a phryssur repentio,
Mewn llwch, ac ymgrino am bardwn a gras.
A'th gywir wsnaethu, 'roem ninne'n dy gablu,
A'th rwygo a'th regu'n ddiras,
Pa swyna y ceisiyd ein troi a'n dymchwelyd,
A gwella ein bywyd, a'madel a'n bai,
Waeth waeth y pechem fwy fwy i'th ddigiem,
Saith bellach y ciliem ninnai,
Pe fwya ddiale y roed am ein penne,
Bid newyn, bid cledde, bid clefyd, bid glaw,
Fwy fwy fel Pharo yr ym yn dy gyffro,
I'n poeni a'n plago a hir-law
Nid 'rhyfedd gan hynny, dy fod yn ein maeddu
Gan ddyblu a threblu ein maethgen a thrwst
Ond mwy o ryfeddod ra roit' ni ddyrnod,
A'a taflu i'r pwll issod ya ddidrwfr;
[Page 298]Duw madde'n styfnigrwydd, Duw do fa'th lidiawg.
Tyn ymmaith ein gwradwydd, a'n haflwydd hir,
Rho râs i ni fedru, fel Ninif ddifaru,
A'th ddyfal wasanaethu yn gywir.

Rhybydd i Gymru i edifarhau ar yr amser yr oedd y Chwarren fawr yn Llyndain.

CYmru Cymru,
Gilara
mwrna, mwrna,
Gâd dy pechod, gwella gwella,
Rhag ith bechod dynnu dial,
A digofaint Duw ith Ardal.
Mae dy bechod gwedi dringad,
Cuwch a'r nêf yn crio'n irad,
Am ddiale ar' dy goppa.
Megis Sodom a Gomorrah.
Mae e'n gweiddi nôs a bore;
Fel gwaed Abel am ddiale;
Nid oes dim y
Gau.
stoppia ei safan
Ond plag Duw, neu wella'n suan.
Mae e gwedi nyrddo'r ddaiar:
Fel pechodau'r Cowri cynnar;
Ac yn gofyn dy ddysgybo,
Epi jarhau
Oddi arni, neu Repento.
Nid oes cornel mwy na Ninif
Na bo'n llawn o feie anneirif,
Na chrach bentre na bo pechod,
Yn swrddanu clustiau'r Drindod
Nid oes unrhyw râdd na galwad
Na bo gwedi ymlygru'n irad,
Ac yn tynnu fel wrth reffyn,
Biag a dial a dy
Goppa.
gobyn.
Mae'r Penaethiaid bob yr un
Yn ceisio 'i mawl a'i lles eu hun;
Ac heb ymgaiz am wit grefydd
Moliant Duw. na lles y Gwledydd,
Mae dy ffeiriaid hwyntau'n Cysgu;
Ac yn gado'r bobol bechu,
Ac i fyw y modd y mynnon
Heb na cherydd, na chynghorion.
Mae dy Farnwyr, a'th wyrmawrion
Yn cyd-ddwy na Mwrddwyr, meddwon
Ac yn godde treiswyr diriaid
Spelio'r gweddwon a'r ymddifaid
Mae'r Swyddogion hwyntau'n godde,
Cablu Duw, a meddwi'r Sulie,
Troedo'r fengyl, casau'r cymmyn,
Heb na chosp na cherydd arnyn.
Mae'r Shirifiaid, a'u debidion.
Yn anrheithio'r bobol wirion.
Ac wrth rym ei braint a'i swydde;
Yn eu speilio liw dydd gole.
Mae'r Cyfoethog hwyntau'n llyngcu,
Faint sy'n helwr tlawd ynghymru
Ac wrth renti'n dost, ac occra,
Yn eu gyrry hwy gardotta
Mae'r Cyffredin o bob rhyw,
Yn
Gwneuthur
delo'n ffalst yn ddigio Duw
Yn ddall yn ddwl heb fynnu eu dysgu,
Yn mynd ir pwll, heb odde eu nadu.
Mae pob grâdd yn pechu'n rhigyl,
Ac heb wneuthur pris o'r feugyl,
Nac o gyfraith Dduw gorucha,
Yn addoli'r byd a'r bola
Mae pob grâdd a rhaffau pechod
Yn dirdynu dial hynod.
Am eu penne heb dosturi.
Oni thront oddiwrth eu bryntî.
Mae'r fath feddwdod, mae'r fath dyngs
Ma'r fath gamwedd ynnot Cymru
At fath wangred a gau dduwiaeth,
Na bu 'nghred ei
O'i fa [...]h
sut ysywaeth
Mae Duw cyfion, ynte'n canfod
Drwg ymddygiad pawb ai pechod,
Heb 10.30
Ac yn rhwym wrth swydd a nattur:
Ddial ar y fath drosseddwyr.
Er ys dyddie mae'n
Ymbil
ymhwedd,
A'th holl blant am wella eu buchedd.
Eisie gwella mae'n ‖ bwriadu
Weithian diale camwedd Cymru.
Duw a'th ddododd yn y taflau:
Duw a'th gafodd lai na phwysau.
Duw y syn rhoi maethgen itti
On [...] throi oddiwrth dy frynti.
Eisie Cymru gymryd rhybydd
Oddiwrth Loeger, yn ei holl gystydd.
Mae gwialen gwedi glywchu,
Yn y Sicc ar feder Cymru.
Y mae plâg yn ol dy bechod,
Gwedi lunio gan y Drindod.
Ac yn barod ddwad attad,
O waith cynddrwg o'th ymddygiad,
Y mae'n crogi uwch dy gobyn,
Ddydd a nos fel wrth edefyn,
Ac yn barod iawn i syrthio
Oni throi di a repentio,
Yr wyt tithe yn pentyrru,
Pläg ar blâg, heb edifaru
Ac yn cam arferu'n rhyfedd,
Efafar Duw a'i hir amynedd,
Rwyt ti beunydd yn mynd waeth waeth
Ac yn pechu fwy fwy 'sywaeth;
Rwyt ti'n tybied fod Duw'n cysgu,
Tra'n dy
Deisyf ar­nat ti
gathrain i ddifaru,
Rwyt ti'n hwrnu yn dy bechod,
Heb ystyried na chydnabod,
Fod Duw'n hogi'n llym ei gledde
Trech ti'n hepian ar dy feie,
Edifara yn brûdd gan hynny,
Cyn del plag ith ardal Cymru,
Cyn y tynno Duw ei Gledde.
Cais ei ffafar ar dy linie.
Os digofaint Duw a nynna,
Pwy o'r holl fyd ai diffodda,
Os y chwarren wyllt a ddenfyn,
Pwy ai tynn y maes o'th derfyn.
Os yr Arglwydd dig a ddechre.
Ladd dy blant â'i fôllt ai gledde:
Pwy all gadw rhag ei ddyrnod
Un o'th blant os terri'r Drindod?
Gwel y lladdfa y wnaeth e'n Llundain,
Er maint oedd eu cri au llefain.
Eisie gwneuthur hyn mewn amser,
Fe ddifethodd fwy nai hanner.
Cwyn gan hynny gwachel oedi;
Llwyr ymwrthod a'th holl frynti:
Llef am râs cyn del dy faethgen,
Foru ysgatfydd y daw'r chwarren.
Mae dy blag mewn cydau Lliain,
Etto'n sioppeu
Marsiand­wyr.
Marchants Llundain;
Fe ddaw'r plâg oddiyno i Gymru,
Os ar fyrder ni ddifaru.
Os i Gymru y daw'r cornwyd,
Och! mor am-mharodol ydwyd,
Fynd ir barr i wneuthur cyfry,
Heb na gwisc na dim'goleuni.
Os i Gymru y daw'r clefyd;
Oser ceisio un gyfrwyddyd;
Nid yw'r byd yn abal
rhwystro
stoppi,
Haint pan ddelo Duw i'n cospi.
Ofer ceisio Saeds a Ryw,
I wrthnebu Cleddeu Duw:
Oni throi oddiwrth dy bechod
Ni thal
Meddygin­iaeth
metswn un o'r chwilod.
Ofer Cadw pyrth dy Drefydd,
Fe ddaw'r plâg dros ben y gwelydd.
Ni all Peics na
Dryll mawr
dwbwl Canon
Attal plag os Duw ai danfon.
Ofer rhedeg hwnt ac ymma,
Geisio cilio rhag dy ddifa;
Dos lle mynnech fe fyn dyrnod,
Duw ai farn orddiwes pechod,
Amos 9.1.2.3
Goreu cyngor rhag y plâg,
I ddyn gadw ei hun yn wâg.
Nid rhag bwyd ac nid rhag diod
Ond rhag pob rhyw faith o bechod
Os daw plâg i gospi Cymru,
Fe ddaw newyn i'th gastellu,
Tristwch cerydd câs ac ofan;
Ni ddaeth plâg erioed ei hunan.
Fe fydd dryg fyd yn dy Diefydd.
Fe fydd ochain rhyng dy welydd:
Fe fydd cwynfan ym hob heol,
Fe fydd braw ar bawb o'th bobol
Cariad brawdol a ddiffoddodd
Pob credigrwydd y ddiflannodd,
A natturiaeth a charrenydd.
A lwyr gollant ei cydnebydd,
Ni ddaw'r fam i drim y ferch.
Na'r wraig ei gwr er maint ei serch,
Na'r chwaer ei brawd na'r tâd ei blentyn,
Câs a thrist, a thrwm yw'r
Plâ
cowyn.
Y mab y ladd ei dad ai anal.
A'r fam ei phlant er maint eigofal,
A'r wraig ei gwr wrth roi ochenaid
Ar brawd ei chwaer a'i holl gyffnessiad
Y marw ladd y byw a'i claddo,
A'r gwann y gwych a ddel iw drinio,
A'r clâf yr jach a fo'n ei faethu;
Mor gas mor flin yw'r plâg wrth hynny
Dyn ar plag sy'n lladd a'i ddillad
Fel
Math o Sarph
y Bassilisc a'i lygad.
Ac a'i anal sy'n gwenwyno.
Fel y
Yr un ar Basilic medd rhai.
Coccatrus y granffo.
Y plâg y bair i bob cymmydog
Gashau'r Hall fel ei cynddeiriog,
A chyfathrach ffryns a chenel
Gashau Câr fel blaidd neu gythrel.
Hyn y bair garcharu'r clefion
Yn y tai fel
Bradwyr
Traetwyrs ffeilstion,
Ai dehoryd i fynd allan.
I gael bwyd dros aur ac Arian
Yr Aur a lâdd y rhai derbyniant,
Y
Dodrefn
stwff y ddifa'r rhai ai medlant,
Pan ddel plâg er maent or diffyg
Cyffwrd.
Ni thâl arian fwy na cherrig.
Hin y bair ith bobol Cymru,
Pan ddel chwarren hir newynu
Pan na chafler bwyd dros Arian,
Na dim cymmorth er ei fegian,
Dy blag y ddaw yn
Disymwth.
ym wngc hefyd,
Fel y dilyw ar y cynfyd,
Neu'r tân gwyllt y ddaeth ar Sodom,
Yn ddi rybudd fel y
Temesti.
Storom.
Pan fych brysur yn ymdwymo
Neu'n y Dafarn yn
Yfed
carowsio
Neu'n cynhennu yn y farchnad
Y daw'r plâg yn ymwngc arnad,
Os mewn tafarn os mewn
Butteindŷ.
Stewdŷ,
Os mewn marchnad neu ddadleudy
Os mewn maes ith derri'r cowyn
Dyna'r man lle bydd dy derfyn.
Yno cei di megis nifel,
Farw'n ymwngc trwy fawr drafel
Heb un dyn i
wasanaethu
weinif itti,
Na'th
Ofalu
areilia, na'th gomfforddi,
Ni ddaw meddyg, ni ddaw ffeiriad,
Ni ddaw ffryns yn agos attad,
Nac un carwr oth holl genel,
Mwy nag at ryw anfad
gwrthryf­elwr.
Rebel,
Ni chei neb a ddel ith drinio.
Nac i'th estyn na'th amwisco.
Nac i'th arwyl nac i'th gladdu.
Ond a chladdiad buwch o'r beudŷ,
O! pwy angeu O! bwy benŷd;
pa
O! pwy blâg a diwedd aethlyd?
O! pwy felltith a throm fforten,
Ydyw marw yn llyn o'r chwaren?
Hyn i gyd a welodd Lloeger,
Yn nhre Lundain yn hwyr amser,
Hyn a well dithe Cymru,
Os a'th bechod ni 'madewi,
Oh! gan hynny Cymru ystur,
Mor anhawddgar mor ddigysur,
Mor ddigariad mor afl [...]wen,
Ydyw marw yn llynn or chwarren.
Dymma'r Angeu wyt yn haeddu,
Am dy bechod Cymru Cymru!
Dymma'r Angeu su ar dy feder,
Oni thro at Dduw ar fyrder.
Mac Duw n' disgwyl er's dyddie,
Am it droi a godo 'th feie,
Eisie troi mae Duw yn barod.
A Phlâg ddial dy holl bechod.
O gan hynny Gymru mwrna.
Gâd dy bechod edifara:
Dysc gan Nin'f geisio heddwch,
Cyn del dial a diffaethwch.
Cyn y tynno Duw ei gleddau;
Cais ei heddwch ar dy liniau,
Rhy ddiweddar it ymbilian,
Gwedi tynno ei gleddau allan,
Cwymp i lawr wrth draed dŷ brynwr
Aegis Magdlen wyla 'r hallt ddwr:
[...]ych a'th wallt ei ddeu-droed rassol,
[...]e ddiddana 'r edifeiriol,
Cyfod Allor megis Dafydd.
Offrwm iddo yspryd cystudd;
1 Cor 21. Psal 51.17
Deisyf arno
Attal
stopio'r Angel,
Sydd ar feder llâd dy genel,
Mwrn
Galaru Jonah
mewn Sâch fel pobol Ninif,
Tro oddiwrth dy feie anneirif;
Duw newidia 'th farn a'th ferdid,
Os tydi ne widia 'th fywyd.
Tramwy ir Demel nos a dydd,
Megis Aaron mwrna yn brûdd.
Llef am ras ar Grist dy geidwad,
Cyn y delo'r Cowyn arnad.
Cur dy ddwyfron yn gystuddiol,
Fel y Publican difeiriol
Cais gan Dduw dosturio wrthyd,
Cyn i'th dorrer ffwrdd ar clefyd.
Bwytta beunydd fara dagrau,
Megis Dafydd am dy feiau,
A gwna'th wely 'r nôs yn foddfa,
Cyn i'r Chwarren wyllt dy ddifa,
Psal 6.6.
Saf fel Moesan yn yr
Bwlch
adwy,
Lle mae'r plâg ar feder tramwy,
Cais gan d' Arglwydd droi ddigllonedd,
Felly dengys it drugaredd.
Megis Phinees cymmer
Gwaywffon Num 25, 7.
siaflyn,
Lladd y rhai sy'n peri'r cowyn,
Cosp ar gyfraith afreolaeth,
Duw a'th geidw rhag marwolaeth:
Gado Sodom tynn i Zoar,
Gwachel ddystryw bydd edifar;
Gwrando'r Angel sy'n rhoi rhybydd,
Cyn y del y plâg i'th drefydd
Gado'r môch a'r bobol feddwon
Fel y gade'r mab afradlon,
Tyn i dŷ dy Dad rhag newyn
Cyn dy dorri lawr a'r cowyn
Mat 26.75.
Tynn fel Peder i ryw gornel.
Wyla'n chwerw dros dy genel,
Y mae'r ceiliog yn dy gofio,
Cais drugaredd cyn dy
Cospi.
blagio
Gwna dy gownt a'th gyfri'n barod
Cyn dy fynd o flaen y Drindod
Mat. 22.11.13. Mat. 25, 4.
Nynn dy lamp. a gwisc dy drwsiad
Cyn y delo'r chwarreu arnad,
Chwyrn yw'r chwarreu pan ei delo
Ni ry
Amser
respyt it ymgweirio,
Bydd barodol yn ei gwiliad:
Bob yr awr cyn deloi attad,
Os ymgweiria Cymru i farw,
Ac i fynd at Dduw yn hoyw,
Tybygolaf
Cnawta i gyd i Dduw dy spario,
A rhoi iechyd hir it etto,
Duw fo graslon wrthyd Cymru
Duw ro grâs it edifaru;
Duw'th achubo rhag y Chwarren,
Arall
Duw ro itti flwyddŷn lawen.
CYmru Cymru mwrna mwrna,
Cwyn fel Ninif Edifara,
Gwisc dy Sach cyhoedda ympryd:
Llef am râs a gwella 'th fywyd.
Y mae Lloeger dy chwaer hynna,
Yn dwyn blinder tôst a gwasgfa
Dan drwm wialen y Duw cyfion,
Sy'n maeddu yn dra chreulon.
Y mae'r plâg yn difa ei phobloedd,
Fel Tân gwyllt y ddoi o'r nefoedd,
Ac fel
Fflam
gwaddath ar sych fynydd,
Yn gorescyn ei holl drefydd,
Mae'n hwy'n meirw yn ddiaros,
Wrth y miloedd yn yr wythnos,
Ac yn cwympo ar ei gilydd,
Yn gelannedd mewn beolydd,
Nid ôes eli nid oes
Cyfrwyddyd
metswn,
Nid oes dwr na deigre miliwn,
[...]ll ei ddiffôdd, och nai laefu,
Ond trugaredd Duw a'i allu.
Y mae Llundain fawr yn
Galaru
mwrno,
Fel Caersalem gwedi hanrheithio;
Nid oes dim ond ochain ynddi,
Cwynfan tôst a llef annigri.
Mae'r fath alar, mae'r fath dristwch.
Mae'r fâth gwynfan a thrafferthwch,
Mae'r fath wewyr a'r fâth ochain.
Na bu'r fâth erioed yn Llundain.
Mae pob grâdd yn gweld yr Ange,
Ger ei bron yn cwnnu ei gledde,
Ac yn disgwyl heno heddu,
Am y cart i dwyn i'w claddu.
Y mae'r Gwyr yn gweld y gwragedd,
A'u Plant anwyl yn gylannedd,
Yn y tai ŷn dechre
Drewl
sowso,
Heb gael un dyn a'u hamwisco,
Y mae'r gwragedd hwynte 'n ochain,
Weld y gwyr a'u plant yn gelain;
Ac heb feiddio myned allan,
Yn gwall bwyllo 'n flin gan ofan.
Mae'r ymddifaid bach yn gweiddi.
Yn y tai heb neb iw porthi:
Ac yn sugno brest eu mamme,
Gwedi marw er ys tridie,
Nid oes cymmorth, nid oes cysur,
[...]'r nef o'r ddaer o'r mor nar awyr.
[...]'r Dre na'r wlad, o'r maes na'r winllan.
[...]'r Llann na'r Llŷs o'r gaer ar gorlan.
Y mae'r lach yn gweld y trwcle,
Y fae gynt yn dwyn tommene,
Heb ddwyn dim o'r gole i gilydd,
Ond y meirw i'r monwentydd,
Mai rhai byw yn hanner marw,
Cyn del arnynt wyn na gwayw,
Wrth weid cymmaint yw'r diale
Sy'n digwyddo am eu penne,
Ni chair rhydd dyd fyned allan,
Ni chair bwyd i mewn dros arian,
Ni chair tramwy at un Christion,
Ni chair madel a'r rhai meirwon,
Yn y tai mae'r plag a'r cowyn,
Yn yr hewl mae'r cri a'r newyn;
Yn y maes mae'r cigfrain duon,
Hwyntau'n pigo llgaid cleifion,
Y mae sowaeth Duw a dynion,
Gwedi gado'r rhain yn dlodion
Heb roi help na swccwr iddyn
Yn eu nychdod tôst a'u newyn,
Dih. 26 28
'Mae Duw'n chwerthyn am eu pen [...]
'Ac a'i fys yn
Canad.
stoppio glustie,
'Ac heb wrando gweddi canmil,
'Eisie gwrando llais ei fengyl,
Y mae dynion anrhugarog.
Yn eu ffoi fel cwn cynddeiriog;
Gwell yw ganthynt weled gwiber,
Yn y wlâd na gweled
Gwr o Lundain,
Lyndner.
Waith bôd dyn a'r plag yn nyrdda
Pôb rhyw ddyn a ddelo atto,
Ac yn lladd a gwynt ei ddillad,
Fel y
Sarph.
Basilisc a'i lygad;
Ni faidd Tad fynd at ei Blentyn,
Na gwraig drin y Gwr a'r cowyn.
Na ffrind weid ei ffrind a'r clefyd,
Heb fawr berigl am ei fywyd,
Y mae'r fam yn lladd ai chussan,
[...] hanwylyd blentyn bychan,
[...]c heb wybod yn andwyo,
Nafu
[...]wn a'r plâg tra fytho'n sugno,
Y mae'r Tâd yn lladd a'i anal,
Ei blant ai nwyl yn ddiattal.
Ac fel
Sarph
Coccatris gwenwynllyd
Yn ddi fôn yn dwyn eu bywyd.
Y mae'r Plentyn y glefychodd
Ynte'n lladd ei fam a'i magodd,
Ac o'i anfodd yn
Gwenwyno
inffectio,
Yr holl dylwyth lle bo'n trigo.
Mae'n hwy'n meirw yn ddisymmwyth
Gwyr a gwragedd, Plant a thylwyth
Wrth y pumcant yn y noswaith,
Nes mynd Llundain megis anrhaith,
Mae'r fath wylo, mae'r fath ochain,
Ym mhob cornel o dre Lundain:
Ni bu'rroed o'i fath yn Rama.
Gynt gan Rachel a'i chyfnessa.
Mae'r offeiriaid a'r pregethwyr
Yn alaru maes o fessur
Weld eglwysydd lle'r oedd miloedd,
Fel
Bwthau
lluestai heb ddim pobloedd,
Y mae'r
Marsiand­wyr.
Merchants mawr a'u Shioppe
Llawn o frethyn aur a lasie,
Heb gael gwerthu dim o'r llathaid,
[...] roi bara iw prentissiaid,
Y mae'r crefftwyr hwynte'n ochain,
Gwedi gweithio pethau
Hardd.
cywrain,
Heb gael un dyn yno iw prynu
Ac yn barod i newynu.
Mae lletteu wyr ar Gwyr mawrion.
[...]'r Arglwyddi, a'r marchogion
Yn Hostrie mawr yn wâg,
Heb neb ynddynt ond y plâg.
Y mae'r
Badwyr
Water-men a'r Porters,
A'r
Rhaiyn dwyn llwy­the ar eu cef­ne
caraniswyr oll a'r haliers,
Heb gael lle i ennill dimme,
l roi bara yn eu bolie.
Mae'r Farchnatfa lle'r oedd llasur
Cig a physcod tu hwnt i festur
A phob moethe o'r danteithia,
Rhai yn bala car [...]
Heb na chig,
Rhai yn llysco pethau
na blawd na bara
Y mae llawer oedd yn ceisio
Sost ieir
Quailes a
Ceiliogau'r coed
Phesants erbyn cinio,
Nawr yn chwennych torri newyn
Ar
Phscod hallt sych
bwr Jon a hên ymenyn.
Lle'roedd beunydd fil o fade
Yn dwyn ymborth, heb law llonge
Nid oes heddyw bwnn yn dwad
O flawd cawl, dros aur ir farchnad
Lle 'roedd llawndid o bob ffrwythi
Ag oedd daer a dwr yn roddi
Nid oes heddyw ond y newyn,
Ar drydaniaeth waith y cowyn
Hyn yn barodd ein ben Balchderdraha
A'n glothineb, a'n putteindra
A'n gau-dduwiaeth, a'n cas feddwdod
A dirmygu'r gair yn wastod.
Dymma wabar, dymma flrwythe
Dymma gyflog ein pechode
Dymma'r faethgen dôst haeddassom
Am y brynti gynt a wnaethom.
deut 28 15 21 27
Dymma fel y gall Duw cyfion,
Dynnu lawr y trefydd mawrion,
Mewn byrr ennyd am anwiredd.
A'u darostwng am eu balchedd.
Dymma fel y gall Duw blygu
Pobol drawsion y fo'n pechu
Ac heb wneuthur pris ei ddeddfe
A'u
Gosod
committo dan law'r Angeu,
Hyn haeddasom er ys dyddie
Hyn y ddylem bawb i adde
Cyfiawn yw Duw a diargoedd
Yn ei ffyrdd a'i holl weithredoedd,
Psal 145 17
Ni hauassom bob differthder
Gynt rhwng cwyse anghyfiawnder
Rym ni'n medi, rym oi'n caselu,
Y crop y ddygodd pechod inni,
Dyma'r dial gynt addawodd,
Duw ei ddanfon ar y bobloedd
Nis gwasnaethant a'i holl galon
Ac na chadwent ei orchymynnion,
'Dymma'r faethgen y gaiff Cymru
Fe fu'r ch­warren ar ol hyn yng Hy­mru, a Rhyf­el trwy'r dey­rnas
Esie gwella a difaru,
A chymmeryd rhybydd dyner,
Oddiwrth blâg a dial Llooger,
Pan y helodd Duw'r fath wialen
Ar y bobol dda o Lunden,
M'arnai ofan y daw cleddu
Ar y bobol ddrwg o Gymru.
Pan na chymre bobol Juda
Rybydd prûdd oddiwrth Samaria
Duw rodd Juda i gaethiwaid
Fel Samaria dan law'r Siriaid.
Pan na chymer Cymru
Rybydd
warning.
Oddiwrth Loeger yn ddidaring
Ma'rnai ofan y daw dial
Psal 25 45.
Ar y Cymru a phlag
Diffaith
anial.
Pan y glawiodd Duw gorucha,
D [...]n ar Sodom a Gomorrah
Ni ddiffoddodd o'i lid tanllyd
Nes difethu Zeboim hefyd,
Deut. 29 23
Pan y helodd Duw y cliwarren.
dir Loeger ac i Lunden
Mi'rnai ofan tost nâ laesa
A plag, nes del ymweld a
Cymru
Chambria
Os pan helodd Duw a cledde,
I Germania a'i chyffinie,
Eisie i'r ffrangcod gymryd rhybydd,
F [...]aeth y cleddyf trwy ei holl drefyd
Eisie i Loeger gymryd
Rhybydd
warning
Oddiwrth bohem, ffraingc, a fflushing
Y mae Duw yn cospi Lloeger
Yn saith gwaeth nag un o'r nifer,
Oni chymmer Cymru rybydd
Oddiwrth Loeger drist a'r chystudd;
Ma'rnai ofan gweld ar fyrder
Blâg yng Hymru waeth na Lloeger,
O gan hynny Cymru
Galara
mwrna
Gâd dy bechod, edifara:
Dysc gan Ninif geisio heddwch
Cyn del dial a difiaithwch,
Cûr dy ddwyfron, wyla'r hallt ddwr
Golch dy wisc yng waed dy Brynwr
Llef am ras, a gâd dy frynti,
Cyn dialer dy ddrygioni,
Ioel 2 12 13 14
Cyn y tynno Duw ei gledde
Cwymp yn issel ar dy linic
A chais râs a ffafar gantho
Cyn i'r Ange dig dy daro,
Ofer crio gwedi'th glwyfer,
Ofer ymbil gwedi'th farner
Ofer ceisio torri'r wialen
Gwedi rhodder itti'r faethgen,
Cwyn gan hynny gwachel oedi
Bryssia'n
Ebrwydd
esgyd, gâd dy frynti
Gwel y farn sydd uwch dy gobyn
Tro, cyn caffoi arnad ddisgyn,

Gweddi Eglwyswr wrth fyned i ymweled a'r cleifion yn amser y chwarren

DUW gwynn, Gwel mor beryglus
Yw swydd dy was trafaelus,
sydd yn twttan aia a hâf,
Mined
At bob dyn claf gwrthnebus
Nid oes na gwr na bachgen,
Bid claf ô'r frech na'r chwarten,
Neu ryw glefyd y fo gwaeth,
Nad wyfi gaeth i orthen.
Os gwres os gwayw poethlyd,
Os chwys, os Twymyn awchlyd,
F' orfydd myned uwch ei ben
Bid claf o'r chwarren waedlyd,
A hŷn sydd dra echrydus
I galon egwan glwyfus
Sydd heb bwer gantho ei hun,
I wechlyd twymyn awchus,
Gan hynny ar f'unig helpwr,
Am ceidwad am diffynwr,
Sy'n rheoli rhain i gyd
Rwi'n crio'm mhryd am swccwr,
O Arglwydd mawr di elli,
Fy nghadw'n iach os mynni
Rhag yr heintiau hyn i gyd,
Er maint e'u bryd im llyngeu,
Ac oni byddi helpwr
Im cadw mewn cyfyngdwr,
Nid oes le im ddiangc mwy
Ond
Rhoddi ilo
ildio i nhwy fel gwanwr,
Gan hynny Duw'r holl allu
Os d' wllys sy'n cennadn
Cadw fi dy waelaf was,
Rhag heintiau cas im cyrchu.
[Page 314]Tydi fy Nûw sy'n clwyfo,
Hos 6 1 1 Sam 2. 6
Tydi sydd yn elio:
Tydi sy'n lladd ac yn bywhau
Tydi y gae'n
Cerydde
correcto
Gan hynny tanna droswyf
Dy adain fel dihangwyf:
Nad i glwyf neu glefyd cas,
Ymlynnu a'th was daiarol
Duw 'rhwn y gedwaist Aaron
Yn iach ynghanol cleifion;
Num 16 48
Cadw finne'n rasol rhag
Yr haint a'r plag echryslon,
Di gedwaist Abednego
Ynghanol fflam heb dwymo
Cadw finne nghanol plag.
Dan 3.
Er Iesu nad f'andwyo,
Di gedwaist Ddaniel hefyd;
distriwio. dan, 6
O safan llew newynllyd
Cadw finne Arglwydd Dduw,
Rhag haint i fyw mewn iechyd,
Ac felly mi'th folianna,
Mewn llann a llys a thyrfa
Ac a roddaf tra ynwi chwyth,
Id ddiolch byth or mwya,
Fel Aaron yn y gangell
Fel Daniel yn y stafell;
dan 6 10 Psal 164 2
Ac fel Dafydd tra fwi byw.
Bendithiaf Dduw fyng Hastell,

Byr yw oes Dyn

FEL Gwenol Job mae'n hoes yn llithro
Fel Rhossyn Dafydd mae hi'n gwywo
1 Cor 9 24 Jac 4 14
Fel gyrfa Paul y mae'n diweddi
Fel bwmbwl Jaco mae'n diffodi,
Job 7 6
Fel canwyll gwyr mae'n hoes yn treulio
Fel llong dan hwyl mae'n myned heibio
Fel post dan sawd mae'n pedwar carnu
Fel cyscod cwmmwl mae'n diflannu,
Gwann yw'n tai, a chryf yw'n gelyn,
Job 4 19
Byrr yw'n
Hamser,
Terem siwr yw'n terfyn,
Ansertennol yw ddyfodiad,
Byddwn barod yn ei wiliad.

Cyngor ir claf

PAn ith drawer gynta a chlefyd
Ystyr o ble daeth mor danllyd
A phwy helodd glefyd attad,
A pha am ei dodwid arnad
Duw ei hun sy'n danfon clefyd
Odd'wrth Dduw y daw mor aethlyd
An ein beiau mae'n ei
Ddanfon
hela,
Deut 28 2 [...]
I geisio gennym droi a gwella.
Edifara am dy feieu,
Deisyf Bardwn ar dy linieu.
Cais gan Dduw dosturio wrthyd.
Fe'th gyssura yn dy glefyd.
Os nynnodd llid dy Dduw yn d' erbyn
Nes rhoi arnat Glefyd scymmyn,
Hos 6 1
Gwaed yr oen a'th
hedaycha
reconseilia,
Er mai Gwaed
Deigreu heilltion a'i dad ddigia.
Gostwng iddo mae'n drugarog,
Mat 7 7
Cais ei râs, fe rhy yn serchog,
Edifra, ynte fadde,
Wyla di Tosturia ynte,
Act 3 10
Psal 32 5
Addef iddo dy gamwedde
Barn dy hunan am dy feie;
Cwymp oi flaen a deisyf Bardwn
Di gae ras ac
Rhyddhad
Absolusiwn
Tro di atto, ynte a'th dderbyn
Er ei ddigio, rhaid ei
Ddelsysiad
ganlyn;
A phan gwelo heilltion ddeigrau
Fe bair laesu dy flinderau,
Duw ei hun sy', danfon clefyd
Cennad Duw yw nychdod aethlyd;
Oddiwrth Dduw y daw clefydon,
Ni all neb ond Duw ei danfon
Nid o'r moroedd nid o'r mynydd
Nid o'r ddaer, na'r Aer, na'r corfydd
Y daw clefyd ar blant dynion
Ond oddiwrth yr Arglwydd cyfion,
Awyr
Gwres a gwayw, crâch cornwydon
Crûd,
Dent 28 22
a haint, a fyndra calon,
Nychdod, nodau, Mâll, diflanniad
S' oddiwrth Dduw ei hun yn dwad
Ni all 'Emprwyr mawr yr holl fyd
Ddanfon haint na thynnu clefyd
Pennaeth­iaid.
Nid oes neb a'i tyn neu danfon
Ond Duw mawr y barnwr cyfion,
Nid aiff clefyd ffwrdd wrth
Arch
bwyntme [...]
Lot, nac Antwn, Cat na Chlement,
Witch, na dewin, Swyn na phlaned,
Nes cennado Duw ei fyned,
Os o
diotta neu wytta bormodd
Swrffet, os o anwyd
Neu dŷ afiach y ceist glefyd,
Duw ei hun sydd yn dy daro
Pa fodd bynna daethost iddo,
Nid wrth
Siawns
ddamwain, nid wrth fforten
Nid wrth dreiglad lloer na seren
Y daw clefŷd, mawr na bychan
Ond wrth bwyntment Duw ei hunan
Na chais edrych fel dyn ynfyd,
Trwy pa fodd y daeth dy glefyd:
Gwell it edrych tua'r nefeodd,
Ar dy Dduw, a'r llaw a'th drawodd.
Duw a'th drawodd Duw a'th wella;
Duw a'th glwyfodd, Duw a'th elia;
Heb 11.10.
Duw sy'n cospi dy gnawd diriaid,
I iachau dy gorph a'th enaid,
Derbyn Gennad Duw'n gressawgar,
Ymddwyn dano yn ddioddefgar;
Heb, 12, 6,
Nêb a garo Duw fei cospa,
Pôb mab anwyl fei gwialenna.
Bydd ddioddefgar dan dy drwbwl,
Ffol a wingad ar ben Swmbwl;
Jaco 5 10 11
Duw a'th drawodd mor ddolurus;
Ofer it' wrthnebu ei 'wllys.
Am ein pechod a'n drwg fywyd,
Deut 28,
Y mae Duw yn danfon clefyd,
Ac yn awr
Cystuddio,
gryddfu meibion dynion,
Am drosseddu ei orchymynnion.
Darn o gyflog pechod aethlyd,
Ydyw nychdod ac afiechyd;
Pechod a ddaeth wrth ei gynffon,
A phôb clefyd ar blant dynion,
Torri'r Sabboth, tyngu 'n rhigyl,
Cashau'r Eglwys a'r fengyl
Diffang ffeiriad a swyddogion,
A bair Llawer o glefydon.
Meddwdod, Maswedd, a phutteindra.
Rhegu
Segura.
loetran a lledratta,
Gwledda, Gloddest, treisio tlodion,
Sy'n dwyn clefyd a thrallodion.
O's ceist glefyd o daeth gwascfa,
Pechod helodd hwn i'th ddala,
Ac a barodd i Dduw ddigio,
A thoi'r clefyd hwn i'th daro.
Chwilia'n fanol dy gydwybod,
A chais gwrdd a'th ffiaid bechod,
Llwyr groeshoelia dy anwiredd,
Galar 3, 40
Ac ymbilia am drugaredd,
Os difaru am dy feie,
A llwyr droi ar Dduw yn foreu.
Act. 3 19
Fe faddeua Duw dy bechod,
Ac a'th
Os bydd hynny er da joni i'th En­aid ti.
dynn y maes o'th nychdod;
Cais gan Dduw leihau dy ddolur,
Dofi'th boen a gwella 'th gysur,
Cais yn daer esmwythder gantho,
F' all ei roi yr awr y mynno,
Pa ryw bynnag yw dy ddolur,
Fe all Duw ostegu ei wewyr,
A'th iachau y môdd y mynno,
Bid e'r dolur mwya fytho.
Fe Jachâdd y claf o'r parlys,
Gwraig ar lasc a'r crippyl nafus,
Job o'i grach a Namaan glafrllyd,
A'r rhai cleifion o bob clefyd,
Nid yw clefyd ddym ond cennad,
Mat 4.24
Wrth arch Duw sy'n ddywad attad,
Fe ladd fe baid pan archo ei berchen
Fe ddaw fe aiff fel gwâs y Capten.
O gan hynny galw'n daerllyd,
Ar dy Dduw sy'n danfon clefyd,
Cais ei
Amddi­ffyniad.
nawdd er mwyn dy Brynwr.
Di gei gantho help a swccwr,

Gweddi'r Claf.

ARglwydd cyfion Tad fy Jechyd.
Barnwr pawb a'i helpwr hyfryd
Gwrando weddi dyn clefycha.
Er mwyn Christ ac edrych arna.
Yn glâf mewn corph yn drist mewn enaid
Yn drwn mewn meddwl ac uchenaid,
Rwi'n ymlusco o 'nghreawdwr,
Attad ti i geisio Swccwr,
Grassol wyt a llawn trugaredd,
Hwyr dy lid a mawr d' ammynedd,
Hawdd i'th gael mewn tôst gyfyngdwr,
Exod 34.67
Er mwyn Christ tosturia 'n ghyflwr.
Di roeist iechyd ym ys dyddie,
Nawr Di dwgaist am fy meie,
Ac y helaist boen a nychdod,
Im cystuddio am fy mhechod.
Duw mi haeddais rwi'n cyfadde
Un oedd drwmmach er ys dyddie;
Yn dra chyfion Dduw goruchaf,
Y rhoest hyn o nychdod arnaf.
Di allasyd ddanfon clefyd,
Disymwth
Imwngc cas I ddwyn fy mywyd.
Am troi i Uffern i boenydio,
Heb roi amser im repentio.
Etton'n fwyn fel Duw trugarog.
Di roest arnaf glefyd serchog
Im rhybuddio am fy niwedd,
Edifara
Am cyfrwyddo wellhau muched.
Rwy'n ei gymryd megis arwydd.
Psal 119.71
O'm
Yr ar­wyddion o fod yn blant y Dduw yw ffydd ynghrist galar am be­chod a thry­ad oddiwr­tho cariad at y Duwiol, a chadw Gorchymmynion Duw, Oni [...] dyn a'r pethe hyn ynddo. ni ddichon efe gasglu oddiwrth ei glefyd ei fod ef yn blentyn i Dduw. Jo 1 12. M [...] [...], 4. Jo. 3, 8 9 10 14 ac Jo 2 3 4.
mabwysiad a'th garedigrwydd,
Yn fynghospi am § correcto,
Rhag im pechod fy amdwyo.
Da yw'th waith o Arglwydd cyfion,
Yn cospi 'r corph a'r fath drallodion,
Lle roedd f' enaid er ysdyddie,
Yn dra chlaf gan ormod moethe.
Tra ces Jechyd ni ches weled,
O'n pechodau er ei hamled:
Ond yn awr gwae fi mewn nychdod,
Nid wi'n gweled ond fy mhechod.
O ba nifer o bechode,
Wnaethum'n d' erbyn Duw gwae finne,
Maent yn amlach mewn rhifedi,
Nag yw'r Sêr os ceisiai cyfri.
Pa fath Elyn gwyllt y fuo.
Yn d' withnebu megis Pharo;
Gynt pan oeddyt yn ymhwedd.
Am im droi a gwellhau muchedd.
Arglwydd grasol'rwi'n cydnabod,
I mi haeddu cant mwy nychdod,
Ac i'm bechu yn yscymmun,
O'm Maboliaeth yn dy erbyn.
Etto gwn dy fod ti'n rasol,
I bwy bynna so edifeiriol,
Ac yn barod iawn i fadde,
Ir alarus eu camwedde,
Er na haeddais ond trallodion,
A dialau a chlefydon;
Gwna â mi'n ôl dy fawr drugaredd,
Ac nac edrych ar f' anwiredd,
Cymmer Angeu Christ a'i fudd-dod,
Yn dal i ti am fy mhechod:
Clâdd fy meie yn ei
Archolion
weli,
Er ei fwyn bydd rassol i mi,
Nad im farw yn fy mrynti,
Cyn im wneuthur dim dajoni;
Ond rho amser oth drugaredd,
Immi etto wellhau muchedd,
Dal dy law gostega nolur,
Llaesa 'mhoen lleiha fyngwewyr;
Ac na ossod arnai boene.
Fwy nag allo 'ngorph eu godde.
Er bod f' enaid weithie'n dwedyd,
[...] Ghrist a derbyn f' yspryd:
Mae fy nghnawd er hyn yn crio,
[...]w tro'r Cwppan chwerw heibio
Y mae'r Cnawd ar yspryd etto,
Yn amharod i ymmado,
Duw rho amser im eu trefnu,
O bydd dy 'wyllys yn cenhadu.
Nid wi'n ceisio gennyd amser,
Ifyw yn foethus mewn esmwythder,
Ond i dannu dy anrhydedd,
Ac i wellhau peth o'm buchedd.
Duw o's gweli fod yn addas,
Effyn f' oes fel Ezecias;
Doro i mi ryw gyfrwyddyd,
Im iachau a thorri 'nghlefyd,
Ond o's gweli fôd yn ore.
Etto 'nghospi dros fwy ddyddie,
Duw dy wilys di gyflawner;
Ond cyfnertha fi'r cyfamser.
Yn Jach ni wnaethum ond dy ddigio,
Yn glâf ni allai ond ochneidio,
Oni roi dy nefawl Yspryd,
Im diddanu yn [...]ynghlefyd.
Arglwydd cymmorth fi'n mlinder.
Llaesa mhoen am han esmwythder;
Dwed wrth f' enaid yc ei
Ofn
alaeth,
Myfi yw dy iechydwriaeth.
Tydi Christ yw'r mwyd Samariad,
Minne yw'r clâf trafaeliwr irad,
Cweiria nolur rhwym f' archollion,
Dyfa mhoen cryfha fy gnhalon.
Mae dy law yn orthrwm arnaf.
Etto ynod mi ymddiriedaf;
Job 13 15.
A pha lleddit fi a thrallod.
Duw mae f' holl ymddiried ynod.
Gennyt ti mae'r holl
Agoriadau
allwedde,
Sydd ar fywyd ac ar ange;
Datc 1 18
Ni faidd angeu edrych arnaf
Nes danfonech (Christ) ef attaf,
Gwna fi'n barod cyn y delo.
Par im ddisgwyl byth am dano
Fel y gallwi fynd yn addas,
Wrth ei scil ith nefawl deyrnas.
Nâd i bethau'r byd anwadal,
Nath gyfiawnder ddydd y dial,
Nac i ofan Angeu i'm rhwystro,
Ymbartoi i rwydd ymado.
Tynn om calon ofan Angeu,
Par im wadu'r byd ai betheu;
Golch ath waed fy mhechod sceler.
Câdd sy mrynti a'th gyfiawnder,
Rho im ffydd yn dy
addewydion
Brommeision,
Gobaith cryf am gael y Goron,
Dioddefgarwch yn fynghlefyd,
Chwant ddwad attad a dattodyd
Phil 1 13 2 Tim 4 8
Christ rho d' yspryd im diddanu
A'th Angelion im castellu;
Gwna'r awr ola fy awr ore,
Rho mi'r goron ar awr Ange.
Christ fy mugail cadw f enaid,
Nad i'r llew oth law ei
Cipio al dryllio
scliffiaid,
Tydi prynaist yn ddryd ddigon,
Dwg ê ir nef at dy Angelion,

Rhybydd i'r claf i alw am Welnidog, a Physygwr ac i ochelud Swynwyr,

PAn clafychech cais * Offeiriad,
Yn ddiaros ddwad attad,
I Weddio dros dy bechod,
A'th gyfrwyddo fod yn barod,
Christ y bwyntiodd yr offeiriaid
[...]n Byssygwyr doeth i'r enaid,
Ae a roddodd iddynt eli,
[...] wrthnebu pob drygioni,
Adde'th bechod wrth y ffeiriad,
[...]e ry itti gyngor difrad,
Fel y gallo roi cyfrwyddyd.
Yn ol naws a rhyw dy glefyd,
Pan lefaro yr ffeiriad allan o air Duw mae Christ yn lle­faru trwyddo
Crêd beth bynna ddweto'r ffeiriad,
O air Duw yn brudd am danad
Cans llais Christ ei hun yw hynny,
[...]
ceryddu
rebycco neuth ddiddanu,
Deisyf arno brudd weddio
Ar i'r Arglwydd dy
Wella
recyfrio,
A rhoi i ti gyflawn Jechyd,
Neu'n rasol dderbyn d' yspryd,
Mae Duw'n addu gwrando'r ffeiriad
Pan wedd o yn ol ei alwad;
Jaco 5 14 15 16
Christ a ddyru ei ganlyniaeth:
Oni phwintiodd dy farwolaeth,
llawer a ddichon taer weddi y cyfi­awn, ond ab­erth yr an­uwiol sydd ffiaidd Dih. 15.1
Deisyf arno dy gyfnerthu
Rhag i Satan dy orchfygu,
A llonyddu dy gydwybod,
Pan i'th flinir gan dy bechod,
Godde
Chwilio
lawnso dy gornwydion,
Godde ir gair frynaru'r galôn
Fel y gallo fwrw ynddi
Win ac olew gydag Eli,
Gwell it adel ir offeiriad,
Fynegu ir dy ddrwg ymddygiad
Fal y gallech edifaru,
ddangos
Nag oi blegid gael dy ddamnu,
Di gei
Nith ged­wid oni wnei yn ol cyngor a Duw Jac 1 22
gyngor rhag dy bechod
[...] lonyddu dy gydwybod;
Di gae gomffordd gan y ffeiriad,
Di mewn pryd ei gelwi attad,
Nîd y ffeiriad heb ei alw,
Nes ei bech yn hanner marw,
Ni all ffeiriad y pryd hynnny.
Na nêb arall dy ddiddanu
Rhuf 10 17
Oi! pa nifer o'r Brutanniaid,
Sydd yn marw fel Nifeiliaid?
Eisie ceisio nerth y ffeiriad.
I gyfrwyddo eu 'madawiad.
Er bod Duw yn abal cadw.
Sawl a fynno heb ei galw,
Nid yw'n cadw mawr o enaid,
Trwy brege­thiad y gair mae ffydd a throedigaeth i ffordd iech­ydwriaeth yn dyfod, ac am hynny cyn clafychufe ddylit arferu gwrando'r gair: rhag ofn y bydd hirhy bwŷr yn ein clefyd i wneuthur fe­lly: middylem ni oedi, a thybied mae petheu bychain yw ffydd ac edifeirwch a gwellhad buchedd, o herwŷdd mae pob un o'r rhain yn anghenrheidioli iechydwriaeth. Jo. 3.36. Luc 13. 1 Cor 6 9 Heb. 12.14 Er mwyn Christ ystyriwch y 4 lle hynn scrythur a bernwch ynoch eich hunain gan ellir bod yn gad­wedig heb edifeirwch a ffydd a newydddeb buchedd (fel y mae' [...] scrythyrau hyn yn dangos yn eglur) onid yw' nynfydrwydd i gad [...] hwŷ heb eu ceisio hŷd amser ein clefyd. Fe fŷdd yr enaid y prŷ [...] hwnnw yn ymwrando a dolur ac afiechyd y Corph, ac o herwd hynny yn anghymwŷs iawn i wrando cŷngor yr Offeiriad [...] wneuthur yn ei ol fel y dyle, Nid ydym yn darllain ond am [...] sef y lleidr ar y groes ag a wir edifarhaodd ar yr awr ddi [...] ­aethaf am un yr ydym yn darllen hynnny, fel nad amheus ond nid ydym yn darllain ond am un fel na ryfygo neb i oc [...] droeadigaeth at Dduw hyd yr awr ddiwaethaf.
Ond trwy Swydd a gwaith offeiriaid
Cais gan hynny gynta ag aliech
Ffeiriad attad pan glefychech,
I ro * pwrg yn erbyn pechod * physygwriaeth
Rhwn yw achos dy holl nychdod,
Yn ol cyngor yr Eglwyswr.
Cais gyfrwyddyd y Physygwr,
Duw a roes i hwn gelfyddyd.
[Page 325] [...]h Jachau o lawer clefyd
Duw ordeiniodd yn offeiriad,
Megis offerynnais
iachau doluriau'r Enaid,
Physygwr ar Meddygon.
ymgleddu cyrph y cleifion,
Llawer dyn sy'n marw'n
Frwnt
fudur,
[...]e cymmorth y Physsygwyr,
Gan fyrr hau eu hoes a'u hamser,
Yn embydus eisie eu harfer,
Corph pôb dyn yw tŷ ei enaid,
Rhaid
Adnewy­ddu
rheparo hwn a'i drefnaid;
Rhaid i bôd dyn hyd y gallo.
Cadw ei dŷ ar draed heb gwympo,
Arfer gymmorth physsygwriaeth
Yn dy glefyd trwy gristnogaeth:
Duw ordeiniodd hon yn gyssur
[...] blant dynion rhag pob dolur.
Y neb wrthotto physsygwriaeth
Y roes Duw er iechydwriaeth,
Mae'n gwrthnebu maeth ei
Nattur
Anian,
Ac yn * mwrddro ei gorph ei hunan,
lladd
Y llyssewyn salwa welech
Ar gyfrwyddyd waela gaffech.
All roi help ac iechyd itti,
Os rhy Duw ei fendith arni.
Swp o ffigys, os bendithia,
Esa 38.21
All iachau y cornwyd mwya:
A'r gyfrwyddyd na thâl un rhith,
Gall roi help ond cael ei fendith;
Ond pe caet ti balm a Nectar,
Cennin peder, cerrig Bezar,
[...]ew a Myrrh, a gwin a gwenith,
A wnant les heb gael ei fendith,
Nac ŷmddiried i'r Pysygwyr,
Nac i un
Cyfrwy­ddyd. 2 Chron. 16 12
fetswn font yn wneuthur,
[...]hag dy farw megi Afa,
[Page 326]Eisie ymddiried i'r Gorucha.
Nid oes rinwedd ar lysseuach,
Grym mewn Eli, na diodach,
I leihau o'n cûr, a'n poenfa,
Os yr Arglwydd nis bendithia,
Duw sy'n rhoddi
Bendith,
rhâd ar lyssieu
Grym mewn eli a
Cyfrwy­ddyd,
chyfrddoneu,
Lle bendithio Duw, hwy lwyddant,
Lle ni fynno Duw, ni thycciant.
Cais gan hynny fendith hyfryd,
Deut 18 10 11 12 Lev 19 1: 2 Bren 1 16,
Gan dy Dduw ar bôb cyfrwyddyd.
Heb ei fendith ni wna 'r benna,
Ond troi'n wenwyn yn dy gylla.
Gwachel geisio help gan swynwyr,
Yn dy flinder tost a'th ddolur;
Gado Duw mae'r cyfryw ddynion,
Ac addoli 'r gau Dduw Eccron,
Na chais help ir corph mor embaid,
Gan y Dowl sy'n lladd yr enaid;
Nid oes un Physsygwr allan,
Waeth nâ'r Diawl i helpu'r egwan.
Nid yw Swyn ond
Twyll.
hug i'th dwyllo,
Gwedi Satan ei
Dychymmyg
defcisio,
I ddifethu d' enaid gwirion,
Pan y Swyner ith glefydion.
Nid yw'r Swynwyr ond
Cennad
Apostol
Ffalst, i'r Diawl i Dwyllo 'r bobol
Oddiwth Ghrist, Mewn poen a thrafe [...]
I butteinia 'n ôl y cythrel.
Twyllo'r corph. a lladd yr enaid,
Digio Duw bodloni diawliaid.
Gwrthod Christ. a'r maint sydd eiddo,
Y mae'r Swyn, a'r sawl ai cretto.
Datc 2 2, 1,
Ceisio'r cythrel yn Byssygwr
Ydyw ceisio help gan Swynwyr:
eisio 'r Diawl i ddarllen tesni,
[Page 327] [...] â dewin ymgynghori.
Ceisio gwir gan dâd y celwydd,
[...] ymofyn a drogenydd
Ceisio help i ladd yr enaid,
[...]dyw ceisio Swyn
Twyllwyr.
Hudoliaid.
Na char swynwr mwy nâ chythrel.
[...]ae'n dy demptio yn dy drafel,
[...]n wrth Grist er maint yw'th flinder,
Cais ei nerth, Di gei esmwythder,

Gweddi'r claf cyn Cymeryd Physsygwriaeth

AWdwr iechyd lluniwr llyssieu
Rhoddwr rhinwedd, rhwymwr Ang­eu
[...]ywallt fendith, rhâd ac iechyd,
Ar y fetswn wyfin gymryd.
Di ordeiniaist amryw lyssiau,
Diod, Eli, a
pethe i iachu pobol,
chyfyrddonau.
ymgleddu meibion dynion.
Yn ei gwendid a'u clefydion,
Yn ol d' wllys a 'th ordeiniaeth,
[...]wy fi'n cymryd Physsygwriaeth,
[...] ostegu peth o'm didri;
[...]ho dy fendith Arglwydd arni,
Gwn na ddichon un Creadur,
Na chyfrwyddydd laesu 'ng-wewyr,
[...]i byddi di'n bendithio,
[...]hyn a' roer, a'r hwn a 'i cymro,
O gan hynny prûdd
oddifrif.
fendithia,
[...] gyfrwyddyd a gymmera,
[...]el y rhoddo hon im gyssur,
[...]c y llaeso fy holl
Gwewyr
wewyr.
Peraist gynt ir ffigys diflas,
[...]hau cornwyd Hezekias;
[...] o Arglwydd ir gyfrwyddyd
[...]n roi i minne gyflawn iechyd.
Di iachaist olygon Tobi,
[Page 328]Gynt ag a fu'r pysc anigti:
O Jacha fy nolur inne
Mar 8 23
A'r rhai hyn dy gyfyrddone.
Fel y peraist i ddwr Jordan,
Olchi ffwrdd wahanglwyf Naaman:
Felly par ir ddiod ymma,
Dynnu ffwrdd fy'nghur am poenfa,
Fel y peraist gynt i'th boeryn,
Roddi golwg ir Cardottyn:
O par Arglwydd ir gyfrwyddyd
Hon roi' minnau gyflawn iechyd
Gwn y gelli trwy'r fath foddion
Neu heb un iachau clefydon:
Llaesa nolur yn ol d' allu,
Os bydd d' wyllys yn cennadu,
Ond os pwyntiaist ti fy niwedd
Am llwyr dynnu ith drugaredd
Duw dy wyllys di gyflawner
Rwyn ymostwng itt' bob amser,
Ond rho immi ras a phwer
Grym a gallu y cyfamser
Ddwyn fo nolur yn ddioddefgar
Megis cristion yn ddidrydar,
A rho d' ysbryd im cyfnerthu,
Yn fy mlinder i'th foliannu,
Ac i ddwyn dy groes ath wialen,
Yn' wyllysgar ac yn llawen,
A phar immi fod yn barod
Ddwad attad ac ymddattod;
A rhoi f' euiad yn'wyllysgar
Yn dy ddwylo, Arglwydd hygar,
O fy Arglwydd gwn y gally
Fy iachau yr awr y mynny
Oni fynnu laesu 'mlinder,
Duw dwg f' enaid i'th esmwythder.

Gweddi fyrrach i'r claf iw harferu yn ei glefyd.

DUw trugarog, Tad diddanwch
Awdwr iechyd, pen dedwyddwch,
Gwrando waedd pechadur nychlyd,
Sydd yn beggian cymmorth gennyd,
Daeth fy mhechod yn dy olwg
A'm holl fuchedd oedd yn cynddrwg
A chan gymmaint oedd fy
Balchder dirmyg
nhraha,
Di ddanfonaist glefyd arna,
Haeddais Arglwydd drymmach penyd,
Dostach dwymyn, caffach glefyd,
Blinach dolur, byrrach amser,
By'm talassyd with gyfiawnder,
Di allassyd dorri'ngwddwg.
Am fy muchedd oedd yn cynddrwg
Neu fy moddi, neu fy
Lladd
mwrddro
Heb roi amser immi ymgweirio
Nawr rwi'n gweld dy gariad attaf.
Yn rhoi clefyd cruaidd arnaf,
Im ceryddu am f' anwiredd.
Ac im cyffro wella muchedd
Nid 'wllyssi Duw'r holl gyssur.
Ddrwg farwolaeth un pechadur.
Ezec 33 11,
Ond yn hytrach gwella ei fuchedd
I gael bywyd a thrugaredd
Trwy'r fath glefyd blin corphorol,
Amos 4.10
Rwyt im cofio môd yn farwol
A thrwy slinder tost a thristwch
Rwyt im gwawdd i edifeirwch
Mich 6 9
Er im haeddu dy ddigofaint
A'th lidawgrwydd tost yn cymmaint
Psal. 6 [...]
Arglwydd grassol na cherydda
Fi a'th lid a'th gerydd mwya.
Mae dy saethu gwedi' nghlwyfo
Mae fy escyrn gwedi briwio,
Mae fy yspryd gwedi gryddfu,
Arglwŷdd dere im diddanu
Tydi 'm clwyfaist am fy mhechod,
Minne haeddais hyn o drallod
Nid oes neb fy Nuw am hynny,
Ond Tydi all fyng waredu
Tydi sy'n lladd ac yn bywhau
Tydi sy'n clwyfo ac iachu,
Yn dwyn i'r bedd, yn adgyfodi,
Yn trugarhau, ac etto'n cospi
Tydi o Dduw sy'n danfon clefyd,
1 Sam 2.6
Tydi yn unig all rhoi iechyd
Hos 6 1
Nid oes neb all llaesu 'nolur.
Ond tydi, na rhoi im gyssur
Er dy fwynder a'th drugaredd,
Er dy Enw a'th anrhydedd,
Madde mhechod; llaesa nolur;
Gwared f' enaid: rho im gyssur
Oni phwynt aist fy marwolaeth
A diweddu fŷ milwriaeth,
Arglwydd llaesa ar fy mlinder,
A rho immi beth esmwythder
Dymchwel Arglwyd im diddanu
O fy Nuw pa hyd y Sorri?
Gwel fy mhoen, a chlyw fy nghwynfan
Tro dy lid, iacha fi wethian
Cweiria 'ngwely yn fy nghystydd,
Tro fy nhristwch yn llawenydd,
Rhwyg fy fach, a sych fy Neigrau,
Claessa mhoen, iacha noluriau
Maddeu mhechod, Torr fy nghlefyd
Tynn fi o'r ffôs a rho im iechyd
Fel y gallwyf dy glodforu,
Yn fy mywyd am holl allu,
Yn y Bedd, oh Dduw! pwy'th goffa;
Yn hir Angeu pwy'th glodfora?
Arbed Psal 30 9 12
Sparia mywyd Arglwydd grassol.
[...]'th glodforu gyda'r bywiol;
Psal 30 9 12
Felly canaf itt' yn hyfryd,
Glôd a moliant am fy mywyd;
A thro ynof rym na chwythiant
Mi ddatcanaf dy ogoniant,

Rhybydd ir claf wneuthur ei wllys mewn pryd a dosparthu ei bethau mewn ofn Duw.

Oni wnaethost etto d'wllys
Llythur cymmun Esay 38 1
DÔd dy dŷ mewn trefn weddys;
Dosparth d' olud megis Christion,
Yn gristnogaidd ac yn union.
Cais gan Dduw ei nefawl Yspryd
I roi itti lawn gyfrwyddyd.
I gyfrannu d' olud bŷdol,
Yn ol wyllys dy dad nefol,
Act 7 9
‖ Rho dy enaid bach i'th Brynwr
Christ ai pie, dy [...]achawdwr;
Os buust fyw yn dduwiol fe dderbynnir dy enaid ir nef: ond nis gwneir felly os marw a wnei di ŷn annuwiol Mat 7 21 Rhuf 13.7
Rho dy gorph ir ddaer lle cafad,
Hyd nes delo'r adgyfodiad,
Tynn fel Iacob ddefaid Laban
Ar da eraill, o'th dda allan;
Rho i bob dyn ei iawn eiddo,
Til dy ddyled cyn ymado,
Na ddôd geiniog yn dy 'wllys:
O dda eraill yn gamweddus
Rhag eu taflu yn dy ddannedd
O flaen Duw, ar dydd dy ddiwedd,
Ac na chytcam er dy fywyd,
Roi i'th blant anghyfiawn olud;
Ni wna hynny ond eu hela
[...] gyrwydro a chardotta.
Er na feddech ond tair Anner,
I roi rhyngthynt trwy gyfawnder
Gwell y llwydda hynny i'th Eppil,
2 Bren 9 Gen 30 Gen 31
Na thrwy gamwedd pe rhoit dair mil
Gwell y llwyddodd Rhan dir Abram
Nag y llwyddodd teyrnas Joram
A'r gwehilion y gadd Jaco
Ddifa
Na phraidd Laban gwedi * hysso
Fel y bwyttodd Gwinllan Naboth
Deyrnas Ahab a'i holl gyfoeth,
Felly bwytty'r geiniog sceler.
Faint y feddech trwy gyfiawnder,
Ceiniog ddrwg pwy bynna caffo
Sydd fel gwartheg truain Pharo
Rhai fwyttassant ei dda tewon,
Heb fod liawnach eu colyddion
Rho gan hynny'r hyn sydd union
Rhwng dy blant, a'th ffrins, ath weision
Ac na chytcam er dy fywyd
Roi i neb anghyfiawn olud
Exod 16 1 Bren 17
Fel y llwyddodd Duw y manna
Toes y weddw o Sarepta
Olew'r weddw dlawd a'i meibion
Felly llwyddar gronyn cyfion
Gen 25 5 6.
Rho i Isaac dy etifedd,
Ei difeddiaeth yn ddi duedd
A tho ir lleill o'th blant o bobtu
Fodd i fyw yn ol dy allu
Rho i'th wraig ei chyflawn drayan
Na ro iddi la'i na'i chyfran
O rhoi chwaneg, mae yn rhygil,
Fod y fath yn natu'r eppil,
Nâd was ffyddlon heb ei wabar
Rho i'th gar tlawd help o'r heinar
Nad dy weithîwr heb ei gyflog.
Jas 5 4
Crio'n dost y wna'r fath geiniog
Cofia'r fengyl cofia'r Eglwys,
Cofia'r
Ysgoldŷ
Coledg a'th
Gynhaliodd
fainteiniwys:
Cofia'r wlad a'r dre ith faccer;
Os bydd gennyd fodd a phower,
Os goludog wyt heb eppil,
[...]c yn caru Christ a'r fengyl,
Adail ysgol rydd yng Hymru;
lle mae eisie Dysc yn methu.
Luc 19 8,
Cofia Joseph sy'n y carchar,
Rho beth help, i borthi Lazar;
Rho yn awr dy rôdd tra gallech,
Dymma'r rhodd ddiwaetha roddech.
Maint y roech i'th blant a'th drasse,
Dy wraig a'th blant, a'th ffrins a'i pie;
Y maint y roech ir tlawd ar truan,
Storio 'r wyt i ti dy hunan.
Nid oes dychwelud or pwll i wnent­bur iawn ir rhai a orth­rymmwyd; ond mae dych welîad oddi­yno i gael barn 1 Cor 6 9.
Doro'n ôl yr hyn a dreisiaist,
Gwna iawn dal ir rhai orthrymmaist;
Tal dy ddyled cyn dy symmud,
Yn y pwll
Ti elli wneuthur iawn i ddŷn am y dreisiaist oddiarno Preg 9 10 Mat 5 25
nid oes ddychwelud,
Dyro'r Badell. Dyro'r Crochan,
Dyro'r Tai ar Tir ar Arian,
Yn ei hôl ir rhai ai pie.
Rhag dy fynd ir didrange boene,
Nâd i Dyddyn y dŷn gwirion.
Rhwn a dreisiaist yn anghyfion,
Beri it golli Teyrnas nefol;
Rho ei dyddyn yn ei wrthol,
Nawr di elli megis Zache,
§ Wneuthur iawn am dy drossedde,
Yn y pwll ni bydd i'th bwer,
Dalu'r hatling pan ofynner,
Praw gyttuno a'th wrthnebwr,
Cyn dy fynd o flaen y Barnwr,
Rhag 'dy droi ir
Carchar
dyngeou isa,
Lle rhaid talu'r hatling eitha,
Nawr ni fynny mwy na
Dŷn digred
Phagan,
Ddilyn cyngor Christ ei hunan;
Ond di fwytty Gig dy freichie,
Eisieu ei ddilin cyn mawr ddyddie.
Pa Sawl mil sy'n nhân uffernol.
Eisie rhodd trais yng-wrthol,
Rhai a roddant hewddyw'r holl fyd
Yn
lawn
Sarhâd ir tlawd pes cymryd,
Os yn erbyn Duw y pechu,
Di gei bardwn ond, difaru.
Os yn erbyn dyn ni fadde
Duw nes y caffo 'r tlawd a ddyle,
Os bu f [...]rw'r rhai a dreisiaist.
Rho iw plant y maint y scliffiaist;
Yspeiliaist
Ac os ethont o'r wlad a llan.
Rho eu rhan ir tlawd a'r truan.
Na ro rhwng dy blant yn angall,
Y peth a bie un dŷn arall;
Ni wna hynny ond dy ddamnio,
A throi d' eppil i gyrwydro.
Na ro rhwng dy blant trwy wylly [...],
Ddim ennillaist yn gamweddus,
Occr
Trwy Usûriaeth trais neu ffalstedd.
Drwg y llwyddant yn y diwedd,
Craffa ar
Marca blant yr occrwyr mawtion
Ar gorthrymwyr a'r carnlladron,
Yn ceniocca mewn Eglwysydd.
Ac yn dwyn y
Cwd
waled beunydd.
Felly tygsydd ith blant dithe,
O rhoi iddynt dda
drwg
annife,
Os fe ddial Duw yn rhigil,
1 Thes 4 6 Exod. 20 5
Drais ar dadau ac ar eppil.
Dod di ofon Duw gan hynny.
O flaen d' wyneb wrth ddosparthu;
Rhoi i bob dŷn ei ddâ cyfion,
Rhanna'r cwbl lle bo achosion,
Duw a roddo it gyfrwydd-deb.
Ac a'th nertho wneuthur d' atteb;
Duw a'th gatwo rhag camsyniaid;
Duw so ceidwad ar dy enaid.

Llythyr yr Anrhydeddus Sir Lewyi Mansel, o Fargain yn Sir Forganwg (fel ydys yn tybied) at Ficcer Prichard.

GWr wyf yn dioddef maethgen;
Rhyw bendro dost sy'm talcen,
Ers amser hir (yr Arglwydd hael)
Heb allel cael ei orphen.
Ceisiais gyngor gyda Phractus,
Doctoriaid gwyr Synhwyrus,
I geisio help nid llai fy mloedd,
Er mynd tros Foroedd tryblus.
Pan ffaeliodd lles corphorol,
Rwi'n dafon at wyr duwiol,
Eglwysig call dros Dir a Môr,
I geisio Cyngor hollol.
I ddysgu p' un mae'r haeldad,
O ddigter neu o gariad:
Yn danfon ar ei bridwerth blâ,
Ryw groes neu boensa irad.

Atteb i'r Anrhydeddus Sir Lewys Mansel yn ei glefyd.

ANwyl Gristion clywais ddywedyd,
I Dduw ddanfon arnad glefyd,
Tost.
Ac na wyddost p'un o gariad,
Ai o gâs yr helodd attad.
Rwi'n dy atteb mewn byrr eirie,
Ac yn
Mynegu
maneg itti'n ole,
Nad o gerydd ond o gariad,
Y rhodd Duw ai wialen arnad
digofaint
Nid dy Esyn sy'n dy faeddu,
Dy Dâd grassol sy'n dy ddysgu,
Trwy ddarostwng dy goawd diriaid,
Fel y galler cadw d' enaid.
Nid yw'r clefyd hwn ond cennad,
Helodd Christ dy Brynwr attad,
I
Brosi
dreio 'th ffydd a'th hir amynedd,
A'th rybuddio am dy ddiwedd,
Derbyn Gennad Duw'n gresawgar,
Ymddwg dano yn ddioddefgar.
A tho ddiolch o wraidd calon,
Ith Dâd nefol am ei ddanfon.
Ni wna'r clefyd niwed itti,
Mwy na'r
physigwrieth
pwrg sy'n carthu'r geri;
Ni wna
Rhwystyr
hindrawns ond dy buro,
I gael oes o newydd etto.
Ni bu gwin erioed heb waddod,
Ni bu Aur erioed heb Sorod,
Ni bu wenith heb ei fascle,
Ni bu ddyn ond un heb scie,
Joan 1, 8
Yr oedd Adda hên ai bechod,
Lot ai loscach, Noah ai fedd-dodd,
Moses, Aaron, a'u canwedde,
Peder, Paul a mil o feie,
Gwybydd dithe'r Marchog hyfryd,
Er hawddgared yw dy fywyd,
Num 20 10
Nad wyt heb ryw fai ith ddible,
Cans dyn wyt er maint yw'th ddonie.
I nithio d' ûs i doddi'th sorod,
I wella 'th fai i dynnu'th waddod.
Psal 19 12.
I ddofi'th gnawd i nerthu d' yspryd,
amhuredd
Y danfonodd Duw dy glefyd.
Nid ith waethu ond i'th wella,
Nid ith faeddu nag ith ddifa;
Ond ith ddyscu a'th gyfrwyddo.
Y mae'r Arglwydd yn dy daro,
Er troi heibio fydol foethe,
[...] [...]wir hoffi nefol ddonie,
[...]hau'r bŷd ar maint sydd ynddo,
[...] dilyn Christ ath draed ath ddwylo
Rho fawr foliant prûdd gan hynny
[...] Dâd nefol am dy ddysgu,
[...]wn sy'th wneuthur drwy serchowgrwy
[...]'n gyfrannog o'i sancteiddrwydd [dd
I neb a garo Duw fei cospa;
Heb 12 10
[...]b mab anwyl fei ffonnodia,
[...] dŷn ni chospa Duw ei bechod;
[...]stard yw nid mab o Briod,
Mae Duw yn cospi'r rhai anwyla,
[...] rhyw groes neu gilydd yma,
[...]ag eu myned yn ddamnedig.
1 Cor 11 32
[...]yda phlaut y bŷtl gwrthnysig.
Nid glân Gwenith nes y nithier,
Nid gwynn Cambrig nes eu golcher,
Nid pûr Aur Coch nes ei doddi,
Nid da Cristion nes ei gospi.
Psal 119 67.71.
Ni ry'r grawn win nes eu gwasgu,
Ni ry'r
Frankin­sence
Thûs
Aroglau
Sent nes ei fygu,
Ni ry'r fflint dân nes y ffyster,
[...]a dŷn ffrwyth da, nes cystuddier,
Y Clôss a arogla yn well ou pwnian,
[...] Fein y danna'n well oi chroppian,
[...] Palm y dyf yn well o'i blygu,
[...] dyn y fydd yn well o'i faeddu,
Winwdden
Pa fwya sanger ar y Ganmil,
[...]wya 'rhogla ei gwynt yn rhigyl.
[...] fwya gwascer ar y Christion,
[...]wya fydd ei ffydd ai ofon,
Ystyr mae er llesiant itti,
1 Pet 1 6 7
[...] mae'r Arglwydd yn dy gospi,
[...]i pheru'r cosp ond enyd fechan
[...] beru'r lles dros hir osa gyfan.
Na wna ffyddia yn dy glefyd,
Yn llaw Dduw y mae dy fywyd;
Sef o bydd ef yn gweled hynn'n ddâ eti.
Fe ry oes ac Jechyd etto,
Ac esmwythder ond ei geisio.
Cymmer gyssur côd dy galon,
Ymwrola bydd obeithlon;
Fe ddaw Christ a help ar fyrder,
Ac y laesa dy annesmwythder.
Y llaw ath drawodd honno ath help
Rhwn ath glwyfodd a'th elia.
Hos. 6, 1.
Ar neb yrrodd attad glefyd,
Hwnnw tynn gan roi itt Jechyd.
Galw am help ar Dduw dy geidwad
Dy Dâd yw fe wrendy arnad.
Cais ei gymmorth ac fe dyru,
Llef yn daer, ni feder ballu.
Pa beth byrrnag yw dy glefyd,
F' all laesu a'i ddiffoddyd;
Cais ei gyfnerth,
Mat. 7.7.
ac fei llaesa,
Trysta ynddo ac nith dwylla.
Onis llaesa'r awr y mynnech,
Pwylla aros dan dy orthrech;
Fe ddaw help o'r nêf yn dânbaid,
Pan fo gwell ar lês dy enaid.
Ni chei aros awr ymhellach,
Yn dy glefyd na mynd glafach,
Nag y gwelo Duw'n anghenrhaid,
Er lleshâd i'th gorph a'th Enaid.
Godde rouyn bach o gystûdd,
Di gei gwedyn hir lawenydd;
Bydd ddioddefgar nes y delo,
Di gei oes o newydd etto.
Rhwn a nerthodd Job mor hyga [...]
Ddwyn ei glefyd yn ddioddefgar,
Nerthed dithe ai lân yspryd,
Mor ddioddefgar ddwyn dy glefyd
A'r hwn helodd un oi Angelion,
Luc 22 43
gymfforddio 'fab wrth Cedron,
[...] o'r nef ei Angel hyfryd.
[...] gymfforddi yn dy glefyd.
Di roest Siampal dda'n dy Jechyd,
[...]ni fyw mewn buchedd hyfryd,
[...]ho inni etto Siampal hygar,
[...] ddwyn clefyd yn ddioddefgar.
Godde'th nefawl Dad dy drinio.
[...]dde ddynnu'r draen fy'th bigo,
[...]odde wascu'r crawn lloscedig,
Carthu'r clwyf a sugno'r ysig,
Diodde i Ghrist gael tynnu'n gwbwl
[...]ol y Sarph sydd yn dy sowdwl.
[...]hag i'r gwenwyn ddrycha'r galon.
[...]c
Llygru
inffecto'r enaid gwirion,
Mae Duw'n
ofalus Psal 121 3
garcus iawn am danad,
Gwell it odde loes na bagad
Mae'n dy
Lanhau
byrgio nawr trwy gystudd
[...] gael iechyd yn dragywydd.
Mae'n dy wneuthur ymma yn addas,
gael rhan oi nefol deyrnas,
Mae e'n carthu'r holl ddrygioni,
y'n dy rwystro i wir oleuni:
Rwyt ti'n un o fain y Demel,
[...]haid dy naddu gyd wrth lefel,
[...]haid ir mwrthwl dy lwyr
rhagsdorri
bario
[...] yn y nef y mynny drigo.
Rheol
Rwyt ti'n wenith ir gorucha,
[...]haid dy ddyrnu tra fech yma,
[...]ynnu'r ûs a'r col oddiwrthyd,
[...]yn bech i Ghrist yn fara hyfryd.
Mat 2 12
Di gest lawer o felusder.
[...] law Duw er dechre d' amser,
Job 2 10
[...]aid it
profi
dastio peth o'r chwerw,
da'th Brynwr cyn dy farw,
Yf o'r Cwppan chwerw lymmaid,
Y fodd Christ o'th flaen i lonaid,
F' orfydd ar bob Gwâs I dastio.
Nid yw'r disgybl well nai Athro.
Coflâ i Grist dy Brynwr odde.
Dros dy bechod di a mine,
Fwy o flinder ing ac yssig,
O! goddefwn ninne ychydig.
Ystyr nad oes Sanct yn gorphwyr
Mewn gogoniant ym Mharadws,
Na ddioddefodd fwy o gystudd,
Goddef dithe a bydd lonydd.
F' orfu ar Abel odde is fraeni,
F' orfu ar Joseph odde ei werthu,
F' orfu ar Esay odde ei lifio,
Cyn cael mynd i'r nêf i
Trigo.
dario,
F' orfu ar Stephan odde ei
Llabuddio:
bw [...]
F' orfu ar Lawrens odde ei
Bobi
frwylia
F' orfu ar Jago odde ei wanu,
Cyn cael nefoedd iw meddiannu.
F' orfu Beder odde ei hoelio.
F' orfu ar Barthlom odde ei flingo,
F' orfu or Ifan odde ei ferwi,
Act 12 2
Cyn cael mynd at Dad goleuni,
Nid oes un yn credu'n gywir,
Joan 21 18 19
Yn Ghrist Jesu hyn sydd siccir,
Nad rhaid iddo oddeu'n rhywsodd,
Act 14 22
Gystudd mawr cyn mynd i'r nefoed
Nid eir o'r Aipht i Ganaan hyfr [...]
Ond trwy'r môr ar mynydd tanl [...]
Nid aiff neb ir nef i daring.
Mat 7 13
Ond trwy'r porth a'r llwybr cyfy [...]
Mae'n rhaid dwyn y groes yn g [...]
Cyn cael dwyn y Goron benna.
Ni ddarllenais yn fy oes,
Gael y Goron heb y groes.
Dwg dy groes fel Milwr ffyddlon,
Mat 16 24
[...] gei gwedyn ddwyn y goron;
[...]yd ddioddef gyda'r Jesu,
2 Tim 2 12
[...] gei gwedyn gyd-deyrnasu
Na chais nefoedd ar y ddaiar,
Na chais wyn fyd yn rhy gynnar
Na chais Jechyd di drange
Di-loes
dewlwys
Nes y delech i baradwys
Ni chair melus heb y chwerw
Ni chair gwyn fyd nes i'n farw;
Ni chair oron heb y groes,
Ni chair efoedd heb rwy loes
Ni chadd un or ‖ Patriarchiaid,
Uchelda­dau
Na'r Porphwydi, na'r § Merthyriaid,
Tystion Christ
Na'r postolion na'r Messiah,
[...]ynd o'r byd heb lawer gwascfa
Na chais dithe fy anwylddyn,
Fael y peth nas cafodd undyn:
[...]nd
Ymegnia
ymddoro yn ddi-drwdar,
Ddwyn dy ddolur yn ddioddefgar
Cofia i Grist dy Brydwr odde,
Dwy o flinder am dy feie,
Cofia ei groeshoelio drossot.
[...]i anghofi'r loes sydd ynot
Ac na feddwl nad o gariad
[...] rhodd Duw y clefyd arnad,
[...]th
Fe ddi­chon, y credadyn edifeiriol ufydd sic­crbau ef hunan o hynny.
suwrhau dy fod yn un
[...]i ddetholedig blant ei hun.
Cofia fob pob peth yn gweithio
[...] gore i'r dyn y gretto.
[...]d yn oed ei glwyf a'i glefyd,
[...] golledion a'i holl adfyd.
Cofia hefyd nos a boreu,
[...] all croes, nac ing. nac Angeu,
[...] dîm arall ein gwahanu,
[...]diwrth gariad Duw a'r Jesu,
'Rhwn a gododd ei ffrind Lazar
Yn iach o'r bedd dan y ddaiar,
Hwnnw'th gotto yn iach lawen
O'th glaf wely'n wych drachefen
Rhwn a spariodd Fywyd Isaac,
Gwedi offrwm ar ben Moriac
Hwnnw spari th fywyd dithe
Etto ennyd o flynydde
Rhwn a helodd gynt Esaias.
I Jachau clwyf Hezekias
Hwnnw
Ddanfono
helo o'r nef Angel
I iachau Syr Lewis Mansel

Rhessymmau yn cyffroi'r claf i fod yn ddioddefgar

ONi bae fod yn anghenrhaid
Dofi'r corph i wella'r enaid
Ni ddanfone Dduw glefydon,
Byth ar un oi anwyl feibion,
Yr oedd Duw yn gweled d'enaid
Yn glaf iawn o bechod diriaid
Nid oedd lun i gadw ei sywyd,
Nes dy gospi a'r fath glefyd,
Oni basse'r cwppan chwerw,
Fe allasse d'enaid farw
Yn ddisymmwth heb
Edifaru
repentio,
A mynd dros fyth i boenydio
Trwy gystydd corph, a chlefyd
Tost
din [...]
Y mae Duw'n iachau dy enaid.
Ac yn d'arwain trwy ddifeirwch,
Psal 119 7, 70.
At dy Grist i gael ei heddwch,
Trwy glefydon mâe Duw'n tym
Dyn i geisio cymmorth Jesu,
A gwir iechyd pur iw enaid
Rhag ei fynd i uffern embaid,
A chlefydon bach amserol.
He'n rhag-achub poen tragwyddol
[...]c wrth gospi'r corph mor ddiriaid
[...]ofi'r cnawd, a
Yr enaid grassol.
chadw'r enaid,
Nid clefydon ond dialau
[...]n, a haeddodd dy bechodau,
Dwg gan hynny yn ddioddefgar,
[...] fâth glefyd eruaidd hygar
Fe allasse dorri d'wddwg,
[...] dy fuchedd oedd yn gynddrwg
[...]'th roi i uffern i boenydio,
[...]eb roi amser itt' repento
Rho gan hynny yn ddiwegi
Ddiolch iddo am dy gospi
[...]e gallasse dy lwyr ddifa.
[...]'th roi
losci yn uffern
Frwylian yn Gehenna;
Fe allasse Dduw dy roddî,
[...]an law Gelyn câs i'th gospi,
[...]e mae'n rassol iawn yr-ywan,
[...]n dy gospi a'i law ei hunan,
Nid yw'r Arglwydd yn dy blagio
Megis gelyn i'th andwyo
[...]nd yn dirion yn dy faethryn,
Megis Tâd yn trin ei blentyn
Er bod d'Arglwydd yn dy faeddu
[...]e er hynny yn dy
Sef os grassol wyt ti, garu
[...] gwialennod ag a roddo
[...]dd fel plaster i'th eilio
[...]i ry Duw sydd mor ddaionus
[...]h dad nefol sydd mor
Ofalus
garcus
[...]fyd arnad na chaledi
[...] wnel itti fawr ddaioni
[...]e wyr Duw beth yw dy ddolur,
rym, dy ryw, dy naws, dy nattur:
[...] [...]ydd dy groes, yn ol dy gyflwr
[...] [...]ydd dy hwnn uwchlaw dy gryfdwr,
Er bod Aloes yn beth chwerw,
Mae e'u achub dyn rhag marw;
Er bod clefyd yn dy flino,
Sef os e­difarhei di Luc 13.5.
Mae'n dy achub rhag dy ddamn [...]
Y mae miloedd yn
Uffe [...]
gehenna.
Rhai a ddygent fwy o boenfa,
Dros fil miloedd o flynydde,
Pe caent rydd-did o'u poenydie,
Arwydd reg o'i ras a'i ffafar
Yw cael cosp trwy glefyd hawddgar
Sydd yn gwneuthur dyn yn barod
Cyn yr el o flaen y drindol,
Clefyd sydd fel chwip i'th gospi
Nid Fel cledde llym i'th dorri,
Swmbwl awchlym i'th ddihuno,
Ac nid bwyall i'th ddistrywio,
Ffust i ddyrnu ffwrdd dy ffwlach
gwyniyll
Ffan i nithio dy holl sothach,
Ffwrn i buro dy amrhyddion
Chwyp i'th gyspi yw clefydon,
Nid da mel i'r llaw digonol
Nid da gwynfyd i'r annuwiol;
Nid da gwin ir poeth ei Cyllagolydd,
Ni da iechyd i'r anusydd,
Nid oes arnad gymmaint dolur
Ag a fu ar rai o'th frodur,
Sŷdd yr-wan mewn esmwythder,
Yn y nefoedd gwedi'r blinder.
Bu ar Lazar glefyd flinach,
Bu ar Job ddoluriau trymmach,
Bu ar Grist ei hun fwŷ blinder;
Maent yr wan mewn esmwythder,
Ac os tithe fŷdd ddioddefgar
Fe ry Duw itt' hyn o ffafar;
Fe wna naill a llaesu'th flinder,
Ai fe'th gymmer i esmwythder.

Ymddiddanion cyssyrus rhwng y claf Duwiol a'i enaid yn erbyn ofn Angeu

O Fy enaid pam ei hofni
Fynd at Grist a fu'n dy brynu
[...]g a gollodd waed ei galon
[...]'th ryddhau o law d 'elynion?
Ni ddi­chon y dyn dir as ddy­wedyd fel hyn wrth [...] enaid, o herwydd os bydd efe marw yn ei bechod: heb ffydd ac edifelrvvch, ni chaiff efe fyned ir nefoedd. 1 Cor, 6, 9 10 ac am hynny tra fo fe yn aros ac yn byw yn ei bechodau, beb droi oddi­writhynt y mae gantho achos i ofni. Edifarha gan hynny. bydd ddyn newydd grasol gan ymheddychu a Duw trwy Grist, nac yno ti elli ddywedyd, O fy enaid Pam yr ofni? &c.
Mae fy mlaen i yno eufiwys,
Am Jachawdwr 'rhwn am prynwys;
Christ tynn finne d' aelod attad
Er anhawsed gennif ddwad
Oh! fy enaid cwyn dy galon,
Pam ir ofni mor echryslon
Gwel Fab Duw, ai waed, ai weli
A dynnodd ffwrdd oedd raid itt' ofni,
Oh! fy enaid gwel dy brynwr
Gwel dy geidwad a'th Jachawdwr,
Gwel dy bardwn, gwel dy Artre,
Gwel y nef a'r hwn a'th bie.
Oh! nac edrych ar dy bechod
Gwel yr Oen a laddwyd drossod;
[...]c nac ofna wedd y Barnwr.
Christ ei fab yw dy Ddadleuwr.
1 Io 2, 1,
Ac nac ofna'r Angeu melyn,
[...]rist a dynnodd ffwrdd ei golyn:
1 Cor 15 55 57.
[...] all Angeu ond dy symmyd
[...] byd hwn i dir y bywyd
Nac arswyda ruthreu Satan,
Luc 16 22
Gwel Angelion Duw
Ddisgwyl wrthyt
i'th waetian,
A Christ Jesu a saith lygad
Dŷdd a nos bob awr i'th wiliad
Ac nac ofna'r Bedd lludlychlud
Gwely Christ y hwn f'anwylyd,
Y mae'r prynwr gwedi dwymo,
I bob Cristion nes cyfotto,
Na wna bris o ustern boene,
Gwel gan bwy y mae'r
Agoriade Datc 1 18
allwedde;
Gan dy Grist y mae cadwriaeth,
Allwedd uffern a marwolaeth,
Oh gan hynny cwyn dy galon,
Pam ir ofni mor echryflon?
Gwel fâb Duw a'i waed a'r
Ai glwyse
weli
Fe dynodd ftwrdd oedd raid itt' ofni
Cymmer gyssur cwyd d' olygon
Dring uwch law pôb dairolion
Gwel y nef a brynwyd itti.
A'r Tifeddiaeth sydd itt' ynddi,
2 Tim 4 8 Datc 7 9
Gwel dy orsedd, Gwel dy goron,
Gwel dy
Palmwydd i arwyddoc­cau buddu­gliaeth
Balme, a'th wiscoedd gwynion
Rhai a brynodd Mab Duw itti,
Fry yn nheyrnas y goleuni,
Gwel dy Grist a'i holl Angelion,
Gwel y sainct a'r holl rai cyfion
Yn dy ddisgwyl ddwad attyn,
Ac yn barod bawb i'th dderbyn,
Gwel dy delyn, Gwel dy
Math o offeryn cerdd Deut 15 2
feiol,
Gwel dy wers a'th ganiad nefol,
Fry yn disgwyl fynd i ganu
I'th Jachawdwr am dy brynu,
Llef gan hynny am d' ymddattod
I gael mynd at Grist dy briod
O garchardy'r corph a'th lygrwys,
Phil 21 3
I [...]ael trigo ym Mharadwyr
Lle mae Duw a'i holl Angelion,
Christ a'i Sainct, a'i Apostolion,
Mewn Gogoniant a rhialtwch.
Yn teyrnassu mewn dedwyddwch
Nid oes yno ddim Anghyssur,
Poen, na chlefyd. cwrp na dolur,
Dat 21 4
Na marwolaeth na dim tristwch
O [...]d llawenydd a dedwyddwch,
Oh Hiraetha am gael hedfan
I'r wlad lawen hon yn fuan.
At dy brynwr Christ a'th briod
Mae dy Neithior ynddi'n barod
O fy enaid meddwl dithe
Am dy' mdrwssio yn dy dlysse
I fynd o flaen Christ yn addas,
Yng wise sanctaidd y briodas
Golch dy hun yn ffynnon Dafydd,
Zech 13 1
Gwaed yr oen, a deigreu cystudd;
Gwaed Christ yn unic sydd yn glanhau yr edifeiri­ol edifeiri­ol oddiwrTh bechod
Ymlanha mewn gwir ddifeirwch;
Ffydd yn Ghrist, Gwiriondeb, Heddwch
Gwisc sancteiddrwydd Christ am danad
A'i gyfiawnder yn lle trwssiad;
Pleth dy wallt mewn gras a gobaith
Hardda'th frest a chariad perffaith
Cais dy lamp, a Nynn dy Ganwyll,
Dat 1 5
Dwg ith lusern olew didwyll:
Gwilia, Gwarchod, a Gweddia,
Heppian
Nes del Christ, na chwsc, na * slwnibra
Deffro, disgwyl am dy briod;
llef am dano nes ei ddysod;
Pel yr Hydd na orphwys frefiad,
Nes del Christ dy Briod attad
Dywaid wrtho dere weithian,
Dere Arglwydd, dere'n suan,
Dere Jesu Ghrist fyng hariad,
Dere, tynn fy enaid attad.
Os creda­dyn edifei­riol san­ctaidd wyt it, ti elli yn hyderus offrwm dy enaid i ddwylo Christ. canys fe a'i derbyn i'r nefoedd Act 759 Luc. 23 43. ond am y rhai sy'n marw Heb roi ufydd-dod i'r Arglwydd Iesu, fe a ddywaid wrhtynt hwy, ewch ymmaith oddiwrthif chwi holl weithredwyr anwiredd Luc 13 28, gair tost yw hwn
Ith ddwy ddwylo Arglwydd hyfryd
Yr wi'n brudd yn offrwm f' yspryd,
Cans ti brynaist' Duw'r gwirionedd
Dwg ei weithian i'th drugaredd

Ymddiddan arall rhwng y claf duwiol a'i enald am ofni marwolaeth

Holiad
OFy Enaid dywaid immi
Mewn pryssurdeb, Pam yr ofni,
Fydd at Grist a'i wir Angelion
O'r byd brwn't a'i holl drallodion
Atteb
Tost a thrwm yw gorsod gadel
Gwraig a phlant, a ssryns a chenel
Tai, a ibir, a Da, a dodren,
Heb eu gweled wny drachefen
O f' anwylyd cymmer gyssur
Di gae olud
Sef os grassol wyt ti
mewn mwya messur
Siwrach ffryns, a gwell cyfeillion
Gyda Christ a'i wir Angelion.
Os dy blant a ofna'r Arglwydd
A'i wasnaethu mewn Sancteiddrwydd
Di gae weld dy blant drachefen,
Mewn Gogoniant yn dra llawen.
Yn lle ffryns a mwyn gyfeillion
Di gae'r sainct a'r holl Angelion
I'th fawrhau a'th gywir garu,
A'th blant eilchwaith i'th ddiddanu.
Gad dy wraig, a'th blant a'th bo [...]
I gadwriaeth dy dad nefol:
Cynhali­wr Psal 14 6.9,
Rhwyscwy'r weddw, Tad ymddif [...]
Yw'r goruchaf wrth ei alwad,
Na wna bris ddim am dy olud,
Nac o'r ddodrefn wael sydd gennyd.
Yr hwn a orchfygodd ran fawr or Bŷd
Mae'n y nef fwy ar dŷ feder,
Nag y feddodd Alecsander.
Na wna bris o'th neuadd lwydlas.
Mae'n y nefoedd dai o Dopas.
Maen gwerthsawr
Gwedi Dduw o beris i gwneuthur,
In discleirio fel y gwydur.
Na hiraetha am dy Diroedd,
Na'th Berllannau na'th winllanoedd;
Mae 'Mharadwys dir sydd deccach,
Firwyth sydd well a Gerddi
mwy hyfryd
araulach,
Na wna
Gyfrif
gownt am Aur nâc Arian,
Mae'n y nefoedd Aur iw
I gerdded trosto
damsian.
Perls a Gems yn gweithio gwelydd;
Aur yn pafio'r holl heolydd.
Datc. 21.
Na wna bris am un o'th Swydde,
Mae'n y nefoedd fwy o radde;
Y mae'r gwaetha sy'nddi yn ffeiriad,
Ac yn Frenin mawr ei alwad.
Datc. 1.6.
Na wna-bris am ddillad gwychion:
Mae'mharadwys wiscoedd gwynion,
ar 19.8.
Yn disgleirio ar dy gefen,
Mewn gogoniant fel yr haul-wen.
Mat. 13 43
Na wna bris o'th fwyd newynllyd
Datc 22
Mae'mharadwys Bren y bywyd,
Manna yn fwyd
Dwfr y byn yd
qua vita yn ddiod.
Gwledd heb ddiwedd oes heb ddarfod.
Na wna bris am ddim difyrwch.
Rhwn sydd ymma'n blaenu tristwch,
Mae yn y nefoedd wir lawenydd,
[...]ydd yn parhau yn dragywydd.
Na wna gownt o ddim sydd gennyd.
Psal. 16.11.
Ond ymgweiria am dy fywyd,
Mat. 25.21
[...]ynd yn rhwydd trwy lawn barodrwydd
lawenydd Christ dy Arglwydd.
Lle mae mwy o wîr esmwythder,
A dedwyddwch ar dy feder,
1 Cor. 1.9,
Nag 'all calan dyn chwenychu.
Nac un Tafod i fynegu,
Dôs gan hynny dôs yn llawen,
Dôs at Ghrist dy Ben dy berchen:
Gado'r Byd ar maint sydd yntho,
Ma am Thâd i fyned atto.
Yn lle'r pethe darfodedig,
A geist ymma gantho eu henthyg,
1 Pet. 1.4.
Di gei betheu na ddarfyddant,
Iw meddianu mewn gogomant.
Di gei Jechyd heb ddim, nychdod,
Ac esmwythder heb ddim, trallod,
Gwir lawenydd heb ddim, tristwch.
Oes heb ddiwedd mewn dedwyddwch,
Ni chaiff clwyf na haint na dolur.
Newyn syched nac anghyssur,
Trallod tristwch ochain wylo,
Nac un gelyn mwy dy flino.
Dat. 21.4.
Di gei fyw mewn mawr lawenyd,
A dedwyddwch yn dragywydd,
Ym-mhlith miloedd o Angelion,
I foliannu dy Arglwydd tirion.
Di gei eiste mewn
Tyrfa o gantorion. Dac. 19.1.
Côr Euraid,
I glodfori'r Oen bendigaid,
Ac i ganu
Molwch yr Arglwydd
Halelujah,
Yn dragywydd i'r Gorucha.
Pwy gan hynny na 'madawe.
A'r Byd hwn a'i boen a'i bethe?
I fynd at ei Brynwr heddu.
O bae'r Arglwydd yn cenhadu.
Duw agoro dy ddau lygad.
I weld Teyrnas Christ dy Geid wad,
Duw ro ei Yspryd i'th gyfrwyddo,
Ymbaratoa i fyned atto.

Agoriad byrr yn erbyn ofn Angeu: Ar daioni fydd yn dyfod edaiwrth dduwiol farwolaethCraffwch ar y geiriau, duwiol farwolaeth. nid yw 'r daioni hyn yn canlyn, marwolaeth y rhai drwg,

OH ! na wyddeu dyn pa ddonieu,
Sydd yn dwad oddiwrth Angeu.
Byth nid ofne o'i ddysodiad,
Ond fe lefe am ei ddwad.
Y mae Angeu'n gwneuthur diwedd,
Ar ein cystudd a'n hanwiredd,
Ac yn dwyn o Fôr trafferthwch,
Ddŷn ir
Hafan,
Porthladd o ddedwyddwch.
Y mae'n Angeu'n tannu'n gwely,
Gwedi'n trafferth inni gyscu,
Ac yn rhoddi mawr esmwythder,
Gwedi'r trallod tost a'r blinder,
Y mae Angeu'n claddu'n beiau
Ein clefydon an doluriau;
Fal na ddichon pechod mwyach,
Nac un clefyd flino 'mhellach.
Y mae Angeu'n tynnu'r cyfion,
Esa, 57.1, 2
Lawer pryd rhâg gweld trallodion,
A ddigwydda yn dra rhigil.
Ar eu gwlad ac ar eu heppil.
Mae e'n tynnu rhai gwirioniaid;
Sydd ymmysg câs bechaduriaid,
Rhag ir rhain eu hudo i bechu,
Ac i weithio'r peth nas dyly
Y mae Angeu'n diose dynion,
0'u hen frattieu sarnllyd brwnton.
I ddillatu'r rhain yn helaeth,
Mewn hardd wiscoedd iechydwriaeth.
Mae'n rhyddhau yr enaid hyfryd,
O'r carchardy tywyll tomlyd.
I gael gweld goleuni'r Arglwydd,
Ai wasnaethu mewn perffeithrwydd,
Y Mae Angeu
yn ebrwydd
toc yn dattod,
Enaid o'r corph caeth i bechod;
Ac heb aros yn cyssylltu,
Hwn ai briod mawr Christ Jesu,
Y mae Angeu'n tynnu dynnion,
Phil 1 23
Ir nef [...]le at Angelion
2 Cor 5 1
O'u tŷ candryll sydd ers dyddie,
Ym-morn cwympo ar eu penne,
Allan
Mae e'n tynnu * maes o Sodom,
I'r mynydd dir rhag y Storom,
Ac yn mynd o'r Aipht i Ganaan.
A'r rhai duwiol yn ddiofan.
Y mae Angeu'n tynny dynion,
O'r byd hwn i gael y Goron,
1 Tim 4.68.
A bwrcassodd Christ trwy Angeu,
I rhai ffyddlon a'i gwasnaethe,
Y mae'n tynny dyn oi ofyd,
A'i drueni a'i drist fywyd,
I ogoniant ac hyfrydwch,
I gael byw mewn gwir ddedwyddwch
Pwy gan hyn a ofne Angeu,
Sydd yn helpu dyn mor ddeheu,
I fynd allan o bob trallod.
A'i
Ddwyn drosodd
drosglwyddo i lŷs y Drindod?
Gâd i'r * Pagans di rinwedde,
Gâd i'r Tyrcod ofni Ange,
Ond nac ofned un gwir gristion.
Fynd trwy Angeu i gael y Goron,
Dydd ein Jubil a'n gollyngdod.
Lev 25.10,
Dydd ein rhydd-did o bob trallod,
Dydd sy'n gollwng ein Eneidie
O'r carchardy ŷw dydd Ange,
Dydd ein Neithior a'n Priodas,
A Christ Jesu'r gwir Fessias:
Dydd ein gwlêdd a'n
Dydd i gal Y Goron
coronasiwn,
Yw'n Dydd diwedd o [...] ystyriwn.
Dydd sy'n gorphen ar ein gyrfa,
Dydd sy'n tynnu o gyfyngdra,
Dydd sy'n talu ein Cyfloge,
Dydd y
Dydd i ddy­fod at ben yr yrfa
gôl yw dydd ein Ange.
Dydd sy i'n derbyn i Baradwys.
[...]t fâb Duw yr hwn a'n prynwys,
Dydd sy'n rhoddi'r Gown a'r Goron,
Yw dydd Angeu i bob Christion.

Gweddi i gyfarwyddo'r clâf am y pethe rheitia iw ceisio ac i syfyrio arnynt mewn Clesyd.

DUW'r diddanwch llaesa mlinder
Tad tosturi rho i mi 'smwythder
Meddyg pob clwyf Jacha nolur,
Jesu mab Duw rho im gyssur.
Tynn fi o dywyll Deyrnas Satan,
Act 16 18.
Ac o bob dallineb allan,
Fal gallwy weld fy mechod,
A llonyddu fynghydwybod.
Edifaru Psal, 51. Jonah 3
Gwna fel Dafydd im repentio,
[...]wna fel Magdlen i mi wylo;
[...]wna fel Ninif im gydnabod,
A 'mofudio am fy mhechod,
Gwna 'mi geisio pardwn gennyd,
2 Chron. 33.12
[...]al Manases yn ei ofyd;
Megis Peder am f' anwiredd.
Gwna 'mi gredu fod im bardwn.
Eph. 1.17.
[...]wedi selu a gwaed dy basiwn,
dioddefaint
[...] bod f' enaid gwedi olchi,
[...] dy waed oddiwrth ei frynti.
Gwna fi hefyd yn ddioddefgar,
[...]n fy nolur megis Lazar,
[...] throi arnat ti fy hyder
[...]gis Job er maint fy mlider,
Job, 13.15.
Gwna mi geisio ymwared gennyd
O'm trallodion ac om clefyd,
1 Bren. 194
Fal Elias oi flindere.
Modd y gwelech fôd yn ore.
Gwna mi megis Hezecias,
Droi'r byd heibio a'i berthynas,
A throi f' wyneb ar y pared.
Esa. 38.2
I roi Yng Hrist fy holl ymddiried,
Gwna im feddwl am y cyfri,
Ddydd y farn sydd raid im roddi,
Rhuf. 14.12.
Am y gwaith a'r geirieu ofer,
Mat 12 86
Oni chisiaf râs mewn amser:
Gwna im wrando ar dy fengyl,
A'th
addewidion
bromision ynddi'n rhigyl:
Gwna im ddala gafael ffyddlon
Ar d' addew [...]d a'th bromision,
Gwna im feddwl am y bywyd,
Yr ar iddo ar fyrr enyd,
Lle mae Sabboth o esmwythder,
Heb na chur na phoen na blinder,
Gwna im wadu'r byd twyllodrus,
A'i holl wagedd anwireddus;
Ac ymgweirio ddwad attad,
Yn ddiaros anwyl geidwad.
Gwna îm offrwm heb ddeffygio,
Gorph ac Enaid yn dy ddwylo,
Ac ymbilio hyd y diwedd,
Am dy ffafar a'th drugaredd.

Diddanwch rhâgorol i'r Enaid galarus erbyn gwan obaith,

OFy Enaid pam i'r ofni,
Faint dy bechod os difaru?
Lle bu'r Iesu farw drossod.
I'th ryddhau oddiwrth dy bechod.
Pam ei ofni farn yn Barnwr,
Christ ywth Dwrneu a'th ddadleuwr.
Lâb yr Iustus trwy farwolaeth,
Jo 3 18,
[...]'th ryddhaodd o ddamnedigaeth.
Ni chondemnir yn dragywyddol:
[...] a gretto i Ghrist yn fywiol.
Oid bwy bassiant wrth eu symud,
O farwolaeth i wir fywyd.
O fy Enaid ymlonydda,
Dy Dduw grassol a'th gyfiawna:
Pwy all gwedyn dy gondemnio?
Rhuf 8 33.34
Mae Christ drossod gwedi hoelio.
Christ ai waed a ylch dy bechod.
Ae a'th wnaiff mor wynn ar manod,
[...]r dy fod mor gôch ar Scarled,
Christ a'th ŷlch mor wynn ar foled,
Esa 1 18
Yr haul a
Agor.
rywlia'r Cwmmwl tewa,
Sebon ylch y dillad buttra.
Rhinwedd Christ a gudd dy frynti,
Ei waed a'th ylch mor nynn a'r Lild,
Os sel nhwythau yr edifarhau ac y credi di
Duw faddeuodd bechod Peder,
Rhyfig Dafydd a'r mâb ofer,
[...]hwyf Manasses a'i holl feie,
Duw a fadde'th bechod dithe.
Cymmer gyssur cwyn dy galon,
[...]laddwyd mab Duw ar yr hoelion
[...]m dy bechod a'th gamwedde,
[...]r ei fwyn di gei eu madde.

[...]eddi ddifrifol brûdd am faddeuant pechodau.

O Fy Nuw yr hwn am creaist!
O fyngheidwad 'rhwn am prynaist!
[...] glân yspryd! O'r gwir Drindod.
[...]dw f' enaid maddeu mhechod.
Er mwyn Jesu 'rhwn am prynod [...]
Ac ymhob peth a'th fodlonodd,
Maddeu i mi oll a chwbwl.
Ar a wneuthum 'i o'th feddwl,
Golch a'i waed fy mai a'm mrŷn [...]
Clâdd fy mhechod yn ei weli,
Cûdd fyngwradwydd a'i gyfiawnder,
Madde im fy holl ddiffeithder.
Gwisc fy enaid o gylch gwmpas
A gwisc sanctaidd y briodas,
Gwna fi'n barod ddwad attad,
O fy Nghrist mewn gweddus drwffu [...]
Dôd d' Angelion im castellu,
Nâd i Satan fyngorchfygu;
Cadw f' enaid yn dy ddwylo,
Nâd o Grist i'r Llew ei larpio.
Pan y delwi i'r
O flaen yr or seddfaingc
Barr i atteb,
Ger dy fron am f' anuwioldeb,
Gwared f' enaid er mwyn Jesu.
Na ro i mi o'r farn wi'n haeddu.
Cymmer Angeu Christ a'i 'fudd-d [...]
Yn iawn i ti am fy mhechod;
Fe gondemniwyd am fy meie;
Er ei fwyn na ddamna finne.
Haeddais Angeu haeddais
Uffern Rhuf 6. 33.
Dophe [...]h
Haeddais farn rhagrithiwr diffeth,
Duw na ddyro'r hyn wi'n haeddu,
Rho i mi'r hyn a haeddodd Jesu,
Fe gyflawnodd drosswi 'r gyfraith,
Fe 'th fodlonodd drosswi'n berffaith
Fe groes hoeliwydd am fy mrynti
Er ei fwyu, rho bardwn i mi.
Nid oes genni na sancteiddrwyd
Na chyfiawnder na pher ffeithrwydd
Nac ymwared iawn na swccwr.
Ond sydd gennyd Christ fy Mhry [...]
[...]rist yw yng homffordd, Christ yw yng hyssur
Christ yw yng obaith yn fyng wewyr,
Christ yw f' helpwr ar awr Ange,
Christ yw yng-Heidwad ddydd diale,
Fe fu farw yn anhyfyd;
Er pwrcassu immi fywyd;
[...]r y Angeu a ddioddefwys,
Duw dwg f' enaid i Baradwys,
Duw rho glûst i wrando 'ngweddi,
Duw rho d' yspryd im comfforddi;
Gweddiau byrrion Am Es­mwythder
Duw rho olwg ar fy nolur;
[...]'th law rassol llaesa yng wewyr.
Oen Duw madden 'mi fy mhechod,
[...] Bardwn im cydwybod;
[...]dd fy meieu yn dy
Archollion
weli,
[...]ad hwy eilchwaith adgyfodi
Rwi fi'n ofni dy gyfiawnder,
Am fa­ddeuant.
[...]wi'n brawychu rhag dy ddigter;
[...]wi'n fy marnu am fy mhechod,
[...]uw diddana fy nghydwybod.
Am Ddi­ddanwch.
Dod o Grist dy Angeu gwirion,
[...]hyngwyfi a'th farn echryslon;
[...]od dy fydd-dod rhwng cyfiawnder,
Am ddo­niau Christ a'i gym­morth.
[...]y Dad cyfiawn am diffeithder.
Christ a'th waed gwna heddwch etto,
hyngwi a'th Dad sydd gwedi digio;
[...]'th waed diffodd ei ddigofaint,
[...]l na byddo mlinder cymmaint.
Am gym­mod
Egwan wyf, o Grist cryfha fi!
[...]wann a claf fy Nuw Jacha fi!
[...]wm a thrist, ac ofnus ddigon,
Am gyf­nerth
[...]yfha fy ffydd, a chwyn fy nghalon.
Duw'r diddanwch llaesa mlinder,
[...]d tosturi, Rho imi esmwythder;
[...]ddyg pôb clwyf, Jacha nolur,
Am gyssur
[...] mâb Duw rho im gyssur.
Amheuad,
Llaesa mlinder, dofa 'nolur.
Gwel fy mhoen, a thorr fyng wewyr
Trefna niwedd penna'n thallod;
Dwg fy attad, rwi'n dy warchod,
Am nerth ysprydo,
O fyng-Hrist, cerydda Satan,
Cadw f' enaid rhag ei safan;
Cynnal fi a'th hael-wych yspryd;
Dwg fi attad i'r gwir fywyd,
Am Dru­garedd:
Oen Duw maddeu im fy mhechod
Oen Duw pura fynghydwybod,
Oen Duw gwilia ar fy niwedd;
Oen Duw derbyn fi'th drugaredd.
Am wir grediniaeth
Dywaid Arglwydd wrth fy enaid.
Itt' bwrcassur nef fendigaid.
A'th waed gwerthfawr trwy fawr boe [...]
Iw rhoi immi wedi Ange,
Am nefol addewid.
Dywaid Arglwydd wrth fy enaid,
Dywaid Arglwydd, dywaid, dywaid,
Heddyw cei di'n gynnar orphwys,
Gyda mi yng wlad Peradwys,
Am gadw­riaeth,
Christ fy Mugail cadw f' enaid,
Nâd ir llew o'th law ei scliffiaid:
Tydi'm prynaist yn ddryd ddigon;
Dwg fi'r nefoedd at d' Angelion.
Am dder­byniad ei enaid.
Derbyn f' enaid anwyl Geidwad,
Derbyn f' enaid weithian attad;
Digon bellach o'r fath ddyddiau,
Nid wi gwell, na'r rhest om Tadan,
Rwi'n gwllyssio cael sy nattad.
Am ddu­wiol yma­dawiad
A dwad attad, Christ fy 'mhriod:
Tynn fi weithian Arglwydd Jesu,
Os bydd d' wllys yn cenhadu.
I'th ddwy ddwylo Arglwydd hyf [...]
I'r wi'n brudd yn offrwm f' yspryd
Am gadw ei yspryd.
Nad ym hwer neb ei scliffio,
Nai ddwyn mwyach byth o'th ddw [...]
Christ fy Mugail cadw f' enaid,
Yn erbyn Rhythre Satan.
[...]ad i'r llew o'th law ei scliffiaid,
[...]hwn sy'n ceisio fyng orchfygu,
Yn fyng wendid am traflyngcu
Dymma'r pryd y cais ef drecha,
[...]ynd a'r
Camp.
Gôl pan byddwi gwanna.
Nertha yng wendid Arglwydd cyfion,
Gadw'r Gôl rhag colli'r Goron:
Dod dy yspryd yn fyng-halon;
Dôd o bobtu'm dy Angelion:
Dôd d' arfogaeth oll am dana,
Nad i'r Gelyn gael y trecha.
Nerthafi ddiwweddu yng yrfa,
Gwna f' awr ore'r awr ddiwaetha:
[...]rnad Arglwydd mae fy hyder;
Derbyn f' enaid i'th esmwythder:

Gweddi fyrr i'r claf duwiol iw harferu ar yr awr ddiwaethaf.

NAwr o Arglwydd y gollyngu
Fi mewn heddwch o'm carchardy;
Gwna im llygaid cyn marwolaeth,
Weld dy nerthol iechydwriaeth.
Daeth y dydd a'r awr a roddaist,
Daeth yr amser a derfynnaist,
Daeth y Tymmor, daeth y Terfyn,
[...]d oes lle im fyned trostyn.
Y mae 'yng yrfa ar ei gorphen,
[...] dydd diwedd ar ei ddiben,
[...] mae'r terfen gwedi dwad;
[...]rglwydd derbyn f' euaid attad,
Megis Stephan rwyfi'n dwedyd.
[...]glwydd Jesu derbyn fy yspryd,
Act 7, 59.
[...]re Arglwydd, dere'n fuan,
[...]mmer fi ith ddrugared weithian,

Myfyrdod ar Fywyd ac Angeu.

PA gynta bytho marw Christion
Cynta derbyn hwnnw ei Goron;
Pa hwya bytho Christion byw,
Hwya bydd heb weled Duw,
Pa hwya byddo dyn heb farw,
Mwya fydd gofynnion hwnnw;
Pa gynta tynner dyn o'i wegi,
Lleia gyd y fydd ei gyfri.

Tost Gyflwr y Dyn Annuwiol gwedi Mar [...]

GWyr a Gwragedd, Meibion, Merched
Dewch y nes, Rhowch Clusti Glywed
Cwyn a chyngor hen Ofer ddyn,
Sydd yn gorwedd dan y Brethyn,
Mi fum gynt fel yr ych chwithau
Yn faWr fy nwyf, ym mhlith fy
Ceraint.
nrhaflau
Nawr neb nwŷf, yn noeth, yn issel,
Rwyfi'n gorwedd dan y trest el,
Pan oedd fwya'mryd ar faswedd,
Lleia meddwl am fy niwedd,
Fe ddaeth Angeu glâs heb wybod,
Ac a rödd im farwol ddyrnod.
Pan yr oedd y Byd yn Gwenn,
A phôb Margai 'n genui'n ffynnu,
Fel yr ia fe dorrodd dana
Ac am trodd yn noeth ir gladdfa.
Pan yr oedd fyng horph yn lach [...]
A phôb aelod genni'n rymmus,
F [...]l sten bridd fe aeth yn
Ddarnau,
ddref [...]
Pan ddaeth ange [...] fyng halon.
Gynt roedd genni aur ac arian,
Tai, a thir, a chyfoeth llydan;
Nawr ni feddaf yr un
Geniog
Bent,
O'r holl olud gynne oedd genni.
Gynt'roedd genni Geraint ddigon,
Gwraig, a philant, a Ffryns, a gwersion,
Nawr 'does neb ond Angeu melyn,
Y ddaw attaf dan y Brethyn,
Mi gawn lawer gynt im helpu,
Ym mhob Ffordd y Bawn yn pechu;
Ni ddaw un yn awr i atteb,
Gydâ mi am fy Ffolineb.
Y peth a ddaeth imi mor Sceler.
Y ddaw i chwithe Bawb ar fyrder:
Byddwch barod cyn del ange,
Ni chewch rybydd mwy na minne.
Y mae Christ ai wenidogion,
Yn rhoi rhybydd inni ddigon;
Llawer mil sy'n mynd i boem,
Eisie gwrando llais y theini.
Y mae llawer rhyw o Bechod,
Yn dolurio fyng hydwybod;
Nid oes un yn lladd [...] rhigyl,
A Dibrissio geiriau 'r fe [...]
Mi fum Benflast a gwar galed,
Ni wnawn bris o'r gair [...]
Dweded Christ ai wyr, ei [...]
Ni wnawn inne ond y fynnwn,
Gwell oedd gennî wrando cyngor
Crach Dafarnwr nag un
Dyscaw­dwr.
doctor.
Er bod hwnnw im cyfrwyddo
Ar Tafarnwr yn f' anrheithio.
Gwell oedd genni awr yn llawen,
Yn y Tafarn gydâ mursen,
Na diwrnod yn y demel,
Gydâ Christ ai anwyl genel.
Gwell oedd genni gas gyfeillach,
Moch a meddwôn mewn Tafarnach,
Na chyfeillach plant goleuni;
Nawr mae'n gant edifar genni.
Gwell oedd genni' wenydd
Llawenydd
aflan,
Na pharhau end ennyd fechan,
Na gorfoledd teyrnas nefoedd,
Sydd yn para yn oes oesoedd
Gwell oedd genni bridd a cherrig:
Prês a phlwm; a moch, a chessig,
Na pharadwys ai Hangelion:
Na Duw mawr ai holl fendithion:
Gwell oedd genni'r cnawd na'r enaid
Y drwg na'r da, Y moch na'r defaid
Y byd na'r nef, y cam na'r cymmwys
Ar nos na'r dydd, ar gell na'r Eglwys
Nawr mae'n difar gan fy'nghalon:
Fy mod mor ffol, mor ddall, mor ffinio [...]
A phob moddfedd sydd yn crynu,
Nawr wrth fynd ir
O flaen yr of seddijaingc
Barr im Barn [...]
Y mae'n gorph yn mynd i bydru.
Ir bedd am dan fy nghwaith yn pechu
Am henaid trist yn mynd i atteb,
O slaen Duw am bob ffolineb,
Nawr mi Glywa Grist im galw,
Rhaid im atteb wrth fy enw;
F' orfydd mynd i wneuthur cyfri,
Er Anhawsed ydyw genni.
O!
Ba
Bwy filoedd o Bechode.
Y mae 'nghonsciens
Cydwybod
yn eu hadde.
Rhai a wnaethym mor ddiofon.
Gynt yn erbyn Duw a dynion.
O! Bwy roi sydd gan fy 'ngelyn,
Cyd a'r Dwyrain a'r Gorllewyn,
Yn cyhuddo ac yn traethu,
Y mann, a'r modd, y bum yn pec [...]
O! pwy glywai im cyhuddo.
Ond y diawl y fu 'n fy hudo,
Gynt i bechu yn y dirgel;
Gwae wrandawo ar y Cythrel.
Nid oes pechod ac a wnaethym,
Er yn blentyn na bo'n awchlym,
Yn ei daflu yn fy nannedd,
Gwae fi gynddrwg y fu muchedd.
Mae e'n Achwyn mor
Dlle
Ddibroffid
Gynt y treuliais fy holl ieungctid,
Mewn oferedd, a phibyddiaeth,
Heb Dduwioldeb na chistnogaeth;
Mae e'n
Ymhonni,
claimio mae fe'm pie,
Waith fy ennill fil o weithie,
Yn fy ieunctyd; ac na ddichon,
Duw roi iddo lai na'i gyfion.
Mae e'n dangos pob ffolineb,
Ag y wnaethym mewn Gwroldeb,
Am holl fedd dod, am holl ryfyg,
Am trachwante câs llygredig:
Mae e'n dangos fy digofaint,
Am holl
Troeau drwg
rimpe yn fy henaint.
Am Cybydd-dod. am hanwiredd,
Am
Diofal­rwydd.
Dimdawrwydd am fy niwedd,
Mae e'n taeru led ei satan,
Iddo f' enmll ym-mhob oedran;
A mod inne er yn fachgen,
Yn ei wasnaethu yn dra llawen,
Mae
Dadleu.
e'n pledio yn ddigwiddyl,
Wrth y Gyfaith ar Esengyl,
Mae fe'm pie eisie Credu,
Gwella 'muchedd, a difaru.
A lle tybiais trwy anwybod,
Grist farw dros fy mhechod.
[...]c na Chaffe'r Cythrel feddu,
[...]r y sawl na bae'n ei wadu,
Dywedyd.
Y mae'r cythrel ynte'n § pledio,
Na thal son am hynny wrtho;
Os ni cheidw Christ un christion,
Ond a gretto ynddo'n ffyddlon,
Y mae'r Diawl yn ddwedyd eilchwaith
Nadd oedd genni ffydd na gobaith,
Na difeirwch, na Gwell amcan,
Nag oedd gan y Twrc a'r
Dyn heb brosses o grist nogaeth
Pagan,
Mae e'n pledio ac yn taeru,
Nâd oes immi nelwy a'r Jesu.
Eisie gwrando ei leferydd,
A bôd yn greadur newydd,
2 Cor 5 17
Er i mi gael enw cristion:
A'm bedyddio gydâ'r ffyddlon;
Etto nid oedd well fy'nghrefydd,
Medd y diawl nâ dyn di fedydd,
Mae e'n dwedyd rwi'n ei glywed.
Nad oedd gwell fy ffydd am gweithred
Na'm ymddigiad am harferion,
Na rhyw
Un nad yw'n pro­ffessu Christno­gaeth
ethnic anobeithlon.
Mae e'n dwedyd na ddilynais,
Air o'r fengyl wen a glywais.
Mwy na'r Iddew nas cadd etto,
Râs iw dilyn na'i chofleidio.
Mae e'n dwedyd wrth Dduw'n amlw
Y rhy gennad torri ei wddwg,
Os adroddai iddo'n rhygyl,
Bedwar gair o'r holl efengyl,
Mae e'n glaw Duw ei hunan.
Ai Angelion fawr a bychan,
Yn dystiolaeth, nad yw'n dwedyd,
Ond gwirionedd ar fy mywyd,
Mae fy
Cydwybod
nghonsciens drom dan chw [...]
Gyda'r diawl yn tystiolaethu,
Ac yn dwedyd mewn gwirionedd,
Felly'n uniawn y bu 'muchedd.
Mae'n dwedyd i mi
Yspilio
bilio,
Pobol dlodion a'i hanrheithio,
Dwyn eu Tai â'i Tir oddiarnynt.
A Sclyfaethu'r maint oedd ganthynt
Mae e'n dwedyd immi seddwi,
A phutteina ac ymlosgi,
Torri'r Sabboth fil o weithiau,
A dibrisio Duw a'i ddeddfau.
Y mae'r Diawl gan hynny'n gofyn,
Am ei Ghrist roi'r farn im herbyn.
Am troi i uffern byth ei boeni,
Am fy mhechod a'm drygioni.
O! Pa grynu O! pa gwynfan,
Y mae f'enaid rhag gwg Satan,
Sydd yn dyfod ai wyr duon,
Idd iw gyrchu at Dduw cyfion.
O! mor chwerw, O! mor ddiflas,
O! mor ffiaid ac mor atgas,
Ydyw pechod gantho nawr,
Fu e'n garu gynt mor fawr.
O! bwy-gywilydd sy arnai wrando,
Y cyhuddwr i'm cyhuddo,
Am gan peth na fynne f'enaid.
Er y bŷd i'm mam ei 'ftyriaid.
Gwell gan f'enaid pe cai ddewis
Fynd i uffern hyn sydd ddilus,
Siccr
Na mynd i'r barr at y Drindod,
I roi cyfri am ei bechod.
Etto e'orfydd arno ymddangos,
Rhuf. 2.6.
O flaen Duw nid oes lle aros,
I roi cyfrif llawn a derbyn,
Barn fel y bo'r gwaith yn gofyn,
Nid wi'n clywed neb yn pledio
Nac yn chwarau'r twrnai drosto,
Nid wi'n clywed arno atteb,
Un o filoedd oi ffolineb,
Rwyfi'n gweled Duw a'i Lyfrau,
Yn yspyssu ei droseddau.
Ac yn datcan yn
Yn gyho­eddus. Preg. 12.14 rhuf 2.16,
ddi gwnsel,
Y pechodau wnaeth e'n ddirgel,
Rwyfi'n clywed taffu fuchedd,
Front ddi grefydd yn ei dannedd,
Ai gnawdolrwydd a'i afreolaeth,
Ai ddrwg arfer ddigristnogaeth.
Rwyfi'n clywed cyfri'r llwon,
A fu'n dygu mysc y meddwon,
Ai ffeidd dra ar y Sabboth,
A'i ddrwg naws a'i eiriau annoeth.
Rwy'n ei glywed ynte'n tewi.
Ac yn gruddfan ac yn codi,
Cwynfan.
Heb agoryd dim oi enau,
Mwy na'r Pysc ond ochain weithiau,
Rwyfi'n clywed Christ yn
Erchi. Mat. 12, 13
gwysio,
'R Diawl i glymmu ei draed ai ddwylo,
Ai daflu i'r tywyllwch eitha:
Lle nad ces ond cûr a phoenfa.
Rwyfi'n clywed Christ yn treathu,
Farn
'R * ferdid arno gan ei farnu,
I dân uffern yn dra union,
At y Cythrel ar angelion.
Rwyfi'n gweled Satan ynte,
Yn ei rwymo mewn Cadwyne.
Ac i uffern yn ei dwmblio,
Gwedi clymmu ei draed ai ddwylo.
Daflu
Rwyfi'n glywed ynte'n llefain,
Ac yn Beichaid ac yn ochain,
Wrth ei daflu mor anffafriol,
Yng-wysc ei ben
Llwyr ei ben ir tân uffernol.
Rwyfi'n gweled y cythreuliaid,
Hwyntau'n rhwygo ei gorph ai enaid
Fel y rhwyge gwn di-gassog,
Wrth eu newyn lwrch neu scwarnog
Rwyfi'n gwrando ei
Deisyfiad
ganlyn ynteu,
Yn crio'n dost am gael ei angeu,
Ac er tosted y mae'n galw.
Nid yw nês er hynny farw.
Mae e'n gorwedd mewn trwyllwch,
Yn Nhan uffern heb lonyddwch,
Mat, 9.43
Rhyng Cythreiliaid lle mae newyn,
A phoenydie nid oes derfyn,
Nid oes dim yn torri nghalon,
Mor ddigyssur ac mor greulon,
Ac yw meddwl fel na dderfydd,
Dim oi boenfa yn dragywydd,
Dymma'r mann a'r lle y gorsydd,
Jo 5.28.29
Arnaf inne'r corph di grefydd,
Fynd i boeni atto'n
Dost
irad,
Yn ol dydd yr Adgyfodiad.
A da beth y dylwn fyned.
I dan uffern er ei boethed,
Oi myfi a barodd iddo,
Bechu'n fynych heb
Edifarhau
repentio,
Dyna'r lle yr a'r holl bobol,
Ddrwg ddi grefydd gâs aneddfol,
Yn hela'r tŷ trwy'r ffenest,
Byw fel môch mewn glwth a gloddest
Mi gynghorwn bawb gan hynny,
Ofni Duw a'i wir wasnaethu,
A byw'n sanctaidd ac yn ddeddfol,
Datc, 21, 8
Rhag eu troi in tân uffernol:
Byddwch sobor byddwch sanctaidd.
Byddwch union o Christnogaidd,
Oni byddwch gwn yn siccir,
Mae i uffern eich condemnir,
Ofnwch Dduw gwrandewch y feungyl,
Gweglwch droi at at hon eich gwegil,
Byddwch fyw fel gwir Gristnogion,
Os chwennychwch gael y Goron,
Nid gwiw
Haeru
pledio ffydd heb weithred
Nid plant Duw mor
Y rhai s yn cymryd rhy­dd did i be­chu
Libertiniaid;
Nid gwir Gristion dyn di grefydd;
Plant ir fall yw'r rhai anufudd
Ni thal dwedyd yr wi'n Gristion.
O bydd ffydd heb weithred ffrwythlon,
1 Jo 3 8. Io 3 8. Jo 8 44,
Ni bydd bywiol ffydd heb weithred,
Mwy na'r tân heb wrês pan gynned,
Jac 2 14 Mat 7.17
Byddwch onest byddwch union,
Duw ni odde gam fargeinion
Os arferwch dwyll na ffalstedd,
1 Thes. 4 6.
Trwn o'r dial yn y diwedd.
Beth y ennill dŷn wrth dreisio,
Pilio'r tlawd ai lwyr anrheithio,
Os
boenir
tormentir hwy o'r diwedd,
Yn nhan uffern am ei gamwedd,
Mat 16 26
Beth y dal i ddyn dros eenyd,
Boddhau.
Blessio'r cnawd a chael ei wynfyd.
Os a wedyn yn dragywyddol,
Ar ei ben ir tân uffernol.
Beth a dal it ddyfal lanw
'R bola dro ar win a Chwrw,
Od ae gwedyn am dy fedd dod,
I newynu i ussern isiod,
Beth a ennil dyn wrth dwyllo,
Torri promis ac
Difa
amdwyo,
Ei gymmydog flawd trwy gamwedd
Od ai uffern am ei ffasstedd.
Naded neb i'r Diawl ei dwyllo.
Y wnelo ddrwg fe atteb drosto,
Fel yr hauoch felly medwch,
Cal 6, 7.8.
Fel y gwneloch y derbyniwch.
Mae mor hawdd ir Cythrel sceler,
2 Thes. 5 3
Fynd ir nêf y dydd ei barner,
Ac ir drwg ddyn glwth di grefydd,
Ddiange uffern ddydd ei gystud.
Hir i'r erus Duw heb daro,
Llwyr y dial pan y delo.
Am yr echwyn ar hir scori,
Fe ry gyflawn daliad itti.
Fe gyd ddwg a'r bobol waetha,
Ennyd hir i geisio eu gwella,
Gwedyn eisie troi'n ddifeiriol.
2 Pet. 39 Luc, 13.5
Fe'r llwyr dry ir tân tragywyddol
Duw to grâs i bob dyn wella,
Tran fo'r dydd ar goleu'n para;
Duw ach gwnel chwi bawb yn barod,
Cyn del Angeu i roi chwi ddyrnod,

Cwyn a Chyngor Deifes iw bum brodur.

CLywch bawb gwyn a chyngor Deifes
O'r fflam boeth ar danllyd ffyrnes,
I bum brodur ai holl
Gerami
draffe
Rhag en dwad i'r lle mae ynte.
O fy mrodur clywch fi'n traethu,
Fynhôst gyflwr gwedi' nghladdu,
Fel y galloch chwithau ddiange.
Rhag y cyfryw boenau didrangc.
Mae arnai ddyled i'ch cynghori,
A rhoi rhybudd amrwg i chwi
Rhag heb wybod i chwi ddwad,
Ir fath garchar di ddymchweliad:
A pha wypech f int om trallod,
Am holl boen yn uffern issod.
Chwi wrandewch ar fyngheiriau,
Rhag iwch ddwad ir fath boenau
Gwn yn yspus iawn pe gwypech,
Faint om poen am cur am gorthrech.
Na chymmerech ddâ
Peniaeth
amherod,
Er ei goddef un diwrnod,
Os ni ddichon dŷn nac Angel,
Adrodd gymmaint yw fy nhrafel,
Yn y fflam a'r Tân uffernol,
Llei'm poenydir yn dragvwyddol.
Bum i gynt yn fawr fy rhyfig
Yn y byd yn wr ar benig,
Yn rheoli fal y mynnwn.
Ac yn gwneuthur faint wllysiwn
Bum yngolwg llwer un
Heb ofni Duw heb berchi Dyn,
Mwy nag
Dŷn digred
Inffidel neu Bagan,
Dyb
Y ddilyne ei ffansi ei hunan.
O mi dybiais trwy gam grefydd,
Na bawn marw yn dragwydd,
Ac o byddwn marw unwaith,
Na ddoe ymorol arnai'r eilwaith.
Er bod Moesen ar Prophwydi,
Yn mynegi'n amlwg i mi,
Fod fy enaid yn anfarwol,
Ni wnawn bris ou geiriau grassol,
Er eu bod yn dangos immi,
Y gorfydde gwneuthur cyfri,
Ger bron Duw am bob mileindra,
Nid ac hynny yn fynghloppa
Nawr yn uffern rwi'n cael dysgu,
Mae gwir oeddynt yn ei draethu;
A bod Enaid didrangc genni,
Yn y fflam yn gwneuthur cyfri.
Tybiais hefyd tra sum byw.
Nad oedd un nêf nac un Duw.
Nac un uffern nac un Cythrel,
Addysgu
Na gwell diwedd dyn nâ nifel,
Nawr yn uffern wrth boenydio,
Y mae'r Diawl im Cateceisio,
Ac yn dangos yn blaen immi,
Fod Duw i ddial pob drygioni,
Nawr rwi'n Clywed ac yn canfod,
Fod y Diawl ac uffern issod,
A mil miloedd o Gythreiliaid,
Wrth y farn yn poeni f' enaid.
Rwyfi'n gweld yn eglur hollol,
Fod pôb Enaid yn anfarwol.
Gwedi marw'r Corph a'i gladdu,
Bid drwg bid da fo'r Enaid hynny,
Nawr y gwn mai gwir yw'r Scrythur,
Nawr y gwn y fod Christ yn eir wir,
Mat 24.35.
Nawr gwn y treulia'r nefoedd,
Cyn el Geirie Christ yn niflodd.
Eisie Credu hon mewn amser,
Nid yw 'nghred yn awr ond ofer,
Eisie ei chredu yn fy mŷwyd,
Mi sum byw fel nifail ynfyd,
Felly byddwch chwithau 'mrodur,
Oni chredwch eirie'r Scrythur,
Ac amcanu byw yn ddeddfol,
Yn ei hol fel meibion grassol.
Eisie dilyn Geirie'a Scrythur.
Eisie dofi trachwant nattur,
Eisie byw yngoleuni'r fengyl,
Rwi fi nawr mor ddrwg fy
Cyflwr
mhiccil.
Eisie dilyn cyngor Moesen,
Eisie credu'r fengyl lawen,
Eisie cadw pwyntiau'r Gyfraith,
Y bu'muchedd front mor ddiffaith
Pan y troes i'r fengyl heibio;
Fe ddaeth Satan im cyfrwyddo,
Ac im tynnu i bob drygioni.
Y fae'nhrachwant yn ei hoffi,
Nid oes pechod alla'i draethu
Nas dilynais nes im laru.
Nes mynd bywyd ffraidd Deises,
Mor ddihareb a Manasses,
Gwnaethum Dduw o'm golud bydol
Rhoes fy mryd bethau cnawdol,
Ym-mhob drwg mi aethym rhagof,
A gollyngais Dduw yn angof,
Felly gwedi tôst gamsyniaid,
Llwyr ddibrisiais am f' enaid;
Fel rhyw nifel na bae'n coffa,
Dim ond am y byd a'r bola,
Mynnais drwssiad gwych am danaf,
Pwrpl côch
Yscarled
bob dydd o'r meinaf,
Nawr yn uffern rwi'n noeth lymyn,
Am fy 'ngoegedd heb Edefyn.
Mynnais
Lliain main
Sindon Lawnd a Chambrig,
Yn fy ngrysse
Bob amser
awr ac orig;
Nawr gwae finne na bae Garthen,
Neu hws Ceffyl am fy nghefen,
Minnau fynnwn lânw mola,
Ar ddainteith fwyd o'r melyssa,
Bod diwrnod tra fu'r flwyddyn.
Er bôd f' enaid yn dwyn newyn,
Finfelus
Bum mor foethus ac mor * ddainti,
Ac na fynnwn unwaith brofi,
Dim ond y fae tra danteithiol,
Brâs a melus drûd a manol,
Nawr mi fynnwn pe cawn fwytta;
Soeg y môch i lanw 'mola,
Ac i dorri peth o'r newyn,
Sy'n dolurio pôb Colyddyn.
Bum yn yfed ac yn chwiffio,
Bir a Gwîn heb fêssur arno;
Ac yn llanw mola ganwaith,
Nes ei chwdu fynu eilwaith.
Nawr mi rown y byd yn gyfan,
Ai holl dryssor pe cawn ddafan,
O ddwr oer i oeri 'nhafod.
Sydd mewn fflam yn llosci'n wasdo [...]
Er bod ar fy mord i friwsion,
Alle borthi
Bagad
fwrn o dlodion,
Fe gae'r Cwn y Cwbwl rhyngthyn,
Cyn gae Lazar un briwsionyn.
Nawr mae Lazar ynteu'n talu,
Pwyth hyd adre, ac yn pallu,
Rhoi o'r flynnon im-mi ddafan,
O'r dwr oer, er maint wi'n fegian.
Er bod Moesen a'r Prophwydi,
Yn rhoi llawer rhybydd im-mi;
Ni wrandawn ar ddim a ddwedent,
Ni wnawn un rhith ag a geisient.
Nawr gan hynny rwi'n cael crio,
Ddydd a nôs, heb gael fy ngwrando,
Ond cael taslu yn fy nannedd,
Mor annuwiol y fu muchedd.
Pan Bregethid yr Efengyl,
Minnau drown at hon fy ngwegil,
Ac y gysgwn ar fy nyrnau,
Pan bae eraill yn catl gwersau.
Nawr am gysgu yn y demel,
Fe'm
Poenir,
Tormentir gan y Cythrel,
Fel nad wyf yn abal cysgu,
Na marwinio mwy ond hynny,
Ac am flino gwrando 'r fengyl,
Ac Athrawiaeth Christ yn rhigyl,
Y mae'n gorfod arnai wrando,
Screch y Cythrel byth tra gantho.
Eisie gwrando cyngor Meesen,
Eisie erdu 'r fengyl lawen,
Eisie dilun hon ai dysgu,
Y mae yn uffern fil yn
Ochain.
gryddfu.
Minnau dreuliais ddydd yr Arglwydd
Mewn glothineb ac anlladrwydd,
Wantan­rwydd.
Yn gan gwaeth mewn gloddest scymmyn,
Nag un dydd o ddyddiau flwyddyn
Mae' ma filoedd o rai annoeth,
Am halogi'r Sanctaidd Sabboth,
Heb gael Sabboth nac Esmwythdra,
Ond yn poeni haf a gaia.
Cymrais Enw Duw yn ofer,
Fil a weithiau wrth fy mhleser,
Nid oedd blas ar chwedel genni,
Nes y tyngwn waed yr Jesu.
Ba.
O ‖ bwy boenfa s' ar fy nhafod,
Am ddirmygu gwaed y cymmod;
[...]en
A phwy § dorment sy'n fy ngryddfu,
Am amberchu Enw 'r Jesu.
Minne oftrymmais f' enaid ganwaith,
Yn y dydd ir Cythrel diffaith,
Am i roi mor fynych iddo,
F'aeth y Diawl a'r Enaid gantho.
Mae' m [...] lawer mil fel finne,
Yn y pwll mewn
Tost
irad boene.
Am roi ei hun ir diawl dan regu,
Wedi Crist â'i waed eu prynu,
Llawer un a furn i'n hela,
O dra malis i ryfela,
Er mwyn Tywallt gwaed y gwirion
A'i difetha heb achossion.
Nawr mae gwaed y rhain yn llafain
Am ddialau arnai'r filain.
Ac yn Crio ar y Cythrel,
Dalu immi am fy nhrafel,
Bum yn gwest ar fywyd ganwaith
Heb nac ofon Duw na'r gyfraith,
Yn Condemnio llawer Gwirion,
Ac yn cadw
Lleiddi­aid.
llofrudd, lladron.
Nawr mae'r
Lleiddi­aid.
mwrddwyr dan ei heun,
A'r drwg ddynion fum i'n gadw,
Yn y pwll yn
Rhwygo.
llarpio f' enaid,
Mor ddiffafar a'r Cythreiliaid,
Larais ar fy ngwraig fy hunan,
Cymrais fenthig wragedd aflan,
Llu o'r rham sy nawr im pwyo,
Ym hwll uffern am eu hudo,
Mae'r bastardiaid fûm i'n ennill,
O'r rhai aflan hyn fel perchill,
Oll yn llefain ac yn Crio,
Am ir Cythrel fy
Poeni.
nhormentio,
Minne orthrymmais blant ymddifaid.
Pan bae farw un om deiliaid,
Aun a'r ddau ych fawr o'r arad,
Rhag ir naill o'r ychen * freifad,
Brefu.
Nawr am dreisio 'r fath wirionaid,
Fe'm tôst
Curir
ffystir gan Gythreuliaid,
Yn gan gwaeth nag y bydd
Barcer,
Tanner,
A'r Pawl mawr yn ffysto 'r lleder,
Bum yn
Llogi.
hirio anwir ddynion,
Lawer gwaith i dyngu 'n udon,
Ac yn peri 'r rheini dyngu,
Beth y fynnwn ond eu dyscu.
Y mae rhain fel haid o nadredd,
Ddydd a nôs yn Cnoi fy mherfedd,
Ac yn rhwygo 'n dost fy nghaion,
Am eu dysgu dyngu 'n udon.
Minnau elwais bobol wirion,
Weithiau'r
Lleiddi. aid
fwrddwyr, weithiau'n lladron
Ac enllibiais wyr a gwragedd;
Heb ddim achos ond fy 'nrhawsedd,
Cedwais hûr a llawer Cyflog,
A'r fy ngwâs a'r tlawd
Anhappus
anffodiog,
Ac y berais ir Tlawd fedi,
Fy holl
Gynhaiaf
heiniar heb un beni.
Nawr mae gwaedd y rheini 'n Crio,
Geiniog.
Ar y drygwr am fy mhwyo,
Am im Gadw hûr y rheini,
Ac
Anrhel. thio,
Andwyo'r Cyfryw dlodi.
Rhoddais f' arian gynt ar
Llog.
occor,
Ir dyn Tlawd fel cybydd
Trach­wantus.
angor;
Nes im lyngcu fedde'r tlodion,
A'i handwyo a'm bargennion,
Nawr mae llawer un o'r rheini,
Ymma'n uffern yn fy mhoeni;
Am eu gyrru i ledratta,
Gwedi f' occor brwnt eu difa.
Rhoddais ir Cyfreithwyr duon,
Wabar fawr om dreisio tlodion;
Mae'r Cyireithwyr yn fy llethu,
Ymma'n uffern am eu llygru.
Rhoddais gennad im holl weifion,
Gorthrym­mu,
Vexo pawb o'm Cymmydogion:
Nawr mae'r gwesion am ei godde,
Yn vexo'n dost fy enaid inne.
Prynais dir dan bris gan fagad.
Cedwais beth ar bawb o'u Taliad,
Nawr mewn Carchar rwi am hynny,
Heb fôd gennif rôt i dalu,
Be bae ddimme'n abal prynu,
Rhydd did im mi om Carchardu.
Am dwyn o'r pwll ir nef ole,
Nid wi'n abal cael o'r ddimme,
Nefais rybydd fil o weithie,
Am roi dreisiais eilwaith adre;
Minnau awn ir Tân uffernol,
Cyn rhown ddimme yn ei gwerthol
Pan y gwerthwn wlân a llafur.
Rhown gam bwysau▪ rhown gam fes [...]
Yn yr yd mi werthwn raban.
Yr un bris a'r gwenith purlan.
Ac yn Erbyn Duw a'i ddeddfe,
Cedwais amryw sort o bwyse;
Pwys rhy fawr, pan fawn yn pry [...]
Pwys rhy fach, pan fawn yn gwer [...]
Nawr fe'm Curir ar fy 'nghloppa,
Gan y Diawl a'r pwysau mwya;
A phawb Eraill megis minne.
Y fu'n arfer anwir buyse.
Ni adewais
pwngo.
bwynt o'r Gyfraith,
Heb ei thorri lawer Canwaith;
Mi ymdrois ym mhôb rhyw bechod,
Nes ir Angeu roi im' ddyrnod,
Mi fynegais iwch yn oleu.
B'wedd y bum i byw hyd Angeu;
Mi synegaf i chwi weithian,
B' wedd im poenir dan law Satan.
Y mae'r pwll lle rwyfi'n trigo,
Yn ddwfn iawn heb waelod iddo;
Datc 20 3
A'i holl
Muriau,
welydd sydd Cyn uchled:
Nad oes Gobaith Cael ymwared.
Y mae'r pwll dros fyth yn llosgi,
O dân poeth fel mor yn berwi;
Y mae anal Duw ei hunan,
Esa 30 33
Yn ei drin fel môr o frwmstan
Gwedi nynnu'r Tan hwn unwaith,
Byth ny ddiffodd hwn yr eilwaith;
Nid rhaid chwythu dim o hono,
Mae e'n Cynnu heb ei gyffro,
Mat. 9. 44.
Y mae'r Tân dros fyth yn llosci,
Yn 'dra ffyrning ac yn poeni,
Ac 'er hyn nid yw e'n treulio.
Nce yn difa dim ei iddo.
Mae'r un tân yn poeni'r bobol.
Mat. 10.15.
Ond mewn dull a môdd neillduol;
Rhai yn fwy neu lai o ronyn,
Fel y bythoi beiau'n gofyn,
Yr Haul a lysc y
Dyn du,
Mwr o'r India,
Yn fwy nâ'r rhai a drîg yn Ruwssia;
Uffern boeth y lysc yn boethach;
[...]echod mawr na phechod byrrach,
Mat. 22, 13.
Nid oes yn y pwll yn Trigo,
Un heb rwym ar draed a dwylo,
Mewn Cadwynau Tragwyddoldeb,
Am eu pechod a'n ffolineb.
Mar. 25.30
Mae tywyllwch hefyd ynddo,
All pôb rhai yn hawdd ei deimlo,
Ac er dechreu'r byd ni welad,
Ynddo oleu'r Haul neu'r Lleuad,
Mae e'n drewi Cyn ffyrnicced,
Nad oes dim all drewi gassed;
Er bôd miloedd yn ei nyrddo,
Ni lanhawd erioed o hono.
Y mae pryfed ynddo'n bwytta,
Mat 9 44.
Consciens dyn heb gael ei gwala,
Cydnybod.
Dydd a nôs yn fawr ei hawydd,
Ac heb farw yn dragywydd.
Y mae gwedi mil o filoedd,
O gythreuliaid megis lluoedd,
Yn
Poen.
Tormentio'r rhai damnedig,
Ac heb orphwys
un amser
awr nac orig.
Maent yn dyrnu ac yn pwyo,
Rhai damnedig heb ddeffygio;
Ac Er maint y fôrt yn ddial,
Anadl.
Byth dy chymmer [...]n ei † anal.
Y mae'r
Poen.
Torment yn dragwyddol
Ac ar bawb yn gyffredinol,
Yn Tormento pawb ar neilldu
Ymmhôb aelod y fu'n pechu.
Y mae'r llygaid heb gael gweled,
Ond Cythreuliaid Er ei Cassed.
Ac Eneidiau Rhai damnedig,
Yn y pwll yn wylo'n ffyrnig,
Y mae'r Genau ynteu'n bwytta,
Bustyl
Pryfed.
lindys, bwyd o'r chwerwa;
Ac heb yfed dim ond Gwaddod,
Psal. 73.8
O ddigofaint Tôst y Drindod,
Y mae'r Clustiau hwynte 'n gwrando,
Screch y diawl a'i blant yn Crio;
Luc. 13.28.
A thôst ochain rhai damnedig,
Yn scyrnygu dannedd ffyrnig.
Y mae'r Tafod ynte'n llosci,
Ac mewn Brwmstan poeth yn berwi;
Luc. 16 24.25.
Heb gael Cymmaint ag un dafan,
O ddwr oer i ddofi'r lloscfan.
Y mae'r ffroenau yn aroglu,
Gwynt y brwmstan o'r Carchardu,
Datc. 21, 8
Sydd heb garthu etto Er Adda,
Ac yn drewi o'r ffyrnicca;
Y mae'r Traed a'r dwyso hwyntau,
Gwedi Clymmu mewn Cadwynau;
Ac heb Allel Troi na threiglo,
O'r lle'r ydys yn ei
Poethi,
brwylio.
Y mae Dannedd pawb yn rhingcian,
Yn scyrngu a'r fâth
Swn.
dwrddan,
Ag y bydd Echrydus gennwn,
Wrando ei llais, na gweld ei ffashiwn ‖
Hagwedd:
Y mae pryfed Câs anfarwol,
Yn Cnoi
cydwŷbod.
Consciens pôb anuwiol;
Ac yn bwytta 'n llym Escymmyn.
Etto byth heb dorri newyn
Fel y pechod pôb rhyw aelod,
Ag oedd gennif, 'noed fy nhafod;
Felly poenir fy aelodau.
Bôb yr un ag amryw boenau.
Mae pôb aelod yn poenydio.
Mae pôb mann a dial arno;
Mae pôb dial yn dragywydd.
Yn poenydio heb dim llonydd.
Ni bydd marw byth o'r pryfyn,
Byth ni ddiffodd Tân yr
Cil calch.
odyb:
Ni ddaw Angeu ar y geisiaf,
Byth i wneuthur diwedd arnaf.
Ni bu'r diluw ond blwydd hynod,
Na thân Sodom ond un diwrnod;
Yr Alpht
Newyn Egypt ond saith mlyhedd,
Mae 'mhoen innau byth heb ddiwedd;
Pe cawn rydd did o'm holl boenau,
Am ben Can mil o flynyddau;
Byddeu hynny gynffordd im-mi;
Ond dros fyth mae'n rhaid im boeni;
2 Thess 1.9.
Y gair byth sy'n torri 'nghalon,
Y gair byth sy'n Cnoi 'ngholyddion
Y gair byth sy'n peri im-mi
Fwytta 'mreichiau a gwallgofi.
Tost yw goddef hynogystudd,
Dan law Satan yn dragywydd;
Y mae Etto beth sydd dostach,
Colli'r Jesu â'i gyfeillach;
Colli'r bywyd, Collir Goron,
Colli'r Jesu a'i Angelion.
Colli'r nefoedd a'i
Gogoniant
'rhialtwch.
Colli Duw a phôb dedwyddwch;
Melldith Dduw i'r dydd ym ganed,
Anad ddrwg ir awr ym llunied,
Uffern boeth im mam na bysse,
Yn dwyn llyffant yn fy nghyfle,
Gwae fi 'rioed na thorsei 'ngwddwg,
Gwddi.
Ar y ploccyn pren â bilwg,
Cyn rhoî bron i fab anwadal,
I ddigio Duw, i ddwyn ei ddial,
Nid oes Cythrel na dyn scymmyo,
Ymma 'n uffern a'i holl derfyn,
Gyttun.
Na, bôut ar ei Cylch yn § Gyngan,
Yn fy mhwyo farw a bychan.
Nid oes enaid dyn er Adda,
Ym hwll uffern mewn mwy poensa;
Mewn muy trallod mewn mwy eisie,
Nag y mae fy Enaid inne.
Dymma 'nghystudd dymma 'mhoenfa,
Dymma yngwewyr dymma 'ngwascfa
Dymma'r cyflwr yr wi ynddo,
Bob rhyw awr yn tost boenydio
O gan hynny fy 'mhum brodur,
A phawb eraill sydd o synwyr,
Cymrwch rybydd cyn del Angeu,
Rhag iwch ddwad lle rwy finneu
Oni byddwch edifeiriol.
Ffyddlon ufydd a Christnogol;
Gwn na ddengys Duw yr dialau,
Iwch fwy ffafar nag i minnau,

Ofer yw gweddio tros y marw

FYng-Hâr a'm gwir anwylyd,
Gofynsoch gwestiwn hyfryd,
Mae'n weddus im ym-mhlaid y ffydd,
Roi atteb
Ddifrifol.
prudd oi blegid,
Hyn ymma yw'ch gofyniad,
Ai gweddus yw i'r ffeiriad,
Weddio dros y marw'n brudd,
Yn ol y dydd
Ymadawiad
departiad,
Rwi'n atteb i chwi yn groyw,
Na ddiodde'r Scrythur alw.
Na gweddio na dydd na nos
Yn ofer tros y marw,
Heb 9 27,
Mae Duw yn barnu'r Enaid,
Ir nef neu uffern danbaid,
Poeth
Yr awr yr el o'r Corph i maes,
allan
Yn ol ei gâs a'i weithred.
gyflwr
Luc 16 22
Mae enaid y dyn ffyddlon,
Phil 1.23
Yn mynd o'i gorph yn union,
Act 7, 59.
I'r nefoedd at Angelion gwâr,
mwyn
Fel enaid Lazar wi [...]ion.
Mae enaid yr anuwiol.
Yn Mynd i'r pwll uffernol;
(Pan el o'r Corph) i'r Tân a'r gwres
Psal 16 11.
Fel Enaid Deifes fydol.
Mae'r duwiol mewn dedwyddwch
Gogoniant a
parch
rhialtwch,
Y fath nid rhaid iwch geisio mwy
Gadawn ni hwy mewn heddwch.
Nid rhaid gweddio drostynt,
Datc. 7 13 16, 17
Gan gystal yw eu helynt;
Maent hwy gyda'r Oen bob awr
Luc 16.23. hyd 27
A Swpper fawr sydd ganthynt.
Mae'r enaid anwir ynte,
Yn gruddfan yn y poene;
Ni ddaw hwn o'i boen a'i blâg,
Er gweddi nag offrymme,
Yn ol i un dyn farw,
A chael y farn yn groyw,
Ofer yw ir wlad ar plwy,
Sef poenau yr anuwiol
Weddio mwy dros hwnnw.
Pe ceisie Job neu Ddaniel,
Neu Abram. Moesen; Samuel,
Laesu'r boenfa yn y ffl [...]m,
Ni chent ddim am eu trafel
Pe delei ffeiriaid holl fyd,
I grio drosto yn daerllyd
A'u H [...]be [...]thau o bob rhyw,
Ni newldle ei farn
Ni altrie Duw moi ferdyd.
Pe [...]ele'r byd yn gyfan.
A gweiddi am laesur boenfan;
Luc 16 24
Ni chae'n gwedi marw'r gwr,
dasn
Mo'r troppŷn dwr yw safau.
Y fa [...]n y saif yn ddilys,
Preg 11 3.
Lle cwympor pren fe erys,
Iaco 1.17
Ni newid Duw mor farn y rodd,
Erioed ni thrôdd oi wllys.
Mae Duw yn ddianwadal.
Y farn y rodd fe i cynnal;
Ni all y byd a'u hymbil taer,
Nâ'r nef na'r ddaer ei hattal,
Yr amser i weddio
Sydd cyn i ddyn
Farw
Gweddy gwedi marw neb,
Sydd weddi heb
leshau
brefailio,
Gan hynny rwi'n cynghori,
I bawb y garo weddi,
fywyd
Geisio hon tra yntho wrês,
Os cais e lês oddiwrthi.
Esay 55.6.
Cais w [...]sc cais oel cais ôleu,
Cais râs cyn delo'r Angeu.
Ni chair gwedi passio'r dydd,
Mor dwr os bydd e'n eisie.
Gan hynny cyn
marw
departio,
Ni ddylem bawb weddio,
Dyna'r pryd heb ddim o'r ffael,
Mae inni gael ein gwrando,
Cyn marw y mae inni,
Ennill nef neu cholli,
Gwedi marw ni chaiff ffol,
1 Cor 9, 24
Ond barn yn ol ei frynti
Luc 13 27,
Cyn marw mae
Edifarhau
repentio,
Trai'n ddydd y mae ymgweirio.
Pan el hi yn nos medd Christ ei hun
Ni all un dyn mor gweithio.
Mae Christ yn erchi'r treisiwr,
Joan 9 4.
Gyttuno a'i wrthnebwr.
preg 9 10
Tro ar y ffordd cyn delo 'mlaen;
Rhag mynd o flaen y Barnwr.
mat 5, 25 26.
Rhag rhwymo ei draed a'i ddwylo.
A'i daflu i gael i
llosci yn uffern
frwylio;
O eisie gwneuthur iawn mewn pryd,
Nês tynn y byd oddiyno.
2 Sam 12 23,
Fe wyddei Dafydd Frenin.
Pan ddarfu am ei blentyn
Mae ofer oedd gweddio mwy
Dros hwnnw drwy hir ganlyn
I ddangos hyn mor ofer.
I un rhyw ddyn i arfer,
Gweddi gwedi marw'r ffrynd,
Yn ol ei fynd iw esmwythder
Am hyn nid oes gweddio,
Dros ffrŷnd yn ol departio,
Yn mae'n credu fynd yn noeth.
I [...]ffern boeth i dario
Nid oes i neb ond deu-le,
I fyned gwedi Ange,
Nêf ac uffern medd gair Duw,
Tân pûr nid yw ond chwedle,
Nid rhaid i neb weddio:
Dros yn a i'r nef i drigo.
Os yn uffern y gwna ei nyth.
Ni ddaw e byth oddiyno.
Nid oedd ond gweithred ofer.
A wnaeth i'r ffeiriad arfer
Gweddi tros y marw mûd.
I dwyilo'r byd di bryder
Nid ydyw'r ffeiriad gore,
Yn godde'r fath weddie;
Nis gwna ond rhyw offeiried yn ffol,
Syn serchu'n ol y ddimme
Mae dyled ar bob steiriad,
Roi diolch am 'madawiad
Pôb dyn duwiol yn
ddiamme
ddi-ddoi,
Mewm gobaith o'i gyfodiad
Ond am weddio drostyn
Yn ol eu clâdd a'u terfyn,
Peth diles gwaharddedig yw
Nis gwna ond rhyw ofer-ddyn
Wel dymma i! chwi atteb.
O'th cwestiwn mewn ffyddlondeb,
Ouw ro gynnydd ar eich ffydd,
A gras yn brudd i'ch hwyneb,

Cyngor Mr. Prichard iw Fâb

SAmi bâch er cariad Dûw,
Cofia byth tra fyddech byw,
Foli Christ ar ben dy linie,
Trech om golwg oddicartre,
Galw'n
Oddifrif
brudd o ddyfnder calon,
Ar dy Dâd a'th Brynwr tirion,
Am d' amddiffin nos a bore,
Rhag pob drwg trech oddi cartre
Plŷg dy ddeu lin eod dy ddwylo,
Dal yn graff dy lygaid arno,
Cais ei rym a'i ras a'i ore,
[...]mhob dim trech oddi cartre
Felly ceidw Duw di'n wastod
Rhag pob niwed a drwg anffod;
Ac ni edi ddim yn eisie
Ar Sam bach tro oddi cartre
Cria ar Dduw am help i ddysgu
Nabod Christ a'i wir wasnaethu,
Trech yn blentyn yn dy foethe;
[...]ymma'th swydd trech oddi cartre,
Arfer ofni Duw yn ai ganlyn.
[...]n dy Jeuegctid trech yn blentyn,
[...]elly byddi
siccr
fiwr mewn gradde,
[...]oli i Duw yn hen wr gartre,
Dôs yn llawên at dy Lyfur,
[...]sc yn
Ar frŷs
glicc [...]c na fydd segur,
[...]d wi'n gwardd er hyn id weithie,
[...]ware peth trech oddi cartre.
Cyn bech segur taro'r delyn,
Cân fy psalme sy'n ei chanlyn,
Fe fydd hynny
Hyfryd
ddrfyr weithie,
I Sam bach tro oddi cartre
Cân fel cricced ar bob cam,
Gwachel wylo, am dy fam
Duw sydd mam a Thâd or gore
I Sam bach tro oddi cartre,
Duw rol i ras a'i fendith itti.
Duw'th gyfrwyddo iw addoli,
Duw fo ceidwad nos a bore,
Ar Sam bach tro oddi cartre.
COd y bore ar y wawr ddydd,
Am y cynta a'r Fhedydd
Hynny'th helpa i gael hir iechyd,
Dysc a dawn a chyfoeth hefyd.
Gwisc yn
Ebrwydd
esgud dy holl ddillad
Dôd y rhain yn gryno am danad:
Nâd fod bwttwm heb ei gaued,
Cyn y caffo neb dy weled.
Golch dy wyneb erib dy ben,
A'th gwff yn lân a'th fond yn wen
A'th drwssiad oll yn dra threfnus;
O flaen Duw mae hynny'n weddus.
Gwedi ymdrwssio Dôs i'th weddi
Yn ddi aros gochel oedi;
Cwymp o flaen Duw ar dy linie,
Cyn y gwlychech di dy ene.
Pan y delech o flaen Duw,
Meddwl Sam mai Brenin yw,
O flaen pwy mae'r holl Angelion.
Yn vmostwng mewn mawr oson.
Dere dithe ar dy ddeu lin,
Sami bach o Flaen dy Frenin,
Ac na chytgam wrtho yngan.
Heb anrhydedd parch ac ofan.
Ar dy linie côd d' olygon,
psal 95, 6,
[...] dy nefol Dâd yn
Hyf
eon,
[...]c nac ofna ofyn iddo;
[...]ob peth ag sydd raid it wrtho.
Er bôd Duw yn Frenin grymmus,
[...]oll-alluog anrhydeddus,
[...]to er hyn mae Christ yn dwedyd,
[...]od Duw mawr yn Dâd id hefyd
Galw dithe ar dy Dâd,
Mat 6 9
[...]m roi itti ddawn a rhâd.
[...]c ni phall e ond ei geisio
[...]dim ac y fo rhaid id wrtho,
Os bydd arnat ddim ar wall.
Cais yn daer ac na fyn ball
Psal. 34 10
[...]off gan Dduw y dyn y geisio,
[...]n daer bob awr am gymmorth gantho.
Jac 5.16.
Cais ei gymmorth ac fe ddyru,
[...]lw arno ac fe wrendu.
Psal 18, 30
Rho di ynddo dy ymddiried,
[...]c fe'th geidw rhag pob giwed,
Dih 8 17
Cofia Dduw fe'th gofia dithe,
[...]c ni edŷ arnat el fe:
[...]i wasnaethu yr fe'u gwasnaetha,
[...]i ddirmygwyr fe'u ddirmyga.
Os gwasnaethu Dduw yn wastad,
[...]e gymmer cymmaint
Gofal
garc am danad,
[...] phed fae ef heb un plentyn,
Ond tydi i garcu drostyn.
Meddwl dithe Sami bach
Yn gefnog p' un ai claf ai iach
arfer gor­chymynedig gan Dduw Dih 22, 6.
[...]m wasnaethu Duw bob amser,
[...]dydd a nos wrth gwrs ac arfer,
Os arferu nawr yn blentyn,
Wasnaethu Duw yn brudd a'i ganlŷn,
[...]n wr hen ni elli beidio,
[...] na'i wasnaethu byth tra ganto
Duw ro itti rym a gras,
I fod iddo byth yn was,
Nes y caffech yn y diwedd,
Yn y nefoedd fod yn Tifedd,

Gweddi Mr, S. P.

ARglwydd rhoddwr pob daioni▪
Brenin nef a Thâd goleuni,
Jac 1.17,
Gwel a gwrando weddi egwan,
Blentyn bach o ddeng-mlwydd oedr [...]
Rwy fi'n dwad ar fy neu lin,
O'th flaen di fyngrassol Frenin,
I fegian arch ar dy ddwylo.
Er mwyn Christ na phall i'm honno,
Di orchmynaist immi ofyn.
Di addewaist roi ond
Gofyn
canlyn
Canllyn rwyfi na phall immi
Mat. 7.7.8.
O'r un arch ag wyfi'n erchi.
1 Bren 3
Soloman gynt y Brenin hyfryd,
Y geisie un arch Doethineb gennyd:
Ac di roddaist ei Arch iddo,
A llawer mwy nag oedd e'n geisio,
Jacob ynte geisiodd gennyd,
Fwyd a dillad nes dychwelyd
Gen. 28 20. Gen. 32 10
Ac di roddaist hynny iddo.
A llawer mwy nag oedd e'n geisio,
Minne sydd yn dwad attad,
Ar fy nau lin anwyl Geidwad
Geisio gennyd arch trwy weddi.
Er mwyn Christ na phall hi immi,
melusder
Nid wi'n ceisio golud bydol,
Uchelfraint, na phleser cnawdol;
Ond yn unig gras a gallu,
Byth fel Christion i'th wasnaethu.
Dyro râs a grym i minne,
[...]wr yn blentyn gwympo i ddechre.
[...] wasnaethu mewn gwir grefydd
[...] arferu yn dragywydd
Nad im dreulio dyddie'm iengetid,
[...]wn oferedd
Gormo­dedd
rhwyf a rhydd-did;
[...]d pâr immi yn fy nghryfdwr,
[...]y addoli fy 'ngreawdwr
Agor dryssor dy ddaioni
[...]yro ras a deall immi,
Dan. 1
Yn ddyn bach dy wir gydnabod
[...]egis Daniel gynt a'i
Y sawl oedd o'r un oed ran ac ef. Jer. 1.
gyfod,
Jeremi y prophwyd ynte,
Yn fâb bâch i'th wir addole;
[...]ro ras fel Jerem immi
[...]n fâb bâch ith wir addoli,
Rhuf 12 1.2.
Rwi'n fy offrwm i'th wasnaethu,
Yn sy ieungctid yn ddihiraethu
Arglwydd grasol derbyn finne,
[...]'th wasnaethu yn ddiamme,
Di dderbynaîst Samuel gynta,
[...]'th wasnaethu ar y ianga,
Pan vr oedd ef yn ei siacced,
Yn fâb bâch yn dechre cerdded;
Derbyn finne Arglwydd grasol
[...]'th wasnaethu mor natturiol;
Ac eglura dy hun immi,
Fel y gallwy'n fach d' addoli,
O
Cyflawna
ffwrneisia fi'n ddigonol,
Cyflawna
A phob dawn sy'n anghenrheidiol,
[...]mi gaffel bod yn enwog,
Yn was itti'r holl-alluog,
Agor lygaid fyng wybodaeth.
[...]ho im ras o deall helaeth,
Psal 119 18.
[...]el ystyriwyf yn dra pherffaith.
[...]thau dirgel yn dy gyfraith
Nynn fyng halon a gwreichionen
O'th wir râs tra fyddwi'n fachgen
Fel y lloscoi byth yn wresog,
Yn dwyn
Awydd­fryd.
zel ir holl-alluog,
Cwrdd am calon a marworyn,
Oddi ar d' allor tra fwi'n Blentyn
Fel y galwi draethu'n ole,
Esay 6.
Dy fawr glôd tro chwyth im gene.
Rho im bwer i ddeallu
Dy wir air, a'i iawn ddosbarthu
Fel y gallwi iawn ystyriaid.
Beth sydd dda ar les fy enaid.
Gwna fy byth yn
Esampl
batrwn duwio [...]
Yn f' ymddygiad i'th holl bobol
Gan fyw'n sanctaidd, yn fy muchedd
Ym mhob
peth.
pwynt o'm dechre im diwedd
Dymma f' arch a dymma
Deisyfiad.
nghanlyn,
Dymma'r rhoddiad wi'n ei ofyn:
Er mwyn Christ na phall i immi.
Râs yn blentyn i'th addoli.
Nâd im dreulio dim om hamser
O hyn allan byth yn ofer:
Ond par immi dreulio'n wastad
Ynghylch y peth y berthyn attad,
Tywallt fendith ar fy 'nhrafel,
Par im ddysgu yn ddiogel;
Rho im gymmorth i ddeallu.
Ac i gofio'r peth wi'n ddysgu
Bid dy lygaid im diwallu
Bid d' Angelion im castellu.
Bid dy yspryd im cyfrwyddo.
Bid dy ras im cynnorthwyo.
Clod iti a gras i minne,
Mawl im Brenin nôs a bore;
Gwir ogoniant yn dragywydd
Y fo im Harglwydd am Aehubydd, A [...]

Cyngor Arall.

Na
Na wna yn rhy fawr o'r corph
phampra'r corph i lâdd yr enaid
Na ddigia Dd uw i blessio diawlaid
Na werth y nef i brynu daiar;
Na phecha mwy rhag bôd yn difar,
Be caet bennydd fwytta Manna,
Ryngu bodd
Ar felus fwyd lanw'th fola;
Beth wyt nes, o dae'n ol hynny.
[...] Bwll uffern i newynu?
Be caet yfed gwyn yn ddiod,
Gwisco
Scarlet main
porphor ffein yn wastod,
Dodi'th droed ar warr Brenhinoedd,
[...]eth wyt nes o colli'r ne [...]oedd?
Be baet berchere aur yr India,
Da'r holl fyd a'r tiroedd tecca;
Beth y dâl it hyn o wagedd?
Mat 16 29,
A cholli d' enaid yn y diwedd.
Be caet orwedd gyda Fenus
Plessio'th gorph o'r
Goreu
ffeindia gerddwys:
Beth yw d' ennill am dy drafel?
A mynd d' enaid gan y cythrael,
Be caet bawn i
Taro
flysto'th gefen;
Flant y byd i'th sirio 'n llawen,
Beth wyt nes er hyn o
Gwenhei­thio;
fflattrio
A Duw wrthyt wedi digio.
Gwell gwainaethu Duw na'r byd,
Gwell ffrwyno'r corph na'th ddamnio i gyd
Gwell trafel byrr na phoen tragywyddol
Gwell Bara a dwr na gwlêdd uffernol.
Gwasnaetha Grist, rhyfela a'r cythrel,
Di gae'r Goron am dy drafel;
Cospa'r cnawd i gadwd' enaid
ffrwyna
Di gei ran o'r wledd fendigaid,

Achwyn Mr. Prichard ynghylch Tre Llan­ddyfri, a'r Rybydd a'r gyngor ef iddi.

MEne tecel Tre Llanddyfri
Pwysodd Duw di yn dy frynti
Ni châadd ynod ond y Sorod,
Gwachel weithian rhag y drindod
Gwialen dôst sydd barod itti,
Er ys dyddie am dy frynti;
A'th anwiredd sy'n cynnyddu;
Gwachel weithian gael dy faeddu,
Hir i'r erys Duw heb daro.
Llwyr y dial pan y delo:
Am yr echwyn a'r hir scori,
Och! fe dâl ar un waith itti.
Mae'n rhoi amser itti wella;
Mae'n rhoi rhybydd o'r helaetha;
Cymmer rybydd tra fo'r amser,
Onid e gwae di ar fyrder.
Pa hwya mae Duw'n aros wrthyd,
Am ddifeirwch, a gwell fywyd,
Waeth waeth, waeth waeth yw dy fuched
Ond gwae di pan ddel y diwedd
Lle bo Duw yn hir yn oedi,
Heb roi dial am ddrygioni,
Trymma oll y fydd ei ddyrnod,
Pan y del i ddial pechod.
Gwachel dithe ddial Duw;
Fe ddaw ar frvs er llaesed yw;
A'i draed o wlân, a'i ddwrn o blwm▪
Lle delo'n llaes, fe dery'n drwm.
Tebyg ydwyt i Gommorrah,
Sodom boeth, a thre Samaria
Rhai na fynnent wellhau hyd farw
Nes eu throi yn llwch a lludw.
Tebŷg ydwyt ti i Pharao
Oedd a'i galon gwedi ferio,
'Rhwn na fynne wellhau ei fuchedd.
Nes ei blagio yn y diwedd,
Cefaist rybydd lawer pryd,
Nid yw cyngor
Ymheu­thyn itti
moethyn ŷd;
Nid oes lun it wneuthur esgus,
O! gwae di y dre anhappu [...]
Bore codais gyda'r ceiliog
Hir ddilynais byth yn d' annog
Dori at Dduw oddiwrth dy frynti
Ond nid oedd ond ofer immi.
Cenais itti'r udcorn aethlyd
O farn Duw a'i lid anhyfryd,
Ith ddihuno o drym gwsc pechod.
Chwrnu er hŷn wyt ti yn wastod,
Minne'th
Daenais tyrnais trwy deg
Lithiais â disigil.
Addewidion yr Efengyl;
Yn fwyn i'th wawdd i edifeirwch.
Ond ni chefais ond y tristwch,
Mi'th fygythais dithe a'r gyfraith,
A dialau Duw ar unwaith
'Geisio ffrwyno d'en rhag pec [...]u.
Ffrom a ffol wyt ti er hynny.
Cenais bibe, ond ni ddawnsiast,
Mat 11 15
Tôost gwynfannais, nid alaraist:
Ceisiais trwy deg, a thrwy hagar,
Ni chawn gennid ond y gwatwar.
Beth a alla'i wneuthur weithian,
Ond i thynnu i ochor ceulan,
I wylo 'a deigrau gwaed pe gallwn
Weld dy arwain tu ar
Uffern
dwngiwn
Pwy na wyle weled Satan,
Yn dry dvnnu wrth ede Sidan,
I bwll uffern yn dragwyddol,
A'r bâch a'r
Abwyd;
bait o blesser cnawdol
Esau werthe ei difeddiaeth,
Am phiolaid gawl ysowaeth;
Dithe werthaist deyrnas nefoedd,
Am gawl brâg, do, do, om hanfodd,
Dymma'r peth sy'n torri 'nghalon,
Wrth dy weld di nawr mor
Aflan.
ffinnion,
Orfod
Tystiolaethu
prwfio hyn yn d' erbyn
Dydd y farn, heb geleu gronyn,
Tôst yw gorfod ar y Tâd,
Ddydd y farn heb ddim o'r gwâd,
Dystiolaethu o led Safan,
Yn erbyn brynti ei blant ei hunan.
Hyn y fydd, a hyn y ddaw,
Oni wellhau
Yn ebrwydd.
'maes o law;
Er mwyn Christ gan hynny gwella,
Rhag i ddial Duw dy ddala
Gwisca lenn, a sâch am danad,
Wyla nes bo'th welu'n nosiad;
Joel, 2, 12, 13
Ac na fwytta fwyd na diod,
Nes cael pardwn am dy bechodi
Cur dy ddwy-fron, tynn dy wall▪
Ezra. 9, 3. Luc. 18 13.
Wyla'r deigre dwr yn hallt:
Cria'n ddyfal iawn,
pechais.
peccavi,
Arglwydd madde 'meiau immi.
Bwrw ymmaith dy ddifleithdra,
Twyll, a ffalstedd, a phutteindra;
Gâd dy sedd-dod. clâdd dy frynti,
Mae Duw 'n gweld dy holl ddrygioni
Jer. 16, 17.
Mae dy farn wrth ede wenn,
Yn crogî beunydd uwch dy benn;
Mae dy blant a phob ei reffyn,
Yn ei thynnu ar dy gobyn.
Gwachel bellach, dal dy law,
Ezeck. 33.7.8.9.
Dial Duw fel bollt y ddaw.
Rhoi it rybydd prudd sydd raid,
Oni chymri rybydd paid,

Achw yn Eglwyswr.

DUw gwel drymmed yw fy nghalon
Weled faint pengledrwydd dynion
Cais eu harwain tu'r nefoedd,
Hwyntau ânt ir tân heb ddiffodd,
Golchi'r
Dynion duon.
Moyrys du trwy Sebon,
Troi'r lorddonen i ben Hermon,
Yw cynghori'r dyn pengaled,
Ofni Duw a
od yn ofalus am Psa, 58 4, 5.
charccu enaid.
Cais trwy deg, a chais trwy hagar
Ofer canu ir neidir fyddar,
Trinia fynnech ar bren pwdwr,
Byth ny ry 'ti ffrwyth na swccwr.
Dysc a dangos, gwawdd, ymhwedd.
Mâb y fall, ni wella o'i fuchedd;
Llâdd a'r gyfraith, gwawdd a'r fengyl,
Ni thry attad ond ei wegil.
Gollwng arno'r holl Brophwydi,
A'r postolion iw gynghori;
Nid gwaeth
Curo.
ffysto pen wrth bentan,
Ni wna ond y fynno ei hunan.
Gwae fynghalon drom gan hynny.
Na buasse Duw'n gwyllyssu,
Fy rhoi'n fugail ar dda gwylltion,
Gofal
Cyn rhoi im siars y cyfryw ddynion,
Y corr y dyn y gwenwyn lindys,
Flas neu ar-ogl.
O'r blodeu yn goreu ei relys;
A'r dyn drwg a dyn ryw amcan,
O bur eiriau Duw ei hunan,
Waith i Grist ein prynwr tirion,
Jud 4. rhuf. 6, 1, 2.
Golli drossom waed ei galon,
Ai roi'n bridwerth dros ein pechod,
Fe fynn llawer bechu'n wastod,
Waith bod Noah a Lot yn feddw,
Waith bod Jonas hen yn chwerw;
Fe fyn llawer droedio ei beiau,
Heb ddilyn un o'i holl rinweddau
Pôb gwâs gwych yn awr y feder,
Mat 26 75
Dyngu a rhegu gyda pheder;
Pam na welai neb yn medru.
Gyda pheder edifaru?
bagad
Swrn fy'n dilyn Dafydd Brophwyd
Mewn godineb, lle'i gwradwyddwyd;
Ond ni welai neb yn dilyn.
Edifeirwch Dafydd frenin.
Un y ddywaid mi
Edifara
Repentia,
Luc 12 20
Fy meie i gyd y flwyddyn nessa:
Beth medd Christ, o's deiff dy enaid
Heno nessa gan gythreiliaid?
Llall y ddywaid helwn heddu.
Ni wellhawn ein beiau foru;
Heno lladd y gwr yn feddw,
Duw ble'r aeth 'difeirwch hwnnw!
Yn ol hwn y dwed y trydydd,
Byt fae fy mai yn fwy na'r mynydd
Mae Duw mawr yn fwy Drugaredd;
Mi gâf bardwn ar fy niwedd,
Felly waith bod Duw yn rassol,
Ac yn dirion i'r difeiriol.
Llawer dyn sy'n pechu'n Sceler,
Heb wneuthur pris o'i gyfiawnder,
Exod 34 6.4. Nah 1.2, 3.
Er bôd Duw yn llawn trugaredd,
Yn hwyr ei lid, yn dda ei ammynedd;
Etto er hyn mae Christ yn dwedyd,
Fôd Duw mawr yn gyfiawn hefyd,
Heb 12 29
Duw sydd rassol, Duw sydd gyfion.
Duw sydd fwyn, a Duw sydd ddigllon;
Duw sydd ddof, a Duw sydd dan llyd,
Duw sydd hael, a chynnil hefyd,
Mae e'n madde'r mil talentau,
Etto'n pallu'r hatling weithiau:
Mae'n rhoi'r nef yn rhwydd i ryw un,
Mat 18.
Etto ir llall yn pallu'r,
Dafn. Esa 35 7, Jo 3 36 Psal. 18.25, 26
droppyn;
Ir rhai ffyddlon edifeiriol,
Mae Duw'n ffyddlon ac yn rassol;
Ond ir
Cyndyn
stwbwrn, cas gwrthnyssig,
Mae Duw'n greulon, ac yn ffyrnig
O herwydd hyn 'rwi 'n cynghori.
Na ddilyner hir ddrygioni,
Ond i bawb tra fyddont byw
Dreulio eu hoes mewn ofan Duw.

Rhaid glynu wrth Grist heb adel i ddim ein troi ni oddiwrtho

OS Tâd, os mam, os mab, oc merch,
Os tai, os tir, os gwraig trwy serch,
Y gais dy droi, yn draws neu 'n drist,
Oddiwrth dy grêd ath serch at Grist,
Gâd dâd i droi, gad fam i wylo,
Luc 14 26
Gâd wraig i scoi, gâd blant i grio,
Gâd dai gad dir, gâd faeth, gâd fywyd,
Cyn gado Christ, gâd faint sydd gennyd,
Bydd Christ yn dad, yn fam, yn frawd
Yn graig, yn gaer, yn ffrynd yn ffawd,
Yn gyfoeth mawr, yn lles yn llwyddiant,
Yn bôb peth
Annyl
cu. i bawb âi carant
Heb Grist heb gred, heb faeth heb fywyd
Heb ddull, heb ddawn, heb nerth heb iachyd
Heb
gobaith
hôp, heb help, heb ras heb, rym,
Heb ddysc, heb dda, heb Duw, heb ddim.
Gwell Duw nâ'r nef, na dim sydd ynddi,
Gwell na'r ddaer na'r maint fydd arni.
Gwell na'r byd, na'i olud in',
Gwall a dau well Duw na dim
Gwell na Thâd, na mam, na mamaeth.
Gwell na chyfoeth, na Thifeddiaeth,
Psal 27.10. Dih. 8.19.
Gwell nâ Mari, gwell na Martha,
Gwell na dim, yw Duw gorucha,
Os Duw ddewisaist yn dy ran,
Cei Grist i'th gynnal ym mhob mann;
Ps 73.25.20. Rhuf 1.31. Ps. 91.11.12.
Cei'r Saint i'th gylch, cei'r byd i'th beri,
Cei'r nef ith ran cei'r fall ith ofni,
Di ddewisaist y rhan benna,
Pan ddewisaist Dduw gorucha.
Rhan na ddygir byth odd'arnad,
Tra parhaffo'r haul a'r lleuad,
Luc. 10, 42,
Pan duo'r haul, pan wridio'r lleuad,
Pan syrthio'r ser, pan ofno bagad,
Pan losco'n boeth y byd a'i bwer.
Bydd dy ran dy yn ddibryder.
Cwyn dy galon, na fydd wan,
Cadw d' afel ar dy ran;
Dat, 2, 10.
Di ddewisaist y rhan ore,
Gwachel newid hyd at Ange,

Christ yw Pren y bwyd.

DEwch bob rhai at bren y bywyd,
Dewch at Ghrist ein Prynwyr hyfryd
Datc 2.7, Jo, 3, 36.
Mwynhewch y ffrwyth a chredwch yntho
Chwi gewch râs, a bywyd gantho
Dymma'r [...]ren y dynn y dingcod.
A'r newyn du, a'r poen, a'r pechod,
A'r melldith Duw, a'r loes wenwynig;
Y ddaeth o fwytta'r pren gwarddedig.
O bwyttewch o'r pren yn rhâd.
O'r ner y daeth, oddiwrth y Tâd,
I'n gyrru 'n Jach, i gadw 'n bywyd,
I dorri'n chwant, i roi i'n Jechy'd,
Mae 'ffrwyth e'n ber, mae ddail ŷn Jachus,
datc 22 2, Jo 6.35.49, 50.
Mae flâs yn well na'r Manna melus
Ni all newyn byth, nac Angau
Drwblo'r dyn y fwytty ei ffrwythau,
Aflonyddu
Christ yw'r Pren, Oh! dewch bawb atto
Y ffrwyth yw'r bywyd y sydd ynddo;
Y dail yw'r gair, a'i gyngor Jachus,
Sy'n bywhau yr enaid clwyfus,
Dewch bôb rhai, sy'n flin eu cyflwr.
mat 11 28
Dewch at Christ, ein gwir Jachawdwr.
Dewch i dderbyn gras ac Jechyd,
Cymmorth cynffordd, bawb o'r holl fyd.
Dewn at y pren, bwyttawn ei ffrwythau
Crynown ei ddail rhown wrth ein clwyfau
Fe'n gwir Jacha, fe dyrr ein newyn,
Fe bair i'n fyw, dros fyth heb derfyn,

Christ a arwyddocawyd wrth yr Oen pasc

CHrist yw oen y pafc, a'n haberth,
1 Cor 5 7
Christ yw'nhoen, a'n hoffrwm prydferth
Oen Duw, oen da, oen gwynni gyd,
Jo 1 29
Sy'n tynny ffwrdd bechodau'r byd,
Christ yw'r oen a laddwyd drosom.
Christ archollwyd am y wnaethom;
Ei waed gwerthfawr, (pan groes hoeliwyd)
Cwydfan­nus
Am ein beiau, a dywalltwyd.
Blin a thost, a thrwm ac irad,
Poeni'r oen, am feiau'r ddafad,
Lladd mâb Duw, ar flaen yr hoelion
Am beckodau meibion dynion;
Adda'n bwytta falau pechod,
Dannedd Christ yn coddei'r ddingcod, ☜
Dyn yn pechu, Christ yn marw
Ble bu cariad o'r fath hwnnw?
Och! Pa galon na thosturia,
Chwippio Christ am bechod Adda
Lladd y Bugail am fai'r defaid.
Crogi 'r
Tywysog
Prius i gadw'r deiliaid?
Gwerthu'r Meistr i brynu'r gweision,
Lladd y mab i gadw ei elynion,
Lladd
Mwrddro'r meddyg, brathu ystlys,
Gael ei waed i helpu'r clwyfys,

Christ a arwyddocawyd wrth y sarph Bres?

Y Sawl y frathwyd gan y
Diafol Gen 3 15
ddraig,
Dewch at Grist Jesu, Had y wraig
Fe drin y brath fe dynn y colyn,
Fe rwym y ddraig, fe siga ei chobyn
Rym ni bob rhai gwedi'n brathu,
Mae col pechod gwedi 'n gryddfu:
Jo 3.14 15 Numb 21 8
Ni all neb ond Christ ein helio,
Fe yw'r Sarph bres, craffwn arno.
Craffwn ar Ghrist a groeshoeliwyd,
Fel y craffei'r rhai a frathwyd;
Ar y Sarph bres yn y diffaith,
Luc 4 18,
Fe a'r loes ar gwenwyn ymmaith,
Os edrychwn arno yn
Oddifrif
brudd,
A chalon donn,
Jo 6 40
a llygad ffydd,
Er ir Sarph a'i chol ein clwyfo.
Fe'n Iacha, ond edrych arno.
Oni ddewn at Ghrist ar fyrder,
I gael help rhag brath y wiber,
Nid oes meddyg yn yr holl fyd
Ond mab Duw all gadw ein bywyd.

Hymn neu gan ar Ddydd Nadolig.

DOB Christion ag sy'n clywed,
Am llais yn medru ystyried,
Cenwch foliant gyda mi,
I'r un Duw tri gogoned,
Derchefwch eich calonnau,
Cyd genwch Psalme o Hymnau.
Er clōd a mawl i'n Prynwr * cû,
* Y Aned heddy'r borau,
Er dymma'r dydd a dylen,
Ymror i fod yn llawen,
glodfori bôb rhyw awr
Ein ceidwad mawr a'n cefen:
Os dymma'r dyd y ganed.
Christ Ceidwad, Cynffordd holl gred.
Onig helpwr yr holl fyd;
A gwyn ein bydd ei weled,
Dymma'r dydd y cafas.
Holl
Y Cywir ffyddloniaid.
grêd ei gwyn a'i hurddas:
Dymma'r dydd y torrwyd pen,
Y Sarph a'r filen atcas,
Dymma'r dydd y cawsom,
Y gwynfyd gynt y gollsom,
Irwy wall Adda ein Tâd cû.
Pan daeth Christ Jesu attom.
Dymma'r * dydd y dorrodd
Y fagal gynt a'n rhwydodd;
Dymma 'r dydd y barodd och,
I'r wiber goch a'n hudodd.
Os dymma'r dydd y ganed
Mab Duw yr hâd bendiged.
[...] ddawfyd gynt o hil y wraig.
I sathru'r ddraig oedd embed.
[Page 402]O moeswch i'n gan hynny,
Sancteiddio'r dwthwm heddy,
Er cof am brynwr yr holl-fyd,
Y ddaeth mor ddryd i'n helpu.
A nedwch i'n anghofio,
Y ddyfal i fendithio
Am y cymmorth mawr i gyd,
Y gadd y byd oddiwrtho,
Ond moeswch i'n glodfori
Ei enw a'i foliannu,
Dydd a nos tro ynom chwyth,
A'r eitha byth o'n gallu
A heddyw yn enwedig
Yn gyfan ddydd nadolig,
Cenwch nes dat seinio'r nef
Gan lais eich llef caredig
O'r cannîad cynta'r ceiliog,
Ymrowch i godi'n gefnog.
I glodforu hyd y wawr
Eich prynwr mawr trugarog.
A phan y torro'r wawr ddydd,
Cyd genwch ar uchedydd.
Foliant am eich
Mae rhai hel eu goleuo trwy eu bai eu hunain Jo, 5 40,
tynnu maes,
O'r tywyllwch câs tragywydd
A chenol dydd heb orphen,
Fel ceiliog y fwyalchen,
Cenwch Psalme iddo'n * glôs,
Nes dycco nos y seren.
A chw dyn o'r dechreu-nos,
Yn ddyfal fel yr Eos.
Cenwch. cenwch, nac orphwyswch,
Nes gorphennu'r hir-nos,
Ac felly nôs a bore.
A chanol dydd yn ddie,
Treuliwch y nadolig ddydd,
Mewn diolch
Difrifol
prudd a Psalme
[Page 403]Os dymma 'r dydd i'n prynwyd.
Ar dydd i'n
Heddych­wyd.
reconseiliwyd
Yn ffryns a Duw ein barnwr prûdd
A dymma'r oydd i'n helpwyd.
Dymma'r dydd a'n cod [...]dd,
O uffern hyd y nefoedd;
A'r dydd yn gwnaeth yn
Cynnifer, ac a'i der­byniasant ef efe a roddes id­dynt allui fod yn fei­bion i Dduw, sef i'r sawl a gredant yn ei enw ef Joan 1 12 nid i neb arall,
Blant i Dduw
Ond hyfryd yw withredoedd
Dymma'r dydd sy'n rhwygo,
Ein sach a'r dydd sy'n datro,
Ein tristwch i lawenydd trwch,
O gorfoleddwch ynddo.
Os dymma'r dydd y ganed,
Oen Duw yr [...]âd bendiged,
I dynnu ffwrdd bechode'r byd,
Oedd goch i gyd fel scarled
Dymma'r dydd gan hynny,
Y mae i'n orfoleddu,
A mynd i Lyssoedd Duw yn lân,
Dan ddiolch a thân ganu
Dymma'r dydd sydd inni.
Yn ddyfal i addoli,
A'i fendithio bob rhyw awr,
Am dan ei fawr ddaioni;
A chofio'r modd ein prynodd,
Trwy'r gwerth fawr waed y gollodd,
O dan ei fron ar grog-pren croes,
A'r chwerw loes y gasodd.
Fel Pelican cariadus,
Tuag at ei adar clwysus
Fe rodd gwaed ei galon bur,
I helpu frodyr nafus
Fe adawodd yr Angelion,
Iddwad at iddewon.
I brynu enaid dyn yn rhad.
A gweithsawr waed ei galon,
[Page 404]O'r gader ŷm mharadwŷs,
I'r ddairen fe ddescynnwys.
I gymrŷd cnawd o Fair wenn * dlos
I farw dros ei
Deg Eph 5 25 Sef y bobol ag a alwyd neu a elwir i un deb ag ef ei hun trwy ffydd ac i ufyddhau id­do mewn cyfiawnder a sanctei­ddrwydd
Eglwys,
Fe gymrodd arno'n tlodi.
A'n gwaeledd a'n gofydi
A'r holl ddial arno'r hun
Y haedde ddyn am frynti
Fe wanwyd am ein beie,
F' archollwyd am gamwcdde,
Ond trwy gleisie fe iachaws
Holl liaws ein pechode.
Fe Gollodd waed ei galon
Ar Grog pren hefyd drosson
Ac fe'n gwnaeth yn blant i Dduw,
Pan 'roddem yn clynion.
Fe'n golchedd o'n pechode
Fe brynodd ein eneidie,
ni ddwg Christ neb o honom ni i deyrnas nef ac y fo byw a marw heb ffydd edlfeir­wch a sancteiddrwydd buchedd Mae duw yn dywedyd na chaif y rhai anghyftawn etifeddu ei deyrnas ef 1 Cor 6. 9 10. Y m [...] efe wedi tyngu yn eilid na châant ddyfod i mewn iw or phwy [...] ef Heb 3 11 Fe ddywed Crist wrth y cyfryw ewch ymmaith oddi wrthif chwi oll weithredvvyr anvviredd Luc 13 27 Edrychw [...] ninne attom ein hunain a gochelwn aros yn ein pechode. Er Grist ddyfod i gadw pechaduriaid (ag sydd yng gwir gredu) [...] fe ddaeth i dorri gwddwg en pechodau nhwy, 1, Jo, 3:8, f [...] nad a neb ir nef heb ei sancteiddio ar y ddaiar. Heb 12 14
Ac fe'n dyg i deyrnas nef
Er maint yw llef ein beie,
O moeswch i'n gan hynny.
Yn gefnog ei glodfori.
Ddydd a nos; chwi welwch pam
Mor rassol am ein prynu
A moeswch inni gadw,
Y gwylie sydd ar ei enw
Mewn duwiolder, rhinwedd, rhad,
Credigrwydd, cariad croyw;
A Moeswch inni dreulio,
Yn Sanctaidd heb eu nyrddo.
Mewn oferedd yn y byd,
Ond pawb i gyd sancteiddio.
Trown heibio afreolaeth,
A medd-dod a Phibyddiaeth,
Ac awn ynghyd i Demel Dduw,
Cans hynny, yw Cristnogaeth.
Nid gweddaidd i gristnogion.
Ymdroi mewn beiau bryntion,
Ar wylie Christ ein prynwr prudd,
Y modd y bydd Jddewon.
Ond treulio rhain yn sanctaidd,
Yn sobor ac yn weddaidd;
Megis plant i'n nefol Dâd,
Mewn gras a chariad perffaidd.
Ac arfer pob diwrnod,
Yn ddŷfal iawn i ddyfod,
Psal 51 17 1 Cor 6 20 Rhuf 12 1. Mich 6 6. 7, 8.
I Demel Dduw ai sanctaidd Dy,
Bob rhai dan ganu mawrglod,
Nid edrych ar ein dwylo,
Am roi un Aberth iddo,
Ond clod a mawl tu fewn ei Lŷs:
Cans hyn sydd felus gantho.
O dewch iw byrth gan hynnŷ
Dan diolch a than ganu,
Fach a mawr ar fore a hwyr,
Yn brudd iw lwyr folianu.
O dewch iw Demel sânctaidd,
Yn drefnus ac yn weddaidd;
glodfori enw Duw,
Cans hyfryd yw a gweddaidd
Tra gweddaidd a pherthnasol,
[...] bob rhyw gristion duwiol,
Rhaid moli Duw ar gal­on ar tafod ac ar bywyd,
Foli ein prynwr ddydd a nos.
Am farw dros ei bobol,
Dymma i gyd y taliad.
Y diolch ar aberthiad,
Y mae'n disgwyl ar law 'r gwyr
Am dan ei gur ai gariad.
Gan hynny curwch ddwylo,
A rhoddwch foliant iddo.
Yn ei Demel fawr a'i Lŷs,
Cans hyn sydd felus gantho,
A nedwch i ni yn unlle,
I gablu a'n geneue,
Rhag yn mynd yn waeth ein
Cyflwr
câs,
Na Suddas a'i bradyche,
I'r Tâd, i'r Mab, i'r Yspryd,
I'r Drindod undod hyfryd,
Y bo clod a molient mawr,
Bob dydd bob awr pob ennyd
Cy [...]gor i geisio yr Arglwydd Jesu Ghrist.
O Cais gwr, na gwraig na phlentyn
[...]ael y bvwyd mawr di derfyn,
Ceisi [...]nt Ghrist sy'r bywyd ynddo
1 Joan 5. 12,
Ac hwy gant y bywyd gantho.
Rhaid yw ceisio Christ yn gynta.
Lle mae'r bywyd yn lleteua,
Gwael yw'r gwaith a thraws a thrist,
Joan 14 6.
Geisio'r bywyd nes cael Christ,
Cais di Grist yn geidwad itti.
Ac yn Arglwydd i'th Reoli;
Di gei'r bywyd
Tragywy­ddol.
didrangc ynddo
Ac ni cholli fyth mo honno.
Oni cheisi Grist yn Geidwad,
Ac yn
Llywodra­ethwr.
Llywydd parchus arnad,
Nid yw bossib it ddychymmig
B' wedd y byddi ddyn cadwedig;
Pawb a chwennych gael wrth farw,
Ghrist fel Ceidwad pur i'w cadw;
Wrth fyw ni fyn ond rhai o'r rheini,
Ghrist fel Arglwydd i'w rheoli.
Nâd dy dwyllo Gristion anllad,
Ni bydd Christ i neb yn Geidwad,
Ond i'r dyn y gymro oddifri,
Ghrist yn Arglwydd iw reoli.
Rhwn na fynno ei reoli,
Gan Air Duw, a'i yspryd gwisgi,
Nac edryched y dyn hwnnw.
Gael gan un mâb Duw ei gadwi.
Heb. 519.
Cais gan hynny Ghrist yn geidwad,
Ac yn Ben rheolwr arnad;
Ni all un dyn gwnaed y fynno,
Byth fod yn gadwedig hebddo,
Pe caet ti'r Byd a'r bethau euraid,
Luc. 19.17,
Heb gael Christ i gadw d' enaid;
Beth y dale y drwg fyd trist.
Oi colli d' enaid eisie Christ?
Pe caet Ghrist heb ddim ond hynny,
Col, 2, 19,
Di geit ddigon i'th ddiwallu:
Mae'n gryno yng Hrist ei hun,
Oll sydd raid i gadw dyn.
Och! na welit mor anghenrhaid,
Yw mab Duw i gadw d' enaid,
Ac na alli weithio sywaeth,
Hebddo ddarn o'th Jechydwriaeth.
Ond bod yn rhaid ac yn gorfod,
Arnad geisio 'r Jesu drosod,
Weithio 'r cwbwl ddechre a diwedd,
Cyn y gallech gael trugaredd.
Os ni ddichon dyn nac Angel,
Gwyllt na dôf nac un Anifel.
Wellhau dim o'ch cyflwr truan,
Nes cael gwellhâd gan Ghrist ie hunan.
Rhaid it Ghrist yn Dduw yn Ddyn,
Ai ddwy natur dan yr un,
Weithio pob darn o'th brid bryniad,
Cyn bodloner Duw 'r uchel-dad.
Rhaid î Ghrist dy frawd ath Frenin,
Weithio pob darn a phob tippio.
O'r gwaith mawr o'th Jechydwriaeth,
Ni all eraill helpu ysywaeth
O cais enaid dyn feddiannu.
Christ a'i ddonie iw ‖ ddiddanu,
Rhaid ir enaid bach ymgweirio,
Dderbyn Christ cyn delo attad,
Gwna dy enaid bach yn barod
I gael Christ i drigo ynod
Gwedyn planna dy hun ynddo
A thynn râs a grym oddiwrtho.
Rhaid it wneuthur anwyl gristion,

Er bod Chri [...] yn dy fod i lanhau y p [...]chadur pan y mae efe yn aflan; etto nid

yw efe yn dy­fod i ddidda­nu pechadur nes yn gynt­af ei sanctei­ddio ef.

Rŵm i Ghrift cyn del i'th galon
A chymmhennu ei le yn barod,
Cyn y delo dan dy fargod.
Ni all Christ nai yspryd sanctaidd,
Aros byth mewm lle anghruaidd,
Act 9 31 rhuf 15 13 Joan 14 23
O cais un dyn ei gyfeillach
Gwnaed ei galon iddo'n lanach,
Ni ddaw Christ ir galon aflan,
Nes troi pechod oflyd allan,
Ni thrig Christ Ile bo aflendid,
Sanctaidd yw a glân ei yspryd
Ni chyttunna Duw a Dagon,
Christ a Belial mewn un galon,
Mwy na'r Dwr a'r Tân pan ddoder,
I gyd aros mewm un llester.
Ni all calon lawn o falchder,
Dderbyn Christ nes ir arloeser,
Mwy na baril llawn o bswcca,
Dderbyn llaeth nês
Bwrw allan
fento 'r llacca
Rhaid ymado 'n lân a phechod,
A'i gasau, a'r lwyr ymwrthod,
Cyn y gallo enaid un dyn,
Gael cyfeillach Christ nai 'i dderbyn,
Rhaid ir enaid bach ymarllwys,
O bob pechod y mae 'n gynwys,
Fel y gallo Christ a'i ddonie,
Lenwi'r enaid gwag ai rade.
Ni all un dyn dderbyn Christ
Ir galon aflan druan drist,
Nes cymhenner hon yn gynta,
Esas 57 25. Psal 24 9
I gresawi'r Brenin mwya,
Ni all un dyn wrth
Trefn
gwrs nattur,
Chwennych Christ er maint ei ddolur,
Nes del Duw a'i râs i gyffro,
A dwy yn dŷn o'i
Er bod nattur yn anewyllysgar i ddyfod at Ghrist etto [...]yn trwy cu yspryd Duw arno, a gweithio grâs ynddo y ar ol tywall­dyfod atto yn ewyllysgar ac oi wir fodd Eph 2.1. mae efe yn Dih. 1 2.3. Joan 6 44 Can 1.4. Pial 110, 3, 2, Cor 3. Ph. 2.13
anfodd atto
Duw o'i râs i naws ei hun,
Sy'n cynnig Christ i gadw dyn.
Nid dim ond mwynder Duw yn unig,
Sy'n cynnig Christ ir dyn colledig.
Nid oes dim mewn dyn all gyffro
Duw i ddangos ffafar iddo.
Duw oi nattur dda ei hun,
Sy'n rhoddi Christ i gadw dyn.
Mae Duw'n cynnig dwr y bywyd,
Grâs a dawn a didrangc Jechyd,
Yn rhad yn rhwydd i'r dyn ai mynno
Os daw at Ghrist a syched arno
Mae Duw'n galw pawb yn rhin,
Datc 21 6
I fwytta
sef Christ Esay 55 1, 2,
Manna i yfed gwin,
Yn rhad yn rhwydd heb aur heb arian
Os at Christ y down dan drottan
Nid yw Duw yn gwardd i un dyn,
Dderbyn Christ ai gadw ai ganlyn
Y mae'n gwardd i neb ei wrthod,
Esay 1 18
Er ffieiddied y fo'i bechod,
Er bod Duw yn cynnig Christ,
I bob pechadur truan trist,
Ni ddaw un er hynny atto,
Nes del Duw a bach iw
Pan ydys yn dwedyd fod Duw yn llusgo dyn at ei fab Christ ei ystyr yw, fod Duw, trwy ei yspryd a'i ras yn gwneuthur dyn sydd o hono eî hun yn anwyllysgar, i fod yn awr yn ewyllysgar i dderbyn Christ Can, 14.
lusco,
Ni ddaw un dyn gwnaed y fynno,
At fab Duw er maint ymgweirio,
Nes y tynno Tâd trugaredd,
Ef at Ghrist i gael ymgeledd,
Jo 6 44
Ni ddoe'r ddafad aeth at ddidro
Byth ir gorlan nes ei
dwyn
chario.
Na phechadur at ei geidwad,
Luc 15.
Nes ei garrio fel y ddafad
Ni ddaw lleidr at y Jestus
Byth o'i fodd ond yn wrthwynebus,
Na phechadur
Er Gal 5 17
serch i flingo.
At ei Brynwr nes ei lusgo
Y mae nattur yn gwrthnebu
Mae cydwybod yn ei nadu,
Mae bechodau yn dwedyd wrtho
Ei condemnir os daw atto
Rhaid i Dduw'r Tâd agoi llylgaid,
Dyn i weld gofidi ei enaid,
A'i drueni a'i wael gyflwr.
Act 26 18.
Cyn 'mofynno am Jachawdwr
Mar 2 17
Ni ddaw'r iach i mofyn Meddyg
Nes y gwelo ei glwyfo'n flyrnig;
Ni ddaw dyn i mofyn ceidwad,
Nes y gwelo ei gyflwr
Lost
irad.
Rhaid i'n weled i'n trueni,
A'n tôst gyflwr a'n gofidi,
A'r ddamnedig
Cyflwr
Stâd i'n ganed,
Cyn gweld eisie Christ er rheitied.
Rhaid ir Tâd a'i Air, a'i Yspryd,
Oleuo dyn i weld ei ofyd
Cyn y ceisio dyn di wybod,
Hos 11.4.
Help gan Grist i fadde 'i bechod.
Rhaid ir Tâd a bach o gariad,
Dynnu dyn fel tynnu dafad,
Cyn y delo un pechadur,
At fab Duw i geisio cyssur,
Ezec, 36, 26.
Rhaid i Dduw droi'r galon garreg,
Yn galon gig mor
Tanner,
soft ar bloneg,
Nes dolurio i weld ei chyflwr,
Cyn mofynno 'i am Jachawdwr
Rhaid i Dduw 'r Tâd ddangos itti,
Olud ei ras ai dosturi,
Yn rhoi fab drossod i'w groeshoelio,
Cyn y
beiddiach.
mentrech ddwad atto,
Rhaid i'r Tâd fynegu itti,
Mor anfeidrol o'i ddaioni,
Ac mor barod yw i fadde,
I'r difeiriol ei holl feie.
Esay 55, 7.
A'i fod e'n gwawdd ac yn ceisio.
Pob pechadur ddwad atto,
I gael cyfran o'i drugaredd,
1 Jo, 3, 23,
Ond ymwrthod a'i ddrwg fuchedd.
Rhaid i Dduw orchymmyn itti
D [...]n boen melltith drom a didri,
Gredu yn Ghrist a ymddiried ynddo
Cyn y mentrech ddwad atta,
beiddlech
Gwedi galw a Gorchymmyn,
deisyf arnat
Rhaid ir grassol dad dy ganlyn,
Ddwad at Ghrist i'th gymmodi,
A'th Dad nefol gwedi
gyffroi i ddigofaint
Siommi,
Rhaid dy ganlyn yn gari [...],
Mae dy nattur mor w [...]ebus
Cyn y delech trwy
ddeisif.
ymhwedd
[...] gael heddwch a thrugaredd
Rhaid ir Brenin ganlyn Bradwr,
Ac
Deifyf
ymhwedd a'r Trosseddwr;
Cyn y delo i geisio pardwn,
Am ei frâd. a'i drais, ai
Brad­wriaeth
dreswn,
Er nad gweddus iddo ganlyn
Arnat ti sy'n pechu iw erbyn;
Ezec 33 11
Mae'n ymhwedd a thi'n deilwng
Ddwad atto i geisio pardwn
Gwedi'r canlyn. rhaid yw dangos',
Ddaed amynedd Duw a'i ymaros,
Mor ddioddefgar ac mor ddiddig
2 Pet 3 9
Yw, ir christion llaes, hwyr frydig;
Ac mor bwyllog y mae'n edrych,
Gan gyd ddwyn a'th feie 'n fynych,
A hîr aros wrth dy lesser
Mat 22 37
I roi ymmaith bôb diffeithder
Gymmell
Er dy * gathrain er dy gyffro,
Er dy ganlyn a'th oleuo
Act 2 37
Ni ddoi byth at Grist o'th bechod;
Nes y pigo Duw'th gydwybod;
A'th gyhuddo, a'th rag farnu,
cydwybod
A'th gondemno, a'th lwyr adu.
Gan dy gonsciens dôst dy hunan
Am dy fuchedd oflyd aflan
Ac er pigo dy gydwybod
A'th gondemnio am dy bechod
Ni ddoi byth at Grist er hynny
Jo 6 44
Nes dêl yspryd Duw i'th hynny
Rhaid i Dduw a'i yspryd gwiw lan
Fwrw i
Allan
maes yn yspryd aflan:
Sy'n dy galon yn Teyrnasu
Eph 2 2
Cyn y ceisiech help christ Jesu
Rhaid ir yspryd glan dy dynnu.
A'th ryddhau, a'th lwyr waredu
Oddiwrth satan, A'th gyfrwyddo,
At fab Duw, cyn delcch atto
[Page 413]Rhaid dy dynnu oddiwrth dy bechod,
Joan 14 23.
A rhaid puro dy gydwybod.
A sancteiddio 'r galon aflan,
Meggis didanwr Eph. 2.3.
Cyn y delo Christ ith gyfran.
Plant digofaint wrth naturiaeth,
Ym ni bôb rhai oll y sywaeth,
Hyd nis gwnelo Christ ni, clyw,
O blant digofaint yn blant Duw.
Jo 1.12.
Mae digofaint Duw mor greulon.
Yn llosci yn erbyn pechod dynion:
Nid oes dim all ddofi ei loscfan,
Ond gwaed calon Christ ei hunan,
Ni all y dwr sy uwchlaw'r ffurfafent
Na dwr y mawr, na dyfroedd Hafren,
Ddiffodd digter Duw at ddyn,
Nes dofo Christ a'i waed ei hun,
Rym ni bôb rhai yn Elynion.
Rhuf. 5.1.10,
I'r Duw mawr y barnwr cyfion,
Nes y gwnelo Christ ei hun
Heddwch têg rhwng Duw a dyn.
Ni all dyn, na Diawl, nac Angel,
Na nef na daer mi dweda'n uchel,
Heddychu,
Reconseilio Duw a dyn,
Nes Reconseilio Christ ei hun.
Rym ni bawb dan felldith greulon,
Gal. 3.10.13.
Am drossedu'r Gyfraith gyfion;
Ni ddaw nêb o dan y felldith.
Nes gwaredo Christ e'n ddichwith
'Rym ni bawb yn weision pechod.
Yn pechu beunydd bôb diwrnod:
Joan 8.34, 26.
Ni all un dyn lai phechu,
Nes dêl Christ ai Adgenhedlu.
'Rym ni bawb yn
Caeth. weision Luc. 11.21, 22.
flafs i Satan.
Ac mewn Carchar tywyll, aflan;
Nes del Christ i ddwyn ei arfe.
Ni ddaw dyn y maes o'i grampe,
[Page 414]Rym'ni bawb yn slafs i'r cythrel,
Ac mewn carchar dû diogel:
Joan. 3.8. Col, 1 13.
Nes del Christ i rwymo Satan
Ni ddaw nêb o'i deyrnas allan,
Pe doe Michael a'i Angelion,
Datc 12, 9.11.
I ymdrechu a'r ddraig greulon,
Ni orchfyge byth mo hono.
Nes doe Oen Duw i'w
Gorchfyg Rhuf 6 23 Rhuf 8, 1, Rhuf 5, 12.17.18.
goncgweirio.
Rym ni'n euog bawb o Ange,
Ac o uffern boeth a'i phoene;
Ni all un dyn ddiangc rhagddynt,
Nes gwaredo Christ ni oddwrthynt.
Fe'n condemniwyd cyn ein geni,
Bawb am drossedd ein rhieni:
Rhaid cael cymmorth Christ yn gynta,
Cyn cadwer un o eppil Adda.
Ny chaiff un dyn gwnaed a allo,
Fynd i Deyrnas Dduw i dario,
Nes ail aner hwn yn hyfryd
Gan fab Duw, a'r Dwr a'r yspryd,
Joan. 3.5.6
Rhaid i Grist ein Adgenhedlu,
A'n ail greo an newyddu.
Cyn y caffo un dyn cnawdol,
Et feddu'r Deyrnas nefol
Ni alle neb orchfygu'r ddraig,
Ni sigo ei siol am dwyllo'r wraig,
Na'n tynnu maes
Allan.
o'i dywyll gorlan,
Gen 3 15. Gat, 3 13.
Ond Hàd y wraig, mab Duw ei hunan,
Ni alle nêb roi rhan o'r fendith,
Na'n tynnu maes o dan y felldith,
Ond Jesu Ghrist yr Hedyn dinam,
Gen. 22, 18
Oddawodd Duw o lwyne Abram,
'Ni alle un creadur hynod,
Ein tynnu maes o danedd pechod,
A'n dwyn i'r nêf at Dduw i dario,
Gen, 49.10
Ond Jesu Ghrist yr unig Silo,
[Page 415]Duw ddug Isral trwy iwa Moesâs;
sefos cre­dwn ni ynddo ac os edifarhawn ni am ein pe­chodau. a bod yn ufydd iddo Heb 5.9. Exod 12
O gramp Pharo i Gannan gynnes;
Duw trwy Grist a'n harwain * ninne,
O gramp Satan ir nêf ole.
Y Neidir brês a helpe'n escyd,
A rhai a frathe'r neidir danllyd,
Y Christ a'i waed a helpa 'n fuan,
Yr enaid prudd a frathe Satan,
Gwaed yr oen y gadwe'r Angel,
allan
y maes o'r tai rhag difa Israel;
Gwaed mab Duw a geidw Satan,
Y maes o galon pawb a gredan.
Fal y tynnodd Dafydd rymmus,
Oen o eneu'r llew afradus;
Felly tynnodd christ ein Bugel;
Act. 26.18.
Enaid
sef y credadyn. Barn. 16, 30.
dyn o eneu'r cythrel;
Ai farwolaeth lladdodd Sampson
Y rhai penna o'i elynion;
A'i ddioddefaint lladdodd Jesu
Angeu pechod, Diawl a'i deulu
Maent hwy'n farwol gwedi clwyfo,
Er bod chwythiant ynddynt etto;
2 Bren. 5,
Ni all eli sy'n yr holl-fyd,
Iachau eu clwyf na chadw i bywyd,
Nid oedd dim y olche Naaman
Oi glwyf gwân ond dyfroedd Jordan
Nid oes dim a'n golcha ninne,
Ond gwaed Christ oddiwrth ein beie.
danfonedd
Helodd Duw ei Angel hyfryd'
I ddwyn Sadrac or ffwrn danllyd;
Dan 3.
In dwyn ni o ffwrnes Satan.
Jonas a fu ym mol y Morfil,
Dridie a their nos mewn nawr beril
Felly bu ein prynwr hygar,
Drosom ninne ym mola'r ddaiar
[Page 416]
Gen, 22,
Fel offrymmodd Abram Isaac.
I Jehofa ar ben Moriac;
Felly offrymmodd Crist ei enaid,
I Dad cyfion dros ei ddefaid,
'Neb a ymolche ym mhwll Bethesda,
Joan. 5.
Fe iachaid o'i glwyf pwy bynna:
'Neb ymolcho yng waed y cymmod,
Fe iachair o bôb rhyw bechod,
Gwaed y Pelican sy'n helpu,
Ei Adar gwedi'r Sarph eu brathu:
Gwaed yr oen all gadw'r Christion;
Gwedi bechod frathu galon,
Yr Unicorn a'i gorn y
Iâcha.
helpa.
'R Dwr lle chwdo'r Sarph ei chylla:
Christ a'i waed all cadw'r enaid,
Lle chwdo'r Sarph ei wenwyn embaid.
Mor gwilyddus i ni wrthod,
Un mab Duw i fod yn briod
A phe palle merch rhyw feger,
Gen, 28 12,
Fôd yn wraig i Frennin Lloeger.
Nid yw bossib i neb ddringad;
Ir nef uchel uwchlaw'r lleuad,
Oni chymmer yscol Jaco,
Rhon yw Crist i ddringad arno,
O gan hynny llef yn
Cwynfanus.
irad,
Am gael gafel yn dy Geidwad:
Nid ir Byd na dim sydd ynddo,
Beri it golli d' afal arno.
Llef am Grist fel hydd am afon,
Psal 42.1. Cant 5, 8,
Mofyn Grist a phob fforddolion,
Cais e'n ddyfal nes y caffech,
Cadw dy afel pan canfyddech.
Cyn y gallech chwennych Christ.
I gadw d' enaid truan trist,
Rhaid it weld, sod grâs a gallu.
Gan fâb Duw i'th gadw a'th brynu:
Rhaid it weld fod Christ yn rasol,
Yn Dduw, yn ddyn, yn rymmus hollol,
Yn well na dim, yn rheitiach wrtho,
Na'r byd i gyd, a'r maint sydd ynddo,
Rhaid it weld fod Christ yn rheitiach,
Yn well ymhell, yn werthfawroccach,
Na'r byd a'i bethau darfodedig.
I gadw d' enaid bach o'i berig.
Ni all y byd, a'i werthfawr bethau,
Brynu d' enaid byth o'i boenau;
Fe all Christ ei ddwyn i'r nefoedd
O grafangau'r Sarph a'i twyllodd,
Fe all Christ a'i waed ei olchi,
O'i bechodau fel y lili,
Er eu bod mor goch a'r scarled.
A'u glanhau mor wyn a'r foled
Fe all Christ dy Ail
Atgweirio
repario,
Yn ddyn newydd er dy nyrddo,
A'th gyfnerthu tra fech byw,
I fyw mewn ffafar dyn a Duw.
Fe all Christ dy lwyr
cymhwyso Jo, 1, 16,
ffwneisio,
A gras a grym, i lynu wrtho.
A dysc, a dawn a gwir wybodaeth,
I weithio gwaith dy iechydwriaeth
Fe all Christ
Ennill yn ol
recyfro itti
Faint y gollodd dy
Adda ac Efa
rieni.
A rho itti
Sicrach
siwrach fywyd,
Nas gall Satan ddwyn oddiwrthyd.
Fe all mab Duw gadw d' Enaid,
Er ei fynd i fysc y bleiddiaid
Ai' ddwyn adre i'r wir Gorlan,
Yn wych ar ei 'scwyddau hunnan
Ni all y byd a'r maint sydd ynddo
Gadw d' enaid na
Ennill yn ol
recyfrio.
Faint y gollaist gynt yn Adda,
Ond dy ollwng i'r pwll issa:
Crynho di'nghyd dy rym, a'th allu,
Rho'th goel, a'th drist, a'th bwys ar Jesu
Cais ef, car ef, craffa arno.
Bydd siwr i gadw d' afel ynddo
Rhaid i gristion brudd 'wllysio;
Cael mab Duw yn geidwad iddo;
Cyn y bytho'r Prynwr hawddgar,
Geidwad byth ir anwyllysgar,
Oni chwennych oni
Hiraetha.
flyfia,
Oni chais, oni sycheda,
Dyn am fâb Duw gâel i gadw,
Ni thry mab Duw byth drwyn hwnnw
Ni ry Duw mo'i fab ei un dyn
Nes bo chwannog bur iw dderbyn;
Rhaid yw chwennych Christ a'i geisio,
Gyn y caffer gafel arno.
Os bydd un dyn yn gwllysio
Psa;l. 110.3. Matth, 5.6.
Yn hiraethu, yn dymuno.
Derbyn Christ, a'i ras a'i ffafar.
Duw rhy iddynt yn wllysgar;
Ni chais Duw gan ddyn edifar.
Ond derbyn Christ yn dra gwllysgar
Dat. 22.17. Eph 3, 17,
Y Dyn a'i ceifio yn awyddus
Fe caiff e'n rhad yn ol ei wllys,
Cyn cael Christ, a gras oddiwrtho
Rhaid cael ffydd i maflyd ynddo;
Heb ffydd ni all un dyn byw,
Gyrhaedd gafael ar fab Duw
Ni chaiff Christion mwy na
Dyn heb broffes Christ tanogol. Gal. 5.6.
Phagan
Les na ffrwyth, na rhan, na chyfran
O'r maint oll a brynodd Jesu,
Heb ffydd fywiol i'w meddiannu
Ffydd sydd reitia peth iw cheisio,
Mar. 16.16
Byth ni chai di Grist heb honno;
Cais y fynnech yn dy ddŷdd,
Ni cheidw Christ di byth heb ffydd.
Heb ffydd ni bydd it wnel a Christ.
Rhuf. 14, 23. Heb 11, 6 Rhuf, 1, 17
Heb ffydd mae'r weithred ore'n drist;
Heb ffydd ni wir fodlonir Duw,
Wrth ffydd y bydd y cyfion byw.
Pa bae gennyd aur fynydde:
A'r byd y bacc, a'i amryw bethe.
Beth fyddit gwell
Ar ddydd o anghenrheid­rwydd.
ar ddydd angrhaid
Os eisie ffydd, y colli d' enaid.
Pe baet mor dlawd a Lazar druan
Heb dda hedir heb fwyd, heb
Cwd.
screpan
Heb dda, heb ddim ond ffydd yn unig,
Trwy ffydd yng Hrist ti wyt cadwedig.
Er na ddichon mynydd auraid,
Luc 7.50.
Gyffro Christ i gadw d' enaid;
Gronyn bach o ffydd fel hedyn,
All ei gyffro i gadw un dyn,
Heb ffydd ni ellir cael diddanwch,
Gwir lawenydd, na dedwyddwch,
Yn y nef nac ar y ddaiaren.
Bôd heb ffydd sydd beth aflawen.
Heb ffydd ni chae ran yng Hrist.
1 Pet 18
Heb ffydd fe'th droir i uffern drist;
Heb ffydd ni phlessir mo Ddw'r liuoedd
Heb ffydd nid ae di byth ir nefoedd.
Ni chair pardwn byth am bechod.
Ni chair ffafar ar law'r Drindod
Ni chair dim llawenydd
Difrifol
prydd
Lle na byddo
Ffydd fywiol [...]w'r ffydd [...]dd ag edi­ [...]iewch, agw­ [...]redoedd du yn ei cha­nlyn hi. Act 20.21 Act. 15.9 Jac, 2 18.
bywiol ffydd,
Rhaid ir tlawd, rhaid ir cyfoethog
Rhaid ir diddysc a'r llythyrennog.
Rhaid ir Brenin rhaild ir beger.
Rhaid i bawb wrth ffydd cyn cadwer,
Rhaid i bawb ei ffydd ei hun;
Nid ffydd arrall wrth ei glyn;
Os ni chedwir neb yn gyngan.
Ond trwy'r ffydd ai grêd ei hunan.
Nid ffydd dy fam, nid ffydd dy dâd
Nid ffydd dy Brins ar penna o'r wlâd,
Ezek 18.20.
All tynnu grâs, o Gris;t id allan,
Ond dy ffydd a'th gred dy hunan
Ni cheidw ffydd y Tad o'i blentyn,
Na ffydd y mab o'i Dâd escymmyn;
Pawb a gedwir, pob yr un,
Wrth ei ffydd a'i cred ei hun
Wrth wrando geiriau Duw yn brydd,
Mae Duw yn arfer rhôddi ffydd.
Heb wrando'r gair nid yw yn arfer,
Rhoddi ffydd i neb un amser,
Rhuf 10.17.
Gwrando'r gair a chred addawo
Craffa
Marca, a chofia 'rhyn a ddywetto;
A'ddawo Duw, fei tal yn ddilys,
Ni thorrodd Duw erioed o'i,
addewid
bromys.
Nid ein nattur, nid ein Tadau.
Gal. 5.22.
Nid ein dysc na'n poen, na'n donniau,
Ond yspryd Duw trwy air ei hun'
Sy'n gweithio ffydd ynghalôn Dyn;
Gwrando'r gair, a chais yr yspryd,
Llef am ffydd fel am dy fywyd:
Wrth weiddi am ras, a gwrando'r fengyl
Mut. 7.7.
Mae Duw yn rhoddi ffydd yn rhygil
Nid y gair
Tu allan.
tu faes ei hun,
Sy'n gweithio ffydd yng halou Dyn;
Ond yspryd Duw yng hyd a'r Gair
Sy'n gweithio, ffydd ple bynna cair

Psal, 38.

DUw grasol, Tad trugaredd,
Na faedda fi'n dy ddigedd
Ac na chospa fi'n dy far,
Mor ddigllon ar fy niwedd.
Duw mae dy saethe llymion.
Yn glyny yn syng halon,
A'th law drom yn daran chwyrn,
Yn briwo f' escyrn gweinion,
Nid oes im cnawd ond nychdod,
Gan faint dy lid a'th ddyrnod.
Na dim Hedd im hescyrn briw.
Waith cymmaint yw fy mhechod.
A'm camwedd a'm trossedde,
Sy'n pwyso'n drwm (Gwae finne)
Fel baich gorthrwm ar fyrgwarre,
Yn gwascu ar fy' scwydde.
A'm cnawd sy'n llawn o gleisie,
Waith trymmed yw 'th ddyrnodie,
A'm cleisie'n pydru fel heu glwyf,
Gan ffoled wyf, gwae finne.
Di grymmaist (Dduw) fynghefen,
Di'm helaist ir bedd
Ymoron.
haychen;
Di'm gostyngaist hyd y llawr.
Rwi'n un yn awr a'r ddairen,
Rwi beunydd yn alaru,
Rwi'r nôs heb allel cyscu;
Rwi'n wylo'n dost, rwi'n griddfan mwy
Fy neigre aeth trwy 'ngwely,
Gwyl dristed yw f' amcanion,
Clyw drosted yw f' ochneidion.
Gwyl mor drwm yw'th lid a'th far.
Yn gwascu ar fy nghalon,
I bery im fwy o flinder;
A gwewyr heb esmwythder.
Mae'r holl gnawd yn afiach iawn.
A'm lwyne'n llawn o boethder.
Rwi'n egwan gwedi'ngblwyfo,
Rwi'n ochain ac yn rhuo,
Gan faint poen fy Mhrynwr
Anwyl.
call,
Rwi'n barod i wall bwyllo,
[Page 422]O dofa beth o'th ddigter,
A llacsa ddarn o'm blinder;
Na lwyr ddifa fi fy Nuw,
Ond rho imi ryw esmwythder.
Di wydd [...]st Dduw fy ngheidwad,
Beth ydyw fy neisyfiad:
Nichuddiwyd rhag ot ti un pryd,
Nâ 'm poen, na'm cryd, na'm bwriad,
Mae 'nghalon drom yn curo,
A'm nerth sydd gwedi'n gado,
Am llygaid trymion bob yr un,
Sy'b weled dyn i'm swccro,
Fyng heraint a'm cyfeillion,
O hir bell rhoent olygon,
Ar fy nrhallod blin a'm pla,
Heb gŷssur, na chynghorion,
A'r rhai ddymune'n Nifa,
Osodent fagle im dala.
A'm gorthrymmu megis Cwn,
Och! och! pan oeddwn wanna,
A minne yn fy nrhafel;
Fe ddwede bawb ei chwedel,
Ac a'm barnent bob yr un,
Yn waetha dyn o'm cenel;
A rhai ddychmygent gelwydd,
A rhai'm gwatwarent beunydd,
A rhai chwadde'n uwch ar goedd,
Gan gymmaint oedd fy nghystudd,
A minne fel dyn byddar,
Heb glywedd dim o'u gwatwar,
Yn tewi a sôn heb atteb neb,
Fel mudan heb ei lafar.
Yr wi fel gwr heb glywed,
Neu ffôl heb fedru ystyried,
Yn gado i bawb chwedleua eu hun,
Heb amme dyn a'r aned,
[Page 423]Ond Arglwŷdd rwi'n gobeithio,
Dy fod di yn eu gwrando.
Ac yn atteb dros dy was,
I bawb a'i cas en llibio.
Duw nad im drwg elynion,
Gael arnai wynn eu calon▪
Na
Uchel chwerthia
chrechwenu tra font byw
Weld cymmaint yw'n rhallodion
Pan llithro 'nhroed ond gronyn,
Hwy chwarddant bawb i'm herbyn
Ac a wawdiant am fy-mhen,
Gan roi i'm seu yscymun
Fe'm ganed i ddwyn poene,
Paratowyd fi i ddiale;
A blindere 'nghalon don,
Sydd ger fy-mron yn ddie,
O Arglwydd rwi'n cyfadde
Fy mhechod a'm trosedde.
Mae'n flin gennif o fŷ Nuw,
Weld cymmaint yw fy meie,
Ond etto mae 'ngelynion
Yn fywiol, ac yn gryfion,
A'r sawl se 'b achos im casau
Sydd yn amlhau yn greulon.
A'r rhai a dalant immi
Dwrn drwg am fy naioni
Sy'n gwrthnebu bob rhyw awr
Trwy wneuthur mawr ddrygioni
Ac am fy mod yn dilyn,
Y peth sydd dda i'r gwerin,
Rwi'n gas gan bawb o'r bobol ddrwg
Ar rhai fy a'i gwg i'm herbyn
Na wrthod di fy helpu.
O Dduw, fy Nuw, er hynny
Gwna fi beunydd ar fy ngwell,
Ac na fydd bell oddiwrthi
[Page 424]Ond pryssia i'm cynnorthwyo,
A'm helpu byth tra gantho,
Duw fy iechyd, Un a Thri,
Cans ynot ti rwi'n
Ymddi­ried.
trysto.

Am y Sabboth

DEffro'n fore gyda'r ceiliog:
Cura. Psal 92, 1.2.
Ffyst d' adanedd, cân yn sercho [...]
Psalm ir Arglwydd yn blygeiniol,
Ar bob Sabboth yn dra siriol,
Gwisc dy ddillad gore am danad.
Ymba­ratoa trwy weddi.
* Ym sancteiddia cyn dy ddwad,
O flaen Duw ir Demel sanctaidd;
Hoff gan Dduw ei addoli'n gruaidd.
Gwedyn dos a'th dylwyth gennyd,
I dy Dduw a chalon hyfryd;
I addoli Duw'n y dyrfa.
Megis Joseph, Mair, a Josua.
Fe fyn Duw ei addoli'n barchus
Ar bob Sabboth yn gyhoeddus,
Gyda 'r dyrfa yn y Demel,
Nid yn ddirgel yn y cornel.
Duw ddibennodd ei holl weithred,
Ar y dydd o flaen y seithsed;
Gorphen dithe bob gorchwylion,
Cyn y Sabboth od wit gristion,
Ym sancteiddia cyn y Sabboth,
Cadw'n lân dy lester boenoth;
Golch dy hun mewn edifeirwch.
Ofna Dduw, a chais ei heddwch.
Cyn y Sabboth rhaid ymgweirio
A throi pôb bydol waith heibio.
I gael gweithio Gwaith yr Arglwy [...]
Tra fo'r dydd mewn gwir sancteiddr [...]
Go [...]phwys di, a'th dda, a'th ddynion
Oddiwrth bob rhyw o orchwylion;
Ac na weithia ddydd yr Arglwydd,
Waith o
Disyrrwch
blesser na bydolrwydd
Gwerthu
pob math o ymborth. Neh. 13.15, 19. Esay. 58.13.
liflod, cario beiche,
Gweithio'n galwad. mynd i siwrne,
Pob ofer-waith plesseredig,
Ar y Sabboth sydd warddedig,
Cadw'r Sabboth oll yn brydd
Fore a hwyr, a chanol dydd
Yn dy dŷ fel yn yr Eglwys,
Yn gwasnaethu Duw heb orphwys
Cymmer fwy o
Gofal.
garc trech byw,
Weithio'r Sabboth waith dy Dduw;
Nag y gymrech un dydd amgen
Ynghylch gweithio bydol bressen
Ar y Sul mae mor anghenrhaid.
Geisio Manna i borthi'r enaid,
Ac yw ceisio ar ddydd marchnad.
Fwyd i borthi'r corphyn anllad.
Côd y bore ar y wawr ddydd,
Am y cynta ar uchedydd,
I gael treulio dydd yr Arglwydd.
Mewn duwioldeb a sancteiddrwydd
Nid dywrnod i ni gyscu,
Nac i dordain yn y gwely;
Ond diwrnod iw sancteiddio
Yw'r dydd Sabboth oll tro gantho
Nid diwrnod itti loetran,
Nac i feddwi. nac i fowlian.
Ond diwrnod itti weithio,
Gwaith dy Dduw yw'r Sûl tra dalo
Dydd iw dreulio mewn sancteiddrwydd
Dydd i weithio gwaith yr Arglwydd,
Dydd i ddarllain, a gweddio,
Dydd i addoli Duw a'i gofio
[Page 426]Dydd i orphwys thag gwaîth bydol.
Dydd i weithio gwaith sancteiddiol
Ac nid dydd i fod yn segur
Yw dydd Duw medd geiriau'r Scrythur,
Er bod Duw yn erchi coffa.
Cadw'r Sabboth yn ddisigla;
Nid ym ninnau'n ceisio cadw
Un gorchymyn mwy nâ hwnnw,
O'r holl ddyddie nid oes un dydd
Ym ni'n dreulio mor ddigrefŷdd,
Mor anneddfol mor, escymmyn
A'r dydd Sabboth tra fo'r flwyddyn
Dydd i feddwi, Dydd i fowlian,
Dydd i ddawnsio, dydd i loetran
Dydd i hwrian a gwylhersu,
Yw'r dydd Sabboth gan y cymru
Dydd i eiste
gwawdio
a dyfalu,
Dydd i ymladd ac ymdaeru.
Dydd i weithio gwaith y Cythrel.
Yw dydd Duw mewn llawer cornel
Y dydd a dylem ei sancteiddio,
Ym ni fwyta yn ei nyrddo.
I amherchu ein prynwr tirion
A dolurio ei gywir weision
Treulia'r Sabboth oll yn llwyr
Mewn sancteiddrwydd fore a hwyr;
Ac na ddyro
Rhaen
bart na chyfran
O ddydd Duw i addoli Satan
Cofia gadw'r Sabboth sanctaidd,
Duw fyn gadw hwn yn berffaidd;
Rhwn a dreulio'r sul yn ofer
Ni wna bris o ddim orchymynner
C [...]. 18.1 [...], Jos. 24.15.
Cadw'r Sabboth ti a'th genel
Yn dy dŷ fel yn dy demel.
Gwna i'th dylwyth fyw mor gymmwys
Yn dy dŷ fel yn yr Eglwys.
[...]ri rhyw waith all dyn' arferu,
Ar y Sabboth heb drosseddu,
Gwaith duwioldeb yn
diberigl,
ddiembaid,
Gwaith cariadol, Gwaith Angenrhaid,
Gweithred dduw yw trafaelu,
I dy Dduw i
Sef, i Anrhyde­ddu Duw. 2 Bren. 4 23.
Anrhydeddu,
Ac i wrando'r fengyl hyfryd,
Pyt fae 'mhell o ffordd oddiwrthyd
Gwaith cariadawl ydyw cadw,
Dyn a nifel rhag eu marw,
A rhoi ymborth iddynt ddigon,
Ac ymgleddu'r bobol weinion,
Gwaith aughenrhaid 'rhwn nis galli
Gynt na chwedyn ei gyflawni,
Mēgîs cadw Ty rhag llosci,
Gwraig wrth escor, Buwch rhag boddi,
Gwachel ddylyn drwg gyfeillach,
Cyfaill drwg sydd wybren afiach,
Plag yn llygru, pyg yn nyrddo,
'R dyn duwiola a'i dilyno

Gweddi dros yr Eglwys, yn llawn o ddymuniadau grassol.

ARglwydd grassol cadw d' Eglwys
A'r Winwydden deg y blanwys
Dy ddeheu-law di dy hunan
O'r dechreuad yn dy winllan.
Psal 80.14, 15.
Nad ir baedd o'i coed i thirrio,
Nad ir bwyst fil gwy [...]t ei chroppio;
Nad un gelyn er mwyn Jesu,
Psal 13.
Ei anrheithio, byth na'i sathru
Bydd yn
[...] Zec [...] 5, 8. Esay. [...]
wal o dân o'i bobtu.
Ddydd a nos gan ei chwmpassu;
Bydd a'th lygad arni'n wastad,
A'th fraich rymus yn ei gwarchad▪
Cadw hi megis byw dy lygad,
Portha hi fel braidd yn ddifrad,
Trwsia hi fel dy anwyl briod,
Ps. 51 18.
Nad un gelyn byth i gorfod.
Gwella ei gwelydd, côd ei bylchau;
Gwilia ei phyrth, a chweiria 'i thyrau;
Cadarnha bob barr sydd ynddi,
Nad un gelyn i difrodi.
Gen. 12.3.
Nad i dwrc. na Phab, na Phagan,
Nac un pennaeth waethu'th winllan:
Ond bydd elyn iw gelynion,
A diffetha ei digassogian.
Glawia arni yn gafode.
Dy fendithion nos a bore
Nes i tanno
canyhen­nau.
osgle ei gwinwydd,
Dros y Byd o'r mor i gylydd,
Tafla i lawr, a drŷllia 'n gandryll
Datc. 12.9.
Rhwysc y ddraig, a'i theyrnas dywyll:
Adeilada ym-mhob cornel
2 Thess 2.3, 4, 8.
Deŷrnas Christ, a Sathra 'r cythrel.
Christ a'th anal llwyr ddifetha
Y
Y Pab.
mab anwir sy'n ymddrycha:
A'r
Eglwys. Rufain. Datc. 17.1, 6.
Hen Buttain goch sy'n yfed
Gwaed dy Saint, i dorri ei syched
Gwna i'r Fengyl wenn farchnogaeth,
Trwy 'r holl fyd at bob cenhedlaeth,
I gael gorfod a gorchfygu;
A thro bawb o'th blant i chredu,
Adeilada o gylch-gwympas,
Dat. 6.2.
Ym-mhob Gwlad dy rassol Deyrnas
Ym-mhlith Groegiaid ac Iddewon.
Gwna hwy Arglwydd yn Gristnogion,
Rhuf. 11.25.26. 2 Cor. 3.16.
I Iddewon gwna drugaredd;
Dangos iddynt dy wirionedd:
Tynn ei anghrediniaeth ymmaith,
Derbyn hwynt i'th gorlan eilchwaith.
A bendithia bob rhyw Deyrnas
Lle addolir Christ yn addas;
Cadw 'r fengyl sanctaidd iddynt
Nes del Ghrist i farnu rhyngthynt

Am Dyngu

YR Iddew dig a rwyg ei wiscoedd,
Pan y cabler Duw y lluoedd;
Llawer Christion gwael ni
Chych­ryblir.
syfla,
Pan y cabler Duw gorucha.
Os tyngei Sibswn i ben Pharo
Yng-ham, fe gae ei ddi-eneidio;
Os twng y christion gorph ei Brynwr.
A'i gig a'i waed, nid oes Dialwr
Gwn na frathei yr Iddewon,
Christ ond un-waith dan ei ddwy fron
Mae'r christnogion a'u càs lyfe,
Yn ei frathu fil o weithie,
Lev. 1 [...].28. Hos. 4.3, 2.
Na ryfedda weld gwyr mawrion,
Yn gwerthu'r Tir, a'r Teie gwychion;
Cablu Duw a bair yn fuan,
Ir Tai, a'r Tir droi'r meistri allan;
Di gae weld yn-nhai Gwyr mawrion
Bedwar par o garde brithion,
I rai dyngu ac ymgigo.
Heb un llyfyr i weddio.
Rwy fi'n tybied ac yn credu
Na chair clywed cassch dyngu,
Gan Gythreiliaid yn
Vffern
Gehinnon,
Nag a glywer gan gristnogion.
Nid oes Sôn yn nheie llawer
Am enw Duw ond pan y cabler.
Nac am werthfawr waed yr Jesu,
Ond tra fyther yn ei dyngu
[Page 430]
Zech. 5, 2.3, 4.
Melldith Duw medd Zecharias,
Ac red i Dyr udonwr diras;
Ac a lyna wrth bob ceubren,
Nes pydru'r ty, a'i droi yn dommen,
Gwell it drigo lle bo pardwr,
Yn y gegin, yn y parlwr,
Nag it drigo lle bo tyngu,
Yn y parlwr neu'n y Penty.
Naw ugein mil o lu'r Assariaid
Y laddodd Angel Duw yn ddiriaid,
2 Bren. 19, 22 25
Mewn un noswaith gynt am gablu
Enw'r Arglwydd a'i ddirmygu
Mae Duw'n erchi llwyr labyddio
Lev. 24.16,
Pob rhyw ddynion ag a gablo.
Nid dieuog yw'r dyn sceler,
Ac a gymro ei enw'n ofer,
Pet fae farnwyr yr holl Deyrnas,
Yn rhyddhau'r udonwr diras;
Duw ei hun a farn yn siccer
Bawb a gymro ei enw'n ofer

Dyled swydd Gweinidogion

DWg sancteiddrwydd yn dy dalcen
Fel y gallo pobol ddarllen
Exod 28, 36, 38.
Wrth d' ymddygiad a'th sancteiddrwydd
Dy fod ti yn was ir Arglwydd
Par i'th glych sydd wrth dy siacced,
Ganu'r stord y bech yn cerdded,
Fel y gall o pawb yn rhygyl,
Exo, 28 23, 34, 35,
Glywed gennit eiriau'r fengyl
Par ir pomgranadau ffrwythlon,
Oedd wrth ymyl siaceed Aaron.
Ber-aroglu a'th daioni,
Bob rhyw dyrfa ddelech iddi
[Page 431]Par i 'rogle dy ymddygiad,
Par i lewyrch dy lân alwad.
Par i ffrwyth dy wefus draethu;
Mae gwas wyt ir Arglwydd Jesu,
Gwr i Dduw wyt wrth dy alwad,
Gwas i Grist ein pen a'n ceidwad.
Nid yw gweddus i was Brenin
Fynd mor frwnt a Gwr cyffredin
Cennad wyt ir Brenin mwya,
I fynegi ei air ir dyrfa;
Nad un gair heb ei fynegu,
2 Cor 5 20.
O'r hyn archodd itti draethu.
Bugail wyt i gadw'r defaid.
Brynodd Christ a'i waed bendigaid;
Act. 20.28 Ezec. 34 8. Deut. 33.8.
Nad un ddafad farw o newyn
Rhag mynd ei gwaed at dy gobyn,
Dwg sancteiddrwydd gyda 'th Urim,
Dwg wybodaeth gyda'th Thwmmim;
Dwg y ddau hyn ar dy gâlon,
Hyn yw dyled ffeiriad ffyddlon.
Luc. 9.92.
Rhoest dy law ar gorn yr arad,
Dos o'th flaen, a dylin d' alwad,
Na thro'n d' ol fel ci at chwdfa,
Ni chair coron heb hir-bara
Gwradwydd oedd i Ephraim fudyr,
2 Tim 4 7
Droi'n ei ol yn nydd y
Ymladdfu
frwydyr;
O troi'n ol oddiwrth dy alwad,
Gwaeth dy ddiwedd na'th ddechreuad
Gado'r llong fel Iaco a Pheder,
Di! yn grist tra caftech amser.
Rhaid i weision y Messia.
Ado'r byd fel Lefi'r dollfa
Bwrw'r byd a'i bethe oddiwrthyd
'Rwyt ti'n rhedeg am dy fywyd
Llwyth. Rhwystra
Ffardrel gron o bridd a hindra
Cawr, neu farch wrth redeg gyrfa.
Tafla ffwrdd bob peth sy'n pwyso;
A'r pechodau sy'n dy rwystro;
Rheded pawb y nefol yrfa,
Trwy ammynedd am y cynta.
Heb 12 1.
Portha ddefaid Christ yn
Cyfar­wydd
gywrain;
Yn wllysgar heb dy
Cymmell 1 Pet 5.2, 3, 4,
gathrain;
Pan ddanghosso Christ ei fawredd,
Di gae goron ac anrhydedd.
Gwae pob Bugail mud anghynnil
Na phregetha Christ a'i fengyl;
Gwaed eneidiau mil ofynnir,
Ar law hwnnw pan ei bernir,
Ezec. 33.8.
Mewn tair ffordd y dylit ti borthi
Defaid Christ, au llon gomsforddi
1 Ag Athrawiaeth bur 'fengylaidd.
2 Gweddi frwd, 3. a Bywyd sanctaidd
Gwell yw steiraid da nag Angel
Gwaeth yw'r drwg na'r ddraig, neu'r cythrel
Y da a'n dwg i dir goleuni,
Y drwg a'n gollwng bawb i'n colli
Trin dy Winllan, hi ddwg rawn-win;
Haia dy faes, fe ddwg egin
Trin dy braidd. fe fydd llwyddiannus,
Dysc dy blwyf fe fydd rinweddus
Dyscwch eich braidd, ac
sef trwy eich siam­pl dda
arweiniwch
I wlad Canaan trwy'r anialwch;
Nid nes ffeiriad fod yn Ddoctor
Esay 40.11.
Oni wnaiff yn oll ei gyngor
Byddwch dirion wrth y defaid
Cynnwch sef yn ol y bleiddiaid;
Mwynder a wna i'r Ddafad bori,
Llefain a wna'r Blaidd gynffonni
1 Cor. 4 2. 2 Cor 13.2.
Rhowch y fron ir wyn cariadus,
Rhowch y ffon wrth Hwrdd cildynnus;
Byddwch fwyn wrth rai diniwed
Cospwch bawb o'r rhai pengaled.
Bydded § arfau yn eich dwylo,
Sef ce­ryddon a bygythion, ac y scymmundod Neh. 4.17.
[...]el plant Israel wrth adeilo;
Llwy i
adeila du. 1 Pet. 5.2. Ez 33.8. Ez 34.4.
fildo, cledd i ymddiffin.
Ac i ymladd dros y gwerin
Porthwch bawb eich Praidd a Manna.
Nedwch arnynt eisie porfa;
O's bydd marw un rhag newyn
Bydd Gwaed hwnnw ar eich cobyn,
Cyrchwch adre. trowch i'r gorlan.
Y disperod aeth i
gyrwydr [...] Heb. 13.17. Mat. 5.14, 16.
straglan:
Nedwch un i gyfyrgolli.
Fe fynn Duw am bob peth gyfri,
Canwyll ych i roi goleuni,
Yn eglwys Dduw ir holl gwmpeini:
O! discleiriwch fel canhwylle,
Fel y rhodiom yn eich gole
Y lamp a dreulia'r hun o'r Thyssur
Yn goleuo'r gwir addolwyr;
Mat. 5.13.
Treuliwch chwithau choes mor ffyddlon,
Yn goleuo eich plwyfolion,
Halen i'ch i
tymmheru.
sefno eneidie.
Rhag drwg
Aroglu.
sawyr mewn pechode;
Tymmhe­rwch
Sefnwch galon pawb sy'n pechu
Rhag i Grist a'i droed eich sathru.
Golwg dost yw gweled defaid,
Yn eu llarpio'n safnau bleiddiaid;
Tostach gweld eneidie'n griddfan
Hos. 4.6.
Eisie Dysc yng-hrampe Satan
Tost yw gweled maes o
yd
lafyr
Yn pydru esieu help medelwyr;
Tostach gweled mil o ddynion.
Yn meirw eisieu help a thrawon
Tost yw gweled plentyn bychan
Eisieu help, ar Res yn brwylion;
Tostach gweld eneidiau bagad,
Dihar. 29.18.
Mewn▪ tan eisie help offeiriad
Tost gweld mil yn mynd iw boddi.
Eisieu i ryw un eu cynghori;
Tostach gweled mil ysowaeth,
Aiff i uffern eisie athrawiaeth,
y gura
Y ceiliog gwyn y [...]yst ei adanedd,
I ddeffro'i hun cyn deffro'i wragedd:
Felly dyle'r holl offeiriaid.
Ddeffro'i hun cŷn deffro'i desaid.
Fel y dyge wialen Aaron.
Ddail a blodau, a chnau ffrwythlon,
Pan oedd eraill o bob graddau,
Heb ddwyn ffrwyth, na dail, na blôdau
Num. 17.8.
Felly dyle'r gweinidogion
Mewn rhinweddau fod yn ffrwythlon
Pan fo eraill o bob galwd,
Yn ddi rinwedd eu hymddigiad
Beth wnair ar dall i arwain deilliaid
Beth wnair a'r mud i gyfarth bleiddiaid
Mat. 15.14.
Beth wnair a'r hesp heb laeth mewn brone
I fagu plant, i borthi eneidie
Ni wnair dim a chi cysgadur,
Ni wnair dim a gweision segur,
Ni wnair dim a halen diflas;
Esa 56.10,
Ni wnair dim a ffeiriad llanas
Fe wnaid stalwyn o hen farch tywyll
Mat. 5.13.
Fe wnair tan o hen dŷ candryll,
Fe wnair peth a chrochon tyllog;
Ni wnair dim a ffeiriad diog.
Pwy ddyd ddall i arwain deilliaid?
Pwy ddyd mud i gyfarth bleiddiaid
Pwy ddyd ynfyd i roi cyngor?
Sef, stern yr egl [...] [...]a rh [...]
Pwy ddyd ddwl i rannu tryssor
Dodi'r dall ar ben disgwylfa,
Dodi'r dwl i ddyscu tyrfa,
Dodi'r diddysc wrth y * llyw,
Yw dodiad dyn, nid llodiad Duw.
Os Doctor wyt, o dysc ni'r deillion
Os bugail da ymgledda'r gweinion.
Ezec, 34.2. 1 Cor. 4.1.
Os
Goruch­wyllwr. Luc. 12 42 Esa. 56.10 Mat. 4 19. Ezec. 33.7. Luc 13.89.
steward doeth cyfrana'n gywir,
Os gwas i Grist, gwna arch dy feister,
Os ci cywir, cyfarth [...]adron,
Os pyscodwr dala ddynion
Os gwiliedydd, gwilia 'r gelyn,
A rho 'mbryd y rhybydd iddynt
Gwinllanwr wyt'o gweithia'n ffyddlon
Nad ith wynwydd fynd yn wylltion;
Trin eu gwraidd, a'u brig, a'i bone
Nad eu torri eisieu ffrwythe,
chynydda.
Lle ni hauir had, ni fedir,
Sef yn ysprydol, Joan 21.15 16, 17.
Lle ni chanir corn ni chyffrir,
Lle ni phorthir praidd ni phrifia.
Lle ni ddyscir plwyf ni ‖ lwydda.
Peder, Peder, od oes cartad
Gennyd at dy Ghrist a'th Geidwad.
Portha, Portha, Portha, ei ddefaid,
M [...]g ei wyn a tharfa'r bleiddiaid,
Nad ei ddefaid fynd ar ddidro.
Nad ir blaidd, na'r llaw eu sclîffio,
Ezec. 34, 4,
Nad ir cwal a'r pwd eu mallu,
Eisieu trin, a'u troi, au maethu,
Oh! discle riwch yn eich gradde,
Datc. 1, 20,
Megis ser mewn noswaith ole:
Ac na fyddwch fel y lleuad,
Sydd a brychau yn ei llygad
Gwnewch eich clywed yn yr Eglwys
Fel Angelion ym-Mharadwys
Gwnewch eich gweled yn y dyrfa,
Fel y sêr pan bont ddiscleiria
Byddwch farw yn y pulpit
Yn pregethu'r fengyl hyfryd
[...]ai'n 'r eglwys ar eich daulin
Yn gweddio dros y Gwerin
Bydded pob offeiriad glan,
Nehem. 9.19.
Fel piler niwl, a'r piler tan
Yn cyfrwyddo'r ffordd ir bobol,
Fynd o'r Aipht i Ganaan nefol,
A pha
Cydwy­bod
gonsciens y gall ffeiriad,
Gippio'r cnyf heb borthi'r ddafad,
Bwytta'r offrwm mor ddiwybod,
Ezec. 34.2, 3
Ac heb weiddi'n erbyn pechod.
O! ba lef ac achwyn
Cwyn­sannus,
irad,
Y fydd dydd y farn gan fagad,
Am ir ffeîriaid eu newynu,
Au handwyo eifie eu dyscu

Am Ragluniaeth Duw.

DUw ni attal un daioni.
Oddiwrth neb a fo'n ei ofni;
Fe ry ras ac urddas iddynt,
Psal. 84.11.
Ni bydd ffael na diffig arnynt
Bwrw d' ofal ar yr Arglwydd,
Ac fe'th bortha mewn helaethrwyddi
Ni ad Duw ir cyfiawn gwympo,
Na dwyn diffyg byth tra gantho
Psal. 81.10.
Mae Duw'n dwedyd wrthyd (craff [...])
Lleda 'th safan minneu llanwa
Cymmer boen mewn galwad union▪
Mi fendithia'th holl orchwylion,
Eph. 4.28.
Psal. 34.10.
Er bod eisieu ar y llewod
A'r rhai cryfa o'r bwystfilod:
Ni bydd eisieu dim daioni.
Ar a drysta i Dduw'r Tosturi,
Mae Duw'n porthi'r bobol aflan,
Mae'n rhoi maeth ir Twrc a'r Paga [...];
Mae'n rhoi ymborth iw elynion,
Mat. 5.45.
Oni phortha Duw ei weision?
[...]wachel chwennych gormod golud,
[...]mfodlona a'r maint sydd gennŷd;
[...]yth ni ffaela, byth ni edy.
Heb. 13.5
[...]uw o'r dyn o fo'n ei wsnaethu,
Ym mhob diffyg cais gan Dduw,
[...]hoddwr pob daioni yw;
Heb 1, 16.
Gwachel drysto i'th rwyd dy hun,
Rhag colli 'r pyscod, wrth dy glun,
Llawer dyn sy'n dlawd yn byw,
Eisie ceisio cymmorth Duw;
A llawer dyn sy'n mynd i fegian,
Am drysto i rym a'i rwyd ei hunan.
Lle mae Duw mor hael ir gwerin,
Pam y marw cant rhag newyn?
Am roi coel ar rym eu breichieu,
Heb geisio cymmorth Duw na'i oreu.
Ni chwsc ni hun o'n Ceidwad grassol,
[...]'n gofalu am ei bobol;
[...]a fo'm bawb yn cyscu'n esmwyth,
Ps. 121, 4.
Mae'n gofalu am ei dylwyth.
A ddichon gwraig anghofio ei phlentyn
Esa. 49.15.
[...] sugno ei bronne yn ei rwymyn?
[...]as anghofie hon ei meibion?
[...]yth ni anhofia Duw mo'i weision,
Cyn bo eisieu arian arnad,
[...] gwasnaethu Dduw yn ddifrad,
Mat, 17.27.
[...] bair Duw ir pyscod garrio
[...]ian itti i'th ddi rwydo.
Er na bo dy stôr ond cwtta,
[...]l blawd y weddw o Sarepta
[...] gwasnaethu Dduw yn ffyddlon.
1 Bren. 17.16
[...] wna Duw fod hynny 'n ddigon.
Gwachel roi dy bwys na'th hyder,
[...]r dy
Medr.
scil dy hun, a'th gryfder;
[...]nd ar Dduw dy helpwr unig
[...] ceisi fod yn dyn di ddiffig,
Mae Duw'n porthi'r Adar gwylltion:
Mae'n dilladu'r lili gwynion,
Mae'n rhoi maeth i bob peth bywiol,
Oni phortha ei blant a'i bobol?
Ni hau'r fran, ni feder fedi,
Nid oes na chell, na scubor iddi:
Etto er hyn mae Duw gorucha,
Mat. 6.26.30.
Yn porthi'r Brain bob haf. bob gaiai
Ni chrib, ni nydd, na'r Rhôs, na'r lili
Fi feder un na gwau, na 'stofi;
Etto'r Arglwydd a'u dillada,
Psal. 145.15.
Mewn harddach gwisc na'r Breningwyc [...]
Llygaid pob creadur bywiol,
Sŷdd yn disgwyl ar Dduw nefol,
Am roi maeth ac ymborth iddynt,
Ynte'n hael yn rhannu rhyngthynt,
Mae'n agoryd ei law rassol,
Ac yn porthi pob peth bywiol,
O'i ras, a'i rodd. mewn pryd a messur,
Heb adael gwall ar un creadur,
Mae'n rhoi bywyd i gnawon llewod
Mae'n rhoi maeth i'r gwyllt fwyst filod
Mae'n porthi Plant y Gigfran;
Psal. 147.9.
Oni phortha ei blant ei hunan?
Ni chwymp un o wallt dy ben▪
Ni syrth aderyn tô ar bren;
Ni ddigwydd dim, heb brydd ragweliad
At. 10.29
Duw'n Creawdwr mawr' a'n Ceidwad,
Duw rodd itti gorph, a bywyd,
Anadl, einioes, cryfder, iechyd,
Deall, Rheswm, cof, a chyfri,
Oni ddyry fara itti?
Fe werthir dau o adar y to;
Am ffyrlling fechan lawer tro;
Er gwaeled ynt, mae Duw'n eu porthi
Di dalu fwy na deg o'r rheini,
Er bod Duw'n gofalu'n gaeth,
Am bob creadur ac a wnaeth;
Mae'n gofalu am ddyn a'i enaid,
Fwy nag am yr holl greaduriaid,
Rho dy ofal ar dy Dduw,
Mae'n gafalu drossod clyw,
1 Pet. 5.7.
Os gwasnaethu Grist yn gywir,
Mae dy gyflog gantho'n siccir.

Am y Pur dan

Y Mae'r Papistiaid yn dal fod heb law nef ac'uffern Drydydd ie, lle mae eneidie rhai [...]bl, trwy ddioddef cospedigaeth tân. yn rhoddi iawn i Dduw am ryw bechodau nas maddeuwyd iddynt yn y Byd hwn; Ac yn cael trwy hynny lan [...]d oddiwrthynt: Ac y dichon ffrins y marw [...]rwy weddiau ac Offerenau, ac Arian a roddir [...] pab, gael gollyngdod ir cyfryw eneidiau allan [...]r purdan, yn erbyn yr athrawlaeth gelwyddog [...]hreulig hon mae'r Awdwr fel hyn yn d [...]dyd.

NId oes dim all olchi Enaid,
Dyn ond gwaed yr Oen bendigaid
Rhwn fy'n golchi
Ymmalth Datc. 1.5. Heb. 9.14. Mat. 7, 13.
ffwrdd bob pechod
Ac yn puro 'r holl gydwybod,
Nid oes ffordd ond dwy ir holl fyd
[...]fordd i ddistryw ffordd i fy [...]yd,
[...] ddanghossodd Christ yn un man,
Drydydd ffordd yn mynd i'r purdan:
Nid oes hefyd ddim ond dau le,
[...] blant dynion gwedi ange,
Nef ac uffern heb le trydydd,
Nid yw purdan ddim ond celwydd,
Nid oes ond dau
Fath
sort o ddynion,
[...]n yw'r anwir llall yw'r ffyddlon;
[...] rhai anwir a ddifethir,
[...] [...]hai ffyddlon oll a gedwir.
Tan a ddichon boeni dynion,
Tân all losgi daiarolion;
Act. 4.12. Mat. 1.21.
Ni all Tân na'r holl greaduriaid,
Ond gwaed Jesu buro'r Enaid,
Tân all buro'r aur ar sorod,
Tân all losci'r ûs a'r callod,
Ni all Tân na dim er hynny,
Buro'r enaid ond gwaed Jesu.
Y dyn nad elo i Baradwys.
Lle mae Jesu Grist an prynwys,
Nid oes lyn nad el dan drottian,
I bwll uffern lle mae Sâtan.
Y dyn nad elo megis Lazar,
I glyd fonwes Abram hawddgar,
Nid oes lyn nad el i'r ffwrnes,
Lle mae'r Diawl yn poeni Difes.
Nid yw Purdan yn y nefoedd,
Yn y ddaiar yn y moroedd,
Nag yn uffern ble gan hynny
Y mae Purdan yn cartrefu?
Rhai a ddwedant fod y pur-dan,
Yn y mor sy'n fawr ei dwrddan.
Mynydd mawr o ba un y mae Tan yn dra mynych yn dyfod allan
Rhai'n yn y ddaiar, rhai yn Etna,
Ni'wn p'un o'r rhain a greda.
Rhai a ddwedant mae Angelion.
Rhai mae hên gythreuliaid duon,
Sy'n
poeni
tormentio'r sawl sy'm-mhurdan;
Rhai ni wyddant beth y ddwedan,
Rhai sy'n tybied mae tân ffyrnig.
Rhai mae tân a dwr berwedig.
Sy'n poenydio'r sawl sy'm mhurdan
Nid oes Ar eu swm gelwydd
Does mawr gydfod ar ei * llafan.
Rhai sy'n tybied mae pechode,
Crynion bychain hawdd eu madde.
Y sy'n cospi yn y purdan,
Rhai mae beie marwol anian,
Rhai ‖ dormentir yn y purdan,
Poenir,
Hyd ddydd barn, os gwir y ddwedan,
Rhai dros filoedd o flynydde,
Rhai nes offrwm dros eu eneidie,
Fe all ffeiriad ond cael offrwm,
Fe all Escob os rhy bardwn,
Fe all Pab os gwir ŷ ddwedan,
Dynny fynno maes o'r purdan,
Fe gaiff y Carl am
Clown Cyfoethog
am arian y roddo, ffrins
ddryll o arian,
Ei ryddhau o boene purdan;
Ond y tlawd se'b geiniog gantho
Fe gaiff ynddi hir boenydio,
Od yw purdan yn ein puro,
Oddiwrth bechod gwedi'n nyrddo.
I ba bwrpas yr offrymodd,
Christ ei werthfawr waed a'n prynod?
Os y purdan sy'n ein golchi,
O'n pechodau oll a'n brynti,
Pam a dywaid y Scrythyrau,
Mae gwaed Christ sy'n golchi'n beiau▪
Ofer oedd i fab Duw cyfion.
Golli gwerthfawr waed ei galon,
I'n glanhau oddiwrth ein brynti
Os y purdan sy'n ein golchi
O cai waed fy Nghrist i'm golchi,
Om holl bechod ac a'm holl brynti,
Cloed y Pab fi ynghanol purdan.
Ni bydd arnai byth moi ofan.
Danedd gwaedlyd y pabyddion,
Sydd yn gollwng gwaed Christnogion
Sydd yn dangos nad gwir ddefaid,
Christ yw'r rhain, ond rheibus fleiddiaid,

Am barhad mewn Stad o Ras

HOll-allug ydyw Duw,
Da a dian wadal yw,
Fe ddwg i ben yr hyn
pwrpasodd
arfaethodd,
Ni chyll ef un o'r rhai ddewisodd,
Nid yw bosib golli un,
O'r rhai ddewisodd Duw ei hun;
Ni all y byd na'r cnawd nar Cythrel,
Dynny un o ddwylo'r Bugel.
Jo 10 28 1 Thes. 5.24
Duw sydd ffyddlon 'rhwn a'n golchodd
Fe gyflawna rhyn arfaethodd
Fe gerdw yn lan y corph a'r yspryd,
Nes del Christ iw dwyn ir bywyd,
Fe scrifennodd Duw cyn cynfyd
Enwau ei Sainct, yn Rhol y bywyd;
Dat 20.12.
Ni all holl gyfrwysdra Satan;
Grafu un ou henwau allan.
Y rhai ddetholodd Duw cyn byd
Rhuf. 8.30.
Rheini eilw Duw 'n ei bryd;
Rheini oll a wir sancteiddia,
2 Tim. 2 19
Ac yn y nef fe'i gogonedda.
Duw medd Paul a ossododd,
Siccr sail ir rhai ddewisodd,
Luc. 12.32. Mat 25 34 Jer. 32, 40.
Fe wyr pwy yw'r rhai ddetholodd
Ni chyll ef un o'r rhai ddewlssodd
O braidd bychan paid ac ofni,
Yr hael Dduw rodd deyrnas itti,
Er mwyn Christ er cyn dechreuad,
Ni all neb ei dwyn oddiarnad.
Duw addawodd roddi ei ofan
Ynghalon pawb o'i ddewis Gorlan;
Ac na chant hwy lwyr ymado, * Gull
Na throi byth yn * gwyt oddiwrtho.
[Page 443]Mae'n Tâd nefol wedi selu
Rhai ddetholodd e ynghrist Jesu.
A rhoi 'r yspryd glan yn
Cor 21.2.
ernest
I bob un i cadw'n onest,
Wysti. Jo 10, 28.
Mae Mab Duw yn rhoi danwarant
Dragywŷddol fywyd ir rhai gredant,
Byth ni chollir un o honynt,
Y mae Christ a'i yspryd ganthynt.
Mae Duw'n cadw trwy fawr allu,
Ei blant ei hun rhag ffiedd bechu,
Jo 5.12. 1 Pet. 1.5 Jud 24 Phil, 1, 6.
A thrwy ffydd yn rhoi yn helaeth
Nef i'r rhain ac Jechydwriaeth,
Duw a geidw ei blant rhag cwympo.
Duw au cynal rhag tramgwyddo:
Duw au ceidw yn ddifeius,
Hyd ddydd barn yn dia gofalus▪
Nid cadwedig ydyw Jaco.
Mal 3.6.
Ac na newid byth o hono:
Ond cadwedig er hyn yw,
Am na newid byth ei Dduw,
Nid yw siccrwydd
Jechydwr­iaeth Heb. 10.15 hyd y 24. Dat 26, Psal. 51.
Jechyd dyn,
Yn sefyll ar ei law ei hun,
Ond ar bromais Duw ai ammod,
Yn ei fab am faddeu pechod,
Er ei Beder wadu ei feistir
Er i Ddafydd gwympo'n fudur,
Yspryd Duw a wnaeth ir ddau-ddyn,
Edifarhau a gwellhau gwedyn.
Er bod meibion Duw yn cwympo,
Ac yn pechu wrth ei temptio,
Psal. 37.24.
Ni chwymp un or rhain mor ddifaith,
Ac na allont godi eilwaith.
Er i dafod Peder wadu.
Christ rhag ofan ei garcharu.
Roedd ei galon etto 'n ficcir,
Yn gwir lynu wrth ei feistir,
Er ir saint dramgwyddo weithie▪
Ac anghofio Duw ar brydie;
Ni all un er hyn dramgwyddo.
Fel na allant ail
Codi drachefn.
recyfrio.
O pecha un o'r detholedig.
Mae yspryd Duw ei gyffro'n
Daer. 2 Sam. 24.10.
darrig,
I'difarhau trwy dduwiol dristwch;
Nes gwella'r bai ni chaiff lonyddwch,
Os dewisodd Duw di un-waith,
Byth ni wrthyd Duw di'r eilchwaith;
Os ni newid Duw mo'i gariad:
Jac. 1.17. Jo. 13, 1.
A garo dro, fei car yn wastad.

Fe ddylei Gwraig fagu ei phlentyn (sef, oni fydd i gwann a chlafycca (ai llaeth ei hunan.

MAg dy blant a llaeth dy fronne,
Na fydd waeth na'r ddraig ir dreigie
Pob anifel, a phob bwystfil.
Berchen llaeth a fag ei eppil.
Fe wnaeth Dduw dy fronne i fagu,
Fel y gwnaeth e'r groth i blannu;
Nid gwell y fron na rotho sugyn,
Hos. 9.14.
Na chroth yr hefp na ddygodd blentyn▪
Rhodd Duw laeth i'th fron trwy fendith
Na chadw un i droi yn felldith;
Sara yn ddeg a phedwar ugien,
Fagodd Isaac yn dra llawen;
Gen. 21.7.
O paratôdd Duw laeth i'th fronnel
I fagu'th blant a liaeth eu mamme,
Tost ir ddwyn oddiar dy blentyn.
Un peth y rodd natturieth iddyn.

Cyngor i wraig i beidio tristhau gormod ar ol marwolaeth plentyn.

MArtha, Martha paid ac wylo.
Cymmer gyssur gad dy ochneidio,
Am dy blentyn bach y gymrwys,
Duw mor gynnar i Baradwys,
F' anwyl chwaer na thorr dy galon,
Yn wylo'n ol dy blentyn tirion,
Aeth gan Dduw, o boen a Blinder,
Ir nef at Crist, i gael esmwythder,
Cennad Duw a ddaeth iw geisio,
O blith y drwg lle 'roedd e'n tarrio
I fynd eg ef i'r nefoedd ole,
At y Saint i ganu hymne
Yr Angylion gynt a gyrchwys
I goel Abram enaid Lazrus.
Luc. 16.22.
Aeth ir nefoedd yn eu breichiau
Ag enaid bach dy blentyn dithau
Duw a'i cippiodd âr frys atto,
Cyn i
Sef cyn i bechod gweithredol ei nyrddo.
bechod caeth ei nyrddo,
Na chyfeillach ddrwg ei lygru,
Na'r maleisiwr du ei ddrygu,
Nawr ni ddichon un gwrthnebwr
Nac ofer ddyn, na maleisiwr,
Wneuthur speit na niwed iddo:
Gyda Christ y mae e'n tarrio,
Mae e'n gorphwys mewn esmwythder
Oddiwrth bob rhyw boen a blinder,
Mae ef gyda'r oen a'i gwmpni,
Yn clodfori Tad goleuni.
Cymmer gyssur cwyn dy galon
Goruwch pob rhyw ddaiarolion
Gwyl y man lle mae dy blentyn
Gyda Christ, ni wyli ddefnyn
[Page 446]Gwŷl lle mae yr hwn a'i prynodd,
Gwedi dderbyn atto i'r nefoedd
I blith miloedd o wyryfon.
Dat. 14.4.
Sydd a'u cyrph au llestri'n loywon
Gwyl y wisc o Syndon purwyn,
Y rodd Christ am dan dy blentyn
Sy'n discleirio fel yr Haul-wen,
Yn y nef ynghylch dy fachgen.
Datc. 7.13.
Gwyl y goron o aur melyn,
Y ddododd Christ ar ben dy blentyn;
Gwyl orfoledd plant goleu [...]i;
Wrth ei urddo a'i goroni.
2 Tim. 4 8.
Gwyl y
Llu o gantorion
Cor lle mae e'n gorphwys
Gyda angellon ym Mharadwys;
Gwyl y gadair lle mae'n eiste
Gyda'r Saint i ganu psalme
Gwyl y delyn Auraidd hefyd
Datc. 14.2.
Sy'n ei law yn canu'n hyfryd
Ir Tad nefawl rhwn a'i crewodd,
A'r oen sanctaidd rhwn a'i prynodd
Gwrando'r caniad mwyn Hosanna.
Esay 6. Datc. 19.4.
Saint, Saint, Saint, ac Haleluja
Mae e'n ganu i Dduw'r lluoedd,
Yn y man yr aeth i'r nefoedd,
Gwyl y ffrwythe per a'r Manna,
Mae dy blentyn yn ei fwytta,
Gyda'r saint ar ford yr Oen,
Datc. 2.17.
Yn ddibringder, yn ddiboen;
Gwyl y ffynnon wen fendiged
A'r Dwr bywiol lle mae'n yfed;
O'r' hwn gwedi brofi unwaith,
Ni ddaw byth ddim syched eilchwaith
Gwyll y dre lle mae e'n trigo,
Ag aur melyn gwedi phasio,
A'i holl
Muriau Datc. 21,
welydd o gylch gwmpas,
O fain gwerthfawr, Beril, Topas.
[Page 447]Gwyl pwy ydyw ei gyfeillion
Sef y saint,
Mat. 6.20.
a'r gwir angelion
Ar ba rai ni ddichon drygddyn
Gwnaed a allo ddwad attyn.
Gwyl pa waith y mae e'n wneuthur,
Cadw'r Sabbath fawr yn ddifyr,
Datc. 4.8, 9, 10.
Gyda'r Saint, heb ddim iw arfer,
Ond clodfori Duw bob amser
Gwyl nad oes na phoen,
Datc. 21.4.
na thristwch
Nychdod newyn, na thywyllwch
Ond dedwyddwch byth tra ganto
Lle mae'th fab y nawr yn trigo.
Pam gan hynny fy chawer dirion,
Y galaru mor hiraethlon.
Am dy blentyn y gyrhaeddodd
Duw, o drallod atto i'r nefoedd
Pam y hwyly weid dy Brynwr,
Yn ei dynnu o gyfyngdwr
I esmwythder a dedwyddwch
O blith dynion ar eu * garrwch
Gwg
Pam y hwyly weld Duw cyfion
Yn ei alw i geis [...]o coron▪
A gogoniant mawr di-derfyn
M [...] [...]0.14.
Er nad oedd ef etto ond plentyn
Duw sy'n tynn [...] atto'n gynnar,
Ei rai anwyl,
Esay [...] 1. Hoff,
cu [...] hygar.
Rhag cael gweled di [...] o'r drygfyd
Y ddaw'n immwngc ar ynfyd
Y mae Duw yn tynnu'n fuan
[...]symmwth.
Ei rai anwyl atto ei hunan
Rhag ir anwir ei
Gorth­rymmu
gormeilo,
A'r drygionus ei gwradwyddo
Lladdwyd Abel er gwirioned
Gwerthwyd Joseph er di ddrycced
Taflwyd Daniel at y llewod,
Trwblwyd Dafydd a mawr drallod
Meibion Job i gyd a lethwyd,
Holl blant Rachel hwythau laddwyd,
Crôgwyd Absalom wrth ei
Cudyn
locsen
Ni wyr Dyn beth yw dynghedfen
Un a gwymp ar flaen y cledde,
Llall y grogir am ei feie,
Arall a fawdd pan fo meddw;
Wylo ddylit weld diwedd hwnnw;
Tost gweld Lladd mab gwraig a bilwg
Tost gweld torri ei ben a'i wddwg
Neu lwyr nychu yn y carchar;
Nid tost marw o angeu hygar
Pan i'r wyla gwraig gan hynny
Weld yr Arglwydd gwyn yn tynny
Ei blant anwyl atto'n gynnar,
Trwy ryw glefyd hygar
O rhown ddioch ir uchel-dad,
Am y cyfryw lan ymwellad
1 Thes 4.13.
Ac na wylwn dros ben messur
Ond sydd raid i gynnwys nattur
Ond rhown ddiolch i'n Tâd sanctaidd
Pan y tynno mor garuaidd,
Ei rai anwyl o'u mawr flinder.
Atto ei hun, i gael esmwythder
Duw ro cynffwrdd a diddanwch
It fy chawer i laesu 'th dristwch
Duw'th gyssuro am dy blentyn;
Duw ro i minne decced Terfyn

Rhybydd i ochelyd gorthrymmuneb, ac i roddi yn ol yr hyn a dreisiwyd oddiar neb

ENnill canpunt, colli'r
Coel parch
credyd
Ennill bawach, colli bywŷd
Ennill cyfoeth, colli Christ
Ennill trwm,
Mat. [...]6.26
ond colled trist,
[Page 449] Gwell ceiniog fach trwy ffordd ddi gamwedd
Na'r chweigien Aur trwy 'drais a ffalstedd
Y naill a lwydda'r ffordd y cerddech.
A'r llall a fwytty faint a feddech
Gwell
un maes
Cae o dir trwy union bryniad,
Na Gwlad o dir trwy dreifio bagad:
Trais hel d' enaid i boenydio,
A'th wraig yn dlawd, a'th blant ar ddidro,
Cyttuna ar frys a'r rhai orthrymmaist,
Luc. 19.8.
Rho'n ol fel Zache faint ŷ dreisiaist
Na ddos medd Christ i'r carchar cyfyng
Mat. 5.25.
Rhaid talu'r trais hyd at y ffyrlling,
1 Thes. 4.6.
Na wna gam ag un rhyw ddyn,
Gwell godde deg na gwneuthur un:
Os cam a wnai rhaid atteb drosto;
Ond godde gam, cae iawn am dano
Beth wnai di ar geiniog drist y dreisech,
Fe fwytty hon y maent y seddech
Esay. 61.8.
Ni fyn Duw, na'i dy mo honi,
Yn ffroene Christ mae'r fath yn drewi
Os prynu tir hi bair ei werthu,
Os adail Tai hi try yn lludy.
Os rhoi hi i'th blant hi gyrr ac anffod,
Amos. 5.11
Os rhoi ir tlawd mae Duw'n ei gwrthod
Rho'r geiniog drais iw hunion berchen,
Cyn tynnoi i'th dŷ ryw farn aflawen:
Ni lwydda hon ymhlith dy weiniaid,
Mwy na'r arch ymmysc estroniaid

Gwahoddedigaethi bechaduriaid i ddyfod i dder­byn y pethau da ac y mae Duw yn eu gynnig yn yr Efengyl trwy y ddammeg o'r Swpper fawr

DEwch fonddigion, dewch gyffredin
Dewch i Swpper mab y brenin,
Mat. 22.4. Luc. 14.16.
Dewch, a nedwch dim i'ch rhwystro;
Dewch mae Duw'n eich gwawdd chwi ato
[Page 450]Mae'n y Swpper fir o'r gore,
Bwyd, i
Llawenychu
lonni eich eneidie,
Mêl, a Manna, Bara'r bywyd,
Gwin gorfoledd. doniau'r yspryd.
Esay. 55.2, 3.
Chwi gewch ynddi un mab Duw,
Yr oen yn farw, ac yn fyw,
Gwedi-ladd a chwedi
Gwedi dioddef, poethder digofaint Duw.
rostio,
A chwedi codi o'r bêdd ich
Llawen­hau
sirio.
Cewch ei werthfawr waed i'ch golchi,
Cewch ei sanctaidd
Yr ufydd­dod a gy­flawnodd efe yn ei gnawd.
gnawd i'ch porthi,
Cewch ei wlan yn drwssiad i chwi,
A'i fywyd gwyn ich adgyfodi,
Chwi gewch heddwch Duw ar Drindod
Chwi gewch bardwn am bôb pechod,
Chwi gewch Yspryd y diddanwch,
Chwi gewch Grist a phôb dedwyddwch
Dewch yn llawen, dewch yn siriol,
Dewch heb aros ir wle [...]d nefol.
Dewch yn
Gyfan gwbl heb ragrith.
gyfido i Brodi
Christ, sy'n cynnig ei hun inni.
Naded nêb i ddim ei
Cadw yn ol.
stayo.
Na'r byd, na'r cnawd, na'r fall ei rwystro
Na'r fferem fawr, na'r pum Jau ychen,
Na'r wraig newydd. na dim amgen.
Luc 14 18, 19.
Ond ewch chwi 'n hy, yn hoyw.
I'r briodas wrth eich galw;
Gwr y ty sy'n tyngu'n
oddifrif.
sceler,
Luc. 14.24
Na chewch
Brofi.
dastio byth o'i swpper,
Dewch gan hynny iddi'n addas,
Yng wisc sanctaidd y briodas:
Na ddewch iddi byth heb honno.
Rhag cael rhwym ich traed a'ch dwylo,
Gwynn a choch yw'r wisc o ras.
Mat 24 13
Gwynn tu fewn, a choch tu
allan.
fas;
Gwynn yn gofyn buchedd sanctaidd.
Coch yn dangos ffydd gristnogaidd.
[Page 451]Trwssied pob rhai eu heneidie,
Mewn hardd wiscoedd o rinwedde
A fo gweddus a chyfaddas.
I
Lawenych [...]
sirioli'r gwir Fessias
Os dewch ir wledd i'ch priodi,
Mewn difeirwch, ffydd a gweddi,
Chwi gewch gan Ghrist fod yn wastod
I chwi'n geidwad ac yn Briod.
Hos. 2.19▪

Psalm 100

DEwch holl Dylwythe'r ddaiar.
Dewch bawb a llawen lafar
Cenwch glod a chalon rwydd:
I Dduw ein Harglwydd hawddgar
Dewch fawr a bach drachefen
Dewch bawb sy'n troedo'r ddairen,
Dewch addolwch Dduw yn
LLawen
llon
Bob rhai a chalon lawen
Gwybyddwch hyn yn siccir.
Mae'r Arglwydd grassol, geirwir,
Y sydd Frenin nef a llawr.
Ac
Pennaeth
Emprwr mawr ŷr holl dir
Gwybyddwch nad chwi'ch hunain.
Ach gwnaeth o'r pridd mor gywrain
Ei waeth ef ych o'r llwch a'r llaid.
Ei bla [...]t a'i ddefaid bychain
O dewch iw byrth gan hynny,
Dan ddiolch a than [...]
Fach a mawr ar fore a hwyr,
Yn
O [...]difrif
brudd iw lwyr foliannu
O Dewch yw Demel sanctaidd.
Yn drefnus, ac yn gruaidd
I glodfori enw Duw,
Cans hyfryd yw a gweddaidd:
Daionus a thosturiol,
Yw'r Arglwydd wrth ei bobol
O oes i oes y peri Air.
Dros fyth fe gair yn rassol,

Y Bummed ran O waith Ficcar Llanym­ddyfri ynghylch Caersalem newydd.

Y Brutaniaid o Ddeheubarth.
Ac o wynedd fwyn o bob parth;
Clywch fyfyrdod gwr o'r Eglwys,
Yn eich arwain i Beradwys
Mae Teyrnas hardd uwchlaw'r ffurfafen
Yn llawn o bob dedwyddwch llawen
Wedi i Dduw o'i ras a'i fwynder,
Ei darparu ar ein meder.
Mae mab Duw yn helpwr tirion,
Wedi ei phrynu a gwaed ei galon,
I rhoi i ni ei frodur truain,
Onis cyll ein gwall ein hunain,
Y mae llawer yn ei cholli,
Eisiau gwybod dim oddiwrthi,
Ac fel Ffyliaid dwl di hyder,
Yn ei gwerthu▪ am diffrwythder,
Un ai gwerthe am gael llanw,
Y Bledren front yn llawn o gwrw,
Arall ai gwerth megis filen,
Am gael gorwedd, gyda'r butten,
Adda werthe'r nef am afal,
Cain am ddyrnod ddig di attal,
Esau am gawl, a Hophni am gigach,
A llawer dyn am betheu salwach.
Un ai cyll hi eisieu gwrando,
Y fengyl sanctaidd a'i phracteisio,
Arall eisie arfer gweddi'
O ddim dawrydd yn ei cholli.
Ni wyr un o 'rhain y sywaeth
Eisiau crefydd a gwybodaeth;
Faint yw'r deyrnas ynt hwy'n colli
Heb ymorol dim am deni,
Mi ddangosaf iwch yn eglur,
Beth o hanes hon or Scrythur,
I edrych a fyn Duw o'i wiwras,
I chwy bawb chwenychu'r deyrnas
Mae hi mor hardd mor wych mor uchel
Ac na ddichon dyn nag angen.
Ddatcan degwm y rhialtwch,
Na'i gogoniant, na'i dedwyddwch,
Nac hi gan mil mwy na'r mor, na'r ddairen
Mae hi nôs a dydd mor ole a'r haulwen;
Mae hi aia a haf heb rew, heb eira.
Heb wynt, heb law, ond hin o'r decca▪
Mae'n blodeuo'n braf o [...]b amser,
Mae'n ddilygwr, mae yn ddibryder,
Mae'n anfarwol, mae'n ddisigyl,
Mae'n dragwyddol medd y fengyl,
Ni [...] newyn ni bydd syched,
Ni by [...] tristwch poen na lludded,
Ni by [...]d gwendid na gofidi,
Byth ar un sy'n aros ynddi,
Nid yw'n nefoedd uwch ein penne.
Lle mae'r sêr a'r holl blaenede;
Er hawddgared yw'n disgleirio,
Ond fel llawr or deyrnas honno▪
Nid oes dim yn eisiau ŷnddi
Ac all calon dyn ei hoffi;
Nid oes ynddi ddim yn tyfu,
Ac all colon dyn i wrthnebu,
Y Deyrnas hon y wnaeth Jehofa,
A'i fys ei hun yn Llys yr wcha;
Iw haddoli gan Angelion,
A'i Glodfori gan Gristnogion.
Ynghanol hyn o deyr [...] dwymglyd
Y mae Dinas hardd wych hyfryd.
Yr hon medd Jfan y gwledydd,
A elwir Tre Gaersalem newydd.
[Page 454]Gwelydd hon i gyd o gwmpas.
Sydd wedi eu gweithio i gyda Thopas.
Beril, Jaspis, Amethystys
Saphyr hardd, a gloyw Sardys;
Pedwar ochrog fel y dis
Ywr deyrnas hardd-wych hon fewis:
Ei lled, a'i hyd, a'i hwchder hirdded,
Sydd gogyd, goguwch a gogyfled.
Deuddeg porth o berls sydd arni,
I ollwng pobl Dduw ddwad iddi;
A deuddeg angel sydd yn gwilio,
Rhag i ddim aflan ddwad yno
Mae ei heolydd wedi eu pafio,
Ag aur melyn yn disgleirio;
Fel y gwydr hardd wych rhial,
Yn tywynu fel y cristial.
Afon loyw fel yr arian,
Yn tarddu o orsedd Duw ei hunan
Sy'n dyfrhau pob heol ynddi,
Dyfr sy well nag acwafitti
Pren y bywyd sy'mhob heol,
Yn tyfu oddeuty'r afon fywiol;
Yn ddwyn deuddeg rhyw o Ffrwythe,
I ddiwallu'r holl Eneidie.
Ni ddaw newyn, ni ddaw clefyd,
I'r rhai fwytto pren y bywyd,
Ni ddaw syched na thrallodion,
Fyth i neb y yfo o'r afon.
Nid oes neb yn trigo ynddi.
Ond angylion y goleuni,
Ar rhai duwiol Etholedig,
Y wir brynodd Christ yn unig.
Ni chaiff mwrddrwr na gwr meddw,
Na'r neb y sy'n addoli delw,
Na Phutteinwr na dŷn aflan,
Drigo yn Ninas Duw ei hunan,
Nid oes ŷnddi ddim tywyllwch.
Nag anwiredd na thrafferthwch,
Ond goleuni yn wastadol,
Nos a Dydd yn dragywyddol,
Nid rhaid i'r dre hon un amser,
Oleu'r haul na'r lloer na'r lanter,
Crist yr oen a'r sanctaidd Drindod,
Sy'n oleuni yn ddi'n wastod,
Nid oes un dyn ynddi'n trigo,
Na bo ei wyneb yn disgleirio,
Fel yr heul wen yn yr awyr,
Ar ddiwrnod hafedd eglur▪
Nid oes ynddi bris am drysawr,
Aur a pherls a meini gwerthfawr,
Aur sy'n pafio'r holl heolydd,
Meini gwer­thfawr.
Pretious Stones sy'n bildio'r gwelydd,
Ynghalon y Dre reial yma,
Y mae gorsedd y gorucha,
Wedi gosod ar ysgwydde,
Hardd Angelion eglur Throne,
Canopi fel bwa'r Drindod,
Hardd wych eglur o liw'r Emrod.
Sydd uwch ben yr orsedd hyfryd;
Lle mae'r Tâd ar Mab a'r Yspryd.
Saith o lamppau gwynion gole;
Yn orwyddoccau yrprydol ddonie,
Sydd yn llosgi yn eglur ryfedd,
Bob [...]w awr o flaen ei orsedd.
O ddeuttu'r orsedd mae Cherubiaid
Chwech adeiniog yn llawn llygaid,
Ddydd [...] nos yn rhoddi mawrglod,
Ynddi or [...]wys ir hael Drindod,
Gyda'r rhain y mae Seraphiaid,
Grymmys grasol tanllyd embaid.
Yn cyd ganu Sant Sant ganwaith.
I Dduw'r lluoedd yn dra pherffaith.
Yn nessa at hynny mae henuriaid
Gwynion reial mewn Côr euraid,
A'i Coronau yn eu dwylo,
Yn ymostwng i fendithio.
Mae pob un a'i goro weddus
Ar ei ben fel brenin grymmus,
Mae pob un ai wisg wen gantho,
Fel offeiriaid yn bendithio.
Mae pob u [...] ai goron euraid,
Yn canu mawl îr Oen bendigaid,
Mae pob un ai feiol gantho,
Yn arogl darthu diolch iddo,
Y maent hwy bob rhai yn ei gradde
Yn canu 'r Arglwydd Psalms a hymne,
Ac yn rhoddi i'r Oen ganmoliaeth
Am ei nerthol Jechydwriaeth.
Yr Angelion sydd yn gynta,
Yn canu i'r Arglwydd Halelujah,
A'r Saint hwynte yn [...] [...]tteb,
O'u Cadeiriau mewn [...]yd undeb,
Nid oes yno Sant nac Angel,
Na bo'n canu Psalms yn uchel.
Nid oes yno un yn segur,
Na bo'n canu mawl yn ddifyr,
Yr ganiad y sydd ganthyn,
Trwy gyttundeb gyda'r delyn;
Yr un Tafod ar un genau,
Yn clodfori Duw yn ddiau.
Maent hwy yn canu Halelujah,
Yn dra hyfryd i'r gorucha;
Ac yn rhoddi clôd a gallu,
I'r oen sanctaidd am eu prynu,
Maent hwy yn canmol mawr drugaredd
Duw sy'n eistedd ar yr orsedd;
Ac yn moli'r oen bendiged.
Am eu prynu o'r caethiwed.
Mae mor hyfryd ac mor weddaidd,
Gant yn moli'r Drindod sanctaidd,
Ac na allant fyth ddeffygio;
Ond rhoi clôd a moliant iddo.
Maent'n gweled bawb yn gyngan
Wyneb grasol Duw ei hunan
Yn ei wyneb mae'n dragywydd
Ddigonolrwydd o lawenydd.
Ynghylch yr Henuriaid gwynion,
Mae mil miloedd o Angelion,
O bob nasiwn i addoli,
Duw mewn nymber heb rifedi
Y mae wyneb Duw cyn decced
Gan ei saint sydd yn eî weled;
Ac na allont chwenych mwyach
Edrych fyth ar ddim amgenach
Maent hwy'n sefyll yn ddiogel
O flaen Duw tu fewn i'r demel;
Ni all Sattan nag un gelyn
Wneuthur mwyach niwed iddyn
Nid oes Empriwr dan y nefoedd
Yn cadw llŷs fel Duw y lluoedd
Lle mae'r gwaetha sy'n ei ddilyn,
Yn benadur ac yn Frenin.
Maent hwy eu gyd yn Foneddigion,
O'r gwaed reiol un ar goron;
Maent hwy eu gyd yn blant i'r brenin,
Ac fel prinsis yn ei ddilyn.
Maent hwy yn frodur i'r meseias
Cyd difeddion o'r un deyrnas;
Maent hwy yn
Gyfeillion
ffelos i'r angelion
Maent hwy eu gyd yn dywysogion
Nid oes un o'r rhai'n yn cysgu
Ddÿdd na nos ond golchi canu;
Nid oes un ac all ddiffygio
Mae mor ddifyr iddo yno.
Mae pob un a'i goron harddwych
Ar ei ben fel brenin dewrwych;
Mewn gogoniant yn teyrnasu.
Gyda'n prynwr mawr Christ Jesu
Mae pob un 'a'i wisg wenn ganaid
Yn ei gylch mewn gorsedd euraid
Megis 'ffeiriad yn aberthu
Yn rhoi clôd a mawl i'r Jesu.
Mae pob un a'i blamwydd ganto
Fel Congcwerwyr yn treiwmpho
Ar y byd a'r cnawd a'r cythrel
Wedi ffwylo 'rhain mewn rhyfel
Ni bu Selyf a'i hyfrydwch
Ni bu rhos a'i holl rhialltwch;
Mor drwssiadus yn ei wisgoedd
Ac yw'r gwaetha sy'n y nefoedd,
Mae'nt hwy yn deccach yn eu hwyneb
Nag oedd Absolön deg dihareb
Yn disgleirio'n ogoneddus
Ar lûn corph ein prynwr grymus
Maent hwy yngryfach nag oedd Sampson
Maent hwy yn deccach nac Absalon.
Mae pob un yn hardd fel Angel
Ac ar draed yn gynt na Hasel,
Maent hwy yn byw mewn mawr ddedwyddwch
Gwir lawenydd a rhialtwch
Hwnnw yn parhau yn dragywydd,
Heb na phoen na thrangc na chystudd
Eu gwaith hwy gyd o fach i fwya,
Yw canu i'r Arglwydd Halelujah
A rhoi miliant clöd a gallu
I'r oen a laddwyd am ein prynu.
Bwyd pob rhai yw Manna hyfryd,
O hoff ffrwythe pren y bywyd;
O'r hwn ffrwyth pan fwyttaer unwaith
Ni newynir byth yr eilwaith,
Eu diod oll yw dyfr y bywyd
O afon Duw o'r ffynnon hyfryd
Yr hon sy'n tarddu'n grychias allan
O dan orsedd Duw ei hunan
Y difyrrwch ydyw rhodio,
Gyda'r oen ble bynna'r elo,
I lan Ffynnon dyfr y bywyd
I glodsori ei enw hyfryd
Gwedyn pan y delont adre,
Mae gwledd rhial ar y byrdde;
Wedi ei gosod i groesawi
Yr oen o'i
Daith
brogras ai gwmpeini
Ni bu wlêdd Ahasuerws
A'i Rialtwch mawr y barws
Ddim cyffelyb i'r wlêdd yma
Swpper mab y Brenin mwya.
Ni chlywodd clust ni welodd Llygad
Ni ddychmygwyd o'r dechreuad
Faint o foethe sy'n y swpper,
Wedi trwssio ar eu meder
Nid oes ynddi neb yn bwytta
Un rhyw ymborth waeth na Manna
Nag yn hyfed ynddi hefyd
Ddiod waeth na dyfr y bywyd
Duw ei hun sy'n costio'r Swpper,
Mab y Brenin ydywr sewer;
Awdurdodau yw'r contrylwyr
Arch-angelion yw'r gwasnaethwyr
Y Cherubiaid sydd yn canu
Ar y delyn i ddifyrru,
Ar Seraphiaid gyda nhwythe,
Yn canu ar dafod ac ar danne
Y Caniade yw Hosanna,
Sant, sant sant ag Halelujah,
Diolch gallu mawl a mawr-glod,
Y so fyth i'r sanctaidd Drindod
Mae pob un yn cael ei ddigon
O bob peth wrth fodd ei galon
Mae pob sens yn cael ei porthi
Ar y peth sy'n perthyn iddi
Y mae'r llygaid yn gweld digon
O rialtwch rhwng angelion,
Y mae'r clustie yn clywed nhwythe.
Ei gwir wala o bêr leisie
Y mae'r gene'n cael ei borthi
Bob Dydd a manna ac acwafeiti,
I mae'r Tafod yn cael canu
Ddydd a nos i'r Prynwr Jesu
Y mae'r cyrph yn hedeg nhwythe
Mor ddirwystr a'r Eneidie;
Y mae'r pen ar traed a'r cwbwl,
Cyn ebrwydded ac yw'r meddwl
Nid oes aelod mewn un Christion,
Fy'n gwasnaethu Duw yn ffyddlon
Na fynn Duw ei ogoneddu
Ymharadwys am ei wasnaethu
Mae'r holl gorph pen ddelo yno,
Fel yr haul wen yn disgleirio,
O disgleiria'r corph mor gannaid
Pa wedd i'r hardd ddisgleiria'r Enaid
DIWEDD.

danghosiad ym-ha ddalen y ceir pob cân ag y sydd gyn-hwysedig yn y llyfr hwn.

CYngor i wrando ag i ddarllen gair Duw.
1
Hil Frutus.
10
Truenus gyflwr dyn trwy naturiaeth
16
Bywyd a marwolaeth Christ.
20
Adroddiad o gariad Christ at ybyd
28
Awn i Fethlem.
31
Christ fyad oll yn oll.
34
Hil Adda.
43
Cyngori bechadur i ddyfod at J Ghrist
48
Cyngor i bechadur i ddy [...]od at Crist
52
Cynhyrfiad i foli'r Arglwydd Jesu
58
G [...]ahoddedigaeth i foli Christ Iesu.
62
Annogaeth i daiolchgarwch am ein pryn­edigaeth trwy G [...]rist.
65
Cynghorion i'r [...]awl a ddymynant gael ffafr Duw &c
69
Cyngor i gredu ynghrist
73
Cyngor i ochelyd cwm [...]eini drwg
76
Galarnad pechadur
78
Cynghorion Duwiol.
83
Cyngor i wr iefangc.
89
Cyngor i wasnaethu Duw.
96
Am weddiai pherthynasseu
106
Rhybydd i feddwl am Dduw y bore
119
Diolch foreuol p [...]n ddihuner gynta
121
Diolch i Grist am esmwythder.
122
Rhybydd i ddyn wrth ddilladu y corph [Page] weddio am ddillad ir enaid.
123
Gweddi wrth wisco am danad.
123
Arall,
124
Rhybydd wrth ymolchi.
124
Gweddi wrth ymolchi.
124
Gweddi foreuol.
125
Rhybydd i ymgadw rhag rhuthreu'r byd y cnawd a Satan.
128
Gweddi yn erbyn [...]huthreu Satan
131
Cyngorion yn erbyn profedigaethe Satan
133
Cyngor i weddio ar bob achos
136
Cyngor ir Llafurwr.
139
Gweddi'r hwsmon,
140
Cyngor ir trafaelwr
141
Gweddi'r trafaelwr
142
Cyngor ir milwr.
144
Gweddi'r milwr,
145
Cyngor ir porthmon.
149
Cyngor cyn mynd i garu.
150
Canmoliaeth Gwraig dda.
153
Rhybydd a chyngor ir godinebwr.
154
Cyngor ir meddwyn.
157
Can yng hylch y diawl a'r meddwon
163
Cyngor i ymgadw rhag meddylie drwg
165
Cyngor i lywodraethu'n geire wrth fodd Duw.
170
Gweddi am lymodraethu'r geire
172
Cyngor i ddyn fod bob amser o ymddygiad Gristnogaidd.
173
Cyngor yn ynghylch bwyta ag yfed
176
Gras cyn bwyd
1 [...]9
Gras yn ol bwyd
180
Gras cyn bwyd
181
[Page]Gras cyn bwyd
181
Gras yn ol bwyd
182
Gras cyn bwyd.
182
Gras gwedi bwyd.
183
Gras cyn swpper.
184
Gras yn ol cino.
185
Arall yn ol swpper,
185
Arall.
186
Cerydd am esceulusso ceisio bendith ar, a rhoddi diolch am ymborth.
187
Gweddi.
188
Cyngor i gyfrannu o'r anghenus.
188
Cyngor i bob penteulu lywodraethu ei d [...] yn Dduwiol.
193
Dyledswydd plant yw rhieni
204
Pa bethau a ddyle ddyn fyfyrio arnynt ar y sabboth.
207
Cyngor i ymbarattoi cyn dyfod i addoli'n gyhoeddus.
213
Paratoad ir cymmyn.
215
Gweddi cyn derbyn y cymmyn.
222
Pennillion argynneddfe rhai dynion
223
Llythyr yr awdwr at ryw eglwyswr
236
Catechism.
237
Pethe yw harferu pan ddel y nos
251
Hymn cyn mynd i gysgu.
253
Diolch am dan a chynessrwydd
254
Gweddi wrth fynd ir gwely.
255
Myfyr dod pan ddyhuner ganol nos
258
Psal 23,
259
Ymodd y dyle ddyn grassol ddeffroi &c
260
Diolch am etholedigaeth.
262
Gweddi yn erbyn gorthrymder
264
[Page]Diolch am ymwared o ddwylo gelynion
267
Arall byrrach
269
Rhan o'r Ps. 69.
269
Psalm 30.
272
Am ddiwedd y byd
274
Cofiwch angeu 280 can ar y flwyddyn 1624
285
Arall.
295
Rhybyddi gymru
298
Arall,
306
Gweddi eglwyswr wrth fyned i ymweled y cleifion yn amser y chwarren
313
Byr yw oes dyn.
314
Cyngor ir claf,
315
Gweddi'r claf.
318
Rhybydd ir claf alw am weinidog
322
Gweader claf cyn cymryd pyssygwriaeth
327
Gweddi fyrrach ir claf
329
Rhybydd ir claf wneuthur ei ewllys
331
Llythyr yr anrhydeddus Sr. L. M.
335
Atteb i Sir Lewis Mansel.
335
Rhesymmau'n cyffroi'r claf i fod ddiodd­efgar.
342
Ymddiddanion rhwng y claf a'i enaid
345
Arall.
348
Agoriad byr yn erbyn ofn Angeu
351
Gweddi iw harferyd mewn clefyd
353
Diddanwch yn erbyn gwan obaith,
354
Gweddi am faddeuant pechode
355
Gweddi ir claf ar yr awr ddiwetha
359
Myfyrdod ar fywyd ag angeu
360
Tost gyflwr yr annuwiol weai marw
360
Cwyn a chyngor Difes,
369
[Page]Ofer gweddio dros y marw,
381
Cyngor Mr. Prichard yw fab,
385
Gweddi Mr. S. P.
388
Cyngor Arall,
391
Achwyn Eglwyswr,
395
Rhaid glynu wrth grist,
397
Christ yw pren y bywyd,
398
Christ a arwyddoocawyd wrth yr oen pasc.
399
Ghrist a arwyddoccawyd wrth y sarph bres.
400
Hymn ar ddydd nadolig,
401
Cyngor i geisio'r Arglwydd Jesu.
407
Psal. 38
420
Am y Sabboth,
424
Gweddi dros yr Eglwys,
427
Am dyngu
429
Dyledswydd gweinidogion
430
Am Ragluniaeth Duw
436
Am y Pur-dan
439
Am barhad mewn stad o ras
442
Fe ddylei gwraig fagu ei phlentyn
444
Cyngor i wraig i beidio tristhau
445
Rhybydd i ochelyd gorthrymmu neb
448
Gwahoddedigaeth i bechaduriaid i
449
Psalm 100.
451
Y Bummed ran
452

Sail y grefydd Gristianogol mewn chwech o Wyddorion

Gof. I. BEth yr wyt ti yn y gredu am Dduw

Atteb. Y mae un Duw, yn yspryd tragywyddol, creawdwr a Llywod­raethwr [Page] pob peth oll; yn dri Pherson gwahanol. y Tâd y Mâb. a'r yspryd Glan, Rhuf 1.20. Act. 14.17, 1. Cor. 8.4 Gen. 1.1. Heb 11, 3, Dihar. 16▪ 4 Mat. 10, 22, 30, ac 3, 16 17 ac 28 12

Gof, II. Beth yr wyt ti yn y Credu am ddyn, ac am danat dy hun.

Atteb. Pawb oll a lygrwyd yn llwyr a phechod trwy gwymp Adda; ac felly nhwy a wnaethpwyd yn gaeth welsion i Satan, ac yn euog o ddamnedigaeth dragwyddol Rhuf. 4 9.10. &c. 1. Thess. 5 23 Eph. 4 17 18, Gen. 6.5. Rhuf. 5.12. Eph. 2.2. Heb 2, 14, 2 Cor. 4.4. gal. 3.10 Rhuf. 5.18,

Gof, III. pa fodd y mae i ti gael dy waredu o'r cyflwr truenus hwn?

Atteb, Jesu Grist, Tragywyddol Fâb Duw yr hwn a wnaethpwyd yn ddyn, a gwbl gyflawnodd o honaw ei hun yn unig, trwy ei farwolaeth ar y groes, a'i gyfiawnder perffaith bob peth oll ac sydd angenrheidiol er iechyd­wriaeth dyn Joan 1 14. Heb 16. Es, 53, 5. Rhuf. 5.19 2 Cor. 5, 21 Heb. 7.25. Act. 4.12, 1 Joan 2 2

Gof. IV. pa fodd y gelli di fod yn gyfrannog o grist, a'i haeddedigaethau?

Atteb, Dyn o yspryd issel cystuddiedig, yr hwn trwy ffydd yn unic, jawn dderbynio Grist, ac a fwynhao Grist a'i holl haeddedigaethau iddo ef ei hun fydd gyfiawn ger bron Duw, a sanctaidd, Esay. 57.15. psal 51 17 Mar. 5 36 Joan 3 14 15 ac 1 12 ac 6 35 Rhuf 4.3 6 7 Act 13, 39, 1 Cor 1 30.

Gof V, Beth yw'r moddion cyffredinol trwy ba rai mae Duw yn gweithio ffydd?

Atteb Ffydd fydd yn dyfod trwy wrando pregethiad gai [...] Duw trwy ba un y mae'n cynnyddu beunydd, megis ac y mae hefyd trwy weinidogaeth y sacramentau a gweddi Rhuf 10 14

Gof VI Beth yw cyflwr pob dyn yn ol marwolaeth?

Atteb, pawb oll a gyfodant drachefn yn eu cyrph ei hunain i'r Farn ddiweddaf. wedi hynny y rhai cyfiawn a gant feddiannu teyrnas nefoedd, a'r rhai digred a gwrth odedig a boenir yn Uffern gyda'r diafol a'i Angelion y [...] dragywyddol joan 5 28 29. preg. 12 14. Mat 12 36 2 pet. 2.9 Mat. 25.34, 41.

ABC Neu Egwyddor Gymraeg

A B C CH D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P PHRST THU WY.

A a b c ch d dd e f ff g ng h i l ll m n o p ph r s t th u w y.

A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R S T Th V Ʋ W Y.

A b c ch d dd e f ff g ng h i l ll m n o p ph r s t th u w y.

Y Bogeiliaid

a e i o u w y.

ab eb ib ob ub wb yb ba be bi bo bu bw by ac ec ic oc uc wc yc ca ce ci co cu cw cy ach ech ich och uch wch ych cha che chi cho chu chw chy ad ed id od ud wd yd da de di do du dw dy add edd idd odd udd wdd ydd dda dde ddi ddo ddu ddw ddy af ef if of uf wf yf

Dwyfolder Gymmunol N …

Dwyfolder Gymmunol NEU DDEFOSIWNAU.

SACRAMENTAIDD.

SEF Amryw o weddiau am wir ymbaratoad i'r Cym­mun Sanctaidd ac eraill ar ei dderbyniaid, yng­hyd a Diolchgarwch Gymhesur i'w harferu ar ei ol.

Argraphwyd yn y Mwythig gan Thomas Durs [...] lle y gellir chael printio pob math ar Copiau am bris gweddaidd, a chael ar werth amryw Llyfrau Cymraeg a S [...]esnaeg,

[Page]fa fe fi fo fu fw fy aff eff iff off uff wff yff ffa ffe ffi ffo ffu ffw ffy ag eg ig og ug wg yg ga ge gi go gu gw gy ang eng ing ong ung wng yng nga nge ngi ngo ngu ngw ngy ha hi ho hu hw hy al el il ol ul wl yl all ell ill oll ull wll yll lla lle lli llo llu llw lly am em im om um wm ym ma me mi mo mu mw my an en in on un wn yn na ne ni no nu nw ny ap ep ip op up wp yp pa pe pi po pu pw py aph eph iph oph uph wph yph pha phe phi pho phu phw phy ar er ir or ur wr yr ra re ri ro ri rw ry rha rhe rhi rho rhu rhw rhy as es is os us ws ys sa se si so su sw sy at et it ot ut wt yt ta te ti to tu tw ty ath eth ith oth uth wth yth

Gweddi am gynnorthwyad Duw a gwir Ymbara­toad i dderbyn y cymmun Bendigedig: yr hon sydd gymmhessur iw chyfleu o flaen y gyffes mewn Defosiwnau neilltuol, Foreu a Hwyr drwy'r Wythnos gyfan.

HOllalluog Dduw, yn hwn o'th dyner Dru­garedd a anfonaist d' unig anedig Fab Jesu Grist, i ddioddeu marwolaeth ar y Groes, er Jechydwriaeth y byd pechadurus; Yn ostyng­edig i'r attolygaf arnat ti'n drugarog dosturio wrthyf, Cynorthwya a bydded yn gymeradwy gennit fy ymgeisiadau gwael i'm cymhwyso fy hunan i dderbyn yn deilwng y cymmun Bend­igedig hwnnw. yr hwn y ddarfu i'r Jesu Gw­ynfededig i drefnu er tragywyddol Goffadwri­aeth o'i Farwolaeth ai Ddioddefaint: Mi att­tolygaf arnat gynhyrfu y fath nwydau a thue­ddiadau Duwiol yn f' enaid, a chyflawna fy meddwl ar fath Dduwiol Fyfyrdodau ac sydd gymhessur ir achosion hyn. Dyro i mi o Dduw y cyfryw wir deimlad o'm pechodau, ac o ddi­odefaint fy Jechawdwr Bendigedig ou herwydd fel y gallo serchiadeu fy 'nghalon, trwy ddwys dristwch am fy 'ngham weithredoedd a drygio­ni fy muchedd aeth heibio; A gweithia ynof gasineb ac anfodlondeb tragywyddol yn erby [...] pob anuwioldeb: A chynesgaedda fi ar fath gy­fran oth râs, ac y fo'n abl im cynhyrfu i't [...] garu, ac i fyw yn ol d' ewyllys di wynfeded [...] Jesu, fy Jachawdwr am prynwr Bendiged [...] fal y gallwi f' jawn drefnu fy hunan i'r Ddwyfol [Page] Wlêdd a'r offrwm ysprydol hwn: O ba un y mae fy ngobaith fod yn gyfrannog o ho­naw cyn pen hir. Ac y croesawi fi wrth dy Fwrdd fel y gallwi dderbyn gyssegredig Wyst­lon dy gariad, gyda'r fath ddyfnbarch a gwr­esowgrwydd defosionol ac y fydd fy 'nghym­ffwrdd yn y Byd hwn, am Hiechydwriaeth byth bythoedd. Amen.

Gweddi am wir ansawdd a threfniad i fod yn gy­frannog o fendithion a chymwynasgarwch y cy­mmun Bendigedig hwn: yr hon sydd gymm­wys iw chyssylltu ynghyd a'n Defosiwnau beun­yddiol trwy'r holl wythnos o flaen y cymmun

AC fal y gallwi fyw mewn pob math ar Ymwareddiad Sanctaidd a Duwioldeb yma ar y Ddaiar, a happusrwydd dragywydd­ol yn y nefoedd rhag-llaw:Oni ddarfu i chwi gymmuno erioed or blaen rhaid gadel allan (unwaith etto.) Y mae 'nymuniad (unwaith etto dderbyn y Cymmun Sanctaidd: Cynorthwya fi o Arglwydd a'th Ddwyfol râs; fal y gallwi wneuthur y fath ddyledus ymbaratoad medd­wl, ar cyfryw dueddiad Sanctaidd yn f' Enaid, ac fel y gallwi fod yn un oth wahoddedigion cymwys wrth dy Fwrdd. ac yn ddilus gyfran­nog or holl Fendithion a'r Cymmwynasau ac sydd yn arwyddoccau trwy'r Cyssegredig Fara a Gwin, Ganiadha na fyddo i mi'n unig ad­goffa farwolaeth a Dioddefaint Christ. Eithr bydded i mi dderbyn pardwn a maddeuant [Page] o'm holl bechodau, am bod wedi fy siccrau am nerchu ymhob daioni, trwy ffydd yn Jesu Ghrist fy 'nhrugarog Jachawdwr, i ba un gyda'r tâd a'r Yspryd glân, dy byddo'r holl Anrhydedd ar Gogoniant byth byddoedd. Amen.

Gweddi gymmhessur iw harferu ar amserau cyn der­byn y cymmun Sanctaidd, gan un y fu'n byw yn hir mewn esceulusiad or Ordinhad hon.

O Arglwydd yr hwn wyt Garwr Eneidiau, a thrwy sawr Drugaredd a dosturiaist wrth ddynol ryw, a anfonaist dy anwyl fab Jesu Ghrist i'r Byd i fod i ni'n bryniawdwr, i ed­fryd cydffurfiad ai holl Ddywiol Gyfreithiau, a thrwy dywallt ei werthfawr waed ei hun, et maddeuant pechodau, Yr hwn a drefnodd he­fyd ac a Orchmmynodd yn ei Efengyl Sanct aidd, ar i ni barhau Goffadwriaeth tragywy­ddol oi werthfawr Farwolaeth, hyd oni ddelo ef drachefn, trwy Gymmundeb a chydgord­iad yn bwytta ac yn Yfed y Bara ar Gwin. Maddeu i'r hwn sydd yn ufudd attolygu arn [...] Drugaroccaf Dâd; O pardyna fi'r hwn y [...] gyhyd o amser mor ddi wybodaeth o'th Ryf­eddol gariad o Grist fy Jachawdwr, ac mor anfeidrol anola ac esceulus y fum yn ufudd hau ith Orchymmyn diwaethaf ychydig cy [...] dy ddioddefaint: O Drugarog Jesu. Y mae' [...] ddrwg Jawn genni feddylied mor ddrygion [...] ac ansynhwyrol y fum yn fy'nghadw fy hu [...] gymmaint o flynyddoedd yn ôl oddiwrth [...] Fwrdd Sanctaidd, Er amled gwahoddediga [...] [Page] y gefais, a chymmaint o gynhyrfiad ac Ann­ogaeth resymmau a gefais i ddyfod ac ymborthi ar dy ddanteithiol Ymborth, ath Wlêdd nefo­laidd; Mae'n ofidus geni ysty ried leied pris a wneuthum o'th alwad a senn fy 'nghydwybod fy hun, yr hyn drwy 'nerth dy yspryd Sanct­aidd, a ddarfu i mi'n aml deimlo, pan ersyni­ed arnaf yn enw Duw, ac hefyd gan attolygu arnaf er mwyn Jesu Ghrist, a'nghynghori fel y carwn f' Enaid fy hun i fod yn gyfrannog o'r Cymmun Sanctaidd, Yr ydwyf yn dra syn­iol o Dduw, fy mod i'n bur haeddol oth ddi­gofaint; Eithr dydi'r hwn y mae dy nattur a Phriodoldeb i drugarhau a maddeu'n wastad, na fwria arnaf y bai am y drygioni hwn, eithr maddeu i'm o Arglwydd, pardyna'r pechod mawr hwn, A bydded gymeradwy gennit fy 'mrodau Duwiol hyn am hamcanion Daionus y rhai sy'n gweithio ynof, I fod yn ofalus yn wastadol i wneud gwir Ymarferiad o'm Dyl­edswydd rhag-llaw, Nertha fi trwy dy Râs i gyflawni'n Effeithiol fy mwriadau hyn: Siccr­ha a Chyfnertha fi'n y bwriadau daionus hyn, fal nad allwi mwyach syrthio'n ôl fel cynt yn [...]' esceulusdod di-grefydd. Par i'm fod yn ba­rodol i gofleid [...]o pob odfa gyfleus i draethu l' nghariad i'r Jesu bendigedig trwy dderbyn y Cymmun Sanctaidd. Gwna fi 'n wir syniol, o Dduw o'r amryw rwymedigaethau mawrion y rwyf tanynt i wneud hyn er coffadwriaeth am fy 'Mhrynwr anwyl; Dyro i mi wir syni­aeth or petheu y wnaeth ac y ddioddefodd er mwyn achub Pechaduriaid, ac o'r diben mawr, y trefnwyd ac i'r ordiniwyd y Cymmun hwn, [Page] fel yr oedd cariad Duw felly, a'r ystyriaeth bûr sydd gennif om Hennaid fy hun, fal y gallo fy rhwymo i fod yn wastadol Gymmunwr. O Jesu Ffynnon pob daioni. Gwrando fy 'ngwe­ddiau Arglwydd a Chynorthwya fi trwy dy râs i dderbyn y Cymmun sanctaidd hwn mewn modd teilwng; fal y gallwi felly gael selio fy 'mhardwn a thynnu ymmaith fy llygredigaeth, Chwanega a chadarnha y wreichionen hon o daioni a ddechreuodd ennyn yn ol fal y gallo fynghalon gyd uno'n ddiwahanedig a thi o fy Nuw, fal na allo profedigaeth yn y byd fod yn abl i'm gwyr droi oddiwrth fy nyledswydd ond bydded i mi dreulio gweddillion fy nydd­iau yn dy ffydd di ath ofn, ac or diwedd fawr yn dy ffafr, ac yn ôl marwolaeth fy 'ngwn­eud i'n gyfrannog o fwyd tragywyddol trwy Jesu Ghrist ein Harglwydd a'n hunig Jachaw­dwr, yr hwn gyda thi ar yspryd Glân tri ph­erson eithr un Duw y bydd o'r holl anrhydedd ar Gogoniant byth bythoedd. Amen.

Gweddi iw harfer gan un y fo'n Ewyllysio derbyn y cymmun Sanctaidd, eithr sydd yn ofnus oi fod yn anheilwng i Gymmuno.

OH fy Achubwr tosturiol! a mawr garwr Dynol ryw! Cymmer drugaredd arnaf, Wele fi o Arglwydd, gyrr ymmaith drwy d' arferedig drugaredd f' amheuaeth trwy ba un i'm digalonir rhag ofn derbyn y Cymmun San­ctaidd; ryw'n dychrynu wrth ystyriad, mae pwy [Page] bynnag y Fwyttao ac y Yfo 'n anheilwng sy'n euog o farwolaeth Christ, ac felly sydd yn Bwytta ac yn yfed i Ddamnedigaeth ei hunan. I'r wyf hefyd yn cythruddo ac mewn cyfyng­der wrth feddyliaid i mi fyw cyhyd o amser mewn esceulusdod or Ordinhaad Gyssegredig hon, yn wrthwynebol i eglur Orchymmyn y gwynfedig Jesu: O Arglwydd anwyl! A thra Charedig w [...]th Eneidiau anfarwol; Bydd di im yn Arweiniwr a Chynghorwr yn y Gorchwyl pwysfawr hwn, ymha un y mae enbydrwydd marwolaeth yn fy mwgwth i o bobtu. Eithr myfi a redaf attad ti o fy Nuw, yn lle 'mg­ynghori a chig a gwaed, na rhoi fy 'nghlust i wrando ar dwyllydrus ddirgelwch am hofnus resymmau, Y rwy'n taer weddi om dy Ddw­yfol gynnorthwyad yn fy 'mlinder am cyfyng­der hwn Dysg fi o Arglwydd, dysc fi, mi At­tolygaf arnat yr union ffordd▪ i ddiogelwch a Heddwch; ac hyfforddia fi yn y cyfryw lwy­beiddrwydd tu ag at ymbarattoad Sanctaidd, ac y fyddo mwya cymwys a pherthynol ir fath dderchafedig a Chresyddol weithred, rwy, 'n fynghyflawn berswadio fy hunan o Jesu anwyl Fod neshau attad fal hyn yn y Cymmun San­ctaidd yn fuddged rhagorawl a hyfryd i'r sawl ac sydd wedi eu haddas Gynysgaeddu dderbyn yr unrhyw; O nertha fi trwy dy Rasussol gy­northwy i fod yn un or rhifedi dedwyddol hynny. Gwna i mi ddwys gydnabod mawrion Drugareddau Christ yn trefnu y Ddirgelwch Sanctaidd hon: ac yn galw'r Edifeiriol i ddyf­od a bod yn gyfrannog o honaw megis gwyst­lon [Page] o'i ffafor a'i ddaioni tuag at attynt; Ac i fod yn foddion i'w cydffurfio au cryfhau mewn ymarferiad Duwioldeb, ac hefyd i siccrhau idd­ynt Jechydwriaeth dragywyddol, trwy Haedd­edigaethau ei wrthfawr farwolaeth au Ddiodd­efaint. O Drugarog Jesu dyro i mi'r cyfryw Edifeirwch, a ffydd ac y fyddo 'n abl i'm gw­neuthur yn deilwng dderbyniwr o'th Fendithi­on tra rhyfeddol Cadarnha a safydla fi mewn perffaith gasineb a phob anuwioldeb a drygioni; a bydded i mi garu'n ddiffuant bob peth ac sydd ddaionus; A bydded yn ofnadwy ganni he­fyd fyw mewn esceulusdra o ddyfod i'r Cym­mun Sanctaidd hwn, ac i dderbyn y cyfryw hyd oni byddo genni wir ymbaratoad o'm ca­lon Rhyddhâ fi o fy Nuw oddiwrth ammheu­on anrhesymol petrusder ac ofn, Par i mi fod yn wir ystyriol, mai'r enbydrwydd o dderbyn yn anheilwng sy'n perthyn i'r cyndyn drygio­nus; ac na all pechod yn y Bŷd wneuthur i mi niwaid, neu'n gwneuthur i'n gyfrannog o anheilyngdod wrth dderbyn y dirgelwch San­ctaidd hynny; ar ôl i mi wneud fyngh yffes trwy wir a chalonog Edifeirwch, Arglwydd i'r ydwyf yn ddiffuant yn galaru ac yn cashau fy holl ddrygioni A thrwy dy Râs di ni byddaf byth yn euog o'r cyfryw bechodau mwyach; Arglwydd par­dyna fi, Arglwydd maddeu i mi, a bydd dru­garog wrthyf o herwydd fy holl ddrygioni am hanuwioldeb, ac na ddwyn ar gof mo'm pech­ode nam hanwireddau rhag llaw, Eithr planna dy Gyfreithiau'n fynghalon, ac ysgrifennir hwn yn fy meddwl, a thrwy alluowgrwydd dy râs, [Page] Felly trefna f' Enaid mewn di-ragrith a dian­wadal Ufudd-dod. A pha bryd bynnag y by­ddo i mi mor anhappus a throseddu dy gyf­reithiau; Cynorthwya fi'n gyflym fel y gallwi fy niwygio fy hunan o newydd trwy Edifeirwch difrifol, ac addewyddu f' addunedau'n fwy gof­algar a diesgeulus rag llaw; fal y gallwi fod yn neilltuol wrthddrych o'th Ddwyfol drugaredd a'th faddeuant. Ac yn ddiwaitha o Arglwydd i'r ydwyf drachefn yn erfyn arnat ti, fy rhy­ddhau oddiwrth bob anrhesymol arswyd yng­hylch y Sacrament Sanctaidd, a gwna i mi fod yn un o'r Gwanoddedigion cymeradwy wrth dy Fwrdd; fal y gallwi Fwytta ac yfed er dai­oni f' Enaid fy hun. Eithr bydded im gael fy mhardwn gwedi seilio, adferu fy 'ngwendid, a gorchfygu fy llygredigaethau, ac uno'n ddi­wahadedig fy 'nghalon a thi, fel nad allo pr­ofedigaethau'n y Bŷd ddattod neu wasgaru ym­maith f' undeb, Eithr bydded i ddechreuad Grâs neu ddawn fod i'm mherffeithio mewn Gogoniant; O Arglwydd i'r wyf yn ei ddifrifol ddeisyfu trwy obaith gostyngeiddiaf am hyn oll, O herwydd mae f' anghenrheidiau'n anneirif, ac o herwydd dy fod ti'n bur barodol i wran­do ar lêf Pechadur edifeiriol, ac ewyllysgar i atteb a chyflawni eu herfynion duwiol; Ac o­nid ydwyf mewn gwirionedd yn gwir dristau am fy manwl gamgymmeriadau fal y dylwn i fod, par i mi fod felly o Arglwydd daionus, er mwyn haeddedigaethau Jesu Ghrist d' anwyl fab am hunig Jachawdwr, I ba un gyda thi ar Y spryd glân, y byddo'r holl Anrhydedd a'r Gogoniant, yr awr hon ac yn dragywydd, Amen.

Gweddi Foreuol o flaen derbyn y cymmun Sanct­aidd, ac sydd gyfleus iw harferu ar amseroedd eraill o'ch Paratoad.

O Dragywyddol a byth Fendigedig Arglw­ydd Dduw Tâd y Trugareddau a Ffynnon pob Daioni, yr wyf yn ymostwng fy hunan gar dy fronn ac yn ostyngedig yn addoli d' an­rhaethol Fawrhydi, yr hwn wyt anfeidrol mewn gallu a Doethineb a chariad a phob math ar Odidowgrwydd Dwyfol, Dydi yw Fynghreawd­wr, F' Arglwydd a [...] perchennog, fy Jachawdwr Anwyl am gwastadol gynorthwywr haelionus: Y mae fy nyledswydd mwya, am hawl mwya hefyd i'th garu di'n galonnog, a'th wasanaeth­u'n gywir ac yn ddiragrith, Eithr gwae fi o Arglwydd o herwydd rwy'n cyffessu i mi yn lle dy garu a'th wasanaethu di im fyw mewn pech­od a gwagedd Myfi fum yn euog o fawr ac aml Ddigofaint yn erbyn dy Ddwyfol Fawrhydi Yma chwi ell­wch grychwyll am rai och pechoda [...] neilltuol. A bod he­fyd fy 'nghyflawniad mewn dyledswyddau Crefyddol yn ddiffygiol esgeler, eithr o Ar­glwydd i'r ydwyf yn gwir a diwed Edifarhau ac yn drist arnaf o herwydd fy ngham weithrhedoedd, coffadwriaeth or cy­fryw sydd fywr gystudd i mi. O trugarha wrthyf, Maddeu im y cwbl aeth heibio er mw­yn'r Arglwydd Jesu Ghrist a chyfan adnewydda a chyfnewydia fy meddyliau, F' Ewyllys am nw­ydau; O nertha fi fwy fwy i'th garu di a'th [Page] wasanaethu'n well o hyn allan nag erioed o'r blaen, Arglwydd Daionus, Bydded hyn yn Eff­eithiolaeth o dderbyn y Cymmun; Canys ym­hle i golchir ac y glanheir f' Enaid llygredig halogedig, oddieithr yn y ffynnon yr hon a eg­oraist i olchi pechodau ac aflenaid? Dy di a­ddewaist o Dduw i bwy bynnag a ddelo attad ti, na fwri di ymmaith monno mewn ffordd yn y bŷd; Yr ydwyf yn dyfod gan hynny at­tad o Arglwydd hyd eitha fyngallu, trwy daer ddeisyf am faddeuant om pechodau, a bod yn wiw gennit fyngwneud yn gymmeradwy er maint f' annheilyngdod er mwyn gwrthfawr-owgrwydd y Sanctaidd Jesu. Edrych yn dru­garog ar fy'ngwendid; a chyfranna'n haelionus a myfi, fel y byddid arferedig i wneud a rheini y garau d' enw, a bydded derbyniad y Cym­mun Sanctaidd yn bur fywiol i mi Par i'r dai­oni a ddechreuodd ynof ymgryfhau a chyn­yddu, a bydded im holl ddrygionus am llyg­redig dueddiadau wauhau au llwyr ddiddymu. Caniadha Arglwydd, i'r rhain dy Ddirgeled-igaethau fod i'm yn amgenach na'th goffhau'n unig, Eithr effeithiol fyngwynfededig Jachawdwr a holl daioni i Haeddedigol Ddiod defaint; Cyn­orthwa fi trwy hvnny i ledio gwell buchedd rhagllaw, yn ffyddlon i gyflawni holl ymroa­dau Duwiol, anwyl Jesu, mi gofia gyda llaw­enydd dy ddirfawr gariad diwaetha gyda'r an­wydau mwya bucheddol: y rwy'n flinedig o herwydd fy mhechodau; Ac ir ydwyf yn taer ymbil am dy Râs, am dymuniad ar iti selio i mi Gyfammod newydd o Edifeirwch, anghym­modi [Page] a thi dy hunan, yr hyn i gyd rwy'n dei­syf arnat wneuthur i mi gyda gwresowgrwydd; Arglwydd cryfha Cynorchwya fy'nymuniadau, a chyflawna fy angenrheidiau, fel y gallwy fod yn gymwys gyfrannog or Cymun Sanctaidd. Jesu anwyl prysura ac ennyn fy marwedd an­wydau: Sefydla fy meddwl an nghalon a'r an­eirif gymwyniau y rhai a brynaist di mor ddryd er fy mwyn i, fel y gallwi goffhau dy gariad marwol gydac ufudd dod anoddun a di­olchgarwch o'm Calon; fel na by ddo i mi f' ymddwyn fy hunan mewn dim yn anheilwng. O Christ clyw fi, a chaniadha i mi allu'r awr­hon nessau at yr Ordinhâd Sanctaidd hon gy­da'r fath Ostyngeiddrwydd a chystudd, ac he­fyd gyda'r fath gariad a dwyfolder fal y gall­ech deilyngu i mi ddyfod attad, a gwna fi yn gyfrannog oi Haeddedigaethau, a bod felly we­di fy llenwi ath Râs, a'th Nefolaidd fendith, ac y gallwi'n berffaith ufuddhau i'th Sanctaidd Ewyllys, ac hyfrydu'n astudio dy wasanaethudi mewn Sancteiddrwydd ac uniondeb yn holl Ddyddiau o gweithredoedd f' mywyd, ac yn ol marwolaeth fod yn gyfrannog o'r dedwyddwch nefol yn dragywyddol, Gwrando o Dduw dai­onus fy 'ngweddiau am herfynion hyd madd­eu 'mhachodau am ammherffeithrwydd, a ch­aniadha fod i'r cyfryw bethau ac a ofynnais i mor ffyddlon, yn ôl d' ewyllys gael o honwi eu derbyn hwy'n Effeithiol, er fynghyssur i a'th Ogoniant dy hun, hwy Haeddedigaethau a th­rugareddau Jesu dosturiol, yn enw ac yngeiriau bendigedig pa un y galwaf arnat ymhellach [Page] trosof fy hun ac eraill gan Ddywedyd: Ein Tad &c.

Y Dull ar modd i dderbyn y Cymmun Sanctaidd.

Pan ddiweddo'r Bregeth, Gostyngwch ar eich Gliniau gyda'r ufudd-dod ar Dwyfolder mwya, ac yno ymddarchefwch eich calonnau tuar Ne­foedd gan ddywedyd.

O Fyng-Wynfededig Bryniawdwr! a gwir garwr Eneidiau anfeidrol! Edrych i lawr yn dosturiol arnaf bechadur truan a derbyn fi'n Rasussol at dy Fwrdd Sanctaidd. Rhagflaena fi mi ufudd attolygaf arnat, a grasussol fendi­ [...]hion dy Yspryd Sanctaidd, fel y gallwi brofi ac archwaethu dy felusdra, a neshau i'r Wlêdd Werthfawr ar fath ufudd-dod fêl a gwresowgr­wydd, ac y fo gwiw gennit ei dderbyn yn gy­meradwy. O Drugaroccaf Jachawdwr ymwel am fi yn dy Jechydwriaeth, fel y gallwi'n [...]erthol fyngnhymmwyso fy hunan i ffyddlon ddibennu f' nyledswydd ymhob rhann or Or­dinhad sanctaidd yr wyf yn cydnabod o Dduw nad alli fod yn hollawl yn rhydd oddiwrth ddiffygion a gwendid; Eithr mae 'nymuniaid arfod yn gymeradwy gennit fy 'megniad perff­aith, nertha fy'ngwendid cyflawna fy niffygion, Enynn fy sêl, a phan nad allwi gyrhaedd y pe­theu y ddylwn, bydded gymmeradwy gennit y pethau i'r ydwyf yn ei wneuthur, am y peth­eu a wnawn pes gallwn; Maddeu Arglwydd daionus waeledd ac am mherffeithrwydd fy ym­bararoad [Page] i ddyfod i'th Wlêdd Sanctaidd, O na bawn ni fwy teilyngach Anwylaf a chare­diccaf Jesu! Gwna im fod felly trwy dy Dei­lyngdod di, Adnewydda o Arglwydd fy Edif­eirwch, cryfha fy ffydd, a pherffeithia fyngha­riad am eluseni, cynnydda fyngwybodaeth pry­sura f' Nefosiwn i'th gyfarfod, mi attolygaf o drugarog Jesu! Cyffyrdda am fi mi ufudd at­tolygaf arnat yn hon dy Gyssegredig Wlêdd, gyda rhydd a chyflawn obaith yn d' addewi­dion, a chariad di-ffuant am cyd Gristionogi­on, a diragrith ddiolchgarwch am yr odfa hon i dderbyn y Cymmun Sanctaidd, ar pethau hyn y rhai a ersyniais droso fy hun, vr wyf ost­yngedig hefyd yn erfyn arnat i gyffrannu i bob rhyw un ac sydd ynghylch derbyn y Cymm­un Sanctaidd: O bydded i'r rhann weledig o Arwyddion oddiallan o farwolaeth ein Jach­awdwr, allau cyflawni ym-mhob un o honom ar holl ddonie ysprydol Oddifewn yr hwn a [...] bwrcaswyd trwy dywalltiad ei werthfawr wa­ed fel y gallom ni fod wedi ein sefydlu a'n sic­crau ymhob daioni, ac i fyned ymlaen well bob dyd, nes i ni a'r derfyn ein gyrfa yma ar y Ddaiar ac o'r diwedd gael ein trosglwyddo'n Orfoleddus ir nefoedd mewn Gogoniant, dan dderbyn tragywyddol wobrwy am ein gweith­redoedd da, trwy ragorol Haeddedigaethau e [...] Harglwydd a'n Jachawdwr Jesu Ghrist, Amen.

Pan weloch yr offeiriad mynd i masanaethu wrth Fwrdd yr Arglwydd neu'r Allor dwedwch

O Jesu wynfededig! O Jachawdwr trugarocc­af! I ti byddo'r Diolch a'r moliant, am gymmaint oll a wnaethost ac a ddioddefaist er achub pechaduriaid, Ac yn neilltuol am yr Or­dinhad a sefydlog Drefn ar wyr yn dy Eglwys di, ac i wneud i ni feddwl am ein Dyledsw­ydd, ai gariad ef ar amryw foddion a chyn­hyrfiadau, ar Athrawiaethol Resymmau y rhai a hyfforddiaist di hwy iw harfer i'n gwneuthur ni'n gydnabyddus hon tragywyddol hawl ac i'n rhwy no i 'mbaratoad ddifrifol, am Angeu dydd y farn, a Thragywyddoldeb.

Pan ddechreuo'r Offeiriad ddarllain y rhannau o'r Scrythur lan, pan fyddus yn casclu'r Elusen neu'r Offrwmer dibenion daionus dywedwch.

ARglwydd, Caniadha i bob un o honom yn ôl ei allu fod yn barod i roddi, ac i rannu'n llawen, er gosod i fynu sylfaen drosom ein hunain erbyn y dydd sy ddyfod, fel y gallom ar diwedd gyrhaedd bywydd Tragy­wyddol.

Pan elo'r Offeiriad ymlaen hyd y Weddi dros Holl-Stâd Eglwys Ghrist, sy'n milwrio yma ar y Ddaiar, Rhowch heibio eich Defosiwnau Dirgel, a chyssylltiwch eich gweddiau'n galonnog gydac ef, a deliwch sulw'n ddiesceulus ar yr Annogaeth gan­llynol, [Page] ar Gwahoddedigaeth i'r cymmun Sanctaidd, a phanfyddo ef yn adrodd y geiriau hyn, Deuwch yn nes trwy ffydd a chymerwch y Sacrament sancteiddiol hwn i'ch cymffwrdd dwedwch.

ARglwydd i'r ydwyf yn neshau ac yn dyf­od i dderbyn y Cymmyn bendigedig hwn, megis ped fawn yn ymddangos ger bron Gor­seddfaingc dy Ddwyfol Fawrhydi, gyda'r uf­udd-dod a'r gostyngeiddrwydd mwya gyda dwys gydnabyddiaeth o'm hanheulyngdod fy hun­an, ac yr ydwyf yn taer ddeusyf pardwn a ma­ddeuant.

Yno cyd gyssylltiwch yn ddifrifol ac yn Dde­fosionol ar offeiriad yn y Gyffes gyffredinol [Hollalluog Dduw Tad ein Harglwydd Jesu Ghrist &c.] ac ar ddiwedd hynny dwedwch.

ARglwydd wele fi'n ymwrthod am-mhech­odau ac yn Adnewyddu f' Addunedau am haddewydion i fyw fel y gwedde i Gristion, Cy­northwya fi o Dduw daionus trwy dy Ras, fal y gallwi gyflawni'n ffyddlon yr Addewidion hyn a wneuthum i'n awr.

Pan dretho'r Offeiriad y rhyddhad neu'r Absolussiwn derbynwch gyda'r Diolchgarwch ar llawenydd mwya, ac yno dwedwch a llef uchel Amen, ar ol y geiriau hynny.

Holl-alluog Dduw o nefol Dâd, yr hwy o'i fawr Drugaredd a addawodd faddeu eu pechodau i bawb ac sydd lwyr Edifeiriol, a [Page] thrwy wir ffydd yn troi atto ef. Cymmer dru­garedd arnoch, Amen.

Pardyna a gwared hwy oddiwrth i holl be­chodau Amen.

Cadarnha a nertha hwy ym-mhob daioni, Amen.

Ac ach dygo i fywyd tragywyddol trwy Jesu Ghrist ein Harglwydd Amen.

Yno gwrandewch yn ddiesceulus Eiriau cyss­urus ein Jachawdwr a'i Apostolion, i'r cyfryw rai ac sydd wir Edifeiriol, a chwedi diwedd y rhain dywedwch.

Arglwydd Caniadha i mi galonwir ddryll­iedig a Defosionol, a bydded i ystyriaeth o'th anfeidrol Ddaioni, o fy Jachawdwr anwyl, gy­nhyrfu fi i'th garu a'th wasanaethu di'n bûr ac yn ddifrifol holl ddyddiau f' Enioes.

Cyffrowch eich Serchiadau, ac ymdderchafwch eich Calonnau (fel y mae'r Offeiriad yn eich Cynghori), i fendithio a moliannu Duw am ei anrhaethol gariad i Ddynol ryw, a chwedi hynny i chwy gydsylltu'n ddifrifol yn y Weddi odidog honno, nid ydym ni'n rhyfygu dyfod at dy Fwrdd di &c. A phan orphenir y weddi hon deliwch sulw'n ofalus ar cyssegriad y bara ar Gwin yn ol Ordinhaad Christ ein Jachawdwr, A phan ddeloch at y geiriau hyn, allu bod yn gyfrannogion o'i fendigedig gorph ai waed, dywed yn ddigel wrthit dy hunan Amen.

Ac yn niweddiad y weddi hon, yn y geirieu hyn, gwnewch hyn cynnifer gwaith ac ei i'r yfoch er cof am danaf Dwedwch.

O Gyfoethocced trugareddau Christ! O Ddir­gelwch Rhyfeddol ym-Mhrynedigaeth Pe­chaduriaid [Page] colledig! o Fy 'Mhrynwr Bendigedig, Dysg i mi dy gofio di mewn peth mesur fel y dylwn; Bydded dy gariad ti tuac at Eneidieu Dynol ryw, yn fynych yn fy meddwl: Eithr yn Awr bydded i ti fy nerthu i wneud hyn mewn moddion mwy anrhydeddus a rhagorol; Arg­lwydd Jesu Cynorthwya fi i gofio am danat ti, fel y dylau y [...]yfryw un ac sydd wedi itti ei br­ynu a'th werihtawr waed, a chwedi f' adgen­edlu trwy dy lân Yspryd, fel y gallwy deim­lo holl alluowgrwydd i' Enaid yn bywhau, ac i ogwyddo'n ddifrifol yn ôl d' ewyllys di' ac ei­tha fyngwybodaeth fy hun y rhann arall o'm bywyd, fel yn ôl marwolaeth y gallwi fwy gyda thi byth bythoedd Amen.

Pan fo'r Offeiriad ei hunan yn Cymmuno, Gweddia yn ddifrifol drosto ef.

YR Arglwydd yn drugarog a'mwelo a thi, ac y wrandawo arnat Caniadha i ti ddeisyfi­ad dy Galon, a chyflawna dy holl feddwl, Cy­northwyed yr Arglwydd daionus di'n yr Ordin­hâd Sanctaidd hon, a bydded i'th Weddiau a'th Ersynion drosot dy hun, ninnau, a'r Eglwys Gyffredinol, y rhai a Offrymwyd i fynu'n ôl d' Ewyllys di o Dduw, Gyrhaedded yn Effeithiol ryddhâd yn ôl yn angenrheidiau ac i osod allan d' Ogoniant ti trwy Jesu Ghrist ein Harglwydd Amen.

Tra fo'r Offeiriad yn dyfod attoch ar Bara cysseg­redig dwedwch.

SAnctaidd, Sanctaidd, Sanctaidd, Arglwydd Dduw Hollalluog, nid wyf deilwng o'r llei­af o'th drugareddau a llai o lawer i fod yn gy­frannog o'r Sacrament Bendigedig hwn y gwystl mwyaf, ar drugaredd fwyaf a dderbyniodd mei­bion Dynion erioed O Cynorthwy a fi 'gyflawni fyngostyngeid drwydd, f' anghenrheidiau am ha­nheilyngdod; Cyflawna fynnhristwch o herwydd fy mhechodau tu ag at fy niffygion a 'much­edd annuwiol; O dosturiol Jesu; fy anwyl Ja­chawdwr, Cyflawna di a'th Haeddedigaethau; fy holl angenrheidiau fel y gallo'r Ordinhâd Sanctaidd hon er tragywyddol fantais 'm Hen­aid Gwerthfawr ac anfarwol Amen.

F' Jachawdwr Bendigedig, Amen.

Pan gynnigir i chwi y Bara Cyssegredig cyd we­ddiwch yn ddifrifol ar Offeiriad yn y weddi ferr dra rhagorol hon.

Corph ein Harglwydd Jesu Ghrist, yr hwn a roddwyd drosofi, a gatwo fynghorph a'm hen­aid i fywyd tragywyddol. Yna attebwch a llef uchel, Amen.

Tra fyddoch yn ei fwytta, meddyliwch fel hyn rh­yngoch a chwi eich hun.

JEsu Anwyl, yr wyf yn bwytta hwn er Coffa­dwriaeth o'r petheu 'wnaethost ac y ddiodde­faist er mwyn achub pechaduriaid; A thrwy'r [Page] hon 'rwy'n fy'nghyflwyno fy hunan i'th wasan­aethu di, y rwy'n addo ac yn ymroi trwy dy Râs a'th gynorthwy i barhau mewn y marfer o' Dduwioldeb holl f' Enioes. Ar ol hyn chwi ell­wch ddwedyd hefyd.

O gariad diamgyffred Duw! Carediccaf, mel­ysaf, a mwyneiddiaf Jesu pa fath gariad yw'r hwn a ddangnossaist i'r Byd a Phechaduriaid

Nid oes fwy Cariad na hwn gan nêb, I ddyn roi ei Enioes i lawr dros ei Gyfaill, Eithr yma y darfu i Dduw ryglyddu i gariad i ni, pan oeddem yn Elynion iddo, fo rodd ei fab i fawr trosom.

Arglwydd pa fodd y diolchaf i ti fal y dyl­wn? a pha fodd y tala i'r pwyth adref iddo am hyn i ryfeddol Ddarostyngiad a'r Gared­igrwydd?

O Dduw daionus anfeidrol yw f' nyled i ti am dy haelioni! Greadur pechadurus yr hwn a brynaist ath wrthfawr bridwerth im hach [...] ar fath rodd odiaethol ac am anrhydeddais a [...] fath oruwch Ragorfaint, a bwyta ar dy Fwrdd di, pa ofn? pa barch pa gariad? pa ddiolch­garwch moliant a gogoniant a ddylwn ei dal [...] i ti? fy Nuw am Prynwr Grasusol yr hwn [...] fath gariad, ar fath dosturi a brynodd i mi Je­chydwriaeth dragywyddol.

Sanctaidd Jesu a charediccaf Arglwydd rwy'n dwys gydnabod f' amryw am mawrion rwym edigaerhau i'th garu di, ac hefyd rwy'n gydn [...]byddus nad allai gael rhyddhâad o'r rhwyme­digaeth yma heb gynorchwyon dy Ràs di. O a [...]wain fi fel y gallwyf redeg ar dy ôl di, rhw [...] [Page] fynghalon wrthit ti fel y gallwi garu d' enw, a byw i'th Ogoniant ac yn ôl marwolaeth gael fyngogoneddu-gyda thi Jesu f' Anwylyd byth bythoedd, Amen.

Cyn derbyn y Phiol neu'r Cwppan dwedwch.

O Arglwydd bydded i'th werthfawr waed lan­nau fy'nghydwybod oddiwrth weithredoedd marwol: Arglwydd mi a'th ufuddha ac a'th was­anaetha di yn well nag erioed o'r blaen, i'r ydw▪ yf yn addo o hyn allan arwain y cyfryw fuchedd ac y weddai i Gristion, o sicera a nertha fi, a by­dded i'r Gwin Sacramentaidd yr hwn i'r wyf ynghylch myned iw dderbyn, drosglwyddo i mi fywiog gynorthwyon dy Ras, a chwbl bar­dwn o'm holl bechodau ac y mae fy 'mddiried y gwná ef felly trwy Haeddedigaethau a'th drug­arowgrwydd di anwyl Jesu fy Jachawdwr a [...] Prynwr Amen.

Pan gynnigir i chwi'r cwppan Bendigedig, dwed­wch wch yn eich Calon gyda'r sêl, gwresowgrwydd a'r Defosiwn mwya ar allo fod

GWaed Ein Harglwydd Jesu Grist, yr hwn y dywalltwyd drosofi. a gatwo fynghorph am Henaid i fywyd tragywyddol, gan atteb a llef uchel, Amen.

Wrth i Yfed dwedwch yn eich [...] fe

ARglwydd Jesu am hanwyl Jachawdwr, selia i mi Bardwn, Gollyngdod, a maddeuant o'm holl b [...]chodau, a sefydla a chryfha fi 'mhob daio­ [...]i.

Defosiwnau Sacramentaidd.

OFe [...]digediccaf Brynwr Christ Jesu, Irwyfi 'n gwir gredu ddarf od Croeshoelio dy Gorph A thywallt dy waed allan o honaw, cyn wi [...]ed ac mine dderbyn y Bara hwn, a'r Gwin hwn wedi i roddi or neilltu oddiwrth y Bara, a hynny er mabdeuant om pechodau i'n gystal ac eraill-Ac i't ydwy hefyd yn credu mor sefydlog a diysgog i mi gyda'r Bara ar Gwin hwn dderbyn yn ddiau mewn modd. Ysprydol dy Gorph a'th werthfawr Waed, trwy ba foddion y mae fy 'mhechodau wdi' cyflawn olchi ymmaith, am Henaid gedi ei buro a'i lawenychu, a thrwy hyn­ny mi dderbyniais yr holl fudd ar daioni. A dwrcasodd dy farwolaeth a'th Ddioddefaint i mi megis siccr hawl o fywyd traywyddol, Hyn o wynfa fededig Jesu y rwy'n ei gredu, Cynorthwya f' an [...]hrediniaeth, llenwa 'nghalon a chyflawn lawenydd Cariad a Di [...]chgarwch am dy Fendith­iou anfeidrol hyn, Amen.

Ochneidiau byrrion yw harfer, bryd y fynnir o'r Dydd ar ôl derbyn y Cymmun Sanctaidd.

PA beth y gafi dalu'r Arglwydd am yr holl dda­ioni y wnaeth ef imi. myfi a gymeraf Cwppan Jechydwriaeth ac a alwaf ar Enw 'r Arglwydd.

Mae'n deilwng i'r Oen yr hwn a laddwyd, dder­byn Galluowgrwydd, Cyfoethogrwydd, Doethin­eb Cryf [...]er, Anrhydedd; Gogoniant a bendith.

Gan hynny moliant, Anrhydedd, Gogoniant, a gallu, a fyddo i'r hwn sydd yn Eistedd ar yr Or­seddfaingc, ac i'r Oen byth bythoedd Amen.

Tyngais a chyflawnaf, y cadwn farnedig [...]thau dy gyfiawnder.

[Page]Cynnal fy ngherddediad ŷn dy lwbyrau, fel na lithro fy nhraed.

Diolchgarwch ar ôl derbyn y Cymmun Sanctaidd

O Dydi ffynnon pob Daioni, o ba le y mae pob peth daionus a pherffaith yn tarddu allan, ac i ba un y dylem roddi'r holl Anrhydedd ar Gogo­niant, mae 'nymuniad gyda gwresowgrwydd me­dd [...] a serchiadau Calon ddiolchgar, dy folianu a'th glodfori di am dy anfeidrol Drugaredd a dei­lyngaist i mi; Arglwydd pa beth yw Dyn fel i'r wyt mor ofalus am dano ef? ac i ti ddanfon dy anwyl fab i ddiodde mor chwerw o'i blegid? Eithr o Arglwydd pa beth wyfi 'r hwn ydw [...]f yn un o'r rhai gwaethaf? ac im fod yn rhannog or Cymmod hwn, a minne wedi ei ddibrisio ef ai ddioddefaint gyn amled; O beth am gyfiwch a dyfned yw 'rhain dy drugareddau di. ac y fu wiw gennit gynwys i mi gael adn [...]wyddu fynghyfammod a thi; yr hwn y ddarfu i mi dorri mor annynad! ac i mi 'r hwn nid wyf d [...]ilwng o'm bara beunyddiol yr hwn sy'n cy [...]nal i fynu y Corph i gael fy ngwneud yn gyfran [...]og o Fara'r bywyd. yr hwn sy'n maethu'r Enaid, fal y gallo Duw 'r holl berffeithrwydd, Deilyngu i uno ei hun ar fath druan halogedig [...]c wy [...]! Oh, fy Nuw na oddef i mi mwyach mi attolygaf arnat na thr­othwy dy Râs di yn drythyllwch, na byddo dy drugareddau 'n achosion o'm diogelwch, Eithr by­dded i'th anrhaethol gariad fy nghymmelli Ufudd­dod, a chan i'm Harglwydd gogoneddus farw dros [...]i, na fydded i mi fyw [Page] ddim amgenach i mi fy hunan, eithr yn hytt­rach iddo ef: O Arglwydd mi wn nad oes dim Cyttundeb rhyngot ti a Belial, Gan hynny er pan fu wiw gennit fyned i mewn i'm Calon, O na fyd­ded i mi fyth lochesu dim melus chwantau iw ymlid ef ymmaith oddiyno, eithr bydded i hwn am Pr­ynodd mor ddryd, yn gyfannedd gadw meddia­nau ynof. rhag i ddim byth fy nghyrchu allan oi ddwylo ef: l'r dibenion hyn rhynged fodd itti 'n rassusol wilied drosof am ymddiffyn rhag holl ruthreu 'n gelynion ysprydol. Eithr yn enwedig gwared fi oddiwr [...]h fy llygredigaeth f' hunan a dirgelion fy nghalon dwyllodrus, yr hon sŷdd rŷ ewyllysgar iw rhoi i' fynu ei hunain yn ysclyfa­eth. A lle gweli di fod ynwi naill ai natturiaeth i wendid, neu lithro iddo'n rhy aml trwy ddefod ac arfer. Gan hynny mi attolygaf arnat trwy dy nerthol allu fy 'mddiffynnu (Yma crybwyll am rai o'th brofedigaethau perycclaf) O Arglwydd na fydded i Ddioddefaint fy Jachawdwr dros fy mh­echodau na'r Addunedau a wneuthum yn eu her­byn ymadel mwyach o'm meddwl; Eithr bydded i goffadwriaeth y naill fy nghyfnerthu i gyflawni 'r llall, Fel na bo i mi fyth gyttuno ar trachwa­ntau a hoeliodd ei Ddwylo, a wanodd ei Ystlus. ac y wnaeth ei Enaid yn drymllyd hyd farwolae­th: eithr a mine 'r awrhon wedi rhoi i' enw i mewn dan ei Faner ef, fel y gallwi ymladd yn wr­ol a chanlyn Distain fy Jechydwriaeth; i e. os bydd achosion trwy Fôr gwaedlyd, Arglwydd derchafa fy nwylo sy'n llaesu, am gliniau egwan fal na lesmeiriwyf yn y Filwriaeth; O nertha [Page] fi'r hwn nid wyf abl o honaw fy hunan i ymdrechu a chyfrwystra profedigaethau; Pa sawl gwaith y troes i'nwysgfy nghefn yn nydd y Frwydur? Pa s [...] ­wl un or Addunedau Sacramentaidd hyn a halo­gais i? Etto Arglwydd i'r wyf yn cyfadde fy mod yn Feddianol or unrhyw anwadal a thwyllodrus Ga­lon yr hon sy'n aml yn fy mradychu ac yn fy nh­ywys i wneuthur rhwygiad drwyf' addunedau hyn, O dydi'r hwn wyt i e. ac Amen. Ym mha un nid oes gyscod o newediad, Cytrannoga mi attolygaf arnat roddi im y fath feddwl sefydlog, fel na chi­liwi mwyach or nailltu megis bwa candryll, eit­hr bydded fy nghalon yn gyfan gyda thi, fal y gallwi fod 'n wastadol ac yn ddiysgog yn dy Gyf­ammod ti, ac na fydded i un or amcanion daion­us a gynhyrfodd dy Yspryd Sanctaidd ynwi y Dŷdd heddyw ddifannu ymmaith fal y gwnaeth amryw gynt, ond bydded iddynt ddwyn ffrwyth i fywyd trgywyddol, Caniadha hyn o Dad Trugarog trwy Haeddedigaethau a Chyfryn­giad fy Jachawdwr Croeshoeliedig Jesu Christ Amen.

Y Fawl wers neu'r Weddi Derfynawl.

O Arglwydd maddeu Gyfeiliorni ac oerder fŷ Neisyfiadau amherfynion hyn, ac na wobrwya fi 'n ôl fy anwireddau nam Haeddedigaethau; Ei­thr yn ôl f' angenrheidiau a'th helaethlawn dru­garowgrwydd Yng-Hr ist Jesu, Yn Enw ac yn ngeiriau Bendigedig pa un y gorphennaf f'am mherffaith Weddiau hyn gan ddywedyd. Ein Tâd yr hwn wyt yn y Nefoedd, &c.

TERFYN.

Llyfrau Cymraeg heblaw r' Llyfr hwnyn Argraphe­dig, ac ar werth gan Thomas Durston yn y Mwythig, gan Mr. Rogers yn Abergafenny.

LLyfr Gweddi Gyffredin, y Cydymmaith Goreu Yn y tŷ a'r Stafell Cystal ac yn y Deml, neu gascliad o weddiau allan o Liturgy Eglwys Loegr? yn Angenrheidiol holl [...]eulu yn­ghyd ac i bob Dyn yn neillduol wrtho ei hun, Gyda swydo Bennodol i'r Sacrament.

Llyfr gweddi Gyffredin o faintiolaeth ganolig yn gymwys iw arferu mewn Teulu.

Llyfr Gweddi Gyffredin o lai maintioli yn Gymwys i'r Llogel neu'r bocced newydd Argraph­wyd.

Llyfr Resolution neu hollawl ymroiad ddifrifol i wasanaethur Arglwydd. &c.

Llyfr Plygain yn ol gwasanaeth yr Eglwys. Llyfr o Fu [...]hedd yr Apstolion ar Efangylwyr.

Llyfr Esponiad ar Catechism yr Eglwys o waith Escob Baddon.

Llyfr A. B. C. a Catechism yr Eglwys wrtho.

Llyfr atcofiad or scrythyr neu Holiadau ac Attebion.

Llyfr Llythur oddiwrth weinidog o Eglwys Logr at ymneilltuwr oi blwyf o farn y Prestbyterian.

Llyfr Carwr y Cymru, yn anfon ychydig gymmorth i bob Tâd a mam sy'n eyllysio bod eu plant 'n blant i Dduw hefyd. &c.

Llyfr ymarfer o Dduwioldeb, yn Cyfarwyddo dyn I rodio fel y rhyngo ef Fodd Duw.

Llyfr Hanes y Byd a'r amscroedd, printiedig yn Llundain.

Llyfr Cyfarwyddiad i Fesurwyr, neu arfer Cyffredin o'r ddwy Droedfedd.

[Page]Llyfr Meddylieu Neilltuol a grefydd, Dosbarth­ [...]dig mywn Duddeg pwngc; a Bwriadeu Gweith­ [...]dwy Ffurfiedig arnynt; gan Gwilim Beveridge- D. D. O Gyfieithad Jago ab Dewi, printiedig yn Llundain.

Llyfr y Bardd Cwsc; printiedg yn Llundain.

Ac amryw Lyfrau bychan craill nad oes yma mor lle iw henwi.

BY Thomas Durston. Printer and Bookseller at the sign of the Printing Press in shoe maker Rowe in Shrewsbury you may be furnished with all sorts of welch Books and Almnacks, Likewise all sorts of English Books in Divinity, History; Law, Phisick, Poetry, Mathematicks, &c Bibles and Common Prayers of all sorts and sizes; all sorts of school Books, play Books, musick Books, flute Books, Table Books pocket Books Inkhorns Fountain pens Flutes, Flagillets wax wafers Sand boxes Standishes, maps pictures Spectacles, Sha­gareen Cases, Reading Glasses for all Ages, Bur­ning glasses. Cards of all sorts and Prizes; Red and Black led pencils, Letter Cases prospectives, Vi­olin and harp strings Harbin's Japan cake Ink, Stoughtons great cordial Elixir for the Stomach. The best sort of Holmans Ink powder, paper Hanging for Rooms good writing paper of all Prizes, all manner of coloured paper, Batemans tru spirit of scurvy grass Both golden and plain, and old Books you may have well Bound at very Reasonable Rates.

Likwise you may be Furnished with large Ch: Com Prayers in welch; and the Small Bibles lately printed in London with or without the Common Prayer.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.