GWAITH Mr. REES PRIC …

GWAITH Mr. REES PRICHARD, Gynt Ficcer Llanddyfri yn Shîr Gaer­fyrddyn: A brintiwyd o'r blaen mewn tri Llyfr, wedi gyssylltu oll a chwbl (er nid yn yr vn drefn a chynt) ynghyd â Phedwaredd Ran, y nawr gynta yn brintiedig.

Deut. 31.19, 21.

Scrifennwch yr awron i chwi y gân hon; dysc hi hefyd i feibion Israel; a gosod hi yn eu g [...]nau hwynt, fel y byddo y gân hon yn dyst i mi yn erbyn meibion Israel: canys nid anghofir hi o enau ei hâd ef.

Calvin in Isai. 5.1.

Res insignes & praeclarae Carmine de­scribi solebant, Ut omnium ore circumferentur, & perpe­tuum extaret earum monumentum: Sic enim celebrior fit doctrina, quam si simplicius traderetur.

LONDON, Printed by J. Darby, viz. one third Part, and the fourth (now first printed) for Samuel Gelibrand, at the Golden-Ball in St. Pauls Church-yard, 1672.

Ir parchedig Dr. William Thomas, Dean o Gaer-Angon, Mr. Hugh Edwards o Langadog yn shîr Gaer-Fyrddyn, Mr. David Thomas o Fargam, Mr. Samuel Jones o Langynwyd yn shîr Forgannwg, Mr. William Lloyd o St. Petrox yn shîr Benfro, Gweinidogion yr Efengyl, y mae Gosodwr-allan y llyfr hwn yn chwennych pôb mâth o ddedwyddwch amserol a thragwyddol.

Barchedig Syrs

YN gymmaint a môd i yn credu eich bôd chwi yn wŷr ac sydd yn ofni Duw, ac yn rai ac sydd yn dymuno yn dda i eneidiau ein cŷd-wladwŷr y Cymru, yr ŵyfi yn gw neu­thur yn Hyf. eon i ddanfon allan y llyfr hwn (ac sydd yn dyscu ofn yr Arglwydd) sef, Gwaith yr Awdwr bendigedig Mr. Rees Prichard, tan eich enwau chwi, gan ddeisyf ymgeledd iddo, megis i blen­tyn ymddifad, tan gysgod eich adenydd.

Ac yr ŵyf yn cyssegru y llyfr hwn i chwi, oble­gid bôd rhwymedigaeth arnafi, iê ac ar holl Gymru i fôd yn dra diolchgar i chwi. Canys os derbyni­wyd dim daioni trwy y Trydydd Lyfr o waith yr Awdwr, (fel yr ŵyfi yn credu ei dderbyn, megis trwy y lleill) y mae holl Gymru yn rhwymedig am hynny i chwi y Parchedig Dr Thomas; canys y dystiolaeth dda, a roddasoch chwi ymma yn Lundain, dan eich llaw, am yr Awdŵr a'i Ddau [Page] lyfr cynta, y fu fôdd i gael cennad i brintio 'r Try­dydd.

Ac y mae 'r wlâd, Barchedig Syrs, yn rhwy­medig i chwithau y lleill, am y cymmort [...] y ro­ddasoch (ym-mysc eraill foneddigion a gweinidogion cyfrifol) i myfi yn y gwaith o brintio y Testament newydd, a'r Psalmau, a Chatechism Mr. Perkins, (y sydd ar fyrr i ddyfod i'r wlâd) fel y gallei y Cymru sy heb saesneg, gael yn eu iaith eu hunain gyfarwydd-deb ym matterion eu iechydwriaeth dra­gwyddol.

Mat. 16.26.Y mae yn ddilys, yn gymmaint a bôd yr enaid yn werthfawroccach nâ'r corph, iê nâ'r holl fŷd, fôd yr elusen neu 'r cynnorthwy honno a roddir i gyflaw ni angenrheidieu yr enaid, yn fwy rhagorol, ac yn fwy cymmeradwy gŷdá Duw, nâ'r hon y roddir i gyflawni angenrheidieu 'r corph.

Mat. 10.42.Ac os o'i râs y'gobrwya ein Harglwydd Jesu y sawl a roddant yn unic phiolaid o ddwfr oer, i dorri syched corphorol un o'r lleiaf o'i ddiscyblion ef; Pa faint mwy y gobrwya se y sawl sydd yn torri syched ysprydol miloedd o eneidiau mewn gwlâd, trwy ddanfon Gair Duw iw mysc? A gofia Christ y dydd diwetha weithredoedd o drugaredd i'r corph? Mat. 25. gan ddywedyd, Bum newynog, a rhoddasoch i mi fwyd; sychedig, a rhoddasoch i mi ddiod; noeth a dilladasoch fi: Ac a anghofia fe weithredoedd o drugaredd i'r enaid? Na atto Duw i ni dybied hvnny.

Wedi cael profiad eisoes o'ch cariad chwi tu ac at ein Gwlâd, yr wyfi yn gobeithio, (gan nad all gra [...], ble bo fe, fôd yn segur, ond cyfrannu ei hunan er daioni i eraill) y bydd i chwi fôd yn barod i wneuthur ychwaneg o'r fâth weithredoedd: ac yn [Page] bennaf dim, a bydd gwiw gennych i gymmeryd e mewn part da, i mi ddeisyf arnoch, i wneuthur eich gore, i gael printio yr holl Fibl cymraeg drachefn.

Canys er danfon ir wlâd y Testamentau, i gyfla­wni y diffyg presennol sydd yno O Air Duw yn brintiedig; fel y bo i bobl dlodlion, a gwasanaeth­ddynion, a phlant ieuaingc (nid yw abl i brynu Bi­blau) trwy gyrhaedd y rhain, gael ychydig foddi­on ychwaneg i cyfarwyddo nhwy ym matteri­on eu iechydwriaeth: Etto er hyn i gŷd, gan sôd yr holl Scrythur wedi ei rhoddi gan ysprydoliaeth Duw, ac yw fuddiol i athrawiaethu, i argyoeddi, 2 Tim. 3.15, 16, 17. i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder; fel y byddo dŷn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bôb gwei­thred dda; fe fyddei drueni tôst i adel pobl heb y cwbl o honi; yn enwedig yn y fâth wlâd, ble mae☜ llawer o Weinidogion, iw dinistr ei hun, Ezek. 33.8. Heb. 13.17 yn dra es­ceulus i borthi eu praidd, fel pe ni bae ddim cyfrif i roddi i Dduw y Dydd diweddaf, am yr eneidiau dan eu golygiaeth. Ac o gael yr holl Fibl iw mysc, hwy fyddant ar y ffordd, oni bydd y bai arnynt eu hunain, i gael, nid rhan, fel y nawr, ond y cwbl o'r☜ llesâd, y mae 'r grasol Dduw wedi bwyntio i roddi allan i blant dynion trwy ei Air sanctaidd.

Y mae awydd yn llaweroedd o'n gwlâd i brynu Biblau yn gystal a Thestamentau cymraeg, fel y gŵyr Marsiandwyr Cymru yn ddigion da, wrth yr ymofyn y sydd yn fynych am danynt, yn, eu Shioppe ys blynyddoedd, ble nid ydynt iw cael am arian.

Nid oes ymma wedi adel ond ynghylch hanner cant o honynt, a'r rheini mor ddrûd fel na ddichon gweithwŷr, a gwasanaeth bobl, yn enwedig bugei­haid tlodion gyrraedd mo honynt: canys rhaid idd­ynt hwy dalu rhagor yn y wlâd nag yr ydys yn ei [Page] Mr. Owen, a Stationer at the white Hart in Bread-street in London, has about 50 Welsh Bibles yet unsould, which the Dealers of Wales would do well to send for. They may have them for 6 s. a Book, it may be 4d. less if they buy any quantity.dalu ymma am danynt. Er gwaeled yw'r cyfryw rai, etto rhaid meddwl, fod gan bôb yr vn o honyn [...] enaid mor werthfawr iw gadw neu golli, ac enaid y Tywysog pennaf yn y bŷd; ac o herwydd hynny, y maent yn deilwng iw cofio yn gystal ac eraill.

Ni ddichon y cyfryw wneuthur densydd yn y bŷd o'r bibl saesneg, na miloedd ychwaith o Ben­teuluoedd yng Hymrae, o herwydd sôd y iaith yn ddieithr iddynt. Ac pyt fae dros lawer oes dri chant ar ddeg o Saefon dyscedig, cydwybodol, ar vn­waith yn cadw ysgolion, yn nhair Shîr a'r ddeg Cym­ru; i ddyscu saesneg i'n cydwladwyr: er hynny ni byddei bossibl, i gyffredin bobl ein Gwlâd golli iaith eu mammau y pum can mlynedd ac a ganlynant, os parhaiff y Bŷd cyhŷd a hynny. Canys nid oes ond rhai o'r cyffredinwŷr yn abl cadw eu plant mewn ysgol. A'r Sawl a ellir eu cadw yno, wedi dysgu saesneg yn yr ysgol, rhaid iddynt ddywedyd cymraeg gartref, ac onid ê nis deallir mo honynt: ac pan tyfont i fynu i fôd yn Benteuluoedd ei hu­nain, fe wyddys mae cymraeg a orfydd arnynt ei ddywedyd ym-mysc eu tylwyth, ac yn gyffredi­nol yn y ffeirie a'r marchnadoedd: A pha fôdd erbyn hyn y collir y iaith gymraeg? Ac etto dym­ma 'r fath beth y mae rhai yn ei Tybied. phansio; ac ar hynny yn barnu, nad da printio mâth yn y bŷd o lyfrau cymraeg i gynnal y iaith i fynu; ond ei fod yn weddus ir bobl golli ei iaith, a dysgu saesneg. Digon da. Ond cofied y eyfryw, mai Haws djwedyd mynydd na myned trosto.

Gwîr yw, mae da iawn fyddei, pyt fae pawb yng-Hymru yn deall saesneg; canys yna ni byddei arnynt eisie na Biblau, na llyfrau da eraill, gan fôd Printwyr yn Llundain er mwyn eu hennill eu hu­nain, [Page] yn printio miloedd o honynt bôb blwyddyn yn y iaith honno, fel nad all fôd diffig yn y mat­ter hynny mewn vn lle yn y Deyrnas.

Ond er fôd llaweroedd yn ein Gwlâd (i Dduw y byddo 'r diolch) yn medru gwneuthur denfydd o'r Bibl saesneg: etto gan fôd y peth yn amgenach gydâ mwy o lawer nâ'r trydydd ran o bobl Gym­ru, ac nad oes possiblrwydd mewn llawer oês, nac iddynt i gŷd, nac ir rhan fwyaf o honynt i ddyscu cymmaint o saesneg, ac y gallont ddeall y Bibl yn y iaith honno (er dyscu o honynt yhydig i'w arferid mewn ymadrodd cyffredin) oni bae i Dduw wneuthur gwyrthiau, gan roddi tafodau dieithr iddynt, fel y rhoddodd efe gynt ir Apostolion; (yr☜ hyn beth nid oes disgwyl am dano, gan nad oes a­ddewid oi blegid) Gan fod y peth meddafi fel hyn, Pwy (ond Dyn dieithr yn ein Israel ni, neu y cyfryw rai nad ydynt yn Mawr. dwys feddwl am gyflwr eneidiau pobl y sydd yn eiste mewn tywyllweh a chysgod angeu)☜ nas gwél mor anghenrheidiol ydyw, Hos. 4 6. os mynnir na ddi­fethir rhai o ddiffig gwybodaeth, i ddanfon allan yr holl Fibl iw mysc yn y iaith gymraeg.

Ac am y Tyb. phansi y soniais i o'r blaen am dano, y sydd gan rai y nawr fel gynt, clywch beth y ddywaid Mr. Cyffin yn ei llythyr at y Darllenydd, o flaen Deffyniad ffydd Eglwys Loeger; yn y flwy­ddyn 1594. Eb efe,

ACymmw­ys.chymmesur yw adrodd i ti yn hyn o fan pa ddi­aledd a llwyr-gam, a wnaeth gŵr eglwysig o Gym­ru mewn eisteddfod; pansonniwydgrybwyllwyd am-roi cennad i vn Artist, Printiwr.celfydd i brintio Cymraeg: yntef a Ddywe­dodd.ddoedodd nad cymmwys oedd adel printio mâth yn y bŷd ar lyfreu Cymreig, eithr ef a fynne i'r babl ddyscu Saesonaeg, a cholli eu Cymraeg, ganDdywe­dyd.ddoedyd [Page] ym-mhellach na wnae'r Bibl Cymraeg ddim da,Ond.mamyn, llawer o ddrwg. Wele, ond rhinweddol ☞a naturiol oedd fôd Vn ac nid yn, y ddy­lei fôd im tyb i.yn eglwyswr fal hyn? A alle Ddiawl ei hun ddoedyd yn amgenach? Nid digon oedd gantho ef speilio 'r Cyffredin am eu da daiarol, ond ef a fynne gwbl anreithio eu heneidieu hwy he­fyd. ☞Herwydd pwy ni ŵyr mor amhossibl fydde dwyn yr holl bobl i ddyscu Saesonaeg, ac i golli eu Cymraeg; ac morDosturusresynol yn y cyfamser fydde colli peth annei­rif o eneidieu dynion eisieu dysc a dawn iw hyfforddi? Ond tebig oedd hwn i'r ci yn gorwedd yn y preseb, ni wnae na bwytta gwair ei hun, na gadel i'r ŷch bori chwaith? Na bo gwell helynt ei enaid ef nag oedd ei ystyriaeth fo am eneidieu eraill.DywededDoetted pawb Amen, ac na chlywer bŷth mwy sôn am dano. Ond gan fôd llyfr gair Duw wedi ei gymreigu a'i brintio, nid gwiw i [...]êb o blant diawl bellach geisio tywyllu goleuni Cymru, gwnelont eu gwaethaf.

Ond yn gymmaint a bôd offeiriaid y papistiaid yn galw yn unic am Grêd ac ufydd-dod dall oddi­wrth y bobloedd, sef i gredu ac i ufyddhâu fel y mae eglwys Rhufain (sef y Pâb, neu 'r Pâb a chyngor) yn gorchymyn, ac yn credu (bid drwg, bid da) heb gennadu i'r Rhai nid ydynt wyr eglwysig. dynion llŷg, i chwilio 'r Scrythyrau, ac i brofi athrawiaethau yr eglwys­wŷr wrthynt hwy,1 Thess. 5.21. 1 Jo. 4.1. Jo. 5.39. Act. 17.10, 11, 12. Esa. 8.20. megis wrth reol gymmwys, (fel y mae Duw yn erchi gwneuthur ag athrawiaeth pawb, ac fel y gwnaeth y Beraeaid gynt ag athrawia­eth Paul a Silas, am yr hyn y mae 'r yspryd glân yn eu canmol hwynt, a thrwy wneuthur yr hyn y mae dynion yn dyfod i gredu, ac i ufyddhâu i'r gwirionedd, (fed y daeth y Beraeaid) nid ar awdurdod dŷn, ond ar awdurdod y goruchaf Dduw yn llefaru yn ei Air) yn gymmaint meddafi a bôd offeiriaid y papistiaid [Page] yn attal y Scrythyrau oddi wrth y bobl yn iaith eu mammau,Psal. 119.105. Marc. 4 21 ac felly yn dodi un o ganhwyllau Duw dan lestr, yn wrthwyneb iw Ewyllys sanctaidd ef; oddieithr iddynt ganiattâu hynny idd eu cyfeillion yng-wledydd y Protestantiaid, nid i farnu wrth­ynt, yn ôl Barn yr Arglwydd yn llefaru yn ei Air, p'un a'i gwîr ai celwydd y mae eglwys Rufain yn ei ddyscu, (canys rhaid iddynt druain dderbyn hynny i gŷd, a'i fwytta a'i lyngcu, heb ofyn vn cwestiwn, megis bwytta a llyngcu yr ŷch, a'i glustiau, a'i gŷrn, a'i golyddion, a'i gynffon, a chwbwl) ond i'r diben hyn ysgatfydd, fel y bo iddynt mewn lliw a rhîth saethu gydâ nyni yn ein Bwa, ac ymladd â nyni â'n harfau ein hunain: Allan o hynny, mewn rhyw wledydd, megis yn Hispaen, y mae 'n fatter bywyd (medd rhai) i ddynion fôd â'r scrythyrau wedi ei cyfieithu yn eu tai, neu i chwilio hwynt yn iaith eu gwlâd:

Ac ymmhellach,Mat. 13.24, 25. yn gymmaint a bôd offeiriaid y papistiaid (tra ydyw rhai o weision Duw yn cyscu) yn hau eu hefrau yng Hymru, yn gystal ac mewn llaweroedd o wledydd eraill, ac fôd ganddynt rhai Rhai we­di dyfod i mewn, a throi at­tynt hwy. Proselytiaid yno, fel y mae 'n eglur wrth eu llyfr cymraeg o ddefosionau, &c. (a elwir Allwydd neu agoriad Paradwys) a brintiwyd yn hwyr:

Ac yn gymmaint ac a dichon rhagor o'n cyd­wladwyr gael eu gwenwyno ganddynt; canys dy­fal iawn ydynt i ŵyr-droi, ac i dynnu pobl oddi­wrth Symlrwydd yr Efengyl, i gredu celwyddau, ac i arwain hwynt i ffiaidd eulynaddoliaeth, gwedi Troi. 2 Tim. 3.13. dieithro eu calonnau hwynt vn-waith oddiwrth y Scrythyrau, gan fôd gwedi eu twyllo eu hunain, a'u gyrru yn y blaen gan y Dat. 16 13, 14. Diawl i dwyllo eraill, gwedi eu gadel iddynt eu hunain gan Dduw [Page] trwy farn gyfiawn, 2 Thes. 2.10, 11, 12. i fod mewn amryfusedd cadern, fel y credont gelwydd, fel y barner yr holl rai nid oedd­ynt yn credu i'r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder:

Am y rhesymmau hyn, (Barchedig Syrs) ac eraill o'r fâth, yr ydwyf yn ei weled yn addas, (nid er eich mwyn chwi, y sydd yn gwybod y pethau hyn eisoes yn well na myfi, ond er mwyn y gyffredin bobl, i ddwylo pa rai y daw y llyfr hwn) i ddodi lawr, ac i eglurhau y ddau bwngc hyn.

2 Tim. 3.15, 16.Yn Gyntaf, Fod y scrythur lan yn abl i wneu­thur pobl yn ddoeth i iechydwriaeth, ac i fyw y fath fywyd yn y byd presennol, ac y caffo Dduw o­goniant, a'u eneidiau eu hun gyssur oddiwrtho.

Yn Ail, Fod Duw yn ewyllysio i ddynion Y rhai nid ydynt eglwyswyr llyg yn gystal ac ir eglwyswyr i chwilio, ac i ddarllen, ac i fyfyrio ar y Scrythyrau Sanctaidd, fel y ga­llont gael Daioni. budd a thragwyddol lesad iw enei­diau trwyddynt: er nad oes gwadu y dy lei 'r Gwei­nidogion, o herwydd eu galwad a'u swydd, wneu­thur hynny yn fwy nâ nêb arall,Mat. 13.52 fel y gallont ddwyn allan o'u tryssorau bethau newydd a hên er llesâd i'w gwrandawyr.

Psal. 119.105. D [...]h. 6.23.Fe fydd y pwngc cyntaf yn eglur ddigon os ysty­riwn ni, fôd y scrythyrau, yn Gyntaf yn gwasanaethu i oleuo y rhai tywyll angnhabyddus, i adnabod Duw a'i ewyllys sanctaidd ef: Ac yn Nessaf i argyhoeddi pobl am ei pechodau, 2 Tim 3.16 Rhuf. 7.7. Rhuf. 6.23 Jo. 5.39. a'r embeidus gyflwr y maent yn­ddo oiplegyd hwynt: Ac yn Drydydd i wneuthur ein Harglwydd Iesu Ghrist gwîr feddyg yr enaid yn gydnabyddus iddynt, megis yr hwn yn vnic ac a ddichon eu cadw hwynt rhag eu pechodau, a'r ddam­nedigaeth dragwyddol ddyledus am danynt: Ac ar ôl hynny i Psa. 19 7. Jo. 20 31. troi nhwy at Dduw trwy gredu yn Iesu [Page] Ghrist, gan eu 2 Cron. 34.18, 19, 27. gostwng hwynt am eu pechodau, a pheru iddynt alaru a chywilyddio am danynt, a'i ca­sâu, a'u Psal. 119.9, 104. ffieiddoi, a Psal. 119.9, 104. throi oddiwrthynt, ac ymadel â'r Dih. 6.24 Ps. 119.115 gyfeillach ddrwg sydd yn byw ac yn ymhyfrydu ynddynt, ac o ddydd eu troedigaeth at Dduw hyd ddydd Psal. 119.111, 112. 2 Tim. 3.16, 17. Tit. 2.11, 1 [...] marwolaeth, i fyw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y byd presennol.

Y mae yr scrythyrau yn llawn o'r Pethau hyn: Ac nid yw bossibl i vn rhyw ddŷn mewn oedran fôd yn gadwedig heb Jo. 17 3. wybodaeth mewn rhyw fessur o honynt. Canys y mae yr addewidion o drugaredd,☜ a bywyd tragwyddol, wedi eu gwneuthur yn v­nic i'r rhai sydd yn 1 Cor. 2.9 Jac. 1.12. caru, ac yn Luc. 1.50 Ps. 103.17. ofui Duw, yn Jo. 3.36. credu yn Iesu Grist, yn Act. 3.19. edifarhau am eu pecho­dau, yn Dihar. 28.13. Esay. 55.7. troi oddiwrthynt hwy, ac yn ymroi i wneu­thur Mat. 7.21. Heb. 5.9. Exod. 20.6. Psal. 103.17.18. ewyllys Duw trwy gadw ei orchymynnion ef;

Y nawr pa fôdd y dichon pobl gyflawni hyn i gŷd, (a thrwy hynny siccrhau eu henain eu bod hwynt hwy yn 1 Jo. 2.3, 4, 5. 2 Cor 1.20 Aelodau i Ghrist, a bod yr addewi­dion hyn 1 Jo. 2.3, 4, 5. 2 Cor 1.20 trwyddo fe yn perthynu iddynt,) oni fydd ganddynt wybodaeth o'r pethau sydd i'w cyflaw­ni?

A ddichon dŷn garu ac ofni Duw heb ei adna­bod ef?Mar. 2.17. Act. 2.37. Act. 16.30. A ddichon dŷn ymofyn am Iesu Grist vnig Feddyg yr Enaid, ac hiraethu am dano, ac ymroi i gredu ynddo, heb fôd yn deimladwy o'i ddolu­riau a'i glwyfau ysprydol, a'i gyflwr colledig heb­ddo? A ddichon dŷn alaru am bechod, a throi oddiwrtho heb adnabod beth yw pechod? A ddi­chon dŷn wneuthur ewyllys Duw, trwy ymdre­chu cadw ei orchymynnion ef heb wybodaeth o [Page] honynt? A pha fôdd y ceir gwybodaeth o hyn oll, ond trwy 'r Scrythyrau fel y dywedpwyd or blaen? Ac o herwydd hynny y mae 'r Scrythur lân yn abl i wneuthur pobl yn ddoeth i iechydwriaeth, yr hyn beth ydyw un rhan o'r pwngc cyntaf oedd iw eglurhau.

A chan fod y Scrythyrau trwy 'r addewidion efengylaidd sydd ynddynt, ac sydd felusach nâ'r Psal. 19.8, 10. Rhuf. 15.4. mêl, iê nâ diferiad diliau mêl, yn cyssuro y sawl sy'n galaru am eu pechodau, ac yn 1 Pet. 2.2 cryfhau y gweiniaid; fel y cynnyddont mewn grâs: a trwy y gorchymynnion, a'r cynghorion, a'r ceryddon, a'r bygythion, yn dihuno y rhai cysclyd, ac yn Ps. 119.50 bywhau y rhai marwaidd ym matterion eu ie­chydwriaeth, i gyflawni eu dyled-swyddau tu ag at Dduw a dynion; y mae trwy hynny y rhan arall o'r pwngc cyntaf gwedi ei eglurhâu, sef, fod y Scrythur lân yn abl i heri pobl i fyw y fâth fywyd yn y bŷd presennol, ac y caffo Dduw ogoniant, a'u heneidiau eu hun gyssur oddiwrtho. Canys ym marn Christ, trwy gyflawni y dyledswyddau hyn, y mae pobl yn Jo. 15.8. gogoneddu Duw; ac ym marn St. Paul y maent yn derbyn 2 Cor. 1.12. cyssur iw heneidiau eu hun. Siccr yw fôd achos ddigon i'r Sawl sy'n rhodio yn ofn yr Arglwydd, i rodio hefyd yn Act. 9 31 Phil. 4.4. niddanwch yr yspryd glán. Canys y mae y ffrwythau da hyn yn dangos yn eglur, eu bôd hwy yn Mat. 7.17 Jo 15.5. breniau da, ac yn Mat. 7.17 Jo 15.5. ganghennau ynghrist, ac o herwydd hynny mewn 1 Jo. 5.12 stâd o iechydwriaeth.

Ac am yr Ail Bwngc, sef, Fod Duw yn ewylly­ssio i ddynion Rhai nid ydynt eg­lwyswyr. llyg, yn gystal ac ir Eglwyswyr i chwilio, ac i ddarllen, ac i fyfyrio ar y scrythyr­au sanctaidd, fel y gallont, gael Daioni. budd, a thra­gwyddol lesad iw eneidiau trwyddynt. y mae [Page] hynny yn eglur yn gymmaint a bôd ein Har­glwydd Iesu yn Jo. 5.39. gorchymyn i bawb yn gyffredinol i chwilio 'r Scrythyrau. Ac yn fwy neilltuol y mae Duw yn gorchymyn hynny i Deut. 17 18, 19, 20. Psal. 119.15, 24.Frenhinoedd megis Dafydd, i Jos. 1.8. Filwyr megis Josuah, i Benteuluoedd (pa vn bynnag ai Gwŷr ai Gwragedd) megis ir Deut. 6.6, 7, 8, 9. Israeliaid; canys y mae efe yn gorchymyn iddynt scrifennu ei eiriau ef ar bŷst eu Tai, ac ar eu pyrth, a'u rhwymo hwynt yn Arwydd ar eu dwylo, yn rhactalau rhwng eu llygaid, i hyspyssu hwynt iw plant, Sôn. a chrybwyll am danynt pan eisteddent yn eu Tai, pan gerddent ar y ffordd, a phan gorweddent i lawr, a phan gyfodent i fynu. I ba bwrpas y scrifen­nit hwy ar y pŷst, ac ar y pyrth ond iw dar­llen?

Ym mhellach, y mae Duw yn dangos ei fôd ef yn ewyllysio i bawb (sef Gwŷr, a Gwragedd, a phlant) i chwilio 'r Scrythyrau, gan ei fod ef yn canmol y Act. 17.11. Beraeaid am hynny, a Thimotheus am hynny, îe pan yr oedd efe yn 2 Tim. 3.15. fachgen; a'r Eu­nuch am hynny, yr hwn oedd yn eu darllen hwynt yn ei gerbyd, ar y ffordd wrth Ymdei­thio. Shiwrneia. îe fe fendithiodd Duw ei gwaith hwy cyn belled, ac y daeth y Beraeaid i Act. 17.12. gredu, ac y derchaswyd Timotheus i fôd yn 2 Tim: 4, 5. Efengylŵr, ac y danfonwyd Philip i agoryd y Scrythyrau, ac i droi 'r Act. 8.27 hyd y di­wedd. Eunuch i'r ffydd.

Y mae 'r yspryd glân yn dangos, mai dedwydd yw'r rhai sy'n Dat. 1.3. ddarllen yngystal a'r rhai sy'n gwran­do geiriau prophwydoliaeth y Datcuddiad, ac yn cadw y pethau sy yn scrifennedig ynddi. Ac yn y Psalm gyntaf, fei dodir i lawr megis Arwydd o ddyn duwi­ol, ei fôd efe yn myfyrio ynghyfraith yr Arglwydd ddydd a nôs. Ac y mae 'n Iachawdwr yn dywedyd [Page] yn Eglur. blaen, mai vn achos pa ham y mae pobl yn cy­feiliorni ydyw, o herwydd nad ydynt yn gŵybod y Scrythyrau. Mat. 22.29.

Y nawr gan fôd y Scrythyrau gwedi rhoddi gan ysprydoliaeth Duw er Rhuf▪ 15.4. addysc i bawb, sef, i ddyscu pawb i Deut. 17.19. ofni ef, ac i Joan 20.31. gredu yn ei fâb ef, ac i goleuo nhwy i adnabod, ac i cyfarwyddo nhwy i wneuthur ei 2 Pet. 1.19 2 Tim. 3.16, 17. ewyllys ef, fel y bont gad­wedig; a chan fôd hyn oll yn angheurheidiol i bôb mâth o ddynion tan y nefoedd, (ac y fynno fôd yn gadwedig) yn gystal ac i Ddafydd y Bre­nin, i Josuah y milwr, i'r Eunuch y Pendefig, ir Beraeaid yn wŷr ac yn wragedd, i Timotheus yn fachgen, ac i Benteuluoedd yr Israeliaid; y mae 'n canlyn oddiwrth hynny, Yn gyntaf, Y dylei bawb ddarllen y Scrythyrau megis hwyntau:

Ac yn nessaf, Y dylit cyfieithu 'r Scrythyrau i bôb iaith fel y gellir cael llesâd oddiwrthynt▪ canys oni chaiff y bobl y Scrythyrau yn y iaith y deall­ont, ni bydd bossibl iddynt i chwilio a'u dar­llen hwynt, yn ôl gorchymyn Duw yn y mat­ter ymma. A pha fodd y saif e gyda chyfiawnder Duw, i ofyn ar ddwylo pobl y peth nid ydynt abl i gy­flawni? Na atto Duw i ni dybied ei fod ef yr hwn sydd yn berffaith gyfiawn, yn gofyn oddiar ddwylo po­bl, ond yr hyn a allant hwy (trwy iawn arferiad y mo­ddion, a thrwy ei fendith ef arnynt, a thrwy gŷd­weithiad ei yspryd ef trwyddynt) ei gyflawni er bûdd iw heneidiau. Ac am hynny fel y bo i Dduw gael ei gyfiawnhau yn ei Gor­chymyn. arch yn hyn o beth, y mae 'n wrthwyneb i reswm, i attal y Scrythyrau oddi­wrth y bobl yn eu iaith ei hûn, fel y mae 'r papisti­aid yn gwneuthur.

Pa fôdd Attolwg. ardolwyn y cae Duw ei Amcan. ddiwedd, wrth [Page] roddi y scrythyrau i blant dynion, oni roddid hwy maes ir bobl yn y iaith y ddeallont? Y mae Duw er mwyn cael ei ddiwedd ym mhregethiad ei Air, yn peri cyfieithu yr hyn y lefarir mewn 1 Cor. 24.27. tafod diei­thr. Ac a dybygwn ni nad yw efe yn ewyllyssio yr un peth ynghylch ei Air yn scrifennedig? Oni channiattaer hyn ir bobl, fe fydd llyfr Duw me­gis peth wedi selio iddynt.

Ni wasanaetha dywedyd fod yr Offeiriaid i ddyscu 'r bobl, ac fôd hynny yn ddigonol i'r dynion llŷg. Canys os yw Duw (fel y prwfiwyd yn eglur ei fôd ef) wedi pwyntio 'r Scrythyrau yn gystal a'r gweinidogion i dyscu hwynt hwy; ac nad oes ir bobl dderbyn dim oddiwrth y gweinidogion (îe pe bae yr Apostolion yn pregethu yn eu mysc, neu Angel o'r nêf) ond yr hyn a allant i wneuthur yn dda trwy 'r 1 Thess;. 5.21. 1 Jo. 4.1. Esa. 8.20. Act. 17.2, 1 [...] Gal. 1.8, 9. Scrythyrau; y mae yn canlyn oddi wrth hynny, y dylit cyrchu at yr vn fel y llall, sef at y Scrythyrau, yn gystal ac at y Gweinidogion i gael cyfarwydd-deb ym matterion ein iechydwriaeth. Y peth gan hynny a gyssulltodd Duw ynghŷd na Yscared. wahaned dynion: ac oes gwnant, byddent Siccr. siwr o hyn, trwy ei gwaith hwy yn gwneuthur hynny, y maent yn gwneuthur eu hunain yn ddoethach na Duw, fel pe bae nhwy yn gwybod beth sydd gymmwy­sach☜ iw wneuthur yn y matter hyn nag y gŵyr Duw ei hunan, yr hyn beth sydd gabledd i vn dŷn i dybied.

Ac o herwydd bôd llawer o weinidogion mewn amryw o wledydd y papistiaid, (Och Dduw! na ba [...] 'r peth yn amgenach mewn rhyw leoedd yn ein wysc ninnau y protestantiaid) yn anwybodus, yn annyscedig, iê ac yn gyhoeddus yn annuwiol yn eu [...]uchedd a'u bywyd, ac felly yn anghymmwys [Page] iawn i ddyscu ffordd iechydwriaeth ir bobloedd, yn gymmaint ac nad ydynt, nac yn gwybod y ffordd eu hunain, nac yn rhodio ynddi; ond trwy eu gwaith hwy yn Nehem. 13.29. halogi y weinidogaeth, y maent yn gwneuthur offrwm yr Arglwydd yn ffiaidd yngolwg y bobl, megis yn amser yr 1 Sam, 2.17. offeiriaid melltigedig Hophni a Phinees Plant Eli; O herwydd hyn me­ddafi, y mae mwy anghenrheidrwydd, i bôb na­siwn a chenedl gael y Scrythurau yn eu iaith eu hûn, i ddangos ffordd y bywyd iddynt, ac i tyn­nu hwynt i rodio ynddi,Mat. 15.14 fel na bo iddynt yn ddei­llion gwympo gydâ eu blaenoriaid deillion ir vn ffôs.

Y nawr ble mae'r Papistiaid yn dywedyd yng­wrthwyneb i hyn, fod dynion llŷg yn gwyr-droi 'r Scrythyrau iw dinistr eu hunain; ac am hynny nas dylent eu cael hwy yn rhigil, yn y ieithoedd cy­ffredin ym mhôb gwlâd: yr ym ninnau y Prote­stantiaid yn Atteb,

Yn gyntaf, nad yw cam arferiad o vn peth da yn dwyn ymmaith y iawn arferiad o hono. Yr oedd rhai yn amser yr Apostolion yn 2 Pet. 3.16. gŵyr-droi 'r Scry­thyrau iw dinistr eu hunain: ac etto nid oeddent hwy yn gwahardd pobl am hynny i chwilio hwynt; iê yr oeddent hwy er hynny i gŷdyn 2 Pet. 1.19, 20, 21, 2 Cor. 1.13. annog y cristianogion i darllain hwynt.

Od oes dim pwys yn y rheswm hyn, rhaid rho­ddi i fynu yr arferiad o fwyd, diod, dillad, phy­sygwriaeth, ie ac o bôb mâth o bethau da eraill: canys pwy nis gŵyr fôd llaweroedd yn cam arfe­rid y pethau hyn i gyd? Oni ddichon rhai arfer yr vn peth yn dda, ac y mae eraill yn ei arfer yn ddrwg? A ydyw e yn sefyll gydâ rheswm, am fôd rhai yn cam arfer y Scrythyrau, y dylit eu ca­dw nhwy oddiwrth y sawl a'u iawn harferei [Page] hwynt? Onid cymmwysach ydyw dyscu (gan eu bod hwy mor fuddiol i eneidiau pobl) y ffordd i iawn harferid hwynt, nag eu llwyr hattal hwy oddiwrthynt?

Ond yn nessaf, od oes dim pwys yn rhesswm ein gelynion yn y matter hwn, Fe ddylyt ar yr vn rhess­wm gadw 'r Scrythyrau oddiwrth yr Eglwyswyr, yn gystal ac oddiwrth y dynion llyg. Canys och Dduw! fe ddarfu i laweroedd o honynt hwy, ym-mhôb oes gan mwya, o amser Christ hyd y dydd heddyw (fel y gwyddoch chwi Syrs yn well na myfi) ŵyr-droi 'r Scrythyrau iw dinistr eu hunain, ac i ddinistr mi­loedd o'r bobloedd gydâ nhwy, ac y dwyllwyd i gredu eu celwyddau hwynt; ac erbyn hyn, os am ŵyr-droi 'r Scrythyrau y dylyt eu attal hwynt oddiwrth yr vn fel y llall, pwy fydd yn ôl gor­chymyn Duw i chwilio, ac i ddarllain hwynt? a pha ddenfydd Attolwg. ardolwyn sydd i wneuthur o honynt?

Y mae 'r peth sy'n canlyn yn lladin yn haeddu iw ystyried gan y dyscedig.

Theses Salmurienses p. 72, and 73.

Yr ydys yn gosod i lawr gwrthddywediad y Papistiaid yn hyn o beth, ac yn eu Hatteb.

XXIV. Sed excipiunt, nihil etiam opus esse vt plebs ipsa le­ctioni sacrae Scripturae vtpote periculosae, vacet, ex qua nimirū in errorem, & vero haeresim, facilè incidere possit, proptere­aque satius esse, adeoque longe consultius, vt doctis & erudi­tis relicta sacrae Scripturae lectione, ex ore Pastorum suorum petat salutarem, quam illi ex Scriptura haurient, doctrinam. Vnde etiam est quod populis sibi subiectis seuerè lectione illa interdicant, & Indicibus suis Expurgatoriis omnes in verna­culas linguas S. Bibliorum versiones damnent, & quantum in ipsis est exerte prohibeant.

XXV. At primo, si qui sunt qui ex Scripturae lectione in er­rores & haeresim incidunt, ij sunt qui (vt de nonnullis sui tem­poris [Page] B. Petrus scripsit) vitio suo Scripturas sacras [...] torquent ad propriā perniciem, homines [...], quorum non est habenda ratio, ut propter eos piis & fidelibus, qui cum humilitate & pio studio Verbum Dei legunt, Scrip­turae sacrae lectio interdicatur. Non enim Petrus ideo à Pau­linarum Epistolarum aut reliqui Apostoli à totius Scripturae lectione pios dehortati sunt, aut plebi Christianae eam inter­dixerunt, quod essent tum aliqui qui sacras litteras torque­rent.

XXVI. Immò veró ipsi qui Scripturas ad perniciem suam torquent, non haereses suas ex ejus lectione hauriunt, sed eas potius ad ejus lectionem adferunt. Nempe sanam & ortho­doxam doctrinam in Ecclesia traditam atque receptam, quia ad corruptum & peruersum eorum gustum, carnisque sen­sum, non facit, concoquere & ferre non possunt, ideoque eam adulterant atque corrumpunt, & ad peruersi sui judicij sen­sum & captum accommodant. Quoniam autem constanti­ssimum est atque indubitatum inter Christianos principium, nihil in religione esse credendum quod Scripturae (quae Dei Verbum est) authoritate non nitatur, praeiudicatis suis opi­nionibus, ac praeconceptis erroribus atque haeresibus, conan­tur Scripturae authoritatem praestruere, quam ideo legunt vt aliquod ex ea testimonium errori suo accommodent. Non fi­unt ergo ex eius lectione haeretici, sed postquam facti sunt, haeresi suae fucum ex Scriptura illinere conantur. Iniquum autem prorsus esset Scripturae lectionem ideo populo fideli prohibere.

☞XXVII. Deinde haereses & errores penè omnes (vti no­tum est ex Historia Ecclesiastica) non sunt à priuatis, & Ple­beiis, atque Laïcis (quos vocant) hominibus in Ecclesiam invecti, sed à viris Ecclesiasticis, Praepositisque adeò Eccle­siae, Episcopis & Archiepiscopis, ipsisque etiam interdum Pa­triarchis & Primatibus. An & his propterea interdicetur Sa­crae Scripturae lectio; quibus ergo concedetur si & his pro­hibeatur?

XXVIII. Sed neque possunt omnes Ecclesiae Pastores at­que Praepositi, per vniuersum orbem terrarum, in tanta Gen­tium & idiomatum varietate, tres illas linguas (latinam, di­co, graecam & hebraicam) nosse atque callere, quae nonnisi magnis sumptibus, longo studio & tempore, atque labore pe­ne insuperabili, addiscuntur, cùm experientia ipsa conteste­tur maximam Clericorum, quos vocant, partem in Ecclesia [Page] Romana vel ipsam linguam latinam nescire.

XXIX. Denique, quid si Pastores ipsi plebem fallant, at­que in errorem abducant, an tenebitur plebs errantem & se­ducentem Pastorem per auia atque praecipitia sequi? Necesse est itaque vt non modò Papam (quod illi contendunt) sed omnes omnino Pastores statuant [...], totidemque Prophetas & Apostolos (quod absurdum est) vel permittant plebi examen & [...] eorum quae à Pastoribus illi propo­nuntur, quod examen aliter non potest institui, quàm si ad Verbi Dei, hoc est Scripturae, regulam atque normam revo­cetur, cuius propterea lectio est illi concedenda.

XXX. Non modo ergo licet, sed & expedit, & summopere vtile ac necessarium est, ad Ecclesiae aedificationem, vt è grae­co hebraeoque fonte deriuentur, in plebis vsum, Translatio­num vernacularum riuuli, vnde possint quilibet è vulgo idi­otae viuos doctrinae coelestis latices ad suam tum institutio­nem, tum confirmationem, & consolationem, pleno veluti ore haurire.

Gan fôd hyn ôll yn ddigon hyspys i chwi, Bydded gwiw gennych, Barchedig Syrs, gan nad yw holl Escobion anrbydeddus ein Gwlâd (mewn pob tybygoliaeth) yn gwybod angen y bobl yn hyn o beth, naill a'i o herwydd nad yw y gyffredin bobl yn dangos ei diffyg yn y matter ymma iddynt hwy; neu ynte o herwydd nad yw y gweinido­gion yn ystyried fel y dylent gyflwr y bobl, na☜ gwneuthur hynny yn gydnabyddus ir Escobion; Bydded gwiw gennych chwi o herwydd hynny, i ddodi 'r peth o flaen Escobion Cymru; ac i ddymu­no yn daer arnynt, fel pe bae am eich bywyd, ar iddynt fynnu printio yr holl Fibl cymraeg dra­chefn.

Deisyfwch arnynt hwy i wneuthur hyn, er mwyn Gogoniant Duw, er mwyn Jesu Ghrist sy'n hiraethu am iechydwriaeth pechaduriaid, er mwyn Eneidiau gwerthfawr y bobl, sy mewn amryw fanneu yng Hymru, yn eiste mewn tywyllwch a [Page] chysgod Damne­digaeth. angeu, er mwyn Anrhydedd y grefydd gristianogawl, ac er Cyssur iddynt eu hunain, fel y gallont roddi cyfrif llawen i Dduw am eu goru­chwiliaeth, ac er peri ir Bŷd wybod (er mwyn eu Henw da eu hunain) eu bôd hwynt hwy yn y matter hyn yn ddigon pêll oddiwrth y Papistiaid, ac er mwyn Gwanhâu Teyrnas y Diawl ac An­ghrist, Ac er llawenydd i bawb sy 'n ofni Duw yn y Deyrnas, ac yn ddiw eddaf oll er Anrhydedd i ardderchog grâs ein Brenin; canys fe fydd An­rhydedd iddo fe, iw Escobion ef wneuthur y fâth waith yn ei ddyddiau ef.

Y mae yn ddilys y bydd llawenydd yn y nêf, ac na bydd tristwch yn vn-mann am wneuthur y gwaith hyn, ond yn vnic yn Vffern ac yn Rhu­fain, ac ym mysc y rhai sy'n perthynu ir ddau le hynny.

Y mae 'r Escobion a'r Gweinidogion duwiol a ymadawsant gynt (yn ôl Da [...]c, 18.4. gorchymyn Duw) a chyfeillach y Buttain fawr, waedlyd, llawn cab­ledd ac eulyn-addoliaeth,Date. 17.1, 2, 3, 4, 5 6. sef yr Eglwys lygredig o Rufain (ble yr oeddyt yn cadw pobl mewn tywyllwch) wedi gadel siampl dda ar eu hôl, trwy gyfieithu 'r Scrythyrau ir ieithoedd cyffre­din, a'u gwascaru hwynt ymmysc y bobl yn y dy­ddiau hynny.

Y mae 'r rhai duwiol o'r amseroedd hynny, ac oeddent a llaw yn hyn o beth wedi cael eisioes ran o'u gobrwy yn y nefoedd; ac pan ddêl yr ad­gyfodiad, fe anrhydedda Christ hwy ym mhe­llach; ac yn y cyfamser y mae eu Dihar. 10.7. coffadwriaeth hwy yn sendigedig ar y ddaiar; ac y maent hwy sef yr Escobion a'r Gweinidogion hynny, trwy y wei­thred dda honno o wascaru 'r Scrythyrau rhyd y gw­ledydd [Page] yn y ieithoedd cyffredin, Heb. 11.4. (megis Abel gyfiawn trwy ei ffydd a'i offrwm sanctaidd) yn llefaru wrth­ym ni sydd ar y ddaiar, am fôd yn ffyddlon i Dduw,☜ ac yn dosturiol wrth eneidiau pobl yn ein hamser ni, fel yr oeddynt hwy yn eu hamser hwythau.

Er nad wyfi deilwng i gyfarwyddo fy ngwell; etto gan fôd fy amcan i yn dda yn yr hyn yr wyfi yn nawr yn ei scrifennu, (fel y gŵyr Duw chwi­liwr y calonnau) rhoddwch gennad i mi Barchedig Syrs, megis vn sy wedi cael ychydig o brofiad ym matterion o'r fâth hyn, i ddymuno arnoch chwi, i ddeisyf ar anrhydeddus Escobion Cymru, fel y gwneler y gwaith mawr hyn er llesâd ir holl wlâd;

Yn Gyntaf i beri printio 'r Bibl mewn pappyr da, ac i roddi chwêch mis o rybydd i barattoi 'r pap­pyr, ac i beri bwrw llythyrennau da o bwrpas, (yn enwedig y llythyrennau sy'n briodol i'n iaith ni yn anad vn iaith arall, megis d, y, w, ŵ, ŷ, â, ê, î, ô, û,) o'r fâth hynny ac y mae 'r psalmau cân sydd y nawr yn rhwym gydâ 'r Testament wedi printio â hwynr. This letter is called the Bre­vier letter and is that wherewith Fields ex­cellent Cambridg Bible is done in. agddynt; canys ni ddichon rhai pobl oedrannus, er arferid spectals, ddarllen y Bi­blau o brint mân: ac oni fwrir llythyrennau o bwr­pas, fe orfydd gadel i basso (fel y gorfu arnom ni adel mewn amryw fannau yn y Testament, a'r psal­mau, &c. o ddiffyg llythyrennau) pob a bod yn lle pôb, a bôd, ir, ac ar, a dyn, yn lle i'r, a'r, dŷn, am ac an, yn lle a'm a'n, &c.

Yn Nessaf, fel nad anafir y cwbl, fel y mae rhai llyfrau cymraeg wedi eu hanafu, rhynged bôdd i chwi, i ddymuno ar yr Escobion i ddanfon pedwar o wŷr dyscedig, gofalus, cydwybodol, a medrus yn y iaith, i Gwar­chod. attendo 'r press, ac a gymmero arnynt chod [Page] megis yng ŵydd Duw i Correcto. ddywygio 'r sheets wrth eu printio, gan eu darllain hwynt, ddau ynghyd ddwy waith, a'x ddau arall ddwy waith eilch­waith. Gwnaent ei gore, pet fae ei bywyd hwy yn sefyll arno, fe ddiangc rhai beiau llytherennol ar­nynt, heb law y beiau trwy wâll y printiwr gwedi iddynt hwy berffeithio 'r sheets.

O Arglwydd! pa faint o feiau sy mewn amryw lyfrau cymraeg, eisieu meder a gofal yn y dywy­gwyr yn hyn o beth. Y mae rhyw Ewyllysiwr da r'n Gwlâd (Taled yr Arglwydd iddo am ei drafel) wedi dodi Y mae 'r sheete iw chael ar werth gan My Goff o Gaerfyr­ddyn. sheete y maes mewn print, i ddangos rhai beiau sy wedi diangc ym mhrintiad Bibl cym­raeg yr Eglwysydd; ac y mae 'r vn beiau yn y Biblau bychain: dymma rai o honynt yn canlyn: er fod llawer yn ychwaneg ac a ellir eu gweled wrth gydstadlu, neu gwmparo 'r sheete honno â 'n Biblau cymraeg, ynghyd â'r Biblau saesneg, &c.

Fel hyn y mae yn ein Bi­blau.
Fel hyn y dylai fôd.
Gen. 18.2.Efe a redodd iw cyfarfod hwynt.
Efe a redodd o ddrws y Babell iw cyfarfod hwynt.
Gen. 39.3.A'i feistr a we­lodd fod yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelei efe.
A'i feistr a welodd fod yr Arglwydd gydag ef, a bod yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelei efe.
Exod. 12.13.A'r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi: ac ni bydd plâ dinistriol arnoch chwi.
Ar Gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi, A phan welwyf y gwaed, yna yr âf heibio i chwi, ac ni bydd plâ dinistriol arnoch chwi.

[Page]Ym mysc cannoedd eraill o feiau ym mhrintiad y Testament bychan, a brintiwyd yn y flwyddyn 1646, neu 1647, yn esceulus, heb ofn Duw a flaen llygaid y Printiwr, (ym mhôb tybygoliaeth heb ddywygiwr, ac or doedd dywygiwr gydâ llawer o ddiofalrwydd) gan adel heb eu printio eiriau cy­fein, ac hanner adnodau, &c. er cam mawr ir wlâd; fe atgyweiriwyd y nawr, yn ôl y sheete a enwais i o'r blaen amryw feiau yn y Testament presennol.

Ble mae yn eisie yn ein Biblau yn Luc, 11.21. y gair [arfog:] ac yn Ioan 4.6. y gair [Jacob] ac yn Ioan, 10.10. y geiriau [ac i ladd:] ac yn Rhuf. 3.29. y geiriau [i'r cenhedloedd hefyd:] ac yn Col. 1.23. y geiriau [a glywsoch ac:] Ble y mae 'r gei­riau hyn meddafi yn eisie ym Mibl yr Eglwys, ac yn ein biblau bychain, y maent yn awr wedi eu gosod i mewn yn y Testament presennol.

Wrth hyn fe ellir gweled mor anghenrheidiol y­dyw, i gymmeryd gofal mawr i atgyweirio beiau 'r print yn ein bibl, cyn ei roddi ir printiwr; ac i ddanson gwŷr medrus, cydwybodol, i warchod y press wrth ei brintio; ac onid ê fe Anafir. spwylir y cwbwl. Ac fel y bo llai o feiau yn y print, gwell fydd rhoddi Bibl yr Eglwys yn lle coppy, nâ rhoi 'r Bibl bychain; canys fe ddarllen y y gweith­wyr sy'n dodi 'r llytheren­nau yng­hyd. composito [...]s hwnnw yn well nâ 'r llall.

Ac er a dichon tair mî o Fil [...] wasanaethu ein gwlâd ddêg o flynydd: etto os mynnir i dan­fon hwy i [...] newyd, fel y gallo y tlawd yn gyst [...] ar cyfoethog eu prynu hwynt, mae'n rhaid printio chwech mîl (oh! na ellid printio deng mîl) Ba fwya brintier mwy fydd y newyd ar­nynt: canys pan bo 'r press gwedi barattoi i brin­tio [Page] vn mîl, fe ellir gydâ ychydig ychwaneg o bo­en, a llai nâ hanner y gôst brintio yr ail fîl, ac felly yn y blaen.

Nid oes disgwyl am i'r Gwerth-wyr llyfrau yn Llundain ddodi eu harian i maes i brintio 'r Bibl cymraeg, fel y maent hwy yn gwneuthur i brintio 'r Bibl saesneg; canys y maent hwy yn cael eu hari­an i mewn gydag ennill mawr oddiwrth y Bibl saesneg mewn ychydig o flynyddoedd: ond pe printient hwy ein Biblau ni, sef nifer fawr o honynt, fel y byddei newyd arnynt; nis caent hwy mo'i harian ei gyd i mewn nes yn ôl dêg, iê pymtheg, neu ychwaneg o flynyddau. Ac am hynny me­ddant hwy, y mae yn fwy ennill-fawr i nyni i ddodi ein harian allan ar Ʋse. llôg nag ar y Biblau cymraeg, sydd yn gorwedd cynnifer blwyddyn yn ein shioppe cyn eu cwbl werthu. O herwydd hyn fe ellir disgwyl iddynt hwy, agos roddi ei llygaid o'u pennau, na rhoddi mîl neu bymtheg cant o bunnau i brintio ein Bibl ni drachefn. Ac yn wir nid ŵyfi yn galli clywed iddynt hwy erioed ei brintio ef ar ei côst eu hunain. Ar gôst boneddigion o'r wlâd y gwnaethpwyd y gwaith hyd yn hyn: Ac oni wneir ef etto ar gost y cy­fryw rai, nid oes tybygoliaeth y daw Bibl cymraeg byth i Gymru, tra fo Cymru yn Gymru. Och Dduw! ym mha gyflwr y bydd cyffredin bobl y wlâd me [...]n ychydig o flynyddau, oni ddengys rhai drugaredd [...] yn hyn o beth.

Sir Thomas Midleton [...]dd yr hwn yn anad nêb arall, ac a ddangossodd y truga [...] hyn yn gyn­taf i'n gwlâd, sef i fôd mewn côst i br [...]'r Bibl yn llyfr bychan, er bûdd ir cyffredin bobl; ( [...] ei fôd ef o'r blaen yn llyfr mawr yn yr Eglwy­sydd)

[Page]Y mae 'r coffadwriaeth o Syr Thomas Midleton am y gwaith hynny yn anrhydeddus, ac yn fen­digedig yng Hymru, ac a fydd felly tra fo crefydd Gristianogawl ynddi.

Yr wyfi yn dymuno ar Dduw o'm calon, ar ei bôb bendith ysprydol a chorphorol ddisgyn o'r nêf ar bôb vn o eppil Syr Thomas Midleton yng Wynedd neu yn vn lle arall. Rhodded Duw iddynt fendi­thion yn anneirif, fel Tywod y môr, fel Glaswellt y ddaiar, ac fel Sêr y nefoedd: A dyweded pôb vn yng Hymru ac sydd yn caru Duw, ac yn hirae­thu am iechydwriaeth eneidiau pobl yno, Amen ac Amen, Poed felly bo e Arglwydd grassol; Ben­dithia eppil Syr Thomas Midleton, a bydded ei enw ef dros fŷth yn anrhydeddus.

Y nawr os printier chwech mîl o Fiblau â'r lly­thyrennau y printiwyd Bibl Cambridge â hwynt, hwy gostant ynghylch pumtheg cant o bunnau: os â'r llythyrennau mân ynghylch mîl o bunnau. Fe fydd hawdd ir Escobion, trwy osod allan peth o'u harian ei hunain, i gael y rhest, trwy ymbil a hwynt yn y matter, oddiwrth Arglwyddi, Mar­chogion, Boneddigion a Gweinidogion, a Marsiand­wyr Cymru, gan addaw iddynt werth eu harian o'r llyfrau, iw gwerthu rhyd y wlâd, gan y sawl yr appwyntiant hwy i wneuthur hynny trostynt, fel y caffont eu harian drachefn.

Mewn pôb tybygoliaeth, mi gâf fy marnu gan rai megis dŷn bussy, i ddywedyd cymmaint yn yr a­chos hyn, ac i gymmeryd arnaf i ddangos y ffordd yn hyn o beth im goreuon. Ond dymma sydd gen­nif i ddywedyd drossof fy hunan, fy môd i wedi scri­fennnu hyn i gyd mewn symlrwydd calon, heb ddiben yn [...] gennif, (fel y gŵyr chwiliwr y calonnau) [Page] ond gogoniant Duw a iechydwriaeth pobl yng Hym­ru: Ac am hynny mi appeliaf at yr Arglwydd, Ac wrth ei farn ef y bydd i mi sefyll. Ac yr wyfi yn go­beithio, na bydd dim gwascfa ar fy nghalon i am gam opiniwnau, a cham farnau rhai pobl am yr hyn yr ydwyf ymma wedi scrifennu.

Fe fydd eich barn gariadus chwi yn y matter hyn, Barchedig Syrs, yn fy nghynnal i fynu pan bo barn anghariadus rhai eraill yn fy ngorthrym­mu.

Yr wyfi yn nawr yn adnewyddu fy neisyfiad, ar i chwi sôd yn daer ar yr Escobion yn y matter hwn. Ni ellwch chwi byth osod llaw at fatter y fo gwell. Yr wyfi yn gobeithio, nad ydych chwi Barchedig Dr. Thomas wedi angofio yr hyn a addawsoch chwi ymma yn Llundain o'r tu fewn ir ddwy flynedd hyn; Sef, y byddei i chwi fôd yn ba­rod i gynnorthwyo y gwaith da hyn o brintio 'r Bibl cymraeg.

Na atto Duw i mi fôd mor anghariadus a rho­ddi lle yn sy nghalon i feddwl, chwaethach i scri­fennu â'm llaw, neu ddywedyd â'm tafod, nad oes gofal yn y bŷd gan holl Escobion Cymru am eneidiau pobl y wlâd, gan nas cynnhyrfasant hwy rai cyn hyn, ar ôl ei dychweliad i brintio 'r Bibl cymraeg dra­chefn: canys yr wyfi mewn cariad yn barnu am rai o honynt, mai yr vnig achos o'r esceulusdra yn hyn o beth ydyw, fel y dywedais i o'r blaen, am nad ydynt yn gŵybod angen y wlâd yn y matter hyn: canys nid ydynt hwy yn ymgyfeillachu âr gyffredin bobl, na'r gyffredin bobl â nhwythau. Ac am rai o'r Gweinidogion sy'n dyfod attynt hwy, ychydig y mae 'nhwy 'n feddwl (os gall [...] farnu wrth eu ffrwythau) am beth [...] [...] fâth [Page] hyn, sef i fynegu ir Escobion y pethau sydd ddi­ffygiol yn y wlâd tu ag at iechydwriaeth y bobl.

Ond yr wyfi yn gobeithio, a cawn ni glywed ar fyrr amser, y bydd ir Escobion, nid yn vnic ar eich erfyniad chwi; ond hefyd o barodrwydd eu meddwl eu hunain ymegnio â'i holl allu, i ddy­fod â'r gwaith hyn i ben.

Os ydwyfi yn twyllo fy hunan yn hyn o beth, yr wyfi yn gobeithio na bydd nêb anfodlon i mi ddywedyd hyn, sef, Os digwydda i Escobion anrhy­deddus Cymru (yn ôl eu gwneuthur yn gydnabyddus â'r peth) fod yn esceulus i fynnu printio 'r Bibl cymraeg drachefn, gan fod diffyg o hono yn y wlâd; fe fydd pobl dan profedigaeth, nid yn vnic i dybied yn eu calonnau, ond hefyd i ddywedyd allan yn vchel â'u tafodau, mai ychydig yw 'r gofal sydd ganddynt hwy am iechydwriaeth eneidiau.

Yr ŵyf yn attolwg i chwi gyd-ddwyn â'm helaethrwydd i, canys y mae 'r matter yn bwysig; ac i farnu yn gariadus am fy amcan i, (yr hyn a ddatcuddia Duw ryw ddydd i sôd yn onest ac yn dda) ac i gymmeryd mewn part da fy nghym­raeg wael saesnigaidd i, sydd a gwahaniaeth yn­ddi (mewn geiriau, ac ymadroddion (neu phrases) a therminations, neu ddiweddiad geiriau) â'r gym­raeg dda sydd ganddynt yng Wynedd; canys chwi wyddoch yn ddigon da, mai y môdd yr ydwyfi ymma yn scrifennu, yr ydym ni yn lle­faru yn neheu-dir Cymru. Ac felly yr ydwyf yn eich gorchymyn chwi ir Arglwydd ac yn gorphwys,

Eich Gwasanaethwr tra rhwymedig, Stephen Hughes.

Y Rhagymadrodd at y Darllenydd.

NId ydyw anhyspys ir sawl sydd yn gwybod trwy oleuni gair Duw, fôd dau fâth o gy­flwr ar ôl y Bywyd presennol, sef, vn o ddedwy­ddwch tragwyddol iw feddiannu gydâ Christ â'i Angelion bendigedig yn y nefoedd; ac arall o an­nedwyddwch tragwyddol, iw fôd yn gyfrannog o hono gydâ 'r Diawl a'i Angelion melltigedig, yn nhân vffern: Nid ydyw meddafi yn anhyspys ir rhai sydd yn gwybod hyn,Mat. 7.21. Jo. 13.17. Jac. 1.22. fod llawer iw wneuthur ymma cyn marw, gan y rhai a ewyllyssiant feddiannu y gogoniant nefol a diangc y poene vffernol.

Y mae yn hawdd i ddeall allan o'r scrythyrau Sanctaidd, fod Duw iw adnabod, a'i gydnabod, a'i garu, a'i wasanaethu gan ddŷn, cyn y gallo fôd yn gad­wedig: ac ymhellach fod y gydwybod iw hargyhoeddu, ai phigo am bechod, Mar. 2.17. a'r cyflwr colledig yr ydys yn­ddo oblegid pechod (allan o hynny nid yw bossibl i vn dŷn ymofyn am iachawdwr:) yn nessaf fod rhan yn Ghrist iw geisio,1 Jo. 5.12. Jac. 4.9, 10 Ezek. 36.31, 32. 1 Cor. 11. fel y glanhaer yr enaid oddiwrth bechod: fôd cywilydd, a galar, a thri­stwch, a ffieiddio, a barnu ein hunain iw fyned tano am ein pechodau: ac fôd ein pechodau iw Col. 3.5. marw­hâu, ac iw Esa. 55.7 gadael mewn meddwl, gair a gwei­thred cyn belled, ac nad oes Rhuf. 7.15. ymfodloni a chym­meryd hyfrydwch ynddynt; ac nad oes rhoddi lle iddynti Ruf. 6.12 deyrnasu ynom, nac i Jac. 4.7. Satan pan y mae yn ein temtio, ond ei wrthwynebu ef: Ac y mae i ni rodio gydâ Duw, gan ymdrechu cadw ei Mat. 28.20. holl orchymynion ef, gan roddi i Dduw eiddo [Page] Duw, ac i Ddŷn eiddo Dŷn, gangaru Duw â'r holl Mat. 22.37. galon, gan gredu ei addewidion ef, gan Esay. 66.2. grynu wrth ei sygwthion ef, gan alw arno, a bôd yn ddiolchgar iddo yn Mat. 7.7. Psal. 55.17 Psal. 145.2 feunyddiol yn Mat. 6.6. ddirgel, ac yn ein Jer. 10.25teuluoedd, ac Psal. 95.6 Heb. 10.25 yng-hynnulleid faoedd ei bobl ef, gan gymmeryd ei enw ef yn Sanctaidd yn ein geneuau, a sefyll mewn 1 Pet. 1.17 ofn parchus o ho­no ble bynnag y bom ni, gan ddelio â phôb dŷn, fel y dymunem ni ddelio o honynt hwythau aMat. 7.12nin­ne, gan ymdrechu od oes plant a gwasanaeth ddy­nion gennym, i meithrin a'u maethu hwynt yn Deut. 6.6 Ephes. 6.4 addysc ac athrawiaeth yr Arglwydd, fel y bo iddynt hwy a ninne fôd ynghyd yn gadwedig.

Fe wyddys heb law hyn, nad yw Duw yn Rhuf. 10.18. ddiffygiol i nêb dan sŵn yr Efengyl, i ddyfod a nhwy i wybodaeth o hono ei hunan, a'i fâb Christ, a'r hyn sydd anghenrheidiol iw cyflawni cyn gellir cael bywyd tragwyddol. Canys heb law Rhuf. 2.14, 15. goleuni naturiaeth, a gwaith y Rhuf. 1.19, 20. Psal. 19.1. greadi­gaeth, a rhagluniaeth Duw mewn ffordd o Ps. 9.16. dru­garedd a Ps. 9.16. barn, ac sydd (megis goleu canwyll) yn datcuddio cymaint o Dduw a'i ewyllys ac sydd ddigon i adel pobl yn Ruf. 1.20 ddiescus: y mae efe, ble mae yn rhoddi ei Neh 9.30. Mat. 4.16. 2 Cor. 4 4. Air sanctaidd, a'i Neh 9.30. Mat. 4.16. 2 Cor. 4 4. yspryd i ymrysson â phobl trwyddo, yn canniattâu megis goleuni 'r Haul, i wneuthur ei hun a'i fâb, a'i ewyllys Sanctaidd yn gydnabyddus i blant dynion, er iechydwriaeth iddynt.

Ac ble bo rhai mewn gwlâd, trwy eu hymarwe­ddiad sanctaidd, a'u ffrwythau da, yn dangos grym a 1 Thes. 2.13. nerth gair Duw wedi Luc. 8.15 hau ar, ac wedi gwreiddio yn eu calonnau hwynt; y mae rheini megis goleuadau wedi gosod i fynu gan Dduw, i lewyrchu ym mysc eu cymmydogion Phil. 2.15 tywyll, [Page] i roddi iddynt trwy eu siampl dda gyfarwydd­deb, pa fôdd y mae iddynt drefnu eu bywyd a'u hymarweddiad, os mynnant hwy fôd yn gadwe­dig.

Ond och Dduw! er hyn i gŷd, pwy sydd mewn amryw leoedd yn dal sulw ar y Esa 1.3. datcu­ddiedigaethau hyn o Dduw, a'i fâb Christ, a'i e­wyllys bendigedig? A phwy sydd yn gwrando ar ei Rhuf. 10.16. leferydd ef, ac yn troi atto, i vfyddhâu iddo? Och Dduw! y mae pobl yn Zech. 7.11, 12. caledu eu calonnau yn ei erbyn ef, ac yn myned rhagddynt yn eu ffyrdd ddry­gionus, heb feddwl am ddydd marwolaeth, a'r Rhuf. 14.10, 12. cy­frif sydd iw roddi i Dduw ddydd y farn am yr holl esceulusdra o wneuthur i ewyllys ef ar y ddaiar, ac am bôb drwg feddwl, ac am bob drwg air, ac am bob drwg weithred, heb feddwl dim am nêf ac vffern, nae am dragwyddol ogoniant yr vn, nac am dragwyddol boenau 'r llall. Datc. 3.1. Tit. 1.16. Ie y mae bagad yn byw felly (sy Gri­stianogion mewn enw) fel pe nis gwyddent fod gan­ddynt eneidiau gwerthfawr iw cadw neu colli. Canys gan ymgadw oddiwrth y porth cyfyng, a'r ffordd gûl sydd yn arwain i'r bywyd, (ag a dramwyir gan y Mat. 7.14 nifer leiaf yn y bŷd) y maent yn rhodio, ie yn rhedeg megis y march yn rhuthro ir Ir ym­lladdfa. Jer. 8.6. frwydr, gydâ 'r nifer fwyaf yn y byd, yn y ffordd Mat. 7.13 lydan sydd yn ar­wain i ddestryw, gan fyw yn annuwiol ac yn ddrygio­nus, gan ddigio Duw trwy hynny, a bodloni'r Cythra­el, a gwneuthur Dihar. 8.36. cam a'u heneidiau eu bun, a rho­ddi siampl ddrwg i eraill, i tynnu hwynt i bedwarcar­nu tu ag vffern gyda hwy. Da y cwynfannodd vn gan ddywedyd,

Och or byw mae dynion ofer!
Heb fyfyrio marw vn amser:
[Page]Neu fod vffern ffwrn dywyll-ddu,
Yn rhyw goeg-chwedl gwael iw gredu.

Y nawr y mae Duw ym mhôb oes, gan ei fôd yn llawn 2 Cron. 36.15. tosturi, ac yn Yn cyd­ddwyn yn hîr. ymarhous, ac yn hiraethu am iechydwriaeth pobl, gwedi cyfodi rhai i fynu, i dderchafu eu llais fel Es. 58.1.vdcorn, ac i dystiolaethu yn erbyn anwireddau pobloedd o'r fâth hyn, gan ym­drechu i troi nhwy o'r ffordd lydan sydd yn ar­wain i ddestryw, i rodio yn y ffordd gûl sydd yn arwain i fywyd.

Swm y cwbl y ddywedpwyd yw hyn, sef, Fod llawer o bethau iw gwneuthur yn y bŷd bwn gan y rhai y fynnant fôd yn gadwedig.

2. Fod Duw yn canniattâu moddion i wneuthur y pethau hynny yn gydnabyddus i blant dynion, ag sydd augheurheidiol iw cyflawni, cyn gellir bôd yn gad­wedig.

3. Fod llawer o bobl, er fod Duw wedi datcuddio ei bun a'i ewyllys iddynt mewn messur helaeth, etto yn dra esceulus i vfyddhau iddo: ond gan ymhyfrydu mewn pechod, y maent yn rhedeg yn y ffordd i ddam­nio eu heneidiau yn dragwyddol.

4. Fod Duw er hynny yn Yn cyd­ddwyn yn hîr. ymarhous, ac o'i dru­garedd a'i râs yn cyfodi Gweinidogion i fynu, i dy­stiolaethu drosto yn erbyn drwg weithredwyr, i edrych a edifarhânt hwy, a gredant hwy yn ei fâb ef, ac a droant hwy atto oddiwrth ei ffyrdd ddrygionus, a byw yn sanctaidd fel y bont cadwedig.

Ni adawodd Duw mo hono ei hun yn ddi-dyst yng Hymru mwy nag mewn gwledydd eraill. Ym mysc y rhai hynny, ag y dderchafwyd gan Dduw yn ein gwlâd ni ir diben hyn, y mae yr Awdwr bendigedig Mr. Rees Prichard iw gyfrif yn vn o'r [Page] penna yn ei amser. Fe wasanaethodd Dduw yn ei genhedlaeth, a thrwy ei athrawiaeth a'i fuchedd sanctaidd a ymryssonnodd â drwg weithredwŷr yn ei ddyddiau ef, i geisio cadw eu heneidiau hwy rhag distryw. Ac er ei fôd efe yn awr gydâ Christ yn y nefoedd, yn meddiannu diwedd ei ffydd, sef, iechydwriaeth ei enaid: etto (megis Abel) trwy ei ffydd, Heb. 11 4. a'i weithredoedd da, a'i waith a adewys efe ar ei ôl, (yn awr yn gynnwysedig yn y llyfr hwn) y mae efe yn llefaru wrthym ni sy ar y ddaiar, (ac a lefara wrth bobl Gymru tra fo Cymru yn Gymru, am i ni droi at Dduw trwy ei fâb yr Arglwydd Iesu Ghrist, a gwneuthur gwei­thredoedd addas i edifeirwch, fel y bo i Dduw gael gogoniant, a'n eneidiau ninne siccrwydd oddiwrth hynny y cawn fôd yn gadwedig.

Fe ellyd casclu o'r llyfr hwn holl Gwydde­rion.Brifannau cre­fydd, gwedi eu hegluro felly, ag y dichon yr an­nysgedig ei deall hwynt, oni fydd y bai arnynt eu hunain trwy ddarllen y llyfr yn ysgafn, heb ofn Duw yn eu calonnau.

Peth canmoladwy ydyw, i ddysgawdwyr ddarost­wng yn eu hathrawiaeth a'u hymmadroddion (fel y gwnaeth yr Awdwr) i ddealltwriaeth y cyffredyn bo­bl, ac nid llefaru a scrifennu yn y cymmylau: oble­gid dyna 'r ffordd (trwy fendith Duw) os efeng­yl Christ a draethir, i droi pechaduriaid at Dduw, ac i adeiladu y duwiol yn ei ffydd sanctaidd. Os ☞traether pethau Duw mewn geiriau, ac mewn modd tu hwnt i synwyr a dealltwriaeth y bobl, ni bydd y Dysgawdwŷr, a'u Gwrandawŷr, a'u Darllenwyr ond ☞Barbariaid y naill ir llall; heb gael, yr vn na gwy­bodaeth nac adeiladaeth, na'r lleill gysur yn y bŷd oddiwrth eu gweinidogaeth. O herwydd [Page] hyn gwell oedd gan Paul (er maint ei ddysc a'i iei­thoedd)☜ yn yr Eglwys lefaru pum gair fel y dyscei eraill nâ Deng mîl 1 Cor. 14.6 9, 11, 12, 13, 18, 19. myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr.

Daliwch sulw ar yr holl athrawiaethau iachus yngwaith yr Awdwr; ond tu hwnt i ddim at y rhai y ganlynant.

Yn Gyntaf, Fod Dyn mewn cyflwr o golledi­gaeth nid yn vnic trwy ei bechodeu Ruf 6.23. gweithredol ei hun; ond hefyd trwy becho [...] Rhuf. 5.12, 19. Adda: canys yr oeddem ni oll yn ei lwynau ef yn pechu, pan bwyttaodd efe y ffrwyth gwaharddedig.

Yn Ail, Nad yw dyn, na thrwy ei Esa. 64.6. Gal. 2.16. weithred­oedd ei hun, na thrwy weithreddedd y Seintiau (megis Mair, Pedr Paul, &c.) yn abl ymddangos yn gyflawn Ps. 143.2. ger bron Duw, nac Luc. 17.10. haeddu bywyd tragwyddol ar ei ddwylo ef: Canys y mae 'n gweithredoedd goreu ni yn Phil. 3.12 Rhuf. 7.18 21. ammherffaith; ac pe gallassei Ddŷn ymddangos yn gyfiawn ger bron Duw, ac haeddu bywyd tragwyddol ar ei ddlwylo ef, er mwyn ei gyflawnder ei hun, neu gyfiawnder eraill o'i Psal 49.7 8, 9. frodyr, ni buassei raid i Ghrist ddyfod i Luc. 19.10 geisio, ac i gyfiawnhau, ac i gadw y rhai a gollwyd. Ac am y seintiau ni phwyntiodd Duw Act 4.12. vn o honynt, i gyfiawnhau ac i gadw ei Eglwys: iê gan eu bôd hwynt hwy eu hunain yn Tit. 3.3. Ephes. 2.3 becha­duriaid fel eraill, yr oeddent yn sefyll mewn 1 Tim. 1.15 diffyg o'n Ceidwad Iesu Christ yn gystal ac eraill.

Yn Drydydd, Fod Gal. 2.16 cyffawnhad a Act. 4.12 Joan. 14.6 iechydw­riaeth iw gael, yn vnig (t [...]wy Gal. 2.16. Phil. 3.9. Ioan 3.16. ffydd) yn ein Har­glwydd Iesu Christ.

Yn Bedwarydd, Fôd y ffydd honno, trwy ba vn y mae 'r pechadur yn Joan. 1.12 Eph. 3.17. derbyn Christ, ac yn [Page] cymmeryd gafael ar Ghrist, a thrwy ba vn y mae efe yn ymddiried yn 1 Pet. 1.21 Nuw, (a caiff ef, ar gy­frif y iawn a roddodd ei fâb Christ iddo (trwy offrwm ei hun ar y groes yn Eph. 5.2 1 Io. 2.2. aberth o arogl peraidd dros bechodau ei bobl) ac ar gyfrif ei gyfiawnder ef Eph. 1.7. faddeuant pechodau, Rhuf. 5.9 10, 19, 21. cyfiawnhâd, Rhuf. 5.9 10, 19, 21. heddwch Duw, Gal. 4 5. bod yn Blentyn iddo, Rhuf. 5.9 10, 19, 21. ymwared rhag damnedigaeth, aRhuf. 5.9 10, 19, 21.bywyd tragwyddol yn y nefoedd) Fod y ffydd honno (meddaff) nid yn ffydd farw, beb Jo. 15.5. Mat. 7 17. weithredoedd da yn ei chanlyn hi; ond ble bynnag y bo 'r ffydd honno, y mae hi 'n Gal 5.6. Jac. 2.18. fywiol at bob math o weithreddedd da:

Ac y mae 'r pethau a ganlynant yn myned gydâ hi, sef,

Yn gyntaf, Ruf 6.21 cywilydd, Ezek. 36.26. Luc. 7.44. tristwch, a galar am bechod, Ruf 7.15 casineb at bechod, Act. 15.9 Gal. 5.24. gwîr bwrpas i droi oddi wrth bechod, ac ymmadawiad â phôb pechod (ag ydys yn ei nabod) cyn belled, ag nad yw pechod yn Ruf. 8.10 Rhuf. 6.14 teyrnasu yn yr enaid ble bo 'r ffydd honno.

Yn Ail, Gwîr 1 Jo. 4.19. Gal. 5.6. Luc. 7.50 a 'r 47. gariad at Dduw, yr hyn sydd yn ymddangos trwy ofal i gadw ei orchymynion ef, trwy fyw yn dduwiol, yn sobr, yn gyfiawn yn y bŷd prefennol.

Yn Drydydd, 2 Thes 1.3 1 Pet. 1.22 Psal. 15.4. Cariad diragrith at y sawl sydd yn ofni Duw, trwy ba vn yr ydys yn Psal. 16.3 ymhyfrydu ynddynt hwy; a chariad o dosturi tu ag at bawb, (Mat. 5.44 45. Gal 6.10. Jo. 10.27. da a drwg) trwy ba vn yr ydys yn dymuno yn dda iddynt, ac yr ydys yn barod mewn rhyw fesur neu gilydd (yn ôl y gallu y roddodd Duw) i cynnorthwyo hwynt yn eu blinderau a'u hadfyd. Nid oes lle y nawr i ymhelaethu, ac i agorid y Scrythyrau hyn, ac i ddangos pa fôdd y maent hwy yn prwfio 'r pwngciau: y mae arnafi ofn na ddi­chon [Page] y gwann ddeall hynny, ond Gair i gall sydd ddigon.

Ynghylch y wîr ffydd hon, ac sydd fôdd i gy­fiawnhau, ac i gadw'r pechadur edifeiriol, y mae 'r Awdwr bendigedig fel hyn yn dywedyd:

Ni bydd tân heb wres lle'i bytho,
Ni bydd Dwr heb wlybrwydd yntho,
Ni bydd fallen dda heb sale,
Na bywiol ffydd heb fywiol ffrwythe.
Onid yw dy ffydd yn fywiol,
Yn dwyn gair a gweithred rasol,
Nid yw hon ond ffydd mewn enw,
Ffydd na ddichon byth dy gadw.

Ac eisieu bôd gan ddynion y fâth ffydd a hon, y mae efe ym-mhellach yn dywedyd,

Prynodd Christ â gwaed ei galon
Yr holl fŷd o'u poenau trymmion,
Llawer mil o'r byd er hynny
Ant i vffern eisieu credu.

Craffwch ar y pethau a ddywedyr ymma ynghylch y wir ffydd, oblegid fod llaweroedd yn tybied, fod y ffydd gyffredyn sydd ganthynt (trwy ba vn y maent yn credu, fôd Duw, fôd Christ yn Fâb Duw, farw o hono ef drosom ni, ac y ceir bywyd tragwyddol trwyddo, &c.) yn ddigonol i iechydwriaeth, er nad oes gyda hi nac edifeirwch, na gwellhâd buchedd, na gofal yn y byd i ryngu bôdd Duw, trwy ddangos tru­garedd, a gwneuthur cyfiawnder, Mich. 6 8. 2 Pet. 3.14 Jac. 1.27. ac ymostwng i rodio gydag ef yn ddifeius ac yn ddifrycheulyd. Ond gwy­bydded y cyfryw rai yn hollol, nad ydynt ond twyllo eu heneidiau eu hun. Mae 'r Scrythur yn [Page] dangos yn eglur, na wasanaetha mo'r ffydd farw honno i iechydwriaeth. Jac. 2.14, 19, 20, 26.

Yn ddiwed daf oll daliwch sulw ar yr Athrawi­aeth hon, sef, Er nad â nêb i'r nefoedd Luc. 17 10 Gal. 2.16. am en gweithredoedd da: etto nid â nêb i'r nefoedd heb weithredoedd da. Y mae 'n ddilys fôd gweithre­doedd da iw gwneuthur, cyn gellir bôd yn Mat. 7.19, 21. gad­wedig: ond gan eu bôd yn ammherffaith, nid oes gwneuthur mo honynt mewn tŷb eu bôd hwy yn haeddu 'r bywyd tragwyddol, (fel y mae rhai pobl angnhabyddus yn tybied, pan bont yn dywedyd, Duw a roddo i ni fel yr ym yn haeddu: cymmaint yw hynny (pe deallent hwy beth y maent yn ei ddywedyd) a phe dywedent, Duw a daflo ein eneidiau a'n cyrph ir tân tragwyddol gydâ 'r Diawl a'i Angelion, canys dyna 'r peth yr ydym ni am ein Ruf. 6.23 Datc. 21.8 pechodau bawb yn ei haeddu.

Ond y mae gweithredoedd da iw gwneuthur, yn Gyntaf i ddangos ein vfydd-dod a'n Joan. 14.15. cariad at Dduw: yn Ail i ddwyn Jo. 15 8. gogoniant idd ei enw ef. Y mae pobl trwy y gweithredoedd da y maent yn eu gwneuthur o vfydd-dod i Dduw, ac o gariad atto ef, yn dywedyd allan yn vchel er gogoniant iddo, nad oes nêb yn deilwng o vfydd-dod o'i flaen ef. Ac yn Dry­dydd y mae gweithredoed da iw gwneuthur, fel y gallom ni (trwy gyflawni â Luc. 8.15 chalon onest (trwy nerth Joan 15.5. yspryd Christ ynom) ein rhan ni o'r cyfam­mod o râs) ŵybod wrth hynny, a 1 Joan 2; 3, 4, 5, 6. siccrhâu ein hunain er mawr gyssur i'n eneidiau, ein bôd ni yn ganghennau bywiol yn Ghrist, ac a cawn ni (trwy­ddo ef) ac er ei fwyn ef fywyd tragwyddol yn y nefoedd: Ac yn Bedwarydd fel y bo i ni Tit 2 10 harddu efengyl Ghrist, trwy ddangos ei 1 Thes. 2 13. grym hi yn ein bywyd a'n hymarweddiad. Ac yn Ddiweddaf [Page] fel y gwnelom trwyddynt Tit. 3.8. lesâ [...] i eraill, trwy ddangos iddynt Phil. 2.15 Siampl dda iw dily [...] er gogo­mant i Dduw, a chyssur iw heneidiau.

Er cystal yw 'r Athrawiaethau, a'r Rhyby­ddion, a'r ceryddon y sydd yn y llyfr hwn; etto oni iawn arferir hwynt, ni cheir llesâd oddi wrth­ynt; ond hwy fyddant yn 2 Cor. 2.16. arogl o farwolaeth i farwolaeth ir sawl a'u cam arferant; hynny yw, hwy fyddant achos i wneuthureu damnedigaeth hwy yn fwy.

Cymmer gan hynny Ddarllenwr anwyl y cyng­horion a ganlynant, fel y bo i ti, trwy ddarllen y llyfr hwn dderbyn llelâd, ac nid dim niwed i'th enaid.

Yn Gyntaf, Deisyf ar yr Arglwydd ar iddo wneuthur i ti ddaioni trwyddo. Nid Esay 45.19. gwaith ofer yw ceisio 'r Arglwydd: y mae efe yn Mat. 7.7. gorchymyn 'ni i alw arno, ac yn addaw ein gwrando pan gweddiom â'n holl galon Jer. 29.13. Nid yw possibl heb ei Jac. 1.17. fendith ef gael gwybodacth allan o [...]n mâth o lyfrau yn y bŷd. Arfer dda gan hynny [...]dyw, cyn darllain llyfr ble Sonnier, crybwyllir am be­hau Duw, i dderchafu 'r galon, a'r llygaid atto ef gan ddywedyd, Arglwydd Psal. 119 18. agor fy llygaid i weled [...]y wirioneddau, parattoa fynghalon i derbyn hwynt, [...]c i vfyddhau iddynt, a chadw fi rhag amryfysse­dau.

Yn Ail, Darllenwch ag yspryd gostyngedig. Er ymmaint yw gwybodaeth pobl, etto hwy ddy­ [...]nit gofio, nad ydynt yn gŵybod ond mewn [...]an; ac o herwydd hynny fôd yn rhaid iddynt wy wrth ragor o ŵybodaeth.1 Cor. 13.9 Ac oni chânt trwy [...] llyfr hwn wybodaeth o bethau nas gwyddent [...]'r blaen, etto os cânt eu hatgofio o wirioneddau [Page] a anghofiasant, f [...] rydd hynny er Llesâd. bûdd iddynt. Ni ddylem d [...]ed ein hunain yn 1 Cor. 3.18. flyliaid, fel ybo i Dduw i'n gwneuthur ni yn ddoeth. Y mae 'r Ar­glwydd yn dal sulw (gydag hyfrydwch) ar y Psal. 138.6. go­styngedig, ac yn addaw dyscu ei Psal. 25.9 ffyrdd ir cyfryw.

Yn Drydydd, Gochel­wch. Gwachelwch yscafnder wrth ddarllain; Canys ni ddylit chwareu â phethau sanctaidd; oblegid nid gwirion gan yr Arglwydd y sawl a gymmero ei Exod. 20 7. enw ef yn ofer. Gwyby­ddwch, mai pa beth bynnag sydd yn gwneuthur Duw yn gydnabyddus, ei enw ef yw hynny, megis ei Brio­dolaethau, ei weithredoedd, a'i Air. Ac a gytcam­mu di, neu a fyddi di mor Hyf, eon, a darllen pethau yn Rhigyl, ac yn yscafn, dan chwerthyn, ac sydd (gan mwya) wedi tynnu allan o'r Scrythur lân, ac wedi Seilio arni? na atto Duw. Os darllenwch bethau Sanctaidd mewn Psa. 111.10. Esay. 66.2 parch ac ofn yr Arglwydd, chwi ellwch ddisgwyl yn ôl ei addewid ef am fendith ar eich darllenniad.

Dymma 'r denfydd a ddichon yr Angnhabyddus wneuthur o'r gweddiau yn y llyfr, Sef, Trwy eu mynych ddarllain, hwy a allant lanw eu calonnau â Pethau. matter da iw dywalleu allan mewn Gweddi ger bron yr Arglwydd. Fe ddichon y gwann gael cyfar­wydd-deb oddi wrthynt, pa bethau sydd i'w ceisio, ac ym mha fôdd y mae eu ceisio hwynt ar bôb achosion.

Y mae amryw bethau ynghorph y llyfr heb law y bedwaredd ran, nas printiwyd erioed o'r blaen hyd y nawr. Ac y mae 'r Drefn, o ran canlynia [...] vn peth ar ôl y llall, wedi newid, oblegid fod rhai pe­thau yn y llyfr cyntaf a'r Ail, ac a ddylysai fôd y [...] y Trydydd, a rhai pethau yn y Trydydd a ddylysai fod yn y ddau gyntaf. Y mae 'r drefn y nawr yn brydferthach o lawer.

[Page]Nid oes ymma ond tammeidie allan o hên bap­pyrau, sef, Rough draught. Torriad garw yr Awdwr, a'r rheini yn ammherffaith, ac yn anhawdd iw darllain, yn­ghylch y 1 Sabboth, 2. Dyledswydd Gweinidogion, 3. a Phurdân y Papistiaid, 4. a Pharhad mewn ffâd o râs, &c. Da y gwnai y sawl sydd â llyfr pen­naf yr Awdwr (ag a gollwyd yn amser y rhyfel yn shir Frecheiniog fel yr ydys yn tybied) neu ddim pethau eraill o'i waith ef, i rhoddi hwynt ir nêb a a fyddei gofalus i osod y fâth ganwyll mewn cau­hwyllbren i oleuo 'r holl wlâd, fel y darfu i Mr. Evan Pugh o Landingat wneuthur; o ba herwydd y mae nid yn vnic myfi, ond hefyd holl Gymru yn rhwymedig iddo.

Y mae Hîl Adda yn ammherffaith yn yr holl goppyon ag a welais i; ac hefyd y gân ynghylch y diawl a'r meddwon, os ei Y mae coppy yn y wlàd yn dywedyd mae efe yw'r Aw­dwr. waith ef ydyw hi; yr hyn beth yr ydwyfi yn ei amheuo; canys er fod ynddi rai o gynheddfau 'r meddwon wedi eu dodi maes, etto nid oes yno fawr o resymmau yn erbyn y pechod câs hwnnw; yr hyn beth sydd anar­feredig yngwaith yr Awdwr; yr hwn oedd yn Scrifennu nid fel ffôl, ond fel vn a allei roddi rheswm am y peth yr oedd efe yn ei ddywe­dyd.

Er nad ydyw weddus i wr ddy wedyd llawer am da­no ei hunan, etto ni allafi ymattal rhag cyhoeddi fy ngorfoledd, am sôd Duw wedi rhoddi i mi fy mywyd, i weled cyflawni yr hyn oeddwn i yn ei rag-nybied a ddigwyddei ar brintiad gwaith yr Awdwr. Fy ngei­riau yn y rhag-ymadrodd o flaen y llyfr cyntaf yw 'r rhain a ganlynant.

Peth arall am hannogodd i brintio 'r pethau ymma, yw y tyhygoliaeth mawr, y cynhyrfir wrth hyn laweroedd ni fedrant ddarllain, i ddyscu darllain cymraeg. Awyddus yw pobl at bethau newyddion, a'r rhain yn brintiedig ydynt [Page] newydd i'n gwlâd. Ac odid, na bydd llawer (er ys-gat­fydd nid ag a mean i gael llesâd i heneidiau, etto o ran eu difyrrwch) yn ymdynuu, i ddyscu darllain gwaith Ficcer Llanddyf i. Ac ar ôl dyscu darllain hwn, pa rwystyr fydd i ddarllain llyfrau cymraeg eraill? trwy ba rai (om ches­clyr trwy hwn) y gellir casglu daioni mawr.

Os Duw a'i myn, fe brintier ar fyrder yr Ymarfer o dduwioldeb, y Llwybr hyffordd ir nefoedd, Agoriad byrr ar weddi 'r Arglwydd, a Gwiliad y glôch Arian, o gyfieithiad Fe ap­wyntiodd ar ei wely Angeu ddelifro neu roddi y llyfr hwnnw i myfi iw brintio. John Gibbs Esquire o Gastell-Neath yn shir Forgannwg.

Mi gynghorwn ir sawl sydd heb y ffydd ddiffuant, neu hanes y ffydd i brynu fe, a'i brisio fe yn werthfaw­roccach nag Aut, o herwydd storiau rhai Merthyron sydd ynddo, ac vn rheswm ar bwmtheg i brwfio fôd y Scry­thyrau yn Air Duw. Y mae Deffynniad ffydd Eglwys Loeger yn erbyn y Papistiaid yn haeddu iw ddarllen gan rai deallus.

Bendithied Duw y Gwaith presennol, a chyfoded rhai iw brintio ef (pan bom ni yn ein beddau) er daioni ir cenhedla ethau a'n canlynant. Ac os cei di Ddarllenwr anwyl ddim llesâd trwy y llyfr hwn, rho Ddiolch i Dduw, ac hac anghofia yn dy weddiau

Dy wasanaethwr yn yr Arglwydd, STEPHEN HUGHES.

TABL yn rhoddi hyspysrwydd ym mha ddalen y ceir cwrdd a phôb Cân.

CYngor i wrando pregethiad yr Efengyl, ac i chwi­lio 'r Scrythyrau.
Dalen 1
Hîl Frutus.
12
Adroddiad o dôst a thruenus gflywr dyn trwy nattu­riaeth.
18
Genedigaeth, Bywyd, a Marwolaeth Christ.
23
Adroddiad o gariad Christ at y Bŷd.
32
Awn i Fethlem.
35
Christ sydd oll yn oll.
39 a 53
Hîl Adda.
44
Christ a arwyddocawyd wrth y Sarph Brês.
50
Christ a arwyddocawyd wrth yr Oen Pasc.
51
Christ yw Pren y Bywyd.
52
Cynghor i Bechadur i ddyfod at Iesu Grist.
57 a 62
Cynhyrfiad i foli 'r Arglwydd Iesu.
69 a 73
Annogaeth i ddiolchgarwch am ein prynedigaeth.
77
Cynghorau ir sawl a ddymuno gael ffafar Duw a ma­ddeuant pechodau.
82
Cynghor i gredu yng-Hrist, a dangosiad o'r newidiad rhyfeddol sydd yn y dyn a gretto.
86
Cynghorion yn cyfarwyddo dŷn pa fôdd a daw ef i fyw yn ôl ewyllys Duw.
89
Galarnad Pechadur.
92
Cynghorau duwiol. Fy anwyl Blentyn, &c.
97
Cyngor i ŵr Ieuangc.
104
Cynghor i wasanaethu Duw.
113
[Page]Am weddi a'i pherthnasseu.
124
Rhybydd i ddyn feddwl am Dduw y Boreu, &c.
136
Diolch foreuol pan ddihuner gynta.
137
Rhybydd i ymgadw rhag meddwl dim cyn mwddwl am Dduw y boreu.
138
Myfyrdod foreuol, &c.
139
Diolch am esmwythder, &c.
139
Mor embydus yw cyscu y maes o ffafar Duw.
140
Cynhyrfiad i ddiolchgarwch am amddeffyniad y nôs rhag niwed.
141
Rhybydd idd i dderbyn wrth ddillattu y corph.
141
Gwiddi wrth ddillattu y corph.
142 143
Rhybydd wrth ymolchi.
144
Gweddi ferr wrth ymolchi.
144
Gweddi foreuol.
145
Rhybydd i ymgadw trafo 'r dydd, rhag rhythreu 'r Byd, y cnawd a'r cythrael.
148
Yr Arfogaeth ysprydol.
149
Rhybydd i ymgadw rhag rhwydeu Satan ym mhôb lle.
150
Gweddi yn erbyn Temptiad Satan.
151
Cynghorion yn erbyn profedigaetheu Satan.
153
Rhybydd i wachelyd Rhwydau Satan ym mhôb oedran.
156
Cynghor i ddyfal weddio ar bob achos.
157
Cynghor cyn mynd at orchwylion.
160
Cynghor ir Hwsmon, a'i weddi.
162 163
Cynghor ir Trafaelwr, a'i weddi.
164 166
Cynghor ir Milwr, a'i weddi.
168 169
Cynghor ir Porthmon.
173
Cynghor cyn mynd i garu.
174
Canmoliaeth Gwraig Dda.
178
Rhybydd ir Godinebwr.
179
Cynghor ir Meddwyn.
183
Cân ynghylch y Diawl a'r meddwon.
189
[Page]Cynghor yn Rhybyddio dyn i ymgadw rhag [...]etteu [...] meddyliau drwg yn ei galon.
191
Cynghor i lywodraethu 'r ymadrodd.
197
Gweddi am lywodraethu 'r geiriau.
199
Cynghor i fod o ymddygiad christnogaidd.
200
Cynghor ynghylch bwytta ac yfed.
203
Grâs cyn Bwyd.
207 209 &c.
Grâs yn ôl Bwyd.
208 210 &c.
Cerydd am esceulusso ceisio bendith ar, a rhoi diolch am ymborth,
217
Cynghor i gyfrannu â'r Anghenus,
218
Cynghor i bob Penteulu i lywodraethu ei dy yn ddu­wiol.
224
Dyledswydd Plant iw rhieni.
236
Pa bethau a ddylit fyfyrio arnynt wrth fyned ir Eg­lwys, &c.
240
Cynghor i ymbaratoi cyn dyfod i addoli 'n gyhoeddus.
243
Gweddi cyn myned i addoli 'n gyhoeddus.
246
Paratoad ir cymmun.
248
Gweddi cyn derbyn y cymmun.
256
Pennillion neu werseu ar gynheddfau rhai dynion a phethau.
257
Catechism.
275
Pethau iw Hystyried Pan ddel y nôs.
322
Hymn cyn myned i gysgu
324
Diolch am dân
325
Gweddi wrth fynd i'r gwely
326
Myfyrdod pan dihuner ô gysgu.
320
Psalm. 23.330. Psal 69.342. Psal 30.346 Y môdd y dyle ddyn grasol ddeffro ei hun genol nôs i glodfori Duw.
331
Diolch am Etholedigaeth.
333
Gweddi rhag gorthrymder.
336 337
[Page]Diolch am ymwared o ddwylo gelynion.
340 342
Am Ddiwedd y Byd.
348
Cofiwch Angeu.
354
Cân ynghylch yr ŷd afiachus.
363 371
Byrr yw oes Dyn.
375
Am y chwarren yn Llundain
376 a'r 386
Gweddi Eglwyswr wrth fyned i ymweled â'r cleifion.
393
Cynghor ir clâf. 395 Gwediau 'r clâf
399 408 411 439 442 443 446
Rhybudd ir clâf i alw am weinidog. 403 ac am Byssugwr 406 ac i ochelyd ceisio cymmorth Swyn­wyr. 410 i wneuthur ei ewyllys.
413
Llythyr yr Anrhydeddus Sir Lewis Mansel yn ei glefyd at Ficcer Prichard, a'i atteb yntef iddo.
418
Rhessymmau yn cyffro 'r claf i ddioddef garwch.
426
Ymddiddanion rhwng y claf a'i enaid.
429 433
Agoriad byrr yn erbyn ofn Angeu.
436
Mawr glôd Ddydd marwolaeth y cyfiawn.
438
Diddanwch ir galarus yn erbyn gwan obaith.
441
Myfyrdod ar fywyd ac Angeu.
447
Tôst Gyflwr y Dŷn annuwiol gwedi marw.
447
Cŵyn a Chyngor Difes.
457
Atteb i gwestiwn ynghylch gweddio dros y marw.
471
Cynghorion Mr, Prichard iw Fab.
475 477 482
Gweddi Samuel Prichard.
479
Mene Tecel Tre Llanddyfri.
483
Achwyn Aglwyswr.
487
Rhaid glynu wrth Grist, &c.
489
Gwell Duw na Dim.
490
Ymholiad beunyddiol.
491
Y Diharebion cymraeg.
500

At y Darllenwr.

YR oeddwn i ys llawer o amser o'r opiniwn (wrth weled amryw bethau Perffaith, wedi eu scrifennu yn deg iawn, â'i law ei hun gan yr Awdwr bendigedig, ac wedi eu trefnu yn weddus yn vn o'r llyfrau a ddaeth im dwylo i) fôd gantho ef bwrpas i brintio rhan fawr o'i waith ei hun. Mewn pôb tybygoliaeth efe ei hunan y fyn­nodd brintio y Gân honno, sef,

Fy Anwyl Blentyn dere nês, &c.

Yr hon a welais i yn brintiedig lawer blwyddyn cyn i mi brintio ei waith ef. Ond y nawr wrth chwilio ymma fel y gwnelid pedwaredd ran, hên bappyrau ammherffaith anhawdd iw darllain, ym mha rai yr oedd yr Awdwr yn scrifennu i lawr ei feddyliau cyntaf, mil gefais allan yr hyh a'i gwnêl e yn ddigon eglur, fôd ei bwrpas ef i brintio ei gan­iadau. O mor dda y buassei hynny! iddynt ddy­fod allan wedi eu perffeithio dan ei law oi hunan. Fe ellir deall wrth y Câniadau fy'n canlyn, fód gantho feddwl i gyssegru ei lyfyr i ryw Arglwydd, ac i roddi 'r enw hyn iddo, sef, CANWYLL Y CYMRU. Canys fel hyn y mae efe yn dy­wedyd.

ARglwydd grassol na ryfedda,
Weld Eglwyswr tlawd i'th gyffa,
Ac yn
Meiddio:
mentro, Urddas Cymru,
A'r fath Lyfran dy
Bresento.
anrhegu.
Dy zeal at Eglwys Christ a'i
Anrhy­dedd.
hurddas,
Dy wsanaeth da i'th Brins a'r Deyrnas,
Dy serch, a'th garcc am genel Cymru,
Y bair i bawb dy anrhydeddu.
Ym mhlith miloedd a'th anrhegant,
A thalentau mawr eu moliant;
Arglwydd da cennada finne,
Dy gydnabod a'm dimmeie.
Cymrodd Arglwydd yr Arglwyddi,
Rôdd y weddw dlawd heb shiommi;
Er na thale'i rhodd ond Dimme,
Am roi 'r cwbwl ag a fedde.
Cymmer dithe Arglwydd serchog
Rodd o'r fath gap ŵr dyledog,
Sy'n wllysgar i'th anrhegu,
A rhodd well pe bae 'n ei feddu.
Haeddaist well, Ddiddanwch Cymru,
Cawsit well, pe basse genni:
Pwysa 'r rhodd yn ôl yr 'wllys,
Hi gyd-bwysa roddion Prinsys.

Arall At y Darllenwr fel y mae 'n dybygol.

GOgoniant Duw, a llês Brittaniaid,
Deisyfiad
Canlyniaeth ffryns, a gwaedd y gweiniaid,
Y wnaeth printio hyn o lyfran,
A'i roi rhwngoch Gymru mwyn-lan.
Abergofi pûr Bregethiad,
Dyfal gofio ofer Ganiad,
A wnaeth im droi hyn o werseu,
I chwi 'r Cymru yn ganiadeu.
Am weld
Y Testa­ment cym­raeg a gy­fieithwyd gan Mr. W Salsbury y mae efe yn ei feddwl ond odid.
Dwfn-waith enwog Salsbury,
Gan y diddysc heb ei hossi:
Cymrais fessur byrr cyn blayned,
Hawdd iw ddyscu, hawdd iw 'styried.
Gelwais hon yn Ganwyll Cymro,
Am im chwennych brûdd oleuo,
Pawb o'r Cymru diddysc, deillion,
I wasnaethu Duw yn vnion.
Er mwyn helpu'r annyscedig,
Sydd heb ddeall ond ychydig,
Y cynnhullais hyn mor gysson:
Mae gan eraill well Athrawon.
Duw oleuo pawb o'r Cymru
I wîr nabod a'i wasnaethu:
Duw a wnêl i hyn o Ganwyll,☜
Roi ir dall oleuni didwyll.

Pe gwelswn i y gân hon cyn printio 'r sheete gyn­taf, mi roddaswn yr enw y mae 'r Awdwr wedi bwyntio ir llyfr, sef Canwyll y Cymru. Yr wyfi yn deisyf ar y neb a'i printio ar fy ôl i, i roddi 'r enw hynny iddo.

S. H.

Llythyr yr Awdwr at ryw Eglwyswr a ddeisyfodd arno droi ar gân Cate­chism Eglwys Loeger.

DY
Awydd­fryd.
Zeal at Dduw a'i Eglwys,
Fy Mrawd, mi wn a barwys,
Id geisio troi holl bwngciau 'r ffydd,
Ar Gân mor brûdd, mor gymmwys.
Di weli fôd yn hawsach,
Gan Gymru (heb eu hammarch)
Ddyscu caniad ofer serth,
Na'r Peth sydd werthfawroccach,
Gan hynny ceisiaist genni,
Droi'r pwngce hyn iw canu;
Fel y gallo 'n Defaid mân,
Yn rhwydd ar gân ei dyscu.
Wrth weld dy dduwiol fwriad,
Ni phellais o'th ddymuniad:
Ond mi droes dy bwngce 'n fyrr,
Yn blayn, yn Eglur ganiad.
Ni cheisiais ddim cywrein-waith,
Ond messur esmwyth, perffaith,
Hawdd iw ddyscu ar fyrr dro,
Gan bawb a'i clywo deir gwaith.
Derbyn yn ressawgar,
A geisiaist mor 'wllysgar:
Er nad ydyw 'r gwaith ond gwael,
Mae 'n chwennych cael dy ffafar.
O caiff ein Duw ogoniant,
Na 'n defaid dippyn lessiant;
'Rym ni 'n dau yn cael ein gwynn,
O'r gorchwyl hyn trwy lwyddiant,
Duw roddo dy ddymuniad,
Duw fyddo ceidwad arnud:
Waith bod fy ffrwst, a'm gwaith yn fawr,
Mi gymra nawr fy nghennad.

Y mae 'r Testament a'r Llyfr hwn, a Chate­chism Mr. Perkins, a phethau eraill gydag ef, iw gwerthu, gan Mr. Goff yng Haer-Fyrddyn, Mr. Bodvil yng Haer-Lleon, Mr. Vertey o'r Venny, Mr. Hughes o Wrecsam, ac yn Abertawe.

Cyngor i wrando pregethiad yr Efengyl, ac i chwilio'r Scrythurau.

OCais gwr na gwraig na bachgen
Ddyscu'r ffordd ir nefoedd lawen,
Ps 19 19.
Ceisied air Duw iw gyfrwyddo,
Onid e, fe aiff ar ddidro.
Mae 'r nef ymhell, mae'r ffordd yn ddyrys,
Mae'r trammwy'n fach, mae rhwystre anhappys,
Mat. 7.14. Ps. 119.105.
Mae'r porth yn gûl i fyned trwyddo,
Heb oleu'r gair, nid aer byth atto.
Mae 'r nef vwchlaw yr haul a'r lleuad,
Mae 'r ffordd yn ddierth itti ddringad,
Rhaid Christ yn Ysgol cyn dringhadech,
Ai air yn ganwyll cyn canfyddech.
Mae llawer craig o rwystre cnawdol,
Mat. 18.7.16.24. Ps. 119.92.
Mae llawer môr o drallod bydol,
Cyn mynd ir nef, rhaid myned drostynt,
Heb oleu'r gair nid aer byth trwyddynt.
Mae llawer mîl o lwybrau Ceimon,
O ddrysswch blin, o ffoysydd dyfnon,
Cyn mynd i'r nef, rwi'n dwedyd wrthyd,
Heb oleu'r gair ni elly'i gweglyd.
Di elly fynd i vffern danllyd,
Rhuf. 1.16.
Lwyr dy ben, heb vn cyfrwyddyd,
Nid aiff neb ir nef gwnaed allo,
Heb y fengyl iw gyfrwyddo.
Nid goleu'r haul, nid goleu'r lleuad,
Nid goleu'r dydd, na'r sêr sy'n gwingad,
Ond goleu'r gair a'r sengyl hyfryd,
All d' oleuo i dir y bywyd.
Cymmer lantern Duw'th oleuo,
A'r Efengyl ith gyfrwyddo,
Troeda 'r llwybyr cûl orchmynnwys,
Di ae 'n union i Baradwys.
2 Pet. 1.19.
Y gair yw'r ganwyll ath oleua,
Y gair yw'r gennad ath gyfrwydda,
Y gair ath arwain i baradwys,
Y gair ath ddwg ir nef yn gymmwys.
Dilyn dithe oleuni 'r gair,
Gwna beth archwys vn mab Mair,
Gwachel wneuthur a wrafynwys,
Di ae 'n union i baradwys.
Seren wen yn arwain dyn,
O fan i fan at Grist ei hûn,
Yw 'r Efengyl i gyfrwyddo,
Pawb ir nefoedd ai dilyno.
Bwyd ir Enaid, bara 'r bywyd,
Grâs ir corph, a maeth i'r yspryd,
Jer 15.16 Ps. 119.104.
Lamp ir droed, a ffrwyn ir genau,
Yw gair Duw a'r holl scrythyrau.
Llaeth i fagu'r gwan ysprydol,
1 Pet. 2.2. Ps. 19.8.
Gwin i lonni 'r trist cystuddiol,
Manna i brothi'r gwael newynllyd,
Ydyw'r gair, a'r fengyl hyfryd.
Dihar. 4.22.
Fli gwych rhag pob rhyw bechod,
Oyl i ddofi gwûn cydwybod,
Triag gwerthfawr rhag pob gwenwyn,
Ydyw'r gair, a balsam addswyn.
Jer. 23.29. 2 Tim. 3.16.
Mwrthwl dûr i bario 'n cnappe,
Bwyall lem i dorri 'n ceinge,
Rheol gymmwys i'n trwssiannu,
Ydyw 'r gair ac athro i'n dyscu.
Udcorn pres i'n gwssio ir
Lle barn Ps 19.11.
frawdle,
Clôch in gwawdd i wella 'n beie,
cennad yn Cyhoeddi, Rhuf. 3.20
Herawld yn proclaimo 'n heddwch,
Ydyw 'r gair, a'n gwir ddiddanwch.
Y gair yw'r drych sy'n gwir ddinoethi
Ein holl fryhau a'n holl frynti,
Ac yn erchi i ni eu gwella,
Tra fo 'r dydd a'r goleu 'n para.
Y gair yw 'r hâd sy 'n adgenhedlu,
Yn blant i Dduw, yn frodyr Jesu,
Jac. 1.18.
Yn deuly 'r nef, yn demle ir yspryd,
yn wir drigolion tir y bywyd.
Heb y gair nid wi 'n dychymmig,
B' wedd y bydd dyn yn gadwedig,
Lle mae 'r gair yn Benna o'r moddion,
Ordeihiodd Christ i gadw Christion.
Heb y gair ni allir nabod,
Er wrth oleuni nattur a gwaith y greadiga­eth y naby­ddir Duw mewn rhan, etto [...] jechydwr­riaeth ni nebydd vn dyn ef heb y gair. Rhuf. 1.16
Duw na'i nattur, na'i lân hanfod,
Na'i fab Christ na 'r sanctaidd yspryd,
Na rhinweddau 'r Drindod hyfryd.
Heb y gair ni ddichon vn dyn,
Nabod 'wllys Duw na'i ganlyn,
Na gwir ddyscu 'r ffordd i addoli,
Nes i'r gair roi iddo oleuni.
Heb y scrythur ni ddealla,
Vn dyn byth ei gwymp yn Adda,
Na'i drueni, na'i ymwared,
Trwy fab Duw o 'r fath gaethiwed.
Heb y gair ni all neb gredu,
Yn Ghrist Jesu fu'n ei brynu:
Rhuf. 10.14, 17.
Cans o wrando 'r gair yn brydd,
Y mae i Griston gyrraedd ffydd.
Heb y gair nid yw Duw 'n arfer
Troi vn enaid oi ddiffeithder:
Ond trwy 'r gair Mae 'n arferedig,
Droi 'r Eneidiau fo Cadwedig.
Ar gair y trows yr Apostolion,
Act. 13.48.
Y Cenhedloedd yn Gristnogion,
Heb y gair peth dierth yw,
Droi pechadur byth at Dduw.
Act. 2.41.
Aphregerhiad vn Efengyl,
Y trows Pedr gwedi tair mil,
O Iddewon i wir gredu,
Ar ol iddynt ladd y Jesu.
Jac. 1.18.
Twry hâd y gair yr hadgenhedla
Yspryd Duw 'r pechadur mwya,
Ac ai gwna yn oreu ei ryw,
Yn frawd i Grist, yn fâb i Dduw.
Joan. 5, 39.
Y gair sy 'n cynnwys ynddo 'n helaeth,
Faint sydd raid at Jechydwriaeth:
Chwilia hwn a chais e'n astyd,
Ynddo mae 'r tragwyddol fywyd.
Jac. 1.19.
Crist sy 'n erchi it lafyrio,
Jo. 6.27.
Am y gair ath dread ath ddwylo,
Mwy nag am y bwyd y dderfydd,
O chwennychu fyw 'n dragywydd.
1. Pet. 2.2.
Fel y llef dyn bach am fronne,
Fel y cais tir cras gawade,
Fel y brefa 'r hûdd am ffynnon,
Llef am eiriau 'r fengyl dirion.
Gwerth dy dir a gwerth dy ddodren,
Gwerth dy gris oddi am dy gefen,
Gwerth y cwbwl oll sydd gennyd,
Cyn bech byw heb air y bywyd.
Gwell it fod heb fwyd, heb ddiod,
Heb dŷ, heb dân, heb wely, heb wascod,
Heb oleu'r dydd a'r haul garuaidd,
Nâ bôd heb y fengyl sanctaidd.
Tôst yw aros mewn Cornelyn,
Lle na oleuo 'r haul trwy'r flwyddyn,
Tostach trigo yn y cwarter,
Lle na oleuo'r gair vn amser.
Na thrig mewn gwlad heb law ar brydie,
Mewn glynn heb haul, mewn tŷ heb ole,
Mewn tre heb ddwr, mewn llong heb gwmpas,
Mewn plwyf heb ryw bregethwr addas.
Gado 'r wlad, a'r plwyf, a'r pentre,
Gado 'th dâd, ath fam, ath drasse,
Gado 'r tai, a'r tir yn ebrwydd,
Lle na bytho gair yr Arglwydd.
Gwell it drigo mewn Gogofe,
A chael gwrando 'r fengyl weithie,
Nag it drigo mewn gwlad ffrwythlon,
Lle na bytho 'r fengyl dirion.
Tost yw trigo mewn tywyllwch,
Lle na chaffer dim diddanwch,
Tristach trigo yn rhy hair,
Lle na chaffer gwrando 'r gair.
Nid gwaeth trigo 'mysc y Twrcod,
Sydd heb ofni Duw nai nabod,
Nag it drigo yn dost dy drigyl,
Lle na chlywer Christ nai fengyl.
Tynn i Loeger, tynn i Lundain,
Tynn dros fôr tu hwnt i Rufain,
Tynn i eitha 'r byd ar dreigyl,
Nes y caffech gwrdd a'r 'fengyl.
Blin it weld yr haul a'r glaw,
Mewn plwyfe dauty yma a thraw,
A'th plwyf dithe (peth yscymmyn)
Heb na haul na glaw trwy 'r flwyddyn.
Oni bydd vn bregeth
[...]ym dost.
ddurfing,
Yn y plwyf lle bech yn taring,
Jac. 1.19.
Dôs y-maes i'r plwyf lle 'i bytho,
Nad vn sabbath heb ei gwrando.
Pan fo eisiau a'r dy fola,
Di âe i'r gell i geisio bara,
Pan bo newyn ar dy enaid,
Nid ae i vn lle i geisio ei gyfraid.
Mat. 16.26.
Beth y dâl it borthi'r corphyn,
O bydd d' enaid marw o newyn,
All dy gorph di gael difyrrwch,
Pan fo d' enaid marw o dristwch?
Drwg it ladd y corph â newyn,
Eisiau bara tra fo 'r flwyddyn:
Gwaeth o lawer lladd yr yspryd,
Eisie 'i brothi â bara 'r bywyd.
Llêf gan hynny ar y ffeiriaid,
Am roi bwyd i borthi d' enaid;
Mal. 2.7
Rwyt ti 'n rhoi dy ddegwm iddyn,
Pâr i nhwyntau dorri'th newyn.
Luc. 10.16.
Gwrando 'r gair o enau 'r ffeirad,
Fel o enau Christ dy geidwad,
Christ a rows awdurdod iddo,
Ith gynghori ath rybuddio.
O pâr Christ i ffeirad noethlyd,
Dy rybuddio wella 'th fywyd,
2 Pet. 2.16.
Rwyti 'n rhwym i wneuthur archo,
Pe doy Assen it'h rybuddio.
Pe doy Suddas i bregethu
Fengyl Grist ti ddlyd ei dyscu,
F' all y fengyl gadw d' enaid,
Er ith Athro dost gamsyniaid.
Os dy fugail sydd anweddaidd,
At athrawiaeth yn Gristnogaidd,
Mat. 23.2, 3.
Dysc y wers, na ddysc ei arfer,
Gwachel feieu Paul a Pheder.
Na wna bris oi wedd nai wiscad,
P'un ai gwŷch ai gwael fo'i ddillad:
Nid llai grym y fengyl gyngan,
O'r shiacced ffris na 'r gassog sidan.
Cymmer berl o enau llyffan,
Cymmer aur o ddwylo aflan,
Cymmer wîn o bottel fydur,
Cymmer ddysc o ben pechadur.
Gwrando 'r fengyl, Christ yw hawdwr,
Pa fath bynna fo 'r pregethwr,
Prissia 'r gair, na phrissia 'r gennad,
Crist ei hun ai helodd attad.
Cadw 'r geiriau yn dy galon,
Luc. 8.12, 15.
Nad eu dwyn gan gigfrain duon
Hâd yw 'r gair ith adgenhedlu,
Os ir galon y derbynnu.
Dyfal chwilia di 'r Scrythyrau,
Jo. 5.39. Psa. 1.2.
Darllen air Duw nôs a borau:
Dilyn arch y gair yn ddeddfol,
Hynny 'th wna di 'n ddoeth anianol.
Cadw 'r gair bob pryd ith galon,
Deut. 6.6, 7, 8.
Ac hyspysa hwn ith feibion:
Sonnia am dano nôs a bore,
Y mewn, y maes, wrth rodio ac eiste.
Dôd ê'n gadwyn am dy
Gwddf.
fwnwg,
Dôd ê'n rhactal o flaen d' olwg,
Dôd ê'n
fodrwy. Ps. 119.98.
signet ar dy fyssedd,
Na ddos hebddo led y droedfedd.
Gwna 'r gair beunydd yn gydymmaith,
Gwna 'n gywely it bob noswaith,
Gwna [...]'n gyfaill wrth shiwrneia,
Gwna 'r peth archo wrth chwedleua.
Psal. 119.24.
Gwna fe'n ben Cynghorwr itti,
Gwna fe'n Athro ith rheoli:
Fe ry 'r gair it gangwell cyngor,
Nag a roddo vn rhyw ddoctor.
Nad ê i drigo yn yr Eglwys,
Gydâ 'r ffeirad 'r hwn ai traethwys:
Gen. 18.19.
Dwg ef adref yn dy galon,
Ail fynega rhwng dy ddynion.
Jer. 15.16, Ps 119.103
Gwna di 'r gair yn ddysclaid benna,
Ar dy ford tra fech yn bwytta:
Gwedi bwytta, cyn cyfodi,
Bid y gair yn
felus­fwyd.
juncats itti.
Rho ith enaid nôs a boreu,
Frecffast fechan o'r scrythyreu,
Rho iddo ginio brudd a swpper,
Cyn yr elych ith esmwythder.
Fel y porthi 'r corph â bara,
Portha d'enaid bach â'r manna,
Nad ith enaid hir newynu,
Mwy nâ'r corph sy'n cael ei fagu.
Mae 'r bibl bach yn awr yn gysson,
Yn iaith dy fam iw gael er coron,
Gwerth dy grys cyn bod heb hwunw,
Mae 'n well na thref dy dâd ith gadw.
Gwell nag aur, a gwell nag arian,
Psal. 119.72.
Gwell na'r badell fawr nar crochan;
Gwell dodreunyn yn dy lettu,
Yw 'r bibl bach nâ dim a feddu.
Fe ry gomffordd, fe ry gyngor,
Rhuf. 15.4.
Fe ry addysc gwell nâ Doctor,
Fe ry lwyddiant a diddanwch,
Fe ry 't lawer a ddedwyddwch.
Fe ry bara i borthi d'enaid,
Fe ry laeth i sagu 'th weiniaid,
Fe ry gwin ith lawenhau,
Fe ry eli ith iachau.
Pwy na phryne 'r bibl sanctaidd,
Sydd mor werthfawr ac mor
hawdd­gar.
gruaidd?
Pwy na werthei dŷ ai dyddyn,
I bwrcassu 'r fath ddodreunyn?
Dymma 'r perl y fyn y Jesu,
I bob Criston doeth i brynu,
Fel y
marsian­dwr.
Marchant call a werthe,
I brynu
y grâs y sonier am dano yn y bibl.
hwn faint oll y fedde.
Dan i Dduw roi inni 'r Cymru,
Ei air sanctaidd i'n gwir ddyscu,
Moeswch inni fawr a bychain,
Gwympo i ddyscu hwn ai ddarllain.
Moeswch inni wŷr a gwragedd,
Gyda i gilydd heb ymhwedd,
Brynu bôb vn iddo lyfyr,
I gael darllain geiriau 'r scrythyr.
Moeswch inni bawb rhag gwradwydd,
Ddyscu darllain gair yr Arglwydd,
Dan i Dduw ei ddanfon adre,
Attom bawb yn iaith em mamme.
Nadwn synd y gwaith yn ofer,
Y fu gostfawr i wŷr Lloeger,
Rhag na fetrom wneuthur cyfri,
Ddydd y farn am gyfryw wrthni.
Gwyr a gwragedd, Merched, Meibion,
Cymrwn ddysc oddi wrth y Saeson,
Rhai a fedrant bob vn ddarllain,
Llysyr Duw 'n ei iaith ei hunain.
Gwradwydd blin i ninnau 'r Cymru,
Oni cheisiwn weithian ddyscu,
Darllain gair Duw a'r scrythyrau,
Dan eu printio 'n iaith ein mammau.
Ni chist bibl inni weithian,
Ddim tu hwnt i goron arian,
Gwerth hên ddafad y fo marw,
Yn y clawdd ar noswaith arw.
O meder vn o'r tylwyth ddarllain,
Llyfyr Duw yn ddigon
Cyfa­rwydd.
cywrain:
Fe all hwnnw'n ddigon esmwyth,
Ddyscu 'r cwbwl o'r holl dylwyth.
Ni bydd Cymro 'n dyscu darllain,
Pob Cymraeg yn ddigon Cywrain,
Ond vn misgwaith, beth yw hynny?
O'r bydd wyllys gantho i ddyscy.
Mae 'n gwilyddys i bob Christion,
Na chlyw arno stoft coron,
Ac vn misgwaith oi holl fywyd,
Ynghylch dyscu 'r fengyl hyfryd.
Mae 'r Cobleriaid ai morwynion,
A rhai gwaetha 'mysc y Saeson,
Llawe­roedd.
Bob yr un a'r bibl ganthynt,
Dydd a nôs yn darllain ynddynt.
Mae Pennaethiaid gyda ninnau,
Ai tableri at ei bordau,
Heb vn bibl, nac vn pylgain,
Yn eu tai, na neb i darllain.
Peth cwilyddys gweld cobleriaid,
Yn rhagori ar bennaethiaid,
Am gadwriaeth eu heneidiau,
Ar peth rheita mewn neuaddau.
Y cobleriaid hyn y gyfyd,
Dydd y farn yn anian aethlyd,
I gondemnio 'r fâth bennaethiaid,
Sydd mor ddibris am yr enaid.
Pob merch
Eurych.
tincer gyda 'r Saeson,
Feidir ddarllain llyfrau Mawrion,
Ni wyr merched llawer scwier,
Gyda ninne ddarllain pader.
Gwradwydd tost sydd ir Britaniaid,
Fôd mewn Crefydd mor ddieithriaid,
Ac na wyr y canfed ddarllain,
Llyfyr Duw 'n ei jaith ei hunain.
Bellach moeswch in rhag cwilydd,
Bob rhai ddyscu pwyntiau crefydd,
Ac ymroi i ddyscu darllain,
Llyfyr Duw a'n iaith ein hunain.
Felly gallwn ddyscu nabod,
Joan. 17.3.
Y gwir Dduw ai ofni 'n wastod,
Ac oi nabod ai wir ofni,
Fe ry 'r di-drangc fywyd inni.
Duw ro grâs a grym i Gymru
Nabod Duw ai wîr wasnaethu:
Christ a nertho pob rhai ddarllain
Llyfyr Duw 'n ei iaith ei hunain.

Hil Frutus. Rhybydd ir Cymru i Edifarhau.

Hil Frutus fâb Sylfus, Brittaniaid brwd hoenus,
Caredig, cariadus, cyd-redwch i'm bron,
I wrando 'n 'wllysgar, â chalon vfuddgar,
Fy llefain am llafar hiraethlon.
Mae rhôd y ffurfafen yn dirwyn y bellen
On heinioes, nes gorphen, heb orphwys nôs na dydd
A ninne heb feddwl, nes dirwyn y cwbwl
Yn cw ympo it trwbwl tragywydd.
Fel llong dan ei hwyle, yn cerdded ei shiwrne,
Tro 'r morwyr yn chware, neu 'n chrwnu ar y nen
Mae 'n heinioes yn passo, bob amser heb stayo,
Beth bynnag a wnelo ei pherchen.
Mae 'r Ange glâs ynte yn dilyn ein sodle,
Piccell.
Ai ddart ac ai saethe, fel lleidir disôn,
Yn barod i'n corddi, ynghenol ein gwegi;
Pan bom ni heb ofni ddyrnodion.
An bywyd fel
Clôchar ddwr.
bwmbwl, ar lynwyn go drwbwl,
Syn diffod cyn meddwl ei fod ef yn mynd;
A ninne cyn ddwled, nad ym yn ei weled,
Nes darffo iddo fyned ei helynd.
Mae'r bŷd ynte 'r cleirchyn, yn glaf ar ei derfyn,
Bob ennyd yn rofyn,, rhwyfo tu ai fedd,
Ai ben wedi dortio, ai galon yn ffeinto,
Ai fwystil yn wasto yn rhyfedd.
'Rvm ninnau blant dynion, heb arswyd nac ofon
Yn
hyderu.
trysto gormoddion, ir gwr marwaidd hen,
Fel morwyr methedig, y drystent mewn perig,
Ir llongau sigedig nes sodden.
O nedwch i'n drysto, ir byd sy 'n ein twyllo,
Fel iâ pan y torro, gricc dan ein trâd,
Luc. 12.19, 20.
An gellwng heb wybod, ir farn yn amharod,
Cyn in-ni gydnabod ei fwriad.
Ond moeswch yn
gofalus.
garcus, i'n bawb fôd yn daclus,
I fyned yn weddus, ni wyddom pa awr,
O flaen y Messias, yngwisc y briodas,
Mat. 22.11.
A thrwssiad cyfaddas i 'r neithawr.
A nedwch ein dala,
Luc. 21.34. Mat. 25.
pan delo 'r awr waetha
Mewn medd-dod, puteindra, rhag rhwystir i'r daith
Heb oyl yn ein llestri, heb
Cyfryf.
gownt on talenti,
Ar cwbwl on cyfri yn berffaith.
Mae 'r fwyall ar wreidde y cringoed es dyddie,
Mat. 3.10, 12.
Mae 'r wyntill yn dechre dychryn yr ûs,
Mae 'r Angel âr Cryman, yn bwgwyth y graban,
Iw bwrw i'r boban embeidus.
Mae'r Farn vwch ein pennau, mae 'r dydd wrth y drysau,
Mat. 24.33: 1 Cor. 15.52.
Mae'r vdcorn bob borau, yn barod rhoi bloedd,
Mae'r môr ar monwentydd, ac vffern yn vsydd,
Roi'r meirw i fynydd a lyngcodd.
Ar Barnwr sydd barod, ar saint sy'n ei warchod,
Ar dydd sydd ar ddyfod, i ddifa hyn o fŷd,
An galw 'r holl ddynion, o flaen y Duw cyfion,
I gyfrif am y gawsom oi olud.
Mat. 25.
Rym ninnau 'n ymbesci, ar bechod a brynti,
Heb feddwl am gyfri, na gorfod ei roi,
Yn wasto ein talentau, i borthi 'n trachwantau,
Doed barn a dialau pan deloi.
Fel Cewri cyn diluw, fel Sodom cyn distryw,
Fel Pharo ar cyfryw, (eu cyfri nid gwaeth)
Yr ydym ni'n pechu, a'n grym ac a'n gallu,
Heb fedru disaru ysowaeth.
Ymbescu ar bechod, fel môch ar y Callod,
Ymlanw ar ddiod, fel vchen ar ddwr,
Ymdroi mewn putteindra, fel perchill mewn llacca,
Yw 'n crefydd, heb goffa cyfyngdwr.
Tyngu a rhegi, a rhwygo cig Jesu,
Ac ymladd am gwnnu y gawnen i gyd,
Cyfreitha 'n rhy ddiraid, nes mynd yn fegeriaid,
A gadel y gweinaid mewn gofid.
Y Mae'r haul, y mae 'r lleuad, yn gweld ein ymddy giad,
Mae'r ddaiar yn baychad, fod ein buchedd mor ddrwg,
Mae 'r sanctaidd Angylion yn athrist eu calon,
O weled cristnogion yn cynddrwg.
Mae'r ffeirad, mae'r ffermwr, maer hwsman ar creftwr
Mae 'r Bayli ar Barnwr, ar bonedd oi bron,
Bob vn am y cynta, yn digio 'r gorucha,
Heb wybod p'un waetha eu harferion.
Mae'r ffeiriaid yn loytran, mae'r barnwyr yn
yn der­byn gob­wry.
bribian
Mae'r bonedd yn tiplan, o Dafarn i Dwlc,
Mae 'r hwsman oedd echdo heb fedry cwmpnio,
Yn yfed Tobacco yn ddidwlc.
Putteindra 'r Sodomiaid, meddwdod y Parthiaid,
Lledrad y Crettiaid, (or credwch y gwir)
Falstedd gwlad Graecia, gwangred Samaria,
Sy 'n awr yn lleteua ymmhob rhandir.
Mae 'n anfoes i'm draethu, ein campau ni 'r Cymru,
Rhag cwilydd mynegu 'n ymddygiad i'r bŷd:
Etto rhaid meddwl, y traetha Duw 'r cwbwl,
Pan delo 'r dydd trwbwl i trefnyd.
Gwell i ni 'rowan gael clywed eu datcan,
Er peri i ni 'n fuan, difaru tra fom,
Mat. 25.41.
Na gweled ein tafly, ir tywyll garchardy,
O eisie difaru tra fyddom.
Gan hynny mi synnwn, gael gennych pe gallwn,
Isa. 55.6
Ymbilio am bardwn, yr ennyd y boch:
A gwella 'n wllysgar, cyn eloi 'n ddiweddar,
Rhag bod yn edifar pan deloch.
Mae 'n ofer difaru, a chrio a chrynu,
Mat. 25.11, 12.
Pan delir i'n barnu, bawb ar y barr,
Ni chair ond cyfiawnder, er cymmaint y grier,
Pyn eloi yn amser diweddar.
Meddyliwn gan hynny, cyn delo Christ Jesu,
Or nefoedd i'n barnu, bob vn wrth ei ben,
Am fod yn edifar, a deisif ei ffafar,
Cyn tafler ni ir carchar aniben.

Yr ail ran.

FE ddaw yn dra digllon, a llu o Angylion,
I ddial ar ddynion ei ddirmyg mor ddu,
2 Thes. 1.7, 8.
Yn daran echrydys, ir bobol anrassys,
Sy rwan mor frowys yn pechu.
Yno waith cymmaint y fydd ei ddigofaint,
Ei weision ai geraint y garei mor
Anwyl.
gu,
Ai sanctaidd angylion y grynant yn greulon,
Pan delo mor ddigllon i farnu.
Yr haul y dywylla, y lleuad y wridia,
Y nefoedd y gryna, bob modfedd yn grych,
Datc. 6.12, 13.
Ar
dewra.
stowta o blant dynion, rhag echryd ac ofon,
Y gria 'n hiraethlon wrth edrych.
Fe dawdd y ffyrfafen, fe syrthia bob seren,
Fe losca 'r holl ddairen oddiarni yn boeth,
2 Pet. 3.10. Mar. 13.25
Ar twrau ar Cestyll a gwympant yn gandryll,
A phob rhyw o Bebyll a'n bilboeth.
Datc. 21.1.
Y creigydd y holldant, y glennydd y doddant,
Y moroedd y sychant, ar syrthiad y sêr,
A phob rhyw fwystfilod, ymlysciaid a physcod,
Y drengant ar waelod y dyfnder,
Pan delo Christ Jesu, mewn nerth ac mewn gallu,
Or nefoedd i'n barnu ni, bawb wrth ei ben,
Pa wyneb na lasa, pa galon na wywa,
Wrth weld y gymanfa yn yr wybren?
Luc. 21.26 1 Pet. 4.18.
Pa Wascfa, pa wewyr, pa gynfordd, pa gyssur,
Y fydd gan bechadur na chodo ei big?
Pan gwelo 'r fath drallod, ar bob peth yn dyfod,
O barthed ei bechod yn vnig.
Datc. 6.15, 16.
Brenhinoedd cadarnblaid, cewri, captenniaid,
Beilchion a
Iladron.
gwilliaid gwycha 'r awr hon,
A griant ar greigydd, am bwnian eu mhennydd,
Au cuddio rhag cerydd Duw cyfion.
Yn hyn o drafel, fe gân yr Archangel,
Ei vdcorn mor vchel, ond awchys or cri,
Nes clywo rhai meirw (yn grai ac yn groyw)
1 Thess. 4.16.
Y llef yn eu galw i gyfri.
A 'r meirw a godant, ar drawiad yr amrant,
1 Cor. 15.52. Joan. 5.28, 29. 1 Thes. 4.17
Or llwch Ile gorweddant pan glywant y cri,
Ar byw a newidir, a phawb y gyrhaeddir,
Ir wybren lle bernir eu brynti.
Mat. 25.
Y Barnwr mawr ynte yn gyflym ei gledde,
Ai dafal ai bwyse, y bwysa ddrwg a da,
2 Cor. 5.10.
Gan rannu ir eneidie, wrth gywir fessyre
Y
Sef ei cy­fion wobr.
cyfion i'r gore a 'r gwaetha.
Nid edrych e'n llygad yr Emprwr nar Abad,
Rhuf. 2.11.
Ni phrissia fe dtwssiad, na galwad vn gwr,
Ond rhannu cyfiawnder ir Brenin ar beger,
Heb ofni
anfodl ni
displesser na chryfdwr,
Fe egir y llyfrau, fe rwyga eu calonnau,
Date. 20.12.
Fe ddengys eu beiau yn amlwg ir bŷd,
Fe deifil anwiredd pawb yn eu dannedd,
Fe ddial ar gamwedd y gwynfyd.
Ni ddiangc gair ofer, na'r ffirlling y draeler,
Mat. 12.36. Preg. 12.14.
Nar fyned y waster, heb ystyr a phwys,
Na gwagedd, na gwegi, na biau na brynti,
Nas gorfydd eu cyfri yn gyfrwys.
Putteindra 'r gwyr mawrion, ar gwragedd bonddigion
Sy 'n arfer eu gweision, heb wybod i 'r gwyr,
Ar mawrddrwg ar
llofryddi­aeth. 1 Cor. 4.5.
mwrddrad, ar ffalstedd ar lledrad
Y wneir i bob llygad yn eglyr.
Pa wyneb iradys? pa galon echrydys?
Pa gynffordd gofydys, gwae feddo ar y fath,
Y fydd y pryd hynny, gan bobol sydd heady,
Mor ffyrnig yn pechu ysowarth?
Ni ddiangc na llymmaid, na thippin na thammaid,
Mat. 10.42.
Y roddir ir gweiniaid, er mwyn Jesu gwynn,
Heb ymdal am dano, a chyfri a chofio
Y brywsion y ballo 'r cerlyn.
Yno detholir y defaid ar geifir,
Ac yno y bernie, pawb wrth y
Eu pen.
pôl:
Y Defaid ir deyrnas, mewn harddwch ac
Anrhya dedd.
v rddas,
Ar geifir ir ffwrnas vffernol.
Yno yr â 'r cyfion yn llawen eu calon,
Mat. 13.43.
Mewn gynau tra gwynion yn vnion i 'r nef,
I dderbyn gorefcyn or deyrnas ddiders yn,
Y roddodd Duw iddyn yn artres.
Ar geifir damnedig, ar bobol fileinig,
Mat. 13.41, 42. Mat. 25.46.
Sy 'rwan yn dirmyg y Barnwr a [...] dydd,
Y deflir yn glymme, mewn cadarn gadwyne,
I vffern ir poene tragywydd.
Yn vffern y llefan, gan flined oi llosefan,
Yn ebrwydd ar Abram, am ddafan o ddwr,
Ond llefent hyd
Tragwy­ddoldeb.
ddistin, ni chant hwy o 'r droppyn,
Na thammaid na thippin o swccwr.
Cans yno 'n dragywydd, mewn carchar a chystydd,
Mar. 9.44. Mat. 13.42. Ps. 9.17. [...]uc. 13.5. Mar 13.33
Heb obaith y dersydd ei dirfawr gûr,
Y herys anwiredd yn rhingcian ei dannedd,
Heb derfyn na diwedd oi dolur.
Ac yno 'r awn ninne, i ystyn ein gwefle,
Am dreulio ein dyddie, mewn pechod mor dal;
O ddiffig i'n
Gwilio
watchio a dyfal weddio,
A gwella cyp delo 'r dydd dial.
Meddyli [...]n gan hynny, tro 'r amser yn gadu,
Yn brŷdd edifaru, nid yw foru i neb;
A 'madela 'n brynti, a 'n gwagedd a 'n gwegi,
Cyn delom i gyfri ac atteb.
Duw Jesu dewissol, y brynaist dy bobol,
Or ffwrnais yffernol, oedd ffyrnig ei phwys:
Cadw 'n eneidie, pan delontar
ile barn.
frawdse;
A dwg hwy i gadeire Paradwys.
Or gofyn Deheubarth, na Gwynedd o vn parth,
Pwy ganodd y
ddau ran
dosparth, ich disbwyll rhag ing?
Egiwyswr sy'n hoffi, i ch dadraidd o'ch didri,
Ach cosio am eich cyfri cyfyng.

Adroddiad o dôst a thruenus gyflwr dyn trwy naturiaeth.

ADda werthodd pawb o'r byd,
Ir hên Sarph am Afal dryd,
Ni ddaw un o
[...]
grampau Satan,
Nes dêl Christ i dynnu allan.
Y' mae Satan ynteu 'n cadw,
Pôb pechadur gwrryw a benyw,
llawn tonnau. Isa. 4.2.7
Yn ei garchar tonnog tywyll,
Nes dêl Christ i derri 'n gandryll.
Y mae 'r carchar cyn dywylled,
Ac nad ym yn abal gweled,
O 'n tôst gyflwr a 'n gofydi,
Jo. 8.12.
Nes dêl Christ a gole inni.
Rym ni'n aros heddyw heno,
Mewn tywyllwch dan ei ddwylo,
Act. 26.18
Ac heb weled ein trueni,
Nes del Christ i ddangos inni.
Rym ni 'n farw yn ein pechod,
Eph. 2.1.
Rym heb weld o 'n
Cyflwr.
câs na 'i ganfod,
Rym ni 'n gorwedd mewn tywyllwch,
Ac heb geisio gwell diddanwch.
Rwyt ti 'n ymladd ym-mhlaid Satan,
Rwyt ti 'n elyn it' dy hunan,
Rwyt ti 'n myned byth ar ddidro,
Mat. 18.11, 12.
Nes dêl Christ ith droi ath rwystro.
Rwyt ti eisoes gwedi 'th golli,
Ath gondemnio
Sef yn lwynan Adda. Jo. 3.17, 18.
cyn dy eni:
Oni cheisij Grist ith helpu,
Yn golledig ei harossu.
Mae 'r Sarph â'i cholyn gwedi 'th frathu,
Mae d'enaid bach or brâth yn gryddsu:
Cais Grist yn feddyg ith Jachau,
Jo. 3.36.
Onis ceisij
Sef da­mnedig fyddu. Datc. 3.18.
marw a wnai,
Mae d'enaid gwedi 'r diawl ei speilio,
O 'r holl ddonie a roes Duw iddo:
Cais gan Grist ei ail ddillattu,
Onis ceisij 'n
Siccr.
suwr di sythu.
Mae 'r fall âr
Piocell.
follt o bechod tanllyd,
Gwedi 'th glwyfo yn wenwynllyd:
Cais gan Ghrist Jachau dy glwyfe,
Onis ceisij, 'r fall ath bie.
Mae d'enaid bâch fel dafad wirion,
Rhwng palfau 'r llew, ar bleiddiaid digllon:
Cais Grist ym-mrhyd i ddwyn o'i grampe,
Onis ceisij, 'r blaidd ath bie.
2 Tim. 2.26.
Mae 'r diawl fel ffowler gwedi dala,
D'enaid bach â rhwyd o'r cryfa:
Ni
Ddeui.
ddoi byth o rwydau Satan,
Nes dêl Christ ith dynnu allan.
Rwyt ti 'n ufydd wâs i bechod,
Jo. 8.34.
Rwyt ti 'n pechu bob diwrnod:
Cais gan Ghrist roi grâs a chryfder,
It i wasnaethu mewn cyfiawnder.
Eph. 2.3.
Rwyt ti 'n blentyn i 'r digofaint,
Wrth naturiaeth, fel dy geraint:
Cais gan Grist dy adgenhedlu,
Rhag dros fyth it aros felly.
Rwyt ti 'n
Caeth­was. Act. 26.18.
slaf i 'r cythrael aflan,
Rwyt ti 'n byw dan feddiant Satan:
Cais ym mrhyd gan Ghrist dy dynnu,
O law 'r fall, rhag aros felly.
Luc. 11.21, 22.
Mae 'r gwr cadarn yn heddychlon,
Yn cadw ei gastell 'yn dy galon:
Nes cael Christ i ddwyn ei arfau,
Nid â 'r cadarn byth o'th ascrau.
Rwyt ti 'n gangen wyllt auffrwythlon,
Heb ddwyn ffrwyth ond grawn-win surion:
Oni wella Christ dy nattur,
I dan vffern boeth i'th daflyr.
Fe wnaeth y diawl di 'n elyn Duw,
Col. 1.21
O blentyn grasol gore ei ryw:
Cais gan Ghrist dy
Heddy­chu.
reconsilo,
Rhag aros byth yn elyn iddo.
Rwyt ti 'n vn or
Cywion.
cwain bychain,
Y sy 'n pori rhwng y cigfrain:
Os Christ Jesu ni'th adaina,
Mat. 23.37.
Cigfrain vffern a 'th sclyfaetha.
Rwyt ti 'n gorwedd mewn tywyllwch,
Hêb wir nabod llwybrau heddwch:
Oni oleua Christ ein llwybrau,
Awn i uffern ar ein pennau.
Rwyt ti 'n haeddu pob gofydi,
Gwedi 'th ddamnio cyn dy eni:
Oni chei gan Ghrist i'th helpu,
Yn ddamnedig ei harossa.
Rwyt ti 'n elyn ir Goruwcha,
Rwyt ti 'n slaf ir cythrael pe [...]a,
Rwyt ti 'n dewyn uffern isod,
Nes dêl Christ i olchi'th bechod.
Rwyt ti 'n euog o bob tramewydd,
O bob nychdod, o bob affwydd,
Deut. 28.15, 16, 17
O bob gofyd, o bob trallod,
Nes cael Christ i olchi 'th bechod.
Drwg tu fewn, a drwg
Tu Allan. Rhuf 3 10. Hyd y 19. Rhuf 7.18
tu fâs,
Llawn o bechod, tlawd o râs,
Aflan, oflyd, dwl, diwybod,
Nes cael Christ i olchi 'th bechod.
Dymma gyflwr pob rhyw Chistion,
Medd y scrythur yn
Eglur:
blaen ddigon,
Hyd nes delo Christ ein prvnwr,
I'n hail-eni, i wella ein cyflwr.
Oni chawn i Ghrist i'n helpu,
Rhuf. 5.6. 2 Cor. 3.5
A 'n hail-weithio, a 'n gwaredu,
Ni all dyn o'i rym ei hunan,
Wella ei gyflwr mwy nâ Satan.
Act. 4.12
Ni all Peder, ni all Pawl,
Ni all Angel, ni all diawl.
Ni all nêb ond Christ yn unig,
Gadw enaid dyn colledig.
Chwilia 'r nêf, a 'r ddaer, a 'r awyr,
Chwilia 'r môr, a phob creadur,
Di gei weled, na all un,
Ond Christ gadw enaid dŷn.
Oni cheisij Ghrist ein Prynwr,
Gan ei dad i wella 'th gyflwr,
I bwll uffern ir ai i drigo,
Eisiau ceisio cymmorth gantho.
Ni bydd vn dyn yn gadwedig,
O 'r holl fŷd er maint o'i ryfig,
Ond y dyn y gaffo ei gadw,
Er mwyn Christ ein ceidwad croyw.
Mat. 7.21. Jo. 6.29. Gal. 5.6.
Ac ni cheidw Christ un Christion,
O'r holl fyd er maint a grion,
Ond y dyn a gretto yn brudd,
Yn Ghrist trwy wîr a bywiol ffydd.
Y nêb a gretto yn-Grist yn gywir,
Jo. 3.36.
Fe gaiff hwnnw ei gadw yn siccir:
Y nêb ni chredo ynddo 'n
Yn dynn
sŷth,
Ni chaiff hwnnw ei gadw bŷth.

Genedigaeth, Bywyd a Marwolaeth Christ Jesu ein Jachawdwr.

POb rhyw Gristion ag sy 'n caru
Nabod Christ y su 'n ein prynu,
Clywch fi 'n adrodd genedigaeth
Prynwr Crêd, a'i
Drist. Jo. 1.1, 3.
brudd farwolaeth.
Y Gair Mâb Duw oedd o 'r dechreuad,
Cyn bôd nef na daer na 'dailad,
Dihar. 8.22. &c. 1 Jo. 5.7.
Yn ail berson o 'r glân Drindod;
Rhwn y wnaeth y byd mor barod.
Yr oedd e'n Arglwydd cuwch a'i Dâd,
Phil. 2.6
Yn y nefoedd yn llawn o rad,
Yn rheoli 'r holl Angelion,
Cyn i ddwad at blant dynion.
Roedd e'n Dduw galluog grymmus,
Rhuf. 9.5.
Roedd e'n Arglwydd anrhydeddus,
Roedd e'n Frenin mawr ei rad,
Roedd e'mhôb pwynt cuwch a'i Dâl.
Pan daeth o 'r nef i brynu dyn,
Phil. 2.6, 7. Joh. 3.13. Heb. 2.14.
Fe gymmerth arno 'n lliw a 'n llûn;
A 'n gwir gnawd o Fair ei fam,
Rhon oedd
Merch.
wyryf bûr, ddinam.
Hi feichiogodd arno yn rhyfedd,
Mat. 1.18.
O rad yr ysbryd glân a'i rinwedd,
Heb fôd iddi wnel na nabod
Gwr erioed, er bod yn briod.
Ac felly 'r aeth Mab Duw yn ddyn,
Joh. 1.14.
O naturiaeth Mair ei hûn,
(Heb ei halogi â dim pechod,)
Luc. 1.35.
Yn y grôth trwy râd y Drindod.
Dwy naturiaeth amlwg
Ydynt. Rhuf. 1.3, 4.
yn,
Sydd i'n prynwr Duw a dyn:
Vn o'i Dâd, a'r llall o'i fam,
Dwy wahanol, dwy ddinam.
Mab i Dduw, a mâb i ddyn;
Heb vn person iddo ond vn:
Mâb i ddyn, o fam heb dâd,
Mâb Duw mawr heb fam y câd
Cafwyd.
.
O ran ei ddyndod mae 'n fy mryd,
I ddangos iwch ar hyn o bryd,
Y Dull a'r môdd y ganed Jesu,
Pan y daeth o 'r nêf i 'n prynu.
Pan daeth Mair i Fethlem
Carueidd Luc. 2.
hygar,
I dalu trêth i 'r
Brenin.
Emprwr Cesar,
Daeth ei hamser hi Escori,
Fel y traetha 'r fengyl inni.
Ond waith cymmaint oedd y Cwmpni,
Oedd yn gorwedd ym-mhôb Ostry,
Luc. 2.7.
F'orfu ar Fair yn fawr ei gofal,
Fynd i escori hwnt i'r stabal.
Yno ym-mhlith y mûd nifeilod,
Heb ddim
Gwch­dra.
stade, Duw 'n i wybod,
Fe escorodd Mair wen ddiddig,
Ar ein prynwr ddydd Nadolig.
Gwedi geni 'n prynwr hyfryd,
Heb sôd arni boen ra gofyd:
Yn dra llawen hi a rwyme
Brenin nefoedd mewn cadache.
Gwedirwymo, hi rhoi orwedd,
Yn y preseb yn ddiryfedd,
Ac y fydde bodlon ddigon,
I bôb peth oedd Duw 'n i ddanfon.
Yno cyn i 'r wawr gael torri,
Fe ddanfonei Dduw gwmpeini,
Luc. 2.
O fugeiliaid, mewn gwiriondeb,
I addoli e yn y preseb;
Rhai ddanfonwyd gan Angelion,
Yn dra llawen iawn eu calon,
I dre Fethlem o wir bwrpas,
I gael gweled y Messias
Yr enei­niog Christ
:
Ac i
Gyhoc­ddu.
faneg i bawb hefyd,
Fel y dwetse 'r Angel hyfryd,
Mae fe oedd Christ y gwir geidwad,
Rhwn addawsid o'r dechreuad:
Ac y byddei fawr lawenydd,
I 'r hôll fŷd o 'r chweddel newydd,
O ran geni 'r boreu hwnnw,
Y Jachawdwr y ddoy 'n cadw.
Yno y dawe lû o Angelion,
Ag y ganen
Cania­dau.
hymnau mwynion,
I'r Tâd nefol o 'r vchelder,
Am roi i ddynion y fâth fwynder.
Ar hyn fe'm-ddangosse Seren,
Rymmus, rasol, yn yr wybren;
Rhon y ddywedei â 'i goleuni,
Fôd y Prynwr gwedi eni.
Yno y dawe hên wyr doethion,
Mat. 2.
O 'r Dwyrain-dir yn dra vnion,
I Judea wrth y seren,
I ymofyn Christ yn llawen,
Rhai y geisient gael copinod,
Gan y Brenin creulon Herod,
Ble genassid Christ y cyfion,
Brenin grasol yr Iddewon.
Yno y dywede 'r ffeiriaid mwya,
Mae ym-Methlem rrêf o Juda,
Y suwr enid y Messias,
Mich. 5.2.
Medde 'r Prophwyd hên Micheas.
Pan y clowe 'r doethion hyn,
Daethont yn faith ac yn dynn,
I dre Fethlem wrth y Seren,
Dan ymofyn Christ yn llawen.
Mat. 2.9
Ond pan daethont hwy yn agos,
I'r tŷ, lle 'roedd Christ yn aros,
Fe ddisgynne 'r Seren dlws
Teg.
;
Ac arhosse vwch ben y drws.
Yno yr aent i mewn yn llawen,
Lle roedd Mair, a Christ yn fachgen,
Ac y gwympent ar eu daulin,
I addoli 'r grasol frenin.
Rhoddent hefyd
Rhagorol
rial roddion,
Y berthyne i Grist yn
Cyttûn.
gysson,
Aur, a ffrancwmsens o 'r gore,
A Myrh gwerthfawr, teg ei? rogle.
Mat. 2.
Herod ynte pan y clywas,
Eni Christ y gwir Fessias,
Efe fynnei lâdd e'n blentyn
Bâch, yn sugno yn ei rwymyn.
Os fe helodd lû o fwytswyr
Gwaedlyd, creulon, dig difesur,
I lâdd yr hôll blant bâch o doytu,
Cyn y methe ladd y Jesu.
Hwyntau laddsont yr hôll fechgin,
Oedd ym Methlem etto 'n egin,
Fach a mawr dan ddwy-flwydd oedran,
A mab Herod gâs ei hunan.
Yno y gorfu ar Fair fyned,
Genol nôs i ddechre cerdded,
Tua 'r Aipht â'i phlentyn ganthi,
Lle archasse 'r Angel iddi.
Yno y bu Christ yn aros,
Gydâ 'r Sibswns lawer wythnos,
Nes cael clywed marw Herod,
Oedd yn ceisio 'i ladd heb wybod.
Yn ôl marw Herod greulon,
Fe ddoe Crist i wlad Iddewon,
Ac y fyddei ostyngedig
I Fair ac i Joseph ddiddig.
Luc. 2.51.
Pan yr oedd e'n ddeuddeg oed,
Luc. 2.46.
Peth rhyfedda y fu erioed,
Efe
Ymress­ymmau.
bwngcie â Doctoriaid,
Nes bae 'r doethion arno 'n synniaid
Rhyfe­ddu.
.
Yno yn ddeg ar hugein oedran,
Pan bedyddiwyd ef gan Joan,
Fe ddescynei arno yr ysbryd,
Luc. 3.
Ar lûn clommen
Carueidl
hygar hyfryd.
Ac fe lefe Dduw ei hunan,
Fry o'r nef lle clywe 'r
Cwmpui.
cwmpan,
Hwn yw f' vnig fab aberthwyd,
Yndo ef ym llwyr foddlonwyd.
Gwedi 'r ysbryd ddescyn arno,
Fe ddoe 'r Cythrael ynte i demptio,
Ond er maint oedd cyrch y cythrael,
Mat. 4.
Rhows Christ iddo
Cwymp.
ffwyl ddiogel.
Yn ol hyn fe ai i bregethu,
Yr efengyl wen o doytu,
Ac i ddechre gwneu [...]hur gwrthiau
Ym-mhob tir y ffordd y cerddau.
Joan 2.
Fe drows y dwr yn gynta 'n win,
Fe lwyr Jachaws pob olefyd blin,
Mat. 11.5.
Ac fe wnaeth i'r deillion weled,
Ac i'r byddar clust-drwn glywed.
Act. 3.2, 8 Luc. 13.13
Fe wnaeth ir cripliaid yn ddifraw,
Neido a thrippio yma a thraw,
Ac fe wnaetn ir gwreigyn grwcca,
Godi chefen o 'r vniawna.
Ynte rodiodd ar 'y môr,
Gan ostegu ei
Gormod­edd.
rwyf a'i
Swn.
rôr,
Ac fe wnaeth i'r storom wynt,
Mar. 6.
Beidio a chwythu yn ei hynt.
I ddangos ini ei fôd e 'n Dduw,
Fe gododd tri ô farw i fyw,
Merch i Jairus, mâb i 'r weddw,
Luc. 7 &. 8 Jo. 11.
Lazar gwedi drewi a marw.
Porthodd pum mil â phum torth,
Mat. 14.
Mawr o'i bwer, da o'i borth,
Llanwodd ddwy long o 'r pysc mwya.
Luc. 5.
Pan y methe ar bawb eu dala.
Bwriodd lawer cythrael allan,
Mat. 4.24. Luc. 22.
O 'r rhai clifion, lloerig, egwan,
A chlûst Malchus gwedi dorri,
Y Jachaws ef
Yn ebrw­ydd.
toc heb eli.
Llawer gwrthie gydâ hyn,
Y wnaeth ein Prynwr Jesu gwyn,
Cyn i Suddas frwnt ei werthu,
I 'r Jddewon, a'i fradychu.
Ni chaed twyll erioed o'i enau,
1 Pet. 2.22 Jo. 8.46.
Nid oedd vn dyn a'i hargoeddau,
Roedd e'n ddiddrwg fel yr oen,
Yn fach ei barch, yn fawr ei boen.
Pan daeth yr awr oedd Duw 'n ei osod,
I aberthu e dros ein pechod,
Fe ddoe Suddas ac a'i gwerthe,
I 'r Iddewon am geinioge.
Ni chas ddim ond hanner Coron,
Mat. 26.15.
Am ei roi e'n llaw 'r Jddewon,
I fynd ag e'n rhwym at Gaiphas,
Gwedi holi yn dôst gan Annas.
Yn y man y daeth at Gaiphas,
Fe ddoe tystio ffalst o'i gwmpas,
Ac y fynnent brwfio arno,
Lawer peth nas gwydde oddiwrtho.
Caiphas yntef a'i
Holau.
hexam [...]au,
Yn galed iawn ar fil o bethau,
Ac a'i tyngau trwy 'r Duw byw,
Mat. 26.63.
I adde o 'r doedd yn fab i Duw.
Ac am i 'r Jesu adde 'n
Eglur.
glur,
Mae fe oedd Christ, mâb Daw yn wir,
Braidd na fynnei pawb ei lethu,
A'i labyddio cyn ei farnu.
Yno y poerwyd yn ei wyneb,
Bwbach-dallwyd mew ffolineb,
Mar. 14.65.
Fsystwyd ei ben â gwiely [...],
A chernodiwyd e'n ysscymmyn.
Greulon
Ar y boreu yr holl Jddewon,
Mar. 15.
A 'r Ofleiriaid, a 'r giwyr mawrion,
Y ddoent â Christ gwedi glwmmu,
At Bilatus idd i farnu.
Pilat gwedi holi e'n galed,
Heb gael yndo fai na niwed,
Mat. 27.
Dan lanhau a golchi ddw lo,
Y rows barn marwolaeth arno.
Cynta peth y farnei Pilat,
Oedd I chwippio heb ei ddillad,
Yn ôl hynny i groes-hoelio,
Ar y crog-pren nes
Nes marw.
departo.
Felly chwippiwyd Christ yn dôst,
O hewl i hewl, o bôst i bôst:
Ac ni adewid modfedd arno,
Oi ben i draed heb ei
Fflan­gellu.
scwrgio,
Gwedyn dewe filwyr Pilad,
Ac hwy
Dihatru. diosc.
stripient Christ o'i ddillad,
Ac a'i gwiscent e'n cyn frafed,
Mewn hên fantell goch o scarled.
Yn ol hyn fe blethe rhain,
Anfad Goron fawr o ddrain,
Ac a'i gwiscent ar arleisie
Christ, nes rhedei waed yn bibe.
Rhoddent hefyd yn ei Law
Gorsen, dan ymgrymmu draw,
A'i watwaru â geiriau mwynion,
Dydd-dawch Brenin yr Iddewon.
Gwedi diosc Christ drachefen,
Jo. 19.17
Rhoesont y groes ar ei gefen,
Iddo i llysco i 'r Benglogfa,
Lle croeshoeliwyd ar ei hycha.
Pan yr aethont iw groes-hoelio,
Tyllwyd eu draed a'i ddwy ddwylo,
Ac hwy hoeliwyd yn filinig,
A thair hoel o haiarn ffyrnig.
Er maint oedd ei boen a'i loesau,
Etto er hyn ni 'gore o'i enau,
Act. 8.32.
Ac ni yngane wrth y poenwyr,
Mwy nâ 'r Ddafad dan law 'r Cneifwyr.
Ond fe offrwmme ar y groes,
Pan oedd chwerwa a blina 'r loes,
Ei enaid gwynn, a'i waed i gyd,
Eph. 5.2.
Yn aberth dros bechodau 'r byd:
Ac orchmynne ei enaid gwirion,
Luc. 23.34, 46.
Yn llaw ei Dad y Barnwr cyfion,
Dan ymhwedd arno am fadde,
Ir Iddewon a'i croes-hoelie.
Felly y bu farw 'r Jesu,
Ar y pren croes wrth ein prynu,
Ac y rhows ef waed ei galon,
Dros eneidiau 'r gwir gristnogion.
Felly y rhows Duw ei Anwylyd,
I groes-hoelio trwy fawr benyd,
Er mwyn prynu ein enediau,
Fe wa­redir y sawl y gredo yntho, ac a ddychwelant atto â'u holl galonnau, oddi wrth eu perhodan, i wasanaethu ef mewn cyfiawnder a Sancteiddrwydd, o hynny allan holl ddyddian eu bywyd. Luc. 1.74, 75. Jo. 3.36. Act. 11.23. Esay 55.7.
A'u gwaredu o'u
Boenau ag oedd ddyledys inni.
holl boenau.
Rhoddwn ninne foliant iddo,
Ddydd a nôs heb ddim deffygio,
Am ei gariad ai drugaredd,
Yn prynu enaid dyn mor rhyfedd.
Diolch mawr a moliant hyfryd,
Y fo ir Tâd a 'r Mab a 'r ysbryd,
Am brynu enaid dyn mor britted,
Ai ddwyn ir nef o dôst gathiwed.

Adroddiad o gariad Christ at y byd.

CLywch adrodd mawr gariad mab Duw at y bŷd,
Pan daeth ef or nefoedd, i'n prynu mor ddryd,
Er peri i chwi gofio, am gariad mab Duw,
Ai foli 'n wastadol tra fyddoch chwi byw.
Rhuf. 5.12. 1 Pet. 1.18, 19.
Pan twyllwys y Cythrael, â'r afal y wraig,
I dorri 'r Gorchymyn, trwy demptiad y ddraig,
Fe 'n gwerthwyd am afal ir diawl cymain un,
Heb neb allei 'n prynu, ond mab Duw ei hun.
Mâb Duw pan y gwelas ein cyflwr mor dôst,
Fe ddaeth yn ei un-swydd, or nefoedd yn
Cennad ebrwyldd
bôst,
O blith yr Angelion, i grôth y wenn Fair,
I gymryd ein nattur, i'n gwared ni or pair.
Mair a feichiogodd, ar unig mab Duw,
O râd y glan ysbryd, (ond tra rhyfedd yw)
Pan 'r oedd hi'n bur forwyn, tra ieuangc mewn oed,
Heb fôd iddi hanffod, ag un gwr erioed.
Pan daeth amser escor, fe aned mâb Mair,
Mewn stabal ym Methlem, ar fot [...]el o wair,
Lle trowd ef mewn cadach, ai ossod i lawr,
I orwedd mewn preseb; ond happys o'r awr?
Pan ganed ein Prynwr, fe helwyd or nêf,
Angelion rhialwych, tra llawen ei llêf,
I
Fynegi.
faneg dan ganu, yr amser ar prŷd,
Y ganed Christ Jesu, Jachawdwr y bŷd.
A 'r Doethion or Dwyrain, pan gotson eu pen,
A gweled ei Seren, mor wych, ac mor wen,
Hwy ddaethont o'r Dwyrain, i Fethlem yn bost,
I 'ddoli 'r dŷn bychan, mewn llawer o gost.
Herod pan y clowas ef eni mab Duw,
Fe helodd ei
Leiddi­aid i
fwytswyr,
Lâdd.
i fwrddro fe 'n fyw,
Ac rhag iddo ddiangc, fe laddodd pob un,
O fechgin bach Bethlem, a'i blentyn ei hun.
Mair hithe gododd, ar hyd nos heb ddim trwst,
Ac aeth at y
Aiphtiaid
Sybswns, a'i phlentyn ar ffrwst,
Lle bu hi 'n hîr aros, ni wn i pa cŷd,
Nes darfod am Herod ai fwytswyr i gŷd.
Pan darfu am Herod, daeth Christ yn ei ôl,
Or Aipht i Judea, at genel rhy ffôl,
Lle bu ê 'n pregethu 'r Efengyl yn hîr,
I bobol Pengaled na chredei mor gwir.
Gwrthie tra gwerthfawr y wnaeth ef lawer pryd,
I ddangos mai 'r Jesu oedd ceidwad y bŷd:
Ni chredei 'r Iddewon nai wrthiau nai wîr,
Ond ceisio 'i fradychu ar fôr ac ar dîr.
Suddas fradychys, â chusan tra châs,
Ai gwerthod eâ 'n nwylo 'r Iddewon di râs:
Trachwant ar Arian ai gyrrod ê 'n
ebrwydd.
bôst,
I ymgrogi mewn cebist: ei fforten oedd dôst.
Y nos y bradychwyd fe chwyssodd y gwaed,
Luc. 22.44
Yn daran dosturys, o'i ben hyd ei draed,
Wrth feddwl cyn chwerwed, a blined o'r loes,
Mat. 26.38, 39.
Orfyddei arno oddef, am bechod pôb oes.
Dalie 'r Iddewon ê, â ffaglau ac a ffynn,
Pan oedd ê 'n gweddio 'n ol Swpper yn
Fraw­ychys.
Syn,
Hwy' rhwyment â chordau, hwy llyscent trwy fraw
At Annas a Chaiphas, iw holi dan llaw.
Pilat yn fynych ai holodd ê yn
Ysgafn de chrwydd.
chwai,
Heb allel cael ynddo, na phechod na bai:
Ond dan olchi ddwylo, fe wnaeth ag ef gam,
Fe barnwys i farw, heb wybod pa ham.
Fe farnwys i
Estan­gellu.
chwippio o'i ben hyd ei draed,
Nes bôd ei Gorph pur-wyn, yn lliwio gan waed,
A chwedyn i hoelio, ar grogpren trwy
Efysto.
gûr,
Trwy ddwylaw, a'i ddwy troed, â hoelion o ddur.
Coronwyd Christ hefyd â choron o ddrain,
Fe wiscwyd mewn mantell, o Scarled coch main,
F' addolwyd mewn gwatwar, dan blygu pob glin,
Fe gurwyd â chorsen, dan ystyn y min.
Fe rowd ar ei ysgwydd y groes idd i ddwyn,
Nes mynd ir benglogfa heb nemmawr o gwyn:
Ar honno 'n fyleinig, fe hoeliwyd yn fyw,
Ac felly ar grogpren fe grogwyd mab Duw.
Er maint oedd ei flinder, a'i gystydd, a'i gûr,
Pan hoeliwyd ef felly, â 'r hoelion o ddûr,
Ni 'gorodd oi enau, ni ofynodd, pa ham,
Mwy nâ'r oen dan law 'r cneifiwr, er ma'nt oedd ei gam,
Ond llefain yn irad, o 'r groes ar ei Dâd,
Am faddei 'r Iddewon, a sugnent ei waed:
O achos na wyddent, ar hynny o brŷd,
Eu bod hwy 'n croeshoelio Jachawdwr y bŷd.
Ac felly bu farw mab Duw ar y groes,
Wrth ddwyn ynddo ei hunan y blinder a 'r loes,
A 'r poeneu a 'r penyd, a 'r d al i gŷd,
Oedd Duw yn ei ofy, am bechod y bŷd.
Trwy Angeu tra phoen-fawr, a phrid werth ei waed,
Fe wnaeth heddwch hyfryd, rhwng dynion ai dâd;
Fe 'n dygodd
sef y sawl sy'n credu, neu ddeu­ant i gre­du ynddo, Ruf. 5 1.
ni 'r eilwaith mewn ffafar â Duw,
Moliannwn ni 'r Jesu tra fyddom ni byw.
Fe ddygodd ar grogpren ein pechod bob un,
Fe 'n
Ni ddi­chon yr an­ghredadyn anufydd ddywedyd fel hyn.
golchodd on beiau, trwy wîr waed ei hun,
Fe 'n gwnaeth ni 'n frenhinoedd, a ffeiriaid i Dduw
Moliannwn ni 'r Jesu tra fyddom ni byw.
Cyflawnodd y Gyfraith, bodlonodd ei Dâd,
Fe brynodd ein Pardwn, fei feliodd â 'i waed,
Fe'n tynnodd o'r carchar, fe rwygodd ein sach,
Moliannwn ni 'n Jesu yn fawr ac yn fâch.
Dat. 1.6.
Ai Angeu, fel Samson, fe droedwys i lawr,
Heb. 2.14.
Gyhuddwr ein brodyr, y
Y diafol. Datc. 12.9, &c.
wibe [...] goch fawr,
Fe rwygwys ei deyrnas; fe sigoedd ei shol,
Moliannwn ni 'r Jesu, y 'neillwys y gol.
Fe ddofwys llidiawgrwydd, a digter ei Dâd,
Fe'n gwnaeth ni 'n blant iddo, trwy fabwys a rhâd,
Rhuf. 8.17. 1 Pet. 1.3, 4.
Fe rows i ni gyfran o deyrnas ein Duw,
Moliannwn ni 'r Jesu tra fyddom ni byw.
Coronau goreuraidd ar bennau pob un,
2 Tim 4.8 Dat. 7.9.
A gynau gŵych gwnion, tra llyniaidd eu slun,
Y Brynwys ef inni, a Theyrnas gwlad nef,
Moliannwn ni 'r Jesu, yn llawen ein llef.
Gogoniant a gallu, a diolch bôb prŷd,
Y fytho'r lân Drindod, am ein prynu mor ddrŷd,
A mawr glod a moliant i 'n prynwr a 'n pen,
A dyweded pob Christion yn wastod, Amen.

Awn i Fethlem.

AWn i Fethlem bawb dan ganu,
Neidio, dawnsio, a difyrru,
I gael gweld ein Prynwr credig,
Aned heddyw ddydd nadolig.
Mae e 'Methlem gwedi eni,
Yn y stabal tu hwnt i 'r
Ty lletty.
Ostri,
Awn bob Cristion i
I offrwm iddo.
gyflwyno,
Ac i roddi golwg arno.
Dymma 'r Ceidwad y ddanfonwys,
Tâd tosturi o Baradwys,
I 'n gwaredu rhag
Damne­digaeth.
marwolaeth,
Ac i wethio 'n iechydwriaeth.
Awn i Fethlem bawb i weled
Y dull, a 'r môdd, a 'r Mann y ganed,
Fel y gallom ei addoli,
A'i gydnabod gwedi eni.
Ni gawn Seren i 'n goleuo,
Ac yn serchog i 'n cyfrwyddo,
Nes y dycco hon ni 'n gymmwys,
I 'r lle sanctaidd lle mae 'n gorphwys.
Mae 'r Bugeiliaid gwedi blaenu,
Tua Bethlem dan
Llawe­nychu.
lonnychu,
I gael gweld y grasol Frenin,
Ceisiwn ninne bawb eu dilyn.
Y mae 'r plentyn yn y stabal,
Gwedi drin gan Fair yn rhial,
A 'i roi orwedd yn y preseb,
Rhwng yr ŷch a'i dadmaeth Joseb.
F' aeth y Doethion i
Bresentio i roddi
gyslwyno,
Ac 'i roi
Rhoddi­on.
anrhegion iddo,
Aur a thus a myrh o 'r gore,
A'i
offrwm,
bresento ar eu glinie.
Rhedwn ninne iw gorddiwes,
I gael clywed
Rhan.
part o 'r gyffes:
Dyscwn ganthyn i gyslwyno,
A rhoi clôd a moliant iddo,
Yn lle Aur rhown lwyr gred yndo,
Yn lle Thus rhown foliant iddo,
Yn lle Myrh rhown wîr ddifeirwch,
Ac fei cymmer trwy hyfrydwch.
Mae 'r Angelion yn llawenu,
Mae 'r ffurfafen yn tywynnu,
Mae llu 'r nef yn canu hymne,
Caned dynion ryw beth hwynte.lindx;
Awn i Fethlem i gael gweled
Y rhyfeddod mwya wnaethbed,
Joan. 1.14 Heb. 2.14, 15, 16.
Gwneuthur Duw yn ddyn naturiol,
I gael marw dros ei bobol.
Awn i weld yr hên
Er ei fôd yn hên, etto mae e yn hardd, yn ddi hen, heb ei dorri gan oedran
Ddibenydd,
Y wnaeth Nêf a môr a mynydd,
Y Cyntaf▪
Alpha
Oedrann­us.
oediog, Tâd goleuni,
Yn ddyn bychan newydd eni.
Awn i weled Duw y Gair,
Brenin nêf ar arffed Mair,
Gwedi cymryd cnawd dyn arno,
Yn fab bach yn dechre sugno.
Awn i weled y Mab rhâd,
Hŷn
Fel yr oedd ef yn Dduw.
nâ'i fam, cyfôed â'i Dâd,
Mâb a Thâd y Fam a'i Ferch,
Yn lleia ei sôn, yn fwya ei ferch.
Awn i Fethlem i gael gweled
Mair a Mâb Duw ar ei harffed,
Heb. 1.1, 2, 3.
Mair yn dala rhwng ei dwylo
'R Mab sy 'n cadw 'r Byd rhag Cwympo.
Awn i weld
Gorch­fygwr.
Concwerwr Ange,
Gwedi rwymo mewn cadache;
A 'r Mâb y rwyga deyrnas Satan,
Yn y
Preseb.
craits heb ally crippian.
Awn i weled y
Yr ennei­niog.
Messias.
Prynwr Crêd, ein
Ein he­ddwch a 'n gogoniante.
hebb a 'n hurddas;
Vnig Geidwad ein eneidie,
Ar fraich Mair yn sugno bronne.
Awn i weled hâd y wraig,
Y bwyntiodd Duw i bwnio 'r Ddraig,
Ac i shigo ei shol wenwynig,
Am beri bwytta 'r ffrwyth gwarddeddig.
Awn i weled y Mâb y gâd,
Yn rhyfedd iawn o 'i fam heb dâd;
A 'i fam yn
Merch.
wyryf ieuangc oed,
Mam heb nabod gŵr erioed.
Awn i weld y ferch yn
I Grist fel yr oedd e 'n ddyn.
fam,
A 'r fam yn
I Grist fel yr oedd e 'n Dduw Joan 13.
ferch ddinwyf, ddinam:
Y ferch yn magu Thâd o 'i rwymyn,
A 'r Tâd yn sugno bronne 'r Plentyn.
Awn i weld y Pen-sâer gore,
Y wnaeth yr haul a 'r holl blanede,
Y nefoedd fawr a 'i
Ei stafelloedd mor ragorol.
Rhwm mor rhial,
Yma yn gorwedd yn y Stabal.
Awn i weled Duw 'r gogoniant,
'Rhwn sy'n messur nêf â 'i
A span.
rychwant,
Yn y preseb heb un gader,
Yr oen mwyn yn salw ei biner.
Awn i weld yr Oen bendigaid,
Ni bu sâth o flaen Bugeiliaid,
Oen i Dduw y ddaeth mewn pryd,
I dynnu ffwrdd bechode 'r byd.
Awn i weld ein Prynwr hoyw,
Sydd i farnu byw a meirw:
Rhwn a 'n
Fe'n dwg ni i'r nefo­edd os cre­dwn ni yn­ddo, a bôd yn edifei­riol ac vfydd o'i fla­en ef: oni fyddwn ni 'r cyfryw fe 'n ced­wir ni a­llan oddiy­no. Mat. 7.21, 23.
dûg i 'r nefoedd dirion,
Ar adenydd yr Angelion.
Dymma, gwelwch e 'n ddistwr,
Y gore i gid yn wanna gwr:
Duw yn ddyn, a dyn yn Dduw,
Y gwelo 'n llyn tra dedwydd yw.

Christ sydd ôll yn ôll.

CHrist ei hun sydd ôll yn ôll,
Col. 3.11.
Yn cadw dyn rhag mynd ar gôll,
Nid neb, nid dim, ond Christ ei hun,
Y ddichon cadw enaid dyn.
Y sarph â 'r afal gynt a 'n twyllodd,
Y sarph â phechod a 'n gwenwynodd,
Y sarph a 'n tynnodd o baradwys,
Y sarph i
i cyflwr o gollediga­eth. Rhuf. [...], 23.
vffern boeth an gyrrwys.
Mae mor suwr i bob dyn fyned,
I bwll vffern i gathiwed,
A phyt faem ni eisoes yndo,
Oni cheidw Christ ni ragddo.
Christ y ddaeth o'r nef i 'n prynu,
Joan. 6 Rhuf 8. Mat. 25 3
Christ a'n cadwodd gwedi 'n damnu,
Christ o 'n cystudd a 'n gwaredodd,
Christ a'n dwg i deyrnas nefodd.
O
g [...]afangc.
gramp y llew, o ene 'r wiber,
O Rwyd y fall, o balfe 'r Teiger,
O 'r pwll, o 'r pair, o 'r deyrnas aslan,
Esa. 49.9
Y tynnodd Christ ei ddefaid allan.
Ni all Satan ladd a mwrddro,
Fwy nag all mab Duw ddadfywio;
Y laddo 'r ddraig âi cholyn gau,
Gwaed yr oen all ei Jachau.
Datc. [...] 11.
Jesu Grist yw Hâd y wraig,
Y bwyntiodd Duw i droedo 'r ddraig,
Gen. 3.15
I sigo ei shol, i rwygo ei theyrnas,
I dynnu dŷn o'i chrampe atcas,
Ni orchfyga nêb o 'r ddraig,
Ond trwy gymmorth Hâd y wraig,
Ni ddaw dyn o'i theyrnas aflan,
Nes y tynno Christ ef allan.
Gen. 22.18
Christ yn vnig yw 'r hâd dinam,
Y bromeisiodd Duw i Abram,
I 'n rhyddhau oddiwrth y felldith,
A rhoi inni 'r nefol fendith.
Christ yn vnig ydyw 'r Silo,
Gen. 49.14
Y ddanfonodd Duw 'ni ceisio,
O gathiwed pob rhyw bechod,
I wasnaethu 'r sanctaidd Drindod.
Christ ei hun yw Pren y bywyd,
Sy'n rhoi maeth i bawb o'r holl fyd:
Ni bydd marw yn dragwyddol,
Nêb y fwytto 'r ffrwyth sancteiddiol.
Christ yw 'r Arch a'r lloches esmwyth,
Gedwis Noe rag boddi, a'i dylwyth,
Christ yw 'r arch sy'n cadw ninnau,
Rhag pob diluw a dialau.
Gen. 28.12
Christ ei hun yw ysgol Jago,
Oedd o 'r nef ir ddaer yn pheico,
Jo. 1.51.
Ar yr hwn y mae i'n ddringad,
Os ir nef y mynwn ddwad.
Act. 3.22, 23.
Christ yw 'r Prophwyd mawr y helodd,
Duw o'i fynwes, fry o 'r nefoedd,
I fynegi 'wllys hyfryd,
Gwrandawn arno dan boen bywyd.
Christ yw 'r Sarph o efydd preslyd,
Num. 21.8
Sy'n Jachau brath neidir danllyd:
Dewn bob rhai â 'n dolur atto,
Fe 'n Jachâ ond edrych arno.
Christ yw 'r ffeirad mawr offrymwys,
Heb. 9 11, 12.
Waed ei galon dros ei eglwys,
Ar y groes i Dâd sancteiddiol,
Dros y byd, i gadw ei bobl.
Christ yw 'r Brenin grymmus, grassol,
Psal. 2.6.
Sydd trwy râs yn
rheoli.
llywio ei bobol:
Ac yn gostwng ei gelynion,
Fel y gallont gael y goron.
Christ yw 'r Bugail sy 'n bugeila
Enaid Christion rhag ei ddifa:
Joan. 10.11, 28.
Ni chaiff llew, na blaidd, na llwynog,
Ddwyn o'i braidd, nac oen na mammog.
Christ yw
Tywysog. Esay. 9 6.
Prins ein gwir dangnefedd,
Y Ddiffoddodd pob digllonedd:
A gwaed ei groes, yn Dduw, yn Ddyn,
Col. 1.20.
Y gwnaeth ê 'r ddwy blaid ddig yn vn.
Christ yw 'r Rhossyn coch o Saron,
Can 2.1.
Sydd a'i liw 'n
cyssuro.
cynfforddi 'r galon;
Ac â'i 'rogle yn rhoi bywyd,
Ir trwm feddwl a'r gwan ysbryd.
Christ ei hun yw 'r Balm o Gilead,
Jer. 8.22.
Sy 'n Jachau pob archoll
anobei­thiol.
ddesprad,
A rows Satan â
Piccell.
dart pechod,
I 'n eneidiau a'n cydwybod.
Christ yw 'r Manna ddaeth o 'r nefoedd,
Joan. 6.31, 33, 35.
Duw ei hun o'i râs a'i rhoddodd:
Y nêb yn ffyddlon a'i bwyttaffo,
Ni ddaw byth ddim newyn arno.
Christ yw Oen y pasc 'aberthwyd,
Dros ein pechod pan croeshoeliwyd;
Exod. 12.
Rhwn sy ái waed yn cadw 'r enaid,
Rhag ir Angel drwg ei scliffiaid.
Exod. 30
Christ yw 'n Hallor arogldarthu,
Ar yr hon y mae aberthu,
Pêr arogle mawl a gweddi,
Foreu a hwyr i Dâd goleuni.
Marc. 2.17.
Christ yw Meddyg y cristnogion,
Rhwn â gwerthfawr waed ei galon,
Sy'n Jachau archollion pechod,
Pan na'll dim amgenach dygfod.
Christ yn vnig yw 'n Cyfryngwr,
1 Tim. 2.5.
S' ein cymmodi â 'n Creawdwr;
Nid oes nêb ond Christ ei hun,
All cymmodi Duw a dŷn.
1 Joan. 2.1.
Christ yw 'r Twrneu sydd yn dadle,
O flaen Duw am fadde 'n beie,
Pan bo Satan yn cyhuddo,
Ac yn canlyn
Cennad
grawnt i'n plago.
Christ yw 'n Brenin, Christ yw 'n ffeiriad,
Christ yw 'n Prophwyd, Christ yw 'n Ceidwad,
Christ yw 'n Bugail, Christ yw 'n Barnwr,
Christ yw 'n Pen, a Christ yw 'n Prynwr.
Datc. 1.11.
Christ cyn cynfŷd ydyw 'r Alpha,
Christ heb derfyn yw 'r Omega,
Dechre, diwedd Jechydwriaeth
Meibion dynion ai derchafieth.
Christ yw dewr Gwncwerwr angau,
Christ a'i speiliodd o'i holl arfau,
2 Tim. 1.10.
Christ a lyngcodd angeu melyn,
Christ y dynnodd ffwrdd ei golyn.
Christ sy 'n cadw 'r holl allweddau,
Datc 1.18
Sydd ar vffern ac ar angau,
Ni baidd Diawl nac angau
cyffwrdd Luc. 8.32.
dwtchio,
Neb, nes cael gan Grist ei lwo
rhoi cen­nad.
Christ yw 'r Pelican cariadus,
Sydd â gwaed ei galon glwyfus,
Yn Iachau ei adar bychain,
Gwedi 'r sarph ei lladd yn gelain.
Christ yw 'r Pelican trugarog,
Sydd â gwaed ei galon serchog,
Yn Jachau ei frodyr priod,
Gwedi 'r Diawl eu lladd â phechod.
1 Joan. 1.7.
Nid oes eli ag a wnaethbwyd,
Nac vn
feddigi­niaeth.
fetswn a ddychmygwyd,
All Jachau vn archoll pechod,
Ond gwaed Christ, gwir eli 'r Drindod.
Christ yw 'r Perl y ddlyem mofyn,
Nid tlawd perchen cyfryw berlyn;
Mat. 13.45, 46.
Dôs dros fôr a thir i 'w geisio,
Gwerth sydd genyd cyn bôd hebddo.
Duw rho imi dy anwylyd,
Christ yn arch wi 'n geisio genyd:
Rho imi fynnech gydâ hynny,
Rhoist im ddigon o rhoi 'r Jesu.
Duw rho i mi Grist yn Geidwad,
Christ yn Frenin, Christ yn ffeiriad,
Christ yn Brophwyd, Christ yn Brynwr,
Christ yn Help ym-mhob cyfyngdwr.
O'r cai ddim ond Christ ei hunan,
Gân fy nefol Dâd im cyfran,
Mi gâf ddigon yn fy nghîst,
Er na chaffwyf ddim ond Christ.
Or câf i Grist, fe dry fy rhyw,
O fâb ir fâll yn blentyn Duw,
O ddyn ar gôll, o
Caeth­was.
Sâf i Satan,
Yn wir Aclod iddo ei hunan.
Er cael Aur, ac er cael arian,
Er cael Tai a Thiroedd llydan;
Beth wyf nês er cael pob cyfraid,
Nes cael Christ i gadw f'enaid?
Tynn fy llygaid, tynn fy nghalon,
Tynn fy ngolud am cyfeillion,
Tynn y cwbwl oll sydd gennif,
Cyn y tynnech Grist oddiwrthif.
Sonied Milwyr am ryfela,
Sonied Morwyr am dda 'r India,
Sonied Carl am lanw ei Gîst,
Sonied Christion byth am Grist.

Hîl Adda.

Hîl Adda gamweddus, plant Efa drafaelus,
A deilaid gosydus
Ʋffern.
Gehenna,
Dihunwch, dihunwch, o'ch trymder a'ch tristwch,
Daeth i chwi ddiddanwch o'r mwya.
Cans heddyw medd Gabriel, geirwir ei chweddel,
Negesswr o
O gyngor Duw.
gwnsel Jehofa,
Y ganed ein prynwr, Christ Jesu 'n Jachawdwr,
Mâb Duw, ein
Nid oes Achubwr arall.
Achubwr ni 'n benna.
Gan hynny crechwennwch, a gwir orfoleddwch,
A chenwch, a seiniwch
Achub ni ddeisyswn
Hosanna,
I Dduw yn 'r vchelder, ir ddaiar esmwythder,
I ddynion y mwynder o'r mwya.
Cans hwn ydyw 'r hedyn, a'r helpwr, a'r himpyn,
Addewwyd o'r
Efa.
gwreigin i Adda,
I sigo shol Satan (y Sarph) dan ei waddan,
Pan helwyd o'r berllan
Hyfryda.
araula.
A dymma 'r Hâd dinam, addewis Duw i Abram,
Yn fendith o'n hên fam Sara,
A'i hepil, lin olin, hyd Ddafydd y Brenin,
Rhuf. 15:12.
O Jesse y gwreiddyn
Bonhe­ddicca.
rhiala.
A thymma i chwi 'r Silo, oedd Jacob yn seinio,
Y ddawe i'n bendithio o Juda,
Pan dygid y goron, oddiar yr Iddewon,
A'i rhoddi i estron Duwmea.
A thymma 'r Prins aeddfwyn, Emmanuel irfwyn,
Mâb grassol y forwyn Faria,
Addew-wyd i Achas, trwy 'r prophwyd Esaias,
Esa. 7.14.
I'n harwain i'r deyrnas bradwysa.
A dymma 'r Messias, addawodd Micheas,
O Fethelem dinas Ephrata,
Y enid i'r bobol, yn Frenin tragwyddol,
I harwain i'r nefol orphwysfa.
A thymma i chwi 'r Prophwyd, a'r Brenin addaw­wyd,
A'r ffeiriad y bwyntiwyd yn benna,
I offrwm ei hunan, yn aberth bereiddlan,
I ddattod gwaith Satan fileina.
Chwi glywsoch i Satan gynt dwyllo 'n y berllan,
A'i
Dichell.
hocced y gwreigan, hên Efa,
I fwytta yn rhy
chwannog
flysig yr afal gwarddedig,
A chwedyn rhoi 'chydig i Adda.
Pan temptiodd y gelyn â'r afal y ddoi ddyn,
I dorri gorchymym
Duw.
Jehofa,
F'aeth Adda a ninne yn euog o ange,
I
I gyflwr o golledi­gaeth.
Uffern a'i phoene diffeitha.
O Uffern ac ange, nid oedd neb y alle,
Yn prynu trwy boene pwy bynna,
Ond vnig mab graslon y Jestus tra chyfion,
Y ddigsom mor greulon o'r cynta.
A 'r mab hynny ynte, oedd yn rhaid iddo ddiodde,
Ar grogpren yr ange diffeitha:
Heb. 2.14, 17.
Gan wir gymryd arno gnawd dyn i'w groes-hoelio,
A thro [...]om ddad-ddigio Jehofa.
Ac os Duw ni fynne roi fâb i ddiodde,
Er cadw 'n heneidie rhag poenfa,
Mewn carchar vffernol, a phoene tragwyddol,
Y bysse 'r holl bobol pwy bynna.
Pan gwalas Duw grassol ein
cyflwr.
stâd mor dosturiol,
O'i gariad rhagorol yn benna,
Gen. 3.15
F' addewis ein helpu, trwy ddanfon i'n prynu
Ei vn mâb Christ Jesu anwyla.
Ac felly pan gwalas Duw 'r amser cyfaddas,
Fe helwys o'i deyrnas
nefoedd.
bradwysa,
I 'r ddairen anhyfryd ei vnig anwylyd,
Gal. 4.4.
Ein cnawd i gymmeryd yn gynta.
A chnawd dŷn y gymmerth ein prynwr yn brydferth
O Fair yr eneth anwyla,
Yn daran rhyfeddol trwy 'r ysbryd sancteiddiol,
Heb weithred dyn cnawdol na 'i goffa.
Ond rhyfedd, rhyfeddod! fe aned heb bechod,
O forwyn yn gwrthod a gwra,
Yn berffaith ddyn cnawdol, heb weithred corphorol
Trwy 'r ysbryd sancteiddiol gorucha.
Os merch wrth feichiogi, a merch wrth escori,
A merch gwedi geni 'r mab cynta,
Oedd Mair pan i magodd, a merch pan priododd,
A merch pan
Ymada­wodd.
departodd oddi yma.
O waith iddo gymryd ein poene a'n penyd,
Fe aned i 'r trust-fyd yn llwmma,
Mewn stabal anghymmen, ym-mhreseb yr ychen,
Lle trowd ef mewn gwlanen o 'r tlotta.
Ac etto er peri i'r bŷd i addoli,
Er maint oedd ei dlodi a'i lwmdra,
Fe wnaeth Duw i Seren, mor ddisclair a'r haul-wen,
I 'w
ddisgwyl.
waitio yn yr wybren isela.
Daeth hefyd wŷr doethion,
Gwyr deallus i nabod y Sêr.
Astronomers mawrion,
Brenhinoedd o galon Caldea,
Pob vn ar ei ddaulin, i addoli 'n ei rwymyn
Ei Duw a'i Brenin arbenna.
Tair
Rhodd.
anrheg rhagorol, yn gweddu 'n berthnassol,
I swydde neillduol Messia,
Offrymsont hwy hefyd i 'r Brenin bach hyfryd,
Aur, Thus peraroglyd, a Myrra.
Daeth hefyd Angelion, i
ddangos.
faneg i ddynion,
Mae ef oedd yr vnion Fessia,
A 'r Ceidwad, a 'r Prynwr, a 'r vnig Jachawdwr,
Addawse 'n Creawdwr o 'r cynta.
A 'r nefoedd, agorodd a 'r ddairen oleuodd,
A 'r Angel a lefodd yn lewa,
Gogoni­ant yn y goruchaf, ar y ddaiar tangne­ddyf.
Gloria in excelsis, Pax et in terris,
Pan ganed Prins happys
Rhan o'r byd wedi osod dros y cwbwl, bie bynnag y mae gwir gristnoge­on.
Europa.
Y gollsom yn wallus, drwy Efa drachwantus,
Yn ddigon anhappus o 'r cynta,
Ni gawsom drachefen, ond gwych oedd y fforten,
Pan ganed y bachgen Messia.
I ddattod gwaith Satan, i groesi flin amcan,
A'n cynnull o'i gorlan dywylla,
Y daeth Christ ein Harglwydd, o'r nef yn ei vnswydd
I'n cadw rhag gwradwydd a phoenfa.
Gan gymmaint oedd cariad y grasol vcheldad,
Tu ag attom blant anllad hên Efa,
Fe rows ei anwylyd, i grogi 'n anhyfryd,
I brynu ein bywyd o boenfa.
A chymmaint oedd cariad Christ attom yn wastad,
Eu frodyr tra irad eu poenfa,
Ac y rhoei ynte 'n danbaid ei fywyd a'i enaid,
I farw dros ddefaid ei borfa.
Yr Ange haeddasom, fe'i ralwys ef drosom,
A 'r dyled adawsom heb gwpla:
Gal. 3.13. Col. 2.14.
Ein scrifen fe dorrwys, a'r fforffed fe dalwys,
A'n pardwn fe'i prynwys o'r pritta.
Gwaed gwerthfawr ei galon, ai fywyd gwyn gwirion
Offrymmwys ef droson yn fwyna,
Yn aberth ir Drindod, trwy gwilydd a dannod,
Yn
brid­werth.
rhanswm dros bechod pwy bynna.
Duw dâd a ddad-ddigiwyd, a'n rhanswm y dalwyd
A 'n pardwn y selwyd yn suwra:
Christ a'i pwrcassodd, â'i fywyd fe'i prynodd,
A 'r
Sef pôb credadyn edifeiriol vfydd.
Bŷd a waredodd o'i boenfa.
Dros bechod yr holl fyd, offrymmwysê ei fywyd,
I prynu o'i penyd a'i poenfa:
Os yndo y credwn, mae 'n suwr i ni bardwn,
Heb
heb ber­ygl o gar­char uffern
ddansher o ddwnshwn Gehenna.
Cans Satan orchfygwyd, ac Angeu gongcwerwyd,
Ac vffern y speilwyd yn
Anrhaith
spwylfa:
pobl yn y byd hwn, pan y troer hwy oddi­wrth eu pechodau a symmydir oddi tan feddiant Satan at Duw. Col. 1.13. Act. 26.18.
Eneidie plant dynion, o grampe 'r gwir duon,
Y gariodd y gwirion Fessia.
Adda a'n taflwys, i vffern heb orphwys,
O bei llan Baradwys esmwytha:
Christ ynte a'n cododd, o vffern i'r nefoedd,
I orphwys yn llysoedd Jehofa.
Cans dymma 'r oen tirion y ladde 'r Iddewon,
Etifedd gwynn gwirion Jehofa,
Dymuniad tra hyfryd cenhedloedd yr holl fyd,
Eu comfford a'u Iechyd gorucha.
A thymmal'r Maen siccir, wrthode 'r Adeilwyr,
Maen tramgwydd, craig rhwystyr Judea:
Ein Perl a'n Prins ninne yr holl genhedlaethe,
Christnogion
Oni adde­fwn ni Grist yn ein bywyd, yn gystal ac yn ein geiriau, ni thâl ein haddefiad ni ddim. Tit. 1.16. Esa. 1.18.
sy 'n adde 'r Messia.
Er bôd ein pechode' heb fessur na phwyse,
An brynti fal pentre Gomorra:
Etto os credwn, a gwella tra gallwn,
Fe bayr i ni Bardwn y bara.
Vn droppyn sancteiddlon, o wir waed ei galon,
All olchi 'n hôll ffinion ddiffeithdra;
Pe baent hwy cyn goched â'r Pwrpwl neu'r scarled,
A'u gwneuthur cyn wnned ar Eira.
Weithian os credu a wnawn ninne i'r Jesu,
A chwympo i wasnaethu e'n vfydda,
Joan 14.3
Fe ddug ein eneidie, i'r nef lle mae ynte,
I ganu hôll
Caniadau
hymne Jehofa:
Lle mae mwy hyfrydwch, a nefol
Gogoni­ant.
rhialtwch,
Llawenydd a heddwch o'r hwyn,
Nag allo clûst glywed, na llygad i weled,
1 Cor. 2.9.
Na chalon ystyried pwy bynna.
Moliannwn gan hynny, ag eitha o'n gallu
Ein prynwr Christ Jesu anwyla,
Am brynu 'n eneidie, drwy chwerw loes ange,
O vffern a'i phoene diffeitha.
O molwn ni 'n wastod pôb Person o'r Drindod,
Mewn vndod mar barod er Adda,
I'n tynnu mor rasol, o'r carchar vffernol,
I fyw yn y nefol orphwysfa.
Ac felly
Chwar­ddwch.
crechwennwch, a gwir orfoleddwch,
A chenwch, a seiniwch Hosanna,
I Dduw yn 'r uchelder, i'r ddaiar Esmwythder,
I ddynion y mwynder o 'r mwya.
O gofyn rhai yn vn-lle, pwy wnaeth hyn o hymne,
Er cofio mawr donie 'r Messia?
Bugail eglwysig, o galon garedig,
At ddefaid cadwedig Jehofa.

Christ a arwyddocawyd wrth y Sarph bres.

Y Sawl y frathwyd gan y
Diafol.
ddraig,
Dewch at Grist Jesu, hâd y wraig:
Fe drîn y brâth, fe dynn y colyn,
Fe rwym y ddraig, fe siga ei chobyn.
Rhuf. 3.23.
Rym ni bôb rhai gwedi 'n brathu,
Mae col pechod gwedi 'n gryddfu:
Act. 4.12.
Ni all ond Christ ein helio,
Fe yw 'r Sarph bres, craffwn arno.
Craffwn ar Ghrist a groes-hoeliwyd,
Jo. 3.14, 15
Fel y craffei 'rhai a frathwyd,
Num. 21.8.
Ar y Sarph bres yn y diflaith,
Fe â 'r loes a 'r gwenwyn ymmaith.
Luc 4.18. Jo. 6 40.
Os edrychwn arno yn brûdd,
A chalon donn, â llygad ffydd,
Er i'r Sarph, â'i chol ein clwyfo,
Fe 'n Jachâ, ond edrych arno.
Oni ddewn at Grist ar fyrder,
I gael help, rhag brâth y wiber,
Nid oes Meddyg yn yr holl-fyd,
Ond Mâb Duw all cadw ein bywyd.

Crist a arwyddocawyd wrth yr Oen pasc.

CHrist yw oen y pasc, a'n haberth,
1 Cor. 5.7.
Christ yw'n hoen, a'n hoffrwm prydferth,
Jo. 1 29.
Oen Duw, oen da, oen gwynn i gyd,
Sy'n tynny ffwrdd bechodau 'r byd.
Christ yw 'r oen a laddwyd drosom,
Christ archollwyd am y wnaethom,
Esay. 53 5 Mat 26.28.
Ei waed gwerthfawr, (pan croes-hoeliwyd)
Am ein beiau, a dywalltwyd.
Blîn a thôst, a thrwm ac irad,
Poeni 'r oen, am feiau 'r ddafad,
Lladd mâb Duw, ar flaen yr hoelion,
Am bechodau meibion dynion:
Adda 'n bwytta falau pechod,
Dannedd Christ yn goddei 'r ddingeod,
Dyn yn pechu, Christ yn marw,
Ble bu cariad o'r fâth hwnnw?
Och! Pa galon na thosturia,
Chwippio Christ am bechod Adda,
Lladd y Bugail am fai 'r defaid,
Crogi 'r
Tywysog.
Prins i gadw 'r deilaid?
Gwerthu 'r Meistr i brynu 'r gweision,
Lladd y mâb i gadw ei elynion,
Lladd.
Mwrddro 'r meddyg, brathu ystlys,
Gael ei waed i helpu 'r clwyfys.

Christ yw Pren y Bywyd.

Datc. 2.7. Jo. 3.36.
DEwch bôb rhai at Bren y bywyd,
D [...]wch at Ghrist ein Prynwr hyfryd,
Mwynhewch y ffrwyth, a chredwch yntho,
Chwi gewch râs, a bywyd gantho.
Dymma 'r Pren y dynn y ddingcod,
A 'r newyn dû, a 'r poen, a 'r pechod,
A 'r melldith Duw, a'r loes wenwynig,
Yddaeth o fwytta 'r pren gwarddedig.
Jo. 6.33.
O! bwyttewch o'r pren yn rhâd,
O 'r nêf y daeth, oddiwrth y Tâd,
I 'n gyrru 'n Jach, i gadw 'n bywyd,
I dorri 'n chwant, I roi i 'n Jechyd.
Datc. 22 2 Jo 6.35, 49, 50.
Mae 'ffrwyth ê'n bêr, mae ddail yn Jachus,
Mae flâs yn wêll nâ'r Manna melus:
Ni all newyn byth, nac Angau,
Aflony­ddu.
Drwblo 'r dŷn y fwytto ei ffrwythau.
Christ yw 'r Pren, Oh! dewch bawb atto,
Y ffrwyth yw 'r bywyd y sydd ynddo,
Y dail yw 'r gair, a'i gyngor Jachus,
Sy 'n bywhau yr enaid clwyfus.
Mat. 11.28
Dewch bôb rhai, sy'n slîn eu cyflwr,
Dewch at Christ, ein gwir Jachawdwr,
Luc 2.10.
Dewch i dderbyn grâs a Jechyd,
Cymmorth,
Cysur.
cynffordd, bawb o'r holl-fyd.
Dewn at y Pren, bwyttawn ei ffrwythau,
Crynhown ei ddail, rhown wrth ein clwysau:
Fe 'n gwir Jacha, fe dyrr ein newyn,
Fe bair i'n fyw, dros fŷth heb derfyn.

Christ sydd ôll yn ôll.

CHrist ei hun sydd ôll yn ôll,
Col. 3.11.
Yn cadw dŷn rhag mynd ar gôll,
Nid nêb, nid dim, ond Christ ei hun,
Act. 4 12.
Y ddichon cadw enaid dŷn.
Christ sydd bob dim, sydd anghenrhaid,
Col. 1.19.
O flaen Duw i gadw 'r enaid,
Ni fyn Duw ond Christ ei hun,
Luc. 3.22. 1 Joan. 2.2.
Yn iawn dâl am enaid dŷn.
Christ yn vnig, Christ ei hunan,
Christ heb neb, mewn rhan, na chyfran,
Christ heb ddim, ond Christ ei hun,
Yw vnig ceidwad Enaid Dŷn.
Christ yw 'n
Prid­werth. 1 Tim. 2.6. Heb. 9.14.
rhanswn, Christ yw 'n haberth,
Christ yw 'n hoffrwm, Christ yw 'n cyfnerth,
Christ yw 'n Tryssor, Christ yw 'n golyd,
Christ yw 'n gwir jachawdwr hefyd.
Christ sydd gyflawn o bôb doniau,
Anghenrheidiol i'n heneidiau,
Mae pôb peth yn Ghrist ei hûn,
Ag sydd raid i gadw dŷn.
Christ ei hunan yw 'n cyfiawnder,
A 'n Sancteiddrwydd, a'n gwir ddoethder,
1 Cor. 1.30
A 'n ymwared, a'n holl Bryniad,
Christ yw 'n comfford, Christ yw 'n Ceidwad,
Christ heb ddim, ond Christ ei hunan
Sy 'n dad-ddigio Duw yn fuan:
Christ heb ddim, ond Christ yn vnig,
Rhuf. 5.1. 2 Cor. 5.21
Sy 'n cyfiawnu dŷn colledig.
Christ heb help na Sant, na Santes,
Christ heb gymmorth dŷn, na dynes,
Christ heb nêb, ond Christ ei hun,
Yw vnig geidwad enaid dŷn.
Esay. 63.3, 5.
Christ yn vnig 'ymdrabaeddodd,
Yn y win-wryf panein Prynodd:
Ni bu nêb o blant yr holl fyd,
Yn ei helpu i gadw ein bywyd.
Ni wnaeth Peder ond ei wadu,
Na'r Postolion ond
Cilio.
difannu,
Ni wnaeth Mair ond wylo 'n irad,
Tra fu Christ yn chwhare 'r ceidwad.
Esay. 53.5.
Ni ddûg nêb ond Christ ei hunan
Bwys, a baich ein pechod aflan:
Ni chwyssod nêb o'r gwaed yn ddagrau,
Luc. 22.44
Ond mab Duw, dan bwys ein beiau.
Ni chroef-hoeliwyd ond Christ Jesu,
Am ein pechod wrth ein prynu,
1 Pet. 2.24
Ni bu nêb, ond Christ ei hun,
Yn boddhau Duw, yn jachau dŷn.
Heb. 2.14, 15.
Ni bu neb ond Christ ei hunan,
Yn ein dwyn o feddiant Satan,
1 Cor. 15.55, 57.
Ni bu nêb yn lladd, yn llyngcu
Angeu didrangc, ond Christ Jesu.
Christ ei hun y lyngcodd Angau,
Col. 2.14, 15.
Christ y Speiliodd awdurdodau:
Christ y gwnnodd ein
Rhwyme­digaeth.
Bligassiwn,
Christ y dalodd gwerth ein pardwn.
Col. 1 20. Gal. 4.4, 5 6.
Christ ei hun y wnaeth ein heddwch,
Christ y brynodd ein dedwyddwch,
Christ a'n gwnaeth yn feibion Duw,
Christ a'n cadwodd
Sef y ffy­ddloniaid.
oll yn fyw.
Christ ei hun y wnaeth y cwbwl,
Y dynnodd Enaid dŷn o'i drwbwl:
Nid nêb, nid dim, ond Christ ei hun,
Dan Dduw, y gadwodd enaid dŷn.
Ni bu Angel, ni bu Brophwyd,
Ni bu Sant, na dyn a [...]agwyd,
Ni bu nêb, ond Christ ei hun,
Yn gweithio iechydwriaeth dŷn.
Ni fyn Duw na chymmorth Angel,
deisyfiad.
Cyfrwng Sant, na'i draul, na'i drafel,
Gwaed Merthyri, na gwaith dynion,
1 Tim. 2.5 Heb. 7-25.
Ond gwaith Christ i gadw Cristion.
Christ yw'r iawn sydd am bôb pechod,
1 Joan. 2.2
Jawn amgenach ni all tygfod
Tyccio.
:
Ni fyn Duw am bechod drewllyd,
Jawn sydd lai nâ gwaed ei Anwylyd.
Na ddôd waed na gweithred vn dyn,
Gydâ gwaed dy Brynwr purwyn:
Ni chytuna trech di byw,
Waed pechadur a gwaed Duw.
Gwaed y Jesu, gwaed y cymmod,
Ydyw 'r gwaed sy'n golchi pechod:
1 Joan. 1.7
Ni all gwaed yr holl Ferthyri,
Tystion Christ a ddioddefa­sant er mewn y gwirion­edd.
Olchi ffwrdd y lleia o'th frynti.
Nid gwaith Saint, nid gwaith Angelion,
Ydyw cadw enaid Cristion:
Gwaith ein prynwr Christ yn vnig,
Sydd yn cadw dŷn colledig.
Gwaith dwy nattur mewn vn person,
Sydd yn cadw enaid Christion:
Rhaid ein prynwr, Duw a Dŷn,
Weithio 'r gwaith cyn cadwer vn.
Mat. 1.23. Rhuf. 1.3, 4.
Nid gwaith Duw na dyn lleill [...]uol,
Ond gwaith Duw a dyn cyssylltiol,
O ddwy nattur mewn vn person,
Sydd yn cadw enaid Cristion.
Esay 9.6. Heb. 7.26
Rhaid i'th Brynwr fôd yn Dduw,
Ac yn ddŷn, (er dolwg clyw)
Cyn y galler cadw d'enaid,
Nai ryddhau o'i boen afrifaid.
Col. 1.20. Heb. 2.14. Luc. 1.71.
Rhaid ei fôd e'n Dduw galluog,
I ddadd-ddigio d' Arglwydd llidiog,
Ath ryddhau o feddiant Satan,
Ath elynion fawr a bychan.
Rhaid ei fôd e'n ddyn di-frychau,
Heb. 7.26.
I gael marw dros dy feiau,
A'i farwolaeth yn cystadlyd,
A marwolaeth pawb o'r holl-fyd.
Nid oes yn y nêf na'r ddaiar,
O 'r fath brynwr perffaith hygar,
Ond y Gair y wnaed yn gnawd,
Jesu Grift ein Duw a 'n brawd.
Nid oes nêb gan hyn y ddichon,
Gadw enaid vn rhyw gristion,
Ond y prynwr mawr Christ Jesu,
Duw a dŷn, a fu 'n ein prynu.
Nid oes icchydwriaeth ddiwall,
Inni gaffel mewn nêb arall,
Ond y gaffom yn Grist Jesu,
Rhwn ordeiniodd Duw ein prynu.
Act. 4.12.
Nid oes Enw dan y nefoedd,
Gwedi roddi inni 'r bobloedd,
All ein gwneuthur yn gadwedig,
Onid Enw 'r Jesu 'n vnig.
Ni fyn Duw, ond Christ ei hunan,
Mat. 17.5.
Ni fyn Duw vn
Cyfaill. 1 Tim. 2.5
partner aflan,
I gydweithio gyda'i Anwylyd,
Yn y gwaith sy'n cadw'r holl-fyd.
Ni fyn Mâb Duw nêb yn Bartner,
Esay 63.3.
I gydweithio gwaith dau hanner,
Yn y gwaith o'n jechydwriaeth:
Nid nêb teilwng, o'i gwmpniaeth.
Fe fyn naill a bôd yn hollol,
Yn jachawdwr idd ei bobol,
Neu na fwro byth ynghyd,
A chreadur fy'n y bŷd.
Ni fyn Christ roi i Sant nac Angel,
Dŷn na delw o vn fettel,
Esay. 42.8
Rhan fy­chan.
Bart na pharsel, rhan na chyfran,
O'r gogoniant sy 'ddo ei hunan.
Or bydd vn rhyw ddŷn mor angall,
Ag ymofyn Ceidwad arall,
Cymred hwnnw yn Achubydd,
A gadawed Ghrist yn llonydd.
Ceisied eraill Saint a delwe,
A'i gwaith gwael i gadw eu 'neidie;
Ni chais f'enaid archolledig,
Geidwad byth ond Christ yn vnig.

Cynghor i Bechadur i ddyfod at Jesu Grist.

Tyred. Mat. 11.28, 29.
DEre hên Bechadur truan,
Dere at Grist trwy ffydd dan riddfan:
Mae Mâb Duw yn d'alw atto,
Od yw pechod yn dy flino.
Christ ei hun sy'n galw arnad,
Jo. 7.37
Christ sy 'n erchi itti ddwad;
Christ sy 'n cynnig dy
Adfywio.
reffreshio,
Os trwy ffydd y doy di atto.
Dere at Grist er maint yw'th drossed,
Dere er cynddrwg oedd dy fuchedd:
Dere ym-mhryd, cais gymmorth gantho;
F'all dy gadw 'r awr y mynno?
Er dy golli 'n
Gwbl, 1 Cor. 15.22 2 Tim. 2.26. Joan. 3.36
gwitt yn Adda,
Er ir cythrel câs dy ddala,
Er it ddigio Duw yn danllyd;
Cred yn Ghrist, fe geidw'th fywyd.
Er dy ennill mewn anwiredd,
Psal. 51.5.
Er it fyw mewn aflan fuchedd;
Dere at Grist, cais gymmorth gantho,
Zech. 13 1
F'all dy olchi a'th ail greo.
Rhuf. 5.10
Er dy fod ti 'n elyn Duw,
Wrth naturiaeth ath ddrwg ryw;
Cred yn Ghrist, fe'th wna o elyn,
Joan. 1.12
Ith nefol dâd yn anwyl blentyn.
Er dy fod ti 'n slâf i Satan,
Eph. 2.2. Luc. 11.22. Luc. 1.79.
Ac yn wâs caeth yn ei gorlan;
Cred yn Grist, fe'th dynn o'i grampeu,
Fe'th ddwg o'i dywyll gell ir goleu.
Ruf. 5.18. Psal. 9.17. Joan 6.47
Er dy fod ti 'n haeddu 'th ddamnio,
Ath droi i vffern i'th boenydio;
Cred yn Ghrist fe'th ddwg ir nefoedd,
I glodfori 'r hwn ath Greuodd.
Er dy fod ti megis
Gwrthry­felwr. Ezek. 2.7. 1 Cor. 6, 11
rhebel,
Gwedi'th droi O sant yn gythrel,
Cred yn Ghrist, bydd vn oi blant,
Fe'th dry o gythrel etto yn sant.
Er dy fod ti 'n ddŷn damnedig,
Yn hên Adda ein tâd gwenwynig;
Ruf. 5.12, 19.
Cred yn Ghrist fe'th geidw etto,
Er i Adda hên dy damno.
Er i Satan
Myned i mewn.
entro i'th lettu,
Ai orescyn heb ei nadu;
Cred yn Ghrist, fe ddwg ei arfau,
Fe dry Satan dros y trothau.
Er ir lladron speilio d'enaid,
A'th archolli yn dra embaid;
Cred yn Ghrist y gwir Samariad,
Fe iacha d'archollion desprad
Anobei­thiol.
Er ir danllyd sarph dy frathu,
A'th wenwyno nes dy nafu;
Cred yn Ghrist, fe ddofa 'r poen,
Fe iacha 'r clwyf â gwaed yr oen.
Er it fynych gyfeiliornu,
Mat. 18.12
Megis dafad gwedi cholli;
Cred yn Ghrist, fe ddaw yn fuan,
O'r nef i'th droi o'r gors ir gorlan.
Er it bechu fîl o weithie,
Er it haeddu cant diale,
Cred yn Ghrist, ti gei faddeuant,
Eph. 1.7.
Am dy bechod oll a'th drychwant.
Er bôd lliw dy fai cyn goched,
Esa. 1.18.
Ac yw'r pwrpl côch neu 'r scarled;
Cred yn Grist, trwy waed fe'th olcha,
Nes bech di mor wynn ar eira.
Er bôd dy feie mewn rhifedi,
Yn fwy nâ gwallt dy ben o gyfri;
Act. 10.43.
Cred i'th Brynwr, Duw a dŷn,
Fei maddeu itti bôb yr un.
Cymmer gyssur, cwyn dy galon,
Cred yn Ghrist dy Brynwr tirion;
Edifara am dy frynti,
Christ a fydd yn Geidwad itti.
Mae Christ i'ch wawdd, mae Christ i'th alw,
Mae Christ i'th gymmell atto 'n groyw:
Ezek. 33.11.
Pam y byddu marw 'n irad,
Eisie dwad at dy Geidwad?
Luc. 19.10
Christ y ddaeth o'r nefoedd auraid,
Ir bŷd i gadw pechaduriaid:
Ei swydd, ai grefft, ai waith yn vnig,
Yw cadw eneidiau rhai colledig.
Ruf. 3.23.
Dŷn colledig ydwyt tithe,
Fel y mae pawb o honom nine:
Pam na ddoy tra fytho 'n galw,
At dy Geidwad Christ, i'th galw?
1 Tim. 1.15, 16.
Nid yw'th bechod ddrwg ddyn angall,
Fwy nâ phechod Saul neu arall:
Fe gâs Saul saddeuant gantho:
Dithau cei os credu yntho.
Nid yw'th bechod fwy nag allo,
Christ eu maddeu ai
Tynnu ymmaith.
deleuo,
Na'th holl feie, nath holi frynti,
Fwy nag allo Christ eu golchi.
Ni all Satan byth dy lygru,
Fel na allo Christ dy helpu,
Na'th ddifwyno, gwnaedd ei waetha,
Fel na allo Christ dy wella.
Act. 9.13, 14, 15.
Christ all wneuthur heb fawr drafel,
Oen o flaidd, a Sant o Gythrel,
Hên ddŷn aflan, 'yn ddyn fyw,
A dŷn ir fâll, yn ddŷni dduw.
Ni wnaeth Christ ond galw ar Zache,
Luc. 19.
Ai droi 'n Sant, ar hynny o eirie:
Fe'th dry dithau 'n oen os myn,
O lwdwn dû yn llwdwn gwynn.
Duw galluog ydyw Christ,
Yn maddeu beiau 'r truan trist,
Yn newid naws, yn gwella nattur,
Yn dattod gwaith y diawl, heb rwystyr.
1 Joan. 3.8
Hôll-alluog yw dy Brynwr,
F'all
Adnewy­ddu.
reparo gwaith y temptiwr:
F' all ei daflu beunydd allan,
O galonnau 'r bobol aflan.
Pe bae saith rhyw gythrel ynod,
Pyt fae leng tu fewn ith gaudod;
Mar. 5-8, 9, 13. Mar. 16.9.
Fe try Christ hwy ôll fel cilion,
Ar gair cynta, 'maes o'th galon.
Nid oes grym gan vn creadur,
Rhwystro Jer. 32.17.
Hindro gwaith dy Brynwr pryssur:
Ni all dŷn na diawl ei rwystro,
Roi 'ti râs, os credu ynddo.
Nid oes dŷn yn Grist yn credu,
Na bo'n cael grâs i difaru,
Act. 15.9. 2 Cor. 5.17
Ac i wella ei fuchedd beunydd,
Nes yr elo 'n ddŷn o newydd.
Ni ddaeth dŷn i geisio g âs,
At fab Duw erioed, nas câs,
Esa. 45.19.
Nac i
Geisio.
segian cymmorth gantho,
Nas rhows Christ e'n ebrwydd iddo.
Dere dithe, cais râs gantho,
Nîd ith bechod brwnt dy rwystro:
Ni ddaeth Christ i gadw enaid,
Mar. 2.17
Ond eneidiau pechaduriaid.
Ni ddaeth Christ i gadw o ddifri,
Ond y rhai oedd gwedi colli:
Swydd a chreffc mab Duw yn vnig,
Ydyw cadw rhai colledig.
Tyred.
Dere dithe 'n fuan atto,
Mae 'n dy gathrain, mae 'n dy gyffro:
Dere atto, cred yn vnig,
Fe wna Christ di'n ddyn cadwedig.
Duw rô grâs i tithe ddwadd,
Yn ddi-aros at dy Geidwad,
Trwy ffydd fywiol a difeirwch,
I gael gan Grist râs a heddwch.

Cynghor arall i Bechaduriaid i ddyfod at Jesu Ghrist.

DEwch bawb sydd drwn lwythog gan bechod a bai,
Dewch at'eich Jachaw dwr, sydd eich gwawdd chwi bob rhai,
I laesu'ch trwm lwythau a'ch blinder a'ch cryd:
Mae 'n addo 'ch
Dadflino.
reffreshio, dewch atto mewn pryd.
Dewch bawb at eich Ceidwad, a'ch Prynwr a'ch Pen,
A'ch Brenin a'ch Prophwyd, a'ch ffeiriad a'ch llen,
A'ch Meddyg, a'ch Bugail, a'ch Castell a'ch Craig,
A'ch vnig Jachawdwr, Concwerwr y ddraig.
Dewch bawb at Ghrist Jesu syn gwawdd pawb mor fwyn
I ddwad hyd atto i wneuthur eich cwyn:
Ond dangos eich dolur, bid ef fawr, bid ef fàch,
A deisyf ei gymmorth,
Fe'ch ia­cha, os gy­da dangos eich dolur a deisyf ei gymmorth, y bydd i chwi gre­du yntho a gwir ufydd —hau iddo. Heb. 5.9.
fe'ch hela 'n holl iâch.
Fe'ch dad-ddrys och dryssweh, fech gwna yn wyr rhydd
Fe dâl eich holl ddyled, fe'ch cymmorth yn brydd,
Fe laesa 'ch trwm lwythe, a'ch dagrau fei sych,
Fe gweiria 'ch archollion, fe 'ch gwna chwi'n holl wych.
Fe wna heddwch rhyngoch a'r Barnwr ei Dâd,
Fe fyn i chwi bardwn, trwy bridwerth ei waed,
Fech dug chwi drachefen mewn Ffafar a Duw,
Fech cadw mewn cariad, tra fyddoch chwi byw.
Fech gylch och pechodau â'i waed bob yr vn,
Ezek. 36.27.
Fe essyd byth ynoch ei yspryd ei hun,
Fech gwna chwi yn feibion, yn ferched iw Dad,
A chyd-etifeddion, oi Deyrnas yn rhad.
Fe droeda 'ch gelynion, fei teifil ir llawr,
Rhuf. 16.20.
Fe ddug eu holl arfau, fei
Herlyd. 1 Cor. 15.25.
dylud fel Cawr,
Fe dynn eu holl gryfder, fe ddadraidd eu nyth,
Fech gwna yn gongcwerwyr ar Satan dros fyth.
Pe gwyppech blant dynion, mor dost ydyw 'ch cas,
Ach cyflwr colledig heb nerth Duw a'i Ras,
Ni chyscech, ni fwyttech, nes dyfod at Ghrist,
I wella 'ch tost gyflwr, â chalon drom drist.
Beth 'ym ni rhai goreu, wrth nattur a rhyw?
Ond plant i'r digofaint, heb gyfnerth mab Duw,
A gweision i bechod, a slafiaid i'r fall,
A thanwydd i uffern, plant Angeu di-ball.
Mae pawb gwedi nyrddo gan bechod, och! och!
Cyn ddued a'r
Black­moors. Dy­nion duon.
Moyrys, cyn frynted a'r môch:
Rhaid dyfod at Jesu i newid ein grân,
A goichi 'n haflendid, cyn gwneler ni 'n lân.
Fe wnaeth yr hen Adda ni 'n elynion i Dduw,
Yn blant i'r digofaint heb ddim modd i fyw:
Rhaid dyfod at Jesu i'n cymmod' â'i Dâd,
Cyn gwneler ni 'n ferbion, trwy fabwys a rhâd.
Fe dynnodd y Gelyn bob dyn idd ei rwyd,
A'r fale gwarddedig, trwy wall Efa lwyd:
Ni thorrir o'r groglath, ni'n tynnir ni maes,
Nes tynno 'r hael Jesu, â'i Rym ac â'i r [...]s.
Mae 'n henaid fel dafad yn Safan y blaidd,
Ynghrafangc y Gelyn, a diangc nis baidd:
Rhaid cymmorth y Bugail, Christ Jesu a'i râs,
Cyn tynner vn enaid o'i grafangc i maes.
Mae 'r Angel dinistriol goruwch ein tai,
Exod. 12.13.
Yn ceisio 'n destrywio, waith cymmai [...]t yw'n bai:
Rhaid iro 'n
Pyst y drysau.
cynnorau, â gwaed un mab Duw,
Cyn
El.
passo 'r fall heibio, na'n gadel yn fyw.
Mae holl blant dynion dan feddiant y fall,
Mewn
Carchar.
dwngwn ddû, tywyll, yn gorwedd yn ddall,
Wrth gadwyn o bechod, nes delo mâb Mair,
In tynny o'r dwngwn â'i râs ac â'i Air.
Ni thynnir dyn allan o deyrnas y fall,
A'r pechod lle herys, gwnaed pawb ore ac all,
Nes rhwymo Christ Satan, tryw gryfder a fôrs,
A thynnu dyn allan, fel nifel or gors.
Mae pawb mewn tywyllwch, wrth nattur yn byw,
Dan gyscod yr angeu, heb nabod o Dduw;
Mae'n rhaid i Ghrist Jesu 'n goleuo â'i râs,
An tynnu o'r twllwch, cyn deler i maes.
Esay 1.6.
Mae pechod mor sarnllyd, mor ddrewllyd, mor grai,
Yn nyrddo, yn nafu, yn
Gwen­wyno.
ffecto pôb rhai:
Ni olchir, ni thynnir, ni flottir i maes,
Jer. 2.22.
Nes golcho Gwaed Jesu; mae frynti mor gâs.
Psal. 38.4.
Mae pechod fel mynydd o blwm ar ein gwarr,
Mae'n gwascu cyn drwmedd nes plygo pob garr:
Fe'n hela trwy'r ddaiar i uffern yn grwn,
Mat. 11.28.
Oni ddawn at Grist Jesu i laesu 'r fath bwn.
Mae'r fâll fel gwr cadarn, yn arfog heb grûn,
Yn cadw gorescyn o galon pôb dŷn,
Ni ddichon yr holl-fyd ei daflu o'i
Neuadd.
Blâs
Nes delo Christ attom i
Taflu.
dwmblan e'i mâes.
Mae 'r fall gwedi 'n clwyfo a'n brathu bôb rhai,
Mae 'n harcholl yn rhedeg, bôb amser heb drai:
Ni ddichon un meddyg dan Haul ein Jachau,
Nes delo Christ attom âi waed i'n glanhau.
Fe ddygodd y Gelyn ein trwssiad a'n grâs,
Fe'n gadodd yn groen-llwn, yn noeth, ac yn gas:
Dewn at ein Brawd hyna, Christ Jesu bôb un,
Fe guddia 'n holl noethder
â'i gyfia­wrider Dat. 3.18. Eph. 2.1.
acirc;'i ddillad ei hun,
Mae pawb gwedi marw mewn pechod bob prŷd,
Heb bwer i wneuthur daioni 'n y bŷd,
Nes delo 'r Bywiawdwr Christ Jesu i'n bywhau;
Joan. 15.5
An codi o bechod, ac felly 'n cryfhau.
Dewch at y Sarph efydd, dangosswch eich clwyf,
Lle brathodd y neidir chwi 'n fynych trwy nwyf,
Edrychwch yn graffys ar Grist ar y groes,
Fe rêd yr holl wenwyn; fe ddofa 'r holl loes,
Dangoswch eich dolur ich Prynwr heb aeth,
Ni bu dan y nefoedd un Meddyg o'i fâth;
Pob archoll, pob dolur, pob pechod, pob crach,
A phur waed ei galon, fei gyrr yn holl Jach.
Ni ddichon nac eli, na
meddigi­niaeth
metswn, na maeth,
Na
Physyg­wriaeth.
phisic, na phlastr, na llysie, na llaeth,
Na dim ag a enwer, ond Gwaed Jesu Ghrist,
Jachau archoll pechod, mae'r archoll mor drist.
Mae llawer all hela cornwydon yn Jâch,
Ar frech-fawr, ar cryge, ar claf-gwan, a'r crach▪
Ni ddichon meddygon y byd cymain un,
Jachau archoll pechod, ond mab Duw ei hun,
Ni ddichon Angelion, er amled o'u rhif,
Er cymmaint o 'u cryfder er cystal o'u
Anrhyd­edd.
brif,
Gadw un enaid, rhag myned ar goll,
Nes cadwo Christ Jesu, ein helpwr ni oll.
Act. 4.12.
Ar Saint a'r Saintessau, pyt faint oll yng hyd,
Er amser hên Adda, byd ddiwedd y byd;
Ni allent hwy gadw un enaid traent byw,
Rhag myned i vffern, heb gymmorth Mab Duw.
Mich. 6.6, 7.
Pa rhoddit ti 'n offrwm nifiliaid y byd,
Afonydd o olew, a'th olud i gyd,
Jo. 14 6.
A'th gyntaf-anedig, a'th fywyd, a'th waed,
Ni chedwit ti d'enaid heb help y mab rhâd.
Pa chwilit ti 'r nefoedd, a'r ddaiar yng hyd,
A'r awyr, a'r moroedd hyd ddiwedd y byd,
Ni ellit ti ganfod, tra fyddyt ti byw
Vn Ceidwad i'th enaid, ond vnic Mab Duw.
Nac vmgais am Geidwad heb-law Christ ei hun,
Mae 'n Geidwad galluog, yn Dduw ac yn ddyn,
N [...]d oes jechydwriaeth (nac enw dan nef)
I gael mewn neb arall, ond sydd ynddo ef.
Ni chedwir vn enaid o'r oes hon y sydd,
Na'r oesoedd y bassodd, na'r oesoedd y fydd,
Ond vnig eneidie y gatwo Mab Duw,
Y rhest eisie credu y gollir bob rhyw.
Ymafel yn dy Brynwr, yn Ffest â llaw dy Ffydd,
O mynny gael dy gadw, dal d'afel yntho 'n brŷdd,
Na choll oth afel arno, nes caffech rym a gras,
Oddwrtho i gadw d'enaid, a byth bod iddo 'n was.
Na'mddiried ith weithredoedd, nath ddysc, nath dda, nath ryw,
Ni all dim gadw d'enaid, ond Ffydd yn vn mab Duw:
O rhoi d'ymddiried yntho, ni chollir denaid byth,
Heb Grist os ceisii gadw, di colli ef dros fyth.
Mae pawb o feibion dynion, er Adda hyd diwedd byd,
Oan bechod gwedi llydru, a'u damnio bawb yng-hyd:
Ni chedwir vn o honynt, rhag Ange ac vffern drist,
Gwnaed pawb y gore ag allont, nes cadwer hwy gan Grist.
Dewch bawb gan hynny 'n gyfan, at geiwad yr holl fyd
I gadw eich trist ene [...]die, y gollwyd ôll yng-hyd:
Yr vn a ddelo atto fe'i dûg ir nefoedd wen,
Yr vn a beido dwad, fâ i vffern ar ei ben.
Na fydded neb mor angall, mor ddwl, mor ddal, mor ffô [...],
A throi oddiwrth y Ceidwad, sy'n galw yn eich hos,
Ni ddiangc neb rhag angeu, ni ddringad vn ir nef,
Ni bydd un dyn cadwedig, nes caffo ei gymmorth ef.
Ni chedwid Noe, na Daniel, nac Abram, Jôb, na Phawl
Na Mair, nac Ann, na Martha, na neb orwydau'r Diawl,
Na'r plentyn newydd eni, nac vn o eppil dyn,
Trwy nerth a'u gallu hunain, ond trwy nerth Christ ei hun:
Ni chedwir neb tro ganto, O hyn hyd diwed byd,
Ond y rhai gadwo 'r Jesu, mae pryniad dyn mor ddryd:
Ni fyn y Barnw [...] cyfion syrhâd am bechod dyn,
Lai nag ange gwerthfawr, 'a gwaed mab Duw ei hun.
Gan hynny ofer ceisio, help Angel, Sant na dyn,
Na phardwn Pab, na Feren, i gadw enaid vn:
'Does dim ag aller enwi, beth bynnag fytho i ryw,
All cadw enaid Christion, ond angeu un mab Duw.
Ni Chymmer Duw'r dialau, iawn lai am bechod dyn,
Nag angeu holl blant dynion, neu angeu'r cyfryw un
Y sae â'i Angeu cystal, ac Angeus pawb or byd,
Nid oes un Angeu felly, ond Angeu'r Prynwr dryd
Ni ddichon neb foddloni cyfiawnder Duw wrth byn,
Heb angeu ac vsydd-dod, ein Prynwr Jesu gwynn:
Y neb ni cheisio ei gymmorth, er cymmaint a fo'i scil,
Ni bydd e'n abl atteb, i Dduw am un o fiil.
Mae rhai yn credu gallant, trwy gwaith ai gweddi 'hun,
Ai hympryd ai cardodeu, wir haeddu cymmain un,
Gael diange poeneu vffern, a dringad chwhip ir nef,
Heb help y gwir jachawdwr, Ffei, ffei, beth wnant ag ef.
Ond pan fo rhain yn tybied, y dringant uwch y Sêr,
I uffern boeth y cwympant, lle syrthiodd Luciffêr:
Yn uffern y cant weled, heb Grist ni ddichon dyn,
Fynd byth i deyrnas nefoedd, trwy rym ai allu hun▪
Ni ddichon un dyn hae ddu, trugaredd ar lawDduw,
Ni bu rioed arno ddlyed, ni bydd byth tra fo byw:
Mae pawb yn rhwym ei 'ddoli, ai foli ag uchel lef,
Heb ddlyed arno er hynny, pawb yn ei ddlyed ef.
Ni ddichon gweddi un dyn, nai cardod o un rhyw,
Nai hympryd nai difeirwch, fodlonir cyfiawn Dduw,
Nes darffo i Grist yn gynta, Gymodi 'r dyn ai Dâd,
A golchi a Sancteiddio, y weithred dda â'i waed.
Mae'n rhaid i Grist ail greo, pechadur ar ei lun,
Ai droi 'n greadur newydd, ar ddelw Duw ei hun,
A newid ei feddyliau, ai raen, ai rym ai ryw,
Cyn gallo dyn feddiannu, na gweled teyrnas Dduw.
Maen rhaid i Grist heddychu, rhwng dyn a Duw ei Dad,
Ai olchi oi bechodau, trwy rym ei werthfawr waed,
Ai wisco âi Sancteiddrwydd, âi holl rinw eddau hun
A dodi ysbryd yndo, cyn galler cadw 'r dyn.
Mae 'n rhaid i Grist ein gwared, o law a gallu 'r fâll,
Sy'n cadw mewn cathiwed, mewn carchar tywyll dâll,
Ynrhwym ein traed an dwylo, mewn cadwyn pechod câs
Ynglyn a chyscod angeu, cyn delom byth i maes.
Mae 'n rhaid i Grist ddiarfu, y fâll sy 'n cadw llys,
Ynghalon pob pechadur, ai rwymo 'n ffast âi fŷs,
A 'i daflu o'i neuadd allan, a chadw 'r llŷs ei hun,
Cyn elo 'r fâll o'i gastell, na'r ddraig o galon dyn.
Mae'n rhaid i G [...]ist ein gwneuthur, yn blant i Dduw ei dad
A'n hadgenhedlu 'n feibion, trwy fabwys prudd a rhâd,
A'n gwneuthur yn 'tifeddion, ir holl alluog Dduw,
Cyn gallom gael paradwys, er cystled y fom byw.
Mae'n rhaid i Ghrist ein tynnu, o bob trueni mâs,
O rwydau 'r fall uffernol, a gwefleu 'r angeu glâs
A'n gwneuthur yn gyfrannog, o Ffafar Duw ai râd,
Cyn gallo neb feddiannu, o'r deyrnas lle ma'i Dad.
Amhossib yw gan hynny, i un rhyw fath o ddyn,
Feddiannn teyrnas nefoedd, trwy rym ai allu hun,
Na diangc o law Satan, a gweflau 'r ange glâs,
Na dial Duw ai felldith, heb gymmorth Christ ai râs.
O bwedd i diangc vn dyn, rhag dial Duw a'i fâr?
Rhag melldith drom y gyfraith, rhag carchar pechod taer,
Rhag gallu prins tywyllwch, rhag dannedd ange trist,
Trwy nerth a'i rym ei hunan, heb gymmorth Jesu Grist.
Ma'n rhaid i ninne 'r dynion Edifaru. Luc. 13.5. Gal. 5 6. Heb. 12.14 Joan. 15.5repento â chalon brûdd,
A chredu'n Ghrist ein ceidwad, trwy wîr a bywiol ffydd
A pheunydd wella'n buchedd, trwy nerth ei yspryd ef,
A bôd yn bobl newydd, cyn dwcco Christ ni ir nef.
Dewn bawb gan hynny'n gyfan, at Grist ein ceidwad prûdd,
Trwy alar a difeirwch, a gwir a bywiol ffydd:
Yr vn a ddelo atto, fie dûg ir nefoedd wer,
Ar dyn ae beido dwad, fa i vffern ar ei ben.

Cynhyrfiad i foli'r Arglwydd Jesu.

CYffredyn a bonedd, trowch heibio bôb maswedd
A moeswch o'r diwedd gyttuno,
Ar foli 'n garedig y bore Ddy 'n dolig,
Ein Prynwr
Ardd. r­chog.
arbennig a'i gofio.
Pan gwnaeth Duw mor
Hardd.
gymmen y ddau-ddyn or ddairen
Fe rhows hwy 'n y berllen i dario,
I gymryd eu plesser, mewn heddwch a'smwytl der,
O'r prenne melus-per oedd y [...]o.
Pan gwelodd ein Gelyn ni gyflwr y ddau-ddyn,
Ai bôd hwy 'mor gyttun yn rhodio,
Ar ddaiar mor ffrwythlon, yn rhoi iddynt ddigon,
Heb drafel a'r ddynion lafurio.
Ac yno daeth Satan, mewn meddwl ac-amcan,
Ar gaffel ymddiddan a hudo,
Yn vnion at Efa fel llester o'r gwanna,
A gadel hên Adda fynd heibio.
Be bwyttech ti dammed, or Afal goreired,
Nad ydych yn beidded i
Cyffwrdd
dwtshio,
Eich llygaid agore, chwi fyddech fel duwie;
Fel dymma rhinwedde sydd arno.
Yr Afal hi gymrodd, a'r tammaid hi bwyttodd,
Ac Adda ni pheidiodd a'i
Brofi.
dasto,
Nes caffel ansmwythder (ond ydyw 'n bethsceler)
Yn dâl am y
Hysryd­dwch.
plesser aeth heibio.
Hw y aethant eill
Yll dau. Rhuf. 5.12
dauwedd, oblegid eu balchedd,
Yn euog o'r diwedd boenydio,
A ninne lin olin, sy'n dyfod o'r greiddyn,
Heb allel ond i disyn nhwy yno.
Pan gwelodd Dow cyfion y
Y stâd o ddamnedi­gaeth.
poene mor greulon,
A ninne mor weinon yn
Soddi. Rhuf. 5.6.
singco,
Rhows inni gyfryngwr, wrth weled ein cyflwr,
Christ Jesu 'n Jachawdwr i'n swccro.
Hwn aned yn vnig y bore ddy 'n dolig;
(Hwn ydyw 'r gwir Fedddyg iw gofio,)
Mewn presseb anghymmen; ond gwych oedd ein fforten
Pan cawsom fath Gapten i'n
Arwain.
Ledio.
Dwy nattur neu rinwedd (heb gymmysc y sylwedd)
Ruf. 1.3, 4.
Sydd ynddo (heb ddiwedo iw cofio)
Y Dudod, y Dyndod, ynghyd iw cydabod:
Ac felly mae 'n gorfod
Cyfaddef
conffesso.
Mae Dduwdod cyn uchled a'i Dâd y gogoned,
Pob amser i'w weled yn
Teyrnasu.
rhaino;
Ai Ddyndod heb allel cyrhaeddyd mor vchel,
Os credwn ni
Geiriau.
chweddel ein Credo.
Ond mawr oedd y cariad, pan rhodde 'r ucheldad,
O fenyw 'r fath Geidwad i 'n swccro,
Yn berffaith ddyn cnawdol, fel pob vn o'i bobol,
1 Pet. 2.22
Ond pechod yn hollol
Wedi neillduo.
excepto.
Pan oeddem yn barod, oblegid ein pechod,
I fynd i'r pwll isod i drigo,
Mewn ffwrnes vffernol, a chystudd anfeidrol;
Heb obaith
Dychwelyd.
ymwrthol oddyno;
Fe redodd yn feiche, fe selodd ein bande,
Heb. 7▪22.
Fe'n vnig a fedrei ddad-ddigio:
Fe'n dygodd ni o'r gofyd, fe roddodd i'n rydd-dyd,
Fe barodd i'n iechyd y baro.
Nid Aur o'r melyna, nid cyfoeth o'r India,
1 Pet. 1.13.19.
Allasse bwrcassa
Maddeu­ant,
pardino:
Ond bywyd y plentyn, y gwir Dduw a'r gwir-ddyn,
Da iawn ydyw mofyn am dano.
Trwy hwn y bodlonwyd, trwy hwn y dad ddigiwyd,
Ac heb hwn ni allwyd ei
Foddloni.
blessio:
Er mwyn hwn yn vnion, mewn bob rhyw anghenion,
Y gwrendy pob Christion a geisio.
Jo. 16.33.
F' offrymmodd ei hunan, yn Aberth bereiddlan;
Rhag ofon i Satan
Orchfygu
gongcwero,
Fe Sigoedd e o'i sowdwl, fe wnaeth wrth fy meddwl,
Fe gadwodd y cwbwl a gretto.
Er bôd ein gweithred yn amal iw gweled,
Esay. 64.6
Mewn moddion afrifed iw
Cyfryf.
cownto,
O ddiffyg ffydd hynod, bôb amser yn barod,
Nid ydynt ond pechod iw
Prisio.
swmno.
Trwyd ffydd yn diddenir, trwy ffydd yn perffeiddir,
Trwy ffydd yn ennillir ni 'n
Cyfan­gwbl.
gyrdo:
O râs trwy ffydd fywiol, medd Pawl yr Apostol,
Eph. 2, 8.
Mae Christ yn ein dethol ni atto.
Ni cheisiodd vn bridwerth, gan vn dyn vn aberth,
(Er cymmaint y cymerth ê i
Gospi.
blago)
Bsal. 51.17
Ond yspryd drylliedig, a chalon buredig;
O dewch yn garedig i wrando.
Mar. 11.24.
Trwy ffydd y derbynnwn, pob peth ag ofynnwn,
Nid oes dim ag allwn ddymuno,
Nas ceffir ond credu, yn hael gan y Jesu,
Cans fe sydd a'r gallu lle mynno.
Act. 3.19.
Trwy-ffydd yngwaed gwirion, ein Prynwr gwynn graslon,
Fe olchir ein beion, pan orffo,
Rhoi cownt am ein gweithred, o flaen y gogoned,
Ond iddo gael gweled
Edifar­hau.
repento.
O! byddwch yn addas, trwy fynych
Sef a Duw.
gymdeithas,
A gwisc y briodas yn gryno,
I fynd i'r llawenydd, ym-mhêll o'r aflonydd,
Yn barod pan gorfydd
Ymddan­gos o flaen Christ.
apuro.
A byddwch fal Seinte, ag oel ich lanterne,
Bob nôs, a phôb bore i'ch goleuo:
Rhag dyfod y Priod, heb rybydd nac arsod,
Mewn amser heb wybod i
Guro:
gnocc [...]
1 Cor. 15.58.
A gwnewch eich gwasaneth, i'r Drindod yn helaeth,
Tra 'r dydd iechydwriaeth heb
Fyned heibio. Jo. 12.35.
basso,
Rhag dyfod tywyllwch; Rhysymol y gwelwch,
Pryd hwnnw, ni ellwch mor gweithio.
Gweddiwch yn dduwiol, ar eich cadw'n ddihangol,
A bôd yn wastadol yn effro:
Mat. 25.13
Cans agos yw'r amser, medd Mathew dafod-ber,
Fe orfydd ar fyrder ymado.
O byddwch gariadus, wrth fodd Duw a'i wllys,
Chwi gewch fôd yn ddilys yn
Teyrnasu.
rhaino,
Mewn smwythder, dedwyddwch, llawenydd,
1 Cor. 2.9.
llo­nyddwch,
A phethau na fedrwch ystyrio.
Nid oes yno glefyd, na thristwch, nac adfyd,
Datc 7.16, 17.
Na gofal, na gofyd iw gofio;
Ond
Cerdd.
miwsic pereiddlon, gan sanctaidd Angelion,
Na ddichon vn galon fyfyrio:
Gan hynny blwyfogion, chwi gwympwch yn ffydd­lon,
O ddyfnder eich calon weddio,
Ar Dduw o'i wir fawredd a'i amal drugaredd,
Yno 'n dwyn ar ein diwedd i drigio.

Gwahoddedigaeth arall i foli Christ Jesu.

DEwch bawb yn garedig, yn ffres ac yn ffrolig,
Y nawr y nadolig i foli mab Duw,
A Psalms ac â
Caniadau
Hymne, yn hwyr ac yn forè,
Am gadw 'n eneidie rhag distryw.
Dewch, cenwch yn
A llais vebel.
llafar, nes datsain y ddaiar,
A dringad eich trwdar i'r trydydd nef,
I gyffro 'r Angelion, i gyd-ganu â dynion,
I Dduw am ei dirion dangneddef.
Pan na'lle na dynion, na Saint nac Angelion,
Na dim daiarolion, mewn daiar na dwr,
Ein cymmorth na'n helpu, fe helodd Dnw 'n prynu,
Ei unic fab Jesu 'n Jachawdwr.
Pa.
Pwy Dâd y fae perchen deg pleutyn ar hugaen,
Y rodde 'n aflawen y gwaetha iw ladd,
Ar grog-pren echryslon, i gadw ei elynion
Ai gyrrei yn greulon i ymladd?
Duw nid arbedodd, roi'r vn mab a feddodd,
Ar mwya a garodd o'r byd i gyd,
I farw dros ddynion, ar grog-pren echryslon,
Rhuf. 5.10
Pan oeddem elynion gwenwynllyd.
Gan hynny 'n enwedig, trwy wylie 'r nadolig,
Rhown ddiolch caredig i'n cariadus Dâd,
Am roddi mor rassol ei etifedd naturiol,
I fôd i ni'n nerthol Geidwad.
A molwn yn nessa, â moliant o'r mwya,
Fâb Duw gorucha, gwir Jechyd y byd,
Am ddwad o'i fawredd o'i nefawl anrhydedd,
I'n tynnu mor rhyfedd o'n gofyd.
O'r nefoedd orucha, o fonwes Jehofa,
Daeth mâb Duw anwyla, yn olud ini,
I gymryd ei ddyndawd, o Fair at ei dduwdawd,
Ai wneuthur yn gyd-frawd inni.
I'r stabal anghymmen, o'r nefoedd ddisclair wen,
I breseb yr vchen, o'l oruchaf lys,
O blith yr Angelion, i gadw plant dynion,
Y daeth yr oen tirion cariädus.
Mab Duw gorucha, Duw, 'r Gair mi a'i henwa,
Joan. 1.1, 2, 14.
Etifedd Jehofa, Duw, Mab y Duw mawr,
Y wnaed yn ddyn cnawdol, o Fair yn rhefeddol,
Rhuf. 1.3, 4.
I Achub ei bobol drallod-fawr.
Y Duw rhwn y greodd, nêf, daiar a dyfroedd,
Co [...] 1.14. hyd yr 20.
Y Duw rhwn a luniodd, yr haul yn y nêf,
Y wnaeth pwyd yn blentyn, yn fachgen, yn fwydyn
A milwyr cyffred yn a'i laddef.
Dewn bob rhai gan hynny, clodforwn y Jesu,
Ymrown bawb i ganu, gogoniant a mawl,
Ar dafod ar danne, yn hwyr ac yn sore,
I'n Prynwr mewn hymne nefawl.
A galwn y nefoedd, a'r ddaiar a'r moroedd,
Psal. 148.
A phawb o'r llubedd, sydd ynddynt, yn
Llawen.
llonn,
I gyd-ganu moliant, a chlôd a gogoniant,
I Awdwr ein flyniant, ya ffyddlon.
Fel Sidrac o'r ffwrnes, fel Zachray o'i gyffes,
Dan. 3. Luc. 1. Exod. 15.
Fel Miriam a Moses, ar lan y môr,
Clodforwn y Jesu, y ddaeth i'n gwaredu,
O'r ffwrn a'r carchardy
gwangeus
catcor.
A throelwn ei wylie, er côf am ei ddonie,
Y modd ac y gwedde,, i wyl Jesu gwyn,
Mewn nefawl hyfrydwch, a duwiol ddifyrwch,
A phrudd ddiolchgarwch gennyn.
Mae 'r Arglwydd yn erchi, i'n bawb fôd yn
Llawen.
firi,
A llawen a llonni, mewn llann ac mewn llys,
Yn Awdwr ein heddwch, a Thád ein diddanwch,
Trwy fôd ein difyrwch yn weddus.
Gan hynny 'n enwedig, y nawr ynadolig,
A'r galon yn ffrolig, a'r wyneb yn ffres,
Gwir orfoleddwch, yn Awdwr eich heddwch,
Rhowch ymmaith bob tristwch anghynnes.
Trwssiwch eich Tie, hwyliwch eich bwrdde,
A phob sir or gore, o gariad ar Ghrist:
Gwahoddwch i gilydd, i gynnal llawenydd,
Na chedwch ei wyl-ddydd yn athrist.
Cwnnwch eich calon, cymmerwch eich digon,
Gwachelwch ormoddion, mae meddwi yn gâs:
Na cheisiweh lawenydd, mewn diod a bwydydd,
Ond yn eich Achubydd addas.
A chenwch trwy 'r gwylie dduwiol ganiade,
Na sonniwch am senne, ar wylie 'n gwir Sant:
Ond firiwch eich hunain, ar Fab Duw sy'n darllain
Fôd yndo iw'ch gywrain faddeuant.
Nac ewch ir tafarne, a'r aflan
Tai put­teinaid.
stywdeie,
I lorian y gwylie, mae 'n gwilydd y gwaith:
Amherchi Duw 'n prynwr, bodloni 'n gwrthnebwr,
Mae 'r cyfryw â'i dwndwr diffaith.
Ymmaith â'r cardie, â'r dwndran, â'r dissie,
A'r gloddest, â'r gwledde bair Christion yn glaf,
A'r meddwdod a'r tyngu sy'n nyrddo a nafu,
Nadolig Duw Jesu anwylaf.
Cymrwch y Psalmau, ar fengyl wen olau,
Yn lle'r pâr cardiau, os gwyr-da 'ych heb ddig:
Cym­mwysach.
Fsittach i Gristion nâ 'r pâr cardiau brithion,
Yw'r fengyl wen-dirion nadolig.
Gan hynny ymsiriwch, a gwir orfoleddwch,
A neidiwch, a molwch eich Prynwr mawr,
Cenwch glôd iddo, a churwch eich dwylo,
Hyfrydwch yndo yn ddirfawr.
Rhowch foliant rhagorol, i'r yspryd sancteiddiol,
Sy'n dangos i'r bobol, o'r Bibl yn rhâd
Fôd pardwn a Jechyd, a heddwch a bywyd,
Iw gad yn ein hyfryd Geidwad.
I'r Tâd 'rhwn an creodd, i'r mâb rhwn an prynodd
I'r yspryd a'n gloywodd, â'r
Mae 'r gair yn o­fferyn yn llaw Dduw iburo ac i sanctei­ddio enei­diau pobl, Jo. 17.17. Psal. 19.7. Mae 'r rhinwedd sydd yn y dwfr i lanhau (â pha vn yr ydys yn bedyddio) yn arwyddocau, nid yn vnig rhinwedd gwaed Christ yn gol­chi ymmaith euogrwydd pechod, ond hefyd rhinwedd yspryd Christ yn puro ac yn glanhau oddiwrth bwer a grym pechod, Act. 22.16. Datc. 1.5. Tit. 3.5, 6. ond mae Christ yn dangos yn nameg yr hauwr a'r hâd: Mat. 13. fôd llawer mâth o wrandawyr, trwy eu bai eu hunain, heb eu sancteiddio trwy 'r gair. A chan fôd Christ yn dywedyd, mai wrth y ffrwyth y naby­ddir y pren, Luc. 6.44. ni ellwn ddywedyd, fôd llaweroedd a fedyddiwyd â dwfr, heb eu gloywio au puro a'r yspryd glan: heb loywiad, a phurad pa vn, nis gellwn gymryd cyssur er ein bedyddio â dwfr, Gal. 6.15. ac er ein bôd yn wrandawyry gair. Jac. 1.22.
gair â'r dwr glan
Y bytho bôb ennyd ogoniant tra hyfryd,
Ym-mhôb mann o'r holl-fyd yn gyngan.

Annogaeth i ddiolchgarwch am ein prynedi­gaeth trwy Ein Harglwydd Jesu Grist.

CUrwch bawb eich dwylo ynghyd,
Psal. 47.2.
Bendithiwch Dduw o bryd i bryd:
Am roi vnig fab i'n prynu,
Pan yr oeddem gwedi 'n
Mewn gy­flwr o go­lledigaeth.
damnu.
Cwympwch bawb ar ben eich glinie,
Aberthwch iddo nôs a bore
Clôd a moliant, nerth a gallu,
Am roi vnig fab i'n prynu.
Bys ystyriem faint yw 'r dlyed,
Y sydd arnom iddo o'r parthed;
Ni wnaeu swydd ar nôs a bore,
Ond ei foli ar ein glinie.
Pan yr oeddem gwedi myned,
Dan law Satan i gathiwed,
Act. 26.18. 1 Jo. 3.8.
Fe rows Duw ei fab i'n prynu,
Pan na alle neb ein helpu.
Carcharorion dan law Satan,
Eph. 2.2. Luc. 4.18.
Yn y
Carchar rywyll.
Dwnshwn mawr yn cwynfan;
Byth y byssem bawb yn gryddfu,
Oni bysse 'r Jesu ein prynu.
Nid oedd lûn i
Heddychu
reconsilo
Duw 'r cyfiawnder gwedi ddigio,
Col. 1.20.
Oni bysse ei vn mab Jesu
Farw drosom er ein prynu.
Nid oedd lûn gwaredu enaid
Acts 4.12.
Vn pechadur o'r pwll
Tanllyd.
tambaid,
Oni bysse i'r Jesu cyfion
Dalu drosto waed ei galon.
Christ y rows ei werthfawr waed,
Yn bridwerth drosom idd i Dâd:
Heb. 2.14, 15.
Ac a'n tynnodd trwy fawr gryfder,
O law Satan oedd y shailer.
Psal. 124.7
Adar oeddem gwedi 'n dala,
Yn rhwyd Satan idd i difa;
Christ y dorrod y rhwyd drosom,
Ninne 'r
Sef y ffy­ddloniaid vfydd, edi­feiriol, nid neb ar all.
Adar a ddihangsom.
Dafad oeddem aethe ar ddidro,
I blith bleiddiaid i gyrwydro,
O'r wir gorlan ym Mharadwys,
Ar ôl Satan pan ein temptiwys.
Luc. 15.
Christ yw 'r Bugail y ddoe i 'mofyn
Hon i blith
Anifeili­aid gwyll­tion.
bwystfilod scymmyn,
Ac y ddyge 'r ddafad adre,
O eneu 'r diawl ar ei scwydde.
Ni yw 'r gwŷr y gas eu speilio,
A'u harcholli wrth dramwyo,
I Jericho o Jerusalem,
Heb neb a'n cwnne o'r clawdd lle 'roeddem.
Luc. 10.33 34, 35.
Christ yw 'r mwyn Samaritan,
Y rwyme 'n harcholl yn yman,
Ac yn dyge hyd yr ostri,
Yno i'n swcro a'n cynfforddi.
Y Sarph a'n brathodd ym-mharadwys,
A chol pechod pan ein twyllwys:
Christ eliodd ein archollion,
Yn fwyn iawn â gwaed ei galon.
Num. 21.
Nid oedd dim a alle helpu
Israel gwedi 'r Seirph eu barthu,
Ond golwg
Cruff.
hyll ar Sarph o brês:
Dim amgenach ni wnae les.
Nid oedd dim a'n helpei ninnau,
Jo. 3 14.15
Gwedi 'n brathu â chol pechodau,
Ond Christ Jesu gwedi hoelio,
Oedd y Sarph yn
Arwy­ddocau.
represento.
Tebig oedd ein cyflwr gwann,
I adar bach y Pelican,
Y fae 'r Neidir gwedi nafu,
Nes caent waed eu mam i helpu,
Pan y gwelas Christ ein cyssur,
Heb. 9.14.
Megis Pelican twym nattur:
Fe rows inni waed ei galon,
I elio ein archollion.
O
Ystyriwn
considrwn ninne 'n
Cyflwr.
câs,
A'r daioni mawr a'r grâs,
Y ddaeth inni 'r byd colledig,
Drwy ddioddefaint Christ yn vnig.
Slafiaid Satan, Gweision pechod,
Plant digofaint, Bwyd bwystfilod,
Act. 26.18 Jo. 8.34. Eph. 2.3.
Oeddem bawb, oni bysse 'r Jesu
Ddaeth o'r nef i'r groes i'n prynu.
Beth yw dyn heb gyfnerth Christ,
Ond gwâs a
Caeth­was. Jo. 3.18.
slâf i'r cythrel trist,
Gwedi Dduw ei farnu eisiwys,
Fynd i vffern o Baradwys.
Nid oes dyn a ddichon gadw
Ei enaid bach rhag iddo farw,
Nes y caffo gyfnerrh Jesu,
A'i waed gwerthfawr idd i olchi.
Nid oes dyn a ddichon wneuthur
Jawn i' Dduw am bechod bydur,
Nes y caffo waed yr oen,
1 Pet. 1.18 19.
I dalu 'r pris, i ddofi 'r poen.
Christ yw 'r Oen
Difry­chau.
dispotte i gyd,
Sy'n tynnu ffwrdd bechode 'r byd,
Ac yn dofi llid ei Dâd,
A'i fywyd gwyn, â'i werthsawr waed.
Heb. 4.12. Rhuf. 8.34
Christ yw 'r ffeiriad sy'n y nêf,
Yn gw neuthur drosom weddi grêf,
Gwedi offrwm gwaed ei galon,
Ar y groes yn
Prid­werth.
ranswm drosom.
Christ yw gwir oleuni 'r Byd,
Christ yw 'n Bywyd ôll i gyd,
Ghrist yw 'n Cynffordd, Christ yw 'n Ceidwad,
1 Pet. 1.20
Christ yw 'n Helpwr o'r dechreuad.
Jo. 3.36.
Heb Grist nid ym ond colledig,
Trwy Grist yr ym yn gadwedig,
Heb Crist ni chawn weled Duw,
Trwy Grist ni gwn yndo fyw.
Datc. 21.8, 27.
Pôb dyn aiff i vffern drist,
Ond y gretto yn Jesu Grist:
Ac heb Grist ni ddichon un dyn,
Fynd i'r nêf er maint o'i rosyn.
Dysgwn bawb gan hynny gredu,
Act. 3.23.
Yn ein Prynwr mawr Christ Jesu;
A meddyliwn
Bod yn v­fydd iddo.
wrando arno,
Os 'n y nef y mynwn dario,
Prynodd Christ â Gwaed ei galon,
Yr hôll fyd o'i poenau trwmion;
Llawer mil o 'r Byd er hynny,
Ant i vffern eisieu credu.
Mat. 7.13
Er croes-hoelio 'r Jesu drosom;
A rhoi taliad llawn am danom,
[Page 81]Etto ni bydd neb cadwedig,
Ni bydd neb cadwe­aig, ond y gretto yntho â'r fâth ffydd ag sydd yn puro 'r galon oddiwrth bechod, gan fôd o gariad at Dduw yn fywiol at weithradoedd da. Ni thâl y ffydd farw sydd gan lawer oedd (gydâ'r hon nid oes nac edifeirwch, na glendid calon, na Sancteiddrwydd buchedd) mo'r glâs welltyn tuag at jechydw­riaeth, yn gymmaint a bod y ffydd honno gan y diafol, ac nid yw ef nes er hynny i fod yn gadwedig: Act. 15.9. Mat. 5.8. Gal. 5.6. Mat. 7.21. Jac. 2.14, &c.
Ond y gretto yndo 'n vnig.
Credwn yn Grist, ac fe'n cedwir,
Oni chredwn, yno ein collir;
'R vn y gretto gaiff ei gadw,
Rhwn na chretto collir hwnnw.
Nid aiff vn na mawr na bâch,
Byth i vffern i roi gwâch,
Ond y dyn y beidio a chredu,
Yn y Prynwr mawr Christ Jesu.
Porth y nêf sydd lêd agored,
Ddydd a nos heb arno gayed,
I bôb grâdd o gywir gristion,
Ag y gretto yndo 'n ffyddlon:
Ni bydd sôn byth am eu beie,
Na'u drwg nattur, na'u pechode:
Hwy faddeuwyd, ac hwy
Ofodir allau.
flottyr,
A gwaed Ghrist i maes o'r llyfyr.
Christ ein golchodd o'n pechodau,
Christ y brynodd ein eneidiau:
Christ ein
Sef y cy­wir grist­nogion, fel y mae efe 'n dywed d o'r blaen, ac nid l' gweithred wyr anwi­redd, Mat. 7 21, 23.
dwg i deyrnas nefoedd,
Ny ni biau 'r maint y brynodd.
O moliannwn ninne 'r Jesu,
Ddydd a nôs am dan ein prynu:
Ac na anghofiwn tra chwyth ynom
Faint o bethau wnaeth ef
trosom.
erddom.
Clôd a gallu, mawl a moliant,
Gwir anrhydedd a gogoniant,
Y fo i'n Prynwr mawr a'n Pen,
A dweded nêf a daer, Amen.

Cynghorau duwiol i bôb dyn ac y ddymuno gael ffafar Duw, a maddeuant am ei bechodau.
Er bod llawer o waith yr Awdwr yn dra rha­gorol, etto y mae y tair can hyn a ganlynant yn haeddu eu printio a llythrennau o aur.

PWY bynna geisio maddeu,
Ei bechod a'i drosseddeu,
A chael
Maddeu­ant.
pardwn gan Dduw gwyn,
Rhaid dilyn hyn o werseu.
Dihar. 28.13.
Yn gynta adde 'th bechod,
Yn brûdd o flaen y Drindod;
Ni chais gelu dim rhag Duw,
Does bai nad yw 'n ei wybod.
Gwedyn prawf ddeallu,
Rhuf. 6.23.
Pa ddial wyt ti 'n haeddu,
A pha angeu
Tragy­wyddol.
didrangc maith,
Am dan dy waith yn pechu.
A deall fôd dy feie,
Yn haeddu vffernol boene:
Joel 2.13 Dan. 9 17. Eph. 1.7. Jo 14.14. Iso. 2.2.
Gwedyn cais â chalon drist,
Gan Dduw er Christ ei madde.
A dysc yn brûdd gydnabod,
Nad oes o flaen y Drindod,
Iawn am bechod ond gwaed Christ,
Ai angeu trist a'i 'fudd-dod,
A chrêd ith Brynwr Jesu,
1 Pet. 1.18, 19. Mat. 20.28
Yn gwbwl gyflawn dalu,
Ar y groes yn ddigon drûd,
Am feiau 'r bŷd sy 'n credu.
A gwybydd fôd Duw 'n foddlon,
Mat. 3 17.
Ir iawn y wnaeth Christ droson,
Ac er ei fwyn yn barod iawn,
Roi pardwn llawn ir ffyddlon.
A chrêd y madde i tithe,
Jo. 3.16. Heb. 8.12. Jac 4.9, 10.
Dy bechod ath drossedde,
Ond it geisio er mwyn Christ,
A chalon drist eu madde.
Na chytgam geisio celu,
Mor pechod wyt ti 'n garu,
Addeu 'r cwbwl ger bron Duw,
Peth ofer yw ei wadu.
A barn dy hun yn euog,
1 Cor. 11.31.
O flaen yr Holl-alluog,
Fel nath farner ar ddydd
Barn.
brawd,
Ar goedd trwy wawd digassog.
Alara am dy bechod,
Yn ôl ei weld a 'i nabod;
Jac. 4.9, 10.
A 'mofydia nôs a dydd,
Nes itti 'n brûdd ei wrthod.
Cwra 'r galon brûdd ochneido,
Ar llygaid ddyfal wylo,
A gwna ir yspryd brûdd dristhau,
Edifarhau a
Galaru.
mwrno.
A chais gan Dâd goleuni,
Ezek. 36.26.
Roi calon dyner itti;
A 'mofydia ambell awr,
Am dan dy fawr ddrygioni.
Na orphwys byth yn ceisio,
Nes cael gan Dduw dy wrando,
A rhoi calon it dristhau,
Edifarhau ac wylo.
Psal. 119.114.
Yn ôl it fwrno ennyd,
Am dan dy bechod offyd,
Dala afel tra fech byw,
Ar bromais Duw ai 'ddewid.
Mat. 5.4.
Mae Duw 'n ei air yn addo,
Diddanu rhai fo 'n
Galaru.
mwrno,
A rhoi hefyd bardwn clû [...],
I bawb y wîr
edifarhao
repento.
Luc. 13.5. Jo. 3.16. Esa. 55.7.
Repenta 'th fywyd anllad,
A chrêd yn Ghrist dy geidwad,
Gâd dy feiau tra ynod chwyth,
Ni chollir byth o hanad.
Esa. 35.4.
Mae Duw yn addo helpwr,
A cheidwad a diddanwr,
I bôb dŷn difeiriol trist,
Sef Jesu Grist dy brynwr.
Esay 1.16, 17, 18.
Mae Duw yn addo madde,
Dy bechod ath drossedde,
Ath olchi 'n lân oth frynti i gŷd,
Ond gado ym-mhryd dy feie.
Jer. 3.12.
O byddi di difeiriol,
Mae 'n addo bôd yn rassol,
Diddig, tirion, mwyn, a
Hael. Rhuf. 5.1.
ffri,
A byth â thi 'n heddychol.
Mae 'n addo dy lwŷr olchi,
Oddi wrth dy feieu ath frynti,
Esa. 1.18.
Yngwaed ei fâb (o cofia hyn)
Ath droi mor wynn at Lili.
Dal afel
Siccr.
suwr fel Christion,
Ar hyn o addewidion:
Nêf a daer ânt heibio (clyw)
Mar. 24:35.
Cyn torro Duw
Addewi­dion. Rhuf. 12.9
bromeison.
Casâ dy bechod oflyd,
Fel neidir gâs wenwynllyd,
Sy'n ceisio 'th ladd o gysgod llwyn,
Dan gêl, a dwyn dy fywyd.
Na ddere ir mann lle gallo,
Dihar 4.14, 15.16.
Dy bechod taer dy hudo,
Dos:
Passa heibio, neu dro 'n d'ôl,
Na ddôs fel ffôl ith demptio.
Or doi ar draws y neidir,
A cholyn hon feth frathir:
O doi 'n rhy agos at y tân,
Dihar. 6.27, 28.
Medd scrythur lân feth loscir.
Gan hynny ymgadw arnad,
Rhag tramwy lle bo 'r
Profedig­aeth.
temptiad:
Gwell it droi nâ mynd ir mann,
Nid wyt ond gwann ac anllad.
Na thro at bechod eilwaith,
2 Pet. 2.20, 21, 22.
Fel ci neu fochyn diffaith,
Y rêd ir dom yn frwnt ei fri,
Yn ôl ymolchi vnwaith.
Na ddilyn ddrwg gyfeillach,
Dih. 24 1.
Ath
Yrro.
helo 'n ffolach ffolach:
Ni thâl ceisio troi at Dduw,
Nes gado 'r cyfryw ffrythnach.
A glŷn wrth bobol dduwiol,
A
Craffa. Psal. 119.63. Phil. 3.17.
Marca eu ymddygiad grassol;
Da a difyr yw 'r fath wŷr,
Ith ddwyn ir llwybyr nefol.
Psal. 51.10
A chais gan Dduw trwy weddi,
Dy droi oddiwrth ddrygioni,
Ath gyfrwyddo tra fech byw,
I garu Duw a'i ofni.
A nâd ir fâll dy ddallu,
Ath annog mwy i bechu:
Sathra. Rhuf. 16.20. Dat. 12.11
Damssing Satan dan dy draed,
Trwy rinwedd gwaed y Jesu.
Na ddere at y Meddwon,
Rhag newid dy aiferion,
Fel y newid y môr glâs,
A heli flâs yr afon.
Ymâd â phôb cyfeillach:
Ath helo 'n annuwiolach:
Tynn oddiwrthynt, casâ eu ffyrdd,
Fef
Pyg.
pitch y nyrdd dy gadach.

Cynghor i gredu yn Grist, a dangosiad o'r ne­widiad rhyfeddol sydd yn y dyn a gretto.

Luc. 14.16 hyd y 25.
CRêd yn Ghrist, llef am dy geidwad,
Mae Duw 'n cynnig Christ i fagad;
Derbyn Grist, pan y cynnico,
Onis gwnei ti fyddu hebddo.
Y dŷn a gretto yn Ghrist yn brûdd,
Trwy galon rwydd a bywiol ffydd,
2 Cor. 5.17.
Mae Christ yn rhoi i hwnnw râs,
I fyw fel sant o hynny maes.
Jo. 7.39. Gal. 5.22.
Mae Christ yn rhoi ei yspryd iddo,
I ail eni a'i ail lunio,
Ai lwyr droi yn ddŷn o newydd,
O
Gwrthry­felwr.
rebel ffôl yn blentyn vsudd.
Mae 'n rhoi ei air i wir oleuo,
Mae 'n rhoi ei râs i gynnorthwyo,
Mae 'n rhoi ei yspryd i reoli,
Mae 'n rhoi ei hun yn bôb peth inni.
Nid oes lûn i ddŷn wrth hyn,
Y gretto yn grys yn Jesu gwynn,
Na chaffo râs a grym oddiwrtho,
Jo. 15.5.
I fyw fel sant, os crêd ef ynddo.
Mae crêd yn tynnu grâs a gallu,
Act. 15.9.
Oddiwrth Ghrist ir dŷn ddifaru,
Am bob bai o'i fuchedd aflan,
1 Jo. 3 3.
A byw fel sant o hynny allan.
Oni bydd dy ffydd yn tynnu
Grâs O Grist, ith adnewyddu;
Jac. 2.14.
Dy ffydd sydd ffalst, ni thâl hi ddimme,
Nes tynno hi râs i wella 'th feit,
Mae bywiol ffydd yn tynnu grâs,
A grym O Ghrist, O hynny maes,
2 Cor. 5.17
I roi heibio bob hên grefydd,
Ac i wneuthur ôll o newydd.
Er creuloned a fo'th nattur,
Er bychaned a fo'th synwyr;
Crêd yn Ghrist a galw arno,
F'all dy wella 'r awr y mynno.
Er creuloned oedd y
Ceidwad y carchar.
Iailer,
Er bod Saul yn filain sceler,
A Manasses gwaeth nag hwynte,
Fe gwnaeth Christ hwy 'n saint or gore.
Fe'th wna dithe o bechadur
Oflyd, aflan, drwg dy nattur,
Ezek. 36.25.
Yn wir sant, os credu ynddo,
A thynny grâs a grym oddiwrtho.
1 Tim. 1.12, 13. Luc. 7.39, 50.
Fe wnaeth Christ o hên herlidiwr,
Saul, yn ebrwydd yn bregethwr;
Ac o'r wreigin ddrwg dros ben,
Y gigfran ddu, yn glommen wenn.
Crêd yn Ghrist â chalon gywir,
Fe wella Christ dy naws ath nattur:
O fâb ir fall fe'th wna di 'n gristion,
O elyn Duw yn blentyn grasslon.
Na thyb dy fod yn credu 'n gywir,
Oni newid Christ dy nattur:
Y dyn y gretto yn Ghrist yn ffyddlon,
Fe newid Christ ei ddrwg arferion.
Cenfydd Saul, a chenfydd Zache,
Cenfydd Mari Magd'len hithe,
Di gei weled Christ yn
Newid
altro,
Buchedd pob dyn pan y cretto.
Er bod Saul fel Blaidd y bore,
Cyn credu yn Ghrist yn difa 'alle,
Fe wnaeth Christ cyn cenol dydd,
Y Blaidd yn oen, pan trowd ir ffydd.
Luc. 19.
Cyn i Zache fynd yn gristion,
Roedd e'n pilo pawb o'r tlodion:
Gwedi credu fe rows Zache,
Ran ir tlawd o'r maint y fedde.
Er i Fagdlen fŷw 'n rhyfygus,
Cyn credu yn Ghrist, a phechu 'n rhwyfus,
Fe fu Fagdlen ar ol credu,
Fyw fel Santes nes ei chladdu.
Felly dithe a newidij,
☞Dy arferion ond it gredu:
Nes newidiech dy arferion,
Nid yw'th ffydd ond
Ond tyb câs.
phansi ffinion.
Ffydd heb weithred dda 'n ei dilyn,
Jac. 2.
Sydd ffydd farw, ffydd heb eulyn,
Ffydd i'th ddallu, ffydd i'th dwyllo,
Ffydd sydd barod i'th gondemnio,
Ni bydd tân heb wres lle bytho,
Ni bydd dwr heb wlybrwydd ynddo,
Ni bydd 'fallen dda heb fale,
Gal. 5.6.
Na bywiol ffydd heb fywiol ffrwythe.
Os dywed vn ei fôd ê'n credu,
Ac heb wella ei feie er hynny,
1 Jo. 3.6, hyd 11.
Nid oes dim ffydd gan hwn, ond ffrôst,
Yn twyllo 'i hun yn daran dôst.
Ni all dyn sy'n credu 'n ffyddlon,
Jo. 7.39. Gal. 5.22.
Lai nâ gwella 'i ddrwg arferion,
Waith bôd Christ yn rhoi 'lân yspryd,
Ir pechadur 'wella ei fywyd.
Nâd dy dwyllo ddrwg ddyn aflan,
Lle bo ffydd mae buchedd burlan:
Od yw dy ffydd yn talu ei gweled,
Moes ei dangos wrth dy weithred.
Jac. 2.18.
Onid yw dy ffydd yn fywiol,
Yn dwyn gair a gweithred rasol,
Nid yw hon ond ffydd mewn enw,
Ffydd na ddichon byth dy gadw.
Jac. 2.14.

Cynghorion yn cyfarwyddo dyn, pa fôdd a daw ef i fyw yn ol ewyllys Duw, neu 'n ddeddfol.

Y Neb a fynno fyw yn ddeddfol,
Yn ôl gwllys ei Dâd nefol,
Dihar. 1.10, 15. Ps. 26.4, 5.
Cynta peth sydd raid i wneuthur,
Tynnu o blith y drwg weithredwŷr,
A rhoi fynydd ddrwg gwmpniaeth,
Yn dragywydd heb ddim hiraeth,
Megis Moesen
cyfeillath Heb. 11.27. Gen. 12.1, 4.
gwmpni 'r Aiphtiaid,
Lot ac Abram y Caldeaid.
Fel y tâg y gwûg y gwenith,
Fel y sura fineg lefrith,
Dihar. 22.24, 25.
Fel y nyrdda pyg dy gadach,
Felly 'th nafa drwg gyfeillach.
Gwachel neidir rhag dy frathu,
Gwachel
chwarren
blâg rhag dy ddifethu:
Ac o ceri iechydwriaeth,
Gwachel ddilyn drwg gwmpniaeth.
Tynn o Sodom, dere allan,
Rhed o blith y bobol aflan:
Gâd oferwyr, cadw d'enaid,
Tynn o blith yr anffyddloniaid.
Tra fu Foesen gydâ 'r Aiphtiaid,
Tra fu Abram gydâ 'r Siriaid,
Sef yn y fâth fôdd ogoneddus, ag y gwna­eth ef ar ol hynny.
Ni'mddangossei 'r Arglwydd iddynt,
Nes eu tynnu 'mhell oddiwrthynt.
Rho gwmpniaeth plant y fall,
Heibio 'n ebrwydd o dwyd gall
2 Cor. 6.15
Ni bydd cydfod rhwng Duw 'r heddwch,
A chyfeillion plant tywyllwch.
Gwedyn dilyn brûdd gyfeillach,
Pobol dduwiol, ddoeth,
Ddirwy­styr. Dihar. 13.20.
ddianach,
Rhai y ddyscant itti nabod,
Y gwir Dduw a'i ofni 'n wastod.
Tra fu Saul yng-hwmpni Samuel,
1 Sam. 19.24.
Fe aeth Saul yn sant o gythrel:
Tra fu e'n dilyn pobol ddiffaith,
F'aeth y sant yn gythrael eilwaith.
Dilyn Brophwyd, fe'th oleua,
Dilyn Athro, fe'th gyfrwydda,
Dilyn Sant,
Fel offe­ryn yn llaw Dduw ir pwrpas hynny.
fe'th wna di'n sanctaidd;
Dilyn ffol ti ddeui 'n ffiaidd.
Gwedyn canlyn ar dy liniau,
Psal 25.4.
Ar Dduw ddangos it ei lwybrau,
Ath lwyr droi yn dra awyddus,
Psal. 119.176.
O bôb llwybyr traws twyllodrus.
Nes goleuo Duw dy lygaid,
Eph. 5.8.
Nes dadfywio Christ dy enaid,
Ni chanfyddu ffordd y bywyd,
Mwy nâ'r dall yr haul-wen hyfryd.
Cymmer lantern Duw 'n dy law,
I'th oleuo ymma a thraw;
Nid aiff neb i dir y bywyd,
Heb oleuni 'r Scrythur hyfryd.
Gwna 'r peth archo 'r fengyl itti,
Paid a phob peth na boi 'n erchi;
Jac. 1.22.
Hi'th gyfrwydda fynd o'r diwedd,
I gael bywyd a thrugaredd.
Gwedyn gwachel yn ystyriol,
Rhag byw 'n ôl dy 'wllys cnawdol,
Ruf. 8.13.
Nac wrth fôdd dy galon gynnil,
Ond yn ôl goleuni 'r fengyl.
Ac or ceisii gael derchafiaeth,
Gras, a dawn, a iechydwriaeth,
Dewis, dilyn, cerdd heb golli,
Psal. 128.1
Y ffordd a ddysco 'r Arglwydd itti:
Hi fydd cyfyng ar y dechre,
Mat. 7.13.
A gwrthnebus ith drachwante:
Ar y diwedd hi fydd esmwyth,
Ith ddwyn at Grist yn ddisymwyth.
Mat. 11.30
Ffordd i ddestryw sydd yn wastad,
Ac yn esmwyth ei dechreuad:
Dihar. 14.12.
Ond yn niwedd ffordd annuwiol,
Y mae 'r pwll a'r ffoes vffernol.
Datc. 2.10 Deut. 5.32.
Gwedi dechreu 'r ffordd trwy rinwedd,
Prawf i dilyn hyd y diwedd;
Ac na chytgam droi oddiarni,
Nes dy ddwyn i wlâd goleuni.
Nid wyt nês er dechreu 'r
Daith.
shiwrne,
A throi gwedyn at dy feie:
Nid oes
Addewid
Bromais gael y goron,
Heb barhau, hyd Angeu 'n ffyddlon.
Fe ddechreuodd Saul & Suddas,
Heb. 10.38, 39.
Fynd tu ar nêf ar drot fel Demas,
Waith deffygio cyn diweddu,
F'aeth y tri ir poeth garchardy.
Mat. 11.29.
Dilyn Grist ar air a gweithred,
Troeda 'r ffordd y fu e'n gerdded;
Gwna 'r peth archwys yn y scrythur,
Ni throi droedfedd dros y llwybyr.

Galarnad Pechadur.

O Arglwydd Tâd diddanwch,
Clyw gwynfan a difeirwch,
Hên Bechadur gwael ei
Gyslwr.
gâs,
Sy 'n deisyf grâs a heddwch.
Mi'th ddigiais di mor greulon,
Fy nhâd a'm Harglwydd tirion,
Fel na baidd fy 'nghalon drom,
Droi attad o'm golygon.
Gan hynny am pen ir ddaiar,
Luc. 18.13
Fel Publican edifar,
Jr wi dy annuwiolaf was,
Yn crio am râs a ffafar.
A'th ffafar wi 'n ei ofyn,
Er mwyn fy mhrynwr purwyn,
Y fu droswi ar y groes,
Yn godde loes escymmyn.
Ac oni chafi
Faddeu­ant.
Bardwn,
Er mwyn ei loes ai
Ddiodde­faint.
Bassiwn,
F'orfydd arnai fynd yn
Ebrwydd.
bost,
I uffern dôst ai
Carchar dwfn.
Dwngiwn.
Os Arglwydd er yn blentyn,
'rwi 'n pechu 'n dôst ith erbyn,
Heb wneuthur prîs oth Gyfraith gaeth,
Ond byw yn waeth nag un-dyn.
Dy Enw mawr y geblais,
Dy Scrythur a ddirmygais,
A'th Efengyl gywir iach,
Fel chweddel gwrach y brissiais.
Y gwerthfawr waed y gollaist,
O'th galon pan i'n prynaist,
Wi'n ei dyngu ddydd a nôs,
Heb brisio 'r loes a gefaist.
Dy Sabboth a'th ddydd Sanctaidd,
Y dreuliais innau 'n ffiaidd,
Mewn cyfeddach, meddwdod brwnt,
A maswedd tu-hwnt i weddaidd.
Pan bo pawb ar eu gliniau,
I'th foli nôs a borau,
Mewn rhyw dŵll yn chwareu 'r Cnâf,
Och! och! y byddaf innau.
Psal. 19.10
Er bôd dy Air mor felus,
Ar mêl ir enaid iachus,
Chwerwach oedd gen inne ei flâs,
Na'r wermwd câs gwrthnebus.
Godineb a Phutteindra,
Fel ûn o blant Gomorra,
Fûm i yn eu ddilyn cŷd,
Nes mynd or bŷd gan mwya.
I Hysyd ai charawsio,
A sugno tarth Tobacco,
Fu fy swydd dros ennyd fawr,
Gwae finneu nawr ei gofio.
Fy ieungctid mewn oferedd,
Rhwyf, rhyfyg, ceccra [...], coegedd,
Y lwyr dreuliais gydâ mam,
Heb feddwl am fy niwedd.
Yr rwân ar fy niwedd,
Ni welai 'n well fy muchedd,
Nâ'r pryd gwaetha 'rioed or blaen,
Os dweda i'r
Eglur.
plaen wirioned.
Gan hynny rwi 'n rhyfeddu,
Pa fodd yr wyt ti 'n gallu,
Goddeu cŷd fy mhechod taer,
Heb bery'r ddaer fy Llyngcu.
Os nid oes
Nem­mawr.
mawr o feiau,
O frynti a chamweddau,
Nad wyf ynthynt lawer pryd,
(Gwae finnau) hyd y clustiau.
Oni bai fôd dy Nattur,
Yn rasol tu-hwnt ei fesur,
Yn uffern goi, cyn hyn yn rhôst,
Y byssei 'n dôst fy nghysur.
Os Arglwydd 'r wi'n cyfadde,
Im haeddu er ys dyddie,
Fy nhorri 'n
Gwbl.
gwitt o blith y byw,
Waith cymmaint yw fy meie.
Oni bai fôd dy fawredd,
Yn rasol tu-hwnt i ryfedd,
Gwann-obeithio 'n gwitt y wnawn,
Fel Cain, na chawn drugaredd.
Ond dymma sy'm
Cysuro.
cymfforddi,
Pan byddwi mron ymdorri,
Fôd trugaredd Duw ai râs,
Yn fwy nâ'm câs ddrygioni.
Fy meiau sy'n cyn amled,
A
Tywod
Sownd y môr er maned,
Ond dy ras sydd gan-mil mwy,
Na'r môr sy'n hwy 'n amgyffred.
Gan hynny rwi 'n
Y dyn a gretto yn Grist, ac a ddychwelo oddiwrth ei ffrydd ddrygionus a ddichon obeithio felly, Rhuf 5.15. Jo. 3.36. Esay 55.7. Ond nid oes sail yn y Scrythur, ir dyn sy'n ymroi i fynd rhag­ddo yn ei gamwe­ddau obei­thio felly: Nac edry­ched hwn­nw ond am farn, Psal. 68.21. Luc. 19 27
gobeithio,
Lle cafas pechod
Deyrnasu.
raino
Y caiff dy rwydd ath nefol râs,
Ar bechod câs
Orchfygu.
gongcwero.
Di fuost Dduw trugarog,
I bechaduriaid enwog:
Na fydd waeth i minne am râs,
Bechadur câs
Anhappus.
anffodiog.
Pan trows y Ninifiaid,
Oddiwrth eu beie afrifaid;
Er cymmaint oedd eu pechod câs,
Hwy gawsont râs eu llonaid.
Er cynddrwg oedd Manasses,
Y gwaetha 'rioed y glywes:
2 Chron. 33.
Fe gas gennyd
Faddeu­ant.
bardwn mwyn,
Yn ol ei gŵyn a'i gyftes.
Psal. 32.5.
A Dafydd brophwyd ynte,
Er amled oedd ei feie;
Pan y llefodd am dy ras,
Yn rhwydd fe gas eu madde.
Luc. 7.37.
Fe gafas Mary Magdlen,
Tr oedd yn y wraig hon ffydd a newydd­deb buch­edd gyda thristwch am ei phe­chod. Luc. 15.
Yn ol hir chwareu 'r butten,
Wrth wylo 'n hallt y dagrau dŵr,
Dy râs a'th ffafwr lawen.
Pan trows y mab afradys,
Tuag attad yn ei vn-crys,
Fe gas gwedi chwareu 'r ffôl,
Dy ras yn ôl ei 'wllys,
A minneu sy 'n gobeithio,
Er immi 'n dost dy ddigio,
Y câf er mwyn fy mhrynwr
Mwyn.
gwar,
Dy ras ath ffafar etto,
A 'th ffafar wi 'n ei
Geisio.
fegian,
Yn daer, yn dôst, yn druan,
Er mwyn Jesu nôs a dydd,
Ar dagre o'm grûdd yn
Diferu.
dropian,
O! cofia Arglwydd cyfion,
I Grist fy Mhrynwr tirion,
Offrwm droswi yn
Jawn.
syr-had,
Ar grog-pren, waed ei galon.
A chofia iddo dalu,
Dros f'enaid i 'r pryd hynny,
Y cûr, a'r poen, a'r angeu, a'r bri,
Ag oeddwn i yn haeddu.
O moes gan hynny bardwn,
Er mwyn ei loes ai
Ddiodde­faint.
bassiwn,
Ac er ei gûr ai waedlyd chwys,
Na chais ail
Iawn.
Satisffactiwn.
Ond maddeu 'n rasol immi,
Fy meiau ôll a'm brynti,
A gosch yn llwyr fy mhen a'm traed,
Yng werthfawr waed ei
Arche­llion. Esay 1.18 Datc. 1.5.
well.
Er bod fy mai cyn goched,
Ar pwrpl coch neu 'r scarled,
Dafn.
Droppym bach o'i waed er hyn,
A'm gwna mor wyn ar
Gwisc pen gwraig.
foled.
Gan hynny mae fy hyder,
Ar Grist, a'i waed, a'i fwynder,
Y caf genyd, yn ddi-nag,
Drugaredd ag esmwythder:
A dwyn at Grist yn gymmwys,
Fy enaid i Baradwys,
I gael rhan ym-mhlith dy Saint,
O'r nêf, ar maint y brynwys.
Ir hon o'th râs a'th fawredd,
Duw dŵg ni ôll o'r diwedd,
I'th foliannu fyth bob awr,
Am dan dy fawr drugaredd.
Ir Tâd, ir Mâb, Yspryd,
Ir Drindod, Vndod hyfryd,
Y bo clôd a moliant mawr,
Bob dydd, bob awr, bob ennyd. Amen.

Cynghorau Duwiol.

F'Anwyl blentyn,
Tyred.
dere nês,
Gwrando gyngor er dy lês,
Prawf i ddilyn tra fech byw,
Or ceisi fynd i Deyrnas Dduw.
Ofna Dduw tra bywyd ynod,
Jer. 29.13.
Parcha ei Enw mawr yn wastod,
Galw arno â'th holl galon,
Gwrando ei Air, a chadw ei orchmynion.
Cymmer Air Duw yn wastadol,
Yn Gynghorwr ac yn rheol,
I reoli dy holl fywyd,
Ym-mhob gorchwyl a fo gennyd.
Dyna'r Lantern a'th oleua,
Dyna'r Athro a'th gyfrwydda,
I wachelyd pôb drygioni,
Ac i'th ddwyn at Dad goleuni.
Gwachel wneuthur mawr na bychan,
Yn ôl d'wllys ffol dy hunan,
Y mae pechod gwedi
Sef ewy­llys dyn.
llygru,
Nes cael grâs i hadnewyddu.
Praw gan hynny ffrwyno
Dy dyb, a'th fedd­ylfryd. Rhuf. 8 7. Tit. 3.3.
phansi,
Ffiaidd gantho bôb daioni,
Nes del gair Duw i'th gyfrwyddo,
Pob peth drwg sydd felus gantho.
Gwachel bechod er bychaned,
Colyn Sarph sydd dan ei shiacced:
Digry­fw [...]h.
Plesser byrr a bair hir
Tristwch
alaeth,
Cyflog pechod yw
Damne­digaeth.
marwolaeth.
Or cas Adda gymmaint ddial,
Am fwytta tammaid bach o Asal,
Duw pa faint y fydd dialau?
'Sawl sy'n byw ar gyfryw
Sef pe­chodau gan ymborthi arnynt.
falau.
O
Digwy­ddodd.
bu Siawns id' bechu unwaith,
Gwachel byth rhag pechu 'r eilwaith:
Nid oes iawn am bechod bychan,
Ond gwaed calon Christ ei hunan.
Tro 'ddiwrth bechod, na ddymchwela,
Câs yw'r ci a fwytto ei hwdfa,
Ail yw hwn ir mochyn diffaith,
'El or dwr ir dommen eilwaith.
Deut. 1.37
O dehorwyd Mosen fwyn-lan,
Am un pechod 'fynd i Ganan,
Bwedd na rwystrir pobol ddiffaith,
Fynd ir nêf am bechu ganwaith?
Casa falchder megis Neidir,
'Ymdderchafo, fe ostyngir:
Yn ol balchder y daw cwdwm,
Dihar. 16.18
Balch ei droed a
Gwymp. 2 Pet. 2.4. 1 Tim. 3.6
drip ir cawdrwm.
Os taflodd Duw yr Angel penna,
Am ei falchder ir pwll issa;
I ble taflir llŵch a lludw,
Y falchio 'n waeth nâ hwnnw?
Byth na chwennych welŷ arall,
Rhwn ai gwnel nid yw ond angall:
Y neb y sango ar y poeth-dan,
Dihar. 6.28, 29.
Nid oes lûn na loseo ei waddan.
Os câs Pharo blâg mor greulon,
Gen, 12.17.
Am chwenych Sara yn ei galon,
Pa fáth blag a dial caled,
Gaiff y sawl y wnelo 'r weithred?
Gwachel dyngu dim ond ie,
Mat. 5.37.
Or diawl y daeth yr ofer lwe:
Melldith Dduw fel mwg y leinw,
Zech. 5.3, 4.
Y ty lle cablir Duw a'i enw.
Os
lladdwyd
Mwrddrwyd Senna-chrib y
Y digred.
Pagan,
Am gablu Duw o lêd ei safan,
Bwedd y diangc y Christnogion,
Y gablo Christ a gwaed ei galon▪
Esa 37.38 Exod. 31.14.
Er dy fywyd parcha 'r Sûl,
Dere ir Eglwys, gwrando, gwŷl:
Galw ar Dduw, a gado 'r pottian,
Na wna 'r Súl yn wyl i Satan.
Os pwyodd Duw â'r fâth
Laddfa.
ddihenydd,
Y dŷn ddyd Sûl am gasglu briwydd:
Num. 15.35, 36.
Bwedd y pwya bedwar ascwrn,
Y dreulio'r Sûl yn waeth nâ'r Sadwrn.
Na cham attal ddim o'th ddegwm,
Na ddarnguddia ddim o'th offrwm:
Rwytti 'n Speilio Duw 'r diale,
Wrth ddarnguddio dy ddegymme.
Mal. 3.8, 9, 10, 11, 12
Melldigedig ym-mhob rhyw,
Ydyw 'r dyn a Speilio Dduw:
Cauad.
Stoppi'r nêf, ar ddaer, ar llafyr,
Y mae pawb or cam ddegymwyr.
Casâ feddwdod yn dy fywyd,
1 Cor. 6.10 Esay 5.11.14.
Nid â ir nêf yn meddw chwdlyd:
Vffern goi sy'n lledy safan,
Am gael llyngcu 'r meddw aflan.
Gen. 25.34.
Or daeth Esau mor ddannodus,
Am werthu fraint am
Phiolaid o Gawl.
fes o bottus
Pa ddannodiaeth ddaw i'n meddw,
Wertho 'r nêf an bot o gwrw.
Deut. 23.19
Na fydd gybydd, na fynn occor,
Cist ir hael yw 'r cybydd
Brwnt, Dih. 28.8.
angor:
A gasclo 'r Tâd trwy gybydd-dra,
Mâb asradys a'u
Gwasca­ra. Luc. 18.25
gwastraffa.
Haws i gamel fynd yn fuan,
Ymma a thraw trwy 'r-nodwydd fychan,
Nag ir cybydd anrhugarog,
Fynd i mewn ir nêf oreurog,
Gwachel dreisio nêb or tlodion,
Dihar 22.22, 23.
Christ ei hun yw 'r Jestys cyfion:
Y dreisio 'r tlawd fe bîg llygad
Christ ei hun y cadarn Geidwad.
Ahab frenin am ddwyn gwinllan,
1 Bren. 21 1 Bren 22.34. 2 Bren. 10 7, 11.
Naboth ei gymydog truan,
A gâs golli ei frenhmiaeth,
Llâdd ei blant a'i holl genhedlaeth.
Or daeth Difes dan law Satan,
Am ballu ir tlawd ôi dda ei hunan:
I ba law-ddiawl yr â 'r Gwyr mawrion,
Sy 'n dwyn maint sy'n helw 'r tlodion.
Gwachel ledrad, gwachel dwyllo,
Ni ddaw ennill byth oddiwrtho:
Zech. 5.2, 3, 4.
Lle bo lledrad y bydd aflwydd,
Dial Duw, a dyfal dramcwydd.
Os lladdodd Duw holl dylwyth Aehan,
Am grach guddio lledrad bychan:
Jos. 7.24.25.
Oni ddial Duw ar ladron,
Sy 'n Dwyn maint sy'n helw 'r tlodion?
Gwachel gadw cam fessurau,
Yn dy dŷ nac amryw bwysau:
Micha 6.10, 11.
Ffiaidd câs yw 'r dafal anwir,
Ger bron Duw, a'r pwys anghywir.
Maint ynnillo Dŷn trwy ffalstedd,
Ar y dafal o anwiredd,
Bob ychydig mae ê 'n gossod,
Yn y cŵd a'r pwrs heb waelod.
Byth na chytcam dderbyn
Sef er gwyro barn.
gwabar,
Honno lwngc sy'th helw o heinar:
Ni âd gwabar Ben na chynffon,
Byth yn helw'r plant ar wyron.
2 Bren. 5.27.
Y claf-gwân y gas Gehezi,
Gydâ gwabar mewn
Côd.
bwdgedi;
Am y wabar y mae 'n rhigyl,
Y
Dinistria
handwya hi 'r plant ar Eppil.
Gwachel gelwydd trech ar dîr,
Er dy fywyd dywaid wîr:
Jo. 8.44.
Y cythrel brwnt ar wiber lâs,
Yw tâd a mam y celwydd câs.
Act. 5.5, 10.
Os bu farw Ananias,
Yn ebrw­ydd.
Shioc am ddywedyd celwydd atcas,
A'i wraig hefyd wrth farn Duw,
Câsawn gelwydd tra fom byw.
Na lysenwa nêb er
O her­wydd di­ffig, neu amrhyd­ferthwch.
nam,
Y dwl, na'r dâll, na'r clôff na'r cam:
Duw wnaeth dŷn, a'i lun, a'i liw,
Y gablo ddyn, fe gabla Dduw.
Mat. 5.22.
Os barna Christ ir ffwrnais danllyd,
Y nêb y alwo ei frawd yn ynfyd:
I ble barna 'r nêb sy'n galw
Ei dâd a'i fam, ar gant llysenw?
1 Thess. 5.15.
Na thâl ddrwg dros ddrwg i un-dyn,
Os mynni fôd i Dduw yn blentyn:
Rhuf. 12.20.
Helpa, swccra dy elynion,
Na wna gam ag un-rhyw gristion.
Mat. 5.46
Pa ragoriaeth sydd rhwng christion,
Ar un gwaetha o'r Iddewon,
Os dai dalu drwg dros ddrwg,
Dant am ddant, a gŵg am ŵg.
Gwachel wneuthur drwg ar hyder,
Cael trugaredd pan ith farner:
Deut. 29. [...]8, 19, 20.
Felly cei di farn anrasol,
Fynd dros fyth ir tân tragwyddol.
Os gorfydd atteb pan [...]in barner,
Mat. 12.36.
Ger bron Duw am bôb gair ofer:
B'wedd attebwn; gwae fy nghalon!
Am ein drwg an câs fargeno [...].
Na cham arfer un or donie,
'Roes dy nefawl Dâd i tithe:
Fe ddaw dydd y gorfydd rhoddi,
Am bôb Talent gownt a chyfri.
Os taflodd Christ ir twllwch eitha,
Mat. 25.19, 30.
Y dŷn â'i dalent eisie ei helwa:
I ble taflir
Ben dra mwnwgl. Mat. 25.13
drimbwl, drambwl,
Y gwas y dreulio 'r stoc a'r cwbwl?
Bydd di barod heddyw, heno,
Ag
Olew.
Oŷl ith Lamp, a'th wisc yn
Yn holl­awl ac yn drwssiadys am danat. Mat. 25.10
Cyfrdo,
Fynd o flaen dy farnwr prydd,
Y foru o bossib ydyw 'r dydd.
Os caeodd Christ y porth mor ebrwydd,
Ir sawl
Agos.
ym-mron oedd mewn parodrwydd:
Bwedd y cant hwy borth agored,
Seb ym-gweirio er pan ganed?
Bwrw heibio pôb pibiaeth,
Meddwl am dy Jechydwriaeth:
F'orfyd
Myned.
paccio bawb oddiymma,
Llaill ai 'r nêf, ai 'r twllch eitha.
Ond
Allir my­ned. Luc. 13.2 [...]
aer ir nêf heb ymwthio,
Ac ymdrechu â thraed a dwylo:
B'wedd Spyda 'r nêb sy 'n credu,
Rânt ir nêf wrth chware' a chyscu.
Cyn cael cynglwyst rhaid ymdrechu,
1 Cor. 9.24 Mat. 7.21.
Cyn cael cyflog rhaid gwasnaethu:
Cyn cael nefoedd mae 'n rhaid byw,
Ymma yn gynta wrth 'wllys Duw.
Datc. 2.10 3.12. Mat. 20.8.
Ni ry Christ i nêb o'i goron,
Ond 'ymladdo â'i elynion:
Ni ry i nêb or geiniog fechan,
Ond y weithio dro 'n y wynllan.
Ni thâl dywedyd Arglwydd, Arglwydd,
Ni cheir nêf am eiriau masswydd:
Yn Gristnogaidd forfydd byw,
Cyn 'tifeddir Teyrnas Dduw.
O herwydd hyn 'rwi 'n cynghori,
Pawb a garo 'r nêf o ddifri,
Fyw 'n gristnogaidd ac yn
Bur.
buwr,
Felly cant hwy 'r nêf yn
Siccr.
suwr.
Or daw gofyn pwy a'u cant,
Bugail
Trist.
chwerw, mawr ei chwant,
Rwystro 'r defaid ym-mob dull,
Ar eu pennau fynd ir pwll.

Cyngor i wr ieuangc.

F'Anwyl Blentyn cês dy lythyr
Serchog, Sanctaidd llawn o Synwyr,
Sy'n dymuno cyngor ffyddlon,
Ith gyfrwyddo fyw fel Cristion,
Argol Gras yw 'th weld cyn Janged,
Mor fawr dy chwant, mor brudd dy syched,
I Nabod Duw, i ddyscu 'r Scrythur,
I ddofi 'r Cnawd a
Drwg chwant.
nwyfiant Nattur.
I gyflawnu dy ddymuniad,
Derbyn hyn o gyngor difrad,
I gyfrwyddo dy holl fuchedd.
O'th fabolaeth hyd dy ddiwedd.
Yn dy ieungctid F'enaid cofia,
Preg. 12.1.
Wir wasnaethu Duw gorucha,
Ac addoli dy Greawdwr,
Cyn i wendid waethu 'th gyflwr.
Dechre ddyscu trech yn blentyn,
Nabod Duw a'th Brynwr pur-wyn,
Hoffi Air a chadw ei gyfraith,
Hynny 'th wna yn hen-wr perffaith.
Dihar. 22.6.
Tempra 'th lester tra fo 'n newydd,
A 'r gwîn gwyn o dduwiol grefydd;
Fe arogla hyd dy ddiwedd,
A gwynt peraidd dy lân fuchedd.
Planna 'n gynnar yn dy galon,
Hâd pôb gras a'th wnel yn Gristion,
Rhag i'r gelyn blannu'r efrau,
Eisie i hau â hâd Rhinweddau,
Cais flodeuo yn dra chynnar,
Gydâ 'r
Gwan­wyn.
Spring fel Almond hygar:
Y pren na ddwcco blodau 'r gwanwyn,
Trwy 'r cynhaiaf fe fydd difwyn.
Mae Duw 'n gofyn gan ei dylwyth,
Exo [...]. 22.29.
O flaen pôb peth gael y blaen-ffrwyth:
Ac ni fyn y Duw goruchaf,
Gan ei blant na'r Ail na'r olaf.
Rho gan hynny flaen dy gryfdwr,
I wasnaethu dy Greawdwr:
Ac na ddyro trech yn blentyn,
Flaen ffrwyth d'oes i wasnaethu'r gelyn.
Drwg it roddi 'r Gwîn i Satan,
A rhoi i Grist y gwaddod aflan,
Rhoi dy nerth i
I ryngu bôdd.
blessio 'r drwg-wr,
A rhoi 'th wendid i'th Greawdwr.
Melldigedig yw 'r dyn ynfyd,
A ro i 'r gelyn rym ei fywyd,
Ac na rotho i Brynwr diddig,
Ond yr henaint gwann methedig.
Gwachel arfer ddrwg yn blentyn,
Arfer ddrwg a'th nyrdda 'n Scymmym,
Ac a dry yn ail naturiaeth,
Nes yr elech beunydd waeth waeth.
Os Arferu bechu yn blentyn,
Jer. 13.23.
A dibrisio Duw yn llengcyn,
Yn hên nid haws it wella hyn,
Nag i 'r
Dynion duon.
Moyrys fynd yn wyn.
Rho gan hynny gorph ac yspryd,
Yn dy ieungctid yn dra hyfryd,
I wasnaethu dy Greawdwr,
Ac i ymladd â'th wrthnebwr.
Dan. 1.
Megis Daniel trech yn llengcyn,
Gwrthod wîn a chwrw melyn,
Ac na ro dy fryd ar foethau,
Ond ar nabod Duw a'i ddeddfau.
1 Sam. 3.
Dysc fel Samuel trech yn fachgen,
Sefyll o flaen Duw yn llawen,
Ac ymwrando o Air y bywyd,
Beth y ddywetto 'r Arglwydd wrthyd.
2 Bren. 22.1, 2.
Fel Josias yn llangc bychan,
Rhodia 'n vnion o wyth allan,
A rho 'th fryd ar gadw 'r gyfraith,
Ofni Duw, a byw yn berffaith.
Dysc y Scrythur lân o'th febyd,
2 Tim. 3.15
Megis Timoth yn dra pharffid,
Honno 'th wna di 'n ddoeth annianol,
Yn gristnogaidd ac yn dduwiol.
Dôs fel Christ bôb Sul i'r Eglwys,
Luc. 4.16. Luc. 2.
Gydâ 'th Dâd a'th Fam a'th Fagwys:
Ac o ddeuddeg oedran F'enaid,
Dechre ymddiddan a'r Doctoriaid.
Gwrando 'r 'fengyl, Gwrando 'r gyfraith,
Dysc bôb vn o'r ddau yn berffaith,
A chais fyw yn gynnil cynnil,
Yn ol cyfraith Duw a'i fengyl.
Mewn tywyllwch 'rwyti 'n rhodio,
Cymmer Lantern Duw 'th oleo;
Heb oleuni 'r Scrythur hyfryd,
Nid aer byth i dir y bywyd.
Er bôd Duw yn y nefoedd ucha,
Mae yn ei Air â thi 'n chwedleua,
Ac yn dangos ei holl 'wllys,
Yn y Scrythur itti yn hyspys.
Edrych dithe yn y Scrythur,
Beth a fyn dy Dduw it wneuthur,
Gwna beth bynnag fo 'n orchymyn,
Ac na
Na wna.
fedla fo e 'n wrafyn.
Gwachel dorri 'r Pwnccie lleiaf,
Rhuf. 6.23 Deut. 28.15.
O holl gyfraith Dduw goruchaf:
Y mae 'r lleia 'n haeddu Angeu,
Melldith Dduw, a
Tragywy­ddol. Ezek. 18.4
didrangc boeneu.
Fe fyn Duw y barnwr cyfion,
Am bob pechod y wnel dynion,
Naill ai
Damne­digaeth.
Angeu 'r dyn a becho,
Neu
Diodde­faint.
Angeu Christ yn daliad drosto.
Ac lle pechaist fil o weithe,
Yn erbyn Duw nes haeddu ange,
Edifara am bôb pechod,
Act. 3.19.
A chais bardwn gan y Drindod.
Dihar. 28.13.
Adde 'th Bechod ger bron Duw,
Fawr a bychan o bôb rhyw,
A 'mofydia am dy wegi,
Nes maddeuo 'r Arglwydd itti.
Edifara am dy wendid,
A 'th holl
Drwg chwantau. Luc. 13.3.
nwyfiant yn dy ieungctid,
Oni wylu 'r dwr yn heli,
Duw a'th farna am y rheini.
Jer 31 19, 20. Psal. 32.5.
Ni chas Ephraim nes cwilyddio,
Ni chas Dafydd nes ochneidio,
Fadde nwyfiant ieungctid iddyn,
Nis cei dithe nes eu canlyn,
Gwachel oedi hyd y foru,
Rhag it farw heno wrth gyscu,
Ac i'r Angeu glâs dy lysco,
I'r farn yn llangc, cyn
Ymbara­toi.
ymgweirio.
Mae yn vffern fil o filiodd,
O wyr Ifaingc y
A fwria­dodd.
bwrpassodd,
Yn eu henaint brudd ddifaru,
Heb gael arfod wneuthur felly.
Edifara 'nawr gan hynny,
Ni wyis pwy a fydd y foru,
Cymmer Barchell tra cyniccer,
Rhag nas caffech pan y ceisier.
Ac lle 'rwyt ti 'n pechu beunydd,
Edifara bob diwedydd,
Rhag i'r Dwr sy'n
Yn dyfod i mewn.
sio 'n sceler,
Eeisie ei
ddispyddu
blwmpo soddi 'r llester.
Gwedi gwir ddifaru vn-waith,
Gwachel nyrddo 'th draed yr eil-waith:
Na thro gydâ 'r hwch i'r dommen
A'r ci i fwytta 'th hwd drachefen.
Ond cais ddilyn buchedd newydd,
Eph. 4.22, 23, 24. 1 Pet 1.14, 15, 17.
Trwy sancteiddrwydd a gwir grefydd,
A chall dreulio 'th einioes fychan,
Mewn duwiolder prudd ac ofan.
Dôd dasg arnad nôs a boreu,
Foli Duw ar ben dy linieu:
Nad ddiwarnod fyned drosod,
Psal. 55 17
Heb addoli 'r sanctaidd Drindod.
Ac i 'th helpu fynd yn dduwiol,
I orchfygu nwyfiant cnawdol,
Psa. 19 7, 8 Rhuf. 8.13, 14.
Cymmer gyfraith Dduw i'th ddysgu,
A 'i lân yspryd i 'th gyfnerthu.
Cyfraith Dduw sydd daran rymmus,
I droi 'r enaid cyfeiliornus,
Ac i roddi dysg a deall,
Psal. 119.9, 104.
I'r rhai Jfaingc annoeth, angall.
Gwna beth archo 'r gyfraith itti,
Gwrando 'r cyngor y foi 'n roddi,
Os dilynu 'r gyfraith gyfion,
Hi'th wna 'n ddoethach nâ'th Athrawon.
Cadw afel siccir yndi,
Plŷg dy warr, ymostwng iddi,
Hi ry râs a pharch a phwer,
O'i chadw hi mae gwabar lawer.
Psa. 19.11.
O'r arferu fyw yn berffaith,
Nawr yn llangc yn ol y gyfraith,
Fe fydd hawdd trwy fawr lawenydd,
It fyw'n sanctaidd yn dragywydd.
Anrhydedda Dduw dy dadau,
1 Sam. 2.30.
Duw a'th anrhydedda dithau,
Os dirmygu di ei wasnaethu,
Fe ddirmyga dy ddiwallu.
Os gwasnaethu Dduw yn blentyn,
Duw 'th wasnaetha dithe 'n hen-ddyn,
1 Bren. 17.16.
Ac a bair i'r brain dy borthi,
Cyn bo arnad fawr galedi.
Ni 'th ddanfonwyd i'r byd ymma,
I wasnaethu 'r byd na'r bola;
Esay. 43.7
Ond i wasnaethu Duw yn weddaidd,
Fel y gwna'r Angelion Sanctaidd,
Ps. 139.18.
Pan y coedch gynta o'th wely,
Cofia Dduw a chwymp i wasnaethu,
Ac na ddôs o'th stafell allan,
Nes ei addoli â pharch ac ofan.
Er Maint a fo dy fusnesson
Achosion.
,
A'th
Gofidiau.
glamwri, a 'th orchwylion,
Na ddôd law ar un o 'r rheita,
Nes addoli Duw yn gynta:
Jer. 10.25
Ni bydd llwyddiant, ni bydd llonydd,
Ni bydd comfford, na llawenydd,
Lle bo trafferth o bob rhyw,
Heb ddim pris am foli Duw.
Dan. 6.10.
Er bod busnes fawr gan Ddaniel,
Yn y
Llys.
cwrt dan Frenin Babel,
Tair gwaith beunydd y gweddie,
Yn ei stafell ar ei linie.
Pan yr elech o'r drws allan,
At vn gorchwyl fawr na bychan,
Cais gan Dduw dy brudd fendithio,
A rhoi rhâd ar waith dy ddwylo.
Gen 39.3 Dan. 6.3.
Fel y llwyddodd Duw orchwylion,
Joseph gynt a Daniel dirion,
Felly llwydda d'orchwyl dithe,
Os gweddii arno 'n ddie.
Ple bynna bech, beth bynna wnelech,
Ai da, ai drwg y mann y mynnech,
Duw 'mhob mann sy'n disgwyl arnad,
Psal. 139.7
Gwachel bechu yng-wydd ei lygad,
Gwna i eraill bôb daioni,
Yddymynyd wneuthur itti:
Mat. 7.12.
Na ro i arall waeth fesurau
Nag a fynit roi i tithau.
Na wna weithred er dy gyffro,
Na bo Duw yn
Yn rhoi rhydd-did
warant iddo,
Ac na allech yn ddi-wawd,
Gyfri am dano ar ddydd
Barn.
brawd.
Gwna 'r Duw byw yn wîr Dduw itti,
Ac yn
Osalus.
garcus cais i addoli,
Galw arno, a molianna,
Felly yn wastad fe 'th ddiwalla.
Psal. 34.10
Gwachel gymryd ar vn amser,
Enw 'r Arglwydd mawr yn ofer:
Cans nid gwirion gantho hwnnw,
Gam arfero ei sanctaidd enw.
Treulia 'r Sabboth ôll yn llwyr:
Mewn sancteiddrwydd fore a hwyr,
Ac na ddoro ran na chyfran,
O ddydd Duw i
Ryngu bôdd.
blessio Satan.
Anrhydedda dy Rieni,
Parcha,
llawenhâ
llonna, swccra rheini,
Felly hestyn Duw dy ddyddie,
Ac y parcha d'eppil dithe.
Gwachel gytcam ddigalonni,
Na rhoi ammarch i'th Rieni:
Odid gweled diwedd dedwydd,
Dih. 16.18. Dih. 30.17
I Ferch falch neu fâb anvfydd.
1 Thess. 4.3, 4. 1 Cor. 6.15
Gwachel rhag godineb ffiaidd,
Cadw'th gorph yn lester sanctaidd:
Ac na wna er golud Rhufain,
Aelod Christ yn Aelod puttain.
Gorwedd gydâ'th wraig dy hûn,
Na chais arall wrth dy
Chwant.
wŷn,
1 Cor. 6.19
Ac na chytcam wneuthur Temel,
Yspryd Duw, yn wâl i'r cythrel.
Esay 28.1, 7, 8. Dihar. 23.29, &c.
Er mwyn Iesu gwachel feddwdod,
Gwaeth yw hwn nag vn rhyw bechod:
Mae 'n troi dyn i gyflwr cythrel,
Vgain gwaeth nag vn anifel.
Mat. 22.39.
Câr â'th galon bôb rhyw ddyn,
Fel y carech di dy hun,
Ac na wna i vn dyn niwed,
Ar air, meddwl, nac ar weithred.
Gal. 6.10.
Gwna i bôb dyn ore ac allech,
Gwna yn ffyddlon 'r hyn a wnelech:
Ond na chytcam er mwyn vn dyn,
Wneuthur dim a fo Duw 'n
Yn gwa­hardd. Deut. 5.32
wrafyn.
Gâd i Gyfraith Dduw 'th reoli,
Ym-mhôb gorchwyl y so itti:
Nid oes vn rhyw orchwyl perffaith,
Ond yr vn sy'n ôl y gyfraith.
Cofia f' enaid nâd oes genyd,
Ddydd
Siccr.
certennol ar dy fywyd:
Treulia bob dydd mor ddigamwedd,
A pha bae ef ddydd dy ddiwedd.
Cofia 'r Nôs dy waith y dydd,
Lle gwnaethost gam, gwna iawn yn
O ddifrif yn brysur.
brûdd,
O digiaist Dduw cais
Maddeu­ant.
bardwn gantho,
Os cefaist râs rhô foliant iddo.

Cynghor i wasanaethu Duw.

Y Sawl y fynno gael esmwythder,
Llwyddi­ant daiar­ol, a rhydd­had rhag aflwydd bydol, y gaiff y du­wiol, cyn belled ac y bo hynny er daioni iddynt. Psa. 34 16. 1 Tim. 4.8.
Llwyddiant, Heddwch, Cyfoeth, Cryfder,
Parch a ffynniant tra font byw,
Cwympent i wasnaethu Duw.
Y neb a fynno ddiangc hefyd,
Rhag trallodion tôst ac adfyd,
Nychdod, niwed, anhap, aflwydd,
Cwympent i wasnaethu 'r Arglwydd.
Dlyed pôb dyn tra fo byw,
Ydyw prûdd wasnaethu Duw,
Trwy lwyr gadw ei orchmynion,
Ar bob pryd o 'wllys calon.
Rheita gorchwyl, penna Gweithred,
Mwya ei ennill, gore ei wargred
Gweddill
,
Suwra ei wabar tro dyn byw,
Ydyw
Pryssur.
prudd wasnaethu Duw.
Dyna 'r vnig waith a bwyntiwyd,
I bawb wneuthur pan ein creuwyd:
Dyna 'r gwaith y gorfydd cyfri,
Dosta am dano ddydd ein
Cyfyngder
didri.

Beth yw gwasanaethu Duw.

Gwrando 'r Gair a chadw 'r Gyfraith,
Jac. 1.18, 19. Deut. 10.12, 13. Mat. 1.15. 1 Joh. 1.6, [...].
Credu 'r Fengyl yn ddiragraith,
Byw yn ol ei gwir oleuni,
Yw gwasnaethu Duw o-ddifri.
Gwneuthur y fo Duw 'n orchymyn,
Gwechlyd 'rhyn a fo e'n wrafyn,
Dilyn ei Air tra fom byw
Ydyw gwir wasnaethu Duw,
Dau ryw o wsanaeth, sef crefy­ddol a mo­esol.
Dau ryw o wasanaeth ffyddlon,
Y fyn Duw ar law Pôb christion;
Vn trwy ffydd a chrefydd dduwiol,
Llall trwy foes a buchedd rassol.
Yn grefyddawl rhaid ei wsnaethu,
Trwy wír grefydd a'i foliannu,
Yn gyhoeddus, ac yn ddirgel,
Yn y Tŷ, ac yn y demel,
Lev. 23.3. Luc. 4.16. Act. 20.7.
Yn yr Eglwys yn gyhoeddus,
Ar bob Sabboth yn dra pharchus,
Gydâ 'r dyrfa ar ein glinie,
Ag vn galon, ag vn gene.
Mat. 6.6. Act. 10.30. Deut.. 6.7 Jos. 24.15 Jer. 10.25.
Ar ddydd gwaith mewn stafell ddirgel,
Gydâ 'n tylwyth fel mewn Temel,
Fore a hwyr trwy alw arno,
Gwrando ei Air, a'i wîr fendithio.
Rhaid gwasnaethu Duw yn foesawl,
Trwy lân fuchedd tra christnogawl,
Ym mhôb mann, ac ar bôb achos,
Hyd yr awr ddiwetha o'n heinios.
Deut. 5.32, 33.
Rhaid yw byw yn ddi-esceulus,
Yn ol cyfraith Duw ai 'wllys,
Nid yn ol ein
Dychy­myg, Tyb.
ffansi 'n hunain,
Os gwasnaethwn Dduw yn
Gyfar­wydd.
gywrain.
Rhaid yw dilyn buchedd ddeddfol,
Yn ol wllys ein Tâd nefol,
Luc. 1.74.75.
A rhyngu fôdd, tra fom ni byw,
O'r ceisiwn wîr wasnaethu Duw.
Y neb na wsnaetho Dduw yn brûdd,
Heb. 11 6. Rhuf. 14 23.
Yn ol ei Air trwy fywiol ffydd,
Ni all hwnnw gwnaed ei ore,
Byth foddloni Duw â'i Foese.
Duw y fyn i bôb rhyw Gristion,
Ei wasnaethu â'i holl Galon,
A'i holl Enaid, â'i holl feddwl,
Mat. 22.37. Rhuf. 6.19
A'i Aelodau ôll a chwbwl.
Rho dy Gorph yn Aberth bywiol,
I wasnaethu dy Dâd nefol:
A rho d'anwyl Enaid hefyd,
I Addoli ef yn hyfryd.
Christ a Brynodd Corph ac Enaid,
Ar y groes â'i waed bendigaid,
Mae e'n disgwyl cael ei Addoli,
1 Cor. 6.20
Genym â phob vn o'r rheini,
Ni fyn Duw ein Tâd galluog
Vn gwasanaeth dau-hannerog:
Ond fe fyn ei Addoli 'n hyfryd,
Gan bôb Gwâs â'r Corph a'r yspryd.
Yspryd ydyw Tâd trugaredd,
Ac mewn yspryd a Gwirionedd,
Joan 4.24 Dih 23.6. Mat. 15.8.
Y mae 'n gofyn ei addoli,
O'r tu mewn â Chalon wisci.
Ofer rhedeg dros badere,
O'r tu faes a Geirie 'r Gene,
Oni bydd y Galon hefyd,
Yn gweddio yn yr yspryd.
Nid oes mann ar Gorph vn Christion,
Tu fewn, tu faes, yn oed y Galon,
Na fyn Duw ei lwyr Gyssegru,
O [...]l a chwbwl iw wasnaethu.
Er bod Satan weithie 'n fodlon,
Gymryd genym ran o'r Galon:
Ni fyn Christ na phen na sowdwl,
Mat. 221 37.
Oni chaiff ef ôll a chwbwl.
Rho dy Enaid iw fendithio,
Ac i orfoleddu ynddo:
Psal. 103.1, 2.
Rho dy yspryd i gydnabod,
Faint o bethau wnaeth ef erddod.
Col. 3.2.
Rho dy frŷd ar bethau nefol,
☞Ac na sercha ddim daiarol:
Meddwl am y wlâd y gorfydd,
Aros yndi yn dragywydd.
Rho dy Gorph a'th holl Aelodau,
Rhuf. 12.1
Fawr a bychan yn eu graddau,
Bôb yr vn mewn gweddaidd gyflwr,
I wasnaethu dy Greawdwr.
Rho dy Galon idd ei garu,
Yn ddiragraith a'i wasnaethu,
Ac i lynu 'n ddyfal wrtho,
Gan roi llwyr ymddiried yndo.
Rho dy Dafod iw Glodforu,
Psa 40.10 — 51.1 [...].
Ddydd a nôs ar eitha o'th allu,
Ac i ddatcan ei Ddaioni,
Ym-mhôb tyrfa delech iddi.
Rho dy lygaid i
I ddal sulw.
attendo,
Ac i ddyfal ddisgwyl arno,
Gan eu
Derchafu Psal. 123.1, 2.
drycha tu ar mynydd,
O'r lle daw dy holl lawenydd.
Jac. 1.19.
Rho dy Glûst i wrando 'n barchus,
Ar ei Air, a'i Arch, a'i 'wllys,
Ac i dderbyn yn ddisigil,
Addewidion yr Efengyl,
Rho dy Ddwylo yn awyddus,
Deut. 15.11. Eph. 4.28.
I bob Gweithred sydd ddaionus,
A chyfranna ei fendithion,
Wrth eu rhaid i'th frodyr tlodion.
Rho dy Liniau iw Addoli,
Psal. 95.6.
Ac i 'mostwng iddo o ddifri:
Gan roi parch ac ofan iddo,
Pa le bynna galwech arno.
Rho dy draed i droedo ei lwybrau,
Ac i rodio 'n ffordd ei ddeddfau,
Ac i dramwy yn Gristnogaidd,
Idd i lŷs ai demel
Jos. 22.5 Cynnulleid faoedd ei bobl ef yw Teml Dduw, Heb. 3.6. 2 Cor. 6 16
sanctaiad.
Rho dy Enaid, Rho dy yspryd,
Rho dy Gorph a'th Galon hyfryd,
A phob peth ag y sydd ynod,
Ddydd a nôs i foli 'r Drindod.
Parch
O achos bôd y duw­iol yn y byd hwn yn am-mher ffaith, me­wn llawer o bethau yn llithro, Jac. 3.2 ac o achosbôd Duw a chwant profi eu ffydd, a'u hammyn­edd, ac e­raill eu grassusau hwyrt, y maent hwy yn gy­stal ac eraill, yn dra mynych, heb barch, anrhydedd, iechyd, a golud daiarol; megis Job a Lazarus mewn adfyd: Ac o achos bôd Duw trwy ei ddaioni, yn ceisio arwain y drwg i edifeirwch, Rhuf. 2.4. y mae weithie y drwg, yn y byd hwn yn anrhydeddus ac yn gyfoethog, megis Nabuchodonosor a Difes; fel na ddichon vn dyn gasglu, oddiwrth ei lwyddiant neu aflwyddiant bydol, p'un ai dyn da, ai dyn drwg ydyw fo.
, Anrhydedd, vnion olud,
Gwir dderchafiad, Hìr oes, iechyd,
Heddwch, ffynniant o bob rhyw,
Y geir o wîr wasnaethu Duw.
Dôs lle mynnech, doed y ddelo,
Gwnaed pob Gelyn waetha ag allo,
Yn ddigonol di gae fyw,
Os ti wîr wasnaethu Dduw.
Yn y dref ac yn y wlâd,
Ar bob Gorchwyl di gei râd,
A gwîr lwyddiant ar y feddu,
Os yr Arglwydd a wasnaethu.
Bydd dy Faesydd, bydd dy Winllan,
Bydd dy Letty, bydd dy Gorlan,
Yn dia ffrwythlawn, heb ddim aflwydd,
Os ti w [...]r wasnaethu 'r Arglwydd.

Rhessymau i'n cyffroi i wasanaethu Duw.

1. DUW a'th wnaeth yn ddŷn deallus,
Ar ei lûn ei hûn yn weddus:
Rwyti 'n rhwym i wsnaethu 'n ffyddlon,
Am dy wneuthur felly 'n Gristion.
2. Christ a'th Brynodd o law Satan,
A'i wir waed, ac nid ag Arian:
Am i Grist mor brîd dy Brynu,
Rwyt ti 'n rhwym ei brûdd wasnathu.
3. Duw a'th borthodd yn ddigonol,
O'r Grôth hyd yr awr bresennol:
Am dy Borthiant, os ystyrii,
Rwyt ti 'n gaeth i wîr Addoli.
4. Di Addewaist yn dy Fedydd,
Wîr wasnaethu Christ yn vfydd:
Oni wasnaethu Dduw fel Christion,
Rwyti gwedi tyngu 'n vdon.
5. Duw a wnaeth i bôb Creadur,
Dan y nef d'wsnaethu 'n bryssur:
Rwyt ti 'n gaeth ar ben dy linie,
Am y rhain i wsnaethu ynte.
6. Duw a wnaeth ir Bŷd gweledig,
Brûdd wasnaethu Dŷn yn
Diwyd.
ystig,
Fal y gallei 'r dŷn a'i ryw,
Ynte 'n brûdd wasnaethu Duw.
7. Y dyn anghofio wsnaethu Duw,
Yn ei râdd, tra fyddo byw,
Mae 'n anghofio 'r gweithred mwya,
Bwyntiodd Duw iw wneuthur ymma.
8. Nefoedd, Daiar, Dŵr, Angelion,
Adar, Pyscod, Bwystfil gwylltion,
[Page 119]Ac ymlysciaid o bôb rhyw,
Sy 'n ei grâdd yn moli Duw.
Nid oes vn o'r holl greaduriaid,
Gwyllt na dôf, na dwl na diriaid,
Heb wasnaethu Duw trwy fawl,
Ond yn vnig dyn a diawl.
9. Cwilydd, Gwradwydd maes o fessur,
Ydyw gweled pôb Creadur,
Yn Gwasnaethu Duw yn ffyddlon,
Ai ddibrissio gan blant dynion.
10. Bawedd y cyfyd dŷn ei ben?
Pan dwetto Christ o'i orsedd wen,
Nâd oes neb yn ei wasnaethu,
Waeth nâ 'r dyn y fu e'n brynu.
11. Mae mwy Ddlyed ar bôb Christion,
Lwyr wasnaethu Duw yn ffyddlon,
Nag y Sydd ar vn Creadur,
Ag y wnaeth Duw dan yr Awyr.
12. Nid â i vffern vn Creadur,
Gydâ 'r diawl i'r poen di-fessur,
Onid dynion gwaetha eu rhyw,
Eisie gwir wasnaethu Duw.
Rhag i tithe fynd i
Losci.
frwylian,
I dan vffern gydâ Satan,
Nac anghofia tra fech byw,
Ym-mhôb mann wasnaethu Duw.

Siamplau o wîr wasnaethwyr Duw a'i gobrwy.

Enoch am wasnaethu Duw,
Y gâs mynd ir nef yn fyw,
Yn ei gnawd a'i wir gorpholaeth,
Cyn cael gweled dim marwolaeth.
Er nâd oes neb yn haeddu trugaredd, ymwared, a bywyd tragwyddol am eu gwasanaeth, (fel y mae'r Awdwr yn dy­wedyd ronyn yn y blaen, ac mewn am­ryw leodd eraill) waith bôd ein gwei­thredoedd goreu yn am-mhe [...]ffaith: etto y mae 'r sawl sy'n gwasanaethu Duw, ar y ffordd i gael hynny oll, o herwydd bôd Duw, o'i gariad a'i râs ei hun, er mwyn Christ, wedi addaw hynny iddynt; Phil. 3.9, 12. Luc. 17.10. Rhuf. 6.23. Eph. 2.7, 8, 9.
Noah am wîr wasnaethu 'r Arglwydd,
Gâs ei gadw yn ddi-dramcwydd,
yn yr Arch a'i dylwyth hefyd,
Pan y soddodd Duw yr holl-fyd.
Abram y gâs barch a golud,
Ffasar Duw, ac Isaac hefyd,
Holl wlad Ganaan, a'i thai mawrion,
Am wasnaethu Duw yn ffyddlon.
Isaac yntef am fendithio
Duw, 'n y maesydd wrth fyfyrio,
Y gâs lafur ar ei ganfed,
Gan yr Arglwydd am ei weithred.
Joseph ddiwair am wasnaethu
Duw, a pheidio godinebu,
Gâs i dynnu maes o'r dwngwn,
A'i roi 'n Ben ar wlad y Sibswn.
Josuah rymmus ynte am lynu,
Wrth yr Arglwydd a'i wasnaethu,
Y Gâs ennill Brenhiniaetheu,
A phôb Tîr a Gwlad y gerddeu.
Hên Elias gâs ei borthi,
Gan y cigfrain yn ei dlodi,
Ai ddwyn ir nef mewn,
Cerbyd.
coits danllyd,
Am wasnaethu Duw 'n ei fywyd.
Sadrach, Mesach, Abeduego,
Am wasnaethu Duw a'i gofio,
A waredwyd yn dra hyfryd,
O'r tân poeth a'r ffwrnes danllyd.
Daniel am wasnaethu 'n vfydd
Duw 'n ei stafell dair-gwaith beunydd,
Y gas ddiangc rhag y llewod,
A'i waredu maes o drallod.
Pwy erioed a wnaeth wasanaeth,
Ir gwir Dduw heb wabar helaeth?
Pwy y dannodd ei ogoniant
Deut. 28.2
Na châs gantho barch a ffynniant?
Ni agorodd vn-dyn etto,
Ddrws ei demel heb ei wabro,
Ac ni nynnodd vn offeiriad,
Mal. 1.10.
Dân ar Allor heb lawn daliad.
Ni ry vn-dyn byth gwpanaid,
Er ei fwyn o ddwr i'r Gweiniaid,
Ar ni chaiff ei wabar gantho,
Ar ei chanfed medd Sant Matho.
Goreu Meistr iw wasnaethu,
Mwya ei barch yw 'r Arglwydd Jesu,
Goreu 'n talu taliad ffyddlon,
Am wasaneth idd i weision.
Meistr grassol, Meistr grymmus,
Meistr
Rhagorol
rhial gogoneddus,
Meistr a wna ei holl weision,
Yn Offeiriaid a Thwssogion.
Dat. 1.6.
Meistr a wna iddynt eiste,
Yn y Nefoedd mewn cadeire,
Mewn esmwythder a dedwyddwch,
Mawr ogoniant a Rhialtwch.
Meistr y ry idd ei weision,
Deyrnas hardd ac auraidd Goron,
1 Cor. 2.9
A'r fâth bethau mawr arbennig,
Na all calon dyn ddychymyg.
Pwy gan hynny na wasnaethe,
Grist yn ddyfal ar ei linie?
Rhwn sy'n gwabru ei gywir weision,
A'r fâth deyrnas, â'r fâth Goron.
Pwy na
Ddirmy­gei.
scornei 'r Byd ar Cnawd,
A'r cythrael câs, a'i saig, ai Sawd,
Ag ystyrie faint yw cyflog
Holl wasnaethw yr Duw galluog?
Er nad oes vn Gwâs yn haeddu
Luc. 17.10
Cael vn wabar am wasnaethu,
Etto o'i râs mae Duw yn addo
Teyrnas nêf ir rhai gwasnaetho.
Gwâs i Bechod, Gwâs i Gythrael,
Gwâs i Angeu trist trwy drafel,
Yw pob Gwâs sydd yn gwasnaethu,
Na bo Gwâs ir Arglwydd Jesu.
Pan y delo 'r Angeu digllon
Fynd ir
O flaen gorsedd­faingc Christ.
barr â phob rhyw weision,
O! pun oreu 'r amser hynny,
Wâs ir Cnawd a Gwâs ir Jesu?
2 Pet. 3.7.
Pan y llosco 'r Byd yn chwyl-boeth,
A'i holl olud, a'i holl gyfoeth,
O! pun oreu 'r amser trist,
Wâs ir Byd, a Gwâs i Ghrist?
Pan derchafer Plant y Drindod,
A throi i vffern weision pechod:
Hi fydd chwerw 'r amser hynny,
Ado 'r Arglwydd hob wasnaethu.
Mwy o ennill sydd o awr,
Yn Gwasnaethu 'r Arglwydd mawr,
Nag a gaffom o'n holl fywyd,
Yn gwasnaethu 'r Byd anhyfryd.
Am wasnaethu 'r Byd yn gyfan,
Ni cheir ond y poen a'r
Trafferth
twttan,
A'r twyll tôst wrth fynd o hano,
Yn noeth fel y daethpwyd iddo.
Am wasnaethu 'r Cnawd trwy Blesser,
Gal. 6.8.
A'i foddloni ag esmwythder,
Ni cheir cyflog gantho 'sywaeth,
Ond oes ferr a
Damne­digaeth.
llygredigaeth.
Am wasnaethu vn rhyw Bechod,
Pe's Gwasnaethem hwn yn wastod,
Ni cheir gwedi 'r hîr wasanaeth,
Gantho ond Gwradwydd a Marwolaeth.
Am wasnaethu Tâd y celwydd,
Er ei fôd yn cynnig Gwledydd,
Nid oes trodfedd dîr gan Satan,
Ond pwll vffern iddo i hunan.
Am wasnaethu 'r Arglwydd Jesu,
Y mae Teyrnas iw meddiannu,
A Gogoniant a dedwyddwch,
A gwir fywyd mewn rhialtwch.
Ymrown ninne tra fom byw,
Bawb i brûdd wasnaethu Duw:
Dyna 'r Meistr gore i wsnaethu,
Dyna 'r Gorchwyl rheita i bennu.
A meddyliwn bawb am ymladd,
A phôb Gelyn sydd ein gwrthladd,
Yn ein duor, yn ein
Rhwystro
stoppi
Weithio 'r Gwaith sydd reita inni.
Ac fel Gweithwyr cywir, ffyddlon,
Câll, cofiadyr,
Gofalus.
carccys, cyfion,
Cwympwh bawb i wîr wasnaethu
Duw tro amfer Grâs yn gadu.
Esa. 55.6.
Oni wsnaethwn Dduw tro 'n ymma,
A thro amser Grâs yn para,
Ni gawn fynd ir Pwll yn gyngan,
Ar ein pen i wsnaethu Satan.
Yn y pwll hi fydd edifar,
Trwy ddifeirwth rhy ddiweddar,
Mor ddi-bris ddirmygu 'r Drindod,
Ac mor rhwydd wasnaethu pechod.
Yno hwylir hallton ddagrau,
Luc. 13.28.
Yno bloeddir gan y poenau:
Ond pa hwylyd perfedd allan,
Ni ddoir byth o Grampau Satan.
Cwympwn bawb yn
yn bryssyr
brûdd gan hynny,
I wasnaethu Duw tro i 'n heddy:
A rhown ffarwel bawb i bechod,
Trwy lwyr droi i wasnaethu 'r Drindod.
Felly cawn ni pan bo rheita,
Gwedi 'r byrr wasanaeth ymma,
Byth wasnaethu 'r Arglwydd tirion,
Yn y Nêf ym-mhlith Angelion.
Ir hon Nefoedd ô 'n Creawdwr,
Er mwyn Jesu Ghrist ein prynwr,
Dwg ni oll i'th wîr wasnaethu,
Gydâ 'th Sainct a'th nefol deuly.

Am Weddi a'i pherthnasseu.

TYnn dy 'scidie cyn gweddiech,
Rhwym dy assyn cyn aberthech,
Golch dy draed cyn mynd ir cymmyn,
Ystyria geisiech cyn ei ofyn.
Psal. 5.1.
Cyn gweddio edifara,
Wrth weddio dyfal weithia,
Joan 9.31 Psal. 118.21.
Yn ol gweddi bydd ddiolchgar,
Felly caiff dy weddi ffafar.
1. Y Diawl y gais bôb dydd dy demptio,
2. Y cnawd bôb awr a fyn dy dwyllo,
3. Y byd a'i bethau gais d' orchfygu,
Prawf trwy weddi eu gwrthnebu.
Mat. 26.41. 1 Tim 2.8 1 Thess. 5.17. 1 Tim. 2.1.
Da yw gweddi ym-mhob lleoedd,
Da yw gweddi bôb amseroedd,
Da yw gweddi dros bôb dynion,
Mae 'n dda gweddi 'm-mhôb achosion.
Aberth hyfryd ir Gorucha,
Godidaw­grwydd gweddi. Psa. 141.2.
Gwialen
Whipp yn
fflangellu.
Scwrgio 'r Diawl a'i dyrfa,
Nerth ir gwann ym-mhôb gofydi,
Nawdd rhag Pôb drwg ydyw gweddi.
Agoriad.
Allwedd Aur i ddaccloi 'r borau,
Bollt y nôs i gau dy ddryfau,
Tŵr i'th gadw rhag drygioni,
Ddydd a nôs yw
Cyfreith­lawn. Exo. 17.11 Gen. 19 3. Mat 17.21 Exod. 32.14.
deddfol weddi.
Gweddi brûdd sydd drech nâ dynion,
Gweddi daer a drôdd Angelion,
Gweddi fwriodd Ddiawled allan,
Gweddi orchfygodd Dduw ei hunan.
Na ddibrissia ddim o'th weddi,
Mae 'n y nef fel thus yn llosci,
Mae ar ddaer yn clwyfo Satan,
Mae 'n ennillfawr it dy hunan.
Mewn ffydd a parch, a llwyr-fryd calon,
Mar. 11.24 Heb. 12.28 Jer. 29.13 Iac 5.16. Psal. 66.18 1 Cor. 14.15
Mewn zêl, ac Awch, a meddwl Ʋnion,
Mewn deall
Cryf.
drûd a dyfal geisio,
Mewn hyder prûdd y mae gweddio.
Côd d'olygon, plûg dy liniau,
Tann dy ddwylo, agor d'enau,
Deffro d' yspryd, cûr dy ddwyfron,
Llwyr weddia â'th holl galon.
Ar Dduw yn Ghrist yn Ʋnig y mae gwe­ddio. Ioan 16.23, 24.
Nid ar Baal na'r llo, na'r ddelw,
Sant na Santes y mae galw,
Ond ar Dduw, trwy Grist yn unig,
Am bôb peth sydd arnat ddiffig.
Ni ŵyr neb ond Duw o'n cyflwr,
Ni all neb ond Duw roi
Cynnor­thwy.
swccwr,
Ni chlyw neb ond Duw ein gweddi,
Ar Dduw 'n unic y mae gweiddi.
Psal. 50 15
Duw sy'n erchi galw arno,
Duw sy'n addo rhoi ond ceisio:
Duw sy'n gwrando pob prûdd weddi,
Duw all tynnu pawb o'i tlodi.
Esa. 63.16.
Ni ŵyr Abram, ni wyr Jaco,
Ym-mha gyflwr yr ym ynddo,
Ni ŵyr neb ond Duw ei hunan,
Beth yw 'n cais, a maint yw 'n cwynfan.
Psal. 65.2.
Peth perthnassol i Dduw 'r lluoedd,
Ydyw gwrando gweddi miloedd,
A fo 'n ceisio mîl o bethau,
Ar un pryd mewn amryw Jaethau.
Ni ŵyr Mair i'm tŷb ddim Saesneg,
Ni ŵyr Martha ddim gwyddeleg,
Ni ŵyr Clement Sant ddeallu,
Beth y ddywaid un or Cymru.
Ni ŵyr Abram ddim o'n cyflwr
Ni all Clement roi i ni Swecwr,
Ni chlyw Peder ddim o'n gweddi,
Ar Dduw 'n vnig y mae gweiddi.
Parcha 'r Saint yn fawr yn fychan,
Mat. 4 10.
Ond addola Dduw ei hunan,
Rho anrhydedd gweddus iddynt,
Etto na weddia arnynt.
Ni bu
Ʋchel­dad.
Batriare, ni bu Brophwyd,
Ni bu
Apostol.
Bostol ag y glyw-wyd,
Wneuthur gweddi (ar' ddarllenes)
Etto erioed at Sant na Santes.
Nid oes
Addewid Joan 16.23, 24.
Brommais yn y fengyl,
Inni gael dim trwy fawr ymbyl,
Ond y gaffom trwy ymbilian,
Er mwyn Jesu Ghrist ei hunan.
Christ yn Unic yw'n Cyfryngwr,
1 Tim. 2.5
Christ yw'n Twrnei a 'n dadleuwr,
Nid oes arall all gyfryngu,
Rhwng Duw a dyn ond Christ Jesu.
Er mwyn Jesu y mae ceisio,
Faint y geisiom wrth weddio,
Ar ddeheu-law 'r Tâd mae 'n eiste,
Rhuf. 8 34
Er mwyn derbyn ein gweddie.
Cymred eraill hên Saint Catrin,
Dewi, Clement, Martha, Martin,
Byth ni cheisiaf i Gyfryngwr,
Rhwng-wi a Duw, ond Christ fy mhrynwr.
Cais yn eiriol wrth weddio,
Ni ellyr gweddio wrth fodd Duw heb gymmorth yr yspryd glân. Rhuf. 8.26.
Nerth yr yspryd ith gyfrwyddo:
Ni all neb weddio 'n hyfryd,
Heb gyfrwydd-deb y glân yspryd.
Heb yr yspryd f'allir sonio,
Am Dduw mawr ac am weddio:
Ond ni ddichon un dyn
Sef fel y dylei.
ddwedyd,
Wrth Dduw mawr heb nerth yr yspryd.
Duw ni phrissia weddi 'r tafod,
Mat 15.8. Rhaid gweddio o'r galon.
Heb y galon a'r gydwybod,
Gweddi 'r enaid prudd ar yspryd,
O flaen Duw sydd aberth hyfryd.
Cais â'r genau, cais a'r galon,
Un or ddau sydd lai nâ digon;
Cydia 'r genau gydâ 'r yspryd,
Hynny bair cynghanedd hyfryd.
Gwell yw'r galon heb y genau,
I weddio ambell weithiau,
Nag yw 'r genau hêb y galon:
Exod. 14.15.
Gweddi o'r fâth sydd weddi ffinion.
Gwell oedd gweddi Moesen hyfryd,
Wrth
Ymdei­thio.
Shiwrneia heb ynganyd,
Nâ gwaith gwefus yr Iddewon,
Yn gweddio heb y galon.
Rhaid gweddio 'n daer ac mewn ffydd.
Cais a geisiech trwy wîr ffydd,
Na chymmer ball, ond
Gofyn.
beggia'n brŷdd:
Nac ammeu dderbyn 'rhyn a geisiech,
O ceisij 'n daer di gei ofynnech.
Ni chau 'r Adar bach o'u safnau,
Nes y llanwo ei mam eu boliau,
Ac ni ddlye ddynion dewi,
Nes cyflawno Duw eu gweddi.
Rhyfedd yw mor daer y
Cais.
beggian,
Llawer dyn am fwyd ac Arian,
Ac mor
Ddiog.
llwfr y gweddiant,
Am drugaredd a gogoniant.
Hael yw Duw ir sawl a'i ceisiant,
Jac. 1.5.
Rhwydd yn rhoi ir rhai ofynnant;
Rhoi yn brûdd heb ddim dannodiaeth;
Rhoi eu rhaid i bawb yn helaeth.
Psal. 103.13.
Fel y gwrendy Mam ar Blentyn,
Y fo 'n llefain yn ei rwymyn:
Felly gwrendy Duw ein gweddi,
Pan y llefom mewn gofydi.
B'wedd na wrendy Duw dy weddi
Lle mae 'r yspryd glân yn gweiddi,
Rhuf. 8.26, 27, 34.
A Christ Jesu 'n Ymbil drosod,
Ar ddeheu-law 'r Tâd yn wastod?
Os yn enw Christ y ceisij,
Joan. 16.23, 24. Rhaid gweddio yn enw Christ.
Os yn eiriol y gofynni,
Di gei naill ai'r hyn ofynaist,
Neu beth gwell nâ 'r hyn y geisiaist.
Or bydd d' Arglwydd yn
Oedi.
dehirio,
Rhoi ofynnech wrth weddio,
Mae e'n d'annog geisio 'n dacrach,
Neu ddymuno rhyw beth rheitach.
Cais ogoniant Duw yn gynta,
Gogoniant Duw a ne­folion be­thau y ddy­lit euceisio yn gynta. Mat. 6.33. 1 Io. 5.14. Rhaid gweddioyn ol ewyllys Duw.
Cais nefolion bethau nessa,
Cais ei deyrnas a'i gyfiawnder,
Di gei 'r cwbwl heb ddim prinder.
Gwachel geisio tra fech byw,
Ddim yn erbyn gwllys Duw:
Digio Duw y mae dy weddi,
Or ceisij 'r peth na fynno'i roddi.
Ffôl yw ceisio bydol bethau,
Pan galler cael nefolion dlwssau,
Serchu 'n fawr mewn daiar domlyd,
Heb wneuthur prîs o'r nefoedd hy fryd.
Nattur Mochyn brwnt anhygar,
Yw rhoi 'fryd ar drwyno 'r ddaiar,
Col. 3.1, 2.
Nid naturiaeth un or bobloedd,
Sydd a'i Tâd yn nh [...]y [...]nas nefoedd.
Cais y peth y mae Duw 'n addo,
Yn ei Air ac yn ei
Yn cenna­du i ti o­fyn. Mat. 26.39
lwo:
Caisy rhain er hyn yn weddys,
Os cenhada ei sanctaidd 'wllys.
Rhaid gweddio yn y Iaith y ddeallom, ac nid mewn iaith ddieithr fel y gwna 'r Papist. 1 Cor. 14.15
Gwna dy weddi byth yn ddiwall,
Yn y iaith a fech yn ddeall:
Gwell yw pum gair ag ystyriech,
Nag yw deng-mil na's deallech.
Gwatwar Duw a'i dw yllo ei hûn,
Wrth weddio y mae dŷn,
Pan y ceisio wrth
Dywe­dyd llawer, mewn iaith nad yw'n deall. Mat. 15.7, 8. Jer. 17.10. Jo 4.24.
friwgawthan,
Gan Dduw 'r peth nas gŵyr ei hunan.
Nâd ir min rag-flaenu 'r meddwl,
Pâr ir galon bwyso 'r cwbwl;
Ni all Duw un amser odde,
Heb y galon weddi 'r gene.
Duw yw chwiliwr y calonnau,
Duw ei hûn yw Tâd y golau,
Duw fyn gweddi brûdd o'r galon,
Duw ni phrissia eiriau gweigion.
Rhaid troi heibio traws a drwg fe­ddyliau wrth we­ddio.
Tro bôb meddwl aflan heibio,
Pan y byddech yn gweddio,
A rhwym gartre dy fydolrwydd,
Tra fydd­ech yn ym­ddiddan. Gen. 22.5.
Trech yn parlo ti a'th Arglwydd.
Ni chae Assyn Abram sangu,
Lle bae Abram yn aberthu:
Nad i'th fydol feddwl dithe,
Dramwy lle bo dy weddie.
Gen. 15.11
Megis Abram rhaid it darfu,
Pob rhyw rwystrau wrth aberthu,
A rhyfela ar
Achosion.
bussnesson,
Ath
Rwystro. nid oes ga­del Satan i'n rhwy­stro i we­ddio. Iac. 4.7.
ddehoro i adail Sion.
Pa ddysala ceisio Satan,
Pan gweddiech droi dy amcan,
Rheita 'gid y dlijt weddio,
A'i wrthnebu nes y cilio.
Fel y cilia 'r llew crafangog,
Pan y clywo ganiad ceilog:
Felly cilia Satan greulon,
O'r lle clywo weddi ffyddlon.
Ni all
Ych gwyllt.
Bual drigo 'n heppell,
Lle bo gwichiad ciw neu barchell:
Ni all Satan yntef drigo,
Lle bo dynion yn gweddio.
Oni bae fôd Satan ddwrngas,
Yn gweld gweddi 'n rhwygo ei deyrnas,
Ac yn awchlym yn ei glwyfo,
Byth ni rwystrei 'neb weddio.
Ond
Os.
or ceri Jechyd d'enaid,
Na gogoniant Duw, na'th gyfraid,
Nâd i Satan byth dy rwystro,
Wrando 'r gair nac i weddio.
Wrth weddio llêf heb orphwys,
Rhaid gweddio d [...]os eraill 1 Tim. 2.1, 2.
Dros bôb grâdd sydd yn yr Eglwys,
Ac nac arfer megis
Dyn di­gred.
Pagan,
Weddi 'n unic itt' dy hunan.
Nid gwîr Blant yr Eglwys Sanctaidd;
Ond Bastardiaid anghristnogaidd,
Yw pawb na weddio 'n ffyddlon,
Dros yr Eglwys, Sanctaidd Sion.
Os gweddiodd Abram fwyna,
Dros drê Sodom a Gomorra,
B'wedd na ddylem ni 'r Christnogion,
Psal. 51.18
Alw ar Dduw dros dylwyth Sion?
Rhaid gweddio heb ddeffy­gio Luc. 18 1. 1 Tim. 2.8
Christ sy'n erchi' bawb weddio,
Ar bôb amser heb ddeffygio:
A Saint Paul sy 'n chwennych inni,
Ym-mhob man ymarfer gweddi.
Dan. 6.10.
Daniel rasol a weddie,
Dair gwaith beunydd ar ei linie,
Psal. 119.164.
A'r brenhinol Brophwyd Dafydd
Y weddie saith waith beunydd.
Christ ein prynwr ynte yn
Ddyfal.
glôs,
Luc. 6.12.
A weddie tra fae 'r nôs,
Ac y dreulie 'r dydd tro ganto,
Yn pregethu neu 'n gweddio.
Ym-mhôb man ac ar bob amser,
Jac. 5.16.
Y mae gweddi o fawr bwer,
Os y galon a fydd parod,
I
Weddio.
ymbilian a'r hael Drindod.
Ar y moroedd, ar y mynydd,
Yn ein Teie, ar ein maesydd,
Y
Mae 'n ddyledus.
dirpere i'n weddio,
Ym mha fan y bom ni yndo.
Act 10.6 9
Gydâ Pheder yn ein llettu,
Gyda Dafydd yn y gwely,
Psal. 63 6.139.18.
Gydâ Daniel rhwng y llewod
Y mae 'n rhaid gweddio 'n wastod.
Ni ddiffodde ar vn
Amser.
tymmor,
Or tân sanctaidd ar yr allor,
I fynegi byth na ddlye,
Ddiffodd
Awydd­fryd gwres Lev. 6.13.
zêl dy weddi dithe.
Dŷn sydd Demel ir Gorucha,
Calon Dyn yw 'r Allor be [...]na;
Num. 28.3, 4 Dihar. 23.26.
Fore a hwyr y mae Duw 'n ceifio,
Gael o'th galon aberth iddo.
Nâd dy Demel er dy fywyd,
Fore a hwyr heb Aberth hyfryd,
Ac nâd genol dydd i
Fyned herbio. Psal 55.17
basso,
Heb roi clôd a moliant iddo.
Felly byddi di
Gyfeill­gar.
ffamiliar,
A'th Greawdwr, ac mewn ffafar:
Felly cei di gan y Drindod,
Dy rwyddhau a'th helpu 'n wastod.
Nid oes dim a
Ddlye.
ddirper rwystro
Dyn gwllysgar i weddio,
Ac i weithio ei orchwyl hefyd,
Pa ryw bynna fo'i gelfyddyd.
F'all dyn weithio 'ei gelfyddyd,
A gweddio 'n ddyfal hefyd:
Ni chais gweddi 'r galon rwystro
Hynt y traed na gwaith y dwylo.
F'alle Foesen wrth shiwrneia,
Exod. 14, 15. Jos. 10.12. Mar. 1.35. Act. 27.
F'alle Josua wrth ryfela,
Christ wrth ymdaith, Paul wrth forio,
Gofalu am eu a­chosion.
Dendo eu busnes a gweddio.
Er bôd esgus yn
Gymme­radwy.
lwedig,
Lawer prŷd mewn pwyntiau pwysig,
Nid oes esgus ellir enwi,
All d'escuso am dy weddi.
Nid oes trwy esgu­son ddodi heibio gweddi:
Gelli beido mynd ir eglwys,
Pan bech glaf o'r haint ath rwystrwys:
Ond er clafed blîn a fyddech,
Rhaid gweddio nes
Ymmada­wech.
departech.
Gelli beido rhoi elusen,
Pan na byddoi yn dy berchen,
Ond er cymmaint a fo 'th dlodi,
Nid oes peido byth a gweddi.
Ym-mhôb cyflwr, ar bôb amser,
Y mae Gweddi yn ei Themper:
Nâd gan hynny ddim dy rwystro,
Ym-mhôb cyflwr brûdd weddio.
Yn ein trallod yn ein gwynfyd,
Yn ein nychdod, yn ein iechyd,
Ym mha gyflwr y bom yndo,
Y gall christion brudd weddio.
Nid yw carchar, nid yw cloion,
Nid yw rhwystrau holl blant dynion
Na'r bŷd ôll yn rhwystro gweddi,
Fynd bôb awr at Dâd goleuni.
Tynn di dafod dŷn c'r gwreidde,
Toir ei droed a rho fe 'ngwarche,
Fe all gweddi 'r galon Saethu,
Trwy bôb clo at Dduw er hynny.
Ar wŷl a gwaith, ar nôs a dydd,
Ar foreu a hwyr caiff gweddi brûdd,
Fynd at Dduw, y pryd ei mynno:
Doed pan ddêl, hi gaiff ei groeso.
Er na chae'r Frenhines Hesther,
Fynd at Frenin ond rhyw amser,
Fe gaiff gweddi heb ei rhwystro,
Fynd at Dduw yr awr ei mynno.
Cwyn fel Daniel ar y wawr ddydd,
Psal. 119.62.
Cwyn di ganol nôs fel Dafydd:
Mae Duw 'n barod gwrando geisiech,
Galw arno 'r awr y mynnech.
Er na chaffo dŷn ei hunan,
Fynd i'r nêf at Ghrist i ymddiddan:
Fe gaiff gweddi Pôb rhyw gristion,
Fyned atto 'r awr y mynnon.
Trwy 'r gwynt, a'r glaw, trwy 'r
Awyr, awel.
Aêr ar tonne,
Trwy 'r Sphêrs i gŷd a'r holl Blanede,
Yr aiff gweddi fel llycheden,
O flaen Duw uwch law'r ffurfafen.
Ni all nef na Daer na dynion,
Awdurdodau nac Angelion,
Rwystro gweddi gael ymddiddan,
Bob yr awr â Christ ei hunan.
Nid rhaid iddi ofyn cennad,
Peder gwyan i gael agoriad,
Hi gaiff mynd trwy 'r holl Angelion,
O flaen Gorsedd Christ yn
Hy.
eon,
Hi gaiff gan Dduw wrando ei chysur,
Hi gaiff gan Ghrist
Dadleu.
bledio ei dolur,
Hi gaiff gan yr yspryd riddfan,
Rhuf. 8.26
Ac ochneidio drosti 'n gyngan.
Ni thry Rhoddwr pôb daioni,
Adre 'n wag-law o'th brûdd weddi:
Ond fe leinw Christ ei bynwes,
Esay. 45.19.
Ac ai nertha i gael ei neges.
Oni chaiff hi'r hyn a geisio,
Hi gaiff well nâ hynny gantho:
Os ni edy Christ un amser,
Weddi ffyddlon fynd yn ofer.
O! pa ddyled s'arnom 'roddi;
Ir gwîr Dduw am oddeu 'n gweddi,
Fynd oi flaen yr awr y mynnom,
A chael gantho 'r hyn a geisiom.
Braich yw Gweddi sy'n cyrhaeddyd,
Canmoli­aeth gwe­ddi.
O'r Byd hwn ir Nefoedd hyfryd,
Ac yn cymryd o dryssore
Duw beth bynna s'arni eisie.
Gweddi
Disrif.
brûdd sydd Gennad hŷ,
A rêd dros ddyn ir Nefoedd fry,
Ac y gaiff bôb awr ymddiddan,
Yn
Ddirwy­styr.
ddistop â Duw ei hunan.
Grym gweddi. 1 Sam. 17.45. Act. 12 5. Dan. 6. Psa. 34 17 Jac. 5.17.
Gweddi laddodd Gawr tra chadarn,
Gweddi 'gorodd byrth o haiarn,
Gweddi gauodd safne llewod.
Gweddi dynn ddŷn o bôb trallod.
Gweddi glôdd y Nef yn hîr,
Gweddi
Drôdd. Exod. 14. 1 Bren. 17.21, 22.
droes y môr yn dîr,
Gweddi wnaeth ir meirw godi,
Nid oes dim mor gryf a Gwed di.
O! ba ddiolch s'arnom roddi?
Ir gwir Dduw am adel Gweddi,
Fyned atto 'r awr y mynnom,
A chael gantho 'r pethau geisiom.
Clôd a Gallu, Diolch, Moliant,
Parch, Anrhy dedd a Gogoniant,
A fo i Roddwr pôb Daioni,
Sydd mor fwyn yn gwrando
Fe wren­dy Duw weddi gwneu­thurwyr ei ewyllys ef nid gweddi yr annu­wiol. Jo. 9.13.
'n Gweddi. Amen.

Rhybydd i Ddyn feddwl am Dduw y boreu, Pan ddihuno gynta o'i gwsc.

Y Bore pan dihunech gynta,
Côd d'olygon at
Dduw.
Jehofa;
Meddwl am ei foli 'n ddiwall,
Cyn meddyliech am ddim arall.
Cofia mae Duw oedd y Ceidwad,
Y fu neithwr yn dy wiliad,
Heb roi amrant iddo gysgu,
Rhag ir llew dy ladd a'th lyngcu.
Oni bae Dduw a'i Angelion,
Psal. 34.7.
Sy'n castellu bobtu ei weision,
Dyn ni bydde heb ei lyngcu,
Gan y Gelyn tra fae 'n cysgu.
Meddwl dithe faint syw'r dlyed,
Y sydd arnad ir
Argl­wydd.
Gogoned,
Am dy gadw mor ddihangol,
Rhag y Gelyn yn wastadol.
Megis y mae 'r dlyed arnad.
Rho fawr foliant iddo 'n wastad,
Ac abertha ar dy linie,
Ddiolch iddo nôs a bore.

Diolch foreuol pan ddihuner gynta.

DUw sy 'ngheidwad, Duw fy 'nghryfdwr,
Duw fy nghastell rhag y Drwgwr,
Derbyn foliant ar fy nwylo,
Am fy nghadw 'r nôs aeth heibio.
Rwyt ti 'n gwiliad daetu 'ng-welŷ,
Ddydd a Nôs tra fyddwi 'n cyscu,
Ac yn tannu d' adain drosof,
Pan gollwngwi 'r Bŷd yn angof.
Rwyti 'n rhoddi i'm esmwythder,
A llonyddwch mawr bôb amser,
Gan
Adfywie.
reffreshio beunydd felly,
F'egwan gorph â melus gyscu.
Ni winc, ni chwsc, ni hun, ni heppian,
Fy nhâd grasol tra fwi 'n
Gogysgu.
slwmbran,
Ond fe'm ceidw yn ei gessel.
Tra fwi 'n cyscu yn ddiogel.
Pa fath ffafar yw hon ymma?
Dy fod ti y Brenin mwya,
Yn ymo twng i ddiwallu,
Llwch a lludw tra fo 'n cyscu?
[...]
[...]
Byth ni byddai'n abal rhoddi,
Y ddegfed ran o ddiolch itti,
Ag sydd arnaf (Dâd caredig)
Am y ffafar hon yn unig.
Clod a gallu, diolch, moliant,
Gwîr anrhydedd, a gogoniant,
Y fo nos a dydd i'r Drindod,
Sydd mor ddiflin yn fy ngwarchod.

Rhybydd i ymgadw rhag meddwl dim, edrych ar ddim, neu ddywedyd dim, cyn meddwl am, edrych ar, ac ymddiddan â Duw trwy weddi.

GWachel feddwl dim â'th Galon,
Gwachel edrych â'th olygon,
Gwachel ddwedyd dim a'th eneu,
Nes moliannu Duw y boreu.
Exod. 34.26.
Rho 'ddo flaen-ffrwyth dy wîr Galon,
Blaen-ffrwyth d'eiriau a'th seddylion;
Duw a fyn y ffrwythau cyntaf,
Ni fyn Duw na'r ail na'r olaf.
Cynta peth a wna 'r vchedydd,
Moli Duw pan torro 'r wawr ddydd:
Cynta peth a ddlye ddynion,
Foli Duw o ddyfnder calon.
Bron­rhuddyn.
Rhobin bâch cyn glycho'i gene,
A gaan ir Arglwydd psalm y bore,
Am ei chadw 'r nôs rhag niwed,
Er bod gwely hon yn galed.
Llawer dyn yn waeth nâ'r deryn,
Gwyn o'i wely megis mochyn,
Heb gydnabod Christ ei Geidwad,
Na rhoi diolch am ei warchad.
Peth cwilyddys i blant dynion,
Fôd yn waeth nâ'r Adar gwylltion,
Sy'n clodforu nôs a boreu
Duw, mor ddyfal am ei ddonieu.

Myfyrdod foreuol, yn cyffro dyn i fod yn ddiol­chgar i Grist am ei gadwriaeth.

MEddwl fal y gallse Satan,
Yn dy gwsc dy ladd heb yngan,
A'th ddwyn ir farn yn amharod,
Oni
Buaseu.
basse Grist dy warchod.
Meddwl fal y gallse 'r Gelyn,
Job 1.
Oni basse i Grist d' amddiffyn,
Lâdd dy blant, a dwyn dy gyfoeth,
Llosci 'th dŷ, a'th flino boenoeth.
Cofia fal y gallse 'th daro,
Ag ynfydrwydd nes gwall-bwyllo,
Fal na allassyd ddim o'r cyscu,
Oni basse i Grist ei nadu.
Bydd gan hynny dra diolchgar,
Ith wîr Geidwad am ei ffafar,
Yn dy gadw mewn esmwythder,
Rhag y Gelyn yn ddibryder.

Diolch i Grist am amddiffyniad ac esmwythder.

O Fyng Heidwad, o fy Mugel,
Rhwn am cedwaist yn dy gessel,
Neithwr rhag i'r blaidd fy llyngeu,
Rwi o'm calon i'th glodforu.
Dan dy adain Christ di'm cedwaist,
Yn dy freiche di 'm cofleidiaist,
Rhoddaist imi brudd esmwythder,
Rwi 'n ddiolchgar am dy fwynder.
Nedaist Satan im difethu,
Nedaist ddynion im gorthrymmu,
Nedaist dân a gwynt fy speilio,
Nac anhunedd im dihuno.
Bendigedig a fo d'enw,
Christ fyng Heidwad am fy nghadw,
A gogoniant itti rodder,
Am roi i mi 'r sâth esmwythder. Amen.

Mor enbydus yw cyscu mewn Esmwythder y maes o ffafar Duw.

MWy yw
Enbyd­rwydd.
perig dyn sy'n cyscu,
Yn ei wely heb
Amddi­ffynniad.
nawdd Iesu,
Nag oedd perig Daniel hynod,
Gynt wrth gyscu rhwng y llewod,
Y mae'r Scrythur yn mynegi,
1 Pet. 5.8.
Fôd y Diawl yn troi o bobtu,
Ddydd a nôs yn ceisio llarpio,
Megis llew pwy bynnag allo.
Pwy sy'n rhwystro 'r llew i'n llyngcu,
Ond ein ceidwad mawr Christ Jesu?
Psal. 121.4
Rhwn sydd nôs a dydd heb heppian,
Yn cadw ei braidd rhag rhythreu Satan.
O gan hynny bydd ddiolchgar,
I'th wir Geidwad am ei ffafar,
Yn dy gadw mor ddibryder,
Rhag y llew mewn mawr esmwythder.

Cynhyrfiad yn cyffroi dyn, rhag cywilydd i fod yn ddiolchgar i Grist am ei gadw 'r nôs rhag niwed.

PE bae Iddew yn dy warchod,
Tra'iti yn cyscu rhwng bwyfifilod,
Di roit ddiolch fil o weithie,
Am dy gadw o'u crafange.
Er bod Christ ei hun i'th warchod,
Trech yn cyscu rhwng y llewod,
Sydd bôb awr yn ceisio 'th llyngcu,
Ni roi ddiolch iddo er hynny.
Agor d'olwg, gwel ei ffafar,
Cymmer rybydd, bydd ddiolchgar,
A rho ddiolch ar dy ddau-lin
I Grist Iesu am d'amddiffyn.
Felly ceidw Christ di 'n wastod,
Ac y tann ei adain drosod,
Ac i'th geidw mewn esmwythder,
Rhag pob perig yn ddibryder.

Rhybydd i ddyn wrth ddillattu y corph i we­ddio am ddillad ac arfau i'r enaid.

PAn y bech yn gwisco 'th ddillad,
Cais arfogaeth Duw am danad,
Fal y gallech ymladd yndyn,
Megis Cristion â phob gelyn.
Nid wyt nes er Dillad twymglyd,
I guddio cnawd, i ddyor anwyd,
Oni bae it gael pilynod,
I ddyor bai, i guddio pechod.
Eph. 6.11.
Cais gan hynny holl arfogaeth
Duw, i'th gadw rhag gelyniaeth,
Ac rhag Pechod, ac rhag trafel,
Twyll y byd, a'r cnawd, a'r cythrel.
Heb y rhain nid ym ond noethion,
I ryfela a'n gelynion,
Ac nid possib i neb hebddyn,
Gael y trecha ar vn gelyn.

Gweddi wrth wisco am danad, yn Ceisio. canlyn Arfogaeth Duw i'th cadw rhag gelymaeth a phechod.

GWisc dy
Arfau.
Armwr oll am danaf,
O fyng Heidwad galluoccaf,
Fel y gallwyf megis Cristion,
Ymladd yndynt â'm gelynion.
Nâd o'm coryn hyd fyng wandde,
Vn rhyw aelod heb ei arfe,
Rhag fy nghlwyfo gan y Temptiwr,
Lle bo eisie vn rhyw armwr.
Nâd i'r byd a'i ofer bethau,
Nâd i'r cnawd a'i nwyfys chwantau,
Nâd i'r Diawl a'i rythreu Scymmyn,
Beri immi bechu'n d'erbyn.
Ond rho immi rym a chryfdwr,
I orchfygu pôb gwrthnebwr,
Ac i ymladd dan dy faner,
Nes ym dygech i'th esmwythder.

Gweddi arall wrth wisco dy ddillad.

CHrist fy nghraig am Iechydwriaeth,
Gwisc am danaf dy Arfogaeth,
N [...]d vn aelod heb ei wisco,
Rhag ir gelyn fy anrheithio.
Gwisc y Pen â helm y gobaith,
1 Thess. 5.8. Eph. 6.14, 15.
Brest a'r
Dwyfron­neg. Eph. 6.16, 17.
gorslet gyfiawn berffaith,
Lwyne â gwregis gwir ddifeirwch,
Traed â scidie efengyl heddwch.
Rho dy air yn gleddyf immi,
Ffydd yn
[...]a [...]an [...]
fwccler i ddiffoddi,
Holl biccellau tanllyd Satan,
A phrûdd weddi i sefyd allan.
A rho rym fel milwr ffyddlon,
Im ryfela â'm gelynion,
Rhythreu Satan, chwantau cnawdol,
Twyll y bŷd, a phechod marwol.
A rho gymmorth i gorchfygu,
A'u darostwng a'u gwrthnebu,
Fel y gallwi byth d'addoli,
Megis plentyn ir goleuni.
Felly beunydd yn ddibryder,
Mi ryfelaf dan dy faner,
Ac y roddaf itti foliant,
O fy Nuw tra ynnwi chwythiant.

Rhybydd wrth ymolchi.

PAn yr elech i ym olchi,
Cais yn daer gan Dduw trwry weddi,
Olchi d'enaid oddiwrth bechod,
A'i lanhau â gwaed y cymmod.
Nid wyt nes er dwr yr Afon,
I olchi 'r cnawd oddwrth amrhyddion,
Nes y golchech dy gydwybod,
A gwaed Christ, oddiwrth dy bechod.
Nid wyt nes er wyneb glân,
A chalon front, heb râs, heb rân:
Ni fodlonir Duw yn bûr,
Ag wyneb glân, heb galon
Lan.
glûr.

Gweddi ferr wrth ymolchi.

GOlch ô Grist â'th waed sy mhechod,
Golch fy enaid a'm cydwybod,
Golch fy meddwl oddiwrth wegi,
Golch fi 'n llwyr oddiwrth fy mrynti.
Golch fy mhen, a'm traed, a'm calon,
Jo. 13.5.
Fel y golchaist d' Apostolion,
Sŷch â'r tywel main fy mrynti,
A rho d'yspryd sanctaidd immi.
[...]hceZ 13.1 Datc. 1.5.
Golch fi 'n neigreu gwîr ddifeirwch,
Golch fi 'n ffynnon grâs a heddwch,
Golch fi â'th waed mor wynn ar lili,
Fal y gallwi 'n bûr d'addoli.

Gweddi foreuol, iw harferu (o ran y matter. sylwedd o honi) yn y man ar ôl codi ac ymolchi.

DUw trugarog, Tâd tosturi,
Er mwyn Christ rho bardwn immi,
Psa. 40.12
Am fy meiau oll am pechod,
Sydd mewn rhif yn fwy nâ 'r tywod.
Nid oes pwynt o'th holl gyfreithiau,
Nas trosseddais llwyr; gwae finnau,
Nac un dawn a roddaist immi,
Nas arferais ar ddrygioni.
Drwg fy nhûb, a gwaeth fy ngweithred,
Brwnt fy nhafod, maith fy hocced,
Poeth fy nattur, oer fy ngweddi,
Arglwydd maddeu 'r cwbwl immi.
Maddeu 'r maint a wnaethoi 'n d'erbyn
O bechodau er yn blentyn:
Psal. 25 7:
Ac na thywallt ar fy letty,
O'r dialau maent yn haeddu.
Ond rho râs a chymmorth immi,
O hyn allan dy addoli,
Ath wasnaethu mewn sancteiddrwydd,
Pûr uniondeb, ac onestrwydd.
Tynn bôb rhwystyr sydd i'm hat [...]al,
I'th wasnaethu di mor ddyfal,
A rho
Gallu.
bwer yn ol hynny,
Immi 'n ddiflin dy wasnaethu.
Llwyr ddiwreiddia o'm calon ofer,
Yr holl frynti sum i'n arfer,
A gwir blanna yn eu cyfle,
Râs a dawa tra chwyth i'm gene.
Dysc fi gadw dy orchmynion,
A'u gwir garu â'm holl galon,
A'u cymmeryd yn lle rheol,
I fyw wrthynt yn wastadol.
A chyfrwydda â'th lân yspryd,
Fi 'reoli fy holl fywyd,
A'm holl eiriau a'm amcanion,
Yn ol d'wllys a'th orchmynion.
Arglwydd, ffrwyna fi rhag pechu,
Byth yn d'erbyn mwy ond hynny,
A rho bwer immi 'n wastod,
Gael y trecha 'n erbyn pechod.
Helpa fi ryfela 'n erbyn,
Byd, a'r cnawd, a'r cythrel scymmyn:
Fal y gallwyf gael y goron,
A gorchfygu fy ngelynion.
Psal. 17.8.
Tanna droswi d'adain rasol,
Cûdd fi dani yn wastadol,
Nâd vn gelyn wneuthur niweid,
Mewn un modd im corph na'm heneid.
Cadw fi rhag cwrp a thramcwydd,
Cwilydd, colledd, a [...]ap, aflwydd,
Nychdod, niwed, a'r fâth hynny,
Or bydd d'wllys yn cenhadu.
Nertha fi â'th yspryd sanctaidd,
1 Thess. 4.11.
Dreulio 'r dydd hwn yn gristnogaidd,
Trwy gymmeryd poen im galwad,
I'th wasnaethu 'n
Pryssur.
brûdd yn wastad.
Pâr i'm dreulio 'r dydd presennol,
Mor ddeallus ac mor ddeddfol,
A pha gwypwn ar y
Siccra.
suwra,
Mae 'r dydd hwn yw'r dydd diwetha.
Nâd fi oedi gwella 'muchedd,
O ddydd i ddydd hyd fy niwedd:
Ond tra heddyw byth yn para,
Heb. 3.7, 8
Pâr yn ddyfal immi wella,
Nâd i'r cnawd rhyfygus, embaid,
Beri immi ddamnio 'r enaid,
A'i roi boeni yn dragwyddol,
Am dippyn bach o blesser cnawdol.
Nâd i wagedd y bŷd ymma,
Preg. 1.2▪
Rhwn fel llwyd-rew a ddifflanna,
Beri im golli gwir lawenydd,
A mawr fraint y bŷd na dderfydd.
Tra fo 'r dydd a'r goleu 'n para,
Jo. 12.35.
Par im weithio ar yr eitha,
Y peth a berthyn at fy
Iechy­dwriaeth.
Iechyd,
Rhag i'r nôs fyng orddiweddyd.
Pâr im fôd bôb awr yn barod,
Ag oyl im lamp, a'm goleu 'n gwarchod
Dyfodiad.
Dwad Christ im gwawdd i'r neithior,
Tra fo'r nêf a'r porth yn agor.
Pan bwi siccra yn y carn,
Pâr im feddwl am dy farn,
A'r dydd dû y gorfydd atteb,
Ar y
O flaen yr orsedd­faingc. Mat. 12.36
barr am bôb ffolineb.
Gwna im feddwl am y cyfri,
Orfydd arnom bawb i roddi,
Am y pechod lleia wneler,
Hyd yn oed ein geiriau ofer.
Croesa 'nawr y maes o'th lyfyr,
Yr holl frynti fûm i 'n wneuthur;
Ac na thafla yn fy nannedd,
Ddydd y farn o'm câs anwiredd.
Maddeu 'n awr yr holl dalentau,
S' arna i o ddyled yn dy lyfrau;
A llwyr
Ddeleua, gossod allan
flotta â gwaed Iesu,
'R hatling eitha s'arna i dalu.
Gwedi maddeu 'r cwbwl ymma,
Nertha fi ddiweddu 'ngyrfa,
Fel y gallo f'enaid orphwys,
Gydâ Christ yng lân Baradwys.
Lle câf gydâ 'r holl Angelion,
A llû 'r nef heb
Ammeu. Psal. 16.11
ddowt nac ofon,
Dy foliannu trwy lawenydd,
Mewn dedwyddwch yn dragywydd. Amen.

Rhybydd i ymgadw tra fo 'r dydd, rhag Rhy­threu'r Byd, y cnawd, a'r Cythrael, ac i wis­co, ac arferu Arfogaeth Duw yn eu herbyn.

YN y man yn ôl it godi,
Cofia fôd tri Gelyn itti,
Rhai amcanant dy
Anafu.
andwyo,
Oni ymgedwi rhag dy dwyllo.
A'r vn gwanna o'n gelynion,
Sydd gan cryfach nag vn Christion,
Oni chawn ni gan Grist Iesu,
Nerth ac arfau iw gorchfygu.
Llêf gan hynny▪ ar dy Brynwr,
Dy
Dy daclu
ffwrneisio megis Milwr,
A [...] Arfogaeth ac â chalon,
I orchfygu dy elynion.

Yr Arfogaeth ysprydol a ddlye bôb gwir g [...]st­ion ei gwisco a'i harferu.

GWisc dy Ben a helm Christnogaeth,
Ephes 6.
Ond by­ddaed gen­nit sail am dy [...]baith.
Gobaith cryf am Iechydwriaeth,
Nâd ir sarph na'r Diawl dy glwyfo,
Ar dy ben trwy Anobeithio.
Gwisc gyfiawnder am dy ddwyfron,
Ni all Diawl â
Dryll­mawr.
dwbwl canon,
Wneuthur byth na drwg na niwed,
Ir rhai wisco 'r Cyfryw Gorsled.
Rhw ym dy ganol â gwirionedd,
Na ragreithia yn dy fuchedd:
Hardd, a chryf, a chryno odieith,
Ydyw gwregis gwir di-ragreith.
Gwisc dy draed â scidiau 'r fengyl,
Bydd ddioddefgar ym-mhob treigyl:
Cans trwy oddef llawer trallod,
Act. 14.22.
Y mae mynd i lys y Drindod.
Cymmer fywiol ffydd yn
Tarian.
fwccler,
Derbyn frath a saethau 'r wiber:
Bywiol ffydd yn Ghrist a all,
Ddiffodd tanllyd saethau 'r fall.
Cymmer awchlym gleddau 'r yspryd,
Grymmus Air y Scrythur hyfryd;
Dyna 'r cleddyf llymm ei lafan,
Sy 'n rhoi
Ffoad.
ffwyl a chlwyf i Satan.
Cadw Arfau Duw yn
Wastadol. Cadw 'r Arfau bob amser am danad.
wastad,
Cymain un bôb awr am-danad,
Nâd ûn pryd dy ddala hebddyn,
Rhag dy glwyfo gan y gelyn.
A gweddia ar y Drindod,
Am gael grym a grâs i orfod,
Y tri gelyn hyn yn wastad,
I wasnaethu Duw yn d'alwad,
Mor enbyd yw bod heb arfau Duw
Os cwrdd Satan â ni 'n noethion,
Heb Arfogaeth Duw am danon:
Mae ê'n chwareu 'n dôst â hwnnw,
Sydd heb Armwr gantho ymgadw.
Os bydd pen heb Helmet ddilys,
Dwyfron.
Brest heb bais, na lwyn heb wregys,
Troed heb escyd, llaw heb gledde,
Sarph a'n clwyfa, gwnawn ein gore.
Bydd gan hynny megis milwr,
Yn dy gylch bôb awr a'th Armwr,
Ym-mhob mann yn dyfal wilio,
Rhag i'r Gelyn dy anrheithio.

Rhybydd i ddyn ymgadw ym mhôb lle rhag rhwydeu Satan.

PAn yr elech gynta allan,
Gwachel ddirgel rwydau Satan,
Rhwn sy'n ceisio dy fachellu,
Ar bôb cam a'th hela i bechu.
Mae ê'n fawr ei lîd a'i hocced,
Mwy ei dwyll nâ'i rym, er cryfed,
Mae fel llew yn troi o bobtu,
Ddydd a nôs yn ceisio 'n llyngcu.
Dichell.
Hocced Sarph, llidawgrwydd Gwiber,
Cryfder llew, ffyrnigrwydd Teiger,
Awydd Blaidd, Bradwriaeth cadno,
Sydd gan Satan lle tramwyo,
Nid yw'n cyscu, nid yw'n gorphwys,
Nôs na dydd er pan ei cwympwys,
Ond amcanu lladd a mwrddro,
Am ei chwyth pwy bynnag allo.
Bydd gan hynny ar dy
Wiliadw­riaeth.
wachel,
Ym-mhob mann rhag rhwyd y cythrel:
Cais gan Ghrist bôb awr dy helpu;
Christ a'th nertha ei orchfygu.

Gweddi yn erbyn temptiad a Rhythrau Satan.

POrthor mawr y pwll di-waelod,
Ceidwad drwsseu vffern issod,
Rhwymwr Satan, llyngcwr angeu,
Clyw fy ngwaedd o'th nefol artreu.
Y mae Satan rhwn orchfygaist,
A'r ddraig waedlyd rhon a rwymaist,
Yn amcanu fy
Anafu.
andwyo,
Oni chaf dy help i ffrwyno.
Mae ef nos a dydd heb Gyscu,
1 Pet. 5.8.
Megis llew yn ceisio'm llyngcu,
Ac yn barod i'm
Difa.
defowro,
Oni chedwi di fi rhagddo.
Mae e'n tannu ei groglathau,
Ddydd a nos ar draws fy llwybrau,
Nid oes llun na syrthiwyf ynddynt,
Oni chedwi di fi rhagddynt.
Nid oes afal têg gwarddedig,
Na bo beunydd yn ei gynnig,
Nac vn pechod na bo e'n ceisio,
Genni wneuthur ith lwyr ddigio.
Nid oes twrn da fwi'n amcanu,
Na bo'r ddraig yn ceisio ei nadu,
Ac yn
Rhwystro
dyor yn rhi fynych,
Y gwaith goreu fwi 'n ei chwennych.
Ni cha'i fwytta pryd o fara,
Ni cha'i gyscu mewn esmwythdra,
Ni cha'i yfed draucht o ddiod,
Na boe 'n ceisio ei droi'n bechod.
Ni cha'i ddwedyd gair o'm gene,
Na gweddio ar fy nglinie,
Na bo Satan yn amcanu,
Wrth weddio beri'm bechu.
Pan bo mwya chwant fy nghalon,
Ith wasnaethu (Christ) yn ffyddlon,
Dyna'r pryd y cais fy rhwystro,
A'r holl
Dichell.
gwning a fo gantho.
A phyt faet ti 'n gadel iddo,
Redeg arnai heb ei ffrwyno,
Gwn na byddei well fy nrheigil,
Nag oedd dien Job a'i eppil.
Arglwydd, gwêl ei waedlyd fwriad,
Lleiha.
Tola ei falchder, torr ei ruad,
Rhwym ei ferr, byrhâ ei gadwyn,
Shiga ei shol, a
Attal.
stoppa ei wenwyn.
Tydi Ghrist sy'n rhwymo 'r wiber,
Luc. 11.22
Ti sy a'r gadwyn am ei ddwyfer,
Tydi speiliodd o'i holl arfau,
Tydi gadwodd ein eneidiau.
Gwisc dy
Arfogaeth
armwr oll am danom,
Dôd dy rymmus yspryd ynnom,
Dysc ein dwylaw i ryfela,
Nâd ith weision gael y gwaetha,
Nâd O Ghrist ir Sarph ein twyllo,
Nâd ir wiber ein handwyo,
Nâd ir llew ein lladd na'n llyngcu,
Nâd ir gelyn ein gorchfygu.
Gwann ym ni, a chryf yw ynte,
Can-mil cryfach Christ wyt tithe,
Nertha'n gwendid trwy dy gryfdwr,
I orchfygu ein gwrthnebwr.
Call yw 'r Sarph, a dwl ym ninne,
Doeth yw 'r ddraig, a llawn bachelle,
Oni helpu di ni 'n Prynwr,
Aiff dy bridwerth gan y Bradwr.
Gwna ni 'n ddoeth i weld ei rwydau,
Synhwy­rol.
Ffel i wechlyd i groglathau,
Cryf i
Wrthwy­nebu.
wrthladd ei ddichellion,
Câll i wrthod ei gynnigion.
Arglwydd edrych ar dy weision,
Nertha 'th frodyr gael y Goron,
Helpa bawb sydd dan dy faner,
Ddwyn eu croes a throedo 'r wiber.

Cynghorion yn erbyn profedigaethau Satan.

OS
Addaw.
promeisa Satan itti,
Dai a thiroedd am ei addoli:
Dywaid nad oes troedfedd fychan,
Ond pwll vffern gantho ei hunan.
Os bydd Satan yn dy annog,
I halogi gwraig cymmydog:
Dywaid fod dialau 'n barod,
A barn Duw am gyfryw bechod.
Heb. 13.4. Datc. 21.8
Os cais Satan genyd feddwi,
A
Yfed. 1 Cor. 6.9, 10.
charowso gwin yn wisci:
Dywaid yr â 'r holl rai meddwon,
Ddydd y farn ir tân a'r brimston.
Os cais Satan genyd dyngu,
Zech. 5.2, 3, 4. Heb. 10.29
Cîg a gwaed yr Arglwydd Iesu:
Dywaid nad oes vn rhyw bechod,
Waeth nâ chablu gwaed y cymmod.
Exod. 22.22, 23, 24. Psa. 68.5.
Os cais Satan genyd dreiso,
Y rhai tlodion a'u handwyo:
Dywaid nad gwaeth pigo llygaid
Christ ei hun, nâ threiso ymddifaid.
Os cais genyd wneuthur falstedd,
Ac vdonaeth ac anwiredd:
Mal. 3.5. Jer. 17.1.
Dywaid fôd Duw 'r Barnwr cyfion,
Yn ei preinto ar dy galon.
Os cais genyd mewn dirgelwch,
Job. 34.21, 22. Heb. 4.13.
Weithio gweithred y tywyllwch:
Dywaid fôd Duw â saith llygad,
Ym-mhob mann yn edrych arnad.
Dih. 17.5.
Os cais Satan genyd gablu,
Dy gyd-gristion gwedi nafu,
Mae e'n ceisio megis bradwr,
Genyd gablu dy Greawdwr.
Datc. 21.8
Os cais genyd ddwedyd celwydd,
Mae 'n amcanu yn ddigwilydd,
Ladd a dwyn dy enaid gwirion,
Ir pwll poeth o'r tân a'r Brimston.
Os cais gennyd wan-obeitho,
Am drugaredd, er
Edifaru.
repento,
Mae 'n ei fryd dy ddwyn ir deyrnas,
Ir aeth Cain, a Saul, a Suddas.
Os cais Satan gâs dy rwystro,
I dŷ Dduw, y mae 'n dymuno,
Dy droi 'maes o'r nêf yn ddirgel,
Eisie addoli Duw 'n ei demel.
Os cais genyd droi dy wegil,
Rhuf. 1.16 Rhuf. 10 17
Pan pregethir yr efengyl,
Mae e'n ceisio dy
Rwystro.
ddehoryd,
Rhag cael Profi pren y bywyd.
Os cais Satan genyd gyscu,
Yn yr eglwys wrth wasnaethu,
Mae e'n ceisio genyd
Gwarw [...]r
foccian
Duw 'n ei lŷs ai dŷ ei hunan.
Gwachel gyscu wrth weddio,
Gwaeth nâ 'r diawl yw'r dyn y foccio
Duw 'n ei demel, ar awr weddi,
Ar ei lin yn rhith addoli.
Os cais genyd fynych arfer,
Oedi bwytta 'r sanctaidd swpper,
Wrth dy ddyor ir Comuniwn,
1 Cor. 10 16
Mae 'n dwyn ymaith
mae'r Sacrament yn sêl o fa­ddeuant ir derbynwr teilwng: ond barne­digaeth mae 'r an­nuwiol yn bwytta ac yn yfed iddynt eu hun 1 Cor. 11.29. Jac. 2.14.17
Sêl dy bardwn.
Os cais genyd lwyr anghofio,
'R fengyl sanctaidd gwedi gwrando,
Mae e'n ceisio dwyn o'th galon,
Hâd y gâir â'th wnele 'n griston.
Luc. 8.12.
Os caiff genyd fôd yn fodlon,
Ddwyn heb sylw enw criston,
Fe wnae felly yn ddiogel,
Wâs i Ghrist, yn wâs i gythrel.
Os cais genyd ti broffesso,
Ffydd heb weithred yn cydweitho,
Mae 'n dy dwyllo trwy ffydd farw,
Hyderu.
Drysto ir ffydd ni all dy gadw.
Os cais genyd ti ddihirio,
Edifeirwch nes
Awr angeu. Preg. 9.10
departo,
Mae 'n dy rwystro geisio ffafar
Duw, nes eloi 'n rhy ddiweddar.
Ni âd Satan vn rhyw bechod,
Nad amcana gael dy orfod:
Ni âd garreg heb ei threiglo,
Nes y paro it dramcwyddo.
Bydd bob amser ar dy wachel,
Nôs a dydd y rhodia 'r Cythrel,
2 Cor. 2.11.
Nid oes mann nad yw e'n tannu,
Ei groglathen i'n bachellu.
Yn yr Eglwys, yn y berllan,
Yn y shiop, ac oddiallan,
Ar y ford ac yn y gwely,
Y cais Satan dy fachellu.
Bydd gan hynny megis milwr,
Yn dy gylch bob awr a'th
Arfa [...]
armwr,
Ym-mhob mann yn dyfal wilio,
Rhag i Satan dy andwyo.

Rhybydd i wachelyd rhwydau Satan ym-mhôb oedran.

GWae 'r dyn a fo gwyllt yn blentyn,
Glwth yn llangc, a charl yn gleirchyn,
Hwnnw draulwys ei holl oedran,
Ym-mhob oês wrth 'wllys Satan.
Gwachel f'enaid rwydau Satan,
I'th fachellu ym-mhob oedran,
Ar bôb llwybyr fe amcana,
A rhyw groglaeth gael dy ddala.
Yn dy ieungctid fe gais genyd,
Dreulio d' amser yn Ddifudd.ddi-broffid,
Mewn pibiaeth ac oferedd,
Heb na dysc, na dawn, na rhinwedd.
Yn d'wroldeb, fe braw'th dynnu,
I
Ymyfed.
garowso a gordderchu,
Ac i nyrddo dy lân lester,
A drythyllwch
Nwyfiant
a diffeithder.
Yn dy henaint, fe braw'th rwystro,
Droi at Dduw trwy wir
Edifaru.
repento,
Ac y dry dy fryd yn benna,
At fydolrwydd a chybydd-dra.
Prawf gan hynny ym-mhob oedran,
Preg. 12.1.
Lwyr ymgadw rhag twyll Satan,
Rhwn y gais dy gyfyrgolli,
Trwy 'r peth mwya fech yn hoffi.

Cynghor i ddyfal weddio, ar bôb achos ac ym-mhob gorchwyl.

ER fy mendith nac anghofia,
Psa. 55 17.
Dair gwaith beunydd ar y lleia,
Brûdd weddio ar dy ddaulin,
O flaen Duw dy dâd a'th Frenin.
Cyn mynd allan y boreu-ddydd,
Cyn ciniawa y cenol-ddydd,
Cyn swperu, o gweddia,
'R tri phrŷd hyn, yn ddisceulusdra.
Côd dy ddwylo i weddio,
Cyn gostwngech law i weithio:
Eph. 6.18
Cais gan Dduw fendithio d'orchwyl,
Cyn y delych yn ei gyfyl.
[...]
[...]
1 Thess. 5.17.
Ac wrth wneuthur dy orchwylion,
Arfer brûdd weddiau byrron,
1 Tim. 2.8
A bydd
Yn ymbil
eiriol yn dy weddi,
Ar i Dduw roi cymmorth itti.
Os bydd trwm-waith a ffrwst arnad,
Or bydd trafferth ar ddydd marchnad,
Gwybydd (f'enaid) a gwna gweddi,
Fwy o lês nâ rhwstyr itti.
Er bod
Achosion.
busnes fawr gan Ddaniel,
Yn y Cwrt dan Frenin Babel,
Dan. 6 10.
Tair gwaith beunydd y gweddie,
Yn ei stafell ar ei linie.
Er bod Dafydd yn rhyfelwr,
Ac mewn trafferth mwy nag vn-gwr,
Psal. 119, 164.
Etto er hynny, saith waith beunydd,
Y gweddie Frenin Dafydd'
Joshüa rymmus y weddie,
Yn y
Tr ym­laddfa. Jos. 10 12, 13, 14.
frwydyr, ac ymladde,
R'oedd ê â'i galon yn gweddio,
Ac yn ymladd â'i ddwy-ddwylo.
Nid oedd gweddi 'rhain yn rhwystyr,
Ar vn gorchwyl faent yn wneuthur,
Ond rhwyddhau a llwyr fendithio
Pob rhyw waith y wneleu dwylo.
Arfer dithe weddi hyfryd,
Ym-mhob gorchwyl y fo genyd:
Psa. 34.10.
Di gei weled y gwna gweddi,
Rwydd-deb mawr a
Cyssur.
chynffordd itti.
F'all dŷn weithio ei gelfyddyd.
A gweddio 'n ddyfal hefyd:
Ni chais gweddi 'r galon rwystro,
Hynt y traed, na gwaith y dwylo.
F'all yr hwsman, f'all y geilwad,
Alw ar Dduw, a dala 'r arad,
Fel y gallant ddwedyd ffregod,
Wrth yr ychen ar nifeilod,
F'all Trafaelwyr ganu psalmau,
A gweddio ar ei shiwrnau,
Fel y gallant ganu maswedd,
A chwedleua am oferedd.
F'all y Cryddion, F'all y Taelwyr,
Foli Duw a chwhare 'r crefftwyr,
Gan roi ei breiche i ddyfal weithio,
A'u calonnau i weddio.
F'all y gwragedd hên wrth nyddu,
F'all y merched wrth sidanu,
Exod. 14.15. Jos. 10.12 13, 14. Mat. 1.35. Act. 27.23 35.
F' all pawb ddilyn eu celfyddyd,
A gweddio 'n ddyfal hefyd.
F'alle Foysen wrth shiwrneia,
F'alle Joshua wrth ryfela,
Christ wrth ymdaith, Paul wrth forio,
wneuthur
Dendo ei
[...]
busnes a gweddio.
Nid oes dim y
Ddyle.
ddirper rhwystro,
Dŷn gwllysgar i weddio,
Ac i weithio ei orchwyl hefyd,
Pa ryw bynnag fo'i gelfyddyd.
Christ sy'n erchi bawb weddio,
Luc. 18 1 1 Tim. 2. [...]
Ar bôb amser heb ddeffygio,
A Saint Paul sy'n erchi inni,
Ym-mhob mann ymarfer gweddi.
Yn ein trallod, yn ein gwynfyd,
Yn ein nychdod, yn ein iechyd,
Y mae inni brûdd weddio,
Ym-mha gyflwr y bom yndo.
1 Tim. 2.8
Ar y moroedd, ar y mynydd,
Yn ein Teiau, ar y maesydd,
Y
Y dylem ni.
dirpere i'n weddio,
Ym-mha fan y b'om ni yndo.
Act. 10.6, 9 Ps. 139.18. Psal. 63 6. Dan. 6.10.
Gydâ Pheder yn ein llettu,
Gydâ Dafydd yn ein gwely,
Gydâ Daniel yn ein trallod,
Y mae in' weddio 'n wastod.
Exod. 17.9, 11, 12. Gen. 24.63 Act. 3.1.
Gydâ Moysen ar y mynydd,
Gydag Isaac ar y maesydd,
Gydag Ifan yn yr Eglwys,
Y mae gweddi yn dra chymmwys.
Ym-mhôb mann, ac ar bob amser,
Y mae gweddi yn ei themper,
Jer. 29.13.
Os y galon y fydd parod,
I weddio ar y Drindod.

Cynghor duwiol i bôb gradd i ddilyn cyn my­ned at eu gorchwylion.

Cyn yr elech ir drws allan,
At vn gorchwyl, mawr na bychan,
Cais gan Dduw dy brûdd fendithio,
A rhoi
Bendith.
rhâd ar waith dy ddwylo.
Duw sy'n rhoddi rhâd a llwyddiant,
Duw sy'n danfon
Dedwy­ddwch.
ffawd a ffyniant:
Lle'i cyfarcher fe ry fendith,
Lle'i Anghofier fe ddaw 'r felldith.
Cais ei yspryd i'th gyfrwyddo,
Cais ei râs i'th gynnorthwyo,
Cais ei fendith ar bôb gweithred,
Felly daw it râd o'i barthed.
Dechre'r gwaith yn enw'r Iesu,
Cais ei gyfnerth i ddibennu:
1 Cor. 10.31.
Yn ei ddiwedd cais ei ogoniant,
Felly cae o'th weithred ffyniant.
Fel y llwyddodd Duw orchwylion
Joseph gynt, a Daniel ffyddlon,
Felly llwydda d'orchwyl dithe,
Os gweddii arno 'n ddie.
Oni wnai dy weddi 'n addas,
Di gae adail bwth fel Jonas,
A physcotta megis Peder,
Ac heb ddala dim vn amser.
Luc 55.
Di gae
Bod yn ddior­phwys.
dwttan a thrafaelu,
Ac ymrwyfan a thrafferthu,
Ddydd a nôs a phoeni 'n ofe [...],
Heb fôd dim yn well vn amser.
Ofer codi ar y wawr-ddydd,
Ofer bwytta bara cystydd,
Ofer gwiliad hir nos aia,
Os yr Arglwydd ni'n bendithia.
Ofer adail Teieu newydd,
Ofer cadw caereu trefydd,
Ofer poeni trwy rymystra,
Os yr Arglwydd ni chydweithia.
Rhag i'th
Trafel.
Lafur fynd yn ofer,
O gweddia 'n brûdd bôb amser,
Ar i'r Arglwydd dy fendithio,
Felly ffynia gwaith dy ddwylo.

Cynghor ir Hwsmon neu'r Llafyrwr.

CYn rhoi llaw ar gorn yr arad,
Côd dy ddwylo, ti ath eilwad,
Ac Dduw mawr am dy fendithio,
A rhoi rhâd ar waith dy ddwylo.
Ofer hau a rhedig llawer,
Ofer llyfnu 'r maint y hauer,
Oni ddyry Duw ei fendith,
Dan y gwys y pydra 'r gwenith.
Pas. 104.14
Dyn sy'n hau, a Duw sy'n hadu,
Duw sy'n peri 'r llafyr dyfu,
A dwyn ffrwytheu ar ei ganfed,
Ir sawl s'yndo yn ymddiried.
'R vn a geisio ffrwyth o'r ddaiar,
Rhâd a llwyddiant ar ei heinar,
Prûdd weddied ar yr Arglwydd,
Fe gaiff llwyddiant heb ddim affwydd.
Gwell yw gweddi gydâg oged,
I gael
Yd.
llafyr ar ei ganfed,
Nâ chwech arad ac ogedi,
Lle na byddo sôn am weddi.
Gen. 24.63.26.12.
Fe gai Isaac wrth fyfyried,
Lafyr gan Dduw ar ei ganfed.
Pan bae eraill heb weddio,
Braidd.
Prin yn cael y chweched gantho.
O gweddia dithe 'r Hwsmon,
Ar dy Dduw o ddyfnder calon,
Am roi rhâd ar waith dy ddwylo,
Felly cei di ddigon gantho.

Gweddi 'r Hwsmon.

LLuniwr daiar, helpwr dynion,
Awdwr hadau 'r ddaiar ffrwythlon,
Rhoddwr glaw, Cynhyddwr
Yd.
llafyr,
Gwrando weddi Hwsmon pryssyr.
Rwi fi'n mynd i drîn y ddaiar;
Ac i hau yn hon fy heinar,
Heb gael gweled mwy o hano,
Oni roi dy fendith arno.
Arglwydd ofer ydyw plannu,
Hau yn gyngan a gorlyfnu,
Oni pheri di 'ddo 'gino,
A rhoi rhâd a chynnydd arno.
Ni ddaw hedyn byth trwy 'r ddaiar,
O'r maint oll sydd genni o heinar,
Oni pheri di 'ddo darddu,
Tyfu allan a chynyddu.
Rwi gan hynny 'n
Deisyf.
begio 'n bryssyt,
Duw dy fendith ar fy llafyr,
Fel y gallwi gael oddiwrtho,
Fôdd fel Christion im
Cyn [...]a [...].
maintainio.
Agor im ffenestri 'r nefoedd,
Glawia fendith ar fy nhiroedd,
Portha 'r hâd â brasder daiar,
A rho lwyddiant ar fy heinar.
Nâd ir nefoedd fynd yn brês,
Lew. 26.18 19, 20.
Na 'r ddaer yn harn gan ormodd wrês,
Nâd ir meisydd mawrion fethu,
Am ein llescedd yn d'w snaethu.
Rho wrth fessur y glaw Cynnar,
Yn ei brŷd a'r glaw diweddar,
Hmon dempraidd, gwrês
Tymmhe­rus.
cymmedrol,
Rhâd a llwyddiant, ar dy bobol.
Gwardd y
Pryfed.
locwst, gwardd y
Amos 4.9
lindis,
Gwardd y gwlith sy'n brychu 'r
Haidd.
barlis,
Gwardd y gwrês a'r gwynt a'r
mellden.
lluched,
Sydd yn peri 'r llafyr niwed.
Crona'r flwyddyn â daioni,
Tywallt frasder dy râd arni,
Gwisc y doleydd ôll â defaid,
A'n mynyddoedd â nifeiliaid.
Rho.
Doro ymborth i blant dynion,
Doro wellt ir sgriblaid mudion,
Doro wîn ac olew 'n helaeth,
I ddiwallu d' etifeddiaeth.
Doro in gynh [...]iaf ffrwythlawn,
Rhâd o'r maesydd ac o'r fisgawn,
Hâd o'r ardd a ffrwyth o'r berllan,
Mel o'r graig, a llaeth o'r gorlan.
A bendithia waith ein dwylo,
Arglwydd grassol byth tra gantho,
Felly ni'th fendithiwn dithe,
Ar ein daulin nös a bore.

Cynghor ir Trafaelwr.

CYn y dodech droed mewn gwarthol,
Fynd i
Daith▪
shiwrneu anghenrheidiol,
Cais gan Dduw fendithio 'r shiwrneu,
A'th ddwyn eilchwaith yn iach adreu.
Cais ei Angel i'th gyfrwyddo,
Cais ei adain i'th
Amddi­ffyn.
brotecto,
Cais ei fendith ar dy shiwrneu,
Fe rwyddhâ dy holl negeseu.
Fel y helodd Duw ei Angel,
Gydâ Thobi yn ei drafel,
Felly hel ef heddyw, heno,
Psal. 50.15
Help i bawb ag alwant arno.
Dysc gan wâs y
Vcheldad.
Patriarch goreu,
Alw ar Dduw wrth fynd i'th shiwrneu,
Am fendithio dy amcanion;
Gen 24.12
Di gei
Lwyddi­ant.
ffawd wrth fôdd dy galon.
Oni cheisij ar dy linieu,
Gan fâb Duw rwyddhau dy shiwrneu,
Cei drafaelu ar yr ormes,
A dwad adre heb dy neges.
Gwell yw gweddi i Drafaelwr,
Nag yw'r gwîn yn amser sychdwr,
Gwell nâ chastell rhag y
Mellden.
lluched,
Gwell nâ dim rhag pôb drwg dynged.
Gwell yw gweddi i'th amddiffyn,
Wrth
ymdeithio
shiwrneia rhag y gelyn,
Nag vn cleddyf dûr na Phistol,
Carneu meirch na mil o bobol.
O gweddia dithe 'n wastod,
Wrth shiwrneia ar y Drindod:
Ac fe ddyry ei Angelion,
Ith rwyddhau wrth fôdd dy galon.

Gweddi Trafaelwr.

HElpwr pob trafaelwr ofnus,
Ceidwad crŷf pob gwann gofydus,
Gwrando 'n rasol o'th orseddfa,
Waedd trafaelwr wrth shiwrneia.
Arglwydd mae'n rhaid im drafaelu,
I wlâd bêll nad wi'n ei medru,
Ac ni wn a ddewai adre,
Oni lwyddi di fy shiwrne.
Tydi Arglwydd sydd yn
Rheoli. Rhuf. 11.36.
llywio,
Y byd hwn a'r maint sydd ynddo,
Fel na ddigwydd ond y fynnech,
Ir rhai annwyl ag a garech.
Rwi gan hynny 'n deisyf arnad,
O'th drugaredd ac o'th gariad,
Roi im rwydd-deb yn fy shiwrne,
Am dwyn yn iach lawen adre.
Danfon d'Angel im cyfrwyddo,
Im cymfforddi am
Amddi­ffyn.
protecto,
Im rhwyddhau yn fy negesse,
Am dwyn eilchwaith yn iach adre.
Tanna drosswi d'adain rasol,
Cudd si deni yn wastadol,
Nâd vn gelyn wneuthur niwed,
Ar y ffordd im corph na'm hened.
Danfon Raphael dy anwyl-was,
Im rhwyddhau am dwyn o gwmpas,
Fel y helaist gydâ Thobi,
Iw rwyddhau o bôb
Gofydi.
clamwri.
Bydd o'm blaen fel niwl y boreu,
Bydd y nôs fel tanllwyth oleu,
Im cyfrwyddo, Christ dy hunan,
Exod. 13.21, 22.
Megis Israel tua Chanaan.
Di gyfrwyddaist y gwyr doethion,
Gynt â'r seren ir ffordd vnion,
O! cyfrwydda felly finne,
Nes fy nwyn i ben fy shwrne.
Fel y cedwaist Dobi janga,
Rhag y pisc a fynnei ddifa,
Felly cadw finne 'n rasol,
Rhag pob perig yn ddihangol.
Cadw fi rhag rhwydau Satan,
Ai aelodau, pobol aflan,
A nâd iddynt wneuthur niwed,
Im na chwilydd,
Rhwyfty
stop, na cholled.
Nad y
Tryste, Taranau.
Dwrw, nad y
Mellt.
llyched,
Nad y storom wneuthur niwed,
Nad ir follt na'r ddraig fy nrygu,
Nac vn
Gorth­rymder.
gormail fy ngorthrymmu.
Cadw fi rhag bradeu lladron,
Perig dyfroedd a drwg ddynion,
Llettu anwir, bwydydd afiach,
Rhwystyr ffordd, a drwg gyfeillach.
Cwyn fy nghalon nertha f'yspryd,
Rhwyddhâ fy ffordd â'th gymmorth hyfryd,
Helpa 'ngheffil a'm cyfeillion,
Dwg ni dre wrth fôdd ein calon.
Rho di rwydd-deb yn ein
Achosion.
busnes,
Helpa bawb i gael ei neges,
Ag sy a meddwl onest gantho,
Fel y galom dy fendithio.
Arglwydd cadw ni rhag tramcwydd,
Cwilydd, colled, anap, aflwydd,
Nychdod, niwed, croes a dolyr,
Colli 'r ffordd a'r cyfryw rwystyr.
Arglwydd dwg ni yn iach lawen,
At ein ffryns i dre drachefen,
Fel y gallom dy glodfori,
Ddydd a nôs am dan ein helpu.

Cyngor ir milwr.

CYn yr elech i ryfela,
Dros y goron, oh! gweddia,
Ar Dduw 'r lluoedd am roi calon,
Cyfar­wyddyd. Psal. 144.1, 2.
Scil a grym ir milwr ffyddlon.
Duw sy'n rhoddi grym a chryfdwr,
A chyfrwydd-deb i bôb milwr,
Scil ir byssedd i ryfela,
Cyfodi'r pike.
Tosso 'r Peic, a thynnu 'r bwa.
Exo. 15.3
Duw y lluoedd sydd Ryfelwr,
Ac yn noddfa mewn cyfyngdwr:
Duw sy'n rhoddi 'r fuddugoliaeth,
Cais ei help, fe rhy yn helaeth.
Gwell yw gweddi mewn cyfyngdwr,
Wrth ryfela i bôb Sawdiwr,
Nag vn
arfogaeth
harnais idd' amddiffyn,
Gwel nâ
Pladur.
Glaif i glwyfo 'r gelyn.
Exod. 17.11.
Mwy y laddodd dwylo Moesen,
Wrth eu dercha tua'r wybren,
Nag y lladdodd cledde Josua,
A holl Israel wrth ryfela.
Jonathan a'i weddi laddodd,
1 Sam. 14.
O'r Philistiaid fwy o filoedd,
Nag y laddodd Saul â'r cledde,
A'i Ryfelwyt ôll, â'u harfe.
Chwyrnach ydoedd gweddi Dafydd,
1 Sam. 17.
I droi'r Cawr â'i dorr i fynydd,
Nâ'r holl gerrig aeth o'i goden,
Er eu glynu yn ei dalcen.
Hên Elias heb ddim arfe,
2 Bren. 1.
Ond ei weddi y ddifethe,
Ddau Ben-capten a'u Cwmpeini,
Beth sydd gryfach nag yw gweddi?
Cryfach ydoedd gweddi Judith,
Nâ'r holl welydd cedyrn aryth,
I ymddiffyn tre Bethuwlia,
Rhag Holphernes idd ei difa.
Arfer dithe brudd weddio,
Wrth ryfela â'th ddwy ddwylo,
Fel arferodd dewr-wych Josua,
Di gei lwyddiant wrth ryfela.
Dôd dy ddwylaw i filwrio,
Dôd dy galon i weddio,
Di gei weled y gwna gweddi,
Fwy nâ dwylaw o
Gwrolder
orhydri.

Gweddi 'r Milwr.

ARglwydd grymmus
Rheolwr
Llywydd lluoedd,
Pen Rheolwr pôb rhyfeloedd,
Vnig roddwr buddugoliaeth,
Gwrando ngweddi o 'm milwriaeth.
Rym ni ymma ym-mhlaid y goron,
A'n
Tywysog.
Prins, a'n gwlad, a'n da a'n dynion,
Yn rhyfela â gwir dîras,
Sy'n amcanu treisio 'r Deyrnas.
Duw gwradwydda eu amcanion,
A'u bwriadeu a'u dichellion;
Tola ei balchder, torr ei cryfdwr,
Dofa ei hawch, gostega ei cynnwr.
Nertha ninne dy wael weision,
Chware 'r gwŷr ym-hlaid y Goron,
A rho inni rym a gallu,
Eu concwero a'u gorchfygu.
Arglwydd grassol cwyn ein calon,
Ymladd drossom â'n gelynion,
Hel dy fraw a'th ofon arnynt,
Doro
Cwymp.
ffwyla gwradwydd iddynt.
Er nad ydym ymma ond gronyn,
Ir fâth nifer sydd i'n herbyn,
Etto rym yn ddigon grymmys,
Os tydi a fydd o'n hystlys.
Arglwydd gwynn, nid llai dy
Nerth. 1 Sam. 14.6
bwer,
Mewn ychydig nag mewn llawer,
Os mewn gwendid rwyt fynycha,
Yn mynegi d'allu mwya.
Barn. 7.
Peraist gynt i Gedeon ddifa,
Ef a thrychant o'r gwyr gwanna,
Lû aneirif o'r Midianiaid,
Oedd cyn amled a'r locustiaid.
Jonathan ai
Yr hwn oedd yn dwyn ei arfauef.
glydydd arfe,
Helodd miloedd i droi cefne:
Pan y helaist ofon arnyn,
Pwy a feiddie droi yn d'erbyn?
Rhoddaist rym i Samgar frayhi,
Barn. 3.31
Chwechan gwr a'u lladd a'r
Irai.
ierthi,
Ac i Samson 'ladd heb orphen,
Fîl o wŷr â gên yr assen.
Barn. 15.15.
Di ddifethaist trwy law gwreigin,
Ben tywyssog Brenin Jabin,
Ac a wnaethost ir planede,
Ymladd drossot yn eu gradde.
Barn. 4.21 5.20.
Gelli Arglwydd mawr os mynny,
Roi i ninne rym a gallu,
I orchfygu ein gelynion,
Er nad ym ond milwyr gweinion.
Os tydi a fydd o'n hochor,
Nef a daiar, dwr a chensor,
Haul a lloer, a gwynt ystormys,
A ryfelant ar ein hystlys.
Arglwydd mawr or byddi o'n hystlys,
Pet fae'r Twrc, a'r Pâb a'r Spanis,
A holl uffern yn ein herbyn,
Ni roem ddim o'r garrai erddyn.
Tydi 'n vnig sydd Ryfelwr,
Gennit ti mae
Meder.
scil a chryfdwr:
Ti sydd roddwr buddugoliaeth,
Ti sy 'n achub rhag marwolaeth.
Ti sy'n peri 'r rhyfel beido,
Ti sy'n torri 'r
Gwayw­ffon.
spêr yn
Yn ddarnau.
yfflo,
Ti sy'n rhoddi 'r march i gyscu,
Ti yn vnig sy'n gorchfygu.
Doro gomffordd i'n calonnau,
Doro gryfder yn ein breichiau,
Doro scil i'n bawb ryfela,
Megis milwyr ir goruwcha.
Gwna 'r capteniaid megis Josua,
Ymwroli i ryfela,
A bydd gydâ rhain dy hunan,
I gyfrwyddo ei
Bwriad.
plot a'i hamcan.
Rho.
Doro galon ym-mhob milwr,
Deall, Dewrder, scil a chryfdwr,
Gallu, gwllys, hyder
Hy.
eon,
I
Gwrth­wynebu.
gonffronto ein gelynion.
Dôd d' Angelion i'n castellu,
Rhag pob gelyn tra ni 'n cyscu,
A dôd lû o'th filwyr penna,
I'n cyfnerthu wrth ryfela.
Bydd dy hun yn disgwyl arnom,
Ac yn
Rheoli.
llywio 'r hyn a wnelom,
Nad in wneuthur yn wrthnebys,
Ddim yn erbyn dy lan 'wllys.
Gwna ni 'n gywir bawb i'n Brenin,
Gwna ni 'n ffyddlon ir cyffredin,
Gwna ni 'n ufydd i'n rheolwyr,
Ac heddychlon â'n lletteuwyr.
Luc. 3.14.
Gwna ni'n foddlon bawb i'n cyflog,
Nâd in speilio un cymmydog,
Na
Gorth­rymmu.
gormeilio mawr na bychan,
Ond byw 'n weddus yn dy ofan.
Nâd i'n ddilyn afreolaeth,
Na chynhennu mewn cwmpniaeth,
Nac ymdynnu a'n Captenni,
Na byw 'n aflan mewn drygioni.
Nâd in dreisio gwraig na morwyn,
Nac anrheithio un dyn addfwyn,
Rhag i'th lîd gyfodi 'n herbyn,
A'n troi bawb tan ddwylo'r gelyn.
Gwna ni bawb yng hanol rhyfel,
Fyw fel pobol yn dy demel,
A fae bôb yr awr yn galw,
Am dy gymmorth idd i cadw.
Lle 'r ym beunydd ym-mhyrth angeu,
Ar flaen peics a geneu r gwnneu,
Pâr in fyw bob awr yn d'ofan,
A throi heibio buchedd aflan.
Ni wyr un
Pa.
pwy awr pwy ennyd,
Y rhy gyfrif am ei fywyd,
Gar dy fron o Farnwr cyfion,
Pâr in fyw gan hynny 'n vnion.
Gwna ni 'n barod ddwad attad,
Bôb yr awr O anwyl Geidwad,
Nâd in fyw un awr mewn pechod,
Rhag ein cyrhaedd yn amharod.
Nâd in wneuthur dim drygioni,
Nac vn
Gwei­thred.
herc na allom roddi,
Gownt
Cyfrif.
oi blegid heb gwilyddio,
Ddydd y farn pan doir i
Ymddan­gos.
ympyro.
Arglwydd achub ni dy weision,
A gwradwydda ein gelynion,
Cadw ein Brenin a'i frenhiniaeth,
A rho iddo 'r fuddugoliaeth.

Cyngor i'r Porthmon.

OR'dwyd Borthmon dela 'n oneist,
Tâl yn gywir am y gefaist,
Cadw d' air, na thorr addewid,
Gwell nag Aur mewn côd yw
Coel, cymmeriad
credid.
Na chais ddala 'r tlawd wrth Angen,
Na thrachwanta ormod fargen,
Na fargenna â charn lladron.
Ni ddaw rhâd o ddim y feddon.
Gwachel brynu mawr yn echwyn,
Pawb ar air y werth yn 'scymmyn:
Prynu 'n echwyn y wna i Borthmon,
Ado'r wlâd a mynd i Werddon.
1 Thes. 4.6
Gwachel dwyllo dy fargenwŷr,
Duw sydd farnrwr ar y twyllwyr:
Pa dihangit tu hwnt i Werddon,
Duw fyn ddial twyll y Porthmon.
Byth ni rostia un o'r twyllwŷr,
Dihar. 12:27,
'Rhyn y heliant medd y Scrythyr:
Ni ddaw twyll i neb yn ennill,
Fe red ymmaith fel trwy 'r rhidill.
Gwachel feddwi wrth Borthmonna,
Gwîn hel Porthmon i gardotta:
Os y Porthmon y fydd meddw,
Fâ'r holl stoc i brynu 'r Cwrw.
Dela 'n union,
Bydd ofa­ [...]us am dy enaid:
carca d'enaid,
Na
Na ddôs ymmaith:
ddifanna â da gwirionaid,
Pa difannyd ir
Holand.
Low Cwntres,
Dial Duw y fyn d'orddiwes.

Cyngor cyn mynd i garu.

Gen. 24 7.
PAn yr elech gynta i garu,
Galw ar Dduw os myn di ffynnu:
Cais ei yspryd i'th gyfrwyddo,
Hebddo nid oes lŷn it lwyddo.
Rhôdd arbennig oddiwrth Dduw,
Dihar. 19.14.
Yw gwraig rasol, weddaidd,
Addas. Preg. 7.26.
wiw,
Rhôdd na chaiff Pôb rhai o honi,
Ond y sawl y fo 'n ei ofni.
Cais gan d' Arglwydd hyn o Rôdd,
Dihar. 10.24.
Di gei
Briodi:
faitsio wrth dy fôdd,
Cais ei nerth, a'i help, a'i gyngor,
Di gei bôb rhai ar dy ochor.
Ymddarostwng i'th Rieni,
Col. 3.20.
Cyn y ceisiech briod itti,
Cais eu hwllys mewn môdd addas,
Gen. 27.46
Felly ffynnia dy briodas.
Fe fyn Duw it ymgynghori,
Barn. 14, 2
A'th Dâd, a'th fam, cyn priodi,
Ac ymfaitsio 'n ôl eu hwllys,
Tro na cheisiont
Priodas,
faits, anweddys.
Ni fyn Duw i'th Dâd dy fwrw,
Lle na byddo Duw'n dy alw,
Lle na allo 'r Galon hoffi,
Lle na bo cyfaddas itti.
Os llawn o râs, os glân o ryw,
Os pûr o gorph, a môdd i fyw,
Os mwyn, os doeth, os da yw 'r ferch.
Lle galwodd Duw di, rho dy serch.
Mae 'r Tad a'r fam, yn rhwym ith
Gynnor­thwyo. Bar. 14.4, 5 Col. 3.21. 1 Cor. 7.9.
ffwrddro,
Mae 'n erbyn Duw, ir rhain dy rwystro:
Cyffroi 'r yspryd y wna hynny,
A themptio 'r cnawd i odinebu.
Na ddigia 'th Dad o bydd lle i beidio,
'M-mhôb peth gweddus, gostwng iddo,
Cais ei gyfnerth yn barchedig,
Cais yn fwyn, fe ddyru 'n ddiddig.
Cais wraig dduwiol o'r iawn ffydd,
O grefydd Ghrist, heb nag, heb
Gyndyn­rwydd. 2 Cor. 6.14, 15, 16.
nŷdd:
Mewn un gwely byth ni chytfydd,
Gŵr a gwraig o amryw grefydd.
Cais wraig
Onest. Ezek. 16.44.
ddiwair o Rieni,
Rhyw a ym-lysc i ddrygioni:
Oni cheidw Duw rhag
Cwdwn.
Nam,
Fe
Gwymp.
drippia 'r ferch lle trippio 'r fam.
Cais wraig hygar, gryno, gruaidd,
Na
Ymhoffa.
phansia forwyn ffiaidd:
Trîst ac oer, a dôf, a diflas,
Y fydd cariad at un atcas.
Cais wraig ddistaw, dda ei nwydeu,
Ddôf ei nattur, bâch ei chweddleu:
Dih 27.15. Dih. 17.12
Gwaeth nâ defni, gwaeth nag Arthes,
Gwaeth nâ gwiber yw Scoldies.
Cais wraig fedrus, ddoeth, rinweddol,
Honno 'th gôd yn Ben i'th bobol,
Dihar. 31.22, 23.
Honno leinw dy gornele,
Honno bair i'th galon chware.
Cais wraig hygar, a gwraig fedrus,
Cais un rasol a chyssyrus:
Llom yw'r ford, ac oer ywr gŵely,
Lle bo'r wraig heb drefnu 'r lletty.
Cais wraig weddus ar ei gwên,
Nid rhy ieuangc, nid rhy hên:
Dih. 17.22
'R hên rhy oer a'th lâdd â'i pheswch,
A'r llall a bair it aflonyddwch.
Cais un ufydd megis Sara,
Cais un ddissym fel Rebecca,
Cais un Serchog megis Rachel,
Cais un fedrus fel Mam Lemuel.
Cais un rasol, hygar, hyfryd,
Dih. 11.16
Suber, Sanctaidd, lân ei bywyd,
Araf, weddus, dda ei ymddygiad,
Dih. 15 1.
Hi dâl mwy nâ chyfoeth tair gwlad.
Gwachel goegen falch, ddifeder,
Gwachel
Vn afrwyog. Dih. 21.19 Dih. 28.6.
Soga Sû [...], ansuber:
Gwachel un oludog ffrom-ffôl,
Honno'th flina di a'th bobol.
Gwachel wraig rhy wen, rhy gynnes,
Hi fydd neidir yn dy fynwes:
Odid gweled medd y frân,
Wraig rhy wen â chalon lan.
Na chais wraig a
Cynnys­gaeth.
gwaddol lawer,
Ac heb fedru trîn ei phwer:
Mwg, a niwl, a llif yntreio,
Yw gwaddol mawr heb fedru drinio.
Or bydd ond dwy it gael dy ddewis,
Ʋn yn frâs, a'r llall yn fedrus:
Gâd i fynd y frâs ddifeder,
Cais y fedrus â'th holl bwer.
Y ddoeth a'r dda, a ddaw i ddigon,
Dihar. 31.15, 18, 25.
O ddydd i ddydd hi wella ei dynion:
Ni chwsc hi 'r nôs, ni phaid ei byssedd,
Nes cael cyfoeth ac Anrhydedd.
Yddol a fwrw ei Thŷ i lawr,
Dih. 14.1.
A 'r ddoeth a adail Drefydd mawr:
Yddol a bair i'w gŵr ochneidio,
A'r ddoeth a ddwg Anrhydedd iddo.
Y ffôl ei Phen y flina Gawr,
Ac anrheithia 'r gwaddol mawr,
Gan lwyr droi ei
Gan yrru llawer yn ychydig.
Phacc yn Phardel,
Nes gwradwyddo 'r ffrins a'r genel.
Archoll calon, Baich anesmwyth,
Defni dyfal, Gwawd iw thylwyth,
Jau yn gwascu, Sarph yn pricco
Brathu.
,
Yw Gwraig ddrwg: Gwae 'r gwr a'i caffo.
Duw â'i yspryd a'ch gyfrwyddo,
I gael 'r ore a'th fodlono,
O ddawn, o dda, o râs, o ryw,
Wrth fôdd dynion, wrth fodd Duw.

Canmoliaeth Gwraig Dda.

Preg. 4.13.7.1. Dihar. 16.32.
GWell Bachgen doeth râ Brenin ynfyd,
Gwell Enw da nag ennaint hyfryd,
Gwell pwyll nag Aur, Gwell grâs nâ grym,
Gwell Dyn nâ dâ, Gwell Duw nâ dim.
Gwell Igir ddoeth yn ofni Duw,
Dihar. 15.16.
A 'chydig bach o fôdd i fyw,
Nâ 'r ddol ddiddawn o genel grîn,
A thryssor mawr heb fedry drîn.
Gwraig rinweddol, hygar, hyfryd,
Dihar 31.1 [...], 14.
Sydd gan gwell râ byd o olud:
Gwell nâ Thir,Thai,Thryffawr,
Gwell nâ'r Perls a'r Meini gwerthfawr.
Llong yn llawn o werthfawr dlwsse,
Perl a chan-mil o ri [...]wedde,
Maen gwerth­fawr.
Gemm na feidir neb ei brissio,
Yw Gwraig dda ir sawl a'i caffo.
Piler Aur mewn Morteis Arian,
Dihar. 12.4.
Twr rhag Angeu i Ddŷn egwan,
Coron hardd, a Rhan rhagorol,
Grâs ar râs yw Gwraig
Vertuous
rinweddol.

Rhybydd a chyngor ir Godinebwr.

GWrando 'r Godinebwr aflan
Air o Gyngor genni 'n gyngan,
Cyn yr elech di mor ddiriaid,
Yn dy
Chwant.
wûn i ddamnio d'enaid.
Gwel dy fargain front anhwaith,
Cyn y bwrech dy hûn ymmaith,
Ystyfid:
Marcca d'ennill, bwrw 'th golled,
Ystyr ble 'r wyt ti yn myned.
Rwyt ti'n mynd i dŷ putteiniaid,
I
Rhyngu bodd.
blessio 'r corph, i ladd yr enaid,
I ddigio Duw, I nyrddo ei Demel,
I 'mado â Christ, i 'm-lynu â chythrel.
Rwyt ti 'n mynd fel ffôl i werthu
D'enaid anwyl, Pridwerth Jesu,
Ffafar Duw, a'i deyrnas lawen,
Am gael gorwedd gydâ phutten.
O! na wna mor dost â'th enaid,
Dih 7.27.
Ai roi rwygo rhwng cythreuliaid,
Yn h [...]n vffern am gael gronyn,
O
Plesser.
drythyllwch ir cnawd melyn.
O! na werth y nêf gyfoethog,
Ffafar Duw a'th Brynwr serchog,
Gwir Angelion, gwlad goleuni,
Am gael
Difyr­rwch.
plesser mewn drygioni.
Pwylla, Aros, nâd dy dwyllo,
Margain hallt yw 'r fargain honno:
Am gael tippyn o drythyllwch,
Na werth nêf, a'i holl ddedwyddwch.
Cno dy dafod, pîg dy lygad,
Tro dy wegil, na fydd anl [...]ad:
Gwachel. Am yr ym­swynotrwy groesu 'r talcen, nid yw hynny ond papy­ddiaeth ac oferedd. Dihar. 7.22, 23.
Ymswyn rhag ir fâll d' o [...]chfygu,
Ac na chyrcam odinebu.
Censydd Satan sy'n dy arwain,
Wrth edefyn i dŷ 'r buttain,
(Megis arwain ŷch ir lladdfa)
I lâdd d'enaid trwy butteindra.
Clyw 'r 'Postolion a'r Prophwydi,
1 Cor. 6.18.
A'r holl scrythur i'th gynghori,
Wechlyd rhag y cyfryw bechod,
Eph. 5.5, 6
Rhag dy daflu i uffern isod,
Ai di uffern i'th
Boeni.
dormento?
Ai di'r Brwmstan poeth ith
Bobi. Datc. 21.8
frwylio?
Am gael gorwedd megis filain,
Ambell pryd ym maglau puttain.
Ai di orwedd ir tywyllwch?
Ai dî ir carchar di-ddiddanwch?
Ai di drigo at blant Satan?
Am gofleidio menyw aflan.
A droi di ssafar Christ oddiwrthyd,
A'i Angelion hygar, hyfryd?
Heb-gael dim oddiwrth y fargain,
Ond cusanu gweflau Puttain.
Fiei rhag cwilydd, tro yn d'wrthol,
A dôs adres yn ddifeiriol:
Na werth nêf am gariad puttain,
Ni wnai Esau o'r fa [...]h fargain.
Cymmer gyngor, ofna Dduw,
Bydd o­falus am.
Careca d'enaid tra fech byw,
Gwachel wneuthur ti a'ch
Llangces
Riain,
Aelod Christ yn aelod puttain.
Cadw'sh gorph yn lester Sanctaidd,
1 The [...]s. 4.
Temel Dduw yw
Sef corph y duwiol. 1 Cor. 6.15, 19.
corph caruaidd,
Aelod Christ, preswylfa 'r Drindod,
Gwachel nyrddo hwn â phechod.
Gwybydd nâd oes pechod gassach,
Nâ godineb brwnt a lloscach,
Y wnaeth difa da a dynion,
Gen. 6. Gen. 19.
A'r dwr diluw, tân a brwmston.
Digio Duw, a
Boddhau.
phlessio 'r cythrael,
Gryddfu 'r yspryd, nyrddo ei Demel,
Croeshoelio Christ, halogi aelod,
Y mae 'r rhyfyg brwnt yn waftod.
Pydru 'r corph, a damnio 'r endid,
1 Cor. 6.9, 10. Dihar. 5.8, 9, 10, 11.
Llygru 'r enw, nyrddo 'r ddwy-blaid,
Difa 'r cyfoeth,
Diwync.
staino 'r eppil,
Mae 'r godineb brwnt yn rhigil.
Llanw 'r Deyrnas o fastardiaid,
Llanw 'r Eglwys o Butteiniaid,
Llanw 'r Tai gam 'tifeddion,
Mae godineb medd y doethion.
Hela dynion i gardotta,
Dih. 6.26.
Wna godineb a phutteindra;
Ac fel
Goddaith Flamm, megis mewn eithyn neu grug.
gwddath o dân prysur,
Difa cyfceth godinebwyr.
Pan bo pôb rhyw bechod diffaith,
Heb lâdd un ond ûn ar un-waith,
Mae godineb brwnt mor sceler,
Yn lladd dau bob gwaith y gwneler.
Er nad oes un pechod atcas.
Ag all torri rhwym priodas,
Mae godineb câs yn torri,
'R hôll briodaseu mae 'n halogi.
Gwaeth nâ lleidyr, gwaeth nâ
Llofrudd.
mwrddrwr,
Gwaeth nâ neb yw 'r godinebwr,
Sy'n lladd enaid dau ar vn-waith,
Pan bo 'r lleill yn lladd cyd ymmaith.
Nid yw 'r lleidyr, wrth ei ofyd,
Ond lledratta i gadw ei fywyd:
Mae 'r patteiniwr yn ei afraid,
Wrth butteindra 'n
[...] 30, 31, 32. [...]lle­d [...]d yn gystal a godineb yn bechod sy'n damnio, ond bôd godineb yn gwneuthur hynny yn fwy na'r llall.
lladd ei enaid.
Er na fynnei 'r pharisaeaid,
Lâdd y sawl 'amharchei henafiaid,
Etto mynnent lâdd er hynny,
'R wraig y fyddei 'n godinebu.
Cyfraith Dduw sy'n gaeth yn erchi,
Yn ddi-ffafar lâdd â meini,
Y gŵr a'r wraig a odinebo,
Lev. 20.10
Mae 'r godineb yn gâs gantho.
Mae 'r godineb brwnt mor
Ddiffaith
ffinion,
O flaen Duw a'i holl Angelion,
Ac na fyn i nêb o'r brodyr,
1 Cor. 5.11.
Fwytta 'ng-hyd â'r godinebwyr.
Mae mor ffinion, mae mor ffiaidd,
Ac na fyn y scrythur sanctaidd,
Eph. 5.3.
Un-waith enwi peth mor fydyr,
Chwathach arser idd i wneuthur.
Mat. 5 2 [...]. Job 31.1.
Christ sy'n erchi cadw 'r llygad,
Rhag y cyfryw bechod anllad:
Mynych trwy ffenestri 'r llygaid,
Y mae hwn yn llâdd yr enaid.
Cyn trachwantech vn wraig wenn,
Tynn dy lygad ffwrdd o'th ben:
'Rhwn na ffrwyno lygad
Aullad, godinebus.
wantan.
Yn hân vffern y chaiff
Llosei.
frwylian.
Y mae 'r pechod hwn mewn calon,
O flaen Duw yn bechod creulon,
Er na ddelo bŷth mewn gweithred,
Mat. 5.28.
Mae â'i chwant yn lladd yr enaid.

Cyngor ir Meddwyn.

OS meddwyn wyt yn arfer
Ysed.
chwiffo
Gwîn, a chwrw, a Thobacco,
Llêef am râs ar Dduw yn fuan,
I orchfygu meddwdod aflan.
Os cwympaist yn y
Pwll.
wins o feddwdod,
Llêf am gymmorth oddi-vchod,
Ni all dyn na diawl nac Angel,
Godi o'r wins o'r cyfryw nifel.
Nid â'r cythrel meddw o'th growyn,
Mwy nâ'r cythrel mûd o'r plentyn,
Nes dêl Christ â'i nefol yspryd,
I droi 'maes trwy weddi ac ympryd.
O gweddia dithe 'n wastod,
Am gael nerth yn erbyn meddwdod:
Ac ymprydia rhag gormoddion,
Ac rhag tramwy lle bo'r meddwon.
Nid gwell meddwyn er gweddio,
Heb wachelyd ac ymprydio:
Gweddi ac ympryd sydd yn groyw,
Yn gorchfygu 'r cythrael meddw.
Os gweddij 'n erbyn meddwdod,
Ac heb waglyd Tie 'r ddiod,
1 Thes. [...].21.
Ni thâl gweddi i ti ddimme,
Eisieu gwaglyd y Tafarne.
Dannedd llew yw dannedd meddwdod,
Ni chyll ei ddant o'i grâff o honod,
Nes dêl Christ y llew diofan,
I sigo et shol, a'th dynnu o'i safan.
Ni ddaw march o'r ffoes lle soddo,
Nes dêl chwech neu saith i lysco:
Ni ddaw dŷn o'i feddwdod aflan,
Nes dêl Christ i lysco allan.
Na chymmell nêb i yfed gormod,
Yfed pawb ei rhaid o'r ddiod;
Os myn ûn feddwi megis ci,
Meddwed ê, na feddwa di.
Rho barch i'th well o'r
Os hydd itti ddy­fod.
doi iw plith,
Trwy barchu 'r sol heb yfed rhith:
Os perchi 'r gwr trwy chwiffo 'r cwppan,
Wrth barchu 'r ffrind, di amharchu 'th hunan.
Jechyd trist, ac Jechyd afiach,
Yw yfed Jechyd a'th wna 'n glafach:
Byth ni pharchaf Jechyd un,
A waetho 'm Jechyd i fy hun.
Rhai sy'n chwerthin am fy mhen,
Am fôd yn sobr heb fawr chwen,
Psal. 119.136.
Minneu 'n wylo 'r deigreu hallton,
Weld pob rhai o'r rhain yn seddwon.
Y meddw chwarddodd am fy môd,
Yn cadw 'ngheiniog yn fy 'nghôd,
Y nawr sy'n wylo 'r dwr yn frŵd,
Wrth
Geisio.
feggian ceiniog fâch o'm cŵd.
Er mwyn Jesu gwachel feddwdod,
Gwaeth yw hwn nag vn rhyw bechod,
Mae 'n troi dyn ar lûn y cythrel,
Ugain gwaeth nag un anifel.
Tynn o'r Tafarn, gwachel feddwdod,
Na chais fynd yn drech nâ 'r ddiod:
Ni
Chafodd.
chas vn o'r trecha arni,
Ond y gilie 'n ebrwydd rhagddi.
Alexander a
Orchfy­godd.
gwngcwerodd,
Yr holl fŷd y ffordd y cerddodd,
Ond y ddiod yn dra sceler,
A gwngcwerodd Alexander.
Gwell yw diangc nag ymdrechu,
Gwell yw cilio nag ymdynnu:
Gwell rhoi'r gore' ir hwrswn cwrw,
Nag ymostwng iddo 'n feddw.
Profaist.
Treiaist feddwyn dy rym ddengwaith,
Cwympaist dan y ddiod ganwaith,
Oni chymry'r traed oddiwrthi,
Hi ry etto gwdwm itti.
Rhai fyn maflyd cwymp a'r ewrw,
A mynd yn drech râ'r ddiod loyw,
Ni bu 'rioed y gas y trecha,
Ond y gilie 'ddiwrthi 'n gynta,
O doi at dân fe lysc dy grimpe,
O doi at sarph hi frath dy sodle,
O doi at bûg, ond cwrdd, fe 'th nyrdda,
O doi at ddiod gref hi 'th feddwa.
Cil rhag sarph rhag iddi 'th frathu,
Cil rhag
Cornwyd.
plâg rhag iddo 'th nafu,
Cil rhag tân rhag iddo 'th losci,
Cil rhag Gwîn rhag iddo 'th feddwi.
O holl
Caeth­wesion.
slafiaid y bŷd ymma,
Caetha slaf yw 'r slaf i sola,
Ni chais hwn tra bywyd gantho,
Ond ei fola 'n feistir iddo.
F'â 'r meddw ir
Tafarndy
Inn yn gâll,
Peldyn rhesymol.
yn gwmpli,
Fe ddaw maes heb gôf, heb gyfri,
F'â mewn fel dŷn, f'â maes fel nifel,
Fe chŵd fel ci, fe rôch fel cythrel.
Dihar. 23.10, 21.
F' ollwng meddwyn Duw a'i ddonie,
Tai a Thîr i fynd i chware:
Fe geidw ei afel ar bôb
Ar bôb fenyw ofer
Sini,
Fe gyll ei hun, a'i gôf, a'i gyfri.
Gynt ni feddwei ond bedlemmaid,
A'r rhai gwaetha o'r begeriaid:
'Nawr ni chaiff bedlemmaid tlodion,
Le i feddwi gan fonddigion.
Brwnt gweld Barnwr mewn anhemper,
Neu Bendefig draw 'n y gwtter;
Brwnt gweld Cawr yn
Caeth­was.
slâf i'r cwrw,
Brwnta gyd gweld ffeiriad meddw.
Cyfraith dda oedd dodi meddwon,
Fel plant bychain dan
Golygw­yr.
drycholion:
Os ni fedrant fwy nâ bechgin,
Drefnu.
Ordro eu hun, nac ordro eu
Eu golud
lifing,
Nid oes rheswm na naturiaeth,
Gan y meddw drîn ei
Pwrpas.
arfaeth,
Eisieu vn o'r rhain i
I ar­wain, i o­falu trosto
arail,
Gwaeth yw 'r meddw nà 'r anifail,
Blîn na feder vn dyn meddw,
Na'i reoli 'hun yn hoyw,
Och! na gadel i neb arall,
Lwyr reoli 'r meddwyn angall.
Esay 5.11
Gwae medd Duw y dŷn y gotto,
Y boreu glas-ddydd i gwmpnio,
Ac arhosso gyd â'r ddiod,
Nes y nyunir ê gan feddwdod.
Y mae uffern boeth a Satan,
Esa. 5.14.
Yn lledanu ar llêd eu safan,
Ac yn chwennych llyngcu 'r meddw,
Yn ei feddwdod cyn bo marw.
Gwae fo crŷf i chwiffo cwrw,
Esay 5.22, 24.
Ac i gymmysc diod loyw;
Ni âd Duw na gwraidd na himpyn,
Heb ei difa ir fath feddwyn.
Gwae ro ddiod grêf i feddwi,
Ei gymmydog, iw ddinoethi;
Mae Duw 'n digio wrtho 'n llidiog,
Am ladd enaid ei gymmydog.
Tynn ar frŷs o'r gors o feddwdod,
Rhag dy lyngcu yn amharod:
O hîr aros ar draeth sugyn,
Llwyr yth lwngc tra fech yn rofyn.
Pôb pechadur y gais guddio,
Faint o feiau a fo arno:
Ond y meddw fynn ddinoethi,
A datcuddio ei holl frynti.
Adda geisi odd guddio 'n
Ofalus.
garccys,
Ei droseddeu â dail ffigys:
Noe y fynne lwyr ddarguddio,
Yn ei feddwdod faint oedd gantho.
Gen. 9.21
Christ sy'n gwardd i gristion fwytta,
Gydâ 'r meddw, glwth ei fola,
Ac ymgadw rhag dwad atto,
1 Cor 5.11 2 Thes. 3.6
Fel rhag dyn a'r cowyn arno.
Fel y gyrr y mwg o'r llester,
Yr holl wenyn o'i efinwythder:
Felly gyrr y meddwdod aflan,
Râs a dawn o'r galon allan.
Dan. 4.32.
Ni bu meddant frenin Babel,
Ond saith mlynedd ar lûn nifel:
Y mae 'r meddw ar lûn mochyn,
Hwy nâ hwnnw law er blw yddyn.
Dihar. 23.29, 30.
Einioes fyrr a chylla afiach,
Lletty llwm a drwg gyfeillach,
Coppa twnn, a shiacced frattog,
Y gaiff meddwyn yn lle cyflog.
Fe werth meddwyn dref ei Dâd,
Ar maint y fedd o fraint yn rhad,
A phôb nifel sy'n ei helw,
Gwerth ei grŷs i brynu 'r cwrw.
Fe medu 'r meddw â'i holl bethau,
Ai aur ai arian, a'i dryssorau,
Ei dai, ei dir, ei blant, ei briod,
Ond ni' medu bŷth â'i feddwdod.
Gwir Dduw 'r meddw ydyw
Bachws oeddyr hên eulynadd­olwyr yn er gyfri yn Dduw 'r gwin.
Bachws,
Tafarn hwdlyd yw ei Eglwys,
Gwraig y Tafarn yw ei ffeiriad,
Y pott ar bîb yw ei
geraint, y rhai mewn cymmun­deb ag ef.
gyfnessiad.
Bydd di sobr trech di 'n fachgen,
Nâd ir bola speilio 'r cefen,
Nâd i afraid ieungctid hala,
Bol mewn henaint i gardotta.
Deut. 21.18, 19, 20, 21.
Cyfraith Dduw a fynn labyddio,
Pob oferddyn ag a feddwo;
I ddiwreiddio 'r cyfryw frynti,
Ac i rw ystro eraill feddwi.
Luc. 21.34, 35.
Fe ddaw Christ yn chwyrn heb wybod,
Ar ddyn meddw i ddial meddwdod,
Fe'i gwa hana, fe'i rhy orwedd,
Mewn tân poeth i ringcian dannedd.
Duw ro grâs i bob rhyw Gristion,
Yfed
Defnyn. 1 Cor. 6.9, 10.
deigryn lai na digon,
Cyn y hyfo fwy nâ'i gyfraid,
I lladd ei gorph, i ddamnio ei enaid.

Cân ynghylch y Diawl a'r Meddwon.

Y Cythrael twyllodrus sy beunydd heb orphwys,
1 Pet. 5.8.
Ond ceisio 'n ofalus ein twyllo,
I wneuthur pechode, pob amryw o feie:
Duw gatwo 'n heneidie ni rhagd do.
Fel y bydd cysgod ar ddisclair ddiwrnod,
Ein dilyn yn wastod wrth rodio;
Felly mae ynte yn canlyn ein sodle,
Yn gosod ei fagle i'n cwympo.
Duw gatwo pob Christion rhag Satan anghysion;
O 'wllys fyng halon rwi'n ceisio,
Gael dwyn ein eneidie 'ddwrth bob rhyw o feie,
O
Allan o gyflwr o golledig­eth.
vffern a'i phoene, a'i rwystro.
Meddwdod yw'r gore a'r penna o'r heinte,
O hono mae 'r beie yn himpo;
Tyngu, putteindra, gloddineb, lladratta,
Ac ymladd yw'r mwya sydd yndo.
Lle bo mwya 'r gynlleidfa, fe gân
Gan y trwmpet, neu ffyst y drwm.
y dantara,
Gyfeillion dewch yma i gwmpnio,
I hala hi 'n fuan trwy 'r ffenest ac allan,
Mi fydda fy hunan yn
Chware.
campo.
Ac yno hwy ddawan, fel Sawdwyrs yn fuan,
I'r man lle bo Satan yn ceisio,
I gymryd eu hafraid, heb
Gofalus
garcco am yr enaid,
A llawer o'r gweiniaid sydd hebddo.
Dechreuan yn llonydd fel haul-wen foreudd ydd,
Nes cwnnu tês glennydd a thwymo;
Y ddau-rydd y gocha, y tafod y floesga,
Y ddwy troed y ffaela a rhodio.
Gwedi darffo iddyn yfed, yn barod i fyned,
Fym Hostes am hened moes etto:
Llanw di 'r potte, yn llawn o'r vn gore,
Ni awn i ddechre
Ymyfed.
carowso.
Bellach moes ymma ddalen o'r Jndia,
A'i henw hi 'n benna tybacco,
Pibell a thewyn, neu ganwyll i nynnyn,
Nad orfod eu gofyn hwy etto.
Yscadan moes bellach, neu gig y fo halltach,
Spardyn
Cydyfed.
cyfeddach y baro,
I hyfed hi 'n
Lân.
hoyw, nes bo rhai yn feddw,
A darfod y cwrw a'i
Ddifa.
spendo.
Yno bydd dwndwr a briwo gŵr llwfwr,
Oni bydd ê gwmpniwr i growfo;
Gelwch yn galed, na
Arbed­wch.
speriwch ag yfed,
Na chwrw na chlared lle bytho.
Rhai fydd yn i fwrw, rhai fydd yn i gadw,
A rhai fydd yn arw yn i
Hyfed.
sipio;
Rhai yn eu saesneg, a rhai yn ei flrangeg,
A rhai yng wyddeleg yn
Ymdda­dlu.
pledio.
Rhai fydd yn tyngu, rhai fydd yn cynhennu,
A'r cythrael yn gwenu 'n eu
Mynych gyrchu at­ynt.
hawnto;
Atto f'eneidie, ceisiwch eich harfe,
Nid rhaid i chwi odde ddim gantho.
Yno bydd cleisie, ond odid glanastre;
Anhappus yw'r chware lle bytho,
Y cythrael cenfigennus, y bradwr,
Twyllo­drus.
hoccedus,
Anghenfil anghenus lle delo.
Nid oes neb heb ei feie, yn llawn o bechode,
Nid ydy rhai gore
Diangc.
yn scapo,
Na bo nhwy'n rhy vfudd yn rhwy feie na'i gilydd,
Yn dilyn llyferydd y
Y diafol.
Cadno.
O Arglwydd gorucha, rho ras i ni wella,
A chadw blant Adda rhag llithro;
Maddeu 'n pechode, a dwg ein heneidie,
I'r mann lle
Byddych.
bych dithe 'n grophwyso,

Cynghor yn rhybuddio dyn i ymgadw, rhag lleteua meddyliau drwg yn ei galon, ac i droi ei feddyliau, bôb amser i fyfyrio ar ddaioni.

MAe holl feddwl dŷn ysowaeth,
Gen. 6.5.
Gwedi lygru wrth naturiaeth:
Ni fyfyria ond drygioni,
Nes y darffo ei ail eni.
Nid oes dŷn ag all myfyrio
2 Cor. 3 5
Meddwl da, gwnaed orcu ag allo,
Nes cael gallu Duw a'i radau,
I gysrwyddo ei feddyliau.
O gweddia 'n daer gan hynny,
Psal. 51.1 [...]
Ar ir Arglwydd adnewyddu,
Dy feddyliau a'th amcanlon,
I fyfyrio ar yr vnion.
Felly denfyn Duw ei yspryd,
Luc. 11.13
I oleuo dy fedd, lfryd,
Ac i newid dy feddyliau,
I fwriadu 'r hyn sydd orau.
Nâd i feddwl drwg lectteua,
Jer. 4.14.
Yn dy galon rhag dy ddifa,
Gwâs yn ceisio llety i Satan,
Bôb yr awr yw 'r meddwl oflan.
[...] Col. 3.1, 2
Dôd dy feddwl a'th fyfyrdod,
Ar y pethau sydd oddivchod,
Lle mae Christ dy Brynwr hygar,
Nid ar bethau s'ar y ddaiar.
Rhod dy fryd ar bethau nefol,
Ac na sercha ddim daiarol:
Meddwl am y wlad y gorfydd,
Aros ynddi yn dragywydd.
Meddwl am y pethau brynodd,
Christ a'r waed it yn y nefodd,
Heddwch Duw a choron hysryd,
Teyrnas hardd, a
Tragwy­ddol. Psal. 139.
didrangc fywyd,
Meddwl dy fôd tra fech byw,
Bôb yr awr yngolwg Duw;
A bôd Duw yn gweld d'ymddygiad,
Ym-mhob mann a chil ei lygad.
Meddwl fôd y gelyn gwaedlyd,
1 Pet. 5.8.
Ddydd a nôs fell llew newynllyd,
Yb troi daetu ith orweddfa,
Bôb yr awr yn ceisio'ch ddifa.
Meddwl am reoli d'eiriau,
A'th weithredoedd, a'th feddyliau,
Wrth fôdd Duw, rhag iddynt beri,
Gwascfa ith Enaid ddydd dy gyfri.
Datc. 1.7. Mat. 25.10
Meddwl fal y daw dy Brynwr,
Yn y cymlau i chwareu 'r Barnwr:
Ac ymgweiria iw gyfarfod,
Fel priod-serch gwrdd â'i phriod.
Rhuf. 14.12. Preg. 12.14 1 Cor. 4.5.
Meddwl, fal y gorfydd rhoddi,
Ddydd y farn mor fanol gyfri,
Am y meddwl drwg a'r bwriad,
Ag y roir am weithred anllad.
Meddwl fal yr awn oddi ymma,
Ir tŷ priddlyd am y cynta,
Mewn Cŵd canfas heb vn
Geiniog.
Beni,
Pe bae inni
Ardreth.
rent Arglwyddi.
Meddwl fôd yr Angeu aethlyd
Ar farch glâs yn gyrru 'n ynfyd,
Datc. 6.8.
Fal na ddichon hên nac ifangc,
Rhag ei saeth a'i ddyrnod ddiangc.
Meddywl hefd y daw Ange,
Megis lleidir am ein penne,
Preg. 9.12.
Heb vn vdcorn i'n rhybyddio,
Yn ddi-ymgais i'n an [...]heithio.
Meddwl nad yw bywyd vn dyn,
Jac. 4.14.
Ond fel
Cloch ar ddwr.
Bwmbwl ar y llyn-wyn,
Neu fel Padell bridd neu wydur,
'Rhwn yn hawdd y dyrr yn glechdur
Yn dd [...]y­lliau.
.
Meddwl fal y rhêd ein heinos,
Job. 7.6. Luc. 12.19, 20.
Megis llong dan hwyl heb aros,
Ac y derfydd am ein hamser,
Cyn inn' dybied dreulio ei hanner.
Meddwl fôd y bŷd yn gado,
Pawb yn llwm i fynd o hano,
Ac fel iâ yn torri danynt,
Pan bo rheita ei gymmorth iddynt.
Meddwl na ddaw aûr nac arian,
Tai na thir or drodfedd fychan,
Gydâ neb i fynd ir frawdle,
I roi cyfrif am eu beie.
Meddwl pan y delo Ange,
Heb. 9.27.
Gorfydd gado 'r bŷd a'i bethe,
A mynd o flaen Christ yn wisci,
Am y Cwbwl i roi cyfri.
Meddwl fal y bydd dy dlysseu,
A'th holl olud, a'th holl swyddeu,
Yn ymofyn newydd feistri,
Cyn y caffech gwbwl oeri.
Meddwl dosted y fydd pechod,
Yn dolurio dy gydwybod,
Datc. 20.12.
Pan y tafler yn dy ddannedd,
Ddydd y farm dy holl anwiredd.
Preg. 12.14. Mat. 12.36
Meddwl fal y gorfydd rhoddi,
Ddydd y farn ir Arglwydd gyfri,
Am bob gweithred ddrwg y wnelom,
A'r gair ofer ag y ddwetom.
Datc 6.15, 16.
Meddwl fal y bydd gwyr gwychion,
Sydd heb ofni Duw na dynion,
Ddydd y farn yn crio 'n scymmyn,
Am ir creigidd gwympo arnyn.
Datc. 7.9. hyd yr 16.
Meddwl fal y bydd y duwiol,
Yn y nêf mewn braint rhagorol,
Yn clodfori Duw gorucha,
Pan bo eraill yn
Vffern.
Gehenna.
Meddwl fal y mae'r annuwiol,
Datc. 21.8 Marc. 9.44
Yn ymdroi mewn tân vffernol,
Ar Prŷf didrangc yn ei bwytta,
Bôb yr awr heb gael ei wala.
1 Joan 2.15.
Meddwl am hyn, a dibrissia,
Y bŷd hwn a'i wagedd mwya,
A myfyria trwy wîr grefydd,
Ar air Duw a'r bŷd na dderfydd.
Meddwl dŷn a rêd heb orphywys,
Ar y drwg neu'r da gyrhaeddwys,
Oni chaiff beth da i fyfyrio,
Ar y drwg fe rêd tra ganto.
Meddwl dŷn fel mâen y felin,
Y dreulia ei hun nes mynd yn gilin,
Oni roir rhyw rinwedd dano,
Iddi falu, a'i fyfyrio.
Meddwl weithio 'r gwaith y bwyntiodd,
Dy Greawdwr pan ith greuodd,
Ai wasnaethu â'th holl bwer
Nerth.
,
Yn dy alwad tra cech amser.
Meddwl mae gwell vn diwrnod,
Yn gwasnaethu 'r sanctaidd Drindod,
Psal. 84 10
Nâ'th holl ddyddiau, a'th holl oesach,
Yn gwasnaethu dim amgenach.
Meddwl cyn y gwnelech bechod,
B'wedd i attebu ddydd dy drallod,
A pha fodd y gallu ddiangc,
1 Thes. 5.3
Ddydd y farn rhag angeu didrangc.
Dôd dy feddwl ar ddaioni,
Nâd ar wagedd iddo ymborthi:
Hawdd y gallu i gyfrwyddo,
Os mewn pryd y ceisi ffrwyno.
Hawdd yw diffodd y wreichionen,
Cyn y 'mafloi yn y nenbren:
Jac. 4 7.
Hawdd yw newyd meddwl aflan,
Os gwrthnebyr hwn yn fuan.
Tro gan hynny 'n ebrwydd heibio,
Bôb drwg feddwl pan dechreuo:
Rhag ir gelyn mawr ei
Dichell.
hocced,
Drio 'r drwg feddwl ir drwg weithred.
Lladd blant Babel tra font fechgin,
Sang ar sarph tra foi 'n y plisgin,
Tynn y
Cancr.
gangren cyn ei gwreiddio,
Tor ddrwg feddwl cyn cynyddo.
Gâd wreichionen fach i gynnu,
Yn dy do, hi lysg dy lettu:
Gâd i feddwl drwg letteua,
Yn dy galon fe'th anrheithia.
Mor enby­dus yw meddwl annuwiol.
Na letteua feddwl aflan,
Yn dy galon mwy nâ Satan,
Os lletteui rwyt ti 'n derbyn,
Cennad i baratoi lle.
Harbinger o flaen y gelyn.
Rho dy fryd ar gadw 'r gyfraith,
A byw wrthi, yn ddiragraith:
1 Thess. 5.18.
Ac na ollwng Duw o'th feddwl,
Ond bendithia am y cwbwl.
Lev. 19.17. 1 Jo. 3.15.
Na fwriada ddrwg o'th galon,
I anrheithio dy gyd-gristion:
Lladfa.
Mwrddwr yw 'r fath feddwl gwaedlyd,
Gwachel rhagddo er dy fywyd.
Na thrachwanta wraig cymmydog,
Mat. 5.28.
Ac na hoffa ei llygaid serchog,
Nâd ith feddwl redeg arni,
Cans godineb yw i hoffi.
Zech. 7.10 Dihar. 23.10, 11.
Gwachel roi dy fryd na'th fwriad,
Ar anrheithio vn ymddifad;
Trais a blin orth ymder yw,
Y cyfryw fwriad o flaen Duw.
1 Tim 6.10
Gwachel chwennych Aur nac arian,
Tai na thir, trwy dwyll a choggan,
Nid yw'r cyfryw chwant a bwriad,
Ger bron Duw ddim llai nâ lledrad.
Rhwym dy feddwl, nâd e'i wi [...]i [...]n,
Ar oferedd mawr na bychan,
Nac ar ddim na ellech roddi,
Cyfryf.
Count am dano ddydd dy ddidri.
Cadw'th galon rhag drwg fwriad,
Marc 7.21 Zech. 8.17 Rhuf. 2.16 Preg. 12.14
Fel y cedwi'th law rhag lledrad:
Mac 'n rhaid atteb yn cyn gaethed,
Am ddrwg fwriad ar ddrwg weithred.

Cynghor i lywodraethu 'r ymadrodd wrth fôdd Duw.

BId dy eiriau yn wastadol,
Yn gristnogaidd ac yn rassol,
Yn rhoi grâs ir holl wrandawyr,
Eph. 4 29.
Ac adeiliad tra chymmessur.
Y mae bywyd, y mae Angau,
Yn y tafod, yn y genau:
Dih. 13.3.
Gwachel ddywedyd geiriau diraid,
Cadw d'enau, cedwi d'enaid.
Dilyn d' Arglwydd yn dy eiriau,
1 Pet. 2.22, 23.
Dywaid fel y dywede yntau,
Ni ddaeth twyll na gair anweddaidd,
Erioed y maes o'i enau sanctaidd.
Traetha 'n bwyllog, gwrando 'n escud,
Jac. 1.19. Dih. 10.19
Mae dau glust, vn tafod gennyd,
Aml eiriau bair cyfeiliorni,
Ni ddaeth drwg i neb o dewi.
Cyn y dywedych, meddwl ennyd,
Mat. 5.37.
B'wedd y myn mâb Duw id ddywedyd,
Yno dywaid 'r hyn sydd rassol,
A da i adail rhai an-neddfol.
Na ddoed 'madrodd brwnt o'th enau,
Eph 5 4. Eph 4 25.
Na gair ffol, na choeg ddigrifau,
Senn, na ffrost, na
Gwawd.
phrwmp, na chelwydd,
Ond bid rassol dy lyferydd.
Cadw d'enau rhag gair diraid,
Psal. 39.1. Mat. 12.37
Felly gelli gadw d'enaid:
Oni ffrwyni dafod anwir,
Yn ôl d'eiriau ith gondemnir.
Arfer iaith ac
lleferydd. Ps. 145.1, 2 Col. 3.16. Jac. 1.26.
Aeg gwlad Canan,
Bid am Dduw a'i air d' ymddiddan:
Wrth dy eiriau y cair gwybod,
O bwy wlad yr wyt yn hanffod.
Jac. 5.12. Heb. 10.29.
Nâd ith dafod arfer tyngu,
Cig a gwaed yr Arglwydd Iesu,
Rwyt ti 'n
Sathru.
damsing gwaed y cymmod,
Pan arferych gyfryw bechod.
Am air Duw nid oes id yngan,
Heb anrhydedd, parch, ac ofan,
Ac or cymru ei enw 'n ofer,
Di ae yn euog pan ith farner.
Dywaid beunydd leia ag allech,
Dywed yn rassol pan y dywedech:
Oni ddywedu eiriau hyfryd,
Gwell it dewi a sôn nâ dywedyd.
Gwachel fôd yn ddau dafodiog,
Dihar. 6.16, 17. Joan 8.44
Câs gan Dduw bôb dyn celwyddog:
Tâd y celwydd ydyw 'r Cythrel,
Gwas ir Diawl yw'r ffalst ei chweddel.
Zech. 8.16 Psa. 101.7.
Arfer draethu 'r gwir o'th galon,
Hoff yw 'r gwir gan Dduw a dynion,
Ni chaiff dyn celwyddog gredu,
Gair o'i wir pan bo 'n ei dyngu.
Na chno vn dŷn
Or in cefn.
llwyr ei gefen,
Ac nac arfer gair
Anair. Psal. 64 3.
drwg-absen,
Gwaeth nâ chleddau llym dau-finiog,
Ydyw enllib dŷn celwyddog,
Na ddwg dafod drwg anhappus,
Dih. 4.24. Psa. 140.3 Jac. 3.6.
Gwaeth yw hwn nâ gwenwyn lindus,
Gwaeth nâ marwor poeth yn llosci,
Gwaeth nâ saethau yn or Cewri.
Er fy mendith na lyffenwa,
1 Pet. 2.1. Mat. 5.22
Neb yn rhwyl, neu 'n ffol, neu 'n
dyn gwâg di-dda.
rhaca:
R'hwn a alwo ei frawd yn lletffol,
Mae ê 'n haeddu tân vffernol.
Gwachel adrodd faint y glywech,
Gwachel ddywedyd faint y wypech,
Dywaid wîr pan gorffo ei draethu,
Nes bo rhaid, gwell weithiau ei gelu.
Bydd ddeallgar pan ganmolech,
1 Pet. 3.8. Lev. 19.17
Bydd
Mwyn­aidd.
gwrteisol pan gyfarchech,
Bydd gariadus wrth geryddu,
Bydd drugarog wrth gyfrannu.

Gweddi am lywodraethu'r geiriau, a'r genau wrth fôdd Duw.

ARglwydd agor fy ngwefussedd,
Psal. 51.15.
I foliannu 'th Dduwiol fawredd,
A chyfrwydda di fy nhafod,
I ddatcanu maes dy fawr-glod.
Llanw ngenau, o'th wir foliant,
Psa. 40.10
Ith fendithio am fy llwyddiant,
Ath glodfori dâd trugarog,
Yn y dyrfa fawr luosog.
Llunia ngeiriau,
Llywod­raetha. Psa. 141.3.
llywia 'n hafod,
A chyfrwydda fy myfyrdod:
Clô a datclo fy nwy wefys,
Nâd fi draethu ond dy wllys.
Arglwydd cadw ddrws fy ngenau,
Nâd fi draethu ffiaidd eiriau,
Gwawd.
Ffrwmp, na ffrost, na senn, na chabledd,
Geiriau ffôl, na dim anwiredd.
Psal. 19.14
Bid myfyrrod fy holl galon,
Bid fy ngweithred a'm amcanion,
Bid fy ngeiriau oll yn ddiddrwg,
A chymmeradwy yn dy olwg.

Cynghor i ddyn fod bob amser o ymddygiad Christnogaidd.

Phil. 2.15.
BId d'ymddygaid yn gristnogaidd,
Yn
fwynaidd
gwrteisol, ac yn gruaidd,
Ym-mhob tyrfa 'delych iddi,
Megis plentyn ir goleuni.
Mat. 5.16. Phil. 3.17.
Bydd fel Seren yn discleirio,
Bydd fel Canwyll yn goleuo,
Bydd fel
Siampl.
Patrwn o gristnogaeth,
Ir rhai ddelo i'th gwmpniaeth.
1 Pet. 1.15
Bydd dra sanctaidd ir Galluog,
Bydd yn vnion i'th gymydog,
Bydd yn sobr it ty hunan,
Tit. 2.12.
Dyna 'r tri phwynt rheita allan.
Mat. 10.16 Luc. 10.3. Mat. 12.50
Bydd mor ddi-ddrwg ag yw 'r glommen,
Bydd mor gall ar sarph drachefen,
Bydd ddioddefgar fal y ddafad,
Hôff gan Ghrist y fath ymddygiad.
Bydd yn
Cymme­surol. Eph. 5.18
dempraidd megis Daniel,
Cadw 'r cnawd mewn
Ag ym­borth issel.
Diet issel:
Gwachel wîn a bwyd rhy foethus,
Rhag dy fynd yn afreolus.
Bydd yn
Onest 1 Thess. 4.3, 4.
ddiwair, nid yn anllad,
Bydd fel Joseph yn d'ymddygiad:
Rwyt ti yngolwg Duw bob amser,
Bydd gan hynny lân a syber.
Dela 'n vnion wrth fargenna,
Na thwyll vn dyn wrth farchnatta;
1 Thess. 4.6.
Duw ei hun sydd vnion faruwr,
Rhwng y gwirion
Syml.
plaen a'r twyllwr.
Bydd o ffydd a chrefydd vnion,
Tit. 2.2. Deut. 6.13
Ofna Dduw o ddyfnder calon,
Na wna ddrwg o flaen ei lygad,
Ym-mhob mann mae 'n disgwyl arnad.
Dilyn gyngor doeth Bregethwyr,
Heb. 13.17 1 Pet. 2.17 Rhuf. 12.18.
Ymddarostwng ith Reolwyr,
Bydd gariadus â'th gymdogion,
Ac heddychol â phob Christion.
Bydd dra grassol yn dy eiriau,
Bydd yn fedrus yn dy chwedlau:
Psal. 15.4.
Bydd yn gywir yn dy bromais
Addewid
,
Bydd ym-mhob peth, lân a
Gostynge­dig, ara­faidd. Mat. 5.48.
llednais.
Bydd di berffaith ym-mhob tyrfa,
Bydd fel Sant ym-mhlith y gwaetha:
Er diffeithed y fo 'r cwmpni,
Bydd fel Noe ym mysc y cewri.
Cyfarch bôb dyn yn dra suriol,
Rhuf. 16.16. Rhuf. 13.1, 7. Lev. 19.32
Gostwng i'th well yn gwrteisol,
Parcha 'r henaint a'r Awdurdod,
A rho 'r blaen ith well yn wastod.
Bydd ddioddefgar a chymmessur,
Col 3.8, Dihar, 16, 32.
Na fydd boeth, na thwym dy nattur:
Goddeu gamwedd cyn cynhennu,
Y ddioddefodd hwnnw orfu.
Ymddarostwng i'th
Ith well.
oreuon,
Duw ei hun a
Wrthwy­neba.
wrthladd beilchion:
Ac fe ddyru râs yn
Diwyd.
ystig,
Ir rhai vfydd gostyngedig.
Na falchia am vn rhinwedd,
Nac am gyfoeth ac
Dih. 16.5. 1 Thess. 5.18.
anrhydedd,
Ond rhô ddiolch prudd am danynt,
Rhag i Dduw dy adel hebddynt.
1 Tim. 2.9. Esay 3.16, 17.
Bydd di gryno yn dy ddillad,
Dôs yn lân yn ôl dy alwad:
Tor dy bais yn ôl dy bwer,
Na fydd goeg na brwnt vn amser.
Gwachel bechu er cwmpniaeth,
Rhuf. 6.23
Cyflog pechod yw marwolaeth:
Cnifer gwaith y bech yn pechu,
Cnifer Angeu wyt yn haeddu.
Mae cyfathrach er y dechreu,
Rhwng pôb pechod brwnt ac Angeu,
Fal na ddichon vn dyn bechu,
Na bo Angeu yn ei lyngcu.
Eph. 5.11, 12. Esa. 29.15.
Na fydd anllad yn dy chwedleu,
Na fydd aflan mewn corneleu,
Ym-mhob cornel bid d'ymddygiad,
Fal pyt faet wrth groes y farchnad.
Os cais dŷn, na Diawl, nac Angel,
Zech. 4.10
Gennyd bechu yn y dirgel,
Cofia fôd Duw â saith llygad,
Ym-mhob mann yn disgwyl arnad.
Jer. 16.17.
Er nad ydyw dyn yn gweled,
Yn y dirgel lawer gweithred,
Y mae Duw yn gweld y cwbwl,
Pan na bytho dyn yn meddwl.
Os trosseddi yn y dirgel,
1 Cor. 4.5. 2 Sam. 12.12.
Duw ddatguddia dy holl
Gyngor.
gwnsel,
Ac y
Ddatgu­ddia. 1 Thes. 3.6
faneg dy ymddygiad,
Ir byd yng wydd haul a lleuad.
Gwachel ddilyn drwg gwmpniaeth,
Pobol anwir ddigristnogaeth:
Os fe
Ddiwyna
nyrdda rhain d' ymddygiad,
Fel y nyrdda 'r
Pyg.
pitch dy ddillad,
Fal y hallta 'r môr y
Gyrhae­ddo.
granffo,
O'r dwr croyw ddelo atto,
Felly nyrdda pobol scymmyn
Arferion.
Foeseu 'r goreu ddelo attyn.
Gwachel neidir rhag dy frathu,
Gwachel
Chwar­ren. Psal. 26.4, 5.
bla rhag dy ddifethu:
Ac o ceri lechydwriaeth,
Gwachel ddilyn drwg gwmpniaeth.
Câr â'th galon bôb dyn duwiol:
Bydd gyfeillgar â'r rhinweddol:
Psal. 119.36.
Dilyn arfer y rhai doethion,
A ffieiddia 'r annuwolion.

Cynghor ynghylch bwytta ac yfed.

GWachel eiste i lawr i fwytta,
Nes bendithio 'r bwyd yn gynta:
Gwachel godi pan eisteddech,
Nes rhoi diolch am y fwyttech.
Christ ni fwyttei fara
Haidd. Jo. 6.9, 11.
barlish,
Chwaethach bwyd oedd well ei
Flâs.
relish,
Nes yn gyntaf ei fendithio,
A rhoi mawl i Dâd am dano,
Deut. 28.15, 18. 1 Tim. 4.4, 5.
Pam y cytcam vn-dyn fwytta
Bwyd Sy'ar felldith er cwymp Adda?
Nes yn gyntaf ei fendigo,
A Gair Duw â gweddi drosto.
Tôst yw gweled mor nifeilaidd,
Mor anneddfol, mor anweddaidd,
Y rhêd llawer dyn i fwytta
Bwyd, fel buwch y rêd ir borfa.
Tostach yw eu gweld yn cwnnu,
Odd'ar ford, i fynd i gyscu,
Fel y môch o'r trwc â ir dommen,
Heb roi diolch mwy nâ'r Assen.
Nid oes Sôn am râs cyn bwytta,
Nac am fendith Duw gorucha,
Nac am ddiolch gwedi porthi,
Mwy na'r môch y fae 'n eu pesci;
Deut. 6.11, 12. Deut. 8.10
Er bôd Duw yn rhoi gorchymmyn,
I bawb yn ol torri newyn,
Roddi moliant ar yr eitha,
Ir Duw mawr am lanw eu bola.
Gwachel fwytta ond dy ddigon,
Na fydd chwannog i ddainteithion;
Mwy nâ rhaid o
Ymborth.
ffâr llysseulyd,
Bair ir cnawd orchfygu 'r yspryd,
Os rhoi ir cnawd fwy nâ'i gyfraid,
Rwyt ti 'n porthi gelyn diriaid:
Os rhoi iddo lai nâ digon,
Rwyt ti 'n lladd cydymmaith ffyddlon.
Nac ŷf ddiod tuhwnt i fessur,
Gronyn bach a wsnaeth nattur:
Diod gadarn sydd yn peri,
I wŷr nerthol gwympo deni.
Gwîn a wnaeth i Noe ymnoethi,
Gen. 9.21. Gen. 19.33
Gwin a yrrodd Lot i ymlosci,
Gwin a dorrodd Gwddwg llawer,
Gwin orchfygodd Alexander.
Nâd dy ford yn fagal itti,
Psa. 69.22 Hos. 13.6.
Trwy lothineb câs a swrthni:
Rhag ir Gelyn dû dy hela,
Gablu Duw yn llawn dy fola.
Mae dau lygad yr ychedydd,
Yn eu gwaith wrth fwytta ei fwydydd;
Vn yn gweld ei ymborth hyfryd,
Llall yn gwarchod rhag y barcyd.
Bid dy lygaid ditheu 'n
Disgwyl.
waetan,
Ddydd a nôs rhag rhwydau Satan,
Rhwn y gais â'th fwyd dy faglu,
Wrth giniawa a swpperu.
Pan bo 'r ceiliog côch yn bwytta,
Bydd ei lygaid hwnt ac ymma,
Rhag ir barcyd llwyd ei
Ddryllio.
scliffiaid,
Tra fo e'n bwytta heb feddyliaid,
Felly bydded dy ddau lygad,
Dithe vwch dy fwyd yn gwiliad;
Vn yn canfod dy Greawdwr,
Llall yn gwarchod rhag y Temptiwr.
Gwachel fwytta dim a baro,
Ith gyd-gristion gwann dramcwyddo,
Y mae 'r Scrythur lân yn
Gwa­hardd. 1 Cor 8.13
gwrafyn,
Id trwy fwyd dramcwyddo vn-dyu.
Na châr fwytta bwyd dy hunan,
Doro ran ir tlawd a'r truan,
Galw 'r gwann i brofi 'th ginio;
Rhann â'r hwn s'eb dammaid gantho.
Ni chiniawe hên Dobias,
Nes cae e'r gweinaid bâch o'i gwmpas,
Ac ni
Arch­waetheu.
chorffe ddim dainteithion,
Nes rhoi rhan ir bobol dlodion.
Job 31.17
Job ni fwyttei fwyd yn felys,
Nes bae ymddifaid wrth ei ystlys;
Ac ni bydde iach ei galon,
Nes rhoi cyfran ir rhai tlodion.
Galw dithe 'r gweinaid tlodion,
Luc. 14.13, 14.
I gael cyfran o'th ddainteithion:
Felly gelwir dithe ar fyrder,
I
Sef os dyn grassol wytt.
gael rhan or nefol swpper.
Gwachel rwgnach ond bydd foddlon,
I beth bynnag fo Duw 'n ddanfon:
Bara a dwr oedd ffar ddigonol,
Gynt ir
Vchel­dadau. Dan. 1.12.
patriarcheid duwiol.
Daniel bâch a fydde foddlon,
2 Bren. 4.42, 44.
Fwytta ffa a ffacpys duon,
A holl feibion y Prophwydi,
Cymrent fara haidd iw porthi,
Pam na byddwn ninneu foddlon,
2 Tim. 6.8. Gen. 18.8.
I beth bynnag fo Duw 'n ddanfon?
Bid ef lawer, bid ef ronyn,
Trwy gael môdd i dorri'n newyn.
Crist mewn gwedd An­gel oedd un or tri Angelion y wyttaodd gydag Ab­ram, canys fe ai gel­wir ef yn farnudd yr ollddaiar
Fe fu 'r Drindod Sanctaidd foddlon,
Wledda gydag Abram ffyddlon,
Ar gig llo, a llaeth, a menin,
Bara twym, heb fwy o 'mhoethin.
Nawr nid nês gan bob ofer-ddyn,
Er cael bwyd i dorri newyn,
Oni bae cael chwech o seigiau,
Gwin a chan i borthi chwantau.
Rhaid Cael saws, a rhaid cael fineg,
Rhaid cael capers, Sampier, garlleg,
Cyn y gallo llawer fwytta,
Prŷd o fwyd gan faint oi traha
Balchder
Y mae 'r saws yn awr yn costi,
Yr oes hon mewn gwres a gwegi,
Mwy nag oedd y breision Seigiau,
Gynt yn costi i'n hên Dadau.
Gynt ni cheifie Alexander,
Saws un amser gydâ'i fwpper,
Ond y saws oedd yn ei gylla,
Chwant ir bwyd yn ol rhyfela.
Cyrus ynte fyddei foddlon,
I swpperu ar lan
Neu afon
ffynnon,
Lle cai ddwr i dorri syched,
Ef ai silwyr yn eu lludded.
Rhaid y nawr i bobol ofer,
Gael ei gwîn ar ginnio a swpper:
Rhaid cael peint neu ddau o glared,
Cyn el tammaid bwyd i wared.
Duw ro bara ir bobol dlodion,
Duw a'n gwnelo ninnau 'n foddlon,
Duw faddeuo 'n traha inni,
Duw fendithier am ein porthi

Grâs cyn bwyd.

POrthwr mawr y pum mil gwerin,
A'r pum torth haidd, a'r ddau byscodyn,
Joan. 6.
Portha ninnau dy wael weision,
A'r hyn ymborth wyt ti 'n ddanfon.
A bendithia 'r bwyd a'r ddiod,
Rhwn a roddaist ymma i'n gwarchod,
Fel y gwir fendithiaist cyn hyn,
Oen y Pasc, a'r ddau byscodyn.
A rho iddynt rym i'n porthi,
1 Bren. 19.8.
Ith wasnaethu a'th addoli,
Fel y rhoddaist rym o'th wiwras,
Gynt ar deisen i Elias.
A phâr iddynt i'n
Cyssuro.
cymfforddi,
Dan. 1.
A'n cryfhau, a'n gwir ddigoni,
Fel y peraist ir
Bwyd.
ffâr issel,
Ar y ffacpus borchi Daniel.
A nâd inni o'th ddainteithion,
Gymryd gronyn mwy nâ digon,
Ond y maint y fo 'n ein helpu,
Yn ein galwad i'th wasnaethu.
Eithr pâr inn roddi moliant,
Id bôb amser am ein porthiant,
A chydnabod mae Duw
Holl­alluog.
celi,
Ginio a swpper sy'n ein porthi.

Gras yn ol bwyd.

Psal. 145.15, 16.
POrthwr grassol pob creadur,
Gwyllt a dôf, yn ôl ei nattur,
Derbyn foliant am ein porthi,
Mor ddigonol â'th ddaioni.
Er pan ddaethom o'r grôth allan,
Tydi 'n porthaist fawr a bychan:
Am dy swynder yn ein porthi,
Rym ni bawb yn diolch itti.
Nid oes gennym ddwr i yfed,
1 Chron. 29.11, 12. Mat. 6 11.
Bara i fwytta, grym i gerdded;
Goleu i ganfod, nerth i godi,
Ond y roddech Arglwydd inni.
I ti Arglwydd am ein porthiant,
Am ein iechyd, am ein llwyddiant,
Am ein heddwch a'n llawenydd,
Y bo moliant yn dragy wydd.

Grâs cyn bwyd.

LLygaid pôb creadur bywiol,
Sydd yn edrych Arglwydd grassol,
Ac yn
Ymddi­ried.
trusto cael eu porthi,
Gennyd, Rhoddwr pôb daioni.
Rwyti 'n agor dy Law rassol,
Ac yn porthi pôb peth bywiol,
Gan roi ymborth wrth ei nattur,
Yn ei brŷd i bôb creadur.
O bendithia ni dy weision,
A'r holl swydydd, a'r dainteithion,
Y bartoist ti ar ein meder,
I'n digoni ginio a swpper.
A rho inni râs i fedru,
Bawb yn ddyfal i'th glodforu,
Am dy
Gofal.
garc, a'th rôdd, a'th fwynder,
Yn ein portlu ginio a swpper.

Gras yn ol bwyd.

DI lenwaist Christ ein cylla,
Ag ymborth o'r dainteithia,
Llanw eneu bawb o'th blant,
A moliant am ei bara.
Yn foethus iawn di 'n porthaist,
Yn rasol di 'n diwallaist:
Rho ini weithian râs bob cam,
I'th foli am y roddaist.
Di roddaist inni 'n Cinio,
Ac ymborth i'n
Cynnal.
maintaenio;
Rym ni 'n rhoddi rôs a dydd,
I't foliant prûdd am dano,
Mae dlyed arnom roddi,
It' foliant am ein porthi,
Oh! rho galon inni a chwant,
I roi mawr foliant itti.
Pob bol ag wyt' yn lanw,
Clodforent byth dy enw,
A bendithient ar bob cam,
Dy fawredd am ei cadw.

Arall cyn bwyd.

DUw dôd fendith ar ein hymborth,
Duw rho iddynt rym a chymmorth,
I'n digoni â gwir gryfdwr,
I'th wasnaethu di 'n Creawdwr.
Er bôd llawer bwyd yn
Foethus.
ddainti,
Nid oes yndynt rym i'n porthi,
Nac i dorri dim o'n newyn,
Oni roi dy fendith arnyn.
O gan hynny, Duw bendithia,
Yr holl fwydydd a roeist ymma,
Fel y byddo
Rhin­wedd.
pwer yndyn,
Borthi 'n cyrph a thorri 'n Newyn.
Lle mae llawer
Math.
sort o fwydydd,
Yn troi 'n eri yn ein colydd,
Am eu cym yd yn afradlon,
Ac yn magu câs glefydion.
Rho di râs inn' Arglwydd sanctaidd,
Gymryd pôb bwyd yn dymheraidd,
Fel y gwnelont lessiant inni,
Ac na fagont haint na swrchni.
Rho rym ynddynt i'n cyfnerthu,
Yn ein galwad ith wasnaethu,
Ac i foli d'enw 'n wastad,
Er mwyn Jesu Grist ein Ceidwad.

Gras yn ol bwyd.

DErbyn Arglwydd loi 'n gwefused,
Am dy ffafar a'th drugaredd,
Yn ein porthi mor ddigonol,
A'r creaduriaid fydd bresennol.
Derbyn Ddiolch ar ein dwylo,
Am roi inni gystal cinio,
Er nad ydym yn ei haeddu,
Mwy nâ'r fawl sydd yn newynu.
Rhoed pob genau ag y borthaist,
Foliant itti am y roddaist,
Ninne roddwn itt' ogonian [...],
Yn dragywydd am ein porthiant,

Grâs cyn bwyd.

DUw mawr o'r nêf sancteiddia,
Ni oll a'r ymborth ymma,
Wyt ti 'n roddi wrth ein rhaid,
I'th blant a'th ddefaid borfa,
A phâr inni gydnabod,
Fôd pôb daioni 'n dyfod,
Oddi-wrthyd (grassol wŷd)
Yn oed y bwyd a'r ddiod,
A dysc inn' bawb foliannu,
Dy enw a'th glodforu,
Am ein porthi 'n well nâ neb,
Bôb amser heb ei haeddu.
Ac er mwyn d'anwyl blentyn,
Yr ym ni 'n daer yn
Deisyf.
canlyn,
Arnad roddi bara a dwr,
I'r neb s'eb swccwr ganthyn:
A rhoddi gras i ninne,
D'wsnaethu nôs a bore,
Nes ein dwccer lle mae 'n
Chwant.
blys,
I'th nefol
Neuadd­dy.
lys a'th Arcre;
Lle mae gwir fwyd a diod,
Yn para byth heb ddarfod,
Yn dy blâs lle mae dy blant,
Heb arnynt chwant na thrallod.

Gras gwedi bwyd.

DUw pam yr wyt ein porthi,
Mor foethus ac mor ddeinti,
Yn wastadol heb ddim trai,
A gadel rhai mewn tlodi?
Pa ham yr wyt yn danfon,
I ni dy waelaf weision,
Fwy nag sydd raid i ni ym-mhell,
A gado 'n gwell yn llwmon?
Cans yr ym yn cyffessu,
Nad ydym neb yn haeddu,
Cael mwy swccwr ar dy law,
Nâ'r neb sy draw 'n newynu.
Ond dy fôd ti o'th fwynder,
A'th gariad a'th drugaredd,
Yn rhoi inni fw y ym-mhell,
Nâ'r sawl sydd well ei buchedd;
Ar hyder y rhoem ninne,
Fwy ddiolch byth i tithe,
Nâ'r fawl sydd mor llwm ei
Yn borth.
ffâr,
I'th foli ar ei glinie.
I ti gan hynny rhodder,
O'n geneu ni bob amser;
Glôd a moliant' tra ynom chwyth,
Ar ginio byth a swpper.

Gras cyn swpper.

COdwn bawb ein pen a'n
Wyneb­pryd.
ffriw,
At Grist 'rhwn yw 'n
Ysydd yn paratoi drosom.
profeier,
A chanlynwn arno e'n daer,
Roi fendith âr ein Swpper.
Mae e'n porthi pôb peth byw,
Er maint o'i rhyw a'i nifer,
Ac yn rhoi i'r rhain i gyd,
Eu bwyd mewn prŷd a themper.
Nid yw vn o Adar tô
Yn descyn na bô 'i fwynder,
Yn partoi i hwn ar
Frys.
hast,
Ei ginio, breoffast, swpper.
Pa faint mwy na Ofala.charcca Duw,
Am ddyn rhwn yw ei
Ei lun a'i ddelw.
bicter,
A rhoi iddo'i raid bob tro,
Ond bwrw arno ei hyder?
Mae e'n rhoddi i ddyn, yn fwyd,
Y grewyd ar ei feder,
Llysse, llafyr, nifail glân,
Pysc, adar mân heb nifer.
Ni wnaeth Duw vn gene 'rioed,
Mewn tir, mewn coed, mewn dyfnder,
Nes partoi ei ymborth tyn
I'r geneu cyn ei ganer.
Llawer rhyw o Nifail glân,
A physcod mân ac ader,
Y rows Duw i borthi dyn,
A'i lladd bob vn cyn bwytter.
Pam nad ystyr dynion hyn?
A rhoddi cyn y cymrer,
Glôd a moliant prydd bob tro,
I'r Arglwydd ginio a swpper.
Duw agoro 'n llygaid dall,
I weld heb
Esgeu­lusdra.
wall a rodder,
A'n geneue ar bôb cam,
I foli am ei fwynder.
Clôd a moliant bôb yr awr,
I'r Arglwydd mawr y rodder,
Am ddiwallu 'n cylla gwâg,
Ar ginio ag ar swpper.

ARALL yn ol Swpper.

RHown foliant prydd bob âmser,
I'r Arglwydd ginio a Swpper,
Am roi ymborth in'mor hael,
Heb adel
Diffyg.
ffael na phrinder.
Rhown iddo Ddiolch hyfryd,
Am dan ein bwyd a'n Jechyd,
A'n llawenydd a'i fawr râs
In cadw i maes o ofyd.
A cheisiwn gantho'n rasol,
Er mwyn ei fâb sancteiddiol,
Borthi 'r enaid yn ei brŷd,
A'i air â'i yspryd nefol:
A thywallt ei fendithion,
A'i ras yn ddyfal arnon,
Fel y gallom nôs a dydd,
I foli 'n brydd o'r galon.

ARALL.

GWyr a gwragedd, gweision, plant,
Rhown foliant am ein porthi,
I'r hael Dduw
Sydd.
s'o bryd i bryd
Yn rhoi maeth hyfryd infi.
Mae 'n diwallu pob peth byw,
Bob pryd a rhyw ddaioni,
Ac o'i law, a'i râs, a'i rôdd,
Yn rhoddi môdd i'n peri.
Mae 'n rhoi bara inni o'r ddâr,
A gwyllt a
Dôf.
gwâr i'n pesci,
Pysc o'r môr, a mel o'r graig,
A llawer saig heb enwi.
Mae e'n porthi pob rhyw gnawd,
Psal. 147.9
Fel vn dan sawd i costi,
Heb anghofio 'r Adar mân,
Na'r llew, na'r frân sy'n gweiddi.
Mae e'n porthi dyn yn rhin,
A chann a gwin yn
Foethus.
ddeinti,
A b [...]wd â rhost o lawer rhyw,
Heb neb ond Duw 'n peri.
O rhown ninne foliant prydd,
Bob nôs, bob dydd heb dewi,
I'r hael Dduw am dan ei borth
Help.
,
Sy'n rhoi 'r fâth ymborth inni.

Gras cyn bwyd.

DUw nâd inni fwytta o'th ddonie,
Fel y bwytty 'r môch afale,
H [...]b ddercha [...]u pen na llygad,
I weld o ble maent yndwad.
Ond pâr inni godi 'n pennc,
A chydnabod fôd y donie,
Oll yn dwad, sydd i'n porthi,
Oddi-wrthyd, Tâd goleuni.
A phâr inni foli d'enw,
Am dy fwynder yn ein llamw,
A'th fendithio yn dragywydd,
Am ein iechyd a'n llawenydd,

Cerydd am esceulusso ceisio bendith ar, a rhoi diolch am ymborth.

FE gwilyddia hên ddŷn bâs
Brwnt.
,
Ddechreu 'n henwr ddywedyd grâs,
Rheitach oedd i hwn gwilyddio,
Fôd ê cŷd heb ei
Arferid.
bracteiso.
Na chwilyddied vn rhyw ddyn,
Mat. 15.36
Ddilyn arfer Christ ei hun:
O [...]d cwilyddied pob ofer-ddyn,
Arfer bwytta ei fwyd fel mochyn.
Fe nebydd ŷch, fe nebydd assen,
Esay 1.3.
Pwy yw porthwr, pwy yw perchen:
Ac y roddant ddiolch iddynt,
Yn y meder y so ganthynt.
Llawer dŷn yn waeth nâ nisel,
Ni adwaenant Ghrist eu Bugel,
Rhwn sy'n wastad yn eu porchi,
Act. 14.17.
A'i trwm lwytho â daioni.
Y mae 'r adar bach yn canu,
Clôd i Dduw yn ôl swpperu,
Ac yn rhoddi moliant iddo,
Nes bo
Llawen­ydd.
llewych i'ni gwrando.
Mae 'n hwy bôb vn yn ymdynnu,
Am y goreu allo ganu,
Mawl ir Arglwydd nôs a borau,
Sy'n rhoi bwyd i lanw eu boliau.
Y mae dynion hwyntau 'n tewi,
Gwedi 'r Arglwydd mawr eu porthi,
Heb roi clôd na moliant iddo,
Mwy nâ'r pysc s'eb lafar gantho.
Ond da dlye 'r fâth gan hynny
Fôd yn vffern yn newynu,
Eifie nabod Duw ei cymmorth,
A rhoi diolch am eu hymborth?
O na fydded vn rhyw Gristion,
Yn gyffelyb ir fâth ddynion;
Ac o byddant yn ddigwnsel
Ddi-ddi­stawrwydd
Maent hwy'n waeth nag vn anifel.

Cynghor i gyfrannu ar Anghenus, yn ol ein gallu.

GWae 'r goludog di-dosturi,
Gaeo. Dib. 21.13
Stoppo ei glûst rhag gwrando tlodi;
Fe gaiff hwnnw ddyfal grio,
Yn y
Vffern.
pwll heb neb i wrando.
Pan bo'i wraig a'i blant a'i
Ceraint.
drasse,
Yn chwdu 'r gwîn yn hai Tafarne,
Ynte fydd mewn carchar caled,
Heb y dwr i dorri ei syched.
Jac. 1.27. Jac. 2.14, 15, 16, 17.
Iaco ddyweid nad oes crefydd,
Na christnogaeth yn y cybydd,
Na ddiwallo 'r gwragedd-gweddwon,
Yn eu hadfyd, a'r rhai tlodion.
Ifan anwyl ynte ddywede,
1 Jo. [...].17.
O gwel carl ei frawd mewn eisie,
Ac heb roddi dim i
Gynnor­thwyo.
swccro,
Nid yw cariad Duw ddim ynddo.
Christ y ddywaid yr â'r camel,
Mar. 10.25
Trwy grau 'r nodwydd yn ddi-drafel,
Cyn yr êl y Carl goludog,
Ir nef, or bydd anrhugarog.
Christ an dodwys yn stiwardiaid
Goruch­wylwyr.
I gyfrannu rhwng y gweiniaid,
Y da ddodwys dan ein dwylo,
Rhannwn rhyngthynt rhag ei ddigio,
Or bydd marw ûn rhag newyn,
Bydd gwaed hwnnw ar ein cobyn:
Ni all cyfoeth mawr yr holl-fyd,
Wneuthur iawn am dan ei fywyd.
Rho dy gardod yn ddi attal,
Os bydd llawer, doro 'n amal:
Os bydd 'chydig, doro ronyn,
Ond rho 'n llawen heb ei wrafyn.
Doro 'n siriol dy elusen,
Hôff gan Dduw bôb rhoddwr llawen:
Doro roddech yn gariadus,
2 Cor. 9.7.
Ni fyn Christ un rhôdd wrthnebus,
Er na roech ir tlawd ond cyfran,
Er mwyn Christ o'i dda ei hunan,
Mae ê 'n addo gwabar ffrwythlon,
Luc. 14:13, 14.
Am gyfrannu hynny i'r tlodion.
Na ddihiria hyd y foru,
Dihar. 3.27, 28.
Roi 'r peth allech roddi heddu:
Rho yn rhwydd, a rho yn hawddgar,
Di-flas y fydd rhôdd ddiweddar,
Rhown medd Paul tra genym
Allu.
Bwer,
Gal. 6 10.
Gwnawn ddaioni tra cawn amser;
F'all y
Tywysog.
Monarch mwya heddu,
Fod yn
Deifyf.
begian dŵr y foru.
Roedd gan Difes wrth giniawa,
Lawer saig o'r bwyd
Moeth­usaf.
dainteithia,
Nid oedd gantho ar ei swpper,
O'r dŵr oer mewn fflam a phoethder.
Wrth frecwasta ar ddainteithion,
Ni chae Lazar gantho o'r briwsion,
Wrth swpperu ni chae ynte,
Ddafan dŵr er maint y grie.
Fe roi 'nawr y bŷd am lymmed,
O ddŵr oer i dorri ei syched,
Pes rhoe 'r nêf ar ddaer am
Dafn.
ddroppyn,
O'r dwr oer, nis cae er
Ceisio.
canlyn.
Nid oes gantho o'i holl olud,
O'r dwr oer yn uffern danllyd;
Ni bydd gan y llawna ei Giste,
Foru o bossib fwy nag ynte.
F'aeth mor noeth, mor llwm oddi ymma,
Ac y daeth ir bŷd o'r cynta:
Pe cae ê'r nêf am hanner floring.
Nid oes gantho 'i phrynu or ffyrlling.
Heddyw gall y gwŷr goludog,
Rannu llawer ir newynog,
F'alle foru trwy ryw ddamwain,
Na bydd ganthynt ddim eu hunain.
Rhown gan hynny tra 'peth genym,
Ir dyn tlawd i dorri newyn;
Foru o bossib ni bydd dimme,
I gyfrannu ir mwya ei eisie.
Torr dy fara ir newynllyd,
Esay 58.7, 8.
Fe fendithia Duw dy olud;
Ni bydd llai dy gîg i'th grochon,
Er y roddech ir rhai tlodion.
Ni bu'r weddw o Sarepta,
1 Bren 17
Dlottach er y gas Elia;
Ni bu llai ei
Holew.
hoêl na'i thoesyn,
Er rhoi teisen iddo o ronyn.
Gwelais lawer o'r gwyr Mawrion,
Dih. 22.16
Yn cyrwydro am dreisio 'r tlodion:
Ond ni welais gwedi 'm geni,
Ddyn ar fê [...]h am helpu 'r tlodi.
Coegedd,
Diegi.
Syrthni, trawsedd,
Gwneu­thur cam, balchder.
traha,
Helodd lawer i gardotta:
Ond ni helodd rhoddi Cardod,
Ddyn erioed i fynd ar anffod.
Gwyn ei fŷd medd Brenin Dafydd,
Y dŷn a dynno 'r tlawd o'i gystydd:
Duw ei hûn mewn amser adfyd,
Ai tynn ynte maes o'i ofyd.
Duw a'i gwared o'i drallodion,
Psal. 41.1, 2, 3.
Duw a'i ceidw rhag gelynion,
Duw ei hûn a gweiria ei welŷ,
Pan bo clâf heb allel cyscy.
Rhowch ir tlawd eu rhaid yn echwyn,
Dig. 19.17
Christ ei hûn â 'n feichie drostyn;
Ac y dal i chwi drachefen,
Maint y roddoch wrth eu hangen.
Pwy ond Iddew brwnt
Ni fyddei galonnog.
ni fentre?
Roi yn echwyn ir fath feichie,
Rhwn sy'n talu ar ei ganfed,
Marc. 10.29, 30.
I ddyled wyr eu holl ddyled.
Rychi 'n
Coelio.
trysto gwaeth meicheon,
Na mâb Duw am
Summau, syrnau.
Swmpau mawrion:
Trystwch Grist am grâch dippynne,
Geisio 'r tlawd, ma' ê 'n abal Meichie.
Mae ê 'n talu ar ei ganfed,
I bob Christion ei holl ddyled:
Dwl yw 'r cybydd ni all hepcor,
Dim ir tlawd am gymmaint occor.
Nid oes occor wi'n ei nabod,
Fwy ei
Ennill.
fael nag occor cardod,
Mae 'n dwad adref ar ei chanfed,
Pan bo rheita cael ei gweled.
Nid oes tryssor ar y ddaeren,
Well nâ chardod ac elusen:
Duw a râd obrw­ya y rhai y roddant e­lusennau o gariad at­to ef, Mat. 10.42. ond cherwydd bôd ein gweithre­doedd go­reu ni yn um mher­ffaith, nid ydynt hwy yn haeddu hywyd tra­gwyddol. Esa. 64.6. Luc. 17.10 Gal. 2.16. Er hynny ble bo ffydd, y mae gwei­thredoedd da. Mat. 7.17. Jac. 2.18.
Hi fydd gwell yn nydd dy ddrallod,
Nag Aur coeth ac Arian parod.
Fe dreulia 'r Aur, fe ryda 'r Arian,
Fe fwytti 'r pryfed lawnd a Sidan,
Fe lwyda 'r bwyd, fe Sura 'f ddiod,
Nid oes dim all gwaethu Cardod.
Pan llosco 'r bŷd yn wen-fflam olau,
A'r Tai, a'r tîr a'r holl dryssorau,
Fe fydd Cardod uwch-law'r
lloscfa.
Boban,
Ym Haradwys yn dy
ddisgwyl.
waitan.
Pan dêl Angeu glâs i'th geisio,
Fynd ir Barr, yn noeth i
Ymddangos.
ympyro,
Goreu stôr medd Christ yw Cardod,
Ddydd y farn o flaen y Drindod.
Pan bo 'r Tai a'r tîr a'r trasseu,
Gwedi 'th ado dan law 'r Angeu,
Fe fydd Cardod yn dy ddilyn,
Datc. 14.13
Nes dy ddwyn i Lŷs y Brenin.
Mwy o ennill sydd yn dyfod,
Ir dyn sydd yn rhoddi Cardod,
Nag ir tlawyd sydd yn ei derbyn,
Mae 'n cael llawer am y gronyn.
Fe gaiff Manna am y briwsion,
Dwr y bywyd.
Aqua-Vitae am ddwr afon,
Gwisc ddiscleir wen am hên Gadach,
Ar law Christ, a'i wîr gyfeillach.
Gwna gan-hynny ffrins o'r golud,
Luc. 16.9.
Ac o'r Mammon ôll sydd genyd,
Fel ith dynner ar ddydd tywyll,
Attynt i'r tragwyddol Bebyll.
Storia lle bydd dy breswylfod,
Gwerth sydd gennit, doro gardod:
Na wanffyddia fel dyn llanas,
Werthu tyddyn i gael Teyrnas.
Gyrr o'th flaen yn Nwrnau 'r tlodion
Dryssor, lle na speilia 'r Lladron;
Edrych beth a roddech iddyn,
O law Christ y cei ei dderbyn.
A roech i'th wraig, a'th blant a'th drase,
Dy wraig a'th blant a'th ffrins a'u pie:
Y roech i Grist, a'r tlawd, a'r truan,
Gosod i fynu. Luc. 12.33, 35.
Storio 'r wyt i ti dy hunan.
Tryssora o'th flaen ir nefol Bebyll,
Dôd olew i'th Lamp, mae 'r ffordd yn dywyll,
Gwna bwrs di-draul o'r Da na dderfydd,
Mae Christ ei hun yn rhoi it rybydd.
Haua 'n amal tra cech amser,
2 Cor. 96.
Fel y rhoddo Duw, it bwer;
Ar ei ganfed di gei fedi,
Gal. 6.9.
Yn ei bryd, oni ddeffygij.
Torr dy fara ir newynog,
A dillhatta 'r noeth anwydog,
Esa. 58.7.
I'r cyrwydrad doro letty,
Duw ei hun sy'n erchi hynny.
Job 29.12, 13, 15, 16.
Bydd yn llygaid ir rhai deillion,
Traed ir cloff, a nerth ir Gweinion,
Rhyscwy 'r weddw, câr dieithraid,
Mam a Thâd ir plant ymddifaid.

Cynghor i bob Penteulu i lywodraethu ei dŷ yn dduwiol.

OS mynni fôd yn ddyn i Dduw,
Yn Griston sanctaidd tra fech byw,
Gwna dy dŷ yn Eglwys fychan,
A'th deulu 'n dylwyth Duw ei hunan.
Gwna dy dŷ yn Demel
Cyttûn.
gysson,
Gwna dy dylwy [...]h fel Argelion,
Yn eu graddau o bob galwad,
I wasnaethu Duw yn ddisrad.
Gwna dy dŷ yn Demel sanctaidd,
I addoli Duw yn weddaidd,
Gan bob enaid a fo yndo.
Fore a hwyr yn ddi-ddeff [...]gio.
Dewis
Feini.
fain o bobol rassol,
Gwedi
Naddu.
scwario i gŷd wrth reol,
Yn byw 'n sanctaidd ac yn gymmwys,
I adeilio dy lân Eglwys.
Nâd vn maên anghymmwys ynddi,
Nac vn drwg-ddyn ddwad iddi:
Nid rhai aflan, ond rhai cymmwys,
Y fyn Duw yn fain i Eglwys.
Tro 'r main aflan ôll oddiwrthyd,
Ni fyn Duw 'r fath feini sarnllyd:
Tŷ i Grist, nid tŷ i Gythrel,
Y fydd d' Eglwys di a'th Demel.
Cymmwy sach.
Ffittach ydyw pobol aflan,
Fôd yn sâin i gorlan Satan:
Ac yn danwydd vffern drist,
Nag yn fain i Eglwys Grist.
Main anghymmwys, main afluniaidd,
Sy'n anffyrfio Temel
Hawdd­gar.
gruaidd:
Dŷn anneddfol, dŷn anesmwyth,
A bair anglod ith holl dylwyth.
Na ddôd glogfain câs anghymmwys,
Heb ei
Naddu.
scwario yn dy Eglwys:
Ac na dderbyn ith dŷ deddfol,
Rai digrefydd at rai grassol.
Ni wna meini câs anghymmwys,
Ond diwreiddio
Muriau.
gwelydd d' Eglwys;
Na'r rhai aflan, drwg, di-grefydd,
Ond troi 'th Dŷ ai dor i fynydd.
Gyrr yr aflan ffwrdd o'th Deulu,
Cyn y ceisiech Grist ith llettu:
Er bod Christ yn dyfod at yr anuwiol i troi hwynt pan bont yn ei Han­nuwioldeb etto nid yw efe yn dyfod i cyssuro hwynt, nes iddo i san­cteiddio hwynt, Jo. 14.21. Datc. 3 20
Ni ddaw Christ ir lle ammherffaith,
Nes troi'n gynta 'r aflan ymmaith.
Byth ni chytfydd mewn vn Demel,
Wir blant Duw a phlant y cythrel,
Mwy na'r [...]wenin bach a'r mwg,
Mor yspryd glân a'r yspryd drwg.
Ni thrig Brenin lle bo môch,
Brwnt ei buchedd, câs ei rhôch:
Ni thrig Christ a'i yspryd gwiwlan,
Yn yr vn tŷ â'r rhai aflan.
Or bydd ith dŷ rai digrefydd,
Meddwon, marllyd, ac anvfydd,
Tro hwy maes, fel Dafad Glafrllyd,
Rhag Clafrio 'r faint sydd gennyd.
Gen. 21.
Fel y bwrodd Abram Ismael,
Ffwrdd o'i dŷ, am chwhareu 'r
Gwrthry­felwr.
Rebel:
Felly bwrw ditheu 'r aflan,
Ffwrdd o fysc dy Dylwyth allan.
Psa. 101.7.
Ni adawe Dafydd frenin,
Wâs annuwiol yn ei gegin:
Na âd dithe ddrwg weithredwr,
Yn dy blâs nac yn dy barlwr.
Vn gwâs aflan a bair anair,
I lawerodd o rai
Onest.
diwair:
Nâd gan hynny 'r aflan orphwys,
Yn dy dŷ nac yn dy Eglwys.
Myn rai duwiol ith wasnaethu,
Os dedwyddwch a chwhenychu:
Duw fendithia waith y duwiol,
Pan ddel aflwydd ir anneddfol.
Gwâs fel Joseph Duwiol geirwir,
Y dynn bendith ar dŷ feistir:
Jos. 7.25.
Ond y drwg-ddyn megis Achan,
All
Nafu.
andwyo 'r Tŷ ar Gorlan.
Or bydd gwâs crefyddol gennyd,
Duw fendithia dy hôll olud;
Fel y gwnaeth ef er mwyn
Jacob. Gen. 30.30.
Jago,
I holl olud Laban lwyddo.
Gwell gwâs duwiol,
Addfwyn
llariaidd, llonydd,
A dynn lwyddiant ar dy faesydd,
Nâ'r digrefydd goreu gaffech,
A dynn aflwydd ar y feddech.
Gwell y llwydda gorchwyl gwâs,
Diddrwg, llariaidd, llawn o râs,
Nag y llwydda gwaith anneddfol,
Gwâs digrefydd, grymmus, graddol.
F' all gwasnaethwr doeth, crefyddol,
Droi ei feistir fôd yn ddeddfol,
1 Pet. 3.1, 2
Fal y dichon gwraig y
Digred.
Pagan,
Droi ei gwr yn Gristion gwiwlan.
Oni cheisii bobol ddeddfol,
Ith wasnaethu yn grefyddol,
Byth ni bydd dy dŷ yn Demel,
Ond yn wâl a
Gwely.
glŵth ir Cythrel.
Nid wyd nes er gweision Cryfion,
I gyflawni dy orchwylion,
Oni byddant hefyd (Clyw)
Grŷf i gwpla gorchwyl Duw.
Na fynn vn ith Dŷ a'th Drigfa,
Nes bô o Deulu 'r ffydd yn gynta;
Nac vn gwâs tra fyddech byw,
Nes bo 'n gynta 'n wâs i Dduw.
Ni fynn Eglwys Dduw it dderbyn,
Twrc na Phagan itti 'r Cymmum:
Na fyn dithe yn dy Deulu,
Rai digrefydd ith wasnaethu.
Ni bydd gwâs digrefydd cywir,
Nac ir Arglwydd Dduw na'i feistir:
Cans arferol ir fâth ddrwg-was,
Werthu feistir megis Suddas.
Cais gan hynny bobol sanctaidd,
Pobol dduwiol, pobol weddaidd,
Ith wasnaethu tra fech byw,
Or gwnei dy Dŷ, yn Eglwys Dduw.
Bydd dy hunan yn oleuni,
Ac yn
Siampl.
batrwn o ddaioni,
Ith holl bobol mewn sancte ddrwydd,
Glendid buchedd, ac onestrwydd.
A rho Siampl dda i dilyn,
Yn y neuadd, yn y gegin,
Mewn gair gweithred, ac ymddygiad,
I bôb rhai fo 'n disgwyl arnad.
Rhodia gydâ Duw fel Enoc,
Bydd bôb amser yn
Gochel­gar.
wagelog:
Cofia fôd Duw â saith llygad,
Ym-mhob mann yn disgwyl arnad.
Gwachel ddywedyd dim nai wneuthur,
Ond y fytho tra
Cym­mwys.
chymmessur,
O flaen Duw a chroes y farchnad,
A phâr gofio hyn yn wastad.
Bydd mor sobr, bydd mor sanctaidd,
Bydd mor gynnil, bydd mor weddaidd,
Bydd mor
Sef, yn byw yn ol y ddeddf, sef, cy­fraith Dduw.
ddeddfol, bydd mor gymmwys,
Yn dyac yn dy Eglwys.
Y mai dlyed ar Benteulu,
Ddysgu dylwyth wir grefyddu,
Nabod Duw, a chadw ei ddeddfau,
Credu yn Ghrist, ai 'ddoli yn ddiau,
Gen. 18.19.
Fel y dyscei Abram ebrwydd,
Bawb oi dŷ, i ofni 'r Arglwydd,
Felly dysc dy blant ath Deulu,
I nabod Duw, a'i wir wasnaethu.
Jo. 17.3.
Dysc dy blant, a dysc dy bobol,
I wir nabod ei Tâd nefol,
A'r Jachawdur a ddanfonwys,
Dyma 'r ffordd ir nef yn gymmwys.
Planna gyfraith Dduw 'n wastadol,
Yng halonnau pawb o'th bobol,
Sonia am danynt hwyr a bore,
Y mewn, y maes, wrth rodio ac eiste.
Duw sy 'n erchi 'r Tadau ddangos,
Deddfau 'r Arglwydd iw hôll blantos,
Deut. 6.6, 7, 8.
Ai rhoi 'n laesau ar ei dillad,
Er mwyn Cofio gair Duw 'n wastad.
Darllain Bennod or scrythurau,
Ith holl dylwyth nôs a borau,
Pâr i bawb
Ail-ad­rodd. Jac. 1.22.
repeto allont,
A byw 'n ôl y wers y ddyscont.
Bydd Reolwr,, bydd Offeiriad,
Bydd gynghorwr, bydd yn
Barnwr, Jestus.
ynad,
Ar dy dŷ, ac ar dy bobol,
I reoli pawb wrth reol.
Bydd Offeiriad iw cyf [...]ddo,
Bydd gynghorwr iw rhybyddio,
Ac i draethu 'r fengyl iddynt,
Ac i brûdd weddio drostynt.
Bydd Reolwr i
Gymmell.
gompelo,
Ac i gosbi 'r rhai droseddo,
Ac i beri pawb oth bobol,
Fyw 'n gristnogaidd ac yn
Ag Ar­ferion da ganthynt.
foesol.
Bydd di Farnwr i gyfrannu,
Vnion farn, rhwng pawb oth deulu,
I roi tâl ir da a'r duwiol,
A dialau ir anneddfol.
Gwna di gyfraith gyfiawn gymmwys,
I reoli 'th Dŷ a'th Eglwys:
Pâr ith bobol yn ddiragraith,
Fyw yn gymmwys wrth y gyfraith.
Dysc i bawb yn gynta ei dyled,
Dangos b'wedd y dylent fyned:
Gwedi dyscu 'r gyfraith groyw,
Pâr ir wialen beri ei chadw.
Bydd â'th law, a bydd â'th lygad,
Yn llwyr ddisgwyl ar en ymddygiad:
Nâd i neb, ar air na gweithred,
Droi ar draws heb gerydd caled.
Pâr i bawb o'th Dŷ ddiscleirio,
Megis Seren yn goleuo,
Yn rhoi llewyrch, dysc, ac vrddas
Anrhy­dedd.
,
I bob rhai fo 'n trigo o gwmpas.
Pâr ith Dylwyth di ragori,
Mewn duwioldeb a daioni,
Fel oedd Tylwyth Nôe dduwiola,
Yn rhagori 'r holl sŷd cynta.
Pâr ith wraig fôd m [...]is Seren,
Siriol, sanctaidd, lonydd, lawen,
Yn Esampl o Sancteiddrwydd,
Mewn gair, gweithred, ac onestrwydd.
Jer. 35 6.
Pâr ith hôll blant fôd yn foesol,
Yn gristnogaidd ac yn rassol,
Yn ymostwng i rhieni,
Fel plant Rechab yn y stori.
Pâr ith Dylwyth fôd yn ffyddlon,
Philem. 2. adnod.
Megis Tylwyth Tŷ Philemon,
Rhwn y wnaeth ei Dŷ yn Eglwys,
Gan mor sanctaidd ei rheolwys.
Pâr ith bobol fyw mor gymmwys,
Yn dy Dŷ, ac yn dy Eglwys,
Ac mor sanctaidd ymmhob Cornel,
A pha bacnt ynghorph y Demel.
Nâd hwy ddangos gwaeth cynheddfe,
Nâd hwy wneuthur frwntach gaste,
Yn y Tŷ nag yn yr Eglwys,
Ond pâr iddynt syw yn gymmwys.
Nâd hwy dorri vn gorchymmyn,
Or rhai lleia heb ei gwrafyn,
Nâd hwy ddilyn vn drwg arfer,
Heb eu Cyffro wella ar fyrder.
Nad i fawr na bychan dyngu,
Dih. 26.3. ac 23.13, 14. ac 13.24.
Enw 'r Arglwydd mawr na'i gablu,
Na dibrissio gwaed y Cymmod,
Heb roi dial am ei bechod.
Nâd hwy dreulio 'r Sabboth sanctaidd,
Mewn oferedd anghristnogaidd,
Nac mewn
Cyfeill­ach ofer yn bwytta ac yn yfed gormoddi­on.
gloddest a phibiaeth,
Heb roi vnion gosbedigaeth.
Nâd vn wrando 'r gair yn ofer,
Heb ei ddilyn gwedi clywer,
Ai ail gnoi a sôn am dano,
A byw 'n ôl y wers y ddysgo.
Nád vn fynd y nôs i gysgu,
Nes penlinio wrth ei wely,
Ac addoli Duw yn gynta,
Cyn y rhoddo i gorph esmwythdra.
Nâd vn fynd y boreu allan,
At vn gorchwyl mawr na bychan,
Nes addoli Duw'n ei stafell,
Ar ei ddaulin heb ei gymmell.
Nâd vn daro ei law ar Arad,
Nac ar orchwyl o vn galwad,
Nes y Cotto ei law yn gynta,
Am gael Cymmorth Duw Gorucha.
Nâd vn fyned i shiwrneia,
Nac i forio nac i ffeira,
Nes ymbilio 'n daer a'r Arglwydd,
I ddwyn adre, yn ddi-dramcwydd.
Nâd vn arfer megis mochyn,
Fwytta ei fwyd a llanw ei growyn,
Nes bendithio 'r bwyd yn gynta,
A chydnabod Duw gorucha.
Nâd vn godi megis nifel,
Gwedi llanw ei fola a'i fottel,
Heb rhoi diolch prûdd a moliant,
Ir Tad nefol am ei borthiant.
Nâd fôd vn o'th Deulu 'n eisie,
Ar wasanaeth, nôs na bore:
Wrth wasnaethu Duw bydd
Gofalus.
garccus,
Nas gwasnaetho neb ê'n 'sceulus.
Nad hwy arfer geirie lloerig,
Nac ymadrodd brwnt, llygredig,
Senn, na rheg, na llw, nac enllib,
Efrwmp, na ffrost, na dim cyffelyb.
Dysc dy blant, a rhwym dy bobol,
I arferu geiriau grassol,
Geiriau baro maeth a chyssur,
Gras ac vrddas ir gwrandawyr.
Nad hwy arfer caste bryntion,
Nad hwy watwar pobol wirion,
Nad hwy gablu 'rhai anafus,
Na bychanu 'r tlawd gofydus.
Nad hwy
Yfed.
chwiffo yn y Seler,
Nad hwy feddwi ar vn amser,
Nad hwy
Pâr idd­ynt waglid gormodded o'r tobacco
sugno mwg y ddalen,
Sydd yn speilio 'r bol' ar Gefen.
Nad hwy hoffi
Gwedd. 1 Cor. 11.14.
ffashwn anllad,
Ar ei gwallt nac ar ei dillad:
Pâr i bôb vn fynd yn weddaidd,
Fynd yn gryno ac yn gruaidd.
Ar y Sabboth nad hwy ir Pebill,
Lle mae 'r deillion yn ymgynnill,
Nac i dramwy ir Tafarne,
Lle mae 'r Diawl yn cadw ei wilie.
Dôs ith
gwel beth a ddywedir yn y chwe­ched ddalen ynghylch gwrando'r gair mewn plwyfe e­raill, oni bydd pre­geth yn dy plwyf dy hunan.
Eglwys blwyf y Sulie,
A'th holl Dylwyth wrth dy Sodle,
I Addoli Duw 'n gyhoeddus,
Gyda 'r dyrfa yn ddi-sceulus.
Nad ith dylwyth drigo gartre,
Amser gosber ar y Sulie,
Nad hwy
Segyru, gan esceu­luso addo­liad Duw.
loetran ar y Sabboth,
Sawl y cwhario,
Ond gwaglent chwariae­thau pech­adurus.
cwharien drannoeth.
Na ddôd ormodd waith anesmwyth,
Ddyddie 'r wythnos ar dy dylwyth:
Caniatâ.
Llwa ambell awr yn llawen,
Ir deffygiol godi gefen.
Ar y Sabboth nad hwy 'n segur,
Par i bob vn chwilio 'r scrythur,
Ac i weithio gwaith Duw 'n escyd,
O flaen vn gwaith a fo gennyd.
Dysc dy dylwyth ar y Sulie,
Bôb yr vn i ganu Psalme,
Ac
Ymre­symmu.
ymbwngcio 'n
Llawen.
llon a'i gilydd,
Am air Duw a phwngciau crefydd.
Arbôb Cinio, ar bôb Swpper,
Par i ryw vn ddarllain
Pennod.
Chapter,
I roi ymborth i bob Enaid,
Pan bo 'r Corph yn Cael ei gyfraid.
Nâd dy Dŷ, na hwyr na borau,
Heb wasanaeth a gweddiau:
Gwell ith dylwyth fôd heb swpper,
Tra fônt byw nâ bôd heb osper.
Nâd ith Eglwys fôd vn amser,
Heb wasanaeth pryd a gosper,
Nac heb
Sef A­berth o foliant.
Aberth hwyr a borau,
Ir Tad nefol am ei ddoniau.
Nâd vn Cornel a fo ynddi,
Heb ei ddysgib o bôb brynti,
A'r ddiscybell o ddifeirwch,
Nes cael ffafar Duw a'i heddwch.
Golch ei llawr â hallton ddagrau,
Trwssia ei
Muriau.
gwelydd â rhinweddau:
Nad ei hallor heb dân arni,
Ac arogle mawl a gweddi.
Cais dy hunan chwareu 'r ffeiriad,
Galw ar Enw Duw yn wastad:
Pâr ith bobol gydfyfyrio,
Gyda thi trech yn gweddio.
Pôb penteulu Carccus, cymmwys,
Ddlye fôd fel gwr o'r Eglwys,
Yn Cynghori, yn rhybyddio
Pawb o'i dŷ, yn orau ac allo.
A'r fath drefen sy 'n yr Eglwys,
Yn rheoli pawb yn gymmwys,
Ddlye fôd yn nhŷ pôb Christion.
I reoli 'r Tŷ a'r dynion.
Gossod vn neu ddau o'th deulu,
Fel wardeniaid ith gyd-helpu,
Gadw 'th bobol ôll wrth drefen,
Ai rheoli yn dy absen.
Rhaid yw disgwyl ar arferion,
Ac ymddygiad pawb o'th ddynion,
Ac ar lwybrau rhai sy'n pechu,
Fel y gallech eu ceryddu.
Nâd vn drwg-ddyn heb ei gosbi,
Yn ol messur ei ddrygioni,
Rhag i arall bechu fwy fwy,
Am it ffafro 'r anghymradwy.
Dyro rybydd ir Trosseddwr,
Dair gwaith, pedair, wella ei gyflwr,
Cyn ei daflu ffwrdd o'r gorlan,
Onî wella trô fe allan.
O bydd meddwon na bydd sobor,
Or bydd
Dyn brwnt an­foesol.
drel na dderbyn gyngor,
Vn digred na charo grefydd,
Tro hwy maes yn ol cael rhybydd.
Or bydd morwyn yn scoldies,
Ac heb berchi Sara ei meistres,
Bwrw Hagar o'r drws allan,
Gâd ir feistres gael ei hamean.
Gen. 16.
Nâd ith ddynion fôd yn segur,
Rho ryw
Orchwyl. Preg. 10.18.
dasc i bawb i wneuthur:
Maeth diffrwythder, mammaeth gwradwydd,
Yw cyd-ddwyn â
Seguryd.
segurlydrwydd,
Myn weld pawb o'th blant ath deulu,
Yn mynd mewn pryd, bob nôs i gysgu:
Arfer ddrwg yw gadel gweision,
Fynd i gysgu pan y mynnon.
Pân boi 'n amser mynd i gysgu,
Cais gan Ghrist fendithio 'th deulu,
A bod arnynt oll yn geidwad,
Gwedyn cymmer di dy gennad.
A rho rybydd ith holl bobol,
Alw ar Dduw yn
parchedig
ddefosionol,
Fawr a bach, ar ben ei gliniau,
Cyn yr elont iw gwelyau.
Ac rhag ofon i Dduw gyrchu,
Rhai o'u Cwsc i fynd i barnu,
Pâr i bôb vn lwyr ymgweirio,
Fynd o flaen Duw cyn y cysgo.
Os yn llynn y llywodraethu,
Dy holl dylwyth a'th holl lettu,
Duw fendithia 'th dŷ a'th dylwyth,
Ac ych gwna chwi oll yn esmwyth,
Jo. 14.23.
Christ a Bresswyl yn dy demel,
Christ a'th wrendy yn dy drafel,
1 Sam. 2.30.
Christ a'th dderbyn o'th lan Eglwys,
Ar dy ddiwedd i Baradwys.

Dyled-swydd plant iw rhieni.

OS plentyn wyt, rho wir anrhydedd,
Ith dad, ith fam, trwy barch a mawredd;
Eph 6.2, 3
Duw sy 'n erchi eu hanrhydeddu,
Os gras a hir-oês a chwennychu.
Gwna 'r peth archo dy rieni,
Praw ymmhob peth eu bodloni;
Trwy na cheisiont gennyd bechu,
Gwna bob peth y font yn fynnu.
Derbyn gyngor, derbyn gerydd,
Dihar. 4.1
Derbyn gosb dy dad yn vfydd,
Derbyn ddysc pan fo'n dy
Ceryddu.
shiacco,
Derbyn bob athrawiaeth gantho.
Os dwl, os dall, os poeth, os lloerig,
Llenat­glaf.
Os anioddefgar a dottiedig,
Y fydd dy dad, a'th fam mewn henaint,
Cyd­ddwg. 1 Tim. 5.4
Godde ei gwendid trwy ddioddefaint.
O bydd dy dad a'th fam mewn tlodi,
A chennyd tithe fodd iw peri,
Maetha 'n dirion y ddau henddyn,
Fel y maethsont dithe 'n blentyn.
Dilyn siampl y
Mâth o Ade [...]
Ciconia,
Sy 'n porthi ei dad, pan fo ef gwanna,
Yn cweirio ei nŷth, yn ei adeino
Yn hên yn wann, heb allu cyffro.
Dilyn arfer y
Mâth ar byscod.
Dolphiniaid,
Sy 'n porthi ei Tad a'i mam yn weinaid,
Gan eu cadw pan font gwanna,
Rhag ir Pyscod mawr eu difa.
Gwradwydd mawr i feibion dynion,
Fod yn waeth na'r Adar gwylltion,
Gwaeth na'r Pyscod mewn caledi,
Wrth y rhai rows bywyd inni.
Od wyt ŵr mawr o alwad vehel,
Ath dad yn dlawd, a'i râdd yn issel,
Rho barch ith dad, er cuwch o'th alwad,
Anrhydedda 'th fam yn wastad.
Er bod Joseph yn rheoli
Gen. 45.
Gwlad yr Aipht, a'i dad mewn tlodi,
Fe wnae Joseph fawr anrhydedd,
Idd i dad er maint o'i waeledd.
Er bod Solomon yn frenin,
Ar ei orsedd yn gyffredin,
1 Bren. 2.
Fe ddiscynne oddiar ei orsedd,
I berchi fam â mawr anrhydedd.
Er bod Christ yn Dduw, yn ddŷn,
Luc. 2.51.
Yn uwch nâ neb, yn well nag vn,
Fe barche ei fam, fe barche ei dadmaeth,
Fe fydde vfydd iw hathrawiaeth.
Byd faet ti Duwc, nid llai dy ddlyed,
I berchi 'th Dâd a'th fam er tlotted,
Ni ry 'chelfraint rydd-did itti,
Leihau.
Leusy 'th ddlyed ith rieni.
Mae 'th Dâd yn Dâd, pyt fae ef cobler,
A thitheu 'n fâb, pyt faet ti Scwier:
Tra fech di 'n fâb, mae Duw 'n dy rwymo,
Roi parch ith Dâd, pwy bynna fytho.
Pan oeddyd wann heb fedru cwnnu,
Heb fwyd i gnoi, heb laeth i Lyngcu,
Heb glwtt ith gylch, dy fam a'th helpodd;
Pa dâl y roi ir hon ath fagodd?
Yn hîr hi'th ddygodd dan ei gwregis,
Ai gwaed hi'th borthodd yno nawmis,
Ai llaeth hi'th olchodd o'th holl frynti,
Pa dâl pwyth y wnai di iddi?
Yn glâf hi geisiodd dy ddiddanu,
Lawer nôs, gan golli ei chyscu,
Gan dy lwlan rhwng ei breiche,
Pan baet ti ar dorri 'n rhenge.
Rhô anrhydedd prûdd gan hynny,
Ith rieni am dy fagu:
Nâd wâll arnynt hyd dy farw,
Tro gwerth ceiniog yn dy helw.
Y parch, a'r bri, a'r bwyd, a'r trwssiad,
A roech ith dâd yn henwr ingnad
Blinde­ruc.
,
Y ry dy fâb i'titheu 'n henddyn,
Wrth vnion farn, cyn dêl dy derfyn.
Y garthen rawn y fu ar wely,
Dy dâd wrth orwedd yn y beudy,
Y geidw'th fâb i tithe orwedd,
Ar y daflod cyn dy ddiwedd.
Y messur cwtta 'rhwn y roddech,
Luc. 6.38.
A roddir itti pan heneiddiech:
Yr ŵyr y ddial medd y wlâd,
Y messur bach y roech ith dâd.
Bydd gan hynny hael a serchog,
Rhwydd, a thirion, a thrugarog,
Wrth dy dâd ath fam mewn henaint,
Fel y caffech ditheu 'r cymmaint.
Na ddôs fel Esau i Briodi,
Gen. 26.34, 35.
Heb gael cennad dy rieni:
Odid i Dduw 'rioed fendithio,
'R fath briodas wyllt, na'i llwyddo.
Os anweddus yw'th Rieni,
Nid oes itti o'u amherchi,
Na'i bychanu hyd eu diwedd,
Ond gweddio am wella ei buchedd.
Cham am watwar Noah ei dâd,
Gen. 9.24.
Drwm felldithiwyd yn ei hâd;
Ar felldith hon, s'eb fyned etto,
O grwyn y
Pobl dduon eu crwyn. 2 Sam. 18.9
Mŵrs y ddaeth o hano.
Absolom dêg y fu anvsydd,
A thraws iw dâd, hen frenin Dafydd,
Duw a'i crogodd wrth ei
Cydynne gwallt.
locsen,
Am ei drawsedd wrth frig derwen.
Parcha 'th dâd ath fam gan hynny,
Helpa 'r ddau pan fônt yn ffaely:
Felly hestyn Duw dy ddyddie,
Yn y tir lle bo dy dreigle,

Pa bethau a ddlye ddyn fyfyrio arnynt ar y Sabboth wrth fyned ir Eglwys, a pha fôdd y mae iddo ymddwyn ei hun yno.

CYn dy fynd ir llann, wrth gerdded,
Meddwl i ble rwyt ri 'n myned?
O flaen pwy? ac iba bwrpas?
A dôs gwedyn iddi 'n addas.
Rwyti ti 'n mynd i
Gwir Dy Dduw yw ei bobl. Heb. 3.6. Ac ni ellir yn nyddiau 'r efengyl alw vn lle wrth yr e­nw hynny, ond yn v­nig trwy 'r phigiwr metonymia trwy ba un y rhoddir enw y peth y gynnwy­sir, ir lle ag sydd yn cynnwys y peth hynny ynddo.
Dŷ 'r Gorucha,
O flaen Duw yr Emprwr mwya,
I chwedleua ar dy ddau-lin,
A'th Greawdwr ac a'th Frenin.
Rwyt ti 'n mynd i lys Jehofa,
I gael clywed Duw Gorucha,
Yn ymddiddan a thi 'n hyfryd,
Dêg a thêg o air y bywyd.
Rwyt ti 'n mynd yn brûdd i adde,
O flaen Duw dy holl gamwedde,
Ac i ddeisyf ei drugaredd,
Gras a grym i wella 'th fuchedd.
Rwyt ti 'n mynd i geisio
Maddeu­ant.
pardwn,
Nawdd, a gras, ac
Rhydd­had. Rhan o swydd gweinidog yw cyhoe­ddi madd euant ir credadyn edifeiriol, ac nid i neb arall. Luc. 24.47 Esay. 55.7 Jo. 20.23. Esa. 57.21
absolusion,
Gan dy Ghrist, trwy enau'r ffeiriad,
Am dy bechod a'th gam'ddygiad,
Rwyt ti 'n mynd i lwyr weddio,
Ar yr Arglwydd mawr sy'n addo,
Rhoi ini bob peth sydd anghenrhaid,
At y corph ac at yr enaid.
Psal. 34.10.
Rwyt ti 'n myned i fendithio
Duw am bob dawn y geist gantho,
Ac i roddi ir gorucha,
Glod a moliant gyda 'r dyrfa,
Psal. 95.2, 6.
Rwyt ti 'n mynd i wrando 'n hyfryd
Fengyl Ghrist, a gair y bywyd,
Gwllys Duw, a'i gyfraith sanctaidd,
Ith gyfrwyddo fyw'n gristnogaidd.
Rwyt ti'n mynd i geisio cyfran,
Num. 6.23, &c.
O hael fendith Duw ei hunan,
Ith rwyddhau y ffordd y cerddech,
Ac i lwyddo 'r hyn a wnelech.
Dôs gan hynny trwy lawenydd,
Psa. 100.2
I dŷ Dduw â dirfawr awydd,
Psal. 41.1.
A hiraetha am fynd yno,
Fel yr hŷdd am ddyfroedd Silo.
Dôs yn llawen, dôs yn siriol,
Dôs yn eon, dôs yn foesol,
Dôs yn fuan, dos yn fore,
Dôs i dŷ Dduw ar dy linie.
Dôs ir eglwys gydâ 'r cynta,
Aros yndi gydâ 'r ola:
Tra fech yno, na sydd segur,
Gweithia waith dy Dduw yn brysur.
Na fydd segur yn nhŷ Dduw,
Preg. 9.10
Gweithia ei waith yn brudd trech byw:
Melldigedig yw'r dyn gwallys,
Jer. 48.10.
A wnel gwaith ei Dduw yn sceulus.
Cwymp yn issel ar dy ddau-lin,
Llef yn eiriol ar dy Frenin,
Jer. 29 13. Mat. 15.7, 8.
Prûdd weddia a'th holl galon,
Na ragrithia or dwyd gristion.
Gwrando 'r gair yn dra awyddus,
Derbyn hwn ir galon garccus:
Dih. 5 1. Ps. 119.11 Mat. 13 23
Nâd ir brain a'r fall i scliffied,
Nes ei ffrwytho ar ei ganfed.
Gwachel edrych hwnt ac ymma,
Gwachel gyscu na chwedleua:
Ond gwna naill ai prudd weddio,
Gwrando 'r gair, a mynd oddiyno.
Ni all Duw yr union Farnwr,
Aros edrych ar ragrithiwr,
Y fo 'n cymryd arno 'ddoli,
Ac heb wneuthur hyn o ddifri.
Pan gweddio 'r gŵr eglwysig,
Sef yn dy galon.
Cyd-weddia ag ê'n
Yn ddyfal
ystig,
Air yng air o'r dechre ir diwedd,
Mewn cyfundeb a chynghanedd.
Pan pregethir yr efengyl,
Rhuf. 1.16
Gwachel droi at hon dy wegyl:
Gallu Duw yw 'r fengyl helaeth,
Sydd yn gweithio 'n iechydwriaeth.
Luc. 4.20.
Craffa 'n fanol ar y ffeiriad,
Tro 'n pregethu a'th ddau lygad;
Cadw ei eiriau yn dy galon,
A chais ddilyn ei gynghorion.
Luc. 10.16
Cymmer bob gair ag y ddywetto,
Megis Cyngor i'th rybyddio,
O bûr
Mae Christ yn llefaru trwy 'r Gweini­dog; pan mae efe yn llefaru pe­thau cytun â'r scry­thyrau. Esa. 8.20.
enau Christ ei hunan,
I fyw 'n weddaidd yn ei ofan.
Na ddôs adref heb ystyriaeth,
Nes cael diwedd y gwsanaeth:
Ac na chytcam dan boen melldith,
Fynd y maes nes cael y fendith.
Bid d'ymddygiad yn yr Eglwys,
Yn gristnogaidd ac yn gymmwys,
Megis yng wydd Duw ei hunan,
A'i Angelion fawr a bychan.

Cynghor i ymbaratoi cyn dyfod i addoli 'n gyhoeddus.

TYnn dy 'scidiau, golch dy ddillad,
Ymsancteiddia, cyn dy ddwad,
I dŷ 'r Arglwydd i addoli,
O flaen gorsedd tâd goleuni.
Cyffro d' yspryd, cwyn dy galon,
Dring ir mynydd uwch daerolion,
Gwêl yr hwn sydd anweledig,
Cyn ynganech wrtho orig.
Cyn y delech o flaen Duw,
Meddwl byth mai Brenin yw:
Ac na ddere at dy frenin,
Nes y delech ar dy ddau-lin.
Brenin nefoedd, Tâd Angelion,
Creuwr Daiar, Barnwr dynion,
Duw 'r diale, Tâd golcuni,
Wyt ti ar feder i addoli.
Dere 'n barchus, dere 'n barod,
Dere 'n brûdd o flaen y Drindod,
Dere 'n sanctaidd, dere 'n ffyddlon.
Di gei d' arch wrth fôdd dy galon.
Côd dy olwg, tann dy ddwylo,
Plŷg dy ddau-lin, gostwng iddo,
Cûr dy ddwyfron, bydd edifar,
Addeu 'th bechod, cais ei ffafar.
Galw ar y Tâd yn danllyd,
Yn enw 'r mâb, trwy nerth yr yspryd,
Cais ei deyrnas a'i gyfiawnder,
Di gei 'r cwbwl yn ddi-bringder.
Cais ogoniant Duw yn benna,
Cais nefolion bethau nessa,
Cais ei rás yn dra awyddys,
Cais dy raid os bydd ei 'wllys.
Preg. 5.1.
Cyn dy fynd i ddrws yr eglwys,
Edrych fod dy droed yn gymmwys:
Bwrw heibio draws feddylie,
A gâd fydol fwriad gartre.
Gen. 22.5.
Abram ffyddlon cyn addole,
Rwymeu assen yn yr Hendre:
Felly dlye bob dyn rwymo,
Traws feddyliau cyn gweddio.
Exod. 3.5
Moesen hyfryd cyn y dewe,
O flaen Duw fe dynnei scidie:
O tynn dithe dy fydolrwydd,
Cyn y doech o flaen dy Arglwydd.
Gen. 41.14
Joseph ynte fynne ymgweirio,
Cyn ymddangos o flaen Pharo:
Felly ymgweiria dithe 'n syw
Yn lán.
,
Cyn ymddangos o flaen Duw.
Hester dduwiol hithe ymolchwys,
Cyn mynd o flaen Ahasuerus:
Ymolch dithe o'th ddrygioni,
Cyn rhoech o flaen Duw dy weddi.
Pan y delech i
Cynnu­lleidfa gristno­gaidd yw ty Dduw, Heb. 3.6.
dy Dduw,
Gwêl mor hoff, mor hawddgar yw:
A phan delech, dere 'n chwarian,
Mewn anrhydedd, parch ac ofan.
Cwymp yn issel ar dy ddau-sin,
Yn ei lŷs o flaen dy Frenin:
Ac nac yngan air o'th ene,
Nes ymostwng ar dy linie.
Ni ry neb o'r sainct
Yn gorfo­leddu. Dat. 4.10.
triumphant,
Yn y nêf ir Arglwydd foliant,
Nes y tynnont eu Coronau,
Ac ymostwng ar eu gliniau.
Pam y cytcam llŵch a llydy,
Ddwad o'i flaen heb ymgrymmu?
Pan y delont i weddio,
Ac i feggian pardwn gantho.
Christ ein Meistir fe 'mostwnge,
Mat. 26.39.
Ar ei wyneb pan gweddie,
Braidd y gostwng rhai o'r gweision,
Un o'i glinie pan gweddion.
Iago fwya gynt addole
Grist mor ddyfal ar ei linie,
Nes caledi yn y demel,
Groen pôb glin fel Carn y camel.
Moesen, Aaron, Josua, Samuel,
Dafydd, Selef, Joas, Daniel,
A'r holl Sainct sy 'n rhoi goleuni,
Inni ar linie brûdd addoli.
Gwedi cwympech ar dy ddau-lin,
Mewn mawr barch o flaen dy Frenin,
Ystyr beth trwy brûdd fyfyrio,
Sy'n dy fryd i ddywedyd wrtho.
Psal. 5.1.
Daniel rassol y fyfyrie,
O flaen Brenin cyn llefare,
Dithe ddylyd brûdd fyfyrio,
O flaen Duw cyn yngan wrtho.
Dan 4.19.
Yn ol ystyr beth a ddywedech,
Cûr dy ddwyfron, cyn gweddiech,
A chydnebydd d' annheilyngdod,
A chais bardwn am dy bechod.
Llef o'i flaen â chalon bryssur,
Duw bydd rassol im bechadur,
Sy 'n annheilwng edrych arnad,
Chwaethach derbyn fy nymuniad.
Hael yw Duw ir sawl a'i ceisiant,
Rhwydd yn rhoi ir rhai ofynnant,
Rhoi i bawb heb ddim dannodiaeth,
Yn rhwydd ei rhaid yn daran helaeth.
Y peth a geisiech, cais trwy ffydd,
Na chymmer ball ond
Cais.
beggia 'n brŷdd:
Nac amme dderbyn 'rhyn a geisiech,
O ceisii 'n daer di gei ofynnech.
Nac amme 'wllys da dy Dâd,
Na gallu Duw, sy'n rhoi mor rhâd:
Duw galluog, Tâd gwllysgar,
Helpwr rhwydd yw 'n Harglwydd hygar.

Gweddi 'r hwn sy'n myned i addoli Duw 'n gyhoeddys.

DUw trugarog, Tâd goleuni,
Rhoddwr grâs a phôb daioni,
Er mwyn Christ clyw weddi
Vn yn ymbil.
eiriol,
Un o'th blant dros bawb o'th bobol.
Rym ni heddyw yn ymgynnyll,
I'th addoli yn dy bebyll:
Duw rho allu in' a meder,
I'th addoli fel y
Dylem.
dirper.
A bendithia di'n cyfarfod,
A chyfrwydda ein myfyrdod:
A dôd
Awydd.
awen yn ein calon,
I'th addoli, bawb yn ffyddlon.
Gwna ni 'n addas ac yn weddaidd,
I glodfori d'enw sanctaidd,
Gwna ni 'n barod, ac yn
Gofalus.
garcus,
Bawb i wrando d'air yn barchus.
Duw paratôa di'n calonnau,
Christ sancteiddia di 'n meddyliau,
Awcha 'n
Awydd­fryd.
zêl, chwanega 'n hawydd,
I'th addoli mewn gwir grefydd.
Cwyn y galon, deffro 'r yspryd,
Nynn â'th râs ein hawen oerllyd,
Sefydla.
Setla 'r meddwl, dysc y genau,
I'th glodfori am dy ddoniau.
Tynn oddi wrthym draws fwriadau,
Nâd i'r rhain ŵyr-droi 'n meddyliau,
Pâr in'wrando d'air yn fuddiol,
A gweddio 'n
Parchus.
ddefosionol.
O cyfrwdda â'th lân yspryd,
Ni weddio bawb yn danllyd,
Fal y caffom gennyd wrando,
A rhoi inni fôm yn geisio.
Dôd dy fyssedd yn ein clustiau,
Pâr in' wrando d'air yn olau;
A rho feder i bôb calon,
I ddeallu hwn yn union.
Gwedi deall hwn a'i gofio,
Duw rho gymmorth ei
Arferid.
bracteisio,
A'i wir ddilyn yn awyddus,
Nes y dwcco ffrwyth
Helaeth.
toreuthus.
Duw bendithia di'n pregethwr,
Rho 'ddo ddeall, grâs a chryfdwr,
I bregethu gair y bywyd,
2 Thess. 3.1.
Inni 'n bûr o'th 'fengyl hyfryd.
Gole'i seddwl a'i fyfyrdod,
Nynn ei galon, dysc ei dafod,
Nertha i
Ddosbar­thu.
barchu 'r gair yn fedrys,
Inni bawb yn ôl dy 'wllys.
Nertha e'in tynnu o'r tywyllwch,
Act. 26.18
I'r goleuni a'r diddanwch,
O gorlannau tywyll Satan,
I wir deyrnas Christ a'i gorlan.
Gwna ei athrawiaeth inni 'n rymmus,
Gwna ini ddilyn yn awyddus;
Gwna ini bawb i garu ynte,
Heb. 13.17
Lle mae 'n gwiliad ein eneidie.
Duw bendithia ef a ninne,
Duw sancteiddia di 'n calonne,
Duw rho râs a meder inni,
Bawb yn bryssur dy addoli.

Paratoad i'r cymmun.

POb rhyw Gristion ag y garo,
Ddyscu 'r môdd y mae ymgweirio,
Mynd yn lân i ford yr Arglwydd,
Dysced hyn o werseu 'n ebrwydd.
Cyn yr elych
Yn byrr­bwyll.
rhwp ir Cymmun,
Ystyr ble yr wyt ti 'n rofyn,
A pha beth yr wyt ti ar feder,
I
Dderbyn.
recefo yn y swpper?
Nid i ford rhyw
Pennaeth
Emprwr llidiog,
Ond i ford yr holl-Alluog,
Rwyt ti 'n rofyn mynd i fwytta,
Bwyd fydd gan mil gwell nâ Manna.
Gwell nâ Manna os fel Christion,
Jo. 6.49, 50. 1 Cor. 11.29.
Y derbynni hwn yn ffyddlon:
Gwaeth nâ gwenwyn os trwy anras,
Y derbynni hwn fel Suddas.
Meddwl ditheu am ei dderbyn,
Yn gristnogaidd fel y perthyn,
Mewn sancteiddrwydd, ffydd, a gobaith,
Glendid pur, a chariad perffaith.
Gwachel redeg yn amharod,
I ford Christ yn llawn o bechod,
Rhag it dderbyn barnedigaeth
Lle caiff eraill Jechydwriaeth.
Cofia 'n garcus,
Pa. Exod. 12.
pwy sancteiddrwydd,
Pwy ymgweirio, pwy barodrwydd,
Gynt ossododd Duw ar dâsc,
Cyn cae Israel fwytta 'r Pâsc?
Cofia hefyd pwy ymolchi,
Joan 13.4, 5.
Pwy lanhau a phwy syberwi,
Y wnaeth Christ â'i ddwylo tyner,
Ar ei Saint cyn
Profi.
tasto'i swpper.
O na ddere ditheu 'n sarnllyd,
Yn dy rŵd a'th bechod drewllyd,
I ford Christ heb lwyr ymolchi,
O'th holl feiau a'th holl frynti.
Bwrw lefein pob rhyw bechod,
1 Cor. 5.7, 8.
Llid, cynfigen, malis, meddwdod,
Rhyfig, ffalstedd, ffwrdd o'th galon,
Ni thrig Christ y man lle byddon,
Cofia fel y
Aeth i mewn. Jo. 13 27.
hentrodd Satan,
Gynt yn Suddas fradwr aflan,
Yn ôl iddo fwytta 'r tammaid,
Yn ei bechod brwnt mor embaid.
Gwachel ditheu rhag digwyddo,
Y fath beth yr eilchwaith etto,
Os ti ddoe i ford yr Arglwydd,
Yn d'aflendid heb barodrwydd.
1 Cor. 11.30.
Cofia ir Corinthiaid feirw,
A nychu 'n hîr, o'r gwres a'r gwayw,
O waith mynd yn amharodol,
Llwyr ei pen ir Bwrdd sancteiddiol.
Gwachel ditheu fynd yn rhwyscus,
Ir ford hon heb ofan parchus,
Heb ystyried beth sydd arni,
Rhag dy farw yn dy frynti.
1 Cor. 11.28, 31.
Hola dy hun a myn wybod,
Wyt ti 'n difar am dy bechod,
Ac oes gennyd ffydd a gobaith,
Calon lân a chariad perffaith?
Barna dy hun yn ddiweniaith,
Fel na farno Duw di 'r eilwaith;
Ac lle gwelych ddim yn eisie,
Cais gan Ghrist ei roi neu fadde.
Pedwar peth sydd angenrheidiol,
Ir rhai fynn cymmuno 'n ddeddfol,
(1) Ffydd gristnogaidd, (2) gwir ddifeirwch,
(3) Cariad perffaith, (4) diolchgarwch.
Nid oes llûn bôd heb y lleia,
O'r rhai hyn cyn mynd i fwytta:
A'r neb êl ir swpper hebddyn,
Ni chaiff lês oddiwrth y cymmun.
1. Ffydd.
Ffydd sydd gynta 'n angenrheidiol,
I gredu i Ghrist roi hun yn hollol,
Ar y groes i farw drossom,
Am y pechod ôll y wnaethom.
Ffydd sy'n cyrraedd ffrwyth y pardwn,
Y bwrcassodd Christ trwy
Ddiodde­fant.
bassiwn,
Ac yn derbyn ar y swpper,
Grist ei hun a'i holl gyfiawnder.
Nid yw Christ yn fwyd ir bola,
I gnoi â dant ai roi ir cylla:
Jo. 6.35.
Bwyd yw Christ i borthi 'r enaid,
Yn ysprydol trwy ffydd dambaid.
Ni all neb fwynhau 'n ysprydol
Christ, a'i waed, a'i gorph sancteiddiol,
Eph. 3.17.
Ond yn vnig trwy ffydd rymmus,
Ddel o galon edifarus.
Mae 'r Efengyl inni 'n dangos,
1 Pet. 3.22 Act. 3.20, 21. Jo. 6.63.
Fôd Christ yn y nêf yn aros;
Ac na ddichon vn dyn cnawdol,
Fwytta Christ, ond yn ysprydol.
Ffydd gan hynny sydd anghenrhaid,
I gyrraedd Christ i borthi 'r Enaid,
Ac i
Ddercha­fu.
ddercha 'r galon atto,
O myn Enaid borthi arno.
Bwyd ir Enaid, bwyd ir galon,
Bwyd yw Christ ir meddwl ffyddlon,
Bwyd i gymryd trwy ffydd fywiol,
Bwyd i fwytta yn ysprydol.
Pan bo 'r corph yn cymryd bara,
Luc. 22.19
Yn y Cymmun er ei goffa,
Cwyn dy galon y pryd hynny,
A thrwy ffydd mwynhâ Grist Jesu.
Nessa at ffydd rhaid edifeirwch,
2 Edifeir­wch.
Am bôb pechod trwy ddyfalwch,
A llwyr fwriad gwella beunydd,
Troi at Dduw mewn buchedd newydd.
Edifara o ddyfnder calon,
Am bob bai trwy ddagrau hallton,
Ac na ddere i ford yr Arglwydd,
Nes difaru rhag cael tramcwydd.
Golch dy faril, carth dy waddod,
Na ddôd wîn mewn
Llester neu faril.
Casc o bechod,
Rhag ir gwîn mewn llester aflan,
Dorri 'r casc a rhedeg allan.
Ni thrig Duw, na'r Oen, na'r Glommen,
Lle bo pechod a chynfigen:
Golch gan hynny 'n lân dy lester,
Or derbynni Grist na'i swpper.
Chwd dy feddwdod, cladd dy frynti,
Gâd dy faswedd brwnt a'th wegi,
Attal nwyfiant, ffrwyna nattur,
Gwella 'th fuchedd, na fydd segur.
Golch dy ddwylo mewn gwiriondeb,
2 Cor. 7.1
Golch dy feddwl mewn duwioldeb,
Golch mewn cariad ben a chynffon,
Os derbynni Grist ith galon.
Sacramen­tum requi­rit Sacram mentem. Sancta, Sancte, Sanctis. Mat. 7.6.
Câr gyfiawnder, dilyn sobrwydd,
Arfer lendid a sancteidd rwydd,
Gwisc am danad gariad perffaith,
Nâd vn bai dy nyrddo 'r eilwaith.
Nid oes rhoi i Gŵn o'r pethe sanctaidd,
Na'r gwe thfawr berls ir moch angrhuaidd,
Na'r Manna gwynn mewn halog grochan,
Na chymmun Christ mewn cylla aflan.
Heb. 9.4. Mat. 27.59.
Mewn Pott o aûr y dodir Manna,
A chelain Christ mewn crûs or meina,
A'r gwîn o'r Grâp
Grawn.
mewn baril
Lân.
gruaidd,
Ar Cymmun hwn mewn Calon sanctaidd.
Y trydydd peth sy'n rhaid ei geisio,
3 C [...]iad.
Yw cariad perffaith cyn
Derbyn.
recefo,
Heb ddwyn meddwl drwg at vn dyn,
Pell, nac agos, câr na gelyn.
Cariad ydyw 'r
Nodau.
arwms tirion,
Sydd gan Grist ar
Wiscia­dan. Jo. 13.35.
lifreu weision:
Ac wrth gariad yr adwaenir,
Defaid Christ oddiwrth y geifir.
Nid yw Christ yn derbyn vn-dyn,
I fwynhau ef yn y cymmun,
Ond yr hwn y fo 'n ddiragraith,
A phôb dyn mewn cariad perffaith.
Pyt fae gennyd fîl o ddoniau,
1 Cor. 13.1, 2, 3.
A bod cariad i ti 'n eisiau,
Nid wyt deilwng byth i ddwad,
I ford Crist heb berffaith gariad.
Câr gan hynny dy gymdogion,
Mat. 5.24, 44.
Maddeu 'n rhwydd i'th holl elynion,
Ac or gwnaethost gam ag vndyn,
Cymmod cyn bwytteuch y cymmun.
Gwachel ddwad yn ddigofus,
I ford Christ mewn llid a malis;
Rhag i Satan fynd i'th gylla,
Gydâ 'r tammaid gwedi fwytta.
Dysc di gan y neidir dorchog,
Chwdu maes dy wenwyn llidiog,
Cyn dy fynd ir ford yn llawen,
Rhag i'th falis ladd ei pherchen.
Y neidir fraith medd rhai a'i gwalas,
Fwrw ei gwenwyn ar y gamlas,
Cyn y hyfoi ddwr o'r afon,
Rhag ir gwenwyn dorri chalon.
Bwrw dithe dy lîd allan,
A'th ddrwg feddwl, a'th draws amcan,
A'th holl falis, a'th genfigen,
Rhag ir rhain
Nafu.
andwyo ei perchen.
Or bydd gennyd y tri ymma,
(1.) Ffydd, (2.) difeirwch, (3.) cariad: coda,
Dere ir cymmun, mae i ti resso,
Christ ei hun sy'n d' alw atto.
Myfyrdod wrth fyny­fro 'r cym­mum a'i dderbyn. Jo. 19.34.
Pan y gwelych dorri 'r bara,
A thywalltu 'r gwîn ir cwppa,
Cofia fel y torre 'r wayw-ffon,
Gorph dy Grist nes gwaedu ei galon.
Pan derbynnech o law 'r ffeiriad,
Fara a gwin yn ol cyssygrad,
Quid pa­ras dentē et ventrē?
Derbyn Ghrist trwy ffydd i'th galon,
Portha d' Enaid arno 'n ffyddlon.
Crede & mandu­casti. Eph. 3.17. Nolite pa­rare fau­ces sed cor
Nid â dannedd y mae bwytta,
Christ yn gnawdol a'i roi 'r bola,
Ond trwy ffydd y mae 'n ysprydol,
Fwytta Christ â'r galon fywiol.
Côd dy galon, dring ir nefodd,
Edrych ar yr hwn a'th brynodd,
Sursum corda.
Cofia faint y wnaeth ef erod,
Pan croes-hoeliwyd am dy bechod,
Cred i Ghrist ar groes a'i hoelion,
Offrwm drossod waed ei galon,
A phwrcassu bywyd itti,
Rwyt ti 'n bwytta Christ o ddifri.
Or gofynni
Pa ddai­oni y gaer o dderbyn y cymmun yn deilwng.
pwy ddaioni,
Ddyru Christ o'r swpper itti,
Pan derbynnech hi 'n gristnogaidd,
Mewn gwir ffydd a chariad perffaidd?
Mae 'n rhoi itti gyflawn bardwn,
Mat. 26.28
O'th holl bechod
Rhydd­had.
absoluwsiwn,
Gwedi 'r Brenin mawr ei selu,
A gwaed gwerthfawr calon Jesu.
Mae 'n Rhoi Pardwn, mae 'n rhoi bywyd,
Joan 6.51. 1 Cor. 10.16.
Mae 'n rhoi Comffordd, mae'n rhoi iechyd,
Mae 'n rhoi yspryd glân a'i ddoniau,
Mae 'n rhoi 'hun a'i holl rinweddau.
Mae 'n dy wneuthur di 'n gyfrannog,
Oi holl ddoniau mawr galluog,
Ac mewn yspryd mae ê'n trigo,
Yn dy galon byth
Trafo ef.
tro ganto.
Mae ê'n porthi d' Enaid egwan,
Joan 6.55, 56. Eph. 1.13, 14.
A'i wir gorph â'i waed ei hunan,
Ac yn rhoddi nefol yspryd,
Itti 'n
Yn wystl.
ernest o'r gwir fywyd.
O bwy ddyled mawr sydd arnad,
4. Diolch.
I foliannu Christ yn wastad,
Am dy wneuthur yn gyfrannog,
Or fâth swpper fawr gyfoethog.
A phwy daliad sy'n dy bwer,
I roi iddo am ei fwynder,
Felly 'n porthi d' Enaid aflan,
Ai wir waed â'i gnawd ei hunan.
Na fydd dithe mor niseilaidd,
A mynd o'r llan yn anw eddaidd,
Nes rhoi clôd a moliant iddo,
Am yr ymborth y gêst gantho.
Christ ni fwyttei fara barlish,
Chwaethach bwyd oedd well ei
Flas.
relish,
Heb roi moliant mawr am dano,
I dâd nefol heb anghofio.
Pa.
Pwy faint mwy na ddylyt tithe,
Fwytta Christ y penna or seigie,
Heb roi diolch i'r Duw cyfion,
Am ei fâb o ddyfnder calon.
A gw awdd nêf a dâer a dynion,
Seraphiniaid ac Angelion,
Ith gyd-helpu foli 'r Arglwydd,
Am ei gariad a'i gredigrwydd.

Gweddi cyn derbyn y cymmun.

ARglwydd grassol rhwn y roddaist,
Jesu Grist y mwya geraist,
Fôd yn
Brid­werth.
ranswm dros ein beiau,
Ac yn ymborth i 'n eneidiau;
Dyro râs i minnau 'n sanctaidd,
Ymbartoi fel Cristion gweddaidd,
'Dderbyn Christ trwy ffydd i'm calon,
I borthi f'enaid arno 'n
Hŷ.
eon.
Carth fy meddwl am cydwybod,
Colch fi'n llwyr oddiwrth fy mhechod,
Gwna fi 'n llester glân i dderbyn,
Christ i'm calon yn y cymmun.
Cryfhâ fy ffydd, amlhâ fy ngobaith,
Ennyn ynwi gariad perffaith,
Sancteiddia 'r corph, cyfrwydda 'r enaid,
I dderbyn Christ y bwyd bendigaid.
Côd fy nghalon cuwch a'r nefodd,
Lle mae Christ yr hwn am prynodd:
Pâr i'm henaid borthi arno,
A thrwy ffydd gael grym oddiwrtho.
Pâr im gredu fôd im bardwn,
Am fy mai er mwyn ei
Ddiodde­faint.
bassiwn,
A rhan hefyd o'i holl ddonie,
Y bwrcassodd trwy loes ange.
Pâr im gredu y daw i drigo,
Yn fy nghalon byth tra ganto,
Ac na 'medy 'sanctaidd yspryd,
Nes fy nwyn ir nefoedd hyfryd.
Nâd gan hynny i mi nyrddo,
1 Cor. 6.19
Ei demel sanctaidd lle mae'n trigo,
Nac halogi byth om llester,
Ond ei gadw 'n lân bôb amser.
Pâr im hefyd ei glodforu,
Nôs a dydd ar eitha o'm gallu,
A'i fendithio 'n brudd bôb amser,
Am yr ymborth sy 'n ei swpper.

Pennillion neu werseu, ar gynheddfau rhai dynion a phethau, ag y crybwyllyr am da­nynt yn y Scrythur lân ac yn yr Apo­cryphaScrifeni­adau dynol yw 'r Apo­crypha.

Adda.
DYsc fy mâb wrth
Cwymp.
gwdwm Adda,
Weld mor brîd yw 'r pechod lleia;
Ac mor enbyd bwytta gronyn,
O'r peth y fo Duw yn wrafyn.
Afal.
Or
Cafoe.
cas Adda gymmaint ddial;
Am ei waith yn bwytta Afal;
Ystyr faint y fydd diale,
Rhai sy'n byw a'r gyfryw fale.
Efa.
[Page 258]
Efa Hên â'i chwymp â'i
Aflwydd.
hanffcd,
Sy'n rho itti rybydd hynod;
Na chytcamech tra fech byw,
Wrando ar Satan o flaen Duw.
Afal.
Blin yw'r Afal a wnae 'r ddincod,
Ar bob Dant o'r Byd heb wybod:
Na fydd vn o'r rhai ddymune,
Gael eu Maeth ar gyfryw Fale.
Oni byssei Grist ddiodde,
Ar Bren drosom ddû loes Ange,
Bysse 'r Byd i gŷd mewn attal,
Ym-mhwll vffern am vn Afal.
Hâd y wraig.
Er maint y fo drwg y
Diafol.
Ddraig,
Dôd dy
Ymddi­ried.
drust yn hâd y wraig:
Mae ef gwedi sigo ei Shol,
Torri chrib a thynnu chol,
Sarph.
Os Brath Sarph â cholyn pechod,
D'enaid bach heb allu orfod;
Nid oes dim a wna id lês,
Nes mynd at Grist y Sarph o brês.
Paradwys.
Adda gollodd hên Baradwys,
Am yr Afal gynt y fwyttwys:
Gwachel dithe golli 'r
Ynefoedd
llall,
Am fâth fale or 'dwyd gall.
Cain.
Y Dyn y wnelo Ddrwg fel Cain;
Medd Duw 'n amlwg ac yn
Eglur.
blayn,
Nid ymedi Drwg a'i dŷ,
Nes dêl Dial oddi-frŷ.
Gwachel dywallt gwaed dyn gwirion,
Megis Cain y
Llofrudd Gen. 9.6.
Mwrddrwr creulon:
Ydywallto gwaed yn siccir.
Ei waed yntef a dywelltir.
Abel.
Na wna lanas yn y dirgel,
Duw ddatguddia
Lladdiad
fwrddrad Abel:
Yn y dirgel os gwnei fowr-ddrwg,
Duw ai dial yn yr amlwg.
Luc. 12.2.
Bydd fyw 'n wirion megis Abel,
Ofna Dduw, Arfera ei Demel:
Offrwm iddo nôs a bore,
Aberth brûdd ar ben dy linie.
Offrwm.
Pan offrymmech ddim i Dduw,
Levit. 22.21, 22. Mal. 1.13, 14.
Offrwm iddo 'r gore o'i ryw,
Ffiaidd gantho ac nid hôff,
Y gwann a'r gwael, y clâf a'r cloff.
Os offrymmu â'th holl galon,
Gen. 4.4, 5.
Duw y dderbyn dy
Offrym­mau.
anrhegion,
Oni offrymmu o'th lwyr fodd,
Byth ni dderbyn Duw dy rôdd.
Enos.
Pan bo pawb yn mynd yn ddiog,
I wasnaethu 'r Holl-alluog;
Cyffro bawb o'r bŷd fel Enos,
Gen. 4.26.
I addoli Duw heb aros.
Cais gan bawb wasnaethu Duw,
Dlyed pob gwir gristion yw:
Gossod allan ei ogoniant,
Di gae gantho
Dedwy­ddwch.
ffawd a ffyniant.
Enoch.
[Page 260]
Gen. 5.24
Rhodia gydâ Duw fel Enoc,
Dilyn lwybrau 'r Holl-alluog:
Cofia fôd Duw 'n disgwyl arnad,
Ym-mhob mann â chîl ei lygad.
Gwel pa ymdal y
Gafodd.
gas Enoc,
Trwy ffydd yn Ghrist, ac nid am ei weithre­doedd ei hun yr aeth Enoc ir nef. Heb 11.5. Act. 4.12. Gal. 2.16. Er nad aer ir nef am weithred­oedd da: etto nid aer yno hebddynt. Gen. 6.4, 7 7.22.
Am wasnaethu 'r Holl-alluog:
Mynd ir Nêf cyn gweled ange:
Pwy gan hynny nas gwasnaethe?
Dysc gan Enoc dair gwers rasol;
1. Fôd dy Enaid yn anfarwol;
2. A bôd i'th Gorph adgyfodiad;
3. Ac ir Duwiol Nefol daliad.
Rhodia gydâ Duw.
Na wna frynti yn y Cornel,
Mae Duw 'n gweld pob pechod dirgel:
Ac am hynny meddwl fyw,
Megis vn sy ngolwg Duw.
Cawri.
Pyt fae itti gryfder Cawr,
Duw y fyn dy dorri lawr,
A'th roi 'n fwyd i borthi 'r chwilod,
Os ymroi di ddilyn pechod.
Oni alle Gawr
Diangc.
ddifannu,
Pan daeth Diluw dwr i farnu;
Bwedd y dichon
Dyn by­chan. 2 Pet. 3.7.
Gwrangc ddihangyd,
Pan y dêl y Diluw tanllyd?
Noah.
Er cynddrwg y fo 'r Byd o
Oddiam­gylch.
bobtu,
Er cymmaint y fo o rai 'n pechu,
Bydd di berffaith yngwydd Duw,
Dilyn Noah tra fyddech byw.
Gwachel ddilyn Arfer tyrfa,
Exo. 23.2.
Y fo 'n pechu am y cynta:
Gwell nâ hynny yw dilyn ûn,
Y ofno Dduw, y barcho ddŷn.
Diluw.
Gwêl mor ddrewllyd yw putteindra,
Gwel mor gâs gan Dduw ddiffeithdra;
Pan na wasnaethe dyfroedd Lai,
Nâ 'r Dŵr Diluw i gospi 'r bai.
Noah.
Os byw wnai di Megis Nô,
Yn ŵr perffaith ar bob trô,
Byddi gydâ Noa'n gadwedig,
Pan bo eraill yn golledig.
Gwell it ddilyn Noah ei hunan,
Mewn perffeithrwydd, ffydd, ac ofan;
Nag it ddilyn yr holl fŷd,
Mewn drygioni a boddi gŷd.
Arch neu Long.
Gwna dy long tra'i 'n amser grâs,
Esa. 55.6.
Cyn y delo 'r diluw cás:
Mae 'n ddiweddar gwneuthur Bàd,
Pan bo'r Diluw 'n boddi 'r wlâd.
Gwell o lawer, nid ychydig,
Yw bôd gydâ Noa 'n gadwedig,
Yn y llong, nâ chydâ llawer,
Yn y Diluw dû a'r dyfnder.
Bwa 'r glaw neu 'r Enfys.
Pan y gwelech fwa 'r Drindod,
Cofia farn Duw a'i gyfammod:
Abendithia ei dduwiol fawredd,
Am ei fwynder a'i drugaredd.
Gen. 9.
Ystyr amryw liwiau 'r Enfys,
Glas a chôch yw 'r ddwy farn gofys:
Glâs oedd Dŵr y Diluw cynta,
2 Pet. 3.7.
Côch yw Tân y farn ddiwetha.
Lle mae 'r Bwa yn gyffredyn,
Ai gyrn ir ddaer heb saeth, heb linyn:
Y mae 'n dangos mor heddychlon,
Yw hi ynghrist rhwng Duw a
Sef y ffyddloni­aid.
dynion.
Meddwdod Noah.
Gwachel Satan hên a'i rwyde,
Pan bech tra diofal gartre:
Ef a'th ddilyn megis No,
Nes rhoi itti
Cwymp
ffwyl ryw dro.
Oni ddichon Satan ddala,
Noe â'i rwyde o butteindra,
Fe brawf ddala No heb ŵybod,
Gen. 9.21.
Yn hên ŵr â rhwyd o feddwdod.
Lot.
Od ae drigo i Gomorra,
Lle mae meddwdod a phutteindra,
Cadw arnad megis Lot,
Rhag d' halogi â'r hŵr â'r pot.
Or gweld di 'r dre lle bech yn byw,
Yn pechu 'n gâs yn erbyn Duw,
Tynn fel Lot y maes o Sodom.
Cyn disgynno arni 'r
Y dym­mhestl.
storom.
Gen 19.
Gwell bôd gyda Lot ei hunan,
Ar y mynydd dan y geulan;
Na bôd gyda holl wŷr Sodom
Yn y Dre yn godde 'r storom.
[...]ddw­ [...]d Lot.
Pwy ymgadwe yn wellLot,
Yng-hanol Sodom rhag y pot?
[Page 263] Yn yr Ogof pwy y feddwe,
Ar y Gwîn yn gynt nag ynte?
Or dihangaist rhag putteindra,
Lloscach Lot.
Rhwng y
Tai put­teiniaid.
styw-dai yn Gomorra;
Gwachel wneuthur pechod aflan,
Gartre ymmysc dy ffryns dy hunan.
Or dihangaist rhag y tân,
O ganol Sodom am fyw 'n lân;
Gwachel rhag dy losci 'r eilwaith,
Yn dyam fyw yn ddiffaith.
Gwraig Lot.
Os gadewaist Sodom vn-waith,
Na ddymchwela i Sodom eilchwaith:
Trowd gwraig Lot yn
Golofn.
Bîl o halen,
Am droi hwyneb llwyr ei chefen.
Gomorra.
Agor d'olwg, gwêl mor ffyrnig,
Y mae Duw yn cospi rhyfig:
Pan y llosce â thân a brimston,
Dre Gomorra o'i achossion.
Llêf Sodom.
Clyw mor cuwch y gweidda pechod,
Ddydd a nôs yn glustie 'r Drindod,
Gen. 18.20, 21.
Ac na ddichon pechod dewi,
Nes dialo Duw ei frynti.
Gwlâd Sodom.
Och! mor ddrewllyd ac mor embaid,
Ydyw lloscach y Sodomiaid:
Pan bo 'r wlâd yn drewi etto,
A'r mwg a'r tarth lle
Buant.
bunt yn trigo.
Cam.
Gwachel haeddu rhê; dy Dâd
Gen. 9.
Byth nis gorfu Cam na'i Hâd:
[Page 264]Melldith Noe sy'n glynu 'n ffinion,
Byth yng-hrwyn y Moyrys duon.
Sem.
Megis Sem, trwy ddawn a rhâd,
Cuddia gwylidd Noe dy Dâd:
A phan ddêl mewn gŵth o oedran,
Na watwara megis Canaan,
Selef neu Solomon.
Parcha Bathseba dy fam,
1 Bren. 2.19.
Anrhydedda hi ar bob cam:
Rho 'r llaw ddehau iddi 'n vfydd,
Fel y roddei Selef Ddafydd.
Abraham.
Gen. 13.18.
Cynta peth y wnel dy ddwylo,
Pa le bynna 'r elech iddo,
Godi allor gidag Abram,
Ffydd A­braham. Gen. 15.6.
I addoli Duw 'n ddigytcam.
Crêd bôb Gair o enau Duw,
Gwîr, a phûr, a pherffaith yw:
Nêf a Daiar a ddifflanna,
Cyn el
Y pwngc lleiaf.
jot o'i Air heb gwpla.
Vfydd-dod Abraham
Lle harcho Duw itt' fyned, dôs,
Y peth orchmynno gwna yn
ddyfal. Gen. 12.1, 4.
glôs:
Bydd mor ufydd ac oedd Abram,
Gwna 'r peth archo yn ddigytcam.
Gen. 22. pen 17.
Offrwm d' Isaac os Duw arch,
Ac enwaeda 'r cnawd o barch:
Jos. 24.2, 3
Gado Ddelwau aur dy Dâd,
Dôs pan harcho maes o'th wlâd.
Isaac.
Dysc gan Isaac fôd yn ufydd,
Mwyn a llariaidd, dôf a llonydd:
Felly byddy
Siccr.
suwr i fyw,
Mewn ffafar Dyn, mewn of an Duw.
Gwely 'th Briod na haloga,
Ond bydd fodlon i'th Rebecca:
Fel y bydde Isaac sanctaidd;
O flaen Duw mae hyn yn weddaidd.
Jacob.
Or bydd geiriau Jacob genyd,
Gen. 27.
Gwachel ddwylo Esau waedlyd:
Câs gan Dduw a pheth
Digyfrif.
digwnt,
Yw 'r geiriau
Gwych.
braf ar gweithred brwnt.
Pan bwriadech geisio gwraig,
Gen. 28.
Bydd i Jacob yn Scholhaig:
Dilyn gyngor Mam a Thâd.
O mynny lwyddiant ar dy Hâd.
Esau:
Na fydd lwth i lanw 'th fola,
Esau
Gafas. Gen. 25.
gas y cwylydd mwya,
Am roi i Jacob ei holl afel,
Am.
Dros phiolaid o gawl gruel,
Ffei ar afrad, ffei ar meddwdod,
Na werth nêf am fwyd a diod:
Esau gollodd Ganaan decca,
Am werthu fraint i lanw ei fola.
Joseph.
Os cais Meistres yn y cornel,
Genyd orwedd gyda'i 'n ddirgel:
Cilia gydâ Joseph allan,
Gen. 39.
Na ladd d'enaid er ei chusan.
Dôs i garchar, godde gûr,
Gorwedd mewn cadwynau dûr,
Cyn y gwnelech megis filain,
Aelod Christ yn aelod puttain.
Na châr buttain tra fech byw,
Na haloga Demel Dduw:
[Page 266] Ni wnai Ioseph beth mor ffinion,
O
Er.
serch pydru yn y
Stocs.
cyffion▪
Margain front fel Margain Esaw,
Margain y bair cnoi ac wylaw,
Dihar. 6.25, 32.
Ydyw gwerthu 'r Nefoedd berffaith;
Am gyfeillach puttain noswaith.
Derchafi­ad Joseph
Ioseph waith na fynnei orwedd,
Gyda'i feistres mewn anwiredd,
Y gas mynd yn
Dywysog
Brins arbennig,
Ar yr Aipht am
Attal.
stoppi rhyfyg.
Gwell bôd gydâ Joseph
Onest.
ddiwar,
Am Onestrwydd yn y carchar,
Na bôd gyd â Herod Frenin,
A Herodias rhwng ei ddau-lin.
Reuben.
Os dryngbadu wely 'th Dâd,
Gydâ Reuben hyna o'r gwaed;
Gen. 49.3, 4.
Iuda gaiff yr holl Difeddiaeth,
Ni chei dithe ond yr hiraeth.
Simeon.
Simeon gwachel werthu 'th frawd,
Drwg y gwyddost beth yw 'r
fforten.
ffawd;
Fe fydd Joseph gwedi werchu,
Gen. 42.24
Yn troi Semeon ir carchardy.
Moses.
Dysc gan Foesen fôd yn fwyn,
Araf,
llariaidd
llednais da dy gwŷn,
Num. 12.3
Hawddgar, ffyddlon, prûdd, di-dwyll,
Cefnog, diddig, da dy bwyll,
Pharao.
Gwêl
Pa. Exod. 8.
pwy filwyr sydd gan Dduw,
Yn plygu 'r Brenin cryfa 'n fyw,
Llau, a llyffaint, ceiliog rhedyn,
Yn troi Pharo 'i geisio
Arch.
canlyn.
Canaan.
[Page 267]
Os ceisii fynd or Aipht i Ganaan,
Lle mae 'r mêl a'r llaeth yn
Difern.
dropian,
Rhaid id fyned trwy 'r môr coch,
Er maint ei rym, er cuwch ei roch.
Manna.
Gwachel laru ar y Manna,
Claf iawn wyt oni elli fwytta:
Ac or ceisii Bwmps a phannas,
O flaen Manna, mae 'ti anras.
Num. 11.4, 5, 6.
Sofl-ieir.
Cyn gadawo Duw ddim eisie,
Ar y sawl y gatwo ei ddeddfe,
Num. 11.31.
Pair ir nefoedd lawio Manna,
A
Soflieir
Chwailes iddynt idd i fwytta.
Corah.
Na wrthneba byth o'r ffeiriad,
Cennad. Num, 16.
Angel Duw yw wrth ei alwad:
Gwachel rhag ir ddaer dy lyngcu,
Os fel Corah y gwrthnebu.
Offeiriad.
Gwachel
Ymmyr­redd. 2 Sam. 6.6, 7.
fedlo maes o'th alwad,
Bethau berthyn at offeiriad:
Ni fyn Duw ond ffeiriaid gweddaidd,
Drin yr Arch a'r pethau Sanctaidd.
Sabboth.
Gwêl mor gaeth y myn Duw inni,
Gadw 'r Sabboth heb ei halogi,
Num. 15.32, 36.
Pan y pare ir holl Gymmanfa,
Labyddio 'r dyn am Sûl-friwedda
Cynnytta
.
Treulia 'r Sabboth byth yn Sanctaidd,
Dere i Demel Dduw yn weddaidd,
Ac nac arfer tra fech byw,
Waith y Cythrael ar ddydd Duw.
Haul.
[Page 268]
Gwelwn allu Duw bôb vn,
Yn
Attal. Jos. 10.
stoppi 'r haul wrth weddi dŷn,
Ac attal hon ddiwrnod cyfan,
Vwch ben ei lû, heb fynd or vn-mann.
Cofiwn bawb mae 'n cwilydd yw:
Os
Saif.
stoppa 'r Haul pan harcho Duw,
A'n bod ninnau crach fydreddi,
Pan harcho Duw, heb fedru
Ymattal oddiwrth ddrwg.
ymstoppi
Josuah.
Os ceisiir genyd 'ddoli Delwe,
Jos. 24.15
Megis Josua atteb dithe,
Nid Addolaf tra fwi byw,
Mi am tylwyth ond fy Nuw.
Zimri.
Zimri, Zimri, gwêl y cledde,
S'uwch dy ben gan Dduw 'r diale,
Num. 25.
A'r ffon wayw sydd gan Phinees,
Ith drywanu ti ath Langces.
Balaam.
Balaam, Balaam, agor lygad,
Gwêl yr Angel sy'n dy warchad;
Num. 22.
Tro yn d'wrthol, Gwachel
Cymmer­yd gwobr.
fribri,
Gwrando 'r Assen yn d'argoeddi.
Sampson.
Na châr buttain mwy na chythrel:
Na ro iddi byth o'th
cyfrinach Barn. 16.
gwnsel:
Hi dyrr gwddwg, hi dynn galon,
Gwr pyt fae mor gryf a Sampson.
Gibeah.
Na
Na chyn­nal. Barn. 20.
fynteinia bobol ddrwg,
Ond bydd arnynt byth ar d'ŵg;
Gibeah loscwyd a'i holl bobol,
Am ymddiffyn gwŷr anneddfol.
Benjamin.
[Page 269]
Benjamin
Attolygaf itti. Barn. 20.
erdolwg clyw,
Pam y tynny ddial Duw,
Ar dy dŷ a'th ben dy hunan,
Am ymddiffyn plant i Satan?
Eli.
Cymmer rybydd oddiwrth Eli,
Ddysgu 'th blant a'u dyfal gospi:
1 Sam. 2.
Lle na chospo 'r Tâd a'r wialen,☜
Duw a'r cledde dyrr eu cefen.
Samuel.
Dysc gan Samuel trech yn blentyn,
Brûdd wasnaethu Duw ai ganlyn;
Ac arferu hyd dy ddiwedd,
Fyw yn gyfiawn, yn ddigamwedd.
Dysc gan Samuel Farnwr gwŷch,
1 Sam. 12.2, 3.
Na chymmerech fuwch nac ŷch;
Ond rhoi barn ym-mhob rhyw
Achos.
fatter,
I bôb dŷn yn ol cyfiawnder.
Joel mab Samuel.
Beth ennillodd Joel aflan,
Wrth gam-farnu, ac wrth
Dderbyn gwobr. 1 Sam. 8.
fribian,
Colli swydd ai etifeddiaeth,
Ennill cwilydd a
Edliw.
dannodiaeth.
Ʋzzah.
Uzzah gwachel gwrdd a'r Arc,
Gâd ir ffeiriaid hynny o
Gofal.
garc:
Trin dy swydd dy hun a'th alwad,
Nid yw 'r Arch yn perth yn attad.
2 Sam. 6.6.7.
Job.
Bydd ddioddef gar megis Job,
Job. 1:
Trech yn glâf, na lef ôb ôb,
Yn dy golled gwachel gablu;
Duw sy'n rhoi, a Duw sy'n tynnu.
Pe dyge Duw sydd yn dy helw,
Pe'th drawe 'n glaf, nes bae'ti marw;
Dywaid, pyt fae Dduw 'n fy mlingo,
Job. 13.15
Etto mi ymddiriedaf ynddo.
Dafydd.
Canol nos fel Brenin Dafydd,
Psal. 119.62.
Cod i lawr, penlinia 'n ufydd,
A molianna Dduw 'r pryd hynny,
Pan bo eraill yn hwrn gyscu.
Psal. 147.1 92.1, 2.
Hôff o beth a hyfryd yw,
Ganol nôs glodfori Duw;
A rhoi diolch iddo 'r bore,
Am ei râs a'i amal ddonie.
Edifeir­wch. Dafydd. Psal. 51.
Bydd mor difar am dy bechod,
Ac oedd Dafydd Brophwyd hynod:
Ac na orphwys wylo 'n irad,
Nes cael ffafar Duw a'i gariad.
Psal. 6.6.102.9.32.4
Wyla nes bo'th wely 'n foddfa,
Bwytta ddeigre gydâ 'th fara,
Gwisc di sâch, a thro mewn
Llwch.
llethrod,
Nes cael pardwn am dy bechod.
Absolon.
Er melyned y fo'th gydyn,
2 Sam. 18.9 Pen. 14.26
Gwachel f' enaid, chwareu'r coegyn;
Ac nac arfer
Cydynau.
locseu hirion,
Rhag dy faglu fel Absalon.
2 Sam. 12.11, 12.16.22.
Os aiff Dafydd i felina,
Ganol nôs at wraig Ʋria;
Fe ddaw vn ganol-ddydd gole,
I felina i felin ynte.
Amnon a Thamar.
Gwel mor fyrr yw plesser oflyd,
Y wnai Amnon golli fywyd:
[Page 271] Gwel mor chwerw yn y diwedd,
2 Sam 1.
Yw blas pechod ac anwiredd.
Na ddôd d'enaid byth mewn
Enbyd­rwydd.
peryg,
I gyflawnu chwant a rhyfyg:
Fe fydd chwerw ac edifar,
Yn y diwedd dreisio Tamar.
Hezekiah.
Dôd dy dŷ mewn
Trefn. Esay 38.1.
ordor addas,
Fel y dode Hezekias:
A bydd barod byth yn gwiliad
Ange cyn y delo attad.
Ahab a Naboth.
Gwachel chwennych gwinllan Naboth,
Trais y lef am ddial
Beunydd.
boenoth:
Gwinllan Naboth os trachwantu,
Teyrnas Jsrael y
Golli. 1 Bren. 21.
fforffettu.
Ahab, Ahab,
Arfer v­nion deb.
dela 'n union,
Na ddwg winllan Naboth wirion:
Ac o'r dwgu trwy
Llw an­uddon. 1 Bren. 21.
udonaeth,
Duw ddifetha dy hiliogaeth.
Daniel.
Er maint y fo'th boen a'th drafel,
Dan 6.10, 22.
Cwymp i addoli Duw fel Daniel,
Dair gwaith yn y dydd o leia,
Dyna 'r unig waith sydd reita.
Cau dy stafell: plyg dy linie,
Côd d'olygon, agor d'ene,
Ac addola Dduw yn brûdd,
Felly dair gwaith ar bob dydd.
Fr.
Serch dy daflu i fysc y llewod,
Na 'sceullyssa 'ddoli 'r Drindod:
Y bwystfilod gwaetha eu nattur,
Fedrant
Trugar­hau.
ffafro gwir Addolwyr.
Sadrach.
[Page 272]
Nac ymgrymma byth i ddelw,
O
Er. Dan. 3.
serch gorfod arnad farw,
A mynd gyda Sadrach hyfryd,
Ar dy ben i'r ffwrnais danllyd.
Mat. 4.10. Psal. 115.4, &c.
Duw yn unig sydd iw' addoli,
Nid yw 'r ddelw ddim ond gwegi,
Coed a cherrig, Aur ac Arian,
Bwbach nad all helpu hunan.
Belsazzar
Pan bo 'r cwppa wrth dy fîn,
Dan. 5.
Yn cablu Duw, yn yfed gwîn;
Gwachel Angau dîg dy daro,
Fel Belsazzar wrth
Ymyfed.
garowso.
Llaw ar y wal.
Pan bech yn carowso yn dal,
Gwêl y llaw sydd ar y
Pared.
wal,
Yn scrifennu o flaen d'wyneb,
Dy farn aethlyd a'th lothineb,
Tobias.
Tob. 1.16, 17.
Bydd drugarog fel Tobias'
Wrth bob tlawd y fo o'th gwmpas:
Ac na fwytta brŷd yn iachus,
Nes rhoi rhan ir tlawd anghenus.
Helpa 'r gwan a chladd y marw,
Swccra 'r noeth, cyfrwydda 'r weddw,
Bydd yn Rhyscwy ir ymddifaid,
Na fydd anfwyn wrth ddieithriaid.
Raphael
Pan y bech ar feder gwreicca,
Cais gan Dduw dy helpwr hela
Tob. 6.10.
Raphael sanctaidd i'th gyfrwyddo,
Cyn ymlygrech wrth
Briodi.
ymfaitshio.
Tobi ieuangc a Sara ei wraig.
[Page 273]
Cyn gorweddech gydâ Sara,
Llaw yn llaw â hi gweddia,
Ar ir Arglwydd roi 'ti lwyddiant,
Help a chymmorth,
Ded­wyddwch. Tob. 14.
ffawd a ffyniant.
Dysc gan Dobi Ifangc berchi
Dy Dad a'th Fam a'u cymfforddi:
Pan bont marw, cladd hwy 'n weddaidd
Hyn sydd rasol a christnogaidd.
Efengyl.
Bydd fyw 'n gyfiawn ac yn gynnyl,
Fel pyt faet heb vn Efengyl:
A bydd farw 'n gystal d'obaith,
A phyd faet heb weld y gyfraith.
Or gofynnu anwyl gristion,
Pwy wnaeth hyn o werseu byrrion:
Gwas i Grist sy'n ceisio d'hwppo
Dy yrru.
,
Tua 'r nêf a'i draed a'i ddwylo.

At y Darllenydd.

PAn printiwyd y trydydd llyfr o waith yr Awdwr bendigedig hwn, mi adewais ran o'r Catechism sy'n canlyn heb ei brintio; oblegid nad oeddwn i ewyllysgar i anfodloni nêb, trwy ddy­wedyd fy meddwl ynghylch rhyw bethau by­chain ynddo, y rhai nid oeddent yn perthynu i iechydwriaeth pobl.

Heb Law hyn, yr oeddwn i yn rhag-weled y by­ddei ymbleidio, ac ymddadlu, a chynhennau, ac ymryssonau oblegid y pethau hynny: yr hyn beth (sef ymbleidio ac ymddadlu, &c. ynghylch pethau [Page 274] bychain) ar wybodaeth ac profiad. Tit. 3, 8, 9. ecsperiens cannoedd, ie miloedd o gristianogion grassol, sydd rwystyr yn hytrach nâ chymmorth i adeiladaeth ysprydol. Ar hyn, gan fôd fy amcan i wrth ddanfon y lly­frau hynny ir wlâd, nid i roddi achos o ymrafael ym-mysc pobl, ond yn vnic i roddi goleuni ir rhai sy yn eistedd mewn tywyllŵch a chysgod angau, i gyfeirio eu traed i ffordd tangneddyf; ac i a­deiladu 'r gwan yn eu ffydd sanctaidd, fel yr e­lent yn y blaen yn ffyrdd yr Arglwydd yn fwy cyssurus, fel y gogoneddent Dduw ymma, ac y byddei iddynt feddiannu tragwyddol ogoniant gŷd ag ef ar ôl hyn; Mi ymfodlonais i ddodi all­an y pryd hynny, y pethau yn vnic yr ym ni oll yn cyttuno ynddynt; trwy iawn wybodaeth o ba rai, a'u derbyn i'r galon, a'u credu, a byw yn ddi­ragrith yn eu hôl, yr oeddwn i yn gwybod yn ddilys, a cyrhaeddwn i fy niben am hamcan, y soniais i o'r blaen am dano: A'r pethau hynny ydyw y Gredo, Gweddi 'r Arglwydd, y dêg Gorchymmyn, a substance Sylwedd yr athrawiaeth yng­hylch y Sacramentau, a'r Eglurhâd Esponiad iachus o ho­nynt, y gynhwysir yn y Catechism hwn o Eg­lwys Loeger; y rhai pethau ydynt oll yn dda; ac trwy fendith Duw, ac iawn arferiad moddion eraill i iechydwriaeth, allent fôd yn profitablefuddiol i adei­ladaeth, ac i beri grâs ir Darllenwyr.

Ond o herwydd cymmeryd tramgwydd, a digio, am na ddanfonwyd allan y pryd hynny ond rhan o'r Catechism, wele yn awr y cwbwl iti. Nac an­fodlona i mi ddywedyd hyn, fôd cadarnach seiliau i adeiladu Bedydd plant bychain arno, nag a osodir i lawr ymma, fel y gŵyr y duwiol dyscedig yn ddigon da.

[Page 275]Ac am Dadau a Mammau bedydd, a'u proffes hwy wrth y bedyddfan, eu bôd hwy mor lân ac mor grefyddol, ac y maent yn gwadu 'r Diawl a'i holl weithredoedd &c, A'r rhwym y maent yn gymryd arnynt, (fel y maent yn feicheon dros y plant,) A'r peth y ddywedir ymma, eu bôd hwy yn cyflawni ffydd ac edifeirwch dros y plant nes y delont i oedran, mi au Esgeu­lusaf. passaf hwynt heibio i gŷd, heb gyfodi vn cwestiwn i fynu yn eu cylch; gan ymroi fy hunan,1 Thess. 5.21. Esa. 8.20. Act. 17.11. a chan gynghori eraill i wneuthur yr vn peth, ar ôl profi 'r cwbwl wrth y Scrythyrau, i ddala yn vnie yr hyn sydd dda.

CATECHISM.

Holiad.
FY Mhlent yn hygar hoyw,
Er Christ beth yw dy enw?
Maneg im' o galon brŷdd,
Dy grêd a'th ffydd yn groyw.
Atteb.
Fy enw yw Cynedda.
y gollwyd gynt yn Adda:
Etto
Y ffydd­loniaid, edifeiriol, vfydd, a gedwir trwy Grist: nid gwei­thred-wyr anwiredd. Jo. 3.16. Act. 3.19. Heb. 5.9. Mat. 7.23.
gedwid trwy râs Duw,
yn Grist 'rhwn yw 'r Messia.
H.
Pwy roes dy enw itti,
Lle 'r oeddyd gwedi 'th golli,
Gydâ 'r byd trwy Adda gaeth,
A'th droes i'r fath drueni?
A.
Fy Nhadeu a Mammeu bedydd,
Trwy lân ac vnion grefydd:
Pan bedyddiwyd fi â dŵr,
Wrth arch fy Mhrynwr vfydd.
H.
[Page 276]
Pa.
Pwy lês sy'n dwad itti,
O'th fedydd gwedi 'th olchi,
Yn y Dwr gan ffeiried Duw,
Waith cymmaint yw'th drueni?
A.
Rwi 'n
Fel y dealloch y pethau hyn yn iawn, y­styriwch y pethau ganlynant, Sef,
Aelod Pûr im Prynwr,
Rwi 'n Blentyn im Creawdwr,
Rwi 'n 'tifedd mawr o deyrnas nêf,
Rwi 'nghrist yn ore 'nghyflwr.

Yn Gyntaf, Eni pawb i'r bŷd hwn (ond Luc. 1:35Christ ei hunan) yn aflan, hynny yw, Psa. 51.5. Joan 3.6. Job 14.4. a'r 25.4. yn llawn o bechod gwreiddiol, sef, yn llawn o hâd pôb drygioni: canys heb law cyfrifiad pechod Rhuf. 5.12.19. Adda iddynt, y mae hefyd dueddiad a gogwyddiad ym mhôb e­naid, at bôb Gen. 8 21 mâth o ddrygioni, ac ammharo­drwydd i bôb Rhuf. 7.18. mâth o ddaioni; yr hyn yn gy­ffredinol a elwir llyg [...]edigaeth naturiaeth.

Megis y mae tywys y Yr ŷd. llafur a'i risgle, a'i flo­de, a'u wellt, i gŷd yn wreiddiol yn yr hâd a hau­ir: felly y mae pôb mâth o ddrwg feddyliau, a drwg eiriau, a drwg weithredoedd yn wreiddiol Mat. 15.19.ynghalon plentyn pan y genir ef ir bŷd.

Oni bae fôd y peth fel hyn, nis gallai sefyll gyd â chyfiawnder Duw, i daro rhai plant bychain â chlefydau, ac i dorri eraill i lawr trwy farwolaeth, o herwydd mai Deut. 28.15, 21, 22. Rhuf. 6.23 Datc. 21.8 cyflog pechod yw y pethau hyn, sef clefydau, a phôb mâth o felltithion daiarol eraill, a marwolaeth, sef y cyntaf a'r ail.

Peth rhyfedd fyddei (îe peth nis gellir i gredu) y rhoddei y Duw Psal. 145.17. cyfiawn gyflog pechod i blant bychain, ac ynteu, sef y cyflog hynny heb fôd yn ddyledus iddynt. A chan fôd y peth felly, ni ellir gwadu, nad yw plant bychain mewn rhyw ffordd [Page 277] neu gilydd yn bechaduriad; ac o herwydd hynny yn blant digofaint, ac yn euog o ddamnedigaeth tragwyddol.

A chan nad ydynt hwy yn bechaduriad, trwy halogrwydd ac euogrwydd pechod gweithredol o'i heiddo ei hûn, nid oes ffordd arall wedi adel, iddynt fôd ynghyfrif Duw yn bechaduriad, ond yn vnig trwy halogrwydd ac euogrwydd pechod gwreiddiol.

Yn Ail ystyriwch, Er ein geni ni yn aflan, ac er bod y rhai o honom ac sydd yn euog o bechodau gweithredol, gwedi ein gwneuthur yn fwy aflan trwy halogrwydd y pechodau hynny: Etto y mae ffordd, ac nid oes ond vn, i'n glanhau ni oddiwrthynt ôll.

Yr vnig ffordd yw Zech. 13.1 Datc. 1.5. Act. 4.12. Iesu Ghrist; canys efe, o'i anfeidrol gariad at ei Eglwys neu bobl, a 1 Pet. 2.24. ddy­godd eu pechodau hwynt arno ei hun, megis ei Heb. 7.22. meiche hwynt; Ac ar y groes a offrymmodd ei hun (sef ei enaid a'i gorph) trostynt, yn aberth i Dduw ei Dâd o Eph. 5.2. arogl peraidd. A thrwy yfed o'r cwppan chwerw o ddigofaint Duw, pan ty­walltwyd ei waed ef, efe a roddodd 1 Jo. 2.2. iawn i gyfi­awnder ei Dâd am bechodau ei bobl, ac felly a 1 Pet. 1.18, 19. Eph. 1.7. bwrcassodd iddynt faddeuant pechodau, a Rhuf. 8.1 rhyddbâd rhag y ddamnedigaeth dragwyddol ddyledus am danynt,

A thrwy gadw y gyfraith, gan vfyddhau i holl orchymynnion Duw, fe a Dan 9.24 Rhuf. 5.19 1 Cor. 1.30 ddygodd i mewn gy­fiawnder difrycheulyd idd i gyfrif i'w bobl, ac felly i gwneuthur hwy yn gymmwys i gael bywyd tragwyddol yn y nefoedd.

Y nawr trwy gymmhwysiad gwaed neu ddio­ddefaint Christ idd ei bobl, y Rhuf. 5.9 Heb. 9.1 [...]. glanhauir hwynt oddiwrth euogrwydd eu pechodau, hynny yw o­ddiwrth [Page 278] y rhwymedigaeth y maent tano i ddam­nedigaeth tragwyddol am danynt.

A'r rhai y lan hauir oddiwrth euogrwydd eu pechodau, trwy gymmhwysiad Gwaed Christ at eu heneidiau, y lanhauir hefyd oddiwrth eu halo­grwydd hwynt (hynny yw oddiwrth frynti, a grym eu pechodau) trwy Dihar. 1.23. Rhuf. 8.9, 10. Tit. 3.5, 6. dywalltiad Yspryd Christ arnynt, i drigo yn eu calonnau hwynt.

Yn Drydydd ystyriwch, fôd rhyw blant (ie llawe­roedd) yn gadwedig, oblegid y mae Duw yn ei Air yn dywedyd, ei fôd ef yn Dduw idd ei bobl ac idd ei Gen. 17.7 hâd, ac fe garodd Duw Rhuf. 9.10, 11, 12. Jacob, a Jer. 1.5. Jeremi, ac Luc. 1.15 Joan fedyddiwr pan yr oeddent ynghrothau eu Mammau; ac fe gymmerodd Christ blant bychain yn ei freichiau, ac a ddywedodd, mai eiddo y Marc. 10.14. cyfryw rai yw Teyrnas Dduw.

Siccr yw, fôd plant yn aflan trwy nattur, ac nad â nêb o honynt hwy, mwy nâ rhai mewn oedran ir nefoedd, heb eu glanhau a'u sancteiddio, canys heb sancteiddrwydd ni chaiff neb weled yr Arglwydd. Heb 12.14 Joan. 3.3. Dat. 21.27

Y nawr, gan fôd glanhâd oddiwrth euogrwydd ac halogrwydd pechod, yn angenrheidiol i blant yn gystal ac i eraill, cyn myned ir nefoedd; a chan nad oes vn ffordd arall i gael glanhâd oddiwrth bechod, nac i ddwyn nêb ir nefoedd, ond yn v­nig trwy danelliad gwaed Christ, a sancteiddiad ei yspryd ef: A chan fôd llawer o blant yn cael eu derbyn ir nefoedd; y mae yn eglur, fôd y cyfryw, cyn marwolaeth, (canys nid oes dim Preg. 9.10 Preg. 11.3 Luc. 16.26 glanhâd ar ôl marwolaeth) a chyn eu derbyn ir nefoedd, yn cael eu glanhâu oddiwrth euogrwydd ac halog­rwydd ei pechod gwreiddiol; ac eu bôd hwy yn cael hynny, yn vnig trwy danelliad gwaed Christ, a thrwy sancteiddiad ei yspryd ef.

[Page 279]A phan tywalltir yspryd Christ ar blant by­chain, ac y cymmhwysir ei waed ef attynt, y mae grym pechod gwreiddiol yn cael ei dorri, ac y mae hâd pôb grâs wedi hâu ynddynt, (oblegid nid yw yr Rhuf. 1.9, 10. yspryd glân yn segur ble bo ef,) fel ac y gell­ir dywedyd fôd yn y Cyfryw rai, ostyngeidd­rwydd, ffydd, cariad at Dduw &c yn wreiddiol, er nad ydynt hwy yn Sensible. deimladwy o hynny, mwy nag y maent o'u haflendid naturiol.

Yn Bedwarydd Ystyriwch, fôd y cyfryw ac a lanhauir mewn oedran, yn dyfod i gael eu glanhau (yn gyffredinol) yn y môdd ymma.

Yn Gyntaf, y mae Duw trwy Rhuf. 1.16 Mat. 12.41 Rhuf. 5.17 bregethiad ei Air, a gweithrediad ei Jo. 16.8. yspryd gydâ ei Air, yn eu hargyhoeddu hwynt am eu pechodau, ac yn eu goleuo hwy i weled y cyflwr colledig y maent yn­ddo oi plegid hwynt, megis yr hargyhoeddodd ef y tair mîl Act. 2.37.Iddewon trwy bregeth Petr. Oni bae eu bôd nhwy yn cael eu hargyhoeddu a'u goleuo fel hyn, pa fôdd yr ymgeisient am Iachawdwr? canys medd Christ, Nid rhaid ir iach wrth y meddyg, Mar. 2.17. ond y rhai cleifion.

Yn Nessaf, yn ôl eu Act. 16.30 Rhuf. 8.15 dychrynu hwynt â golwg eu pechodau, a'r cyflwr damnedig y maent ynddo oi plegid hwynt, y mae Duw, trwy Air yr Efeng­yl, yn dangos iddynt yr help, a'r ymwared, ar sydd iw chael, trwy ffydd yn Ghrist,Act. 16.30, 31. megis y dangosodd ef i Geidwad y carchar, trwy bregethi­ad Paul a Silas.

Yn Drydydd, y mae Duw trwy ei yspryd, ar ôl Act. 26.18 goleuo pechaduriad, (yn y môdd y clywsoch) yn eu Jo. 6.44. Cant. 1.4. tynnu hwynt at ei fâb, ein Iachawdwr Iesu Ghrist.

Ac yno wrth draed ein Harglwydd Iesu Ghrist, [Page 280] (yr hwn y maent hwy yn ei weled â Jo. 6 40. Heb. 11.27 llygaid ys­prydol, er nad ydynt etto yn ei weled ef â llygaid cnawdol,) y mae y cyfryw bechaduriaid yn Dihar. 28.13. Dih. 8.36. Psal. 51.4. cy­faddef eu pechodau, a'r Dihar. 28.13. Dih. 8.36. Psal. 51.4. cam y maent gwedi wneu­thur â Duw, a'u heneidiau eu hunain trwyddynt hwy, fel y dangossir inni yn nammeg y Luc. 15.21 mâb afra­dlon.

Ac yn awr, gan fôd Dih. 1.23 Zec. 12.10 yspryd grâs a gweddiau wedi dywalltu arnynt, y maent â [...]ac. 4.8. Psa. 57.17chalon ddrylli­og, alarus am eu pechodau, (megis y Luc. 7.37, 38. wraig becha durus a olchodd draed Christ â'i dagre, ac fel y Luc. 18. Publican edifeiriol) yn deisyf ynPryssur.brûdd er Jo. 14.13, 14.mwyn Christ, ar i Dduw drugarhau wrthynt, a rhoddi maddeuant iddynt.

Ac heb law hyn, y maent hwy yn cywilyddio, (megis Jer. 31.18, 19. Ephraim) am eu ffyrdd ddrygionus, ac yn 1 Cor. [...].31. barnu eu hunain (megis Gen. 32. Jacob a'r mâb a­fradlon) yn annheilwng, (er [...] Luc. [...] 1. mwyn dim y sydd ynddynt eu hunain,) i dderbyn y trugaredd neu 'r ffafor lleiaf oddiwrth yr Arglwydd: ond y maent yn ymddiried ac yn 1 word 64 6 [...] 1, 9 credu yn Nuw (me­gis y Luc. 7.48 Act 16.34 wraig bechadurus a Cheidwad y carchar) rhai â ffydd wann, eraill a ffydd grŷf, y bydd iddo fe yn ôl addewidion yr efengyl, er 1 Jo. 2.12, 13. mwyn hae­ddedigaethau Crist, drugarhau wrthynt, maddeu eu pechodau, bôd mewn heddwch a hwynt, a cha­dw eu heneidiau.

A thrwy Rhuf. 8.9, 10, 13. help yspryd Christ, y sydd y nawr Yn Rhuf. 8.9, 10, 13. trigo ynddynt (ble buassei Act. 26 18 Eph. 2.1, 2 Satan o'r blaen, tra oeddent feirw mewn camweddau a phechodau) y maent, nid yn vnig yn Ps. 110.3 ewyllyscar, ond hefyd yn 2 Co. 5 17 Ps. 119.104 112, 113. alluog, (megis Dafydd a Zacheus) i droi o­ddiwrth, ac i gasau eu pechodau, mewn meddwl, gair a gweithred, ac i Ezec. 36.31.ffieiddio eu hunain oi plegid [Page 281] hwynt, ac i fyw yn ôl rheol Jo. 10.27. gorchymynnion Duw. 1 Ioan 2.3.4.5.

Ac er bôd y Gal. 5.17 cnawd, sef yr hên nattur lygredig Rh. 7.17.yn aros fŷth ynddynt hyd eu marwolaeth, etto y mae e wedi ei Gal. 5.24 groes-hoelio, a'i farwhâu ynghyd â'i wyniau a'i chwantau, cyn belled, ac nad yw ef yn Rhuf. 6, 12.14. teyrnassu neu yn rheoli ynddynt.

Ac yn lle yr 1 Cor. 6.9 10.11. hên aflendid, a'r annuwioldeb, a'r anghyfiawnder, y mae grasussau yr yspryd glân, a 1 Jo. 3.9. hauodd efe yn eu calonnau hwynt, megis gostyng­eiddrwydd, aeddfwynder, sobrwydd, cyfiawnder, ca­riad at Dduw a'i Air, a'i bobl &c, yn gwreiddio, ac yn tyfu, ac yn Jo. 15.5. Gal. 5 22.ffrwytho, yn rhai Mat. 13.23. mwy, yn rhai llai, yn ôl y messur o iâs y dderbyniasant.

Ac pan y bônt, naill ai trwy eu Gal. 6.1. gwendid eu hunain, neu trwy 1 Chron. 21.1. hocced Satan, neu hudoliaeth y Dih. 1▪ 10 bŷd, yn cwympo i bechod: Etto y maent (me­gis Dafydd a Pheder) trwy Psal. 51. Mat. 26.edifeirwch yn cyfodi eilchwaith; Ac yn ymdrechu i vfyddhau, nid i rai o orchymynnion Duw, (megis y gwnaeth 1 Sam. 15 2 Bren. 10. Mar. 6.20 Saul Jehu, Herod ac eraill ddynion drwg) ond ir cw­bwl (megis Zacharias, ac Elizabeth, Luc. 1.6. Ps. 119.5, 6.) a hyny nid yn vnig oddi faes,Mat. 23. (megis y Scrifennyddion a'r pharisaeaid ac eraill Ragrithwyr) ond o'r galon (fel Rhuf. 6.17. Act. 24.16 Paul a'r Rhufeiniaid duwiol) megis yngŵydd Duw chwiliwr y calonnan.

A hyn i gŷd y maent yn eu wneuthur, nid fel y Rhagrithwyr, er mwyn cael Mat. 6.2. clôd gan ddyni­on, neu mewn tŷb eu bôd hwy trwy hynny yn haeddu bywyd tragwyddol; canys nhwy ŵydd­ant na's gallant haeddu hynny, o herwydd bôd eu gweithredoedd goreu yn Esa. 64.6 Phil. 3.12. ammherffaith; ac ob­legid eu bôd hwythau, ar ol gwneuthur y cwbwl oll ac a orchymynnwyd iddynt yn Luc. 17.9, 10. weision anfu­ddiol, [Page 282] o ran haeddu 'r nefoedd a bywyd tragwy­ddol ar law Dduw.

Ond y mae eu hufydd-dod hwy yn 1 Cor. 10.31. amcanu at ogoniant Duw yn ei ddiwedd, ac yn tarddu a­llan o wîr Gal. 5.6. gariad atto, o herwydd iddo fe eu ca­ru nhwy yn 1 Joan 4.9, 10, 19. gyntaf, trwy roddi ei vnig anedig a'i anwyl fâb, i ddodi ei fywyd i lawr trostynt i cadw nhwy, pan oeddent (trwy eu gweithredoedd drwg) yn Col. 1.21 elynion iddo, ac yn Rhuf. 6.23. Dat. 21.8. haeddu dam­nedigaeth tragwyddol yn nhân uffern ar ei law ef.

Y nawr y neb ac sydd fel hyn (yn fychain neu 'n fawrion) yn meddiannu yr Arglwydd Iesu, i glan­hau hwynt â'i waed ac â'i yspryd, ydynt yn Ae­lodau i Ghrist, Eph. 5.30 Joan 1.12 Rhuf. 8.17 yn Blant i Dduw, ac yn Etifeddion o Deyrnas nefoedd: Ac nid yw y rhai sydd heb Ghrist, sef y sawl sy'n byw mewn pechodau ac annuwioldeb felly, er eu bedyddio â dwfr, oddi eithr mewn proffes, ac enw, ac yn ei tŷb eu hunain, ac ynghyfrif rhyw ddynion eraill: Ond y mae 'r cyfryw, Luc. 19 27 1 Joan 3 8 Joan 8.44 Datc. 21.8. er ei bôd yn gristianogion ac yn blant i Dduw mewn proffes ac enw, etto mewn gwirionedd yn Elynion i Dduw, yn Blant ir Diawl, ac ar y ffordd i fôd yn Bentywynion tân vffern.

Fe fedyddiwyd Simon y Swynwr â Dwfr, ac yr oedd efe yn vn o'r Eglwys weledig: ac etto nid oedd efe na gwîr Aelod i Ghrist, na Phlentyn i Dduw,Act. 8.21, 23. nac Etifedd o Deyrnas nefoedd; canys y mae Pedr yn dywedyd, nad oedd ei galon ef yn vni­awn ger bron Duw, ac ei fôd ef mewn bustl chwer­wedd, ac mewn rhwymedigaeth anwiredd.

Os Dwfr y bedydd sydd iw ddeall yn y dry­dydd o Ioan a'r bummed adnod, (fel y mae rhai yn tybied, er fod eraill (ar reswm crŷf) yn cym­meryd y lle hwnnw mewn ystyr arall) etto y mae [Page 283] Christ yn dywedyd yno yn blayn ac yn eglur, oddi eithr geni dyn (nid yn vnig) o ddwfr, (ond hefyd) ac o'r yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. Ac medd yr Apostol Paul, Heb. 12.14 heb sancteiddrwydd ni chaiff neb weled yr Arglwydd; ac ni chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw: 1 Cor. 6.9. Rhuf. 8.9, 14. A'r Sawl a ar­weinir gan yspryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw, ac od oes neb heb yspryd Christ ganddo, nid yw hwnuw yn eiddo ef. Ac o herwydd hynny, ni ellir dywedyd fôd y rhai a fedyddiwyd â Dwfr, yn wîr Aelodau i Ghrist, yn Blant i Dduw, ac yn Etifeddion o Deyrnas nefoedd, oni byddant heb law y bedydd dwfr wedi derbyn bedydd (hynny yw sancteidd­iad) yr yspryd glân, a chymmhwysiad o waed Christ at eu heneidiau. Ac am hynny (mewn pôb tybygoliaeth) fe chwanegodd Mr. Prichard rass­ol y geiriau pwysig hyn at eiriau 'r Catechism, Rwi ynghrist yn ore ynghyflwr.

Os gofyn neb gan hynny, Pa lesâd sy'n dyfod o fedydd dwfr? Yr wyfi yn atteb.

Yn gyntaf, Fe ddichon y gwîr Gristion, ac sydd yn deall ei fedydd, siccrhau ei hunan, oddiwrth y rhinwedd ac sydd (yn y rhan, a'r arwydd gweledig o'r Sacrament hon, sef) yn y dwfr, i lanhau y corph oddiwrth frynti oddi faes; fôd rhinwedd (yn yr anweledig ran o'r Sacrament, ac a arwy­ddocair wrth y rhan weledig,Zech. 13.1 Datc. 1.5. 1 Cor. 6.11. sef) yngwaed ac ys­pryd Christ, i lanhau yr enaid oddiwrth frynti oddi fewn, sef oddiwrth euogrwydd ac halogrwydd pechod.

Yn ail, Fe ddichon y gwîr gristion er mawr gyssur idd ei enaid, edrych ar ei fedydd megis Rhuf. 4.11. Act. 22, 16. Eph. 1.7. sêl o faddeuant ei holl bechodau ef yn neilltuol; canys fe all siccrhau ei hunan, fôd gwaed ac yspryd Christ [Page 284] wedi gymmhwyso at ei enaid ef,Gal. 3.27. iw lanhau ef oddi­wrth ei bechodau, mor siccr ac mor ddilys, ac y cymmhwyswyd y dwfr at ei gorph ef pan y bedy­ddiwyd ef.

Yn drydydd, fe ddichon y gwîr gristion gael ei gynhyrfu oddiwrth ei fedydd,Mar. 1.4. (yr hwn a elwir yn fedydd edifeirwch) i ymlanhau fwy fwy, trwy gym­morth yspryd Christ, oddiwrth pob halogrwydd cnawd ac yspryd,2 Cor. 7.1. gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn yr Arglwydd: canys wrth feddwl am ei fedydd,Mar. 1.4. Rhuf. 6.3. ir 7. Mat▪ 3.8. Joan 15 8. Gal. 6.7. fe ddichon gofio y rhwym, y ddodir trwy fedydd ar bobl i edifarhau, i farw i bechod ac i fyw i gyfiawnder, gan ddwyn ffrwythau addas i edifei­rwch, er gogoniant i Dduw, a chyssur iw heneidiau eu hunain; Ac ble bo enaid a dim o wîr gristno­grwydd ynddo, nid all ef lai, pan meddylio am y rhwym y ddodwyd arno nac ymdrechu cyflawni hynny, gan wybod nad oes dim iesto neu gytcam â Duw.

Rhai y fyn arwyddocau y rhwym hyn trwy ddo­di 'r holl gorph dan y dwfr, a'i dderchafu ef i fy­nu o'r dwfr wrth fedyddio; er fôd eraill yn gwy­bod, megis ac y mae un tammaid o fara, ac vn llwy­ed o wîn yn y Sacrament arall, yn ddigon i arwy­ddocau y dirgeledigaethau ynddi, felly y mae gost­wng y corph i fwrw ychydig o ddwfr arno (megis prîdd ar ddŷn marw) a'i dderchafu ef ar ôl hyn­ny.gwedyn, yn ddigon o arwydd i arwyddocau y rhwym a osodir mewn bedydd, i farw i bechod, megis y bu Christ yn farw dan y ddaiar am bechod, ac i gyfodi i fy­nu i gyfiawnder a newydd-deb buchedd megis y cyfododd Christ o'r bêdd.

Yn Bedwarydd, pe iawn ystyriei pobl y rhwym a ddodwyd arnynt yn eu bedydd, fe allei hynny [Page 285] (trwy fendith Duw) daro dychryn ynddynt hwy, am eu bôd yn torri cyfammod a Duw, trwy esceu­lusso byw yn ôl y rhwym y ddodwyd arnynt y pryd hynny; ac ar y dychryn hynny, hwy allent ddechre troi eu hwynebau tua 'r nefoedd, i geisio grâs a thrugaredd. O herwydd megis y mae drwg weithredwyr (er eu bôd yn gristianogion mewn enw) yn bwytta ac yn yfed barn iddynt eu hunain yn swpper yr Arglwydd, trwy fwytta ac yfed yn annheilwng mewn anwybodaeth a phechod:1 Cor. 11:29. felly trwy dorri 'r cyfammod a wnaeth Duw â nhwy yn eu bedydd, trwy esceuluso edifarhau am eu pe­chodau, credu ynghrist, a byw yn ôl gorchymyn­nion Duw fel y rhwymwyd hwy y pryd hynny; ond byw yn ôl ewyllys Satan, a drwg arfer y Byd, a phechadurus chwantau eu cnawd eu hunain, y rhai y rhwymwyd hwy iw gwrthod pôb yr vn, y maent megis anudon-wyr ar y ffordd i dynnu rha­gor o ddialedd Duw ar eu gwartha, nag y mae y rhai na ddodwyd y rhwym hynny erioed arnynt.Mat. 11.24 Mi Gynghorwn gan hynny, ir Sawl sydd Dyngwyr, Rhegwyr, Putteinwyr, Gwatwarwyr, Cynfigenwyr, Rhagrithwyr, Cynhenwyr, Gorthrymwyr, Halogwyr, Sabboth, Esceuluswyr i addoli Duw (trwy weddi a mawl yn ddirgel, yn eu teuluoedd ac yn gyhoe adus) Dirmygwyr Gair Duw a sancteiddrwydd,Tit. 1.16. a phobl gristianogaidd, Meddwon, Beilchion, By­dolion, Ffeilstion ar rhai Angnhabyddus o be­thau rheidiol iw gwybod i iechydwriaeth, &c. Mi gynghorwn meddafi, ir rhain a'r cyfryw, ac y­dynt gristianogion yn vnic mewn Enw a phroffes, os mynnant hwy fôd yn wîr Aelodau i Ghrist, yn Blant i Dduw, ac yn Etifeddion o Deyrnas nefoedd, a chael cyssur oddi wrth eu Bedydd, ar iddynt droi at Dduw trwy Jo. 14.6. Iesu Ghrist â chalon Jac. 4.9. alarus am eu [Page 286] pechodau, gan ymroi i ddeisyf ei Luc. 18. drugaredd ai ffa­far ef, ac i Heb. 11.6gredu ynddo, ac i Heb. 5.9.vfyddhau iddo, trwy adel eu Esa. 55.7 ffyrdd ddrygionus, a byw yn dduwiol, yn sobr, ac yn Tit. 3.12. gyfiawn, o ddydd eu troedigaeth hyd Luc. 1.75 ddiwedd eu heinios.

Heb. 7.25. Mat. 11.28 Jo. 6.37.Y mae Christ yn abl ac yn ewyllysgar i gadw 'r gwaetha o bechaduriad ac a droant atto, ac am hynny os bydd neb damnedig (fel y mae 'n siccr y bydd Mat. 7.14 miloedd) diolchent i neb ond iddynt eu hunain, Hos. 13.9.

Matter mawr pwysig yw hwn, ac am hynny ni e­llwn ni lai na'i agoryd e'n helaeth, gan wybod ar v­gain mlynedd o brofiad, ei fod e'n beth Yn dra anhawdd. anodd iawn i wneuthur pethau Duw yn blayn neu 'n eglur ddigon i ddealltwriaeth y cyffredin bobl. Ac o herwydd hyn­ny yr wyfi yn gobeithio, y cymmer y duwiol Dyscedig fy helaethrwydd i mewn part neu ystyr da; yn enwe­dig os ystyriant hwy, i mi gael fy arwain, i eglurhau y pwngc hwn yn y modd hyn, trwy ofn mawr ac oedd ynnwyf, y byddei ir anwybodus a'r cynddyn annuwiol, wrth ddarllain y man hyn o'r catechism gamsynnied a thybied, (heb feddwl dim am yr edifeirwch a'r ffydd, a'r ymwrthodiad a'r Diawl a'i holl weithre­doedd, ynghŷd â gwagedd y Byd hwn, a phechadurus chwantau 'r Cnawd, a rhodio yn ôl gorchymynnion Duw holl ddyddie eu heinioes, ac y mae Eglwys Loe­ger, yn y Catechism hwn, îe a Christ eu hunan yn ei Air, yn disgwyl am dano, oddiwrth y rhai y fedyddier pan ddelont i oedran) eu bôd hwynt hwy, o herwydd yn vnig eu bedyddio â dwfr yn Aelodau i Ghrist, yn Blant i Dduw, Jo. 1.12. Gal. 5.24. 1 Cor. 5.17 ac yn Etifeddion o Deyrnas nefoedd, pan mewn gwirionedd nid ydynt felly, nes y troant at Dduw trwy Ghrist, oddiwrth eu ffyrdd ddrygionus.

Ni fynnwn ni er yr holl fyd, gan wybod pa mor [Page 287] werthfawr yw eneidiau pechaduriaid, Ezek. 33.8 ac pa mor chwe­rw ac echrydus fydd ymddangos o flaen Duw â gwaed pobl yn gorwedd arnom, ddanfon dim allan yn eu mysc, ac y allei fôd yn achos i twyllo nhwy, ac i beri iddynt fyned yn llawen tuag uffern, Deut. 29.19. Esa. 57.21. gan dybied eu bôd yn Blant i Dduw pan nad ydynt, ac felly ymgaledi eu hunain yn eu drwg, trwy ddywedyd heddwch wrth eu calonnau eu hunain, pan nad yw Duw yn dywedyd mo hynny wrthynt.

Or dwyd ti (Ddarllenydd anwyl) yn tybied, nad wyfi gwedi scrifennu ymma ond fy marn fy hûn yn hyn o beth, mi attolygaf arnat ti wneuthur megis y gwnaeth y Act. 17.11 1 Thess. 5.21. Beraeaid ag athrawiaeth Paul, sef profi 'r cwbwl wrth y scrythyrau sanctaidd: canys ni cheisiaf i gennit ti gredu mo honofi, ond cyn belled ac yr yd­wyfi yn dywedyd yn gyttun â hwynt hwy.

Ac yr wyfi yn gobeithio fôd dy reswm dy hûn yn dy ddyscu di, Ei fôd e'n Ddyledswydd yn gorwedd arnat ti, i gredu pôb peth ac y mae Duw yn ei Air yn ei ddatcuddio, pa fôdd bynnag y dodir hynny o'th flaen di. A thydi y Cymro vn-iaith, Deisyf ar ryw un medrus, i gyfiethu i ti y peth sy'n canlyn yn Saesneg, yr hyn y mae Escob duwiol dysc­dig, sef Escob Nicholson o Gaerloyw yn ei ddywedyd yn y matter hwn, wrth agoryd ac ecsponio y Catechism hyn: canys y mae efe yn dangos (mewn ychydig o eirian) pa rai (yn sens neu ystyr y Catechism) yd­ynt wir Aelodau i Ghrist, Plant i Dduw ac Etife­ddion o Deyrnas nefoedd. Ac felly bydd wŷch

S. H.

The Right Reverend Bishop of Glocester, in his Exposition of the Catechism of the Church of England, saith thus, Page 15.
1. A Member of Christ.

Col. 1.18. Eph. 1.22 23. Eph. 4.16.That is, to be reckoned Christians: for Christ is the head of the Church, and all Christians the body, of which every one that professeth Chri­stian Religion is a part, and is so to be esteemed. But these parts are of two sorts.

1 Joh. 2.19 Heb. 6.4, 5 6. Mat. 13.24 25, 47.1. Either Aequivocal parts, so taken and re­puted by us, such as are a Glass-Eye, or a Wood­en-Leg to a Man, which are so called, but truly are not such: and whosoever profess the super­natural verities revealed by Christ, and make use of the holy Sacraments, may in this sense be called the Members of Christ, because they are reckoned for parts of his visible Body.

2. Or Ʋnivocal parts, That in name and na­ture are true Believers,John 15.5 1 Cor. 12.12, 13. Ephes. 4.4 Rom. 8.1. Rev. 1.5. 1 John 1.7.which are indeed the true Members of Christ: and do belong unto his My­stical Body, and receive from him, as from their Head, life, sense and motion. They are united to him, live in him, and are informed by his Spi­rit. They are washed and regenerated by his Blood. And they have his Righteousness impu­ted unto them, By which they are freed from the guilt and punishment of Sin. This the Apostle teacheth, 1 Cor. 1.30. But of him ye are in Christ Jesus, who of God is made unto us, Wisdom, Righ­teousness, Sanctification, and Redemption.

[Page 289] And to these last only, the two next Priviledges belong: to be, first, A Child of God:

"2dly, An inheritor of the Kingdom of Heaven.

Hol.
Pa beth yw'r llw a'r Ammod,
Y wnaeth dy feiche drossod,
Pan derbyniaist hyn o fraint,
Ym-mhlith y Sainct trwy gymmod.
At.
Addawsant dri pheth drossof,
Nas gadaf byth yn angof,
Ond mi cadwaf hwynt i gyd,
Trwy Dduw tro bywyd ynof.
Hol.
Beth ydyw 'r tri pheth hynny,
Addawsant id' gyflawni,
Pan yr oeddyt mor ddirym,
Mynega im os medru.
At.
1. Yn gynta bôd im wrthod,
Y Diawl, a'i dwyll, a'i gymmod,
A'r bŷd anwir, mawr ei wawd,
A chwanteu 'r cnawd a'i bechod.
2. Yn nessa bôd im gredu,
Holl bwngcie ffydd Christ Iesu,
Y rhai 'n y Gredo, bôb yr vn,
All bôb rhyw ddŷn ei dyscu.
3. Yn drydydd cadw 'n
Gofalus.
garccys
orchmynnion Duw a'i 'wllys,
A byw 'n ei hôl yn dda fy moes,
Hôll ddyddie f'oes yn weddys.
H.
Beth ydwyt ti yn dybied?
A'th rwymwyd di cyn gaethed;
Ac y rhaid itt' gredu hyn,
A'i cwpla 'n dynn trwy weithred.
A.
[Page 290]
Yn wir rwi 'n rhwym i gredu,
Ac hefyd i gyflawni
Hyn i gŷd, a hynny wnâf,
Trwy nerth Duw Nâf heb ffaelu.
Ac yr wyf yn ddiolchgar,
Im Duw am gymmaint ffafar,
Am galwodd i ir cyfryw stâd,
Yn Ghrist fyng Heidwad hygar.
Ac mi t'olygaf arno,
Roi grâs im byth i drigo,
Yn y cyfryw stâd trwi byw,
Nes tynno Duw fi atto.
H.
ADrodd immi yn bryssur
Holl fannau 'th ffydd yn eglur:
A mynega im ar llêd,
Beth yw dy Gred ath hydyr.
A.
RWi 'n credu yn Nuw galluog,
Tâd Jesu Grist drugarog,
Creawdwr nêf a daer a dwr,
A'u pen Rheolwr enwog.
Joan 14.1.
Yr wyfi 'n credu hefyd.
Yn Ghrist fy Mhrynwr hyfryd
Y wnaed yn Ddŷn o'r wyryf Fair,
Trwy râd ei
Lân.
ddiwair yspryd.
Yr hwn a wîr ddioddefwys,
Dros ddŷn dan Bons Pilatwys:
Ac a hoelwyd ar y groes,
Nes marw o'r loes a'i lladdwys.
A chwedi marw ar Groes-pren,
Fe gladdwyd yn y ddaeren:
Act. 2.31.
Fe ddiscynnodd er ein mwyn,
I vffern dwym, aflawen.
Ar trydydd dydd fe gododd,
1 Cor. 15.3 4.55.57.
O farw llei gorweddodd,
Gwedi Gorfod Angau glâs,
A'r Gelyn câs a'n twyllodd.
Heb. 2.14.
Ac yno fe dderchafwys,
Ir drydedd nêf yn gymmwys,
Llei heiste nawr ar law ddê 'r Tâd,
Mar. 16.19
yn Geidwad idd i Eglwys.
O'r Nêf fe ddaw yn hoyw,
Phil. 3.20.
I farnu r byw a'r meirw,
Mewn gallu a gogoniant mawr,
Act. 10.42.
Pan dêl yr awr i'n galw.
Mat. 24.30
Rwi 'n credu 'n ffyddlon hefyd,
Ir Glân a'r Sanctaidd yspryd,
1 Joan 5.7. Jo. 15.26.
Sy'n deilliaw oddwrth y Tâd a'r Mâb,
Gwîr Roddwr Rhâd a Bywyd.
Rwi 'n credu yn
Siccr.
suwredig,
Fôd
Cynnu­lleidfa
Eglwys lân
Gyffredi­nol wedi galw allan o bôb
Gatholig,
O bôb
cen­hedl. Eph. 5.25, 26, 27. Act. 10 35.
Nasiwn, oes a thîr,
Gan Ghrist yn wîr gadwedig.
Rwi 'n credu bôd yn gyngan,
I bawb o'r Saint eu cyfran,
Yn Jesu Grist ein Prynwr drûd,
Ai ddoniau' gŷd yn gyfan.
Rwi 'n credu bôd maddeuant,
I bawb a wir 'ddifarant,
Act. 3.19. Eph. 1.7.
Er mwyn Mab Duw a dalodd iawn,
Tra chyflawn am ei nwyfiant.
Rwi 'n credu Adgyfodiad,
Jo. 5.28 29
Im Cnawd pan del yr
Barnwr. 1 Thes. 4.16 Rhuf. 14. 10, 12.
Vnad,
A'i vdcorn mawr i'n codi o'r llywch,
I gyfri cywch ar lleuad.
Mat. 25.34, 46.
Ac yr wi 'n credu 'n hollol,
Fôd Bywyd mawr tragwyddol,
1 Cor. 15.19
I holl Blant Duw a'r Saint ynghŷd,
Yn ôl y Byd presennol. Amen.
H.
Pwy
Pa.
bethau 'n benna ddyscaist,
O'th Gredo 'rhon adroddaist?
Cais grynhoi yn fyrr ynghyd
Ffrwyth hyn i gyd a draethaist.
A.
Rwi 'n dyscu credu 'n gynta,
Yn Nuw 'r gwîr Dâd gorucha,
Gen. 1.27.
Rhwn a'm creawdd a'r hôll Fŷd,
Mewn dull a phrŷd o'r glana.
Yn ail yr wyf yn credu,
Yn Nuw 'r Mab f'Arglwydd Jesu,
A'm Prynodd i a phôb rhyw ddŷn,
A'i waed ei hun i'n helpu.
Yn drydydd credaf hefyd,
I Dduw 'r Sancteidd-lan yspryd,
1 Cor. 6.11 Eph. 1.4.
Am Sancteiddiodd a phob rhyw,
Etholodd Duw i fywyd.
H.
Di addewaist trwy feicheon,
Lwyr gadw 'r holl orchmynnion:
Pa sawl vn o'r rhain y sydd,
Iw cadw 'n brûdd o'r galon?
A.
Mae dêg gorchymmyn croyw,
Y roes Duw inni cadw:
Nid oes torri vn o'r rhain,
Rhag mynd yn gelain farw.
H.
Pa rai er Christ yw rheini?
Moes glywed, praw eu henwi:
Cais fyw 'n sanctaidd yn eu hôl,
A gwna hwy 'n Rheol itti.
A.
[Page 293]
Y rhai ar fynydd Sina,
A draethodd Duw gorucha,
i enau hun o'r tân a'r mwg,
Yng olwg ei gymmanfa.
A'r rhai trwy ddwylo Moesen,
Y roes Duw ar ddwy
Lêch. Deut. 9.10
dablen;
Gwedi
Scrifen­nu.
printio â'i fys ei hun,
Yn hawdd i ddŷn i darllen.
Y rhai sydd ddigon eglur,
Iw tynnu maes o'r Scrythur,
O'r ugeinfed bennod dlws,
O Exodus gymmessur.
H.
Beth yw 'r Gorchymyn cynta,
Ar ail a'r llaill? mynega:
Praw eu traethu cymmain-hûn,
Yn oed yr vn diwetha.
A.
1. MYfi yr holl-alluog,
Yw d' Arglwydd Dduw trugarog:
Na fyn vn Duw ond myfi
Sydd vn a thri galluog.
2. Na wna un Ddelw itti,
Cerfiedig iw haddoli;
Na llûn dim o'r Nêf na'r Ddaer,
Na'r Dwr, na'r
Awyr.
Aer im
Digio.
Siommi.
Na oftwng i'r fath wagedd,
Na ddola 'r fâth oferedd;
Pridd, a choed, a cherrig
Ydy [...]t:
ŷn,
Gwaith dwylo dŷn a'i fyssedd.
Cans myfi d' Arglwydd grymmus,
A'th
Arglw­ydd.
Jôr wyf Dduw eiddigus,
Sy'n ymweld a phechod cant
O dadau, ar Blant camweddus.
Ac yn rhoi cospedigaeth,
Hyd dair oes a chenhedlaeth,
O'r rhai sydd yn fy nghasau,
Trwy garu gau addoliaeth.
Gan ddangos trugareddau,
I'r sawl a gatwo 'n neddfau,
Ac idd eu Plant a'u hâd a'u hîl,
Hyd fil o Genhedlaethau.
3. Nac Enwa Dduw vn amser,
Heb ofon, parch a phryder;
Cans nid gwirion yw dy lw,
Os cymru ei Enw 'n ofer.
4. Cofia gadw yn sanctaidd
Y Sabboth wenn yn weddaidd,
A threulio 'r Sûl tra fech di byw,
Yn Addoli Duw 'n gristnogaidd.
Fe rows Duw chwech diwrnod,
Id weithio d'orchwyl
Dy hun.
priod:
Y seithfed Dydd rhaid cwympo 'n faith,
I weithio gwaith y Drindod.
Ar y diwrnod hwnnw,
Na wna ddim gwaith serch marw,
Na'th fâb, na'th ferch, na'th wâs, na'th farch,
A'r dierth arch i gadw.
O achos mewn chwech die,
Y gwnaeth Duw 'r Bŷd a'i bethe,
A'r nêf, a'r Ddaer, a'r môr, a'u llû,
A'r cwbwl sŷ'n eu
Yn y cwr­re eithaf o bonynt hwy.
dible.
A'r seithfed dydd f'orphwysodd;
Gan hynny fe fendithiodd,
Yr Arglwydd Dduw y seithfed dydd,
Ac ef a'i prûdd sancteiddiodd.
5. Rho barch a gwîr vfydd-dod;
I'th Dâd a'th fam yn wastod,
Fel 'hystynno Duw yn hir
Dy oes ar dir dy drallod.
6. Gwachel ladd vn Christion,
Na thywallt gwaed y gwirion:
Gwaed y lêf yn dôst ei lais:
Gen. 4.10.
Duw ddial trais llofruddion.
7. Na wna odineb aflan,
Dihar. 5.15, 18.
Gwna 'n fawr 'oth wraig dy hunan:
Yf dy ddwr o'th
Ffynnon.
winsh dy hun,
Na chwrdd ag vn oddiallan.
8. Na ledratta
Y gronyn lleiaf.
fymryn,
Trech byw, o olud vn-dyn:
Na thwylla neb: nac arfer drais,
Er.
Serch godde clais a newyn.
9. Na fydd di dŷst celwyddog,
Yn erbyn dy gymmydog:
Dywaid wîr am bob rhyw ddŷn:
Na
Na cham­gyhudda.
sclawndra vn di-euog.
10. Na chwennych dŷ cymmydog,
Na'i wraig, na'i wâs calonnog:
Na'i forwyn wenn, na'i farch, na'i ŷch:
Na dim na bych perchennog.
O Arglwydd Dduw bydd dirion,
Gweddi.
wrth bawb o'th Blant, a'th weision;
Gostwng di 'n calonne 'n faith,
I gadw 'th gyfraith gyfion.
O Arglwydd grasol madde
Ein pcchod â'n trossedde;
A scrifenna 'r gyfraith hon,
Ar leche ein calonne.
H.
[Page 296]
Beth wyt ti 'n ddyscu 'n benna,
O'r gyfraith hon? mynega;
A rho im yn gryno 'nghyd
Ei ffrwyth i gyd yn gwtta.
A.
Rwi 'n dyscu dau beth enwog,
Fy nau ryw ddyled serchog,
Vn tuag at fy Arglwydd Dduw,
Llall at pob rhyw gymmydog.
H.
Yn gynta moes im glywed,
Yn gyflawn beth yw 'th ddyled,
At yr hôll-alluog Dduw,
Sy'th rwymo i fyw yn gystled.
A.
Heb. 11.6. Heb. 12.28 Mat. 22.37.
Fy nyled at Dduw cyfion,
Yw credu yndo 'n ffyddlon,
A'i ofni 'n fawr trwy barch a ffydd,
A'i garu 'n brûdd o'm calon:
Deut. 12.32.
Yno i wîr addoli,
Mat. 4.10.
Fel y mae Air yn erchi:
Psa. 145.2
A'i fendithio bob yr awr,
Am dan ei fawr ddaioni:
A llwyr ymddiried yndo,
A galw 'n gywir arno,
Perchi Air, a'i Enw 'n brûdd,
A bod yn vfydd iddo:
Ac felly ei Anrhydeddu,
Yn gywir ei wasnaethu,
Ddydd a nos tra ynof chwyth,
Ar eitha byth o'm gallu.
H.
Beth yw dy ddlyed enwog
Tuag at bob rhyw gymmydog?
Moes i glywed immi 'n glur,
O galon bur yn rhwyog.
Fy nyled at gymmydog,
Yw garu 'n daran serchog,
Mat. 22.39. Mat. 5.44.
Fel y caraf fi fy hun,
Pyt fae fy ngelyn llidiog:
A gwneuthur i bôb Christion,
Mat. 7.12.
Fel y dymune nghalon,
Iddynt hwythe wneuthur im,
Heb ddangos
Tôst, caled. 1 Tim. 5 4.
llym fessuron:
A charu fy Rhieni,
A'u cymmorth hwy a'u Perchi:
A gwneuthur heb ddim nâg, na sôn,
Bôb
Sef, pôb peth cy­freithlon.
peth a fôn yn erchi:
Ac vfuddhau i'r Brenin,
1 Pet. 2.13, 14. Act. 4.19.
A'i swyddwyr sy'n f'amddiffyn:
A'i anrhydeddu trwy fawr barch,
A gweithio ei Arch yn ddiflin:
A gostwng im dyscawdwyr,
1 Thess. 5.12, 13.
Athrawon a chynghorwyr,
Sy'n cyfrwyddo immi fyw,
Wrth wllys Duw a'r scrythyr:
A pherchi mawr a bychan
1 Tim. 6.1. Lev. 19.32
O'm gwell o bôb rhyw oedran,
Ac ymostwng iddynt hwy,
Heb wneuthur mwy o dwrddan:
Ac na wnelwyf niwed,
Mat. 5.22. Lev. 19.17
I nêb ar Air na Gweithred,
Na dwyn câs at vn rhyw ddŷn;
Na chlwyfo vn ar aned:
A chadw 'nghorph yn dempraidd,
1 Thess. 4.3, 4, 5. Mat. 5.28.
Yn sobor ac yn sanctaidd,
Rhag pôb rhyfyg fel rhag
Chwaren.
plag,
Yn
Dihalog.
ddiwair ac yn weddaidd:
Eph. 4.28. 1 Thes. 4.6
A chadw 'n nwylo 'n benna,
Rhag whiwo a lledratta,
Ac rhag gwneuthur twyll na cham,
Ond gweithio am eu bara:
Eph. 4.25. Psa. 50.19.
A chadw 'nhafod beunydd,
Rhag cabledd, twyll, a chelwydd,
Ac rhag dwedyd drwg am neb,
Fel
Vn heb broffes gristnogol.
ethnic heb ei fedydd:
A chadw nghalon angall,
2 Thess. 3.8, 10.
Rhag chwennych golud arall;
Ond trafaelu wrth fôdd Duw,
I geisio byw yn ddiwall.
Rhuf. 7.18
Addysg. Gwybydd hyn yn eglur,
Nad wyt ti 'n abal gwneuthur,
Rhuf. 3.12
Hyn i gŷd o'th rym dy hun,
Lle 'rwyti 'n ddŷn pechadur.
Ni elli gadw 'r Gyfraith,
Na rhodio yndi 'n berffaith,
Jo. 15.5.
Na gwasnaethu Duw 'n ddifrâd
Heb gael ei Râd ef (
F'anwy­lyd.
f'anrhaith)
Gan hynny rhaid id ddysgu,
Trwy weddi attolygu,
Ar Dduw mawr o hyn i mâs,
Roi nefawl Râs i'th helpu.
H.
Moes glywed im gan hynny,
A fedru di fynegu,
Gweddi 'r Arglwydd yn ddibaid?
Ond ê mae 'n rhaid ei dysgu.
A.
EIn Tâd o'r drydedd Nefoedd,
Ein Tâd trwy Grist a'n prynodd,
Sancteiddier byth dy enw mawr,
Gan bawb (bob awr) o'th lûodd.
Dewed dy deyrnas rasol,
I'n plith, dy Blant, dy bobol,
A rheola ni bob pryd,
A'th Air a'th yspryd nefol.
Dy wllys di wnel dynion,
Ar dîr ym-mysg daerolion;
Fel 'n y Nêf y gwnair heb nâg,
Gan
Gorsedd­feingciau, awdurdo­dau, sef Angelion, ysgatfydd o râdd vchel.
Thronau ag Angelion.
Rho heddyw inni fwytta,
Bob rhai 'n beunyddawl fara,
A phob peth sydd raid i ni
'th wasnaethu di 'r Gorucha.
A maddeu i ni 'n pechode,
Fel y maddeuom ninne,
I'r sawl a wnaethont lawer gwaith,
I'n herbyn faith drosedde.
Nac arwain ni yn ddirgel,
I brofedigaeth vchel:
Ond gwared ni, rhag pôb drwg
Dam­wain, Shawns.
ffawd,
O'r Byd, a'r Cnawd, a'r Cythrel.
Cans tydi bie 'r deyrnas,
A'r nerth a'r gallu o gwmpas,
A'r gogoniant ôll i gyd,
Hyd ddiben Byd yn addas. Amen.
H.
Beth wyt ti yn ei geisio,
Gan d' Arglwydd wrth weddio,
Yn y weddi fychan hon,
Gan droi d' olygon atto?
A.
Yn gynta 'r wyfi 'n erchi,
Ar f' Arglwydd, Tâd goleuni,
Roi ini râs tra fom ar dîr,
Bob rhai i wîr addoli.
Gwedin
Ar ol hynny.
'r wyfi 'n
Dymuno.
eiriol,
Am bôb peth anghenrheidiol,
I'r eneidie a'r cyrph ynghyd,
Tra ni 'n y bŷd presennol:
A madde ein hôll ddrygioni,
Ein beiau ôll a'n gwegi,
A thrugarhau wrth bawb ar llêd,
A wnelont niwed inni:
A'n cadw yn ddihangol,
Rhag pob rhyw bechod
Mae pob pechod yn farwol, Rhuf. 6.23
marwol,
A phob
Enby­drwydd.
perig, a phob
Barnedi­gaeth.
plâg
Corphorol ag ysprydol.
A hyn yr wi 'n
Aberth yr annuwiol syddffiaidd gan yr Ar­glwydd.
obeithio,
Dihar. 15.8.
Y wna fy Nuw heb beidio,
Er mwyn ei fâb fy Mhrynwr gwyn
Y gaiff
Fy arch.
fy nghanlyn gantho.
Ps. 66.18.
H.
Attebaist hyn yn gymmwys,
Mynega im cyn gorphwys,
Pa sawl Sacrament di-drist,
Ordeiniodd Christ iw Eglwysi?
A.
F' ordeiniodd ddau 'n ei fywyd,
Tra rheidiol at ein Jechyd:
Y cynta o'r ddau yw bedydd pûr,
Yr Ail yw 'r Swpper hyfryd.
H.
O dwyt ti yn deallu,
Dymunwn it hyspyssu,
Beth yw Sacrament yn bûr?
Mynega 'n glûr os medru.
Mae 'n Arwydd
Eglur.
plaen gweledig,
O ddirgel ras
Rhago­rol. 1 Cor. 10.16. Yr hwn sydd yn bwytta, ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwytta, ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun; ac mae efe yn enog o gorph a gwaed Christ. 1 Cor. 11.27, 29. y rhai annuwiol, er eu bedyddio hefyd, nid ydynt gyfranogion o Ghrist ai ddonie mwy nâ Simon Magus y fedyddiwyd. Act. 8.13, 23.
arbennig;
Trwy 'r hwn y rhoddir Christ ei hun,
Ai ddonie i ddŷn cadwedig.
H.
Pa nifer sydd o rannau,
Ym-mhawb o'r Sacramentau?
Maneg im ar goedd y plwy,
A dangos bwy yn olau.
A.
Mae
Craffwch ar hyn, mae dwy ran mewn Sacrament, sef, yr Arwydd o'r tu fás, a'r Peth y arwyddocair wrtho. Mae 'r Papistiaid yn camsynied yn ddirfawr, trwy ddyscu a chredu, fôd y Bara a'r gwîn yn y Swpper sanctaidd, nid yn arwyddion o gorph a gwaed Christ, ond eu bod hwy trwy gyssegriad yr offeiriad, wedi eu troi i fôd yn wîr Gorph ac yn wîr waed iddo. A pha ham hynny Attolwg. ardolwyn? Ond oblegit i Ghrist ddywedyd wrth ordeinio a rhoddi y swpper honno, Mat. 26.28. am y Bara, hwn yw fy nghorph, ac am y Gwîn, hwn yw fy ngwaed.
dwy ran amlwg meddynt
Ym mhob yr vn o honynt,
Yr Arwydd amlwg or tu fâs,
A'r dirgel râs sydd ynddynt.

I hyn yr wyfi yn Atteb, fôd ein Harglwydd Jesu Ghrist yn dywedyd llawer am dano ei hu­nan, ac sydd iw ddeall, nid yn llythrennol, ond yn ysprydol, trwy Tropes, as Meta­phores, & Metonymis Droedigaethau, hynny yw, dull o ymadroddion, trwy ba rai y mae geiriau yn cael [Page 302] eu troi o'u sens neu hystyr Cym­mwys. priodol, i nodi ac i ddodi allan pethau eraill.

Jo. 14.6. Jo. 10.9. Jo. 15.1. Jo. 1.29. 1 Cor. 10 4 Datc. 5.5.Felly y mae efe yn dywedyd am dano ei hu­nan, Myfi yw 'r ffordd, Myfi yw y drŵs, Myfi yw y wîr winwydden: Ac y mae Joan yn ei alw ef yn Oen, Paul yn ei alw ef yn Graig, Ac arall yn ei alw ef yn Llew: A pha ham hynny? ond o herwydd bôd rhyw gyffelybiaeth rhwng Christ a'r pethau hyn.

Yn yr vn môdd, o herwydd bôd yn y Bara a'r Gwîn rhyw rinwedde, ac (fel yr harferir hwy yn Swpper yr Arglwydd) ryw bethau eraill iw yst­yried (megis torriad y Bara, a thywalltiad y Gwîn a'u derbyniad &c) ac sydd yn dra chymmwys i ddodi Christ allan, fel y mae ese yn Geidwad iw bobl; fe ryngodd bôdd iddo fe oblegit hynny, i roddi enwau ei Gorph a'i waed bendigedig iddynt hwy

Y mae y Bara a'r Gwîn yn Swpper yr Arglwydd yn ei ddodi ef i maes fel hyn.

Yn Gyntaf, megis y mae 'r Bara a'r Gwîn yn ym­orth ir Corph: Felly y mae Christ ir Enaid.

Yn Ail, megis yr ydys yn torri 'r Bara, ac yn tywalltu allan y Gwîn i ymborthi 'r Corph: Felly fe dorrwyd Corph Christ â'r Goron ddrain, a'r hoelion, ac â'r wayw-ffon, ac fe ddrylliwyd ei e­naid ef â digofaint Duw, (pan yr oedd efe yn chwy­ssu 'r Gwaed, ac yn llefain, Fy Nuw fy Nuw, pa ham i'm gadewaist?) ac fe dywalltwyd ei waed ef i fôd yn ymborth i Eneidiau ei bobl.

Yn Drydydd, megis y mae 'n rhaid derbyn, a bwyt­ta'r Bara, ac yfed o'r Gwîn, a'u gadel hwynt i fyned i mewn ir cylla cyn y gallant ymborthi 'r Corph: Felly y mae 'n rhaid, os mynnwn ni gael Christ [Page 303] i ymborthi ein Eneidiau (nid yn vnig ei broffessu ef â'n Tafodau, gan ddywedyd Arglwydd, Arglwydd, Mat. 7.21. Eph▪ 3.17. Jo. 6.53. 1 Tim. 2.5 Heb. 10 19 hyd y 24. Eph. 5.2. Eph. 1.7. Rhuf. 5.9, 10. Rhuf. 8.1. ond hefyd) ei dderbyn ef trwy ffydd i'n calonnau, gan ymddiried yndo fel ein hunig Offeiriad, y cawn ni er mwyn yr offrwm a offrymmodd efe (sef ei enaid a'i gorph ei hun) yn iawn iw Dâd am ein pechodau, faddeuant am danynt hwy, Hedd­wch Duw, Rhyddhâd rhag damnedigaeth, a Byw­yd tragwyddol yn y nefoedd.

Ac fel y dylem ni dderbyn Christ i fôd ein O­ffeiriad a'n Cyfryngwr rhyngom a Duw: felly y dylem ni ei dderbyn ef, i fôd ein Act. 3.22 Prophwyd ni, i'n dyscu ni â'i 2 Tim. 3.16. Air ac â'i 1 Jo. 2.27. yspryd, ac i fod ein Psal. 2.6. Luc. 1.32, 33. Brenin ni, i gael vfydd-dod o'r galon oddiwrthym idd ei holl orchymynnion ef holl ddyddiau ein by­wyd, gan droi oddi wrth, a ffieiddio, a chasâu ein holl ddrwg feddyliau, ein holl ddrwg eiriâu, a'n holl ddrwg weithredoedd.

Y nawr pan cymmerir swpper yr Arglwydd, y mae Christ trwy y Luc. 10.16. Mat 28.20 2 Col. 13.3 a'r 5.20. Gweinidog yn galw ar ei bobl o newydd i gymmeryd ef, i dderbyn ef, i fwytta ei gorph ef, ac i yfed ei waed ef ac y mae y Bara ar Gwîn yn ei arwyddocau.

Ac y mae 'r Derbynwr grassol, teilwng, trwy Eph. 3.17 ffydd yn derbyn Christ yn Jo 6.52, 53, 63.ysprydol iw galon, pan bo 'n derbyn y Bara a'r Gwîn iw 1 Cor. 10.16. gorph: Er nad yw y dŷn anrassol y pryd hynny, yn derbyn dim ond yr arwyddion oddi allan, i wneuthur ei ddamnedigaeth yn 1 Cor. 11.27, 29. fwy, oblegid nad yw efe yn derbyn Christ iw galon fel y mae Duw yn ei gyn­nig ef.

Ac fel y dichon y Derbynwyr teilwng edrych ar y Bara a'r Gwîn yn y swpper sanctaidd, fel yn [Page 304] Arwyddion o Gorph a Gwaed Crist, ac offerynnau i ddwyn ef yn ysprydol iw calonnau hwynt: felly hwy allant edrych arnynt, megis ar sêl i siccrhau hwynt, mai megis ac y mae 'r Gweinidog yn rho­ddi iddynt y Bara a'r Gwîn, sef y rhan weledig o'r Sacrament: Felly y mae Duw ar ei ran ef, yn rhoddi iddynt y rhan anweledig o honi, sef Christ a'i ddo­niau,Mat 26.28 Rhuf. 5.9, 10, 17. hynny yw maddeuant pechodau, cyfiawnhâd heddwch Duw, a bywyd tragwyddol (y bwrcassodd efe idd ei bobl trwy ei gyfiawnder a'i ddiodde­faint,) gan eu bôd nhwy ar eu rhan hwythau, yn wîr Datc. 22.17. ewyllysgar i derbyn hwynt.

Weithian, gan fôd y Bara a'r Gwîn yn swpper 1 yr Arglwydd, yn y môdd ac y clywsoch yn Ar­wyddion i Arwyddocau Corph a Gwaed Christ, yn 2 Offerynnau i ddwyn ef ir enaid yn hytrach nag o'r 3 blaen, ac yn Sêl i siccrhau ei roddiad a'i dderbyniad ef, au holl ddoniau anghenrheidiol i iechydwriaeth ir credadyn edifeiriol ac vfydd; fe welodd Christ yn dda oblegit hynny, i galw hwynt hwy wrth yr yr enwau o'i Gorph a'i Waed bendigedig ei hun.

Fel hyn mi roddais i chwi sylwedd (neu sub­stance) ein hathrawiaeth ni y Protestantiaid yn y matter ymma, wedi seilio a'r y scrythurau san­ctaidd, ac yn ol barn Eglwys Loeger yn y catechism hwn; yr hon athrawiaeth y ddarfu i Tystion. ferthy­ron Christ o'r ynys hon ei feilio a'i gwaed, yn er­byn y Papistiaid yn amser y frenhines Mary.

Ac yr ydym ni yn cael ein harwain i gredu fel hyn;

Yn gyntaf, o herwydd roddi o Dduw gynt; enw ei gyfammod sanctaidd o râs i arwydd y cy­fammod, sef yr enwaediad; canys fel hyn y mae 'r Arglwydd yn dywedyd; yn y ddwyfed ar bym­theg o Genesis,

[Page 305]10. Dymma fyng-hyfammod a gedwch rhyngof fi a chwi, a'th hâd ar dy ôl di: enwaedir pôb gwryw o honoch chwi. 11. A chwi a enwaedwch gnawd eich dienwaediad: a bydd yn Arwydd cyfammod rhyngof fi a chwithau. 13. Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fyng-hyfammod yn eich cnawd chwi, yn gyfammod tragwyddawl.

Yr oedd Duw yn arwyddocau ac yn selio trwy 'r enwaediad ddodi ymmaith pechod (neu gyfiawn­hâd) trwy ollyngiad gwaed Christ ac oedd i ddy­fod: (Canys fe elwir Rhuf. 4.11. Col. 2.11. arwydd yr enwaediad yn in­sel cyfiawnder ffydd.) Ac heb law hynny, yr oedd Duw yn arwyddocau ir rhai enwaededig y rhwym yr ydoedd efe yn ei osod arnynt hwy, sef i Jer. 4.1, 4. Rhuf. 2.29 en­waedu ei calonnau trwy ymwrthod a'u pechodau.

Ac ymma chwi glywch alw y Sacrament hon, sef yr Enwaediad, ac oedd yn vnig yn Arwydd a sêl cyfammod Duw (sef y cyfammod o râs ag Abraham a'i hâd) wrth yr enw o'r Cyfammod ei hunan.

Pa ryfeddod yw e gan hynny, i'n Iachawdwr Christ Alw y rhan weledig o'r Sacrament hon, sef y Bara ar Gwîn yn y Swpper Sanctaidd, wrth yr enwau o'i Gorph a'r Waed, ei hun, er nad ydynt ond yn vnig yn arwyddion o hynny, a Sêl yr vn cyfammod o râs, ac yr oedd yr enwaediad yn fel iddo, ac megis y plifgyn i ddwyn y enywllyn, sef Christ a'i ddoniau yn ysprydol i galonnau er bobl.

Nid yw e ddim peth newydd a dieithr yn y scry­thyrau, i arferid amryw Tropes. droedigaethau ar eiriau, ac yn enwedig, i alw yr arwydd wrth enw y peth ymae e yn ei arwyddocau; megis y mae Joseph, wrth ddeongli breuddwyd Phardo, yn galw y [Page 306] faith o wartheg têg, a'r saith dywysen dêg (Arwy­ddion o saith mlynedd o amldra) wrth yr enw o'r faith mlynedd hynny ac oeddent yn eu harwyddocau: Gen: 41.26, 27. A'r vn môdd y mae efe yn dywedyd am y saith o dywys teneuon, a'r saith o wartheg culion, mae saith mlynedd oeddent; er mewn gwirionedd ymadrodd, nad oeddent hwy ond Arwyddion o saith mlynedd o newyn, ac oedd i ganlyn y saith mlynedd o amldra.

Yn yr vn môdd y mae 'r Apostol Paul yn galw Christ yn Graig, er nad oedd efe felly yn llythe­renol,1 Cor. 10 [...] ond yn ysprydol, megis y peth a arwyddo­cawyd wrth y graig honno, o ba vn, ar ol ei tharo gan Moses, Num. 20. y daeth Dwfr allan (arwydd o ddwfr y bywyd yn dyfod allan o Ghrist, ar ol ei dara a'i gystu­ddio) i ddiodi'r gynnulleidfa yn yr anialwch.

Felly y mae Christ yn galw y cwppan wrth yr enw o'r Testament newydd, gan ddywedyd, y cwp­pan hwn yw 'r Testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt trosoch. Luc. 22.20

Yn y gair Cwppan y mae Metonymia, trwy ba droedigaeth ar eiriau, y rhoddir enw y peth cyn­nwysedig ir peth sydd yn ei gynnwys ef.

Os ystyriwn ni mai ewyllys neu Destament Christ ar farw oedd, Jo. 16.7. Mat. 26.28 Rhuf. 5.10 Heb. 9.12. Jo. 17.24. ar iw bobl ef gael tywalltiad o'i yspryd ef arnynt, Maddeuant pechodau trwy ei maed ef, He­ddwch Duw, rhyddhâd rhag y ddamnedigaeth vffer­nol ddyledus iddynt hwy am eu hanwireddau, ac hefyd bywyd tragwyddol yn y nefoedd; ni ellwn yn hawdd ddeall, mai nid y cwppan oedd yn llytherenol y Testament newydd: ond bôd y cwppan yn cyn­nwys y peth hynny ynddi yn ysprydol (sef gwaed Christ ac oedd y gwîn yn ei arwyddocau) ac oedd yn sail neu achos o'r Testament hwnnw.

Ac fel hyn y rhoddir enwau Gwledydd a Thre­fydd [Page 307] yn cynnwys pobl, ir bobloedd sydd drigian­nol a chynnwysedig ynddynt, fel y dywedir fyned allan at Joan fedyddiwr, Jerusalem, a holl Judea, Mat. 3.5, 6 a'r holl wlâd o amgylch yr Jorddonen, a hwy a fedy­ddiwyd ganddo ef yn yr Jorddonen.

Beth Attolwg. ardolwyn a fedyddiwyd gan Joan? Ai Tref Ierusalem, sef y Tai, a'r heolydd, a'r pyrch, a'r Murian. gwelydd a adeiladwyd, ynghyd? Ai ynte y bobl oedd yn trigo ynddi? A phan bedyddiwyd Judea, a'r holl wlâd o amgylch yr Jorddonen; Ai 'r glen­nydd a'r meusydd &c. ai ynte y bobl oedd yn dri­giannol, ac yn gynnwysedig yn y wlâd honno a fe­dyddiwyd y pryd hynny? Yn ddiau y bobloedd ac oedd yn trigo ac yn gynnwysedig yno, ac nid y lleoedd ac oedd yn eu cynnwys hwynt: ac o her­wydd hynny y mae e'n eglur, roddi o'r yspryd glân ymma enwau y lleoedd ir bobloedd.

A chan fôd y peth hyn yn arferedig yn y Scry­thurau i roddi enw vn peth dros y llall, a hynny ym matter Sacrament, yn gystal ac mewn matte­rion eraill, ni ellir edrych arno megis yn beth afre­symol yn bôd ni fel hyn yn ecsponio, ac yn rhoddi 't fâth sens neu ystyr ac y glywsoch chwi i eiriau ein Jachawdwr Christ, wrth roddi ei swpper san­ctaidd, Pan ddywedodd efe am y Bara, Hwn yw fy nghorph, ac am y Gwîn, Hwn yw fy ngwaed; yn en­wedig os ystyriwch chwi, na ellir mewn vn môdd gymmeryd y geiriau hynny mewn vn sens neu ystyr arall.

Nis gellir cymmeryd y geiriau yn llytherenol, fel y mae 'r Papistiaid yn eu cymmeryd hwynt,

Yn Gyntaf, o herwydd bôd ein Harglwydd Jesu Ghrist pan y dywedodd ese y geiriau hyn am y Ba­ra, Cymmerwch, Bwyttewch, hwn yw fy nghorph, ac [Page 308] am y Gwîn, hwn yw fy ngwaed, y pryd hynny, yno wrth y ford yn fyw ym mysc ei ddiscyblion, a'i waed heb ei ollwng, a'i gorph heb ei dorri.

Yr oedd Christ meddafi y pryd hynny, wrth y ford yn fyw yn bendithio 'r Bara, ac yn rhoddi diolch wedi cymmeryd y cwppan, ac yn llefaru wrth ei ddiscyblion, ac yn canu Psalm. hymn wedi dar­fod. Ac ar ôl hynny yr aeth efe y maes, ac y bra­dychwyd ac y barnwyd ef, ac y gollyngwyd ei waed ef, ac y torrwyd ei Gorph ef wrth ei groes­hoelio, fel ac y gallwn ni yn siccr ddywedyd o her­wydd hynny, pan yr oedd ei ddiscyblion ef yn bwytta ac yn yfed, yn ôl y gorchymyn, Bwyttewch, hwn yw fy nghorph, ac yfwch, hwn yw fy ngwaed, nad oeddent hwy yn bwytta, y pryd hynny wrth y fobl Ger bron. yngŵydd Christ vn rhan o'i wîr gorph ef, (na llaw, na throed, na Phen, nac ystlys) canys yr oedd ei gorph ef hyd yn hyn yno heb ei dorri: Ac nid oeddent hwy yn yfed vn Dafn, defnyn. diferyn o'i wîr waed ef, canys yr oedd ei waed ei etto yn ei Vernes. w­thienau heb ei ollwng allan.

Yn Ail ni ellir cymmeryd mor geiriau yn llythe­renol, oblegit yn swpper yr Arglwydd, nid ydys ar oi cyffegriad yn gweled dim â llygaid y corph ond Bara a Gwîn; Ac nid ydys yn teimlo dim, nac yn Blassu. archwaethu dim yn gorphorol ond Bara a Gwîn; nid oes yno na chig na Gwaed iw weled â llygaid, iw deimlo â dwylo, iw profi yn y genau, nac iw ollwng ir cylla.

Ac o herwydd hyn bydded ir sawl sydd yn credu ac yn dywedyd, eu bôd hwynt hwy yn swpper yr Arglwydd yn bwytta gwîr gnawd ac yn yfed gwîr waed Ghrist; bydded meddafi, iddynt hwy yr vn môdd gredu a dywedyd (yn wrthwyneb iw [Page 309] senses neu synhwyrau) fôd yr eira yn ddû, er eu bôd hwy â'u llygaid yn ei weled ef yn wynn: fôd y Dwr yn sych, a'r Tân yn oer, er eu bôd hwy a'u dwylo yn teimlo yr vn yn wlŷb, ar llall yn dwym, a bôd bustl yn felys er eu bôd hwy yn eu geneuau yn ei brofi ef yn chwerw.

Yn Drydydd, nid gwîr Gorph, a nid gwîr waed Christ (hynny yw nid y cîg a'r gwaed a gymmerodd efe ynghrôth y forwyn Fair) a fwyttaodd ac yr y­fodd y discyblion, ac ydym ninnau yn ei fwytta ac yn ei yfed yn Swpper yr Arglwydd; oblegit y mae 'r Scrythur yn dywedyd mewn sens ac ystyr, mai yr vn bwyd ysprydol, a'r vn ddiod ysprydol ac ydym ni y Christianogion yn awr yn ei fwytta ac yn ei yfed,1 Cor. 10.3, 4. y fwyttaodd ac yr yfodd yr Israeliaid gynt yn yr anialwch, (canys hwy a yfasant o'r graig ysprydol a oedd yn canlyn, a'r graig oedd Grist.)

Pwy y nawr ond dŷn cynddeiriog (neu maes o'i gôf) (ym mhethau Duw) a ddichon gredu, ir Israeliaid yn yr anialwch fwytta gwîr gorph, ac yfed gwîr waed Christ, yn gymmaint na chym­merodd efe na chîg na gwaed nes ynghylch dwy fil o flynyddau ar ol hynny.

A allent hwy fwytta o'i gig ef, ac yfed o'i waed ef,☜ cyn iddo gymmeryd cîg a gwaed? Yn awr o herwydd mai yr vn peth (yn ysprydol) y fwyttasant ac yr yfasant hwy a ninnau,, ac o herwydd nid gwîr gorph Christ y fwyttasant hwy, ac nid ei wîr waed ef yr yfasant hwy; Siccr yw nad ydym ninnau yn bwytta o'r vn, nac yn yfed o'r llall: Ond megis y bwyttaodd ac yr yfodd yr Israeliaid gynt, Ghrist yn ysprydol, ac nid yn gnawdol ac yn llytherenol: Felly yn yr vn môdd yr ydym ninnau 'r Christi­anogion yn bwytta ac yn yfed o hono.

[Page 310]Very many of our Protestant Authors, (if not all) do in effect expound the afore-mentioned place of Scripture, as it is here expounded in welsh; as Calvin, Beza, Piscator, Diodati, our English As­sembly of Divines, The Dutch Annotators, and especially Dr. Fulke upon the Rhemish Testament (a book of about ten or twelve shillings price, dedicated to Queen Elizabeth, worthy to be seri­ously perused and studied by our Protestant Mini­sters)

Dr. Fulke on 1 Cor. 10.1, to 5. answereth the Popish Annotators of RHEMES, thus.

The Red Sea, the Cloud, and Manna, were not onely figures of Baptisme and the Lords Supper, but baptisme in deede, and the sacramentall Communi­cation of the bodie and blood of Christ, in deed. There­fore the Apostle saith, they were all baptised, they dranke of the spiritual rocke, which was Christ. And the argument of the Apostle were of no force to prove his purpose, if the Israelites were not in the Sacraments equal unto us, both in signes and in the things signi­fied.The Fa­thers did eat the bo­dy of Christ.S. Cyprian Ep. 76. saith, Mare illud &c. that the Sea was the Sacrament of Baptisme, the Apostle declareth, saying: I would not, &c. Where you say it is an impudent forgerie of the Calvinists, to write, that the Jewes receiued no lesse the truth and sub­stance of Christ and his benefits in their Sacraments, then we doe in ours, and that they and we eate and drinke of the self same meate and drinke, it is impu­dent malice against the truth to denie it: which the Apostle doth so plainely affirme. For what doe we eat and drinke but Christ? so did they: for the Apostle saith, they dranke of the spirituall rocke which fol­lowed them, and that rocke was Christ. But you have [Page 311] a shift to say, they among themselves did feed of one bread, and drinke of one rock, which was a figure of Christ: that is true, and so doe wee, but they did eate the same spirituall meat, and drink the same spiri­tuall cup that we do. And so saith S. Augustine ex­presly, Eundem inquit cibum spiritualem, &c. The same spiritual meat (saith the Apostle) what mean­eth the same? but the same which we doe eat. A­gain, They did eat the same spiritual meat, saith he. It had sufficed to have said, they did eat a spiri­tual meat, but he saith the same, I cannot find how I should understand the same, but the same that we doe eate? De utilitate Paenitent. Cap. 1. Why doe you not say, it is an impudent forgerie of S. Augu­stine, soe to write? yet he is bold to write it more at large, Cap. 2. of the same booke. Quicunque &c. Whosoever in Manna understood Christ, did eate the same spirituall meate that we doe. But whosoe­uer sought onely to fill their bellies of Manna, which were the fathers of the vnfaithfull, they haue eaten and are dead: so also the same drinke, for the rock was Christ. Therefore they dranke the same drinke that we doe, but spirituall drinke, that is, which was receiued by faith, not which was drawn in with the bodie. The same iudgment he declareth in Psal. 77. in Joan, Tract. 26.. and in many other places of his workes, by which the grosse manner of eating of the naturall body of Christ, defended by the Papists, is vtterly overthrown: and consequently, the sacrifice for which you fight so stoutly in this Chapter, is declared to be none such as you would have it, but a sacrifice of praise and thanksgiving.

Yn Bedwaredd, nid ellir dywedyd fod neb yn bwytta gwîr Gorph Christ, nac yn yfed ei wîr waed [Page 312] ef, sef ei gorph cnawdol ef, a'r gwaed yn y corph hwnnw, yn swpper yr Arglwydd: o herwydd fod yn rhaid ir nefoedd i dderbyn ef (hynny yw ei gyn­nwys ef) o ran ei ddynol nattur, hyd amseroedd ad­feriad pob peth, hynny yw, nes y delo yr amseroedd o orphwysfa ir edifeiriol, pan anfono Duw Iesu Christ i farnu 'r byw a'r meirw, Act 10.42. Phil. 3.20, 21. Col. 3.4. Heb. 9.28. fel y mae 'r Apostol Petr yn dangos yn y drydydd o'r Actau, a'r 19, 20, a'r 21. A'i ddyfodiad ef y pryd hynny a elwir ei ail ddyfodiad ef.

Yn awr os yw Christ i fôd yn y nefoedd fel y mae efe yn ddŷn nes amseroedd adferiad pôb peth; ac os dyfodiad Christ y pryd hynny fydd ei ail ddyfodiad ef, fel y mae 'r Scrythyrau yn dangos; pa fôdd a gellir dywedyd, ei fôd ef yn ei ddynol nattur, ar bôb allor a bord, iw gael iw fwytta a'i yfed o ran ei gîg a'i waed, pan yr ydys yn cymmeryd Swpper yr Arglwydd; yn gymmaint nad yw Duw wedi ei ddanson ef etto o'r nefoedd, ac nad yw amser Adferiad pôb peth etto wedi dyfod, nac amser gorphwysfa ir edifeiriol etto wedi dyfod? hyd pa amser fel y clywsoch chwi, y mae Christ i fôd yn y nefoedd.

Ac os yw cnawd Christ iw fwytta yn gorphorol, a'i waed ef iw yfed yn yr vn môdd, yna y mae hyn yn canlyn: mai cynifer gwaith bynnag yr ydys yn cymmuno, cynnifer gwaith y mae Christ yn dyfod o'r nefoedd, nid yn vnig iw gael ei offrymmu tros ei bo­bl gan yr offeiriaid, (fel y mae 'r Papistiaid yn da­la yn wrthwyneb ir Scrythur,Heb. 10.10 11, 12, 14. ac sydd yn dangos, fôd offrymmiad Christ vnwaith yn ddigonol i berffei­thio ei bobl, a thrwy ganlyniaeth nad yw raid i offrym­mu ef eilchwaith) ond hefyd i roddi ei gîg a'i waed iddynt hwy iw fwytta a'i yfed:

[Page 313]Ac erbyn hyn pa sawl mîl, a mîl, â mîl o weithie y daeth ac y daw Christ o'r nefoedd, cyn y dydd diweddaf?

A pha fodd y saif hynny gydâ 'r Scrythur, ac☜ sydd yn dala allan mai pan ddêl Christ o'r nefoedd, Heb. 9.29. ei ail ddyfodiad ef y fydd hynny. Siccr yw, gan fôd y nefoedd i dderbyn Christ, hynny yw ei gyn­nwys ef, o ran ei ddynol nattur, nes y danfono Duw fe oddi yno i farnu 'r Byd; nid ellir dywe­dyd ei fôd ef ym mhôb cymmun ar y ddaiar iw fwytta a'i yfed yn gorphorol gan y cymmunwyr.

Yn Bummed y mae yn erbyn rheswm naturiol i ddywedyd, fod yr vn corph mewn amryw leoedd ar vnwaith.

Nid oes vn dŷn, ar yr vn pryd, yn Ffraingc, yn Lloeger, yn Ghymru ac yn Iwerddon

Gwîr yw y mae Christ fel y mae efe yn Dduw ym mhôb mann: ond fel y mae efe yn Ddŷn, nid yw efe ond yn vn mann, (fef yn y Nefoedd;) ac o her­wydd hynny, nid yw efe, ac nis gall efe fod ar y Ddaiar, ŷn y Modd ac y mae 'r papistiaid yn credu ac yn dyscu ei fod ef, sef ymmhob cymmun mewn mîl a mîl o leoedd ar vnwaith.

Yn Chweched ac yn Ddiweddaf, nid all yr Athra­wiaeth ynghylch bwytta Gwîr Gorph Christ, ac ynghylch yfed ei wîr waed ef yn gorphorol, (wrth gymmeryd Swpper yr Arglwydd) fod yn wirion­edd, o herwydd y mae 'n Iachawdwr yn y chweched o Ioan (ble y mae efe yn crybwyll am yr anghen­rheidrwydd i fwytta ei Gnawd ef, ac i yfed i Waed ef, cyn gellir cael bywyd tragwyddol,Jo. 6 52.) yn dyscu 'r Capernaaid ac eraill ac oeddent yn cymmeryd ei athrawiaeth ef yn llytherennol; Nad oedd ei Gnawd ef (wedi ei fwytta, na thrwy ganlyniaeth ei waed ef [Page 314] wedi ei yfed yn ei fens neu hystyr hwy, sef yn gorpho­rol yn Jo. 6.63. llesau dim. Yr yspryd (eb efe yw yr hyn sydd yn bywhau, y cnawd nid yw yn llesau dim: y Geiriau (eb efe) yr ydwyfi yn eu llefaru wrth­ych, yspryd ydynt, a bywyd ydynt; hynny yw fel pe dywedasai, y pethau ac a ddywedais i, ynghylch bwytta fy nghawd ac yfed fy ngwaed (yr hyn beth sydd ryfedd gennych chwi fy ngwrandawyr, ac yr ydych yn tramgwyddo wrthynt) yr ydwyf yn awr yn dywedyd wrthych, mai yn ysprydol y mae hwynt hwy iw hystyried a'u deall; ac yn ysprydol y mae i bobl fwytta fy ngnhawd i, ac yfed fy ngwaed i: Ac os cymmerwch chwi fy ngeiriau i felly, hwy a allant fywhau eich eneidiau chwi.

Y Sawl y fwyttao Gîg a Gwaed Christ yn ysprydol (hynny yw a ymddiriedo neu a gredo ynddo, ddarfod iddo fe, sef Offeiriad mawr ei bobl, trwy ddioddef yn ei enaid ai Gorph am eu pechodau hwynt, roddi iawn i Dduw am danynt; a bôd o herwydd hynny ac o ber­wydd ei gyfiawnder ef, faddeuant iddynt, Heddwch Duw, Rhyddhâd rhag damnedigeath, a Bywyd tra­gwyddol iw cael; ac heb law ymddiried a chredu yn y môdd hyn ynddo, yn ei gymmeryd ef iw calonnau yn lle ei Prophwyd i dyscu hwynt, a'i Brenin i reoli ynddynt ac arnynt, gan obeithio, yn ôl addewidion yr Efen­gyl, cael er ei fwyn ef iechydwriaeth tragwyddol); Y Sawl meddafi a fwyttao o Gorph Christ, ac a yfo o'i Waed ef yn y môdd hyn, yn ysprydol, a gaiff fy­wyd tragwyddol trwyddo.

Yn y chweched o Ioan a'r ddeugeinfed adnod, y mae Christ yn addaw bywyd tragwyddol ir sawl sydd yn ei weled ef, ac yn credu ynddo ef: ac yn yr adnodau 51, 54. y mae efe yn addaw yr vn peth ir sawl sydd yn bwytta ei gnawd ef, ac yn yfed ei waed ef.

[Page 315]Yn yr adnod 53 o'r vn bennod, y mae Christ yn dangos nad oes bywyd yn y Sawl nad ydynt yn bwytta ei gnawd ef, nac yn yfed ei, waed ef: ac fe a ddywedir yn y drydydd o Ioan a'r 36 am yr hwn sydd heb gredu ir mâb, ni wel fywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno.

Heb law hyn Cwmpa­rwch. cystadlwch y lleodd hyn o'r Scrythyr ynghyd.

Ioan 3.36.

Yr hwn sydd yn credu yn y Mâb y mae gan­ddo fywyd tragwyddol.

A'r 6.47. yr hwn sydd yn credu ynofi, sydd gan­ddo fywydd tragwyddol.

Ioan 6.54.

Yr hwn sydd yn bwyt­ta fynghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwy­ddol.

Ac yn awr bernwch chwi, ond yr vn peth yw Gweled Christ, a chredu yn Ghrist, a Bwytta ei gnawd ef ac yfed ei waed ef; fel nad oes lle yn y bŷd wedi adel i fwytta Christ yn gorphorol â dannedd,Eph. 3.17 canys Trwy ffydd (mewn môdd ysprydol) y mae efe yn dyfod i drigo ynghalonnan ei bobl.

Ac fel hyn chwi a glywsoch, er bôd y Derbyn­wyr teilwng yn Swpper yr Arglwydd yn Derbyn Christ yn ysprydol, trwy ffydd iw calonnau, pan y maent yn derbyn y Bara a'r Gwîn: etto er hynny i gyd, fôd y Bara a'r Gwîn yn y Swpper honno, yn parhau i fôd yr vn peth or ran sylwedd, ac yr oeddent hwy cyn eu cyssegru: Ac nad ydynt hwy wedi eu troi trwy gyssegriad yr offeiriaid, i fod yn wîr ac yn sylwe­ddol Gorph, ac yn wîr ac yn sylweddol Waed Jesu Ghrist fel y mae 'r Papistiaid yn breuddwydio.

Yr wyfi yn dymuno ar y dyscedig i escuso fy helaethrwydd i, trwy arferid yr vn geiriau a phe­thau eilchwaith ac eilchwaith; canys yr wyfi [Page 316] wedi gwneuthur hynny er mwyn y gyffredin bobl; I ddyscu pa rai fel y deallont hwy y pethau a ddyscir sydd beth anhawdd anodd iawn, fel y gŵyr rhai ar ôl hîr brofiad.

Ond os gofyn y dyscedig, Pa ham yr wyfi yn cymmeryd y papistiaid yn llaw, ac felly tynnu hênam fy mhên?

Juven. Sat. 1.
Cur tamen hoc libeat potius decurrere Campo;
Per quem magnus equos Auruncae flexit alumnus;
Si vacat, & placidi rationem admittitis, edam.

Ir cyfryw yr wyfi yn atteb, fôd tybygoliaeth y dichon rhai pobl anwybodus, o'r cyffredin Gymru, gael ei twyllo i droi yn Bapistiaid, trwy ddarllen Lyfrau (ac a elwir Agoriad i Baradwys) ac y mae rhai or ffordd a'r grefydd honno, wedi eu gwascaru mewn rhyw leoedd yn y wlâd, fel y cly­wais i, er nas gwelais i etto yr vn o honynt hwy.

Ac o herwydd fy môd i yn gwybod fôd eulyna­ddoliaeth yn ffordd y Papistiaid, ac yn enwedig yn ei gwaith hwy yn addoli 'r Bara a'r Gwîn yn swpper yr Arglwydd;1 Cor. 6.9. Ac nad â vn eulyn-addolwr i Deyrnas nefoedd, ond y bydd yn dragwyddol mewn tân a brwmstan i'r cyfryw rai yfed o wîn digofaint Duw, yr hwn yn ddi-gymmysc a dywalltwyd yn phiol ei lîd ef, yn ôl y 14 o'r Datcuddiad, 9, 10, 11: yr hyn le o'r scrythur, y mae y rhan fwyaf o'n Athra­won pennaf ni y protestantiaid, yn ei gymhwyso ar resymau mawrion at y Papistiaid; Ni ellwn ni lai oblegit hyn, o dra cariad at eneidiau fy nghyd­wlâdwyr, rhag iddynt fyned ar gyfeiliorni, a bôd yn golledig trwy gredu celwyddau, a throi i fôd yn eulyn-addolwyr; ni ellwn ni lai meddafi oblegit hyn nâ, danfon yYr ychy­dig.gronyn ymma i maes yn bresenol (er mewn ar frys. hast rhag ir press sefyll) nes caffo rhai [Page 317] amser cyfaddas i atteb llyfr y Papistiaid, os ydyw e deilwng neu gymmwys i dderbyn atteb.

Os Gofyn neb, pa fodd y mae hyn yn digwyddo, fôd pobl ddyscedig yn eu mysc hwy, yn credu troad y Bara a'r Gwîn yn y cymmun, i fôd yn gîg ac yn waed Christ yn sylweddol, gan fôd yr athrawiaeth hon, fel y prwfiwyd o'r blaen yn erbyn y Scrythur, yn erbyn ein senses neu 'n Synhwyrau, yn erbyn Rheswm na­turiol, Ac yn erbyn Barn llaweroedd o wîr duwiol mor ddyscedig â hwyntau.

Yr wyfi yn atteb:2 Thess. 2.10, 11, 12. Im tŷb i y mae hyn wedi digwyddo, oblegit nas derbyniasant Gariad y Gwi­rionedd fel y byddent gadwedig: Ac am hynny fe ddanfonodd Duw iddynt hwy (mewn cyfiawn farn) amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd; fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu ir gwi­rionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawn­der. A'r lle hyn hefyd o'r Scrythur y mae Athra­won enwog o ran grâs a dysc, yn ein mysc ni y Prote­stantiaid, oblegit resymmau mawr pwysig nad ellir eu atteb, yn ei gymmwyso at y Pâb a'r Papistiaid.

Y mae Escob Caerloyw yn rhoddi rheswm arall yn ei lyfr a elwir, A plain and full exposition of the Catechism of the Church of England. page 194.

This fiction of Transubstantiation, besides that it contradicts the confessed Rules of Arts and Rea­son, clearly takes away the Relation, and the Es­sence of a Sacrament. For upon this corporal change, what becomes of the sign? for if this were true, it were the very thing signified, and then the Signum and Signatum would be all one; which overthrows the definition.

I am of opinion, that it was the hard hap of the Church of Rome to rise up in the defence of this [Page 318] errour: Should the protestants have done it, they would have hissed them out of the Schools; and now their learned Jesuits are obstinate in it, to maintain their Churches infallibility. And the ground of my conjecture is that counsel, which Cardinal Carpi gave the Pope,Conc. Tri­dent. enclining to have granted what was then desired by some Princes and States, as Service in the vulgar tongue, the marri­ages of Priests, and the Communion in both kinds: The sum whereof was, though these things desired, were in themselves matters of no great moment, yet upon the concession of them the Hereticks would infer, that the Chair had erred in her injunctions and constitutions, and then all was gone.

It is not Religion then, but Policy that upholds it, together with the child that is descended from it, the Chimaera of Thomas brain, Concomitancy: upon which fancy they mutilate this Sacrament, and deny the cup to the people. Against which Sa­criledge, our Catechism protests, &c.

H.
Beth ydyw 'r nôd gweledig,
A'r arwydd digon tebyg,
Sy 'n y Bedydd or tu fâs,
Yn selu 'r grâs arbennig?
A.
Y Dwr yn y bedyddfan,
Lle trochir y dŷn bychan,
Yn Enw 'r Tâd a'r Mâb (dri phrŷd)
A'r sanctaidd yfpryd purlan.
H.
Beth ydyw 'r grâs ysprydol,
Nas cenfydd llygad cnawdol,
Y mae 'r Dwr yn arddycau,
Sy 'n golchi brychau 'r bobl?
A.
Gwaed Christ mâb Dûw ei hunan,
Sy'n golchi 'r enaid aflan,
Oddiwrth bôb rhyw bechod câs,
Lle 'roedd e'n wâs i Satan:
Ac hefyd yn ei
Gwaed Christ sy'n gwneuthur hynny. Col. 1.21. Gal. 3.26.
wneuthur,
Yn gristion o bechadur;
Ac yn Blentyn Duw trwy râs,
O Elyn câs trwy nattur.
H.
Beth ydys yn ei geisio,
Gan rai ddel i bedyddio,
Beth sydd raid? mynega 'n
Yn groyw
brês,
Ir rhai gais
sef cyssur
llês oddiwrtho.
A.
mae ffydd ac edifeir­wch yn anghen­rheidiol i fôd (ar y lleia mewn proffes) yn y rhai y fe­dyddiir mewn oe­dran, sef y sawl na fedyddiwyd erioed o'r blaen, Act. 2.38. ar 8.36.37. Ond am blant y ffyddloniaid yr ydys yn eu bedyddio hwyńt, am eu bod yn y cyfammod gydâ eu rhieni, Gen. 17.7. Gal. 3.24. am hynny yr ydys yn rhoi iddynt sêl ac arwydd y cyfammod.
Difeirwch a ffydd fywiol
Sydd ddau beth anghenrheidiol,
I bob dyn y ddêl yn brûdd
I geisio bedydd grasol:
Difeirwch i ymwrthod,
A phôb rhyw
Fâth
sort o bechod:
Ffydd i gredu trà so byw
Addewid Duw a'i Ammod.
H.
Pa ham i rhwydd fedyddiir,
Plant bychain pan eu genir?
Pan na allant yn ddifeth
Gyflawni 'r peth a geisiir.
A.
Y maent hwy trwy meicheon,
Yn cwpla eu promeision,
Nes y delont hwy mewn maint
I dalu faint addawson.
H.
[Page 320]
Mynega pam ordeiniwyd
Y swpper pan dechreuwyd,
Pam yr ys yn arfer hon
Trwy ddefod 'r hon ni
Wrthod­wyd.
lyswyd?
A.
Er mwyn tragwyddol goffa,
Am Angeu Christ a'i laddfa,
A'r holl Lesâd y ddaw i ddŷn,
Oddiwrth ei wŷn a'i boenfa.
H.
Beth ydyw 'r rhan a weler,
Tu allan yn y Swpper,
A'r nod a'r arwydd or tu fâs,
Sy'n selu 'r grâs addawer?
A.
Y Bara ar Gwîn o'r cymmyn,
1 Co. 11.24, 25.
Orchmynnodd Christ i dderbyn,
Er cofio ei Gorph a'i waed ei hun,
Syn cadw dyn rhag
Newyn ys prydol.
newyn.
H.
Beth ydyw 'r rhan ni welwn,
A'r grâs sydd o'r Comuniwn,
Rhwn arddycair wrth fara a gwîn?
Mynega 'n
Yn eglur attolwg. Eph. 5.2. Eph. 1.7. Jo. 6.50.
rhin er dolwyn.
A.
Corph Christ a'i waed sancteiddiol,
Offrymmwys dros ei bobol,
I Brynu dŷn, i dalu Duw,
A'n porthi i fyw'n dragwyddol.
H.
Pa lês a gaiff Cristnogion,
Y gymro o
A chalon edifeiriol, ffyddlon, sanctaidd.
wllys calon,
Y Sacrament sancteiddiol hyn
O'r Swpper, pyn derbynion?
A.
Cael porthi eu heneidie,
Mat. 26.26, 27, 28.
Ar Grist ei hun a'i ddonie,
A chadarnhau eu hegwan ffydd,
A madde 'n brûdd eu beie.
Fel y bydd bara ffrwythlon,
A Gwîn yn porthi 'r galon;
Felly Christ â'i waed wrth raid,
Sy'n porthi 'r enaid ffyddlon.
H.
Pa beth sydd raid o bryssur,
I bob rhyw Gristion wneuthur,
Y ddel i Swpper Christ yn
Llawen.
llon,
O cais yn hon gael cyssur.
A.
Rhaid iddo holi 'n fanol,
1 Cor. 11.28.
A fo ef wîr▪ difeiriol,
Am ei bechod o bôb rhyw,
Yn erbyn Duw a'r bobol:
A holi 'n nessa at hynny,
A fo e'n llwyr fwriadu,
Gwella ei fuchedd wrth fôdd Duw,
A chwedyn byw heb bechu:
Ac hefyd mynny gwybod,
2 Cor. 13.5
Oes gantho ffydd dan ammod,
Am drugaredd Duw trwy Ghrist,
I fadde ei athrist bechod:
A chredu i'r Arglwydd Jesu,
A'i werthfawr waed ei brynu,
Pan na alle neb ond Christ,
Trwy Angau trist ei helpu.
Rhaid hefyd holi eilchwaith,
Mat. 5 23, 24. Luc 17.3, 4
A fo e mewn cariad perffaith,
A phob dŷn, gan fadde 'n brûdd
I bawb, bob dydd, eu
Y cam y wnaethont
drwg-waith.

Pethau iw hystyried, ac iw harferu? pan ddêl y nòs.

GWel fel y mae d'oes yn darfod,
Mae 'n llai beunydd o ddiwrnod:
Rwyt ti 'n nes y leni i'th ddiwedd,
O vn flwyddyn nag y llynedd.
Gwachel fynd vn nôs i gysgu,
Yn dy bechod nes difaru,
A chymmodi a'r Duw cyfion,
Cyn y cayech dy olygon.
Eph. 4.26.
Nâd vn nôs ir haul fachludo,
Ar dy lîd yn ôl it ddigio;
Gwell it gysgu gydag Arthes,
Nag â malis yn dy fynwes.
Llawer dyn sy'n mynd iw wely,
Heb ddihuno mwy ond hynny,
Nes y galwo 'r vdcorn aethlyd,
Hwynt ir farn i ddwyn ei penyd.
Yn ôl dy boen a'th waith y dydd,
Pan delo 'r nôs ymro yn brûdd,
I roi i Dduw brydnhawnol Aberth,
O galon bûr â geiriau prydferth.
Diwedda'r dydd fel y dechreuaist,
Cau dy ddrysau fel agoraist:
G [...]d i weddi brûdd bob die,
Gloi bôb hwyr a datgloi 'r bore.
Duw fyn offrwm bêr brydnhawnol,
Num. 28.4.
Fel yr aberth bêr foreuol,
Mawl y nos fel mawl y bore,
Nâd vn pryd dy fawl yn eisie.
Galw 'nghyd dy blant a'th bobol,
Gen. 18.19 Jos 24.15. Eph. 6.4.
Dywaid osber yn dra deddfol:
Gwna dy dŷ yn demel fychan,
Chwareu 'r ffeiriad doeth dy hunan.
Prûdd weddia ar dy linie
Darllain bennod o'r Scrythure:
Dysc dy blant mewn pwyntiau crefydd,
Deut. 6.6, 7.
Duw 'th fendithia yn dragywydd.
Cofia 'r nôs dy waith y dydd,
O gwnaethost gam, gwna iawn yn brûdd,
Luc. 19.8. Hos. 14.2. Psal. 42.8.
Or digiaist Dduw, cais bardwn gantho,
Os cefaist râs, rho foliant iddo.
Na ddôs i gysgu yn dy bechod,
Rhag mynd o'th gwsc ger bron y Drindod:
Ac na
Huned.
slwmbred dy ddau amrant,
Nes ymbilio am faddeuant.
Y dŷn y
Feiddos y ryfyga.
fentro fynd i gysgu,
Yn ei bechod cyn difaru,
Mae e'n mentro mwy o lawer,
Nâ phe cysgei gydâ gwiber.
Rhag dy fynd ir
O flaen gorsedd­faingc Christ. Mat 24.44
barr i'th farnu,
Genol nôs tra fech yn cysgu,
Gwachel fynd fel dŷn diwybod,
Byth i'th wely yn amharod.
Pan edrychech ar dy wely,
Cofia 'r bedd lle 'r ae i'th g [...]addu:☜
A chyn rhoi dy gorph i orwedd,
Dyfal feddwl am dy ddiwedd.
Psa. 90.12▪
Pan y tynnech dy hall ddillad,
Ond dy grûs oddi am danad,
Cofia fel y gorfydd gado,
1 Tim. 6, 7.
Ymma 'r cwbwl ond yr
Amwise.
amdo.
[...]
Pan y cano Ceiliog Peder,
1 Cor. 15. [...]. Jo. [...].28.
Nes dihunech o'th esmwythder,
Meddwl f'enaid fel y deffru,
Vdcorn Christ di gwedi'th gladdu.

Hymn iw chanu i Dduw cyn mynd i gysgu.

Ps. 121.4.
Fanwyl Dâd a'm carcus Geidwad,
Rhwn wyt nôs a dydd im gwiliad,
Bendigedig y fo d'enw,
Nôs a dydd am dan fy nghadw.
Psa. 34.7.
Di 'm castellaist i 'r dydd heddu,
A'th Angelion bach o dautu,
Ac orchmynnaist iddynt
Cynnal.
f'atteg,
Rhag im daro 'n rhoed wrth garreg.
Dithau 'm cedwaist yn ddihangol,
Rhag holl rwydau'r Sarph uffernol,
Rhwn sydd nôs a dydd heb gyscu,
Yn ceisio nifa am bachellu.
Porthaist finne heddyw 'n ddiwith,
A mêl o'r graig, â brasder gwenith,
Ac di roddaist immi yfed,
Phiol llawn [...] dorri 'm syched.
Dithe am cedwaist rhag pob tramgwydd,
Cwilydd, colled, anap, aflwydd,
Nychdod, niwed; ac am hynny,
Rwi o'm calon i'th glodfori.
Cymraist gymmaint
Gofal.
garc am danaf,
Y dydd heddyw Dâd goruchaf,
A phyt fassyt heb un plentyn,
Ond myfi i garcu drostyn.
Bendigedig yn dragywydd,
Y fo ngheidwad am dyrchafydd,
Rhwn sy'n carcu cymmaint droswyf,
Ddydd a nôs ple bynna 'r elwyf. Amen.

Diolch am dân a chynnhessrwydd.

PEn
Paratowr Psa. 145.15
profiwr pôb anghenrhaid,
Gwîr ymgleddwr corph ac enaid,
Rwi 'n bendithio d'enw hyfryd,
Am roi tân i dorri f' anwyd.
Duw mor rassol yr ordeiniest,
Fe wnaeth yr [...]wdwr y gân hon ar ôi dyfod iw lettu ar ddiwr­nod garw
Tân rhag anwyd, tŷ rhag temest,
Bwyd rhag newyn, Dwr rhag syched,
I ymgleddu dŷn pengaled.
Oni bysse itti greu,
Tân in
Gwasa­naethu.
gweinif an cynhessi,
Bwedd y gallsei ddŷn ymdaro,
Heb y tân, pa bassem hebddo?
Er bôd tân yn beth anhebcor,
Etto 'sowaeth nid oes nemmor,
Ym-mhlith miloedd y rônt itti,
Am ei tân o'r
Diolch
godemersi.
Arglwydd agor ein golygon,
I gydnabod maint dy roddion,
An geneuau i'th glodfori
Am ein tŷ, an tân, an gwely.
Y mae 'n gwell yn gorwedd allan,
Yn yr oerfel tôst yn griddfan,
Duw cynnhessa rhain â'th ffafar,
A gwna ninne yn ddiolchgar.

Gweddi wrth fynd ir gwely.

Ceidwad Israel a'i Achubwr,
Castell crŷf pôb gwann diswccwr,
Er mwyn d'anwyl fâb Christ Jesu,
Gwrando 'ngwaedd wrth fynd i ngwely.
Arglwydd mawr 'r wi ar fy nglinie,
Wrth sy ngwely yn cyfadde,
Nad wyf deilwng edrych arnad,
Chwaethach dwad yn nes attad.
1 Joan. 5.14, 15. Joan 16.23.
Etto er hyn yr wi 'n hyderu,
A caf er mwyn dy fáb Christ Jesu,
Nid yn vnig gennyd wrando,
Ond rhoi immi 'r peth wi 'n geisio:
A bôd immi byth yn gryfdwr,
Ac yn Geidwad, ac yn Swccwr,
Rhag pob niwed y ddigwyddo,
Yn enwedig immi heno.
Arglwydd 'rwyfi 'n mynd i orwedd,
Heb wybodaeth am fy niwedd:
Os ni wyr un dyn pan cysco,
P'un a wna ai codi ai peidio.
Achos da i ddyn gan hynny,
Cyn yr elo 'r nos i gysgu,
Lwyr ymgweirio fynd at Dduw,
Rhag na chotto mwy yn fyw.
O herwydd hyn 'rwyfi yn dwad,
Attad ti fy Nuw am Ceidwad,
Ar fy naulin heno i'mhwedd,
Am dy gymmorth a'th drugaredd.
Bydd di gastell, bydd di Geidwad,
Bydd di graig a lloches ddifrad,
Im castellu yn ddibryder,
Heno rhag pôb anesmwythder.
Y mae 'r llew sy erioed heb gyscu,
Ddydd a nos â chwant i'm llyngcu,
Ac ni wela 'i lûn i rwystro,
1 Pet. 5.8.
Oni chedwi di fi rhagddo.
Derbyn fi gan hynny i'th fynwes,
Dôd fi rhwng dy ddwy-fron gynnes,
Fel y gallwi 'n esmwyth orwedd,
Heno 'm mreichiau dy drugaredd.
Arglwydd tanna droswi d'adain,
Psal. 17.8.
Cadw fi rhag bradeu 'r filain,
Fel y gallwi yn ddibryder,
Gyscu deni mewn esmwythder.
Gosod
Llu. Psal. 34.7.
wersyll o'th Angelion,
I'm castellu rhag pôb ofon,
Pâr ir rhain fy llwyr ddiwallu,
Yn dy goel tra fyddwi 'n cyscu.
Bydd dy hun â'th rasol lygad,
Psal. 34.15.
Goruwch y rhain yn fy 'ngwiliad,
Nâd i neb rhyw ddrwg fy nrygu,
Na thramwyo lle bwi 'n cyscu.
Rho lonyddwch ac esmwythder,
Immi heno a phôb amser,
Rho i'm henaid wîr ddiddanwch,
Rho i'm corph ei hûn a'i heddwch.
Ac rhag immi fynd im barnu,
Gar dy fron pan byddwi'n cysgu,
Nad im fyned yn ddiwybod,
Byth im gwely yn amharod.
Nâd im roddi cwsc im llygaid,
Nes ymbilio a thi 'n dambaid,
Am gael
Maddeu­ant.
pardwn am y cwbwl,
Ar y wnaethoi maes o'th feddwl.
Gydag add­ey pechod, cyn cael trugaredd, rhaid cre­du yn Iesu Grist, ac ymadel a phechod. Act. 13.38.39. Dih. 28.13 Jac. 4.9.
Pâr im adde fy holl gamwedd,
Am holl wendid am hanwiredd,
Fel y gallwi gwedi hadde,
Gael maddeuant gennyd tithe.
Pâr im wylo ac alaru,
Am fy 'ngwaith mor rhwydd yn pechu,
A 'mofydio 'n dôst gan gynddrwg,
Y fu muchedd yn dy olwg.
Par im fyned mor ddifeiriol,
Heno im gwely ac mor ddeddfol,
A pha gwypwn na chawn noswaith,
Mwy i edifaru 'r eilchwaith.
Pâr im grio 'n daer am bardwn,
Er mwyn Christ a'i waedlyd
Ddiodde­faint.
bassiwn,
Am y wnaethoi erioed o feie,
Fel na byddo un heb fadde.
Psal. 51.2.
Golch fi 'ddwrth fy meiau 'n llwyr-ddwys,
Yngwaed Christ yr Oen am prynwys:
Clâdd fy mhechod yn ei
Archolli­on.
weli,
Nâd ef eilchwaith adgyfodi.
Nâd fôd un om ffiaidd frynti,
Yn dy lyfyr heb ei groefi,
Rhag i hwnnw fy ngwradwyddo,
Gar dy fron pan ddelwi
Ymddan­gos
ympyro.
Pâr im fôd âr wysc briodas,
Mat. 22.12 13. Mat. 25.4.
Ddydd a nôs bôb awr o'm cwmpas,
Ac olew im lamp, a hwnnw 'n llosci,
Yn disgwyl Christ, im galw i gyfri.
Diogela 'nghalon egwan,
Fôd yn siccr immi gyfran,
O'r dedwyddwch y bwrcassodd,
Christ iw frodyr yn y nefoedd.
Weithian Arglwydd mi orweddaf,
Ac mewn heddwch myfi gysgaf;
Cans tydi o Dduw 'r diddauwch,
Am cyflei mewn diogelwch.

Myfyrdod pan dihuner o gysgu ganol nôs.

MOr hyfryd ac mor weddus,
Yw canu i Dduw yn rymmus,
Ganol nôs pan bo pôb dŷn,
Yn cysgu hûn yn felus.
Mor dda, mor ddwys, mor ddeheu,
Ps. 92.1, 2.
Yw moli ei Enw 'r boreu!
A myfyrio yn ddi-ddal,
Am dan ei amal ddonieu:
A deffro 'r corph cyscadur,
A chalon barod brysur,
I glodforu enw Duw,
Peth hyfryd yw i wneuthur:
A chwnnu lawr o'r gwelŷ,
Fel Dafydd iw foliannu,
Ps. 119.62.
Ar ein dau-lin ganol nôs,
Yn ddi-flin dros ein helpu:
A chofio ei drugaredd,
Ei gymmorth a'i ymgeledd,
I blant dynion bôb rhyw brŷd,
O ddechreu bŷd i ddiwedd.
A rhoi ar bwys y gwely,
Pan byddo 'r bŷd yn chwrnu,
Glôd a moliant prûdd, di-nam,
Ir hael Dduw am ein helpu.
Clôd a gallu, Diolch moliant,
Gwîr anrhydedd a gogoniant,
Y fo nôs a dydd ir Drindod,
Sydd bob amser yn ein gwarchod.

Psalm. 23.

FY Mugail yw 'r Goruchaf.
Pa fôdd gan hynny ffaelaf
Trwi 'n ymddiried ynddo fe,
Ni edy eisie arnaf.
Y mae ef im castellu,
A'i râs, a'i rym o doetu,
Fel na ddichon gŵr na gwraig,
Na Diawl, na draig fy nrygu.
Y mae ef im porfela,
Mewn dolydd o'r
Hyfryda.
areilia,
Lle mae dyfroedd tawel iawn,
A Thîr yn llawn o borfa.
Pan elw'i dros ei lwybre,
Fe'm cyrch ei eilchwaith adre,
Ac er mwyn ei enw ei hun,
Fe'm try ir vn sydd ore.
Ac or digwydda weithie,
Im rodio yng hysgod Ange,
Nid rhaid immi ofni vn,
Cans Duw ei hun am cadwe.
Y mae ef yn bresennol,
Im hachub yn wastadol:
Ai wialen wenn, a'i fâch, a'i ffonn,
Am gwna i yn
Llawen iawn.
llon anianol.
Er cymffordd im a chyssur,
O Anfodd fy ngwrthnebwyr,
Rhows im ford gyfoethog iawn,
A Seigie 'n llawn o suwgur.
Eneiniodd f'Arglwydd hefyd,
Fy mhen ag
Olew.
oyl yn hyfryd:
Ac fe wnaeth fy mwttri 'n llawn,
A'i radlawn ddawn a'i olud.
Ei fwynder a'i drugaredd,
Am dilyn hyd y diwedd,
Yn ei Demel tro ynwi chwyth,
Y bydd fy nyth am
Trigfa.
hannedd.
Ir Tâd, ir Mâb, ir yspryd,
Ir Drindod, vndod hyfryd,
Y bo clôd a moliant mawr,
Bob dydd, bob awr, bob ennyd.

Y môdd y dlye ddyn grasol ddeffro ei gorph ai enaid genol nôs i glodfori Duw.

DIhûn, dihûn o gysgu,
Psal. 10 [...].1, 2.
Fy enaid bâch prawf ganu
Clôd a mawl â chalon brûdd,
Ir Arglwydd sydd ith helpu;
Dihûn, dihûn, mae achos,
Id wiliad fel yr Eos,
I glodfori d' Arglwydd mawr,
Heb gysgu awr or hîr nos.
Dihûn, Dihûn a chofia,
Drugaredd y gorucha,
A'r môdd ith
Cyn­northwy­odd.
helpodd Prynwr erêd,
Er pan ith aned gynta.
Efe yw d' vnig helpŵr,
Dy nawdd, dy nerth, dy swccwr,
Dy Christ, dy graig, dy gadarn
Arglw­ydd.
Ior,
A'th dynnodd o'r cyfyngdwr.
Fe'th greawdd cyn berffeithied,
Joan 8.36.
Fe'th dynnodd o gathiwed,
Fe'th adgenhedlodd o'th ddrwg rân,
Ai yspryd glân bendiged.
Fe'th alwodd o blith deillion,
I gredu 'r fengyl dirion,
Fe'th gyfiawnhâodd yn rhâd trwy ffydd,
Yn Ghrist d'Achubydd ffyddlon.
Dihun gan hynny a chofia,
Drugaredd y gorucha,
Ar modd ith helpodd prynwr cred,
Er pan ith aned gynta.
Yn foethus iawn fe'th borthodd,
Yn drefnus fe'th ddilladodd,
Fe'th dderchafodd i fawr fraint,
Rhag cwrp a haint fe'th gadwodd.
Esay. 56.5
Fe rows id enw hyfryd,
A
Cymme­riad. 1 Cor. 3.21 22.23.
chredit a syberwyd,
Heddwch, llwyddiant, grâs, a dawn,
A llawer iawn o olud.
Fe wnaeth id fyw mewn cariad,
Hawddgarwch a chymmeriad,
Gydâ phob glân
Fâth.
sort o ddŷn,
Heb gâs gan vn or teir-gwlad.
Dihun gan hynny a chofia,
Drugaredd y gorucha,
Ar môdd ith helpodd prynwr crêd,
Er pan ith aned gynta.
Ni phallodd erioed, etto,
O'r peth y faet ti'n geisio,
Er na haeddyt feger tâer,
O'r briwsion ar ei ddwylo.
Gen. 32. [...]0
Nid oes vn dŷn ag 'aned,
Sydd arno fwy o ddyled,
I glodfori 'r vn Duw tri,
Nag s' arnat ti
Oiplegid.
or parthred.
Dihûn gan hynny a chofia,
Garedigrwydd y gorucha,
Ar modd i'th helpodd prynwr cred,
Er pan ith aned gynta.
A thra fo id ben a thafod,
Psal. 146.2
Mynega byth ei fawrglod,
Ai ddaioni yn ddi-ddal,
Tra chwyth ac anal ynod.
Ir Tâd, ir Mâb, ir Ysyryd,
Ir Drindod vndod hyfryd,
Y bo clod a moliant mawr,
Bob dydd, bob awr, bob ennyd.

Diolch am etholedigaeth ac am amryw ddoniau ysprydol.

OArglwydd Dduw goruchaf,
Nid yw 'r doniau a gryb­wyllir am danynt yn y gân hon yn perthyn i bawb, canys er bod llawer gwedi ei galw, etto ychy­dig a ddewiswyd.
Pa ddull, pa fodd y gallaf,
Roi it ddiolch llawn ar llêd,
Fel y mae 'r dyled arnaf?
Cyn gwneuthur nêf a daiar,
O'th ras yn Ghrist a'th ffafar,
Di 'm detholaist fod yn un,
O'th blant dy hun yn gynnar.
Di 'm creaist inne o'r priddyn,
Oedd frwnt a gwael ei eulyn,
Ar dy lûn a'th wêdd dy hun,
Yn lana dŷn o'r weryn.
Di 'm tynnaist yn dra lluniadd,
O grôth fy mam yn berffaidd,
Lle gallassyd fy'n rhoi maes,
Yn grippil câs angrhuaidd.
Di 'm gwnaethost inne 'n Gristion,
Ym mhlith dy bobol ffyddlon,
Lle gallassyd heb ddim dysc,
Fy'n rhoi ym-mysc Iddewon.
A chwedi Adda ngwerthu,
I Satan gynt wrth bechu.
Di am prynaist o'i law 'n rhâd,
A gwerthfawr waed y Iesu,
Ni
Arbedaist
Speriaist roddi i farw,
Dy vnig fâb i'm cadw,
Ac i
Grogi.
hongian ar y groes,
Dan lawer loes oedd chwerw.
Tit. 3.3 4, 5, 6, 7.
Di'm adgenhedlaist gwedyn,
I fod yn anwyl blentyn,
It trwy fabwys prûdd a grâs,
Pan oeddwn wâs a gelyn.
Di aethost yn Dâd im-mi,
Ioan 1.12.
A minnau 'n blentyn itti,
Di'm ail wnaethost ar dy wedd,
Eph. 2.10.
Yn tifedd i'r goleuni.
Di'm gelwaist innau hefyd,
Jac. 1.18.
A'th air, â'th nefol yspryd,
O blith miloedd o rai câs,
I gaffel grâs a Iechyd.
O blith y bobol feddwon,
A'r mûd, a'r dwl, a'r deillion,
Di am gelwaist â'th air
Pwys­fawr
dwys,
I fonwes d'eglwys dirion.
A gwaed dy fâb di'm golchaist,
A'th yspryd di'm sancteiddiaist;
Rhan o'th nattur rhoist i mi,
2 Pet. 1.4. Rhuf. 6.4.
Am pechod ti dirymmaist.
Ac er fy môd yn sarnllyd,
Am gweithred yn frycheulyd,
Rhuf. 3.24 25 26.
Di'm cyfiawnhâist o'th râs yn rhâd,
Trwy ffydd yngwaed d'anwylyd.
A rhoist i'm gadarn obaith,
1 Thes. 4.13.16, 17.
Er immi farw unwaith,
O ran y cnawd, pan del y cri,
Y câf gyfodi 'r eilwaith:
A derbyn yn
Ddidwyll Col. 3.4.
ddiffuant,
Gan f'Arglwydd wîr ogoniant,
(Er mwyn Christ) a nefol fraint,
Ym-mhlith y saint
Ag sydd yn gorfole­ddu yn y nef. Psal. 16.11
triwmphant:
Lle caf fi wir lawenydd
A heddwch yn dragywydd,
Parch, anrhydedd, tra 'no 'i chwyth,
A gwynfyd byth na dderfydd.
Am hyn o ddoniau 'sprydol,
Fy nhâd am Harglwydd nefol,
Rwi'n rhwymedig ar fy llw,
Glodfori d'enw grassol:
A thro dim deall genni,
Yn ddyfal dy addoli,
A'th foliannu bob yr awr,
Am dan dy fawr ddaioni.
Ir hael Dad rhwn a'n creodd,
Ir Jesu rhwn a'n prynodd,
Y byddo clod a mawl bob cam,
A'r Yspryd a'm sancteiddiodd.

Gweddi mewn Cyfyngder rhag Gorthymder.

DIhun Dihun, pa ham y cyscaist?
Erioed hyd hyn fy Nuw ni heppiaist:
Nid Baal wyt: o danfon
cymmorth
swccwr,
Tynn dy wâs o dost gyfyngdwr.
Sŷch fy neigreu, Torr fy Magal,
Gwared F'enaid, llaesa 'ngofal,
Gwêl fy nghystydd, clyw fy nghwynfan,
Barn fy
Achwyn.
hawl, rhyddhâ fi weithian.
Fy nghraig i wyt, o nâd fi syrthio!
Fy
Twr:
nhwr cadarn; nad f'anrheithio,
Fy Nuw, fy
Arglw­ydd.
Ner, o dere im helpu!
Fy Nefawl Dâd, Nad fy ngorthrymmu.
Galluog wyt, di allu helpu,
Vnig ddoeth, y modd di medru,
Trugarog Dâd, oh dere a swccwr!
Psal. 46.1.
Hawdd yw'th gael mewn tost gyfyngdwr.
Gwradwydda fwriad fy ngelynion,
Attal.
Tola falchder fy nghaseion:
Gwascar gyngor tyrfa waedlyd,
Er mwyn Christ Rhyddhâ fi o'm penyd.

ARALL.

DUw fy ngrhaig, am Twr, am
Amddi­ffynfa.
Nodded,
Duw fy Jechyd am ymddiried,
Gostwng glust a gwrando 'ngweddi,
Mewn cyfyngder a gofydi.
Duw rhoist gennad i'm gelynion,
Fy ngorthrymmu heb achosion,
Am difethu 'n llwyr gan mwya,
Os tydi ar frys ni'm helpa.
Di roist gennad i estroniaid,
Lwyr amcanu difa f'enaid,
A'r sawl nad wi 'n nabod etto,
Lwyr amcanu fy anrheithio.
Rhai na wn o ble y henyn,
Rhai na wnaetho'i ddim iw herbyn,
Rhai na chanfu erioed fy llygaid,
Sydd yn ceisio speilio f'enaid
Arglwydd maent hwy gwedi'm maglu,
Ac yn barod im disethu,
Oni ddoi di ym-mrhyd â swccwr,
Im gwaredu om cyfyngdwr.
Deffro o gysgu f'vnig Geidwad,
Mae fy llong mewn trallod irad;
O cyrydda 'r gwynt a'r tonneu,
Rhag im soddi yn ei rhwydeu.
Nad im llong am
Rhaffan llong.
taccal dorri,
Bydd di borth ac Angor immi:
Lleisa 'r
Tywydd garw.
storom sy'n fy mlino,
Moes dy Law, a nad fi
Boddi.
singco.
Erchaist immi ddwad attad,
Psal. 50.15
Yn fy nhrallod, anwyl Geidwad,
Attad ti fy Nuw 'rwi 'n
Dyfod
trottan,
Danfon im ymwared weithian.
Di Addewaist wrando yng-weddi,
Yn fy nhrallod ond im' weiddi;
Gweiddi arnad yr wi 'n wastod;
Arglwydd weithian tynn fi o'm trallod.
Di wrandawaist weddi Jonas,
Gynt o fola 'r morfil atgas,
Di achubaist o'i flindereu;
Gwrando ngwaedd, ac achub finneu.
Psal. 18.
Di waredaist Dafydd frenin,
Oddiwrth Saul oedd yn ei ddilyn:
Gwared finne o'm trallodion,
Ac o ddwylo fy ngelynion.
1 Bren. 19.
Di waredaist hên Elias,
O law waedlyd gwreigin ddiras;
Gwared finne yn fy nolyr,
O law waedlyd fy ngwrthnebwyr.
Mat. 17.15
Di dosturiaist yn dra diddig,
Gynt wrth Dâd y plentyn
Gwallgo­fus.
lloerig;
O tosturia wrthyf finne,
Sy'n dy ganlyn megis ynte.
Mat. 15.
Di roist help i'r wraig o Ganaan,
Y fu'n daerllyd yn ei feggian;
O rho help a nerth i minne,
Sydd am cais mor daer a hithe.
Er nad oes ym-hwer vn-dyn,
Rwymo 'r
Cythrael
Ddraig sy'n codi im herbyn:
Etto Arglwydd mawr di allu
Rwymo hon a'i llwyr ddirymmu.
Cymmer yn dy law dy waywffon,
Cyfod, ymladd â'm gelynion;
Torr hwy ymmaith yn ei gwegi,
Nad hwy wneuthur trallod immi.
Gyrr dy Angel i wascaru,
Sawl sy'n chwennych fy ngorthrymmu:
Gyrr dy saetheu a difetha
Sawl sy â'i bwriad ar fy nifa.
Duw di elli 'r modd y mynnech,
Fy'm rhyddhau y maes o ortrech;
Er dy fawredd dere a chomffordd,
A gwir rydd-dyd im yn rhyw-ffordd.
Nâd im Gelyn gael fy llyngcu,
Na'm gwradwyddo, na'm gorthrymmu;
Nâd i'r Byd ychwaith gael dwedyd
Iddo gaffel arnai ei wynfyd.
Dangos immi eglur arwydd,
O'th ddaioni a'th gredigrwydd,
Fel y gwelo 'r byd o bobtu,
Mae tydi sydd yn fy ngharu.
Nid wi'n ceisio help Gwyr Mawrion,
Na Phennaethiaid, na Thwssogion:
Ond yn vnig cymmorth difrad,
Gennit ti fy Nuw am Ceidwad.
Nâd i minne gael fy nhwyllo,
Lle rwi 'n hollol iti 'n
Ymddiri­ed
trusto;
Tyred.
Dere weithian ag ymwared;
Ynot ti mae f' holl ymddiried.
Mae fy llygaid o'r dechreuad;
Ddydd a nos yn disgwyl arnad;
Dere weithian im diddanu,
Arglwydd nâd im llygaid ballu.
Dere Arglwydd, dere, bryssia,
Gwared f' enaid o gyfyngdra,
Fel y gallwyf dy foliannu,
Trwy lawenydd am fy helpu.

Diolch am ymwared o ddwylo Gelynion.

ANgelion Duw a meibion Dynion,
Nef a Daiar a'u Trigolion,
Molwch Dduw ar eitha'ch gallu,
Ddydd a nos am fy ngwaredu.
Mewn
Caledfyd
Ing, trallod, a chyfyngdwr,
Y gweddiais ar fy mhrynwr,
Ac o'r Nêf o blith Angelion,
Clybu lêf fy nghwyn hiraethlon.
Sarph ossododd fagal embaid,
A chroglathe i ddala f'enaid;
Rhwyd a chroglaeth Duw a'u torrwys,
F'enaid inne fei gwaredwys.
Helodd Angel im dad-dryssu,
Rhows ei yspryd im diddanu,
Tannodd drosswi Adain hyfryd,
Ac fe'm tynnodd o'm holl ofyd.
Duw a glybu ngwaedd iradus,
Christ
Ymbili­edd.
eiriolodd drosswi 'n rymmus,
A'r glân yspryd a'm diddanodd,
Ac o'm trallod fe'm gwaredodd.
O molianned pob creadur,
F' Arglwydd mawr yn ôl ei nattur,
Am ei gymmorth a'i dosturi,
Yn fy ngwared o'm gofydi
Teirw Basan a'm cylchynodd,
Nadredd tanllyd a'm herlidiodd:
Bleiddiaid blin ac vnicorniaid,
Amcanassant ddifa f'enaid.
Duw a barodd i'r rhain darfu,
Pan oedd mwya eu chwant i'm llyngcu:
Duw a dorrodd gyrn a dannedd
Y Bwystfilod hyn o'r diwedd.
O molianned pob creadur
F' Arglwydd mawr â chalon bryssur,
Am ei
Gofal.
garc yn achub f'enaid,
O rhwng cyrn yr vnicorniaid.
Gŵyr digrefydd, gwragedd gwaedlyd,
Y gynllwynodd am fy mywyd,
Ac amcansont fy
Nafu.
andwyc,
Difa f' enaid a'm anrheithio.
Duw ddatguddiodd eu dichellion,
Duw ddiddymmodd eu hamcanion,
Duw a ddryssodd eu bwriade,
Duw waredodd f' enaid inne.
O molianned pob creadur
Dduw fy nghraig â chalon bryssur,
Am ddwyn f'enaid o drallodion,
A gwradwyddo fy ngelynion.
Clôd a gallu, Diolch, Moliant,
Gwîr Anrhydedd a Gogoniant,
Y fo nôs a dydd i'r Drindod,
Am fy 'nhynnu maes o drallod. Amen.

Arall byrrach.

MEgis Daniel rhwng y llewod,
Megis Jonas rhwng Morfilod,
Y gweddiais ar yr Arglwydd,
Ac o'r nef fe'm clybu 'n ebrwydd.
Caeodd.
Stoppodd safneu 'r llewod rheipus,
Ffrwynodd ên y
Morbysg mawr.
whâl afradus,
Torrodd awch y Sarph am llyngceu,
Tynnodd f'enaid o'u crafangau.
Nefoedd, Daiar, Dwr ac Awyr,
Tân, a gwynt, a phob creadyr,
Molwch f'Arglwydd mawr yn wastod,
Am fy'nhynnu maes o drallod.

Psalm cwynfannus.

Psal. 69.
DUw achub f'enaid gwirion,
O'r llif a'r dyfroedd mawrion,
Sydd om hamgylch bob yr awr;
Im rhoi mewn dirsawr ofon.
Mi soddais mewn gofydi,
Nid oes sefyllfa immi:
Y ffrwd a lifodd dros fy Mhen,
Yr wyf ar
Agos.
haychen boddi.
Mi griais nes im flino,
Fy nghêg sydd gryg gan grio;
Hir ddisgwilais am dy râs,
Nes imi lâs ddeffygio.
Amlach yw ngelynion,
Na'm gwallt, neu 'r grô o'r afon:
A'r rhai s'eb achos im casan,
Ynt ffel, a chlai, a chryfion.
Cedyrn yw 'ngwyrthnebwyr
Sy'n ceisio 'm llâdd heb ystyr:
[...]elais iddynt fwy nâ'u rhan,
A minne yn wann difessur.
Di 'dwaenost fy ffolineb,
Am gwendid am gwiriondeb:
A'm hôll feie sydd mor
Eglur.
blaen,
Bob awr o flaen dy wyneb.
Duw nâd gwilyddio o'm plegyd
Y rhai
Ddis­gwyliant.
arhossant wrthyd:
Na gwradwyddo vn o'th Blant,
A'th geisiant yn eu gofyd.
Mi ddwgais lawer gwradwydd,
Do er dy fwyn di Arglwydd,
A gwrthwyneb llawer pryd,
Gan Blant y Byd trwy affwydd.
Mi aethym yn ddieithriol,
Oddiwrth fy Mrodyr cnawdol,
Ac fel eftron ar bôb cam,
Gan Blant fy Mam natturiol.
Cans zêl dy dŷ am
Bwytta­odd.
hyssodd,
A gwawd y rhai'th wradwyddodd
A syrthiodd arnaf er dy swyn;
Duw clyw fyng-hwyn o'r Nefoedd.
Mi wylais ddeigre hallton,
Mi ymprydiais ddyddie hirion,
Gan gystyddio f'enaid prydd,
O ddydd i ddydd yn greulon.
Mi wiscais sâch a llydw,
Fel vn a fae mron marw,
A chalon drist, ag wyneb tlawd,
Nes mynd yn wawd i'r meddw.
Ond mi weddiaf arnad,
Mewn prŷd o Dduw fyng Heidwad;
Tâd trugaredd gwrando fi,
A dwg fy ngweddi attad.
Duw tynn fi o'r pydew tomlyd,
A nâd fi gwympo oddiwrthyd:
Gwared fi oddiwrth fy nghâs,
A dwg fi maes o'm gofid.
Duw nâd i'r llif fy moddi,
Na'r pydew mawr fy llyngcu▪
Nad i'r ffoes fy llimpro 'n fyw,
Duw grassol clyw fy ngweddi.
Duw gwrando nghwyn iradys,
Dy fwynder sydd gynfforddys;
Tro ar fyrder at dy wâs,
Dy help a'th râs sydd felys.
Na thro dy wyneb grassol,
Oddiwrth dy wâs cystyddiol:
Rwi mewn trallod, dere ar frys,
A thynn fi o'r llys anweddol.
Nessa at f'enaid gwirion,
A thynn fi o'm trallodion:
Gwared fi oddiwrth fy mraw,
A thynn fi o Law ngelynion.
Di wyddost beth yw f'ofan,
Am cwilydd maith a'm
Anglod.
gogan;
Mae 'ngwrthnebwyr ger dy fron,
Duw tro eu amcan aflau.
Mae 'nghalon ymron torri,
Gan gymmaint yw ngosydi:
Ac ni feddai nêb o rym,
A ddengys im dosturi.
Duw dere ar frys im helpu,
Im cymmorth a'm diddanu;
Tynn fi o'm trallod er mwyn Christ,
Gwna nghalon drist
Chwer­thin.
grechwennu.
O dere Farnwr cyfion,
A Barna di f'achosion;
Gwêl y camwedd wi 'n i gael,
Ar ddwylo gwael elynion.
Mâb Duw bydd di Ddadleuwr,
I
Ddywe­dyd.
bledo dros dy wsnaethwr;
Nâd i'r Gelyn ddwyn fy rhan,
Lle rwyfi 'n wann diswccwr.
A thithe Tâd diddanwch,
Cymffordda fi'n fy nrhistwch:
Cwyn fy nghalon drist heb ffael,
A phâr im gael llonyddwch.
Psal. 51.8, 12.
Dwg gymmorth im drachefen,
O'th Jechydwriaeth lawen;
A'th hael yspryd eynnal fi:
Nâd drallod dorri 'nghefen.
Pâr immi glywed beunydd
Orfoledd a llawenydd:
Fel y chwarddo 'nghalon wann,
Y ddrylliwyd gan dy gerydd.

Psalm o ddiolchgorwch am ymwared o gystydd.

Psal. 30.
O'R Dwst, o'r dom, o'r dyrfa,
Or Llywch, o'r Llaid, o'r Llacca,
Di 'm derchefaist vn Duw Tri,
Gan hynny mi 'th folianna.
Di nadaist im Gelynion,
Gael arnai wyn eu ealon,
Pan yr oeddwn glâf a gwann,
Yn gorwedd dan drallodion:
Mi lefais arnad Arglwydd,
Rhag mynd i'r bêdd trwy wradwydd:
Di wrandawaist ar fy llêf,
Rhoist help o'r nêf yn ebrwydd.
Gwaredaist f'enaid hyfryd,
Rhag mynd i uffern danllyd;
Am corph egwan, trist ei wedd,
Rhag mynd i'r bedd llydylyd.
Gan hynny meibion dynion,
A'r Sainct, a'r hôll Angelion,
Cenwch foliant un Duw Tri,
Am
Wneuthur
ddelo â mi mor dirion.
Ni pheru ei lid ond ennyd,
Ei
Heddwch
hedd sydd well nâ bywyd:
Dy
Digofaint
fâr a erys dros brydnawn,
A'r boreu cawn lawenfyd.
Tra fum i yn llwyddiannus,
Mi ddywedais yn rhyfygus,
Na'm fymydyd tra fawn byw,
Ond y cawn fyw 'n fin-felus.
Os Arglwydd o'th ddaioni,
Di fuost gryfder imi;
Nes itt ddigio wrth dy wâs,
Am troi i
Gyflwr.
gâs anigri.
Pan troesost ti dy wyneb,
O achos f'annuw [...]ldeb,
Yno y syrthiais bob yr awr,
I drallod mawr dicreb.
Ac yno y llefais Arnad,
Yn daer, yn dost, yn irad,
Am dosturio wrthi ym-mhryd,
A
Arbed.
spario mywyd
Diriad.
anllad.
Pa lês o Arglwydd hyfryd,
Y gae oddiwrth fy mywyd?
Pan descynnwi 'n dost fyng wedd,
I'r pwll a'r bedd llydylyd.
A fydd i'r llwch glodfori
Dy Enw di
O bryss [...]
oddifri?
A fynegaf dy wir fy Nâf,
Pan byddaf gwedi trengi?
Clyw Arglwydd, moes drugaredd,
A rho gynnorthwy rhyfedd,
I mi druan dôst fy nghâs,
Yn ol dy râs bondigedd.
Di roeist o Dduw yn hygar
Lawenydd yn lle galar:
A dioscaist fy sâch-wisc,
Pan oeddwn mysc rhai 'n trydar.
O Arglwydd fy Nuw grassol,
Mi'th folaf yn dragwyddol;
O herwydd ti 'm gwaredaist i,
I'th foli di yn hollol.

Am Ddiwedd y Byd.

PAwb sy'n chwennych dysgu 'r pryd,
Y daw Christ i farnu 'r Byd:
Rheitach yw i bob rhai ddysgu,
Ymbartoi cyn mynd i barnu.
Ffôl o beth i feibion dynion,
Geisio gwybod mwy nâ Angelion,
A deallu wrth draws amcan,
Ddirgel
Cyngor, Bwriad.
gwnsel Duw ei hunan.
Nid oes dŷn, na Diawl, nac Angel,
All deallu dim o'i gwnsel,
Na'r holl fŷd yn abal
Datgloi.
daclo,
Vn cyfrinach a fo gantho.
Ofer yw i neb chwennychu,
Nabod dim y fo Duw 'n gelu,
Mar. 13.32
A mynegu wrth draws amcan,
Beth nas
Sef fel yr oedd efe yn ddyn.
gwyddei Christ ei hunan.
Dysc gan Ghrist y peth hyspyssodd,
Na chais wybod dim y gelodd:
Deut. 29.29.
I ni perthyn a ddadguddiwys,
I Dduw 'r cwbwl nas mynegwys.
Na chais wybod tra fech byw,
Ddim o ddirgel bethau Duw;
Ac or ceisii mae 'n ddiogel,
Boen a chwilydd am dy drafel.
Y mae 'r môr yn boddi llawer,
Sydd yn chwennych gweld ei ddyfnder:
A'r haul wenn yn dallu llygaid,
Pawb edrycho arni 'n
Ddirraid sy yn y coppy.
dambaid.
Dydd y farn sydd
Siccir.
siwr i ddyfod,
Y pryd nid oes ond Duw 'n ei wybod:
Ffôl yw 'r dyn y geisio
Darogan, prophwydo
drogan
Y dydd, nas gŵyr ond Duw ei hunan.
Dweded pawb ei dewis chweddel,
Nid oes dyn, na diawl, nac Angel,
Wyr y dydd, na'r awr, na'r flwyddyn,
Y daw Christ i farnu arnyn.
Gwiliwch bawb a byddwch barod,
A disgwyliwch nes ei ddyfod,
Ar y dydd a'r awr nas gwypoch,
Mat. 25.13
Y daw Christ yn ddirgel attoch.
Jago a Pheder gynt ofynnodd,
I Grist, cyn ei
Ddercha­fu.
ddercha ir nefodd,
Athro, dangos cyn dy
Ddercha­fu.
ddrycha,
I ni 'r prŷd ar dydd diwetha.
Christ attebe ei ddiscyblion,
Mat. 24.3, 36. Act. 1.7.
Nid perthynas i blant dynion,
Wybod
Cyngor.
Cwnsel y Gorucha,
Am y dydd a'r awr ddiwetha.
Mae Duw 'n cadw hynny 'n ddirgel,
Iddo ei hunan yn ddiogel:
Gwiliwch bawb, a byddwch barod,
Nes y dêl ni chaiff neb wybod.
Nid yw'r doetha o blant dynion,
Na'r anwyla o'r Angelion,
Yn deallu hyn o Amser,
Go [...]he­lwch.
Gweglwch gredu chwedleu ofer.
Elias gynt, medd rhai, y ddwede,
Y parhau 'r byd, chwech mîl o flwydde,
Yn ôl hynny fe ddiweddidd,
Drwy Dân poeth, nes ail
Adnew­yddid.
renewid:
Dwy fil heb vn Gyfraith
Agos; o­ddieithr ychydig.
haychen,
Dwy fil dan gyfreithau Moesen,
Dwy fil dan Efengyl Jesu,
Or cae bara cŷd a hynny.
Tair oês meddant sydd ir bŷd,
Vn
Sef yn Scrifenne­dig.
heb gyfraith oll i gyd,
N'all dan drwm lwyth gyfraith Foesen,
Drydedd dan y fengyl lawen.
Y ddwy oes gynta aethont heibio,
A'r drydydd oes sy'n para etto;
Hyd pa hyd y peri weithian,
Nis gwyr neb ond Duw ei hunan.
Mil a chwechant aethont heibio,
O'r oes hon ac vgain Cryno;
Fe all pawb wrth hynny wybod,
Nad oes fawr o hon heb ddarfod.
Pawb o'r doethion a gyttuna,
Mae byrra oes yw'r oes ddiwetha;
Os er mwyn y detholedig,
Hi fydd byrrach nid ychydig.
1 Joan: 2.18.
Ifan alwe 'r oes hon ymma,
Yn ei ddydiau'r oes ddiwetha;
Os diwetha 'r amser hynny,
Mae hi'n awr
Yn agos.
ymron Terfynny.
Diwedd pob peth oedd yn
Nesau. 1 Pet. 4.7.
nessid,
Pan oedd Peder yn y Pulpid;
Nid oes lûn nad ydyw'r diwedd,
Nawr wrth hynny'n agos rhyfedd.
Yn amser Paul yr oedd gan mwya,
Yr oês a'r dydd, a'r awr ddiwetha,
Rwan yn ein hamser ninnau,
Mae'r diwetha or
Mynud yw'r tri­ugeinfed ran o awr.
mynudau.
Y bŷd sydd gwedi mynd yn gleirchyn,
Ac yn Grippil medd saint Awstin:
Mae ê 'n cerdded ar ffynn Baglau,
Nid oes nemmawr iddo o ddyddiau.
Gwiliwn bawb a byddwn barod,
Mat. 22.33.
Mae 'r dydd mawr yn agos dyfod,
Mae medd Christ ymron y dryssau,
Trwssiwn bob rhai ein
Lampau.
Lusernau.
Siccir.
Certen yw y daw ar fyrder,
Anhyspys
Ancertennol ydyw 'r amser;
Pwy cyn gynted nis gwyr vn dyn,
Byddwn bob awr ar ein
Sef yn ymbaratoi, megis rhai ar gychwyn i gyfarfod Christ.
rofyn.
Nid oes dŷn medd Christ ei hunan,
Wyr y dydd a'r awr yn gyngan,
Nac vn Angel detholedig,
Na neb ond y Tâd yn vnig.
Ofer yw gan hynny i ddynion,
Geisio
Mynegi.
maneg yr amseron,
Y mae 'r Tâd yn gadw 'n gyngan,
Yn dra dirgel iddo ei hunan.
Etto Napeir enwa 'r flwyddyn,
Y gwna Duw ar bob peth derfyn,
Ac y bydd y flwyddyn hynny,
Cyn mil saith cant o oes Jesu.
Dweded pawb ei dewis chweddel,
Nid oes dyn, na Diawl, nac Angel,
Wyr yr awr, na'r dydd, na'r flwyddyn,
Y gwna Duw ar bob peth derfyn.
Byddwn barod bawb gan hynny,
Edifarwn heno, heddu:
Ar y dydd ar awr nas gwypom,
Y daw Christ yn ddirgel attom.
Fel na nabu serchog Rachel,
Oi
amser escori.
thymp nes mynd ar ei thrafel,
Felly ni chaiff dynion nabod,
Dydd yr Arglwydd nes ei ddyfod.
Pan daeth amser Rachel wisci,
Ar ei phlentyn bâch escori,
F'orfu escori ar y bachgen,
Ar y ffordd dan fôn y dderwen:
Felly gorfydd ar y ddaiar,
Sy'n beichiogi er yn gynnar,
Gwympo i escori ar y meirw,
Pan del vdcorn Christ iw galw.
Fel y daeth y Tân ar Brwmstom,
Yn ddysymmwth am ben Sodom,
Luc. 17.28, 29, 30.
Felly daw y Dydd diwedda,
Pan bo'r byd yn cyscu 'n smala.
Ni ŵyr nêb o'r awr na'r amser,
Byddwn bôb awr ar ein pryder,
Mat. 25.4.
A'n Lusernau yn ein dwylo,
Gydâ'r merched call yn gwilio.
Mae 'r arwyddion gwedi cerdded,
Y fynegodd Christ cyn
Eglured.
blaened,
Ond bôd 'chydig o'r Iddewon,
Etto heb gredu 'r fengyl dirion,
Mat. 24.9. Act. 12.2.
Fe ferthyrwyd y' Postolion,
A mil miloedd o'r Christnogion,
Ym-mlhaid y ffydd a'r efengyl;
Fe ŵyr holl-gred hyn yn rhigil.
Luc. 19:43, 44.
Fe ddistryw-wyd Caerusalem,
Nid oes maen ar faen lle gwelem;
Mat. 24.2.
Hithau 'r Demel fawr y losgwyd,
A'r Iddewon a wascarwyd.
[...]
F'aeth fengyl hygar hyfryd,
Ar farch gwyn ar draws yr holl fyd:
Matt. 24.14.
Nid oes Cornel dan y nefoedd,
Na bu 'r fengyl ynddo 'n rhyw-fodd.
Nifer mawr o Gristiau ffeilston,
Mat. 24.24
Yng-rhêd ac angrêd y godasson,
A thrwy
Twyll.
hocced Tâd y celwydd,
Troesont lawer i gam-grefydd.
Rhyfel blin rhwng Twrc a Christion,
Matt. 24.6, 7.
Y fu 'n fynych iawn ni glywson:
Sôn mawr sydd am ryfel etto,
Rhoed Duw hedd ir sawl ai caro.
Newyn mawr a thost ddrudaniaeth,
Y fu'n llawer gwlad ysowaeth;
Haint, a Phlâg, a chwarren waedlyd,
Y fu'n hwyr ar hyd yr holl-fyd.
Daiar grûn y fu o'r mwya,
Nes syrthio Temel fawr Ddiana,
A bwrw lawr y Trefydd mawrion,
Luc 21.11
Twre a chestyll yn
gan-dryll.
sebwrthon.
'Rhaul
Dywy­llodd. Luc. 21.25
ecclipsodd or' Tywylla,
Nes mynd dydd yn nôs gan mwya:
A'r môr mawr aeth dros y
Glannau.
bancau,
Boddodd miloedd o eneidiau.
Y mae
y Pâb.
Anghrist ynte'n rhochain,
Ys llawer dydd yn Eglwys Rhufain;
Ac yn
Lladd.
mwrddro 'r Saint heb orphwys,
Eisiei alw 'n benn ir Eglwys.
Cariad Perffaith ynte oerodd,
Mat. 24.12.
Ni châr mâb o'r Tâd a'i magodd;
Gwaudd
Merch a mam yn y gyfraith. Mar. 13.12
a chweger sy'n
Ymdaeru.
ymsowtan,
Câs gan frawd ei frawd ei hunan.
Luc. 18.8.
Ffydd ysowaeth sy'n mynd lai lai,
Cred o gryn-fyd aeth yn garrai,
Asia, Affric, Graecia ffyddlon,
Sydd yrwan heb gristnogion.
Nid oes vn o'r holl arwyddion,
Ond dymchweliad yr Iddewon,
Na bont eiswys gwedi dyfod;
Gwiliwn bawb a byddwn barod.
Act. 10 42
Y mae'r Barnwr mawr yn cychwyn,
Mae ys dyddie ar ei rofyn;
1 Thess. 4.16.
Fe ddaw weithian yn dra hoyw,
I roi barn ar fyw a meirw.
Mae ef gwedi hogi gledde,
A golymmu ei holl saethe;
Mae ei fwa yn ei annel,
Ac yn barod mynd i ryfel.
Mae fraich rymmus gwedi hystyn,
Mae Angelion ar ei rofyn;
Mat. 24.37, 38, 39.
Fe ddaw fel y diluw tanllyd,
I roi barn ar bawb o'r hollfyd.
O meddyliwn ninne am wiliad,
Ac am ddisgwyl ei ddyfodiad,
A bod bawb â'n cyfri 'n barod,
Ac yn dacclus cyn ei ddyfod.

Cofiwch Angeu.

BYrr yw'n hoes ac
Ansafa­dwy.
Ancertennol,
Heddyw n' fyw, y foru 'n farwol;
Gynne 'n Gawr, y boir yn gelain,
Dymma gyflwr dŷn a'i ddamwain.
Ni bydd ymma am hen ennyd;
Un o honom heb ei symmyd;
O meddyliwn am ein † shiwrne,
Heno ysgatfydd rhaid ei deobre.
Fel y rhed yr haul ir hwyr,
Fel y treulia 'r ganwyll gwyr,
Fel y syrthia 'r Rhossyn gwynn,
Fel y diffidd tarth ar lynn:
Felly Treulia, felly rhed,
Felly derfydd pobol Grêd,
Felly diffydd bywyd dŷn,
Felly syrthiwn bob yr un.
Fel llong dan hwyl, fel
Rhede­gwr.
pôst dan fawd,
Fel saeth at
Nôd.
farc, fel Gwalch at ffawd,
Fel mwg ar wynt, fel llif ar ddwr,
Y
Rhedeg a frys.
Posta ymmaith einioes gwr.
Fel saeth y rhêd, fel Post y gyrr,
Fel Cwyr y Tawdd, fel ia y tyrr,
Fel dail y syrth, fel gwellt y gwywa,
Fel Tarth y trig, fel Lamp y treula.
1 Pet. 1.24.
Ni ddifannwn fel y cyscod,
Ni lwyr doddwn fel y mano,
Ni
Collwn ein hardd­wch.
ddiharffwn fel glaswelltyn,
Ni ddiffoddwn fel yr Ewyn.
Ni cheir gweled mwy o'n hôl,
Nag ol Neidir ar y ddôl,
Neu ol llong aeth dros y Tonne,
Neu ol saeth mewn Aw yr dene.
O! gan hynny, heddyw, heno,
Moeswch i'ni bawb ymgweirio,
Fynd ar
Frys.
ffrwst, a thynnu oddiyma,
Lle na chawn o'r hir arhosfa.
Mewn Tai o glai yr ym yn trigo,
Tymmhe­stl.
Storom gron y bair eu syrthio;
Gwiliwn rhag ir Angeu ein saethu,
A briwio 'r wal Tra fom yn Cyfgu.
Fel y trewir pysc â thryfer,
Fel y saethir
Ceiliog coed.
phesant dyner,
Fel y torrir blodau'r ardd,
Fel y lleddir
Gweir­glodydd.
gweunydd hardd:
Felly trewir dŷn heb wybod,
Felly saethir yn ddiarfod,
Felly torrir gwchder dŷn,
Felly 'n lleddir bob yr un.
Fel dwr dîluw ar y cynfyd,
Fel tân gwyllt ar Sodom aethlyd,
Fel
Mellten.
llycheden, fel y ddraig;
Fel y gwewyr blin ar wraig:
Felly 'n chwyrn, ac felly 'n danllyd,
Felly 'n
Disym­mwth.
immwngc, felly 'n aethlyd,
gwartha.
Felly 'n flin, ac felly 'n draws,
Y daw 'r Angeu ar ein traws.
Brau yw 'n cnawd, a bâch yw'n cryfdwr,
Gwann yw'n grym, a gwael yw'n cyflwr,
Tippyn bâch o groes neu gerydd,
All yn troi a'n torr i fynudd.
Gwrâch all ladd y Cawr â chogail,
Blewyn bâch all dagu'r bugail,
Drân ar draws all ladd yr hwsmon,
Duw mor
Dirym.
ddiserth yw plant dynion.
Y gwann, y gwael, y dwl, y dall,
Y lâdd y cryf, y gwymp y call:
Y
Drel.
bŵr di-barch, â maen nid mawr,
A friwia 'n caer, a ddifa 'r Cawr.
Beth yw dŷn wrth hyn ond tarth,
A mwg, a niwl, a gwellt, a gwarth,
A gwydyr crîn, a rhew, a rhossyn,
A stên o bridd, a gwynt, ac ewyn.
Y dewr, y doeth, y gwych, y gwalchaidd,
Y crŷf, y call, y capten cruaidd,
Ein pen, a'n pont, a'n grym, a'n gras,
Y gafodd gwymp gan angeu câs:
Fel y cwymp holl ddail yr allt,
Fel y
Cneifia.
croppia 'r gwelle 'n gwallt,
Fel y gwywa lili 'r maes,
Fel y tyrr y gwydyr glâs.
Felly gwywa, felly tyrr,
Felly
Tyrr.
craccia 'n bywyd byrr,
Felly croppiir einioes dŷn,
Felly cwympwn bob yr un.
Fel tŷ bugail ein symmydir,
Fel stên briddlyd ein candryllir,
Fel dilledyn y darfyddwn,
Fel y llwydrew y dyfflannwn.
Ni chawn aros mwy nâ 'n tadau,
Awn ir ffordd yr aethont hwyntau:
Rhaid i'n fynd i wneuthur cyfri,
A rhoi
Lle.
rhwm i eraill godi.
Nid oes lle in' aros ymma.
Ond dros ennyd i hafotta:
Gwedyn gorfydd ar bawb symmyd,
Fynd ir ffordd yr aeth yr holl-fyd.
Y mae 'r angeu glâs â'i fwa,
Yn ein herlid ym-mhob tyrfa:
Nid oes vn-dyn all ddihangyd,
Rhag ei follt âi saeth wenwynllyd.
Mae ê'n ddirgel yn marchogaeth,
Ar farch glâs ym-mhob cenhedlaeth:
Nid oes dŷn all diangc rhagddo,
Aed ir wlâd ar mann y mynno.
Er bôd Hasael gynt nâ 'r cwig,
Er bôd Sawl fel eryr ffrolig,
Er bôd Jehu 'n gynt nag ynte,
Ni ddihangodd vn rhag Ange.
Er gwroled gŵr oedd Sampson,
F'orfu,
Ymost­wng.
ildo ir angeu digllon:
Felly gorfydd arnom ninnau,
Pyt fae ei gryfder yn ein breichiau.
Alexander y
Orchfy­godd.
gwngcwerodd,
Yr holl fŷd y ffordd y cerddodd;
Angeu gwedi 'r
Orucha­fiaeth.
concwest sceler,
Y gwngcwerodd Alexander.
Lladdodd angeu bôb cwngcwerwr,
Lladdodd Galen y physsygwr,
Lladdodd Luc y meddyg goreu;
Pwy all ddiangc mwy rhag angeu?
Fel y
Sathra.
damsing meirch Rhyfelwyr,
Dan eu traed bôb
Math
fort o filwyr,
Felly damsing angeu diriaid,
Y Brenhinoedd fel begeriaid.
Lladdodd Angeu Abel wirion,
Lladdodd Angeu Sanctaidd Aaron;
Lladdodd Cain a Chum y scymmyn,
Nid ywr Angeu 'n arbod widyn.
Pharo 'r
Tywysog.
Prins, ac Eli 'r ffeiriad,
Esay 'r Prophwyd, Joel yr
Barnwr.
vnad,
Noah 'r
Ʋcheldad
Patriarc, ar hen Dadeu,
Y ddifethwyd gan yr Angeu.
Fel n' arbede Herod greulon,
Ladd y bychain mwy nâ'r mawrion;
Felly gwn nad arbed Ange,
Hên nac ifangc mwy nag ynte.
Pe rhoed iddo Aur yn bwnnau,
Mil o wledydd a'i Coronau,
Ni chaed gantho Arbed bywyd
Dŷn, dros Awr, Pe rhoed yr hollfyd.
Ni chaiff neb
Ei ddy­muniad.
ganlyniaeth gantho,
Er
Ymbil.
ymhwedd ac er ceisio,
Mwy nac y Cae Bilat ddigllon,
O'i ganlyniaeth gan Iddewon.
Ni rŷ Angeu Pan y delo,
Awr o
amser.
resbyt i ni ymgweirio,
Nac vn rhybydd o'i ddyfodiad,
Mwy nâ'r Ci cyn lladd y ddafad.
Ond fel llidir fe ddaw 'r Angeu,
Yn ddisymmwth am ein penneu,
Tro ni 'n Cyscu yn ddiofon,
Fel Philistiaid am ben Sampson.
Os bydd diffig dim ir shiwrne,
Oyl ir lamp, na gwisc ir Cefne;
Ni chaer gan yr Angeu melyn,
Aros inni fynd i mofyn.
Ond fel Brenin Babel ddiras,
Yn Troi Sidrac
Yn e­brwydd.
chwip ir ffwrnas,
Fe dry 'r Angeu bawb y granffo,
Ir ffwrn briddlyd fel ei caffo.
Fel y daw y lleidir
Gwyllt, creulon.
difiog,
Ganol nôs am ben goludog:
Felly daw yr Angeu in Cyrchu,
Yn ddiymgais tro ni 'n Cyscu.
Fel y teru gŵr â thryfer,
Bysc tro 'n gorphwys yn ddibryder;
Felly teru Angeu ddyrnod,
Ar blant dynion mor amharod.
Fel na wyr y glommen dyner,
Na'r pryd, na'r mann y teru 'r
Adarwr.
ffowler:
Felly 'n hollol ni wyr vn dyn,
Na'r pryd, na'r môdd y bydd ei derfyn.
Mewn vn ffordd yr ym yn dwad,
Ir byd hwn dan wylo 'n irad;
A thrwy fil o ffyrdd heb
Heb ddal sulw.
farcco,
Rym yn mynd y maes o hano.
Nid oes vn mann yn ddibryder,
Na ddaw 'r Angeu glâs â'i dryfer,
I roi inni ddirgel ddyrnod;
Ymmhob mann, och! byddwn barod.
Gen. 4.
Wrth droi 'r defaid mewn lle dirgel,
Y daeth Angeu am draws Abel:
Gwachel dithe gael ei ddyrnod,
Wrth droi dautu dy nifeilod.
Gen. 35.
Ar y genffordd wrth shiwrneia,
Y bu farw Rachel fwyna:
Wrth shiwrneia gwachel ditheu,
Rhag cyfarfod âr glâs Angeu.
Job 1.
Pan oedd holl blant Job yn gwledda,
Y daeth Angeu ar eu gwartha:
Nid oes
siccrwydd
gwarant gennyd titheu,
Yn dy wledd rhag dyrnod Angeu.
Holophernes a fu farw,
Yn ei gwsc pan oedd ef meddw:
Gwachel dithe yn dy feddwdod,
Rhag i Angeu roi 'ti ddyrnod.
Balthazar er maint oedd gantho,
Dan. 5.
Y fu farw wrth
Ymyfed.
garowso:
Wrth garowso gwachel ditheu,
Od wyt gall rhag dyrnod Angeu.
Fe rows Angeu anfad ddyrnod,
Acts 12.
Ar y faingc i frenin Herod:
Ar y faingc y dlye Farnwyr,
Gofio Angeu mawr ei hydyr.
Saethodd Angeu saeth wenwynllyd,
Trwy gorph Achab yn ei gerbyd:
1 Bren. 22
Yn dy
Cerbyd.
Goach ymgadw ditheu,
Rhag dy daro â bollt Angeu.
Fe ddaeth Angeu megis
lleiddiad Barn. 3.
mwrddrwr,
Am draws Eglon yn ei barlwr:
Gwachel dithau rhag ei biccell,
Trech yn gorphwys yn dy stafell.
Pan oedd Difes yn ei sidan,
Luc. 16.
(A'i phâr foethus) oll yn hedfan,
Fe ddaeth Angeu ac a'i lladdodd;
Gwachel dithe balch ei wiscodd.
Gwedi 'r Cerlyn adail llawer,
A chrynhoi dros hirfod amser;
Luc. 12.20
Fe ddaeth Angeu ac ai lladdwys,
Cyn cael profi o'r pethau gasclwys.
Gwachel ditheu 'r
Gwr gw­ladaidd cyfoethog.
Cob a'r Cerlyn,
Sy'n Crynhoi dros lawer blwyddyn,
Rhag ir Angeu dy gyrhaeddyd,
Cyn cael profi dim o'th olud.
Fe ddaeth Angeu i drywanu,
Dau fab Aron wrth Aberthu:
Lev. 10.2.
Wrth yr Allor dlye'r ffeiriad,
Ofni Angeu a'i ddyfodiad.
Pan oedd Senachrib y brenin,
Yn y demel ar ei ddaulyn,
Fe ddaeth Angeu ac a'i lladdwys;
Ofnwch Angeu yn yr Eglwys.
Num. 25.8
Fe rows Angeu frâth i Zimri,
Wrth gydorwedd gydâ Chosbi:
Gwachel dithe wrth butteinia,
Rhag ir Angeu glâs dy ddala.
Nynn dy Lamp, a gwisc dy drwssiad,
Cyn dêl Angeu 'n agos attad:
Gwna dy gownt a'th gyfri 'n barod,
Cyn dy alw o flaen y Drindod.
Bydd di barod heddyw, heno,
Ag Oel ith lamp, a'th wysc yn
Gyfan­gwbl.
gyfrdo,
Fynd o flaen dy farnwr prŷdd,
Y foru o bossib ydyw 'r dydd.
Ni wyr Peder, ni wyr Pawl,
Ni wyr Angel, ni wyr Diawl,
Ni wyr Planed, ni wyr dŷn,
Na neb o'n hawr, ond Duw ei hun.
Rhyd dydd, rhyd nôs, yn glaf, yn iach,
Ar fôr a thir, yn fawr yn fach,
Mewn Tre a gwlad, bawb byddwch barod,
Ni wys pwy wlad y cawn ni'r dyrnod.
Gweithiwch bawb tro 'r dydd yn para,
Cyn cotto'r haul crynhowch y Manna:
Derbyniwch râs, tro Duw 'n ei gynnig,
Partowch eich rhaid cyn delo'r diffig;
Cyn colli 'r
Ga [...].
Gôl, cyn delo 'r nôs,
Cyn torri 'r pren, cyn cwympo ir ffôs,
Cyn cau y porth, cyn mynd ir garn,
Cyn canu 'r Corn, cyn rhoddi 'r farr.
Rhed am y chwyth, Gwna waith dy Dduw,
Dwg ffrwyth yn
Rhinwe­ddol.
rhîn o'r gorau ei ryw,
Dos
Yn ebrw­ydd.
chwip ir wledd a'r farn yn gyfrdo,
Cais dy gyfraid cyn ymado.

Cân ar y Flwyddyn 1629, pan yr oedd y Llafur neu'r yd yn afiachus trwy lawer o law.

Duw Frenin trugarog, Duw Dâd Holl-alluog,
Duw Porthwr newynog, na newyna ni,
Sy'n canlyn dy ffafar, â chalon edifar,
Yn ol dy hîr watwar a'th Siommi.
Er mwyn dy drugaredd anfeidrol a'th fawredd,
Er mwyn dy wîr Tifedd, Dofa dy lîd:
Gwrando di 'n Gweddi, Madde 'n drwg nwydi,
A chymmorth ein Tlodi, a'n hadfyd.
Ni Bechsom yn d'erbyn, yn daran escymmyn,
Nes tynnu hîr Newyn, a Niwed i'n plith,
Ac amryw ddiale sy'n gryddfu 'n calonne,
Heb allel hîr odde dy felldith.
Ni dorsom dy gyfraith sydd gyfion a pherffaith,
Do lawer canwaith, Cyn cwnnu o'r mann,
Fel rhai a fae 'n tybiaid, na bae genyd lygaid,
I ganfod fileinaid mor aflan.
Dy enw Gablassom, dy air y gasausom,
Dy fengyl y droedsom, yn ddibrys dan draed;
Dy sabboth halogwyd, dy demel adaw-wyd,
Dy grefydd a lygrwyd yn irad.
Ni dorsom dy ddeddfau, fel pobol a dibiau,
Na ddawe dialau, am ddilyn ffordd ddrwg;
Neu rai a fae 'n credu, na bae gennyd allu,
I'n
Cospo.
plago am bechu yn cynddrwg.
Pan helaist gennadon i
Ddangos. Psal. 58.4.
faneg ein beion,
A'n troi ir ffordd union, yn dirion, yn daer:
Ni gausom ein clustie, rhag clywed eu geirie,
Fal neidir a fydde yn fyddar.
Pan gyrraist dy weision, in gwawdd ni rhai deilli­on,
Ith swpper yn dirion, i
Trigo.
dario 'n dy lŷs;
Ni ballsom o'r dwad, ni droesom ir farchnad,
Luc. 14:
A'n fferem, yn anllad anhappys.
Ni fynwn i o'r Manna, ni thrig e'n ein cylla,
Ni charwn ni or bara a beru byth,
Ond garlleg ac wyniwn, a
Llysian gwyddelig Num. 11.5 6.
phannas a phompiwn,
Fel Twrchod a garwn ni 'n aryth.
Ni fynnwn ni o'r fengyl, sy'n cnoi ni mor rhygyl,
Ni drown ein gwegil at hon lawer gwaith;
Ni chaiff hi 'n ceryddu, na'n dangos, na'n dyscu,
Mae 'n draws yn gwrthnebu ein drwg-waith.
Ni adwn ni'r scrythur reoli 'n drwg nattur,
Na'th gyfraith gymhessur gymhwyso mo'r traws:
Ond byw wrth ein
Meddyl­fryd.
ffansi, a'n trachwant an gwegi,
Heb fynnu rheoli ein drwg-naws.
Gan hynny waith troedo dy gyfraith a'i gado,
Ni aethom ar ddidro yn ddidrangc, gwae ni,
Fal defaid y rede, or llafur ir ffalde,
ar ôl llanw eu bolie, i boeni.
Mae'n gloddest a'n traha, fel mawr ddrwg Gomorra,
Yn llefain am wascfa, i wascu ar ein cêst;
Ni thaw byth o'u penne, nes delo diale,
I wascu ar ein crylie â
Ympryd.
dirwest.
Mae pob grâdd o ddynion, yn fychain yn fawrion,
Yn pechu yn greulon yn erbyn dy Grist,
Fel pobol wrth raffe, a dynne ddiale,
O'r nef am ei penne, yn athrist.
Mae 'r ffeiriald yn gadu dy bobol i bechu,
Heb geisio eu nadu i uffern ar naid:
A'r vn ac a geisio a'r fengyl eu rhwystro,
Fe gaiff ei
amharchi
anfrifo yn ddiriaid.
Mae 'n parchus Reolwyr, (och Dduw) yn rhy segur,
Yn godde troseddwyr, drist soddi 'r wlad,
Heb gospi âr cledde, na'r bobol na'r beie,
Sy'n
Sathra.
damsing dy ddeddfe mor
Mor dôst
irad.
Mae'r bobol gyffredin, fel Israel heb frenin,
Na Ffeirad ei maethdrin, na phrophwyd i roi maeth
Yn byw yn anhywaith, fel pobol heb gyfraith,
Heb grefydd, heb obaith, ysowaeth.
Mae'n rheipus swyddogion, yn speilio rhai gwirion
Yn
mwy hyf.
ewnach nâ'r lladron (llwyr edrych ar hyn)
A'r carlaid yn bwytta y tlodion fel bara,
Neu'r morfil a lyngca 'r
Pennog.
sgadenyn.
Mae 'r gweision cyfloge, a'r hirwyr yn chware,
Mae 'r gweithwyr yn eiste, heb ostwng eu pen,
Yn
yn myned yn stowt.
tordain, yn blino, heb fynnu mor gweithio,
Nes delech eu
pigo.
pricco ag angen.
Mae'r
Barcer.
tanner a'r
Pannwr.
twccwr, a'r
Pobydd.
baccer a'r
cigydd.
bwt­siwr
Gwaydd, gôf, a thaylwr, a thiler a chrŷdd,
A'r hwsmyn, a'r creftwyr, a'r diffrwyth uchelwyr,
Yn mynd yn dafarnwyr digrefydd.
Mae 'r gwragedd yn gado eu nyddiad a'u cribo,
Eu gwayad, a'i gwnio, i dwymo Dwr,
Gwerthassant ei
Troelle.
rhode, a'i cyffion a'i cribe,
I brynu costrele tafarnwr.
Mae'r Mwrddrwr a'r gwibiad, ar bawdy cnâf an­llad
Ar lleidr, a'r
erwydrad
gwilliad, a'r ffeiriad ffôl,
A Shini a Shangco, a
cennad i werthu.
lisens i wttro,
Bûr, Cwrw, tobacco, heb reol.
Pe ceisie na'r Cythrel, na'i fam godi capel,
Wrth ochor dy demel, er dimme yn y dydd,
I gadw tafarndy cyhoeddus yng Hymru,
Fe gae ei gennadu yn ufydd.
Duw
Tyred.
dere o'th arfer, â chyngor ar fyrder,
Torr lawer o'r nifer, sy 'n nafu'r byd,
Cyn bwyttont ei gilydd, cyn nafont y gwledydd,
Cyn llygront dy lân-grefydd hyfyd.
Mae'r gweifion mor
Foethus.
ddainti, na fynnant hwy gorphi
Ond gwyn fara eu meistri, neu
Cadw stwr.
fustro a wnant,
A'r merched ar gyflog, ond odid yn feichiog,
Am fod yn rhy wressog meddant.
Mae pob rhyw o alwad, yn ddibris am danad,
Yn ceisio ei codiad, ai cadw ei hun;
Heb geisio d' ogoniant ti Arglwydd ein llwyddiant,
Na'th fawrglod, na'th foliant na'i 'mofyn.
O achos gan hynny, fod pawb yn trofeddu,
A phob rhai yn pechu â'i buchedd ar draws,
Di geisiaist trwy fwyndra, ac ennyd o wascsa,
I'n cyffro i wella ein drwg-naws.
Yn fwyn ac yn serchog, fel Arglwydd trugarog,
A fae yn dra chwannog, in hennill trwy dêg,
Di geisiaist yn dirion, trwy amryw fendithion,
In tynnu ir ffordd union, yn loywdeg.
Pan ffaelodd dy swynder wella'n drwg arfer,
Bygwthaist â chryfder, a llwmder in lladd;
Hogaist dy gledde, golymaist dy satthe,
Paratoaist dy arfe i ymladd.
Ond gwedi ti ymgweirio, rhoest rybydd cyn clwy­fo,
Bygwthaist cyn taro, a'n torri i lawr:
Cynny­gaist.
Offrymaist in ffafar, o byddem ni difar,
A ninne 'n dy watwar yn ddirfawr.
Pan gwelaist Dduw cyfion, na thyocie fygwthion,
Di yrraist yn llymmion dy sacthau i'n lladd,
A'n curo a'n corddi, â llawer o 'fydi,
Na allem na'i dofi, na'i gwrthladd.
Gelwaist dy weision,
Rhifaist.
mwstraist d' Angelion,
A'th dri march Mawrion, Côch, glâs, a dû;
A gyrraist hwy'n ddiriaid, ar holl greaduriaid,
In plago fileiniaid a'n gryddfu.
Rhoist ddu-rew digassog, hâf poethlyd
aflwyddi­annus.
anffodiog,
Gwynt stormys scethrog, yn scathru'r ŷd,
Llifeiriaint i'n foddi, a'r moroedd i'n boddi,
A chan rhyw ofydi i'n herlyd.
Twymynne Cyndeiriog, drudaniaeth digassog,
Marwolaeth llym
anwadal.
oriog mewn llawer mann,
A helaist in cyffro, i bryssur repento,
A'n
deisyf.
cathrain i'th geisio yn gyfan.
Pan gwelaist na alle hyn oll o ddiale,
Ein dattroi o'n beie, i wella ein byd,
Di helaist drachefen hîr newyn a chwarren,
A rhyfel aflawen i'n herlyd.
Y chwarren y laddodd ddiarhebrwydd o filodd,
Mewn amryw o leodd, â gormodd lîd;
Nes llanw'r monwentydd, â thlodi'r holl drefydd,
Lle gyrraist dy gerydd eu hymlid.
A'r rhyfel anffodiog y ddaeth yn ddigassog
A'r cledde yn llidiog, i'n tlodi a'n lladd;
Nes difa'n rhyfelwyr, a'n tryssor, a'n llafyr,
A'n hela 'n ddi-gyssur i ymladd.
Soddaist ein llonge, diddymaist ein
Bwriadan
plotte,
Troist Fîn ein cledde, taflaist ni ir clawdd:
Dallaist ein doethion, dychrynaist ein dewrion,
Gwerthaist ni ir Cassion a'n ceisiawdd.
Ychwarren a'r cleddu y wnaeth i ni grynu,
A dechre difaru, dau fore neu dri,
A chanlyn a chrio, am dynnu'r plag heibio,
Nes itti lwyr wrando ein gweddi.
Pan tynaist ti 'r chwarren a'r rhyfel aflawen,
Ni droesom drachefen, dri chyfydd i'n hol.
Fel cwn at ei chwdfa, ith ddigio a'th hela,
In dofi a'n difa 'n anffafrol.
Gan hynny di helest y stormau a thempest,
Yng hanol ein gloddest, in cospi â glaw,
Nes nafu 'n cynhaya, a defnydd ein bara,
A chospi'n hîr draha â chyr law.
Tywalltaist dy felldith, mor drwm ac mordryfrith
Ar
Haidd.
farlish a gwenith, a phob ymborth gŵr,
Fel y gwrthneba nifeiliaid i fwytta,
Ni phraw 'r cwn o fara 'r llafurwr.
Mae'r march yn ffieiddio, a'r mochyn yn gado,
Y llafur sy'n llwydo, a'r egin yn llawn,
Gan gynddrwg yw
Blas.
rhelish y
Sîlyd.
pilcorn a'r barlish,
Y gâd o'r anilish fisgawn.
O Arglwydd ni haeddson dy felldith yn gyfion,
Ar lafur o'r fisgon, a'r fasced a ftôr,
A newyn a nychdod, am hîr anufydd-dod,
O ddiffig it ragod ein goror.
Ein dirmyg a'n
Balchder distyrwch.
traha ar ddiod a bara,
A bair i ni fwytta, oni attal Duw,
Tlodion.
Y ffacbys ar callod, ac ymborth nifeilod,
Ar crwst ym ni 'n wrthod heddyw.
Ni fuom yn poeri y blawd oedd a rhydi,
A'r bara â'r pinni ni bwrem on' pen:
A'n begers mor foethus yn teri ar farlish,
Ni phrosent ond canish
Yn agos.
haychen.
Ni fuom yn bwytta Gormoddion o fara,
Fel pobol Gomorra 'n camarfer eu byd,
Heb ddiolch am dano, na swpper na chinno,
Nes inni dy ddigio yn danllyd.
Ni fuom yn yfed, nes mynd yn cyn dynned,
Na allem ni gerdded, na myned o'r mann,
Nes arllwys ein ceudod, lle hyfsom ni'r ddiod,
Yn waeth nâ'r nifeilod aflan.
Bu deie'n tafarne, yn llawnach ddydd sulie,
O addolwyr bolie, yn addoli Baal,
Nag oedd ein heglwysydd, o ddynion o grefydd,
Ith 'ddoli di 'n ufydd, Duw nefawl.
Tair gwaith o leia, y llanwn ni 'r bola,
Bob dydd pan bo byrra, gan bori ein bwyd:
Pring mewn chwe die, y cofiwn ni dithe,
Am lanw ein crelie â brâs-fwyd.
Ni flinwn yn ebrwydd, yn d'eglwys o Arglwydd,
Er maint yw ein haflwydd, an hoflyd
Balchder
'tra:
Ni flinwn ni'n aros, mewn tafarn dros wythnos,
Er oered o'r hirnos aia.
Fe ŷf un cyn cinnio, o
Cwrw.
fûr a thybacco,
Paint y ddigono ddeugeinyn ar bryd:
Fei chwda drachefen, gan dynned oi botten,
Heb feddwl am angen a gofyd.
Mae 'n meddwdod yn crio, am newyn in' pigo,
Mae 'n gloddest yn ceisio dwyn prinder i'n cell:
Mae'n hafrad ysowaeth, yn gofyn drudaniaeth,
A hirbryd trwy hiraeth i'n cawell.
Yn gyfiawn gan hynny, O Arglwydd y gallu,
A newyn ein gryddfu am wrthod gras;
A thorri a difa cynhalieth ein bara,
A pheri ni fwytta ein
Ein cnawd
carcas.
Ond Arglwydd trugarog, er mwyn dy eneiniog,
Na ddanfon yn llidiog hîr newyn i'n lladd;
Na nychdod i'n gryddfu, na phlâg i'n difethu,
Na rhyfel, na chleddu i'n
Gwrth­wynebu.
gwrthladd.
Ond Madde yn rassol ein trawsedd
Rhyfeddol
anguriol,
Na wna ni yn Siompol, i bobol y byd:
Ond arbed ni'n dirion, a gwella 'n harferion,
A newid ein ffinion fywyd.
Nac edrych Dâd cyfion, ar drossedd dy weision,
Na 'n beie mawrion, i'n lladd gan ei main:
Ond edrych yn hyfryd, ar ange d'anwylyd,
I ddofi dy danllyd ddigofaint.
Er mwyn ei rinweddau a'i fywyd a'i angeu,
Ai 'fydd-dod ai wrthiau, ai werthfawr waed,
Madde inni
Aeth beibio.
basswys, tro ni ir ffordd gymmwys,
A chadw ni yn d'eglwys yn wastad.
Golch ein pechode, yng-waed ei welie,
Croes-hoelia ein beie yn grygie ar ei groes:
Rhwyga 'n
Rhwym.
bligassiwn, a doro i ni bardwn,
Er mwyn ei ddryd
Ddiodde­faint.
bassiwn a'i hir loes.
Na alw ni i gyfri, am dan ein drygioni,
Na ddere in cospi, am ein gwegi a'n gwaith:
Ond arbed dy weision, er mwyn dy fab gwirion,
A'th wnaeth yn dra boddlon unwaith.
A danfon dy yspryd, i wella'n drwg sywyd,
A'n helpu ddychwelyd, â chalon iach;
Ith gywir wasnaethu, a'th ofni a'th garu,
A'n
Rhwy­stro.
deor i bechu dim mwyach.
Duw attal dy wialen, dad-ddigia drachefen,
Tro d'wyneb yn llawen, nâd newyn i'n lladd:
Madde 'n trossedde gwir wella'n drwgnwyde,
Sancteiddia 'r calonne sy 'n d'wrthladd.
Duw gwella di'r tywydd, bendithia di'r maesydd,
Tro'n tristwch yn
Lawe­nydd.
wenydd, na newyna ni:
Rho râd ar y fisgawn, gwna'r farchnad yn gyflawn
Diwalla ni â'th radlawn ddaioni.
Rho ymborth ir Christion, rho ogor ir eidion,
Rho 'r fengyl ir gwirion y garo 'r gair:
Rho heddwch ir deyrnas, ac iechyd ac urddas
In pen
Rheolwr.
Llywyd Charlas ddiwair.
Mîl chwechant ac ugain, a naw mlynedd cywrain,
Medd holl ddoethion Brydain oedd oedran ein brawd,
A'n Prynwr, a'n ceidwad, pan gwympodd y gawad,
Y Lanwodd y farchnad â chwd-flawd.

Cân arall ynghylch y cynhaiaf gwlyb.

RHeolwr y Nefoedd, a'r Ddaiar a'r Moroedd,
Ar tywydd, a'r gwyntoedd o'r glynnodd, a'r glaw;
Clyw gwynfan tosturiol, ac achwyn dy Bobol,
Gan dywydd dryg-hinol a hir-law.
Y mae'r Gwynt, y mae'r Tonne, mae'r Glaw a'r diale,
A'r Sêr yn eu gradde, a'r nefoedd yn grych,
Barn. 5.20
Yn ymladd i'n herbyn drosseddwyr escymm yn,
I'n
Cospi.
plago â Newyn yn fynych.
Mae'r Haul oedd i'n porthi, â gwres a goleuni,
Yn awr gwedi sorri, yn edrych yn sûr,
Gan ballu rhoi thwymder, a'i gwres wrth ei harfer,
Nes pydru 'r naill hanner o'n llafyr.
Mae'r Lleuad yn wylo fel Gwraig y fae 'n
Galaru.
mwrno,
Bob nôs mae'n ymguddio mewn cwmwl o 'n gwydd,
I ollwng ei deigre, gan amled o'n beie,
Nes soddi'r Llafyrie ag
Aflwydd­iant.
aflwydd.
Mae 'r tonneu cynddeiriog, a'r wybren gawadog,
A'r cymle glyborog yn glawio bob awr,
Afonydd o ddrwg fyd, gan gynddrwg o'n bywyd,
I'n plago ag adfyd yn ddirfawr.
Mae 'r
Gorthry­miad.
ormes yn sathru y llafyr sy'n tyfu,
Mae 'r gwynt yn cawdelu y dalo o frig,
Nes iddo ddihidlo, mallu, egino,
Gan law yn ei guro yn ffyrnig.
Mae 'r llafyr s'eb fedi, yn barod i golli,
Heb dywydd i dorri, na'i daro ynghyd,
Mewn cyflwr anhygar: Duw moes i'n dy ffafar,
I gwnnu o'r ddaiar sopaslyd.
Mae'r maint sy'n ei helem, fel gwellt yn y dommen,
Yn ddigon anghymmen, yng chwman y dâs,
Yn twymo, yn mygu, yn llwydo, yn mallu,
A chwedi llwyr bydru o gwmpas.
Mae 'r maint sy'n y sgubor, gogyfer a gogor,
Yn twymo heb gyngor, yn mygu heb gêl,
Yn barod i nynnu: mâb Duw dere i'n helpu,
A nâd ti lwyr fethu ein trafel.
A'r maint sydd ar feder ein cinnio a'n swpper,
Sydd gynddrwg ei biner, a'i dymmer mor dost:
Ac oni thawn gennyd, Duw grassol gyfrwyddyd,
Fe 'n
Cospir.
plagir ni ag adfyd hîr dost.
Agor dy lygad, O Arglwydd ein Ceidwad,
A chenfydd mor irad, id weled mor
Ofnadwy.
hyll
Holl ymborth Christnogion, yn pydru mor ffinion,
O eisie cael hinon i gynnyll.
Duw grassol tosturia, difwynodd ein bara;
(Hir nychdod y faga dan fogel dy blant;)
O ddiffig it ei rwystro, a'i ddyfal fendithio,
A rhoddi rhâd arno a llwyddiant.
Duw beth y feddyliwn, am had-ŷd y gwanwyn,
O
Ba.
bwy le ei ceisiwn, o cawn i fyw yn cyd:
Mae pawb yn achwyngar, ddifwyno ei holl heiniar,
Duw dangos dy ffafar am had-ŷd.
Duw grassol tosturia, wrth ddefaid dy borfa,
Esa. 3.1.
Na thorr ffon ein bara, i beri i ni boen;
Madde 'n trosedde, gwella 'n drwg nwyde,
Cyssura 'n calonnau
Di la­wenydd.
dihoen.
Gorchymyn i'r haul-wen, ymddangos drachefen,
Gwna 'r lleuad a'r Seren yn siriol i'th Saint;
Rho hinon a chyssur, i'r poenfawr lafyrwyr,
A dofa dy bryssyr ddigofaint.
Agor.
Rhwylla 'r wybrenne, a gwascar y cwmle,
Cerydda 'r cawade;
Cariadus
cu ydwyd a rhwydd:
Gostega 'r dôst ormes, Rho degwch a chrattes,
I'r llafyr anghynnes, Arglwydd.
Ond ymma Duw 'r gallu, 'rwi 'n brudd yn cyffesu,
Mae'n pechod sy'n tynnu'r fâth ddial ar ein traws,
A'th stormydd anrassol, a'r tywydd dryghinol,
I'n cospi dy bobol rhy-draws.
Di lenwaist ein bolie, mor gyflawn â'th ddonie,
Na chodem o'n heiste i ostwng ein glîn,
I roddi it foliant, na chlôd am ein porthiant,
Nes tynnu aflwyddiant i'n dilyn.
Yr eidon ar assen 'a edwyn ei perchen,
A'r ci fydd llawen, wrth ei portho â llaeth:
Esa 1.3.
Ond Pobol ddiwybod ni fynant gydnabod,
Nac adde mae 'r Drindod oi Tadmaeth.
Tair gwaith o leia, gwasnaethwn ni 'r bola,
Bôb dydd pan bo byrra, dan bori ein bwyd:
Ond pring mewn saith die, y cofiwn ni dithe,
Sy'n llanw ein bolie â brasfwyd.
Yr wyt yn ein porthi ag amryw ddaioni,
Fel vn a fae'n pesci pascwch yn rhin:
Ni chodwn ein penne i weld mwy nag ynte,
O ble mae 'r fâth ddonie yn disgyn.
Gan hynny di yrrest y storom a thempest,
I gospi ein
Diotta. gormodedd
gloddest â dryg-hin a glaw;
I beri inni nabod a gweled mae 'r Drindod
Sy'n porthi ni yn wastod â'i ddwylaw.
Er maint o'r diale y roeist am ein penne,
I gospi ein beie, gan gynddrwg ym yn byw;
Ni buom er y
Er yr amser y congcwer­wyd Lloe ger gan William Gongewer­wr, neu or­chfygwr.
conquest, yn byw mor anonest,
A chymaint ein gloddest ac heddyw.
A'r storom yn chwythu, a'r glaw yn ein gryddfu,
A'r llafyr yn pydru, heb adrodd ond gwir,
Yn Heie 'r Tafarne, yn chwdu ddydd Sylie,
A'th gablu rym ninne rhai anwir.
Pan dlyem weddio, a phryssur repento,
Mewn llwch ac ymgrino am bardwn a gras,
A'th gywir wasnaethu, 'roem ninne 'n dy gablu,
A'th rwygo a'th regu yn ddiras.
Pa fwyna y ceisiyd yn troi a'n dymchwelyd,
I wella ein bywyd, a 'madel a'n bai:
Waeth waeth y pechem, fwy fwy i'th ddigiem,
Saith bellach y ciliem ninnai.
Pa fwya ddiale y royd am ein penne,
Bid newyn, bid cledde, bid clefyd, bid glaw;
Fwy fwy fel Pharo yr ym yn dy gyffro,
I'n poeni a'n plago a hir-law.
Nid rhyfedd gan hynny, dy fôd yn ein maeddu,
Gan
Ail roddi a thrydydd roddi mae­thgen.
ddwblu a threblu ein maethgen â thrwst:
Ond mwy o ryfeddod, na roit ti' ni ddyrnod,
A'n taflu i'r pwll issod yn ddidrwst.
Duw madde 'n styfnigrwydd, Duw dofa'th lidawgrwydd
Tynn ymaith ein gwradwydd, a'n haflwydd hîr:
Rho ras i ni fedru fel Ninif ddifaru,
A'th ddyfal wasnaethu yn gywir.
Duw gwella di'r Tywydd, bendithia di'r maesydd,
Tro 'n tristwch yn
Llawen­ydd.
wenydd, na newyna ni:
Rho râd ar y fisgawn: gwna'r farchnad yn gyflawn
Diwalla ni â'th radlawn ddaioni.
Duw attal dy wialen, dad-ddigia drachefen,
Tro d'wyneb yn llawen, nâd newyn i'n lladd:
Madde 'n trosedde, gwir wella 'n drwg nwyde,
Sancteiddia 'r calonnau sy'n
Wrthwy­nebu.
d'wrth-ladd.

Byrr yw oes Dŷn.

FEl Gwenol Job mae 'n hoes yn llithro,
Job 7.6. 1 Cor. 9.24. Jac. 4.14.
Fel Rhossyn Dafydd mae hi 'n gwywo,
Fel gyrfa Paul y mae'n diweddu,
Fel Bwmbwl Jaco mae'n diffoddi.
Fel canwyll gwyr mae'n hoes yn treulio,
Fel llong dan hwyl mae'n myned heibio,
Fel pôst dan sawd mae 'n pedwar carnu,
Fel cyscod cwmwl mae'n difflannu.
Gwann yw'n tai, a chryf yw'n Gelyn,
Job 4.19.
Byrr yw'n
Amser.
Terem, suwr yw'n terfyn,
Ancertennol yw ddyfodiad,
Byddwn barod yn ei wiliad

Rhybydd i Gymru i edifarhau ynghylch yr amser yr oedd y Nodau cornwyd chwarren fawr yn Llun­dain.

CYmru, Cymru,
Galara.
mwrna, mwrna,
Gâd dy bechod, gwella, gwella,
Rhag ith bechod dynnu dial,
A digofaint Duw ith Ardal.
Mae dy bechod gwedi dringad,
Cuwch a'r nêf yn crio 'n
Cwynfan­nus.
irad,
Am ddialau ar dy goppa,
Megis Sodom a Gomorra.
Mae e'n gweiddi nôs a borau,
Fel gwaed Abel am ddialau:
Nid oes dim y
Gau.
stoppa ei safan,
Ond plag Duw, neu wella 'n fuan.
Mae e gwedi nyrddo 'r ddaiar,
Fel pechodau 'r cewri cynnar:
Ac yn gofyn dy ddysgybo,
Oddi arni neu
edifarhau
Repento.
Nid oes cornel mwy nâ Ninyf,
Na bo 'n llawn o feie anneiryf;
Na chrâch bentre, na bo pechod,
Yn swrddanu clustiau 'r Drindod.
Nid oes un rhyw râdd na galwad,
Na bo gwedi ymlygru 'n
yn dôst.
irad;
Ac yn tynnu fel wrth reffyn,
Blag a dial ar dy
Goppa.
gobyn.
Mae 'r Pennaethiaid bob yr un,
Yn ceisio'i mawl a'i lles eu hun;
Ac heb ymgais am wîr grefydd,
Moliant Duw, na lles y gwledydd.
Mae dy ffeiriaid hwyntau 'n Cyfgu,
Ac yn gado 'r bobol bechu;
Ac i fyw y môdd y mynnon,
Heb na cherydd na chynghorion.
Mae dy Farnwyr, a'th wŷr mawrion,
Yn Cyd-ddwyn a Mwrddwyr, meddwon;
Ac yn godde treiswyr diriaid,
Speilio 'r gweddwon a'r ymddifaid.
Mae 'r Swyddogion hwyntau 'n godde
Cablu Duw, a meddwi 'r Sulie,
Troedo 'r fengyl, casau 'r cymmyn,
Heb na chosb na cherydd arnyn.
Mae 'r Shirifaid, a'u debidion,
Yn anrheithio 'r bobol wirion:
Ac wrth rym ei braint a'i swydde,
Yn eu speilio lyw dydd gole.
Mae 'r Cyfoethog hwyntau 'n llyngcu
Faint sy'n helw 'r tlawd ynGhymru,
Ac wrth renti'n dost, ac occra,
Yn eu gyrru hwy gardotta.
Mae 'r Cyffredin o bôb rhyw,
Yn
Gwneu­thur.
delo 'n ffalst, yn digio Duw,
Yn ddall, yn ddwl, heb fynnu eu dysgu,
Yn mynd ir pwll, heb odde eu nadu.
Mae pôb grâdd yn pechu'n rhigyl,
Ac heb wneuthur pris o'r fengyl,
Nac o gyfraith Dduw gorucha,
Yn addoli 'r bŷd â'r bola.
Mae pob grâdd â rhaffau pechod,
Yn dirdynnu dial hynod,
Am eu pennau heb dosturi,
Oni thront oddiwrth eu brynti.
Mae 'r fâth feddwdod, Mae 'r fâth dyngu,
Mae 'r fâth gamwedd ynnot Cymru,
Ar fâth wangred a gau dduwiaeth,
Na bu 'ngrhed oi
O'i fath.
fut ysywaeth.
Mae Duw cyfion yntau 'n canfod
Heb. 10.30
Drwg ymddygiad pawb a'i pechod;
Ac yn rhwym wrth swydd a nattur.
Ddial ar y fath drosseddwyr.
Er ys dyddie mae 'n ymmhwedd,
A'th holl blant am wella eu buchedd:
Eisie gwella mae 'n bwriadu
Weithian ddial camwedd Cymru.
Duw a'th ddododd yn y taflau,
Duw a'th gafodd lai nâ phwysau:
Duw a fyn rhoi maethgen itti,
Oni throi oddiwrth dy frynti.
Esiau Cymru gymryd rhybydd,
Oddiwrth Loeger a'i holl gystydd,
Mae gwialen gwedi glychu,
Yn y Sîcc ar feder Cymru.
Y mae plâg yn ôl dy bechod,
Gwedi lunio gan y Drindod:
Ac yn barod ddwad attad,
O waith Cynddrwg o'th ymddygiad.
Y mae 'n crogi uwch dy gobyn,
Ddydd a nôs fel wrth edefyn,
Ac yn barod iawn i syrthio,
Oni throi di a repento.
Yr wyt tithe yn pentyrru
Plâg ar blâg, heb edifaru;
Ac yn cam arferu 'n rhyfedd
Ffafar Duw a'i hîr amynedd.
Rwyt ti beunydd yn mynd waeth waeth,
Ac yn pechu fwy fwy 'sywaeth;
Rwyt ti'n tybied fôd Duw 'n cysgu,
Tra 'n dy
Deisyf arnat.
gathrain i ddifaru.
Rwyt ti'n hwrnu yn dy bechod,
Heb ystyried na chydnabod:
Fôd Duw 'n hogi 'n llym ei gledde,
Trech ti'n hepian ar dy feie.
Hîr y herys Duw heb daro,
Llwyr y dial pan y delo:
Am yr echwyn a'r hir scori,
Och! fe dâl ar unwaith itti.
Lle bo Duw yn hîr yn 'oedi,
Heb roi dial am ddrygioni;
Trwmma i gyd y fydd ei ddyrnod,
Pan y dêl i ddial pechod.
Gwachel dithe ddial Duw,
Fe ddaw ar frys er llaesed yw,
A'i draed o wlân, a'i ddwrn o blwm,
Ith daro 'n
Ddisym­mwth.
ymwngc ac yn drwm.
Gad dy bechod, dal dy law,
Dial Duw fel bollt y ddaw:
Rhoi it rybydd prûdd sydd raid:
Oni chymru rybydd paid.
Edifara 'n brudd gan hynny,
Cyn del plâg ith ardal Cymru,
Cyn y tynno Duw ei gledde,
Cais ei ffafar ar dy liniau.
Os digofaint Duw a nynna,
Pwy o'r holl fyd a'i diffodda?
Os y chwarren wyllt y ddenfyn,
Pwy a'i tynn y maes o'th derfyn?
Os yr Arglwydd dig a ddechre,
Ladd dy blant â'i follt a'i gledde;
Pwy all gadw rhag ei ddyrnod
Un o'th blant? heb law y Drindod.
Gwêl bwy laddfa wnaeth e'n Llundain,
Er maint oedd eu cri a'u llefain:
Eisieu gwneuthur hyn mewn amser,
Fe ddifethodd fwy nâ'i hanner.
Cwyn gan hynny, gwachel oedi;
Llwyr ymwrthod â'th holl frynti:
Llef am râs-cyn del dy faethgen,
Foru ys-sgatfydd y daw 'r chwarren.
Mae dy blâg mewn cwdau lliain,
Etto 'n shoppeu
Marsian­dwyr.
Marchants Llundain:
Fe ddaw 'r plâg oddi-yno i Gymru,
Os ar fyrder ni ddifaru.
Os i Gymru y daw 'r cornwyd,
Och! mor am-mharodol ydwyd,
'fynd ir bar i wneuthur cyfri,
Heb na gwisc na dim goleuni.
Os i Gymru y daw'r clefyd,
Ofer ceisio un gyfrwyddyd:
Nid yw'r bŷd yn abal
Rhwystro
stoppi
Haint, pan helo Duw i'n cospi.
Ofer ceisio
Llyssiau.
sâds a Ryw,
I wrthnebu cleddau Duw:
Oni throi oddiwrth dy bechod,
Ni thal
Meddigi­niaeth.
metswn un o'r chwilod.
Ofer cadw pyrth dy drefydd,
Fe ddaw 'r plag dros ben y gwelydd:
Ni all peics, na
Gwn neu ddryll mawr.
dwbwl canon
Attal plâg, os Duw a'i danfon.
Ofer rhedeg hwnt ac ymma,
Geisio cilio heb dy ddifa:
Dôs lle mynnech fe fynn dyrnod
Duw, a'i farn orddiwes pechod.
Amcs. 9.1, 2, 3.
Goreu cyngor rhag y plâg,
I ddyn gadw ei hun yn wâg,
Nid rhag bwyd, a nid rhag diod,
Ond rhag pob rhyw fâth o bechod.
Os daw plâg i gospi Cymru,
Fe ddaw newyn ith gastellu,
Tristwch, cerydd,
Casineb.
câs, ac ofan,
Ni ddaeth plag erioed ei hunan.
Fe fydd drygfyd yn dy drefydd,
Fe fydd ochain rhwng dy welydd:
Fe fydd cwynfan ym-mhob heol,
Fe fydd braw ar bawb o'th bobol.
Cariad brawdol a ddiffodda,
Pôb credigrwydd a ddiflanna:
A natturiaeth a charennydd,
A lwyr gollant ei cydnebydd.
Ni ddaw 'r fam i drîn y ferch,
Na'r wraig ei gwr, er maint oi serch,
Na'r chwaer ei brawd, na'r tâd ei blentyn;
Câs, a thrist, a thrwm yw'r
Cornwyd Nodau.
cowyn.
Y mâb y ladd ei dâd â'i anal,
A'r fam ei phlant, er maint oi gofal;
A'r wraig ei gwr, wrth roi uchenaid,
A'r brawd ei chwaer a'i holl gyfnessiaid.
Y marw ladd y byw a'i claddo,
A'r gwann y gwŷch y ddel iw drinio;
A'r claf y iach a fo'n ei faethu,
Mor gas, mo'r flin yw 'r plag wrth hynny.
Dŷn â'r plag sy 'n lladd â'i ddillad,
Fel
Mâth o Sarph.
y Basilisc â'i lygad:
Ac â'i anal sy'n gwenwyno,
Fel y
Yr vn ar Basilisc meddrhai.
Coccatrus y granffo.
Y plag y bair i bôb cymmydog,
Gasau 'r llall fel ci cynddeiriog;
A chyfathrach, Ffryns a chenel,
Gasau câr fel blaidd neu gythrel.
Hyn y bair garcharu'r cleifion,
Yn y tai fel
Bradwyr.
Traitwyrs ffeilstion,
Ai dehoryd i fynd allan,
I gael bwyd dros aur nac arian.
Yr aur y ladd y rhai derbynnant,
Y
Dodrefn.
stwff y ddifa 'r maint ai
Cyffwrdd
medlant:
Pan del plag er maint or diffig,
Ni thal arian fwy nâ cher rig.
Hyn y bair ith bobol Cymru,
Pan ddel chwarren hîr new ynu;
Pan na chaffer bwyd dros arian,
Na dim cymmorth er ei
Geisio.
fegian.
Dy blag y ddaw yn
Agos a disym­mwth.
ymwngc hefyd,
Fel y diluw ar y cynfyd;
Neu 'r tân gwyllt y ddaeth ar Sodom,
Yn ddi-rybydd fel y
Dymmestl
storom.
Pan bech bryssur yn ymdwymo,
Neu 'n y tafarn yn
Yfed.
carowso,
Neu 'n cynnhennu yn y farchnad,
Y daw 'r plâg yn ymwngc arnad.
Os mewn tafarn, os mewn
Ty Put­tain:
stewdy,
Os mewn marchnad neu ddadleudy,
Os mewn maes ith deri 'r cowyn,
Dyna 'r mann lle bydd dy derfyn.
Yno cei di megis nifel,
Farw 'n ymwngc trwy fawr drafel;
Heb vn dyn i
Wasanae­thu.
weinif itti
Na'th
Nac i o­falu am danat.
areilio, na'th gomfforddi.
Ni ddaw meddyg, ni ddaw ffeiriad,
Ni ddaw ffryns yn agos attad;
Nac vn carwr o'th holl genel,
Mwy nag at rhyw anfad
Gwrthry­felwr.
rebel.
Ni chei nêb a ddêl ith drinio,
Nac i'th ystyn, na'th amwisco;
Nac i'th arwyl, nac ith gladdu,
Ond â chladdiad buwch o'r beudy.
O!
Pa.
pwy angeu, O! pwy benyd?
O! pwy blâg a diwedd aethlyd?
O! pwy felldith a throm fforten,
Ydyw marw 'n llyn o'r chwarren?
Hyn i gyd a welas Lloeger,
Yn rhe Lundain yn hwyr amser:
Hyn a weli dithe Cymru,
Os a'th pechod ni 'madawu.
Oh! gan hynny Cymru ystyr,
Mor anhygar, mor ddigyssyr,
Mor ddigariad, mor aflawen,
Ydyw marw'n llyn o'r chwarren.
Dyma 'r Angeu wyt ti 'n haeddu,
Am dy bechod Cymru Cymru:
Dyma 'r angeu s'ar dy feder,
Oni throi at Dduw ar fyrder.
Mae Duw 'n disgwil er ys dyddie,
Am it droi a gado'th feie:
Eisie troi mae Duw yn barod,
A Phlag ddial dy holl bechod.
O gan hynny Cymru mwrna,
Gâd dy bechod, edifara:
Dysc gan Ninif geisio heddwch,
Cyn del dial a diffaethwch.
Cyn y tynno Duw ei gleddau,
Cais ei heddwch ar dy liniau;
Rhy-ddiweddar itt' ymbilion,
Gwedi tynno ei gleddau allan.
Cwymp i lawr wrth draed dy Brynwr,
Megis Magdlen wyla 'r hallt-ddwr;
Sŷch â'th wallt ei ddwy troed rassol,
Fe ddiddana 'r edifeiriol.
1 Chro. 21.
Cyfod allor megis Dafydd,
Psal. 51.17
Offrwm iddo yspryd cystydd:
Deisyf arno
Attal.
stoppi 'r Angel,
Sydd ar feder lladd dy genel.
Galara.
Mwrn mewn sach fel pobol Ninif,
Jona 3.
Tro oddiwrth dy feie anneirif;
Duw newidia 'th farn ath
Barnedi­gaeth.
ferdyd,
Os tydi newidia 'th fywyd.
Tramwy ir Demel nôs a dydd,
Megis Aaron mwrna yn brûdd:
Llêf am ras ar Grist dy Geidwad,
Cyn y delo 'r cowyn arnad.
Cûr dy ddwyfron yn gystyddiol,
Fel y Pwblican difeiriol:
Cais gan Dduw dosturio wrthyd,
Cyn ith dorrer ffwrdd â'r clefyd.
Bwytta beunydd fara dagrau,
Megis Dafydd am dy feiau:
Psal. 6.6.
A gwna 'th wely 'r nôs yn foddfa,
Cyn ir chwarren wyllt dy ddifa.
Sâf fel Moesen yn yr
Bwlch.
adwy,
Lle mae 'r plag ar feder tramwy:
Cais gan d' Arglwydd droi ddigllonedd,
Felly dengys it drugaredd.
Megis Phinees cymmer
Gwayw­ffon. Num. 25, 7 8.
shiaflyn,
Lladd y rhai sy 'n peri r cowyn:
Cospa â'r gyfraith afreolaeth,
Duw ath geidw rhag marwolaeth.
Gado Sodom, tynn i Zoar,
Gwachel ddestryw; bydd edifar:
Gwrando 'r Angel sy'n rhoi rhybydd,
Cyn y del y plâg ith drefydd.
Gado 'r môch a'r bobol feddwon,
Fel y gade 'r mâb afradlon:
Tynn i dŷ dy Dad rhag newyn,
Cyn dy dorri lawr â'r cowyn.
Tynn fel Peder i ryw gornel,
Mat. 26.75
Wyla 'n chwerw dros dy genel:
Y mae 'r ceiliog yn dy gofio,
Cais drugaredd cyn dy
Gospi.
blago.
Gwna dy gownt a'th gyfri 'n barod,
Cyn dy fynd o flaen y Drindod;
Mat. 22.11 13. Mat. 25.4.
Nyn dy lamp, a gwisc dy drwsiad,
Cyn y delo 'r chwarren attad.
Chwyrn yw'r chwarren pan ei delo,
Ni ry
Amser.
respit it ymgweirio:
Bydd barodol yn ei gwiliad,
Bôb yr awr cyn deloi attad.
Os ymgweiria Cymru i farw,
Ac i fynd at Dduw yn hoyw,
Cynta.
Cnawta i gyd i Dduw dy
Arbed.
spario
A rhoi iechyd hîr it etto.
Duw fo grassol wrthyd Cymru,
Duw ro grâs it edifaru,
Duw 'th achubo rhag y chwarren,
Duw ro itti flwyddyn lawen.

Cân Arall ynghylch y chwarren.

CYmru, Cymru,
Galara.
mwrna, mwrna,
Cwyn fel Ninif Edifara;
Gwisc di sâch, cyhoedda ympryd;
Llêf am râs, a gwella 'th fywyd.
Y mae Lloeger dy chwaer hyna,
Yn dwyn blinder tôst a gwascfa,
Dan drwm wialen y Duw cyfion,
Sy'n ei maeddu yn dra creulon.
Y mae 'r plâg yn difa ei phobloedd,
Fel Tân gwyllt y ddoi o'r nefoedd:
Ac fel
Goddaith, fflam.
gwaddath ar sych synydd,
Yn gorescyn ei holl drefydd.
Maen hwy 'n meitw yn ddiaros,
Wrth y miloedd yn yr wythnos;
Ac yn cwympo ar ei gilydd,
Yn gelanedd mewn heolydd.
Nid oes eli, nid oes
Cyfrwy­ddyd.
metswn,
Nid oes dwr na deigre miliwn,
All ei ddiffodd, och nai laesu!
Ond trugaredd Duw a'i allu.
Y mae Llundain fawr yn mwrno,
Fel Caersalem gwedi hanreithio;
Nid oes dim ond ochain ynddi,
Cwynfan tôst, a llef annigri.
Mae 'r fâth alar, mae'r fâth dristwch,
Mae 'r fâth gwynfan a thrafferthwch;
Mae 'r fâth waywyr a'r fâth ochain,
Na bu 'r fâth erioed yn Llundain.
Mae pob grâdd yn gweld yr Ange,
Ger ei bron yn cwnnu gledde,
Ac yn disgwyl heno, heddu,
Am y cart i dwyn i'w claddu.
Y mae'r gwŷr yn gweld y gwragedd,
A'u Plant anwyl yn gelanedd,
Yn y tai yn dechre
Drewi.
sowso,
Heb gael vndyn a'u hamwisco.
Y mae 'r gwragedd hwynte 'n ochain,
Weld y gwŷr a'u plant yn gelain;
Ac heb feiddio myned allan,
Yn gwall-bwyllo 'n flin gan ofan.
Mae 'r ymddifaid bach yn gweiddi,
Yn y tai heb nêb i porthi:
Ac yn sugno brest eu mamme,
Gwedi marw er ys tridie.
Nid oes cymmorth, nid oes cyssur,
O'r nêf, o'r ddaer, o'r môr na'r awyr,
O'r Dre na'r wlâd, o'r maes na'r winllan,
O'r llan na'r llys, o'r gaer na'r gorlan.
Y mae 'r Iach yn gweld y trwcle,
Y fae gynt yn dwyn tommenne,
Heb ddwyn dim o'r gole i gilydd,
Ond y meirw i'r monwentydd.
Mae rhai byw yn hanner marw,
Cyn del arnynt wŷn na gwayw,
Wrth weld cymmaint yw 'r diale,
Sy'n digwyddo am eu penne.
Ni chair rhydd-dyd fyned allan,
Ni chair bwyd i mewn dros arian,
Ni chair tramwy at vn Christion,
Ni chair madel â'r rhai meirwon.
Yn y tai mae 'r plâg a'r cowyn,
Yn yr hewl mae 'r cri a'r newyn:
Yn y maes mae 'r cigfrain duon,
Hwyntau 'n pigo llygaid cleifion.
Y mae 'sowaeth Duw a dynion,
Gwedi gado 'r rhain yn dlodion,
Heb roi help na swccwr iddyn,
Yn eu nychdod tôst a'u newyn.
Dihar. 1.26, 28.
Mae Duw 'n chwerthin am eu penne,
Ac a'i fys yn
Cauad.
stoppi glustie,
Ac heb wrando gweddi canmil,
Eisie gwrando llais ei fengyl.
Y mae dynion anrhugarog,
Yn eu ffoi fel cwn cynddeiriog;
Gwell yw ganthynt weled gwiber,
Yn y wlâd nâ gweled
Gwr o Lundain.
Lyndner.
Waith bôd dŷn â'r plâg yn nyrddo,
Pôb rhyw ddyn a ddelo atto,
Ac yn lladd â gwynt ei ddillad,
Fel y
Sarph.
Basilisc â'i lygad.
Ni baidd Tâd fynd at ei Blentyn,
Na gwraig drin y Gŵr â'r cowyn,
Na ffrind weld ei ffrind â'r clefyd,
Heb fawr
Enbyd­rwydd.
berig am ei fywyd.
Y mae 'r fam yn lladd â'i chyssan
Ei hanwylyd Blentyn bychan;
Ac heb wybod yn
Na [...]u.
andwyo,
Hwn â'r plâg tra fytho 'n sugno.
Ymae 'r Tâd yn lladd â'i anal,
Ei Blant anwyl yn ddiattal;
Ac fel
Sarph.
Coccatris gwenwynllyd,
Yn ddi-sôn yn dwyn eu bywyd.
Y mae 'r Plentyn y glefychwys,
Ynte 'n lladd ei fam a'i magwys;
Ac o'i anfodd yn
Gwenwy­no.
inffecto,
Yr holl dylwyth lle bo 'n trigo.
Mae 'n hwy 'n meirw yn ddisymmwyth,
Gwŷr a gwragedd, Plant a thylwyth,
Wrth y pumcant yn y noswaith,
Nes mynd Llundain megis anrhaith.
Mae 'r fâth wylo, mae'r fâth ochain,
Ymmhôb cornel o dre Lundain:
Ni bu 'rioed o'i fâth yn Rama,
Gynt gan Rachel a'i chyfnessa.
Mae 'r offeiriaid a'r 'pregethwyr,
Yn alaru maes o fessur,
Weld eglwysydd lle 'r oedd miloedd,
Fel
Bwthau
lluestai heb ddim pobloedd.
Y mae'r
Marsi­andwyr.
Marchants mawr a'u Shioppe,
Llawn o frethyn aur a laese,
Heb gael gwerthu dim o'r llathaid,
I roi bara i prentissiaid.
Y mae 'r crefftwyr hwynte 'n ochain,
Gwedi gweithio pethau
Hardd.
cywrain,
Heb gael vn dŷn idd eu prynu,
Ac yn barod i newynu.
Mae lletteu-wyr y Gwŷr mawrion,
A'r Arglwyddi, a'r Marchogion,
A'u Hostrie mawr yn wâg,
Heb neb ynddynt oud y plâg.
Y mae 'r
Bâdwyr.
water-men a'r
Rhai yn dwyn llwy­the ar eu cesne.
porters,
A'r
Rhai yn bala cart.
caraniswyr oll, a'r
Rhai yn llysco pe­thau.
haliers,
Heb gael lle i ennill dimme,
I roi bara yn eu bolie.
Mae 'r farchnatfa lle 'r oedd llafur,
Cîg a physcod tu-hwnt i fessur,
A phôb moethe o'r dainteithia,
Heb na chîg, na blawd, na bara.
Y mae llawer oedd yn ceisio,
Sofl-ieir.
Quailes a
Ceiliogau 'r coed
Phesants idd eu cinio,
Nawr yn chwennych torri newyn,
Ar
Pyscod hallt sych.
bŵr Jon a hên ymenyn.
Lle 'roedd beunydd fil o fade,
Yn dwyn ymborth, heb law llonge;
Nid oes heddyw bwnn yn dwad,
O flawd cawl, dros aur i'r farchnad.
Lle 'roedd llewndid o bôb ffrwythi,
Ag oedd daer a dwr yn roddi:
Nid oes heddyw ond y newyn,
Ar drydaniaeth waith y cowyn.
Hyn y barodd ein hen
Balchder
draha,
A'n gloddineb, a'n putteindra,
A'n gau-dduwiaeth, a'n câs feddwdod,
A dirmygu 'r gair yn wastod.
Dymma wabar, dymma ffrwythe,
Deut. 28.15, 21, 27.
Dymma gyflog ein pechode:
Dymma 'r faethgen dôst haeddassom,
Am y brynti gynt a wnaethom.
Dymma fel y gall Duw cyfion
Dynnu lawr y Trefydd m [...]rion,
Mewn byrr ennyd am anwiredd,
A'u darostwng am eu balchedd.
Dymma fel y gall Duw blygu
Pobol drawsion y fo 'n pechu,
Ac heb wneuthur pris o'i ddeddfe,
A'u
Gosod.
committo dan law 'r Angeu.
Hyn haeddassom er ys dyddie,
Hyn y ddylem bawb i adde:
Psal. 145.17.
Cyfiawn yw Duw a diargoedd,
Yn ei ffyrdd a'i holl weithredoedd.
Ni hauassom bob diffeithder,
Gynt rhwng cwyse anghyfiawnder,
Rym ni 'n medi, 'rym ni 'n casclu
Y crop y ddygodd pechod inni.
Dymma 'r dial gynt addawodd
Duw i ddanfon ar y boblodd,
Nas gwasnaethent â'i holl galon,
Ac na chadwent ei orchmynnion.
Fe fu'r chwarren a'r ôl hyn yng Haer­fyrddyn, yn Hwl­ffordd, ym Mhenfro, ac amryw leoedd er­aill, a Rhy­fel tôst crwy 'r Deyrnas. Dirgelwch yr Arg­lwydd sydd gyda 'rrhai a'i hofnant ef. Psa. 25.14
Dymma 'r faethgen y gaiff Cymru,
Eisie gwella a difaru,
A chymmeryd rhybydd dyner,
Oddiwrth blâg a dial Lloeger.
Pan y helodd Duw 'r sâth wialen,
Ar y bobol dda o Lunden,
Ma'rnai ofan y daw cleddu,
Ar y bobol ddrwg o Gymru.
Pan na chymre bobol Juda,
† Warning brûdd oddiwrth Samaria;
Duw rows Juda i gathiwed,
Fel Samaria dan law 'r Siriaid.
Pan na chymmer Cymru
Rhybydd.
warning,
Oddiwrth Loeger yn ddidaring:
Ma'rnai ofan y daw dial
Ar y Cymru, a phlâg
Diffaith.
anial.
Pan y glawiodd Duw gorucha,
Dân ar Sodom a Gomorra,
Deut. 29.23.
Ni ddiffoddodd o'i lid tanllyd,
Nes difethu Zeboim hefyd.
Pan y helodd Duw y chwarren,
I dir Lloeger ac i Lunden,
Ma'rnai ofan tôst na laesa
'R plag, nes del ymweld a
Cymru.
Chambria.
Os pan helodd Duw y cledde,
I Germania a'i chyffinnie,
Eisie i'r ffrangeod gymryd rhybydd,
F'aeth y cleddyf trwy holl drefydd.
Eisie i Loeger gymryd
Rhybydd.
warning,
Oddiwrth Bohem, ffraingc a fflushing,
Y mae Duw yn cospi Lloeger,
Yn saith gwaeth nag vn o'r nifer.
Oni chymmer Cymru rybydd,
Oddiwrth Loeger drist a'i chustydd;
Ma'rnai ofan gweld ar fyrder
Blâg yng Hymru waeth nâ Lloeger.
O gan hynny Cymru mwrna,
Gâd dy bechod, edifara;
Dysc gan Ninif geisio heddwch,
Cyn del dial a diffaithwch.
Joel 2.12, 13, 14.
Cûr dy ddwyfron, wyla 'r hallt-ddwr,
Golch dy wisc yng waed dy Brynwr;
Llef am râs, a gâd dy frynti,
Cyn dialer dy ddrygioni.
Cyn y tynno Duw ei gledde,
Cwymp yn issel ar dy tinie;
A chais râs a ffafar gantho,
Cyn i'r Ange dîg dy daro.
Ofer crio gwedi 'th glwyfer,
Ofer ymbil gwedi 'th farner,
Ofer ceisio torri 'r wialen,
Gwedi rhodder itti 'r faethgen.
Cwyn gan hynny, gwachel oedi,
Bryssia 'n
Ebrwydd.
esgyd, gâd dy frynti:
Gwel y farn sydd uwch dy gobyn,
Tro, cyn caffoi arnad ddisgyn.

Gweddi Eglwyswr wrth fyned i ymweled â'r, Cleifion yn amser y Chwarren.

DUw gwynn, Gwel mor beryglus,
Yw Swydd dy wâs trafaelus,
Sydd yn
Myned.
twttan aia a hâf,
At bôb dyn clâf gvvrthnebus.
Nid oes na Gwr na Bachgen,
Bid clâf o'r frech na'r chwarren,
Neu rhyw glefyd y fo gwaeth,
Nad wyfi gaeth i orthen.
Os Gwrês, os gwayw poethlyd,
Os chwys, os Twymyn awchlyd,
F'orfydd myned vwch ei ben,
Bid clâf o'r chwarren waedlyd.
A hyn sydd dra echrydus,
I galon egwan glwyfus,
Sydd heb bwer gantho ei hun
I wechlyd twymyn awchus.
Gan hynny ar f'vnig helpwr,
Am Ceidwad am diffynnwr,
Sy'n rheoli rhain i gyd,
Rwi 'n crio
Mewn amser.
'm mrhyd am swccwr.
O Arglwydd mawr di elli
Fy nghadw 'n iach os mynni,
Rhag yr heintiau hyn i gyd,
Er maint o'u bryd im llyngcu,
Ac oni byddi helpwr,
Im cadvv mewn cyfyngdvvr,
Nid oes le im ddiangc mvvy,
Ond
Rhoddi lle.
ildo i nhvvy fel gvvanvvr.
Gan hynny Duvv 'r holl allu,
Os d' wyllys sy'n cennadu,
Cadvv fi dy vvaelaf vvâs,
Rhag heintiau câs im cyrchu.
Hos. 6.1. 1 Sam. 2.6
Tydi fy Nuvv sy'n clvvyfo,
Tydi sydd yn elio:
Tydi sy'n lladd ac yn byvvhau,
Tydi y gae 'n
Ceryddu.
correcto.
Gan hynny tanna drosvvyf,
Dy adain fel dihangvvyf:
Nâd i glwyf neu glefyd câs
Ymlynu â'th vvâs daiarol.
Num. 16.48.
Duvv 'rhvvn y gedvvaist Aron,
Yn iach yng henol cleifion,
Cadvv finne 'n rasol rhag
Yr haint a'r plâg echryslon.
Dan. 3.
Di gedvvaist Abednego,
Yng henol flam heb dvvymo;
Cadvv finne nghenol plâg,
Er Jesu nâd f'andwyo.
distrywio
Dan. 6.
Di gedvvaist Ddaniel hefyd,
O fafan llevv newynllyd:
Cadvv finne Arglvvyd Dduvv,,
Rhag haint i fyvv mevvn iechyd.
Ac felly mi'th folianna,
Mevvn llann a llys a thyrfa:
Ac y roddaf tra ynvvi chvvyth
Id ddiolch byth o'r mvvya.
Fel Aron yn y gangell,
Dan 6.10. Psal. 146.2
Fel Daniel yn y stafell:
Ac fel Dafydd tra fwi byw
Bendithiaf Dduw fy nghastell.

Cynghor ir Clâf.

PAn ith drawer gynta â chlefyd,
Ystyr o ble daeth mor danllyd,
A phwy helodd glefyd attad,
A pha ham ei dodwyd arnad.
Duw ei hun sy'n danfon clefyd,
Deut. 28.22.
Oddiwrth Dduw y daw mor aethlyd:
Am ein Beiau mae 'n ei hela,
I geisio genym droi a gwella.
Edifara am dy feiau,
Hos. 6.1.
Deisyf Bardwn ar dy liniau,
Cais gan Dduw dosturio wrthyd,
Fe'th gyssura yn dy glefyd.
Or nynnodd llid dy Dduw yn d'erbyn,
Nes rhoi arnat Glefyd scymmyn,
Gwaed yr oen a'th
Heddycha
reconseila,
Er mai Gwaed Christ yw 'r iawn am bechod, 1 Pet. 1.19. etto mae 'n rhaid ir sawl a ddisgwyliant am lesâd oddiwrtho, gredu yntho, a hod yn edifeiriol; waith fod Duw wedi gorchymyn i ni ddyfod y môdd hynny atto trwy ei fâb, Jo. 14.6. 1 Jo. 3.23. Jac. 4.9. Ond er y dlyem ni ala­ru, etto na thybygwn, fôd ein deigre yn iawn am ein pechodau: Pe buasse hynny yn gallel bôd, ni buasse raid i Grist ddioddef trosom.
Deigreu hallton a'i dad-ddigia.
Gostwng iddo, mae 'n drugarog,
Mat. 7.7:
Cais ei râs, fei rhy yn serchog,
Edifara, ynte fadde,
Act. 3.19.
Wyla di, Tosturia ynte.
Psal. 32.5.
Addef iddo dy gamweddau,
Barn dy hunan am dy feiau,
Cwymp o'i flaen a deisyf Bardvvn,
Di gae râs ac
Rhydd­hâd.
Absoluwsiwn.
Tro di atto, ynte a'th dderbyn,
Er ei ddigio, rhy dy
Ddeisy­fiad.
ganlyn,
A phan gwelo hallton ddeigrau,
Fe bair laesu dy flinderau.
O ble mae clefyd yn dyfod.
Duw ei hun sy'n danfon clefyd,
Cennad Duw yw nychdod aethlyd:
Oddiwrth Dduw y daw clefydion,
Ni all neb ond Duw eu danfon,
Nid o'r Moroedd, nid o'r mynydd,
Nid o'r ddaer, na'r
Awyr, awel.
Aer, na'r corsydd,
Y daw clefyd ar blant dynion,
Ond oddiwrth yr Arglwydd cyfion.
Deut. 28.22.
Gwrês, a gwayw, crâch, cornwydon,
Crûd, a haint, a syndra calon,
Nychdod, Nodau, Mâll, difflanniad,
S'oddiwrth Dduw ei hun yn dwad.
Ni all
Pennae­thiaid owch nâ Brenhin­oedd a thy­wysogion.
Emprwyr mawr yr holl fyd,
Ddanfon haint na thynnu clefyd:
Nid oes neb a'i tynn neu danfon,
Ond Duw mawr y Barnwr cyfion.
Nid aiff clefyd ffwrdd wrth
Arch.
bwyntment,
Loe, nac Antwn, Cât na Chlement,
Witch, na dewin, Swyn, na phlaned,
Nes cennado Duw ei fyned.
Os o
Diotta, bwytta germodd.
Swrffet, os o Anwyd,
Neu Dŷ afiach y ceist glefyd,
Duw ei hun sydd yn dy daro,
Pa sôdd bynna daethost iddo.
Nid wrth
Shiawns.
ddamwain, nid wrth fforten,
Nid wrth dreiglad lloer na seren,
Y daw clefyd, mawr na bychain;
Ond wrth bwyntment Duw ei hunan.
Na chais edrych fal dŷn ynfyd,
Trwy pa fodd y daeth y clefyd:
Gwell it' edrych tua 'r nefoedd,
Ar dy Dduw, a'r llaw a'th drawodd.
Duw a'th drawodd, Duw a'th wella,
Duw a'th glwyfodd, Duw 'th elia:
Duw sy'n cospi di gnawd diriaid,
Heb. 12.1 [...]
I iachau dy gorph a'th enaid.
Derbyn Gennad Duw 'n ressawgar,
Ymddwyn dano yn ddioddefgar;
Nêb a garo Duw fei cospa,
Pôb mâb anwyl fei gwialenna.
Bydd ddioddefgar dan dy drwbwl,
Jaco. 5.10 11.
Ffôl a wingad ar ben Swmbwl:
Duw a'th drawodd mor ddolyrys;
Ofer it' wrthnebu ei'wllys.

Yr achos o glefyd.

Am ein pechod a'n drwg fywyd,
Deut. 28.
Y mae Duw yn danfon clefyd:
Ac yn
Cystyddio
gryddfu meibon dynion
Am drosseddu ei orchmynnion.
Darn o gyflog pechod aethlyd,☜
Ydyw nychdod ac afiechyd;
Pechod a ddaeth wrth ei gynffon,
A phôb clefyd ar blant dynion,
Torri'r Sabboth, tyngu 'n rhigil,
Casau 'r Eglwys a'r Efengyl,
Dissang ffeiriaid a swyddogion,
A bair Lawer o glefydion.
Meddwdod, Maswedd, a phutteindr [...].
Rhegu,
Segyru.
loetran, a lledratta,
Gwledda, Gloddest, treisio tlodion,
Sy'n dwyn clefyd a thrallodion.
O'r ceist glefyd, o daeth moefa,
Pechod helodd hwn i'th ddala,
Ac a barodd i Dduw ddigio,
A rhoi 'r clefyd hwn i'th daro.
Galar. 3.40.
Chwilia 'n fanol dy gydwybod,
A chais gwrdd a'th ffiaidd bechod:
Llwyr groes-holia dy anwiredd,
Ac ymbilia am drugaredd.
Act. 3.19.
Os difaru am dy feieu,
A llwyr droi at Dduw yn foreu,
Fe faddeua Duw dy bechod,
Ac a'th
Os bydd hynny er daioni i'th enaid ti.
dynn y maes o'th nychdod.
Cais gan Dduw leihau dy ddolur,
Dofi 'th boen a gwella 'th gyssur:
Cais yn daer esmwythder gantho,
F'all ei roi yr awr y mynno.
Pa ryw bynnag yw dy ddolur,
Fe all Duw ostegu ei wayw-wyr,
A'th iachau y môdd y mynno,
Bid e'r dolur mwya fytho.
Fe iachaws y clâf o'r parlys,
Gwraig o'r lasc, a'r crippil nafys,
Job o'i grach, a Nawan glafwrllyd,
Mat. 4.24.
A'r rhai cleifion o bôb clefyd.
Nid yw clefyd ddim ond cennad,
Wrth arch Duw sy'n dwad attad,
Fe ladd, fe baid, pan harcho ei berchen,
Fe ddaw, fe aiff fel gwâs y capten.
O gan hynny galw 'n daerllyd,
Ar dy Dduw sy'n danfon clefyd,
Cais ei
Amddi­ffynied.
Nawdd er mwyn dy Brynwr,
Di gei gantho help a swccwr.

Gweddi 'r clâf.

ARglwydd cyfion, Tâd fy iechyd,
Barnwr pawb a'i helpwr hyfryd,
Gwrando weddi dyn clafecca
Er mwyn Christ, ac edrych arna.
Yn glâf mewn corph, yn drist mewn enaid,
Yn drwm mewn meddwl ac ychenaid,
Rwi 'n ymlysco, o 'ngrheawdwr,
Attad ti i geisio Swccwr.
Grassol wyt a llawn trugaredd,
Exod. 34.6, 7.
Hwyr dy lid, a mawr d' ammynedd,
Hawdd i'th gael mewn tôst gyfyngdwr;
Er mwyn Christ tosturia 'nghyflwr.
Di roeist iechyd im' ys dyddie,
Nawr di dwgaist am fy meie,
Ac y helaist boen a nychdod,
Im cystuddio am fy mhechod.
Duw mi haeddais rwi 'n cyfadde
Vn oedd drwmmach er ys dyddie:
Yn dra chyfion Duw goruchaf,
Y rhoist hyn o Nychdod arnaf.
Di allassyd ddanfon clefyd
Disym­mwth.
Immwngc, câs, i ddwyn fy mywyd,
Am troi i vffern i boenydio,
Heb roi amser im
Edifaru.
repento.
Etto 'n fwyn fel Tâd trugarog,
Di roist arnaf glefyd serchog,
Im rhybyddio am fy niwedd,
Psa. 119.71
Am cyfrwyddo wella muchedd.
Rwi 'n ei gymryd megis arwydd,
O'm
Yr arwy­ddion pen­na o fa­bwysiad (hynny yw, o fôd wedi yn cymryd trwy Grist i fod yn blant i Dduw) yw ffydd yn Grist, ga­lar am be­chod, troad oddiwrth bechod, gwîr gari­ad at y sawl sydd yn ofni Duw, yn­ghyd a chadw ei orchymyn­nion ef: oni fydd dyn mewn rhyw fesur a'r pet hau hyn ynddo; ni ddichon efe gasglu oddiwrth ei glefyd a'i gystydd ei fôd ef yn blentyn i Dduw. Jo. 1 12. Mat. 5.4. 1 John 3.8, 9, 10, 14. Ac 1 Joan 2.3, 4.
mabwysiad a'th gredigrwydd,
Yn fyng-hospi am
Ceryddu.
correcto,
Rhag im pechod fy andwyo.
Da yw'th waith o Arglwydd cyfion,
Yn cospi 'r corph â'r fâth drallodion,
Lle roedd f' enaid er ys dyddie,
Yn dra chlâf gan ormodd foethe.
Tra cês iechyd ni chês weled
Om pechodau er eu hamled;
Ond yn awr, gwaefi, mewn nychdod
Nid wi'n gweled ond fy mhechod.
O bwy nifer o bechode
Wnaethoi 'n d'erbyn, Duw gwae finne;
Maent yn amlach mewn rhifedi
Nag yw 'r Sêr, o'r ceisiai cyfri.
Pa fath Elyn gwyllt y fuo,
Yn d'wrthnebu megis Pharo,
Gynt pan oeddyt yn ymhwedd,
Am im droi a gwella muched,
Arglwydd grassol rwi'n cydnabod,
Immi haeddu can mwy nychdod,
Ac im bechu yn yscymmyn,
O'm Mabolaeth yn dy erbyn.
Etto gwn dy fôd ti 'n rassol,
I bwy bynna fo difeiriol,
Ac yn barod iawn i fadde
I'r alarus eu camwedde.
Er na haeddais ond trallodion,
A dialau, a chlefydion;
Gwna â mi 'n ôl dy fawr drugaredd,
Ac nac edrych ar f'anwiredd.
Cymmer Angeu Christ a'i 'fydd-dod,
Yn dâl itti am fy mhechod;
Cladd fy meie yn ei
Archelli­on.
weli:
Er ei fwyn bydd rassol immi.
Nad im farw yn fy mrynti,
Cyn im wneuthur dim daioni:
Ond rho amser o'th drugaredd,
Immi etto wella muchedd.
Dal dy law, gostega nolur,
Laesa mhoen, lleiha fyng-waywyr,
Ac na ossod arnai boeneu,
Fwy nag allo 'nghorph eu goddeu.
Er bôd f'enaid weithie'n dwedyd,
Dere Ghrist, a derbyn f'yspryd:
Mae fy nghawd er hyn yn crio,
Duw tro'r cwppa chwerw heibio.
Y mae 'r cnawd a'r yspryd etto,
Yn amharod i ymado:
Duw rho amser im eu trefnu;
O bydd d'wllys yn cennadu.
Nid wi'n ceisio gennyd amser,
I fyw 'n foethus mewn esmwythder,
Ond i dannu dy anrhydedd,
Ac i wella peth om buchedd.
Duw o'r gweli fôd yn addas,
Estyn f'oes fel Ezekias;
Doro immi ryw gyfrwyddyd,
Im iachau a thorri 'nghlefyd.
Ond o'r gweli fôd yn ore,
Etto 'nghospi dros fwy ddyddie,
Duw dy wllys di gyflawner;
Ond cyfnertha fi'r cyfamser.
Yn iach ni wneuthym ond dy ddigio,
Yn glaf ni allai ond ochneidio,
Oni roi dy nefawl yspryd,
Im diddanu yn fy nghlefyd.
Arglwydd cymmorth fi 'n fy mlinder,
Llaesa mhoen am han-esmwythder:
Dwed wrth f'enaid yn ei
Ofn.
halaeth,
Myfi yw dy iechydwriaeth.
Luc. 10.
Tydi Christ yw 'r mwyn Samariad,
Minne yw 'r claf trafaelwr irad;
Cweiria nolur, rhwym f'archollion,
Dofa mhoen, cryfha fy nghalon.
Mae dy law yn orthrwm arnaf,
Etto ynod mi ymddiriedaf:
A pha lleddit fi â thrallod,
Job 13.15.
Duw mae f'holl ymddiried ynod.
Datc. 1.18
Gennyt ti mae 'r hôll
Agoria­dau.
allweddeu,
Sydd ar fywyd ac ar Angeu:
Ni baidd Angeu edrych arnaf,
Nes danfonech (Christ) ef attaf:
Gwna fi 'n barod cyn y delo,
Pâr im ddisgwyl byth am dano;
Fel y gallwi fynd yn addas,
Wrth ei scîl i'th nefawl deyrnas.
Nâd i bethau 'r byd anwadal,
Na'th gyfiawnder ddydd y dial,
Nac i ofan Angeu im rhwystro
Ymbartoi i rwydd ymado.
Tynn om calon ofan Angeu,
Par im wadu 'r bŷd a'i betheu;
Golch â'th waed fy mhechod sceler,
Cûdd fy mrynti â'th gyfiawnder.
Rho im ffydd yn dy
Addewi­dion.
Brommeision,
Gobaith gryf am gael y Goron.
Dioddefgarwch yn fy nghlefyd,
Chwant ddwad attad a dattodyd▪
Phil. 1.23.
Christ rho d'yspryd im diddanu,
A'th Angelion im castellu;
Gwna 'r awr ola fy awr ore
Rho mi 'r Goron ar awr Ange.
2 Tim. 4.8
Christ fy Mugail cadw f'enaid,
Nâd i'r llew o'th law ei scliffiaid
Cipio a'i dryllio.
Tydi prynaist yn ddryd ddigon,
Dwg ê i'r nêf at dy Angelion.

Rhybydd i'r claf i alw am weinidog i gynghori ef, ac i weddio drosto.cais wei­nidog sy'n ofni Duw, i weddio drosot ac ith gyn­ghort.

PAn clafychech cais Offeiriad,
Yn ddiaros ddwad attad,
I weddio dros dy bechod,
A'th gyfrwyddo fôd yn barod.
Christ y bwyntiodd yr offeiriaid,
Yn Bessygwyr doeth i'r enaid,
Ac a roddwys iddynt eli,
I wrthnebu pôb drygioni.
Adde 'th bechod wrth y ffeiriad,
Fe ry itti gyngor difrad,
Fel y gallo roi cyfrwyddyd,
Yn ol naws a rhyw dy glefyd.
Pan lefa­ro 'r gwei­nidog allan o air Duw mae Christ yn llefaru trwyddo.
Crêd be [...]h bynna ddwetto 'r ffeiriad,
O air Duw, yn brudd am danad:
Cans llais Christ ei hun yw hynny,
Ith
Ceryddu,
rebycco, neu 'th ddiddanu.
Deisyf arno
Yn bry­ssur.
brudd weddio,
Ar i'r Arglwydd dy
Wella.
recyfro,
A rhoi itti gyflawn iechyd,
Neu yn rassol dderbyn d' yspryd.
Jaco. 5.14 15, 16.
Mae Duw 'n addo gwrando 'r
Llawer a ddichon [...]aer weddi y cyfiawn, ond aberth yr annu­wiol sydd ffiaidd. Dih. 15.8.
ffeirad,
Pan gweddio 'n ôl ei alwad;
Christ a ddyru ei ganlyniaeth,
Oni phwyntiodd dy farwolaeth.
Deisyf arno dy gyfnerthu,
Rhag i Satan dy orchfygu,
A llonyddu dy gydwybod,
Pan i'th fliner gan dy bechod.
Godde
Chwilio.
lawnso dy gornwydon,
Godde i'r Gair frynaru 'r galon,
Fely gallo fwrw yndi
Wîn ac olew gyd ag Eli.
Gwell it adel i'r offeiriad
Ddangos
Faneg itt dy ddrwg ymddygiad,
Fal y gallech edifaru,
Nag oi blegid gael dy ddamnu.
Di gae
Ni bydd y claf nês i fod yn gad­wedig er cael cyn­gor y gwe­nidog, oni wnâ ef ar ei ol ê Jac. 1.22. Ac oni fydd y cyngor yn gyngor. Duw befyd Rhuf. 1.16 Rhu, 10.17
gyngor rhag dy bechod,
I lonyddu dy gydwybod:
Di gae gomffordd gan y ffeirad,
Os mewn pryd ei gelwi attad.
Nâd y ffeirad heb ei alw,
Nes ei bech yn hanner marw:
Ni all ffeirad y pryd hynny,
Na nêb arall dy ddiddanu.
Oh! pa nifer o Fruttanniaid,
Sydd yn meirw fel Nifeiliaid?
Eisie ceisio nerth y ffeirad,
I gyfrwyddo eu madawiad.
Er bod Duw yn abal cadw
Sawl a fynno heb ei galw,
Nid yw 'n cadw mawr o enaid,
Trwy bregethiad y gair mae ffydd a throedi­gaeth i ffordd ie­chydwri­aeth yn dyfod, ac am hynny cyn clafychu fe ddylid arferu gwrando 'r gair, rhag ofn y bydd hi rhy hwyr yn ein clefyd i wneuthur felly. Ni ddylem ni oedi, a thybied mai pethau bychain yw ffydd ac edifeirwch a gwellhâd buchedd, o herwydd mae pob vn o'r rhain yn anghenrheidiol i iechydwriaeth, Jo. 3.36. Luc. 13.5. 1 Cor. 6.9. Heb. 12.14. Er mwyn Christ ystyriwch y pedwar lle hyn o'r Scrythur, a bernwch ynoch eich hunain, gan na ellir bôd yn gadwedig heb Edifeirwch a ffydd a newydd­deb buchedd (fel y mae 'r Syrthyrau hya yn dangos yn eglur) onid yw yn ynfydrwydd i adel y pethau hyn heb eu ceisio hyd amser ein clefyd? Fe fydd yr enaid y pryd hwnw yn ym wrando â dolurac áfiechyd y corph; ac o herwydd hynny yn anghymmwys iawn i wrando cyngor y gweinidog ac i wneuthur yn ei ôl fel y dlye. Nid ydym yn darllen ond am vn (sefy lleidr ar y groes ag a wir edifarhaodd yr awr ddiwethaf) am vn yr ydym yn darllen hynny, fel nad amheue neb; ond nid ydym yn darllain ond am vn, fel na ryfygo neb, a hod yn hy neu yn eon, i oedi troedigaeth at Dduw hyd yr awr ddiwethaf.
Ond trwy Swydd a gwaith offeiraid.
Cais gan hynny gynta ag allech
Ffeirad attad pan glefychech,
I roi
Physygwriaeth.
pwrg yn erbyn pechod,
Rhwn yw achos dy holl nychdod.

Gwedi cael cyngor Pyssygwr yr enaid, cais gyfrwyddyd Pyssygwr y corph.

YN ôl cyngor yr Eglwyswr,
Cais gyfrwyddyd y Pyssygwr:
Duw a roes i hwn
Meder.
gelfyddyd
I'th iachau o lawer clefyd.
Duw ordeiniodd yr offeiriaid,
I
I fod yn offerynnau i iachau 'r enaid.
iachau doluriau 'r enaid,
A'r pyssygwyr a'r Meddygon,
I ymgleddu cyrph y cleifon.
Llawer dyn sy'n marw 'n
Frwnt.
fudyr,
Eisie cymmorth y Pyssygwyr,
Gan fyrhau eu hoes a'u hamser,
Yn embeidus eisie eu harfer.
Corph pob dyn yw tŷ ei enaid,
Rhaid
Adnewy­ddu.
rheparo hwn a'i drefnaid;
Rhaid i bôb dyn hyd y gallo
Gadw ei dŷ ar draed heb gwympo.
Arfer gymmorth physsygwriaeth,
Yn dy glefyd trwy gristnogaeth:
Duw ordeiniodd hon yn gyssur
I blant dynion rhag pob dolur.
Y neb wrthotto physsygwriaeth,
Y roes Duw er iechydwriaeth,
Mae 'n gwrthnebu maeth ei
Nattur.
Anian,
Ac yn
Lladd.
mwrddro ei gorph ei hunan.
Y llyssewyn salwa welech,
Ar Gyfrwyddyd waela gaffech,
All roi help a iechyd itti,
Os rhy Duw ei fendith arni.
Swp o ffigys, os bendithia,
Esa. 38.21.
All iachauy, cornwyd mwya:
A'r Gyfrwyddyd ni thâl vn-rhith
All roi help, ond cael ei fendith.
Ond pe caet ti Balm a Nectar,
Cennin Peder, Cerrig Bezar,
Olew a Myrh, a gwîn a gwenith,
Ni wnânt lês heb gael ei fendith.
Cais gan hynny fendith hyfryd,
Gan dy Dduw ar bôb cyfrwyddyd:
Heb ei fendith ni wna 'r benna,
Ond troi 'n wenwyn yn dy gylla.
Nac ymddiried i'r pyssygwyr,
Nac vn
Cyfrwy­ddyd. 2 Chron. 16.12.
fetswn fônt yn wneuthyr
Rhag dy farw megis Asa,
Eisie 'mddiried i'r Gorucha.
Nid oes rhinwedd ar lysseuach,
Orym mewn Eli, na diodach,
I leihau o'n cûr, a'n poenfa,
Os yr Arglwydd nis bendithia.
Duw sy'n rhoddi
Bendith.
rhad ar lysseu,
Grym mewn eli a
Cyfrwy­ddyd.
chyfyrddoneu,
Lle bendithio Duw hwy lwyddant,
Lle ni fynno Duw ni thycciant.
Cais gan Dduw roi bendith hyfryd,
Ar bôb metlwn a chyfrwyddyd:
Heb ei fendith ni wna 'r benna,
Ond troi 'n wenwyn yn dy gylla.

Gweddi 'r claf cyn cymmeryd physsygwriaeth.

Awdwr iechyd, lluniwr llysseu,
Rhoddwr rhinwedd, Rhwymwr Angeu,
Tywallt fendith, rhâd, a iechyd,
Ar y fetswn wyfi 'n gymryd.
Di ordeiniaist amryw llyssiau,
Diod, Eli, a chyferddonau,
I ymgleddu meibion dynion,
Yn eu gwendid a'u clefydion.
Yn ôl d'wllys a'th ordeinaeth,
Rwyfi'n cymryd physsygwriaeth,
I ostegu peth o'm didri;
Rho dy fendith Arglwydd arni.
Gwn na ddichon vn creadyr,
Na chyfrwyddyd laesu 'ng-waywyr,
Oni byddi di 'n bendithio
Rhyn a roer, a'r hwn a'i cymro.
O gan hynny prûdd fendithia
Y gyfrwyddyd a gymmera,
Fel y rhoddo hon im gyssur,
Ac y llaeso fy holl waywyr.
Peraist gynt i'r ffigys diflas,
Iachau cornwyd Hezekias:
Pâr o Arglwydd i'r gyfrwyddyd
Hon roi 'minne gyflawn iechyd.
Di iachaist olygon Tobi,
Gynt ag afu 'r pysc annigri;
O iacha fy nolur inne
A rhai hyn dy gyfyrddone.
Fel y peraist i ddwr Jordan
Olchiffwrdd wahanglwyf Naman:
2 Bren. 5▪
Felly pâr i'r ddiod ymma,
Dynnu ffwrdd fy nghûr am poenfa.
Fel y peraist gynt i'th Boeryn
Mar. 8.23.
Roddi golwg i'r Cardottyn:
O pâr Arglwydd i'r cyfrwyddyd
Hon roi 'minne gyflawn iechyd.
Gwn y galli trwy 'r fâth foddion,
Neu heb vn iachau clefydion:
Llaesa nolur yn ol d'allu,
Or bydd d'wllys yn cennadu.
Ond or pwyntiaist ti fy niwedd,
Am llwyr dynnu i'th drugaredd:
Duw dy wllys di gyflawner,
Rwi'n ymostwng itt' bob amser.
Ond rho immi râs a phwer,
Grym a gallu y cyfamser,
Ddwyn fy nolur yn ddioddefgar,
Megis Christion yn ddidrwdar.
A rho d'yspryd im cyfnerthu
Yn fy mlinder i'th foliannu,
Ac i ddwyn dy groes a'th wialen,
Yn wllysgar, ac yn llawen.
A phâr immi fôd yn barod,
Ddwad attad ac ymddattod,
A rhoi f'enaid yn wllysgar,
Yn dy ddwylo Arglwydd hygar.
O fy Arglwydd gwn y gally,
Fy iachau yr awr y mynny:
Oni fynnu laesu mlinder,
Duw dwg s'enaid i'th esmwythder.

Rhybydd ir claf i ochelyd ceisio cym­morth Swynwyr a dewiniaid.

Deut. 18.10, 11, 12. Lev. 19.31 2 Bren. 1.16.
GWachel geisio help gan swynwyr,
Yn dy flinder tôst a'th ddolyr;
Gado Duw mae'r cyfryw ddynion,
Ac addoli 'r gau Dduw Eccron.
Na chais help i'r corph mor embaid,
Gan y Diawl sy'n lladd yr Enaid;
Nid oes vn Physsygwr allan,
Waeth nâ'r Diawl i helpu 'r egwan.
Nid yw Swyn ond
Twyll.
hûg i'th dwyllo,
Gwedi Satan ei
Dychym­myg.
ddefeisio,
I ddifethu d'enaid gwirion,
Pan y Swyner ith glefydion.
Nid yw'r Swynwr ond
Cennad.
Apostol
Fsalst, i'r Diawl i dwyllo'r bobol,
Oddiwrth Grist, mewn poen a thrafel,
I butteinia ar ôl y cythrel.
Datc, 21.8
Twyllo 'r corph, a llâdd yr enaid,
Digio Duw, bodloni diawlaid,
Gwrthod Christ, a'r maint sydd eiddo,
Y mae 'r Swyn, a'r sawl ai cretto.
Ceisio 'r cythrel yn Byssygwr
Ydyw ceisio help gan swynwr:
Ceisio 'r Diawl i ddarllain tesni,
Yw â dewin ymgynghori.
Ceisio Gwîr gan dâd y celwydd,
Yw ymofyn â drogenydd:
Ceisio help i lâdd yr enaid
Ydyw ceisio Swyn
Ywyllwyr
Hudoliaid.
Na châr Swynwr [...]yw nâ chythrel,
Mae 'n dy demptio yn dy drufel:
Glûn wrth Grist, er maint yw'th flinder:
Cais ei nerth di gei esmwythder.

Gweddi fyrrach i'r claf iw harferu yn ei glefyd.

DUw trugarog, Tâd diddanwch,
Awdwr iechyd, Pen dedwyddwch,
Gwrando waedd pechadur nychlyd,
Sydd yn beggian cymmorth genyd.
Daeth fy mhechod yn dy olwg,
A'm hôll fuchedd oedd yn cynddrwg,
A chan gymmaint oedd fy
Balchder dirmyg.
nhraha,
Di ddanfonaist glefyd arna.
Haeddais, Arglwydd, drwmmach benyd,
Dostach dwymyn, cassach glefyd,
Blinach dolur, byrrach amser,
By'm talassyd wrth gyfiawnder.
Di allassyd dorri 'ngwddwg,
Am fy muchedd oedd yn cynddrwg,
Neu fy moddi, neu fy
Lladd.
mwrddro,
Heb roi amser im ymgweirio.
Nawr rwi'n gweld dy gariad attaf,
Yn rhoi clefyd
Carneidd
cruaidd arnaf,
Im ceryddu am f' anwiredd,
Ac im cyffro wella muchedd.
Nid 'wllyssi, Duw 'r holl gyssur,
Eze 133.11
Ddrwg farwolaeth vn pechadur,
Ond yn hytrach gwella ei fuchedd,
I gael bywyd a thrugaredd.
Amos 4.10
Trwy 'r fâth glefyd blîn corphorol,
Rwyt im cofio môd yn farwol:
Mich. 6.9.
A thrwy flinder tost a thristwch,
Rwyt im gwawdd i edifeirwch.
Psal. 6.1.
Er im haeddu dy ddigofaint,
A'th lidawgrwydd tost yn cymmaint,
Arglwydd grassol na cherydda
Fi â'th lid a'th gerydd mwya.
Mae dy saethau gwedi 'nghlwyfo
Mae fy escyrn gwedi briwio,
Mae fy yspryd gwedi gryddfu,
Arglwydd
Tyred.
dere im diddanu.
Tydi 'm clwyfaist am fy mhechod,
Minne haeddais hyn o drallod:
Nid oes neb fy Nuw am hynny.
Ond Tydi all fy ngwaredu.
1 Sam. 2.6. Hos. 6.1.
Tydi sy'n lladd ac yn bywhau,
Tydi sy'n clwyfo a iachau,
Yn dwyn i'r Bedd, yn adgyfodi,
Yn trugarhau, ac etto 'n cospi.
Tydi o Dduw sy'n danfon clefyd,
Tydi yn unig all rhoi iechyd:
Nid oes neb all llaesu nolur,
Ond tydi, na rhoi im gyssur.
Er dy fwynder a'th drugaredd,
Er dy Enw a'th Anrhydedd,
Madde mhechod: llaesa nolur:
Gwared f'enaid: rho im gyssur.
Oni phwyntiaist fy marwolaeth,
A diweddu fy milwriaeth,
Arglwydd llaesa ar fy mlinder,
A rho immi beth esmwythder.
Dymchwel Arglwydd im diddanu,
O fy Nuw pa hyd y Sorri?
Gwel fy mhoen, a chlyw fy nghwynfan
Tro dy lid, iacha fi weithian,
Cweiria 'ngwely yn fy nghystydd,
Tro fy nhristwch yn llawenydd,
Rhwyg fy sâch, a sŷch fy Neigrau,
Llaesa mhoen, iacha noluriau.
Maddeu mhechod, Torr fy nghlefyd,
Tynn fi o'r ffoes a rho im iechyd,
Fel y gallwyf dy glodforu,
Yn fy mywyd âm holl allu.
Yn y Bedd, oh Dduw! pwy 'th goffa?
Yn hîr Angeu pwy 'th glodfora?
Arbed. Psal. 30.9.12.
Sparia mywyd Arglwydd grassol,
I'th glodforu gydâ 'r bywiol:
Felly canaf itt' yn hyfryd,
Glôd a moliant am fy mywyd:
A thro ynof rym a chwythiant,
Mi ddatcanaf dy ogoniant.

Rhybydd ir clâf wneuthur ei wllys mewn pryd, a dosparthu ei bethau mewn ofn Duw.

ONi wnaethost etto d'wllys
Llythyr cymmun. Esay. 38.1.
Dôd dy dŷ mewn trefn weddys:
Dosparth d' olud megis Christion,
Yn gristnogaidd ac yn union.
Cais gan Dduw ei nefawl yspryd,
I roi itti lawn gyfrwyddyd,
I gyfrannu d' olud bydol,
Yn ôl gwllys dy Dâd nefol.
Act. 7.59.
Os buost fyw yn dduwiol, fe dderbynnir dy enaid ir nef: ond nis gwneir felly, os marw a wnei di yn annuwiol. Mat. 7.21. Rhuf. 13.7
Rho dy enaid bach i'th Brynwr,
Christ a'i pie, dy Iachawdwr;
Rho dy gorph ir ddaer lle cafad,
Hyd nes delo 'r adgyfodiad.
Tynn fel Jacob ddefaid Laban,
A dâ eraill, o'th ddâ allan;
Rho i bôb dŷn ei iawn eiddo,
Tâl dy ddyled cyn ymado.
Na ddôd geiniog yn dy 'wllys,
O ddâ eraill yn gamweddys,
Rhag eu taflu yn dy ddannedd,
O flaen Duw, ar ddydd dy ddiwedd.
Ac na chytcam er dy fywyd,
Roi i'th blant anghyfiawn olud:
Ni wna hynny ond eu hela,
I gyrwydro a chardotta.
Er na feddech ond tair
Treisiad.
anner,
I roi rhyngthynt trwy gyfiawnder:
Gwell y llwydda hynny i'th Eppil,
Nâ thrwy gamwedd pe rhoit dair-mil.
2 Bren. 9. Gen. 30. Gen. 31.
Gwell y llwyddodd Rhan-dir Abram,
Nag y llw yddodd teyrnas Joram,
A'r gohilion y gas Jaco,
Nâ phraidd Laban gwedi
Ddifa.
hysso.
1 Bren, 21.
Fel y bwyttodd Gwinllan Naboth,
Deyrnas Ahab, a'i holl gyfoeth:
Felly bwytty 'r geiniog sceler,
Faint y feddech trwy gyfiawnder.
Ceiniog ddrwg pwy bynna caffo,
Sydd fel gwartheg truain Pharo,
Rhai fwyttassant ei ddâ tewon,
Heb fôd llawnach eu colyddion.
Rho gan hynny 'r hyn sydd union,
Rhwng dy blant, a'th ffrins, a'th weision:
Ac na chytcam er dy fywyd,
Roi i neb anghyfiawn olud.
Fel y llwyddodd Duw y Manna,
Exod. 16. 1 Bren. 17.
Toes y weddw o Sarepta,
Olew 'r weddw dlawd a'i meibion,
Felly llwydda 'r gronyn cyfion.
Rho i Isaac dy etifedd,
Gen. 25.5, 6.
Ei 'difeddiaeth yn ddi-duedd:
A rho ir lleill o'th blant o bob-tu,
Fôdd i fyw yn ôl dy allu.
Rho i'th wraig ei chyflawn drauan,
Na ro iddi lai nâ'i chyfran:
O rhoi chwaneg, mae yn rhygil,
Fôd y fâth yn nafu 'r Eppil.
Nâd wâs ffyddlon heb ei wabar,
Rho i'th Gâr tlawd help ar heinar:
Nâd dy weithiwr heb ei gyflog;
Jac. 5 4.
Crio'n dôst y wna 'r fâth geiniog.
Cofia 'r fengyl, cofia 'r Eglwys,
Cofia 'r
Ysgoldy
Coledg a'th
Gy [...]ha­liodd.
santeiniwys;
Cofia 'r wlâd a'r dref ith faccer,
Or bydd gennyd fôdd a phwer.
Os goludog wyt heb Eppil,
Ac yn caru Christ a'r 'fengyl,
Adail ysgol rŷdd yng-Hymru,
sef eifien ysgolion.
Lle mae eisie. Dysc sy'n methu.
Cofia Joseph sy'n y carchar,
Rho beth help i borthi Lazar;
Luc. 19.8.
Rho y nawr dy rôdd tra gallech,
Dymma 'r rhodd ddiwetha roddech.
Maint y roech i'th blant a'th drasse,
Dy wraig, a'th blant, a'th ffrins a'i pie:
Y maint y roech ir tlawd a'r truan,
Trysori.
Storio 'r wyt i ti dy hunan,
Doro 'n ôl yr hyn a dreisiaist,
Gwna iawn dâl ir rhai orthrymmaist:
Tâl dy ddyled cyn dy symmyd,
Yn y pwll
Nid oes dymchwe­lyd o'r pwll i w­neuthur iawn ir rhai a or­thrym­mwyd ond mae dymchwe­liad oddi­yno i gael barn. 1 Cor. 6.9.
nid oes dymchwelyd.
Doro 'r Badell, Doro 'r Crochan,
Doro 'r tai, ar Tîr a'r Arian,
Yn eu hôl ir rhai au pie,
Rhag dy fynd ir didrangc boene.
Nâd i dyddyn y dŷn gwirion,
Rhwn y dreisiaist yn anghyfion,
Beri itt' golli teyrnas nefol;
Rho ei dyddyn yn ei wrthol.
Nawr di elli megis Zache,
Yi elli wneuthur iawn i ddyn am a dreisiaist oddiarno. Preg. 9.10
Wneuthur iawn am dy drosseddeu:
Yn y pwll ni bydd i'th bwer,
Dalu 'r hatling pan gofynner.
Praw gyttuno â'th Wrthnebwr,
Cyn dy fynd o flaen y Barnwr,
Mat. 5.25.
Rhag dy droi ir
Carchar.
dwngeon isaf,
Lle rhaid talu 'r harling eithaf.
Nawr ni fynny mwy na
Dyn di­grêd.
Phagan,
Ddilyn cyngor Christ ei hunan:
Ond di fwytty Gîg dy freichieu,
Eisieu ei ddilyn cyn mawr ddyddieu.
Pa Sawl mîl sy'n hân uffernol?
Eisieu rhoddi trais yng-wrthol,
Rhai y roddent heddyw 'r holl-fyd,
Yn
Iawn.
sar hâd ir tlawd pe's cymryd.
Os yn erbyn Duw y pechu,
Di gei
Madden­ant.
bardwn ond 'difaru:
Os yn erbyn dŷn ni faddè
Duw, nes caffo 'r tlawd a ddlye.
Os bu farw 'r rhai a dreisiaist,
Rho i plant y maint y
Yspeili­ [...]ist.
scliffiaist:
Ac os aethont o'r wlâd allan,
Rho eu rhan ir tlawd a'r truan.
Na ro rhwng dy blant yn angall,
Y peth a bie vn dyn arall:
Ni wna hynny ond dy ddamnio,
A throi d'eppil i gyrwydro.
Na rô rhwng dy blant trwy wllys,
Ddim ennillaist yn gamweddys,
Trwy
Occr.
Vsuriaeth, trais, neu ffalstedd;
Drwg y llwyddant yn y diwedd.
Craffa ar.
Marca blant yr occrwyr mawrion,
A'r gorthrymwyr, a'r carn-lladron,
Yn ceiniocca mewn eglwysydd,
Ac yn dwyn y
Cwd.
waled beunydd.
Felly tygfydd i'th blant dithe,
O rhoi iddynt ddâ
Drwg.
annife;
Os fe ddial Duw yn rhigil,
1 Thess. 4.6. Exo. 20, 5.
Drais ar dadau, ac ar eppil.
Dôd di ofan Duw gan hynny,
O flaen d'wyneb wrth ddosparthu:
Rho i bôb dŷn ei ddâ cyfion,
Rhanna 'r cwbwl lle bo achosion.
Duw a roddo it' gyfrwydd-deb,
Ac a'th nertho' wneuthur d'atteb:
Duw a'th gatwo rhag camsyniaid,
Duw fo ceidwad ar dy enaid.

Llythyr yr Anrhydeddus Syr Lewis Mansel o Fargam yn shîr Forgannwg (fel yr ydys yn tybied) at Ficcer Prichard.

Gŵr ŵyf yn dioddef maethgen:
Rhyw bendro dôst sy'm talcen,
Ys amser hîr (yr Arglwydd hael,)
Heb allel cael ei orphen.
Ceisiais gyngor, a pharactys
Doctoriaid, Gwŷr synhwyrus,
I geisio help; nid llai fy mloedd,
Er mynd dros foroedd trwblus.
Pau ffaelodd llês corphorol,
Rwi 'n danfon at wŷr duwiol,
Eglwysig, call, dros Dîr a Môr,
I geisio Cynghor hollol;
I Ddysgu p'ûn mae 'r Hael-dad,
O ddigter, neu o gariad,
Yn danfon ar ei Bridwerth blâ,
Rhyw groes neu boenfa irad.

Atteb, Addysg, cynghor, a chyssur Ir Anrhy­deddus Syr Lewis Mansel o Fargam, yn ei Glefyd; yr hyn all fôd yn fuddiol i bob dyn duwiol, yn ei glefyd a'i adfyd.

ANwyl Gristion clywais ddywedyd,
I Dduw ddanfon arnad glefyd,
Ac na wyddost p'ûn o gariad,
Ai o gâs yr helodd attad.
Rwi 'n dy Atteb mewn byrr eirie,
Ac yn
Mynegi.
maneg itti 'n ole,
Nad o
Ddigo­faint.
gerydd, ond o gariad,
Y rhows Duw ei wialen arnad.
Nid dy Elÿn sy'n dy faeddu,
Dy Dâd grassol sy'n dy ddysgu,
Trwy ddarostwng dy gnawd diraid,
Fel y galler cadw d'enaid.
Nid yw'r clefyd hwn ond Cennad,
Helodd Christ dy Brynwr attad,
I
Brofi.
dreio 'th ffydd, a'th hî [...] amynedd,
A'th rybyddio am dy ddiwedd.
Derbyn Gennad Duw 'n resawgar,
Ymddwg dano yn ddioddefgar;
A rho ddiolch o wraidd calon,
Ith Dâd nefol am ei ddanfon.
Ni wna 'r clefyd niwed itti,
Mwy nâ'r
Physy­gwriaeth.
pwrg sy'n carthu 'r geri;
Ni wna
Rhwystyr
hindrawns, ond dy buro,
I gael oes o newydd etto.
Ni bu gwîn erioed heb waddod,
Ni bu Aur erioed heb Sorod,
1 Joan 1.8.
Ni bu wenith heb ei fascle,
Ni bu ddŷn ond ûn heb feie.
Yr oedd Adda hên â'i bechod,
Lot â'i loscach, Noah â'i feddwdod,
Moses, Aaron â'u camwedde,
Num. 20.12.
Peder, Paul â mîl o feie.
Gwybydd dithe 'r marchog hyfryd,
Er
Caruei­dded.
hygared yw dy fywyd,
Nad wyd heb ryw fai ith Ddible,
Cans dŷn wyt, er maint yw 'th ddonie.
Psal. 19.12
I nithio d'ûs, i doddi 'th
Ammha­redd.
Sorôd,
I wella 'th fai, i dynnu 'th waddod,
I ddofi'th gnawd, i nerthu d' yspryd,
Y danfonodd Duw dy glefyd.
Nid ith
Gwae­thygu.
waethu, ond ith wella,
Nid i'th faeddu, nac ith ddifa:
Ond ith ddyscu a'th gyfrwyddo,
Y mae 'r Arglwydd yn dy daro:
Er troi heibio fydol foethau,
A gwir hoffi nefol ddoniau,
Casau 'r bŷd a'r maint sydd ynddo,
A dilyn Christ â'th draed a'th ddwylo.
Rho fawr foliant prûdd gan hynny,
Ith Dâd nefol am dy ddysgu,
Heb. 12.5. hyd. 11.
Rhwn sy'th wneuthur trwy serchogrwydd,
Di 'n gyfrannog o'i Sancteiddrwydd.
Y nêb a garo Duw fe'i cospa,
Pôb Mâb anwyl fe'i ffonnodia:
Y dŷn ni chospo Duw ei bechod,
Bastard yw, nid mâb o briod.
Mae Duw 'n cospi 'r rhai anwyla,
A rhyw groes neu gilydd ymma;
1 Cor 11.32
Rhag eu myned yn ddamnedig,
Gydâ phlant y bŷd gwrthnyssig.
Nid glân gwenith nes y nithier,
Nid gwynn cambric nes y golcher,
Psal 119.67, 71.
Nid pûr Aur côch nes ei doddi,
Nid da Christion nes ei gospi.
Ni rŷ 'r Grawn wîn, nes eu gwascu,
Ni rŷ 'r
Frankin­cense.
Thus
Arogl.
Sent, nes ei fygu,
Ni rŷ 'r
Carreg galed.
Fflint dân, nes y fsyster,
Na dŷn ffrwyth da, nes cystyddier.
Y clôfs a 'rogla 'n well o'u pwnian,
Y
Win­wydden.
vine y danna 'n well o'i chroppian,
Y Palm y dŷf yn well o'i blygu,
A'r dŷn y fydd yn well o'i faeddu.
Pa fwya sanger ar y Ganmil,
Mwya 'rhogla ei gwynt yn thigil:
Pa fwya gwascer ar y Christion,
1 Pet. 1.6, 7, 8.
Mwya sydd ei ffydd ai ofon.
Ystyr, mai er llessiant itti,
Y mae 'r Arglwydd yn dy gospi:
Ni pheru 'r côsp ond ennyd fychan,
Fe beru 'r llês dros hîr oes gyfan.
Na wan-ffyddia yn dy glefyd,
Yn llaw Dduw y mae dy fywyd:
Fe rŷ oês a iechyd etto,
sef o bydd ef yn gwe­led hynny 'n dda iti.
Ac esmwythder ond ei geisio.
Cymmer gyssur, côd dy galon,
Ymwrola, bydd
Gobaith-lawn.
obeith-lon:
Fe ddaw Christ â help ar fyrder'
Ac y laesa d'anesmwythder.
Y llaw 'th drawodd, honno 'th helpa,
Hos. 6.1.
Rhwn a'th glwyfodd a'th elia:
A'r nêb helodd attad glefyd,
Hwnnw tynn gan roi itt' iechyd.
Galw am help ar Dduw dy geidwad,
Dy Dâd yw, fe wrendy arnad:
Cais ei gymmorth, ac fei dyru,
Mat. 7.7.
Llef yn daer, ni feder ballu.
Pa beth bynnag yw dy glefyd,
F'all ei laesu a'i ddiffoddyd:
Cais ei gyfnerth, ac fei llaesa,
Ymddiri­ed.
Trysta ynddo, ac ni'th dwylla.
Onis llaesa 'r awr y mynnech,
Pwylla, aros, dan dy ortrech:
Fe ddaw help o'r nêf yn dambaid,
Pan bo gwell ar lês dy enaid.
Ni chei aros awr ym-hellach,
Yn dy glefyd, na mynd glafach,
Nag y gwelo Duw 'n anghenrhaid,
Er llesâd i'th gorph a'th enaid.
Godde ronyn bach o gystydd,
Di gei gwedyn hîr lawenydd:
Bydd ddioddefgar nes y delo,
Dy gei oes o newydd etto.
Rhwn a nerthodd Job mor hygar,
Ddwyn ei glefyd yn ddioddefgar,
Nerthed dithe â'i lân yspryd,
Mor ddioddefgar ddwyn dy glefyd.
Luc. 22.43
A'r hwn helodd vn o'i Angelion,
I gymfforddi' fâb wrth Cedron,
Helo o'r nêf ei Angel hyfryd,
I'th gymfforddi yn dy glefyd.
Dy roeist Siampl dda 'n dy iechyd,
Inni fyw mewn buchedd hyfryd:
Rho ini etto Siampl hygar,
I ddwyn clefyd yn ddioddefgar.
Godde 'th nefawl Dâd dy drinio,
Godde dynnu 'r draen sy'th bigo,
Godde wascu 'r crawn lloscedig,
Carthu 'r clwyf, a sugno 'r yssig.
Godde i Grist gael tynnu 'n gwbwl,
Gol y Sarph sydd yn dy sowdwl,
Rhag i'r gwenwyn ddrycha ir galon,
Ac
Llygru.
inffecto 'r enaid gwirion.
Mae Duw 'n
Ofalus. Psal. 121.3
garcus iawn am danad,
Gwell it' odde loes nâ bagad:
Mae 'n dy
Lanhau.
bwrgio nawr trwy gystydd,
I gael iechyd yn dragywydd.
Mae 'n dy wneuthur ymma 'n addas,
I gael rhan o'i nefol deyrnas,
Mae e'n carthu 'r holl ddrygioni,
Sy'n dy rwystro i wîr oleuni.
Rwyt ti 'n ûn o fain y Demel,
Rhaid dy naddu gîd wrth
Rheol.
lefel,
Rhaid ir mwrthwl dy lwyr
Rhagdor­ri.
bario,
Os yn y nef y mynny drigio.
Rwyt ti 'n wenith ir gorucha,
Mat. 3 12.
Rhaid dy ddyrnu tra fech ymma,
Tynnu 'r ûs a'r col oddiwrthyd,
Cyn bech i Grist yn fara hyfryd.
Di gest lawer o felysder,
Ar law Dduw er dechre d'amser:
Job. 2.10.
Rhaid it
Profi.
dasto peth o'r chwerw,
Gydâ 'th Brynwr cyn dy farw.
Yf o'r cwppa chwerw lymmaid,
Yfodd Christ o'th flaen ei lonaid:
F'orfydd ar bôb Gwâs ei dasto;
Nid yw 'r disgybl well nâ'i Athro.
Cofia i Grist dy Brynwr odde,
Dros dy bechod di a minne,
Fwy o flinder, Ing, ac yssig;
O! goddefwn ninne 'chydig.
Ystyr nad oes Sanct yn gorphwys,
Mewn gogoniant ym-mharadwys,
Na ddioddefodd fwy o gystydd;
Goddef dithe, a bydd lonydd.
F'orfu ar Abel odde ei fraeni,
F'orfu ar Joseph odde ei weŕthi,
F'orfu ar Esay odde ei lifo,
Cyn cael mynd i'r nêf i
Trigo.
dario.
F'orfu ar Stephan odde ei
Labyddio.
bwnian,
F'orfu ar Lawrens odde ei
Bobi.
frwylian,
F'orfu ar Jago odde ei wanu,
Act. 12.2.
Cyn cael nefoedd i meddiannu.
Joan. 21.18, 19.
F'orfu ar Beder odde ei hoelio,
F'orfu ar Barthlom odde ei flingo,
F'orfu ar Ifan odde ei ferwi,
Cyn cael mynd at Dâd goleuni.
Nid oes un yn credu 'n gywir,
Act. 14.22.
Yn Ghrist Jesu, hyn sydd siccir,
Nad rhaid iddo oddeu 'n rhyw fodd,
Gystydd mawr cyn mynd i'r nefoedd.
Nid aer o'r Aipht i Ganaan hyfryd,
Ond trwy 'r môr a'r mynydd tanllyd,
Nid aiff neb ir nêf i daring,
Mat. 7.13.
Ond trwy 'r porth a'r llwybyr cyfyng.
Mae'n rhaid dwyn y groes yn gynta,
Cyn cael dwyn y Goron benna:
Ni ddarllenais yn fy oes,
Gael y Goron heb y groes.
Mat. 16.24
Dwg dy groes fel Milwr ffyddlon,
Di gei gwedyn ddwyn y Goron;
2 Tim. 2.12
Cyd-ddioddef gydâ 'r Iesu,
Di gei gwedyn gyd-deyrnasu.
Na chais nefoedd ar y ddaiar,
Na chais wyn-fyd yn rhy gynnar,
Na chais Jechyd di-drangc
Di loes.
dewlwys,
Nes y delech i Baradwys.
Ni chair melus heb y chwerw,
Ni chair gwyn-fyd nes i'n farw:
Ni chair Coron heb y groes,
Ni chair nefoedd heb ryw loes.
Ni chas un or
Vchelda­dau.
Patriarcciaid,
Na'r prophwydi, na'r
Tystion Christ.
Merthyriaid,
Na'r 'postolion, nâ'r Messiah,
Fynd o'r bŷd heb lawer gwascfa.
Na chais dithe fy anwylddyn,
Gael y peth nas cafas undyn:
Ond
Ymegnia.
ymddoro yn ddi-drydar,
Ddwyn dy ddolur yn ddioddefgar.
Cofia i Grist dy Brynwr odde,
Mwy o flynder am dy feie:
Cofia ei groes-hoelio drossot,
Di anghofi 'r loes sydd ynot.
Ac na feddwl nad o gariad,
Y rhöws Duw y clefyd arnad,
I'th suwrhau dy fôd yn vn,
O'i
Ni ddi­chon dyn siccrhau ei hun, i fod ef yn blen­tyn i Dduw oddiwrth ei gyst­yddiau, o­nid oes yn­ddo ef he­fyd y no­dau eraill, y rhai a ddywedir yn y Scry­thureu bô [...] [...]m­mhlant Duw; me­gis, calon ddrylliog am bechod, ffydd yn Grist new­ydd-deb buchedd, cariad at Ai [...] a pho­bl Dduw, a'r cyfryw
ddetholedig blant ei hun.
Cofia fôd pob peth yn gweithio,
Ar y goreu ir dyn y gretto,
Hyd yn oed ei glwyf a'i glefyd,
A'i golledion, a'i holl adfyd.
Cofia hefyd nôs a boreu,
Nad all croes, nac Ing, nac Angeu,
Na dim arall ein gwahanu,
Oddiwrth gariad Duw a'r Jesu.
'Rhwn a gododd ei ffryn [...] Lazar,
Yn iach o'r bedd dan y ddaiar,
Hwnnw 'th gotto yn iach lawen,
O'th glâf wely 'n wŷch drachefen.
Rhwn a spariodd Fywyd Isaac,
Gwedi offrwm ar ben Moriac;
Hwnnw spario 'th fywyd dithe,
Etto ennyd o flynydde.
Rhwn a helodd gynt Esaias,
I Iachau clwyf Hezekias;
Hwnnw helo o'r nêf Angel,
I iachau Syr Lewis Mansel.

Rhessymmau yn cyffro 'r claf i fod yn ddioddefgar.

ONi bae fod yn anghenrhaid,
Dofi 'r corph i wella 'r enaid,
Ni ddanfonei Dduw glefydion,
Byth ar vn oi anwyl feibion.
Yr oedd Duw yn gweled d'enaid,
Yn glaf iawn o bechod diriaid;
Nid oedd lûn i gadw ei fywyd,
Nes dy gospi â'r fâth glefyd.
Oni basse 'r cwppa chwerw,
Fe allasse d'enaid farw,
Yn ddisymmwth heb
Edifaru.
repento,
A mynd dros fyth i boenydio.
Trwy gystydd corph, a chlefyd
Tôst. Psal. 119.67, 70.
diriaid,
Y mae Duw 'n iachau dy enaid;
Ac yn d'arwain trwy ddifeirwch,
At dy Grist i gael ei heddwch.
Trwy glefydion mae Duw 'n tynnu
Dyn, i geisio cymmorth Jesu,
A gwir iechyd idd ei enaid,
Rhag ei fynd i vffern embaid.
A chlefydion bâch amserol,
Ma'e 'n rhag-achub poen tragwyddol;
Ac wrth gospi 'r corph mor ddiriaid,
Dofi 'r cnawd, a
Yr enaid grassol.
chadw 'r enaid.
Nid clefydion ond dialau
Blin, a haeddodd dy bechodau:
Dwg gan hynny yn ddioddefgar,
Y fâth glefyd cruaidd hygar.
Fe allasse dorri d'wddwg,
Am dy fuchedd oedd yn cynddrwg,
A'th roi i vffern i boenydi [...],
Heb roi amser itt' repento.
Rho can hynny yn ddiwegi
Ddiolch iddo am dy gospi,
Lle gallasse dy lwyr ddifa,
A'th roi
Losci yn vffern.
Frwylian yn Gehenna.
Fe [...]llasse Dduw dy roddi,
Dan law Gelyn câs i'th gospi,
Ble mae 'n rassol iawn yr-wan,
Yn dy gospi â'i law ei hunan.
Nid yw'r Arglwydd yn dy blago,
Megis gelyn i'th andwyo,
Ond yn dirion yn dy faethddryn,
Megis Tâd yn trîn ei blentyn.
Os creda­dyn edifei­riol vfydd wyt ti, mae Duw yn dy garu di â chariad o hyfrydwch; os drwg ddyn â chariad o dofluri: ac felly, o herwydd cynddrwg yw'th gyflwr trwy bechu, y mae Duw trwy glefydion, megis trwy amryw foddion eraill, yn ceisio 'th droi di atto ei hunan, gan dosturio wrth dy enaid, ac felly yn ceisio 'th wella, fel nad elot i vffern. Os caledi dy galon a wnei di fel Pharo dan far­nedigaethe Duw, gan esceuluso credu yn Grist, ac edifarhau am dy be­chod, a throi oddiwrthynt hwy, heb ofal gennit i fyw yn dduwiol, yn sobr, ac yn gyfiawn, yna disgwyl am ddigofaint a dialeddan y fo mwy yn y byd hwn, Lev. 26.18. Ac os arbedir y cyfryw bobl ymma, bydded hyspys iddynt hwy, na ddihangant hwy ddim o ddialedd Duw yn y byd y ddaw. 1 Thess. 5.3.
Er bôd d' Arglwydd yn dy faeddu,
Mae er hynny yn dy garu:
Pôb gwialennod ag a roddo
Sydd fel plaster i'th elio.
Ni ry Duw sydd mor ddaionus,
Na'th Dâd nefol fydd mor
Ofalus.
garccus,
Glefyd arnad na chaledi,
Na wnel itti fawr ddaioni.
Fe wyr Duw beth yw dy ddolur,
Dy rym, dy rytt, dy naws, dy nattur:
Fe rydd dy groes, yn ol dy gyflwr,
Ni bydd dy bwnn vchlaw dy gryfdwr.
Er bôd Aloes yn beth chwerw,
Mae e'n achub dyn rhag marw:
Er bod clefyd yn dy flino,
Sef os e­difarhei di Luc. 13.5.
Mae 'n dy achub rag dy ddamnio.
Y mae miloedd yn
Vffern.
Gehenna,
Rhai a ddwgent fwy o boenfa,
Dros fil filoedd o flynydde,
Pe caent rydd-did o'u poenydie.
Rho gan hynny yn ddiwegi,
Ddiolch i Dduw am dy gospi;
Llei gallasse dy lwyr ddifa,
A'th roi
Llosci yn vffern.
frwylian yn Gehenna.
Arwydd têg o'i râs a'i ffafar
Yw cael côsp trwy glefyd hygar,
Sydd yn gwneuthur dŷn yn barod,
Cyn yr êl o flaen y Drindod.
Clefyd sydd fel chwip i'th gospi,
Nid fel cledde llym i'th dorri;
Swmbwl awchlym i'th ddihuno,
Ac nid bwyall i'th ddistrywio.
Fsûst i ddyrnu ffwrdd dy ffwlach,
gwyntyll
Ffann i nithio dy holl sothach,
Ffwrn i buro dy amrhyddion,
Chwip i'th gospi yw clefydion.
Nid da mêl i'r llawn digonol,
Nid da gwynfyd i'r annuwiol,
Nid da Gwîn i'r poeth ei
Cylla [...]
golydd,
Nid da iechyd i'r anufydd.
Nid oes arnad gymmaint ddolyr,
Ag a fu ar rai o'th frodyr
Sydd yr-wan mewn esmwythder,
Yn y nefoedd gwedi 'r blinder.
Bu ar Lazar glefyd flinach,
Bu ar Job ddoluriau drwmmach,
Bu ar Grist ei hun fwy flinder,
Maent yr-wan mewn esmwythder.
Ac os tithe fydd ddioddefgar,
Fe ry Duw itt' hyn o ffafar;
Fe wna naill a llaesu 'th flinder,
Ai fe'th gymmer i esmwythder.

Ymddiddanion cyssurus rhwng y clâf Duwiol a'i enaid yn erbyn ofn Angeu.

OFy Enaid pam yr ofni
Fynd at Grist a fu 'n dy brynu,
Ag a gollodd waed ei galon,
I'th ryddhau o law d'elynion?
Ni ddi­chon y dyn diras ddy­wedyd fel hyn wrth ei enaid, o herwydd os bydd efe marw yn ei bechod, heb ffydd ac edifeir­wch, ni chaiff ef fyned i'r nefoedd, 1 Cor. 6.9, 10. ac am hynny tra fo efe yn aros ac yn hyw yn ei bechodau heb droi oddiwrthynt y mae gantho achos i ofn i. Edifarhâ gan hynny, bydd ddyn newydd grasol, gan ymhe­ddychu a Duw trwy Grist, ac yno ti elli ddywedyd, O fy enaid path yr hofni? &c.
Pam yr ofni fynd i'r nefodd,
Lle mae Christ yr hwn a'th brynodd,
A'th Dâd nefol, a'r glân yspryd,
A'r holl Sainct mewn braint a bywyd?
Mae fy Mlaen i yno eusiwys,
Am Jachawdwr 'rhwn am prynwys:
Christ tynn finne d'aelod attad,
Er anhawsed gennif ddwad.
Oh! fy Enaid cwyn dy galon,
Pam ir ofni mor echryslon?
Gwel Fab Duw, ai waed, ai weli,
A dynnodd ffwrdd oedd raid itt' ofni.
Oh! fy enaid gwel dy Brynwr,
Gwêl dy Geidwad a'th Jachawdwr,
Gwêl dy Bardwn, gwêl dy Artre,
Gwêl y nef a'r hwn a'th bie.
Oh! nac edrych ar dy bechod,
Gwel yr Oen a Laddwyd drossod:
1 Io. 1.1.
Ac nac ofna wedd y Barnwr,
Christ ei fâb yw dy Ddadleuwr.
Ac nac ofna'r Angeu melyn,
Christ a dynnodd ffwrdd ei golyn:
Ni all Angeu ond dy symmyd
1 Cor. 15.55.57.
O'r bŷd hwn i dir y bywyd.
Nac arswydda rythreu Satan,
Gwel Angelion Duw
Luc. 16.22 I ddisgwyl wrthyt.
i'th waetan,
A Christ Jesu â saith llygad,
Ddydd a nôs bob awr i'th wiliad.
Ac nac ofna 'r Bedd llydylyd,
Gwely Christ yw hwn f'anwylyd,
Y mae'r Prynwr gwedi dwymo,
I bob Cristion nes cyfotto.
Na wna bris o vffern boenau,
Gwêl gan bwy y mae 'r
Agoriad­au: Datc. 1.18
allweddau,
Gan dy Grist y mae cadwriaeth
Allwedd vffern a marwolaeth.
Oh! gan hynny cwyn dygalon,
Pam ir ofni mor echryflon?
Gwel fâb Duw a'i waed a'i
âi glwyfe
weli,
Fe dynnodd ffwrdd oedd raid itt' ofni.
Cymmer gyssur, cwyn d'olygon,
Dring vwch law pob daiarolion;
Gwel y nef a brynwyd itti,
A'r Difeddiaeth sydd itt' ynddi.
Gwel dy orsedd, Gwel dy goron,
Gwel dy
Palm­wydd i ar­wyddecca [...] buddug [...]li­aeth.
Balme, a'th wiscoedd gwynion,
2 Tim. 4.8. Datc. 7.9.
Rhai a brynodd Mâb Duw itti,
Fry yn nheyrnas y goleuni.
Gwêl dy Grist a'i holl Angelion,
Gwêl y Sainct a'r holl rai cyfion,
Yn dy ddisgwil ddwad attyn,
Ac yn barod bawb i'th dderbyn.
Gwêl dy delyn, Gwêl dy
Mâth o offeryn cerdd. Dat. 15. [...].
feiol,
Gwêl dy wers a'th ganiad nefol,
Fry yn disgwil fynd i ganu,
I'th Jachawdwr am dy brynu.
Llêf gan hynny am d'ymddattod,
I gael mynd at Grist dy briod,
Phil. 1.23 [...]
O garchardy'r corph a'th lygrwys,
I gael trigo ym Mharadwys.
Lle mae Duw a'i holl Angelion,
Christ a'i Sainct a'i Apostolion,
Mewn Gogoniant a Rhialtwch,
Yn teyrnaffu mewn dedwyddwch.
Nid oes yno ddim Anghyssur,
Poen, na chlefyd, cwrp na dolur,
Dat. 21.4.
Na marwolaeth na dim tristwch,
Ond llawenydd a dedwyddwch.
Oh hiraetha am gael hedfan,
I'r wlâd lawen hon yn fuan,
At dy Brynwr Christ a'th Briod,
Mae dy Neithor yndi 'n barod.
O fy Enaid meddwl dithe,
Am dy 'mdrwssio yn dy dlwsse,
I fynd o flaen Christ yn addas,
Yng wisc sanctaidd y briodas.
Zech. 13.1
Golch dy hun yn ffynnon Dafydd
Gwaed Christ yn vnic fydd yn glanhau dyn oddiwrth ei bechodau; ond nid oes neb yn cael llesâd oddi­wrth ei waed ef, ond y Sawl sydd yn credu yntho, ac sydd yn ala­rus ac yn edifeiriol am eu pechodau, ac mewn pryssurdeb yn ymroi i droi oddiwrth eu ffyrdd ddrygionus, ac i fyw yn san­ctaidd ac yn gyfiawn yn ol ei ewyllys ef; Er mwyn Christ na Thwyllwch eich hunain, trwy ddywedyd heddwch wrthych eich hunain pan nad yn Duw yn dywedyd felly. Datc. 1.5. Rhuf. 5.1. Act. 3.19. Mat. 5.4. Esay. 55.7. Heb 5.9 Esay. 57.21.
Gwaed yr Oen, a deigreu cystydd;
Ymlanhâ mewn gwir ddifeirwch,
Ffydd yn Ghrist, Gwiriondeb Heddwch.
Gwisc Sancteiddrwydd Christ am danad,
A'i Gyflawnder yn lle trwssiad;
Plêth dy wallt mewn grâs a gobaith,
Hardda 'th
dy ddwy­fron. Mat. 25.
frest â chariad perffaith.
Cais dy lamp, a Nynn dy Ganwyll,
Dwg ith lusern olew didwyll:
Gwilia, Gwarchod, a Gweddia,
Nes dêl Christ, na chwsc, na
Heppian.
slwmbra.
Deffro, disgwyl am dy Briod,
Llef am dano nes ei ddyfod;
Fel yr Hŷdd na orphwys freifad,
Nes del Christ dy Briod attad.
Dywaid wrtho dere weithian,
Dere Arglwydd, dere 'n fuan,
Dere Jesu Grist fy nghariad,
Dere, tynn fy enaid attad.
Os cre­dadyn e­difeiriol sanctaidd wyt ti, ti elli yn hyderus offrwm dy enaid i ddwylo Christ; canys fe a'i derbyn i'r nefoedd, Act. 7.59. Luc. 23.43. Ond am y rhai sy'n marw heb rol vfydd-dod i'r Arglwydd Jesu, fe a ddy­waid wrthynt hwy; ewch ymmaith oddiwrthif chwi holl weithredwyr anwiredd. Luc. 13.27, 28, Gair tôst yw hwn.
I'th ddwy ddwylo Arglwydd hyfryd,
Yr wi 'n brudd yn offrwm f' yspryd:
Cans ti prynaist, Duw 'r gwirionedd,
Dwg ef weithian i'th drugaredd.

Ymddiddan arall rhwng y clâf duwiol a'i enaid am ofni marwolaeth.

O Fy Enaid dywaid immi,
Holiad.
Mewn pryssurdeb, pam yr ofni,
Fynd at Grist a'i wir Angelion,
O'r bŷd brwnt a'i holl drallodion?
Tost a thrwm yw gorfod gadel
Atteb.
Gwraig a phlant, a ffryns a chenel,
Tai a Thir, a Da, a dodren,
Heb eu gweled mwy drachefen.
O f'anwylyd cymmer gyssur,
Di gae olud mewn mwy fessur,
Siccrach
Suwrach ffryns, a gwell cyfeillion,
Gydâ Christ a'i wir Angelion.
Os dy blant a ofna 'r Arglwydd,
A'i wasnaethu mewn Sancteiddrwydd,
Di gae weld dy Blant drachefen,
Mewn Gogoniant yn dra llawen.
Yn lle ffryns a mwyn gyfeillion,
Di gae 'r Sainct a'r holl Angelion,
I'th fawrhau a'th gywir garu,
A'th Blant eilchwaith i'th ddiddanu.
Gâd dy wraig, a'th Blant, a'th bobol,
I gadwriaeth dy Dâd nefol:
Cynhali­wr. Psal. 146.9.
Rhwyscwy 'r weddw, Tâd ymddifad
Yw'r Gorucha wrth ei Alwad.
Na wna bris am dan dy olud,
Nac o'r ddodren wael sydd gennyd:
Mae 'n y nêf fwy ar dy feder,
Nag a feddodd
Yr hwn orchfygo­edd ac y feddian­odd rh [...] fawr o'r byd.
Alexander.
Na wna bris o'th neuadd lwydlas,
Mae 'n y nefoedd dai o
Maen gwerth­fawr.
dôpas,
Gwedi Dduw o berls i gwneuthur,
Yn discleirio fel y gwydyr.
Na hiraetha am dy diroedd,
Na'th Berllanneu, nâ'th winllannoedd:
Mae 'Mharadwys dîr sydd deccach,
Ffrwyth sydd well, a gardd
Mwy hy­fryd.
araulach.
Na wna
Gyfrif.
gownt am Aur nac Arian,
Mae 'n y nefoedd Aur iw
I gerdded trosto. Datc. 21.
ddamsian,
Perls a Gemms yn gweithio 'r gwelydd:
Aur yn pafio 'r holl heolydd.
Na wna bris am vn o'th swydde,
Mae 'n y nefoedd fwy o radde:
Dat. 1.6.
Y mae 'r gwaetha syndi'n ffeiriad
Ac yn frenin mawr ei alwad.
Na wna bris am ddillad gwychion.
Dat. 19.8.
Mae 'mharadwys wiscoedd gwynion;
Yn discleirio ar dy gefen,
Mat. 13.43
Mewn Gogoniant fel yr haul-wen.
Na wna bris o'th fwyd newynllyd,
Datc. 22.
Mae 'mharadwys bren y bywyd;
Manna yn fwyd, 'qua-vitae
Dwfr y bywyd.
'n ddiod,
Gwledd heb ddiwedd, oes heb ddarfod.
Na wna bris am ddim difyrrwch,
Rhwn sydd ymma 'n blaenu tristwch:
Mae 'n y nefoedd wir lawenydd,
Psa. 16.11.
Sydd yn para yn dragywydd.
Na wna gownt o ddim sydd gennyd,
Ond ymgweiria am dy fywyd,
Fynd yn rhwydd trwy lawn barodrwydd,
Mat. 25.21
I lawenydd Christ dy Arglwydd:
Lle mae mwy o wir esmwythder,
A dedwyddwch ar dy feder,
1 Cor. 2.9.
Nag all calon dyn chwennychu,
Nac vn tafod i fynegu.
Dôs gan hynny, dôs yn llawen,
Dôs at Ghrist, dy Ben, dy Berchen:
Gado 'r bŷd a'r maint sydd yntho,
Mam a thâd i fyned atto.
Yn lle 'r pethau darfodedig,
A
Gefaist. 1 Pet. 1.4.
geist ymma gantho eu benthig,
Di gae bethau na ddarfyddant,
I Meddiannu mewn gogoniant.
Di gae iechyd heb ddim nychdod,
Ac esmwythder heb ddim trallod,
Gwir Lawenydd heb ddim tristwch,
Oes heb ddiwedd mewn dedwyddwch.
Ni chaiff clwyf, na haint, na dolur,
Newyn, syched nac Anghyssur,
Dat. 21.4.
Trallod, Tristwch, ochain, wylo,
Nac vn gelyn mwy dy flino.
Di gae fyw mewn mawr Lawenydd,
A dedwyddwch yn dragywydd,
Ym-mhlith miloedd o Angelion,
I foliannu d' Arglwydd tirion.
Di gae eiste mewn
Mintai o gantorion. Datc. 19.1
Côr auraid,
I glodforu 'r Oen bendigaid,
Ac i ganu
hynny yw Molwch yr Arglwydd.
Aleluia
Yn dragywydd i'r Gorucha.
Pwy gan hyhny na 'madawe,
A'r byd hwn, a'i boen, a'i bethe?
I fynd at ei Brynwr heddu,
O bae 'r Arglwydd yn cennadu.
Duw agoro dy ddau lygad,
I weld Teyrnas Christ dy Geidwad:
Duw ro ei yspryd i'th gyfrwyddo,
Ymbaratoi i fyned atto.

Agoriad byrr yn erbyn ofn Angeu: Ar daioni sydd yn dyfod oddiwrthCraffwch ar y geiri­au sef, du­wiol far­wolaeth: mae'r gei­riau felly yn coppy Mr. Prich­ard; nid yw efe yn dywedyd fod y dai­oni hyn yn canlyn marwola­eth y rhai drwg.dduwiol farwolaeth.

OH! na ŵyddad dŷn pa ddonieu
Sydd yn dwad oddiwrth Angeu;
Byth nid ofnei o'i ddyfodiad;
Ond fe lefe am ei ddwad.
Y mae Angeu 'n gwneuthur diwedd,
Ar ein cystudd a'n hanwiredd:
Ac yn dwyn o Fôr trafferthwch,
Ddyn
To the Haven.
i'r Porthladd o ddedwyddwch.
Y mae Angeu 'n tannu 'n gwely,
Gwedi 'n trafferth inni gyscu;
Ac yn rhoddi mawr esmwythder,
Gwedi 'r trallod tôst a'r blinder.
Y mae Angeu 'n claddu 'n beiau,
Ein clefydion a'n doluriau;
Fal na ddichon pechod mwyach,
Nac vn clefyd flino mhellach.
Y mae Angeu 'n tynnu 'r cyfion,
Esa. 57.1.2
Lawer pryd rhâg gweld trallodion,
A ddigwydda yn dra rhigil,
Ar eu gwlâd ac ar eu heppil.
Mae e'n tynnu rhai gwirionnaid,
Sydd ymmysg câs bechaduriaid,
Rhag ir rhain eu hudo i bechu,
Ac i weithio 'r peth nas dyly.
Y mae Angeu 'n diosc dynion,
O'u hên frattieu sarnllyd brwnton,
Iddillattu 'r rhain yn helaeth,
Mewn hardd wiscoedd iechydwriaeth.
Heb 12.23
Mae 'n rhyddhau yr enaid hyfryd,
O'r carchardy tywyll tomlyd,
I gael gweld goleuni 'r Arglwydd,
Ai wasnaethu mewn perffeithrwydd.
Y mae Angeu
Yn e­brwydd.
toc yn dattod
Enaid o'r corph caeth i bechod,
Ac heb aros yn cysylltu
Hwn, â'i Briod mawr Christ Jesu.
Phil. 1.23.
Y mae Angeu 'n tynnu dynion,
I'r nef ole at Angelion,
2 Cor. 5.1.
O'u tŷ candryll sydd ys dyddie,
Ym-mron cwympo ar eu penne.
Mae e'n tynnu maes o Sodom,
I'r mynydd-dir rhag y
Tymmesti
Storom,
Ac yn mynd o'r Aipht i Ganaan,
A'r rhai duwiol yn ddiofan.
2 Tim. 4.6, 8.
Y mae Angeu 'n tynnu dynion,
O'r byd hwn i gael y Goron,
A bwrcassodd Christ trwy Angeu,
I'r rhai ffyddlon a'i gwasnaetheu.
Y mae 'n tynnu dyn o'i ofyd,
A'i drueni a'i drist fywyd,
I ogoniant ac hyfrydwch,
I gael byw mewn gwir ddedwyddwch.
Pwy gan hyn a ofna Angeu,
Sydd yn helpu dyn mor ddeheu,
I fynd allan o bôb trallod,
A'i
Ddwyn drosodd.
dros-glwyddo i lys y Drindod?
Gâd i'r
Digred.
Pagans di-rinwedde,
Gâd i'r Twrcod ofni Ange:
Ond nac ofned vn
Craffwch ar y gei­riau gwir gristion. Mat. 7.21.
gwir gristion,
Fynd trwy Ange i gael ei Goron.

Mawr glôd ddydd marwolaeth y cyfiawn.

DYdd ein
Jubili oedd pob degfed flwyddyn a deugain; yn y flwyddyn honno, yr oedd tiroedd yr Israeliaid a wystlwyd yn dyfod yn rhydd i'r perchnogion; Ac hwyntau eu hunain yn dyfod allan yn rhyddion oddi tan ddwylo eu meistred, Lev. 25.
Jubil a'n gollyngdod,
Dydd ein rhydd-did o bôb trallod,
Dydd sy'n gollwng ein eneidie,
O'r carchardy yw dydd Ange.
Dydd ein Neithor a'n Priodas,
A Christ Jesu 'r gwir Fessias,
Dydd ein gwlêdd a'n
Dydd i gael y go­ron.
coronasiwn,
Yw 'n dydd diwedd os ystyriwn.
Dydd sy'n gorphen ar ein gyrfa,
Dydd sy 'n tynnu o gyfyngdra,
Dydd sy 'n talu ein Cyfloge,
Dydd y
Dydd dy­fod at y nôd, neu pen yr yr­fa▪ race.
gôl yw dydd em Ange.
Dydd sy ein derbyn i Baradwys,
At fâb Duw yr hwn a'n prynwys:
Dydd sy'n rhoddi 'r Gŵn, a'r Goron
Yw dydd Ange i
I bob gwir Gri­stion fel y mae efe yn dywedyd or blaen.
bôb Christion.

Gweddi yn cyfarwyddo'r clâf am y pethau rhei­ta iw ceisio, ac i fyfyrio arnynt mewn clefyd.

DUw 'r diddanwch llaesa mlinder,
Tâd tosturi, rho imi 'smwythder,
Meddyg pôb clwyf Jachâ nolur,
Jesu mâb Duw rho im gyssur.
Tynn fi o dywyll Deyrnas Satan,
Act. 26.18.
Ac o bôb dallineb allan;
Fal y gallwi weld fy mhechod,
A llonyddu fy nghydwybod.
Gwna fel Dafydd im
Edifaru. Psal. 51. Jonan 3.
repento,
Gwna fel Magdlen i mi wylo,
Gwna fel Ninif im gydnabod,
A 'mofydio am fy mhechod.
Gwna 'mi geisio
Maddeu­ant. 2 Chron. 33.12.
pardwn gennyd
Fel Manasses yn ei ofyd;
Ac ymbilio am drugaredd,
Megis Peder am f'anwiredd.
Gwna 'mi gredu fôd im bardwn,
Eph. 1.7.
Gwedi selu â gwaed dy
Diodde­faint.
bas siwn;
A bôd f'enaid gwedi olchi,
Yn dy waed oddiwrth ei frynti.
Gwna fi hefyd yn ddioddesgar,
Dan fy nolur megis Lazar:
A rhoi arnat ti fy hyder,
Job 13.15.
Megis Job er maint o'm blinder.
Gwna mi geisio ymwared gennyd,
O'm trallodion ac om clefyd,
1 Bren. 19.4.
Fal Elias o'i flindere,
Môdd y gwelech fôd yn ore.
Gwna 'mi megis Ezekias,
Esa. 38.2.
Droi 'r byd heibio a'i berthynas;
A throi f'wyneb at y pared,
I roi yn Grist fy holl ymddiried.
Gwna im feddwl am y cyfri,
Rhuf. 14.12. Mat. 12.36.
Ddydd y farn sydd raid im roddi,
Am y gwaith a'r geirian ofer,
Oni cheisaf râs mewn amser.
Gwna im wrando ar dy fengyl,
A'th
Addewi­dion.
bromeision yndi 'n rhigyl:
Gwna im ddala gafel ffyddlon,
Ar d'addewid a'th bromeision.
Gwna im feddwl am y bywyd,
Yr âf iddo ar fyrr ennyd,
Lle mae Sabboth o esmwythder,
Heb na chûr, na phoen, na blinder.
Gwna im wadu 'r byd twyllodrus,
A'i holl wagedd anwireddus:
Ac ymgweirio ddwad attad,
Yn ddiaros anwyl Geidwad.
Gwna im offrwm heb ddeffygio,
Gorph ac enaid yn dy ddwylo,
Ac ymbilio hyd y diwedd,
Am dy ffafar a'th drugaredd.

Diddanwch rhagorol i'r Enaid Alarus yn erbyn gwan obaith.

OFy Enaid pam yr ofni,
Faint dy bechod, os difaru?
Lle bu'r Jesu farw drossod,
I'th ryddhau oddiwrth dy bechod.
Pam i hofni farn y Barnwr?
Christ yw'th Dwrneu a'th Ddadleuwr,
Mâb y Jestys trwy farwolaeth,
A'th ryddhaodd o ddamnedigaeth.
Ni chondemnir yn dragwyddol,
Jo. 3.18.
Vn a gretto i Grist yn fywiol:
Ond hwy
Ant.
bassant, wrth eu symmyd,
O farwolaeth i wir fywyd.
O fy Enaid ymlonydda,
Rhuf. 8.33, 34.
Dy Dduw grassol a'th gyfiawna:
Pwy all gwedyn dy gondemnio?
Mae Christ drossot gwedi hoelio.
Christ â'i waed a ylch dy bechod,
Ac a'th wnaiff mor wynn a'r manod:
Esa. 1.18.
Er dy fôd mor gôch a'r scarled,
Christ a'th ylch mor wynn a'r foled.
Yr haul a
A wasca­ra ac a agor.
rywlla 'r cwmmwl tewa,
Sebon ylch y dillad brynta:
Rhinwedd Christ a gûdd dy frynti,
Ei waed a'th ylch mor wynn a'r lili.
Duw faddeuodd bechod Peder,
Rhyfig Dafydd a'r mâb ofer,
Rhwyf Manasses a'i holl feie,
Duw a fadde 'th bechod
Os fel hwyntau yr edifar­hau ac y credu di.
dithe.
Cymmer gyssur, cwyn dy galon:
Lladdwyd mab Duw ar yr hoelion,
Am dy bechod a'th gamwedde:
Er ei fwyn di gae eu madde.

GweddiSerious.brûdd am faddeuant pechodau,

OFy Nuw yr hwn am creaist,
O fyng Heidwad 'rhwn am prynaist;
O'r Glân yspryd; O'r gwir Drindod,
Cadw f'enaid; maddeu mhechod.
Er mwyn Jesu 'rhwn am prynodd,
Ac ym-mhôb peth a'th fodlonodd,
Madde immi oll a chwbwl,
Ar a wnaethoi maes o'th feddwl.
Golch â'i waed fy mai a'm Mrynti,
Cladd fy mhechod yn ei weli:
Cûdd fyng wradwydd â'i gyfiawnder,
Madde im fy hôll ddiffeithder.
Gwisc fy enaid o gylch gwmpas,
A gwisc sanctaidd y briodas,
Gwna fi'n barod ddwad attad,
O fy Nghrist mewn gweddus drwssiad.
Dôd d' Angelion im castellu,
Nâd i Satan fyng orchfygu,
Cadw f'enaid yn dy ddwylo,
Nâd o Grist i'r llew ei
Y thorri yn vfflon.
llarpio.
Pan i delwi i'r
O flaen yr orsedd­faingc.
Barr i atteb,
Ger dy fron am f'annuwioldeb,
Gwared f'enaid er mwyn Jesu,
Na ro i mi o'r farn wi 'n haeddu.
Cymmer Angeu Christ a'i 'fydd dod,
Yn iawn itti am fy mhechod▪
Fe gondemnwyd am fy meie,
Er ei fwyn na ddamna finne.
Haeddais Angeu, haeddais
Vffern Rhuf. 6.23
dopheth,
Haeddais farn rhagrithwr diffeth;
Duw na ddoro 'r hyn wi 'n haeddu,
Rho i mi 'r hyn a haeddodd Jesu.
Fe gyflawnodd drosswi 'r gyfraith,
Fe 'th fodlonodd drosswi 'n berffaith,
Fe groes-hoeliwyd am fy mrynti,
Er ei fwyn rho bardwn immi.
Nid oes genni na Sancteiddrwydd,
Na chyfiawnder, na pherffeithrwydd,
Nac ymwared, iawn, na swccwr,
Ond sydd gennyd Christ fy Mrhynwr.
Christ yw 'nghomffordd, Christ yw 'nghyssur,
Christ yw 'ngobaith yn fy ngwaywyr,
Christ yw f'helpwr ar awr Ange,
Christ yw 'ngbleidwad ddydd diale.
Fe fu farw yn anhyfryd,
Er pwrcassu immi fywyd:
Er yr Ange a ddioddefwys,
Duw dwg f' enaid i Baradwys.

Gweddiau byrrion i'r clâf iw harferu fel y bo achos.

DUw rho glûst i wrando 'ngweddi,
Duw rho d' yspryd im comfforddi,
Am Es­mwythder.
Duw rho olwg ar fy nolur,
A'th law rassol llaesa 'ngwaywyr.
Am [...] ­ddeuant.
Oen Duw madden 'mi fy mhechod,
Sela Bardwn im cydwybod,
Clâdd fy meiau yn dy
Glwyfau.
weli,
Nád hwy eilchwaith adgyfodi.
Am Ddi­ddanwch.
Rwi fi 'n ofni dy gyfiawnder,
Rwi 'n brawychu rhag dy ddigter:
Rwi 'n fy marnu am fy mhechod,
Duw diddana fy nghydwybod.
Am ddo­nian Christ a'i gym­morth.
Dôd o Grist dy Angeu gwirion,
Rhyngwyfi a'th farn echryslon,
Dôd dy 'fydd-dod rhwng cyfiawnder
Dy Dâd cyfiawn am diffeithder.
Am gym­mod.
Christ â'th waed gwna heddwch etto,
Rhyngwi â'th Dâd sydd gwedi digio;
A'th waed diffodd ei ddigofaint,
Fel na byddo mlinder cymmaint.
Am gyf­nerth.
Egwan wyf, o Grist cryfhâ fi,
Gwann a chlaf, fy Nuw Jacha fi,
Trwm a thrist, ac ofnus ddigon,
Cryfhâ fy ffydd, a chwyn fy nghalon.
Am gyssur
Duw 'r diddanwch llaesa mlinder,
Tâd tosturi Rho im 'smwythder:
Meddyg pôb clwyf Jachâ nolur,
Jesu mâb Duw rho im gyssur.
Am haws­hâd.
Llaesa mlinder, dofa nolur,
Gwêl fy mhoen, a thorr fy ngwaywyr,
Trefna niwedd, penna 'n nrhallod,
Dwg fi attad, rwi 'n dy warchod.
Am nerth ysprydol.
O fy nghrist, cerydda Satan,
Cadw f' enaid rhag ei safan,
Cynnal fi â'th hael-wych yspryd,
Dwg fi attad i'r gwîr fywyd.
Oen Duw maddeu im fy mhechod,
Am Dru­garedd.
Oen Duw pura fy nghydwybod,
Oen Duw gwilia ar fy niwedd,
Oen Duw derbyn fi 'th drugaredd.
Dywaid Arglwydd wrth fy enaid,
Am wir gredini­aeth.
Itt' bwrcassu 'r nêf sendigaid,
A'th waed gwerthfawr trwy fawr boeneu,
I rhoi immi gwedl Angeu.
Dywaid Arglwydd wrth fy enaid,
Am nefol addewid.
Dywaid Arglwydd, dywaid, dywaid,
Heddyw cei di 'n gynnar orphwys,
Gyda mi yngwlad Paradwys.
Christ fy Mugail cadw f' enaid,
Am gadw­riaeth.
Nâd ir llew o'th law ei scliffiaid:
Tydi 'm prynaist yn ddryd ddigon:
Dwg fi 'r nefoedd at d' Angelion.
Derbyn f'enaid anwyl Geidwad,
Am dder­byniad ei enaid.
Derbyn f'enaid weithian attad,
Digon bellach o'r fâth ddyddiau,
Nid wi gwell nâ'r rhest om Tadau.
Rwi 'n gwllyssi cael fy nattod,
Am ddu­wiol yma­dawiad.
A dwad attad, Christ fy mhriod:
Tynn fi weithian Arglwydd Jesu,
Or bydd d'wllys yn cenhadu.
I'th ddwy ddwylo Arglwydd hyfryd,
Am gadw ei yspryd
Ir wi 'n brûdd yn offrwm f' yspryd,
Nad ym hwer neb ei scliffio,
Nai ddwyn mwyach byth o'th ddwylo.

Na thybied y dyn y fo byw a marw yn ei bechod, heb ffydd, edifeirwch, a sancteiddrwydd buchedd, y bydd i Grist dderbyn ei enaid ef. Mat. 7.21. Gwellhewch bawb gan hynny cyn marw, onidê gwae chwi. Esay 55.7. 1 Cor. 6.9, 10.

Gweddi 'r claf yn erbyn Rhythreu Satan.

CHrist fy Mugail cadw f'enaid,
Nâd i'r llew o'th law ei scliffiaid,
Rhwn sy'n ceisio fyng orchfygu,
Yn fyng wendid am traflyngcu.
Dymma 'r pryd y cais ef drecha,
Fynd a'r Gôl pan byddwi gwanna;
Dat. 2.10.
Nertha 'ngwendid Arglwydd cyfion,
Gadw 'r
Dyfod i ddiwedd yr yrfa.
Gôl rhag colli 'r Goron.
Dôd dy yspryd yn fy nghalon,
Dôd o bobtu 'm dy Angelion,
Dôd d' arfogaeth ôll am dana,
Nâd i'r Gelyn gael y trecha.
Nertha fi ddiweddu 'ngyrfa,
Gwna f'awr ore 'r awr ddiwetha:
Arnad Arglwydd mae fy hyder,
Derbyn f'enaid i'th esmwythder.

Gweddi fyrr i'r claf duwiol iw harferu ar yr awr ddiwethaf.

NAwr o Arglwydd y gollyngu
Fi mewn heddwch o'm carchardy:
Gwna im llygaid cyn marwolaeth
Weld dy nerthol iechydwriaeth.
Daeth y dydd a'r awr a roddaist,
Daeth yr amser a derfynnaist,
Daeth y Tymmor, daeth y Terfyn,
Nid oes lle im fyned trostyn.
Y mae 'ngyrfa ar ei gorphen,
Am dydd diwedd ar ei ddiben,
Y mae 'r terfyn gwedi dwad;
Arglwydd derbyn f' enaid attad.
Megis Stephan rwyfi 'n dwedyd,
Arglwydd Jesu derbyn f' yspryd:
Act. 7.59.
Dere Arglwydd, dere 'n fuan,
Cymmer fi ith drugaredd weithian.

Myfyrdod ar Fywyd ac Angeu.

PA gynta by [...]ho marw Christion,
Cynta derbyn hwnnw ei Goron:
Pa hwya bytho Christion byw,
Hwya bydd heb weled Duw.
Pa hwya byddo dŷn heb farw,
Mwya fydd gofynion hwnnw:
Pa gynta tynner dŷn o'i wegi,
Lleia gyd y fydd ei gyfri.

Tôst Gyflwr y Dyn Annuwiol gwedi Marw.

GWŷr a Gwragedd, Meibion, Merched,
Dewch y nes, Rhowch Glûst i glywed,
Cwyn, a chyngor hên Ofer-ddyn,
Sydd yn gorwedd dan y Brethyn.
Mi sum gynt fel yr 'ych chwithau,
Yn fawr fy nwyf, ym-mhlith fy
Ceraint.
nrhassau:
Nawr heb nwyf, yn noeth, yn issel,
Rwyfi 'n gorwedd dan y trestel.
Pan oedd fwya 'mryd ar faswedd,
Lleia meddwl am fy niwedd,
Fe ddaeth Angeu glâs heb wybod,
Ac a rows im farwol ddyrnod.
Pan yr oedd y Bŷd yn Gwenu,
A phôb
March­nad, Cyt­tundeb.
Margain genni'n ffynnu,
Fel y iâ fe dorrodd dana,
Ac am trows yn noeth ir gladdfa.
Pan yr oedd fy nghorph yn Iachus,
A phôb aelod genni 'n rymmus,
Fel stên bridd fe aeth yn
Ddarnau.
ddrefion,
Pan daeth ange at fy nghalon.
Gynt 'roedd genni aur ac arian,
Tai, a thîr, a chyfoeth llydan:
Nawr ni feddaf ar un
Geiniog.
Beni,
O'r holl olud gynne oedd genni.
Gynt 'roedd genni Geraint ddigon,
Gwraig, a phlant, a Ffryns, a gweifion:
Nawr 'does neb ond Angeu melyn,
Y ddaw attaf dan y Brethyn.
Mi gawn lawer gynt im helpu,
Ym mhob Ffordd y Bawn yn pechu:
Ni ddaw un y nawr i atteb,
Gydâ mi am fy Ffolineb.
Y peth a ddaeth i mi mor Sceler,
Yddaw i chwithe Bawb ar fyrder:
Byddwch barod cyn del ange,
Ni chewch rybydd mwy nâ minne.
Y mae Christ ai wenidogion,
Yn rhoi rhybydd inni ddigon:
Llawer mîl sy'n mynd i boeni,
Eisie gwrando llais y rheini.
Y mae llawer rhyw o Bechod,
Yn dolurio fy 'nghydwybod:
Nid oes un yn lladd mor rhigyl,
A Dibrissio geiriau 'r fengyl.
Mi fum Benffast a gwar-galed,
Ni wnawn bris o'r gair er cystled:
Dweded Christ ai wŷr, ei piniwn,
Meddwl.
Ni wnawn inne ond y fynnwn.
Gwell oedd genni wrando cyngor,
Crach Dafarnwr nag un
Dyscaw­dwr.
doctor;
Er bôd hwnnw im cyfrwyddo,
Ar Tafarnwr yn f'anrheithio.
Gwell oedd genni awr yn llawen,
Yn y Tafarn gydâ mersen,
Nâ diwrnod yn y demel,
Gydâ Christ ai anwyl genel.
Gwell oedd genni gâs gyfeillach,
Môch a meddwaint mewn Tafarnach,
Na chyfeillach plant goleuni;
Nawr mae 'n gant edifar genni.
Gwell oedd genni 'wenydd
Llawen­ydd.
aflan,
Ni pharhau ond ennyd fychan,
Nâ gorfoledd teyrnas Nefoedd,
Sydd yn para yn oes oesoedd.
Gwell oedd genni bridd a cherrig,
Pres, a phlwm, a môch, a chessig,
Nâ pharadwys ai Hangelion,
Nâ Duw mawr ai holl fendithion.
Gwell oedd genni 'r cnawd nâ'r enaid,
Y drwg nâ'r da, Y môch nâ'r defaid,
Y byd nâ'r nef, y cam nâ'r cymmwys,
Ar nôs nar dydd, ar gell na'r Eglwys.
Nawr mae 'n difar gan fy 'nghalon,
Fy môd mor ffôl, mor ddall, mor ffinion,
A phôb modfedd sydd yn crynu,
Nawr wrth fynd ir
O flaen yr orsedd­faingc.
Barr im Barnu.
Y mae 'nghorph yn mynd i bydru,
Ir bedd am dan fy ngwaith yn pechu;
Am henaid trist yn mynd i atteb,
O flaen Duw am bôb ffolineb.
Nawr mi Glywa Grist im galw,
Rhaid im atteb wrth fy enw;
F'orfydd mynd i wneuthur cyfri.
Er Anhawsed ydyw genni.
O!
Ba.
Bwy filoedd o Bechode,
Y mae 'nghonsciens
cydwybod
yn eu hadde?
Rhai a wnaethym mor ddiofon,
Gynt yn erbyn Duw a dynion.
O! Bwy rol sydd gan fy ngelyn,
Cŷd a 'r dwyrain a'r Gorllewyn,
Yn cyhuddo ac yn traethu
Y mann, a'r môdd, y bum yn pechu?
O! pwy glywai im cyhuddo,
Ond y diawl y fu 'n fy hudo,
Gynt i bechu yn y dirgel;
Gwae wrandawo ar y cythrel.
Nid oes pechod ac a wnaethym,
Er yn blentyn na bo 'n awchlym,
Yn ei daflu yn fy nannedd,
Gwae fi gynddrwg y fu muchedd.
Mae ê 'n Achwyn mor
Diles.
Ddibroffit,
Gynt y treuliais fy holl ieungctid,
Mewn oferedd, a phibiaeth,
Heb Dduwioldeb na christnogaeth.
Mae ê'n
Dywedyd. Ymhonni.
claymo mai se'm pie,
Waith fy ennill fîl o weithie,
Yn fy ieungctyd; ac na ddichon,
Duw roi iddo lai nâ'i gyfion.
Mae ê'n dangos pôb ffolineb,
Ag a wnaethoi mewn Gwroldeb,
Am holl fedd-dod, am holl ryfyg,
Am trachwante cas llygredig.
Mae e'n dangos fy nigofaint,
Am holl
Troan drwg.
rimpe yn fy henaint,
Am Cybydd-dod, am hanwiredd,
Am
Diofal­rwydd.
Dimdawrwydd am fy niwedd.
Mae e'n taeru lêd ei safan,
Iddo f'ennill ym-mhôb oedran;
A môd inne er yn fachgen,
Yn ei wsnaethu yn dra llawen.
Mae e'n
Dadleu.
pledo yn
Ddigwi­lydd.
Ddigwiddyl,
Wrth y Gyfraith ar Efengyl,
Mae fe'm pie eisie Credu,
Gwella 'muchedd, a difaru.
A lle tibiais trwy anwybod,
I Grist farw dros fy mhechod,
Ac na Chaffe 'r Cythrel feddu,
Ar y sawl na bae 'n ei wadu:
Y mae 'r cythrel ynte 'n
Dywedyd
pledo,
Na thâl sôn am hynny wrtho;
Os ni cheidw Christ un christion,
Ond a gretto ynddo 'n ffyddlon.
Y mae 'r Diawl yn dwedyd eilchwaith,
Nad oedd genni ffydd na gobaith,
Na difeirwch, na gwell amcan,
Nag oedd gan y Twrc a'r
Dyn di­gred, heb broffes o gristnoga­eth.
pagan.
Mae e'n pledo ac yn taeru,
Nâd oes immi nêl â'r Jesu,
Eisie gwrando ei leferydd,
2 Cor. 5.17
A bôd yn greadur newydd.
Er i mi gael enw cristion,
A'm bedyddio gydâ 'r ffyddlon;
Etto nid oedd well fy 'nghrefydd,
Medd y diawl nâ dyn di-fedydd.
Mae e'n dwedyd rwi'n ei glywed,
Nâd oedd gwell fy ffydd am gweithred,
Na 'm ymddygiad am harferion,
Na rhyw
Vn nâd yw 'n pro­fessu Christno­gaeth.
ethnic anobeithlon.
Mae e'n dwedyd na ddilynais,
Air o'r fengyl wen a glywais,
Mwy na'r Iddew nas cas etto,
Râs i dilyn na 'i chosseidio.
Mae e'n dwedyd wrth Dduw 'n am lwg,
Y rhy gennad torri ei wddwg,
Os adroddai iddo 'n rhigyl,
Bedwar gair o'r holl efengyl.
Mae e'n galw Duw ei hunan,
Ai Angelion fawr a bychan,
Yn destiolaeth, nad yw 'n dwedyd,
Ond gwirionedd ar fy mywyd.
Mae fy
cydwybod
nghonsciens drom dan chwssu,
Gyda 'r diawl yn testiolaethu,
Ac yn dwedyd mewn gwirionedd,
Felly 'n uniawn y bu 'muchedd.
Mae e'n dwedyd i mi
Speilio.
bilo,
Pobol dlodion, a'i hanrheithio,
Dwyn ei tai, ai tir oddiarnynt.
A
Sclyfae­thu.
sclementa 'r maint oedd ganthynt.
Mae e'n dwedyd immi feddwi,
A Phutteinia ac ymlosci,
Torri 'r Sabboth fil o weithiau,
A dibrissio Duw ai ddeddfau.
Y mae 'r Diawl gan hynny 'n gofyn,
Am i Grist roi'r farn im herbyn,
Am troi i uffern byth i boeni,
Am fy mhechod am drygioni.
O!
Ba.
bwy grynu, O! bwy gwynfan,
Y mae f'enaid rhag gŵg Satan,
Sydd yn dyfod ai wŷr duon,
Idd iw gyrchu at Dduw cyfion.
O! mor chwerw, O! mor ddiflas,
O! mor ffiaidd ac mor atgas,
Ydyw pechod gantho nawr,
Fu e'n garu gynt mor fawr.
O! bwy gwilydd s'arnai wrando,
Y cyhuddwr im Cyhuddo,
Am gan peth na fynne f'enaid,
Er y bŷd im mam ei 'styriaid.
Gwybod.
Gwell gan f'enaid pe cai ddewys
Fynd i uffern, hyn sydd ddilys,
Na mynd ir bar at y Drindod,
I roi cyfrif am ei bechod.
Etto f' orfydd arno ymddangos,
O flaen Duw nid oes lle aros,
I roi cyfrif llawn, a derbyn
Barn, fel y bo 'r gwaith yn gofyn.
Rhuf. 2.6.
Nid wi'n clywed neb yn pledo,
Nac yn chware 'r twrnai drosto,
Nid wi 'n clywed arno 'n atteb,
Un o filoedd oi Holineb.
Rwyfi 'n gweled Duw â'i lyfrau,
Yn hyspyssu ei drofeddau,
Ac yn datcan yn
Yn gyho­eddus. Preg 12.14 Rhuf. 2.16
ddi-gwnfel,
Y pechodau wnaeth e'n ddirgel.
Rwyfi 'n clywed taflu fuchedd,
Front, ddi-grefydd yn ei ddanedd,
Ai gnawdolrwydd, a'i
Afreola­eth.
freolaeth,
Ai ddrwg arfer ddi-Gristnogaeth.
Rwyfi 'n clywed cyfri 'r llwon,
A fu 'n dyngu 'mysc y meddwon,
A'i ffieidd-dra ar y Sabboeth,
A'i ddrwg naws, a'i eiriau annoeth.
Rwi 'n ei glywed ynte 'n tewi,
Ac yn
Cwynfan.
griddfan ac yn codi,
Heb agoryd dim oi enau,
Mwy nâ 'r pysc, ond ochain weithiau.
Mat. 22.13
Rwyfi 'n clywed Christ yn gwssio,
'R Diawl i glymmu ei draed ai ddwylo,
Ai daflu ir tywyllwch eitha,
Lle nad oes ond cûr a phoenfa.
Rwyfi 'n clywed Crist yn traethu,
'R
F [...].
ferdid arno gan ei farnu,
I dân uffern yn dra union,
At y Cythrel ai angelion.
Rwyfi 'n gweled Satan ynte,
Yn ei rwymo'mewn cadwyne,
Ac i uffern yn ei
Da [...]lu, dreiglo.
dwmblo,
Gwedi clymmu draed ai ddwylo.
Rwi 'n ei glywed ynte 'n llefain,
Ac yn Beichad, ac yn ochain,
Wrth ei daflu mor anffafrol,
Yng-wysc ei ben.
Llwyr ei ben ir tân uffernol.
Rwy fi 'n gweled y Cythreiliaid,
Hwyntau 'n rhwygo ei gorph ai enaid,
Fel y rhwyge Gwn digassog,
Wrth ei newyn, lwrch neu scwarnog.
Rwyfi 'n gwrando ei
Deisyfiad
ganlyn ynteu,
Yn crio n' dôst am gael ei angeu,
Ac er tosted y mae 'n galw,
Nid yw nes er hynny farw.
Mae e'n gorwedd mewn tywyllwch,
Yn nhân uffern heb lonyddwch,
Mar. 9.43, 44.
Rhwng Cythreiliaid lle mae newyn,
A phoenydie tôst di-derfyn.
Nid oes dim yn torri nghalon,
Mor ddigyssur, ac mor greulon,
Ac yw meddwl fel na dderfydd,
Dim oi boenfa yn dragywydd.
Dymma 'r mann a'r lle y gorfydd,
Arnaf inne 'r corph di-grefydd,
Jo. 5 28, 29.
Fynd i boeni atto 'n irad,
Yn ôl dydd yr adgyfodiad.
A da beth y dlywn fyned,
I dân uffern er ei boethed,
Os myfi a barodd iddo,
Bechu 'n fynych heb
Edifaru.
repento.
Dyna 'r lle yr â'r holl bobol,
Ddrwg, ddi-grefydd,, gâs, anneddfol,
Yn ôl hela 'r tŷ trwy 'r ffenest,
Byw fel môch, mewn glwth a gloddest.
Mi gynghorwn bawb gan hynny,
Ofni Duw a'i wir wasnaethu,
A byw 'n sanctaidd ac yn ddeddfol,
Rhâg eu troi ir tân uffernol.
Byddwch sobor, byddwch sanctaidd,
Byddwch union a Christnogaidd:
Dat. 21.8.
Oni byddweh, gwn yn siccir,
Mae i uffern eich condemnir.
Ofnwch Dduw, gwrandewch y fengyl,
Gweglwch droi at hon eich gwegil:
Byddwch fyw fel gwir Gristnogion,
Os chwennychwch gael y goron.
Ni thál
Haeru [...]
pledo ffydd heb weithred,
Nid plant Duw o'r
Y rhai Sy 'n cymryd rhydd-did i bechu. 1 Jo. 3.8. Jo. 8.44.
libertinied:
Nid gwir Gristion dyn di-grefydd,
Plant ir fall yw 'r rhai anufydd.
Ni thâl dwedyd yr wi'n Gristion,
O bydd ffydd heb weithred flrwythlon:
Jac. 2.14. Mat. 7.17.
Ni bydd bywiol ffydd heb weithred,
Mwy nar tân heb wres pan cynned.
Byddwch onest, byddwch union,
Duw ni odde gam fargennon:
1 Thess. 4.6.
Os arferwch dwyll neu ffalstedd,
Trwm o'r dial yn y diwedd.
Beth y ennill dyn wrth dreisio,
Pilo 'r tlawd ai llwyr anrheithio,
Os
Poenir.
tormentir hwn o'r diwedd,
Yn nhân uffern am ei gamwedd.
Mat. 16.26
Beth y dâl i ddyn dros ennyd,
Boddhau.
Blessio 'r cnawd a chael ei wynfyd,
Os â gwedyn yn dragwyddol,
Ar ei ben ir tân uffernol.
Beth y dâl it ddyfal lanw
'R bola dro, ar wîn a chwrw,
Od ac gwedyn am dy fedd-dod,
I newynu i uffern iss [...]d.
Beth a ennill dyn wrth dwyllo,
Torri
addewid
prommais, ac
Colledu.
andwyo
Ei gymmydog tlawd trwy gamwedd,
Os â i uffern am ei ffalstedd.
Naded nêb ir Diawl ei dwyllo,
Gal. 6.7, 8
Y wnelo ddrwg fe atteb drosto:
Fel yr hauoch felly medwch,
Fel y gwneloch y derbynniwch.
Mae mor hawdd ir cythrel scelar,
Fynd ir nef y dydd ei barner,
Ac ir drwg ddyn, glwth, di-grefydd,
Thes. 5.3.
Ddiangc uffern ddydd ei gystydd.
Hîr y herys Duw heb daro,
Llwyr y dial pan y delo,
Am yr echwyn a'r hîr scori,
Fe ry gyflawn ddial itti.
Fe gyd-ddwg â'r bobol waetha,
2 Pet. 3.9. Luc. 13.5.
Ennyd hîr i geisio eu gwella,
Gwedyn eisie troi n' ddifeiriol,
Fe 'i llwyr dry ir tân tragwyddol.
Duw ro gras i bôb dyn wella,
Tra fo 'r dydd ar goleu 'n para:
Duw ach gwnêl chwi bawb yn barod,
Cyn del ange roi chwi ddyrnod.

Cwyn a chyngor Difes iw bum brodyr.

CLywch bawb gŵyn a chyngor Difes,
O'r fflam boeth a'r danllyd ffwrnes,
I bum brodyr ai holl drasse,
Rhag eu dwad lle mae ynte.
O fy mrodyr clywch fi 'n traethu
Fy nhôst gyflwr gwedi nghladdu;
Fel y galloch chwithan ddiangc,
Rhag y cyfryw boenau didrangc.
Marnai ddlyed ich cynghori,
A rhoi rhybydd amlwg i chwi:
Rhag heb wybod i chwi ddwad,
Ir fâth garchar di-ddymchweliad.
A pha gwypech faint om trallod,
Am holl boen yn uffern issod,
Chwi wrandawech ar fy ngeiriau,
Rhag ich ddwad ir fâth boenau.
Gwn yn hysbys iawn pe gwypech,
Faint om poen, am Cûr, am gortrech,
Na chymmerech dda
Emprwr, Pennaeth ag sydd a Brenhino­eddneu dywysogi­on tano.
Amherod,
Er ei goddef vn diwrnod.
Os ni ddichon dŷn nac Angel,
Adrodd gymmaint yw fy nhrafel,
Yn y flam a'r Tân vffernol,
Llei'm poenydir yn dragwyddol:
Bum i gynt yn fawr fy rhyfig,
Yn y bŷd yn ŵr Arbennig,
Yn rheoli fal y mynnwn,
Ac yn gwneuthur faint 'wllyssiwn.
Bum yng olwg llawer vn,
Heb ofni Duw, heb berchi dŷn,
Mwy nag
Dyn di­gred.
Inffidel neu Bagan,
Y ddilyne ei * ffansi hunan:
Os mi dybiais trwy gam grefydd,
Na bawn marw yn dragywydd;
Ac o byddwn marw vnwaith,
Na ddoe 'morol
Ymofyn.
arnai'r eilwaith.
Er bôd Moesen a'r Prophwydi,
Yn mynegi 'n amlwg im-mi,
Fôd fy Enaid yn anfarwol,
Ni wnawn bris oi geiriau grassol.
Er ei bôd yn dangos im-mi,
Y gorfydde gwneuthur cyfri,
Ger bron Duw am bôb fileîndra,
Nid âe hynny yn fy
Pen.
nghloppa.
Nawr yn vffern rwi 'n cael dysgu,
Mae gwir oeddent yn ei draethu:
A bod Enaid didrangc genni,
Yn y fflam yn gwneuthur cyfri.
Tybiais hefyd tra fum byw,
Nad oedd vn nêf, nác yn Duw,
Nac vn vffern, nac yn Cythrel,
Na gwell diwedd dyn na nifel.
Nawr yn vffern wrth boenydio,
Y mae 'r Diawl im
Addysgu.
Cateceiso,
Ac yn dangos yn
Eglur.
blaen immi,
Fod Duw i ddial pob drygiom.
Nawr rwi 'n Clywed ac yn Canfod,
Fod y Diawl, ac vffern issod;
A mîl miloedd o Gythreiliaid,
Wrth farn Duw yn poeni f'enaid.
Rwyfi 'n gweld yn Eglur hollol,
Fod pob Enaid yn anfarwol,
Gwedi marw 'r Corph a'i gladdu,
Bid drwg, bid da, fo'r Enaid hynny.
Nawr y gwn mai gwir yw 'r scrythur,
Nawr y gwn fod Christ yn eir-wir,
Nawr y gwn y treulia 'r nefodd
Mat. 24.31
Cyn êl Geirie Christ yn niffodd.
Eisie Credu hon mewn amser,
Nid yw 'nghred yn awr ond ofer,
Eisie ei chredu yn fy mywyd,
Mi fum byw fel nifail ynfyd.
Felly byddwch chwithau 'mrodyr,
Oni chredwch eiriau 'r Scrythur,
Ac amcanu byw yn ddeddfol,
Yn ei hôl fel meibion grassol.
Eisie dilyn Geiriau 'r scrythur,
Eisie dofi trachwant nattur,
Eisie byw yngoleuni 'r fengyl,
Rwi fi nawr mor ddrwg fy
Cyflwr.
mhiccil.
Eisie dilyn Cyngor Moysen,
Eisie Credu 'r fengyl lawen,
Eisie cadw pwyntau 'r Gyfraith,
Y bu 'muchedd front mor ddiffaith.
Pan y troes i 'r fengyl heibio,
Fe ddaeth Satan im cyfrwyddo,
Ac im Tynnu i bôb drygioni,
Y fae 'nhrachwant yn ei hoffi.
Nid oes pechod alla'i draethu,
Nas dilynais nes im laru,
Nes mynd bywyd ffiaidd Difes,
Mor ddiereb a Manasses.
Gwnaethym Dduw om golud bydol,
Rhoes fy mrŷd ar bethau cnawdol,
Ym-mhob drwg mi aethym
Ym mlaen
ragof,
A gollyngais Dduw yn angof.
Felly gwedi tôst gamsyniaid,
Llwyr ddibrissiais am fy Enaid,
Fel rhyw nifel na bae 'n coffa,
Dim ond am y bŷd a'r bola.
Mynnais drwssiad gwych am danaf,
Pwrpl côch
Yscarled.
bôb dydd o'r meinaf:
Nawr yn vffern rwi 'n nhoeth lymyn,
Am fy nghoegedd heb Edefyn.
Mynnais
Lliain main.
Sindon, Lawnd, a Chambrig,
Yn fy ngrhysse
Bob am­ser.
awr ac orig:
Nawr gwae finne na bae Garthen,
Neu hws Ceffyl am fy nghefen.
Minnau fynnwn lanw 'mola,
Ar ddainteith-fwyd o'r melyssa,
Bôb diwrnod tra fu 'r flwyddyn,
Er bôd f'enaid yn dwyn newyn.
Bum mor foethus ac mor
Finfelus
ddainti,
Ac na fynnwn vnwaith brofi,
Dim ond y fae tra ddainteithiol,
Brâs a melus, drûd, a manol.
Nawr mi fynnwn pa cawn fwytta,
Soeg y môch i lanwr 'mola,
Ac i dorri peth o'r newyn,
Sy'n dolurio pob Colyddyn.
Bum yn yfed ac yn whiffo,
Bur a gwîn, heb fessur arno;
Ac yn llanw mola ganwaith,
Nes ei chwdu fynu eilwaith.
Nawr mi rown y bŷd yn gyfan,
Ai holl dryssor pe cawn ddafan,
O ddwr oer i oeri 'n hafod,
Sydd mewn fflam yn llosci 'n wastod.
Er bôd ar fy mord i friwsion,
Alle borthi
Ba [...]ad.
fwrn o dlodion,
Fe gae'r Cŵn y Cwbwl rhyngthyn,
Cyn cae Lazar vn briwsionyn.
Nawr mae Lazar ynteu 'n t [...]lu,
Pwyth hyd adre, ac yn pallu,
Rhoi o'r ffynnon im-mi ddafan,
O'r dwr oer, er maint wi 'n
Ceisio.
fegian.
Er bod Moysen a'r Prophwydi,
Yn rhoi llawer rhybydd im-mi;
Ni wrandawn ar ddim a ddwedent,
Ni wnawn vn rhith ag a geisient.
Nawr gan hynny rwi 'n cael crio,
Ddydd a nôs, heb gael fy ngwrando,
Ond cael taflu yn fy nannedd,
Mor annuwiol y fu 'muchedd.
Pan pregethid yr Efengyl,
Minnau drown at hon fy ngvvegil,
Ac y gysgwn ar fy nwrnau,
Pan bae eraill yn cael gwensau.
Nawr am gysgu yn y demel,
Fe'm
Poenir.
Tormentir gan y Cythrel,
Fel nad wyf yn abal cysgu,
Na marwino mwy ond hynny.
Ac am flino gwrando 'r fengyl,
Ac Athrawiaeth Christ yn rhigyl,
Y mae 'n gorfod arnai wrando,
Cri.
Screch y Cythrel byth tra gantho.
Eisie gwrando cyngor Moesen,
Eisie credu 'r fengyl lawen,
Eisie dilyn hon ai dysgu,
Y mae yn vffern fil yn
Ochain.
gryddfu.
Minnau dreuliais ddydd yr Arglwydd,
Mewn glothineb ac anlladrwydd
Drythy­llwch, wantan­rwydd.
,
Yn gan gwaeth mewn gloddest scymmyn,
Nag vn dydd o ddyddiau 'r flwyddyn.
Mae 'ma filoedd o rai annoeth,
Am halogi 'r Sanctaidd Sabboth,
Heb gael Sabboth nac Esmwythdra,
Ond yn poeni hâf a gaya.
Cymrais Enw Duw yn ofer,
Fil o weithiau wrth fy mhleser,
Nid oedd blâs ar chweddel genni,
Nes y Tyngwn waed y Jesu.
O
Ba.
bwy boenfa 's'ar fy nhafod,
Am ddirmygu gwaed y Cymmod:
A phwy
Boen.
dorment sy 'n fy ngryddfu,
Am amherchu Enw 'r Jesu.
Minne offrymais f'enaid ganwaith,
Yn y dydd ir Cythrel diffaith,
Am i roi mor fynych iddo,
F'aeth y Diawl â'r Enaid gantho.
Mae 'ma lawer mîl fel finne,
Yn y pwll mewn irad boene,
Am roi ei hun ir diawl dan regu,
Wedi i Grist â'i waed eu prynu.
Llawer vn a fum i 'n hela,
O dra malis i ryfela,
Er mwyn Tywallt gwaed y gwirion,
A'i difetha heb achossion.
Nawr mae gwaed y rhain yn llefain,
Am ddialau arnai 'r filain,
Ac yn Crio ar y Cythrel,
Dalu immi am fy nhrafel.
Bum yn gwest arfywyd ganwaith,
Heb nac ofon Duw na'r gyfraith,
Yn Condemnio llawer Gwirion,
Ac yn Cadw
Lleiddi­aid.
llofrudd, lladron.
Nawr mae 'r
Lleiddi­aid.
mwrddwyr dan ei henw,
Ar drwg ddynion fum i 'n Gadw,
Yn y pwll yn
Rhwygo.
llarpio f'enaid,
Mor ddiffafar a'r Cythreiliaid.
Larais ar fy ngwraig fy hunan,
Cymrais fenthig gwragedd aflan:
Llu o'r rhain sy nawr im pwyo,
Ym hwll vffern am eu hudo.
Mae 'r bastardiaid fum i 'n ennill,
O'r rhai aflan hyn fel perchill,
Oll yn llefain ac yn Crio,
Am ir Cythrel fy
Poeni.
nhormento.
Minne orthrymmais blant ymddifaid,
Pan bae farw vn om deiliaid,
Awn ar ddau ŷch fawr o'r arad,
Rhag ir naill o'r ychen
Brefu.
freifad.
Nawr am dreisio 'r fâth wirionaid,
Fe'm tôst ffystir gan Gythreuliaid,
Yn gan gwaeth nag y bydd
Barcer.
Tanner,
A'r Pawl mawr yn ffysto 'r lleder.
Bum yn hirio anwir ddynion,
Lawer gwaith i dyngu 'n vdon,
Ac yn peri 'r rheini dyngu,
Beth y fynnwn ond eu dyscu.
Y mae rhain fel haid o nadredd,
Ddydd a nôs yn Cnoi fy mherfedd,
Ac yn rhwygo 'n dôst fy nghalon,
Am eu dyscu dyngu 'n vdon.
Minnau elwais bobol wirion,
Weithiau 'n
Lleiddi­aid.
fwrddwyr, weithiau 'n lladron,
Ac enllibiais wŷr a gwragedd,
Heb ddim achos ond fy 'nrhawsedd.
Cedwais hîr a llawer Cyflog,
A'r fy ngwas a'r tlawd
Anhappus
anffodiog,
Ac y berais ir Tlawd fedi,
Fy holl heiniar heb vn
Geiniog.
beni.
Nawr mae gwaedd y rheini 'n Crio,
Ar y drwgwr am fy mhwyo,
Am im Gadw hîr y rheini,
Ac
Anrhei­thio.
Andwyo 'r Cyfryw dlodi.
Rhoddais f'arian gynt ar
Llôg.
occor,
Ir dŷn Tlawd fel cybydd
Brwnt, trachwan­tus.
angor;
Nes im lyngcu fedde 'r tlodion,
A'i handwyo â'm bargennon.
Nawr mae llawer vn o'r rheini;
Ymma 'n vffern yn fy mhoeni;
Am eu gyrru i ledratta,
Gwedi f' occor brwnt eu difa.
Rhoddais ir Cyfreithwyr duon,
Wabar fawr am dreisio tlodion:
Mae 'r Cyfreithwŷr yn fy llethu,
Ymma 'n vffern am eu llygru.
Rhoddais gennad im holl weision,
Flino, gorthrym­mu.
Vexo pawb om Cymmydogion:
Nawr mae 'r gweision am ei godde,
Yn vexo 'n dost fy Enaid inne.
Prynais dîr dan bris gan fagad,
Cedwais beth ar bawb o'u Taliad;
Nawr mewn Carchar rwi am hynny,
Heb fôd gennif rô [...] i dalu.
Pe bae ddimme 'n abal prynu,
Rhydd-did im-mi om Carchardu,
Am dwyn o'r pwll ir nêf ole,
Nid wi 'n abal cael o'r ddimme.
Cefais rybydd fil o weithie,
Am roi dreisiais eilwaith adre;
Minnau awn ir Tân vffernol,
Cyn rhown ddimme yn ei gwrthol.
Pan y gwerthwn wlân a llafur,
Rhown gam bwysau, rhown gam fessur:
Yn yr ŷd mi werthwn raban,
Yr vn bris a'r gwenith purlan.
Ac yn Erbyn Duw a'i ddeddfe,
Cedwais amryw
Fâth.
sort o bwyse;
Pwys rhy fawr, pan fawn yn prynu,
Pwys rhy fach, pan fawn yn gwerthu.
Nawr fe'm Curir ar fy 'nghloppa,
Gan y Diawl â'r pwysau mwya;
A phawb Eraill megis minne,
Y fo 'n arfer anwir bwyse.
Ni adewais
Pwngc.
bwynt o'r Gyfraith,
Heb ei thorri lawer Canwaith:
Mi ymdrois ym-mhob rhyw bechod,
Nâs ir Angeu roi im' ddyrnod.
Mi fynegais lwch yn oleu,
B'wedd y bum i byw hyd Angeu:
Mi fynegaf i chwi weithian,
B'wedd im poenir dan law Satan.
Y mae 'r pwll lle rwyfi 'n trigo,
Datc. 20.3
Yn ddwfn iawn heb waelod iddo:
A'i holl
Muriau.
welydd Cyn ucheled,
Nad oes Gobaith Cael ymwared.
Y mae 'r pwll dros fŷth yn llosgi,
O dân poeth fel môr yn berwi;
Esa. 30.33
Y mae anal Duw ei hunan,
Yn ei drîn fel môr o frwmstan.
Gwedi nynnu 'r Tân hyn vnwaith,
Byth ni ddiffodd hwn yr eilwaith:
Nid rhaid chwythu dim o hano,
Mae ê 'n Cynnu heb ei gyffro.
Y mae 'r Tân dros fŷth yn llosci,
Mar. 9.44.
Yn 'dra ffyrnig ac yn poeni;
Ac er hyn nid yw ê'n treulio,
Nac yn difa dim êl iddo.
Mae 'r vn tân yn poeni 'r bobol,
Ond mewn dull a môdd neillduol;
Mat. 10 1 [...]
Rhai yn fwy neu lai o ronyn,
Fel y bythoi beiau 'n gofyn.
Yr Haul a lusc y
Dyn dû.
mŵr o'r India,
Yn fwy nâ'r rhai a drig yn Rwssia:
Vffern boeth y lusc yn boethach,
Bechod mawr nâ phechod byrrach.
Nid oes yn y pwll yn Trigo,
Vn heb rwym ar draed a dwylo,
Mewn Cadwynau Tragwyddoldeb,
Am eu pechod a'u ffolineb.
Mae tywyllwch hefyd ynddo,
All pôb rhai yn bawdd ei deimlo:
Mat. 25.30.
Ac er dechreu 'r bŷd ni welad,
Ynddo oleu 'r Haul neu 'r leuad.
Mae ê'n drewi Cyn ffyrnicced,
Nad oes dim all ddrewi gassed:
Er bôd miloedd yn ei
Diwyno.
nyrddo,
Ni lanhawd erioed o hano.
Y mae pryfed ynddo 'n bwytta,
cydwybod
Consciens dŷn heb gael ei gwala,
Mar 9 44.
Dydd a nôs yn fawr ei hawydd,
Ac heb farw yn dragywydd.
Y mae gwedi mîl o filoedd,
O gythreuliaid megis lluoedd,
Yn
Poeni.
Tormento 'r rhai damnedig,
Ac heb orphwys
vn amser
awr nac orig.
Maent yn dyrnu ac yn pwyo,
Rhai damnedig heb ddeffygio:
Ac Er maint y fônt yn ddial,
Bŷth ni chymmer vn ei
Anadl.
anal.
Y mae 'r
Poen.
Torment yn dragwyddol,
Ac ar bawb yn gyffredinol,
Yn Tormento pawb ar neilldu,
Ymmhob aelod y fu 'n pechu.
Y mae 'r llygaid heb gael gweled,
Ond Cythreuliaid Er ei Cassed,
Ac Eneidiau Rhai damnedig,
Yn y pwll yn wylo 'n ffyrnig.
Y mae 'r Genau ynteu 'n bwytta,
Bustyl lindys, bwyd o'r chwerwa:
Psal. 75.8.
Ac heb yfed dim ond Gwaddod,
O ddigofaint Tôst y Drindod.
Y mae 'r Clustiau hwynte 'n gwrando,
Creglais. Luc. 13.28
Screch y diawl a'i blant yn Crio;
A thôst ochain rhai damnedig,
Yn scyrnygu dannedd ffyrnig,
Y mae 'r Tafod ynte 'n llosci,
Ac mewn Brwmstan poeth yn berwi;
Luc. 16.24, 25.
Heb gael Cymmaint ag vn dafan,
O ddwr oer i ddofi 'r lloscfan.
Y mae 'r ffroenau yn aroglu,
Datc. 21.8
Gwynt y Brwmstan o'r Carchardu,
Sydd heb garthu etto Er Adda,
Ac yn drewi o'r ffyrnicca.
Y mae'r Traed a'r dwylo hwyntau,
Gwedi Clymmu mewn Cadwynau;
Ac heb Allel Troi na threiglo,
Or lle 'r ydys yn ei
Poethi.
brwylio.
Y mae Dannedd pawb yn rhingccian,
Yn scyrnygu â'r fâth
Swn.
dwrddan,
Ag y bydd Echrydus gennwn,
Wrando ei llais, na gweld ei ffashiwn
Hagwedd
,
Y mae pryfed Câs anfarwol,
Yn Cnoi
cydwybod
Consciens pôb annuwiol;
Ac yn bwytta 'n llym Escymmyn,
Etto bŷth heb dorri newyn.
Fel y pechodd pôb rhyw aelod,
Ag oedd gennif,
Hyd yn oed.
noed fy nhafod;
Felly poenir fy aelodau,
Bôb yr vn ag amryw boenau.
Mae pôb aelod yn poenydio,
Mae pôb mann a dial arno;
Mae pôb dial yn dragywydd,
Yn poenydio heb ddim llonydd.
Ni bydd marw bŷth o'r pryfyn,
Bŷth ni ddiffodd Tân yr odyn:
Ni ddaw Angeu er y geisiaf,
Bŷth i wneuthur diwedd arnaf.
Ni bu 'r diluw ond blwydd hynod,
Na thân Sodom ond diwrnod;
Newyn
Yr Aipht
Egypt ond saith mlynedd,
Mae 'mhoen innau bŷth heb ddiwedd.
Pe cawn rydd-did o'm holl boenau,
Am ben Can mil o flynyddau;
Byddei hynny
Gyssur.
gynffordd im-mi;
Ond dros fŷth mae 'n rhaid im boeni.
Y gair bŷth sy'n torri 'nghalon,
2 Thess. 1.9.
Y gair bŷth sy'n Cnoi 'ngholyddion:
Y gair bŷth sy'n peri im-mi
Fwytta 'mreichiau a gwallgofi.
Tôst yw goddef hyn o gystydd,
Dan law Satan yn dragywydd;
Y mae Etto beth sydd dostach,
Colli 'r Jesu ai gyfeillach:
Colli 'r bywyd, Colli 'r Goron,
Colli 'r Jesu a'i Angelion,
Colli 'r nefoedd a'i
gogoniant
'rhiàltwch,
Colli Duw a phôb dedwyddwch:
Melldith Dduw ir dydd ym ganed,
Anap ddrwg ir awr ym llunied,
Vffern boeth im mam na bysse,
Yn dwyn llyffan yn fy nghyfle.
Gwae fi 'rioed na thorsei 'ngwddwg,
Ar y ploccyn pren â bilwg,
Cyn rhoi bron i fâb anwadal,
I ddigio Duw, i ddwyn ei ddial.
Nid oes Cythrel na dyn scymmyn,
Ymma 'n vffern a'i holl derfyn,
Na bônt ar ei Cylch yn
Gyttun.
Gyngan,
Yn fy mhwyo fawr a bychan.
Nid oes Enaid dŷn er Adda,
Ym hwll vffern mewn mwy boenfa;
Mewn mwy drallod, mewn mwy eisie,
Nag y mae fy Enaid inne.
Dymma 'nghustydd, dymma 'mhoenfa,
Dymma 'ngwaywyr, dymma 'ngwascfa;
Dymma 'r Cyflwr yr wi ynddo,
Bôb yr awr yn tôst boenydio.
O gan hynny fy 'mhum brodyr,
A phawb Eraill sydd o synwyr;
Cymrwch rybydd cyn del Angeu,
Rhag iwch ddwad lle 'rwi finneu.
Oni byddwch Edifeiriol,
Ffyddlon, vfydd, a christnogol;
Gwn na ddengys Duw 'r Dialau,
Iwch fwy ffafar nag i minnau.

Atteb i Gwestiwn ynghylch gweddio dros y marw: ble dangosir anghyfreithlondeb gweddio dros y cyfryw.

FYnghâr a'm gwîr anwylyd,
Gofynsoch gwestiwn hyfryd:
Mae 'n weddus im, ym-mhlaid y ffydd,
Roi atteb prûdd o'i blegid.
Hyn ymma yw'ch gofyniad
Ai gweddus i offeiriad,
Weddio dros y marw 'n brûdd,
Yn ôl y dydd
Ymada­wiad neu farwola­eth.
departiad.
Rwi 'n atteb i chwi 'n groyw,
Na ddiodde 'r scrythur alw,
Na gweddio, na dydd, na nôs,
Yn ofer dros y marw.
Mae Duw yn barnu 'r enaid,
Heb. 9.27.
I'r nêf neu uffern dambaid,
Yr awr yr êl o'r corph y maes,
Yn ôl ei
Gyflwr.
gâs a'i weithred.
Mae enaid y dyn ffyddlon,
Luc 23.43 a'r 16.22. Phil. 1.23.
Yn mynd o'i gorph yn union,
I'r nefoedd at Angelion
Act 7.59 Mwyn, llariaidd.
gwâr,
Fel enaid Lazar wirion.
Mae enaid yr annuwiol,
Yn mynd i'r pwll uffernol,
(Pan êl ô'r corph) îr tan a'r rhês
Fel enaid Difes fydol.
Psal. 16.11
Mae 'r duwiol mewn dedwyddwch,
Gogoniant a
Parch.
rhialtwch;
Y fâth nid rhaid iwch geisio mwy;
Gadawn ni hwy mewn heddwch.
Nid rhaid gweddio drostynt,
Gan gystal yw eu helynt:
Datc. 7.13 16, 17.
Maent hwy gydâ 'r oen bôb awr;
A Swpper fawr sydd ganthynt.
Luc. 16.23 hyd 27.
Mae 'r enaid anwir ynte,
Yn griddfan yn y poene:
Ni ddaw hwn o'i boen a'i blâg,
Er gweddi nag offrymme.
Yn ôl i un-dŷn farw,
A chael y farn yn groyw,
Ofer yw i'r wlâd a'r plwy,
Weddio mwy dros hwnnw.
Pe ceisie Job neu Ddaniel,
Neu Abram, Moesen, Samuel,
Laesu 'r
Sef, poe­nau 'r an­nuwiol.
poene yn y fflam,
Ni chaent ddim am eu trafel.
Pe delei ffeiriaid holl-fyd,
I grio drosto 'n daerllyd,
A'u haberthau o bôb rhyw,
Ni
Ni newi­die ei farn
altre Duw mo'i ferdyd.
Pe delei 'r bŷd yn gyfan,
A gweiddi am laesu 'r boenfan;
Luc. 16.24
Ni chaen gwedi marw 'r gŵr,
O'r
Dafn.
droppyn dwr iw safan.
Y farn y saif yn ddilys;
Llei cwympo 'r pren fe erys:
Preg. 11.3.
Ni newid Duw o'r farn y rows;
Erioed ni throws o'i 'wllys.
Jaco. 1.17.
Mae Duw yn ddianwadal,
Y farn y rows fe'i cynnal:
Ni all y bŷd â'u hymbil taer,
Nâr nêf, na'r ddaer ei hattal.
Yr amser i weddio,
Sydd cyn i ddŷn
Farw.
ddeparto;
Gweddi gwedi marw nêb,
Sydd weddi heb
Tyccio, lesâu.
brefailo.
Gan hynny rwi 'n cynghori,
I bawb y garo weddi,
Geisio hon tra yntho
Fywyd.
wrês,
Os cais ê lês oddiwrthi.
Cais wisc, cais oel, cais oleu,
Cais râs cyn delo 'r angeu:
Esay. 55.6
Ni chair gwedi
Myned heibio.
passo 'r dydd,
O'r dwr, os bydd e'n eifie.
Gan hynny cyn
Marw.
departo,
Ni ddylem bawb weddio;
Dyna'r pryd heb ddim o'r ffael,
Mae inni gael ein gwrando.
Cyn marw y mae inni,
1 Cor. 9.24 Luc. 13.24 25, 26, 27.
Ennill nêf neu cholli,
Gwedi marw ni chaiff ffôl,
Ond barn yn ôl ei frynti.
Cyn marw mae
edifarhan Joa. 12.35 Joan. 9.4. Preg. 9, 10.
repento.
Trai 'n ddydd y mae ymgweirio:
Pan êl hi 'n nôs, medd Christ ei hun,
Ni all ûn-dŷn mor gweithio.
Mae Christ yn erchi 'r treisiwr,
Mat. 5.25.26.
Cyttuno â'i wrthnebŵr,
Tro ar y ffordd, cyn delo 'mlaen,
Rhag mynd o flaen y Barnŵr:
Rhag rhwymo ei draed a'i ddwylo,
A'i daflu i gael i
Losci yn vffern.
frwylio:
O eisie gwneuthur iawn mewn pryd,
Ni's tynn y bŷd oddiyno.
2 Sam. 12. 15 hydy 24
Fe wydde Dafydd frenin,
Pan darfu am ei blentyn,
Mae ofer oedd gweddio mwy,
Dros hwnnw trwy hîr ganlyn:
I ddangos hyn mor ofer,
I ûn rhyw ddŷn i arfer
Gweddi, gwedi marw 'r ffrynd,
Yn ôl i fynd i 'smwythder.
Am hyn nid oes gweddio,
Dros fftynd yn ôl departo,
Y mae 'n credu fynd yn noeth,
I uffern boeth i darrio.
Nid oes i nêb ond dau-le,
I fyned gwedi ange,
Nêf ac uffern, medd gair Duw,
Tân pûr nid yw ond chwedle.
Nid rhaid i nêb weddio,
Dros ûn â ir nêf i drigo:
Luc. 16.26 Mat 25.46
Os yn uffern y gwna ei nŷth,
Ni ddaw ê bŷth oddiyno.
Nid oedd ond gweithred ofer,
A wnaeth i'r ffeiriaid arfer
Gweddi dros y marw mûd,
I dwyllo 'r bŷd dibryder.
Nid ydyw 'r ffeiriaid gore,
Yn godde 'r fâth weddie,
Ni's gwna ond rhyw ffeiredyn ffôl
Sy'n serchi 'n ôl y ddimme.
Mae dyled ar bôb ffeiriad,
Roi diolch am 'madawiad,
Pôb dŷn duwiol yn
Ddiam­mau.
ddiddoi,
Mewn gobaith o'i gyfodiad.
Ond am weddio drostyn,
Yn ôl eu clâdd a'u terfyn,
Peth di-lês, gwarddedig yw,
Ni's gwna ond rhyw oferddyn.
Wel dymma i chwi Atteb,
Wele.
O'ch cwestiwn mewn ffyddlondeb:
Duw ro cynnydd ar eich ffydd,
A grâs yn brûdd i'ch hwyneb.

Cyngor Mr. Prichard iw Fâb.

SAmi bach er cariad Duw,
Cofia bŷth tra fyddech byw,
Foli Christ ar ben dy linie,
Trafydd­ech.
Trech om golwg oddi gartre.
Galw 'n brûdd o ddyfnder calon,
Ar dy Dâd a'th Brynwr tirion,
Am d'amddiffyn nôs a bore,
Rhag pôb drwg trech oddi gartre.
Plŷg dy ddoi-lin, côd dy ddwylo,
Dal yn grâff dy lygaid arno:
Cais ei rym, a'i râs, a'i ore,
Ym mhôb dim trech oddi gartre.
Felly ceidw Duw di 'n wastod,
Rhag pôb niwed, a drwg anffod;
Ac ni edy ddim yn eisie,
Ar Sam bach tro oddi gartre.
Cria ar Dduw am help i ddysgu
Nabod Christ, a'i wîr wasnaethu,
Trech yn blentyn yn dy foethe;
Dymma'th swydd trech oddi gartre.
Arfer ofni Duw a'i ganlyn,
Yn dy ieungctid trech yn blentyn;
Felly byddi
Siccr.
siwr mewn gradde,
Foli Duw yn hên-wr gartre.
Dôs yn llawen at dy Lyfur,
Dysc yn
Ar frys.
glicc, ac na fydd segur:
Nid wi 'n gwardd er hyn id weithie,
Chware peth trech oddi gartre.
Cyn bech segur taro 'r delyn,
Cân fy psalme sy'n ei chanlyn;
Fe fydd hynny
Hyfryd.
ddifyr weithie,
I Sam bach, tro oddi gartre.
Cân fel cricced ar bôb cam,
Gwachel wylo am dy fam:
Duw fydd Mam a Thâd o'r gore
I Sam bach tro oddi gratre.
Duw ro'i râs â'i fendith itti,
Duw 'th gyfrwyddo iw addoli;
Duw fo ceidwad nôs a bore
Ar Sam bach tro oddi gartre.

Cyngor Arall iw fâb.

Côd y bore ar y wawr-ddydd,
Am y cynta a'r ychedydd,
Hynny 'th helpa i gael hîr iechyd,
Dysc a dawn, a chyfoeth hefyd.
Gwisc yn
Ebrwydd.
esgud dy holl ddillad,
Dôd y rhain yn gryno am danad;
Nâd fod bwttwn heb ei gayed,
Cyn y caffo neb dy weled.
Golch dy wyneb, crib dy ben,
A'th gwff yn lân, a'th fond yn wen,
A'th drwssiad oll yn dra threfnus:
O flaen Duw mae hynny 'n weddns.
Gwedi ymdrwssio Dos i'th weddi,
Yn ddiaros, gwagel oedi,
Cwymp o flaen Duw ar dy linie,
Cyn y gwlychech di dy ene.
Pan y delech o flaen Duw,
Meddwl Sam mai Brenin yw,
O flaen pwy mae 'r holl Angelion
Yn ymostwng mewn mawr
Parche­dig ofon.
ofon.
Dere dithe ar dy ddoilin,
Sami bach o flaen dy Frenin:
Ac na chytcam wrtho yngan,
Heb anrhydedd, parch ac ofan.
Ar dy linie côd d'olygon,
Psal. 95.6.
Ac dy nefol Dâd yn eon:
Ac nac ofna ofyn iddo
Bôb peth ag sydd raid it wrtho.
Er bôd Duw yn Frenin grymmus,
Holl-alluog, anrhydeddus,
Etto er hyn mae Christ yn dwedyd,
Mat. 6.9.
Fôd Duw mawr yn Dâd id hefyd.
Mae Duw yn dâd iw bobl.
Galw dithe ar dy dâd,
Am roi itti ddawn a rhâd:
Ac ni phall e ond ei geisio
Psal. 34.10
Ddim ag y fo rhaid id wrtho.
Or bydd arnat ddim ar wâll,
Cais yn daer, ac na fyn bâll;
Jac. 5.16.
Hôff gan Dduw y dyn y geisio,
Yn daer, bôb awr gymmorth gantho.
Cais ei gymmorth ac fe ddyry.
Psa. 18.30.
Galw arno ac fe'th wrendy:
Rho di yndo dy ymddiried,
Ac fe 'th geidw rhag pôh niwed.
Dih. 8.17.
Cofia Dduw fe 'th gofia dit [...],
Ac ni edy arnat eisie:
1 Sam. 2.30.
Ei wasnaethwyr fe'u gwasnaetha,
Ai ddirmygwyr fe'u dirmyga.
Os gwasnaethu Dduw yn wastad,
Fe gymmer cymmaint
Gofal.
garcc am danad,
A phyt fae ef heb vn plentyn,
Ond tydi i garccu drostyn.
Meddwl dithe Sami bach,
Yn gefnog, p'un ai claf ai iach,
Am wasnaethu Duw bôb amser,
Ddydd a nôs wrth
Defod ac arfer orch­mynedig gan Dduw▪
gwrs ac arfer.
Os arferu nawr yn blentyn
'Snaethu Duw yn brudd a'i ganlyn,
Yn ŵr hên ni elli beido,
Dih. 22▪6.
Lai na'i wsnaethu byth tra ganto.
Duw ro itti rym a gras,
I fôd iddo bŷth yn wâs,
Nes y caffech yn y diwedd
Yn y nefoedd fôd yn Tifedd.

Gweddi Samuel Prichard.

A Rglwydd Rhoddwr pôb daioni,
Jac. 1.17.
Brenin nêf a Thâd goleuni,
Gwêl a gwrando weddi egwan
Blentyn bach o ddeng mlwydd oedran.
Rwi fi 'n dwad ar fy nau-lin,
O'th flaen di fy ngrasol Frenin,
I
Geisio.
fegian arch ar dy ddwylo,
Er mwyn Christ na phall im honno.
Di orchmynnaist immi ofyn,
Di addewaist rhoi ond
Gofyn yn daer. Mat. 7.7, 8
canlyn:
Canlyn rwi, na phâll immi,
O'r vn arch ag wyfi 'n erchi.
Solomon gynt y Brenin hyfryd
1 Bren. 3.
Geisie vn arch, Doethineb genyd;
Ac di roddaist ei arch iddo,
A llawer mwy nag oedd e'n geisio.
Jacob ynte geisiodd genyd
Gen. 28.20 Gen. 32.10
Fwyd a dillad nes dychwelyd:
Ac di roddaist hynny iddo,
A llawer mwy nag oedd e'n geisio.
Minne sydd yn dwad attad,
Ar fy nau-lin anwyl Geidwad,
'Geisio genyd arch trwy weddi,
Er mwyn Christ na phall hi immi.
Nid wi 'n ceisio golud bydol,
Vchel fraint, na
Melusder.
phleser cnawdol;
Ond yn vnig grâs a gallu,
Bŷth fel Christion i'th wasnaethu.
Doro râs a grym i minne,
Nawr yn blentyn gwympo i ddechre,
Dy wasnaethu mewn gwîr grefydd,
A'i arferu yn dragywydd.
Nâd im dreulio dyddie 'm ieungctid,
Mewn oferedd,
Gormo­dedd.
rhwyf, a rhydd-did;
Ond pâr immi yn fy nghryfdwr,
Dy addoli fy 'nghreawdwr.
Dan. 1.
Agor dryssor dy ddaioni,
Doro râs a deall immi,
Yn ddyn bâch dy wir gydnabod,
Megis Daniel gynt a'i
Y fawl oedd o'r vn oedran ac ef. Jer. 1.
gyfod.
Jeremi y Prophwyd ynte,
Yn fâb bâch yth wîr addole:
Doro râs fel Jerem immi,
Yn fâb bâch ith wir addoli.
Rhuf. 12.1, 2.
Rwi'n fy offrwm i'th wasnaethu,
Yn fy ieungctid yn ddihiraethu:
Arglwydd grasol derbyn finne,
I'th wasnaethu yn ddiamme.
Di dderbynaist Samuel gynta,
I'th wasnaethu ar y ianga,
Pan yr oedd ef yn ei shiacced,
1 Sam 3.1.
Yn fâb bach yn dechre cerdded:
Derbyn finne Arglwydd grasol,
I'th wasnaethu mor natturiol;
Ac eglura dy hun immi,
Fel y gallwi 'n fach d' addoli.
O
O cy­flawna.
ffwrneisia fi 'n ddigonol,
A phôb dawn fy'n anghenrheidiol,
Immi gaffael bôd yn enwog,
Yn wâs itti 'r holl-alluog.
Agor llygaid fy ngwybodaeth,
Ps. 119.18.
Rho im râs a deall helaeth,
Fel ystyriwyf yn dra pherffaith,
Bethau dirgel yn dy gyfraith.
Nynn fy nghalon â gwreichionen,
O'th wir râs tra fyddwi 'n fachgen,
Fel y lloscoi byth yn wresog,
Yn dwyn
Awydd­fryd, aw­ydd chw­ant. Esay 6.
zêl ir holl-alluog.
Cwrdd â'm calon â marworyn,
Oddi-ar d'allor tra fwi 'n Blentyn,
Fel y gallwi draethu 'n ole
Dy fawr glôd tro chwyth im gene.
Rho im
Gallu.
bwer i ddeallu
Dy wîr air, a'i iawn ddosbarthu,
Fel y gallwi iawn ystyried,
Beth sydd dda ar lês fy enaid.
Gwna fi bŷth yn
Ensampl.
batrwn duwiol,
Yn f'ymddygiad i'th holl bobol,
Gan fyw'n sanctaidd, yn fy muchedd,
Ym mhôb
Peth.
pwynt o'm dechre im diwedd.
Dymma f'arch, a dymma
deisyfiad.
nghanlyn,
Dymma 'r rhoddiad wi 'n ei ofyn:
Er mwyn Christ na phall hi immi,
Râs yn Blentyn i'th addoli.
Nâd im dreulio dim om hamser,
O hyn allan bŷth yn ofer:
Ond pâr immi dreulio 'n wastad,
'Nghylch y peth y berthyn attad.
Tywallt fendith ar fy 'nrhafel,
Pâr im ddysgu yn ddiogel;
Rho im gymmorth i ddeallu,
Ac i gofio 'r peth wi'n ddysgu.
Tanna droswi d'adain rasol,
Cûdd fi deni yn wastadol,
Nâd vn gelyn wneuthur niwed,
Mewn vn môdd im corph na'm hened.
Cadw fi rhag cwrp a thramgwydd,
Cwilydd, colled, anap, aflwydd,
Nychdod, niwed, a'r fâth hynny,
O'r bydd d'wllys yn cennadu.
Bydded.
Bid dy Lygaid im diwallu,
Bid d' Angelion im castellu,
Bid dy yspryd im cyfrwyddo,
Bid dy râs im cynnorthwyo.
Clôd i ti, a Grâs i minne,
Mawl im Brenin nôs a bore,
Gwîr ogoniant yn dragywydd
Y fo im Harglwydd am Achubydd. Amen

Cyngor Arall Mr. Prichard (medd rhai) iw fâb.

NA
Na wna yn rhy fawr o'r corph.
phampra 'r corph i Lâdd yr enaid,
Na ddigia Dduw i
Ryngu bôdd.
blessio diawlaid:
Na werth y nêf i brynu daiar:
Na phecha mwy rhag bôd 'n tifar.
Be caet beunydd fwytta Manna,
Ar felus-fwyd lanw 'th fola;
Beth dâl itti yn ôl hynny,
A mynd i vffern i new ynu?
Be caet yfed gwîn yn ddiod,
Gwisco
Scarlet main.
porphor ffein yn wastod,
Rhoi dy droed ar warr Brenhinoedd,
Beth wyt nes o colli 'r nefoedd?
Be baet berchen aur yr India,
Da 'r holl fŷd a'r tiroedd tecca:
Beth y dâl it hyn o wagedd?
A cholli d'enaid yn y diwedd.
Mat. 16.26
Be caet orwedd gydâ
Rhyw fenyw deg.
Fenus,
Pleffio 'th gorph o'r
Goreu,
ffeina gerddwys:
Beth yw d' ennill am dy drafel?
A mynd d' enaid gan y cythrael.
Be caet bawb i ffysto 'th gefen,
Plant y bŷd i'th sirio 'n llawen:
Beth y dal ir rhain dy
Gweniei­thio.
fflattro?
A Duw wrthyt wedi digio.
Gwell gwasnaethu Duw na'r byd,
Gwell ffrwyno 'r corph nâ'th ddamnio 'gyd,
Gwell trafel byrr nâ phoen tragwyddol,
Gwell Bara â dwr nâ gwlêdd vffernol.
Gwasnaetha Grist, rhyfela â'r cythrel,
Di gae 'r
Ar ol dy drafel, nid am dy dra­fel fel pe baet yn haeddu 'r 'r goron: Christ yn vnig a'i haeddodd hi idd i bobl. Jo. 14 6,
Goron am dy drafel:
ffrwyna.
Cospa 'r cnawd i gadw d'enaid
Di gei ran o'r wledd fendigaid.

Achwyn Mr. Prichard ynghylch Tre Llan­ddyfri, a'i Rybydd a'i gyngor ef iddi.

MEne tecel Tre Llanddyfri,
Pwysodd Duw di yn dy frynti:
Ni châs ynod ond y Sorod,
Gwachel weithian rhag y Drindod.
Gwialen dôst sydd barod itti,
Er ys dyddie am dy frynti;
A'th anwiredd sy 'n cynyddu,
Gwachel weithian gael dy faeddu.
Hîr y herys Duw heb daro:
Llwyr y dial pan y delo:
Am yr echwyn a'r hîr scori,
Och! fe dâl ar vn-waith itti.
Mae 'n rhoi amser itti wella,
Mae 'n rhoi rhybydd o'r helaetha:
Cymmer rybydd tra fo 'r amser,
Coppy a­rall fel hyn, Onide gwae di ar fyrder.
Onid ê fe brŷn dy grwpper.
Pa hwya mae Duw 'n aros wrthyd,
Am ddifeirwch, a gwell fywyd,
Waeth waeth, waeth waeth yw dy fuchedd,
Ond gwae di pan ddel y diwedd.
Lle bo Duw yn hîr yn oedi,
Heb roi dial am ddrygioni,
Trwmma oll y fydd y Drindod,
Pan y dêl i ddial pechod.
Gwachel dithe ddial Duw,
Fe ddaw ar frys er llaesed yw;
A'i draed o wlân, a'i ddwrn o blwm,
Lle delo 'n llaês fe dery 'n drwm.
Tebig ydwyt i Gomorra,
Sodom boeth, a thre Samaria,
Rhai na fynnent wella hyd farw,
Nes eu troi yn llwch a llydw.
Tebig ydwyt ti i Pharao,
Oedd â'i galon gwedi sero,
'Rhwn na fynne wella ei fuchedd,
Nes i
Ddifa.
blago yn y diwedd.
Cefaist rybydd lawer pryd,
Nid yw cyngor
Ymheu­thyn itti.
'moethyn îd,
Nid oes lun it wneuthur esgus,
O! gwae di y dre anhappus.
Bore codais gydâ 'r ceiliog,
Hîr ddilynais byth yn d'annog,
Droi at Dduw oddiwrth dy frynti,
Ond nid oedd ond ofer immi.
Cenais itti 'r vdcorn aethlyd,
O farn Duw a'i lîd anhyfryd,
[...]th ddihuno, o drwm gwsc pechod,
Hwrnu er hyn wyt ti yn wastod.
Minne'th
Ddenais, tynnais trwy deg.
Lithiais â disigil,
Addewidion yr Efengyl;
Yn fwyn i'th wawdd i edifeirwch,
Ond ni chefais ond y tristwch.
Mi'th fygwthais dithe â'r gyfraith,
A dialau Duw ar vn-waith,
Geisio ffrwyno d'ên rhag pechu,
[...]from a ffôl wyt ti er hynny.
Cenais bibe, ond ni ddawnsiaist,
[...]ôst gwynfannais, nid alaraist:
Mat. 11.17
Ceisiais trwy dêg, a thrwy Hagar,
Ni chawn genid ond y gwatwar.
Beth a alla'i wneuthur weithian,
Ond i thynnu i ochor ceulan,
[...] wylo 'r deigrau gwaed pe gallwn,
Weld dy arwain tu ar
Ca [...]char, sef vffern.
dwngiwn.
[...]wy na wyle weled Satan,
[...]n dy dynnu wrth ede Sidan,
[...] bwll vffern yn dragwyddol,
[...]'r bâch, a'r
Abwyd.
bait o blesser cnawdol.
Esau werthe ei difeddiaeth,
Am Phiolaid gawl ysowaeth:
Dithe werthaist deyrnas nefoedd,
Am gawl brâg, do, do, om hanfodd.
Dymma 'r peth sy 'n torri 'nghalon,
Wrth dy weld di nawr mor
Aflan, flôl.
ffinnion,
Orfod
Tystiola­ethu.
prwfo hyn yn d'erbyn,
Ddydd y farn, heb gelu gronyn.
Tôst yw gorfod ar y Tâd,
Ddydd y farn heb ddim o'r gwâd,
Destiolaethu o lêd 'Safan,
Yn erbyn brynti blant ei hunan.
Hyn y fydd, a hyn y ddaw,
Oni wellhau 'maes o law:
Er mwyn Christ gan hynny gwella,
Rhag i ddial Duw dy ddala.
Gwisca lenn, a sâch am danad,
Joel 2.12, 13.
Wyla nes bo'th welu 'n nofiad:
Ac na fwytta fwyd na diod,
Nes cael pardwn am dy bechod.
Ezra 9.3: Luc. 18.13
Cûr dy ddwy-fron, tynn dy wallt,
Wyla 'r deigre dwr, yn hallt:
Cria 'n ddyfal iawn,
Pechais.
Peccavi,
Arglwydd madde 'meiau immi.
Bwrw ymmaith dy ddiffeithdra,
Twyll, a ffalstedd, a phutteindra:
Gâd dy fedd-dod, clâdd dy frynti,
Jer. 16.17.
Mae Duw 'n gweld dy holl ddrygioni.
Mae dy farn wrth ede wenn,
Yn crogi beunydd vwch dy benn;
Mae dy blant a phôb ei reffin,
Yn ei thynnu ar dy
Coppa.
gobin.
Gwachel bellach, dal dy law,
Dial Duw fel bollt y ddaw,
Ezek. 33.7, 8, 9.
Rhoi it rybydd prûdd sydd raid,
Oni chymri rybydd, paid.

Achwyn Eglwyswr.

DUw gwêl drwmmed yw fy nghalon,
Weled faint pengledrwydd dynion,
Cais eu harwain tua 'r nefodd,
Hwyntau ânt ir tân heb ddiffodd.
Golchi 'r
Black Moores neu ddyni­on duon.
Moyrys dû trwy Sebon,
Troi 'r Iorddonen i ben Hermon,
Yw cynghori 'r dŷn pengaled,
'Ofni Duw a
bod yn o­falus am. Ps. 58.4, 5
charccu enaid.
Cais trwy deg, a chais trwy hagar,
Ofer canu ir neidir fyddar:
Trinia fynnech ar bren pwdwr,
Bŷth ni ry 'ti ffrwyth na swccwr.
Dysc a dangos, gwawdd, ymhwedd,
Mâb y fall, ni wella o'i fuchedd:
Llâdd â'r gyfraith, gwawdd â'r fengyl,
Ni thry attad ond ei wegil.
Gollwng arno 'r holl Brophwydi,
A'r Postolion iw gynghori;
Nid gwaeth ffysto pen wrth bentau,
Ni wna ond y fynno ei hunan.
Gwae fy nghalon drom gan hynny,
Na buasse Duw 'n gwllyssu,
Fy rhoi 'n fugail ar dda gwylltion,
Cyn rhoi im
Gofal.
shiars y cyfryw ddynion.
Y corr y dynn y gwenwyn lindys,
O'r blodeuyn goreu ei
Flas neu sawr.
relys:
A'r dŷn drwg a dynn ryw accan,
O bûr eiriau Duw ei hunan.
Waith i Grist ein prynwr tirion,
Golli drossom waed ei galon,
Jud. 4. Rhuf. 6.1, 2.
Ai roi 'n bridwerth dros ein pechod,
Fe fynn llawer bechu 'n wastod.
Waith bôd Noe, a Lot yn feddw,
Waith bôd Jonas hên yn chwerwr;
Fe fyn llawer
sef rhodio neu fyw yn ei pecho­dau hwynt.
droedo ei beiau,
Heb ddilyn vn o'i holl rinweddau.
Pôb gwâs gwŷch y nawr y feder,
Dyngu a rhegu gydâ Pheder:
Mat. 26.57.
Pam na welai neb yn medru,
Gydâ Pheder edifaru?
Bagad, llawer.
Swrn sy'n dilyn Dafydd Brophwyd,
Mewn godineb, lle gwradwyddwyd:
Ond ni welai neb yn dilyn,
Edifeirwch Dafydd frenin.
Vn y ddywaid mi
Edifara.
Repenta,
Fy meiau gyd y flwyddyn nessa;
Luc. 12.20
Beth medd Christ, o'r daiff dy enaid,
Heno nessà gan gythreiliaid?
Llall y ddywaid, helwn heddu,
Ni wellhawn ein beiau foru;
Heno lladd y gŵr yn feddw,
Duw
Ble mae.
ble 'r aeth 'difeirwch hwnnw.
Yn ôl hwn y dwed y trydydd,
Byt fae fy mai yn fwy nâ'r mynydd,
Mae Duw mawr yn swy Drugaredd;
Mi gâf bardwn ar fy niwedd.
Felly waith bôd Duw yn rassol,
Ac yn dirion ir 'difeiriol,
Llawer dŷn sy'n pechu 'n Sceler,
Heb wneuthur pris o'i gyfiawnder.
Er bôd Duw yn llawn trugaredd,
Exod. 34.6, 7. Nah. 1.2, 3
Yn hwyr ei lîd, yn dda ei ammynedd:
Etto er hyn mae Christ yn dwedyd,
Fôd Duw mawr yn gyfiawn hefyd.
Duw sydd rassol, Duw sydd gyfion,
Duw sydd fwyn, a Duw sydd ddigllon:
Heb. 12.29.
Duw sydd ddôf, a Duw sydd danllyd,
Duw sydd hael, a chynnil hefyd.
Mae ê'n madde 'r mîl talentau,
Etto 'n pallu 'r hatling withiau:
Mat. 18.
Mae 'n rhoi 'r nêf yn rhwydd i ryw-vn,
Etto ir llall yn pallu 'r
Dafn.
droppyn.
Ir rhai ffyddlon edifeiriol,
Esa. 55.7. Jo. 3.36. Psal. 18.25, 26.
Mae Duw 'n ffyddlon ac yn rassol;
Ond ir
Cydyn.
stwbwrn, câs, gwrthnyssig,
Mae Duw 'n greulon, ac yn ffyrnig.
O herwydd hyn 'rwi 'n cynghori,
Na ddilyner hîr ddrygioni,
Ond i bawb tra fyddont byw,
Dreulio eu hoes mewn ofan Duw.

Rhaid glynu wrth Grist heb adel i ddim i'n troi ni oddiwrtho.

OS Tâd, os mam, os mâb, os merch;
Os tai, os tîr, os gwraig trwy serch,
Y gais dy droi, yn draws neu'n drist,
Oddiwrth dy grêd ath serch at Grist:
Luc. 14.26
Gâd dâd i droi, gâd fam i wylo,
Gâd wraig i scoi, gâd blant i grio,
Gâd dai, gâd dîr, gâd faeth, gâd fywyd,
Cyn gado Christ, gâd faint sydd gennyd.
2 Cor. 6:18. Psal. 18.2. Eph. 1.3.
Bydd Christ yn dâd, yn fam, yn frawd,
Yn graig, yn gaer, yn ffrynd, yn ffawd,
Yn gyfoeth mawr, yn lles, yn llwyddiant,
Yn bôb peth
Anwyl.
cu i bawb ai carant.
Heb Grist, heb grêd, heb faeth, heb fywyd,
Heb ddull, heb ddawn, heb nerth, heb iechyd,
Heb
Gobaith.
hôp, heb help, heb râs, heb rym,
Heb ddysc, heb dda, heb Dduw, heb ddim.

Gwell Duw nâ dim.

GWell Duw nâ'r nêf, na dim sydd ynddi,
Gwell nâ'r ddaer, nâ'r maint sydd arni,
Jer. 9.23, 24.
Gwell nâ'r bŷd, nâ'i olud in',
Gwell, a doi well Duw nâ dim.
Psa. 27.10. Dih. 8.19. Psal. 63.3.
Gwell nâ Thâd, nâ mam, nâ mammaeth,
Gwell nâ chyfoeth, nâ Thifeddiaeth,
Gwell nâ Mari, gwell nâ Martha,
Gwell nâ dim, yw Duw gorucha.
Psal. 73.25, 26. Rhuf. 8.31 Psal. 91.11, 12.
Os Duw ddewisaist yn dy ran,
Cei Grift i'th gynnal ym-mhôb mann,
Cei 'r Saint i'th gylch, cei 'r bŷd i'th beri,
Cei 'r nêf ith ran, cei 'r fall ith ofni.
Di ddewisaist y rhan benna,
Pan ddewisaist Dduw gorucha,
Luc. 10.42.
Rhan na ddygir bŷth odd'arnad,
Tra parhaffo 'r haul a'r lleuad.
Pan duo 'r haul, pan gwrido 'r lleuad,
Mat. 24.29. 2 Pet. 3.10. Luc. 21.28 1 Thess. 4.17. Dat. 2.10.
Pan syrthio 'r sêr, pan ofno bagad,
Pan llosco 'n boeth y bŷd a'i bwer,
Bydd dy ran di yn ddibryder.
Cŵyn dy galon, na fydd wann,
Cadw d'afel ar dy ran:
Di ddewisaist y rhan ore,
Gwachel newid hyd at Ange.

Ymholiad beunyddiol o waith y duwiol a'r parchedig weinidog i Ghrist Jaco Usher, Arch-escob Armach yn Iwerddon.
Amryw resymmau, i ddangos fôd yn dra­anghenraid, i bawb ymholi eu hunain beunydd.

Ofnwch ac na phechwch, ymddiddenwch â'ch calon ar eich gwely, a thewch. Selah.

Psal. 4.4.

1. YN gyntaf, O herwydd bôd briwiau newydd yn hawdd i hiachau, ac nid oes dim yn llygru yn gynt, ac yn fwy enbyd a ffiaidd nâ phechod: Pan darawyd calon Dafydd yn ebrwydd am dorri ymyl gwisc Saul, ni chlywodd efe mwy oddiwrth y peth: Ond y bechod hwnnw gydâ gwraig Urias (yn yr hwn y gorweddodd efe cŷd) a ddrylliodd ei escyrn ef, fel y mae yn amlwg yn [Page 492] ei weddi ef, Psal. 51.8. Pâr i mi glywed gorfoledd, a llawenydd; fel y llawenycho yr escyrn a ddrylli­aist.

2. Yn ail, yr wyt yn cryf-hau dy gôf wrth hyn­ny (fy enaid:) oblegid os mewn cyfri o ûn diwrnod yr anghofir llawer o bechodau, pa faint a anghofir, os oedir y peth tros lawer o ddyddiau?

3. Yn drydydd, gwedi rhannu pechod yn ddry­lliau fel hyn, fe ellir i drin ef yn hawdd, megis pren mawr gwedi i dorri yn ddarnau neu i hollti yn yscyrrion mân.

4. Yn bedwerydd, wrth wneuthur hyn (o fy enaid) yr wyt ti yn achub y blaen ar achwyniaeth Satan, cyhuddwr y Brodyr, yr hwn yn ddiam­mau sydd yn craffu yn ddiball ar dy drosseddau beunydd: Pa gyssur it Ymbil. ymerfyn, a chael madde­uant, cyn gallu o honaw ef ddwyn achwyniaeth ith erbyn?

5. Yn bummed, (O fy enaid) yr wyt ti beun­ydd, yn edrych am bôb peth arall sydd eiddot, megis dy dŷ, dy dîr, dy anifeiliaid, dy ddillad, a pha beth bynnag sydd gennit a ddichon Methu.ammharu, neu wellhau beunydd: O! pa gwilydd it (fy enaid) dy fôd ti dy hûn mor ddiystyriol, ac mor ddiofalus am danat dy hûn?

6. Yn chweched, ni chenhadwyd i ti einioes ond ir gwaith ymma, pa ddibennion bydol bynnag (heb law hynny) yr wyt ti yn i osod i ti dy hûn; ac ni wyddost os esceulusu yr odfa yma, pa un a wneir ai caniadhau i ti ddim mwy amser ond hyn­ny. Dat. 2.21. Ac mi a roddais iddi amser i edi­farhau am ei godineb, ac nid edifarhaodd hi.

7. Yn seithfed, os cyflowni hyn yn ddiwyd, ac yn ddyfal bôb nôs a boreu, ni bydd i ti (o fy enaid) [Page 493] ond ûn dydd i atteb am y cwbl oll, wrth dy 'ma­dawiad o'r byd yma; a pha esmwythder calon, a thawelwch cydwybod fydd hynny i ddŷn ar ei Farwo­laeth. drangc?

Fe fydd llai i ti i wneuthid y foru, os gwnei di y goreu o'r dydd heddyw.

Pan ddarffo i'r rhain neu 'r cyffelib ystyriaethau weithio arnat, a rhoi goleuni i ti ynghylch angen­rheidiaeth yr ymholiad beunyddiol hyn, a chyn­nhyrfu dy galon ag awyddchwant ir peth: Dôs ymlaen yn ôl y rheol yma neu'r cyffelib.

  • Ymhola
    • Dy feddyliau,
    • Dy eiriau,
    • Dy weithredoedd.
  • Ar fyr wrth y tri gair hyn.
    • Yn sobr.
    • Yn gyfiawn.
    • Yn dduwiol.

Tit. 2.12. Gan ein dyscu ni i wadu annuwioldeb, a chawntau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron; (Neu yn helaeth­ach wrth y dêg gorchymmyn) Fel hyn. O fy enaid a fu'm i heddyw.

  • a. Yn Sobr yn fy
    • Meddyliau.
    • Ngeiriau.
    • Ngweithredoedd.
  • b. Yn Gyfiawn yn fy
    • Meddyliau.
    • Ngeiriau.
    • Ngweithredoedd.
  • c. Yn Dduwiol yn fy
    • Meddyliau.
    • Ngeiriau.
    • Ngweithredoedd.

Aros ar bôb un o 'rhain yn bennodol, ac yn ystyr­riol, a choffa yr holl leoedd, y cyfeillion, ar neges­sau☜ yn y rhai y treiliaist dy amser y dydd hwn.

  • [Page 494]Yn enwedig ymhola
    • Dy feddyliau pan oeddit wrthyt dy hûn.
    • Dy eiriau gyd ag eraill.
    • Dy weithredoedd ymmhôb un o rhain.

Ac i eglurhau yr hyn aeth ym-mlaen, gwybydd, mae.

a. Bôd yn sobr, ydyw yn gyffredin cadw cym­hwysder gweddol ym-mhob peth, a'n Trefnu. cymmedro­li ein hunain yn ddofaidd, ac yn bwyllig yn ein affectionsgwyniau, an Tuedd ein me­ddyliau. hanwydau, bôd yn rhesymmol yn ein chwantau a'n digrifwch, yn dymmherus yn ein bwyd a'n diod, yn weddaidd ac yn ddisyml yn ein dillad, a'n trwsiad, yn rheolus yn ein llawen­ydd an difyrrwch, yn gall a medrus yn ein ym­ddiddanion, a'n ymadroddion, ac yn gymmesurol ym mhôb peth a wnelom. Ac am hynny ymhola dy hûn, pa vn a wnaethost ai bod yn sobr▪ yn ol y moddion neillduol hynny, yn dy feddyliau, dy eiriau, dy weithredoedd y dydd hwn: ac os deallu di dy fod felly, dyro ddiolch i Dduw, a gweddia am bar­hâd diyscog a dianwadal: Ond lle i ceffech y gwrthwyneb cais faddeuant, a cymmer lwyrfryd (neu resolution) yn erbyn hynny rhagllaw.

Bôd yn gyfiawn ar feddwl, gair, a gweithred, ydyw gwneuthur mor union â phawb ac i bawb, ac i mynnit i eraill wneuthur i tithau, a hynny yn ôl cyfarwy­ddiad. hyfforddiad, a chynhwysiad yr yscrythyrau; a hynny hefyd cyfarwy­ddiad. tu a pherson, enaid, corph, enw, a chyflwr pôb dyn; Talu a gwneithur yr hyn sydd ddyledus ar bâwb, yn ôl eu lleoedd, eu gra­ddau, a'i galwedigaeth, pa ûn bynnag fônt ai uchel­radd,, iselradd, neu gydradd; ac ymhola dy hûn wrth y cyfarwyddiad hyn, a fuost yn gyfiawn [Page 495] y dydd hyn; ac fel y deellech dy fôd, dôs ym­laen yn ôl y rheol a'r hyfforddiad, sydd yn yr hyspysiad a gefaist ynghylch sobrwydd.

c. Bod yn Dduwiol ydyw adnabod Duw, ym­arferu a cheisio chwanegu y gwybodaeth sydd gennit o honaw ef, i gofio ef yn fyfyriol, ymddi­ried a gobeithio ynddo, bôd gennym gariad, zêl ac awyddfryd ysprydol tu ag atto, ymlawenhau yntho, bod yn ddiolchgar ac yn vfydd iddo, bod yn ddioddefgar, ac yn ddarostyngedig tan ei alluog law ef, i ofni ef, ai addoli, ai anrhydeddu yn faw­rygus, bod yn ddrwg gennym ddarfod i ni i anfod­loni, ai ddigio ef, i wasnaethu ef yn gywir ac yn ffyddlon, gweddio arno ef yn ddefosionol, darllen a gwrando ei air ef, a hynny yn ddiwyd ac yn ofa­lus, sancteiddio ei enw ef yn Yn bryssur ddifrifol, a'i ogone­ddu ym-mhôb peth i gwneir ef yn gydnabyddus i ni; ymhola dy hûn, pa ûn a ddarfu i ti ai gwneu­thur yn ôl, neu yn erbyn yr agweddau penno­dol hynny, ac yno dos rhagot megis yn ôl y cyfar­wyddyd or blaen.

Yn enwedig, ac yn fwy hyspyssol fe orfydd i ti (o fy enaid) chwilio yn ddyfal, nes cael gwybodaeth siccr o'th bechod meistrolus, er mwyn pa ûn yr wyt yn gwneuthur y rhan fwya oth bechodau eraill; Megis os Cybydd-dod fydd dy bechod meistrolus, dy bechodau eraill fyddant megis llaw forwynion iddo, oblegid odid o bechod nas gwnei er mwyn☜ cyflawni dy drachwant ir pechod hwnnw: Ti a ddianrhydeddu Dduw, ti a dyngu, ti a halogi ddydd yr Arglwydd, ti a fyddi yn anufydd ir blaenoriaid, a'r swyddogion awdurdodawl, ti a leddi, ti a wnei odineb, ti a ledretti, ti a dyngu anudon gan ddwyn cam dystiolaeth, ar cwbwl i [Page 496] borthi a rhyngu bôdd dy gybydd-dod. Ac yn yr vn môdd y bydd, os balchder, neu rhyw bechod arall sydd yn meistroli, ac yn dwyn rhwysc ac yn lly­wodraethu arnat.

Ac os mynni di ei adnabod.

  • Hwnnw yw
    • 1. Yn gyntaf, ynghylch yr hwn, ac ar yr hwn y mae dy feddwl yn osodedig yn fyny­chaf: Ac fel yr oedd Dafydd pan ddeffroei gydâ Duw, felly y byddi dithau gydâ 'th bechod anwyl rheolus.
    • 2. Yn ail, Ni elli ddioddef cyffwrdd ag ef, na thrwy dy ymholiad dy hun, nac argyhoe­ddiad rhai eraill.

Pan gaffech wybodaeth siccr o'r pechod hwn­nw, sydd yn dwyn y fâth rwysc a llywodraeth ynot, ac megis yn llysco dy bechodau eraill ar ei ôl, Dôs at yr Arglwydd ag ochneidiau trymmion, ac erfyniadau difrifol, a gweddiau gan ddywe­dyd,

O fy Nuw trugarog, a thirion, dyro i mi râs i wîr dristhau, a bôd yn drwm alarus am yr hyn a aeth heibio, ac i ymroi yn ebrwydd mewn llwyrfwriad crŷf, a llownfryd yn ei erbyn: Ac am yr amser sydd yn dyfod, i wneuthur fyngore ym-mhob moddi­on na chaffo 'r gelyn penna ymma i'm henaid moi groesafu gydâ mi mwy. A phan ddatcuddier i ti dy bechodau a wnaethost y dydd hwnnw, y mae yn rhaid i ti gael gwybodaeth toimladwy o'i gorthrymderau ai ffieidd-dra hwynt, rhag i ti fyned heibio iddynt yn rhy yscasn ac heb graffsyn­nied arnynt; ac am hynny fe orfydd i ti i barnu hwynt drwy Fawr. ddwys ystyried y rhesymmau [Page 497] sydd yn canlyn, gan ddywedyd wrth dy enaid. Yn gyntaf, (O fy enaid) fe ddarfu i ti drwy aml ac amryw bechodau y dydd hwn, ymadel ac ymwrthod a Duw, yr hwn a ddylesit i ymlynu wrtho yn gyfangwbwl, o herwydd i fod ef yn odidawg rha­gorol, ac yn hawddgar ynddo ei hun, ac yn dra­haelionus tu ag attat titheu.

2. Yn ail, Ti ai gwrthodaist ef am bethau diystyr, gwael a dibris, sef am dippin o elw, fel Judas, neu ddigrifwch bychan, fel Esau, ac yr wyt yn beio arnynt hwy megis rhai drygionus am y peth a wnaethont hwy; ac a dybygi di yn well na hyn­ny☜ o honot dy hun, a thitheu yn gwneuthur y cyffelyb. O fy enaid, ti a ymadewaist ac a ym­wrthodaist a Duw am bethau darfodedig, a phe baent yn parhâu ni allent na 'th fodloni, na 'th achub rhag angeu, na barnedigaeth; a pha leia oedd yr annogaeth at y petheu hynny, mwya oll oedd dy fai, a'th gamwedd; yn enwedig os tyngaist, yr hwn sydd yn bechod y mae dynion yn ei wneu­thur yn rhâd ac yn fynychaf. Barn y rhain a ellir i weled, Psal. 25.2, 3. O fy Nuw, ynot ti 'r ymddi­riedais, nam gwradwydder: Gwradwydder y rhai a drosseddant heb achos.

3. Yn drydydd, Ti a droseddaist yn erbyn gor­thymyn dy Dduw grasusol, (o fy enaid) ac y mae ef megis yn dywedyd wrthyt, fel y dywedodd wrth Adda, a fwyttaist di o'r pren y gorchymynaswn i ti na fwytteit o honaw? A ddarfu i ti feddwl, neu ddywedyd, neu wneuthur y dydd hwn y peth a waherddais i ti?

4. Yn bedwerydd, O fy enaid, ni ddarfu i ti droseddu yn erbyn ei sanctaidd orchymyn ef yn unig, ond hefyd er rhoddi o honof it gymorth i gadw ei [Page 498] orchymyn; fe roddodd Duw ei râs i ti, ac ni ddarfu i ti i drin fel i dylesit, y mae ychydig râs yn fawr ei nerth a'i rhinwedd, a thi a allesit wrth hynny gadw gair Duw. Dat. 3.8. Mi a adwaen dy weith­redoedd: wele, rhoddais ger dy fron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau: canys y mae gennit ychydig nerth, a thi a gedwaist fy ngair, ac ni wedaist fy enw. Ond fe ddarfu i ti (fy enaid) dderbyn grâs Duw yn ofer.

Pe iawn farnem ni ein hunain, ni 'n bernid, 1 Cor. 11.31.

Gwedi darfod i ti gael gwybodaeth o drygioni, ffieidd-dra echrys­der dy bechod, a'th fod felly yn wir euog o ho­naw. Beth sydd yn anghenrhaid i ti (o fy enaid) ond dy euog-farnu dy hûn, a dywedyd (o fy e­naid) pa fodd y gall fod na wrthodo Duw di hefyd, a chymeryd ymaith ei yspryd, ei radau, ai Angelion oddiwrthit, a'th adel di heb gyfarwydydd ac amddi­ffynnwr, ir Cythrael, a'r byd, a'r cnawd ith ymlid. Ystyria bellach pa un a wnei di ai gallel cyscu yn ddio­fal yn y fâth gyflwr; O gan hynny! rhag i ddialedd dy orddiwes, ac er mwyn cael ennill drachefn y rhan oedd gennit o'r blaen yn Nuw, cyrch atto ef ebrwydd.yn gyflym, ac yn ddifrif yn y weddi ymma neu 'r cyffelyb: O Arglwydd bendigedig, fe ddarfu i mi y dydd hwn yn fynych drwy anghymedroldeb, anghyfi­awnder, ac annuwioldeb ar feddwl, gair, a gweithred dy adel a'th wrthod di (fy Nuw) yngwrthwyneb dy sanctaidd orchymynion; ie yn erbyn cynnorthwyad dy râs iw cadw ai cyflawni, a hyn a wneuthym am be­thau gwael, a dibris, yn gymmaint a'm bod yr awrhon yn haeddu cael fyngwrthod gennit, a chael fy nifeddi­annu o'th gyfarwyddyd a'th ymddiffyn, ac i gael fyng­adel am rhoi i fynu i fod tan ewyllys, a dwylaw gely­nion [Page 499] creulon fy enaid, am corph. Er hynny, O Ar­glwydd daionus, fe fu wiw gennit o'th rhâdfawr diri­ondeb tu ag attaf, roddi i mi y moddion i allu chwilio, a chael gweled fynghyflwr, ac ymholi fy hûn ynghylch fy mhechodau, tra i gellir i iachau ai trin, a chyn darfod i gyhyddiad y Cythrael dynnu dy ddialedd ar­ [...]af oi achos, sef tra i gadewir i mi fyw, a thra y par­ [...]atho yr amser cymmeradwy hwn, y dydd iechydwri­ [...]eth hwn: O Arglwydd daionus, cyflawna yr hyn a [...]dechreuaist ynof, dyro i mi edifeirwch calon, a galar [...]iragraith am yr hyn aeth heibio, a bwriad dianwadal [...]llownfryd i wellau fy muchedd o hyn allan. O gâd i ei gael dy ewyllys da drachefn, fel y gallwyf orphwys [...]n dy gariad. O fy anwyl Dâd, y mae hiraeth arnaf, [...]ês adnewyddu y gymdeithas gariadus oedd i mi gydâ [...]i, cyn im pechodaû i thorri am dieithro oddiwrthit. [...]ydi yr hwn am gwaredaist oddiwrth fy mhechodau, [...]c am tynnaist ir deisyfiadau gostyngedig yma, dwg [...]mlaen y deisyfiadau hynny i berffeithrwydd, ail-ûnha [...] chyssullta fi eilwaith â thi dy hun, ac ymfodloner fy [...]ghalon felly âth odidowgrwydd di sydd dra-rhago­ [...]awl, fel na thrachwantwyf mwy am ddifyrrwch, elw, [...]c anrhydedd y byd hwn, cyn belled a cholli o honof y [...]aredigrwydd yr wyf yn ei obeithio y bydd yn wiw gen­ [...]it i ddangos i mi y nos hon. O Arglwydd gwrando, [...]c atteb fy erfynnion am deisyfiadau hyn yn rasusol, a'r [...]wbl oll sydd angenrheidiol, er cariad ein Har­ [...]lwydd, a'n Iachawdwr Iesu Grist.

AMEN.

Na rwgnach gymmeryd ychydig boen yn y bywyd a dderfydd yn ddisymmwth, er mwyn cael bywyd a beru byth.

Ym-mhob peth ymddiddan a'th di dy hun, fe [...] hyn, Ai felly i gwneit, peteit yn gwybod, mae 'r aw [...] hon yw 'r awr ddiweddaf oth einioes?

S. Bernad
FINIS.

Diharebion cymraeg a gasclwyd allan o Ddictio­nary Doctor Davies.

A

  • Abl i bawb a'i bodlono.
  • Abl i bawb ei gydradd.
  • Achos bychan y daw blin­der.
  • Adfyd pob hir dristwch.
  • Adwyog cae anhwsmon.
  • Addaw mawr a rhôdd fe­chan.
  • Addaw têg a wna ynfyd yn llawen.
  • A ddycco 'r wy a ddug a fo mwy.
  • A êl i lŷs heb neges, doed â'i neges gantho.
  • A êl ir chwarae, gadawed [...] groen gartef.
  • Aerwy cyn buwch.
  • Afiach pob trwm galon.
  • A fo diried ar fôr, diri [...] fydd ar dir.
  • A fo nessaf ir eglwys, fyd pellaf oddiwrth Baradwys.
  • Afrad pob afraid.
  • A gair Duw yn uchaf.
  • A grea 'r frân fawr a gr [...] y frân fechan.
  • A gyfodes a golles ei le.
  • A gymero ddŷsg cadwed.
  • [Page 501]Allan o olwg allan o feddwl
  • Allwedd calon cwrwf da.
  • Amcan a sydd gan bawb.
  • A'm caro i cared fynghi.
  • Ammharod pob anallu.
  • Ammau pob anwybod.
  • Amser sydd i bob peth.
  • Anafus pob drwg foesawg.
  • Angall mal dall a dwyllir.
  • Angel penffordd a diawl pen­tan.
  • Angen a ddysg i hên redeg.
  • Anghymmen pob ffôl.
  • Anhyderus pob ofnog.
  • Annoeth llithrig ei dafod.
  • Annos ci i gell agored.
  • Anwydog chwannog i dân.
  • Aogano a ogenir.
  • Araf dân a wna frâg melus.
  • Ardd cyd bych, ardd cyn ni bych.
  • Ar ddiwedd y mae barnu.
  • Arglwydd gwann gwae ei wâs.
  • Arglwydd pawb ar ei eiddo
  • Ar ni ochelo 'r mwg; ni o­chel ei ddrwg.
  • Ar ni oddefo gwâs, bid wâs iddo ei hun.
  • Ar ni portho ei gâth, por­thed ei lygod.
  • Ar ni roddo a garo, ni chaiff a ddymuno.
  • Ar ni wano yn ddraen ni wân yn gippyll.
  • Asgre lân, diogel ei pher­chen.
  • Atgas direid-ddyn.
  • Atteb araf gan ddysgedig.
  • Athro pawb yn ei d ŷ.
  • Athrodwaith o genfigen.
  • Awgrim pawb nis gwy­bydd.
  • A wnel ddrwg ymogeled.
  • A wnêl mowrddrwg a rydd mowrllw.
  • A wnel twyll ef a dwyllir.
  • Awydd a dyrr ei wddf.

B

  • Bai ar wrach dorri ei chlun.
  • Bo amlaf fo'r bleiddiad gwaethaf fydd ir defaid.
  • Bo hynaf fo'r dŷn gwae­thaf fydd ei bwyll.
  • Bo [...]ynnaf fo'r llinyn cyntaf y tyrr.
  • Bwrw heli yn y môr.

C

  • Cadarnach yw 'r edau yn gyfrodedd nag yn ungorn.
  • Cas beth gwyr Rhufain.
  • Câr cywir yn yr ing y gwelir.
  • Câs gwir, lle ni cherir.
  • Côf gan bawb a gâr.
  • Cyfaill blaidd bug ul diog.
  • Cyn ebrwydd yn y farch­nad [Page 502] croen yr oen, a chro­en y ddafad.
  • Cynt y llysg yr odyn nâ 'r ysgubor.
  • Chwareued mâb noeth, ni chwery mâb newynog.
  • Chwerthin a wna ynfyd yn boddi.

D

  • Dadleu gwedi barn.
  • Da gwaith Duw, roi cyrn byrrion ir fuwch a hwylio.
  • Da gweddai 'r bêr ir gol­wyth.
  • Dall pob anghyfarwydd.
  • Dangos llwybr i gyfar­wydd.
  • Da yw côf mâb.
  • Da yw Duw, a hir yw byth.
  • Da yw 'r maen gydâ 'r E­fengyl.
  • Deuparth clôd ymmheng­log.
  • Deuparth gwaith ei ddech­reu.
  • Deuparth ffordd ei gwybod.
  • Deuparth bonedd yw dysg.
  • Deuparth faith ymbartoi.
  • Deuparth rhôdd yw ewy­llys
  • Dewis ai 'r iau ai 'r fwyall.
  • Dibech fywyd gwyn ei fyd.
  • Digon yw digon o ffigys.
  • Digrif gan bob ederyn ei lais.
  • Dihunid a brydero.
  • Diriaid a gabl ei oreu.
  • Dirmygir ni welir.
  • Dlêd ar bawb ei addaw.
  • Dôd dy law ar dy galon.
  • Doeth dyn tra tawo.
  • Dolurus calon ofalfawr.
  • Drwg pawl ni safo flwyddyn.
  • Drwg wrth dranoeth.
  • Drwg y ceidw diafol ei was
  • Drwg yw'r swydd ni thâ [...] ei gwasanaethu.
  • Drwg yw'r ffordd ni cher­dder ond unwaith.
  • Drych i bawb ei gymmy­dog.
  • Drygwaith Dwywaith y gwnair.
  • Duw a ran yr anwyd fel y rhann y dillad.
  • Duw cadarn a farn bob iawn.
  • Dysg ddedwydd â gair, dysg ddiriaid â gwiail.

E

  • Ef a ŵyr dyn pan êl-ac ni ŵyr pan ddel.
  • E fynnai 'r gâth bysgod, ond ni fynnai wlychu ei throed.
  • Er heddwch nac er rhyfel gwenynen farw ni chasg fêl.
  • [Page 503] Esmwytha gwaith yw methu.

F

  • Ffôl pob tlawd.

G

  • Gelyn yw i ddyn ei dda.
  • Glew a fydd llew hyd yn llwyd.
  • Gnawd ffo ar ffraeth.
  • Gnawd wedi rhedeg attreg­wch.
  • Gnawd wedi traha tramg­wydd.
  • Gnawd yn ol dryghim hin­dda.
  • Golwg pawb ar y garo.
  • Golwg y perchen yw cyn­nydd y da.
  • Goreu canwyll, pwyll i ddŷn.
  • Goreu defawd daioni.
  • Goreu meddyg meddyg enaid.
  • Gwae a ddycco ei henwâs i lŷs.
  • Gwae a gaffo ddrygair yn ieuangc.
  • Gwaethaf anaf anfoes.
  • Gwell câr yn llŷs nag aur ar sŷs.
  • Gwell Duw na dim.
  • Gwell Duw nâ drwg o­baith.
  • Gwell Duw yn gâr, na llu y ddaiar.
  • Gwell eistedd ar y gwêllt nag ar y llawr.
  • Gwell dyn drwg o'i gospi.
  • Gwell gwae fi nâ gwae ni.
  • Gwell gwir na chelwydd.
  • Gwell gŵr o'i berchi.
  • Gwell hîr weddwdod nâ drwg briod.
  • Gwell gwraig o'i chanmol.
  • Gwell i ddyn y drwg a ŵyr nâr drwg nis gŵyr.
  • Gwell hên hawl nâ hên ala­nas.
  • Gwell maen garw a'm atta­lio, nâ maen llyfn a'm gollyngo.
  • Gwell penloyn yn llaw, nâ hwyad yn awyr.
  • Gwell pwyll nag aur.
  • Gwell synwyr nâ chyfoeth.
  • Gwell tewi nâ drwg ddy­wedyd.
  • Gwell un dyrnod â'r ordd, dau a'r morthwyl.
  • Gwell ychydig gan râd, nâ llawer gan afrad.
  • Gwell yng-hysgod y gow­nen nag heb ddim.
  • Gwell y llysg dau etewyn nag vn.
  • Gwell y wialen y blycco nâ 'r hon a dorro.
  • Gwirion pawb ar ei air ei hun.
  • Gydâ 'r ci y cerdd ei gyn­ffon.

H

  • Hael Ywain o bwrs y wlâd.
  • Hardd pob newydd.
  • Hawdd cynneu tân yn hên aelwyd.
  • Hawdd cymmod lle bo cari­ad.
  • Hawdd peri i fonheddig sorri.
  • Hawdd yw digio dig.
  • Haws dringo na disgyn.
  • Haws dywedyd mynydd na myned trosto.
  • Haws gan hwyr na chan fore.
  • Haws llosgi tŷ na'i adeilad.
  • Heb Dduw heb ddim, Duw a digon.
  • Hên bechod a wna cywilydd Newydd.
  • Hawd yw clwyfo clâf.
  • Hir chwedl anghenog.
  • Hir pôb aros.
  • Hir y byddir yn cnoi tam­maid chwerw.
  • Hir y bydd y mûd ym mhorth y byddar.
  • Hoff gan anghenog ei goe­lio.
  • Hwyra dial dial Duw, llwy­ra dial dial Duw.
  • Hyd tra fych na fydd ofer.
  • Hy pawb yn absen ofn.

I

  • I'r pant y rhêd y dwr.

L

  • Llawer gair yn wynt â hei­bio.
  • Llawer gwir drŵg ei ddywe­dydd.
  • Llawer o'r dwr â heibio, heb wybod i'r melinydd.
  • Llawer teg drwg ei dden­fydd, llawer hagar hy­gar fydd.
  • Lle bo dolur y bydd llaw.
  • Lle da i bawb lle y carer.
  • Lle ni bo dysg, ni bydd dawn.
  • Llonn fydd y llygoden y pryd na bo 'r gâth gar­tref.

M

  • Mab heb ddŷsg tŷ a lŷsg.
  • Mae gwehilion ir gwenith.
  • Mal dall yn taflu ei ffonn.
  • Mal y pysg am y dwfr.
  • Mal y try 'r ddôr ar ei cho­lyn, y try 'r diog yn ei wely.
  • Melys moes atto.
  • Melys pan gaer, a chwerw pan daler.
  • Mwy nâ'r cyfrwy ir hŵch.
  • Myned ar gogr ir afon.
  • [Page 505]Mynych heb raid bod ar wall.
  • Mynych y daw drwg fugail.

N

  • Na ddeffro 'r ei a fo'n cysgu.
  • Na ddôs a gwr wrth ei ddrych.
  • Na fydd frâd fugail ir ath gretto.
  • Namyn Duw nid oes de­win.
  • Nattur yr hwch fydd yn y parchell.
  • Nessaf i bawb i nessaf.
  • Ni âd annoeth ei orfod.
  • Ni bydd chwedl heb ystlys iddo.
  • Ni bydd dialwr diofn.
  • Ni bydd cyfoethog rhy gall.
  • Ni bydd doeth ni ddarlle­no.
  • Ni chaiff dda na ddiodde­fo ddrwg.
  • Ni chaiff pwyll nis pryno.
  • Ni cheir afal pêr ar bren sûr.
  • Ni cheir da o hir gysgu.
  • Ni cheir gan y llwynog ond ei groen.
  • Ni cheir gwlân rhwyog ar glûn gafr.
  • Ni cheir y melus heb y chwerw.
  • Ni chêl grûdd gystudd ca­lon.
  • Ni chêl ynfyd ei feddwl.
  • Ni cherir newynog.
  • Ni chlyw Madyn ei ddryg­sawr ei hun.
  • Ni chlyw wilcyn beth nis mynn.
  • Ni chred eiddig er a dyng­er.
  • Ni chwsg Duw pan rydd wa­red.
  • Ni chwsg gofalus, ac e gwsg galarus.
  • Ni chwsg gwag fola.
  • Ni dderfydd cyngor.
  • Ni bydd diffig arf ar was gwych.
  • Ni eill barnu ni wrandawo.
  • Ni fynno Duw ni lwydd.
  • Ni pheru cig brâs yn wast­ad.
  • Ni saif gogan ar gardarn.
  • Ni thawdd dlêd er ei haros.
  • Ni thynnaf ddraen o droed arall, a'i ddodi im troed fy hun.
  • Ni thyrr penn er dywedyd yn deg.
  • Ni wna 'r llygoden ei nyth yn llosgwrn y gâth.
  • Ni wnel cyngor ei fam, gwnaed gyngor ei lys­fam.
  • [Page 506]Ni wyddis eisieu 'r ffynnon onid êl yn hesp.
  • Ni wyl diriaid arno fai.
  • Ni wyr ni welodd, ni feidr ni ddysg.
  • Ni wyr yr hwch lawn pa wich y wâg.
  • Nid ar redeg y mae aredig.
  • Nid côf gan yr offeiriad ei fod yn glochydd.
  • Nid cynnefin câth a cheb­ystr.
  • Nid drwg arglwydd namyn drwg wâs.
  • Nid esmwyth ymgyflogi.
  • Nid gwaradwydd gwe­llhau.
  • Nid hawdd gwlana ar yr afr.
  • Nid hawdd lladratta oddiar leidr.
  • Nid hawdd tynnu mêr o bôst.
  • Nid llywiawdr namyn Duw.
  • Nid oes rhôdd namyn o fôdd.
  • Nid prophwyd nêb yn ei wlâd ei hun.
  • Nid rhaid dangos dirieid i gwn.
  • Nid rhaid dodi clôch am fwnwgl yr ynfyd.
  • Nid wrth ei big y mae pry­nu cyffylog.
  • Nid y bore y mae canmol diwrnod teg.
  • Nid ymgeis dirieid a da.
  • Nid yn un dydd yr adeil­wyd Rhufain.
  • Ni ŵyr ni ddŷsg.
  • Ni ddŷsg ni wrendy.
  • Ni wrendy ond astud.
  • Nid ynfydrwydd ond cari­ad.
  • Nid ffolineb ond meddw­dod.
  • Nid doethineb ond tewi.
  • Nid moliannus ond cyttun­deb.
  • Nid cyfoeth ond iech yd.
  • Nid llawenydd ond nêf.
  • Nid anhyfryd ond vffern.
  • Nid hyfrydwch ond gydâ Duw.
  • Nid hudoliaeth ond ieueng­ctid.
  • Nid ieuengctid ond ennyd awr.
  • Nid rhaid dangos diriaid i gŵn.
  • Nid twyll ond y byd.
  • Nid amheuthun llawer.
  • Nid somedigaeth ond gwraig.
  • Nid doeth a ymryson.
  • Nid esgeulus ond gwenidog.
  • Nid cyfrinach ond rhwng dau.
  • [Page 507]Nid yspys ond a ymofynno.
  • Nid call ond y gatwo yn ei gôf.
  • Nid dysg heb synwyr.
  • Nid gwenhieithus ond merch.
  • Nid dim ond Duw.

O

  • Odidawg a fo didwyll.
  • O flewyn i flewyn ydd â'r pen yn foel.
  • O fôr ac o fynydd, ac o waelod afonydd 'y den­fyn Duw dda i dded­wydd.
  • O gywirdeb y galon 'y dy­waid y gwirion.
  • Oni heuir ni fedir.

P

  • Pan dywyso y dall ddall arall 'y ddau a ddigwydd i'r pwll.
  • Pan êl lladron i ymgyhu­ddo, y caiff cywiriaid ei da.
  • Pan fo tecca 'r chwarae go­reu fydd peidio.
  • Pan laddo Duw y lladd yn drwm.
  • Pawb a chwennych anrhy­dedd.
  • Pilio wy cyn ei rostio.
  • Pob cyffelyb a ymgais.
  • Po gysynga gan ddyn ehen­ga gan Dduw.
  • Po mwya 'fo 'r brys mwya fydd y rhwystr.
  • Po mwya 'fo 'r llanw mwya 'fydd y trai,
  • Po tynna fo 'r llinyn cyn­ta y tyrr.

R

  • Rhagnythed iâr cyn dod­wy.
  • Rhaid i segur beth i'w wneuthur.
  • Rhaid yw croppian cyn cer­dded.
  • Rhin tri dyn cannyn a'i clyw.
  • Rhoi 'r carr o flaen y march.
  • Rhy dynn a dyrr.
  • Rhy lawn a gyll.
  • Rhy uchel a syrth.

S

  • Sôn am awst wyliau 'r na­dolig.

T

  • Tafawd a dyrr asgwrn.
  • Talwys a ryfeychwys.
  • Toll fawr a wna toll fechan
  • Tra fo'r borfa yn tyfu, y bydd marw 'r march.
  • [Page 508]Traha, a thresio gweinion a ddifa 'r etifeddion.
  • Trech anian nag addysg.
  • Troi o bobtu i'r berth.

Y

  • Ychydig laeth a hynny yn enwyn.
  • Y ci a fynner ei grogi a ddy­wedir ei fod yn lladd de­faid.
  • Y dyn a werthodd ei dŷ, ym mha wlâd y caiff letty.
  • Y felin a fal a fynn dwfr.
  • Y llaw y rydd a gynnull.
  • Ymhob rhithy daw angeu.
  • Ymhob meddwl y mae naill ai drwg ai da.
  • Ymhob pechod y mae ffo­ledd.
  • Ymryson ar gôf yn ei efail.
  • Ymryson â doeth ti a fyddi doethach.
  • Ymrysson â ffôl ti a fyddi ffolach.
  • Yn ceisio 'r blewyn glas y boddodd y gasseg.
  • Yr aderyn a faccer yn u­ffern, yn uffern y myn drigo.
  • Ysgafn y daeth, ysgafn yr aeth.
  • Yn y croen y ganer y blaidd y bydd marw.

Câs bethau gwyr Rhufain.

  • Brenin heb ddoethineb.
  • Marchog heb profedigaeth.
  • Arglwydd heb gyngor.
  • Gwraig heb feistrolaethwr.
  • Cyffredin heb gyfraith.
  • Gwasnaethnyn heb ofn.
  • Tlawd balch.
  • Cyfoethog heb elusen.
  • Iustus heb gyfiawnder.
  • Esgob heb ddŷsg.
  • Henddyn heb dduwioldeb.
  • Ieuangc heb Ostyngeidd­rwydd.
  • Doeth heb weithredoedd da

Cas ddynion Selyf ddoeth.
Dyn

  • Nis gwypo ac nis dysgo.
  • A fo gantho a'i gwasanae­tho ac nis gwasanaetho ei hun.
  • Yr hwn a ddelo iddo lawer ac ni roddo ddim.
  • A ymrysono a'i Arglwydd oni êl iw bwll.
  • A fo rhyfelwr llesg, ac ni ddymuno heddwch o flaen rhyfel.
  • A ogano arall am y beiau a fo arno ei hun.
  • [Page 509]A dybio ei fod yn well na neb ar bob peth, ac yn­tau yn waethaf oll.
  • A echwyno cymmaint, ac na bo ganddo a'i talo.
  • A roddo ei gwbwl, ac a fo ei hun heb ddim.
  • A addawo bob peth, ac ni chywiro ddim.
  • A fygythio bawb, ac ni bo ar neb ei ofn.
  • A ddywetto lawer, ac ni wrandawo ar neb.
  • A archo pob peth a welo, ac ni chaffo ddim.
  • A addefo ei rin iw elyn, neu i'r neb y gwypo nas cel.
  • A fasnacho bob peth, ac heb prynu dim.
  • A dyngo lw anudon, ac ni bo neb yn ei gredu.
  • Ai rhoddo ei hun mewn anurddas er vrddas i vn arall.
  • A welo lawer o foesau a chelfyddydau, ac ni ddysgo ddim.
  • A bryno bob peth, ac heb ynnil dim.
  • A gasao bawb a phawb yn­tau.
  • Na chretto neb, na neb yn­tau.
  • A ymyrro ar bob peth heb achos.
  • Ageisio gêl gan ddyn dieithr
  • A gretto i bawb er nas ad­nappo.
  • A wnelo yn vn dydd, fel na allo ddim dranoeth.
  • A ymddirietto i rôdd.
  • A gaffo ddewis, ac a ddewiso 'r gwaethaf.
  • A debycco orfod o falchder.
  • A gasao ei lês er afles iw gymmydog.
  • Ni wnel da ac nis gatto i arall
  • A ymgadarnhao mewn drwg olwg.
  • A dybio ei fod yn gall, ac yntau yn angall.
  • A ddysgo lawer, ac ni wypo ddim.
  • A adawo ei gydymaith heb achos.
  • A wnel ddrwg, ac ni bo edifar ganddo.
  • Tlawd a wrthotto crynodeb
  • A wypo gyfraith Dduw a'i orchymmynion, ac a ddadleu yn eu herbyn er gwobr.
  • A ymffrostio o'i gywilydd ei hun.
  • A ddirmygo Dduw a dyn.
  • Dysg yn graff a Welych,
  • Cadw yn grâff a ddysgych,
  • Adrodd y peth a fettrych.
Y Pedwarydd Ran O WA …

Y Pedwarydd Ran O WAITH Mr. REES PRICHARD, Gynt Ficcer Llanddyfri yn Shîr Gaerfyrddyn: Y nawr gynta yn Brintiedig.

A Fourth Part of the Works of Mr. Rees Prichard, formerly Vicar of Landovery in the County of Carmarthen, now the first time imprinted.

Hymn neu Gân ar Ddydd nadolig, yn cyn­hyrfu i ddiolchgarwch am brynedigaeth trwy ein Harglwydd Jesu Grist.

POb Christion ag sy'm clywed,
Am llais yn medru ystyried,
Cenwch foliant gydâ mi
I'r vn Duw Tri gogoned.
Derchefwch eich calonnau,
Cyd-genwch psalms a hymnau,
Er clôd a mawl i'n Prynwr
Anwyl.
cû,
Er bôd y Scrythur yn dangos eni Christ: etto mae hi yn gwbl ddistaw am y di­wrnod ei ganed ef arno.
Y Aned heddy 'r borau.
Er
canys.
dymma 'r dydd a dylem,
Ymroi i fôd yn llawen,
I glodfori bôb yr awr
Ein Ceidwad mawr a'n cefen.
Os dymma 'r dydd y ganed
Christ Ceidwad, Cynffordd holl-gred,
Vnig helpwr yr hôll fŷd;
A gwyn ein bŷd ei weled.
Dymma 'r dydd y cafas,
Hôll
Y cywir ffyddloni­aid.
grêd ei gwynn a'i hurddas:
Dymma 'r dydd y torrwyd pen
Y Sarph a'r filaen atcas.
Dymma 'r dydd y cawsom
Y gwynfyd gynt y gollsom,
Trwy wâll Adda ein Tâd-cû,
Pan daeth Christ Jesu attom.
Dymma 'r
Y mae 'r Dyddwedi osod ymma wrth me­tonymia yn lle Grist a aned ar y Dydd.
dydd y dorrodd
Y fagal gynt a'n rhwydodd:
Dymma 'r dydd a barodd ôch,
I 'r wiber gôch a'n hudodd.
Os dymma 'r dydd y ganed
Mâb Duw yr hâd bendiged,
Addawsyd gynt o hîl y wraig,
I sathru 'r ddraig oedd embed.
O moeswch i'n gan hynny,
Sancteiddio 'r dwthwn heddy,
Er côf am Brynwr yr holl fŷd,
Y ddaeth mor ddryd i'n helpu.
A nedwch i'n anghofio,
Yn ddyfal i fendithio,
Am y gymmorth mawr i gŷd,
Y gâs y bŷd oddiwrtho.
Ond moeswch i'n glodfori
Ei enw a'i foliannu,
Dydd a nôs tro ynom chwŷth,
A'r eitha bŷth o'n gallu.
A heddyw yn enwedig,
Yn gyfan ddydd nadolig,
Cenwch nes dat-seinio 'r nêf
Gan lais eich llêf caredig.
O'r canniad cynta 'r ceiliog,
Ymrowch i godi 'n gefnog,
I glodforu hyd y wawr,
Eich prynwr mawr trugarog.
A phan y torro 'r wawr-ddydd,
Cŷdgenwch ar vchedydd,
Foliant am eich
Mae rhai heb eu go­leuo trwy eu bai eu hunain. Jo 5.40.
tynnu maes,
O'r twllwch câs tragywydd.
A chenol dydd heb orphen,
Fel ceiliog y fwyalchen,
Cenwch Psalme iddo 'n
Ddyfal.
glôs,
Nes dwcco nôs y Seren.
A chwedyn o'r dechreu nos,
Yn ddyfal fel yr eos,
Cenwch, cenwch, nac orphwyswch,
Nes gorphennu 'r hir-nos.
Ac felly nôs a bore,
A chenol dydd yn ddie,
Treuliwch y nadolig ddydd,
Mewn diolch
Pryssur.
prudd a psalme.
Os dymma 'r dydd yn prynwyd,
Ar dydd yn
Heddych­wyd.
reconseilwyd,
Yn ffryns â Duw ein Barnwr prûdd,
A dymma 'r dydd ein helpwyd.
Dymma 'r dydd a'n cododd,
O vffern hyd y nefoedd;
A'r dydd yn gwnaeth yn
Cynnifer ac a'i der­byniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fôd yn feibion i Dduw, sef i'r sawl a gredant yn ei enw ef. Joan 1.12 nid i neb arall.
Blant i Dduw:
Ond hyfryd yw weithredoedd.
Dymma 'r Dydd sy'n rhwygo,
Ein sâch a'r dydd sy'n datro,
Ein tristwch i lawenydd
Mawr.
trŵch,
O gorfoleddwch ynddo.
Os dymma 'r dydd y ganed,
Oen Duw yr hâd bendiged,
I dynnu ffwrdd bechode 'r bŷd,
Oedd gôch i gŷd fel scarled.
Dymma 'r dydd gan hynny,
Y mae i'n orfoleddu,
A mynd i lyssodd Duw yn lân,
Dan ddiolch a than ganu.
Dymma 'r dydd sydd inni,
Yn ddyfal i addoli,
A'i fendithio bôb yr awr,
Am dan ei fawr ddaioni:
A chofio 'r môdd ein prynodd,
Trwy 'r gwerthfawr waed y gollodd,
O dan ei fron ar grog-pren croes,
A'r chwerw loes y gafodd.
Fel Pelican cariadus,
Tuag-at ei adar clwyfus,
Fe rows gwaed ei galon bûr,
I helpu frodyr nafus.
F' adawodd yr Angelion,
I ddwad at Iddewon,
I brynu enaid dŷn yn rhâd,
A gwerthfawr waed ei galon.
O'r gader ym mharadwys,
I'r ddairen fe ddescynnwys,
I gymryd cnawd o Fair wenn
Deg. Eph. 5.25.
d [...]ôs,
I farw dros ei
Sefy bobl ag a alwyd neu a el­wir i vn­deb ag ef ei hun trwyffydd, ac i ufy­ddhau iddo men cyfi­awnder a sanctei­ddrwydd.
Eglwys.
Fe gymrodd arno 'n tlodi,
A'n gwaeledd a'n gofydi,
A'r hôll ddial arno 'i hûn,
Y haedde ddŷn am frynti.
Fe wanwyd am ein beie,
F' archollwyd am gamwedde:
Ond trwy gleisie fe iachaws
Hôll liaws ein pechode.
Fe gollodd waed ei galon,
Ar grog-pren hefyd drosson:
Ac fe'n gwnaeth yn Blant i Dduw,
Pan 'roeddem ei elynion.
[...]
Fe 'n golchodd o'n pechode,
Fe brynodd ein eneidie,
Ac fe 'n
ni ddwg Christ nêb o honom ni i deyrnas nêf ae y fo byw a marw beb ffydd, edi­feirwch, a sancteiddrwydd buchedd. Mae Duw yn dywedyd na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu ei deyrnas ef 1 Cor. 6.9, 10. Y mae efe wedi tyngu yn ei lîd na chânt ddyfod i mewn i or­phwysfa ef Heb. 3.11. Fe ddywed Christ wrth y cyfryw, ewch ymmaith oddiwrthif, chwi hôll weithredwŷr anwiredd Luc. 13.27. Edrychwn ninne attom ein hunain, a gochelwn aros yn ein pechodau. Er i Grist ddyfod i gadw pechaduriaid (ag sydd yn gwîr gredu) etto fe ddaeth i dorri gwddwg eu pe­chodau nhwy, 1 Jo. 3.8.
dŷg i Deyrnas nêf,
Er maint yw llêf ein bei [...].
O moeswch i'n gan hynny,
Yn gefnog ei glodfori,
Ddydd a nôs; chwi welwch pam,
Mor rassol am ein prynu.
A moeswch inn gadw,
Y gwylie s'ar ei enw,
Mewn duwiolder, rhinwedd, rhâd,
Credigrwydd, cariad croyw:
A moeswch inni dreulio
Yn sanctaidd, heb ei nyrddo
Mewn oferedd yn y bŷd,
Ond pawb i gŷd sancteiddio.
Trown heibio afreolaeth,
A medd-dod a phibiaeth:
A dewn ynghyd i Demel Dduw,
Cans hynny yw cristnogaeth.
Nid gweddaidd i gristnogion,
Ymdroi mewn beie brwnton,
Ar wylie Christ ein prynwr prŷdd,
Y môdd y bydd Iddewon:
Ond troelio 'rhain yn sanctaidd,
Yn sobor ac yn weddaidd,
Megis plant i'n nefol Dâd,
Mewn grâs a chariad perffaidd:
Ac arfer bôb diwarnod,
Yn ddyfal iawn i ddyfod,
I
Temlau Duw mewn gwirionedd ymadrodd yn nyddiau yr efengyl yw cynnu­lleidfaoedd y rhai sy'n ofni ei enw ef; yr vn peth yw ei dŷ ef a'i demel ef: yn y 3 o'r Heb, a'r 6, y dywe­dir fel hyn▪ Eithr Christ megis mâb ar ei dŷ ei hun, tŷ yr hwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyfder a gorfoledd ein gobaith, yn siccr hyd y diwedd. Teml y Duw byw ydych chwi, medd Paul wrth yr eglwys, neu 'r ffyddloniaid yn Corinth, 2 Cor. 6.16. Nid ydwyf fi, yn y messur lleiaf, yn dywedyd vn gair yn erbyn dyfod yn barchus i addoli Duw yn ôl ei ewyllys ei hun, yn y lleoedd y mae 'r Awdwr yn eu alw yn Demlau, ac yn Eglwysydd; ac nid ydwyf f 'n gwadu, nad ellir wrth ddull o ymadrodd, a elwir metonymia alw y lleoedd hynny wrth yr enwau mae 'r Awdwr yn eu harfer. Ond yn gymmaint ac nad oes vn Adeilad mwy nâ i gilydd y nawr yn nyddiau 'r Efengyl, wedi ei adeiladu trwy orchymyn neilltuol y goruchaf Dduw, a Patrwn. phortreiad mewn scrifen oddi wrth ei yspryd ef, fel yr adeiladwyd y 1 Cron. 28.10, 11, 19, 20. Deml fawr yn Ierusalem, yn amser y gyfraith: nac vn lle mwy nâ'i gilydd y nawr yn Arwydd o Ghrist a'i bobl, fel yr oedd y Joan. 2.19.21. Deml honno y prŷd hynny: nac un addewid y nawr o bresennoldeb Duw i vn lle mwy nâ'i gilydd (pan fo'r gynn [...]eidfa o bobl yr Arglwydd yn absen­nol) fel yr oedd yn yr amser hynny ir 1 Bien. 9.3. Demel honno: Am y rhesymmau hyn nid ydwyfi yn deall etto (cynta beth a ddeallafi ar ôl hyn) pa sancteiddrwydd yr oedd yr Awdwr bendigedig yn ei dybied ei fod yn y 1 Tim. 2.8. cyfryw leoedd,
Demel Duw a'i sanctaidd Dŷ,
Bôb rhai dan ganu mawr glod.
Nid
Gwelwch beth y mae Duw yn ei edrych um dano. Psal. 51.17. 1 Cor. 6.20 Rhuf. 12.1 2.M [...]ch. 6.6, 7, 8.
edrych ar ein dwylo,
Am roi vn aberth iddo,
Ond clôd a mawl tu fewn ei lŷs,
Cans hyn sydd felys ganddo.
O dewch iw byrth gan hynny,
Dan ddiolch a than ganu,
Fach a mawr, ar fore a hwyr,
Yn brûdd i lwyr foliannu.
O dewch iw Demel sanctaidd,
Yn drefnus ac vn weddaidd,
I glodforu enw Duw,
Cans hyfryd yw a gweddaidd.
Fe ddy­lei Grist­ianogion duwiol ddangos eu diolchgarwch am eu prynedigaeth, trwy gofio a charu Duw a'r galon, trwy ei foli ef a'u tafodau, ac offrwm pob vn ei gorph a'i yspryd i wasanaethu ef, mewn sancteiddrwydd a chyfiawn [...]er holl ddyddiau eu bywyd. Ac heb wneuthur felly ni Ddichon vn dyn siccrhau ei hunan ei fod ef yn Blentyn i Dduw. Psal. 103.1, 2. 1 Jo. 4 19, Psal. 51.15. Rhuf, 12.1. 1 Cor. 6.20. Luc. 1.74, 75. 1 Jo. 3.6. hyd yr 11. 1 Jo 2.3, 4.
Tra gweddaidd a pherthnassol,
I bob rhyw Gristion dwwiol,
Foli ein Prynwr ddydd a nos,
Am farw dros ei bobol.
Dymma i gyd y taliad,
Y diolch a'r aberthiad,
Y mae 'n ddisgwyl ar law 'r gwŷr,
Am dan ei gûr a'i gariad.
Gan hynny curwch ddwylo,
A rhoddwch foliant iddo,
Yn ei demel fawr a'i lŷs,
Cans hyn sydd felys gantho.
A nedwch i'n yn vnlle,
I gablu â'n geneue,
Rhag ein mynd yn waeth ein
cyflwr.
câs,
Suddas a'i bradyche.
Ir Tâd, I'r mâb, I'r Yspryd,
I'r Drindod vndod hyfryd,
Y bô clôd a moliant mawr,
Bôb dydd, bôb awr, bôb ennyd.

Cynghor i geisio yr Arglwydd Iesu Grist.

O cais gŵr, na gwraig, na Phlentyn,
Gael y Bywyd mawr di-derfyn,
Ceisient Grist s'a'r
1 Joan 5.12.
bywyd ynddo,
Ac hwy gânt y bywyd gantho.
Rhaid yw ceisio Crist yn gynta,
Lle mae 'r bywyd yn lletteua:
Gwael yw 'r gwaith, a thraws, a thrist,
Joan 14.6
Geisio 'r bywyd nes cael Crist.
Cais di Grist yn Geidwad itti,
Ac yn Arglwydd i'th Reoli:
Di gae 'r Bywyd
Tragwy­ddol.
di-drangc ynddo,
Ac ni cholli bŷth o hono.
Oni cheisi Grist yn Geidwad,
Ac yn
Llywo­draethwr.
llywydd parchus arnad,
Nid yw bossib it' ddychymmig,
B'wedd y byddu ddyn cadwedig.
Pawb a chwennych gael wrth farw,☜
Grist fel Ceidwad idd eu cadw:
Wrth fyw ni fyn ond rhai o'r rheini,
Ghrist fel Arglwydd i'w rheoli.
Nâd dy dwyllo Gristion anllad,☜
Ni bydd Christ i nêb yn Geidwad,
Ond ir Dŷn a gymro o ddifri,
Ghrist yn Arglwydd iw reoli.
Heb. 5.9.
Rhwn na fynno ei reoli,
Gan Air Duw, a'i yspryd gwisci,
Nac edryched y Dŷn hwnnw,
Gael gan vn mâb Duw ei gadw.
Luc. 19.27
Cais gan hynny Grist yn Geidwad,
Ac yn Ben Rheolwr arnad:
Ni all vn dyn gwnaed y synno,
Bŷth fôd yn gadwedig hebddo.
Pe caet ti 'r Bŷd a'i bethau auraid,
Heb gael Crist i gadw d'enaid;
Beth y dale 'r drwg-fyd trist,
O'r colli d'enaid eisie Christ?
Pe caet Ghrist heb ddim ond hynny,
Di gaet ddigon i'th ddiwallu:
Mae yn gryno yn Ghrist ei hun,
Col. 1.19.
Oll sydd raid i gadw dŷn.
Och! na welyd mor anghenraid,
Yw mâb Duw i gadw d'enaid:
Ac na alli weithio sywaeth,
Hebddo ddarn o'th iechydwriaeth:
Ond bôd yn rhaid, ac yn gorfod,
Arnad geisio 'r Iesu drossod,
Weithio 'r cwbwl, dechre, a diwedd,
Cyn y gallech gael trugaredd.
Os ni ddichon dŷn nac Angel,
Gwyllt, na dôf, nac vn anifel,
Wella dim o'ch gyflwr truan,
Nes gwellaffo Christ ei hunan.
Rhaid it Ghrist yn Dduw, yn ddŷn,
A'i ddwy nattur dan yr vn,
Weithio pôb darn o'th brîd bryniad,
Cyn bodloner Duw 'r vchel-dad.
Rhaid i Ghrist dy Frawd, dy Frenin,
Weithio pôb darn, a phôb tippin,
O'r gwaith mawr o'th iechydwriaeth;
Ni all eraill helpu ysowaeth.
O cais enaid dŷn feddiannu
Christ, a'i ddonie i
Er fôd Christ yn dyfod i lanhau y pechadur, pan y mae efe yn a­flan: etto nid yw efe yn dyfod i ddiddanu y pechadur, nes yn gyn­taf ei San­cteiddio ef. Jo. 14.15, 17, 21, 23. Mae 'n rhaid bôd grâs yn gyntaf, cyn gellir cael heddwch a llawenydd yn yr Ar­glwydd, Rhuf. 15.13. Rhuf. 5.1, 2.
ddiddanu,
Rhaid ir enaid bâch ymgweiro
Dderbyn Christ cyn delo atto.
Gwna dy enaid bâch yn barod,
I gael Christ i drigo ynod,
Gwedyn planna dy hun yndo,
A thynn râs a grym oddiwrtho.
Rhaid it wneuthur anwyl gristion,
Lle.
Rŵm i Ghrist cyn dêl i'th galon,
A chymhennu ei lê yn barod,
Cyn y delo dan dy fargod.
Ni all Christ, na'i yspryd sanctaidd,
Aros bŷth mewn lle anghriaidd:
O cais vn dŷn ei gyfeillach,
Gwnaed ei galon iddo 'n lanach.
Ni ddaw Christ ir galon aflan,
Nes troi pechod oflyd allan:
Ni thrîg Christ lle bo aflendid,
Sanctaidd yw a glân o'i yspryd.
Ni chyttuna Duw a Dagon,
Christ a Belial mewn vn galon,
Mwy nâ'r Dŵr a'r Tân pan dotter,
I gŷd-aros mewn vn llefter.
Ni all calon llawn o falchder,
Dderbyn Christ nes ir arllwyser,
Mwy nâ baril llawn o blwcca,
Dderbyn llaeth nes
Bwrw allan.
fento 'r llacca.
Rhaid ymado 'n lân a phechod,
A'i gasâu, a'i lwyr ymwrthod,
Cyn y gallo enaid vn dyn,
Gael cyfeillach Ghrist na'i dderbyn.
Rhaid ir enaid bâch ymarllwys,
O bôb pechod y mae 'n gynnwys,
Fel y gallo Christ a'i ddonie,
Lanw 'r enaid gwâg â'i râde.
Ni all vndyn dderbyn Christ,
Ir galon aflan druan drist,
Nes cymhenner hon yn gynta,
Es 57.15. Ps. 24.9, 10
I ressawi 'r Brenin mwya.
Ni all vndyn wrth
Trefn.
gŵrs nattur,
Chwennych Christ er maint o'i ddolur,
[Page 524]Nes dêl Duw â'i râs i gyffro,
A dwyn y Dŷn o'i
Er fôd Dŷn trwy nattur yn anewyllysgar i ddyfod at Ghrist, etto ar ôl tywalltu yspryd Duw arno, a gweithio grâs ynddo, y mae efe yn dyfod atto yn ewyllysgar ac o'i wîr fodd Eph. 2.1. 2 Cor. 3.5. Dihar. 1.23. Joan. 6.44. Can. 1.4. Psal. 110.3. Phil. 2.13.
anfodd atto.
Duw o'i râs a'i naws ei hun,
Sy'n cynnig Christ i gadw Dŷn:
Nid dim ond mwynder Duw yn vnig,
Sy'n cynnig Christ ir Dŷn colledig.
Nid oes dim mewn dŷn all gyffro
Duw i ddangos ffasar iddo:
Duw o'i nattur dda ei hun,
Sy'n rhoddi Christ i gadw dŷn.
Mae Duw 'n cynnig Dwr y bywyd,
Grâs, a dawn a didrangc iechyd,
Yn rhâd, yn rhwydd, ir dŷn a'i mynno,
Datc. 21.6.
Or daw at Ghrist â syched arno.
Mae Duw 'n galw pawb yn rhîn,
I fwytta
sef Christ
Manna, i yfed
Esay. 55.1, 2.
Gwîn:
Yn rhâd, yn rhwydd, heb aur, heb arian,
Os at Ghrist y down dan drottan.
Nid yw Duw yn gwardd i vndyn,
Dderbyn Christ, a'i gadw, a'i ganlyn,
Y mae 'n gwardd i nêb ei wrthod,
Esa. 1.18.
Er ffieiddied y fo'i bechod.
Er bod Duw yn cynnig Christ,
I bôb pechadur truan, trist,
[Page 525]Ni ddaw vn er hynny atto,
Nes dêl Duw â bâch i
Pan ydys yn dywedyd fod Duw yn llysco dŷn at ei fâb Christ; yr ystyr yw, fod Duw trwy ei yspryd a'i râs yn gwneuthur dŷn sydd o hono ei hun yn anewyllysgar, i fod yn awr yn ewyllysgar i dderbyn Christ. Tynn fi (medd yr Eglwys. Can. 1.4.) ni a redwn ar dy ôl.
lysco.
Ni ddaw vndyn gwnaed y fynno,
At fâb Duw er maint ymgweirio,
Nes y tynno Tâd trugaredd,
Jo 6.44.
Es at Ghrist i gael ymgeledd.
Ni ddoe 'r ddafad aeth ar ddidro,
Bŷth ir gorlan nes ei
Dwyn.
chario,
Na phechadur at ei Geidwad,
Nes ei garrio fel y ddafad.
Luc. 15.
Ni ddaw lleidyr at y Justys,
Bŷth o'i fôdd ond yn wrthnebus,
Na phechadur
Er.
serch ei flingo,
At ei Brynwr, nes ei lysco.
Y mae nattur yn gwrthnebu,
Gal. 5.17.
Mae Cydwybod yn ei nadu,
Mae bechodau 'n dwedyd wrtho,
Ei condemnir or daw atto.
Rhaid i Dduw 'r Tâd agor llygaid
Dŷn, i weld gofidi 'i enaid,
A'i drueni, a'i wael gyflwr,
Cyn 'mofynno am iachawdwr.
Act. 26.18.
Ni ddaw 'r iach i mofyn Meddyg,
Nes y gwelo ei glwyfo 'n ffyrnig:
Ni ddaw Dyn i 'mofyn Ceidwad,
Nes y gwelo ei gyflwr
Tôst▪
irad.
Rhaid i'n weled ein trueni,
A'n tost gyflwr, a'n gofydi,
A'r ddamnedig
Cyflwr.
stâd ein ganed
Cyn gweld eisie Christ er rheited.
Rhai ir Tâd â'i Air, â'i yspryd,
Oleuo.
'Leuo dyn i weld ei ofyd,
Cyn y ceisio dyn diwybod,
Help gan Grist i fadde'i bechod.
Hos. 11.4.
Rhaid ir Tad â bâch o gariad,
Dynnu dyn fel tynnu dafad,
Cyn y delo vn pechadur,
At fâb Duw i geisio cyssur.
Ezek. 36.26.
Rhaid i Dduw droi'r galon garreg,
Yn galon gîg mor
Tyner.
sofft ar bloneg,
Nes dolurio 'i weld ei chyflwr
Cyn mofynno 'i am Iachawdwr.
Rhaid i Dduw 'r Tâd ddangos itti
Olud ei râs a'i dosturi,
Yn rhoi fâb drossod i'w groes-hoelio,
Cyn y
Beiddiech
mentrech ddwad atto.
Rhaid ir Tâd fynegi itti,
Mor anfcidrol o'i ddaioni,
Ac mor barod yw i fadde,
Ir 'difeiriol ei holl feie:
Esay. 55 7
A'i fôd ê'n gwawdd, ac yn ceisio,
Pôb pechadur ddwad atto,
I gael cyfran o'i drugaredd,
Ond ymwrthod â'i ddrwg fuchedd.
1 Jo. 3.23.
Rhaid i Dduw orchymyn itti,
Dan boen melldith drom a didri,
Gredu yn Grist, a'mddiried ynddo,
Cyn y
beiddiech
mentrech ddwad atto.
Gwedi Galw a Gorchymyn,
Rhaid ir grassol Dâd dy
Deisyf, arnat.
ganlyn,
Ddwad at Grist i'th gymmodi,
A'th Dâd nefol gwedi
Gyffroi i ddigofaint
Siommi.
Rhaid dy ganlyn yn gariadus,
Mae dy nattur mor wrthnebus,
Cyn y delech trwy ymhwedd,
I gael heddwch a thrugaredd.
Rhaid ir Brenin ganlyn Bradwr,
Ac ymhwedd â'r Trosseddwr,
Cyn y delo i geisio pardwn,
Am ei frâd, a'i drais, ai
bradwri­aeth.
dreswn.
Er nad gweddus iddo ganlyn,
Arnat ti sy'n pechu iw erbyn:
Mae 'n ymhwedd â thi 'n deilwng
Ezek. 33▪ 11.
Ddwad atto i geisio pardwn.
Gwedi canlyn, rhaid yw dangos,
Ddaed amynedd Duw a'i 'maros,
Mor ddioddefgar,
2 Pet. 3 9.
ac mor ddiddig
Yw, ir christion llaes, hwyrfrydig:
Ac mor bwyllog y mae 'n edrych,
Gan gyd-ddwyn â'th feie 'n fynych,
A hîr aros wrth dy lesser,
Mat. 23.37.
I roi ymmaith bob diffeithder.
Er dy
Ddeisyf
gathrain, er dy gyffro,
Er dy ganlyn a'th oleuo,
Ni
Ddeui. Act. 2.37,
ddoi byth at Grist o'th bechod,
Nes y pigo Duw 'th gydwybod:
Ac nes ith gyhu­ddo.
A'th gyhuddo, a'th rag-farnu,
A'th gondemno, a'th lwyr adu,
Gan dy
cydwybod
gonfciens dôst dy hunan,
Am dy fuchedd offyd, aflan.
Ac er pigo dy gydwybod,
A'th gondemno am dy bechod,
Jo. 6.44.
Ni ddoi byth at Grist er hynny,
Nes dêl yspryd Duw dy dynny.
Rhaid i Dduw â'i yspryd gwiwlan,
Fwrw i maes yr yspryd aflan,
Eph. 2.2.
Sy'n dy galon yn Teyrnasu,
Cyn y ceisiech help Crist Jesu.
Rhaid ir yspryd glân dy dynnu,
A'th ryddhâu, a'th lwyr waredu,
Oddi wrth Satan, A'th gyfrwyddo,
At fâb Duw, cyn delech atto.
Joan. 14.23.
Rhaid dy dynnu oddiwrth dy bechod,
A rhaid puro dy gydwybod,
A Sancteiddio 'r galon aflan,
Cyn y delo Christ i ddywedyd heddwch wrth bobl, ac i roddi llawenydd ysprydol iddynt, gan dystiolaethu trwy ei yspryd, eu bod hwy yn blant i Dduw, a bod iddynt hwy ran ynddo fe, y mae efe yn gyntaf yn eu cyfiawnhau a'u Sancteiddio hwynt. Rhuf. 5.1. 1 Pet. 1.8. Rhuf. 15.13. 1 Joan 2.3, 4, 5.
Cyn y delo Christ ith gyfran.
Eph. 2.3.
Plant digofaint wrth naturiaeth,
Ym ni bôb rhai oll ysowaeth,
Hyd nis gwnelo Christ ni, clyw,
Jo. 1.12.
O Blant digofaint yn blant Duw.
Mae digofaint Duw mor greulon
Yn llosci yn erbyn pechod dynion
Nid oes dim all ddofi ei loscfan
Ond gwaed calon Christ ei hunan.
Ni all y dŵr sy 'chlaw 'r ffurfafen,
Na dŵr y môr, na dyfroedd Hafren,
Ddiffodd digter Duw at ddyn
Nes dofo Christ â'i waed ei hun.
Rym ni bôb rhai yn Elynion,
Rhuf. 5.1.10.
I'r Duw mawr y barnwr cyfion,
Nes y gwnelo Christ ei hun
Heddwch têg rhwng Duw a dŷn.
Ni all dŷn, na Diawl, nac Angel,
Na nêf,, na daer, mi dweda 'n uchel,
Heddy­chu.
Reconseilo Duw a dŷn,
Nes Reconseilo Christ ei hun.
Rym ni bawb dan felldith greulon,
Gal. 3.10 13.
Am drosseddu 'r Gyfraith gyfion:
Ni ddaw nêb o dan y felldith,
Nes gwaredo Christ e'n ddiwith.
Rym ni bawb yn weision pechod,
Ioan. 8.34.36.
Yn pechu boenoeth bôb diwrnod:
Ni all vn dŷn lai na phechu,
Nes dêl Christ ei Adgenhedlu.
'Rym ni bawb yn
Caeth­weision.
slafs i Satan,
Ac mewn Carchar tywyll, aflan:
Nes del Christ i ddwyn ei arfe,
Luc. 11.21.22.
Ni ddaw dŷn y maes o'i grampe.
Rym ni bawb yn slafs i'r cythrel,
1 Ioan. 3.8. Col. 1.13.
Ac mewn carchar dû ddiogel:
Nes del Christ i rwymo Satan
Ni ddaw nêb o'i deyrnas allan.
Pe doe Michel a'i Angelion,
Datc. 12.7 11.
I ymdrechu a'r ddraig greulon,
Ni orchfyge bŷth o hono
Nes doe Oen Duw i'w
Gorchfy­gu. Rhuf. 6.23. Rhuf. 8.1.
goncgwe [...]o.
'Rym ni 'n euog bawb o Ange,
Ac o uffern boeth a'i phoene:
Ni all vn dŷn ddiangc rhagddynt,
Nes gwaredo Christ ni oddwrthynt.
Rhuf. 5.12 17, 18.
Fe 'n condemnwyd cyn ein geni,
Bawb am drossedd ein rhieni:
Rhaid cael cymmorth Christ yn gynta,
Cyn cadwer un o eppil Adda.
Ni chaiff un dŷn gwnaed a allo,
Fynd i Deyrnas Dduw i dario,
Nes ail aner hwn yn hyfryd
Joan 3.5, 6.
Gan fâb Duw, â'r Dŵr, a'r yspryd.
Rhaid i Grist ein Adgenhedlu,
A'n ail greo a'n newyddu,
Cyn y caffo vn dŷn cnawdol,
Etifeddu 'r Deyrnas nefol.
Ni alle nêb orchfygu 'r ddraig,
Na sigo ei shol am dwyllo 'r wraig,
Na'n tynnu maes o'i dywyll gorlan,
Gen. 3.15.
Ond Hâd y wraig, mâb Duw ei hunan.
Ni alle nêb roi rhan o'r fendith,
Gal. 3.13.
Na'n tynnu maes o dan y felldith,
Ond Jesu Grist yr Hedyn dinam,
Gen. 22.18
Addawodd Duw o lwyne Abram.
Ni alle vn creadur hynod,
Ein tynnu maes o ddannedd pechod,
A'n dwyn ir nêf at Dduw i
Drigo. Gen. 49.10
dario,
Ond Jesu Grist yr vnig Silo.
Duw ddug Israel trwy law Moeses,
O gramp Pharo i Ganaan gynnes:
Duw trwy Grist a'n harwain
Sef, os credwn ni yndo, ac os edifar­hawn ni am ein pe­chodau, a bôd vn v­frddiddo. Heb 5:9. Num. 21.9 Jo 3 14, 15
ninne,
O gramp Satan ir nêf ole.
Y Neidir brês a helpe 'n escyd,
Y rhai a frathe 'r neidir danllyd:
A Christ â'i waed a helpa 'n fuan,
Yr enaid prûdd a frathe Satan.
Gwaed yr oen y gadwe 'r Angel,
Exod. 12.
Y maes o'r tai rhag difa Israel:
Gwaed mâb Duw y geidw Satan,
Y maes o galon pawb a gredan.
Fal y tynnodd Dafydd rymmus,
1 Sam 17.34, 35. Act. 26.18
Oen o eneu 'r llew afradus:
Felly tynnodd Christ ein Bugel,
Enaid
Sef y cre­dadyn. Barn. 16.30.
dŷn o Eneu 'r Cythrel.
A'i farwolaeth lladodd Samson,
Y rhai penna o'i elynion:
A'i ddioddefaint lladdodd Jesu,
Angeu, Pechod, Diawl a'i deulu.
Maent hwy 'n farwol gwedi clwyfo,
Er bôd chwythiant ynddynt etto:
Ni all Eli sy'n yr holl-fyd,
Iachau chwyf na chadw'i bywyd.
Nid oedd dim y olche Naaman,
2 Bren 5.
O'i glaf gwân ond dyfroedd Jordan:
Nid oes dim a'n golcha ninne,
Ond gwaed Crist oddiwrth ein beie.
Helodd Duw ei Angel hyfryd,
I ddwyn Sadrac o'r ffwrn danllyd:
Dan. 3.
Helodd Duw ei fâb ei hunan,
I'n dwyn ni o ffwrnes Satan.
Jonas a fu 'm mol y Morfil,
Dridie a their-nos mewn mawr
Enbydr­wydd.
beril:
Felly bu ein Prynwr hygar,
Drosom ninne ym mola 'r ddaiar.
Fel offrymmodd Abram Isaac,
Gen. 22.
I Jehofa ar ben Moriac:
Felly offrymmodd Crist ei enaid,
I Dâd cyfion dros ei ddefaid.
Joan 5.
'Neb a 'molche ym mhwll Bethesda,
Fe iachaid o'i glwyf pwy bynna:
'Neb ymolcho yng-waed y cymmod,
Fe iachair o bôb rhyw bechod.
Gwaed y Pelican sy'n helpu,
Ei Adar gwedi 'r Sarph eu brathu:
Gwaed yr Oen all gadw 'r cristion,
Gwedi bechod frathu galon.
Yr Vnicorn â'i gorn y
Iachâ.
helpa
'R Dwr lle chwdo 'r Sarph ei chylla:
Christ â'i waed all cadw 'r enaid,
Lle chwdo 'r Sarph ei wenwyn embaid.
Mor gwilyddus i ni wrthod,
Vn mab Duw i fod 'yn briod:
A phe palle merch rhyw
cardottyn
feger,
Fod yn wraig i Frenin Lloeger.
Gen. 28.12
Nid yw bossib i neb ddringad,
Ir nêf vchel vwchlaw 'r lleuad,
Oni chymmer yscol Iaco,
'Rhon yw Crist i ddringad arno.
O gan hynny llêf yn irad,
Am gael gafel yn dy Geidwad;
Nad ir Byd na dim sydd ynddo
Beri it golli d'afel arno.
Llêf am Grist fel hŷdd am afon,
Psal. 42.1. Cant. 5.8.
Mofyn Grist a phôb fforddolion:
Cais e'n ddyfal nes y caffech,
Cadw d'afel pan canfyddech.
Cyn y gallech chwennych Christ,
I gadw d'enaid truan, trist,
Rhaid it weld, fôd grâs a gallu
Gan fâb Duw i'th gadw a'th brynu.
Rhaid it weld fôd Christ yn rasol,
Yn Dduw, yn ddŷn, yn rymmys hollol,
Yn well nâ dim, yn rheitach wrtho,
Nâ'r bŷd i gŷd, a'r maint sydd yndo.
Rhaid it weld fôd Christ yn rheitach,
Yn well ymhell, yn werthfawroccach,
Nâ'r bŷd a'i bethau darfodedig,
I gadw d' enaid bach o'i berig.
Ni all y byd, a'i werthfawr bethau,
Brynu d' enaid bŷth o'i boenau:
Fe all Christ ei ddwyn i'r nefoedd,
O grafangau 'r Sarph a'i twyllodd.
Fe all Christ â'i waed ei olchi,
Esa 1.18.
O'i bechodau fel y lili,
Er eu bôd mor gôch a'r scarled,
A'u glanhau mor wynn a'r foled.
Fe all Christ dy Ail
Atgwei­rio.
reparo,
Yn ddŷn newydd er dy nyrddo,
A'th gyfnerthy tra fech byw
I fyw mewn ffafar dŷn a Duw.
Fe all Christ dy lwyr
Cym­mhwysc.
ffwrneiso,
A grâs, a grym, i lynu wrtho,
A dysc, â dawn, â gwîr wybodaeth,
I weithio gwaith dy iechydwriaeth.
Jo. 1.16.
Fe all Christ
Ennill yn ôl.
recyfro itti,
Faint y gollodd dy
Adda ac Efa.
rieni,
A rhoi itti
Siccrach.
Gwrach fywyd,
Nas gall Satan ddwyn oddiwrthyd.
Fe all mâb Duw gadw d'enaid,
Er ei fynd i fysc y bleiddiaid,
A'i ddwyn adre i'r wîr Gorlan
Yn wŷch ar ei 'scwyddau hunan.
Ni all y bŷd a'r maint sydd ynddo,
Gadw d'enaid, na recyfro
Faint y gollaist gynt yn Adda,
Ond dy ollwng i'r pŵll issa.
O gan hynny llef yn irad,
Am gael gafael ar dy geidwad:
Nâd i'r bŷd, na dim sydd yndo
Beri it golli d'afel arno.
Crynhô di 'nghŷd dy rym, a'th allu,
Rho 'th goel, a'th dryst, a'th bwys ar Iesu,
Cais ef, câr ef, craffa arno,
Bydd suwr i gadw d'afel yndo.
Rhaid i griston brûdd 'wllysio,
Cael mâb Duw yn Geidwad iddo:
Datc. 22.17.
Cyn y bytho 'r Prynwr hygar,
Geidwad bŷth ir anwyllysgar.
Oni chwennych, oni
Hiraetha
flysia,
Oni chais, oni sycheda,
Dŷn am fâb Duw idd i gadw,
Ni thry mâb Duw bŷth drwyn hwnnw.
Ni rŷ Duw o'i fâb i vn-dyn,
Nes bo chwannog idd i dderbyn:
Rhaid yw chwennych Christ a'i geisio,
Psa 110.3
Cyn y caffer gafel arno.
Or bydd yn-dyn yn gwllysio,
Mat. 5.6.
Yn hiraethu, yn dymuno,
Derbyn Christ, a'i râs, a'i ffafar,
Duw rhŷ iddynt yn wllysgar.
Ni chais Duw gan ddŷn edifar,
Ond derbyn Christ yn dra gwllysgar:
Y Dŷn a'i ceisio yn awyddus,
Dat. 22.17.
Fe caiff e'n rhâd yn ôl ei wllys.
Cyn cael Christ, a grâs oddiwrtho,
Eph. 3.17.
Rhaid cael ffydd i 'maflyd yndo:
Heb ffydd ni all vn dŷn hyw,
Gyrraedd gafael ar fâb Duw.
Ni chaiff Christion mwy nâ
Dyn heb broffes Christian ogrwydd. Gal. 5.6.
Phagan,
Lês, na ffrwyth, na rhan, na chyfran,
O'r maint ôll a brynodd Jesu,
Heb ffydd fywiol i'w meddiannu.
Ffydd sydd reita peth iw cheisio,
Bŷth ni chai di Grist heb honno:
Cais y fynnech yn dy ddydd,
Ni cheidw Christ di bŷth heb ffydd.
Mar. 16.16
Heb ffydd ni bydd it wnêl â Christ,
Rhuf. 14.23. Heb. 11.6. Rhuf. 1.17
Heb ffydd mae 'r weiethred ore 'n drist:
Heb ffydd ni wîr fodlonir Duw,
Wrth ffydd y bydd y cyfion byw.
Pa bae gennyd aur fynydde,
A'r bŷd yn bacc, a'i amryw bethau,
Beth fyddit gwell
Ar adydd o anghen­rheid­rwydd.
ar ddydd anghraid,
Os eisie ffydd, y colli d'enaid.
Pe baet mor dlawd a Lazar druan,
Heb dai, heb dîr, heb fwyd, heb
Cŵd.
screpan,
Heb dda, heb ddim ond ffydd yn vnig,
Trwy ffydd yng-Hrist ti wyt cadwedig.
Er na ddichon mynydd auraid,
Luc 7.50.
Gyffro Christ i gadw d'enaid:
Gronyn bach o ffydd fel hedyn,
All ei gyffro i gadw vn dyn.
Heb ffydd ni ellir cael diddanwch,
1 Pet. 1.8.
Gwîr lawenydd, na dedwyddwch,
Yn y nef, nac ar y ddairen,
Bôd heb ffydd sydd beth aflawen.
Heb ffydd ni chae ran yng Hrist,
Mar. 16.16 Heb. 11.6.
Heb ffydd fe'th droir i vffern drist:
Heb ffydd ni
Ni fod­lonir.
phlessir o Dduw 'r lluoedd,
Heb ffydd nid âe di bŷth ir nefoedd,
Ni chair
Maddeu­ant.
pardwn bŷth am bechod,
Ni chair ffafar ar law 'r Drindod:
Ni chair dim llawenydd
O ddifrif.
prydd,
Lle na byddo
Ffydd fy­wiol yw 'r ffydd hon­no sydd ag edifeirwch a glendid calon, a gweithre­doedd da yn ei chan­lyn hi. Act. 20.21. Act. 15.9. Jac. 2.18.
bywiol ffydd.
Rhaid ir tlawd, rhaid ir cyfoethog,
Rhaid ir diddysc a'r llythrennog,
Rhaid ir Brenin, rhaid ir beger,
Rhaid i bawb wrth ffydd cyn cadwer.
Rhaid i bawb ei ffydd ei hun,
Nid ffydd arall wrth ei glŷn:
Os ni chedwir nêb yn gyngan,
Ond trwy 'i ffydd ai grêd ei hunan.
Nid ffydd dy fam, nid ffydd dy dâd,
Nid ffydd y Prins a'r penna o'r wlâd,
All tynnu grâs, o Grist id allan,
Ond dy ffydd a'th grêd dy hunan.
Ezek. 18.
Ni cheidw ffydd y Tâd o'i blentyn,
Na ffydd y mâb o'i Dâd escymmyn:
Pawb a gedwir pôb yr vn,
Wrth ei ffydd a'i crêd ei hun.
Y modd i gael ffydd.
Wrth wrando geiriau Duw yn brŷdd
Mae Duw yn arfer rhoddi ffydd:
Heb wrando 'r gair nid yw yn arfer,
Ruf. 10.17.
Rhoddi ffydd i neb un amser.
Gwrando 'r gair, a chrêd addawo,
Craffa.
Marca, a chofia 'rhyn a ddywetto:
A 'ddawo Duw, fei tâl yn ddilys
Ni thorrodd Duw erioed o'i
addewid.
bromys.
Nid ein nattur, nid ein Tadau,
Nid ein dysc, na'n poen, na'n doniau,
Ond yspryd Duw trwy air ei hun,
Gal. 5.22.
Sy'n gweithio ffydd ynghalon Dŷn.
Gwrando 'r gair, a chais yr yspryd,
Llef am ffydd fel am dy fywyd:
Wrth weiddi am râs, a gwrando 'r fengyl,
Mat. 7. [...].
Mae Duw yn rhoddi ffydd yn rhigyl.
Nid y Gair tu faes ei hun,
Sy'n gweithio ffydd yng-halon Dŷn:
Ond yspryd Duw yng-hyd â'r Gair,
Sy'n gweithio ffydd ple bynna cair.

Psal. 38.

DUw grasol, Tâd trugaredd,
Na faedda fi 'n dy ddigedd,
Ac na chospa fi 'n dy fâr,
Mor ddigllon ar fy niwedd.
Duw mae dy saethe llymion,
Yn glynu yn fy nghalon,
A'th law drom yn daran chwyrn,
Yn briwo f'escyrn gweinon.
Nid oes im cnawd ond nychdod,
Gan faint dy lîd a'th ddyrnod,
Na dim Hedd im hescyrn briw,
Waith cymmaint yw fy mhechod.
A'm camwedd a'm trossedde,
Sy'n pwyso 'n drwm (Gwae finne,)
Fel baich gorthrwm ar fy ngwarr,
Yn gwascu ar fy scwydde.
A'm cnawd sy'n llawn o gleisie,
Waith trwmmed yw'th ddyrnodie,
A'm cleisie 'n pydru fel hên glwyf,
Gan ffoled wyf, gwae finne.
Di grymmaist (Dduw) fy nghefen,
Di 'm helaist ir bedd
Ym mron, agos.
haychen,
Di'm gostyngais hyd y llawr,
Rwi 'n vn yn awr a'r ddairen.
Rwi beunydd yn alaru,
Rwi 'r nôs heb allel cyscu:
Rwi 'n wylo 'n dôst, rwi 'n griddfan mwy,
Fy neigre aeth trwy 'ngwely.
Gwŷl dristed yw f' amcanion,
Clyŵ dofted yw f' vchneidion:
Gwŷl mor drwm yw 'th lîd a'th fâr,
Yn gwascu ar fy-nghalon.
I beri 'm fwy o flinder,
A gwaywyr heb esmwythder,
Mae 'r holl gnawd yn afiach iawn,
Am llwyne 'n llawn o boethder.
Rwi 'n egwan gwedi 'nghlwyfo,
Rwi 'n ochain ac yn rhuo,
Gan faint o'm poen fy Mrhynŵr
Anwyl.
cu,
Rwi 'n barod i wall-bwyllo.
O dofa beth o'th ddigter,
A llaesa ddarn o'm blinder:
Na lwyr ddifa fi fy Nuw
Ond rho i'm ryw esmwythder.
Di wyddost Dduw fy-ngheidwad,
Beth ydyw fy neisyfiad:
Ni chuddiwyd rhagot ti vn pryd,
Na'm poen, na'm cryd mewn bwriad.
Mae 'nghalon drom yn curo,
A'm nerth sydd gwedi 'ngado,
Am llygaid trymion bôb yr un,
S'eb weled dŷn i'm swccro.
Fy-ngheraint a'm cyfeillion,
O hirbell rhoent olygon,
Ar fy-nrhallod blîn a'm pla,
Heb gyssur, na chynghorion.
A'r rhai ddymune 'n Nifa,
Ossodent fagleu 'm dala,
A'm gorthrymmu megis Cŵn,
Och! och! pan oeddwn wanna.
A minneu yn fy-nrhafel,
Fe ddwede bawb ei chweddel
Ac a'm barnent bôb yr un,
Yn waetha dŷn o'm cenel.
A rhai ddychmygent gelwydd,
A rhai 'm gwatwarent beunydd,
A rhai chwardde 'n cuwch ar goedd,
Gan gymmaint oedd fy-nghustydd.
A minne fel dŷn byddar,
Heb glywed dim o'u gwatwar,
Yn tewi sôn heb atteb nêb,
Fel mudan heb ei lafar.
Yr wi fel gŵr heb glywed,
Neu ffôl heb fedru 'styried,
Yn gado i bawb chwedleua eu hûn,
Heb amme dŷn a'r aned.
Ond Arglwydd rwi 'n gobeithio,
Dy fôd di yn eu gwrando,
Ac yn atteb dros dy wâs,
I bawb a'i câs enllibio.
Duw nâd im drwg elynion,
Gael arnai wynn eu calon,
Na chrechwennu tra font byw,
Weld cymmaint yw 'nhrallodion.
Pan llithro 'nrhoed ond gronyn,
Hwy chwarddant bawb i'm herbyn,
Ac a wawdiant am fy-mhen,
Gan roi i'm sen yscymmun.
Fe'm ganed i ddwyn poene,
Partôwyd fi i ddiale:
A blindere 'nghalon don,
Sydd gar fy-mron yn ddie.
O Arglwydd rwi'n cyfaddeu
Fy-mhechod a'm troseddeu:
Mae 'n flîn gennif o fy Nuw,
Weld cymmaint yw fy meieu.
Ond etto mae 'ngelynion,
Yn fywiaidd, ac yn gryfion,
A'r sawl se'b achos i'm casau,
Sydd yn amlhau yn greulon.
A'r rhai a dalant immi
Dwrn drwg am fy naioni,
Sy'm gwrthnebu bôb yr awr,
Trwy wneuthur mawr ddrygioni.
Ac am fy môd yn dilyn,
Y peth sydd dda i'r werin,
Rwi 'n gâs gan bawb o'r bobol ddrwg,
Ar rhai s'au gŵg i'm herbyn.
Na wrthod di fy helpy
O Dduw, fy Nuw, er hynny;
Gwna fi beunydd ar fy-ngwell,
Ac na fydd bell oddiwrthy.
Ond bryssia i'm cynnorthwyo,
A'm helpy byth tra gantho,
Duw fy iechyd, Vn a Thri,
Cans ynot ti rwi 'n
Ymddi­ried.
trysto.

Am y Sabboth.

DEffro 'n fore gydâ 'r ceiliog,
Ffyst d'adanedd, cân yn serchog
Psalm ir Arglwydd yn blygeiniol,
Psal. 92.1, 2.
Ar bôb Sabboth yn dra suriol.
Gwisc dy ddillad gore am danad,
Ymbara­tôa trwy weddi.
Ymsancteiddia cyn dy ddwad,
O flaen Duw ir Demel sanctaidd,
Hoff gan Dduw ei addoli 'n gruaidd.
Gwedyn dôs â'th dylwyth gennyd,
I dŷ Dduw â chalon hyfryd,
I addoli Duw 'n y
Yng hyn­nulleid­fa [...]edd ei bobl.
dyrfa,
Megis Joseph, Mair, a Josua.
Fe fyn Duw ei addoli 'n barchus,
Ar bôb Sabboth yn gyhoeddus,
Gydâ 'r dyrfa yn y Demel,
Nid yn ddirgel yn y cornel.
Duw ddibennodd ei holl weithred,
Ar y dydd o flaen y seithfed,
Gorphen dithe bôb gorchwylion,
Cyn y Sabboth od wyt gristion.
Ymsancteiddia cyn y Sabboth,
Cadw 'n lân dy lester boenoth:
Golch dy hun mewn edifeirwch,
Ofna Dduw, a chais ei heddwch.
Cyn y Sabboth rhaid ymgweirio,
A throi pôb bydol-waith heibio,
I gael gweithio Gwaith yr Arglwydd,
Tra fo'r dydd mewn gwir sancteiddrwydd.
Gorphwys di, a'th dda, a'th ddynion,
Oddiwrth bôb rhyw o orchwylion:
Ac na weithia ddydd yr Arglwydd,
Waith o
Difyr­rwch.
blesser na bydolrwydd.
Gwerthu
Gair dy­rus pôb mâth o ymborth yr ydys yn dy­bied. Nehem. 13.15. Esa. 19.58.13.
livlod, cario beiche,
Gweithio 'n galwad, mynd i shiwrne,
Pôb ofer-waith plesseredig,
Ar y Sabboth sydd warddedig.
Cadw 'r Sabboth oll yn brŷdd,
Fore a hwyr, a chennol dydd,
Yn dy dŷ fel yn yr Eglwys,
Yn gwasnaethu Duw heb orphwys.
Cymmer fwy o
Gofal.
garc trech byw,
Weithio 'r Sabboth waith dy Dduw;
Nag y gymrech vn dydd amgeu,
Ynghylch gweithio bydol bressen.
Ar y Sûl mae mor anghenraid,
Geisio Manna 'borthi 'r enaid,
Ac yw ceisio ar ddydd marchnad,
Fwyd i borthi 'r corphyn anllad.
Côd y bore ar y wawr ddydd,
Am y cynta ar vchedydd,
I gael treulio dydd yr Arglwydd,
Mewn duwioldeb a sancteiddrwydd.
Nid diwrnod i ni gyscu,
Nac i dordain yn y gwely:
Ond diwrnod iw sancteiddio,
Yw 'r dydd Sabboth oll tro ganto.
Nid diwrnod itti loetran,
Nac i feddwi, nac i fwlian:
Ond diwrnod itti weithio,
Gwaith dy Dduw yw 'r Sûl tra dalo.
Dydd iw dreulio mewn sancteiddrwydd,
Dydd i weithio gwaith yr Arglwydd:
Dydd i ddarllain, a gweddio,
Dydd i addoli Duw a'i gofio.
Dydd i orphwys rhag gwaith bydol,
Dydd i weithio gwaith sancteiddiol;
Ac nid dydd i fôd yn segur,
Yw dydd Duw medd geiriau 'r Scrythur.
Er bod Duw yn erchi coffa,
Cadw 'r Sabboth yn ddisigla;
Nid ym ninnau 'n ceisio cadw,
Vn gorchymyn waeth nâ hwnnw▪
O'r holl ddyddie nid oes vn-dydd,
Ym ni'n dreulio mor ddigrefydd,
Mor anneddfol, mor escymmyn,
A'r dydd Sabboth tra fo'r flwyddyn.
Dydd i feddwi, Dydd i fwlian
Dydd i ddawnsio, Dydd i loetran,
Dydd i hwrian a gwylhersu,
Yw 'r dydd Sabboth gan y Cymru.
Dydd i eiste a
Gwawdie
dyfalu,
Dydd i ymladd ac ymdaeru:
Dydd i weithio gwaith y Cythrel
Yw dydd Duw mewn llawer cornel.
Y Dydd a ddylem ei sancteiddio,
Ym ni fwya yn ei nyrddo,
I amherchi 'n prynwr tirion,
A dolurio ei gywir weision.
Treulia 'r Sabboth oll yn llwyr,
Mewn sancteiddrwydd fore a hwyr:
Ac na ddoro
Rhan.
bart na chyfran,
O ddydd Duw i addoli Satan.
Coffa gadw 'r Sabboth sanctaidd,
Duw fyn gadw hwn yn berffaidd;
Rhwn a dreulio 'r sûl yn ofer,
Ni wna brîs o ddim orchmynner.
Cadw 'r Sabboth ti a'th genel,
Yn dy dŷ fel yn dy demel:
Gen. 18.19 Jos. 24.15.
Gwna i'th dylwyth fyw mor gymmwys,
Yn dy dŷ fel yn yr Eglwys.
Tri rhyw waith all dŷn arferu,
Ar y Sabboth heb drosseddu,
Gwaith duwioldeb yn ddiembaid,
Gwaith cariadol, Gwaith Anghenrhaid.
Gweithred dduwiol yw trafaelu,
I dŷ Dduw i
Sef, i An­rhydeddu Duw. 2 Bren. 4.23.
Anrhydeddu.
Ac i wrando 'r fengyl hyfryd,
Pyt fae 'mhell o ffordd oddiwrthyd.
Gwaith cariadawl ydyw cadw,
Dŷn a Nifel rhag eu marw,
A rhoi ymborth iddynt ddigon,
Ac ymgleddu 'r bobol weinon.
Gwaith anghenrhaid 'rhwn nîs gally,
Gynt na chwedyn ei gyflawni,
Megis cadw Tŷ rhag llosci,
Gwraig wrth escor, Buwch, rhag boddi.
Gwachel ddilyn drwg gyfeillach,
Cyfaill drwg sydd wybren afiach,
Plâg yn llygru, pyg yn nyrddo,
'R dŷn duwiola a'i dilyno.

Am weddi.

Pan yr elech i weddio,
Edifara am aeth heibio;
A llywr ymolch o'th holl frynti,
Os dymynu wrando 'th weddi.
Duw ni wrendy bechaduriaid,
Joan 9.31.
A fo'n byw mewn pechod diriaid;
F'orfydd 'madel â drygioni,
Cyn gwrandawo Duw dy weddi.
Os mewn malis, rhyfyg, mwrddro,
Llîd, a thrais, y doi weddio,
I dŷ Dduw ar ben dy linie,
Duw a'th wrthyd a'th weddie.
Esay 1.15:
Melldith Moab sydd yn cwympo,
Ar yr anwir wrth weddio;
Ceisio maent heb gael eu
Deisyfiad
Canlyn,
Am fôd dwylo rhain yn scymmyn.
Y nêb a alwo ar yr Arglwydd,
Ymadawed â'i halogrwydd,
1 Tim. 2.8
Ac ymolched ei ddwy ddwylo,
Oddiwrth waed o cais ei wrando.
Tirion yw Duw a thosturiol,
Ir rhai a fydd edifeiriol;
Joel 2.12, 13.
Edifara am dy frynti,
Ac fe wrendy Duw dy weddi.
Os difaru am y cwbwl,
Pyt fae 'th fai mor gôch a'r pwrpwl,
Esay 1.18.
Christ a'th olch mor wyn a'r lili,
Ac a wrendy 'n rhwydd dy weddi.
1 Jo. 1.22.
Pan y delech i weddio,
Jer 4.14.
Tro bob meddwl ofer heibio:
A rhwym gartre dy fydolrwydd,
Trech yn
Yn lle­faru.
parlo ti a'th Arglwydd.
Brwnt yw gweled pacc a ffardel,
Ar dy gefen yn y Demel:
Brwntach yw gweld dy fydolrwydd,
Pan gweddiech ar yr Arglwydd.
Pan gweddiech galw yn gynnwys,
Ar Dduw dros bôb stâd o'r eglwys,
Ac nac arfer megis Pagan
Weddi 'n vnig it dy hunan.
1 Tim. 2.1, 2.
Galw 'n gynta dros frenhinoedd,
Am gael grâs i drîn eu pobloedd,
Mewn gwir grefydd, a llonyddwch,
Hedd, vniondeb, a dedwyddwch.
Eph. 6.19.
Gwedyn galw dros Eglwyswyr,
Am gael grâs i draethu 'n eglur,
Holl ddirgelwch yr Efengyl,
A phregethu 'r gwîr yn rhigyl.
A gweddia dros Swyddogion,
Ar i Dduw roi grym a chalon,
Iddynt gospi pôb rhyw drossedd,
A
Cynnal.
maintainio ffydd a rhinwedd.
Cais gan Dduw fendithio hefyd,
Pôb scolheigion o gelfyddyd;
Fel y gallont lanw 'r gwledydd,
A goleuni, moes, a chrefydd.
Nac anghofia o'r cyffredyn,
Ond gweddia hefyd drostyn,
Fel y gallont fyw 'n ei galwad,
Mewn vfydd-dod, hedd, a chariad.
A gweddia dros drueuniaid,
Sydd mewn trallod, custydd embaid,
Ar i Dduw dosturio wrthynt,
A rhoi help, a chymffordd iddynt.

Gweddi dros yr Eglwys, yn llawn o ddymuniadau grassol.

A Rglwydd grassol cadw d'Eglwys,
A'r wîn-wydden dêg y blanwys
Psal. 80.14, 15.
Dy ddeheu-law di dy hunan,
O'r dechreuad yn dy winllan.
Nâd ir Baedd o'r coed i thurrio,
Psa. 80.13
Nâd ir Bwystfil gwyllt ei chroppio:
Nâd vn Gelyn er mwyn Iesu,
Ei hanrheithio, byth na'i scathru.
Bydd yn
Mur. Zec. 2.5, 8. Esa. 27.2, 3
wal o dân o'i bobtu,
Ddydd a nôs gan ei chwmpassu,
Bydd â'th lygad arni 'n wastod,
A'th fraich rymmus yn ei gwarchod.
Cadw hi megis byw dy lygad,
Portha hi fel dy Braidd yn ddifrad,
Trwsia hi fel dy anwyl briod,
Nâd vn gelyn byth i gorfod.
Gwella ei gwelydd, côd ei bwlchau,
Psa. 51.18.
Gwilia ei phyrth, a chweiria 'i thwrau;
Cadarnhâ bob barr sydd ynddi,
Nâd vn gelyn i difrodi.
Nâd i Dwrc, na Phab, na Phagan,
Gen. 12.3.
Nac vn Pennaeth waethu 'th winllan▪
Ond bydd elyn iw gelynion,
A diffetha ei digassogion.
Glawia arni yn gawade,
Dy fendithion nôs a bore,
Nes ei tanno
Canghen­nau.
osgle ei gwinwydd,
Dros y Bŷd o'r môr i gilydd.
Tafla. Datc. 12.9.
Towla i lawr, a dryllia 'n gandryll,
Rhwysc y ddraig, a'i theyrnas dywyll:
Adeilada ym mhôb cornel
Deyrnas Christ, a Sathra 'r cythrel.
2 Thess. 2.3, 4, 8.
Christ â'th anal llwyr ddifetha
Y
Y Pâb.
Mâb Anwir sy'n ymddrycha,
A'r
Eglwys Rufain. Datc. 17.1, 6.
hên Buttain goch sy'n yfed
Gwaed dy Saint, i dorri ei syched.
Gwna i'r Fengyl wenn farchogaeth,
Trwy 'r holl fŷd at bôb cenhedlaeth,
I gael gorfod a gorchfygu;
Dat. 6.2.
A thro bawb o'th blant i chredu.
Adeilada o gylch-gwmpas,
Ym mhôb Gwlâd dy rassol Deyrnas,
Ym-mhlith Groegiaid ac Iddewon;
Gwna hwy Arglwydd yn Gristnogion.
Ir Iddewon gwna drugaredd,
Rh [...]f. 11.25, 26. 2 Cor. 3.16.
Dangos iddynt dy wirionedd:
Tynn ei anghrediniaeth ymmaith,
Derbyn hwynt i'th gorlan eilchwaith.
A bendithia pôb rhyw Deyrnas,
Lle addolir Christ yn addas:
Cadw 'r fengyl sanctaidd iddynt,,
Nes dêl Christ i farnu rhyngthynt.

Am Dyngu.

YR Iddew dîg a rwyg ei wiscoedd,
Pan y cabler Duw y lluoedd:
Llawer Christion gwael ni
Chythryb­lir.
syfla,
Pan y cabler Duw gorucha.
Os tyngei Sibswn i ben Pharo
Yng ham, fe gae ei ddi-eneidio:
Os twng y christion gorph ei Brynwr,
A'i gîg a'i waed, nid oes Dialwr.
Gwn na frathei yr Iddewon,
Ghrist ond vn-waith dan ei ddwy-fron:
Mae 'r cristnogion â'u câs lwe,
Yn ei frathu fîl o weithie.
Na ryfedda weld gwŷr mawrion,
Lev. 18.28 Hos. 4.2, 3.
Yn gwerthu 'r Tir a 'r Tie gwychion:
Cablu Duw a bair yn fuan,
Ir Tai, a'r Tir droi 'r meistri allan.
Di gae weld yn nhai Gwŷr mawrion
Bedwar Pâr o garde brithion,
I rai dyngu ac ymgigo,
Heb vn llyfyr i weddio.
Rwyfi 'n tybied ac yn credu,
Na chair clywed cassach dyngu,
Gan Gythreiliaid yn
Vffern.
Gehinnon,
Nag a glywer gan gristnogion.☜
Nid oes Sôn yn nheie llawer,
Am enw Duw ond pan y cabler;
Nac am w [...]rthfawr waed y Jesu,
Ond tra fyther yn ei dyngu.☜
Zech. 5.2, 3, 4.
Melldith Duw medd Zecharias,
A rêd i Dŷ 'r vdonwr diras:
Ac a lyna wrth bôb ceibren,
Nes pydru 'r tŷ, a'i droi yn dommen.
Gwell it drigo lle bo powdwr,
Yn y gegin, yn y Parlwr,
Nag it drigo lle bo tyngu,
Yn y Parlwr neu 'n y Penty.
2 Bren. 19.35.
Naw vgein-mîl o lu 'r Assiriaid,
Y laddodd Angel Duw yn ddirriaid,
Mewn vn nos-waith gynt am gablu
Enw 'r Arglwydd a'i ddirmygu,
Lev. 24.16
Mae Duw 'n erchi llwyr labyddio,
Pôb rhyw ddynion ag a gablo:
Nid dieuog o'r dŷn sceler,
Ac a gymro 'i enw 'n ofer.
Pyt fae Farnwyr yr holl Deyrnas,
Yn rhyddhau 'r vdonwr diras;
Duw ei hun a farn yn siccer
Bawb a gymro ei enw 'n ofer.

Dyled-swydd Gweinidogion.

This Poem is collected out of the Authors rough draught. Some things are omitted because the coppy is illegible. It's pitty that the transcript cannot be found.

Exod 28.36, 38.
DWg sancteiddrwydd yn dy dalcen,
Fel y gallo pobol ddarllen,
Wrth d'ymddygiad a'th sancteiddrwydd,
Dy fôd ti yn wâs ir Arglwydd.
Pâr i'th glŷch sydd wrth dy shiacced,
Ganu 'r ffordd y bech yn cerdded;
Fel y gallo pawb yn rhygyl,
Glywed gennit eiriau 'r fengyl.
Pâr ir Pomgranadau ffrwythlon,
Exod. 28.33, 34, 35.
Oedd wrth ymyl shiacced Aaron,
Bêr-aroglu â'th ddaioni,
Bôb rhyw dyrfa ddelech iddi.
Pâr i 'rogle dy ymddygiad,
Pâr i lewyrch dy lân alwad,
Pâr i ffrwyth dy wefus draethu,
Mae gwâs wyt ir Arglwydd Iesu.
Gŵr i Dduw wyt wrth dy alwad,
2 Cor. 5.20.
Gwâs i Ghrist ein pen a'n ceidwad:
Nid yw gweddus i wâs Brenin,
Fynd mor frwnt a Gŵr cyffredin.
Cennad wyt ir Brenin mwya,
I fynegi ei Air ir dyrfa:
Nâd vn Gair heb ei fynegi,
O'r hyn archwys itti draethu.
Bugail wyt i gadw 'r defaid,
'Brynodd Christ â'i waed bendigaid:
Act. 20.28. Ezek. 33.8
Nâd vn ddafad farw o newyn,
Rhag mynd ei gwaed ar dy gobyn.
Dŵg Sancteiddrwydd gydâ 'ch Ʋrim,
Deut 33.8
Dŵg wybodaeth gydâ 'th Thwmmim:
Dŵg y ddau hyn ar dy galon,
Hyn yw dlyed ffeiriad ffyddlon.
Rhoest dy law ar gorn yr arad,
Luc. 9.62.
Dôs o'th flaen, a dilyn d'alwad,
Na thro 'n d'ôl fel ci at chwdfa,
Ni chai 'r coron heb hir-bara.
2 Tim. 4.7, 8.
Gwradwydd oedd i Ephraim fydyr,
Droi 'n ei ôl yn nydd y
Ymladdfa
frwydyr:
O troi 'n ôl oddiwrth dy alwad,
Gwaeth o'th ddiwedd nâ'th ddechre [...]ad.
Mat. 4.
Gado 'r llong fel Iaco a Pheder,
Ni ddylei Gwernidog fôd yn wr bydol.
Dilyn Ghrist tra caffech amser:
Rhaid i weision y Messia,
Ado 'r Bŷd fel Lefi 'r dollfa.
Bwrw 'r Bŷd a'i bethe oddiwrthyd,
Rwyt ti 'n rhedeg am dy fywyd:
Llwyth.
Ffardel gron o bridd a
Rhwystra
hindra
Cawr, neu Farch wrth redeg gyrfa.
Towla ffwrdd bôb peth sy'n pwyso,
A'r pechodau sy'n dy hindro:
Rheded pawb y nefol yrfa,
Heb. 12.1.
Trwy amynedd am y cynta.
Portha ddefaid Christ yn
Cyfar­wydd.
gywrain,
Yn wllysgar heb dy
Gymmell. 1 Pet. 5.2, 3, 4.
gathrain:
Pan ddangosso Christ ei fawredd,
Di gae goron ac anrhydedd.
Gwae pob Bugail mûd anghynnil,
Na phregetha Christ a'i fengyl:
Gwaed eneidiau mîl ofynnir,
Ezek. 33.8
Ar llaw hwnnw pan ei bernir.
Mewn tair ffordd y dlyt ti borthi
Defaid Christ, a'u llon gomfforddi:
Ag athrawiaeth bûr 'fengylaidd,
Gweddi frŵd, a Bywyd Sanctaidd.
Gwell yw ffeiriad da nag Angel,
Gwaeth yw 'r drwg nâ'r ddraig, neu'r cythrel:
Y Da a'n dwg i dîr goleuni,
Y Drwg a'n gollwng bawb i'n colli.
Trîn dy winllan, hi ddwg rawn-win,
Hoya dy faes, fe ddwg egin,
Trin dy braidd, fe fydd llwyddiannus,
Dysc dy Blwyf
Neu fe ddaw 'n ddaionus.
fe fydd rmweddus.
Dyscwch eich praidd, ac
Sef trwy eich siam­pl dda.
arweiniwch,
I wlâd Ganaan trwy 'r anialwch:
Nid nes ffeiriad fôd yn Ddoctor,
Oni wnaiff yn ôl ei gyngor.
Byddwch dirion wrth y defaid,
Esay. 40.11.
Cwnnwch lêf yn ôl y bleiddiaid:
Mwynder a wna 'r Ddafad bori,
Llefain a wna 'r Blaidd gynffonni.
Rhowch y fron ir ŵyn cariadus,
1 Cor. 4.21 2 Cor. 13.2
Rhowch y ffon wyth Hwrdd cildynnus:
Byddwch fwyn wrth rai diniwed,
Sef trwy geryddon a bygwthion, ac ecscym­mundod. Neh. 4.17.
Cospwch bawb o'r rhai pengaled.
Bydded arfau yn eich dwylo,
Fel plant Israel wrth adeilo;
Llwy i
adeiladu. 1 Pet. 5.2.
fildo, cledd' i 'm-ddiffin,
Ac i ymladd dros y werin.
Porthwch bawb eich Praidd â Manna,
Nedwch arnynt eisie porfa;
O'r bydd marw vn rhag newyn,
Bydd Gwaed hwnnw ar eich cobyn.
Ezec. 33.8. Ezec. 34.4.
Cyrchwch adre, trowch i'r gorlan,
Y ddisperod aeth i
gyrwydro
straglan,
Nedwch vn i gyfrgolli,
Fe fynn Duw am bôb pen gyfri.
Heb. 13.17
Canwyll 'ych i roi goleuni,
Mat. 5.14. [...]6.
'N eglwys Dduw ir holl gwmpeini:
O! discleiriwch fel canhwylle,
Fel y rhodiom yn eich gole.
Y lamp a dreulia'i hun o'r Thyssur,
Yn goleuo 'r gwîr addolwŷr:
Treuliwch chwithau 'ch oes mor ffyddlon,
Yn goleuo eich plwyfolion.
Mat. 5.13.
Halen 'ych i
Tymmhe­ru, helîo.
sesno eneidie,
Rhag drwg
Arogliad.
sawry mewn pechode:
Tymmhe­rwch.
Sesnwch galon pawb sy'n pechu,
Rhag i Grist â'i droed eich sathru.
Golwg dôst yw gweled defaid,
Yn eu llarpio 'n safnau bleiddiaid;
Tostach gweld eneidiau 'n griddfan,
Hos. 4.6.
Eisie Dŷsc yng-hrampe Satan.
Tôst yw gweled Maes o
yd.
lafyr,
Yn pydru eisieu help medelwŷr:
Tostach gweled mîl o ddynion,
Yn meirw eisieu help Athrawon.
Tôst yw gweled Plentyn bychan,
Eisieu help, ar Rês yn brwylian:
Tostach gweld eneidiau bagad,
Dihar. 29.18.
Mewn tân eisie help offeiriad.
Tôst gweld mîl yn mynd i boddi,
Eisieu rhyw vn i cynghori:
Tostach gweled mîl ysowaeth,
Aiff i vffern eisie athrawiaeth.
Y Ceiliog gwynn y ffyst ei adanedd,
I ddeffro'i hun cyn deffro'i wragedd:
Felly dlye 'r holl offeiriaid,
Ddeffro'i hun cyn deffro'i defaid.
Fel y dyge wialen Aaron,
Ddail, a blodau, a chnau ffrwythlon,
Pan oedd eraill o bôb graddau,
Num. 17.8
Heb ddwyn ffrwyth, na dail, na blodau:
Felly dlye 'r Gweinidogion,
Mewn rhinweddau fod yn ffrwythlon:
Pan bo eraill o bob galwad,
Yn ddi-rinwedd eu hymddygiad.
Beth wnair â'r dall i arwain deilliaid?
Mat: 15.14
Beth wnair â'r mûd i gyfarth bleiddiaid?
Y mae 'r coppy yn ammher­ffaith ym­ma fel mewn lle­oedd eraill Esa. 56.10. Mat. 5.13.
Beth wnair â'r hêsp heb laeth mewn bronne,
I fagu plant, i borthi eneidie?
Ni wnair dim â chî cysgadur,
Ni wnair dim â gweision segur,
Ni wnair dim â halen diflas;
Ni wnair dim â ffeiriad llanas.
Fe wnair stalwyn o hên farch tywyll,
Fe wnair tân o hên dŷ candryll,
Fe wnair peth â chrochon twllog;
Ni wnair dim â ffeiriad diog.
Pwy ddŷd ddall i arwain deilliaid?
Pwy ddŷd mûd i gyfarth bleiddiaid?
Pwy ddŷd ynfyd i roi cyngor?
Pwy ddŷd ddwl i rannu tryssor?
Dodi 'r dall ar ben disgwylfa,
Dodi 'r dwl i ddyscu tyrfa,
Dodi 'r diddysc wrth y
Sef stern, neu llyw yr eglwys, iw rheoli.
llyw,
Yw dodiad dŷn, nid dodiad Duw.
Os Doctor wyt, ô dysc ni 'r deillion,
Os bugail da ymgledda 'r gweinion,
Ezec 34.2 1 Cor. 4.1.
Os
Goruch­wyliwr. Luc. 12 42 Esa. 56.10 Mat. 4.19. Ezec 33.7
steward doeth cyfranna 'n gywir,
Os gwâs i Grist, gwna arch dy feistir.
Os ci cywir, cyfarth lladron,
Os pyscodwr, dala ddynion,
Os gwiliedydd, gwilia 'r gelyn,
A rho 'mhryd y rhybydd iddyn.
Gwinllannwr wyt, o gweithia 'n ffyddlon,
Dihar. 24.30, 31. &c. Luc. 13.8.9
Nâd i'th winwydd fynd yn wylltion:
Trîn eu gwraidd, a'u brîg, a'u bonie,
Nâd eu torri eisieu ffrwythe.
Lle ni hauir hâd, ni fedir,
Lle ni chanir corn ni chyffrir,
Lle ni phorthir praidd ni
chynydda
phrwfia,
Lle ni ddyscir plwyf ni
Sef, yn ysprydol. Joan 21.15 16, 17.
lwydda.
Peder, Peder, od oes cariad,
Gennyd at dy Ghrist a'th Geidwad,
Portha, Portha, portha 'i ddefaid,
Mâg ei ŵyn, a tharfa 'r bleiddiaid.
Nâd ei ddefaid fynd ar ddidro,
Nâd ir Blaidd, na 'r llew eu scliffio,
Ezec. 34.4
Nâd ir cwâl a'r pŵd eu mallu,
Eisieu trîn, a'u troi au maethu.
Oh! discleiriwch yn eich gradde,
Datc. 1.20
Megis sêr mewn noswaith ole:
Ac na fyddwch fel y lleuad,
Sydd a brychau yn ei llygad.
Gwnewch eich clywed yn yr Eglwys,
Fel Angelion ym Mharadwys:
Gwnewch eich gweled yn y dyrfa,
Fel y sêr pan bont ddiscleiria.
Byddwch farw yn y pulpit,
Yn pregethu 'r fengyl hyfryd,
Nai 'n 'r eglwys ar eich daulin,
Yn gweddio dros y werin.
Bydded pôb offeiriad glân,
Nehem. 9.19.
Fel piler niwl, a'r piler tân,
Yn cyfrwyddo 'r ffordd ir bobol,
Fynd o'r Aipht i Ganaan nefol.
A pha
Cydwy­bod. Ezec. 34.2, 3.
gonsciens y gall ffeiriad,
Gippio 'r cnŷf heb borthi 'r ddafad,
Bwytta 'r offrwm mor ddiwybod,
Ac heb weiddi 'n erbyn pechod.
O! ba lêf ac achwyn irad,
Y fydd ddydd y farn gan fagad,
A'm ir ffeiriaid eu newynu,
Au handwyo eisie eu dyscu.
Ezec. 33.8

Am Ragluniaeth Duw.

DUw ni attal vn daioni
Oddiwrth nêb a fo 'n ei ofni:
Psal. 84.11. Psa. 34.10.
Fe ry grâs ac vrddas iddynt,
Ni bydd ffael na diffyg arnynt.
Bwrw d'ofal ar yr Arglwydd,
Ac fe'th bortha mewn helaethrwydd:
Ni âd Duw ir cyfiawn gwympo,
Na dwyn diffyg byth tra gantho.
Mae Duw 'n dwedyd wrthyd (craffa)
Lleda 'th safan minneu llanwa:
Psa. 81.10 Eph. 4.8.
Cymmer boen mewn galwad vnion,
Mi fendithia 'th holl orchwylion.
Er bôd eisieu ar y llewod,
A'r rhai cryfa o'r bwystfilod;
Psa. 34.1.
Ni bydd eisieu dim daioni,
Ar a
Ymddiri­edo.
drysto i Dduw 'r Tosturi.
Mae Duw 'n porthi 'r bobol aflan,
Mae'n rhoi maeth ir Twrc a'r Pagan:
Mae 'n rhoi ymborth iw elynion,
Mat. 5.45.
Oni phortha Duw ei weision?
Gwachel chwennych gormod olud,
Ymfodlona ar maint sydd gennyd:
Bŷth ni ffaela,
Heb. 13.5.
bŷth ni edy
Duw o'r dyn a fo 'n ei wsnaethu.
Ym mhôb diffyg cais gan Dduw,
Hab. 1.16.
Rhoddwr pôb daioni yw:
Gwachel drysto i'th rwyd dy hûn,
Rhag colli 'r pyscod s'wrth dy glûn.
Llawer dŷn sy'n dlawd yn byw,
Eisie ceisio cymmorth Duw:
A llawer dŷn sy'n mynd i fegian,
Am drysto i rym a'i rwyd ei hunan.
Lle mae Duw mor hael ir werin,
Pam y marw cant rhag newyn?
Am roi coelar rym eu breichieu,
Heb geisio cymmorth Duw na'i oreu.
Ni chwsc, ni hûn o'n Ceidwad grassol,
Sy'n gofalu am ei bobol:
Tra fo'm bawb yn cyscu 'n esmwyth,
Psa. 121.4.
Mae 'n gofalu am ei dylwyth.
A ddichon gwraig anghofio ei phlentyn,
Esa 49.15
A sugno ei bronne yn ei rwymyn?
Pas anghofie hon ei meibion,
Bŷth ni anghofia Duw o'i weision.
Cyn bo eisieu arian arnad,
Mat 17.27
Os gwasnaethu Dduw yn ddifrad,
Fe bair Duw ir pyscod garrio
Arrian itti i'th ddi-rwydo.
Er na bo dy stôr ond cwtta,
1 Bren. 17.16.
Fel blawd y weddw o Sarepta:
Os gwasnaethu Dduw yn ffyddlon,
Fe wna Duw fod hynny 'n ddigon.
Gwachel roi dy bwys na'th hyder,
Ar dy
Medr.
scil dy hun, a'th gryfder:
Ond ar Dduw dy helpwr vnig
Or ceisi fôd yn ddyn di-ddissig.
Mae Duw yn porthi 'r Adar gwylltion,
Mae 'n dillattu 'r lili gwynnion,
Mae 'n rhoi maeth i bôb peth bywiol,
Oni phortha ei blant a'i bobol?
Ni haua 'r fran, ni feder fedi,
Nid oes na chell, na scubor iddi:
Etto er hyn mae Duw gorucha,
Yn porthi 'r Brain bob haf, bob gaia.
Ni chrîb, ni nŷdd, na'r Rhôs, na'r lili,
Ni feder vn na gwau, na stofi:
Etto 'r Arglwydd a'u dillatta,
Mat. 6.26, 30.
Mewn harddach wisc nâ'r Brenin gwycha.
Llygaid pôb creadur bywiol,
Psal. 145.15.
Sydd yn disgwyl ar Dduw nefol,
Am roi maeth ac ymborth iddynt,
Ynte 'n hael yn rhannu rhyngthynt.
Mae 'n agoryd ei law rassol,
Ac yn porthi pôb peth bywiol,
O'i râs, a'i rôdd, mewn pryd, a messur,
Heb adael gwâll ar vn creadur.
Mae 'n rhoi bwyd i gnawon llewod,
Mae 'n rhoi maeth i'r gwyllt fwyst-filod,
Mae e'n porthi Plant y Gigfran,
Psa. 147.9.
Oni phortha ei blant ei hunan?
Ni chwymp vn o wallt dy ben,
Mat. 10 29
Ni syrth aderyn tô ar bren;
Ni ddigwydd dim, heb brŷdd ragweliad
Duw 'n Creawdwr mawr, a'n Ceidwad.
Duw rows itti gorph, a bywyd,
Anadl, einioes, cryfder, iechyd,
Deall, Rheswm, côf, a chyfri,
Oni ddyry fara itti?
Fe werthyr dau o adar tô,
Am ffyrllyng fechan lawer trô;
Er gwaeled ynt mae Duw 'n eu porthi:
Di dalu fwy nâ dêg o'r rheini.
Er bôd Duw 'n gofalu 'n gaeth,
Am bôb creadur ac a wnaeth;
Mae 'n gofalu am ddŷn a'i enaid,
Fwy nag am yr holl greduriaid.
1 Pet. 5.7.
Rho dy ofal ar dy Dduw,
Mae 'n gofalu drosot clyw:
Os gwasnaethu Grist yn gywir,
Mae dy gyflog gantho 'n siccir.

Am y Pur-dan.

Y Mae 'r Papistiaid yn dala, fod heb-law nêf ac vffern Drydydd le, ble mae eneidiau pobl, trwy ddioddef cospedigaeth tân, yn rhoddi iawn i Dduw am ryw bechodau nas maddeuwyd iddynt yn y Byd hwn; ac yn cael trwy hynny lanhâd oddiwrthynt: Ac a dichon ffryns y marw trwy weddiau, ac Offerennau, ac Arian a roddir ir Pâb, gael gollyngdod ir cyfryw eneidiau allan o'r Pur­dan. Yn erbyn yr athrawiaeth gelwyddog, gythreu­lig hon y mae 'r Awdwr fel hyn yn dywedyd.

NId oes dim all golchi enaid
Dyn, ond gwaed yr Oen bendigaid,
'Rhwn sy'n golchi
Ymmaith Datc. 1.5. Heb. 9.14.
ffwrdd bôb pechod,
Ac yn puro 'r holl gydwybod.
Nid oes ffordd ond dwy ir hollfyd,
Mat. 7.13, 14.
Ffordd i ddestryw, ffordd i fywyd:
Ni ddangossodd Christ yn vn man,
Drydydd ffordd yn mynd i'r pûrdan.
Nid oes hefyd ddim ond dause,
I blant dynion gwedi ange,
Nêf ac uffern, heb le trydydd,
Nid yw pûrdan ddim ond celwydd.
Nid oes ond dau
Fâth.
sort o ddynion,
Vn yw'r Anwir, llall yw'r ffyddlon▪
Y rhai anwir a ddifethir,
A'r rhai ffyddlon oll a gedwir.
Tân a ddichon boeni dynion,
Tân all losci daiarolion:
Ni all Tân, na'r holl greduriaid,
Ond gwaed Iesu buro 'r enaid.
Act 4.12. Mat. 1.21.
Tân all buro 'r Aur o'i sorod,
Tân all losci 'r ûs, a'r callod:
Ni all Tân, na dim er hynny,
Buro 'r enaid ond gwaed Jesu.
Y dŷn nad elo i Baradwys,
Lle mae Jesu Grist a'n prynwys;
Nid oes lŷn nad el dan drottan,
I bwll vffern lle mae Satan.
Y dŷn nad elo megis Lazar,
I glŷd sonwes Abram hygar,
Nid oes lŷn nad êl i'r ffwrnes,
Ble mae 'r diawl yn poeni Difes.
Nid yw Purdan yn y Nefoedd,
Yn y ddaiar, yn y moroedd,
Nac yn uffern: ble gan hynny
Y mae Purdan yn gartrefy?
Rhai a ddwedant fôd y purdan,
Yn y môr yn fawr ei ddwrddan:
Rhai 'n y ddaiar; Rhai yn
Glann fawr o ba vn y mae Tân yn d [...]a mynych yn dyfod allan
Aetna,
Ni wn p'un o'r rhain a greda.
Rhai a ddwedant mae Angelion,
Rhai mae hên gythreuliaid duon,
Sy'n
Poeni.
tormento 'r sawl sy'm mhurdan;
Rhai ni wyddant beth y ddwedan.
Rhai sy'n tybied mae tân ffyrnig,
Rhai mae Tân a Dŵr berwedig,
Sy'n poenydio 'r sawl sy'm Hûrdân;
Nid oes.
'Does mawr cydfod ar ei
Ar eu swmp o gelwydd.
llafan.
Rhai sy'n tybied mae pechode
Crynnion, bychain, hawdd eu madde,
Ys yn gospi yn y purdan,
Rhai mae beie marwol anian.
Rhai
Poenir.
dormentir yn y Purdan
Hyd ddydd barn, os gŵir y ddwedan,
Rhai dros filoedd o flynydde.
Rhai nes offrwm dros eu 'neidie.
Fe all ffeiriad ond cael offrwm,
Fe all Escob os rhy bardwn,
Fe all Pâb os gwîr y ddwedan
Dynny fynno maes o'r purdan.
Fe gaiff
clown cy­foethog.
Carl am
Am arian y roddo ei ffryns.
ddryll o Arian,
Ei ryddhau o boene purdan:
Ond y llawd se'b geiniog gantho
Fe gaiff yndi hîr boenydio.
Od yw purdan yn ein [...]uro,
Oddiwrth bechod gwedi 'n nyrddo;
I ba bwrpas yr offrymmodd
Christ ei werthfawr waed, a'n prynodd?
Os y purdan sy'n ein golchi,
O'n pechodau oll, a'n brynti;
Pam y dywed y Scrythyrau,
Mae gwaed Christ sy'n golchi 'n beiau?
Ofer oedd i fâb Duw cyfion,
Golli gwerthfawr waed ei galon,
I'n glanhau oddiwrth ein brynti;
Os y purdan sy'n ein golchi?
O cai waed fy Nghrist i'in golchi,
O'm holl bechod a'm holl frynti:
Cloed y Pâb fi nghenol purdan,
Ni bydd arnai byth o'i ofan.
Dannedd gwaedlyd y pabyddion,
Sydd yn gollwng gwaed cristnogion,
Sydd yn dangos nad gwir ddefaid,
Crist yw 'r rhain, ond rheipus fleiddiaid.

Am Barhâd mewn stâd o râs.

HOll-alluog ydyw Duw,
Da, a di anwadal yw:
Fe ddwg i ben yr hyn
Bwrpass­odd.
arfaethodd,
Ni chyll ef vn o'r rhai ddewissodd.
Nid yw bossib golli vn,
O'r rhai ddewissodd Duw ei hun:
Ni all y Bŷd, na'r cnawd, na'r cythrel,
Dynnu vn o ddwylo 'r bugel.
Jo. 10.28.
Duw sydd ffyddlon rhwn a'n golchodd,
1 Thess. 5.24.
Fe gyflawna rhyn arfaethodd:
Fe geidw yn lân y corph a'r yspryd,
Nes del Christ iw dwyn ir Bywyd.
Fe scrifennodd Duw cyn cynfyd
Datc. 20.12.
Enwau ei Sainct, yn Rhol y bywyd,
Ni all holl gyfrwysdra Satan,
Grafu vn o'u henwau allan.
Y rhai ddetholodd Duw cyn bŷd,
Rheini eilw Duw 'n ei bryd:
Rheini oll a wîr sancteiddia,
Rhuf. 8.30
Ac yn y nêf fe'i gogonedda.
Daw medd Paul a brûdd ossododd
Siccr sail ir rhai ddewissodd:
2 Tim. 2.19.
Fe ŵyr pwy yw 'r rhai ddetholwys,
Ni chyll ef vn o'r rhai ddewisswys.
O braidd bychan paid ac ofni,
Luc. 12.32
Yr hael Dduw rows deyrnas itti,
Er mwyn Christ, er cyn dechreuad,
Mat. 25.34. Jer. 32.40
Ni all nêb ei dwyn oddiarnad.
Duw addawodd ddodi ei ofan,
Yng-halon pawb o'i ddewis Gorlan;
Ac na chânt hwy lwyr ymado,
Na throi byth yn
Gwbl.
gwitt oddiwrtho.
2 Cor. 1.21, 22.
Mae 'n Tâd nefol gwedi selu
Rhai ddetholodd e'ng-Hrist Iesu,
A rhoi 'r yspryd glân yn
Wystl.
ernest
I bob vn i cadw 'n onest.
Jo. 10.28.
Mae Mâb Duw yn rhoi dan warant
Dragwyddol fywyd i'r rhai gredant:
Byth ni chollir vn o honynt,
1 Jo. 5.12.
Y mae Christ a'i yspryd ganthynt.
1 Pet. 1.4, 5.
Mae Duw 'n cadw trwy fawr allu
Ei blant ei hun rhag ffieidd bechu:
A thrwy ffydd yn rhoi yn helaeth
Nêf i'r rham, a iechydwriaeth.
Judas 24. Phil. 1 6.
Duw a geidw ei blant rhag cwympo,
Duw a'u cynnal rhag tramgwyddo:
Duw a'u ceidw yn ddifeius,
Hyd ddydd barn yn dra gofalus.
Nid cadwedig ydyw Iaco,
Am na newid byth o hano:
Mal. 3.6.
Ond cadwedig er hyn yw,
Am na newid byth o Dduw.
Nid yw siccrwydd
Iechydw­riaeth. Heb. 10.16 hyd y 24.
iechyd dyn,
Yn sefyll ar ei law ei hun:
Ond ar brommais Duw, a'i ammod,
Yn ei fab am fadde pechod.
Er i Beder wadu 'feistyr,
Mat. 26.75
Er i Ddafydd gwympo 'n fudyr,
Psal. 51.
Yspryd Duw a wnaeth i'r ddauddyn,
'Difarhau, a gwella gwedyn.
Er bôd meibion Duw yn cwympo,
Ac yn pechu wrth ei temptio:
Ni chwymp vn o'r rhain mor ddiffaith,
Psa. 37.24.
Ac na allont godi eilchwaith.
Er i dafod Peder wadu
Christ, rhag ofan ei garcharu;
'Roedd ei galon etto 'n siccir
Yn gwîr lynu wrth ei feistir.
Er ir saint dramgwyddo weithie,
Ac anghofio Duw ar brydic:
Ni all ûn er hyn dramgwyddo,
Fel na allant ail
Codi dra­chefu.
recyfro.
O pecha un o'r detholedig,
Mae yspryd Duw 'n ei gyffro 'n
Daer. 2 Sam 24.10.
darrig,
I 'difarhau trwy dduwiol dristwch:
Nes gwella 'r bai ni chaiff lonyddwch.
Os dewisodd Duw di un-waith,
Bŷch ni wrthyd Duw di 'r eilchwaith;
Jac. 1.17. Jo. 13.1.
Os ni newid Duw o'i gariad:
A garo dro, fe câr yn wastad.

Fe ddylei pob Gwraig fagu ei phlentyn (sef, oni fydd hi gwann a chlafycca) â'i llaeth ei hunain.

Mâg dy blant â llaeth dy fronne,
Na fydd waeth nâ'r ddraig ir dreige:
Pôb anifel, a phob bwystfil
Berchen llaeth a fâg ei eppil.
Fe wnaeth Duw dy fronne i fagu,
Fel y gwnaeth e'r grôth i blannu:
Hos. 9.14.
Nid gwell y fron na rotho sugyn,
Nâ chrôth yr hêsp na ddygodd blentyn.
Rhows Duw laeth i'th fron trwy fendith,
Na chadw hwn i droi yn felldith:
Gen. 21.7. Heb. 11.11 Mae'r cop­py yn am­mherffaith yn y mann hyn.
Sara yn ddêg a phedwar vgen,
Fagodd Isaac yn dra llawen:
O paratows Duw laeth i'th fronne,
I fagu 'th blant â llaeth eu mamme:
Tôst it ddwyn oddiar dy blentyn,
Y peth y rows natturiaeth iddyn.

Cynghor i wraig i beidio tristhâu gormod ar ol marwolaeth plentyn.

Martha, Martha paid ac ŵylo,
Cymmer gyssur, gâd dy'chneidio,
Am dy blentyn bach y gymrwys,
Duw mor gynnar i Baradwys.
F'anwyl chwaer, na thorr dy galon,
'N ŵylo 'n ôl dy blentyn tirion,
Aeth gan Dduw, o boen a blinder,
I'r nêf at Grist, i gael esmwythder.
Cennad Duw a ddaeth iw geisio,
O blith y drwg lle 'roedd e'n tarrio,
I fynd ag ef i'r nefoedd ole,
At y saint i ganu hymne.
Yr Angylion gynt a gyrchwys,
Luc. 16.22
I goel Abram enaid Lazrus,
Aeth ir nefoedd yn eu breichiau
Ag enaid bach dy blentyn dithau.
Duw a'i cippiodd ar frŷs atto,
Cyn i
Sef, cyn i bechod gweithre­dol ei nyr­ddo.
bechod caeth ei nyrddo,
Na chyfeillach ddrwg ei lygru,
Na'r malisiwr dû ei ddrygu.
Nawr ni ddichon vn gwrthnebwr,
Nac oferddyn, na malisiwr,
Wneuthur speit na niwed iddo:
Gydâ Christ y mae e'n tarrio.
Mae e'n gorphwys mewn esmwythder,
Oddiwrth bôb rhyw boen a blinder:
Mae'ef gydâ 'r Oen a'i gwmpni,
Yn clodforu Tâd goleuni.
Cymmer gyssur, cwyn dy galon,
Goruwch pôb rhyw ddaiarolion:
Gwêl. Dat. 14.4.
Gwŷl y man lle mae dy blentyn
Gydâ Christ, ni ŵyli ddafnyn.
Gwŷl lle mae yr hwn a'i prynodd,
Gwedi dderbyn atto i'r nefoedd,
I blith miloedd o wyryfon,
Sydd â'u cyrph a'u llestri 'n loywon.
Gwŷl y wisc o Syndon purwyn,
Y rows Christ am dan dy blentyn,
Sy'n discleirio fel yr Haul-wen,
Yn y nêf yngh ylch dy fachgen.
Datc 7.
2 T [...]m 4.8.
Gwŷl y goron o aur melyn,
Y ddododd Christ ar ben dy blentyn:
Gwŷl orfoledd plant goleuni,
Wrth ei urddo a'i goroni.
Gwŷl y
Mintai neu Lû o gantorion
Côr lle mae e'n gorphwys,
Gydâ Angelion ym Mharadwys:
Gwŷl y gadair lle mae 'n eiste,
Gydâ 'r Saint i ganu psalme.
Datc. 14 2
Gwŷl y delyn Auraid hefyd,
Sy'n ei law yn canu 'n hyfryd,
Ir Tâd nefawl 'rhwn a'i crewys,
A'r Oen sanctaidd rhwn a'i prynwys.
Gwrando 'r caniad mwyn Hosanna,
Esay 6. Datc. 19.4.
Sant, Sant, Sant ac Haleluia,
Mae e'n ganu i Dduw 'r lluoedd,
Yn y man yr aeth i'r nefoedd.
Datc. 2.17
Gwŷl y ffrwythe pêr a'r Manna,
Mae dy blentyn yn ei fwytta,
Gydâ 'r saint ar ford yr Oen,
Yn ddibringder, yn ddiboen.
Dat. 22.6.
Gwŷl y ffynnon wenn fendiged,
A'r Dŵr bywiol lle mae 'n yfed:
O'r hwn gwedi brofi unwaith,
Ni ddaw bŷth ddim syched eilchwaith.
Gwŷl y dre lle mae e'n trigio,
Ag Aur melyn gwedi phafio,
A'i holl
Muriau. Datc. 21.
welydd o gylch gwmpas,
O fain gwerthfawr, Beril, Topas,
Gwŷl pwy ydyw ei gyfeillion,
Mat. 6.20.
Sef y saint, a'r gwîr Angelion,
At ba rai ni ddichon drygddyn
Gwnaed a allo dwad attyn.
Gwŷl pa waith y mae e'n wneuthyr,
Cadw 'r Sabbath fawr yn ddifyr,
Datc 4.8, 9, 10.
Gydâ 'r Saint, heb ddim i arfer,
Ond clodforu Duw bôb amser.
Gwyl nad oes na phoen, na thristwch,
Datc. 21.4.
Nychdod, newyn, na thywyllwch,
Ond dedwyddwch bŷth tra ganto,
Lle mae 'th fab y nawr yn trigo.
Pam gan hynny fy chwaer dirion,
Y halaru mor hiraethlon,
Am dy blentyn y gyrhaeddodd
Duw, o drallod atto i'r nefoedd?
Pam y hŵyly weld dy Brynwr,
Yn ei dynnu o gyfyngdwr,
I esmwythder a dedwyddwch,
O blith dynion ar eu
Gwg.
garrwch.
Pam y hwyly weld Duw cyfion,
Mar. 10.14
Yn ei alw 'geisio coron,
A gogoniant mawr di-derfyn,
Er nad oedd ef etto ond plentyn.
Duw sy'n tynnu atto 'n gynnar,
Esay 5 [...].1.
Ei rai anwyl,
Hoff.
cu, a hygar,
Rhag cael gweled dim o'r drygfyd
Y ddaw 'n
Disym­mwth.
immwngc ar yr ynfyd.
Y mae Duw yn tynnu 'n fuan
Ei rai anwyl atto 'i hunan,
Rhag i'r anwir ei
Gorth­ymmu.
gormeilo,
A'r drygionus ei gwradwyddo.
Lladdwyd Abel er gwirionned,
Gwerthwyd Joseph er di-ddrwcced,
Taflwyd Daniel at y llewod,
Trwblwyd Dafydd â mawr drallod.
Meibion Job i gŷd a lethwyd,
Holl blant Rachel hwythau laddwyd,
Crogwyd Absalom wrth ei
Cydyn.
locsen,
Ni ŵyr dŷn beth yw dynghedfen.
Vn a gwymp ar flaen y cledde,
Llall a grogir am ei feie,
Arall y fawdd pan bo meddw,
Wylo ddlyt weld diwedd hwnnw.
Tôst gweld llâdd mâb gwraig â bilwg,
Tôst gweld torri ei ben â'i wddwg,
Neu lwyr nychu yn y carchar;
Nid tôst marw o angeu hygar.
Pam y hŵyla gwraig gan hynny,
Weld yr Arglwydd gwynn yn tynny
Ei blant anwyl atto 'n gynnar,
Trwy ryw glefyd hyfryd, hygar?
O rhown ddiolch i'r vcheldad,
1 Thess. 4.13.
Am y cyfryw lan ymweliad:
Ac nac wylwn dros ben messur,
Ond sydd raid i gynnwys nattur.
Ond rhown ddiolch i'n Tâd sanctaidd,
Pan y tynno mor garuaidd,
Ei rai anwyl o'u mawr flinder,
Atto 'i hun, i gael esmwythder.
Duw ro cynffordd, a diddanwch,
It fy chwaer, i
Lleihau.
leisu 'th dristwch:
Duw 'th gyssuro am dy blentyn
Duw ro 'i minne decced Terfyn.

Rhybydd i ochelyd gorthrymmu neb, ac i roddi yn ol yr hyn a dreisiwyd oddiar neb.

ENnill can punt, colli 'r credyd,
Coel, parch.
Ennill bawach, colli bywyd,
Ennill cyfoeth, colli Christ,
Ennill trwm, ond colled trist.
Mat. 16.26
Gwell ceiniog fach trwy ffordd ddigamwedd,
Nâ'r wheigain Aur trwy drais a ffalstedd:
Y naill a lwydda 'r ffordd y cerddech,
A'r llall a fwytty faint a feddech.
Gwell
vn maes.
Câ o dîr trwy union bryniad,
Nâ Gwlâd o dîr trwy dreisio bagad:
Trais hel d'enaid i boenydio,
A'th wraig yn dlawd, a'th blant ar ddidro.
Cyttuna ar frŷs â'r rhai orthrymmaist
Rho 'n ôl fel Zache faint y dreisiaist;
Luc. 19.8.
Na ddôs medd Christ i'r carchar cyfyng,
Rhaid talu 'r trais hyd att y ffyrllyng.
Mat. 5.25.
Na wna gam ag vn rhyw ddyn,
Gwell godde dêg nâ gwneuthur vn:
Os cam a wnai rhaid atteb drosto;
1 Thes. 4.6
Ond godde gam cae iawn am dano.
Beth wnai di ar geiniog drist y dreisech,
Fe fwytty hon y maent y feddech:
Ni fynn Duw, na'i Dŷ mo honi,
Esay. 61.8
Yn ffroene Christ mae 'r fâth yn drewi.
Os prynu tir hi bair ei werthy,
Os adail Tai hi try yn lludy,
Os rhoi hi'th blant hi gyrr ar anffod,
Os rhoi i'r tlawd mae Duw 'n ei gwrthod.
Rho 'r geiniog drais iw hunion berchen,
Amos 5.11
Cyn tynnoi 'th Dŷ ryw farn aflawen:
Ni lwydda hon ymhlith dy weiniaid,
Mwy nâ'r Arch ymmysc estroniaid.

Gwahoddedigaeth i Bechaduriaid i ddyfod, i dderbyn y pethau da ac a mae Duw yn eu gynnig yn yr E­fengyl, trwy y ddammeg o'r Swpper fawr.

DEwch fonddigion, dewch gyffredin,
Mat. 22.4. Luc 14.16
Dewch i swpper mâb y Brenin;
Dewch, a nedwch ddim i'ch rhwystro,
Dewch mae Duw 'n 'ch gwawdd chwi atto,
Mae 'n y swpper sîr o'r gore,
Bwyd, i
Llawe­nychu. Esay 55.1, 2, 3.
lonni eich enesdie,
Mêl, a Manna, Bara 'r bywyd,
Gwîn gorfoledd, doniau 'r yspryd.
Chwi gewch yndi vn mâb Duw,
Yr oen yn farw, ac yn fyw,
Gwedi lâdd a chwedi
Gwedi dioddef poethder digofaint Duw.
rostio,
A chwedi codi o'r bêdd ich
Llawen­hau.
sirio.
Cewch ei werthfawr waed i'ch golchi,
Cewch ei sanctaidd
Yr vfydd­dod a gy­flawnodd efe yn ei gnawd.
gnawd i'ch porthi,
Cewch ei wlân yn drwssiad i chwi,
A'i fywyd gwyn ich adgyfodi.
Chwi gewch heddwch Duw ar Drindod,
Chwi gewch bardwn am bôb pechod,
Chwi gewch yspryd y diddanwch,
Chwi gewch Grist, a phôb dedwyddwch.
Dewch yn llawen, dewch yn siriol,
Dewch heb aros ir wlêdd nefol,
Dewch yn
Gyfan gwbl heb ragrith.
gyfrdo i Briodi
Christ, sy'n cynnig ei hun inni.
Naded nêb i ddim ei
Cadw yn ôl.
stayo,
Na'r Bŷd, na'r cnawd, na'r fall ei rwystro,
Na'r fferem fawr, na'r pum iau ychen,
Luc. 14.18, 19.
Na'r wraig newydd, na dim amgen.
Onid ewch chwi 'n hŷ, yn hoyw,
Luc. 14.24
I'r briodas wrth eich galw;
Gwr y tŷ sy'n tyngu 'n
yn bryssar
sceler,
Na chewch
Brofi.
dasto bŷth o'i swpper,
Dewch gan hynny iddi 'n addas,
Yng-wisc sanctaidd y briodas:
Mat. 22.13
Na ddewch iddi byth heb honno,
Rhag cael rhwym ich traed a'ch dwylo.
Gwynn a chôch yw 'r wisc o râs,
Gwynn tu fewn, a chôch tu fâs;
Gwynn yn gofyn buchedd sanctaidd,
Côch yn dangos ffydd gristnogaidd.
Trwssied pôb rhai eu heneidie,
Mewn hardd wiscoedd o rinwedde,
A fo gweddus a chyfaddas,
I
Laweny­chu.
sirioli 'r gwir Fessias.
Or dewch ir wledd i'ch priodi,
Mewn difeirwch, ffydd, a gweddi,
Chwi gewch gan Ghrist fod yn wastod,
I chwi 'n Geidwad ac yn Briod.
Hos. 2.19.

Psalm 100.

DEwch holl Dylwythe 'r ddaiar,
Dewch bawb â llawen lafar:
Cenwch glôd a chalon rwydd,
I Dduw, ein Harglwydd hygar.
Dewch fawr a bach drachefen,
Dewch bawb sy'n troedo 'r ddairen,
Dewch addolwch Dduw yn
Llawen.
llon,
Bob rhai â chalon lawen.
Gwybyddwch hyn yn siccir,
Mae 'r Arglwydd grassol, geirwir,
Y sydd Frenin nêf a llawn,
Ac Emprwr mawr yn holl dir.
Gwybyddwch nad chwi'ch hunain,
Ach gwnaeth o'r pridd mor gywrain:
Ei waith ef
Ydych.
ych o'r llŵch a'r llaid,
Ei blant a'i ddefaid bychain.
O Dewch iw byrth gan hynny,
Dan ddiolch a than ganu,
Fach a mawr ar fore a hwyr,
Yn brudd iw lwyr foliannu.
O Dewch iw Demel sanctaidd,
Yn drefnus, ac yn gruaidd,
I glodforu enw Duw,
Cans hyfryd yw a gweddaidd.
Daionus a thosturiol,
Yw 'r Arglwydd wrth ei bobol:
O oes i oes y peri Air,
Dros fŷth fe gair yn rassol.

Cynghor i'r Llyfyr, o waith y Sawl sy'n ei ddanfon ef y nawr ir wlâd.

Dôs o Lyfyr bach i Gymru,
I ddatcuddio ac i ddyscu
Y ffordd vnion i Baradwys,
Ag sy'n mynd at Dduw yn gymmwys.
Er bôd yno rai 'n ei gwybod,
Ac yn rhodio
Sef yn y ffordd ir nefoedd.
yndi 'n wastod:
Etto mae
Yno.
'no rai er hynny,
Na cherddasant droedfedd yndi.
Mae 'no rai nad yw yn nabod,
Y gwîr Dduw, nac ei lân hanfod,
Ei fâb Christ, na'i yspryd sanctaidd,
Trwy ddibrissio ei
Ac sydd fodd i wneuthur Duw 'n gydnaby­ddus.
eiriau puraidd.
Mae 'no rai sydd anghnabyddus,
O'u drwg ffyrdd, a'u stâd anhappus,
Trwy ddirmygu a dibrissio
'R moddion sydd iw cyfarwyddo.
Mae 'no lawer yn annuwiol,
Mat. 7.13.
Yn trammwyo 'r ffordd vffernol:
Rhai ni thrônt ir ffordd fendiged,
Gan fyw 'n ffrom-ffoll, a phengaled.
Rhaid yw nabod Tâd goleuni,
Joan. 17.3.
A'r mâb rhâd ein Harglwydd Jesu:
Credu ynddo, a byw 'n rassol,
Heb. 12.14
Cyn yr aer ir deyrnas nefol.
Dôs gan hynny a goleua,
Y rhai tywyll sydd
Yng Hymru.
yng-Hambria,
A chyfeiria eu traed yn gymmwys,
Ir ffordd vnion i Baradwys.
Canwyll Cymru mae d'hen feistyr,
Yn dy alw mewn rhyw lyfyr:
Gwna dy swydd ar frŷs gan hynny,
Trwy oleuo 'r dall yng Hymru.
Llawer plwyf, och Dduw! sydd yno,
Mewn mawr ddiffyg o'u cyfrwyddo,
Trwy dallineb, neu 'sceulusdra,
Rhai o'r ffeiriaid llawn
Nid ydys yn dywe­dyd fod pawb felly
cybyddra.
Cans mae rhai o'r
Pennaf.
prif offeiriaid,
Yno 'n ddiofal am eu defaid,
Ac yn gadel idd eu dyscu,
Rai na fedrant wneuthur hynny.
Tôst yw gweled fâth Guwradiaid,
Sydd olygwyr ar y
Mewn rhyw leoedd.
defaid,
Dan Bersoniaid mawr cyfoethog,
A Ficceriaid uchel, enwog.
Deillion, meddwon, a gwatwarwyr,
Rhai heb nabod Duw na'r Scrythyr,
(Heb
Y mae Duw yn dyst fy môd i yn d [...]we­dyd hyn heb falis.
ddim malis rwi'n ei ddweid e)
Sydd fugeiliaid mewn rhyw fanne.
Nid am y Confformiaid grassol,
Rwyfi 'n dwedyd hyn yn hollol,
Nid am Jerem, nid am Eli,
1 Sam 2.17.
Ond am Phinees, ai frawd Hophni.
Nid wi'n
Mae 'r Ficcer yn dywedyd llawer mwy yn ei gân am ddyled­swyddau Gwenido­gion.
dwedyd ond y ddwedodd,
Yr Hên Ficcer pan llefarodd,
Gan roi allan, a chyhoeddi
Hyn o Bennill yn Llanedi.
DODI'r Dall ar Ben Disgwylfa,
Dodi 'r Dwl i Ddyscu Tyrfa,
Dodi 'r Diddysg wrth y Llyw,
Yw Dodiad Dŷn, nid Dodiad Duw.
Dôs gan hynny, Bryssia i Gymru,
A chyflaw na 'r diffyg dyscu,
Y sydd yno mewn rhyw fanne;
Ac nac ofna Ddŷn yn vn-lle.
Gwîr Gonfformist oedd dy feistir,
Ac am hynny ni'th scymmynir:
Ni throer arnat ti yn haerllic,
Waith dy dacclu gan
Fe ddat­cuddia Duw ryw ddydd pwy sydd fell y, Barned pobl a fyn­nont.
ffanatic.
Rwyt ti'n crio fynu 'r Gwylie,
Rwyt ti 'n dala ffurf weddie,
Rwyt ti 'n gwawdd rhai ir Eglwysydd,
Rwyt ti 'n
Yn ym­fodloni.
llwo Tadau bedydd:
Temlau, a Thai Dduw yw'r llannodd,
Medd d' hên feistyr mewn rhyw leoedd
Ynnot ti: pa ham gan hynny,
M' arnat ofon fynd i Gymru?
Mae d'ail feistyr ynte 'n dala,
Holl athrawiaeth y gymmanfa
O Eglwys Loeger, gan ei thraethu,
Ym mhôb
O'i wran­dawyr.
tyrfa y dêl iddi:
Mae e'n traethu ei hathrawiaeth,
Er na
Er nad ydyw fod­loniw dys­cyblaeth.
leica mo'i dyscyblaeth;
Ond nid yw 'n
Sef, ei anfodlon­rwydd ir dyscybla­eth.
cyhoeddi hynny,
Ble mae 'n arfer o bregethu.
Ymwrola, dôs yn ebrwydd,
Na phrydera y cei aflwydd,
Am dy fôd yn dwad o ddwylo,
Vn nad ydyw yn confformo.
Cans mae llawer o'r confformiaid,
Grassol, Sanctaidd hwyntau 'n tybiaid,
Fel mae eraill, fôd d' ail feistyr,
Yn ceisio llwyddiant eu gyd-wladwyr.
Di
Gefaist.
gêst resso gynt yng Hymru,
Ac na
Feddylia
thebyg nas cei hynny
Etto, gan bôb
Mâth.
sort o bobol,
Oni fyddant balch, neu ffrom-ffol.
Hwy ddioddefant dy geryddon,
Hwy a hoffant dy gynghorion,
Hwy'th ddarllenant yn awyddus;
Canys trw yddot rwyt ti 'n felus.
Er y byddi yn fwy gost-fawr
Nag y buost: ni bydd nemmawr
O Deuluoedd yr holl Gymru,
Nas derbynnant di er hynny.
Ni bydd ffeiriad, Ni bydd Meistir,
Ni bydd plantach na gwasnaethwyr,
Na bugelydd ar fynydde,
Nas gressawant ti yn
Siccr.
ddie.
Fe ddioddefir i ti ddwedyd,
Pethau nis baidd eraill
Dywedyd
'nghanyd:
Ac pe 'nganent mewn rhyw fanne,
Hwy gaent gerrig am ei penne.
F'all y gwann gael ynnot gyssur,
Ac ychwaneg grâs mewn messur,
I wasnaethu Duw yn ddifrad,
Bôb vn yn ei
Yn y gal­wad sy'n perthynu iddo ei hun
briod alwad.
Os Dŷn grassol fydd ith ddarllen,
Os rhagorol fydd dy berchen,
Mewn pôb dawn a grâs ysprydol;
Trwy 'th gyfeillach f'â 'n fwy duwiol.
Ac os drwg-ddyn fydd ddarllenwr,
Meddwyn, marllyd, neu watwarwr,
Er ei
Digry­fwch.
blesser fe 'th fawrhâ di,
(Dal e'n gyfrwys os y gelli.
Gwna 'ddo alw ar Dduw, ac adde
Ei ddrwg gyflwr, a'i bechode,
Credu yng-Hrist, ac edifaru;
Nid twyll tynnu Dyn at Iesu.
Cadw 'th fâch yn afel ynddo,
Nad e syned a thramwyo,
Dih. 4.14. byd yr 20.
At ei hên gyfeillion ofer,
I fyw 'n atcas yn ddibryder.
Ond ymhwedd arno gofio,
Mai gwell ofni Duw na'i ddigio;
Psal. 103.17. 1 Sam. 2.30.
Cans fe geidw 'rhai a'i hofnant,
Ae fe ddamna 'rhai 'dirmygant.
Dôs gan hynny fe'th dderbynnir,
Gan bob
Pôb mâth o bobl.
sort, ac fe'th gymmerir,
I bôb dwylo yn dra hyfryd,
Fe'th fawrhaer di 'n anwyl hefyd.
Ac tra 'ng Hymru ddim cristnogaeth,
Fe gymmerir dy gwmpniaeth,
Fe'th ddarllenir, ac fe gyfyd,
Rhai a'th brintiant pan bo
Anghen­rheid­rwydd.
anghenyd.
Gan dy fôd mewn
Yn y fâth
shwt gymmeriad,
Bydd yn fwyn, a dangos gariad
Yn ddiragrith ym mhob teulu,
A Dôd allan dy eleuni.
Gwna nhwy wybod a chyffesfu,
Ruf. 6.23. Deut. 28.15. Datc. 21.8.
Fôb pôb pechod brwnt yn haeddu
Melldith Duw, a'r Tân vffernol,
Ym mysc Diawlaid yn dragwyddol:
Ac nad oes vn ffordd i gadw
Jo. 14.6. Act 4.12.
Ʋn rhyw ddŷn rhag mynd i ddestryw,
Ond yn vnic trwy Ghrist Iesu,
Ddaeth o'r nêf ir ddaer i'n prynu.
Ac na cheidw Christ vn Christion,
Jo 3.36. Esa. 55.7.
Ond y gretto yndo 'n ffyddlon,
Gan droi ymmaith eu pechodau,
A byw 'n ôl ei sanctaidd ddeddfau:
Dysc nhwy wiliad ei meddyliau,
Dysc nhwy 'styried ei holl eiriau,
Ac i edrych beth a wnelon,
Pa le bynnag ac y byddon.
Gwna nhwy gofio gorfydd cyfri,
Ger bron Christ ar ddydd eu
Caledis sef dydd y farn.
didri,
Am eu câs a'u drwg weithredoedd,
A'u drwg eiriau ym mhob lleoedd:
Rhuf. 2.16
Ac nad â drwg feddwl heibio,
Heb ei ddannod, heb ei gofio,
Gan y Barnwr mawr Christ Iesu,
Os o'r bŷd 'r âer cyn difaru.
Dysc nhwy 'ddoli Duw 'n ei Teie,
A chyflawni 'dyledswydde,
Idd ei gilydd yn gristnogaidd,
Yn dra diwyd, ac yn weddaidd.
Fel y tynnaist gynt i
Yr ydys yn tybied i lyfrau Mr. Prichard dynnu mi­loedd i ddyseu darllain.
ddarllain,
Lawer vn yn ddigon cywrain:
Er mwyn Christ gwna hynny etto,
Da fydd hynny i bôb Cymro.
Tynn bôb rhai at y Scrythyrau,
Dangos iddynt y rhesymmau,
Rows dy feistyr yn dy ddechre,
Pam rhaid darllen y scrythyre.
Dysc nhwy dreulio 'r Sabboth sanctaidd,
Yn gristnogol ac yn weddaidd,
Gan addoli Duw 'n gyhoeddus,
Ac yn ddirgel fel mae 'n weddus.
Hal hwy o'r pebyll, nâd hwy botian,
Ar y Sabboth, nac i
Segyru.
loetran:
Dwed ith feistir feio hynny,
Lawer gwaith yn enw 'r Iesu.
Gwna nhwy wrando 'r gair â gosal,
Gwna nhwy arfer gweddi 'n ddyfal,
Cymryd y communiwn sanctaidd,
Yn dra gweddol a christnogaidd.
Gwna i bôb rhai fynych gofio,
Rhaid mynd ymmaith, a rhaid
Ymadael.
paccio
Bawb oddi ymma, cans rhaid marw,
A derbyn barn gan Ghrist yn hoyw.
Pâr ynt wybod fôd dedwyddwch,
Ir rhai sanctaidd, a
Gogoni­ant. Mat. 25.41.
rhialtwch,
Yn y nêf, ac fôd tôst benyd,
Ir rhai drwg yn vffern danllyd.
Dysc nad oes ar ôl marwolaeth,
Yn y pwll ddim taledigaeth,
Am bechodau, ac am frynti,
Cans dros fŷth rhaid yno boeni.
Pâr ir Cymru fynych gofio,
Mae peth tôst yw gorfod trigo,
Blwyddyn gyfan mewn tywyllwch,
A chadwynau heb ddiddanwch:
Och! faint dostach a fydd trigo,
Fŷth yn vffern i boenydio,
Dan law Satan mewn cadwynau,
Am ddibrissio Duw a'i ddeddfau.
Pan y doech i dre Landdyfri,
Ac i Lanfair, a Llanedi,
Mofyn yno pwy sydd rassol,
Pwy sydd ffyddlon a difeiriol?
Ond cael cwrdd trwy fawr ymosyn,
A'r rhai sanctaidd sydd yn taring,
Yn y Dre a'r plwydde hynny,
Dywaid Heddwch wrth y rheini.
Ac yn enw 'th feistyr traetha
Llîd a bâr y Duw gorucha,
Ir troseddwyr ni ddifarant,
A'r anffyddlon ac ni chredant.
Dywaid wrthynt ir hên Ficcer,
Wylo 'n dôst â chalon dyner,
Am eu brynti; a'u rhybuddio,
Wella ei buchedd a
Edifaru.
repento.
Dywaid iddo ddyscu o'r scrythur
Ffordd yr Arglwydd mawr yn eglur,
Iddynt hwy, a'i bôd er hynny,
Fyth yn byw mewn ffieidd frynti.
Dwed y bydd y dydd diwetha,
Lai o gosp i Dre Gomorra,
Nag y fydd i Dre Llanddyfri,
Ac i Lanfair a Llanedi.
Christ y ddengys yn
Eglur.
blaen ddigon,
Am y rhai sydd dan y
Sef, mo­ddion grâs
moddion,
Y daw arnynt fwy o'r storom,
Mat. 11.23.
Nag a ddaeth o'r nef ar Sodom.
Cans y sawl sy'n pechu 'n rhigyl,
Dan bregethiad yr efengyl,
Sy'n pentyrru eu hanwiredd,
Am droi cefne ar drugaredd.
☞Dwêd na chas yn nyddiau 'r Ficcer,
Nemmawr iawn yng Hymru 'r Hanner,
O'r athrawiaeth, a'r cynghorion,
Gawsant hwy yn Eglur ddigon.
Dwed fod Duw yn gofyn llawer,
Ym mhôb gwlad, ac ym mhob
Cwrr. Luc. 12.48
cwarter,
Ble mae 'n rasol yn rhoi amledd,
O'i efengyl mewn trugaredd:
Ac pa fwya y ddeellir,
O wîr 'wllys Duw o'r scrythur,
Luc. 12.47.
Mwy o lawer cawn ein curo,
Am roi achos i Dduw ddigio.
Gwawdd gan hynny Hên ac Ifangc,
(Os hwynt hwy a fynnant ddiangc,
Llîd a bâr yr Arglwydd nefol,)
I fyw 'n sanctaidd ac yn dduwiol.
Cofia 'r Ifangc y dielir,
Ar y plant sydd ddrwg weithredwyr
Exod. 20.5
Anwireddau 'r Tadau 'n gyngan
Gydâ 'u hanwireddau en hunan:
Cans o rodio 'n ffyrdd eu Teide,
Maent hwy 'n dweid y maes yn ole
Eu
Cyttun­deb.
cŷdsent yn eu drygioni,
Duw fydd cyfiawn yn eu cospi.
Gwna nhwy ddarllen y trwm achwyn,
Wnaeth dy feistir yn ei herbyn:
Er mwyn Christ bydd yn dra eiriol,
Ar ynt fôd yn edifeiriol.
Yn ol traethu hyn ym mhlwydde
Yr hên Ficcer, bryssia, dere,
Gwna 'r vn neges dros d'ail feistyr,
Ym mhlwydd Mydrim, ac yn Merthyr.
Dwêd wrth bawb ac sydd yn taring,
Ym mhôb plwyf yn shir Gaerfyrdding,
Ac wrth bawb o bobol Gymru,
Jo. 12.48.
Y Gair y glywsont gaiff eu barnu.
Pan y doech i dai 'r bonddigion,
Pâr ynt newid eu harferion,
Gadel balchder, trawsder, medd-dod
A gochelyd digio 'r Drindod.
Dwêd yn
Yn eglur.
blayn pan dônt iw barnu,
Ar y barr o flaen Christ Jesu,
Na bydd
Gwaha­niaeth 1 Pet. 1.17
gwân rhwng Prins a deilaid,
Rhwng cyfoethog a begeriaid:
Ac y dylent herwydd hynny,
Lwyr ymadel â'i holl frynti,
Credu ynghrist, a bôd 'n tifar,
Cyn i mynd hi 'n rhy ddiweddar.
Gwna nhwy feddwl am ei 'neidie,
Fwy nag am ei câs blessere;
Fwy nag am eu dâ, a'u rhenti,
Eu ffryns, cenel, a'u holl wegi.
Pan y doech i ddwylo 'r ifangc,
Gwna 'nhwy gofio 'r bywyd
Di-ddi­wedd.
didrangc:
Deisyf arnynt adel heibio
Eu hynfydrwydd, a repento.
Dangos iddynt nad yw plesser,
Preg. 11.9
Y byd hwn ond rhyw beth ofer,
Ac y gorfydd ryw ddydd atteb,
O flaen Christ am bob ffolineb.
Ni chyflawna plesser bydol,
Chwant yr enaid sydd anfarwol:
Nid oes dim all wneuthur hynny,
Ond nawdd Duw trwy waed y Jesu.
Oh! ymhwedd arnynt adel
Chwant y Byd, y Cnawd, a'r Cythrel;
Heb. 3.7, 8
Ac ymroi tra'i gelwir heddu,
I wasnaethu 'r Arglwydd Jesu.
Cans ni wyddant a cant amser,
I ymadel a diffeithder:
Cans mae 'n arfer dwad i'r farchnad,
Groen yr oen fel croen y ddafad.
Dangos iddynt pa fâth feistyr,
Yw Christ Jesu iw wasnaethwyr,
Yn rhoi iddynt
Heddwch
hedd, a bywyd,
Teyrnas nef, a choron hyfryd.
Gwna 'nhwy 'n fynych ddyfal gofio,
Nad yw 'r Cythrel ond eu hudo;
Ac nad ces ond yr aflwyddiant,
I'r rhai hynny a'i gwasnaethant.
Cans o byddant heb eu cospi,
Iob 21.31.
Gan Dduw ymma am ddrygioni:
Cant ryw bryd, mewn tân vffernol,
Gosp ofnadwy yn dragwyddol.
Ffarwel, deisyf ar bob Christion
Nas derbynnont ond a welon
Ynnot, yn gyttun â'r scrythur;
Felly
Rhyngu bôdd.
plessu dy ddau feistir.
Ond cyn myned, vn gair gwrando,
Pâr i'th Brynwyr ddyfal gofio;
Pan dy brynwyd gynt yn rhanne,
Trwy roi 'th fenthyg
Aethost yn ddarnau
êst yn
Aethost yn ddarnau
llappre:
A thrwy 'th ossod ar ffenestri,
Ywlle, Lowsedi.
Bwtte glybion, ac ar seldi
Gwlyb, llaith.
Ust, llawn llwydi, êst yn
Yn ddry­llie.
vfflon:
Na wnant beth y nawr mor
Ffieidd.
ffinion.
Ond pâr iddynt herwydd hynny,
'Th gadw 'n sŷch, a'th ymgeleddu;
Fel y byddech hîr o amser,
Dra gwasnaethgar ym mhob
Ym mhôb cwrr o'r wlâd.
cwarter.

Fel y deallir y gân sy'n canlyn, Bydded hyspys ir darllenwr fyned Brenin Charles y cynta i Spain, pan yr oedd efe yn Dywy­sog Cymru, mewn pwrpas i briodi merch Brenin y Deyrnas honno; Ac pan yr oedd Teyrnas Lloeger yn llawn ofn, na ada­we 'r Spaniards iddo byth ddychwelyd a­dref, fe welodd Duw fod yn dda i ddyfod ac ef i dref yn iach llawen; ac ar hyn fe wnaeth Ficcer Prichard y gan hon. Da y fuassei, pe na enwassei efe yn y gan, ond y gwîr Dduw yn vnic; Ble mae fe nawr yn galw, (fel y Poetau genhedlig gynt) ar y gau a'r ffalst dduwiau, Er mi wn yn ddigon da nad oedd efe yn credu fod vn Duw onid y gwir Dduw. Yr wyfi gwedi spelian amryw o ei­riau saesneg yn y gan yn y ffordd gym­reigaidd.

Y Muwfys oll o Helicon,
Y Grasys tair, a'r Nymphs o'i bron,
Cymrwch bawb eich offer ganu,
I resso o Spain Dywysog Cymru.
Apollo dôd dy gôr yn gyngan,
Pâr ir Nymphs a'r Grasys ddawnsian,
Tra fo'r Muwsys ôll yn canu,
Welcwm hôm i Brins y Cymru.
Doro ir Grasys wiscoedd gwynion,
Pletha eu gwallt â'r lawrydd gwyrddion:
Trwssia 'r Nymphs â'u tlysse o dautu,
Fynd i resso Prins y Cymru.
Rho ir Musys offer auraid,
The Cop­pies are unintelli­gible here. Corenelos dan law, &c. Goreu 'n nelos dan law, &c.
dan law 'r Ceidwaid,
Fel y gallont gywrain ganu,
Gresso o Spain i Brins y Cymru.
Gosod pôb vn yn eu gradde,
Gwachel ado dim yn eisie,
Ag a allo lawenychu,
Clûst a llygad Prins y Cymru.
Gwedyn Phoebus taro 'r delyn,
Hôff gan ferched Iove dy ganlyn,
A'r tair chwaer y fydd yn gwenu,
Dawnsio welcwm Prins y Cymru.
Troed Melpomeu drîst ei hoer-nad,
Mewn Coppy arall.
Caned Clio lawen ganiad;
Gaded pawb Thalia flaenu
Dawnsio welcwm prins y Cymru.
Auraid vers i Brins y Cymru.
Merchur dithe, dôs i hedfan.
Gwyssia 'r Duwiau, fawr a bychan,
A'r Duwiesse bawb 'ymdacclu,
Fynd i resso Prins y Cymru.
Dawed Iove a'i holl oreu-gwŷr,
Mars mewn rhangc a'i holl Ryfelwyr,
Phaeb' a'i ffeiriaid oll dan ganu,
Gresso o Spain i Brins y Cymru.
Dawed Iuno ar Goach o Baunod,
Festa ar gerbyd o glomennod,
Fenus ar elerchod coes-ddu,
I roi gresso i Brins y Cymru.
Rhodded Fenus iddo degwch,
Iuno gyfoeth, Fallas heddwch,
Coppy arall
Ceres lafyr gwedi addfedu,
I bresento Prins y Cymru.
Zon. Nid wyfi yn cofio, i mi ddar­llen erioed yn vn o'r poetau am Sôn neu Zôn.
Sôn adeinog heda dithe,
Dros y moroedd a'r mynydde,
Cân â'th gorn ir bŷd o bobtu,
Sâff return i Brins y Cymru.
Pâr i bawb â'i dillad gore,
Ddwad ei ressewi adre:
Ac yn ddyfal i foliannu
Duw, am gadw Prins y Cymru.
Neptun donnog a'i Ddolphinniaid,
Thetys drwst-fawr â'i Sirenniaid,
Y rows shiars i Driton ganu,
Gosteg fôr i Brins y Cymru.
Aeolus chwyrn-wyllt ynte ostegodd
Dwrdd, a chynnwr yr holl wyntodd,
Ac a wnaeth i Zephyr chwythu
'Rhwyl, wrth fôdd Tywysog Cymru.
Phaebus hardd o'r nêf a chwarddodd,
Weld y llongau ar y moroedd;
Ac a wnaeth i'r Haul-wen wenu,
Tra fu'r dydd ar Brins y Cymru.
Cynthia hithe ni bu segyr,
Na'i morwynion ar yr Awyr,
I oleuo 'r bŷd o bôb tu,
Tra fu 'r nôs, i Brins y Cymru.
Castor, Pollux, ac Vrania,
Pôl y gogledd, ac Aurora,
A'r holl Sêr oedd yn ymdynnu,
Ledo'r ffordd i Brins y Cymru.
Haul, a Lleuad, sêr y nefoedd,
Gwynt, a glaw, a thîr, a moroedd,
Nef, a Daiar sy'n datcanu,
Ffafar Duw i Brins y Cymru.
Pan y daeth i olwg Lloeger,
F'aeth y Duwie i strifio 'n sceler,
Pwy gae gynta dan ymdynnu,
Ddwyn i dîr Dywysog Cymru.
Merchur am fôd drosto 'n Ladmer,
Iove am roddi iddo bwer,
Fenus am ei fynd i garu,
Fynne'r Dydd gan Brins y Cymru.
Satwrn friglwyd tâd y duwie,
Wrth ei oedran ynte mynne,
Ond y Sûl 'rhwn oedd e'n barchu,
Gas y Dydd gan Brins y Cymru.
Y pummed dydd o fîs October,
Ar ddydd Sûl, dair awr cyn hanner,
Y dygodd Duw dan lawenychu,
I dîr Lloeger Brins y Cymru.
Duw ddanfonodd ei wîr Angel,
I gyfrwyddo ei holl drafel;
Ac i ddwyn pôb peth o bobtu,
Wrth fôdd calon Prins y Cymru.
O moliannwn ninne 'r Drindod,
Ddydd a nôs, â chalon barod,
Am 'ddo ddwyn Pôb peth o bobtu,
Wrth fôdd calon prins y Cymru.
Spayn a fynne mewn cyfrwysder,
Gadw'n Prins dros ddyddie lawer:
Duw a gwlâd y fynne er hynny
Fyrr ymchweliad Prins y Cymru.
Dan i Dduw o gariad atto,
Ddangos Cymmaint ffafar iddo,
Pa fâth roeso gwŷch y ddyly
Brydain roi i Brins y Cymru?
Doed ein Brenin, a'i Gynghoriaid,
Doed y Ieirll, â'r holl Bennaethiaid,
Yn eu Rhôbs a thrwps o bobtu
I Resewi Prins y Cymru.
Doed y grassol Archescobiaid,
A'r Escobion a'r Preladiaid,
Mewn prosessiwn i foliannu
Duw, am gadw Prins y Cymru.
Doed Ardderchawg Arglwydd Keeper,
Vrddas Cymru, llewyrch Lloeger,
A'r Britanniaid hardd o dautu,
Iddi roeso Prins y Cymru.
Doed y mwya garo Cymro,
Colofn y deyrnas Arglwydd Penfro
A'i wŷr galant i stafellu,
Yn nhŷ 'r Brenin Brins y Cymru.
Doed Mayr Llundain a'i gwmpeini.
Yn eu Scarled a'u Cadwyni,
Ar feirch gwynnion i anrhegu,
Ac i roeso Prins y Cymru.
Doed y Marchants mawrion hwynte,
I'r heolydd â'u gwîn gore,
I roi rhwng eu ffryns o bobtu,
I yfed health tywysog Cymru.
Doed yr holl Brentishiaid hwynte,
Dan roi bloedd, a thaflu Cappe,
Yn dra llawen dan
Chwer­thin.
grechwennu,
I roeso o Spayn Dywysog Cymru.
Doed Scholheigion yr holl ynys,
Yn eu grâdd, â'u hauraid versys,
A'u
Orations.
haraithau dan
llaweny­chu.
lewychu
I roesawi Prins y Cymru.
Doed Offeiriaid a'u plwyfolion,
Gwŷr, a gwragedd, merched, meibion,
I'r Eglwysydd i foliannu
Duw, am gadw Prins y Cymru.
Caner clŷch yr holl eglwysydd,
Nes dadseinio 'r môr, a'r mynydd,
Ac i'r ddaiar fûd ddatcanu
Groeso o Spain i Brins y Cymru.
Cynner tân a bônfires fagad;
Tân sy'n dangos gwrês ein cariad;
Fel y gwelo 'r bŷd o bobtu
Faint o'ch serch i Brins y Cymru.
Minne a'm Tylwyth nôs a bore,
A rôf ddiolch a'r fyng linie,
I'r gwîr Dduw am ddwyn o dautu,
Yn iach lawen Brins y Cymru.
Duw 'ymddiffynno rhag bradwriaeth,
Cadwed Christ ef rhag pabyddiaeth,
Ac rhag pawb sydd yn amcanu
Drwg, neu speit i Brins y Cymru.
Duw ro calon Ezekias,
Synwyr Selef, zêl Josias,
Dewrder Dafydd, ac at hynny
Einioes Noe i Brins y Cymru.
Joas, Cusai fo Cynghorwŷr,
Joseph, Daniel fo golygwyr,
Moesen, Samuel y fo 'n barnu,
Bŷth ar faingc dan Brins y Cymru.
Christ â'i escill a'i hadeinio,
Christ â'i yspryd a'i cyfrwyddo,
Christ a'i râs y fytho 'n nerthu,
Ym-mhôb achos Brins y Cymru.
Arglwydd grassol cadw'r deyrnas,
A Bendithia 'n Brenin Shiamas:
A rho gynnydd grâs, a gallu,
Vwch-law pawb i Brins y Cymru.

Tabl y Bedwarydd Ran.

HYmn ar ddydd nadolig,
Dalen 513.
Cyngor i geisio Christ,
520.
Psal. 38. Psal. 100.
537. 573.
Am y Sabboth, 541. Am weddi,
545.
Gweddi dros yr Eglwys, 547. Am dyngu,
549.
Dyled-swydd Gweinidogion,
550.
Rhagluniaeth Duw,
557.
Am y Pur-dan, 560. Am orthrymmu,
571.
Am Barhâd mewn stâd o râs,
563.
Cyngor i wraig fagu ei phlentyn: Ac i beidio tristâu gormod pan bo marw,
566
Dammeg y swpper, 572. Cyngor ir Llyfr,
574.
Gresso Prins Charles o Spain,
586
FINIS.

Fe werthir y Llyfr a enwir HOLL DDLED-SWYDD DYN, gan R. Royston, gwerthwr Llyfre i A [...]dderchog grâs y Brenin, tan Lûn yr Angel, ym monwent Powls yn Llundain.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.