Hanes y Ffydd er dechreuad y byd hyd yr oes hon.
DYledus ini chwilio allan helynt y Ffydd ymhob oes ac ymhob gwlâd. Deut. 4.32, 33. Ymofyn yn awr am y dyddiau gynt a fu o'th flaen di, o'r dydd y creawdd Duw doyn ar y ddaiar, ac o'r naill gwrr i'r nefoedd hyd y cwrr arallir nefoedd, a glybu Pobl lais Duw? Job 8.8, 9, 10. Gofyn i'r oes gynt, ac ymbaratôa i chwilio eu henafiaid hwynt (canys er doe'r ydym ni ac ni wyddomddim) oni ddyscant hwy di? Jer. 2.10. Ewch tros ynyso [...]dd Chittim, a danfonwch i Cedar, ac ystyriwch yn ddiwyd. Ac fal ygallem wybod pa fodd y gwas naethodd pobl Dduw gynt, trefnwyd iddynt fynegi bynny drwy air a scrisen ir cenedlaethau oedd i ddyfod. Psal. 78. 2.3— Traethaf ddamhegion o'r cynsyd, gan fynegi i'r oes a ddêl foliant yr Arglwydd, fel y gosodent eu gobaith ar Dduw heb anghofio ei weithredoedd ef. er mwyn hyn y Scrifenwyd y Scrythurau. ie ac yr oedd yr hên Baganiaid yn Scrifenu historiau cŷwyr o'r pethau y ddygwyddent yn eu plith. ac oni bae hynny collaseu miloedd o bobl Dduw eu bywyd yn amser Ester pen 6.1, 2. [Page 2] darllenwyd yn llyfr coffadwriaethau hanession yr amseroedd, fel yr achubasei Mordecai fywyd y brenin Ahasferus, yr oedd yspysrwydd o fawredd Mordecai yn Scrifenedig yn llyfr Cronicl Brenhinoedd Media a Phersia. Esth. 10.2. Ac fel y deallem histori yn well, rheidiol ini ystyried Argraph y ddaearyn ol y gorchymyn,Deut. 4.32. i chwilio pub Cwrr o'r byd. Gwledydd Cydnabyddus y byd y ddosperthir yn bedwaro rannau, y rhai elwir Asia, Affrica, Europa, America.
Yn Asia y creuwyd adda ac Efa: y ganwyd Crist, ac y pregethodd ef. Ynddi y mae llawer o daleithiau. Megis Anatolia, elwid gynt Asia leiaf lle bu'r Saith eglwys y Scrifenodd Crist attynt' wedi ei dderchafiad drwy law Joan Datcudd. 2. ar. 3. pen. yn awr y Turciaid Sy'n ei llenwi. A Cilicia, dinas Paul sef Tarsus, oeddyma. A Bythinia, Pontus, Galatia lle'r oedd Eglwys Gristnogol yn amser Paul. Cappadocia, Armenia lle mae mynyddoedd Ararat y gorphwysodd Arch Noah arnynt Gen. 9. Lycaonia lle mae Derbe, a Lystra anwadal y fynasei addoli 'r apostolion, ac we di hynny gadawodd eu herlid nhwy. Act. 14. Syria, lle mae Tyrus, a Sidon, a Joppa lle Cododd Petr Dorcas o farw i fyw. Act. 9. a Damascus, ac Antiochia, y alwodd y discyblion gyntaf yn Gristogion Act. 11.26. Palestina, lle mae 'r môr marw yn yr hwn nis gall dim fyw gan ei Sawr pyglyd ef. Ynghylch y llyn Sawrllyd hwn y tyfiff pren ac afalau arno, tèg yr olwg, ond Pan gwffyrdder a hwynt [Page 3]ânt yn vlw, yn y fan y mae 'r llyn hwn y bu Sodom, a Gomorrah, a dinasoedd eraill, nes yw pechodau dynnu arnynt ddialedd tanllydd. yma nid Llyn Llynclys onid Llyncddinas. Rhannau Palestina yw▪
1. Galilea gogledd Israel ynddi yr oedd Caparnaum a Nazereth Preswylfa Crist.
2. Samaria, rhwng Galilea a Judea: ynddi yr oedd Caesarea lle 'r ysswyd Herod gan lau. wedi caethgludo 'r dêg llwyth,Act. 12, Assyriaid Cenhedlig y bresswyliodd yma, y rhai oeddent yn Cymusgu crefydd yr Juddewon ac eulynaddolieth y Cenhedloedd.
3. Judea yma y mae Hebron, a Mamre, a Bethlehem, tref ganedigaeth Crist, a Jerusalem Enwog lle y croeshoelwyd ef▪ Nid yw 'r wlâd hon ond wyth ugain milltir o hyd, a thrigain o lèd, etto rhyfeddol oedd lliaws ei thrigolion, a ffrwythlondeb ei thir, gan ddwyn Cynyrch ar ei ganfed, tra yr oedd eglwys Dduw yn preswylio ynddi. Ond yn awr nid yw mor ffrwythlon er Pan wrthododd hi yr efengyl ac y daeth dan law 'r Twrc. Cyffinia ar y ddwyrain ran o'r môr Canoldir, ac ynghylch Canol y byd ydyw. Yma y Cododd ffynon dwfr y bywyd sefyr efengil, ac y ffrydiodd i bob ffordd dros y byd. Yn Arabia, Cymydogaeth Palestina, y rhoddes Duw y gyfraith hefyd i Israel, a bara o'r nef▪ ynteu cyfleus y gosodes ei bulpyd, fel y clyweu 'r bobloedd oddiamgylch am ddaioni a doethineb Duw! Yn y gwledydd y henwyd [Page 4]y mae Crefydd Mahomet, a'r Juddewaidd, a'r Gristnogaidd yn ol arfer y Groegiaid, gan gymuno plant, ar ol eu bedyddio uwch ben tân, (fel y tybiant) mewn ufuddod ir gair, Sy'n dywedyd y bedyddia Crist a'r yspryd, ac a thân. ymattaliant hefyd oddiwth fwydydd aflan dan yr hên destament.Math. 3.11. Pan ymlygrodd Cristnogaeth yn y dwryrain y mgymysgodd gan mwyaf a'r grefydd Juddewaid, ond yn y Gorllewin ar un Baganaidd Ladingaidd befyd. Yn Asia hefyd y mae Assyria, lle'r oedd Ninifeh, ac y caethiwyd ydêg llwyth. A Mesopotamia (sef Padan Aram,) yn y wlâd hôn yr oedd Paradwys. A Babilon lle cymyscwyd yr ieithoedd, ac y teyrnasodd Nebuchadonozor. A Phersia ai harglwyddiaethau, y gyrhaeddi [...] or môr mawr ar y dehau, hyd y môr Caspiaidd ar y gogledd. A Tartaria, y elwid gynt gwlad Magog mab Japhet, wedi hynny Scythia, ymerodraeth fawr wedi pum mil o filltyroedd o hyd, a thair mil o lêd yma y teyrnasodd Tamer lane fflangell y Twrciaid, dyma fam pob dilyw o bobl, ac aliwns, gogledd Asia yw. Crefydd Mahomet Sydd yn y teirnasoedd Mawrion hyn gan mwyaf: Cydnabyddant anfarwoldeb yr enaid. Mae rhai Cristnogion gô gyfeiliornus yn eu plith, ac Juddewon hefyd. Ac India eheng, gyfoethog o aur Ophir, a thra hyfryd ei choedydd ai maesydd. eulynaddolieth sydd ynddi, oddieithr lle mae 'r Europeaid wedi adeiladu dinasoedd a chestyll hyd lan ei môr tua'r dwyrain. A China, teirnas fawr, ynddiy [Page 5]mae dinas Cwinsay o daith deuddydd o hyd. dywed ei thrigolion fod gandynt gelfyddyd Preintio, a gwneuthur gynnau o flaen Europa, am hynny fod ganddynt hwy ddau lygad, a chan yr Europeaid un, a bod eraill heb yr un. maent yn addoli delw ac iddi dri a bennau; mae ganddynt hefyd lûn gwraig lân a dyn bychan ar ei braich, yr hwn y aned iddi a hitheu yn forwyn: Cydnabyddant fod yr enaid yn anfarwol. ffrwd yr efengil a adawodd hyn o rwd oi hol, yn y gwledydd hynny: y mae ynyfoedd enwog yn Asia megis Japan a Javan, a'r Molucciaid; ac amryw o honynt dan lywodraeth yr Hispaenwyr, a Phabyddieth yn gwreiddio ynddynt. Yr ail rhan or by d yw Affrica, [...]. a henwir felly, am ei bod heb oerni; ynddi y mae Barbaria lle mae Tunis. yr oedd llawer o eglwysydd ac yscaldai têg yma gynt, ac Awstin yn Athro nodedig, a'r efengil yn llwyddianus. crefydd Mahomet sy'n awr amlaf yna, a'r Twrciaid yn Caethiwo'r Cristnogion. Yr ûn modd yw helynt Algiers, a Morocco, Numidia, Lybia, poethgras yw eu tir, am fod yr haul yn vnion uwch eu Penau. Ethiopia sydd yma, y gyfenwir felly am fod ei thrigolion yn dduon. megis wedi llosci eu whynebau. [...]. Dûg yr eunuch Gristnogaeth ir wlâd hon,Acts 8. a glynanr ynddi etto, yn enwedig yn emerodraeth yr Abissiniaid, neu Joan yr henuriad: dywedir fod Llyfrdy yn un o balasau yr emeroder hwn, a bod ynddo brophwydolieth [Page 6] Enoch, a Llyfrau eraill nid ydynt gennym ni. Mae 'r Cristnogion hyn yn eu hail bedyddio eu hunain ar yr ystwyll bob blwyddyn: ni Phoerant ar ol Cymuno, nes machludo 'r haul. Enwaedant eu plant cyn eu bedyddio. Y Mae yn y gwledydd hyn ddau auaf bob blwyddyn. Cans y mae'r haul wrth sumud o gylch y dehau attom ni i gylch y gogledd, ac yn ol Eilwaith, yn nessâu attynt, ac yn Cilio oddiwrthynt ddwywaith bob blwyddyn, ond y mae eu gaiaf hwynt agos mor wresog ar hâf gyda ni. cydnabyddant Batriarch Alecsandria, Sydd ddinas Enwog o'r Aipht; lle gwnaeth Ptolomeus Philodelphus Llyfrdy mawr ar ol ir Aiphtiaid ddychymyg wneuthur papyr a hèsc Llydain. yn yr Aipht y mae Cair dinas o wyth milltir ar ugain o hyd. nid oes dim glaw yno. Ond yr Afon Nilus sydd ar dymhoran yn llifo dros y wlâd yw gwrteithio.Zeth. 14. [...]8. nid yw Cyrph y trigolion yn bwrw cyscod yr hâf, gan fod yr haul yn union uwch eu penau. Maent rai yn Gristnogol o'r un ffurf a'r Abissiniaid, ond dan awdurdod y Twrciaid.
Y drydydd ran o'r byd yw Europa, ac yn awr yr odidoccas o'r cyfan: gan ei bod, yn boblog, yn ddysgedig, yn Gristnogol, yn gelfyddgar. ynddi y mae Prydain a'i hynysoedd Perthynasol, sef Orcades, Hebrides, Manaw, môn, Iwerddon. trôdd y Gwyddyl yn Gristnogol yn y flwyddyn o oedran Crist 335. Ar Hispaen yn gryf gyda Phabyddieth. A Ffrainc lle cynh. [Page 7]wysir crefydd y Protestaniaid. Preswylia rhai o'n cenedl ni mewn talaith o honi sef Llydaw. ar ystlys Ffrainc y mae arglwyddieth tywysog Safoy, yrhwn a Sglyfiodd y Protestaniaid duwiol fel blaidd. A Genefa Mamaeth dda ir bûr grefydd, A Batafia Elwir Holland a'r gwledydd cryssylltedig y broffessant grefydd y Protestaniaid yn unig. Yn Europa hefyd y mae Germania, neu wlad yr Ellmin, lle Cynyddodd y wir grefydd yn ddirfawr er amser Luther. Rhan o honi yw Helfetia ac o'r un grefydd, er amser Zuinglius, ac Hungaria y gynwys grefydd Mahomet a phabyddieth. Ar Ital enwog, lle mae Rhufain, gwladwriaeth Genoa a Fenice gadarn. Bu r' wlâd hon yn glodfawr am grefydd ac arglwyddieth gynt, ond wedi ymlgru, ymwanhychodd. Tua 'r gogledd mae Polonia teyrnas gref, ynddi mae crefydd y Groegiaid, â'r Protestaniaid. A D [...]nmarc, a Sweden, or unrhyw grefydd. dywedir fod yma bobl alarant yn oer ar amserau, gan lefain Jeru, Jeru, Mosco lon. tybir mae hepil yr Juddewon ydynt yn galaru am Jerusalem a Damascus drwy orchymyn treftadol. Yn y gwledydd hyn nid oes agos ddim dydd dros y trimis gauaf mewn mannau, ac onid ychydig nôs amser hâf. A Muscofia, teyrnas helaeth o dair mil o filltyroedd o hyd, y dderbyniodd y grefydd Gristnogol gan y Groegiaid yn y slwyddyn o oed Crist. 942. Er nad unâ ag eglwys Rufain canys yn ei iaith ei hun yr addola Dduw, etto mae'n ô goelgrefyddol.
[Page 8]Y nês at yr haul y mae Dacia, ynddi y Cynhwysir Transilfania, Moldafia, Walachia, Bulgaria, Bosnia, talcithiau dan awdurdod y. Twrc, ond mae rhai Protestaniaid yn eu mysc. A Sclafonia neu Illiricum lle mae Croatia, a Dalmatia, Pregethodd Paul o Jerusalem hyd yma, ac yn awr daliant y ffydd yr un sut a'r Groegiaid. A Groeg, ei rhannau yw Corinthiu, Thessalia, Macedonia, Achaia, Thracia, lle mae Constantinopl, y adeiladodd Constantinus ein gwladwr ni ar ystlys y môr Canoldir, ac yn awr prif ddinas y Twrciaid. Planodd yr apostl Paul eglwysydd Cristnogol yn y gwledydd hyn, a Scrifenodd amryw oi Epistolau attynt, ond er diwedd dûg dialedd Duw y Twrciaid arnynt, etto am drêth maent yn cael rhydd-did i broffessu 'r grefydd Gristnogol, a gwrthododant lygredigaeth y Ladingiaid. Mae gan y Cristnogion sydd dan y Twrc bedwar patriarch parchedig (sef megis archescobion) i lywodraethu'r Eglwysydd, Un yn Constantinopl, un yn Alecsandria, un yn Jerusalem, ac un yn Antiochia, heb law gweinidogion Cyffredin. America y henwir yn bedwerydd ran o'r byd, ond tybir ei bod yn gymaint ar tair eraill, y tu arall ir ddaiar y mae. Canys fel pellen gron yw'r byd; pan fachludo'r haul arnom ni, tywyna ar America. bydd nôs yma, tra fohi dydd yno. Amly gwyd y wlâd hon ir Europeaid ynghylch yr un amser ac yr adferwyd dysceidieth a chrefydd, Oedran Crist 1492 Cristopher Columbus [Page 9]wrth ddirnad fod yr haul yn tywynnu y tû arall ir ddaiar cyhyd ar tû yma, a wybu fod yno wledydd; am hynny wedi cael dwy long gan frenin Hispaen, anturiodd hwylio hyd y môr mawr, oni ddaeth at ynys y alwodd ef Hispaniola. Nid oes ond cainc o fôr od oes ddim, rhwng America a Thartaria gogledd Asia. Oddiyno y tybir fyned pobl yw phreswylio hi gynt. Rhannau America yw Mecsicana, lle mae Florida, er bod y gwledydd hyn cyn agosed at yr haul, ac yw duon Affrica, etto gwynion yw eu trigolion. Yr hyn y beriff i R. Ben Israel dybied mae hepil y dêg Llwyth aethant o Assyria drwy Tartaria i gyfanneddu yno. Eulynaddolgar y dynt, ond cydnabyddant anfarwolder yr enaid. Attebasant Ferdinando Soto oedd yn ceisio eu dyscu, nad oedd ei grefydd ef o Dduw, am fod ei dilynwyr mor waedlyd. Rhan arall yw Mecsico, nid adwaenir moi therfyn tua'r gogledd, gelwir hi yn awr Hispaen newydd. canys Hispaeniaid y ddugasant fyddinoedd ac a laddasant chwe miliwn oi thrigolion ganedigol (y rhai oeddent noethion ac heb reolaeth) a chymerasant eu lle hwynt. Yn ninas Mecsico y mae eisteddle Rhaglaw brenin Hispaen, ac Archescob, ac yscaldai. A Jucutan, lle lladwyd peth echryslon o'r trigolion gan yr Hispaeniaid. Yr oedd yn y wlâd hon demlau têg cyn dyfod yr Hispaeniaid yno. Arferent hefyd enwaediad, ac addolent groes, yr hon adawsei gwr glân yno gynt er' Coffadwrieth, [Page 10]meddent: A Nicaracwa lle mae mynydd yn bwrw tân allan o honaw. Mae 'r cyfryw beth mewn mannau eraill o America a'r hênfyd hefyd, megis Aetna, a Fesufius, ond ni ddywedir fod Simnai cyn ddyfned ir un, ac ir mynydd hwn, gan fod y twll, o ba un y mae 'r tân yn dyfod allan, wedi deuddeg ugainllâth o ddyfnder. Yn Cwisira y mae Prydâin Newydd a ymroddodd i Sr Francis Drâce: yn America y mae Firginia, a Lloegr Newydd, ac yndynt drefydd a rheolaeth hyfryd, a'r efengil yn llwyddianus ymysc y Saeson, a rhai o'r trigolion ganedigol hesyd. Affrainc Newydd. Deheudir America yw Peruana, lle mae taleithiau eheng oddiyno i sôr y dehau; a rbai pobi dduon, a llawer o aur, a pherlau, dan awdurdod yr Hispaeniaid y maent gan mwyaf, a gwnaeth daergrynfâu niwed mawr yn y gwledydd hynn er pan ddaethant yno. Mae Saeson yn preswylio yn amryw o ynysoedd America sef Barbadoes, Bermudas, Jamaica. crefydd naturiol yr Indiaid hyn yw cydnabod fod Duw, a derchafant eu llygaid tua'r nef, aberthant, ac Arogldarthant. Gwnaeth gwyr Mecsico ddelw o basteu, ac wedi ei dwyn megis mewn prosessiwn, rhannasant y crystynrhwng y bobl, gan ddywedyd eu bod yn bwytta cnawd eu Duw, a hynny mewnmodd parchedig. Yr oedd gan wyr Peru dri delw i Dduw'r taranau, y rhai y alwent y tâd a'r mâb ar brawd. Cyffessei 'r Twysog ei bechodau ir haul, ac yna neidieu i ddwfr rhedegog gan ddymuno [Page 11]ar yr afon ddwyn ei bechodau ef ir môr y w boddi. Yngwsad Peru mae hi yn auaf, amser hâf yn ein gwledydd ni. ymysc y Barbariaid Truain hyn y gwnaeth yr Hispaniaid Aceldama, ac y rhoddasant y groes i sefyll mewn Golgotha fwy na'r hon yn Jerusalem, a'r cwbl i ynnill aur, nid eneidiau, ac i droi 'r bobl yn gaethweision yw geibio ef.
Y mae gwlad y welwyd ei chyrrau gan forwyr, y elwir Magelanica, neu tir y dehau ang. hydnabyddus, tybir ei bod yn gymaint ar cwbl y ddofparthwyd y tu hwnw ir ddaear. Tebygol ei bod yn fawr iawn, gan fod yr haul yn troi yn ei chylch hi yn amser gauaf gyda ni: ac nad oes ond ychydig o'r byd sydd eusus gydnabyddus y tu hwnw ir haul.
Bellach i ddyfod at yr amseroedd. Cyn seilio'r byd yr oedd yr Arglwydd Bendigedig yn rhagordeinio gwneuthur ei etholedigion yn wynfydedig drwy Grist. megis y mae gwyr goludog,Ephes. 1.4. yn dymuno cael plant i etifeddu eu meddiannau, felly yr ewyllysiodd Duw greu dynion ac angylion i gyfranu ei fawr ddaioni iddynt, ac i gymeryd gwasanaeth ysprydol oddiwrthynt; y Cyfryw y mae 'r Tâd yn eu ceiso iw addoli ef. Joan. 4.23. Am hynny gwnaeth ef Adda ac Efa mewn cyflwr hyfryd pûr, gorph ac enaid. Nid oedd raid iddynt wrth ddillad, canys nid oedd un golwg gwradwyddus arnynt, cyn pechu. Yr oedd yr holl greaduriaid yn ufudd i Adda, ac yn fwynaidd wrth eu gilidd, daeth y [Page 12]bleiddiaid a'r defaid atto ef yn gyttûn i gymeryd henwau. wedi pechu o Adda ac Efa, ni adawodd Duw hwynt un dirwnod heb hanes achubwr i ddirymu pechod a Satan.Gen. 3.15. Gwelwn ynteu bregethu'r Efengil er y dydd Cyntaf y bu dyn ar y ddaiar. A lladdwyd Crist drwy fwriad ac addewid Duw er dechreuad y byd.Datc. 13.8. Cymododd Adda ac Efa a Duw drwy'r cyfamod grasol hwn cyn y dydd Sab. both, fel na phallei addoliad. Hiroes Adda sydd yn dangos iddo fyw mewn ufudd-dod i Dduw, canys ni ddarllenir ir un o'r annuwiol fyw cyhyd ar Patriarchau Sanctaidd. Cyfrifir ef yn yr un llech-res a rhai credadwy.Gen. 5.1. a dyscodd ei blant, Cain ac Abel i addoli, ac aberthu: yr oedd yr aberthau y pryd hyn yn orchmynedig drwy air, wedi hynny drwy. scrifen yn amser Moses. Ac yn arwyddoccâu yr haeddei'r aberthwr ei lâd a'i lofci, ac yr aberthid Crist. Dûg Abel y pethau goreu y feddeu yn aberth ir Arglwydd yn ewyllyscar, a chyffelybys ddyfod tân o'r nef i gyrchu ei roddion efi fynu. ac nid rhai Cain.Lev. 9.24. fel yr anfonodd Duw dân i aberth Elias, ac y gwrthododd ebyrth y gau Brophwydi. typ oedd hyn o'r gwresogrwydd y rydd Duw yn ei wir addolwyr i dderchafu gweddiau ysprydol tua'r nef,y Bren. 18.25. — ac mae trwy'r yspryd nefol yr offrymmeu Crist ei hun. Y mae cenfigen Cain yn ei yrru ef i lâdd ei unig frawd Abel ddnwiol, am ei fod yn rhyngu bodd Duw yn [Page 13]well nag ef ei hun. Yr oed erlidwyr Cyntaf megis y rhai diweddaraf yn addoli y gwir Dduw oddiallan. Wedi hynn yr oedd Ismael o'r un broffess ag Isaac, etto yn ei watwar ef. Ac Esau o'r un tâd a Jacob, etto yn ei gassâu ef: Escymunodd Duw Gain afrywiog allan oi addoliad,Gen. 4.14. dyma ddechreuad rheolaeth eglwysig. Ar ol hyn rhoddes Duw fab duwiol arall i Adda sef Seth, yr hwn y genhedlodd Enos rasol, ac felly dechreuodd gwir addolwyr Duw amlhâu, au galw eu hunain yn bobl yr arglwydd,Gen. 4.26. a hâd Cain felltigedig yn feibion dynion: a bu i rai duwiol fyw wedi wyth, wedi nawcant o flynyddoedd i glodfori Duw yngbyd. Os rhyfeddi, fod einioes y tadau cyn y dilyw cyhyd, ystyria eu bod yn llestri newydd ddyfod o law 'r-gwneuthurwr Perffaith. A bod eu hymborth yn iachus, sef dail a ffrwythau,Dihar. 3.16. o'r hyn yn awr y gwneir physygwrieth, ac yr oedd y ddaiar yn jevanc. A bendith doethineb yw hiroes, hefyd yr oedd eu hir gymdeithas hwynt ynghyd fel Cymanfa ffyddlon o henurieid daionus yn cadw purdeb gwirionedd ydoedd y pryd hynny heb ei scrlfennu: ac yn fuddiol er amlhâu trigolion ir byd, a gweision i Dduw.
Pan oedd y byd yn un cant ar bumtheg oed, ac i feibion Duw ymlygru gyda merched dynion, anfonodd Duw ddilyw i foddi'r byd, gan achub Noah berffaith, yr hwn y fu chwe-chant o flynyddoedd gyda rhai y [Page 14]welsent Adda: ac a ofnodd pan rybuddwyd ef am ddestryw 'r byd, gan ddarparu llong ar dir sych, er bod pobl diameu yn ei watwar ef. Noah ai feibion adferodd y byd. Yn heppil ei fab ef Sem yr arhosodd y wir ffydd.
Byrrhawyd einioes dynion y naill hanner ar ol y diluw, a hanner arall ar ol cymyscu'r jeithoedd yn Babel.Gen. 11. Bu Sem ai feibion duwiol fyw hyd amser Abraham ac Isaac, ynghylch pumcant o flynyddoedd ar ol y diluw. Ni bu Abraham fyw mor naw ugain mlynedd. Wrth rannu'r jeithoedd torrodd yr arglwydd gymundeb rhwng yr eulunaddolwyr a'u gilidd, a gwascarwyd hwynt hyd y byd. Melchisedec (yr hyn oi gyfieithu yw ybrenin Cyfiawn) y sendithiodd Abraham oedd Sem fel y tybia r' dyscedig y Peth sydd scrisenedig,Gen. 14.18. a guttuna ag ef. Yr oedd heb rieni na cheraint yn amser Abraham,Hebr. 7.1. Heb ddechreu dyddiau yn y byd newydd, na diwedd oes yn yr hên, yr oedd y rhai byrroes y pryd hynny yn tybied na byddei ef marw byth, wrth ei weled ef yn byw cyhyd. Hawdd oedd iddo ef fod yn frenin, canys tâd yr holl rai duwiol oedd ef. A dyledus oedd i Abraham gymeryd ei fendith ef, canys offeiriad Duw oedd ef, ai hên-hendaid ynteu hefyd. Gwelodd Abraham ddyfodiad Crist yn y Cnawd a llawenychod.Joan 8.56. Darllen lyfr Genefis, a rhyfeddi mor ufudd i orchymyn Duw, ac mor hyderus ar addewidion Duw oedd Abraham, Isaac, a Jacob, a Joseph, yr hwn lyfr y gynwys [Page 15]histori 2369 flyn. Sef o ddechreuad y byd hyd gaethder Israel yn yr Aipht.
I Abraham y gorchmynodd Duw yr Enwaediad gyntaf, sef blingo ymaeth blaengroen y rhan ddirgel ir plentyn gwryw. Yr hyn oedd yn arwyddoccâu y Sancteiddid hâd Abraham. Sef y genid Crist oi lwynau ef, yr hwn adywalltei ei waed dros ei bobl, ac y dylid torri ymaeth llygredigaeth trachwant.Deut. 10.16. yn yr oes hon (tebygol) y bu Job yn enwog mewn Crefydd yngwlad Uz. ir amser hwn y perthyn hyd ei einioes ef. Canys bu fyw Saith vgain mlynedd ar ol ei brofi, ac o'r blaen yr oedd ganddo feibion a merched. Ac wyr Abraham o Ceturah oedd ei gyfaill ef Bildad mab Suah. Gen. 25.2. Darsu ir pendefigion y ragddywedpwyd ymddwyn yn rasol mewn prosedigaeth a goruchasieth. Ac wedi hyn nid allodd toster yr Aiphtiaid ddiffodd Crefydd yr Israeliaid. Cofiasant lw Joseph am symmud ei escyrn ef gyd a hwynt wrth ymadel ar Aipht, diammeu nad anghofiasant moi ffydd ef.Exod. 13.19. o'r amser y gwnaeth Dnw yr Cyfamod ag Abraham hyd ddyfodiad Israel or Aipht y bu 430. flyn. ynghylch oed y byd 2500.Exod. 12, 41. Gwell oedd gan Moses fod yn fab i Dduw nag yn wyr i Pharao. dewisodd adfyd gyda phobl Dduw.Hebr. 11.27. o flaen hawddfyd gyda phechod. A hynny wedi iddo fyned yn fawr, pan oedd ynghanol ei oed ai gôf: gwell ynteu yw Cyssur ysprydol na digrifwch daiarol. Yn awr ordeinwyd yr Oen pasc er coffadwrieth [Page 16]i Israel oi gwarediad o'r Aipht, ac er yspysrwydd o Grist i ddysod.1 Cor 5.7. am hynny gelwir ef yn oen i dynnu ymaeth bechodau.Joan. 1.29. drwy Ffydd yr aeth y bobl drwy r'môr, lle bedy ddwyd hwynt,1 Cor. 10.2. a phlant yneu plith. a chan fod pobl Dduw wedi amlbâu yn fwy na chwechanmil, ac wedi eu didoli ir anialwch oddiwrth eulyna. ddolwyr, a byrrhâu einioes dyn, yscrifennodd Duw ei gyfraeth iddynt ar gerrig a'i fys ei hun, wedi iddo a lleferydd eglur ei hadrodd wrth y bobl o'r mynydd tanllyd.Exod. 20. Pan oedd yn rhod. di teyrnas yw bobl, rheidiol oedd iddo roddi cyfraith gy da hi, ie parodd iddynt gyfodi Colosnau maen wedi eu gwyngalchu,Deu. 27.3. a scrifenu holl eiriau yr gyfraith arnynt yn nhir Canaan, Fel y galleu pawb eu darllen er mwyn eu cadw. Ac fel y byddei'r bobl hyspysach ar ewyllis eu Harglwydd, gosodwyd hi nid yn vnig ar lêchau, a Cholofnau, ac mewn llyfrau, ond ar ganiâdau hefyd.Deut. 32. tybir na bu er ioed yscrifen yn y byd cyn y pryd hyn. Or blaen yr oedd y rhai pennaf o'r teuluoedd duwiol yn cael gweledigaethau Duw, ac yn dyscu ir lleill yr hyn y fynegafei Duw iddynt hwy. a gela si rhag Abraham medd yr Arglwydd? Canys mi ài hadwaen ef y gorchymyn ef iw blant ac jw dylwyth ar ei ôl gadw o honynt ffordd yr Arglwydd. Gen. 18.17.—
Os gofynni pa fodd y gallei Moses wybod y pethau a ddigwyddasent er dechreuad y byd, ac sydd scrifenedig yn ei lyfr cyntas ei?
Attebaf, y gallei ef wybod llawer drwy fynegiad [Page 17]dynol o'r pethau yddyscaseu 'r genhedlaeth honno gan Joseph, ac ynteu gan Jacob, ac yntef gan Isaac, ac ynteu gan Abraham, ac ynteu gan Sem, a Sem gan Noah, a Noah gan Methuselah, ac ynteu gan Adda. A Chyda hynny yr oedd Moses yn cael ymddiddan a'r Arglwydd wyneb yn wyneb,Deu. 34.10. yr hwn y ddatcuddiodd iddo ef y pethau fuasent, a Llawer o'r perhau fyddent. Joshua gweinidog ac etifedd yspryd Moses a ddûg Israel i Ganaan, ac a wnaeth gyfammod difrisol a hwynt, a'r ufudhâu ir Arglwydd, a bwrw ymaeth eulynnod.Josh. 24. o hynny hyd amser Saul bu Israel heb frenin, sef yspaid yngbylch 450 flynydd.Act. 13.20. yn y dyddiau hynny pan bechei 'r eglwys drwy gau addoliad a drwg foesau gadawei 'r Arglwydd i erlidwyr ei gorthiymmu, a phan ddiwygei ei ffyrdd, cyfodei wared wyr iddi. Bu llwyddiant crefydd yn helaethach yn amser y brenin Dafydd, gwr wrth fôdd Duw; ai fâb Solomon, y ddewisodd ddoethineb dduwiol oflaen golud bydol. Ynghylch hyn y tybir i Frenhines Sheba ddwyn y wir grefydd i Arabia. ddedwydd, i Brenh. io. i. Ond wedi hynny ymlygrodd Israel fwyfwy, nes i Dduw ddigio wrthynt, a Chyfodi brenin Assyria i gaethiwo y dêg llwyth, a brenin Babilon i gaethiwo 'r ddau eraill, gan losci Jerusalem a'r Deml. Bu'r Scrythur a'r grefydd yn brin yn nechreu teyrnasiad Josiah; ac Ahaz,2 Brenh, 22.15. yr hwn y gaeodd y deml, hynny a barodd sawr gystudd.2 Cron, 28 23.
O amser Solomon hyd gaethiwed Babilon y [Page 18]bu 438 fly. oed y byd 3440. ond argyhoeddodd ygrefydd ei herlidwyr, canys y pryd hyn Cyhoeddodd Nebuchodonozor yw holl daleithiau mae Duw'r Israeliaid oedd y gwir Dduw, gan ei fawrygu ef am wneuthur gwrthiau dros ei bobl yn eu Cyfyngder.Dan 3.28. ar. 4.1. Ond am ir Caldeaid attal y gwirionedd mewn anghyfiawnder, achystuddio Israel ddengmlynedd a thrugain, dymchwelodd Duw eu ymerodraeth hwynt, gan ei rhoddi ir Persiaid. y rhai a hyfforddiasant yr Juddewon i ddychwelyd, ac i ailadeiladu yr deml a Jerusalem, ac a gydnabuasant hefyd fawrhydi y gwir Dduw. Dengis llyfr Ezra helynt y ffydd dros 146. flyn ar ol dychweliad Israel o Babilon. Y prophwyd olaf ar ol ailadeiladu 'r deml oedd Malachi: ac yn gymaint ac nad oedd un prophwyd i gyfodi ar ei ol ef rai cantoedd o flyn. nes dyfodiad Joan fedyddiwr,Mal. 4.4. mae 'n gadel siarse arnynt, am ddyfal ddyscu cyfraith Moses. oed y byd 3608, Pan oedd Alecsander brenin Macedonia, yn orchestol yn gorchfygu cadernid Persia, daeth tua Jerusalem yn ddiclon, am i Jadduah yr Archofleiriad ommedd ei gynorthwyo ef yn erbyn brenin Persia, (ir hwn yr oedd Jadduah yn rhwymedig drwy lw) A thra yr oedd y ddinas dan ei dychryn yn ymprydio, ac yn gweddio Duw, cafodd yr Archoffeiriad gyngor mewn breuddwydd i agori pyrth y ddinas, ac i fyned allan ai frodyr gyd a'g ef yn eu gwiscoedd offeiriadol i wyneb y fyddyn lidiog. Ar hyn rhedodd Alecsander i gyfarsod yr Archoffeiriad, ac ai cyfarchodd ef yn ostyngedig [Page 19]a gorchymynnodd iw gapteniad na wnaent niwed iddynt: gan ddywedyd i Dduw yn y Cyfryw debygolieth ymddangos iddo ef, ac addaw rhwyddhynt yw daithef; wedi hynny dangosodd Jadduah iddo ef brophwydolieth Daniel, yn Crybwyll am fuddugolieth iddo ef, yr hyn annogodd Alecsander i adel ir Juddewon rydddid eu crefydd. Ar ol hyn mynnodd Ptolemeus Philadelphus brenin yr Aipht ddeuddeg a thrugain o ddyscawdwyr yr Juddewon i gyfieithu yr hên destament o'r Hebraec ir Groeg.Oedy byd 3700, Ond prifiodd eraill o'r brenhinoed Groegaidd yn erlidwyr chwerwon yn erbyn y wir grefydd. Ceisiodd vn o honynt ddyfod ir deml ir fan Sanctaidd Sancteiddiolaf yw halogi ai gau aber. thau, ond wrth wed di Simon yr Archofferiad, trawodd Duw ef a gwendid, fel nad allodd Symmud. Ac wedi myned yn wych, penododd ddiwrnod i lâdd yr Juddewon, ond tynnod Duw ei goffadwrieth ef ymaeth ar y dydd hwnw: ac wedi hynny darfu i ddau angel ei ddychrynu ef ai fyddyn oddiwrth Jerusalem. Yn amser Antiochus Epiphanes gwelwyd byddinoedd yn yr awyr vwehben Jerusalem, y pryd y ceisiodd ef yscubo allan o'r byd enw yr Juddewon ai crefydd. Ac wedi iddo wneuthur creulondeb fawr, trawodd Duw ef a dolur gwaedlyd oni bu ef sarw! Er na bu vn prophwyd yn Israel o amser Malachi hyd Joan fedyddiwr, dros well na thrychant o flynyddoedd, etto glynodd yr Juddewon yn gefnog yn eu crefydd y dyddiau hynny. dengis llyfrau'r Apocrypha helynt yr amseroedd [Page 20]hyn, y rhai er nad ydynt yw Cyfrif fel yr scrythurau Sanctaidd, obsegyd nad ydynt ymbob peth yn Cyttuno a hwynt, na'g wedi eu scrifenu yn Hebraec, na'u derbyn gan yr Juddewon, etto haeddant barch historiau dynol, duwiol.
Bu rhyfel rhwng dau frawd am frenhinieth Jerusalem;Oedy byd 3903. Cyrchodd y blaid oedd yn gwarchae ar y ddinas vn Onias gwr duwiol (yr hwn drwy weddi y barasei law ar sychter mawr) i weddio drostynt ar iddynt gael y fuddugolieth, a gweddiodd ynteu y geiriau hyn; Arglwydd gan fod y naill blaid yn bobl iti a'r blaid ar all felly, ac yn offeiriaid hefyd, na wrando ar weddiau y naill yn erbyn y llall: ar hynny llabyddiasant ef. Ar wyl y pasc gommeddodd y gwarchaewyr ebyrth am eu harian ir lleill yn y ddinas, yr hyn annogodd Dduw i anfon tymmhestl i anrheithio ffrwyth y ddaiar, oni chymelloddnewyn y gwarchaewyr hynny i ymadel. Ar fyrder daeth Pompeius gadarn i dorri'r y mrysson, ac a ddarostyn. godd y frenhinieth dan y Rhufeiniaid, wedi ir Juddewon o'r blaen ddioddef llawer o doster y Groegaid. Wedi ir gorescynwr hwn wneuthur Celanedd yn Jerusalem, trôdd ir deml; a lladdodd yno ddeuddeg mil; er hynny ni pheidieu 'r offeiriaid yn y Cyfamser er maint oedd y dychr. yn a chyflawni swyddau 'r diwrnod, Canys ympryd oedd ymattaliodd Pompeius rhac yspeilio'r deml oi thryssor o ran parch ir lle, ond wedi hynny daeth Crassus awyddus; ac a yscubodd ymaeth ei golud, a chwympodd dialedd Duw ef drwy ddwylaw 'r Parthiaid, y rhai mewn [Page 21]dirmyg a lanwasant ei Safn ef ag aur. Gwnaeth y Rhufeniaid vn Herod (Edomiad o'r naill du) yn frenin yr Juddewon. Yn amser yr Herod yma y bu daiargryn mawr yn Judea y laddodd ddengmil o bobl, heb law anifeiliaid lawer,3930. ac y bu erlid mawr ar yr Juddewon am dynnu i lawr lûn eryr (Lluman y Rhufeiniaid,) a osodaseu ef ar ddrws y deml. Yn y flwyddyn olaf o deyrnasiad hwn y ganwyd Crist, Oed y byd tair mil, naw cant, a thrigain a thair. Ar hynny brawychodd Herod, ac a laddodd blant Bethlehem ar hyder llâdd Crist yn ei grûd, ond bu ef ei hun farw yn y man gwedi. Er bod yr Eglwys yn ogoelgrefyddol y pryd hyn, etto darllenwn yn yr efengil am amryw rai duwiol, megis Simeon, a Zacharias, ac Elazabeth, ac eraill. Yn y bumthegfed flwyddyn o oedran Crist Pan oedd Augustus Caesar ymerodr gorfodawg Rhufain yn rh▪ ifo ei filwyr, torrodd taran ddychrynllyd uwch eu Pennau, a dileuodd C y llythyren gyntaf o henw Caesar, tebyg lle yr oedd ei lûn ai henw wedi eu hargraphu ar golofn. Canys yr oedd vn arall i lywydraethu vwch ei law ef. Ynghylch Pedair ar ddèg ar hugain oi oedran y croeshoeliwyd Crist drwy ddy munniad ei wladwyr; daeth diflaniad ar yr holl Swyddogion ai Condemnodd ef. Ymlidiodd ymerodr Rhufain Pilat ymaeth; am iddo gadw 'r tryssor Cyhoeddus iddo ei hun: ac wedi ir Juddewon gael pumtheg mlynedd go-heddychol i glywed yr efengil gan yr apostolion i edrych a edisarhaent, a nhwythau gan mwyaf yn Caledu eu calonau, amlbâodd eu [Page 20] [...] [Page 21] [...] [Page 22]helbulon ar bob trô, nes ir Rhufeiniaid gwbl ddinystro Jerusalem ar deml, au gyrru ymaeth oi gwlâd, wedi llâdd o honynt vn cant a'r ddêg o filoedd, a gwerthu o honynt dèg cant a Phedwar ugain o filoedd i gaethiwed.Oed. Crist 72. A digwyddodd iddynt yn ôl eu styfnigrwydd, pan lefasant yn erbyn Crist, bydded ei waed ef arnom ni, a'n Plant. Ac o herwydd iddynt ddewis Caesar o flaen Crist, cawsant ddigon o Casar, canys Cymellid hwynt i addoli ei lûn ef, ac erlidwyd hwynt am wrthod hynny. Cyn eu dinystr lliseiriol, Safodd Seren un ffurf a chleddyf uwch ben y ddinas, ac ymagorodd un o ddryssau mawr y deml o hono ei hun, er ei fod o brês, ac arno farrau heirn. A chlybwyd llais yn yr awyr yn perid ir Cristnogion fyned ymacth i Pella. Luc. 19.41. Yma Cymmerth fwgythion Crist afael arnynt. och gwelwn ac ofnwn, Mae Duw yn rhygryf ir gwrthnyssiccaf o ddynion. Taflodd gawri yr hên fyd i fod yn furgynod ar y ddaiar, bwriodd Pharao a'r Aiphtiaid i byscod y môr côch, Herod ir llaù, a Jezabel ir cwn.
Er ir Juddewon wrthod trugaredd yr efengil, mynnodd Crist weled o lafur ei enaid ymllith y cenhedloed. Canys drwy bregethiad yr apostolion, (y gawsant ddawn rhyfeddol i fynegi'r iechydwrieth i bob cenedl lle delent yn ei hiaith ei hun) mewn amser bychan llanwyd pob teyrnas gan Gristnogion, fel aneirif yscuboriau ag yd mewn ychydig wythnôsau y cynhaiaf. Gwelodd rhaglunieth Duw yn dda raglyfnu peth ar y byd drwy philosophyddieth y Groegiaid, [Page 23]a rheolaeth foesawl y Rhufeiniaid, ac yno hauodd yr efengil. A hynny yn llawnder yr amseroedd, pan oedd y byd amlach o bobl nag y buasei e'r ioed o'r blaen. Pregethodd Thomas Aple ir Parthiaid, Mediaid, a'r Persiaid, ac er diwedd lladdwyd ef a phiccell. Efangylodd Simon Zelotes yn Affrica, a chroes hoelwyd ef. Llafu. riodd Bartholomeus ymysc yr Indiaid, a blingwyd ef. Andreas a bregethodd ir Scythiaid, a chroeshoelwyd ef, a Mathew ir Juddewon, ac a labyddwyd. Peder ir Juddewon ar wascar, ac yn eu gwlâd. Philip ir Phrygiaid a chroeshoelwyd ef. Daeth Paul tua'r Gorllewyn, sef i wlâd Groeg a'r Ital, a'r Hispaen: a dywedir i rai oi gymdeithion ef bregethu yn Ffrainc, ac oddiyno anfon Joseph o Arimathea i blannu yr efengyl yn Prydain. Wedi i Paul gymeryd poen ryfeddol i hyfforddi yr esengil, torrwyd ei ben ef yn Rhufain. Merthyrwyd Pedr hefyd. Efangylodd Thaddeus yn Edessa, lle r'iachâodd ef Agbarus y brenin, yr hwn a anfônaseu am Grist i ddysod atto ef, wrth glywed sôon am ei wrthiau ef, ac addawsei Crist anfon un oi ddyscyblion atto ef ar ol ei dderchafiad. Cynygiodd Agbarus aur i Thaddeus am ei gymwynas, ond gwrthododd yr Efangylwr y rhôdd, gan ddywedyd Iddo ef adel yr eiddo ei hun, a pheth y wnai ef ac eiddo arall. Cyn myned ymhellach yn histori r'testament newydd, ystyriwn fod y wir grefydd dros ddwy fil a hanner o flynyddoedd, sef er dechreuadd y byd hyd Moses, yn siml, ac yn blayn, heb fawr ddefodau corphorol mewn bwydydd, [Page 24]na gwiscoedd, nag amseroedd, na llêodd, heb law'r aberthau, a'r enwaediad yn amser Abraham. Wedi hynny o amser Moses hyd dderchafiad Crist, dros ynghylch pumtheg Cant o flynyddoedd, bu rhifedi mawr o ffigurau a defodau gweledig i arwyddo Swyddau Crist, a phan ddaeth Crist ei hun yn y cnawd, a chyflawni'r peth yr oedd y rhemi yn ei ragfynegi, dioscodd crefydd y cyscodau hynny, gan ddychwelyd ir playnder dechreuol mewn modd trâ ysprydol. Ond yr un oedd Sylwedd crefydd ymbob oes dan yr hên destament ar newydd. gwêl yr 11. pennod at yr Hebr gan weithio yr un grasau ynghalonau 'r ffyddloniaid cyntaf a'r diweddaraf, Gwell oedd gan rai duwiol yr hên destament Dduw na'i bywyd,Dan. 3.17, 18. Cymerent eu bwrw i ffwrn o dân poeth, yn hyrrach nag yr addolent Eulun yn lle'r Argiwydd byw. ac felly yr oedd gan Sainct y Testament newydd: Parod oedd Paul nid iw rwymo yn unig, Act. 21.13. ond i farw hefyd er mwyn henw yr Arglwydd Jesu. Yr un moddion grâs arferent, sef cynghori, myfyrio, a gweddio. Ymadroddion Job a gyfodent i fynu yr hwn oedd yn syrthio. Job. 4.4. a dywed yr angel wrth Cornelius, aufon am Petr, Act. 11.14. yr hwn a lefara eiriau wrthit, trwy y rhai i'th iacheir di a'th holl dy. yn amser y Psalmydd yr ydoedd y gwynsydedig yn myfyrio ynghyfraith Dduw ddydd a nôs. Psal. 1.2. a gorchymynwyd i Timotheus.1 Tim. 4.15. lynu wrtb ddarllein, a myfyrio ary pethau hynny. Nerthol oedd gweddiau pobl dda ymhob oes, fel y gwelir ym Moses ac Elias, ac medd Jago llawer a ddichen taer weddi y cyfiawn. Jag. 5.15. [Page 25]Yr un dedwyddwch yr oeddent yn ei geisio, Sef gogoniant tragwydaol, Job. 19.25, 26. Gwyddai Job fod ei Brynwr yn fyw ac y safai yn y diwedd ar y ddauar, ac er i bryfed ddifetha ei gorph ef, y cafai ef weled Duw yn ei gnawd. Ac yr oedd y Cristnogion custuddiedig yn cymeryd eu yspeilio am y pethau oedd ganddynt yn llawen, Heb. 10.34. gan wybod fod genddynt olud gwell yn y nefoedd. Drwy r'un Cyfryngwr yr oeddent yn cael trugaredd Dduw. Dywed yr Apostol Paul ir Corinthiaid yn ei amser ef, ac ir Israeliaid yn y diffaethwch yn amser Moses fwytta o'r un bwyd ysprydol, 1 Cor. 10.4. ac yfed o'r un ddiod ysprydol o'r graig ysprydol, a'r graig oedd Grist. Ar un anwyldra amlygodd Duw tuag at y bobl dduwiol dan y Testament hên a'r newydd; gan obrwyo eu ymgeleddwyr hwy,Gen. 39.5. bendithiodd dy Potyphar er mwyn Joseph. a Chefir gwobr am roddi phiolaed o ddwfr i un o ddyscyblion Crist; Math. 10.42. a chystuddio eu cystuddwyr hwy, megis Pharao, Exod. 8.1. Act. 12.1, 2, 23. A Herod. ymddangosodd Crist yn weledig dan yr hên destament, a chyflawnodd waith prynedigaeth yn nechreuad y newydd.Josh. 5.13, 14. yn Siccr y mae trugaredd Dduw wedi amlhau yn fwy tuag at y byd yngweinidogaeth y testament newydd; am hynny y llawenychodd Simeon Ac y mae Crist yn dywedyd fod llygaid ei ddyscyblion ef yn wynfydedig am weled y pethau yr oeddent yn eu gweled, Luc. 2.29. Luc. 10.23, 24. o herwydd i lawer o Brophwydi ewyllysio eu gweled ac nis gwelsant. Canys mae'r efengil yn Eglurach. Yr oedd y testament newydd wedi ei orchguddio yn yr hên, yn awr y mae'r hên wedi ei ddatcuddio yn y newydd, [Page 26]ac fel yr haul yr Affrica yn rhoddi goleuni heb gysgod. Ac aberthwyd yn awr nid geifr a lloi, Heb. 9.12. eithr Crist ei hun, gan gaelini dragwyddol ryddhâd. Hefyd nid oedd gynt ond ymbell deulu yn cael yspysrwydd o'r grefydd: ac wedi amser Moses nid oedd ond un genedl yn cael ei galw yn oestadol, a rhan fwyaf o honno yn wrthodedig eisieu ufuddhâu: tra yr oedd agos yr holl genhedloedd eraill cyn amled a thywod y môr yngwaelod anghredinieth a cholledigaeth. Ond gorchmynwyd ir apostolion gynyg Cymod a grâs i bob cenedl dan haul, fal y ganwyd plant ysprydol i Grist megis y gwlith o grôth y wawr, Psl. 110.3. A' r gwledydd y fuasent mewn tywyllwch er dechreuad y byd a welsant oleuni 'r bywyd. Ar hyn llidiodd y Cythrael yn ddirfawr am golli ei ddeiliaid, a chynhyrfodd ymerodron Paganaidd Rhufain i erlid y Cristionogion yn filain. O fewn y trychant blynyddoedd Cyntaf ar oll ganedigaeth Crist y bu dêg o erlidigaethau trymion.
Y cyntaf o honynt y digwyddodd yn nheyrnasiad Nero. Oed. Cr. 67. Yr hwn wnaeth iro Cyrph y Cristnogion a gwêr ac a phyg, yw llosci'r nôs i oleuo heolydd Rhufain. Wedi hyn ofnodd Domitianus deyrnas Crist, a lladdodd ei geraint ef, a gyrrodd Joan i Bathmos. Ond pan ddeallodd ef mae ysprydol ac angylaidd oedd teyrnas yr Jesu, attaliodd ei greulondeb. Ar ol hyn gorchmynodd Trajanus lâdd llawer mil o'r Cristnogion.Oed. Cr. 100. Darsu i Ignatius Pregethwr duwiol ei argyhoeddi ef oi eulunaddolieth, a merthyrwyd [Page 27]ef am ei dystialaeth: ac ychydig cyn ei ddiwedd, Nid wyfi ondydi Dduw (eb y merthyr) ond pan falo'r anifeiliaid gwylltion fi rhwng eu dannedd, byddaf fi fara gwyn, ni byddaf si lai er fy malu.
Yscrifennod un oi raglawiaid at yr Emerodr, na fedrei ef gael gwybodaeth o ddim drwg ar y Cristianogion, er iddo eu Cospi au holi yn fanwl, onid eu bod yn ymgyfarfod cyn y dydd i ganu hymnau i Grist, ac i gydfwytta, au bod yn ymwueuthur a'u gilidd i ymwrthod a lladrad, llofruddieth, a godinebiar hynny cafodd y Cristianogion heddwch. Ond yn amser Hadrianus merthyrwyd Zenon jarll duwiol yn Rhufain, a deg mil o Gristnogion gyda'gef. Ar hyn plediodd dyscawdwyr Cristnogaidd eu hachos o flaen y gorthrymwr, oni lareiddiodd ef. ie Scrifenodd Antoninus Pius at ei swyddogion, ei fod ef yn gweled y Cristnogion yn ddiofn ar ddaiargryn, pan fyddeu ei Ddeiliaid Paganaidd ef yn llawn dychryn. Am hynuy tybiei eu bod hwy yn bobl dda, ac na haeddent gospedigaeth. Rhydd Philo, Scrisenydd dyscedig er ei fod yn Juddew gyfryw dystiolaeth am Gristnogion yr oes hon yn yr Aipht: sef eu bod hwy yn gadael eu tiroedd, yn ymprydio, ac yn gweddio, ac yn canu pfalmau, un yn dechreu, ar lleill tua'r diwedd yn cydbyncio.
Dywedir i Gristion ievanc o gydnabyddieth Joan yr apl, adel ei broffess, a myned yn yspeiliwr pen flordd. A phan gyfarfu ar y mynydd ac Joan, ffoâwdd oddiwrrho ef rhag Cywilydd. [Page 28]Ond wedi i Joan lefain ar ei ôl ef, ac addaw iddo gymod a Christ, Safodd y lleidr dan grynu ac wylo. Ac wedi ir Apostol weddio drosto ef, dychwelwyd ef at y Saint.
Pan fethei gan Satan ddiddymu'r ffydd drwy'r erlidwyr Paganaidd, cyffroei ymbleidiau yn yr eglwysydd, ac amryw opiniwnau. Am hynny gorsu i Polycarpus athro enwog ddyfod o Asia i eglwys Rufain ynghylch y Pasc, ac vnodd a hwynt mewn Cymmundeb ysprydol yn swpper yr Arglwydd, er nad oedd Cyssondeb rhyngtho ef a nhwythau ynghylch y defod hwnw. Ond wedi hynny yn Amser Ferus yr Emerodr Cododd erlid yn erbyn yr efengil: a merthyrwyd Polycarpus dyscybl Joan yr apl. Yr hwn y ddywedodd wrth y rhai oedd yn ceisio ganddo wadu ei ffydd, Iddo wasnaethu Crisi er's gwell na phedwar ugain mlynedd, Oed. Cr. 162. ai gael ef yn feistr da, ac am hynny na adawei ef mono ef byth. Er ei fod yn oedranus, etto ni chwimiodd ronyn tra yr oeddynt yn ceisio ei losci ef, ond ni finniei 'r tân arno ef tra yr oedd ef fyw, am hynny lladdasant ef a'r cleddyf, a thra'r oedd y tân yn llosci ei gelain ef, daeth arogl peraidd oddiwrtho ef: flangellwyd eraill, a threiglwyd hwynt yn noeth ar hyd cregin llymion, a phryd nad ymwrthodent a'u ffydd er hynny, teflyd hwynt ir llewod iw llarpio. Merthyrwyd Justinus hefyd dyscawdr llythrennog, yr hwn fuasei vnwaith yn Philosophydd cenhedlig; ond wrth weled mor gyssurus y byddeu'r Cristnogion yn dioddef, dechreuodd syn feddylio, ac wrth ymddiddan [Page 29]a hên Gristion trôdd at Dduw. tystiolaethodd nad ellid wneuthur niwed i Gristion, er ei lâdd ef. Yn yr oes hon y bu Ireneus dyscybl Polycarpus yn Athro buddiol yn ffrainc: yn ei amser ef y bu ymdrech rhwng escob Rhufain ag eglwysydd Asia ynghylch y Pasc. mynneu rhai Asia gadw'r un amser a'r Juddewon, ond taereu Eglwys Europa iddynt dderbyn oddiwrth yr apostolion na ddylent gumuno ond ar y Sabboth yn unic. Am hyn Cyhoeddodd Fictor escob Rhufain nad arferei ef ddim Cymundeb ag eglwyfydd Asia: ond darfu i Ireneus yn enw eglwysi ffrainc, ac eraill, ei agyhoeddi ef oi boethder, er eu bod o'r un dyb ag ef ynghylch y pwnc. Gan ddangos nad oedd holl eglwysi Crist drwy'r byd yn Cadw yr un amser i ymprydio, canys ymprydieu rhai ddiwrnod, eraill ddauddydd, etto bod undeb cariadus rhyngthynt: Ac na ddylid drwy ymdrech am gyscod golli fylwedd crefydd, sef cariad. Yr oedd gwrthiau yn yr eglwysydd yn amser Irenaeus, ac efangylwyr yn myned ar lêd i bregethu: pan drymhâodd yr erlid yn ffrainc merthyrwyd ef, a llawer o'r Cristnogion. yno y cafodd y gweinaid ddiangfa, a'r Cryfion galondid i ddiodd ef er mwyn Crist,Rhuf. 8.18 gan ystyried nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu Cyffelybu i'r gogoniant a ddatcuddir i ni. Safodd i fynu un Fetius Jarll i bledio gyd a'r Cristnogion a merthyrwyd ef gyd a hwynt. Blandina gwyryf rasol a flinodd ei phenydwyr drwy ddioddefgarwch, gan [Page 30]gyffessu ei ffydd heb ymwrando ai phoen, wedi i ofn yrru Biblis i wadu'r ffydd, poenydwyd hi et mwyn ei chymell i gyhuddo ei chyfeillion; ac yn ddysymwth, fal un wedi deffro o gwsc, addefodd Grist, a thystiolaethodd nad oedd y Cristnogion yn bwytta gwaed anifeihaid, a pha fôdd y bwyttaent waed plant? Pan weleu'r encilwyr gweiniaid fod y rhai Calonog mor hârdd yn eu Cadwynau a'r briodas-ferch yn ei thrwsiadau, deuent o honynt eu hunain ir frawdle i gyffessu Crist er mwyn cael merthyrdod▪ er arteithio a ffrio yr Sainct ar farfor, etto buont ffyddlon hyd angeu. wedi llosci'r merthyron, teflid eu llydw ir afon, er mwyn gwanychu gobaith y Cristnogion am yr adgyfodiad. Ond digwyddodd ir ymerodr fod mewn Cyfyngder ef ai fyddun o ran Sychter, ac wedi iddo geisio Cymorth yn ofer gan ei eulynod, anfonodd, am y Cristnogion ynghyd i weddio at eu Duw dros y fyddun, ac felly y gwnaethant, [...] chawsont law yn ebrwydd, ac am y Cymwynai hwnw gorchmynwyd ostegu'r erlid.
Dan emerodraeth Seferus y bu erlid tôst y [...] enwedig ar Gristnogion Affrica a Chappadoci [...] ▪ Oed. Cri. 205. y pryd y merthyrwyd tâd Origen: ac er na [...] oedd ynteu ond llangc dwy ar bumtheg oed aethei allan i gymeryd ei ferthyrdodd gyda'i dâd oni buasei yw fam guddio ei ddillad ef; am hynny scrifennodd at ei dâd yw annog ef i ddio ddef. Trôdd un Capten Basilides yn Gristio [...] wrth roddi Potamiena i farwolieth am ei ffydd Ag ychydig gwedi dioddefodd ei hun am [...] [Page 31]Ffydd yr un gospedigaeth, ac y roesei ef ar eraill yn ei anghredinieth. Am hyn dywed Tertullianus yn ei scrisen dros y Cristnogion, fod gwaed y merthyron yn hâd yr Eglwys. Canys pobl wrth weled Cyssur y merthyron a chwiliant am yr achos o honi, ac wedi ei chaffael, ai dilynant, am fod tangneddyf a Duw yn awr angeu yn beth dymmunol. Yr achosion pam yr oedd y rheolwyr Paganaidd cyn fynyched, a chyn gieiddied yn gorthrymu yr Cristnogion oedd amryw, megis,Gen. 3.15. Y gelyniaeth sydd rhwng hâd y wraig a hâd y ddraig. Câs gan natur lygredig Dduw ai ffyrdd. Am hynny codid celwyddau ar y Sainct, eu bod yn lladd plant, ac yn godinebu yn eu cyfarfodydd: ac yr oedd y wir ffydd yn gostegu enlunaddolieth y cenhedloedd, am hynny yn eu cyffroi hwynt,Act. 16.18. pan fwriodd Paul yspryd dewiniaeth allan o langces, terfyscodd dinas Philippi, a llanwyd dinas Ephesus o gythryfwl yn erbyn yn efengil,Act. 19.27. rhag cyfrif teml y dduwies Diana yn ddiddim. A byddeu cynghorion Cristnogion yn anesmwytho y rhai oeddent yn ymroddi i bechod. Dyna'r peth y wnaeth i Herod garcharu a mwrdro Joan Fedyddiwr. Marc. 6.17, 18. Wedi i un o ordderchion Nero droi yn gristnoges, a gwrthod bodloni ei gynefin chwant ef, ceisiodd ymddial ar yr efengil. Hefyd yr oedd y Cristnogion o ran ofn Duw heb roddi ufuddod i lawer ogyfreithiau y cenhcdloedd, or achos hyn y bwriwyd yr Israeliaid gynt ir ffwrn dán, Dan. 3.12. ac pen 6.12. ac i ffau'r llewod. Ni fyneu y rhai grasol dyngu i Ffortun Caesar, nag addoli ei ddelw ef yn y marchnadleodd, [Page 32]er gorchymyn y Swyddogion, am hynny bernid hwynt yn ystyfnig ac yn haed du Côsp, rhag iddynt gyffroi hawl i frenhinieth: yn olaf, pa aflwydd bynnag y ddigwyddei ir cenhedloedd, newyn, neu haint, tybient i hynny fod o herwydd ir Cristnogion ddirmygu eu gau dduwiau hwynt, a hanny, gyda chwant yw meddiannau hwynt, ai blaenllymei nhwy i ddifetha'r ffyddloniaid.
Wedi i Decius gymeryd lle Philip yr emerodr,Oed. Cr. 250. (yr hwn y laddaseu ef am iddo droi yn Gristion) rhoddodd allan broclamasiwn gwaedlyd i lâdd y Cristnogion oll. dywed Historiâwr fod cyn hawsed cyfrif tywod y môr, a chyfrif henwau y rhai a ferthyrwyd y pryd hyn ynhaleithiau Rhufain, o'r dwyrain ir Gorllewyn: er i rai o'r Cristnogion lwfrhâu, ac aberthu i eulyno rhag colli eu golud, etto cymerodd y lleill eu yspeilio am eu da ai bywyd yn ewyllysgar cyn y gwadent Grist, ie metheu gan y rheolwyr na thrwy fwgythion nac addewidion, na gau resymau, na phoenydiau orchfygu ffydd gwragedd a merchedd: eithr yr oedd gwendid rafol yn gryfach nag awdurdod anghrediniol. Ac os byddeu rhai yn cyfaddef eu ffydd yn ofnus yn y festiwnau, cyfodeu eraill o honynt eu hunain heb neb yn eu Cymell, i gyffessu yn galonog, oni byddeu'r dyrfa yn rhyfeddu,Act. 24.25. a'r barnwyr fel Phaelix yn crynu, a'r Cristnogion yn gorfoleddu, canys byddei dyrnod Duw yn ddifymwth yn llâdd amryw o'r penydwyr, a'r encilwyr, acyfprydion drwg [Page 33]yn meddianu yr lleill. Lladdwyd Decius ei hun mewn rhyfel a'r Barbariaid, a daeth Cornwyd marwol drwy'r holl ymerodraeth, y dalodd am ddifrodi'r diniwed; oni byddeu Cyrphy cenhedlig yn dyrran yn yr heolydd, a'r Cwn yn eu llarpio, am na lefasent drin eu cleision, na chladdu eu meirwon, rhag ofn yr haint: a'r Cristnogion yn ymgleddus yw gilidd, heb ddim diffyg.
Yngbylch hyn y Cwympodd Origines athro nodedig: Siomwyd ef i fwrw aberth ir eulyn, rhag i Ethiopiad halogi ei gorph ef. Ond edifrhâodd gwedi hynny, a galârodd yn oer am ei wendid: a phan aeth fel herwr i Judea, ac ir gynylleidfa ddymuno arno bregethu, agorodd y bibl,Psal. 50.16. ar lle cyntaf y trawodd wrtho oed hwn, sef, wrth yr anunwiol y dyweddodd Duw, beth Sydd iti a fyneg [...]ch ar fy neddfau, neu a gymmerech ar fy nghyfammod yn dy enau? yr hyn y wnaeth yw ddagrau ef attal ei eiriau, ac ir holl dyrfa wylo gyda'g ef.
Ar oi hyn Cafodd yr Eglwys ychydig ysbaid o dangnheddyf, y barodd (fel llygedyn rhwng dwy gafod yn codi chwyn yn yr yd) falchder, ac anghydfod yinhlith y Christnogion, yn gymaint a phan ddaeth lleferydd attynt or Nêf yn gorchymyn, ceisiwch ac chwi gewch, etto ni sedrent gyttuno ynghylch y nifer yr oeddid i weddio drostint, nes i ddryc-hin eilwaith yrru'r defaid ynghyd, ac i greuloudeb Falerianus yr ymeredr dorri allan yn eu herbyn hwynt: y pryd y merthyrwyd Cyprianus athro Duwiol o Affrica; a dewisodd tri chant yn Carthago eu bwrw i gyl poeth, yn hytrach nag aberthu i Eulun.
[Page 34]Profwyd pum math ar gospedigaeth ol yn-ol i geisio tynnu tair Morwyn Gristnogol oddiwrth y ffydd, sef, diodwyd hwynt a fineger, ac a bustl, wedi hynny flangellwyd hwynt, yna dirdynwyd hwynt, a rhostiwyd hwynt ar farwor, a thaflwyd hwynt i balsau bwystfilod rheibus: ac wedi i rheini eu harbed, lladdwyd hwynt a'r cleddyf gan na wadent Grist, bu hyn yn Affrica.
Dioddefodd y Cristnogion yr un ymdrin yn Ewyllyscar mewn mannau eraill. Yn yr Hispaen gwelwyd y nefoedd yn ymagoryd i dderbyn eneidiau'r merthyron.
Ar ol i Falerianus erlid yr Eglwys ddwy flynedd, cymerwyd ef yn garcharwr mewn rhyfel gan Sapores brenin Persia, a gwnawd ef yn gyff ir brenin hwnw i sangu arno wrth fyned ar ei farch: Encyd wedi Cychwnnodd Aurelianus wneuthur blinder ir efengil, ond pan oedd yn scrifenu ei henw wrth warrant i gospi'r Cristnogion, rhwystrodd Cwlwm gwyth [...]ei. A thros yspaid pedair blynedd a deugian gwedi cafodd yr e [...]engil lonydd a llwyddiant: amibâodd a chynyddodd y cynnulleidfau Cristnogol, oni orfu iddynt adel yr hên gornelau yr addolent ynddynt, a chyfodi adeiladau eheng. Ond fel y mae'r hâs yn magu pryfed, felly tyfiff ymryston a chenfigen o howddfyd: herwydd pa ham anfonodd rhaglunieth Duw oerf [...]l ar yr Eglwysydd drwy Ddioclesianus yr ymerodr. Yr hwn a orchmynodd ir byd ei addoli ef,Oed. Cr. 301. ac am na wnaeu'r Cristnogion hynny, lloscodd Eglwysydd, a scrythyrau drwy ei holl daleithiau. Nid arbedodd mo dywysogion [Page 35]y llys na'i wraig ei hun: pan oedd miloedd o'r Cristnogion wedi ymgyfarfod i addoli Duw, gorchmynodd yw filwyr eu llosci hwynt ynghyd, am iddynt ommedd addoli yr enlyn Jupiter; ie merthyrodd leng oi filwyr Cristnogol yr unwaith (sef 6666) am yddynt roddi eu harfau i lawr, a naccâu dihenyddio en brodyr: llifodd afonydd gan waed y Cristnogion, a dychymygwyd ymbob gwlâd boenydiau newyddion iddynt: a bu'r creulondeb hwn drwm ar ein cenedl ni yn Prydain. Ac anfonwyd ar lèd orchymyn argraphedig mewn prês i ddifrodi Cristnogaeth. ac i addoli Jupiter, a Mawrth, gan ddiolch ir gau dduwiau am y llawnder a'r iechyd y roddid ir byd y pryd hyn: Ond yn ebrwydd anfonodd Duw newyn a chornwyd tra marwol i ddifetha y Paganiaid. Wedi ir gerwindeb hwn barbau ddeg mlynedd, cododd Duw Constantinus yw liniaru. yr hwn ag ef mewn gofal i ryfela a Macsentius gormesdeyrn yn Rhufain, y welodd groes yn yr awyr, a hyn wedi ei yscrifennu a llythyrennau oSèr, IN HOC VINCE, WRTH HWN GORCHFYGA. felly rhododd ei hyder ar Grist, a bwriodd i lawr orthrymwyr y gorllewyn, ar dwyrain, a llawer o'n gwladwyr ni yn ei ganlyn. A scrifenodd at frenin Persia hefyd yw berswadio ef i adel heddwch ir Cristnogion yn ei wledydd ef,Oed. Cr. 310. (canys darfuasei iddo ferthyru un mil a'r bumtheg o honynt) gan fynegi iddo yr dialedd y ddigwyddasei i erlidwyr eraill.
[Page 36]Y pryd hyn Cyhoeddwyd rhydd-did i bawb i ddilyn y ffydd y welent orau. A chynyddodd y grefydd Gristnogaidd fel yr yd ddechreu'r hâf ar ol oerni gaiaf. Rhoddwyd yn ol ir Cristnogion y meddiannau y dreisiadid oddiarnynt, a breintiau yn ychwaneg: a gorfoleddant yngeiriau'r Psalmau.Psal. 48. ac 68. Cawsant swyddau, ac awdurdod yn eu dwylo ymhob gwlâd diddymwyd llawer o ddrwg arferion pechadurus. gorchmynwyd fanwl gadw'r Sabbath. Yscrifenwyd aml gopiau or scry thûrau. Cyfodwyd i fynn yscolion dysc ag eglwysydd. selly ymadnewyddodd y grefydd i barhâu yn hwy na 'r yscrifen brès oedd yn ei gwahardd. Llwyddodd yr ymerodr duwiol hwn yn ei holl ffyrdd, a thrôdd amryw deyrnasoedd at Grist yn yr oes hon, wrth weled llaw Dduw yn erbyn eulynaddolieth. Ond yr Iberiaid o ymyl Eucsinus y dderbyniasant y ffydd drwy wraig rafol, yr hon y iachâodd frenhines y wlâd drwy weddi. yr oes hon drwy amlder a rhydd-did yr efengil y fagodd foethysdra ymysc proffesswyr, a chwestiw. nau rhy ddyfnion ynglylch y Drindod, ac undeb Crist a'r Tâd o'r un sylwedd, rhwng Arius ac eraill; oni thyfodd anghydfod gofidus ymysc yr eglwysydd. Ac wedi i Constantinus roddi senn ir ddwyblaid drwy lythyrau, a'u hannog i adel heibio ddadleuon anhawdd eu dirnad, ydoedd yn hurtio Cristnogion, ac ymosod at bethau sylweddol, llefol i adeiladaeth a chariad; casclodd Gymanfa fawr o Escobion, henuriaid, a Christnogion Cyffredin i Nicea, lle y gofodasant i lawr bynciau 'r ffydd mewn credo cynwys, a rheolau er cadw undeb. [Page 37]Ac wedi cynhennau blinion, dywedir ddyfod trò ar fol Arius a thywallt o hono ei berfedd. Ond ar ol marwolaeth Constantinus, darsu yw fab ef Constantius, (ir hwn y syrthiasei rheolaeth y dwyrain) gefnogi sect Arius, Oed. Cr. 350. a throi'r blaid Arall allan o'u swyddau a'u gweinidogaethau, yr hyn y barodd derfyscoedd gwaedlyd: ac anfonodd Duw ddaiargrynfau dychrynllyd; yn gymaint a phan oedd gymanfa geccrys yn ymgasclu yn Nicomedia i gadarnhau amryfyssedd, dinistriodd daiargryn y ddinas.363 A chyn pen nemawr y mae Julianus yn cael yr ymerodraeth, yr hwn a adawodd y grefydd Gristnogol yn yr hon y dygasid ef i fynu, ac adserodd goelgrefydd y cenhedloedd; a chystuddwyd y Cristnogion am eu gwahaniadau: etto amlygwyd ynddynt rasau nefol yn eu dioddefiâdau, ac ymbyfrydent dan y [...]flangellau,366 a thystiolaethent yn hy yn erbyn yr eulynod.
Y pryd hyn helyd y cafodd yr Juddewon gennad i adeiladur'r deml yn Jerusalem, ac i aberthu; er mwyn gwradwyddo 'r efengil. Ond Symudodd daiargryn yr adeilad a'r hèn Sylfeini, i gyflawni bwgwth Crist.Math. 24.2. Na adewid carreg ar garrig yna heb ei dattod; a descynnodd tân o'r nefoedd i losci offèrau 'r Seiri, a gwelwyd âl crôcs ar eu dillad, ac nis gallent ei olchi ymmaeth.
Ymhen y ddwy flynedd lladdwyd Julianus mewn brwydr yn erbyn y Persiaid, pan gafodd ei friw marwol, taftodd ei waed tua 'r nèf, gan gydnabod fyned Crist jyn drêch nag ef. Ar ei ol ef [Page 38]bu Falens yr Emerodr yn flin wrth y rhai ni throent yn Ariaid. Yn Edessa rhuthrodd gwraig ai phlentyn yn ei llaw drwy hi o wyr arfog oeddent yn myned i lâdd cynulleidsa rasol tra yr oeddent yn cyd-addoli, gan ddywedyd wrth y milwyr oeddynt yn ei ffoli hi am ei brys, ei bod hi yn ceisio myned i mewn at ei brodyr, er mwyn derbyn y goron gyda hwynt: gorfyddeu ir rhai iachaf yn y ffydd lechu am eu bywyd, ac addoli yn y dirgel, tra yr oedd yr Ariaid yn meistroli'r Cwbl yn gyhoeddus. Peth rhyfedd fod cyn lleied rhagor mewn deall yn achos o gymaint gelynieth, nid oedd ond dwy lythyren yn y Groeg o amratael rhyngthynt ar y cyntaf. [...] ac [...] Cydsylwedd ydoedd Crist a'r tâd meddei'r naill blaid, o gyffelyb sylwedd y teurei'r llall ei fod ef. ond tân myglud yw cyfeiliorni, godebyg ir angel du y sydd yn ei gynneu, a dywylla 'r deall, ac a boetha 'r gwyniau i wneuthur mwyfwy o ddrwg.
Cafodd eglwysydd y gorllewyn adeiladaeth a thangneddyf gwell, drwy orchymyn Theodosius yr ymerodr duwiol, dinistrwyd Temlau'r eulynod, a rhoddwyd yr yspail ir tlodion. Cafwyd yn Scrifennedig yn un o'r meini y darfyddei am demlyr eulun Serapis pan ddeuei'r groes ir goleu. Y pryd hyn bu Ambrose yn Athro buddiol yn yr Ital, yr hwn a naccâodd ollwn yr Ymerodr Theodosius yw Eglwys nes iddo fynegi ei Edifeirwch am dywallt gwaed gwirion,390 wrth gospi'r dieuog ynghymy [...]c ag eraill am derfysc yn Thessalonia: ac usuddhâodd y pendefig i gerydd yr athro. Pan o [...]dd yr ymerodr duwiol hwn yn rhy wan mewn [Page 39]brwydr yn erbyn gorthrymwyr, gostyngodd ar ei liniau, a galwodd ar Dduw am gymorth, ac yn ebrwydd daeth gwynt cryf, y drôdd yn ol Saethau ei elynion ar eu pennau eu hunain a phan ydeodd ef yn tueddu peth tuag at yr Ariaid, daeth dyscawdwr atto ef, ac wedi ei gyfarch ef yn barchedig, galwodd ei fab ef Arcadius gerfydd ei henw, megis bachgen Cyffredin; a thra yr oedd yr ymerodr yn anfodlon am hynny, attebodd ef, gan ddywedyd, os wyti yn cymerud yn ddrwg ddirmyg dy [...]ab, meddwl beth y wnaiff Duw ir neb ni roddo iw fab Crist ei ddyledus fraint, ai anrhydedd. Dan weinidogaeth Ambrose y derbyniodd Awstyn yr ailanedigaeth, ac edifeirwch dwys: yr hwn y brifiodd yn athro dyscedig ysprydol yn Affrica, ac adawodd oi ol lawer o lyfrau nodedig: ac felly y bu eraill ymblith y Groegiaid yn Constantinopl, yn enwedig Crysostom, Oed. Cr. 400 yr hwn adawodd y bûdd oedd iddo ef yw gael wrth fod yn wr o gyfraeth, ai helynt foneddigaidd, ac y ddewisodd wasnaethu Duw mewn cyflwr gwaelach yn y byd wrth hyfforddi'r efengil: gan ddywedyd fod gormod golud yn soddi'r enaid, fal y mae gormod llwyth yn soddi'r llong. A gwelodd Duw yn dda waredu'r bobl yr ydoedd mor rasol yn eu dyscu; yn gymaint a phan oedd y Saraceniaid yn cynorthwyo'r Persiaid i orthrymu'r Cristnogion, daeth cyffro byrbwyll ir fyddyn, a neidiodd yr anghred ir Afon Euphrates, lle boddodd miloedd o honynt: a phan oedd y Gothiaid ar fedr llosci Constantinopl. darfu i fyrddiwn o angylion yn rhith gwyr arfog eu gw [...]itio ymaeth. Ond cafodd y [Page 40] Gothiaid a'r Fandaliaid (gwyr thyfelgar o'r gogledd) lwyddiant mwy i gys [...]uddio'r gorllewyn; [...]05. ynnillasant Rufain, ac yspe [...]liasant hi, a phrifiasant yn fflangell Duw ar y Cristnogion am eu balchder au dicter wrth eu gilidd; yn enwedig yr esgobion oedd euog o'r pechodau hyn, ie yn eu Cymanfàu, ai ymryssonau ynghylch geiriau. Digwyddodd hefyd dân erchyll mewn dinasoedd. a llif-ddyfroedd, a daiargrynfau ofnadwy, etto ni ollyngid y beiau i Syrthio; am hynny canlynod d cornwyd rhyfedd ol a yscubodd ddinasoedd cyfain, ac aeth ar lêd y byd dros ddeugain o flynyddoedd. A thrachefn lladdodd daiargrynfáu filoedd o bobl ni chymerent ond rhy fychan o rybudd ymlaen llaw,Oed. Cr. 544. er i Symeon gwr duwiol, fyned o amgylch a fflangellu Colofnau dinasoedd, gan erchi iddynt gymeryd gofal o sefyll ar eu traed pan ddawnsient: yn yr oes hon mae Cymanfau o wyr Eglwysig yn rhoddi braint i escobion Rhufain a Chonstan [...]inopl, i fod vwchlaw efcobion eraill; ac yn dechreu gorchymyn ffurf osodedig o wasanaeth i Duw.
Wedi ir Saeson orescin Lloegr a Bod yn hir mewn anghredinieth, daeth attynt bregethwyr o Rufain (sef Awstyn y monach) ac eraill, [...]98 ac y gaw, sant lwyddaint yn eu taith, canys credodd Penaethiaid a chyffredin, a bedyddwyd dengmil yn ymyl Eboroc yn yr un diwrnod, a dywedir i ryfeddodau gyd ganlyn y gair er mwyn troedigaeth y Saeson. Dywedir am Gregorius escob Rhufain y anfonodd y pregethwyr at y Saeson, y crynei ef pan ddarllenei eiriau Abraham [Page 41]wrth y glwth, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd.Luc. 16.25. Canys cyflawn oedd ei gyflwr ef yn y byd. Wedi i Phocas waedlyd lâdd ei feistr Morys, a myned yn ymerodr yn ei lê ef, er cael gair da escob Rhufain,Oed. Cr. 602 rhoddodd iddo Ditl i fod yn ben ar yr holl eglwysi: er i Gregorius ychydig o'r blaen brofi yn erbyn escob Constantinopl, nad allei escob yn y byd ymhonni or fath beth
Ynghylch y flwyddyn o oedran yr Arglwydd chwe chant, a thrigain a chwech,666. y dechreuodd crefydd Mahomet ledu drwy rym y Saraceniaid, y rhai oeddent wedi syrthio allan ac ymerodron y Cristnogion: yr oedd yr oes hon wedi ymrannu yn resunol o ran opiniwnau, a dychymygion dynol yn cael en croesawu y matterion crefydd. Ar hyn Mahomet yr hudol, (drwy help Sergius Monach escymunedig) y ddyfeisiodd yr Alcoran, sef llyfr gau grefydd y Turciaid. Ac am ei fod ef yn [...]ynych yn Syrthio yn y ffeintiadau, taerei mae ymddiddanion yr angel Gabriel y barent ei lewyg ef. Ac fal y derbynniai'r byd ei athrawieth ef yn rhwyddach, tymherodd hi i fodloni peth ar bawb cydnebydd Grist yn brophwyd ffy ddlon er boddhâu 'r gwir Gristion. Gorchmyniff enwaediad er mwyn yr Juddewon. Gwedisf dduwdod Crist er ynnill yr Ariaid oeddent aml yn y parthau hynny. Canhiadiff amlder o wragedd ir un gwr, a rhydd-did y cnawd, er denu y Sawl y garent bechod, yr hyn sydd naturiol ir holl syd: a hynny nid yn unic yn y bywyd hwn, eithr ymharadwys yr addaw ef wleddoedd, a gwragedd ir Sawl a ddilynant ei ffydd ef, ac a laddant bawb ai gwrtbodo.
[Page 42]Ynghylch hyn hefyd y daeth y gwasanaeth ladin, letaniau ac amryw ddychymedig ddefodau mewn Cymeriad yn yr Eglwysydd, er lleihâd i rinwedd, a phurdeb crefydd. fel hyn drwy 'r Alcoran a'r offeren mae bwgwth Duw yn dechreu Cymeryd gafael ar ybyd,2 Thes. 2.10, 11. sef nerthol weithrediad cyseiliorni am angharu'r gwirionedd. Tybiff rhai mae a'r amser hwn y Cuttuna rhifedi enw'r bwyst sil, Da [...]c. 13.11. gan benodi ei ddechreuad ef: etto ni adawodd Duw mo'i etholedigion yn y monachlogydd, a'r eglwysydd, o ba rai bu Beda yn enwog ymhlith y Saeson, ac a gyfieithiodd beth o'r scrythur yn Saesonaec. A gadawodd llawer of foneddigion a chyffredin eu bachosion bydol, ac ymroddasant i fuchedd gaethach yn y monachlogydd, [...]29. gan ymprydio a gweddio yn aml; ond Cam-arferwyd hynny mewn amser i gynal llygredigaeth ofergoelus. Canys gorchymynodd y Pab osod i fynu ac addoli lluniau'r grôg a'r Seinctiau, ac escymunodd Leo Isaurus yr ymerodr, am geisio o hono wahardd addoli 'r delwau mudion, ac attaliodd yr Ital rhag ufuddhau iddo ef. Cymellodd y Pab hefyd arfer ofseren Gregorie ymhob Eglwys, fal y byddei yr un ffurf wasanaeth ymhob man, a choronodd ef Carolus magnus brenin ffrainc yn ymerodr y gorllewyn, er mwyn cael ganddo ef ei hyfforddi ef yn y pethau hyn: Ac ymhen talm o ddyddiau chwanegwyd defodau newyddion at yr offeren, sef gweddiau dros y meirw, a gwyliau calan gaiaf,O [...]d. Cr. 854. a lluddwyd priodas ir offeiriaid, gan roddi iddynt lawer o frein [...]iau awdurdodol ynlle priodas. [Page 43]ynghylch hyn y dewisodd yr escobion Siwan yn Bâb yn ddiwybod, canys dillad gwr y wiscei hi, ac yscolheictod y fedrei hi, a phrifiodd yn wir Buttain o Babilon, a thra yr oedd yn rhodio dinas Rufain daeth gwewyr escor arni hi, a ganwyd iddi fasterdyn yn yr heol. Cywilyddiodd yr esco bion yn ddirfawr oi phlegyd hi, am ddarllen o honynt yr offeren a'r pro [...]essi wrth ei dewis hi, y pryd hyn hefyd bu cystudd trwm ar y Saeson, daeth gwyr Donmarc i mewn i Loegr, ac a laddasant y Saeson yn llidiog, heb arbed na Phethau Cyffredin, na Phethau Cyssegredig, canys Paganiaid oeddent, a Pharhâodd y difrod anhrugarog hwnw yn hwy na dau cant o flynyddoedd. A chyn dyfod yr estroniaid hyn am eu pennau, ni pheidieu'r Saeson a llâdd eu gilidd, canys yn saith brenhinieth y rhannasent Loegr, yr hyn y barodd ymrysson yn eu mysc; felly dialodd Duw waed y Brittaniaid arnynt,Barn. 1.7. a gallent ddywedyd fel Adonibezec, megis y gwnaethom selly y talodd Duw ini; er iddynt dderbyn yr efengil; fel y Cymerth Dafydd edifeirwch am lâdd Vrias, 2 Sam. 12.9, 10. etto nid ymadawodd y cleddyf ai dy ef, dros hir amser. Cafodd Alured er ei fod yn frenin duwiol, ei ran o'r gorthrymderau hyn. Hwn y Seiliodd yscolion yn Rhydychen i hyfforddi gwybodaeth ymysc y Saeson, ni byddei ef un amser heb ran o'r Scrythur yn ei gylch: a dymunodd ar Dduw anfon rhyw ddolur arno ef yw gadw oddiwrth anlladrwyd, a chynorthwyodd Duw ef yn ei flinderau. Er hynny mewn amser daeth Canutus o Lychlyn i fod yn frenin ar Loegr, ac [Page 44]wrth weled fal y trawsei Duw ei dad ef Swanus am ei greulondeb yn llâdd rhai crefyddol, ofnoddd ac adeiladodd fonachlog; a phan oedd gwenheithwyr yn mawrhâu ei awdurdod ef, eisteddodd ar y traeth yn ymyl y môr, ac archodd ir llanw beidio a dyfod atto ef: ond pryd nad ufuddhae yw orchymyn ef, ceryddodd ei wenheithwyr, ac a ymddarostyngodd o flaen Duw,Oed. Cr. 990, ac a gyfaddefodd mae Duw oedd frenin, a bod pob peth dan ei lywodraeth ef.
Cyn dyfod y blinder echryflon ar Loegr oddiwrth Denmarc, gwelwyd Cwmwl drwy 'r deyrnas, ai hanner o dân, a'r hanner arall o waed; a gla. wiodd gwaed yn ymyl Eborac: wedi marw Canutus cafodd Edward y Cyffesswr y frenhinieth, yr hwn oedd wr Duwiol-ac wedi ei farw ef, daeth y Normaniaid i Loegr, 1043. ac ynnillasant y deirnas drwy vn frwydr, ac a feistrolasant y saeson yn drahaus, a rheolodd William y Cwncwerwr arnynt:1066. y flwyddyn o'r blaen gwelwyd seren gynffonog ofnadwy uwchben lloegr dros saith mwrod.
Yn yr oes hon y tynnodd Anghrist y mwgwd oddiar ei wyneb; gan ymddongos ir byd, y Twrc yn rheibus yn y dwyrain, a'r Pab Hildebrandus yn y Gorllewin,1074. yr hwn oedd gonsuriwr (fel y buasei'r pab Sylvester yr ail oi flaen ynteu yn y flwyddyn 1000.) ac yn gablwr, ac yn ymdderchafu uwchlaw brenhinoedd y ddaiar: ac o'r amser yma allan, a thalm o'r blaen, drwy gleddyf, a gwenwyn, a chwnsurieth yr ymgodeu yr Pabau: weithiau byddeu dau, weithiau tri o honynt yn ymdynnu am y goruchafieth. a chan [Page 45]iddynt ymroddi i ddilyn cyngor y drwg cydffurfiasant addoliad Eglwysig yn y modd tebyccaf i ddiffodd purdeb flydd yn enw crefydd, drwy attal oddiwrth bobl air Duw, ac yspryd deallus mewn gweddi, ac yn lle hynny adrodd geiriau ladin ar dâsc heb ddirnad, na theimlad. ynghylch hyn y dechreuwyd cadw digwyl y meirw, yr hwn a ordeinwyd o herwydd breuddwyd Abbad Cluniac; yr hwn y welodd drwy hûn eneidiau 'r meirwon yr cael bûdd oddiwrth ei offerenau ef. Trayrydoedd y gweision yn cyscu, Math. 13. yr havodd Satan yr Efrau. Rhoddes Berengarius gynnyg ar argyhoeddi ofergoelion yr oes hon, a gorthrymwyd ef. ond drylliodd mellt a tharanau amryw o'r delwau yn eglwysydd lloegr. a bu anfodlonrwydd Cyffredin am orfod o'r offeiriadau adel eu llêodd,Oed. Cr. 1092. neu wrthod eu gwragedd drwy orchymyn y Pâb: a phan appeliodd escob gorthrymedig at Grist, rhoddes rybudd ir swy ddogion pabaidd yw gyfarfod ef. Ymhen ychydig bu ef farw, ac mewn modd erchill cyrchodd angeu nhwythau ar unwaith. a gwelwyd rhyfeddodau lawer; Sychodd yr afonydd, crynodd y ddaiar,1110. berwodd ffynnon o waed yn lloegr dair wythnos. Ymddangosodd dwy leuad, a seren gynffonnog, a megis aneirif Sêr yn syrthio, a'r wybren ar dân oll. Wedi hynny gwelwyd tri haul, a thair lleuad, a chroes gôch ar draws y ganol.1158. tystiolaethod amryw wyr duwiol a dyscedig yn erbyn llygredigaeth yr amser hwn, a merthyrwyd hwynt. ie er ir Ymerodr Ffredericus Barbarossa gyhoeddi drygioni'r Pâb, etto gorsu [Page 46]iddo ymostwng iddo ef; a rhoddes y Pâb ei droed ar ei wddf ef,Psal. 91.13. gan gamarfer geiriau'r Psalmydd, y llew a'r ddraig a sethri: 1164. yr un yspryd balchder yrrodd y ddau Arch-escob saesnig mewn cymanfa eglwysig i ymwthio ac i ymgwffio am yr eisteddle uchaf.1177. a thra yr oedd y Phariseaid hyn yn anrhydeddu Duw yn ofer a thraddodiadau dynol, Cyfododd Duw bobl iddo ei hun yw addoli mewn yspryd a gwirionedd: Sef yr Albingenses yn Tholouse, a Croatia, a Dalmatia. Ar Waldenses yn Lugdunum o ffrainc, y rhai alwyd fal hyn. Tra yr oedd Waldez dinasydd goludog ac eraill yn cyd-ymddiddan, ac i un oi Cwmpeini Syrthio yn farw yn y lle, trawodd y fath ddychryn ynddo ef, ac y barodd iddo ymroi i wellhâu ei fuchedd: dechreuodd rannu llawer oi dda ir tlodion, a chwilio'r Scythurau, canys llythyrenog oedd ef, a chynghori ei deulu ai gymydogion i edifarhâu; a chyfieithodd rannau o'r scrythur lân i rhai y welei ef yn ewyllyscar yw dilyn: ac aeth y gronyn hâd mwstard yn bren aml ei ganghennau. am hynny cystuddwyd ef ai ddilynwyr gan yr eglwyswyr pabaidd, a chwalwyd hwynt, rhai i Bohemia, eraill i Lombardy, eraill hyd taleithian Ffrainc, ac amlhâsant wrth eu gwascaru fal yr yd wrth ei hâu. Eu athrawieth oedd. Na ddylid ollwn dim ir grefydd, ond sy guttunol a'r Scrythyrau. Nad oes yr un Cyfryngwr heb law Crist, ac na ddylid gweddio at seinctiau, na thros y marw; na ddylid addoli mor cymun, na lluniau, na themlau; mae Angrist oedd y Pâb, am hynny y dylid gadel ymaeth ei ddefodan ef mewn [Page 47]bwydydd, ac amsercedd. Eu buchedd oedd gweddio yn hîr, yn wresog, yn fynych ymysc eu gilidd, nid arferent un ffurf weddi, ond gweddi'r Arglwydd yn unic. Cyn Cymeryd eu bwyd gweddient ar i Duw ei fendithio ef, fel y torthau yn yr anialwch. Athrawiaethent eu gilidd yn boenus. Nofieu un o honynt liw nôs dros afon amser gaiaf i hyfforddi cymydog yngrâs Duw; byddei'r Scrythur ganddynt ar eu tafod leferydd, ie gan y bobl wledig; dioddefent eu llâd am eu ffydd yn gyssurus.
Yn fynych byddei Duw yn eu gwaredu hwynt a'u brodyr yn rhyfeddol, megis yn Tholouse, lle y lleihâodd cornwyd y fyddyn Babaidd oedd yn gwarchâu arm:Oed. Cr. 1220 ond wedi hynny rhoddodd y ddinas rasol honno genad i escobion coelgrefy ddol i ddyfod i mewn i ymgomio ynghylch eu ffydd, y rhai fel bradwyr y ddygasant filwyr gyda 'u Cwttian i dywallt gwaed gwirion.1237. Mae eglwys y Groegiaid yn ymadel ag eglwys Rufain, eisieu cael gan y Pâb ddiwygio'r pethau oedd feius. yr hwn oedd yn pwyso yn drwm ar Loegr hefyd, ac yn tynnu ei thryssor atto ei hun am bardynau ir eneidiau, ac wrth amryw drofeydd eraill, onid oedd y penaethiaid yn achwyn arno wrth gymanfâodd Cyffredin.1245. Blin echryslon hefyd oedd helynt Cristnogion y dwyrain yn Asia, Syria, a'r gwledydd oddiamgylch, o herwydd y Twrciaid; y rhai er nad oeddent ar y cyntaf ond byddyn fechan y ddaethei o Scythia i gynorthwyo Persia am gyflog, etto wedi Syrthio allan a'r Perfiaid gorchfugasant eu teyrnas hwynt, [Page 48]ac eraill o'i hamgylch, a derbyniasant goelgrefydd Mahomet, oedd yn y gwledydd hynny o'r blaen. Ac er i dy wysogion y gorllewin sef Godfrey o Builon ac eraill arwein byddinaedd Cedyrn yn eu herbyn, ac ynnill Jerusalem oddi arnynt, a llâdd o honynt lawer cant of filoedd, etto tyfei anghydfod rhwng y tywysogion a'u gilidd, neu rhwng yr ymerodr a'r Pâb ynghylch arglwyddieth, y roddei achlyssur i'r Turciaid i ynnill eu colled gyda'g elw. ie Cenfigennodd Ymerodr Constantinopl a'r Groegiad wrth y byddinoedd Ladingaidd, a chymyscent galch gyda'r blawd y werthent iddynt, yw gwenwyno. Er bod y Cristnogion ofergoelus (y rhai oeddent yn erlid purdeb crefydd yn eu gwladwyr eu hunain) yn anllwyddianus yn eu rhyfel a'r Twrc, etto daeth Tamerlan ymerodr Tartaria a byddyn yn ei erbyn ef, ac ai gorchfygodd ef; gan gau ar Bajazet (y Twrt penaf a chreulonaf yn ei amser) mewn grât haiarn fel Ilew yw her ddangos: ac er mwyn cospi ei falchder ef, sangei ar ei gefn ef wrth fyned ar ei farch. Ar y daith hon dûg y Cwncwerwr hwn lawer o deyrnasoedd dano, a bu dirion wrth y Cristnogion. Pan oedd Bajazet yn myned tua'r frwydr hon mewn gofal a galar, (canys clywsei ddarfod i Tamerlan ynnill Sebastia oddiar eu wyr ef, a llâdd ei fab ef Orthobules) aeth heibio i fugail y doedd yn canu piban dan areilio ei braidd, gan ochneidio, a dywedyd, dedwydd wyti nadoes geniti na Sebastia nag Orthobules yw golli. yr hyn sy'n dangos, mae gwell yw Cyflwr y rhai Sy'n bodloni ar ychydig, na'rhai Sy'n meddu llawer.
[Page 49]Yn y gorllewin rhydd Duw fwyfwy o eleufyneg am lygredigaeth yr eglwyswyr, ac mae rhai drwy'r yspryd glân yn cael deall yn llyfr y Datcuddiad, ac yn profi mae Anghrist yw'r Pab: ac yn prophwydo y cofodeu Duw weinidogion tlodion i bregethu'r efengil, ac i borthi praidd Crist yn dduwiol. Ac yn dangos fel yr oedd rhagrithwyr ofergoelus,Oed. Cr. 1324. yn addurno escyrn y Sainct Meirwon, ac yn penydio y rhai byw am wirionedd eu ffydd. A'u bod yn fflangellu delwan bywiol Duw, sef ei bobl, er iddynt addoli delwau mudion. a 'u bod yn porthi, neu yn hytrach yn siomi desaid Crist a phorfa sur, ac afiachus, sef dychymygion dynol, ac yn cau yn fanwl rhag iddynt gael blâs ar dir Duw, sef y scrythurau. Rhagfynegodd rhai Sanctaidd y Cyfodeu Duw rai yn yspryd Elias i adferu purdeb crefydd, er ei bod y pryd hynny dan gwmwl. Ac ymhen ychydig annogodd yspryd yr Arglwydd Joan Wiccliffe athro'r Gadair yn Rhydychen i oleuo Lloegr. Yr hwn wedi ei erlid gan yr escobion a bregethodd yn droednoeth, gan dynnu llawer oddiwrth eulynaddoliad pabaidd, i chwilio'r Scrythurau ac yw dilyn: arferei ef, a llawer oi frodyr bregethu yn yr heolydd ar ddyddiau marchnad,Oed. Cr. 1371. pan lyfwyd yr Eglwyfydd iddynt. A phan oedd Cymanfa yn Llundain yn myned ynghylch holi Wiccliffe ai lyfrau, digwyddodd yn yr awr honno ddaiargryn mawr, a ddychrynodd y preladiaid. Amlbâodd dyscy blion i Grist yn ddirfawr drwy bregethau a llyfrau yr esengylwr daionus hwn, ai gydweithwyr, er gwaetha'r rheolwyr oeddent yn ceisio eu rhwystro: [Page 50]ac wedi ei farw ef ai ben ar y gobenydd (canys causei ddiogelwch drwy hyfforddiad rhai o'r penaethiaid) scrifennodd yscolheigion Rhydychen dystiolaeth ir hollfyd oi burdeb ai Sancteiddrwydd ef.
Je yn Bohemia cysododd John Husse, ac yscolheigion enwog yn Prague i siccrhâu ei athrawieth ef, gan brofi fod Duw yn anfon y pregethwyr oeddent yn dal allan burdeb yr efengil, er bod y Pâb ai escobion yn eu gomedd, a bod eu cariad tu ag at Dduw ai bobl, au Sancteiddrwydd, au dioddefgarwch, yn arwyddion disiomedig oi galwad, canys wrth gariad yr adwaenir dyscyblion Crist. Ac er i lawer geryddu Husse (fel y gwnawd a Bartimaus) i geisio ganddo dewi, etto llefodd yn fwy o lawer yn erbyn eulynaddoliad yr amser, a dangosodd y fath Anghenfil ydoedd yr Anghrist, gan sod tri phen, sef tri Phâb a'r unwaith yn ymdrechu am y llaw vchaf; y gwahaniad bwnw y lêdodd iddo ef ddrws ymadrodd. er diwedd anfonodd yr ymerodr am dano ef i Gymansa Constance, lle y caeth garchanwyd ef mewn heirn, er iddo o'r blaen gael addewid yr ymerodr a'r Pab penaf, (y rhai oedder yno yn bresenol) y gallei ef fyned a dyfod yn ddiogel ddirwystr. A phan welsant nas gellid moi ddenu ef at Baby ddieth, blingasant ei goryn ef, (er tynnu ymaeth yr olew Cyssegredig meddent, ar bwn yr enneinaifid ef wrth dderbyn urddau) a gwiscasant am ei ben ef gap a lluniau Cythreuliaid wedi eu peintio arno, a lloscasant ef yn ylw; a thaerasant na ddylid cwplau addewid i Heretic. Oud tra yr oedd ef wrth y stange yr oedd ei gynghorion ef mor fuddiol, [Page 51]ai weddiau ef mor nerthol,Oed. Cr. 1415. onid oedd y bobl yn cydnabod iddo farw yn rasol.
O Garchar scrifenodd at ei wladwyr yw cadarnhâu yn y ffydd, gan ddywedyd iddo gael datcuddiadd y galwei'r Arglwydd bobl rasol iddo ei hun, ac o rheini y Cyfodeu weinidogion i adferu grym duwioldeb. Ac os llosceu 'r Papistiaid ei lysrau ef, fel y gwnaeth yr Juddew a phrophwy dolieih Jeremi, Jer. 36, 22. etto gosodid allan yr athrawieth eilwaith yn helaethach.
Ar ol Husse Canlynodd Jerome, ei gyfaill anwyl, ac athro dyscedig o'r un ddinas. Yr hwn pan aeth i Constance o honaw ei hun i ymweled ai frawd Husse, (fal y Cynorthwya'r naill aelod y llall mewn anghyflwr) Carcharwyd es yno yn gaeth-filain dros agos i flwyddyn; ac er iddo lithro unwaith, etto yr eilwaith, yr ymddangosodd o flaen y gymanfa, argyhoeddodd hwynt yn llym am waed Husse, a phrofessodd y wir grefydd yn nerthol; a daliodd hi hyd farw: am hynny lloscwyd ef wrth stangc cerfiedig ar lûn Husse, er Chawnegu ei alar; dywedodd y ddau ferthyr hyn wrth y Papistiaid, y caent atteb i Dduw, ac iddynt hwytbau am eu gwaed ymhen y can mlynedd. Ond darsu ir tân y laddodd yr athrawon fywhâu'r dyscyblion yn Bohemia, lle 'r ymnerthafant i ymddiffyn eu crefydd au bywyd; ac er ir Pab ar ymerodr anfon lluodd mawrion yw difetha hwynt, etto gorchfugasant y Papistiaid gwaedlyd mewn un brwydr ar ddeg cyn marw Zisca eu Capten, a hynny mewn modd rhyfeddol; canys ychydig nifer oeddent mewn Cyffelybieth yw [Page 52]gelynion, a thrawei'r fath ofn yn y Papistiaid, oni ffôent Cyn ymladd weithiau. Ac wedi'r gwarediadau rhyfeddol hynny, mewn amser tyfodd gwahaniadau rhwng y penaethiaid, a thrwy frâd rhoddwyd y deyrnas ir ymerodr; yr hwn ai Cymerth yn fwynaidd, ac a orchmynodd ir hen filwyr ymgasclu i fewn yscuboriau er mwyn derbyn eu Cyflog yn heddychol, a Phan gafodd hwynt ynghyd, parodd losci'r yscuboriau, a nhwythau ynddynt. Yn Lloegr y Paratowyd yr un ymdrin ir ffyddloniaid gan eu llysenwi yn Lolards, (sef lolium art) hynny yw efrau: ac am hynny Ceiswyd eu chwynu, a'u llosci, a rhwystro eu cyfarfodydd. Er gofod petisiwnau ar ddyssau'r Parliament am ddiwygiad grefoddol, etto ni cheid hynny drwy awdurdod ddynol yn yr oes honno; eithr rhoddwyd i farwolaeth y rhai ni addolent y groes, a'r bara yn y Cymun, a gosodwyd Cyfreithiau caeth i chwilio am bod dyn, a phob llyfr yw difetha, a'r y ddalieu allan y wir athrawieth: er hynny chwanegeu rhifedi rhai duwiol, er syrthio rhai, cyfodeu eraill. ond lleihâodd y Papistiaid beth, canys lladdwyd o honynt ddau cant o filoed yn y rhyfel y fu rhwng dau Bâb oeddent yn ymrysson ai gilidd dros naw mlynedd a'r ugain. Gwnaeth Arglwydd Cobbam ei ran yn pledio gyda'r wir gresydd hyd sarw, tystiolaethodd iddo gael grâs i ofni Duw, er pan dderbyniasei ef athrawiaeth Wiccliffe, ai fod o'r blaen yn byw mewn amryw bechodau ynghymdeithas y Papistiaid. Pan alwent arno i addoli 'r groes, estynnei allan ei freichiau, gan ddywedyd [Page 53] Dyma groes o wneuthuriad Duw, (gan feddwl ei gorph tra'r oedd ei freichiau ar lêd) ac etto nid addolwch, onid erlidiwch fi, anrhesymol ynteu addoli croes o waith dyn.
Merthyrwyd yn ar bymtheg ar ugain ar unwaith, ac ymhen y mis trawodd Duw dafod Arundel Archescob Caergaint, fel nad allei na llyncu, na llefaru amryw ddyddiau Cyn ei farw, a chydnabyddod llawer yr amser hwnw gymwysed oedd barn Duw yn erbyn yr hwn oedd mor fywiog yn Ceisio gostegu gwir bregethwyr yr efengil. yn yr oes hon y gorchmynwyd dau wyl i Fair.Oed. Cr. 1439.
Ond mae Duw yn dychwelyd at y byd a mawr drugaredd, ac yn rhoddi dawn i ddyn y brifiodd yn hyffordiant mawr ir efengil,1450. sef celfyddyd preintio; mynnei 'r scrythur i ddynol ryw gydnabod mae o'r nêf y mae cyfarwyddyd yn dyfod i drin y ddaiar,Isai. 28.24. fel y caffo dyn lunieth Corphorol: ynteu llwyr y dylid fendithio Duw am y modd hwn i amlhâu llunieth ysprydol, ynghylch mor suddiol a dawn y tafodau yn amser yr Apostolion.
Cyn y pry hyn yr oed yr Srythurau a llyfrau da eraill yn anaml, ac yn ddrudion, o herwydd meithder eu scrifenu: profwydar lw yn erbyn proffesswr mewn llys pabaidd yn y flwyddyn 1429. iddo roddi un swllt or bumtheg ar ugain am y testament newydd yn Llundain: tebygol y Costiasei'r bibl Cyfan y tri chymaint, am yr hyn swm y gallesid purcasu hawl i gryn dyfyn o dir yn yr oes honno. Ond yn ein dyddiau ni aml a rhâd yw llyfrau da, ac yscolion yw dyscu, am hynny bawsach cael gwybodaeth o air Duw, yr hynsydd [Page 54]yn ddyrnod pen ir Anghrist: am fod anwybodaeth yn Cadarnhâu Cyfeiliorni, fel y mae oerni yn caledu'r pyg, a goleuni ai gyrr i gilio, fel y gwna 'r tân ir plwm ymollwn.
Ystyr rhaglunieth Duw, pan oedd yr Eglwys yn amlhâu ac yn dyfod o'r Aipht, y rhoddes ef ei ewyllys yn gyntaf yn scrifennedig, a phan oedd ar amlhâu a gwaredu ei bobl oddiwrth Babyddieth, caniadodd ei scrythurau yn breintiedig gyntaf. Yn y flwyddyn o oedran Crist 1453. darsu ir Turciaid ynnill Constantinopl, prif ddinas ymerodraeth Gristnogol y dwyrain dros un cant ar deg o flynyddoedd, sef er amser ein gwladwr Constantinus yr hwn ai hadeiladodd hi. Gofidus fyddei mynegu a chlywed dosted fu ei difrod. Gorescynnodd y Twrciaid Creulon yn yr oes hon ddau cant o ddinafoedd, a deuddeg o deirnasoedd, a dwy ymerodraeth Gristnogol, a hynny yn amser un oi brenhinoedd: heb law y teirnasoedd enwog y dreisiasant drwy fin arfau gynt a chwedi. Yr achosion amlwg o lwyddiant yr Anghred hyn ydoedd lawer. Sef,
Oblegid ir Cristnogion ymlygru gan mwyaf, heb roddi iawn ymddiried yn-Ghrist, ond dewisent. St George, a St Dennis, ar cyfryw yn ymddiffynwyr iddynt,Joan. 15.5. gan adel Jesu heibio, heb yr hwn nis gallent ddim. Ac yr oeddent mor filain yn erbyn eu brodyr y ddilynent rym yr efengil, ac oedd y Twrciaid yn erbyn y rhai a broffessent ei ffurf hi; ie mor amhûr ydoedd buchedd y rhan fwyaf o'r Gristnogion, oni orfu i Grist ddangos barn arnynt er tystiolaethu yngwydd [Page 55]ei elynion mor anfodlon oedd ef i bechodau y rhai a ymhonnent oi enw ef; ac mor gâs oedd gando anwiredd, i hyn ystyriwn yr histori yma. Wedi ir Twrc wneuthur Cyngrair a brenin Polonia, ac Hungaria, a Symud ei fyddinoedd ymaeth oddiwrtho ef yn ddigon pell, gwelei'r Pâb y gallei'r brenin gael barr gwâg i ynnill peth oddiar y Twre, os torrei ei ammod; ar hyn gwnaethpwyd rhuthr am ben y Twrciaid, a nhwy heb ddisgwil dim o'r fath beth: a phan oedd y Twrciaid yn y frwydr ar golli'r maes, tynnodd eu brenin hwynt oi fynwes yr ysgrifen, lle yr oedd ammodau'r Cyttundeb ar lawr, gan ddywedyd. O Grist os wyti Dduw fel y dywedant, ac y tybiwn ninnau dy fod ti, dial yr anffyddlondeb hwn ar y bobl sy'n professu dy enw di, ond a'u gweithredoedd yn dy wadu di Ar hyn aeth y Twrc yn drêch, er ei fod o'r blaen ar y gwaethaf. Amseroedd eraill pan aent ir frwydr dan gablu Crist, gorchfy gid nhwythau; ond y naill amser gyda'r llall, caniadodd Duw iddynt fod yn fflangell lifeiriol yw bobl anufudd; odid ddinas na thrêf drwy Asia, Affrica, a rhan fawr o Europa, lle ni wnaeth yr anghred geirwon hyn i waed y Cristnogion ffrydio; a'r rhai y arbedei eu cleddyf, a werthid fel anifeiliaid o farchnad i farchnad i dynnu yn lle ychen, neu i wneuthur rhyw galedi arall. Ac yn awr ni chaiff y Cristnogion y sydd dan drêth drom ymysc y Twrciaid, mor ymgynnill ond yn ddirgel, na bod mewn swydd, na gwisco arfau, na dillad chwaith o'r un suta hwynt; na gwrthwynebu un cabl-air yn erbyn Crist: ac os dywedant [Page 56]ddim yn erbyn Mahomet, cânt eu llosci. Ar peth truanaf o'r cwbl yw orfod [...]ddynt ymadel a'u plant i ddwylo gelynion Crist yw dwyn i fynu megis mewn monachlogydd yn y gau grefydd, ac i ddyscu traenio; fel pan dyfont, ac anghosio eu rhieni (canys ni chânt fyth moi hadnabod mwy ar ol eu tynnu oddiwrthynt) yr ymladdont yn fedrus yn erbyn yr efengil.
Yn Lloegr Lloscwyd pobl dduwiol am ymwrthod a phabyddieth.1506. Tra yr oeddynt yn llosci un o honynt yn cheaping Sadberie, torrodd tarw baitiedig yn rhydd, ac a whyliodd y Doctor Whittington a gondemniafei'r merthyr, gan lusco ei berfedd ef hyd yr heol wrth ei gyrn, heb gwffwrdd a neb arall yn yr holl ymwasc. Etto ni chymereu'r erlidwyr ddim rhybudd: eithr ci piasant John Browne oi dy, ac ni chafodd ei wraig moi hanes ef, nes ei ddwyn ef yw lofci yn agos yw gartref: a thra'r oedd ef yn y Cyffion yn aros ei ddihenydd, mynegodd yw wraig fal y darfuasei ir Escob losci ei draed ef hyd at yr escyrn, yw gymell ef i wadu ei ffydd: ac wedi dymuno arni hi, ai blant barhâu yn ofn Duw, ymroddodd ir tân.
A Thomas Man a folianodd Dduw am ei wneuthur ef yn offer i droi saithgant at y ffydd, yr oedd ef yn marw drosti.
Yr oedd cynulleidfâu mawrion o bobl dduwiol yn ymgyfarfod heb wybod ir Escobion yn amryw fannau yn Lloegr; ond wrth gymell y wraig i dystiolaethu yn erbyn y gwr, a'r plant yn erbyn eu rhieni, a'r naill frawd yn erbyn y llall, cafwyd yspysrwydd, pwy oeddent yn dyscu i [Page 57]eraill wersi o'r testament newydd, a'r credo, a'r dêg gorchymyn, ac yn darllen neu yn gwrando yr Scry thurau saesonaec y nôs, a tharfwyd hwynt fel y defaid gan y bleiddiaid.
Er nad oedd ond ymbell ddarn o'r scrythyrau yn saesonaec, a rheini yn wabarddedig drwy gyfraeth y deyrnas, ac heb, fawr bobl lythrenog hyd y wlâd y fedreu eu darllen, etto rhyfeddol amled oedd y rhai y gawfent râs wrth eu clywed mewn cornelau,1 Cor. 1.25. a gwelwyd gwendid Duw yn gryfach na dynion.
Ynghylch y dyddiau hyn y prophwydodd rhai duwiol y glanheid yr Eglwys oddiwrth ei llygredigaeth, ac yr ail blodeuei purdeb yr efengil: digwyddodd hefyd rai rhyfeddodau. Syrthiodd croesau gwa [...]dlyd, a llún hoelion, a gwaiwffon ac yspwng ar wiscoedd pobl yn Germania. Tra yr oeddid yn Rhufain yn Cyssegru prif henuriaid, trawodd temestl angerddol yr Eglwys lle'r ceddent, oni Syrthiodd yr agoriadau o law delw Peder. Angwanegodd dysceidieth, a phreintwyd llyfrau'r hên athrawon, drwy lafur Erasmus ac eraill. A chyfododd llawer o wyr duwiol dyscedig i chwilio 'r scrythyrau yn yr ieuthoedd, ymha rai yr scrifennaseu'r Prophwydi, a'r Apostolion hwynt, sefyr Hebrew, ar Groeg, a chawsant ddwfr y bywyd yn loiwfach yn y ffynnon, nag yn llestri mws y Pâb.
Scrifennodd Luther, a Melancton, a Zwinglius, a llawer eraill yn erbyn marsiandiaeth, ac eulynaddoliaeth y Páb: Na thalcu yr Pardynau ddim y anfonei ef i bob gwlád yw gwerthu am arian, ondbod maddeuant Pechod drwy ffydd yn-Ghrist, ac y dylid addoli yn ol ewyllis Duw, ac nid yn ol coel y Pàb. [Page 58]Ar hyn casclodd Ymerodr Germania gymanfa fawr o holl lywodraethwyr ei wledydd i ddinas Wormes, Ile yr ansonwyd am Luther i bledio ei achos. A phan amlygodd yr Ymerodr wrthwyneb i ddywygiad crefydd. ceisiodd ei gyfeillion gan Luther nad anturieu fyned ir ddinas: atrebodd ynteu, Yr ai ef i mewn yn Enw'r IESV, er bod yno gymaint o gythreuliaid yw wrthwynebu ef, ag oedd o gerrig ar bennau yr tai. A phan ddaeth ger bron, y madroddodd yn galonog ymhlaid yr efengil; gan yspyssu yddint,Gal. 2. Na ddylid coelio angel o'r nef gwaethach dynion ar y ddaiar, yn erbyn gair Duw. A'r flwyddyn gwedi hyn scrifenodd y Pâb at Benaethiaid Germania oeddent ynghyd yn Norenberg, Oed. Cr. 1522. i ddymmo arnynt chwareu yr meddygon gofalus, a serio Cancr Luther a thân, fal na thaneu ymhellach. Ond attebasant iddo, fod ei reolaeth lygredig ef yn blâ ir byd, am fod y gollyngdod y wertheu ef oddiwrth bechod, ai benyd yn y byd hwn, a'r purdan, yn gwneuthur pobl yn anuwiol, gan hyderu y gallent gyflawni eu chwantau, ac achub eu heneidiau am ychydig arian; gan benodi ynghylch cant o feiau anafus oedd yn Cyd-galyn pabyddieth.
O hynny allan y mosododd y tywysogion i swccro'r pregethwyr, a'r bobl dduwiol i addoli Duw mewn purdeb yn gyhoeddus, ac nid yn unig mewn tyllau fel o'r blaen. Cafodd gweinidogaeth Zuinglius, a Leo Juda dycciant mawr yngwladwrieth Helvetia, Ile gorchmynodd y Swyddogion losci yr delwau, a bwrw ymaeth ddefodau llygredig, a phregethu gair Duw yn aml ac yn [Page 59]blayn, gan gyhoeddi eu bod yn dal sulw fel yr oedd yr offeiriaid Pabaidd yn arfer eu ofergoelion er mwyn elw, a derchafu'r Pâb, a bod gweinidigion efangylaidd yn ceisio bûdd eneidiau, a derchafu Crist: ie ymha ddinas bynnag neu deyrnas y cafeu pregethiad yr efengil ychydig ryddid, Syrthieu'r offeren a'r delwau i lawr yno, fel Dagon gynt o flaen yr Arch. Ac yn gymaint nad ellid disgwil amgenach, na chyfodei Ceidwad y Carchar uffernol waedd ac erlid ar ol y Carcharorion aethent yn thyddion oddiwrtho ef, drwy ffydd yn-Ghrist, ymunodd twysogion Germania, ac arglwyddi dinasoedd breiniol mewn protestatiwn,1529 sef cyhoedd ddatcan eu meddwl i gyd-gynal dywygiad, ac am hynny y galwyd hwynt yn Brotestants.
O hyn allan aeth y Papistiaid yn greulonach, megis eirth wedi colli eu cenawon, wrth y Protestaniaid y fyddeu dan eu palfau hwynt: gan dynnu aelodau rhai a gefail, a chladdu eraill yn fyw, a llosci eraill yn ylw, a chrogi eraill. Ac er na ddiffoddeu eu gwaed hwynt mo boethder digofaint yr Anghrist, etto troe llawer at râs Duw, wrth weled dioddefgarwch y merthyron diweddaraf megis y rhai Cyntaf.
Encyd wedi torri pen George Scherter (y droeseu lawer at Grist yn ei fywyd) ac ir Corph farw ynhyb pawb, trôdd ar ei gefn, ac a roddes y troed deheu dros yr asswy, ac felly ei ddwylaw yn groes. wrth weled hyn ofnodd pawb, a chredodd llawer yw athrawieth ef, canys addawsei iddynt arwydd oi fod ef yn marw dros Grist.
[Page 60]Yr oedd un yn Mount Peliers yn bodioni ymwadu a ffydd y Protestaniald, er mwyn cael myned allan o garchar; a chyttunodd y Papistiaid ir peth, ond iddo gymeryd hyn yn benyd arno; sef edrych ar losci un oi hên gymdeithion yn y ffydd, yr hyn y wnaeth ef: ac wrth weled mor gyssurus yr oedd hwnw yn marw, gwrthododd, wadu ei ffydd, ei thr dewisodd ddioddef drosti.
Er maint fu blinder eraill, etto cafodd Luther farw ai ben ar y gobenydd yn beddychol, ar ol iddo dros naw mlynedd ar ugain bregethu yn fuddiol, a gweddio yn nerthol, ac yscryfennu yn orchestol, a chael gwarediadau rhyfeddol, a dilyn buchedd Sanctaidd. Pan fyddeu golud yn dyfod atto, ofnei yn ddirfawr rhag bod Duw yn cynyg ei wobr iddo yn y byd hwn, gan ddwedyd, Na chafei Duw fodloni mono felly. Y diwrnod Cyn ei farw ef yr oedd ymddiddan ar ei fwrdd ef ynghylch y Nêf, a ydoedd y sainct yn adnabod eu gilidd yno; A thra'r oedd ynteu yn eistedd yn egwan gyda hwynt yw bryd bwyd, adroddodd ei dyb, mae fel yr adnabu Adda Efa ym-Haradwys er na welsei moni erioed o'r blaen, felly y bydd Cymdeithas y rhai perffaith yn y nèf, er na welsant eu gilidd mewn Cyrph gogoneddus erioed o'r blaen.
Yn yr Hispaen mae yr ymgais melltigedig yn llâdd llawer o rai duwiol, dyscedig, a boneddigaidd-Teifi y Ceisiaid hyn y neb y synont i garchar tywyll du, lle ni chaiff y Carcharor na darllen, nac yscrifenu; ac os dywed y plentyn air dros ei dâd caeth, caiff yr un triniad ac yntef, am ddymuno yn dda i heretic. Dirdynnir yno, a llwythir a heirn yn greulon, ac yn ddirgel.
[Page 61]Ymysc eraill y ferthyrwyd yn yr Ital, nodedig fu dioddefgarwch Pomponius Algerius yseolhaig o Padua: yr hwn pan garcharwyd ef am ei zêl i bur grefydd, yscrifenodd at ei frodyr, Iddo ef fel Sampson gael dil mêl ymol y llew, a pharadwys hyfryd yn y daiardy drewllyd, a llawenydd nefol yn yr ogof uffernol; ar lle byddeu eraill yn trynu, ei fod ef yn ymhyfrydu, a bod Crist mor fwyn a chadw Cymdeithas ai weision yn y Carchar isaf; Seliodd y ffydd ai waed yn Rhufain. wedi hyn condemnwyd vn cant ar bumtheg yn Calabria gwlâd or Ital, lle y derbyniasid yr efengil yn ewyllyscar; a thorrodd y Papistiaid wythi gwaed pedwar ugain o'r Protestaniaid yn yr un diwrnod a chyllell gigidd, gan eu llâdd fel defaid ol yn ols yr ydoedd y merthyron mor fodlon i farw, a'r dihennyddiwr mor waedlyd yn taro ei gyllell rhwng ei ddannedd,1560 tra fyddei yn ymaflyd yn y naill ar ol y llall, onid oedd yr edrychwyr yn wylo gan erchylled oedd y golwg: etto ni orphwysasont nes dinistrio dwy dref, a mil oi trigolion.
Yr un ffunyd y gwnawd yn ffrainc, a'r Waldesiaid yn Merindol a Cabriers; y rhai a ddaliasent burdeb yr efengil yn dreftadol er ys talm o flynyddoed, lle y lladdwyd y gwyr a'r gwragedd, a'r plant, heb arbed neb; a chyflawnodd y Papistiaid yr un peth ac yr ydoedd yr Apostol Jago yn achwyn rhagddo,pen 5.6. Condemnasant a lladdasant y cyfiawn, ac ynteu heb Sefyll yw herbyn. Y Cyfryw zêl waedlyd i Baby ddieth y barodd i dduwc Safoy, erlid yr un bobl yn ei arglwyddieth [Page 62]ynteu, Sef Piedmont, tan y mynydd Myneu, gan rostio rhai o honynt wrth dân araf, a chaethiwo eraill mewn llongau, a gy rru eraill i lechu ir creigiau.
Ynghylch hyn y bu Calfin yn bregethwr hynod yn Genefa, yr hwn oedd yn studio 'r gyfraeth ar y Cyntaf, nes i Dduw ynnill ei galon ef at yr scrythurau: yr ydoedd ef yn un o'r pregethwyr puraf, a chy flawnaf o râs a dysceidieth, a'r y fu er amser yr Apostolion; daeth llawer o'r Ital, a'r Hispaen, a lloegr at ei weinidogaeth ef, o ran arogl y bywyd oedd ynddi: dûg lawer o boen, a chystudd yngwaith yr arglwydd. er bod Duwc Safoy yn cenfigenu wrth ffyniant yr efengil yn y ddinas enwog hon, etto ymddiffynnodd Duw y ddinas ai eglwys yn ei erbyn ef. Ar ol Calfin bu Beza yn golofn yn eglwys Genefa, yr hwn oedd lawn o olud, a dysc, a goruchasieth: ac wedi ir Arglwyd ei ddarostwng ef drwy ddolur, ymrôdd i ogoneddu ei waredwr yngweinidogaeth yr efengil, gan wneuthur ammod a Duw yn ei gyfyngder yngeiriau'r Prophwyd, dwg fy enaid allan o garchar fel y moliannwyf dy enw. Psal. 142.7.
Yn Scotland bu Cnocs yn athro llwyddiantu i adferu gwir rasol ddysc; rhoddodd Duw iddo ddawn i rhagfynegu Pethau, yn enwedig yn erbyn rhwystrwyr yr efengil. Anibenus fyddeu portreiadu llafur a lludded Cymaint ac y gyfododd Duw i alw'r byd o dywyllwch i oleuni yn yr oes hon y tu hwnt ir môr dyfal oeddent, a mentrus mewn dadlau Cyhoeddus i gau safnau athrawon Papyddieth, Diwyd [Page 63]yn Pregethu, ac yn scrifenu, addfwyn yn dioddef, nerthol mewn gweddiau; rhaid ini ddywedyd yngeiriau Dafydd, yr Arglwydd a roddes y gair, Psal. 68.11, mawr oedd mintài y rhai ai pregethent.
Yn Lloegr hefyd bu tystion ffyddlon i Dduw y pryd hyn, megis Bilney, yr hwn wrth glywed llawer yn dywedyd, na chlywsent er ioed sôn am adgyfodiad y Corph, (canys ni ddeallent mo'r credo Lladin) tosturiodd wrth ei wladwyr, a phregethodd ymhob man y cafei rydid ynddo: ac yn y maeusydd, ac o dy i dy, nes ei losci ef am ei boen, efe drôdd Latimer at Dduw.
Hynod fu gwaith grâs hefyd yn James Bainham, gwr o gyfraith, a mâb i farchog; yr hwn drwy gôsp y gymellwyd ai enau i wadu ffydd ei galon; ond Cyn pen y mîs wedi iddo gael rhyddid ei gorph, yr oedd ei gydwybod ef yn gaeth, nes iddo fyned at gynulleid [...]a ddirgel o'r bobl dduwiol, a chydnabod eu gwymp yn edifarus:Oed. Cr. 1532. aeth hefyd ir eglwys blwyf ar y Sabboth, a'r testament newydd Saesonaec yn ei law, a mynegodd ir holl bobl dan wylo dagrau heilltion, fel y darfuaseu iddo ef wadu Duw, a dymunodd arnynt faddeu iddo ef: gan eu Cynghori i ochelyd dicter Duw, a'u galw hwynt yn dystion, ei fod ef yn dychwelyd at y gwirionedd eilwaith, yr hyn yscrifenodd ef at yr Escob hefyd. Am hyn Carcharwyd ef yn filemiach nag o'r blaen; gan ei gadw yn y cyffion a heirn ar ei draed bumthegnôs ynglôdy'r Efcob, ai fflangellu yn fynych, ac er diwed lloscasant ef wrth Stanc. A thra yr oedd ef yn tân ai [Page 64]aelodau wedi hanner llosci, dywedodd wrth y Papistiaid, Yr ydych yn gofyn am ryfeddodan gen. nym, gwelwch yma yn awr ryfeddod, Canys nid wyfi yn teimlo mwy o boen y tân hwn, na Phe byddwn ar wely mân-blu, neu un o bêr-lysian.
Ar ol hwn Canlynodd John Frith, yr hwn y scrifenodd mor fuddiol o'r Carchar, ac y sicerhâodd ymadrodd yr Apostol, na rwymir gair Duw; canys derbyniodd Cranmer ac eraill adeiladaeth oddiwrth ei waith ef.
Ynghylch hyn y collod y Pâb ei awdurdod yn Lloegr, fel na chydnabyddid ef yn ben ir Eglwys, ac am hynny na roddid un tammed brât yn ei safn ef mwy. Ac y bu Tyndal gwr o gyffiniau Cymru yn hyfforddiant mawr i wir wybodaeth, canys cyfieuthodd a phreintiodd yr scrythurau yn saesonaec, ac anfonodd hwynt yw tanu yn Lloegr, a llyffrau buddiol eraill; a thycciasant er iechydwrieth i laweroedd yn yr oes honno: ar hyn Cyffrôdd y rhai oedd yn caru tywyllwch, fal Jerusalem wrth eni Crist, ac ni orphwysasant nes cael ei losci ef ai lyfrau; tra yr oedd yn disgwil ei ddiwedd, efe drôdd geidwad y Carchar ai dylwyth i ofni Duw. Pan wahoddodd ei wladwyr Mr Tyndal i edrych ar gonsurwr y fyddeu arfer o wneuthur pethau rhyfeddol, drwy ei ffydd attaliodd ef nerth gythreulyg y Jwgler; yr hwn wedi chwysu yn swyno, ac heb allu gwneuthur dim oi gynefin gastiau, a gyfaddefodd fod rhyw un yn y stafell yn diddymu ei scîl ef. Er bod y Brenin Harry 8. yn bwrw i lawr awdurdod y Pâb, etto nid ymwrthododd ai athrawieth ef, am hynny [Page 65]dygpwyd Lambert Cydweithiwr Tyndal yn yr efengil, i bledio ar gyhoedd a dêg o'r escobion ol yn-ol o flaen y brenin; yr hyn y wnaeth ef yn orchestol,Oed. Cr. 1538. canys yr oedd Duw wedi ei gynyscaeddu eddu ef a Zêl, ac a dy sceidieth ragorol. Ac am ei dystiolaeth lloscwyd ef yn Llundain, A phan oedd ei holl gorph ef yn ffaglu, cododd ei ddwylaw i fynu, ai fusedd yn goleuo fol Canwyllau, gan lefain wrth y bobl, Neb ond Crist, neb ond Crist.
Ar ol hyn lloscwyd llawer o'r bobl dduwiol yn Lloegr, a thorwyd pen Arglwydd Cromwell, yr hwn ydoedd ir ffyddloniaid fel Obadiah ynhy Ahab. Ymysc er aill hynod fu ffydd llestr gwan sef Anne Ascew, gwraig fonheddig; yr hon y ddangosodd yw herlidwyr, fal yr odddent yn gèrthwynebu'r yspryd glân, y rhaî ai racciâsant hi yn greulon, oni thynnasant agos ei holl gymalau ai hescyrn oddiwrth eu gilidd, eisieu caffael genddi wadu ef ffydd, neu ochain dan ei phoen. Ac er ei bod hi o dylwyth ardderchog, a chynnig iddi bethau mawrion am droi yn Bapisties, Oed. C. 1546. etto gwrthododd y cyfan, ac ymroddodd i ddiweddu ei dyddiau yn tân er tystiolaeth yr Efengil.
Gwelwyd yr un dewrder mewn gwraig rasol yn Scotland, yr hon y farnwyd yn heretic, eisieu iddi alw ar Fair, gyda'g ar Grist, pan fyddeu hi mewn gwewyr escor, a phan oedd hi yn cymeryd ei chenad ai gwr (yr hwn oedd hefyd i gymeryd ei farwolaeth gyda hi am ei ffydd) annogodd ef i lawenychu, ac eb hi, Ni ddywedaf nôs da i chwi, canys yn ebrwydd ymgyfarfyddwn ynheirnas nêf. Yn y flwyddyn 1547, gwelodd Duw yn dda [Page 66]roddi ynghalon y brenin Edward 6. ai gynghorwyr, serch ir wir ffydd, a gallu yn eu dwylaw yw hyfforddi. Ac er nad oedd y Brenin ond bachgen, etto fel Josiah brenin daionus Jerusalem, parodd ymofyn a gair Duw, ac ufuddhâu iddo; ie arferodd Duwc Somerset y pennaf o Arglwyddi'r cyngor ei holl egni mewn zêl grasol i fwrw eulynaddoliaeth i lawr. A thrwy Act o Barliament diddymwyd y Cyfreithiau caeth gwaedlyd y wneuthid o amser i amser i orthrymu grym yr efengyl. ond cododd ynghylch dengmil o wyr Cerniu (ein cydgenedl ni) a Defonsire, yn arfog i wrthwynebu diwygiad y ffydd, gan geisio 'r gyfraeth gaeth yn ei herbyn i fod eilwaith mewn grym, a'r offeren Lladin; i hyn attebodd y brenin, Nadoedd achos i ddeiliaid gwyno rhagddo ef, am y scrifenu cyfreithau a llaeth yn lle gwaed, ac nad oedd y llyfr gwasanaeth ond yr un yn saesonaec, ac oedd o'r blaen yn Lladin, er ei fod beth yn llai o herwydd gadel allan o hono es rai pethau anweddaidd oedd yn yr offeren Lladin, a bod yn well iddynt glywed y gweddiau yn yr iaith y ddeallent. A chan na roddent le i reswm, gorchfygwyd hwynt mewn dwy frwydr, er eu bod yn fwy eu rhifedi na byddun y brenin.
Yn yr un achos cafodd gwyr y brenin Edward fuddugolieth yn Scotland, er ir Papistiaid hynny ddwyn y Bara mewn blwch, a'r delwau eraill yr hyderent arnynt, gyda hwynt ir maes. Lle lladdwyd tair mil arddèg o'r Scotiaid, a chant yn unig o'r Saeson, digwyddodd hyn ar yr un diwrnod ac y lloscwyd y delwau yn Llundain.
[Page 67]Darostyngwyd hefyd y gwrthryfelwyr yn Norffolc a Sire Eborac. A churwyd gwyr Frainc yn Jersey. Yn yr amser hwn rhoddwyd biblau Saesonaec i bob plwyf yn Lloegr, a gosodwyd allan y llyfr Homili i gynorthwyo y llèodd oeddent weigion: canys anhawdd ydoedd cael pregethwr ymbob plwyf cyn gynted ar ol troi ymaeth gymaint o offeiriadau pabaidd, ond gan nad oedd y deyrnas yn dwyn ffrwyth cyfattebol ir llafur, a'r hâd, a'r cafodydd nefol yr oedd Duw yn ei ganhiadu iddi, gadawodd ir Papistiaid ei batingo hi eilwaith, a llosci 'r Protestaniaid yn aml, i edrych y ddygei hi ffrwyth gwell gwedi. Canys ar ôl ir frenhines Marie addaw yn dêg ir Protestaniaid er mwyn cael y goron, galwodd Barliamen [...] i fwrw i lawr y grefydd y gawsei ryddid gan ei brawd Edward, a gosododd Babyddieth i fynu eilwaith, ac i hyfforddi ei phwrpas priododd Phylip brenin Hispaen.
Ac er rhybuddio 'r byd o'r peth oedd ar ddyfod, gwelwyd dau haul yn Llundain, ac enfys ai chefn yn isaf, ai dau gorn i fynu, megis pe buaseu'r nef ar fedr Saethu tua 'r ddaiar.
Yn y brofedigaeth danllyd cymellwyd rhai i wadu eu ffydd, megis yr Justus Hales, yr hwn wedi hynny ai boddodd ei hun o dra gofid calon.
Ac wedi dihenyddio yr arglywyddes Jane Gray, Cristnoges gyflawn o zêl, a gwybodaeth rasol, amhwyllodd yr Justus Morgan ai barnaseu hi i golli ei phen, a llefodd nes ei farw, am dynnu 'r arglwyddes Jane oddiwrtho ef.
Yn y flwyddyn 1555▪ â'r drydydd o deyrnasiad [Page 68]y frenh. Marie, y decreuwyd llosci 'r Pregethwyr duwiol: ar Cyntaf o honynt y dorrodd y brísc, oedd Mr Rogers. Yr hwn, pan ar weinwyd ef o gaeth garchar ir tân, a chyfar fod ar y ffordd ai wraig ag un a'r ddêg o blant, y rhai pe gallasent y ddiffoddasent y tân ai dragrau; ni rysodd garu Crist ai wirionedd yn fwy na'i wraig, a'i blant, ai fywyd hefyd. A gorfoleddodd y brodyr yn ddirfawr weled Cadernid ei ffydd ef.
Ac wedi hwn canlynodd Mr Sanders i wneuthur yr unrhyw dystiolaeth. Yr hwn yn ei ievenctid y roddasid yn fersiant, ond ni orphwysodd ei gydwybod ef nes troi at ei lyfrau i fyned yn bregethwr. Dangosodd fod yr offeren fel gwenwyn lawer wedi ei gymysc ag ychydig lefrith, sef llawer o arnrysusêddau ymysc rhai Scrythurau. Lloscwyd ef yn Ghofentri.
Felly hefyd y digwyddodd i Hooper Escob Caer Wrangon, yr hwn wedi cau arno yn fanwl yng. harcharau Llundain, (nid y doedd ryfedd cloi arno am ei fod yn dlws mor werthfawr) a anfonwyd i Gaerloiw yw losci; lle yr ymgasclodd llawer yw weled ef, ac i weddio gyda'g ef, gan fendithio Duw am y grâs y dderbyniasent drwy ei bregethiad ddwys ef, canys dywedei, nad oedd pobl, heb ir yspryd serwi yma [...]th eu trachwantau, gymwysach i Dduw, na chîg amrwd yn fwyd i ddyn. Pan ddaeth at y stanc rhoddwyd ger ei fron ef yscrifen oddiwrth y frenhines i beri arbed ei fywyd ef, os troeu yn Bapist, ac wedi iddo wrthod y gau gymwynas hwnw, rhoddodd ei enaid i law Dduw, ar ol yw gorph ef ddioddef-angerdd y lân [Page 69]dri chwarter awr heb chwimio. Tystiolaethodd nad alleu un garu Crist a'i enaid, a pherchi yr offeren a'i gorph, mwy nag y gall gwraig serchu ei gwr a'i chalon, tra y rhodào hi ei chorph i eraill.
Yr achosion penaf yngolwg dynion o ferthyrdod y bobl dduwiol y pryd hyn, oedd eu cefnogrwydd hwynt i Sefyll gyda 'r scrythurau yn erbyn traddodiadau pabaidd. Gan wrthod addef y pâb yn ben ir eglwys, nag yn wir aelod o boni, o herwydd ei ddrygioni. Gomeddasant hefyd addoli lluniau, a'r bara yn yr offeren; gan egluro nad oedd na chorph nag yspryd Crist yn bresenol ynddi, am hynny y dylid tynnu oddiwrthi beth bynag y syddeu 'r dial dynol. Ie ni chilient ymaeth er cael rhybudd oi perigl; canys dewisent goron ferthyrdod, fel y bobl rasol yn y brif eglwys.
Pan roddwyd dyfyn i Dr Tailor (yr hwn y gynyddodd y praidd y ddechreuaseu Bilney ei gasclu yn Hadley, onid aeth y plwyf yn yscol ddyscedig) naccaodd ddianc, er bod ei berthynasau yn tâergeisio ganddo ei arbed ei hun; eithr dywedodd. Na chaf [...]u ef fyth y fath achlyssur i ogoneddu Duw, a thrw ddioddef dros ei efengyl ef. Am hynny aeth i Lundain heb neb yn ei wilied ef ar hyd y sfordd A phan ddaeth ger bron, tystiolaerhodd y gwir yn hy. Ac yn y carchar llawenychodd, yn enwedig am gymdeithas yr Angel Bradford. Yr oedd Carcharau Lloegr yn awr fal Eglwysydd llawn o'r bobl dduwiolaf, a hyfryd oedd weled eu rhinweddau, a chlywed eu Cynghorion, ai gweddiau▪ Wedi ei fwrw ef i farw, a'r Swyddogion [Page 70]yn eiriol arno am gymodi a phabyddieth, dywedodd Iddo dwyllo llawer yn Hadley; ar hyn tybiasant y troeu ef, hyd oni ddeonglodd y peth, sef y twylleu ef y pryfed ym monwent Hadley, am na chaent fwytta mo'i gorph Cnawdig ef, eithr gadawei ei losci yn tân cyn y gwadeu Grist; ac felly y bu.
Ac nid pregethwyr yn unic, ond proffesswyr Cyffredin hefyd fuont ffyddlon hyd angau. canys wedi i Boner escob Llundain holi un Tomkins gwehydd, ac am nad ymwadeu ai grefydd, yr hon y ddilyneu ef yn ddiwyd, pwyodd yr Escob ef yn greulon, gan dynu gwallt ei ben ef ai farf, a chymerth gan▪ wyll dair-dyblig olau, ac a loscodd ei law ef, onid oedd y dwfr yn Saethu allan o'r giau; etto nid oedd y merthyr yn teimlo gronyn o boen, am fod ei yspryd ef yn gyflawn o gyssur, ac wedi hynny lloscasant ei holl gorph ef yn Smithfield.
Felly y gwnaethpwyd ag William Hunter, bachgen o ran oedran, a gwr mewn gwybodaeth, yr hwn, tra yr oedd ef wrth y stanc yn gweddio y geiriau hyn, mab Duw tywyna arna fi, yn ebrwydd disclei riodd yr haul yn ei wyneb, er bod yr wybren yn dywyll iawn, ac yn gymylog o'r blaen.
Yn Neheudir Cymru hefyd dioddefodd rhai am yr un achos, sef escob Ffarrar o Fynyw, yr hwn y gyhuddwyd gan swyddogion malaisys ei escobaeth yn amser y brenin Edward, ac a garcharwyd ar gam, megis pe buaseu yn tueddu at Babyddieth; ac yn amser y frenhines Marie mynnodd yr un Cyhuddwyr ei losci ef am wrthwynebu paby ddieth. Wrth fyned i farw pan oedd un yn Cwyno iddo dosted fydden ei boen, attebodd ynteu, os gwelwch [Page 71]fi yn aflonydd, na choeliwch fy athrawieth. a safodd ynghanol y tân, nes ei drengu.
Yr oedd hefyd un Rawlins Wynne YnGhaerddydd, yr hwn er ei fod yn anllythrennog, etto wedi cyffroi ei feddwl i geisio gwybod, a dilyn ewyllis Duw, wrth wrando ar ei blentyn yn darllen yr Scythurau Saesonaec, y gafodd y fath wybodaeth a zêl, ac y droes lawer at ofn Duw, am hynny ar ol hîr garchar, lloscwyd ef yn ei dref gartresol. Ac wrth fyned at y stanc gweleu ei gymydogion gyfnewidiad ryfeddol yn ei gorph ef, canys lle'r oedd o'r blaen yn Crymu gan oedran, yr oedd yn awr yn syth inion, a chantho wyneb Siriol.1558. Am yr un achos llosowyd gwr duwiol siml yn Herford West elwid William Nichol.
Yn Ghaer-Lleon yn ymyl Gwynedd y lloscwyd George Marsh Pregethwr dawiol, yr hwn pan gly: wodd fod ymofyn am dano ef, aeth i mewn o hono ei hun, ac argyhoeddodd ei ddiodefgarwch ef lawer o bobl: oni orsu ir Escob bregethu i geisio gan bobl goelio mae heretic y loscasei ef: a chyn pen nemawr lloscodd puttain yr Escob (fal y dywedent) a bu ef farw yn ferthyr i Fenus. Dywedodd Marsh fod Duw yn dyrnu ac yn nithio yr yd yn amser y frenhines Marie y hauaseu ef yn amser y brenin Edward; Ac y dylen rhai dá ddioddef mwy er mwyn Crist, nag y maey rhai drwg yn eu goddef er mwyn pechod; gan eu bod yn dwyn carchar ag angeu, am ymddial, neu ledratta arian ywtreulio ar eu chwantau.
A thra yr oedd y merthyron yn canmol Duw wrth y stanciau, yr oedd yr offeiriaid llygredig [Page 72]yn canmol y pâb yn eu gorsèddau, ond cyrhaeddodd llaw Dduw rai o honynt. Canys tra yr oedd off [...]iriad Crondal yn ei bregeth yn clodfori y maddeuant pechodau y dderbyniaseu ef oddiwrth genad y pâb iddo ef ei hun, ac ir plwyf, ac wrth hwnnw yn hyderu ei fod mewn cyflwr da, yn ebrwydd syrthiodd yn fârw yn y pulpud, ac ni symudodd fyth na llaw na throed.
Gwelwyd arwydd gwell ar un Mr Hankes gwr galluog yn yr scrythurau: yr hwn pan oedd yn myned yw losci eisieu dwyn ei blentyn yw fedyddio yn ol yr offeren▪ y gadarnhâodd ei gyfneseifiaid yn y ffydd; y rhai ddymunasanc arno pan fyddeu ef yn tân, roddi iddynt arwydd os gellid gadw y meddwl yn llonydd yn y fâth boen er mwyn yr efengyl. A phan oedd y merthyr yn tân, wedi Crychu ei groen, a cholli ei leferydd, a llosci ei fysedd, oni thy biodd pawb iddo drengu, yn ebrwydd cododd ei ddwylaw (a nhwy yn ffaglu yn olau) vwch ei ben, gan eu taro ynghyd dairgwaith: yr hyn y barodd ir bobl glodfori Duw gyda bloedd fawr. Ni bu ddim llai cyssurus helynt Bradford yn ei gystudd; yr hwn y gawseu râs mawr gan Dduw yn ievangc; a phan oeddid yn ei alw es i weinidogaeth yr efengyl, yr oedd yn arswy dus ganddo fel Moses gymeryd y swydd arno, o ran y dyb wâel oedd ganddo am dano ei hun, nes i athro enwog ei argyhoeddi ef, ai annog ef, Nad attalieu fara haidd oddiwrth eneidiau newynllyd, onid oedd ganddo fara gwyn yw roddi iddynt. Rhagddangosodd y deuei plâ am broffessu 'r efengyl yn gnawdol, a chanlynodd y chwys marwol y [Page 73]pryd hynny. Pregethu, a darllen, a gweddio a myfyrio oedd ei fywyd ef, ar ei liniau y byddeu yn sludio, dan fynych wylo. addfwyn, a ffyddlon a chyflawn o Zel oedd ef. Yscrifenodd fod y byd yn fodlon i Babyddieth, oblegyd nad oedd yr offeren yn Ceryddu neb am bechod, fal yr oedd pregethiad yr efengyl, a bod yr eglwys butteinaidd yn ymdrwssio a defodau brithion, ond bod yr eglwys, briod yn blayn hebddynt, Psal. 45. ac yn dèg oddifewn.
Wedi ei garcharu yn amser y frenhines Marie, cafodd y fath garedigrwydd gan ei geidwaid, ac a roddes iddo achlyssur i bregethu beunydd, a llenwi ei stafell i bobl dduwiol, ac yn fynech i gyfrannu swpper yr Arglwydd. Er ei fod ef unwaith yn ô anewyllyscar i swydd y weinidogaeth, etto yr oedd ef yn chwannog i ferthyrdod, gan ddywedyd yn ei weddi, pan ddaeth yr amser Custudd Cyffredin ar dduwioldeb, wele fi, anfon fi. A gorfoleddodd ynghariad Duw,Isai. 6.8. am iddo anfon am dano ef, fel Elias, mewn cerbyd tanllyd. Wedi ei rybuddio ef yngharchar oi farwolaeth, gweddiodd, a chynghorodd mor ysprydol ymysc ei gyfeillion, a bu mor hyfryd yn ei enaid, megis pe buaseu yn y nêf eusus. Pan ddaeth at y stanc yn Smithfield, a dechreu cynghori'r bobl, rhwystrodd y Siri ef, am fod yr ymwasc yn fawr. (fel y byddeu wrth losci 'r holl ferthyron, am hynny ofneu 'r swyddogion rhag Cythryfwl, a phryssurent i orphen eu gorchwyl.) ond trôdd Mr Bradford at ei gyd-ferthyr, gan ei galonni ef, wrth ystyried y cafent y nôs honno swpper llawen gyda'r Arglwydd Ar ol hyn lloscwyd mewn amryw fannau [Page 74]yn Lloegr y flwyddyn hon lawer o wyr duwiol, boneddigion a chyffredin; weithiau pedwar, weithiau Pump, weithiau chwêch yn yr un tanllwyth, dan gyffessu eu ffydd yn rasol:ne yr ydoedd y fath nerth ynghyffes y merthyron, ag y drôdd lawer y fuasent Bapistiaid yn amser y brenin Edward, yn Brotestaniaid cynes yn amser y frenhines Marie. Canys gwelyd llawer o râs ac o anwyldra Duw tuag at y rhai cystuddiedig y pryd hyn. Pan oedd Robert Smith wrth losci yn dymuno ar Dduw ddangos arwydd arno er daioni, wedi iddo fyned yn loûn dû yn tân, yn ddisymwth cyfododd yn ei sefyll a churodd y bonion breichiau ydoedd ganddo, i ddangos llawenydd ei galon. Yn Norwich hefyd carcharwyd un Mr. Robert Samuel Pregethwr grasol; gan ei gadwyno ef yn ei union sefyll wrth bôst, fal na chafeu onid blaenau ei draed i gynal ei holl gorph; ai benydio a newyn, heb roddi iddo ond tri thammaid o fara, a thair llwyaid o ddwfr yn y dydd, a phan geisieu yfed ei drwnc ei hun, nid oedd ddefnyn o ddwfr yn ei gorph yw wneuthur. yn y Cyflwr hwn Syrthiodd mewn llewyg, a safodd un mewn gwisc wen yn ei ymyl ef, ac a ddywedod, Samuel Cymmer gyss, ur, canys ar ôl y dydd hwn, ni newyni ac ni sychedi byth mwy: ac o hynny allan ni theimlodd na newyn na syched hyd oni loscwyd ef. Achyn pen nemawr o amser dygpwyd ef at y stan clle y mynegodd y weledigaeth iw gyfeillion, gan ddywedyd nad allei ef o ran gorchwyledd adrodd y fath gyssuron y gawseu ef gan Grist yn ei boenau. Pan ddaeth at y tân ni thybiodd y penyd hwnw ond chwareu, [Page 75]wrth y triniad y gawseu ef gan erlidwyr yngharchar. O greulondeb Pabaidd! o ddioddefgarwch sanctaidd! Tystiolaethodd rhai iddynt weled ei gorph ef yn discleirio yn tân fel arian côeth.
Felly y ceisiodd yr vnrhyw erlydwyr lâdd Robert Glover gwr bonheddig, drwy oerni, a gorthrymder yngharchar; ond nerthodd Duw ef yn e [...] gorph ai enaid, gan roddi iddo brawf o fywyd tragwyddol. Wedi iddynt ei gondemnio ef, bu anghyslurus ddwy nôs cyn ei losci:ond pan ddaeth at olwg y stanc, cafodd y fâth siccrwydd hyfryd o gariad Duw, oni chûrodd ei ddwylo ynghyd, gan lefain ar ei gyfaill yn llawen, a dywedyd, efe ddaeth, efe ddaeth: mor siriol ac un y gawseu ei waredu oddiwrth ryw berygl marwol, ac nid fel un yn myned iddo.
Gwelodd yr erlidwyr achosi ddychrynu pe gosodasent hynny at eu calonau; canys pan loscwyd Escob Ridley a Latimer yn Rhydychen, am iddynt dystiolaethu gydâ 'r efengyl yn ddiwyd yn yr eglwysydd, ac yscolion dysc, arhosodd Gardiner Escob Winchester un o'r erlidwyr penaf heb ei giniaw hyd yr hwyr, nes clywed ir merthyron hynny gael eu diwedd, ac yno eisteddodd i wledda gyda 'i gyfeillion yn llawen. Ond trawodd llaw Dduw ef ar y bwrdd, oni chwyddodd ei gorph ef, a Phoethodd y tu fewn iddo ef, a bu farw a'i dafod allan fel gloun dû.
A thra yr oedd un Hubberdin yn pregethu yn erbyn y Protestaniaid, ac mewn gwyn yn curo 'r pulpid ai draed, syrthiodd y pulpid, ac ynteu hefyd, ac ychydig gwedi bu farw oi gwymp.
[Page 76]Etto ni pheidieu 'r erlid. Eithr dygpwyd Philpott, un o gedyrn Duw ir tân yn Llundain. Yr oedd y merthyr hwn yn fâb i farchog, ac yn yscolhaig mawr, a thrafaeliwr. Ymddadleuodd mor nerthol mewn cymanfa, nad alleu 'r Papistiaid wrthsefyll yr yspryd a'r doethineb drwy 'r hwn yr oedd efyn llefaru. Argy hoeddodd hwynt yn egniol oflaen arglwyddi 'r cyngor, canys doeth, a duwiol, a dewr ydoedd ef. Am hynny cafodd ef gyda'g eraill helynt gaeth drymder gaiaf, mewn cyffion o heirn ynglôdy Boner Escob Llundain: etto llawenychent a chanent psalmau. Yscrifen, nodd at ei gyd-filwyr caeth, ei fod ef yn gobeithio y llareiddieu angerdd y tân, wrth fod Duw yn yscafnhâu trymder y carchar. Pan ddaeth at yr stanc, plygodd ei lîn, a dywedodd, talaf fy addunedau ynoti o Smithfield: a chussanodd y stanc, gan ddywedyd eilwaith, a wrthodafi ddioddef wrth y pren hwn dros fy mhrynwr, y ddioddefodd farwolaeth wradwyddus drosofi ar y groes? ar ol ei ferthyrdod ef▪ Scrifenodd gwraig dduwiol at Boner, y byddeu raid iddo roddi Cyfrif am waed yr Abel gyfiawn hwnw, ac y gorfyddeu iddo ef, ai offeiriadau corynfoel (eilliant eu corynnau i wneuthur eu gwallt wrth eu clustiau ar lûn coron) roddi biswel ar eu penau i guddio nôd y bwystfil: am fod y wir grefyd yn anghwanegu wrth dywallt gwaed y merthyron, ac wrth dorri 'r blychau hynny, yr oedd yr enaint gwerthfawr yn lsenwi'r deyrnas a'i arogl. Hyfryd oedd gweled mor gariadus oedd y bobl dduwiol y fydddent rydd, yn gweini i gyfreidiau y rhai rhwym, yn enwedig amryw wragedd [Page 77]boneddigion a chyffredin, fel y rhai a ymgleddasant Grist hyd farw, ac a baratoesant bêrlyssiau iddo ef yn ei fêdd. Gwniau rai gryssau newydd ir merthyron hyn yw llosci ynddynt, (dioscid hwynt wrth y stanc hyd at y crysau) gan ddywedyd y paratoent scarffiau i filwyr Crist i ynnill y frwydr olaf. Ynteu hyspys yw fod yr un yspryd cariad yn y rhai credadwy ymhob oes.
Scrisennodd Mr. Philpott fod patrwn eglur o nerth grâs Duw yn yr Arglwydddes Fane, yr hon er ei bod yn gysoethog, yn ievanc, yn anrhydeddus, yn dêg ei phryd ai gwedd, ac heb fod dan awdurdod neb, etto dirmygodd y cwbl oll, ac ymroddes i Groes Crist: Ac y cyfodei hi yn y farn yn erbyn y rhai oeddent yn gwadu Crist rhag ofn colled, fel brenhines y deheu yn erbyn y genedl gynt. Cyffessod hi ei hun yn amser enbydus, fod melysdra Crist yn ei hynnill hi fwyfwy, ai bod yn blassu mwyniant y byd fal physygwrieth gwrthwynebus.
Ac fel y gwelwyd yn awr yn y brofedigaeth hon ffyddlondeb y merthyron, ac ymgêledd Duw tuag attynt yn eu cystuddiau trymmaf, a 'i ddialeddau ar yr erlid yr, felly 'r angbyssur y ddigwyddeu ir encilwyr llyrsion; megis i un West, yr hwn rhag ofn y ddarllenodd yr offeren yn erbyn ei gydwybod, a bu ef farw ychydig gwedi.
Eraill am y cyfryw wendid y syrthient i flinder meddwl, hyd oni ddychwelent at Dduw, neu wnaent ben am danynt eu hunain, neu nhwy gafent ryw aflwydd arall. Fel y bu i Richard Denton gôf; at yr hwn yr anfonodd un o'r merthyron [Page 78]thyron fflyring yn arwydd, gan gofio iddo ef ei fywiogrwydd yn y ffydd gynt, a dymuno arno bryssuro ar ol ei gymdeithion, Attebodd Denton, gwir yw, ond och ni fedrafi ddioddef fy llosei. Etto gwedi, trawodd tân yn ei dy ef, ac wrth geisio achub ei ddodrefn, lloscwyd ef a dau oi dylwyth; gan ddioddef heb ddiolch yn ei achos ei hun y peth a wrthodaseu ef yn achos Crist.
Gwelwn ynteu fod Paul yn caru Timotheus pan orchmynodd iddo gymeryd ei ran o gystudd yr efengyl.2. Tim. 1.8. Ynechreu 'r flwyddyn 1556 lloscwyd saith yn yr un tanllwyth yn Smithfield. a phump ar vnwaith yn Ghaergaint, yn y tân Canasant psalmau, trâ'r oedd yr edrychwyr oi hamgylch yn ty wallt dagrau.
Yn Rhydychen dioddefodd Cranmer ferthyrdod, ar ol iddo gael llawer segfa gan y Papistiaid drwy ymddadlu, ac iddynt ei dduirddo ef, gan roddi am dano ef ddillad escobaidd ai diosc, (fel y gwnaeth y milwyr a Christ wrth ei watwor ef a gwîsc frenhinawl) Pan aeth ef at y tân daliodd ei law ddeheu ynddo yn gyntaf, am iddo o'r blaen drwy wenieth ei elynion scrifenu ei henw a hi wrth papyr pabaidd, yr hyn y wnaeth iddo ef wylo yn chwerw-dost, rhyfeddodd llawer na syflodd ef ronyn yn y tân, er ei fod yn hen-wr barf-wyn.
Ar ol hyn lloscwyd chwech yn yr un tân yn Smithfield, ar un rhifedi yn Colchester; a digwyddodd i Boner lofci dau wr duwiol yn yr un tân, a'r naill yn gripl, a'r llall yn ddall. ac wedi eu rhwymo hwynt gerfydd eu canolau wrth y stanc, bwriodd y cripl ei faglau ymaeth, gan ddywedyd with [Page 79]ei gydferthyr, Cymer gyssur fy mrawd, iacheir di o'th ddallineb yn awr, a minneu o'm cloffni.
Llosgwyd llangc dall yn Ghaerloiw am yr un achos, a thranoeth merthyrwyd gwraig weddw a dwy o wyryfon grasol yn Smithfield, y rhai a ddaliasant y ffydd yn gadarn. Ac yn ymyl Llundain llolcwyd tri ar ddég yn yr un tân, sef un ar ddêg o wyr, a dwy wraig, y rhai a safodd yn rhyddion yn tân, nes rhoddi eu heneidiau ir Arglwydd. Wrth fyned a hwynt yw dihenydd, cauoddy siri arnynt mewn dwy stafell, ac wedi hynny aeth at y naill blaid, ac a daerodd yw Cymdeîthion hwynt wadu eu ffydd, ac am hynny yr arbedid eu bywyd hwynt; attebasant iddo ef, nad oedd eu ffydd hwynt wedi ei hadeiladu ar ddynion, ond ar air Duw. Aphan wnaeth ef felly ar blaid arall, cafodd yr un atteb.
Lloscwyd tri yn yr un tân yn Newberie, un o honynt oedd wr dyscedig o Rydychen, y gollaseu ei lê yn amser y brenin Edward am ei Zêl ir pâb; y pryd y cyfaddefodd ef wrth ei gyfaill oedd yn gadel y deyrnas am yr un styfnigrwydd fel hyn, Yr ydym yn dioddef llawer dros y Pâb, ond nid oes gennym y fath felysdra yn ein Calonau oddiwrth ei grefydd ef, ac y welwn ni y Protestaniaid yn eu swynhau yn eu ffordd nhwy; yr ydym ni yn ymdrechu am ni wyddom ni pa beth, yn fwy o ran ewyllis, na chydwybod, etto gwell genifi fyned i gardotta, na chael o honynt eu gair yn drechaf. Ond yn amser y frenhines Marie, er iddo gael y byd wrth ei fôdd, etto wrth weled cyssur a graslonrwyd y merthyron, trôdd yn hollhawl at yr efengyl, a [Page 80]theimlodd yr offeren yn flin iddo ei gwrando, Am hynny custuddwyd a dugpwyd es ir tân, lle y dywedodd wrth ei gydfilwyr, Byddwch gyssurus, yn llê 'r marwor hyn ni gawn berlau, y mae yspryd Duw yn tystiolaethu hynny i'n ysprydoedd ni.
Yn Garnsey y Lloscwyd gwraig ai dwy ferched yn yr un tân; yr oedd un o'r merched yn wraig i bregethwr, ac yn feichiog agos yw thymp; a phan dorrod angerdd y tân ei bol hi, Syrthiodd y pletyn oddiwrthi hi: Ac wedi ei gipio ef i fynu, ai ddwyn at y Swyddogion, gwnaethpwyd ag ef mor anghrugarog. ac y gwnaeth Pharao a Phlant yr Hebreiaid, neu Herod a phlant Bethlehem, gan ei fwrw ef ir tân at ei fam, er ei fod yn blentyn gwryw golygus. felly bedyddwyd a thân yr hwn a aned yn ferthyr, i dystiolaethu dynered mamaethod yw'r Papistiaid.
Yr un fath hyffordiad y gafodd morwyn ddall yn Darby, yr hon oedd yn byw wrth wau hosânau, ac a brynodd destament newydd; rhoddei hon geiniog fel yr ynnillei hi i ryw un am ddarllen iddi benodau ynddo, oni chafodd hi wybodaeth iachusol; am hynny lloscwydhi.
Yn y flwyddyn 1557 Lloscwyd saith yn yr un tân ynghaergaint, a phump ar unwaith yn Smithfield, a saith ar unwaith yn Maidstone, ac eilwaith saith yn yr un tân ynghaergaint. yr oedd un o honynt sef gwraig Benden y garcharwyd naw wythnos mewn twll cyfyngc, ni chafodd hi un gwely i orwedd arno, na newid ei dillad, na dim llunieth, ond gwerth tair ffyrling yn y dydd [...], ac ni chafodd neb wybod p'le yr oedd hi, new yw [Page 81]brawd a'r foreucweth ei chly wed hi yn adrodd ei chwyn wrth Dduw mewn gweddi: ar ol hynny pan ofynnodd yr Escobiddi, a fodlonei hi i fyned i'r offeren, at [...]ebodd, y gwyddei hi yn yspyssach y pryd hynny na'g o'r blaen, nad oeddent hwy o Dduw, am eu b [...]d mor giaidd.
Merthyrwyd dêg yn yr un tân yn Lewes, a dêg eraill yn Colchester.
Yn y flwyddyn 1558 merthyrwyd rhai o'r gynylleidfa ddi [...]gel y gyfarfyddent yn Islington. Tystiolaeth [...]dd yr Athro ei fod ef yn Rhufain, lle y gwelsei ef gymaint o lygredigaeth ac y wnaeth iddo ffieiddio Pabyddieth. A bu ryfedd diodde [...]garwch Cutb [...]rt Sympson y diacon, Pan boenwyd es yn greulon, e [...]sieu iddo ddangos y llyfr, lle'r oedd henwau'r bobl dduwiol oeddent wedi ymwneuthur i gyd addoli yn ol yspryd yr e [...]engyl; er hynny dalwyd hwynt ynghyd gwedi, a lloscwyd tri ar ddêg o honynt. Carcharwyd gwraig dlawd, ddewr yn yn Scrythyrau, yn Ecseter, am iddi arghoeddi un ydoedd yn adgwei [...]io delwau, y rhai a anffurfiasid yn amser y br [...]nin Edward; Ebhi, yr wyti yn ynfyd wneuthur trwynan newydd ir delwau y gollant eu pennau cyn bo hîr. pan fwgythid hi, att [...]bei fod ei chalon yn siccr gyda Christ: pan gynygid iddi arian dywedei ei bod hi yn myned i ddinas llê ni ch [...]rdd [...]nt. Ac ynghylch wythnos cyn marw'r frenhines Marie, llosewyd pump yn yr un tân yn Ghaergaint. pan farnwyd y rhain i farw, cyfododd un o honynt yn enw'r lleill eu gyd, ac wedi ei gynhyrfu gan Zêl ddirfawr, adroddodd escymundod yn erbyn y [Page 82]Papistiaid ag yspryd awdurdodawl, gan ddymuno ar Dduw ddangos barn arnynt er adeiladaeth ir deyrnas. A gwnaeth Duw yn ol gair eu weision. Canys cyn pen yr wythnos, bu farw'r frenhines, a syrthiodd pabyddieth yn Lloegr: ac yna dy chwelodd yr Hispaenwyr adref. Ac er eu dyfod i Loegr i geisio diffodd yr Efengyl, erto hi enynnod râs yn eneidiau rhai o honynt, a byfforddiasant wîr wybodaeth yn eu gwlâd en hunain, oni erlidwyd yno lawer o'i phlegyd.
Maith fyddei mynegi gymaint y ferthyrwyd yn Lloegr yn y dymmhestl hon, am hynny mi a grybwyllais am ychydig o lawer, ac na bô ond sôn a chrybwyll am y fâth bêth mwy.
Pan fu farw y frenhines Marie, agorwyd dryssau carcharau i lawer oeddent wedi eu bwrw i farw. A chafodd yr adar nefol y gaeasid arnynt yn y cewyll, eu gollwng allan i byngcio yn y Côed. ie Cafodd rhai fal Joseph eu codi o garchârau i orsêddau, yn amser y trwm gystudd gwelwyd gofal Duw yn pryssuro gwarediad yw bobl.
Methodd gan yr erlidwyr gyflawni yr hyn a ewyllysient, pan oedd gallu dynol yn eu dwylo; megis pan ddaeth marchog ai weision i lusco gwraig dduwiol i'r offeren yn erbyn ei meddwl, trawodd ffit or gowt arno ef cyn dosted, ac y gorfu ei ddwyn ef adref, a gadel y wraig yn llonydd. A dywed Melancton, i angel roddi rhybudd i drosglwyddo Grineus ddmwiol oddiar ffordd erlid peryglus oedd yn dysod am ei ben ef yn ddisymmwth. Tra yr oedd yr arglwyddes. Elizabeth yngharchar yn Woodstocc yn amser ei chwaer, daeth un [Page 83]a dêg ar ugain o wyr gyda'g ef yno mewn bwriad yw llâdd hi fel y tybid, ond yr oedd y pen ceidwad wedi wyned oddi cartref, a chwedi gadel siarse ar ei frawd na chafaei nêb siarad a hi; a'r gorchymyn y roddasid er gwneuthur ei charchar hi yn gaethach, y brifiodd yn fôdd i achub ei bywyd hi: felly trowd ei chaethiw'ed yn ddiogelwch iddi.
Nid anhynod fu anfodlonrydd Duw yn erbyn yr erlidwyr, ni chafodd y frenhines Marie ond yr aflwydd bîgilidd wedi tywallt gwâed y rhai duwiol; (yr oedd Hizechias a Jehosophat wrth ddiwygio pethau Crefyddol yn ffynnu, a Manasses eulynaddelgar yn methu) Bu newyn mawr yn Lloegr yn ei hamser hi, oni orfu bwytta mês yn lle yd. Hi gollodd Calice dinas enwog o Ffraine, y fuasai ym-meddiant y Saeson er's llawer o flynyddoed: Gwradwyddwyd hi yn ddirfawro herwyd anssrwy thlondeb ei phriodas. Gorchymynwyd ir Escobion a'r offeiriadau roddi diolch yn yr eglwysydd am ei beichiogi hi, a gweddio am nerth iddi i escor, canys dymuniad ei chalon hi oedd cael plentyn i etifeddu 'r goron, y peth ni chaniâdodd Duw iddi.
Yr hyn y gyhoeddod i bawb, fod offeiriadau yr Eglwys Gatholic (fel y galwent eu hunain) yn siomedig, ac nas galleu eu offerennau dynnu enaid o'r pûrdân ir nêf, mwy na phlentyn o'r brû ir byd.
Hefyd collodd y frenhines oferg [...]elus honno serch a chymdeithas ei gwr, a phryd na pheidieu ag erlid er dim a ddigwyddeu iddi tra fyddeu [Page 82] [...] [Page 83] [...] [Page 84]fyw, llonyddodd angeu hi yn fuan; a bu farw dan ochneidio, ac nid fel y merthyron dan byncio.
Goddiweddodd dialedd weinidogion ei chreulondeb hi hefyd. A daeth megis y clwyf byrr yn eu mysc hwynt a yscubodd ymaeth lawer o honynt yn ddisymmwth. Bu farw'r Cardinal Pool Cenad y Pâb dranoeth ar ol y frenhines. Cipiodd angau disyfyd un Duning Canghellawr Norwich, a Jeffery Canghellawr Salisburie. Bu farw Gardiner ai dafod allan, fel pe buasei gyda Dives yn uffern tra yr oedd ef ar y ddaiar, heb ddefnyn o ddwfr yw oeri. Ofnodd yr Justus Morgan yr arglwyddes Jane ar ol torri ei phen hi, yn fwy nag yr ofnodd Herod Joan Fedyddiwr ar ol torri ei ben ef er bodloni Herodias. Pan oedd Escob Dofer yn dyfod allan o stafell y Cardinal. Pool, lle buasei yn ceisio ei fendith ef, syrthiodd dros y grisiau a thorrodd ei wddf. Ehedodd Brân dros ben Baili Crowland (yr hwn ychydig o'r blaen y gymellasei 'r offêren ar ei blwyf ai holl allu) a than grawcio gollyngodd ei brynti yn ei wyneb ef, oni redodd i lawr o ben ei drwyn ef hyd ei farf; ac yr oedd y sawr mor ffiaidd, na pheidiodd ef a chwdy, a rhêgu 'r frân nes ei farw. Syrthiodd y Goliah hwn drwy foddion gwael. a gorchfugwyd ef gan elyn mwy anfoesol nag egniol, gan ddioddef dirmig gyd-a dinystr; felly gwybedyn y dagodd y Pab Adrianus. Nychodd un Baulding hyd angeu, o ddyrnod mellten ai trawsei ef wrth ddala un Seaman y ferthyrwyd.
Ni ddiangodd erlidwyr y tu hwnt ir môr rhag [Page 85]dialedd chwaith. Pan oedd Cardinal Cressentius yn llywodraethu cymansa Tridentum dros y Pâb, daeth Cî du mawr, a llygaid tanllyd jw stafell ef, ac ni welei nêb ond y Cardinal mono ef, ar hynny clafychodd a bu farw. A phan oedd erlidiwr mawr yn Antwerp yn myned gyda'i wraig mewn Cerbyd dros bont ymhen y dreêf, safodd y meirch, oni ddolefodd ef yn ddiclon wrth y gyrrwr, Gyrr ymlaen yn enw milo gythreuliaid: ar hynny Cododd Corwynt disymmwth (er bod yr hin yn deg o'r blaen) y daslodd y Cerbyd dros y bont i glawdd dwsn, lle trigodd ef a'i wraig.
Wedi Coroni'r frenhines Elizabeth, ac iddi roddi ei bryd a'i gallu i gynal yr efengyl, Cynnyddodd gwybodaeth o Dduw yn Lloegr yn ddirfawr, ac er ir Papistiaid oddifewn ac oddi allan ir deyrnas osod maglau yn aml yw dinystrio hi, etto ymddiffynnodd Duw hi, ai waith yn ei llaw hi. Ac yn fynech daeth eu dichellion nhwy ir golau drwy foddion rhyseddol: megis Pan gymerwyd llong, yr oedd offeiriad Pabaidd yn morio ynddi, ac iddo rwygo a thaslu ei bapyrau ir môr, Chwythodd gwynt hwy ir llong eilwaith, ac wedi eu rhoddi yn, ghyd, gwybuwyd wrthynt fod y Pab a'r Hispaen a Ffrainc yn bwriadu rhuthro am ben Lloegr. Ac er mwyn Cadarnhâu yr deyrnas yn eu herbyn hwynt cafwyd peirianau rhyfel ni chawsid yn Lloegr er ioed o'r blaen, megis Powder gwn, a mwyn Prês, a charreg reidiol yw drin ef, i wneuthur gynnau mawrion; y pethau oeddent ddeffygiol o'r blaen. ac adeiladwyd mwy o longau nag oedd cyn ei hamser hi.
[Page 86]Wedi methu pob brâd ddirgel, y mae 'r Hispaen yn bârod i wneuthur celanedd yr yr amlwg, ac yn anfon byddyn fawr, elwyd Anorescynol, i gwncwerio Lloegr. yr hon pan ddaeth ir môr Saesnig, bwriodd angor y tu nesaf i Ffrainc i aros am ychwaneg o gymdeithion, ond yn y Cyfamser, gyrrodd y Saeson, oedd yn agos nhwythau, wyth o longau tanllyd ymysc llongau 'r Hispaenwyr; yr hyn y barodd ddychryn, a chri, agwascarfa fawr yn eu plith: ac a roddes achlyslur a mantais ir Saeson i ddryllio rhai,Ded. Cr. 1588. ac i yssigo eraill o henyht, ac i ddigaloni 'r cwbl; oni ymroesant i hwyliogyda 'r gwynt tua'r gogledd, o amgylch Scotland, a'r Jwerddon, i ddychwelyd adref gyda chywilydd a colled fawr, rhwng ymlâddau a thymhêstlau wedi hynny cyfaddefodd un oi Penaethiaid hwy, ei fod ef yn tybied mae Protestant ydoedd Crist.
Cafodd y Papistiaid y gwaethaf yn y rhyfel y godasent drwy iarll Tyron yn yr Jwerddon hefyd, er iddo barhâu yn hîr. a Chynorthwyodd y Saeson yr Hollandiaid i ynnill rhydid eu gwlâd a'u crefydd. ond yn Ffrainc wedi i dduwioldeb amlhâu, a methu o'r brenin drwy ryfel ddiwreiddio ei dilynwyr, denwyd tywysog Nafarre, Penaeth y Protestaniaid, i briodi Chwaer y brenin mewn ffûg cuttundeb rhwng y ddwyblaid. A phan ymgasclodd y rhai ardderchoccaf o'r tu crefyddol ir neithior yn y brif ddinas, rhuthrodd y Papistiaid am eu pennau liw nôs tra yr oeddent yn eu gwlâu yn ddiofal, a lladdasant ddengmil o honynt ar ddigwyl Bartholomeus, yn y flwyddyn. [Page 87]1572. Ac yn gyflym anfonwyd gair i ddinasoedd eraill i wneuthur yr un cieidd-dra; a lladdwyd y tadau a'r plant yn eu breichiau, a lladdwyd y plant ai dwylo am yddfau eu tâdau; yn rhai dinasoedd caewyd y Pyrth rhag ir un ddianc oddiwrth y gigyddieth waedlyd.
Lladdwyd cantoedd yn Weldis, a miloedd yn Orleance, ac wyth gant yn Lugdunum, lle y dechreuodd Waldez adgweirio crefydd. Tri ugain ar ddêg yn Burdeaux, llawer yn Tholos a Roan; ymhob man wedi dengmil a'r ugain: mor dosturus oedd y golwg, oni orfu ir cigyddion anfon am wîn i gynal eu calondid, er bod defaid y lladdfa yn rhoddi ei gyddfau i lawr yn ddiymdrech.
Am hyn gorchmynodd y Páb lawenydd mawr yn Rhufain, a gorfoleddodd brenin Ffrainc gan dybied iddo wneuthur diben llwyr o'r Protestaniaid.
Ond ymwrolodd Rochel, a rhai dinasoedd eraill, lle'r oedd y Protestaniaid amlaf, yw ymddiffyn eu hunain; ac ni thycciodd i holl allu Ffrainc warchau a'r Rochel, am i Dduw anfon pyscod dieithr hyd yr afon yn ymborth ir ddinas; ac felly drwy ryseddod ddiddymu pwrpas ei elynion. Ar hyn blinodd y brenin yn ymguro, a chyflychodd i roddi rhydid a heddwch ir rhai crefyddol a weddillasid drwy Ffrainc oll. Ymhen y ddwy flynedd, bu farw'r brenin hwnw dan waedu drwy holl dyllau ei gorph, sef ei safn, a'i ffroenau, a'i lygaid, a'i glustiau, a'i rannau isaf; yr hwn y wnaeth i waed ffrydio ffrydiodd gwaed o hono, fal y darlleneu ei bechod yn ei benyd. ynnyddiau'r trychineb hwn gwelwyd [Page 88]Seren newydd dros ddwy flynedd, ac yna diffoddodd. Yn Sevil o'r Hispaen y charcharwyd wythgant ar unwaith am burdeb ffydd, gan eu llosci o fesur yr ugain, er bod llawer o honynt yn uchel râdd yn y byd.
Yn Fflandria hefyd cynyddod yr efengil, yn enwedig yninas Lile, ac erlidwyd hi yn fanwl; ymysc eraill o rai duwiol y ferthyrwyd yno, enwog fu dau bregethwr, sef Guy de Brez, a Peregrine de la Grange, y rhai pan oedd eu caredigion yn cwyno iddynt wrth weled eu heirn, a ddywedasant, Fod yn werthfawroccach ganddynt gadwynau heirn er mwyn Crist, na chadwynau aur ffordd arall, a bod swn y linciau yn felysach ganddynt na cherddorieth, a'u bod yn eu custudd yn cael prawf Siccr o'r peth y breg [...]thasent o'r blaen.
Yr un amser merthyrwyd llawer yn Fenice, gan eu taflu ir môr. Yn Falence cynygwyd ei bywyd i Margaret Pierrone er taflu ei bibl ir tân o flaen y dref, eithr gwrthododd wneuthur felly, a chymerth ei merthyrdod,Oed. Cr. 1593. gan garu gair bywyd tragwyddol yn fwy na'i bywyd naturiol.
Wedi i Loegr gael hir dawelwch, a goleuni Cynes yr haul efengylaidd, dychymygodd y Papistiaid gyfodi temhestl erchill drwy frâd y powder gwn.
Canys pan ydoedd y brenin James, a'r ddau dy o Barliament i eistedd yn Westminister, 1605. y nôs o'r blaen cafwyd un baryl ar bumtheg ar ugain o bowder gwn, wedi ei guddio mewn seleri dan dai'r Parliament, lle dalwyd Guido Fawkes, a chelfi yn ei gylch parodol i ennyn y powder i chwythu [Page 89]i fynu yr Parliament dranoeth pan ymgysarfyddent. Ar yr un dydd ymgasclodd y rhai penaf o'r Papistiaid yn y wlâd hefyd, ar hyder yr ymchwanegent fel pellen eira wrth ymsymyd ar hyd y deyrnas, a galw ar eu cyfeillion i gyfodi mewn arsau; ir diben hwnw dûgasant lawer o feirch mawrion: yr hyn y wnaeth ir wlâd ganlyn ar eu hol hwynt drwy ddwy shire neu dair, nes llâdd a dal y rhai pryssuraf o honynt.
Ond yn y Faltoline cyflawnodd y Papistiaid eu dychymygion drygionus yn erbyn y Protestaniaid, er iddynt fethu yn Lloegr; canys cyfodasant yn ddisymmwth mewn arfau, a lladdasant y rheolwyr a'r pregethwyr, a'r cyffredin, yn eu tai ac yn yr eglwysydd, heb arbed na gwragedd na phlant. Y pryd y bu nodedig calondid gwraig fonheddig ievange ai phlentyn yn ei breichiau; canys pan ofynnodd y lleiddiaid y droei hi yn Bapisties i achub ei bywyd ei hun ai phlentyn,1620. attebodd sel hyn. Gan nad arbedodd Duw mo'i fab, ond ei roddi i farw er fy mwyn i, minneu a'm rhoddaf fy hun am plentyn i farw er ei fwyn ynteu. Ar hynny lladdasant hi.
Cyn y gelanedd hon yn y gwledydd hyn canodd clôch alarwm o honi ei hun; ac wedi 'r gigyddieth, clybwyd llais yn yr awyr yn dywedyd, gwae, gwae am waed y gwirioniaid. A gwelodd y byd y seren gynffonog gôch yngylch dwy flynedd o'r blaen. ac ychydig gwedi torrodd allan ryfel echryslon yn Germania rhwng y Papistiaid a'r Protestaniaid a barhâodd ddêg ar ugain o flynydooedd; a naw mlynedd cyn ei ddârfod, clybwyd [Page 90]hela mawr gan y Cythrael yn Bafaria arglwyddieth o Germania, gyda bloeddio mawr, a llais cwn; a dywedodd pan ddarfyddei iddo hela, yr aei i bysgotta; sef yr arferei ddichell pan beidici trais.
Yn yr Jwerddon Cyfododd y Gwyddelod ofergoelus yn ddisymwth,Oed. Cr. 1641. a lladdasant o'r Saeson a chymru ddau cant o filoedd mewn dau fîs, cyn cael hamdden yw gwrthsefyll hwynt, ond wedi hynny daeth dial dwys arnynt hwythau. Dwy flynedd cyn hynny Cododd y Scotiaid mewn arfau. Ac ychydig gwedi torrodd allan y rhyfel brwd yn Lloegr, am yr hwn anghydfod anafus, nid rhaid yn awr sôn yn helaethach, am fod ei friwiau, neu ei greithiau yw gweled etto. Yn unig Cyfaddefwn drugaredd Duw yn peri i wybodaeth efangylaidd chwanegu drwy ymdrech y ddwyblaid. Oddiwrth ymgur y dûr a'r Callestr ennynnodd goleuni gyda 'r tân. Cyn y rhyfel, hi lawiodd wenith, a digwyddodd amryw ryfeddodau eraill.
Yn Piedmont rhuthrodd Duc Safoy am ben y Waldesiaid duwiol; a digwyddodd yr un-rhyw drychineb i Brotestaniaid Cracofiayn Polonia. Cafodd y rhai gorthrumedig or ddau fan hynny gymorth Caredig allan o Loegr, y gasclwyd iddynt drwy ddefosiwn ewyllyscar; fal y derbyniodd y Sainct Custuddiedig o Judea elusen haelionus oddiwrth eglwysydd y cenhedloedd yn amser yr apl. Paul. Cyn pen yr hanner blwyddyn gwedi, cafodd duc Safoy ei lenwi a gwaed drwy ddwylo'r Hispaenwyr.
Bellach wedi bwrw golwg ein meddwl ar bob [Page 91]gwlâd ac oes, ni allwn ddywedyd yn hy, na bu gwybodaeth yr efengyl er ioed eglurach, a'r scrythurau, a llyfrau da amlach, a rhattach, naphregethwyr fedrussach oddieithr y Prophwydi, a'r apostolion, nag ydynt yr amser hwn ynheyrnasoedd y Gollewin, lle mae adgweiriad a rhydid crefydd. Yr Arglwydd a roddo ei râs i wneuthur ein bucheddau yn gyfatte bol ir cynorthwyau, fal na ddiffodder yr yspryd.
Ac am deyrnasoedd y dwyrain, gobeithio nas gorthruma Coel grefydd Mahomet mor efengyl yn y gwledydd hynny yn oestadol. Amlygwyd arwydd o hynny ir Turciaid yn Medina, lle mae bêdd Mahomet, i ymweled a pha un yr ymgasclant o bell. Canys ar ol idaranau dychrynllyd a themestl ddeffroi meddyliâu'r bobl yno, gwelwyd y geiriau hyn yn scrifenedig a llythrenau Arabaidd yn y ffurfafen, oh Pam y Credwch mewn Celwyddau! Oed. Cr. 1620. Ac yn foreu gwelwyd gwraig siriol mewn gwisc wen, a'r haul oi hamgylch, a llyfr yn ei llaw, yn dyfod oddiwrth y gogledd-orllewin, a chyferbyn a hi yr oedd megis buddinoedd o'r Persiaid ac o'r Twrciaid mewn trefn barodol i ymlâdd a h [...]: etto hi safodd yn ei llê, ac agorodd y llyfr ydoedd yn ei llaw hi; ar hynny ffoawdd y buddinoedd, a diffoddodd yr holl lampau wrth fèdd Mahomet. A bu hyn beunydd dros dair wythnos. Cynhyrfwyd un oi offeiriadau hwynt i esponi iddynt y ddrychiolaeth, gan ddywedyd, mae fel ac y darfu ir Juddewon, a'r Cristnogion ddigio Duw wrth droi at ddelwau, a defodau dynol, oddiwrth ei gyfraeth Sanctaidd ef; felly ddarfod iddynt hwythau, un ai llygru deddf Mahomet, [Page 92] a'r euogrwydd o hynny abarasei i'r byddinoedd ffoi; Neu fod llyfr arall nid oeddent yn ei chwilio, yr hwn pan agorid ef, y barei i bob gallu dynol gilio. Am hynny, eb ef, yr wyfi yn ofni, nad yw ein crefydd ni ond llygredig, a'n prophwyd ni ond hudol: yr hwn a addawodd ddychwelyd attom cyn hyn, ac ni chyflawnodd ie daw Crist y sonir am dano, ac a fydd ag enw mor ddisclair a'r haul. a hynny tros byth. Am hyn poenwyd a lladdwyd yr offeiriad. Ond byw yw'r Arglwydd nêf y ddichon ddwyn i ben yr hyn yr anfonodd y weledigaeth yw ragarwyddoccâu.
Gwelwyd tair seren gynffonog o fewn yr un hanner blwyddyn,1664. 1665. ac ychydig gwedi torrodd allan gornwyd angerddol yn Lloegr, a gwympodd fwy o bobl na haint y nodau yn amser Dafydd.1 Chron. 21.24. A lloscodd Llundain: a bwriodd mynydd Aetna dân ofnadwy allan o honaw a loscodd drefydd, ac a wnaeth niweid mawr yn Sicilia. Canys ar ol daiargryn dychrynllydd, tarddodd allan o'r mynydd ffrwd boeth o ryw fettel toddedig, ac a aeth yn ddilyw o chwe milltir o lêd, gan ddifetha pethau y ffordd y cerddodd.
Hanes y ffydd ymmhlith y cymru.
WRth ddwyn hanes y ffydd mewn gwledydd eraill, tybiais yn ddyladwy draethu beth yn helaethach am ei helynt yn ein gwlâd ein hunain, mal na byddem ddieithrol ac anghyfarwydd gartref.
[Page 93]Diamau fod ein Cenedl ni er ys hír amser wedi gwladychu yn yr ynys hon, a thebygol ei dyfod ar y cyntaf oddiwrth wledydd y dwyrein, gan fod Cymaint carenydd rhwng ein iaith ni ag ieithoedd y parthau hynny. Mae ei llefariad yn aml fel yr Hebraec yn dyfod oddiwrth gyffiniau y galon, o wraidd y geneu, ac nid fel y Saesonaec oddiar flaen y tafod. Ac mae llawer o eiriau 'r Groegiaid ynddi, megis haul, dagrau, argraphu, a'r cyfryw. Ac yr ydoedd cydnabyddiaeth rhwng ein gwlâd ni a hwynt. Canys darllennir i Bladud brenin Prydain fyned ir Athen er mwyn dysceidiaeth: a phan ddychwelodd adref dug bedwar o Philosophyddion oddiyno gyda'g ef i ddyscu'r celfy ddydau yma; ac i hynny seiliodd yscolion dysc,Oed. byd 3300. achwedi bu'r Druidion yn ddyscawdwyr doethion o Baganiaid. Ond tebyg sod ein gwladwyr yn anufudd ir gwybodaeth anianol ydoedd yn eu mysc. Canys yn yr oes honno, tra yr oedd Rhifall yn rheoli, glawiodd gwaed dros dridiau yn ddibaid; ac o hynny cododd y fath liaws o wybed gwenwynllyd, ac ar ol y rheini canlynodd y fâth blâ marwol, oni ddeleuwyd agos genedl a henw y Britaniaid. Mevvn amser attyfasant drachefn, a gorchfugâsant ogledd Germania, a thrwy guttundeb rhoddwyd Cambria merch Beli brenin prydain i dywysog y wlad honno, ac o honi y daeth y Cimbriaid, cenedl enwog o'r gogledd. yn y drydydd oes gwedi bu Llûdd yn frenin clodfawr yma, efe ehengodd ac a gadarnbâodd y brífddinas, pryd y galwyd hi caer-Lûdd, ac oddi wrth hynny Llundain. Yn ol hyn anfonodd Prydąin [Page 94]fyddyn gynorthwyol i Gallia yn erbyn Caesar ydoedd yn rhyfela yno yr hyn a gyffrôdd y Rhufeiniaid (y gwncweriodd y rhan fwyaf o'r byd o Persia hyd yma) i orescyn yr ynys hon, ydoedd anghydnabyddus iddynt hyd hynny. Ond prifiodd y Britaniaid yn anioddefgar dan iâu y Rhufeiniaid, a daeth Claudius Caesar attynt yw llonyddu. Drachefn cododd Prydain gyda ei brenin Arifog i geisio ynill ei rhydd-did; ac er i Glaudius Caesar ddyfod eilwaithi mewn yn llidiog, etto gorfu iddo guttuno ag Arifog, a rhoddi ei ferch Genista iddo, ac ammodau esmwythach o ufudd-dod ir ynys. Yn amser ei mab hwy Meurig, yr heidiodd y Pictiaid i mewn o Scythia (felly y gelwid gwledydd y gogledd, Llychlyn, a rhan o Germania gynt) y rhai a diriasont yn Scotia i nythu yno. Galwyd yr Jwerddon yn Wernia, o ran lleithdra ei thír, ac yn Scotia (y sydd air Groegaidd yn arwy ddoccâu tywyllwch, ac oddiwrtho y daeth y gair arferol cysgod) o herwydd bod ei choedydd yn ei gweuthur yn ynys dywyll. Ond darfu ir Scotiaid eu hwylio hwynt oddiyno irScotland. Albain gogledd Prydain. Lladdodd Meurig eu brenin hwy mewn brwydr, a chaethiwodd nhwythau, ond goddefodd iddynt fyw yn eithafoedd anial y wlâd, a alwyd Caethnes. Galwyd hwynt Phichtiaid neu Graithuniaid, am eu bod yn gwneuthur creithiau ag argraphia dau ar eu cyrph, tebyg mal yr ymddangosent yn fwy ofnadwy yw gely mon. Wedi dyfod peth caethder budol ar ein gwlad ni o Rufain, anfonodd Duw iddi foddion rhydd-did ysprydol a Gaersalem, gan ganhiadu yr efengyl [Page 95]yn gynar iddi; sef yn nyddiau 'r apostolion, er pelled ydoedd hi oddiwrth Palestina. Dywed Eusebius fyned rhai o'r apostolion ir ynysoydd elwir Brittanaidd. [...]. Ac aeth ffydd ein henafiaid mor enwog drwy'r byd, oni byddai athrawon godidoccaf y Cristnogion yn bostio o honi ynheirnasoedd y dwyrain a'r gorllewyn; Ac yn argymmennu oddiwrthi i brofi Duwdod Crist. gan fod ei deirnas ef yn treiddio, lle nid allai un Caesar finio. felly y dengis Tertullianus y scrifennodd gyga'r Cristnogion yn yr ail canfed o oedran Crist. Medd ef, Britannorum inaccessa Romanis loca Christo subdita. Mae 'r mannau o'r eiddo 'r Britaniaid sydd anhygyrch ir Rhufeiniaid, wedi ymroddi i Grist. Yr oedd rhai o'n cenedl ni yn yr Albain heb fyned dan awdurdod y Rhufeiniaid, a thy stiolaethiff Origen, y scrifenodd ynghylch pedair blynedd a deugain gwedi, Virtus Domini Salvatoris & cum his est, qui ab orbe nostro in Britannia dividuntur, & cum universis qui sub sole in nomine ejus crediderunt. Fod rhinwedd yr Arglwydd iachawdwr gydâ rheini yn Prydain a wahanwyd oddiwrth ein byd ni, a chyda phawb dan haul ar a gredasant yn ei enw ef. Ac medd Theodoret. ein Pyscodwyr ni a'n Publicanod, [...]. a'r Gwniedydd a ddugasant y cyfreithiau efangylaidd ir holl genhedloedd, ac yn [...]illasant nid yn unig y Rhufeiniaid, ond y Scythiaid hefyd, a'r Indiaid, a'r Ethiopiaid, a'r Persiaid, a'r Brittaniaid, a'r [Page 96]Cimbraid a'r Germaniaid idderbyn deddfau'r Cro [...]shoeliedig. A gwelodd Duw yn dda beri i'r wreichionen efengylaidd yn Prydain losci tua'r nenn, ac ennyn zêl yn y brenin Lleucius, yr hwn a fedyddwyd ynghylch y naw ugainfed flwyddyn o Oedran Crist.Oed. Cr. 180. Galwyd hwn Llês, a'r Lleufer Mawr, am y gwybodaeth a ddigwyddodd yn ei amser ef; canys canlynodd y Penaethiaid ei esampl ef; a chynorthwyodd Doewan a phregethwyr eraill y ffydd yma yn odidog. Ac felly aeth ein gwlâd ni yn flaenor ar yr holl deyrnasoedd yn proffeslu 'r efengyl drwy gyffredin gyngor. Tybir iddi ymgaloni mewn Cristnogaeth beth yn hyfach,, o herwydd i ymerodr Rhufain gyhoeddi ei ewyllis da tuag at y Cristnogion, am iddynt weddio am law yw fyddyn ef oedd ar drigo o syched: Dywed Croniclau Germania i Leucius adel ei reioltifydol a myned i bregethu 'r efengyl mewn rhannau o honi, a throi llawer at Grist. Ond tebyccaf mae Brittwn arall, o'r un henw a wnaeth hynny cyn ei amser ef. Wedi marw Lleucius yn ddiblant, daeth Seferus yr ymerodr i heddychu Prydain ydoedd gythryblus, a gwnaeth glawdd ar draws yr Albain i attal y phichtiaid. Gwedi ynnillodd y Britaniaid eu rhydd-dyd gan ddifetha y Rhufeiniaid; a phan ddaethConstantius. Custeint a byddyn yn eu herbyn hwynt, heddychasant ag ef; yr hwn ai dyhuddodd hwy ai fwynder, ac a briododd eu penadures Helen, merch hawddgar, ddyscedig, a chrefyddol, o'r hon y ganwyd iddo y mab grasolConstantinus. Custenyn; yr hwn wedi marw ei dad ynghaer [Page 97]Ebraue, aeth yn ymeroder; ac a brifiodd yn Sweewr daionus ir Cristnogion oll. o prydain y pryd hyn y dechrenodd Duw weithio dywygiad yn y byd drwy Cwstenyn fawr,blwydd. y Arg. 306 fal y dywed ei broclamasiwn ef at Raglawiaethau palestina. Pan farnodd Duw fy ngweinidogaeth i yn gymwys i gyflawni ei ewyllis ef, gan ddechreu o fôr Prydain, a'r parthau tua machlud haul, gyrrodd ar ff ô y drygau oeddent yn gorthrymmu dynion, a chynnyddodd y ffydd ddedwyddaf▪ Cydnabyddir hyn yn anrhydedd i prydain, olau et [...]wyn o eirias ei Sancteiddrwydd y lewyrchodd ir ymerodraeth oll. Casclodd Cwstenyn gymanfa gyffredin Eglwysig yn Ffraingc Gallia, yn y flwyddyn o oedran yr Arglwydd, trychant a phedair ar ddèg, ac un arall yn Nicea wedi hynny, ac yr oedd esobion Prydain ymbob un o'r ddau. Ac nid oedd milwyr Britaniaidd ddieithrol yw fyddinoedd ef, wrth fwrw gorthrymwyr y byd i lawr. ynghylch ôes gwr gwedi, aeth ein gwladwyr ni yn dra lliosog i ganlyn Macsimus eu rheolwr i Gallia. yr hwn a geisiodd ddiswyddo ei feistreid ymerodron Rhufain,Oed. Cr. 400. a chymeryd eu llê hwynt. y pryd hynny fel y tybir y plannodd Conan Meriadoc Arglwydd Rhywfonioc wyr Gwynedd yn * Lydaw.Letavia y rhai anfonasant adref am wragedd, ac hebryngwyd iddynt un mil ar ddèg o wyryfon; y rhai a daflwyd gan demmestl ar y môr i ran o Germania: lle derbynwyd hwy gan genhedloedd Barbariaidd gelyniaethol i Prydain,Oed. Cr. 450 a fynnasent ymrewydd a hwynt, ac am nas Caent eu llâdd a orugasant. y mae parch i goffadwriaeth [Page 98]y merthyron hyn am eu diweirdeb. ar ol hynny, gorfu i Frittaniaid Llydaw, gymeryd gwragedd o'r wlâd honno, a thorrasant eu tafodau hwy, rhag iddynt lygru Cymraeg eu plant. ond wedi ir phichtiaid ymgyfathrachu a'r Scotiaid, preswylwyr yr lwerddon, Cawsant eu Cynorthwy nhwy i flino ein henafiaid ni, ac i helaethu eu terfynau, a rhyngthynt meddianasant yr Albain. ac oddiyno mewn amser anrheithiasant Loegr, ydoedd ry wan yw gwrthsefyll hwynt, gan ir Rheolwyr Rhufeinaidd dynnu allan o honi agos yr holl wyr jeveinge yw Calyn hwy ar bob achlysur i Gallia, ar Ital, i ddiffyn ymerodraeth Rhufain, ydoedd yr amseroedd hynny yn cael lloneid ei dwylaw gan amryw elynion gartref. wedi 'r bedwaredd ganfed o oed Crist, mae tystiolaeth hynod am ffydd y Britaniaid yn Scrifenâdau un o'r hên bregethwyr Groegaidd,Chryfosto. mus clod-fawrussaf yn y byd, sef Ioan * Aureneu o Constantinopl. profodd ynysoedd Prydain, [...]. rinwedd y gair, canys seilwyd eglwysydd yno. Od ai i'r môr mawr, neu'r ynysoedd hynny o'r eiddo Prydain, neu os Llongwrio a wnei i fôr Eucsinus, neu od ai i barthau yr Deheu, cai glywed pawb ym-hob man yn philosophyddio ynghylch pethau 'r scrythyrau, yn ddiau ag iaith arall, ond nid a ffydd arall, a garw-sain y llefarant, [Page 99]ond buchedd dduwiol a ddilynant. ynghylch hyn Cyfododd o Gymry un Morgan, yn Ladin gelwir ef Pelagius, tybir mae Abbad Bangor îs y coed oedd ef, a thano fwy na dwyfil o fynych. Aeth hwn i Rufain, ac oddiyno i Gaersalem; fel yr oedd arfer Cristnogion y pryd hynny i ddyfod ynghyd yno o bob parth ac iaith, er mwyn gweled gwlâd ganedigaeth Crist ai apostolion. A phan dd [...]uent ynghyd by ddai ganddynt yr un ffydd, er nad oeddent o'r un iaith. ymgyfarfyddai pob cenedl ar ei phen ei hun, ond yr un Crist y addolent, a'r un rheol wirionedd y gadwent. Bu ein Gwladwr ni yn enwog, ac yn, anwyl am ei sancteiddrwydd ai wybodaeth ymysc y Cristnogion, a'r dyscawdwyr godidoccaf yn y byd, megis escob Rhufain, ac Awstyn escob Hippo▪ ond er diwedd athrawiaethodd ymhob gwlâd, fod ewyllis rydd gan bob dyn, heb bechod gwreiddiol; a pharodd anghydfod mawr ymhob mann yscrifenodd Hierom ydoedd yn Bethlehem, yn erbyn Morgan ydoedd yntef yn Jerusalem, gan gymwyso yn ei erbyn ef eiriau Jeremi, oddiwrth brophwydi Jerusalem yr aeth halogrwydd allan ir holl dir. pen. 23 1 [...] gan ei fod ef yn Cael achlysur i hâu ei athrawiaeth ymysc y Cristnogion a ymgyfarfyddent yno o'r holl fyd. Ar ol hyn magodd llidd, a lladdodd dilynwyr Morgan rai o braidd Hierome, a lloscasant eu monachlogydd. A phan ymrwystrodd trigolion Prydain hefyd a'r ddadl hon, cawsant gan escobion Gallia anfon Garmon escob Antisiodor, a Lupus escob Trecasse, attynt i gynorthwyo [Page 100]eu ffydd. y rhai wedi dyfod i'n gwlâd ni, lle 'r oedd Cristnogaeth wedi gwanhychu, a droesant lawer at ddaioni wrth ymddadlu yn gyhoeddus, a phregethu yn aml. A phan oedd ein henafiaid ni mewn Cyfyng gyngor o herwydd y Phichtiaid a'r Saeson ydoedd yn rhuthro arnynt yn unfryd; Ar ol aml ymprydiau, a gweddiau derchafedig, a chymûnau, arhôsodd Garmon, gyda thyrfa ddewisol o ddyscyblion mewn Cynllwyn: a chynted ag y daeth byddin y gelynion yno, yn ddisymmwth Crôch-lefodd ef, ai ddilynwyr gan adrodd Alleluia deirgwaith, onid oedd y wlâd yn dadseinio. a thrawodd y fath fraw yn y Saeson a'r Phichtiaid, oni ddiangasant gan fwrw eu harfau ymmaith, a boddodd llawer o honynt yn yr afon wrth geisio myned trwyddi ar frys. Digwyddodd hyn yn ymyl yr wyddcruc yn sîre y fflint, a gelwir y lle Maes Garmon hyd heddyw. Dyma fuddugolieth debyg i un Gideon gynt, pan ffôawdd gwersyll y Midianiaid wrth glywed rhai diarfog yn llefain Cleddyf yr Arglwydd a Gideon. Bar. 7.20. Gwedi hyn darfu ir Gwyddyl Phichtiaid ddyfod i Fôn, a churo 'r Britaniaid mewn man elwir Cerrig y Gwyddyl. Ond gwedi caswathon Law-hir tâd * Maglocun ai hymlidiodd hwynt ymmaith.Maelgwyn, blwydd. yr Arg 420. Pregethodd Ninianus Brittwn yr efengyl ir Phichtiaid yn yr Albain, ac a ffynnodd yn ei waith: ac ymben deuddeg mlynedd gwedi daeth Padric Britwn arall i bregethu ir Iwerddon. Ganes d ef yn yr Albain yn nhrèf Banafau, ynnhalaith Tabernia, ai dâd oedd Ddeon, ai daid yn henuriad. Cipiodd yr Scotiaid [Page 101]hwn gyd a'g eraill yn garcharor yn ievange, a gwerthasant ef yn gaethwas yn yr Jwerddon, yn yr hwn gyflwr y trôdd ef at Dduw yn ddifrifol, gan weddio yn aml; ac wedi hîr gustudd cafodd ddychwelyd adref: a phan oedd ei rieni yn daer arno am aros gyda hwynt, mewn breuddwyd gwelai un o'r Jwerddon yn rhoi llythr iddo ef, yn necchreu 'r hwn y darllenai, llais y Gwyddelod, a thybiai glywed eu llefain hwynt yn un-air yn dywedyd, yr ydym yn dcisyf arnati fachgen Sanctaidd ddyfod a rhodio yn ein mysc ni etto; a chynhyrfodd hynny ei galon ef. aeth i Gallia at Garmon a Marthin dyscawdwyr ysprydol, nerthol, ac arhosodd gy da hwynt rai blynyddoedd i ymgadarnhâu mewn grâa a dysceidiaeth. Ac oddiyno Cyrchodd i Rufain, lle cafodd hyfforddiant a chymdeithion i ddychwelyd ir Jwerddon, lle y tycciodd ei weinidogaeth ef yn ddirfawr, i droi'r tywysogion a'r Cyffredin at ffydd Grist, yr hon oedd yno ymysc rhai o'r blaen. Cymerth hefyd boen rasol yn Neheubarth Cymry, wrth lyned ar ei daith. ychydig gwedi bu Dubricius o Gaerlleon ar wysc, a chadoc o Langarfan, a Gildas Albainus yn hyfforddiant mawr i ddysceidiaeth a chrefydd yn Ghymry. Dywedir am Gildas, pan oedd ef yn pregethu, a dysod o fam Dewi (a hi yn feichiog arno ef) i mewn yw gynulleidfa ef, yn ddifymwth Syrthiodd attal ar ei bregethiad ef, fel ar leferydd Zacharias,Luc. 1, 20. a chwedi prophwydodd ir wraig y byddai'r plentyn y ddygai hi yn ei chrôth, yn odidog yngair y gogoniant. A phrifiodd y peth felly. Canys aeth Dewi yn Archescob tra [Page 102]ysprydol, ac anrhydeddus. Yr ydoedd Mynyw mor hynod am grefydd yn ei amser ef, ac y dywedid y gallai Cristion gael Cymaint adeiladaeth iw enaid wrth fyned yn Bererin yno ddwywaith, ac y gai o fyned i Rufain unwaith.
Ar un elw cryno, y gai di yma ac yno. Ynghylchy pryd hwn gwnaeth Teilau, a Phadern hefyd eu rhannau yn gwasnaethu eu cenhedlaeth. Yn yr oes hon yr ydoedd gan y Britaniaid dri Archescob. un yn Llundain, un yn Ghaer Ebrauc, ac un yn Ghaer Lleon ar Wysc, yn Neheubarth Cymry, heb law escobion, a gweinidigion. Yr oedd eglwysydd Cymry dan lywodraeth Archescob Chaer Lleon ar Wysc, a rhai Lloegr dan lywodraeth Archescob Llundain, a rhai yr Albain a'r gogledddir tu hwynt i Humber, dan lywodraeth Archescob Caer Ebrauc. yr ydoedd hesyd yscoldai nodedig yn amryw fannau, lle 'r oeddid yn dwyn philosophyddion i fynu, ac athrawon ac enwediccaf coleds ynGhymry ydoedd ynGhaer Lleon ar Wysc. ond am fod Prydain yn gwybod ewyllis ei Harglwydd ac heb ei wneuthur, darperir iddi lawer offonodiau: ac am ei bod yn dir Cyndyn, yn dwyn drain a meiri yn lle llyssiau Cymwys ir llafurwr nefol, aeth yn anghymeradwy, ac yn agos i felldith a llosciad. Ynghylch Pedwar Cant a thrugain o oed Crist,Oed. Cr. 460. mae'r Rhufeiniaid y fuasent yn llywodraethu arni yn hîr, yn ei gadel yn weddw. Mae'r Phichtiaid a'r Scotiaid yn rhuthro iddi fel [Page 103] bleiddiaid yr hwyr, ac mae'r Saeson anghredadwy, pobl o ogledd-dir Germania, a gyflogasid yw gwrthsefyll hwy, yn lle Cynorthwywyr yn prifio yn llwyr ddinistrwyr ein cenedl ni. A thrwy dân a chleddyf yn troi 'r dinasoedd yn garneddau, a chelaneddau 'r dinasyddion yn domenydd, a'r hyn nis gallent ei reibio wrth chwareu 'r llewod, ysclyfaethent ef ar ddull llwynogod. Canys wedi ir Britaniaid eu curo hwy yn ddewr, ac wrth gyttundeb ddyfod o'r penaethiaid ynghyd yn ddiarfog i dynnu ammodau heddwch, ac i gydwledda au penaethiaid nhwythau, cawsant eu llâdd yn dwyllodrus a chyllill hirion yngwastadedd caerSalisburie. Caradoc. a rhoddes hynny o drychineb fantais ir dibirwyr i orescyn llawer o'r ynys. ond drwy ddewrder a phwyll Emrys Aurelianus, a'i frawd Vthr, a'i nai ef y brenin Archur, gwelodd Duw yn dda roddi'r Maes ir Britaniaid mewn llawer brwydr, ac attal gerwindeb y Saeson, nas gallasant mo ddifrodi ein henafiaid ni i gyd a'r unwaith. Canys heb law Cymry glynasant yngorllewin a gogledd Lloegr amryw flynyddoedd, wedi ir Saeson breswylio Llundain, a dwyrein barthau 'r ynys. Yn yr amseroedd helbulus hyn gosododd rhai law Dduw at eu calonnan, ac ymroesant yw wasnaethu ef gyda'g ofn a dychryn. O'r cyfryw yr ydoedd Centigernus. Yr hwn a Seiliodd fonachlog Llanelwy ynghylch y flwyddyn 560: ordeinwyd ir mynych oeddent naw cant ymranu, fel y delai'r naill dyrfa i mewn i addoli Duw, pan ddarfyddai ir llall; fel na pheidiai addoliad Soniarus un amser. oddiyno aeth ef i Glascu yn yr Albain, [Page 104]Lle bu ef yn hyfforddiant mawr ir efengyl, a Gildas Albainus hefyd. Clomen Celli yr un môdd a gyfododd lawer o fonachlogydd ym-Hrydain, a'r Jwerddon. Aphan aeth i Glascu, ef a rhai oi ddilynwyr i ymweled a Chentigernus, Cyfarfuant ai gilidd dan ganu psalmau. Meddai 'r naill blaid y Sainct ânt o rinwedd i rinwedd, Psal. 84.7. ymddengis pob un gerbron Duw yn Sion. Psal. 138.5. Meddai 'r llall, yn ffyrdd yr Arglwydd mawr yw gogoniant yr Arglwydd. Anfonodd Americ brenin yr Jwerddon am Frittwn duwiol dyscedig elwid Gildas. (ac a gyfenwir Badon) i adferu trefn eglwysig yn ei deyrnas ef, gan addaw ufuddhâu yw athrawieth ef. Aphan gymerodd yr athro ysdrydol y gwaith mewn llaw, bendithiodd Duw ei orchwyl ef yn diwygio pethau crefyddol drwy 'r Jwerddon oll; lle y llacciasent lawer er amser Padrig. Mae 'r Prydydd y ddaroganodd ynghylch y Coronog Faban, yn galw hwn yn brophwyd
Bu ef fyw yn y tô nesaf at y brenin Arthur, ac a scrifennodd lyfr Ladin y sydd etto yw weled, i fynegi helynt Prydain,Blwy. yr Arg. 564. ac i argyhoeddi ei wladwyr oi pechodau ai peryglon. Ac o herwydd ei fod yn hynaf llyfr o waith Cymro a'r sydd yw gael yn brintiedig, a mwyaf ei barch, ac yn berthynasol i'm perwyl, wedi ei scrifennu at ein henafiaid ni ynghylch amser eu difrawd, darfu i mi ei dalfyrru, ai gyfieithu o'r [Page 105]Ladin ir Gymraec. ac i'th hyfforddi yw ddeall ef, gosodais ymbell air ynghwrr y dalennau, y pennodau hefyd, a'r adnôdau, lle Ceir yr scrythyrau y arferiff ef yn aml, er nad oeddent wedi eu rhannu felly yn ei amser ef.
Rhag y madroddhwn a brîntiodd y Llyfr gyntaf. Polydorus Fergilius at Cuthbert Tonstall escob Llundain.
Pan i'm rhoddais fy hun i scrifenu histori Lloegr, ac er mwyn hynny i ddyfal chwilio Croniclau, darllenais yn Beda ddarfod i ryw historiawr gynt ai henw Gildas, yn wylofus alaethu dinystr a phechôdau ei wladwyr y Britaniaid. A thra yr oeddwn yn chwilio am dano, tydi goreu Escob, yr hwn wyt yn dra gofalus am chwanegu dysceidiaeth, a gefaist y llyfr: A phan aeth y gair allan ymysc yscolheigion gael hên awdwr, a bod chwant iddo, gwelais yn dda ei gyhoeddi, ac yntef yn gryf mewn athrawiaeth. os gwnaiff leshâd, fel y mae yn dra buddiol, cyfrifer hynny i ti, am ei ddyfod o'r tywyll ir golau a thi yn arweinydd, bydd wych. 1525.
GILD AS FRITTWN YNGHYLCH ADFYD PRYDAIN.
Tewais a sôn gyda mawr ofid Calon, fel y maer Arglwydd chwiliwr yr arennau yn dyst i mi, dros ddeg mlynedd. Ond gwelwn yn ein amser ni mal y galar-nâdodd Jeremi,Galarnad. Jer. pen 1. ac 4.1. fod y ddinas aml ei phobl yn eistedd ei hunan yn weddw. a thywysoges y taleithiau tan deirnged, sef yr Eglwys. a thywyllu yr aur, sef llewyrch gair Duw. A darllennwn [Page 106]ir Arglwydd ddywedyd y teflid plant y deyrnas ir tywyllwch eithaf. Math. 8, 12. Ac y torrid ymmaith yr oliwydden wyllt a impiasid yn y dda, Rhuf. 11.17. oddieithr iddi ofni Gwe [...]wn faint o ddifrawch sydd mewn pobl o'r oes hon, er ei bod yn dra phechadurus a du, mewn zêl gan hynny i dy Dduw, a [...] gyfraith, a chwedi fy nghymmell gan weddiau Sanctaidd y brodyr, ymosodais i lefaru, fel yr assyn y ddangosodd ir Swynwr fod angel ai gleddyf noeth yn ei erbyn ef,Num. 22. er cael ei churo am ei phôen. ynys Prydain sydd fel priodas-ferch wedi ei thrwssio a llawer o dlyssau. a chyn dyfodiad Crist yn y cnawd addolodd fynyddoedd, ac afonydd peryglus, a phethau Cythreulig, (agos cyn amled a rhai 'r Aipht) lluniau hyllion rhai o honynt sydd etto yw gweled ynghylch Caerau anghyfanne ddol. Ond wedi i Grist y gwir haul ddangos ei belydr, sef ei orchmynion iddi, yn amser Tiberius Caesar; derbynwyd hwynt gan rai eneidiau yn llygoer, a chan eraill yn galonog: ac yn yr erlid yn amser Dioclesianus goleuodd lampau 'r merthyron ynddi. y rhai a safasant yn y maes yn ddewr gyda Christ yn wrryw ac yn fenyw. y pryd yr addurnwyd Albanus Sanctaidd a gwrthiau rhyfeddol yngolwg yr annuwiol, oeddent yn ei arteithio ef am ei gyffes rasol. Canys drwy weddi wresog agorodd ffordd i fyned drwy frwynen yr afon enwog Thamesis yn Droed-sych gyda mîl o wyr, a'r dyfroedd yn sefyll o'u deutu fel caulennydd mawtion. oni thrôdd yr arteithiwr o flaidd yn oen, i sychedu am fuddugoliaeth merthyrdod. ond wedi'r demestl, [Page 107]mae 'r Cristnogion a golugon siriol yn mwynhâu goleuni tawel yr awyr nefol. adnewyddant yr eglwysydd y fwriasid i lawr, addolant a chalonnau ac a geneuau pûr, a gorfoleddant. A pharhâodd Cyssondeb hyfryd ymysc aelodau Crist, nes i hocced Arrius ac eraill, fel nadrodd chwythu gwenwyr marwol amryw heresiau o'r tu hwnt ir môr i'n gwlad ni, yr hon oedd chwanog i glywed rhyw newydd-beth. Er diwedd gan fod yr ynys yn dwyn henw y Rhufeiniaid y rhai ai gorescynnasent hi er ys talm o flynyddoedd, ond nid yn arfer eu moddion hwynt, eithr yn bwrw allan egin chwerw, anfonodd ei gwyr jevainge yn llûoedd i ganlyn Macsimus y Gormesdeyrn i Gallia, y rhai ni ddychwelasant adref mwy. Ar ol hyn y mae Prydain wedi Colli ei milwyr ai rheolwyr, yn tuchan dan orthrumder dwy genedl tramor greulon, sef y Pictiaid a'r Scotiaid dros lawer o flynyddoedd, ac yn Cael Cymorth yn eu herbyn o Rufain ddwywaith. ond gwedi dychwelyd o'r Rhufeiniaid adref (y rhai Cyn ymadel a rybuddiasent ein gwlâd nI i ddyscu traenio, ac nad ymollyngai'n llibyn o ran muscrelli yw chaethiwo gan genhedloedd nid oeddent ddim cryfach na hi) y mae'r Pictiaid A'r Scotiaid (y rhai orchguddient eu hwynebau a blew, yn hytrach na rhannau gwradwyddus eu Cyrph a dillad) yn heidio drachefn, ac yn Cymeryd meddiant o'r holl ogledd-dir, a darnir y dinasyddion alaethus gan y gelynion, fel wyn gan gigyddion: a newyn angeiriawl a lynai wrth y diangol, gan fod y wlâd mor fynech wedi ei hyspeilio, [Page 108]nid oedd ymborth ond y ddelid wrth hela. Mae'r gweddillion truenus yn anfon llythyrau y adroddant fel hyn, At Rhaglaw Gallia dan y Rhufein iaid, blwy, yr Argl. 446. Aetius ocheneidian'r Britaniaid. Mae 'r Barbariaid yn ein gyrru ni at y môr, a'r môr yn ein gyrru ni at y Barbariaid, rhwng y ddau lleddir neu foddir ni. yn y Cyfamser wedi methu 'r genadwri, rhoddasant eu hyder ar Dduw, ac nid ar ddyn, a'r pryd hynny y gwnaethant gelanedd y mysc eu gelynion gyntaf; yn ol ymadrodd Philo, Bydd Cymorth Duw barod lle metho un dyn. Dros enyd fechan peidiodd hyfder y gelynion, ond nid ein drigioni ni. Ciliodd y gelynion oddiwrth y dinafoedd, ond ni chiliodd y dinasyddion oddiwrth eu pechodau. Canys yr oedd ein cenedl ni, megis y mae yn awr, yn grèf i bechu, ac yn wan i ryfela. Yn yr yspaid tangneddyf llifeiriodd yr ynys o bob rhyw lawnder Cynhalieth, gyda'r hwn y cydtyfodd try thyllwch, oni ellid ddywedyd y pryd hynny yn gymwys,1 Cor. 5.1. bod yn eich plith chwi y Cyfryw odineb, ac na henwir ymysc y Cenhedloedd. Ac nid y bai hwnw yn unic, eithr pob rhyw lygredigaeth a'r sydd ddigwyddawl i natur ddynol, ac yn gwyr droi pob daioni yn awr hefyd. Sef casineb ir gwirionedd, ac ir rhai ai haero, serch ir Celwydd, ac ir neb ai gwnelo, croesawu'r drwg yn lle da; perchi gloddest am fwynder, a chwenych tywyllwch yn lle 'r haul, a chymeryd Satan am angel goleuni-Eneinwyd Brenbinoedd nid trwy'r Arglwydd, Hosh. 8.4. ond y rhai fyddau creulonach nag eraill; a chyn pen nemawr, lleddid hwynt, a dewisid [Page 109]rhai gwaeth. Ac os digwyddai i un o honynt fod yn hynawsach, ac yn nês at y gwirionedd, gwrthwynebid hwnw megis dinystriwr Prydain. Yr un módd oedd ganddynt y pethau a ddigiau, a'r pethau a fodlonau Dduw; oni ellid ddywedyd wrth ein gwlâd ni — hád y rhai drygionus, Esai. 1.4, 5, 6. gwrthodasoch yr Arglwyd, digiasoch Sanct Israel, i ba beth i'ch tarewir mwy? cildynrwydd a chwannegwch: y pen oll sydd ghwyfus, a'r holl galon yn llèsc, o wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo. Ac nid y gwyr bydol yn unic oedd fel hyn, ond praidd Duw hefyd, a'i bugeiliaid. Yn y cyfamser y mae Duw yn ewyllysio glanhâu ei deulu, wrth anfon iddynt air fod eu hên elynion yn darparu dyfod attynt yw difrodi, ac i gymeryd y wlád; ond nid ydynt well er hynny. Gan na [...]hymer gwás pengaled addysc a'r eiriau; Dihar. 29.19. ac 27.22. fflangellir yr ynfyd ac nid yw yn synied. Canys y mae plâ angheuol yn llâdd cymaint lliaws o'r bobl, nas gallau'r byw eu claddu. Etto Cyflawnir prophwydolieth Esai, Gwahoddodd Duw i wylofain, ac i foeledd, ac i ymwregyssu a sachliain, Esai. 22.12, 13. ac wele lawenydd a gorfol [...]dd, gan fwytta eîg ag yfed, a dywedyd, bwyttawn, ac yfwn, Canys y foru y byddwn feirw. O herwydd nessâodd yr amser i gyflaw [...]i eu hanwireddan fel rhai yr Amoriaid gynt. Gen. 15.16. Y pryd y dallwyd y cynghoriaid a'r bremn balch i ollwn y Saeson of gwirfodd ir ynys, yw cynorthwyo yn erbyn eu hen elynion. O ddioglud burtrwydd meddwl y tywysogion! fel rhai Zoan, Esai. 19.11. y roddasont i Pharao gyngor anoeth. Ofnent* y Saeson o'r blaen fel angeu, ac etto gwahoddasont y bleiddiaid hynny i gorlan [Page 110]defaid, yn gyntaf daeth tair llongaid o honynt i mewn ir ddwyrein ran o'r ynys, lle 'r arhosasont drwy genad y brenin anhappys. Ac wedi dyfod torfoedd ychwaneg attynt, addawsant yn dèg dros drô, yr ymladdent dros eu lletteuwyr Syber. Ond mewn amser gofynnant haelioni mwy, a thorrant eu cyngrair, a rhuthrant dros yr ynys o'r dwyrain ir gorllewin oni chyflawnwyd ynom ni air y prophwydy cenhedloedd o Dduw y ddaethant i'th etifeddiaeth, Psal 79.1. halogasant dy deml Sanctiaid. Onid oedd dros yr holl wlad gelain y trigolion, gyda'r eglwyswyr, yn ddarnau hyd yr heolydd, ie yn dyrrau cymyscedig, megis mewn gwryf mawr y gwescir afalau ynddo; heb fêdd iddynt, oddieithr tai wedi Syrthio, neu foliau milod. Diangodd y gweddillion ir môr a'r mynyddoedd, gan oernâdu tal hyn,Psal. 44.11. Rhoddaist ni fel defaid iw bwytta, a gwasceraist ni ymysc y cenhedloedd. Ac mewn amser maent eilwaith yn ymgasclu ynghyd o bob parth, fel y gwenin ir cwch ar dymmestl; gan alw ar Dduw a'u holl galon, a llwythant y nefoedd ag aneirif weddiau na lwyr ddifethyd monynt; a than lywodraeth Emrys Aurelianus, gwr pwyllog, (rhieni yr hwn a laddesid yn y derfysc) maent yn rhoi curfa yw gelynion drwy helpe Duw. Ac o hynny allan weithiau by ddai'r dinasyddion, weithiau'r gelynion yn cael y maes; fel y profai'r Arglwydd yn ol ei arfer, y doedd Israel bresennol yn ei garu ef ai peidio: hyd flwyddyn gwersyll mynyddBath. Badon, ar lladdfa ddiweddaf agos y wnawd ar y diffeithwyr, yr hyn oedd bedair blynedd a deugain, ac un mîs ar of dyfodiad y Saeson [Page 111]i mewn, a'r amser y ganwyd fi. Nid aeth destrywedigaeth yr ynys, a'r cynorthwy y ddigwyddodd iddi heb ei ddisgwyl, lyth allan o gôf y rhai ai gwelsent. am bynny gwnaeth y brenhinoedd, a'r penathiaid, a'r eglwyswyr, a'r cyffredin, bob un eu dyledswyddau. Ond pan gyfododd tô arall ni wyddai oddiwrth ddim, ond y tawelwch presennol, dymchwelwyd gwirionedd a chyfiawnder, fel na welir mo'i hôl mewn grâdd yn y byd o ddynion; oddieithr ychydig iawn y sydd a'u bywyd yn hôff gan Dduw, ac au gweddiau yn cynal ein gwendid ni. Na thybied neb fy mod i yn bwrw attynt hwy, tra yr wyf mor hyfyn cwynofain pentwr y rhai drygionus, y sydd yn gwasnaethu eu boliau a diafol yn hytrach na Christ. Canys i ba beth y celwn ni yr hyn y mae'r cenhedloedd oddiamgylch, nid yn unig yn ei wybod, ond yn ei ddannod? sef bod gan Prydain frenhinoedd o dreiswyr, a barnwyr o orthrumwyr, y sclyfaethant y gwirion, ac a gadwant yr euog, a chanddynt lawer o wragedd putteinaidd, yn llochesu lladron a godinebwyr, yn anudonwyr, yn codi terfyscoedd ymysc eu gilidd. megis y darfu ir gormesdeyrn* Custenyn y len [...] yn yr eglwys lâdd dau o'r hâd brenhinol, er iddo ymrwymo a llw cyhoeddus na wna [...] dwyll iw bobl. wedi iddo a'r blaen yrru ymmaith ei wraig o serch ar butteiniaid. Oh pam yr wyti yn archolli dy enaid dy hun? Oh [Page 112]pam yr wyti yn ennyn y tân iti dy hun? edifarhâ a thyred at Grist y tâd daionus, y wnaiff wlêdd o gyssur nefol ir dychweledig, fel y profoPsal 34, 8 mor felys yw'r Arglwydd. A pheth y wnei ditheu Aurelius Conan y ceneu llêw, onid wyti ar foddi yn yr unrhyw frunti o fwrdwr a godineb? oni throi at yr Arglwydd yn fuan,Psal 7, 12. Deut. 32.39. efe a chweri a'i gleddyf attati ar fyrder, ac nibydd a'th waredo di oi law ef. A thitheu Fortipor benllwyd rheolwr. Gwent, tebyg i lewpart amliwiog o anwireddau, mab diras i frenin da, fel Manasses i Hezechia, beth a wnei di yn Cyffio yn dy orsedd-fainge dwyllodrus, halogedig gan fwrdwr a phutteindra? na threulia yr ychydig sydd yn ol o'th ddyddiau yn digio Duw. Canys ynawr y mae 'r amser Cymeradwy, a dydd iechydwrieth yn ty wynnu ir edifeiriol. A thitheu Cuneglas, pam y gwnei gymaint helbul i ddynion drwy ryfel Cartresol, aci Dduw drwy aneirif bechodau, yn erbyn y gair Sy'n dywedyd,1 Cor. 69 nas gall godinebwyr etifeddu teyr. nas nef? paid ath ddigofaint tuag at Dduw ai braidd, newid dy foddion,Math. 16.19. mal y bo iddynt hwy weddio drosoti, y rhai allant rwymo yr euog ary ddaiar, a rhoi gollyngdod ir edifeiriol. Titheu hefyd * Maglocun, a yrraist gymaint o frenhinoedd gormesol allan or teyrn gader ai bywyd, pam yr ymdreiglei yn y fath dduon bechodau,Maelgwyn tywysog Gwyaedd. megis pettit wedi meddwi ar wîn Sodome? oni orthrumaisti drwy gleddyf a thân, dyCathwallain ewythr y brenin ai filwyr dewr, y rhai oeddent mewn brwydr, nid anhebyg yr olwg arnynt i genawon llewod? esceulusaist eiriau'r prophwyd [...]yddywed, [Page 113] gwyr gwaedlyd a thwylledrus ni byddant byw hanner eu dyddian. Psal. 55.23. Gwae ai anrheithiwr, pan ddarffo it anrheithio i'th aurheithir. Esa [...]. 33.1. Pan addunedaist fynd yn fonach, (ysgatfydd o ran p [...]giadau dy gydwybod) a chwedi troi o fran yn glomen, a hedeg rhag ewinedd creulon y gwalch igelloedd diogel y Sainct; o faint fuasai llawenydd yr eglwys, oni buasai i elyn dynol ryw dy dynnu di allan oi mynwes hi! O fel y bua sai gobaith nefol yn calonni yr yspry doedd custuddiedig, buasit heb ddychwelyd fel y ci at y chwdfa! 2 Pet. 2. Yn awr rhoddi dy aelodau yn arsau anghyfiawnder i bechod a diafol Ni wrendi dy glustiau hyfrydlais dyscyblion Crist yn canu m [...]wl i Dduw, ond dadwrdd gwenheithwyr celwyddog yn canu dy fawl dy hun. ie yr wyti fel eb [...]l gwyllt yn rhedeg drwy faeusydd anwiredd, yn tybîed fod y fan lle ni bu yn selysach, ac fyth yn myned rhagddo. Canys gan ddirmygu dy wraig briod, ceraist wraig gwr arall, ac ynteu yn fyw; a hwnw, nid estron, ond mab dy frawd. Ac i Soddi dy warr galed yn ddyfnach, bwriaist arni ychwaneg o bwys euogrwydd, g [...]n i ti drwy hocced y fudrog, lâdd dy wraig dy hun, a gwr y llall, yw chymeryd hi attat. Pa wr duwiol wrth glywed y fath beth, nad ocheneid [...]ai ei ymyscaroedd ef? Pa eglwyswr a'r sydd ai galon yn union tuag at Dduw, na ddywed gyda'r prophwyd, pwy a rydd i' in pen ddwfr, Jer. 9.1. ac i'm lly gaid ffynon o ddagrau, fel yr wyiwn ddydd a nôs, am laddedigion fy mbobl? Nid oes diffyg cynghorion arnati, gan fod geniti athro sydd* ddyscawdwr [Page 114]hyawdl agos i Prydain oll. o frenin golch dy galon oddiwrth dy ddrygioni, ac na ddirmyga Dduw 'fydd yn dywedyd, Pan lefarwyf am genedl neu frenhiniaeth, y diwreiddiaf, y chwalaf, y tynnaf i lawr,Jer. 18.7, 8ac y difethaf, os y genedl honno y dywedais yn ei herbyn a dry oddi wrth ei drygioni, myfi a edifarhâf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi. Hefyd ynghaniad Deuteronomium,Deut. 32.28, 29, 30. cenedl heb gyngor a deall ydynt hwy, oh na baent ddoethion, na ddeallent, nad ystyrient eu diwedd. Pa fodd yr ymlidiei un fîl? ac y gyrrei dau, ddengmil i ffoi? Ac deuwch attafi bawb sydd yn llw ythog.Math. 11. Na fychana 'r prophwydi, na ninnau chwaith er ein gwaeled, y rhai ydym mewn mesur o ddiragrith dwywolder meddwl yn dal ar air y prophwyd,Esai, 56.10. rhag ein cael yn glwn mudion. Er nad wyfi mor gyflawn o rym i ddangos ei anwiredd i dy Jacob, ai becbodau i dy Israel,Mic. 3.8.etto cofiwn eiriau Solomon, "y neb a ddywedo wrth yr annuwiol,Dihar. 24.24, 25.cyfiawn wyt, y bobl ai melldithiant ef, ond ir neb a'i ceryddo y bydd go baith. Y brenin drwy farn a gadarnhâ y wlâd,Dihar. 29.4.12.ond os gwrendi ar gelwydd, ei holl weision fyddant anuwiol. Gwae y rhai a ddywedant am y drwg da yw, ac am y da drwg yw. gan osod tywyllwch am oleuni,Esai. 5.20.a goleuni am dywyllwch, y chwerw am felys, a melys am chwerw y rhai sydd ganddynt lygaid heb weled,Math. 13.15.a chlustiau heb glywed, ai calon wedi tywyllu. gan gwmwl têw eu drygioni. Na ddywedwch mae dychymygdychryn i chwi yr ydym ni, gan fod y prophwydi Sanctaidd oeddent enau Duw i [Page 115]ddynion, yn tystiolaethu gyda ni yn erbyn y cenfigeuus a'r gwargaled o'r oes hon. Canys d [...]ammau gan bob doeth, fod pechodau yr amser hwn yn lawer trymach na rhai 'r cynfyd;Heb. 10.28, 29. gan fod yr apostol yn dywedyd — yr un a dorrai gyfraith Moses a fyddei farw, pa faint mwy cospedigaeth y bernir headdu o'r hwn 'a fathrodd Fâb Duw. Pan ddywedodd Samuell wrth Saul,1 Sam. 13, 14. —ynfyd y gwnacthost, ni chedwaist orchymyn yr Arglwydd, ni Sais dy frenhiniaeth di. beth y wnaeth ef yw gyffelybu i fwrdwr a godineb, sef anwireddau 'r amser hun? hefyd — anufudd dod sydd fel pechod dewiniaeth, 1 Sam. 15.23. a throseddiad sydd eulunaddoliaeth, o herwydd it fwrw ymmaith air yr Arglwydd, ynteu ath fwrw ditheu ymmaith. Creffwch fod troseddiad yn ddelw addolieth. Am hynny na wenheithied yr anwiriaid hyn monynt eu hunain, am fod heb aberthu i Dduwiau'r Paganiaid, tra fônt fel môoch yn Sathru gemman Crist dan draed, eulyn addolwyr ydynt.2 Sam. 24.1.15. Pan rifodd Dafydd y bobl, darostyngwyd ef a lladdfa dengmil a thrugain o honynt. A daeth gair yr Arglwyd at Baasa brenin Israel gan ddywedyd,1 Bren. 16.1, 2, 4. — o herwydd i'm dy wneuthur yn flaenor ar fy mhobl Israel, a pheri o honoti iddynt fy nigio i ai pechodau, wele y own a fwytty yr hwn a fyddo marw o'r eiddo Badsa yn y ddinas, ac adar y nefoedd a fwytty yr hwn a fyddo mawr o'r eiddo ef yn y maes. Gwrandewch hefyd beth y fwgythiodd yr Arglwydd drwy enau Elias Sanctaidd yn erbyn Ahab brenin drygionus Israel,1 Brenli. 12.2.13.19. drwy ddichell pa un ai wraig, y gorthrumwyd Naboth wirion am ei winllan. — A leddaist i ac a feddiennaist hefyd? Yn y [Page 116]fan lle llyfodd y own waed Naboth y llyf own dy waed titheu hefyd. 1 Bren. 21.2.13.19. A gwybyddis yn siccr ir peth ddyfod felly. ond rhag i yspryd celwyddoc yngenau eich prophwydi chwi, eich hudo chwi fel y bu i Ahab, clywch eiriau 'r prophwyd Michea,1 Bren. 22.23. wele yr Argl. wydd y roddodd yspryd celwyddoc yngenau dy holl brophwydi hyn, a'r Arglwydd a lefarodd ddrwg am danati. Canys dir yw, fod yn awr athrawon llawn o yspryd gwrthwynebus, yn cyhoeddi eu Ewyllis lygredig eu hunain, yn hytrach na'r gwirionedd; ai geiriau yn dynerach nag olew, a hwynt yn biccellan. Psal. 55.21. Y rhai a ddywedant heddwch, heddwch, Jer. 6.14. er na bydd heddwch irrhai a barhânt yn eu pechodau.Esai. 57.21. Nidoes lawenydd ir annuwiol medd yr Arglwydd. Dywed Azariah wrth Asa, yr Arglwydd sydd gyda chwi, tra fyddoch gyd ag ef, ac os ceisiwch ef, chwi a'i cewch ef; ond os gadewch ef, yntef a'ch gedi chwitheu. 2 Cron. 15.2. Ac os prophwyd a geryddodd Jehosaphat am helpu brenin anghysiawn gan ddywedyd, ai cynorthwyo yr annuwiol, a charu 'r neb a gassá 'r Arglwydd a wnait ti? 2 Cron. 19.2. Am hyn digofaint oddiwrth yr Arglwydd sydd arnati: beth y wneir ir rhai a leffetheirir ai pechodau eu hunain? Camweddau pa rai sydd raid ini eu calâu, fel y dywed y Psalmwr, y rhai a gerwch yr Arglwydd casewch ddrygioni. Psal. 97.10. Ystyriwch eiriau 'r prophwyd Zechriah yr hwn a safodd oddiar y bobl, ac a ddywedodd wrthynt hwy oeddent yn gadel yr Arglwydd, fel y gwnewch chwithau yn awr, fel hyn y dywedodd Duw, pa ham yr ydych chwi yn troseddu gorchmynion yr Arglwydd? dian na ffynnwch chwi, Canys [Page 117]gadawsoch yr Arglwydd, 2 Cron. 24.20. am hynny yntef a'ch gedi chwithau. Medd Esai gwrandewch air yr Arglwydd tywysogion Sodoma, clywch gyfraith ein Duw ni pobl Gomorrah: Isai 10.13.15.16.19. na chwanegwch ddwyn offrwm ofer. Ond yr ydym ni yn awyddus yn derbyn yr offrummau y mae ein Arglwydd yn eu gwrthod. A thrachefn medd ef, pan weddiooh lawer ni wrandawaf. Ond dengis pa fodd y Cymodiff, ymlanhewch, bwriwch ymmaith eich drygioni, dysowch wneuthur daioni, ceisiwch farn, os byddwch Ewyllyscar, ac ufudd, daioni y tir a fwyttewch; Ond os gwrthodwch a chleddyf i'ch yssir. Gwrandewch, derbyniwch yr hwn sydd mor ddiragrith yn tystiolaethu beth fydd gobr eich da a'ch drwg. Ac nid fel eich bolerwyr gwenieithus y anadlant wenwyn i'ch clustiau. Gwae i chwi y rhai a gyfodwch yn foreu i ddilyn meddwdod,Esai 5.11.12, 13, 14, 24, 25.a arhoswch hyd yr hwyr, oni enynno y gwin chwi. Yn eich gwleddoedd y mae y delyn a'r bibell a'r gwin; ond am waith yr Arglwydd nid edrychwch, a gweithredoedd ei dwylaw ef nid ystyriwch. Am hynny y caeth-gludwyd fy mhobl, am nad oes ganddynt wybodaeth, ai gwyr anrhydeddus a newynwyd, ai lliaws a wywodd gan syched. Herwydd hynny yr ymhengodd uffern, ac yr agorodd ei Safn yn anferth, ac yno y discyn eu gogoniant ai lliaws, am iddynt dd [...]ystyru cyfraith Arglwydd y lluoedd, a dirmygu [Page 118]gair Sanct yr Israel. Er hyn oll ni ddychwelodd llid ein Arglwydd, ónd etto y mae ei law ef wedi ei hestyn allan; Clywch yr hyn y ddywed Jeremi wrth y bobl ynfyd, ai brenhinoedd ystyfnig, pa anwiredd a gafodd eich tadau chwi ynofi,Jet. 2.5, 6.gan iddynt ymbellhâu oddiwrthif, a rhodio ar ol oferedd, a myned yn ofer? ac ni ddywedant pa le y mae'r Arglwydd a'n dug ni i fynu o dir yr Aipht? mi a wrandewais, ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn,Jer. 8.6, 7.nid edifarhâodd neb am ei anwiredd gan ddywedyd beth a wneuthum i? pob un oedd yn troi yw yrfa megis march yn rhuthro ir frwydr. Y barcyt yn yr awyr a edwyn ei dymhorau, y durtur, a'r wennol a'r aran, a gadwant amser eu dyfodiad, eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr Arglwydd. Drachefn ein Arglwydd a ddywedodd am wrthod o honynt fy nghy fraith yr bon a roddais iddynt,Jer. 9.13, 14, 15.ac na wrandawsant ar fy llèf, na rhodio ynddi, eithr myned yn ol drygioni eu calon eu hun; am hynny mi a'i bwydaf hwynt y bobl hyn a wermod, ac ai diodaf hwynt a dwfr bustl. Am hynny na weddia dros y bobl hyn,Jer. 11.24.Canys ni wrandawaf yr amser y gwaeddant arnaf o herwydd eu drygfyd. Beth ynteu y wnaiff ein rheolwyr anhapus ni yr awr hon? Gommeddwyd gan Dduw ir ychydig y gawsant y fordd gûl, ac a adawsant y lydan, dywallt eu gweddiau dros y cyfryw ac y barhânt yn eu drygau. yn y gwrthwyneb pan droent at Dduw ai holl galon, nid allai Jonas beri i ddial ddescyn ar y Ninifeaid,Jonah 4. Ac medd [Page 119]yr Arglwydd yn Amos. Mewn tair o anwireddau Judah, ac mewn pedair ni throaf hwynt;Amos 2.4.5, 6.am iddynt ddirmygu Cyfraith yr Arglwydd, ac nas cadwasant ei ddeddfau ef; ond eu oferedd ai cy feîliornodd hwynt. eithr anfornaf dân i Judah, ac efe a ddifa Sylfeini Jerusalem. Mewn tair o anwireddau Israel, ac mewn pedair ni throaf hwynt; am iddynt werthu y Cyfiawn am arian, ar tlawd er pâr o escidiau. Gwrandewch fwgythion y prophwyd Zephaniah.Zeph. 1.14, 15, 16. Agos yw dydd mawr yr Arglwyd, agos a phry ssur iawn, sef llais dydd yr Arglwydd sydd chwerw. diwrnod llidiog yw 'r diwrnod hwnw, diwrnod trallod a chyfyngdta, diwrnod dinistr, ac anghyfannedd-dra; diwrnod tywyll a dû, diwrnod Cwmylau a thy wyllni, diwrnod udcorn, ac alarwm yn erbyn y dinasoedd Caeroc.Hag. 2.6.Ac Haggai. "Unwaith etto, escydwaf y nefoedd a'r ddaiar a'r môr ar sychdir. Yn awr hefyd edrychwch beth y ddywed y prphwyd Zechariah,Zech. 1.3.4. Dychwelwch attafi medd yr Arglwydd, ac mi a ddychwelaf attoch chwithau. Na syddwch fel eich tadau y rhai y galwodd y prophwydi o'r blaen arnynt, gan ddywedyd, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, dychwelwch oddiwrth eich ffyrdd drwg, ond ni chlywent, ac ni wrandawent arnaf. Mal. 4.1. Medd Malachi Sanctiaid wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, yn llosci megis ffwrn, a'r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd a fyddant Sofl, a'r dydd sydd yn dyfod ai llysc hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, fel nas gadawo iddynt na gwreiddyn na changen. Gwelwch hefyd fel yr ymadroddiff [Page 120]Job Sanctaidd ynghylch dechreu a diwedd yr annuwiol.Job. 21.7, 8, 9, 10, 12, 17, 18. Pa ham y mae 'r annuwiol yn byw, yn heneiddio, a'u hâd yn ol eu dymuniad? Eu tai sydd mewn heddwch allan o ofn, ac nid yw gwialen Duw arnynt hwy. Nid yw eu buwch yn erthylu; Cymerant dympan a thelyn. Ai nid yw Duw yn edrych ar weithredoedd yr anghrefyddol? ydyw; Canys diffydd Canwyll yr annuwolion, a daw dinystr arnynt hwy, a byddant fel sost ostaen gwynt, ac fel mân-us y gippiodd Corwynt. [...]zec. 9.8.9, 10. Pan oedd Ezeciel yn gwaeddi o herwydd lladd Israel, dywedodd yr Arglwydd wrtho, anwiredd ty Israel a Juda sydd fawr tros ben, a llawn yw y tir o gamwedd, wele fi, nid erbyd fy llygad, ac ni thosturiaf. A gair yr Arglwydd a ddaeth atto ef drachefn gan ddywedyd,Ezec. 14 13, 14. Hâ sâb dyn pan becho gwlad i'm herbyn trwy wneuthur Camwedd, yna yr estynnaf fy llaw arni, a thorraf ffon ei bara hi, ac anfonaf arni newyn, ac a dorraf ymmaith o honi ddyn ac anisail; pe byddei yn ei chanol y trywyr hyn, Noah, Daniel, a Job, hwynt hwy yn eu Cyfiawnder a achubent eu henaid eu hun yn unig medd yr Arglwydd.1 Sam. 2.30.Fy anrhydeddwyr a anrhydeda fi medd yr Arglwydd, am dirmygwyr a ddirmygir. Oh Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr Arglwydd,Galatnâd, 3.40.41.derchafwn ein calonnau, a'n dwylo at Dduw yn y nefoedd. Onid oes ynofi y peth oedd yn yr apostol i ddywedyd, mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddiwrth Grist dres fy mrodyr; Rhuf. 9.3. Etto gallaf ddywedyd [Page 121]o'm holl galon gyda'r apostol mewn lle arall,Phil. 1.8. — hiarethus wyf am donoch oll i fod yn ymyscaroedd Jesu Grist Yma o ran gwylder y gorphywyswn yn ewyllyscar fel un a ddelei o'r môr ir porthladd, oni bae fy mod i yn gweled gymaint mynyddoedd o yscelerder yn ymgodi yn erbyn Duw yn yr escobion a'r eglwyswyr o'n urdd ni. Y rhai sydd raid i mi eu llabyddio a cheryddon caledion, fel y byddont feirw i bechod, a byw i Dduw, ac na byddwyf euog o dderbyn wyneb. Ond dymunwn nawdd y rheini, buchedd pa rai yr wyfi nid yn unic yn ei ganmol, ond yn ei gyfrif yn well na holl olud y byd, ac yn deisyf bod yn gyfrannog o honaw. Y mae gan Prydain offeiriadau anoeth, a llawer o weinidogion digywilydd, y elwir yn fugeiliaid, a nhwy yn fleiddiaid parodol i lâdd eneidiau; yn rhag ddarbodi iw boliau eu hunain, ac nid i leshâd y gwerin. Yn Rhoddi esamplau o'r gwaethaf drwy ddrwg foddion, heb argyhoeddi 'r bobl oi pechodau, o herwydd eu bod nhwy eu hunain yn euog o'r unrhyw. Yn trais feddiannu Cadair Pedr, ac yn haeddu un Iudas fradwr. Yn edrych a golugon sarrug, ar y Cyfiawn tlodion fel ar nadroedd; ac yn perchi yr anwiriaid cyfoethogion fel angylion. yn fudion ac yn anfedrus ynghylch ordinhâdau 'r Apostolion, ond yn gyfarwydd ar achosion budol. Yn ymdreiglo mewn brunti pechodau anoddef; heb fod ganddynt deilyngdod athrawaidd, ond yr henw [Page 122]yn unig. yn anaddas i neb rhyw râdd eglwysig, yr hon ni ddylai neb ei chymeryd, ond rhai Sanctaidd, perffaith, a dilynwyr yr apostolion, a diar goedd, 1 Tim. 3.2. i ddywedyd yngeiriau athro 'r cenhedloedd. Pa fodd y gall y rhai nid ydynt gydnabyddus a ffydd, ac ni chymersant edifeirwch am eu pechodau, ymgodi i urdd eglwysig heb gyssegrledrad? Pan gaffont yr oruchafieth ymgryfhânt mewn chwantau Cybydd-dod a thruthullwch, heb neb a lefaso annod iddynt na'i hanwireddau hên, na'r newydd. O bobl anhappys, oni ddiengwch rhag y bleiddiaid rheibus hynny, fel y gwnaeth Lot oddiwrth gafod tanllyd Sodom? a chwi ddeillion, os y'ch arweinir gan y deillion, Math. 15.14. Syrthiwch ynghyd i ffôs uffern. Gwn nad yw'r escobion a'r henuriaid oll wedi eu diwyno a balchder ac aflendid, eithr bod rhai yn ddiwair, ac yn dda; etto cospwyd Eli a'r un fath farwolaeth ai feibion,1 Sam. 2.22, 24. er nad ydoedd ef ei hun yn treisio aberthau 'r Arglwydd. Pa un o honynt fel Noah ommeddodd ollwn gelynion Duw ir Arch, yr hon yn 'awr yw'r eglwys? fal y dangosid, na ddylai neb ond y diniwed a'r gwir edifeiriol fod yn nhy Dduw. Pwy gassáodd gynnulleidfay drygionus, Psal. 26.5. a chyda 'r annuwolion nid eisteddodd? pwy sydd yn bendithio yn unic y rhai a waredant y cyfiawn, ac ni chwenychant eiddo arall, fel y gwnaeth Melchisedech? Gen. 14.18. Pa un fel y Esai y glanhawyd ei wefusau a thân yr allor, wedi ei gyffes ostyngedig?Esai. 6, 7, 8. Pa un o honoch chwi y rhai ydych yn Cyffio yn yr eisteddle weinidogaethol, wedi eich bwrw allan o gyngor yr anwiriaid, a'ch curo [Page 123]fel yr apostolion Sanctaldd,Act. 5.34.40. a gyfrifwyd yn deil wng i ddioddef ammarch o ochos Crist y gwir Dduw? Ar ol rhwymau, carcha [...]au, a llong ddrylliadau, a gwialenodiau, a pheryglon lladron, llif-ddyfroedd, cenhedloedd, Juddewon, a gau apostolion, 2 Cor 11.23, 26, 28. ar ol newyn ac ympryd, ac anhunedd, a gofal tros yr eglwysi, a llafur yn pregethu 'r efengyl, fely llestr etholedig. Pa un o honoch chwi fel y merthyr Sanctaidd Ignatius escob Antiochia, ar ôl gweithrediadau rhyfeddol yn-Ghrist; er ei dystiolaeth ef y salwyd gan lewod? wrth glywed ei eiriau ef pan dducpwyd ef i ddioddef, ni thybiwch eich hunain yn Gristnogion canolig, chwaethach gwei. nidogion mewn Cyffeiybieth iddo ef. Canys dywed yn y llythyr a anfonodd ef at eglwys Rufain; Yr ydwyf yn ymdrechu aganiseiliaid ddydd a nôs O Syria hyd Rufain, ar fôr ac ar dir, a deg o lewpardiaid sef milwyr yn fy ngwilied, y rhai a ymgreulonant wrth fy nghymwynâsau, ond dyscir fi yn fwy wrth eu di-hirwch hwynt, ond ni'm cyfiawnheir wrth hyn. Pa bryd y daw'r bwystfilod iachusol y baratowyd i mi? pa bryd y gollyngir hwynt? pa bryd y bwyttant fy nghnawd i? os arbedant fi, fel y gwnaethant a rhai, mi ai cymmellaf hwynt i'm llyncu: myfi a ymhyrddaf fy hun arnynt hwy. rhoddwch genad i mi, gwn beth sydd orau ar fy llês, yn awr yr wyfi yn dechreu bod yn ddyscybl i Grist: ym maith a gwyn ddynol, fal y byddwyf deilwng i gaffael Jesu Grist. gosoder arnafi bob Cospedigaeth allo'r diafol ei ddychymyg; y tân, y groes, anifeiliaid, tyniad fy escyrn, drylliad fy aelodau, [Page 124]am y byddwyf deilwng i fwynhâu Jesu Grist. Pa un o honoch chwi fel Polycarpus bugail Eglwys Smyrna, a hiliodd y bwrdd yn addfwyn i rhai oeddent yn ei gyrchu ef ir tân er cariad Crist? ac a ddywedodd y rhoddid iddo allu goddef angerdd y tân yn ddiyscog heb ei hoelio wrtho. Pa un o honoch chwi y gadwodd y rheol apostolaidd mewn Cythrybliadau Gormesdeyrn, sef y dylid ufuddhâu i Dduw yn hytrach nag i ddynion. Act. 4, 19. Am hynny gwrandewch ymadroddion ein Arglwydd, ai brophwydi yn erbyn bugeiliaid diog, anonest, amherffeth, fel i'ch piger ai piccellau hwynt er mwyn eich iachau. Condemnwyd Eli yr offeiriad yn Silo, eisieu iddo mewn Zêl Duw iawn geryddu ei blant, y rhai a laddwyd yn yr un diwrnod. Ac os digwydd y fath bethau i rhai a geisiant amendio eu deiliaid a geiriau heb gôsp, beth y wneir i rhai Sydd yn tynnu eraill i ddrwg, ac yn eu hannog? [...]hod [...]es, Eli senn yw [...]ibion. 1 Sam 2, 23, 24. Medd esai, yr Arglwydd sy yn Sefyll i farnu y bobloedd. yr Arglwydd a ddaw i farn a henuriaid ei bobl ai tywysogion: Canys chwi a borasoch y winllan, anrhaith y tlawd sydd yn eich tai. yr offeiriaid a gyfeiliornasant drwy ddiod gadarn▪ y byrddau oll sy lawn o chwydfa,Esai. 3.13, 14. ac pen. 28, 7, 8, 14, 15.18.a budreddi heb lê glân. Am hynny gwrandewch air yr Arglwyd ddynion gwatwarus; llywodraethwyr y bobl hyn y rhai sydd yn Jerusalem, am i chwi ddywedyd gwnaethom ammod ag angau, ac ag uffern y gwnaethom gyngrair: pan ddêl ffrewyll lifeiriol ni ddaw attom ni, Canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd, [Page 125]a than ffalster y llechasom. y cenllysc a yscuba noddfa celwydd, â'r dyfroedd a foddant y lloches: A diddymir eich ammod ag angau, a'ch Cyngrair ag Uffern ni saif; pan ddèl y ffrewyll lifeiriol byddwch yn sathrfa iddi. A thrachefn medd yr Arglwydd, o herwydd bod y bobl hyn yn nessau attaf ai genau, ac yn fy anrhydeddu i ai gwefusau, a phellbâu eu Calon oddiwrthif; am hynny wele fi yn chwanegu gwneuthur yn rhyfedd ymysc y bobl hyn, sef gwrthiau a rhyfeddod.Esai. 29, 13, 14.Canys difethir doethiueb eu doethion hwynt a deall eu rhai deallgar hwynt a ymguddia. Jer. 2, 8, 9. Gwrandewch beth y ddywed y prophwyd Jeremi, wrth y bugeiliaid anoeth, yr offeiriaid ni ddywedasant pa lê y mae 'r Arglwydd? a rhai sy yn trino y gyfraith nid adnabuant fi; y bugeiliaid hesyd a droseddasant im herbyn, oblegyd hyn mi addadleuaf a chwi etto medd yr Arglwydd,pen 5, 30, 31.ie dadleuaf a meibion eich meibion chwi. A pheth erchyll y wnawd yn y tir, y prophwydi a brophwydant gelwydd, yr offeiriaid hefyd ai canmolant, a'm pobl a hoffant hynny: etto beth a wnewch yn niwedd hyn? Wrth bwy y dywedaf, a phwy a rybuddiaf fel y clywant? wele eu clust hwy sydd ddienwaededig, ac ni allant wrando: wele dirmygus ganddynt air yr Arglwydd,pen 6.10, 12.13.ac ni dderbyniant ef canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlâd medd yr Arglwydd: oblegyd o'r lleiaf o honynt hyd ymwyaf pob un sydd yn ymroi i gybydd-dod, ac or prophwyd hyd yr offeiriad pob un sydd yn gwneuthur ffalster.
Cynorthwyant ddwylo [Page 126] y drygionus, pen. 23.14, 15, 17, 19, 20. fel na ddychwel neb oddiwrth ei ddrygioni. Gwnaethpwyd hwynt oll i mi fel Sodoma, ai thrigolion fel Gomorrah. Am hynny fel hyn y dywed ein Arglwydd wrth y prophwydi, wele mi ai bwydaf hwynt a wermod, ac ai diodaf hwynt a bustl. Canys dywedant wrth fy nghablwyr bydd i chwi heddwich, ac wrth bob un sydd yn rhodio yn ol anwiredd ei galon ei hun ni ddaw arnoch niwed. Wele Corwynt llidiawgrwydd yr Arglwydd aeth allan, a themestl angerddol a Syrth ar bennau y drygionus, digofaint yr Arglwydd ni ddychwel, nes iddo gwplâu meddwl ei galon. Joel Sanctaidd hefyd wrth gynghori yr offeiriaid esceulus, a galaru am golled y bobl herwydd eu pechodau, a ddywedodd, deffrowch feddwyr, ac wylwch, ac udwch holl yswyr gwin, canys torrwyd hyfrydwch oddiwrth eich min. Joel. 1.5. wyled yr offeiriaid gweinidogion yr Arglwydd, a dywedant, arbed dy bobl o Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o'r cenhedloedd arnynt, pen. 2.17. fel na ddywedont ymhlith y bobloedd pa lê y mae eu Duw hwynt? Ond ni wrandewch chwi ar y pethau hyn, ond ar y pethau a ddigiant Dduw yn fwy. i chwi y perthyn gair yr Arglwydd yn Amos, Caseais a ffieiddiais eich gwyliau; ac nid aroglaf yn eich Cymmanfâoedd. canys er i chwi offrymmu i mi boeth offrymmau, a'ch offrymmau bwyd, ni fyddaf fodlon iddynt.Amos 5.21, 22. ac pen. 8.11, 12.Canys wele yr dyddiau yn dyfod medd ein Arglwydd, yr anfonaf newyn ir tîr, nid newyn am fara, na syched am ddwfr, ond am wrando geiriau 'r Arglwydd. a ‘Llwyr y cyflawnwyd hyn yn-Ghymry.’ [Page 127]hwy a wibiant o'r gogledd hyd y dwyrain i geisio gair ein Arglwydd, ac nis cânt. Ac medd Micah. Llefant ar yr Arglwydd,Mic, 3.4.6.ac nis ettyb hwynt, efe a guddia ei wyneb oddiwrthynt y pryd hwnw, fel y buont ddrwg yn eu gweithredoedd. Yr haul a fachluda ar y prophwydi, a'r dydd a ddua arnynt. Ac medd Zephaniah. Offeiriaid Jerusalem a halogasant y cyssegr,Zeph. 3.4.5.gwnaethant yn Sceler yn y gyfraith. yr Arglwydd cyfiawn a ddwg ei farn i oleuni yn foreu. Ac yn Malachi, Mal. 1, 6, 7, 14. Chwi offeiriaid y rhai ydych yn dirmygu fy enw, wrth offrwm ar fy allor fara halogedig, melltigedig yw y twyllodrus, medd Arglwydd y lluoedd▪ Ac yn Ezeciel,Ezec. 13.18▪ ac pen. 22.26."Gwae y wniant glustogau tan holl benelinoedd i ddymchwelyd eneidiau. ei hoffeiriaid a ddirmygasant fy nghyfraith, ac a halogasant fy mhethau Sanctaidd: ni wnaethont ragor rhwng cyssegredic a halogedic, ac ni wnaethont wy bod rhagor rhwng yr aflan a'r glan. Cuddiasant hefyd eu llygaid oddiwrth fy Sabbothau. Gwelwn beth y ddywed gwneuthurwr ac achubwr y byd; chwi yw halen y ddaiar, eithr o diflafodd yr halen a pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim, onid yw fwrw allan, ai sathru gan ddynion. Chwi yw goleuni y byd.Math. 5.5 13.14.19. Ond pa un o offeiriadau yr oes hon sydd yn gyrru ymmaith dywyllwch? le oni wnaeth eu pechodan dûon hwynt y fath nôs niwlog drwy'r holl ynys, ac a beriff i bawb agos golli'r iawn ffordd. Pwy bynnag a dorro un o'r gorchmynion lleiaf, ac a ddysco i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas [Page 128]nefoedd. Pa un o honoch Sy'n ystyried y peth a ganlyn? sef pa fodd ydywedi wrth dy frawd gad i mi fwrw allan y brycheuyn o'th lygad, ac wele drawst yn dy ly gad dy hun? Mat. 7, 4, 6. na rodawch y peth sy Sanctaidd ir Cwn, ac na theflwch eich gemmau oflaen y môch. Gwae chwi ragrithwyr sydd yn cau teyrnas nefoedd, Lu. 11, 52. nid ydych yn myned i mewn eich hunain, nag yn gadel i eraill fyned i mew a; gwaed pa rai a ofynnir ar eich dwylo chwi yn nydd y farn. Dylai pob dyscawdwr debygu i Paul, yr hwn nis gallai dim ei wahanu oddiwrth garsad Crist, Rhuf. 8, 35 na gorthrumder, nag ymlid na chleddyf. ond yr ydych chwi yn goddef llawer er mwyn gwneuthur drygioni a digio Crist. Darllenwyd i chwi wrth dderbyn urddau, chw▪ chwi ydych rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl Sanctaidd, pobl briodol: fel y mynegoch rinweddau yr hwn a'ch galwodd allan o dywyllwch yw ryfeddol oleuni ef▪ Ond nid ydych chwi yn unic heb fynegi rhinweddau Duw,1 Pet. 2, 9. eithr yn peri [...]r anghredadwy eu dirmygu drwy eich drwg fucheddau chwi. o elynion Duw ac nid ei offeiriaid ef! o fradwyr ac nid dilynwyr yr apostolion Sanctaidd; gwrthwynebwyr Crist, ac nid ei weinidogion. Gellid roi i chwi senn glaiarach, ond ni leshâ teimlo briw pwdr yn esmyth, y bo rhaid ei Serio a thân. clywsoch hefyd y rhaid ir diaconiaid fod yn honest, 1 Tim. 3, 8.9 nid yn ddau eiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budr elwa: ond yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bûr. Ond troir hyn yn y gwrthwyneb, gan fod y gwyr eglwysig yn anonest, yn ddau eiriog, yn feddwon, [Page 129]yn budr elwa, yn dala anffyddlondeb mewn cydwybod amhur. clywsoch hefyd yn y dydd hwnw, (pryd y buasal unionach eich llusco chwi i garchar i'ch cystwyo, na'ch gollwn ir offeiriadaeth) ir Arglwydd ddywedydd wrth Pedr am ei gyffesse, Gwyn dy fyd ti Simon, Math. 16.17, 18. canys nid cig a gwaed a ddatcuddiodd i ti hyn; ond fy Nhâd ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys. Ond yr ydych chwi yn gwadu Crist a'ch gweithredoedd yn lle ei gyffessu ef.Math. 7.26. ac ni chydweithia Duw a chwi i adeiladu ar y tywod, yn ol y gair,Hosh. 8.4. hwy a wnaethont frenhinoedd ac nid trwofi. Addawyd i bob gweinidog Sanct. aidd, Pa beth bynnag arwymech ar y ddaiar, a fydd rhwymmedig yn y nefoedd, a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaiar a sydd wedi ei ryddhâu yn y nefoedd. Ond pa fodd y rhyddhewch chwi beth, fel y byddo wedi ei ryddhâu yn y nefoedd, a chwi eich hunain wedi eich cau allan o'r nefoedd am eich pechodau? a chwedi eich gefynnu a rhaffau anfad anwireddau,Dihar. 5.22. a rhaffau ei bechodau y rhwymir pob un. Pa fodd y rhwymwch beth ar y ddaiar, mal y byddo rhwymedig uchod, a chwithau wedi eich attal gan eich pechodau, fal nas galloch escyn i fynu, eithr descyn ir carchar uffernol? Ceisiwch un astyllen edifeirwch ar ol llong-ddrylliad, fel y diangoch i dir y rhai byw; ac y troer oddiwrthych ddigofaint yr Arglwydd: yr hwn a ddywed yn drugarog, nid wyf yn ewyllysio marwolaeth pechadur, ond yn hytrach iddo droi a byw. Yr holl Alluog, Duw pob diddanwch a thrugaredd, a gadwo yr ychydig fugeiliaid da oddiwrth bob niwed, [Page 130]ac ai gwnelo yn freiniol o'r ddinas Gaer Salem nefol. Ir Tâd, ar Mâb, ar yfpryd glân y by ddo gogoniant yn oes oesoedd, Amen. Yma y terfyna Gildas. Wrth hyn y gwelwn gael o'r Britaniaid yr unrhyw rybuddion, ac y gafas yr Israeliaid gynt oflaen eu caethiwed, ac ynghylch yr un modd y gwrthodasant hwynt, ac ynghylch yr un fath gustudd a ganlynodd; ac nid heb ei haeddu. yr achos amlwg oi destryw ydoedd hollhaul bechaduriaeth pob grâdd ar ddynion, Sef barnwyr, eglwyswyr, a chyffredin. a'r ymlygriad y fagodd oddiwrth ymbleidiau yr Arriaid a'r Morganiaid. Pan gymerodd ymddadlau opiniwnus lê pregethau iachus,1 Tim. 6.3, 4. parasant lid yn lle duwioldeb. Aml ryfeloedd hefyd a ostegasant gyfreithiau dinasol ac ysprydol; ac y wnaethant bechaduriaid yn hyfach: a ffrwythlondeb y tîr ai gwnaeth yn wresoccach. Y Britwn fel Jeshurun deth yn frâs, Deut. 32.15. ac a wingodd, pwyntiodd, yna efe wrthododd Dduw yr hwn ai gwnaeth. Am hynny cafodd ei gystwyo, a chollodd y wlâd a halogodd. Ac ni wnaeth Arglwydd y winllan mor Cam fwrw allan denantiaid aniolchgar. Yr hwn yn ei ddoethineb ai gyfiawnder a ganhiadodd ir un fath beth ddigwydd mewn llawer o wledydd eraill ynghylch yr un amser, gan laccio ffrwyn cenhedloed y gogledd: y rhai oeddent bob amser pan lanwent eu gwledydd oerion eu hunain, yn deirion am ymhyrddu i leoedd cynhesach. Heidient am bennau rhai eraill, pan lenwent eu cychod eu hunain. y cyfryw oedd y Pictiaid y ddaethant ir Albain. Y Gothiaid ar Pandaliaid a ymgyrchasant ir ltal, ar Affric, a'r Hispaen ychydig [Page 131]cyn yr amser hwn. a'r Lwmbardiaida breswyliasant yn yr ltal. Ar Pfranconiaid ynghylch hyn a at hosant yn Gallîa, ac ai galwasant hi Ffrainc. Ac ychydig gwedi daeth y Twrciaid a'r Tartariaid i gymeryd meddiant o'r gwledydd gorau yn yr hollfyd, Sef Asia leiaf, Arabia, yr Aipht, a Syria. Ymhob oes torrodd Duw genhedloedd pechadurus i lawr fel glaswellt. a hynny yw ymddiffyn ei hun ai anrhydedd,Psal. 37, 2.38. yn erbyn pechaduriaid afreolus. Pan addfedeu eu hanwireddau trosseddwyr a gyd ddestrywid. Weithiau drwy'r elfennau, sef drwy ddwfr yn amser Noah, a thrwy dân yn amser Lot. Weithiau drwy ddynion megis y cananeaid yn amser Joshua; a'r lsraeliaid drwy'r Assyriaid, ar Caldeaid. ie yn y Cynfyd pan oedd llawer o'r ddaiar vn wâg, a digon o lê i bobl i fyw wrth ystlys eu gilidd, etto difethodd meibion Esau yr Horiaid a thrigasant yn eu lle hwynt. Ar Ammoniaid a: ddifethasant y Zamzumiaid, Deut. 2.12.21, 23. ac a drigasant yn eu lle hwynt. ar Caphtoriaid a ddifethasant yr Asiaid [...]ys modd cyntaf difwynwyd y ddaiar gyd a'i thrigolion, ond yr ail modd digwyddodd dialedd i bobl yn unig: a bu'r tîr diangol, fel y rhoddai gynhaliaeth i genedl arall y brisiai dros drô yn usuddach yw Duw.
Yr achlysur o wanhychiad ein gwlâd ydoedd theoliad y Rhufeiniaid arnilai hymadawiad hwy o honi i ddiffyn yr ltal▪ Megis mewn dy chryn pan gilio'r gwaed o'r wyneb a'r aelodau at y galon yw diddanu hi, digwydd glesni a llescedd ynddynt hwy. Ni adawodd ei hên feistraid fawr oi hôl, ond amryw eiriau Ladin yn gymyscedig a'n iaith [Page 132]ni. Aphlaniad y Britaniaid yn Llydaw a eiddilodd lawer ar eu cenedl gartref: ac ai Cymwysodd i dderbyn yr un mesur gan y Saeson ac y roddasent hwythau ir Letafiaid.Math. 7.2. Anghydfod y penaethiaid hefyd a agorodd adwyau i ollwn aflwydd ir ynys. Pan aeth Fortigern duwc cerniu yn frenin drwy frâd gwaedlyd, rhoddodd fwy ymddiried yn y Saeson y gyflogasai, nag yn ei ddeiliaid ganedigol. Gor. fu ir brenin Arthur ryfela ai wladwr Melfas tywysog gwlâd yr hâf, i ddial trais ei frenhines Gwenhwyfar. A chwedi iddo ynnill deuddeg brwydr oddiar y Saeson, trwy anfodlonrwydd ei nai Modred cafodd ei farwolaeth. A chyda'g ef Syrthiodd llwyddiant ei genedl;Math. 12.25. a'r deyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddwyd. Hefyd tra yr oedd Prydain yn wan, yr oedd hi yn brydferth; ai glendid y barodd i gymaint o ddieithraid ei threisio. Ni chafodd lonydd gan yspeilwyr wrth fod ei thîr mor gyfoethog. ffrwythlondeb y pren afalau y wnaiff ergydio cymaint o bastynau atto, yn enwedig os bydd heb gae yn ei gylch.Job. 1.10. aeth ei hymddiffynseydd fel ffigyswydd ai blaenffrwyth arnynt, pan yscydwyd hwynt, Nahum 3.12. Syrthiasant yn safnau y bwyttawyr. Pe buasai yn addoli Duw yn ddyladwy, ni chwsai neb chwenych moi thir, er anam. Exod. 34.23, 24. led ei gwr-rywiaid. Ac os buasai rhuthr iddi, creuasai'r Arglwydd amddiffyn ar ei holl ogoniant. Esai. 4.5. Ond wedi iddi ddigio Duw, aeth ei golud hi yn obrwy ir Sawl ai Lladdent hi. Plannasei'r Arglwydd winllan (Sef ei eglwys) ynddi, Esai. 5.2, 5, 6, 7. a disgwilioddiddi ddwyn grawnwîn o weithredoedd grasol, a hitheu a ddûg rawn gwylltion o foesau drwg: Sef [Page 133]trais yn lle barn, ac yn lle cyfiawnder gwaedd. Am hynny tynnodd ymmaeth ei chae amdiffin fel y porid hi, a thorrodd ei magwyr, fel y byddai yn Sathrfa: a gosododd hi yn ddifrod, ac i'r cwmylau y gorchymynnodd na lawient law arni, gan attal oddiwrthi neu brinhâu ei ordinhâdau a moddion grâs. Cyn pen nemawr ar ol yscrifen Gildas bu agos i blâ elwid y Gall felen a dibennu gweddillion y Britaniaid. y rhai wedi hynny a gollasant Gaerloiw ar Bath,Oed Cr. 586. ar cwbl o orllewin Lloegr (oddieithr cerniu.) A delèodd y Saeson y grefydd Grystnogol, a throesant yr Eglwysydd yn demlau eulynnod Paganaidd, drwy eu harglwythiaethau oll. Ac er i Awstin y monach, a phregethwyr eraill ddyfod o Rufain, a throi llawer o'r Saeson at broffesse y grefydd Gristnogol; etto ni chafodd y cymry fawr esmwythâd, o herwydd na chynorthwyent bregethiad yr efengyl ir Saeson, ac na dderbynient ddefodau Eglwys Rufain, oeddent wedi amlhâu y pryd hwnw. Yn enwedig cythrybliodd y ddadlloerig (sef pa ddydd o'r lleuad y cedwid y pasc) lawer ar y Britaniaid ar Gwyddelod. Dilynai ein cenedl ni arfer yr Asiaid. a chadwai 'r Gwyddelod yr un tymhorau ac oedd arferol ymysc eglwysydd y Gorllewin, a Rhufain yn amser Padrig. Ond talm gwedi sef yn y chweched oes, newidiodd eglwys Rufain ei harfer gyntaf i ddilyn defod Alecsandria, a chymerch boen i droi eraill i gydffurfio a hi. Ynghylch hyn gorescynnodd y Saeson Gaerlleon ar Ddwfrdwy, a lladdasant un cant. ar. ddeg o fynych Bangor îs y coed. Ond rhwystrodd [Page 134]Brochwel tywysog Powys iddynt ddyfod tros ddwfrdwy, nes i Cadfan brenin Gwynedd, a Bledrus tywysog Cerniu, a Meredyth brenin Deheubarth ddyfod y w sweewr ef. Pryd yr ymladdasant a'r Saeson,Blwydd. yr Argl. 617. ac a iaddasant o honynt fwy na mîl, a gyrrasant y lleill i ff [...]i, a dialwyd arnynt waed y mynych. Ynghylch blwyddyn yr Arglwydd chwe chant a phedair a thrugain, amser hâf, digwyddodd tywyllwch mawr oddiwrth clip ar yr haul, ar ol hynny gwelwyd y nesoedd yn danllyd, ac yn nechreu'r Cynhaiaf gwnaeth plâ tra marwol ddifrawd angerddol ar drigolion Prydain a'r Jwerddon. Ond arbedodd y plâ hwn a'r gall felen y Pictiaid a'r Scotiaid yn yr Albain, er iddynt fod yn dôst wrth y Britaniaid. Cydnabyddwn ddoethineb, a daioni, a chyfiawnder Duw, yn ei farnedigaethau ar ein henafiaid ni. Canys gadawai gryn ennyd rhwng y dyrnodiau y roddai iddynt, fel y caent amser i ystyried eu ffyrdd, ac i droi oddiwrth eu hanwireddau, er y naill gerydd, cyn dyfod y llall. Ac felly y gwnaeth ef ar Israeliaid pan ddygn ddigiod ef wrthynt; gan adel Caethiwo Samaria yn gyntaf, ac ymhen talm o flynyddoedd gwedi,2 Bren. 18.9. ac pen. 24.11. ac pen. 25.4. y caethiwyd Jerusalem ar ddwy waith neu dair, ar Custudd olaf, fyddai drymmaf. wedi i weddillion y Britaniaid lynu encyd mewn dalfau yng-ogledd Lloegr o Cumbria i Glascu rhwng y Saeson, a'r Pictiaid, megis rhwng y rhísc a'r pren; ynghylch y flwyddyn o oedran yr Arglwydd saith gant a thrugain, ymosododd eu gelynion o'u dautu i warchae ar ddinas Alcluid, lle gwaethant ymroad iddynt drwy guttundeb. A [Page 135]chan eu bod fel yd rhwng dau faen melin, aethant yn wynn wrth eu dryllio, a rhoddasant eu bryd ar wasnaethu Duw yn fanylach, ac amlhâsant yn y monachlogydd. Ac er iddynt gadw eu crefydd, collasant eu iaith, canys Saesonaec y Sieryd y Cumbriaid yn awr. Yn yr un oes cyfyngwyd ar Gymry hefyd. Canys gwnaeth Offa Sais, brenin Mersia, glawdd mawr dwfn o fôr i fôr, yn derfyn rhwng Cymry alloegr.Bl. yr Arg. 777. y pryd y cwttogwyd terfynau Powys a deheubarth. Yr ydoedd Cymry wedi ei rhannu yn dair talaeth; sef Gwynedd, ac yn Aberffraw ym Môn yr oedd llys y tywysog, a Deheubarth, ac yn Ghaerl yrddin a Dinfawr y Cartrefai'r tywysog. a Phowys, ac yn Mathrafal y Preswyliai'r tywysog, wedi colli 'r Mwythig. Tywysog Gwynedd oedd bennaf, a'r ddau eraill i dalu teyrnged iddo ef. [...] 809. a gorfu i Gerniu fyned dau jau 'r Saefon. ynghylch oes gwr gwedi teyrnasodd Alfred yn Lloegr. Anfonodd ef i Gymry am ddau wr dyscedig yw hyfforddi ef i Seilio yscolion yn Rhydychen, Sef Asser, ac Joan D'erigena o Fynyw: yr hwn wedi iddo studio gartref, aeth ir Athen i gael ychwaneg o gydnabyddiaeth ag yscolheictod.Bl. yr Arg. 872. a phan ddychwelodd ef adref, cyrchwyd ef at Alfred i ddechreu dysceidiaeth yn Rhydychen. yr Alfred hwn a drôdd gyfreithiau Dwsnwal Moelmut brenin Prydain o'r Gymraec ir Saesonaec, ac ai gosododd yn rheol yw ddeiliaid mewn rhan o Mersia, o'r tu dehau ir Thames, a pharhâodd hynny hyd amser Edward y Cyffesswr. Ynghylch wyth mlynedd a thrugain gwedi y rheolodd Howel dda Gymry oll. Ac am ei fod ef yn [Page 136]wr crefyddol,Blwyddyn yr Argl. 940. ac yn ceisio gwellhâu ei wlâd, casclodd ynghyd eglwyswyr a Phendefigion cymry i ddiwygio 'r gyfraith, gan ddiddymu pethau afreidiol, ac esponi pethau ammheus, a chadernhâu pethau iachus. Y mae ei gyfraith ef yw gweled etto yn Gymraec, ac yn Ladin, a bu mewn grym drychant a deugain o flynyddoedd, nes dwyn y Cymbry yw rheoli wrth gyfraith Loegr. Wedi ir Normaniaid gwncwerio Lloegr, a chael tiroedd pennaethiaid y Saeson, blysiasant Gymry hefyd, a chymerasant bob âchlysur i ymhyrddu iddi. Yr hyn fu haws iddynt ei wneuthur, o herwydd yr ymrysonau cenfigenus oedd rhwng y blaenoriaid Cymre [...]g yn eu mysc eu hunain.William Rufus. Yn amser Gwilym Gôch cyflogodd Jestyn Arglwydd Morganwg weision y brenin yw gynorthwyo ef i ryfela yn erbyn tywysog Deheubarth;1091. yr hyn a wnaethant hwy yn gefnog, gan lâdd y tywysog ag Jestyn hefyd, a chymeryd ei arglwyddiaeth ef iddynt eu hunain, yr hon a ddaliasant hwy, a'u etiseddion rhag llaw. ynghylch yr un amser ynnillodd y Normaniaid Arglwyddiaeth Brecheiniog, a meddianasant y wlâd: yr un môdd y gwnaethant a Dyfet, sef Swydd Penfro, ac Aberteifi, a Phowys, a Rhywonioc, a Tegengl, a glan y môr o Gaer lleon ar Ddowrdwy i Gonwy. gan eu gorescyn a'r cleddyf, ac adeiladu cestyll yw Preswylio'n ddiogelâch. ond nid allai'r Cymry oddef y gormesiaid; am hynny yn fynech Cyfodasant mewn arfau yw gyrru ymmaith. yr hyn a gyffrôdd y brenin [Page 137] William Rufus i ddyfod yn eu herbyn ai holl allu ddwywaith yn filain, a gwaeddodd y gorthrumedigar Dduw yn daer, ac a gawsant eu gwaredu na lwyr ddifrodwyd hwynt. er hynny anghofiant law Dduw drachefn, ac yspeilia 'r penaethiaid eu gilidd yn ddicheflgar, ac yn waedlyd, a threisiant wragedd. Ac wrth glywed eu bod mor afreolus, tyngodd y brenin Harry y Cyntaf o'r henw, nas gadawai un byw yngwynedd, na Phowys, heb eu llwyr ddiffetha: a bwriadodd ddwyn pobl eraill i gyfanneddu yn eu llê hwynt. ir pwrpas hwnw Cyfododd holl allu Lloegr, a'r Albain, a gosododd allan dair byddun ar un-waith yn erbyn Cymry.Blw. yr Argl. 1113. un tua 'r Deheubarth, a'r llall tua Gwynedd dan law brenin yr Albain, ar drydydd y arweiniai 'r brenin ei hun. Ond ymgasclodd y Gymbry ir creigiau a'r coedydd, ag ymgadwasant nes iddynt heddychu a'r brenin. Ond wedi ei farw ef, yn amser y brenin Stephen rhoddasant gais ar guro 'r dieithriaid allan oi gwlâd, gan lâdd o honynt dair mil mewn brwydr dôst. Daeth y brenin Harry yr ail a byddun grêf yn eu herbyn nhwy Yn drallidiog, a gwersyllodd ar fynydd Berwyn. Ymgasclodd y Cymbry ynghyd ir coedydd a'r uchelderau, a Chwaraesant oddiyno mor ddyfal nad allai dim llunieth ddyfod at wersyll eu gelynion. a syrthiodd glaw mor angerddol, oni ymroddodd y brenin i ddychwelyd tua Lloegr heb wneuthur fawr niwed. Yn amser y blinderau hyn mentrodd Madoc,1166. un o feibion Owen [Page 138]tywysog Gwynedd, i geisio gwlad arall ar amcan hyd y môr mawr tua machlud haul: a chwedi gweled gwledydd hyfryd heb drigolion, dychwelodd adref, a llanwodd ddeg o longau a'r cyfryw oi genedl ag ydoedd chwanog i fyned lle caent heddwch;1170. athybir iddynt wladychu yn Mecsico. O herwydd Pan ddat cuddwyd America ir Europeaid yn yr oes ddiweddaf aeth heibio, cafwyd yno eiriau Cymreig. Canys pan ymddiddanont ynghyd dywedant wrth eu gilidd, gwrando. ac y mae yno aderyn brith a chraig y alwant Pengwyn. ac ynys a elwir Corroeso, a Phen Bryton; ac afon elwir Gwyndor. Er maint oedd hel. bul Joan brenin Lloegr oddiwrth y Pab, a'r Arglwyddi; etto cymerth hamdden i ddyfod ddwy waith tua Gwynedd a thorfoedd maurion. Ond Cadwodd Llywelyn ap Jorwerth y tywysog ei bobl ai da yn yr eryri,1211. nes Cuttuno a'r brenin, gan roddi iddo Swydd y fflint, ac ugain mil o gattel. Ond pan welodd Llewelyn fantais gwrthryfelodd eilwaith, ac ynnillodd y Mwythic. a lloscodd y brenin Groesyssallt, a thalm gwedi, lloscodd y tywy sog hi hefyd. Cyfododd yng-Hymry benadur dewr ar ei ol y nteu, sef Llewelyn ap Gryffyth, ac a geisiodd fwrw ymmaith iau'r Saeson, ac a gadwoddy maes a dengmil o wyr, gan guro ei elynion yn fynech. Yn ei amser ef hi lawiodd waed yn amryw fannau yn-Ghymry, ac ymhen pum mlynedd gwedi lladdwyd y tywysog Llewelyn, a darfu i frenin Lloegr sef Edward y Cyntaf lwyr ddarostwng y Cymbry,1282. Galarnad. 3.9. a gosod dieithraid arnynt yw Cystwyo, a chaeodd eu ffyrdd a cherrig [Page 139]nâdd, gan adeiladu cestyll cryfion yn Gwynedd, sef ynG wonwy, Caer, Narfon a Beumaris i lochesu gorthrumwyr. a gosododd ei Arglwyddi yn Nimbech, a Rhuthyn, a lleoedd cedyrn eraill ir unrhyw ddiben: a phan derfyscai'r Cymbry lleddid peth Echryslon o honynt: ac er hynny ni pheidient a mentro eu bywyd ar bob achlysur. Yn amser y Wiclefiaid, yr oed un Cymro nodedig elwid Walter Brute o escobaeth Henffordd yr hwn oedd ddyscedig, ac yn dyfal gynghori eraill i dduwioldeb er ei fod yn wr llyg Argyhoeddodd ei wladwyr am swyno drwy eiriau, neu ddwfr bendigaid, gan ddangos na lesodd enw'r Jesu i feibion Scefa. Act. 19.14. eglurodd mor wrthwyneb i Grist oedd yr ymarweddiad gyffredin, gan fod Crist yn gorchymyn cariad, a'r Páb yn tywallt gwaed, ac ir efengil ddiddymu 'r [...]elodau Cnawdol, a bod y Pab yn eu hailgosod hwynt i fynu. Digwyddodd amrafael rhwng yr arglwydd Gray o gastell Rhuthyn, ac Owen Arglwydd Glyndwfrdwy ynghylch cau mynydd. A Phan safodd ei gymydogion gyda'g Owen, ac ymladd a'r Arglwydd Gray, a'i gymeryd ef yn garcharor, ar hynny o rwydddeb ymgasclodd y Cymbry atto ef o bob parth, gan ei annog ef i ryfela a'r Saeson, a'r hyder bruttaiu Merddyn a'r daroganau; i edrych allent ynnill yn ol drachefn yr hyn a gollasai eu henafiaid. Ond gwnaeth y gwrthryfel hwnw niwed mawr iddynt.1400. O herwydd wedi eu gorchfygu, aeth y brenin Harry y pedwerydd yn orddig wrthynt, ac yn orthrumwr creulon arnynt:Galarnad, 3, 7. efe a wnaeth eu lleffetheiriau yn drymmach, au rhwymmau yn [Page 140]dynnach, ac ordeiniodd bethau anrhesumol yn eu herbyn hwy; gan osod cyfreithiau ydoedd yn gwarafun i un Cymbro brynu tîr, na bod yn fwrdes o un dref farchnad, na swyddog, na gwisco arfau, na chael cyfraith ar sais ond drwy Justisiaid a chwêst o saeson. na chadw ei blant at ddysceidiaeth, na'i rhoddi yn brentisiaid i greflt yn y byd mewn un dref yn y deyrnas. Gosodwyd deddfau hefyd na chai 'r Cymbry mor ymgyfarfod ynghyd i ymgynghori ond yngwydd y swyddogion seisnig, na chaent gadw neb rhyw gastell, nag amddiffynfa. Ac os sais a briodai Gymraes, gorfyddai iddo golli ei fwrdeisiaeth ai swydd. Nid oedd llafasus chwaith ddwyn dim llunaieth i Gymry heb genad yspysol y brenin neu 'r cyngor. Y gyfraith yw goleuni gwladwriaeth, am hynny os ydoedd hi yn dywyllwch, oh faint oedd y tywyllwch hwnw? os rheol llywodraeth oedd anghyfiawn,Math. 6, 23. mawr oedd yr anghyfiawnder hwnw! pan drowd barn yn wermod, Amos 5, 7. aeth trais yn fustl. tôst oedd y gyfraith, ond tostach oedd anghyfraith y swyddogion milain.
Gwelwn yma mor aflesol fu i'n henafiaid, amcanu bwrw custudd oddiwrthynt, cyn troi at Dduw drwy edifeirwch. Prifiodd y gwrthryfel hwn fel un zedeciah,2 Bren. 24, 20. yn achos o gaethiwed Babilonaidd. Darfu ir daroganau eu siomi nhw hefyd. Cnawd i bob cenedl dan orthrumder goelio pob Bruttiwr ar addawo ryddhâd iddynt. Cresawai'r Israeliaid y prophwydi gwenheithus, ond deuai'r peth yn y gwrthwyneb ir bobl anwireddus. Pan dorrodd Hanaaniah y gefyn pren, Jer. 28, 10. rhoddes Duw yn ei lê iau o haiarn [Page 141]ar eu gwarrau. Dull yr amseroedd Pabaidd hynny, a chustudd, gy da'g hiraeth am warediad, a wnaeth ein henafiaid ni yn dueddol i roi lle i feddyliau ofergoelus.Esai 19.8. Y newynog a'r sychedig a freuddwydia am lunieth, ond pan deffrô gwâg a deffygiol fydd ei enaid. Pan gafodd y brenin Arthur ei friw marwol aeth i ynys * Wydren yw ddiweddu, er mewn celu ei farwolaeth;Glassenbory. rhag llawenychu ei elynion, na digaloni ei ddeiliaid. am hynny bu ein gwladwyr ni gantoedd o flynyddoedd gwedi, yn tybied na buasai ef farw: ond yn brithgoelio y caenr ef eilwaith i lywodraethu arnynt, fel y taer ddymunent. a phan ai tywysogion Cymry a'r mâes addiar y Saeson mewn dwy frwydr neu dair, ymhyfâent yn aruthr, gan ddisgwil cyflawni bruttiau 'r prydyddion am gael o'r Britaniaid ail gorescyn yr ynys. a hynny a wnaeth ir Saeson o ran gwawd, wisco coron am ben Llewelyn y dorrasent oddiar ei gorph ef, wrth ei osod ar y twr yn Llundain. Ar ol Rhyfel Owen Glyndwfr, parhâodd y Caethiwed gorthrwm hwn ar ein cenedl ni drwy yr amser y rheolodd pump o frenhinoedd Lloegr; ac yn ddigon o hyd er dwyn dygn dlodi, ac anwybodaeth arni. Ac i ddigaloni neu ddiffodd yr hyn o fawrfry digrwydd, ac o fedrusrwydd, celfyddy d, ffydd, a moesau da y fuasai yn eu mysc gynt. yn y cyflwr hwn cafodd achos i alaru ger bron Duw fel Sion gustuddiol; Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuō anufydd, a thitheu nid arbedaist. Gorchguddiaist ni a sorriant. Galarnad. 3.42, 43. ac pen. 5.16. Ti a'n gwnaethost yn sorod ac yn yscybion. Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith [Page 142]a dinistr. Syrthiodd y goron oddiam ein pen, gwae ni yn awr bechu o honom. Canys cyflawnwyd ynddi fwgwth Duw yn ddigon union — oblegyd na wasnaethodd yr Arglwydd ei Duw mewn llawenydd, ac mewn hyfrydwch calon, Deut. 28. [...] 47, 48. am amldra pob dim, am hynny y gwasnaethodd ei gelynion mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisiau pob dim, ac efe a roddes iau haiarn ar ei gwddf. Yn amser yr anwybodaeth hon yr arferodd ein gwladwyr ymgymdeithasu ar tylwyth têg yn y coedydd y nô [...].Galarnad. 3.31, 32. er hyn nid yn dragywydd y gwrthododd yr Arglwyd hwynt, ond er iddo eu custuddio yn drwm, etto efe a dosturiodd wrthynt yn ol amlder ei drugareddau. Ac a ddattododd lawer o'u rhwymmau trwy y brenin Harri y Seithfed. Yr hwn oedd wyr i Owen Tudyr O Pôn (a briodasai frenhines weddw yr oedd ef yn ei wasnaethu) ac a gafodd y frenhiniaeth fel hyn. Pan ddigiodd pennaethiaid Lloegr wrth y brenin Rissiard y trydydd, am iddo fwrdro ei neiaint bychain ydoedd dan ei olugiad ef, a Chipio 'r goron oddiarnynt, gwahoddasant i mewn yr iarll Harry, ydoedd yn Llydaw yn llechu. Ar hynny tiriodd ef yn Aber daugleddeu, a chwedi i gryn fyddun o Gymbry a Saeson godi gyda'g ef, aeth a'r mâes oddiar y brenin Rissiard, a chymerth ei le ef. A phrifiodd yn Esmwythâd, nid i Gymry yn unic, ond i Loegr hefyd: a diweddodd ymdrech tôst a fuasai rhwng dau deulu frenhinol am y goron dalm o flynyddoedd, ymha un y lladdefid llawer o filoedd. Gan ei fod ef yn etifedd y naill dy, priododd etifeddes y ty arall: ac felly heddychodd y deirnas. [Page 143]Yn y chweched flwyddyn ar ugain o deyrnasiad ei fab ef, y brenin Harri Wythfed, gwnawd Act o Barliament i gael o Gymry yr un breintiau, rhydd-dyd, a chyfiawnder a Lloegr, gan ei rhannu yn Siroedd, a threfnu Sessiwnau iddi. yn nyddiau ei fab yntef, sef y brenin Edward y chweched, cynygwyd iddi warediad oddiwrth ei chaethiwed ysprydol, fel y cawsai ryddhâd o'r blaen oddiwrth ei chyfyngder bydol. Ond nid oedd neb a fedrai, ac a fynnai gyfieithu, a phregethu gair Duw yn gymeaeg yn yr yspaid hwnw. a dyna 'r achos na chafwyd neb yn Ghymry wedi hynny — sef yn amser y frenhines Mary, i ddwyn tystiolaeth gyda ffydd y Protestaniaid drwy ddioddefaint, oddieithr tri yn y deheubarth y fedrent Saefonaec. Yr hyn sydd Argoel hynod reitied ydyw c [...] feithiad, a pbregethiad yr Scrythurau yn iaith gyffredin pobl, i weithio ynddynt râs, a ffydd iachusol. Yn nechreu teyrnasiad y frenhines Elizabeth, gorchymynwyd drwy Act o Barliament droi 'r bibl yn gymraec. Ond yr oedd ein gwlâd ni wedi myned yn ddichwant am dano, neu yn anfedrus tuag at y fath beth. am hynny safodd y gwaith ynghylch naw mlynedd, ac yno Rissiard Dafies escob Mynyw, ag William Salis bury gwr bonheddig, a gyfieithiasant y Testament Newydd yn Gymraec, ac ai printiasant ymlwyddyn yr Argiwydd, mil, a phum Cant,Oed. Cr. 1567. a thrugain, a Saith. Ac am [...]od llythr Saesonaec Mr W. S at y frenhines yn amlygu peth o helynt ein cenedl ni y pryd hynny, cyfieithais hyn o honaw ef.
Pan ail cofwyf ddull y grefyd wedillygru yn Lloegr, a'r defodau ofer a ymluscasent i'n gwlâd ninnau Cymty, pryd yn lle'r by wiol Dduw yr addolau dynion ddelwau meirwon, o gôed, a cherrig, clychau ac escyrn. a phan ystyriwyf hefyd ein diweddar gyffredin ymadawiad oddiwrth Sancteiddiolaf air Duw, y dderbyniasid unwaith, a'r erlidigaethau anhrugarog y Sydd ar lawer etto mewn gwledydd eraill; Nid allaf amgen na wnelwyf fal y truan Bartimeus ddall, neu 'r gwahanglwyfus O Samaria i'n Achubwr, sef dyfod yn dra gostyngedig oflaen eich mawrhydi, nid yu vnic drosof fy hun, ond hefyd am waredigaeth llawer mil o'm gwladwyr oddiwrth ysprydol ddallineb anwybodaeth, a ffiaidd haint hên eulun-addoliaeth, a gau ofergoel: yn ddyladwy i gydnabod eich Cymwynas digyffelyb chwi i ni, wrth ganhiadu Cael o honom yr Scrythyrau Sanctaidd, eli ein dallineb ysprydol, a'n gwahanglwyf, yn ein hyspysaf dafodiaith. yr oedd ein gwladwyr ni gynt yn anhawdd ganddynt dderbyn y grefydd Rufeinaidd, ac nid heb achos, etto yn awr gwedi (y Cyfryw yw niweid drwg arfer) anhawdd fu ganddynt ei gadel, a derbyn efengyl Jesu Grist. Ar ol custuddio 'r genedl hon yn dra gofidus a hîr ryfeloedd, am ei gwrthgiliad fel y tybirl; A'i llwyr orescin, ai chadw tanodd a chyfreithiau sarrug, etto er diwedd rhyngodd bodd i Dduw oi gynefin drugaredd edrych i lawr drachefn arnynt, gan anfon dau frenin o goffadwriaeth [Page 145]tra enwog, Harri Seithfed, ai fâb Harri yr wythled, Sef eich tâd â'ch taid chwi. y rhai yn rasusol ai gollyngodd hwy oi poenau, ac a esmwythâsant eu beichiau anoddef. y naill a siarteri o rydd-did, a'r llall a'c Actâu o Barliament, gan droi ymmaith eu Caethiwed hwy, a'u gwneuthur yn vngorph ai ddeiliaid o Loegr▪ Diammeu nad Cymwynas bychan ydoedd hynny. etto y mae'r lleshâd hwn o'r eiddo eich mawrhydi chwi, yn rhagori arno, yn gymaint ac y mae 'r enaid yn rhagori ar y Corph. Os yw Mair Magdal [...]n mor enwog drwy 'r holl fyd lle pregethir yr efengyl, am roddi blychaid o ennaint defnyddiol i enneinio Corph cnawdol Crist; Cedwir eich haelioni chwithau byth mewn Coffadwriaeth, am ganhiadu ennaint yr yspryd Glân i enneimo ei gorph ysprydol ef, sef yr eglwys. Yn gymaint ac i escobion Cymry fy' ngalw i wneuthur peth tuag at osod allan y gorchwyl teilwng hwn, tybiaf yn ddyledus yma yn eu henw hwy gyflwyno i'ch mawrhydi (megis y blaenffrwyth goreu) lyfr Testament Newydd ein Harglwydd Jesu Crist, wedi ei gyfeithu ir Gymraec. A dymunwn ar Dduw gael o'ch deiliad chwi o Gymru gwbl o lyfr gair Duw yr un ffunud. yna y gallai eu cyd-ddeiliaid o Loegr adrodd yn hyfryd am danynt yn y geiriau hyn. Y bobloedd a eisteddent mewn tywyllwch a welsant eleuni mawr e y rhai a breswylient ynhîr Cyscod angeu, arnynt hwy y llewyrchod y goleuni. Gwynfyd y bobl y mae felly iddynt, ie bendigedig y bobl y mae 'r [Page 146]Arglwydd yn Dduw iddynt. Yna y dywedent ill dau yn frawdol fel hyn, — Deuwch ac esc [...]nwn i fynydd yr Arglwydd, i dy Duw Jacob, ac Efe a ddysc i ni ei ffyrdd, ac ni a rodiwn yn ei lwybrau ef.
Dros ugain mlynedd wedi hyn, bu Cymru heb nemawr o bregethwyr ynddi, na'r hen destament yn ei hiaith, er bod rhai ewyllyswyr da iddi. Dywedodd y doctor Powel drosti yn y llyfr Saesonaec y brintiodd ef 1584, Os rhyglyddai fodd i Dduw anfon iddi y bibl yn ei hiaith ei hunan yn ol y cyfreithiau Duwiol a wneithid, y byddai yw chystadlu ag un wlád yn Lloegr, os y rheolwyr a'r dyscawdwyr fyddent da. Y flwyddyn nesaf at hon anrheithiodd cynhaiaf anhymerus yr yd, a lladdodd y gaiaf y cattel agos i gyd drwy Gymru oll. a chyfododd Cymbro ai galon yn gresynu wrth anwybodaeth ei wlâd i betisiwna 'r frenhines a'r Parliament am y chwaneg o hyfford diant iddi: gan ddangos fod y blâ o newyn arni, Hag. 1.9. o herwydd anghyfannedd-dra ty Dduw ynddi. Ac ym mlwyddyn yr Arglwydd mil a phumcant,Oed. Cr. 1588. a phedwar ugain ac wyth, cyfieithwyd a phrintwyd y bibl cyfan yn Gymraeg gan y doctor Morgan Piccar Llanrhaiadr ym Mochnant. Ond ni hwyrach fel y dywedodd Nathaniel, a ddichon dim da ddyfod o Nazareth? Yr amheua'r Gwyneddwr,Joan. 1.46. allai 'r fath gymwynas iachusol ddeilliaw o'r gymdogaeth honno. Etto gwêl fel y prifiodd ceccri rhai o'i blwyfolion yn fantais ir athro hwn yn ei orchwyl pwys-fawr. Canys pan orfu iddo fyned i lys yr Archescob i atteb iddynt, canfu'r prelad pwyllog ei odidowgrwydd ef, ac ai hannogodd ef ir gwaith bendigaid hwnw. Cymer [Page 147]hyn o grynodeb a chyfiethiad oi lythr ladin ef at y frenchines, a brintwyd gyda 'r bibl Cymraeg oi ladmerjaeth ef. —
Pa gymaint y mae eich mawrhydi chwi (odidoccaf dywysoges) yn nylêd y goruchaf Dduw, nid yn unic ei ryfeddo! an ddiffin ef yn tarfu y gelynion creulon yn ddiweddar, eithr hefyd y duwioldeb rhagorol, clodfawr drwy 'r bollfyd, a pha un yr addurnodd ef eich mawrhydi, Sy'n eglur dystio. laethu. a hyn a ddengis pa radlawn ofal ydoedd gan eich mawrhydi chwi am eich Britaniaid, nid amgen na'ch ordinbâd di wy awdurdod Parliament y deyrnas i droi yn Gymraeg yr ddwy yscrifen o Sanctaidd air Duw, sef yr hên a'r newydd. yr hyn hefyd Sy'n datcan ein Syrthni, a'n esgeulysder ni, gan nad allai y fath athrwm anghenrhaid ein cynhyrfu ni, na chyfraith mor llesol ein cymell ni, fel nad arhosai peth mor bwys-fawr, (mwy na pha un nis gallai dim fyth fod) cyhyd heb ei gymeryd mewn llaw. Canys y testament Newydd yn unic y drôdd escob Menyw yn Gymraeg er ys ugain mlynedd, gyda chynorthwy William Salisbury, gwr a haeddai yn dda ar law ein eglwys ni. Nid hawdd mynegi faint o leshâad y wnaeth ef i'n gwlâd n [...] wrth y gorchwyl hwnw. Canys y pryd hynny prin y medrai ymbell un bregethu yn Gymraeg, o herwydd bod y heiriau rheidiol i egluro S [...]nctiaidd ddirgeledigaethau yrScrythr lân yn gymi aeg wedi myned ar aball, megis wedi eu golchi ymmaith a dwfrAfon yn Affrica yn gwneuthur ir that a yfau oi dwfr anghofio pob peth. Lethe; neu wedi eu claddu [Page 148]dan lwch anarfer: mal nas gallau na'r dyscawdwyr agor yn ddigon amlwg yr hyn a ewyllysient, na'r gwrandawyr eu deall; na dirnad pa rai oedd geiriau'r scrythyrau, a pha rai oedd esponiadau o honynt. Yn ddiau pan ymgasclent yn chwannog at bregethau, a bod yn ddyfal ynddynt, etto anhyspys ac yn amheus y byddai y rhan fwyaf yn ymadel, megis wedi cael tryssor mawr nis gallent gloddio atto, neu fod mewn gwlêdd fawr, heb gael bwytta o honaw. Ond yn awr drwy ddirfawr ddaioni y Goruchaf Dduw, a llasur y Cyfieithydd hwn, y mae genym fwy o bregethwyr a pharottach, a gwrandawyr hyddyscach. Fel y mae'r ddau beth hyn yn dda gan y duwiol ettonid yw'r un o'r ddau hyd yn hyn yn gyfattebol yw dymuniad hwy. Canys gan fod ar ein gwlâd ni eisiau yr yscrifen gyntaf honno o air Duw, y sydd ragsynegiad, a darluniad, a thyst ddiogel ir llall: och faint o esamplau, pa nifer o addewidion a chyssuron fydd dan gûdd? Pa faint o rybuddion, annogau, a thystiolaethau y mae ein pobl ni oi hanfodd hebddynt? iechydwriaeth dragwyddol pa rai sydd mewn mawr berigl hyd yn hynn; Pan yw pob un i fyw drwy ffydd, Rhus. 10.17. a bod ffydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw. Yr hwn ni Seiniodd ond ychydig i'n cenedl ni hyd hynn, gan ei fod mewn iaith ddieithr. Am hynny wrth weled mor llefol, ac angenrheidiol ydoedd cyfieithu'r Scrythyrau eraill ir Gymraec, (er i atgof o'm gwendid fy hun, a maintioli 'r gorchwyl, a dry gianiaeth rhai anwydau fy nigalonni yn hîr) gan gydsynio a dymuniadau 'r duwiol, goddefais fy mherswadio [Page 149]i osod ar y gwaith poenus hwn, a thra anghymeradwy i lawer. A chwedi ei ddechreu, deffygiaswn o ran anhawstra yr peth, a maintioli 'r gôst, a dugaswn bum llyfr Moesen yn unig at y printwâsc, oni bae ir parchediccaf archescob Caer gaint, achleswr dysceidiaeth,Joan Whitgift. amddiffynwr y gwirionedd, a thirion wrth ein cenedl ni, fy nghymorth a'i haelioni, a'i awdurdod, ac a'i gyngor i fyned ymlaen. Ar ol ei esampl ef, aeth gwyr da eraill yn gynorthwyol i mi. Oni chyfieithais i yr Testament Hên i gyd, a diwygiais argraphiad y Newydd. Os tybia neb mae gwell er mwyn Cyttundeb fyddai Cymell ein cenedl ni i ddyscu Saesonaec, na throi 'r Scrythyrau i'n iaith ni; dymunwn arnynt ymogel, na yrront grefydd ymmaith wrth hyfforddi Cordiad. Er bod yn ddymunol i drigolion yr un ynys Siarad yr un iaith; etto mae yn gystal yw ystyried, y gofyn hynny gymaint o amser a thrafferth yw ddwyn i ben, oni byddai yn rhy greulon ewyllysio neu oddef pobl Dduw i golli drwy newyn ei air ef yn y cyfrwng. Heb law hynny diammau y dichon cyssondeb crefydd wneuthur mwy tuag at danghnefedd, na chyssondeb iaith. Ac nid duwiol cyfrif budd yn well na chrefydd, a chordiad addiallan, yn well na'r heddwch y mae gair Duw yn ei selio ymmeddyliau dynion. Yn olaf, mor anoeth yw y, rhai y dybiant, pe gwarafunid gair Duw yn ein iaith mammawl, yr annogai hynny i ddyscu un arall. Canys bydd crefydd yn anadnabyddus [Page 150]onis dyscir yn iaith y cyffredin; a r peth y bo un heb adnobod ei felysdra a'i werthfawrogrwydd, ni chymer ddim poen er mewn ei gael. Am hynny attolugwn ar eich mawrhydi i rhai y rhoddasoch un fron y gwiri onedd eusus, ganhiadu yr llall, sel y clodforo bob tafod Dduw. Yn yr oes hon preintwyd befyd rai llyfrau Cymraeg eraill i wneuthur ymadroddiad ynghylch pethau Scrythyrol yn hawsach, ac yn rhwyddach▪ Megis Dicsionari William Salisburi, sef lly fr yn dangos arwoccâd geiriau Cymreig, y gyhoeddodd ef ugain mlynedd o flaen cyfeithiad y Testament Newydd. A'r un flwyddyn ac y preintwyd y Testament Newydd gartref, cyhoeddodd y doctor Griffith Roberts Ramadeg Cymraeg yn yr Ital, ac ai anrhegodd ef i jarll Penfro, gan ei ganwol am na ddywedai ond bruttaniaeth wrth Gymro ymysc Pennaduriaid y deyrnas. A chwedi yscrifenodd y doctor Joan Dafydd Rhys Ramadeg Cymraeg arall, ac yn y flwyddyn 1595. gwnaeth Harri Perri ddosparth ar Retoreg, yn dyscu lluniaeth ymadrodd yn Gymraeg. Yn nechreu yr hwn y mae 'r fersi ladin yma o waith Henri Holland.
Sydd yn datcan ei obaith ef fod aml bregethiad, a gwybodaeth o'r efengyl a'r ddyfod ir wlâd, am i'r Arglwydd anson y llawforwynion, sef Gramadeg a Retoreg i gyweirio 'r ffordd iddi. Ac ar yr un flwyddyn rhoddwyd y psalmau ar gynghanedd Gymraeg yn America. A thrôdd trafaeliwr arall [Page 151]Sef Mr M. Cyffin lyfr escob Juel yn Gymraeg Wedi dychwelyd Caethiwed Cymry fel un Job, Cynhyrfwyd rhai o'r Charedigion o bob parth, i roddi iddi bob un ei dlws iw chussuro am yr holl ddrwg a ddigwyddasai iddi. Job. 42.12. Ynghylch byn gwnaeth Mr Robert Holland gweinidog Llanddyferwr yn Sire Gaer Fyrddin, draethawd byrr yn erbyn consurwyr a Dewiniaid, ar ddull ymadrodd rhwng Tudyr a Gronw. Ac ymhen dwy flynedd ar ugain gwedi trôdd ef gatecisme Mr Perkins yn Gymraec, ac ai preintiodd ef. Yn nheyrnasiad y brenin James wedi diwygio cyfieithad y bibl yn Saesonaec, gwnaeth yr escob Parry drwy gynorthwy y Doctor Dafies o Fallwyd, yr un Cymwynas i'n gwladwyr ni yn Cywreinio yr bibl Cymraeg. gan addef yn ei lythr ladin at y brenin,1620. iddo dacclu 'r adeilad a wnaethau ei ragflaenoriaid ef, a Lloffa tywysennan ar ol eu cynhaiaf hwy. Pryd y printwyd y llyfr Homili hefyd yn Gymraeg. Er dyfod y bibl Cymraeg ir llannau, ni ddaethai mono etto yn gyfan i dai, am ei fod o brint mawr, ac o gymaint prîs na chlywai ond rhyw un arno ei bwrcasu. am hynnyyn y flwyddyn mil a chwechanta deg ar ugain, drwy draul yr anrhydeddus Sr Thomas Middleton, a Mr Heilyn Alderman o Lundain printwyd ef a llythyrennau mân; ac aeth ei faintioli a'i brîs yn gynhwy sach, acyno daeth i ddwylo'r gwerin yn amlach. Gallesid galw'r gorchwyl bwn fel mâb Zilpha, Gad, sef bagad y mae tyrfa yn dyfod. Gen. 30.11. Canys o hynny allan aeth gwybodaeth o Dduw ar gynydd amlwg ymhlith ein gwlâdwyr ni. Ac i hyfforddi ein pregethwyr, perffeithiodd y doctor [Page 152]Dafies ddicsionari Cymraeg, a ddechreuasai 'r doctor Thomas Williams, ac eraill o ewyllyswyr da i Gymru: a gwaeth Ramadeg Cymraeg hefyd. a Chyfieithwyd llyfrau godidog tuag at adeiladaeth ysprydol, Sef llysr y Resolusion, a'r ymarfer o Dduwioldeb, a'r llwybr hyfforddir nefoedd. gwnaeth carwr y Cymro, a Sail y grefydd Gristnogol, a chaniadau Scrythyrol Ficcar Llanddyfri leshâad i amryw. Lluosogodd hefyd yscolion i blant drwy Gymru, a ducpwyd i fynu lawer oi gwyrievaingc mewn dysceidiaeth yn y coleds y berthyn iddi yn Rhydychen (y seiliodd y frenhines Elizabeth yn y flwyddyn 1572 drwy annogaeth [...]r Hugh Price) ac mewn yscoldai eraill: Ac fel y rhoddes Duw hâd ir hauwr, amlhâodd y torthau ir bwyttawyr. a phreintwyd eilwaith chwe mîl o Fiblau Cymraeg a llythyrennau mân,1654. ac aethont cyn ratted a biblau Saesonaec. Ac er mwyn hên bobl, a rhai fyddent a golugon gwannach, printwyd llaweroedd o'r Testament Newydd yn gymraeg ar eu pennau eu hunain a llythyrennau brâsach. Felly gwnawd scrifen gymraeg o ewyllys Duw yn eglur ar lechau, Hab. 2.2. fel y rhedo yr hwn ai darllenno. A chyn rhatted, ac y llawenycho yr hwn ai pryno. Printwyd hefyd lawer o lyfrau buddiol eraill yn gy mraeg, megis catecism escob Usher, a'r hwn a wnaeth y Gymansa yn Westminster. Drecselius ynghylch tragwyddoldeb, y cywyr ddychwelwr. Galwad ir anychweledig, a'r cyfryw. Ac fely gwelodd Duw yn dda aml hâu cynorthwyau 'r ffydd yn ein plith, felly amlhâodd rifedi y Sawl ai iawn arferant. Wedi iddo roddi goleuni'r efengylin gwlâd, deffrôdd [Page 153]gydwybodau amryw hobl i fwrw oddiwrthynt weithredoedd y tywyllwch, ac i rodio yn weddus megis wrth liw dydd. Nid mewn meddwdod, anlladrwydd, a chenfigen, ond mewn sobrwydd, diweirdeb, a chariad Duw. am hynny nid yn ofer y goleuodd ef ei lampau, gan sod rhai yn gweithio eu iechydwriaeth wrthynt. Ac ni chwbl gywilyddwyd gobaith ein henafiaid; Y phai yn eu Zèl a addawsant ir awdurdod, os cafai eugwlâd air Duw yn ei hiaith, Gwél lythr W. S. a 'r Dr Po. y rhodiai hi yn ei ffyrdd ef. gwn i'm gofid, fod y rhan fwyaf yn rhodio 'n ddrwg fucheddol, etto tâl yr hyn sydd o eneidiau grasol ynddi yn awr, fwy na'r gôst na'r boen a gymerwyd yw hyfforddi mewn gwybodaeth er ys can mlynedd. Ar Arglwydd a ganhiado yw daioni rhag llaw debygu ir goleuni yr hwn a l [...]wyrcha fwyfwy hyd ganol dydd. Bel [...]ach ystyriwn mor ddwys y darsu i'n henafiaid ni ddigio Duw, gan iddynt fod dan drais a blinder echryslon ynghylch mil o flynyddoedd. Oni ellid eu galw Magor Missabib, Jer. 20.3. Hosh. 4.1. sef dychryn o amgylch; a syrthiasant ar gleddyf eu gelynion. Bu hîr gwyn rhwng yr Arglwydd a thrigolion ein gwlad, nes iddynt gael y gwaethaf, a'u torri yn niwyn. Yna y gallasai un ofyn pwy a gyfyd Gymru Canys bechan yw? Amo 7.2. Ond yr Arglwydd ai cofiodd yn ei hisel rádd o herwydd ei druga [...]edd. Psal. 136.23. A gweithiodd ei gwarediad fel un Israel yn amser Ahasuerus ac Esther, drwy briodas. gan wneuthur ei chaseion yn dirion wrthi, ai herlidwyr yn ddiddanwyr iddi. Y rhai a dynnasant oddiarni y caethiwed teimladwy mewn pethau bydol yn gyntaf, ac ar ôl hynny canhiadasant iddi foddion rhyddhâd [Page 154]oddiwrth gadwynau'r tywyllwch ysprydol. Pe rhôn ir sae [...]on tra yr oeddent yn gorthrummu ein cenedl ni, gynnyg ffordd y Protestaniaid iddi, tebyg y buasai cyn anhawsed genddi ei derbyn, ac oedd gan yr Americiaid truenus dderbyn ffydd yr Hispaeniaid trahaus. y rhai a ddyweddasant, na cheisient hwy mor nêf, os oedd yr Hispaeniaid yn myned yno. Neu ag oedd gan yr Israeliaid goesio addewidion Duw drwy ei brophwyd Moses yn yr Aipht; Y rhai ni wrandawsant gan gyfyng dra yspryd, Exod, 6.9. a chan gaethiwed caled.
Ac er tynered fu'r moddion i ddwyn gair Duw at ein cenedl ni, etto arafaidd, ac oerllyd y cresawyd ef. Cododd Cerniu mewn arfau yw wrthwynebu ef. a bu Gymru ugain mlynedd heb ddim o'r Scrythyr lân yn ei hiaith yn gyhoeddus, wedi troi'r bibl cyfan yn Saesonaec drwy genad awdurdod y deyrnas. A chwedi troi'r naill destament yn gymraeg, bu ugain mlynedd drachefn heb y llall. a phan gafwyd y ddau ir eglwysydd, bu dwy flynedd a deugain gwedi cyn eu cael i dai, ac i ddwylo 'r cyffredin. ac hyd yn hyn nid aeth diwydrwydd crefydd gymaint mewn cymeriad yn ein plith ni, ac ydyw yn Lloegr, a'r Albain, a gwledydd eraill. ac nid rhyfedd i anwybodaeth bylu ein cenedl ni, pryd na lefasent gan y gyfraith roi dysceidiaeth yw plant: na chan babyddiaeth yr amseroedd hynny gael golwg o'r scrythyrau. A chwedi iddynt dros lawer oes gynefino a'r cyflwr hwnw, aeth y carchar yn gartres; a dywed y ddihareb, yr aderyn a faccer yn uffern, yn uffern y myn drigo. Y [Page 155]rhai syddo yn hîr yn gorwedd mewn daiardy tywyll, trist, a lesmeiriant, pan ddelont ir awyr heulog. Grwgnachodd yr Israeliaid ymadel a'r Aipht, wedi eu bod yno cyhyd. Yn yr oesoedd diweddaf, yr oedd y Germaniaid, a gwyr I frainc, a'r Saeson yn daer ar yr awdur dodau oedd arnynt am gael rhydd-did i ddilyn purdeb crefydd, ac onis caent, nhwy ai dilynent hyd ferthyrdod. Ond gorfu ir awdurdodau goruchel gymell y Cymry i ddaioni, a braidd y deffrôent er hynny. Ond Arglwydd y cynhaiaf a ddichon drefnu ir dydd a gododd yn araf, brifio yn dêg i achub llawer offrwyth a llafur yn ein gwlâd,Zech. 14.7. a bod goleuni yn yr hwyr. a lleslair i'n pechodau ei dywyllu.
Ond er pan ddaeth yr scrythyrâu yn Gymraeg in plith, y mae 'r helynt orau ar ein cenedl ni ar y fu ers llawer o genedlaethau. Rhoddes Duw iddi heddwch oddiamgylch. Ni wyr y tô presennol oddiwrth y cyfyngdra gofidus y doedd gynefin i'n henafiaid ni gynt. Y mae 'r Saeson ocddent fleiddiaid rheibus, wedi myned i ni yn fugeilia [...]d ymgeleddgar ac agos cyn hynawsed wrthym ni, ac ydym ni wrth eu gilidd. y nhwy sy'n printio ein llyfrau ni, ac yn dyscu celfyddydau i ni; ac yn marchnatta a'n gwlâd nid wrth y dur ar haiarn, ond yr aur a'r arian. Yr hon sydd yn awr lawnach o ddynion ac o olud, nag y fu ers talm o'r blaen; a'n celloedd yn llawns o bob rhyw luniaeth, a'n defaid yn dwyn myr ddiwn, Psal. 144.13. a'n hychen yn gryfion i lafurio, heb na rhuthro i mewn, na myned allan, na gwaedd yn ein heolydd. Mae gwybodaeth wedi amlhâu, a'r Cythreuliaid yn [Page 156]y coedydd wedi distewi. Mae ein moddion hefyd wedi rhywiogeiddio llawer. nid oes mor fath yspeilio, a threisio a mwrdro, ag y glywsom ni gan ein henafiaid ei fod yn eu mysc er's talm. mae Powys yn weddus wrth fel y bu. Mae Lloegr yn agored i ni hefyd, a chyn hyfed ini breswylio ynddi mewn Gyfiawnder, ac oedd i'n hèn rieni ni Cyn ei cholli. Ni bu ein cenedl ni yn yr Jwerddon er ioed amlach. A diammeu pe cryfhaeu ufudodd i air Duw yn ein mysc ni, chwanegid at ein trugareddau ni. Canys gwyn fyd y bobl y mae 'r Arglwydd yn Dduw iddynt. Psal. 144.15. er gorwedd o honynt ymmyscy crochanau, Psal. 68 13 byddant fel escyll colommen wedi eu gwisco ag arian, a'i hadenydd ag aur melyn. ynteu nag anghyttuna ag iachus eiriau ein Harglwydd Jesu Grist, 1 Tim 6, 3. a'r athrawiaeth sydd ar ol Duwioldeb. Os ewyllysi yn ddai'r wlád, a gweled dyddiau da, 2 Per. 3, 11. gochel y drwg, a gwna y da. Am hynny dywedaf wrth y Cymro a ryddhawyd, yn ol y Siarse y roddes Crist ar y clwyfus a iachawyd — Wele ti a wnaethpwyd Joan. 5.14. yd yn iâch, na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth. Mae ewyllis Duw yn ddatcuddiedig yn yr oes hon; Caffed ei pherffaith waith ynom ni, rhag nad arbedo'r Arglwydd monom ni mwy na'n henafiaid. Cyndyn yw'r anwy bodaeth, a'r drygioni sydd yn ein mysc ni etto. wedi yr hyn oll a ddaeth arnom am ein mawr gamwedd, Ezr. 9.13, 14. a rhoddi o'r Arglwydd ini ddiangfa fel hyn, a dorrwn ni drachefu ei orchymynion ef; oni ddigia [Page 157]efe wrthym nes ein difetha, fel na byddo vn diangol? Nid ydym niheddyw. ond tipin o weddill y Britaniaid, mogelwn rhag i'n Gwneuthurwr yn ei ddig fwrw y mmaith hynny ir dinistriwr ar ôl y llall. Gwelwn ddaioni a thoster Duw, Rhuf. 1 [...], 22. Sef i'n tadau a gwympasant, toster, eithr daioni i ni os orhoswn yn ei ddaioni ef: os amgen torrir ninnau hefyd ymmaith. Canys prifia goleuni yr esengyl i bobl anufudd fel mellten beryglus, a ddwg daranau dychrynllyd ar ei hôl.Levit. 18, 26, 27, 28. Cadwn farnedigaethau'r Arglwydd, ac na wnawn y ffiaidd betha [...] a wnaeth y rhai a fu o'n blaen: fel na Chwydo y wlâd ninnau megis y chwydodd hi y genedl a fu o'n blaen.
Gweddiwn ar Dduw am roi yspryd ei râs i bob grâdd ar ddynion yn ein mysc,Esai. 61, 4. fel yr adeiladont yr hên ddiffaethfa, ac y Cyfodont anghyfannedd-dra llawer oes: Sef tabernacl Dafydd yr hw [...] a Syrthiodd yn ein gwlâd ni yn amser ein hên dadau; ac yr adeilader ei fylchau drachefn: fel y byddo ir hyn a weddillwyd o honom geisio 'r Arglwydd, Act. 15, 16.17. yr hwn Sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn; Ac a'n gwaredodd o dy Caethiwed bydol ac ysprydol, y mae 'r Gwyddeolod yn nychu ynddo etto. Gwilia arnat yn ddyfal o Gymbro, rhag iti rwystro na digaloni adferiad y ffydd yn dy frô. Canys yr Arglwydd yr hwn a ddewisodd y gweddill a gerydda bob gwrthwynebwr, Zech. 3, [...]. Onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o'r tân' yn hytrach gwnaed yr oes hon ei rhan yn adeiladu ar y Sail scrythyrol a osododd yr oes ddiweddaf, ac [Page 158]yn Cynnyddu 'r gwaith a ddechreuwyd drwy gymaint o anhawstra, fel y torro goleuni Cymry allanfel y wawr, ac na ddiffodder ei Phentewyn. Byddai yn gymorth nid bychan iddi, pe Cyfodai ei blaenoriaid goleds neu ddau ynddi, i ddwyn gwyr jeveingc gobeithiol i fynu mewn dysceidiaeth a moesau da, tuag at eu Cymhwyso gyda bendith y goruchaf i weinidogaeth efangylol, a swyddogaeth wladwriaethol. Beth sydd fwy Cyssurus ir gydwybod, na'r hyn y wneler tuag at adferu addoliad Duw ymysc pobl y fu mewn hîr drueni a thywyllwch? pan ddychwelwyd Caethiwed yr Israeliaid o Babilon,Zech. 3, 1. ac pen. 4, 7 aeth Joshua yr archoffeiriad, a Zerubbabel y tywysog wrth ailadeiladu 'r deml yn anwyl gan Dduw, a dynion, ac angylion. Ac ychydig gwedi ni bu neb rhyw or. chwyl a ddiddanodd Nehemiah gymaint, ai lafur ef yn ailadeiladu Jerusalem, gyda ei zêl yn gwellhau buchedd a threfn ei genedl. Medd ef Cofia fi o fy Nuw er llès i mi: Neh. 5, 19 ac pen. 13.22. yn ol yr hyn oll a wneuthum i'r bobl hyn. A phan ddug hwynt i Sancteiddio'r Sabboth yr oeddent or blaen yn ei halogi, dywedodd ef, Am hyn hefyd C [...]fia fi fy Nuw, ac arbed fi yn ol lliaws dy drugaredd. Ni ddeleir y caredigrwydd a wneler i deml yr Arglwydd, Ac ni phalla ei wobr. Pan gyfrannodd Dafydd ei feddwl ir prophwyd Nathan,2 Sam. 7, 2, 4.11. ei fod ef ar fedr adeiladu ty i Dduw, y nosson honno mynegodd Duw y gwnai ef dy iddo yntef; Ac a'i Cwplaôdd yn helaeth. Pan swccrodd Obed Edom Arch Dduw, cafodd daledigaeth syber a hynod, oni fynegwyd in brenin, gan ddywedyd; yr Arglwyda a fendithiodd [Page 159]dy Obed Edom, a'r hyn oll oedd ganddo, 2 Sam. 6.12. er mwyn Arch Dduw. diandlawd y doedd y fendith a lonnodd gymaint oll ac oedd eiddo ef. Y tarth a weler yn escyn i fynu, a fydd sic [...]r o ddescyn i lawr eilwaith yn law ffrwythlon. Ac felly y gwnaiff anadliad y galon rasol, y fyddo a'r ewyllis ac a'r gallu yn ymgodi at bethau perthynol i deyrnas nef, gan ddychwelyd â chafodydd o fendithion aml. Ni bydd y nêf yn nyled y ddaiar. Yr hyn a wyddai Salomon yn hy-dda wrth ei brawf, a'i lwyddiant ryfeddol wedi iddo adeiladu'r deml. Am hynny yn ei ddoethineb a'i serch cynghorodd ei fab, gan ddywedyd, anrhydedda yr Arglwydd a'th gyfoeth, Dihar. 3.1, 9, 10. ac a'r peth pennaf o'th holl ffrwyth: felly y llenwir dy yscuboriau â digonoldeb, a'th winwyryfoedd a dorrant gan wîn newydd. Ac nid yn y byd yma yn unig y ceir tâl am yr hyn adreulier ar wasanaeth Duw, eithr yn y byd arall hefyd. Pan gipio marwolaeth y rhai didda at beny [...] a phrind dragwyddol, Caiff y Goruchwylwyl ssyddlon a arferant eu talentau yn-gwasanaeth eu Harglwydd dryssor yn y nef [...]edd yr hwn ni ddersydd, a chynhalieth ogoneddus byth.Luc. 12, 33. ynteu masnach ynnillfawr yw rhoddi echwyn i'r Arglwydd. a goreu hwsmonaeth yw llafurio i danu 'r hâd y tyfiff ei gnwd yn uwch na'r cymylau. Oblegyd yr hwn sydd yn hau iw gnawd ei huu, o'r cnawd a fêd lygredigaeth, Gal. 6.8, eithr yr hwn sydd yn hau i'r yspryd, o'r yspryd a fêd fywyd tragwyddol. Oh nad ymegniai'n cenedl i fod mor fywiog, ac mor wresog yn y grefydd Gristnogol ag y fu rhai o'n hendeidiau ni gynt. Troesant hwy Scotiaid, a Phichriaid, [Page 158] [...] [Page 159] [...] [Page 160]a Germaniaid, a chenhedloedd eraill at ffydd Grist, ac a esceulyswn ni hi yn ein Cartref ein hunain? yr oeddent hwy yn flaenaf, ag a fyddwn ninnau yn olaf yn achosion teyrnas nêf? yr oeddent hwy fal eryrod yn ymgais a haeul y Cyfiawnder, ac a fyddwn ninnau fal dulluanod yn hoffach gennym y tywyllwch? Na ddirywiwn,1 Bren. 21.3. eithr fel Naboth glynwn yn y Winllan efangylaidd y sydd dreftadaeth ein henafiaid. a rhodiwn fel plant y goleuni. ac ymddygwn yn ddyladwy wrth fodd Duw, Rhuf. 13, 13. megis y mae hi yn bryd i ni bellach. nid mwn Cyseddach, a meddwdod; nid mewn Cyd-orwedd, ac anlladrwydd, nid mewn Cynnen, a chenfigen. Maly gallo ein gwlâd a fu Cyhyd dan wradwydd fyned yn enwog am rinwedd. Tybia rhai mae heppil Cam ydym ni, a pheth o weddillion y Cenbedloedd a ddiangasant o dir Canáan tuar gorllewyn rhag y dialedd dinistriol a ddaeth arnynt yn amser Joshua. Os yw hynny yn bod, (Canys nid yw'r chwedl heb liw, ac y mae'r henw yn rhy gynefin i ni Sef Cam a chamwedd) etto▪ byddwn rasol, a bendith Crist a ylch ymmaith felldith Noah. a chaiff y cenhedloedd o'n hamgylch wybod nad ardal drygio ni y dym, Gen. 9, 22.25. na'r bobl, wrth y rhai y llidiodd yr Arglwydd yn dragywydd. eithr y rhai a'n gwelant a gydnabyddant,Mal. 1, 4. Esai. 61.9. ein bod y'r hâd a fendithiodd yr Arglwydd. Cyd-ystyriwn bawb ei gilidd, Heb. 10, 24. i ymannog nid i gâs, a thyrnau drwg, eithr i gariad a gweithredoedd da. Herwydd Cyfia wnder a dderchafa genhedl: Dihar. 14, 34. ond Cywilydd pobloedd yw pechod.