YR ARFER O Weddi yr Arglwydd.
A Ymddiffynnir yn erbyn dadleuon y newyddiaid or amseroedd yma.
Gan Joan Despagne, Gweinidog yr Efengyl, Cyfieithiad R.V. Es.
Pan weddioch, dywedwch; Ein tad yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.
LLƲNDAIN, Argraphedig gan Joa. Streater, tros Philip Chetwinde, 1658.
Y llythyr Annerch. Ir gwir anrhydeddus Sion Elis Doctor o ddefiniaeth, llawenydd a gorfoledd tragywydd a ddeisyf R.V.
YN ol ei n cydymddiddandiweddaf (wir barchedig fugail) yn yr hwn y crybwyllasoch [Page] am gyfieithu y llyfran bach hwn o ymddiffynniad ar weddi yr Arglwydd, fo ddigwyddodd im hanwyl nai David Elis o wanas ei anfon attaf fi ar eich dymuniad chwi hyd yr wyf yn deall, pa wedd bynnac, chwi a gewch weled fyngwaith i yn barod i fordwyo tan y fath lywydd anrhdeddus ac ydych [Page] chwi, canys yr ydwyf yn coelio eich bod yn ddigon cyfarwydd, im tynnu allan o sugnfor cam ystyrriaeth Duwioldeb, lle y gallwn i gwympoynhawdd gyd ag ysprydwyr anturiedig yr oes hon, os byddwn mor ehyd a meddwl y medrwn ddeongli a dosparthu yr Scrythyrau, mal y mae y [Page] [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] gwehyddion ar panwriaid or oes yma, yn tybed mai edafedd gwlan ydyw ollawl, rhag rhyfyguy fathbeth yr wyf yn gobeithio fod Duw im cadw, canys mi wn yr hen ddihareb neu sutor vltra crepidam, nid yw fynghelfyddyd wan i ond bod yn gobler neu Translator or eithaf, a duw a wnel; mi adael [Page] pob gwaith duwiol a ddelo tan fy llaw yn ei vnionddull heb roi pwyth Gwyrdraws oi fewn, am hwno ran eich bod chwi anrhydeddusafathro yn boenusaf yn areilio eich praiddab sit invidia verbo, ar sydd yn fym marn i o fewn gwynedd heddyw, mal naellwch chwi neu eich cyffelib Mr. Owen [Page] o langylynin ac eraill, a fedrasai wneutbur ygwaiih hwn yn well, mor cymeryd cimaint o amser, oddiwrth eich gofalon eraill angenrheidiach, am hynny y gwnaethoch yn dda roi i segur swydd i wneuthur, canys nid yw fym mywoliaeth i er y saith mlynedd ond megis pereryn mewn [Page] cellan, yn myfyrrio rhimynnau i bobrhyw ddigwyddiadau hyd y llyfaswyf, tan d dal yn fynghof quod supra nos nihil ad nos: ond am y Pregethwyr newyddion a gawsom ni wrth y rhydd-dyd y bnom yn hir lefain am dano; Nimia libertate sumus deterriores.
[Page] Y mae yn anodd gan chwerwdod fym mustl nad aflonyddwyf beth arnynt hwy, pettai ond or cariad sydd yn fy ymwasgaroedd tu ac at bobrhyw len gweddaidd oi alwedigaeth, er pan fum yn brith sugmo peth ar fronnau eich mamaeth dd a chwi Rhydychen: etto yn y cyfieit hiad [Page] hwn yr wyf yn cael cyngor da i ddywedyd fym mhader maddeu i ni ein dyledion mal, &c. Ac felly gyd a chynnorthwyad glan yspryd Duw y gwnaf. Yr wyf yn gobeithio y bwriwch chwi olwg trwyadl, Ardderchawg wr ar y gorchwyl cymreig hwn, cyn yr elo tan y printwasg [Page] os yw ei dynghedfen i hynny, ac yn ddiddadl ef a allai fod yn gymeradwy, Yn yr oes ynfyd hon, lle y mac cimaint o goeg fedelwyr gwehyddion cryddion ac eurychod yn torri ymaith wenith air Duw, ac yn arbed y gwug ar bresych: Je er maint eich llafur [Page] chwi (Anrhydeddusaf athro) yngwinllan yr Arglwydd, y mae rhai or gau Athrawon hyn (meddant hwy) yn corlannu eu geifr yn agos at y Deml sydd tan eich gofal chwi: Eithr y mae yn ddiammau gennyf y byddwch chwi mor ddisigl yn eich crefydd: i
[Page]ddangos ir rhain eu rhwygiadau ai tramgwyddiadau, mor hyf ac yr oedd Saint Joan fedyddiwr yn dywedyd ei fai yn wyneb Herod, mal nad rhaid im bath i (Yr hwn fydd Ddigon chwannog iw tarfu) fwrw mom nawf attynt.
[Page]Dim yngwaneg ond eich gorchymyn i Dduw a wna.
J. Dr. Elis Bregethwr diwyd a chyfannedd yn olgellau.
Mawl ir Cyfieithydd.
At y Darllennydd.
Ymddiffyniad, yr y marfer o weddi yr Arglwydd yn erbyn gwrthddadleuon y Newyddiaid or amseroedd yma.
YR vnrhiw yspryd a feddianodd y gwr gynt, yr hwn ai taflai weithiau ir tân, weithiau ir dwfr, sydd yn profi ein gyrru ni o vn deladdoliaeth ir llall. Eglwys Rufain, yn holl [Page 2] weithredoedd ei chrefudd, a hoffai ail adroddiad beunyddol o weddi yr Arglwydd gan feddylied fod y geiriau neu rit eu hail eirchion yn dwyn rhiw rinwedd ddirgelaidd gyd ag hwynt: y mae llawer y dyddiau hyn wedi syrthio i ddelwaddoliaeth yn vnion ir gwrthwyneb, gan ochel geiriau y weddi hon megis craig beryglus neu faen tramgwydd: rhai eraill ni feiddiant gondemnio i lawr ollawl arfer y weddi hon a betrusant yn eu cydwybod iw llefaru yn gyffredinol,Euog farnu▪ gan weled yn well fyned heibio iddi trwy ddisdawrwydd; mal y gwelwn y weddi hon wedi ei haethwladu o Deuluoedd a chynylleidfaoedd cyhoeddus. lle yr arferid ei dadseinio: y Ganwyll hon a osodid gynt ar gynhwyllbren i roi goleuni i holl dylwyth y ty,Llusern. a gleddir heddyw tan y pec neu r Badell. Pe buasai ond Heretisiaid ac anghredadwyr yn cynnyg ei gorafun neu yn ymegnio iw roi heibro,Canys eurychod ai claddodd. [Page 3] ni allesem fwrw yn eu herbyn ddianrhydedd a dirmyg ty ac ar Jesu Grist: eithr o achos bod y bobl hyn yn gwneuthur eu proffes, eu bod o ffydd vnion heb law hynny, ni chynnhyrfir neb wrth y newydd deb hyn, er ein bod ni or blaen yn ei Ffieiddio megis peth echryslon.
Mal y caffom ni gan hynny ystyrried y peth sydd mewn ymrafael, nid y dym ni mor Llythrennog a chondemnio pob math ar weddi, neu,Mor fan wl i sefyll wrth y lly theren. na chynhwysom eiriau eraill: eithr fo ddichon dynion arferu gweddiau eraill, ac nid gadael hwn heibio, amcaniad rhyhŷf a chynnygiad ehyd iw deleu coffadwriaeth y cyfriw weddi. Gweddi a arferir hyd yr amfer presennol hyn, gan holl eglwysi Duw hên ac ieuangc trwy r holl fyd. Gweddi a adroddwyd gan oruchel ddoethineb y Cyfryngwr mawr tragwyddol. Yr hwn sydd yn trosglwyddo ein gweddiau ni at Dduw, ar hwn a wyr yn berffaithgwbl [Page 4] feddwl ei dad. Y weddi cyflawnaf a ellid ei gwneuthur, yn casglu i fynu yr holl erfynnian cyfreithlon, ar a ellid eu dychymyg. Gweddi yr hon yw Crynodeb, drychiolaeth a rheoledigaeth pob rhai eraill.Epitom. Gweddi yr hon yn ei rhyfeddol fyrdra, a gynnwys y fath helaethrwydd mawr, ac amrywogaeth o fatterion, megis ac pe gwnai i gamel fyned trwy grair y nodwydd ddur. Gweddi yr hon a gynnwys fwy o Historiau a mwy dirgeledigaethau nag o eiriau. Gweddi mewn maentiolaeth yr hyfforddaf, ar egluraf, ar a ellid ei chysylltu: canys y mae holl byngciau neu rannau or weddi hon yn cyttuno ai chymedrolder rhyfeddol: yr holl gwb o honi a wnaethbwyd yn drwydadl ollawl mewn mesur a chyhydedd: y cwbl o honi sydd lawn o lusernau,Manliotaeth. y naill i oleu ir llall: Ar gwyr hyn a gyfaddefant, na eill holl synwyrau y ddauaren, na [Page 5] holl Angelion y nesoedd adrodd ei chyflelyb.
A lefarodd Jesu Grist gan hynny y weddi hon ir diben nad arferem ni mo honi hi mwyach? yn y gwrthwyneb y dywaid wrthym ni gweddiwch mal hyn: Ein tad yr hwn wyt yn y nefoedd. I hyn y maent yn atteb fod Jesu Grist yn gorchymyn i ni weddio mal hyn hynny yw yn yr vn synwyr eithr nid yn yr vnrhiw eiriau. Bydded felly. Ond y mae ef yn dywedyd (Luc. 11.) pan weddioch dywedwch, Ein tad yr hwn sydd yn y nefoedd, ydyw ef yn gorafun gweddio yn y geiriau hynny? Oblegid ei fod ef yn dysgu i ni ddywedyd Ein tad &c. a allwn ni gloi ein rheswm am hynny a dywedyd na ddylem ni moi ddywedyd ef? ni waeth heb haeru, os yw hyn yn orchymyn, y dylem ni bob amser ddywedyd y weddi hon heb vnrhiw arall vn amser. Nid yw hyn ond megis pe dywedai vn, ni orchymynnwyd gweddio at Dduw, [Page 6] lle dywedir Gweddiwch yn ddibaid, 1 Thess. 5.17. Megis na ddylem ni wneuthur dim arall ond gweddio at Dduw. Eithr tybiwch, nad yw hwn orchymyn, ac na ddarfu i Jesu Grist erchi llefaru y weddi hon bob amser: ni orafunodd ef chwaith moi dywedyd hi yn fynyeh, llai o lawer vn amser.
Nid yw r esgus ddim, fod yn ddigonol ddatcan synwyr a meddwl Jesu Grist yn y weddi hon,Roi ar lawr. er na lefarom moi eiriau: Canys a raid i ni fwrw ei eiriau ef i lawr i osod ar lawr ei feddwl? neu a allwn ni yn well osod ar lawr synwyr a meddwl Jesu Grist, na thrwy wir eiriau Jesu Grist ei hunan?
Pa beth sydd ganddynt hwy iw ddywedyd yn erbyn yr arfer gyffredinol or weddi hon? yn ddiau?
Un ai nid yw gyfreithlon, Neu nid yw anghenraid, Neu nid yw beth rheidiol a llesol.Buddiol.
Gadewch i ni fwrw golwg ar yr rhain mewn trefn.
Ydyw gan hynny yn anghyfreithlon adrodd neu yngan am y weddi hon? Ni ellir dywedyd mo hynny, na channiatteuir ei darllain: canys mae dau fan or Scrythyr lan iw ddelen allan cyn y gellir dywedyd hynny, lle y cair: sef Mat. 6. Luc. 11. ac nid yw help y chwaith yn y byd vddynt hwy ddywedyd fod llawer yn ei chamarfer. Dyma y rheswm, pa ham y mae ein Gwrthwynebwyr [Page 8] yn gorafun ir bobl ddarllain yr Scrythyr lân. Os darsu i Satan ei hun eu hadrodd hwynt, ped arferai y Swynwyr or Psalmau neu eiriau r Efengyl,Accennan. ai rhaid i ni am hynny ochel eu hadrodd hwy? Os yw anghyfreithlon eu llefaru hwynt yn ddelwaddolaidd, a fydd anghyfwithlon eu hadrodd hwynt yn dduwiol? Ac o chynhwysir i ni yn ein gweddiau arferu ein geiriau ein hunain, a orafunir i ni arferu geiriau Jesu Grist yr rhai ydynt y rheôl on geiriau ni?
Gan hynny y mae yn gyfreithlon; eithr (meddant hwy) nid yw anghenraid: yr wyf yn atteb: canniattawn nad yw anghearaid mewn vn modd lefaru y weddi hon, ydyw yn anghenrhaid ei rhoi heibio? Os yw yn beth diragor ei llefaru hi, neu ei gadael heibio, a ddylem ni am beth di-ymrafael ddwyn ymrafael ir Eglwys? i hoffi newydddra? i dorri trefn gyffredinol? ac i godi amheuon ynghydwybodau [Page 9] dynion? ac heb law hynny y mae graddau ar ddiragoriaeth yn gystal ac ar angenrheidrwydd, A ddywedant hwy mae r arfer neu adael heibio y weddi hon, fydd yn yr vn radd o ddiragoriaeth ac ydyw yr arfer neu ddirwest oddiwrth ryw fwydydd? Yn ddiau y peth sydd fuddiol i adeiladaeth, nid yw hwn ddim diragoriaeth. A ddywedant hwy gan hynny nadyw geiriau Jesu Grist fuddiol or adeiladaeth? Er na feiddiant ddywedyd hynny yn eglur, etto hwy a ddwedant gimain a hynny; canis y maent yn maentimio nad yw reidiol ei hadrodd hwy.
Llyma gynwillyn y ddadl ar holl ymresymu a duedda at y Pwngc hwn.Fuddiol.
Pa ham gan hynny nad yw fuddiol dywedyd y weddi hon yn yr vnrhiw eiriau ac yr adroddodd Jesu Grist y hi?Reidiol. Pa anweddeidddra a dardda oddiyno? Pa golled i ogoniant Duw? Pa rwystr i iechydwriaeth eneidiau dynion? [Page 10] Pa ddinistr i adeiladaeth yr Eglwys?Dramgwydd. wys?
Y maent hwy yn dadleu mal hyn.
Na rhaid i ni.Na ddylem ni mor ymrwymo at eiriau.
Fod perigl i addoli y geirian wrth eu hadrodd cyn fynyched.
Fod y dyfal wrandawiad a roddir at [Page 11] y sulldafau, yn rhwymo i fynu yr yspryd ac yn dymchwelyd y meddyliau.
Fod y mynych adroddiad hyn yn ail erfynniad ofer, wedi ei gondemnio gan Jesu Grist ei hunan
Nad yw y weddi hon yn dangos or neulldy yn ddigonol, yr holl anghenion a ddylid [Page 12] eu mynegi yn eglur.Eu rhoi ac lawr yn eglur.
Ei fod wedi ei Dacluso ar lawr mewn amryw eiriau gan y ddau Efangylwr y rhai ai scrifennodd, i ddangos na ddylem ni ofalu am y geiriau yn yr rhain y cynhwysir.
Ei scrifennu heb ei dwedyd.Na ddywedodd yr Apostolion eu hunain mo honi errioed.
[Page]Na ddichon llaweroedd moi dywedyd, ond iw damnedigaeth, oblegid ei bod yn rhwymo pob vn i erfyn maddeuant am ei bechodau, tan amod maddeu iw elynnion.
Ei bod yn anfoddol i ddyn a fyddo parod i farw, canis ni fawr raid iddo ef ddywedyd Dod i ni ein bara. &c.
[Page 14]Na roddwyd mo honi hi i fod yn weddi,Yu addysc i weddio. ond yn vnig i fod yn battrwm ac yn rheol o weddi.
Ac heb law hynny eu bod hwy yn eu gweddiau cyffredinol yn ymg yffred yr holl sylwedd o honi, er eu bod mewn geiriau ymrafael.
Atteb cyffredinol ir gwrthddadleuon hyn.
YN gyntaf mi a fwriaf yn erbyn hyn oll atteb cyffredinol, yr hwn a orchfyga y rhan fwyaf oi gwrth-ddadleuon. Y rhai hyn ni eill dynion moi gwadu, yr rhai ydynt dra eglur, fod Duw weithiau yn pennodi ac yn dangos ar lawr amriw ffurf ar weddi a gweithredon eraill arferedig yn yr Eglwys er mwyn cael o honynt eu llefaru air yngair. Y cyfriw oedd ffurf y fendith yr hon a lefarai yr offeiriadau yn arferol vwch ben y bobl, yn yr vnrhiw eiriau a ddarllenir yn y chweched bennod o lyfr Numeri, y cyfriw oedd y ffurf o daludiolch a ragyscrifennwyd yn offrwm y blaenffrwythau, Deut. [Page 16] 26. Y Cyfriw oedd ffurf y rhagdystiad ar weddi a adroddir mewn geiriau eglur vddynt hwy, yr rhai a ddaethai i dalu eu tairblynyddol ddegymau, Deut. 26. Y Cyfriw oedd ffurf y gweddiau yr rhai a arferai Moses yn gyffredinol pan osodid yr Arch i fyned ym mhlaen neu pryd y gorphywysai, Numb. 10.35, 36. Y cyfriw ffurf ar weddi neu roddi diolch yr hyn a ganent hwy beunyddiol yn yr Eglwys; Canis onid gweddiau a diolchgarwch yw r Psalmau gan y mwyaf? Ac onid adroddid hwynt, ac oni chenid yn arferol? myfi a adawaf ymaith ddywedyd, fod pob rhyw gynylleidfa o gantorion wedi en rhwymo yn oliawl at y cyfriw Psalmau▪ megis at yr vn dâsg, mal yr ymddengys wrth eu henwau. Y Psal. 92.1 genid bob Sabboath, Darllenwn. megis y gwelwn yn ei thalcen. Ystyrriwch yma,Esurau. pa ham yr adroddai Dduw weddiau mewn math ar odlau, oni bai er mwyn cael eu hadrodd air yngair? Canys [Page 17] ef a wyddis yn dda fod yn beth anodd newid y geiriau o frauch a rwymir at Fesurau a digwyddiadau celfyddyd Prydyddiaeth, hefyd yn yngwaneg: y mae i ni lawer o Psalmau yn yr rhain y myn Duw i ni ddal sulw ie ar lytherennau y Gwyddorion neu r Alphabet y 24 Psalm yr hwn sydd weddi ac sydd yn dyfod yn agos mewn sylwedd i weddi yr Arglwydd, a ddechreu agos bob vn oi adnodau yn ol tresn yr Alphabet Heberaec. Y▪ 34, 111, 112, ar 119. ydynt or vn deunydd; yr olaf hwn yn nodedig ym mhobrhyw wyth adnod yn atteb wythwaith i rif, a thresn y 22 o lytherennau. Pobryw vn yn cydnabod mai trwy yr hyfforddrwydd hyn y mynnai Dduw esmwytho ar gof dyn, er mwyn gallel or cof gwannaf yn hawdd gadw geiriau yr adnodau sanctaidd, dechreuadau pa rai a osodid mewn graddau yn ol ffurf, A, B, C. Oedd ef yn meddwl gan hynny y dylem ni esceuluso [Page 18] y geiriau o honynt, gan iddo ef fod yn mynnu i ni eu hadrodd yn llawnllythyr, hyd at y llytheren leiaf? Mi allwn ddywedyd hefyd fod Psalmau megis y 118▪ ar 134. sydd yn dangos cydymddiddan rhwng yr offeiriaid ar bobl. Yr ymddiddan cyfnewidiol hwn sydd yn sefyll mewn cyfranniad cyfattebol or naill ir llall, ac ni ellid moi gadw heb synnied yn graff y geiriau ar rhai yr oeddynt yn atteb y naill y llall. Heb law hynny yn Ailgyweiriaid yr Eglwys,Ail. ffur fiad. yr hyn a ragofalodd y Brenin da Ezeciah pryd yr oedd ymddadl am ail osod y Liturgia y lefiaid a orchmynnwyd i foli yr Arglwydd a geiriau David ac Asaph, Gweddi gyffredin. sef hynny oedd adrodd neu ganu vnion eiriau y Psalmau 2 Chron. 29.30. y mae yn ymdangos hefyd wrth gvssegru y Pasc fod yno ffurf ar gân yr hon a arferid bob amfer ar hyn o Uchelwyl. Ac Jesu Grist ei hunan yn niwedd y weithred hon, pryd ir oedd yn ei [Page 19] ddarparu ei hunan iw farwolaeth, heb anhawsdra ai hadroddodd hi, ac a fynnai iw ddyscyblion ei hadrodd gyd ag eso, Math. 26.
Pe buasai y bobl hyn, yr rhai sydd heddiw yn condemnio arfer o weddi yr Arglwydd, yn byw yn y dyddiau hynny, hwy a Farnasent ar ddoethineb Duw▪ am ragyscrifennu ffurf ar weddiau, ac am rwymo yr Eglwys iw hadrodd air yng air: am yr vn rheswm a ddygant yn erbyn yr ymarfer or weddi hon, yr vnrhiw anweddeidd-dra yr hwn y maent yn ei gael yma, yr vnrhiw ddiangfâu trwy yr rhain y maent yn cilio n ol ac yn gochel ei hadroddiad hi; yr holl rai hyn a ellir en daeru yn erbyn holl foddau, ar weddiau, bendithion a diolchgarwch yr hyn a Ddisgwyl Duw ar law ei bobl ei hunan: oni allai vn ddywedyd na ddylai vn moi ymrwymo ei hun at eiriau ar Ffurfau hyn, Osododd. a bod yn ddigonol llefaru yn yr vnrhiw synwyr? ac na ddylid [Page 20] gwarchae yr yspryd. Fod meddyliau da yn myned ar goll wrth eu pendifadu eu hunain at y geiriau? mae ail-erfynniau beunyddol yw r rhain? nad yw y gweddiau gosodedig hyn yn rhoi ar lawr yn eglur y cwbl oll a ddylid ei ofyn? Fod yn berigl rhag eu troi yn eulynnod? ac i ddiweddis fod yn fuddiol fwrw i lawr yr arfer o honynt? Llyma beth dieithrol na welsai Dduw errioed mor anghymwysdra hynny. Yr ydwyf yn rhyfeddu na fwriasai y bobl hyn i lawr hefyd y canu cyffredinol ar Psalmau; canys os tal eu maxim neu eu prifbwngc hwy ddim y mae cynddrwg eu hadrodd hwy a gweddi yr Arglwydd. Oni ddylai vn ei rwymo ei hun at eiriau y weddi hon, pa ham at eiriau y Psalmau▪ Oni ddylem ni rwymo i fynu yr yspryd ydyw ef yn fwy rhwym i fynu trwy eiriau y weddi hon na thrwy eiriau Psalm? Os yw geiriau y weddi hon yn troi yn ol feddyliau yr hwn a weddio, oni [Page 21] wna canu Psalm iddo es fynnu? Oni ddylem ni adrodd y weddi hon:Ʋn Ffynud. onid yw hi yn rhoi ar lawr yn neullduol ein digwyddiadau an anghenion, os oes perigl i ddelwaddoli y geiriau, oni eill vn ddywedyd cimaint am bob Psalm pa vn bynnac? ac ychwaneg; canys yr ydym ni yn canu llawer o Psalmau, yr hwn nid yw yn perthyn i ni gimaint, yn yr hwn nid oes i ni gimaint hawl ac yngweddi yr Arglwydd, ynddynt hwy yr ŷm ni yn adrodd rhyw weddiau a drefnwyd yn eglur ir Eglwys Jddewaidd, ar digwyddiadau aethant heibio, yr rhai ni ddigwydda i ni vn amser. Yno y mae i ni ersynniau, rhegfâu, rhesymmau, achwynion, yr rhai oeddynt dduwiol yngenau David; eithr y maent mewn mwy dadl yn ein geneuau ni nag yw gweddi yr Arglwydd. Pa ham gan hynny y mae y weddi hon yn pwyso yn drymmach ar ein dwyfron ni, na r gweddiau sydd yn y Psalmau? [Page 22] Heb law hynny, fod y Psalmau mal yr ydym ni yn eu canu yn ein tafodiaith gyffredin, wedi eu cysylltu a geirian ychwanegol trwy lafur dynol ein Prydyddion ▪ Mal nad yw y gorchwyl hwn er ei fod yn dra odiaethol, etto nid bob amser mor ddwywawl a gweddi yr Arglwydd. Pa ham gan hynny y mae yn fwy anghymmwys adrodd gwir eiriau Jesu Grist na chanu y rhai a roes dynnion? Ym mhellach gan ein bod ni yn gweled, yn lle gweddi yr Arglwydd, yn well at ein amcan gael gweddiau yn ol ein trefn-ddull ein huna in, wedi ei defnyddio at achosion. Pa ham yn lle Psalmau nad ŷm ni beunyddiol yn pwytho cerddi newydd ollawl iw canu yn yr Eglwys▪ Ai eisiau awenydd brydyddol y mae yn gorfod i ni gadw ffurf oestadol ar Psalmau?Dealldwriaeth. ac os er mwyn adeiladaeth y lleferir ac yr adroddir hwynt yn eu hunion eiriau, pa ham na wneir felly a gweddi yr Arlgwydd, yr hon yw r [Page 23] crynôad or holl weddiau a gynhwysir yn y Psalmau.
Eithr y mae genyf fi fwy iw ddywedyd, ar bobrhyw vn or gwrthgeisiau, yr rhai sydd raid i ni yr rowrhon eu holi yn neullduol.
Gwrth-ddadl I.
Y maent yn haeru yn y lle cyntaf na ddylem ni mon rhwymo ein hunain at eiriau.
Atteb.
Y Prif reol neu r maxim hwn oi gymeryd yn gyffredinol heb ddim gwahanrediad sydd gelwyddog echryflawn. Os derbynnir hwn ni ddylem ni mo ddarllain y Bibl; canys wrth ei ddarllain ef y mae n rhaid i ni beidio ai chyfieithu; canis mewn cyfieithiad, ni ddylem yn gimaint ac a ellid ei agweddu yn bendant at y cywir eiriau dechreuol, nid yw dosparthiad mor siccr byth, a chesnewid vn gair weithiau a gyfnewidia yr holl synwyr. Yn yr Histori sanctaidd onid rhaid i ni gadw y gwir enwau o leoedd ac o ddynion? Yn y ddefdd onid ydym ni yr rhwym i gymeryd gofal am yr Joita leiaf, ie am y titlyn lleiaf?
II.
Eithr yr wrth-ddadl sydd amheuus; Canys os ydynt hwy yn deall nad ydym ni felly wedi ein rhwymo i wir eiriau y weddi hon, mal na chynhwysir i ni arferu yr vn arall; hynny yr ydym ni yn ei ddywedyd gyda ac hwynt hwy. Eithr os ydynt hwy yn meddwl tan gysgod y rhydd-dyd hwn, fod yn rhaid i ni esceuluso neu roi heibio eiriau y weddi hon; llyma y peth yr ym yn ymddadleu a hwynt. Canys, o blegid fod Iesu Grist yn rhoi cenad i ni i arferu ein geiriau ein hunain, a raid i ni gladdu ei rai ef? Oblegid, bod yn lwfio iu geiriau ni gerdded, a raid i ni dorri i lawr eiriau yr yspryd glân? Cym mhelled y dylem ni fod oddiwrth ochelyd iaith Duw, mal yn y gwrthwyneb y dylem ni gimaint ac a ellir ei gwneuthur hi yu gynefin ac yn gyffredin arferol inni. Ac [Page 26] mi a ddymunwn ar Dduw ein bod ni mor hyddysg arni ac y gallem ni ei chael beunyddol yn ein ganeuau.
Gwrthddadl yr II.
Neu Objection. Pa ham na allwn ni arseru y lladin mal y saeson. EIthr yma y maent hwy yn dangos i ni berigl mawr, Fod yn rhaid ofni, lle yr ydym ni yn gwneuthur cimaint cyfrif o eiriau y [Page 27] weddi hon, rhag yn y diwedd i ni wneuthur eulyn o honi.
Atteb.
LLyma reswm gwyrdraws paradox dieithrol iawn, fod geiriau y weddi hon yr rhai an dysg i ochel delwaddoliaeth, iw hammau genym ni mal peth a allai beri i ni syrthio mewn delwaddoliaeth, Canys y weddi hon ni ddysg i ni alw ar neb ond ein tad yr hwn wyt yn y nefoedd; nag i roddi na gallu na theirnas, na gogoniant, ond iddo ef yn vnig. Oni ddywaid y gwyr hyn hesyd, ein bod ni [Page 28] mewn perigl i fod yn ddelwaddolwyr oddiwrth yr ail or deg gorchymynnion os ni ai hadrodd yn fynych iawn? A gawn ni wneuthur eulyn or gorchymyn hwnnw, yr hwn sydd yn gorafun eulynnod? Yn ddiau ni ddaeth mo Eglwys Rufain yn ddelwaddolaidd am adrodd cyn synyched eiriau y gorchymyn hwn, eithr yn hytrach am eu esceuluso hwynt, pryd y cuddient hwynt oddiwrth y bobl.
II.
Eithr oni eill vn ddysod yn ddelwaddolwr or geiriau a leferir yn y Bedydd? ond rhaid i ni fyned trostynt hwy helyd trwy ddisdawrwydd i ochelyd delwaddoliaeth? Oni chair yr vnthiw berigl yn y geiriau o Swpper yr Arglwydd? Hwn yw ynghorph, y delwaddoliad mwyaf [Page 29] yn yr holl fyd, a seilied ar y geiriau hyn oi cam ddeall, a allwn ni ymgadw gan hynny rhag ei hadrodd hwynt. Na, oni ddylem ni hefyd eu hadrodd hwynt bob amser cyn fynyched ac y mynegom ni Osodiad Swpper yr Arglwydd? Mi ddywedaf ynghwaneg.Drefn. Yr oeddid yn delwaddoli gwir enw Duw gan yr Iuddewon gan ddywedyd fod y lleferydd o hono yn gallael gweithredu y gwyrthiau mwyaf, hyd yn oed symud mynyddoedd: Ai rhaid iw delwaddoliaeth hwy, ein rhwystro ni oddiwrth adrodd enw Duw? Neu a allwn ni roddi bob dydd ryw enw newydd ar Dduw, rhag iw enw cyffredin, yr hwn a ddatcenir yn fynych ddyfod or diwedd yn eulyn.
III.
Ym mhellach, yr vnrhiw berigl y maent yn ei gael yngweddi yr Arglwydd, ellir ei gael [Page 30] ym mhob rhyw weddi arall: Canys oni eill y neb a fynno ddelwaddoli y geiriau neu r dull, er ei fod yn newydd? Oni wyddom ni fod yspryd dyn mor dueddol felly i addoli newydddra? Ai rhaid i ni gan hynny ymgadw yn ollawl oddiwrth weddio at Dduw i oehelyd pob perigl o ddelwaddoliaeth?
Gwrthddadl y III.
YMa y canlyn wrthddadl lle y mae y gwyr hyn yn cynnyg [Page 31] peri i Jesu Grist lefaru yn ei erbyn ei hun: Canys (meddant hwy) efe a gondemnodd ail erfynniau ofer mewn gweddi. Yr awrhon arfer gyffredinol o weddi yr Arglwydd sydd adroddiad tragywydd.
Atteb.
DArllenwch y chweched o Mathew, y seithfed ar adnodau a galyn, chwi gewch weled yno fod Iesu Grist yn adrodd y weddi hon er mwyn gochel ofer aileirchion: nag arferwch (medd ef) ofer ail adroddiadau eithr gweddiwch mal hyn. Ein tad &c. A ddywedwn ni mae hwnnw sydd ofer ail erfynniad yr hwn a roddwyd i ni yn ymwared yn erbyn ail erfynniad ofer? A Jachâu Jesu Grist vn dolur wrth vn arall cyffelyb iddo? neu fwrw allan vn cythrael i ddwyn vn arall i mewn yn ei le?
II.
Ni ddarfu I Iesu Grist gondemno holl ail erfynniau yn gyffredinol. [Page 33] Oni ddarfu iddo ef ei hun sef yn ei chwys gwaedlyd ail-adrodd deirgwaith yr vn prydnawn, yr vnrhyw eiriau Abba Dad os yn bossibl aed y cwppan hwn oddiwrthyf? Yn yr vn ar vnrhyw Psalm yr hon yw 136. cynifer o adnodau cynifer o weithiau yn terfynn mal hyn trugaredd Duw a bery yn dragywydd:Phiol. Yr vnrhiw eiriau a adroddir yno 26. o weithiau.
III.
Pa ail-adroddion gan hynny a gair iw orafun? Yr rhai ydynt ofer ydynt pan fyddo vn yn tybed fod eu Lliosogiad yn dwyn rhyw rinwedd.Angchwanogiad. Ofer hefyd os bydd eisiau deall serch neu ffydd. Eithr ail-adrodd Gweddi yn galonnog, bob amser gan yr vnrhiw yspryd, yr hwn a ddylai weithredu yn y gorchwyl hwn, ni eill fyth fod yn ofer: Megis yn y gwrthwyneb Gweddi yn wag [Page 34] neu yn ymddifad or yspryd, ni eill na byddo ofer, er na adroddir ond vnwaith. Heb law hynny, os cynhwysir ail-adrodd yr vnrhiw feddyliau a gefais i or blaen, pa ham na allaf fi eu hailadrodd hwynt yn yr vnrhyw eiriau y rhoddais i hwynt i lawr or blaen? Fe ddichon fod cimyn o oferedd yn ail adnewyddu ocheneidiau bob mynudyn, mal y mae llawer yn y dyddiau hyn yn gwneuthur arfer o hynny, ac i ail-adrodd geiriau Iesu Grist.
IV.
Hefyd y mae n rhyfeddol gennyf fod y gwyr hyn yn gwueuthur proffes eu bod hwy yn cashau ail-adroddiadau cimaint▪ Crefydd. gan weled fod y rhan fwyaf oi gweddiau hwynt wedi ei adeiladu ar ailadroddiadau, ac nid ar ddim arall. Ail erfynniad sydd yn sefyll nid yn vnig yn adrodd yr vnrhiw eiriau eithr yn adrodd [Page 35] hefyd yr vn peth er ei wneuthur mewn ragoriaeth o ymadrodd. Ond yw hyn yn ail adrodd. Pan fyddo gwr wedi henwi baw yn dyfod ychydig ar hol hynny iw alw ef Tom? Neu ar ol iddo siarad am gleddyf, ef a ddaw i siarad am Rapier? Eu Synonimau ai Periphrases eu cyd-enwau ai amgylchiaithoedd, ar cyfriw y llenwir eu gweddiau ollawl, ond cynifer o ail-adroddiadau ydynt?
V.
Ni allwn ddal sulw yma, fod y peth a heurant hwy iw herbyn, Math. 6.7. Nid yn vnig yn gwahardd ofer ail fy negiad, eithr hefyd lliaws o eiriau. Pa ham nad ydyw y gwyr hyn yn dirnad y dichon fod cimaint o wagedd yn hyd eu gweddiau hwy, (yn yr rhai y maent yn treulio cimaint o amser ac a wasanaethai [Page 36] i bregeth dda) ac yn dywedyd vnwaith weddi yr Arglwydd? Neu ydyw hirdra eu gweddiau hwy yn fwy gwrthwyneb i ruo ofer, nag yw byrdra hwn? Ef a allai y gofynnant hwy, Pa niferoedd o brydian y gallwn ni ei adrodd mewn dydd neu mewn awr? Eithr nid yw hyn ond yr vn peth, a pha gofynnent Pa nifer a weithiau y dylem ni weddio at Dduw? Canys ef a archwyd i ni weddio yn ddibaid. Nid am fod Duw yn gofyn y weithred yn gyfannedd genym; etto er hynny hi ddylai fod yn fynych. Heb law hynny, teilyngdod ein gweddiau; nid yw yn sefyll mewn rhif neu sesur eithr mewn pwys.
Gwrthdaddl y IV.
GVVelwch wrthddadl arall. Rhaid i eiriau yr hwn a weddio ganlyn ei feddyliau; eithr fe ddigwydda pan fyddo vn yn wrandawgar i eiriau gweddi yr Arglwydd, y cyfeiliorna ei feddyliau da, [Page 38] ac y gwyrdroi r ei yspryd.Troi yn ol.
Atteb.
TWyll gauog yw, a pheth Dieithrol iw dywedyd fod geiriau Iesu Grist yn troi meddyliau ymaith.Rhyfeddol. Pe baent hwy yn deall yn dda y weddi hon, ni lefarent byth yn y modd yma. A allwn ni gael meddyliau gwell mewn gweddi,Ganir i mewn. nar rhai a Gynhwysir yngeiriau y weddi hon.
II.
Celwydd yw ac ni ellir moi ddywedyd heb gabledd, eu bod hwy yn gwneuthur ir yspryd Wibio.Gefeiliorni. Yn y gwrthwyneb y maent yn hyfforddi yr yspryd. Allwn ni ddwyn ein meddyliau i raddau gwell na pheri vddynt [Page 39] fartsio yn ol y drefn a roddwyd ar lawr gan Iesu Grist ei hunan?
III.
Celwyddog a ffieidd yw, fod y geiriau trwy r rhain y derbynniwn yspryd Duw;Abergofi. Yn gwahanu ypsryd dyn; canys y weddi sydd gyfran or Athrawiaeth honno or ffydd, tryw yr hon y derbynniwn yr yspryd glan, Gal. 3.2.
IV.
Ydyw y gwyr hyn mor llawn o feddyliau da,Eu llwythau. gwedi vddynt dreulio orriau cyfan yn tywallt allan eu Dychymygion mal y mynnent, na allant roddi tri munud neu bedwar ar weddi yr Arglwydd.
V.
Eithr os rhaid i ni ymgadw oddiwrth y geiriau o honi, tan [Page 40] liw nad ydynt yn cyfarfod bob amser ar meddyliau hynny, yr rhai a eill ddyfod arnom yn y weithred o weddi: Yr wyf yn gofyn ir gwyr hyn, pryd y byddo vn o honynt hwy yn gwneuthur gweddi yn gyhoeddus, Pa vn a wna ef ai bod yn ddiogel fod holl feddyliau ei wrandawyr yn cyfarfod yn vnion bob amser, ac yn y cyfriw bwngc, gyd ai feddylian ef ei hun, neu ar geiriau trwy yr rhain y mae ef yn eu dangos? E fyddai anodd iddo mewn cynylleid fa fawr gael vn dyn a fyddai ai feddwl yn perffaith gydredeg gyd ag ef. Onid oes yr vnrhiw berigl gan hynny, rhag i eiriau ei weddi ef drosi heibio feddyliau da yr rhai ai gwrandawo ef? Neu a oes mwy o Flinder yn gwrando gweddi a lefarodd Jesu Grist, Orthryblaeth. at yr hon y darfu i ni ddarparu a chydifurfio ein meddyliau yn barod, na gwrando vn gan wr, meddyliau yr hwn a ragflaena ac yn fynych a dâg ein rhai ni?
Gwrthddadl IV.
YR vn rhiw a wasanaetha am atteb i reswm aral a ddadleuant sef yr yspryd (meddant hwy) a ddylai fod yn rhydd, ac ni ddylem ni moi gau ef i fynu mewn rhwymau, Ffurf.
Atteb.
AI rhaid i yspryd dyn mal y byddo yn rhydd fod heb drefn? Neu yw ef mewn caethiwed os llefara ef weddi yr Arglwydd? Duw a ganniattao i ni bob amser rydd-dyd iw llefaru hi.
II.
Y weddi hon yn wir, nid yw ond ber mewn geiriau; eithr mewn sylwedd y mae yn cyrhaedd cym mhelled, mal y mae yn ymgyffred y nef ar ddauar, y bresennol ar holl oesau i ddyfod. Y dyw yspryd y gwyr hyn mor faith na ddichon y weddi hon moi Amgylchu ef?Gynwys.
III.
Neu os caethiwed yw gwrando llefaru y weddi hon, a gaethiwir mwy ar yspryd y gwrandawyr yn clywed gweddi Jesu Grist, neu yn clywed gweddi vn arall?
Gwrthddadl y VI.
AR hynny y dywedant, nid yw y weddi hon yn neullduo yn gymedrol nid yw yn [Page 44] datcan mon anghennion, ond mewn moddau rhy gyffredinol: eithr ni ddylem ni yn ol digwyddiadau ddatcan bob peth neullduol erfydd ei enw priodol.
Atteb.
Y Mae yn debygol fod y gwyr hyn yn ofni rhag na ddeallo Duw yn dda oddieithr vddynt hwy ddangos ai bys iddo ef, neu oni roddant hwy gyfrif ar lawr yn neullduol iddo ef oi mân angenrheiciau. Ac yngwirionedd tan liw o neullduoli; Y mae llawer yn lle aberthu eu gweddiau at Dduw, yn ymddangos megis i roi athrawiaeth iddo ef. Llawer hefyd yn tybied eu bod yn dymuno wy a ddymunant Sarph. Yn ddiau y mae yn anghenrhaid yn fynych benodi pethau neullduol, eithr trwy bwyll a chymedroldeb mawr, or hyn nid yw bawb gyfrannog. Ersynniau cyffredinol, megis y rhai o weddi yr Arglwydd ydynt mal y Sêr yr rhai ydynt ai trigfa yn ddiogel, ai symudiad mewn trefn.
[Page 46]Eithr pan ddelom at bethau neulldduol, yno y mae vn yn descyn megis i wlad yr elsennau,Rheol. lle y mae yr holl bethau yn amrywogaethol ac yn orthryblus, a lle y cyfersydd vn ac ymrafael beunyddol o resymmau, megis tonnau a wthid gan wyntoedd gwrthwynebus.
II.
Hefyd pe cymerai ddyn arno henwi yr holl ffafrau yr rhai a fyddent anghenrhaid a buddiol iddo,Ddoniau. ni wnai ef fyth ddiben oi weddi. Oes vnrhyw ddyn a eill neullduoli yr holl bethau ydynt reidiol iddo, vn ai er mwyn ei fod, neu er mwyn ei fod yn dda? Yr holl rywiau o brofedigaethau? Holl ddyfnderau Satan? Ei holl gamweddau? Pwy yw ef a edwyn ei droseddau? Psal. 19. Ac heb law hynny holl angenrheidiau yr Eglwys gyffredinol, a phob aelod o honi? Pa gyflawniad a syddai raid i ni [Page 47] gan hynny wneuthur in gweddiau? Mal na byddent yn ddyffygiol? Yn ddiau rhaid i ni ddyfod i ymadroddion cyffredinol, yr rhai a ymgyffred yn dywyll yr holl bethau neullduol: megis ar ol i ni enwi y cysriw ar cyfriw bechodan, a chan sod heb allael rhoi llawngyfrif or holl rai eraill, ond rhaid i ni ddywedyd yn gyffredinol maddeu i ni ein dyledion? Yr wyf yn dymchwelyd y rheswm gan hynny. Gan fod yn amhossibl i ni lunio yn weddi,Camweddau yr hon a neulldua yr holl bethau, y mae yn anghenrhaid i ni arfer gweddi, yr hon yn ei chyffredinrhwydd a gvnwys yr holl neullduol rwydd.
Gwrth-ddadl VII.
EIthr (meddant hwy) ni ddarllenwn ni ir Apostolion errioed ei llefaru hi.
Atteb.
NId yw y rheswm hwn wedi ei gloi aiddibennu. Rheswm nâg, am weithred. Nid yw o sylwedd ffydd ni thynned allan or Scrythyr. Nid ydym ni yn darllain [Page 49] yn yr Histori, ir Juddewon errioed gyssegru y flwyddyn o Jubile, y pwngc pennaf or gyfraith Ceremoniaidd; etto yn ddiammau hwy cyssegrasant hi, oni buasai hynny yn ddiau fe fasai Dduw yn eu cospi hwynt am fai mor argyoeddus. Nid ydym ni yn darllain ir Apostolion errioed fedyddio yn enw y tri pherson dwywawl, enwedig yn eu Hawdurdod hwy; a ddywedwn ni gan hynny na fedyddiasont hwy yn y ffordd hon?Commissiwn.
II.
Yr wyf yn dywedyd yn hytrach, mae Jesu Grist a adroddodd vddynt hwy y Fordd hon ar weddi,Ffurf. am hynny hwy ai harferasant hi. A ydyw gredadwy, lle yr oeddynt hwy yn dymuno ffurf ar weddi, ac Jesu Grist yn ei adrodd air yng air, na lefarent hwy byth mo honi?
III.
A pha bai heb fod felly; yr oedd, yr Apostolion wedi eu cynnysgaeddu ag yspryd yr hwn ai cywysai hwynt, yn gystal yn eu Gweddiau, ac yn eu Hathiawieth. Eithr oes genym ni yr vnrhyw yfpryd disomedfg, yr hwn a adroddodd vddynt hwy y cyfriw weddiau?Fethwn. Ydym ni ddiogel hyspys na Phallwn ni mwy na hwythau nag yn y matter, nag yn y modd?
Gwrthddadl VIII.
YN ol hyn y maent yn ymholi [Page 51] fal hyn: y weddi hon (meddant hwy) a gair Yn Scrifenedig mewn dau lyfr or Testament newydd (sef St. Mat. 6. St. Luc 6.11.) eithr mewn amryw eiriau, a pheth sydd fwy, y mae vn er Efangylwyr hyn yn gadael allan y peth a scrifennasai y llall: Pa fodd [Page 52] gan hynny y dylem ni ei hadrodd hi? Pa vn ai ar ol yr hyn sydd ar lawr yn St. Mat? ai yn ol yr hyn o gwttogodd St. Luc? Yr holl bethau hyn a ddengys nad oedd mo Jesu Grist yn meddwl am gadw geiriau y weddi hon.
Atteb.
PE byddai y rheswm hwn yn cymeryd lle, pryd y cyssegrom ni Swpper yr Arglwydd, nid rhaid i ni fyth adrodd y geiriau yr rhai a lefarodd Jesu Grist yn y weithred honno: Canys hwynt a adroddir mewn amryw fodd mewn pedwar amryw o lyfrau or Scrythyrau; megis nad oes gan vn or Efangylwyr ai cofiodd hwynt mor geiriau hyn Gwna hyn er cof am danaf. Ai rhaid i ni yn y weithred hon gan hynny adael ymaith yn ollawl eiriau Jesu Grist: tan liw or amrywogaeth, yr hyn a welwn ni yno? Nid oedd mo St. Paul yn ei ddeall felly, pryd y mae yn dangos ir corinthiaid yr agwedd y dylent gyssegru Swpper yr Arglwydd, y mae yn ail-adrodd yn eglur y gwir eiriau a lefarodd Jesu Grist wrth osodiad y Sacrament hon, megis y derbyniasai ef ganddo ef, 1 Cor. 11.
II.
Ddweddu.Llyma Ddibeunu rheswm ar gam, na ddylem ni ofalu am y geiriau tan liw or ymrafael a welwn ni yno. Yn y gwrrhwyneb, lle y mae Duw yn ailadrodd yr vn peth, mewn amryw eiriau, am hynny dylem ni ddal mwy o sulw arnynt; Canys y mae yr rhagoriaeth hwn yn tyfu i egluro y naill air wrth y llall.Graffu yngwanog. Felly pan fyddo vn or Efangylwyr yn dywedyd Pardyna e‘n dyledion; y mae r llall yn ei esponnie gan ddywedyd maddeu i ni ein camweddau. Diragor yw cymeryd y naill,Ddosparthu. neu y llall or ddau draethawd: Y ddau hyn a lefarwyd gan Jesu Grist. A raid i ni wneuthur cimaint o anhawsdra i ddewis? Neu a raid i ni fwrw i lawr y ddau hyn oblegid i Iesu Grist ddywedyd pob vn or ddau hyn?
III.
At hyn y maent yn haeru, fod vn or Efangylwyr heb fod y gorphen hwn ganddo sef, canys ti eiddor Deirnas &c. hynny fydd hawdd ei atteb. Hyn yw mal pe dywedem, ni ddylem ni mo gyssegru Swpper yr Arglwydd o ran bod vn or Efangylwyr sef St. Ioan heb son am dano. Onid ydynt hwy yn cael y clo neu y gorphen hyn yn St. Luc, ai rhaid vddynt hwy fyned heibio iddo yn angenrheidiol er ei gael yn St. Mathew? Neu a ddylem ni ar yr achos hon adael ymaith yr holl weddi, er na chair yn y Ddau Efangylwyr hyn? Y mae genym ni amryw Psalmau yr rhai nid ydynt yn cynnwys ond yr vn at vnrhyw sail; megis 14. ar 53. nid ydynt ond yr vnrhiw beth: er hynny y mae cloadigaeth yn y naill, yr hwn nid yw yn y llall. A raid i ni roi y ddau i lawr.
Gwrthddadl IX.
Y Mae rhai a ymrysonant yn erbyn arfer y weddi hon, am anghymwysdra, a debygant hwy ei fod ynddi, Yr ydym ni yn dymuno ynddi ein bara beunyddiol: Eithr, meddant hwy, y dyn a fyddo yn barod [Page 57] i farw (megis yr hwn a fyddo mewn ing ar ei drangc yn ei glafvvely, neu yr hvvn sydd ar yr Scaffold, ac heb edrych am ddim ond am y dyrnod tynghedol) a raid iddo ef hefyd ofyn am far a? Pa les iddo ef a vvna gofyn y peth nid rhaid iddo ef vvrtho, a pheth nid yw iw arfer iddo mwyach?
Atteb.
YMae genyf amryw attebion iw roi at hynny.
I.
Pe bae yr erfynniad yma yn gymmwys i neb ond ir rhai sydd a siccrwydd vddynt i fyw, ni allai ddyn yn y byd fyth moi ddywedyd; Canys yr vnrhiw wŷr hynny, yr rhai ydynt mewn iechyd perffaith a diogelwch dedwyddol, etto er hynny i gyd nid ydynt siccr i fyw vn mynudyn. Felly Iesu Grist a ddysgodd i ni ofyn peth yr hwn ni ddylasem ni errioed ei erfyn.
II.
Mal nad oes vn dyn yn siccr oi fyw ddiwrnod, felly nid oes neb a wyr mae y diwrnod hwn a fydd [Page 59] olaf iddo. Y mae llawer yn cyffwrdd a phyrch angau yr rhai nid ânt i mewn cyn gynted. Er bod dyn gan hynny, ac yn ei weled ei hun yw agos iawn i fyned allan or byd; er hynny i gyd gan ei fod heb wybod yr amser oi ymadawiad, ai rhaid iddo ef wrthod bara a haelioni Duw, yr hwn yw r rhoddwr o honaw, megis pe bai ef sicer na byddai raid iddo syth wrtho?
III.
Pryd y gofynnwyf fym mara, y mae hyn bob amser tan ammod, sef os rhaid i ni wrtho etto, neu os estynnir etto fy nyddiau ar ddauaren ac nid modd arall. Oes dim anaddas yn yr erfynniad hyn? neu oni ddylem ni bob amser lefaru fal hyn?
IV.
Ef a wyddis yn dda nad ydyw yr erfynniad hwn wedi ei rwymo at luniaeth yn enwi bara, yr wyf yr rhagfeddwl am bob peth sydd angenrheidiol im bywyd, ie yr awyr ar a nadl. Oni allai eu gofyn hwynt tros yr amser sydd i mi i swy, er na byddai yngwirionedd ond tros vn munyd bychan, er mwyn gallael o honof fi ogoneddu Duw?
V.
Canniattewch na byddai raid mwach iddo ef sydd yn marw, ofyn bara a raid iddo ef wrth ddywedyd, madden i ni ein dyledion ac na arwain ni i brofedigaeth?
VI.
Ni fynnai Jesu Grist i ddyn ofyn bara iddo ei hun yn vnig, eithr ef a orchmyn nodd i ni ofyn bara i eraill gan ddywedyd dyro i ni. Oni eill y dyn gan hynny a fo parod i farw neu oni ofyn ef fara iddo ei hun, ydyw cariad perffaith yn gorafun iddo ef ofyn it rhai ydynt i fyw ar ei ol, ac i weddio tros y rheini?
VII.
Ac yn olaf, oblegid nad rhaid mwyach i wyr claf a fo yn marw, neu yr rhai a fyddo ar y Sibedau wrth fara, allwn ni gloi ein rheswm y dylai bawb eraill ymgadw rhag ei ofyn? Wrth yr vnrhyw reswm hwy a ddylent ymgadw, oddiwrth swyra.
Gwrthddadl y X.
LLawer hefyd yngwneuthur petrusder i lefaru y weddi hon, oblegid ei bod hi yn eu rhwymo hwynt i ddywedyd eu bod yn maddeu ir rhai droseddent iw [Page 63] herbyn hwy. Yn awr nid oes gan wr bob amser feddwl i faddeu. Dyma ledrith lliwgar, canys os bydd i mi feddyliau i ddial, a pha wymeb y gallai ddywedyd, yr wyf yn maddeu? Eithr ond wyf yn fyngwneuthur fy hun yn fwy euog yn dywedyd felly? Na, y mae y wers hon yn cynnwys [Page 64] rhegfa, yr hon a wnaf yn fy erbyn fy hun, sef: yw hynny, oni faddeuaf fi nid wyf yn gofyn maddeuant, oddiyma y digwydd fod llawer o honynt sydd ar gofal arnynt o weddio yn gyohoeddus yn ymgadw oddiwrth y weddi hon, rhag ofn bod o rai or sefyllwyr y rhai a [Page 65] weddiant gyd ag hwynt iw cael i roi celwydd i Dduw.
Atteb.
Y Mae llawer yn wir iw ddywedyd ar y cwestiwn hwn. Os rhaid i ddyn a Glywo ynddo ei hun ddim cynnwrf o gasineb roi heibio arfer y weddi hon:Deimulo. Yr wyf vn dywedyd ar hyn, oni eill ef arfer y weddi hon ni eill ef arfer yr vn arall. Yn gimaint mai gorafun i ddyn weddi yr Arglwydd ar yr achly▪ sur hyn iw gorafun iddo ollawf weddio at Dduw mewn modd arall yn y byd pa ddelw bynnac. Y mae hyn yn canlyn yn eglur trwy lawer o resymmau. Yn gyntaf oll, ni eill ef wneuthur gweddi dda oni bydd yn Gyttunol (or lleiaf mewn sylwedd) i weddi yr Arglwydd.Neu Gyfattebol. Yn awr y mae r weddi hon yn rhwymo vn i ddywedyd, ei fod yn maddeu iw elynnion; felly oni [Page 67] ddywaid ef yn yr vnrhiw eiriau, y mae yn perthyn iddo ddywedyd yn yr vnrhiw synwyr. Heb law hynny, a ddichon ef wneuthur vnrhiw weddi heb ofyn maddeuant oi bechodau? A chan weled nad yw y gollyngdod neu r maddeuant hwn wedi ei addo iddaw, ond tan ammod iddo vntau faddeu, a eill ef ei ddesyfyd fodd arall? Canis oni faddeuwch chwi i ddynion eu camweddau ni faddeuaf finnau chwaith i chwithau eich rhai chwi, Mat. 16.15. Na, yngwirionedd ni eill ef ofyn dim arall gan Dduw, oni bydd ef wedi ei ymroi yn barod i faddeu. Os dwg ef ei Aberth at yr allor, ef a ddylai yn gyntaf ei gymodi ei hun ai frawd, onidè eu aberthau,Oll. Nid yut o ddim haeddiant. ai holl erfynniau ni thalant ddim. Chwanega at hyn, na eill vn dyn wneuthur gweddi heb destiolaethu ei fod yn vsuddhau i Dduw; Canys wrth ddymuno ar Dduw gyflawni ein ewyllys ni, yr ŷm ni yn addaw cyflawni ei ewyllys [Page 68] ef. Ni ddylem hefyd attolygu bydded ei ewyllys ef. Yr rowrhon hwn yw vn pwngc o ewyllys Duw i ni bardynu yr rhai a wnaeth in herbyn ni. Yr wyf yn dywedyd gan hynny, os budd llid yn lluddies i ddyn lefaru gweddi yr Arglwydd; yr vnrhiw reswm a luddia iddo ef weddio at Dduw mewn vn modd ollawl.
Gwelwch i ba fan y mae opiniwn y gwyr hyn yn tueddu, canis nid yw eu Rheswm yn gorafun yn vnig weddi yr Arglwydd, eithr hesyd yr holl rai eraill a arferant hwy eu hunain oi wneuthur.
II.
Gadewch i ni weled y rhwystrau a gair yma. Efe (meddant hwy) yr hwn yn lle maddeu sydd yn llosci am ddial, ef yr hwn sydd iddo ag enaid wedi ei foddi yn ei [Page 70] fustledd, a chwedi ei ymlenwi o lid anfodlongar a eill ef lefaru y weddi hon? At hyn yr wyf yn atteb, nyd ydym ni yma yn meddwl mo honynt hwy yr rhai ydynt wedi eu meddianu yn gyfannedd ag yspryd dial, ac heb ddim bwriad yddynt i ymadael ai malais; eithr y ddaddlyw am danynthwy, yr rhai trwy wendyd, a gant anhawstra i faddeu, ac sydd yn clywed ynddynt eu hunain ymdrech rhwng y cnawd ar yspryd. Os byddaf fi gan hynny yn y cyflwr hyn, a allai ddywedyd maddeu i ni ein dyledion, gan weled nad oes genyf mor gallu ond yn brin i ddywedyd ym mod i yn maddeu ir rhai a wnaethant im herbyn? Yr wyf yn atteb hefyd, ym mhlith y camweddau, am yr rhai yr wyf yn gofyn maddeuant yr wyf yn cyfrif hwn, sef yr anhawsder sydd i mi i faddeu. Yr wyf yn gofyn maddeuant am hwn, fod yn anawdd i mi roi maddeuant.
Gwrthddadl y XI.
IW esceusod i eu hunain y maent yn haeru ac ymdaeru yn ollawl, eu bod hwy yn eu gweddiau cyffredin yn ymgyffred holl sylwedd hwn, eu bod hwy yngwneuthur [Page 73] deongliad o honaw, yn hyn yw r vnrhiw beth mewn effaith, er nad ydynt yu adrodd y gwir ymadrodd cyfangwbl o honavv.
Atteb.
WRth y cyfrif yma ni ddywedant yn ffurfiol, ni faddeun ir rhai a wnaethant in herbyn: Eithr y maent yn ei ddywedyd mewn sylwedd. Ydyw yn fwy anghymmwys ei ddywedyd ef yngwir eiriau Iesu Grist nai ddywedyd mewn geiriau [Page 74] cystadlwedd? Ac felly yr hollgwbl arall o weddi yr Arglwydd: Canys gan eu bod hwy yn cyfaddef y rhaid i ni ddatcan ei holl feddwl ef, ydyw Wrddedig i ni ddatcan y geiriau o honaw?
II.
Or gwrthwyneb, pan fyddo ymddadl am ddeongli digwyddiad,Waharddedig. y mae yn addas ei lafaru air yng-air er mwyn cael gweled ydyw y deongliad yn cyttuno ar Tesdyn. Mal pan ddeonglon neu esponnion weddi yr Arglwydd,Texi neur Scrythyr. pa ham nad ydynt yn eu adrodd, er mwyn cael o ddynion weled pa vn a wna y deongliad ai cyfatteb i eiriau Iesu Grist. Eithr ym mhellach, A ydyw eu deongliadau hwynt or vnrhiw bwys a geiriau eiu Harglwydd? Ydyw deongliad yr Scrythyr mor Awduredig ac yw yr Scrythyr eu hunan? Y mae [Page 75] geiriau yr Arglwydd yn ganonicol ac ysprydol: Canys y maent yu ddarn or Scrythyr: Eithr ni feiddia y gwyr hynn Faentimio fod eu gweddiau,Ymddiffyn. neu y geiriau o honynt yn ganonicol: Canys a eill gweddi a lunir gan ddyn wasanaethu am reol Ddisom iw wrandawyr.Ddidwyll odiaethol Datcaniad. Yn y llyfrau Apocriphal y cair gweddiau Nodedig, vn ai yn eu sylwedd, neu o herwydd eu Dosparthiad, pa ham na wnawn ni gimaint cyfrif o honynt hwy ac or rheini a gynhwysir yn y llyfrau canonicol? Canys er eu dychymyg ai llunio gan wyr duwiol deallgar, etto ni ddaethant oddiwrth yr yspryd glân, yn yr vnrhiw gynneddf, perffeithrwydd, ac awdurdod▪ ar rheini a scrifenwyd trwy ddwylaw y prophwydi, at yr rhai hefyd ni feiddiwn ni gyffelybu ein rhain ni; llai o lawer hefyd ir hyn a adroddodd Iesu Grist.
[Page 76]Nid yw ddigon gwrthddywedid: Wrth y cyfrif hwn ni ddylem ni fyth ddywedyd vn weddi ond hon. Canys hyn a fyddai cimaint a phe dywedai vn, nid yw rydd neu gynwysedig i ni ddeongli yr Scrythyr oblegid nad yw ein deongliadau neu ein dosparthiadau ni fyth mor awduredig; ac yw yr Scrythyr ei hun. Ni allwn ddeongli gweddi yr Arglwydd a gweddiau eraill; eithr nid yw waharddedig tan gysgod ein deongliadau, ni ei adrodd ef yn ei eiriau ei hun.
Gwrthddadl yr XII.
YR wyf yn dyfod yr rowrhon at eu gwrthddwediad diweddaf yn yr hwn y maent yn coelio eu bod yn dadcuddio dichell fawr. Geiriau y weddi hon [Page 78] (meddant hwy) a lefarwyd i fod yn battrwm gweddiau ac nid i wasanaethu am weddi.
Atteb.
NId yw hyn ond hud ddichellgar a diangfa ddieithrwâg. Oni eill y gerriau hyn fod yn weddi ac yn Ddull i wneuthur wrthi? Oni eill adeilad wasanaethu am Battrwm i adeilad arall? Ydyw y pethau hyn yn anghyfartal?
II.
Deliwch Sulw, nad yw Jesu Grist yn dywedyd,Nodwch. gofynnwch ich Fad, mal y sancteiddier ei enw ar iddo ef roi i chwi eich bara, &c. Na gwelwch pa fodd y dywaid: dywedwch Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd dywedwch, maddeu i ni dywedwch gwared ni &c. Onid yw yr rhain ymadroddion a ffurf ar weddi? Allai vn yn well neu yn eglurach roi yngenau vn, ei eiriau ei hun? Neu oedd Iesu Grist pryd yr ordeiniodd ef i ni eu dywedyd, yn meddwl yn y gwrthwyneb yn vnion, sef na ddylem ni moi dywedyd?
III.
Eithr tybiwch eu rhoi hwynt yn vnig am Battrwm, ac nid am weddi; Y mae g gwyr hyn yn [Page 80] cysaddef y dylwn i bob amser wrth weddio fod ar patrwm hwn yn fym meddwl, a pham na chaf ef yn fyngenau.
IV.
Oni lefarant hwy ef megis gweddi pa ham na lefarant hwy ef or lleias megis Patrwm neu ffurf? Pan ddywedont Jesu Grist dy fab di an dysgodd ni i ddywedyd wrthit Ein tad yr hwn wyt yn y nefoedd, &c. Oes arnynt hwy ofn ddywedyd celwydd yn dywedyd felly? Neu ydynt hwy yn ofni rhag nad ydyw y gwirionedd hwn wedi ei ddywedyd yn dda.
V.
Yr wyf yn dywedyd fod yn rhaid arhrawiaethu y bobl beunyddol i weddio yn dda. Yn awr y mae yn beth diddadl mai [Page 81] amhossibl gwneuthur vnrhiw weddi dda oni chyttuna hi or lleiaf mewn sylwedd ar ffurf hon, o eiddo Iesu Grist. Onid yw fuddiol a rheidiol gan hynny ir bobl glywed yn fynych y ffurf hon er mwyn cael o honynt weled i ba reol y dylent gyd ffurfio eu gweddiau? Yr ŷm ni yn beio ar Eglwys Rufain, am nad yw yn adrodd ir bobl yr ail gorchymyn or Decalog neu or deg;Yn bwrw yn erbyn deg gorchymyn. oblegid bod y disdawiad hyn yn rhywstro llawer iawn igydnabod y delwaddoliad yr hwn a wnaethont. Oni phair rhoi y ffurf hon heibio, ir bobl yn enwedig i gynifer o eneidiau truain yr rhai ni allant ac ni wyddant pa fodd i ddarllain yr Scrythyrau, Ollwng dros gof y weddi hon yn y diwedd,Anghosio. ac na wypont mwy mor rheol yr hwn a ddylid ei gadw yn gweddio at Dduw? Mewn effeith y mae y gwyr hyn yn gwneuthur cimaint ac a allont, i beri i goffadwriaeth y weddi hon golli.
[Page 82]I ddyfod i ddiben, gwelwch yma y rhagoriaeth sydd rhwng y gweddiau yr rhai ydynt on gwneuthuriad ni ein huniam, a gweddi yr Arglwydd. Ef a ellir dywedyd fod cimaint a rhwng y Babell ar patrwm yr hwn a wnaeth Duw i Moses ei weled ar y mynydd. Y Patrwm oedd nefol wedi ei lunio yn ddigyfrwng gan law Duw: Y Babell oedd dduarol gwnenthyredig, o waith llaw dyn. Gweddi yr Arglwydd sydd nefol a dwywawl oll: ein rhai ni mewn rhan trwy lasur dyn, canys nid oes i ni mor yspryd mewn perffeiddrwydd. Y gweithdy hwn on hyspryd sydd ddynol ac amherffaith bob amser, eithr y Pattrwm sydd ddwywawl a pherffaith. Nid oes vn dyn mor ddysgedig, mor grefyddol, ar na ddichon fethu yn gwneuthur ei weddiau y maent yn sail i amherffeithrwydd,Nad yw sail i fethiant. i ormodedd i anrhefn ac i afreolau. Nid ydym ni heb fai yn hyn o negesau. Yr [Page 83] ym ni yn hyn o beth yn ddiffygiol yn dragywydd; vn ai yn gadael allan, neu fod yn rhyfyrr mewn vn pwngc; yn rhyhir yn y llall, neu yn derchafu ein meddyliau allan ou gradd, eithr yn dywedyd Gweddi yr Arglwydd yr wyf yn sicer, na alla i fethu ei ddywedyd yn dda, nad ydwyf yn gadael allan ddim, nad ydwyf yn dywedyd dim gormodedd, nad nyf o grwydr fryd, nad oes dim hyllder yn fyngeiriau gan hynny yn ol i mi lunio gweddi yn y modd goren y bo possibl i mi,Byrr bwyll. mi a ystyrriaf y deffygion o honi, ac iw adgyweirio hwynt mi arfera hon, yr hon a wn i fod yn beiffeith gwbl ollawl.
Na, yr wyf yn dywedyd yn ol i mi offrwm gweddi om gwaith am dull fy hun, mi ddylwn ddymuno gan Dduw iddo ef gynnorthwy o y deffygion o honi▪ ac ir diben hyn yr wyf yn anfon atto ef y weddi yr hon a ddysgodd ei fab ef i mi. Ydyw yngwaith [Page 83] i mal hyn yn myned rhagddo yn amherthynasol? Oes dim ynddi hi o achos y dylem ni swrw ymaith yr arfer or weddi hon?
Yr wyf yn cloi y cwbl gan hynny, y dylem ni ei hadrodd hi. Ni ddylem o blegit i Iesu Grist ei rhoi hi yn ein geneuau ni. Ni ddylem oblegit hon yw r Talgrynniad or holl weddiau eraill.Crynodeb. Ni ddylem oblegit hon yw yr rheol ar Seren a ddylai ein Hyffor ddi ni yn ein gweddiau at Dduw.Arwain. Ailffurfio. Ni ddylem i Adgyweirio y diffygion yr rhai ydynt yn ein holl weddiau eraill. Ni ddylem ob egit eu bod hi yn gyffredinol, i bob dyn, i bob matter neu achos, ym mhob amser, ym mhob lleoedd. Llyma y weddi yr hon y mae holl eglwysydd y byd yn ei llefaru:Gyssur. ac fal dyma Ddiddanwch mawr i mi,Ganu fy mharth yn y cor hwn. gael o honwyf fi Gadw fy rhan yn y gefeillach fawr hon ▪ Llyma weddi yr hon a allaf fi ei dywedyd mewn hawddfyd, [Page 84] mewn adfyd mewn heddwch, mewn rhyfel; mewn Jechyd mewn clefyd; yn fy mywyd yn fy marwolaeth yr ieuangc yr hên, y gyfoethog ar tlawd, y Brenin ar bugail, allant ei chydlefaru hi.
Ond ydyw hyn beth rhyfeddol, fod geiriau Iesu Grist yn cael eu hammeu genym ni? Pe byddai ein tadau ni, (yr rhai a ddioddefasant gimaint am gael r hydddyd i lefaru y weddi hon mewn iaith a ddeallid, yr rhai oeddynt yn gofalu gimaint am ein dysgu ni (er mwyn cael o honom ni hi bob amser yn ein geneuau) yn cyfodi y dydd hwn allan ou beddau, ac yn gweled ein bod ni yn cynnyg bwrw dros gof y weddi hon; Pa fath warth a gwradwydd a ymchwelent am ein pennau ni? Eithr, yr hyn sydd fwy,Abergofi. Clowch, Neu welwch Eurglywch ar Jesu Grist ei hun yr hwn a archodd i chwi ei llefaru hi. Pwy a vfuddhewch [Page 86] chwi iddo; ai iddo ef, ai vddynt hwy yr rhai a ymdrechant i ddwyn ar ddeall y gwrthwyneb?Berswadiant. Nag ofnwch, nag ofnwch lefaruu geiriau Iesu Grist. Jesu Grist yr hwn ai adroddodd hwynt i chwi a fydd gwarant i chwi tu ac at Dduw,Awdurdod. ac a siccrha eich geiriau, gan eu bod hwynt yn ei eiddo ef ei hunan. Dygwch hwynt bob amser yn eich calonnau ac ar eich gwefusau. Yr wyf yn eich tynghedu chwi fym mhrodyr trwy yr anrhydedd a ddygwch chwi i Iesu Grist, trwy y cyfrif ar parch, y ddylech chwi roi iw eiriau, trwy y cariad a Ddangosodd ef i ni yn dysgu y weddi hon,Destiolaethodd. Interest. trwy yr hawl sydd i chwi o weddio yn dda, a thrwy tangneddyf a gorfoledd yr Eglwys; na chynhwyswch i vn dŷn gippio oddiarnoch y gem gwrthfawr hwn, yr hwn a roddodd llaw mab Duw ei hun i chwi. A channiattâed Duw yn ei drugaredd i ni ag vn ar vnrhiw leferydd [Page 87] bob amser ein darostwng ein hunain at Ein tad yr hwn sydd yn y nefoedd, canys iddo ef y perthyn y deirnas, y galln, ar gogoniant yr awr hon ac yn dragywydd.
Amên.
Y pader ar gan ar byrdwn iw ganu gyd ag efo ar y don saesonaeg a elwirour Father &c.
Ef ellir gadael y byrdwn allan ai ganu ar dôn Psalm viij sylldafog.
Cyfieithiad ni wn i allan o waith pwy.
In English thus: In Sir Henry Wotton His Book.
Ignoto.