YMADRODDION Hen Mr. DOD.

1 NID all dim wneuthur niwed i ni ond Pechod; ac ni chaiff hwnnw wneuthur mo'r niwed i ni os medrwn ni edifarhau am dano. Ac ni all dim wneuthur i ni dda, ond Cariad a ffafor Duw yn Ghrist; á hynny a gawn ni; os nyni a'i ceisiwn mewn gwirionedd.

2. Nid oes nêb mewn cyflwr tosturus, ond yr hwn sydd ganddo galon galed, ac ni fedro weddio.

3. Cymmaint ag a fyddo o Bechod, cymmaint a hynny a fydd o Drymder: Cymmaint ag a fyddo o Sancteidd­rwydd, cymmaint a hynny a fydd o Hapysrwydd.

4. Gwna dy Bechod i ti yn Dristwch mwyaf; felly ni chaiff dy Dristwch bŷth wneuthur i ti niwed; Gwna Jesu Ghrist yn llawenydd mwyaf i ti; felly ni bydd arnat ti bŷth mor diffyg llawenydd.

5. Y Gŵr y mae Gantho Yspryd Gweddi, sydd gańtho fwy nâ phe bai yr holl fyd ar ei helw.

6. Dau beth a orchymynnodd ef i Gwpl o rai Priod, Gofalon, ac ymrysonau: Am y cyntaf, Bydded eich Gofa­lon, Pa un a rynga fodd i Dduw yn fwyaf: Am eich Ym­rysonau, bydded iddynt fôd, Ba un a garo eu gilydd oreu: Felly y bydd eich Gofalon a'ch Ymrysonau i ryw ddefnydd da; ac felly pob Gofalon ac Ymrysonau afreidiol a ddiflannant.

7. Os ydych chwi mewn ystâd Briodol, Gwybyddwch, a choeliwch, er y gallasech gael Gwraig neu wr gwell neu gy­foethoccach; etto byddwch siccr, na allasech chwi-fyth gael un cymmhwysach: Oblegid ei fôd wedi ei ordeinio felly gan Dduw yn y Nefoedd, cyn y gellid ei gyflawni ymma ar y ddaiâr: Ac am hynny, er nad ydys yn cyflawni ca­riad i ti yn ôl; etto gwna di dy ddyledswydd tuag at dy Briod, o ran ufudd-dod i Dduw; a thi a fyddi Siccr o ga­el cyssur yn y diwedd, er i Dduw dy ddrin di à Cheryddon dros amser.

8. Ni ddichon dim Cystuddiau, neu Drueni ddigwydd i ni, ond trwy Ordinhâd Duw, ac ni allant wneuthur niwed i ni, eithr rhaid yw iddynt wneuthur da i ni, os ydym ni Blant i Dduw. Eithr yn gyntaf, Byddwch siccr na chym­mysgoch ddim pechod á hwynt: Yn ail, Nac edrychwch ar y Wialen, ond ar yr hwn sy yn taro; canys hynny a bair ymddigio; a deffygio hefyd.

9. Os wyt ti yn chwennych bod yn siccr fod dy bechod­au wedi eu maddeu iti; Cais faddeu y Cammau, a'r Niwei­dion a wenler i tithau, Mat. 6.14, 15. Ysturia bedwar peth ir diben ymma.

  • 1 Siampl Crist, yr hwn a faddeuodd iw elynion ac a weddiodd drostynt.
  • 2 Gorchymmyn Crist, Pan weddioch, maddeuwch os bydd gennych ddim yn erbyn neb.
  • 3. Addewid Crist, Os maddeuwch, maddeuir i chwithau.
  • 4. Bygythaid Crist, Oni faddeuwch, ni faddeuir i chwithau.

10. Ym mhob Trueni a Chyfyngderau; goreu doethineb yw myned at y Cyfaill hwnnw ar sydd nessaf, ewyllysgaraf, ac applaf i gynnorthwyo; y cyfryw Ffrind yw Duw.

11. Mynych y dywedai ef; Nad oedd iddo achos yn y byd i gwyno rhag ei Groesau; gan nad oeddynt ond chwerw ffrwyth ei bechodau ef.

12. Lle mae Pechod yn drwm, mae Croesau yn ysgafn; ac yn y gwrthwyneb, lle mae Croesau yn drymion, Pechodau ydynt ysgafn.

13 Naill ai Gweddi a bair i ddyn beidio a phechu; neu ý Pechod a bair i ddyn beidio a gweddio.

14. Pedwar peth a allwn ni ei ddysgu oddiwrth Blant:

  • 1. Ni ofalant am ddim yn afreidiol.
  • 2 Hwy a gysgant yn ddifalis.
  • 3. Maent yn fodlon iw cyflwr.
  • 4. Maent yn ostyn­gedig; Plentyn i Frenin a chwery a Phlentyn i Gerdottyn.

15. Nid oes un Cystudd cyn lleied, na suddem ni dano, oni bai fod Duw i'n cynnal; ac nid oes un Pechod mor fawr, na wnaem ni ef, oni bai fod Duw yn ein hattal.

16. Os rhoddir anfri i ni, neu ein difenwi, neu os gwneir a ni gam gan gyfaill neu elyn, fe ddylei fod yn flinach gen­nym ni o ran y pechod a wneir yn erbyn Duw, nag o ran y sarhaad neu 'r ammarch a wneir i ni ein hunain.

17. Mae gwr Duwiol yn debyg i Ddafad; pob man sydd well o'i blegid lle y delo. Gwr annuwiol sydd debyg i Afr; pob man sydd yn waeth o'i blegid; gado y mae ef sawyr drewllyd ar ei ôl.

18. Cystuddiau wedi eu sancteiddio ydynt oruchafiaethau, neu dderchafiadau ysprydol; ac y maent yn llawer gwell i Gristion, nâ 'r holl Arian a'r Aur yn y bŷd; gan fod profiad ein ffyd yn werthfawroccach nâ 'r Aur, 1 Pe. 1.7.

19. Gwna 'r Sabbath yn ddydd marchnad i'th Enaid. Na ollwng un awr i golli, ond bydd naill ai yn Gweddio, ai yn ymddiddan, ai yn Myfyrio. Na feddwl dy feddyliau dy hun; Caffed pob diwrnod ei ddyledswyddau; tro y Bregeth a glywech yn ddefnydd o Weddi; Addysc yn Erfynaid, Ar­gyoeddiad yn Gyffes; Cyssur yn ddiolchgarwch, Meddwl lawer am y Bregeth a glywaist, a gwna ryw ddefnydd o honi yr holl wythnos o hŷd.

20. Bob boreu trwy 'r wythnos rhag-fwrw;

  • 1. Rhaid i mi farw.
  • 2. Mi a allaf farw cyn y nôs.
  • 3. I ba le yr â fy enaid, ai ir Nêf ai i vffern:

Bob nôs gofyn ith enaid y Cwestiwnau hyn.

  • 1. A ddarfu i mi ddwywaith heddyw ymddarostwng ger bron Duw o'r neilltu?
  • 2. Pa fodd y gweddiais? Ai mewn ffydd a Chariad?
  • 3. Beth a fu fy Med [...]yliau arno y dydd heddyw?
  • 4 Beth y fum i yn ei wneuthur yn fy lle a'm galwedigaeth?
  • 5. Beth a fum i mewn Cwmpeini? A leferais i am bethau da? neu a wrandawais i, a rhoddi i gadw gyda Mair y pethau da a gly­wais?
  • 6. Os adnewyddodd Duw Drugareddau gyda'r boreu, a fûm i ddiolchgar?
  • 7. Os cyfrannodd y diwrnod i mi achos o drymder, a ymddigiais i? Ynteu a orweddais i yn y llwch ger bron Duw? Pan Darfyddo i chwi wneuthur fal hyn; lle y buoch chwi yn ddeffygiol, cyfaddefwch hynny yn a thrist; a llai a fydd y gwaith i chwi iw wneuthur pan ddelo marwolaeth.

Gwna fel hyn uniawn gyfrif â'th Dduw bob nôs. Hyn a fu fy helynt fenuyddiol i, ac a gaiff fod yn arfer i mi nes fy marw.

21. Yr hyn a ennillom ni drwy Weddi, ni a gawn ei fwynhau mewn diddanwch.

22. Mae Siccrwydd dau-ddyblyg. 1. Siccrwydd Haul-gan. 2. A Lloergan. Y cyntaf yw y llawn siccrwydd hwnnw yn Heb. 10.22. Y Lloergan yw hwnnw o'r Gair yr hwn da y gwnawn fod yn dal arno, 1 Thes 1. 5. 2 Pet. 1.19. Y cyn­taf ni roddir ond i ychydig, na hynny ond yn anfynych; a hynny naill ai ar ryw ddyledswydd fawr iw chyflowni; neu ryw gyflwr newydd o fywyd i fyned iddo; neu ar ryw fowrion ddioddefiadau i fyned danynt; 'am yr hwn dywaid un, yr oriau (neu r'awrau) y daw, nid ydynt ond anfynych, a byrr y mae yn aros. Yr ail yw yr hwn y rhaid i ni ymddiried iddo, Rhoi goglud ar siccr Air Duw, drwy ffydd o Ymlynaid, pan ydym ni heb y llall, sef yspryd o lawn Siccrwydd.

23. Am gyssur pobl Duw, efe a ddaliodd sulw allan o'r 122 Psalm, Er bod yr annuwiol yn Arddwŷr ar y Cyfiawn, ac aredig o honynt yn ddwfn, a gwneuthur cwysau hirion, a hefyd aredig eu calonnau hwynt allan, pes gallent; etto yr Arglwydd cyfiawn, yr hwn sy yn eistedd yn y Nefoedd, sy yn chwerthin am eu pennau, ac yn torri eu Tidau, a'u rhaffau; ac yna nid allant aredig dim ychwaneg.

24. Yn achos Erlidiadau a Dioddefiadau eraill; fe ddylei pobl Dduw ystyried yn ddifrifol y pedwar peth hyn:

  • 1. Duw sydd yn mynni iddynt fod, ac yn eu hanfon; Weithian Ewyllys Duw sydd berffaith Reol Cyfiawnder; a'r hyn y mae Duw yn ei wneuthur, a wnaethpwyd cystal, nas gallai mor bod wedi ei wneuthur yn well.
  • 2. Mae yn rhaid wrth­ynt, oni bai hynny ni chaem ni mo honynt.
  • 3. Eu rhifedi, eu mesur, a'u parhâd a benderfynnwyd gan Dduw; nid yd­ynt ond tros ennyd fechan, nac yn parhau ond ychydig ddy­ddiau, Dat. 2.10. nid ydynt rŷ drymion, rŷ aml, neu rŷhir, fel y mynnei 'r Cythrael iddynt fôd; na rhŷ-anaml, rhy fyrrion, neu rŷ-ysgafn, fel y mynnei ein naturiaeth ly­gredig iddynt fôd.
  • 4. Ei diwedd sydd bwys o ogoniant, a'r Goron a'u canlyn sydd dragwyddol, 2 Cor. 4.17.

25. Tri pheth a bair i ddŷn ei gyfrif ei hun yn dded­wydd ymma ar y Ddaiar.

  • 1. Cael ystâd dda:
  • 2. Ei cha­el hi mewn lle da:
  • 3. Wrth gymmydogion da.

Yn awr y tri hyn y mae y rhai sydd yn meirw yn yr Arglwydd, yn eu mwynhau mewn modd rhagorol.

  • 1. Eu Nefol Etifeddiaeth sydd fawr, Ni welodd llygad, ni chlywodd clust y cyffelyb, 1 Cor. 2.9.
  • 2. Mae hi mewn lle da, 2 Cor. 5.1. Y Nefoedd, yr hwn sydd Dŷ a wnaeth­pwyd gan Dduw; ac am hynny mae'n rhaid iddo fod yn dda.
  • 3. Yn agos at Gymmydogion da: Duw, Crist, yr Yspryd, Angelion, a Seintiau. Yr oedd gan Adda Etife­ddiaeth dda, ac mewn lle da; ond yr oedd ganddo Gymmy­dog drwg, sef y Cythrael, yr hwn ai blinodd ef, ac a anafodd y cwbl. Onid nid oes dim Cymmydogion drwg yn y Nefoedd.

26. Nid yw Dioddefiadau pobl Dduw yn rhwystro eu Gweddiau hwynt. Elias oedd ddyn yn rhaid iddo ddioddef fel ninnau, ac efe a weddiodd ac a wrandawyd, Jac. 5.17.

27. Tri pheth sydd yn cyd-ymganlyn i wneuthur i fynu y pechod yn erbyn yr Yspryd glân.

  • 1. Goleuni yn y meddwl.
  • 2. Malis yn y galon.
  • 3. Yr anheimlad o'r pechod. Y neb sy yn ofni ddarfod iddo ei bechu ef, ni phechodd ef mo hono erioed.

28. Y rheswm pa ham na weithir ar lawer fydd tan ner­thol foddion Grâs, lle y mae llaweroedd ar sy yn byw o bell ac yn dywad yn anfynch tan Bregethiad nerthol, yn cael gweithio arnynt drwy hynny, efe a arferei oi roddi drwy'r gyffelybiaeth yma: Megis mewn Tref farchnad, nid oes cymmaint matter gan bobl y Dref am bethau sy yn y far­chnad, a chan y rhai sydd yn byw yn y wlâd; maent hwy yn dyfod i brynu, a rhaid yw iddynt wneuthur felly, a hwy fynnant gael y peth sydd arnynt ei eisiau, beth bynnag a dalont am dano; lle mae y rhai sy yn byw yn y Dref, yn tybied y gallant brynu, pa amser bynnag y gwelont yn dda, ac felly yr esceulusant brynu yn yr amser presennol; ac o'r diwedd, maent yn fynych iawn yn cael eu siommi a'u twyllo.

29. I'n perswadio ni i beidio a rhoi sen am sen, efe a ddy­wedai; Os Ci a gyfarth ddafad, ni chyfarth y ddafad mo'r Ci.

30. Pedwar O Resymmau a roddai fo yn erbyn Gofalon anghymhedrol am bethau daiarol, fel na ddianrhydeddem Duw, na'i wadu.

  • 1. Maent yn afreidiol.
  • 2. Maent yn ani­feilaidd.
  • 3. Maent yn anfuddiol.
  • 4. Maent yn arfer o ddi­lyn y Cenhedloedd.

  • 1. Yn afreidiol: Pam y rhaid i ni ofalu, a Duw hefyd; Gŵyr ein Tad nefol fod arnom esieu y pethau hyn, a pheri y mae ef i ni, na ofalom am ddim, ond bwrw ein gafol arno ef, yr hwn sy yn gofalu drosom ni. Mat. 6.32. 1. Pet. 5.7.
  • 2. Yn anifeilaidd, ie a gwaeth nag anifeilaidd: Edrychwch ar adar y nefoedd, a'r cygfrain, y mae efe yn eu porthi hwynt, er nad ydynt yn llafurio, Mat. 6.26.
  • 3. Maent yn Anfuddiol ac yn ddilês. Pwy o honoch gan ofalu a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli, neu vn geiniog at ei olud, Mat. 6.27.
  • 4. Arfer y Cenhedloedd yw, Yr holl bethau hyn y mae y Cen­hedloedd yn eu ceisio. Mat. 6.32.

31. Mae bagad yn y byd yn cymmeryd yr enw o fod yn Sainct ar dyb da eraill am danynt; ac yn marchanatta yn nyledswyddau Crefydd, ar y goel a ennillasant oddiwrth Opiniwnau da rhai eraill am danynt hwy, a'u proffess▪ Cre­du y maent eu bod eu hunain yn Gristianogion, oblegid bod eraill yn gobeithio eu bod hwy felly; ac hwy a negeseuant â zėl gwresog, mewn dyledswyddau sy yn sefyll oddiallan, i gynnal eu Henw da, eithr ni edrychant un amser am y Stocc o gadarn Râs oddifewn, a hyn sydd yn anafu llawer.

32. Fel yr ydym ni yn darllein am fara beunyddiol, felly hefyd am Groes feunyddiol, Luc. 9.23. yr hon y perir i ni ei chodi, nid ei gwneuthur. Nid rhaid i ni mor gwneuthur Croesau i ni ein hunain (fal yr ydym ni yn rhy barod i wneu­thur) ond gadawn i Dduw eu gwneuthur hwynt i ni: Croe­sau a wneir yn y Nefoedd, sydd fwaf cymmwys i gefnau'r Sainct, ac ni wasanaetha i ni moi rhoddi hwy i lawr, nes iddynt hwy a ninnau orwedd i lawr ynghyd.

33. Ymadrodd hynodol oedd hwnnw o'r eiddo Gwr sanct­aidd, Diffoddwch uffern, a llosgwch y Nefoedd, etto myfi a garaf, ac a ofnaf fy Nuw.

34. Nid crochlefain yn erbyn y Cythrael, nac ymadroddi yn erbyn Pechod mewn Gweddi, neu Ymddiddanion, ond ymladd â'r Cythrael, a marweiddio ein Trachwantau, yw'r hyn y mae Duw yn bennaf yn edrych arno

35. Y mae'r Proffesswr gwàg yn Siommi neu'n twyllo dau ar unwaith, I y Byd, yr hwn wrth weled dail, sy yn disgwyl ffrwythau, ond nid yw yn cael dim. 2. Ei hunan, yr hwn sy yn tybied cyrraedd y Nefoedd, sy yn dyfod yn fyrr o honi.

36. Yr unig ffordd i Enaid cystuddiol, ni fedro ymafaelio neu ymaflyd mewn Cyssurau o'r blaen, oblegid Gwrthdroeadau neu bechodau ar ôl, ac felly sy yn ammeu ei holl siccrwydd o'r blaen, yw, Adnewyddu ei Edifeirwch, fel pe buasei ef heb gredu erioed.

37. Hawdd gan rai feddwl pe baent yn y cyfryw Deulu, dan y cyfryw Weinidog, allan o'r cyfryw Demptasiwnau, nad ym­myrrau'r Cythrael â hwynt, fel y mae. Eithr y cyfryw rai a ddylaent wybod. Mai cyhyd ag y byddo ei hen Gyfaill ef, sef y cnawd yn fyw oddi fewn, y bydd ynteu yn curo wrth y drws oddiallan.

38. Yr hadau a hauwyd yn Naturiaeth Diafol a'r Sainct yd­ynt cyn ddyfned, na ddiwreiddir hwy byth, hyd oni pheidio y Cythrael a bod yn Gythrael, a Phechod a bod yn Bechod, a Sainct a bod yn Sainct.

39. Melinydd Diafol yw'r pechadur, yn malu yn wastadol; ar Diafol sydd yn wastad yn llenwi yr Hoppran, neu'r pin fel na safo'r felin.

40. Mae rhai pechodau na feidr dŷn anwybodus moi Gwneu­thur; eithr y mae llawer ychwaneg na feidr dŷn anwybodus ond eu gwneuthur.

41. Y mae pump o rwymau, â phâ rai y rhwymodd Duw'r Ne­foedd ef ei hun i fod yn Gard, neu'n Geidwad i gadw einioes y Sainct, yn erbyn Gallu y Tywyllwch.

  • 1. Ei berthynas iddynt me­gis Tâd.
  • 2. Ei Gariad ef iddynt, o ran ei bod hwynt yn Esgoredigaeth ei Gyngor Tragwyddol ef, megis cyfrannogion o'i Lun ef ei hun.
  • 3. Pridwerth Gwaed ei fab, a'i Gyfammod â hwynt.
  • 4. Eu Goglud ar­no ef, a'u Disgwyliad oddiwrtho, yn eu holl gyfngderau: yn awr Dis­gwliad a gobaith y trueiniaid ni chollir bŷth, Psal. 9.18.
  • 5. Gwaith presennol Crist yn y Nefoedd, yw edrych am fod pob peth yn cael ei ddywn rhagddo yn dêg rhwnġ Duw a'i Bobl.

42. Bara haidd gydâ'r Efengyl sydd ymborth dâ.

TERFYN.

Printiedig yn LLVNDAIN gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693.

[...]

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.