[Page]FFYDD DDI-FFVANT.

ADRODDIAD O HELYNT Y GREFYDD GRISTNOGOL Er dechreuad y byd hyd yr oes hon, a phrofiad oi gwirionedd.

ACADEMIA OXONIENSIS
‘SAPIENTIA FELICITATIS’

OXON, Printiedig yn Rhydychen gan HEN. HALL. 1667.

At y darllennydd.

WRth ystyried mor fanteisiol im gwladwyr y fyddeu yspysrwydd o'r pethau y ganlynant yn y traethawd hwn; ac nad adwaenwn i un llyfr yw gyfieuthu, ar y doedd yn wahanredol yn amgyffredy Cwbl o honynt, ymosodaeis yw pigo allan o amryw lyfrau. A Chymerais gwrs y wenynen i Sugno llawer ly­sewyn i wneuthur hyn o ddilyn. Cyd adwg ditheu ar Crwybr Sydd ynddo darllen yn ddiwyd, a chydnabyddi nad yw ffydd beth dychymy­gol eithr Sylweddol, a siccrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled. Pan gyfferfyddech a nodau rhifyddieth sydd yn dangos oed y byd, neu oedran yr Arglwydd, gwybydd os bydd pedwar o honynt yughyd. fed y nesaf at dy law ddehau di yn arwy ddoccau unau, ar ail dd gau ar trydydd gantoedd, ar pedwerydd filoedd, megis yn rhifedi y flwy d­dyn hon 1666. y nesaf at dy law ddehau di yw chwech, ar nesaf atto yuteu yw chwech oddegau sef trugain, ar nesaf at hwnw yw chwe chant, a'r olaf yw un mil. Wedi bwrw yn ol tyred eilwaith y mlaen a chei un mil, a chwe chant, a thrugain a chwech. Hefyd rhaid, iti graffu, os bydd y nôd hwn (?) yn canlyn ymadrodd, y darllenir ef ar sain ymofyn. os hwn (,) neu (:) gwybydd na orphenwyd mo'r ymadrodd, eithr bod ychwaneg perthynawl iddo yn ol. Ond os hwn (.) ddyfod y dyweddiad i ben. A phan welech eiriau wedi cau arnynt ymlaen ac yn ol (fal hyn) ymsang mewn rheswm ydynt. a chyssylta yn dy ddeall y pethau or blaen ag or ol, megis pe na buaseu ddim arall yn taro rhyngthynt.

Hanes y Ffydd er dechreuad y byd hyd yr oes hon.

DYledus ini chwilio allan helynt y Fsydd ymhob oes ac ymhob gwlâd. Deut 4.32, 33. Ymofyn yn awr am y diddiau gynt y fu oth flaen di, o'r dydd y creawdd dduw ddyn ar y ddaiar, ac o'r naill gwrr ir nefoedd hyd y cwrr arall ir nefoedd, a glybu Pobl lais duw? Job 8.8, 9, 10. Gofyn ir oes gynt, ac ymbaratôa i chiwilio eu henafiaid hwynt (cans er doe'r ydym ni, ac ni wyddom ddim) oni ddyscant hwy ai? Jer. 2.10. Ewch tros ynysoedd Chittim, a danfonwch i Cedar, ac ystyriwch yn ddiwid. Ac fal y gallem wybod pa fodd y gwasnaethodd rai dduw gynt, trefwnyd iddynt fynegi hynny drwy air a scrifen ir cenedlae­thau oedd i ddyfod. Psal. 78.2, 3— Traethaf ddamhegion o'r cynfyd, gan fynegi ir oes a ddêl foliant yr arglwydd, fel y gosod [...]nt eu gob aith ar dduw heb anghofio ei weithredoedd ef. er mwyn hyn y Scrifenwyd y Scrythurau. ie ac yr oedd yr hen Baganiaid yn Scrifenu historiau cywyr o'r pethau y ddigwyddent yn eu plith. ac oni bae hynny collaseu miloedd o bobl dduw eu bywyd yn amser Esther pen 6.1, 2. darllenwyd yn llyfr coffadwriaethau hanession yr amseroedd, fel yr achubasei Mordecai fywid y brenin Ahasferus, yr oedd yspysrwydd o fawredd Mordecai yn Scrifenedig yn llyfr Croniel Brenhinoedd Media a Phersia. Esth. 10.2. Ac fel y deallem histori yn well, rheidiol ini ystyried Argraph y ddaiar yn ol y gorchymyn, Deut. 4.32. i chwilio pob Cwrr o'r byd. Gwledydd Cydnabyddus y byd y ddosper­thir [Page 2] yn bedwar o rannau, y rhai elwir Asia, Affrica, Europa, America.

Yn Asia y crewyd Adda ac Efa: y ganwyd Christ, ac y prege­thodd ef. Ynd di y mae llawer o daleithiau. Megis Anatolia, elwid gynt Asia loiaf, lle bu 'r' Saith eglwys y Scrifenodd Christ attynt wedi ei dderchafiad drwy law Joan. Datcudd. 2. ar 3. pen. yn awr y Turciaid Sy'n ei llenwi. A Cilicia, dinas Paul, sef Tarsus oedd yma. A Bythinia, a Pontus, Galatia lle r' oedd Eglwys Gristno­gol yn amser Paul. Cappadocia, Armenia lle mae mynyddoedd Ararat y gorphwysodd Arch Noah arnynt Gen: 9. Lycaonia lle mae Derbe, a Lystra anwadal y fynasei addoli 'r apostolion, ac wedi hynny gadawodd eu herlid nhwy. Act: 14. Syria, lle mae Tyrus, a Sidon, a Joppa lle Cododd Petr Dorcas o farw i fyw Act. 9. a Damascus, ac Antiochia, y alwodd y discyblion gyn­taf yn Gristnogion Act. 11.26. Palestina lle mae 'r môr marw yn yr hwn nis gall dim fyw gan ei Sawr pyglyd ef. Ynghylch y llyn Sawrllyd hwn y tyfiff pren ac afalau arno, têg yr olwg, ond Pan gwffyrdder a hwynt ânt yn ylw, yn y fan y mae 'r llyn hwn y bu Sodom a Gomorrah, a dinasoedd eraill, nes yw pe­chodau dynnu arnynt ddialedd tanllyd. yma nid llyn Llynclys onid Llyncddinas. Rhannau Palestina yw.

1. Galilea gogledd Israel ynddi yr oedd Capernaum a Na­zareth Preswylfa Christ.

2. Samaria, rhwng Galilea a Judea: ynddi yr oedd Caesarea lle 'r ysswyd Herod gan lau Act. 12. wedi caethgludo 'r degllwyth Assyriaid Cenhedlig y bresswyliodd yma, rhai oeddent yn Cymisc crefydd yr Juddewon ac eulynaddolieth y Cenhe­dloedd, am hynny cyfrifid hwynt yn gymysgwn, Joan. 4.

3. Judea yma y mae Hebron a Mamre, a Bethlem, tref gane­digaeth Christ, a Jerusalem Enwog lle y croeshoelwyd e [...]. Nid yw 'r wlad hon ond wyth ugain milltir o hyd, a thrugan o led, etto rhyseddol oedd lliaws ei thrigolion, a ffrwythlondeb ei thir, gan ddwyn Cynyrch ar ei ganfed, tra yr oedd eglwys dduw yn preswylio ynddi. Ond yn awr nid yw mor ffrwyth­lon er Pan wrthododd hi yr efengyl, ac y daeth dan law 'r Twrc. Cyffinia ar y ddw y rain ran or mor Canoldir ac ynghylch Canol y byd ydyw. Yma y Cododd ffynon dwfr y bywyd [Page 3] sef yr efengil, ac y ffrydiodd i bob ffordd dros y byd. Yn Ara­bia, Cymydogaeth Palestina, y rhoddes duw y gyfraeth hefyd i Israel, a bara o'r nef. yn lleu cyfleus y gosodes ei bulpid, fel y clyweu 'r bobloedd oddiamgylch o ddaioni a doethineb duw! Yn y gwledydd y henwyd y mae Cresydd Mahomet, a'r Judde­waidd, a'r Gristnogaidd yn ol arfer y Groegiaid, gan gymuno plant, ar ol eu bedyddio uwch ben tân, (fel y tybiant) mewn ufudddod ir gair Sy'n dywedyd y bedyddia Christ ar yspryd, ac a than Math: 3.11. ymattaliant hefyd oddiwrth fwydydd aflan dan yr hen destament. Pan ymlygrodd Christnogaeth yn y dwyrain ymgymyscodd gan mwyaf a'r grefydd Juddewaid, ond yn y Gorllewin ar un Baganaidd Ladingaidd. Yn Asia hefyd y mae Assyria, lle 'r oedd Ninifeh, ac y caethiwyd y deg llwyth. A Mesopotamia (sef Padan Aram) yn y wlad hon yr oedd Pa­radwys. A Babilon lle cymyscwyd yr ieithoedd, ac y tirnasodd Nebuchadonozor. A Phersia ai harglwyddiaethau, y gyrhaed­diff or môr mawr ar y dehau, hyd môr Caspiaidd ar y gogledd. A Tartaria, y elwid gynt gwlad Magog mab Japhet, wedi hyn­ny Scythia, ymerodraeth fawr wedi pum mil o filltyroedd o hyd, a thair mil o led. yma y teirnasodd Tamerlane fflangell y Twrciaid. dyma fam pob dilyw o bobl, ac aliwns, gogledd Asia yw. Crefydd Mahomet Sy'dd yn y teirnasodd Mawrion hyn gan mwyaf: Cydnabyddant anfarfolded yr enaid. Mae rhai Christnogion gô gyfeiliornus yn eu plith, ac Juddewon hefyd. Ac India eheng gyfoethog o aur Ophir, a thra hyfryd ei choedydd ai maesydd. eulynaddolieth sydd ynddi, oddieithr lle mae 'r Europeaid wedi adeiladu dinasoedd a chestyll hyd lan ei môr tua 'r dwyrain. A China, teirnas fawr ynddi y mae di­nas Cwinsay o daith deuddydd o hyd. dywed ei thrigolion fod gandynt gelfyddyd preintio, a gwneuthur gynnau o flaen Eu­ropa, am hynny fod ganddynt hwy ddau lygad, a chan yr Euro­peaid un, a bod eraill heb yr un. maent yn addoli delw ac iddi dri o bennau, mae ganddynt hefyd lún gwraig lan a dynbychan ar ei braich, yr hwn y aned iddi a hitheu yn forwyn, Cydna­byddant fod yr anaid yn ansarwol; ffrwd yr esengil a dawodd hyn o rwd oi hol. yn y gwledydd hynny y mae ynysoedd enwog yn Asia megis Japan a Javan, a'r Molucciaid, ac amryw [Page 4] o honynt dan lywodraeth yr Hispaenwyr a Phabyddieth yn gwreiddio ynddynt.

Yr ail rhan ôr byd yw Affrica, a henwir felly, am ei bod heb oerni [...]; ynddi y mae Barbaria lle mae Tunis, yr oedd llawer o eglwysydd ac yscoldai teg yma gynt, ac Austin yn Athro nodedig, a'r efengil yn llwyddianus crefydd Maho­met sy n' awr amlaf yna, a'r Twrciaid yn Caethiwo r' Chri­stnogion. Yr un modd yw helynt Algiers, a Morocco, Numi­dia, Lybia, poeth gras yw eu tir am fod yr haul yn vnion uwch eu Penau. Ethiopia sydd yma, y gyfen wir felly am fod ei thrigolion yn dduon, megis wedi llosci eu whynebau. [...]. Dug yr eunuch Acts 8. Gristnogaeth ir wlad hon, a gly­nant ynd di etto, yn enwedig emerodraeth yr Abissiniaid, neu Ioan yr henuriad: dywedir fod Llyfrdy yn un o balasau yr e­meroder hwn, a bod ynddo brophwydolieth Enoch, a Llyfrau eraill nid ydynt gennym ni. Mae'r Christnogion hyn yn eu hail bedyddio eu hunain ar yr ystwill bob blwyddyn: ni Phoe­rant ar ol Cymuno, nes machludo 'r haul. Enwaedant eu plant cyn eu bedyddio. Y mae yn y gwledydd hyn ddau aiaf bob blwyddyn. Cans y mae'r haul wrth sumud o gylch y dehau at­tom ni i gylch y gogledd, ac yn ol Eilwaith, yn nessâu attynt ac yn Cilio oddiwrthynt ddwywaith bob blwyddyn, ond y mae eu gaiaf hwy nt agos mor wresog ar hâf gyda ni. Cydna­byddant Batriarc Alexandria Sydd ddinas Enwog o'r Aipht; lle gwnaeth Ptolomeus Philadelphus Llyfrdy mawr ar ol ir Aiphtiaid ddychymyg wneuthur papyr a hesc Llydain. yn yr Aipht y mae Cair dinas o wyth milltir ar ugain o hyd [...]id oes dim glaw yno Zech. 14.18. Ond yr Afon Nilus sydd ar dym­horau yn llifo dros y wlad yw gwrteithio nid yw Cyrph y tri­golion yn bwrw cyscod yr haf, gan fod yr haul yn union uwch eu penau, Maent rai yn Gristnogol o'r un ffurf a'r Abissiniaid, ond dan awdurdod y Twrciaid.

Y drydydd ran o'r byd yw Europa, ac yn awr yr odidoccaf o'r cyfan: gan ei bod yn boblog, yn ddysgedig, yn Grystnogol, yn gelfy ddgar. ynd di y mae Prydain ac ynysoedd Perthynasol, sef Orcades, Hebrides, Manaw, môn, Iwerddon. trodd y Gwy­ddyl yn Gristnogol yn y flwyddyn o oedran Christ 335. Ar [Page 5] Hispain yn gryf gyda Phabyddieth, A Frainc, lle cynwysir crefydd y Protestaniaid. Preswylia thai o'n cenedl ni mewn talaith o honi sef Llydaw. ar ystlys Frainc y mae arglwyddieth tywysog Safoy, yr hwn a Sclyfiodd y Protestaniaid duwiol fel blaidd. A Genefa Mamaeth dda ir bûr grefydd, A Batafia Elwir Holland a'r gwledydd cyssylltedig y broffessant grefydd y Protestaniaid yn unig. Yn Europa hefyd y mae Germania, neu wlad yr Ellmin, lle Cynyddodd y wir grefydd yn ddirfawr er amser Luther. Rhan o honi yw Helfetia ac ôr un grefydd, er amser Zuinglius, ac Hungaria y gynwys grefydd Mahomet a phabyddieth. Ar Ital enwog, lle mae Rhufain, gwladwriaeth Genoa a Fenice gadarn, Bu r' wlad hon yn glodfawr am grefydd ac arglwyddieth gynt, ond wedi ymlygru, ymwanychodd. Tua 'r gogledd y mae Polonia teyrnas gref, ynddi mae crefydd y Groegiaid, âr protestaniaid. A Denmarc, a Sweden, or unrhyw grefydd. dywedir fod yma bobl alarant yn oer ar amserau, gan lefain Jeru, Jeru, Musco lon. tyber mae hepil yr Juddewon ydynt yn galaru am Jerusalem a Damascus drwy orchymyn treftadol. Yn y gwledydd hyn nid oes agos ddim dydd dros y trimis gaiaf mewn mannau, ac onid ychydig nôs amser hâf. A Muscofia, teyrnas helaeth o dair mil o filltyroedd o hyd, y dderbyniodd y grefydd Gristnogol gan y Groegiaid yn y flwyddyn o oed Christ. 942. Er nad una ag eglwys Rufain, cansy n ei iaith ei hun yr addola Dduw, etto mae n' o goelgre­fyddol.

Y nes at yr haul y mae Dacia, ynddi y Cynhwysir Transil­fania, Moldafia, Walachia, Bulgaria, Bosnia, taleithiau dan aw­durdod y Turc, ond mae rhai Protestaniaid yn eu mysc. A Scla­fonia neu Illiricum lle mae Croatia, a Dalmatia, Pregethodd Paul o Jerusalem hyd yma ac yn awr daliant y ffydd yr un sut a'r Groegiaid. A Groeg ei rhannau yw Corinthus, Thessalia, Ma­cedonia, Achaia, Thracia lle mae Constantinopl, y adeiladodd, Constantinus ein gwladwr ni ar ystlys y mor Canoldir, ac yn awr prif ddinas y Twrciaid. Planodd yr apostl Paul eglwysydd Christnogol yn y gwledydd hyn, a Scrifenodd amryw o [...] Epi­stolau attynt, ond er diwedd dug dialedd duw y Twrciaid ar­nynt, etto am drêth maent yn cael rhydd-did i broffessu i gre­fydd [Page 6] Gristnogol a gwrthodant lygredigaeth y Ladingiaid. Mae gan y Christnogion sydd dan y Twrc bedwar patriarch parchedig (sef megis archescobion) i lywodraethu r'Eglwysydd. Un yn Constantinopl, un yn Alexandria, [...]n yn Jerusalem, ac un yn Antiochia, heb law gwei [...]idogion Cyffredin.

America y henwir yn bedwerydd ran o'r byd, ond tybir ei bod yn gymaint ar tair eraill, y tu arall ir ddaiar y mae. Cans fel pellen gron yw r' byd; pan fachludo'r haul a [...]nom ni ty­wyna ar America, bydd nos yma, tra fo hi dydd yno. Amlyg­wyd y wlad hon ir Europeaid ynghylch yr un amser ac yr ad­ferwyd dysceidieth a chrefydd. Oedran Christ i 492 Christo­pher Columbus wrth ddirnad fod yr haul yn tywynnu y tû arall ir ddaiar cyhyd ar tû yma; a wybu fod yno wiedydd, am hynny wedi cael dwy long gan frenin Hispaen, anturiodd hwylio hyd y môr mawr, oni ddaeth at ynys y alwodd ef Hi­spaniola. Nid oes ond cainc o for od oes ddim, rhwng America a Thartaria gogledd Asia. Od diyno y tybir fyned pobl yw phreswylio hi gynt. Rhannau America yw Mexicana, lle mai Florida er bod y gwledydd hyn cyn agosed at yr haul, ac yw duon Affrica, etto gwynion yw eu trigolion. Yr hyn y beriff i R. Ben Israel dybied mae hepil y dêg Llwyth aethant o Assyria drwy Tartaria i gyfanneddu yno. Eulynaddolgar ydynt, ond cydnabyddant anfarwolder yr enaid. Attebasant Ferdinando Soto oedd yn ceisio eu dyscu, nad oedd ei grefydd ef o dduw, am fod ei dilynwyr mor waedlyd. Rhan arall yw Mexico, nid ad­waenir moi therfyn tuar gogledd, gelwir hi yn awr Hispaen ne­widd, cans Hispaeniaid y ddugasant fuddinoedd ac a laddasant [...]hwe miliwn oi thrigolion ganedigol (y rhai oeddent noethion, ac heb reolaeth) a chymerasant eu lle hwynt. Yn ninas Mexico y mae eisteddle Rhaglaw brenin Hispain, ac Archescob, ac ys­coldai. A Jucutan, lle lladdwyd peth echryslon or trigolion gan yr Hispaeniaid Yr oedd yn y wlad hon demlau têg cyn dyfod yr Hispaeniaid yno▪ Arferent hefyd enwaediad, ac ad­dolent groes, yr hon adawsei gwr glân yno gynt er Coffad­wrieth, meddent. A Nicaracwa lle mae mynydd yn bwrw tân allan o honaw. Mae r' cyfriw beth mewn mannau eraill o Ame­rica ar henfyd hefyd, megis Aetna, a Fesufius, ond ni ddywedir [Page 7] fod Simnai cyn ddyfned ir un, ac ir mynydd hwn, gan fod y twll, o ba un y mae'r tân yn dyfod allan, wedi deuddeg ugain­llâth o ddyfnder. Yn Cwifira y mae Prydain Newidd y ymrod­dodd i Sr Francis Drake: yn America y mae Firginia, a Lloegr Newydd, ac yndynt drefydd a rheolaeth hyfryd, ar efengil yn llwyddianus ymysc y Saeson, a rhai o'r trigolion ganedegol he­fyd. A ffrainc Newydd. Deheudir America yw Peruana, lle mae taleithiau eheng oddiyno i fôr y dehau; a rhai pobl dduon, a llawer o aur a pherlau, dan awdurdod yr Hispaniaid y maent gan mwyaf, a gwnaeth daiargrynfâu niwed mawr yn y gwle­dydd hynn er pan ddaethant yno. Mae Saeson yn preswyl [...]o yn amryw o ynysoedd America sef Barbadoes, Bermudas, Ja­maica, crefydd naturiol yr Indiaid hyn yw cydnabod fod Duw a dderchafant eu llygaid tuar nef, aberthant, ac Arogldarthant. Gwnaeth gwyr Mexico ddelw o basteu, ac wedi ei dwyn megis mewn professiwn, rhannasant y crystyn rhwng y bobl, gan ddy­wedyd eu bod yn bwytta cnawd eu Duw, a hynny mewn modd parchedig. Yr oedd gan wyr peru dri delw i Dduw r'taranau, y rhai y alwent y tad ar mab ar brawd. Cyffessei r' Twysog ei bechodau ir haul, ac yna neidieu i ddwfr rhedegog, gan ddy­muno ar yr afon ddwyn ei bechodau ef ir mor yw boddi. Yn­gwlad Peru mae hi yn aiaf, amser hâf yn ein gwledydd ni ymysc y Barbariaid Truain hyn y gwnaeth yr Hispaniaid Aceldama, ac y rhoddasant y groes i sefyll mewn Golgotha fwy na'r hon yn Jerusalem, a'r cwbl i ynnill aur, nid eneidiau, ac i droi r'bobl yn gaethweision yw geibio ef.

Y mae gwlad y welwyd ei chyrrau gan forwyr, y elwir Ma­gelanica, neu tir y dehau anghydnabyddus, tybir ei bod yn gymaint ar cwbl y ddosparthwyd y tu hwnw ir ddaiar. Tebygol ei bod yn fawr iawn, gan fod yr haul yn troi yn ei chylch hi yn amser gaiaf gyda ni: ac nad oes ond ychydig o'r byd sydd eu­sus gydnabyddus y tu hwnw ir haul.

Bellach i ddyfod at yr amseroedd. Cyn seilio'r byd yr oedd yr Arglwydd Bendigedig yn rhagordeinio gwneuthur ei etho­ledigion yn wynfydedig drwy Grist Ephes. 1.4. 1 Pet. 1.20. megis y mae gwyr goludog, yn dymuno cael plant i etifeddu eu meddiannau, felly yr ewyllysiodd Duw greu dynion ac angy­lion [Page 8] i gyfranu ei fawr ddaioni iddynt Joan. 4.23. Am hynny gwnaeth ef Adda ac Efa mewn cyflwr hyfryd pûr, gorph ac en­aid. Nid oedd raid iddynt wrth ddillad, cans nid oedd un golwg gwrad wyddus arnynt, cyn pechu. Yr oedd yr holl greaduriaid yn usudd i Adda, ac yn fwynaidd wrth eu gilidd. daeth y bleiddiaid a'r defaid atto ef yn gyttûn i gymeryd henwau, wedi pechu Ad­da ac Efa, ni adawodd Duw hwynt un dirwnod heb hanes achub­wr i ddirymu pechod a Satan Gen. 3.15. Gwelwn ynteu brege­thu'r Efengil er y ddyd Cyntaf y bu dyn ar y ddaiar. A lladd­wyd Christ drwy fwriad ac addewid Duw er dechreuad y byd Datc 13.8. Cymododd Adda ac Efa a Duw drwy'r cyfamod gra­sol hwn cyn y dydd Sabboth, fel na phallei addoliad. Hiroes Adda sydd yn dangos iddo fyw mewn ufudd-dod i Dduw, cans ni ddarllenir ir un o'r annuwiol fyw cyhyd ar Patriarchau San­ctaidd. Cyfrifir ef yn yr un llech-res a rhai credadwy Gen. 5.1. a dyscodd ei blant, Cain ac Abel i addoli, ac aberthu: yr oedd yr aberthau y pryd hyn yn orchmynedig drwy air, wedi hynny drwy scrifen yn amser Moses. ac yn arwyddoccau yr haeddei'r aberthwr ei lâdd ai losci, ac yr aberthid Christ. Dug Abel y pe­thau goreu y feddeu yn aberth ir Arglwydd yn ewyllyscar, a chyffelybys ddyfod tân o'r nef i gyrchu ei roddion ef i fynn Levit. 9.24. ac nid rhai Cain. fel yr anfonodd Duw dân i aberth Elias, ac y gwrthododd ebyrth y gau Brophwydi 1 Brench. 18.25.— typ oedd hyn o'r gwresogrwydd y rydd. Duw yn ei wir addolwyr i dderchafu gweddiau ysprydol tua'r nef, ac mae trwy'r yspryd nefol yr offrymmeu Christ ei hun. Y mae cenfigen Cain yn ei yrru ef i lâdd ei unig frawd Abel dduwiol, am ei fod yn rhyngu bodd Duw yn wellnag ef ei hun Yr oedd erlidwir Cyn­taf megis y rhai diweddaraf yn addoli y gwir Dduw oddia­llan. Wedi hynn yr oedd Israel o'r un broffess ag Isaac, etto yn ei watwar ef. Ac Esau o'r un tâd a Jacob, etto yn ei gassâu ef: Escymunodd Duw Gain afrywiog allan oi addo­liad, Gen. 4.14. dyma ddechreuad rheolaeth eglwysig. Ar ol hyn rhoddes Duw fab duwiol arall i Adda sef Seth, yr hwn y genhedlodd Enos rasol, ac felly dechreuodd gwir ad­dolwyr Duw amlhâu, au galw eu hunain yn bobl yr ar­glwydd, a hâd Cain felltigedig yn feibion dynion Gen. 4.26. a [Page 9] bu i rai duwiol fyw wedi wyth, wedi naw cant o flynydd­oedd i glodfori Duw ynghyd. Os rhyfeddi fod einioes y tadau cyn y dilyw cyhyd, ystyria eu bod yn llestry newydd ddyfod o law'r gwneuthurwr Perffaith. A bod eu hymborth yn ia­chus, sef dail a ffrwythau, o'r hyn yn awr y gwneir phy­sygwrieth, ac yr oedd y ddaiar yn jevanc. A bendith doe thineb yw hiroes Di har 3.16. hefyd yr oedd eu hir gym­deithas hwynt ynghyd fel Cymanfa ffyddlon o henuriaid dai­onus yn cadw purdeb gwirionedd ydoedd y pryd hynny heb ei scrifennu: ac yn fuddiol er amlhâu trigolion ir byd, a gweision i Dduw.

Pan oedd y byd yn un cant ar bumtheg oed, ac i fei­bion Duw ymlygru gyda merched dynion, anfonodd Duw ddilyw i foddi'r byd, gan achub Noah berffaith, yr hwn y fu chwe chant o flynyddoedd gyda rhai y welsent Adda: ac a osnodd pan rybuddwyd ef am ddestryw r'byd, gan ddar­paru llong ar dir sych, er bod pobl diameu yn ei watwar ef. Noah ai feibion adferodd y byd. Yn heppil ei fab ef Sem yr ar­hosodd y wir ffydd.

Byrrhawyd einioes dynion y naill hanner ar ol y diluw, a hanner arall ar ol cymyscu'r jeuthoedd yn Babell Gen. 11. Bu Sem ai feibion duwiol fyw hyd amser Abraham ac Isaac, yn­ghylch pumcant o flynyddoedd ar ol y diluw. Ni bu Abraham fyw mor naw ugain mlynedd. Wrth rannu'r jeuthoedd torrodd yr arglwydd gymundeb rhwng yr eulunaddolw yr au gilidd, a gwascarwyd hwynt hyd y byd. Melchisedech (yr hyn oi gyfi­euthu yw ybrenin Cy [...]awn) y fendithiodd Abraham oedd Sem fel y tybia r'dyscedig Gen 14.18 y Peth sydd scrifenidig, Hebr. 7.1. a guttuna ag ef. Yr oedd heb rieni na cheraint yn amser Abraham, Heb ddechreu dyddiau yn y byd newydd, na diwedd oes yn yr hên. yr oedd y rhai byrroes y pryd hynny yn tybied na byddei ef marw byth, wrth ei weled ef yn byw cyhyd. Hawdd oedd iddo ef fod yn frenin, cans tâd yr holl rai duwiol oedd ef. A dyledus oedd i Abraham gymeryd ei fendith ef, cans offe [...]riad Duw oedd ef, ai hên-hendaid ynteu hefyd. Gwelodd Abraham ddyfodiad Christ yn [Page 10] y Cnawd a llawenychod Joan. 8.56. Darllen lyfr Genesis, a rhyfeddi mor ufudd i orchymyn Duw, ac mor hyderus ar adde­widion Duw oedd Abraham, Isaac, a Iacob, a Ioseph, yr hwn lyfr y gynwys histori 2369 flyn. Sef o ddechreuad y byd hyd gaethder Israel yn yr Aipht.

I Abraham y gorchmynodd Duw yr Enwaediad gyntaf, sef blingo ymaeth blaengroen y rhau ddirgelir plentin gwryw. Yr hyn oedd yn arwyddoccau y Sancteiddid had Abraham. Sef y genid Christ oi lwynau ef, yr hwn y dywalltei ei waed dros ei bobl, ac y dylid torri ymaeth llygredigaeth trachwant. Deut. 10, 16. yn yr oes hon (tebygol) y bu Job yn enwog mewn Crefydd yngwlad Uz. ir amser hwn y perthyn hûd ei einioes ef. Cans bu fyw Saith vgain mlynedd ar ol ei brofi, ac o'r blaen yr oedd ganddo feibion a merched. Ac wyr Abraham o Ce­turah oedd ei gyfaill ef Bildad mab Suah Gen. 25.2. Darfu ir pendefigion y ragddywedpwyd ymddwyn yn rasol mewn profedigaeth a goruchafieth. Ac wedi hyn nid allodd toster yr Aiphtiaid ddiffodd Crefydd yr Israeliaid. Cofiasant lw Jo­seph am symmud ei escyrn ef gyd a hwynt wrth ymadel ar Aipht, diammeu nad anghofiasant moi ffydd ef Exod. 13.19. o'r amser y gwnaeth Duw yr Cyfamod ag Abraham hyd ddyfo­diad Israel o'r Aipht y bu 430. flyn. Exod. 12, 41. ynghylch oedd y byd 2500. Gwell oedd gan Moses fod yn fab i Dduw nag yn wyr i Pharao. Hebr. 11.27. dewisodd adfyd gyda phobl Dduw. o flaen hawddfyd gyda phechod. A hynny wedi iddo fyned yn fawr, pan oedd ynghanol ei oed ai gôf; gwell ynteu yw Cyssur ysprydol na digrifwch daiarol. Yn awr or­deinwyd yr Oen pasc er coffadwrieth i Israel oi gwarediad o'r Aipht, ac er yspysrwydd o Grist i ddyfod 1 Cor. 5 7. am hynny gelwir ef yn oen i dynnu ymaeth bechodau. Joan 1.29 drwy Ffydd yr aeth y bobl drwy r' môr côch, lle bedyddwyd hwynt, a phlant yn eu plith 1 Cor. 10.2. a chan fod pobl Dduw wedi aml­hâu yn fwy na chwechan mil, ac wedi eu didoli ir anialwch od­diwrth eulynadolwyr, a byrrhâu einioes dyn, yscrifenodd Duw ei gyfraeth iddynt ar gerrig ai fys ei hun, wedi iddo a lleferydd eglur ei had [...]odd wrth y bobl o'r mynydd tanllyd.Exod. 20. Pan oedd yn rhoddi teyrnas yw bobl, rheidiol oedd iddo roddi cyfraeth [Page 11] gyda hi, ie parodd iddynt gyfodi Colofnau maen wedi eu gwyn­galchu, a scrifenu holl eiriau yr gyfraeth arnynt yn nhir Ca­naan. Fel y galleu pawb eu darllen er mwyn eu cadw Deu. 27.3. Ac fel y byddei'r bobl hyspysach ar ewyllis eu harglwydd, go­sedwyd hi nid yn vnig ar lêchau, a Cholosnau, ac mewn llyfrau, ond ar ganiâdau hefyd Deut. 32. tybir na bu er ioed yscrifen yn y byd cyn y pryd hyn. Or blaen yr oedd y rhai pennaf o'r teu­luoedd duwiol yn cael gweledigaethau duw, ac yn dyscu ir lleill yr hyn y fynegasei Duw iddynt hwy. Gen. 18.17. a gela firhag Abraham medd yr Arglwydd? Cans mi ài hadwaen ef y gorchymin ef yw blant ac yw dylwyth ar ei ôl gadw o honynt ffordd yr arglwydd.

Os gofynni pa fodd y gallei Moses wybod y pethau a ddig­wyddasent er dechreuad y byd, ac sydd scrifenedig yn ei lyfer cyntaf ef?

Attebaf y gallei ef wybod llawer drwy fynegiad dynol o'r pe­thau y ddyscaseu r'genedl honno gan Joseph, ac ynteu gan Ja­cob, ac ynteu gan Isaac, ac ynteu gan Abraham, ac ynteu gan Sem, a Sem gan Noah, a Noah gan Methuselah, ac ynteu gan Adda. A Chyda hynny yr oedd Moses yn cael ymddiddan ar Arglwydd wyneb yn wyneb Deu. 34.10. yr hwn y ddatcuddiodd iddo ef y pethau fuasent, a lawer o'r perhau fyddent. Joshua gweinidog ac etifedd yspryd Moses a ddug Israel i ganaan, ac a wnaeth gyfammod difrifol a hwynt, ar usuddhâu ir arglwydd, a bwrw y maeth eulinnod Josh. 24. o hynny hyd amser Saul bu Israel heb frenin, sef yspaid ynghylch 45 o flwyddin. Act. 13.20. yn y dyddiau hynny pan bechei'r eglwys drwy gau addoliad, a drwg foesau gadawei'r Arglwydd i erlidwyr ei gorthrymy, a phan ddiwygei ei ffyrdd, cyfodei waredwyr iddi. Bullwyddiant crefydd yn helaethach yn amser y brenin Dafydd gwr wrth fodd Duw; ai fab Solomon, y ddewisodd ddoethineb dduwiol oflaen golud bydol. Ynghylch hyn y tybir i Frenhines Sheba ddwyn y wir grefydd i Arabia ddedwidd i Brenh io. i. Ond wedi hyn­ny ymly grodd Israel fwyfwy, nes i Dduw ddigio wrthynt a Chyfodi brenin Assyria i gaethiwo y deg llwyth, a brenin Ba­bilon i gaethiwo'r ddau eraill gan losci Jerusalem ar Deml Bu'r Sc [...]ythur a'r grefydd yn brin yn nechreu teyrnasiad Josiah 2 Brenh 22.15. ac Ahaz 2 Cron. 28.23.— yr hwn y gauodd y deml, hyn y barodd sawr gystudd.

[Page 12]O amser Solomon hyd gaethiwed Babilon y bu 438. fly. oed y byd 3440. Ond argyhoeddodd y grefydd eir [...]dwyr, cans y pryd hyn Cyhoeddodd Nebuchodonozor yw holl daleithiau mae Duw'r Israeliaid oedd y gwir Dduw, gan ei fawrygu ef amwneu­thur gwrthiau dros ei bobl yn eu Cyfyngder Dan. 3.28. ar 4.1. Ond am ir Caldeaid attal y gwirionedd mewn anghyfiawn­der, a chystuddio Israel ddengmlynedd a thrugain, dymchwe­lodd duw eu ymerodraeth hwynt, gan ei rhoddi ir Persiaid y rhai a hyfforddiasant yr Juddewou i ddychwelyd, ac i ailadeil­adu yr deml a Jerusalem, ac a gydnabuasant hefyd fawrhydi y gwir Dduw. Dengis llyfr Ezra helynt y ffydd dros 146 flyn ar ol dychweliad Israel o Babilon. Y prophwyd olaf ar ol ailadei­ladu'r deml oedd Malachi ac yn gymaint ac nad oedd vn pro­phwyd i gyfodi ar ei ol ef rai cantoedd o flyn nes dyfodiad Jo­an fedyddiwr, mae 'n gadel siarse arnynt, am ddyfal ddys [...]u cy­fraeth Moses Pen 4, 4. oed y byd 3608. Pan oedd Alexander brenin Macedonia, yn orchestol yn gorchfygu cadernid Persia, daeth tua Jerusalem yn ddiclon, am i Jadduah yr Archoffeiriad ommedd ei gynorthwyo ef yn erbyn brenin Persia, (ir hwn yr oedd Jadduah yn rhwymedig drwy lw) A thra yr oedd y ddinas dan ei dychryn yn ymprydio, ac yn gweddio Duw, cafodd yr Archoffeiriad gyngor mewn breuddwydd i agori pyrth y ddi­nas, ac i fyned allan ai frodyr gyd a'g ef yn eu gwiscoedd offeiriadol i wyneb y fyddyn lidiog. Ar hyn rhedodd Alexan­der i gyfarfod yr Archoffeiriad, ac ai cyfarchodd ef yn ostynge­dig gan orchymyn yw gapteniaid na wnaent niwed iddynt: gan ddywedyd i Dduw yn y Cyfryw debygolieth ymddangos iddo ef, ac addaw rhwyddhynt yw daith ef, wedi hynny dangosodd Jadduah iddo ef brophwydolieth Daniell, yn Crybwyll am fu­ddugolieth iddo ef, yr hyn annogodd Alexander i adel ir Judde­won rydddyd eu crefydd. Ar ol hyn mynnodd Ptolemeus Phila­delphus brenin yr Aipht ddeuddeg a thrugain o ddyscawdwyr yr Juddewon i gyfieuthu yr hên destament ôr Hebraec ir Groeg.Oed y byd 3700. Ond prifiodd eraill o'r brenhinoedd Groegaidd yn erlidwir chwerwon yn erbyn y wir grefydd. Ceisiodd vn o honynt ddyfod ir deml ir fan Sanctaidd Sancteiddiolaf yw ha­logi ai gau aberthau, ond wrth weddi Simon yr Archoffeiriaid, [Page 13] trawodd Duw ef a gwendid, fel nad allodd Symmud. Ac wedi myned yn wych, penododd ddiwrnod i lâdd yr Juddewon, ond tynnod Duw ei goffadwrieth ef ymaeth ar y dydd hwnw: ac wedi [...]ynny darfu i ddau angel ei ddychrynu ef ai fyddyn oddi­wrth Jerusalem: Yn amser Antiochus Epiphanes gwelwyd by­ddinoed yn yr awyr vwchben Jerusalem, y pryd y ceisiodd ef yscubo allan o'r byd enw yr Juddewon ai crefyd. Ac wedi iddo wneuthur creulondeb fawr, trawodd Duw ef a dolur gwaed­lyd oni bu ef farw! Er na bu vn prophwyd yn Israel o amser Ma­lachi hyd Joan fedyddiwr dros well na thrichant o flynyddoedd etto glynodd yr Juddewon yn gefnog yn eu crefydd y dydd­iau hynny. Dengis llyfrau'r Apocrypha helynt yr amseroedd hyn, y rhai er nad ydynt yw Cyfrif fel yr scrythurau Sanctaidd, oblegyd nad ydynt ymbob peth yn Cyttuno a hwynt, na'g wedi eu scrifenu yn Hebraec, na'u derbyn gan yr Juddewon, etto hae­ddant barch historiau dynol.

Bu rhyfel rhwng dau frawd am frenhinieth Jerusalem;Oed y byd 3903. Cyr­chodd y blaid oedd yn gwarchae ar y ddinas vn Onias gwr du­wiol (yr hwn drwy weddi y barasei law ar sychter mawr) i weddio drostynt gael y fuddugolieth, a gweddiodd ynteu y gei­riau hyn; Arglwydd gan fod y naill blaid yn bobl i [...]i, a'r blaid a­rall felly, ac yn offeiriaid hefyd, na wrando ar weddiau y naill yn erbyn y llall: ar hynny llabyddiasant ef. Ar wyl y pasc gom­meddodd y gwarchaewyr ebyrth am eu harian ir lleill yn y ddi­nas, yr hyn annogodd Duw i anfon tymmhestl i anrheithio ffrwyth y ddaiar oni chymellodd newyn y gwarchaewyr hynny i ymadel. Ar fyrder daeth Pompeius gadarn i dorri r' ymrosson, ac a ddarostyngodd y [...]renhinieth dan y Rhufeiniaid, wedi ir Juddewon o'r blaen ddioddef llawer o doster y Groegaid. We­di ir gorescynwr hwn wneuthur Celanedd yn Jerusalem, trodd ir deml, a lladdodd yno ddeuddeg mil, er hynny ni pheidieu 'r offeiriaid yn y Cyfamser er maint oedd y dychryn a chyflawni swyddau'r diwrnod, Cans ympryd oedd. ymattaliodd Pom­peius ac yspeilio'r deml oi thryssor o ran parch ir lle, ond wedi hynny daeth Crassus awyddus; yr hwn a yscubodd ymaeth ei golud, a chwympodd dialedd Duw ef drwy ddwylaw 'r Parthi­aid, y rhai mewn dirmyg a lanwasant ei Safn ef ag aur. Gw­naeth [Page 14] y Rhufeniaid vn Herod (Edomiad o'r naill du) yn frenin yr Juddewon.3930. Yn amser yr Herod yma y bu daiargryn mawr yn Judea y laddodd ddengmil o bobl, heb law anifeiliaid lawer, ac y bu erlid mawr ar yr Juddewon am dynnu i lawr lun (eryr, Lluman y Rhufeiniaid,) a osodaseu ef ar ddrws y deml. Yn y flwyddyn olaf o deyrnasiaid hwn y ganwyd Christ. Oed y byd 3963. Ar hynny brawychodd Herod, ac a laddodd blant Beth­lem ar hyder llâdd Christ yn ei grûd, ond bu ef ei hun farw yn y man gwedi. Er bod yr Eglwys yn o goelgrefyddol y pryd hyn, etto darlleniwn yn yr efengil am amryw rai duwiol, megis Sime­on, a Zecharias, ac Elizabeth, ac eraill. Yn y bumthegfed flwyddyn o oedran Christ Pan oed Augustus Caesar ymerod r gorfodawg Rhufain yn rhifo ei filwyr, torrodd taran ddychrynllyd uwch eu Pennau a dileuodd (C) y llythyren gyntaf o henw Caesar, tebyg lle yr oedd ei lûn ai henw wedi en hargraphu ar golofn. Cans yr oedd vn arall i lywydraethu vwch ei law ef. Ynghylch Pedair ar ddeg ar hugain oi oedran y croeshoeliwyd Christ drwy ddymunniad ei wladwyr, daeth diflaniad ar yr holl Swyddogion ai Condemnodd ef. Ymlidiodd ymerodr Rhufain Pilat ymaeth, am iddo gadw 'r tryssor Cyhoeddus iddo ei hun: ac wedi ir Juddewon gael pumtheg mlynedd go-heddychol i glywed yr efengil gan yr apostolion i edrych a eydifarhaent, a nhwythau gan mwyaf yn Caledu eu calonau, amlhaodd eu helbulon ar bob tro, nes ir Rhufeiniaid gwbl ddinistro Jerusalem ar deml, au gyrru ymaeth oi gwlad, wedi llâdd o honynt vn cant ar ddêg o filoedd, a gwerthu o honynt deg cant a Phedwar ugain o filoedd i gaethiwed.Oed. Chr▪ 72. A digwyddodd iddynt yn ol eu styfnigr­wydd, pan lefasant yn erbyn Christ, bydded ei waed ef arnom ni, a'n Plant Ac o herwydd iddynt ddewis Caesar o flaen Christ, cawsant ddigon o Caesar, cans Cymellid hwynt i addoli ei lûn ef, ac erlidwyd hwynt am wrthod hynny. Cyn eu dinistr lli­feiriol, Safodd Seren un ffurt a chleddyf uwch ben y ddinas, ac ymagorodd un o ddryssau mawr y deml o hono ei hun, er ei fod o brês ac arno farrau heirn. A chlybwyd llais yn yr awyr yn perid ir Christnogion fyned ymaeth i Pella. Yma Cymmerth fwgythion Christ afael arnynt Luk 19.41. och gwelwn ac ofnwn Mae Duw yn rhygryf ir gwrthnyssiccaf o ddynion. [Page 15] Taflodd gawri yr h [...]n fyd i fod yn furgynod ar y ddaiar, bw­riodd Pharao a'r Aiphtiaid i byscod y mor côch, Herod ir llaû, a Jezabel ir cwn. Er ir Juddewon wrthod trugaredd yr efengil, mynnodd Christ weled o lafur ei enaid ymllith y cenhedloedd. Cans drwy bregethiad yr apostolion, (y gawsant ddawn rhy­feddol i fynegi'r iechyd wrieth i bob cenedl lle delent yn ei iaith ei hun) mewn amser bychan llanwyd pob teyrnas gan Grist­nogion, fel aneirif y scuboriau ag yd mewn ychydig wythnôsau y cynhaiaf. Gwelodd rhaglunieth Duw yn dda raglyfnu peth ar y byd drwy philosophyddieth y Groegiaid, a rheolaeth foe­sawl y Rhufeiniaid, ac yno hauodd yr efengil. A hynny yn llawnder yr amseroedd, pan oedd y byd amlach o bobl nag y buasei e'r ioed o'r blaen. Pregethodd Thomas Aple ir Parthiaid, Mediaid, a'r Persiaid, ac er diwedd lladdwyd ef a phiccell. E­fangylodd Simon Zelotes yn Africa, a chroeshoelwyd ef. Llafu­riodd Bartholomeus ymysc yr Indiaid, a blingwyd ef. Andreas a bregethodd ir Scythiaid, a chroeshoelwyd ef, a Mathew ir Juddewon, ac a labyddwyd. Peder ir Juddewon ar wascar, ac yn eu gwlad. Philip ir Phrygiaid a chroeshoelwyd ef. Daeth Paul tua'r Gorllewyn, sef i wlad Groeg a'r Ital, a'r Hispaen: a dyweder i rai oi gymdeithion ef bregethu yn Frainc, oddiyno anfon Joseph o Arimathea i blannu yr efengyl yn Prydain. We­di i Paul gymeryd poen ryfeddol i hyfforddi yr efengil, torr­wyd ei ben ef yn Rhufain. Merthyrwyd Pedr hefyd. Efangy­lodd Thaddeus yn Edessa, lle r'iachaodd ef Agbarus y brenin, yr hwn anfonaseu am Grist i ddyfod atto ef, wrth glywed son am ei wrthiau ef, ac addawsei Christ anfon un oi ddyscyblion atto ef ar ol ei dderchafiad. Cynygiodd Agbarus aur i Thaddeus am ei gymwynas, ond gwrthododd yr Efangylwr y rhodd, gan ddywedyd Iddo ef adel yr eiddo ei hun, a pheth y wnae ef ac eid­do arall. Cyn myned ymhellach yn histori r'testament newydd, ystyriwn fod y wir grefydd dros ddwy fil a hanner o flynydd­oedd, sef er dechreuad y byd hyd Moses, yn siml ac yn blayn heb dim defodau corphorol mewn bwydydd, na gwiscoedd, nag amseroedd, na lleodd, heb law aberthau, a'r enwaediad yn amser Abraham. Wedi hynny o amser Moses hyd dderchafiad Christ, dros ynghylch pumtheg Cant o flynyddoedd, bu rhifedi mawr [Page 16] o ffigurau a defodau gweledig i arwyddo Swyddau Christ, a phan ddaeth Christ ei hun yn y cnawd, a chyflawni r'peth yr oedd y rheini yn ei ragfynegi, dioscodd crefydd y cyscodau hynny gan ddychwelyd ir playnder dechreuol mewn modd trâ ysprydol. Ac felly yr un oedd Sylwedd crefydd ymhob oes dan yr hên destament ar newydd. gwêl yr 11. pennod at yr Hebr. gan weithio yr un grasau ynghalonau r'ffyddloniaid cyntaf a'r diweddaraf. Gwell oedd gan rai duwiol yr hen destament Dduw na'i bywyd, Dan. 3.17, 18 ac felly yr oedd gan St y Testa­ment newydd Act. 21.13. Yr un moddion gras arferent, sef cynghori, myfyrio, a gweddio. Yr un dedwyddwch yr oeddent yn ei geisio, Sef gogoniant tragwyddol, Job. 19.25, 26. Hebr. 10.34. drwy r'un Cyfryngwr yr oeddent yn cael trugaredd Dduw. 1 Cor. 10.4. Ar un anwyldra amlygodd Duw tuag at y bobl dduwiol dan y Testament hên a'r newydd; gan obrwyo eu ym­geleddwyr hwy, Gen. 39.5. bendithiodd dy Potyphar er mwyn Joseph. ac Math. 10.42. Cefir gwobr am roddi phiolaed o ddwfr i un o ddyscyblion Christ; a chystuddio eu cystuddwyr hwy megis Pharao, Exod. 8.1.—A Herod, Act. 12.1, 2, 23. ymddan­gosodd Christ yn weledig dan yr hên destament Josh. 5.13, 14. yn Siccr y mae trugaredd Dduw wedi amlhau yn [...]wy tuag at y byd yngweinidogaeth y testament newydd; am hynny y llawenychodd Simeon, Luk. 2.29. Ac y mae Christ yn dywe­dyd fod llygaid ei ddyscyblion ef yn wynfydedig am weled y pethau yr oeddent yn eu gweled, o herwydd i lawer o Brophwydi ewylly­sio eu gweled ac nis gwelsant. Luc. 10.23, 24. Cans mae'r efengil yn Eglurach. Yr oedd y testament newydd wedi ei orchguddio yn yr hên, yn awr y mae'r hên wedi ei ddatcu­ddio yn y newydd, ac fel yr haul yr Africa yn rhoddi goleuni heb gysgod. Ac aberthwyd yn awr nid geisr a lloi, eithr Christ ei hun, gan gael ini dragwyddol ryddhâd, Heb. 9.12. Hefyd nid oedd gynt ond ymbell deulu yn cael yspysrwydd o'r grefydd: ac wedi amser Moses nid oedd ond un genedl yn cael ei galw yn oestadol, a rhan fwyaf o honno yn wrthodedig eisieu ufudd­hâu: tra yr oedd agos yr holl genhedloedd eraill cyn amled a thywod y mor yngwaelod anghredinieth a cholledigaeth. Ond gorchmynwyd ir aplion gynyg Cymod a grâs i bob cenedl dan [Page 17] haul, fal y ganwyd plant ysprydol i Grist megis y gwlith o groth y wawr Psal. 110 3. Ar gwle dydd y fuasent mewn tywyllwch er dechreuad y byd, welsant oleuni r'bywyd.

Ar hyn llidiodd y Cythrael yn ddirfawr am golli ei ddeili­aid, a chynhyrfodd ymerodron Paganaidd Rhufain i erlid y Christnogion yn filain. O fewn y trychant blynyddoedd Cyntaf ar ol ganedigaeth Christ y bu deg o erlidigaethau trymion.

Y cyntaf o honynt y digwyddodd yn nheyrnasiad Nero. Yr hwn wnaeth iro Cyrph y Christnogion a gwer ac a phyg, yw llosei r'nos i oleuo heolydd Rhufain. Wedi hyn ofnodd Domi­tianus deyrnas Christ, a lladdodd ei geraint ef, a gyrrodd Jo­an i Bathmos. Ond pan ddeallodd ef mae ysprydol ac angylaidd oedd teyrnas yr Jesu, attaliodd ei greulondeb. Ar ol hyn gorch­mynodd Trajanus lâdd llawer mil o'r Christnogion. Darfu i Ignatius Pregethwr duwiol ei argyhoeddi ef oi eulunaddolieth, a merthyrwyd ef am ei dystiolaeth: ac ychydig cyn ei ddiwedd, Nid wyfi etto ond yd i Dduw (eb y merthyr) ond pan falo r'anifei­liaid gwlltion fi rhwng eu dannedd, byddaf fi fara gwyn, ni byddaf fi lai er fy malu.

Yscrifennodd un oi raglawiaid at yr Emerodr, na fedrei ef gael gwybodaeth o ddim drwg ar y Christnogion, er iddo eû Cospi au holi yn fanwl, onid eu bod yn ymgyfarfod cyn y dydd i ganu hymnau i Grist; ac i gydfwytta au bod yn ymwneuthur au gilidd i ymwrthod a lladrad, llofruddieth, a godineb: ar hyn­ny cafodd y Christnogion heddwch. Ond yn amser Hadrianus merthyrwyd Zenon jarll duwiol yn Rhufain, a deg mil o Grist­nogion gyda'g ef. Ar hyn plediodd dyscawdwyr Cristnogaidd eu hachos o flaen y gorthrymwr oni lareiddiodd ef. i.e. Scrife­nodd Antonius Pius at ei swyddogion, ei fod ef yn gweled y Christnogion yn ddiofn ar ddaiargryn, pan fyddeu, ei Ddeiliaid Paganaidd ef yn llawn dychryn. Am hynny tybiei eu bod hwy yn bobl dda, ac na haeddent gospedigaeth. Rhydd Philo, Scri­fenudd dyscedig er ei fod yn Juddew gyfryw dystiolaeth am Gristnogion yr oes hon yn yr Aipht: sef eu bod hwy yn gadael eu tiroedd, yn ymprydio, ac yn gweddio, ac yn canu psalmau, un yn dechreu, ar lleill tua'r diwedd yn cydbyncio.

[Page 18]Dywedir i Gristion ievanc o gydnabyddieth Joan yr apl, a­del ei broffess, myned yn yspeiliwr pen ffordd. A phan gyfarfu ar y mynydd ac Joan, ffoawdd oddiwrtho ef rhag Cywylidd. Ond wedi i Joan lefain ar ei ôl ef, ac addaw iddo gymod a Christ, Safodd y lleidr dan grynu ac wylo. Ac wedi ir apostl weddio drosto ef, dychwelwyd ef at y Sainct.

Pan fethei gan Satan ddiddymu 'r ffydd drwy'r erlidwyr Paganaidd, cyffroei ymbleidiau yn yr eglwysydd, ac amryw opiniwnau. Am hynny gorfu i Polycarpus athro enwog ddyfod o Asia i eglwys Rufain ynghylch y Pasc, ac vnodd a hwynt mewn Cymmundeb yfprydol yn swpper yr Arglwydd, er nad oedd Cyssondeb rhyngtho ef a nhwythau ynghylch y defod hwnw. Ond wedi hynny yn amser Ferus yr Emerodr Cododd er. lid yn erbyn yr efengil: a merthyrwyd Polycarpus dyscybl Joan yr apl. Yr hwn y ddywedodd wrth y rhai oedd yn ceisio ganddo wadu ei ffydd, Iddo wasnaethu Christ er's gwell na phed­war vgain mlynedd, ai gael ef yn feistr da, ac am hynny na adawei ef mono ef byth. Er ei fod yn oedranus, etto ni Swicciodd ronyn tra yr oeddint yn ceisio ei losci ef, ond ni finniei 'r tan arno ef tra yr oedd ef fyw, am hynny lladdasant ef a'r cleddyf, a thra'r oedd y tân yn losci ei gelain ef, daeth arogl peraidd oddi­wrtho ef: flangellwyd eraill, a threiglwyd hwynt yn noeth ar hyd cregin llymion, a phryd nad ymwrthodent au ffydd er hynny, te­flyd hwynt ir llewod yw llarpio. Merthyrwid Justinus hefyd dyscawdwr llythrennog, yr hwn fuasei vnwaith yn Philoso­phydd cenhedlig; ond wrth weled mor gyssurus y byddeu 'r Christnogion yn dioddef, dechreuodd syn feddylio, ac wrth ymddiddan a hên Gristion trôdd at Dduw, tystiolaethodd nad ellid wneuthur niwed i Gristion, er ei lâdd ef. Yn yr oes hon y bu Ireneus dyscybl Polycarpus yn Athro buddiol yn ffrainc: yn ei amser ef y bu ymdrech rhwng escob Rhufain ag eglwysydd Asia ynghylch y Pasc, mynneu rhai Asia gadw 'r un amser a'r Juddewon, ond taereu Eglwys Europa iddynt dderbyn oddi­wrth yr apostolion na ddylent gumuno ond ar y Sabboth yn unic. Am hyn Cyhoeddodd Fictor escob Rhufain nad arserei ef ddim Cymundeb ag eglwysydd Asia: ond darfu i Ireneus yn enw eglwysi ffrainc ac eraill ei argyhoeddi ef oi boethder, er [Page 19] eu bod o'r un dyb ag ef ynghylch y pwnc. Gan ddangos nad oedd holl eglwysi Christ drwy'r byd yn Cadw yr un amser i ymprydio, cans ymprydieu rhai ddiwrnod, eraill ddauddydd, etto bod undeb cariadus rhyngthynt: Ac na ddylid drwy ym­drech am gyscod golli sylwedd crefydd, sef cariad. Yr oedd gwrthiau yn yr eglwysydd yn amser Irenaeus, ac efangylwyr yn myned ar lêd i bregethu, pan drymhaodd yr erlid yn ffrainc merthyrwyd ef, a llawer o'r Christnogion. yno y cafodd y gweinaid ddiangfa, a'r Cryfion galondid i ddioddef er mwyn Christ, gan ystyried Rhuf 8.18. Safodd i fynu un Fetius Jarll i bledio gyd a'r Christnogion, a merthyrwyd ef gyd a hwynt. Blandinagwyryf rasol a flinodd ei phenydwyr drwy ddioddef­garwch, gan gyffessu ei ffydd heb ymwrando ai phoen, wedi i ofn yrru Biblis i wadu 'r ffydd, poenydwyd hi er mwyn ei chymell i gyhuddo ei chyfeillion; ac yn ddisymwth, fal un wedi deffro o gwsc, addefodd Grist, a thystiolaethodd nad oedd y Christnogion yn bwytta gwaed anifeiliaid, a pha sôdd y bwyt­taent waed plant? Pan weleu'r encilwyr gweiniaid fod y rhai Calonog mor hârdd yn eu Gadwynau a'r briodas-ferch yn ei thrwsiadau, deuent o honynt eu hunain ir frawdle i gy­ffessu Christ er mwyn cael merthyrdod: er arteithio a ffrio yr Sainct ar farfor etto buont ffyddlon hyd angeu: wedi llosci'r merthyron teflid eu llydw ir afon, er mwyn gwanychu gobaith y Christnogion am yr adgyfodiad. Ond digwyddodd ir ymerodr fod mewn Cyfyngder ef ai fyddun a ran Sychter, ac wedi iddo geisio Cymorth yn ofer gan ei eulynod, anfonodd am y Christ­nogion ynghyd i weddio at eu Duw dros y fyddun, ac felly y gwnaethant, a chawsont law yn ebrwydd, ac am y Cymwynas hwnw gorchmynwyd ostegu 'r erlid: Yn yr oes bon y bedydd­wyd llysin brenin prydain.

Dan emerodraeth Seferus y bu erlid tôst yn enwedig ar Gristnogion Affrica a Chappadocia, y pryd y merthyrwyd tâd O­rigen: ac er nad oedd ynteu ond llanc dwy ar bumtheg oed, ae­thei allan i gymeryd ei ferthyrdodd gyd ai dâd, oni buasei yw fam guddio ei ddillad ef; am hynny scrifennodd at ei dâd yw annog ef i ddioddef. Trôdd un Capten Basilides yn Gristion wrth roddi Potamiena i farwolaeth am ei ffydd. Ac ychydig [Page 20] gwedi dioddefodd ei hun am ei Ffydd yr un gospedigaeth, ac y roesei ef ar eraill yn ei anghredinieth. Am hyn dywed Tertul­lianus yn ei scrifen dros y Christnogion, fod gwaed y merthy­ron yn hâd yr Eglwys. Cans pobl wrth weled Cyssur y merthy­ron a chwiliant am yr achos o honi, ac wedi ei chaffael, ai di­lynant am fod tangneddyf a Duw yn awr angeu yn beth dym­munol. Yr achosion pam yr oedd y rheolwyr Paganaidd cyn fy­nyched, a chyn gieiddied yn gorthrymu yr Christnogion oedd amryw megis.

Y gelyniaeth sydd rhwng hâd y wraig a hâd y ddraig Gen. 3.15. Câs gan natur lygredig Dduw ai ffyrdd. Am hynny codid celwyddau ar y Sainct, eu bod yn llad plant, ac yn godinebu in eu cyfarfodydd: ac yr oedd y wir ffydd yn gostegu enlunai­ddolieth y cenhedloedd, am hynny yn eu cyffroi hwynt, Act. 16.18. pan fwriodd Paul yspryd dewiniaeth allan o langces, ter­fyscodd dinas Philippi a llanwyd dinas Ephesus o gythryfwl yn erbyn yr efengil, rhag cyfrif teml y dduwies Diana yn ddi­ddim. Act. 19.27. A byddeu cynghorion Christnogion yn anesmwytho y rhai oeddent yn ymroddi i bechod. Dyna'r peth y wnaeth i Herod garcharu a mwrdro Joan Fedyddiwr, Marc. 6.17, 18. Wedi i un o ordderchion Nero droi yn Grostnoges, a gwrthod bodloni ei gynefin chwant ef, ceifiodd ymddial ar yr efengil. Hefyd yr oedd y Christnogion o ran ofn Duw heb roddi ufudddod i lawer a gyfreithiau y cenhedloedd, or achos hyn y bwriwyd yr Israeliaid, gynt ir ffwrn dan, ac i ffau'r lle­wod, Dan. 3.12. ac Pen 6.12. Ni fyneu y rhai grasol dyngu i Fortun Caesar, nag addoli ei ddelw ef yn y marchnadleodd, er gorchymyn y Swyddogion, am hynny bernid hwynt yn ystyfnig ac in haeddu Cosp, rhag iddynt gyffroi hawl i frenhinieth: yn olaf pa aflwydd bynnag y ddigwyddei ir cenhedloedd, newyn, neu haint, tybient i hynny fod o herwydd ir Christnogion ddir­mygu eu gau dduwiau hwynt, ai blaenllymei nhwy i ddifetha'r ffyddloniaid.

Wedi i Decius gymeryd lle Philip yr emerodr, (yr hwn y laddaseu ef am iddo droi yn Gristion) rhoddodd allan brocla­masiwn gwaed [...]yd i lâdd y Christnogion oll, dywed Historâwr fod cyn hawsed cyfrif tywod y môr, a chyfrif henwau y rhai a [Page 21] ferthyrwyd y pryd hyn ynhaleithiau Rhufain, o'r dwyrain ir Gorllewyn▪ er i r ai o'r Christnogion lwfrhau, ac aberthu i eu­lynod rhag colli eu golud, etto cymerodd y lleill eu yspeilio am eu da ai bywyd yn ewyllyscar cyn y gwadent Grist, ie metheú gan y rheolwyr na thrwy fwgythion nac addewidion, na gau resymau, na phoenydiau orchfygu ffydd gwragedd a merched: eithr yr oedd gwendid rasol yn gryfach nag awdurdod anghre­dinol. Ac os byddeu rai yn cofaddef eu ffydd yn ofnus yn y sessiwnau, cyfodeu eraill o honynt eu hunain heb neb yn eu Cymell, i gyffessu yn galonog, oni byddeu'r dyrfa yn rhyfeddu, a'r barnwyr fel Phaelix yn crynu Act. 24.25. a'r Christnogion yn gorfoleddu, cans byddei dyrnod Duw yn ddisymwth yn llâdd amryw o'r penydwyr, a'r encilwyr, ac ysprydion drwg yn me­ddianu yr lleill. Lladdwyd Decius ei hun mewn rhyfel a'r Bar­bariaid, a daeth Cornwyd marwol drwy'r holl ymerodraeth, y dalodd am ddifrodi'r diniwed, oni byddeu Cyrph y cenhedlig yn dyrrau yn yr heolydd, a'r Cwn yn eu llarpio, am na lefasent drin eu cleifion, na chladdu eu meirwon, rhag ofn yr haint, a'r Christnogion yn ymgleddus yw gilidd, heb ddim diffyg.

Ynghylch hyn y Cwympodd Origenes athro nodedig: Siomwyd ef i fwrw aberth ir eulyn, rhag i Ethiopiaid halogi ei gorph ef ond edifrhâodd gwedi hynny, a galârodd yn oer am ei wend­id, a phan aeth fel herwr i Judea, ac ir gynylleidfa ddymuno arno bregethu, agorodd y bibl, ar lle cyntaf y trawodd wrtho oedd Psal. 50.16. yr hyn y wnaeth yw ddagrau ef attal ei ei­riau, ac ir holl dyrfa wylo gyda ef.

Ar ol hyn Cafodd yr Eglwys ychydig yspaid o dangnheddyf y barodd (fel llygedyn rhwng dwy gafod yn codi chwyn yr yr yd) falchder, ac anghydfod ymhlith y Christnogion, yn gymaint a phan ddaeth lleferydd attynt ôr Nef yn gorchymyn,Oed. Chr. 259. ceisiwch ac chwi gewch, etto ni fedrent gyttuno ynghylch y nifer yr oeddid i weddio drostint, nes i ddrwg hin eilwaith irru'r defaid ynghyd, ac i greuloudeb Falerianus yr ymerodr dorri allan yn eu herbyn hwynt: y pryd y merthrywyd Cyprianus athro Duwiol o Africa; a dewisodd tri chant yn Carthago eu bwrw i gyl poeth, yn hytrach nag aberthu i Eulun.

Profwyd pum math ar gospedigaeth o [...]yn ol i geisio tynnu [Page 22] tair Morwyn Gristnogol oddiwrth y ffydd, sef, diodwyd hwynt a fineger, ac a bustl, wedi hynny flangellwyd hwynt, yna dirdynwyd hwynt i balfau bwystfilod rheibus: ac wedi i rheini eu harbed, lladdwyd hwynt a'r cleddyf gan na wadent Grist bu hyn yn Africa.

Dioddefodd y Chrystnogion yr un ymdrin yn Ewyllyscar mewn mannau eraill. Yn yr Hispaen gwelwyd y nefoedd yn ymagoryd i dderbyn eneidiau'r merthyron.

Ar ol i Falerianus erlid yr Eglwys ddwy flynedd, cymerwyd ef yn garcharwr mewn rhyfel gan Sapores brenin Persia, a gwnawd ef yn gyff ir brenin hwnw i sangu arno wrth fyned ar ei farch: Encyd wedi Cychwnnodd Aurelianus wneuthur blin­der ir efengil, ond pan oedd yn scrifenu ei henw wrth warrant i gospi'r Christnogion, rhwystrodd Cwlwm gwythu' ef. A thros yspaid pedair blynedd a deugan gwedi cafodd yr efengil lo­nydd a llwyddiant: amlhâodd a chynyddodd y cynnulleidfau Christnogol, oni orfu iddynt adel yr hên gornèlau yr addo­lent ynddynt, a chyfodi adeiladau eheng. ond fel y mae r'hâf yn magu pryfed, felly tyfiff ymrysson a chenfigen o hawddfyd: herwydd pa ham anfonodd rhaglunieth Duw oerfel ar yr Eg­lwysydd drwy Ddioclesianus yr ymerodr. Oed. Chr. 301. Yr hwn a orchmynodd ir byd ei addoli ef, ac am na wnaeu'r Christnogion hynny, llos­codd Eglwysydd, a scrythyrau drwy ei holl daleithiau. Nid arbe­dodd mo dywysogion y llys nai wraig ei hun: pan oedd miloedd o'r Christnogion wedi ymgyfarfod i addoli Duw, gorchmynodd yw filwyr eu llosci hwynt ynghyd, am iddynt ommedd addoli yr eulyn Jupiter; ie merthyrodd leng oi filwyr Christnogol yr unwaith (sef 6666) am yddynt roddi eu harfau i lawr, a naccâu dihenyddio eu brodyr: llifodd afonydd gan waed y Christno­gion, a dychymygwyd ymhob gwlad boenydiau newyddion iddynt: a bu'r creulondeb hwn drwm ar ein cenedl ni yn Pry­dain, lle merthyrwyd Albanus ac eraill; cans dan awdurdod y Rhufeinaid yr oedd ein gwlad ni. Ac anfonasid ar lèd orchy­myn argraphedig mewn prês i ddifrodi Christnogaeth, ac i addoli Jupiter, a Mawrth, gan ddiolch ir gau dduwiau am y llawnder a'r iechyd y roddid ir byd y pryd hyn: Ond yn ebrwydd anfonodd Duw newyn a chornwyd tra marwol i ddi [Page 23] fetha y Paganiaid. Wedi ir gerwindeb hwn barhâu ddeg mly­nedd, cododd Duw Constantinus Brittwn o du ei sam. (cans ei dad ef Constantinus y briodasei Helen merch Coil brenin Prydain) yr hwn ag ef mewn gofal i ryfela a Maxentius gormesdeyrn yn Rhufain y welodd groes yn yr awyr, a hyn wedi ei yscrifennu a lly thyrennau o Ser, IN HOC VINCE, WRTH HWN GORC HFYGA. felly rhoddodd ei hyder ar Grist, a bwriodd i lawr orthrymwyr y gorllewyn, ar dwyrain, a llawer o'n gwladwyr ni yn ei ganlyn. A scrifenodd at frenin Persia hefyd yw berswadio ef i a del heddwch ir Christnogion yn ei wledydd ef, (cans darfuasei iddo ferthyru un mil a'r bum­theg o honynt) gan fynegi iddo yr dialedd y ddigwyddasei i erlidwyr eraill.

Y pryd hyn Cyhoeddwyd rhydddid i bawb i ddilyn y ffydd y welent orau. A chynyddodd y grefydd Gristnogaidd fel yr yd ddechreu'r hâf ar ol oerni gaiaf. Rhoddwyd yn ol ir Christno­gion y meddiannau y dreisiadid oddiarnynt, a breintiau yn ych­waneg: a gorfoleddant yngeiriau'r Ps. 48. a 68. Gawsant swydd­au, ac awdurdod yn eu dwylo ymhob gwlad. diddymwyd llawer o drwg arferion pechadurus. gorchmynwyd fanwl gadw'r Sab­bath. Yscrifenwyd aml gopiau or scrythurau. Cyfodwyd i fynu yscolion dysc ag eglwysydd. felly ymadnewyddodd y grefydd i barhâu yn hwy na ryscrifen brês oedd yn ei gwahardd. Llwydd­odd yr ymerodr duwiol hwn yn ei holl ffyrdd, a throdd amryw deyrnasoedd at Grist yn yr oes hon, wrth weled llaw Dduw yn erbyn euly naddolieth. Ond yr Iberiaid o ymyl Euxinus y dder­byniasant y ffydd drwy wraig rasol, yr hon y iacha odd frenhi­nes y wlad drwy weddi: yr oes hon drwy amlder a rhydddid yr efen gil y fagodd foethysdra ymysc proffesswyr a chwestiwnau rhy ddyfnion ynghylch y Drindod, ac undeb Christ a'r Tâd o'r un sylwedd, rhwng Arius ac eraill; oni thyfodd anghydfod gofidus ymysc yr eglwysydd. Ac wedi i Constantinus roddi senn ir ddwyblaid drwy lythyrau, au hannog i adel heibio ddadleuon anhawdd eu dirnad, ydoedd yn hurtio Christnogion; ac ymo­sod at bethau sylweddol, llesol i adeiladaeth a chariad; casclodd Cymanfa fawr o Escobion, henuriaid, a Christnogion Cyffredin i Nicea, lle y gosodasant i lawr bynciau r'ffydd mewn credo [Page 24] cynwys, a rheolau er cadw undeb. Ac wedi cynhennau blini­on, dywedir ddyfod trô ar fol Arius, a bwrw o hono ei berfedd. Ond ar ol marwolaeth Constantinus, darfu yw fab ef Constanti­us, 350. (ir hwn y syrthiasei rheolaeth y dwyrain) gefnogi sect Arius, a throi'r blaid Arall allan ou swyddau au gweinidoga­ethau, yr hyn y barodd derfyscoedd gwaedlyd, ac anfonodd Duw ddaiargrynfau dychrynllyd, yn gymaint a phan oedd gymanfa geccrys yn ymgasclu yn Nicomedia i gadarnhau am­ryfyssedd,363. dinistriodd daiargryn y ddinas. A chyn pen nemawr y mae Julianus yn cael yr ymerodraeth, yr hwn a adawodd goel­grefydd y cenhedloedd; a chystuddwyd y Christnogion am eu gwahaniadau:366. etto amlygwyd ynddynt rasau nefol yn eu dioddefiâdau, ac ymhyfrydent dan y fflangellau, a thystiolae­then yn hy yn erbyn yr eulynod.

Y pryd hyn hefyd y cafodd yr Juddewon gennad i adeiladu'r deml yn Jerusalem, ac i aberthu, er mwyn, gwradwyddo'r esen­gil. Ond Symudodd daiargryn yr adeilad a'r h [...]n Sylfeini, i gy­flawni bwgwth Christ Math: 24.2. na adewid carreg ar garreg yna heb ei dattod; a descynnodd tân o'r nesoedd i losci offerau r'Seiri, a gwelwyd ôl croes ar eu dillad, ac nis gallent ei ol [...]hi ymmeth.

Ymhen y ddwy flynedd lladdwyd Julianus mewn brwydr yn erbyn y Persiaid. Pan gafodd ei friw marwol, taflodd ei waed tuâr nêf, gan gydnabod syned Christ yn drech nag ef. Ar ei ol ef bu Falens yr Emerodr yn flin wrth y rhai ni throent yn Ariaid. Yn Edessa rhuthrodd gwraig ai phlentyn yn ei llaw drwy lû o wyr arfog oeddent yn myned i lâdd cynulleidfa rasol tra yr oeddent yn cydaddoli, gan ddywedyd wrth y milwyr oeddynt yn ei ffoli hi am ei brys, ei bod hi yn ceisio myned i mewn at ei brodyr, er mwyn derbyn y goron gyda hwynt: gorfydeu ir rhai iachaf yn y ffydd lechu am eu by­wyd, wyd, ac addoli yn y dirgel, tra yr oedd yr Ariaid yn meistroli'r Cwbl yn gyhoeddus. Peth rhyfedd fod cyn lleied rhagor mewn deall yn achos o gymaint gelynieth, nid oedd ond dwy lythy­ren yn y Groeg o amrafael rhyngthynt. [...] ac [...]. Cyd­sylwedd ydoedd Christ a'r tâd meddei'r naill blaid, o gyffelyb­sylwedd y teurei'r llall ei fod ef.

[Page 25]Ond Cafodd eglwysydd y gorllewyn adeiladaeth a thangne­ddyf gwell drwy orchymyn Theodosius yr ymerodr duwiol, dini­strwyd Temlau'r eulynod, a rhoddwyd yr yspail ir tlodion. Caf­wyd yn Scrifenedig yn un o'r meini y darsydd i am deml yr eulun Serapis pan ddeuei'r groes ir goleu. Y pryd hyn by Am­brose yn Athro buddiol yn yr Ital, yr hwn a naccâodd ollwn yr Ym [...]rodr Th [...]odosius yw Eglwys nes iddo fynegi e [...] Edifeirwch am dywallt gwaed gwirion, wrth gospi'r dieuog ynghymysc ag eraill am derfysc yn Thessalonia: ac ufuddhâodd y pendefig i gerydd yr athro. Pan oedd yr ymerodr duwiol hwn yn rhy wan mewn brwydr yn erbyn gorthrymwyr, gostyngodd ar ei liniau, a galwodd ar Dduw am gymorth, ac yn ebrwydd daeth gwynt cryf, y drôdd yn ol Saethau ei elynion ar eu pennau eu hunain, a phan ydoedd ef yn tueddei peth tuag at yr Ariaid, daeth dyscawdwr atto ef, ac wedi ei gyfarch ef yn barchedig, gal­wodd ei fab ef Arcadius gerfydd ei henw, megis bachgen Cyffredin, a thra yr oedd yr ymerodr yn anfodlon am hynny, attebodd ef, gan ddywedyd, os wyti yn cymerud yn ddrwg ddirmyg dy fab, meddwl beth y wnaiff Duw ir neb ni roddo yw fab Christ ei ddyledu [...] fraint, ai anrhydedd. Dan wei­nidogaeth Ambrose y derbyniodd Austyn yr ailanedigaeth, ac edifeirwch dwys: yr hwn y brifiodd yn athro dyscedig yspry­dol yn Africa, ac adawodd oi ol lawer o lyfrau nodedig: ac felly y bu eraill ymhlith y Groegiaid yn Constantinopl, Oed. Chr. 400. yn enwedig Chry­sostom, yn hwn adawodd y budd oedd iddo ef yw gael wrth fod yn wr o gyfraeth, ai helynt foneddigaidd, ac y ddeiwisodd was­naethu Duw mewn cyflwr gwaelach yn y byd wrth hyfforddi'r efengil: gan ddywedyd fod gormod golud yn soddi'r enaid, fal y mae gormod llwyth yn soddir'llong. A gwelodd Duw yn dda waredu r'bobl yr ydoedd mor rasol yn eu dys [...]u: yn gymaint a phan oedd y Saraceniaid yn cynorthwyo r' Persiaid i orthrymu'r Christnogion, daeth cyffro byrbwyll ir fyddyn, a neidiodd yr anghred ir Afon Euphrates, lle boddodd miloedd o honynt: a phan oedd y Gothiaid ar fedr llosci Constantinopl, dar­fu i syrddiwn o angylion yn rhith gwyr arfog eu gwlltio ymaeth. Ond cafodd y Gothiaid a'r Fandaliaid (gwyr rhy­felgar o'r gogledd) lwyddiant mwy i gystuddio'r gorlle­wyn, ynnillasant Rufain, ac yspeiliasant hi,405. a phrifiasant [Page 26] yn fflangell Duw ar y Christnogion am eu balchder au dicter wrth eu gilidd, yn enwedig yr escobion oedd euog o'r pech­odau hyn, ie yn eu Cymanfâu, ai ymryssonau ynghylch geiriau. Digwyddodd hefyd dân erchyll mewn dinasoedd a llif-ddyfroedd, â daiargrynfau ofnadwy, etto ni ollyngid y beiau i Syrthio: am hynny canlynodd cornwyd rhyfe­ddol a yscubodd ddinasoedd cyfain, ac aeth ar lêd y byd dros ddeuddeg a deugain o flynyddoedd. A thrachefo lladd­odd daiargrynfâu filoedd o bobl ni chymerent ond rhy­fychan o rybudd ymlaen llaw, er i Symeon gwr duwiol, fyned o amgylch a fflangella Colofnau dinasoedd, gan erchi iddynt gy­meryd gofal o sefyll ar eu traed pan ddawnsient: yn yr oes hon mae Cymanfau o wyr Eglwysig yn rhoddi braint i escobion Rhufain a Chonstantinopl, i fod vwchlaw escobion eraill; ac yn dechreu gorchymyn ffurf osodedig o wasanaeth i Dduw.

Cafodd Prydain hefyd ei rhan o ddialedd yr oes hon, cans wedi in gwladwir ni yn gyffredin esceuluso rhodio yn addas ir efengil, daeth y Saeson anghredad wy, (pobl o Germania, gwlad yr ellmin) ac wrth dwyll y cyllill hirion,Oed. Chr. 462. ac amryw ystrywiau gwaedlyd eraill ynnillasant Lundain, ac Eborroc, a dinasoedd eraill oddiar ein henafiaid ni, gan losci 'r eglwysydd a'r scry­thyrau. Ac er i Aurelius Ambrosius o Lydaw, Brittwn o'r naill du, ac yw nai ef y brenin Arthur ymdrech yn ddewr a'r Saeson,568. etto or diwedd gorescynnasant Loegr oll, gan ddifa ei thrigolion ganedigol, a gyrru 'r gweddillion i synyddoedd Cymru.

Y pechodau a gyffrodd Duw yn erbyn ein tadau ni, (medd Gildas) oedd trais y Brenhinoedd, ag anghyfiawnder y Barnwir, a diogi yr eglwyswyr, ac anlladrwydd a drwg ymarweddiad y bobl oll, gan alw 'r drwg yn dda, ac felly collasant y wlad y ha, logasent. Och fy'nghenedl anwyl, heddyw Cymerwch gyngor Duw Levit. 18.24. fal na Chwydo y wlâd chwithau. Wedi ir Saeson fod yn hîr mewn anghredinieth, daeth attynt bregeth­wyr o Rhufain (sef Austyn y mynych) ac eraill, ac y gawsant lwyddaint yn eu taith,598. cans credodd Penaethiaid a chyffredin, a bedyddwyd dengmil yn ymyl Eboroc yn yr un diwrnod, a dy­wedir i ryfeddodau gyd ganlin y gair er mwyn troedigaeth y [Page 27] Saeson. Ond tyfodd amrafael rhwng Austyn a dyscawdwyr Cymru, eisieu iddynt gadw'r Pasc yn ol defod Rhufain, a chyn­northwyo pregethiad yr efengil ir Saeson: o herwydd ei uch­der gomeddasant ufuddhau iddo ef: ond ar ol hynny daeth lladdfa fawr ar un cant ar ddeg o fynych Bangor. Dywedir am Gregorius escob Rhufain y anfonodd y pregethwyr at y Sae­son, y crynei ef pan ddarllenei eiriau Abraham wrth y glwth Luk. 16.25. Cans cyflawn oedd ei gyflwr ef yn y byd. Wedi i Phocas waedlyd lâdd ei feistr Mauricius, Oed. Chr. 602. a myned yn ymerodr yn ei le ef, er cael gair da escob Rhufain, rhoddodd iddo Ditl i fod yn ben ar yr holl eglwysi, er i Gregorius ychydig o'r blaen brofi yn erbyn escob Constantinopl nad allei escob yn y byd ymhonni or fath beth.

Ynghylch y flwyddyn 666.666. y dechreuodd crefydd Mahomet ledu drwy rym y Saraceniaid, y rhai oeddent wedi syrthio allan ac ymerodron y Christnogion: yr oedd yr oes hon wedi ymran­nu yn resunol o ran opiniwnau, a dychymygion dynol yn cael en croesawu ymatterion crefydd. Ar hyn Maohmet yr hudol, (drwy help Sergius Monach escymunedig) y ddyfeisiod yr Alcoran, sef llyfr gau grefydd y Turciaid. Ac am ei fod ef yn fynych yn Syrthio yn y ffeintiadau, taerei mae ymddiddanion yr angel Gabriel y baren ei lewyg ef. Ac fal y derbynneu'r byd ei athrawieth ef yn rhwyddach, tymherodd hi i fodloni peth ar bawb. cydnebydd Grist yn broph wyd ffyddlon er boddhâu'r gwir Gristion. Gorchmyniff enwaediad er mwyn yr Judde­won. Gwediff dduwdod Christ er ynnill yr Ariaid oeddent aml yn y parthau hynny. Canhiadiff amlder o wragedd ir un gwr, a rhydddid y cnawd er denu y Sawl y garent bechod, yr hyn sydd naturiol ir holl fyd: a hynny nid yn unic yn y bywyd hwn, eithr ymharadwys yr addaw ef wleddoedd, a gwra­gedd ir Sawl a ddilynant ei ffydd ef, ac a laddant bawb ai gwrthodo.

Ynghylch hyn hefyd y daeth y gwasanaeth ladin, letaniau ac amryw ddychymedig ddefodau mewn Cymeriad yn yr Eg­lwysydd, er lleihâd i rin wedd, a phurdeb crefydd. fel hyn drwy r' Alcoran a'r offeren mae bwgwth Duw yn dechreu Cymeryd gafael ar y byd, sef nerthol weithrediad cyfeiliorni am angharu'r [Page 28] gwirionedd 2 Thess. 2.10.11. tybiff rhai mae a'r amser hwn y Cuttuna rhifedi enw'r bwystfil Datc. 13, 11. gan benodi ei ddechreuad ef: etto ni adawodd Duw mo' ei etholedigion yn y monachlogydd, a'r eglwysydd o ba rai bu Beda yn enwog ymhlith y Saeson, ac a gyfieithiodd beth o'r scrythur yn Saeso­naec. A gadawodd llawer o foneddigion a chyffredin eu ha­chosion bydol, ac ymroddasant i fuchedd gaethach yn y mo­monachlogydd, gan ymprydio a gweddio yn aml, ond Cam ar­ferwyd hynny mewn amser i gynal llygredigaeth ofergoelus. Cans gorchmynodd y Pab osod i fynu ac addoli lluniau 'r grôg a'r Seinctiau, ac escymunodd Leo Isaurus yr ymerodr am geisio o hono wahardd addoli 'r delwau mudion ac attaliodd yr Ital rhag ufuddhau iddo ef. Cymellodd y Pab hefyd arfer offeren Gregorie ymhob Eglwys, fal y byddei yr un ffurf wasanaeth ym­hob man, a choronodd ef Carolus magnus brenin ffrainc yn yme­rodr y gorllewyn, ar mwyn cael ganddo ef ei hyfforddi ef yn y pethau hyn. Ac ymhen talm o ddyddiau chwanegwyd defo­dau newyddion at yr offeren, sef gweddiau dros y meirw, a gwyliau calan gaiaf,Oed Chr. 854. a lluddwyd priodas ir offeiriaid, gan roddi iddynt lawer o freintiau awdurdodol yn lle priodas, ynghylch hyn y dewisodd yr escobion Iwan yn Bab yn ddiwybod, cans dillad gwr y wiscei hi, ac yscolheictod y fedrei hi, a phrifiodd yn wir Buttain o Babilon, a thra yr oedd yn rhodio dinas Ru­fain daeth gwewyr escor arni hi, a ganwyd iddi fasterdin yn yr heol. Cywilyddiodd yr escobion yn ddirfawr oi phlegyd hi, am ddarllen o honynt yr offeren a'r prosessi wrth ei dewis hi: y pryd hyn hefyd bu cystudd trwm ar y Saeson, daeth gwyr Den­marc i mewn i Loegr, at a laddasant y Saeson yn llidiog, heb ar­bed na Phethau Cyfredin, na Phethau Cyssegredig, cans Paga­niaid oeddent a Pharhaodd y difrod anhrugarog hwnw yn hwy na dau cant o flynyddoedd. A chyn dyfod yr estroniaid hyn am eu pennau ni pheidieu 'r Saeson a lladd eu gilidd, cans yn saith brenhinieth y rhannasent Loegr, yr hyn y barodd ymrysson yn eu mysc, felly dialodd Duw waed y Brittaniaid arnynt, a gallent ddywedyd fel Adonibezec, Barn i, 7. megis y gwnaethom felly y talod Duw ini; er iddynt dderbyn yr efengil, fel y Cymerth Da­fidd edifeirwch am ladd Ʋrias etto, ni ymadawodd y cleddyf ai dy [Page 29] ef, dros hir amser. 2 Sam. 12.9, 10. Cafodd Alured er ei fod yn frenin duwiol ei ran o'r gorthrymderau hyn. Hwn y Sei­liodd yscolion yn Rhydychen i hyfforddi gwybodaeth ymysc y Saeson, ni byddei ef un amser heb ran o'r Scrythur yn ei gylch, a dymunodd ar Dduw anfon rhyw ddolur arno ef yw gadw oddiwrth anlladrwyd, a chynorthwy odd Duw ef yn ei flinderau, er hynny mewn amser daeth Canutus o Lychlyn i fod yn fre­nin ar Loegr, ac wrth weled fal y trawsei Duw ei dad ef Swanus am ei greulondeb yn lladd rhai crefyddol, ofnodd ac adeila, dodd fonachlog, a phan oedd gwenheithwyr yn mawrhau ei awdurdod ef, eisteddodd ar y traeth yn ymyl y mor, ac archodd ir llanw beidio a dyfod atto ef, ond pryd nad ufuddhae yw orchymyn ef, ceryddodd ei wenheithwyr,Oed. Chr. 990. ac a ymddarastyn­godd o flaen Duw, ac a gyfaddefodd mae Duw oedd frenin, a bod pob peth dan ei lywodraeth ef.

Cyn dyfod y blinder echryslon ar Loegr oddiwrth Denmarc, gwelwyd Cwmwl drwy 'r deyrnas, ai hanner o dân, a'r hanner arall o waed; a glawiodd gwaed yn ymyl Eborac: wedi marw Canutus cafodd Edward y Cyffesswr y frenhinieth, yr hwn oedd wr Duwiol ac wedi ei farw ef, daeth y Normaniaid i Loegr, 1043. ac ynnillasant y deirnas drwy vn frwydr, ac a feistrolasant y sae­son yn drahaus, a rheolodd William y Cwncwerwr arnynt:1066. y flwyddyn o'r blan gwelwyd seren gynffonog ofnadwy uwch­ben lloegr dros saith diwrnod.

Yn yr oes hon y tynnodd Anghrist y mwgwd oddiar ei wy­neb; gan ymddangos ir byd, y Twrc yn rheibus yn y dwyrain,1074. a'r Pab Fildebrandus yn y Gorllewin, yn hwn oedd Consuriwr cythreylig (fel y buasei'r pab Syvester yr ail oi flaen ynteu yn y flwyddyn 1000.) ac yn gablwr, ac yn ymdderchafu uwchlaw brenhinoedd y ddaiar, ac o'r amser yma allan, a thalm o'r blaen drwy gleddyf, a gwenwyn, a chwnsurieth yr ymgodeu yr Pabau: weithiau byddeu dau, weithiau tri o honynt yn ym­dynnu am y goruchafieth, a chan iddynt ymroddi i ddilyn cyngor y cythrael, cydffurfiasant addoliad Eglwysig yn y modd tebyccaf i ddiffodd purdeb ffydd yn enw crefydd; drwy attal oddiwrth bobl air Duw, ac yspryd deallus mewn gweddi, ac yn lle hynny adrodd geiriau ladin ar dasc heb ddirnad, na theim­lad, [Page 30] ynghylch hyn y dechreuwyd cadw digwyl y meirw, yr hwn a ordeinwyd o herwydd breuddwyd Abbad Cluniac; yr hwn y welodd drwy hûn eneidiau 'r meirwon yr cael budd oddiwrth ei offerennau ef. Tra yr ydoedd y gweision yn cyscu, yr hauodd Satan yr Efrau Math. 13. Rhoddes Berengarius gy­nyg ar argyhoeddu ofergoelion yr oes hon, a gorthrymwyd ef: ond drylliodd mellt a tharanau amryw o'r delwau yn eglwy­sydd lloegr, a bu anfodlonrwydd Cyffredin am orfod o'r offeir­iadau adel eu lleodd,Oed. Chr. 1092. neu wrthod eu gwragedd drwy orchymyn y Pab: a phan appeliodd escob gorthrymedig at Grist, rhoddes rybudd ir swyddogion pabaidd yw gyfarfod ef. Ymhen ychy­dig bu ef farw, ac mewn modd erchill cyrchodd angeu nhwy­thau ar unwaith:1110. a gwelwyd rhyfeddodau lawer; Sychodd yr afonydd, crynodd y ddaiar, berwodd ffynnon o waed yn lloegr dair wythnos. Ymddangosodd dwy leuad, a seren gyn­ffonnog, a megis aneirif Sêr yn syrthio, a'r wybren ar dân oll. Wedi hynny gwelwyd tri haul, a thair lleuad, a chroes goch ar draws y ganol: tystiolaethodd amryw wyr duwiol a dysce­dig yn erbyn llygredigaeth yr amser hwn, a merthyrwyd hwynt,1158. ie er ir Ymerodr Fredericus Barbarossa gyhoeddi drygioni'r Pâb, etto gorfu iddo ymostwng iddo ef, a rhoddes y Pâb ei droed ar ei wddf ef,1164. gan gamarfer geiriau'r, Psal. 91.13 y llew a'r ddraig a sethri: yr un yspryd balchder yrrodd y ddau Arch. escob saesnig mewn cymanfa eglwysig i ymwthio ac i ym­gwffio am yr eusteddle uchaf,1177. a thra yr oedd y Phariseaid hyn yn anrhydeddu Duw yn ofer a thraddodiadau dynol, Cyfo­dodd Duw bobl iddo ei hun yw addoli mewn yspryd a gwirio­nedd: Sef yr Albiugenses yn Tholouse, a Croatia, a Dalmatia. Ar Waldenses yn Lugdunum o ffrainc, y rhai alwyd fal hyn. Tra yr oedd Waldez dinasydd goludog ac eraill yn cydymddi­ddan, ac i un oi Cwmpeini Syrthio yn farw yn y lle, trawodd y fath ddychryn ynddo ef, ac y barodd iddo ymroi i wellhâu ei fuchedd, dechreuodd rannu llawer oi dda ir tlodion, a chwi­lio'r Scythurau, cans llythyrenog oedd ef, a chynghori ei deuly ai gymydogion i edifarhâu; a chyfieithodd rannau o'r scrythur lân i rhai y welei ef yn ewyllyscar yw dilyn, ac aeth y gronyn hâd mwstard yn bren aml ei ganghennau, am hynny [Page 31] cystuddwyd ef ai ddilynwyr gan yr eglwyswyr pa baidd, a chwalwyd hwynt, rhai, i Bohemia, erail i Lombardy, eraill hyd taleithiau Frainc, ac amlhasant wrth eu gwascaru fal yr yd wrth ei hâu, Eu athrawieth oedd, Na ddylid ollwn dim ir grefydd, ond sy guttunol a'r Scrythyrau. Nad oes yr un Cyfryngwr heb law Christ, ac na ddylid gweddio at seinctiau, na thros y marw, na ddylid addoli mor cymun, na lluniau, na themlau, mae An­ghrist oedd y Pab, am hynny y dylid gadel ymaeth ei ddesodau ef mewn bwydydd, ac amseroedd. Eu bychedd oedd gweddio yn hîr, yn wresog, in fynuch ymysc eu gilidd, nid arferent un ffurf weddi, ond gweddi'r arglwydd yn unic. Cyn Cymeryd eu bwyd gweddient ar i Duw ei fendithio ef, fel y torthau yn yr anial wch. Athrawiaethent eu gilidd yn boenus. Nofieu un o honynt liw nôs dros afon amser gaiaf i hyfforddi cymydog yngras Duw; byddei'r Scrythur ganddynt ar eu tafod leferydd, ie gan y bobl wledig; dioddefent eu lladd am eu ffydd yn gyssurus.

Yn fynuch byddei Duw yn eu gwaredu hwynt au brodyr yn rhyfeddol megis yn Tholouse, lle y lleihâodd cornwyd y fyddyn Babaidd oedd yn gwarchâu arni:Oed. Chr. 1220. ond wedi hynny rhoddodd y ddinas rasol honno genad i escobion coelgrefyddol i ddyfod i mewn i ymgomio ynghylch eu ffydd y rhai fel bradwyr y ddy­gasant filwyr gyda eú Cwttiau i dywallt gwaed gwirion. Mae eglwys y Groegiaid yn ymadel ag eglwys Rufain eisieu cael gan y Pab ddiwygio'r pethau oedd feius,1237. yr hwn oedd yn pwyso yn drwm ar Loegr hefyd, ac yn tynnu ei thrysso'r atto ei hun am bardwnau ir eneidiau, ac amryw drofeydd eraill, onid oedd y penathiaid yn achwyn arno wrth gymanfâodd Cyffredin.1245. Blin echryslon hefyd oedd helynt Christnogion y dwyrain yn Asia, Syria, a'r gwledydd oddiamgylch, o herwydd y Twrciaid, y rhai er nad oeddent ar y cyntaf ond byddyn fechan y ddaethei o Scythia i gynorthwyo Persia am gyflog, etto wedi Syrthio allan a'r Persiaid gorchfugasant eu teyrnas hwynt, ac araill oi hamgylch, a derbyniasant goelgrefydd Mahomet oedd yn y gwledydd hynny o'r blaen. Ac er i dywysogion y gorllewin sef Godfrey o Builon ac eraill arwein byddinoedd Cedyrn yn eu herbyn, ac ynnill Jerasalem oddi arnynt, a llâdd o honynt lawer cant o filoedd, etto tyfei anghydfod [Page 32] rhwng y tywysogion au gilidd, neu rhwng yr ymerodr a'r Pab ynghylch arglwyddieth, y roddei achlyssur ir Turciaid i yn­nill eu colled gyd'ag elw, ie Cenfigennodd Ymerodr Constantinopl a'r Groegiaid wrth y byddinoedd Ladingaidd, a chymyscent galch gyd a'r blawd y werthent iddynt yw gwenwyno. Er bod y Christnogion ofergoelus (y rhai oeddent yn erlid purdeb crefydd yn eu gwladwyr eu hunain) yn anllwyddianus yn eu rhyfel a'r Twrc, etto daeth Tamerlan ymerodr Tartaria a by­ddyn yn ei erbyn ef, ac ai gorchsygodd ef, gan gau ar Bajazet (y Twrc penaf a chreulonaf yn ei amser) mewn grât haiarn fel llew yw herddangos, ac er mwyn cospi ei falchder ef, sangei ar ei gefn ef wrth fyned ar ei farch. Ar y daith hon dûg y Cwncwerwr hwn lawer o deyrnasoedd dano, a bu dirion wrth y Christnogion. Pan oedd Bajazet yn myned tu âr frwydr hon mewn gofal a galar (cans clywsei ddarfod i Tamerlan ynnill Sebastia oddiar eu wyr ef, a llâdd ei fab ef Orthobules) aeth heibio i fugail ydoedd yn canu pibau dan arei­lio ei braidd gan ochneidio, a dywedid, dedwydd wyti nad oes geniti na Sebastia nag Orthobules yw golli, yr hyn syn dangos, mae gwell yn Cyflwr y rhai Sy'n bodloni ar ychydig, na'rhai Sy'n meddu llawer.

Yn y gorllewin rhydd Duw fwyfwy o oleufyneg am llygre­digaeth yr eglwyswyr, ac mae rhai drwy'r yspryd glân yn cael deall yn llyfr y Datcuddiad, ac yn profi mae Anghrist yw'r Pab, ac yn prophwydo y cofodeu Duw weinidogion tlodion i bre­gethu'r efengil, ac i borthi praidd Christ yn dduwiol. Ac yn dangos fel yr oedd rhagrithwyr ofergoelus, yn addurno escyrn y Sainct Meirwon, ac yn penydio y rhai byw am wirionedd eu ffydd.Oed. Chr. 1324. Au bod yn fflangellu delwau bywiol Duw, sef ei bobl, er iddynt addoli delwau mudion au bod yn porthi neu yn hytrach yn siomi defaid Christ a phorfa sûr, ac euod afiachus, sef dychy­mygion dynol, ac yn cau yn fanwl rhag iddynt gael blâs ar dir Duw, sef y scrythurau. Rhagfynegodd rhai Sanctaidd y Cyfod­eu Duw rai yn yspryd Elias i adferu purdeb crefydd, er ei bod y pryd hynny dan gwmwl. Ac ymhen ychydig annogodd yspryd yr Arglwydd Joan Wiccliffe athro'r Gadair yn Rhydychen i oleuo Lloegr. Yr hwn wedi ei erlid gan yr escobion a bregethodd yn [Page 33] droednoeth ga [...] dynnu llawer oddiwrth eulynaddoliad pa­baidd, i chwilio'r Scrythurau ac yw dilyn: arferei ef, a llawer oi frodyr bregethu yn yr heolydd ar ddyddiau marchnad,Oed. Chr. 1371. pan lys­wyd yr Eglwysydd iddynt. A [...]phan oedd Cymanfa yn Llundain yn myned ynghylch holi Wiccliffe ai lyfrau, digwyddodd yn yr awr honno ddaiargryn mawr y ddychrynodd y Preladiaid. Amlhâodd dyscyblion i Grist yn ddirfawr drwy bregethau a llyfrau yr efangylwr daionus hwn, ai gy dweithwr er gwaetha'r rheolwyr oeddent yn ceisio eu rhwystro: ac wedi ei farw ef ai ben ar y gobenydd, (cans cawsei ddiogelwch drwy hyfforddi­ad rhai o'r penaethiaid) scrifennodd yscolheigion Rhydychen dy­stiolaeth ir hollfyd oi burdeb ai Sancteiddrwydd ef.

Je yn Bohemia cyfododd John Husse, ac yscolheigion enwog yn Prague i siccrhâu ei athrawieth ef, gan brofi fod Duw yn anfon y pregethwyr oeddent yn dal allan burdeb yr efengil, er bod y Pab ai escobion yn eu gomedd, a bod eu cariad tu ag at Dduw ai bobl, au Sancteiddrwydd, au dioddefgarwch, yn arwyddion disiomedig oi galwad, cans wrth gariad yr adwaenir dyscybli­on Christ. Ac er i lawer geryddu Husse (fel y gwnawd a Barti­maeus) i geisio ganddo dewi, etto llefodd yn fwy o lawer yn er­byn eulynaddoliad yr amser, a dangosodd y fath Anghenfil y­doedd yr Anghrist, gan fod tri phen, sef tri Phâb ar unwaith yn ymdrechu am y llaw vchaf; y gwahaniad hwnw y lêdodd iddo ef ddrws ymadrodd, er diwedd anfonodd yr ymerodr am dano ef i Gymanfa Constance, lle y caethgarcharwyd ef mewn heirn, er iddo o'r blaen gael addewid yr ymerodr a'r Pab penaf, (y rhai oeddent yno yn bresenol) y gallei ef fyned a dyfod yn ddiogel ddirwystr. A phan welsant nas gellid moi ddenu ef at Babyddi­eth, blingasant ei goryn ef (er tynnu ymaeth yr olew Cyssegre­dig meddent, ar hwn yr enneiniasid ef wrth dderbyn urddau) a gwiscasant am ei ben ef gap a lluniau Cythreuliaid wedi eu peintio arno, lloscasant ef yn ylw, a thaerasant na ddylid cw­plau addewid i Heretic. Ond tra yr oedd ef wrth y stanc yr oedd ei gynghorion ef mor fuddiol, ai weddiau ef mor nerthol,1415. onid oedd y bobl yn cydnabod iddo farw yn rasol.

O Garchar scrifenodd at ei wladwyr yw cadarnhâu yn y ffydd, gan ddywedyd iddo gael datcuddiad y galwei'r Arglwydd [Page 34] bobl rasol iddo ei hun, ac o rheini y Cyfodeu weinidogion i adferu grym duwioldeb. Ac os llosceu r' Papistiaid ei lytrau ef fel y gwnaeth yr Juddew a phrophwydolieth Jeremi pen 36.22. etto gosodid allan yr athrawieth eilwaith yn he­laethach.

Ar ol Husse Canlynodd Jerome, ei gyfaill anwyl, ac athro dysce­dig o'r un ddinas. Yr hwn pan aeth i Constance o honaw ei hun i ymweled ai frawd Husse, (fal y Cynorthwya 'r naill aelod y llall mewn anghyflwr) Carcharwyd ef yno yn gaeth filain dros agos i flwyddyn, ac er iddo lithro unwaith, etto yr eilwaith yr ymddangosodd o flaen y gymanfa, argyhoeddoedd hwynt yn llym am waed Husse, a phroffessodd y wir grefydd yn nerthol, a daliodd hi hyd farw: am hynny lloscwyd ef wrth stanc cer­fiedig ar lûn Husse, 1371. er Chwanegu ei alar; dywedodd y ddau ferthyr hyn wrth y Papistiaid, y caent atteb i Dduw, ac iddynt hwythau am eu gwaed ymhen y can mlynedd. Ond darsu ir tân y laddodd yr athrawon fywhâu'r dyscyblion yn Bohemia, lle'r ymnerthasant i ymddiffyn eu crefydd au bywyd, ac er ir Pab ar ymerodr anfon lluodd mawrion yw difetha hwynt, etto gorch­fugasant y Papistiaid gwaedlyd mewn un brwydr ar ddeg cyn marw Zisca eu Capten, a hynny mewn modd rhyfeddol, cans ychydig nifer oeddent mewn Cyffelybieth yw gelynion, a thra­wei'r fath ofn yn y Papistiaid, oni ffoent Cyn ymladd weithiau. Ac wedi'r gwarediadau rhyfeddol hynny, mewn amser tyfodd gwahaniadau rhwngy penaethiaid, a thrwy frâd rhoddwyd y deyrnas ir ymerodr; yr hwn ai Cymerth yn fwynaidd, ac a orch­mynodd ir hen filwyr ymgasclu i fewn yscuboriau er mwyn derbyn eu Cyflog yn heddychol, a Phan gafodd hwynt ynghyd parodd losci'r yscuboriau a nhwythau ynddynt.

Yn Lloegr y Paratowyd yr un ymdrin ir ffyddloniaid, gan i llysenwi yn Lolards, (sef lolium, art) hynny yw efrau: ac am hynny Ceiswyd eu chwynu, a'u llosci, a rhwystro eu cyfar­fodydd.

Yr oedd un Gymro nodedig elwid Walter Brute o escobaeth Herifford, yr hwn oe'dd ddyscedig, ac yn dyfal gynghori eraill i dduwioldeb, er ei fod yn wr llyg, Argyhoeddodd ei wladwyr am swyno drwy eiriau, neu ddwfr bendigaid, gan ddangos na [Page 35] lesodd enw'r Jesu i feibion Scefa Act. 19.14. eglurodd mor wrthwyneb i Grist oedd yr ymarweddiad gyffredin, gan fod Christ yn gorchymyn cariad, a'r Pab yn tywallt gwaed, ac ir efengil ddiddymu 'r defodau Cnawdol, a bod y Pab yn eu hail­gosod hwynt i fynu. Er gosod petisiwnau ar ddryssau 'r Parlia­ment am ddiwygiad grefyddol, etto ni cheid hynny drwy aw­durdod ddynol yn yr oes honno: eithr rhoddwyd i farwolaeth y rhai ni addolent y groes, a'r bara yn y Cymun, a gosodwyd Cyfreithiau caeth i chwilio am bob dyn a phob llyfr yw difetha a'r y ddalieu allan y wir athrawieth er hynny chwanegeu rhife­di rhai duwiol, er syrthio rhai, cyfodeu eraill; ond lleihâodd y Papistiaid beth, cans lladdwyd o honynt ddau cant o filoedd yn y rhyfel y fu rhwng dau Bâb, oeddent yn ymrysson ai gilidd dros naw mlynedd a'r ugain.

Gwnaeth Arglwydd Cobham ei ran yn pledio gyda 'r wir gre­fydd hyd farw, tystiolaethodd iddo gael grâs i ofni Duw, er pan dderbyniasei ef athrawiaeth Wiccliffe, ai fod o'r blaen yn byw mewn amryw bechodau ynghymdeithas y Papistiaid. Pan alwent arno i addoli 'r groes, estynnei allan ei freichiau, gan ddywedyd Dyma groes o wneuthuriad Duw, (gan feddwl ei gorph tra 'r oedd ei freichiau ar lêd) ac etto nid addolwch, onid erlidi­wch fi, anrhesymol ynteu addoli croes o waith dyn.

Merthy rwyd un ar bymtheg ar ugain ar unwaith, ac ymhen y mis trawodd Duw dafod Arundel Archescob Caergaint, fel nad allei na llyncu, na llefaru amryw ddyddiau Cyn ei farw, a chyd­nabyddod llawer yr amser hwnw gymwysed oedd barn Duw yn erbyn yr hwn oedd mor fywiog yn Ceisio gostegu gwir bregethwyr yr efengil, yn yr oes hon y gorchmynwyd dau wyl i Fair.Oed. Chr. 1439.

Ond mae Duw yn dychwelyd at y byd a mawr drugaredd, ac yn rhoddi dawn i ddyn y brifiodd yn hyfforddiant mawr ir efengil, sef celfyddyd preintio,1450. mynnei 'r scrythur i ddynoll ryw gydnabod mae o'r nef y mae cyfarwyddyd yn dyfod i drin y ddaiar, fel y caffo dun Iunieth Corphorol Isai. 28.24. ynteu llwyr y dylid fendithio Duw am y modd hwn i amlhâu llunieth ysprydol, ynghylch mor fuddiol a dawn y tafodau yn amser yr Apostolion.

[Page 36]Cyn y pryd hyn yr oedd yr Srythurau a llyfrau da eraill yn anaml, an yn ddrudion, o herwydd meithder eu scrifenu: prof­wyd ar lw yn erbyn proffesswr mewn llys pabaidd yn y flwiddyn 1429. iddo roddi un swllt ar bumtheg ar ugain am y testament newydd yn Llundain: tebygol y Costiase [...]'r bibl Cyfan y tri chymaint, am yr hyn swm y gallesid purcasu hawl i gryn dyfyn o dir yn yr oes honno. Ond yn ein dyddiau ni aml a rhâd yw llyfrau da, ac yscolion yw dyscu, am hynny hawsach cael gwy­bodaeth o air Duw, yr hyn sydd yn ddyrnod pen ir Anghrist: am fod anwybodaeth yn Cadarnhâu Cyfeiliorni, fel y mae oer­ni yn caledu'r pyg, a goleuni ai gyrri gilio, fel y gwna 'r tân ir plwm ymollwn.

Ystyr rhaglunieth Duw, pan oedd yr Eglwys yn amlhâu ac yn dyfod o'r Aipht y rhoddes ef ei ewyllis yn gyntaf yn scrifen­nedig, a phan oedd ar amlhâu a gwaredu ei bobl oddiwrth Babyddieth, caniadodd ei scrythurau yn breintiedig gyntaf. Yn y flwyddyn o oedran Christ 1453. darfu ir Turciaid ynnill Constantinopl, prif ddinas ymerodraeth Gristnogol y ddwyrain dros vn cant ar ddeg o flynyddoedd sef er amser ein gwladwr Constantinus yr hwn ai hadeiladodd hi. Gofidus fyddei mynegu a chlywed dosted fu ei difrod. Gorescynnodd y Twrciaid Creu­lo [...] yn yr oes hon ddau cant o ddinasoedd, a deuddeg o deirnas­oedd, a dwy ymerodraeth Ghristnogol, a hynny yn amser vn oi brenhinoedd: heb law y teirnasoedd enwog y dreisiasant drwy fin arfau gynt a chwedi.

Yr achosion amlwg o lwy ddiant yr Anghred hyn ydoedd lawer. Sef.

Oblegid ir Christnogion ymlygru gan mwyaf, heb roddi iawn ymddiried ynghrist, ond dewisent St. George a St. Dennis, ar cy­friw yn ymddiffynwyr iddynt, gan ad el Iesu heibio, heb yr hwn nis gallent ddim. Ioan. 15, 5. Ac yr oeddent mor filain yn erbyn eu brodyr y ddilynent rym yr efengil, ac oedd y Twrciaid yn y rhai y broffessent ei ffurf hi, ie mor amhûr ydoedd buchedd y rhan fwyaf o'r Christnogion, oni orfu i Grist dangos barn arnynt er tystiolaethu yngwydd ei elynion mor anfodlon oedd ef i bechodau y rhai a ymhonnent oi enw ef; ac mor gâs oedd ganddo anwiredd, i hyn ystyriwn yr histori yma.

[Page 37]Wedi ir Twrc wneuthur Cyngrair a brenin Polonia, ac Hun­garia, a symud ei fuddinoedd ymaeth oddiwrtho ef yn ddigon pell, gwelei'r Pab y gallei'r brenin gael barr wâg i ynnill peth oddiar y Twrc os torrei ei ammod, ar hyn gwnaethpwyd rhuthr am ben y Twrciaid a nhwy heb ddisgwil dim o'r fath beth, a phan oedd y Twrciaid yn y frwydr ar golli'r maes, tynnodd eu brenin hwynt oi fynwes yr ysgrifen lle yr oedd ammodau'r Cyttundeb ar lawr gan ddywedyd, O Grist os wyti Dduw fel y dywedant, ac y tybion ninnau dy fod ti. dial yr anffyddlondeb hwn ar y bobl sy'n professu dy enw ds, ond au gweithredoed yn dy wadu di. Ar hyn aeth y Twrc yn drèch er ei fod o'r blaen ar y gwaethaf. Am [...]eroedd eraill pan aent ir frwydr dan gablu Christ, gorchfy gid nhwthau, ond y naill amser gyda'r llall caniododd Duw iddynt fod yn fflangell lifeiriol yw bobl anu­fudd, odid ddinas na thref drwy Asia, Affrica, a rhan fawr o Europa, lle ni wnaeth yr anghred geirwon hyn i waed y Christ­nogion ffrydio, ar rhai y arbedi eu cleddyf, a werthid fel anifei­liaid o farchnad i farchnad i dynnu yn lle ychen, neu i wneu­thur rhyw galedi arall. Ac yn awr ni chaiff y Christnogion y sydd dan drêth drom ymysc y Twrciaid, mor y mgynnill ond yn ddirgel, na bod mewn swydd, na gwisco arfau, na dillad chwaith o'r un sut a hwynt, na gwrthwynebu un cabl-air yn erbyn Christ; ac os dywed ant ddim yn erbyn Mahomet, cânt eu llosci; A'r peth truanaf o'r cwbl yw orfod iddyn ymadel au plant i ddwylo gelynion Christ yw dwyn i fynu megis mewn monachlogydd yn y gau grefydd, ac i ddyscu traenio, fel pan dyfont, ac anghofio eu rhieni (cans ni chânt fyth moi hadnabod mwy ar ol eu tynnu oddiwrthynt) yr ymladdont yn fedrus yn erbyn yr efengil.

Yn Lloegr Lloscwyd pobl dduwioll am ymwrthodia phabyd­dieth.1506. Tra yr oeddint yn llosci un o honynt yn cheaping Sad­berie, torrodd tarw baitiedig yn rhydd, ac a whyliodd y Doctor Whittington a gondemniasei'r merthyr, gan lysco ei berfedd ef hyd yr heol wrth ei gyrn, heb gwffwrdd a neb arall yn yr holl ymwasc. Etto ni chymereu'r erlid wyr ddim rhybudd: eithr cupiasant John Browne oi dy, ac ni chafodd er wraig moi hanes ef, nes ei ddwyn ef yw losci yn agos yw gartref: a thra'r oedd [Page 38] ef yn y Cyffion yn aros ei ddihenydd, mynegodd yw wraig fal y darfuasei ir Escob losci ei draed ef hyd at yr escyrn, yw gy­mell ef i wadu ei ffydd: ac wedi dymuno arni, ai blant barhâu yn ofn Duw ymroddodd ir tân.

A Thomas Man a folianodd Dduw am ei wneuthur ef yn offer i droi saithgant at y ffydd yr oedd ef yn marw drosti.

Yr oedd cynulleid fâu mawrion o bobl dduwiol yn ymgyfar­fod heb wybod ir Escobion yn amryw fannau yn Lloegr, ond wrth gymell y wraig i dystiolaethu yn erbyn y gwr, a'r plant yn erbyn eu rhieni, a'r naill frawd yn erbyn y llall, cafwyd ys­pysrwydd pwy oeddent yn dyscu i eraill werfi o'r testament newydd, a'r credo a'r deg gorchymyn, ac yn darlen neu yn gwrand o yr Scrythurau sae sonaec y nôs, a tharfwyd hwynt fel y defaid gan y bleiddiaid.

Er nad oedd ond ymbell ddarn o'r scrythyrau yn saesonaec, a rheini yn waharddedig drwy gyfraeth y deyrnas, ac heb fawr bobl lythrenog hyd y wlâd y fedreu eu darllen, etto rhyfeddol amled oedd y rhai y gawsent râs wrth eu clywed mewn cor­nelau, a gwelwyd gwendid Duw yn gryfach na dynion, 1 Cor. 1.25.

Ynghylch y dyddiau hyn y prophwydodd rhai duwiol y glanheid yr Eglwys oddiwrth ei llygredigaeth, ac yr ail blo­deuei purdeb yr efengil: digwyddodd hefyd rai rhyfeddoda [...]. Syrthiodd croesau gwaedlyd, a llûn hoelion, a gwaiwffon a [...] yspwng ar wiscoedd pobl yn Germania. Tra yr oeddid yn Rhufain yn Cyssegru prif Escobion, trawodd temestl angerddol yr Eglwys lle'r oeddent, oni Syrthiodd yr agoriadau o law delw Pedr. Angwa­negodd dysceidieth, a phreintwyd llifrau'r hen athrawon, drwy lafur Erasmus ac eraill. A chyfododd llawer o wyr duwiol dyscedig i chwilio'r scrythyrau yn yr ieuthoedd, ymha rai yr scrifennaseu 'r Prophwydi, a'r Apos [...]olion hwynt, sef, yr Hebrew, ar Groeg, a chawsant ddwfr y bywyd yn loiwfach yn y ffynnon, nag yn mws y Pab.

Scrifennodd Luther, a Melanchton, a Zwinglius, a llawer eraill yn erbyn marsiandiaeth, ac eulynaddoliaeth y Pab: Na thaleu yr Pardwnau ddim y anfonei ef i bob gwlad yw gwerthu am arian, ond [Page 39] bod maddeuant Pechod drwy ffyddynghrist, ac y dylid addoli yn ol ewyllis Duw, ac nid yn ol coel y Pab. Ar hyn casclodd Ymerodr Germania gymanfa fawr o holl lywodraethwyr ei wledydd i ddinas Wormes, lle yr anfonwyd am Luther i bledio ei achos. A phan amlygodd yr Ymerodr wrthwyneb i ddywygiad crefydd ceisiodd ei gyfeillion gan Luther nad anturieu fyned ir ddinas: attebodd ynteu: Yr aei ef i mewn yn Enw'r IESV, er bod yno gym­aint o gythreuliaid yw wrthwynebu ef, ag oedd o gerrig ar bennau yr tai. A phan ddaeth ger bron, ymadroddodd yn galonog ymhlaid yr efengil; gan yspyssu yddint Na ddylid coelio angel o'r nef Gal 2. cwaethach dynion ar y ddaiar yn erbyn gair Duw.

A'r flwyddyn gwedi hyn scrifenodd y Pab at Benaethiaid Germania oeddent ynghyd yn Norenberg, i ddymmo arnynt chwareu yr meddygon gofalus, a serio Cancr Luther a thân,Oea. Chr. 1522. fal na thaneu ymbellach Ond attebasant iddo, fod ei reolaeth lygredig ef yn blâ ir byd, am fod y gollyngdod y wertheu ef oddiwrth bechod, ai benyd yn y byd hwn, a'r purdan, yn gwneuthur pobl yn anuwiol, gan hyderu y gallent gyflawni eu chwantau, ac achub eu heneidiau am ychydig arian, gan benodi ynghylch cant o feiau anafus oedd yn Cyd galyn pabyddieth.

O hynny allan ymosododd y tywysogion i swccro'r pregeth­wyr, a'r bobl dduwiol i addoli Duw mewn purdeb yn gyhoe­ddus, ac nid yn unig mewn tyllau fel o'r blaen. Cafodd gwei­nidogaeth Zuinglius, a Leo Juda dycciant mawr yngwladwri­eth Helvetia, lle gorchmynodd y Swyddogion losci yr delwau, a bwrw ymaeth ddefodau llygredig, a phregethu gair Duw yn aml ac yn blaen, gan gyhoeddi eu bod yn dal sulw fel yr oedd yr offeiriaid [...]abaidd yn arfer eu ofergoelion er mwyn elw, a derchafu'r Pâb, a bod gweinidigion efangylaidd yn ceisio búdd eneidiau, a derchafu Christ: ie ym [...]a ddinas bynnag neu deyrnas y cafeu pregethiad yr efengil ychydig rydid, Syrthieu'r offeren a'r delwau i lawr yno, fel Dagon gynt o flaen yr Arch. Ac yn gymaint nad ellid disgwil amgenach na chyfodei Ceid­wad y Carchar uffernol waedd ac erlid ar ol y Carcharorion aethent yn rhyddion oddiwrtho ef drwy ffydd yn Grist, ymû­nodd twysogion Germania ac arglwyddi dinasoedd breiniol mewn protestatiwn,1529. sef cyhoedd ddatcan eu meddwl i gyd gynal dy­wygiad, [Page 40] ac am hynny y galwyd hwynt yn Brotestants.

O hyn allan aeth y Papistiaid yn greulonach, megis eirth we­di colli eu cenawon, wrth y Protestaniaid y fydden dan eu palfau hwynt: gan dynnu aelodau rhai a gefail, a chladdu eraill yn fyw, a llosci eraill yn ylw, a chrogi eraill. Ac er na ddiffo­ddeu eu gwaed hwynt mo boethder digofaint yr Angrist, etto troe llawer at râs Duw, wrth weled dioddefgarwch y merthyr­on diweddaraf megis y rhai Cyntaf.

Encyd wedi torri pen George Scherter (y droeseu lawer at Grist yn ei fywyd) ac ir Corph farw ynhyb pawb, trôdd ar ei gefn, ac a roddes y troed deheu dros yr asswy, ac felly ei ddwylaw, yn groes, wrth weled hyn ofnodd pawb, a chredodd llawer yw athrawieth ef, cans addawsei iddynt a rwydd oi fod ef yn marw dros Grist.

Yr oedd un yn Mount Peliers yn bodloni ymwadu a ffydd y Protestaniaid, er mwyn cael myned allan o garchar, a chyttu­nodd y Papistiaid ir peth; ond iddo gymeryd hyn yn benyd ar­no; sef edrych ar losci un oi hên gymdeithion yn y ffydd, yr hyn y wnaeth ef: ac wrth weled mor gyssurus yr oedd hwnw yn marw, gwrthododd wadu, eithr dewisodd ddioddef drosti.

Er maint fu blinder eraill, etto cafodd Luther farw ai ben ar y gobenydd yn heddychol, ar ol iddo dros naw mlynedd ar u­gain bregethu yn fuddiol, a gweddio yn nerthol, ac yscryfenu yn orchestol, a chael gwarediadau rhyfeddol, a dilyn buchedd Sanctaidd. Pan fyddeu golud yn dyfod atto, ofnei yn ddirfawr rhag bod Duw yn cynyg ei wobr iddo yn y byd hwn, gan ddy­wedyd. Na chafei Duw fodloni mono felly. Y diwrnod Cyn ei farw yr oedd ymddiddan ar ei fwrdd ef ynghylch y Nef, a y­doedd y sainct yn adnabod eu gilidd yno; A thra'r oedd ynteu yn eistedd yn egwan gyda hwynt yw bryd bwyd, adroddodd ei dyb, mae fel yr adnabu Adda Efa ymharadwys er na welsei moni erioed o'r blaen, felly y bydd Cymdeithas y rhai perffaith yn y nêf, er na welsant eu gilidd mewn Cyrph gogoneddus erioed o'r blaen.

Yn yr Hispaen mae yr ymgais melltigedig yn llâdd llawer o rai duwiol dyscedig a boneddigaidd.1556. Teifl y Ceisiaid hyn y neb y fynont i garchar tywyll du, lle ni chaiff y Carcharor na dar­llen, nac yscrifenu, ac os dywed y plentyn air dros ei dâd caeth [Page 41] caiff yr un triniad ac yntef, am ddymuno yn dda i heretic. Dirdynnir yno, a llwythir a heirn yn greulon, ac yn ddirgel.

Ymysc eraill y ferthyrwyd yn yr Jtal, nodedig fu dioddefgar­wch Pomponius Algerius yscolhaig o Padua: yr hwn pan gar­charwyd ef am ei zêl i bur grefydd, yscrifenodd at ei frodyr, Iddo ef fel Sampson gael dil mêl ymol y llew, a pharadwys hyfryd yn y daiardy drewllyd, a llawenydd nefol yn yr ogof uffernol, ar lle byddeu eraill yn crynu, ei fod ef yn ymhyfrydu, a bod Christ mor fwyn a chadw Cymdeithas ai weision yn y Carchar isaf. Seliodd y ffydd ai waed yn Rhufain, wedi hyn condemnwyd vn cant ar bumtheg yn Calabria gwlâd or Ital, lle y derbyniasid yr efengil yn ewyllyscar a thorrodd y Papistiaid wythi gwaed ped­war ugain o'r Protestaniaid yn yr un diwrnod a chyllell gigidd, gan eu lladd fel defaid ol yn ol: yr ydoedd y mer­thyron mor fodlon i farw, a'r dihennydwr mor waedlyd yn taro ei gyllell rhwng ei ddannedd,1560. tra fyddei yn ymaflyd yn y naill ar ol y llall onid oedd yr edrychwyr yn wylo gan er­chylled oedd y golwg, etto ni orphwysasont nes dinistrio dwy dref, a mil oi trigolion.

Yr un ffunyd y gwnawd yn ffrainc, a'r Waldesiaid yn Merin­dol a Cabriers, y rhai a ddaliasent burdeb yr efengil yn drefia­dol er ys talm o flynyddoed, lle y lladdwyd y gwyr a'r gwrag­edd, a'r plant, heb arbed neb a chyflawnodd y Papistiaid yr un peth ac yr ydoedd yr Apostol Jago pen 5, 6. yn achwyn rhag­ddo, Condemnasant a lladdasant y cyfiawn, ac ynteu heb Sefyll yw herbyn. Y Cyfryw, zêl waedlyd i Babyddieth y barodd i Duc Safoy, erlid yr un bobl yn ei arglwyddieth ynteu, Sef Piedmont, tan y mynydd Myneu, gan rostio rhai o honynt wrth dân araf, a chaethiwo eraill mewn llongau, a gyrru eraill i lechu ir creigiau.

Ynghylch hyn bu Calvin yn bregethwr hynod yn Geneva, yr hwn oedd yn studio 'r gyfraeth ar y Cyntaf, nes i Dduw ynnill ei galon ef at yr scrythurau: yr ydoedd ef yn un o'r pregethwyr puraf, a chyflawnaf o râs a dysceidieth, a'r y fu er amser yr Apostolion, daeth llawer o'r Ital, a'r Hispaen, a lloegr at ei weinidogaeth ef, o ran arogl y bywyd oedd ynddi, dûg lawer o boen, a chystudd yngwaith yr arglwydd, er bod Duc Savoy [Page 42] yn cenfigenu wrth ffyniant yr efengil yn y ddinas enwog hon, etto ymddiffynodd Duw y dinas ai eglwys yn ei erbyn ef. Ar ol Calvin bu Beza yn golofn yn eglwys Geneva, yr hwn oedd lawn o olud, a dysc, a goruchafieth: ac wedi ir Arglwyd ei ddarost­wng ef drwy ddolur, ymrôdd i ogoneddu ei waredwr yngwei­nidogaeth yr efengil, gan wneuthur ammod a Duw yn ei gy­fyngder yngeiriau'r Prophwyd Psal. 142.7.

Yn Scotland bu Cnox yn athro llwy ddianus i adferu gwir ra­sol ddysc, rhoddodd Duw iddo ddawn i rhagfynegu Pethau yn enwedig yn erbyn rhwystrwyr yr efengil. Anibenus fyddeu portreiadu llafur a lludded Cymaint ac y gyfododd Duw i alw'r byd o dywyllwch i oleuni yn yr oes hon y tu hwnt ir mor, dy­fal oeddent, a mentrus mewn dadlau Cyhoeddus i gau safnau athrawon Papyddieth. Diwyd yn Pregethu, ac yn scrifenu, addfwyn yn dioddef, nerthol mewn gweddiau; rhaid ini ddy­wedyd yngeiriau Dafydd yr arglwydd a roddes y gair, mawr oedd mintai y rhai ai pregethent Psal 68.11.

Yn Lloegr hefyd bu tystion ffyddlon i Dduw y pryd hyn, megis Bilney yr hwn wrth glywed llawer yn dywedyd, na chlywsent er ioed sôn am adgyfodiad y Corph, (cans ni ddeallent mo'r credo Lladin, tosturiodd wrth ei wladwyr, a phregethodd ymhob man y cafei rydid ynddo, ac yn y maesydd, ac o dy i dy, nes ei losci am ei boen, efe dròdd Latimer at Dduw.

Hynod fu gwaith grâs hefyd yn James Bainham, gwr o gyf­raeth, a mab i farchog; yr hwn drwy gôsp y gymellwyd ai enau i wadu ffydd ei galon, ond Cyn pen y mis wedi iddo gael rhy­did ei gorph,Oed. Chr. 1532. yr oedd ei gydwybod ef yn gaeth, nes iddo syned at gynulleid fa ddirgel o'r bobl dduwiol, a chydnabod eu gwymp yn edifarus, aeth hefyd ir eglwys blwyf ar y Sabboth, a'r testa­ment newydd Saesonaec yn ei law, a mynegodd ir holl bobl dan wylo dagrau heilltion, fel y darfuaseu iddo ef wadu Duw, a dy­munodd arnynt faddeu iddo ef, gan eu Cynghori i ochelyd di­cter Duw, au galw hwynt yn dystion, ei fod ef yn dychwelyd at y gwirionedd eilwaith, yr hyn yscrifenodd ef at yr Escob hefyd. Am hyn Carcharwyd ef yn fileiniach nag o'r blaen; gan ei gadw yn y cyffion a heirn ar ei draed bumthegnos yng­lô-dy'r Escob, ai fflangellu yn fynych, ac er diwedd ei losci wrth [Page 43] Stanc. A thra yr oedd ef yn tân ai aelodau wedi hanner llos­ci, dywedododd wrth y Papistiaid, Yr ydych yn gofyn am ryfe­ddodau gennym, gwelwch yma yn awr ryfeddod, Cans nid wyfi yn teimlo mwy o boen y tân hwn, na Phe byddwn ar wely mân blu, neu un o bêr lysiau.

Ar ol hwn Canlynodd John Frith, yr hwn y scrifenodd mor fuddiol o'r Carchar, ac y ficcrhâodd ymadrodd yr Apostol, na rwymir gair Duw; cans derbyniodd Cranmer ac eraill adeila­daeth oddiwrth ei waith ef.

Ynghylch hyn y collodd y Pab ei awdurdod yn Lloegr, fel na chydnabyddid ef yn ben ir Eglwys, ac am hynny na roddid un tammed brâs yn ei safn ef mwy. Ac y bu Tyndal gwr o gyffi­niau Cymru yn hyfforddiant mawr i wir wybodaeth, cans cyf­ieuthodd a phreintiodd yr scrythurau yn saesonaec, ac anfonodd hwynt yw tanu yn Lloegr, a llyfran buddiol eraill, a thic [...]iasant er iechydwrieth i laweroedd yn yr oes honno, ar hyn Cyffrôdd y rhai oedd yn caru tywyllwch, fal Jerusalem wrth eni Christ, ac ni orphwysasant nes cael ei losci ef ai lyfrau; tra yr oedd yn disgwil ei ddiwedd, efe drodd geidwad y Carchar ai dylwyth i ofni Duw. Pan wahoddodd ei wladwyr Mr Tyndal i edrych ar gonsurwr y fyddeu arfer o wneuthur pethau rhyfeddol, drwy ei ffydd attaliodd ef nerth gythreulyg y Jwgler, yr hwn wedi chwysy yn swyno, ac heballu gwneuthur dim oi gynefin gastiau, gyfaddefodd fod rhyw un yn y stafell yn diddymu ei scîl ef. Er bod y Brenin Harry 8. yn bwrw i lawr awdurdod y Pab, etto nid ymwrthododd ai athrawieth ef, am hynny dygpwyd Lam­bert Gydweithwr Tyndal yn yr efengil, i bledio ar gyhoedd a dêg o'r escobion ol yn ol o flaen y brenin, yr hyn y wnaeth ef yn orchestol, cans yr oedd Duw wedi ei gynyscaeddu ef a Zèl,Oed. Chr. 1538. ac a dysceidieth ragorol. Ac am ei dystiolaeth lloscwyd ef yn Llundain, A phan oedd ei holl gorph ef yn ffaglu, cododd ei ddwylaw i fynu, ai fusedd yn goleuo fel Canwyllau, gan lefain wrth y bobl, Neb ond Christ, neb ond Christ,

Ar ol hyn lloscwyd llawer o'r bobl dduwiol yn Lloegr, a thorwyd pen Arglwydd Cromwell yr hwn ydoedd ir ffydloniaid fel Obadiah ynhy Ahab. Ymysc eraill hynod fu ffydd llestr gwan sef Anne Ascew gwraig fonheddig; yr hon y ddangosodd [Page 44] yw herlidwyr, fal yr oeddent yn gwrthwynebu'r yspryd glan, y rhai ai racciâsant hi yn greulon, oni thynnasant agos ei holl gymalau ai hescyrn oddiwrth eu gilidd, eisieu caffael genddi wadu ei ffydd, neu ochan dain ei phoen, Ac er ei bod hi o dyl­wyth ardderchog, a chynnig iddi bethau mawrion am droi yn Bapist, Oed. Chr. 1546. etto gwrthododd y cyfan, ac ymroddodd i ddiweddu ei dyddiau yn tân er tystiolaeth yr Efengil.

Gwelwyd yr un dewrder mewn gwraig rasol yn Scotland, yr hon y farnwyd yn heretic, eisieu iddi alw ar Fair, gyda'g ar Grist pan fyddeu hi mewn gwewyr escor, a phan oedd hi yn cymeryd ei chenad ai gwr (yr hwn oedd hefyd i gymeryd ei farwolaeth gyda hi am ei ffydd) annogodd ef i lawenychu, ac eb hi, Ni ddywedaf nôs da i chwi, cans yn ebrwydd ymgyfarfyddwn ynheirnas nef.

Yn y flwyddyn 1547 gwelodd Duw yn dda roddi ynghalon y brenin Edward 6. ai gynghorwyr serch ir wir ffydd, a gallu yn eu dwylaw yw hyfforddi. Ac er nad oedd y Brenin ond bachgen, etto fel Josiah brenin daionus Jerusalem, pa­rodd ymofyn a gair Duw, ac ufuddhâu iddo, ie arferodd Duc Somerset y pennaf o Arglwyddi'r cyngor ei holl egni mewn zêt grasol i fwrw eulynaddoliath i lawr. A thrwy Act o Bar­liament diddymwyd y Cyfreithiau caeth gwaedlyd y wneu­thid o amser i amser i orthrymu grym yr efengyl, ond cododd ynghylch dengmil o wyr Cornwall ein cydgenedl ni, a Defonsire, yn arfog i wrthwynebu diwygiad y ffydd, gan geisio 'r gy­fraeth gaeth yn ei herbyn i fod eilwaith mewn grym, a'r offeren Lladin, i hyn attebodd y brenin, Nad oedd achos i ddeiliaid gwyno rhagddo ef, am yscrifenu cyfreithau a llaeth yn lle gwaed, ac nad oedd y llyfr gwasanaeth ond yr un yn Saesonaec, ac oedd o'r blaen yn Lladin, er ei fod beth yn llai o herwydd gadel allan o hono ef rai pethau anweddaidd oedd yn yr offeren Lladin, a bod yn well iddynt glywed y gwedd [...]au yn yr iaith y ddeallent — A chan na ro­dent le i reswm, gorchfygwyd hwynt mewn dwy frwydr, er eu bod yn fwy eu rhifedi na byddin y brenin.

Yn yr un achos cafodd gwyr y brenin Edward fuddugolieth yn Scotland, er ir Papistiaid hynny ddwyn y Bara mewn blwch, a'r delwau eraill yr hyderent arnynt, gyd a hwynt ir maes, [Page 45] lle lladdwyd tair mil arddeg'or Scotiaid, a chant yn unig ôr Saeson, digwyddodd hyn ar yr un diwrnod ac y lloscwyd y del­wau yn Llundain.

Darostyngwyd hefyd y gwrthryfelwyr yn Norffolke a Sire Eboroc. A churwyd gwyr Frainc yn Jersey. Yn yr amser hwn rhoddwyd biblau Sa [...]sonaec i bob plwyf yn Lloegr, a gosodwyd allan y llyfr Homili i gynorthwyo y lleodd oeddent weigion: cans anhawdd ydoedd cael pregethwr ymhob plwyf cyn gynted ar ol troi ymaeth gymaint o offeiriadau pabaidd. ond gan nad oedd y deyrnas yn dwyn Frwyth cyfattebol ir llafur, a'r hâd, a'r cafodydd nefol yr oedd Duw yn ei ganhiadu iddi, gadawodd ir Papistiaid ei batingo hi eilwaith, a llosci 'r Protestaniaid yn aml, i edrych y ddygei ffrwyth gwell gwedi. Cans ar ol ir frenhines Marie addaw yn deg ir Protestaniaid er mwyn cael y goron, galwodd Barliament i fwrw i lawr y gresydd y gawsei rydid gan ei brawd Edward, a gosododd Babyddieth i fynu eil­waith, ac i hyfforddi ei phwrpas priododd Philip brenin His­paen.

Ac er rhybuddio 'r byd o'r peth oedd ar ddyfod, gwelwyd dau haul yn Llundain, ac enfys ai chefn yn isaf, ai dau gorn i fynu, megis pe buaseu 'r nef ar fedr Saethu tuâr ddaiar.

Yn y brofedigaeth danllydd cymellwyd rhai i wadu eu ffydd, megis yr Justus Hales, yr hwn wedi hynny ai boddodd ei hun o dra gofid calon.

Ac wedi dihenyddio yr arglywyddes Jane Gray Christnoges gyflawn o zèl, a gwybodaeth rasol, amhwyllodd yr Justus Mor­gan ai barnaseu hi i golli ei phen, a llefodd nes ei farw, am dyn­nu 'r arglwyddes Jane oddiwrtho ef.

Yn y flwyddyn 1555 âr drydydd o deyrnasîad y frenh. Marie, y dechreuwyd llosci 'r Pregethwyr duwiol. ar Cyntaf o honynt y dorrodd y brîse, oedd Mr Rogers. Yr hwn, pan arweinwyd ef o gaeth garchar ir tân, a chyfarfod ar y ffordd ai wraig ag un a'r ddeg o blant, y rhai pe gallasent y ddiffoddasent y tân ai dragrau; ni rysodd garu Christ ai wirionedd yn fwy nani wraig, na i blaut ai fywyd hefyd. A gorfoleddodd y brodyr yn ddirfawr weled Cadernid ei ffydd ef.

[Page 46]Ac wedi hwn canlynodd Mr Saunders i wneuthur yr unrhyw dystiolaeth. Yr hwn yn ei ievenctid y roddasid yn serfiant, ond ni orphwysodd ei gydwybod ef nes troi at ei lyfrau i fyned yn bregethwr. Dangosodd fod yr offeren fel gwenwyn, lawer wedi ei gymysc ag ychydig lefrith, sef, llawer o am­ryfusêddau ymysc rhai Scrythurau. Lloscwyd ef ynghoventri.

Felly hefyd y digwyddodd i Hooper Escob Caerfrangon, yr hwn wedi cau arno yn fanwl yngharcharau Llundain, (nid y doedd ryfedd cloi arno am ei fod yn dlws mor werthfawr) y anfon­wyd i Gaerloiw yw losci, lle yr ymgasclodd llawer yw weled ef, ac i weddio gyda'g ef, gan fendithio Duw am y grâs y dderby­niasent drwy ei bregethiad ddwys ef, cans dyweden, nad oedd pobl, heb ir yspryd ferwi ymaeth eu trachwantau gymwysach i Dduw, na chîg amrwd yn fwyd i ddyn. Pan ddaeth at y stanc rhoddwyd ger ei fron ef yscrifen oddiwrth y frenhines i beri arbed ei fywyd ef, os troeu yn Bapist, ac wedi iddo wrthod y gau gymwynas hwnw, rhoddodd ei enaid i law Dduw, ar ol yw gorph ef ddioddef angerdd y tân dri chwarter awr heb swic­cio. Tystiolaethodd nad alleu un garu Christ ai enaid, a pherchi yr offeren ai gorph, mwy nag y gall gwraig serchu ei gwr ai chalon, tra y rhoddei hi ei chorph i eraill.

Yr achosion penaf yngolwg dynion o ferthyrdod y bobl dduwiol y pryd hyn oedd eu cefnogrwydd hwynt i Sefyll gyda'r scrythurau yn erbyn traddodiadau pabaidd. Gan wrthod addef y pâb yn ben ir eglwys, nag yn wîr aelod o honi, o herwyd ei dduygioni. Gomeddasant hefyd addoli lluniar, âr bara yn yr offeren; gan egluro nad oedd na chorph nag yspryd Christ yn bresenol ynddi, am hynny y dy lid tynnu oddiwrthi beth bynag y fyddeu 'r dial dynol. Ie ni chilient ymaeth er cael rhybudd oi perigl; cans dewisent goron ferthyrdod fel y bobl rasol yn y brif eglwys.

Pan roddwyd dyfyn Dr Tailor (yr hwn y gynyddodd y praidd y ddechreuaseu Bilney ei gasclu yn Hadley), onid aeth y plwyf yn yscol ddyscedig) naccâodd ddianc, er bod ei berthynasau yn tâergeisio ganddo ei arbed ei hun, eithr dywedodd, Na chafeu ef fyth y fath achlyssur i ogoneddu Duw, a thrwy ddioddef dros [...]i efengyl ef. Am hynny aeth i Lundain heb neb yn ei wilied ef [Page 47] ar hyd y ffordd. A phan ddaeth ger bron; tystiolaethodd y gwir yn hy. Ac yn y carchar llawenychodd yn enwedig am gymdeithas yr Angel Bradford.

Yr oedd Carcharau Lloegr yn awr fal Eglwysydd llawn o'r bobl dduwiolaf, a hyfryd oedd weled eu rhinweddau, a chlywed eu Cynghorion, ai gweddiau. Wedi ei fwrw ef i farw, a'r Swyddogion yn eiriol arno am gymodi a phabyddieth, dywe­dodd Iddo dwyllo llawer yn Hadley; ar hyn tybiasant y troeu ef, hyd oni ddeonglodd y peth, sef y twylleu ef y pryfed yn monwent Hadley, am na chaent fwytta mo'i gorph Cnawdig ef, eithr gadawei ei losci yn tân cyn y gwadeu Crist; ac felly y bu.

Ac nid pregethwyr yn unic, ond proffesswyr Cyffredin hefyd fuont ffyddlon hyd angau. Cans wedi i Boner escob Llundain holi un Tomkins gwydd, ac am nad ymwadeu ai grefydd yr hon y ddilyneu ef yn ddiwyd, pwyodd yr Escob ef yn greulon, gan dynu gwallt ei ben ef ai farf, a chymerthgan wyll dair-dyblig olau, ac a loscodd ei law ef, onid oedd y dwfr yn Saethu allan o'r giau; etto nid oedd y merthyr yn teimlo gronyn o boen, am fod ei yspryd ef yn gyflawn o gyssur, ac wedi hynny lloscasant ei holl gorph ef yn Smithfield.

Felly y gwnaethpwyd ag William Hunter bachgen o ran oedran, a gwr mewn gwybodaeth, yr hwn, tra yr oedd ef wrth y stanc yn gweddio y geiriau hyn, mab duw tywyna arnafi, yn ebrwydd discleiriodd yr haul yn ei wyneb, er bod yr wybren yn dywyll iawn, ac yn gymylog o'r blaen.

Yn Neheudir Cymru hefyd dioddefodd rhai am yr un achos, sef Escob Farrar, yr hwn y gyhuddwyd gan swyddogion ma­laisys ei escobaeth yn amser y brenin Edward, ac a garcharwyd ar gam, megis pe buaseu yn tueddu at Babyddieth; ac yn amser y frenhines Marie mynnodd yr un Cyhuddwyr ei losci ef am wrthwynebu pabyddieth. Wrth fyned i farw pan oedd un yn Cwyno iddo dosted fyddeu ei boen, attebodd ynteu, os gwelwch fi yn aflonydd, na choeliwch fy athrawieth. a safodd yn llonydd yn­ghanol y tân, nes ei drengu.

Yr oedd hefyd un Rawlins Wynne Ynghaerddydd, yr hwn er ei fod yn anllythrennog, etto wedi cyffroi ei feddwl i geisio gwy­bod, a dilyn ewyllis Duw, wrth wrando ar ei blentyn yn darllen [Page 48] yr Scythurau beunydd, y gafodd y fath wybodaeth a zêl, ac y droes lawer at ofn Duw, am hynny ar ol hîr garchar, lloscwyd ef yn ei dref gartrefol. Ac wrth fyned at y stanc gweleu ei gy­mydogion gysnewidiad ryfeddol yn ei gorph ef, cans lle'r oedd o'r blaen yr Crynu gan oedran, yr oedd yn awr yn syth inion, ac wyneb Siriol.

Yn Ghaer-Lleon yn ymyl Gwynedd y lloscwyd George Marsh Pregethwr duwi l, yr hwn pan glywodd fod ymofyn am dano ef, aeth i mewn o hono en hun, ac argyhoeddodd ei ddiodef­garwch ef lawer o bobl: oni orfu ir Escob bregethu i geisio gan bobl goelio mae heretic y loscasei ef, a chyn pen ne­mawr lloscodd puttain yr Escob (fal y dywedent) a bu ef farw yn ferthyr i Venus. Dywedodd Marsh, fod Duw yn dyrnu ac yn nithio yr yd yn amser y frenhines Marie y hauaseu ef yn amser y brenin Edward, Ac y dyleu rhai dâ ddioddef mwy er mwyn Christ, nag y mae y rhai drwg er mwyn pechod; gan eu bod yn dwyn carchar ag angeu, am ymddial, neu ledratta arian yw treulio ar eu chwantau.

A thra yr oedd y merthyron yn canmol Duw wrth y stan­ciau, yr oedd yr offeiriaid llygredig yn canmol y pâb yn eu gor­sêddau, ond cyrhaeddodd llaw Dduw rai o honynt. Cans tra yr oedd offeiriad Crondall yn ei bregeth yn clodfori y maddeu­ant pechodau y dderbyniaseu ef oddiwrth genad y pâb iddo hun, ac ir plwyf, ac wrth hwnnw yn hyderu ei fod mewn cyflwr da, yn ebrwydd syrthiodd yn farw yn y pulpud, ac ni symudodd fyth na llaw na throed.

Gwelwyd arwydd gwell ar un Mr Faukes gwr galluog yn yr scrythurau: yr hwn pan oedd yn myned yw losci eisieu dwyn ei blentyn yw fedyddio yn ol yr offeren, y gadarnhâodd ei gyf­neseifiaid yn y ffydd, y rhai ddymunasant arno pan fyddeu ef yn tân roddi iddynt arwydd os gellid gadw meddwl yn llonydd yn y fâth boen er mwyn yr efengyl, A phan oedd y merthyr yn tân, wedi Crychu ei groen, a cholli ei leferydd, a llosci ei fysedd, oni thybiodd pawb iddo drengu, yn ebrwydd cododd ei ddwylaw (a nhwy yn ffaglu yn olau) vwch ei ben, gan eu taro ynghyd dair­gwaith: yr hyn y barodd ir bobl glodfori Duw gyda bloedd fawr.

Ni bu ddim llai cyssurus helynt Bradford yn ei gystudd; yr hwn y gawseu râs mawr gan Dduw yn ievanc; a phan oeddid yn [Page 49] ei alw ef i weinidogaeth yr efengyl, yr oedd yn arswydus gan­ddo fel Moses gymeryd y swydd arno, o ran y dûb wael oedd ganddo am dano ei hun, nes i athro enwog ei argyhoeddi ef, ai annog ef, Nad attalieu fara haidd oddiwrth eneidiau newynllyd, onid oedd ganddo fara gwyn yw roddi iddynt. Rhagddangosodd y deueu plâ am broffessu 'r efengyl yn gnawdol, a chanlynodd y chwys marwol y pryd hynny. Pregethu, a darllen, a gweddio, a myfyrio oèdd ei fywyd ef, ar ei liniau y byddeu yn studio, dan fynych wylo, addfwyn, a ffyddlon a chyfiawn o Zêl oedd ef. Yscrifenodd fod y byd yn fodlon i Babyddieth, oblegyd nad oedd yr offeren yn Ceryddu neb am bechod, fal yr oedd pregethiad yr efengyl, a bod yr eglwys butteinaidd yn ymarwssio a d [...]fodau brithion, ond bod yr eglwys briod yn blaen hebddynt, ac yn dêg oddifewn. Psal. 45.

Wedi ei garcharu yn amser y frenhines Marie, cafodd y fath garedigrwydd gan ei geidwaid, ac a roddes iddo achlyssur i bregethu beunydd, a llenwi ei stafell o bobl dduwiol, ac yn fynech i gyfrannu swpper yr arglwydd▪ Er ei fod ef unwaith yn ô anewyllyscar i swydd i weinidogaeth, etto yr oedd ef yn chwan­nog i ferthyrdod, gan ddywedyd yn ei weddi, pan ddaeth yr amser Custudd Cyffredin ar dduwioldeb, wele fi, anfon fi. Isai. 6.8. a gorfoleddodd ynghariad Duw, am iddo anfon am dano ef, fel Eli­as, mewn cerbyd tanllyd. Wedi ei rybuddio ef yngharchar oi far­wolaeth, gweddiodd, a chynghorodd mor ysprydol ymysc ei gy­feillion, a bu mor hyfryd yn ei enaid, megis pe buaseu yn y nêf eusus. Pan ddaeth at y stanc yn Smithfield, a dechreu cynghori 'r bobl, rhwystrodd y Siri ef, am fod yr ymwasc yn fawr, (fel y byddeu wrth losci 'r holl ferthyron, am hynny ofneu 'r swy­ddogion [...]hag Cythryfwl, a phryssurent i orphen eu gorchwyl) ond trôdd Mr. Bradford at ei gyd-ferthyr, gā ei galonni ef, wrth ystyried y cafent y nos honno swpper llawen gydâr arglwydd.

Ar ol hyn lloscwyd mewn amryw fannau yn Lloegr y flwyddyn hon lawer o wyr duwiol, boneddigion a chyffredin; weithiau pedwar, weithiau Pump, weithiau chwech yn yr un tanllwyth dan gyffessu eu ffydd yn rasol, ie yr ydoedd y fath nerth ynghyff­es y merthyron, ag y drôdd lawer y fuasent Bapistiaid yn am­ser y brenin Edward, yn Brotestaniaid cynes yn amser y frenhines Marie. Cans gwelyd llawer o ras ac o anwyldra Duw tuag at y rhai cystuddiedig y pryd hyn.

[Page 50]Pan oedd Robert Smith wrth losci yn dymuno ar Dduw ddangos arwydd arno er daioni, wedi iddo fyned yn loûn du yn tân, yn ddisymwth cyfododd yn ei sefyl, a churodd y bonion breuchiau ydoedd ganddo, i ddangos llawenydd ei galon. Yn Norwich he­fyd carcharwyd un Mr. Robert Samuel Pregethwr grasol, gan ei gad wyno ef yn ei union sefyll wrth bôst, fal na chafeu onid blaenau ei draed i gynal ei holl gorph, ai benydio a newyn heb roddi iddo ond tri thammaid o fara, a thair llwyaid o ddwfr yn y dydd, a phan geisieu yfed ei drwnc ei hun nid oedd ddefnyn o ddwfr yn ei gorph yw wneuthur. yn y Cyflwr hwn Syrthiodd mewn llewyg, a sasodd un mewn gwisc wen yn ei ymyl ef, ac a ddywedodd, Samuel Cymer gyssur, cans ar ol y dydd hwn, ni newyni ac ni sychedi byth mwy, ac o hynny allan ni theimlodd na newyn na syched hyd oni loscwyd ef. A chyn pen nemawr o amser dygpwyd ef at y stanc lle y mynegodd y weledigaeth yw gyfeillion, gan ddywedyd nad allei ef o ran gorchwyledd adrodd y fath gyssuron y gawseu ef gan Crist yn ei boenau. Pan ddaeth at y tân ni thybiodd y penyd hwnw ond chwareu, wrth y tri­niad y gawseu ef gan erlidwyr yngharchar. O greulondeb Pabaidd! o ddioddefgarwch sanctaidd! Tystiolaethodd rhai iddynt weled ei gorph ef yn discleirio yn tân fel arian coeth.

Felly y ceisiodd yr vnrhyw erlydwyr lâdd Robert Glover gwr bonheddig drwy oerni, a gorthrymder yngharchar▪ ond nerthodd Duw ef yn ei gorph ai enaid, gan roddi iddo brawf o fywyd tragwyddol. Wedi iddynt ei gondemnio ef, bu an­ghyssurus ddwy nôs cyn ei losci: ond pan ddaeth at olwg y stanc, cafodd y fâth siccrwydd hyfryd o gariad Duw, oni churodd ei ddwylo ynghyd, gan lefain ar ei gyfaill yn llawen, a dywedyd, efe ddaeth, efe ddaeth, mor siriol ac un y gawseu ei waredu oddiwrth ryw berygl marwol, ac nid fel un yn myned iddo.

Ac fel y gwelwyd, yn awr yn y brofedigaeth hon ffyddlondeb y merthyron, ac ymgeledd Duw tuag attynt yn eu cystuddiau trymmaf, ai ddialeddau ar yr erlidwyr, felly 'r anghyssur y ddig­wyddeu ir encilwyr llyrfion; megis i un West: yr hwn rhag ofn y ddarllenodd yr offeren yn erbyn ei gydwybod, a bu ef farw ychydig gwedi.

Eraill am y cyfryw wendid y syrthient i flinder meddwl hyd [Page 51] oni ddychwelent at Dduw, neu wnaent ben am danynt eu hunain, neu nhwy gafent ryw aflwydd arall. Fel y bu i Richard Denton gôf; at yr hwn yr anfonodd un o'r merthyron fflyring yn arwydd, gan gofio iddo ef ei fywiogrwydd yn y ffydd gynt, a dymuno arno bryssuro ar ol ei gymdeithion, Attebodd Denton, gwir yw, ond och ni fedrafi ddioddef fy llosci. Etto gwedi, trawodd tân yn ei dy ef, ac wrth geisio achub ei ddodrefn, lloscwyd ef a dau oi dylwyth, gan ddioddef heb ddiolch yn ei achos ei hun, y peth a wrthodaseu ef yn achos Christ.

Gwelwn ynteu fod Paul yn caru Timotheus pan orchmynodd iddo gymeryd ei ran o gystudd yr efengyl, 2 Tim. 1.8.

Gwelodd yr erlidwyr achos i ddychrynu pe gosodasent hynny at eu calonau; cans pan loscwyd Escob Ridley a Latimer yn Rhydychen, am iddynt dystiolaethu gyd âr efengyl yn ddiwyd yn yr eglwysydd, ac yscolion dysc, arhosodd Gardiner Escob Winchester un ôr erlidwyr penaf heb ei giniaw hyd yr hwyr, nes clywed ir merthyron hynnu gael eu diwedd, ac yno eiste­ddodd i wledda gyd ai gyfeillion yn llawen. Ond trawodd llaw Dduw ef ar y bwrdd, oni chwyddodd ei gorph ef, a Phoethodd y tu fewn iddo ef, a bu farw ai dafod allan fel gloûn du.

A thra yr oedd un Hubberdin yn pregethu yn erbyn y Pro­testaniaid, ac mewn gwyn yn curo 'r pulpid ai draed, syrthiodd y pulpid, ac ynteu hefyd, ac ychydig gwedi bu farw oi gwymp.

Etto ni pheidieu 'r erlid. Eithr dygpwyd Philpott, un o ge­deirn Duw ir tân yn Llundain. Yr oedd y merthyr hwn yn fab i farchog, ac yn yscolhaig mawr, a thrafaeliwr. Ymddadleuodd mor nerthol mewn cymanfa, nad alleu 'r Papistiaid wrthsefyl yr yspryd a'r doethineb drwy'r hun yr oedd ef yn llefaru. Argy­hoeddodd hwynt yn egniol oflaen arglwyddi 'r cyngor, cans doeth a duwiol, a dewr ydoedd ef. Am hynni cafodd ef gyda'g eraill helynt gaeth drymder gaiaf, mewn cyffion o heirn ynglô­dy Boner Escob Llundain: etto llawenychent a chanent psalmau. Yscrifenodd at ei gyd filwyr caeth, ei fod ef yn gobeithio y llareiddieu angerdd y tân, wrth fod Duw yn yscafnhâu trymder y carchar. Pan ddaeth at yr stanc, plygodd ei lîn, a dywedodd, talaf sy addunedau y nòti o Smithfield. a chussanodd y stanc, gan [Page 52] ddywedyd eilwaith, a wrthodafi ddioddef wrth y pren hwn dros fy mhrynwr, y ddioddefodd farwolaeth wradwyddus drosofi ar y groes? ar ol ei ferthyrdod ef Scrifenodd gwraig dduwiol at Boner, y byddeu raid iddo roddi Cyfrif am waed yr Abel gyfiawn hwnw, ac y gorfuddeu iddo ef, ai offeiriadau corynfoel (eilli­ant eu corynnau i wneuthur eu gwallt wrth eu clustiau ar lun coron) roddi biswel ar eu penau i guddio nòd y bwystfil, am fod y wir gresydd yn anghwanegu wrth dywallt gwaed y mer­thyron, ac wrth dorri 'r blychau hynni, yr oedd yr enaint gwerthfawr yn lienwi 'r deyrnas ai arogl.

Hyfryd oedd gweled mor gariadus oedd y bobl dduwiol y fydddent rydd, yn gweini i gyfreidiau y rhai rhwym, yn en­wedig amryw wragedd boneddigion a chyffredin, fel y rhai a ymgleddasant Grist hyd farw, ac a baratoesant bèrly ssiau iddo ef yn ei fêdd. Gwniau rai gryssau newydd ir merthyron hyn yw llosci ynddynt; (dioscid hwynt wrth y stanc hyd at y crysau) gan ddywedyd y paratoent scarfiau i filwyr Christ i ynnill y frwydr olaf. Ynteu hyspys yw fod yr un yspryd cariad yn y rhai credadwy ymhob oes.

Scrifennodd Mr. Philpott fod patrwn eglur o nerth grâs Duw yn yr Arglwydddes Vane, yr hon er ei bod yn gyfoethog, yn ievanc, yn anrhydeddus, yn dêg ei phryd ai gwedd, ac heb fod dan awdurdod neb, etto dirmygodd y cwbl oll, ac ymroddes i Groes Christ: Ac y cyfodei hi yn y farn yn erbyn y rhai oeddent yn gwadu Christ rhag ofn colled, fel brenhines y deheu yn er­byn y genedl gynt. Cyffessod hi ei hun yn amser enbydus, sod melysdra Christ yn ei hynnil hi fwyfwy, ai bod yn blassu mwyniant y byd fal physygwrieth gwrthwynebus.

Ynechreu 'r flwyddyn 1556 lloscwyd saith yn yr un tanllwyth yn Smithfield. a phump ar vnwaith yn Ghaergaint, yn y tân Canasant psalmau, trâ'r oedd yr edrychwyr oi hamgylch yn tywallt dagrau.

Yn Rhydychen dioddefodd Cranmer ferthyrdod, ar ol iddo gael llawer segfa gan y Papistiaid drwy ymddadlu, ac iddynt ei ddiûrddo ef, gan roddi am dano ef ddillad escobaidd ai diosc (fel y gwnaeth y milwyr a Christ wrth ei watwor ef a gwisc frenhi­nawl) Pan aeth ef at y tân daliodd ei law ddeheu ynddo yn [Page 53] gyntaf, am iddo o'r blaen drwy wenieth ei elynion scrifenu ei henw a hi wrth papyr pabaidd, yr hyn y wnaeth iddo ef wylo yn chwerw-dost, rhyfeddodd llawer na syflodd ef ronyn yn y tân, er ei fod yn hen-wrbarf wyn.

Ar ol hyn lloscwyd chwech yn yr un tân yn Smithfield, ar un rhifedi yn Colohester, a digwyddodd i Boner losci dau wr duwiol yn yr un tân, a'r naill yn gripl, a'r llall yn ddall: ac wedi eu rhwymo hwynt gerfydd eu canolau wrth y stanc, bw­riodd y cripl ei faglau ymaeth, gan ddywedyd wrth ei gydfer­thyr, Cymer gyssur fy mrawd, iacheir di o'th ddallineb yn awr, a minneu o'm cloffni.

Lloscwyd llanc dall yn Ghaerloiw am yr un achos a thra­noeth merthyrwyd gwraig weddw a dwy o wyryfon grasol yn Smithfield, y rhai a ddaliasant y ffydd yn gadarn. Ac yn ymyl Llundain lloscwyd tri ar ddeg yn yr un tân, sef un ar ddeg o wyr, a dwy wraig, y rhai a safodd yn rhyddion yn tân, nes rhoddi eu heneidiau ir arglwydd. Wrth fyned a hwynt yw dihenydd, cauodd y siri arnynt mewn dwy stafell, ac wedi hynny aeth at y naill blaid, ac a daerodd yw Cymdeîthion hwynt wadu eu ffydd, ac am hynny yrarbedid eu bywyd hwynt; attebasant iddo ef, nad oedd eu ffydd hwynt wedi ei hadeiladu ar ddynion, ond ar air Duw. Aphan wnaeth ef felly ar blaid arall, cafodd yr un atteb.

Lloscwyd tri yn yr un tân yr Newberie, un o honynt oedd wr dyscedig o Rydychen, y gollaseu ei le yn amser y brenin Edward am ei Zèl ir pâb, y pryd y cyfaddefodd ef wrth ei gyfaill oedd yn gadel y deyrnas am yr un styf­nigrwydd, fel hyn: Yr ydym yn dioddef llawer dros y Pâb, ond nid oes gennym y fath felysdra yn ein Calonau oddiwrth ei grefydd ef ac y welwn ni y Protesta­niaid yn eu fwynhau yn eu ffordd nhwy; yr ydym ni yn ymdrechu am ni wyddom ni pa beth, yn fwy o ran ewyllis, na chydwybod, etto gwell genifi fyned i gard­otta, na chael o honynt eu gair yr drechaf. Ond yn am­ser y frenhines Marie, er iddo gael y byd wrth ei fôdd, etto wrth weled cyssur a graslonrwyd y merthyron, trôdd yn [Page 54] hollhawl at yr efengyl, a theimlodd yr offeren cyn flined iddo ei gwrando, ac y fyddeu gan arth gaelei baitio. Am hynny blinwyd ef, a dugpwyd ef ir tân, lie y dywedodd wrth ei gydfil­wyr, Bydwch gyssurus, yn lle 'r marwor hyn ni gawn berlau, y mae yspryd Duw in tystiolaethu hynny in ysprydoedd ni.

Yn Garnsey y Lloscwyd gwraig ai dwy ferched yn yr un tân, yr oedd un o'r merched yn wraig i bregethwr, ac yn feichiog agos yw thymp; a phan dorrod angerdd y tân ei bol hi, Syr­thiodd y plentyn oddiwrthi hi: Ac wedi ei gipio ef i fynu, ai ddwyn at y Swyddogion, gwnaethpwyd ag ef mor anghruga­rog, ac y gwnaeth Pharao a phlant yr Hebreiaid, neu Herod a phlant Bethlem, gan ei fwrw ef ir tân at ei fam, er ei fod yn blentyn gwryw golygus, felly bedyddwyd a thân yr hwn a aned yn ferthyr, i dystiolaethu dynered mamaethod yw 'r Papisti­aid.

Yr un fath hyffordiaid y gafodd morwyn ddall yn Darby, yr hon oedd yn byw wrth wau hosanau, ae a brynodd destament newydd; rhoddei hon geiniog fel yr ynnillei hi i ryw un am ddarllen iddi benodau ynddo, oni chafodd h [...] wybodaeth iach­usol; am hynny lloscwyd hi.

Yn y flwyddyn 1557 Lloscwyd saith yn yr un tân ynghaer­gaint, a phump ar unwaith yn Smithfield, a saith ar unwaith yn Maidstone, ac eilwaith saith yn yr un tân ynghaergaint, yr oedd un o honynt sef gwraig Benden y garcharwyd naw wyth­nos newn twll cyfync, ni chafodd hi un gwely i orwedd arno, na newid ei dillad, na dim llunieth, ond gwerth tair ffyrling yn y dydd, ac ni chafodd neb wybod ple yr oedd hi, nes yw brawd a'r foreucweth ei chlywed hi yn adrodd ei chwyn wrth Dduw mewn gweddi, ar ol hynny pan ofynodd yr Escob iddi, a fodlonei hi i fyned ir offeren, attebodd y gwyddeu hi yn yspyssach y pryd hynny nag o'r blaen nad oeddent hwy o Dduw am eu bod mor giaidd.

Merthyrwyd dêg yn yr un tân yn Lewes, a dêg eraill yn Colchester.

Yn y flwyddyn 1558 merthyrwyd rhai o'r gunulleidfa ddirgel y gyfarfyddent yn Islington. Tystiolaethodd yr Athro [Page 55] ei fod ef yn Rhufain, lle y gwelsei ef gymaint o lygredigaeth ac y wnaeth iddo ffieiddio Pabyddieth. A bu ryfedd dioddefgar­wch Cutbert Sympson y diacon, Pan boenwyd ef yn greulon, ei­sieu iddo ddangos y llyfr, lle'r oedd henwau'r bobl dduwiol oeddent wedi ymwneuthur i gyd addoli yn ol yspryd yr efen­gyl; êr hynny dalwyd hwynt ynghyd gwedi, a lloscwyd tri ar ddeg o honynt. Carcharwyd gwraig dlawd, ddewr yn yn Scrythurau, yn Exceter, am iddi arghoeddi un ydoedd yn ad­gweirio delwau, y rhai anffurfiasid yn amser y brenin Edward Eb hi, yr wyti yn ynfyd wneuthur trwynau newydd ir delwau y gollant eu pennau cyn bo hîr, pan fwgythid hi, attebeu fod ei chalon yn sicer gyda Christ, pan gynygid iddi arian, dywedei ei bod hi yni myned i ddinas lle ni cherddent. Ac ynghylch wythnos cyn marw'r frenhines Marie, Lloscwyd pump yn yr un tân yn Ghaergaint. Pan farnwyd y rhain i farw, cyfododd un o honynt yn enw'r lleill eu gyd, ac wedi ei gynhyrfu gan Zêl ddirfawr, adroddodd escymundod yn erbyn y Papistiaid ag yspryd aw­durdodawl, gan ddymuno ar Dduw ddangos barn arnynt er adeiladaeth ir deyrnas. A gwnaeth Duw yn ol gair eu weision. Cans cyn pen yr wythnos bu farw'r frenhines, a syrthiodd Pa­byddieth yn Lloegr, ac yna dychwelodd yr Hispaenwyr adref. Ac er eu dyfod i Loegr i geisio diffodd yr Efengyl, etto hi en­ynnod râs yn eneidiau rhai o honynt, a hyfforddiasant wîr wy­bodaeth yn eu gwlâd eu hunain, onî erlidwyd yno lawer oi phlegyd.

Maith fyddei mynegi gymaint y ferthyrwyd yn Lloegr yn ystorm hon, am hynny mi a grybwyllais am ychydig o lawer, ac na bo ond sôn a chrybwyll am y fath beth mwy, ond gosodwn ni hyn at ein Calonnau na chafwyd ynghymru yr un a roddes ei fy­wyd ertystiol aeth i air Duw yn yr amser hwnw (wrth y ddarllen­ais i) oddieithr dau neu dri yn y deheudir.

Pan fu farw y frenhines Marie, agorwyd dryssau carcharau i lawer oeddent wedi eu bwrw i farw. A chafodd yr adar nefol y gauasid yn y cewyll, eu gollwng allan i byncio yn y Coed, ie Cafodd rhai fal Joseph eu codi o garcharau i orsêddau, yn amser y trwm gystudd gwelwyd gofal Duw yn pryssuro gwarediad yw bobl.

[Page 56]Method gan yr erlidwyr gyflawni yr hyn a ewyllysient pan oedd gallu dynol yn eu dwylo, megis pan ddaeth mar­chog ai weision i lusco gwraig dduwiol ir offeren yn erbyn ei meddwl, trawodd ffit or gowt arno ef cyn dosted, ac y gorfu ei ddwyn ef adref, a gadel y wraig yn llonydd. A dywed Melancton, i angel roddi rhybudd i drosglwyddo Grineus dduwiol oddiar ffordd erlid periglus oedd yn dyfod am ei ben ef yn ddisumwth. Tra yr oedd yr arglwyddes Eli­zabeth yngharchar yn Woodstocke yn amser ei Chwaer, daeth un at ddeg ar ugain o wyr gyda'g ef yno mewn bwriad yw lladd hi fel y tybid, ond yr oedd y pen ceidwad wedi myned oddi cartref, a chwedi gadel siarse ar ei frawd na chafaeu neb si­arad a hi; a'r gorchymyn y roddasid er gwneuthur ei charchar hi yn gaethach, y brifiodd yn fodd i achub ei bywyd hi; felly trowd ei chaethiwed yn ddiogelwch iddi.

Nid anhynod fu anfodlonrwydd Duw yn erbyn yr er­lidwyr; ni chafodd y frenhines Marie ond yr aflwydd bwy gilidd wedi tywallt gwaed y rhai duwiol; (yr oedd Heze­chias a Jehosophat wrth ddiwygio pethau Crefyddol yn ffynnu, a Manasses eulynaddolgar yn methu) Bu newyn mawr yn Lloegr yn ei hamser hi, oni orfu bwytta mês yn lle yd. Hi gollodd Calice dinas enwog o Frainc, y fuaseu ymeddiant y Saeson er' llawer o flynyddoedd: Gwradwyddwyd hi yn ddir­fawr o herwydd anffrwythlondeb ei phriodas. Gorchmynwyd ir Escobion a'r offeiriadau roddi diolch yn yr eglwysydd am ei beichiogi hi, a gweddio am nerth iddi i escor, cans dymuniad ei chalon hi oedd cael plentyn i etifeddu'r goron, y peth ni chaniadodd Duw iddi.

Yr hyn y gyhoeddodd i bawb fod offeiriadau yr Eglwys Gatholic (fel y galwent eu hunain) yn siomedig, ac nas gal­leu eu offerennau dynnu enaid o'r pûrdan ir nef, mwy na phlentyn o'r brû ir byd.

Hefyd collodd y frenhines ofergoelus honno serch a chymdeithas ei gwr, a phryd na pheidieu ag erlid er dim a ddigwyddeu iddi tra fyddeu fyw, llonyddodd angeu hi yn fuan: a bu farw dan ochneidio, ac nid fel y merthyron dan byncio.

[Page 57]Goddiweddodd dialedd weinidogion ei chrenlondeb hi he­syd. A daeth megis y clwy byrr yn eu mysc hwynt a yscubodd ymaeth lawer o honynt yn ddisymwth. Bu farw'r Cardinal Pool Cenad y Pab dranoeth ar ol y frenhines. Cipiodd angau disyfyd un Duning Chancellor Norwich, a Jeffery Chancellor Salisburie. Bu farw Gardiner ai dafod allan, fel pe buaseu gyda Dives yn uffern tra yr oedd ef ar y ddaiar, heb ddefnyn o ddwfr yw oeri. Ofnodd yr Justus Morgan yr arglwyddes Jane ar ol torri ei phen hi, yn fwy nag yr ofnodd Herod Joan Fedyddiwr ar ol torri ei ben ef er bodloni Herodias. Pan oedd Escob Dover yn dyfod allan o stafell y Cardinal Pool, lle buaseu yn ceisio ei fendith ef, syrthiodd dros y grisiau a t [...]rrodd ei wddf. Ehed­odd Brân dros ben Baili Crowland (yr hwn ychydig o'r blaen y gymellaseu 'r ofleren ar ei blwyf ai holl allu) a than grawcio gollyngodd ei brynti yn ei wyneb ef, oni redodd i lawr o ben ei drwyn ef hyd ei farf, ac yr oedd y sawr mor ffiaidd, na pheidiodd ef a chwdy, a rhegu 'r frân nes ei farw. Syrthiodd y Goliah hwn drwy soddion gwael, a gorch­fugwyd ef gan elyn mwy anfoesol nag egniol, gan ddiodd­ef dirmig gyd a dinistr; felly gwybedyn y dagodd y Pâb Adrianus. Nychodd un Baulding hyd angeu o ddirnod mellten au trawseu ef wrth ddala un Seaman y fer­thyrwyd.

Ni ddiangodd erlidwyr y tu hwnt ir mor rhag dialedd chwaith. Pan oedd Cardinal Cressentius yn llywodraethu cymanfa Tridentum dros y Pâb, daeth Cî du mawr, a lly­gaid tanllyd yw stafell ef, ac ni welei neb ond y Cardinall mono ef, ar hynny clafychodd a bu farw. A phan oedd erlidiwr mawr yn Antwerp yn myned gyd'ai wraig mewn Cer­byd dros bont ymhen y dref, safodd y meirch, oni ddolefodd ef yn ddiclon wrth y gyrrwr: Gyr ymlaen yn enw mil o gythreu­liaid: ar hynny Cododd Corwynt disymmwth (er bod yr hîn yn deg o'r blaen) y daflodd y Cerbyd dros y bont i glawdd dwfn lle trigodd ef ai wraig.

Wedi Coroni'r frenhines Elizabeth, ac iddi roddi ei bryd ai gallu i gynal yr efengyl, Cynnyddodd gwybodaeth o Dduw yn Lloegr yn ddirfawr, ac er ir Papistiaid oddifewn ac oddi allan ir deyrnas [Page 58] osod maglau yn aml yn dinistrio hi, etto ymddiffynnodd Duw hi, ai waith yn ei llaw hi. Ac yn fynech daeth eu dichellion ir golau drwy foddion rhyfeddol, megis Pan gymerwyd llong, yr oedd offeiriaid Pabaidd yn morio ynddi, ac iddo rwygo a tha­flu ei bapyrau ir môr, Chwythodd gwynt hwy ir llong eilwaith, ac wedi eu rhoddi ynghyd, gwybuwyd wrthynt fod y Pâb a'r Hispaen, a Frainc yn bwriadu rhuthro am ben Llogr. Ac er mwyn Cadarnhâu yr deyrnas yn eu herbyn hwynt, cafwyd peirianau rhyfel ni chawsid yn Lloegr er ioed o'r blaen, megis Powder gwn, a mwyn Près, a charreg reidiol yw drin ef i wneu­thur gynnau mawrion, y pethau oeddent ddeffygiol o'r blaen, ac adeiladwyd mwy o longau nag oedd cyn ei hamser hi.

Wedi methu pob brâd ddirgel, y mae'r Hispaen yn bārod i wneuthur celanedd yn yr amlwg, ac yn anfon byddyn fawr elwyd Anorescynol i gwncwerio Lloegr, yr hon pan ddaeth ir mor Saesnig, bwriodd angor y tu nesaf i Frainc i aros am ychwa­neg o gymdeithion, ond yn y Cyfamser, gyrrodd y Saeson oedd yn agos nhwythau wyth o longau tanllyd ymysc llongau 'r Hispaenwyr, yr hyn y barodd ddychryn, a chri, a gwascarfa fawr yn eu plith, ac a rhoddes achlyssur a mantais ir Saeson i ddryllio rhai, ac i yssigo eraill o honynt, ac i ddigaloni 'r cwbl, oni ymroesant i hwylio gyda'r gwynt tua'r gogledd, o amgylch Scotland a'r Jwerddon, i ddychwelyd adre gyda chwilidd a cholled fawr rhwng ymlâddau a thymhêstlau; wedi hynny cy­faddefodd un oi Penaethiaid hwy, ei fod ef yn tybied mae Pro­testant ydoedd Christ.

Cafodd y Papistiaid y gwaethaf yn y rhyfel y godasent drwy iarll Tyrone yn yr Jwerddon hefyd, er iddo barhâu yn hîr, a Chynorthwyodd y Saeson yr Holandiaid i ynnill rhydid eu gwlâd au crefydd, ond yn Frainc wedi i dduwioldeb amlhau, a merthu o'r brenin drwy ryfel ddiwreiddio ei dilynwyr, den­wyd tywysog Navarre, Pena [...]h y protestaniaid i briodi Chwaer y brenin mewn ffug cuttund [...] rhwng y ddwyblaid. A phan ymgasclodd y rhai ardderchoccaf o'r tu crefyddol ir neithior yn y brif ddinas, rhuthrodd y Papistiaid am eu pennau liw nôs tra yr oeddent yn eu gwlâu yn ddiofal, a lladdasant ddengmil o honynt ar ddigwyl Bartholomeus, yu y flwyddyn. 1572. Ac yn [Page 59] gyflym anfonwyd gair i ddinasoedd eraill i wnenthur yr un ci­eidddra a lladwyd y tadau a'r plant yn eu breichiau, a lla­ddwyd y plant ai dwylo am yddfau eu tadau; yn rhai dina­soedd cauwyd y Pyrth rhag ir un ddianc oddiwrth y gigyddio [...] waedlyd.

Lladdwyd cantoedd yn Weldis, a miloedd yn Orleance, ac wyth gant yn Lugdunum, lle y dechreuodd Waldez adgweirio crefydd. Tri ugain ar ddeg yn Burdeaux, llawer yn Tholos a Roan; ymhob man wedi dengmil a'r ugain, mor dosturus oedd y gol­wg oni orfu ir cigyddion anfo [...] [...]m win i gynal eu calondid, er bod defaid y lladdfa yn rhoddi ei gyddfau i lawr yn ddiymdrech.

Am hyn gorchmynodd y Pab lawenydd mawr yn Rhufain, a gorfoleddodd brenin Frainc gan dybied iddo wneuthur diben llwyr o'r Protestaniaid.

Ond ymwrolodd Rochel, a rhai dinasoedd eraill, lle'r oedd y Protestaniaid amlaf, yw ymddiffyn eu hunain; ac ni thycci­odd i holl allu Frainc warchau a'r Rochel, am i Dduw anfon pyscod dieithr hyd yr afon yn ymborth ir ddinas; ac felly drwy ryfeddod ddiddymu pwrpas ei elynion. Ar hyn blinodd y brenin yn ymguro, a chyflychodd i roddi rhyd­id a heddwch i rhai crefyddol a weddillasid drwy Frainc oll. Ymhen y ddwy flynedd bu farw'r brenin hwnw dan waedu drwy holl dyllau ei gorph, sef ei safn, ai ffroenau, ai lygaid, ai glustiau, ai rannau isaf, yr hwn y wnaeth i waed ffrydio ffrydiodd gwaed o hono, fal y darlleneu ei bechod yn ei benyd; ynyddiau'r trychineb hwn gwelwyd Seren newydd dros ddwy flynedd, ac yna diffoddodd.

Yn Sevil o'r Hispaen y charcharwyd wythgant ar unwaeth am burdeb ffydd, gan eu llosci o fesur yr ugain, er bod llawer o honynt yn uchel râdd yn y byd.

Yn Flandria hefyd cynuddod yr efengil, yn enwedig yni­nas Lile, ac erlidwyd hi yn fanwl, ymysc eraill o rai duwiol y ferthyrwyd yno, enwog fu dau bregethwr, sef Guy de Brez, a Peregrine de la Grange, y rhai pan oedd eu caredigion yn cwyno iddynt wrth weled eu heirn, ddywedasant, Fod yn werthfawroccach ganddynt gadwynau heirn er mwyn Christ, na chadwynau au'r ffordd arall a bod swn y linciau yn felysach [Page 60] ganddynt na cherdorieth, au bod yn eu custudd yn cael prawf Siccr o'r peth y bregethasant o'r blaen.

Yr un amser merthyrwyd llawer yn Venice, gan eu taflu ir môr. Yn Valence cynygwyd ei bywyd i Margaret Pierrone er taflu ei bibl ir tân oflaen y dref, eithr gwrthododd wneuthwr felly,Oed. Chr. 1593. a chymerth ei merthyrdod, gan garu gair bywyd trag­wyddol yn fwy na'i bywyd naturiol.

Wedi i Loegr gael hir dawelwch, a goleuni Cynes yr haul efangylaidd, dychmygodd y Papistiaid gyfodi temhestl erchill drwy frâd y powder gwn.

Cans pan ydoedd y brenin James, a'r ddau dy o Barliament i eistedd yn Westminster, y nôs o'r blaen cafwyd un baryl ar bumtheg ar ugain o bowder gwn,1620. wedi ei guddio mewn seleri dan dai'r Parliament, lle dalwyd Guido Fawkes, a chelfi yn ei gylch paradol i ennyn y powder i chwythu i fynu yr Parliament dranoeth pan ymgyfarfyddent. Ar yr un dydd ymgasclodd y rhai penaf o'r Papistiaid yn y wlad hefyd, ar hyder yr ymchwa­negent fel pellen eira wrth ymsymyd ar hyd y deyrnas, a galw ar eu cyfeillion i gyfodi mewn arfau, ir diben hwnw dugasant lawer o feirch mawrion, yr hyn y wnaeth ir wlad ganlyn ar eu hol hwynt drwy ddwy shire neu dair, nes lladd a dal y rhai pryssuraf o honynt.

Ond yn Valtoline cyflawnodd y Papistiaid eu dychmygion drygionus yn erbyn y Protestaniaid, er iddynt fethu yn Lloegr; cans cysodasant yn ddisymmwth mewn arfau, a lladdasant y rheolwyr a'r pregethwyr, a'r cyffredin, yn eu tai ac yn yr eg­lwysydd heb arbed na gwragedd na phlant. Y pryd y bu node­dig calondid gwraig fonheddig ievanc ai phlentyn yn ei brei­chiau, cans pan ofynnodd y lleiddiaid y droeu hi yn Bapistes i achub ei bywyd ei hun ai phlentyn,1605. attebodd fel hyn. Gan nad arbedodd Duw moi fab, ond ei roddi i farw er fy mwyn i, minneu am rhoddaf fy hun am plentyn i farw en ei fwyn ynteu. Ar hynny lladdasant hi.

Cyn y gelanedd hon yn y gwledydd hyn canodd clôch ala­rwm o honi ei hun; ac wedi [...]r gigyddieth, clybuwyd llais yn yr awyr yn dywedyd, gwae, gwae am waed y gwirioniaid. A gwel­odd y byd y seren gynffonog gôch yngylch dwy flynedd o'r [Page 61] blaen, ac ychydig gwedi torrodd allan ryfel echryslon yn Ger­mania rhwng y Papistiaid a'r Protestaniaid a barhâodd deg ar ugain o flynyddoedd, a naw mlynedd cyn ei ddârfod, clybwyd hela mawr gan y Cythrael yn Bavaria arglwyddieth o Germa­nia, gyda bloed lio mawr, a llais cwn; a dywedodd, pan ddarfyddeu iddo hela yr aeu i bysgotta; sef yr arferis ddichell panbeidieu trais.

Yn yr Jwerddon Cyfododd y Gwyddelod ofergoelus yn ddi­symwth,Oed. Chr. 1641. a lladdasant o'r Saeson a chymru ddau cant o filoedd mewn dau fîs, cyn cael hamdden yw gwrthsefyll hwynt, ond wedi hynny daeth dial dwys arnynt hwythau. Dwy flynedd cyn hynny Cododd y Scotiaid mewn arfau. Ac ychydig gwedi torrodd allan y rhyfel brwd yn Lloegr, am yr hwn anghydfod anafus, nid rhaid yn awr sôn yn helaethach, am fod ei friwiau neu ei greithiau yw gweled etto. Yn unig Cyfaddefwn drugar­edd Duw yn peri i wybodaeth efangylaidd chwanegu drwy ymdrech y ddwyblaid. Oddiwrth ymgur y dûr a'r Callestr ennynnodd goleuni gyda'r tân. Cyn y rhyfel, hi lawiodd wen­ith, a digwyddodd amryw ryfeddodau eraill.

Yn Piedmont rhuthrodd duc Savoy am ben y Wasdesiaid duwi­ol; a digwyddodd yr un rhyw drychineb i Brotestaniaid Cracovia yn Polonia. Cafodd y rhai gorthrumedig or ddau fan hynny gy­morth Caredig allan o Loegr, 1655. y gasclwyd iddynt drwy ddefosi­wn ewyllyscar, fal y derbyniodd y Sainct Custuddiedig o Judea elusen haelionus oddiwrth eglwysydd y cenhedloedd yn amser yr apl Paul. Cyn pen yr hanner blwyddyn gwedi, cafodd duc Savoy ei lenwi a gwaed drwy ddwylo'r Hispaenwyr.

Bellach wedi bwrw golwg ein meddwl ar bob gwlâd ac oes, ni allwn ddywedyd yn hy, na bu gwybodaeth yr efengyl er ioed eglurach, a'r scrythurau a llyfrau da amlach, a rhattach, na phregethwyr fedrussach oddieithr y Prophwydi, a'r apostolion, nag ydynt yr amser hwn ynheyrnasoedd y Gorllewin, lle mae adgweiriad a rhydid crefydd. Yr Arglwydd a roddo ei râs i wneuthur ein bucheddau yn gyfattebol ir cynorthwyau, fal na ddiffodder yr yspryd

Ac am deyrnasoedd y dwyrain, gobeithio nas gorthruma Coel-grefydd Mahomet mor efengyl yn y gwledydd hynny dros nemawr o amser. Amlygwyd arwydd o hynny ir Twr [...]iaid [Page 62] yn Medina, lle mae bêdd Mahomet, i ymweled a pha un yr ym­gasclant o bell. Cans ar ol i daranau dychrynllyd a themestl ddeffroi meddyliâu 'r bobl yno, gwelwyd y geiriau hyn yn scri­fenedig a llythrenau Arabaidd yn y ffurfafen, oh Pam y Cred­wch mewn Celwyddau! Ac yn foreu gwelwyd gwraig siriol mewn gwisc wen, a'r haul oi hamgylch, llyfr yn ei llaw yn dy­fod oddiwrth y gogledd orllewin, a chyferbyn a hi yr oedd me­gis buddinoedd o'r Persiaid o'r Twrciaid mewn trefn barodol i ymlâdd a hi: etto hi fafodd yn ei lle, ac agorodd y llyfr ydoedd yn ei llaw hi, ar hynny ffoawdd y buddinoed, a diffoddodd yr holl lampau wrth fèdd Mahomet. A bu hyn beunydd dros dair wythnos. Cynhyrswyd un oi offeiriadau hwynt i esponi iddynt y ddrychiolaeth, gan ddywedyd, mae fel ac y darfu ir Juddewon, a'r Christnogion ddigio Duw wrth droi at ddelwau, Oed. Chr. 1620. a defodau dynol, oddiwrth ei gyfraeth Santaidd ef, felly ddarfod iddynt hwythau, un ai llygru deddf Mahomet, ar euogrwydd o hynny a baraseu ir buddinoedd ffoi; Neu fod llyfr arall nid oeddent yn ei chwilio, yr hwn pan agorid ef, y bareu i bob gallu dynol gilio. Am hynny, eb ef, yr wyfi yn ofni, nad yw ein crefydd ni ond llygredig, a'n proph­wyd ni ond hudol; yr hwn addawodd ddychwelyd attom cyn hyn, ac ni chyflawnodd, ie daw Christ y sonir am dano, ac a sydd ag enw mor ddisclair a'r haul, a hynny tros byth. Am hyn poenwyd a lladdwyd yr offeiriad. Ond byw yw r arglwydd nef y ddichon ddwyn i ben yr hyn yr anfonodd y weledigaeth yw ragarwy­ddoccâu.

1664. 1665.Gwelwyd tair seren gynffonog o fewn yr un hanner blwydd­yn, a diameu y dilin pethau mawrion ar eu hol.

SICCRWYDD Y GREFYDD GRISTNOGOL.

ER bod achau 'r ffydd (y argaphwyd eusus) yn gwirio Duw yn dâd iddi, etto gellir cael ychwan­eg o hyspysrwydd wrth ei phryd ai gwedd sydd yn tebygu id do ef, ai ofal ymgleddus ynteu yn Cynal ei hathrawieth, sef yr scrythurau sanct­aidd, ac amryw ystyriaethau eraill y ganlynant.

1. Rhaid ydoedd i ddyn er y dydd Cyntaf y gwnawd ef was­naethu Duw, i hynny y creuwyd ef. Ac fal y gwnaeu ef hynny mewn môdd Cymeradwy, rheidiol oedd iddo wybod ewyllis ei greawdwr. Yr hon y fynegwyd ir bobl gyntaf hir hoedlog, ac a scrifenwyd ir cenedlaethau byroes, yr hwn a ordeiniodd yr haul i ddyn er y dechreuad i wneuthur gorchwylion Corpho­rol wrtho, y roddes iddo reol i gyflawni dyledswyddau yspryd­ol wrthi. Ac nid oes grefydd yn y byd cyn hyned a'r Gristno­gol, na scrifennadau yn y byd mor oedranus a rhai r proph­wydi, nag yn mynegu Cymaint ynghylch y Cynfyd. Nid yw dychmygion y Pâb, a Mahomet, ond Babanod anelwig, disyn­wyr, wrth y rhain, ie cywion gorphena, y ddeorodd gwreso­grwydd llwyddiant bydol, y ddaethant o'r Cibau yn ddiweddar, ac a ddarfyddant ar fyrder. Cafodd yr efengyl ei chredu lawer Canto flynyddoedd cyn eu geni nhwy, a chaiff etto ar [...] eu ma­rw nhwy, cans tragwyddol yw; Deut: 14.6. gwelwn barhâu o adeiladau Duw, sef y nefoedd ar ddaiar, yn hwy na rhai cad­arnaf o waith dynion ac a wnaethpwyd oi blaen nhwy hefyd. Y mae ffordd grâs yn hynach na ffordd Pechod, y mae amser yn dwyn gwir ir goleu: haeddeu 'r ffydd barch o herwydd ei phenwyni, ai bod yn brofedig gan bob oes.

[Page 64]2 Perffaith helaeth yw gweithredoedd Duw: nid oes yn y nefoedd a'r ddaiar ddim yniffig, eithr yn gwbl ddigonol i gynal dyn gyda chariad Duw: gwelir hyn hefyd yn athrawieth y ffydd; medd Dafyd, dy orchymyn sydd dra eheng Psal. 119 96. Yn yr scrythur y mae digon o gyfarwyddyd i ddyn pa fodd i ymddwyn tuag at Dduw, a thuag at ddyn, ac i edrych atto ei hun, i fyw yn dduwiol, yn gyfiawn ac yn sobr. Ac ni reola ein gweithredoedd ni yn unic a n geiriau, ond ein meddyliau, a'n gwyniau, a'n chwantau, a'n dymuniadau, y rhai ni chyffwrdd cyfreithiau dynol a hwynt.

Y mae pob peth y wnelo, y ddywedo, y feddylio dynion yn orchmynedig, neu yn ommeddedig yngair Duw. Ac y mae pob daioni a ddigwydd ir grasol yn y byd yma ac yn y byd a ddaw, a phob aflwydd a ddigwydd ir anufydd, yn gynwyse­dig yn ei addewidion ai fwgythion. Nid yw 'r delwau y ger­fier gan ddyfais gywreinwaith ddim wrth ddyn y greuodd doethineb Duw, yr hwn sydd ganddo bob aelod, a chy­mal, a gien, a gwythen a'r sydd reidiol iddo ac yspryd yw Cynhyrfu er ei wneuthur yn wasnaethgar i Dduw, ac iddo ei hun; dyna 'r fath ragorieth berffeithrwydd y welir rhwng Cyfreithiau dynol, a gorchmynion Duw.

3 Ergyd scrifenadau 'r grefydd Gristnogol yw gogoneddu Duw, a chymwyso dynion i hynny yn dragywydd, y rhai sydd o'r ddaiar a'r pechod am hynny y soniant, ac y syniant, ond yr hyn sydd o'r nef, yno y cyrchif eilwaith Arwydd yw bod element y tân nefol hwn uchod, am i fod yn escyn tuag i fynu.

Dengis yr scrythurau mal y creawdd, ac y prynodd, ac y cynal yr arglwydd y byd, er eglurhâu ei drugaredd ef, ac fal y barnodd ef y byd yn amser Noah, ac wedi, er amlygu ei gyfiawnder ef. Galwant am sancteiddrwydd gan orchymyn hynny; a rhoddi ger bron annogaethau cryfion i berswa [...]o dynion i fod yn rasol, megis esampl Duw ei hun 1 Pet. 1.15. Cydymffurfia rhai ai pen llywydd, ai aml drugaredd­au ef Rhuf. 12.1. torrir callestr a'r glustog, ar galon ga­led ar ymyscaroedd tyner Jesu Christ Gal. 2.20. Erchant [Page 65] adel pob mwyniant bydol, a dwyn pob croes i ddilyn Duw Marc. 10.28. Ni buaseu dyn fyth yn rhoddi y fath dasc ar­no ei hun, a chûed ganddo ei bleser, ai bechod, ai esmwyth­der: yr hyn sydd argoel i Dduw wneuthur y gorchmynion heb genad dyn, cans y mae dyn pechadurus yn dueddol i gei­fio, ac nid i wadu yr hunan. Tyst yw Crefydd Mahomet, y ganiada ddigon o anlladrwydd, ac yspail; a dychmygion y Pab y gynhaliant ei falchder ef. Beth yw ei burdân ef, onid pair gelfyddgar i droi ei weddiau ai bardûnau plumaidd ef yw aur yw goffrau ef?

4 Y mae gair Christ yn awdurdodol, ac felly yn amlygu ei ddyfod oddiwrth y brenin nefol Math 7.28. Megis y bu yn y Creadigaeth Gen. 1.3. gweithia 'r scrythyrau mor rymmus ryfeddol ar eneidiau dynion, ac rhaid eu cydnabod yn allu Duw er iechydwrieth i rhai sydd yn Credu Rhufi. 16. Nid anhawdd dirnad Pendefig goruchel wrth ei foddion, ai ymddygiad er ei fod mewn trwsiad plaen. Pan lefaro Duw yn ei air wrth gydwybodau dynion, bwrir i lawr y meddyliau balchaf, trum­heir y meddyliau yscafnaf, dychryniff y meddyliau dewraf, archollir y Calonau Calettaf Heb. 4, 12. megis a chleddyf daufiniog. Aml ac amlwg yw gwaith rhagluniaeth Duw yn tynnu i lawr y Cedyrn, a'r beilchion ymysc ei elynion Luc. 1.51, 52. ac nid llai hynod gwaith ei drugaredd ef drwy 'r scrythurau yn iselu ucheldrem dynion; Parodd carcharor truan wrth adrodd ewyllis Duw i farnwr grynu ynghanol ei reiolti. Act. 24.25. Gwnaeth pysco­dwr gwael i eraill weithio allan eu iechydwrieth drwy ofn a dychryn oeddent o'r blaen yn pryssuro at gol­ledigaeth drwy wawd a chwerthin Act. 2.13, 37. Ac mal y mae 'r scrythyrau yn feibion y daran i ddeffroi Cy­dwybodau cysclud, felly hefyd yn feibion diddanwch i gy­dwybodau dychryllyd. Cyhoeddant rydd-did ir Caethion yn gystal a chaethiwed ir rhyddion, a chan e [...] bod yn at­tal poethder y ffwrn danllyd, sef digofain [...] a gofid me­ddwl, byddem waeth na'r anghrêd gynt oni chyfadd­efwn fod eu gallu o Dduw Dan. 3. Y benod gyntaf o'r epistol [Page 66] at y Rhufeiniaid y gynhyrfodd Luther, y Benod gyntaf or epi­stol Cyntaf at Timotheus, ar 15 v. a gyssurodd Junius a Bil­ney, oni ymroesant i garu Duw. Y mae gwlithin hyfryd ar bob glaswelltyn, a mèl ymhob meillionen, a melysdra ymhob me­ddysen, ac arogl Peraidd ymhob llysieuyn yn yr ardd ysprydol hon. Gwelir y fath gyfnewidiad ryfeddol yn y rhai sydd yn derbyn grâs yr efengyl, megis pe troeu gwiberod yn glomen­nod, neu fleiddiaid yn ddefaid. Paul yr erlidiwr aeth yn brege­thwr yr efengyl. Troiff y meddwon yn sobr, ar anllad yn ddi­wair, a'r daiarol yn nefol, ar dyn oi gôf yw iawn bwyll, er iddo o'r blaen dorri pob rhwymau i ganlyn ei drachwantau, dôfiff y boneddigion gwresoccaf, Deut. 17, 18, 19. a'r llanciau gwll­taf a lanhânt eu llwybrau, wrth ymgadw yn ol gair Duw Psal. 119, 9. Pe cerddeu afon yn erbyn ei ffrwd, (fel yr Jorddonen gynt) ni byddeu ryfeddach nag ymarweddiad y gwir Gristno­gion, y sydd yngwrthwyneb yw chwantau naturiol.

5. Gwaith Duw yn Cadw yr scrythyrau o amser i amser, er maint ydoed bwriadau angylion a dynion drwg yw difetha [...]wy, a ddengis fod en ganedigaeth hwy o honaw ef. Cais Creaduri­aid oll ymddiffin eu hepil, megis yr jâr ei chywion a'r ddafad ei hoen. Ceisiodd y Cythrael ymhob oes fwrw geiriau Duw allan o feddyliau, a serch pobl, a gwneuthur eu Coffadwriaethau fal rhidyllau i ollwn i lawr yr yd ffrwythlon, ac i ddala yr sothach a'r ehedion. Math. 13.19. y mae'r drwg yn Cipio gair y deyrnas oddiar y galon aneallus, etto mae'n scrifenedig ar galonau mi­loedd. Ni bu malais dynion drwg segur chwaith, na myn ymegni­asant i ddileu'r scrythyrau allan o'r byd. Mae'n rhyw i bob dyn drwg gasau eu goleuni Joan. 3.20. Lliaws y byd ai gadernid y wnaethant ruthr arnynt. Y bobloedd a derfyscasant, a brenhi­noedd y ddaiar y mosodant, ac a ymgyngorasaut i ddryllio rhwy, mau'r arglwydd er cael rhydid i bechu Psal. 2.1. yr oedd aml­der y Cyffredin, a phower a chyngor y penaethiaid ynghyd yn eu herbyn, yr ydoedd ir bwystfil ai hwilieu hwy lawer o bennau a mwy o gyrn Datc. 13.1. sef Cyrffrwystra a mawr allu. Gyr­rodd brenhinoedd eulynaddolgar Israel yr scrythyrau i lechu mewn cornelau 2 Brenh. 22.8. a thaflasant hwynt ir tân Jer. 36.23. Ac wedi hynny cawsant yr un fath ymdrin gan ged­yrn [Page 67] frenhinoedd Assyria, Babylon, Caelosyria, ac Emerodron Rhufain, yr awdurdodau mwyaf yn y byd, y rhai oeddent fel bleiddiaid gwancus, a llyfrau 'r ffydd, ai dilynwyr ar olwg fal wyn diym­wared. Collwyd llyfrau Philosophyddion, a phrydyddion, ar eiddo Solomon ynghylch planhigion, er nad oedd llid iddynt yn ceisio eu lladd, etto buont feirw o ran oedran. Ond y mae llyfrau Duw wedi dyfod drwy lawer o beryglon, a batelion, etto yn fyw ac yn iâch, ac yn cenhedlu yn eu henaint; er i lu ei gorch fygu hwynt (fal Gad) hwy orfyddasant er diwedd. Cen, 49.19. Prennau'r arglwydd sydd lawn sugn Psal. 104.16. er gwae­thaf poethder angerdd uffernol, ie gwreiddiasant yn ddyfnach, ac yn gadarnach, ar ol eu siglo gan y temhestloedd cryfion, ac aethont yn ffrwythlonach, nerth Duw y berffeithwyd yn eu gwendid hwynt. Pan fyddo'r gwntoedd yn styno yr yd wrth flodeuo, er saled y blewyn sydd yn dala y blodeuyn, etto o her­wydd nas gall dynion fyw heb lunieth, y mae Duw yn peri ir gronyn gwan lynu yn ei gafael, er gwaethaf gwrthwyneb cryf; yr un modd y gwelir rhaglunieth Duw yn cadw yd yr enaid.

6 Cafodd yr efengyl y fath dycciant yn gorchfgu'r byd, ac y ddengis fod Duw ar ei phlaid, ystyriwn fod llawer o rwystrau i attal ei chynyrch yn amser yr Apostolion yr oedd arfer a chw­stwm pob un o deyrnasoedd y ddaiar yn ei herbyn, yr ydoedd eulynaddolieth wedi hir wreiddio yn eu mysc. Cais anifeiliaid dynnu at eu Cynefin, er afiachused fyddo. Y mae gorchmy­nion y wir ffydd yn anhawdd i gig a gwaed. Gadel pleseri tai, a thiroedd, a'r bywyd naturiol hefyd, er mwyn Christ, ydoedd gâs gan y Cyfoethogion. Marc. 10.22. Ac y mae ei phynci­au yn anhebygol ynhyb y doethion; sef i forwyn escor, ac i Dduw gymeryd natur dyn. Am hynny nid oed râdd yn y byd a'r ddynion nas gwrthwynebodd ufuddhâu, megis tywysogion, dinasyddion, Luk. 12.14. Philosophydion Act. 17.18. Phari­seaid, scrifenyddion areithwyr Act 24.1. milwyr Math, 27.27, 28. Crefftwyr Act. 16-24. a chyffredin Math. 27.25. darfu ir swyddogion gospi y rhai credadwy, a'r milwyr eu dy­chrynu, a'r areithwyr eu Cyhuddo, a'r philosophyddion drwy gau resumau geifio eu hurtio, a'r lliaws er mwyn eu pendafadu [Page 68] floeddio Act. 19, 34. er hynny aerth y ffydd ymlaen yn orche­stol drwyddynt oll, nid allodd cleddyfau'r Swyddwyr, na gwaiffyn y milwyr, na cholynnau'r Aspiaid, sef drwg dafodau, ei chadw yn ol. Hesyd er bod y rhwystrau yn fawrion, nid oedd cynorthwyau gweledig, ac offerau yr efengyl onid by­chain; Gwael ydoedd Cyflyrau, a theneu ydoedd mintai pre­gethwyr y Cynfyd, ychydig oeddent yn erbyn llawer, a rhai siml yn erbyn Gyffreithwyr, pyscodwyr a gwehyddion yn erbyn boneddigion a swyddogion; etto cawsont oruchafieth yn Crist, yr hwn y eglurhâodd arogledd ei wybodaeth trwyddynt hwy ymhob lle 2 Cor. 2.14. Gan fod bwled sydd dippin o blwm Crwn heb na blaen, na mîn yn myned yn rhwyddach drwy faen a phren nag y gall llaw dyn hyrddu 'r ar [...] flaenllymaf, mae 'n dangos egni 'r tân yn torri allan o gyfyngdra, pylni yr offerau efangylaidd y ddyley'n argyhoeddi, mae nerth Zèl arglwydd y lluoedd ydoedd yn eu gyrru drwy gymaint o an­hawstra.Isai. 9.7. Pan orchfygodd Moses ffyddlon yr Aipht ai brenin a gwialen ac a llwch, cyffessodd ei elynion fod bys Duw gydag ef. Exod. 8, 17.19. ni syrthiaseu styfnigrwydd y bud wrth bregethiad yr apostolion, na muriau Jericho wrth yr Israelliaid yn bloeddio, oni bae fod Duw gyd a hwynt. Ni buaseu ffôl bethau y byd yn gwradwyddo y doethion, a gwan be­thau 'r byd yn gwradwyddo y pethau Cedyrn, oni baeu i Dduw eu hethol, 1 Cor. 1.27. Pan ydoedd yr adar yn difa, a'r haul yn llosci, a'r drain yn tagu tair rhan o hâd y gair, Math. 13.4. hawdd fuaseu ir môch ar milod orphen rhan arall, fal nad aeth­eu fyth mor gnudfawr, am nad oedd un Cae o waith dyn yn ei gylch. Cyffelyb oedd teyrnas nefoedd i ronyn o hâd mwstard, y lleiaf o'r holl hadau, a lliaws mawr o gywion drwg yn ceisio ei gipio heb ddyn yw tarfu, ac etto tyfodd yn bren Canghenog. Rhyfedd nas gallaseu gymaint o gwn lyncu 'r typyn, surdoes, cyn iddo beri ir byd newid ei flâs! Math. 13.31. Ac wrth adferu 'r ffydd bu pin scrifenu Luther yn drêch na chleddyf Cae­sar.

7 Y mae pethau yn digwydd yn y byd fal y rhagfynega 'r scrythur am danynt. A phwy y wyddeu beth y fyddeu helynt y byd onid yr hwn ydoedd yw reoli? Digwydd Cystudda [Page 69] blinder ir duwiol, fal y mae'n scrifenedig. 2 Tim. 3, 12. Psal. 34.19. Encilia proffesswyr diffrwyth crefydd pa ra [...] y ddiflen­iff o ran eu chwantau Cnawdol a phrofedigaethau bydol, fel y rhagfynegodd Christ. Math. 13.4. Gwelir llwyddiant amserol ir anuwiol, yr hwn dros ychydig fydd fal y Lawris gwyrdd, ac yn y man aiff ymaeth ac ni bydd mwy o honaw, mal y datcan y prophwyd, Psal. 34, 35, 36. Amlwg yw, fod y rhan fwyaf o ddynion yn myned hyd ffordd Lydan Llygredigaeth i uffern, a rhan leiaf yn cael ac yn cadw y ffordd gûl ir nef, sal y dywed yr efengyl Math. 7.13, 14. pwy ni chydnebydd fod pobl ddrwg yn amlach na rhai da yn yr oes hon a phob amser? Cwyniff gair Duw yn drwm rhag pechadurieth dynol ryw Gen. 6. ac oni weli achos? ydyw dyn yn perchi ei wneuthurwr ai bryn­wr? y mae'r ainfeiliaid yr ydwyti yn eu magu yn ufyd dach iti, nag wyti ir hwn a'th wnaeth, a phob peth arall ith gynal di, Beth bynnag ath ddigio di, enw Duw y gaiff ei rwygo drwy dy lwon di. Rhy gynnefin hefyd yw i ddynion orthrechu, a thwyllo, a lladd eu gilidd, a hynny yn ddichellgar. Chwrna'r ci, a chwyth y neidr cyn brathu, a hynny o rybudd ath hyffordda yw gochelyd: ond dan dewi, ie dan wenu y dryga 'r naill ddyn y llall, onid all ei ddifetha a chûwch, fel Judas, efe ai bradycha a chusan; am hynny os cwbl anghredi, rhaid iti ymwrthod ath deimlad naturiol, gystal a ffydd ysprydol.

8. Y Dialeddau trymion a oddiweddasant wrthwy nebwyr y gair ymhob oes y ddylent berswadio dynion yw berchi. Ad­weinir yr arglwydd wrth y farn y wna Psal. 9.16. Bu, bydd Je­rusalem, ai Chyfraeth (sef yr eglwys ufudd i ewyllis Christ) fel maen trwm a yssiga'r neb a geisio eu taflu ymaeth Zech. 12.3. plâau yr Aipht Exod. a r Anghrist y dystiolaethant hyn. Datc. 15.7. er bod llawer fel y glwth yn dianc yn ddigôsp nes my­ned ir tân aniffoddadwy Luc. 16, 19, 23. etto odid wlâd, nag amser na wnaeth Duw rai trosleddwyr echryslon yn ddrychau yw Cymydogion, i weled ynddynt mor ofnadwy yw syrthio yn­wylau 'r Duw byw, y mae mor hawdd i bob Cymydogaeth henwi rhai na cherddasant fyth gam rhwydd ar ol gwneu [...]hur rhyw anwiredd y waherddir yn yr scrythyrau nad rhaid imi roddi esamplau y chwaneg ar lawr heb law y rhai sydd [Page 70] scrifenedig o'r blaen yn histori 'r ffydd.

9 Nid all fod fwy o amgylchiadau tebygol i wiro hên scrife­nadau y wnawd er's miloedd o flynyddoedd, nag sydd yn per­thyn ir Scrythyrau: cans yr oeddent yn gyhoeddus a galleu eu gelynion eu gwrthddywedyd os gwelent achos. Ond nid oedd­ent yn gwadu eithr yn Cyfaddef yr peth adrodder ynddynt. yn unic rhoddent gam ystyr arnynt, ac yn fynech edifarhaent, ac ufuddhaent iddynt, fel y gwnaeth Saul. Parodd Cyfraeth Dduw gyfnewidiadau hynod drwy 'r byd, am hynny nid ellid ei chelu. Yr ydoedd copiau o'r Scrythyrau mewn amryw wle­dydd pell oddiwrth eu gilidd, ac yn Cyttuno ymhob peth Syl­weddol; y gwyr gonestaf yn y byd (au gelynion yn dystion) ydoedd yn eu Cadw hwy, y rhai ofnent golled tragwyddol os chwanegent attynt neu os tynnent beth oddiwrthynt. Y clo­ddiau, a'r tomenydd, a'r cestill amharus cyn amled yn y ter­fynau rhwng Cymru a Lloegr sydd yn dangos mae gwir yw 'r Croniclau Sydd yn datcan y rhyfeloedd tôst fu gynt rhwng y Cymru a'r Saeson. Llediaith Gymreig Llydaw Sy'n creirio yr historiau y fynegant i'n cenedl ni fyned i Frainc i breswylio yn yr hên amser. Ac nid oes lai o arwyddion gweledig i'n fic crhâu yn scrifenadau Duw, cans gwelir yn awr ôl yr eglwysydd efan­gylaidd y blanodd yr Apostolion, ac yr anfonasant epistolau attynt. Y mae yn Asia, Affrica, a'n gwledydd ninnau gynull­êid faodd a theyrnasoedd Christnogol y barchant yr scrythyrau etto, fal y traddododd eu henafiaid iddynt, heb law yr Judde­won sydd yn aml yn dwyn tystiolaeth ir hên brophwydi fal y derbyniasant gan eu henafiaid nhwythau.

Os amheui y fu natur dyn berffaith ar y cyntaf, ac iddo Syrthio gwedi hynny, fel y mae yn Genesis, wele gynneddfau yn yr enaid sydd yn arwyddoccâu ei fod unwaith yn well; wrth furni llym y ddiod neu 'r gwin gelli ddirnad eu bod unwaith yn gryf, ac yn felys, ond iddynt o honynt eu hunain newid eu blâs. Anigonolrwydd ac awydd yr enaid sy n dangos fod iddi gynt etifeddieth fawr, ai bod yn mwynhâu peth mwy na'r byd, sef y Duw anfeidrol, am hynny y mae'n ymgyrhaeddyd at ychwaneg fyth, heb ymfodloni a'r derfyn yn y byd. Dyfeisiau, ystrywian, a dichellion y meddwl sydd argoel fod ynddo [Page 71] wybodaeth fawr, pan ydoedd bûr ar ddelw Duw. Dengis wy­neb y byd hefyd nad yw ef er y dilyw ddim hynach nag y mynega 'r scrythyrau. Ei gyfarwyddyd diweddar i drin y creaduriaid y hyspysa nad oes mor llawer er pan ddaeth yw oed ai synwyr.

Nid oes mor llawer iawn er pan arferwyd Philosophyddieth, a disceidieth, a phreintio, a chyfraeth, a physygwrieth, ac hws­monaeth, ni welseu neb er ioed heb wrthiau droi 'r cerrig yn fara wrth galchu 'r tir. Math: 4. A chof gan rai byw yn awr, nad oedd y fath amlder ac sydd o bobl ar y ddaiar; y mae 'r am­ryw jeithoedd ymysc dynion etto yn gwiro 'r histori ynghylch Babel. Gen: 11.9.

10. Daioni budd-fawr y Grefydd Gristnogol a gyhoedda ei bod o'r nef, y mae'n eglur fod Duw yn ewyllysio yn dda i ddyn am iddo ddarparu yn haelyonus tuag atto ef, megis awyr i ro­ddi iddo anadl, haul, a lleuad, a Ser, i oleuo ac i gynhesu ei drigle ef, y dwfr, a'r ddaiar, a chwbl ac sydd ynddynt yw fwydo, yw ddiodi, ai ddilladu, ai lonni ef. A chan ir creawdwr cariadus ddiwallu y rhan waelaf o ddyn, sef ei gorph, ai fywyd naturiol, nid yw debygol yr esceulyseu ef y rhan oreu, sef ei enaid ai fywyd tragwyddol, yn enwedig gan fod yr enaid mewn cyflwr grasol ar lûn Duw, cans anwylaf gan rieni y plant y fyddo debyccaf iddynt yn eu gwêdd ai moddion. Ac nid oes nag enw, na llyfr arall dan y nef drwy ba un y dichon dyn fod yn gadwedig onid Christ ai scrythyrau: yr hyn sydd amlwg, wrth ystyried godidowgrwydd y wir, a ffolineb pob gau grefydd.

Anrhaethol yw'r lleshâd corphorol ac ysprydol a gynnig Christ, ac y fwynhaeu 'r byd pe dilyneu gyfarwyddyd yr scry­thyrau. Pe byddeu pobl fodlon ir hyn sydd ganddynt yn ol y gorchymyn 1 Tim: 6.8. yn maddeu yw gilydd, yn cyd-ddwyn au gilydd, yn gymwynascar, yn gariadus, Col: 11, 12, 13. yn gwneuthur ag eraill fal yr ewyllysient i eraill wneuthur a nhwy­thau, Math: 7.12. ac yn cadw gorchmynion eraill Christ, ni byddeu cymaint yn tuchan dan orthrymder, a châs, ac anghyd­fod, eithr eisteddent yn danghnefeddus, ac yn ddigonol yn y cyscod dan eu ffigysbrenni; ped faeu 'r iâch yn ddiwyd i weithio [Page 72] 2 Thes. 3.10. a'r Cyfoethog yn rhwydd i gyfranu i gyfreidiau'r gwan; ac yn ymwrthod a balchder, glothineb, meddwdod, afrad­londeb, ac yn byw yn dduwiol Psal. 37.3. ni byddeu noe. hni, na newyn, na'r trallodau eraill syn dyfod ar ol pechod yn poenydio dynion. le byddeu'r moddion y ragddywedpwyd yn dwyn ie­chyd Corphorol, gan fod seguryd, ac anghymedroldeb yn achos o ddoluriau, a chodymau, a briwiau, a phlâau oddiwrth ddicter Duw. Dedwydd hefyd fyddeu eneidiau dynion yn y byd yma wrth ddilyn gair Duw, cans Cyssur mawr yn eu Cydwybodau y gaiff y diwyd, a'r trugarog; a thrwy lawenydd y tynnent ddwfr o ffynhonnau iechydwrieth, sef ordinhâdau Duw.

Esmwythach ir meddwl yw amynedd na diclonedd, bodlon­rwydd na chybudd dod, diweirdeb na thrachwant: eithr anifei­laidd a chwilyddus, a blin yw mwyniant pechod, a ge di golyn gwenwynllyd gofidus oi ol yn yr enaid; ynten proswch, a gwelwch mor dda yw'r arglwydd, ai ffydd, gwyn ei fyd y gwr a ymddiriedo ynddo Psal 34. S. Tystiolaethodd Solomon ac eraill y brofasant bob peth, eulynaddolieth, glothineb, difyr­rwch Cnawdol, llawnder bydol, mae goren yw grâs Duw ai ffyrdd. Preg. a bod ffrwyth Christ yn felys yw geneu Can Sol 2, 3. Yn y byd y ddaw Caiff y grasol ddedwddwch ysprydol, a Chorphorol a hynny yn dragywydd. Ped faeu am bob awr o ufuddod ond awr o hyfrydwch, byddeu yr gwobr yn rhesumol; eithr Ceir llawer milwaith mwy na'r Cant Cymaint.

Brwnt a Niweidiol yw pob gau grefydd, yr oeddid yn llâdd ac yn llosci dynion yn aberth ir eulynod gynt, ac yn taflu Plant ir tân yn addoliad Molech Jer. 32.35. Gwneid llawer o aflendid yn noethlymyn, ac yn feddw, mewn rhith addoliad i Bacchus, Venus, Flora, Jupiter, Hercules. Nid yw drefydd Mahomet fal un Christ yn gorchymyn addfwynder, ond afrywiogrwydd, y ddinistriodd deyrnasoedd, a threfydd au trigolion o fesur y miliwn, Nag yn gwahardd chwenych eiddo Cymydog, ond yn caniadu treisio oddiarno yr hyn y feddo. Bucheddol a diniwed ydoedd dyscyblion Christ; ond lladron, a llofruddion amlwg ydoedd Mahomet ai ddilynwyr. Arfer Christ ai Apostolion oedd bywhau 'r meirwon, iachâu 'r clwyfus; ond arfer addol­wyr Mahomet yw llâdd y rhai byw, a chlwyfo 'r iachus. Nid [Page 73] gwneuthur llês drwy wrthiau onid niwed drwy arfau, Scythia eger fyddeu eu rhan. Pe rhoddent yn ôl fel Zacheus Luc. 19. yr hyn a yspeiliasant drwy orthrymder gwaeth na'r eiddo Nimrod. Yr un fath foddion sydd i ddychmygion y Páb he­fyd, a rhag cael allan ddrygioni y crefyddau hyn gomeddir ir bobl eu chwilio, y rhai ni chant dan boen marwolaeth ym­ddadleu yn eu cylch eithr gwthir hwynt ar y byd fal cathod mewn cydau. Pwy nid amheuei'r farchnad yn feius y gymhellid arno ef heb gael cennad unwaith yw phrofi nai hedrych, yw Phwyso, nag yw messur, arwydd eu bod yn ddiflas pan syn­nant eu llyncu heb eu archwaethu, ac yn dwyllodrus pryd na fynnant eu dwyn ir goleu, anwybodaeth yw eu mamaeth, cans Petteu'r byd ddewin ni fwyttaen furgyn: Ond y dall y lwnc lawer gwybedyn.

Yn y gwrthwyneb nid yw gwirionedd yn Ceisio 'r cornel, gwahadd yr scrythyrau bawb yw chwilio Joan. 5.59. a chan­molant bawb y wnêl hynny Act. 17.11. ac oni baeu eu bod yn gywyr ac yn dda, ni byddent mor chwanog i gymeryd eu holi, ie fal y Cynnyddo cydnabyddieth dyn a hwynt goreu sydd ei dyb am danynt. Am hynny gan fod Duw yn dda ynddo ei hun, ac wrth ddyn, a bod y grefydd scrythyrol yn oreu i ddynol ryw, nid all na byddo o Dduw.

11 Nid yw'r efengyl ddychymyg twyllodrus dynion nac angylion, ni edi ofn Duw i ddynion ac angylion da geisio siomi neb; ac ni oddef atcasrwydd yr angylion drwg iddynt amlygu Cymaint oi dichellion, ai profedigaethu, ai casineb yn erbyn meibion dynion, ac y mae 'r scrythyrau yn ei fynegu. Nid yw debygol y rhybuddieu 'r Cythrael bobl rhag dysod atto ef ir tân tragwyddol, ac y gorchmyneu iddynt gashâu Celwydd, a malais, yr hyn y mae ef yn eu chwenych, a cha­ru Duw, a Sancteiddrwydd, yr hyn sydd gâs ganddo ef; hy­nod yw ei lafur ef yn ceisio rhwystro pob dyn i ddilyn athra­wieth dduwiol. Gwelir dynion drwg hefyd yn gwrthwynebu gorchmynion, ac yn diflasu addewidion yr scrythyrau; Ceisi­asant ymhob oes eu dileu allan o'r byd, a lladd Pawb ai dilynent. Am hynny nid oes neb yw gydnabod yn Dâd ir gwirionedd San­ctaidd onid Duw yn unic.

[...]
[...]
[...]
[...]

[Page 74]Amlder y tystion o amryw wledydd ac yn elynol yw gilydd y gydnabyddant yr Scrythyrau y ddichon gynorthwyo ein Siccrwydd o honynt. Heb Sòn am eglwysydd y Protestaniaid, y mae Talmud yr Juddewon, fal clustogau tailiwriaid wedi eu cluttio a darnau o honynt, yr hyn sydd eglurdeb hyspys fod yr Scrythyrau yn y byd oi blaen hwynt, ac yn gyfoethog ac mewn cymeriad pan fenthyccieu pawb oddiwrthynt er mwyn lliwio eu opiniwnau. Ni cherddaseu arian drwg yr euruchod hynny, oni bae eu tebygolieth ir arian brenhinol cyfreithlon ydoedd mewn bri oi blaen hwynt; y peth y byddo pawb yn ei gyfaddef yn ddi nâg ellir ei goelio yn ddiddadl; er na buost erioed yn Llundain, etto ni wedi fod y fath ddinas enwog, o herwydd i gymaint o'th gydnabyddieth ei gweled. Yr un Duw ac sydd yn gwahardd dywedyd celwydd, Sy'n gomedd iti anghoelio 'r gwir, ac onid ê, ni cheid dim llès oddiwrth physygwrieth, a llawer o gelfyddydan eraill, sef oni choelir, oni ddilynir y rheo­lau sydd yn y llyfrau perthynol iddynt. Periff anghredinieth anrhesumol i ddyn gadw ei ddolur corphorol, a gwrthod mo­ddion arferol o iachâd, ie rhynnu o anwyd, a marw o newyn rhag ir ty Syrthio yn ei ben ef, ac i fwyd ei wenwyno ef. Ni roddi'r parch dyledus ith dad ath fam, oni choeli ddim ar y tu cyn côf iti, sef iddynt hwy dy genhedlu, ath fagu.

13. Tystiolaethodd Duw ei fod ef yn perchenogi yr Scry­thyrau drwy y gwrthiau y nerthodd ef y prophwydi Christ, ai ddyscyblion yw gwneuthur. Estynodd Moses ei wialen a gwnaeth ffordd sych ir bobl syned drwy ganol y môr. Safodd yr haul wrth archiad Joshua; aneirif ydoedd rhyfeddodau Christ, ai Apostolion, fall y darllenir yn y Testament newydd. Ac ni chwblbeidiodd pethau rhyfeddol a dilyn y pregethwyr duwiol y safasant gyda gwirionedd yr efengyl yn erbyn llygredigaethau cyffredin yn yr oes ddiweddaf hon, mal y gweli yn histori y merthyron. Yn amser y Frenhines Marie ofneu Brenhines Ba­baidd Scotland weddiau Cnox rasol, (yr hwn oedd yn adferu purdeb efangylaidd ai holl egni) yn fwy nag ugain mîl o wyr: a chyfaddefid na syrthieu yr un oi fwgythion ef ir llawr: yn am­ser Luther pan edifarodd ar gonsurwr iddo wneuehur cyfamod ar cythrael drwy scrifen oi waed er cael ei gymorth i wneuthur [Page 75] castiau, aphan ddaeth yr amser i fynu ir cythrael gael ei enaid ef ai gorph yn ol y Cyttundeb y fuaseu rhyngthynt; ymgas­clodd pregethwyr a phobl dduwiol ynghyd i ymprydio ac i weddio; ar perchadur dychrynedig yn eu canol hwy ac yn niwedd y diwrnod trawodd rhuthrwynt ystormus wrth ffe­nestr yr ystafell lle'r oeddent ynghyd, y fwriodd yr Scryfen waedlyd i mewn attynt, y pryd y nâdodd diafol yn arw orfod iddo roddi yr fond i fynu, heb allu cymeryd y dyledwr.

Adwaenwn un y gosododd rhyw yspryd arno mewn modd teimladwy; ac wrth alw yn ei ddychryn ar Dduw yn Christ, y gafodd lonydd yn ebrwydd. Rhag synegodd Mr Fox yn Ger­mania wrth bregethu y dychwelid rhydid ir efengyl yn Lloegr, ac yn ebrwydd bu farw'r Frenhines Marie a chyflawnwyd ei air ef yngolwg y rhai a dramgwyddasent wrth ei glywed ef yn amser y frenhines Elizabeth, Cyrchwyd y pregethwr duwiol hwnw at un Mrs Honiwood ydoedd glaf o dristwch yspryd, a chlefyd wast, a phan ddaeth yw ystafell hi, casodd ei theulu hi yn eistedd ar lawr in synn wedi blino yn wylo, ac yn disgwyl yr awr iddi hi, ac wedi iddo ef daer-weddio gyda hwynt, myne­godd ir clâf yr adfereu Duw eu hiechyd iddi eilwaith, ac y ca­feu hi hir oedran yn y byd hwn i ogoneddu ei enw ef, ar hynny yn o ddiclon hi ai attebodd ef, y galleu ef ddywedyd yn gystal na thorreu 'r phiol wydr ydoedd yn ei llaw hi er ei thaflu ynghyd a'r pôst, yr hon y fwriodd hi oddiwrthi gyd a'r gair, ac y gyfodwyd i fynu oddiar lawr yn gyfan, a bu fyw'r wraig wedi hynny oni welodd hi drychant oi phlant, ai hwyrion, ai gore­scenydd. Amser arall pan ydoedd yr efangylwr hwn yn Cy­meryd ei genad ag Jarll Arundel wrth lan y dwfr, dymunodd yr iarll arno nad elei ir cafan, o herwydd bod yr hin yn dym­hestlog, a'r dwfr yn arw beryglus, attebodd ynteu, gwneled y dwfr hwn a mi, fel y tystiolaethais i chwi 'r gwirionedd (sef purdeb Crefydd) mewn simlrwydd calon; felly aeth ir cafan, ac yn y fan gostegodd y gwynt, a gwastattâodd y dwfr. le odid oes na gwlâd heb ryw beth rhyfeddol yn digwydd ynddynt er siccrbâu gair Duw, ai râs, er nad yw pawb yn Craffu arnynt o ran eu esceulysdra, Y rhai ni welant vchelder yr Arglwydd nai law Isai 26.10, 11. Ond nid rhaid ir unrhyw wrthiau fod [Page 76] mor weledig, ac mor aml, ac oeddent yn amser yr Apostolion am fod y ffydd ai scrifenadau yn awr mewn hir oestadol feddi­ant ymysc y Cenhedloedd, a hynny yn y gwledydd mwyai en wog, a llythrenog drwy'r holl fyd. Y mae treftadol gyfiawn feddianau yn gwneuthur titl yn ddiddadl, ac yn afreidiol gyfo­di 'r meirw yw brofi. Pan oedd Christ yn gorphorol wedi ne­wydd escyn yw orseddfainc, gweddus ydoedd iddo ef gyfran­nu doniau a breiniau trarhagoroll yw ddeiliaid, ac wedi hynny llywodraethu wrth y rheol gyffredin y gyhoeddaseu ef i bawb. Pan goroner brenin daiarol, ar y cyntaf egir y Carcharan, ac aml fydd rhoddion, y beidiant gwedi, a chaiff Cwrs Cynefin Cyfraeth lê, a hynny er llès ir wladwrieth hesyd. Nid Cymwys ir mawrhydi nefol dorri trefn arferol ei greadigaeth, ai raglu­nieth heb raid wrth ddymuniad pob un moethus, anufydd, yr hwn oni wrendi ar scrifenadau yr prophwydi, ni chredeu chwaith pe cyfodeu un oddiwrth y meirw i fynegu ewyllis Duw; cans ceisiodd yr Juddewon gwrthnyssig [...]âdd Lazarus yn lle [...]fuddhau yw dystiolaeth ef am Grist ar ol ei gyfodi ef o'r bedd. Joan. 12.19, 10. y fynni di i Grist fyned ir boen i ddioddef yn fynych, ac i adgyfodi ymhob oes, ac ymhob gwlâd, a gadel i bob llaw ymhyrddu yw friwiau ef, bendigedig yw y rhai ni welsant ac y gredasant; Joan. 20.23. Heb law hyn oid yw pobl yn cymeryd attynt ond ychydig ofn Duw er maint y welant oi ryseddol allu ef.

Beunydd y mae 'r ddaiar drom fel pêl fawr yn sefyll yngha­nol yr awyr, ac yoghrôg ar ddiddim Job. 26.7. Nid oes ond yr awyr yn ei hamgylchu o bob tu heb ddim gweledig yw hattegu, y mae olwyn fawr y nefoedd yn troi oddiamgylch mewn pedair awr ar ugain heb un dyn yn rhoddi llaw arnynt; y mae 'r cant Cwmpasog yn troi ar fôch sef y ddaiar heb syflyd Gwnaif Duw ith gulla wrth dy borthi di droi bara a diod yn gnawd, ac yn waed, fal y troes Christ y dwfr yn win Joan. 2. Ynghenedliad creaduriaid byw aiff defnyn gwlyb yn gnawd, yn escryrn, ac yn groen, etto pwy sydd yn rhyfeddu ac yn rhoddi 'r gogoniant i Dduw am ei weithredoedd rhyfeddol hyn? Grwgnachodd Israel tra yr oddent yn cael manna o'r nêf; ni pheidient ac erlid Elias ac ni choelient ei air ef er i dân o'r nefoedd yssu ei [Page 77] wrthwynebwyr ef o fesur y deg a deugain 2 Brenh. 1.9, 10. He­fyd pe rhoddei Duw yr un gwrchiau ac y wnaeth Christ ai apo­stolion i amlhâu ymhob oes, ac ymhob man, ni byddent ryfeddo­dau, na chynorthwyau in ffydd ni, eithr eu cynefindra y fage [...] esceulysdra ynom ni. Ni Chynhyrfa llysiau physygwriaethol mor Corph os arferir hwynt fal Llunieth beunyddiol. Rhyfedd­ach yw ir haul dywynu nâ thywyllu, cans naturiol yw di­ddymiad, a gallu anfeidrol Duw sydd yn peri bod o ddim. Rhy­feddach ir ddaiar sefyll ynghanol yr awyr na siglo, etto dy­chrynwn fwy pan fo Clyp ar yr haul, a chrynfa ar y ddai­ar, o herwydd eu anamlder. Am hynny gwell ar ein llês, a bûdd ein heneidiau fod rhyfeddodau apostolaidd yn rhy­feddodau byth, nag yn bethau Cyffredin. Ond rhag tybi­ed fod y ffydd yn ddi-dyst, gwnaeth Duw yn yr oesoedd diwedd­af rai pethau nid cwbl anghyffelyb i wrthiau y prif eglwys. Cans megis ac yr oedd yr efengyl gynt yn gostegu lleisiau, ac yn rhwystro gweithrediadau Cyhoeddus y Cythreuliaid, fel­ly er pan adgweirwyd y ffydd yn ddiweddar nid yw'r tyl­wyth têg (sef y Cythreuliaid Cymdeithgar) cyn hyfed ac oeddent yn amser Pabyddieth, pryd yr ymddangosent yn finteiodd gweledig i lithio pobl drwy ysp [...]eddach a hwynt. Arwydd ei myned hi yn ddydd efangylaidd pan ymguddiodd pryfed y tywyllwch.

14. Pe iawn arferem ni yr hyn y ddirnad ein deall ni ac y wel ein llygaid ni, argyhoeddeu hynny ni o wirionedd y pwnci­au mwya pwyssawr yn yr scrythyrau; megis fod Duw bywiol Hebr. 11.6. gwneuthuriad dyn y ddengis hyn. Nid y byd y wnaeth ddyn, am nad all peth difywyd wneuthur peth byw. Nid oes reswm â deall yn y ddaiar, fel y mae ynyn: ac nid all dim gyfranu i un arall onid y peth sydd ynndo ei hun. Ni phoethei 'r tân mor dwfr oni baeu fod poethder ynddo. Nid dyn chwaith ai gwnaeth ei hun cans nid all y bychan o gorpholaeth estyn cusudd at ei fain­tioli; nid all y claff ei wneuthur eu hun yn iach, na 'r garw ei wneuthur ei hun yn brydferth, na'r gwan ei ddeall ei wneuthur ei hun yn gall. Nid rhieni sy'n flurfio eu plant, cans ni wyddant pa un ai merch fydd ffrwyth y [Page 78] bru nes ei eni, yn fynych cânt ferch pan ddymunent fáb, e r nad adwaenant hwy mo osodiad y galon, a'r yscyfent, y giau, ar gwythi, er na feddyliant am danynt, etto cynyddant yn y grôth: Cynhesodd y myfyrdod hwn galon Dafydd i hoffi Duw Psal, 139.13.

Gwneuthuriad y byd hefyd y ddylei dy gymell di i gydnabod Duw. Nid dyn y wnaeth y byd, rhaid ydoedd creu'r byd oi flaen ef er rhoddi cynhalieth iddo ef, nis gallaseu fyw heb luni­neth ac anadl yr yspaid y buaseu yn gorphen gorchwyl llai; dychweliad y Corph ir ddaiar sydd arwydd fod y ddaiar oi fla­en ef, ai wneuthur ef o honi: cans dychwel pob peth ir man allan o ba un y daeth, fal y mae 'r tarth gwlyb yn cyfodi o'r ddaiar ir Cymylau, ac yn dyfod i lawr eilwaith yn law. Pe gal­leu dyn wneuthur byd gwnaeu fwy nag un o ran ei awydd, ai gybudd-dod; hefyd ceidw'r byd ei drefn osodedig gan Dduw er gwaetha dyn, Cyfyd yr haul yn ei bryd yn gynt nag y myn­neu'r diog, machluda yn gynt nag y mynneu'r trafferthus. Cei­dw'r môr ei le ai lanw heb ruso dim er un Pharaoh na'i ger­bydau heirn, amser y llanw nid eris am un dyn, am hynny y mae iddynt feistr arall sydd uwchlaw pawb. Ac nid yw anhy­goel i Dduw greu'r byd o ddim, y mae Cymaint rhagor rhwng byw a difyw ac sydd rhwng defnydd a dim. Di weli Dduw beunydd yn anfon ir byd greaduriaid byw oddiwrth hâd di­fyw, ac yn rhoddi golwg i ddefnydd dall. Y mae'r pethau mwy­af yn dyfod oddiwrth bethau bychain nesaf i ddim, mae 'r dderwen fawr yn tyfy oddiwrth fesen fechan, nid ydoedd y fe­sen onid cron, a meddal, y mae'r dderwen yn ganghenog, ac yn galed: dyna beth sydd, oddiwrth beth nid oedd. Hyspys­sa'r Creadigaeth ini hefyd fel Moses Deut. 6.4. mae un Duw sydd, cans cydweithia'r creaduriaid oll er eu bod yn llawer, ac o amryw ddull, nefol a daiarol, at yr un diben. Y mae'r haul yn cynhesu, a'r Cymylau yn dyfrhau 'r ddaiar i beri iddi dyfu, y mae hitheu ar môr yn mâgu bwystfilod ar Cwbl i gynal dyn. Hosh 2.20. Llawer o weision yn gwneuthur amryw swyddau, ac yn y diwedd yn tueddu at yr un peth, sydd arwydd mae un meistr sydd iddynt; wrth adeiladu, pan fyddo 'r naill yn llâdd llif, a'r llall yn naddu, arall yn tyllu morteisiau, ac erbyn y dêl [Page 79] y darnau ynghyd, os byddant gymwys yw gilydd, ac yn gwneuthur adail dêg, cydnabyddwn i un pen saer Cyfarwydd fwrw a marcio 'r gwaith. Undeb yw 'r peth godiddoccaf mewn teulu, a theyrnas, anhwylus yw mwy nag un meistr mewn teulu, neu fwy nag un brenin mewn teyrnas, o herwydd rhwy­strent eu gilydd drwy groes amcanion. Pa unaf, hyfrydaf a chryfaf.

Nid yw'r Drindod fendigedig hesyd heb ei hargraph ar ddyn, gan fod ei enaid ef yn deall ac yn ewyllysio; y mae'r tâd nefol yn deall ei ber ffeithrwydd, ei ystyrieth ef ai ddoethineb ef yw ei Fab; y mae dyn yn gwneuthur peth yn ol ei ddeall ai fwriad oi fewn, a thrwy 'r mab y gwnaeth Duw bob peth Joan. 1.1 Wrth ddeall ei berffeithrwydd y mae hyfrydwch i Dduw, sef yr Yspryd glan, yn ymfodloni ynddo ei hun, a chyflawniad ei ewyllis; y mae ewyllis ynyn hefyd yn cyd ganlyn ei ddeall ef. ac yn Cynhyrfu ei allu ef, fal y dywedwn, yr ewyllis y wna'r gorchwyl. Am hynny nid all un dyn ystyriol na chydsynio ag ymadrodd yr ap stol am Dduw Rhuf. 41.36. o honawef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pob peth, sef o'r hanfod y tâd nefol, a thrwy ei ddoethineb ef, sef ei fab, ac yw ewyllys hyfryd ef, sef ei yspryd y mae pob peth, dywed Paul fod Duw yn ddoeth 1 Tim. 1.1. a phawb ar a ystyriant ei weithredoedd ef y ddywedant yr un peth.

Rhyfeddol mor gywraint yw gwneuthuriad dyn ac anifail, a maint o bibellau, a giau, a gwythi, a chymalau sydd ynddynt heb un diswydd nag afreidiol, ond pob un yn cynorthwyo'r naill y llall; y mae'r haul yn cadw ei dymhorau yn y modd bu­ddiolaf ir byd, petteu 'r lamp nefol hwn yn sefyll ynghanol y ffurfafen, neu yn troi yn oestadol vwchben, ac 'r draws Canol y ddaiar yn lin y Cyhydnos, byddeu'r naill ran o'r ddaiar yn anffrwythlon gan boethder, ar llall yn anghyfaneddol gan dy­wyllwch ac oerder, am fod Crwmach y ddaiar yn bwrw Cyscod, fal na thywyno'r haul arni ei gyd ar un waith, am hynny ym­sumud yr haul i amgylchynu'r gogledd, nes addfedu ffrwy thau'r tir y tu yma ir byd, ac yna gan adel i ni ddigonedd o lunieth nes y delo eilwaith, cilia oddiwrthym ni a gwnaiff yr un Cym­wynas o amgylch y deheu.

[Page 80]Yn y Cysamser nid yw 'r gaiaf anfuddiol ini, gan oeri hein­tiau, a gostegu pryfed a gwybed y amlhaent yn blâ ir byd, pe parhaeu gwres yn oestadol; a chaledu dyn ac anifail ai gwneu­thur yn iach, ac yn gryfach. Gwelir y glaw ar eira gaiafol yn gwrteithio'r ddaiar i swrw ei chnwd yr hâf. A bydd y lleuad yn nesasattom ni pa bellaf y bo'r haul oddiwrthym ni, fal na byddom heb oleuni pan fo'r nôs hwyaf. A chan fod Cyfnewidi­adau Cyflym yn beryglus i ddyn ac anifail, nid yw trumder gai­af yn neidio ar ben poethder hâs, eithr o fesur ychydig y Cy­mer y naill lê'r llall. Beth sydd niweidiach ith iechyd di nag oeri yn ddisymwth ar ol chwysu? am hynny o fesur mynudyn neu ddau beunydd y byrhaiff ac yr ymestyn y dydd, y chwanega oerni neu wrês Ni lamma'r haul o'r naill gylch ir llall mewn un dydd, eithr o fesur ychydig y llithra ef, fal y gallo 'r naill ran o'r byd ei dderbyn ef, a'r Hall ei hepcor ef yn oreu

Eglur yw nad oes ddeall yn y goleuadau hyn yw Cyfarwyddo eu hunain, Cans lle mae deall y mae bywyd hefyd y gynhelir drwy ymborth mewn Creaduriaid gweledig, ac er diwedd y dderfydd drwy farwolaeth, y peth ni ddigwydd ir rhain. Ni welwn chwaith un creadur byw, nad yw'n gwibio i mewn ac allan, weithiau yn sumud weithiau yn sefyl, ond Ceidw y rhain yr un mesurau yn oestadol▪ gan gerdded yn ddibaid Petteu ganddynt ddeall bydd­eu ganddynt ewyllis hesyd ai tueddeu i orphwystra a rhydid yn hytrach na llafur di dorr, er gwasnaethu Creaduriaid llai na nhwy eu hunain.

Diameu ynteu mae Duw sydd yn penodi, ac yn rheoli eu rho­dau, ac onidè ni cherddent mwy nag olwynion Clocc, neu felin, heb ryw un Celfyddgar yw ffurfio, ac yw trin i hynny. Nid digon ir ddaiar gynhesrwydd heb wlybanieth. Pe gollyngaseu Duw y môr am ben y tir nis gallaseu neb fyw, am hynny ordeiniodd bi­bellau i ddwyn dwfr o'r môr i ddiddanu'r tir: yr hwn wrth bi­styllu drwy'r ddaiar megis drwy hidl y edi ei helltni yn ol, fal y bo Croiwach, a chymwysach i ddiodi creaduriaid byw: felly y deilliaw afonydd o galon y ddaiar, fal gwythi o'r asu, y gerdd­ant drwy gorph pob gwlad.

Ac am nad yw lesol ir afonydd chwaith fod cyn lletted a'r ddaiar, gorchymyn Duw i darth escyn ir Cymylau, lle y tywy­cha gan oerni, ac y troiff yn ddwffr i ddiodi 'r ddaiar a chafod­ydd [Page 81] hyfryd, pan fyddo mwyaf ei syched hi, a llettaf ei sasn hi. Mor luosog yw dy weithredoedd di o Arglwydd, gwnaethost hwynt oll mewn doethineb! Psal. 104 24. Dywed Pedr fod yr arglwydd yn gwybod p [...]b peth Joan. 21.17. a phwy ni chydsynia ai ymadrodd ef ar a ystyria amled yw'r Creaduriaid y mae'r Creawdwr yn eu trefnu au rheoli? Nid allai Cymaint o bethau difywyd, disynwyr gyd weithio mor gysson ac mor union i leshâd dyn oni bae sod Cyfarwyddwr doeth iddynt, mwy nag y traweu saeth ddail y nôd, oni baeu i un a llygaid yn ei ben ei gollwn atto ef, yr hwn y fedrodd osod pob peth mor gelfyddgar oth fewn di, dy menydd i ddeal ac i gofio, y galon yn ffynon bywyd, yr iau ar yscyfent yw swyddau, nid all na wypo hefyd parai fwriadau sydd yn dy galon di, pa ddichellion sydd yn dy ben di. Oni chlyw yr hwn y blanodd y glust? oni wêl yr hwn y luniodd y llygad? oni wyr yr hwn sydd yn dyscu gwybodaeth i ddyn? Ps. 94.9, 10. Canlyn hefyd fod gallu Duw gyda ei wybodaeth ef ymhob man, ac nad yw efe neppell oddiwrth bob un o honom, gan ei fod ef yn rhoddi bod a bywyd i bôb peth Act. 17.27. Ni throeu'r felin petteu'r dwfr oddiwrthi, nag olwynion na­tur oni bau fod eu Cynhyrfwr hwynt yn bresenol, er nad yw dy lygaid yn gweled ei sylwedd ef mwy na 'r gwynt, neu'th enaid dy hun, etto gweli ei weithrediadau ef a nhwythau. Rhodia ditheu yn ofalus ger bron dy Dduw, a galw arno, am ei fod ef yn agos ith gynorthwyo.

Amlwg hefyd yw rhaglunieth a gofal Duw yn y drefn osodedig. Adfeilieu adeilad y byd, oni bau yw gwneuthurwr edrych atti, a boddeu'r môr y tîr, er dim gweledig sydd yw gadw i mewn yn llawer map, trigeu llydnod newydd fwrw e [...]sieu medru sugno, oni bau ei fod ef yn eu dyscu, gwelir hwynt yn ceisio pursau eu ma­mau, cyn iddynt er ioed weled y fath beth, nag i ddyn roddi llaw arnynt yw hyfforddi: y mae llysiau yn hâdu ychydig cyn eu di­flanu, a dyfod amser oerni, megis pettent yn rhagweled eu mar­wolaeth, ac yn darparu i gynal eu rhyw, ac am y ddyled y osynnir gan ddyn sef ofni Duw a chadw ei orchmynion ef Pr. 12. nid yw rhe­swm yn gweled yn anghymwys ir tâd a ymgleddo blant gael u­fudd-dod oddiwrthynt, nid yw neb yn gwneuthur offeryn [...]id yw bwrpas; y fynni i Dduw dy wneuthur ath ymgleddu yn haelionus yn unig fal y gallych wasnaethu'r pechod a'r Cythrael a gwrthry­fela [Page 82] yn ei erbyn ef? y fynni di iddo ef dy ddal di yn ei freichiau i scriffinio ei wyneb ef, ac ath draed i guro ei ymyscaroedd tyner ef?

A rhag i deimlad o ddicter Duw wneuthur dyn pechadurus yn ddibris, ac yn anhydyn i ddychwelyd i deulu ei arglwydd, mynega y mawrhydi nefol iddo gael iawn gan Grist yw heddy­chu a phob un a ddychwelo, ac anrhesumol yw'r anghredmiaeth ni chydnabyddo y gollwn echwynwr trugarog ddyledwr tlawd yn rhydd, wedi i fachniad galluog dalu drosto ef Heb. 7 22. os amheui'r adgyfodiad edrych ar yr hadydd sy'n torri ar eu traws ac megis yn braenu yn y prîdd, etto o'r gronynau noethion priddlyd hynny y Cyfyd tywysenau tal ac ynddynt ddeg ar u­gain. Er ir planhigion ar llysiau golli eu tegwch y gaiaf, a my­ned fel cyrph meirwon, etto blodeuant eilwaith, troiff Duw gyscod angeu (sef y nos) yn foreuddydd. Nid anhaws iddo ef y ffurfodd ith gorph o ddefnyn ynghrôth dy fam, wnenthur fel. ly o ddustyn ynghrôth y ddaiar. Pan luniodd ef Adda o'r pridd bu fyw naw cant a deg ar hugain o flynyddoedd Gen. 5.5. er iddo wanychu llawer ar ei gorph drwy bechu, ynteu nid anhe­bygol y peri'r Cyrph gogoneddus byth, am y byddlnt yn ddi­bechod, hoiw fydd eu gwisc briodas yn dragywydd, pryd na bydd dim brynti yw brychu, nag un gwyfyn anwiredd yw hyssu: y mae ynoti arwyddion o anfarwolder yr enaid tra bo 'r Corph yn farw, cans mewn Cwsc (yr hwn yw [...]ûn marwo­laeth) pan fo'r Corph heb sumud, y mae'r enaid yn ymgynhyr­fu, yn ymresumu, yn deall pethau, ac yn derbyn rhybuddion, a chynghorion.

Nid yw nerth yr enaid yn pallu gyda'r Corph; pan gollo dyn aelod drwy friw, nid llai deall, a serch, a dymuniad, a chydwy­bod yr enaid; yn amser henaint pan fo nerth y Corph leiaf, y mae callineb, a sobrwydd, a rhinweddau'r enaid gryfaf; Canlyn ynteu y bydd gwobr parhaus ir da ar drwg am eu bod yn an­farwol. Nid yw'r Duw y gwelir cymaint oi ddaioni ai wybo­daeth debyg i adel yr ufudd grasol yn gustuddiedig byth, nid adwaenom un tâd nauriol na wnaiff fwy er ei blant ufudd, nac-er y rhai gwrthryfelga'r afradlon. Gweliff dynion yn gymwys gospi llofruddion ac yspeilwyr, ac oni wnaiff rheolwr [Page 83] y byd gyfiawnder ar ddrwg-weithredwyr? er bod y philoso­phyddion gynt heb yr scrythyrau yw cyfarwyddo, etto wrth ddarllen Llyfr y creadigaeth canfuasant lawer o'r pethau hyn, ond yn o dywyll gan wendid eu llygaid, fal y dall cyn ei gwbl ia­chau, y welodd ddynion fal prenniau Marc. 8.24. Am hynny dy­wedent fod y gwirionedd megis wedi suddo mewn llyn, ai bod yn gweled peth oi lewyrch ef, ond cynifer ac a irant eu llygaid ag eli Christ Datc 3.18 y welant ddigon o reswm wrth ystyri­ed pethau oi hamgylch yw siccrhâu o wirionedd yr scrythy­rau ynghylch y pethau y fu, y sydd, ac y fydd.

15 Moddion scrifenwyr a dilynwyr gair Duw ymhob oes y ddengis eu bod o Dduw; cans ni thwyllid hwynt yw ddigio ef na thrwy dêg na thrwy hagar, ni ddenai melyswedd golud, na gogoniant y byd monynt i dorri gorchmynion Duw. Act. 8. Math. 4. Ni thycciau bwgythion y byd i beri iddynt betruso yn dilyn ei iachawdwr Act. 21.17. Nid yw rai gau dystion onid am wobr bydol, yr oedd y ffyddloniaid yn colli y feddent am eu tystiolaeth; anhawdd cael gan ddrwg weithredwyr gyfa­ddef y gwir arnynt eu hunain, ond pan holid y Christnogion am eu ffydd cyffessent oi gwirfodd, ie Cospid hwynt eisieu tewi, a than eu custudd byddent lawen a hyfryd; ofn a thristwch sydd yn anferthu, a chwilydd sydd yn digaloni rhai drygiog dan eu penyd, oddieithr ymbell un fyddo a chydwybod wedi serrio. Bendithieu'r merthyron enw eu harglwydd, am eu cyfrif yn dei­lwng i ddioddef er ei fwyn ef, gan farnu erlidigaeth yn orucha­fieth Act. 5.41. a hynny nid o ran stysnigrwydd cans yr oedd­ynt o gydwybodau tyner, ac wylent yn chwerw-dost am y pe­chodau dirgelaf Luc. 22.62, nag o ran cefnogrwydd naturiol cans yr oeddynt lawer o gyrph gweniaid a thyner, hên ac afia­chus. Yr oedd gwraig dduwiol y waeddei yn dosturus yn ei gwe­wyr escor, ond pan loscwyd hi am ei ffydd ni chwynodd ronyn; gan atteb yw Chyfneseifiaid (oedd yn gofyn ei rheswm hi am hynny) fod ei gwewyr escor hi yn ffrwyth pechod, ac o herwydd hyn­ny yn drwm iddi hi, ond dioddef er Christ ydoedd ffrwyth oi râs ef, ac o'r achos hwnnw yn yscafn iddi hi. Gan orfod ir proffesswyr duwiol ddioddef Cymaint o gustudd a phoen er mwyn eu cre­dinieth, diamau iddynt chwilio'r peth hyd y gwaelod cyn yr [Page 84] ymroddent i golli y feddent oi herwydd, am nad yw hylithr gan bobl gymeryd eu twyllo am eu hawddfyd amserol. Pair Duw yw 'r brofedigaeth danllyd i ddangos rhagor rhwng Sothach a mwyn da 1 Cor. 3.13. Dioddefaint y sainct ydoedd gadarnhâd yr efengyl Philip. 1.7, 14. dan erlidwyr Cynar a diweddar.

Joan. 1.45.16. Os amheuei etto, dywedaf wrthit fel Philip wrth Nathaniel, tyred a gwêl fal yr argyhoedda 'r creadigaeth a rhaglunieth dy reswm di, gwaith yr ailanedigaeth a argyhoe­dda dy galon di, ac a scrifena'r gyfraeth ynddi oni's gwr­thodi hi, oni choeli fod athrawieth y ffydd yn win melys ac iachus wrth weled eraill yn ei ddymuno, ac yn siriol ar ei ol ef, prawf ef dy hun, a dywedei 'r un peth. Golch lygaid gweni­aid dy feddwl a dagrau edifeiriol, a gloiwach fyddant, a chan­fyddi ewyllis Duw yn graffach, a gweli 'r haul Cyfiawnder wrth ei oleuni ei hun: oddiwrth darth Cnawdolieth y cyfyd niwl yn y deall Ephes. 4.17. Ond y meddwl newydd y gaiff brofi perffaith ewyllys Duw. Rhuf. 12.2. a'r hwn sydd yn cre­du ym mab Duw sydd ganndo y ddystiolaeth ynddo ei hun i Joan. 5.10. Derbyn yspryd Duw i Sancteiddio dy enaid ac yna tystiolaethiff iti mae'r scrythyrau yw ei Scrifen ef, yna y gelli ddywedyd wrth yr eglwys fal y Samariaid wrth y wraig,Joan. 4.22. nid ydwyf weithian yn credu oblegyd dy ymadrodd di, cans mi ai clywais ef fy hun,Joan. 7.17. a gwn yn ddiau yr hwn a ewyllysio wneuthur ewyllis Duw y gaiff wybod am y ddysceidiaeth ai o Dduw y mae hi.Joan. 10.4. Defaid ufudd Christ y adnabyddant ei lais ef rhagor llais dieithraid, oni bydd dyn yn yr un elfen a'r peth yr edrycho ef arno, ni's gwêl ef yn iawn, pan edrycho un oddiar y lan ar bren yn y dwfr efe ai gwêl yn gam er ei fod yn union; felly ni ddichon yr hwn sydd mewn cyflwr Cnawdol iawn ddir­nad y gwirionedd grasol,1 Cor. 2.14. oblegyd yn ysprydol y bernir ef. Mei­bion Duw sydd gynefin ai bresenoldeb ef, ac arferol o drin ei negesau ef y adwaenant scrifen-law eu tâd. Cais burdeb calon, a chei weled Duw ai ewyllys hefyd.Math. 1.8. Gobeithio sod yr hyn y ddywedpwyd yn ddigonol gyda gweithrediad yspryd Duw er gwreiddio 'r darllennydd ystyriol mewn siccrwydd deall i gydnabyddieth dirgelwch Christ: Col. 2.2. am hynny dibenaf y per­wyl [Page 85] yma, ond crybwyll am rai pethau sydd ddilynawl iddo.

1. Molianwn Dduw am fod yspysrwydd o'r ffydd ai scrifenadau yn ein iaith ni ein hunain; hynny ydoedd orucha­fieth Israel pryd nad oedd cyn amlucced a chyn helaethed ac yw yn awr.Deut. 4.6, 8. Canmoleu 'r bobloedd oll ddoethineb eu dedd­fau hwynt; By llyfr Duw wedi ei glasbysu cyn gaethed yn yr iaith Ladin yn amser ein henafiaid diweddaf, na fedrai ac na le­fasai ond rhai edrych arno. Yr ydoedd ir bobl gyffredin fel bwyd dan glo, a llysfam yn Cadw 'r agoriad, y pryd yr adne­wyddwyd arfer eglwyswyr llygredig Israel, y rhai y ddygent ymaeth agoriad y gwybodaeth, nid aent i mewn eu hunain, a'r rhai oedd yn myned a waharddent;Luc. 11.52. ond er pan gyfieuthwyd y bibl yn Gymbraec, gelli gymeryd y seigiau melysaf ith law, a bwit­ta a'th ddiwalla, a bendithio dy Dduw, yr hwn oi drugaredd y roddes gyfarwyddyd i rai duwiol discedig yn yr oes ddiweddaf i gyfieuthu athrawieth y ffydd o'r Groeg ar Hebraeaec i jeithoedd Cyffredin teyrnasoedd y Gorllewin. Ac ni raid ini ofni iddynt gam gyfieuthu oi gwirfodd, cans dioddefasant (gan mwyaf) ferthyrdod, ac oni ddywedent gelwydd er arbed eu bywyd eu hunain, ni wnaent hynny er damnio ein heneidiau ni.Rhuf. 10.6. Y mae gair y ffydd yn agos attom ni, nid rhaid ini fwrw am nôl Christ i lawr o'r nef yw fynegi. Petteu raid dylem fyned cyn belled i wybod doethineb Duw, ac yr aeth Brenhines She­ba. Y mae ffynon iechydwrieth yn agos, ac yn agored, we­di i Dduw anson rhai fel Jacob i dreiglo ymaith y garreg fawr oedd ar ei geneu.Gen. 29.10. Gelli lenwi dy gostrel o wybodaeth iachus, oddeithr i galedwch dy galon ei thopio fal na ddelo i mewn. Dangosodd yr Arglwydd it ddyn b [...]th sydd dda, Mic. 6.8. 2 Tim. 3.14. Act. 2.11. a pha beth y gais gennit: Yr hyn sydd abl ith wneuthur yn ddoeth i iechydwrieth, fel y llefarer ymhob iaith fawrion wei­thredoedd Duw; A pham y digieu 'r Pape am hyn? Cans anfonwyd y gair yn Haebrae-aec ir Hebraeaid, ac yn Roeg ir Groegiaid, fal y galleu 'r bobl gyffredin eu ddarllen ai dde­all.

2 Chwiliwch yr scrythyrau yn ol gorchymyn Christ, at y gy­fraeth ar dystiolaeth ceisiwch allan o lyfr yr arglwydd, a darllen­wch [Page 86] wch ie glynwch wrth ddarllein 1 Tim. 4.13.Joan 5.39. Isai. 8.2. ac ich annog i hyn­ny ystyr wn mae ac 34. i trwy wybodaeth y gwirionedd yr ew­yllisia Dwu i ddynion fod yn gadwedig 1 Tim. 2.4. y mae chwi­lio astud ar lyfrau Cyfraeth ddynol, a physygwrieth, er mwyn elw amserol, ond ceir yma fudd tragwyddol, a difyrrwch pre­senol hefyd,Psal. 19.8. ac 119.103. deddfau'r arglwydd sydd yn llawenhâu y galon, ac yn felysach na'r mel. Hyfrydach ydoedd gan Alphonsus brenin Ar­ragon ei studi, nai deyrngader. Ac fal na phetruso neb o ran ei wendid,Psal. 19 7. gwybydd eu bod yn olau ir gwirion, i wragedd, a phlant 2 Tim 3.15. Timotheus oedd yn gwybod yr scrythur lân yn fach­gen, a dyscaseu hwynt gan ei Nain Lois, ai fam Eunice 2 Tim 1.15. ymborth yr enaid ydynt. Plant Duw y chwenychant laeth y gair fal y cynyddont trwyddo ef, Jer. 3.15. 1 Pet. 2.2. a phawb ai diflaso a newynant, ac y grabiant eu heneidiau yn dragywydd. A chyfarwyddo dy­nion y maent i ryngu bodd Duw, gan fod yn llusern a llewyrch yw tra [...]d ai llwybrau. Ps. 119.105. Yr hyn y gerddech di yngwysc dy ben hebddynt hwy sydd cyfeiliorni yn anialwch pechod ath ddwg ir sybwll peryglus.Psal. 119.18 Ac fel y tyccio darlleniad iti, gweddia fel Dafydd ar i Dduw ddatcuddio dy lygaid i weled pethau rhyfedd allan oi gyfraeth ef; tra yr oedd Saul yn gweddio yr anfonodd Duw Ananias yw gyfarwyddo ef.Act 9.11, 17 Cans eisieu grâs a goleuad oddi wrth yspryd Duw ni chynhyrfa pobl er darllen yr scrythy­rau;Act. 13.27. ni adnabu preswylwyr Jerusalem au tywysogion le ferydd y prophwydi y ddarllenid bôb sabbath, ac yn amser Jeremi y rhai y drinent y gyfraeth nid adwaenent Dduw. Jer. 2.8.

2 Darllen yn ddiwyd, os gwaeddi ar ol gwybodaeth, os chwili am dani fel am dryssorau cuddiedig, yna y cei ddeall ofn yr arglwydd; Cymer amser i gydfwrw 'r scrythyrau, y mae y naill fan o honynt yn egluro'r llall, fal y mae llawer o ganwyllau yn rhoddi mwy goleuni nag un, i hynny mae iti beth cyfarwyddyd ynghwrr y dalennau yn y bibl, lle mae 'r serenôdau. A myfyria arnynt ddydd a nos Psal: 1.2. Ac ymofyn ag eraill ynghy lch y pethau nis gelli eu dirnad, fal y gwnaeth yr Eunuch a Philip Act. 8 34.Dihar. 13.4. Enaid y diwyd y wneir yn frâs; oh gochel fod yn esceu­lus, na ddisgwil yd, heb lafur; tra yr oedd yr Eunuch yn da [...]llen y Prophwyd Isaias, Act. 8.28. ni ad twodd Duw ef yn ddi-gymorth, gan an­fon Philip yw hyfforddi.

[Page 87]3. Dod heibio ragfarn, dôs at yr scrythyrau i geisio gwybod ewyllys Duw, nid i gadarnhâu dy ewyllis dy hun.

4. Bydd ostyngedig;Mat. 11.25. y pethau y guddwyd rhag y beil­chion, y ddatcuddir i rai bychain, ir pant y rhed dwir y by­wyd, drwy rigolau 'r galon ddrylliedig y daw goleuni nefol i mewn.

5. Bydd barodol i ufuddhâu ir hyn y ganfyddech o ewyl­lis dy feistr. Pan oedd Saul wedi ei orchfygu gan fraw, ac ym­ddangosiad Christ, a chwedi ymroi, dywedodd,Act. 9. Arglwydd beth y fyani di i mi wneuthur? ac ni bu hir oni chafodd wybod ewyllis Christ. Ni chelei Duw moi feddwl [...]hag Abraham, Gen. 18.17. cans efe ai hadwaeneu ef y gorchmynei ef yw blant, ac yw dylwyth ga­dw ffordd yr arglwydd; Ruf. 18. oni chaiff gwirionedd Duw reoli ynoti fel brenin, ni thrig ef ynoti yw gaechiwo fel carcharwr, o [...]er­wydd i [...] Cenhedloedd attal y gwirionedd mewn anghyfiawnder ac nas gogonedd sant Dduw yn ol eu gwyboddaeth, rhoddes Duw hwynt i fynd yw trac [...]wantau, au gwyniau gwarthus.

3. Cywy [...]yddiwn ac ed [...]arhawn am yr esceulystra swrth sydd yn ein plith ni ynghylab y peth hwn; gall Duw gwyno ar y Cymbro fel ar Ephraim H [...]sh 8.12. mi a scrifenais id [...]o bethau mawrion sy nghyfrai [...]h ac fel dieithr b [...]th y Cyfrifwyd. Ystyria er bod yn fychan geniti am bethau'r scrythur, fod y Duw mawr yn eu cysrif yn fawrion, a rhoddes rmwedd ac awdurdod fawr ynddynt, a chymer ofal mawr am danynt;Luc. 16.1.17. haws i nêf a daiar fy­ned heibio nag i un tippyn o honynt ballu, a chwennych yr an­gyli [...]n fod yn hyddysc ar yr hyn y gynhwysir ynddynt. Y mae gwobr mawr am eu Cadw, a gwae o [...]nadwy am eu torri.1 Pet. 1.12. Cy­mer digosaint Duw inventori o 'r hyn y feddech yw felltithio iti oni wrandewi ar lais yr arglwydd gan gadw ei orchmynion ef,Psal. 19.11. am hynny nid gair ofer yw, o herwydd dy einoes di yw efe. Gwnaeu gwyr mawr gynt gyfrif o'r scrythyrau, darllenent,Deut. 28.15. ac 23. of­nent hwynt, ac ufuddhaen [...] iddynt, fel y gwelir yn y brenhinoedd enwog hynny Dafydd, Solomon, Jehosophat, Hezeciah, Josiah, Con­stantinus, ar Eunuch galluog oedd ar holl dryssor Ethiopia. Act: 8.27. Hoffeu 'r Sainct hwynt yn fwy na'r mêl, nag aur fyddei coeth a llawer, ie yn fwy na'i bywyd naturiol.Psal: 19.10 Ac onid allwn ni y Cymbru hep­cor [Page 88] dim arian yw prynu hwy, na dim amser yw manwl chwilio hwy? medd Solomon, penaf peth yw doethineb, a'th holl gyfoeth cais daeall, pryn y gwir ac addyse. Dihar. 47. ac 22.23. Nid yw gorchwylion hwsmon na chrefftwr mor bwyssawr ac achosion brenin, mynneu Duw iddo gymeryd hamdden i scrifennu Coppi or gyfraeth mewn llyfr,Deut. 17.18. a ddarllen arno beunydd fel y dyscei ofni yr arglwydd Y mae'r Saeson ac eraill sy'n proffessu 'r grefydd Gristnogol mewn dim purdeb yn odieth o'r cynefin ar bibl, ac yn nwylâw eu plant y mae llyfrau cyn amled a brechtanau, etto Cyfrif ef yn beth dieithr yn ein mysc ni, heb ei adnabod, ymddiried iddo, nai goelio, nai berchi, nai dderbyn, nag usuddhau iddo, na de­all rheswm am dano. Nid yw ein cenedl ni wrth natur ddim hurtiach na mwy anhyddysc na phobl eraill, cans parodol ydym a'r chwedlau digrif, a rhimynnau anllad, a chastiau cyfraeth; yn unic arfer, ac anwyllis sydd yn ein cadw yn anwybodus or da, oh nad ystyriem yr hyn y ddywed doethineb, fod anwy bodaeth yn gwneuthur pobl yn ffyliaid, Dih. 17.22. Isai. 1.3. ac yn waeth nag anifeiliaid. Yr ych a edwyn ei fed dianudd, ar assyn bresch ei berchenog, ond Israel anufudd ni chydnebydd yr hwn sydd yn ei borthi, pes adwanent ni chroes­hoelient arglwydd y gogoniant, 1 Cor. 2.8. ac ni ddewisent un Barabbas oi flaen ef: achos ac arwydd o golledigaeth yw anwybodaeth, gan beri i bobl wrthod Duw. Hosh. 4.6. collir pobl eisieu gwybodaeth, ac medd yr apl, Ir rhai Colledig y mae'r efengyl yn guddiedig, y rhai y dallodd Duw y byd hwn en meddyliau.

Joan. 3.3.Nid llai perigl y rhyfygus na'r anwybodus. Pa sawl miliwn sydd yn byw mewn gwrthwyneb i orchmynion, ac yn ddiofn er clywed bygythion y gair?1 Cor 6.9. diwed yr scrythyrau, na ddichon dyn w [...]led teyrnas Dduw oddiethr ei eni ef drachefn, ac na chaiff anwiri­aid etifeddu teyrnas nêf. Ond gallant gwyno fel yn Ruf. 10.16. pwy a gredodd in ymadrodd ni? neu fel yn y ddammeg Math. 11.17. Canasom bib [...]ll i chwi, ac ni ddawasiasoch: canasom alarnâd i chwi, ac ni chwynfanasoch; Sef ni threfnasoch eich cerddediad, a'ch ymarweddiad ar ol ein gorchmynion hyfryd, ac ni chyme­rasoch dristwch edifeiriol am bechod, er ein bwgythion gofidus.

Iddo yn awr chwi ddiofalwyr, ir rhai y mae maethgen dynion fel rhuad llew, a senn yr scrythyrau fel brefiad oen, cyffrowch, cans y gair sydd i'ch erbyn, o Dduw y mae, ond os addawch i [Page 89] chwi eich hunain heddwch, er bod Christ yn llefaru toster, dy­wed wrthych fel yn Jer. 44.28. Cewch wybod gair pwy y saif, ai'r eiddo fi, ai yr eiddo chwi, Nid yw'r scrythur fond heb dysti­on wrthi, oni chymerwch ofal i gyflawni y rhwymedigaeth y esyd hi arnoch, dioddefwch garchar tragwyddol am y ffor­fed.

4 Chwi oll sydd yn ufuddhau ir scrythyrau ac yn hyderu ar eu haddewidion byddwch ddiwyd ynghylch y pwnc yma,1 Pet. 3.15 fel y galloch roddi rheswm am y gobaith sydd ynoch. Nid oes neb na chaiff ei holi gan amheuon yn ei fywyd, a chan Dduw pan fyddo marw. Ar hwn sydd Gristion o ran arfer y wlad yn un­ig heb wybod y chwaneg, ni all sefyll mewn profiad, Joan. 6.69. na bod yn gy­meradwy yn y farn. Ceisiwch ddywedyd mewn gwirionedd fel y dyscyblion, Yr ydym yr credu ac yn gwybod. 1 Pet. 5.12 A chyda Petr dystiolaethu mae gwir râs Duw yw'r hwn yr ydych yn sefyll ynddo, sef mae gwir athrawieth grâs ach dysca chwi, a gwir waith grâs a duedda eich calonnau chwi i hyderu ar y Duw byw, ac i ddisgwil am ei ogoniant ef a bod yn gyfranogion o honi. Ac yna mawr fydd eich cyssur, fod Cymaint o dystion cywyr i brofi eich scrifenadau am etifeddieth dêg. &c.

[decorative tailpiece]

Darlleydd, lle mae diffig neu gamosodiad o ditl, ffigur, neu lythyren, Craffa ar y ge [...]riau o'r ol ac o'r blaen, ac ni'th rwystrir. Ac a phin scrifenu diwigia'r geiriau hyn: sef yn yr 20 ddalen, ar 32 line scr. fener [a hynny] oflaen [ai blaen­llymai] ac yn y 24 ddalen ar 10 line, scrifener [adferoda] yn lle [adawodd.]

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.