Ystyriaethau DREXELIVS AR Dragywyddoldeb.

Gwedieu cyfieithu yn gyntaf yn Saeson-aeg gan Dr R. WIN­TERTON, ac yr awrhon yn Gymraeg gan ELIS LEWIS o'r Llwyn-gwern yn sir Fei­rion Wr-bonheddig.

[figure]

Printiedig yn Rhydychen gan Hen. Hall tros Rich. Davis, ac a werthir yn ei siop ef yn heol St Mair yn ymyl Oriel Col. 1661.

I'R Ddiwair a'r rinweddol bendefiges, Mres CATHERIN ANWYL unig ferch Sr JOHN OWEN o'r Clenennau, a chywely yn ddiweddar i'r URDDASOL Esq; Mr ROBERT ANWYL o'r Parc, yr hwn a alwodd Duw am dano.

E. L.

A ddeisyf Râs a thangneddyf yn y byd hwn, a dedwyddwch Tra­gywyddol yn y byd a ddaw.

NId wyf heb wybod tei­lyngdod, clod a llafur yr y sgolheigion ar­dderchog hynny, a godidowg­rwydd [Page] gwaith o goffadwriaeth didrangc; sef y rhai y dreuliasāt ran o'i talent yn troi y Bibl; ac eraill o'i dyfal astudrwydd am gyfieithu amryw Lyfrau odiaethol eraill yn Gymraeg: Y cyfryw hefyd y roesant dragywyddol reol i bawb y chwenychent gyfieithu rhag llaw.

Y cyfarwyddyd yma ac ymadrodd fy Jachawdwr yn bennaf lle mae ef yn dywe­dyd wrthym, A ddaw canwyll Marc. 4 21. i'w d [...]ai tan lestr, neu tan wely? ac nidi'w gosod ar ganwyll-bren am cefnogodd inneu (er nad ydwyf gyfaddas o lawer iddynt hwy, iryfygu o'm gwanegni by. chan fy hun, y cyfi eithiad o'r Traethawd hwn o ystyriaethau ar Dragywyddoldeb. Ymmhe­llach [Page] eich Trefnad chwithau, a pharodrwydd eich ewyllys i fyned tan ran ragorol o'r draul, tu ag at ei osod ef allan mewn print, am cefnogodd i (Bende­figes grefyddol) i fyned rhagof yn hyderus, ac i'w orchymmyn ef ei gadernid eich amddiffyn­fa chwi; trwy fy mod yn ad­nabod Natur eich ewyllysgar­wch (sydd yn gweled mor ym­ddifad ydyw ef a'r cyfryw) y derbyniwch chwi ef yn garia­dus, ac y cymmerwch chwi ef tan eich ymgeiedd: O her­wydd fy mod yn gwybod yn ddiammeu y bydd ei gymmeri­ad ef yn fwy o ran ei fod ef yn perthynu i chwi, ych gair chwi ym mysg eich cydnabyddia­eth, a'i gair hwythau ymmysg yr rai dieithr a bar iddo gael [Page] yngHymru groesaw caredig. Y mae eich serch chwi i'r wei­thred hon (Bendefiges dduwiol) yn cyhoeddi eich darbodaeth tros eich gwlad, ac yn arwy­ddoccau eich bod yn dal sulw gydâ mawr dosturi, ary cyflwr gresynus y mae dynion yng. Hymru ynddo yn y dyddi­au diweddaf hyn: sef en bod yn gorwedd yn ddiarswyd, mewn esceulusdra a diofalwch anianol am Dragywyddoldeb: O herwydd bengaletted, ac mor ehud y maent yn dilyn eu dychymmygion eu hunain; ac yn myned rhagddynt yn eu ffyrdd drygionus an­nuwiol, tan dreulio eu ham­ser gwerthfawr yn rhodio Ephe. 4. 17. yn oferedd eu meddwl, yn A­freclus, yn Rhodreswyr, yn gyn­dyn, yn drahaus; yn feilchion, [Page] yn ffrostwyr, yn gelwyddog, yn erbyn y gwirionedd, gan yfed Job. 15. 16. anwiredd fel dwfr; heb gyttuno ag iachus eiriau ein harglwydd Jesu Grist, ar Athrawiaeth sydd ar ol duwioldeb: ondTim. 4. 6. chwyddo heb wybod dim, eithr ammhwyllo ynghylch cwestiw­nau, ac ymrysson ynghylch geiri­au: o'r rhai y mae cenfigen, ym­rysson, cableddau, drwg dybiau yn dyfod: Ar agwedd or traha hwn a'r dirmyg sydd mor bri­odol i'r rhain fel y maent ysy­waeth yn anghofus a'm Dduw, ac yn ddieithr i bob rheol cy­fundeb. Hefyd yr esceulusdra a'r diofalwch anianol sydd yn y dynion hyn, yr rhai ynt yn synnied pethau daiarol gan ymhyfrydu yngweithre­doedd y ty wyllwch; yr rhai sydd yn ymrwyfo yn eu hy­frydwch [Page] mewn amlder o gy­foeth, clothineb, meddwdod, godineb, a maswedd buchedd, yn ddiwala o drythyl wch, ei d [...]wian y rhai yw eu boliau a'uPhil 3. 19. cybydd-dod; eu gogoniant yn eu cywilydd) a wiria ddarfod iddynt hwythau ollwng Duw yn angof yn ddiammen, ac nad ydynt yn meddwl am dra­gywyddoldeb. Ped ystyriau y dy­nion drygionus hyn yn ddi­frifol yr esmwythdra, llawe­nydd, a'r gorfoledd sydd yn y Nefoedd, yn y Tragywyddol­deb bendigedig; Ar poenau, trymder, a'r caethiwed sydd yn uffern, yn y Tragywyddol ­deb mel. digedig; dwys dymhy▪ gid hwy yn eu calonnau, a hwy a arswydent yn ddiau (er maint eu gaudeb a'u hanwi­redd a'u pechodau gorthrwm) [Page] farnedigaethau Duw, a gwe­ddient am edifeirwch, a grâs i ymwrthod a'u pechodau: yr hyn yn ddyfal y mae 'r llyfr hwn yn ei geisio ganddynt yn daer ddigon: Duw a roddo yr grâs iddynt i glust-ym­wrando âg ef, a'i ddwys ysty­ried yn eu calonnau; a bôd yn weddiwyr gyda chwi a'ch cy­dwladwyr ysgolheigion Rhyd­ychen; yrhai o'u gofal ac o'u ca­riad darbodus tros eu henei­diau a'i golygodd ac a'i corre­ctiodd, ac a barodd ei brintio, a bob hefyd yn gyfrannog a chwi yn y draul. Am wneuthur o'r gwyr daionus dysgedig yma hyn i'w cydwladwyr, nid allwn ni fod byth mor rhwyme­dig iddynt ac y dylem. Wele, Duw yn eu bendithio hwy a'n dyled swydd ninnau y­dyw [Page] deisyfu ar Dduw yn ddi­frifol eu bendithio hwy rhag­llaw ag amlder o'i ddoniau, ac iddo fawrhau a chynny­ddu beunydd fwy fwy eu pri­fiant o'u dysgeidiaeth, eu du­wioldeb, a'u daioni.

Bellach os deil pechaduri­aid sulw ar y llyfr hwn, cân we­led ynddo megis mewn drych mor halogedig yw eu ffyrdd: a dibrydded yw eu gwedd a'u diwyg, am nad ydynt yn me­ddwl am Dragywyddoldeb: y gwir ystyriaeth o'r cyflwr hwn y gynnyddau y Grâs ac a fyddei yn enwedig yn bossi­blaf i gynhyrfu y troseddwyr mwyaf yn gyntaf o gwbl, sef y gau grefyddwyr a'r A­thrawon, i droi yn wir gre­fyddwyr ac Athrawiaethwyr, yr ymryssonwyr yn wyr o [Page] undeb, y godinebwyr yn ddi­wair, y meddwon yn wyr sobr, y glothinebwyr yn wyr cym­mhedrol, y cybyddion yn gy­franwyr elusenau: a'r cyfryw ehud bechaduriaid cyndyn, di­arswyd, disynniol, ac esceu­lus ddiofal i fyned rhagddynt mewn newydd-deb buchedd. Byth o hyn allan y sawl ni ddigwyddei iddynt fod o fe­ddwl anghymmeradwy, a ffiei­ddiant rhag llaw y pechodau a wnaethant hwy or blaen: A than eu perigl ystyriant yn ddifrifol ar Dragywyddoldeb fwy fwy beunydd tra byddant yn y byd: Ni redant ond hyn­ny (am eu bod yn eu gweled eu hunain yn ddiesgus) yn wysg eu pennau i bob mâth ar bechod gorthrwm gwaudeb ac anwiredd; byddant yn fwy [Page] gofalus o lawer, nac y buant▪ o'r blaen. O mor ddaionus a fyddei hyn yn Sion! O mor fawr y fyddei eich gwobr chwithau oll gan Dduw, a'ch clod gan eich cydwladw yr y modd hynny!

Eithr er hyn i gyd (Bende­figes ddaionus, a chwithau wyr dawnus) y mae 'r gair fôd absenwyr yn llefaru yn enlli­bus am y cyfieithiad o r llyfr hwn: nid yw hynny gennifi chwithdod yn y byd: Oblegid pa gwell fyddei eu natur hwy (oni thorrir eu tafodau) i ddir­dynnu yn graff dippynnau o­ddi wrth faintioli teilyngdod gwaith pawb, ond eu heiddo hwy eu hunain: Yr ydwyf yn cyfaddef nad yw y cyfiethiad hwn or llyfr Lladin, eithr o'r yn Saesonaeg: Am hynny ys­gatfydd [Page] ni cheiff ef fod yn ddi▪farn. Gadewch iddo, ystyriant hwy ef fel y gwelant yn dda; yr ydwyf yn gobeithio ei fod ef a'r un rheswm a meddwl a'r un Lladin yn helaeth; A bar­nant hwy ef fel y mynnant, nid gwaeth gennifi; yn y ffordd y gymmerais i, fy ngoreu i yw, ac egni fy ewyllys da i'm cyd­wladwyr. Gan hynny pa fodd bynnag y prisir ef gan y rhain, nid ydwyf yn ammeu na wne­wch chwi yn fawr o honaw, ac na byddwch chwi oll o'ch gwir­fodd yn amddiffynfa iddo i'w noddi rhag geiriau y cyfryw absenwyr cipgar, cenfigennus, a rhag tafodau goganwyr ma­leisus ac enllibwyr, ac hefyd y dadleuwch chwi (wyr dai­onus) trosto ef er bod yn rhaid iddo ymadael a chwi, [Page] a phreswylio yngHymru yr awrhon (Bendefiges dduwi­olfryd) gan ymadael o honaw a'i Dadmaethod darbodus ò Rydychen; a digwyddo o'i gar­tref ef fod yngHymru tan eich dar bodaeth chwi, a'ch ymge­ledd; y mae ef yn rhwym i fod yn wasanaethydd ffyddlon i chwi, ac am eich achles iddo, i gofio iwch Dragywyddoldeb yn ddiwyd, nos a boreu a cha­nol dydd, a phan fynnoch: Eithr yr ydwyf yn gwybod fod Tragywyddoldeb cyn fyny­ched yn eich meddyliau; nad rhaid i'wch wrtho i atgofio hynny i chwi. Er hynny chwa­ith nid ydwyf yma yn amcanu myned (er bod i mi achlysur teg) tros y rhestr o▪ch rhin­weddau Christionogol: yn enwedig eich ymmedrolder, [Page] eich pwylledd a'ch duwioldeb; eich pûr ymattal, a'ch Astu▪drwydd; eich Lledneisrwydd a'ch diweirdeb; eich cari▪ ad perffaith; ach elusenau▪ a lliaws o rai eraill: Oblegid (o m rhan i) ni charaf ganmol neb o flaen ei wyneb: hefyd daeder eich tresn, eich boneddi­geidd dra, haelioni a'ch care▪ digrwydd: yn enwedig tu ag at eich cyfathrach: A bod hyn mor gyhoedd nad ellir ei wadu. Bellach y mae yn olau nad rhaid i chwi fawr wasana­eth ganddo: Ond pa ▪r un byn­nag, y mae yn wiw gennych (och arferol garedigrwydd tu ag attafi a'm heiddo) ei dder­byn ef i'ch gwasanaeth. Yr hyn sydd yn fy ngwneuthur i mor rhwymmedig i chwi am y weithred ddigymmar hon [Page] o'ch cymmwynasgarwch ach caredigrwydd; Ac na ddileu­ir moni o'm coffadwriaeth tra bwysi yn treulio fy oes, Sef,

Eich cyfathrachwr ach câr o wir ewyllys da ELIS LEWIS.

At y Darlleydd.

SErch ddiffuant i'th Jechydw iaeth O ddarlleydd, ac nid yr elw o w g ogo­niant am annogodd i i gyfieithu i ti y llyfr hwn: yr hwn sydd yn dysgu i't yma yn dy f wyd ystrio ar fyrder dy einioes Marwolaeth, Barn, Nef Uffern a Thragywyddoldeb. Ac os dy di a lwyr roddi dy fryd i ystyrio, ac ddwys roddi dy feddwl ar y pethau hyn: y mae yn ddigwyn gennif y boen a gymmerais i yn cyfieithu i ti y Naw ystyriaeth hyn ar Dragywyddoldeb sydd yn canlyn. Yr rhai ynt yn egluro y pethau hynny mor olau, ac y gelli iawn ddirnad yn eglur natur dy gyflwr yn y byd hwn: yr hwn gyflwr (os iawn ferni) sydd mor ddiflannedig, o her­wydd mor fuangyrch yw dy ffrwst i farwolaeth; am nad yw dy ymdaith di i farn a Thragywyddoldeb ond [Page] siwrnai ddiwrnod: mor serfyll en­bydus yw dy fywyd; am fod yr am­ser i fyned i Borth Tragywyddol­deb, sef marwolaeth mor ansiccr: Megis ac nas gelli ymddiried, pa'r un ai yn nechreu, canol, a'i yn niwedd dy ddiwrnod y digwydda i ti daro i mewn iddo: A chan mor freuol yw dy gorph, nad ydwyt ti bob munud beunydd wrth ei ddrws ef yn sefyll yn ddarostynge­dig i th daflu i mewn gan bob gwth damwain. Gan hynny ystyria pa bryd bynnag yr elych di i mewn iddo; mai dy arwain di a wna, naill ai i Dragywy­ddoldeb Tîr y rhai byw; Tir cyssur, a hyfrydwch paradwysedd. lle mae goleuni, nid ellir ei amgyffred: Ai i Dragywyddoldeb Tir gerwindod, dybryd, anobaith a thywyllwch dudew▪ Y cyntaf yw trigfa 'r bendigedig: ar diweddaf yw trigfa 'r melldigedig▪ Yn y cyntaf y mae hyfrydwch Tragywy­dol, lle mae gweision Duw yn cael eu cyflog: yn y diweddaf y mae poenau. Tragywyddol, lle mae gweision pechod nhwythau yn cael eu cyflog. Am hynny, O ddarlleydd, pa bryd bynnag a cyhuddo dy gydwybod dy di, dy fod ti un amser yn y bywyd ansiccr hwn yn gwasa­naethu pechod, na oeda yr amser: Eithr [Page] yn y munud hwnnw cyfaddeu hynny, gan ddywedyd y gwirionedd, fel y gwnaethost, trwy ragweled ei ddrwg ddiben; a bwrw dy hun yn euog, gan edifarhau o flaen Duw o'th waith: Ac na ddarllain mor llyfr yma ond i'r perwyl hwn ac mewn bryd ddiffuant na byddech mwyach un amser o'th fodd yn was iddo: yr hwn sydd yn rhoddi pob peth yw weision yn y byd yma i ryngu bodd iddynt: Eithr yn y byd a ddaw poenau Tragywyddol yn Uffern▪ Wele, ystyria, dymma 'r cyflog melldi­gedig i ti am dy boen! Gan hynny cym­mer mewn llaw yn hytrach (yn lle y fath wasanaeth brwnt, ffiaidd, coeglyd, y mae yn angenrheidiol i ti) wasanaeth gan Dduw, sef myfyrio yn ddiwyd bennydd, ac meddaf ystyrio a rhwym­mo dy feddwl difrifol bob munud ar fyrder dy einioes yn y byd hwn; ac megis y dywedais i or blaen, ar farwolaeth, Barn, Nef, Uffern, a Thragywyddol­deb; ac dyma i ti wasanaeth godidoccach a mwy rhagorol, a'th cyflog a sydd yn ddiau yn ardderchog ac yn wynfydedig. Ar modd i ti ryngu bodd yn y gwasa­naeth hwn yw casau pechod, gan gwneu­thur eirchiad Solomon, yr hwn sydd

[...]

Mawl i'r cyfieithydd
At ei anwyl gâr a'i gymmydog E. L. y cyfieithydd.

CLyw Går, heb ddrydar dirieidwaith englyn,
Neu ynglef o weniaith:
Diwyd wr, da yw dy waith
Di Elis a da eilwaith.
Dy gyfiaith nis digofiwn;
Dy orchwyl os edrychan▪
Rhoist am gég y saesnaeg syn
Gamrig wysc o Gymraeg wen
Gwneist yn ol Tragywyddoldeb.
Di inni fyth dy enw fab:
Nid â dy glod hynodeb,
Oll i'r pwll er allo Pab.
Difyrrwch dioferedd;
Diludd yw budd, adel bedd:
Dy lafur a'i dylifai,
Waith difai o'th edafedd.
Yr edau hîr ydyw hon,
Ni thrrowyd ar ferthyron:
Dithau na thyr fendithion y diddysc
Er addysc arwyddion.
Dos rhagod i'r nôd na nad er ynnill,
Enaid mewn cyfyngder
[Page]O feiau sum rhif y sér
Lewis di guddi lawer.
Iohn Vaughan.

At ei Anwyl frawd ynghyfraith E. L. y cyfeithydd.

Cyrchaist nid oedaist waith odidawg llwyr,
yn y llaw yn enwaw [...];
Waith yw ol reol rywawg
Ni welir er hîr y rhawg.
Perffeithrwydd gw▪wlwydd mewn golau rhod­daist,
Yn rhw ddwych ammau;
Beraidd yw, hwyr a borau,
O bur hédd byth i barhau
Llawer sydd beunydd yn boenol erchyll,
Am orchwyl amserol:
Ditheu a wneist daith yn ôl,
Tro gweddaidd beth Tragwyddol.
Gyrraist a gwerriast, gwiw eiriau dilys,
Dy dalent i'r gorau;
Canwyll i'th ól fydd olau,
Fyth o fryd dy gyfiaith frau,
Pur Bryttwn difwn, da fyniaith barod
Yn buraidd wyd i'n hiaith:
E r i't dewi gwedi gwaith,
Ni chela byn orchwyliaith.
Rhwydeb yn undeb uniawndrith i'th rwyd
Diwyd wyd, da dy waith;
Dos thagod mewn mawrglód maith,
Gwiw wir olau gyrreilwaith.
Bydd oen er dy boen i'r byd hoffweddlwys,
A bydd ffyddlon hefyd:
Cei o'r diwedd hédd o hyd
Bywiol a choron bywyd.
Elis Anwyl.

Y Llyfr At y darlleydd.

Y Cymro, gwrando gywreindeb wastad;
Ystyr Tragwyddoldeb,
Ystyr feithrin ddoethineb,
Ystyr ni wna r wystr i neb,
Gwir styriaeth ffraeth, o'r ffrwythau gair Duw
Gorau dim i wrandaw;
Ystyriaeth, i dyst wiriaw
Oedd dda i ddyn ddydd a ddaw.
Ffordd hyfryd, a rhyd Angenrheidiol i fyw
I fywyd tragwyddol:
Ffordd i lu 'r Iessu rassol,
Hon a i nosawn yn ei ôl.
Fordd dda yn gyfa, ffordd i gyd iachus,
I ochel ffyrdd enbyd;
Ffordd heb gel dda i ddychwelyd▪
I fyrdd ceimion beillchion y byd.
Cerdd hon yn gysion, bydd gall gwyl y fan;
Gwilia fod yn angall▪
[Page]Na char un groesffordd arall
I ledio i fynd i wlad y fall.
Dedwydd a orfydd ei yrfa, ollawl
Allan or byd yma:
A chael nef i gartrefa,
Wyneb Tragwyddoldeb dda,
Yn fyw pagyfryw gyfran a drwsiach,
Gwna drosot dy hunan:
Ai'r sutt sy ngharchar Sathan,
A'i nofio i wlad y nef lan.
Dedwyddol foddol a fu a▪i gyffes
A gaffo feddannu,
Dragwyddoldeb Cydeb cu
Oes oesoedd yn llys Iesu.
Ystyr gadarn farn a fydd, ar penyd
Ar poenau tragwydd;
Flined pob afla wenydd,
Dan yr Haul gwna d▪enaid yn rhydd
Edrych yn fynych fannau, Cy wirdeb
Cordiad ysgrythy rau;
A Frydd Christ rhad da i gryffau,
Lle bo▪r nod llwybr eneidiau.
Pawb a bryn yddyn dda i adael yn daer
Mewn daiarol gartref:
Prynwch unionwch now nef
Yn iawn dragwyddoldeb nef.
Ystyriaeth dda cyn ei fedd i ddyn
I'w ddwyn i'r drugaredd;
Yn ddruch ir union fuchedd,
A gwir farn y gwr a sedd.
Ofna na phecha, ond ffo fyw ar fai,
Cofia 'r farn dragwyddol:
Hyd dy fedd bydd fucheddol,
A llath aur i eraill i'th ol.
Llwybrau or gorau a gerwch yw rhain;
Rhinwedd edifeirwch;
Adolwg arnyn deliwch,
I'w rhodio cyn llithro yn llwch.
Dod weithiau, oriau èuraid, a chalon,
A chwilia fi'n ddibaid;
A thyn yr hyn a fo rhaid,
O ddoethineb dda i'th enaid.
Canlyn fy llinyn y darllennydd mwyn,
O myni iawn grefydd,
Ag fel gwlith y fendith fydd,
Accw fyth i'r cyfiethydd.
Wiliam Phylipp.

Ar y llyfr hwn o ystyriathau ar Dragywyddoldeb.

CRistnogol, deddfol, bob dydd yn wastad
Sy 'n ystyr yn y wir ffydd;
Tragywyddoldeb cydnebydd
Tragwyddol yn fywiol fydd.
Gwnai faith dduwiolwaith yn ddilys o'i fryd
I frydain llei dengys,
Yn llawn llwydd mewn llan a llys
Les lawer Elis Lewis.
Tragwyddoldeb, neb yw iawn wybod byth
I mae yn fawr ei adnabod;
Tragwyddol ddwyfol ddefod
I dragwyddol nefol nôd;
Yn uniawn waith o ddoethineb dda
Erbyn dydd i attebi
O Dduw Ner a edwyn neb
Dduwiol daith Tragwyddoldeb!
Gweithred dyn synied gre ynol, hwnt yw;
Nid da un amserol▪
Gwaith Mab Rhad ni ad ni yn ôl
Gweddi rhag Tan tragwyddol.
Ystyr yn bybyr er byw yn dragwyddol
Nod haeddol i't heddyw:
Ystyriaeth odiaeth yd yw,
Ystyr ddoeth ystyr dda yw.
Gruffydd Phyli [...]

Rhybudd i'r darlleydd gyda mawl i'r cyfieithydd.

POb enaid gwiwraid, a garo fyw yn hir
I fwynhau dedwydd▪dro;
[Page]Darllenned cad wed mewn co▪
rhyn o dasc hen a'i dysgo.
Os hen aniben yn ol y cledfyd
Cael adfyw'n dragwyddol;
Hwn a dwysa rhedfa rhôl
Un i fawredd anfarwol.
Dysc [...] hwylfa wiw haelfaeth iechyd.
[...] hir farwolaeth:
[...] daw cur fraw caeth
[...] gas hwyr ufferngaeth.
Ti Elis Lewis i'r wlad a roddaist
Arwyddion o'th gariad:
Pa un yn rhoi poen yn rhad,
Trael lawer trwy oleuad.
Cyfieithiad, troad i'r truau gymro▪
I gymryd dysc burlan:
Hyfforddiad goleuad glan,
O dywyllwch du allan.
Nid gostyngiad gwad gwenedydd eiliaith
Ei alw yn gyfieithydd▪
Ond parod glod y gwledydd,
A Thal Duw Dad rhad rhydd.
Edward Morris.
Cynhwysiad y llyfr hwn
Yr ystyriaeth gyntafSydd yn hyspysu pa beth yw Tra­gywyddoldeb. 
Ben. I.Y Bennod gyntaf o'r ystyriaeth hwn sydd yn cynnhwyso, pa beth a dybiodd gwyr yr am­seran gynt o Dragywyddol­deb: ac pa fodd y darfu iddynt ei gynnyrcholi.Pag. 5.
Ben. II.Dattod yr ydys yn yr ail beanod o'r ystyriaeth hwn, feddwl ac amcan dir­geledig yr yscrythûr.17
Ben. III.Y drydydd bennod o'r ystyriaeth hwn, sydd yn dangos pa ham yr ydys yn galw mangre Tragywyddoldeb yn drigfa.23
Yr ail ystyriaethSydd yn dangos ym mha bethau y mae naturiaeth yn cynnyr­choli Tragywyddoldeb.29
Ben. I.Y Bennod gyntaf o'r ystyriaeth hwn sydd yn dangos pa bethau ynt dragywyddol yn uffern.33
Ben. II.Yr ail bennod o'r ystyriaeth hwn sydd yn dangos pa ham y mae uffern yn dragywyddol.39
Ben. III.i Y drydydd bennod or▪ ystyriaeth hwn sydd yn cynnhwyso cynnhyrfia­dau eraill i'r ystyriaeth ar dragywyd­doldeb, gwedi eu tynnu allan o natu­riaeth.44
Y trydydd ystyriaethSydd yn dangos ym mha beth yroedd yr hen Rufeiniaid yn cyfleu eu tra­gywyddoldeb yn bennaf.51
Ben. I.Y Bennod gyntaf o'r ystyriaeth hwn sydd yn dangos, Mor bell yr oedd [Page] y Rhufeiniaid yn crwydro oddi wrth wir ffordd Tragywyddoldeb.66
Ben. II.Yr ail bennod o'r ystyriaeth hwn sydd yn dangos ffordd well i Dragy­wydoldeb, na'r gyntaf yr oedd y Rbu­feiniaid yn ei dilyn.76
Ben. III.Y drydydd bennod o'r ystyriaeth hwn sydd yn dangos fod yn rhaid ymofyn am ffordd Tragywyddoldeb yn ddyfal ac yn ofalus.90
Y pedwaredd ystyriaethSydd yn dangos, pa sut yr oedd Da­fydd sanctaidd yn myfyrio ar dra­gywyddoldeb; a pha sut a dy­lem ni ei ddilyn ef.103.
Ben. I.Y Bennod gyntaf o'r ystyriaeth yma sydd yn cynnhwyso amryw ry­buddion i feddwl am Dragywyddol­deb.109
Ben. II.Yr ail bennod o'r ystyriaeth yma sydd yn dangos, fod Tragywyddoldeb yn myned o'r tu hwynt i bob nifer o gy­frifyddiaeth.113
[Page]Ben. 3.Y drydydd bennod o'r ystyriaeth yma sydd yn dangos, pa affaith a ffrwyth sydd yn tyfu allan o'r ystyri­aeth ar dragywyddoldeb.121
Y Pummed ystyriaethSydd yn dangos, y modd y darfu i eraill; ie gwyr drygionns eu hunain fyfyrio ar dragywyddodeb.129.
Ben. I.Y Bennod gyntaf o'r ystyriaeth yma sydd yn cynnhwyso cymmharia­eth llafur dyn â phryf coppyn a'i gi­lydd.139
Ben. II.Yr ail bennod o'r ystyriaeth yma sydd yn yspysu, pa un yw 'r qwestiwn goreu yn y byd.245
Ben. III.Y trydydd bennod o'r ystyriaeth yma sydd yn dangos, fel y mae Duw yn cospi yma; mal y dichon ef arbed yn ol hyn: yn yr hon y mae siampl ry­fedd o hynny, ni chlybwyd un amser agos son am ei chyfelyb.250
Y Chweched ystyriaethSydd yn dangos i ni fel y mae yr ys­crythur sanctaidd yn ein dysgu ni mewn llawer o fannau, i fy­fyrio ar Dragywyddoldeb.157
Ben. I.Y bennod gynt af o'r ystyriaeth yma sydd yn cynnhwyso attebion y Tadau sanct­aidd, ar eglwys ynghylch hyn yma.160
Ben. II.Yr ail bennod o'r ystyriaeth yma sydd yn rhoi tystiolaethau eglur o'r yscrythur sanctaidd ynghylch Tragy­wyddoldeb.178
Ben. III.Y drydydd bennod o'r ystyriaeth yma sydd yn dangos, nad ydyw y by­wyd yma, mewn golygiad i'r hwn sydd i ddyfod, ond fel defnyn wrth y mor mawr, graienyn wrth y tyfod ar lan y mor, canolbwynt wrth y cylch, ychydig amser bychan, bychan igyn, munud wrth Dragywyddolaeb. A dio­ddefiadau y bywyd yma ynt gyffelyb, mewn golygiad i'r llawenydd sydd i ddyfod.185
Y seithfed ystyriaeth.Sydd yn dangos, pa fodd y mae Christionogion yn paentio Tragywyddoldeb.201
Ben. I.Y Bennod gyntaf o'r ystyriaeth yma sydd yn cynnhwyso gwahoddiad Christ.206
Ben. II.Yr ail bennod o'r ystyriaeth yma sydd yn cynnhwyso galarnad Adda.208
Ben. III.Y drydydd bennod o'r ystyriaeth, hwn sydd yn cynnhwyso crewciad y gigfran.213
Yr wythfed ystyriaeth.Sydd yn dangos, pa fodd y dylei Chri­stionogion, nid yn unig edrych ar lu­nniau a phaentiadau Tragywyddol­deb: eithr dyfod adref i edrych o'i mewn eu hunain, a myfyrio yn ddifrifol ar y peth ei hun.217
Ben. I.Y Bennod gyntaf o'r ystyriaeth yma sydd yn dangos, nad yw Tragy­wyddoldeb [Page] yn torri ymmaith bob cyssur, ac esmwythdra yn unyg; eithr pob go­baith yn un wedd hefyd.245
Ben. II.Yr ail bennod o'r ystyriaeth yma sydd yn dangos, mai mor, neu dyfr-neidr fenyw dri-phenog a elwyd hydra yw Tragywyddoldeb: ond mae fe hefyd yn ffynnon o bob llawenydd.250
Ben. III.Y drydydd bennod o'r ystyriaeth yma sydd yn datgan trwy esampl wiw iawn ei chofio, mor felus a gwerthfawr yw blas Tragywyddoldeb.258
Y nawfed ystyriaethSydd yn cynnhwyso saith o ddiben. nau ynghylch yr ystyriaethau yma ar Dragywyddoldeb,279, 282, 285, 288, 290, 297, 301,
Ben. I.Y Bennod gyntaf o'r ystyriaeth yma sydd yn yspyssu y gospedigaeth o farwolaeth Tragywyddol.316.
Ben. II.Yr ail bennod o'r ystyriaeth yma sydd yn yspysû y gwobrwyo fywyd Tragywyddol.332
Ben. III.Y trydydd bennod o'r ystyriaeth yma syd yn cynnhwyso y dibenniad or cwbl.339

Ystyriaethaû AR Dragywyddoldeb.

Ye ystyriaeth cyntaf.
Sydd yn yspysu pa beth yw Tra­gywyddoldeb.

SImonides (gwedi i Hiero Brenin Si­cili ofyn iddo, Pa­beth oedd Dûw) y ddeisyfodd un diwrnod i ystyrio arno: ac ar ol nn diwrnod fyned heibio efe a ddywedodd na wydde efe etto, ag y ddeisyfodd ddaû ddiwrnod yn chwaneg etto i ystyrio arno ym­mhellach: [Page 2] ac ar ol y ddaû, efe a ddei­syfodd dri: ac i ddibennû, nid oedd un Atteb ganddo fe i'w roddi i'r Brenin o'r diwedd, ond hyn, mai pa mwyai myfyriai ar hynny, byddei iddo fwy yn wastadol ifysyrio: canyser pelled ir ym. drafferthei yn yr ymofyn, ym▪ mhel­lach oddi wrth yr hanes y byddei. Y peth sydd i ni i ystyrio yma arno yr awrhon, yw Tragyw yddoldeb: a'r ddadl gyntaf ac sydd yn ymgyn­nyg ei hûn i'n ystyriaeth ni yw, p'a beth yw Tragyddoldeb. Boetius sy'n dywedyd, mai cysan pherffaith fed. diant (oll ynghyd ac ar unwaith) yw or bywyd in bydd id do byth ddiwedd: ac na fydded i neb gymmeryd hynny yn ddrwg, pe dywedem nad ellir cael ei hanes, ac pa mwyaf i'r ymofynnom ynddo, mwy a sydd y gyfrgoll arnom yn ei ymofyn. Canys pa fodd y gel­lir terfynû hwnnw, yr hwn nid oes iddo na cyffinydd na thefynniad? os diria neb ryw un arnom in ym mhel­lach, a deisyfû i wascodi allan o'r lleiaf trwy ryw, perhon, eg ûrhad ty­wyll: ein atteb in yw, y gellir gwneû­thûr hynny yn hawsach trwy ddatgan yr hyn nid ydyw, yn hytrrach na 'r hyn yw; felly y mae Plato yn gwneû­thûr [Page 3] Dûw. Pa beth yw Dûw, med, def, hynny nis gwn Pa beth nid yw­hynny a wn. Felly y mae Augustin Escob Hyppo yn portreiadû y gwir wynfydedigrwydd hwnnw sydd yn y nefoedd, gan, dynnu ymmaith oddi wrtho hyd yn oed y meddwl am bob drwg. Gallwn ddychymmyg yn haw­sach, medd ef, pa beth nid oes yno, na pha beth sydd. Yn y nef nid oes na gofid, na thristwch, na phrinder, nac eisiaû, nachl syd, na marwolaeth, na neb rhyw ddrwg. Felly y gallwn ni ddywedyd am dragywyddoldeb. Oblegid nid Tragywyddol yw, pa beth bynnag yr ydym ni yn y bywyd hwn naill a'i yn ei weled a'n llygaid, neû yn ei dderbyn i'n synhwyraû eraill oddi allan. Canys y pethaú a welir, medd St Paul, sy tros Amser. ond y 2 Cor. 4. 18. pethaù ni welir sy Dragywyddol. O hyn pob dyn a ddichon ddywedyd, fy llawenydd yma, fy ni grifwch a'm hyfrydwch yma, fy nrhysor yma, fy urddas yma, fy uchelfawr wych adail yma y bywyd hwn o'm heiddo, ynt oll yn drangcedig, dim yn Dragywyddol: ni ddichon gwr ddangos dim na dderfydd am dano, ac nabydd iddo ddiwedd. Y gwerin diarwybod yn [Page 4] ddiaû a fydd arfer o ddywedyd yn y modd hyn, fe barhâa yr Adail-hon byth, neû am ryw weithred arderchog, byth bydd son am hyn: a'r gwr anoddefûs a sydd yn arfer o achwyn, nad oes di­wedd ar ei gospedigaethau: eithr y Tragywyddolderaû hyn byrrion jawn ydynt, a hawdd dichon gwr eû ham­gyffred mewn geiriaû: dywed a ellech am y gwir Dragywyddoldeb▪ nis gelli o lawer ddywedyd y cwbl. Felly y mae St Augustin yn dywedyd; dywedyd yr wyt ti am Dragywyddoldeb, beth byn­nag a fynnych: eithr o herwydd hyn yr wyt ti yn dywedyd beth bynnag a fyn­nych, oblegid na fedri ddywedyd y cwbl, dywed a fynnych eithr am hynny mae yn angenrhaid i ti ddywedyd rhyw beth, fel y gellych di gael rhyw beth yn wastadol i feddwl yr hyn ni fedri dywedyd. Tristmegistûs sydd yn dy­wedyd, mai 'r enaid yw Terynudd amser, a Tragywyddoldeb: canys, gan ei fod yn anfarfol, mae efe yn gyfrannog o Dragywyddolbeb: ac o rân ei anadlû gan ddûw i'r corph y mae fe yn gyfran­nog o amser. Eithr cyn i ni fyned ddim ym mellach rhagom, er mwyn Trefn daliwn sûlw pa peth yr oedd [Page 5] gwyr yr amseroedd gynt, Rhûfeiniaid, Groegiaid Aiphtiaid ac eraill yn ei dybied O Dragywyddoldeb. Canys yr oeddynt yn cyfaddef ei fod, yn ddi­ammeu, ac yn ei argruphu lawer ffordd.

BEN. I.
Y bennod gyntaf yma sydd yn cynhwyso pa beth a dybiodd gwyr yr amseraû gynt, o Dragywyddoldeb, ac pa fodd a darfu iddynt ei gyn­nyrcholi.

YN gyntaf oll, darfû iddynt gyn­nyrcholi Tragywyddoldeb trwyfod rwy, neû gylch, i rhai nid oedd na dechreû na diweddid dynt, yr hyn sydd yn unig yn briodol i Dragywyddoldeb Dûw am hynny gan weled sod Dûw yn Dragywyddol, a'i barhâad yn briodol▪ a elwir Tragy­wyddoldeb, yr Aiphtiaid a arferetar wy­ddoccaû Dûw trwy Glych, a'r Persiaid a dybient i bod yn gwneuthur yr An­rhydedd pennat i Dduw, pan escyn­nent [Page 6] i ben y Twr uchaf i'w alw ef Cylch y Nesoedd. Ac ym mysg y Twrciaid i'r oedd defod (fel y mae Pieriûs yn athrawiathû yn gyflawn helaeth) i lefain bob bore oddi ar Dowr uchel, (Dúw oedd erioed, Dúw a sydd byth) ac yno cyfarchent wellJosh. 3. 16. yw M. homet. Y Saracenniaid he­fyd oedd yn arfer o alw Dúw Cylch. Mercurius Trismegistus, dywedodd mai peth Cyfrgrwn nad ellyd ei Amgyffred oedd Duw, Cenolbwynt yr hon oedd ym Eccl. 20. 12 mhob man, a'i hamgylchedd yn un lle. Obleg d nad ellir Terfynu Mawi hydi ac anfei-drolder Dûw yn un lle. Byddei y' rhai gynt o ran yr achos hwn yn adeiladu Temlaû o ran y­stym yn grynnion. Nûma Pompili­us a gafodd y gan o gyssegrû Templ gron felly yn Rhûfain i Vesta Au­gustus Caesar yn enw Agrippa a gy­ssegrodd Deml gron o'r gyffelybl i'r holl Dûwiaû, ac a'r henwodd hi Pan­theon. I hyspysû Tragywyddoldeb Dūw; Pythagoras, oedd yn dysgû i'w ysgolheigion ei addoli ef fel hyn, gan droi eû Cyrph o amglch yn grwn: ac yr oedd cyfraith am hyn, gwedi ei gwneüthúr trwy Numa (fel y mae Brissonius yn tystiolaethū) [Page 7] ddwyn ar gof i rhai a fyddei ar fedr addoi Dûw; droi cû hûnain o am­gylch yn grwn. Gan hynny Cylch yw Dûw, yn ol y rhai gynt; eithr Cylch heb amgylchedd na gogyl­chedd, cenolbwynt yr hwn sydd ym mhob lle: O herwydd mai 'r dechreû a'r diwedd o bob peth yw Dûw. * Job sydd yn llefain yn jawn ar hyn­ny, Wele mawr yw Dûw, ac nid adwa­esom Job. 36. 26 ac in fedrir chwilio allan nifer e flynyddoedd ef.

Drachefn, darfû iddynt gynnyr­choli Tragywyddoldeb trwy Bel a Globyn. Am hynny yr oedd gan Faûstina yr ymmerodres arian gwedi eû bathû yn ôl y dûll a'r Argraph hwn; Globyn oedd, ar yr hwn yr ei­steddai yr Ymmerodres yn ystyn allan y naill law, ac yn y llall yn dal Te­irnwialen ā'r Argraph hwn, TRA­GYWYDDOLDEB. O hyn i doeth, fod llawer o rhai gynt yn meddwl fod y byd yn Dragywyddol, oblegid i fod of yn grwn: St Basil sydd yn Atteb i rhain yn ddigon cym­mhesùr, bydded medd of, mai Cylch yw 'r byd, eithr dechreúad y cylch yw 'r Ce­nolwynt.

[Page 8]Yn y trydydd lê fe ddarfu iddynt gynnyrcholi Tragywyddoldeb trwy Eisteddle: Trwy yr hyn yr oeddynt yn arwyddoccaù Gorphywysdra tra­gywyddol. Y Nasomonniaid rhyw bobl o Affrica, fyddent y rhan fyny­chaf nid yn unig yn anadlù allar eù ftûn ddiweddas yn eisedd ar eisted­dle; eithr a ddeisyfent hefyd gaeleù claddù yn ol y gosodiad hwn; megis y pryd hynny yn darfod iddynt o­ddiwes Tragywyddoldeb, a hir seib­ant oddi wrth eu Trafferthion oll: Megis yr ydys yn cael yn y dyddiau hyn yn llawer o fannau frenhinoedd ac Ymmerawdwyr yn eistedd ar ei Heisteddleoedd mewn Selerau tan y ddaear, mewn distawrwydd a ma­wrhydi trist. A'r Rhufeiniaid oedd yn arfer a'r cyffelyb beth, o gynnal i fynu felly yn eistedd ar Eisteddleoedd y delwau tawdd o goffadwriaeth am eu Ymmerawdwyr meirw: Megis y pryd hynny yn cael y mwyniant o Dragywyddoldeb: rhai sydd, a ymre­symmant yn fynych a hwy eu hunain yn y modd yma: Wele, daliwyd a gwasgwyd fi yn hir o amser gan ofalon a thrafferthion: Eithr paham na chym­meraf i bellach beth seibiant? Pa ham [Page 9] nad ydwyf yn gwneuthar rhyw gyfr­wng? Pa ham nad ydwyf yn gorpywyso oddi wrth fy nrafferthion? fe dda [...]f [...] [...]m ymdrafferthu yn ddigon hir ddigon hyd­ded i rai eraill gymmeryd cymmaint o drafferth ag a gymmerais i, o'm rhan i bellach mi a orphywysaf, ac a gymmeraf fy esmwythdra. Fel hyn maent yn gosod i fynu eu heisteddle­oedd, ac yn addaw iddynt eu hunain ddyddiau o Orphywysdra: Eithr och! ni pharhaant hwy nemmawr. Gosod y maent i fynu eu heisteddle­oedd, a chofleidio eu Gorphywysdra: eithr nid yn ei Amser na'i le' ch­waith. Oh! Mor eirwir a chrefyd­doi y mae 'r llyfr euraid hwnnw o Ymddllynni ad Crist yn rhoi i ni dymmhygiad yn y glust yn y geiriau hyn, Tris [...]a a rheola bob peth yn ol dy ewyllys dy hun, a thrachwant dy lygaid; ac ni fydd i ti er hynny gael byth, ond bod yn gorfod dioddef bob amser ryw beth neû ei gilydd naill a'i o'th fodd, neu o'th anfodd ac felly cei flinder yn wastadol. Blinder a Merthyrdod oedd holl duchedd Crist: ac ydwyt ti yn ceisio gorphywysdra a difyrrwch? am hynny rhaid i ni osod ein Eisteddle­oedd i fynu yn y nefoedd ac nid yma; [Page 10] canys ymmysg cymmaint o flinderau ac sydd yma, nid allant hwy byth se­fyll yn llonydd: Apha byddei i'r holl bethau eraill eu harbed hwy, er hynny marwolaeth a'i dymchwel o'r diwedd. Nid oes i ni ddisgwyl un gwir orphywysdra, ond yr hwn sydd yn Dragywyddol. Eithr os oes yn y bywyd hwn neb ryw orphywysdra, hyn yma yw, i w'r Oochymmyn ei hûn, a'r cwbl sydd eiddo i ewyllys Dûw; i roi ei hyder a'i ymddiried oll ynddo ef: ac i gyfrif y pethau eraill oll heb law hynny, yn wagedd. Felly a dysgir ni yn Ecclesiasticus, * Crèd i'r Argl­wydd, ac aros yn dy boen, heb y gorphy▪ ­wysdra hwn i'r enaid gwir flinderau yw 'r pethaû eraill oll, gwir fôr o don­naû tymmheslog; a gwir bresennoldeb uffern. Eithr mi a ddichwelaf at y rhai gynt.

Yn y pedwaredd lê; fe ddarfu id­dynt gynnyrcholi Tragywyddoldeb trwy yr Haul a'r Lleuad. Ymad­fywio y mae 'r Haul bob dydd, er i fod ef mewn golwg beunydd yn marw; ac yn cael ei gladdu, codi dra­chefn yn wastadol y mae fe, er i fod ef bob nos yn ymachluddo, mae gen y Lleuad hitheu ei thwf ar ol pob C [...]l.

Yr haûl sydd yn ymachluddo;
ac yn codi byth yn gyfrdo.
A'r dydd beunydd yn cyfnosi:
ac yn gwawrio eilwaith inni.
Ein haul ni unwaith pan fachlûdo,
codi byth ni wna ar untro:
A phan gyfnoso dydd ein bywyd,
yn nas i ni, bydd byth bob ennyd.

Nos Dragywyddol yw hi yn uf­fern, eithr heb gwsg: nid ydynt yn cysgn yno o herwydd gysgu o honynt yma, lle y dylasent wilio: maent yn gwilio yno, o herwydd cysgu o honynt yma yn eu pechodau, mewn gwirio­nedd nid yn hir, eithr yn hwy yr oe­dd ynt ynewyllysso pa gallasent, ie yn Dragywyddol: eithr ym mhell yn y gwrthwyneb y mae gida rhai sydd yn y Nefoedd: canys goleuni diddi­wodd a lewyrcha allan i'r sein­tiau, a Thragywyddoldeb o amser: y mae gorphywysdra yno, y mae hyfry­dwch yno ar os hir flinderau a gwi­liadwriaethau.

Yn y pummed llè fe ddarfu iddynt gynnyrcholi Tragywyddoldeb trwy 'r Basilisk, yr hwn yw 'r ceiliowgsarph neu frenin y seirph, y mwyaf ei wen [Page 12] wyn o'r holl greaduriaid: ac efe yn unig o'r holl rai eraill nid ellir ei ladd a nerth dynol: ie y mae mor wenwynig, ag y gall a'i anadl yn unig ddifetha 'r llyssiau, a'i fod ef a'i chwithrwd yn peri i'r holl greaduri­aid eraill ffoi, ac yn peri i'r holl Adar cyn gynted ag i'r ymddangoso ddistewi yn ebrwydd. Aelianas sydd yn rhoi allan gwympo yn anialwch Affrica ryw anifail gwedi blino, a dy­fod o'r seirph ynghyd fel ped fai a wledd i ddifa 'r scerbwd: a darfod i ddynt ar ymddangosiad y Basilisc re­deg i gyd ymmaith, ac ymguddio yn y tyfod. Tvagywyddoldeb, pa'i un byn­nag a'i o lawenydd ai o boenau, ei gwttogi neu ei leihau nis gellir, llai o lawer y gellir ei gymmeryd ef ym­maith, neu ei ochel. Nid yw ryfedd chwaith, os y meddwl am dano yn unig a frawycha bawb ac sydd yn eu hiawn synwyr, diddiwedd yw trofeydd y Basilisc hwn: anfesuredig a diddir­wynedig yw ei dolennau a'i amgyl­chiadau. O ddraig ofnadwy! ga­dewch i ni droi oddi ar hyn tros dip­pyn bach attom ein hunain. Dig­wydda i wr weithiau pan ddisgynno [Page 13] iddo ei hun, a dattod yn rhydd ei gydwybod trwy gyfaddefiad, gael yn ei galon nythod seirph lawer a chy­fan nythlwythau o wiberod, ac ar hyn­ny a ryfedda lawer ynddo ei hun, gan ddywedyd, o ba le y doeth cymmaint gwenwyn i'm dwy fron? o ba le y do­eth cymmaint o nadroedd breision? cymmaint o bechodau gorthrwm mar­wol? O ba le y doeth cymmaint llu o genau goegion? o ba le y doeth cymmaint o feddyliau budron tra­chwannog? yr ydwyf fy hun yn ofni y cyfryw liosog ac adwythig nythl­wythau. Ond na ryfedda mi a ddan­gosa i ti yn rhwydd yr achos o hyn yma. Lle llaith ac heb drefn sydd yn chwannog jawn i fagu seirph. Wele gan hynny, dau achos sydd: lleithder y lle, ac esceulusdra y rhai a ddylent ei daccluso. Felly y mae yn enaid dyn: os ni a dreuliwn ein gofal oll ai y corph, yn cadw iddo fwythau, yn ei borthi a daintaithfwyd, yn ei bwyntio a gwleddoedd, ac yn ei fasweiddio a difyriwch: nid ellir amgen na chyfaddef nad yw 'r enaid ei anneddwr, yn meddu ei drigle mewn lle llaith; Angwanega yma [Page 14] ddiogi, ac esceuluso dyledswyddau du. wiol: Na fydded un amser ddim gofal am iechydwriaeth; bid y corph yn holliach; a hynny a fydd da gand­do; na fydded dim pris pa beth a ddi­gwyddo i'r enaid: bydded yn anfynych gwneuthur cyfaddefiad pechodau i dduw, ond mewn modd esceulus pan wnelir: am hynny pa ryfeddod yw, os oes lliaws o seirph, a phryfed gwen­wynig yn magu yno? Eithr (ô frawd da Cristianus) gad i'r Basilsc fyned i mewn i'th ddwyfron, hynny yw, y meddwl am Dràgywyddoldeb, ac di a ddealli yn y mann fod yr anifeiliaid gwenwynig hyn yn difangolli ym­maith yn ddioed. Cyfaddef yr yd­wyt fod dy galon yn or-llawn o'r na­droedd yma: am hynny Arwydd yw mai yn anfynych yr ydwyt yn meddwl am Dragywyddoldeb. Gan hynny gwellhaa, ac yn awr dechreu feddwl bellach am hyn yma rhyngot a'th di dy hun, Mai trangcedig yw yr hyn sydd yn difyrru, eithr yr hyn sydd yn fo­eni Tragywyddol yw.

Yn y chweched le fe ddarfu id­dynt amliwyo Tragywyddoldeb yn y modd yma. Y mae Ogof fawr er­chill: O amgylch hon mae neidr yn [Page 15] dorch, ac yn ei dolen, ymafaelyd y mae hi yn ei chynffon. Ac wrth yr Ogof ar y llaw ddeheu y mae gwr ie­uangc glan yn sefyll hyfryd ei wyneb pryd, yn dal yn ei law ddeheu fwa a dwy saeth, ac yn ei law asswy delyn. Yn union ymmin geneu yr Ogof y mae hen wr yn eistedd gyferbyn, ac yn dal sulw yn ddyfal ar ei nôd-lyfr: ac yn ol fel y bo symmudiad yr wy­bren nefol, neu 'r gwr ievangc sydd yn sefyll yn ei ymyt▪ yn ei addysgu, felly yr yscrifenna fe. Wrth yr O­gof ar y llaw asswy y mae gwraig wrei­gaidd, bwyllog, benllwyd yn eistedd, a'i llygaid yn wastadol ar waith. yngeneu 'r Ogof y mae pedair o ri­siau, yn uwch bob nn na'i gilydd▪ y gyntaf o haiarn, yr ail o bres, y dry­dydd o arian, a'r bedwaredd o aur: Rhyd y rhain y mae plant bychain yn rhedeg i fynu ac i wared ac yn chwareu, heb ofni y perigl o syrthio un amser. Dyna 'r paentiad, y med­dwl yw hyn. Yr Ogof sy 'n arwyd­doccau anamgyssi edrolder Tragywyd­doldeb. Y Neidr oedd yn dorch o'i hamgylch: yw Amser. Y gwr ievangc yw Duw: yn llaw yr hwn y mae 'r Nefoedd a'r ddaear, ac uffern: ar y [Page 16] ddaear ag yn uffern y mae saethau yr Arglwydd ynglyn; eithr yn y nef nid oes dim ond llawenydd a chanû Telyn. Yr hên wr yw tyngdefen: neû yn hyttrach yr hyn a ordeiniodd Dûw er pob Tragywyddoldeb. Y wraig wreigaidd, bwyllog, benllwyd yw Nat­túr. Y grisiaû, Amserau ac oesaú dosparthedig ydynt: Y Plant oedd yn rhedeg y grisiau i fynû ac i wa­red, a arwyddoccâant y pethau a greûwyd, yn enwedig dya; yr hwn sydd yn cellwair mewn Materon ie­chydwriaeth, yn chwareû ac yn gwat­wor yn union yn nrws Tragywyddol­deb. Och! Och! O ddynion mar­wol! fe ddarfu i ni chwareû yn rhy­hir ynghanol y peryglon hyn: yr y­dym ni yn agos iawn at Dragywyd­doldeb, ie wrth ei ddrws ef tra byddom ni byw: bydded i angeû ond prin cy­ffwrdd a ni, a Tragywyddoldeb a'n llynca ni yn ddioedy. Nid rhaid i Angeû gryfder mawr, neû ymladd yn hir i'n herbyn: yn taflû ni a wnai lawr yn wysg ein pennaû mewn mû­nûd, a'n treinglo ni i wared rhyd y grisiaû yma, i'r mor mawr, Tragywyd­doldeb. Chwi chwi y rhai sydd yn chwareû ar y grisiaû hyn, cymmer­wch [Page 17] eich cyngor attoch, a meddyli­wch am bob peth yn hyttrach na'g am Dragy wyddoldeb! a gellwch ysgat­fydd, naill a'i heddyw a'i forû gael eich trosglwyddo o Amser, i Tragy­wyddoldeb.

BEN. II.
Dattod yr ydys yn yr ail benod hō feddwl ac Amcan dirgeledig yr Yscrythur.

YN ôl pennod y Gwasgodiad a phaentiad Trag wyddoldeb, nid yw angh, faddas i'r Yscrythûr sanctaidd O wirionedd ganlyn. Pan fwriodd Nabucodonosor Brenin Babi­lon y tri Phlentyn o Hebræaid i'r ffwrn dan am ommedd ufûdd haû yw orchymmyn annûwiol; rhoed allan ddarfod i'r fflam ddyrchafu naw cu­fydd a deugain uwch law'rffwrn. Peth rhyfodd! eithr nid heb ei ddirgelwch. Pa beth a fesurodd undyn yn ddich­lyn ei huchder? a ym ddyrchafodd un­dyn a gosod llinin wrthi, i gymmer yd ei mesur hi yn uniawn? Ai naw cu­fydd a deugain yn union oedd hi, heb na mwy na llai? Pa ham nad deg a deugain? canys yn y modd yma [Page 18] y byddwn ni yn ar fer o fwrw nifer peth ar amcan: ugaw deg ar hugain, deugain, deg a deugain er bod y ni­fer beth yn fwy neu yn liai: ymmna yn y mann hyn, nid oes eisiau ond un o ddêg a deugain. Yn ddiau y mae dirgelwch ynddo, a rhyw feddwl cuddiedig. Y nifer o ddêg a deugain oedd yn arwyddoccau Blwyddyn y Jubili: eithr y flam­mau yn ffwrn tan uffern, er eu bod yn ymgynddeiriogi yn erbyn y corph a'r enaid: ac yn rhagori yn ddi­fesus holl ddialeddau y bywyd hyn: er hynny ni bydd iddynt byth gyr­raedd hyd ddêg a deugain, sef Blwy­ddyn gras a Iubili. Nid oes yn uf­fern un flwyddyn Iubili, na maddeu. ant, na diwedd ar ddialeddau. Yr awrhon, yr awrhon yw Amser y Iu­bili: Nid pob cant, neu ddeg mlhy­nedd a deugain: eithr pob awr a phob munud, yr awrhon un rhan awr a ddi­chon gael maddeuant yma: ni ddi­chon holl Dragywyddoldeb ei gael ar ol hyn, yr awrhon yw 'r Amser y gallwn ni gael mewn un diwrnod byr bychan faddeu i ni fwy o ddyledion, nac yn yr holl flynyddoedd, a'r Am­serau ar ol hyn yn nhan uffern.

[Page 19]Angwanegwn yma Eglurhaad a­rall o'r yscrythur sanctaid: Pan oedd pobl dduw yn myned trwy'r Jorddonen (a) y dyfroedd y rhai oedd yn desgyn i for yr anialwch (yr hwn a elwir yr awrhon y Marwfor) i ddarfuant, ac a dorrwyd ymmaith. A hyn a ddywedir yn Ecclesiasticus, (b) y mae a bryno lawer am ychydig. Y ddau dystiolaeth yma or yscry­thur, y mae Galffryd yn eu huno yn­ghyd, ac yn ymresymmu arnynt fel hyn: os chwerwedd Tragywyddol sydd i ti yn ddyledus, a gallu o honot ti ddiangc trwy archwaethu o'r am­serol, prynu a wnaethost ti yn ddiau lawer am ychydig. Cyfaddef yr wyfi, mai mewn Mor yn ddiau yr wyt ti yn hwylio, eithr er hynny mewn Marwfor: ag mor fawr yr ydwyt ti yn rhwymedig i roddyi diolch i Duw, yr hwn, gan ddarfad i ti haed­du cael dy ddymchwelyd yn y môr hallt, anfordwyawl, a rhuadus, diod­defodd o'i fawr drugaredd tu ag attad yn hyttrach i ti hwylio yn y mar­wfor: O fendigedig gyfnewid!) fel y gellit ti felly drwy'r Marwfor, fy­ned i dir y rhai byw! yr yscrifennudd yma sydd yn cyffelybu adfydwch y by­wyd [Page 20] yma ôll, i'r marw-for, a dialed­dau Tragywyddol i'r môr hallt, an­fordwyawl; ni ddichon un gwr yn y byd ddiangc rhag y ddau: rhaid iddo hwylio yn un o honynt. Llefain y mae St Chrysostom, O ddyn! Pa beth yr ydwyt ti yn ei wneuthur, a'i yngh­ylch dyrchafu i fy nu i'r Nefoedd yr wyt ti, ac ydwyt ti yn gofyn i mi pa't un a wna a'i bôd neb ryw anhawsder ar y ffordd a'i nad oes? Beth byn­nag a wnelom trwy'r marwfor yma y mae yn rhaid i ni fyned: a gallwn o's minnwn ddyfod i hafn llonydd­wch a Thragywyddol wynfyd. Gair Dûw gorûchaf yw ffynnon doethineb, a'i ffyrdd hi yw y gorchymynion Tragy­wyddol. Nid oes trwy'r Marw-for hwn un ffordd arall i fyned i wlad rhai byw, ond stordd gorchymynion Duw. Mae gennym ni am hynny fan eglur iawn o'r yscrythur (b) Os ewyllysi fyned i mewn i'r bywyd, gadw 'r gorchymynion: dyna'r unig ffordd i Dragywyddoldeb. Os digwydda i wr ofyn i difeinydd o'n hamsery ni, y qwestiwn hwn, Pa beth yw Tragy­wyddoldeb? byddei ei attab ef, Mai chylch yw yn rhedeg yn ol iddo ei hun, Cenolbwynt yr hwn sydd bob ffordd, [Page 21] a'i amgylchiad yn neb ryw lê; hynny yw i'r hwn nid oes diben. Pa beth yw Tragywyddoldeb? Globyn yw yn grwn boh ffordd, ac yn gyffelyb iddo ei hûn; i'r hwn nid oes na dechreû na diwedd. Pa beth yw Tragywyddoldeb? Troell yw.

Troell yn troi, a hynny yn ddinam;
Troell a drodd erioed yn gyfan:
Troell yn troi yn hylaw felly,
Troell ni pheidia byth a hynny.

Pa beth yw Tragywyddoldeb? Blw­yddyn yn chwyldroi o Amgylch yn wastadol, yr hon sydd Drachefn yn troi i'r unr hyw Bannod, o'r mann y dechreuodd hi, ac yn troi yn wasta­dol o amgylch drachefn. Pa beth yw Tragywyddoldeb? Ffynnon byth re­degog yw, llê mae yr dyfyoedd ar ol llawer o drofeydd yn llifeirio Dra­chefn yn i hôl, fel y byddo iddynt li­feiro o byth. Pa beth yw Tragywyd­doldeb? byth fywiol darddelliad yw, o'r hwn y mae dyfroedd yn lleifeirio yn wastadol: naill a'i dyfroedd Tra­melus, moliant, a bendith: neu ddyfroedd trachwerw: melldith a rheg. Pa beth yw Tragywyddoldeb? Llê dyrys yw, i'r hwn y mae aneirif o groesdroiau [Page 22] a bachdroiau, y rhai sydd yn arwain o amgylch yn wastadol y rhai elont i mwn: gan eu [...]dwyn hwynt o drofa i drofa, ac yn eu cyfrgolli hwy felly. Pa beth yw Tragywyddoldeb? Pwll diwaelod yw, trofeydd ac ymdrofeydd yr hwn ynt ddiddiwedd. Pa beth yw Tragywyddoldeb? Neidr yw, gwedi ei chrymmu yn ol ynddi ei hun yn ddolen, yn dal ei chynffon yn ei safn: yr hon yn ei phen ol sydd yn de­chreu drachefn, ac byth ni phaid a dechreu Pa bêth yw Tragywyddoldeb? Parhaad yw bob amser yn bresennol, un dydd yw, cy fan diddiwedd: yr hwn nid ellir ei rannu i'r hyn aeth heibio, nac i'r hyn sydd i ddyfod. Pa bêth yw Tragywyddoldeb? Oes oesoedd yw, fel y mae Dionysius yn dywedyd, ni dderfydd byth: Eithr yn gyffelyb iddo ei hun bob amser yn anghyf­newidiol. Pa beth yw Tragywyddol­deb? Dechreuad yw heb ddechreu­ad, canol heb ddiwedd. Dechreuad yw yn parhau, heb ddiweddu un am­ser, yn dechreu bob amser: yn yr hwn y mae 'r Bendigedig bob amser yn dechreu Bywyd bendigedig, ac yn orllawn bob amser o newyddaidd ddifyrrwch: Ac yn yr hwn y mae­r [Page 23] Melldigedig yn marw bob amser, ac ar ol pob marwolaeth ac ymdrechiad a marwolaeth, yn dechreu marw ac ymdrechu drachefn a marwolaeth yn wastadol. Cyhyd ac y bo Duw yn dduw, cyd a hynny y bydd i'r Ben­digedig fod yn fendigedig: cyd a hyn­ny y bydd idd ynt deyrnasu a gorfo­leddu: a chyd a hynny y bydd i'r melldigedig hefyd ffrio yn uffern, a llefain: Yn dirboeni ni yr ydys yn y fflam hon, gan ein bôd i'n dirboeni ac i'n arteithio byth yn wastadol.

BEN. III.
Y Trydydd bennod yma a ddengys, pa ham yr ydys yn galw mangre Tra­gywyddoldeb yn Drigfa.

IOan Padriarch Alexandria gwr bu­cheddol a duwiol iawn y fyddei yn fynych yn arfer ofyned i ymwelied ar claf: ac am ei gydymmaith efe a gymnerem Troilus, Escob, yr hwn oedd yn gofalu mwy am ei arian nag am y claf, ar ryw ymweliad, y Pa­driarch a fiodd yn ei glust ef, gan ddy­wedyd, [Page 24] fy mrawd bydded i ni (yr y­dwyf yn dymuno arnat) roddi ym­wared i anwyl ddynion Crist: Troi­lus yn gyffelyb i gydymmaith cy­frwys gan gelu clwyf ei feddwl, nid amgen na'i gybydd dod: a barodd ar hynny i'w weision roddi cymmaint (ag oedd ganddo o arian y pryd hyn­ny o'i amgylch i brynu pethau era­ill a hwynt) i'r tlodion. Yn o fuan ar ol hyn fe ddigwyddodd iddo o achos ei gybydd dod syrthio mewn Cryd: Padriarch Alexandria yn cly­wed hynny, a ddychymmygodd yn hawdd yr Achos o'i glefyd ef, ac aeth i'w edrych: gan ddwyn gidag ef cym­mant o arian, ac y roesef er ystalm o'r blaeni'r claf: ac ar ôl ymddiddan ag ef, ychydig: efe a ddywedodd fel hyn: nid oedddwn ni ond cellwair athi 'r dydd arall: pan ddymunais arnat roddi rhyw beth tu ag at gynheiliaeth y claf: o ran nad oedd gan fy ngwas i ddim arian o'i Amgylch. Eithr e­drych yma, myfi o ddifrifwch calon yn talu i ti yn ôl yr arian y roddaist ti allan er fy mwyn i: a chennif i ti ddiolch am hynny. Pan welodd Troilus yr Arian gwedi eu cyfrif, ei gryd ef a ddechreuodd ei adel, a'i [Page 25] wres dofi, a chael ei hun yr oedd ef ym mhôb man. Yn well o lawer: efe ar hyn yma yn clywed ei hun yn cryfhaû, a gododd i fynû, ac y eisted­dodd ar y bwrdd i giniawa. Pan ddarhû ciniaw, a diosg y bwrdd, efe aeth i gysgû ynghylch hanner dydd, a chymmerodd yn hynaws ei esmwy­thdra: ac a freûddwy dioedd i fod yn gweled Adail fawrwych iawn, ac ar ei hwyneb uwch ben y drws yr Ar­graph hwn, Trigfa, a lle i Escob Troilus i orphywyfo yn Dragywyddol. Y Breû­ddwyd hwn oedd yn gwneûthûr iddo lawer iawn o ddifyrrwch. Eithr fe fû iddo yn ô fûan ar ol hynny wele­digaeth arall: a honno a'i trallododd ef. Canys doeth un allan a chyfe­illion o weithwyr gidag ef, a rhoed iddynt hwy Orchymmyn caeth, gan ddywedyd, Dileûwch yr Argraph yna▪ a rhowch hon ymma yn ei le, Trigsa a Lle i Joan Archescob Alexandria i Orphywyso yn Tragywyddol, yr hwn a brynodd ef am ddeg pûnt ar húgain. Y Weledigaeth hon a roes ynddo fraw mawr: Eithr er hynny ef a wnaeth fwyniant godidog o honi. Canys efe yn y man, O w'r caled tra­chwannog, a brifiodd yn hael, ac yn [Page 26] syberlan garedig, yn enwedig tû ag at y rhai a fyddei mewn eisiaû. Y Breu­dd wyd yn unig o'r Trigfa Tragywyd­dol a ffynnodd gidag ef cystadl a hynny.

Eithr ô chwi yn hyttrach fendige­dig drigfannaû, ac am hynny yn fen­digedig, oblegid yn Dragywyddol Oh! fel y mae Crist allan o fûfur yn ch­wennych i ni ffieiddio a gwrthod ein Pabellau, a'n Teiau adfeiliedig yma: a phrysuro a dirfawr awydd i'r Tra­gywyddol drigfannau hynny! Yn Nhy fy Nhâd, medd ef, y mae llawer o Drigfannau. Nid oes neb yn cadw dyn oddi wrth y fan honno, ond efe ei hunan. Nid yw 'r lle yn cau neb al­lan: oblegid helaeth allan o fesur yw. Ni chau Amser neb allan: ca­nys y mae Trigfa a'r Trigsa hwnnw yn dragywyddol.

GWEDDI.

O dragywyddol a Thrûgaroccaf dad O Dragywyddol wirionedd, O wir serch, O Dragywyddoldeb cariadus iachaû felly ein dallineb ni, fel a gallon ni yma trwy ofidiaû presennol amser byr, wybod; Ac felly diangc rhag aru­thr [Page 27] ddialeddaû Tragywyddol yn ol hyn. Cyfarwydda, a dysg ni felly i feddiannû pethaû darfodedig ac amserol: Megis na byddo i ni o'r diwedd golli 'r pethaû Tragywyddol. Dysg ni felly i alaru am y pechodau a wnaethom: megis y gallom ddiange rhag cospe­digaethaû tragywyddol. Dysg ni felly ei ymddwyn ein hûnain yn nhy ein Pere­rindod: mal na byddys yn ein cau ni allan o'r tragywyddol drigfannau. Dysg ni felly i fyned ym mlaen yn y ffordd megis a byddo i ni gael ein cymmeryd o'r diwedd i'n gwlad.

Yr Ail Ystyriaeth AR Dragywyddoldeb.
Sydd yn hyspysû ym mha bethaû y mae Naturiaeth yn cynnyr­choli Dragywyddolbeb.

OHerwydd pa ham y dar­fu i'r addolwyr delwau nhwythau addef Tragy­wyddoldeb, y cyfryw ac ydoedd, a'i bortreiadu hefyd trwy rai arwyddion: canys Duw a'i heglurodd ef iddynt hwy, hyd onid ydynt yn ddiescûs: Rhuf. 1. 20. gan hynny pa faint anwylach, y dylei yr ystyriaeth o honaw sod ymmysg Cri­stionogion y rhai y mae Tragywyd­doldeb gwedi ei gynnyrcholi yn well ac mewn modd goleuach o lawer! [Page 30] O herwydd pa ham diescus, wyt ti ô ddyn, pwy bynnag wyt Rhuf. 2. 1. Yr hwn gan gofio Tragywyddoldeb i ti cyn fynyched▪ wyt yn ei ollwng ef tros gôf cynnifer gwaith a hynny; y mae gennitti yn aml yn dy olwg, ac o flaen dy lygaid, fodrwyau a Cyl­chau, Pelau, a gleiniau, Haul a lleuad: os deli di sulw ar yr un o'r rhain, nhwy a gofiant i ti Dragywyddol­deb. Naturiaeth hitheu fel mam dda, a'i cyfan roddodd hwy yngolwg pawb▪ fel pan welom hwy, a phan glywom son a'm danynt, y gallant ein gwahodd ni i fyfyrio at Dragywyd­doldeb.

Solinus sydd yn sôn fod maen yn Arcadia y elwir Ystinos yr hwn gwedi ei ynn yn unwaith a lysg yn wastadol: o herwydd pa ham yr oeddynt hwy yn yr amserau a fu yn arfer o wneu­thur o honaw Lampau i'r Temlau a'r Beddrodau: am yr hyn y mae St Au­gustyn hefyd yn son. Mi angwa­negaf fod Plini, Volaterrannus, Di­oscorides, a llawer eraill yn datgan gwrthiau dieithr mewn rhyw fath at Lin, yr hwn a elwir yn Gamberaeg, uracl.

[Page 31]Ni ddifa 'r tan mor Llîn hwn, eithr ei buro a'i lanwheithio a wna: o herwydd pa ham byddent yn arfer y pryd hynny ac o'r blaen; pan fyddei cyrph y Brenhinoedd meirw i'w rhoi yn tan i'w llosgi; o'i hamdoi hwynt a'r Lliain a wneid o'r llin hwn, i gadw eu cyrph rhag annhrefn ac i'w gwa­hanredoli hwy oddi wrth eraill. Gan Nero Ymmerawdr Rhufain yr oedd llawlia in o'r cyfryw Lin, yr hwn a gyfrifei yn fwy gwerthfawr nâc aur a meini gwerthfawr. Wele naturiaeth hithau fel Meistres yn dy dywys gerfydd dy law, ac yn dangos peth i ti nas gall y tan ei ddifa. Felly y bydd i rhai damnedigc oll yn llosgi, eithr byth ni chwbl losgant: Bydd iddynt wastadol losgi, eithr ni threu­liant byth: Nhwy a chwiliant mewn fflammau am farwolaeth, ethr ni chânt hi. Am hynny dywedyd y mae un yn cymmhesur iawn▪ Oh! Of id Tra­gywyddol yr hwn ni ddiwedda byth! Oh! ddiwedd heb ddiben! Oh! An­geu mwy gofidus, nâg angeu yn y byd, i farw bob amser; eithr nid i farw byth yn hollhawl! Felly y mae Isa­iah sanctaidd yn dywedyd, Eu tan ni ddiffydd byth: (A'r Angel yn y Dat­cuddiad), [Page 32] hwy a chwennychant farw, a marwolaeth a gilia oddi wrthynt.

Y dichon y Salamander (Pryf tebyg i'r Genaugoeg) aros a byw ennyd yn tan▪ y mae St Augustin ag eraill yn coelio y creadûr hwn oer iawn yw, a'r cafodydd sy 'n ei fagû: Haul a sychdwr Angeû ynt iddo: yn ol Plini gau hynny aros a wna fe yn y fflam yn gyffelyb i Bibonwy. O'i groen ef yr ydys yn gwneûthûr goleûadaû i lampaû a lysg yn Dra­gywyddol. Duw yr hwn a wnaeth y Salamander o ddaear ag o glai, a ddarfu iddo o'i addwynder ffurfio dyn, er o'r unrhyw ddefnydd▪ etto o naturiaeth mwy hynod a rhagorol▪ (b) efe a'i gwnaeth ef ychydig is na'r Angylion. Fe ddarfu idduw benno­di iddo a'r ôl y bywyd hwn gyfeillach yr unrhyw deyrnas a'r Angylion. Eithr dyn yn ei Anrhydedd oedd heb ddeall a chyffelybwyd ef i anifeiliaid a ddifethir. Efe a wnaeth ei hun yn gyfryw Salamander trwy ei falais, ac y bo yn rhaid iddo fyw bob amser, neu farw bob amser mewn Tragywyddol flammau. Tragywyddol yw bob peth yngharchardai tanllyd uffern; eithr yn enwedig y chwe pheth hyn.

BEN. I.
Y Bennod gyntaf yma sydd yn dan­gos, Pa bethau ynt Dragywyd­dol yn uffern.

1. MAe'r damnedig ei hun yn Dra­gywyddol, a marw ni wna; nid âll nêb wneuthur a'm dano ei hun, nac a'm arall▪ (a) byddant yn ceisio marwolaeth, ac nis cânt. Ië y deisy­fiad am farwolaeth yn unig, yn gym­maint ag na's gellir rhoddi iddynt eu deisyfiad, a chwanega eu poenau hwy yn ddifesur.

2. Y mae 'r carchardy yntef yn Dragywyddol; ni adfeilia byth, nid ellir ei fwrw ef i lawr byth: fe'i ca­ued i fynu â chreigiau ac â mynyd­doedd: y mae ei gloiau a'i sarrau mor siccr a chadarn, nas dichon neb ddyfod allan. Os oes trwy gen­hadiad Duw i'r un o'r damnedig ddyfod oddi yno allan o flaen dydd farn: fe ddygei uffern er hynny o'i amgylch yn wastadol, ac ni ddiangei byth rhag poenau.

3 Y mae 'r Tan yno yn Dragy­wyddol. [Page 34] Crist ei hun syd yn dy­wedyd yn eglur ym Mathew gym­maint a hynny; Ewch oddi wrthif rai melldigedig i'r Tan tragywyddol. ydwyt ti yn clywed y gair hwn Tragywyddol? digofaint yr Arglwydd sydd yn en­nyn y Tan yma, ac ni ddiffydd byth i'r hyn y mae Esay yn dyst, gan ddywedyd (c) Anadl yr Arglwydd megis afon o frwmstan, sydd yn ei ennyn ef; rhaid iddo losgi nos a dydd, (d) ac ni ddiffydd: ei swg ef syd yn myned i fynu yn oesoesoedd. Cospedigaeth tragywyddol a bywyd trag wyddol ynt bethau cyfattebawl, megis y mae St Augustin yn dywedyd, a'r pethau a font yn gyfattebawl, fyddant o gyffe­lyb barhâad: gan hynny i ddywedyd ni ddiwedda 'r bywyd Tragywyddol, ac i gospedigaeth Tragywyddol ddi▪ bennu, anghysson iawn yw. Am hynny pwy a oedai ei ymchweliad oddi wrth i bechodau.

4. Megis y mae 'r pethau a gryb­wyllwyd am danynt o'r blaen yn dragywyddol, felly y mae 'r Pryf, a'r poenus gydwybod gan ddwys ano­baith, o herwydd y fuchedd a fu. Eu Prys ni bydd marw: felly y mae Esay yn Prophwydo. Y Poetau neu 'r [Page 35] Beirdd gynt a drosglwyddodd, o'r yscrythur sanctaidd hyn y ma i'r chwedlau yr oeddynt hwy eu hunain yn eu gwneuthur: Canys Pa beth yw'r Tityus hwnnw am yr hwn y mae Virgil yn dychymmyg, fod ade­ryn rheipus yn cnoi ac yn dryllio ei Afu ef bob dydd, yr hon a adferyd ac a wneid o newydd drachefn bob nos, fel y byddei i'r Aderyn gael beu­nydd ychwaneg o ysclyfaeth i'w am­gnoi? Pa beth yw 'r vultur, ond y Pryf yr ydym ni yn son am dano? A pha beth yw 'r Afu, ond y Gydwybod gnofaus, a phoenus bob amser.

5. I'r Tragywyddoldeb hwn o eiddo uffern y mae 'r farn ddiweddaf he­fyd yn perthynu, a'r Ordinhâad ddi­weddaf a barablwyd trwy Grist yr Ustus; Ordinhâad (ysywaeth!) a­nalwedig, anghyfnowidiol, Tragywyd­dol. Os trwy enau yr ustus hwn y Parablir y farn unwaith: Nid oes mor Appelio oddi wrtho, sefyll a wna hi yn analwedig yn dragywyddol. Yn uffern nid oes neb ryw, na math yn y byd ar bridwerth am rydddid. ond anobaith Tragywyddol. Gwaed Grist pan oedd ef yn newydd dywallt ar fryn Golgatha, er ei fod ef o rym an­feidrol [Page 36] i wneuthur iawn, er hynny ni chyrhaeddodd ef y damnedig: Os yw iau yr Arglwydd, medd St Ber­nard, yn sau o ediseirwch, yr ydych chwi yn meddwl nad yw hi ynddi ei hun yn felus: eithr rhaid i chwi wy­bod hyn yma, i bod hi yn felus iawn, os hi a gymmliarir i'r Tan hwnnw, am yr hwn yr ydys yn dywedyd, (a) Ewch oddi wrthif rai melldigedig i'r tan Tragywyddol.

6. Dialedd neu benyd y golled (megis y maent yn ei alw) sy 'n Dragywyddol, o blegid ni cheir gwe­led Duw byth yno: O herwydd na ddichon fod yno le i wneuthur iawn. Canys er bod i'r dialeddau hyn bar­hau myrddiwnau aneirif o flynyd­doedd, er hynny ni bydd yno un diwrnod, Ie, nac un awr, na chym­maint ag un munud o esmwythdra, na chyfrwng gwedi ei ganiattau. Bydd yno amryw gyfnewidiad ar arteithiau, ethr i fwyhau eu poen a'i gofid: Crist a ragddywedodd hynny yn fynych mewn geiriau eg­lur trwy Fathew, (a) Plant y deyrnas a destir i'r tywyllwch eithaf; yno y bydd wylofain a rhingcian dan­nedd: yn wylofain o ran gwres, yn [Page 37] rhingcian o ran oerni. Gan hyn­ny pa fodd a dichon dyn fod mor anfeddylgar am dano ei hun a Duw? pa fodd a gallei ddirywio felly yn debyg i anifail? fe, yn hyttrach pa fodd y dichon ef fyned yn gyffelyb i graig, neu faen mor synn; ac pan fyd­do yn myfyrio ar anoddef boenau an nhraethadwy uffern, y rhai ni chant byth ddibennu, na Dychryno a chry­nu y pryd hynny: a dywedyd wrtho ei hun fel hyn, yr wyfi yn ddiammeu ar y ffordd i Dragywyddoldeb, ac nis gwn ni pa cyn gynted y gallafi ddyfod i ben fy siwrnai: Eistedd yr wyfi ar risiau Tragywyddoldeb, a phob gwth bychan sydd yn barod i'm taro i tan ddwfr y pwll diwaelod? Eithr os ymdden­gys hyn mor ofidus nas gellir ei od­def i wr orwedd ped fai ond tros un noswaith ar wely plu esmwyth, heb gysgu na chau mo 'i lygaid un am­ser ond ucheneidio a thuchan o rhan dolur o'i ben, neu o ryw aelod arall; o ran y ddannoedd neu r garreg: os ymddengys y nos yn hir, a llawer rhyngddi a dydd a chodiad Haul, ac etto fel y dywedais i, yn gorwedd ar wely plu da, a pha cymme­rei ond ychydig ymmynedd, efe [Page 38] allei obeithio cael esmwythdra pan ele hi yn ddydd, a help oddi wrth y Pysygwr. Och! Och! pa faint mwy annioddefadwy a fyddei hyn i or­wedd yn tân ddydd a nos, tros fil, a mil; a thrachefn meddaf, mil o fly­nyddoedd? Mor anwiw ei oddef a fyddei hyn, i wilio yno, i newynu, i sychedu, i losgi, i gael ei arteithio i'r eithaf ym mhob rhan, heb obaith un math ar esmwythdra, na chymmaint a defnyn o ddwfr oer: eithr bod mewn anobaith bob amser, ac felly i ffrio ag i gael ei arteithio tros fyrddiw­nau aneirif o oesau: ac i fod cyn bel­led oddiwith gael neb ryw ddiben, ac na ddichon ef obeithio am neb ryw ddiben byth! Yno Medd Tho­mas a Kempys, ybydd cospedigaeth un awr yn fwy gofidus, na dialedd cant yma o'r blynyddoedd trachwer. waf a allei fod▪ ni bydd dim esmwy­thdra, dim cysur i'r damnedig. O Arglwydd na cherydda fi yn dy lidiaugrwydd, ac na chospa fi yn dy lid. Na chofia bechodau fy iefengc­tid, na'm camweddau. Oddieithr iti O dduw drugarhau, fe dderfydd am danaf yn ddiammeu.

BEN. II.
Yr ail bennod yma sydd yn dan­gos, Paham y mae uffern yn Dragywyddol.

YMa y mae qwestiwn yn cyfodi yr hwn sydd yn rhyglyddu dyfod i wybodaeth pawb. Pa foddy dichon hyn fod, y byddei i ddûw yr hwn fydd yn dda, ac yn drugarog (Truga­garedd yr hwn sydd oddi ar ei holl weithredoedd;) gospi er hynny i gyd, Ie, un pechod marwol, ysgatfydd, gwedi ei wneûthûr mewn mûnûd, ac yn unig yn y meddwl: Pa fodd a byddei iddo fe meddaf, gospi y cy­fryw bechod, tros Dragywyddoldeb oll? a'i gospi felly, ag nu chospir mo­no efe fyth ddigon; ac er i fyrddiwn o flynyddoedd fyned heibio, er hynny nid ellir byth ddywedyd, fe gospwyd digon ar y pechod yma.

A ddarfû i ddûw am un pechod, a hwnnw yn unig yn y meddwl, or­deinio cospedigaeth o dan tragywyd­dol? Pa gymmhessûrdra sydd yn hyn yma, am bechod a wnaed mewn mûnûd, appwyntio Tragywyddol gos­pedigaeth? [Page 40] pa ham ynteu y mae Da. fydd fendigedig yn Ilefain, Clodforwch yr Arglwydd canys da yw O herwydd ei drûgaredd a bery yn dragywydd? A pha ham y mae Dafydd yn ail adrodd hyn chwegwaith ar hugain, os ydyw Duw mor dost a hynny? I hyn y mae St Augustin, Gregoria Thomas Aquinas ac eraill yn Atteb, 1. ym mhob pechod marwol fod y bai a'r Naturiaeth ei hun yn anfeidrol: o heiwydd i fol yn gamwedd yn erbyn mawrhydi anfeidrol Duw. 2. Dra­chefn yr hwn sydd yn marw yn euog o bechod marwol heb edifeirwch sydd yn gwneuthur cymmaint a phe buase yn pechu yn Dragywyddol: canys pe gallasei fyw yn Dragywyddol, pechu a wnaethei yn dragywyddol: ni chollodd ef ewyllys i bechu, ond bywyd i bechu ynddo; gan i fod yn barod, i be­chu yn wastadol, pe gallaser fyw yn wa­stadol: felly nid yw ef ya peidio a phe­chu, eithr peidio a byw y mae ef. 3. Mae hyn i'w ystyrio ym mhel­lach, nas dichon y dyn damnedig wneuthur iawn byth▪ er iddo dalu mwy na mwy: canys gan i fod ef yn Elyn, ac allan o flafr a Duw, nid yw [Page 41] ei daledigaeth ef gymmeradwy: gan weled nad yw ef ei hun gidag ef yn gymmeradwy. Ië, i ddywedyd y gwirionedd, nis gellir adrodd am dano dalu o honaw ef ddim: O herwydd nad ydyw yn gwneuthur dim, ond dioddef cospedigaeth, a hynny yn erbyn ei ewyllys. Ni a wnawn y matter etto yn eglurach trwy esampl gartrefol. Bwrw pa ben­thygiei wr gan ei gymydog fil o go­ronau, a gwneuthur ardreth ei dy iddo yn Dragywyddol i dalu 'r llog: byddei yn y modd yma iddo (ysgat­fydd) dalu yn ol mewn ugain mlhy­nedd cymmaint o arian ag a fenthy­giaei: eithr beth gwedi bynny? A ryddhawyd ef yn gwbl o'i holl ddy­lêd? Oes dim yn ol i'w dalu? Mae corph yr hawl etto mor ddyledus i'w dalu, a phed fuasei heb dalu dim un amser. Canys Natur y cyfryw echwynion yw hyn yma, mai er darfod talu 'r llog bob blwyd­dyn, fod corph yr hawl yn wasta­dol yn aros yn gyf n, ac yn ddyledus i'w dalu: felly y mae gida 'r damnedig: Canys er iddynt dalu mwy na mwy: [Page 42] er hynny nid allant fyth fyned allan o ddyled, dyledwyr yn wastadol ydynt, a rhaid iddynt fod byth. (a) Y cadarn a fydd fel carth, a'i weithûdd fel gw­reichionen: a hwy losgant ill daû yn­ghyd, ac ni bydd a'i diffodo. Sueto­nius syd yn rhoi allan am Tiberius Caesar, yr hwn wedi i ryw droseddwr wneûthûr dymûned atto i brysûro ei gospedigaeth, ac i ganiattaû iddo ddi­bendod yn fûan, roddi o honaw yr Atteb hwn iddo, Arhowch syr▪ nid ydych chwi a minneû etto yn garedi­gion. Barnwr thachyfiawn yw Crist, nid Gormesdeyrn, nid Tiberius, ac er hynny os byddei i'r un o'r damne­dig ar ol llosgi yn uffern fil o fly­nyddoedd, yn ymbil ag yn deisyf yn daer am farwolaeth yn fûan: efe a attebei yn yr un modd, Arhowch syr, nid ydych chwi a minneû etto yn garedigion. Os ar ol mil o flynyddoedd y chwaneg y gofynnei yr un peth iddo: yr un atteb a gae y pryd hynny, Arhowch syr'nid ydych chwi a minneû etto yn garedigion: Os byddei iddo ofyn drachefn ar ol ran mîl o flynyd­doed etto ym mhellach; ie, myrddiwn o flynyddoedd, yr un atteb a gae y pryd hynny hefyd, Arhowch syr, nid [Page 43] ydych chwi a minnû etto yn garedigion. Bû 'r Amser a darfû i mi gynnyg bod yn gar i't, ac ni fynnit: ie yn Dad ac ni fynnit. Mi a gynnhygi­ais i't fy ngras fil a mil o weithiaû; ond di a'i gwrthodaist. Mi a wyd­dwn hyn yn ddigon da, ac mi a de­wais, a disgwylais ym mhellach; ddeugain, deg a deugain, trûgain o flynyddoedd i edrych a newidit ti dy feddwl a threfn dy fuchedd: Ond ni' chanlynodd gwir a difrifol edifeir, wch. (a) Diystyraist fy holl gyngor i­ac ni fynnit ddim o'm cerydd. Cha­seaist adydysg, a theflaist fy ngeiriau i'th ôl. Am hynny ymbortha ar ffrwyth dy lwybraû dy hun a digoned dy gynhorion dy hûn di. Mi a chwarddaf yn dy ddinistr yn Dragywyddol: Ni bydd fy ngh y fiawnder iychwaith ar ol oesau aneirif iti un atteb ond hwn, Arhowch syr nid ydych chwi a min­neû etto ya garedigion. Oh Dduw yr hwn wyt yn y nefoedd! Oh be­chod yr hwn wyt yn taflu dynion yn wysg eu pennau i uffern! uffern o arteithiau, ac i'r pwll diwaelod o dragywyddol boen! ond yr ydwy ti yn gyfiawn, ô Arglwydd, a'th farnediga­ethau yn uniawm. Cyfiawn ac uniawn [Page 44] yw, i'r hwn ni fynnei trwy edifeir­rwch dderbyn trugaredd pan ei cyn­hygwyd, gael trwy gospedigaeth ei ddirboni, a chyfiawnder heb drugaredd byth.

BEN. III.
Y bennod yma sydd yn cynhwyso, cynnhy­rfiadau eraill i'r ystyriaeth ar Dragy­wyddoldeb gwedi eu tynnu allan o Naturiaeth.

EIthr mi e ddychwelaf yn ol ir ysgol Naturiaeth i ystyrio ym mhellach ar Dragywyddoldeb. Ffyn­nhonnau brydion ennaint a gafwyd mewn rhyw fynyddoedd, a chreigiau, dyfroedd y rhai wrth redeg sydd yn gwneuthur y cyfryw drwst a murmur, mal os y dynion clwyfus a fyddei yn cyrchu yno am adferiad, a wnaeth ond tybio yn eu meddyliau ar ei mynediad i mewn i'r ennaint, i bod hwy yn clywed offerau cerdd, a me­lys gan cyd gerdd, nhwy a gaent eu Clustiau o ran eu gwastadol drwst mor bwl, mal y byddei y gerdd yr [Page 45] hon oedd ar y cyntaf yn felus iddynt, yn prifio o'r diwedd, trwy fod tyb eu meddyliau yn gweithio ar hynny yn ffaidd jawn, ac yn boen eid­dynt, eithr oes tybient yn eu med­dyliau, bod yn clywed Tympan, neu ryw offer uchelsain arall, nhwy aent agos yn ynfyd o'r diwedd gan y trwst hwn bob dydd yn eu blino, ac yn eu trallodi. Oddi yma yr ydys hefyd yn ein tywys ni megis gerfydd llaw i ystyrio ar Dragywyddoldeb. Yr wylofain a'r cwynofain, yr ubain a'r nad yr hyn a glywir yn y myne­diad i mewn i enau uffern tan y my nyddoedd uffernol hynny ni pheidia byth: eithr a fydd yn dirboeni 'r damnedig yn ddiddiwedd; ac ni bydd i amser nac i hir ddioddefgarwch liniaru un gronyn arno. Either yn y gwrthwyneb i hynny y benigedig yn ddi ludded a gaiff glywed y Gan driphlyg, sanctaidd Sanct, Sanct, Sanct: ac er mynyched a clywant hi, je, eu difyrrwch hwy a fydd fwy fwy yn ei sain hi Crist yn ei ymddiddan a'r wraig o Samaria, sydd yn fynych yn sôn am dragywyddoldeb, a bywyd Tragywyddol. (a) Pwy byn­nag a yfo o'r dwfr a roddwifi [Page 46] iddo ni sycheda yn dragywydd: eithr y dwfr a roddwyfi iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr, yn târdddu i fywyd tragywyddol. Mi a ddymunwn pa sychedem ninneu gidâ 'r wraig o Samaria ar ol y dyfroedd hynny, a gweddio yn ddifrifol am danynt. (a) O Arglwydd dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf. Dyro i mi, O Crîst, ped fae ond un defnyn o'r dwfr hwn: (yr hyn yw) peth syched a chwant ar ol bywyd trogywyddol. Yn y flwyddyn yn ol genedigaeth ein harglwydd pedwar ugain ac un,) (mal y mae Suetonius, Dion a Plinius yr ail yn adrodd o'r helaethaf) (ar y dydd cyntaf o fis Tachwedd, yn­ghylch saith ar y gloch) ruthro o dan allan yn erwyn, yn y mynydd a Elwir Vesuuius o fewn campania: o flaen yr hyn. Y buasei gwres diei­throl, a daear grynfaoedd gofidus▪ Trwst hefyd a glywed tan y ddadar, fel pe gwnaethei daranau. Y mor a ruodd ac a wnaeth dwrwf: y Nefo­edd a daranodd fel ped fuasei 'r mynyddoedd gwedi ymgyfarfod ynghyd yn taro a'i gilydd: meini mawr a welwyd yn syrthio: mwg a than yn gymmysgedig oedd yn llen­wi'r [Page 47] awyr; a darfuasei i'r Haul ym guddio. Ar hyn fe fyddyhodd llawer fod y byd agos ar ddiben, a dyfod o'r dydd diweddaf, yn yr hwn a byddei i bob peth gael ei yssu a than: Canys yr oedd y fath amldra o ludw gwe­di ei danu i fynu ac i wared rhyd fôr a thîr, ac yn yr Awyr, mal y bu iddo wneuthur mawrddrwg ym mysg dynion ac anifeiliaid, ac yn y mae­sydd: ac y bu iddo ddinistrio 'r pys­god a'r Adar, llwyr adfeilio dwy ddi­nas, Herculanum, a Phompeii. Y rhain a chaudodau eraill yn y ddaear, a'r cyffelyb, gidâ daear dorriadau, a mynyddoedd tanllyd yn fflammio yn wastadol heb ddiffoddi byth, ynt e­samplau eglur gwedi eu rhoi i ni gan dduw, i ddwyn ar gof i ni dan uufern: yn yr hwn y bydd cyrph y rhai mell­digedig yn llosgi yn wastadol, eithr heb losgi byth yn gwbl. Ynghylch hyn chwi a ellwch ddarllain, Ter­tullian, Minucius, a Phacian. Dal sulw o ddyn, ie, mor ddarbodus y mae naturiaeth ei hun yn myned o'th flaen di, ac megis yn dy dywys gerfydd dy law i ddwys fyfyrio ar Dragywyddoldeb.

[Page 48]I ddibennû, mae 'r amser yma o'n heiddo yn dwyn gidâ hi beth o ar­wydd a llûn Tragywyddoldeb. Mae naturiaeth yn ceisio gennim ni yn awyddus ddysgu gan yr arwydd, pa beth y mae yn ei arwyddoccau, ac i gymmeryd dosparthiad o Dragy­wyddoldeb wrth y maentioli bychan a'r medr o'r amser. Gair St Aû­gustin yw, mai dymma 'r rhagor sydd rhwng pethau amserol a Thragywyd­dol: yn bod ni yn carû pethan am­serol yn fawr cyn eû cael, a chwedi eû cael nid ydym ni yn gwneûthûr cymmaint cyfri o honynt: Canys ni ddichon yr enaid gael ei ddigoni ond a'r gwir a'r diogel Dragywyd­doldeb, ac âr llawenydd yr hwn sydd yn dragywyddol, ac yn anllygredig. Eithr y pethau Tragywyddol pan ar­ferir eû meddiannu a fyddant yn gûach o lawer nac oeddynt o'r blaen pan oeddyd yn unig yn eû deisyfû▪ ac yn gobeithio am danynt: Canys ni ddichon ffydd gredû, na gobaith ddisgwyl chwaith; gymmaint ag a gaffo serch a chariad perffaith pan dderbynnir ni unwaith i feddian [...] Gan hynny, pa ham nad yw 'r ddae­ar yn ymddangos yn ffiaidd yn ein [Page 49] golwg ni, yn enwedig o herwydd sod yn rhaid i ni ar fyrder ei gadel? A Pha ham nad ydym ni a gwresow­glym ddeisyfiad yn codi i fynu yn golygon tu ar Nefoedd, lle cawn ni etifeddu Teyrnas, a honno yn Dragy­wyddol.

Y Trydydd ystyriaeth AR Dragywyddoldeb.
Sydd yn hyspysu ym mha beth yr oedd yr hên Rufeiniaid yn cyfleû eû Tragywyddoldeb yn bennaf.

PLinius yr Ail oedd yn tybied ygwyr hynny yn ddedwydd, y rhai a wnaethent bethau yn rhyglyddû eû hyscrifennu, neû a yscrifennasent bethau yn rhyglyddû eu darllain: eithr yn ddedwy ddaf o'r cwbl y gwyr hynny y rhai a fedrant wneûthûr y ddaû. Y Rhufeiniaid oedd yn tybied y gal­lent dragywyddoli eû clôd dair math ar ffordd, a throsglywyddo eû hûr­ddad, i'r byd a ddoe ar ol. Yn gyn­taf [Page 52] nhwy yscrifennasant lawer o be­thaû godidog, o bethau godidog yn siccr, either nid y cwbl oll, nac yn ddiwair oll, nac yn sanctaidd oll: Byddent yu yscrifennu i lawr eu beiau eu hunain, eu cariad anonest, a'i trachwant dybryd; eithr nid oedd hon yma ffordd fawr freiniol onest i Dra­gywyddoldeb. 4 a sawl un o ly­frau y ddarfu am danynt a flaen eu Hawdwyr a buont (yn ol Plato) yn gyffelyb i erddi Adonis yn darfod am danynt cyn gynted ag y torrasant allan! nid oeddynt hwy yn rhyngû bodd yn hir, a ryngei fodd yn fûan. Eithr bwrw pa biddei holl lyfrau y Rhûfeiniaid fyw ar ol amser, a'i bôd yn aros yn wastadol, a chwedi eû cy­tan roddi yngolwg pawb: er hynny nid allent fôd yn abl i roi bywiolaeth i'w hawdwyr.

Drachefn nid oedd y Rhufeini aid yn unig yn yscrifennu, eithr yr oe­ddynt hefyd yn gwneûthûr llawer o weithiau teg y n rhyglyddû eu rhoi mewn llyfrau trwy binnau yfcrifen­nû gwyr hyawdl a dysgedig: a'r Gwei­thiau hyn oedd o amryw rywiau. Cei­sio yr oeddynt Dragywyddoleb mewn [Page 53] llawer o bethau, eithr megis yr yd ys yn ein athrawiethu i 'w gredû, ni chowsant ef mewn dim Yr oeddynt yn fawreddûs (nid ydym ni yn gwadû) mewn trafferthion dinasaidd a mil­wriaeth, gartref ac oddi gartref­o ran eu cyforwyddyd mewn celfyddygarwch a gwybodaeth rhy­feddol oeddynt: yn fawreddog ac yn drahael yn rhoddi rhoddion, ac am rhoi allan olwg teg ar chwareûon: o ran eu mawrwych adail, eû gwych adail uwch beddrodaû, eû cellaû o feddrod au tan y ddaear, eû gwei­thredoedd ardderchog o goffadwri­aeth; ac o ran portreiadaû o goffa­dwriaeth, sef cerfddelwaû eû rhai ardderchog, yn rhyfeddol, ie i beri synnu: fel y gellwch chwi fwrw am can wrth yr ychydig bethaû gwa­hanredol hyn a redafi t ost ynt ar fyr eiriaû. Angustus yn ei enw ei hun, ac ar ei gost briodol ei hun, a osodedd allan bedair gwaith ar hugain chwareuon a champau chwa­reyfeydd a thair gwaith ar hugain ar gost y trysor cyffredinol: Ac nid oedd yr un or rhain yn costio iddo ddim llai na dau fyrddiwn, a ffum [Page 54] can mil o goronaû; ac efe a warri­odd meddaf swm mor fawr a hyn y­ma oll o arian ar un chwarcyddiaeth. A'r rhattaf, a'r salaf a roes Augûstus erioed allan oedd yn cyrraedd myr­ddiwn, daû cant a deng mil a deûgain o goronau.

Nero a oreurodd y Theatr trosto ei gyd, yr hwn oedd adail fawrwych oruchel ar waith hanner lleuad, i'r bobl i eistedd i edrych a'r y chwa­reyfeydd, ac a wnaeth ty ei wisgoedd, ac offerau ei chwareyddion o aur i gyd: geilwch anchwanegu at hyn yma dippynnau o goed pedwar o­chrog, neu goelbrennau a deflyd yn giprys ym mysg y bobl, titul, y rhain fyddei, deiau cyfan, meusydd, tiroedd ffermau, caethweifion, gweison, ani­feiliaid, swmpiau mawr o arian, a llawer gwaith nifer mawr o dlysau: yngoelbren pwy bynnag a digwyddei 'r un o'r rhain byddei iddo yn ddioed dderbyn yn ol ei Ditul.

Yr unrhyw Nero am Ymmeraw hael rodd i filwr cyffredin a ar­chodd gyfrif iddo ddau canr a deng. mil a deugain o goronau.

Agrippina Mam Nero a barodd­roi yr un faint o arian ar fwrdd i'w [Page 55] argyoeddi ef yn guddiedig trwy hyn­ny, i attal afradlonrwydd ei Mab. Nero ar hyn yn deall ei dymmhigo a barodd roi atto swm arall cymmaint a hwnnw, ac a ddywedodd fel hyn, Nid oeddwn ni yn adnabod fy hun pan roddais i cyn leied.

Yr unrhyw Nero a groesawodd frenin Teridates tros naw mis tunty yn Rhufain, ac a dreuliodd bob dydd arno ugain mil o goronau, yr hyn oedd yn dyfod yn y nawmis i bum Myrddiwn a deugain mil o goronau, ac wrth ei ymadawiad ef, am gosym­daith, neu i dreulio ar y ffordd, rhoes iddo ddau fyrddiwn a hanner. I Ba beth a crybwyllaf am eu mawrwych oruchel adail?

Caligula yr ymmerawdr a wnaeth Bont tros gaingc o for, yn dair mill­dir o hyd.

Yr oedd pedair cant a phedair ar hugain o demlau yn Rhufain, ar rhan fwyaf o honynt yn fawrwych iawn.

Domitian a dreuliodd yn goreu­ro Cabidylby Rhufain yn unig saith myrddiwn.

Yr Amphitheatr, yr hwn oedd a­dail crwn lle byddei 'r bobl yn ym­gasglû [Page 56] i edrych ar y chwareyfeydd; ar risiaû yr hwn Adail a wnaethp­wyd o gerrig i gyd, y gallei pedwar ugain a saith mil o edrychwyr ei­stedd oddiarnodd yn gymmwys jawn; a deuddeg mil sefyll o'i amgylch ef: pedwar ugain, ac am yn un ugain mil i gyd.

Yr ymmerawdr a wnaeth ddeu­deg o olchfeydd cyffredinol heb law llawer o rai eraill, lle cae dynion ym­drochi yn rhad.

Yr oedd yngolchfeydd brydlon en­naint Antonius un mil a chwechant o eisteddleoedd o gabolfeini: a chym­maint a hynny o wyr ar unwaith a ymdrochei yno yn gymmys iawn.

Yngolchfa Hetruscus, megis y mae Plini yn dywedyd, ffroenau y dwfr, ymmylau 'r olchfa, ac hyd yn oed y llawr yntef oedd oll o arian: eithr myned a wwnaf at bethaû eraill.

Yr oedd yn Rhufain safddelwau o goffadwriaeth am wyr Ardderchog a'i gweithredoedd cyn amled agos ar dynion yno, o arian ac Aûr: heb law aneirif eraill o bres, Meini Mynor, Dannedd Oliphant, neu Ifori.

[Page 57]Yr oodd gan Domitian yngabi­dyldy Rhyfain un o aur a bwysau gant pwys.

Yr oedd gan Gommodus a Chlau­diûs hefyd rai o aûr, pob un o ho­nynt yn pwyso mil o bwysau. Yr oedd gan Claudius un arall hefyd o arian yn y fan a elwyd Rostra yn Rhufain (dadleudy cyffredinol yn yr hwn yr oedd Pulpyd yn llawn cor­nelau, pob un o agwedd pen blaen llong, lle byddei ymadroddwyr yn sefyll i areithio) math ar swyddog oedd gwedi ei osod ar y safddelwau yma, yr hwn a elwyd Jarll Rhusain: ar yr hwn yr oedd llawer iawn o fil­wyr yn gwilied yn wastadol, i amddi­ffyn ac i fwrw golwg ar y nifer mawr o safddelwaû.

Y ffordd a elwir Appia a roe waith, i'w wneûthur i redegwr buan i'w rhedeg or naill bemi'r llall mewn pûm diwrnod, yr oedd hi yn cyrra­edd O Rufain o hyd i Gapua: mor llydan ag y gallei ddau gerbyd gyfar­fod heb attal dim ar eu gilydd; mor gadarngryf ac mor gyfangwbl a phed fuasei hi gwedi ei gwneuthur i gyd o un garreg: mewn un man yn unlle yn hydd, neu yn codi i fynu hefyd yr oed [Page 58] ychwaneg o ffyrdd eraill o'r un fath a hon. Mae yn anghredadwy yr hyn y mae 'r yscrifennyddion da yn ei roi ar lawr ynghylch twysiad eu dy­froedd a'i dwfr leoedd.

Claudius yr Ymmerawdr a warri­odd ynghylch un dwfrle, saith myr­ddiwn a hanner o aur, ac yr oedd▪ d yn maentumio chwechant o wyr yn unig i gadw ac i fwrw golwg ar y dyfroedd. Yr oedd yr rhain yn ddi­ammeu yn weithiau mawr, eithr yr oedd y rhai oedd yn dwyn y draul mewn rhan yn haeddu eu Hargyo­eddi am eu rhydraul difesur. Yr oedd un peth yn Rhufain yn rhagori ar eu mawrwych adail hwy, ac i ar­bed eich clustiau, peth enllibaidd anghymswys yw i'w henwi. Yr oedd ganddynt fath ar ogofeydd tan y ddaear gwedi eu hadeiladu â bwâau meini, chwi a ellwch eu galw hwy ffosydd budreddi 'r ddinas (nhwythau a'i galwent hwy cloacas) o ddwfr yn rhedeg i ddwyn ym maith holl fudreddi 'r ddinas! O'r rhain yr oedd cymmaint, mor helaeth ac mor hir▪ ac y gellyd eu cyfri hwy ym mh­lith rhyfeddodou 'r byd. Nid rhaid i mi roddi o esamplau ond hynny: [Page 59] Mae 'r hyn a henwais i yn ddigon. yr hwn a dreiglodd beth ar Histo­riau, neu a glybu sôn am gadernid a chyfoeth mawr y Rhufeiniaid yn yr oesoedd gynt, a goelia yn rhwydd fy adroddiad: Os efe ni'm coelia, coelied Dystiolaeth Suetonius, Dion Ca­ssius, Plini, Livi, ac eraill a yscrifen­na sant ynghylch gweithredoedd ar dderchog y Rhufiniaid.

Y Pethau yma y rhai aethym i trostynt, ynt yn ganmoladwy iawn yn­ddynt eu hunain. Eithr yr oeddynt yn llywio eu gwladwriaeth mor gall, ac y byddent mewn rhyfel y rhan fy­nychaf yn anorchfygol, am gelfyddau a gwybodaeth yn rhagorol, am rin­wedd yn enwog; yn gymmaint ac i Cyneas Prif gennad a ddanfonesyd oddi wrth Pyrrhus, gwr hyawdl a deallus, pan ddarfuasei iddo yn gwbl ofer ddirio ar y `Dref am wneuthur gyngrair â'i Arglwydd â'i feister, yr hwn gyngrair nid allei fod yn sa­fadwy gidag anrhydedd y Rhufeini­aid, ar ei ddychweliad yn ol a ddy­wedodd wrth ei frenin; i fod ef yn tybied mai Teml oedd y Dref, a'r holl seneddwyr yn frenhinoedd. Yn hyn yr oedd y Rhufeiniaid i'w can­mol [Page 60] yn fawr, eithr yr oeddynt hwy yn camgymmeryd ym mhell yn hyn yma (er eu bod hwy ffordd arall yn wyr call iawn) gyfleu eu Tragywyd­doldeb yn y cyfryw bethau, nid allei roddi iddynt, na chanddynt chwaith ynddynt eû hû nain Dragywyddoldeb. Pe dewisasei 'r Rhufeiniaid St Augu­stin yn arweinudd iddynt yn y ffordd i Dragywyddoldeb fe ddangosasei id­dynt ffordd siccrach a rhwyddach o lawer. Canys pa beth ymae yn ei ddywedyd? Nid ydym ni yn cyfrif, medd es, yr ymmerawdwyr hynny a hir deyrnasodd neû y rhai a ddarfû iddynt aml orfoleddû fel gorfodawgwyr ar eu gelynnion, neu yr rheini a drysorodd i fynu lawer o olud yn ddedwydd mynych a digwydda 'r pethau yma i'r rheini nid oes ganddynt na chyfiawnder, na hawl i'r deyrnas sydd yn dragywyddol. Pa rai ynt i'w cyfri yn wir ddedwydd gan hynny yn nhyb St Augustin? Y rhai a ddilynant y rheolau hyn sydd yn can­lyn▪ Oh! chwi ymmerawdwyr, oh chwi frenhinoedd! Oh chwi Dywyso­gion, llywodraethwyr a swyddogion byddei i chwi (yn ol synwyr St Au­gustin) gael gwir a thragywyddol dde­dwyddwch trwy ddal sulw arnynt.

[Page 61]1. Rheol cyfiawnder. Trwy lywo­draethu yn uniawn, gan gasau hyd yn oed y llun a'r lliw o Anghyfiawn­der.

2. Rheol Lledneisrwydd. Trwy fod heb falchio o herwydd gwag gan moliaeth y bobl, a'i cydlef o'i bod eich hoffi; nac och henwau o anrhydedd: eithr yn cofio nad yd, ch eich hûnain ond dynion.

3. Rheol ofn a chariad Dûw. Trwy amlhau ym mhob modd y gwir addoliad ar Duw; trwy ddarostwng pob dynol nerth i'w ddwywawl fawr­hydi; trwy ei wasanaethu mewn ofn a chariad.

4 Y deisyfiad or Nef. Trwy osod eich cariad a'ch serch ar deyrnas sydd Dragywyddol, lle na byddo 'r naill yn cenfigennu cadernid y llall.

5 Rheol hynawsedd a Pharodrwydd i faddeû. Trwy fod yn fywiog i fad­deû, ac yn hwyrfrydig i gospi, ond pan fo gogoniant Dum a chyfraid y wla­dwriaeth yn gofyn hynny.

6. Trugaredd ac addwynder. Gan dymmheru toster y gyfraith ag olew trugatedd, ac arogl peraidd cymmwy­nasgarwch.

[Page 62]7. Diweirdeb. Nid trwy adel i drythyllwch gael ei ben yn rhydd, ond trwy ffrwyno eich chwnogr­wydd a'ch trachwantau, er maint a fo gennych o ryddid.

8. Cymmedrolder gwynniau. Trwy ddewis cael y fuddugoliaeth ar wyn: niau drwg, yn hyttrach na chael argl­wyddiaethu ar bobloedd.

9. Astudrwydd o ufuddod a gwed­di. Trwy gyflawni rhain i gyd, nid er mwyn gwag ogoniant, eithr er mwyn gogoniant Duw, a chael gwyn­fyd Tragywyddol: heb esceuluso un amser yr offrwm tra hynod hwnnw o ufudd-dod a gweddi.

Y Rheolau hyn a'r cyfreithiau y scrifennodd St Augustin ar ddrysau y byd yn ddrych addas i dywysogion, Llywodraethwyr a swyddogion i e­drych ynddo. Eithr, o chwi, Rufei­niaid mor bell a darfu i chwi grwy­dro o'r ffordd oedd yn arwain at y dryfau yr oedd y cyfreithiau hyn gwe­di eu siccrhau arnynt! am bethau eraill ni sonniaf darfu i chwi yn lle un ac unig wir Dduw ddyfod ag aneirif o rai eraill i mewn i'w addoli, rhai nid oeddynt dduwiau. Canys Rhufain oedd, debygid, yn gwneu­thur [Page 63] hyn yn fasnach, mawr o gre­fydd, wrthod geudeb yn y byd: A phan oedd hi yn llywodraethu agos ar yr holl genhedloedd, gwasanaethei a dilynei amryfusedd yr holl genhed­loedd.

Eithr i adel hyn hefyd heibio: mor ofer iw watwar oedd hyn iddynt adel eu Tragywyddoldeb oll yn ol mewn memrwn a phapir, mewn My­nor a meini eraill, mewn Theatrau sef chwareudai; a Thyrau fel cloch▪ dai, mewn gweithredoedd ardderchog o goffadwriaeth, ac mewn adail uwch ben beddrodau! Pa beth a ddoeth yr awrhon o'i Tragywyddoldeb hwy? yr hwn oedd gwedi ei drychnaddu ryw amser mewn cerrig? yr un peth hefyd a ddigwyddodd i Rufain, ac a ddig­wyddodd i Gaersalem. Y dyscy bli­on yn dangos adeiladau 'r deml yn. Gaersalem, a ddywedasant wrth ein achubwr Crist, Mar. 13. 1. Athro edryh pa ryw feini, a pha sath adeiladau sy yma Ar hynny fe attebodd Crist, gan ddywedyd, Mat 24. 2. Oni welwch chwi hyn oll? yn wir meddaf i chwi ni adewir carreg ar garreg, ar ni ddatto­dir. Folly nid oes dim yn Dgragywyd­dol yn y byd hwn. Ac os gofynnyd [Page 64] yr awrhon y qwestiwn yma. Pa le mae 'r hen Rufain? gallei hyn yma fod yn atteb, dyna lle 'r oedd hi. Pa le mae y rhai a'i hadeiladodd? Bu­ant feirw ac aethant ymmaith: nid oes o honynt wedi ei adel, cymmaint a'i lludw. A rhaid i ninnau cyn y bo hir, fyned yr un ffordd, bod yn cyffe­lyb i gysgod, dychwelyd i'r llwch, ac ymddattodi yn ddiddim. Oh! dru­aned a saled cyflwr dynion marwol, ie. o'r mwyaf! Oh serfyllrwydd a breuoldery dynion cryfaf, ie ym mlo, dau eu cryfder! Canys pa beth a ddoeth yr a wrhon o'r pethau hyn oll, neu ym mha le maent? difangolli ymmaith a wnaethant yn llwyt. Pa le mae eu harian a bentyrrasant yn­ghyd allan o grediniaeth? Fo'i ch­walwyd hwynt ar led. Pa le mae eu mawrwych adeiladau uchel? Nid ydynt i'w gweled. Felly y mae 'r pethau oll gida hynny er maint a fo eu maentioli i ni yn ymddangos, nid ydynt ddim ond gwir gysgod a breuddwyd, os cyffelybir hwynt i Dra­gywyddoldeb; ac i'r pethau hynny ynt Dragywyddol. Y sail ar yr hon y mae holl waithgarwch gogoniant diflannedig wedi ei osod i fynu, sydd [Page 65] yn rhy wan; ac yn malurio yn llwch, gwedi ei wneuthur ond o glai. Nid ellir trychnaddu ar gerrig a meini Mynor ddull ac Argraph Tragywyd­doldeb. Da y dywedodd Lactantius, Fod gweithredoedd dynioa marwol yn sarwol. Yr ydym ni yn credu fod Babilon, Troia, Carthage, a Rhufain: Eithr nid oes agos un math ar fur­ddunnau o honynt yn ymaros i beri i ni goelio fod y cyfryw ddinasoedd. Felly nid oes o saith ryfeddod y byd, felly nid oes o Lys euraid Nero, o olchfeydd brydion ennaint Diocle­sian, o olchfeydd Antonius, o'r adail fawrwych a elwyd saithwal seue­rus, o ddelw uchel anfeidrol Julius, o chwareudy Pompey, ddim ol nac ar­wydd: ac yn brin y rhoid nhwy ar lawr mewn cof lyfrau, neu draethawd. Ac o pa faint y mae rhain oll yn fyr i Dragywyddoldeb.

BEN. I:
Y bennod gyntaf yma sydd yn dangos, mor bell yr oedd y Rhufeiniaid yn crwydro oddi wrth wir Dragywyddoldeb.

MEwn man or tu fewn i ryw ystafell ysgafala yn Nazareth, enwedig erbyn henw y fendigedig Forwyn, y mae crybwyll a'm Fren­hiniaeth;Luc. 1. 33. Ar yr hon frenhiniaeth ni bydd diwedd. Nid oedd Brenhini­aeth Solomon yn gyfryw: Canys ni pharhâodd honno ond Pedwar cant o flynyddoedd; ie, hyd at y caeth glu­diad i Babilon. Nid oedd Brenhini­neth y Rhufeiniaid, na'r Persiaid chwaith, nac etto yr Groegiaid. Yn gyfryw. Canys Pa le yr awrhon y mae y Brenhiniaethau hynny oedd fwyaf llwyddiannus yn yr Amserau gynt? Pa le mae yr Archdeir­naethau hen iawn hynny? Mor fawr oedd Nabuchodonosor y nghaldea a Siria, ac ar ei ol ef Belsazzar? y deirnwialen a drosglwyddwyd▪ oddi wrthynt hwy i'r Mediaid a'r Per­siaid, i Cyrus a Darius? ac yno ch­waith ni hir arhoes hi. Trosglwy­ddwyd hi oddi yno î Roeg, i Alex­ander [Page 67] Fawr, Brenin Macedon, Tros hir amser llwyddiannus iawn. Eithr Megis yr oedd dewrder milwraidd yn Pallu, felly llwyddiant oedd yn methu. Ac felly y deirnwialen a drosglwyddwyd i'r Ital, i Julius Cae­sar, Ac i Octavius Augustus. Pa beth a ddoeth o'r holl Frenhinoedd hyn, ym mha le maent? Eithr di, ô ddyn Cristianus, cais y fenhiniaeth honno, ar yr hon frenhiniaeth ni bydd diwedd. Brenhimaethau Numantia, Athens, Carthage, Sparta a ddiweddasant oll: Darfu yn llwyr am danynt eithr am y Brenhiniaeth sydd uchod, ni bydd diwedd ar honno. Y Brenin sydd yn Treyrnasu yno, Tragywyddol yw: A'r rheini sydd yn byw yn y deyrnas honno, Tragywyddol ynt. Yr Arglwydd a deyrnasa byth, ac yn dragywydd. Medd Origen ar yr hyn eiriau, wyt ti yn tybied y teyrnasa 'r Arglwydd byth, ac yn dragywydd: ie, efe a derynasa byth, ac yn dragywydd; a chidâ hyn, o'r tu hwnt i hynny. Dywed y ellyth, byddi yn wastadol▪ yn ol o gyrraedd parhaâd efrenhiniaeth ef: fe ddy­wyd y Prophwyd yn wastadol; etto ngwa haneg. Ac hefyd medd I­sidore, er bod ei frenhiniaeth ef yn dra­gywyddol, [Page 68] er ei bod hi yn anfeidrol, er ei bod hi ym mhob sût yn fendigedig, er ei bod hi gwedi ei haddaw i ni; am hynny ni sonniaf. Canys pa wr o fil sydd yn treulio y rhan leiaf o ddiwrnod yn myfyrio ar hyn? Ac sydd un amser yn son am hynny? sydd un amser yn athrawiaethu ei wraig, ei blant, ai wei­sion ynghylch hynny▪ ni a rùwn lawer am bob peth arall; eithr am y nefoedd, prin y sonniwn ni ddim am deni: Neu os crybwyll a fydd, yn wir bydd hynny yn anfynych iawn. Yn nganmoliaeth ei wlad ei hun, pob gwr sydd arei­thiwr trybelydr ei dafod: Eithr am honno, yr hon yw ein gwir wlad ni yn siccr; yr ydym ni yn cwilyddio yng­hanmoliaeth honno. Canys fe ddi­gwyddodd yn y dyddiau hyn trwy fod heb arfer cydymddiddan crefyd­dus, fod dynion yn meddwl nad ydynt yn synhwyrol, nac yn arabeddus iawn, oddi eithr iddynt siarad ofer ac an­fuddiol eiriau, a digrifwch ffol: Nid y cwbl mo hyn, oni bydd eu bochau yn chwyddo, a'i gweflau yn llenwi trosodd o ymadroddion diflas bryn­tion; oh hyn yma yw i ni grwydro yn llwyr allan o'r ffordd! yn hyttrach llannwn ni ein calonnau a'n geneuau a chlodforedd ac â deisyfiad Pethau [Page 69] Tragywyddol; rheded ein meddyliau a'n geiriau bob amser ar eu hol hwynt, nid oes gennem ni un ffordd arall, ond hon, i'r gwir ogoniant; ac nid oes un gwir O goniant, ond yr hyn sydd wir `Dragywyddol.

Yr Arch offeiriaid a'r Phariseaid ym mhysg yr Iddewon i dorri lawr gadernid Crist (fel yr oeddynt hwy yn meddwl) ac i dragywyddoli eu llywodraeth denesig, a ymg ynn ullasant ynghyd i ymg ynghori: a thrwy eu doethi­neb ffol (fel i prifiodd) nhwy a wnae­thant ordiniadau i'w niweid eu hu­nain. Yn hyawdl iawn y mae St Augustin yn crybwyll am eu gwaith hwy yn ymgynghori ynghyd, ac yn cymmeryd cyngor mewn eisteddfod cyflawn Lys: Yr Archosteiriaid, medd ef a'r Phariseaid a ymgynghorasant ynghyd pa beth a fyddei iddynt hwy i'w wneuthur er eu lles eu hunain, ac etto nid oeddynt hwy yn son am ddy­wedyd; Gadewch i ni gredu. Y gwyr drygionus annuwiol hyn oeddynt yn ceisio yn ddy falach y modd i ddini­strio rhai eraill; Nar modd i ragddar­paru ynghyfair eu diogelwch eu hūain; megis y byddo iddynt gael eu gwared. Ac er hynny yr oeddent hwy mewn [Page 70] ofn, ac ar eu cyngor: canys hwy a ddywedasant, a Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? Canys y mae y dyn yma yn gwneuthui llawer o arwyddion. Os (a) Ioa. [...]r. 47. 48. gadawn ni ef fel hy, pawb a gredant iddo, ac se ddaw y Rhufeiniaid, ac a eldifetha ein lle ni, a'n cenedl hefyd. Yr oeddynt yn ofni colli pethau am­serol, ac nid oeddent un amser yn ystyried y pethau oedd dragywyddol: Ac felly nhwy a gollasant y ddau. Y cyfryw yw gorwagedd a hygar wawd eiriau ein meddyliau ynfyd. Pa beth ydym ni? pha beth yw 'r cwbl a henwom ni yn eiddom? Hedd yw yn ein blodau yn gyffelyb i lysieuyn, yn cael dywedyd yn dda am danom, yn rhyngu bodd, ac mewn ffafor gidâ dynion: Eithr, och! ein blodeuyn ni a wywa y foru, dywedir yn ddrwg am danom! ac â duw a dyn ni a fyddwn allan o ffafor: a dyn, yr hwn a ryngasom ei fodd hyd yn hyn: a Duw, yr hwn ni ddarfu i ni erioed roi ein bryd a'r ryngu ei fodd ef yr ydym yn esceulu­so 'r Nefoedd, a dal ar y ddaear nis gallwn: Nid ydym yn ynnill ffafor Duw, a colli yr ydym ffafor y byd. Ac felly ydym tra-anobei­thiola [Page 71] diymgeledd o'r ddeuty. Ped ar­bedei marwolaeth yr rheini sydd ddedwydd ddynion y byd hwn, nhwy allent (ysgatfydd) gael yma beth gogoniant: peth, meddaf, y cyfryw ag ydyw; canys nid oes yr un gwir, ond hwnnw sydd yn y Nefoedd, ac yn Dragywyddol. Eithr, och! nid yw marwolaeth yn arbed neb, canfod y mae hi yn y tywyll, ac nis canfyd­dir: ac yn disgwyl ei hamser y pryd y dichon osod arnom, pan fyddom ni heb feddwl am dani: pa beth a ddaw o honom? i ba le a dwg hi ni, os bu­om yma ddrwg ein buchedd? ger bron brawdle Crist, ac oddi yno i bwll uffern: ac nid oes pridwerth am ryddid oddi yno, nid all bonedd oll­wng oddi yno neb yn rhydd: nerth ni wareda un dyn. Y canmoliaeth a gafodd gwyr gynt, ni ddyru yno ddim cysur. Gadewch i ni ymageifio ffafr Duw a'i ogoniant, hwn yw 'r gwir ogogoniant, yr un a ynnillir trwy o­ochel y gwag ogoniant: ac nid oes un gwir ogoniant, ond yr un sydd Dragy­wyddol.

Solomon yn y diharebion sydd yn portreiadu Doethineb yn gyffelyb i frenhines a dwy Lawforwyn yn se­fyll [Page 72] gida hi, Tragywyddoldeb a gogo. niant: Diha. 3. 16. y gyntaf ar ei llaw ddeheu, yr ail ar ei llaw asswy: Ni thal go­goniant ddim oni bydd Tragywyd. doldeb gwedi ei gysylltu wrthi; yr hyn yr ydyni ni yr Cristonogion oll yn ei ddisgwyl. Hebr. 13. 14. Canys nid oes i ni yma ddinas barhaus, eithr un i ddy­fod, 2 Cor. 5. 1. Tragywyddol yn y Nefoedd. Psal. 112. 6. Y cyfiawn a fydd byth mewn coffadwriaeth. I roddi elusen i ddyn tlawd. i gymhedroli gwangc chwant, i wrthladd gelyn diweirdeb; ni ofyn y gweithredoedd hyn mor llawer o boen, nac amser i'w gwnenthur: ac er hynny bydd y coffadwriaeth o'r rham ynghyd a'i gobrwyad yn dra­gywyddol. Mor salw ydoedd y peth a roddodd Mari Magdalen i draed ein iachawdwr! Oh! leied yr Amser y by hi yn gwneuthur hynny! Ac ar hynny Math. 26. 13. fe ai cyhoeddir drwy 'r holl fyd. Rhai eraill (ysgatfydd) a fuasei yn rhyfedd ganddynt bethau eraill oedd ynddi, ei gwrid coch, ei hwyneb pryd hardd, blodau hyfryd lwys ei hieuengctid, ei hawddgarwch anaml ei fath, ei chyfoeth mawr, ei mwynder a'i chymmwynasgarwch, a'r cyffelyb. Nid y rhain oedd y pethau [Page 73] a ganmolodd Crist ynddi: eithr y gwasanaeth a gyflawnodd hi yw dra­d ef oedd y peth. Nid ydoedd y peth o honaw ei hûn yn fawr: ac er hynny modd ydoedd ef iddi hi i gael gogoniant Tragywyddol, a byth anfarfol urddas. Hyn yw Tystiola­eth Christ: Fe a'i pregethir trwy 'r holl fyd. Ni Argraphwyd y wei­thred hon o'i heiddo mewn maen mynor, ni fwriwyd moni mewn pres, ni yrrwyd y son am dani ar led yn y farchnadle, ni chyhoeddwyd moni a Thympan, ac ag udcorn: Ac er hyn­ny yn parhau yn goffadwriaeth am dani hyd y dydd heddyw: ac felly bydd byth, ac fe a'i pregethir trwy 'r holl fyd. Os ystyriwch chwi y weithred ei hun; Judas yscariot y Bancwr chwannog a feiodd arni; y Pharisead uchel falch gan Simon a'i anghanmolodd hi: Os y beth, nid ydoedd ond ennaint, ni thalei o'r mwyaf ddim uwch law deg darn ar hugain o aur bychain: Os y lle, dirgel oedd: os y tystion presennol, ychydig oeddynt: Os y Person; gw­raig ydoedd, ac un anenwog: Ac etto er hyn i gyd, fe ai pregethir trwy holl fyd. Pa Sawl Ymmerawdr [Page 74] a ddyrchafasant eu Lummanau, ac a danasant allan eu buddugawl a'i gorfoleddus eryrog fanerau, ac a'i gosodasant i fynu yngwersyll eu ge­lynnion. Pa sawl Penciwdawd mil­wraidd a arwainasant fyddinoedd o'r gwerin, ac a'i rheolasant yn rhygly­ddus! Pa sawl llywiawdr rhagddar­bodus a lywodraethasant eu pobl yn synhwyrgall jawn! Pa sawl Brenin a osodasant i fynu weithiau a safddel­wau yn goffadwriaeth am weithredo­edd ardderchog, ac adeiladasant ge­styll a dinasoedd anaml eu math! Pa sawl gwr dyscedig a dreuliasant eu ymmynnyddiau mewn dychym­mygion newyddion, ac yn gyffelyb i ddistyllwyr a'i diferasant hwy i'w cadw i bapirau! Ac i ba ddiben hyn oll? ond i gadw eu henwau mewn coffadwriaeth yn wastadol, ac i gael eu rhoi ym mysg y gwyr teilyngaf a gwiwgofaf mewn cof ly­frau Ac er hynny igyd maent hwy yn gorwedd yngwely distawrwydd, a chwedi eu claddu ym medd angof. Eithr yr un weithred dda a wnelo'r cyfiawn a fydd mewn coffadwriaeth yn dragywyddol: Ni ddichon Am­ser na chenfigen ei dileu byth na'i [Page 57] chelu: Y gwyr synhwyrolaf, Pen­ciwdawdwyr, Preladiad, a Brenhino­edd nhwythau gidag anrhydedd a'i darllenna, ac a'i gwrendu. Fe ai pre­gethir trwy 'r holl fyd.

Gan hynny yr unig ffordd i anfar­woldeb a gwir Dragywyddoldeb yw, bucheddu yn dda, ac felly marw yn dda. Iddo yn awr chwi Rufeiniaid, os chwi a geisiwch dragywyddoldeb mewn safddelwau, a meini mynor o goffadwriaeth am weithredoed ar­dderchog! Ni bydd i chwi ei gael ef byth yno. Myfi yn hyttrach a ewyllyssiwn o'm rhan i, fod o feddwl St Hierome, yr hwn yn yscrifennu ar fuchedd Paul y Meudwy, a ddywe­dodd fel hyn: Oh; cofia Hierome y pechadur, yr hwn pe rhoesei Duw id­do ei ddewis; a fuasei yn cyfri 'n well fantell dlawd Paul gida ei weithredo­edd da, na mantellau porphorliw Brenhinoedd gidâ ei teyrnasoedd. Ga­dewch i ni Gristionogion tra caffom ni amser wneuthur ein cyfoeth yma oddiwrthym, rhag i ni eu colli hwynt; bydded i ni eu danfon hwy o'r blaen i fyd arall: y mae 'r Nef yn sefyll yn agored yn barod i'w derbyn hwy. Nid rhaid i ni ammeu na chludir [Page 76] hwy yn ddiogel, y cludwyr ynt gywir a ffyddlon ddigon: oblegid y clawd a'r anghenus o'r byd hwn ydynt. Yr ydym ni yma yn gwneuthur oddi wrthym iddynt hwy mewn dull cyf­newidiad ychydig bethau o bris by­chan: o ran ein bod ni i dderbyn yn y Nefoedd Ragorol, Tragywyddol bwys o ogoniant. Felly yr adda­wodd2 Cor. 4▪17. Christ ar y cyflawniad o'i or­chymmyn, Ac yr wyf yn dywedyd iLuc. 19▪ 9. chwi gwnewch i chwi gyfeillon o'r Mammon anghyfiawn: fel pan fo ei­sieu arnoch, ich derbynniant i'r Tra­gywyddol Bebyll. Eithr awn oddi wrth hyn at bethau eraill.

BEN. II.
Yr ail bennod yma sydd yn dangos ffordd well i Dragywyddoldeb, nâ'r gyntaf yr oedd y Rhufei­niaid yn ei dilyn.

DArius Brenin y Persiaid, tra no­dedig am ei gyflafn, ganddo yn Fyddin byddei dengmil o Bersiaid, am hynny rhoes yr henw hwn arni; Anfarwol: (megis y mae Caelius [Page 77] Rhodiginus yn deongl hynny) nid o herwydd y byddei yn meddwl na ddarfyddei byth am dani, (canys pa le mae neb un o'r cyffelyb?) ond ob­legid fel y lleiheuid dim ar y nifer trwy gleddef neu glefyd, fe'i gwneid i fynu yn y man: felly yn wastadol ni byddei na mwy na llai na deng­mil. Fel hyn Darius a ffurfiodd iddo ei hun fath ar anfarwoldeb a Thragywyddoldeb: Eithr, (och!) nid oedd ef ond un byr jawn; canys fe ddarfu yn llwyr am dano ef a'r holl fyddin mewn Amser bychan. Y Rhaglawiaid a'r Tywysogion, aDaniel 6. 6. aethant ynghydat y Brenin ac a ddy­wedasant wrtho fel hyn; Darius Fre­nin, bydd fyw byth. Och! mor ofer oedd y dymuniad hwn, ac mor fyr y Tragywyddoldeb yma! Nid ydym yn byw ond deg a thrugain, neu bed­war ugain o flynyddoedd o'r mwyaf: Nid ydym ni ond breuddwydio os meddyliwn ni fyw byth. Gan hyn­ny nid heb achos Xerxes (pan aeth i oresgyn a darostwng Groeg (megis y mae Herodotus yn rhoi allan) y dygodd gydag ef rhyd for a thir ddwy fyddin fawr allan o Asia yn drychant mil ar hugain, dwy fil ar bymtheg, a [Page 78] o nifer, heb law rhai eraill oedd yn gwasanaethu ar y milwyr) a ymollyn­godd i wylo ar ddiwrnod yn tremmio ym mhen mynydd, ac yn golygu ei filwyr: A chwedi gofyn iddo, am ba'r achos, efe a ddywedodd, am mai o herwydd ar ol matter deg a deugain, neu drugain o flynyddoedd; prin un a fydd i'w gaffael yn fyw o gym­maint a hyn o gantoedd o filo­edd o wyr mor ddewisol a chry­fion.

Ni a allwn freuddwydio a llunio i ni ein hunain nis gwn i pa Tragy­wyddoldeiau eu sut: Eithr ynghy frwng hynny rhaid i ni farw, ac2 Sam. 14. 14. ydym fel dyfroedd wedi eu tywallr ar y ddaiar.

Ffigur arall ac un gwell o Dra­gywyddoldeb a graff ddychymygwyd Yn Constantinopl; yn y flwyddyn o oe­dran ein Harglwydd pedwar cant deg a deugain a naw. Eglwys Constan­tinopl, yn yr amser pan oedd Genna­dins yn Esgob, a chwanegwyd a sei­liad Mynachlogaidd newydd a by­nod o Acaemiaid, sef rhyw fath ar fynachod cyssegredig i St Joan Fe­dyddiwr. Eu galw hwy yn Acaemi­aid yr oeddid am nad oeddynt yn [Page 79] cysgu: Oblegid nid oedd iddynt un amser gysgu i gyd ar unwaith, ond i fod yn eu trefn ar waith yn wastadol nos a dydd yn canu mawl i dduw. Yr Acaemiaid hyn oeddynt gwedi eu rhānu yn dair cynnulleidfa yn y modd ymma, pan orphennei y gynnulleifa gyntaf ganu dwywawl fawl, byddei yr ail yn dechreu; a phan Orphennei yr ail, byddei ir trydydd ddechreu. Trwy Achos yr Ordinhaad duwiol hwn y dref oedd ar Nefoedd o'i mewn, yn rhyw fodd bob amser yn swnnio o fawl i dduw: Neu o'r lleiaf yn ffigur neu yn Atgynnyrcholdeb o'r Tragywyddoldeb yn y Nefoedd, lle bydd i dduw gael ei foliannu tros bob Tragywyddoldeb, a difyrrweb mawr a gorawen, heb ludded yn y byd. Am hynny yr oedd i'r psal­muddPsal. 84. 4. achos i lefain, Gwynfyd pres­wylwyr dy dy: yn wastad ith folian­nant. Y no bydd i'r rhai bendigedig oll ddywedyd fel a darfu i Petr ar y mynydd, Da yw i ni fod yma.Matth. 17. 4. Canys gwir gyfoeth difesur yw Tra­gywyddoldeb, fel y mae St Bernard yn dywedyd: eithr y mae ef yn an­gwhanegu hyn yma gida hynny igyd, nid ydyw i'w gael oni pharheuir i'w [Page 80] geisio. Eithr pa fodd y mae i ni felly ei geisio, megis a gallom ni ei gaftael? Gwrando beth y mae yr hen Dad da yn ei ddywedyd: trwy dlodi, trwy addfwynder, a thrwy ddagrau yr ydys yn adnewyddu yn yr enaid lun a delw Tragywyddoldeb, yr hwn sydd yn am­gyffred yr amserau oll. Yn gyntaf tlodi yw 'r ffordd i Dragywyddoldeb.Matth. 5. 3. Gwyn eu byd y tlodion yn yr yspryd; canys eiddynt yw teyrnas Nefoedd. Lle byddys yn diystyru dynion tlodi­on, y mae 'r galon a'r arian yna gwedi eu cloi ynghyd yn y gist: lle byddys yn treulio arian yn ol rheo­lau cy bydd-dod, yno ni bydd na serch na chariad i d lodi; yno ni bydd na chwant na chariad i Dragywyddol­deb. Yn ail trwy addfwynder yr y­dym ni yn gwneuthur ein hunain yn ddiofal am y pethau presennol▪ ac yn cael siccrwydd am y pethau sydd i ddyfod. Gwyn eu byd y rhaiMatth. 5. 5. addfwyn: Canys hwy a eitifeddant y ddaiar. Os gofyn un dyn pa beth a ddywedwn ni am dano ef yr hwn sydd yn wâg o addfwynder ac o ammynedd, yr hwn ni feidr ddywedyd agos un amser air addfwyn? Pa beth y mae ef yn ei ynnill wrth ei [Page 81] annyhuddol annioddegarwch! Pa les iddo ynfydu ac ymddigio o lidiow­grwydd, i wneuthur y scarmiau a ther­fysgau, i ddangos ei ewyllys i wneu­thur distryw, er nad allei wneuthur yr hyn a ewylllyssei: i ddibennu, neu na dywedyd wrth neb yn foesawl dydd da i'wch, fel ped fai yn dlyn i bob boneddigeidd dra a mwynder ymadordd? Pa beth a ddywedwn ni am y cyfryw wr? os oes yr un o'r cyffelyb; fe fydd yn siccr o fod mewn colled am ei dda, neu am ei enw da, neu am y ddau. Canys nid yw ef yn meddiannu y cyfoedd sydd yn ei eiddo, eithr eu cadw hwynt y mae fel y ci, Priod i hwn yw dal cyfarth i ddyn, i rûthro iddo ac i'w frathu: eithr am ei enw da ef, os oes iddo yr un, ni bydd iddo ei gynnyddu trwy yr enw o an nioddefgarwch: ac am y Nef fe a'i collodd cyn iddo gymmeryd y meddiant o honi. Yn drydyd, Da­grau. Canys trwy wylo a galaru, yr ydym ni yn prynu yn ol yr amser aeth heibio yr ydym ni yn ynnill yn ol yr hyn a dreuliasom yn afradlon yn pechu. Eithr rhaid i'r galar ac i'r tristwch hwn barhau yn hwy na thros awr yn unig, neu tros ddiwrnod▪ [Page 82] Canys nid yw hyn yma ddim ond gwneuthur fel yr hwn ar farwolaeth ei fam a ym wisgodd mewn galarwisg, cymmhellodd tros yr amser y chydig ddagrau, ac felly fe aeth o hyd i'w chynhebrwng, ac efe nis gadawodd hi, nes iddo ei gweledgwedi ei chlad­du: Eithr y diwrnod hwnnw neu'r ail, fe sychodd ymmaith y dagrau oll oddi wrth ei lygaid, fe droes ei wylo­fain yn chwerthin: bwriodd ym­maith ei alarwifg, ac am dano rhoes liwiau. Nid galaru yn wir ddifri yw hyn, i wneuthur o alar ddiben mor fuan. Eithr yr ydym ninnau yn gwneuthur hyn (ysywaeth) yn rhy­fynych. Heddyw ni a wnawn gyfadde­fiad cyhoedd o'n pechodau i dduw, ac a wrandawn yr Absolusion; ni a edifarhawn o'n pechodau, ac a dder­bynniwn y Cymmun Sanctaidd: a thrannoeth ni a bechwn drachefn gi­da difyrrwch, ac yn ddiofn, ac yn fynych yn fwy gorthrwm nag o'r blaen. Ni a ffieiddiwn y drefn ddrygionus o'n buchedd aeth heibio tros yr am­ser presennol: a thrachefn ni a ddy­chwelwn i'r un treigl; ni a rown ddi­ofryd y pechodau a wnaethom ni o'r blaen; a thrachefn yn yr un diwr­nod, [Page 83] ni a wnawn yr un rhai. Felly ni a gyhoeddwn Jesu Grist yn ddi­euog, ac a'i croeshoeliwn ef o ne­wydd a'r un tafod: fel ped faem ni wir frodyr Pontius Pilat, yr hwn a'r un a'r unrhyw enau a'i barnodd efLuc: 23. 22. 24. yn euog ac yn ddieuog; gan gyfaddef na chowsei ddim achos marwo­laeth ynddo, ac er hynny efe ai bar­nodd ef iw groeshoelio. Yr ydym ni yn ansafadwy ac yn anwadal iawn, eithr mewn dim mor ddianwadal, ac yn ail redeg trefn ein buchedd ddry­gionus. Och! Och! dwyn yr ydym ni ormod o'r lleuad, hynny yw An­wadalwch, yn ein dwyfronnau. Yr ydym ni weithiau cymmaint ein zêl, ac mor sanctaidd, ac na chymmerad­wye m wynebpryd hoenus; rhag ofn y byddei i hynny rwystro ein sanctei­ddrwydd a'n defosiwn: Ni a edry­chwn yn yswil, gan daflu ein golygon i lawr tu ar ddaiar, ac a guchiwn fel ped faem ni yn ddigllon wrthym ein hunain, Pan gaffom ni ynom y llaesiad neu 'r difraw-wch lleiaf mewn dyledswyddau sanctaidd: Ei­thr nid yw y sancteiddrwydd a'r de­fofiwn hwn un amser yn parhau yn hir, A'r ôl ychydig amser ni a dde­chreuwn [Page 84] gasau ie duwioldeb ei hun, a chan i'r angerdd newidio, ninnau diachefn a ddychwelwn i'n rhysedd a'n anardymherusi wydd a fu o'r blaen. ac yr ydym ni mor barod i ollwng yn rhydd y cwlm o gym­deithas a wnaed rhyngom â Duw; ac yr oeddym ni ar y cyntaf yn an­fodlon i gaffael ei glymmu O'r di­wedd mae Duwioldeb gidâ thrist­wch ac edifeirwch yn ei ddilyn yn ei gyndrychioli ei hun i ni drachefn, ac yn gyrru rhysedd i ffoi, nes y delo 'r amser y dechreuwn ni edifarhau o'n hedifeirwch. Felly anfynych yr ydym ni yn - gwneuthur hir aros mewn neb rhyw onest a duwiol dreigl Canys efe a ymddengys i ni yn rhy boenus: Ac ni a rwyfwn ar bob am­naid bychan gidâ'r ffrwd o'n aflen. did a fu o'r blaen. Anwadalwch ein buchedd ni sydd yn gyfryw, a'i fod ef yn cyndrychioli i'n meddyliau bob math a'r ddifyrrwch a phechodau. Yr ydym ni yn cymmeryd arnom an­rhydeddu rhinwedd: eithr yr ydym ni yn y galon a'r meddwl yn ymostwng ac yn addoli pechod; math ar wa­sanaeth poenus jawn! Nid hon yw 'r ssordd i dragywyddolbeb, oddieithr ei bob o ddialeddau a phoenau y rhai [Page 85] ni chant fyth ddiwedd.

Neillduwn allan o lawer un dyn Christianus, ac yn enwedig y cyfryw un ac y fo yn ymi oi fwyaf i ddifyr­rwch, a dygwn ef o hyd gidâ ni at enau ffwrn wynias fflamlyd: Ac yno ymddinanwn ag ef, yn y modd yma; pa faint o ddifyrrwch a ofynnit am aros i losgi yn y ffwrn hon tros un diwrnod? Yn ddiammeu, i hyn fe attebei; ni fynnwn ni mo'th artei­thio yn y fflammau hyn tros un di­wrnod er ynnill y byd yn gyfan a'r difyrrwch oll sydd ynddo. Eithr cyn. hygiwn iddo ammod arall, Pa wobr a fynni di er dioddef y tan hwn tros hanner diwrnod yn unig? cynnhy­giwch y gwobr a fynnoch, nid oes dim mor felus, mor werthfawr, mor anwyl gennif, a brynwn ni o'm bodd mor ddrud ei bris, ar arteithi­au hyn. Eithr i brofi un waith etto, pa wobr a difyrrwch a fynnit er my­ned i'r ffwrn hon, ac i aros yno ond tros un awr? Ei atteb ef yn ddi­ammeu a fyddei hyn, gofynned y gwr chwannogcafa digywilyddiafyn y byd cymmaint ag allei, nid ydyw hynny i'w gyffelybu ag anhraethawl, ac an­nioddefadwy losgfeydd ac arteithiau [Page 86] er na pharhaent ond tros un awr. Os da yw 'r attebion hyn, ac yn cytuno ag jawn reswm: pa fodd y mae yn digwyddo, O dduw, fod am elw by­chan, a hwnnw ond yn wael; am urddas twyllodrus, a hwnnw yn ddi­flannedig; am ddifyrrwch brwnt, a hwnnw yn fyr; gymmaint o ddyni­on yn gwneuthur cyn lleied cyfrif o dragywyddol gospedigaethau yn nhân uffern? Nid ellir ein hannog ni a neb ryw wobr, na, er bod hynny am gael byd cyfan yn fael, i aros ond tros un awr mewn tân amserol: ac er hynny, os naill ai mael a'n gwa­hodd ni un amser, neu os anrhydedd a wena arnom ni, neu ddifyrrwch a'n huda, ni bydd arnom ni un amser ofn uffern a thân Tragywyddol▪ Eithr dy di a ddywedi, gobeithio yr wyfi am well; mae Duw yn drugarog: ac ni ddio. ddefa ei addwynder ef i mi anobei­thio, ac i gael fy nychrynu ag ofn y drwg sydd i ddyfod. Mewn gwirio­nedd ni a fyddwn yn arfer o ddywe­dyd felly: A'r geiriau hyn nid ynt ddrygionus ynddynt eu hunain, o byddei ein gweithredoedd ni yn ddu­wiol. Eithr ein gweithredoedd y rhan fynychaf ynt yn gyfryw, os jawn [Page 87] ystyrrir hwy, bychan yw 'r Achos i ni obeithio am drugaredd. Rhan ynfyd ac enbydus iawn yw i wr fyw yn ddianwadal yn nhrefn anuwiol­deb: ac i obeithio am dragwyddol­deb ymmysg y bendigedig. Och! digon yw un pechod i'n barnu ni yn euog. Oni wyddost ti pa beth a fy­gythiodd Crist yn yr Efengyl? Pwy bynnag a ddywedo, ô ynfyd, a fyddMatth. 5. 22. 28 yn euog o dân uffern. Oni wyddost ti pa beth a warafunodd Christ? fod pob un sydd yn edrych ar wraig, i'w chwennychu hi, gwedi gwneuthur eusus odineb â hi yn ei galon. Oni wyddost ti pa beth a ragrybuddiodd Crist? Nid pob un sydd yn dywe­dydMatth. 7. 21. wrthif Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas Nefoedd: ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyl­lys fy Nhad, yr hwn sydd yn y Nefo­edd. Oni wyddost ti fod Crist yn cau 'r drws rhag llawer? Yr hwn sydd yn caru Tâd neu fam ynMatth. 10. 37. 38 fwy na myfi, nid yw deilwng o hono­fi: Ar hwn nid yw yn cymmeryd ei Groes, ac yn ganlyn ar fy ol i, nid yw deilwng o honofi▪ Oni wy­ddost ti pa beth a ddywedodd Crist yn amlwg ac yn eglur, ac a'i hail [Page 88] adroddodd drachefn? llawer syddMatth. 20. 16, 22, 14. gwedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis: ychydig yn siccr, le, ychy­dig iawn. Oni wyddost ti fynyched yr anghorodd Crist ni i newydd debMatth. 18. 3. buchedd? Oddieithr eich troi chwi, ach gwneuthur fel plant by­chain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas Nefoedd. Os dy law neu dy droed a'th rwystra, torr hwynt ymmaith, a thafl oddiwrthit: gwell8 yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff neu yn anafus, nag a chennit ddwy law neu ddau droed dy daflu i'r tan Tragywyddol. Eithr onidIuc. 13 3. edifarhewch; chwi a ddifethir ell yn yr un modd▪ Ac yn y man a'r ol hyn­ny, Ymdrechwch am fynd i mewn24 trwy 'r porth cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac nis gallant. Oni wydost ti mor eglur y mae St Paul yn dat­gan y pethau hynny oll sydd yn ein rhwystro ni i fyned i mewn i'r Tra­gywyddoldeb bendigedig? Am­lwgGal 5. 19, 20, 21, yw gweithredoedd y cnawd, y rhai yw, Tor-briodas, Godineb, A­flendid, Anlladrwydd, Delw addoli­aeth, Swyn-gyfaredd, casineb, Cyn hennau, Gwynfydau, llid, mrysonau, [Page 89] ymbleidio, Heresiau, cenfigennau, Llofruddiaeth, Meddwdod, Cyfed­dach; a cyffelyb i'r rhai hyn: Am yr rhai yr wysi yn rhagddywedyd wrthych, megis ac y rhag-ddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneurhur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Ddûw. Yn awr od oes neb ynddo ei hun yn eûog o'r un o'r holl be­chodaû hyn a henwyd, ac nad yw cynddrwg ganddo o'i herwydd a'i fod ef yn ceisio trwy bob modd po­ssibl eu gochelyd rhag llaw: fe ddi­chon ddatgan iddo ei hun, os myn, yr Spero ofer hwn, gobeithio yr wyfi, a gobeithio yr wyfi; ond yn wir nid ydyw gobaith y dyn hwn fath yn y byd ar un, eithr gwir ehudrwydd a rhyfyg. I ddyn anturio enbydr­wydd ffrewyllau a ffonnodiau, drwg yw a ellir ei oddef. Colli ar chwa­reu gant neu fil o ffloringod sydd fawr ddrwg ddamwain; eithr fe ellir ei oddef Rhoi ei Ben ar ergid, ac i ddwyn ei fywyd mewn enbydrwydd, fy anturiaeth goeg: Eithr i fwrw 'r gwaethaf nid yw hi ond colled a'm fywyd, a'r golled honno nid yw 'r fwyaf o'r lleill oll. Eithr i ollwng ymmaith dragywyddol [Page 90] jechydwriaeth yr enaid a'r corph mewn enbydrwydd, trwy fucheddu wrth ansiccrwydd, trwy obeithio mewn geiriau, ac anobeithio mewn gwei­thredoedd, gan ddiddymmu gobaith wrth fuchedd ddrygionus ac annuwi­ol;y gwaethaf yw o'r holl anwired­dau: y dryglam mwya gofidûs a ddi­chon ddigwyddo i wr: Ehûdrwydd a hyfder tra anghenol yw: y mae fe yn ffolineb ac yn wallgof o'r mwyaf. Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw, rhag i mi eichPsal. 50. 22. rhwygo, ac na byddo gwaredudd.

BEN. III.
Y drydydd bennod yma sydd yn dangos fod yn rhaid ymofyn am ffordd Tragywyd doldeb yn ddyfal ac yn ofalus.

GAn hynny bydded i bob dyn Christianus ofyn iddo ei hun ac i eraill sy yn lle dûw, y qwestiwn hwn, beth a wnafi fel y gallwyf gael y Tragywyddoldeb bendigedig, neu wynfyd Tragywyddol? Wyfi yn y [Page 91] ffordd union sy 'n tywys i Dragy­wyddoldeb? yr wyfi yn gwneuthur rhyw beth yn siccr, eithr bychan iawn yw hynny, ac ni thal son am dano. Yr wyf yn sychedu ac yn a­wyddu ar ol y llawenydd sydd yn an­farwol ac yn Dragywyddol: Eithr fy ngweithredoedd y chydig ynt, ac pan font ar y goreu, yn oerion ac yn ammherffaith; ac i gyd oll yn an­nheilwng o wobr Tragywyddol. Yr wyfi yn tybied yr amser yn hir hyd oni ddedlwyf i'r Porthladd: Eithr y mae arnaf ofn y tonnau cythryblus a'r temmhestloedd rhyd y ffordd: pan ac etto er hynny i gyd y ffordd oref a'r ddiogelaf i'r Nefoedd yw 'r arwaf a'r gulaf. Dymma 'r uniawn wirionedd wedi ei barablu o enau Duw, a Christ yn ei gyhoeddi; ganMatth. 7. 13. ddywedyd, Ewch i mewn trwy 'r potth cyfyng▪ Canys Ehang yw 'r ffordd sydd yn arwain i ddistryw, a llawer yw y rhai, (ie gormod ysywa­eth) sydd yn myned i mewn trwyd­di.14 O blegid cyfyng yw 'r porth a chul yw 'r ffordd sydd yn arwain ir bywyd, ac ychydig yw y rhai, (ie ychydig iawn ysywaeth) sydd yn ei chaiel hi. Drachefn, ymdrech­wchLuc. 13. 24. [Page 92] am fyned i mewn i'r porth cy­fyng: canys llawer, meddaf i chwi,Iuc. 13 24. a geisiant fyned i mewn, ac nis gal­lant. Oh▪ mor ofnadwy yw 'r gair hwn, Llawer, a hwn yma, Y chydig! fel y dylent hwy beri i ni grynû! Eithr nyni ddynion truain ydym yn ein twyllo ein hunain, gan addaw yn dhud i ni ein hunain Dragywyd▪ doldeb: Ac er hynny ni fedrafi ddywedyd pa 'r un hawsaf y gellyd iawn ddywedyd am danom a'i yn bod ni yn gobeithio, a'i yn bod ni yn breudddwydio y cawn ni ein cyfri ymmysg yr ychydig hynny a son­niwyd am danynt o'r blaen. Mi a ddymunwn ar Dduw, yn awr, ie yn awr tra bo hi yn amser cym­meradwy, ac yn ddydd yr hiecydwri­aeth, a fyddei i ni ddal sulw yn fed­dylgar, ac yn ddyfal ar Dragywyddol­deb, ac ymresymmu â ni ein hunain fel hyn: Och! Pa beth yw hyn oll yr wyfi yn ei ddioddef, neu yr hyn yr wyf yn ei weled fod eraill yn ei ddioddef? Os cymmharir ef a Thra­gywyddoldeb, nid yw ddim. Beth pa gallwn ni henwi cymmaint o flinderan ac o beryglon ag y ddarfu i St Paul fyned tanynt, megis y [Page 93] maent ganddo gwedi eu rhoi ar lawr yn ail Epystl Paul at y Corinthiaid, a'r un bennod ar ddeg? Pa byddei2 Cor. 11. 27. i mi ddioddef newyn a syched, di­gasedd a cham, dolur a thlodi? ie mwy na hyn▪ Beth pa llabyddyd fi gida St Paul, a'm curo i â gwiail? Beth pa dioddefwn dorriad llong? Hyn oll nid ynt ddim wrth gos­pedigaethau Tragywyddol. Gan hyn­ny mae yn anghenraid i mi ym mhob adfydwch feddwl rhyng of a mi fy hun, fy mod yn gweled diwedd ar yPs. 119 96. cwbl.

Y Prophwyd Daniel gwedi iddoDaniel. 11. 35. henwi llawer o adfydwch, anchwa­negodd y geiriau hyn, Hyd amser y diwedd: canys y mae etto tros am­ser nodedig. Deuwch yma, deuwch yma chwi oll ac sydd mewn blinde­rau, mewn tristwch, anghennion, dolur; neu ryw adfydwch arall. Pa ham yr ydych yn boddi eich hunain yn eich dagrau? Pa ham yr ydych yn gwneuthur eich oes iwch yn chwerw mewn annioddefgarwch a chwyn? y mae i chwi gysur yma, mawr gysur wedi ei sugno o amser y dioddefgarwch hwn. Oes amryw flinderau arnoch? na ymollwngwch i lawr, cymmerwch ga­lon: [Page 94] tros amser yn unig y parhaant. Y­dych chwi yn dioddef ammharch ac enllyb? Ydys yn eich blino chwi â chammau? oes trallodau eraill gwedi eu hamlhau arnoch? peidiwch a ga­laru: y rhain oll ni pharhâant ond tros amser; tros byth ni chant bar­hau; ar eich ucheneidiau bydd di­wedd.

Dichon dagrau distyllio oddi wrth eich llygaid tros amser: eithr ni bydd i ucheneidiau a griddfanau yn dra­gywyddol ddyrchafu o'ch calonnau. Y mae 'r amser ger llaw, y pryd y bydd i chwi gael eich gwaredu oddi wrth bob gofid: ac y caffoch eich tros­glwyddo i ddedwy ddyd tragywyd­dol. Amlwg iawn yw hynny yn olEcclus. 2. 23. hyn o Ecclesiasticus: y dyn di­oddefgar y ddioddefa tros amser, a chwedi hynny blagura llawenydd iddo ef. Eithr chwihefyd y rhai y­dych yn tybied eich hunain yn unig ddedwydd ar y ddaiar, ac yn enaid ac anrhaith y byd, gwybyddwch cymmaint a hyn, ac nafal chiwch, na dyrchafu i fynu eich corn chwaith: Nid oes ich tebygol ddedwyddyd (canys nid yw ef ond hynny a bwrw 'r goreu) ond cyffinni­au [Page 95] a therfynau cwttogion a chyfyng, a buan yr ydys yn myned o'i tu hwnt hwy. Eich gorfoleddiad chwi nid yw ond tros amser: eich breuddwydion prydferth chwi ni pharhânt ond tros amser. Ar ôl yr amser a hynny ar fyrder, marwolaeth a orchymmyn i chwi dynnu ymmaith wyneb lledri­thiog dedwyddyd, a sefyll ym mhlith y rhowter. Yno y bydd i chwi wir ymddangos o gymmaint a hynny yn fwy anedwydd, ac o ba gymmaint bynag mwy dedwydd iawn yr oed­dych chwi yn ym ddangos i chwi eich hunain o'r blaen, yn nhyb eich meddyliau ynfyd. Gan hynny pa 'r un bynnag a'i tristwch a'i llawenydd, nid yw ôll ond tros amser yn y byd hwn, Tragywyddoldeb yn unig y­dyw yr hyn nid ellir ei warchau o fewn neb ryw derfynau amser. Gan hynny pa 'r un bynnag a'i ▪r corph a'i 'r meddwl a fydd yn dioddef; Pa▪ 'r un bynnag a'i colli cyfoeth a'i anrhydedd a wnawn; Pa 'r un byn­nag a wna ein ammynedd ni a'i bod gwedi ei gynnefino mewn tristwch neu ofid, gofalon neu rwy gystuddi­au eraill▪ oddi fewn, neu oddi allan; nid ynt oll ond lledrithiog a▪ thrang­cedig [Page 96] os ystyriwn ni gospedigaethau tragywyddol. Canys pan elo ar ol dydd farn ddegmil a deugain o fly­nyddoedd heibio, bydd yn ol ddeng­mil a deugain o fyrddiwnau o fly­wyddoedd etto; a chwedi i rheini fyned heibio, bydd yn yr un modd mwy fwy yn ol yn ddidor ac yn wa­stadol myrddiwnau o flynyddoedd yngwhaneg, a'r diwedd ni bydd byth. Eithr pwy sydd yn myfyrio ar y pe­thau hyn? pwy sydd yn eu hystyried, ac yn eu craffsynnied hwy yn dda rhyngddo ag ef ei hun? Ni a ddangoswn weithiau fod gennem ni arwynt ar bethau tragywyddol: Ei­thr yr ydys yn ein taflu ni i fynu ac i wared a chynnhyrfiadau, ac a meddy­liau am bethau aeth heibio, ac am be­thau i ddyfod: ein calon ni sydd yn bwhwmman, ac yn llawn o wagedd. Pwya'i sefydla hi, ac a'i gesyd hi mewn lle diogel, fel a gallo hi sefyll en­nyd, ac yn sefyll ryfeddu; ac yn rhy­feddu synnu o herwydd disgleirdeb Tragywyddoldeb; yr hwn a saif yn wastadol, ac nid a ymmaith byth? Myrogenes a wnaeth yn dda pan ddanfonodd Eustachius Archesgob Caersalem iddo roddion, meddaf, fe [Page 97] wnaeth yn dda eû gwrthod hwynt; gan ddywedyd Gwnewch ond un peth, er fy mwyn i, yn unig gwed­dio trosof; fel y byddo i mi gael fy ngwaredu rhag poenau trayywyddol▪ Ac nid oedd Tullius chwaith allan o'r ffordd pan dywedodd ef, ni ddi­chon un peth dynol ymddangos yn fawr i wr doeth; yt hwn sydd ar gwybodaeth ganddo o Dragywyddol­deb, ac o fawredd y byd i gyd. Eithr gan Ffrancis Awdûr trefn y Ffrancisganiaid yr oedd araith, well o lawer na hon o eiddo Tullius: Nid yw 'r difyrrwch sydd yma, medd ef, ond byr; eithr y gospedigaeth a fydd yn ol hyn annnerfynedig yw: Nid yw 'r boen sydd yma ond bychan; eithr y gogoniant a fydd yn ol hyn Tragywyddol yw. Cymmerwch eich dewis, llawer sydd gwedi eu galw, ychydig gwedi eu dewis, eithr pawb sydd gwedi eu gwobrwyo yn ol eu gweithredoedd.

Gan hynny bydded ein hedifei­rwch ni yn ebrwydd tra caffom ni amser. Gwell (yw medd Gwerri­cus,) i ni gael ein puro trwy ddwfr nâ thrwy dan, a esmwythach i ni o lawer. Yr awrhon y mae 'r amser i [Page 98] edifarhau: Gan hynny bydded i'n prydlawn edifeirwch ragflaenu ein cospedigaethau. Pwy bynnag sydd yn ofni y llwydrew, yr eira a ruthra arno: yr hwn sydd yn ofni y niweid lleiaf, a gaiff ddioddef a fo mwy: yr hwn nid a tan ysgafn bwys edifei­rwch, rhaid iddo fyned tan arthrwm bwys cospedigaethau tragofidus uffern. Gan St Gregori y mae Araith o'r un meddwi; rhai, medd ef, tr a bont yn arswydo cospedigaethau amserol, ynt yn rhedeg eu hunain i cospedigae­thau Tragywyddol. Gallwn gysylltu yma hyn o eiddo Pacian; Cofia medd ef, nad oes yn uffern un lle i gyfadde­fiad pechodau, un lle i edifeirwch: Canys y mae hi y pryd hynny yn rhy ddiweddar i edirfarhau, a'r amser we­di myned heibio: prysurwch gan hynny tra byddoch chwi ar y ffordd. Ni a ofnwn dân amserol a llaw 'y dihenyddwr▪ Eithr pa beth yw y rhain i grafangau arteithwyr o ddi­awleid, ac i dân Tragywyddol uffern. Cyngor St Ambros i forwyn a dripi­asei sydd gymmhessur jawn yn y fan yma.

Ni ddylei gwir edifeirwch, medd ef, fod mewn gair yn unig, eithr mewn [Page 99] gweithred; a dymma mewn gwirio­nedd wir edeifeirwch, o gosodi ger bron dy lygaid oddi wrth pa ogoniant y syrthiaist; ac wyt yn y styrio rhyngot a'th di dy hûn allan o ba lyfr y di­leuwyd dy henw: ac yn credu dy fôd yr awrhon yn agos i lwyr dywyllwch, lle mae wylofain a rhingcian dan­nedd yn ddiddiwedd. A phan ddy­gir ar ddeall i ti yn siccr, fod y pe­thau hyn yn wîr, fel mewn gwirio­nedd y maent; gan weled fôd yr enaid a becho ym mherigl tân uf­fern, ac nad oes moddion yn y byd gwedieu gadel arôl y bedydd i ddiange; ond edifeirwch yn unig; bydd fodlon i ddioddef pob math ar boen, ac i fyned tan bob math ar gystuddiau, i fod yn ddiangol oddi wrth boenau Tragywyddol. Clefydau 'r corph a gynnhyrfa 'r gwr clâf i gymmeryd cyfog boly o bysygwriaeth: Cynhyrfed clefydau ein heneidiau ni hefyd i gym­meryd Cyfog boly o edifeirwch: Cyn­hyrfed y deisyfiad o'n iechydwriaeth ni: Cynhyrfed ofn marwolaeth Dra­gywyddol a phoenau Tragywyddol ni: Cynhyrfed y gobaith o gyrraedd by­wyd Tragywyddol a gogoniant Tra­gywyddol ni. Gwnawn yn fawr o'r [Page 100] hyn sydd yn carthu yr enaid yn lân; a gochelwn yr hyn sydd yn ei wneû­thûr yn aflan: Ac nid oes dim yn drewi cymmaint ar yr enaid, nag y mae 'r corph aflan. Ffyddlon yw 'r cyngor hwn o eiddo St Ambros, ac yn rhyglyddu arnom wneûthur yn fawr o honaw.

O Jesu Christ caniatta i ni gael perchennogi felly bethau trangcedig ac Amserol: Megis na byddo i ni yn y diwedd golli yr pethau yn Dragywyddol. A dyro i ni râs i ro­dio ynghamraû y rhai y mae St. Au­gustin yn sôn am danynt, ac i ddilyn eu esamplau da hwy; Llawer sydd, medd ef, a ddaw yn ewyllysgar tan yr iaû, ac o wyr beilch sythion yn dyfod yn ddifeilch ac yn ostyngedig, ac yn deisyfû eû bôd yr hyn oeddynt o'r blaen yn ei ddirmygû, ac yn casaû i fôd yr hyn oeddynt o'r bla­en: Yn myned heibio i bethaû presennol, fel dieithriaid; ac yn brysio gidâg awydd ar o'l pethaû i ddyfod. Yn dyheû yn eû gyrfa rû a'i gwlâd Tragywyddol: Yn cy­fri dirwest o flaen digonoldeb: Gwi­liadwriaeth o flaen cwsg: Tlodi o flaen cyfoeth: Yn cyfrif y boen [Page 101] yn goresgyn pechodaù yn ddifyr­rwch; yn caru eû gelynnion; yn gollwng tros gof gammaû; a'r cwbl o ran y gobaith am wobrwy Tragy­wyddol. A pha rai na ddioddefai gan hynny eitha pethaû, a phob mâth ar boen i bwrcasù iddynt eû bûnain y gwobrwy Tragywyddol.

Y Pedwaredd Ystyriaeth. AR Dragywyddoldeb.
Sydd yn yspysu pa fodd yr oedd Da­fydd Sanctaidd yn myfyrio ar Dra­gywyddoldeb, a pha fôdd y dylem ni ei ddilyn ef.

IDduw gospi yr Angylion gwrth­giliedig, a dynion gwedi eu bar­nu yn euog ar y dydd diweddaf â dialeddau Tragywyddol, a ymddangosodd mor ddieithr i rai, ac mor amghredadwy, a darfod i Origen ei hun, gwr ond am hynny, o syn­wyr rhyfeddol, ac o ddysgeidiaeth rha­gorol, o gyfarwyddyd da jawn yn yr yscrythur, fod mor hyf ag athrawiae­thû [Page 104] fòd y cythreûliaid a'r damne­dig ar ôl rhyw amser, gwedi iddynt gael eû pûro yn ddigonol trwy dân o'i pechodaû: yn cael o'r diwedd eû hedfryd i râs. Eithr St Augustin ac eraill a'i hargyoeddasant ef, ac a'i barnasant yn eûog o'i hamryfûsedd yma. Er hynny i gyd yr amryfû­sedd hwn, a gafodd yn y byd lawer a'i carodd. Rhyw Hereticciaid Enwe­dig Anitiaid, a'i haûodd ef yma a thraw, ac a'i tanodd rhyd holl Yspaen trwy amryw ddeongliadaû o'i he­iddo: Rhai feddyliaû mai 'r holl rai damnedig eraill Cristonogion yn unig, eraill rhai o'r Papistiaid yn u­nig, eraill y rheini yn unig a fûase yn haelach nag eraill yn rhoi elûse­nad, gaent eû gwaredû o'r diwedd allan o dân uffern. Er na ddarfu i St Augustin wrth brofi yr amryfused­dau hyn o'i heiddo, er hynny yr yscrythur sanctaidd a'i gwnaeth yn eglur ac yn amlwg. Ewch oddi wrthif rai melldigedig i'r tân Tragy­wyddol: Math 41. 46 A thrachefn; Y rhai hyn a âat i gospedigaeth Tragywyddol; ond y rhai cyfiawn i fywyd Tragywyddol. Ni ddichon un eglurhâad neu dde­ongliad wasanaethu eu tro hwynt [Page 105] yma, i amddiffyn eu amryfuseddau. Gan hynny y Psalmudd sanctaidd y Brenin Dafydd, er ei fod ef yn ymhy­frydu yn fawr yn yr ystyriaeth o bob un o'r amserau, sef yr hyn aethei hei­bio, a'r hyn oedd i ddyfod: Etto yn yspysol iawn ei lygaid ef oedd ar yr hyn oedd i ddyfod. Fy llygaid, medd ef, a achubasant flaen gwilia­dwriaethan Psal. 119. 148. Psal. 77. 4. y nôs: A thrachefn mewn man arall, Deliaist fy Uygaid yn effro, synnodd arnaf, fel na allaf lefaru. Pa beth, Brophwyd bendigedig, a dorrodd ar dy hun? Pa fasnach oedd i ti i'w wneuthur mor foreu cyn ei goleuo hi yn ddydd? Pa beth a barodd i ti ddi­stewi felly, a thrallodi dy feddwl? Gwr­andewch beth y mae fe yn ei ddy­wedyd.Psal. 77. 5. Ystyriais y dyddiau gynt, blyny­ddoedd yr ben oesoedd, a blynyddoedd Tragywyddoldeb oedd gennif yn fy me­ddwl. Wele, pan gymmharodd ef y blynyddoedd aethant heibio, a'r bly­nyddoedd oedd i ddy fod, ac â Thragy­wyddoldeb, hynny oedd y peth a dor­rasei ar ei hun ef. Nid oedd ef chwa­ith yn gwneuthur felly y dydd yn u­nig, Eithr cofio yr ydwyf fynghân, medd ef, y nôs, yr ydwyf yn ymddiddam â'm Psalm. 77. 6. calon fy yspryd sydd yn chwilio yn ddy­fal. [Page 106] A pha beth a'i cynnhyrfodd i arferu hynny bob nos? ond hyn, Ai yn dragywydd y bwrw 'r Arglwydd hei­bio, ac oni bydd efe bodlon mwy? A 8 ddarfu ei drugaredd ef tros byth? E­drych fel y mae ef yn ofni ac yn cry­nu yn unig wrth ystyriaeth ar Dragy­wyddoldeb, fel y mae ef yn ofni barnedigaethau Duw, rhag fyddei i Dduw ei gospi ef a dialeddau Tra­gywyddol. A pha beth yw gweithre­diad a diben yFyfyrdod hon? ond hyn, A dywedais dymma fy ngwendid: etto cofiaf &c. neu, 'r awrhon y dechreuaf. Psa. 77. 10. Felly mewn diddim amfer, yn y gwir unrhyw funud. efe a brifiodd yn well nag oedd, ac nid oedodd; nid oedodd ef chwaith ei edifeirwch, na'i fwrw heibio tan flynyddoedd a fyddei gwa­eth. Eithr, medd ef, yr awrhon y dechreuaf, yr awrhon mi a fyddaf fyw yn dduwiolach nag a bum. Nid yw ef yn dywedyd ar ol y cyfryw awr, neu ar ol y cyfryw ddiwrnod; eithr, yr aw­rhon ie yr awrhon. Myfi medd rhyw ddyn, ped fawn i fel yr oedd Dafydd, os medrwn i fyfyrio ar Dragywyddoldeb fel yr oedd Dafydd fendigedig a ddy­wedwn agarfydd, y pryd hynny gidâ Dafydd [Page 107] yn ddioed ac a hoen, yr awrhon y de­chreuas: Eithr rhywstrwyd fi felly â gofalon beunyddiol, rhwydwyd fi felly â masnach bydol, trawsdynnwyd fi felly i amryw barthau ffordd yma, ffordd accw mal nas gallaf. Yr wyf yn byw ym mysg dynion, yr ydwyf yn gweled ac yn clywed llawer o ddrwg: Nid wyf yn cael nag amser na hamdden i gymmeryd yn fy ngha­lon feddwl cystadl a'r meddwl am Dragywyddoldeb. Pan ymgyfar fyddom ynghyd yn gwmpeini i wneuthur yn llawen▪ nid ydym ni un amser yn ym­chwedleua ym-mysg ein difyrrwch na rhwng ein cwppaneidiau am y cyfryw byngciau Pwyllog: Ein meddyliau ni ynt yn gwibio i fynu ac i wared am lawer o bethau, ac nis gallant y pryd hynny sefydlu eu hunain ar ystyriaeth Tragywyddoldeb. Yr ydym ni yn ein gwleddoedd a'n ymgyfarfod llawen yn cymmeryd ein cwppaneidiau, ac yn rhyngu ein bodd ein hunain yn dy­wedyd chwedlau digrif: Y mae y meddyliau am Dragywyddoldeb yn rhy ddwys, yn rhy drymmion ac yn felancholi i gael eu croesawu gennym; ni a ddeolwn y cyfryw allan o'n cym­deithas. [Page 108] Ni a ymofynnwn pa new­ydd o'r Ital, neu o Ffraingc, neu oi Yspaen. Mae yr hyn yr ydych chwi yn ei adrodd i ni mor fynych ynghy­lch y nefoedd ac uffern gwedi hir sefyll bellach, a myned yn hen.

Ni a wyddom hyn yn barod yn ddigon da: Pa raid i chwi ei ail adrodd cyn fynyched, hyd onid ydym yn diflasu arno? felly nid oes trwy 'r moddion hyn un lle nac amser wedi ei adel i feddwl unwaith am Dragy­wyddoldeb. Oh! frawd Cristianus! Gwir yw yn siccr yr hyn yr ydwyt ti yn ei ddywedyd, nid allafi ei wadu: ond mi a ddymunwn dy fôd di mor barod ac mor gyflyn i wellhau dy fai, ac yr ydwyt ti i'w gyfaddef. Rhy eglur ac Amlwg yw, yr ydym ni yn gweled hynny â'n llygaid, nad oes ond ychydig neu ddim gofal yn y byd am Dragywyddoldeldeb: er bod rhyw beth neu ei gilydd bob dydd yn wastadol yn ei ddwyn ef ar gof i ni.

Y llyfr o hen Arferion a Defodau Eglwys Rhufain ar gyssegriad eu Hes­gobion Appwyntiodd i'w datgan y gei­riau hyn, Annos Aeternos in mente ba­be, cadw yn wastadol yn dy gof flyny­ddoedd Tragywyddoldb, neu, feddwl am Dragywyddoldeb: Canys cyn [Page 109] gynted ac y dewisir y Pab newydd ei ddwyn ef o hyd yr ydys mewn modd parchedig i eglwys St Petr; yno mae un yn cerdded o'i flaen ef, a chanddo yn ei law lin yn llosgi, ac yn ei ysgwyd yn adrodd deirgwaith y geiriau hyn, Pater sancte, sic transit gloria mundi, Y Tad sanctaidd, fel hyn yr a gogo­niant y byd ymmaith. Arfer ddu­wiol a defosionol a fyddei hyn, pet­tem ninnau bob dydd wrth ddechreu a diwedd ein holl weithredoedd, yn dywedyd wrthym ein hunain y geiri­au hynny, Annos Æternos in mente ha­be; Meddwl am Dragywyddoldeb. Eithr yn yspysol pan demptir ni i neb rhyw bechod, pan fo 'r cythrael yn dwyn ar gôf i ni, ac yn gosod yn ein calonnau feddyliau drwg, a phan fo ein cyd­wybodau mewn perigl o gael eu har­cholli: Oh! Meddyliwn y pryd hyn­ny am Dragywyddoldeb.

BEN. I.
Y bennod gyntaf yma sydd ya cynnhwy­so amryw rybudddion i feddwl an Dragywyddoldeb.

PHilip Brenin Macedon a appwyn­tiodd ryw wr ieyangc enwog i'w gyfarch ef bob bore dair gwaith yn y modd yma, Philippe, homo es; Cofia, [Page 110] Philip, nad ydwyt ti ond dyn. Mal gan gofio iddo ei farwolder beunydd, y byddei iddo ymddwyn tu ag at ddynion marwol yn gyffelyb i ddyn marwoll. Mwy o lawer y dylei pob dyn Christanus, a gwir aelod o'r Egl­wys Gatholic fod yn rhybuddiwr iddo ei hûn, ac a dyledus ystyriaeth ddywedyd bob bore o'r lleiaf dair­gwaith wrtho ei hun, Tragywyddoldeb, Tragywyddoldeb, Tragywyddoldeb! pam hynny? Trefna dy dy (medd y Proph.Esay 38. 1. wyd wrth y Brenin Hezekiah) Canys marw fyddi, ac ni byddi byw. Yn ddiammeu y prydnhawn a ddaw, ar ol yr hwn ni chei di weled un bore▪ neu 'r bore a ddaw ar ol yr hwn ni chei di weled un prydnhawn. Am hynny bydded gennit ti ofal yspysol yn dy holl weithredoedd, na archo­llych di dy gydwybod: ac na ymddi­riedych yn ormodd yn y pethau hynny a dderfydd am danynt; rhag ofn dar­fod am danat tithau dy hun gidâ hwynt yn yr un modd, a cholli o'r diwedd y pethau ynt Dragywyd­dol. Germa­ny.

Arfer sydd * yngwlad yr Ellmyn, ac nid yw hi i'w anghanmol, pan oleuir, yn y cyfnos ganwyll, neu pan [Page 111] ddelir â hi i mewn gyntaf i ystafell, o ddywedyd; Deus det nobis lucem Æ­ternam, Duw a roddo i ni oleuni Tra­gywyddol. Byddei i ninneu wneuthur yn dda ddilyn yr Ellmyn yn yr Arfer hon: Neu yn hyttrach, yr ydys yn ar­fer hynny yn barod, ac a arferwyd er y­stalm o'r blaen mewn llawer o fannau o'r deyrnas hon o ddywedyd; Duw a roddo i ni oleuni teyrnas Nefoedd. Da jawn yw hyn i ddwyn ar gof i ni Dragywyddoldeb beunydd.

Je, mae math ar Dragywyddoldeb mewn caethiwed a charchar, eithr yn anenwog ac yn erchyll. Cospe­digaeth greulon yw, neu waeth ym­marn rhai dynion na marwolaeth ei hun, i un fod gwedi ei farnu i gar­char Tragywyddol, neu i fod byth yn gaeth-wâs i rwyfo mewn llon­gau.

Hefyd y rhai y mae clefyd neu ryw ofidiau eraill yn eu gorthrymmu, ynt yn bwrw yn eu meddyliau rhyng▪ ddynt a hwy eu hunain, ie fod yn ei dioddefiadau hwy ryw fath ar Dra­grywyddoldeb! o hyn yma mae yn digwyddo yn bod ni yn eu clywed hwy yn fynych yn adrodd y cyfryw eiriau afreolus a rhain. A fydd i hyn [Page 112] bara yn wastadol? A fydd i mi fod byth bob amser ynglyn yn fy ngwely? A fydd i mi ddioddef y poenau a'r gofidiau hyn byth? A fydd i mi gael fy mhoeni am blino fel hyn beunydd? Och! nid yw y Tra­gywydolderau hyn ond byrrion, buan i dibennant. Eithr os ydyw mor o­fidus i gig a gwaed ddioddef caethi­wed a charchar yma ar y ddaiar pe rhon ond tros funud (canys nid yw ein heinioes ni hwy na hynny, yn ol mesur Dafydd ond rhychwant yr hyn fydd fyriawn) pa ofal a dyfalwch, a pha graffter a ddylem ni ei arferu, fel na byddei i ni gael ein taflu i gar­char uffern, ac i'r pwll difeisiedig, llo mae caethiwed a charchar, poen ac artaith i'w dioddef trwy 'r oesoedd ôll, wedi yr hôll amserau, ie hyd bob Tragywyddoldeb.

BEN. II.
Yr ail bennod yma sydd yn danges fôd Tragywyddoldeb yn myned o'r tu hwnt i bob nifer o gyfrifyddiaeth.

MAe 'r Cyfrifyddiaeth gyffredinol iawn, ac yn gydnabyddus ddigon yr hon a ddysgir i blant pan elant gyntaf i'r ysgol a hyn yma ydyw. Bwrw fod mynydd o dyfod man iawn cymmaint a'r holl ddaiar neu yn hyttrach yn fwy o lawer. Yno bwrw pa byddei i Angel bob blwy­ddyn gymmeryd un, ac ond un grai­enyn o dyfod o'r mynydd hwn. Pa sawl mil, a mil a thrachefn, med­daf, mil; ie, pa fawl can mil; ac etto angwaneg, pa sawl mil o fyrddiw­nau o flynyddoedd a fyddei yn an­genrhaid iddynt fyned heibio, cyn y gellyt deall fòd y mynydd yn lleihau, neu i ddim fôd gwedi ei dynnu ym­maith? Eistedded gwr i lawr a fo cefarwydd mewn cyfrifyddiaeth? A dechreued fwrw pa sawl blwyddyn a fyddei yn angenrhaid iddynt fy­ned heibio cyn i'r mynydd, neu i [Page 114] hanner y mynydd gael ei ddwyn ymmaith gan yr Angel? Yn wir nid allafi ddeall y dichon ef fwrw byth y nifer yn gwbl o'r tyfod. Eithr yr ydym ni yn camgymmeryd yn hyn; canys er nad allwn ni ddeall fod yn poslibl ei wneuthur, er hynny fe ellir ei wneuthur: Eithr y mae yn ddigon diammeu, fod Tragywyddoldeb yn rhagori ar y nifer hwn o flynyddo­edd allan o bob cymmhariaeth: Ca­nys nid oes rhwng y peth terfynedig a'r peth annherfynedig ddim cym­mhariaeth na chyfladdrwydd: Nid oes nag eithafon, na therfynau, na chyffin­niau i Dragywyddoldeb, nag oes yr un. Bwrw pa na byddei i'r damnedig ddim yn hwy losgi yn uffern, ond tra byddei Angel yn dwyn ymmaith yn llwyr y mynydd o fesur graienin yn y flwyddyn: Er hynny pa nifer aneirif o flynyddoedd fyddei raid iddynt fy­ned heibio, cyn a gallant hwy ddis. gwyl gweled dydd eu hymwared! Eithr, och! nid oes un cyfryw ddiwr­nod i'w ddisgwyl; ni bydd diben ar eu poenau ar ol y nifer aneirif hwnnw o slynyddoedd, fe ddywedir yn ddiammeu, yr awrhon y mae eu Tragywyddoldeb hwy yn dechreu, nid yw eu Tragywyddoldeb hwy mewn [Page 115] neb ryw barth yn darfod, y maent cyn belled oddi wrth ddibennu eu poenau, ac yr oeddynt yn y dechreu­ad. Ar ol mil o flynyddoedd, ie ar ol can mil o flynyddoedd ni bydd na diwedd na chanol, na dechreuad o Dragywyddoldeb. Canys y medr o Dragywyddoldeb sydd bob amser. Y mae Difeinydd a fu yn ddiweddar yn athrawiaethu yr unrhyw gelfyd­dyd o gyfrifyddiaeth ynghylch y masnach o Dragywyddoldeb, mewn geiriau yn amrywio peth; Eithr o'r un meddwl a'r rhai cyntaf: Am hynny mi a'i hangwhanegaf hwy, o herwydd na ddichon gwr f▪ th feddwl, neu ddywedyd digon am dano. Ysty­ria, medd ef, pa beth yw Tragywyd­doldeb? Pa hyd y teyrnasa Duw a'i Seinctiau? Pa hyd a bydd y damne­dig yn llosgi yn uffern? Yn oes soe­soedd. Pa hyd yw hynny? Bwrw yn dy feddwl mai can mil o slynyddoedd. Och! nid yw hynny ddim mewn her­wydd i Dragywyddoldeb. Bwrw yn dy feddwl ddeg can mil o flynyddo­edd, ie cymmaint a hynny o oesau; Etto nid yw hynny ddim. Y mae Tragywyddoldeb yn gyhyd ag yr oedd. Bwrw yn dy feddwl fil o fyrdiwnan [Page 116] o flynyddoedd. Ac etto nid yw hynny ddim. Ni fyrhâed un tip­pyn ar Dragywyddoldeb. Bwrw yn dy feddwl etto fwy, 100000000 0000000000000000000000, Mîl, mîl, mîl, mîl, mîl, mîl, mîl, mîl, Ofyr­ddiwnau o flynyddoedd: Bwrw yn dy feddwl meddaf, fod i'r dam­nedig losgi yn uffern hynny o flynyddoedd: Ac etto ni chefaist di wir ddechreuad Tragywyddoldeb. Bwrw yn dy feddwl cymmaint a hyn­ny o fyrddiwn o fyrddiwnau o fly­nyddoedd ac sydd o ddefnynnau yn y môr: Ac etto ni ddaethost ti i ddechruad Tragywyddoldeb. Y cyfryw am barhaad yw y Tragywyddoldeb O Lawenydd yr hwn a fydd i'r bendi­gedig fyned i mewn, a'r Tragywyddol­deb o boenau a ddioddefa 'r dam­nedig. O Jesu arbed ni, arbed ni O Jesu, O Jesu achub ni, cymmer dru­garedd arnom ni O Jesu daionus, ac na chynnwys i ni gael ein taro tan ddwfr yn wysg ein pennau yn y pwll diwaelod, i gael ein poeni gida 'r damnedig tros holl Dragywyddoldeb.

Eithr etto pa gwnae Duw ond dywedyd wrth y damnedig, gorch­cuddiwch y ddaiar a thyfod man iawn, a llennwch y byd o honaw, a [Page 117] phentyrrwche fi fynu cyfuwch ar ne­oedd, ac yno do ed Angel unwaith bob mîl o flynyddoedd, a chym­mered un graienyn o dyfod allan o'r pentwr; y pryd, ar ol cymmaint o filoedd o flynyddoedd a hynny, ac oedd o ronynnau o'r tyfod, y dygei 'r Angel ymmaith yr hôll ben­twr, y pryd hynny mi a'ch gwaredaf chwi allan o dan uffern! Oh fel y gorfoleddei 'r damnedig gan lemmain o lawenydd! ac ni fed­dylient eu bod yn ddamnedig! Ei­thr, (och) ar ôl cymmaint o filoedd o flynyddoedd a hynny, bydd etto chwaneg yn ymaros, a chwaneg, ac aneirif chwaneg hyd Tragywyddoldeb oll; ie byth ae yn oes oesoedd. Dyna 'r trwm bwys hwnnw sydd felly yn gwa­sgu▪ ar y damnedig! Bob un gan hyn­ny ac sydd yn pechu, ystyried rhyngddo▪ ag ef ei hun, a thra­chefn, meddaf, ystyried y caiff onid edifarha ei wasgu a'i fa­lurio tan drwm bwys Tragywyd­doldeb. Mae gan William Peraldus Esgob Lion gwr dysgedid a chre­fyddol iawn, gyfrifyddiaeth o fath arall, yn myfyrio ar y nifer aneirif o flynyddoedd rhyd y rhai oll y cae 'r damnedig eu poeni. Pa distylliau [Page 118] 'r damnedig, medd ef, bob dydd o'i llygaid ond un deigryn bychan, ac i'r dagrau hyn gael eu rhoi at eu gilydd o ddydd i ddydd, rhagorent lawer o'r diwedd ar ddefnynnau yr mor mawr: Canys y mae i'r 'rhain ni­fer a mesur; a hawdd gidâ Duw ydyw dywedyd, hyn a hyn sydd, ac nid oes yr un yngwhaneg o ddefnynnau yn y mor mawr. Eithr y mae dagrau 'r damnedig yn rhagori ar bob nifer a mesur. Och Och! leied yr ydym yn meddwl am y pethau hyn! Mor rhwydd ac mor ehud yr ydym yn pechu, ac yn gwneuthur ein hunain yn euog o gospedigaeth Tragywyddol, a hynny yn fynych er mwyn difyrr­wch brwnt, byr, a bychan jawn.

Y mae etto yn ymaros un ffordd yngwhaneg i fwrw y nifer aneirif yma o flynyddoedd: Bwrw fod dalennig o femrwn yn rhychwant o led, eithr cy­hyd ac yr amgylchau acy cylchynau y Globyn sef y ddaiar oll: A bwrw i bod hi i gyd rhyd-ddi o'r naill ben i'r llall yn yscrifenenig a'r ffigur naw yn agos jawn at ei gilydd: Pwy un mor gyfarwydd ynghelfyddyd cy­frifyddiaeth a fedrei ddywedyd eu rhyfedi? Pa fynydd sydd cym­maint, [Page 119] a bo yn genni ynddo cymmaint a hynny o ronynnau o lwch neu dy­fod? Pa for mor anfeidrol o faint, ac y gweddei ynddo cymmaint a hyn­ny o ddefnynnau o ddwfr? Ac etto nid yw hyn ddim i Dragywyddoldeb; y mae ef yn ymystyn ymmhellach na hynny; ni wyr ef oddi wrth gyffin­niau yn y byd; efe a ystynnwyd allan o bob mesur▪ Eithr hyd ym mha le 'r ystynnwyd ef? Efe ystynnwyd yn anfeidrol, ac yn ddiddiben. Oni throed dy galon di (O ddyn Chri­stianus) yn garreg, ni ddichon hi na thoddo wrth yr ystyriaeth o'r pethau hyn; a'r ystyriaeth yn unig ar y pwll diwaelod, a dialedd Tragywyddol a wna i ti ofni a chrynu? Od oes ynot ddim ymwrandawiad, efe ymddengys ei hûn yma. Eithr megis y dywe­dais i o'r blaen, y mae rhy fychan yn ystyrio ar y pethau hyn, a gor­mod yn byw mor ddiofal am eu hiechydwriaeth, fel pa na bai na nefoedd, na Duw, nac uffern, na Thra­gywyddoldeb. Y maent bob dydd yn pentyrru pechod ar bechod, fel ped faent yn llafurio ac yn astudio i beri i'w dydd diweddaf ragori ar y cyntaf, am y medr a'r nifer o'i pecho­dau: [Page 120] Ac felly y maent yn myned i Dragywyddoldeb tan gellwair a ch­wareu, fel ped faent ond myned i garchar tros ychydig wythnosau, neu ddyddiau. Y cyfryw ddynion a'r rhain, medd St Gregori, pan ddy­lent fod yn galarau am eu pechodau, fyddant yn dawnsio am eu difyrrwch: A phan ddylent fod yn myfyrrio yn ddifrifol ar farwolaeth, hwy a fyd­dant yn rhedeg tan chwerthin i'w dihenyddfa. Dallineb yn siccr yw hyn yma, ynfydrwydd anghofus ydyw. Yr ydym ni am y bywyd byr yma, yr hwn nid yw ond cysgod Tragy­wyddoldeb tyn llafurio allan o fesur; Eithr am y bywyd yr hwn fydd yn Dragywyddol, ac yn ddedwyddaf o'r cwbl, nid ydym ni agos yn cymme­ryd neb ryw boen un amser: Ac etto mae palliant y gyffaeliad o'r bywyd hwn yn cyrchu i ni farwola­laeth Tragywyddol; yr hyn megis ag y mae yn boen mwy gofidus, na holl boenau 'r bywyd hwn; felly yn hyn yma mae fe yn ofidus jawn, am nad oes dim llonyddwch neu esm­wythaad o boen, nac oes un awr fach o fewn holl yspaid Anfeidrol Tragy­wyddoldeb.

BEN. III.
Y drydydd bennod yma sydd yn dangos par affaith a ffrwyth sydd yn tyfu allan o'r ystyriaeth ar Dra­gywyddoldeb.

AHyn yw'r peth a barodd i gym­maint o Gristionogion da, ac i gymmaint o Ferthyron sanctaidd fôd mor gywair a pharod i ddioddef pob math ar arteithiau neu farwo­laeth a fynnid, megis ac y byddent yn eu poenau mwyaf, ie pan fyddent yn ymdrabaeddu yn eu gwaed, yn ddewraf ac yn wasgwychaf o gwbl, ac yn gorfoleddu â golwg dianwadal, ac â wynebpryd cysurus ar eu har­teithwyr. Blynyddoedd Tragywyd­doldeb oedd gandydnt hwy yn eu med­dwl. Dymma 'r peth a barodd i'r byd ymddangos yn ddiflas, ac yn anhyfryd i lawer, yn gymmaint a dar­fod iddynt hwy gymmeryd eu cen­nad gan bob difyrrwch, a chyfleidio a chroesawu durfing a chaeth drefn buchedd, gan ymroddi eu hunain yn gyfan i ddarllain, i fyfyrio, ac i wed­dio, a'r cyfryw ddyledswyddau sanct­aidd, [Page 122] gan roi eu fryd ar y nefoedd, a phethau nefol. Blynyddoedd Tragy­wyddoldeb oedd ganddynt hwy yn eu meddwl. Meddwl am Dragywyddol­deb a bar i bob peth yn y bywyd hwn ymddangos yn esmwyth ac yn hy­fryd: Er eu bod hwy i gig a gwaed yn ymddangos yn ofidus jawn ac yn an­hyfryd. Y mae ef yn peri i'r hôll helbulon ymddangos yn ysgafn ac yn fyrrion jawn. Y mae ef yn rhoi mewn ymddiried i ni weddio, astu­dio, gwilio, a'r cyfryw ddyledswyddau sanctaidd, ac yn peri iddynt ymddan­gos yn hygar. Y mae ef yn tym­mheru ac yn pereiddio newyn a fy­ched. Y mae ef yn esmwythau yr ymwrandawiad o wasg-tlodi, Y mae ef yn gwneuthur pob math ar wrth­wynebion yn y bywyd hwn, nid yn unig yn oddefadwy, ond hefyd yn gymmeradwy, ac yn gonftorddus. Gan bwy bynnag y mae blynyddoedd Tragywyddoldeb mewn cof, ac sydd yn eu hargraphu hwy o'i fewn ddwf­nach ddwfnach trwy fyfyrdod beu­nyddiol, ni ochela hwnnw helbulon yn y byd: Ac nis dychrynir ef ch­waith â mâth yn y byd ar golledion. Cynnyg iddo deyrnas, Cynnyg iddo y digrifwch a'r difyrrwch oll sydd yn [Page 123] y byd; ac efe ni newid am danynt ei gyflwr a'i ystâd dlawd. Ni achwyn y cyfryw wr a hwn un amser: Dioddef pob peth y wna, y mae yn ymddarost­wng ei hun i'r cwbl. Canys y mae yn meddwl rhyngddo ag ef ei hun yn y modd yma, leied peth yw hyn yma, neu hyn accw; hyn accw, neu hyn yma, a byrred eu parhâad! Am hynny mi a'i dioddefaf yn ddioddef­gar; ni pharhan bob amser Nid yw ond tros awr (o honno yn un fer jawn) y gorthrymma fy ngelynnion fi ymma. Wele, iddo yn awr, chwi ab­senwyr drwg; cnowch fi yn wastadol os mynnwch, chwi rai cenfigennus; ni redaf oddi wrthych. Dymma eich awr chwi a nerth y tywyllwch; Eithr yr wyfi yn disgwyl dydd yr Arglwydd, a'r dydd o Dragywyddol­deb; a pha ham y rhaid i mi flino a phoeni fy hun a thristwch a galar? Nid yw'r hall fywyd hn ond marwola­eth o un awr; Nid yw 'r fuddugoliaeth yn galed, Eithr mae 'r gorfoleddiad yn Dragywyddol. Pa ham y rhaid i mi ofni tonnau cynddeiriog y byd trallodus hwn? Y mae r porth'add gennif mewn golwg yn barôd. Y mae hi yr awrhon yn taranu ac yn glawio [Page 124] am ben y rhai da a duwiol, ond y dymmhestl a chwyth ymmaith ar fyr­der. Eithr Duw a lawia am ben ei elynnion bob amser dân a brwmstan, ystorm, a themmhestl: dyna ran eu phiol hwynt. A llawer o'r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaiar (megis yDan. 12. 2. prophwydodd Daniel) a ddeffroant rhai i fywyd tragywyddol, a rhai i warth a dirmyg tragywyddol. Duw a or­chymynnodd yn yr hen gyfraith i Moses, gan ddywedyd. Gwna it ddau ud-corn arian: yn gyfanwaith y gwnei Num. 10. 2. 4 hwynt. Ond os ag un y canant, yna y Tywysogion, sef Pennaethiaid miloedd Israel a ymgasglant. Pan ganoch ala­rwm, yna y gwersylloedd a gychwyn­nant. 5 Ni allwn gyffelybu 'r ddau vd-corn hyn i'r dau air yma, YR AWRHON A PHOB AMSER. Dymma gyfraith y byd, llawen­hawn YR AWRHON, gorfoled­dwn YR AWRHON, mwynhawn YR AWRHON ein daoedd tra bont ar ein helw, deuwch, coronwn ein hunain YR aWRHON â rôs cyn id­dynt wywo; gadawn YR AWRHON arwyddion ac olion ym mhob man o'n llawenydd Y rhai ynt yn disgwyl yn unig wrth lais yr ud-corn hon, [Page 125] y rhai nid oes ganddynt glustiau i glywed dim ond YR AWRHON yma, ynt yn treulio y rhan fwyaf o'i hoes felly, fel pa na bai yr un FOB AMSER i ddyfod ar ôl. Am hynny nid ydynt hwy yn symmud y gwer­syll; ynghanol eu difyrrwch anghofio y maent o'i gwirfodd nad ydynt hwy yma ond Pererinnion a dieithriaid: I ba le bynnag a gwahodda 'r cnawd trythyll hwy, hwy a ânt yn unchwant: Y maent hwy oll yn ymdrafferthu ynghyd yn pentyrru golud, ac yn dilyn difyrrwch: YR AWRHON yma a'i dwrwf sydd yn syfrdanu ac yn py­lu eu clustiau hwy felly, megis y maent yn fyddar tu ag at bob cynghorion da ac athrawiaethau; ac ni wnant hwy cymmaint a rhoi benthyg eu clustiau i'r BOB AMSER hwnnw sydd yn rhaid iddo ganlyn. Eithr hwy y rhai sydd yn agoryd eu clustiau i wrando, a'i calonnau; ddeall; pan ga­no yr Eglwys y ddau ud-corn (megis y mae hi yn fynych yn gwneuthur) ac ar hynny yn ystyrio yn ddifrifol rhyn­gddynt â hwy eu hunain, ac yn cym­mharu ai gilydd YR AWR­HON byr yma, a'r anfeidrol [Page 126] a thragywyddol BOB AMSER hw­nnw; nid ydynt yn arfer o oedi dim, eithr yn brysur maent yn symmud y gwersyll: maent yn byw fel Pererin­nion a dieithriaid, eu lwynau sydd ganddynt gwedi eu gwregysu; cofio y maent ew bod ar eu taith; maent yn danfon eu cyfoeth a'i difyrrwch o'r blaen i'w gwlad yr hon sydd uwch ben; dewis y maent yn hyttrach eu mwynhau BOB AMSER yn y nef, nac YR AWRHON tros ychydig amser ar y ddaiar. Diammeu ydyw, pwy bynnag sydd yn gwrando yn ddy­fal, ac yn dal yn ddifrifol yn ei gof Alarwm yr ud-cyrn hyn, ac a'r hyn­ny sydd yn cymmharu a'i gilydd be­thau presennol a phethau i ddyfod, a phethau trangcedig a phethau Tra­gywydol, efe a wna ei hunan yn brysur yn barod i ymadel paratoi a wna ef iddo ei hun feddiod, rhydd allan ei liain Amdo, denfyn am ei Elor, ac a ddiwalla ei hun a phob peth angen. rheidiol i'w daith; gan gofio yn wasta­dol ymmhob lle i fod ef yn cerdded y ffordd i Dragywyddoldeb; a chan ym chwedleua bob dydd ag ef ei hun yn y modd yma: Pa sut a byddaf o'r gallu i roddi cyfrif i Dduw am fy [Page 127] holl feddyliau, geiriau a gweithredo­edd? ac, pa bryd y mae yn rhaid i mi roi fy nghyfrif i fynu? A pha farn a gerdd arnaf? YR AWRHON gan hynny mi a fyddaf farw i mi fy hun, fel y gallwyf BOB AMSER fyw i mi fy hun ac i Dduw. Y gwr hwnnw gwyn ei fyd, yr hwn sydd mewn amser, a phob dydd yn ystyrio fel hyn ar Dragywyddoldeb. Beth bynnag a wnelom ni, cerdded ein ffordd yr ydym, ac ni wyddom ni fyrred ydyw, i'r drws sydd yn arwain i Dragywyddoldeb. Marwolaeth a'n dwg ni ar yr awr ddiweddaf o'n by­wyd i'r drws hwn, ac a bar i ni fyned i mewn. Gan hynny bucheddwn felly, fel ped fae'm bob amser yn dis­gwyl marwolaeth, megis os rhynga bodd i Dduw un amser ein gofwyo ni a chlefyd rhagredwr marwolaeth, y gallom ni ei chroesawu yn gyssurus, a'i ddioddef yn ymmyneddus, gan godi i fynu ein golygon at Grist yn­ghrog ar y Groes y gwir gynddelw berffaith o ymmynedd, a phan nesao amser ein ymddattodiad gweddio fel hyn; O Arglwydd Jesu sa yn fy ymyl, a chyssura fi; Arglwydd Jesu bydd bresennol gidâ dy was, yr hwn [Page 128] sydd yn ymddiried ynot; Arglwydd Jesu gwna fi yn gyfrannog o'th fud­dugoliaeth; Arglwydd Jesu derbyn fy yspryd, ac arwain fi trwy ddyffryn y tywyllwch a chysgod Angeu; tywys fi ac na âd fi nes i ti ddwyn fy enaid i dir y rhai byw, tydi O Alluogcaf Gwngcwerwr angeu, O tydi yr hwn wyt fy ngoleuni, fy mywyd a'm Hie­chydwriaeth.

Y Pummed ystyriaeth. AR Dragywyddoldeb.
Sydd yn hyspysu y môdd y darfu i eraill, ie gwyr drygionus eu hunain fyfyrio ar Dragywyddoldeb.

HEn histori y Tadau sydd yn adrodd am wr crefyddol, yr hwn yn darllain ar y ddeg­fed Psalm a phedwar ugain ddaeth o'r diwedd heb feddwl am hynny, i'r geiriau yma, Canys mil o fly­nyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi 'r el heibio, ac yno fe safodd: Canys ni fedrei ddeall y rheswm, pa ham y byddei i fil o flynyddoedd, ac un diwrnod gael eu cymmharu a'i gilydd Ar hynny, meddant hwy dan­fonwyd aderyn bach trwy Dduw, yr hwn a'i felus gân a synnodd y [Page 130] gwr, ac er i fod yn ei glywed ef ys­paid fawr jawn tunty, er hynny yr oedd ef, yn bwrw yr amser yn fyr iawn, yn brin cyhyd ag awr fer. Y mae 'r Ioan 3. 8. gwynt yn chwythu lle y mynno. Ni ddar­fu i wyr da yn unig gidâ Dafydd fyfyrio ar Dragywyddoldeb, eithr dy­nion drygionus hefyd yn unwedd, a rheini yn fynych yn erbyn eu he­wyllys.

Benedictus Rhenanus sydd yn son am ddyn anuwiol ofer, gwir lwth a by­dolddyn pur, yr hwn ni arferei o ym­prydio nag o wilio un amser, un ni fedrei ddioddef un math ar eisiau ond cwsg yn yspysol: Ar ryw nos, debygwn, y dyn hwn ni fedrei gysgu fel yr oedd yn arfer, o herwydd fod breuddwydion anarferol yn ei flino yn fawr: am hynny ymdroi yr oedd ef yn ei wely o'r naill ystlys i'r llall, ac ni fedrei gael dim esmwythdra mewn modd yn y byd; yno fe ddymu­nei i bod hi yn ddydd. Eithr Gwynt yr Arglwydd a ddechreuodd chwythu yma, er i fod mewn gwlad ddieithr: Canys anaml iawn y byddei meddyli­au da yn y dyn hwn. Yn flinedig gan anllunedd, ac heb gaffael dim esmwythdra neu orphywysdra un [Page 131] amser▪ efe a deechreuodd feddwl rhy­ngddo ag ef ei hun fel hyn? a gym­merei un dyn gyflog ar neb ryw am­modau er gorwedd yn y modd yma ddwy flynedd neu dair tunty, mewn tywyllwch heb gymdeithas eu gare­digion, er na byddel eu glefyd yn ofidus iawn? a fyddei efe fodlon i fod heb ei ddifyrrwch a'i ddigrifwch cyhyd? A fyddei efe fodlon i fod yn rhwym i'w wely, ped fai wele o blu, neu o fanblu adar gwylltion, na [...] flyd i fyned allan un amser i weled rhwysc a rhi [...]lti chwareuon neu ch­warwyddfeydd, neu i wneithur yn llawen gidâ ei garedigion; Yr hyn ni wna un dyn yr wyf yn meddwl. Ac a fwynhafi yn unig ym mysg y dynion oll efmwythdra a difyrrwch trwy ragorfraint yspysol heb gael o ofid a thristwch bwys yn y byd? yn ddiammeu, ni wnaf. Y mae yn an­genrhaid i mi, o'm bodd, neu o'm han­fodd orwedd i lawr ar fy nghlaf we­ly ryw amser neu ei gilydd, oni chym­merir fi ymmaith trwy farwolaeth ddiswmmwth, yr hyn na atto Duw. (Da oedd y gwynt yma, meddyliau da oedd yr rhain.) Eithr pa wely a gaf nessa, pan fwrio marwolaeth fi [Page 132] allan o hwn? Rhaid i'm corph i bydru tan y ddaiar: Canys hyn yw cyflwr pob dyn ar ol marwolaeth. Ei­thr pa beth a ddaw o'm henaid i mewn byd arall? Diammeu yw, nad a pawb i'r un man ar ol marwolaeth. Onid ydyw rhai yn myned y naill ffordd, a'r lleill ffordd arall? Onid oes cystadl uffern a nefoedd? Gwae; ac och! Pa fath wely a gaiff y dam­nedig yn uffern? Pa sawl blwyddyn a gorweddant yno? Ym mha flwyd­dyn ar ol eu mynediad i mewn [...] gorphwysa'r fflammau ac i diffoddant? Yn ddiammeu nid mewn gair yn u­nig y mae Christ yn bygwth bwrw 'r drygionus i dân tragywyddol, eithr hefyd eu bwrw hwynt y wna fe yn siccr. Yr hyn beth gwir yw ac am­lwg jawn. Am hynny yr damnedig yn ustern a lysg yn dragywyddol. Gan hynny nid yw mil a mil▪ a thra­chefn, meddaf, mil o flynyddoedd yn ddigon i olchi ymmaith bechodau y bywyd byr hwn. Am hynny ni chant weled yr haul byth ond hynny, na'r nefoedd na Duw, gan eu bod yn dru­anaf o'r cwbl yn Dragywyddol ac yn ddi-ddiwedd. A chidâ 'r cyfryw [Page 133] feddyliau ar rhain daeth i'r dyn hwn fod mor ofalus a gwiliadwrus ac y bu ddo fyned rhagddo cyn belled, fel na fedrei na nos na dydd gael esm­wythdra, na byddei Tragywyddoldeb yn rhedeg yn ei feddwl ef yn wasta­dol. Yn siccr fe fyddei yn chwen­nych ysgwyd ymmaith y meddylian o hyn yma, megis y byddir y pryfed a yssa, eithr nis gallei. Am hynny efe a ddilynodd ddigrifwch a difyr­rwch, efe aeth i bob y mgyfarfod lla­wen, efe a dynnodd allan gymdeithi­on tebyg iddo ei hun; Ac efe y eisteddai yn fynych o weithiau yn­ghyd a'i gwppaneidiau cyhyd, nes rhoddi o honaw or diwedd ei gyd­wybod i gysgu, ac yr oedd ef debygai yn cael peth efmwythdra felly: Eithr pan ddaeth ef drachefn atto ei hun, ei gydwybod a ddestrodd ac achwy­nodd arno yn y man, ac a ddygodd ar gof iddo o newydd feddyliau trym­mion am Dragywyddoldeb. Nid oedd ef yn cael dim esmwythdra fel hyn, yntef a gymmerodd yn ei feddwl lawnfryd o'r diwedd i wellhau ei foesau, ac i ymroddi i fuchedd o drefn well. Ac efe a [Page 134] ddechreuodd ymresymmu ag ef ei hun fel hyn, yn ddyn truan fel yr wyfi, pa beth yr ydwyf yn ei wneuthur yma? mwynhau yr wyf y byd felly, megis nid yn ei fwynhau ef mewn gwirio­nedd; yr ydwyf yn dioddef llawer o bethau nismynnwn; diffyg llawer o bethau sydd arnaf y chwenychwn eu cael, yr wyf yn gwasanaethu megis caeth-was; eithr pwy a dal i mi fy nghyflog? Yr ydwyf yn gweled yn hydda pa fodd y mae 'r byd yn gwobrwyo rheini a'i carant ef, ac heb wneuthur dim arall yn eu bywyd oll ond ei wasanaethu. Eithr bwrw fod gennis fwyniant yr holl ddigri­fwch a'r difyrrwch sydd yn y byd a fedrei fy nghalon eu dymuno: pa siccrwydd a allwn i gael pa hyd a parhant? Nid wyf yn siccr pa 'r un a wnafi a'i byw tan y foru, a'i peidio: Y mae claddedigaethau beunyddiol yn profi hyn yma yn hyd­da: Oh, Tragywyddoldeb er na byd­dit! Oh, Tragywyddoldeb er na byd­dei dy le yn y nefoedd, ped fae mai ar wely esmwyth o fanblu y byddei: nid ellit ti fod ond yn flindost ac yn an­hyfryd. Gwir yw yn siccr mai peth [Page 135] anhawdd i ni yw dynnu ein hunain ymmaith oddi wrth y pethau hynny yr arferwyd ni ynddynt, pa 'r un byn­nag fyddent a'i gwledda a'i cyfed­dach, a'i cadw cymdeithas a'r cyffell­ib: Eithr tra byddom ni yn oedi ac yn gohirio yr amser, dichon marwo­laeth ein rhagflaenu, a chymmeryd y rhain oll oddi wrthym. Pa ham gan hynny yr wyt ti yn oedi? Pa ham na osodi di arnad dy hun ddi­nam a dedwydd angenrhaid? Pa ham nad wyt▪ ti yn cymmeryd llawn­fryd yn ddioed felly ynot ty hun? Wele, mi a fyddaf yn amgen gwr nag y fum os rhynga bodd i Dduw i mi fyw. Ni bydd i'r bywyd hwn hir barhau: Eithr y Tragywyddoldeb a barhaâ yn dragywyddol. Rhaid i mi rodio mewn storddd newydd bellach, mi a gymmerais lawnfryd ar hynny, ac yn awr mi a ddechreuaf. Ym mha le yr wyt ti y Tragywyddoldeb bendigedig? yr ydwyf yn ymofyn am danat, yr wyf yn teithio tu ag attat.

I ddibennu, efe a wnaeth megis y dywedodd, fe a gymmerodd ei gennad gan y byd, fe newidiodd drefn ei fu­chedd, ac felly fe fucheddodd, ac a fu farw yn wr onest duwiol. [Page 136] Oh! Tragywyddoldeb, mor anaml yw yr rheini sydd yn myfyrio arnat mor ddifrifol a hyn. Yn ddiammeu y­chydig iawn ynt; neb agos ac sydd yn ystyrio ac yn ambwyllo yn dda â nhwy eu hunain, pa beth ydwyt: Ac sydd yn aros, ac yn parhau felly yn yr ystyriaeth hon. Ni a ymofynnwn anr bethau eraill yn ddifrifol, Tragy­wyddoldeb yn unig sydd yn ymddan­gos i ni yn wael, ac heb dalu ymofyn am dano. Ein meddyliau ynt yn rhedeg ar ol cyfoeth, ac er hynny y meddiant o honynt yn ddigon an­siccr: Nis gwyddom ni pa gynted y bydd uddynt hwy yn gadel ni, neu ni hwy. Yr ydym yn drachwannogi urddas: ac er hynny y mae ef yn llithrig, ac yn ymlithro ymmaith oddi wrthym yn fuan. Yr ydym mewn cariad a difyrrwch: ac mae yn ei ben diweddaf dristwch a chwerwedd. Yr ydym yn chwennych esmwyth­dra, eithr nid oes ynddo bara yn y byd: Ni a glymmwn gwlm cym­deithas ag eraill: Eithr y cyfryw yw ac y dichon marwolaeth ei ddattod ef yn fuan. Nid ydym ni un amser wrth ein bodd, ond pan fo'm ni yn [Page 137] ymarwedd ymmysg eraill: Eithr nid yw ein ymarweddiad ni yn y nefoedd un amser, lle dylei fod. Yr ydym yn ymgais am amlder: Eithr yno, lle mae ef yn fuan yn pallu. Ond pettem ni yn fynychach, ac yn ddifrifach yn ystyrio: ar Dragywyddoldeb, ni byddei gennym ni yn ddiammeu y cyfryw drachwant ar ol pethau mor fyr eu para. Yr ydwyf yn galw St Bernard yn dyst, sydd yn dywedyd fel hyn. Yr hwn sydd yn hiraethu ar ol pethau Tragywyddol, ni ddichon ond ffieiddio pethau trangcedig.

Rhai sydd yn fynych ganddynt yn eu safnau ni wn i pa Dragywyddoldeb ei sut, sawl a addawant, ac a addun­ant, ac a ffurfiant resolusionau da o wellhad, gan ddywedyd fel hyn; mi a ochelaf tra bwyfi byw, y cyfryw le, a'r cyfryw le, lle tentiwyd fi o'r blaen i bechod: Nid af byth yn agos at y cyfryw wr, neu 'r cyfryw wraig, neu 'r cyfryw un a fu fy nghydymmaith i mewn drwg, nid af byth tra bwyf byw yn agos atto. Nid af byth tra bwyf byw i'r cyfryw ar cyfryw ymgyfarfod, lle bydd glothined a meddwdod, dawnsio, cydorwedd, [Page 138] ac anlladrwydd, ar cyffelyb i'r rhai hyn. Y mae yn ddigon gennif fy mod unwaith, ac eilwaith yno, ac ysgatfydd yn fynychach; ddarfod i mi wneuthur fel y gwnaeth y cymdeithi­on, ddarfod i mi bechu gydâ 'r cy­fryw a'r cyfryw. Y resolusionau hyn da ydynt: Yr ydwyf yn dy ganmol, ô ddyn, yn hyn yma; oblegid y mae yn rhaid arswydo pechod, da yr yd­wyt ti yn gwneuthur fwriadu gochelyd yr achlusur i bechu: Mi a ddymun­wn ped fait ti mor grefyddol yn dal ar yr hyn a addewaist, ac yr ydwyt ti yn barod i addaw▪ Eithr, och, ar ol diwrnod neu ddau, ie awr neu ddwy yn rhy anghofus o'th addewid, a'th resolusionau da, di a wnei yr un­rhyw beth drachefn, sef yr hyn yr oeddit ti gynne yn ei ddygn gassau, yn ei ffieiddio, ac yn rhoi ei ddio­fryd. Gan hynny cyn i ti wneuthur adduned neu addewid i Dduw, y mae yn dda i ti arfer dyledus ystyriaeth a rhagweliad: a phan wnelech di a­dduned neu addewid i Dduw, y mae yn angenrhaid i ti rhag llaw arferu gofal a glewder Christianus yn y cyflawniad Rhaid i ti na adda­wech ddim i Dduw yn fyrbwyll ac [Page 139] mewn gwall gyngor: Eithr yr hyn a addewaist y mae yn rhaid iti ei gyflawni yn grefyddol ac yn ddian­wadal, a gwilied arno. Mor erwin y mae Duw yn cospi y cyfryw a dor­rant eu haddunedau a'i haddewidion, dysgasom yn hydda trwy braw gre­synus ac esampl alaethus rhai e­raill.

BEN. I.
Y bennod gyntaf yma sydd yn cynhwyso cymmhariaeth llafur dyn a phryf coppyn a'i gilydd.

Y Mae Tragywyddoldeb arall, a hwnnw yn waethaf o'r cwbl, yr hwn y mae 'r dynion hynny yn ei addaw iddynt eu hunain, y rhai fyn­nant wneuthur heb amgen iddynt eu hunain nefoedd o'r nefoedd, a bod yn fendigedig cyn iddynt farw. Am hynny gwrandewch air yr Argl­wydd, ddynion gwatwarus, medd yEsa. 28 14, 15. Prophwyd Esay, Am i chwi ddywe­dyd▪ gwnaethom ammod ag Angeu, ac ag uffern y gwnaethom gyngrair. O [Page 140] chwi ddynion ynfyd! Mor ofer, ac nid i'w henwi yn un, yw hwn yma eich Tragywyddoldeb chwi: Nid oes dim yn barhaus ac yn dragywyddol yn y carchar hwn. Y Prophwyd Brenhinol sydd yn datgan hyn ymaPsal. 50. 19. yn hyawdl iawn: Treuliasom ein bly­nyddoedd (medd ef) fel chwedl &c. Treuliasom ein blynyddoedd yn ymsyn­nied, fel y gryf-coppyn. (Canys rhai a'i darllennant felly. Nid allei fe ei ddatgan yn well nag mewn llai o eiriau. Canys pa beth yw ein holl flynyddoedd ni ond gwastadol ym­synnied a blin weithrediad? Traffer­thion ofer, llawer o ofid, amryw ofn, Aml ddiwg-dyb, a thrallodau aneirif y rhai a dreuliant ac a ddifrodant holl amser ein bywyd ni yn llwyr: yn yr un modd ac y mae y pryf­coppyn yn y gweuad o'i we yn treu­lio ei hunain. Y mae ein traffer­thion ni ynghenglyn yn eu gilydd­y naill gwedi ei gadwyno yn y llall, ein ucheneidion a'n grifdfanau ynt yn ddigyfrwng, rhai yn y dilynniad o'n budd a'n difyrrwch, rhai yn y bwriad heibio o'r gocheli­ad a'r pethau hynny yr ydym [Page 141] yn eu cyfrif yn ddrwg. Yr ydym yn gwneuthur llawer o bethau, yr y­dym yn myned tan lawer o draffer­thion trallodus a gofidus eu goddef: ac nid ydym ynghyfrwng hynny (ysywaeth! y cyfryw yw ein ffoli­neb!) yn deall nad ydym ond gweu gwe 'r pryfcoppyn, trwy gymmeryd llawer iawn a boen gydag ychydig lwyddiant, i amcan neu i ddiben yn y byd. Treuliasom ein blynyddoedd yn ymsynnied fel y prys-coppyn. Poen fawr a gofal yw yr hyn a gymmer y pryfcoppyn yn gweu ei we, y mae fe yn rhedeg llawer ac yn fynych i fynu ac i wared, y mae yn cyrchu cwmpas ffordd yma a ffordd accw, a mynych y mae yn dychwelyd i'r unrhyw bennod, y mae yn treulio ei hunan yn lliaws o edafedd main ei nyddiad, i wneuthur iddo ei hun gaban crwn: Y mae fe yn ei ddi­berfeddu ei hunan, ac yn gweithio ei ymysgaroedd ei hun allan, i wneu­thur darn o fanwl-waith celfydd, yr hwn pan ei gwneir, sydd yn addas i gael ei chwythu ym­maith gan bob chwyth gwynt; y [Page 142] mae fe yn ei grogi yn uchel, y mae yn ei siccrhau wrth nen y ty, y mae yn ei gryfhau a llawer o dafedd, gan chwyldroi yn fynych o amgylch heb arbed ei ymysgaroedd ei hun: Eithr eu treulio hwy yn ewyllysgar ar ei waith. A chwedi iddo wneuthur hyn oll, nyddu ei edafedd main, eu gweu hwynt yn eu gilydd, gweithio i ddo ei hun ymogor fyw, ei grogi ef i fynu, a thybied y cwbl yn ddiogel: Yn ddiattreg mewn troad llygad, gidag ysgubiad ysgafn ysgub, y cwbl y syrth i'r ddaiar, ac felly derfydd am ei lafur. Eithr nid hyn mo'r cwbl: Y pryfcoppyn truan! y mae naill a'i yn cael ei ladd yn ei we ei hun, neu onid yw hynny, y mae yn cael ei ddal yn ei fagl ei hun, ei lusgo i farwolaeth, a'i sathru tan draed. Felly fe ellir dywedyd am y milyn tuan, ddarfod iddo naill a'i gweu iddo ei hun amdo, neu iddo wneuthur magl i'w grogi ei hun. Felly yn union y mae llawer o ddy­nion, yn treulio ac yn difrodi eu hu­nain fel y pryfcoppyn er mwyn ynnill goruchafiaeth, mwynhau difyrrwch, casglu cyfoeth, eu cadw, au chwanegu hwy. Y maent yn treulio eu holl [Page 143] synwyr yn y cyfryw rag-fwriadau, ac yn fynych iechyd eu cyrph yn rhedeg­fam i fynu ac i wared, yn llafurio ac yn chwysu, mewn cur a gofal, yn blino eu hunain, ac yn gwanhau eu cyrph; fel yr oedd y pryfcoppyn yn gwneu­thur trwy nyddu ei ymysgaroedd ei hun allan. A chwedi iddynt wneu­thur hyn yma oll, ni wnaethont ond gweu gwe 'r pryfcoppyn i ddal gwy­bed. Je, yr ydys yn fynych yn eu dal hwy eu hunain yn eu rhwydau eu hun; y maent yn offerau o ddrwg iddynt eu hunain. Y dyddiau o la­wenydd y rhai y maent yn eu haddaw iddynt eu hunain, ynt yn prifio yn fynych yn ddyddiau o alar: Yr hyn y maent hwy yn eu alw eu pallas a brifia yn lle i'w claddu. Felly treuli­asom ein blynyddoedd yn ymsynnied fel y pryf coppyn; meddaf, yn ymsynnied, y rhan fynychaf. Canys ni a amcan­wn wneuthur llawer o bethau, ac ni wnawn ni monynt. Yr hyn yr y­dym yn ei wneuthur, gwell fyddei y rhan fynychaf i fod heb ei wneu­thur. Y pethau hynny y rhai yr y­dym yn eu herlyn a'r fath awydd, a ffoant y rhan fynychaf oddi wrthym: A'r pethau hynny yr ydym yn ym­rysson [Page 144] am danynt a'r cyfryw ddifri­fwch, odid o amser i ni cael hwy. Eithr bwrw ddarfod i ni eu cael, och! nid oes iddynt hir bara yn y byd.Esay 28. 18. Felly diddymmir eich Ammod âg An­geu, a'ch cyngrair ag uffern ni saif. Yr ydym ni oll yn treulio ymmaith a'g yn marw: A hyn sydd waeth na r cwbl, yr ydym yn rhedeg a'n llygaid yn gaead yn wysg ein pennau i uffern, lle nad oes o'r ma­nn hwnnw un modd i ddychwe­lyd.

Guerricus yn clywed yn nhy Dduw ddarllain y geiriau hyn allan oGen. 5. 5. Lyfr Genesis, A holl ddyddian Adda y rhai y bu efe byw▪ oedd naw can mlhyn­edd, a dēgmlhynedd ar hugain: Ac efe a fu farw. A hôll ddyddiaû Seth oedd ddeû­ddengmlhynedd, 8 a naw can mlhynedd; Ac efe a fu farw. A holl ddyddiau Enos 11 oedd bum mlhynedd a naw can mlhy­nedd: Ac efe a fû farw. A holl ddy­ddiau 27 Methusalah oedd naw mlhynedd a thrugain a naw can mlhynedd: Ac efe a fu farw &c. Yn clywed, med­daf, ddarllain y geiriaû hyn, gwir fed­dwl a gymmerodd am farwolaeth, yr hwn a weithiodd mor gryf gydag ef, [Page 145] hwn a weithiodd mor gryf gyd ag ef, fel y gwnaeth ef y cyfryw ymwasg [...] n yn ei feddwl, ac a barodd iddo [...]cilio oddiwrth y byd, ac ymroddi ei hunan yn gwbl i ddwywolder, me­gis y byddei iddo felly farw marwo­laeth y duwiol, a dyfod yn ddioge­lach i borth [...]ladd gwynfyd Tragywyd­dol, yr hwn nid yw i'w gael yn unlle yn y byd hwn.

BEN. II.
Yr ail bennod yma sydd yn hyspysû pa un yw 'r qwestiwn goreu yn y byd.

Y Mae St Matthew yn datgan i niMatth. 19. 16. am wr ieuangc a ddaeth at ein Jachawdwr, ac a roddodd y qwesti­wn hwn ger ei fron ef. Ac y mae St Marc yn portreiadu y sut o'i ddy­fodiad ef at ein Jachawdwr, a'i ym­ddygiadMarc. 10. 17. da. Ganys, medd ef Rhe­dodd un atto a gostyngodd iddo, ac a ofynnodd iddo, Athro da, pa beth a wnâf fel yr etifeddwyf fywyd Tragy­wyddol. Ac atteb ein Jachawdwr [Page 146] oedd, Ti a wydd ost y gorchymynnion, 19 ond os ewyllysi fyned i mewn i'r by­dwyd, Math. 19. 17. cadw 'r gorchymynnion. Yn Philippi dinas o Macedonia ceiwad y Act. 16. 12. 29 carchar a ruthrodd i mewn yn ddy­chrynedig, ag a syrthiodd i lawr ger bron Paul a Silas, ac a'i crybwyllodd hwy a'r qwestiwn yma, O feistred, both fydd raid i mi ei wneuthur, fel y byd­dwyf 30 gadwedig? Qwestiwn da iawn oedd hwn yma; ac nid ellyd eu gry­bwyll ag un gwell a mwy buddiol. Eithr, ô Dduw daionus, ym mha le yn y byd y mae 'r qwestiwn hwn yr awrhon? Y mae 'r byd yn llawn o gwestiwnau eraill: Eithr nid oes mo hwn agos yn unlle i'w glywed. Y mae y rhan fwyaf o ddynion yn y dyddiau hyn yn bradychu eu hu­nain trwy eu qwestiwnau eu hûn, trwy ddyfod a hwynt i oleuni: ac felly yn gwneuthur eraill yn dystion o'i lled-wiriondeb, neu o'i manwl­rwydd, neu o ryw glwyf meddwl cud­diedig o'r cyffelyb. Yr hwn sydd yn chwilio yn fanwl, ac yn ymofyn ym mha le y mae 'r gwîn goreu i'w gael ar werth, sydd yn dangos yn hyspys pa beth y mae yn ei garu fwyaf, ac ym mha beth y mae ei ofal pennaf. [Page 147] Un arall a ofyn y cyfryw gwestiwnau, ac y bareu i ledneis ddyn wrido eu clywed: A dangos y mae 'r dyn hwn fôd ei galon yn llawn, ac ma i allan o'i helaethrwydd hi y mae 'r genau yn llefaru. Safnau pawb ym­mhob man ynt yn llawn o'r cyfryw gwestiwnau ar rhain: Eithr yn an­aml iawn y clywir y naill yn gofyn i'r llall y qwestiwn hwn Ydych chwi yn tybied mai hon yw'r ffordd i'r nefoedd? Bai cyffredinol ar bob dyn pechadurus yw hyn, Eithr yn fwy priodol a'r hwn a ddilyno ei wyn gnawdol, ar trachwannog; ac ar yr wttreswr a'r rhyseddwr, er ei daro ran ddwfr yn y dyfnder, ac yn dechreu suddo, a'i droi din dros ben, er hynny yn anaml neu yn un amser y daw arno ef ystyrio yn d difrifol rhy ng­ddo ag ef ei hun; ac a chalon bûr gofyn iddo ei hun y qwestiwn hwn; a fydd i mi dybied y gallafi fyth gael trwy 'r drefn yma ar fuchedd wynfyd Tragywyddol? Ai dymma'r ffordd i'r nefoedd? Eithr yn yspysol y rheini a feddyliant leiaf o'r holl ddynion am y cyfryw gwestiwnau a rhain, y rheini, meddaf, y rhai sydd yn byw yn fwythus, yn ymborthi ar ddanteith­fwyd; [Page 148] ac yn ymdreiglo mewn difyr­rwch; y rhai nis gwyddant ond oddi­wrth ychydig, neu oddiwrth ddim tristwch a blinfyd, neu os ar ryw am­ser y gwybuont oddiwrth beth cyn lleied ag allei fyth fôd, hwy a ym­egniant eu goreu i fod o honaw yn ddifynniol. Y maent yn cyfri dioddef­garwch yn fwyaf o'r holl ddrygau. Ni ofalant os hwy fyddant wrth eu bodd, pa fodd y mae eraill yn byw. Ni chymmerant ddim gofal, os byd­dant wrth eu bodd tros yr amser pre­sennol, am yr hyn a ddaw gwedi. Nid ydynt yn meddwl unwaith un amser am Dragywyddoldeb. Dymma eu cerdd beunyddiol hwy. Eiddo 'r Argl­wydd y nefoedd, eithr yddaiar a roddodd ef i seibion dynion. Nid oes arnynt ei­fiau na grym corph na meddwl, i ddi­angc trwy hynny rhag dwylo dynion. Eithr gan Dduw y mae dwylo hirion, cfe a'i cyrraedd hwy yn ddiammeu, rhaid iddynt ddyfod o'i flaen ef, yr hwn yw barnwr yr holl fyd, go­chelyd eu farned gaeth ef nis gallant; dioddefant yn ddiammeu boenau Tragywyddol am eu drygioni a'i cam­weddau. Eithr os Duw yn ei farn gyfrinachol a fwrw neb ryw un ym­maith [Page 149] mal yn wrthodedig, ac y ddio­ddefa iddo dreulio ei oes yn ol ei drachwant a'i ddifyrrwch ei hun, rhoddi iddo y mae ei gyfran o hawddfyd a gwynfyd yn y byd hwn, ei arbed ef yma y mae, fel y gallo ei gos­pi yn ol hyn. Ac os efe a wna ar ryw amser un rhyw beth a fo da, y mae yn derbyn ei wobrwy yn ddioed. Y Prophwyd brenhinol sydd yn dy­wedyd fel hyn, am y cyfryw wyr ded­wydd a nnedwyddol. Nid ydynt mewn Psal. 73. 5. blinder fel dynion eraill: Ac ni ddia­leddir arnynt hwy gyd â dynion eraill. Putteiniasant gyd a'r dychymmygion. Psal. 106 39 A hwn sydd, od oes yr un, yn-fywyd o dragresynus gyflwr ac ystâd. Canys yr hwn a ragluniodd Duw i'w ddwyn i lwybr dedwyddwch Tragywyddol, hwnnw yma ni arbeda ef yn hyn o fywyd: Eithr efe a'i fflangella beu­nydd. Gallwn ddyfod ag aneirif o e­samplau i brofi hyn, ond ni ddygaf ond un, eithr yr ydwyf yn meddwl, na welwyd ac na chlybuwyd ei gyffelyb, mewn llawer o oesau.

BEN. III.
Y drydydd bennod yma sydd yn dangos fel y mae Duw yn cospi yma, mal y dichon ef arbed yn ôl hyn: Esam. pl rysedd o hynay sedd yn can­lyn, ni chlybuwyd un amser agos sôn am ei chyffelyb.

YN y flwyddyn o oedran ein Hargl­wydd un mil un cant pedwar u­gain a phump, Andronicus Ymme­rawdr y Dwyrain gwedi i Isaac An­gelo ei orchfygu, a'i ddal yn garcha­ror, rhoed am ei wddwf ddwy o gad­wyni trymmion o haiarn, llwythed ef a gefynnau ac a hualau, a thrin­wyd ef yn greulon ac yn ddibris: Ac or diwedd yn yr agwedd hon fe a ddygwyd o flaen y rhag-ddywededig Isaac. Yn achwyn o flaen hwn ga­letted y trinesyd ef, traddodwyd ef i'r fyddin i'w ddirmygu fel a fynnent. Hwy gwedi eu henynnu gan ddigo­faint, a dybiasant hyn yn beth gwych gael ymddial ar eu gelyn: ac hwy a'i trinasant ef fel hyn. Cernodiasant ef, ffonnodiasant ef, llusgasant ef ger­fydd ei faif, plicciasant wallt ei ben, [Page 151] torrasant ei ddannedd, llusgasant ef ar gyhoedd, cymmerasant ef▪ yn wawd, cynnwyssafant i wragedd i gu­ro a'i dyrnau Yno torrasant ym­maith ei law ddehau, ac fel hyn yn anafus, hwy a'i gwthiasant ef i gar­chardy lladron ac yspeilwyr, heb na bwyd na diod, na dim arall a fyddei yn angenrhaid, na neb i edrych am dano. Ym mhen ychydig ddyddiau ar ol hynny hwy a dynnasant allan un o'i lygaid: Gwedi iddynt yn gywi­lyddus ei ddifynnio fel hyn, yn un­llygeidiog, ac yn un-llawiog, rhoesant am dano hugan ferr salw iawn, eilli­asant ei ben, gosodasant ef ar Ga­mel crachlyd a'i wyneb tua 'r gyn­ffon, rhoddasant ar ei ben Goron o arlleg, gwnaethant iddo ddal yn ei law yn lle teirnwialen gynffon y Ca­mel; ac felly dygasant ef yn araf deg gyd â mawr rwysg a gorfoledd trwy 'r farchnadle. Ac yno y rhai digywilyddiaf, diystyraf a gwaelaf ym mysg y bobl a ruthrasant arno yn an­ahirion fel milod gwlltion, heb ysty­ried dim un amser mai nad oedd uwch law tri diwrnod gwedi myned heibio er pan nad oedd ef ddim llai nag Ymmerawdr, gwedi ei goroni [Page 152] a choronbleth deirnaidd, yn hyglod, yn anrhydeddus, ie, a phawb yn ym­stwng iddo: Nid oeddynt yn prisio eu llw o ufudd-dod i'w Tywysog, gollwng eu cynddeiriogrwydd a'i cyn­ddaredd arno yr oeddynt, a'i cynddei­riogrwydd a'i cynddaredd a gymm­hwysau bob un o ▪honynt ag offerau ty chinebi'w erbyn. Trawodd rhai ef ar ei ben a chlwppaiod, rhai a lanwasant ei ffroenau â dom, eraill â chwistrel­lau yn chwistrellu yn ei wyneb sugn tom dynion ac anifeiliaid; eraill yn gwanu ei ystlysau â berau: Rhai yn ei daflu â cherrig; eraill yn taflu dom arno: Rhai yn ei alw cî cynddeiriog, eraill yn ei alw hurtyn a phenbwl. Gwraig ddigywilydd yn rhedeg allan o gegin, a phadelled o ddwfr berwe­dig rhwng ei dwylaw a'i tywalltodd am ei ben, ac ef yn myned heibio. Nid oedd neb na wnaeth ryw ddrwg neu ei gilydd iddo. O'r diwedd hwy a'i dygasant i'r Theatr (sef y chwa­reudy) i'w gymmeryd yn wawd, tyn­nasant ef i lawr oddi ar y Camel, a chrogasant ef gerfydd ei draed rhwng dwy Golofn. Gwedi i'r Ym­merawdr truan ddioddef fel hyn la­wer [Page 153] o arteithiau, er hynny fe a'i diod­defodd yn ymmneddus, gan ymddwyn fel gwr ac ymdrechwr gwir Gristia­nus. Ni chlybuwyd monaw rhyd yr holl amser unwaith yn cwynfan, nac yn gweiddi o herwydd ei ddamwain galed: Canys ni buasei hynny iddo i berwyl yn y byd. Bwrw ei gyfrif yr oedd rhyd yr amser, yr hyn oedd iddo i'w wneuthur i Dduw, a chreu am faddeuant o'i bechodau. Ni chly­buwyd monaw yn dywedyd dim, ond hyn yma▪ yn unig, a hyn yma yr oedd yn ei ddywedyd yn fynych, Domine mi­serere, Domine miserere, Arglwydd tru­garha, Arglwydd trugarha.

Andronicus annedwydd yr hwn a orfu i't ddioddef y cyfryw bethau! Eithr yn hyn yma yn ddedwydd, ddar­fod i't eu dioddef mor ymmyneddus, megis yn iawn wobrwy am bechod. Pan grogid ef i fynu fe (debygei un) ddarfod eu malais: Eithr ni ddarfu iddynt moi arbed tra bu ef byw: Ca­nys rhwygasant ei hugan oddi am ei gorph: Ac a'i taflasant ef a'i dwylo draw ac yma, gan ei rwygo yn dip­pynnau a'i ewinedd: Un oedd greulonach na'r lleill a'i gwanodd [Page 154] ynghrog a'i gleddyf trwy ei fol a'i berfeddd. Dau eraill i brofi pa 'r un oi cleddyfau oedd flaen llymmaf, a'i brathasant trwy ei gefn, gan wthio eu cleddyfau â'i dwylaw. Yno yr Ymme­rawdr annedwydd tragresynus a go­dodd i fynu trwy fawr boen ei law anafus at ei safn (degygei un) i sugno allan y gwaed o'r briw gwaedlyd newydd friwo, ac felly yn resynus di­bennodd ei fywyd. Ac ar ol ychy­dig ddyddiau fe ai cymmerwyd i lawr oddiwrth y crogpren, ac a'i taflwyd fel anifail tan un o fwau maen y Theatr (sef y chwareu dy) nis darfod i ryw rai oedd a mwy hynawsedd yn­ddynt na'r lleill, ei symmud: Etto er hynny i gyd ni chymmwyssasant id­do gael ei gladdu. O Andronicus O Ymmerawdr y Dwyrain! mor fawr yr oeddit yn rhwymedig i Dduw, ewyllys yr hwn oedd a byddei i't ddi­oddef y cyfryw bethau tros ychydig ddyddiau, mal na ddarfyddei am da­nat yn dragywyddol: Buost i'th re­synu tros amser bychan fel na byddit i'th res nu tros Dragywyddoldeb oll. Nid wyf yn ammeu nad oedd bly­nyddoedd Tragywyddoldeb yn dy fed­dwl, gan ddioddef o honot y cyfryw [Page 155] bethau mor ddianwadal ac mor ga­lonnog.

Nicetas Coniales yw fy Athro, gan yr hwn y benthygiais yr histori alae­thus hon, ac yr oedd ef yn byw yn­ghylch yr un amser a'r pryd y digwy­ddodd hyn yma.

Bydded i ni y Christionogion gadw yn ein cof bob amser flynyddoedd Tragywyddoldeb. Felly pa adfydwch bynnag neu gystuddiau a ddigwyd­dei, fe fyddei yn hawsach i ni eu di­oddef. Byr yw pob peth os cym­mharwn2 Cor. 4. 17. of â Thragywyddoldeb. Canys ein byr ysgafn gustudd ni, sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragywyd­dol bwys gogoniant i ni. Llefain a gwe ddio yn ddifrifol wrth hyn mae St Augustin. Domine hic ure, hic scca, modo in æternum parc as, Arglwydd llosg fi yma, haccia fi yma drwy i ti fy arbed i yn ol hyn. Fulgentius er ei fod yn wr duwiol jawn, yn nesau at ei farwola­eth y glybuwyd ddengniwrnod a thru­gain cyn iddo farw, yn llefain yn fy­nych; Domine, da mihi modo patien­tiam, & postea indulgentiam, O Argl­wydd, Caniatta i mi yma ymmynedd yn fy nghystudd [...]nc esmwythdra yn ol hyn. Y rhai hyn oedd ei eiriau a'i weddi­an [Page 156] ef, tra bu ei anadl ynddo. Diam­meu yw, mai lleiaf o'r cwbl yr arbed Duw hwy, y rhai y bennodd ef i'w cymmeryd atto ei hun i bresswylio gyd ag ef trwy hyd Tragywyddoldeb oll.

Y chweched Ystyriaeth. AR Dragywyddoldeb.
Sydd yn hyspusu i ni fel y mae 'r yscry­thur sanctaidd yn ein dysgu ni mewn llawer o fannau i fy­fyrio ar Dragywyd­doldeb.

YProphwyd brenhinol yn son am y drygionus, sydd yn dywedyd y rhodiant o amgylch, neu mewn Am­gyrch. Psal. 12. 8. Dymma sut eu bu­chedd: Myned y maento wledd iwledd; o ddigrifwch i ddigrifwch, o ddrygio­ni, i ddrygioni, Dyna eu hamgyrch. A phan dybiant ddarfod iddynt agos orphen eu hamgyrch o ddrygioni, a phan elont tros y rhod o'i trachwant: [Page 158] dechreu y maent drachefn, gan ddy­chwelyd yn wastadol i'w trefn cyn­taf, nis dyfod o farwolaeth yn lladra­dedd arnynt yn annisgwyl.

Plant Job yn eu mysg eu hunain▪ wnaent y gyfraith hon, i wledda eu▪ gilydd o amgylch bob un yn ei dre­fn. Y gwr da eu Tad a ddaliodd ar hynny▪ ac a wybu yn ddigon da, nad allei eu gwledda yma hwy o am. gy lch fod heb bechod: Ac am hyn­ny Efe a anfonei, ac a'i sancteiddiei Ioh. 1. 5 hwynt, ac a gyfode'n foreu, ac a offrym­mei boeth offrymmau yn ol eu rhifedi hwynt oll. Gan hynny megis ac y mae y rhai drygionus yn ymhyfrydu ac▪ yn ymlawenychu yn cerdded yr amgyrch o i difyrrwch: Felly Duw a appwyntia iddynt amgyrch i'w cherdded; Eithr rhaid iddi fod yn amgyrch o boenau, a hynny yn gy­fan ddigyfwng ac yn Dragywyddol. Dafydd fendigedig a ragwelodd hyn yn yr un modd: canys, medd ef, Dy saethau a gerddasant: Twrs dy Psal. 77. 17. 18. daran a glywyd o amgylch. Newyn, Rhyfel, Haint, Tristwch, clefydau, di­nistr, marwolaeth hitheu, pob adfyd­wch, a pha beth bynnag a ddigwyddo o flaen y farwolaeth gyntaf, saethau [Page 159] yr Arglwydd ydynt; Eithr y maent yn ehedeg trosodd: adenydd sydd id­dynt, a hwy a hedant o▪r naill i'r llall yn ddiattreg Eithr twrf ei daran, twrf ei ddigofaint a'i gynddaredd a rua yn wastadol yngharchardy uffern, ac yn debyg i droell ni threulia, y drudd tros Dragywyddoldeb oil. Y droell hon a lanwyd fel ped fai â phowdr gwnn, pan ddarfyddo iddi un­waith gymmeryd tân, llysg byth ac ynDeut. 32. 24. dragywyddol. Tân a gynneuwyd yn fy nig, ac a lysg hyd uffern i fod. Y mae Amgyrch arall hefyd, a honno yn yr un modd yn Dragywyddol: O oerfel annraethadwy, i wres anniod­defadwy, o wres drachefn yn ol i oer­fel.Iob. 24 19. Sychdwr a gwres sydd yn cippio dyfroedd eira, (dyna fel y mae Job yn dywedyd) ac felly y bêdd y rhai a bechasant. Y mae St Matthew yn eglurach yn arwyddocau hynny trwy y rhingcian gan ddanedd, a▪r wylofain Math. 22. 13. gan lygaid. Ac megis y gallom ni osod allan yn gyflawnach y droell aruthr hon (nid ellir ei amgyffred) nefn a fyn gennem ddangos pa fodd y mae 'r Eglwys yn cyttuno yn hyn yma a'r yscrythur sanctaidd: Ac fel y mae'r Tadau sanctaidd yn cytuno [Page 160] a'r Eglwys, Y mae gennem ni am­ryw gynghorion da oddiwrth y rhain yma oll; os clust ymwrandawn a hwynt, nid allwn ni adel yn rhwydd i Dragywyddoldeb ddiangc allan o'n côf.

BEN. I.
Y bennod gyntaf yma sydd yn cynhwyso Attebion y Tadau sanctaidd a'r Eglwys ynghylch hyn yma.

O'R holl Dadau sanctaidd a fu­cheddasant mewn amryw oesau; ni a wnaen yn dda glust-ymwrando a phump yn yspysol, Augustin, Chryso­stom, Gregori, Bernard, Laurentius, Ju­stinianus.

Y qwestiwn cyntaf yn y fan yma (er y dichon ef ymddangos yn un ofer ynfyd) yw, Pa 'r un hawsaf a mwya goddefadwy yw, dioddef dolur o ben neu o lygaid, y ddannoedd, clefyd y maen tostedd, cnofa 'r colic gwynt, neu gnofa yn y glas goludd, neu ryw ddolur certh arall; neu fod heb gysgu na nos na dydd, eithr yn poe­ni [Page 161] yn wastadol tros dri diwrnod tun­ty yn ddigyfrwng: Y qwestiwn, meddaf, yr awrhon ydyw, pa 'r un hawsaf, a'i dioddef y doluriau a son­niwyd am danynt yr awrhon, neu ynteu bwytta darn o bysgodyn a chwerwasei trwy dorriad ei fustl. Gal­lei 'r qwestiwn hwn ymddangos yn wir ysgafala i'w watwar. Canys pa faint melysach yn hyttrach ydyw, bwytta 'r cyfryw bysgodyn i gyd, na dioddef poenau mor ofidus ar rhain, pette ond tros un diwrnod! Ni pherygla bustledd y pysgodyn fywyd gwr, na'i wneuthur yn glaf, eithr yn unig gadel a wna archwaith chwerw yn ei safn, yr hwn ni byddei flasus ganddo. Fe attebed iddo yn uni­awn. Ac er hynny pa sawl mil o ddy­nion a ddewisasant yn hyttrach y rhai cyntaf! Canys mor fynych y mae 'r pregethwr yn athrawiaethu ac yn cynghori, yn llefain ac yn llefaru yn eglur: Frodyr Christianus, ysty­riwch yn dda ynoch eich hunain, ac edrychwch o'ch amgylch, y mae Tragywyddol iechydwriaeth eich e­neidiau chwi mewn qwestiwn; os rho­diwch y ffordd hon, rhaid i chwi yn ddiammeu ddisgwyl poenau Tragy­wyddol: [Page 162] fe ddangosodd Christ i chwi ffordd arall trwy ei fuchedd a'i a­thrawiaeth ar unwaith. Dychwe­lwch gan hynny ac edifarhewch, chwi a fuoch yn ddigon ei hyd yn myned ar ddidro. Chwi a ellwch os myn­nwch gael y ddyfodfa i mewn i'r ne­foedd; os chwi a gauir allan, eich bai chwi eich hunain ydyw; Ni bydd y rheini ynt ewyllysgar heb help Duw. Gwir yw yn siccr, fod peth chwerwedd yn yr arferiad o ddir­west ac ymprydio, yn y cyfaddefiad o bechodau, yn naliad y corph yn isel, ynghosodiad gwiliadwriath gaeth ar ein synhwyrau, yn narostyngiad un ei hûn, yn nrheuliad oes yn ddiwair ac yn ymattalus. Nid yw hon dasg hawdd: Eithr bydded yr hyn a fyn­no, fe fyddei raid i ni ei dioddef. Ond oedd raid i Grist ddioddes y pe­thau Luc. 24. 26. hyn, a myned i mewn i'w ogoniant? Na fydded i lafur byr bach ein dy­chrynu: Ni bydd ond tros ychy­dig slynyddoedd, neu, ysgatfydd, ni bydd ond tros ychydig ddyddiau i ni weithio a dioddef yn ddewrwych; ei­thr ein llawenydd a'n gorphywysdra ni a fydd yn Dragywyddol. Efe sydd yn gorchfygu 'r cwbl, pwy byn­nag [Page 163] a gaffo y gorfodaeth a'r fuddu­goliaeth arno ei hûn, a anno ynddo ei hun, ac a wrthsao ei wynniau an­gerddol drygionus: a hyn oll am Grist, am y nef, ac am y Tragywyd­doldeb bendigedig. Christ ar ol ei adgyfodiad a gafodd ei ddyscyblion yn bwytta pysgod gwedi eu rhostio ar y marwor: I ddysgu iddynt pa be­thau mawr fyddei yn rhaid iddynt eu dioddef yn ol hynny; ac nad oedd iddynt feddwl am fuchedd fwythus esmwyth, eithr y caent eu llabyddio a meini, eu fflangellu, eu croeshoelio, blingo eu crwyn tros eu pennau, ac mai dyna 'r ffordd i'r adgyfodiad llawen, ac i'r rhangymmeriad a'r gy­feillach o Dragywyddoldeb gyd â'r bendigedig: A bod pob peth arall yn salw ac yn ddibris mewn cymmha­riaeth i anfarwoldeb, ac i'r gwynfy­dedigrwydd, yr hwn ni welodd llygad erioed etto. Yr ydys yn crybwyll am y pethau hyn yn fynych, eithr nid oes fawr gyfrif o honynt. Y pysgodyn hwn yn chwerw o ran tor­riad y bustl, hyn yma yw, gwrthwy­nebion bydol, a dioddefiadau 'r by­wyd hwn, y rhai a osodir o'n blaen ni yn fynych: Eithr y maent yn [Page 164] treulio yn wrthwynebus i'n cylla, nid allwn ni aros eu brofi. Tragy­wyddoldeb yw 'r peth yr ydym yn clywed son am dano yn fynych, yr ydym yn darllain am dano yn fy­nych, yr ydys yn ei bregethu i ni yn wastadol, ac yn ei ail adrodd yn fynych: Ond naill nid ydym yn clywed, neu nid ydym yn credu, neu ni waeth gennem pa 'r un, neu os gwaeth tros amser, y mae gofalon y byd yn ei droi allan o'n meddyliau yn y man, ac ni a'i claddwn mewn angof. Eithr drachefn, y mae 'r Gydwybod yn chwareu 'r Pregethwr yn fynych, ac yn atcofio i ni y gwersi iachus hynny, yndaer arnom, ynein cyng ho­ri i'r gwrthwyneb, yn ein hargyoeddi; eithr ni thyccia iddo. Ofer yw 'r cwbl. Canys mae llawer mor gyn­dyn ac mor bengaled, ac nas dichon y Pregethwr, na'i cydwybod eu hu­nain chwaith weithio arnynt. Eithr mae rhai mor ddigywilydd, ac yr ym­wnant i wrthwynebu, gan atteb fel hyn; Bydded i ni fôd yma wrth ein bodd ein hunain, ac ni waeth gennem ni, nid ydym ni yn gwybod ac ni waeth gennem ni pa beth a d daw yn ol hyn, chwareu yr ydym ni oll am fudd a di­fyrrwch [Page 165] presennol, ni ddychwela neb yn ol drachefn oddiwrth y meirw, ni wybuwyd erioed chwaith ddyfod o neb ryw ddyn drachefn yn ol allan o uffern. Deuwch gan hynny, bwyttawn, yfwn, a byddwn lawen, meddiannwn ein dacoedd, a chymmerwn ein difyrrwch. Dyna 'r gerdd sydd gan y bydol ddynion: Eithr terfyned St Augu­stin y qwestiwn hwn; Melius est, Modica amaritudo in faucibus, quam Æternum tormentum in visceribus. Gwell yw, medd ef, dioddes peth chwer­wedd yn y genau, na phoenau tragy­wyddol yn yr ymysgaroedd. Gwell o lawer yw dioddef am ein camweddau yn y byd hwn, nac yn y byd a ddaw. Gwell o lawer ini yn wastadol tros ddeng mlhynedd a thrugain tunty gael ein cospi a'r dialeddau trymma yma ar y ddaiar, na dioddef poenau uffern tros un diwrnod, ie, tros un awr yn ol hyn. Eithr gwrandawn pa beth y mae un arall o'r Tadau yn ei ddy­wedyd.

St Chrysostom sydd yn gosod yr ail qwestiwn ger bron fel hyn; Bwrw y byddei i ddyn gael hyfryd freu­ddwyd melus un nos mewn can ml­hynedd, a chwedi hyn iddo gael ei [Page 166] gospi am hynny gant o flynyddoedd, a feddylia fe ddeisyfu y cyfryw freu­ddwyd? Ac etto medd yr Athro, megis y mae breuddwyd i gant o flynyddoedd, felly y mae y bywyd pre­sennol hwn, i'r hwn a ddaw, ie, yn hyttrach llai yw o lawer: Ac megis y mae defnyn i'r môr mawr, felly y mae mil o flynyddoedd i Dra­gywyddoldeb. Ac, medd ef, mewn man arall, pa beth a gymmharir i Dragywyddoldeb? Pa beth yw mil o flynyddoedd mewn cymmhariaeth i'r oesau aneirif ynt i ddyfod? Onid ydynt yn gyftelyb i ddefnyn lleiaf ystwcc o'i cymmharu i ffynnon ddi, waelod? Na ddisgwyl ddiwedd ar boenau or ol y bywyd yma, oddieithr i't edifarhau cyn i ti ymadel a'r by­wyd hwn: Canys nid oes un amser edifeirwch ar ol marwolaeth, ac ni wna wylo i't unrhyw les na daioni. Pe byddei yn ustern i wr ringcian ei ddannedd a thoddi yn llwyr o'i da­fod rhost, ni chae ef cymmaint ag un defnyn o ddwfr oer. Am hynny caniadha i wr fwynhau difyrrwch hyd ei holl fywyd, pa beth yw hynny i'r oesau aneirifynt etto i ddyfod? Y mae 'r pethau oll sydd yn y bywyd [Page 167] hwn, da a drwg yn terfynu o'r di­wedd; eithr y mae y poenau sydd ini i'w dioddef yn ol hyn yn ddiddi­wedd. Gosod yma dân ar y corph, ac ymadel a wna 'r enaid yn y man: Eithr ar ol yr adgyfodiad, pan fyddo i'r corph o hynny allan fod yn an­farwol, ac yn anllygradwy, llysg enaid y damnedig bob amser, ac nid yssa tân uffern ef. Hwy a adgyfodir dra­chefn, yn anllygradwy yn siccr: eithr pa fodd? Nid i dderbyn coron o o­goniant anllygradwy, ond i ddioddef poenau Tragywyddol. Eithr gwran­dawn pa heth y mae un arall or Ta­dau yn ei ddywedyd.

Gwneuthur atteb y mae St Grego­ri i r qwestiwn cyffredinol yma; oni ladratta meddwdod, (medd ef) ar wr yn gynt yn y seler win, yn sefyll with y baril, nag yn y neuadd yn eistedd ar y bwrdd? Gorfoleddu y mae priod­ferch Christ yngeiriau Solomon, Efe Cant. 2. 4. a'm dug i r gwindy, (neu megis y dar­llain rhai ef, efe a'm dug i'w ser win) a'i saner trosof ydoedd gariad, neu, efe a swriodd drosof saner ei gariad. St Gregori yn ymddiddan ar yr hyn eiriau, sydd yn dywedyd fel hyn; Pa beth cymmhwy sach a gwell a ddeal­lwn [Page 168] wrth y seler win, na'r dirgel ddwys fyfyrdod ar Dragywyddoldeb? Canys mewn gwirionedd pwy bynnag sydd yn ystyrio yn ddifrifol ar Dra­gywyddoldeb rhyngddo ag ef ei hun, ac yn gadel i'r ystyriaeth yma ddwfn­foddi i'w feddwl, a ddichon laweny­chu a gorfoleddu yn jawn gyd a'i briodferch, gan ddywedyd, Efe a fwriodd drosof fanerau ei gariad: Canys efe a geidw well trefn yn ei gariad, gan garu ei hûn yn llai, Duw yn fwy, ac hyd yn oed ei elynnion hefyd er mwyn Duw. Eithr y mae natur yr ystyriaeth ddwfn ddwys yma yn gyfryw, fel y mae yn gwneuthur dyn yn y man yn feddw. Ei wneu­thur ef yn feddw? Pa fodd? A meddwdod y deisyfiadau goreu, y cy­fryw ac ai tywys ef i newydd-deb bu­chedd, a'i dwg ef i'w wlad nefol, ag a ddaw ag ef o'r diwedd i lawenydd Tragywyddol. Hyn a edliwiwd i'r Apostolion, eu bod yn feddwon gan win: Ac yr oeddynt hwy felly yn siccr, eithr gan win o'r Seler hon y bu hynny. Y mae gan St Gregori lawer o ystyriaethau rhagorol, ac y­madroddion ar Dragywyddoldeb: Ym mysg rhia eraill y mae hwn yma [Page 169] ganddo, yr hwn un byr iawn yw, ac un gwir, Momentaneum quod delectat, Aeternum quod cruciat, Trangcedig yw yr hyn sydd yn difyrru; eithr yr hyn sydd yn poeni Tragywyddol yw. Yma i gallwn ni ddymuno gyda Job, oh nad scrifennid fy ngeiriau yn awr! Iob. 19. 23, 24. ô nad argrephid hwynt mewn llyfr! Nad scrifennid hwynt a phin o haiarn! Y geiriau hyn, meddaf, Trangcedig yw'r hyn sydd yn difyrru, eithr yr hyn sydd yn poeni Tragywyddol yw! Y llyfr yn yr hwn y dylei hyn fod wedi ei argraphu, yw calon dyn; y pin o haiarn a'r hwn a dylyd ei yscrifennu, yw difrifol fyfyrdod; y du ysgrifennu, a'r hwn y dylyd ei lythyru, yw gwaed Christ. A'r geiriau hyn gwedi eu harphraphu a'i hyscrifennu felly yn y ddwyfron, ynt i'w galw mewn cof yn yspysol y pryd hyn, ac i'w hail adrodd yn fynych, pan fo dif, rrwch yn gwenieithio, pan fo trachwant yn annog, pan fo trythyllwch y'n gwa­hodd, pan wrthryfelo 'r cnawd, a phallu o'r yspryd; pan fo 'r achlysur i bechu gwedi ei gynnyg, ac enby­drwydd o syrthio mewn pechod. Eithr gwrandawn pa beth y mae un arall o'r Tadau yn ei ddywed, d.

[Page 170]Yn y pedwar edd lle y mae St Ber­nard yn dyfod: efe a ettyb i'r qwe­stiwn hwn sydd i'w roddi ger bron. Y mae y fath ragor rhwng dynion yn'eu buchedd, a bod eu synnied hwy am drallodau yr awrhon agos mor aml ar pennau.

Y mae rhai i'w cael a drallodwyd yn wastadol cyn dosted, ai bod hwynt yn barod i syrthio i lawr tan y groes; fel ped fai hi yn thy-drom iddynt i'w dwyn. Un sydd yn orthrymme­dig gan dlodi, y llall sydd yn ofidus gan ddolur, y mae ar un arall fwy na baich ei gefn o ddyled cyfrinachol, y llall sydd yn poeni gan ofalon, y mae un arall yn osid-lawn ac yn aflo­nydd o herwydd cammau ac enllib: Y mae pob dyn yn tybied mai 'r hyn y mae fe yr awrhon yn ei ddioddef yw 'r trallod mwyaf: a digwyddo y mae lawer amser fod y cyfryw ac ynt wan galon ac annioddefus yn rhedeg i ddyfroedd, ac yn prysuro i'r cebyst, gan feddwl trwy hynny gael diben o i holl drallod a'i trym­fryd, pan nad yw y diben tebygus hwn iddynt, ond y dechreuad o'i trymfryd, a'r cyfryw dristwch ni ddi­wedda byth. Eithr nid felly y mae [Page 171] gyd a'r duwiol a'r da: y maent hwy yn synnied y cwbl yn ddioddefgar; gan ddarostwng eu hunain ym mhob peth i ewyllys da Duw a'i arfaeth. Nid ydynt hwy nac yn deisyfu marw yn fuan, nac etto chwaith byw yn hir. A'i ewyllys Duw ydyw iddynt farw? hwythau hefyd ynt fodlon. A fyn ef iddynt farw yn fuan? Bodlon ydynt i hynny hefyd? A fyn ef iddynt fyw yn hwy etto? Nid ynt yn erbyn hynny. Y peth a ewyllysio Duw, a ewyllysiant hwythau; yr hyn ni ewyl­lysio Duw, ni ewyllysiant hwythau chwaith. Heb law y ddau ryw hyn ar ddynion, y mae try­dedd, a hwnnw yw y rhan fwyaf o ddynion, sef, y rhai ynt yn deisyfu byw yn hir: Ac nid oes agos un gwr cyn hyned ac na obeithiei, ac na ddeisyfei fyw etto flwyddyn arall. Ni chlywir y dynion hyn yn dy­wedyd un amser, ddarfod iddynt fyw yn ddigon o hyd: Y mae 'r angeu gyd a hwy yn gwneuthur gormod brys, y mae fe yn dyfod yn rhy fuan attynt, ie, cyn ei amser. Yma yn awr y gellir rhoddi 'r qwestiwn ger bron, Pwy a fydd byw, neu pwy a fydd [Page 172] fyw hwyaf. St Bernard yn ei ddwy­fed bregeth ar bymtheg, ar y ped­war ugeinfed ar unfed Psalm ar ddeg, ar yr hyn eiriau, Digonaf ef â hîr ddyddiau, sydd yn torri allan i'r aruthredd yma, pa beth sydd cy­hyd a'r hyn sydd yn Dragywyddol? Pa beth sydd cyhyd a'r hyn nid oes iddo ddiwedd? Y diwedd da yw y bywyd Tragywyddol, at yr hwn y mae i ni eu gyd gyfeirio, a diddiwedd yw 'r diwedd hwn. A chydâ hynny y mae fe yn dywedyd ymmhellach, mai hwnnw mewn gwirionedd yw 'r gwir ddiwrnod yr hwn nid oes ar ei ôl un nos yn canlyn, lle mae gwirionedd Tragywyddol, a gwîr Dragywyddoldeb, ac am hynny gwir a Thragywyddol ddi­gonoldeb. Felly gan hynny fe ellir terfynu y qwestiwn fel hyn, mai y rheini yn unig y fyddant fyw yn hîr, a alwyd yn wir ddiau felly, y sawl bynnag ni chânt farw byth, eithr byw yn y nef yn wastadol: a thrachefn, bydd y rheini yn marw o farwolaeth ddifiys (och o farwolaeth ry ddifrys) y sawl bynnag a fydd yn marw bob amser, eithr nid yn byw yn uffern un amser: Canys byw yn unig a gânt yno i'w poeni yn wastadol. gwrandawn [Page 173] un etto ac yno diben­nu.

Laurentius Justinianus a geiff dde­ongli i ni y qwestiwn olaf. Y mae, medd ef, yn y byd hwn lawer o bethau rhai ddarfu i natur eu arfaethu a'i priodoli felly i ryw un man, mal nad ydynt hwy i'w cael mewn man arall, oddieithr eu cael o ran. O rai llys­siau sydd yn tyfu yngwlêdydd dieithr a gaed allan yn ddiweddar, yr hâd yn unig a gawn ni: O rai o'r creaduriaid byw eu crwyn yn unig a ddygir trosodd i ni. Yr awrhon y mae Tragywyddoldeb yn beth mor briodol i fyd arall, mal nad yw ef i'w gael yn hwn; yn unig ei hâd ef a allwn ni eu gael ya y byd hwn. A pha beth yw hadau Tragywyddoldeb? Hyn y­dynt, medd Laurentius, I ddyn ei ddiystyru ei hûn, Dawn cariad per­ffaith, A'r blâs ar weithredoedd Christ. Diysstyru eraill, pren yw, yr hwn sydd yn ymwasgaru tros yr holl fyd, coed yr hwn tanwydd yw i dân uffern. I ddyn ei ddi­styru ei hun, hedyn bychan iawn yw, prin yn gydnabyddus [Page 174] yn y byd: Christ a'i dug gyd âg ef i lawr o'r nefoedd, yr hwn a ddybrifi­odd Philip. 2. 7. ei hun gan gymmeryd arno ag­wedd gwâs a chan fôd yn ufudd, nid yn unig i'r beudy, neu i'r preseb, ond hefyd i fynydd Calvari, hyd angeu, îe 8 angeu 'r Groes; hyd y bedd, îe hefyd hyd uffern. O herwydd pa ham Duw 9 a'i tra dderchafodd yntes. Wele, yr hedyn hwn a gynnyddodd ac ym­wasgarodd ar led, ac a brifiodd yn u­chaf o'r holl brennau. Yr un Athro yn adrodd am Gariad perffaith, sydd yn dywedyd fel hyn, y mesur o'n gogoniant a'n Tragywyddol wobrwy, a gaiff fod yn ol y mesur o'n Cariad perffaith. Canys y neb y maddeuer ychydig iddo, a gar ychydig. PwyLuc. 7. 47. bynnag nid oes ganddo ond ychydig Gariad perffaith, nid yw yn cael ond ychydig râs: Alle bo ychydig râs, yno y bydd ychydig ogoniant hefyd. Felly gan h nny gwir jawn yw, mai pa mwyaf y ceri di Dduw, mai mwyaf o wobrwyon Tragywyddol a ben­tyrri di i fynu i ti dy hun. Yr holl gyfraith Cariad yw, ond y mae yn rhaid iddi fod yn bur, yn ddiwair ac yn sanctaidd. fe ddarfu i mi a'r ail, yr hwn yw Cariad perffaith, dy fod yr wyf at y trydydd, yr hwn yw y [Page 175] blâs ar weithredoedd Christ. Dywe­diad doeth a chyffredinol yn ysgoli­on Araithyddiaeth ydyw, a meddy­lir fôd hwnnw yn myned rhagddo, 'r hwn a fedro synnied gwaith [...]ullius yr Araith­wr: Ninnau a allwn yn Ysgol crefydd Christ ddywedyd cymmaint a hynny, Efe aeth rhagddo yn dda mewn crefydd a rhinwedd, yr hwn a fedre synnied gwaith Christ, yr hwn sydd yn hoffi blâs athrawiaeth Christ a'i e­sampl. Pwy bynnag nid yw yn gael agos ddim blás un amser, dim synnied yngeiriau a gwaith Christ; Pwy bynnag nid yw yn ymgynhyr­fu, yn ymserchu, ac yn ymhyfrydu yn y pethau hynny sydd yn perthynu i'r enaid a duwioldeb Christianus; i'r Nefoedd a gwynfydedigrwydd Tragywyddol, eithr sydd yn cael yn y gwrthwyneb felystra lawer yn bwytta, yn yfed, yn rhodio, yn chwerthyn yn cellwair ac yn chwareu: y dyn hwnnw a ddichon ddywedyd yn rhy wir gyd â digon o dristwch, O fy Nuw leied sydd gennif o had Tragywyddoldeb! Neu yn hyttrach ni feddaf yr un. Canys pan ddescyn­nwyf imi fy hun, yr wyf yn gweled yn amlwg pa yspryd sydd o'm mewn, [Page 176] ac i ba le y mae fy amcannion yn fy nwyn. I dreulio nosweithiau cyfan yn dawnfio, yn gwledda, yn gloddest, yn daryfed, yn chwareu dissiau a chardiau, yn gwrando ynfyd ac ofer chwedlau, yn darllain llyfrau haloge­dig yn galw am ganiadau serchog, ac yn chwerthyn am eu pennau, yn chwareu yr cydymmaith da, yn gwneuthur fel y gwnele 'r cymdeithi­on; O nid oedd hynny yn fy anfodd­hau i un amser, hyfryd a llawn ddigri­fwch oedd hynny gennif. Eithr i glywed sôn am Grist a'i fuchedd ef, i glywed sôn am y gwyr sanctaidd a fucheddasant gynr, y rhai a ym­roddafant yn llwyr i wilio, i ympry­dio, ac i weddio, neu i ddarllain yng­hylch eu buchedd, nid yw hynny gerddwriaeth yn fy nglustiau, y mae hynny yn ddolurus i'm llygaid: Nid allaf na gwrando nag edrych chwaith: yr ydwyf yn llenwi yn dynn fy nghlu­stiau, ac o ran ofn yn cau fy llygaid, rhag y byddei i mi eu hanfoddhau hwynt. I mi wrando pregeth o awr o hyd, marwolaeth yw hynny, ac am hynny anfynych yr ydwyf yn dyfod i'r eglwys: neu os y fi a ddaw [Page 177] weithiau, mi a fyddaf yn bwrw yr am­ser heibio; naill a'i yn cysgu neu yn siarad. Gormod sydd o'r cyfryw ddynion yn y byd: Either yn ddi­ammeu gellir dywedyd am y cyfryw, nad oes ganddynt hwy ddim blas na dim synnied yngwaith Christ. Eithr bellach gwrandawn farn yrEglwys am Dragywyddoldeb.

Y mae 'r coffadwriaeth am Dragy­wyddoldeb mor werthfawr ym mri yr Eglwys, ac nad oes un Psalm, na Gweddi, na Hymn, na chysylltodd hi wrthi, Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glan; megis yr oedd yn y dechreu y mae yr awrhon, ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen. Me­gis yr oedd yn y dechreu, hynny yw cyn pob dechreuad, o bob Tragywyd­doldeb, heb un dechreuad iddo: Y mae yr awrhon, ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Hynny yw, rhyd yr hôll oesoedd; annherfynedig, aneirif oesoedd nid ellir eu amgyffred; hyd holl Dragywyddoldeb. Eithr gadawn yr aberoedd bychain a phrysurwn i'r ffynnon.

BEN. II.
Yr ail bennod yma sydd yn rhoi Ty­stiolaethau cglur o'r yscrythur sanctaidd ynghylch Tragy­wyddoldeb.

TRi yn unig a ddygaf allan o dy­stion, Prophwyd, Apostl, acEfeng-ylwr▪

Pa sawl un ac mor fawr yw uche­neidiau a griddfanau dynion tlodi­on digarad a dirmygus! gallwn eu clywed bob dydd yma a thraw yn achwyn; gwae fi ddyn tlawd, nid oes gennif fawr garedigion, od oes yr un; nid oes gyfrif o honof; y mae pawb agos yn fy niystyru, ac yn fy sathru. O ddyn! bydd ymmyneddus dippin bach, bydd ddioddefgar tros amser; er bod hyn ar y cyntaf yn ymddang­os i't yn hîr, fe wawria i't o'r di­wedd ddydd o gysur▪ Cofia adde­wid Duw ym mhrophwydoliaeth Ba­ruch. Baruch 5. 2. Gwisg am danat wisg ddau ddy­blic, y cysiawnder sydd o Dduw, a go­sod ar dy ben Goron gogoniant y Tra­gywyddol.

Y mae eraill ac sydd yn beio ar [Page 179] natur gan achwyn yn wastadol rodd i o honi einioes rhy hir i'r Gigfran, a rhy-fyro beth aruthr i ddyn. Gwran­dewch gymmaint a hyn, chwi y rhai ydych yn achwyn yn wastadol fyrred yw einioes dyn; byr yw 'r einioes hon yn siccr. Eithr pan ddi­weddo 'r einioes fer orwag yma, bydd yn ymatos einioes arall yr hon ni ddibenna byth. Oni choeliwch chwi fi, etto coeliwch St Paul, Canys 2 Cor. 5. 1. ni a wyddom os ein daiarol dy o'r ba­bell hon a ddattodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef ty nid o waith llaw, tragywyddol yn y Nefoedd Gan hynny nid mawr golled yw, os datto­dir y babell ddaiarol hon o'n cyrph, gan fod prislys brenhinol wedi ei ddarparu i ni, yr hwn nid yw yn ddarostyngedig i ymddattodiad? Angwanegwn at dystiolioeth y Pro­phwyd a'r Apostl, dystiolaeth yr Efeng­ylwr St Mathew; Yn efengyl yr hwn gallwn ddarllain y geiriau hyn o eiddo ein Jachawdwr, Os dy law neu dy droed a th rwystra, torr hwynt Math. 18. 8. ymmaith, a thafl oddiwrthit: Gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn glôff neu yn anafus, nag â chennit ddwy law neu ddau droed, dy dafllu i'r [Page 180] tân tragywyddol: Ac os dy lygad â'th rwystra, tynn ef allan, a thafl oddi 9 wrthit: Gwell yw i ti yn un llygeidiog fyned i mewn i'r bywyd, nag â dau ly­gad gennit, dy daflu i dân uffern. O dân! O uffern! O Dragywyddoldeb! nid yw Amser ddim, os cymmharir ef a Thragywyddoldeb; byrder eini­oes, ac felly colled amser, nid yw gol­led yn y byd, eithr ynnill mawr yw, os ynnillwn ni trwy hynny Dragy­wyddoldeb. Christ a'i gaddawodd, a St▪ Mathew a'i rhoes ar lawr, ac a'i seliodd yn y geiriau hyn o eiddo einMath. 19. 29. Jachawdwr, Pob un a'r adawodd dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu Dâd, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymmaint, a bywyd tragywyddol a etifedda efe. Onid ydyw 'r addewid y­ma am Dragywyddoldeb bendigedig yn ddigon eglur, gan fod gennem ni siccrwydd y derbynniwn gann cym­maint gwobr. Drachefn Christ yn ôl yr unrhyw Efengylwr sy 'n ein rhag­rybuddio ni o'r farn ddiweddaf, gan grybwyll deirgwaith yn eglur am Dragywyddoldeb yn y geiriau hyn, Tán tragywyddol, Cospedigaeth tragy­wyddol, Math▪ 25. 4 2 40. Bywydtragywyddol.

Am hynnny gan weled fôd y Ta­deu [Page 181] sanctaidd, Yr Eglwys, a'r ysgry­thur gyssegredig yn rhoi y difrifol ystyriaeth ar Dragywyddoldeb ger ein bron trwy gymmaint o ffyrdd; ein rhan an dyled ydyw, cymmaint un ac sydd o honom yn disgwyl bywyd Tra­gywyddol yn y Nefoedd, ein rhan an dyled ni bob un ydyw ystyrio yn ddifrifol rhyngom a'n hunain fel hyn: O fy Nuw! Mor anfynych a darfu i mi o'r blaen hyd yn hyn feddwl am Dragywyddoldeb! Neu os darfu i mi feddwl am dano, a pha agwedd ddifraw ac esceulus y gwneu­thym i hynny, er hynny i gyd yr yd­wyf bob dydd, ie bob awr a munud yn nesau nes nes i Dragywyddoldeb? Eithr trwy gymmorth dy ras mi a am­canaf wneuthur hynny o hyn allan yn fwy gofalus, nag y darfu i mi o'r blaen hyd yn hyn; ac os trwy dy haelioni di y cynydda golud un am­ser, ni roddaf fy nghalon arno: Er bod y byd yn gwenu arnaf, er na byd­dei arnaf ddiffyg un peth amserol a fedrei fy nghalon ddymuno, er fy mod i (debygwn) yn llenwi o gymmaint o āl [...] ­der ag allei fyth fod, er hynny cofiaf Dragywyddoldeb yn wastadol. Y rhain a fydd fy meddyliau ynghanol fy hawddfyd? [Page 182] Eithr pa hyd y par hâ hyn, a ddeil hi yn deg bob amser? A dywynna yr haul cyssurus hwn hob amser arnaf? Neu o byddei i mi fyw mewn hawdd­fyd holl ddyddiau fy mywyd, pa fudd yn ol marwolaeth a fyddei hynni i mi? Ar ol y melus yma, eithr byr; hyfryd, eithr enbydus; anedwydd wynfyd, y canlyna Tragywyddoldeb, ie Tragy­wyddoldeb ar fyrder. Eithr ostry 'r byd yn fy erbyn, os ei wg a fydd ar­naf, os cyfarfyddaf â llawer o wrth­wynebion, trallodau a blinderau, os aml anffawd a ddigwydda i mi, os ymwthiant arnaf fel tonnau y naill ar war y llall, os cythryblir fi, a dyfod o heldrin arnaf, y pryd hynny y rhain a fydd fy meddyliau beunyddiol; gadewch iddo, cymmered y byd ei rod, yr wyfi yn fodlon i'w ddioddef, ewyllys Duw a wnelir: Terfysged y mor, rhued ei donnau, chwythed gwyntoedd blinderau, rhuthred dy­froedd cyfyngderau arnaf, bygythied cymmylau profedigaethau law a tha­ranau, amgylched tywyllwch tristwch a thrymder fi, ie, er i seiliau 'r byd grynu (debygwn) er hynny nid ofnaf. Yr ystormiau hyn a chwyth trosodd, y gwyntoedd hyn a ostega, y tonnau [Page 183] yma a dawela, ni ddichon y tym­mhestloedd hyn barhau yn hir, a gwasgerir y cymmylau yma. Beth bynnag a ddioddefaf yma, fe ddiben­na yn y man, nid rhaid imi ddioddef yn Dragywyddol. Doed y gwaethaf i'r eithaf marwolaeth a ddibenna fy hôll ofid am trueni▪ Eithr nid oes un ystorm yn debyg i'r ystorm honno o dân a brwmstan, yr hyn a ddioddefa 'r damnedig yn uffern yn Dragywyddol ac yn ddiddiwedd. Bydd yma ddiben ar bob beth, eithr ni bydd yno ddiben yn y byd ar boe­nau. Beth bynnag sydd nad yw o fewn amgyichiad Tragywyddeldeb, y mae fe yn fyr, yn fuan ei gyrch, ac yn drangcedig, nid yw ond cysgod, ond breuddwyd, felly y mae St Chry­sostom yn dywedyd: Nid yw ond y­chydig, neu beth diddim, bychan, bychan iawn; tros ennyd sechan, ie, ennyd fechan jawn. Y mae ein Jachawdwr yn taro ar hynny yn fynych, wrth sia­rad a'i Ddysgyblion. Nid yw ef yn galw ei ddioddefiadau ei hun oll, ie, ei farwolaeth drachwerw ar y Groes ond ychydig: Hôll ddioddefiadau, di­aleddau, a marwolaethau angerddol yr Apostolion, y cwbl ond ychydig: [Page 184] A pha ham a byddei i minnau na feddyliaf hyn yma hefyd yn ychydig, beth bynnag a ddioddefwyf yma, pe byddei i mi ei ddioddef gant o fly­nyddoedd tunty▪ Oblegid ychydig bach Hebr. 10. 37. igyn etto, a'r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda.

Gan hynny mi a ddioddefaf yn ym­myneddus beth bynnag a ddigwydda, ac a gyfrifaf un peth yn unig yn ang­enrheidiol, a hynny yw, na wnelwyf ddim yn erbyn fy nghyd wybod, a dwyn anfodd Duw. Canys y mae pob peth yn ddiangol ac yn ddiogel gyd ag ef yr hwn syd yn ddinam ac yn siccr o'r Tragywyddoldeb bendige­dig.

BEN. III.
Y dryddydd bennod yma sydd yn dang­os, nad yw 'r bywyd yma mewn go­hygiad i'r hwn sydd i ddyfod ond fel Ddefnyn wrth y Mor mawr, graienyn wrth y tyfod ar lan y mor, Canolbwynt wrth y Cylch, ychy­did amser bychan, bychan igyn, Munud wrth Dragywyddoldeb. A dioddefiadau 'r bywyd hwnynt gyffe­lyb mewn golygiad i'r llawenydd sydd i ddyfod.

GWir iawn ydyw, pa boen bynnag neu ofid a ddioddefwn ni yn y bywyd hwn, nad yw ond ychydig, neu tros ennyd sechan. Dy wediad St Augustin yw, y mae 'r ychydig neu 'r ennyd fechan yma yn ymddangos yn hir i ni, oblegid nad aeth hi etto heibio ôll: Eithr pan ddelo 'r diben o honi, yno y bydd i ni wybod a deall pa en­nyd fechan yw 'r ychydig yma. Y doethaf o'r gwyr yr hwn oedd i egluro gwa­gedd, a byrder y bywyd presennol hwn, ped ystynnid i gant o flynyddoedd, yr hyn nis dichon nemmawr ei gyrraedd [Page 186] sydd yn dewis y pethau trangcedic­caf yn y byd i'w egluro, ac i'w osod allan trwyddynt mewn gwedd o gyffe­l [...]brwydd. Canys yr ydym ni yn darllain yn Ecclesiasticus fel hyn yn eglur, Rhifedi dyddiau dyn yd ynt gan Eccle. 18. 9. mlhynedd o'r mwyaf. Fel defnyn o ddwfr wrth y mor, ac fel graienyn wrth y tyfod yw mil o flynyddoedd wrth ddyddiau Tragywyddoldeb. A pha ham gan hynny yr ydych chwi (hir oeswyr) yn ymlawenychu yn hyn yma, fyw o honoch gant o fly­nyddoedd? Ein holl flynyddoedd ni ydynt, Pa beth yd ynt? maent▪ fel desnyn o ddwfr wrth y môr, ac fel graienyn wrth y tyfod. A pha beth yw graienyn wrth y myn y ddoedd trauchell hynny o dyfod? A pha beth yw defnynbychan o ddwfr wrth y mor mawr difeisiedig. Nid yw deg a deugain, trugain, neu gant o flynyd­doedd ddim amgen (gwrandewch hyn yma chwi hynafgwyr) nid ydynt ond ychydig; ennyd fechan iawn, ond Munud o amser, mewn gwirionedd yn ddiddim oll, wrth ddyddiau Tra­gywyddoldeb. Ac er hynny (ni yn­fyd a gresynus ddynion) ydym yn tra ymlawenychu yn y graienyn hwn o [Page 187] dyfod, yn y defnyn bychan yma. Ein bywyd ni yn siccr graienyn o dyfod yw, eithr nid Gemm na maen gwerth­fawr; nis gwnaed ef o ddim gwell defnydd na thyfod. Defnyn yw ein bywyd ni, eithr nid dwfr melus a chroiw, eithr hallt a chwerw yw, felPrege. 2. 23. dwfr y mor. Canys ei holl ddyddiau fy orthrymder, a'i lafur yn ofid: ie ni chymmer ei galon esmwythdra y nôs: felly a dywed y Pregethwr. Cyngor St Augustin yw hyn, Galw i'th gof (medd ef) y blynyddoedd aethant hei­bio, er pan fu Adda hyd y dydd pre­sennol hwn; dos tros yr ysgrythyrau i gyd: Nid yw hi agos ond doe er pan gwympodd ef, ac pan fwriwyd allan o Baradwys. Canys pa le y mae 'r amserau hynny aeth heibio? Yn ddiammeu ped fuasit yn byw yr amser oll er pan fwriwyd Adda allan o Baradwys, ie hyd yn hyn, ti a fuasit yn deall, ac yn cyfaddef nad oedd dy oes di hîr, yr hon a hedodd ymmaith mor fuan. Canys pa beth yw bywyd neb ryw wr? Bwrw atto gymmaint ag y fynnych di o flynyd­doedd, bwrw yn dy feddwl yr henaint hynaf: Pa beth ydyw? Onid cyffe­lyb i fellden foreuddydd ydyw? hyn [Page 188] ôll sydd yn ddigon gwir. Yn rhodd a ddywedwch chwi i mi, ym mha le y mae Adda 'r awrhon? Ym mha le y mae Gain? Ym mha le y mae Methuselah yr hir oeswr? Ym mha le y mae Noah? Ym mha le y mae Sem? Ym mha le y mae H [...]ber? Ym mha le y mae Abraham dra­ufudd? Ym mha le y mae Jacob? Ym mha le y mae Joseph? buant feirw ac aethant ymmaith, a'i hamser aeth heibio; gallwn ddywedyd am danynt; Vixerunt, fuerunt Troes, Hwy a fuont unwaith, yn awr nid ydynt. Dyna fel y mae ein bywyd ni yn myned ym­maith; dyna fel y mae gogoniant y byd yn my ned ymmaith. O foreu­wlith! O wir wagedd! pa beth yw 'r hyn a fyddei yma a chwenychem ni felly? Pa beth sydd yma cyhyd ac y bydddei i ni ei obeithio a'i ddy­muno? Pyr ydyw, ychydig ydyw, beth bynnag a genfydd dy lygaid yma nid yw ond mymryn bach, gwael yw, ac ni thal ddim. Gwir yw 'r yma. drodd hwn o eiddo Gregori fawr; Nid yw 'r mesur mwyaf o'n hoedl ond mymryn, neu linell fer yw, yr hon sydd yn dechreu, yn par­hau, ac yn diwedd ar y mymryn­Mewn. [Page 189] moment, ar darawiad llygad a1 Co. 15. 51. bydd diwedd ar bob peth: Yr ydwyf Psal. 119. 96 (medd y Psalmudd) yn gweled di­wedd ar bob perffeithrwydd, ond dy or­chymmyn di fydd dra ehang. Pa ham gan hynny yr ydym yn cyfrif amser yn y byd yn hir? Ganys yr hyn aeth heibio, nid yw yr awrhon; yr hyn sydd i ddyfod, nid yw etto: A pha beth yw 'r hyn sydd yn bresennol? y mae 'r awr wydr yn rhedeg yn wa­stadol, ac nid yw 'r cloc yn sefyll un amser, a munudiau hedegog cerdd yr awr ymmaith. Yr hyn a hedodd heibio a fu ac aeth ymmaith: yr hyn sydd etto yn ol, sydd etto i ddyfod: Eithr ym mha le y mae 'r amser a byddwn yn arfer o'i galw yn hir? St Bernard sydd yn son am yma­drodd godidog gwir jawn St Hie­rom (di ddarleydd, hi a dal ddal sulw arni) Ni ddylei llafur yn y byd, medd ef, ymddangos i ni yn hir, nac un amser yn y byd yn hir, y byddwn ni ynddo yn ymgais am ogoniant Tragywyd­dol.

Ac etto er nad yw bywyd gwr ond byr iawn mcwn cymmhariaeth i Dragywyddoldeb, er hynny nid oes yr un o'r damnedig a ddichon iawn [Page 190] farnu ar Dduw am na chaniatta efe fywyd hwy iddo. Rhaid iddynt eu barnu eu hunain yn euog am na fucheddasant yn well. Nid oes cyfrif yn y bedd (medd Siracides) pa un byn­nag Ecclus. 41. 4. ai deg, ai cant, ai mil o flynyd­doedd y buost ti fyw.

Nid yr amser moni i achwyn yn uffern ar fyrder einioes. Fe fu pob dyn yn fyw yn ddigon ei hyd, os bu efe yn byw yn ddigon duwiol.

Rwy 'n chwennych yma (frawd Christianus ymddiddan â thi yn hyfach ac yn fwy amlycach; ac a­gori y matter felly, mal y caffech di ei weled yn eglur gwedi ei gyn­drychioli o flaen dy lygaid. Dywe­dyd yr wyt, dy fod yn meddwl yn fy­nych am y nefoedd, a bod gennit awyddfryd difrifol a hiraethog i Dra­gywyddoldeb. A ddywedaist ti felly? Yr ydwyf yn dy glywed, ond nid yd­wyf yn dy goelio: Ac ni fynnwn i tithau chwaith fy nghoelio innau, pa dywedwn i't felly am danafy hun. Canys pa fodd y dichon hynny fod, O frawd da Christianus, Pa fodd y dichon hynny fod y byddei i ti neu i minnau feddwl cyn fynyched, ac mor ddifrifrol am y nef, a bod genn em y [Page 191] fâth awyddfryd hiraethog (Ac yr ydym yn dywedyd fod gennem) i Dragywyddoldeb; ac er hynny bod mor glaiar, ie, yn farw fyth mewn materion crefydd, mor hwyrfrydig ac anhy­ffordd i'r hyn sydd dda, mor hyblyg a hyffordd i'r hyn sydd ddrwg, mor barod ac ewyllysgar i bob math ar drythyllwch, mor gwynfanus ac ach­wyngar, mor ddiowgswrth ac esceu­lus? Ac lle dylem ni fod yn ddîg, yno yr ydym yn rhy-ymmyneddus; ac lle dylem ni fod yn ymmyneddus ac yn ddewrwych, yno yr ydym yn rhy ddigalon ac yn llwfr. Y mae ein ymmynedd ni yn toddi ac yn treu­lio ymmaith ym mhoethineb pob ys­gafn gystudd: Nage, fo'n bwrrir ni â gair i lawr yn fynych▪ anadl genau gwr a'n chwyth ni lawr. Eithr nid ydym ni yn frochus ac yn ffrom­wyllt iawn un amser, ond y pryd y gwrthwynebir ein hewyllys. Gallwn son yma am Bostwm gwresog, trach­want yr hwn sydd yn brydio ac yn chwyddo ein calonnau yn fynych; ac hefyd am Cancr yssol, cenfigen yr yr hwn a yssa i mewn i'n dwyfronnau yn aml, ac a bair i'n cnawd ddarfod: Ond mi af heibio iddynt. Er hyn [Page 192] i gyd a ddywetpwyd, ni ddynion da a duwiol, (megis yr ydym yn proffessu ein hunain, ac a fynnem i eraill fe­ddwl ein bod) ydym yn rhy ofnog lle dylem fod yn hy, ac yn rhy hy lle dy­lem fod yn ofnog, ni ymogoneddwn ni mewn dim yn fwy, nag yn hyn yma; fod gennem yn ein meddyliau, a'n hawyddfryd difrifol lawenydd Tragywyddoldeb yn fynych. Cre­dwch hyn, mai peth anghredadwy yw y dichon meddyliau am y nef a Thra­gywyddoldeb fod yn ein calonnau cyn fynyched, ac yr ydym yn dywedyd; ac etto ynghyfrwng hynny na byddem ni yn bucheddu yn well nag ydym. A ddywedais i mai peth anghreda­dwy yw? Nage, yr wyfi yn dywedyd mai ammhossibl yw, Ac fel hyn mi a'i datganaf.

Y Padriarch Jacob a wasanae­thodd Laban ei ewythr saith mlhy­nedd am ei ferch Rahel, ac yr oeddynt Geneses 29. 20. yn ei olwg effel ychydig ddyddyau; am fod yn hoff ganddo efe hi. A glywi di, pwy bynnag wyt, ac sydd yn ach­wyn felly? Nid ydwyt yn gwasanae­thu un twyllwr neu siommwr cyffe­lyb i Laban, eithr Duw dy wneuthu­rwr, a'r hwn a geidw ei gyfammod [Page 193] a'i addewid yn ddiammeu. Nid y­dwyt yn gwasanaethu am wraig, eithr am deyrnas nefoed: Nid am bryd a gwedd gwraig, ac am gael bod yn ei golwg, eithr am y gwynfydedig weledigaeth a'r Tragywyddol olwg ar Dduw: Nid am ddifyrrwch a di­ddanwch gwraig, eithr am nefol a Thragywyddol ddifyrrwch a didda­nwch: Ac er hynny trallod un▪ gauaf, ddydd a bar i ti ymollwng yn fynych felly, mal y byddo dy holl serch tu ag at Dduw, a'th ddeisyfiad tu ag at y nefoedd yn dechreu prifio yn ddi­wres ynot yn ddiswmmwth. Torri a▪ wnei allan i gwynfan yn dra­chwerw, cyn gynted ag y dechreuo 'r ystorm o adfydwch; galw a wnei y nefoedd ar ddaiar yn dystion, ni a­nedli ddim ond dialedd, ie, yr wyf yn credu, na arbedi mo Duw ei hun, eithr byddi yn galw ei gyfiawnder ef mewn dadl, Ac amserau eraill pan ddarfyddo i ddifyrrwch dy dwyllo a'i hudoliaethau gwenheithus unwaith, y mae fe yn dy lygattynu ac yn dwyn ymmaith dy got felly, mal y llwyr anghofi wasanaethu Duw: A rhedeg a wnei yn y modd yma yn wysg dy ben i ddyrysni pechod, yr hwn [Page 194] sydd a dyfodfa teg i ddyfod i mewn iddo, or lleiaf mewn golwg; eithr y mae yn dy arwain y ffordd nesaf i ddinistr. A'i dyna 'r dyfalwch yr oeddit yn siarad cymmaint am da­no? A'i dyna dy wroldeb arwraidd a'th sserch tu ag at Dduw? Pa sut y gwasanaethi di Dduw fel y gwnaeth Jacob Laban, Pan (ysywaeth) nas gelli ddioddef poen a gofid un diwrnod? Simon, Simon, a'i cysgu yr wyt ti? Marc. 14. 37. Oni allit wilio un awr gyda dy Ar­glwydd a'th Feistr? Eithr gwran­dewch ychwaneg ynghylch y Padri­arch Jacob. Efe gwedi ei siommi gan ei ewythr Laban, yr hwn a rod­dodd iddo fe Leah lygad-wlyb yn lle Rahel brydweddol, a'i gwasanae­thodd ef etto saith mlhynedd yng­waneg am ei ferch Rahel, yr hon oedd hoff iawn ganddo ef: A diam­meu nad oedd ef yn gweled y saith mlhynedd hynny hefyd, ond megis ychydig ddyddiau o ran mawredd ei serch ef tu ag atti. Ac y mae yn debyg jawn pan fyddei yn lluddedig wrth ei waith fod ei lygad ef yn fynych tu ag at ei Rahel a'i theg­wch, a chan ddywedyd, hi a haeddai o ran ei the gwch yn ddiammeu fod [Page 195] i mi ddioddef gwasanaeth caled saith mlhynedd am dani; ac os byddei raid, ni phrissiwn i wasanaethu saith mlhy­nedd yngwaneg etto. Dwyn yr oedd ef y fâth serch yw Rahel, mal nad oedd ef agos yn ymwrando â phoen yn y byd.

A glywi di hyn yma, yr hwn yd­wyt yn myned am filwr Christ? wyt ti yn amgyffred hyn yma? ydwyt ti yn deall hyn yma? Pa fodd gan hynny a gelli rwgnach etto yn erbyn Duw? yr ydys yn dy orchymmyn i wasanaethu Duw er mwyn Duw, me­gis y gallech di felly o'r diwedd fyned i mewn i orphywysfa Tragy­wyddol Duw; Yr ydys yn dy gyngho­ri i ddioddefgarwch ac ymmynedd yma, megis y gallech di gael dy wneuthur felly yn gyfrannog o an­farwoldeb gydâ'r bendigedig yn ôl hyn: Ac er hynny cysgu yr wyt ti, O ddiogyn? Onid oes gennit glust i wrando? Wyt ti etto yn achwyn? Gwna ond bwrw i fynu y blynyddoedd a dreuliaist yngwasa­neth Duw, a dal sulw a wasanaethaist ti Dduw yn ffyddlon ac yn boenus ugain mlhynedd, fel y darfu i Jacob Laban. Y mae arnaf ofn y byddei [Page 196] fyrr o'th gyfrif: A wasanaethaist ti Duw cymmaint a hynny o fisoedd? Meddaf i't, y mae hynny yn ddadl gennif. Rhifa y nosweithiau a dreu­liaist yn gwilio ac yn gweddio, Rhifa drachefn y dyddiau a dreuliaist mewn arferion sanctaidd, ac edrych a ellech di ddywedyd y gwirionedd i Dduw mal y darfu i Jacob i Laban; Gene. 31. 40, 41. Bûm y dydd, y gwres a'm treuliodd, a rhew y nos, a'm cwsg a giliodd oddi wrth fy llygaid. Felly y bûm i ugain mlhynedd yn dy dy di: pedair blynedd ar ddeg y gwasanaethais di am dy ddwy ferched, a chwê blynedd am dy braidd. Dywed i mi, (ddyn Christianus) a ddarfu i ti wasanaethu Duw yn y modd hwn ugain mlhynedd: Os wyt yn gwasanaethu Duw, di a wy­ddost dy gyflog: Nid merched Laban, nid Praidd o ddefaid; Duw ei hun a fydd gwobr dy wasanaeth: Bendi­gedig fyddi mewn enaid a chorph; bydd hynny i't yn ddaioni o bob tu; meddienni bob math ar ddifyr­rwch; difyrrwch mawr heb na di­styg na diflasdod, ac yn ddiddiwedd. Cei ymrwyfo yn y mor mawr diwae­lod o hyfrydwch: Ac er hynny we­le [Page 197] dy ddwylo yn fusgrell i bod gwei­thred dda: Dy draed yn ddi-frys i fyned i'r Eglwys; dy galon yn darfod gan genfigen; yn ennynnu gan ddigofaint a dial, yn amlhau o'r pryfed o feddyliau bryntion, ac yn farw fyth o ran syrthni ac annio­ddefgarwch. A'i dyna dy wasanac­thiad di ar Dduw? A'i dyna 'r ffordd yn dy ystyriaeth di i'r ne­foedd, i anfarwol fywyd, i wynfy­dedigrwydd Tragywyddol? Yn wir nidê. Pam nad wyt yn hytrach yn gwneuthur fel yr oedd Jacob? Pan fyddych di yn lluddedig gan neb ryw boen a gymmeraist ar­nat yngwasanaeth Duw, Pan fo 'r byd yn myned yn dy erbyn, pan fo adfydwch yn dy orthrymmu, pan fo hawddfyd yn dy hudo, a blinderau yn pwyso arnat; dyrchafa dy olygons tu ar nefoedd, cenfydd Rahel, yr hon a addawyd i ti; ac yn y modd yma cys­sura dy hun. Na fydd drallodus (o fy enaid) cenfydd dy Rahel yr hon sydd yn y nefoedd, Rahel lan, Rahel hawddgar, Rahel brydwe­ddol oll heb un brycheuyn arni yn unlle! Cenfydd y nefoedd a'r ty [Page 198] o'th orphywysdra a'th hyfrydwch Tragywyddol! Bydd fodlon i ddioddef tros ennyd, ychydig dristwch a pheth poen: Canys cei fôd ar fyrder yn y fan lle mae dy Rahel; Ac yno cei fod yn llawenach ac yn wynfyde­diccach, yn fwy o gymmaint a hynny ac y buoft ti yma wylofus a thrallc­dus: Bydd yno i'th orphywysdra fod yn hyfrydach ac yn llawenach yn fwy o gymmaint ahynny, ac y bu dy fywyd yma yn orthrwm ac yn boenus. Ow gan hynny, bydd o gys­sur da, dangos wroldeb ac ymmynedd Christianus! Tragywyddoldeb, y Tragywyddoldeb bendigedig a dal fwy, tal fwy o beth anfeidrol, na'r cwbl a allwn ei wneuthur neu ei ddi­oddef, Pa rhoit ti, (O frawd Chri­stianus) galon a chyssur fel hyn ynot dy hûn, ped edrychit yn fynychach a'r cyfryw lygaid tu ar Nefoedd, pa meddylit a'r cyfryw serch beunydd am Dragywyddoldeb: Cred hyn, na ymddangosei dy ddyddiau o wasana­eth ôll yma ar y ddaiar ond y­chydig, o ran y mawrserch a fyddei g [...]nnit i Dragywyddoldeb: Esmyth a bwrrit bob poen, pob trallod yn groesawus, pob colled yn elw. Hyn [Page 199] a ddywedafi, ac ar hynny mi ddiben­naf, pa mwyaf y meddylio dyn am y Tragywyddoldeb o'r byd a ddaw, mwyaf a fydd y gofal a gymmer ef i arwain buchedd dduwiol yma yn y byd presennol.

Y seithfed ystyriaeth AR Dragywyddoldeb.
Sydd yn hyspysu pa fodd y mae Christionogion yn paentio Tragywyddoldeb.

Y Neb a fo i fyned rhyd y ty mewn tywyllwch rhaid iddo gerdded yn ymogelus ac yn araf, o fesur cam a cham: A rhaid iddo balfalu am y pa­red. Os dalldwriaeth dyn a sylla i Dragywyddoldeb, os meddylia ef yn y byd hwn fyned iddo i'w gerdded o'i fewn, y mae ef yn camgymmeryd ym mhell: [Page 202] y mae 'r ffordd yn dywyll ac yn llawn anhawsder. Efe a ddichon fri­wo ei hun ar y ffordd, ond ni bydd iddo yma byth gyrhaeddyd yno. Yn siccr nid yw 'r ffordd yno ond berr: ond pan elo dyni mewn yno unwaith, nid oes dim dyfod allan drachefn: Ac etto er na ddichon un dyn mar­wol ddeall felly am Dragywyddol­deb, y meidr ddywedyd yn siccr pa beth ydyw: er hynny gwasgo­dwyd allan eisoes ei anfeidrolder ef, trwy fâth ar baentiadau a thybygo­liaethau, yn y cyfryw fodd ac y di­chon pob dyn gael gweled ei wawr ef. Beth bynnag a lefarom, neu ys­crifennom ynghylch Tragywyddoldeb, A pha sut bynnag yr ydym yn ei o­sod allan mewn lliwiau; nid yw'r cwbl ond cysgod, ie, cysgod cysgodau. Nidoes un Areithiwr yn y byd a ddi­chon a'i holl Araithyddiaeth ei ddi­gonol egluro; Ni ddichon un paentiwr a'i fanwl gelfyddyd a'i gywrein­rwydd oll ei osod allan, hyd at yr a­ffwys. Pa rhoid ynghyd yr holl am­serau y fu erioed ac y sydd byth, ni chyrhaeddent Dragywyddoldeb o o beth anfeidrol: Nid ellir mesuro moi led, nac wrth orriau, na dyddiau, [Page 203] nac wythnosau, na misoedd, na bly­nyddoedd, na'r Lustrau, (o yspaid pum mlhynedd) na'r Olympi­au, (o yspaid pedair blynedd) na'r Indictionau, (o yspaid pymtheg mlhynedd) na'r Jubiliau, (o yspaid deg mlhynedd a deugain) nac oe­soedd, na blynyddoedd Plato. (bob un o yspaid un mil ar bymtheg ar hugain o flynyddoedd) nac wrth symmudiad aniben yr wythfed wy­bren, yr hon ni orphenna ei chylch priodol ei hun, ond unwaith mewn un mil ar bymtheg ar hugain o fly­nyddoedd, a'r yspaid yma o amser yw un o flynyddoedd yr un rhyw Blato; er llios-ddyblygu yr rhain trwy fil, neu fyrddiwn, neu trwy 'r lliosddyblwr, sef y rhif yn dyblu mwyaf a ellyt ei ddychymmyg: A'i fesur ychwaith nis gellir trwy unrhwy rif rhifedig, megis trwy ser y nefoedd, tyfod y mor, gwellt y maes, defnynnau yr afonydd a'r cyffelyb: Y Nifer o Dragywyddoldeb sydd tros ben ei gael allan.

Y mae hwylwyr longau yn arfer o feisio dyfnder y mor wrth blwni a llinyn: Gollyngwn ninnau hefyd i lawr y plwm a'r llinyn o'n hufudd [Page 204] an parchedig feddyliau, i feisio dyfnder Tragywyddoldeb, yr hwn sydd tros ben ei gael allan er hynny. Ond os canlynwn ni y Mapp hwn, os hwyliwn ni wrth y Cerdyn yma, os golygwn yn dda y paentiad hwn, (ni a fyddwn yn nes o lawer i'w ga­el allan nac y fyddem ni ffordd a­rall yn y byd) sef hyn sydd yn can­lyn.

Christ megis dyn bach, wedi ei gymmeryd fel ped fae o'r preseb, ac o'r cryd agos yn noethlummyn, ac heb ddillad, sydd yn sefyll yn y cym­mylau: Ar ei ysgwyddau y mae yn dwyn Croes: yn y cymmylau y mae yr yscrifen hon TRAGYWY­DDOLDEB. Is law traed Christ, i wared ar y ddaiar y mae Esgyrn­gwlm dyn, neu ddim ond esgyrn dyn heb na blew na chroen, barf yn u­nig sydd iddo i gael ei adnabod: y mae yn dal yn ei law asswy ddarn o femrwn, yn yr hwn y mae 'r geiriau hyn yn yscrifennedig, Momentaneum quod delectat. Yr hyn sydd yn di­fyrru Trangcedig yw: Y mae yn dal i fynu yn ei law ddehau Afal. Y mae yn agos atto yn sefyll Gigfran yn pigo crogen, gydâ 'r yserifen hon [Page 205] Cras, Cras, y foru, y foru. Y ddaiar sydd yn agoryd ei safn, a fflammau tân yn torri allan ac yn dyrchafu, yn yr hyn y mae y geiriau hyn yn yscrifenedig Aeternum quod cruciat, yr hyn sydd yn poeni Tragywyddol yw, Christ yn dyfod ilawr o'r cymmylau y mae dau yn addoli â glinniau ply­gedig o ami yw sectau, yn lle holl ddy­nol ryw. Y mae o'r tu ol iddynt awr wydr yn cerdded, neu ddeiol yn mesur orriau wrth rediad dwfr (en­wedig) y Clepfydra; a llyfr yn llydan agored. Ar y naill du i'r ddalen y mae hyn yn yscrifenedig, Treuliant I, b. 21. 13. eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y descynnant i'r bêdd. Ar y tu arall i'r ddalen, Pwy am gwared Rhuf. 7. 24. oddiwrth gorph y farwolaeth hon? O'i blaen hwynt y mae dau Angel nefol yn sefyll, yr rhai ynt yn eu co­fleidio hwynt yn eu breichiau, ac yn estyn eu bysedd at Grist gan erchi iddynt ddyrchafu i fynu eu golygon tu ag atto ef. Dyna 'r paentiad; y mae 'r meddwl yn canlyn.

BEN. I.
Y bennod gyntaf yma sydd yn cynhwyso gwahoddiad Christ.

CHrist y Tragywyddol fâb o'r Tragywyddol Dduw a ddaeth i'r byd hwn, heb un wisg am dano, mwy na ninnau, hynny yw yn noethlum­myn. Y 'wisg o anfarwoldeb a di­niweidrwydd ni a'i collasom trwy anufudd-dod Adda. Ac, (och) mor druan ein diwyg yr ydym ni yn dy­fod yr awrhon i'r byd hwn! Christ ynghyd gydâ ni, ie, er en mwyn ni sydd yn dioddef cospedigaeth, ac er hynny nid oedd ef yn euog o neb ryw bechod. Eithr pa beth yw de­ongliad y Groes hon sydd ar ys­gwyddau Mab Duw? Gwely yw hi, yn yr hwn y cysgodd ef yn angeu, Golgotha oedd ei ystafell; y drain ei obennydd; a'r Groes ei wely. Llaw­er o'r gwyr crefyddol o'r amserau gynt yn ystyried hyn rhyngddynt â hwy eu hunain, a ddewisasant yn rhwydd o'i gwirfodd orwedd yn an▪ esmyth, a chymmeryd ychydig esmwy­thdra, [Page 207] megis y gallent yn llawen ar ddydd yr adgyfodiad gyfodi i es­mwythdia Tragywyddol▪ Rhai, me­gis y gallwn ddarllain, y wnaethant y ddaiar eu gwely, sachliain eu cyn­fas, a maen eu gobennydd. Ac y mae llawer o'r rhai ac sydd yn gwneuthur felly yn wastadol hyd y dydd heddyw. Eithr mi a ymada­waf â hwynt ac a ddychwelaf at Grist. Efe a ddioddefodd angeu, Philip. 2. 8. îe trachwerw a gwradwyddus Angeu 'r Groes: i ba ddiben? fel y gallei ein hachub rhag yr Angeu Tragy­wyddol. Rhaid i ni farw i gyd oll, ac ni bydd angeu ond tros amser byr yn gwneuthur hynny. Mewn mo­ment, mewn tarawiad llygad y cippir yr enaid o'r corph, a dyna 'r cwbl yr ydym ni yn ei alw marwolaeth. Eithr nid felly y mae yn uffern gyda hwy: y mae eu poenau hwy yn rha­gori ym mhell holl ofidiau ac ing­derau marwolaeth, nid yn unigoblegid i bod hwy yn fwy gofidus o herwydd eu cynneddf, ond oblegid i bod hwy hefyd allan o bob cymhariaeth o barhad: canys Tragywyddol ydynt. Felly gan hynny eu poenau hwy ynt, caelen poeni bob amser ai marwolaeth [Page 208] yw i farw bob amser. A Christ Mab Duw an gwaredodd ni oddiwrth y farwolaeth hon, y dyn bach a welsom ei bortreiadu yn rhodio ynghanol y cymmylau. Tan ei draed y mae es­gyrngwlm neu esgyrn llymmion dyn, yr hyn a allwn ni ei gasglu trwy lawer o arwyddion mai ein Tad Adda yw. Chwi blant gwrandewch, a chwi blant plant clust-ymwrandewch â geiriau eich cyndad Adda yn llefa­ru wrthych fel hyn.

BEN. II.
Yr ail bennod yma cydd yn cynhwyso galarnad Adda.

OFy Mhlant, y prd hynny yn siccr gwyn eich byd, ped fuasei ei ch cyndad yn adnabod ei wynfyd ei hun, eithr yn awr yn resynol, ie, a hynny yn hyn yma, oblegid fy ei­ddo i yw. Trwyddofi y dinistrwyd chwi cyn eich cael; trwyddofi y dam­niwyd chwi cyn eich geni. Yr oedd­wn yn chwennych bod fel Duw, a thrwy 'r moddion hynny prin y ga­dawyd [Page 209] fi yn ddyn. Cyn y gellech chwi golli, collwyd chwi oll ynofi. Nis gwn ni pa 'r un jawnaf a gel­lwch ch wi fy ngalw i Tad a'i Gor­mesdeyrn a llofrudd. Nid allaf ry­feddu neu jawn achwyn eich bod chwi mor anwireddus, ac mor becha­durus: canys gennifi y dysgasoch. Y mae yn ddrwg gennif eich bod chwi mor anufudd: Eithr gennifi y dys­gasoch chwi hynny hefyd. Myfi a fum gyntaf yn anufudd i'm Duw a'm gwnaeth. Y mae 'r Angylion yn y Nefoedd yn gwrido ac yn cywily­ddio weled eich glothi neb ach anar­dymherusrwydd: Eithr eich Tad oedd ar y bai am hynny. Eich balch­der a'ch gwnaeth chwi yn gas ac yn ffiaidd o flaen Duw: Ond yr ang­henfil hwn a'm gorchfygodd in­nau, ac y orfoleddodd yn gyntaf ar­nafi, ac felly aeth balchder yn fal­chach nag oedd ef o'r blaen. Dymma 'r etifeddiaeth yr ydych yn ei gael gen nisi▪ dim amgen na phentwr o drueni. Duw yn wir o'i ewyllys da a roddodd yn rhwydd i mi trwy adde­wid siccr y nefoedd am etifeddiaeth, ac fe a'i yntaeliodd hi arnoch chwi: Eithr fe ddarfu i mi eich yspeilio chwi [Page 210] oll, torrais ymmaith yr yntael, ac yn afradlon mi a'i gwneuthym hi oddi­wrthych am un tammaid. Mi a bri­ssiais fy ngwraig ag Afal yn fwy na chwi oll, yn fwy na'r nefoedd, yn fwy na Duw. Anedwydd ginniaw mell­digedig, am yr hwn i'r haeddais i swpperu yn uffern lawer mil o fly­nyddoedd gwedi hynny. Yr oeddwn yn byw ym Mharadwys, gardd yn llawn o bob difyrrwch ac hyfry­dwch allan o bob dychymmyg: Duw a roddodd i mi yn rhad fwyniant y pethau oll oedd yno; yn unig ffrwyth un pren oedd yn wahardde­dig i mi. Yr oeddwn yn Arglwydd y creaduriaid oll, yr oeddwn yn ddoeth ac yn brydweddol, yn gryf ac yn by­byr. Yr oeddwn yn cael fy ngwala o bob math ar ddifyrrwch. Yr oedd yr Awyr mor dymherus ac y gellyt ei dymuno; yr oedd y cymmylau gwedi eu gwisgo yn loiwlas; yr oedd y Ne­foedd yn gwenu arnom; yr oedd yr haul yn tywynnu cyn felyned ag al­lei fyth fod. Pob peth oedd megis yn gymmwynasedd i ni yn newydd briodi. Nid allei ein llygaid ni gan­fod dim, ond yr hyn fyddei yn bryd­ferth, ac yn rhyngu bodd iddynt; ein [Page 211] clustiau oedd yn llawn a felys-gerdd yn wastadol; Yr Adar y cantorion hymydr hynny o'r awyr oeddynt yn pwngcio allan yn wastadol eu ca­niadau hyfryd. Yr oedd y ddaiar yn dwyn'o honi ei hun Sinamwn arogl­ber a saffrwm. Yr oeddwm gwedi fy amgylchu o bob tu â hyfrydwch. Yr oeddwn yn byw yn rhydd ac ym­mhell oddiwrth bob gofal, Tristwch, Ofn, Llafur, clefyd a Marwolaeth. Yr oeddwn megis Duw ar y ddaiar. Yr oedd yr Angylion yn llaweny­chu yn y nefoedd weled fy nedwyd­dwch: Nid oedd neb yn fy nghenfi­gennu, ond myfi fy hun. Eithr am na efuddhâis i lais Duw, y drygau hyn oll a syrthiodd arnaf. Gyrrwyd fi allan o Baradwys, didirwyd fi o olwg Duw, ac o achos cywilydd cud­diais fy wyneb. Llafur, tristwch, ga­lar ofn, dagrau, blinfyd, a mil o aflwy­ddau a'm goddiweddasant, ac am blinasant yn llwyr hollhawl: yr y­dych chwi oll yn ymwrando a hyn cymmaint ac sydd o'm teulu: A'r hyn sydd yn ymddangos yn ddiben o'r holl aflwydd a'r tristwch amse­rol, yw r dechreuad yn fynych o'r Tragywyddol. O fy mhlant, dysgwch [Page 212] wrth eich profiad galarus eich hu­nain, dysgwch wrth eich golled eich hunain a'm heiddo innau, dysgwch (meddaf) fod yn ddoeth o'r diwedd. Ni roddaf i chwi ond un wers, a hon­no mewn dau air, gwnaech yn dda ei dysgu ar eich tafod leferydd, yr hyn yw, casau pechod. Wele oni welwch chwi fflam orthrwm yn torri allan yn fy ymyl? Y mae hi yn llosgi yn wastadol er pan ddaeth pechod i'r byd gyntaf, ac nis diffydd byth. Nid yw 'r holl gospedigaethau eraill ond ysgafn; a byr ddiwedd sydd i­ddynt: Eithr y damnedig a boenir yn y fflam hon yn oes oesoedd. Yr awrhon gallwn os mynnwn ei goche­lyd. Y mae y nef yn agored i bawb, eithr nid oes un ddyfodfa iddi, ond trwy 'r ffordd o edifeirwch, a phorth y Groes. Yr hwn a rodia yn y ffordd yma, ac sydd yn myned i mewn i'r Porth hwn, dichon fod yn siccr o'i jechydwriaeth ag o lawenydd Tragy­wyddol yn nheyrnas nefoedd, lle bydd iddo gael trigle Tragywyddol. Dyna gyngor Adda i'w blant, meddaf, cyn­gor Adda yw.

Yr hwn gan syrthio unwaith,
Y wnaeth ei blant ysywaith,
Yn euog ôll o'i ddialedd caeth,
A'i gwymp o fawr ystyriaeth.

BEN. III.
Y drydydd bennod yma sydd yn cynhwyso crewciad y Gigfran.

YN agos at Esgyrngwlm y Proto­plast, sef yr hwn a wnaed ac y lunniwyd gyntaf, neu esgyrn llym­mion y dyn cyntaf a wnaeth Duw, y mae lle 'r Gigfran yn y paentiad: yr hyn sydd yn helpu llawer ar gyn­nyrcholi Tragywyddoldeb hyd at yr affwys. Ymadrodd hydda wy byddus yw hyn o eiddo St Augustin, Cras, Cras, hynny yw, y foru, y foru, yw crew­ciad y Gigfran: Gan hynny galara fel y golommen, a chur dy ddwyfron. Yr achos pennaf yr wyf yn ei ddeall, pa ham y mae y rhan fwyaf o ddynion yn colli eu rhan a'i cyfran o'r Tragy­wyddoldeb bendigedig, yw, o herwydd nad ydynt yn ei geisio heddyw; eithr [Page 214] oedi ei geisio tan y foru. Canys pa beth sydd mor aml a chyffredinol na'r oediad o edifeirwch tan y foru, y foru, O rhyn Duw a wyr yn bod ni yn an▪ sicer pa 'r un a wnawn a'i byw i'w we­led a'i peidio. Eithr fel na ymddang­osom yn bod ni yn ei oedi heb rag­fwriad teg, gwnawn i Dduw lawer o addewidion teg.

Y foru mae i'm bryd ei wneuthur,
Y foru gwnafi hynny yn siccur:
I't y daeth, ag aeth y fory;
Ac etto arnat wneuthur hynny:
Felly yn wastad oedi byddant,
O ddydd i ddydd edifeiriant:
Nes i ddydd yr Angeu ddyfod,
Ar llall o farn heb allu ei orfod.

Eithr y mae yr addewid cyhyd yn dyfod, ac y bydd dydd marwola­eth yn fynych yn ei rhagflaenu, ac ni a gippir ymmaith yn ddiswm­mwth, a llyngcir ni gan Dragywyd­doldeb: Ac felly gwedi ein taro tros ein pennau yn yr anoddyn, dynion gresynus a fyddwn, yn yr anoddyn o erwindeb ac anobaith tragywyddol. Dymma ▪r peth sydd yn torri llawer, medd St Augustin, tra byddant yn dy­wedyd, [Page 215] Cras, Cras, y foru, y foru, ceuir yn ddiswmmwth y porth yn eu her­byn hwy: Am hynny i'r amcan hwn y mae Mab Sirach yn galw arnom,Eccl. 5. 7. Na fydd hwyrfrydig i droi at yr Ar­glwydd, ac na oeda o ddydd i ddydd: Oblegid yn ddiswmmwth y daw digo­faint yr Arglwydd, a thra byddych diyn ddifraw i'th ddryllir, a thi a ddisethir yn amser dialedd. Gwir a ddywe­dodd y Philosophydd Seneca y Rhu­feinydd, yr ydym yn treulio rhan fawr o'n hoes yn gwneuthur drwg; y rhan fwyaf heb wneuthur dim; eithr y cwbl yn gwneuthur peth arall yn hyt­trach na'r hyn a ddylem ei wneu­thur: Nid yn annhebyg i Archi­medes, yr hwn pan gymmerwyd y Dref Syracusa, oedd yn eistedd yn ddiofal gartref; ac yn tynnu a i gwm­pas gylchiadau yn y llwch. Canys oni welwn ninnau y rhan fwyaf o ddynion, pan fo iechydwriaeth Tra­gywyddol eu eneidiau mewn dadl, yn trin eu llwch, ac yn eu ymestyn eu hunain i eithaf eu cyrraedd, fel ped fai ar y daintur; a chwedi eu traws­dynnu ag achossion cyfraith, mate­rion arian, bydol fasnach, a thraffer­hion ni wnant iddynt ddim lles yn [Page 216] y pen diweddaf? Peth yw Tragywydd▪ oldeb nid ydynt hwy unwaith yn meddwl un amser am dano, neu onid yw hynny, yn anfynych iawn, a'r pryd hynny ond yn ysgafn a'r gais ag i ffordd, megis y dywedir am gwn a fyddant yn lleppian yn yr afon Nilūs. Martha Martha, gofalus, a Luc. 10. 41. thrafferthus wyt ynghylch llawer o bethau: Eithr un peth sydd angenrhei­diol, a hynny yw Dedwyddyd neu wynfydedigrwydd: nid hwnnw sydd ar y ddaiar, yn gyfryw ag ydyw, yr hwn nid yw ond byr er hynny; eithr hwnnw sydd yn y nefoedd, yr hwn sydd yn Dragywyddol.

Cyn i ni gymmeryd masnach yn y byd mewn llaw, yn gystredinol ni a'i holwn wrth y rheol gydnabyddus ddigon yma, gan ddywedyd, a dal hi fy mhoen i? a ynnillafi fy mara wrthi? Oni ddylei dyn Christianus yn hyt­trach yn y dechreuad o bob gwaith eistedd i lawr a dywedyd rhyngddo ag ef ei hun, A gafi ynnill y nef wrthi hi? a hyffordda hi ddim arnaf yn y ffordd i'r Tragywyddoldeb bendigedig? Nid ydym yn caru trallodi mo'n pennau â'r cyfryw ymofynnion a'r rhain, yr ydym yn bwrw heibio eu [Page 217] gwrandawiad tan amser arall: yr y­dym yn eu hoedi o'r naill amser i'r llall, ac etto i un arall, ac yn wastadol i un arall. Ac ar y dydd diweddaf o'r Term caniattawn wrandawiad▪ (Ynfydion) Or diwedd pan nad all­om gymmeryd poen, y pryd hynny yr ydym yn meddwl gyntaf am dde­chreu cymmeryd poen. Pan fo yn rhaid heb amgen i ni ymadael a'r byd hwn, y pryd hynny ni a feddyli­wn am y byd arall. Pan nas gallom ni yma fyw yn hwy, dechreuwn y pryd hynny feddwl am y bywyd sydd i ddyfod. Pan ddarfyddo i awr­wydr ein hamser gerdded oll, meddy­liwn y pryd hynny am Dragywyddol­deb. Pan na bo amser gwedi ei a­del i edifeirwch, edifarhawn y pryd hynny yn ddioed. Pan fo 'r porth gwedi ei gau, curwn y pryd hynny. A dymma fai y pechaduriaid oll yn gy­stredinol, oedio ddydd i ddydd yn wa­stadol eu hedifeirwch. Parod yw pob pechadur i ddywedyd (medd St Augustin, nid allaf yr awrhon, mi a'i gwnaf amser arall. Och! Och! Os amser arall, pa ham nad yr awrhon.

[Page 218] Dionysius Brenin Sicili gwedi iddo ddiosg Apollo o'i frethyn aur, a ddy­wedodd fel hyn, Nec æstati, nec hye­mi vestis hæc convenit, nad oedd gym­mwys gwisgo na haf, na gauaf y fâth: rhy drwm oedd ef yr haf, a rhy oer y gauaf. Felly (medd St Ambros) y mae llawer yn chwareu â Duw, ac yn siommi eu heneidiau eu hunain, Dywedant, buchedded gwr ievangc yn ol arfer y byd; yfed a dawnsied; âed i yrfa y rhedeg feirch, ac at y campwyr; rheded â milgwn yn y mae▪ sydd gyd a ei gymdeithion. I'r henwyr y mae aros gartref ac nid i syflyd o'r ty allan oddieithr i'r Eglwys: I wyr ievangc buchedd rhy felancholi yw hynny. Eithr pan he­neiddiant hwythau, pa beth a wnant hwy y pryd hynny? Y pryd hynny byddant hwythau yn hen ac yn afia­chus, yn ddirym ac yn egwan, nid eliwch ddisgwyl y pethau hynny ganddynt hwythau yn yr oedran hwnnw, ni ddioddefa eu grym iddynt. Nid yw hi gydâ hwy fel y bu o'r bla­en; rhaid i chwi roi cennad iddynt hwy gymmeryd eu hesmwythdra; ac i cymmeryd gofal am eu hiechyd: Dyna 'r cwbl sydd iddynt hwy i'w [Page 219] wneuthur. Fel hyn yr ydym yn gadel i hâf a gauaf ein hoedran fyned ym­maith; ac byth nid ydym yn meddwl unwaith am y gwanwyn Tragywyddol. Eithr meddyliwn am danom ein hu­nain, Ac tra ydym yn cael amser cy­faddas Galati. 6. 10. gwnawn dda. Eithr na chrew­ciwn ond hynny gydâ 'r Gigfran ddu Cras, Cras, Y foru, Y foru, ac fe­lly gadel I heddyw ac I foru, ac i dran­noeth, ac felly i'n bywyd oll fyned ymmaith, ac i Dragywyddoldeb ein gorddiwes yn annisgwyl. Nid Y foru, either Heddyw yn unig sydd ei­ddom ni. Felly y mae St Jago yn dywedyd, Iddo yn awr, y rhai ydych Iago. 4. 13, 14. yn dywedyd, heddyw neu foru ni awn i gyfryw ddinas, ac a arhoswn yno flwyddyn, ac a farchnattawn, ac a ynnillwn: y rhai ni wyddoch beth a fydd y foru: Canys beth ydyw eich einioes chwi? Canys tarth ydyw, yr hwn sydd tros ychydig yn ymddangos, ac wedy hynny yn diflannu. Atteb da jawn a roes Messodamus i un a'i gwahoddodd ef i fod drannoeth mewn gwledd (megis y mae ef gwedi ei roi allan gan Guido Bituricensis) fy nghyfaill, eb efe, Pa ham yr ydwyt yn fy ngwahodd erbyn y foru, ni lafases i er [Page 220] ys llawer o flynyddoedd ddiogelu mo­no fy hun y cawn fyw un diwrnod; Canys yr oeddwn bob awr yn disgwyl marwolaeth. Nid oes 'r un yn gy­flawn arfog yn erbyn marwolaeth, ond yr hwn sydd yn barod i'w chroe­sawu hi bob amser. Pa beth ynteu yw hyn ond tradewrder ac ynfyd­rwydd, a gorphwyll, ac mewn gwirio­nedd gwir ddirmyg ar Dragywyddol­deb, i wr orwedd i lawr mewn es­mwythdra ar wely plu i gysgu yn ddi­ofal tan chwyrnu a chwyrnolad, ac i lettyu gelyn gelyn marwol, sef pe­chod yn ei fynwes rhyd yr amser? Marwolaethau disymmwth ydynt yn gyffredinol, ac yn arferol o fod yn ein plith ni. Am ba sawl un a clyw­som ni son, eu myned yn iach i'w gwelau ddechreunos a wyddei neb, y gafwyd yn farw drannoeth? Ni ddywedaf gwedi eu dwyn ymmaith o'i gwelau, eu taflu i dân uffern; pa 'r un a wna hynny a'i bod felly, a'i nad yw, Duw a'i gwyr. Oni welsom, ac oni adwaenom ni rai y darawyd yn ddisymmwth, y syrthiasant yn glaf, ac a fuant feirw mewn yspaid awr? Je o fewn llai nag awr yn iach ac [Page 221] yn glaf, yn fyw ac yn farw. Ac er hynny yr ydym ni (ddynion ynfyd ac ehud) yn bwrw 'r dydd tros ben o foru i foru (nid yw hynny ddim) yr ydym o flwyddyn i flwyddyn yn oedi ein hedifeirwch, a newydd-deb ein bucheddau, ac ynghanol hynny marwolaeth a'n deil ni yn annis­gwyl, ac a'n traddoda ni i fynu i Dragywyddoldeb. St Augustin yn dy­wygio ynddo ei hun y cyfryw yma­ros, a'r oediad enbydus, y cyfryw hwyrfrydigrwydd, ac annhuedd me­ddwl ac ewyllys i edifarhau, sydd yn dywedyd fel hyn, ymwrandewais a chefais fel yr oeddyd yn fy nal i yng, lyn, a mi adroddais y cyfryw a­lar gwynion a'r rhain? Pa hyd yr oedaf ac y dywedaf yn wastadol, y foru, y foru? Pa ham na ddechreuaf yr awr hon, ie yr wir awr bresennol yma? Pa ham nad wyf yn torri ym­maith fy nhrefn bechadurus, ac yn dechreu gwellhau fy muchedd? felly yllefarais, a daeth wylo arnaf o ran gwir gystudd calon.

Antoni fawr (megis y mae St Hierom yn tystiolaethu) pan fyddei yn cyngho­ri'r bobl i dduwiodeb a rhinwedd dda, [Page 222] yn arfer o ddymuno arnynt ddal yn eu côf, a myfyrio yn fynych ar yr ymadrodd hon o eiddo 'r Apostol, Na fachluded yr haul ar eich digo­faint Eph. 4. [...]. chwi. Ac nid oedd ef yn cae­thiwo y gwaharddiad▪ hwn yn unig wrth ddigofaint, eithr yr oedd yn ei wneuthur yn gyffredinol; na fachluded yr haul ar eich digofaint, neu ar eich cas, malais, cenfigen, trachwant neu neb ryw bechod arall; rhag iddo ymadel â chwi megis tyst i'ch her­byn.

Rhyw ymrafael oedd rhwng Joan Padriarch Alexandria ac un Nicetas, Pennaeth o'r ddinas honno. Y mat­ter oedd i'w deimlo wrth y gyfraith. Joan oedd tros y tlawd, Nicetas tros ei arian. Eithr er mwyn heddwch fe appwyntiwyd ymgyfarfod dirgel a gwrandawiad, i edrych a ddoent hwy i ryw gyttundeb. Cyfarfod a wnaethant, syrthiasant i siarad, dalia­sant wrtho yn frwd iawn; dangos­wyd o'r ddeutu lawer iawn o lidnaws a dewrder: ni ymroe 'r un ronyn, ni y­madawei 'run fodfedd o'i gyfiawnder. Ymrafael mawr oedd rhyngddynt, llawer o arian y dreuliasant i ychydig bwrpas; [Page 223] O'r diwedd hwy aethant ym­mhellach oddiwrth gyttundeb nac oe­ddynt o'r blaen: Canys ni ymroe 'r un i'r ammodau a roe y llall. Ga­dewch iddo, hi a hwyrhaodd, hwy­thau ymadawsant yn galon ddiccach ac yn anfodlonach i'w gilydd nâg oeddynt hwy ar y cyntaf, ac felly gadel yr achos y wnaethant i ymddi­bennu. Nicetas oedd yn ystyried hyn yn fatter tost iddo ymadel a'i arian, a'r Padriarch yntef oédd yn gweled ei fod ar yr jawn, ac mai dal allan yr oedd ef yn achos Duw a'r tlawd. Ond er hynny pan aeth Nicetas ymmaith, yr Esgob daionus a ystyriodd y matter rhyngddo ag efe ei hun yn well: ac a anghanmolodd ei hun am ei gyndynrwydd, ac er i fôd ef ar achos da, ac yn gwybod hynny hefyd, er hynny efe a ddywe­dodd; a feddyliafi y rhyngir bôdd Duw yn dda â'r llidiowgrwydd an­nyhuddol, a'r anllywodraethus dynder hwn? Y mae 'r nos yn nesau: Ac a adawaf i'r haul fachludo ar fy ni­gofaint? anwireddus yw hynny, ac nid yn ol cyngor yr Apostol. Felly nid allei y Prelad daionus fôd yn es­mwyth nis danfon o honaw at Ni­cetas: [Page 224] Am hynny danfonodd allan o law genadon cymmeradwy iawn, gan roddi iddynt y gorchymmyn hwn, na ddywedent wrtho ddim ond hyn yma yn unig, Syr y mae ▪r haul ya ymachludo. Ar wrandawiad y gennadwri hon, gweithiwyd yn ddi attreg y cyfryw gyfnewid yn Nicetas, ac y llareiddiodd ei ddewrder mawr ef yn y man, dechreuodd ymddattod, gwelid eu lygaid ef yn llenwi yn llawn o ddagrau, ac yn cael ei lawn­swydd yn eu cadw hwy i mewn. Rhe­dodd allan yn ddioed ar ol y cen­nadon (canys myned ar frys yr oedd ef i siarad ar Padriarch) ar ei ddyfodi­ad atto ef, mewn dull ostyngedig efe a gyfarchodd well iddo fel hyn, Y Tâd parchedig cewch fy rheoli yn hyn yma; ac mewn pob peth arall. Y Pa­driarch ar hyn a wnaeth iddo iawn groesaw: felly cofleidiasant eu gi­lydd yn garedig iawn, a phrifiasant yn gyfeillion addwynion. Yn ddi­ammeu mawr oedd rinwedd, a phry­sur oedd weithrediad yr ychydig eiri­au hyn, Y mae 'r haul yn ymachludo: Canys ar y gwrandawiad o hyn yma y gwnaed yn ddioed heddwch rhyng­ddynt; yr hwn a geisiasyt o'r blaen [Page 225] a lliaws o eiriau; eithr nid ellyd ei wneuthur. Gwna dithau felly, pwy bynnag wyt ti, ac sydd yn cydnabod dy fod yn euog o neb ryw bechod gorthrwm, onid cyn hynny tu ag at y prydnhawn o'r eithaf galw i'th gof y geiriau nerthol hyn, Y mae 'r haul yn ymachludo. Canys pa fodd a gwyddost ti, pa 'r un a wnei di, a'i codi drachefn gyd a 'r haul, a'i nas gwnei? Ac os dy di a fyddi farw o fewn y nos heb edifeirwch, dadl yw ym mha Dragywyddoldeb y bydd dy ran, pa 'r un a'i o'r bendigedig, neu a'i o'r melldigedig. Gan hynny gwna yn fuan yr hyn sydd i't i'w wneuthur, Y mae 'r haul yn ymachludo. Eithr cymmer ofal, na ymachludo ar dy drachwant neu dy rysedd, cenfigen neu gabledd, absennair neu ladrad, neu ar ryw bechod gorthrwm arall heb edifarhau o'i herwydd. Duw dai­onus! pa beth yw hyn yma? os bydd ond amliw mewn gwisg, brych mewn wyneb, ticcyn o amliw mewn cap, yn ddioed arferwn ryw fodd i'w gael oddi yno , neu i'w olchi ym­maith. Ydyw yr rhain mor ddo­luru a hynny i'n llygaid ni? [Page 226] Ac ydym ni ynom ein hunain mor ddeillion, fel nad allwn weled ein haml lygredigaethau a'n haflendid, Neu ydym ni yn eu gweled ac yn eu goddef, A allwn ni eu goddef, ac na byddo flin gennem ni hwy? ydynt hwy yn ein blino ni, ac er hynny yn ceisio moddion yn y byd i'w glan­hau, ac i'w carthu hwy ymmaith. Pan ddiwynir ni un amser âg am­liw pechod, ni a ddylem yn ddioed lafurio i'w gael ef ymmaith. Pan gyn­taf ei gwneir, gwell a haws yw. Am hynny medd St Ambros ni a ddylem fod yn ofalus am ed farhau: Eithr nid hynny mo'r cwbl; hefyd rhaid i'n hedifeirwch ni fod a'r frys; rag ofn i'r llafurwr nefol yn yr Efengyl, y blannodd y ffigysbren yn ei win­llan, ddyfod i geisio ffrwyth arno, ac heb gael dim; iddo fe ddywedyd wrth y gwinllannudd: Tor ef i lawr. Os rhoir y farn unwaith, nid oes un modd i ochelyd y dyrnod anghenol: y mae yn rhaid ei dorri ef i lawr. Gan hynny o's cawn ni unwaith ein hunain yn friwedig gan bechod, edrychwn am help mewn amser. Yr anifeiliaid direswm a ddysg i ni gymmaint a hynny o ragweliad, yr [Page 227] rhai nid oes ganddynt ddim deall. Ceirw Candi, cyn gynted ag a tarewir hwy, a redant yn ddioed at eu dit­tani: Y Gwennoliaid i ia chau dall­ineb llygaid eu rhai ievengc, ehedant i gyrchu eu llyssiau eu hun, sef llys­siau 'r wennol neu llym y llygaid: y ci pan fyddo yn glaf, a brysura at ei welltglas i gaffael cyfog: Y llyffant du yn ymladd a'r Pryfcoppyn, cyn gynted ag a clywo ef ei hun yn de­chreu chwyddo, ymlusga at ei erlly­riad neu lydan y rfordd, ac felly ad­ferir ef, Yr rhain drwy gael yspry­doliaeth natur, ynt yn adnabod eu meddyginniaeth priodol eu hunain, Ac a wnant ddadrediad attynt yn ddi­oed ar bob achossion. Eithr ni ddy­nion truain gresynus, diddeall, an­rheswmmolach na'r anifeiliaid, gan weled ein bod yn cael ein clwyfo bob dydd gan bechod, a hynny lawer gwaith i farwolaeth ni ymof y nnwn er hynny i gyd am bysygwrriaeth i iachau ein clefydau ysprydol. Ni a arferwn yr un bwyd a'r ddiod, ac y byddem ni gynnefin o'i harfer; ni a siaradwn mor hydraethus, ac mor arabeddus ac y buom ni oreu erioed; ni a awn i'n gwelau ar ein hawr cyn­nefinol: [Page 228] a chysgwn yn ol ein hen fe­sur. Eithr Eidfeirwch ydyw 'r Py­sygwrriaeth, yr hwn sydd yn wrth­wynebus i'n cylla ni, ei Gystudd ef sydd yn ein clwyfo ni hyd at y galon, y mae ei Gyfaddefiad ef i'w gly­wed yn chwerw yn ein geneuau: Gwell gennem ni yn hyttrach aros yn glâf, na'n jachau trwy hynny. Dyna ein cyflwr gresynus ni: yr y­dym mor ynfyd a hynny, ac yn wag o ddalldwriaeth▪ naill a'i nid yn adna­bod, neu o'r lleiaf nid yn cofleidio yr hyn a weithiau allan ein daio­ni Tragywyddol.

Pa clust-ymwrandawem ni â chyng­or yr Angylion nefol, y rhai sydd yn ymddangos yn y paentiad yn ol y portreiad, eu bod yn rho i ni gyfa­rwyddyd, ac maent hwy mewn gwirio­nedd gwedi eu appwyntio gan Dduw megis yn ysprydion gwasanaethgar ar ein lles ni: Pettem ni, meddaf, yn clust-ymwrando a'i cyngor hwy, yn ddiammeu ni adawem ni y pryd hynny, nac i'n llygaid gysgu, nac i'n amrantau huno, nac chwaith i'n ar­leisiau▪ gymmeryd dim esmwithdra [...]an na wneid ein heddwch a'n cym­mod ni a Duw. Y maent hwy yn co­fio [Page 229] i ni yn wastadol fod ein diwrnod ni agos a darfod, fôd y nôs yn nesâu, fod ein hawr-wydr ymmron rhedeg i gyd, fôd marwolaeth ger llaw, a bod barn ar ôl marwolaeth yn dy­fod: Eithr rhodio yn ddiofal yr y­dym ni yn ein hên ffyrdd: Gadel i'r diwrnod ddarfod, gadel i'r awr­wydr redeg i gyd; doed marwolaeth; canllyned barn; ni thrallodir monom ni o'i herwydd; nid ydym yn gofalu, nid ydym yn prissio, ni wasanaetha ein tro ni un rhybudd o eiddo 'r Angylion.

Melus jawn yr ym yn huno,
Heb freuddwydio byth am dano.
Annedwydd ddyn pwy bynnag wyt ti!
Potes hoc sub casu duceresomnum?
Ac a fedri di gael cysgu
Yn y cyfryw gyflwr oer▪ddu?

A fedri di mor llwythog a hyn o bechodau fyned i'th wely? A fedri di pan orweddych ym mherigl marwo­laeth Dragywyddol gymmeryd dy es­mwythdra? A fedri di orwedd yn yr un gwely a brawd marwolaeth, a'i gro­esawu ef, sef cwsg i'th fynwes? Me­draf, yr ydwyf yn dywed yd i ti, y me­drafi hynny, ac nid ydwyf yn cael niweid yn y byd o'i herwydd. [Page 230] Na fydd ry ymddiriedus: Dichon ddigwyddo mewn un awr, yr hyn ni ddigwydda mewn mil. Nid ydwyt ti allan o berigl: Canys os ystyrri rhyngot a'th di dy hun pa amser sydd i't i fyw; nid oes nemmawr o ffordd rhwng dy enaid a marwolaeth, uffern a Thragywyddoldeb. Mewn chwyth yr a ef ymmaith. Gelli yn ddigon gwir ddwedyd, yr wyfi bob awr o fewn un cam at farwolaeth, o fewn un droedfedd, ie o fewn un fod­fedd: Nid rhaid i angeu warrio ei holl gawell saethau arnat ti: un saeth, ie, pen un saeth, a'th archolla hyd at y galon, ac a wna y cyfryw friw genau-rwth, mal y rhed allan ar un­waith yn ddioed, y gwaed, a'r yspry­dion, a'r bywyd, ar cwbl, Naill a'i yr wyt ti yn byw tan awyr lygredig fawr­ddrygiog, neu onid yw hynny y mae dyfrll, drwyddau yn dy flino, yn syr­thio oddi wrth dy ben ar dy ysgyfaint: Neu onid yw hynny, y mae rhyw war­chau ar y gwithi, neu ar yr afu: Neu onid yw hynny y mae tag ar ysprydi­on y bywyd: Neu onid yw hynny y mae gwaith y rhedweli yn curo gwedi eu ragflaenu: Neu onid yw hynny y mae 'r ysprydion by­wiol [Page 231] yn rhedeg yn ol i'w ffynhonnell, ac yno naill a'i maent yn rhewi i farwolaeth, neu onid yw hynny, yn boddi. Prysuro yr wyt ti ryw ffordd neu eu gilydd tu a diweddfa dy fer yrfa: Ac yn ddiattreg nid ydwyt ond gwr marw gwedi dy ddwyn ymmaith i Dragywyddoldeb mewn troad lly­gad; cyny gellit fyfyrio neu feddwl am hynny. Y mae mil o ffyrdd i ddy­fod a dyn i'w ddiwedd, ni sonniaf am farwolaethau nychlyd, o flaen yr rhain rhyw rybudd a ddavv: Ond am farwolaethau disymmwth y rhai ynt yn ein dyfyn, ac yn ein dal, ac yn ein dwyn ni ymmaith oll mewn moment. Y mae ef yn marw yn ddi­fymmwth yr hwn sydd yn marw yn am­mharod. Nid yw hi farwolaeth ddi­symmwth os hi a ragwelir ac a ddif­gwylir bob amser. Honno yw 'r farwolaeth ddisymmgth, yr hon ni fwriadwyd ym mlaenllaw, ar farwola­eth ni fwriadwyd ym mlaenllaw yw 'r waethaf o'r marwolaethau oll. A Duw a'n gwaredo ni oddiwrth y cyfryw farwolaeth ddisymmwth a honno. Cyngor da i bawb yw hyn bydded un o'r oedran a fynno; Canys ni ragorfraintir oedran yn y hyd; mwy na'i gilydd; y mae commissiwn, gan [Page 232] angeu a gyrraedd bob mangre yn gy­ffredinol, y bobloedd, a'r oesau, nid oes yr un gwedi eu dieithro. Gan hynny, meddaf, cyngor da ydyw i bob dyn bob amser, ac ym mhob mangre, ac ym mhob cwmpeini ddisgwyl mar­wolaeth, ac i dybied pob diwrnod, ie pob awr yn ddiweddaf iddo. Yno bydded iddo farw pan fynno Duw, ni bydd iddo farw yn ddisymmwth. Pa sawl gwr a glywsom ni son am dano, ddiffoddyd o'i ganwyll ef yn ddisym­mwth, ac y ddifuddiwyd o'i fywyd, naill a'i trwy godwm, neu gebystr, neu wenwyn, neu gleddyf, neu dân, neu ddwfr, neu balfau llewod, neu ddan­nedd baeddod, neu garnau meirch, a mil o ffyrdd gyd a rhain: Cymmaint ag a feddom ni o synhwyrau (y nifer hwnnw nid yw ddim) Cymmaint ac sydd o rannau ac o aelodau i ni (ac etto nid yw hynny ddim) cym­maint ac sydd o chwys-dyllau ym mhob rhan o'n cyrph ni ai cyssylltu ynghyd, cymmaint a hynny o ffene­stri sydd i farwolaeth i ymlusgo i mewn iddynt, i ddyfod yn lladra­dedd arnom, ac i dorri yn ddi­symmwth withi ein gwaed ni. Ga­nwyd [Page 233] di (medd St Augustin) hynny sydd siccr: Canys di gei farw yn siccr. Ac o ran bod dy farwolaeth yn siccr: y mae'r dydd hefyd o'th sarwol­aeth yn ansicer. Nid oes yr un o honom yn gwybod mor agos yr ydym yn di­nesu at ein diwedd. Nis gwn i (medd Job) pa hyd a casi fyw, a pha gynted y dichon fy ngwneuthurwr fy nghym­meryd i ymmaith, neu (megis y mae ein cyfieithiad ni) Ni fedraf weni­eithio, Iob. 32. 22 pe gwnawn buan i'm cymmerei fy ngwneuthurwr ymmaith. Yr ydym ni ynghanol ein bywyd yn agos at ang­eu: Canys yn ein mynwesau yr y­dym ni yn ei ddwyn ef bob amser: A phwy a feidr ddywedyd pa 'r un a wna ef a'i byw tan prydnhawn a'i nas gwna. Y mae gan y llofrudd a'r lleidr-ddyn hwn (canys felly yr wyfi yn galw angeu) fil o ffyrdd i'n niweidio ni, megis trwy daranau a mellt, ystormiau a thymmhestloedd, tân a dwfr &c. Y mae ganddo bob math ar offerau distryw; Me­gis Gynnau, Bwau, Saethau, Tafl­ffyn, Gwaiwffyn, Piccellau, Cle­ddyfau, pa fath nid oes: Nid rhaid i ni am esamplau o farwolaethau disymmwth, fod [Page 234] yn rhwymedig i'r oesau gynt: Och! y mae gennem yn ein dyddiau ni ormod. Oni adnabuom ni lawer yn ymroddi eu hunain i lawr i gysgu, y syrthia­sant yn y fath drwmgwsg, ie mal rad oeddynt i'w deffroi drachefn, nis idd­ynt glywed sain yr udcorn ar y dydd diweddaf? Ni ddenfyn Angeu gen­nad bob amser o'i flaen i rybuddio ei fod ef yn dyfod, eithr dyfod a wna fe yn fynych yn ddirybudd ar­nom yn lladradedd; ac efe a'n cym­mer ni fel y caffo fe ni, pa 'r un byn­nag a'i yn barod a'i yn ammharod. Gwiliwch gan hynny am na wyddoch Math 25. 13. na'r dydd na'r awr. Y mae yn u­ffern yn siccr fath a'r edifeirwch; eithr nid yw nag yn wir, na chwaith nid yw yn gwneuthur dim lles un amser: Canys fe a'i cysylltwyd a thragywyddol a dirboenus erwyndod ac anobaith. Yn awr, yn awr y mae 'r amser cymmeradwy o edifeirwch, yn awr tra gelwir hi hyddyw. Dygwch Hebr. 3. 13. gan hynny ffrwythau addas i edifei­rwch. Math. 3. 8. Y mae y nos yn dyfod, Pan na ddichon nêb weithie. Gweithiwch traIoan. 9 4. bo hi yn ddydd. Y ddydd (medd Origen) yw amser y bywyd hwn: yr hyn a ddichon ymddangos i ni yn [Page 235] hir: eithr mewn gwirionedd nid yw ef ond byr iawn, os cymmharir ef a Thragywyddoldeb. Ac ar ol y byr­ddydd yma o'n bywyd presennol hwn, y dydd o Dragywyddoldeb a fydd yn canlyn; O ddyn! pwy byn­nag wyt, meddwl am y pethau hyn: Eithr dy di yn hyspysol, pwy bynnag wyt ac sydd yn cael dy hûn yn euog o neb ryw bechod gorthrwm: Edifarha ac ymadnewydda; Cofia Dragywydd­oldeb, a meddwl am ddydd marwo­laeth. Y mae yn ansiccr ym mha fan y mae marwolaeth yn dy ddis­gwyl: Gan hynny disgwyl di ym. mhob man farwolaeth. Megis ag a caffo 'r Arglwydd di pan alwo am da­nat, felly hefyd rhydd ef farn arnat.

Yr wythfed ystyriaeth AR Dragywyddoldeb.
Sydd yn hyspysu pa fodd y dylei Chri­stionogion nid yn unig edrych ar luniau a phaentiadau Tragywy­ddoldeb, eithr dyfod adref ac e­drych o'i mewn eu hunain a myfyrio yn ddifrifol ar y peth ei hun.

TRefn sydd yn gofyn be­llach, gan yn bod ni yn ga­del y Psalmudd a'r lleill y rhai y bortreiasant i ni Dra­gywyddoldeb, y dylem ni ddisgyn i ni ein hunain, dal gartref ac aros i mewn. Y mae ef ym mhell oddi cartref oddi wrtho ei hun, [Page 238] ac oddi wrth ei iechydwriaeth, pwy bynnag sydd ai lygad ar yr hyn sydd drangcedig yn unig; ac yn ang­hofio yr hyn sydd Dragywydd­ol.

Gwyr y gyfraith a wyddant yn ddi­gon da na ollwng gwr ymmaith ei gyfiawnder a'i glaim, er na bo ond matter tair dimmai, os tragywydd­oldeb y fydd, ac i'w dalu byth bob blwyddyn. Ie os y gwr a fydd ye rhwym i dalu pettei ond tair ffyr­ling bob blwydyn i'w Feistr tir tra parhao'r byd, efe a'i gwelei yn ar­dreth mawr. Y mae Tragywyddol­deb yn y fath gyfrif a hynny, mewn pethau ni thal fawr, pettei ond tair puppuren. Os ydwyt ti mor daer ac mor awchus yn canlyn am dy gyfiawnder o dair dimmai; pa fodd y mae yn digwyddo, ô ddyn, dy fod mor esceulus, ac mor ddiofal yn yr ymgais am yr etifeddiaeth o Deyrnas Tragywyddol, yr hon a gair wrth bwrcas ychydig flynyddoedd? Syr­thio yr wyt ti allan a'th frawd am dair dimmai, yr wyt ti yn myned i'r gyfraith ag ef, di a wnei o honaw hir gynghaws; ynghyfrwng hynny yr wytti yn gadel i rai eraill ddwyn [Page 239] ymmaith yr etifeddiaeth o Deyr­nas nefoedd. Pa beth yw'r achos? Ydyw hi mor isel ei phris? Oni thal hi edrych am dani? Y mae yn debyg, dy fod di yn meddwl felly, ac oni bai hynny di a lafurit fwy am dani, nac yr ydwyt. Di ymdraf­ferthi lawer am pethau eraill, di a feddyli bob poen yn ddigon bychan, ni flini di byth yn ymgais am da­nynt: Eithr am Dragywyddoldeb, yr wyt yn meddwl ei fod ef ymmhell jawn oddi wrthit, ac am hynny prin yr wyt ti yn cael cymmaint a hyn­ny o hamdden un amser ac i fe­ddwl am dano; neu os ar ryw am­ser y byddi yn cael hamdden, y pryd hwnnw ni bydd gennit ewyllys yn y byd i hynny. Och! Peth gofidus a blinedig jawn yw bod yn edrych am y peth nid ellir edrych am da­no yma byth yn hollawl. Pwy a gythrybliei ei ben. ac y flinai ei fe­ddwl yn ei gylch ef? Am bethau pre: sennol yr ydym ni oll: Rhowch i ni y meddiant presennol, dyna'r peth yr ydym ni yn ei ddeisyfu, dyna'r peth yr ydym ni yn ymhyfrydu ynddo; y mae hynny yn beth bodlonrwydd.

Gwelwch ein ffolineb a'n diffyg [Page 240] pwyll! Pa ddallineb yw hwn, neu yn hyttrach onid ynfydrwydd yw, i edrych am siccrwydd lle nad oes yr un: ac nid i edrych am dano lle byddo un amser? Mewn masnach ynghylch ein hamserol a'n hansicer olud ni a hoffwn fod yn siccr, ni a fynnwn siccrwydd da, yr hyn sydd er hynny (a bwrw i'r goreu) yn an­siccr jawn: Eithr yr yd ym ni yng­hylch Tragywyddol a siccr olud yn gwneuthur ein hunain mor ddiogel, ac nad ydym yn edrych am siccr­wydd yn y byd; yr ydym mor ddiofal, nad ydym yn edrych am ddioge­lwch yn y byd, yr hyn a allem ni er hynny ei gael pes mynnem yn gy­stadl ac y gellit ei ddymuno. A rydd neb fenthyg arian heb na bil na band, neu wystl? Y mae hyn yn ddiattreg gan bob dyn yn ei safn, da gennif fod yn siccr; yr wyfi yn deisy­fu siccrwydd da; Rhaid i mi fyned yn ddienbyd ynghylch y gwaith; ni roddaf mo'r matter mewn enbyd­rwydd. Y pethau presennol a siccr, pan elom ni i'w pwyso, fyddant bob amser yn drymmach nac ansiccr be­thau, a phethau i ddyfod. Gwell, meddwn ni, yw (megis y mae'r ddi­hareb [Page 241] yn myned) un aderyn mewn llaw na dau yn y coed: A gwell gennifi weled dryw yn yr adardy nag Eryr yn yr awyr. Yr ydym o'r un meddwl ag yr oedd Plautus, dwyn yr ydym ein llygaid yn ein dwylo: Ac ni chredwn ni ddim ond y we­lom. Pa ddynion ynfyd a disynwyr ydym ni, fôd yn ymgais am siccrwydd o'r cyfryw bethau ac ynt fwyaf an­siccr, yr rhai sydd yn siommi fwyaf, pan fo'm ni yn tybied ein hunain o honynt siccraf; yr rhai ynt yn gwneu­thur adenydd iddynt eu hunain, ac yn hedeg ymmaith, tra bo'm ni yn tybied eu bôd hwynt yn siccr ddigon yn ein dwylo. Eithr gwybydded pob dyn Christianus, pa siccrwydd a rhwymedigaeth a rydd Christ Bre­nin y Nesoedd, pa siccrwydd, me­ddaf, a rydd Christ o fywyd Tragy­wyddol i rheini oll y ymrwymmant mewn band o gyflawniad cyfammo­dau: Ond os ewyllysi fyned i mewn Math. 19. 17. i'r bywyd; cadw 'r gorchymynion. Cyfammod y rhwymmed gaeth hon sydd sel hyn, mai os cedwi di 'r gorchymynion, di a gei fyned i mewn i'r bywyd, y bywyd Tragy­wyddol. Eithr os dy di a dyrr [Page 242] y gorchymynion, yn gymmaint a'th fôd di yn eu torri hwy, y mae y rhwymmedigaeth hon ar hynny i fyned yn ofer ac yn ddirfrwyth. Canys pwy bynnag a dorro un o'r gorchymynion hyn, ac a oedo ei edi­feirwch, ac na byddo yn yr unrhyw awr ac y darfu iddo bechu, yn ceisio cymmod a heddwch gan Dduw, ye hwn a anfoddhâodd ef: Y mae ef mewn perigl o'i-golli ei hun a'r cwbl a fedd, ac yn anturio yn amlwg Dragywyddol iechydwriaeth ei enaid a'i gorph. Nid oes ond lled tri bys, neu yn hytrach ond modfedd rhyng­ddo ef â marwolaeth. Canys y mae ganddo ynddo gymmaint a mil o ddolurriau, ac achossion marwolaeth: Ac er hynny efe ddyn ynfyd ehud a barhâa yn ffol ddiarswyd i aros yn wastadol ynghyflwr damnedigaeth; yn yr hwn gyflwr o rhyngeu bodd i Dduw yn ddisymmwth ei gymme­ryd ef ymmaith, efe fyddei mewn perigl o ddarfod am dano yn dragy­wyddol. Onid peth ynfyd a rhy­fygus ydyw, i wr anturio cymmaint ag a fed ar un ergid, a rhoi'r goll­ed am Dragywyddol olud mewn en­bydrwydd, pan allei eu cadw hwynt yn hawdd.

[Page 243]Pe byddei i ddyn ddioddef yn ustern ond cymmaint a hynny o ar­teithiau ac y bu ef fyw o orriau, neu ond cymmaint a hynny o arteithi­au ac y wnaeth ef o bechodau yn ei holl fywyd: Gallei hynny o ryw faint ymddangos yn fwy dioddefa­dwy. Pa byddei hynny felly, y by­ddei yn uffern ryw fâth ddiben ar boenau, ar ol darfod rhyw nifer ar­bennig o flynyddoedd; ni wnae dyni­on holl ddyddiau eu bywyd ddiben yn y byd ar bechu: Fe gynnyddei gelynnion Duw fwy fwy bob dydd. Canys er eu bod yn gwybod fod yr arteithiau yn ustern yn gymmamt a hynny o nifer mal nas gellir eu cy­frif; cyhyd o ran parhâad, nas gwy­ddir eu medr; mor ofidus o ran cyn­neddf, nas gellir eu dioddef, ond â chyfryw boen anfeidrol, ac y byddo pob munud awr i'w gweled yn flwyddyn gyfan: erhynny nid ydys yn tarfu dim ar ddynion oddi wrth bechod; Ei­thr rhodio ym mlaen yn hyf y ma­ent, neu yn hytrach, rhedeg y maent yn wysg eu pennau i'w dinistr eu hu­nain.

Ped fai'r holl boenau ar ellyt eu rhoi, neu eu dychymmyg, gwedi eu [Page 244] pentyrru ynghyd am ben dyn tro gant o flynyddoedd tunty: Ni chyrhae­ddent o lawer gospedigaethau uffern tros un flwyddyn, ac etto tros un awr Yrholl gospedigaethau y mae lladron yspeiliwyr, llofruddion, drwg weithre dwyr yn eu dioddef, er eu bod yn bo­enus tros amser, er hynny darfyddan [...] yn fuan, a dibennant mewn tridiau neu bedwar, neu o'r mwyaf mewn cylch wythnos: Eithr nid tros flwy­ddyn, neu oes y mae poenau'r dam­nedig, eithr yn oes oesoedd. Duw a'i cospa hwy yn wastadol, oblegid nas dichon ef gospi digon arnyn un amser, er iddo eu cospi hwy tros holl Dragywyddoldeb.

BEN. I.
Y bennod gynt af yma sydd yn dangos, nad yw Tragywyddoldeb yn torri ymmaith bob cyssur ac esmwythdra yn unig, eithr pob gobaith yn unwedd hefyd.

GEnnym ni y mae gobaith am ein cyssurwr ym mhob blinfyd a cha­ledi yn y bywyd hwn: Yr hon sydd a rhinwedd arbennig arni i liniaru ac i doli y poenau a'r gofidiau oll. A Duw y rhan fynychaf o'i fawr drugaredd sydd yn gadel i ddyn yn wastadol beth gobaith o borth a chynhorthwy ym mhob adfydwch. Tra bo'r gwr claf yn fyw, y mae ef yn byw mewn gobaith yn wastadol Eithr gwedi i'r bywyd hwn ddibennu, nid oes yn ymaros i'r damnedig ond hynny, obaith yn y byd o gyssur. Gobaith, y cyssurwr olaf o'r cwbi a hêd ymmaith, ac anobaith Tra­gywyddol a gymmer afael arnynt. Y mae 'r Prophwyd Daniel yn son am Angel yn dyfod i lawr o'r nefoedd ac yn dywedyd, [Page 246] Torrwch y pren a dinistriwch ef, yscy­thrwch Dan. 4. 23. ei wrysc ef, escydwch ei ddail ef, gwascerwch ei ffrwyth. Er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddai­ar. Medd St Ambros ar y geiriau hun, y dail a'r ffrwyth a escydwyd ymmaith, eithr gadawyd y gwraidd▪ hynny yw, difyrrwch a gymmerwyd oddi withymni yma, a chospedigae­thau a roddwyd arnom ni; ond o hynny ni chymmerwyd gobaith oddi wrthym ni. Wele gadawyd y gwraidd, gadawyd gobaith, nid oes yn uffern iddi le i wreiddio. Wele y Mala. 4. 1. dydd sydd yn dyfod, Medd y Prophwyd Malachi, a'i llysc hwynt, Mêdd Ar­glwydd y lluoedd, fel nas gadawo i­ddynt na gwreiddyn na changen. A Job gan alaru sydd yn dywedyd, YrIob. 19. 10. ydwyf yn myned ymmaith; ac efe a sym­mudodd fy ngobaith fel pren. Go­baith Diha. 10. 28▪ y drygionus a dderfydd am dani felly y mae Solomon yn dywedyd. Gan hynny tra bo i obaith amfer a lle, bydded gennym obaith; eithr go­beithiwn am y cyfryw bethau ac y dylem ni. Y mae 'r pethau daiarol ôll yn ofer ac yn ansiccr: Y Bardd digred sydd yn dywedyd i ni gym­maint a hynny yn y wawd hon.

Omnia sunt hominum tenui penden­tia filo,
Et subito casu quae valuere ruunt.
Hôll ddynol bethau ynt o hyd
Wrth edau fain ynghrog ynghyd:
A'r hyn sy'n sefyll yn gadarnaf
Sy'n adfeilio yma yn gyntaf.

Gan hynny nid oes i ni gyfleu mo'n gobaith, hyder, na'n ymddiried yn y cyfryw bethau. St Bernard sydd yn dangos i ni ffordd well yn y geiri­au hyn, y mae ffydd yn dywedyd, ddarfod i Dduw ddarparu i'r ffyddlo­niaid fawr ac anealladwy bethau daionus: Ac y mae gobaith yn dy­wedyd, ddarfod iddi hithau eu rha­gadw hwynt a'i gosod o'r neilldu i ni: Ac yn y trydydd le y mae cariad perffaith hithau yn dywedyd, yr wyfi yn prysuro, ac yn tybied hyn­ny yn hir hyd oni ddel wyf attynt. Y mae gwir obaith, (megis ac y mae St Gregori yn gwirio,) yn cyffroi y galon i feddwl am Dragywyddoldeb, ac yn cymmeryd ymmaith yr ym­wrandawiad a'r gwrthwynebion o'r tu allan oll, a▪r trallodau. Y mae [Page 248] gwir obaith yn gwneuthur i ni ddeall nad yw 'r pethau bydol oll ond ofer, ond ychydig, ond tros funud. Eithr oh funud hwnnw ar yr hwn y mae y Tragywyddoldeb oll yn ymddi­bennu? Y dydd o farwolaeth, ac awr yr enbyd olaf, yn briodol yw 'r munud hwnnw, a'r tlws gwerth­fawr hwnnw, i brynu yr hwn y gwer­thodd y Marsiandwr call y cwbl ag y feddai. Eithr ychydig a wyddant pa beth a dâl y tlws hwn. Y mae pawb (medd St Hierom) yn ddiofal am jechydwriaeth Tragywyddol. Eithr pa beth yw yr rheswm fod dynion mor ddiosal mewn perh o gymmaint pwys a hwnnw? Ni ddynion trua­in! llygaid llesc gweiniaid sydd yn ein blino; Ni a welwn yn agos ger llaw yn ddigon da, ond ni fedrwn ni ganfod o hirbell agos ddim. Eithr nid ydwyf yn son am y cyfryw ac ynt gwedi myned i oedran gwyr, neu 'r cyfryw ac ynt henafgwyr. Bechgyn a genethod pan font yn newydd ddyfod o'i crud, o flaen idd­ynt fagu eu holl ddannedd, a ddys­gant yr egwyddorion o ddrygioni yn y man, hwy a ddrewant eu by­sedd â budreddi cybydd-dod; ac ym [Page 249] mhen ychydig ar ol hynny chwant aniwall a fydd ganddynt i gyfoeth: hwy a ddysgant wneuthur marchna­don da iddynt eu hunain; os tarawant with geiniogwerth dda, hwy a gym­meranr afael ynddi yn y man; eu dwylo a fydd yn eu pyrsau yn ddi­attreg, naill a'i yn rhoi allan, o ran elw, neu yn derbyn i mewn elw; hwy a wyddant pa fodd i wneuthur y mwyniant a'r fantais oreu o'i harian; hwy a fynnant wybodaeth yn nirge­ledigaethau amryw grefft; hwy a fy­ddant yn son am farsiandiaeth; hwy a ddysgant yn dda ddifarnu gwin­oedd; hwy a ddywedant pa sut a pha dorriad sydd ar ddillad mewn arfer o'r tu hwynt i'r mor: Juvenal y bārdd yn ei wawd ddychan a roes i'r rhain fflangell er ysdyddiau.

Hyn a ddysg gwrachiod yma
I blant pan font yn fychain gynta;
A genethod a'i dysg o ddifri
Yn herwydd o flaen eu ABC.
Ac oddi yma deora,
Pob camwedd cosia.

[Page 250]Oddi yma y mae ein hanwybod­aeth ddirfawr ni, a'n hangof am be­thau Tragywyddol yn tarddu. Je­vangc a hên, pawb sydd yn trabrisio eu harian: Eithr am y Nef, a Thra­gywyddoldcb, nis gwyddant hwy, ac. ni ddeallant ychwaith mewn gwirio­nedd pa beth a dal yr rheini- Eithr awn rhagom.

BEN. II.
Y bennod yma sydd yn dangos, mai môr neu ddwfr-neidr fenyw driphennog a elwyd Hydra yw Tragywyddol. deb: Ond y mae ef befyd yn ffynnon o bob llawenydd.

MI a ewyllysiwn ofyn i ti, ô ddyn Christianus, pwy bynnag wyt ac sydd yn gwrando pregethau yn fynych; eithr ysgatfydd, yn anaml gyda dyfal wrandawiad a defosiwn; gofyn i ti a ewylly­siwn yn yspysol un questiwn. Bw­rw a byddei i ti gymmeryd mewn [Page 251] llaw a llwy grochan, gywain allan y dwfr i gyd sydd yn y môr i afon a fyddei witho yn agos, yr hwn a fy­ddei yn rhedeg yn wastadol yn ol dra­chefn cyn gynted ac y bwrrit ti ef allan, i'r môr Bwrw na byddei i't arfer llwy grochan i'w gywain ef a­llan, eithr llwy fechan bach: Dy­wed i mi yn awr, pa hyd debygit y byddit yn cywain i'r afon y mor i gyd? Neu drachefn bwrw a byddei i ti ei gywain ef a chelwrn cym­maint a thunnell, a'i dywallt i afon arall cyn gynted ag y darfyddei i't ei gywain allan▪ Atteb fi, mewn pa sawl blwyddyn debygit y gellit ddiysbyddu'r mor? I▪eistedd cym­maint a hynny o flynyddoedd yn rhostio ac yn ffrio yn flammau tan uffern, mi a wn y dywedi, y byddei yn boen ofidus ysgeler; Ac er hynny, fe debygei 'r damnedig y bydient hwy yn dda pa byddei felly: hwy a fyddent yn ddigon bodlon i'r am­mod, ac ni thybient mo'r amser yn hîr, yn unig o byddei ganddynt ddim siccrwydd, y darfyddei eu poenau o r diwedd, ac na pharhaent hyd holl Dragywyddoldeb, [Page 252] Yr yd ym yn darllain yn yr Athrawon digred o'r hen amser, beth mwy dieithr na gwir, ynghylch rhyw ddwfrneidr se­nyw a elwyd Hydra, yr hon oedd (megis ac yr oeddynt hwy yn dychy­mmyg) yn dripheniawg, a chyn gyn­red ac y torrid un ymmaith, fe fydde dau genddi gwedi saethu allan yn ei le ef, ond os ydyw y ddwfr-neidr­fenyw dripheniawg yma yn unlle i'w chael, yn uftern y mae hi; lle mae Tragywyddoldeb tridyblig, yr hwn yn debyg i'r ddwfr-neidr-fenyw driphen­nog y ma, sydd yn estyn ei gwddf hir allan gydâ ei thri phen, hynny yw, Poen colled, Poen synhwyrau, a Thru'r gydwybod yr hwn ni bydd farw byth. Pa ddynion truain diddarbo­dus ydym ni, gan nad oes i ni ond siwrnai ferr yw ymdeithio, ond bod yr holl ffordd yn llawn peryglon, gerdded ym mlaen er hynny i gyd mor llawen, yn chware'r gweision digrif mal ped fae'm ni rhyd yr am­fer yn rhodio trwy Baradwys, neu ardd drahyfryd, yn rhydd oddi wrth bob arswyd gelynnion, a thy­bied i cawn ni yn niwedd ein rhod­sa ein derbyn a'n gollwng i mewn yn [Page 253] ddioed megis dinasyddion i'n gwlad nefol, lle o bob math ar ddiogelwch? Canys a allwn ni fod mewn anwy­bod? ein bai ni ydyw os ydym. Eithr nid allwn ni fod mewn anwy­bod na bydd i ni ddyfod o'r diwedd hyd at ddau borth Tragywyddoldeb: Y naill o eiddo'r bendigedig, a'r llall o eiddo'r damnedig. Ac y mae yn rhaid i ni fyned i mewn trwy un o honynt; hynny sydd siccr: Trwy pa un Duw a'i gwyr; yn ol fel yr ymddygom ac yr ymarweddom y bydd hynny.

Laurentius Justinianus yn rhyfe­ddu wrth lawen ynfydrwydd y cyfryw siwrneiwyr sydd yn gollwng allan yr ynglef hon, Oh gyflwr galarus dynion marvvol, yr rhai ynt yn myned rhagddynt tan lemmain gan lawenydd rhyd yr holl ffordd, pan nad ydynt hwy ond alldudion a gwyr deol o'i gwlad eu hunain! Na fydded i ni rhyd y ffordd tra bydd­om ni yn siwrneio tu a'n gwlad sefydlu ein meddyliau ar neb ryw ofer lawenydd, ac ynfyd o­fregedd; Eithr rhedwn ein gyr­fa felly, mal y caffom pan orphennom [Page 254] hi ein derbyn i mewn trwy 'r porth sydd yn ddyfodfa i'r gwynfydedig▪ rwydd Tragywyddol. Duw yn siccr a'n creawdd ni i lawenydd a hyfry­dwch, yn hytrach nac i boen a gofid, eithr nyni sydd gwedi camgymme­ryd yr amser a'r lle - Nid yma y mae ef, ar ol hyn y mae hynny. Y mae llawenydd gwedi ei baratoi yn y nefoedd; eithr ni bydd i neb ond i'r gweision da a ffyddlon, gael n yned i mewn iddo: A thrwy pa fodd y di­chon dyn gael myned i mewn iddo? Oni wyddost ti pa peth a ddywe­dodd Christ? Yr ydys yn treisio teyr-nas Math. 11, 12. Nefoedd. A threiswyr sy yn ei chippio hi. Myfyria yn awr fel hyn rhyngot a'th di dy hun, a'i fi yw'r trcisiwr hwnnw? A'i dyna 'r drais honno yr ydys yn son am dani, I fwyt­ta, i yfed, i godi i fynu i chwarau, i orwedd i lawr i gymmeryd fy es­mwythdra? Yn siccr nid hynny yw. Y mae yn rhaid i ni ymdrechu, eithr rhaid iddo fod yn ymdrech dda, yn gyffelyb i ymdrechwyr Christianus; y mae yn rhaid i ni redeg, eithr felly, fel a gallom gael gafael; Y mae yn rhaid i ni ymrysson, eithr i fyned i mewn trwy 'r porth cyfyng: [Page 255] Y mae yn rhaid i ni gymmeryd poen, a threisio teyrnas Nefoedd, eithr rhaid i hynny fod mewn amser a lle cyfaddas: Yn awr tra caffom ni amser; yma, tra byddom ni ar y ffordd, tra bo bywyd a grym gennym, fel pan ddelom ni am ben marwol­aeth, ac felly myned tros derfyngylch y byd hwn, ac ymadael i un arall nid i ddychwelyd byth Drachefn; Pan drosglwyddir ni o amser i Dragywyd­doldeb, y gallom ni y pryd hynny gael llawenydd o'r diwedd am ein buchedd aeth heibio, a gobaith am yr hyn sydd i ddyfod. Cymmerwn gan hynny boen; bydded i ni, meddaf, gymmeryd poen, a threisio ein hunain gan ymdrechu yn erbyn ein anhy­naws ewyllys a thueddgarwch ein meddyliau: Trwy drugaredd Duw felly ni a orddiweswn esmwythdra Tragywyddol am ein byr boen, a go­goniant Tragywyddol am ymdeithiad ychydig ddyddiau.

Nid yw 'r gwir a'r holliach la­wenydd i'w gael yma mewn gwag ddigrifwch a difyrrwch, ond yn y nefoedd, lle mae llawenydd ac hyfry­dwch byth yn Dragywyddol. Yr [Page 256] Arglwydd Dduw a ddarparodd i Ci­caion, Ionah. 4. 6. ac a wnaeth iddo dyfu tros Jo­nah, i fod yn gysgod uwch ei ben ef, i'w waredu ef o'i ofid. A bu Jonah lawen iawn am y Cicaion. A pha beth yw holl ddifyrrwch, neu yn hytrach gwagedd y byd presennol hwn? Onid ydyw yn debyg i Cicaion Jonah, yn blaen-darddu tros amser, ac yn rhoddi cysgod confforddus? Y mae gan wyr goludog ei Cicaion hefyd, hynny yw, eu cyfoeth; tan gysgod yr hwn y maent yn ymlawe­nychu â llawenydd mawr jawn. He­fyd y mae gan feddwon a glothi­nebwyr hwythau eu Cicaion, hynny yw, byrddau mawr a bwydydd dain­reithiol, tan gysgod yr rhain y maent yn llon ac yn llawen. Y mae gan y gwyr ynt yn ymroddi i ddifyrrwch, a mwythau, hwythau eu Cicainon, hynny yw, eu difyrrwch anghyfreith­lon, tan gysgod yr hwn y maent yn gorwedd i lawr ac yn cymmeryd eu pleser. Eithr, Och! y mae ar ol y cyfryw lawenydd dristwch yn can­lyn, ac yn ei orddiwes yn ddiattreg. Troir eu llawenydd hwy yn y man yn alar, a dibenna eu difyrrwch a'i di­grifwch [Page 257] mewn chwerwder bustl. Ca­nys pa beth a ddaeth o Cicaion Jo­nah? Yr Arglwydd a baratodd bryf Ionah. 4 7. ar godiad y wawr drannoeth, ac ef a darawodd y Cicaion ac yntef a wy­wodd. Dywed i mi yn awr Jonah, ym mha le y mae dy Cicaion? Pa beth a ddaeth o honi? Ym mha le yr awr­hon y mae dy lawenydd mawr iawn. Hwy aethant i'll dau ymmaith a'r unwaith: Gwywodd dy Cicaion, a darfu dy lawenydd. Y cyfryw yw ein gwag ddigrifwch a'n difyrrwch, y cyfryw yw ein lawenydd, yn hyt­rach cysgodau o bethau na neb ryw beth yn iawn, myned y maent ym­maith yn ddiattreg a byddant fel Cicaion Jonah yr hwn a wywodd yn fuan. Nid yw llawenydd y byd hwn ond tros funud; eithr llawenydd y by­wyd a ddaw a fydd tros hôll Dragy­wyddoldeb.

BEN. III.
Y drydydd bennod yma sydd yn datgan trwy esampl wiw iawn ei chofio; mor felus a gwerthfawr yw blas Tragywyddoldeb.

HYn a wyddei un Tudur yn ddi­gon da, yr hwn a anesyd o rieni Christionogaidd, ac efe a'i dysgasei (fel y mae yn ymddangos) mewn amser; y pryd nad oedd ef ond gwr ievangc o ran blynyddoedd, eithr yn henwr o ran ystyriaeth a phwyll. Canys ar uchel-wyl mawr cadwe­dig trwy holl wlad yr Aipht, gwledd fawr oedd yn nhy ei dad ef, a llawer oedd gwedi eu gwahodd iddi; pan oedd rhai yn bwytta ac yn yfed, eraill yn chwerthin ac yn chwarau, a'r lleill yn chwarae 'r gweision d: grif, ac yn dawnsio: Encilio a wnaeth ef ynghanol y difyrrwch hwn i'w ysta­fell ddirgel, yn archolledig hyd at y galon, eithr a saeth ddiwair. Canys efe fel hyn a ddechreuodd ymliw ag efe ei hun, Tudur annedwydd! Pa fudd a fyddei hyn i't, ped ynillit yr [Page 259] holl fyd? Yn siccr y mae yn dy feddiant lawer o pethau ond a fedri di ddywedyd pa hyd y cei eu meddu? Yr wyt ti yn awr yn tyw mewn aml­dra; Gelli wledda a bod yn llawen, gelli chwerthin a phesgi, gelli ym­lawenychu a llemmain o lawenydd: Eithr wyt ti yn siccr i hyn barhau? gwelwn hynny with fy modd yn dda, pa parhae bob amser. Eithr pa beth a wnafi? A ddifuddiaf fi fy hun o'r llawenydd hwnnw sy 'n Dragywydd­ol, er mwyn mwynhau y difyrrwch a'r digrifwch byr trangcedig hwn? Dywed i mi, Tudur, yw hyn yn ol crefydd Gristionogaidd, i ffurfio i ni ein hunain yma nef ar y ddaiar, a meddwl myned o ddifyrrwch i ddi­fyrrwch, o amserol i Dragywyddol? Naill a'i rwyf yn camgymmeryd ym mhell, neu ynteu fe ddangosodd Duw i ni flordd arall i deyrnas nefoedd, a honno sydd trwy lawer o helbulon. Am hynny na fydded i ti ddim a wnelech ond hynny a gwagedd by­dol, eithr cyfri lawenydd Tragywyddol yn well nag amserol. Fel hyn y dywedodd a daeth wylo arno Felly ar hynny efe a enciliodd i ystafell ddirgelach, a chan syrthio yno i lawr [Page 260] ar ei wyneb, efe a we ddiodd fel hyn; Duw Tragywyddol, y mae fy nghalon i yn noeth ac yn agored o'th flaen di: Yr ydwyf yn danfon i fynu fy ucheneidiau megis ufudd araithy­ddion ac eirchion attad di; nis gwn i pa beth a ofynnaf, na pha fodd! Yn unig yr un peth hwn yr wyfi yn ei erfyn ar dy law, na ddioddefych i mi farw o farwolaeth Dragywyddol! Di a wyddost, Arglwydd, fy mod yn dy garu, am bod i yn emyllysio bod gydâ thi, fel y gallwyf ganu moliant Tragywyddol i ti. Arglwydd, cym­mer drugaredd arnaf. Tra yr oedd ef fel hyn yn gweddio, yn ddisymmwth ei fam ef a ddaeth i mewn, ac wrth gochder a lleithdra ei lygaid ef, hi a wybu yn y man ei fod yn wylo; Ac ar hynny hi a ddywedodd, Fy Mab, pa beth yw 'r matter gyda thi? Pa ham yr wyt ti yn wylo? Pa ham yr wyt ti yn galaru? Pa ham yr wyt ti yn ymgadw heddyw allan o'r go­lwg? Pa ham nad wyt ti yn dy­fod i'r bwrdd? Y mae 'r lleill yno i gyd: Y mant yn deisyfu dy gwmpeini: Tyred ymmaith. Eithr Tudur a attebodd ac a ddywe­dodd, [Page 261] yr wyfi yn attolwg i chwi, fy mam, fy nghymmeryd yn escuso­dol, yr ydwyf yn clywed fy hun yn o afiachus yn fy nghylla, dymuno yr ydwyf arnoch na annogoch monof i fwytta nag i yfed yngwrthwyneb fy chwant. Felly fe a yrrodd ei Fam ymmaith a rhith escus teg. Gwedi hynny gan fod yn unig ef a ymddad­leuodd a Duw ac ef ei hun yng­hylch Tragywyddoldeb, ac a fanwl holodd holl dreigl ei oes, trwy ymresymmu ag ef ei hun fel hyn. Pa beth wyfi? Neu, Pa beth a fum i? Pa sut a fu arnaf hyd yn hyn? Neu pa sut a fydd ar­naf yn ol hyn, o's collaf fy rhan, a'm cyfeillach yn nheyrnas Nefoedd, ac yn y Tragywyddoldeb bendige­dig? Y mae amryw ffyrdd i'r Nefoedd: Rhai sydd yn myned y naill ffordd, a'r lleill yn myned ffordd arall: Nid oes fatter pa ffordd yr elom ni am y delom ni yno. Eithr o herwydd nad yw pob ffordd fel eu gilydd, na phob ani­an chwaith fel eu gilydd; gan hyn­ny pob dyn a ddylei ddewis y ffordd honno ac yw gymmhesuraf. [Page 262] Y mae ffordd ferr, a ffordd hîr; ffordd ddiogel a ffordd enbyd. Os fyfi gan hynny a fydd yn ofni myned y ffordd hir enbyd, y mae un sydd ferrach a diogelach, yr hon os dewisaf mi a gaf yr Angylion yn ddiammeu yn gymdeithion ag yn cyssurwyr imi; a hwy a ymlaweny­chant gyda mi. Eithr ysgatfydd, fy nghyfeillion a ymofidia wrth hyn ar y cyntaf: Eithr hwythau hefyd cyn pen nemmawr a ymlaennychant. Iddo yn awr, Tudur, oeda tros ennyd, eithr nid yn rhyhir, ac na ymro yn or. mod. Yr ydwyf yn gobeithio y pri­fiaf ryw ddydd yn wr cryf, ac yno mi a fyddaf yn ablach i drin fy nge­lynnion, canys bydd i mi daro wrth rai a fo cryfion: Beth os byddant hwy yn dyner, yn wenieithus, yn ymo­leithus, ac yn gyfryw ac y wylant o'm herwydd? Y gwirionedd yw, y cyfryw yr ydwyf yn eu hofni fwyaf. Eithr cymmer galon dda, wr, ac er dy fod di o naturiaeth yn hawdd dy droi, ac yn ansafadwy ddigon, er hyn­ny gweddia ar Grist, ac efe a'th wna di yn ddianwadal ac yn ddiysgog. Eithr beth os ymollwng dy Fam i wylo, a'r dagrau rhyd ei gruddiau [Page 263] yn treiglo i lawr? Beth os bydd hi ynglyn am dy wddf, ac yn dymuno arnat dy arbed dy hun? Beth os dengys hi i ti ei bronnau yr rhai roe­sant i't sugn? Oni chynhyrfa hyn oll dy di? Yn hyn cofia yr hyn y mae St. Hierom yn ei ddywedyd, er yr holl daerni hwn, prysura di at faner croes Christ: Rhinwedd a chlod haeddedigol yd yw, i ti fod yn greulon yn y cyfryw gyflwr a hwn. Rhan ac etifeddiaeth dy fam yr E­glwys yw i sefyll tan Groes Christ: Mair mam Christ a wnaeth hynny: Ac y mae yn rhaid i tithau wneuthur hynny, os mynni gael Duw dy dad yn y Nefoedd, ar Eglwys dy Fam ar yddaiar: Ac di a wnei hynny, os wyt ti yn wir Fab heb fod yn fab o ordderch. Eithr a'i rhaid i mi wneu­thur hynny yr awrhon yn fy ieveng­ctyd yngwir flodau fy oedran? Caled yw hynny! Yn wir felly y mae i gig a gwaed. Eithr ctto y mae prawf yn dysgu hyn, na rynga gwasanaeth diweddar fodd Duw yn dda. Canys anaml y mae gwasanaeth diweddar yn dda. Gan hynny da y maent hwy yn gwneut hur, y rhai ynt mewn amser yn dechreu gwasanaethu Duw, [Page 264] ac ynt yn ei foreu-geisio, ac ynt yn ei gofio yn nyddiau eu ievengctyd; ac yn darostwng i Groes Christ eu gwarrau tyner. Eithr myfi a ddy­gwyd i fynu yn foethus, porthwyd fi a dainteithion: ac a allafi yr awrhon gychwyn trefn buchedd gaeth a thost, a chanu yn iach i'm holl ddi­fyrrwch? A allafi fod yn abl i ddi­oddef hynny? Yr ydwyf yn gobei­thio y gallaf. Eithr, pa hyd? Tros flwyddyn neu ddwy? Nid yw hyn­ny ddigon: rhaid i mi fyned ym mhe­llach, a pharhau hyd y diwedd: ie tra bwyfi byw. Gan hynny cyni ti resolfio, hola ac ystyria y peth yn dda rhyngot a'th di dy hun; naill na ddechreu un amser, neu bara hyd y diwedd. Trwy o gymmeryd o Dduw fy mhlaid mi a wnaf: Canys go­beithio 'r wyf na adewyff Duw mo­nof yn unig i ymdrechu a'r anhaws­der hwn. Yr hyn nid wyf o'r ga­llu i'w orchfygu. Eithr etto peth anhawdd ydyw ymrysson yn erbyn arfer. Treuliais fy oes hyd yn hyn yn debyg i Bendefyg a gwr rhydd: Ac yn awr a fydd i mi fỿw fel gwr tlawd a chaeth-was? Neu os y fi a wnaf, pa hyd a bydd i mi fyw felly: [Page 265] Os gwisgaf am danaf bersonoliaeth y gwr glawd, a chwarau ei ran ef yn chwareudy r byd hwn. Pa bryd y bydd i mi ei ddiosg ef oddiam danaf? Yn niwedd y rhan ddiweddaf o'r chwa­rau. Pa faint fydd hyd hynny? Cymmaint ag sydd hyd y ffun ddi­weddaf. Ni dderfydd i ti chwarau dy ran nes i ti ymadael allan o'r bywyd hwn. Os dy di a ddaw allan unwaith yngwisg y gwr tlawd; nid oes i ti drachefn moi diosg hi o­ddiam danat. Nid elli un amser fe­ddwl am dy sidan, dy sattan, a'th felfed: Nid elli wisgo porphor a lliain main, nes dy ddilladu a'r wisg anrhydeddus o anfarwoldeb a go­goniant. Tudur; Pa beth yr wyt ti yn ei dybied? A elli di ddal allan i orphen chwarae dy ran? Mi a ymegniaf fy ngoreu ac am cyssura fy hun ag esampl chwareyddion da eraill aethant o'm blaen. A phwy a ddewiswn i yn hyttrach ei gan­lyn a'i ymddilyn na Christ Mab Duw: Yr hwn o'i wirfodd aeth yn dlawd, ac a wnaeth ei hun yn ddiy­styr; trwy ddarostwng ei hunan allan o' fesur, i wneuthur ac i ddioddef [Page 266] fel gwas; ac yntef yn Arglwydd pob peth? Ac oni bydd i minneu, yn ol ei esampl ef, wneuthur a dioddef pob peth? Oni bydd i mi gym­meryd y groes a'i ddilyn ef? Ai gwell wyfi nag ef? Pa ham yr ar­fwydwn i canlyn, gan fod gennif y cyfryw flaenor? Canys pwy yw hwn yr hwn sydd yn peri i mi ei ganlyn? Llais dyn yw, yr wyf yn ei glywed; eithr ewyliys Duw y dyw, yr hwn a ddylwn ei ufuddhau, o herwydd ei fod yn gorchymmyn. Ond etto y mae hyn yn pwngc rhy uchel o philoso­phyddiaeth, i ddyn ymwrthod a'i gyfoeth a chofleidio tlodi! A pha beth a wnei di, Tudur? Resolfia rhyngot a'th di dy hun pa beth sydd yw wneuthur.

Pa ham ye wyfi yn ammeu fel hyn cyhyd, ac yn ymddadleu ynof fy hun? Pa ham yr wyf fel hyn yn bwhwm­man rhwng gobaith ac ofn? Onid oes gennif o flaen fy llygaid esampl fy Arglwydd? Oni ddioddefodd ef lawer o bethau anraethadwy? Oni ddarfu ei hoelio wrth y Groes, a'i drin yn ammharchus? Efe a ada­wodd ei dryssorau nefol, ac a ddaeth [Page 267] yn dlawd i'r byd hwn, y mae ei a­nedigaeth a'i farwolaeth yn dangos hynny. Yr oedd arno ddiffyg crud ar ei anedigaeth: nid oedd ganddo unlle i guddio ei ben yn ei fywyd: ac nid oedd ganddo ddim i orchu­ddio ei gorph ar ei farwolaeth! Yn noeth y daeth ef i'r byd hwn, ac yn noeth yr aeth ef allan. Pa sut y bu iddo yn y bywyd hwn? Gorfod iddo ddiangc o'r naill fan i'r llall. Fe fu yn flinedig gan lafur lawer gwaith yn rhostio gan wres, ac yn dyddfu o ran syched. Yr oedd ef mor anhy­flin yn gweithredu, ac yr oedd ef yn ei ddioddefaint yn ddioddefgar. A fu neb mor hyblyg i diodi, mewn blinderau mor ddioddefgar, a phan enllibir mor hynaws ac mor addfwyn? Ac a fyddei yn gywilyddus gennif y cyfryw flaenor? A fyddei arnaf gywilydd fy ngalw yn un o'i ddilyn­wyr? Oni byddaf yn fodlon i fod yn gyfryw ac yr ewyllyssiei fy Ar­glwydd a'm jachawdur i'm fod? By­ddaf yn barod i ddioddef o gariad ar­no newyn, syched, anwyd, noethni, tlodi ar cyffelyb i'r rhai hyn. Byddaf er ei fwyn ef yn ewyllysgar i gymmeryd fy rhwymmo, fy llusgo, a'm [Page 268] difynio. Byrrion yw 'r dioddefia­dau hyn, nid allant hwy barhau yn hir. Eithr▪ hir iawn yw llawenydd neu boenau Tragywyddol: Canys ni ddi­weddant byth. Am hynny mi a ganaf yn iach i'r holl fyd, ac i'r pe­thau ynt ynddo, nid oes gennif fatter am danoch, ni wnafi gyfrif yn y byd o honoch, canaf i chwi yn iach, (me­ddaf.) Eithr y mae i ti groesaw, Tragywyddoldeb, Tyred pan fynnych: Dy di yw 'r unig peth yr wyfi yn ymofyn am dano; hiraethu y mae fy enaid am danat, nid oes dim a ddei­syfwn oth flaen di.

A gwrês y cyfryw feddyliau ei enaid ef a gymmerodd felly dan, mal yr ennynnodd cariad ar Dragywyddol­deb of, yr hyn a fwynha 'r bendige­dig yn y Nefoedd. Gan hynny efe a resolfiodd gymmeryd ei gennad gan ei rieni, i adel ei gyfoeth, ac i ga­nu yn iach yw holl ddifyrrwch byth. Ni resolfiodd ef ar frys, ond etto efe a barhâodd yn ei resolution yn ddianwadal: Nid oedd ef boeth byrbwyll, nag oer diattreg: Ni newi­diwyd mono yn gwbl ddisymmwth: Nid oedd ef yn myned o'r naill ei­thaf i'r llall. Nid oedd ef yn ym­drechu [Page 269] am y pennod pellaf with dde­chreu: Eithr er hynny ef a gynny­ddodd o▪ dippin i dippin, ac aeth yn un o ysgolheigion Pachomius. Chwi a glywsoch y Prolog; eithr nid oes mor Interluwd yn canlyn: Canys yng­wrthwyneb defod yr Interluwd, i'r hwn y mae dechreuad llawen, a diwedd creulon, y mae ef yn de­chreu yn drist, eithr yn diwedd yn llawen. Yr oedd wylo o dri­stwch ar ei ddyfodiad ef i mewn, eithr yr oedd curo dwylo ynghyd o lawenydd, ar ei fynediad ef allan. Fel hyn chwi a glywsoch fuchedd a marwol aeth Tudur, enaid yr hwn oedd megis yn ymborthi ar y me­ddyliau am Dragywyddoldeb; ac yn ymhyfrydu ynddynt megis mewn mêr a brasder. Nid oedd ef o'r un meddwl a'r byd, yr hwn nid yw yn cyfri Tragywyddoldeb ond chwedl; Eithr efe ei hun ni wrthododd fod yn chwedl, ac yn gyfatgan i'r byd: Ca­nys yr oedd ef yn sicer ddigon o fod Tragywyddoldeb bendigedig, ac yn chwenychu, ac yn sychedu yn ddifri­fol am gaffael cyfran ynddo.

[Page 270] Frodyr Christianus, a gafi yn rhwydd lefaru gair o wir? Neu, nid fi, Ond Tudur? Y mae y rhan fwyaf o ddynion yn byw felly, fel ped fai na byddei dim or fath beth a Thragy­wyddoldeb; mal ped fai ef ddim ond hen chwedl, neu beth gwedi ei ddy­chymmyg. Eithr i ba beth yr wyfi yn son wrthych am Dudur? A glywch chwi pa beth y mae St Petr yn ei ddywedyd, Dydd yr Arglwydd a 2 Pet. 3. 10. ddaw megis lleidr y nos, yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gydâ thwrwf, ar defnyddiau gan wîr wrês a doddant; Ar ddaiar a'r gwaith a fyddo ynddi a losgir. A chan fód yn rhaid i hyn i gyd ymollwng, pa ryw fâth ddynion a ddylech chwi fôd, mewn sanctaidd ym­arweddiad a duwioldeb? Eithr ym mha le y mae y dynion hynny yn y dyddiau hyn trwy ymarwedd­ad sanctaidd yr rhai a'i duwioldeb y dichon gwr farnu eu bod hwynt yn coelio St Petr fod dydd yr Arglwydd yn dyfod, ac y dilyna Tragywyddol­deb ef o'i ol? Eithr Oni choe­liwch chwi St Petr, clywch beth y mae ▪r gwirionedd ei hun yn ei ddy­wedyd, Ehang yw r porth a llydan Math. 7. 13. yw 'r ffordd, sydd yn arwain i ddi­stryw, [Page 271] a llawe yw y rhai sydd yn my­ned i mewn trwyddi. Yn ddiammeu nid âe dynion i mewn i'r porth e­hang o ddistryw, ped faent hwy yn meddwl na ddoent yn ol allan dra­chefn, ped faent unwaith yn breu­ddwydio am Dragywyddoldeb. Eithr nid ydyw y rhan fwyaf o ddynion (megis y dywedais i o'r blaen) yn gwneurhur o Dragywyddoldeb ond peth gwedi ei ffugio, neu ond dy­chymmyg synhwyrgall i gadw dy­nion mewn ofn Ac mor barod er hyn­ny yw llawer i ddywedyd, eu bod yn credu fod Tragywyddoldeb bendige­dig ar ol y bywyd hwn, eu bod hwy yn gobeithio cael cyfran ynddo; eu bod hwy yn deisyfu ac yn hiraethu am dano: Eithr, och! mor sal yw eu ffydd! mor ofer yw eu gobaith! mor oer yw eu deisyfiad▪ difyrrwch presen­nol, arian mewn llaw, hudoliaethau y cnawd ynt yn lladratta ymmaith galonnau lawer, ac o fesur ychydig ac ychydig yn gwneuthur y deisyfiad a'r serch i Dragywyddoldeb brifio yn llwyr oer ynddynt hwy, fel ped fua­sent yn ei foddi ac yn ei gladdu ym medd anghof. Yr ydym yn cly­wed darllain a phregethu hyn yn fy­nych; [Page 272] Fel hyn y dywed yr Arglw­ydd, dymma orchymmyn yr Arglwydd: A chyn fynyched ac yr ydym ni yn clywed hynny, cyn fynyched a hynny yn wastadol yr ydym yn ei esceuluso. Dyweded yr Arglwydd a fynno, gor­chymynned ef a fynno, ein hen ffordd sydd yn rhyngu ein bodd ni oreu;Yere. 18. 12, Yn ôl ein dychymmygion ein hunain yr awn, a gwnawn bob un amcan ei ddrwg calon ei hun. Am hynny fel 13. hyn y dywed yr Arglwydd, gofynnwch attolwg ym mysg y cenhedloedd, pwy a glywodd y cyfryw bethau? Ped fuasei y bobl y rhai nid adwaenant un Duw, ond gwybod y dirgeledigaethau hyn o Dragywyddoldeb, yn ddiam­meu ni buasent hwy byth yn eu di­ystyru ac yn eu hesceuluso. Iddo ynDi [...]ha. 1. 24. awr, o chwi feibion dynion, Yn gym­maint ac i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod, i mi estyn fy llaw a neb heb ystyried; Minneu hefyd a 26 chwarddaf yn eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni, 27 megis destryw ac y del eich dialedd arnoch megis cor-wynt; a dyfod arnoch wascfa a chaledi, pan orddiweso Tragywyddoldeb chwi yn [Page 273] ddisymmwth. Os deil marwolaeth chwi yn y cyflwr a'r ystad gresynus hwn, ni bydd i chwi y pryd hynny o­baith am drugaredd: Y drws a geuir yn ddisymmwth, nid oes mor agoryd arno: Y farn a gerddodd arnat gan dy fwrw yn euog, nid oes moi galwMath. 25. 41. hi yn ol, Ewch oddi wrthyf rai melldi­gedig i'r tân tragywyddol, yr hwn a baratowyd i ddiafol ac i'w Angy­lion.

Gwiliwch gan hynny, Gristiono­gion da, gwiliwch, meddaf: y Barnwr sydd yn sefyll wrth y drws. Dichon y peth a ddigwydda mewn munud, beri i un ddolurio tros holl Dragy­wyddoldeb. Antoni fawr mewn rhyw Bregeth a wnaethei ef i'w bobl a lefa­rodd wrthynt hwy fel hyn, Anwyl ga­riadus frodyr, mewn masnach o'r by­wyd hwn y mae gennem ni ofal am wneuthur marchnadon da, ni a fyddwn yn siccr o gael ceiniogwerth am geiniog: i ddwyn cyffelybiaeth o'r peth, rhoi yr wyfi allan hyn a hyn o arian, a mynnu y wnaf eu gwerth hwy mewn marsiandiaeth; rhoi yr wyfi hyn a hyn o goronau a mynnu y wnaf hyn a hyn o fesurau o wenith▪ hyn a hyn o bwysau, a mynnu a wnaf hyn a hyn o [Page 274] o frag. Eithr mewn materion Nefol nid ydym ni mor gall. Ni newi­diwn ni mor pethau Amserol am ý pe­thâu Tragywyddol. Peth yw bywyd Tragywyddol ni thal edrych am dano, yr ydym ni yn ei dd: brisio yn ormod, ni rown ni ddim agos am dano, ni chymmerwn ni boen yn y byd na thrafferth i'w ynnill. Ac er hynny pa beth yw ein trafferth ni, bwrw di y mwyaf a allwn ni fyned tano? ni chyrraedd os cymmharir ef i wobrwy bywyd Tragywyddol cymmaint ag un ddimmai mewn golygiad a chy­ffelybiaeth i fyrddiwn o aur. Canys pa beth a ddywed y Psalmudd; Yn Psal. 90. 10. nyddiau ein blynyddoedd y mae deng­mlhynedd a thrugain, ac os o gryfder y cyrheuddir pedwar ugain mlhynedd, etto eu nerth sydd boen a blinder. Eithr i ddywedyd y mwyaf, bwrw a byddei i wr fyw gant o flyny­ddoedd, ac iddo wasanaethu Duw yn awyddus ac yn ff, ddlon thyd yr holl amser hwnnw, i ynnill Tragywy­ddoldeb, onid amser gwedi ei threu­lio yn dda y fyddei? I bwrcasu teyrnas onid trafferth gwedi eu gwar­io yn dda y fyddei? Nid wyfi yn meddwl teyrnas i barhau tros ganto [Page 275] flynyddoedd yn unig, eithr hyd yr oesoedd oll; nid teyrnas ddaiarol eithr teyrnas nefol. Am hynny, frodyr Christianus, na falchiwch o ran gwâg ogoniant, na fydded gennich ormod chwant i urddas bydol, na fliwch yn gwneuthur daioni, na ymollwngh o ran blin [...]un Na suddwch tan, bwys y Gro [...]hr dy gwch hi yn ymmy­neddus ac yn gyssurus, gan orfoleddu Rhuf. 5, 3. gydâ'r Apostolion fod yn eich cyfrif yn deilwng i ddioddef: Oblegid yr Rhuf. 8. 18. ydwyr yn cyfrif, medd St Paul, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoni­ant a ddatcuddir i ni. Na fydded i undyn feddwl, pan ddarfyddo iddo ymwrthod a'r byd, ddaifod iddo ym­wrthod a matter mawr yn y byd. Canys pa beth yw'r ddaiar mewn cymmhariaeth i'r Nefoedd? Nid yw hi ond y Cenolbwynt wrth y Cylch, munud wrth Dragywyddoldeb, defnyn wrth y môr, mymryn o lwch wrth y tir sych. Pa beth yw ein cyfoeth ni? Pethau diflanedig ac ansiccr ydynt a ellir eu symmud: Ni a gymme­rir oddiwrthynt yn fuan, neu hwy oddiwrthym ni. Er ein bod ni yn cael yn llawn swydd yn eu cadw hwy [Page 276] tra bom ni byw: etto pa'r un byn­nag a wnelon ni a'i mynnu a'i peidio, rhaid i ni ymadael a hwynt pan fo'm ni marw. Nid allwn eu dwyn hwy i'n beddau. Pa ham gan hynny na wnawn ni rinwedd o angenrhaid: Pa ham nad ydym yn ymadael a hwynt yn ewyllysgar tra [...]dent yn ein meddiant: Gan [...] mai rhaid i ni ymadael a hwynt ar fyr­der, pa'r un bynnag a wnelom a'i mynnu a'i peidio; pan ddalio mar­wolaeth ni am gyfiawn ddyled na­tur, ac yno nid allant fod ddim hwy yn ein meddiant? Pa ham nady­dym yn gyffelyb i'r Marsiandwr da yn eu rhoi hwy allan am y maen gwerthfawr, neu'r perl gwerthfawr o fywyd Tragywyddol.

Pachomius y fyddei yn arfer, Pa bryd bynnag y clywei feddyliau neu ddeisyfiadau anghyfreithlon yn y byd yn cyfodi yn ei feddwl, o'i gyrru hwy ymmaith a'r coffadwri aeth am Dragywyddoldeb: Ac os deallei ef drachefn eu bod hwy yn gwrthryfela un amser, efe a'i gyrrau yn ol yn wa­stadol trwy fyfyrio yn ddifrifol ar Dragywyddoldeb, ac ar gospedigae­thau Tragywyddol y damnedig, ac ar [Page 277] boenau didrangc y tan ni ddiffydd byth, ac ar y pryf yr hwn ni bydd farw byth. Ac yma mi a ddibennaf yr ystyriaeth hon ag anghoriad yr unrhyw Pachomius; O flaen pob peth, medd ef, meddyliwn beunydd am y dydd diweddaf; cofiwn Dragy­wyddoldeb mewn amser; bucheddwn felly ar bob munud a feddom ni i fyw, fel ped faem ni yn byw mewn ofn poenau tragywyddol, megis y gallom ni felly ddiangc rhagddynt yn dra­gywyddol trwy drugaredd Duw yn Jesu Grist.

Y nawfed ystyriaeth. A R Dragywyddoldeb.

Y diben cyntaf, o saith o ddiben­nau sydd yn canlyn.

NI ddichon un dyn yn fyw egluro mewn gair, neu ddeall yn y meddwl yspaid annherfynedig Tragywyddoldeb. Y mae rhagor mawr jawn rhwng gwir ddyn a dyn paen­tiedig; gwir dân, a thân paentiedig: Ac er hynny y mae rhain mewn rhyw fodd yn gyffelyb yw gilydd. Eithr nid oes rhwng ein tan cyffre­dinol a than uffern, rhwng gofidiau 'r bywyd hwn a phoenau uffern ddim [Page 280] cyffelybrwydd na chysladdrwydd yn y byd. Canys yr ydys yn mesuro y bywyd hwn a gofidiau y bywyd yma wrth yspaid amser; Eithr nid ellir mesuro y bywyd sydd i ddyfod ai ofidiau wrth un rhyw beth ond wrth Tragywyddoldeb yn unig, yr hwn he­fyd sydd yn ddifesur. Y mae ein Jachawdu r yn egluro hyn yma yn hyawdl iawn yn yr Efengyl o eiddo St. Joan, trwy ddammeg cangen y winwydden, Onid erys un ynofi, efe a Ioan 15. 6. daslwyd allan megis cangen, ac a wy­wodd, ac y maent yn eu casglu hwynt, ac yn eu bwrw yn tân a hwy o losgir, Yr ydys yma yn eglur ar fyr eiriau yn portreiadu Tragywyddoldeb: Ca. nys dal sulw yn dda nad yw 'r geiriau yn rhedeg yn ol amser i ddyfod, sef fel hyn, efe a deslir allan, ac a wywa, a hwy a'i casglant, ac a'i bwriant yn tân, a chânt eu llosgi. Nid ydynt, meddaf, yn rhedeg yn ol amser i ddy­fod, eithr megis yn ol amser aeth hei­bio, sef fel hyn, Efe a daflwyd allan ac a wywodd, ac y maent yn eu casglu hwynt, ac yn eu bwrw yn tân, a hwy a losgir. Hwy a losgir. Dymma gy­flwr ac anfodd y damnedig, Hwy a a'losgir, hynny yw, yn llosgi yn wasta­dol. [Page 281] Pan ddarfyddo mil o flynyddo­odd, a'i myned heibio megis yr oedd yn y dechreudd, felly mae yn wasta­dol, Hwy a losgir: A phan elo mil a mil yngwhaneg heibio, megis ir oedd, felly y mae, Hwy a losgir: Ac os gofynnyd y qwestiwn, ar ol rhai myrddiwnau a flynyddoedd, pa beth yr awrhon yw cyflwr ac anfodd y damnedig? Pa beth y maent hwy yn ei wneuthur? Pa beth y maent hwy yn ei ddioddef? Pa fodd y mae arnynt hwy? Rhoi un atteb arall ond hwn nid ellyd, Hwy a losgir, yn llosgi yn wastadol, yn ddiodor, yn an­nhraethol, yn Dragywyddol; o'r naill oes i'r llall, ie byth ac yn Dragywydd­ol. Ar y man hwn mae St Augustin yn dywedyd yn rhagorol, Y mae yn angenrhaid, medd ef, mai un o'r rhai hyn yw cy flwr cangen y winwydden, rhaid iddi naill a'i aros yn y win­wydden, ai cael ei thaflu i'r tan: Os nid yn y winwydden, gan hynny yn y tan yn ddiammeu. Eithr fel na chaffo hi ei thaflu i'r tan, arhosed yn y winwydden yn wastadol.

Yr ail Diben.

PEd fai y dynion hynny y rhai ynt yn aros yn eu pechodau, ond gwybod nessed ydynt i Dragywydd­oldeb, a phoenau Tragywyddol; ped faent hwy yn ystyrio rhyngddynt a hwy eu hunain yn dda y modd y dichon Duw mewn moment, o fewn t a bo un yn gollwng ei anadl, mewn tarawiad llygad (fel y dyweddwn) eu cymmeryd hwy ymmaith yn ddi­symmwth yn eu pechodau, a'i tra­ddodi hwy i fynu i farwolaeth; yna yn ddiammeu hwy a roent yr Yspa [...] oll, tryssorau Asia i gyd, holl aur yr India, ie 'r holl fyd (ped fai yn eu meddiant) er cael un awr i gyfaddefeu pechodau, ac i edifarhau a'm danynt; ac i ofyn i Dduw bardwn a maddeu­ant: Ni byddent, yn ddiammeu ni byddent yn cofleidio eu pechodau ya wastadol, ni amlhaent hwy monynt beunydd fel y maent, ni lettyent hwy monynt bob nos yn eu mynwe­sau, ac ni orweddent yn chwyrnolad ynddynt. Canys pa leshâd i ddya os Math. 16. 26. ynill es yr hôll fyd, a cholli ei enaid ei [Page 283] bun? Er colli o honot bob peth yn y byd ond hynny, etto cymmer ofal, ô ddyn, am gadw dy enaid. Afraid a fyddei i mi yma fwrw ynghyd y Rhestrau o henwau merth ron Christ ym mhob oes. Y mae o ho­nynt lyfrau cyfan o fae ntioli mawr: mae i'r holl fyd a ddel ar ol gof-re­strau o honynt, a'i henwau a fydd mewn coffadwriaeth tragywyddol. Eithr yr urddas mwyaf a allwn ni wneuthur iddynt hwy, ydyw dilyn eu efampl dda, ddysgu ganddynt wrol­deb Ghristianus a mawrfrydigrwydd, ofni Duw yn fwy na dyn; Y Duw Math. 10. 28. yr hwn y ddichon ddistrywio enaid a chorph yn uffern, yn hytrach na dyn yr hwn y ddichon ladd y corph, eithr nid all es lâdd yr enaid, garu Duw yn fwy na'r holl fyd, i fod yn fodlon i ymadael a'r cwbl er mwyn Christ, i ri ein heinioes i lawr er mwyn Christ, i golli 'r cwbl i achub ein heneidiau, ac i ynnyll Tragywyddol­deb. Yma mi a ddibenna ag ang­horiad rhagorol St Augustin, Gan hynny, f▪ odyr, pa beth a wnawn ni? Pa beth? Pa beth ynteu, medd ef, ond adnewyddu ein bucheddau tra caffom ni amser: Lle gwnaethom [Page 284] ar fai, gwneuthur felly byth ond hynny; bod yn ddynion newyddd▪ Fel na ddichon y peth a fygwthiwyd, ac a ddaw yn ddiammeu ar y dyni­on drygionus annuwiol, syrthio ar­nom ni; nid o herwydd na bydd i ninnau fod, ond o herwydd na bydd i ni fod yn gyffelyb iddynt hwy. Pa beth bynnag y yscrifennwyd yn yr ysgrythur, y yscrifennwyd er mwyn ein haddysg ni, lleferydd Duw ydyw. Dal sulw, a gwna 'r goreu o'r hyn a ddarllennych. Beth bynnag à ddioddefom ni yn y bywyd hwn, nid yw ond gwialen esmwyth ein truga­roccaf Dad, yr hwn sydd yn ein ceryddu ni yma, megis eu blant an­wyl, fel na byddo i ni yn ol hyn gael ein poeni gyda 'r damnedig. Pa ham gan hynny y mae ysgafn flinderau y bywyd hwn yn ymddangos mor ofi­dus i ni? Pa ham na byddwn ni, ie, yn brawychu ac yn crynu rhag ofn, pan fyddom yn clywed son am danynt? Y dioddefiadau mwya go­sidus o'r bywyd hwn, os barnwn ni hwy yn iawn, ynt fychan ddigon, it mewn gwirionedd, yn gwbl ddiddim, o'i cyffelybu i'r tan tragywyddol.

Y trydydd Diben.

YM mysg Christionogion, Duw yn gwybod, y mae llawer iawn naill a'i yn credu nad oes na nef nac u­ffern, neu ped faent hwy yn gwir gre­du hynny, bucheddent yn ddiammeu yn amgenach nag i maent. Megis ynghylch y cyfryw ddynion, gellir gofyn yn gymmwys iawn y qwestwn hwn; Eithr Mab y dyn pan ddel, a Luc. 18. 8. gaiff efe ffydd ar y ddaiar? Y mae rhai y chwennychant gael eu tybied yn wir ffyddloniaid; Hwy a gyfad­defant a'i geneuau hynny yn siccr, eit hr lledrithio y maent yn eu calon­nau dau-ddyblyg: Os coelir i'w geiriau, hwy a gerddant am wir ffyddloniaid; Eithr os holir eu buche­ddau nid elliŕ eu hystyried hwy ddim gwell nac anffyddloniaid. Ni fedd y liant hwy un amser am Dragy­wyddoldeb, neu yn anfynych iawn; a phan feddyliant, nid ydynt hwy ond meddwl am dano yn unig, a dyna 'r rwbl; mewn un meddwl yr a ym­maith: ni iawn ystyriant rhyngddynt a hwy eu hunain pa beth ydyw; ni fyfyriant arno [Page 286] yn ddifrifol un amser, ni chynhyr­fant eu dalldwriaethau i osod [...] meddyliau arno un amser, ni ystwy­tha nt eu hewyllys a rhueddgarwd eu meddyliau i ymofyn am da [...] un amser, ni ddwys argrapha [...] ef yn eu meddyliau un amser, megis y gallent hwy felly ei gofio. Prin y de­chreuant hwy feddwl am dano, na by­ddo eu meddyliau yn rhyw le arall yn ddiattreg, bwriad eu meddyliau sydd yn gweithio ar ryw beth heb law hynny. Ac os ar amser yn y byd y cyfyd rhai gwreichion o ddefosiwn a deisyfiadau duwiol yn eu calonnau, hwy a ddiffoddir ac a degir yn ddi­attreg a gofalon y byd hwn, a lliaws o drafferthion, a budd neu a difyr­rwch a'r cyffelyb. Ac mal hyn (ddynion gresynus) y maent yn cau eu clustiau a'i llygaid, ac yn rhedeg megis gwedi eu mwgydu yn y ffordd sydd yn arwain i farwolaeth Dragy­wyddol heb ofn na deall. Y Tadau sanctaidd y ddaliasant sulw ar y Glwth yn yr Efengyl, na chododd ef i fynu ei lygaid un amser, nes iddo fod mewn poenau: Yr oeddynt gwe­di eu cau rhag y tlawd, a rhag pob duwioldeb tra bu fyw; Nid ago­rodd [Page 287] ef monynt, nes iddo fod yn u­ffern, pan oedd hi yn rhy ddiweddar. Ac nid oes dim rhyfeddod fod cym­maint o ddynion yn rhedeg megis mewn mwgwd i dy y lladdedigion a gofid Tragywyddol: Canys y mae 'r ffordd yn ddigon chang a hyfryd, yn wastad ac yn deg; y mae yn anhawdd i un ei cholli, nid oes dim arswyd myned ar gyfeilorn hyd oni ddelo i'w phen eithaf. Y pryd hynny feddeall ei fod yn llwyr allano'r iawn ffordd hyd yr amser yr oedd yn siwr­neio; y pryd hynny, meddaf, pan nad mor dychwelyd yn ol drachefn. Llawer a fyddei yn ddigon bodlon i'r ffordd hon, ped fai hi heb ddiben i­ddi. Canys er ei bod yn ddifyr i'w bwrw, y mae ei diben yn resynus: Ac am hynny y maent hwy yn gwneuthur yn gall, y rhai ynt yn ga­del y ffordd fathredig, ac yn siwr­neio rhagddynt yn y llwybr disathre­dig; y rhai a ddewisant fyned yn hytrach rrwy fieri a drain i Bara­dwys Tragywyddol, na thrwy Bara­dwys hyfryd i garchar Tragywyddol; y rhai ymroesant rhyngddynt a hwy eu hunain yn eu meddyliau, i dorri trwy bob anhawsder, ac yn cyftif [Page 288] yn well fyned rhagddynt tan wylo a galaru yn llwybr cyfyng iechyd wn­aeth, yn hytrach na chwerchin a gor­foleddu yn ffordd ehang distryw. Gwir iawn yw yr hyn y mae Job yn ei ddywedyd, Fel y derfydd y cwm­mwl, Iob. 7. 9. ac yr â ymmaith, felly 'r hwn sydd, yn desgyn i'r bedd, ni ddaw i fynu mwyach. Ni ddychwel mwy iw dy, a'i lê nid edwyn ef mwy.

Y pedwaredd Diben.

PWy bynnag sydd yn arfer odde­sgyn i ddyfnder ystyriaeth▪ difri­fol Tragywyddoldeb, fe fydd cyn bel­led oddi wrth fyw yn benrhydd ac yn nwyfus, ac y bydd yn anhawddi weled ef yn chwerthin un amser o ddyfnder ei galon. Dalied sulw at gymmaint ag y gyfodwyd oddiwith y meirw, ac y droed i fywyd drachefn, ni welwyd monynt un amser erioed yn chwerthin. Yn neillduol ar La­zarus o Bethania daliwyd sulw, yr hwn yr oedd Christ yn ei garu. Ga­llei ef a nhwythau cymmaint ag y [Page 289] gyfodwyd oddi-wrth y meirw ddy­wedyd gyda 'r Pregethwr y gwi­rioned, Mi a ddywedais am chwer­thin, Prege. 2. 2. yn fyd yw: Ac am lawenydd pa beth a wna? Nid heb achos y mae Cyril o Alexandria yn cyfaddef ei hun yn hyn yma ei fod ef yn ofnus; Canys efe sydd yn dywedyd fel hyn, y mae arnaf ofn uffern a'i chospedi­gaethau, o herwydd nad oes diwedd iddyd. Oh na baent ddoethion, na Deut. 32. 29. ddeailent hyn, nad yftyrient eu di­wedd!

Y neb bynnag nid yw yn gwellhau wrth yr ystyriaeth ar Dragywyddoldeb (anturiaf ddywedyd yn hyf, ac yr wyf yn meddwl y gallaf ddywedyd hyn­ny am wir) naill a'i nid oes ganddo ddim ffydd, neu os oes ganddo beth ffydd, nid oes ganddo ddim calon, neu (bwrw i'r goreu) nid yw hi ond calon gwedi marw, ac heb ddim ymwrandawiad. Gair digrifgall gwr dysgedig ydoedd hyn, Mai cân serr felus oedd priodas, ond bôd iddi hi ddiwedd hirllaes alaethus: Felly am ddigon gwir, ni allwn ddywedyd am yr holl ddifyrrwch yr ydym yn ei gymmeryd mewn pechod, [Page 290] mai cân serr lawen ydyw, ond ei bed hi yn diweddu mewn galar a chwyn­fan; neu yn hytrach can ferr yw o ran yr amser, ac o ran y don yn felus tra parhao: Canys ar byngciau a gobyngciau plethedig o lawenydd a gorhoen y mae hi yn rhedeg. Eithr y mae yr amser yn newidio yn ddi­symmwth, a newid a wna 'r don. Canys heb orphwyso un gronyn can­lyn a wna cêd a hiraeth tristwch a galar a yr hyn nid ellir ei fesur ag amser yn y byd. O blegit poenau uffern ynt Dragywyddol. O Tra­gywyddoldeb, Tragywyddoldeb, Tra­gywyddoldeb.

Y Pummed Diben.

PA beth bynnag a siaradwn ni am Dragywyddoldeb, ni a siaradwn gydâ 'r lleiaf bob amser; Eithr nid allwn siarad yn ormod am dano ef byth. Ni chyrraedd beth bynnag a ddywetpwyd am dano ef, ni ddichon geiriau yn y byd ei draethu, na ffi­gurau yn y byd ei fwrw, nac amser yn [Page 291] y byd ei fesur. Canys o'r anian hwn y mae Tragywyddoldeb, cym­merwch oddi-wrtho y maint y fyn­noch, yr un faint yw efe yn wastadol. Nid ydys nag yn ei angwhanegu ef trwy ddodi atto, nac chwaith yn ei leihau ef trwy dynnu oddi-wrtho. Bwrw pe tynnyd oddiwrtho cym­maint o flynyddoedd ac sydd o sêr yn yr wybren, defnynnau yn y mor, tyfod ar lan y mor, dail ar y coed, gwellt yn y maes, mymrynnau ym mhelidr yr haul, llwch ar y ddaiar; Pa faint fyddei yn ymaros? cymmaint ag oedd cyn y tynniad oddi wrtho. Bwrw fod cymmaint a hynny o fly­nyddoedd gwedi eu dodi atto: Pa faint y fyddei y pryd hynny yn yma­ros tros ben? Cymmaint ag oedd cyn y dodiad atto: Nid yw 'r swm o'r cwbl na mwy na llai, na 'r hyn ydoedd, hynny yw, Tragywyd­doldeb.

Cyhyd ag y bo Duw, cyhyd a hynny y bydd i'r damnedig gael eu poeni. Mi a wasgodais allan o'r blaen hyn yma trwy rai cyffelybiae­rhau, a thebygoliaethau, at y rhai mi a ddodaf un allan o Bonauentur ang­whaneg. Ped fai un o'r damne­dig, [Page 292] medd ef, yn wylo yn y modd yma, ac na byddei iddo ollwng i lawr ond un deigr mewn cant o fly­nyddoedd, ac i'r dagrau hynny gael eu cadw ynghyd cymmaint a hynny o gantoedd o flynyddoedd, nes y go­gyhydeddent ddefnynnau 'r Mor: Och! Och! (nid i grybwyll am y mor) Pa nifer o fyrddiwnau o fly­nyddoedd y fyddei yn angenrhaid eu myned heibio cyn y gallent hwy wneuthur un afon fechan? Neu os byddei iddynt o'r diwedd wneuthur o'r dagrau fôr hoslhawl, etto y pryd hynny gellyd yn un wedd ddywedyd yn uniawn am hynny; Mai yn awr y mae Tragywyddoldeb yn dechreu. Ac os efe a wylei yn ol yr un modd drachefn nis iddo wneuthur mor arall. Etto hefyd y pryd hyn gellyd dywedyd am hynny drachefn mor uniawn ag o'r blaen, Mai yn awr y mae Tragywyddoldeb yn dechren: Ac oddi yno yn myned rhagddo yn dra­gywyddol. Na fydded i neb unwaith ammeu y gwirionedd o hyn: Ca­nys nid oes rhwng yr hyn sydd yn annherfynol gyfladdrwydd yn y byd. Eithr hyn a ymddengys yn rhyfe­ddol [Page 293] ac yn ddieithr ini o herwydd na ddichon bwriad ein meddyliau ei amgyffred: Ymestyn i'r hyn sydd mor anghysbell ni ddichon; na threi­ddio i'r hyn sydd yn annherfynol; canys anhydraidd yw. A hyn yw 'r achos fod ein dalldwriaeth ni mor anhawdd ei dynnu i'r ystyriaeth ar Dragywyddoldeb: Oblegid ei fod ef mewn modd yn gwladeiddio ac yn cywilyddio, neu onid yw hynny, nid yw yn gallu o ran digllonedd ddio­ddef blino ei hun yn ymofyn am yr hyn ni ddichon gael ei hanes. Eithr bwriwn ymmaith y llednei­srwydd ynfyd cywilyddus hwn, a chym­mellwn ein dalldwriaeth i ddyledus ddifrifol ystyriaeth ar Dragywyddol­deb, ac arferwn fyfyrio yn wastadol ar y cyfryw gyffelybiaethau, ac y ddi­chon mewn rhyw fodd ei wasgodi allan, a'i gynnyrcholi i ni: Ac ni wnawn ni byth felly ar fai. Dywe­dwn a allwn, meddyliwn a fyn­nwn, bwriwn yn ein meddyliau cymmaint a hynny o fyrddiwn o fyrddiwnau o flynyddoedd, ac y fo possibl i feddwl dyn eu hamgyffred; ni bydd i ni er [Page 294] hynny gyrraedd hyd a mesur Tra­gywyddoldeb▪ Y mae blynyddoedd Tragywyddoldeb yn fwy o lawer, ie yn aneirif mwy.

Y Prophwyd Daniel sydd yn a­rwyddoccau mesuriad a hyd anfesu­redig Tragywyddoldeb yn y geiriau hyn, A'r doethion a ddiscleiriant fel Dan. 12. 3. discleir deb y ffurfafen, a'r rhai a droant lawer i gyfiawnder a fyddant fel y sêr, byth yn dragywydd. Dal di sulw ar y geiriau hyn, Byth yn dra­gywydd. Yr un modd a phed fuasei yn dywedyd, nad oedd geiriau yn y byd yn ddigon i egluro naturiaeth Tragywyddoldeb. Byth yn dragywydd y mae. Dyna 'r cwbl a fedrafi ddy­wedyd am dano: Er bod o herwydd ei naturiaeth ef ei hûn fwy i'w ddy­wedyd; er hynny nid ydwyf o'r ga­llu i adrodd angwhaneg. Dal di su­lw ar ei Auxesis ef (sef ei angwhane­giad) neu ei gynnyddiaeth ef a mwye­digaeth;) Byth hynny yw, tros Dra­gywyddoldeb: Eithr nid yw ef yn tybied hynny yn ddigon, ac am hyn­ny mae yn ei ddyblu, Ag yn Dra­gywydd. Ac etto mae yn ei egluro yn gyflawnach yn y Lladin, yn y geiriau hyn, In perpetuas Aeternita­tes, [Page 295] Hyd tragywyddolderau Tragywy­ddol: Dal sulw yma nad yw ef yn dywedyd, in Aeternitatem, hyd Tra­gywyddoldeb yn unig, yn y rhif unig; eithr in Aeternitates hyd Tragywy­ddolderau, yn y rhif lliosog, fel pe na buasei un yn ddigon: Nid yw ef yma yn gorphywys chw­aith mewn annhrefn yn dywedyd▪ hyd Tragywyddolderau, Ac etto nid yw ef yn angwhanegu neb ryw am­ser terfynol, o herwydd na ddichon neb ei ddatgan, eithr un annherfy­nedig, Tragywyddol, hyd Tragywyddol­derau Tragywyddol neu annherfynede­dig. Yn awr os yw un Tragywyddoldeb yn ddi-ddiwedd, pa beth yw dau? Pa beth yw deg? pa beth yw cant? Pa beth yw aneirif? Pettem ni yn llios ddyblygu y flwyddyn fawr, neu fly­nyddoedd o'r unrhyw fil o weithiau, ni ddoe hynny i gyrraedd y torriad lleiafy mmaith oddi wrth nifer anci­rif Tragywyddoldeb, yr hwn nid ellir ei leihau. Y maent yn dywedyd fod yr wythfed nefol Bêl neu Wybren yn symmud yn araf ryfeddol allan o bob cyffelybiaeth: Canys er ei bod hi beunydd yn cael ei chwyldroi o am­gylch trwy symmudiad cyflym y [Page 296] Cyngynhyrfydd, er hynny nid yw hi yn gorphen ei chylch priodol ei hun ond unwaith mewn un mil ar bymtheg ar hu gain o flynyddoedd, a'r yspaid hyn o amser y maent yn ei alw y flwyddyn fawr, neu flwyddyn Plato. Eithr cymmharwch hon a Thragywyddoldeb, a hi ni ymdden­gys ei bod ond moment, ond y dim lleiaf o amser, ond munud, ond di­ddim mewn gwirionedd. Ymadrodd gwir o eiddo Boetius yw hyn, fod y dim lleiaf neu 'r myrmyn o amser, a dengmil o flynyddoed yn cadw gwell cyfladdrwydd o'i cymmharu a'i gi­lydd, nc y mae dengmil o flynyddo­oedd a Thragywyddoldeb. Eithr gwrando beth y mae St Joan yn ei ddy­wedyd, O blant bychain, yr awr ddiwe­ddaf ydyw. A hyn y ddywedodd ef erIoan. 2. 18. ys mil a chwechant a thri-ugain nihlynedd. Gan hynny mae 'r hyn y mae St Augustin yn ei ddywedyd yn ddigon gwir, beth bynnag sydd ag iddo ddiben, nid yw hwnnw ond byrr. Gair ydyw Tragywyddoldeb ni chyn­nwys ynddo ond pump o silla fau, er bynny peth diddiben ydyw. Gan hyn ny dyro dy serchar Dragywyddoldeb, [Page 297] gad i Ghrist fod dy ddibē, a chei deyr­nasu gyda Christ yn ddiddiben.

Y chweched Diben.

NId peth i'w gredu yw, y dichon neb ryw ddyn y fyddo ganddo ddim blas ar wir grefydd gael ei ddwyn ymmaith felly cyn belled gan wynniau afreolus anllywodraethus (Oni bydd ef cyngddrwg ag anifail y reolir yn unig â rheswm, ac y wa­sanaetho ei chwant anianol yn unig: Canys y dyn drygionus annuwiol, ie y pryd hynny pan fyddo agos gwedi ei lyngcu gan y pwll dyfn, yn yr hwn y tarawodd ei bechodau ef yn wysg ei ben tan y dwfr, ie, y pryd hynny, meddaf, nid yw ond chwerthin am ben hynny, nid yw yn prisio yn hyn­ny) Nid peth i'w gredu ydyw meddaf, y dichon un dyn y fyddo ganddo neb ryw grefydd yn y byd o'i fewn, gael ei ddwyn ymmaith felly cyn belled gan ei bendew a'i ben­rhydd wynniau, na threuliai bob dydd ran awr yn myfyrio ar Dra­gywyddoldeb, ie o myfyriai ond un­waith yn yr wythnos yn ddifri­fol ar hynny, efe a wellhau [Page 298] ei foesau, efe a newidiai drefn ei fuchedd i well, efe yn ddiammeu a brifiai yn dd, n newydd: O ddyn balch a brifiai yn ddifalch ac yn ostyngedig; O ddyn digllon, efe a brifiau yn addfwyn ac yn hynaws; O ddyn aflan, efe brifiau yn ddiwair ac yn ymattalus; O ddyn meddw, fe brifiau▪ yn sobr ac yn dymmherus. Efe ymwisgai oddi fewn nid oddi al­lan a gwisg gwir grefydd y gwr duwi­ol. Ef a brifiau yn gyfryw un nid mewn dillad ac ymadrodd oddi allan, eithr mewn calon a hoffedd oddi fewn. Ac nid ae yn fyrbwyll ac mewn gwall gyngor, yn ysgafn ag yn esceu­lus ar hyttynt oll ar unwaith ac yn ddisymmwth o'r naill eithaf i'r llall: (nid yw y cyfryw gyfnewidiad yn dda, na chwaith ni pharhant yn hir.) Eithr fe iawn holei 'r peth eilwaith a thrachefn, rhyngddo ag ef ei hun, ef a'i hystyriai yn dda, fe sefydlai ei feddyliau difrifol arno; fe ddadtrei­glai Dragywyddoldeb, Tragywywyddol­deb, Tragywyddoldeb yn fynych yn ti feddwl: Yr hwn ni therfyna byth, ni ddibenna byth, ni ddiwedda byth; yr hwn a barhâ trwy 'r oesau anei­rif, diamgffyffred, annherfynedig. [Page 299] Hynny a wnae gyd ag ystyriaeth ac ymwrandawiad; A chnoe hynny yn fynych, yn yr un modd a'r anifeili­aid yn cnoi eu cil. Bwyd er cy­stadl ac jachused byth fyddo, oni chnoir ef tan y dannedd, ei ddarparu yn y genau, ei dreulio yn y cylla, ei droi yn waed, a'i ddosparthu trwy 'r gwithi i holl rannau 'r corph, y diydd yn wenwyn yn hytrach nag yn faeth, i fagu pob math ar glefy­dau: Ei attal a wneir weithiau yn y corph ysgatfydd, ond mae hynny yn gwneuthur mwy o ddrwg nag o dda; Gwelly fyddeio lawer iawn ei fod allan nag i fewn. Yn unwedd felly y mae ymeddyliau am Farwolaeth, Barn, Nef, ac uffern, yn dda ac yn iachus, yn dduwiol ac yn sanctiaidd▪ Eithr nid oes yr un cystadl a'r meddwl am Dragywyddoldeb, yr hwn y ellin yn deilwng ei alw y Purion. Eithr megis y mae gyda bwyd, nid yn unig y cymmeriad o honaw yn y genau, ond y treuliad da hefyd arno yn y cyila, ei droad yn waed da yn yr afu, a'i ddosparthiad i'r holl rannau trwy 'r gwithi, sydd, yn maethu 'r corph: felly y mae gyda 'r meddyliau gwerthfawr yma am Farwolaeth, Barn, Nef, Uffern, a Thragywyddoldeb: [Page 300] Nid y myrfyrdod yn unig arnynt, ond y difrifol fyfyrdod arnynt rhyng­ddom â ni ein hunain; gan osod o'r neilldu bob gofalon a thrawsdynnia­dau bydoi; yr iawn ystyriaeth arnynt yn ein calonnau, a'r mynych gnoi'r cil arnynt, dyna 'r hyn sydd yn por­thi ag yn maethu 'r enaid. Oni wneir hyn yma nid yw y relyw ond i ychydig amcan: Heb hyn yma mae 'r darllenniad o'r ysgrythur lan yn unwedd yn ddiffrwyth; Y gwran­dawiad o bregethiad y gair yn an­fuddiol. Y mae llawer yn fynych yn gwrando pregethau, yn darllain yr ysgrythur lan trosti a throsti dra. chefn; Ac etto nid yw hynny yn gwellhau mor llawer arnynt, oblegid nad yd ynt hwy yn myfyrio ar yr hyn y ddarllennasant ac y glywsant. Pan fyddant yn gwrando, yr hyn sydd yn dyfod i mewn i'r naill glust, sydd yn myned allan i'r llall: Pan fy­ddant yn darllain, cyn gynted ag y bo yllygad oddi ar y llyfr, yr hyn y ddar­lennasant fydd yn llithro yn fuan allan o'i cof Cyn y gallant arfer yr hyn y ddarllennasant neu y glywsant, byddant gwedi llwyr [Page 301] anghofio yr hyn y ddylassent ei wneuthur. Gan hynny os nyni y ddarllennwn neu y wrandawn yn fu­ddiol, rhaid i ni dreulio peth am­ser yn myfyrio ac yn ystyrio beth y ddarllennasom ac y glywsom rhyng­om a ni ein hunain. Gallwn ddysgu 'r wers hon gan y forwyn fendigedig Mam ein harglwydd, Eithr Luc. 2. 19. Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon.

Y seithfed Diben.

YChydig neu neb y gredant, neu onid yw hynny, y ddeallant ac ystyriant yn dda rhyngddynt a hwy eu hunain y geiriau hyn o eiddo Christ, Ewch i mewn trwy 'r porth Math. 7. 13. cyfiag: Canys ehang yw 'r porth a llydan yw 'r ffordd, sydd yn arwain i ddestryw, a llawer yw y rhai sydd yn myned i mewn trwyddi. Oble­gid 14 cyfing yw 'r porth a chul yw 'r ffordd, sydd yn arwain i'r bywyd, ac ychydig yw y rhai sydd yn ei chael hi. Y mae ein Jachawdur [Page 302] yn ail adrodd hyn drachefn trwy▪ enau St Luc, Ymdrechwch am fy­ned Luc. 13. 24. i mewn trwy 'r porth cyfyng. Ca­nys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac nis gallant. Y mae St Augustin yn dywedyd▪ Pwy byn­nag sydd yn gwatwar y stydd hon, ac am hynny ni chred oblegit nad yw ef yn canfod: Pan ddelo yr hyn nid oedd yn ei gredu i ben, fe a gy­wilyddir ac a wradwyddir, efe a wra­dwyddir ac a ddidolir oddi wrth y bendigedig; ese a neill duir oddiwrth y gwynfydedig, a'i gyfran afydd gyda 'r damnedig.

Hieronymus Platus sydd yn son am ryw wraig oedd yn clywed Bertoldus gwr galluog yn y pulpyd, yn cablu yn groch iawn ac yn fustlaidd ar▪ y pechod y gwyddei hi ei bod yn, eu­og o honaw, a gwympodd i lawr yn farw yn yr Eglwys; Ac ymmhen ennyd trwy fendith Duw ar we­ddiau y gynnulleidfa (gwedi iddi ddy­fod atti ei hun drachesn,) y adro­ddodd iddynt y peth y welsei hi yn ei llewig, gan ddywedyd fel hyn, Tybygwn fy mod yn sefyll ger bron brawdle Duw, a thri-ugain mil o encidiau angwhaneg gyda mi, gwedi [Page 303] eu galw ynghyd o bob parth y byd, i dderbyn eu barn ddiweddaf: a'i bwrw hwy oll a wnaed yn euog▪ a'i barnu i boenau Tragywyddol, ond tri yn unig. Fe fyddei anhawdd gennif goelio adroddiad y wraig hon, oni bai fy mod yn credu gwi­riad difrifol Christ yn yr Efengyl, Ehang yw 'r porth, a llydan yw 'r ffordd Math. 7. 13. 14. sydd yn arwain i ddestryw: A thra­chefn, cyfyng yw 'r porth, a chul yw 'r ffordd sydd yn arwain i'r bywyd, ac ychydig yw y rai sydd yn ei chael hi. Hyn y ddichon ymddangos yn ddi­eithr i gig a gwaed y byddei i Dduw. Tad y trugareddau roi barn a bwrw yn euog gymmaint a hynny, nid wyf yn dywedyd tri-ugain mil, eithr tri­ugain mil o filoedd. A pha ddyn y gredai hyn, oni bai i'r gwirionedd o hynny ei annog ar yr ystyriaeth o benllywodraeth a mawrhydi anfeidrol Duw yr hwn a anfoddhawyd, a ma­lais annhraethol y pechod y wnaed; a'r tystiolaethau eglur o'r ysgrythur trwy rhai y mae hynny gwedi ei brofi yn oleu? Y mae Job yn crynu wrth hyn gan ddywedyd, Tîr tywy­llwch Iob. 10. 22. fel y fagddu, a chysgod angeu, a heb drefn: lle y mae y goleuni fel y tywy­llwch, [Page 304] neu yn ol y lladin, lle heb drefn, lle y mae trigfa gerwindod tragywy­ddol. Cynny yn helaeth y mae St Ma­thew yn ei wirio yngeiriau ein Ja­chawdur, Ewch oddi wrthyf rai mell­digedig Math. 25. 41. i'r tân Tragywyddol. Ga­dewch i ni ystyrio y pethau hyn yn dda rhyngom a ni ein hunain, a gol­chwn ymmaith ein pechodau tra caffom ni amser â dagrau edifeirwch, rhag ofn 'i Dduw ein cippio ym­maith yn ddisymmwth, a rhoddi i ni ein cyfran gyda 'r rhagrithwyr yn yr ustern bwll heb waelod, lle nad oes dim ond wylofain a rhingcian dan­nedd, lle na bydd y pryf farw byth, ac ni ddiffydd y tân yn dragywydd: O'r fan honno meddaf, nid oes un ymwared; a thrachefn meddaf) un ymwared, nac oes, na neb ryw gyssur yn y byd, na chymmaint a defnyn back o ddwfr oer. Os y duwiol eu hunain y rhai ynt mewn cyflwr gras ac mewn ffafor a Duw; meddy. liau a dymuniadau y rhai ynt dda, o's medrant hwy, meddaf, jawn­ddeall o ba poenau gorthrwm y bydd iddynt gael eu gwaredu a'r ddydd farn, ac i ba lawenydd annraetha­dwy [Page 305] ac annealladwy yr ant; yn ddi­ammeu ni arferent ddiweddarwch yn y byd, ni ollyngent un awr i fyned heibio, eithr cymmerent yn ddioed eu cennad oddi-wrth bob gwa­gedd, ymwrthodent a'r byd, a gada­went i'r marw edrych am y marw: Eithr byddent bob awr beunydd yn dda eu gwaith yngylch masnach eu meistr, bob amser yn astudio i ryngu bodd Duw, gan ei foli a'i glod▪ fori bob amser am ei ddaioni a'i drugaredd tu ag attynt, yn eu ben­dithio mewn rhan yma yn y byd hwn, ac yn rhoddi iddynt adde­wid ddinam o wynfyd trag wyddol yn y byd a ddaw, yn eu gwared oddiwrth boenau uffern, ac yn rhoddi iddynt ddyfodfa i lawen, dd y nef.

Ymadrodd St Gregori yw, mai garwaf yr ymddengys drygau 'r byd presennol hwn, pa leiaf y meddyliom am y daioni y ganlyn ar ol hyn. Ac oblegid nad yd m yn ystyrio y gwobrwyon mawr iawn y rhai y ro­ddwyd i gadw i ni, am hyn­ny y cyfrifwn gystuddiau y byd hwn yn orthrwm i'w dioddef: [Page 304] [...] [Page 305] [...] [Page 306] Pan os ny ni a dderchafem ein ca­lonnau, a chyfodi ein meddyliau i synniedigaeth y pethau hynny ynt Dragywyddol, ac heb fôd yn ddaro­styngedig i neb ryw gyfnewidiad; os ein llygaid a fyddei gennem ar­nynt, an calonnau ynddynt, ni a fw­riem yn ddiammeu ddioddefiadau y bywyd hwn, a pha beth bynnag y mae diwedd iddo, eu bod megis di, ddim: A thrachefn llawenydd mewn cystudd sy'n gan yn y nos: Canys er ein cystuddio o'r tu allan a'r ym­wr andawiad â thrymfryd tros am­ser, etto yr ydys yn ein cyssuro ni oddi fewn a'r gobaith o lawenydd Tragywyddol.

Ynghylch yr un fath yn agos iawn y mae St Augustin yn ymresymmu, ped fait ti yn disgwyl, medd ef, wrth yr hyn a dderbynni yn ol hyn, di a gyfrifit ddioddefiadau y bywyd pre­sennol hwn oll yn salw, ac yn annhei­lwng i gyd oll o'r gogoniant a ddar­cuddir. Canys frodyr, (i lefaru am werth pethau) dylei ddyn fod yn ewy­llysgar i fyned tan boen Dragywy­ddol am esmwythdra Tragywyddol, ac i ddioddef o'i wirfodd dristwch Tra­gywyddol am lawenydd Tragywyddol. [Page 307] Eithr os y boen a'r tristwch y fyddei yn Dragywyddol, pa bryd y byddei i ddyn ddyfod i esmwythdra a lla­wenydd Tragywyddol. Gan hynny mae yn angenrhaid i'th gystudd fod yn amserol mal y gallech o'r diwedd dderbyn y gwobrwy y fydd yn Dra­gywddol. Canys crog i fynu y clo­rian, a dyro Dragywyddoldeb yn y naill ben, a mil o flynyddoedd yn y llall: I ba beth yr wyf yn dywe­dyd, mil o flynyddoedd? Je dengmil, ie can mil, ac etto yn angwhaneg mil o filoedd, y maent yn rhy ysgafn oll i gydbwyso â Thragywyddoldeb; nid oes dim cyfladdrwydd rhyng­ddynt. Ac ym mhellach etto iw gwneuthur hwy yn ysgafnach. megis y maent yn amserol; felly y maent yn fyrr hefyd ac yn ddiddim eu pa­ra, ni pharhânt ond tros ychydig au­af ddyddiau, y pryd y byddont fyrraf, neu yn hytrach ond tros un diwrnod, a hwnnw yn un byrr: sef diwrnod y bywyd hwn, yr hwn a heibio yn fu­an, a nhwythau fyddant gwedi my­ned ymmaith. Gan hynny er dioddef o ddyn hyd ei holl fywyd, ie hyd y ffun ddiweddaf, er iddo ddioddef, meddaf, poen, gofid, tristwch, carchar, [Page 308] flangellau, newyn, syched hyd ei holl fywyd, ie hyd ei ffun ddiweddaf, etto nid yw ei ddioddefiadau ond byrrion, oblegid nad yw ei fywydGen. 47 9. ond byrr. Canys dyddiau blynyddoedd ein hymdaith ynt ond ychydig, er eu bod yn ddrwg, megis y dywedodd Jacob i Pharao. A dyn a aned o wraig sydd fyrr o ddyddiau, er eu bod megis yIob. 14. 1. mae Job yn achwyn, yn llawn o helbul. Ac wele, medd Dafydd▪ Gwaaethost Psal 39. 5. fy nyddiau fel dyrnfedd a hyn nid yw ond mesur byrr, ac etto mae yn myened ym mhellach) a'm heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di. Ac megis y mae ein heinioes yn ferr, felly y mae ein cystudd yn ysgafn, eithr y mae yn odidog ragorol yn gwei­thredu 2 Cor. 4. 17. tragywyddol bwys gogoniant i ni: Pan ddarfyddo y bywyd byr a'r boen ysgafn hon, ni a gawn etifeddu bywyd tragywyddol a Theyrnas Dra­gywyddol a gwynfyd Tragywyddol: fe an gwneir yn gydradd a'r An­gylion,Rhu. 8. 17. etifeddion i Dduw a chyd­etifeddion a Christ. Oh! mor fawr yw ein gwobrwy am cyn lleied o boen! A thrachefn, medd Augustin mewn man arall, Meddyliau Duw ynt [Page 309] ddwfn iawn. Ym mha le y mae meddwl Duw? A pha beth yw ei amcan? Y mae yn gadael yr awen­nau yn llacc tros yr amser presen­nol, a chwedi h nny ef a'i deil hwy yn dynn. Na ymlonna ac na ddi­fyrra dy hun fel y pysgodyn yn y dwfr, yr hwn gwedi iddo gaffael yr abwyd yn ei safn sydd yn chwa­rau i fynu ac i wared: Eithr gwedi ei daro yn ei fant a'r bach dichon y pysgodwr ei dynnu i fynu pan fyn­no. Yr amser yr hwn sydd yn ym­ddangos i't yn hir, nid yw mewn gwi­rionedd ond byr, ie byr jawn. Ca­nys pa beth yw einioes dyn gwedi eu chymmharu a Thragywyddoldeb? A chwenychit fod yn ddioddefgar, ac yn dda dy ymmynedd? Ystyria dithau Dragywyddoldeb Duw: Wyt ti yn ystyrio dy ddyddiau dy hun yn unig y rhai ynt ychydig a byrri­on, ac wyt yn meddwl mai ynddynt hwy y cyflawnir y pethau oll? Y byddei i'r drygionus gael ei gon­demnio, a'r duwiol ei goroni? A fynnit gael cyflawni y pethau hyn oll yn dy ychydig a'th fyrrion ddyddiau? Duw a'i cyflawna yn ei amser ei hun. [Page 310] Duw sydd Dragywyddol, Duw sydd ddioddefgar, a da ei ymmynedd: Ac yr wyt ti yn dywedyd, ond ni fedraf mor bod yn ddioddegfar ac yn dda fy ymmynedd, oblegit nad wyf Dragy­wyddol, Eithr di elli fod os mynni, ond cyssylltu dy galon wrth Dragy­wyddoldeb Duw, a bydd i tithau fod yn Dragywyddol gydag ef. Os y­dwyt Gristion da gwedi dy athrawiae­thu yn jawn yn ofn yr Arglwydd, yn ddiammeu di a ddibenni ddarfod i Dduw rag-cadw 'r cwbl i'w farne­diga ethau ei hun. Trallodir a chy­studdir y gwyr da a duwiol: Canys mae Duw yn eu ceryddu megis eu blant ei hun. Eithr ni ddaw y cy­fryw drallod a chystudd ir gwyr dry­gionus annuwiol: Canys mae Duw yn eu taflu hwy ymmaith, ac yn eu condemnio megis estronniaid. Gan ryw wr bydd dau fab, y naill y fydd ef yn ei geryddu, a dioddef y bydd ir llall fyned yn ddigerydd: efe a ger­nodia 'r naill, ac a'i chwistringa, ac ai fflangella yn ebrwydd, er nad elo yn neppell allan o'r ffordd▪ gwnaed y llall waetha gallo, ni chlyw ef son am hyn, ni cheryddir monaw cymmaint ag un waith am hynny. [Page 311] Pa beth yw 'r achos? Etifedd y tâd yw 'r hwn y gospir; a dietifeddu y mae ef yr hwn sydd yn myned yn ddigosp. Canys pa beth a wnae 'r tad? Gwe­led y byddei nad oedd dim gobaith o honaw, a'i fod wedi myned yn rhy­bell o ras, ac am hynny yr oedd ef yn ei adael yn llonydd i wneuthur y peth a fynnei. Eithr etto er hynny igyd, y mab y gospir yn fynych am y camwedd lleiaf, sydd yn barod i alaethu ac i gwynfan ei gyflwr ei hun, ac i gyfrif ei frawd yn ddedwydd sydd yn myned yn ddigosp. Fe fydd, meddaf, oddieithr i Duw roddi iddo galon gall ddeallus, i adnabod yt hyn a weithia i'w ddaeoni: Bydd yn gymmwys ganddo, meddaf, ddywe­dyd yn ei galon, bydd fy mrawd yn dilyn pob trefn ddrwg, yn cymme­ryd ei ddifyrrwch, yn afradloni 'r hyn sydd ganddo i fyw, yn gwneuthur yr hyn sydd dda yn ei olwg ei hun; fe sydd yn torri gorchymynion fy nhad yn wastadol, ac efe ni ddywed un amser air hagr wrtho am hynny. Eithr yn y gwrthwyneb y mae 'r mat­ter gyd a'm fi, os afi allan o'r golwg dippin bach, os af ond i'r ty nessaf, os lled trof gam, neu syflyd ond troed­fedd, neu fodfedd allan o'm ter­fynau, [Page 312] fe'm geilw i mewn qwestiwn yn eberwydd, syrra, ym mha le bu­och chwi? Ni bydd i mi obaith am bardwn, caf yn siccr ddolurio am hynny. Dyna fy nghyflwr i. Ac, meddafi, yr wyt ti mewn gwell cyflwr nath frawd o lawer; ac onid ydwyt yn angall, dithau a feddyli felly he­fyd: Canys gan dy fod yn cael dy geryddu, arwydd yw mai anwylach wyt ti. Os meddyli yn unig am dy gyflwr presennol, ni ddichon ef na ynddangoso i't yn ofidus: Eithr os ydyw dy lygad ar yr etifeddiaeh yr hon a rag-cadwyd iti, drachefn nid all ef na ymddangoso i't yn llawenydd. Canys y siccrwydd am dy wobrwi ddyfod a lywr gymmer ymmaith yr ymwrandawiad o'th ofid presen­nol.

Gellir angwhanegu yma allan o'r un tad crefyddus yr hyn sydd yn can­lyn, megis yn swm o'r cwbl a ddy­wedpwyd hyd yn hyn. Mor fawr a rhyfeddol yw trugaredd Duw! Nid yw ef yn dywedyd cymmer boen tros ddeg can mil o flynyddoedd tunty; nac etto, un mil o flynyddoedd; nac etto bum-cant o flynyddoedd. Eithr pa faint? cymmer boen tra byddych [Page 313] fyw: Nid yw hynny ond tros ychy­dig flynyddoedd; A chwedi hyn di a gei esmwythdra: y cyfryw esmwyth­dra ac na bo iddo ddiwedd. Ysty­ria hyn yn dda rhyngot a'th di dy hun, nad ydys ond rhoi arnat gym­meryd poen tros ychydig flyny­ddoedd, ac nid wyt ti ynghanol dy boen heb beth llawenydd, nid oes un diwrnod yn myned heibio yn yr hwn nas gelli gaffael cyssur a diddanwch. Eithr na lawenha yn ol dull y byd; ond fel y mae 'r Apostol yn cyngho­ri, Llawenhewch yn yr Arglwydd yn Phil. 4. 4. wastadol: A thrachefn, Meddaf, lla­wenhewch: Llawenha yn Ghrist, Llawenha yn ei air, llawenha yn ei gyfraith. Canys gwir yw 'r hyn y mae 'r Apostol yn ei ddywedyd, Ein 2 Cor. 4. 17. byrr ysgafn gystudd ni sydd odidog ra­gorol yn gweithredu Tragywyddol lwys gogoniant i ni. Ystyria pa brîs salw yr wyt ti yn ei roi, nid amgen na chi­byn mesen am Dragywyddol drysorau: Cibyn by boen ferr, am esmwythdra Tragywyddol. Oes gennit lawenydd tros amser? Na ymddiried yn or­mod iddo; wyt ti tros amser yn drwm ac yn drist? Na anobeithia am lawenydd a chyssur. Na âd i [Page 314] hawddfyd dy falchio, na chwaith i adfyd beri i ti ymollmwng. Fe addawodd Duw i ti fywyd Tragywy­ddol: Am hynny dirmyga wynfyd amserol. Fe a fygwthiodd dan Tragywyddol: Am hynny dirmyga bob tristwch amserol.

I ddibennu am hyn gydâ 'r un awdur crefyddus, Gadewch i ni gan hynny fod mewn cariad â by­wyd Tragywyddol; a thrwy hyn ni a ddown i wybod pa faint o boen a gymmerem ni i'w ynnill: Canys yr ydym yn gweled fod y dynion hynny y rhai ynt yn hoffi y bywyd presennol hwn, yr hwn sydd yn am­serol, ac a ddibenna ar fyrder, yn cymmeryd poen a'i holl egni, grym a gallu i'w gadw, ac i'w estyn cy­hyd ag a gallant. A diangc rhag mar­rwolaeth nid allant er hynny: Ca­nys hi a'i deil hwy ryw amser neu ei gilydd. Y cwbl a allant hwy obei­thio ydyw, cael ei throi hi heibio tros ychydig amser. Pan nessao Marwo­laeth, yno y bydd pob dyn yn cym­meryd poen yn ceisio ei guddio ei hun yn barod i roi ac i ymadael ad 'r peth a fynnyd a feddai i brynu ei fywyd. Denfyn am y pysygwr, cael [Page 315] a wna ef ei reoli ym mhob peth, efe a gy mmer ar ei law ef y peth a fynnir, efe a ddioddefa y peth a fynnir sef carthu 'r corph, gollwng gwaed, ei Gwppanu, ei yscraffinnio, a pha beth ni ddioddefa? Chwi a welwch i ba gost yr a ef, a pha boenau yn ewyllysgar a ddioddefa, i fyw yma ond tros amser byrr: Ac etto nid a ef agos i gost yn y byd, na chymme­ryd neb ryw boen i fyw yn dragy­wyddol. Od oes y cyfryw boen ac anhunedd, y cyfryw ddanfon a chyr­chu, y cyfryw redeg a marchogaeth, y cyfryw dreulio ac arofyn, y cy­fryw waith a dioddefaint i fyw yma ennyd yn hwy: Pa beth na ddio­ddefem ac na wnaem yn ewllysgar i fyw yn dragywyddol? Ac os ydys yn ei cyfrif hwy yn gall y rhai ynt yn cymmeryd cymmaint ag allant ym mhob modd o boen i droi mar­wolaeth heibio ennyd yn hwy, am fod yn anhawdd ganddynt golli ychy­dig ddyddiau: Pa ynfydion y dynt hwy y rhai ynt yn byw felly, i golli o'r diwedd y dydd o Dragywy­ddoldeb!

Ystyriwch y pethau hyn yn dda rhyngoch a chwi eich hunain, (o [Page 316] ddynion marwol, a rhag welwch y dydd o Dragywyddoldeb, pa 'r un bynnag a'i o lawenydd neu o boen, cyn iddo ddyfod. Canys er bod pob peth arall yn myned ymmaith, er hynny mae Tragywyddoldeb yn wa­stadol yn ymaros, ac nid yw ef yn cael byth fyned ymmaith.

BEN. I.
Y bennod gyntaf yma sydd yn hys­pysu y Gospedigaeth o far­wolaeth Dragywyd dol.

YR oedd gan y Messeniaid ryw garchar neu ddaiardy tan y ddai­ar yn wag o awyr a goleuni, ac yn llawn o erwindod uffernol: Yr hwn megis ac yr ydoedd yn lle ang­henol iawn, felly hefyd iddo 'r oedd er hynny enw ardderchawg, canys ef a elwid y Trysordy. Nid oedd i'r carchar neu i'r daiardy hwn ddry­sau yn y byd, yn unig un genau oedd iddo, trwy 'r hwn y gollyngyd i lawr y carcharorion wrth raff, ac [Page 317] felly fe ai ceuid i fynu drachefn â maen mawr. I'r Trysordy hwn y taflwyd Philopaemen yr Ymmerawdr mawr hwnnw o Roeg, ac yno trwy wenwyn fe ddibennodd ei oes. Y mae gan Dduw yntef (Os yw rydd i mi ddywedyd felly) ei Drysordy tan y ddaiar: Ond yn rhodd, o ba fath ydyw? O ddynion drygio­nus y mae, annuwiol, annobeithiol a damnedig.

Yr ydoedd gan Actiolinus Gor­mesdeyrn o Padua (megis ac y mae Jovius yn rhoi allan) lawer o gar­chardai mor anenwog o ran pob math ar aflwydd ac arteithiau, ac y byddei y rhai bynnag a deflyd i­ddynt yn cyfrif eu bywyd yn ad­fyd, ai marwolaleth yn wynfyd. Gallei marwolaeth ddyfod i mewn yno heb guro 'r ddor; yr oedd hi iddynt hwy mor groesawus, ac yr ydoedd yn hir ganddynt am dani. Canys eu triniad caled hwy oedd fel hyn, yr oeddyd yn eu llwytho â heiyrn, yn eu llewygu a newyn, yn eu gwenwyno a drygsawr, a phryfed yn eu▪ hyssu: Ac felly 'r oeddynt yn byw mewn modd gresynus iawn, ac or diwedd o hir nychdod marw a [Page 318] wnaent. Bernyd pawb yno yn druan jawn, ond yr hwn a fuasei farw, ac nis gallei ymwrando a thrueni yn y byd. Cospedigaeth waet h na marwolaeth oedd hyn iddynt, fod eu preswylfod ym mhlith y meirw tra byddent byw. Canys y cyrph meirw oedd yn gor­wedd ym mhlith y b w yn ben­tyrrau yn pydru yn y cyfryw fodd ac y gellyt dywedyd yn lle gwir am hyn, fod y marw yn lladd y byw.

Eithr y gwaethaf i gyd o'r car­chardai hyn, Paradwys yw a lle hy­fryd iawn, os cymmharir ef a char­chardy uffern isod. Pa drueni byn­nag a ddioddefyd yngharchar Actio­linus oedd oddefadwy yn yr ystyri­aeth yma, oblegid nad oedd o hir barhaad, gan nad oedd i barhau ddim yn hwy nag oes ferr, ac yn di­flannu ymmaith yn llwyr yn awr marwolaeth. Eithr Trysordy 'r dam­nedig, yr hwn yw carchardy Duw, sydd yn wag o bob cyssur: Artei­thiau yr hwn ynt annioddefadwy, oblegid eu bod yn Dragywyddol: Ni ddichon marwolaeth ddyfod i mewn yno, ni ddichon y rheini y­chwaith elo i mewn gael dyfod allan drachefn: Eithr eu harteithio hwy [Page 319] a wneir byth bythoedd. Byth by­thoedd? Mor ofnadwy yw hyn o beth! Eu harteithio hwy a wneir byth bythoedd. Ymadrodd gwir iawn oedd hyn o eiddo Cassido­rus, megis ag nas dichon un dyn marwol amgyffred neu ddeall pa beth yw gwobrwy Tragywyddol, felly ychwaith ni ddichon un gwr ddeall neu ddychymmyg pa beth yw artaith Tragywyddol.

Gan y Persiaid yr oedd Carchardy i'r hwn y gallei ddyn yn hawdd fy­ned i mewn, ond ar ol iddo unwaith fyned i mewn, nid allei gwedi hynny ddyfod allan, neu os doe, ni ddoe ond yn anhawdd iawn. Ac am hynny fe a'i gelwyd Lethe, sef Angof. Hawdd o beth ydyw disgyn i uffern; eithr y mae yn ammhossibl i gyd oll esgyn drachefn i fynu. A glywed son am neb erioed a ddychwelodd yn ol o uffern? Nid ydys heb achos yn galw y carchardy hwn o eiddo uffern, Le­the, sef Angof. Canys y mae Duw mor anghofus am y damnedig, ac nid yw un amser yn eu cosio i gym­meryd trugaredd arnynt. Yr ydys yn galw uffern tir Angof neu ebar­gofiad, a hynny o ran dau achos [Page 320] (megis y mae yscrifennydd duwiol dysgedig yn dal sulw) Yn gyntaf, medd ef, o herw ydd nad ydynt gwedi hynny yn cofio Duw er eu daioni, ac nid oes ganddynt chwaith goffa­dwriaeth yn y byd am bethau ae­thant heibio; on d y cyfryw ac ynt yn eu cystuddio ac yn eu poeni. Eu rhwysg oll a'i gogoniant, eu di­fyrrwch a'i digrifwch a anghofiasant yn llwyr, neu onid yw hynny, nid yw eu coffadwriaeth iddynt heb ofid a thristwch. Yn ail, tu ag at y rheini ynt yn y wlad erwin hon, a'r pwll o dan yr anghofiodd Duw fod yn ra­susol, ac yn drugarog, na danfon eu Angylion chwaith i roddi iddynt un amser y cyssur lleiaf: Os i mewn unwaith, nid oes mor dyfod allan drachefn. Canys pa beth a ddywe­dodd Abraham wrth y Glwth golt­dog oedd yn ffrio yn uffern, ac yn deisyf arno ddanfon Lazarus i oeri ei dafod a defnyn o ddwfr? Rhyng­om Iuc. 16. 26 ni a chwithau y siccrhawyd Ga­gendor mawr: Fel na allo y rhai a fynnent drammwy oddi yma attoch chwi, na 'r rhai oddi yna, drammwy attom ni. Oh gagendor yn llawn gerwindod! Oh Tragywyddoldeb [Page 321] o boenau! yr unig feddwl am danynt sydd yn ddigon i beri i wr dewr gy­thruddo a chrynu rhag ofn! Clo­ddio eu beddau eu hunain y mae 'r dynion drygionus annuwiol, ac yn preswylio ynddynt yn dragywyddol: Eirhr pa fath feddau y maent yn eu cloddio? Maent yn cloddio beddau dyfnion cyn ddyfned ag uffern, lle claddwyd y Glwth goludog, o'r fan efe a gododd ei olwg ac efe mewn poe­nau, Luc. 16. 23. ac a ganfu Abraham o hirbell, a Lazarus yn ei fynwes, i'w ddirfawr boen. Oh pa ddyfnder erchyll yw hwn! Oh pa fedd ofnadwy yw hwn! Pwy sydd yn gorwedd yma? Efe yr hwn a adawodd i Lazarus orwedd wrth ei borth heb dosturio arno ddim. Pa fodd y mae arno yntef yr awrhon? Gorwedd y mae mewn fflammau tan yn lle ei wely esmwyth: ei ddyddfu yr ydys a syched, ei gwp­paneidiau melus a gymmerwyd o'i enau, ei fwrddd a symmudwyd, ac nid oes ganddo ymborth arall yn y byd, ond tan a brwmstan; Nid yw yr awrhon yn dawnsio ac yn llemmain o lawenydd, eithr rhingcian ei ddan­nedd y mae o ran anobaith uffernol. Y mae gan y rhai a gauwyd i fynu [Page 322] yma yngharchar yn y byd hwn o­baith am eu cyssur; ysgatfydd y cant eu gwared, a'i tynu allan o gar­char: Eithr nid oes o uffern un gwa­rediad nag achubiaeth, nac na chym­maint a neb ryw obaith yn y byd, ond Tragywyd dol anobaith.

Pregeth ferr, eithr un ofnadwy oe dd yr hon a bregethodd Duw trwy 'r Prophwyd Ezeciel yn y geiriau hyn, Dywed wrth goed y deau, gwran­do Ezeci. 20. 47. air yr Arglwydd, fel hyn y dy­wed yr Arglwydd Duw, wele fi yn cynneu ynot ti dân, ac efe a yssa ynot ti bob pren îr, o phob pren sych, ffagl y fflam ni ddiffydd. Pa sawl cedrwy­dden fawr, pa fawl gwr drygionus annuwiol sydd yn blaendarddu ac yn myned yn irlas o herwydd rhwydd­deb llwyddiannus yn y pethau oll oddiallan, ac er hynny maent gwedi sychu a chrino o ran dist'yg rhin­wedd. Gwrandewch pob pren îr ac etto yn sych ac yn grin, mi a gynneuaf dan, medd yr Arglwydd, ffugly fflam ni ddiffydd. Nid oes yn uffern, y man lle 'r ydych chwi yn prysuro iddo cyn gynted, na dyddiau gwyliau, nac uchel wyliau, nac amserau goso­dedig yn y thai y bydd ir tan bel­dio [Page 323] a llosgi. Yno mae gofi'd Tra­gywyddol, marwolaeth Dragywyddol, tristwch Tragywyddol, heb gymmys­gedd o'r cyssur lleiaf: Nid oes dim esmwythdra yno na dydd na nos, na dim cwsg, ond gwiliadwriaeth ac anhunedd gwastadol o herwydd gofid, a phoenau annioddefadwy mewn tân tragywyddol. Yno y cewch chwi fod yn wastadol, fel y caffoch eich poeni yn wastadol: yno y cewch chwi fyw yn wastadol, fel y galloch farw yn wastadol. Oni choeliwch chwi fi, coeliwch St Augustin, geiriau yr hwn yw rhain, bydd i'r annuwioi, medd ef, fyw mewn poenau: Eithr y rhai ynt yn byw mewn poenau a chwenychent, ped fai possibl, fod ei brwyd gwedi ei ddibennu. Eithr nid yw marwolaeth yn ei clywed, nid ocs neb i gymmeryd ymmaith eu bywyd: Eu bywyd ni ddibenna byth, oble­gid eu poenau ni ddibennant byth. Eithr pa beth y mae 'r ysgrythur lan yn ei ddywedyd? Nid yw 'r ysgry­thur lan yn gwneuthur cymmaint a'i alw yn fywyd, canys enw cyssur yw bywyd: Eithr pa gyssur a ddy­chymygir ei fod mewn arteithiau a phoenau, ffrio a rhostio, mewn tan [Page 324] tragywyddol? Eithr pa henw y mae 'r ysgrythur lan yn ei roi arno? Yr ail farwolaeth, hynny yw, y farwo­laeth yr hon sydd yn canlyn ar ol y gyntaf, sef y farwolaeth anianol, yr hon sydd yn gyffredinol i bob dyn. Eithr pa fodd a gellir galw yr ail farwolaeth yn farwolaeth, gan weled nad yw yr hwn a gafodd gy­fran ynddi yn marw byth? Mewn gwirionedd ni a allwn yn well ddat. gan pa beth nid yw, yn hyttrach na pha beth yw hi. Megis ag nas gellir yn briodol ei galw marwol­eth, felly yn wir gellir dywedyd am dani nad yw hi fywyd yn y byd: Ac am y rheini ac sydd ganddynt gy­fran ynddi, megis ac nas gellir yn briodol ddywedyd am danynt eu bod yn marw un amser, felly gellir yn wir iawn ddywedyd am danynt dra­chefn nad ydynt yn byw un amser. Canys byw felly, ac y byddo i wr fyw bob amser mewn tristwch a pho­enan, nid byw yw. Gan hynny nid bywyd yw 'r bywyd hwnnw: Eithr mewn gwirionedd yr unig fywyd yw 'r bywyd hwnnw yr hwn sydd yn fendigedig; a'r bywyd hwnnw yn u­nig sydd yn fendigedig yr hwn sydd [Page 325] yn Dragywydol. Mae gennem fan arall yn yr unrhyw Dad i'r amcan hwn. Os yr enaid sydd yn byw mewn artaith Tragywyddol yn poeni gyda 'r ysprydion aflan, y mae honno i'w galw yn farwolaeth Dragywy­ddol, yn hytrach nag yn fywyd Tragywyddol. Canys nid oes mar­wolaeth yn y byd cymmaint neu cynddrwg ar farwolaeth honno yr hon nid yw yn marwolaethu byth.

Y mae St Gregori hefyd yn tysti­olaethu yn yr un modd. Yn uffern, medd ef, y bydd marwolaeth heb angeu, diwedd heb ddiben, oblegid byw a wna marwolaeth yno byth, a'r diwedd yn dechreu yn dragywyddol. Marw ni wna marwolaeth yno byth. Oh Angeu, pa faint melusach fyddit ped fait ti yn dwyn bywyd ym­maith, ac heb gymmell i'r rheini fyw, y rhai a ewyllysiant farw! Eithr y mae 'r matter fel hyn, fod ni­fer y blynyddoedd yn uffern yn anei­rif. Duw ei hun ni wyr un diwedd arnynt. Ar ol i fil o o filoedd o fyr­ddiwnau o flynyddoedd fyned hebio, y mae cymmaint arall angwhaneg i ddyfod yn wastadol; a phan elo y rheini hefyd heibio, y mae etto cym­maint arall angwhaneg i ddyfod; [Page 326] ac maent eto cyn belled oddi wrth y rhai diweddaf ac yr oeddynt ar y cyntaf. Y mae yr awrhon fwy na phum mil a phedwar ar hugain o flynyddoedd er pan daflwyd Cain (yr hwn a laddodd ei frawd Abel) i'r pwll sydd yn llosgi o dan a brwmstan: Ac er hynny y nifer o'r flynyddoedd trwy y rhai y bydd iddo gael ei boe­eni, ynt fyth cymmaint ag oeddynt y dydd cyntaf o'i boen ef; ac ar ol rhai miloedd o flynyddoedd ni lei­heir dim ar rif blynyddoedd eu boe­nau: Yr un modd a fydd a phed fuasyd yn ei daflu i'r tan yr awr bresennol yma. Ac er bod y Glwth goludog a grybwyllwyd yn yr Efeng­yl, yn cael ei boeni ddwy fil o fly­nyddoedd tunty; etto llosgi y mae yn wastadol, a bydd iddo losgi yn dra­gywyddol, ac ni bydd iddo gael chwaith cymmaint a defnyn bychan o ddwfr er iddo arfer gymmaint fyth ag allo o daerder, na fydd cymmaint a defnyn bach o ddwfr i oeri ei dafod tragwresog.

Yr ydym ni yn fynych yn clywed son am y pethau hyn, a phan fy­ddom yn eu gwrando ni wnawn ond chwerthyn am eu pennau. Yn ddiau [Page 327] nid ydym yn cyfrif yn nhan uffern losgi ond matter esmwyth. Ymma un a ddichon yn dda ofyn y qwestiwn, Ym mha le y mae eich dragrau chwi ô ddynion marwol, y chwi y rhai ydych yn gymmaint gwedi ymroi i chwerthyn? Dymma ein dull ni▪ Colled fechā ped fai ond matter tair dimmai a hidla oddi wrthym lawer o ddagrau: Eithr am golled anfeidrol anescorol; nr a fedrwn gyd-ddwyn a honno yn hawdd, ni a fedrwn dreul▪ o honno tan chwerthyn. Pan ddyfynnir ni i ymddangos ger bron brawdle bar­nwr daiarol, y pryd hynny ni a ofnwn ac a grynwn; Eithr fel yr ydym yn myned tua gorseddfaingc Duw (canys marchogaeth peth o'n ffordd yr ydym bob dydd, o fesur cam a cham ym mlaen yr ydym yn myned, pa 'r un bynnag a wnelom, a'i mynnu a'i peidio, ac fel yr yd ym yn myned) cymmeryd ein pleser yr ydym rhyd y ffordd. Pan elom i fordwyo bydd arnom ofn torri o'r llong: Eithr yr ydym heb nag ofn na phwyll, yn treiddio i ddwfnfor Tragywyddoldeb, ac o hynny ni wnawn ni ond masnach o ddigri­fwch.

[Page 328]Dymuned St Bernard yw, oh na byddei ddynion yn ddoethion! oh na byddent yn ddoethion! Beth gwe▪ di hynny Bernard lan? Oh! yno dechreuau ddelw Tragywyddoldeb gael ei âdffurfio ynddynt. Yno y gosodent mewn trefn yn synhwyrol bethau presennol, barnent o bethau aethant heibio yn ddealldwrus, a rhag-welent pethau i ddyfod yn ddar­bodus.

Yma mae gennem orchymmyn St Paul i'r Ephesiaid, ac nid yn uni­gol ei ddymuned, canys ei eiriau ydynt yn rhedeg mewn dull gor­chymmyn, ac nid mewn dull dymu­ned: Frodyr gwelwch gan hynny, Ephes. 5. 15. 16. pa fodd y rhodioch yn ddiesceulus: Nid fel anno ethion, ond fel doethion; Gan brynu 'r amser, oblegid y dyddiau sydd ddrwg. Fe ddylei masnach mawr ein iechydwriaeth gael ei ystyried yn ddiesculus, yn ddyfal ac yn ofalus gennem. Y peth ynfyttaf yn y byd i wr ydyw, a chanddo ond ychydig amser wedi ei rhoddi iddo yn ei ran, dreulio hynny yn afradlon mewn di­fyrrwch ofer, lle dylei fel marsiandwr cynnil yn hytrach roi hynny ar waith am ei fantais oreu, i bwrcasu cyfran [Page 329] yn y Tragywyddoldeb bendigedig. Os meddyliwn ni ynnill y Nefoedd trwy chwerthyn, cellwair, chwarau, segura, yr ydym yn camgymmeryd ym mhell. Pod yn dywed yd chwedlau, neu glust­ymwrando a hwynt pan fyddys yn eu hadrodd; Bod gwedi ymroi i'n hes­mwy thdra, a threulio ein hamser mewn seguryd; Bod yn galw am ein cwppaneidiau, Bod yn eistedd wrthynt cyhyd tan na fedrom sefyll, nid prynu 'r amser yw hynny. Eithr hyn yma mewn gwirionedd yw pry­nu'r amser, i ni ymroddi ein hu­nain i boen ac astudrwydd, gweddi a myfyrdod, nid tros hettynt ac i ffordd, eithr i ddal rhagom yn y drefn hon yn ddianwadal hyd y di­wedd; Hyn yma, meddaf, mewn gwi­rionedd yw prynu `r amser. Cyng­or St Augustin yw, i ni ladratta peth amser oddi ar ein n asnach fy­dol. A hola neb di yn y gyfraith gyffredinol? Bydd fodlon, medd ef, i golli rhyw beth fel y gallech di gael hamdden i wasanaethu Duw, ac nid canlyn holion: Oblegid yr hyn yr ydwyt yn ei golli pryniad amser yw. Canys megis ag yr wyt ti yn fod­lon i roi dy arian i brynu bara, [Page 330] felly bydd i golli dy arian fel y ge­llych brynu llonyddwch, amser cy­faddas i wasanaethu Duw: oblegid mewn gwirionedd hyn yma yw prynu 'r amser.

Felly ni ddylem arbed cost yn y byd, eithr ymadael yn ewyllysgar a phob peth i brynu yr amser cyfaddas i wneuthur daioni, gan weled fod y dyddiau yn ddrwg. Dyddiau 'r by­wyd hwn ynt yn llawn tristwch, go­fid, enbydrwydd, a phrofedigaethau, y rhai ynt yn fynych wastad yn cym­meryd ymmaith oddi arnom y cyfa­ddasrwydd i wneuthur daioni; Felly y mae Anselm yn dywedyd. Eithr os gollyngwn ni pan ei cynnhygir i ddiangc y cyfaddasrwydd i wneu­thur daioni, a gadael yngwir fwriad o newydd-deb buchedd i'n dyddiau dreulio ymmaith, heb ddyfod ag ef i ben da: O hynny allan ofer yw edrych am un cyfaddaswydd i wneu­thur daioni; ni chawn ni un munud o amser, yn gwbi anescorol oll yw ein colled ni. Ein bywyd ni, medd Nazianzen, sydd yn debyg i farchnad fawr neu stair: Pan elo 'r dydd go­sodedig heibio unwaith, nid oes dim prynu gwedi hynny bethau llesol. [Page 331] Os prynwn ni neb ryw beth yn hyn o amser, rhaid i ni wneuthur hynny yn fuan tra parhao 'r ffair. Rhaid i ni tra caffom amser i fyw, fyw yn dduwiol rhaid i ni tra byddom yn gryfion ac yn abl▪ wasanaethu Duw. Mynych y mae 'r Pregethwr yn taro ar hyn yma, Beth bynnag a ymafael Eccles. 9. 10. dy law ynddo i' w wneuthur, gwna a'th boll egni. Mynych y mae 'r Apostol yn ein hysparduno ni ym mlaen i gymmeryd gafael ar gyfaddasrwydd, ac i wneuthur o'n hamser fwyniant da. Am hynny tra ydym yn cael am­ser Galat. 6. 10. cyfadd as gwaawn dda i pawb: Rhuf. 13. 11. Oblegid ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu. Yr wyt ti yn cysgu, medd St Ambros, dy amfer di nid yw yn cysgu, mae hi yn myned ar gamre, ie mae hi yn ehedeg ag adenydd. Gwyn ei fyd ef, gwyn eu byd hwy, y rhai ynt yn myfyrio ar y pethau hyn i'w gwneuthur o hyn a­llan; y rhai sy'n byw felly, megis y byddant ar drangcedigaeth mewn awydd na buasent yn cael hoedl i wneuthur y cyfryw bethau ac y gor­foleddent eu gwneuthur y pryd y by­ddant gwedi eu trosglwyddo i Dra­gywyddoldeb. Esceulustra bychan yr [Page 332] awrhon a brifia yn golled Dragywy­ddol. Beth bynnag a feddyliom, a le­farom, neu a wnelom, gwedi unwaith ei feddwl, ei lefaru, neu ei wneuthur; Tragywyddol yw, aros a wna byth.

BEN. II.
Yr ail bennod yma sydd yn hyspysu gwobrwy y bywyd Tragy­wyddol.

Bywyd yn siccr yw 'r bywyd sydd yn y nefoedd, a'r perffeithiaf a'r cyflawnaf fywyd o'r rhai eraill oll, o ran ei fod yn eneidiol, o ran ei fod yn ddynol, o ran ei fod yn Angylaidd; Je o ran ei fod yn fywyd duwiol. Yno mae 'r cof yn byw drwy 'r co­ffadwriaeth berffaith am y pethau oll aethant heibio: Yno mae 'r dalldwriaeth yn byw, trwy 'r gwybo­daeth a'r weledigaeth o Dduw: Yno mae 'r ewyllys yn byw▪ ac yn mwyn­hau pob math ar ddaioni yn ddiofn [Page 333] ei golli. Yn yr un modd byw yno mae 'r chwant; Byw yno mae 'r holl fynhwyrau, a chwedi eu llenwi a difyrrwch. Yno ni chlywir un uchenaid, dim galar, dim gofid, neu dristwch, na chymmaint ar arwydd lleiaf o honynt. Yno mae 'r gan burlan iawn o lawenydd, heb gym­mysgedd o'r defnyn lleiaf o fustl chwerwder, neu dristwch. Llony­dded dy lygaid, ni welsant erioed y fath; Llonydded dy glustiau, ni chlywsant erioed y fath; Llony­dded dy galon; nid allodd hi erioed amgystred te byg i'r bywyd hwn. Mae 'r bywyd hwn yn cynnhwys yn­ddo ei hun bob digrifwch, cyfoeth, urddas, a chwbl ddifyrrwch y bywio­laethau oll y synnhwyrau a'r cyn­neddfau. St Augustin fel ped fai gwedi ei ennyn â deisyfiad yr hwn fywyd, sydd yn torri allan yn y gei­riau hyn, mor fawr a fydd y gwyn­fyd yno, lle ni bo yn ein gwydd ni ddrwg yn y byd, na daioni yn y byd allan o'n gwydd? Lle cawn foli Duw yn wastadol, yr hwn sydd oll yn Psal. 84. 4. oll. Gwyn fyd preswyl-wyr dy dy: yn wastad i'th soliannant. Cynneddfau ein heneidiau ac aelodau ein cyrph gan [Page 334] eu gwneuthur yn anllygredig y fy­ddant yn gosod allan foliant Duw. Yno bydd gwir ogoniant a moliant yn siccr, lle nas dichon yr hwn sydd yn rhoi moliant a gogoniant gael ei siommi, nac i'r hwn yr ydys yn ei roi chwaith gael ei weneithio. Yno bydd gwir urddas yn siccr, yr hwn ni ommeddir i'r neb sydd deilwng, ac ni roddir i'r neb sydd annhei­lwng, Je, yr hwn ni bydd i neb an­nheilwng ei ddeisyfu neu ei ym­gais, lle na chaffo neb annheilwng ei oddef i aros. Yno yr hwn yw 'r rhoddwr o rinwedd, y fydd y gwo­brwy am dani: Canys ef a adda­wodd ei hun; A pha beth mwy a gwell a allei fe addo na'i hun? Y mae 'r Propwyd Jeremi yn dyst o'r addewid hon o'i eiddo▪ yn yr hyn eiriau, mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant yn bobl i Ieremi. 31. 33. mi. Mi a fyddaf iddynt beth bynnag a chwenychant gyag onestrwydd; mi a fyddaf iddynt yn fywyd, ac yn iechyd, ac yn ymborth, ac yn llawn­dra, ac yn ogoniant, ac yn urddas, ac yn heddwch, ac yn bob daioni: Canys meddwl y geiriau yma yw hyn, Duw sydd oll yn oll, diben [Page 335] ein deisyfiadau oll a fydd ef. Ac un daioni mawr sydd i'w gael yn y ddi­nas fendigedig honno o eiddo Duw, yr hyn nid yw yn un lle arall i'w gael, a hynny yw hyn yma; Na bo i neb a fo îs gensigennu ei uwch, eithr hwy a fyddant yn aelodau o'r un-radd o'r corph anianol, gwedi eu cyssylltu ynyhyd mewn cariadus he­heddychol fodd▪ lle na byddo 'r bys yn chwennych bod yn llygad, na 'r troed yn ben: Eithr pob aelod yn fodlon i'w le ei hun. Ac ychydig ar ol hynny (medd yr unrhyw Dad) cawn gadw yno Saboth Tragywyddol o orphywy sdra, ac yno y cawn brofi a gweled mor felus yw 'r Arglwydd, ein llenwi a'i ddaioni a gawn, pan fyddo ef oll yn oll. Oh Duw fy Nuw! Serch a chariad perffaith wyt ti, gwiredd a gwirionedd, gwir Dragywyddoldeb, a gwynfyd Tragy­wyddol.

Un arall sydd yn llefaru am y by­wyd yma mewn ffordd gwrthdro yn y modd hyn, nid oes ynot ddim lly­gredigaeth, nac angen, na henaint, nac irlonedd; ond heddwch didrangc, a gogoniant cynnefinol, a llawenydd tragywyddol, ac uchelwyl gwasta­dol. [Page 336] Yno y mae llawenydd a gorfo­ledd, mae ffynnon dragywyddol yno. Yno y mae blodau a thegwch ieu▪ engctyd bob amser, ac iechyd per­ffaith.

Gydâ thi ni bu ddoe 'n un oed;
Ond heddyw yn dy wydd erioed:
Mae gennit heddwch parhaus bara,
Ie hyd, bywyd byth ni threulia:
Duw sydd oll yn oll.

Gogoneddus bethau a ddywedir am Psal. 87. 3. danat ti, o ddinas Dduw. Ynot ti y mae preswylfod y cyfryw oll ac ynt yn gorfoleddu. Ynot ti nid oes dim ofn, dim tristwch ynot ti. Y deisyfiadau oll a droed yn llawe. nydd. Beth bynnag y ddichon dyn ei ddymuno mae fe gyda thi yn pre­sennol: Beth bynnag a eilir ei ddei­syfu mae fe ynot tiyn ddigonol. Llawn Psal. 36. 6. ddigonir hwynt a brasder dy dy: Ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt. Canys gyd â thi y mae ffynnon y by­wyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleu­ni, pan gaffom ni dy weled ynot dy hun, ac ynom ninnau, a ninnau y­not tithau yn byw mewn gwynfyd tragywyddol, acyn mwynhau y gwyn­fydedg [Page 337] weledigaeth o honot yn dra­gywyddol.

Ac er bod y gwynfyd hwn yn dra­gywyddol, er hynny gellir ei ynnill mewn amser byrr, ac ag ychydig boen. Yr wyfi yn tosturio wrth y dyrsa, meddMarc. 8. 2. ein jachawdwr, Oblegid y maent hwy dridiau weithian yn aros gydâ mi, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwytta. Jachawdur addfwyn, wyt ti yn cyfrif yn gyfryw fatter i ni aros gyda thi dridiau, heb fwytta dim? A pha ham, Jesu addfwyn, nad wyt yn son wrthym yn hytrach am y dyddiau o Dragywyddoldeb, a'r hyfrydwch tra­gywyddol a'r hyn a'n digonir ni yn helaeth yn dy deyrnas nefol? Y mae Duw yn dal sulw ar y gwasana­eth lleiaf y gyflawnom, ac y mae yn werthfawr yn ei olwg; Y mae yn cyfrif hyd yn oed gwallt ein pennau; A pha faint mwy gan hynny y cyfrif ef y defnynnau o waed y gollwyd er ei fwyn ef, gan eu rhoi hwynt i gadw yn y bottel o'i goffadwria­eth.

Gallwn yn dda iawn gan hynny lefaru gyda St Jerom. Oh! mor fawr yw 'r gwynfydedigrwydd hwn, i dderbyn pethau mawrion am rai [Page 338] bach, a phethau Tragywyddol am rai Amserol, a chyda hynny i gael yr Arglwydd yn ddyledwr i ni! Eithr di a fyddi yn barod i ddywedyd, y mae 'r peth yn myned yn dost fod mewn dioddefiadau beunydd, ac er gallu dioddef y pethau eraill oll yn hawdd, er hynny ofnadwy yw mar­wolaeth. Frawd Cristianus, y mae arnaf gywilydd dy glywed yn dywedyd felly: ynfyd y dywedaist, ac yn gy­ffelyb▪ fachgen. Oni wyddost gym­maint a hyn? Yr wyfi yn gwybod y dyrchafaf i ddisgyn, y blodeuafi wywo, fy mod yn ievangc i fyned yn hen: Bydd fyw i farw, a bydd farw i fyw yn fendigedig yn dragy wy­ddol.Esay 26. 4. Ymddiriedwch gan hynny yn yr Arglwydd byth: o herwydd yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tra­gywyddol.

Yr wyfi drachefn yn cofio St Au­gustin, yr hwn ar eiriau ein Har­glwydd sydd yn dywedyd fel hyn, ein Harglwydd a'n Jachawdwr a ddiben­nodd ei, adroddiad ar y geiriau, yma, Arrhai hyn a ant i gospedigaeth tragywy­ddol: Math 25. 46. ond y rhai cyfiawn i fywyd tra­gywyddol. Yr hyn a addawyd yma by wyd▪ Tragywyddol yw. Canys y [Page 339] mae yn hoff gan ddynion fyw yma ar y ddaiar, gan hynny gaddawyd iddynt fywyd: Ac oblegid eu bod yn ofni marw yn fawr; am hynny gaddawyd iddynt fywyd Tragywyddol. Pa beth a fynnit ti gael? Bywyd? di a'i cei. Ofn pa beth sydd arnat? A'i marwolaeth? Onid ni bydd i't ei dioddef: Eithr y rheini a boenir yn nhân uffern, y ddeisyfant farwolaeth a marwolaeth a ffy ym­maith. I fyw yn hir gan hynny, nid yw ▪fatter mawr yn y byd: Je etto I fyw bob amser nid yw fatter mawr yn y byd; Eithr I fyw yn sendigedig peth i'w ddeifysu yw hynny, matter mawr yw hynny yn siccr.

Am hynny cei fyw yn y nefoedd, ac ni chei farw byth; cei fyw yno yn fendigedig yn dragywyddol: Ca­nys ni chei ddioddef neb rhyw ddrwg, ni bydd arnat chwaith ofn cael ei ddioddef: Canys ammhossibl yw dioddef neb rhyw ddrwg yno. Cei feddiannu yno beth bynnag a fedri ei ddeisyfu, a'r hyn a feddienni, a ddeisyfi ei feddiannu yn wastadol. Nid ellir dy fwrw allan o feddiant, a hynny ath ddigono. Yn y fan honno yr oedd Dafydd yn disgwyl [Page 340] cael torri ei syched, a digoni ei ne­wyn. Digonolrhwydd llawenydd sydd Psal. 16. 11 ger dy fron: Ac ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn Dragywydd. A thrachefn sychedodd fy enaid am da­nat: Psal. 63. 1. A thrachefn etto, Myfi a Psal. 17. 15. edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawn­der: Digonir fi, pan ddihunwyf, a'th ddelw di. Dyna lais newydd a di­eithr i Frenin: Yr oedd ei fwrdd ganddo gwedi ei ddiwallu yn dda a phob math ar fwydydd; Ac er hyn­ny yr oedd ef fel ped fuasei yn lle­wygu o newyn, yn gobeithio cael ei lenwi ar fwrdd arall: Ni wasanae­thau ei fara ei hun, na'i wîn ei hun mo'i dio i ddigoni ei newyn neu i dorri ei syched. Yr oedd bara arall yr oedd ef yn ei ewyllysio, a diod arall yr oedd ef yn sychedu am dani, Bara 'r Nefoedd a dwfr y bywyd. Canys pa beth yw amldra a helae­thrwydd holl Frenhinoedd y ddaiar? Nid yw ddim amgen na gwir ei­siau. A pha beth yw 'r dainteith­fwyd sydd ar eu byrddau mawr? Nid ydyw ond cyffelyb i biser cardottyn, os cymmharrir ef a brasder ty Dduw, a'i fwrdd nefol ef. Brenin y nefoedd y ddywed, Tyred bwytta ac [Page 341] yf, a llenwir di fy anwylyd. Ni dderfydd y wledd hon o'm heiddo byth; Ni ddaw ar ei hol dristwch yn y byd: Megis y mae hi heddyw, felly y bydd hi byth, ac yn Dragywy­ddol. St Augustin ni fedrei chwaith yma attal ei hun, eithr drachefn tor­ri allan y mae 'r waedd yma ganddo, oh fywyd y bywyd yn rhagori ar bob math ar fywyd! Oh fywyd tra­gywyddol! Oh fywyd yn fen­digedig yn dragywyddol! Lle mae llawenydd heb dristwch, gorphywysdra heb lafur, cyfoeth heb golled, iechyd heb glefyd (nid oes dim o'r fath beth yn y bywyd yma) amldra heb eisiau, bywyd heb farwo­laeth, tragywyddoldeb heb lygredi­gaeth, gwynfydedigrwydd heb ad­fydwch; lle mae 'r holl bethau da mewn cyflawn gariad perffaith, lle mae ym mhob peth a thrwy bob peth bob math ar wybodaeth, lle mae Mawrhydi Duw i'w weled ger bron, lle llenwir eneidiau 'r edrychwyr a Bara 'r Nefoedd: Presennoldeb Duw y maent hwy yn ei weled bob amser, ac edrych arno yn wastadol a ddeisyfant, maent yn deisyfy ei we­led, ond etto yn ddidrymfryd, maent [Page 342] yn cael eu digoni ag ef, ac etto heb ddigonolrwydd.

Ac fel y gallech di ddeall a gwy­bod (Frawd da Christianus) fod y gogoniant tra ragorol hwn, y cyfoeth Nefol yma, y deyrnas Nefol hon iw phrynu: Gwrando beth y mae 'r un Augustin yn ei ddywedyd; y mae ar werth gennyf, medd Duw, y mae ar werth gennyf; deuwch a phrynwch ef, Arglwydd, pa beth yw 'r hyn sydd gennit iw werthu? Mae gen­nif orphywysdra; Deuwch a phry­nwch ef. Pa beth yw ei bris ef? Ei bris ef i'w poen. A pha faint o boen a dâl gorphywysdra Tragy­wydol? Os di a ddywedi y gwi­rionedd a barnu yn uniawn, fe dâl gorphywysdra Tragywyddol, boen Tragywyddol. Yn ddiau mae hynny yn wir; Nag ofna: Oblegid mae Duw yn drugarog. Canys o byddei dy boen di yn Dragywyddol, ni chyr­haeddit byth orphywysdra Tragywy­ddol. Eithr fel y gallech di o'r di­wedd gyrraedd gorphywysdra Tragy­wyddol, am hynny ni bydd i'th poen fod yn Dragywyddol; Nid oblegid na thal ef cymmaint a hynny, ond fel y gallech di o'r diwedd gael me­ddiant [Page 343] o honaw. Yn wir fe dal y prîs pes poen Tragywyddol fyddei; eithr fel y gallit ti ei bwrcasu a'i feddiannu, angenrhaid yw na by­ddei ei bris ef ond poen amserol. Am hynny (frodyr Christianus) by­dded i ni ein destroi ein hunain ac annog eu gilydd a'r anghoriad hwn sydd yn canlyn o eiddo St Augu­stin.

Gosodwn o flaen ein llygaid y by­wyd sydd Dragywyddol, ac ystyriwn ei anian ef yn dda, ni a ddown i'w ddeall yn well, trwy symmud oddi wrtho beth bynnag yr ydym yn ei gyfrif yn gythryblus yn y bywyd hwn. Canys mae yn hawsach dyfod o hyd i'r hyn nid yw, yn hytrach na'r hyn yw. Ac yr ydys er hynny yn ei gyn­nyg ar werth. Gelli ei brynu os mynni. Nid rhaid i't mor ymdra­llodi nac ymgythryblio llawer yn ei gylch, o ran mawredd y pris. Y pris yw pa beth bynnag sydd gennit, na dim angwhaneg. Na hola pa beth sydd gennit un amser, eithr ystyria pa beth wyt; fe dal i ti ei brynu, pe bai i ti roi dy hun am dano. Dyro dy hun, ac di a'i cei ef. Pa beth? wyt ti i'th geisio dy hun? [Page 344] Wyt ti i'th brynu dy hun? Wele, yn gyfryw ac ydwyd, os gelli fôd yn fodlon i'th rhoddi dy hun, di a'i cei ef. Eithr ysgatfydd di a fyddi yn barod i ddywedyd, Ochl dry­gionus wyfi; Ac mae yn debyg na chymmerir y cyfryw ddyn am dale­digaeth da: Os dy di nid wyt yn dda yr awrhon, na wna ond rhoi dy hun, a di a brifi yn dda, ac yn gymmera­dwy trwy wneuthur felly. Na wna ond gwneuthur addewid ffyddlon i'th rhoddi dy hun; a hyn a'th bair di yn dda: A chwedi dy wneuthur yn dda, yr wyt ti o honot dy hun yn bris digon da: Ac di a gei fel a dywedais, nid yn unig icchyd, dio­gelwch, bywyd, a'r cyfryw, yr rhai ni bydd iddynt ddiwedd; eithr hefyd dy ryddhau a gei oddi wrth lawer o drueni: Ni chei fod yn lluddedig, na chwaith sefyll mewn diffyg gor­phywysdra, ni chei chwaith na newy­nu na sychedu, na chwaith gynnyddu na lleihau. na chwaith brifio yn ie­vangc na myned yn hen; canys nid oes yno un genedigaeth, oblegid llawn dwf a chorpholaeth sydd yno, a'r cyfan berffaith nifer o flynyddo­edd. Nid oes nyser yn y byd yn gy­ffelyb [Page 345] iddo: Canys megis nad rhaid iddo gael ei fwyhau, felly, nid oes dim ofn a bydd iddo leihau. Wele pa bethau rhagorol a ddywetpwyd am dano! Ac er hynny nid allaf dueddu dywedyd i't pa beth ydyw, neu pa bethau da sydd gwedi ei trysori i fynu ynddo: Canys fel y mae yn yscrifennedig, Ni w lodd lly­gad 1 Cor. 2. 9. ac ni chlywodd clust, ac ni dda­eth i galon dyn▪ A pha fodd y by­ddeu i'm genau i fod o'r gallu i a­drodd yr hyn ni ddichon calon dyn ei ddeall.

Ac oblegid ddarfod i ni fyned o hyd trwy lyfrau St Augustin, fel ped fai trwy gymmainr a hynny o erddi para dwy sedd, a'n hebrwng bellach o'r diwedd i'r Baradwys Nefol, gadewch i ni selio a siccrhau yr hyn a ddywet­pwyd hyd yn hyn trwy dystiolaeth yr un Tad. Ped faem ni bob dydd, medd ef, i ddioddef pob math ar poenau, Je, poenau uffern ei hun a hynny trwy hir amser tunty, i'r pe­rwyl ac y gallem weled Christ yn ei ogoniant a chael cyfundeb a chyfei­llach gydâ'r Seinctiau: Oni thalei hyn ein poen a'n dioddefiadau? Pwy ni ddioddefai unrhyw ofid, er cae l [Page 346] ei wneuthur yn gyfrannog o gym­maint daioni, ac o gymmaint gogo­niant a hynny? Gan hynny bydded i'r Cythreuliaid gynllwyn am danaf, bydded iddynt a'i profedigaethau osod arnaf: bydded i ddirwest ostwng fy nghorph, bydded i orthrymder ddal fy nghrawd yn isel, bydded i lafur fy mlino, bydded i'm irder sychu gan anhunedd, bydded i un dda­dwrdd yn fy erbyn, aflonydded y llall arnaf; bydded i oerni fy ngyrru yn fy nghwrrwm, bydded i mi ymfflam­mychu gan wres; bydded i'm cy­dwybod furmur, bydded i'm pen ddo­lurio, bydded i'm dwyfron losgi, by­dded i'm cylla gael ei blino â gwyn­toedd, bydded i'm hwyneb pryd lasu, a gorwynnu; bydded i'm fod yn llawn­o wendid; bydded i'm hoes dreu­lio ymmaith gan ofid, a'm blynydd­oedd gan alar; bydded i bydrni ddyfod i mewn i'm hesgyrn, a bydded iddo darddellu yn fy ngwadnau fel fyn­nhonnell: bydded i'r holl drueni yma ddyfod arnaf, trwy i mi gael gor­phywysdra a diddanwch yn nydd y trallod, a dyrchafu i fynu at bobl yr Arglwydd. Canys mor fawr a fydd gogoniant y cyfiawn, ac mor fawr a [Page 347] fydd llawenydd y Seinctiau pan ddiscleirio pob wyneb fel yr haul i Pan ddechreuo'r Arglwydd gyfrif ei bobl yn eu dosparthedig drefn, yn nheyrnas ei dad; a phan dalo ef y gwobrwy on addawedig i bob dyn yn ol eu gweithredoedd, hynny yw, Nefol am Ddaiarol, a Thragywyddol am Am­serol.

Joan Moschus sydd yn sôn am un Olympius, henafgwr o ymmynedd di­gymmar, yr hwn oedd yn byw mewn Mynachlog yn agos i afon yr Jorddonen, fod gosodiad ei feddwl ef ar Dragywyddoldeb, ac nad oedd gan­ddo agos un amser neb ryw ystyri­aeth neu ymwrandawiad ag un rhyw amserol ofid neu drueni▪ Canys (ac yn myned a'i histori rhagddo) ar amser fel y digwyddodd, rhyw wr crefyddol a droes allan o'i ffordd i fy­ned i edrych am dano, a chan ei gael ef mewn cell dyw yll, a lle fel y me­ddyliodd ef anhydrig, o achos gwres, a heidiau o ednog, a gwybed eraill, nid heb ryfeddu yn aruthr a lefarodd wrtho fel hyn, Ac a fedri di, Olympius, aros byw yn y fath le caeth mor dragorthrwmmedig: Eithr pa beth oedd atteb Olympius? A'i rhyfedd [Page 348] gen nit hyn yma? Yr wyf yn dywe▪ dyd i ti, fy mab, nad yw y rhain oll ond materion esmwyth, eu cyfrif hwy yr wyf yn oddefadwy, fel y gallwyf felly ddiangc rhag poenau Tragywy­ddol, yr rhai ynt yn annioddefadwy. Medraf ddioddef i ednog fy mra­thu, fel na byddo i'm gael ymwran­do a brath cydwybod, ac ysfa 'r pryf yr hwn ni bydd farw byth. Me­draf yn hawdd ddioddef y gwres yma yr hwn yr wyt ti yn achwyn felly rhagddo pan feddyliwyf am dan Tragywyd dol uffern yr hwn sydd yn annioddefadwy. Nid yw y trallodau hyn (os rhydd i mi eu galw hwy fel­ly ond byrrion, a bydd iddynt ddi­wedd: Eithr poenau uffern ynt ddi-ddiwedd. Ar hynny dywedodd y llall, yn ddiammeu, Olympius, y mae yspryd doethineb a gwirionedd yn dy arwain, gan atteb o honot mor wir ddoeth. Mi a ddymunwn fod mwy o'r un meddwl a feddyliai mor ddifrifol a hyn am y pethau hyn. Yna yn ddiau fe fyddei mwy nac sydd yr awrhon yn y dyddiau yma yn dda eu ymmynedd, ac yn dioddef pob peth yn ol dy esampl di.

BEN. III.
Y drydydd bennod yma sydd yn cyn­hwyso y dibenniad o'r cwbl.

Zeuxis enwediccaf a glywsom ni son am dano ym mhlith yr holl ba­entwyr gynt oblegid ei gelfyddyd, y ddaliwyd arno ei fod yn ei waith yn arafaidd iawn, ac na adawei i un darn o'i eiddo fyned allan i'r byd i olwg dynion heb i droi trosto a thro­sto, o'r tu yma i'r tu accw, eilwaith a thrachefn, i edrych y fedrai ganfod bai yn y byd ynddo: A chwedi go­fyn iddo ryw aniser yr achos pa ham yr oedd ef mor fanwl, pa ham cyhyd yn tynnu ei linellau, ac mor araf yn y triniad o'i buntr; Ei atteb oedd hyn, beth bynnag a gymmerwyfmewn llaw, yr wyf yn hir yn ei wneuthur, oblegid yr hyn a baentiwyf, ei ba­entio yr ydw yf tros Dragywyddoldeb. Ac felly mae 'r matter gyda phawb yn sefyll, ninnau ydym yn paentio tros Dragywyddoldeb hefyd▪ Beth bynnag a wnelom, y mae fe felly yn perth y­nu i Dragywyddoldeb, ac y dichon [Page 350] dyn iawn ddywedyd am dano fel hyn, yr wyf yn yscrifennu, yn darllain, yn eanu, yn gweddio, yn ymdraffer­thu, beth bynnag a wnelwyf, beth bynnag a ddywedwyf, beth bynnag a feddyliwyf, fod y cwbl tros Dragywy­ddoldeb. Yr awrhon os hyn yw ani­an ein meddyliau, geiriau a gweithre­doedd, os arhoant tros Dragywyddol­deb oll, byddei raid i ni gymmeryd gofal pa beth a feddyliom, a ddywe. dom, neu a wnelom; Y mae yn per­thynu i ni edrych o'n hamgylch fe­ddwl am ein masnach, nid myned ynghylch ein gwaith yn ddiofalathrwy ein hun, na gollwng i ddim fyned allan o'n dwylaw yn aflathraidd, ac yn ammherffaith: Eithr a'n holl ofal, ceflyddyd a'r ystr yw a fedrom ni ar­fer ei lathru a'i berffeithio. Yr y­dym yn paentio gyda Zeuxis tros Dragywyddoldeb. Pan orphennom ni ein holl weithredoedd, hwy a ddan­fonir oddi yma yn y man i Dragywy­ddoldeb, i'w golygu gan lygad cy­flawn ddigon craff, ac yn canfod pob peth, fel na ddichon bai yn y byd ddiangc; a chwedi eu golygu a'i bar­nu, maent hwy naill a'i yn cael eu bwrw i'w cospi yn Dragywyddol a'i [Page 351] i'w gwobrwyo yn Dragywyddol. Yr hyn a ddywedais i o'r blaen, mi a'i dywedaf eilwaith yma, oblegid nas gellir ei ddywedyd yn rhy fynych, pe byddei i'm ei ddywedyd fil o weithi­au; Beth bynnag a feddyliom a ddywedom▪ neu a wnelom, wedi un­waith ei feddwl, ei ddywedyd, neu wneuthur Tragywyddol yw, aros a wna byth.

A wrandewch chwi beth y mae St Gregori yn ei ddywedyd? Fod yn rhaid i ni arfer yn ein holl weithre­doedd ofal mawr a chraffder; rhaid i ni ddyfal fy fyrio ac ystyried ynom ein hunain yn iawn pa beth yw 'r hyn yr ydym ni yn ei gymmeryd mewn llaw; Ac i ba ddiben yr ydym ni yn ei wneuthur: fel na roddom mo'n meddyliau ar neb ryw beth ac y fyddo yn amserol, ond ar y pethau hynny y fyddo yn Dragywyddol. Am hynny cymmer boen yn dy weithre­doedd oll i fod yn berffaith. Gwe­ddia am Dragywyddoldeb, Astudia am Dragywyddoldeb, dioddef am Dragy­wyddoldeb, ymdrecha am Dragywy­ddoldeb, cymmer poen am Dragywy­ddoldeb. Felly, bydd fyw i Dduw, megis y gallech di fyw gyda Duw; [Page 352] Felly, bydd fyw ar y ddaiar, megis y gallech di fyw yn y nefoedd; felly, bydd fyw am Dragywyddoldeb, megis y gallech di fyw i Dragywyddoldeb.

Cwrandewch hefyd beth y mae St Bernard yn ei ddywedyd. Nad yw ein gweithredoedd ni yn▪ myned ymmaith cyn gynted ac a gwnelom hwy, (megis ag y tebygid eu bod) eithr maent megis had a hauwyd, yn yr amser yn torri allan i Dragywy­ddoldeb oll. Bydd yn rhyfedd gan yr ynfyd, yr hwn nid oes dim deall ynddo weled y cyfryw gynnyrch to­raethawg yn torri allan o gyfryw ha­dau bychain, byddent dda, byddent ddrwg, yn ol anian yr hedyn a hau­wyd. Eithr yt hwn sydd ddoeth a y­styria y pethau hyn, ac ni chyfrif bechod yn y byd yn fychan: Canys nid oes moi lygaid ef ar yr hyn sydd yn bresennol, ond ar yr hyn sydd i ddyfod yn wastadol; nid ar yr hyn a hauwyd, ond ar yr hyn a fedwyd; nid ar yr hyn a wnaed yn yr amser, ond ar yr hyn sydd yn ymaros i Dragy­wyddoldeb oll.

Oh enbyd a gresynus ynfydrwydd meibion Adda! Duw a'n creawdd ni i'r meddiant o anfeidrol a Thragywy­ddol olud: A pham gan hynny yr [Page 353] ydys yn ein dwyn ni gan gyfan ystly­si lad ruedd ein meddyliau, at y pe­thau hynny ynt ansafadwy a diflane­dig? Duw a'n gwnaeth ni yn etife­ddion y nefoedd, a meddiannau Tra­gywyddol: A pha ham yr ydym yn ein maglu ein hunain mor resynus yn ein gwagedd, ac yn rhedeg yn wyfg ein pennau i ddinistr? Gadewch i ni fod yn ddoeth mewn amser, ga­dewch i ni wilied yn jawn ar ein camrau, ffrystiwn ar ffordd Tragywy­ddoldeb: Gadewch i ni fyw felly me­gis y gallom ni fyw i Dragywyddol­deb. Nid yw 'r llwybr iddo ond byrr a chyfyng; Eithr hir-faith yw 'r amser sydd iddo.

Eithr o ni ddynion ynfyd a gre­synus fel yr ydym! ewyllysio 'r y­dym gael bywyd Tragywyddol; Eithr mae yn anhawdd gennem droedio 'r llwybr sydd yn arwain iddo: Ni a ewyllysiem fod yno; eithr nid ydym yn cymmeryd mo'r boen i fyned yno. Pob dyn sydd yn ewyllysio bod yn fendigedig. Nid oes un dyn medd St Augustin, o ba gyflwr neu radd byn­nag y byddo, nad oes arno chwant y bywyd hwnnw sydd yn fendigedig yn dragywyddol. Gan hynny y by­wyd hwn yw 'r hafn cyffredinol y mae [Page 354] mae pawb yn deisyfu iddo: Eithr ni wyr pawb pa foddi i lywo eu gyrch yn union. Peth ydyw▪ y mae pawb yn ewyllyssio ei feddiannu yn ddiddadl: Eithr y modd i amgyl­chu hynny, y drefn i'w chymmeryd, pa ffordd i fyned, dyna 'r pwngc yr hwn ni fedrant gyttuno arno. Ga­llwn fod yn hir ddigon yn ceisio hynny ar y ddaiar, a dadl yw pa 'r un a wnawn ni, a'i gael ef byth a'i peidio. Nid o ran fy mod yn anghanmol ymgais am dano, Eithr am na by­ddyd yn ei geisio yn ei iawn le. Y mae un o'r opiniwn mai buchedd y milwr yw 'r ddedwyddaf: Eithr un arall a wad hynny, ac a ddywed mai buchedd y llafurwr yw 'r ddedwy­ddaf. A thrachefn un arall a wad hyn yma, ac a ddywed mai buchedd y cyfreithiwr yw 'r ddedwyddaf; ac fe rydd ei reswm am hynny: Oblegid fod y bobl yn anrhydeddu `r cyfrei­rhiwr, ac yn ymbil llawer ag ef, ei fod ef yn derbyn cyflog yn wastadol, ac yn dadleu dadleuon.

A thrachefn un arall a wad hyn­ny, ac y ddywed, mai buchedd y bar­nwr yw 'r ddedwyddaf: Canys y mae ganddo allu i wrando dadleuon [Page 355] ac i'w dibennu. Ac etto drachefn un arall a wad hyn yma, ac a ddywed, mai buchedd y Marsiandwr yw 'r ddedwyddaf: Canys y mae ef yn gweled amryw wledydd, yn dysgu llawer o arferion, ac yn casglu ynghyd gyfoeth mawr. Fy anwyl gariadus, chwi a welwch mewn cymmaint a hynny o amryw fath ar fuche­ddau, nad oes yr un yn rhyngu bodd pawb. Eithr y fuchedd ddedwydd yn dragywyd dol, honno yw hi sydd yn rhyngu bodd pawb.

Nid yw dedwyddwch gan hynny i'w disgwyl yma; eithr mewn man arall y mae ymofyn am dano; ac nid oes monaw i'w gael un amser, ond trwy farwolaeth dda dduwiol. Y dynion annuwiol nhwythau a e­wyllyssient farw o farwolaeth y du­wiol: Eithr ni fucheddant fuchedd y duwiol. Canys y llwybr i dded­wyddwch yw marw yn dda; Eithr matter o boen yw bucheddu yn dda. Ac etto heb hyn yma ni chei mo hynny. Tragywyddoldeb sydd yn ym­ddibennu ar farwolaeth: Ac nid oes mo'r marw yn dda heb fucheddu yn dda. Dewis yr un a fynnych a'i bywyd, a'i Marwolaeth. Os wyt ti [Page 356] yn dda dy fuchedd, nis gelli ond marw yn dda; a hynny a fy dia yn dda gydâ thi yn dragywyddol. Onid wyt ti yn bucheddu yn dda, nid oes i ti obaith marw yn dda, a drwg a bydia hynny gyda thi yn dragywyddol.

Gwr oedd, yr hwn oedd a'i han­fod o dy da, ac nid oes mo'r llawer o flynyddoedd er pan fu ef, yr hwn oedd ganddo fwy o synwyr y n ei ben, nac oedd o grefydd yn ei galon, gofyn­nwyd iddo, pa beth yr oedd ef yn ei dybied o fuchedd gaeth y crefyddol, ac o fuchedd ehud y penrhydd, pa'r un yr oedd ef yn e gyfrif oreu? Atte. bodd fel hyn, mi a ddymunwn fyw fel y penrhydd, eithr marw fel y crefy­ddol. Gallei peth synwyr fod yn yt atteb hwn, eithr y mae yn siccr gennif nad oedd ynddo fawr grefydd: Dy­wedasei fel dyn Christianus, pe dy­wedasei fel hyn, yr wyf yn deisyfu bucheddu buchedd y crefyddol, fel y byddo fy niwedd fel yr eiddo yntef. Medreu Balaam ddywedyd, Marw a Num. 23. 10. wnelwyf o far wolaeth yr uniown, a by­dded fy niwedd fel yr eiddo yntef. Eithr efe a ddywedasei yn well o lawer iawn, pe dywedasei fel hyn, Bucheddu [Page 357] a wnelwyf fuchedd yr uniawn, fel y byddo i'm farw o sarwolaeth yr uniawn, ac fel y byddo fy niwedd fel yr eiddo yn­tef. Pwy bynnag a fuchedda fu­chedd y duwiol, y fydd yn siccr i farw o farwolaeth y duwiol: A phwy bynnag a fuchedda fuchedd yr annuwiol: y fydd yn siccr i farw o far­wolaeth yr annuwiol: Unwaith y mae yn rhaid iddo farw, eithr rhaid i'r unwaith honno fod bob amser, a'r bob amser hwnnw yn oes oesoedd. Rhyw filwr gwedi ei alw mewn cwestiwn gan Lamachus y Canwriad, am wneuthur rhyw ddrwg weithred neu ei gilydd yn y fyddin, y ddeisyfodd yn ddifri­fol bardwn am yr unwaith honno, gan addaw na throseddei byth yn y cyffel yb fodd drachefn: Eithr y Canwriad a wnaeth yr atteb yma i­ddo, In bello bone vir non licet bis peccare; O syr, gwybyddwch, nid yw rydd i chwi ddwywaith droseddu mewn rhyfel. Eithr, och! ym marwolaeth os troseddir unwaith: Nid oes gobaith pardwn! Unwaith yn sarw, ac yn farw yn wastadol. Yr hwn a fo farw yn frwnt un­waith y ddamnir yn dragywyddol. [Page 358] Nid oes mor dychwelyd drachefn i fywyd, i wellhau yr hyn a wnaed ar fai. Os rhoir y farn o gondemniad unwaith, nid oes mor appelio oddi­wrthi. Megis y gadawodd marwn. laeth ddyn, felly bydd barn yn ei ga­el, ac megis y gadawo barn ef, fe­lly y bydd Tragywyddoldeb yn ei gael ef.

Ymadrodd Iphicrates yw, mai cy­wilydd i ymmerawdr ddywedyd ar amser yn y byd gydâ 'r ynfyd, Nid oeddwn i yn meddwl am hyn: Eithr mwy cywilydd yw i ddyn Christianus yn y byd ddywedyd, Nid oeddwn i yn meddwl fod cymmaint rhagor rhwng buchedd ddiwair a buchedd ddiwala o drythyllwch. Nid oeddwn i yn meddwl mai Tragywyddoldeb oedd i ddyfod ar ol y bywyd hwn. Nid oeddwn yn meddwl y byddei i mi farw cyn gynted. Och! Och! Mor gysgadur yr ydym ni yn myned ynghylch masnach Tragywyddoldeb! Gan fod anian y bywyd marwol hwn o'n heiddo yn gyfryw, fel nas gallwn fod yn siccr ar neb ryw amser y bydd i ni fyw tros amser yn y byd, cym­maint a thros un munud: Gan ein bod ni yn gwybod am siccrwydd fod [Page 359] yn rhaid i ni ymadael oddi yma; ac yn ddigon ansiccr er hynny ar ba awr y bydd i ni ymadael; a phan ddelo 'r awr honno, byddwn yn gwe­led y pryd hynny, na ddarfu i ni fyw yn hynny▪ o amser, ond darfod i ni Brysuro i farw. Nid ydym ni yma ond mewn gwlad ddieithr megis gwyr dyfodiad, ac nid yn ein gwlad ein hunain megis dinasyddion; Nid ydym ond tenantiaid wrth ewyllys, ac nid uchelwyr: y mae yn rhaid i ni ymadael o'n bodd neu o n hanfodd. Canys nid oes i ni yma ddinas barhaus, Hebr. 13. 14. Eithr un i ddyfod yr dym ni yn ei ddis­gwil.

Y prophwyd sanctaidd Baruch sydd yn gofyn y cwestiwn hwn, Pa le mae Baru. 3. 16. 17. Tywysogion y cenhedloedd, a llywo­draethwyr yr anifeiliaid sydd ar y ddaiar, a dyrrodd arian ac aur; ac ni wnaent ddiben ar geisio? Ydynt hwy yn dal ac yn cadw eu teyrnasoedd a'i gogoniant yn wastadol? Nid felly y mae: Canys fel hyn y dywed y prophwyd gan atteb ei gwestiwn ei hun, Hwy a ddiflannasant, ac a 19 ddescynnasant i'r bedd, a rhai eraill a gododd yn eu lle hwynt. Hwy a ddi­flannasant, medd y prophwyd; Ca­nys [Page 360] nid oeddynt ond gwyr dyfodiad, ac nid dinasyddion: hwy a aethant ymmaith, a rhai eraill a gododd yn ei lle hwynt: gosodwyd eu tai hwy i eraill, a nhwythau a fwriwyd allan, a descynnasant i'r bedd. Eithr pe gofynnid y qwestiwn drachefn, Pa le mae Tywysogion y Nefoedd, pre­swylfod yr rhai sydd uwch law y seithfed wybren? Pa le maent hwy gellir atteb yn yr un modd, ddarfod iddynt hwythau ddiflannu, a rhai eraill a gododd yn eu lle hwynt: Eithr hwy a drosglwyddwyd i deyrnas Nefoedd, yno i aros yn dragywyddol, yn ddio­fn oll o golli eu meddiant.

Gwisgwn goron o flodau rhos, yw cerdd y dynion penrhyddaf ac ano­beithiolDoeth. 2. 8. eu buchedd. Pa ham o flo­dau rhos? Oblegid bod eu tegwch a'i harogl yn myned ymmaith mewn un diwrnod: A'r cyfryw goronau diflanedig sydd harddaf ar y rheini ynt ym mron methu yn llwyr. Ond am y bendigedig nid felly mae gydâ hwy eithr maent hwy gwedi eu co­roni a thlysau, ac a meini gwer­thfawr, tegwch y rhai ni ddiflanna byth. Yr oedd gan y wraig a gry­bwyllwyd yn y Datcuddiad am ei [Page 661] phen goron, nid o flodau rhôs yr ardd, nac o dlysau 'r mor, eithr o Ser y Nefoedd. Gan hynny megis y mae y globynau nefol yn anllygredig, felly maent hwythau y rhai ynt yn preswylio ynddynt yn anllygredig: Y mae y cyfiawn yn byw byth. Y pe­thauDoeth. 5. 15. daiarol oll ynt yn drangcedig, ond mae 'r pethau nefol yn dragy­wyddol. Yr ydys yma yn ein blino ni â llafur, eithr yno ni a gawn ein gwneuthur yn ddiflinedig â gor­phywysdra Tragywyddol. Pa ham yr ydym yn ymgais am orphwysdra cyn dibennu o honom ein llafur? Yr ydym ni etto yn y chwarwyddfa? Am hynny mae yn rhaid i ni chwa­rau ein rhan: Yr ydym i drin ge­lynion galluog; Am hynny rhaid i ni fod yn barod i ymdrechu bob am­ser: Yr ydym ni ar ein gyrfa yn wastadol, am hynny rhaid i ni bar­hau hyd y diwedd. Gan hynny chwarawn ein rhan felly, megis y gallo yr angylion orfoleddu o'i bod yn edrychwyr; ymdrechwn, fel y gallom ynnill y goron; Rhedwn felly, megis y gallom gaffael ga­fael.

[Page 362]Da y mae St Gregori yn dywedyd, ped faem ni yn ystyrio yn dda rhyng­om a ni ein hunain pa beth a pha bethau mawr addawyd i ni yn y Nefoedd, gwael yr ymddangosei peb peth ar y ddaiar i ni: Canys pa dafod y ddichon adrodd, neu pa galon ddeall, cymmaint yw 'r llawe­nydd sydd yn y ddinas honno oddi u­chod? Lle cawn ni ran yn y cor nefol gydâ 'r Angylion i glodfori ac i foli Duw yn Dragywyddol; lle cawn ni weied goleuni nid ellir ei amgyffred; lle na bydd arnom ddim arswyd marwolaeth; lle cawn uchel▪ fi aint seinctiau nefol a Dinasyddion; i fod yn anllygredig byth. Mi a de­bygwn fy mod yn clywed fy nghalon yn tragwresogi, ac yn ennyn ynof tra 'r wyf yn llefaru am y gorfoledd hwn; Ac mi a debygwn yr ennynnei hi gan bawb a glywei hyn. Mi a debygwyn y dylei hyn weithio felly gyda ni oll; ac y byddei i ni yn awr, ie, yn ddifrifol ac yn wresawg­lym iawn ddeisyfu ein bod yno, lle 'r ydym yn gobeithio bod yn ol hyn byth. Eithr rhaid i ni wybob cym­maint a hyn, nad oes mor myned yno heb gymmeryd llawer o boen. Nid y fi, [Page 663] eithr St Paul y pregethwr sydd yn dy wedyd hynny, Ni choronir neb, onid 2 Tim. 2. 5. ymdrech yn gyfreithlon. Bydded i fawredd y gwobrwy gan hynny ein cyssuro a'n hysparduno ym mlaen; ac na fydded i lafur a phoen, byrr la­fur, a phoen bychan, ein lluddias, neu ein cadw ni yn ol. Rhaid i ni fyned rhagom, rhaid i ni barhau i fyned rhagom, nid rhaid i ni feddwl cym­maint am arwder y ffordd, ag am y Tragywyddoldeb bend gedig, yr hyn yw ei diben hi. A hyn y mae yr un Tâd duwiol yn ei ddatgan yn dra­rhagorol, gan ddywedyd, Nod ac amlygyn hyspys yr Etholedigion yw hyn, eu bod hwy yn gwybod pa sut i ymddwyn eu hunain yn ffordd y bywyd presennol hwn yn y cyfryw fodd, ac y siccrhair hwy trwy obaith ddinam gyrhaeddyd o honynt uchder mawr: Yn gymmaint a'i bod hwy yn gweled y pethau trangcedig oll ym mhell îs eu llaw; ac o serch ar Dragywyddoldeb yn mathru y pethau daiarol oll tan eu traed. A hyn yma yw 'r hyn y mae 'r Arglwydd yn ei lefaru trwy enau ei brophwyd san­ctaidd, gan ddywedyd wrth bob enaid sydd yn ei ddilyn ef, Mi a'th ddercha­faf [Page 364] uwch law uchelderau y ddaiar: Canys am golledion, gwradwyddia­dau, tlodi, ammarch a'r cyffelyb, y cyfryw ynt ac y gallaf eu galw hwy yn y modd hyn, iselderau y ddaiar, y rai nid yw anwyl ddynion y byd hwn, tra byddant yn rhodio gwasta­edd y stordd ehang yn hoffi dy fod yn agos attynt; Eithr dal oddi wr­thynt cyn belled fyth ag allant. Eithr am elw a budd, yspleddach a gweniaith y rhai y fo gwaelach, aml­der o gyfoeth, urddas a lleoedd o barch, hwy ydynt uc helderau y ddai­ar. Yr hwn pwy bynnag sydd o feddwl bydol, ac yw gwedi sefydlu ei amcannion ar y pethau isod hyn, efe, meddaf, sydd yn gwneuthur mawr gyfrif o honynt; o ran maent yn ym­ddangos yn fawr iddo ef: Eithr pwy bynnag sydd o feddwl nefol, ac yw gwedi sefydlu ei amcannion ar y pethau oddi uchod, efe, meddaf, ni wna bris o honynt; o ran maent yn ymddangos iddo ef, fel y maent, (hyn­ny yw,) yn wael ac yn ddiystyr. Canys megis ac y mae gydâ gwr y fo yn escyn i fynydd uchel, pa uchaf yr esdynno, isach isach yn wastadol y gwel ef y ddaiar oddi tano: Felly [Page 365] mae gydag ef yr hwn sydd a'i ymar­weddiad yn y Nefoedd; pa uchaf yr ymgodo ef oddi ar y ddaiar ag ade­nydd meddyliau duwiol, bellach bel­lach yr hêd ef oddi wrth y ddaiar ag adenydd ei amcannion; efe a wyr nad yw holl ogoniant y byd hwn ddim, ac am hynny mae ei feddy­liau a'i amcannion ef ar fyd arall yn gwbl oll. Dyna 'r gwr a dder­chafwyd uwch law uchelderau y ddaiar.

Chwi glywsoch yr hyn y mae St Gre­gori yn ei ddywedyd: Ni byddei ar fai yn y fan nesaf wrando pa beth y mae St Augustin yn ei ddywedyd yn yr un modd. Pa beth yw hynny? Gwers yw a da! ei dysgu. Yr hyn sydd rhaid i'n ei golli o angenrhaid, (medd ef) ryw amser neu ei gilydd, doethineb yw, gwneuthur dosparth a honaw mewn amser; Megis y gallom ni wrth hynny bwrcasu gwobrwy Tra­gywyddol. Moses y fu fyw yn hir yn sicer, efe a fu fyw mewn iechyd; Ond o'r diwedd efe a fu farw: Methuselah Deut. 34. 5.▪ a fu fyw yn hwy nag ef, ond y maeGen. 5. 27. yn canlyn, Ac efe a fu farw. Hyn yw, neu fydd fedd argraph pob dyn,2 Sam 14. 24. ac efe a fu farw. Canys gan farw yr [Page 366] ydym ni yn marw, ac ydym fel dyfro­edd wedi eu tywallt ar y ddaiar. Eithr anfarwol yw 'r enaid, Tragywyddol yw, bydd iddo fyw byth naill a'i mewn gogoniant Tragywyddol, onide, mewn poenau Tragywyddol. Ein coelbren ni a fwrrir yma, ym mha Dragywy­ddoldeb a bydd i ni gael ein rhan: Ac nid oes mor ail fwrw arno. Oh Tragywyddoldeb bendigedig! Oh gwynfydedigrwydd Tragywyddol! Pa fodd y mae hyn yn dyfod i ben, nad ydym ni odid o amser, neu un am­ser yn myfyrio arnat? Neu os ydym ni ryw amser, nid ydym ni yn gwneuthur hyn, ondag ystlys amcan? Pa fodd y mae hyn yn digwyddo, nad ydym ni yn llafurio mwy am danat, nad ydym yn ymofyn am danat, nad ydym yn erlyn am danat, O Ar­glwydd Dduw egor ein llygaid, fel y gallom weled a gwybod pa beth yw Tragywyddoldeb, y ddau, sef, y naill hwnnw▪ o ogoniant, a'r llall hwnnw o boenau: ac mor annherfynedig yw 'r ddau: Mor fendigedig y naill, ac mor refynus y llall. Fe ddarfu i ti ein creu ni i ti dy hun, darfu i ti ein creu ni i Dragywyddoldeb: Canys ty di yw Tragywyddoldeb. Di a ewy­llyssit [Page 367] ein bod ni yn gyfrannogion o'th Tragywyddoldeb, Arglwydd byd­ded hynny yn ol dyewyllys di a'i dywe­daist Arglwydd, bydded hynny yn ol dy air: Di ai gaddewaist, Arglwydd, cy­wira dy addewid; gwna ni yn gyfranno­gion o'th Tragywyddoldeb di. Caniatta i ni fedru treulio y moment byrr o am­ser y roddwyd i ni yma yn hyn o fy­wyd yn y fath fodd dduwiol a chre­fyddol, ac y bydd dynion a fo yn lla­furio am Dragywyddoldeb, yn ym­rysson am Dragywyddoldeb, yn dio­ddef am Dragywyddoldeb. I'r di­ben yma par i'th Weinidogion gofio i ni yn fynych fyfyrio yn wastadol ar Dragywyddoldeb; par i ni gofio i'w gilydd ym mhob man fyfyrio ar Dra­gywyddoldeb, fel y gallom ni felly trwy dy drugaredd gael teyrnasu gy­dâ thi, O Tragywyddoldeb; ac i gym­maint ag y fo possibl gael eu cadw rhag darfod am danynt yn Dragy­wyddol. Clywch hyn chwi gristi­onogion oll, clywch hyn chwi Ang­hristionogion, clywch hyn chwi frenhinoedd, a thywysogion, clywch hyn chwi Ellmyn, clywch hyn chwi Ffrancod, clywch hyn chwi Saeson; clywch hyn chwi 'r Cymru, ie bydded [Page 368] i'r holl fyd glywed hyn, nod all sic­crwydd yn y byd fod yn ddigon lle byddo 'r perigl am golli Tragywyddol­deb.

Oh hir! oh dwfn! oh difeisiedig! Oh Tragywyddoldeb Tragywyddol! Gwynfyd, ô Arglwydd preswylwyr dy Psl. 84. 4. dy: Yn wastad i'th foliannant. Hwy a'th foliannant rhyd myrddiwnau a­neirif o oesau.

Moses yn agos i'w farwolaeth, yn gorchymmyn i Dduw yn ei weddiau bobl Israel, ac yn eu bendithio, cym­merodd ei gennad fel hyn gan lwyth Aser, ac y ddywedodd, Bendithier Deut. 33. 24. 25. 26. Aser â phlant. Bydded gymmeradwy gan ei frodyr, ac efe a wlych ei droed mewn olew. Haiarn a phres fydd tan dy esgid ti: A megis dy ddyddiau y bydd dy nerth. Nid oes megis Duw Israel, yr hwn sydd yn marchogaeth y Ne­foedd yn gymmorth i't; a'r wybrennau yn ei fawredd. Dy noddfa yw Duw tragywyddol, ac oddi tanodd y mae y breichiau tragywyddol. Yn anfei­drol fel hyn y mae Duw yn lledu allan freichiau ei gadernid trwy 'r Nefoedd oll: A thrwy ei freichiau ef y mae 'r byd oll, yr amser oll, a'r pethau oll fydd yn y byd yn cael eu [Page 369] cyfarwyddo, eu harweinio a'i Rheoli. Duw o'r dechreuad yn y modd hyn, Je o Dragywyddoldeb ei ragluniaeth, a ddygodd yn ei ddwyfron y thai duwi­ol oll, ac sydd yn eu hamddiffyn hwy beunydd, a phob awr, ac fel ped fai yn eu cofleidio hwynt a'i freichi­au. Escyn gan hynny, o fy enaid, ac na fydded i ti a wnelych ond hyn­ny â daiar a chlai. Ymestyn dy hun o hyd, ac escyn i fynu atto ef yr hwn sydd yn marchogaeth y Nefoedd, escyn i fynu at dy Dduw, preswyl­fod yr hwn sydd yn y mynyddoedd uchaf, y mynyddoedd hynny o Dra­gywyddoldeb. Y no di a eist eddi mewn diogelwch, a chei weled y ddaiar isod: Ac felly y deelli yn eglur mor goeg ao anghymmeradwy yw 'r pethau ynt isod yma y rhai ynt yn awr naill a'i gyrru arnat a chariad, neu yn dy frawychu ag ofn: déelli yn eglur pa beth salw yw hynny, pa beth bynnag a gynhwyfir o fewn perffedd bwynt y byd, y Globyn bychan y ddaiar; deelli yn eglur fel y mae pob peth yr ywt ti yn i ddymuno yn ofer, yn wael, ie yn wagedd ei hun, ie yn hy­trach yn wir anoberi mewn cyffe­lybiaeth i Dduw ac i Dragywyddol­deb. [Page 370] Gan hynny ymofyn di am y gwir ddaioni pennaf, ac na fydded gennit fatter am bethau eraill: Ym­ddiried yn Nuw, egor dy galon yn llydan i'w groesawu, mathra tan dy draed pa beth bynnag sydd tan yr haul a'r lleuad, pa beth bynnag sydd yn dy hudo di â gwên, neu yn dy frawychu di a gwg; Meddwl am Dragywyddoldeb, a dal yn dy gof bob amser yr ymadrodd godidog hwnnw o eiddo St Hierom, na fydded i lafur yn y byd ymddangos yn hir, rhyd yr amser y byddwn ni yn ymgais ar ol gogoniant Tragywyddol.

St Hierom sydd yn rhoi allan, fod ar amser ryw Gamel wedi ei gyrchu gan yspryd drwg. yr hwn gwedi ei ddwyn ger bron H [...]arion gwr duwi­ol crefyddol, a ddechreuodd ymgyn­ddeiriogi yn y cyfryw fodd ofna­dwy a rhyfeddol, fel ped fuasei yn ei fryd i ddifa ef yn ddiattreg: Eithr y gwr duwiol o lefarodd fel hyn yn ddiar swydd wrth yr yspryd drwg, Ty di yspryd drwg, na feddwl fy ny­chrynu i: er cael o honot Gamel am dy gefn: Pa 'r un bynnag a'i mewn cro­en Camel a'i mewn croen llwynog y de­lych, [Page 371] yr un modd geni. Ar camel cyn­ddeiriog a syrthioddi lawr ger ei fron ef yn ddioed, ac y brifiodd yn llo­nydd ac yn hywedd iawn, i ddigri­fwch pawb oedd yn sefyll o'i am­gylch. Pob gweniaith yspleddach, hudoliaeth a phrofedigaethau y byd hwn ynt gyffelyb; Pob ofn, gwg, braw a dychrynedigaethau yn gy­ffelyb: A pha beth yr wyt ti yn ei obeithio? Pa beth yr wyt ti yn ei ofni? Pa beth yr wyt ti yn ei garu? Yr hwn sydd yn marchogaeth y Nefoedd yw dy gymmorth, efe a'th gofleidia a'i freichiau Tragywyddol. Ffe y ddi­chon ar breichiau hynny o'i eiddo leffetheirio dy holl elynion, Pa 'r un bynnag a wnant a'i gwneuthur gwen a'i gwg arnat: Ar amnaid efe y ddichon eu gwasgu hwynt yn dippynnau yn gyflelyb i gymmaint a hynny o wybed, a'i dryllio hwynt yn gregyn fel llestr y crochenydd. Ynteu yw difyrrwch, trachwant glo­thineb, neu anardymherusrwydd yn gyrru arnat? Nid yw hynny ddim▪ na chynhyrfa wrth hyn, bwrw hyn heibio, na wna gyfrif o hon ne; myfyria yn hytrach ar y difyrrwch yr hwn sydd yn Dragywyddol. Ydys [Page 372] yn dy ddychrynu di a bygwthion, yn dy orthrymmu di a thristwch, bwrw hynny▪ heibio yn ddiystyr: Ydys yn dy gystuddiodi a chlefyd, yn dy flino di yn lan a thlodi? Nid yw rhain oll fatter dim; y rhain pan angerddolaf y bont, byrrach y bydd yr amser y parhant. Bydded yn ddiystyr gen­nit hwy; derchafa i fynu dy olygon tu ar mynyddoedd o r lle y daw dy gymmorth, edrych i fynu tu ar Nefo­edd, Myfyria ar Dragywyddol led Dahar. 12. 21. ni ddigwydd i'r cyfiawn ddim blinder.

Si fractus illabatur orbis,
Impavidum serient ruinæ.
Ni bydd i'r cyfiawn ofni er syrthio,
Ar ei ben yr wybren dewdo.

Am hynny nid yw 'r cyfiawn drist un amser: Ni bydd blinderau yn y byd yn gosod arno un amser. Eithr onid yw blinderau y cyfiawn yn aml? Ydynt: eithr er hynny ni wnant hwy ddim o honynt. Hyn yn unig y maent hwy yn ei gyfrif yn ddrwg, sef, yr hyn sydd yn Dragywyddol, y peth a neilldua ddyn oddi wrth Dduw, megis y mae pechod yn gwneuthur, a marwolaeth Tragywyddol; Yr hyn [Page 373] yw cyflog pechod. Y mae Pregethwr y cenhedloedd yn erchi i ni na edry­thom 2 Cor. 4. 8. ar y pethou a welir, ond ar y pe­thau ni welir. Pa ham hynny. Ca­nys, medd ef. y pethau a welir sy tros amser, ond y pethau ni welir sy dragy­wyddol; y pethau ni welir, y pethau sy dragywyddol, pethau mawr yw y rheini yn siccr, pa 'r un bynnag fy­ddant ai da a'i drwg.

Eithr tra 'r ydym ni yn edrych yn unig ar y pethau a wel om, ac yn anfynych neu un amser ar y pethau ni welom, pa beth yr ydym yn ei wneuthur o honom ein hunain ond bechgyn mawr ynfyd? Mawr, ond er hynny yn ynfyd; (a bwrw 'r go­reu;) [...]nd bechgyn. Os y pibonwy a syrth o'n dwylo, ni a ymollyngwn i wylo yn ddiattreg▪ ac etto y cyfryw beth yw hwnnw nad allwn ei ddal yn hir: yr ydym yn ofni cysgodau, ac yn breuddw▪ dio am faterion mawr; yr ydym yn treulio ein hunain ar y c fryw bethau ac y fyddo iddy nt, nid yn unig fyned heibio ar fyrder yn ddi­ammeu: Eithr ynt yn myned heibio yn barod. Canys nid ydys yn dywedyd dull neu wedd y byd hwn a heibio yn yr am­ser a ddaw. Eithr y mae dull y byd hwn [Page 374] yn myned heibio, yn yr amser presen­nol. Y mae fe yn myned heibio yn barod. Megis nad yw 'r holl gyfo­eth a feddom ni ond trangcedig; felly nid yw 'r holl ddrygau a ddio­ddefwn ni yma ond trangcedig, nid allant barhau yn hir. Gan y pethau hynny ni welir, y mae y cy­flwr parhaus yn unig, nid ad waenant hwy un diwedd. ni feddant un am­ser, nid ydynt yn ddarostyngedig i neb ryw gyfnewidiad, maent yn ga­darn, maent yn safadwy, maent yn Dragywyddol. Mi a ail adroddaf drachefn yr hyn a ddywedais i ychy­dig ym mlaen; Canys fe ryglyddeiei ail adrodd fil a mil o weithiau; na fyd­ded i lafur yn y byd ymddangos yn an­hawdd, nac i amser yn y bydym ddan­gos yn hir, rhyd yr amser ybyddom yn ymgais ar ol gogoniant tragywyddol.

Symphorianus gwr ievangc Chri­stianus, ar ol darfod agos eistlangellu i farwolaeth, fel yr oeddid yn ei lusgo i'w ddihenydd yn Augustodunum, cy­farfu a'i fam ar y stordd; eithr mewn pa agwedd? Nid yn tynnu ei gwallt, neu yn rhwygo ei dillad, neu gwedi eu dattod hwy ar ei dwyfron, neu yn gwnenthur gorthrwm alarnad; fel y bydd gwragedd ynfyd yn arfer o [Page 375] wneuthur: Eithr yn ymddwyn ei hunan yn gyffelyb i Arglwyddes ar­wraidd Ghristionogawl: Oblegid hi a waeddodd ac a alwodd ar ei mab, ac y ddywedodd, fy mab, fy mab, cofia, me­ddaf, fywyd Tragywyddol, edrych i fynu tu ar nefoedd, derchafa i fynu tu ar nefoedd, derchafa i fynu dy oly­gon at yr hwn sydd yn teyrnasu yno. Nid ydys yn dwyn bywyd oddi arnat, eithr ei gyfnewid ef yr ydys am un arall. Ar y geiriau hyn o eiddo ei fam y gwr ievangc a gymmerodd y fath gys­sur rhagorol, ac yr aeth ef yn ewyllys­gar i'w ddihenydd; ac fel ymdrechwr gwrolwych rhoes ei ben i lawr yn siriol ar yr yscymmydd, ac y lwyr ro­ddodd i wddf i'r fwyall anghenol.

Clywch hyn ô Ghristionogion oll, a med dyliwch am danoch eich hu­nain, dyna gyflwr pob dyn byw: yr ydym ni ar ein ffordd i farwolaeth: Nid ydym ni yn myned cyn gynted, ysgatfydd, ac yr oedd Symphorianus. ond er hynny myned yr ydym ni oll, ac nid oes i ni nemmawr i fyned. Yr ardderchog lu o Ferthyron y rhai aethant o n blaen ni, ynt yn galw o'r nefoedd arnom ac yn dywedyd fel y dywedodd y fam Ghristianus wrol ga­lon [Page 376] wrth ei mab ac cfe yn myned i'w ddihenydd, cofia fywyd Tragywyddol, edrych i fynu tu ar Nefoedd, derchafa i fynu dy olygon at yr hwn sydd yn teyr­nasu yno. Gan hynny pwy bynnag wyt ac sydd yn proffesu dy fod yn Gri­stion ymddwg dy hun yn gyffelyb i Symphorianus. Na fydd yn pwyso yn ol, nac yn anhawdd gennit fyned, na thyn ymmaith dy wddf oddi tan yr iau, nath ysgwyddau, oddi tan y groes; na arswyda ddioddef er mwyn Christ: nac ofna farw er mwyn Christ, na arfwyda fwytta tan, nen lyngcu 'r cle­ddyf er mwyn Christ. Dangos yma dy fod yn wr, cymmer gyssur a chalon dda.

A phan demptir di un amser, pan orthrymmit di▪ pan wneir di yn drist, pan drallodir di, pan ddirmygir di▪ pan wnelr di yn watwar gerdd, pan wradwyddir di, pan yspeilir di o'th dda▪ oedd, pan fyddo i ti fel y bu i Job ar y dommen, neu os gallei fod yn waeth, yno galw i'th gof Symphorianus, a mil or Gistionogion dewrwych cyffelyb i­ddo yntef, a dysg gandynt wroldeb Christianus a mawrfrydigrwydd, a thor allan yn hyf ac yn rhwydd i'r geiriau hyn, ac ail adrodd hwy yn fy­nych; [Page 377] beth bynnag a ddioddefwyf yma, nid yw ond ychydig, nid yw ond byrr. Am hynny canaf yn iach i'r holl fyd, ac i bob peth sydd ynddo: Croesaw attafi, y mae i ti groesaw Tragywyddoldeb.

Ar Dragywyddoldeb nid oes un TERFYN.

Boreuol Weddi.

O Dragywyddel Dduw, a Thru­garoccaf Dâd. yr ydym ni yma yn cyfaddef, ac yn cydnabod o flaen dy dduwiol sawrhydi, ein bod ni yn bechaduriaid truain wedi ein cael a'n geni mewn pechod, ac anwiredd; fel nad oes ynom ddim daioni: Canys y mae 'r cnawd yn wastadol yn gwrth­ryfela yn erbyn yr ysprpd, trwy 'r hyn yr ydym ni yn troseddu beunydd dy sanctaidd eirchion a'th orchymynion: ac felly yn pwrcasu trwy dy gyfiawn sar­nedigaeth, farwolaeth a damnedigaeth i ni ein hunain. Etto er hyn i gyd (ô Nefol Dad) ac yn gymmaint a'n bôd ni yn ddig wrthym ein hunain am y pe­chodau a wnaethom ni yn dy erbyn, a'n bod ni yn wir ediseiriol am danynt, yr ydym yn ddarostyngedig yn adolwg i ti er mwyn Jesu Grist gymmeryd tru­garedd arnom, a maddeu i ni ein holl bechodau; ac angwhanegu dy yspryd sanctaidd ynom, megis yn cydnabod o [Page] [Page] eigion ein calonnau éin anghyfiawnder ein hunain, y gallom o hyn allan nid yn unig farweiddio ein trachwantau a'n meddyliau pechadurus; Eithr dwyny fath ffrwythau, ac y fyddo yn cyttuno a'th ewy­llys trabendigedig: nid er mwyn teily­ngdod hyn yma; eithr er mwyn teilyn­gdod dy anwyl gariadus fâb Jesu Grist ein hunig jachawdwr, yr hwn a rod­daist di yn barod yn offrwm ac yn aberth tros ein pechodau; ac yr ydym yn credu yn ddiau na ommeddi monom er ei fwyn ef o ddim ar a ofynnom yn ei enw ef yn ol dy ewyllys di: Canys y mae dy yspryd yn siccrhau ein cydwy­bob, mai dy di yw ein Tad trugarog, a'th fôd di yw ein caru ni dy blant felly trwyddo ef, ac nas dichon dim dynnu ymmaith dy Nefol Ras, a'th cariad oddiwrthym. O Arglwydd cryfhâ ein ffydd ni, ac ennynna ynddi awydd a chariad i ti, ac i'n cymmydogion er dy fwyn di. Na chynnwys i ni un amser O anwylaf dad dderbyn dy air yn ofer: Eithr caniatta i ni gymmorth dy ras a'th yspryd sanctaidd fel y gallom ni yn ein calonnau ein geiriau an gweithredoedd sancteiddio ac addoli dy enw. Dyro Borth ï angwhanegu ac i amlhau dy deyrnas a pha beth bynnag a ddanfonech [Page] i ni fod yn wir fodlon yn ein calonnau i'th arfaeth a'th ewyllys bendigedig. Na fydded arnom, ô Dad, ddiffyg y peth, heb yr hwn nid allwn ni dy wasa­naethu di: eithr bendithia felly holl weithredoedd ein dwylo ni y dydd hed­dyw a holl ddyddiau ein bywyd fel y gallom gael digonolrhwydd, ac na byd­dom yn pwyso ar neb; eithr yn hytrach yn rhoddi porth i eraill. Ac yma hefyd, O Arglwydd yr ydym yn diolch i ti am dy holl drugareddau a'th garedigrwydd y ddangosaist i ni, sôd yn wiw gennit o'th rasol addwynder yn rhwydd ac o honot dy hyn ein hethol ni a'n dewis i jechydwriaeth cyn dechreuad y byd: Ar cyffelyb ddiolch gwastadol a roddwn ni i ti am ein creu ni ar dy ddelw dy anwyl fàb, pan oeddem ni yn amrygoll; Am i ti trwy ffydd yng Hrist ein cyfi­awnhau ni y rhaio herwydd natur ydym blant i ddigofaint; Am ein sancteiddio ni a'th lan yspryd yn y datcuddiad a gwybodaeth o'th sanctaidd air; a'm ein cymmorth a sefyll gydâ ni yn ein holl anghennion ac angenrheidiau: am ein heddwch a'n hawddfyd; a'm ein cyssuro ni mor Dadol yn ein blinderau oll ac erlidiau; am gyd-ddwyn â ni cyhyd, ac am roddi i ni cyhyd o amser i [Page] edifarhau. Megis yr ydym yn cydna­bod, Drugaroccaf Dad, ddarfod i ni dderbyn y doniau ymma o'th unig a­ddwynder, felly hefyd yr ydym yn ado­lwng i ti er mwyn dy anwyl fab Jesu Grist ganiatau i ni bob amser dy yspryd glan megis y gallom ni gynyddu mewn diolchgarwch yn wastadol tu ag attad i, i'n harwain i bob gwirionedd, i'n cyssuro ym mhob gwrthwyneb. Yr ydym yn diolch i ti hefyd, ø Arglwydd, am ymddiffyn ein eneidiau ni a'n cyrph y nos hon aeth heibio rhag ei holl beryglon a neweidiau, ac a'm ein cadw ni yn ddiangol hyd yn hyn o'r dydd heddyw: Ac megis y darfu i ti ddeffroi ein cyrph ni o gwsg, felly ni adolygwn i ti gynhyrfu a chyffroi ein heneidiau rhag i­ddynt gysgu mewn pechod, ac mewn angof disynniol am y byd a ddaw, sef y Tragywyddoldeb. Dyroi ni ras i feddwl a'm ein diwedd a'r cyfrif sydd raid i ni ei wneuthur i ti y pryd hynny. Planna yn ein calonnau ni y difrifol fwriad o wneuthur y dydd heddyw yn gyntaf o'n buchedd newydd, fel yn rho­dio rhag llaw megis plant y goleuni mewn diweirdeb a diniweidrwydd ger bron dy wyneb, y caffom yn niwedd ein bywyd etifeddu dy Dragywyddoldeb [Page] bendigedig. Ac i'r perwyl yma rhyg­lydded bodd i ti, ô Arglwydd holl­alluog, ddiddymmu bwriadau, dichel­lion, a siomedigaethau Sathan, y rhai ynt beunydd yn ein hudo ni i ddrygioni, rhag ein gwneuthur ni un amser yn ang­hymmeradwy yn dy wydd di. O ein Duw dyro i ni dy holl arfogaeth, uwch law pob dim tarian y ffydd, fel y gallom ni ddiffoddi holl biccellau Tanllyd y fall; a gorchymmyn ein eneidiau a'n cyrph; ein meddyliau, geiriau an gwei­thredoedd i'th cadwraeth ath lywodraeth di y dydd heddyw a phob dydd o'n By­wyd. O Arglwydd bendithia yr eglwys â chyfundeb, a llywodraeth y deyrnas hon â thangneddyf, cyfiawnder a chrefydd dda. Hyffordda weinidogion yr eglwys mewn gwir ffydd i draethu dy air yn ddyfal, heb osn nag arswyd. Bydd drugarog wrth ein holl frodyr yr rhai a'th ofnant ac a'th wir anrhy­deddant, a chyssura bawb o honynt ac sydd yn glaf neu yn ddigynnorthwy mewn corph neu feddwl: Bydd druga­rog wrth y rhai sydd yn dioddef cystudd a charchar er mwyn tystiolaeth i'th wi­rionedd. Prysura ddyfodiad ein har­glwydd ni Jesu Grist, a bydd druga­rog wrthym ni, a chan weled fod ein [Page] dyled ni yn fawr yr hon yn Jesu Grist a saddeuaist i ni. Par i ni dy garu di, a'n Cymmydogion yn fwy o aros hynny; bydd di yn Dad i ni, yn arweinydd, ac yn ymddifynnwr ym mhob pro­fedigaeth: Cynnal ni a'th law ra­susol, fel y caffom ni ein gwared rhag pob tramgwydd, a diweddu ein bywyd yn bendithio ac yn anrhyded­du dy enw sanctaidd trwy Jesu Christ ein harglwydd a'n hunig Ja­chawdur, yn enw er hwn y terfynwn yr ammherffaith weddi hon yn y berffaith weddi sanctaidd a ddysgodd ef ei hun i ni gan ddywedyd. Ein Tad &c.

Bydded dy Alluog law, a'th estynge­dig fraich, ô Arglwydd, ein wastadol ymddiffyn ni: Dy drugaredd a'th ca­redig addwynder yn Jesu Grist dy an­wyl fab ein Jachawdwr ein Conffordd: dy wir a'th sanctaidd air ein Athrawi­aeth: Dy Râs a'th sanctaidd yspryd ein cyssur, a'n diddanwch, byd y diwedd ac yn y diwedd.

Prydn-hawnol weddi.

NY ni, Oh! Greaduriaid truain tragresynaf, a ostyngwyd i lawr (O Arglydd) gan gymmant a hynny o ddrygau, gan gyfryw hynod bechodau, camweddau gorthrwm, beiau ffiaidd, ac aml anwireddau; fel yr ydym ni yn cyfaddef ddarfod i ni trwy lawer mil o foddion dy anfoddhau di, ac a haeddasom fwy o gospedigaethau nag ydym ni abl i'w dioddef: O Ar­glwydd y cyfryw yw ein cyndynrhwydd ein truein melldigedig, a'n rhediad di­synniol yn wysg ein pennau o wagedd i wagedd, o ddrwg i ddrwg; yn gym­maint a hynny a darfod i ni ddilyn y tywyllwch yn lle goleuni, croesawu amryfuseddau yn lle gwirionedd; dry­gioni yn lle rhinwedd; a darfod i ni yn lle gwneuthur daioni ie a mawrchwant ddilyn anwiredd. Fe ddarfu i waelodi­on troseddiad Sathan ein tra gorchfygu ni (O Arglwydd) a dwfn wreiddio yn ein calonnan, a chymmeryd y fath afael siccr yn ein cnawd llygredig; fel y mae yn dwyn ffrwythau buchedd ddrwg yn wastadol: Y mae ein cy­dwybod [Page] yn ein cyhuddo ac yn sefyll megis llawer o dystion i'n herbyn; yr ydym yn clywed yn hunain yn or­thrymedig gan lawer o bechodau, gan droseddiadau aneirif yn erbyn dy fawrhydi; yr ydym yn cydnabod fod y lleiaf o'r rhai hyn, o'r gallu, yn gyfi­awn, i'n condemnio: O Arglwydd ein tafodau, ein gwefusau, a'n calonnau a wrthryfelasant yn dy erbyn; ein me­ddyliau fuont ddrwg, ein geiriau yn ddrygionūs, a'n gweithredoedd yn ffiaidd o'th flaen di▪ ie, o'n pen hyd ein traed, nid oes un rhan (ô Arglwydd) a ddichon ddiheuro dy anfoddhau di. Am hynny yr ydym yn cydna dod, nid yn unig â'n lleferydd oddi allan, eithr âg ymwrandawiad yn ein calonnau ddarfod i ni dy ddigio yn ormod; a gwneuthur yr hyn oedd ffiaidd yn dy olwg di; trwy 'r hyn yr haedda­som dy dramawr ddigofaint i'n her­byn: Yn gymmaint a hynny, ac y gelli yn gyfiawn ein troi ni ymmaith, yn taflu oddi wrthit, a'n gwrthod, nad ydym deilwng i'n galw yn blant i ti. O Arglwydd, yr ydym yn cydnabod yr awrhon ein trueni ein hunain, a chyfaddef yr ydym fod sio­medigaethau y cnawd a Sathan yr hyn a brissiasom ac a gyfrifasom yn [Page] gu, i gyd oll yn dwyllgar ac yn ddrygionus; a chydnabod yr ydym fod y gwirionedd oll, y porth oll, y com­ffordd, y cyssur, a'r gwir ddidda­nwch yn deilliaw oddi wrthit ti, ffynnon yr holl wynfyd: Yr hwn yn nrhueni mwyaf dynion, ie, o'th wir gariad a'th Zêl ddiffuant i'n iechy­dwriaeth, a ddanfonaist seddygini­aeth i iachau ein melldigedigrwydd, dy Fab dy hun Jesu Ghrist; yr hwn a gymmerodd ymmaith y dialedd a haeddasom am droseddu dy ewyllys: Yn enw yr hwn ac er ei fwyn, cymmer drugaredd arnom, na ddyro mo'n pe­chodau yn ein herbyn, trwy yr rhai yr haeddasom ddamnedigaeth Dra­gywyddol. Rhynged bodd i ti (ô Arglwydd) er darfod i ni yn gyfiawn haeddu marwolaeth o ran ein gor­thrwm bechodau droi dy wyneb mewn trugaredd nid mewn cyfiawnder, tu ag attom: Na ddal sulw ar ein camweddau, Eithr dal sulw ar yr Aberth, a'r offrwm a offrymmwyd ar y Groes am ail gymmod y rheini drachefn a thy di, a ddeuant attad diachefn trwyddo ef: Trwy yr hwn, ô Arglwydd, yr ydym ninnau yn dyfod attad, ac er mwyn ei haeddedigae­thau [Page] ef yr ydym yn erfyn maddeuant, gan ymwrthod yn gwbl a'n haedde­digaethau ein hunain. Oh! cofia dy garediccaf addewid, a bydded yn gymmeradwy gennit ei farwolaeth a'i chwerw ddioddefaint ef yn daledi­gaeth gyflawn am ein holl gamwe­ddau, ac yn gwbl ddiogonol brid­werth am ein holl ddrygioni a fu o'r blaen: Bydded o'th ddigofaint, ô Arglwydd, gael ei ddihuddo, a'th tra mawr ddigllonedd oeri, ac i'th gariad adnewyddu trwyddo es: fel y gallom ni o hyn allan mewn gwir ffydd ddiammeu gymmeryd gafael trwyddo ef yn y maddeuant o'n pe­chodau; a chredu yn ddiffuant mai ufudd-dod dy fab Jesu Grist a wna­eth ein cymmod ni gydâ thi, ac mai trwy ei farwolaeth ef a gwnaed ni yn fyw, ac mai trwy ei adgyfodiad ef y cy­fiawnhawyd ni yn dy olwg di. By­dded i'th yspryd glân, (O fendigedig Arglwydd Dduw) ein siccrhau trwy 'r unrhyw ffydd ein bod ni yn ddi­ammeu gwedi ein derbyn i'th ffafor a'th gariad drachefn; mal trwy hyn yn cael ein gwir ddiddanu, y gallom fwynhau rhyddid meddwl digaeth, trwy yr hyn y gallwn dy wasanaethu, [Page] trwy yr hyn y gallwn fod yn ufudd i ti, a thrwy 'r hyn y gallwn brifio mewn casineb duwiol i'r henddyn; ac mewn gwir serch diffuant i gyfiawnder: mal y gallom o hyn allan ymarfer ein hu­nain yn ddyfal mewn newydd-deb bu­chedd i wneuthur ac i gyflawni yn wastadol y pethau hynny y ddichon dystiolaethu oddi allan yn esampl i ddynion eraill, yr hyn yr ydym ni yn ei gredu oddi fewn; trwy daflu ym­maith bob lledrith, a rhagrith, gorch­gudd pechod; gan dreulio yr h yn sydd yn ôl o'n dyddiau mewn pur a pherffaith-lawn ymarweddiad, yn dwyn ffrwythau addas i newydd­deb buchedd; mal pan ddarfyddo 'r bywyd yma, y gallom trwy ei haedde­digaethau es dy Fab ein hunig Ja­chawdur a'n dadleuwr Jesu Ghrist berchennogi llawenydd y bywyd Tra­gywyddol yn oes oesoedd. Ac yma (ô Arglwydd) rhoddwn i ti yn ddifrifol ddiolch ewyllysgar o eigion ein calon­nau am dy holl donniau a th fendi­thion y rhai a rhaglaniaist i ni yma yn y byd hwn, ac yn y byd a ddaw: Yn bendifaddeu am ein Etholedi­gaeth, prynedigaeth, galwedigaeth, cyfiawnhad, sancteiddiad, am ein [Page] hamdiffynniad ynghroth ein mammau, ac er pen aned ni hyd yr awr bresen­nol yma, ac am y dinam obaith a ro­ddaist i ni o'n gogoneddiad: Hefyd am ein hiechyd, ein golud, ein llunnia, eth, ein dillad, ein hawddfyd; ac yn enwedig am ddarfod i ti ein hamddi­ffyn ni y dydd hwn aeth heibio rhag pob peryglon a neweidian; ac am ein bendithio ni yn ein llafur a'n gwei­thredoedd: felly, (ô Arglwydd) o'th hynawsedd a'th arferol geidwadi▪gaeth; yr ydym, yn adolwg i ti o'th ras fendithio i ni ein cwsg, a'n cadw ni y nos hon rhag pob perigl enbydrwydd, colledion tân, yspail, neu ryw wrthwy­neb arall; a bod yn amddiffynfa i'n heneidiau rhag dychrynedigaethau, hu­doliaethau, a phrofedigaethau Sa­than, yr hwn ddydd a nos sydd a'i ddichellion i'n cynllwyn; A rhoddi i'n cyrph y cyfryw esmwythdra, ac a byddant yn gymmesurach i th wasa­naethu di, ac i wneuthur gweithredoedd ein galwedigaeth y bore nesaf. Dyro dy ras i bob un o honom i fod yn barod beunydd i farw, ac i ymwrthod a'r byd trangcedig hwn; trwy roddi ein serch ar dy deyrnas nefol, a myfy­rio yn wastadol ar y Tragywyddoldeb [Page] bendigedig sydd gennit ti yno; sef yn y byd a ddaw, yr hwn ni dder­fydd byth yn dragywydd: A hyn a'n gwna ni o'r gallu i barhau hyd y diwedd, i ddeifyf ein hym datt odiad, ac i fod gyda Christ, Ehang iachusol achles ein heneidiau rhag gorthrymder pechod: Lle cawn ni yn ddiofn bob math ar ryddid byth bythoedd. O Arglwydd, yr ydym yn erfyn arnat sen­dithio o honot yr Eglwys a chyfundeb, a holl swyddogion y deyrnas yma â rhadau angenrheidiol i'w galwediga­ethau; a chadw weinidogion yr eg­lwys ym mhurdeb dy wirionedd: Cys­sura bawb ac sydd yn glaf ac yn ddi­gynnorthwy; a phob un ac sydd yn di­oddef adfyd, a blinder am iawn dystio­laeth gwirionedd dy efengyl sanctaidd. Golch ni, ô arglwydd, golch ni, a gwna ni yn lan erbyn dyfodiad ein Harglwydd Jesu Ghrist; a gosod ym mhell oddi wrthym bob annuwiol feddyliau, geiriau, a gweithredoedd, trwy farweiddio holl drachwantau ein cnawd, ein lly­gaid, an calonnau, trwy roddi i ni ber­ffaith ammynedd ynghyd a ffydd ddi­ammeu, fel y gallom wneuthur sail dda erbyn yr amser a ddaw. A hynny er mwyn Jesu Grist ein hunig Jachawdur, [Page] a'n cyfryngwr, yn enw yr hwn i galwn arnat fel i'n dysgodd yn y weddi a sancteiddiodd ef a'i wefusau ei hun gan ddywedyd. Ein Tad, &c.

Bydded dy Alluog law, a'th estynge­dig fraich, ô Arglwydd, ein gwastadol ymddiff yn ni: dy drugaredd a'th ga­redig addwynder yn Jesu Christ dy anwyl fab ein Hiachawdwr ein com­ffordd: dy wir a'th sanctaidd air ein athrawiaeth: dy ras a'th sanctaidd yspryd ein cyssur a'n diddanwch, hyd y diwedd ac yn y diwedd.

AMEN.

TERFYN.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.