PRINCIPLAU Neu BENNAU Y GREFYDD GHRISTIANOGOL, A agorir fel y gallo y gwannaf eu deall.

Gan T. G. Gweinidog yr Efengyl.

Joan 17. 3. Hyn yw'r Bywyd tragwyddol, dy adnabod ti yr unig wir Dduw, a'r hwn a anfonaist di Jesu Ghrist.

Ac a gyfieuthwyd gan W. J.

Printiedig yn Llundain gan A. Maxwell i'r Awdwr yn y flwyddyn 1676.

PRINCIPLAU neu BENNAU Y GREFYDD GHRISTIANOGOL Wedi eu Agoryd.

Cwest.

PWy ydyw gwneuthurwr pob peth?

Atteb.

Duw. Gen. 1. 1. Col. 1. 16. Trwyddo ef y crewyd pob dim a'r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaiar.

Cwest.

Beth ydyw Duw?

Atteb.

Duw sydd Yspryd o anfeidrol berffeithrwydd.

Fe ddywedir fôd Duw yn Yspryd. 1. Trwy nâg, i arwy­ddoccâu nad yw efe gorph, neu sylwedd defnyddiol. 2. Trwy Gyssondeb cyffelybiaethol, gan fôd Ysprydion yn fwyaf perffaith a rhagorol o'r holl bethau a greuwyd, maent yn gymmhwysaf i osod allan yr anymgyffredol a'r aneirif Dduw ir dalldwriaeth gwan a chyfyng ynom ni.

Fe ddywedir fod Duw yn yspryd o berffeithrwydd, neu yn yspryd perffaith; trwy hynny i gâu allan pob mâth a'r ammherffeithrwydd, ac i gynnwys i mewn pob mâth o berffeithrwydd a godidowgrwydd.

[Page 4] Am ei fôd yn yspryd o anfeidrol berffeithrwydd, trwy hynny yr arwyddoccêir nad oes dim mesnr na therfyn iw berffeithrwydd ef. Trwy yr hyn y didolir ef oddi­wrth yr Angylion gogoneddus, ac eneidiau y Sainct yn y nefoedd, y rhai er eu bôd yn ysprydion perffaith, etto mae terfyn iw perffeithrwydd hwynt: Ond perffeithrw­ydd Duw sydd tu hwnt i bob mesur, gan ei fod yn an­feidrol.

Cwest.

Pa sawl Duw sydd?

Atteb.

Vn unig Dduw sydd. 1 Cor. 8. 4. Nid oes un Duw arall onid un.

Cwest.

Pa sawl person sydd yn y Duwdod?

Atteb.

Tri. Y Tâd, y mâb▪ a'r yspryd glân.

Er nad oes ond un Duw mewn sylwedd a hanfod, etto mae tri pherson gwahanredol yn aros yn yr un Duwdod. Hyn sydd eglur oddiwrth Dystiolaeth Christ ei hun. Mat. 28. 19. Lle mae yn rhoi gorchymmyn iw Apostolion i ddysgu yr holl Genhedloedd, ac iw bedyddio, yn enw'r Tâd, a'r Mâb, a'r Ispryd glân. Gwel hefyd 1 Joan 5. 17. Fod Duw yn un yn ei hanfod, ac etto yn dri yn ei berson, sy dd Ddirgelwch ni ellir ei ddirnad na'i amgyffred, etto a ddylid ei gredu, gan ei fod mor eglur wedi ei ddat­cuddio yn y Gair.

Cwest.

Pa fodd ym mhellach y gosodir Duw a­llan yn y Gair?

Atteb.

1. Trwy ei Briodoliaethau. 2. Trwy ei weithredoedd.

Priodoliaethau Duw ydyw rhyw ragoriaethau godi­dawg a roddir iddo ef: fel pan ddywedir ei fod yn drag­wyddol, yn holl alluog, yn Drugarog, yn Gyfiawn, &c.

Cwest.

Pa sawl rhyw sydd o Briodoliaethau Duw?

Atteb.

Dau ryw. 1. Anghyfrannogol. 2. Cyfran­nogol?

Priodoliaethau anghyfrannogol ydynt y cyfryw ragori­aethau, ag sydd mor briodol i Dduw yn unig, fel na a­llant mewn modd yn y bŷd eu priodoli a'u cyfrannu i neb arall. Megis Tragwyddoldeb, heb ddechreuad; Anghyf­newidioldeb, heb ddim newid ynddo; Holl-ddigonol, nid [Page 5] yn unig iddo ei hun, ond i bawb eraill: Holl-alluog; abl i wneuthur pob peth: Holl-lanw, yn bresennol ym mhob mann. Y rhai hyn a'r cyfryw ydynt ragoriaethau prio­dol i Dduw yn unig, ac ni ellir eu cyfrannu i un crea­dur.

Priodoliaethau cyfrannogol ydynt gyfryw ragoriae­thau yn Nuw, a'r a gyfrennir i'r Creaduriaid hefyd; megis Nerth, Doethineb, Sancteiddrwydd, cyfiawnder, &c. felly Sampson oedd ŵr nerthol, Solomon yn ŵr doeth, Noah yn ŵr cyfiawn, &c. Etto mae gwahaniaeth mawr rhwng y Priodoliaethau cyfrannogol hyn, fel y maent yn Nuw, ac fel y maent yn y creadur.

1. Maent hwy yn wreiddiol yn Nuw, efe yw'r brîf ffynnon o honynt eu gŷd, yr hwn sydd ganddo yr hyn sydd ganddo, ynddo ac o hono ei hun. Fal hyn yr holl briodoliaethau hyn yn Nuw ydynt ei wir hanfod ef.

2. Maent hwy eu gŷd yn Nuw yn anfeidrol, heb ddi­ben a therfyn. Mae efe yn anfeidrol mewn nerth, doethi­neb, Saincteiddrwydd, cyfiawnder, &c. Ond yn y crea­dur maent,

1. Trwy Gyfranniad, hwy a dderbyniant eu holl odi­dowgrwydd oddiwrth Dduw. Beth sydd gennit ond a dder­byniaist? 1 Cor. 4. 7.

2. Wrth fesur. Nid oes gan y creadur sydd ganddo y godidowgrwydd mwyaf a goreu, ond mesur terfynedig. Eph. 4. 7.

Cwest.

Tan ba bennau y gellir cynnhwyso gwei­thredoedd Duw?

Atteb.

Tan Greadigaeth a Rhagluniaeth.

Cwest.

Beth a ddeellir wrth gread Duw o bethau?

Atteb.

Eu gwneuthuriad hwy o ddiddim ddefnydd.

Crêu ydyw rhoi hanfod i bethau ni bu erioed, a hyn­ny o ddim. Y cyfryw wneuthuriad o bethau o ddim sydd briodol i Dduw; trwy hynny mae'r Arglwydd yn ei ddangos ei hun yn wîr Dduw.

Cwest.

Pa bethau a wnaeth Duw felly?

Atteb.

Pob beth.

Hyn a ddywed yr Apostol yn eglur Col. 1. 16. Trwy­ddo [Page 6] ef y creúwyd pôb dim a'r sydd yn y Nefoedd, ac sydd a'r y ddaiar, yn weledig, ac yn anweledig. Os dyfal-ystyrir godidowgrwydd llawer o greaduriaid, maintioli eraill, eu hamlder hwynt eu gŷd ynghŷd, rhaid ini addef fôd yr Arglwydd yn hyn yn ei ddangos ei hun yn wîr yn Dduw; yr unig wîr Dduw. Ni all nêb arall wneuthur felly.

Cwest.

Trwy ba beth y gwnaeth Duw'r cwbl?

Atteb.

Trwy ei Air.

Gen. 1. 3, 6. Duw a ddywedodd, bydded goleuni, by­dded y ffurfafen, ac felly bu. Ac Psal. 33. 6. Trwy Air yr Arglwydd y gwnaethpwyd pethau. Trwy Air Duw y deellir eglurháad o'i ewyllys ef. Canys ni ddywedir yn brio­dol fod Duw yn llefaru, ond a'r ddull dynol. Arfer dy­nion yn gyffredinol yw dangos eu meddwl a'u hewyllys trwy lefaru, neu ddywedyd. Pan eglurodd ac y datguddi­odd Duw ei ewyllys am y pethau hyn a hyn i fôd, yn ebrwydd y buant; ac hwy a fuant felly fel y mynnai Duw iddynt fôd.

Cwest.

Ym mha gyflwr y gwnaeth Duw bob peth?

Atteb.

Mewn cyflwr da iawn.

Yr Yspryd glân a ddengys yn eglur, ddarfod i Dduw a'r ddiwedd pob diwrnod, ddyfal edrych a'r yr holl waith a wnaethai, ac iddo ei gael yn dda iawn. Gen. 1. 4. 10, &c. Hyn sydd iw nodi i gyfiawnhâu Duw oddiwrth yr holl ddrwg sydd yn y bŷd. Mae llawer o greaduri­aid yr awron yn ddrwg; ond fel y gwnaeth Duw hwynt, nid felly yr oeddynt. Pôb drwg a ddaeth oddiwrth y creaduriaid.

Cwest.

Ym mha beth y mae Rhagluniaeth Duw yn sefyll?

Atteb.

1. Yn cynnal y creaduriaid. 2. Yn eu hiawn-reoli hwynt.

Am gadw y Creaduriaid, oni bai fod Duw yn eu cyn­nal a'u cadw, hwy a ddiddymmid yn ebrwydd. O ran hyn y dywedir, Ynddo ef yr ydym yn byw, yn symmud, ac yn bôd. Act. 17. 28.

Cwest.

Beth y mae Duw yn ei reoli trwy ei Rag­luniaeth?

Atteb.

Yr holl bethau sydd, beth bynnag ydynt. Psal. 113. 6.

Mae Rhagluniaeth Duw yn gyhydedd a'i Greadigaeth; Fel y creuwyd pob peth gan Dduw, felly y trefnir pob peth ganddo ef: fel y pethau mawrion uchel yn y ne­foedd uchaf, felly y pethau mwyaf a'r y ddaiar. (Dan. 2. 21. efe sydd yn symmud Brenhinoedd, ac yn gosod Brenhinoedd.) Ie y pethau lleiaf hefyd, megis lliw gwallt ein pennau. Mat. 5. 36.

Cwest.

Beth yw y diben hwnnw i'r hwn y mae Duw yn cyfarwyddo pob peth?

Atteb.

1. Iw ogoniant ei hun. 2. I ddaioni eu blant.

Gogoniant Duw ydyw'r diben pennaf ac uchaf o'r cwbl. Hynny oedd yn ei olwg ef wrth wneuthur y crea­duriaid: a hynny mae yn edrych arno ym mhob peth a wneir, a'r nêb rhyw amser mewn lle yn y bŷd.

Daioni eu blant ydyw'r diben nesaf tan hynny. O ran yr hyn y dywedir, Fod pob peth yn cŷdweithio iddynt er daioni. Rhuf. 8. 28.

Cwest.

Ym mha gyflwr y gwnaeth Duw ddŷn a'r y cyntaf?

Atteb.

Mewn cyflwr da a happus iawn.

Gen. 1. 31. Fe ddywedir, Wedi i Dduw wneuthur dŷn, fe edrychodd a'r y cwbl a wnaethei, ac wele da iawn oedd.

Cwest.

Ym mha beth y safai happusrwydd dŷn, yn yr hwn y gwnaethpwyd ef a'r y cyntaf?

Atteb.

Yn hyn, o ran ei wneuthur a'r ddelw Duw, yr hon oedd mewn perffaith wybodaeth, gwir Sanctei­ddrwydd a chyfiawnder. Gen. 1. 26, 27. Col. 3. 10.

Yr oedd gan ddŷn a'r y cyntaf wybodaeth o bob peth oedd angenrheidiol i ogoniant Duw, ac iw ddaioni ei hunan; ac a greuwyd hefyd yn Sanctaidd ac yn gyfiawn, heb pechod.

Cwest.

A barhaodd dyn bob amser yn y cyflwr happus, sanctaidd hwnnw?

Atteb.

Na ddo: fe syrthiodd oddiwrtho, trwy dorri gorchymmyn Duw, yn bwytta y ffrwyth gwahardde­dig. Gen. 3. 3, &c.

Y pechod yn enwedigol oedd yn anufuddhâu i orchym­myn Duw; yr hwn orchymmyn a roesei efe iddo i brofi ei ufudd-dod ef. Fe all llawer ysgatfydd feddwl y pe­chod hwn yn beth ysgafn, ac ŷnt yn barod i roi toster yn erbyn Duw am gospi dŷn cymmaint am fai cyn lleied. Ond os edrychant a'r yr amryw bechodau cynnwysedig yn y troseddiad hwnnw, rhaid iddynt gydnabod ei fod yn bechod tramawr. Canys,

1. Yr oedd ynddo Anghrediniaeth, am na chredent i air Duw. Canys er i Dduw ddywedyd, Y dydd y bwyttei o hono, gan farw ti a fyddi farw. Gen. 2. 17. Etto ni chre­dent y byddent feirw, ond ammeu a gwneuthur Cwestiwn o hynny.

2. Yr oedd Crediniaeth ynfyd, yn rhoi coel a'r ddiafol. fe ddywedasei Duw, Gan farw y byddwch farw; A Diafol a ddywedodd, Ni fyddwch farw ddim. Etto y wraig, (a'r Gŵr trwyddi hi) a goeliodd yn fwy i'r cythrael, Tâd y celwydd; nag i Dduw, Tâd y gwirionedd.

3. Balchder trahâus, yn chwennych bôd fel Duwiau. Canys pan ddywedodd Diafol, Chwi a fyddwch fel Duwi­au yn gwybod da â drwg, yr oedd y fâth ymchwydd yn­ddynt, ac y trosseddasant.

4. Lladrad. Canys hwy a gymerasant yr hyn nid oedd eiddynt, ond trwy orchymmyn enwedigol a gadwesid oddiwrthynt. Canys fe waharddasei Duw yn eglur iddynt fwytta o'r pren hwnnw.

5. Llofruddiaeth gwaedlyd. Ein Rhieni cyntaf trwy fwy­tta y ffrwyth gwaharddedig hwnnw, a ddygasant farwo­laeth, nid yn unig arnynt eu hunain, ond hefyd a'r eu holl heppil. Ie cymmaint ac oedd ynddynt hwy, hwy a'u taflasant eu hunain, a'u holl heppil i Dân uffern. Wrth hyn y gellwch farnu mor fawr oedd pechod ein Rhieni cyntaf.

Cwest.

Ydyw heppil Adda yn euog o'r pechod hwnnw?

Atteb.

Ydyw: fe gyfrifir pechod Adda iw holl heppil.

Trwy anufudd-dod un y gwnaethpwyd llawer yn bechaduri­aid. Rhuf. 5. 19. Hynny yw, trwy drossedd Adda, y dŷn cyntaf, llawer, sef pawb a ddaeth oddiwrtho ef, ac a ddeuant, a gyfrifir yn gyfiawn yn bechaduriaid.

Cwest.

Pa fodd y gall heppil Adda fod yn euog o'i bechod ef?

Atteb.

1. Adda yn y gorchwyl hwnnw oedd berson cyffredinol.

Nid oedd efe yn sefyll am dano ei hun yn unig, ond am holl ddynol ryw. Efe oeddNeu'r hwn oedd yn ar wyddoccaû presennoldeb. Gynnyrcholwr mawr y Bŷd, fel pan bechodd ef, ni a bechasom eu gŷd ynddo ef, a chyd ag ef.

2. Yr oeddym ni oll yn Lwynau Adda pan bechodd ef.

Ac felly trwy ddeddf Cenhedliad ni a bechasom ynddo ef, ac ynddo ef a haeddasom ddamnedigaeth dragwy­ddol.

Cwest.

Beth yw pechod yn gyffredinol?

Atteb.

Anghyfraith [neu drosseddiad y gyfraith] yw pechod.

Felly mae'r Apostol yn yspysu ac yn dangos beth ydyw. 1 Joh. 3. 4. Y Gyfraith sydd eglurháad o ewyllys Duw, yn dangos beth a fynn ef i ddŷn ei wneuthur, neu bei­dio a'i wneuthur; am hynny trosseddu y Gyfraith ydyw digio Duw, a phechu yn erbyn ei ewyllys datguddiedig ef.

Cwest.

Pa rywogaethau sydd o'r Pechod?

Atteb.

Dau: Gwreiddiol a Gwneuthurol.

Cwest.

Beth ydyw y pechod gwreiddiol?

Atteb.

Y llygredigaeth honno o'n natur ni, yn yr hon yr ymddygir ac y genir pawb.

Y ffrwyth nesaf digyfrwng o Bechod Adda ydyw, a'r [Page 10] achos bennaf o'r holl bechodau eraill. Am hynny y gel­wir ef yn wreiddiol, oblegid ei fod yn wreiddin, neu ffyn­non oddiwrth ba un y mae'r holl bechodau gwneuthurol yn tyfu ac yn tarddu. Am y llygredigaeth gwreiddiol hwn y dywaid Dafydd yn Psal. 51. 5. Wele mewn anwiredd i'm lluniwyd, ac mewn▪ pechod y beichiogodd fy mam arnaf. Ni bu nêb erioed a ddaeth oddiwrth Adda (ond Christ yn unig, yr hwn a genhedlwyd trwy yr Yspryd glân) yn rhydd oddiwrth y pechod hwn. Fel y derbyn pob creadur arall nattur ac athrylith ei rywogaeth: fel hyn y llewod athrylith rheipus; Cŵn athrylith giáidd; Fe­lly plant dŷn pechadurus athrylith bechadurus; gogwy­ddiad gwreiddiol yn eu natur i bob math a'r bechod: yr hon a erys ynddynt tra fo'nt byw, a byth ni lwyr­ddiwreiddir allan o neb tra fo yn aros yma ar y ddai­ar. Yr hyn a ordeiniodd Duw felly yn ei ddoethineb,

1. Fel trwy hynny y gostynger, ac y cadwer hwynt oddiwrth falchder ysprydol.

2. I roddi iddynt achosion yn fynychach i fyned at Dduw mewn Gweddi am help a chymorth yn erbyn gwaith y llygredigaeth ynddynt.

Cwest.

Beth yw pechod gwneuthurol?

Atteb.

Trossedd neillduol o Ddeddf Duw.

Cwest.

Pa sawl modd y sŷrth dynion i bechodau gwneuthurol?

Atteb.

1. Trwy esgeuluso neu fod heb wneuthur y da mae Duw yn ei Air yn ei orchymmyn.

2. Trwy wneuthur y drwg hwnnw mae Duw yn ei Air yn ei warafun.

3. Trwy gyflawni yr byn sydd dda mewn modd pe­chadurus.

Y dledswyddau goreu a gymerom ni mewn llaw, a lygrir yn dramawr trwy ein diffyg yn y modd o'u cy­flawni.

Cwest.

Beth yw cospedigaeth pechod?

Atteb.

Pob melldith a phla yn y bŷd bwn, marwo­laeth yn y diwedd; wedi hynny poenau tragwyddol yn [Page 11] uffern. Deut. 28. 16, 17. Rhuf. 6. 23. 2 Thes. 1. 8 9▪

Cwest.

A all neb ei waredu ei hun allan o'r cy­flwr gofidus hwn y mae ynddo trwy bechod?

Atteb.

Na all yn ddiau.

2 Cor. 3. 5. Nid ydym yn ddigonol o honom ein hunain i feddwl dim, megis o honom ein hunain. Llai o lawer y ga­llwn wneuthur dim o honom ein hunain, i'n gwaredu ein hunain oddiwrth y fath drueni mawr y dygodd pe­chod ni iddo. Meirw ydym mewn pechod. Eph. 2. 1. Ac ni all dynion meirw eu codi eu hunain i fywyd.

Cwest.

A all un creadur arall waredu dyn?

Atteb.

Na all neb rhyw Greadur.

Psal, 49. 7. Gan waredu ni wared nêb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn trosto i Dduw. Fe ellir cymhwyso hyn at yr holl Greaduriaid yn y bŷd, at yr holl Sainct a'r Angylion yn y bŷd, ni all neb o honynt fôdd yn y bŷd waredu ei frawd. Fel o ran nerth dŷn ei hunan, neu o ran cymmorth oddiwrth un Creadur arall, nid oes dim ond achos i anobeithio.

Cwest.

A oes dim modd i waredu dyn allan o'i gyflwr llygredig a thruan?

Atteb.

Oes, Duw ei hun a roes i ddŷn Achubwr.

Act. 5. 31. Pan amlygwyd yn eglur, nad allai nêb a­chub, Duw ei hun a roes Achubwr, ac Iachawdr ini.

Cwest.

Pwy y dyw Iachawdr dŷn?

Atteb.

Jesu Ghrist.

1 Tim. 1. 15. Gwîr yw'r gair, ac yn haeddu pob derby­niad, ddyfod Christ Jesu i'r bŷd i gadw pechaduriaid. Gair Hebreáec yw Jesu, ac sydd yn arwyddoccâu Iachawdr. Mae'r Angel, wrth roi 'r enw hwn, yn rhoi rheswm am dano, Efe a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau. Math. 1. 21.

Yr enw arall yw Christ, a gair Groec ydyw, yn ar­wyddoccâu Eneiniog. Iesu sydd yn dangos ei fod ef yn Iachawdr. Christ yn Iachawdr nerthol, oblegid ei enei­nio, hynny yw, ei osod o'r neilldu gan Dduw a'i lenwi â phob llawnder i waith ein prynedigaeth ni.

Cwest.

Beth ydyw Jesu Christ.

Atteb.

Tragwyddol Fab Duw, yr hwn ynghyflawn­der yr amser a gymerodd natur dŷn arno.

Efe a elwir unig-anedig Fâb Duw. Jo. 1. 14. Yr hyn sydd iw ddeall am ei genhedliad tragwyddol anchwili­adwy, sydd ini i ryfeddu o'i blegid, ac nid iw fanwl chwilio allan.

Cwest.

Pa ham yr oedd yn rhaid i Iachawdr dŷn fôd yn ddŷn?

Atteb.

1. Yn gyffredinol fel y gallai ddioddef a marw tros brynedigaeth dŷn.

Heb. 9. 22. Heb ollwng gwaed nid oes dim maddeuant pe­chod. Fel y. gallai Christ gan hynny farw trosom, efe a gymerodd ein natur ni, canys yn Dduw ni allai mor marw.

2. Fel y gallai yn yr un natur, a bechasei i ddigio Duw, fodloni cyfiawnder Duw.

Canys cyfiawnder Duw a ofynnai wneuthur iawn yn yr un natur a bechasei. Gan i ddŷn gan hynny bechu, an­genrhaid oedd i ddŷn farw, i fodloni cyfiawnder Duw, ac i lonyddn ei lîd ef. Ar yr hyn y dywed yr Apostol, Gan fôd marwolaeth trwy ddŷn, trwy ddŷn hefyd y mae adgy­fodiad y meirw. 1 Cor. 15. 21.

3. Fel y gallai deimlo ein gwendid ni, ac felly trwy deimlad a phrofiad ddysgu tosturio a chyd-ddioddef a ni.

Dyna y rheswm a rydd yr Apostol. Heb. 2. 16, 17. Efe a gymerodd hâd Abraham, fel y byddai drugarog, ac Arch­offeiriad ffyddlon, hynny yw, fel y byddai drugarog fel y mae'r naill ddŷn ir llall. Ac yn Heb. 4. 15. Nid oes ini Archoffeiriad, heb fedru cyd-ddioddef gyd a'n gwendid ni, ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunyd a ninnau, etto heb pechod.

Cwest.

Pa'm yr oedd yn rhaid i Iachawdr dŷn fôd hefyd yn Dduw?

Atteb.

1. Fel y gallai fod yn abl ac yn ddigonol i ddioddef yr byn a gymerodd efe arno am bechod dŷn.

[Page 13] Y baich yr aeth efe tano, oedd digofaint yr anfeidrol Dduw, ac yr oedd yn rhaid wrth nerth Duw i ddioddef digofaint Duw. Fe fuasei'r natur ddynol yn pallu gan drymbwys digofaint Duw, oni buasei i'r natur dduwiol ei chryf hâu a'i chynnal i fynu.

2. Fel y gallai oresgyn holl elynion ein Iechydwri­aeth, a gorchfygu Satan, uffern a marwolaeth, yr hyn ni's gallai un Creadur.

Gan fôd Christ yn Dduw, Trwy ei farwolaeth fe orch­fygodd farwolaeth, a'r hwn oedd a nerth marwolaeth ganddo, hynny yw, Diafol, Heb. 2. 14.

3. Fel y gallai ei ufudd-dod a'i ddioddefaint ef fod o werth a phris anfeidrol.

Yr hyn a wnaeth ufudd-dod a marwolaeth Christ o'r fâth werth anfeidrol, oedd, ei fod yn ufudd-dod ac yn farwolaeth Mâb Duw, yr hwn oedd Dduw yn gystal a dŷn. Gan fôd y Duwdod yn un natur ym mherson ein Prynwr ni, yr oedd anfeidrol haeddiant yn canlyn ei berson ef, a'r cwbl a wnaeth efe ac a ddioddefodd trosom.

Yr hyn sydd yn wîr sylfaen o ddiddanwch i'r holl bechaduriaid gostyngedig, teimladwy o'u pechodau, a'u trueni sydd ddyledus am danynt: Oblegid fod marwo­laeth a dioddefaint Jesu Ghrist o anfeidrol werth a hae­ddiant, ym mhell uwchlaw haeddiant eu pechodau, gan eu bod yn farwolaeth a dioddefaint yr hwn oedd Dduw yn gystal a dŷn.

Cwest.

Beth a wnaeth Christ tros ein Prynedi­gaeth ni?

Atteb.

1. Efe a gyflawnodd yr ufudd-dod hwnnw oedd ddyledus arnom ni i orchmynion Duw.

2. Efe a ddioddefodd y gospedigaeth oedd ddyledus ini am ein pechodau.

Y gyntaf a elwir ufudd-dod gwneuthurol Christ; yr ail ei ufudd-dod dioddefol ef.

Ufudd-dod gwneuthurol Christ oedd yn llawn ber­ffaith; canys efe a lwyr-gyflawnodd yr hyn oll yr oedd cyfraith Dduw yn ei ofyn; yr hyn y mae efe yn ei ys­pysu yn ei ymadrodd wrth Ioan Fedyddiwr, (Mat. 3. 15.) [Page 14] Gweddus ini gyflawni pob cyfiawnder. Ac fel yr ymostyn­godd Christ i'r Ddeddf, ac a'i cyflawnodd trosom ni, yn ein lle ni, trwy'r hyn y pwrcasodd efe fywyd tragwy­ddol ac iechydwriaeth ini; felly hefyd y dioddefodd ef y gospedigaeth oedd ddyledus ini am ein pechodau, a thrwy hynny a'n gwaredodd oddiwrth farwolaeth ac u­ffern. Am hynny y dywed yr Apostol, (Eph. 1. 7.) Mae ini brynedigaeth trwy ei waed ef. Hynny yw, trwy farwo­laeth a dioddefaint gwaedlyd Iesu Ghrist y prynir (neu y gwaredir) ni oddiwrth ein holl bechodau. Etto ni ddeellir hyn felly, fel pettem ni wedi ein gwaredu oddi­wrth y felldith trwy ufudd-dod dioddefol Christ, a'n gw­neuthur yn etifeddion gogoniant trwy ei ufudd-dod gw­nouthurol ef, ystyriedig yn wahanredol; ond trwy ei u­fudd-dod gwneuthurol a dioddefol ef yn gyssylltedig, i'n gwaredir oddiwrth y felldith, ac y mae ini hawl brei­niol i ogoniant.

Cwest.

Pa swyddau a gymerodd Christ arno i'n gwneuthur ni yn gyfrannogion o'r lleshâ sydd yn dyfod oddiwrth yr hyn a wnaeth ac a ddioddefodd Christ?

Atteb.

Fe gymerodd Christ arno dair Swydd; fe deth (a) yn Frenin, (b) yn Brophwyd, ac (c) yn Offeiriad. (a) Act. 5. 31. (b) Deut. 18. 18. (c) Psal. 110. 4.

Cwest.

Beth yw rhannau Swydd frenhinol Christ?

Atteb.

1. I reoli ei Eglwys.

Mae rheolaeth Christ yn ei Eglwys mewn rhan Oddi­allan, ac mewn rhan Oddifewn.

1. Oddiallan, trwy ei Air, yn yr hwn y datguddir ei Gyfreithiau ef. A thrwy ei Swyddwŷr a'i Weinidogion, y rhai a ordeiniodd ef i sefyll yn ei le ef: ir rhai y rhoddes efe nid yn unig air y Cymmod, ond hefyd ga­llu'r Agoriadau, neu Awdurdod i gyflawni ei Gyfrei­thiau a'i Ordinhádau ef.

2. Oddifewn mae Christ yn rheoli ei Eglwys trwy ei Yspryd, trwy yr hwn y mae yn gweithio mor nerthol arnynt, ac i beri iddynt yn ewyllysgar ymostwng iddo.

Atteb.

2. I ddarparu tros ei Eglwys.

Rhagddarpar Christ tros ei Eglwys sydd yn cyrrhae­ddyd at bob peth angenrheidiol i'r enaid a'r corph, sef, i bob bendith ysprydol a chorphorol. Efe a ddarpar fendithion ysprydol i eneidiau ei aelodau, trwy eu cyn­nysgaeddu a phob rhadau iachusol angenrheidiol. Mae hefyd yn darpar bendithion amserol iw cyrph, cym mhe­lled ac y gwelo ef yn dda iddynt. Y mae eisieu a newyn a'r y llewod ieuaingc, ond y sawl a geīsiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisieu dim daioni. Psal. 34. 10.

Atteb.

3. I amddiffyn ei Eglwys.

Mae Christ yn amddiffyn ei Eglwys a'i aelodau rhag ei holl elynion. Ei gelynion sydd Weledig ac Anwele­dig. Ei gelynion gweledig yw pob mâth a'r ddynion drwg. Ei gelynion anweledig yw Diafol a'i Angylion. Naill a'i mae Christ yn rhwystro i'r gelynion hyn osod a'r ei Eglwys. Megis Gen. 35. 5. neu yn gwannhychu ac yn attal eu grym a'u nerth hwynt. 2 Sam. 3. 1. Neu yu gwaredu 'r eiddo o'u crafangau hwynt. Exod. 14. 30. Neu yn destrywio eu gelynion. Megis, 2 Brench. 19. 35.

Cwest.

Beth yw gwaith pennaf Swydd Broph­wydol Jesu Ghrist?

Atteb.

Dysgu ac hyfforddi ei Eglwys.

Cwest.

Pa fodd y mae Christ yn dysgu ei Eglwys?

Atteb.

1. Oddiallan trwy ei Air.

2. Oddifewn trwy ei Yspryd.

Yn gyntaf mae Christ yn dysgu ei Eglwys Oddiallan trwy hyspysu ewyllus ei Dâd, yr hyn a wnaeth a'i enau ei hun tra fu fyw ar y ddaiar. A thrwy ei Weinidogi­on a'r ôl ei Dderchafel i'r nefoedd, trwy ei Scrifenna­dau a'u Pregethau.

2. Mae Christ yn dysgu ei Eglwys oddifewn trwy beri iw Yspryd gŷd-weithio gyd a'r Weinidogaeth oddi­allan, (yr hon a ordeiniodd efe) a'r eneidiau dynion. Christ yr awrhon a lefara yn y Gweinidogion, fel y gw­naeth yn Paul (2 Cor. 13. 3.) er nad yn yr un mesur, etto yn yr un modd. Felly yn a thrwy 'r Ordinhadau hynny a drefnodd efe yn ei Eglwys, mae efe yn goleuo y me­ddwl, [Page 16] yn meddalhâu 'r galon, yn diddanu 'r gydwybod; ie yn gweithio ffydd, gobaith, cariad, amynedd, ufudd-dod newydd, a phob gràs arall angenrheidiol.

Cwest.

Pa rannau sydd o Swydd Offeiriadol Christ?

Atteb.

1. Iawn bodlonol. 2. Cyfryngiad.

Y ddau hyn oedd gwaith pennaf yr Archoffeiriad tan y Ddeddf. Un a wnai trwy offrymmu Aberth. A'r llall trwy fyned i mewn i'r Cyssegr Sancteiddiolaf ag Arogl­darth. Y ddau hyn a gyssylltir ac a gymhwysir at Ghrist. Rhuf. 8. 34. Pwy yw'r hwn sydd yn damnio? Christ yw 'r hwn a fu farw, ie yn hytrach yr hwn a gyfodwyd hefyd, yr hwn sydd a'r ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni. Yma y gwelwn Iawn a Chyfryngiad yn eiddo Christ. Iawn trwy ei farwolaeth, a Chyfryngiad a'r ei Adgyfodiad a'i eisteddiad a'r ddeheulaw Duw.

Yr oedd Aberth Christ a'r y Groes o'r fâth rinwedd nerthol, fel y llawn-fodlonwyd Cyfiawnder Duw, y llwyr-lonyddwyd ei ddîg ef, ie ei wyneb a'i ffafr a brynwyd ini, a'r holl fendithion sydd yn canlyn a'r hynny. Am hynny y dywedir fod marwolaeth Christ yn Aberth i Dduw o arogl peraidd. Eph. 5. 2. A darfod pwr­casu 'r Eglwys trwy hynny. Act. 20. 28. Sef, oddiwrth yr holl gaethiwed yr oedd hi tano, megis, pechod, mell­dith y Ddeddf, Digofaint Duw, marwolaeth, Diafol a Damnedigaeth. Wedi i Ghrist offrymmu ei fywyd yn Aberth i Dduw, ac wedi iddo trwy hynny wneuthur Iawn am bechodau 'r Eglwys, efe a gladdwyd, ac a oso­dwyd yn y Bédd, i Sancteiddio y Bêdd iw holl aelodau. A'r trydydd dydd efe a gyfodwyd oddiwrth y Meirw. Fel y rhoddes ef ei hun ei fywyd i lawr, felly efe ei hun a'i cymerodd drachefn. Ac yno y derchafodd i'r nefoedd, yno i eiriol trosom ni, yr hyn yw'r ail rhan o'i Swydd offeiriadol. Y gyntaf oedd i wneuthur iawn, yr ail i gyfryngu trosom ni.

Fe ellir dywedyd fod Christ yn cyfryngu trosom ddwy ffordd,

1. Trwy ei fôd yn ei gyflwyno ei hun trosom ni yn wastadol ger bron ei Dâd: Christ, medd yr Apostol, A [Page 17] aeth i mewn i'r nefoedd, i ymddangos yn awr ger bron Duw trosom ni. Heb, 9. 24. Mae Christ yn ei gyflwyno ei hun, ein haberth ni, a'r Iawn tros ein pechodau, gwaed pa un sydd yn eiriol ac yn dadleu trosom ger bron ei Dâd. Heb. 12. 24.

2. Trwy ddangos ei fôd ef yn ewyllysio fôd yr eiddo ef eu gŷd yn gyfrannogion o rinwedd a lleshâd ei Aberth ef. Joan. 17. 24. Y Tâd, y rhai a roddaist imi, yr wyf yn ewyllysio, lle yr ŵyfi, fod o honynt hwythau hefyd gydâ mi, fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist imi.

Y gair Cyfryngiad sydd yn briodol yn arwyddoccâu er­fyniad tros un arall. F' ai rhoddir i Ghrist fel y mae ef yn awr yn y Nefoedd, trwy gyff'lybiaeth. Y gyff'lybi­aeth a ellir ei chymeryd oddiwrth un a fo mewn ffafr mawr gyd a'r Brenin, yr hwn sydd yn wastad yn y llŷs yngŵydd y Brenin, ac yno mae yn cyflwyno Dymuniad eu gyfeillion, ac yn eiriol am ei gyflowni. Mae Christ, sydd mewn ffafr mawr gyd a'r Arglwydd, yn sefyll o'i flaen ef yn wastadol i gyflwyno ein erfynion ni, ac i beri iddynt fôd yn gymeradwy.

Cwest.

Pa fodd y mae Christ, a'r pethau a wnaeth ac a ddioddefodd ef, yn myned yn eiddom ni?

Atteb.

Trwy ffydd.

Cwest.

Beth ydyw ffydd?

Atteb.

Gwir ffydd iachusol sydd ras a weithir ynom ni gan Yspryd Duw, trwy Weinidagaeth y Gair, trwy yr hyn yr ydym yn derbyn Christ, fel y cynnigir ef ini yn yr efengyl, ac yn pwyso arno ef yn unig am fywyd ac iechydwriaeth.

Yn gyntaf, meddaf, Gwîr ffydd iachusol sydd râs a wei­thir ynom gan Yspryd Duw, trwy weinidogaeth y Gair, ob­legid hwnnw yw'r modd arferol, trwy ba un y mae Yspryd Duw yn gweithio ffydd yn ein calonnau. Gwir yw, y gall darllein yr ysgrythyrau, a llyfrau da, fôd drwy fendith Dduw yn fodd i weithio ffydd; ond siccr iawn ydyw mai 'r Môdd arferol ydyw'r Gair a brege­ther. Rhuf. 10. 17. Ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy Air Duw.

[Page 18] Canys yn gyntaf, y Ddeddf sy'n dangos ini ein pecho­dau, a'n cyflwr truan trwy hynny; ein bôd ni yn llwyr­golledig ynom ein hunain, gan ein bod ni yn euog, ac yn haeddu pôb mâth a'r farnau a phláau yn y bŷd hwn a marwolaeth dragwyddol a damnedigaeth yn y bŷd a ddaw; a'n bôd ni hefyd yn llŵyr-ddinerth i'n gwaredu ein hunain o'n cyflwr truan, y darfu ini trwy ein pechod ein taflu ein hunain iddo.

Ac yno 'r Efengyl a ddengys ini ddarfod i Jesu Ghrist, (tragwyddol fâb Duw) ynghyflownder yr amser, ddyfod i'r bŷd, cymeryd ein natur ni arno, ac ynddi myned yn fei hieu ini; ac fel ein meichieu ni gymeryd ein holl ddylêd ni arno; a thrwy ei ufudd-dod, a llawnddigo­nol Aberth ei gorph ei hun, a offrymmodd efe, unwaith a'r y Groes, wneuthur cyflawn iawn i gyfiawnder Duw am danynt.

Ie, yr Efengyl ym inhellach a ddengys, fôd Duw yn­ddo er yn cynnig grâs a chymmod, maddeuant pecho­dau yma, a bywyd tragwyddol a'r ôl hyn i bawb a gre­dant ynddo ef.

A'r gwirionedd hwn a ddatcuddir ini ym Mhregethiad y Gair, mae Yspryd Duw oddifewn yn nerthol-weithio ynom wîr gydsyniad iddo; a'r yr hyn y canlyn cyfrif mawr o Jesu Ghrist uwchlaw pôb peth, newyn a sy­ched am dano, a llawn fwriad calon iw dderbyn ef me­gis ein Iachawdr llwyr-ddigonol, ac i bwyso arno ef, a'i haeddedigaethau ef yn unig am fywyd ac Iechyd­wriaeth.

Ac am hynny mae yn canlyn yn yr Eglurháad o'r blaen, fôd ffydd yn Râs, Trwy yr hon yr ŷm yn derbyn Christ. Ac yn wîr felly mae Christ yn myned yn eiddom ni. Canys beth sydd fwy yn eiddom ni, na'r hyn a gyn­nigir ini yn rhâd, ac a ddarfu i ninnau ei dderbyn? Derbyn Ghrist ydyw'r un peth a chymeryd gafael arno, neu ei gofleidio, a'i gymhwyso attom ein hunain. Ond mi a ddewisais yn hytrach arfer y gair hwn Derbyn, oblegid gair yr Yspryd glân ei hun ydyw. Joan. 1. 12. Cynnifer ac a'i derbyniasant, fe roes iddynt allu i fôd yn feibion i Dduw, sef i'r sawl a gredant yn ei enw ef. Y [Page 19] geiriau diweddaf, [i'r sawl a gredant ynddo] a chwanegir, i ddangos yn eglurach beth yw [derbyn Christ] sef credu ynddo. Pa ddau air a gymmwys gyssylltir ynghyd: Cre­du a chwanegir at dderbyn i ddangos beth yw derbyn Christ. A derbyn a chwanegir at gredu, i ddangos pa fâth ffydd yw honno, trwy ba un y mae Christ yn eiddom ni: Y cy­fryw ffydd ydyw, ac sydd yn cymeryd ac yn derbyn Christ a holl ffrwythau llesol ei farwolaeth a'i ddioddefaint.

Fe ganlyn yn yr eglurháad o'r blaen o ffydd, pa fodd y mae ini dderbyn Christ, sef, fel y cynnigir ef yn yr E­fengyl. Christ a gynnigir yn yr Efengyl yn ei holl Swy­ddau, megis Offeiriad, Prophwyd a Brenin. Ac felly rhaid ini ei dderbyn ef, nid yn unig megis Offeiriad, yr hwn a wnaeth iawn trosom ni, trwy ei farwolaeth a'r y Groes, ac yr awron sydd yn eiriol trosom yn y Nefoedd: Ond hefyd megis ein Prophwyd, i gael ein dysgu a'n hyfforddi ganddo; ac hefyd megis ein Brenin i gymeryd ein rheoli a'n llywodraethu ganddo; a rhaid ini mor ewyllysgar ein taflu ein hunain wrth draed Christ mewn ymostyngiad iddo, ac yn ei freichiau am iechydwriaeth oddiwrtho: rhaid ini fod mor barod i was'naethu Iesu Ghrist, ac i gael ein hachub ganddo. Gan mai hyn o­edd arfaeth Duw yn ein gwaredu ni o'n caethiwed ys­prydol, yn yr hwn yr oeddym wrth natur, sef, Ei was'­naethu ef yn ddiofn, mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder gar ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd.

Yn ofer gan hynny y mae r'heini yn eu twyllo eu hu­nain, y rhai a ewyllysiant dderbyn Christ megis Prynwr, ond nid fel Rheolwr; megis Iachawdr, nid megis Arglw­ydd a Brenin. Gwybydded y cyfryw, na fydd Christ yn Iachawdr i nêb, a'r nid yw yn Arglwydd ac yn Fre­nin iddynt Ei ddeiliaid yn unig a achub ef, ac nid neb arall; canys ni ranna ef mo'i Swyddau.

Yn y lle diweddaf y dywedir, A phwyso arno ef yn unig am faddeuant pechod yma, ac am-fywyd ac iechydwriaeth drag­wyddol a'r ôl hyn. Y pwyso hwn a osodir allan yn yr Ysgrythur trwy amryw ymadroddion, megis gobeithio ynghrist Eph. 1. 12. Pwyso a'r Ghrist. Can. 8. 5. Ymddiried y Nghrist. Isa. 50. 10.

Cwest.

Pa lesháad enwedigol a dderbyn y ffydd­loniaid gan Ghrist?

Atteb.

1. Cyfiawnhaad. 2. Mabwysiad. 3. San­cteiddiad.

Fôd cyfiawnhâd trwy ffydd fe ddywed yr Apostol, Yr ydym gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnhêir dŷn, heb weithredoedd y Ddeddf. Rhuf. 3. 28.

Cwest.

Beth yw Cyfiawnháad?

Atteb.

Cyfiawnhaad yw gwaith rhâd râs Duw, trwy 'r hyn y mae yn maddeu ein holl bechodau, ac yn ein derbyn ni yn gyfiawn yn ac am gyfiawnder Jesu Ghrist. a gyfrifir ini.

Fôd Cyfiawnháad yn waith rhâd râs Duw, fe ddywed yr Apostol ini. Rhuf. 3. 24. Wedi ein cyfiawnhâu yn rhâd trwy ei râs ef. Ac fôd Duw yn ein derbyn ni yn gyfi­awn yn, ac am gyfiawnder Iesu Ghrist, sydd eglur yn Rhuf. 5. 19. Fel trwy anufudd-dod un dŷn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid; felly trwy ufudd-dod, (neu gyfiawn­der) un (sef Christ) y gwneir llawer yn gyfiawn. Hynny yw, yn berffeith gyfiawn, fel y mae Duw yn eu derbyn yn gyfiawn. Ni a gyfiawnheîr, nid trwy gyfiawnder ynglŷn ynom ni, sydd ammherffaith; ond trwy berffaith gyfi­awnder Christ, yr hwn a gyfrifir ini, ac y mae Duw ei hun yn ei gymeryd yn eiddom ni.

Cwest.

Pa rannau sydd o Gyfiawnháad?

Atteb.

1. Maddeuant o'n holl bechodau.

2. Ein cymeryd ni yn gyfiawn trwy gyfrif cyfiawn­der Christ ini. Rhuf. 4. 6. 7, 8.

1. Mae ein pechodau yn ein gwneuthur ni yn gâs ac yn ffiaidd yngolwg Duw; ie maent yn ein gwneuthur ni yn felldigedig ac yn euog o ddamnedigaeth dragwyddol: yn gyntaf gan hynny y rhai hynny a gymerir ymaith: nid nad ydynt ddim; neu, nad ydyw Duw yn eu gweled hwynt; ond nad ydyw Duw yn eu cyfrif hwynt ini. 2 Cor. 5. 19.

2. Mae Duw i'n gwneuthur ni yn ogoneddus yn ei o­lwg, yn cyfrif cyfiawnder ei Fâb ini, ac yn hwnnw mae yn ein derbyn ni. O ran yr hyn y dywedir ein bôd ni [Page 21] yn cael ein gwneuthur yn gyfiawn trwy gyfiawnder Christ. Rhuf. 5. 19. Ac yn gymeradwy yn yr anwylyd. Eph. 1. 6.

Trwy gyssylltu ynghŷd y ddwy ran hon o'n cyfiawnhâd ni, fe osodir allan yn eglur ragorol gariad Christ tuac at y ffyddloniaid. Canys,

1. Yr hyn sydd eiddom ni, sef ein pechodau, sy 'n ein gwneuthur ni yn druain, efe a'u cymer oddiwrthym, ac a'u gesyd hwynt arno ei hunan, Efe a wnaethpwyd yn be­chod trosom ni. 2 Cor. 5. 21.

2. Yr hyn nid yw eiddom ni, oblegid hebddo ni allwn fôd yn happus, efe a'i dyry ini, ac a'i cyfrif yn eiddom ni, ac a'i derbyn, fel pettai yn eiddom ni, sef ei berffaith gyfiawnder ei hun. Canys fe ddywed yr Apo­stol, Fe a'n gwnêir ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef, 2 Cor. 5. 21.

Cwest.

Beth yw Mabwysiad?

Atteb.

Mabwysiad ydyw gwaith rhâd râs Duw, trwy 'r hyn o Blant digofaint a Diafol, f' a'n gwneir yn Blant i Dduw. Ioan 1. 12.

Nid yn unig y cyfrifir ni yn Blant, ac i'n cymerir i nifer hâd Duw; ond hefyd ni a wisgir ac a addurnir â holl freintiau Plant Duw. Rhuf. 8. 17.

Cwest.

Beth ydyw Sancteiddiad?

Atteb.

Sancteiddiad ydyw gwaith Yspryd Duw, trwy 'r hwn y mae y nêb a gyfiawnhêir yn cael o fe­sur rhan a rhan ei adnewyddu trwyddo, yn ôl Delw Dduw mewn Sancteiddrwydd a chyfiawnder.

Trwy waith Sancteiddiad fe wnêir dŷn (mewn ysty­riaeth foesawl) yn ddŷn newydd, ac megis yn ddŷn a­rall. Wele, gwnaethpwyd pób peth o newydd. 2 Cor. 5. 17. Mae ganddo feddyliau newydd, dymuniadau newydd, bwriadau newydd.

Yr adnewyddiad hyn▪ sydd o fesur rhan a rhan, hynny yw o fesur ychydig ac ychydig, ac nid ei gŷd ar un­waith. Ni a gyfiawnhêir yn wîr a'r unwaith, ond ni a Sancteiddir o fesur rhan a rhan. O herwydd hyn y cyff­lybir Sancteiddiad i Oleuni a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd. Dih. 4 18.

[Page 22] Fel y mae 'r adnewyddiad hwn o fesur rhan a rhan, felly mae trwy 'r holl ddŷn, hynny yw, oddifewn ac oddiallan, yn holl nerthoedd yr enaid, ac aelodau 'r Corph: A hynny yn ôl Delw Duw mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder. Fel y mae y Christion trwy fywyd sancteiddiad yn byw bywyd Duw; o'r lleiaf mae ganddo áthrylith a gog­wyddiad Sanctaidd, o'r galon yn ymegnio i wneuthur fe­lly, i fôd yn sanctaidd, fel y mae Duw yn sanctaidd: ac fel y dywed yr Apostol, (Rhuf. 7. 22.) Efe a ymhyfry­da y Nghyfraith Dduw yn ôl y dŷn oddifewn.

Cwest.

Pa râs arall y mae'r Efengyl yn ei ofyn heb law ffydd?

Atteb.

Edifeirwch. Math. 3. 2. a'r 4. 17.

Cwest.

Beth yw Edifeirwch?

Atteb.

Edifeirwch ydyw'r fath newidiad o'r galon, ac a bair fuchedd newydd.

Mae edifeirwch yn bennaf yn sefyll yn newidiad y meddwl a chalon dŷn. A'r fuchedd newydd ydyw ffrw­yth ac eglurdab o'r galon newydd. Calon newydd a bair fuchedd newydd. Mae newidiad ac adnewyddiad y fuchedd oddiallan yn angenrheidiol. Canys rhaid i Edi­feirwch fôd yn yr holl ddŷn; a'r olaf sydd yn rhoi eglurdab i'r cyntaf. A ph'le y mae y cyntaf, fe fydd yr ail; lle mae calon newydd, fe fydd buchedd newydd. Canys mae 'r enaid yn llawn-lywodraethu a'r y Corph, a'r Corph a lwyr-reolir gan yr enaid.

Cwest.

Pa rai yw 'r Moddion oddiallan a ordei­niodd Duw i weithio ac i gryfhau ffydd, edifeir­wch, a rhadau eraill ynom ni?

Atteb.

Ordinhâdau Duw, yn enwedig y Gair, Sa­cramentau a Gweddi.

Gweinidogaeth y Gair sydd fwyaf anghenrheidiol yn gystal i weithio, ac i chwanegu ffydd a rhadau eraill. Yr hyn a ddywed yr Apostol am ffydd, Ei bôd hi trwy glywed, sydd wîr am yr holl radau eraill hefyd, y ma­ent trwy glywed y Gair a bregethir. Ac i ddangos mai trwy hynny y megir grâs hesyd, mae 'r Apostol Petr yn cyn­ghori, I chwenny chu didwyll laeth y Gair, fel y cynnyddont [Page 23] trwyddo. 1 Pet. 2. 2. Och, pa fodd y perthyn ini, fel dal sulw yn ddyfal a'r weinidogaeth y Gair, felly cyd-tym­heru ffydd a'n clywed; fel trwy goelio yr hyn a osoder o'n blaen ni allan o Air Duw, felly i gymhwyso pôb gwirionedd attom ein hunain, a'r y mae 'r Gair yn ei ddatguddio.

Cwest.

Beth ydyw Sacrament?

Atteb.

Ordinhâd Sanctaidd a ordeiniwyd gan Ghrist, yn yr hon trwy arwyddion oddiallan yr arwyddoccêir ac y selir ini y grâs oddifewn.

Ac felly mae tri pheth yn angenrheidiol i gyflawni Sacrament.

1. Arwydd oddiallan.

2. Grâs ysprydol oddifewn.

3. Ordinhâd Christ.

Cwest.

Pa sawl Sacrament sydd?

Atteb.

Dau yn unig: Bedydd a Swpper yr Arglw­ydd.

Fel yr oedd gynt gan yr Iddewon ddau Sacrament yn arferedig: y rhai oeddynt, Enwaediad a'r Oen pâsg: felly mae gan Ghristianogion yr awron ddau yn gyfatte­bol iddynt, Bedydd i'r enwaediad; Col. 3. 11, 12. Swp­per yr Arglwydd i'r oen pâsg. Luc. 22. 15, &c.

Cwest.

Beth ydyw Bedydd?

Atteb.

Sacrament yn yr hwn trwy olchi â Dwfr yn enw 'r Tâd, a'r mâb a'r Yspryd glân, yr arwyddoc­cêir ac y selir ini ein Hail enedigaeth

Gan fôd y Bedydd yn Sacrament o'n hail-enedigaeth, fe ddengys,

1. Ein bôd ni wedi ein geni wrth natur mewn cyffwr melldigedig; rhaid ini gan hynny cyn gynted ac y ga­ner ni, gael ein geni drachefn. Mae 'r Ail-enedigaeth mor llŵyr angenrheidiol i'n Hiechydwriaeth, fel na allwn hebddo fyned i mewn i Deyrnas Nefoedd. Ioan. 3. 3.

2. Fôd Bedydd yn fôdd o'n Hail-enedigaeth. Yspryd Duw yn a thrwy 'r Ordinhad honno a weithia y gwaith mawr hwn. O ran yr hyn y dywedir; y genir ni drachefn o Ddwfr, ac o'r Yspryd. Ioan. 3. 5. Etto ni wir ail-enir [Page 24] pôb un oddifewn, yr hwn a fedyddir. Nid y golchiad yn unig â dwfr, ond gweithrediad yr Yspryd trwy hyn­ny sydd yn ein had-genhedlu ni. A'r Yspryd sydd rŷdd weithiwr, yn gweithio y prŷd, ac a'r y nêb a fynno. Ioan. 3. 8.

Cwest.

Beth yw 'r Arwydd oddiallan yn y Be­dydd?

Atteb.

Dwfr. Act. 8. 36.

Nid oes dim mor gymmwys a dwfr i osod allan ein glanhâd oddiwrth bechod, trwy 'r hwn y gwneir yr hyn sydd aflan yn lân.

Cwest.

Beth ydyw 'r peth oddifewn a arwyddoc­cêir trwy y Dwfr yn y Bedydd?

Atteb.

Gwaed Christ.

Oblegid hyn y dywedir ddarfod i Ghrist ein golchi ni oddiwrth ein pechodau yn ei waed ei hun. Datc. 1. 5. Fel y mae rhinwedd i lanhâu mewn Dwfr, felly mae yngwaed Christ. Gwaed Jesu Ghrist sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bôb pechod. 1 Ioan 1. 7.

Cwest.

Beth yw Swpper yr Arglwydd?

Atteb.

Sacrament ein magwriaeth ysprydol, yn yr hwn trwy dderbyn Bara a Gwin, yn ol Ordinhad Christ, y gosodir allan ac y selir ini ein cymmundeb â Christ.

Swpper yr Arglwydd a chwanegir at y Bedydd, fel Modd angent heidiol i faentumio bywyd Duw a genhed­lwyd ynom ni.

Cwest.

Beth yw 'r Arwyddion oddiallan yn Swp­per yr Arglwydd?

Atteb.

Bara a Gwin. Mat. 26. 26.

Cwest.

Beth y mae 'r bara Sacramentaidd yn ei osod allan?

Atteb.

Corph Christ.

Hyn sydd eglur yngeiriau Christ ei hun, 'r hwn gan ddal y Bara yn ei ddwylo, a ddywed am dano ef, Hwn yw fy nghorph, (Mat. 26. 26.) hynny yw, trwy arwydd­occáad, fel pe dywedasei, Y bara hwn sydd yn arwydd­occâu fy nghorph.

Cwest.

Beth y mae y Gwîn Sacramentaidd yn ei osod allan?

Atteb.

Gwaed Christ.

Hyn sydd eglur trwy eiriau 'r Ordinhâd, lle mae Christ, gan ddal y Cwppan oedd a gwîn ynddo, yn dywedyd am y gwîn, Hwn yw fy ngwaed. Mat. 26. 27.

Cwest.

Beth a arwyddoccêir trwy dorriad y bara gan y Gweinidog?

Atteb.

Ddarfod torri Christ trwy boenau am ein pechodau ni.

Fal hyn mae 'r Apostol yn dwyn Christ ei hun i mewn yn cymhwyso y ddefod honno. Hwn yw fy nghorph, yr hwn a dorrir trosoch. 1 Cor. 11. 24.

Cwest.

Beth a arwyddoccêir wrth dywallt y Gwîn?

Atteb.

Tywallt gwaed Christ.

Neu ei ddioddefaint hyd angeu, a thywallt ei enaid yn aberth tros bechod.

Cwest.

Beth a arwyddoccêir wrth y Gweinidog yn rhoddi y Bara a'r Gwîn i'r rhai a fo yn Cym­muno?

Atteb.

Bod Duw yn rhoddi ac yn cynnig ei Fab iddynt.

Yn y Sacrament mae Duw yn cynning ac yn rhoi Christ i bôb cymmun-wr; ie mae efe megis yn ei roddi ef yn ein dwylo a'i ddwylo ei hun.

Cwest.

Beth ydyw meddwl y geiriau hynny gan y Gweinidog cymmer, bwytta, ŷf?

Atteb.

Ewyllys Duw am ini gymhwyso Christ attom ein hunain.

Nid yw efe yn unig mewn delw fûd yn cynnig Christ, ond trwy ei weinidog mae efe yn llefaru wrthym, ac yn dywedyd, Yr ŵyfi yn ewyllysio ac yn gorchymmyn i chwi gy­meryd fy Mâb, a'i gymhwyso ef attoch eich hunain, fel y byddoch fyw trwyddo ef. Beth a ellir ei ddisgwyl ychwa­neg o ran Duw i'n hannog i dderbyn ei fâb ef?

Cwest.

Beth a osodir allan wrth y bobl yn cyme­ryd y Bara a'r Gwîn?

Atteb.

Eu bod yn derbyn Corph a gwaed Christ.

Hynny yw, derbyn Christ, a wnaethpwyd yn ddŷn, ac yn aberth, yn ysprydol iddynt eu hunain trwy ffydd. Canys ffydd yw 'r offeryn hwnnw, trwy yr hwn yr ydym yn derbyn Christ, a'i holl ddoniau, fel y cyn­nigir hwynt ini yn yr Efengyl, ac y selir hwynt ini yn y Sacrament. Mae ffydd i'r enaid, fel y llaw i'r Corph. Yr hyn a gynnigir i ddŷn er lleshâd, ei law a'i derbyn i fod yn eiddo ef: Fal hyn, pan gynnygio Duw ei Fâb ini, mae ffydd yn gyntaf yn perswadio 'r galon o ewy­llys da Duw tuac at ddŷn, ac o'i fwriad difrifol i roddi Christ iddo, ac a'r hynny mae yn cymmhwyso ac yn cymeryd Christ iddo ei hun, fel yr eiddo ei hun. Trwy ffydd y pethau arwyddedig mor siccr a dderbynir er porthiant yr enaid, ac y derbynir yr Arwyddion er porthiant i'r Corph. Nid yw ffydd yn unig ein llaw i gymeryd Christ, ond ein genau hefyd iw dderbyn i mewn, ac iw ollwng i'n calonnau, trwy yr hyn y mae yn my­ned yn ymborth ac yn gryfder ini.

Cwest.

Beth yw dledswydd pob Cymmunwr, cyn iddo fyned at Fwrdd yr Arglwydd?

Atteb.

Ymholiad.

1 Cor. 11. 28. Holed dŷn ef ei hun, ac felly bwyttâed o'r bara, ac yfed or Cwppan. Am y peth hyn gwelwch fy Hyfforddiadau am iawn dderbyn Swpper yr Arglwydd. Pennod. 20.

Cwest.

Beth yw Gweddi?

Atteb.

Gweddi ydyw offrymiad ein dymuniadau at Dduw yn enw Christ, am y cyfryw bethau da a'r adda­wodd ef eu rhoddi ini, ac sydd arnom ninnau eisieu eu derbyn.

Nid yw Gweddi yn sefyll mewn arferiad o ffurf wâg o eiriau da, ond yn tywallt yr enaid a'i ddymuniadau at Dduw, am y pethau da sydd ganddo ef iw rhoddi. Isa. 26. 9.

Yn enw Christ. Nid yw Duw yn gwrando pechaduriaid, hynny yw, yn dyfod yn eu henwau eu hunain. Ond medd Christ ei hun. Ioan 15. 16. Beth bynnag a ofynnoch i'r Tâd [yn fy enw i] f' a'i rhydd efe i chwi.

[Page 27] Am y cyfryw bethau a'r a addawodd efe eu rhoddi, ac yr ŷm yn sefyll mewn eisieu am danynt. Rhaid i'n gweddiau fôd yn ôl ewyllys Duw: A hyn sydd yn ôl ewyllys Duw, ini ofyn yr hyn a addawodd ef, a'r hyn a ŵyr efe fôd arnom eu heisieu. A hyn yw 'r hyder sydd gennym tuac atto ef, ei fôd ef yn ein gwrando ni, os gofynnwn yn ôl ei ewy­llys ef. 1 Ioan 5. 14.

Rhannau Gweddi yw,

1. Cyffes, neu addefiad o'n pechodau a'n camweddau.

2. Dymuno, neu ofyn, neu geisio a'r ei law ef, y cy­fryw bethau a fo arnom eu heisieu.

3. Diolchgarwch, neu foliannu Duw am y trugare­ddau a dderbyniasom.

Cwest.

Beth yw cyflwr y ffyddloniaid a'r ôl mar­wolaeth.

Atteb.

Mae eu cyrph yn huno, gan ddisgwyl adgy­fodiad i fywyd; a'u heneidiau yn myned yn union i'r nefoedd: ac yn y Farn ddiweddaf eu cyrph a gyssylltir a'u heneidiau, a'r ddau a gânt fwynhâu happusrwydd tragwyddol.

Cwest.

Beth yw cyflwr yr annuwiol a'r ôl mar­wolaeth?

Atteb.

Fe rwymir eu cyrph y nghadwynau marwo­laeth erbyn dydd mawr y Farn: a'u heneidiau ânt yn union i uffern: Ac a'r yr adgyfodiad cyffredinol eu cyrph a'u heneidiau a gyssylltir ynghŷd drachefn, a'r ddau a deflir i boenau uffern, y rhai sydd ddiseibiant ac anorphen.

Y parháad tragwyddol gyd a'r boen annoddefadwy sydd yn mawr-drymhâu trueni y damnedig: ac sydd yn dangos ffoledd, neu yn hytrach ynfydrwydd gwallgofus yr holl rai sydd a'm fyrr fodlonrwydd iw chwantau aflan, yn eu boddi eu hunain i'r fâth drueni tragywydd. Beth ni ddylid ymwrthod ag ef neu ei ddioddef yn y byrr amser o'r bywyd hwn i ddiange rhag y boen drag­wyddol?

Esponiad byrr o'r X. Gorchymmyn.

Cwest.

PA sawl Gorchymmyn o'r Ddeddf sydd?

Atteb.

Dêg.

Cwest.

Pa Ddledswyddau a roddant a'r lawr?

Atteb.

Pob mâth a'r Ddledswyddau sydd ddyledus arnom i Dduw neu ddŷn.

Y mae y pedwar Gorchymmyn cyntaf, a Scrifennwyd a'r un o'r llechau, yn cynnwys ein D'lêd tu ag at Dduw: a'r chwêch eraill, a scrifennwyd a'r y Llêch arall, yn cynnwys ein D'lêd tuag at Ddŷn. Mat. 22. 37, 38, 39.

Cwest.

Pa bethau en wedigol a ellir eu ystyried yn y Dêg Gorchymmyn?

Atteb.

1. Y Rhagymadrodd.

2. Y Gorchmynnion eu hunain.

Cwest.

Ym mha eiriau y gosodir allan y Rhag­ymadrodd i'r Dêg Gorchymmyn?

Atteb.

Yn y rhai hyn, Myfi yw 'r Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddûg di allan o wlâd yr Aipht, o dŷ y caethi­wed. Exod. 20. 2.

Cwest.

Beth a ddywed Duw am dano ei hun yn y geiriau hyn?

Atteb.

Mae Duw yn y geiriau hyn yn dangos, ei fod of ei hun yn Brif-ben Arglwydd yr holl Fŷd, ac hefyd yn Dduw mewn Cyfammod, fel gynt ag Israel, felly yr awron a'i holl bobl. Fel y gwaredodd ef yr Israeliaid o'u caethiwed yn yr Aipht, felly y gwared ninnau o'n caethiwed Yspry­dol tan y Pechod, Satan a'r Bŷd: ac am hynny yr ydym yn rhwym iw gymeryd ef yn Dduw ini; ac i gadw ei holl Orch'mynion.

Cwest.

Pa un yw 'r Gorchymmyn cyntaf?

Atteb.

Na fydded it Dduwiau eraill ger fy mron i.

Cwest.

Pa bethau a ofynnir yn y Gorchymmyn hwn?

Atteb.

Inni adnabod a chydnabod Duw yn unig wîr Dduw, ac ini ei gymeryd ef ya Dduw ini, a'i ddewis ef uwchlaw pawb.

Nid digon ini Broffessu y gwîr Dduw, ond rhaid ini ei gymeryd ef yn Dduw ini. Canys bôd Duw gennym ydyw, yn ein Meddwl a'n Deall ei adnabod a'i gydnabod ef yn unig wîr Dduw, Holl-ddigonol, Holl-alluog, Anfeidrol ym mhob mâth o Berffeithrwydd; felly hefyd yn ein Calonnau a'n hanwydau glynu wrtho ef, gan lawn-fw­riadu ein cyssegru ein hunain yn hollawl iw Addoliad a'i wasanaeth ef, ac hyd yr eithaf o'n gallu rhyngu bodd iddo ef ym mhob peth, trwy gydffurfio ein bucheddau ym mhob ufudd-dod Sanctaidd iw ewyllys datcuddiedig ef.

Cwest.

Pa bethau a warafunir yn y Gorchymmyn hwn?

Atteb.

1. Bod heb adnabod neu gydnabod neb rhyw Dduw, yr hyn sydd Anghrediniaeth di-Dduw.

2. Bod yn addoli gau yn lle y gwîr Dduw, yr hyn sydd Ddelw-addoliaeth.

3. Gosod ein calonnau a'n hanwydau yn ormodd a'r bethau eraill, heblaw y gwîr Dduw.

Cwest.

Beth a arwyddir yn y geiriau hyn, GER FY MRON I?

Atteb.

Maent yn arwyddo fod Duw, er ei fod ynddo ei hun yn anweledig, yn gweled ac yn gwybod pob peth, a'i fod yn anfodlon iawn ini gael Duwiau eraill, a'i gwas'naethu hwynt.

Cwest.

Pa un yw 'r Ail Gorchymmyn?

Atteb.

Na wnâ it ddelw gerfiedig, na llûn dim a'r sydâ yn y nefoedd uchod, nac a'r y sydd yn y ddaiar isod, nac a'r sydd yn y dwfr tan y ddaiar: Nac ymgrymma iddynt, ac na was'naetha hwynt; Oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw ŵyf Dduw eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y Tadau a'r y Plant hyd y drydedd a'r bedwaredd Genhedlaeth, o'r rhai am casânt; ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd, o'r rhai am carant, ac a gadwant fy ngorch'mynion.

Cwest.

Beth a ofynnir yn y Gorchymmyn hwn?

Atteb.

Ini addoli y gwîr Dduw mewu modd uniawn.

[Page 30] Ni was'naetha ini yn unig addoli yr unig wir Dduw, ond trwy'r cyfryw Foddion, ac yn y cyfryw ffordd ac sydd gyssonol iw natur ef, ac a bennododd efe ini yn ei Air.

Cwest.

Beth a warafunir yn y Gorchymmyn hwn?

Atteb.

1. Pob ewyllys-grefydd a choel-grefydd▪ trwy'r hyn y mae dynion yn addoli Duw yn ôl eu dychymygion eu hunain.

2. Gwneuthur Delwau i ddefnydd Crefyddol.

3. Addoli Delwau; neu'r gwir Dduw trwy ddelwau, neu un ffordd arall yn erbyn ei Air ef.

Cwest.

Pa un yw'r trydydd Gorchymmyn?

Atteb.

Na chymer enw'r Arglwydd dy Dduw yn ofer; canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.

Mae Enw Duw yma yn arwyddoccâu, fel Duw ei hun, felly ei Ditlau, priodoliaethau, Ordinhadau, Gweithre­doedd, a phob peth arall, trwy'r hyn y mae efe yn ei yspysu a'i ddatguddio ei hun.

Cwest.

Beth a ofynnir yn y Gorchymmyn hwn?

Atteb.

Ini ym mhob peth Sancteiddio a gogoneddu Enw Sanctaidd Duw.

Fel y mae yn Sanctaidd ac yn ogoneddus ynddo ei hun, felly y dylem ni ei arfer yn Sanctaidd ac yn bar­chedig, yn ein noll feddyliau, geiriau a gweithredoedd.

Cwest.

Pa bethau a warafunir ini yn y Gorchym­myn hwn?

Atteb.

1. Na bo ni yn cynnwys ynom feddyliau ofer ysgafn am Dduw, a'i Briodoliaethau ef, yr hyn yw cablu Duw yn ein calonnau.

2. Na ddywedom ddim yn annuwiol, nac yn ammharchus am Dduw, nac am ddim a'r sydd yn perthyn iddo.

3. Nac arferom nag enw, na Thitlau Duw yn ysgafn, neu heb achos gyfiawn.

Pan ddamweinio dim yn ddisymmwth ym mysg Chri­stianogion, peth rhŷ arferol ydyw iddynt yn ebrwydd lefain, O Arglwydd! O Dduw! neu O Jesu! A phan fyn­nent gael rhyw beth, hawdd ganddynt lefain, Er mwyn Duw gwnewch hyn, er mwyn Christ gwnewch hynny, ac etto heb feddwl yn barchedig am Dduw, neu am Jesu, os by­ddant [Page 31] yn meddwl dim am danynt. Rhaid i hyn fod yn uniawn gymeryd Enw Duw yn ofer.

4. Na thyngom yn ein ymddiddanion cyffredinol.

Er bod hyn yn bechod cyffredinol ac arferol, etto pe­chod mawr erchyll ydyw, sydd yn crôch-lefain ynghlu­stiau Duw a'm ddialedd.

Cwest.

Ym mha eiriau y mae y bygwth yn er­byn y rhai a dorro'r Gorchymmyn hwn?

Atteb.

Yn y rhai hyn, Nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.

Y geiriau hyn a gynhwysant ynddynt, fel maintioli y gospedigaeth a roddir a'r y rhai a gymeront Enw Duw yn ofer, yr hwn nid yw ddim llai na mar­wolaeth a damnedigaeth dragwyddol; felly y dangosant mor annocheladwy yw y gospedigaeth honno. A chydâ hynny mae yn arwyddoccâu er iddynt ysgatfydd ddiangc rhag barn a chôsp dyn; etto na ddieuoga yr Arglwydd mo'nynt, ac ni ddiangant ei farn gyfiawn ef.

Cwest.

Pa un yw'r pedwerydd Gorchymmyn?

Atteb.

Cofia y dydd Sabbath iw sancteiddio ef. Chwe diwr­nod y gweithi, ac y gwnêi dy holl waith: Ond y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw; na wnâ ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fâb, na'th ferch, na'th was'naethwr, na'th was'naethfench, na'th anifail, na'th ddieithrddŷn a fyddo o fewn dy byrth; O herwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Ar­glwydd y nefoedd a'r ddaiar, y môr, a'r hyn oll sydd ynddynt, ac a orphwysodd y seithfed dydd; am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Sabbath, ac a'i Sancteiddiodd ef. Exod. 20. 8, 9, 10, 11.

Cwest.

Beth a orchymynnir ini yma?

Atteb.

I ni gofio neillduo un diwrnod mewn saith i fod yn orphwyffa Sancteidd i'r Arglwydd.

Cwest.

Pa ddiwrnodd o'r wythnos a appwynti­odd yr Arglwydd iw gadw yn Orphwysfa Sanct­aidd, neu yn Sabbath?

Atteb.

O Greadigaeth y Bŷd hyd Adgyfodiad Christ, fe appwyntiodd Duw y dydd diweddaf o'r wythnos iw gadw yn Orphwysfa Sanctaidd; Ond er hynny o amser y dydd cyntaf o'r wythnos.

[Page 32] Mae hyn yn eglur, yn gyntaf, Oddiwrth Arfer yr Apo­stolion, y rhai a'r ôl Adgyfodiad Christ a ymgynnulla­fant yn wastad a'r y dydd cyntaf o'r wythnos, a hynny yn ddiau a'r Orchymmyn Christ ei hun. Ioan 20. 19, 26. Act. 2. 1. a'r 20. 7.

Yn ail, Oddiwrth Arfer gwastadol yr Eglwys a phobl Dduw. O ddyddiau'r Apostolion hyd y dŷdd hwn, yr Eglwys a gadwodd y dydd cyntaf o'r wythnos, a hynny tan yr enw hwn, Dydd yr Arglwydd. Ac ni ddylid dir­mygu Defod gwastadol Eglwys Dduw.

Cwest.

Pa fodd y mae ini Sancteiddio y Sabbath?

1. Trwy gadw Gorphwysdra?

2. Trwy gyssegru 'r Orphwysdra honno yn ho­llawl i Addoliad a Gwasanaeth Duw.

Cwest.

Oddiwrth pa bethau y mae'n rhaid ini orphwyso mewn modd enwedigol?

Atteb.

1. Oddiwrth lafur corphorol, a gorchwylion bydol.

Etto nid yw anghyfreithlon drwsio Bwyd a'r y dydd hwnnw, na gwneuthur dim gwaith angenrheidiol, neu o Drugaredd, ini ein hunain, neu i eraill, i ddŷn neu i anifail. Wrth waith angenrheidiol, yr ŵyf yn meddwl y cyfryw ac ni ellid ei wneuthur y dydd o'r blaen, ac ni ellir yn ddiogel ei oedi hyd y dydd nesaf. Fe ellir, ie fe ddylid gwneuthur y cyfryw bethau a'r ddydd yr Ar­glwydd.

2. Oddiwrth holl eiriau bydol, ac ymddiddanion am bethau daiarol.

Heb ddywedyd ein geiriau ein hunain, medd y Propwyd, Isai. 58. 13. Hynny yw, nid siarad am bethau'r bŷd a'r ddydd yr Arglwydd.

3. Oddiwrth holl feddyliau bydol, cymaint ac a allom.

A'r y dydd hwnnw fe ddylai ein meddyliau fod yn nefol, yn myfyrio a'r bethau ysprydol, yn enwedig ar waith mawr ein Prynedigaeth trwy Jesu Ghrist.

4. Oddiwrth bob digrifwch a difyrrwch bydol

Mae y rhai hyn yn fwy rhwystr i waith Sanctaidd yr enaid, na llafur bydol. Haws i ddŷn ymarfer a meddy­liau nefol wrth yr aradr, neu'r gertwyn, nag wrth y Bowliau, neu'r Cardiau, neu'r cyfryw chwaréon cnaw­dol: [Page 33] Am hynny mae'r Arglwydd yn gwarafun yn eglur ini geisio ein hewyllys ein hunain a'r ei ddydd sanctaidd ef. Isa. 58. 13.

5. Yn enwedig oddiwrth holl weithredoedd pechadurus, me­gis glothineb, meddwdod, a'r cyfryw.

Rhaid i waith pechadurus fod yn anweddus i ddydd sanctaidd. Yn ddiau ni allwn ni wneuthur mwy o Sar­háad ac anfri i Dduw, na gwas'naethu Diafol yngweith­redoedd y tywyllwch, pan ddylem fod yn ei was'nae­thu ef trwy weithredoedd Duwiol defosionol.

Cwest.

Ym mha beth y mae Cyssegriad or Or­phwysfa a'r ddydd yr Arglwydd yn sefyll?

Atteb.

Yn treulio yr amser neillduol hwnnw oddiwrth wei­thredoedd ein galwedigaeth, mewn dledswyddau o Addoliad a Gwasanaeth Duw.

Nid digon ini gadw gorphwysdra, ond rhaid ini gadw gorphwysdra Sanctaidd, oblegid hynny yw'r diben pen­naf o'r orphwysdra gorphorol oddiallan.

Cwest.

Pa Ddledswyddau duwiol a ofynnir yn enwedig i sancteiddio dydd yr Arglwydd?

Atteb.

Dledswyddau Cyffredinol, Neillduol, a Dirgel.

Cwest.

Beth a ddeellwch wrth Ddledswyddau Duwioldeb cyffredinol?

Atteb.

Y cyfryw ac a gyflawnir yn y Gynnulleidfa gyhoedd.

Cwest.

Beth a ddeellwch wrth Ddledswyddau duwioldeb neillduol?

Atteb.

Y cyfryw ac a wnêir, neu a ddylid eu gwneuthur mewn Teulu neillduol.

Sef, darllein yr 'sgrythur lân, a llyfrau da eraill, gweddío a moliannu Duw, ail-adrodd y Pregethau a glywsom, Catecheisio Plant a Gweision, Canu Psalmau, ac ymddiddan am bethau da. Trwy gyflawniad gwastadol cydwybodus o'r dledswyddau Sanctaidd hyn, fe wnêir Tŷ neillduol yn Eglwys Dduw, ac fe fydd Duw yno yn bre­sennol, fel y bu yn nhŷ Obededom, iw bendithio hw­ynt.

Cwest.

Beth a ddeellwch wrth ddledswyddau dirgel o dduwioldeb?

Atteb.

Y cyfryw ac a gyflawnir mewn lle dirgel.

Heblaw Dledswyddau cyhoedd a neillduol, mae▪ rhai dirgel iw cyflawni gan bob un ar ei ben ei hun, yn ei ystafell ddirgel, sef, darllein yr 'fgrythur lân a llyfrau da eraill; gweddió a'r Dduw, myfyrio a'r y pethau a ddarllennodd ac a glywodd, yr hyn sydd fodd godidawg i wneuthur y gair a ddarllennwyd ac a glywyd yn fu­ddiol ini.

Cwest.

Pa ran o'r diwrnod sydd iw dreulio mewn gwasanaeth sanctaidd a chrefyddol?

Atteb.

Yr holl ddiwrnod, ond cymaint ac a fo rhaid ei dreulio yngwaith Angenrhaid a Thrugaredd.

Mi a wnn fod llawer yn meddwl, iddynt wneuthur y cwbl a ofynnir ganddynt, os treuliasant ychydig oriau yngwasanaeth Cyhoedd Duw; ond mewn gwirionedd, rhaid yw treulio'r holl ddiwrnod mewn gwasanaeth sanctaidd a chrefyddol. Fel y canhiattáodd Duw ini chwe diwrnod am ein gweithredoedd ein hunain; felly fe fyn ddiwrnod cyfan iw Addoliad a'i wasanaeth ei hun. Yn ddiau gan ein bod yn cymeryd arnom gyssegru diwrnod cyfan i'r Arglwydd, os cadwn ddarn o hono i'n gwaith ein hunain, a chyfiawnhâu hynny, fel y gwnaeth Ananias mewn achos arall, ni a fyddwn nid yn unig yn yspeilio Duw am ei gyfiawnder, ond hefyd dŵyn arnom ei gy­fiawn gosped gaeth ef. Heb law hyn, fel y gorphwysodd Duw y seithfed dydd, felly fe ddywedir iddo ei Sanctei­ddio ef, hynny yw, ei ddidoli a'i gyssegru yn hollawl iw wasanaeth ei hun; Ac am hynny ni allwn ni heb drais a chyssegr-ladrad gymeryd o'n bodd un rhan o'r am­ser hwnnw a lwyr-gyssegrwyd iddo ef.

Cwest.

Pa bechodau a warafunir yn y pedwerydd Gorchymmyn?

Atteb.

1. Esgeuluso yn ddiofal y dledswyddau sanctaidd a ofynnir gennym.

2. Eu cyflawni hwynt yn farwedd, ragrithiol, heb na by­wyd nac yspryd.

3. Meddwl ein meddyliau ein hunain, dywedyd ein geiri­au ein hunain, gwneuthur ein gweithredoedd ein hunain.

Cwest.

Pa resymman sydd yn y Gorchymmyn er [Page 35] mwyn annog yn well i sancteiddio dydd yr Ar­glwydd?

Atteb.

1. Y MEMENTO, neu Nôd-Coffa a osodir o'i flaen ef.

Canys felly mae yn dechreu, COFIA y dydd Sabbath, iw gadw yn sanctaidd. Fel pe dywedasei'r Arglwydd, o'm holl Orchymmynion hyn na anghofier hwn; ond bydd­wch ddiwyd i wneuthur cydwybod o'i gadw ef yn ddydd Sabbath.

2. Yr Iawnder cymmwys o hono.

Gan fod Duw yn canhiadu ini chwe diwrnod i'n gorchwylion ein hunain, onid ydyw yn gymmwys ac yn gyfiawn iawn ini rôi y seithfed iddo ef, ac iw wasanaeth ef? Fe allasai efe, yr hwn yw Arglwydd ein hamser, gleimio chwe rhan iw Addoliad a'i wasanaeth ei hun; pa'm gan hynny y naccáem yr ychydig y mae yn ei o­fyn, pan allasei orchymmyn y chwaneg?

3. Siampl Duw ei hun. Exod. 20. 11. Mewn chwe diwr­nod y gwnaeth yr Arglwydd y Nefoedd a'r ddaiar, ac a or­phwysodd y seithfed dydd. Ein doethineb ni gan hynny ydyw a'r ôl y chwe diwrnod-gwaith, gadw y Sabbath yn Orphwysfa Sanctaidd.

Cwest.

I bwy yn bennaf yr ydis yn gorchymmyn gadw'r Sabbath?

Atteb.

I Dadau a Mammau, a Phen-teuluoedd.

Eu dyledswydd ydyw, nid yn unig eu hunain i san­cteiddio'r dydd, ond hefyd gweled, bod pawb tan eu gofal hwynt yn gwneuthur felly. Hynny a arwyddocceîr yn y geiriau hyn, Ynddo ef na wnâ ddim gwaith, tydi, na'th Fâb, na'th Ferch, na'th wasnaethwr, na'th wasnaeth­ferch. Fe ddylai pob Pen-teulu gymeryd i fynu dduwiol fwriad Josuah, Am danafi, a'm Teulu, nyni a wasnaethwn yr Arglwydd. Fe nodir, yn arferol, fod y wir Grefydd a grym Duwioldeb yno yn llwyddo fwyaf, lle y cedwir dydd yr Arglwydd yn fwyaf cydwybodus. Ac anfynych iawn y gwelir ddim gwîr-ddifrifwch, nac archwaith blasus o fatterion crefyddol, lle y dibrisir neu'r esgeu­lusir y dydd hwnnw.

Cwest.

Pa un yw 'r pummed Gorchymmyn?

Atteb.

Anrhydedda dy Dâd a'th Fam, fel yr estynner dy ddyddiau a'r y Ddaiar, yr hon a rŷdd yr Arglwydd dy Dduw itti.

Cwest.

Pwy a ddeellir yma wrth Dâd a Mam?

Atteb.

Yr holl rai hynny sydd mewn un modd uwch ein llaw ni, neu mewn Awdurdod arnom, naill a'i yn y Teulu, a'i yn yr Eglwys, a'i yn y Deyrnas.

Cwest.

Beth a ddeellir wrth y gair Anrhydedda?

Atteb.

Pob math a'r wasanaeth sydd yn ddlêd arnom i'n Blaenoriaid, megis cariad, anrhydedd, ofn, parch, ac ufudd­dod.

Cwest.

Beth ydyw meddwl y pummed Gorchym­myn?

Atteb.

Bod ini rôi pob anrhydedd, parch ac ufudd-dod dy­ledus i'n holl Flaenoriaid, o ba ryw bynnag y bônt.

Cwest.

Beth ydyw'r chweched Gorchymmyn?

Atteb.

Na lâdd.

Cwest.

Beth a warafunir yma?

Atteb.

Pob ffordd a modd o ddwyn ein heinioes ein hu­nain, neu einioes rhai eraill, ond yn unig mewn modd o Gy­fiawnder Cyhoedd, neu Amddiffyn angenrheidiol.

Nid yw'r Gorchymmyn hwn yn unig yn gwarafun llofruddiaeth, ond hefyd pob gormodedd ac anghyme­drolder yn bwytta ac yfed, trwy'r hyn y dywedir fod llawer yn cloddio eu Beddau a'i dannedd eu hunain. Fel hefyd, cenfigen, casineb, dîg pechadurus, geiriau cyff­róus, ymrafaelion diachos, ymladd, a'r cyfryw bethau sydd yn tueddu at ddwyn ymaith ein heinioes ein hunain, neu einioes ein Cymmydog.

Cwest.

Pa bethau a ofynnir yn y Gorchymmyn hwn?

Atteb.

Pa bethau bynnag sydd yn tueddu at gadw ein hei­nioes ein hunain, ac einioes ein Cymmydog.

Cwest.

Pa un yw y seithfed Gorchymmyn?

Atteb.

Na wnâ Odineb.

Cwest.

Beth a warafunir yn y Gorchymmyn hwn?

Atteb.

Pob máth a'r aflendid, yn gystal o'r enaid oddi­fewn, ac o'r Corph oddiallan. Nid yn unig y gwaith oddi­allan [Page 37] o Butteindra a Godineb a warafunir yma, ond he­fyd pob geiriau trythill, ac ymadrodd llygredig, pob meddwl a bwriad anniwair, pob brynti ac aflendid fy­fyrdodol a synniedigol oddifewn; y rhai sydd nid yn unig yn bechadurus ynddynt eu hunain, ond hefyd yn llattaion yr aflendid oddiallan. Canys, pan fo chwant wedi ymddwyn, fo escor a'r bechod. Jac. 1. 15. Pan ymddy­ger meddyliau aflan yn y galon, maent yn fuan yn escor a'r bechod, ac yn torri allan i weithredoedd o frynti ac aflendid. Fel y mynnech chwi gan hynny ochelyd y weithred front o aflendid oddiallan, byddwch ddiwyd i lethu pob meddwl trythill aflan, pan ddechreuo ymgodi yn eich calonnau.

Cwest.

Pa un yw'r wythfed Gorchymmyn?

Atteb.

Na ladratta.

Cwest.

Beth a warafunir yn y gorchymmyn hwn?

Atteb.

Pob peth sydd yn tueddu i niweidio ac i rwystro cyfoeth ein cymmydog.

Mae amryw ffyrdd o wneuthur cam a'n cymmydog yn ei gyfoeth bydol. Sef, trwy eu hyspeilio hwynt a'r y ffyrdd cyffredin, a thorri iw tai; felly hefyd trwy arfer pwysau a mesurau anghywir, trwy werthu wâr [neu fasnach] ddrwg am dda; trwy ragflaenu, neu achub y farchnad, a'i rhwystro i eraill, fel trwy hynny y coder y prîs: trwy fanteisio a'r anwybodaeth y Prynwr, ac Angenrhaid y Gwerthwr. Yr holl bethau hyn a wara­funir yn y Gorchymmyn hwn, Na ladratta.

Ac fel y gwarafunir ini yma wneuthur Cam a'n Cym'­dogion yn eu cyfoeth bydol, felly hefyd â ni ein hunain, yr hyn a wnêir yn rhy fynych lawer ffordd.

1. Trwy seguryd a diogi diofal yn ein galwedigaeth. Dih. 18. 9.

2. Trwy gam-drefnu a threulio ein Cyfoeth. Dih. 21. 17.

3. Trwy Fachniaeth ffôl ammhwyllog. Dih. 11. 15.

4. Trwy ormod cariad a'r felys-wedd a difyrrwch. Dih. 23. 21.

Cwest.

Beth a ofynnir yn y Gorchymmyn hwn?

Atteb.

I. Ini gadw, hyd y mae ynom ni, gyfoeth ein cym­mydog.

[Page 38] 2. Ini fod yn gyfion ac yn honest yn ein marchnadoedd â phob dŷn.

Trwy gadw Gwirionedd yn ein geiriau, a chyfiawn­der yn ein gweithredoedd; gan gadw ym mhob peth gydwybod dda tuac at Dduw a Dŷn.

3. Bod yn hawdd gennym roddi, ac yn barod i gyfrannu ag eraill, yn ôl eu Angenrhaid hwynt, a'n Gallu ninnau.

Cwest.

Pa un yw'r nawfed Gorchymmyn?

Atteb.

Na ddŵg gam-dystiolaeth yn erbyn dy Gymmydog.

Cwest.

Beth a warafunir yn y Gorchymmyn hwn?

Atteb.

Yn gyffredinol, dŵyn Cam-dystiolaeth yn erbyn un­dŷn o flaen Barnwr.

Tan hwn hefyd y gwarafunir pob gair trwy'r hwn y rhwystrir neu y lleiheîr enw da a chymeriad ein Cym­mydog; megis, trwy gelwydd, enllib, neu ddrwgabsen, neu athrod, neu farn fyrbwyll, a'r cyfryw.

Cwest.

Beth a ofynnir yn y Gorchymmyn hwn?

Atteb.

Dywedyd y gwîr, a dim ond y gwîr, pan alwer ni i dystiolaethu dim am ein Cymmydog.

Tan hyn y gofynnir gennym gadw bri ac Enw da ein Cymmydog, a dywedyd yn dda am bawb, cym mhe­lled ac y fo gwir, a chymmwys, ac y gallom heb weniaith pechadurus.

Cwest.

Pa un yw'r degfed Gorchymmyn?

Atteb.

Na chwennych dŷ dy Gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na'i wasnaethwr, na'i wasnaethferch, na'i ŷch, na'i assyn, na dim a'r sydd eiddo dy Gymydog.

Cwest.

Beth a warafunir yn y Gorchymmyn hwn?

Atteb.

Na wnelom cymmaint a dymuno neu chwennych dim a'r sydd eiddo ein Cymmydog.

Yn y Gorch'mynion o'r blaen ni a warafunir i wneu­thur cam a'n Cymydog, nac yn ei gorph, nac yn ei gyfoeth, nac yn ei Enw da; yma ni a warafunir cym­maint ac i chwennych neu ddymuno dim a'r sydd eiddo ef.

Cwest.

Beth a ofynnir yn y Gorchymmyn hwn?

Atteb.

1. Bôd ini ymfodloni a'r ein ystâd a'n cyflwr pre­sennol, beth bynnag fyddo.

Oni allwn ni chwennych dim a'r sydd eiddo arall, [Page 39] yna yn ddiau ni a ddylem ddistewi a bodloni a'r yr hyn a ddarfu i'r Arglwydd mor rhâd a helaeth roddi ini, gan ei fôd yn ychwaneg nac y mae llawer eraill ein gwell ni yn ei fwynhâu, a llawer gwell nac yr ydym yn ei haeddu.

2. Bôd ini attal pob cenfigen wrth lwyddiant ein cymydog; ond yn hytrach llawenychu yn ei ddaioni a'i ddedwyddwch ef, cystal ac yn yr eiddom ein hunain.

Yn fyrr, Summ cryno ein holl ddledswydd tuac at ein Cymydog a gynhwysir yn y ddwy Reol gyffredinol hyn. Bôd ini garu ein cymydog fel ni ein hunain. Rhuf. 13. 9. Ac yno, Pa beth bynnag a fynnem i ddynion wneuthur ini, felly gwneuthur honom ninnau iddynt hwythau yr un modd, canys hyn yw'r Gyfraith a'r Prophwydi. Mat. 7. 12. Hynny yw, Summ cryno ydyw o'r hyn a draddodir yn y Gyfraith a'r Prophwydi am ein ymddygiad y naill tuac at y llall.

Esponniad byrr o Weddi'r Arglwydd.

Cwest.

PA sawl rhan sydd yn Gweddi yr Arglwydd?

Atteb.

Tair. Yn gyntaf, Y Rhagymadrodd. Yn ail, Y Dymuniadau. Yn drydydd, Y Diolchgarwch.

Cwest.

Ym mha eiriau y mae y Rhagymadrodd?

Atteb.

Yn y geiriau hyn, ein Tâd yr hwn ŵyt yn y Ne­foedd.

Fe osodir allan Duw yma trwy ei Ddaioni, a'i Faw­redd. Ei Ddaioni ef a arwyddir tan y teitl hwn, Tâd: A'i Fawredd a osodir allan trwy ei Drigfan bennaf, yr hwn ydyw 'r Nefoedd, lle yr amlygir ei Ogoniant ef mewn modd enwedigol. Y cyntaf sy 'n dangos, mor ba­rod yw Duw i wrando ac i atteb ein Gweddiau, gau ei fod yn Dâd grasol ini yn a thrwy Jesu Ghrist. Y di­weddaf, Mor Abl yw i ganiadhâu ac i gyflawni ein Dy­muniadau, gan ei fôd ef yn Arglwydd mawr y Nêf a'r ddaiar. Wrth iawn-ystyried y ddau beth hyn, ni a ged­wir mewn tymmer bendigedig o Hyder a Pharch, y sydd [Page 40] angenrheidiol iawn yn ein dyfodfa at Dduw mewn Gwe­ddi. Fel y dylem y pryd hynny goelio fod serch tadol Duw tuac attom, fel y gallom fyned atto ef yn fwy hy­derus, a phwyso arno ef â ffydd gryfach am bob peth da angenrheidiol; Felly y dylem gydâ phob gŵylder par­cheding ymostwng gar ei from, gan ei fod ef yn y Ne­foedd, a ninnau a'r y ddaiar.

Cwest.

Pa sawl Dymuniad sydd yn Gweddi 'r Ar­glwydd?

Atteb.

Chwech tan rîf; y tri cyntaf yn perthyn i Ogoni­ant Duw; a'r tri diweddaf i'n lleshaad ein hunain.

Cwest.

Pa un yw'r Dymuniad cyntaf?

Atteb.

Sancteiddier dy Enw.

Cwest.

Beth a ddeellir yma wrth Enw Duw?

Atteb.

Duw ei hun, a pheth bynnag y mae yn ei yspysu ei hun ini trwyddo.

Cwest.

Beth a ddeellir wrth sancteiddio Enw Duw?

Atteb.

Anrhydeddu a gogoneddu Duw.

Fel y deallom yn well lawnfwriad y Dymuniad hwn, gwybyddwn, fod Enw Duw yn cael ei Sancteiddio gen­nym bedair ffordd.

1. Pan fo'm yn meddwl am Dduw, ac yn cydnabod ag ef, fel y datguddiodd efe ei hun yn ei Air, ei fod ef yn llawn Mawredd a Gallu, yn dragwyddol, yn gwybod y cwbl, yn bresennol ym mhob lle; ie yn anfeidrol mewn Doethineb, Sancteiddrwydd, Trugaredd, Cyfiawn­der, a'r cyfryw.

2. Pan fo'm yn ei Sancteiddio ef yn ein calonnau, yr hyn sydd, pan fo'm yn ei garu ef, ac yn ei ofni ef uwch­law pawb, ac yn rhoi ein holl obaith a'n hyder arno ef uwchlaw pawb a'm gyflawni ein holl anghenion a'n diffygion.

3. Pan fo'm a'n tafodau mewn pob parch yn llefaru a'm Dduw a'i ragorol Odidowgrwydd.

4. Pan fo'm yn rhodio yn ffyrdd Sancteiddrwydd a chyfiawnder; am hynny y dywed ein Iachawdr, Math. 5. 16. Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwe­lont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tâd [Page 41] yr hwn sydd yn y Nefoedd; yn dangos fod Duw yn cael ei berchi a'i anrhydeddu gennym trwy ein buchedd dduwiol a'n hymarweddiad.

Cwest.

Beth yr ydych yn gweddio am dano yn y Dymuniad cyntaf, Sancteiddier dy Enw?

Atteb.

Bod i Dduw ym mhob peth gael ei berchi a'i an­rhydeddu, gennym ni, a'i holl Greaduriaid.

Cwest.

Pa un yw'r Ail Dymuniad?

Atteb.

Deued dy deyrnas.

Am ddeall y geiriau hyn, rhaid ini wybod, Fod teyr­nas Dduw yn ystàd, yn yr hon y mae efe fel Brenin yn rheoli; fel ym mha le bynnag y mae Arglwyddiáeth a llywodraeth Duw, yno y mae ei Deyrnas ef.

Felly mae Duw yn teyrnasu,

1. Trwy ei Allu mawr perffaith-gwbl a'r yr holl Fŷd.

2. Trwy ei Râs enwedigol a'r ei Eglwys, yn ôl yr hyn y mae ei Deyrnas ef yn wahanredol. Canys,

1. Mae ganddo Deyrnas hollawl Gyffredinol, yr hon a elwir Teyrnas ei Allu ef, oblegid trwy ei Nerth a'i Allu Goruchel mae yn rheoli a'r bob mâth o Greadu­riaid. Nid y Deyrnas hon a ddeellir yma mewn modd priodol.

2. Mae ganddo Deyrnas neillduol Briodol, trwy'r hon y mae yn teyrnasu a'r bobl neillduol didoledig, a elwir ei Eglwys ef.

Y Deyrnas neillduol hon a elwir mewn un modd Teyrnas Grâs: mewn modd arall Teyrnas Gogoniant, yr hon nid yw ond un ac unrhyw Deyrnas, wedi ei rhannu yn ddwy ran, sydd yn wahanredol yn unig o ran rhyw Amgylchiadau, megis,

1. O ran yr Amser. Mae Teyrnas Grâs yn y Bywyd hwn; a Theyrnas Gogoniant yn y Bywyd a ddâw.

2. O ran y lle. Mae Teyrnas Grâs a'r y Ddaiar, a theyr­nas Gogoniant yn y Nefoedd.

3. O ran y cyflwr. Mae Teyrnas Grâs yn rhyfela yn er­byn llawer o Elynion, o herwydd yr hyn y gelwir hi yr Eglwys yn milwrio. Mae Teyrnas Gogoniant yn gorfoleddu yn y Nefoedd, ac am hynny y gelwir hi yr Eglwys yn gorfoleddu.

[Page 42] Yr awron y Deyrnas neillduol hon, fel y mae yn cynn­wys ynddi y ddwy ran, sef, Teyrnas Grâs a Theyrnas Gogoniant, a ddeellir yn y Dymuniad hwn.

Y gair Deued yn y Dymuniad sydd yn arwyddo cyn­nydd a Mynediad ym mlaen i berffeithrwydd: mae'n dangos na ddaeth Teyrnas neillduol Duw etto iw huch­der, fel y dywedwn ni; hynny yw, nid yw etto wedi ei llwyr-gyflawni a'i pherffeithio.

Cwest.

Beth yr ydych chwi yn ei ofyn yn y Dy­muniad hwn?

Atteb.

A'r i Eglwys Dduw yn y Bŷd hwn gynnyddu beu­nydd a chael ei chyflawni, ac fel y prysurer Teyrnas Gogo­niant.

Cwest.

Pa un yw 'r Trydydd Dymuniad?

Atteb.

Dy ewyllys di a wneler a'r y Ddaiar, megis y mae yn y Nefoedd.

Cwest.

Beth yr ydych chwi yn ei ofyn yn y Dy­muniad hwn?

Atteb.

A'r ini, ac i holl ddynion y bŷd wneuthur cwyllys Duw, fel y gwneir gan yr Angylion gogoneddus yn y Nefoedd.

Nid yw y gair bychan [Fel] yn y Dymuniad hwn, yn nôd o gyfartalwch neu gystadledd, ond o debygoliaeth a chyff'lybrwydd; Canys ni allwn ni yma gystadlu yr An­gylion gogoneddus yn gwneuthur ewyllys Duw. etto ni allwn, ac a ddylem fod yn debyg iddynt yn y gwasa­naeth hyn. Fel y maent hwy yn gwneuthur ewyllys Duw mewn pob purdeb ac uniondeb, gan ymostwng yn hollawl i bob rhan o hono; gan lawenychu mewn pob parodrw­ydd hyfryd i wneuthur ei ewyllys ef; fel hefyd mewn pob Zêl duwiol gwresog; oblegid yr hyn y dywedir eu bod hwy, yn fflam o dân: felly y dylem ninuau geisio eu di­lyn hwynt yn ein ufudd-dod, gan fod hyn yn fwyd ac yn ddiod ini, sef, gwneuthur ewyllys ein Tâd nefol.

Cwest.

Pa un yw 'r pedwerydd Dymuniad?

Atteb.

Dyro ini heddyw ein bara beunyddiol.

Cwest.

Beth a ddeellir yma wrth Fara?

Atteb.

Pob bendith amserol sydd angenrheidiol i gadw ac i gynnal y bywyd presennol hwn.

Cwest.

Pa'm yr henwir Bara yma, yn hytrach nag un peth daionus arall oddiallan?

Atteb.

1. Oblegid Bara, o'r holl fendithion oddiallan, sydd fwyaf angenrheidiol.

2. I ddysgu ini gymmedroli ein Dymuniadau o bethau daiarol.

Canys ni a ddysgir i chwennych Bara, nid sofl-jeir a phethau dainteithiol, nid cyfoeth a gormodedd. Os gwŷl yr Arglwydd yn dda roddi i mewn helaethrwydd o'r pe­thau hyn oddiallan, byddwch ddiolchgar iddo; ac iawn­arferwch hwynt, gan roddi allan rhyw gyfran i esmwy­thâu a'r Aelodau tlodion Jesu Ghrist, yr hyn yn wîr yw 'r diolch mwyaf cymeradwy ganddo ef, Canys â chy­fryw ebyrth y rhyngir bodd Duw. Heb. 13. 16.

Cwest.

Beth yr ydych chwi yn ei ofyn yn y ped­werydd Dymuniad hwn?

Atteb.

A'r i Dduw roddi ini bob bendith amserol angen­rheidiol i'r bywyd hwn.

Cwest.

Pa'm yr ydym i weddio am fara tros ddiwrnod yn unig, ac nid tros Fîs, neu Flwyddyn?

Atteb.

I ddysgu ini bwyso a'r Ragluniaeth Duw o ddydd i ddydd yn wastadol.

Ein d'lêd ni ydyw, fel i weddio a'r Dduw am bob peth da angenrheidiol, felly i bwyso arno ef am gyf­lowniad gwastadol o honynt.

Cwest.

Pa un yw 'r pummed Dymuniad?

Atteb.

Maddeu ini ein Dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n Dyledwŷr.

Cwest.

Beth yr ydych yn ei weddio a'm dano yn y Dymuniad hwn?

Atteb.

A'r i Dduw, er mwyn Christ, faddeu ini mor rhâd ein holl bechodau a'n trosseddau yn ei erbyn ef, fel yr ydym ninnau yn maddeu i'r rhai a drosseddasant yn ein herbyn ninnau.

Er mwyn Christ, meddaf; Canys y Maddeuant o'n pe­chodau yr ydym ni yn ei gael, sydd yn unig er mwyn haeddedigaethau ei Farwolaeth chwerw ef a'i Ddiodde­faint. Fe ddarfu i Jesu Ghrist, megis ein Meichieu ni, [Page 44] trosom ni, ac yn ein lle ni, gymeryd arno a dioddef y gospedigaeth honno oedd ddyledus ini am bechod. Ac fe rynga fodd i Dduw dderbyn hynny, megis Iawn am ein pechodau ni. Hynny a ddywed yr Apostol, Gal. 3. 13. Christ a'n llwyr-brynodd ni oddiwrth felldith y Ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom.

Cwest.

Pa'm y rhoddir y geiriau hyn (Fel y ma­ddeuwn ninnau i'n Dyledwyr) yn y Dymuniad hwn?

Atteb.

1. Megis Annogaeth i'n hannog ni i faddeu i'r rhai a wnaethant gam â ni.

Canys yr ydym yn gweddio a'r Dduw i faddeu ini, Felly, ac nid amgen, nag yr ydym ninnau yn maddeu i'r rhai a wnaethant gam â ni. Oni faddeuwn ni gan hynny i eraill, yr ydym yn gweddio a'r Dduw na fa­ddeuo ef ini, ond ein condemnio ni. Ein doethineb ni gan hynny ydyw maddeu, rhag ini, trwy naccâu a châu i fynu ein calonnau oddiwrth ein brodyr, gâu allan Trugaredd Duw oddiwrthym ein hunain. Canys Barn ddi­drugaredd a fydd i'r hwn ni wnaeth drugaredd. Jac. 2. 13.

Megis Eglurhad ini o faddeuant Duw o'n pechodau a'n camweddau ni a wnaethom yn ei erbyn ef.

Canys ein maddeuant ni i'n Cymmydog sydd ffrwyth yn canlyn Cariad Duw tuac attom ni yn maddeu ein pechodau a wnaethom yn ei erbyn ef. Canys disglair belydr ydyw o'r Grâs hwnnw a'r Drugaredd a dderby­niasom ni ein hunain gan yr Arglwydd. Fel y mynnem ni gan hynny gael siccrwydd o Drugaredd Duw tuac attom yn maddeu ein pechodau, byddwn barod ac ewy­llysgar i faddeu i'r rhai a wnaethant i'n herbyn. Canys oddiwrth ein parodrwydd i faddeu iddynt hwy y gallwn brofi cariad Duw tuac attom ni yn maddeu ein pecho­dau a wnaethom iw erbyn, yr hyn yw ymresymmiad ein Iachawdr. Mat. 6. 14.

Cwest.

Pa un yw 'r chweched Dymuniad?

Atteb.

Nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg.

Mae'r Dymuniad hwn yn Cymmwys-ganlyn y nesaf o'r blaen; oblegid ynddo ef yr arwyddoccêir, Er i [Page 45] Dduw ein llawn-ryddhâu oddiwrth euogrwydd a chos­pedigaeth ein holl bechodau, etto mae arnom eisieu y chwaneg o rás i'n cryfhâu i fod yn sefydlog, fel na chaffom ein goddiweddu a'n gorchfygu drachefn.

Cwest.

Beth yr ydych yn ei weddio am dano yn y Dymuniad hwn?

Atteb.

A'r i Dduw naill a'i ein cadw ni oddiwrth Bro­fedigaethau, a'i rhoi ini nerth iw gwrthwynebu hwynt, fel na orchfyger ni ganddynt.

Wrth brofedigaeth yma y deellir profedigaeth i be­chod, yn dyfod oddiwrth Satan, y bŷd, neu 'r cnawd.

Cwest.

Pa'm yr arferir geiriau lliosog am lawer yn yr holl ddymuniadau a wnawn trosom ein hu­nain, megis Dyro i ni, maddeu i ni, a gwared ni?

Atteb.

I ddangos y dylem ni gofio eraill yn gystal a ni ein hunain, a deisyf yr un bendithion iddynt hwy ac yr ydym yn eu deisyf ini ein hunain.

Trwy hyn yr ydym yn cydnabod fod Duw yn ffynnon pob bendith, yn abl i helpio pawb, ei eraill yn gystal a ninnau, yr hyn sydd barch anrhydeddus iddo ef. Ac hefyd yr ydym yn proffessu ein bod yn ewyllysgar-ddy­muno fod eraill yn gyfrannog o'r unrhyw fendith yr y­dum yn ei deisyf ini ein hunain, yr hyn sydd eglurháad nodedig, a ffrwyth rhagorol o gariad brawdol.

Cwest.

Ym mha eiriau y mae ffurf y Diolch­garwch?

Atteb.

Yn y rhai hyn, Canys eiddot ti yw'r Deyrnas, a'r nerth, a'r Gogoniant yn oes oesoedd.

Cwest.

I ba ddefnydd y gwas'naetha y ffurf hon o Ddiolchgarwch?

Atteb.

1. I ddysgu ini chwanegu moliant a Diolch at ein Gweddiau a Dymuniadau.

Fe fydd hyn fel yn fodd rhagorol i annog Duw i bar­hâu ei ffafr a'i Drugareddau ini, felly yn rhwym cadarn arno i amlhâu ei ffafr a'i Drugareddau arnom rhag llaw. Felly y dŷn gwahanglwyfus (un or Dêg) yr hwn a drôes yn ôl i roi diolch i Dduw a'm lanhâu ei gorph-gwa­hanglwyfus, a dderbyniodd trwy hynny fendith arall [Page 46] well, sef glanhâu ei enaid oddiwrth wahanglwyf ysprydol y pechod. Luc. 17. 19.

2 Mae'r ffurf hon o ddiolchgarwch yn gwas'naethu i rôi calon ynom i ddeisyf y Dymuniadau o'r blaen, trwy lawn hyder y cawn ni hwynt gan yr Arglwydd.

Oblegid iddo ef yn, unig y perthyn Arglwyddiaeth, nerth holl-alluog, a godidowgrwydd gogoneddus, a hynny tros Dragw▪ ddoldeb; fel na ddylem ammeu na pharo­drwydd Duw i wrando, na'i allu i ganiadhâu ein Dy­muniadau.

Cwest.

Beth y mae'r Gair AMEN a'r ddiwedd y weddi yn ei arwyddoccâu?

Atteb.

1. Llawn gydsynniad a'r hyn a adroddwyd o'r blaen.

2. Dymuniad gwresog a chwant i gael y pethau a weddia­som am danynt.

3. Llawn hyder ein calonnau, am y pethau a ofynnasom, y cawn ni hwynt gan Dduw, cym mhelled ac y bônt er gogoni­ant Duw, a'n daioni ninnau.

Y DIWEDD.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.