Carol o gyngor, yn galennig ir Cymru. 1658.
1.
Y cymro cariadûs pen hênwaed yr ynys
'Rwyf itti mewn Ewyllys athrawys with raid,
Clyw hyn o gynghorion yn erbyn certh ladron
Gelynion dî-inion dy enaid.
2.
Yr enaid sancteiddiawl sydd dlws î dduw nefawl
Ar bydawl gorff durawl daiaren wytî,
Or prîdd y doesd ymmaith lle'i cefaist fagwriaith
Ir pridd-lud lwch eilwaith dychweli.
3.
Ond rwyti 'r cnawd priddlud yn deml yr ysbryd
Ag di eî ar fyrr ennyd or bywyd ir bêdd,
Ir enaid maé hoedel byth bythoedd fel angel
Os medri di ochel drwg fuchedd.
4.
Pechodai cyn amled sydd ynot dy loned
Ath gerdded mae'r gwillied fel bleiddied yn blaid,
Os cedwi di 'r rheini yn uffern cei boeni
Dan golli daioni dy enaid.
5.
Cais wneuth'd dy gorff addas fel caerawg lân ddinas
Sylfaena di oth gwmpas mewn urddas hyd nen
Fûr cryf drwy berffeithrwydd o feini sancteiddrwydd
Rhag aflwydd anhylwydd dan heulen.
6.
Na wna 'r deml dirion yn ogof carn lladron,
Cais gyfiawn swyddogion o ddewrion dda wyr
A chadw ynddi gyfraith drwy dêg farnedigaith
Tro ymmaith dywyll-waith y twyll-wyr.
7.
Y Twyllwyr iw meddwdod, glothineb, cybydd-dod,
Certh wynniau (fel llewod) a llywon rhy ddrwg,
LLîd, balchder, trais, awydd, naws digred, ffrôst egrwydd,
Anlladrwydd, a chelwydd, a chilwg.
8.
Ymnertha dy hunan yn erbyn llû Sathan
Rhai aflan i hamcan gyr nhw' allan yn haid,
Dan Dduw ai fawr urddas pen llywydd pob teirnas
Fel Arglwydd mewn dinas mae d'enaid.
9.
Tan hwn dod Gydwybod yn Farnwr pob pechod
Fel Vstûs ar sy eiddot ai swyddwyr yn gwau
Gorseddfaingc y doethion di-gêl fydd dy galon
LLe 'i cadwon lwys inion sessiwnau.
10.
Y Sirri ar Cyfreithwyr fydd Deualld ac ystyr,
A doethdra or yscrythur rhag dolur neu dwyll,
Dy Reswm fydd gwynwr, dy fryd fydd ganllynwr,
Dy Ofn y fydd rwymwr ir amhwyll
11.
Meddyliau dy galon yn dostur fydd dystion
Heb gelu gweithredon y coegion rai certh
Ath Gôf ddwg i fynu fel ceidwad carchardy
Bob lleidr yw farnu drwy fawrnerth
12.
Pen fernir y lladron gerbron y Swyddogion
Gen ofid dy galon têg ddialedd y gân,
Ag yno Edifeirwch fydd rhwyddwr yr heddwch
A phlant y tywyllwch ânt allan.
13.
Pen fwriech di nhwy ymmaith, dy gorph, a fydd berffaith
Yn addas lys iawnwaith ith enaid mewn rhôl
Rhag ail ddychwel trachwant dod fîlwyr drwy foliant
A gadwant dy feddiant yn fuddiol.
14.
Y rhaglaw rhywiog-lân fydd Gofal yn gyfan
Ar mîlwyr pêr anian fydd pob rhinwedd bûr
Canwriad gwych hefyd yn trîn cledde 'r ysbryd
Drwy hyfryd lwys wnfyd iw Synwyr.
15.
Y fwcled grêf ffrwythlon ar arfau mîn-llymion
I ddal y gelynion wyr geirwon ar gwrr
Iw Ffydd a chrediniaith a chyssur a gobaith
Yng waed yn gwych odiaeth Iachawdwr
16.
Ag felly bôb diwrnod ymhola ath gydwybod:
Rhag ofn bod ûn pechod heb ganfod tan gô
A gwna na fo 'r lladron yn nydd y farn inion
Gerbron y Duw cyfion iw cofio.
17.
O rasol Dduw Iesu dysc n'i olli vvneu'd felly
A nertha n' i fedru devvr-rymmu yn dy râs
Dôd i ni ddiddanvvch ymrô dy hyfrydvvch
A heddvvch yn Harddvvch i hurddas.
18.
Rhâd Iesu Grîst hyfryd a phur-serch Duw hefyd
A thrigfa 'r Glân Ysbryd bob mûnûd er mawl
A fo gyda nyni byth bythoedd i'n llenwi
Amên drwy yn gweddi yn dragwyddawl.
TERFYN.
Printiedig yn Rhydychen.