YMADRODDION HEN Mr. Dod.

1. NID all dim wneuthur niwed i ni ond Pechod; ac ni chaiff hwnnw wneuthur mo'r niwed i ni os medrwn ni edifarhau am dano. Ac ni all dim wneuthur i ni dda, ond Cariad a ffafor Duw yn Ghrist; a hynny a gawn ni, os nyni a'i ceisiwn mewn gwirion­edd.

2. Nid oes nêb mewn cyflwr tosturus, ond yr hwn sydd ganddo galon galed, ac ni fedro weddio.

3. Cymmaint ag a fyddo o Bechod, cymmal [...]t a hynny a fydd o Drymder: Cymmaint ag a syddo o Sancteiddrwydd, cymmaint a hynny a fydd o Hapyfrwydd.

[Page 2]4. Gwna dy Bechod i ti yn Dristwch mwy­af; felly ni chaiff dy Dristwch bŷth wneuthur i ti niwed; Gwna Jesu Ghrist yn llawenydd mwyaf i ti; felly ni bydd arnat ti bŷth mor diffyg llawenydd.

5. Y Gŵr y ma [...] Gantho Yspryd. Gwe [...]di, sydd gantho fwy nâ phe bai yr holl fyd ar ei helw.

6. Dau beth a orchymynnodd ef i Gwpl o rai Priod, Gofalon ac ymrysonau: Am y cyn­taf, Bydded eich Gofalon, Pa un a ryng [...]r fodd i Ddaw yn fwy af: Am eich Y m [...]ysona [...], by­dded iddynt [...]od, Pa un a garo eu gi [...] [...]d oreu: Felly y bydd eich Gofalon a' [...] [...]mry s [...]au i ryw ddefnydd da; ac felly pob Gofalon ac Ymrysonau afreidiol a ddiflannant.

7. Os ydych chwi mewn ystâd Briodol, Gwybyddwch, a choeliwch, er y galla [...]ech gael Gwraig neu wr gwell neu gyfoethoccach; etto byddwch sicer, na allasech chwi fyth gael un cymmhwysach: Oblegid ei fôd wedi ei orde­inio felly gan Dduw yn y Nefoedd, cyn y gellid ei gyflawni ymma ar y ddaiar: Ac am hynny, er nad ydys yn cyflawni cariad i ti yn ôl; etto gwna di dy ddyledswydd tuag at dy Briod, o ran ufudd-dod i Dduw; a thi a fyddi Siccr o gael cyssur yn y diwedd, er i Dduw dy drin di â Cheryddon dros amser.

8. Ni ddichon dim Cystuddiau, neu Drueni ddigwydd i ni, ond trwy Ordinnâd Duw; a [...] ni allant wneuthur niwed i ni, eithr rhaid yw [Page 3] iddynt wneuthur da i ni, os ydym ni Blant i Dduw. Eithr yn gyntaf, Byddwch siccr na chymmysgoch ddim pechod â hwynt; canys hynny yn unic sy'n eu chwerwi hwynt: Yn ail, Nac edrychwch ar y Wialen, ond ar yr hwn sy yn taro; canys hynny a bair ymddigio a de­ffygio hefyd.

9. Os wyt ti yn chwennych bod yn sicer fôd dy bechodau wedi eu maddeu iti; Cais faddeu y Cammau, a'r Niweidion a wenler i tithau, Mat. 6.14, 15. Ystria bedwar peth ir diben ymma:

1 Siampl Crist, yr hwn a faddeuodd iw ely­nion ac a weddiodd drostynt. 2 Gorchymmyn Cirst, Pan weddioch, maddeûwch os bydd gennych ddim yn erbyn neb. 3. Addewid Crist, Os madd­euwch, maddeuir i chwithau. 4. Bygythiad Crist, Oni faddeuwch, ni faddeuir i chwithau.

10 Ym mhob Trueni a Chyfyngderau; goreu doethineb yw myned at y Cyfaill hwnnw ar sydd nessaf, ewyllysgaraf, ac applaf i gynnor­thwyo; y cyfryw Ffrind yw Duw.

11 Mynych y dywedai ef; Nad oedd iddo achos yn y byd i gwyno rhag ei Groesau; gan nad oeddynt ond chwerw ffrwyth ei bechodau ef:

12. Lle mae Pechod yn drwm, mae Croesau yn ysgafn; ac yn y gwrthwyneb, lle mae Croesau yn drynion, Pechodau ydynt ysgafn.

13. Naill ai Gweddi a bair i ddyn beidio a phechu; neu y Pechod a bair i ddyn beidio a gweddio.

14. Pedwar peth a allwn ni ei ddysgu oddi­wrth [Page 4] Blant: 1. Ni ofalant am ddim yn afrei­diol. 2. Hwy a gysgant yn ddifalis. 3. Maent yn fodlon iw cyflwr. 4. Maent yn ostyngedig; Plentyn i Frenin a chwery a Phlentyn i Gerdot­tyn.

15. Nid oes un Cystudd cyn lleied, na suddem ni dano, oni bai fod Duw i'n cynnal; ac nid oes un Pechod mor fawr, na wnaem ni ef, oni bai fod Duw yn ein hattal.

16. Os rhoddir anfri i ni, neu ein difenwi, neu os gwneir a ni gam gan gyfaill neu elyn, fe ddylei fod yn flinach gennym ni o ran y pe­chod a wneir yn erbyn Duw, nag o ran y sar­haad neu 'r ammarch a wneir i ni ein hunain.

17. Mae gwr Duwiol yn debyg i Ddafad; pob man sydd well o'i blegid lle y delo. Gŵr annuwiol sydd debyg i Afr; pob man sydd yn waeth o'i blegid; gado y mae ef sawyr drew­llyd ar ei ôl.

18 Cystuddiau wedi eu sancteiddio ydynt or­uchafiaethau, neu dderchafiadau ysprydol; ac y maent yn llawer gwell i Gristion, nâ 'r holl A­rian a'r Aur yn y bŷd; gan fod profiad ein ffydd yn werthfawroccach né 'r Aur, 1 Pe. 1.7.

19. Gwna 'r Sabbath yn ddydd marchnad i'th Enaid. Na ollwng un awr i golli, ond bydd naill ai yn Gweddio, ai yn ymddiddan, ai yn Myfyrio. Na feddwl dy feddyliau dy hun; Ca­ffed pob diwrnod ei ddyledswyddau; tro y Bre­geth a glywech yn ddefnydd o Weddi; Addysc yn Erfyniad, Argyoeddiad yn Gyffes; Cyssur yn [Page 5] ddiolchgarwch. Meddwl lawer am y Bregeth a glywaist, a gwna ryw ddefnydd o honi yr holl wythnos o hŷd.

20. Bob boneu trwy 'r wythnos rhag-fwrw; 1. Rhaid i mi farw. 2. Mi a allaf farw cyn y nôs 3. I ba [...]yr â fy enaid, ai ir Nêf ai i vffern: Bob nôs gofyn ith enaid y Cweftiwnau hyn.

1. A ddarfu i mi ddwywaith heddyw ymddarost­wng ger bron Duw o'r neilltu? 2. Pa fodd y gwe­ddiais? Ai mewn ffydd a Chariad? 3. Beth a fu fy Meddyliau arno y dydd heddyw? 4. Beth y fum i yn ei wneúthur yn fy lle a'm galwedigaeth? 5. Beth a fum i mewn Cwmpeini? A leferais i am bethau da? neu a wrandawais i, a rhoddi i gadw gyda Mair y pethau da a glywais? 6, Os adnewyddodd Duw Drugareddau gyda'r boreu, a fûm i ddiolchgar? 7. Os cyfrannodd y diwrnod i mi achos o drymder, a ymddigiais i? Ynteu a orweddais i yn y llwch ger bron Duw? Pan Darfyddo i chwi wneuthur fal hyn; lle y buoch chwi yn ddeffygiol, cyfaddefwch hynny yn athrist; a llai a fydd y gwaith i chwi iw wneuth­ur pan ddelo marwolaeth. Gwna fel hyn uniawn gysrif. â'th Dduw bob nôs. Hyn a fu fy helynt feunyddiol i, ac a gaiff fod yn arfer i mi nes fy marw.

21. Yr hyn a ennillom ni drwy Weddi, ni a gawn ei fwynhau mewn diddanwch.

22. Mae Siccrwydd dau-ddyblyg. 1. Siccr­wydd Haul-gan. 2. A Lloergan. Y cyntaf yw y llawn ficcrwydd hwnnw yn Heb. 10.22. Y Lloergan yw hwnnw o'r Gair, yr hwn da y gwn­awn fod yn dal arno, 1 Thes. 1.5. 2 Pet. 1.19. Y cyntaf ni roddir ond i ychydig, na hynny ond yn anfynych; a hynny naill ai ar ryw ddy­ledswydd fawr iw chyflowni; neu ryw gyflwr newydd o fywyd i fyned iddo; neu ar ryw [Page 6] fowrion ddioddefiadau i fyned danynt; am y [...] hwn y dywaid un, yr oriau (neu r'awrau) [...] daw, nid ydynt ond anfynych, a byrr y mae y [...] aros. Yr ail yw yr hwn y rhaid i ni ymddiried iddo, Rhoi goglud ar siccr Air Duw, drwy ffydd o Ymlyniad, pan ydym ni heb y llall, sef ys­pryd o lawn Siccrwydd.

23. Am gyssur pobl Duw, efe a ddaliodd sulw allan o'r 129 Psalm, Er bod yr annuwiol yn Ardd­wŷr ar y Cyfiawn, ac aredig o honynt yn ddwfn▪ a gwneuthur cwysau hirion, a hefyd aredig e [...] calonnau hwynt allan, pes gallent; etto yr Ar­glwydd cyfiawn, yr hwn sy yn eistedd yn y Nefoedd, sy yn chwerthin am eu pennau, ac yn torri eu Tidau, a'u rhaffau; ac yna nid allant uredig dim ychwaneg.

24. Yn achos Erlidiadau a Dioddefiadau eraill, fe ddylei pobl Dduw ystyried yn ddifrifol y pedwar peth hyn: 1. Duw sydd yn mynni iddynt fod, ac yn eu hanfon; Weithian Ew­yllys Duw fydd berffaith Reol Cyfiawnder; a'r hyn y mae Duw yn ei wneuthur, a wnaeth­pwyd cystal, nas gallai mor bod wedi ei wneu­thur yn well. 2. Mae yn rhaid wrthynt, oni bai hynny ni chaem ni mo honynt. 3. Eu rhi­fedi, eu mesur, a'u parhâd a benderfynnwyd gan Dduw; nid ydynt ond tros ennyd sechan, nac yn parhau ond ychydig ddyddiau, Dat. 2.10. nid ydynt rŷ drymion, rŷ aml, neu rŷ­hir, fel y mynnei 'r Cythrel iddynt fôd; na rhŷ-anaml, rhy-fyrrion, neu rŷ-ysgasn, fel y mynnei ein naturiaeth lygredig iddynt fôd. 4. Ei diwedd sydd bwys o ogoniant, a'r Goron a'u canlyn sydd dragwyddol, 2 Cor. 4.17.

25. Tri pheth a bair i ddŷn ei gyfrif ei hun yn ddedwydd ymma ar y Ddaiar. 1. Cael ystâd [Page 7] dda: 2. Ei chael hi mewn lle da: 3. Wrth gymmydogion da. Yn awr y tri hyn y mae y rhai sydd yn meirw yn yr Arglwydd, yn eu mwynhau mewn modd rhagorol.

1. Eu Nefol Etifeddiaeth sydd fawr, Ni wel­odd llygad, ni chlywodd clust y cyffelyb, 1 Cor. 2.9. 2. Mae hi mewn lle da, 2 Cor. 5.1. Y Nefoedd, yr hwn sydd Dy a wnaethpwyd i dd­ynt hwy, ac a wnaethpwyd gan Dduw; ac am hynny mae'n rhaid iddo fod yn dda. 3. Yn agos at Gymmydogion da: Duw, Crist, yr Yspryd, Angelion, a Seintiau. Yr oedd gan Adda Etifeddiaeth dda, ac mewn lle da; ond yr oedd ganddo Gymmydog drwg, sef y Gy­thrael, yr hwn ai blinodd ef, ac a anafodd y cwbl. Ond nid oes dim Cymmydogion drwg yn y Nefoedd.

26. Nid yw Dioddefiadau pobl Dduw yn rhwystro eu Gweddiau hwynt. Elias oedd ddyn yn rhaid iddo ddioddef fel ninnau, ac efe a weddiodd ac a wrandawyd, Jac. 5.17.

27. Tri pheth sydd yn cyd-ymganlyn i wneu­thur i fynu y pechod yn erbyn yr Yspryd glân, 1. Goleuni yn y meddwl. 2. Malis yn y galon. 3. Yr anheimlad o'r pechod. Y nêb sy yn osni ddarfod iddo ei bechu ef, ni phechodd ef mo hono erioed.

28. Y rheswm pa ham na weithir ar lawer sydd tan nerthol foddion Grâs, lle y mae llawe­roedd ar sy yn byw o bell, ac yn dywad yn anfynych tan Bregethiad nerthol, yn cael gwei­thio arnynt drwy hynny, efe a arferei oi roddi drwy'r gyffelybiaeth yma: Megis mewn Tref farchnad, nid oes cymmaint matter gan bobl y Dref am bethau fy yn y sarchnad, a chan y rhai sydd yn byw yn y wlâd; maent hwy yn dyfod i brynu, a rhaid yw iddynt wneuthur [Page 8] felly; a hwy a fynnant gael y peth sydd arnynt ei eifiau, beth bynnag a dalont am dano; lle mae y rhai sy yn byw yn y Dref, yn tybied y gallant brynu, pa amser bynnag y gwelont yn dda, ac felly yr esceulusant brynu yn yr amser presennol; ac o'r diwedd, maent yn fynych iawn yn cael eu siommi a'u twy [...]o.

29. I'n perswadio ni i beidio a rhoi sen am sen, efe; a ddywedai; Os C [...] gyfarth ddafad, ni chyfarth y ddafad mo'r Ci.

30. Pedwar O Resymman a roddai fo yn erbyn Gofalon anghymhedrol am bethau daia­rol, fel na ddianrhydeddem Duw, na'i wadu. 1. Maent yn afreidiol. 2. Maent yn anifei­laidd. 3. Maent yn anfuddiol. 4. Maent yn arfer o ddilyn y cenhedloedd.

1. Yn afreidiol: Pam y rhaid i ni ofalu, a Duw hefyd? Gŵyr ein Tad nefol fod arnom ei­fieu y pethau hyn, a pheri y mae ef i ni, na ofalom am ddim, ond bwrw ein gofal arno ef, yr hwn sy yn gofalu drosom ni. Mat. 6.32. 1 Pet. 5.7. 2. Yn aniseilaidd, ie a gwaeth nag a­nifeilaidd: Edrychwch ar adar y nefoedd, a'r cygfrain, y mae efe yn eu porthi hwynt, er nad ydynt yn llafurio, Mat. 6.26. 3. Maent yn An­fuddiol ac yn ddilês. Pwy o honoch gan ofalu a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli, neu vn geiniog at ei olud, Mat. 6.27. 4. Arfer y Cenhedloedd yw, Yr holl bethau hyn y mae y Cenhedloedd yn eu ceisio. Mat. 6.32.

31. Mae bagad yn y byd yn cymmeryd yr enw o fod yn Sainct ar dyb da eraill am danynt; ae yn marchanatta yn nyledswyd dau Crefydd, ar y goel a ennillasant oddiwrth Opiniwnau da rhai eraill am danynt hwy, a'u proffess: Cre­du y maent eu bod eu hunain yn Gristianogion, oblegid bod eraill yn gobeithio eu bod hwy [Page 9] [...]elly; ac hwy a negeseuant a zel gwresog, mewn dyledswyddau sy yn sefyll oddiallan, i gynnal eu Henw da; eithr ni edrychant un amser am y Stocc o gadarn Râs oddifewn; a hyn fydd yn anasu llawer.

32. Fel yr ydym ni yn darllen am fara beu­nyddiol, felly hefyd am Groes feunyddiol, Luc 9.23. yr hon y perir i ni ei chodi, nid ei gwneuthur. Nid rhaid i ni mor gwneuthur Croesau i ni ein hunain (fal yr ydym ni yn [...]hy barod i wneuthur) ond gadawn i Dduw [...]eu gwneuthur hwynt i ni: Croesau a wneir yn [...]y Nefoedd, fydd fwyaf cymmwys i gesnau'r Sainct; ac ni wasanaetha i ni moi rhoddi hwy [...]i lawr, nes iddynt hwy a ninnau orwedd i [...]awr ynghyd.

33. Ymadrodd hynodol oedd hwnnw o'r ei­ [...]ddo Gwr sanctaidd, Diffoddwch uffern, a llosgwch [...]y Nefoedd, etto myfi a garaf, ac a ofnaf fy Naw.

34. Nid croehlefain yn erbyn y Cythrael, rac ymadroddi yn erbyn Pechod mewn Gwe­ [...]ddi, neu Ymddiddanion; ond ymladd â'r Cy­thrael, a marweiddio ein Trachwantau, yw'r hyn y mae Duw yn bennaf yn edrych arno.

35. Y mae'r l'roffesswr gwâg yn Siommi [...]neu'n twyllo dau ar unwaith; Y Byd, yn hwn wrth [...]weled dail, sy yn disgwyl ff [...]wythau, ond nid yw yn [...]cael dim. 2. Ei hunan, yr hwn sy yn tybied cyrr­ [...]edd y Nefoedd, ond sy yn dyfod yn fyrr o honi.

36. Yr unig ffordd i Enaid cystuddiol, ni fedro ymafaelio nen ymaflyd mewn Cyssurau o'r blaen, oblegid Gwrthdroeadau neu becho­dau ar ôl, ac felly sy yn ammeu ei holl siccr­wydd o'r blaen, yw, Adnewyddu ei Edifeirwch, [...]l pe buasei ef heb gredu erioed.

37. Hawdd gan rai feddwl pe baent yn y cyf­yw Deulu, dan y cyfryw Weinidog, allan o'r [Page 10] cyfryw Demptasiwnau, nad ymmyrrau'r Cy­thrael â hwynt, fel y mae. Eithr y cyfryw rai a ddylaent wybod. Mai cyhyd ag y byddo ei hen Grfaill ef, sef y cnawd yn fyw oddi fewn, y bydd ynteu yn curo wrth y drws oddi­allan.

38. Yr hadau a hauwyd yn Naturiaeth Dia­fol a'r Sainct ydynt cyn ddyfned, na ddiwreid­dir hwy byth, hyd oni pheidio y Cythrael a bod yn Gythra [...]l, a Phechod a bod yn Bechod, a Sainct a bod yn Sainct.

39. Melinydd Diafol yw'r pechadur, yn ma­lu yn wastadol; ar Diafol sydd yn wastad yn llenwi yr Hoppran, neu'r pin fel na safo'r felin.

40. Mae rhai pechodau na feidr dyn anwy­bodus moi Gwneuthur; eithr y mae llawer ychwaneg na feidr dyn anwybodus ond eu gwneuthur.

41. Y mae pump o rwymau, â phâ rai y rhwymodd Duw'r Nefoedd ef ei hun i fod yn Gard neu'n Geidwad i gadw einioes y Sainct, yn erbyn Gallu y Tywyllwch. 1. Ei barthy­nas iddynt megis T [...]d. 2. Ei Gariad ef iddynt, o ran ei bod bwynt yn Esgoredigaeth ei Gyngor Tragwyddol ef, megis cyfrannogion o'i Lûn ef ei hun. 3. Pridwer [...] Gwaed ei fab, a'i Gyfam­mod â hwynt. 4. Eu Goglud arno ef, a'u Dis­gwyliad oddiwrthn, yn eu holl gyfngderau: yn awr Disgwyhiad a gobaith y trueiniaid ni [...]hollit bŷth, Psalm 9.18. 5. Gwaith presennol Crist yn y Nefoedd, yn edrych am fod pob peth y [...] cael ei ddwyn rhagddo yn dêg rhwng Duw â' [...] Bobl.

42. Bara haidd gyd â'r Efengyl sydd ym borth dâ.

Byrr yw oes Dyn.

FEl Gwenol Job mae 'n hoes yn llithro,
Fel Rhossyn Dafydd mae hi 'n gwywo,
Fel gyrfa Paul y mae 'n diweddi,
Fel Bwmbwl Jago mae 'n diffoddi.
Fel canwyll gŵyr mae 'n hoes yn treulio.
Fel llong dan hwyl mae 'n myned heibio,
Fel post dan sawd mae 'n pedwar carnu,
Fel cyscod cwmmwl mae 'n difflannu.
Gwann yw 'n tai, a chryf yw'n Gelyn,
Byrr yw'n Terem, suwr yw'n terfyn,
Ancertennol yw ddyfodiad,
Byddwn barod yn ei wiliad.

Myfyrdod ar Fywyd ac Angeu.

PA gyntas bytho marw Cristion,
Cynta derhyn hwnnw ei Goron:
Pa hwya bytho Christion byw,
Hwya bydd heb weled Duw.
Pa hwya byddo dyn heb farw,
Mwya fydd gofynnion hwnnw:
Pa gynta tynner dyn o'i wegi,
Ll [...] gyd y fydd ei gyfri.

Crist yw Pren y Bywyd.

DEwch bôb rhai at Bren y bywyd,
Dewch at Ghrist ein prynwr hyfryd;
Mwynhewch y ffrwyth, a chredwch yntho.
Chwi gewch râs a bywyd gantho.
Dymma 'r Pren y dynn y ddingood,
A'r newyn du, a'r poen, a'r pechod,
A'r melldith Duw, a'r loes wenwynig,
Y ddaeth o fwytta 'r pre [...] gwarddedig.
O! bwyttewch o'r pren yn rhád,
O'r nef y daeth, oddiwrth y Tàd,
I'n gyrru 'n Jach, i gadw 'n bywyd,
I dorri 'n chwant, i roi i'n Jechyd.
Mae 'ffwryth e'n ber, mae ddail yn Jachus,
Mae flas yn well nâ'r Manna melus:
Ni all newyn byth, nac Angau,
Drwblo 'r dyn y fwytty ei ffrwythau.
Christ yw'r pren, Oh! dewch bawb atto,
Y ffrwyth yw'r bywyd y sydd ynddo;
Y dail yw' r gair, a'î gyngor Jachus,
Sy'n bywhan yr enaid clwyfus.
Dewch bôb rhai, sy'n flin eu cyflwr,
Dewch at Ghrist, ein gwir Jachawdwr,
Dewch i dderbyn grâs a Jechyd,
Cymmorth, cynffordd, bawb o'r holl-fyd.
Dewn at y Pren, bwyttawn ei ffrw [...] hau,
Crynhown ei ddail, rhown wrth ein cl [...]wyfau:
Fe'n gwir Jacha, se dyrr ein newyn,
Fe bair i'n fyw, dros fyth heb derfy [...]
TERFYN.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.