Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ... Bunny, Edmund, 1540-1619. 1684 Approx. 717 KB of XML-encoded text transcribed from 206 1-bit group-IV TIFF page images. Text Creation Partnership, Ann Arbor, MI ; Oxford (UK) : 2011-12 (EEBO-TCP Phase 2). A30113 Wing B5473A ESTC R30334 11295816 ocm 11295816 47333

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication Creative Commons 0 1.0 Universal. This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Early English books online. (EEBO-TCP ; phase 2, no. A30113) Transcribed from: (Early English Books Online ; image set 47333) Images scanned from microfilm: (Early English books, 1641-1700 ; 1417:15) Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ... Bunny, Edmund, 1540-1619. Yr Ad Argraphiad. 392 p. gan I.R., yn Llundain : 1684. Imperfect: stained. Reproduction of original in the Harvard University Library.

Created by converting TCP files to TEI P5 using tcp2tei.xsl, TEI @ Oxford.

EEBO-TCP is a partnership between the Universities of Michigan and Oxford and the publisher ProQuest to create accurately transcribed and encoded texts based on the image sets published by ProQuest via their Early English Books Online (EEBO) database (http://eebo.chadwyck.com). The general aim of EEBO-TCP is to encode one copy (usually the first edition) of every monographic English-language title published between 1473 and 1700 available in EEBO.

EEBO-TCP aimed to produce large quantities of textual data within the usual project restraints of time and funding, and therefore chose to create diplomatic transcriptions (as opposed to critical editions) with light-touch, mainly structural encoding based on the Text Encoding Initiative (http://www.tei-c.org).

The EEBO-TCP project was divided into two phases. The 25,363 texts created during Phase 1 of the project have been released into the public domain as of 1 January 2015. Anyone can now take and use these texts for their own purposes, but we respectfully request that due credit and attribution is given to their original source.

Users should be aware of the process of creating the TCP texts, and therefore of any assumptions that can be made about the data.

Text selection was based on the New Cambridge Bibliography of English Literature (NCBEL). If an author (or for an anonymous work, the title) appears in NCBEL, then their works are eligible for inclusion. Selection was intended to range over a wide variety of subject areas, to reflect the true nature of the print record of the period. In general, first editions of a works in English were prioritized, although there are a number of works in other languages, notably Latin and Welsh, included and sometimes a second or later edition of a work was chosen if there was a compelling reason to do so.

Image sets were sent to external keying companies for transcription and basic encoding. Quality assurance was then carried out by editorial teams in Oxford and Michigan. 5% (or 5 pages, whichever is the greater) of each text was proofread for accuracy and those which did not meet QA standards were returned to the keyers to be redone. After proofreading, the encoding was enhanced and/or corrected and characters marked as illegible were corrected where possible up to a limit of 100 instances per text. Any remaining illegibles were encoded as <gap>s. Understanding these processes should make clear that, while the overall quality of TCP data is very good, some errors will remain and some readable characters will be marked as illegible. Users should bear in mind that in all likelihood such instances will never have been looked at by a TCP editor.

The texts were encoded and linked to page images in accordance with level 4 of the TEI in Libraries guidelines.

Copies of the texts have been issued variously as SGML (TCP schema; ASCII text with mnemonic sdata character entities); displayable XML (TCP schema; characters represented either as UTF-8 Unicode or text strings within braces); or lossless XML (TEI P5, characters represented either as UTF-8 Unicode or TEI g elements).

Keying and markup guidelines are available at the Text Creation Partnership web site.

wel Christian life. 2020-09-21 Content of 'availability' element changed when EEBO Phase 2 texts came into the public domain 2009-05 Assigned for keying and markup 2009-06 Keyed and coded from ProQuest page images 2011-04 Sampled and proofread 2011-04 Text and markup reviewed and edited 2011-06 Batch review (QC) and XML conversion

LLYFR Y Reſoluſion; YR HWN SYDD YN DYSGV I NI BAWB Wneuthur ein goreu, a rhoi cwbl o'n bryd a'n meddwl ar fod yn wir Griſtianogion, hynny ydyw ar ymadael a'n drwg fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb.

Wedi ei gyfieithu yn Gymraeg gan y Dr. I. D er llês i'w blwyfolion; Fe Brintiwyd y Llyfr hwn, er ys mwy ná hanner cant o Flynyddoedd a aethant heibio, ac yn awr drachefn, nid yn u ic er mwyn y Gymraeg bûr ſydd ynddo, (yn amgen ch nag mewn un llyfr arall ond y Bibl) eithr hefyd er mwyn y Defnydd da, ar a ellir ei wneuthur o hono.

Yr Ail Argraph ad yn Llundain, gan I. R. yn y Flwyddyn. 1684.

AT EI ANWYL BLWYFOLION.

FY anwyl garedigion yn yr Arglwydd Jeſu GRIST, Er na bum abſennol oddiwrthych ond yn anfynych, a hynny fynychaf ar negeſau oedd yn perthyn i'ch Iachawdwriaeth chwi ac eraill o bobl Dduw; etto, i wneuthur i chwi beth iawn am hynny o eſgeuluſdra, mi a gyfieithiais i chwi yn Gymraeg y llyfr yma ſy'n canlyn, yr hwn, i'm tyb i, ſydd vn o'r llyfrau goreu i ddyſgu i ddynion ymadael a'i drwg fuchedd a throi at Dduw. Ac yr wyf yn deiſyf arnoch, er mwyn Ieſu Griſt, fod yn ddiwyd ac yn ddyfal i'w ddarllain ac i'w wrando, a rhoi cwbl o'ch bryd ar wneuthur yn ei ol. Ac o herwydd nas gall na myfina neb arall o'm galwedigaeth, ond eich dyſgu chwi a'ch annog, a'ch cynghori, am nad ydym ni ond Gwenidogion i Griſt a goruchw •• wyr ar ddirgeledigaethau Duw; ie nad 〈◊〉 Paul ddim, nac Apol-lo ddim, ond gwei •• dogion trwy y rhai y credaſoch chwi, ac fe •• rhoddes yr Arglwydd i bob vn; ie nad y ddim na'r hwn ſydd yn plannu, na'r hwn ſyd yn dyfrhau, ond Duw yr hwn ſydd yn rh ddi'r cynnyrch 2 Cor. 4.1. 1 Cor. 3. O herwydd hynny meddaf, ac am n gallaf ddim ond hynny, yr wyf yn att lwg i chwi gyda'r Apoſtol, Goddefwch air y cyngor, Ac yn gweddio droſoch yn y modd y gweddiodd ynteu dro yr Hebraeaid, A Duw'r heddwch yr hw a ddug drachefn oddiwrth y meirw ein Ha glwydd Ieſu Criſt, bugail mawr y defai rwy waed y cyfammod tragwyddol, a'c perffeithio chwi ymmhob gweithred dda, wneuthur ei ewyllys ef, ac a weithio yno yr hyn ſydd gymmeradwy yn ei olwg ef trw Ieſu Griſt. I'r hwn y byddo'r gogoniant yn oes oeſoedd, Amen. Heb. 13.20, 21, 2

Eich eglwyſwr anwiw ſydd yn gofa •• ac yn gwilio tros eich eneidi u chwi I. D.
Cynhwyſiad y rhan gyntaf o'r llyfr hwn, yng hylch y rheſymmau a'r achoſion a allai annog dyn i roi cwbl o'i fryd a'i feddwl ar waſanaethu Duw. LLe y dangoſir amcan a rhannau 'r llyfr hwn ynghyd a rhybudd i'r darlleydd. Mor anghenrhaid yw i ni yſtyried a myfyrio yn ddifrif ar ein cyflwr ein hunain. Er mwyn pa achos y crewyd dyn, ac y goſodwyd ef yn y byd hwn. Am y diwedd a'r achos y gwnaed dyn, yn neillduol, ac am ddau beth a ofynnir yn enwedig ar law dyn yn y fuchedd hon. Am y toſt gyfrif a fydd rhaid i ni ei wneuthur i Dduw am y pethau a ddywetpwyd o'r blaen. Lle y dangoſir beth yw naturiaeth pechod, a phechadur: er mwyn dangos nad yw Duw yn anghyfiawn, er ei fod cyn doſted ac y dywetpwyd yn y bennod o'r blaen. Angwhaneg o reſymmau i amddiffyn gyfiawned barnediga thau Duw, ac i ddangos ein haeddedigaeth ni •••• a hynny wrth yſtyried mawredd Duw, a'i ddoniau haelionus tu ac attom ni. Pa dyb a fydd cannym ni am y pethau hyn, wrth farw, a pha fodd y cawn ni yr amſer hwnnw glywed oddiwrthynt. Pa boenau ſydd wedi eu hordeinio am bechod yn o 〈◊〉 fuchedd hon. Am y gw br a'r tal anrhydeddus a haeli nu oſodir o flaen pawb a waſanaetho Dduw yn gywir. Cynnhwyſiad yr ail rhan i'r llyfr hwn, ynghylc y rhwyſtrau ſy'n lluddias i ddyn roi cwbl o'i f yd a'i ſeddwl ar waſ naethu Duw. AM yr anhawſder a'r caledi a dybygir eu hod mewn buchedd dduwiol. Am yr ail rhwyſtr, yr hwn yw rlid, a blinder, a hrallod, gan y rhat y cedwir llawer oddiwrth waſanaethu Duw. Am y trydydd rhwyſtr ſydd yn lleſtair i ddynion oi eu bryd ar waſanaethu Duw: yr hwn yw cariad ar y byd hwn. Am y pedwerydd rhwyſtr, yr hwn yw hyderu gormodd ar drugaredd Duw. Am y pum •• ed rhwyſtr, yr hwn yw oedi rhoi ein bryd ar edifarhau o amſer i amſer, tan obeithio y gallwn wneuthur hynny yn well, neu yn haws ryw amſer arall. Am dri rhwyſtr arall ſydd yn lluddias i ddynion roi eu bryd ar wellhau eu buchedd, y rhai yw diogi, a diofalwch, a chalon galedwch.
Y RHAN GYNTAF O'R LLYFR HWN.
PEN. I. Amcan a Rhannau 'r llyfr hwn, ynghyd â rhybudd angenrheidiol i'r darlleydd.

AMcan ac ergyd priodol y llyfr hwn yw annog yr hwn ſydd Griſtion mewn enw, i fod yn Griſtion mewn gwirionedd, or hyn lleiaf, vngwir feddylfryd ei galon ei hun. Ac o herwydd bod deubeth yn anghenrheidiol i'r perwyl hwnnw, am hynny y doſperthir y llyfr hwn yn ddwy ran. Yn y rhan gyntaf y dangoſir rheſymau tradwyſion, ac achoſion trachadarn i annog dyn i roi cwbl o'i fryd a'i feddwl ar fod yn Griſtion da. Yn yr ail rhan y tynnir ymaith yr holl rwyſtrau y mae ein gelynion yſprydol (y byd, y cnawd, a'r cythrael) yn arfer o'i goſod o'n blaen, i luddias i ni roi 'n bryd a'n meddwl ar hynny; am eu bod yn gwybod yn dda mai ar hynny y mae ein holl waſanaeth ni i Dduw yn ſefyll. Oblegid y neb ni roddo ei fryd vn amſer ar wneuthur daioni, ac ar ymadael a'r peryglus gyflwr y mae ynddo tra fo mewn pechod, y mae hwnnw ym mhell oddiwrth wneuthur y peth ni roes erioed ei fryd ar ei wneuthur. Ond y neb ſydd weithiau yn rhoi ei fryd ar wneuthur hynny, er nas gàd ei wendid a'i freuolder iddo ei gwplau pan roddo ei fryd arno; etto y mae 'r bryd a'r ewyllys hwnnw yn gymmeradwy gan Dduw, ac y mae ei feddwl a'i galon ynteu ar âl hynny yn barottach i roi ei fryd drachefn ar ei wneuthur, a thrwy râs Duw i'w wneuthur hefyd. Ond y neb a fo o'i wirfodd yn gwrthwynebu 'r amcanion da a roddo yr yſpryd Glan yn ei galon ef, ac a fo mor anfoeſol a diyſtyru ei Arglwydd ſydd yn curo wrth ddrws ei galon a'i gydwybod ef; y mae 'r cyfryw vn yn annog digllonedd Duw yn ei erbyn yn fawr, ac yn myned fynychaf yn galettach galettach beunydd, hyd oni rodder ef i fynu i feddwl anghymmeradwy, yr hwn yw'r drws neſſaf i golledigaeth dragywyddol. Rhuf. 1.26. Dat. 3.20. Acts 7.

2. Vn peth gan hynny ſy raid i ni rybuddio 'r darlleydd o'i blegid, cyn myned ym mhellach, ar iddo gymmeryd mawr ofal am ochelyd vn ddichell o'r rhai pennaf ſy gan ein gelyn yſprydol ni, i dynnu myrddiwn o eneidiau beunydd i vffern: ſef yw hynny, eu hofni a'i dychrynu rhac na gwrando na darllein dim ac a fo gwrthwyneb iw meddwl a'i hewyllys hwy eu hunain. Felly y dychryna efe yr occrwr rhag darllein vn llyfr a fo'n dyſgu iddo dalu 'r llôg ar occr yn ei ól, yr anllad rhac darllein vn traethawd yn erbyn anlladrwydd: y bydol rhac darllein llyfrau yſprydol a grybwyllont am dduwioldeb a dyfoſiwn da. Ac dymma y rheſwm y mae efe fynychaf yn ei arfer i ddenu dynion i hynny: Ti a weli medd efe, nad wyt ti etto barod i ymadael á'r fuchedd yr wyt yn byw ynddi; ac am hynny ni wna darllein y cyfryw lyfrau ond blino dy gydwybod di, a'th fwrw di mewn trymder a thriſtwch, ac am hynny na ddarllein mo honynt hwy ddim. Dymma, meddaf ddichell gyfrwys ſy gan Satan, i ddallu awer o ddynion ac iw hudo i golledigaeth: yr vn modd ac y mae yn hawdd ir hebogydd ddwyn llawer o weilch lle y mynno, tra fo y mwgwd ar eu llygaid, yr hyn nis gallai byth ei wneuthur pe gadawai iddynt gael ei golwg yn rhydd.

3. Pettai anwybodaeth yn abl eſcus tros bechod, têg y gallai hynny fod yn achos i ddynion i fyw yn annuwiol: ond y mae 'r cyfryw anwybod ac ſydd. o wirfodd calon dyn, yn hyttrach yn chwanegu ar 〈◊〉 pechod, ac ar ddrwg gyflwr y pechadur hefyd. Oblegid, am y cyfryw ddyn y dywed yr yſpryd glân trwy fawr ddirmyg, Efe a beidiodd a bod yn gall i wneuthur daioni, Pſal. 36.3. megis pe dywedai, ni fynnai ddyſgu gwneuthur daioni. A thrachefn, Am i ti ddiyſtyru gwybodaeth, minneu a'th ddiyſtyraf ditheu, Hoſ. 4.6. Ac am yr vnrhyw ddynion y dywaid yr yſpryd glân mewn lle arall Y maent yn treulio eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y deſgynnant i'r bedd, Dywedant hefyd wrth Dduw, Cilia oddi wrthym, canis nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd di, Job 21.13. Ymogeled pob dyn gan hynny rhac y ddichell hon, a bydded fodlon, o'r hyn lleiaf, i ddarllein llyfrau da, ac i ymarfer â chwmpeini duwiol, ac à chyfryw foddion eraill ac a allo wellhau ei fuchedd ef; er na bo etto yn ei fryd eu canlyn: ie er ei fod yn clywed ynddo ei hun wrthwyneb i wneuthur hynny. Oblegid nis gall y pethau hynny byth wneuthur dim niwed iddo, ond hwy allant wneuthur iddo fawr lles: ac fe allai y gall y gwrthwyneb y mae efe yn ei ddioddef yn ei feddwl wrth arfer o'r pethau hynny yn erbyn ei ewyllys, beri i'r Arglwydd trugarog ſydd n gweled ei gyflwr blin ef, roddi iddo yr orchafiaeth arno ei hun o'r diwedd, a danfon iddo lawer mwy o ddiddanwch a chyſſur yn y pethau yr oedd o'r blaen yn e diflaſſu, nag oedd o anfodd ac anewyllys ganddo iddynt ar y cyntaf. Oblegid efe a all Duw wne thur hynny yn hawdd, yn vnig drwy newidio ei blâs genau ni ag vn defnyn bâch o'i nefol râs, a gw neuthur y pethau hynny yn flaſus ac yn beraidd, 〈◊〉 rhai'r oeddym ni o'r blaen yn eu clywed yn chwerwon ac yn ddiflas.

4. Am hynny, megis yr ewyllyſiwn fod i bob ma enaid o ddyn ac a ddarllenno y llyfr hwn, ei ddarllein â meddwl gwaſtad wedi ymroi yn gwbl yn llaw Dduw, a rhoi ei fryd ar wneuthur y peth a rodd 'r yſpryd glàn yn ei feddwl ef, pe rhôn iddo a cholli ei holl ddifyrrwch bydol wrth hynny: (yr hyn ſydd anghenraid i bawb ei wneuthur, ar a fynno fod yn gadwedig) felly os bydd i vn nas gallo wneuthur hynny allan o law, etto mi a gynghorwn iddo, yn anad dim, geiſio 'r maes ar ei feddwl ei hun cyn belled a bod yn ddioddefgar i ddarllein y llyfr hwn hyd y diwedd, ac i edrych beth a ellir ei ddywedyd yn erbyn y pethau a gynnhwyſir ynddo, er nas rhoddo gwbl o'i fryd a'i feddwl ar eu gwneuthur. Oblegid nid wyf yn ammeu nas gall Duw gynnhyrfu calonnau y rhai hyn cyn y delont i ddiwedd y llyfr, i newidio eu meddwl, ac i ymroi yn oſtyngedig i hyfryd waſanaeth eu Harglwydd a'i Hiachawdur, fel y gallo Angelion nef lawenychu a gorfoleddu am eu hynnill hwy drachefn, megis am y ddafad a gollaſai. Luc. 15.

PEN. II. Mor anghenrhaid yw i ni ystyried a myfyrio yn ddifrif ar ein cyflwr ein hunain.

Y mae'r Prophwyd Ieremi, yn ôl hir gwyno rhac yr aflwydd a'r gofid oedd ar yr luddewon yr mſer hynny am eu pechodau, yn dangos yr achos o ynny yn y geiriau hyn; Y tiri gyd a anrheithiwyd, am nad oes neb yn cymmeryd at ei galon, Jer. 12.11. Gan arwyddoccau wrth hynny, pe buaſai yr Iuddewon yn yſtyried yn ddwys ac yn ddifrif y fuchedd 'r cyflwr yr oeddynt ynddo cyn dyfod o'r difrod nawr hwnnw arnynt, y gallaſent ddiangc rhagddo, el y diangodd y Ninifeaid wrth gymmeryd rhy ydd gan Ionas, er bod y cleddyf euſys wedi ei dyn u, a llaw'r Arglwydd wedi ei hyſtyn allan i'w diſtrywio hwy o fewn deugain nhiwrnod. Mor anghenrhaid ac mor bwysfawr ydyw yſtyried y pe hau hyn. Yn arwydd o'r hyn beth y cyfrifid yn flan wrth gyfraith Moſes bob anifail ni chnoai ei gil: ac felly yn ddiammau y mae pob enaid ger ron Duw, yr hwn nid yſtyrio yn ei galon ac ni hnoo ei gil, trwy fynych fyfyrio, ar y peth a fyddai raid iddo ei wneuthur yn y bywyd hwn. Lev. 11. Deut. 14.

2. O herwydd, o ddyffyg y cyfryw yſtyried a myfyrio y mae cymmaint o bechodau ac amryfuſeddau yn y byd, ac y mae llawer mil o Griſtianogion yn cael gweled eu bod ym mhorth vffern cyn ddynt ammeu dim o'r cyfryw beth, wrth adael eu arwain trwy ddyffryn y fuchedd hon, a hùg ac a gorchudd diofalwch a difrawch ac anyſtyr tros eu llygaid, megis anifeiliaid i'r lladdfa, ac heb gael erioed weled eu perygl eu hun, hyd oni bo rhywyr ceiſio help ac ymwared rhagddo.

3. O herwydd hyn y mae 'r yſcrythur lân mor ofalus yn ein hannog ni i yſtig fyfyrio ac i ddyfa yſtyried beth a ddylem ei wneuthur, i geiſio ein hachub ni oddiwrth y perygl y mae eiſieu yſtyried a myfyrio yn ein tywys ni iddo.

4. Y mae Moſes wedi darfod iddo ddangos i'r bobl ei gennadwri oddiwrth Dduw ynghylch holl gyfrannau 'r gyfraith, yn goſod hyn yn angwhaneg ger eu bronnau hwy oddiwrth Dduw, megis peth o'r angenrheittiaf Deut. 6.6. ſef, Bydded y geiria hyn yn dy galon di, Ac yſpyſſa hwynt i'th blant a chrybwyll am danynt pan eiſteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i gyſgu, a phan gyfodech i fynu: a rhwym hwynt yn arwydd ar dy law, a byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid. Scrifenna hwynt hefyd ar bŷſt dy dŷ ac ar dy byrth. A thrachefn mewn lle arall y dywaid yr vn geiriau, ac y gorchymmyn ym mhellach fel hyn; Dyſgwch hwynt i'ch plant, fel y gallont hwythau fyfyrio arnynt. Deut. 11.19. Yr vnrhyw orchymmyn a roddes Duw ei hun 1 Joſua, pan ddewiſwyd ef gyntaf i lywodraethu 'r bobl, Ioſ. 1.8, 9. Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o'th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nôs, fel y cedwych ar wneuthur y hyn oll ſydd ſcrifennedig ynddo: Ac yn y man y mae Duw yn dangos pa lês a wnai hynny iddo, Yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni; canys yr Arglwydd dy Dduw a fydd gydâ thi, i ba le bynnac yr elych. Wrth yr hyn y mae efe yn arwyddoccâu nad yw dyn heb fyfyrio ar Gyfraith Dduw, ond myned ar gyfeilorn, ac megis vn dall heb wybod i ba le y mae yn myned.

5. S. Paul wedi darfod iddo oſod ger bron ei yſcolhaig Timotheus beth yw iawn ddyledſwydd Eglwyſwr, ſydd yn rhoi hyn o gyngor iddo yn angwhaneg, 1 Tim. 4.15. Myfyria ar y pethan hyn, ac arhos ynddynt: Yſtyria hwynt yn ddwys, gwyl pa bwys a pha ddefnydd ſydd ynddynt. A pha le bynnac y mae 'r yſcrythur lân yn dangos pa fath ſy a wr doeth, dedwydd, cyfiawn, (oblegid yr vn yw'r tripheth hyn yn yr yſcrythur lân, can nad oes gwir ddoethineb a dedwyddwch ond cyfiawnder) vn o'r pethau pennaf y mae yn ei ddywedyd am dano ydyw, ei fod ef yn myfyrio ar Gyfraith Dduw ddydd a nôs. Pſal. 1. Ac am eſamplau allan o'r yſcrythur lân, i ddangos pa fodd y byddai gwyr da gynt yn arfer o fyfyrio, hawdd fyddei imi ddangos llawer o honynt, megis am Iſaac yr hwn a ai allan i'r meuſydd i fyfyrio, Gen. 24.63: a'r brenhin Ezechias, yr hwn a riddfannodd megis colommen, Eſa. 38.14. hynny yw mewn diſtawrwydd, rhyngtho a'i galon ei hun, heb glywed llais ei eiriau. Ond nid oes vn eſampl bennach yn y defnydd ymma nag eſampl Dafydd, yr hwn, ym mhob man gan mwyaf, ſydd yn cofio el ddyfal a'i ddibaid fyfyrdod, gan ddywedyd wrth Dduw fel hyn. Myfyriais am dy orchymmynion 〈◊〉 rhai a hoffais, Pſal. 119.47. Felly y mae 'r Groeg a'r Lladin yn cyfieithu 'r gair. A thrachefn, Pan i'th gofiwyf ar fyngwely, Myfyriaf am danat yngwiliadwriaethau'r nos (neu fel y mae eraill yn ei gyfiaithu, Myfyriaf am danat y boreau) Pſal. 63.6. A thrachefn, Mor gu gennyf dy Gyfraith, hi yw fy myfyrdod beunydd, ie, ac ar hyd y dydd hefyd. Pſal. 119.97. Ac mor wreſog ac mor daerl w yr oedd efe yn arfer o fyfyrio, y mae efe ei hun yn ei ddangos, pan yw yn dywedyd am dano ei hun, Gwreſogodd fy nghalon o'm mewn, tra oeddwn yn myfyrio ennynnodd tân. Pſal. 39.3.

6. Y pethau hyn a gadwodd yr yſpryd glân mewn cof am y gwyr hynny gynt, i yrru cywilydd arnom ni ſydd Griſtianogion, y rhai er ein bod yn llawer mwy rhwymedig nâ hwynt hwy i fod yn wreſog mewn myfyrdod, oblegid i ni dderbyn doniau mwy gan Dduw; etto yr ydym ni yn byw mor ſegurllyd, y rhan fwyaf o honom, ac nad ydym ni agos vn amſer yn myfyrio nac am Gyfreithiau a gorchymmynion Duw, nac am ddirgeledigaethau ein ffydd, nac am fuchedd a marwolaeth ein Iachawdur Chriſt, nac am ein dylêd ein hunain tu ag atto ef; chwaethach yſtudio a myfyrio ar hynny beunydd fel y gwnai'r brenhinoedd ſanctaidd hynny, er maint eu gwaith a'i llafur yn llywodraethu eu gwledydd.

7. Pwy ſy o honom ni heddyw yn gwneuthur cyfreithau, a gorchymmynion, a chyfiawnderau Duw (canis felly y mae 'r yſcrythur lân yn eu galw) yn fyfyrdod beunyddol iddo, fel y gwnai 'r brenhin Dafydd? Ac nid y dydd yn vnig y gwnai efe hynny, ond y nôs hefyd, fel y tyſtiolaetha efe am dano ei hun mewn lle arall. Pa ſawl vn o honom ni ſydd yn gollwng llawer dydd, a llawer mis dros ei ben, heb vnwaith na myfyrio na meddylio am y pethau hyn? Ie Duw a wnel nad oes llawer o Griſtianogion yn y byd, heb wybod beth ydyw 'r cyfryw fyfyrdodau. Yr ydym ni yn credu yſgatfydd, ddirgelion ffydd Griſt, ſef bod vffern, a bod nêf, a bod tâl am ddaioni, a choſpedigaeth am ddrygioni, ac y daw dydd barn, ac y bydd rhaid gwneuthur cyfrif, a'r cyffelyb: ond am nad ydym nac yn cnoi ein cil ar y pethau hyn drwy ddwys fyfyrio arnynt, nac yn eu treulio yn ein calonnau trwy wrês myfyrdod; nid ydynt yn helpio dim arnom tu ag at fyw yn dduwiol, mwy nag y mae 'r feddyginiaeth a roddo gwr yn ei bocced yn helpio ei iechyd corphorol ef.

8. Pa ddyn o'r byd a fyddai mor hawdd gantho anturio pechu (fel y mae gan lawer, y rhai ſy 'n yfed pechod cyn rhwydded ac yr ŷf yr anifeiliaid ddwfr) ped yſtyriai y mawr berygl ſydd o bechu, a'r golled am râs Duw a'i ffafor a'i ewyllys da, a haeddu digofaint tragywyddol, a pheri o bechod i Fab Duw ei hun ddioddef marwolaeth, a'r anfeidrol boenau vffernol a fydd yn goſpedigaeth dragywyddol am bechu? Ac er bod pob Chriſtion yn credu y pethau hyn, ac yn cydnabod â hwynt, etto o herwydd bod y rhan fwyaf o ddynion heb eu hyſtyried hwy yn iawn yn eu calonnau, nid ydynt hwy yn cyffroi dim arnynt, ond y maent yn arwein yr wybodaeth honno ganthynt megis tan glo yn eu calonnau, heb na chlywed na gwybod vn gronyn oddiwrthi, megis vn a fyddai yn dwyn tan gydag ef mewn alleſtr, ac heb gael dim gwrês oddiwrtho, eiſieu taro 'r galleſtr; neu vn a fyddai 'n dwyn gantho beraroglau mewn blwch, ac heb gael dim arogl oddiwrtho eiſieu ei rwbbio.

9. Ac weithan i ddyfod yn nês at y defnydd pre ennol yr ydym ar fedr ei ddatcan yn y llyfr hwn; a ddyn byw ni roddei ei fryd yn gwbl ar waſana thu Duw yn gywir, ac i ymadael â holl orwagedd 〈◊〉 byd pettei yn yſtyried fel y dylai, y pwysfawr re ymmau a'r achoſion a allai ei gynnhyrfu ef i wneu hur hynny; ſef, y mawr wobr a gaiff efe am wneuhur hynny, ar anfeidrol berygl ſy iddo onis gwna? Ond o herwydd (fel y clywſoch) nad oes odid o vn ym myſg mil yn yſty ied y pethau hyn, ac o happiei ddo eu hyſtyried, nis gwna ond yn yſgafn, heb gymmaint o aſtudrwydd a chydwybod ac y mae 'r pethau yn eu haeddu: a hynny ſy 'n peri i gynnifer o ddynion fyned beunydd i golledigaeth, ac i gyn lleied fod yn gadwedig, am eu bod, o eiſieu yſtyried, heb roi eu bryd vn amſer ar fyw fel y dylent, ac fel y mae galwedigaeth Chriſtion yn gofyn ar eu dwylo hwy. Megis y gallwn ninnau hefyd gwyno gydâ Ieremi, fel y clywſoch o'r blaen, fod tir ein Chriſtianogaeth ni wedi myned yn anrhaith, am nad yw dynion yn yſtyried yn eu calonnau.

10. Yſtyried yw'r agoriad ſydd yn egori drw yſtafell ein calonnau ni, lle y mae llyfrau ein holl gyfrif ni ynghadw: Ie yſtyried ydyw drych, •• echrê llygad a golwg ein henaid ni, â'r hwn y ma 'r enaid yn ei weled ei hun, ac yn canfod ei holl gyflwr trwyddo; ſef ei gyfoeth, a'i ddoniau daionus, a'r ffordd y mae 'n rhodio ynddi, a pha fodd y ma 'n ei cherdded, ai yn fuan, ai yn araf; a'r pennod a'r diben y mae 'n cyrchu atto. Ac heb yr yſtyried hyn nid yw 'r enaid ond rhuthro fel dall yn wyſg el ben ym mhlith miloedd o ddrain a mieri, a thramgwyddo ar bob cam a gerddo i ryw anghymmheſurwydd neu ei gilydd, a phob amſer mewn perygl o ryw fawr farwol aflwydd. A pheth rhyfedd yw gweled, fod pob dŷn yn ei fatterion a'i negeſau by dol yn gwybod ac yn cydnabod, na s gall na dechreu, na gwneuthur, na gorp •• gwaith yn y byd heb ei yſtyried; ac etto yn y gwaith mawr hwn ar geiſio ynnill teyrnas nef, nid oes agos neb nac yn arfer o yſtyried, nac yn tybied fod yn rhaid iddo yſtyried.

11. Pettai ddyn yn amcanu myned i daith neu ſiwrnai, er na bai ond, o Loegr i Conſtantinopl, pe rhôn iddo a cherdded y ffordd vnwaith neu ddwy o'r blaen, etto ni cherddai gam o honi heb ei hyſtyried yn ddwys ac yn fynych; yn enwedig heb yſtyried pa vn a wnai ai bod ar y ffordd ai na bai, pa fodd y byddai'n cerdded ai yn fuan ai yn araf, a pha faint fyddei rhyngtho a phen ei ſiwrnai; ar cyffelyb bethau. Ac wyti yn meddwl (fo mraw anwyl) myned o'r ddaiar hon i'r nefoedd, a hynny tros gynnifer o fryniau, a phantiau, ac anialwch a lleoedd peryglus ni cherddaiſt erioed o'r blaen heb yſtyried vnwaith beth yr wyt arno? Yr wyti yn camgymmeryd yn fawr, os wyti yn tybied hynny: canys rheitiach o lawer i ti wrth yſtyried yn y daith nefol nag yn yr vn ddaiarol, o herwydd bod mwy o drawsffyrdd, a mwy o beryglon yn y naill nac yn y llall, gan fod pob dyfyrrwch yn y byd hwn, a phob trachwant, a phob ofer feddwl, a phob golwg gwammal, a phob llais a demptio, a phob cythrael ar y ddaiar, a phob elwig or eiddo (a'r rhei'ny yn aml) megis lladron yn cynllwyn am danat i'th yſpeilio ac i'th ddifetha ar y ffordd hon tu a'r nef.

12. Am hynny mi a gynghorwn i bob vn a ſiwrneio ar y ffordd hon, edrych yn dda yn ei gylch, ac o'r hyn lleiaf vn waith yn y dydd, yſtyried ei gyflwr ei hun, a chyflwr y tryſor ſydd gantho mewn lleſtr brau, fel y dyweid S. Paul, a'r tryſor hwnnw yw ei enaid ef, yr hwn o eiſieu yſtyried a ellir ei golli cyn hawſed a'r tlws lleiaf a ſiomgaraf yn y byd, fel y ceir gweled yn ôl hyn wrth y pethau a ddywetwyf er mwyn helpio dyn i yſtyried, yr hyn ſydd raid iawn i mi ac i bob Chriſtion arall wrtho, er mwyn gwneuthur ein gwaſanaeth yn gymmeradwy gan Dduw. O herwydd ped yſtyriai fy enaid i neu'r eiddo arall, yn ddwys ac yn ddifrif, ychydig o lawer o bethau a wyr eu bod yn wir; ni byddei boſſibl iddo na wellhaei, a bod yn anfodlon i'w fuchedd o'r blaen, a'i diflaſu a'i ffieiddo. M gis, ped yſtyriei yn ddwys ei ddyfod i'r byd hwn er mwyn cymmeryd gofal am waſanaethu Duw, a'i fod ef er hynny yn edrych yn vnig, neu yn fwya dim, am orwagedd y byd: pettai yn yſtyried y bydd rhaid iddo roi cyfrif yn y dydd diweddaf am bob gair ofer, Mat. 12.36. ac etto nad ydyw yn gwneuthur cyfrif yn y byd o lawer gweithred ddrwg v mae yn ei wneuthur, chwaethach o'i eiriau; pet ai yn yſtyried na chaiff vn putteinwr, na godinebwr, nac enlynaddolwr, na thorrwr priodas, na maſweddwr, na gwrrywgydiwr, na lleidr, na chybydd, na meddw, na diſ ••• a chribddeilwr, etifeddu teyrnas Dduw; a'i fod yn u yn meddwl y dichon fyned yno er ei fod yn byw yn y bei u hynny: pettai yn yſtyried fod vn pechod yn ddigon er colli miloedd o bobl ar vnwaith, ac etto er bod arno fawrllwyth o bechodau ei fod ynteu yn tybied y gall ddiangc, 1 Cor. 6.9, 10. Eph. 5 5. Gen. 6. Gen. 19. ped yſtyriai fod y ffordd i'r nef vn anhawdd, yn gûl, ac yn boenus, fel y dyweid Duw ei hun, a'i fod yntau yn tybied y gall fyned i mewn yno, er byw mewn digrifwch, a melyſchwant y byd, Mat. 7.14. ped yſtyriai ddarſod i'r holl Sainct Duwiol a fu erioed, (megis Apoſtolion Chriſt, a'i fam ef ac eraill) ddewis byw mewn caledfyd, mewn llafur poenus, buddiol i eraill, mewn ymprydio, gweddio, a choſpi eu cyrph a'r cyffelyb, a'i bod er hynny yn byw mewn ofn a dychryn rhag barnedigaethau Duw; ac ynteu heb wneuthur cymmaint a meddwl am yr vn o'r pethau hyn, ond canlyn ei bleſſer a'i ddifyrrwch, ac er hynny nid yw yn ammeu nad yw dda ei gyflwr, 1 Cor. 4. 2 Cor. 4. & 6, & 11, & 12. 1 Cor. 9. Phil. 2. ped yſtyriei fy enaid i (meddaf) neu yr eiddo arall y pethau hyn yn ddwys ac yn ddifrif, neu y rhan leiaf o fil o bethau eraill a ellid eu hyſtyried, y mae 'n ffydd Griſtianogawl yn dyſcu i ni eu bod yn wir; ni chyfeiliornai mewn perygl diobaith, fel y mae llawer o eneidiau Chriſtianogion, o eiſieu yſtyried ei gyflwr ei hun

13. Beth a bair i ladron gael can wyr ſynhwyrol dybieid am danynt eu bod allan o'i côf, am fod yn lladdrata, a hwythau yn gweled crogi cymmaint o ddynion am lad •• d, ger bron eu llygaid, ond am nad ydynt yn yſtyried hynny? A'r vnrhyw achos ſy'n peri i'r gwyr doetha 'n y byd gael eu cyfrif ger bron Duw a dynion da, yn anfad ffyliaid ac yn waeth nag ynfydion cynhwynol; am eu bod, a hwythau yn adnabod gorwagedd y byd, ac yn gwybod y perygl ſydd o fyw mewn pechod, er hynny yn canlyn y byd yn gymmaint, a chynlleied eu harſwyd i bechu. Luc. 12.20. Pettei gyfraith wedi ei gwneuthur, trwy awdurdod dyn, ar fod i bwy bynnag a feiddiei yfed gwin, ddal ei law yn y man tros hanner awr yn tân, neu mewn plwm berwedig; yr wyfi yn tybied y byddai anhawdd gan lawer yfed gwin, er eu bod with naturiaeth yn ei garu: ac etto er bod cyfraith wedi ei gwneuthur gan dragywyddol fawredd Duw y gorfydd i bwy bynnag a wnelo bechod ddioddef ei ferwi yn dragywyddol yn nhân vffern, heb na diben nac eſmwythdra; y mae llawer er hynny o eiſieu yſtyried y pethau hyn heb ddim mwy eu hofn i bechu, nag i fwytta neu i yfed.

14. I dynnu at y diwedd, y mae yſtyried yn beth anghenrhaid iawn ei wneuthur, yn enwedig yn ein dyddiau ni, pan ydys yn gwneuthur cymmaint cyfrif o orwagedd ac oferedd, ac y tybir mai gwir ddoethineb ydyw; ac nad yw'r gwrthwyneb ond gwir ffoledd, a diyſtyr wiriondeb. Ond nid oes gennyf ddi •• ammeu, drwy help Duw a chymmhorth iawn yſtyried, na's datcuddiaf i'r darlleydd ſynhwyrol yn eglur ddigon, yr amryfuſedd ſydd yn hyn o beth, oddieithr ei fod yn ddall o'i wirfodd, neu o wir gyndynrwydd gwedi ymroi i gaethiwed ei elyn yſprydol: o blegid y mae rhai o'r cyfryw ddynion yn y byd: am y rhai y mae Duw yn dywedyd, megis yn ymofidio troſtynt, ac yn toſturio wrth eu cyflwr, Eſa. 28.15.18. Hwy a wnaethant gyfammod ag angeu, a chyngrair ag vffern: hynny ydyw; ni fynnant ddyfod allan o'r perygl y maent ynddo, ond eu bwrw eu hun bendramwnwgl i golledigaeth dragywyddol, yn gynt nag yſtyried eu cyflwr ac felly ynnill iddynt eu hunain fywyd tragywyddol a gogoniant nef. Oddiwrth y cyndynrwydd angheuol hwnnw, yr Arglwydd o'i drugaredd a'n diango ni bawb ar ſy 'n perthyn iddo ef.

PEN. III. Er mwyn pa achos a diwedd y crewyd dyn ac y goſodwyd ef yn y byd hwn.

WEithian gan hynny yn Enw 'r Hollalluog Dduw, a thrwy gymmorth ei lân yſpryd ef, yſtyried pob Chriſtion o ddyn ac ſydd yn chwennych iechydwriaeth enaid a chorph, yn ddwys ac yn ddifrif, yn gyntaf dim, megis y gwna marſiandwr pan êl tros for i wlad ddieithr, neu megis y gwna capten a ddanfono ei dywyſog ar ryw negeſau o bwys, pan ddêl i'r lle a appwyntiwyd iddo: hynny ydyw, meddwl am ba achos y daeth yno, paham y danfonwyd ef yno, ac i ba beth, i amcanu pa beth, i wneuthur pa beth, ac i gyflawni pa beth, a pha beth a ddiſgwyl ac a ofyn yr hwn a'i danfonodd ef yno ar ei law ef pan ddêl adref. Oblegid diammau y gwna yſtyried y pethau hynny iddo fod yn ofalus am edrych am y pethau y danfonwyd ef o'i plegid, ac nid ymofalu am bethau ni pherthyn iddo. Y cyffelyb bethau a fynnwn i Griſtion eu hyſtyried, ac ymofyn ag ef ei hun, pa ham ac er mwyn pa achos a diwedd y creodd Duw ef, ac a'i danfonodd ymma i'r byd hwn? i wneuthur pa beth? i dreulio ei oes mewn pa beth? ac fe gaiff weled nad i ddim arall, ond yn vnig i waſanaethu Duw yn y bywyd hwn. Tan yr ammod hwnnw y crewyd ni, ac er mwyn hynny yn vnig i'n prynwyd ni, fel y prophwydodd Zacharias o'r blaen, fel y byddei i ni wedi ein gwared oddiwrth ddwylo ein gelynion, ei waſanaethu ef mewn ſancteiddrwydd a chyfiawnder holl ddyddiau ein heinioes. Luc. 1.74.

2, O hyn y canlyn yn gyntaf, gan mai gwaſanaethu Duw yn y bywyd hwn, yw'r achos a'r diwedd y rhoed ni yn y byd o'i blegid; wrth hynny beth bynnag a wnelom, neu a amcanom, neu y treuliom ein hamſer arno, ar a fo na gwrthwyneb nac ammherthynol i'r achos a'r diwedd hwnnw, ſef gwaſanaethu Duw yn vnig, pe rhon i ni allu wrth hynny ynnill holl deyrnaſoedd y byd; etto nid yw ond llwyr waggedd ac oferedd, a ffoledd, a gwaith ofer; a pheth a wna i ni ryw ddydd ofidio, ac edifarhau, a chywilyddio o'i blegid, o herwydd nad hynny yw'r peth y daethom ni i'r byd o'i achos, na'r peth y gofynnir i ni gyfrif am dano yn y dydd diweddaf, oddieithr i gael ein barnu am dano.

3. Yn ail y canlyn, os gwaſanaethu Duw ydyw'r vnig achos a'r neges y daethom ni i'r byd o'i blegid, a bod pob creadur daiar ol arall wedi ei roi yn y byd i'n gwaſanaethu ni, fel y byddei i ninnau waſanaethu Duw: ni a ddylem ninnau na ddymunem o'r creaduriaid eraill, nac o gyfoeth nac o dlodi, nac o iechyd nac o glefyd, nac o barch nac o ammharch, na mwy na llai, nac a fo da ar ein lles ni tu ag at waſanaethu Duw; oblegid pwy bynnag a geiſio ychwaneg o'r creaduriaid hynny nag a waſanaetho i'r perwyl hynny, y mae efe yn cilio oddiwrth yr achos a'r diwedd y daeth i'r byd o'i blegid.

4. Wrth hyn y gall Chriſtion gofalus gael peth cydnabyddiaeth am ei gyflwr gydâ Duw, a bwrw amcan pa vn a wna ai bod ar y ffordd vnion ai na byddo. Oblegid os edrych ef yn vnig neu yn bennaf dim at y pennod y daeth efe ir byd yma er'e fwyn, hynny ydyw gwſanaethu Duw; os bydd e ofalon ef a'i feddyliau, a'i amcanion, a'i lafur, a'i ymddiddanion, yn rhedeg yn vnig ar y peth hyn; ac na bo matter ganddo am greaduriaid eraill, megis anrhydedd, cyfoeth, dyſg, a'r cyffelyb; ond hyd y bônt yn anghenrhaid iddo i'r perwyl hynny; os efe a dreulia ei ddyddiau a'i fywyd (meddaf) mewn aſtudrwydd ar waſanaethu Duw, yna diammeu ei fod yn ddyn o'r happuſaf ac o'r dedwyddaf, ac y daw efe yn y diwedd i deyrnas Dduw.

5. Ond os gwyl efe ei fod mewn cyflwr gwrthwyneb i hynny, ai fod heb edrych am y peth y danfonwyd efe ymma o'i blegid, na bod ei galon a'i feddwl ar waſanaethu Duw, ond yn hyttrach ar orwagedd y byd, megis goruchafiaeth, golud, digrifwch, dillad gwychion, tegwch pryd, adeiladau teg, neu ryw beth arall ni pherthyn ir perwyl hwnnw: os efe a dreulia ei amſer (meddaf) ynghylch y coegbethau hynny, a bod ei ofalon, a'i feddyliau, a'i ymddiddanion, a'i ddifyrwch, yn fwy yn y pethau hyn, nag ynghylch y neges mawr arall y danfonwyd ef yma o'i achos, yna y mae mewn helynt enbyd, yr hon a dywys yn vnion i golledigaeth, os efe ni newidia ei helynt. Oblegid diammeu ydyw, am bwy bynnag nid edrycho am y gwaſanaeth y danfonwyd ef i'w wneuthur, na chaiff efe byth mor tâl a'r gwobr ſydd wedi ei addo am y gwaſanaeth hwnnw.

6. Ac o herwydd bod y rhan fwyaf o'r byd, nid yn vnig o'r rhai digréd, ond hefyd o'r Chriſtianogion, allan o'i lle yn y pwngc yma, ac heb edrych am y peth y crewyd hwy er ei fwyn, ac y danfonwyd hwy yma oi achos: am hynny y mae Chriſt a'i dduwiol Sain yn crybwyll mor doſt am y nifer bychan ſydd mewn cyflwr iechydwriaeth, ie ym myſe Chriſtianogion, ac o herwydd hynny, y traethaſant amryw ymadroddion y rhai y mae cig a gwaed yn tybied eu bod yn galed, ac mai digon prin y maent yn wir, er bod yn ddir y cyflawnir hwynt, megis hyn, Haws yw i gamel fyned trwy grau'r nodwydd ddur, nac i wr goludog fyned i mewn i deyrnas Dduw, Luc. 13.24. Mat. 19.24. Y rheſwn o'r ymadrodd hwnnw, a'i gyffelyb, yw hyn, Na's gall y gwr goludog ſydd yn edrych am bentyrru golud, roi ei fryd a'i fedd •• ar y peth y daeth efe i'r byd o'i blegid, ac am hynny nas dichon byth fyned i deyrnas nef, oddieithr i Dduw wneuthur gwyrthiau, ac felly peri iddo ddiyſtyru ei olud, a'i arfer yn vnig at waſanaeth Duw. Ac y mae Duw weithiau yn gwneuthur y fath wyrthiau, fel y mae ini eſampl anaml ei chyffelyb, yn yr Efengyl, am Zacheus, yr hwn er ei fod yn wr goludog iawn, yn y man pan ddaeth Chriſt i'w dy ef, ie yn enwedig i'w galon ef trwy flydd, a roes hanner ei dda i'r tlodion, ac os gwnaethai gam â neb drwy drawſder, y mae 'n addo ei dalu adref ar ei bedwerydd. Luc. 19.

7. Ond wrth hyn y gellir gweled gofidus gyflwr llawer mil o Griſtianogion yn y byd, y rhai ſy cyn belled oddiwrth dreulio eu holl amſer a'i llafur yngwaſanaeth Duw, ac nad ydynt hwy agos vn amſer yn meddwl am dano, ac os ydynt, nid yw hynny ond diofal iawn ac yſcafala. O Dduw pa ſawl mil o wyr a gwragedd ſydd yn y byd yn dwyn enw Chriſtianogion, heb dreulio vn awr o'r pedeir ar hugain yngwaſanaeth Duw: paſawl mil ſy'n blino eu meddyliau ynghylch negeſeuau bydol, a lleied ſy'n cymmeryd gofal am waſanaethu Duw? Pa nifer ſydd yn cael ac yn cymmeryd ennyd ac amſer i fwyta, ac i yfed, ac i gyſgu, ac i wneuthur yn llawen, ac i'w trwſio eu hunain ac i'w paentio yngolwg y byd, ac etto heb gael dim amſer i'w dreulio ar y peth mwyaf a rheitiaf, ſef gwaſanaethu Duw? Pa nifer fydd yn treulio 'r dydd o'r pen bwygilydd, ac wythnoſau, a miſoedd, a blynyddoedd, yn hebocca, ac yn hela, ac mewn difyrrwch arall, heb wneuthur dim cyfrif o waſanaethu Duw? Beth a ddaw o'r bobl hynny? Pa beth a ddywedant hwy ddydd farn? pa eſcus a gânt hwy?

8. Pettai wâs i farſiandwr, wedi iddo dreulio llawer o flynyddoedd o'r tu hwnt i'r môr, pan ddelei adref yn rhoi cyfrif i'w feiſtr ddarfod iddo dreulio hyn a hyn o amſer yn canu, a hyn a hyn yn dawnſio, a hyn a hyn mewn maſwedd, a'r cyffelyb; pwy ni chwarddai am ben ei gyfrif efe? Ond os gofynnei ei feiſtriddo ym mhellach pa faint o amſer a dreuliaſai ynghylch ei farſiandiaeth ynteu a'i negeſau; ac atteb o'r gwas na threuliaſai ddim, ac na feddyliodd efe vnwaith nac am danynt hwy, nac am dano ynteu, pwy ni thybygai fod y cyfryw wâs yn haeddu pob math ar goſpedigaeth a chywilydd? Ac yn ſiccr mwy fydd eu cywilydd a'i gwaradwydd hwy ddydd farn, y rhai a oſodwyd yma ar neges cymmaint ac yw gwaſanaethu Duw, a hwythau er hynny yn ei eſgeuluſo, ac yn rhoi cwbl o'i haſtudrwydd, a'i poen, a'i meddyliau ar goegbethau ofer y byd hwn: yr hyn ſydd cyn belled oddiwrth yr hyn a ddylent hwy ei wneuthur, a phettei wyr a fai wedi eu goſod i redeg gyrfa am gamp o werth anfeidrol, yn troi oddiwrth y nôd, a rhai yn mynd tros y ffordd ar ôl gwybed, neu yſcafnblu yn y gwynt; a rhai eraill yn ſefyll ar y ffordd ac yn caſclu tom yddaiar. A pha fodd, meddwch chwi, yr haeddai y rhai hynny dderbyn cymmaint gwobr ac a amcaneſid i roi iddynt?

9. Am hynny, anwyl Griſtion, od wyti ſynhwy ol, yſtyria dy gyflwr tra caffech amſer, Gal. 6.3, 4. canlyn gyngyr yr Apoſtol, hola dy weithredoedd, a'th ffyrdd, ac na thwylla ddim honot dy hun. Ti a elli etto gael grâs i wellhau dy fuchedd, am fod goleu dydd y bywyd hwn etto yn parhau: fe ddaw erchyll nôs yr angeu i'th oddiwes di ar fyrr, ac yno ni bydd mwy amſer i wellhau. Pa les a wna dy holl boen a'th drafferth a gymmeraiſt i geiſio cyfoeth y byd, i ti yn yr awr honno? a pha ddiddanwch a gei di oddiwrtho, pan ddywetter wrthyt ti fel y dywedodd Chriſt wrth vn o'th gyffelyb di yn yr Efengyl, pan oedd wedi dyfod i vchder a brigyn ei hapuſrwydd, O ynfyd, y nôs hon y dygir dy enaid o ddiarnat, ac yno eiddo pwy fydd y pethau a barottoaiſtti, ac a geſglaist ynghyd? Luc. 12.20. Cred fi, fy mrawd anwyl, oblegid ni ddywedaf i ti ddim anwir, Mwy o gyſſur a diddanwch a gai di yr amſer hwnnw oddiwrth vn awr a dreuliaiſt ti yngwaſanaethu Duw, nag oddiwrth ganmhlynedd a dreuliaiſt yn ceiſio goruchafiaeth i ti dy hun ac i'th dŷ yn y byd hwn. A phe gellit ti yr awron wybod oddiwrth y blin gyflwr y bydd dy enaid truan di ynddo 'r amſer hwnnw, am eſceuluſo yr vnpeth hwn a ddyleſit ti fwyaf feddwl am dano; ti a hepcorit beth o'th amſer cyſgu, a pheth o'th amſer bwytta, i wneuthur iawn am eſgeuluſdra 'r amſer a aeth heibio. Y rhagor ſy rhwng y doeth a'r ynfyd yw hyn, bod y naill yn ymbarottoi yn erbyn drwg cyn ei ddyfod, a'r llall pan fo rhyhwyr.

10 Dyro dy fryd gan hynny, Griſtion daionus, tra caffech amſer: dyro dy fryd yn ddioed ar fynd ynghylch y gorchwyl mawr i'th anfonwyd ymma o'i blegid; hwnnw yn vnig ſydd orchwyl o bwys, a gorchwyl anhepcor; ac nid yw gorchwylion eraill ond gwagbethau coegion ac oferedd, ond hyd y maent yn perthyn i'r gorchwyl hwnnw. Na choelia mo'r byd, yr hwn y mae dy lachawdur Chriſt yn ei ffieiddio am gyfeiliorni yn y pwngc ymma, ac y mae ei Apoſtol Ioan yn cyhoeddi ei fod yn elyn i Dduw, Io. 7.7. 1 Joh. 2. Dywed o'r diwedd wrth dy Iachawdr, Yr wyf yn cyfaddef wrthyt ti, ô Arglwydd, yr wyf yn cyfaddef, ac ni's gallaf wadu, nad ymofelais i etto am y peth i'm gwnaethoſt o'i blegid, ac i'm prynaiſt o'i achos, ac i'm rhoddaiſt yma o'i herwydd: yr wyf yn gweled fy amryfuſedd, ni allaf gelu fy anfad fai, ac yr wyf yn diolch i ti ddeng mil o weithiau, roi o honot i mi'r gras i weled hynny, tra gallwyf trwy nerth dy râs di ei wellhau; yr hyn trwy dy ſanctaidd râs ſydd yn fy mryd ei wneuthur, a newidio fy muchedd allan o law; ac yr wyf yn attolwg ar dy dduwiol fawredd, megis y rhoddaiſt i mi hyn o oleuni a deall i weled fy mherygl, ac y-cynnhyrfaiſt fy nghalon i roi fy mryd ar wellhau; felly cadw a chynnal dy gymmorth bendigedig tu ag attaf, fel y gallwyf gyflawni yr hyn yr wyf yn ei amcanu, i'th anrhydedd di ac iechdwyriaeth fy enaid, Amen.

PEN. IV. Am y diwedd a'r achos y gwnaed dyn o'i blegid, yn naillduol: ac am ddau beth a ofynnir yn enwedig ar law dyn yn y fuchedd hon.

GWedi darfod crybwyll yn y bennod o'r blaen ain y diwedd y gwnaed dyn o'i blegid yn gyffredinol, a dangos mai i waſanaethu Duw y gwnaed ef; cymmheſur oedd bellach (am fod y peth o bwys a defnydd mawr) ddangos yn neillduol ac yn hyſpyſach, ym mha beth y mae gwaſanaeth Duw yn ſefyll, fel y gallo pob Chriſtion farnu o honaw ei hun pa vn a wna ai bod yn gwneuthur y gwaſanaeth hwnnw, ai nad ydyw: ac felly gweled ydyw fo 'n gwneuthur y pethau y danfonwyd ef i'r byd o'i plegid, ai nad ydyw.

2. Yn gynta peth gan hynny rhaid yw deall fod yr holl waſanaeth y mae Duw 'n ei ofyn ar law Chriſtion o ddyn yn y fuchedd hon, yn ſefyll mewn dau beth, y naill yw Gochelyd y drwg, a'r llall yw Gwneuthur y da. Ac er bod y ddeubeth hyn yn ddyledus arnom ni cyn dyfod Chriſt i'r byd, (fel y mae Dafydd yn dangos wrth roi gorchymmyn cyffredinol, Cilia oddiwrth ddrwg, a gwna dda: a'r prophwyd Eſai, Peidiwch â gwneuthur drwg, a dyſgwch wneuthur da) Pſal. 34. 4. Eſa. 1.16, 17. etto y mae mwy o achos a rheſwm i'w gofyn hwynt ar ddwylo Chriſtianogion, am eu bod hwy trwy angeu a dioddefaint eu hiachawdur, yn cael grâs a gallu i fod yn abl mewn rhyw feſur i wneuthur y ddeubeth hynny, y rhai nid oedd y Gyfraith yn rhoi grâs i'w gwneuthur, er ei bod yn gorchymmyn eu gwneuthur.

3. Ond nyni, y rhai a brynodd Criſt, ac a gawſom ganddo ef nid yn vnig adnewyddu'r gorchymmyn hwnnw am wneuthur y ddeubeth hyn, ond hefyd nerth a gallu trwy ei râs ef i'w gwneuthur: yr ydym Ni yn rhwymediccach trwy ddyled a rheſwm, iw gwneuthur nâ'r rhai o'r blaen, oblegid hynny oedd ffrwyth bendigedig dioddefaint Chriſt, fel y dywaid S. Petr, Fel gwedi ein marw i bechod, y byddem byw i gyfiawnder: 1 Pet. 2.24. Neu fel y mae S. Paul yn eglurach yn ei ddangos fel hyn, Ymddangoſodd grâs Duw, yr hwn ſydd yn dwyn iechydwraieth i bob dyn, gan ein dyſ u ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, ac i fyw 'n ſobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd ſydd yr awrhon, Tit. 2.11, 12.

4. Y ddeubeth hynny a glywſochwi ydyw gwaſanaeth Duw, y danfonwyd ni i'r byd hwn o'i blegid, ſef i wrthwynebu pechod, ac i ddilyn gweithredoedd da. O achos y cyntaf o'r ddau i 'n gelwir ni yn filwyr, ac y gelwir ein bywyd ni yn filwriaeth ar y ddaiar. 2 Cor. 10.4. 2 Tim. 2.3. Oblegid fel y mae milwyr bob amſer yn cynllwyn i wrthwynebu eu gelynion, felly y dylem ninnau i wrthwynebu pechod a'i brofedigaethau. O achos yr ail i'n gelwir ni yn llafurwyr, ac yn oruchwilwyr, a'r cyffelyb: oblegid fel y mae y rhai hyn yn edrych yn ddyfal ar ei helw a'r hynnill, a chynnyrch ei golud yn y byd hwn, felly y dylem ninnau edrych am wneuthur gweithredoedd da, er gogoniant i Duw, a bûdd i eraill ymma yn y fuchedd hon. 1 Tim. 6.18.

5. Felly dymma 'r ddau bwngc bennaf a ddylei Griſtion fyfyrio arnynt, a'r ddau orchwyl bennaf y dylai weithio ynddynt beunydd, a'r ddau droed y mae iddo gerdded a hwynt yngwaſanaeth Duw, a'r ddwy aſgell y mae iddo ehedeg i fynu â hwynt tu ac at fuchedd Griſtianogol. A phwy bynnag ſy ag vn o'r rhai'n yn niffyg gantho, er bod y llall ganddo, ni all efe ymddyrchafael at wir dduwioldeb, mwy nag y gall aderyn hedeg ni bo ganddo ond vn aſgell. Ni thal dim i ddyn fod heb wneuthur drwg, oni bydd iddo hefyd wneuthur daioni, ac ni thal dim iddo wneuthur daioni, oni bydd iddo fod heb wneuthur drygioni hefyd. Y diweddaf o'r ddau hyn ſydd eglur wrth bobl Iſrael, y rhai yr oedd eu haberthau a'i hoffrymmau, a'i gweddiau, a'i gweithredoedd da eraill, yn fynych yn ffiaidd ger bron Duw, er ei fod ef ei hun yn eu canmol ac yn eu gorchymmyn; am fod y rhai oedd yn eu gwneuthur hwy yn byw mewn pechod ac anwiredd, fel y mae 'r prophwyd Eſay yn ei ddangos yn helaeth, Eſa. 1. Y cyntaf a ddangoſir yn amlwg ddigon wrth ddammeg y morwynion angall, y rhai er eu bod yn lân oddiwrth bechod, er hynny am na wiliaſant, hwy a gaewyd allan. Ac ar ddydd y farn ddiweddaf y dywed Chriſt wrth y rhai colledig, Am na ddilladaſoch fi, am na roeſoch i mi fwyd, am na wnaethoch y gweithredoedd eraill o gariad perffaith, oedd ddyledus arnoch yn eich galwedigaeth; am hynny, ewch oddiwrthyf rai melldigedig i'r tan tragywyddol yr hwn a barotowyd i ddiafol ac i'w angylion. Matth. 25.41. Wrth hynny y mae pob vn o'r ddau yn anghenrhaid i griſtion wrtho i waſanaethu Duw: ac mor anghenrhaid ac na wna lles y naill heb y llall. Ac am y cyntaf o'r ddau, yr hwn yw gwrthwynebu pechod, fe a orchymynnir i ni ei wrthwynebu hyd angeu, ie hyd golli ein gwaed, os bydd rhaid hynny, Heb. 12.4. Eph. 6.11. ac mewn amryw leoedd o'r yſcrythur lân y mae yſpryd Duw yn ewyllyſio ini ymbarottoi ac ymdacclu i wrthwynebu 'r cythrael yn wrol, yr hwn ſydd yn ein temptio ni i bechu, Iac. 4.7. 1 Pet. 5.9. ac ni a ddylem ei wrthwynebu mor gwbl ac mor berffaith ac nad ymroddom o'n bodd a thrwy wybod, i wneuthur vn pechod, nac ar air, nac ar weithred, nac ar feddwl calon: yn gymmaint a bod pwy bynnag a gydſynio yn ddirgel yn ei galon ar wneuthur pechod pe cai amſer, a chyfle, a gallu i'w wneuthur, trwy farn yr yſcrythur lân yn euog o bechod, yn gyſtal a phettai eiſus wedi gwneuthur y weithred. Mat. 5.28. A thu ac at am yr ail, yr hwn yw gwneuthur gweithredoedd da, y mae Duw yn ein hannog i'w gwneuthur yn aml, yn ddyfal, yn llawen, ac yn ddibaid; canys fel hyn y dyweid yr Scrythur, Beth bynnag a ymaelo dy law ynddo i'w wneuthur, gw a a'th hell egni. Preg 9.10. A thrachefn, Rhodiwch yn addas i'r Arglwydd, i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, Col. 1.10. A thrachefn y dywaid S. Paul, Tra fom yn cael amſer cyfaddas, gwnawn dda i bawb, Gal. 6.10. A thrachefn yn yr vn lle, Na ddiogwn yn gwneuthur daioni, canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn. Ac mewn man arall y mae 'n ewyllyſio i ni fod yn ſiccr, ac yn ddiymmod, ac yn helaethion yngwaith yr Arglwydd yn oeſtadol, a ni yn gwybod nad yw ofer ein llafur yn yr Arglwydd. 1 Cor. 15.58.

6. Wrth hyn y gellir gweled, frodyr anwyl, mor berffaith o greadur ydyw Chriſtion da, hynny ydyw, fel y mae S. Paul yn dywedyd am dano, mai Gwaith Duw ydyw, wedi ei greu yn Ghriſt Ieſu i weithredoedd da, y rhai a ddarparodd Duw iddo rodio ynddynt, Eph. 2.10. Wrth hyn, meddaf, y gwelir mor berffaith o fuchedd yw buchedd Chriſtion: yr hon yw gwrthwynebu pob pechod yn ddibaid, mewn meddwl, gair, a gweithred; a gwneuthur a chyflawni pob gweithred dda, ar a fo poſſibl iddo feddwl am dani. O Dduw, ond buchedd angylion yw 'r cyfryw fuchedd, ie mwy na buchedd angylion, oblegid nad oes i'r angylion, gan eu bod eiſus mewn gogoniant, na themptaſiwn pechod i'w wrthwynebu, na gweithred dda ar a allont eu gwneuthur (fel y dwedom felly) er mwyn chwanegu ar eu gogoniant.

7. Pe bucheddai Griſtianogion yn ôl eu dylêd bonno, ſef gwneuthur o honynt gwbl ac a allent o ddaioni, ac na chydſynient vn amſer â drygioni, pa raid fyddei agos wrth vn gyfraith fyd? ond llywodraeth wych fyddei Griſtianogaeth? Pwy ni bydd ryfedd gantho eſamplau llawer o'n hên dadau duwiol ni, yn y rhai y dywedir bod cymmaint o ddiſymlrwydd a diniweidrwydd, cymmaint o wirionedd, ac o gydwybod, ac o eluſeni, ac o burdeb, ac o rinwedd, ac o grefydd a defoſiwn da? A'r achos oedd am eu bob vn o honynt (fel y rhoddai Duw'r grâs iddo) roddi ei fryd yn aſtud ar y ddau bwngc hynny o ddyled Chriſtion, ac ar wneuthur eu goreu ar eu cyflawni. A ninnau, am nad ydym yn edrych am y pethau hyn, ydym wedi myned mor ddrwg-fucheddol, a chymmaint ein hanwiredd ac a fu 'r cenhedl-ddynion a'r rhai digred erioed. Ac etto yr vn Duw ydyw Duw yn waſtad, ac ni dderbyn efe ond yr vn cyfrif ar ein dwylo ni, ac a dderbyniodd ar law ein hên dadau ni, am gyflawni 'r ddwy ran hyn o'n dyled tu ac atto ef. Pa beth wrth hynny a ddaw o honom ni y rhai nid ydym yn byw yn yr yn o'r ddwyran yn gyffelyb iddynt hwy? Ac os yſtyriwn y pethau hyn ym mhellach bob vn ar ei ben, pwy yn y dyddiau hyn, o'r Chriſtianogion cyffredin ſydd yn cymmeryd poen yn y byd yn y rhan gyntaf, ſef yn gwrthwynebu trachwantau pechod; diammeu fod llawer o ddirgel waſanaethwyr Duw yn gwneuthur hynny, ond o'r rhai ſy'n dwyn enw Chriſtianogion ac ſydd amlaf yn ymdrin yn y byd, pwy o honynt hwy, meddaf, ſydd yn ei wneuthur? Y trachwant yma, a'r tuedd naturiol ſydd ynom i bechu, yr hwn ſy wedi ei adael ynom megis gweddillion o'n clwyf naturiol yn goſpedigaeth am bechod ein cyntad Addaf, Aug. li. 2. cont, Iulian. & lib. 1. de pec. mor. c. ult. Io. Caſſian. lib. 5. cap. 12. & deinceps. hwnnw, meddaf, ſydd wedi ei adael ynom ni ar ôl ein bedyddio, ad agonem, hynny ydyw i ymdrech ag ef ac i'w wrthwynebu. Ond ôch Dduw, leied o Griſtianogion ſydd fel y dylent yn gwrthwynebu drwg-feddyliau yr trachwant hwnnw: Pwy ſydd vn amſer vn holi ei gydwybod o'i blegid? Pwy nid yw ſynychaf yn cyttuno yn ei feddwl a'i galon, â phob meddylfryd a fo dim difyrrwch na digrifwch bydol yn ei ganlyn, fel y mae cybydd-dod, llid, dial, balchder, ſerch i anrhydedd, ac yn bennaf o gwbl, anlladrwydd ac eraill o fryntion bechodau 'r cnawd; a hynny er eu bod yn gwybod wrth a ddywedodd ein Iachawdur Chriſt ei hun, fod cyttundeb a chydſyniad y meddwl a'r galon, (o ran ſylwedd pechod) gymmaint a phe gwneid y weithred, ac yn gwneuthur yr enaid yn euog o golledigaeth dragywyddol. Mat. 5.28.

8. Peth rhyfedd ei yſtyried ydyw, a pheth a allal beri i ddyn ſynnu wrth feddwl am dano, faint y gofal, a'r ofn, a'r diwydrwydd, a'r boen, a gymmerai yr hên wyr duwiol gynt yn gwrthwynebu pechod; a lleied a gymmerwn ninnau yr awrhon. Iob gyfiawn, er nad oedd iddo ond llai o achos i ofni nag ſydd i ni, a ddyweid am dano ei hun;Fally y mae 'r lladin yn ei gyfiaithu. Ofnais fy holl weithredoedd, (o Arglwydd) am fy mod yn gwybod nad arbedi di mo'r rhai a becho yn dy erbyn, Job 9.28. Ond y brenhin duwiol gan Ddafydd, yr hwn a brofaſei eiſus, drymmed oedd law Dduw am gyttuno yn y galon â phechod, y mae efe yn dangos ei fod yn fwy ei ofal a'i ofn, pan yw yn dywedyd, Yr ydwyf yn myfyrio 'r nôs, yr ydwyf yn ymddiddan â'm calon, fy yſpryd ſydd yn chwilio yn ddyfal, neu fal y mae rhai yn ei gyfieithu, mi a yſgubais, ac a lanweithiais fy yſpryd o'm mewn, Pſal. 77.6. Pa ddyfal chwilio a holi ar galon, a meddwl, a chydwybod, oedd hyn gan frenhin? Ac nid oedd hyn i gyd ond i geiſio gochel a gwrthwynebu pechod. Ac felly y gwnai S. Paul, yr hwn a holai ei gydwybod mor ddichlyn, ac a wrthwynebai bod temptaſiwn mor ddyfal ac mor ddiwyd, ac y gallai ddywedyd am dano ei hun, nad oedd ef yn gwybod ei fod yn euog o ddim yn ei weinidogaeth. 1 Cor. 4.4. er ei fod yn cyfaddef mewn man arall ei fod ef trwy ordinhâd Duw yn eael gan y cythrael demptaſiwnau garwflin chwerwdoſt yn y cnawd, 2 Cor. 12.9. Etto trwy râs Chriſt efe a'i gwrthwynebodd ac a'i gorchfygodd i gyd oll. Ac fel y gallai gyflawni hynny yn well, y mae yn gyffelyb ei fod ef yn cymmeryd help a chymorth iawn ymprydio, a thaer weddio, a dyfal wilio, a thoſt goſpi ei gorph a'i waſtadol a'i lafurus fowrboen yn ei alwedigaeth, am yr hyn y mae yn crybwyll yn ei epiſtolau. 2 Cor. 6. & 11. 1 Cor. 9.27. Ac felly y byddai gwyr Duwiol eraill, wrth ei eſampl ynteu, yn arfer o gymmeryd y cyffelyb help a chymorth, fel y bai haws iddynt wrthwynebu temptaſiwnau pechod pan fyddai raid. Ac o'r cyfryw y gallwn ymma adrodd llawer o eſamplau allan o'r hen Dadau: y rhai a allai beri iddyn ryfeddu a dychrynu ac oſni (o bai nac ofn na dychryn yn ei galon ef) wrth weled y ddygn boen a'r dirfawr ddyfalwch a gymmerai yr hên Griſtianogion hynny gynt, i wilied ar bob dichell o'r eiddo 'r cythraul, er lleied fai, ac i wrthwynebu pob temptaſiwn a drwg feddwl i bechu, er lleied fyddaint: a ninnau heb feddwl vnwaith am y cyfryw beth, na gwneuthur cyfrif yn y byd nac o ddrwg feddwl, nac o gyttundeb calon i bechu, nac o air, nac o weithred: ond ymroi yn rhwydd i bob peth ac y mae ein trachwantau ein hunain yn ein harwein iddo; a llyngcu pob bach ac y mae 'r cythrael yn ei oſod i ni, ac yſſu yn dra chwannog bob abwyd gwenwynig ac a gynnygio ein gelyn i ni er mwyn deſtrywio ein heneidiau, os ni a'i clywn yn felys ac yn beraidd. A hynny am wrthwynebu pechod.

9. Bellach am yr ail pwngc, ynghylch ymarfer beunydd o weithredoed da, y m e 'n amlwg ein bod ni i gyd gan mwyaf yn ddiffygiol yn y pungc hwn. Mi a ddangoſais o'r blaen f l y mae 'r Scrythur lan yn gorchymmyn i ni wneuthur gweithredoedd da, yn waſtadol, ac yn ddyfal t a caffom amſer, a lliw dydd i'w gwneuthur hwy: oblegid, fel y dyweid Chriſt, Y mae 'r nos yn dyfod, pryd na allo neb weithio, Io. 9.4. Mi a allwn ddangos hefyd fel yr oedd llawer o Sainct Duw a'n hên dadau ninnau, yn ddyfal iawn ac yn ofalus yn eu dyddiau am wneuthur gweithredoedd da, fel y mae 'r llafurwr yn ofalus am fwrw ei hâd yn y ddaiar tra fo'r hin yn dêg, ac fal y mae 'r marſiandwr yn gofalu am wario ei arian tra fo'r farchnad yn dda, Gal. 6. Phil. 2. Hwy a wyddent yn dda na pharhaei 'r amſer yn hir oedd iddynt hwy i weithio ynddo; ac am hynny yr oeddynt yn cymmeryd poen tra caent amſer; ni orphywyſent hwy vn amſer ond myned rhagddynt o'r naill weithred dda i'r llall, gan wybod yn dda beth yr oeddynt yn ei wneuthur, ac mor gymmeradwy gan Dduw oedd y gwaſanaeth hwnnw.

10. Pettai heb ddim arall i brofi eu rhyfeddol ofal a'i diwydrwydd hwy yn hyn o beth; etto y mae 'rOblegid er bod llawer o'r cyfryw bethau wedi eu gwneuthur mewn coelfuchedd, etto yr oeddynt weith •• u yn arwyddion digon eglur o'i gofal hwy iwneuthur daioni yn ol eu gwyboda th. coffadwriaethau a adawſant hwy ar eu hol o'i heluſenau yn dyſtiolaeth ddigon amlwg o hynny; ſef yr aneirif o eglwyſi a adeiladwyd, ac a gynnyſgaeddwyd â helaeth fawr gyfoeth i gynnal ei gweinidogion; cynnifer o yſgolion o ddyſg; cynnifer o bynt, o briffyrdd, ac o ddaioni arall o'r cyffelyb. Y gweithredoedd eluſengar hynny (heb law miloedd eraill o rai neillduol a chyffredin, dirgel ac amlwg) a ddaeth allan o byrſau ein hên dadau duwiol ni, y rhai yn fynych a roeſant nid o'i helaethrwydd yn vnig, ond a arbedent hefyd allan o'i geneuau a'i boliau ei hunain beth i'w wario ar weithredoedd da, er gogoniant i Dduw, a llês i eraill: A ninnau cyn belled oddiwrth roi dim o'n hangenrheidiau, ac na allwn hepcor dim o'n gweddill a'n gormodedd tu ac at y cyfryw weithredoedd; haws gennym ni o lawer ddwyn yr hyn a roes eraill, a'i wario ar ein gweilch a'n cŵn, a'n hanifeiliaid eraill, neu ar bethau a fo gwaeth; nag ar dorri newyn ac eiſiau ein cydfrodyr tlodion.

11. Och Dduw, frodyr anwyl, mor ddiofal, ac mor ddiddarbod, ac mor ddifatter am ein iechydwriaeth a'n damnedigaeth, yr ydym ni wedi myned. Y mae S. Paul yn llefain amom am weithio allan ein hiechydwriaeth ein hunain drwy ofn a dychryn, Phil. 2.12. ac er hynny nid oes neb yn gwneuthur cyfrif yn y byd o hynny. Y mae S. Petr yn ein rhybuddio ni yn ddwys ac yn ddifrif, i fod yn ofalus am wneuthur ein galwedigaeth, a'n hetholedigaeth yn ſiccr trwy weithredoedd da: ac etto pwy agos ſy'n meddwl am danynt, 2 Pet. 1.5.6, 7. &c. Y mae Chriſt ei hun hefyd megis yn rhoi diasbad yn y geriau hyn, Yr wyf yn dywedyd i chwi, gwnewch i chwi (yn y byd hwn) gyfeillion o'r golud anghyfiawn, fal pan fo eiſieu arnoch i'ch derbyniont i'r tragywyddol bebyll: ac er hyn i gyd nid ydym ni yn cyffroi gronyn: mor fuſgrell ac mor feirwon ydym i bob daioni. Luc. 16.9.

12. Pettei Dduw yn ein hannog ni i wneuthur gweithredoedd da er mwyn llês iddo ei hun, neu er mwyn elw yn y byd a allai ddyfod iddo ef odd wrth ein gwaith ni yn gwneuthur daioni; etto ni a ddylem wrth bob rheſwm wneuthur cymmaint a hynny o gymmwynas iddo, gan nad oes gennym ni ddim ar ſy gennym ond a gawſom o'r blaen ar ei law haelionus ef. Ond gan nad yw efe yn gofyn hynny ar ein dwylo ni am fod yn rhaid iddo ef wrthynt, ond er llês a thwrn da i ni ein hunain, ac er mwyn cael talu i ni am danynt hwy gydag elw; y mae yn fwy o lawer yr achos i ni i wrando arno. Pettei wr honeſt o'r byd yn erfyn arnom wneuthur rhyw beth, ac ar ei honeſtrwydd yn addaw ein bodloni ni yn helaeth am ei wneuthur, ni wnaem ni lai nâ'i goelio ef yn hawdd: ond er bod Duw yn yr Scrythur lân yn gwneuthur i ni aneirif o addewidion ar dalu i ni yn helaeth am wneuthur daioni, (ſef y cawn ni fwytta gydag ef, ac yfed gydag ef, a theyrnaſu gydag ef, a meddiannu nef gydag ef, Luc. 22.29. Rom. 8. Datc. 22.14.) etto nid yw hynny i gyd abl i gynnhyrfu gronyn arnom ni i wneuthur gweithredoedd da. Ond am fod y pethau hyn yn cynnhyrfu ein hên dadau ni i ddaioni, megis rhai yr oedd eu calonnau o fettel feddalach nag y mae yr eiddom ni; am hynny yr oeddynt hwy yn dwyn ffrwyth cyn helaethed ac y dangoſais i chwi.

13. Or cwbl ac a ddywedais y gall Chriſtion duwiol gaſglu 'r pethau hyn, yn gyntaf mor druan ac mor ofidus yw cyflwr y byd yn y dyddiau hyn, gan fod cynnifer o'r rhifedi bychan ſy'n dwyn enw Chriſtianogion, yn debyg i fyned i golledigaeth, eiſiau cyflawni'r ddau brif-bwngc yma o'i galwedigaeth. Yn ail y gall weled yr achos a bair fod mor anfeidrol y rhagor ſydd rhwng gwobr y da a'r drwg yn y fuchedd a ddaw, yr hyn ſydd ryfedd gan lawer: ond mewn gwirionedd y mae y rhagor hwnnw ar wobr or fath gyfiawnaf ac o'r fath reſymmolaf, gan fod cymmaint o ragor rhwng buchedd y da a'r drwg tra ſônt yn y byd hwn. Oblegid y mae 'r da nid yn vnig yn gwneuthur ei oreu ar ochel pechu, ond hefyd wrth ochel pechu yn cynnyddu bob awr beunydd mewn ffafor gydâ Duw: ac y mae 'r diofal a'r drwg wrth ymroi o gyttundeb ei galon i'w drachwant ei hun, nid yn vnig yn colli ffafor Duw, ond hefyd yn chwanegu pechod at bechod heb rifedi. Y mae 'r gwr da heb law ei fod yn gochel pechu, yn gwneuthur hefyd aneirif o weithredoedd dâ, o'r hyn lleiaf mewn ewyllys calon, lle ni bo gallu i'w gyflawni ar weithred. Ond yr annuwiol, nid ydynt hwy nac ar ewyllys nac ar weithred yn gwneuthur dim daioni, ond yn hyttrach ceiſio yn lle hynny wneuthur drygioni. Y mae 'r gwr duwiol da, yn rhoi cwbl o'i fryd, a'i feddwl, a'i galon, a'i eiriau, a'i weithredoedd, ar waſanaethu Duw, a'i weiſion er ei fwyn ynteu. Ond yr annuwiol ſydd yn rhoi cwbl o'i fryd, a'i egni, a'i allu ar waſanaethu gorwagedd ac oferedd y byd a'r cnawd, Fel, megis ac y mae 'r duwiol yn cynnyddu beunydd yngwaſanaeth Duw, am yr hyn y mae Duw yn rhoi iddo ynteu gynnydd grâs yn y byd yma, a gogoniant yn y nef: felly y mae 'r annuwiol ynteu o amſer i amſer, ar feddwl, neu air, neu weithred, neu ar bob vn, yn pentyrru pechod a damnedigaeth ar ei wartha ei hun; am yr hyn y mae dialedd yn ddyledus, a chynnydd poenau yn vffern. Felly y mae pob vn yn wrthwÿneb eu helynt iw gilydd, yn treulio eu hoes tros vgain neu ddêg ar hugain neu ddeugain o flynyddoedd, ac felly o'r diwedd yn marw. Ac onid yw reſymol, gan fod cymmaint o ragor rhwng helynt buchedd pob vn o'r ddau, fod cymmaint rhagor hefyd, neu fwy, rhwng tâl a gwobr pob vn o'r ddau? Yn enwedig gan fod Duw yn Dduw mawr, ac yn arfer o dalu gwobr mawr am bethau bychain, naill ai o gogoniant tragywyddol, a'i o boenau tragywyddol. Yn drydydd ac yn ddiweddaf y gall y Chriſtion dyfal gofalus gaſglu o'r hyn a ddywetpwyd, faint yw'r achos iddo i wneuthur cyngor S. Paul, hynny yw, bod i bob dyn brofi a holi ei waith ei hun; ac felly bod yn abl i farnu am dano ei hun, ym mha gyflwr y mae yn ſefyll, Gal. 6.4, ac os wrth ei holi ei hun y caiff weled nad yw ar yr iawn, yna bod iddo ddiolch i Dduw am wneuthur iddo cymmaint o gymmwynas a datcuddio iddo ei berygl, tra fo iddo amſer a chyfle i wellhau ei fuchedd. Diammau fod llawer yn myned i golledigaeth beunydd trwy gyfiawnder Duw yn eu hanfad anwybodaeth eu hun, y rhai pe buaſent heb gael ond hyn o ffafor, ſef cael gweled y pwll cyn iddynt fyrthio ynddo, fe allei y galleſynt ei ochel. Arfer ditheu (fy anwyl frawd) drugaredd Duw er llês i ti dy hun, ac nid i chwanegu ar dy ddamnedigaeth. Os ti a ganfyddi, wrth dy holi dy hun fel hyn, na buoſt ti fyw hyd yn hyn mewn buchedd wir Griſtianogawl, dod gwbl o'th fryd ar ddechreu bellach, ac na fwrw ymaith mo'th enaid gwerthfawr, yr hwn a brynodd Chriſt mor ddrûd; ac y mae efe yn barod iawn i'w gadw, ac i'w gynnyſgaeddu â grâs ac â gogoniant tragywyddol, pe dydi a'i rhoit ar ei law ef, a bod yn fodlon i vniawni dy fuchedd wrth ei ſancteiddiaf, a'i eſmwyth, a'i felys ber orchymmynion ef.

PEN. V. Y toſt gyfrif a fydd rhaid i ni ei wneuthur i Dduw am y pethau a ddywetpwyd vchod.

YM mhlith cynneddfau eraill ar wâs ſynhwyrol dymma 'r hon a ddylid ei gadael yn bennaf, ſef bod iddo yſtyried pa gyfrif a ofynnir gantho am bob peth a oſodwyd tan ei law ef; ac yn neſaf, pa fath wr yw ei feiſtr ef, ai eſmwyth ai tôſt, ai mwyn ai garw, ai difraw ai manwl yn ei gyfrif; hefyd pa vn a wna ei feiſtr ai bod yn abl iw goſpi ef wrth ei ewyllys, os efe a'i caiffyn feius, ai na bo; ac yn ddiweddaf pa fodd y gwnaeth ei feiſtr ag eraill yn y cyfryw bethau: Oblegid, os bydd efe gwâs ſynhwyrol, efe a wŷl fel y gwnaeth ei feiſtr o'r blaen, ac wrth hynny fe fydd ynteu fwy ei ddyfalwch yn y pethau a roddwyd tan ei law ef.

2. Y cyfryw ddoethineb a ddymunwn ei bod gan Griſtion, yn y pethau a ddywerpwyd o'r blaen, ſef ynghylch y diwedd a'r achos y danfonodd Duw ni ymma o'i blegid, a'r ddau bwngc arbennig, a glywſoch fod arnom ni fod yn ofalus am eu cadw yn y byd hwn; hynny yw, bod yn rhaid i ni yſtyried pa gyfrif a ofynnir ar ein dwylo ni am y pyngciau hynny, pa fodd y gofynnir, pwy a'i gofyn, doſted y gofynnir, a pha berygl a fydd arnom os ceir ni yn eſgeulus ac yn ddiffygiol yn ein cyfrif.

3. Ond fel y gallom ddeall hynny yn well, rhaid i ni edrych yn gyntaf, wrth ba drefn, ac â pha ceremoniau ac amgylchion y gorchymmynnodd Duw i ni 'r pethau hyn, ac y gwnaeth ac y cyhoeddodd efe 'r Gyfraith hon, i ddangos pa fodd y mae i ni ymddwyn tu ag atto ef, a'i waſanaethu. Oblegid er rhoi o honaw ef yr vn gorchymmyn i Addaf wrth ei wneuthur ef, a'i blannu wedi hynny wrth naturiaeth ynghalon pob dyn, cyn iddo ei ſcrifennu, (fel y tyſtia S. Paul, Rom. 2.15.) etto er mwyn ei ddangos yn eglurach, ac er mwyn ein hargyoeddi ninnau o bechod yn helaethach, (fel y dengis yr vn Apoſtol) efe a gyhoeddodd yr vn gyfraith yn yſcrifennedig ar lechau ym mynydd Sinai, a hynny mor llawn o ddychryn ac arwyddion eraill o'i fawrhydi (fel y dyweid yr vn Apoſtol at yr Hebraeaid. Heb. 12.21.) ac y gallai beri i'r rhai a'i torro ſynnu arnynt yn fawr. Darllenned y neb a fynno, yr amyn vnfed bennod vgain o Exodus, ac yno y caiff weled pa ymbarottoi a fu cyn cyhoeddi 'r gyfraith. Yn gyntaf fe alwodd Duw Foeſen i fynu i'r mynydd, ac yno y mae yn cyfrif llawer o gymwynaſau a wnaethai efe i feibion Iſrael, ac yn addaw iddynt lawer ychwaneg, os hwy a gadwent y Gyfraith a roddai efe iddynt; Moeſen a aeth yn ei ôl at y bobl, ac a ddûg ei hatteb hwy at Dduw y cadwent hwy 'r Gyfraith. Yna y parodd Duw i'r bobl ymſancteiddio erbyn y trydydd dydd a golchi eu dillad, ac na byddai i neb ymgyſtlwn â'i wraig, ac a barodd orchymmyn iddynt, na byddai i neb o honynt, tan boen marwolaeth, ryfygu dyfod i fynu i'r mynydd ond Moeſen ei hun, a pha beth bynnag a feiddiai gyffwrdd a'r mynydd, bod ei labyddio i farwolaeth. Pan ddaeth y trydydd dydd, yr oedd yr angylion (fel y mae S. Stephan yn deallt) yn barod i gyhoeddi'r Gyfraith. Acts 7. Yr ytcyrn a ſeinient yn vchel yn yr awyr: taranau mawr a dorrodd allan o'r wybren, ynghyd â mellt creulon, a chymmylau erchyll, a niwl dudew, a mwg ofnadwy yn codi o r mynydd. Ac ynghanol hyn oll o fawrhydi, a dychryn ofnadwy, Duw ei hun a lefarodd, lle y clywai pawb, Myfi yw'r Arglwydd dy Dduw, a'th ddug di allan o dir yr Aipht; Myfi yn vnig a waſanaethi: ac fel y mae 'n canlyn; lle y dangoſir yn berffaith ac yn gwbl beth yw ein dylèd ni yn y byd hwn, a hynny a alwn ni yn gyffredin DEG GORCHYMMIN DVW.

4. A'r holl ddychryn a r mawrhydi hwnnw, y mae 'r Apoſtol ei hun, fel y dywedais, yn ei ddeall fel hyn, ſef y dylem ninnau fod arnom ofn ac arſwyd mawr rhac torri 'r Gyfraith hon, a roes Duw i ni drwy gymmaint o ofn a dychryn: ac wrth hynny hefyd yr arwyddocceid y gofynnir cyfrif toſt dychryn-llawn ddydd farn am dorri 'r Gyfraith hon, gan ddarfod ei chyhoeddi ar y cyntaf drwy gymmaint o ddychryndod ac ofn. Canys felly y gwelwn ni bob amſer, am gyfreithiau tywyſogion bydol, fod yn fwy 'r ofn a'r dychryn wrth goſpi rhai am eu torri, nag wrth en cyhoeddi. A hyn a all fod yn rheſwm cadarngryf i beri i Griſtion edrych am wneuthur a ddylai

5. Yn ail, os yſtyriwn mor dóſt yr arferai Duw o goſpi rhai a dorrei ei Gyfraith ef, yn gyſtal cyn ei ſcrifennu a chwedi ei ſcrifenu, ni a gawn weled fod i ni ddigon o achos i ofni: megis y goſpedigaeth ryfeddol a roed ar Addaf, ac ar gynnifer myrddiwn o'i heppil, am ei vn pechod ef; darfod boddi 'r holl fyd ar vnwaith; darfod lloſgi Sodoma a Gomorrah a thân a brwmſtan o'r nef; ddarfod gwrthod Saul; a rhoi dygn goſpedigaeth a'r Ddafydd, a'r cyffelyb, 1 Sam. 28. 2 Sam. 12. Y coſpedigaethau hyn a roes Duw cyn drymmed, am bechodau llai o bwys, a llai o rifedi nâ 'n pechodau ni, a hynny ar y rhai yr oedd iddo mwy o achos i'w harbed nag ſydd iddo in harbed ni; y rheini meddaf, a all fod yn rhybydd i ni, i ddangos beth ſydd i ni i'w ddiſgwyl ar law Ddvw am dorri'r Gyfraith ymma a roes efe i ddyſgu ini ei waſanaethu ef yn y byd yma.

6. Yn drydydd, os yſtyriwn ymadroddion ac ymddygiad ein Harglwydd a'n meiſtr Chriſt yn y peth hyn, ni a gawn etto weled mwy o achlyſur i ni i ammeu 'n cyflwr ein hunain; yr hwn er ei ddyfod i'r byd i'n prynu ni, ac i faddeu i bawb, yn llawn llarieidd-dra, ac addfwynder, a goſtyngeiddrwydd, a gwarder, a thrugaredd; etto yn y pwngc yma o gymmeryd cyfrif, nid yw efe arfer o ddangos ei fod ond yn doſt ac yn galed iawn, a hynny nid vnig ar ciriau, ac yn ei ymddiddanion cyfeillgar rhyngtho a'i ddiſcyblon, ond hefyd trwy eſamplau, a dammhegion, i'r perwyl hynny. Canys felly mewn vn ddammeg y mae efe yn damnio y gwas truan hwnnw i vffern (lle bydd wylofain a rhincian dannedd, lle ni bydd marw 'r pryf ac ni ddiffydd y tan) am na buaſai yn chwanegu 'r dalent a roeſid atto, Mat. 25. Ac yno y mae Criſt yn cyfaddef am dano ei hun, ei fod ef yn wr tôſt caled, yn medi lle nis hauodd, ac yn caſglu lle nis gwaſcarodd, ac yn diſgwyl elw ar ein dwylo ni am y dalent a roes efe ini ym menthyg, ac heb gymmeryd yr eiddo ei hun heb elw: ac wrth wneuthur hynny y mae efe megis yn bygwth y bydd efe toſtach o lawer wrth y rhai a gamdreulio eu talentau, fel y mae y rhan fwyaf o honom ni yn gwneuthur. Hefyd, y mae efe yn damnio 'r gwas a gafodd efe 'n cyſgu: y mae efe 'n damnio 'r dyn truan a gymmhellwyd i ddyfod i'r neithior, heb ddim achos ond am na bai ganddo wiſg priodas am dano: y mae yn damnio 'r pum morwyn angall, am nad oedd ganddynt olew yn eu lampau, ac am nad oeddynt barod, yn vnion ar yr awr, i fyned i mewn gydag ef, ac ni fyddei wiw gantho eu hadnabod pan ddeathant wedi hynny: ac yn ddiweddaf, y mae efe yn addo damnio pawb a wnel anwiredd, fel y tyſtia S. Matthew, 13.41, 42. Mat. 25. Mat. 22.

7. Hefyd, pan ofynnodd rhyw bennaeth iddo, pa fodd y gallai fod yn gadwedig, ni roddai efe iddo ddim gwell gobaith, er ei fod yn dywyſog (ac ynteu yn ceiſio iechydwriaeth wrth ei weithredoedd) ond hyn yn ynig, Os mynni fyned i mewn i'r bywyd, cadw 'r gorchymmynion. Luc. 18. Ac wrth ymddiddan a i ddiſgyblon amſer arall ynghylch yr vn peth, nid yw efe yn rhoi iddynt hwy amgen rheol nâ hyn, O cerwch fi cedwch fyngorchymmynion, Joan. 14.15. Megis pe dywedai, er cwpled yr ydych yn ddiſcyblon i mi, ac er cued gennif chwi, etto os chwi a dorrwch fy ngorchymmynion, ni bydd mwy na chariad na chymdeithas rhyngom. Acy mae S. Ioan, yr hwn a wyddei ei feddwl ef oren yn y peth hyn, yn eſponi ei eiriau ef i'r deall hwnnw, lle y mae 'n dywedyd, Pwy bynnag ſydd yn dywedyd, Mi a adwaen Dduw, at ynten heb gadw ei orchymmynion ef, celwyddog ydyw, a'r gwirionedd nid yw ynddo, 1 Jo. 2.4. Ac ym mhellach etto, er mwyn tynnu pob gobaith oddiwrth ei ddiſcyblon, y gellynt ryngu ei fodd ef mewn ffordd yn y byd ond trwy gadw ei orchymmynion, y mae efe yn dywedyd mewn man arall, na ddaeth efe i dorri 'r Gyfraith ond i'w chyflawni, ac yn y man ar hynny y mae yn dywedyd, Pwy bynnag gan hynny a dorro on o'r gorchymmynion lleiaf hyn, efe a elwir yn lleiaf yn nheyrnas nefoedd. Mat. 5.17.19. Ac o'r achos hwnnw y mae efe wrth ymadael a'r byd, yn y geiriau diweddaf a ddywedodd efe wrth ei Apoſtolion yn dywedyd, Am iddynt ddyſcu i ddynion gadw pob peth a'r a orchymmynnaſai efe iddynt, Mat. 28.26.

8. Ac wrth hyn y gellir gweled mor dôſt oedd feddwl Criſt am y cyfrif a fydd rhaid ei wneuthur ynghylch cadw ei orchymmynion ef yn y byd hwn. Yr hyn hefyd a ellir ei gaſclu wrth yr hyn a ddywedodd efe pan ofynnid iddo ai ychydig o nifer fyddei y rhai cadwedig, lle y mae efe yn eu cynghori hwynt i ymdrech am fyned i mewn trwy 'r porth cyfyng: o herwydd y ceuir allan lawer, ie o'r rhai a fwyttaſent ac a yfaſent gydag ef, ac a gawſent fwynhau preſennoldeb a chwmpeini ei gorph bendigedig ef, ac heb fatter ganddynt am fym yn ôl ei orchymmynion ef, Luc. 13.23, 24, 27. Ac wrth hynny y mae efe yn arwyddoccau na wna efe gyfrif yn y byd o gymdeithas a chydnabod yn y dydd diweddaf; ac am hynny y mae efe yn dywedyd wrth y dŷn a wnaethai efe yn iach ar lan y llynn yn Ieruſalem, Wele ti a wnaethbwyd yn iach, na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth, Ioan. 5.14. Ac y mae yn ein rhybuddio ni 'n gyffredinol yn Efengyl S. Matthew, ar i ni gyttuno a'n gwrthnebwr ar frys tra fom ar y ffordd gyd ag ef, hynny yw, gwneuthur ein cyfrif yn y fuchedd hon; os amgen, ni a gawn dalu 'r ffyrling eithaf yn y fuchedd a ddaw. Mat. 5.25, 26. Ac yn doſtach y dywaid mewn man arall y bydd rhaid i ni roddi cyfrif ddydd farn am bob gair ſegur a ddywedom, Mat. 12.36.

9. Ac am y dydd farn hwnnw y mae efe yn ein rhybuddio ni ym mlaen llaw, ac yn dywedyd i ni, mewn llawer o leoedd yn yr Scrythur lân, doſted a pheryccled fydd, fel y gallem ymbarottoi tu ag atto; ac felly vniawni ein bucheddau tra caffom amſer yn y byd hwn, fel y gallom ddyfod ger bron yn y dydd hwnnw, heb nac ofn na pherygl, ie yn hyttrach, yn llawn cyſſur, a diddanwch, a llawenydd: pan ddêl cymmaint o filoedd o bobl annuwiol yno ger bron, i'w gwaradwydd a'i gwarth tragywyddol.

10. Ac o herwydd nad oes dim mor gymmwys i ddangos doſted a fydd Criſt wrth gymmeryd cyfrif y dydd diweddaf, ac ydyw trefn a dull y farn ddiweddaf, yr hyn a ddangoſir yn ddyfal yn yr yſcrythur lan; fe fydd perthynol iawn i ni yſtyried hynny. Ac yn gyntaf peth y mae 'n rhaid i ni ddeall fod dwy farn wedi eu hordeinio i ni yn ôl marwolaeth: y naill a elwir yn farn neillduol, wrth yr hon y mae pob dyn ar ei ben ei hun yn y man ar ôl ymadael â'r byd, yn cael barn o'r neilldu, naill ai i boenau, ai i ogoniant, yn ól ci weithredoedd yn y fuchedd hon, fel y dywaid Chriſt ei hun. Ac o hynny y mae i ni eſampl yn Lazarus a'r glwth goludog, y rhai a gymmerwyd ymmaith yn y man ar ôl eu marw, y naill i boenau, a'r llall i orphywyſdra, fel y tyſtia S. Luc. 16. A chyndynrwydd mawr fyddei ammeu hyn, fel y dywaid S. Awſtin. Y farn arall a elwir yn farn gyffredinol, am y bydd honno i bob dyn yn niwedd y byd, pan gyhoedder y farn ddiweddaf ar bob dyn a fu erioed fyw yn y byd, naill ai i dderbyn gwobr, ai i gael coſpedigaeth, yn ôl y gweithredoedd a wnaethant yn y bywyd hwn, pa vn bynnag ai da, ai drwg, ac na bydd byth mwy ſôn am gyfnewid eu cyflwr hwynt, nac am eſmwythau ar-boenau 'r naill, nac am ddibennu gogoniant y llaill. Mat. 25.

11. Ac ynghylch y gyntaf o'r ddwy farn hyn, er bod yr hên dadau (yn enwedig S. Awſtin) yn caſglu ac yn yſtyried y bydd ynddi amryw bethau tôſt ac ofnadwy iawn, megis yn gyntaf mynediad ein henaid ni allan o'r corph ger bron gorſeddfaingc Duw, a hynny tan gad wraeth angylion da a drwg; yn ail, yr ofn a fydd ar yr enaid rhag pob vn o'r ddeufath angylion hynny; yna, mor ddieithr ddiſymmwth fydd gan yr enaid y lle y bydd ynddo; wedi hynny, mor ofnadwy fydd preſennoldeb Duw, a'r holi tôſt a fydd arno, a'r cyffelyb: etto, o herwydd bod yn rhaid yſtyried y rhan fwyaf o'r pethau hyn yn yr ail farn gyffredinol hefyd; mi af heibio i'r rhai hynny yr awron, ac a ddangoſaf amryw reſymmau o'r eiddo 'r tadau duwiol pa ham y mae Duw wedi ordeinio bod ail barn gyffredinol, ac ynteu wedi darfod iddo yn y farn gyntaf, roi i bawb o'r neilldu yn ôl ei haeddedigaeth. Y rheſwm cyntaf yw, fel y byddai gorph dyn yn ôl ei gyfodi o'r bêdd, yn gyfrannog o goſpedigaeth neu o ogoniant ynghyd â'r enaid, fel y bu gyfrannog gydag ef o rinwedd neu o gamwedd yn y fuchedd hon. Yr ail yw, fel megis ac yr ammharchwyd ac y gwarthruddiwyd Chriſt ar gyhoedd ymma yn y byd hwn, felly y gallai yn helaethach o lawer ddangos ei fawredd a'i allu yn y dydd diweddaf yngwydd ei holl greaduriaid, ac yn enwedig yngwydd ei elynion. Y trydydd yw, fel y gallai 'r duwiol a'r annuwiol dderbyn eu tal a'i gwobr ar gyhoadd, er mwyn cael o'r naill ychwaneg o warth, a gofid a thorr-calon, ar llaill ychwaneg o lawenydd a gorfoledd, er eu bod fynychaf yn cael yn y byd hwn eu gorthrechu gan yr annuwiol. Y pedwerydd yw, Nad ydyw y rhai annuwiol wrth farw yn dwyn gyda hwynt mo'i holl haeddedigaeth a'i drygioni, am eu bod yn gadael yn eu hôl naill a'i eu heſampl ddrwg, ai eu plant ai eu cyfneſeifiaid a ddarfu iddynt hwy eu llygru, ai eu llyfrau neu ryw bethau eraill a all mewn amſer lygru eraill. Ac oblegid na wnaed y pethau hynny etto, ond eu bod heb wneuthur hyd ar ôl eu marwolaeth hwy, ni allant hwy mor gymmheſur gael eu barnu am y pethau hynny yn y man; ond fel y digwyddo 'r drwg y rhoeſant hwy gynt eſampl i'w wneuthur, felly y chwanegir ar eu poenau hwythau. A'r vn peth a ellir ei ddywedyd am y rhai duwiol, yn gymmaint a bod S. Paul (os mynnwch gael eſampl) yn cael chwanegu beunydd ar ei ogoniant, ac felly y caiff hyd ddiwedd y byd, o blegid fod rhai beunydd yn cynnyddu mewn daioni oddiwrth ei ſcrifennadau a'i eſampl ef; ac am yr vn achos y chwanegir ar boenau y rhai annuwiol. Ond yn y dydd diweddaf y bydd diben ar ein holl weithredoedd ni, ac yna y cair gweled yn amlwg pa beth ſydd i bob dyn i'w gael, wrth gyfiawnder a thrugaredd Duw.

12. A thuag at am yr ail farn gyffredinol i'r holl fyd, yn yr hon y Dwg Duw, fel y dyweid yr Scrythur Ian, bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa vn bynnag fyddo ai da ai drwg, Prog. 12.14. Rhuf. 2.16, & 14.10. 2 Cor. 5.10. y mae amryw bethau i'w hyſtyried yn ei chylch, ac amryw wyr dyſgedig yn rhoi y rhei'ny ar lawr mewn amryw foddion; ond yn fy nhŷb i ni ellir eu dangos yn well, nac yn oleuach, nac yn ddwyſach, nag y mae 'r Scrythur lân yn eu dangos, yr hon ſydd yn yſpyſſu i ni holl ddull a threfn y farn honno a'i gogylcheddau, a'r ymbarottoi a fydd o'i blaen, a hynny mewn geiriau llawn o arwyddoccâd, yn y modd y canlyn.

13. Yn y dydd hwnnw y bydd arwyddion yn yr haul, a'r lleuad, a'r ſêr, Luc. 21.25 yr haul a dywyllir, a'r lleuad ni rydd ei goleuni, a'r ſêr a ſyrth o'r nef, a nerthoedd y nefoedd a yſgydwir; y nefoedd a ânt heibio gyd â thwrwf, a'r defnyddiau gan wir wrês a doddant, a'r ddaiar a'r gwaith a fyddo ynddi a loſgir, Mar. 13.24. 2 Pet. 3.10. a'r ddaiar a gryn o'i lle, ac a fydd megis ewig wedi ei tharfu, ac fel dafad heb neb a'i coleddo, Eſa. 13.13, 14. bydd ing ar genhedloedd gan gyfyng-gyngor, a'r môr a'r tonnau yn rhuo, a dynion yn llewygu gan ofn, a diſgwyl am y pethau ſydd yn dyfod ar y ddaiar, Luc. 21. Yna'r ymddengys arwydd mab y dyn yn y nef, ac yna y galara holl lwythau'r ddaiar, a hwy a welant fab y dyn yn dyfod ar gymmalau 'r nef, gydâ nerth a gogoniant mawr, Mat. 24.30. Ac yna mewn moment ar darawiad llygad, efe a ddenfyn ei angylion a mawr ſain vdcorn, a gwaedd a gawr ar hanner nôs, a hwy a gaſglant ei etholedigion ef ynghyd, o'r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd en heithafoedd hwynt, 1 Cor. 15.52. Mat. 25.6. A rhaid i bawb ymddangos ger bron brawdle Chriſt fel y derhynio pob vn y pethau a wnaethpwyd yn y corph, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa vn bynnag ai da ai drwg, 2 Cor. 5.10. ac efe a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau 'r calonnau, a'r pethau a ddywedpwyd yn y glûst mewn ſtafelloedd is bregethir ar bennau tai: ac fe fydd rhaid rhoi cyfrif am bob gair ſegur a ddywedo dynion, 1 Cor. 4.5. Luc. 12.3. Mat. 12.36. ac efe a farn ein cyfiawnderau ni. Yna y ſaif y cyfiawn mewn hyder mawr o flaen ei orthrymwyr, a'r rhai a ddiyſtyraſant ei lafur ef, Pſal. 75.3. A'r annuwiol pan welont hyn, a fyddant mewn dychryn ac ofn mawr, ac a ddechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd a'r creigian, Syrthiwch arnom, ac with y bryniau cuddiwch ni o ŵydd yr hwn ſydd yn eiſtedd ar yr orſeddfaingc, ac oddiwrth lid yr Oen: canys daeth dydd mawr ei ddigter ef, a phwy a ddichon ſefyll? Dat. 6.16. Yna y didola Chriſt y defaid oddiwrth y geifr, ac a eſyd y defaid ar ei ddeheulaw, a'r geifr ar yr aſſwy, ac a ddyweid wrth y rhai a fo ar ei ddeheulaw, Deuwch chwi fendigedigion fy nhad, meddiennwch y deyrnas a barottowyd i chwì er ſeiliad y byd: canys bum newynog, a chwi a roeſoch i mi fwyd; bu arnaf ſyched, a rhoeſoch i mi ddiod; bum ddieithr, a dygaſoch fi gydâ chwi; bum noeth, a dilladaſoch ſi; bum glâf, ac ymwelſoch â mi: bum yngharchar, a daethoch attaf. Yna 'r ettyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Pa bryd i'th welſom yn newynog, ac ith borthaſom; neu yn ſychedig ac y rhoeſom i ti ddiod? a pha bryd i'th welſom yn ddieithr, ac i'th ddygaſon gydâ ni; neu yn noeth, ac i'th ddilladaſom? A pha bryd i'th welſom yn glaf, neu yngharchar, ac y daethom attat? A'r brenhin a ettyb ac a ddywed wrthynt, yn wir meddaf i chwi, yn gymmaint a'i wneuthur o honoch i vn o'r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch. Yna y dyweid efe wrth y rhai a fyddant ar y llaw aſſwy, Ewch oddiwrthyf rai melldigedig i'r tân tragywyddol, yr hwn a barottowyd i ddiafol, ac i'w angylion: canys bum newynog, ac ni roeſoch i mi fwyd; bu arnaf ſyched, ac ni roeſoch i mi ddiod; bum ddieithr, ac ni 'm dygaſoch gyda chwi; bum noeth, ac ni 'm dilladaſoch; yn glaf ac yngharchar, ac nid ymwelſoch â mi. Yna yr attebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd i'th welſom yn newynog, neu yn ſychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yngharcar, ac ni weinaſom i ti? Yna 'r ettyb efe iddynt, gan ddywedyd, yn wir meddaf i chwi, yn gymmaint ac na's gwnaethoch i r vn o'r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau. A'r rhai hyn a ânt i goſpedigaeth dragwyddol, a'r rhai cyfiawn i fywyd tragywyddol. Mat. 25.

14. Dywedwch i mi bellach ond ofnadwy yw 'r darpar yma tu ag at ddyd i farn? gwelweh faint yw 'r achoſion i ofni ac i ddychrynu? Fe ddaw dydd farn, mêdd yr yſcrythur, pan fo dynion, ond odid, yn cyſgu; fe ddaw gyd a ſŵn erchyll, gan lais vdcyrn, a thrwſt dyfroedd, a chynnwrf y pedwar defnydd. Pa fath noſwaith fydd honno, dybygi di, pan weler y ddaiar yn crynu, y mynyddoedd a'r dyffrynnoedd yn ſymmud allan o'i lle, yr haul wedi tywyllu, y fleuad wedi colli ei llewyrch, y ſêr yn ſyrthio i lawr o'r wybren, a'r holl ffurfafen yn hollti 'n ddrylliau, a'r holl fyd yn lloſgi yn dân poeth.

15, Ai poſſibl i dafod yn y byd allu hyſpyſſu dim yn eglurach nag y mae Chriſt a'r Apoſtolion a'r prophwydi yn hyſpyſſu y peth hyn? Pa ddyn bydol ni chryn ei galon yn ei gorph gan y dychryn anfeidrol drol hwn? Ai rhyfedd yw clywed dywedyd bod y rhai cyfiawn, a'r angylion hefyd yn ofni 'r pethau hyn? Ac yno, fel y dywaid S. Petr, Os prin y bydd cadwedig y cyfiawn, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur? 1 Pet. 4.18. Och mor ofnadwy fydd y diwrnod hwnnw i'r Chriſtion difraw, diofal, yr hwn a dreuliodd ei amſer yn y byd yma mewn llawenydd a difvrrwch, pan welo mor anfeidrol fydd yr ofn a'r dychryn, a maint fydd y trueni a'r aflwydd a fydd yn barod i ruthro arno!

16. Ond heb law 'r holl bethau creulon tôſt hyn a fydd o flaen y farn; fe fydd llawer o bethau eraill mor erchyll eu hyſtyried a hwytheu; megis gweled yr holl feddau yn egori pan ganer yr vdcorn, ac yn rhoi i fynu eu holl gyrph meirwon a dderbyniaſant er dechreuad y byd; gweled holl wyr a gwragedd y byd, brenhinoedd a brenhineſau, tywyſogion a gwyr mawr, yn ſefyll yno yn noethion yngŵydd holl greaduriaid Duw; gweled amlygu eu holl bechodau hwy, a datguddio eu hanwireddau cuddiedig, y rhai a wnaethant hwy o fewn eu ſtafelloedd dirgel yn eu llyſoedd; a'i cymmhell a'i gyrru hwythau i roi cyfrif am fil o bethau a fuaſai ddiyſtr ganddynt eu rhybuddio o'i plegid yn y byd hwn, ſef pa fodd y treuliaſant eu hamſer, pa fodd y gwariaſant eu golud, pa fodd yr ymddygaſant tu ac at eu brodyr, pa fodd y darfu iddynt farwolaethu a gorchfygu eu gwyniau cnawdol, pa fodd y darfu iddynt lywodraethu eu hewyllyſion, pa fodd yr vfyddhaſant i weithrediad yr Yſpryd glan yn eu calonnau, ac yn ddiwethaf, pa fodd yr arferaſant holl ddoniau Duw yn y byd hwn.

17. O, frawd anwyl, nyd yw boſſibl gallu dangos mor werthfawr o dryſſor fydd cydwybod dda yn y dydd hwnnw: hi a fydd gwell na deng mil o'r byd hwn; oblegid ni thyccia golud yr amſer hwnnw; ni lygrir y barnwr ag arian, ni thyccia gwaith neb o'n caredigion yn eiriol troſom ni y dwthwn hwnnw, na gwaith angylion ychwaith, y rhai y bydd eu gogoniant yr amſer hwnnw, fel y dywed y prophwyd, i rwymo brenhinoedd a chadwynau, a phendefigion a gefynnau heiyrn; i wneuthur arnynt y farn ſcrifennedig: yr adderchawgrwydd hyn fydd iw holl ſainct ef, Pſal. 149.8. Och, beth a wna 'r holl bobl ddoethio hynny yr amſer hwnnw, y rhai fydd yr awrhon yn treulio eu hamſer mewn llawenydd a ddifyrrwch, ac ni chlywant arnynt gymmeryd dim poen yn gwaſanaethu Duw? pa ymadferth a wnant hwy yn y cyfyngder hynny? tu a phle yr ymdroant? gan bwy y ceiſiant help? Hwy a gant weled pob peth yn eu cylch yn galw am ddialedd arnynt hwy, a phob peth yn rhoi achos iddynt i ofni ac i ddychrynu; ac na bydd dim a roddo iddynt ronyn gobaith neu gyſſur. Vwch eu pennau y bydd eu barnwr yn ddigllon am eu hanwiredd hwy; is eu llaw y bydd vffern yn agored, a'r pair berwedig yn barod i'w derbyn hwy; ar y tu dehau y bydd eu pechodau yn eu cyhuddo hwynt; ar y tu aſſwy y bydd y cythreuliaid yn barod i wneuthur tragwyddol farn Duw arnynt hwy; o'i tu mewn y bydd eu cydwybod yn eu cnoi; ger llaw iddynt y bydd yr holl eneidiau colledig yn ochain ac yn cwynfan; o'i hamgylch y bydd yr holl fyd yn lloſgi. O Arglwydd Dduw, pa beth a wna 'r pechadur truan pan fo 'r holl ofidiau hyn yn ei amgylchu? pa fodd y gall ei galon ef ddioddef y cyfyngderau hyn? pa ffordd a gyrch efe? myned yn ôl nid poſſibl iddo, a myned ym mlaen nid ydyw abl iw ddioddef. Pa beth ynteu a wna efe ond (fel y dywedodd Chriſt, Luc. 21.26.) edwi a digalonni, a llewygu gan ofn, a cheiſio marw ac heb gael, chwennychu marw, a marwolaeth yn cilio oddiwrtho, a gwaeddi ar y mynyddoedd am ſyrthio arno, ac ar y bryniau am ci guddio, a hwythau yn naccau gwneuthur iddo cymmaint a hynny o gymmwynas, Datc. 9.6. Dat. 6.16. ac fo a gaiff ſefyll yno fel dyn truan, digarad, diobaith, hyd oni chaffo glywed y farn ofnadwy ni throir byth yn ei hol, Ewch chwi rai melldigedig i'r tan tragywyddol.

18. A phan ddarffo rhoi 'r farn, yſtyriwch mor ofidus fydd y waedd a'r floedd a fŷdd yu y man ar ol hynny, gan y rhai da yn llawenychu ac yn canu mawl a gogoniant i'w hachubwr, a chan y rhai drwg yn cwynfan, ac vn cablu, ac yn melldigo dydd eu genedigaeth. Yſtyriwch doſted y bydd y drwg yſprydion vffernol yn ymedliw a'r eneidiau truain colledig a fo wedi eu rhoi weithian yn yſclyfaeth dragwyddol iddynt hwy: mor chwerw fydd eu gwawd a'i gwatwor hwy am ben yr eneidiau truain hynny wrth eu dwyn i'r poenau tragywyddol. Yſtyriwch y didoli a fydd yr amſer hwnnw ar dadau a mammau oddiwrth eu plant, ar gyfeillion a charedigion, oddiwrth ei gilydd, a hynny yn dragywyddol, heb obaith byth cael gweled y naill y llall: a pheth arall a fydd cymmaint gofid a'r mwyaf (os gwir a ddyweid rhai, y cawn ni adnabod ei gilydd cyn belled a hynny) ni bydd i'r mab a fo 'n mynd i'r nef doſturio wrth ei dâd neu ei fam a fo yn myned i vffern, ond yn hyttrach bod yn llawen ganddynt hynny am ei fod yn troi 'n ogoniant i Dduw wrth wneuthur cyfiawnder. Pa fath ddidoli fydd hyn, meddaf? pa fath ganu yn iâch? pwy ni thorrei ei galon y dydd hwnnw wrth ymadael ac ymddidoli felly, pe gallei galon dorri yr amſer hwnnw, ac felly cael diwedd ar ei gofid a'i phoenau? Ond ni all hynny fod. Ple yna y bydd ein holl bleſſer a'n difyrrwch ni? I ba le 'r aeth ein holl ddigrifwch a'n diddanwch ni? a'n gwychder yn ein dillad, ein diſgleirio mewn aur, y parch a gawſom trwy gael giſtwng a bod yn bennoeth i ni, ein holl fwydydd dainteth, ein holl fuſig a'n melyſgerdd, ein holl drythyllwch an yſmalhawch, ein cyfeillon a'n cymdeithion digrif diddan a fyddei arfer o chwerthin ac o ddifyrru 'r amſer gydâ ni? I ba le 'r aethant hwy? O frawd anwyl, mor chwerw fydd holl bleſſer a difyrrwch y byd yr amſer hwnnw? Mor ofidus fydd gennym feddwl am danynt? Mor ofer y cawn ni weled bod ein parch a'n golud a'n cyfoeth gynt? Ac yn y gwrthwyneb, mor llawen fydd y dyn hwnnw, a fu ofalus am fyw yn dda ac yn rhinweddol yn y byd hwn, er maint y boen a gafodd yn gwneuthur hynny, a'r dirmyg yn y byd. Dedwydd o greadur fydd efe ei eni, ac ni ddichon vn tafod ond Duw ddangos faint ei ddedwyddwch ef.

19. Ac i ddibennu 'r cwbl oll, nid rhaid i ni ond y diben a wnaeth Chriſt, yſtyriwn hawſed i ni yr awr hon ag ychydig boen, ochel perygl y dydd hwnnw, a darfod i'n barnwr trugarog a'n hiachawdr ddangos y perygl hwnnw i ni ym mlaenllaw, fel y gallem fod yn ofalus am geiſio ei ochel. Oblegid fel hyn y dibenna efe yn ol ei holl fygythion, Ymogelwch, gwiliwch, a gweddiwch; canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amſer. A'r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwiliwch. Mar. 13.33. Ac mewn man arall, wedi darfod iddo gyfrif yr holl bethau o'r blaen, rhag i neb a mmeu nas deuent i ben, y mae 'n dywedyd, Nef a daiar ant heibio, ond fy ngeiriau i nid ant heibio ddim. Ac yno y mae 'n rhoi 'r cynghor hwn, Edrychwch chwithau arnoch eich hunain rhag gorchfygu eich calonnau a'i trymhau trwy lothineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddiſymmwth. Canys efe a ddaw fel magl ar wartha pawb oll ac ſydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaiar. Byddwch chwithau wiliadwrus, a gweddiwch bob amſer, ar gael eich cyfri 'n deilwng i ddiangc rhag y pethau hyn oll ſydd ar ddyfod, ac i ſefyll ger bron Mab y dyn. Luc. 21. 3. Ond cariadus y cynghôr hwn gan Griſt? A allai ein tad ein hun roi i ni gynghor carediccach? Pwy a ddymunai rybudd teccach a mwynach, a dwyſach? Ai poſſibl i neb wedi hynny allu dywedyd, Nis gwyddwn i? Yr vn cyffelyb rybudd y mae S. Petr yn ei roi ar yr vn achos, 2 Pet. 3.10. lle mae yn dywedyd, Dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos, yn yr hwn yr â 'r nefoedd heibio gyda thwrwf, a'r defnyddiau gan wir wrês a doddant, a'r ddaiar. a'r gwaith a fyddo ynddi a loſcir. A chan fod yn rhaid i'r pethau hyn i gyd ymollwng, pa fath ddynion a ddylech chwi fod mewn ſanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, yn diſgwyl ac yn bryſio at ddyfodiad dydd Duw. Y bryſio yma megis i gyfarfod dydd farn, y mae S. Petr yn crybwyll am dano, nid yw ddim ond yr hiraeth a ddylei fod arnom am ddydd farn; a'r hiraeth hwnnw nis gall fod ar neb o honom nês i ni yn gyntaf ymwrando a'n cyflwr ein hunain, a gwellhau ein buchedd yn ddioed ddi-ohir. Am hynny odiaeth y dyweid y gwr doeth, Eccleſ. 18.19, 20. Cyn afiechyd cymmer feddyginiaeth; a chyn barn hola di dy hun, ac yn amſer gofwy ti a gai drugaredd gan Dduw. Ac a'r geiriau hynny y cytuna geiriau S. Paul, Pe iawn farnem ni ein hunain, ni 'n bernid. 1 Cor. 11.31. Ond am nad yw neb yn ei iawn farnu ei hun a'i fuchedd, hynny ſy'n peri bod cyn lleied o bobl yn ymbarottoi erbyn y farn honno, a bod cyn lleied yn wiliadwrus, a chymmaint yn gorwedd mewn trymgwſg, heb wybod dim oddiwrth y perygl y maent ynddo. Yr Arglwydd Dduw a roddo i ni 'r gras i edrych yn well yn ein cylch. Amen.

PEN. VI. Ystyried beth yw naturiaeth pechod, a phechadur; er mwyn dangos nad yw Duw yn anghyfiawn, er ei fod cyn dosted ac y dywetpwyd yn y bennod o'r blaen.

RHag bod i neb le i achwyn fod yn rhy doſt y cyfrif a ofyn Duw ar ein dwylo ni yn y dydd diweddaf, a bod yn rhydoſt y farn a ddangoſwyd yn y bennod o'r blaen: da fyddai yn y bennod yma yſtyried yr achos pa ham y mae Duw cyn doſted yn erbyn pechod, ac yn erbyn pechaduriaid, fel y gellir gweled wrth a ddywetwyd o'r blaen, ac wrth gwbl o'r Scrythur lan, lle y mae efe agos ym mhob man yn datcan ei ddygn gas, a'i lid, a'i ddigofaint yn erbyn pob vn o'r ddau; megis lle y dywedir am dano ei fod yn caſau holl weithredwyr anwiredd, a bod yn gas ganddo 'r annuwiol a'i annuwioldeb, Pſal. 5.5. Dihar. 15.8. A bod holl fuchedd pechaduriaid, a'i meddyliau a'i gweithredoedd, a phob daioni ar a wnelont hwy, yn ffiaidd yn ei olwg ef, tra fònt hwy yn byw mewn pechod: a pheth ſy fwy, nas gall efe ddioddef i bechadur ei glodfori na chymmeryd ei dyſtiolaethau ef yn ei enau, fel y tyſtia 'r Yſpryd glan, Pſal. 50.16. Ac am hynny nid dim rhyfedd iddo fod cyn doſted wrtho ddydd y farn, ac ynteu yn ei gaſau ac yn ei ffieiddio yn gymmaint yn y bywyd yma.

2. Fe ellid dangos llawer o reſymmau am y peth hyn, megis torri gorchymmynion Duw, anniolchgarwch pechadur tuac atto am ei ddoniau, a'r cyffelyb; y rhai a allai ddangos yn ddigon goleu gyfiawned yw ei ddigofaint ef tu ac at bechadur. Ond y mae vn rheſwm vwch law'r cwbl yn egori gwreiddyn y peth; a hynny ydyw yr anfad lwyrgam a wneir â Duw ym mhob pechod a wnelom ni o'n gwirfodd a thrwy wybod, yr hyn fydd gymmaint cam, a dirmyg, ac ammharch, ac na ddioddefai vn gwr mawr y cyfryw ar law ei ddeiliaid: a llai o lawer y bydd i Dduw, yr hwn yw Duw y mawredd, eu dioddef cyn fynyched ac y gwna dynion hwynt iddo.

3. Ac fel y gallom ddeall faint yw 'r cam hwnnw, rhaid i ni wybod, am bob gwaith ac y bôm yn gwneuthur pechod, fod ein calonnau ni a'n deall, er nad ydym yn dal ar hynny, megis yn ymreſymmu o'n mewn ni ac megis yu goſod ger em bronau ni, o'r naill du pa fûdd a pha lês a ddaw i nî oddiwrth y pechod yr ydym ar fedr ei wneuthur, a'r llês hwnnw yw 'r pleſſer a'r difyrrwch yr ydym yn ei gael wrth bechu; ac o'r tu arall pa beth yw digio Duw, hynny ydyw, colli ei gariad a'i ewyllys da ef wrth y pechod hwnnw, os ni a'i gwnawn: ac felly yr ydym ni yn ein meddyliau a'n calonnau megis yn rhoi Duw yn y naill ben i'r clorian; a'r pleſſer yr ydym ni yn ei gael wrth bechu, yn y pen arall; a ninnau megis yn ſefyll yn y canol yn bwrw ac yn yſtyried pa vn drymmaf o'r ddeupen, ac o'r diwedd yn dewis ein pleſſer a'n difyrrwch ac yn gwrthod Duw: hynny ydyw yr ydym ni yn dewis yn hyttrach golli cariad Duw a'i râs a chwbl ac a dal ef, na cholli byrr bleſſer a dyfyrrwch pechu. Beth all fod fryntach na hyn? Pa fodd byth y gwnaem ni mwy o ddirmyg ar Dduw, na dewis y pleſſer gwaelfrwnt hwn o flaen ei fawredd ef? Ond gwaeth yw hynny, a mwy cam nag a wnaeth yr Iuddewon wrth ddewis Barabbas y Ileiddiad, a gwrthod Chriſt ei hachubwr? Ac yn ddiau, er maint oedd pechod yr Iuddewon, etto mewn dau beth y mae 'r pechod ymma megis yn rhagori ar yr eiddynt hwy: y naill yw, nad oedd yr Iuddewon wrth ddewis yn gwybod pwy yr oeddynt yn ei wrthod, fel yr ydym ni; y Ilall yw, na wrthodaſant hwy Griſt ond vnwaith, a ninnau yn ei wrthod ef yn fynych, ie bob dydd, a phob awr ac ennyd, pan fòm o'n gwir fodd ac o ewyllys ein calonnau yn ymroi i bechu.

4. Ai rhyfedd wrth hynny, fod Duw cyn doſted a chyn llymmed wrth y rhai drygionus, yn y byd a ddaw, a hwythau mor ddirmygus ddiyſtyr ganthynt ef yn y byd ymma? Yn ſiccr mae 'n fawr malais pechadur tu ag at Dduw, ac y mae efe nid yn vnig yn ei ammherchi ef wrth ddiſtyru ei orchymmynion, ac wrth ddewis y creaduriaid gwaelaf a gwaethaf o'r byd o'i flaen ef; ond y mae hefyd yn dwyn cas dirgel yn ei galon tu ac atto, ac yn cynfigennu wrth ei fawredd ef, ac yn chwennych, pes gallei, ei dynnu ef i lawr oddi ar ei orſeddfaingc, neu, o'r hyn lleiaf, yn dymuno na bai vn Duw i roi coſp am bechod yn ol y fuchedd hon. Ymwrandawed pob pechadur ag eigion ei gydwybod yn hyn o beth, oni byddei bodlon ganddo gael o'i enaid farw gyda'i gorph, ac na byddai anfarwol; ac na byddei ar ol y fuchedd hon na chyfrif, na barnwr, na choſpedigeth, nac vffern, ac felly na byddai vn Duw, fel y gallai efe gymmeryd ei bleſſer yn ddiofal wrth ei ewyllys ei hun yn y byd ymma?

5. Ac o herwydd bod Duw (ac ynteu yn chwilio 'r calonnau a'r arennau) yn gweled eu meddwl bradwraidd hwy tu ac atto pe rhon a'i fod yn llechu o fewn ymyſcaroedd eu calonnau hwy, er llyfned fytho eu geiriau: am hynny y mae efe yn cyhoeddi yn yr Scrythur lan eu bod hwy yn elynion iddo, ac yn cyhoeddi rhyfel a gelyniaeth yn eu herbyn hwy. Ac yno, dybygwch chwi, ym mha gyflwr y mae 'r truain ad ddynion hyn, y rhai nid ydynt ond gwael bryfed y ddaiar, pan fo iddynt i ymladd yn erbyn y cyfryw elyn, ac ſydd yn peri i'r nefoedd grynu, er na's gwnelo ond edrych arnynt. A rhag i ti dybied na bo hynny gwir, gwrando beth y mae efe yn ei ddywedyd, beth y mae efe yn ei fyg vth, beth y mae efe yn ei dadſain yn eu herbyn hwy. Wedi darfod iddo, trwy enau 'r prophwyd Eſai, gyfrif llawer o'i pechodau ffiaidd hwy ger ei fron ef (ſef eu bod yn caru rhoddion, ac yn dilyn gwobrau, ac yn gorthrymmu 'r truan a'r tlawd, a'r cyffelyb) y mae ynteu yn ffieiddio y rhai a wna 'r pethau hynny, gan ddywedyd, Fel hyn y dyweid yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, cadarn, Ddaw Iſrael; Aha, mi a ymgyſſuraf ac fy ngwrthwynebwyr, ac a ymddialaf ar fy ngelynion, Eſ. 1.23.24. A'r prophwyd Dafydd, fel yr oedd efe yn wr mawr ei gariad gyd a Duw, ac yn cael gwybod llawer o'i gyfrinachau ef; felly y mae efe yn aml yn datcan ac yn adrodd doſted yw meddwl Duw a maint yw ei ddigofaint yn erbyn pechaduriaid, ac yn eu galw hwy yn elynion iddo, yn lleſtri ei ddigofaint ef, a chwedi eu hordeinio i ddiſtryw a cholledigaeth dragywyddol; ac yno y mae yn cwyno na choelia'r byd mo hynny, gan ddywedyd, Gwr annoeth ni ŵyr, a'r ynfyd ni ddeall hyn, Pſal. 92.6. Beth yw hynny? Pa fodd y mae pechaduriaid yn ol iddynt godi i fynu, a gweithredwyr anwiredd wedi yr ymddangoſont i'r byd yn myned i golledigaeth dragywyddol? A pha beth yw 'r achos o hynny? Y mae efe yn atteb yn y man ac yn dywedyd, Gwerſ. 9. Canys wele dy elynion O Arglwydd, vvele, dy elynion a ddifethir, gvvaſcerir holl vveithredvvyr anvviredd. Wrth hyn y gwelwn fod pob pechadur yn elyn i Dduw, a Duw iddo ynteu; ac y gwelwn pa ham y mae hynny. Ond er mwyn dangos yn eglurach fod barn Duw yn gyfiawn, er ei thoſted, yſtyriwn beth yw maint a meſur ei ddigllonedd ef yn erbyn pechod, a pheth yw ei chyrraedd, a pheth yw ei therfynau, a ph th a wna ai bod iddi derfynau ai nad oes: fel y mae mewn gwirionedd, yn anfeidrol, hynny ydyw heb na metr na meſur, nac ymyl nac eithaf. Ac i adrodd y peth fel y mae mewn gwirionedd, pettai holl dafodau 'r byd wedi eu gwneuthur yn vn tafod, a holl ddeall yr holl greaduriaid, o ddynion ac o angylion, wedi ei wneuthur yn vn deall; etto ni allai y taiod hwnnw fynegi, na'r deall hwnnw amgyffred faint yw digofaint calon Duw yn erbyn pob pechod ar yr ydym ni yn ei wneuthur trwy wybod. A'r rheſwm o hyn ſydd yn ſefyll mewn dau beth. Yn gyntaf, o herwydd cymmaint ac y mae Duw yn rhagori arnom ni mewn daioni, o gymmaint a hynny y mae efe yn caru daioni ac yn caſſau pechod yn fwy nag yr ydyn ni: ac am ei fod ef yn anfeidrol ei ddaioni, am hynny y mae ei gariad ef tu ac at ddaioni, a'i gâs tu ac at bechod, yn anfeidrol hefyd; ac o'r achos hynny y mae 'r tâl ſy gantho ynghadw i bob vn o'r ddau, yn anfeidrol ynteu; i'r naill yn y nef, ac i'r llall yn vffern.

6. Yn ail, ni a welwn beunydd, mai po mwyaf a pho ardderchoccaf fyddo 'r gŵr y gwneler bai yn ei erbyn, mwyaf y cyfrifir y bai: obl gid nid yr vn bai yw rhoi dyrnod i waſanaethwr, a rhoi dyrnod o'r vn faint i dywyſog; y mae rhagor mawr rhyngddynt, a rhagor rhwng y goſpedigaeth y maent yn ei haeddu. Ac am fod pob pechod vr dym ni yn ei wneuthur trwy wybod, yn vnion yn erbyn Duw ei hun, fel y dangoſwyd vchod, a bod ei ardderchawgrwydd ef yn anfeid o ; am hynny y mae bai ac euogrwydd pob cyfryw bechod yn anfeidrol hefyd, ac am hynny yn haeddu ca anfeidrol, a choſpedigaeth anfeidrol ar law duw. Wrth hyn y gellir gweled rheſwm am lawer o bethau y mae Duw yn eu dywedyd ac yn eu gwneuthur yn yr Yſcrythur lân, ac y mae Athrawon dyſgedig yn eu dyſgu, ynghylch y goſpedigaeth ſydd am bechod, y rhai y tybia doethineb y byd eu bod yn ddieithr, ac yn anhygoel iawn. Megis yn gyntaf, y goſpedigaeth fawr ofnadwy honno o dragywyddol ddamnedigaeth a roir ar gynnifer mil, a chynnifer myrddiwn o angylion a grewyd i ogoniant, ac ynddynt berffeithrwydd agos i anfeidrol, a hynny am vn pechod yn vnig, yr hwn ni wnaed ond vnwaith, nac mo hynny ond ar feddwl yn vnig, fel y tybia rhai dyſgedig. Yn ail, y goſpedigaeth dôſt a roed ar ein hynafiaid ni Adda ac Efa a'i holl hiliogaeth, am fwytta o ffrwyth y pren gwaharddedig: am yr hwn bechod, heb law 'r goſpedigaeth a roed ar y rhai a'i gwnaeth, ac ar holl greaduriaid y byd, a'i holl blant a i heppil ar eu hol, o flaen dyfodiad Chriſt a chwedi hynny, (oblegid er ein bod ni wedi ein gwared oddiwith fod yn euog o'r pechod hwnnw, etto y mae 'r coſpedigaethau bydol a roed am dano, yn aros etto; megis newyn, a ſyched, ac anwyd, a chlefydau, a marwolaeth, a mil o ofidiau heb law hynny) ac heb law colledigaeth dragywyddol ar aneirif o ddynion: heb law hyn i gyd, meddaf, (ae fe dybygai reſwm dŷn fod hyn yn ddigon tôſt) ni ellid dyhuddo a bodloni digofaint a chyfiawnder Duw, on byddei i'w fab ef ei hun ddyfod i'r byd, a chymmeryd ein cnawd ni arno, a thrwy ei boenau ei hun wneuthur iawn i Dduw. A chwedi iddo ddyfod i wared, a'i ddaroſtwng ei hun i gyfiawnder ei Dad yn ein cnawd ni, or bod y cariad oedd gan e Dad iddo yn anfeidrol; etto fel y gallai Dduw ddangos faint a thoſted oedd ei gas a'i gyfiawnder yn erbyn pechod, ni pheidiodd efe a rhoi 'r goſpedigaeth honno ar ei anwyl fendigedig fab ei hun; hyd yn oed yr amſer yr oedd efe yn athriſt hyd angeu, ac mewn ymdrech meddwl, a'i chwŷs fel defnynnau gwaed yn diſcyn ar y ddaiar, ac ynteu yn llefain, O Dâd os yw boſſibl, aed y cwppan hwn heibio i mi fel nad yfwyf ef, Luc. 22.44. Mar. 14. Matth. 26.27. A thrachefn yn fwy toſturus o lawer pan oedd ar y groes, Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gwrthodaiſt? Er hyn i gyd, meddaf, ni waredodd ei Dâd mo hono ef, ond rhoi iddo ddyrnod ar ddyrnod, a choſp ar gôſp, a phoenau ar boenau, hyd oni roes i fynu ei enioes a'i enaid yn llaw ei Dâd: Yr hyn ſydd beth rhyfeddol i ddangos i ni faint yw digllonedd Duw yn erbyn pechod.

7. Mi a allwn yma ddwyn ar gôf i chwi bechod Eſau yn gwerthu ei etifeddiaeth a'i enedigaeth-fraint am ychydig fwyd: am yr hwn y dyweid yr Apoſtol, Na chafodd efe le i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer geiſio hi, Heb. 12.17. Hefyd pechod Saul, er nad oedd ei bechod ond vn pechod, a hwnnw nid am iddo wneuthur dim oedd waharddedig, ond am iddo adael heb wneuthur yr hyn a orchymmynnaſid, am na laddaſai efe Agag brenhin Amalec, a phob peth o'r eiddo, fel yr archeſid iddo, etto fe a'i bwriodd Duw ef ymaith am hynny, er ei fod o'r blaen yn enneiniog iddo ac yn was detholedig, ac fe a fethodd gantho gael maddeuant am y pechod hwnnw, er i Samuel ac ynteu alaru ac ymofidio yn fawr am y pechod hwnnw, neu o'r hyn lleiaf, am ddarfod i Dduw ei wrthod ef. 1 Sam. 15. & 16.

8. Mi a allwn hefyd ddwyn eſampl y brenhin Dafydd, yr hwn er i Dduw fadden iddo ei ddau bechod ar ei edifeirwch, etto er maint oedd galar Dafydd tros ei bechodau, fe a'i ceryddodd Duw ef yn doſt iawn, trwy farwolaeth ei fab, a hoi arno ynteu ei hun drallod gwaſtadol tra fu fyw. A hyn i gyd i ddangos ei gas tu ac at bechod, ac felly in dychrynu ninnau rhac pechu.

9. Ac o hyn y tŷf yr holl ymadroddion caled chwerw ſydd yn yr yſcrythur lân am bechaduriaid, y rhai am eu dyfod o enau 'r yſpryd glan, ac am hynny yn wir ddiammau, a allent roi achos da i'r rhai ſy'n byw mewn pechod i ofni, megis lle y dywedir, Y tân a'r mor, a dannedd bwyſtfilod, ac yſcorpionau, a gwiberod, a marwolaeth, a gwaed ac ymryſon, a'r cleddyf, a gorthrymder, a newyn, a chystudd, a ffrewyll: y pethau hyn oll a wnaed er dialedd a diniſtr ar yr annuwiol, ac er eu mwyn hwy y bu'r diluw, Eccl. 39.29, 20. & 40.9, 10. A thrachefn, Ar yr annuwolion y glawia efe faglau, tân, a brwmſtan, a phoethwynt yſtormus: dymma ran eu phiol hwynt: Pſal. 11.6. A thrachefn, Adweinir yr Arglwydd wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yngweithredoedd eu dwylo eu hun. Y rhai drygionus a ymchwelant i vffern, a'r holl genhedloedd a anghofiant Dduw, Pſal. 9.16, 17. Hwy a fyddant fel y man-us yr hwn a chwâl y gwynt ymmaith. Pſal. 1.4. Duw a dery ei elynion ar garr yr ên, ac a dyrr ddannedd yr annuwolion, Pſal. 3.7. Efe a ddryllia eu dannedd yn eu geneuau, ac a'i tawdd hwynt fel y dyfroedd rhedegog; a hwy ant ymmaith fel malwoden dawdd, Pſal. 58.6. Yr Arglwydd a chwardd am ben yr annuwiol, canys gwel fod ei ddydd ef ar ddyfod: Efe a dyrr freichiau 'r annuwolion, a'i cleddyf a â'n eu calon eu hunain. Gelynion yr Arglwydd fel braſder wyn a ddiflannant; yn fwg y diflannant hwy. Y pechaduriaid a dderffyddant o'r tir, ac ni bydd yr annuwolion mwy, Pſal. 37. Hwy a gydgwympant yn eu rhwydau eu hun, Pſal. 141.10. A thi a gei weled pan ddifether hwynt. Blinder eu gwefuſau a'i gorchuddia: marwor a ſyrth arnynt, a hwy a fwrir yn tan, ac mewn ceu-ffoſydd, fel na chyfodant; a'r drwg a hela 'r traws i ddiſtryw. Wele, dydd yr Arglwydd a ddaw, yn greulon, a digofaint, a dicter llidiog, i wneuthur y wlad yn ddiffaethwch, as i ddifa ei phechaduriaid allan o honi, Ef. 13.9. A'r cyfiawn a lawenycha pan welo ddial, ac a ylch ei draed yngwaed yr annuwiol. Pſal. 58.10. Y rhai hyn, a mil o werſi yn ychwaneg allan o'r Scrythur lan, y rhai yr wyf yn eu gadael heibio, y mae yſpryd Duw yn eu hadrodd yn erbyn pechaduriaid, y rhai a allai ddangos i ni pa gyflwr toſtur y mae pechaduriaid ynddo, ac mor annhraethawl yw digofaint Duw yn eu herbyn hwy, tra font yn aros mewn pechod.

10. O'r holl bethau hyn y mae 'r Scrythur lan yn caſglu vn peth a ddylem ni ei yſtyried yn ddwys ac yn ddifrif; nid amgen na hyn, Cywilydd pobloedd yw pechod: A thrachefn, Yr hwn ſydd hôff ganddo ddrygioni, ſydd yn caſau ei enaid ei hun, Dih. 14.34. Pſal. 11.5.Felly y mae 'r lladin yn ei gyfeithu. Neu fel y mae 'r Angel Raphael yn ei adrodd mewn geiriau cynnhebyg, Y rhai ſydd yn gwneuthur pechod ſydd elynion i'w heneidian eu hunain, Tob. 12.10. Am hynny y maent yn goſod ger bron pawb, y gorchymmyn cyffredinol, toſt, angenrheidiol hwn, tan boen y goſpedigaeth a ddangoſwyd o'r blaen, Ffô oddiwrth bechod megis, rhag wyneb ſarph, Eccleſ. 21.2. Ac medd Tobit wrth ei fab, Mogel byth roi dy feddwl ar bechu, nac ar dorri gorchymmynion yr Arglwydd, Tob. 4.5. Oblegid er lleied o gyfrif y mae 'r byd yn ei wneuthur o hyn, gan yr hwn, fel y dyweid yr Scrythur, Y canmolir y pechadur am ewyllys ei galon, ac y bendithir yr annuwiol, Fe hyn y mae 'r lladin. yr hwn y mae 'r Arglwydd yn ei ffieiddio: Pſal. 10 3. etto diammau ydyw, gan fod yſpryd Duw yn ei adrodd, Yr hwn ſydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae: ac am hynny efe a gaiff dderbyn ei ran gyda 'r cythreuliaid yn y dydd diweddaf, 1 Joh. 3.8. Joh. 8.44.

11. Ac onid yw hyn ddigon, frawd anwyl, i beri i ni roi 'n câs ar bechod, a bod arnom beth ofn rhag pechu? Onid yw'r pethau hyn i gyd yn ddigon crŷf er dryllio calonnau y rhai ſy 'n byw mewn pechod, ac yn ei wneuthur beunydd heb nac yſtyried nac ofni gronyn? Pa gyndynrwydd, a pha galedwch calon yw hyn? yn wir ni a welwn ddarfod i'r Yſpryd glan brophwydo 'r gwirionedd am danynt hwy, lle y mae 'n dywedyd fel hyn, O'r groth yr ymddîeithrodd yr annuwiol oddiwrth Dduw, o'r bru y cyfeiliornaſant, Pſal. 58.3. eu Felly y mae yn y Lladin ac eraill lawer. gwyn a'i cynddaredd ſydd fel gwyn ſarph; ac y maent fel y neidr fyddar, yr hon a gae ei chluſtiau, ac ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo 'r ſwynwr. Y wŷn a'r ynfydrwydd yma yw gwyn a chynddaredd pechaduriaid anhydyn, y rhai ſy 'n cau eu cluſtiau fel ſeirph, oddiwrth yr holl ſwynion a'r cyfareddion bendigedig y mae Duw yn eu gwneuthur iddynt i geiſio eu troi hwy atto; ſef yw hynny, oddiwrth yr holl feddyliau da a'r yſprydoliaeth a ddanfono Duw yn eu calonnau hwy, oddiwrth holl waith eu cydwybodau hwy eu hunain yn gwrthwynebu ac yn ofni pechu; oddiwrth holl fygythiau 'r Scrythur lan; oddiwrth holl rybuddion gwaſanaethwyr Duw, ac oddiwrth bob peth arall ac y mae Duw yn ei wneuthur i geiſio eu dwyn hwy i fod yn gadwedig.

12. Och Duw, pwy trwy wybod a wnai vn pechoder ynnill mil o'r holl fyd, ped yſtyriai yr anfeidrol golledion, a'r niweidion, a'r aflwydd, a'r gofidiau ſydd yn dyfod o wneuthur vn pechod? Oblegid yn gyntaf, y mae'r neb ſy 'n pechu felly, yn colli 'r grâs Duw a rodded iddo, yr hon yw y rhodd fwyaf ac a all Duw ei rhoi i greadur yn y bywyd hwn; ac wrth hynny y mae 'n colli pob peth ar oedd yn dyfod gyda 'r gras hwnnw; megis rhinweddau a doniau 'r yſpryd glan, y rhai oedd yn gwneuthur yr enaid yn hardd yngolwg ei briod, ac yn ei arfogi yn erbyn dygyrch y cythraul, a chynllwynion y gelyn. Yn ail y mae efe 'n colli cariad Duw a'i ewyllys da, ac wrth hynny yn colli ei dadol nawdd, a'i ofal, a'i ymgeledd ef; ac yn ynnill bod yn elyn iddo. A pheth yw maint y golled honno, ni a allwn fwrw wrth gyflwr vn o ŵyr llŷs brenhin bydol, a fai wedi colli ffafr ac ewyllys da ei dywyſog, a chwedi myned yn elyn iddo. Yn drydydd, y mae efe 'n colli ei dreftadaeth, a'i glaim, a'i ditl yn nheyrnasnef, (yr hon ſydd ddyledus trwy ras, fel y •• dengys yr Apoſtol S. Paul, Rhuf. 6.) ac wrth hynny mae 'n ei ddifuddio ei hun o bob braint ac o bob cymmwynas ac ſydd yn canlyn hynny yn y bywyd yma; hynny yw, y braint a'r goruchafiaeth ſydd o fod yn blentyn i Dduw, a chyfundeb y Sainct, nawdd ac ymddiffyn ac ymgeledd yr Angylion, a'r cyffelyb. Yn bedwerydd, y mae efe 'n colli llonyddwch, a llawenydd, ac eſmwythder cydwybod dda; a'r holl ffafor, a'r ewyllys da, a'r diddanwch, a'r cyſſur, y mae 'r yſpryd glan yn arfer o'i danfon ym meddyliau y rhai cyfiawn. Yn bummed, y mae 'n colli 'r tal oedd yn dyfod iddo am ei holl weithredoedd da a wnaeth efe er pan ei ganwyd, a chwbl ac y mae efe yn eu gwneuthur, a chwbl ac a wnel efe tra fo 'n aros yn y cyflwr hwnnw. Ezec. 18.24. Yn chweched, y mae 'n ei wneuthur ei hun yn euog o boenau tragywyddol, ac yn rhoi ei henw-i mewn yn llyfr colledigaeth, ac wrth hynny yn ymrwymo i bob anghyflwr ac ſydd ddyledus i'r rhai colledig, hynny ydyw, cael tan vffern yn dreftadaeth iddo, bod ym meddiant diafol a'i angylion, bod yn gaeth i bob pechod ac i bob temtaſiwn i bechu, a bod ei enaid (oedd o'r blaen yn deml i'r yſpryd glan, yn drigfa i'r fendigedig drindod, ac yn orphywysfa i'r angylion i ymweled ag ef) o hyn allan yn nyth i ſcorpionau, yn bwll carchar i'r cythreuliad, a'i fod ynteu yn gyfaill i'r rhai colledig. Yn ddiweddaf, y mae efe yn ymddidoli oddiwrth Griſt, ac yn ymwrthod a'r rhan oedd ddo gyda Chriſt, ac yn ei wneuthur ei hun yn elyn i Chriſt, trwy ei ſathru ef dan ei draed, a'i ail croeſ-hoelio ef, halogi ei waed ef, (fel y dyweid yr Apoſtol) wrth bechu yn erbyn yr hwn a fu farw tros bechod, Heb. 10. Hebr. 6. Rhuf. 6. Ac am hynny y mae 'r vn Apoſtol yn datgan barn ryfeddol yn erbyn y cyfryw, yn y geiriau hyn, Os o'n gwirfodd y pechwn, ar ol derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth tros bechodau wedi ei adael mwyach; ond rhyw ddiſgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa 'r gwrthwynebwyr, Heb. 10.26. & 6.4. A'r hyn y cyttuna geiriau S. Petr, lle mae 'n dywedyd, Gwell fuaſai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nâ chwedi ei hadnabod, troi oddiwrth y gorchymmyn ſanctaidd a draddodwyd iddynt. 2 Pet. 2.21.

13. Weithian aed y rhai bydol ac ymddigriſant mewn pechod cymmaint ac y mynnont, eſcuſodant eu pechod ac ymddiffynnant ef twy gellwair a digrifwch, a dywedant, Nid yw balchder ond campau gwr bonheddig; Nid yw glothineb a meddwdod ond rhan cydymmaith da; nid yw drythyllwch ac anlladrwydd ond nwyf ieuengtid; a'r cyffelyb: hwy a gânt weled ryw ddydd na chymmerir mor fath eſcuſodion ganddynt, ac a gânt weled y try 'r fath gellwair a digrifwch a hwnnw yn wylo ac yn ochain: hwy a gânt wybod na fyn Duw mor cellwair ag ef, ac mai 'r vn Duw yw efe byth, ac y gofyn ef gyfrif cyn doſted ganddynt hwy, ac a ofynnodd ef gan eraill o'r blaen; er nad gwiw ganddynt hwy yr awrhon gadw cyfrif yn y byd oi buchedd, ond yn hyttrach troi 'r cwbl yn gellwair ac yn ddigrifwch; a thybied yn eu calonnau pa fodd bynnag y gwnaeth Duw ag eraill o'r blaen, y bydd ef mor dirion a maddeu 'r cwbl iddynt hwy. Ond nid felly y mae 'r Scrythur lân yn ymreſymmu, ond mewn modd amgen o lawen; a hynny a fynnwn i bob Chriſtion ſynhwyrol ei yſtyried.

14. S. Paul wrth gyffelybu pechodau 'r Iuddewon a'n pechodau ninnau, ſydd yn ymreſymmu fel hyn, Onid arbedodd Duw y canghennau naturiol, 'mogel nad arbedo ditheu chwaith; Ac ar hynny y mae 'n rhoi y rhybudd hwn, Na fydd ditheu vchelfryd, ond ofna, Rhuf. 11.20, 21. Drachefn, fel hyn yr ymreſymma 'r Apoſtol ynghylch yr hen gyfraith a'r newydd, Yr hwn a ddirmygai Gyfraith Moſes, a roid i farwolaeth heb drugaredd trwy ddau neu dri o dyſtion: pa faint mwy coſpedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o'r hwn a ſathrodd Fab Duw dan draed trwy bechu o'r gwaith goddeu, ac a farnodd yn aftan waed y cyfammod, a'r hwn y ſancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd yſpryd y gras, Heb. 10.28. Yn yr vn modd yn ymreſymma Sanct Petr, a S. Iud ynghylch pechod yr Angylion a'n pechod ninnau. 2 Pet. 2. Jud. 6. Iob 4.18. Onid arbedodd Duw 'r Angylion a bechaſent ond eu taflu i vffern, a'i rhoddi mewn cadwyn au tragwyddoltan dywyllwch, hyd farn y dydd mawr, diau nad arbed ef mo honomni. A thrachefn, 2 Pet. 2.11. Onid yw'r Angylion, Fel hyn y deall rhai eirian 'r Apoſtol. y rhai ſy yn rhagori arnom ni mewn gallu a nerth, yn abl i ddioddef dygn-doſt farn Duw yn eu herbyn hwy, pa beth a wrawn ni? Drachefn mewn lle arall y' mae 'n ymreſymmu fel hyn, Os braidd y bydd y cyfiawn cadwedig, pa le 'r ymddengys yr annuwiol a'r pechadur? 1 Pet. 4.18. Wrth y ſamplau hynny i'n dyſgir ninnau i ymreſymmu yn yr vn modd, ac i ddywedyd fel hyn, os coſpodd Duw mor doſt vn pechod yn yr Angylion, ac yn Addaf, ac yn eraill, pa beth a ddiſgwiliaf a wneuthum gynnifer o bechodau yn ei erbyn ef? Os damniodd Duw gynnifer o ddynion am lai o bechodau nag a wneuthum i pa beth a wna efe i mi am fwy o bechodau nag a wnaeth eraill? Os darfu i Dduw gyd-ddwyn â myfi yn hwy nag â llawer eraill a dorrodd f ymmaith heb roi iddynt amſer i edifarhau, pa reſwm iddo gyd-ddwyn â myfi yn hwy nag â hwynt hwythau? Os ceryddwyd Dafydd ac eraill mor dôſt, yn ôl maddeu iddynt eu pechodau, pa goſpedigaeth a haeddwn i yn y byd ymma neu yn y byd a ddaw, am wneuthur cymmaint o bechodau cyn drymmed? Os gwir a ddywedodd ein Iachawdr fod y ffordd yn gùl ac yn anhawdd, a'r porth yn gyfyng i ddynion i fyned i'r nêf, ac y bydd haid iddynt roi cyfrif am bob gair ſegur cyn eu myned yno; pa beth a ddaw o honof fi ſydd yn byw mor eſmwyth, ac heb gadw cyfrif yn y byd am fy ngweithredoedd, chwaethach am fy ngeiriau? Os oedd gwyr da gynt yn cymmeryd y fath boen yn ffordd eu hiechydwriaeth, ac er hynny, fel y dyweid S. Petr, braidd y bydd y cyfiawn gadwedig; ym mha gyflwr yr ydwyfi, yr hwn nid wyf yn cymmeryd po n yn y byd, ond byw mewn pob math ar bleſſer a difyrrwch bydol?

15. Dyma 'r rheſymau ſy wiriaf, a buddiolaf i ninnau, wrth y rhai y gallem yn haws yſtyried ein per gl ein hun, ac ofni peth ar farn Duw, ac eiſiau hynny ſy'n peri gwneuthur y rhan fwyaf o'r pechodau a wneir ym myſg Chriſtianogion: oblegid felly y mae 'r Scrythur lân, wrth ddangos yr achoſion o'r annuwioldeb ſy ym mhlith dynion, yn goſod y ddau yma yn bennaf. Yn gyntaf, truth y byd, am fod yn canmol pechadur am ewyllys ei galon, yn bendithio 'r annuwiol, yr hwn y mae 'r Arglwydd yn ei ffieiddio, Pſal. 10.3. Ac yn ail, am nad ydyw Duw yn ei holl feddyliau ef, a bod barnedigaethau Duw allan o'i olwg ef, Pſal. 10 4, 5. Ac o'r gwrthwyneb wrth grybwyll am dano ei hun y mae yn dywedyd, Pſal. 18.21. Mi a gedwais ffyrdd yr Arglwydd, ac ni chiliais yn annuwiol oddiwrth fy Nuw. Ac yn man y mae 'n dangos beth oedd yn peri iddo hynny; Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i. A thrachefn, mi a ofnais rhag dy farnedigaethau, A thrachefn, meddyliais am dy farnedigaethau, Pſal. 119.30. A maint y llês a wna 'r ofn hwn, y mae 'n dangos yn yr vn man,Felly y mae 'r lladin. lle mae 'n gofyn yr ofn hwn yn daer ac yn ddifrif ar law Dduw, ac yn gweddio fel hyn, Trywana fy nghnawd i a' th ofn, Pſal. 119.120. A Sainct Paul, wedi darfod iddo ddangos i'r Corinthiaid y bydd rhaid i ni i gyd ymddangos ger bron brawdle Chriſt, ſydd yn cau ar y cwbl fel hyn, A ni gan hynny yn gwybod hyn, ofni yr Arglwydd yr ydym yn ei berſwadio i ddynion, 2 Cor. 5.11. A Sainct Petr, wedi darfod iddo ddangos mawredd Duw, a Chriſt yn teyrnaſu 'n y nef, ar hir draethawd, y mae efe o r diwedd yn cau ar y cwbl fel hyn,Felly y mae rhai y deall y lli yma. Ac os ydych yn ei alw ef yn Dad, yr hwn heb dderbyn wyneb ſydd yn barnu pob dyn yn ôl ei weithred, ymddygwch mewn ofn tros amſer eich ymdeithiad yma ar y ddaiar, 1 Pet. 1.17. Dyna we s angenrheidiol i bob dyn, ond yn enwedic i'r rhai ſydd o herwydd eu pechodau a'i drwg fuchedd, yn aros mewn anfodd a digofaint Duw, a phob awr (fel y dywetpwyd) tan gynddaredd barn Duw; ac os ſyrthiant vnwaith tani, nid oes fodd i'w throi yn ôl, ac nis gellir ei dioddef: ac y mae cyn hawſed ſyrthio tan gynddaredd barn Duw, a chymaint o ffyrdd i ſyrthio tani, ac ſydd i ſyrthio i farwolaeth, ac y mae ffyrdd marwolaeth yn aneirif, yn enwedig i'r rhai trwy annuwioldeb a gollaſant nawdd ac ymddiffyn ac ymgeledd Duw, ac felly cymmorth ei Angylion hefyd, a chwedi myhed tan feddiant cythreuliaid y tywyllwch, y rhai nid ŷnt yn gwneuthur dim arall ond ceiſio eu diſtrywio hwy enaid a chorph, a hynny mor ddyfal ac mor ddiwyd ac y gallont. Pwy gan hynny, a fai a dim ſynhwyr ganddo, nid ofnai yn y cyfryw gyflwr? Pwy a fedrai na bwytta, nac yfed, na chyſgu yn eſmwyth nes iddo, trwy wir edifeirwch, ddadlwytho ei gydwybod o bob pechod? Fe allai garreg fechan a gwympai 'n ei ben ef oddiar y tŷ, neu gephyl wrth drippio dano yn marchogaeth, neu ei elyn wrth gyfarfod ag ef ar y ffordd, neu gryd neu glefyd a ddoai arno wrth fwytta neu yfed ychydig mwy nâ digon, neu ddeng mil o'r cyfryw bethau, y rhai y mae efe beunydd a phob awr ac ennyd mewn perygl oddiwrthynt, ddwyn ei einioes oddiarno, a'i ddwyn ef ir fath gyflwr ac na allai holl greaduriaid y byd byth ei wared ef allan o hono. Pwy wrth hynny nid ofnai? Pwy ni chrynei, ac ni ddychrynai?

16. Duw o'i drugaredd a roddo i ni ei fendigedig ras, i'w ofni ef megis y dylem, ac i wneuthur y fath gyfrif o'i gyfiawnder ef, ac y mae efe, wrth ein bygwth ni â hi, yn chwennych i ni ei wneuthur. Ac yno nid oedwn ni mo'r amſer, ond ymroi yn gwbl i'w waſanaethu ef, tra fai wiw gantho gymmeryd 〈◊〉 gwaſanaeth ni, a maddeu i ni ein holl bechodau, 〈◊〉 ymro •• ni vnwaith o ewyllys ein calonnau i'w waſa aethu ef

PEN. VII. Angwhaneg o reſwm i amddiffyn cyfiawnder barnedigaethau Duw, ac i ddangos ein haeddigaeth ninnau, a hynny wrth y tyried mawredd Duw, a'i ddoniau haelionus tu ag attom ni.

ER nad yw y rhan fwyaf o Griſtianogion, o achos annuwioldeb eu buchedd, yn gallu dyfod i'r cyflwr yr oedd Dafydd ynddo pan ddywedodd ef wrth yr Arglwydd, Dy farnedig aethau, O Arglwydd, ſy hoff gennyf, Pſal. 119. fel y maent hwy mewn gwirionedd yn hoff gan bawb ac fy'n byw'n dduwiol, ac ſy ganddynt dyſtiolaeth cydwybod dda; etto fel y gallom ddywedyd o'r hyn lleiaf gyda 'r vn prophwyd, Barnau 'r Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd oll, Pſal. 19.9. A thrachefn, Cyfiawn ydwyt ti, ô Arglwydd, ac vniawn yw dy farnedigaethau, Pſal. 119.137. Mi a dybiais yn dda oſod rheſwm neu ddau etto ar lawr yn y bennod ymma, fel y galler gweled yn eglurach, faint yw 'n pechodau ni tu ac at Dduw wrth bechu fel yr ydym, ar mor vniawn yw ei ſarnedigaeth ynteu a'i gyfiawnder tu ac attom ninnau am bechu.

2. Ac yn gyntaf rhaid i ni yſtyried maint yw Mawredd y neb yr ydym ni 'n pechu 'n ei erbyn: oblegid diammau ydyw, fel y dywedais o'r blaen, mai mwyaf yw 'r bai a'r pechod, a thoſtaf, po mwyaf ac anrhydedduſaf fo 'r neb y gwneler y bai a'r pechod yn ei erbyn, a pho gwaelaf a diſtarlaf fo 'r neb a'i gwnêl. Ac o'r achos hwn y mae Duw, er mwyn peri i ni ofni pechu, yn ei alw ei hun yn fynych wrth henwau yn arwyddoccau mawredd, megis y dywed efe wrth Abraham, Myfi yw Duw hollalluog. A thrachefn, Yr nef yw fy ngorſeddfaingc, a'r ddaiar yw lleithig fy nhraed. A thrachefn efe a orchymmynnodd i Foeſen ddywedyd wrth y bobl yn ei enw ef, y gennadwri hon, Na chaledwch eich gwarr mwyach, canys yr Arglwydd eich Duw chwi yw Duw y duwian, ac Arglwydd yr Arglwyddi, Duw mawr cadarn ac ofnadwy, yr hwn ni dderbyn wyneb, ac ni chymer wobr. Gen. 17. Iſa. 66. 1. Deut. 10.16.

3. Yſtyria dithau yn gyntaf, Griſtion, mor anfeidrol yw mawredd yr hwn a ddarfu i ti bryf truan gwael daiarol, mor fynych ac mor ddirmygus wneuthur yn ei erbyn yn dy fywyd. Ni a welwn yn y byd hwn na faidd ac na lefys neb wneuthur yn erbyn mawredd tywyſog bydol, ie na dywedyd gair yn ei erbyn o fewn ei wlad a'i lywodraeth: a pha beth yw mawredd holl dywyſogion y ddaiar wrth y filcanfed ran o fawredd Duw, yr hwn a'i air a wnaeth nêf a daiar a'r holl greaduriaid ſydd ynddynt; ac a hanner gair a all eu diſtrywio hwy drachefn: yr hwn y mae 'r holl greaduriaid a wnaeth, yr Angylion, y nefoedd, a'r holl ddefnyddiau heb law hynny, yn ei waſnaethu, ac heb feiddio gwneuthur yn ei erbyn. Y pechadur yn vnig ſydd yn myned mor hŷ ar ei fawredd ef a bod heb ofni gwneuthur yn ei erbyn ef, yr hwn y mae 'r Angylion yn ei foliannu, a'r llywodraethau yn ei addoli, a'r galluoedd yn crynu rhagddo, a nef y nefoedd ynghyd a'r Cherubin a'r Seraphin beunydd yn ei anrhydeddu ac yn ei glodfori.

4. Meddw! ditheu, frawd anwyl, am bob gwaith ao yr wyt ti yn pechu, dy fod ti megis yn taro y Duw mawr hwn yn ei wyneb, Yr hwn, fel v dywaid S. Paul, ſydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod atto, yr hwn ni's gwelodd vn dyn bydol, ac ni's dichon edrych arno, 1 Tim. 6.16. Joan 1.18. 1 Jo. 4.12. ſel y gwelir hefyd wrth eſampl S. Ioan Efangylwr, yr hwn a ſyrthiodd i lawr yn farw gan wir ofn pan ymddangoſodd Chriſt iddo, fel y mae efe ei hun yn tyſtiolaethu, Datc. 1. A phan ddeiſyfodd Moſen gael gweled Duw vnwaith yn ei oes, a hynny yn oſtyngedig iawn, ef a gafodd atteb gan Dduw na allai vn dyn ei weled ef a byw: ond etto (er mwyn bodloni ei ddeiſyfiad ef, a dangos iddo o ran mor ofnadwy ac mor ogoneddus o Dduw ydoedd) efe a ddywedodd wrth Foeſen y cai efe weled peth o'i ogoniant ef: ond efe a ddywedodd hyn yn ychwaneg, y byddei raid i Foeſen ymguddio mewn agen yn y graig, a chael ei orchuddio â llaw Duw ei hun yn lle ymddiffyn iddo, tra fai Dduw (mewn rhyw feſur o'i fawredd) yn myned heibio iddō yn ei ogoniant. Ac wedi iddo fyned heibio, Duw a dynnodd ymmaith ei law, ac a adawodd iddo weled y tu cefn iddo yn vnig, yr hwn er hynny oedd ofnadwy iawn i edrych arno. Exod. 33.20.

5. Y mae 'r prophwyd Daniel hefyd yn dangospa ddull oedd a'r fawredd y Duw hwn, fel y gwelſai ynteu ar weledigaeth, yn y geiriau hyn, Dan. 7.9. Mi a edrychais hyd oni oſodwyd y gorſeddfeydd, Felly y mae llawer yn ei gyfieithu. a'r hen. ddihenydd a eiſteddodd: ei wiſg oedd cyn wynned a'r eira, gwallt ei ben fel gwlan pur, a'i orſeddfa yn fflam dan, a'i olwynion yn danpoeth: afon danllyd oedd yn rhedeg, ac yn dyfod allan oddi ger ei fron: mil o filoead a'i gwaſanaethent a myrdd fyrddiwn a ſafent ger ei fron: y farn a eiſteddadd, a'r llyfrau a agorwyd ger ei fron ef Datc. 20.12. Hyn i gyd a llawer ychwaneg ſy wedi ei roi i lawr yn yr Scrythur lan, i ddwyn ar gôf i ni, ac i'n rhybuddio, faint yw mawrhydi y tywyſog hwnnw y mae pechadur yn gwneuthur yn ei erbyn.

6. Meddwl bellach, fy mrawd anwyl, dy fod ti yngweled y brenhin mawr ymma yn eiſtedd ar orſeddfaingc ei fawredd, a cherbydau tanllyd, a goleuni anhydraeth, ac aneirif o fyrddiwnau Angylion yn ei gylch, fel y dengys yr Scrythur lân. Meddwl hefyd, yr hyn ſydd wiriaf peth, dy fod di yn gweled holl greaduriaid y byd yn fefyll yn ei wydd ef, ac yn crynu rhag ei fawredd, ac yn ofalus iawn am wneuthur y peth y creodd efe hwynt i'w wneuthur; fef y nefoedd i ymſymmud odd mgylch, y d aiar i ddwyn cynnheiliaeth i'r cr •• dur aid byw, a'r cyffelyb. Meddwl hefyd dy fod di yn gweled yr holl greaduriaid hyn, er maint neu er lleied fyddont, a'i goglud ac a'i gogwydd ar allu a rhinwedd Duw, trwy 'r hyn y maent yn ſefyll, yn ſymmud, ac yn bod: a bod yn dyfod ac yn deilliaw oddiwrth Dduw at bob creadur yn y byd, ie at bob cyfran o bob creadur ac ſydd a bod ac ymſymmud yuddo, ryw belydr o'i rinwedd ac o'i allu ef; megis y gwelwn ni fod o'r haul aneirif o belydr yn dyfod trwy 'r awyr. Yſtyria, meddaf, nas gall vn rhan o vn creadur yn y byd, nac o'r pyſcod yn y môr, nac o'r glaſwellt ar y ddaiar, nac o'r dail ar y coed a'r gwydd, nac vn gyfran o ddyn ar wyneb y ddaiaren, na thyfu, na ſymmud, na bod, oni bydd i ryw gaingc neu belydr o rinwedd, fod yn dyfod atto yn waſtadol oddiwrth Dduw. Felly, mae 'n rhaid i ti feddwl fod Duw megis haul gogoneddus yn ſefyll yn y canol, a bod yn dyfod oddiwrtho ef aneirif o belydr a goferoedd o rinwedd at bob creadur ac ſydd nac yn y nef, nac ar y ddaiar, nac yn yr awyr, nac yn y dwfr; ac at bob rhan o bob vn o honynt: ac oddiwrth pelydr hyn o'i rinwedd ef y mae i'r holl greaduriaid eu bywyd a'i bod; a phettai efe yn attal vn o'r pelydr hynny, fe barai hynny i ryw greadur neu ei gilydd yn y man fyned yn ddiddim. Hyn, meddaf, os ti a'i hyſtyri ynghylch mawredd Duw, a'r ofn anfeidrol ſydd ar bob creadur rhagddo ef, ond yn vnig ar bechadur, (oblegid y mae 'r cythreuliaid yn ei ofni ef, fel y dwaid S. laco, Yr •• . 19.) ni ryfeddi di ronyn fod Duw yn rhoi coſpedigaeth cyn doſted am bechod. Oblegid mi a wn yn ſiccr fod cywilydd y byd yn peri i ni fod yn fwy 'n gofal rhac gwneuthur yn erbyn y câr lleſcaf a feddom, nac ydyw gofal y drygionus rhac gwneuthur yn erbyn Duw. Ac dyna ddirmyg aneſgorol ar fawredd mor ardderchog.

7. Ond os bydd i ni gydâ myfyrio ar fawredd Duw, yſtyried hefyd yr aml ddoniau y mae efe yn eu rhoi i ni, ni a gawn weled fod ein bai ni yn ei erbyn ef yn llawer mwy: oblegid peth ffiaidd wrth naturiaeth, yw gwneuthur cam a ſarhâd â'r neb a wnaeth i ni ddaioni. Ac ni bu erioed etto, na ddo ym myſg yr anifeiliaid direſwm, galon mor greulon ac nas gellid ei hynnill â hawddgarwch ac a thwrn da; ond ym myſg dynion, haws o lawer yw ynnill calonnau trwy haelioni a chymmwynaſau, yn enwedig os bydd yn dyfod oddiwrth y gwyr mwyaf, y rhai er nas dangoſant eu cariad a'i caredrgrwydd tu ac attom ond mewn rhoddion a chymmwynaſau bychain, etto y mae hynny yn gwneuthur calonnau y rhai a'i derbynio yn rhwymedig iawn i'w caru hwythau drachefn.

8. Yſtyria ditheu, Griſtion da, y cymmwynaſau anfeidrol a'r tyrnau da a dderbyniaiſt ar law 'r Duw mawr hwn, y rhai a wnaeth efe i ti i geiſio dy ynnill di iw garu ef, ac i geiſio gennyt beidio a gwneuthur yn ei erbyn ef na cham na ſarhad. Ac er na's gall vn tafod dyn nac angel ddangos hanner y doniau a dderbyniaiſt ti ganddo, na 'i gwerth, nac a pha fawr gariad ac ewyllys calon y rhoes efe hwynt i ti: etto fel y bo haws eu cadw mewn côf, mi a adroddaf rai o'r pyngciau cyffredinol pennaf o haelioni Duw, fel y galler wrth y rhai hynny adnabod y llaill.

9. Yn gyntaf dim gan hynny efe a roes i ti dy greadigaeth a'th wneuthuriad, ac a'th wnaeth di o ddiddim ddefnydd ar ei lun a'i ddelw ei hun, a hynny er mwyn gorchwyl mor anrhydeddus a chael ei waſanaethu ef yn y byd yma, a theyrnaſu gyd ag ef yn y byd a ddaw, ac a roes i ti yn y byd hwn yr holl greaduriaid i wneuthur gwaſanaeth i ti, ac i fod tan dy lywodraeth. A thi a gait wybod amcan faint yw 'r gymmwynas honno, pe meddylit fod arnat eiſieu coes, neu fraich, neu lygad, neu ryw ran arall o'th gorph, ac i ryw vn o'i haelioni roddi i ti yr hyn oedd yn niffyg gennyt: neu pettai arnat eiſiau vn o'th bum ſynwyr, a'th fod heb weled neu heb glywed, ac i ryw vn roi i ti dy weled a'th glywed, dywed i mi oni chyfrifit ti hynny yn gymwynas fawr? Oni thybygit ti dy fod yn rhwymedig iawn iddo am hynny? Ac os tybygit fod vn o'r pethau hynny yn rhôdd fawr, pa gyfrif a ddylit ti ei wneuthur o gael dy holl gorph ar vnwaith yn rhodd ac yn rhad?

10. Chwanega at hyn hefyd, fel y dywedais, na wnaeth efe mo honot ti ar lun dim arall, ond ar ei lun ei hun; ac na wnaeth efe mo honot ti i ddim arall, ond i fod yn was parchedig iddo yn y byd yma, ac i fod yn gyfrannog gydag ef o frenhinol ogoniant yn dragywydd yn y byd a ddaw: ac iddo wneuthur hyn i ti a thitheu heb fod ond telpyn o bridd a chlai yn y blaen. Meddwl bellach faint oedd y cariad y daeth hyn i gyd oddiwrtho. Ac etto yſtyria ymmhellach, fel y gwnaeth efe yr holl fyd hardd-wych-deg hwn er dy fwyn di, a holl greaduriaid y byd i'th waſanaethu di yn ei waſanaeth ef; y nefoedd i wneuthur gwahaniaeth rhwng prydiau ac amſerau, ac i roi goleuni i ti; y ddaiar, a'r awyr a'r dwfr, i ddwyn i ti rywogaethau aneirif o greaduriaid i fod yn gynheiliaeth i ti, ac i wneuthur gwaſanaeth i ti; a'th wneuthur ditheu yn arglwydd ar y cwbl, i'w cymmeryd hwy ac i'w mwynhau wrth dy raid i'th ddiddanu ac i'th waſanaethu. Ac ond haelionus y doniau hyn? Ac ond cywilyddus o anniolchgarwch ydyw troi 'r rhoddion hynny i ammherchi ac i wneuthur cam a rhoddwr mor garedig, fel yr wyt ti yn gwneuthur, trwy arfer ei roddion ef i'th waſanaethu mewn pechod.

11. Ond etto yſtyria ychydig pellach ddawn dy brynedigaeth, yr hyn ſydd fwy o lawer na 'r holl ddoniau o'r blaen: hynny ydyw, wedi darfod i ti golli 'r holl ddoniau a roeſai Dduw i ti o'r blaen, a'th wneuthur dy hun yn euog o goſpedigaeth tragywyddol, lle bwriaſid yr Angylion am y pechod a wnaethent o'r blaen; i Dduw ddewis dy brynu di, ac nid yr Angylion, a rhoi ei fab ei hun i farwolaeth troſot ti, i wneuthur iawn tros dy bechod ti. O Dduw, pa galon a all feddwl faint y dawn a'r haelioni hyn? Meddwl ddarfod i ti dy hun yn ddyn truan tlawd wneuthur anfad fai yn erbyn brenhin mawr, ynghyd a rhyw wr mawr o'i bendefigion pennaf ef; ac i'r brenhin ddigio yn fawr wrthyth chwi eich dau, ac er hynny maddeu i ti a rhoi 'r gwr mawr i farwolaeth: ac ym mhellach hefyd, gan nad oedd vn ffordd ond vn i achub dy fywyd di, rhoi 'r goſpedigaeth angeu oedd ddyledus i ti, ar ei fab a'i aer ei hun, er dy fwyn di: oni thybygit ti fod y brenhin hwnnw yn dy garu di yn fawr? oni thybygit ti dy fod yn rhwymedig iawn i'r Tywyſog ieuangc hwnnw, a ymgynnygiei ac a y mroddai i gyfiownder ei Dad i ddioddef angeu troſot ti bryf gwae , ac nid tros y pendefig hwnnw (fel na fynnei farw tros yr Angylion) ac i roi ei ben yn y cebyſtr am dy feiau di yn vnig? Oedd boſſibl i ti glywed ar dy galon fod yn elyn i'r gwr hwnnw byth wedi, nac i wneuthur yn ei erbyn ef o'th fodd, na thrwy wybod? Ac etto hynny yw 'n cyflwr ni, a rhwy medicach o lawer ydym i Griſt ac i'w Dad, a ninnau er hynny i gyd, y rhan fwyaf o honom, beunydd yn ei ddigio ef, ac yn ei ammherchi, ac yn gwneuthur cam a farhaad ag ef trwy bechu.

12. Ac etto y mae ychwaneg o ddoniau Duw tu ac attom ni heb ſon amdanynt, nid amgen na'n galwedigaeth ni a'n cyfiawnhaad, 1 Cor. 1.26. ein galwedigaeth a'r hon y galwodd efe nyni o anffyddlondeb ac anghrediniaeth i radd a chyflwr Chriſtianogion, ac felly a'n gwnaeth ni yn gyfrannogion o'n prynedigaeth, yr hon nid yw 'r angrhedadyn gyfrannogion o honi. Oblegid er iddo ef dalu 'r iawn tros bawb yn gyffredinol, etto ni roes efe ddim o ffrwyth y brynedigaeth honno i bawb, ond yn vnig i'r rhai y gwelodd ei dduwiol ddaioni ef yn dda ei roddi. Ar ôl hynny y canlynodd ein cyfiawnhaad ni, trwy 'r hon y cawſom ni nid yn vnig ein rhyddhau oddiwrth yr holl bechodau a wnaethom o'r blaen, ac oddiwrth yr holl goſpedigaeth a'r poenau oedd ddyledus am danynt; ond hefyd cael harddu, a theghau, a chyfoethogi ein heneidiau a'i fendigedig ras ef, ynghyd a'r rhinweddau a elwir defeiniol, ffydd, gobaith, a chariad perffaith, ac ynghyd a doniau 'r yſpryd glan; a thrwy ei ras ef i'n gwneir yn gyfiawn ac yn vnion yngolwg Duw, ac y rhoir i ni ditl a chlaim ym mendigedig dreftadaeth teyrnas nef. Rhuf. 8.30.

13. Ar ôl y rhai hyn y canlyn rhifedi mawr o ddoniau ynghyd, a'r rhai hynny bob vn o honynt o anfeidrol bris a gwerth; y rhai a roddwyd i ni wedi ein gwneuthur yn blant ac yn garedigion anwyl i Dduw. Cyfryw w dawn y Sacramentau bendigedig a rodded i'n diddanu ac i'n cynnal ni, y rhai nid ydynt ond megis pibellion i ddwyn gras Duw attom ni; yn enwedig y ddau Sacrament ymma a berthyn i bawb, ſef Sacrament y bedydd, a Sacrameut ei fendigedig gorph ef a'i waed. Sacrament y Bedydd iI fod yn arwydd o lanhaad. lanhau ac i buro 'n heneidiau ni oddiwrth bechod, a'r llall i borthi ac i ddiddanu ein heneidiau ni wedi darfod eu glanhau. Y cyntaf ſydd ymdrochfa a golch wedi ei wneuthur o waed Chriſt ei hun, i olchi ac i drochi ein harchollion a'n gweliau ni ynddo; a'r llall ſydd megis dilledyn comfforddus cyfoethog i orchuddio ac i achleſu ein heneidiau ni wedi darfod eu golchi. Yn y cyntaf yr ordeiniodd Chriſt ei briod yr Eglwys yn ei le ei hun i ddatgan ac i ddeclario maddeuant pechodau yn ei enw ef: yn y llall efe a'i gadawodd ei hun, a'i gig a'i waed ei hun, yn y Sacrament i fod yn ymborth gwerthfawr, i lawenychu ac i gynnal ein heneidiau ni.

14. Heb law hyn i gyd y mae etto ddawn arall a'r hwn y mae Duw yn ein cadw ni oddiwrth amryw beryglon, y mae eraill yn ſyrthio iddynt, a'r rhai y ſyrthiaſem ninnau iddynt oni bai fod bendigedig law Dduw yn ein cynnal ni, megis oddiwrth ryfyg a gormodd hyder, hereſi, ac anffyddlondeb, a llawer o bechodau trymion eraill; ac yn enwedig oddiwrth angeu a cholledigaeth, y rhai a ddarfu i ni er ys talm eu haeddu am ein pechodau. Ac y mae hefyd ddoniau yr yſprydoliaethau da a'r rhybuddion, a'r rhai y bu i Dduw yn fynych guro wrth ddrws ein cydwybodau ni oddimewn, a'n rhybuddio ni trwy gymmaint o ffyrdd a moddion oddiallan; nid amgen na llyfrau da, pregethau da, cynghorion da, cwmpeini da, eſamplau da gan eraill, a chant o foddion eraill, y rhai y mae efe yn fynych yn eu harfer i geiſio ein hynnill ni a'n heneidiau i'w dragywyddol deyrnas, drwy ein hannog ni i ymwrthod â'n buchedd bechadurus, ac ymroi i'w fendigedig a'i hyfryd waſanaeth ef.

15. Yr holl ddoniau a'r cymmwynaſau godidog ardderchog hyn, os ni a'i meſurwn nac wrth eu pris a'i gwerth eu hunain, nac wrth gariad y galon y maent hwy yn dyfod oddiwrthi, hwy a ddylent ein cynnhyrfu ni yn fawri fod yn ddiolchgar i'r neb a'i rhoes hwynt: a'r diolchgarwch hwnnw fyddei roi cwbl o'n bryd a'n meddwl o'r diwedd ar ei waſnaethu ef yn ddiffuant, ac i wneuthur rhagor rhwng ei gariad ef a'i ewyllys da a phob peth bydol marwol arall. Ac onis medrwn gael gennym em hunain wneuthur hynny: etto o'r hyn lleiaf na bo i ni mwy ei ddigio ef a'n pechodau a'n hanwireddau.

16. Nid oes naturiaeth mor arw ac mor greulon yn y byd, fel y dywedais o'r blaen, na's dichon rhoddion a chymmwynaſau ei meddalhau, a'i denu, a'i hynnill: ac y mae hiſtoriau yn mynegi eſamplau rhyfedd o hynny, hyd yn oed ym myſg anifeiliaid direſwm, megis am ddiolchgarwch y llewod, a'r cŵn, a'r eyffelyb, tu ac at eu meiſtreid a'r rhai a wnai gymmwynas iddynt, Yn vnig y pechadur cyndyn, ym myſg yr holl greaduriaid gwylltion,Aelian in Hiſt. anim. yw 'r hwn nis gall na chymmwynaſau ei gynnhyrfu, na charedigrwydd ei feddalhau, nac addewidion ei ddenu, na rhoddion ei ynnill, i waſnaethu 'n ffyddlon ei Arglwydd a'i feiſtr Duw.

17. Y pechadur mwyaf ac ſydd yn y byd, er na roddo i'w wâs ond vgain fflorin yn y flwyddyn, neu i'w ddeiliad ond tyddyn bychan i fyw arno, ac onis gwaſanaethant hwy ef wrth amnaid am hynny, ef a gwyna yn dôſt eu bod hwy yn anniolchgar iawn: ond os hwy a geiſiant trwy ſalis wneuthur yn ei erbyn ef, ac ymgyſſylltu â'i elyn yn ei erbyn ef, oni byddei hynny yn ei olwg megis peth ni bai neb abl iw ddioddef? Ac er ei fod ef ei hun yn gwneuthur mwy o anniolchgarwch a cham tuac at Dduw, etto ef a dybia nad yw hynny beth yn haeddu ei yſtyried, ond peth a ellir cael maddeuant am dano yn hawdd. Ie mae efe yn anniolchgarach o lawer tu ac at Dduw, ac ynteu wedi cael gan Dduw fil am vn o'r doniau a'r cymmwynaſau a all dyn marwol ei roddi i ddyn arall: oblegid efe a dderbyniodd gan Dduw bob peth a chwbl oll, y bara y mae 'n ei fwytta, y ddaiar y mae 'n ei cherdded, y goleuni y mae 'n ei weled, a'i lygaid hefyd i weled: yr haul, a phob peth ac ſydd o'r tu mewn ac o'r tu allan i'w gorph: a chydâ hynny ei yſpryd a'i feddwl a'i holl ddoniau yſprydol, y rhai y tâl pob vn o honynt fwy na mil o gyrph; mi a ddywedaf hefyd ei fod efe yn gwneuthur mwy o gam a Duw, am ei fod ef, er maint ac er amled doniau Duw iddo, yn gwaſanaethu gwir elyn Duw, a pheunydd yn gwneuthur pechod ac anwiredd, y rhai y mae Duw yn eu caſſau yn fwy nag y gall vn galon ddaiarol gaſſau ei gelyn marwol, oblegid mai pechod mewn gwirionedd a erlidiodd ei fab ef ein lachawdr, â chyfryw elyniaeth ac a ddûg ei werthfawroccaf einioes oddiarno, ac a'i hoeliodd ef yn dynn wrth bren y groes.

18. A rhac y dygn anniolchgarwch, a'r llwyr gam hwn, y mae yn gorfod ar Dduw ei hun gwyno mewn llawer o leoedd o'r Scrythur lan, megis lle mae 'n dywedyd, Hwy a dalaſant i mi ddrwg dros dda, Pſal. 35.12. Ac yn doſtach o lawer mewn man arall, lle mae efe yn galw 'r nefoedd yn dyſt o'i hanwiredd hwy, ac yn dywedyd, O chwychwi nefoedd, ſynnwch wrth hyn, ac ofnwch yn aruthrol, Ier. 2.12. Megis pe dywedai trwy ddull dieithr ar ymadrodd, Ammhwyllwch nefoedd, gan ryfedded ac mor anhygoel ydyw annuwioldeb dyn tu ac attafi Canys felly y mae efe yn hyſpyſſu 'r peth yn helaethach mewn man arall, Gwrandewch nefoedd, clyw ditheu ddaiar, mi a fegais ac a feithrinais feibion, a hwy awrthryfelaſant i'm herbyn. Eſa. 1.2. Ond toſtur yr achwyn ymma gan Dduw yn erbyn pryfed daiarol o'r gwaelaf ac o'r diſtatlaf? Ac etto y mae Duw yn hyſpyſſu 'r anwiredd yma yn helaethach; trwy amryw eſamplau a chyffelybiaethau; Yr ŷch medd efe, a edwyn ei feddiannudd, a'r aſſyn breſeb ei berchennog, ond Iſrael nid edwyn fi, fy mhobl ni ddeall. Gwae'r genhedlaeth bechadurus, pobl lwythog o anwiredd, hâd y rhai drygionus, meibion yn llygru: gwrthodaſant yr Arglwydd, digiaſant Sant Iſrael, ciliaſant yn ôl. Pa achwyn a ddichon fod toſtach na hwn? Pa fygwth a all bod mor ofnadwy a'r gwae yma ſydd yn dyfod o enau 'r hwn all ein coſpi ni wrth ei ewyllys ei hun?

19. Am hynny, anwyl frawd, od oes i ti ddim gras, paid a bod yn anniolchgar i Dduw yn hwy; paid a gwneuthur yn erbyn yr hwn drwy gynnifer o ffyrdd a achubodd dy flaen di a chymmwynaſau ac a doniau; paid a thalu drwg dros dda, a chas am gariad, a dirmyg am dadol ewyllys da tu ac attat. Efe a wnaeth i ti ac erot ti gwbl ac allai, efe a roes i ti gwbl ac wyt, ie mewn ffordd, gwbl ac a dâl ynteu ei hun hefyd, ac mae'n ei fryd heb law hynny dy wneuthur di yn gyfrannog o'i holl ogoniant yn y byd a ddaw, ac heb ofyn dim ar dy law di am hyn i gyd ond bod i ti ei garu ef, a bod yn ddiolchgar iddo. O anwyl frawd, oni chlywi ditheu arnat wneuthur cymmaint a hynny iddo ynteu? Pa ham na wnei di iddo ef cymmaint ac a fynnit titheu i arall ei wneuthur i ti, am lai na 'r fil-canfed ran o'r donieu a gefaiſt di ganddo ef? Oblegid mi a allaf ddywedyd yn hydda, pettit ti heb roi i ddyn ond eluſen wrth dy ddrws, y tybygit ti ei fod ef yn rhwymedig i'th garu di am hynny, er na byddai ynot ddim ond hynny yn haeddu cariad. Ond y mae gan dy Arglwydd Dduw, heb law ei ddoniau hyn, aneirif o achoſion eraill i beri i ti ei garu ef, ſef pob rhyw achoſion ac ſydd gan ddim yn y byd i ynnill cariad, ac aneirif eraill yn ychwaneg; oblegid pettai gwbl o berffeithrwydd holl greaduriaid nef a daiar, a allai ynnill cariad, wedi ei roi i gyd yn vn, ſef eu holl degwch hwy a'i holl rinweddau, a'i holl ardderchawgrwydd, a'i holl ddaioni, a'r cyffelyb; etto y mae dy Arglwydd di a'th Achubwr, yr hwn yr wyti yn ei ddirmygu, yn rhagori ar y cwbl yn anfeidrol: oblegid y mae efe nid yn vnig yn gwbl o'r pethau hynny i gyd, ond hefyd tegwch ei hun ydyw ef, rhinwedd ei hun, doethineb ei hun, pereidd-dra ei hun, ardderchawgrwydd ei hun, daioni ei hun ydyw ef, a'r ffynnon hefyd y mae cwbl o'r rhai hynny yn tarddu allan o honi, yn rhannau ac yn gyfrannau, at ei holl greaduriad ef.

20. Bid cywilydd arnat titheu, Griſtion daionus, o herwydd dy anniolchgarwch ymma tu ac at Arglwydd cymmaint, a chyſtal, a chyn haeled, a dyro gwbl o'th fryd o hyn allan, ar wellhau dy fuchedd a'th ymddygiad tu ac atto ef. Dywed gyd a 'r prophwyd, oedd iddo lai o achos i ddywedyd hyny nag i ti, Er mwyn dy enw, Arglwydd, maddeu ſy anwiredd, canys mawr yw, Pſal. 25.11. Mi a wn nad oes dim, O Arglwydd, yn dy anfodloni di yn gymmaint, nac yn ſychu ffynnon dy drugaredd di yn fwy, nac yn rhwymo dy ddwylo di rhac gwneuthur daioni, yn gymmaint ac y mae anniolchgarwch y rhai ſy'n derbyn daioni a chymmwynaſau ar dy law di, yn yr hyn y rhagorais i ar bawb eraill hyd yn hyn o'm hoes; ond mi a'i gwneuthum, O Arglwydd, mewn anwybod, eiſieu yſtyried dy ddoniau a'th ddaioni di tu ac attaf, a pha gyfrif a ofynni di ar fy llaw i am danynt hwy. Ond yr awrhon, gan ryngu bodd i ti fy nghyfrif i yn deilwng o hyn oth ras yn angwhaneg, i allu gweled ac adnabod fy nghyflwr am ddiffyg fy hun, yr wyf yn gobeithio y bydd i mi o hyn allan, trwy fod dy ras di i'm cyfarwyddo, fy nangos fy hun yn well plentyn tu ac attati. O Arglwydd, yr wyf fi o'r diwedd wedi fy ngorchfygu wrth yſtyried dy gariad di tu ac attaf, a pha fodd y gallaf glywed ar fy nghalon wneuthur mwy yn dy erbyn di, a thitheu trwy gynnifer o foddion yn achub fy mlaen i a'th ddoniau, ie pan nad oeddwn i yn meddwl am eu gofyn? A allaf fi byth mwy fod yn berchen dwylo i bechu yn dy erbyn di, a thitheu wedi rhoi dy ddwylo dy hun i'w hoelio ar y groes tros fy mhechodau i? Na allaf ddim, gormodd cam fyddei hynny yn dy erbyn di, Arglwydd; ac ôch gwae finneu ddarfod i mi ei wneuthur cyn fynyched o'r blaen. Ond trwy dy fendigedig gymmorth di, yr wyf yn gobeithio na ddychwelaf yn fy ôl at y cyfryw anwiredd o hyn allan. Ac ar hynny, Arglwydd, y dymunaf arnat er mwyn dy drugaredd, o'th fendigedig orſedd yn y nef, ddywedyd Amen.

PEN. VIII. Pa dyb a fydd cennym ni am y pethau hyn, wrth farw, a pha fodd y cawn ni yr amſer hwnnw glywed oddiwrthynt.

Y mae 'r Yſcrythur lân yn ein dyſgu ni, ac yr ydym ni yn gweled beunydd, fod elw ac ynnill, a goruchafiaeth, a phleſſer a difyrruch y byd, yn perchennogi calonnau llawer o dynion mor gwbl, a'i bod yn eu dal mewn cadwynau, a ſwynion ac a chyfareddion cyn gryfed, gan ddarfod i ras Duw ymwrthod a hwynt yn ôl eu cyfiawn haeddedigaeth eu hun; ac nas gall dim, dyweded dyn wrthynt y peth a fynno, a bygythied arnynt cymmaint ac a fynno, a dyged yn eu herbyn yr holl Scrythur lan, o ddechreu Geneſis hyd ddiwedd Datcuddiad Ioan (lle nid oes dim nad ydyw yn erbyn pechod a phechaduriaid) ni thyccia dim iddynt, gan eu bod yn y cyfryw gyflwr gofidus a bod naill ai heb gredu ai heb wneuthur cyfrif yn y byd o ddim ac a ddywetter wrthynt yngwrthwyneb i'w cynnefin fuchedd eu hunain, neu i geiſio peri iddynt roi eu bryd ar ymadael a hi. Ac o hyn y mae i ni aneirif o eſamplau yn yr Scrythur lan; megis am Sodoma a Gomorha, a'r dinaſoedd o'i hamgylch, y rhai ni fynnent wrando ar y rhybudd a roddai y gŵr duwiol Lot iddynt. Gen. 19. A Pharao ynteu, yr hwn nid oedd abl dim i'w gynnhyrfu, ac a fedrai Foeſen ei wneuthur, na thrwy arwyddion, na thrwy ymadroddion. Exod. 6. A Judas hefyd, yr hwn nis gallai ddim ac a wnai ei f iſtr iddo na thrwy dêg na thrwy fygwth, beri iddo newidio ei feddwl oddiwth y drwg y rhoeſai ei fryd ar ei wneuthur, Ond yn enwedig y prophwydi a ddanfonid gan Dduw, o amſer i amſer, i geiſio tynnu 'r bobl oddiwrth eu drwg fuchedd ac felly oddiwrth y plàau a'r dialeddan oedd yn dyfod ar eu gwartha; hwynt hwy ſydd yn tyſtiolaethu yn helaeth am y peth hyn, wrth achwyn ym mhob man fod cyn galetted calonnau 'r bobl ac nad oedd yr holl gynghorion a'r pregethau, a'r addewidion, a'r bygythiau, yr oeddynt hwy yn eu dangos iddynt, yn cynhyrfu gronyn arnynt hwy. A bydded y prophwyd Zachari yn dyſt tros y ewbl yn hyn o beth, yr hwn ſydd yn dywedyd fel hyn am bobl Iſrael, ychydig of flaen eu diniſtrio, Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Bernwch farn gyfion, gwnewch d ugaredd a thoſturi bob vn iw frawd, ac na orthrymmwch y weddw, a'r ymddifad, a'r dieithr, a'r anghenog; ac na feddyliwch ddrwg yn eich calonnau bob vn iw gilydd. Ac yn y man y dyweid ym mhellach, E'r hynny hwy a wrthodaſant wrando, ac a roeſant yſgwydd anhydyn, ac a drymhaſant eu cluſtiau rhag clywed; ac a wnaethant eu calonnau yn Adamant rhag clywed y Gyfraith, a'r geiriau a anfonodd Arglwydd y lluoedd drwy ei yſpryd, yn llaw y Prophwydi gynt: am hynny y daeth digofaint mawr oddiwrth Arglwydd y llu edd, Zech. 7.9. &c.

2. Wrth hynny, dymma 'r arfer ſydd ac a fu erioed gan y rhai bydol, a'r rhai annuwiol gwrthodedig, ſef caledu eu calonnau fel carreg Adamant, ya erbyn pob peth ac a ddy weder wrthynt am wellhau eu buchedd, a cheiſio cadw eu heneidiau. Tra font yn cael iechyd a hawddfyd, ni fynnant adnabod Duw; fel y mae efe yn achwyn mewn man arall: Etto, fel y dyweid y prophwyd, fe wna Duw i'r dynion hyn ryw ddiwrnod ei adnabod ef; A hynny yw, pan Adwaenir yr Arghwydd wrth y farn a wna. Pſal. 9.16. A hynny fydd ar ddydd marwolaeth, yr hwn yw 'r drws neſaf i'r farn, fel y tyſtia 'r Apoſtol Goſodwyd i ddynion farw vnwaith, ac wedi hynny bod barn. Heb. 9.

3. Hwnnw, meddaf, yw dydd Duw, yr hwn fydd ofnadwy iawn, a gofidus, a llawn o drallod i'r annuwiol, yn yr hwn y gwna Duw wybod ei fod ef yn Dduw cyfiawn, ac y tál efe i bob dyn yr hyn a wnaeth yn y corph, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa vn bynnag ai da ai drwg, 2 Cor. 5.10. fel y dyweid yr Apoſtol: neu fel y dywaid y prophwyd, ef a wna wybod ei fod efe yn Dduw of nadwy, ac na ddichon neb ſefyll o'i flaen pan ennynno ei ddigofaint; a'i fod yn gyfryw vn ac a dyrr ymmaith yſpryd tywyſogion, ac ſydd of nadwy i frenhinoedd y ddaiar, Pſal. 76.7. Ar y dydd hwnnw, ſef dydd marwolaeth, fel y bydd cyfnewid mawr ym mhob peth arall, oblegid ein llawenydd ni a droir yn alar, ein chwerthin yn wylo, ein difyrrwch yn ofid, ein hyder yn ofn, ein gwroliaeth yn llyrfder, ein balchder yn anobaith, a'r cyffelyb: felly yn enwedig y bydd cyfnewid mawr yn ein meddyliau ni, a'n tŷb, a'n barn, oblegid doethineb Duw, am yr hon y crybwyllais yn y pennodau o'r blaen, a'r hon, fel y dyweid yr Scrythur, a gyfrifir yn ffolineb gan ddoethion y byd hwn; a ymddengys yr amſer hwnnw yn ei rhith a'i chyffelybrwydd ei hun, ac yn ei gwir ddull ei hun, ac y cydnebydd ei gelynion pennaf nad oes wir ddoethineb ond y hi; ac nad yw holl gnawdol ddoethineb y rhai bydol ond llwyr ffolineb, fel y mae Duw yn dywedyd am dani.

4. Hyn y mae 'r Serythur lân yn ei oſod ar lawr yn amlwg, wrth ddangos yr ymadroddion, a'r ymddiddanion, a'r cwynfan fydd gan y rhai bydol yn y dydd diweddaf, pan elont i ddywedyd am y rhai duwiol a ddiyſtyrent hwy yn y byd ymma, Nyni ffyliaid a feddyliaſom fod eu buchedd hwy yn ynfydrwydd, a'i diwedd yn ammharchus; ond yr awrhon hwy a gyfrifir ym myſg meibion Duw, ac y mae eu rhan hwy ym myſg y Sainct, Nyni a gyfeiliornaſom allan o ffordd y gwirionedd, ac ni thywynnodd llewyrch cyfiawnder i ni, ac ni chododd haul cyfiawnder arnom: ni a ymflinaſom yn ffordd anwiredd a diſtryw, ac arodiaſom trwy ynialwch anhyffordd, ond ffordd yr Arglwydd nid adnabuom. Doeth. 5.4. Hyd ymma y mae geiriau 'r Scrythur, wrth y rhai y gallwn weled faint y cyfnewid fydd ar ein tŷb a'n barn, a'n meddwl ni yn y dydd diweddaf, a'r rhagor ſydd rhwng y tŷb a'r meddwl fydd gennym yr amſer hwnnw am bethau bydol, a'r meddwl ſydd gennym yr awrhon am danynt: ac y gallwn weled pa gyfaddef a wnawn ar ein ffolineb, pa gydnabod a'n camſynied, pa ofid calon am y boen a gymmeraſom yn ofer, ac mor ofer fydd i ni yr amſer hynny edifarhau am wyro allan o'r ffordd. Och nad yſtyriei dynion y pethau hynny yr awrhon. Ni a ymflinaſom, meddant hwy, yn ffordd anwiredd a diſtryw, ac a rodiaſom trwy anialwch anhyffordd. Beth am eglured y mae yn dangos y cyflwr y bydd y rhai bydol truain ynddo yr amſer hwnnw, y rhai ſy yma beunydd yn curo eu hymmennyddiau, ac yn eu llwyrflino eu hunain yn canllyn oferedd a gwagedd, ac vs a llŵch y byd hwn, ac er hynny fynychaf yn fwy eu poen a'i llafur ynghylch y gwag-bethau hynny, nag ydyw poen y rhai cyfiawn yn ceiſio teyrnas •• f? A phan ddelont hyd at y dydd diweddaf, yn wr eu blinder a'i lludded ar ól eu llafur a'i poen yn y byd yma; y maent yn gweled nad oedd eu holl lafur ond colledig, na'i holl drafferth a'i trallod ond ofer. Oblegid am y tippyn golud a gawſant hwy yn y byd hwn, ac yr ymdrechaſant mor dôſt am dano, ni wna fo ronyn llês iddynt, ond yn hytrach eu poeni a'i blino yn ddirfawr. Ac fel y galler deall hyn yn well, rhaid yw yſtyried fod tri pheth yn bennaf a flina ac a boena 'r cyfryw ddynion ar ddydd eu marwolaeth; ac yn y tri pheth hynny y cynnhwyſir cwbl o'r llaill.

5. Y cyntaf yw 'r boen aneſgorol y mae dynion fynychaf yn ei dioddef wrth ymadawiad yr enaid a'r corph, y rhai a fu cyd o amſe yn byw ynghyd fel dau gyfaill gariadus, yn vn ei cariad a'i difyrrwch, ac am hynny yn anhawdd iawn ganthynt ymadael â'i gilydd, oni bai fod yn ddir ac yn anghenrhaid iddynt ymadael. Y boen a'r gofid hwnnw a ellir ei ddeall wrth hyn; pettem ni yn gyrru bywyd allan o'r rhan leiaf o'r corph, pettai ond ein bŷs bâch (fel y gwna 'r meddygon pan fônt yn marweiddio rhyw ran glwyfus o'r corph i gael gantho dorri allan) pa boen ddirfawr ſydd raid i ddyn ei dioddef cyn ei marweiddio? pa wynio cynddeiriog ſydd raid iddo ei oddef? Ac os yw cymmaint ein gofid ni wrth farweiddio vn rhan fechan o'r corph, meddyliwch faint fydd y gofid wrth farweiddio 'r holl gorph, a hynny o'i anfodd. Oblegid ni a welwn yr angeu yn gyntaf yn cymmell y bywyd i ymadael â'r rhannau eithaf o'r corph, ſef byſedd y traed a'r dwylo, wedi hynny y coeſau a'r breichiau; ac felly y mae pob rhan yn marw, y naill ar ôl y llall, hyd oni yrrer y bywyd yn vnig i'r galon, yr hon ſy 'n dal allan yn hwyaf, o herwydd mai y rhan bennaf ydyw, ond o'r diwedd hi a gymmhellir hitheu i ymroi, er maint fo ei phoen, ac er maint fo 'r gwrthwyneb ganthi i ymroi. Ac mor fawr ac mor gryf ydyw 'r boen honno, fe ellir gweled wrth fod llinynnau 'r galon yn torri gan faint ac mor aneſgorol ydyw 'r poenau marwol hynny. Ond cyn y gyrrer hi cyn belled a gorfod arni ymroi, nid oes vn dyn a ddichon ddangos greuloned a thoſted yw 'r ymdrech ſydd rhyngthi ac angeu, a pha ing a chyfyngder ſydd raid iddi eu dioddef pan ddél gloes angeu atti. Meddyliwch pet ai ryw frenhin galluog mewn heddychol feddiant o ryw ddinas dêg, ac yn byw mewn pob math a'r hawddfyd a difyrrwch ynddi, a'i holl gymmydogion o'i amgylch yn ei garu, ac yn addo ei gymmorth pa bryd bynnag y byddai raid iddo; a dyfod o'i elyn marwol yn ddiſymmwth ar ei vchaf, ac amgylchynu ei ddinas ef, ae ynnill y naill ymddiffynfa ar òl y llall, y naill gaer ar ôl y llall, y naill dŵr ar ol y llall; a gyrru 'r brenhin yn vnig i ryw dŵr bach o fewn y ddinas, a'i amgylchu ef yno hefyd, wedi euro i lawr ei holl ymddiffynfeydd ef, a llâdd ei holl wŷr yngwydd ei lygaid: pa ofn, a pha gyfyngder, a pha ofid fyddei an y brenhin hwnnw? Onid edrychai efe allan yn fynych trwy dyllau ffeneſtri yr ŵr, i edrych a ddoai ei garedigion a'i gymmodogion i'w helpio ai na ddaent? Ac o gwelai fod pawb o honynt yn ei wrthod, a'i elyn ar dorri i mewn atto, oni byddai doſtur a blin ganddo ei gyflwr, dybygwch chwi? Ac yn y cyflwr hwnnw y mae ir enaid truan yn amſer gloes angeu: pan fo'r corph yr oedd efe yn teyrnaſu ynddo meg s brenhin gwych pan oedd yn ei flodau, mewn pob math ar ddifyrrwch, wediiw elyn yr angau ei guro ilawr a'i ddadymchwel: y breichian a'r coeſau, a'r aelodau eraill, oedd megis caerau yn gadernid ac yn ymddiffyn iddo tra oedd mewn iechyd, wedi eu gorchfygu, a'i curo i lawr, ac ynteu 'r enaid wedi ei yrru i'r galon yn vnig megis i'w ymddiffynfa eithaf, ac yno yn cael goſod arno mor greulon, ac nas gall ddal allan nemor o ennyd; a'i hoff garedigion, y rhai a ddywedai yn dêg wrtho yn ei wynfyd, ac a addawent iddo bob rhyw help a chymorth, ſef ieuengtid, a phyſygwriaeth, a chynnorthwyau dynol eraill, yn ei wrthod yn llwyr; a'r gelyn ynteu yn gyfryw ac nas gellir na heddychu ag ef, na chael cyngrair gantho, a phob nos a dydd yn goſod ar y twr bâch hwnnw y mae ef ynddo, a hwnnw weithian yn dechreu ſiglo, a chrynu, a mynd yn ddrylliau; ac ynteu bob awr yn diſgwyl pa bryd y daw 'r gelyn i mewn atto yn gynddeiriog ac yn ofnadwy. Pa fath gyflwr, dybygwch chwi yw hwn ar yr enaid cyſtuddiedig? Nid yw ryfeddod yn y byd os a'r doeth yr amſer hwnnw yn ynfyd, a'r dewr yn llwrf, pan ddel arno y fath ofid blin a chyfyngder ac a welwn ei bod yn dyfod ar y rhai bydol, fel nas gallont wneuthur na threfn na doſparth iawn yn y byd nac o'i golud by dol, nac o'i dlèd tu ag at Dduw yn yr awr honno; o achos y ddygn boen ſydd yn gorthrechu en heneidian hwy,Ser. 48. ad frat. in re. fel y dyweid S. Awstin (neu ryw vn arall tan ei enw ef) yr hwn hefyd ſy'n rhoi i ni rybudd gorcheſtol, pettai i ni cymmaint o râs a'i ganlyn; Pan fych di yn dy glefyd diweddaf, ac ar dy wely angeu, frawd anwyl (medd efe) ôch mor anhawdd ac mor flin fydd i ti edifarhau am y pechodau a wnaethoſt; a pham yw hynny, ond am y bydd holl feddyl-fryd dy galon di ar y man lle y bo mwya'r dolur aruat? Llawer o rwyſtrau a fydd yn lleſtair i ddyn yn yr awr honno feddwl am edifarhau, megis y dolur a'r boen a fo yn ei gorph, ofn angeu, gweled ei blant ger ei fron (a'r rhei'ny weithiau yn peri i'w tadau dybied eu bod yn golledig; o'i hachos) ei wraig yn cwynfan ac yn wylo, y byd; yn gwneuthur truth iddo, y cythraul yn ei demptio, a'r phyſygwyr yn ei wenhiethio i geiſio elw oddiwrtho, a'r yffelyb. A chred, fi, o ddyn pwy bynnag wyt a ddanllennych hyn, y cai di ar fyr o amſer weled y bydd yr holl bethau hyn yn wir ynot tidy hun: ac am hynny mi a ddymunaf arnat edifarhau cyn dyfod y dydd hwnnw ar dy warthaf: goſod dy dŷ mewn trefn, a gwna dy ewyllys a'th lythyr cymmyn tra fych gwr i ti dy hun, oblegid os oedi dihyd y dydd diweddaf, ti a gai dy arwain lle nis mynnit. Ac dyna eiriau S. Auſtin.

6. Yr ail peth a wna angeu yn ofnadwy ac yn ofidus gan y rhai bydol, yw bod yn rhaid iddo ymadael yn ddiſymmwth; a hynny byth bythoedd, â'r holl bethau yr oedd efe yn eu hoffi fwyaf yn y byd hwn, ei gyfoeth, a'i feddiannau, a'i anrhydedd, a'i ſwyddau, a'i adeiladau têg, a'i holl oludoedd, a'i ddillad gwychion, a'i dlyſau gwerthfawr, a'i wraig, a'i blant, a'i geraint, a'i gyfeillon, a'r cyffelyb; o achos y rhai yr oedd yn ei dybied ei hun yn ddedwydd yn y byd ymma, ac ynteu yr awrhon yn cael ei gippio oddiwrthynt yn ddiſymmwth, heb obaith cael na'i gweled na'i mwynhau byth ond hynny. Och mor flin ac mor ofidus fydd hynny. Ac am hynny y dywaid yr Scrythur lân, O angeu, mor chwerw yw meddwl am danat ti, i'r dyn fyddo yn byw mewn heddwch yn yr hyn ſydd ganddo; i'r gwr a fyddo dihelbul, a llwydiannus ym mhob peth. Ecc. 41.1. Megis pe dywedid, nid oes chwerwder na gofid mwy yn y byd i'r cyfryw vn nâ meddwlam farw yn vnig chwaethach mynd i ymdrech marwolaeth, a hynny allan o law, pan ddywetter wrtho, fel y mynega Chriſt ddarfod dywedyd wrth y gwr goludog mawr yn yr Efengyl, yr hwn oedd wedi llenwi ei yſguboriau, ac wedi dyfod i vchder ei ddedwyddyd, O ynfyd y nos hon y gofynnir dy enaid oddi gennit, ac yno eiddo pwy fydd yr holl bethau a barotoaiſt. Luc. 12.20.

7. Ammhoſſibl, meddaf, i vn tafod yn y byd ddangos mor ofidus fydd cyflwr y gwr bydol yn awr angeu, pryd na allo dim o'r golud a gaſglodd efe erioed ynghyd, trwy gymmaint o boen a trafferth, er maint oedd ei oglud arno a'i ymddiried ynddo; wneuthur iddo ronyn llês mwyach, ond yn hyttrach ei boeni a'i flino wrth feddwl am dano, ac yſtyried y bydd rhaid iddo adael y cwbl i eraill, a myned ei hun i roi cyfrif pa fodd y caſglodd, a phafodd yr arferodd efe ei olud, ac wrth hynny ond odid cael damnedigaeth dragywyddol, ac eraill yn y cyfamſer yn byw mewn llawenydd a digrifwch yn y byd hwn, ar y pethau a ddarfu iddo ef eu caſglu, a'r rheiny heb feddwl ond ychydig am dano ef, a gofalu llai droſto ef pan fo yn lloſgi yſgatfydd yn y tan anniffoddadwy, o achos y golud a adawodd efe iddynt hwy. Dyma beth toſtur gofidus, ac ſydd abl i ddwyn ar lawer dyn fawr ddolur calon a chyfyngder yn yr awr ddiwethaf, pan orffo arno adael holl lawenydd y byd, ac yſgar a phob difyrrwch ac a'i holl olud byth bythoedd. Och mor doſtur ac mor flin fydd yr ymadael hwnnw! Beth a ddywedi di y dwthwn hwnnw, pan ddêl darfod ar dy holl ogoniant, a'th holl gyfoeth, a'th holl rodres di? Beth fyddi di gwell yr amſer hynny er dy fod yn byw yn barchedig yn y byd, mewn ffafor tywyſogion, a phawb yn dy glodfori, ac yn dy ofni, ac yn dy berchi, ac yn dy dderchafu; gan fod y cwbl bellach wedi darfod am danynt, a thitheu heb allael byth mwy mo'i mwynhau?

8. Ond y mae etto 'r trydydd peth a wna fwy o ofid a thrallod i'r rhai bydol wrth farw na 'r holl bethau eraill, a hynny ydyw yſtyried beth a ddaw o honaw ef, gorph ac enaid, wedi hynny. Eccl. 10. Ac am ei gorph, digon erchyll fydd iddo feddwl y bydd iddo gael ſeirph, a bwyſtfilod, a phryfed (fel y dyweid yr Scrythur) yn etifeddiaeth, hynny ydyw y bydd dir y teflir ef allan i fod yn ymborth, i bryfed: y bydd rhaid i'r corph hwnnw oedd 'yn cael ei drin mor foethus o'r blaen, ag amryw ddaintethion o fwydydd, â chluſtogau a gwelau manblu, ac a dillad mor wychion ac mor ddillynion, ac amryw addurnau eraill, y rhai nid oedd iawn dybygent hwy, i'r gwynt chwythu, nac i'r haul dywynnu arnynt: y corph hwnnw yr oedd cymmaint balchder o'i degwch, a thrwy 'r hwn y gwnaed cymmaint o oferedd a phechodau, y corph hwnnw oedd gynnefin â phob math ar foethau, ac ni allai ddioddef dim gerwinder, na cherydd yn y byd, fydd raid iddo yr awrhon gael ei wrthod gan bob dŷn, a'i ad el yn vnig i gael ei yſſu gan bryfed. Yr hyn beth, er nas gall na fago ofn ac erchylldod ynghalon dŷn wrth farw, etto nid yw hynny ddim wrth y meddyliau erchyll ofnadwy a fydd gantho o achos ei enaid; ſef pa beth a ddaw o hwnnw, ac i ba le yr â yn ol ymadael a'r corph: ac yno wrth yſtyried y bydd rhaid iddo fyned ger bron brawdle Chriſt, i gael ei farnu ganddo, naill ai i fwynhau gogoniant annrhaethadwy, ai i ddioddef poenau aneſgorol; y daw arno yſtyried ym mhellach faint yw 'r perygl o hynny, pan êl i edrych pa gyffelybrwydd ſydd rhwng cyfiawnder a bygythion Duw, a oſodwyd i lawr yn yr Scrythur lâu, a'i fuchedd ynteu ei hun: yna y dechreu efe holi 'r tŷſt, yr hwn yw ei gydwybod ef ei hun, ac y caiff weled ei bod yn barod i roi aneirif o achwynion yn ei erbyn ef pan ddel ger bron brawdle cyfiawnder Duw.

9. Ac yna frawd anwyl, y dechreu gofid a thrueni dŷn. Oblegid nid oes odid o ymadrodd tôſt yn yr holl Scrythur lan, na ddaw yn ei gof ef yr amſer hwnnw, i beri iddo ofni a dychrynu ar y munud hwnnw, megis y rhai hyn, Os ewyllyſi fyned i mewn i'r bywyd cadw 'r gorchymmynion, Mat. 19.17. Yr hwn ſydd yn dywedyd ei fod yn adnabod Duw, ac heb gadw ei orchymmynion ef, celwyddog ydyw, a'r gwirionedd nid yw ynddo, 1 Joan. 2.4. Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phrophwydaſom yn dy enw di? ac oni fwriaſom allan gythreuliaid yn dy enw di; ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enwedi? Ac yna yr addef af iddynt (medd Chriſt) Nid a nabûm chwi erioed, Ewch ymaith oddiwrthyf, chwi weithredwyr anwiredd, Mat. 7.22. Nid gwrandawyr y Gyfraith ſy gyſiawn ger bron Duw, ond gwneuthurwyr y gyfraith a gyfiawnheir, Rhuf. 2.13. Ewch ymaith oddiwrthyf rai melldigedig i'r tân tragywyddol, yr, hwn a barottowyd i ddiafol ac iw angylion, Matth. 25.41. Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw. Na thwyller chwi, ni chaiff na godineb-wyr, nac eulyn-addol-wyr, na thorwyr priodas, na maſwedd-wyr, na gwr-ryw-gydwyr, na lladron, na chybyddion, na meddwyr, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw, 1 Cor. 6.9. Os byw fyddwch yn ol y cnawd, meirw fyddwch, Rhuf. 8.13. Gal. 5.19. Ac amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai yw torri priodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, delw-addoliaeth, ſwyn gyfaredd, caſineb, cynnhennau, gwynfydau, llid, ymryſonau, ymbleidio, hereſiau, cynnſigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a'r pethau cyffelyb i'r rhai hyn; am y rhai yr wyf yn rhag-ddywedyd wrthych, megis y dywedais o'r blaen, na chaiff y rhai ſy'n gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu Teyrnas Dduw. Rhaid i ni oll ymddangos g r bron brawdle Chriſt, fel y derbynio pob vn, y pethau a wnaethbwyd yn y corph, yn ôl yr hyn a w •• eth, pa •• m bynnag ai da ai drwg: a phob vn a dderbyn yn ol ei weithredoedd, 2 Cor. 5.10. Dat. 20.12. Nid arbedodd Duw yr angylion a bechaſ nt, 2 Pet. 2.4. Rhaid yw rhoi cyfrif ddydd farn am bob gair ſegur a ddywedo dynion. Os braidd y bydd y cy ••• wn cadwedig, pa le 'r ymddengys yr annuwiol a r pechadur, 1 Pet. 4.18. Y chydig yw y rhai ſy 'n c el y ffordd gûl; ac yn myned i mewn i'r porth cy yng. Ychydig a ddetholir; Ychydig a fydd cadwedig. Ac anhawdd yw i'r goludog fynedi mewn i Deyrnas nefoedd. Mat. 7.14. Mat. 22.14. Luc. 13.23. Mat. 19.23, 24.

10. Yr holl bethau hyn, meddaf, a mil yn ychwaneg ynghylch toſted barn Duw, a'r cyfrif a ofynnir yn y dydd hwnnw, a ddaw ynghof y rhai bydol wrth farw; a'n gelyn yſprydol (yr hwn yn ein bywyd a wnaeth ei oreu ar gadw 'r pethau hyn allan o'n golwg ni, fel y byddai haws iddo beri i ni bechu) a eſyd gwbl o hyn a llawer yn ychwaneg yr amſer hwnnw ger ein bronnau ni, ac a helaetha ac a daera bob peth hyd yr eithaf, ac a ddwg ein cydwybod ni ein hunain yn dŷſt troſto ar bob peth. A chan na all yr enaid truan ſydd yn ymadael wadu dim o hynny, nid yw boſſibl na bydd dirfawr ei ofn ef:Hieron. in vit. Hilarion abb. fel yr ydym ni yn gweled beunydd fod y cyfryw ofn ar wyr da duwiol. Y mae S. Ierom yn dywedyd am y gŵr duwiol Hilarion, pan oedd ei enaid, wrth yſtyried y pethau hyn, yn ofni yn fawr fyned allan o'r corph; yn ôl hir ymdrech, efe a gymmerodd galon yn y diwedd, ac a ddywedodd wrth ei enaid, dôs allan fy enaid, dôs allan; pa ham yr wyti yn ofni; yr wyti yn gwaſanaethu Chriſt er ys deng mhlynedd a thriugain, ac a oes arnat ti yr awrhon ofn marw? Ac od oedd cymmaint ofn ar wr mor dduwiol a hwnnw wrth ymadael, ac ynteu wedi gwaſanaethu Duw mewn purdeb buchedd, a zêl berffaith tros deng mhlynedd a thriugain; pa ofn, dybygwch chwi fydd ar y rhai ni ddarfu iddynt waſanaethu Duw yn gywir ond prin vn diwrnod yn eu holl fywyd, ond yn hyttrach treulio eu holl flynyddoedd mewn pechod a gorwagedd y byd? Oni bydd angenrhaid bod ofn a chyfyngder mawr ar y gwyr hyn wrth ymadael a'r byd?

11. Yn awr, frawd anwyl, gan fod y pethau hyn felly, hynny ydyw, gan fod ymadawiad marwolaeth mor ofnadwy, ac mor beryglus, ac er hynny mor ammhoſſibl ei ochel; a bod cynnifer o ddynion beunydd yn myned yn golledig, ac yn colli 'r maes yr amſer hwnnw, yr hyn nis gellir ei wadu; a bod yr yſcrythurau ſanctaidd, a hen dadau duwiol, yn tyſtiolaethu i ni hynny trwy eſamplau a choffad wriaethau eraill; pa ddyn a fai a dim ſynhwyr yn ei ben, ni ddyſgai fod yn ddoeth, wrth beryglon rhai eraill? A pha greadur a fai a rheſwm gantho, ni ochelai, ac nid edrychai yn ei gylch, ac ynteu wedi cael rhybudd mor amlwg ac mor oleu, faint yw ei berygl? Os wyti Griſtion, ac os wyti yn credu yn ddiau, y pethau y mae ffydd Griſt yn eu dyſgu i ti; yr wyti yn gwybod ac yn credu yn ſ ccr, o ba radd bynnag, o ba oedran bynnag, o ba gryfder bynnag, o ba fraint a chyflwr bynnag, yr wyti yr awrhon; y bydd rhaid i titheu dy hun ſy yn darllein y pethan hyn yn iach ac yn llawen, ac yn tybied nad ydynt hwy yn perthyn fawr i ti; ryw ddiwrnod, a hynny yſgatfydd yn y man ar ol darllein y pethau hyn, gael dy hun brofi 'r pethau hyn yr wyt yn eu darllain: hynny ydyw, y bydd rhaid i ti trwy alar a gofid gael dy yrru i'th wely, ac yno yn ol dy holl ymdrech a phiccellau angeu, y bydd rhaid i ti roi i fynu dy gorph yr wyti 'n ei garu cymmaint, i fod yn abwyd i bryfed; a'th enaid i gael barn gyfiawn a a wnaeth yn y bywyd hwn.

12. Meddwl ditheu fanwylyd, yr hwn wyt heddyw yn hoyw ac yn heini, fod y dengmhlynedd, neu yr vgain mhlvnedd neu y ddwy flynedd, neu yſgatfydd y ddeufis •• dd i ti etto yn ol o'th oes wedi dyfod i ben, a'th fod ti yr awr hon wedi ymeſtyn ar dy wely, a chwedi dy orfod a'th flino gan boen a dolur, a bod dy garedigion enawdol yn dy gylch yn wylo ac yn vdo, dy phyſygwyr wedi cael eu cyflog ac ymadael â thi, a'th roi ditheu i fynu; a'th fod titheu yn gorwedd yno yn fud ac yn aflafar mewn poen doſturus, yn diſgwyl o fynud i fynud am gael y dyrnod diwethaf gan yr angeu. Dyweid i mi, pa lês a wnai holl ddifyrrwch a golud y byd i ti yn yr awr honno? Pa gyſſur fyddei i ti dy fod gynt yn anrhydeddus yn y byd; dy fod gynt yn gyfoethog a chwedi pwrcaſu llawer, a'th fod mewn ſwyddau, ac mewn ffafor tywyſogion; a'th fod yn gadael dy blant a'th dylwyth yn gyfoethogion, a darfod i ti gael y gorfod ar dy elynion, a bod yn fawr dy rwyſg yn y byd? Pa eſmwythdra, a pha gomffordd fyddei i ti dy fod gynt yn dèg dy bryd, yn wychion dy ddillad, yn wr glan o gorph, yn diſcleirio mewn aur? Onid mwy o flinder a gofid a wnai 'r holl bethau hyn i ti yr amſer hwnnw, nag o lês? Canys yno y cait ti weled ofered y coeg bethau hyn: yno y dechrenai dy galon di ddywedyd o'th fewn; Och mor ddygn yw fy ynfydrwydd a'm dallineb i: wele, dyma ddiben ar fy holl ddifyrrwch i a'm llwyddiant; fe ddarfu bellach fy holl lawenydd i, am holl ddifyrrwch, a'm holl ddiddanwch, a'm holl ddigrifwch: pa le y mae fy ngharedigion i a'm cyfeillion a fyddei arfer o gyd chwerthin a mi? pa le y mae fy ngweiſion a fyddei yn gweini i mi, a'm plant a fyddei yn fy llawenychu? Pa le y mae fy holl feirch a'm cerbydau y gwnawn fawr rodres a hwynt? Pa le y mae 'r ymbennoethi a'r ymoſtwng y byddei'r bobl i mi, a'r mawrbarch a roid i mi? Pa le mae 'r lluoedd a fyddai yn fy nghanlyn ac yn erlyn arnaf am negeſeu? Pa le y mae fy holl drythyllwch i, a'm nwyfiant a'm yſmalbawch? Pa le y mae fy holl felyſgerdd a'm canu, a'm holl dai gwychion, a'm holl wleddoedd a'm daintethfwyd coſtfawr? Ac yn anad dim, pa le y mae fy holl garedigion anwylgu, a gymmerent arnynt na'm gwrhodent byth? Ond y maent hwy i gyd yr awrhon wedi myned ymaith, a'm gadael innau ymma yn vnig i roi cyfrif am y cwbl, ac ni wna yr vn o honynt hwy cymmaint a mynd gyda myfi i'r farn, na dywedyd vn gair yn fy mhlaid i.

13. Gwae finnau fyth na ragwelſwn i'r dydd yma yn gynt, a ymbarottoi yn well erbyn ei ddyfod: hi aeth yn rhyhwyr weithian, ac yr wyfi yn ofni ddarfod i mi bwrcaſu damnedigaeth dragywyddol am ychydig fyrr ddifyrrwch bydol, a cholli gogoniant annhraethadwy am orwagedd ac oferedd. Oh dedwydd a thra happus yw y rhai ſy yn byw fel na bo rhaid iddynt ofni 'r dydd hwnnw. Yr awrhon y gwelaf fi y rhagor ſydd rhwng diwedd y da a'r drwg, ac nid rhyfedd gennyf fod yr Scrythur yn dywedyd am y naill, Pſal. 116.15. Gwerth-fawr yngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei Sainct; ac am y llaill mors peccatorum peſſima, Drwg iawn yw marwolaeth yr annuwiol. O na buaſwn i fyw mor dduwiol ac y bu rhai fyw, ac na buaſwn i yn creſawu yr aml yſprydoliaethau da a ddanfonodd Duw yn fy nghalon i, i geiſio gennyfi fyw'n dduwiol; neu na wnaethwn y gweithredoedd da a allaſwn eu gwneuthur; mor felus ac mor gyſſurfawr fuaſent hwy i mi yr awr hon yn fy mawr ddygn gyfyngder diwethaf yma.

14. Y meddyliau a'r ymadroddion hyn, frawd anwyl, beth bynnag wyti yr awrhon, ſydd dir eu bod yn dy galon di yn awr angeu, oddieithr i ti yr awrhon ochelyd hynny trwy wellhau dy fuchedd, a hynny yn vnig a all roi cyſſur i ti yn y dydd triſt hwnnw. Oblegid am y rhai da y dywaid y barnwr ei hun, Luc. 21.28. Pan ddechreuo 'r pethau hyn ddyfod edrychwch i fynu, a chodwch eich pennau, canys y mae eich ymwared chwi oddi wrth drallod a thrafferth y byd hwn, yn neſau. Ac y mae 'r prophwyd yn dywedyd am y gwr duwiol, a wnaeth weithredoedd da yn y bywyd hwn, y bydd yr amſer hwnnw, Gwyn ei fyd ef: ac y mae 'n dangos yr achos o hynny, Oblegid yr Arglwydd a'i gwared ef yn y dydd drwg, ac a'i nertha ef ar ei glaſ-wely, ac a gyweiria ei holl wely ef yn ei glefyd, Pſal. 41. A hyn yn ddiammau a ddywedir yn benu if am wely angau dyn a'i ymadawiad o'r byd; oblegid y gwely hwnnw, o'r holl welyau eraill, yw'r gwely triſtaf a mwyaf ei ofid, fel y dywedais o'r blaen, pan nad ydyw ddim ond pentwrr o bob math ar driſtwch a gofid ynghyd, yn enwedig i'r rhai a dynnir iddo cyn eu bod yn barod iddo, megis fynychaf y maent hwy i gyd h b fod, y rhai o ddydd i ddydd ſy'n oedi gwellhau eu buchedd, ac heb gymmeryd gofal am fyw yr awrhon yn y cyfryw fodd ac y dymunent wrth ymadael a'r byd ddarfod iddynt fyw.

PEN. IX. Y Poenau ſydd wedi eu hordeinio am bechod yn ol y fuchedd hon.

YM myſg yr holl foddion y mae Duw yn eu harfer tu ac at feibion dynion i geiſ o eu cyffroi hwynt i roi eu bryd yn gwbl ar wellhau eu buchedd, y cryfaf a'r cadarnaf gyda 'r bobl gyffredin, yw yſtyried y poenau a barotoodd Duw i bechaduriaid gwrthryfelgar, ac i'r rhai a oſeddo ei ochymmynion ef. Ac am hynny y mae efe yn arfer o hynny mor fynych, fel y gellir gweled trwy 'r holl Brophwydi, y rhai nid ydynt agos yu gwneuthur dim ond bygwth plaau a diniſtr ar bechaduriaid. A'r, modd hwn yn fynych a dycciodd yn well na dim arall ac a ellid ei arfer, a hynny o achos y cariad naturiol ſydd gan bawb o honom ni arnom ein hunain, a'r ofn fydd ynom ni rhag bod perygl arnom ein hunain. Felly yr ydym ni yn darllein nad oedd dim a allai gyffroi 'r Nineſeaid, cymmaint a dwedyd iddynt o'r blaen pa perygl oedd vwch eu pennau. A S, Ioan fedyddiwr, er ei fod yn dyfod mewn modd diſyml diyſtyr, etto wrth bregethu i'r bobl mor erchyll oedd y dialedd oedd ar ddyfod, a bod y fwyall wedi ei goſod eiſus ar wreiddyn y prenniau, i dorri i lawr iw fwrw yn tàn bob vn ar ni ddygai ffrwyth da, a gwellhau ei fuchedd, efe a wnaeth i'r Publicanod, ac i'r milwyr ofni, er eu bod yn bobl o fettel galed, a chyrchu atto wrth glywed y gennadwri doſt honno, a gofyn iddo pa beth a wnaent er mwyn cael gochel y coſpedigaethau hyn. Luc. 3.9.

2. Pan ddarpho i ni gan hynny yſtyried am farwolaeth, a thoſt farn Duw ſydd yn dyfod ar ól marwolaeth, yn yr hon y mae i bob dŷn dderbyn yn öl ei weithredoedd yn y bywyd hwn, fel y dyweid yr yſcrythur lan, 2 Cor. 5. neſſaf peth i ni i'w yſtyried ydyw yr poenau a oſodwyd i'r rhai a gaffer yn feius yn y cyfrif hwnnw; fel y gallei hynny, onis gwna dim arall, ddwyn Chriſtianogion i roi eu bryd ar waſanaethu Duw. Oblegid, fel y dangoſais o'r blaen, od oes gan bawb wrth naturiaeth gariad arno ei hun, a chwant i gadw ei eſmwythdra ei hun; wrth hynny fe ddylei fod yntho hefyd ofn rhag pob perygl a allai beri iddo gwympo i ddygn drueni ac aflwydd. Hyn y mae S. Bernard yn ei egluro yn orcheſtol yn ôl ei arfer; Oh ddyn (medd efe) pe rhon i ti a bod wedi bwrw heibio bob cywilydd ac a ddylei fod mewn creadur mor ardderchog ac wyti; oni chlywi di oddiwrth driſtwch yn y byd, mwy nag y mae y rhai cnawdol yn ei glywed, etto na choll byth mo'th ofn hefyd, yr hwn ſydd hyd yn oed mewn anifeiliaid. Yr ydym ni yn arfer o lwytho aſſyn, ac o'i flino a gwaith, ac nid gwaeth ganddo, am nad yw ond aſſyn; ond pe bait ti yn ei wthio ef yn tân, neu yn ei daflu mewn clawdd, fe a wnai oreu dim fyth ac a allai ar ochel hynny, am fod yn hoff ganddo fyw, ac yn ddrwg gantho farw. Ofna ditheu; ac na fydd lai dy ſynwyr nag anifail. Ofna farwolaeth; ofna 'r farn; ofna vffern. Yr ofn hwn a elwir yn ddechreuad doethineb, ac nid yn gywilydd, neu yn driſtwch: am fod yſpryd ofn yn gryfach i wrthwynebu pechod, nag yſpryd cywilydd, neu driſtwch: ac am hynny y dywedir, Meddwl am dy ddiwedd, ac ni phechi di byth. Hynny ydyw, meddwl am y goſpedigaeth dragywyddol ſydd am bechu yn ôl y fuchedd hon. A hynny a ddyweid S. Bernad. Dihar. 9. Eccleſ. 7.36.

3. Yn gyntaf gan hynny, i ddywedyd yn gyffredinol am y poenau ſydd ynghadw erbyn y fuchedd a ddaw; pettai yr Scrythur làn heb ddangos i ni yn yſpyſol faint ydynt, etto y mae llawer o reſymmau a allai beri i ni gredu eu bod hwy yn doſt, ac yn ofidus, ac yn anhawdd dros ben eu dioddef. Canys yn gvntaf, fel y mae Duw yn Dduw yn ei holl weithredoedd, hynny ydyw, yn fawr, yn rhyfeddol, ac yn ofnadwy; felly yn enwedig y mae efe yn dangos hynny wrth roi coſpedigaeth am bechod, ac o'r achos hynny y gelwir ef yn Dduw 'r cyfiawnder, ac yn Dduw 'r dial. Am hynny, gan fod ei holl weithredoedd eraill ef yn llawn mawredd, ac yn rhagori llawer ar ein deall ni, ni a allwn wybod hefyd, fod ei law ef wrth goſpi yn rhyfeddol. Y mae Duw ei hun yn dyſgu i ni ymreſymmu felly, pan yw yn dywedyd, Onid ofnwch chwi fi? oni chrynwch ger fy mron i, yr hwn a oſodais y tywod yn derfyn i'r môr, trwy ddeddf dragywyddol, fel nad elo tros hwnnw; er i'r tonnau ymgyrchu, etto ni thyccia iddynt derfyſgu, etto ni ddeuant tros hwunw. Jer. 5.22. Megis pe dywedai, Os ydywyfi yn rhyfeddol, ac yn rhagori ar eich deall chwi, yn y mor, ac yn fy ngweithredoedd eraill a welwch chwi beunydd; y mae i chwi achos da i'm hofni i, os yſtyriwch y bydd fy ngwaith i yn coſpi, yn gyffelyb i'r rhai hynny.

4. Ni a allwn fwrw amcan arall ar fawr a thoſt gyfiawnder Duw, wrth yſtyried ei anfeidrol drugaredd annrhaethadwy ef, yr hon ſydd o'i wir naturiaeth ef, ac heb na meidr na meſur arni, mwy nag ar ei dduwdod ef, felly y mae ei gyfiawnder ef hefyd. A'r ddau hyn, ſydd megis dau fraich i Dduw, yn cofleidio, ac yn cuſanu 'r naill y llall, fel y dyweid yr Scrythur lân, Pſal. 85.10. Am hynny, megis mewn dyn bydol, os caem feſur y naill fraich iddo, fe fyddai hawdd i ni wybod meſur y llall; felly wrth weled ſamplau rhyfeddol beunydd o drugaredd Duw tu ac at y thai edifeiriol, ni a allwn wybod wrth hynny mor doſt yw ei gyfiawnder ef tu ac at y rhai a roes efe i gadw i'w coſpi yn y fuchedd a ddaw, a'r rhai o'r achos hynny y mae efe yn eu galw yn yr Scrythurau, yn lleſtri digofaint, neu yn lleſtri i ddangos ei ddigofaint arnynt. Rhuf. 9.22, 23.

5. Y trydydd rheſwm i beri ini gredu faint yw ei goſpedigaeth ef, yw rhyfeddol ymmynedd, a dioddefgarwch Duw yn y byd hwn, megis pan yw yn dioddef i amryw ddynion fyned rhagddynt o bechod i bechod, o ddydd i ddydd, o flwyddyn i flwyddyn, o oes i oes; ac i dreulio 'r cwbl mewn ammharch a diſtyrwch ar ei fawredd ef, gan chwanegu camwedd at gamwedd, a gwrthod pob cyngor, ac annog, ac yſprydoliaeth dda a phob moddion caredig a fettro ei drugaredd ef ddyfeiſio eu cynnyg iddynt i geiſio ganddynt wellhau.

A pha ddyn o'r byd a allai ddioddef hyn? Neu pa galon dŷn marwol a all ddangos y fath ddioddefgarwch a hyn? A phe gallai hyn i gyd ddiangc heb doſt goſpedigaeth ar y rhai cyndyn yn y byd a ddaw; fe ellid tybied bod hynny yn wrthwyneb i gyfraith cyfiawnder ac vnioudeb, a bod y naill fraich i Dduw yn hwy nâ'r llall. Y mae S. Paul yn cyfwrdd â'r rheſwm yma yn ei Epiſtol at y Rhufeiniaid, lle y mae efe yn dywedyd, Oni wyddoſti, o' ddyn, fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch. Ac yr wyt titheu wrth dy galedrwydd, a'th galon ddiediferirol, yn tryſori i ti dy hun ddigofaint, erbyn dydd digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw; yr hwn a dâl i bob vn yn ol ei weithredoedd, Rhuf. 2.4. Y mae efe yma yn arfer y geiriau hyn, Tryſori digofaint, i arwyddoccau, mai megis ac y mae 'r cybydd yn tryſori ac yn pentyrru arian ar arian beunydd, i wneuthur ei bentwr yn fwy; felly y mae 'r pechadur diedifeiriol yn pentyrru pechod ar bechod; a Duw ynteu yn y gwrthwyneb, yn pentyrru digofaint ar ddigofaint, a dialedd ar ddialedd, hyd oni bo llawn ei feſur i'w dalu iddynt yn y diwedd; Meſur ar feſur, fel y dyweid y prophwyd, i gael talu i ni adref, yn ôl llioſowgrwydd ein ffieidd dra, Eſ. 27.8. A hyn yr oedd Duw yn ei feddwl pan ddywedodd efe wrth Abraham, Na chyflawneſid otto anwiredd yr Amoriaid, Gen. 15.16. a hefyd yn llyfr y datguddiad wrth Joan yr Efangylwr, pan ddibennodd efe 'r llyfr hwnnw yn y modd hyn, Yr hwn ſydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn etto; a'r hwn ſydd frwnt, bydded frwnt etto: canys wele, yr wyf yn dyfod ar frŷs, a'm gwobr ſydd gyd a mi, i roddi i bob vn fel y byddo ei waith, Dat. 22.11, 12. Wrth y geiriau hyn y mae Duw yn arwyddoccau fod ei waith ef yn dioddef ac yn cyd-ddwyn a phechaduriaid yn y byd yma, yn arwydd o'i doſt goſpedigaeth ef yn y fuchedd a ddaw; yr hyn y mae 'r prophwyd Da ydd hefyd yn ei ddangos, lle mae efe wrth ſon am bechadur diofal yn dywedyd fel hyn: Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef, canys efe a wêl fod ei ddydd ef ar ddyfod, Pſal. 37.13. Y dydd yma, yn ddiammau, yw 'r dydd cyfrif, ac amſer coſpedigaeth yn ôl y fuchedd hon; canys felly y mae Duw yn ei yſpyſſu ei hun yn helaethach mewn lle arall, yn y geiriau hyn, Titheu fab dyn, fel hyn y dyweid yr Arglwydd Dduw wrth dir Iſrael, Diwedd, diwedd a ddaeth ar bedair congl tir. Daeth yr awr hon ddiwedd arnat, ac mi a anfonaf. fy nig arnati; ac mi a th farnaf di yn ôl dy ffyrdd ac a roddaf dy holl ffieidd-dra arnat. A'm llygad ni'th arbed ti, ac ni thoſturiaf; eithr rhoddaf dy ffyrdd arnat ti, a'th ffieidd-dra fydd yn dy ganol di, fel y gwypoch mai myfi yw'r Arglwydd. Fel hyn y dyweid yr Arglwydd, Drwg, drwg vnig, wele, a ddaeth Y diwedd a ddaeth, daeth y diwedd, y mae 'n gwilio am danat; wele, efe a ddaeth. Daeth y boregwaith attat; daeth y amſer; ages yw'r dydd terfyſg. Weithiau ar fy der y tywalldaf fy llid arnal, ac y gorphennaf fy nig wrthyt; ac mi a'th farnaf di yn ol dy ffyrdd, ac a rodd f dy holl ffieidd-dra arnat. Am llygad ni th arbed, ac ni thoſturiaf wrthyt; rhoddaf arnat yn ol dy ffyrdd, a'th ffieidd-dra fydd yn dy ganol di; a thi a gai wybod mai myfi 'r Arglwydd ſydd yn taro. Hyd yn hyn y mae ymadrodd Duw ei hun, Ezec. 7.2. —

6. Wrth hynny, gan ein bod ni weithian yn deall yn gyffredinol, fod yn ddiau y bydd coſpedigaethau Duw yn y byd a ddaw, yn fawr ac yn dôſt i bob rhai a gwympo iddynt, ac o'r achos hynny y dywaid yr Apoſtol, Peth of nadwy yw ſyrthio yn nwylo 'r Duw byw, Heb. 10.31. yſtyriwn beth yn neillduol pa fath boenau a choſpedigaethau fyddant hwy.

7. Ac yn gynta' dim, am y lle ſydd wedi ei appwyntio i fod coſpedigaeth y rhai colledig ynddo, ac a elwir yn gyffredin Vffern, y mae yr Scrythur lân mewn amryw ieithoedd, yn arfer amryw enwau arno, a'r cwbl er mwyn dangos ac yſpyſſu mor doſt fydd y poenau ſydd raid eu dioddef yno. Yn lladin y gelwir ef INFERNƲS, hynny ydyw, lle odditanodd, neu tan y ddaiar; fel y mae y rhan fwyaf o'r hên dadau yn ei gyfieithu. Ond pa vn bynnag a wnel ai bod tan y ddaiar, ai na bo, ſiccr iawn ydyw ei fod yn lle mor wrthwyneb i'r nef ac y gall fod, a'r nef a ddywedir ei bod i fynu oddiarnodd. A'r henw yma a arferir i arwyddoccâu mor druan ac mor doſtur y gwthir, ac y teflir y rhai damnedig i lawr i'w ſathru tan draed Duw a dynion da byth bythoedd. Canys felly y dywaid yr Scrythur lâu. Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, yn lloſgi megis ffwrn; a'r holl feilchion, a holl weithwyr anwiredd a fyddant ſofl. A chwychwi, y rhai ydych yn ofni fy enw i a fethrwch yr annuwolion, a hwy a fyddant yn lludw tan wadnau eich traed chwi. Mal. 4.1, 2 3.

8. Y gair Hebraeg y mae'r Scrythur lân yn ei arfer am vffern, yw 〈 in non-Latin alphabet 〉 Sheol, yr hyn a arwyddocca bwll mawr neu geuffos ddofn, Eſa. 14.15. Ac yn y deall hwnnw y gelwir hi hefyd yn llyfr y datguddiad,Hi a elwir felly hefyd am na's digonir hi. yn llynn mawr, neu yn gerwyn fawr digofaint Duw; A thrachefn y gelwir hi yn llynn yn lloſgi gan dân a brwmſtan. Datc. 14.19. ac 21.8. Yn y Groeg, y mae 'r Scrythur lân yn arfer o dri gair i arwyddoccau yr vn lle, y cyntaf yw 〈 in non-Latin alphabet 〉 Hades, a arferir yn yr Efengyl, ac a arwyddoccaa medd Plutàrch, lle heb oleuni yntho. Yr ail yw 〈 in non-Latin alphabet 〉 Zophos, yr hwn a arwyddoccaa tywyllwch, Ac yn y deall hwnnw y geilw Job hi,In com. Supverba viue latenter. Tir tywyllwch a chyſgod angeu, Tir tywyllwch fel y fagddu, a chyſgod angeu, a heb drefn; lle mae 'r goleuni fel y tywyllwch. Ac am hynny y gelwir hi yn yr Efengyl, Y tywywylwch eithaf. Y trydydd enw Groeg yw 〈 in non-Latin alphabet 〉 Tartaros, yn Sainct Petr, 2 Pet. 2.4, 17. A'r gair hwnnw ſydd yn cael ei dadogaeth o'r Ferb 〈 in non-Latin alphabet 〉 Taraſſo, yr hyn a arwyddoccaa dychrynu ac ofni; a thrallodi, a blino, a moleſtu, ac aflonyddu; a'r henw hwnnw ſydd yn dangos fod yn vffern annrhefn erchyll ar boenau, fel y dywed Job am dani ei bod yn lle heb drefn, lle mae erchylldod, a dychryn tragywyddol yn aros ac yn trigo. Job 10.21, 22.

9. Y gair Chaldaeg, yr hwn ſydd hefyd yn yr Hebraeg, ac a adewir yn y Groeg, yw Gehenna, Mat. 5.22. yr hwn y mae Chriſt ei hun yn ei arfer gyntaf, i arwyddoccau lle y rhai damnedig, fel y dywed S. Hierom ar y ddegfed bennod o Efengyl S. Matthew: A'r gair hwn a gyfanſoddir o'r gair Gee, a'r gair Hinnom, ac a arwyddoccaa ddyffryn ſydd gyfagos i Jeruſalem, a elwir dyffryn Hinnom, lle byddai hên ddelw-addolwyr yr Iuddewon yn arfer o loſgi eu plant eu hunain yn fyw er anrhydedd i'r cythraul, ac yn lleiſio ag vtgyrn, ac a thympauau ac ag offer cerdd vchel-ſain eraill, tra fyddent yn eu lloſgi, rhag clywed llais a llefain eu plant: Ac i'r lle hwnnw yn ol hynny y byddid arfer o fwrw pob brynti, a thom, a chelaneddau meirwon, a'r cyffelyb fudreddi. Ac y mae'n gyffelyb iawn i'n Iachawdr arfer y gair hwn am vffern, yn hytrach na geiriau eraill, er mwyn arwyddoccau y gofidus loſgi ſydd ar eneidiau yn y lle hwnnw, a'r llefain a'r gwaeddi toſtur ſydd gan y rhai a boenir yno; a'r lleiſiau a'r germain erchyll anhawddgar ſydd gan y rhai ſy'n eu poeni, ac mor ddrewllyd, fudr, ffieidd-frwnt ydyw'r lle yma, yr hwn hefyd y mae'r Scrythur lan mewn lleoedd eraill yn dangos ei ddull tan enwau nadroedd, a ſeirph, a dreigiau, a gwiberod, ac aſpiaid, ac yſcorpionau, a phryfed gwenwynig eraill, fel y cewch chwi weled yn ol hyn.

10. Gan ddarfod i mi ddangos enwau'r lle hwn, ac wrth hynny dangos peth o'i naturiaeth a'i ddull; y mae 'n canlyn bod i ni yſtyried pa fath boenau y mae dynion yn eu dioddef yno. Ac i ddangos hynny, rhaid i ni wybod, megis y mae nef ac vffern yn wrthwyneb i'w gilydd, a chwedi eu hordeinio i ddau fath ar bobl wrthwyneb i'w gilydd, ac am achoſion gwrthwyneb iw gilydd; felly y mae iddynt naturiau, a chynneddfau, a ſwyddau gwrthwyneb i'w gilydd; megis beth bynnag a ddweder am ddedwyddwch y naill, fe waſanaetha hynny yn hydda i ddangos gwrthwyneb annedwyddwch y llall. Megis pan yw S. Paul yn dywedyd am y nef, Na welodd llygad, ac na chlywodd clûſt, ac na ddaeth i galon dŷn y pethau a ddarparodd Duw ir rhai di carant ef, 1 Cor. 2 .9. wrth y geiriau hynny y gallwn ni wybod fod yn gymmaint poenau y rhai damnedig. Drachefn, pan yw 'r Scrythur lan yn dywedyd fod dedwyddwch y rhai ſy'n y nef yn ddedwyddwch perffaith, yn cynnwys pob math ar ddaioni, fel nas gellir meddwl am yn fath ar hyfrydwch nad oes ganddynt hwy: rhaid i ni dybied yn y gwrthwyneb y bydd rhaid i drueni y rhai damnedig, fod yn drueni perffaith, yn cynnwys pob math ar ofid ac a all fod, heb vn yn eiſiau: Fel megis ac y mae dedwyddwch y rhai duwiol yn anfeidrol ac yn gyffredinol, felly hefyd y mae gofid ac anghyflwr yr annuwiol yn anfeidrol ac yn gyffredinol. Yn y fuchedd hon nid yw yr holl drueni, a'r anghyflwr a'r poenau ſydd yn digwydd ar ddyn, ond neillduol, heb fod yn gyffredinol; fel y gwelwn ni fod vn dŷn a'i boen ac a'i ddolur yn ei lygaid, ac arall a'i ofid yn ei gefn: y rhai er nad ydynt ond poenau neillduol, ydynt er hynny weithiau mor doſt, ac mor ddygn, ac nad yw bywyd dyn abl i'w gwrthwynebu, ac ni fynnei ddyn fod arno eu dioddef yn hir, er ynnill mwy nâ llawer o fydoedd ar vnwaith. Ond beth pettai ddŷn, dybygwch chwi, yn dioddef ei boeni ym mhob rhan o'i gorph ar vnwaith, yn ei ben, yn ei lygeid, yn ei dafod, yn ei ddannedd, yn ei wddf, yn ei gylla, yn ei fol, yn ei gefn, yn ei galon, yn ei yſtlyſau, yn ei forddwydydd, yn ei goeſau, yn ei draed, ac ym mhob cymmal yn ei gorph heb law hynny: beth pettai ddŷn, meddaf, yn dioddef ei boeni yn greulon, ac yn dwyn y dygn ofid ym mhob rhan o'i gorph ar vnwaith, heb na thorr, nac eſmwythdra; pa ofid a thrueni a allai fod fwy nâ hyn, pa olwg doſturach? Pettit ti yn gweled ci yn gorwedd yn yr heol yn dioddef y fath boenau, mia wn na ellit ti amgen nâ thoſturio wrtho. Bellach yſtyria ditheu pa ragoriaeth ſydd rhwng dioddef y poenau hyn dros wythnos, ai dioddef yn dragywyddol byth; pa ragor ſydd rhwng eu dioddef hwynt ar wely eſmwyth, a'i dioddef hwynt ar yr alch boeth, neu yn y ffwrnais ferwedig: pa ragor ſydd rhwng eu dioddef hwynt ymmyſg caredigion a allai gyſſuro, a diddanu, ac ymgeleddu dyn, a'i dioddef hwynt ym myſg cythreuliaid vffern, ni wnaent ond ei fflangellu a'i boeni. Yſtyria hyn, meddaf, ddarllenydd hynaws, ac os byddai well gen yt gymmeryd poen fawr, nâ dioddef y gofidiau hynny yn y bywyd yma; bydd fodlon i gymme yd ychydig boen, yn hyttrach nâ dioddef y llaill yn y byd a ddaw.

11. Ond i yſtyried y pethau hyn ym mhellach, nid yn vnig yr holl rannau hyn o'r corph, y rhai a fu megis yn arfau ac yn offer i wneuthur pechod, a boenir ar vnwaith, ond hefyd pob vn o'r ſynhwyrau oddi fewn ac oddi allan, a boenir hefyd a'i boenau nailltuol ei hun, a'r poenau hynny yn wrthwyneb i'r peth oedd hoffaf, a difyrraf, a digrifaf gan bob vn o honynt yn y byd hwn. Megis pe dywedid fel hyn, y cai y llygaid gwammal hoywon eu poeni a'i coſpi, trwy weled golwg erchyll ofnadwy ar gythreuliaid; y cluſtiau tyner, a llais ac a drygnad gerwin yr yſprydion damnedig; yr aroglau murſennaidd, a drewi ac a drygfawr gwenwynig brwmſtan a brynti aneſgorol; y chwaith a blas y genau mwythus blyſſig, a dygn wangc a rhaib newyn a ſyched; a holl rannau 'r corph ſydd a bywyd yn ddynt, a than lloſgadwy. Drachefn, y tŷb a'r meddwl a boenir trwy ddeall a gwybod oddiwrth y poenau y mae yn eu dioddef, ac a orfydd arno eu dioddef; y côf trwy gofio a meddwl am y pleſſer a'r difyrrwch a gafodd gynt; y deall trwy yſtyried y dedwyddwch a gollodd, a'r trueni a'r anghyflwr a ddaeth iddo. O Griſtion truan, pa beth a wnei di ynghanol cymmaint o ofidiau toſt.

12. Peth rhyfedd, a pheth, medd vn o'r hên dadau, abl i yrru dŷn a fai a dim rheſwm gantho, allan o'i bwyll; yw yſtyried yr hyn a ddatguddiodd Duw i ni, yn yr Scrythur lan, ynghylch y poenau hyn; ac etto leied y mae dynion difraw 'r byd hwn yn eu hofni: Oblegid yn gyntaf, y mae nid yn vnig y rheſymmau a ddangoſwyd o'r blaen, ond amryw bethau eraill a ellir eu hyſtyried yn yr Scrythur lan; yn dangos i ni mor gyffredinol, mor amryw, ac mor anfeidrol yw 'r poenau hynny. Megis lle y dywedir am y rhai damnedig, A hwy a boenir ddydd a nos, yn oes oeſoedd, Dat. 20.10. A thrachefn wrth grybwyll am Babylon yn vffern, Rhoddwch iddi ofid a galar, Dat. 8.7. Wrth yr hyn yr arwyddoceir, bod yn arfer poenau vffern, nid er mwyn ceryddu, ond er mwyn poeni y rhai a ddêl yno. Ac y mae poenau, ie yn y byd hwn, cymmaint a chyn doſted ac y medro ſynhwyr dyn eu cyrhaedd a'i dyfeiſio: Meddwl ditheu, o byddai i Dduw roi cwbl o'i feddwl ar ddyfeiſio poenau (fel y gwnaeth efe am boenau vffern) pa fath boenau a fyddei y rhai hynny a ddyfeiſiai ei ddoethineb anfeidrol ef?

13. Os medrai efe wrth wneuthur elfen a defnydd y tan i'n comfforddi ni yma ar y ddaiar, ei wneuthur ef mor ofnadwy ac ydyw, fel na ſynnai ddŷn ddal ei law yn vnig ynddo tros vn diwrnod, er ynnill teyrnas; pa fath dan, dybygwch chwi, a barotoodd efe yn vffern, yr hwn a wnaed, nid i fod yn gomffordd, ond i boeni ac i goſpi y rhai a ddêl iddo? Y mae llawer o ragor rhwng ein tan ni yma a'r tan hwnnw, ac am hynny gwir a ddywedodd yr hên dadau am dano, nad yw ein tan ni yma, ond megis eilun tan a baentid ar bared, neu ryw dan dychymmyg, wrth y tan hwnnw. Oblegid ein tan ni a wnaed, fel y dywedais, i fod yn gomffordd, a'r llall i boeni. Y mae 'n rhai i'n tan ni gael ei borthi yn waſtad a than-wydd, ac onid ê ef a ddiffydd, a'r tan hwnnw yn lloſgi yn waſtad, heb ei borthi. Y mae 'n tan ni yn rhoi goleuni, a hwnnw heb roi dim. Y mae 'n tan ni allan o'i le naturiol priodol, ac am hynny yn ceiſio eſgyn, ac yn ymgais ar i fyn , a myned ymaith oddiwrth ym ni, fel yr ydym ni yn gweled: ond y mae 'r tan hwnnw yn ei le naturiol ei hun, lle y gwnaed ef, ac am hynny y mae efe yn aros yno yn waſtadol byth. Y mae ein tan ni yn yſſu ac yn difa 'r defnydd a rodder ynddo, ac felly ar frŷs yn diweddu 'r boen: a'r tân hwnnw yn poeni, ac heb ddifa 'r peth a fwrier ynddo, fel y byddo 'r boen yn dragywyddol. Ein tan ni a ddiffoddir a dŵr, ac a byla lawer os bydd oer yr awel o'i amgylch; ond nid oes dim a ddiffydd nac a byla 'r tan hwnnw. Yn ddiweddaf, mor ddieithr ac mor anghredadwy ydyw 'r tan hwnnw, ni allwn weled wrth eiriau 'n Iachawdr Chriſt, y rhai y mae efe mor fynych yn eu hadrodd, Yno y bydd wylofain, a rhincian dannedd, Mat. 13 42. Wylo ſydd yn dyfod o achos y boethfa ar lloſgi aneſgorol ſydd yn y tan hwnnw, oblegid bod y boen wrth ddioddef berwi a lloſgi yn peri gollwng dagrau yn gynt nag vn boen arall, fel y gellir gweled pan roddo vn beth poeth yn ei enau yn ddiſymmwth, neu pan loſco ryw fan arall ar ei gorph. A rhingciau neu yſgyrnygu dannedd (fel y gwyr pawb) fydd yn dy od oddiwrth oerni ac anwyd mawr.

Meddwl ditheu pa fath dan yw hwn ſydd yn peri gwres ac oerni aneſgorol ar vnwaith. O Dduw galluog, mor ddieithr o Dduw ydwyt ti! Mor rhyfeddol ac mor ofnadwy wyt yn dy holl weithredoedd, a'th ddychymmygion! Mor haelionus wyt i'r, rhai ſy yn dy garu ac yn dy waſanaethu di! Ac mor doſt wyt i'r rhai ſydd yn diyſtyru dy orchymmynion! A ddychymmygaiſt ti fodd i beri i'r rhai a fo yn gorwedd yn y pwll tan a brwmſtan, gael eu poeni hefyd a dy n anwyd oer aneſgorol! Pa ſynwyr ddynol a feidr ddeall pa fodd y gallai hynny fod? Ond dy f rnedigaethau di, o Arglwydd, dyfnder hed waelod ydynt; ac am hynay mi a adawaf hyn ar dy rag eliad di yn vnig ac a'th foliannaf yn dragywyddo! o'i blegid.

14. Heb law 'r poenau cyffredinol ſy raid i bawb ac ſy yn y lle hwnnw eu dioddef, y mae 'r Scrythur lan yn dangos y bydd yno hefyd boenau neillduol i bob vn ar ei ben ei hun, yn ôl modd a maint pob pechod' ac anwiredd o'r eiddo pob pechadur. Oblegid i'r perwyl hynny y dywaid y prophwyd Eſai wrth Dduw, Ti a'i berni feſur wrth feſur, Eſa. 27.8.Fally 'r mae lladin yn ei gyfieithu. Ac y mae Duw yn dywedyd am dano ei hun, Mi a oſodaf farn wrth linyn, a chyfiawnder wrth bwys, Eſ. 28.17. A hynny yw meddwl holl fygythion Duw ar bechaduri id lle y mae efe yn dywedyd y tal efe hyd adref, i bob vn o honynt yn ôl eu gweithredoedd bawb o'r neilldu, yn ol dychymmygion eu calonnau eu hunain, Datc. 20.12. Ac yn y deall yma y dywedir yn llyfr y ddatguddiad am Babylon, yn ol ei thaflu i'r llynn tân a brwmſtan, Cymmaint ac yr ymogoneddodd hi, ac y bu mewn moethau, y cymmaint arall rhoddwch iddi o ofid a galar, Datc. 18.7. Am hynny o'r lle hwn y caſglai 'r hên dadau ſanctaidd, y bydd amrafael boenau am amrafael bechodau yn y lle hwnnw. Fel y mae rhagor rhwng pechod a phechod,Li. de verit. paen. cap. 2. felly y bydd amrafael boenau; medd yr hên Ephraim: i'r godinebwr y bydd vn fath ar boenau ac i'r lleiddiad fath ar ll, ac i'r lleidr fath arall, ac i'r meddw fath arali, ac i'r celwyddog fath arall. Megis pettid yn ſathru 'r balch tan draed, i dalu iddo am ei falchder; a gorfod i'r glwth ddioddef newyn anghyfartal, ac i'r meddw ddwyn ſyched aneſgorol, a chael o'r genau moethus ei lenwi â bwſtl, ac o'r corph tyner ei ſerio a'i loſgi â heiyrn poethion.

15. Y mae 'r Yſpryd glan yn dangos y fath beth, lle y mae efe yn crybwyll yn yr Scrythurau am y gwr bydol annuwiol, Ei fwyd a dry yn ei ymyſgaroedd: buſtl aſpiaid ydyw o'i fewn ef: efe a yngcodâ gyfoeth, ac efe a'i chwyda: Duw a'i tynn allan o i fol: efe a ſugn wenwyn aſpiaid; tafod gwiber a'i lladd ef. Felly y ma 'r lladin yn ei gyfiei hu. Efe a dâl hyd adref am yr hyn a wnaeth, ac ni ddifir ef, ond efe a gaiff ddioddef yn ol llioſowgrwydd ei ddychymmygion ei hun. Pob tywyllwch fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tan heb ei chwythu a'i hyſſa ef. Dymma ran dyn annuwiol gan Dduw, Job. 20.14. Wrth y geiriau hyn, a'i cyffelyb, y dangoſir yn oleu, y caiff y hai bydol, bob vn ei naillduol a'i briodol boenau, am eu glythineb, am eu daintethion a'i ammheuthyn foethuſ-fwyd, am eu trais a'i traha, a'r cyffelyb. A'r poenau hynny fyddant mwy nag y gall vn tafod daiarol eu hadrodd: fel y gellir gweled wrth y geiriau dirfing ofnadwy y mae'r Scrythur lân yn eu harfer yma i'w hyſpyſſu hwynt.

16. Heb law hyn, y mae 'r Scrythur lân yn dangos i ni y bydd y poenau hynny nid yn vnig yn gyffredinol i bawb, ac yn neillduol i bob vn, ac yn dôſt; ond hefyd yn gyfyngder mawr, heb na help, na chymmorth, nac eſmwythdra, na chyſſur; lle y mae yn dywedyd, Y teflir ni yno yn rhwym ein traed a'n dwylo, Mat. 22.13. oblegid y mae yn beth comffordd yn y byd yma, allu bod yn abl i wrthwynebu ac i ymdrech â'n gofidiau; ond yno y bydd rhaid i ni orwedd yn llonydd, a dioddef pob peth a ddêl attom. A thrachefn, pan yw yn dywedyd, Caewyd y porth, Mat. 25.10. Hynny ydyw, Caewyd porth pob trugaredd, a phob nawdd a phardwn, a phob eſmwythdra, a phob ſeibiant, a phob comffordd, o'r nef, o'r ddaiar, oddiwrth y creawdr, ac oddiwrth y creduriaid: yn gymmaint ac nad oes dim cyſſur i ddiſgwyl am dano byth mwy: fel nad oes vn o ofidiau 'r byd hwn ar nas gellir diſgwyl peth comffordd ynddo. Y cyfyngder a'r caethiwed yma hefyd a ddangoſir yn eglur iawn yn y ddammeg ofnadwy am y glŵth goludog oedd yn vffern, yr hwn oedd wedi ei yrru ir cyfryw angen a chyfyngder, ac y dymunai gael o Lazarus fyned a throchi blaen ei fŷs mewn dŵr i oeri ei dafod ef, ynghanol y tân y mae efe yn dywedyd ei fod yntho; ac nis gallai gael ei ddymuniad. Luc. 16.24. Ni buaſei hynny yn fy nhŷb i, ond ymwared bychan iddo, pes gallaſai gael yr hyn yr oedd yn ei geiſio. Ond etto, i ddangos gaethed ydyw'r lle hwnnw, fe a'i naccawyd ef o hynny. Oh, chwychwi y rhai ſydd yn byw ymmŷſg golud pechadurus y byd hwn, yſtyriwch, pettei heb ddim ond yr vn eſampl yma o doſter Duw, ac ofnwch. Yr oedd y gwr hwn mewn rhwyſg, a rhodres mawr ychydig o'r blaen, ac heb yſtyried gronyn ar y mawr ofid ar dygn drueni yr oedd Lazarus ynddo: ond yr awrhon efe a roddai fil o'r byd, pettynt ar ei helw, am vn defnyn o ddwr i oeri ei dafod. Pa beth lai na hynny a allai ddŷn ei ofyn? Ni feiddiai efe ddymuno cael ei wared allan oddi yno, na chael toli ac eſmwythau ar ei boenau, na gofyn lleſtraid mawr o ddŵr i gomfforddi ei holl gorph, ond yn vnig cymmaint ac a lynai wrth ben bŷs gwr i oeri ei dafod. Beth am yr eiſiau y gyrraſid y goludog hwn iddo? Beth am y grym a'r rhinwedd a dybiai ef ei fod mewn vn defnyn o ddwr? Ond toſtur oedd y gyfnewid yma oedd ar ei dafod ef, yr hwn o'r blaen oedd gynnefin a chael ei waſanaethu a phob math ar ddiod beraidd? Oh na fedrai'r naill ddyn gymmeryd eſampl wrth y llall! Naill ai mae hyn yn wir, ai mae Mab Duw yn gelwyddog. Ac yno, pa fath ddynion ydym ni, a ninnau yn ein gweled ein hunain mewn perygl o ſythio i'r cyfryw drueni, na byddwn ddyfalach i geſio ei ochel?

17. O achos bod Duw mor gaeth ac mor dôſt, yn naccau pob cyſſur a chomffordd yn y dydd hwnnw, y mae 'r Scrythur lan yn dywedyd y bydd dynion yr amſer hwnnw y cynddeiriogi, yn ammhwyllo, yn gwallgofi, yn anuioddefgar aruthr, yn cablu Duw, yn melldigo dydd eu ganedigaeth, yn cnoi en tafodau gan ofid, ac yn deiſyf ar y creigiau a'r mynyddoedd ſyrthio arnynt, i ddiweddu eu poenau hwynt. Dat. 16.10. Dat. 13. Dat. 6.16, 17.

18. Bellach os chwanegwn at hyn, dragywyddoldeb ac annarfodedig bara y poenau hynny: ni a gawn weled fod hynny yn chwanegu llawer ar y peth. Oblegid yn y byd hwn nid oes poenau cymmaint, ac nad yw amſer naill ai yn eu diweddu ai yn eu lleihau. Oblegid naill ai fe fydd marw y poenwr neu'r hwn a boener, neu fe ddigwydd rhyw achlyſur arall, a newidia neu a eſwmytha 'r boen. Ond yno nid oes dim cyfryw obaith, na dim o'r fath gomffordd, ond Hwy a boenir medd yr Scrythur lan, ddydd a nos yn oes oeſoedd yn y llynn ſydd yn lloſgi gan dan abrwmſtan, Dat. 20.10. Yr hyd y byddo Duw yn Dduw, yr hyd hynny y cant hwythau eu lloſgi yno; ac ni bydd marw na'r poenwr, na'r hwn a boener, ond byw fyddant eill dau yn dragywydd, er mwyn cael o'r rhai a boener fod mewn tragwyddol ofid a thrueni.

19. Oh, medd vn o'r tadau gynt mewn myfyrdod duwiol, pes gwyddei bechadur damnedig yn vffern, na byddai raid iddo ddioddef y poenau hynny yno, ond cynnifer mil o flynyddoedd ac yw rhifedi tywod y mor neu'r blewynnau glaſwellt ar y ddaiar; neu ond cynnifer mil fyrrdiwn o oeſoedd ac ſydd o rifedi creaduriaid yn y nef ac yn y ddaiar, fe fyddei lawen dros ben gantho hynny; oblegid efe a ymgyſſurai wrth feddwl y byddei ryw amſer ddiben ar ei boenau. Ond yn awr, medd y gwr da hwnnw, y mae'r gair yma Byth, yn torri ei galon ef pan feddylio efe am dano; a meddwl, wedi y darpho iddo ddioddef yno fil can myrddiwn cŷd a holl oeſoedd y byd, fod cymmaint rhyngtho a chael diben ar ei boenau, ac oedd y dydd cyntaf yr aeth efe i mewn i'r poenau, Yſtyria, Ghriſtion da, mor hir y tybit ti fod vn awr, er nas gorfyddei arnat ddal dy law mewn tan a brwmſtan ddim ond yr vn awr honno. Ni a welwn, os bydd gwr yn glaf iawn, er ei fod yn gorwedd ar wely eſmwyth, hŷd fydd gantho vn noſwaith. Efe a ymdrŷ ac a ymdreigla o yſtlys i yſtlys, tan gyfri 'r clocc, a rhifo pob awr fel yr êl heibio, ac y mae yn tybieid fod pob awr cyhyd a diwrnod cyfan. A phe dywedai vn wrtho y byddei raid iddo ddiodde'r boen honno ddim ond ſaith mlynedd ar vntu; fe fyddei agos i anobeithio gan wir ofid. Ac os yw vn noſwaith mor hir ac mor faith gan vn a fo'n gorwedd ar wely eſmwyth da, er na bo ond tippyn o grŷd yn ei flino; pa beth fydd gantho orwedd mewn tân a brwmſtan, pan fyddo efe'n gwybod yn ſicer na bydd diben byth ar ei boenau ef? Oh, anwyl frawd, y mae digonedd o'r vn peth yn waſtadol, yn ddiflas; hyd yn oed o bethau nid ydynt ddrwglo honynt eu hunain. Pettit ti yn rhwym i fwytta yr vn bwyd yn vnig bob amſer, ti a'i difleſit o'r diwedd. Pettit ti yn rhwym i eiſtedd yn yr vn lle tra fait fyw, heb ſymmud, fe fyddei flin gennyt hynny, er na byddei neb yn dy goſpi yn y lle hwnnw. Pa beth wrth hynny fydd gorwedd yn dragywyddol, byth heb ddiwedd, mewn poenau o'r fath fwyaf ac a ellid eu dychymmyg? Ai poſſibl byth ei ddioddef? Pa ſynhwyr, wrth hynny, a pha ddeall, ſydd yn y rhai nid ydynt yn gwneuthur mwy o gyfrif o'r pethau hyn nag y maent?

20. Mi a allwn yma ddywedyd vn peth etto y mae'r Scrythur lan hefyd yn ei ddangos, ſef yw hynny, y bydd y poenau hyn mewn tywyllwch, yr hwn o hono ei hun ſydd beth ofnadwy, i naturiaeth dŷn. Oblegid nid oes wr yn y byd cyn ddewred, a phe bai efe ei hun, yn noeth mewn tywyllwch aneſgorol, ac yn clywed llais a nad yſprydion yn dyfod tu acatto, nad ofnai, er na roent vn dyrnod iddo ar ei gorph. Mi allwn hefyd ddywedyd vn peth arall, y mae'r prophwyd yn ei adrodd, hynny yw, y bydd Duw a dynion da yn chwerthin am eu pennau hwy y dwthwn hwnnw, yr hyn ſydd ofid nid bychan. Oblegid, fel y mae yn beth comffordd i ddyn yn ei adfyd, gael cwyno iddo gan vn o'i garedigion, felly y mae cael chwerthin am ei ben, yn enwedig gan yr hwn yn vnig a allai help iddo, yn chwanegu yn fawr aruthr ar ei adfyd ef. Dihar. 1.26.

21. Ac etto nid yw cwbl ac a ddywedais i, ond y naill ran yn vnig o goſpedigaeth y rhai damnedig, yr hon a eilw y dyfeinwyr paena ſenſus poen dioddef, hynny ydyw, y boen a rodder ar y corph ar enaid ei dioddef. Ond heb law hyn y mae rhan arall o'r goſpedigaeth yma, a elwir, paena damni, poen colled, yr hou fel y tybia yr holl rai dyſgedig, nid ydyw ddim llai nâ'r llall, onid ydyw fwy. A hon yw'r golled anfeidrol y mae'r dyn damnedig yn ei gael wrth ei gau byth bythoedd allan o olwg ei wneuthurwr, ac allan o'i ogoniant ef. A chan fod y golwg hwnnw yn ddigon o hono ei hun yn vnig, i wn uthur yn happus ac yn ddedwydd bawb ac a gynnhwyſer i'w fwynhau, y mae 'n anghenrhaid bod yn drueni ac yn ofid blin i'r rhai damnedig, fod mewn colled am y golwg hwnnw yn dragywydd. Ac am hynny dymma'r bennaf, a'r gyntaf o'r holl boenau a'r coſpedigaethau a roir arnynt: Tynner ymaith yr annuwiol i vffern, fel na welo ogoniant Duw. Eſ. 26. Acy mae'r golled hon yn cynnwys ynddi bob math a'r golled arall; megis colled am ddedwyddwch tragywyddol, fel y dywedais, a llawenydd tragywyddol, a chymdeichas yr angylion a'r cyffelyb: a'r colledion hynny, pan yſtyrio y rhai damnedig hwynt, megis nad yw boſſibl iddynt nad yſtyriont hwynt yn waſtadol, y maent yn cael mwy o ofid a thriſtwch oddiwrth hynny, fel y dyweid y dyfeinwyr, nag oddiwrth yr holl boenau y maent yn eu dioddef heb law hynny.

22. Ac at hyn y perthyn prŷf y gydwybod, a elwir felly yn yr Scrythur lan, Mar. 9.44. oblegid fal y mae'r pryf yn bwytta ac yn yſſu'r coed 〈◊〉 mae ynddo, felly y bydd ymatgof ein cydwybod ninnau o'n mewn, yn ein cnoi ac yn ein poeni ni yn waſtadol. A'r pryf a'r ymatgof a'r ymgno hwnnw a ddwg a'r gof i ni yr holl foddion a'r achoſion a'n dug ni i'r dygn ofid hwnnw: megis ein difrawch a'n eſceuluſdra, a wnaeth i ni golli'r dedwyddwch y mae eraill yn ei fwynhau. Ac with yſtyried pob vn o'r pethau hyn, y pryf hwnnw a'n brath ac a'n eny ni yn ddwys ac yn doſtlym hyd at y golon. Megis pan oſodo o'n blaen ni yr holl achoſion a roed i ni i ochel y gofid a'r trueni y byddwn ni yr amſer hwnnw ynddo, ac i n dwyn ni i'r gogoniant a gollaſom; ac mor hawdd a fuaſei i ni wneuthur hynny: ac mor gos fuom ni yn fynych i roi ein bryd ar ei wneuthur; ac mor anraſlon y bwriaſom ni heibio 'r meddylfryd hwnnw; ac mor fynych y dywedpwyd i ni am y perygl yma, ac etto leied oedd ein gofal a'n hofn ni am ei ochel: mor ofer ac mor orwag oedd y coeg-bethan bydol y treuliaſom ni ein hamſer ynddynt, ac y collaſom y nef o'i plegid, ac y cwympaſom i'r trueni aneſgorol hwnnw; ef a ddengy's i ni faint yw parch a goruchafiaeth y rhai a gyfrifem ni yn ffyliaid yn y byd hwn; ac fel yr aethom ni yr awrhon yn ffyliaid, ac y chwerddir am ein pennau er doethed gynt y tybiem ein bod. Pan roddo ein cydwybod, meddaf, y pethau hyn, a mil o bethau eraill ger ein bronnau ni, hwy a wnant i ni ofid a thriſtwch a dolur anfeidrol; am fod yn rhyhwyr bellach eu gwellhau. A'r gofid a'r dolur hwn, a elwir pryf, neu ymgno, neu ymatgof ein cydwybod ni ein hunain; ac fe bair y pryf hwnnw, a'r ymgno, a'r ymatgof, i ddynion wylo ac vdo mwy nag a bair vn o'r poenau eraill, pan yſtyriont mor eſgeulus, ac mor ynfyd, ac mor ofer fuant hwy i ddyfod i'r poenau aneſgorol hynny, ac nad oes mwy bellach amſer iddynt i wellhau eu camſynuied a'i hamryfuſedd.

23. Yna y daw'r amſer i'r dynion hynny i wylo ac i gwynfan, ond ni bydd ond ofer iddynt: Yna y dechreuant ymddigio; ac ymgyffroi, a rhyfeddu wrthynt eu hunain, a dywedyd, pa le'r oedd ein ſynhwyr ni? pa le'r oedd ein deall ni? pa le'r oedd ein cof ni pan ganlynem oferedd a gorwagedd a diyſtyru'r pethau hyn? Dyma ymddiddanion pechaduriaid yn vffern medd yr Scrythur, Doeth. 5.8. Pa fudd ſydd i ni o'n balchder? a pha les a wnaeth golud a ffroſt i ni? Y pethau hyn oll aethant ymaith fel cyſgod, ac fel cennad yn rhedeg: fel llong yn myned trwy'r dwr tonnog, yr hon ni ellir cael ei hôl, wedi iddi fyned heibio, na'r llwybr yr aeth hi trwy'r tonnau, &c. Nyni a ymſtinaſom yn ffyrdd anwiredd a diſtryw, end ffordd yr Arglwydd nid adnabuom. Hyn, meddaf, a fydd accen dragywyddol y gydwybod ddamne ig yn vffern, gan y pryf hwnnw yn ei chnoi: ſef edifeirwch tragywyddol, heb lês o hono. A hynny a'i dwg ef i'r fath anobaith, medd yr Scrythur, ac yr ymgynddeirioga efe yn ei erbyn ei hun, ac y rhwyga ei gnawd ei hun, ac y dryllia, pettei boſſibl, ei enaid ei hun, ac y gwahodd y cythreuliaid i'w boeni gan ddarfod iddo ymddwyn mor debyg i anifail yn y byd hwn, ac na wnaeth na darbod na gofalu am y peth pennaf yma, a ddyleſid, mewn gwirionedd, feddwl am dano o flaen dim. Oh na chai efe vn hoedl etto, gydâ'r hon a gafodd, i fyw yn y byd, pa fodd, meddwchwi, y treuliai efe yr hoedl honno: Beth mor ddiwyd a fyddai? Beth am doſted fyddai ei fuchedd? Ond ni all hynny fod: nyni yn vnig y rhai ſy fyw ſy a'r amſer hwnnw gennym, pes meddyliem am dano, a rhoi ein bryd ar wneuthur y goreu o hono. Cyn nemmor o ddyddiau, ni a fyddwn ninnau wedi colli'r amſer hwnnw, ac nis gallwn ei gael byth drachefn; na allwn, gael vn awr o hono, pe rhoem ni fil o'r holl fyd er ei chael, fel y rhoei y rhai ſy wedi myned i golledigaeth eiſus, pes gellynt ei chael. Treuliwn ninnau yr amſer preſennol a roed i ni, fel pan elom ni oddi yma, na bo rhaid i ni ddymuno ein bod yma drachefn.

24. Dyma 'r amſer y gallwn ni ochel y cwbl, dyma yr amſer y gallwn ni ein diogelu ein hunain rhag yr holl beryglon hynny: Dymma 'r amſer, meddaf, os ni a rydd ein bryd allan o law. Oblegid ni wyddom ni beth a ddaw o honom ni yforu: fe allai y bydd ein calonnau ni yforu cyn galetted, ac mor ddiofal am y pethau hyn, ac y buant o'r blaen, ac fel yr oedd calon PHARAO, pan ymadawai MOESEN ag ef: Oh na roeſai efe ei fryd ar wneuthur gorchymmyn Duw, tra fyddai MOESEN gvdag ef, mor ddedwydd, ac mor happus fuaſai ef! Pe cymmeraſai y glwth goludog ei amſer, tra oedd mewn hawddfyd, mor fendigedig a fuaſai efe! Fe a gawſai rybudd o'r blaen (fel yr ydym ninnau yn cael yr awrhon) o'r trueni a ddeuai arno, gan Foeſen a'r prophwydi, fel y mae Chriſt yn dangos, ond ni fynnai efe wrando. Ond yn ol hynny yr oedd cyn rhyfedded gantho faint fuaſei ei ynfydrwydd, ac y mynnai efe gael danfon Lazarus o fynwes Abraham, at ei frodyr, i'w rhybuddio hwy o'r afrwydd deb a gawſai efe. Luc. 16. Ond Abraham a ddywedodd wrtho nad oedd ond ſeithug iddo geiſio hynny, oblegid na choeliai ei froder ef mo Lazarus, ond yn hyttrach ei erlid megis dyn celwyddog, ac vn a fai 'n rhoi enllib i'w brawd anrhydeddus hwy a fuaſai farw, pe daethai efe a dywedyd iddynt hwy fod eu brawd yn y fath boenau. Ac felly yn ſiccr y gwnai annuwolion y byd hwn yr awrhon, pe deuai un a dywedyd iddynt fod eu tadau, neu eu mammau, neu eu ceraint hwy yn golledig yn vffern am y bai a'r bai; ac attolwg arnynt hwythau am edrych yn well at eu buchedd, rhag iddynt hwythau wrth ddyfod i'r vn lle, chwanegu ar boenau eu caredigion, am eu bod yn beth achos o'i colledigaeth hwy, (oblegid dyma'r vnig achos pa ham y mae y rhai damnedig yn gofalu tros y rhai byw, ac nid am ddim cariad ſy ganthynt tu ac attynt hwy) pe deuai, meddaf, y fath gennad o vffern at bechaduriaid hoywon y byd hwn, oni chwarddent hwy am ei ben ef, dybygwch chwi? Onid erlidient hwy yn dôſt y neb a ddygai iddynt y fath chwedl? Pa beth wrth hynny a ddichon Duw ei ddychymmyg, i geiſio gwneuthur y rhai hyn yn gadwedig! Pa ffordd a gymmer efe, a pha foddion, gan na thyccia iddynt na rhybudd, nac eſampl rhai eraill, na bygythiau, na chynghorion? Ni a wyddom, neu ni a allem wybod, os nyni ni fydd gwell ein buchedd nag ydyw, nas gallwn ni fod yn gadwedig. Ni a wyddom, neu a ddylem wybod fyned llawer i ddamnedigaeth am lai o achoſion. Ni a wyddom, ac ni allwn ni nas gwyddom, fod yn rhaid i ni farw ar fyrder, a chael y pethau a gawſant hwythau; a ninnau yn byw fel hwynt hwy, neu yn waeth. Ni a welwn wrth a ddywetpwyd fod y poenau ſydd yn ein haros ni am hynny yn aneſgorol, ac er hynny yn dragywyddol. Yr ydym ni yn cyfaddef eu bod hwy yn druain ac yn annedwydd iawn, y rhai er mwyn difyrrwch neu ynnill bydol, ſydd eiſus wedi ſyrthio i'r poenau hynny. Pa beth wrth hynny a allai ein lleſtair ni i roi ein bryd ar geiſio diangc oddiwrth bob peth a'n rhwyſtro; Ac i'n gwared ein hunain allan o rwymau a chadwynau 'r byd hwn, y rhai ſy 'n rhwyſtro i ni waſanaethu Duw mor gywir ac y dylem, ac a chymmaint zel ac y dylem? Pa'm y cyſgem ni vn noſwaith mewn pechod, gan nas gwyddom ni nad y nos honno yw 'r nos ddiwethaf o'n hoedl ni, yr hon a dyrr oddiwrthym ni bob gobaith am yr amſer ſydd yn dyfod?

25. Dyro dy fryd, gan hynny, fy mrawd anwyl, ar waſanaethu Duw, od oes dim ſynhwyr gennyt, ac ymryddhaa oddiwrth y perygl hwn, tra fo Duw yn foddlon i'th dderbyn di, ac yn dy annog di drwy 'r moddion hyn, fel y gwnaeth efe â'r goludog trwy Foeſen a'r prophwydi, tra oedd yn ei hawddfyd. Bydded ei eſampl ef yn fynych ger bron dy lygaid di, ac yſtyria hi o ddifrif, a hi a wna i ti fawr lês. Y mae Duw yn Dduw rhyfeddol, ac i ddangos ei ddioddefgarwch a'i anfeidrol ddaioni, y mae efe yn ymbil ac yn ymnhêdd â ni yn y byd hwn, ac yn ymgais â ni, ac yn ei oſod ei hun megis wrth ein traed ni, i geiſio ein cynnhyrfu ni a'n cyffroi er twrn da ini ein hunain, i geiſio ein hynnill ni, a'n tynnu ni, i'n cadw rhag colledigaeth. Ond yn ôl y fuchedd hon y mae efe yn gwneuthur yn y gwrthwyneb i hynny; y mae efe yn troi 'r ddalen, ac yn newidio ei leferydd: Yn lle oen, y mae efe yn myned yn llew i r annuwiol; ac yn lle bod yn Iachawdr iddynt, y mae efe yn myned yn gosbwr tôſt arnynt. Pa beth mwy a ellir ei ddywedyd neu i wneuthur i'n cyffroi ni? Y neb a gaffo rybudd, ac a fo 'n gweled ei berygl ei hun ger bron ei lygaid, ac ni chyffrôo arno, ac ni bo dyfalach ac ofnuſach o hynny, ond yn hyttrach cyrchu at ei berygl a ſyrthio ynddo: er gallu toſturio wrth y cyfryw vn, diau na ellir help iddo mewn vn modd; ac ynteu yn ei wneuthur ei hun yn anghymmwys ac yn anaddas o bob ymwared a aller ei geiſio iddo.

PEN. X. Am y gwobr a'r tal anrhydeddus a haelionus, a oſodir o flaen pawb a waſanaetho Dduw yn gywir.

FE fyddai ddigon y rheſymmau, a'r yſtyriaethau a oſodwyd i lawr yn y bennod o'r blaen, i gyffroi calon vn Chriſtion a fai a rheſwm ynddo, i roi ei fryd ar waſanaethu Duw, yr hyn yr wyf yn crybw ll am dano, ac yn chwennych yn gymmaint dy berſwadio di i'w wneuthur, ddarllennydd hawddgar, a hynny er llês i ti dy hun. Ond am nad yw calonnau pawb o'r vn ddull yn hyn o beth, ac na thynnir ac na chynnhyrfir pawb trwy 'r vn moddion; fy amcan ydyw yma yſtyried pa lês a pha ynnill a ddaw i ni oddiwrth hynny, o herwydd bod pob dyn gan mwyaf wrth naturiaeth yn tynnu at ei lês ai elw. Ac am hynny yr ydwyf yn gobeithio y bydd mwy o rym yn hynny tu ac at ddwyn i ben y peth yr ydym yn ei geiſio, nag mewn dim arall ac a ddywetpwyd etto. Fy meddwl gan hynny yw traethu am y llês ar elw ſydd yn dyfod o waſanaethu Duw, a'r ynnill a geir oddiwrth hynny, a'r taledigaeth da, a'r gwobr helaeth haelionus a rydd Duw i'w weiſion, yn hyttrach nag un meiſtr arall, ar a aller ei waſanaethu. Ac er bod ofn y goſpedigaeth a gawn ni, onis gwaſanaethwn ef, yn ddigon er ein gyrru ni i roi ein bryd ar ei waſanaethu ef; a bod y doniau anfeidrol a gawſom ni gantho ef, yn ein denu ac yn ein gwahodd ni i wneuthur hynny, er mwyn dangos ein bod yn ddiolchgar iddo (ac am y ddeubeth hynny y crybwyllwyd peth o'r blaen:) etto, ddarllennydd daionus, mi a fyddaf fodlon, i roi i ti hyn o rydd-did, os myfi nis dangoſaf fod y peth yr wyf yn ei ofyn ar dy law di, yn well ar dy lês di ac yn fuddiolach i ti, nâ dim arall yn y byd ar a ellych di feddwl am dano; ni cheiſiaf mo'th rwymo di i'w wneuthur, er dim ac a ddywedais i etto i'r perwyl hwnnw. Oblegid, fel y mae Duw ym mhob peth arall yn Dduw helaeth er fawredd, yn llawn haelioni, a chymmwynaſgarwch, a brenhinol haelder; felly y mae efe yn y peth yma, yn anad vn peth arall. Oblegid er nad yw dim a wnelom ni, neu a allom ei wneuthur, ond vnion ddyled arnom iddo ef, ac heb heuddu dim o hono ei hun; etto o'i fawr ddaionus haelioni, nid yw efe yn gadael vn tippyn o'n gwaſanaeth ni iddo ef, heb ei obrwyo'n helaeth, hyd yn oed phiolaid o ddwfr oer. Mat. 10.42.

2. Fe a orchymmynnodd Duw i Abraham aberthu iddo ef ei vnig fab Iſaac, yr hwn yr oedd efe yn ei garu yn gymmaint: ond pan oedd efe yn barod i wneuthur hynny, Duw a ddywedodd wrtho, Na ddod dy law as y llangc, ac na wna ddim iddo; digon gennyfi weled dy vfydd dod di, O herwydd mi awn weithian dy fod di yn ofni uw, gan nad a •• eliaiſt dy fab, oddiwrthyfi. Ac am nas gwrthodaiſt oi wneuthur, J mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, y bendithiafi dy di, ac yr amlhâaf dy hâd di, fel ſêr y nefoedd, ac fel y tywod ſydd ar lan y môr; ac yn eu myſg hwy y bydd vn yn Griſt, ac yn lachawdr i'r byd. Gen. 22.12. Ond têg oedd y taliad yma am gyn lleied o boen? Y brenhin Dafydd a ddechrenodd ryw ddiwrnod feddwl yntho ei hun, ei fod ef yn awr yn preſwylio mewn tŷ o gedrwydd, a bod arch Duw yn aros mewn pabell o fewn y cortynnau: am hynny efe a roes ei fryd ar adeiladu tŷ i'r Arch. Ac fe fu 'r meddwl a'r amcan hwnnw mor cymmeradwy gan Dduw, ac y gyrrodd efe 'r prophwyd Nathan atto ef yn y man, i wrthod gantho hynny, ac etto i ddywedyd iddo, yn gymmaint ac iddo roi ei fryd ar y peth, y gwnai 'r Arglwydd iddo ef dŷ neu yn hyttrach frenhiniaeth, iddo ef ac i'w heppil ar ei ôl, yr hon a barha ai byth ac ni thynnai efe byth ei drugaredd oddiwrchi, pa bechodau ac anwireddau bynnag a wnaent hwy, 2 Sam. 7.1.11, 15. Pſal. 89.29. A'r addewid yma a welwn ni ei fod yr awrhon wedi ei gyflawni yn Eglwys Griſt, yr hon a gyfododd o'r tylwyth hynny. I ba beth y dangoſwn i lawer o'r fath eſamplau? Y mae Chriſt ei hun yn rhoi i ni addyſg gyffredinol o hyn, wrth alw 'r gweithwyr, a thalu iddynt eu cyflog mor vnion; a phan yw yn dywedyd am dano ei hun, Wele fi yn dyfod ar frys, a'm gwobr ſydd gydâ mi, i dalu i bawb yn ôl ei weithredoedd, Mat. 20. Datc. 22.12. Wrth yr hyn y mae'n amlwg, nad yw Duw yn gadael poen yn y byd a gymmerer yn ei waſanaeth ef heb dalu yn dda am dani. Ac er ei fod ef (fel y dangoſir yn ôl hyn mewn lle cyfaddas) yn talu yn y byd yma hefyd, a hynny yn helaeth ddigon; etto (fel y gwelir wrth y ddwy eſampl hynny) y mae efe yn oedi ei daledigaeth pennaf, hyd oni ddêl efe ei hun yn niwedd y dydd, hynny ydyw, yn ôl y fuchedd hon, yn adgyfodiad y rhai cyfiawn, fel y dyweid efe ei hun mewn man arall, Luc. 14 14.

3. Ac am y taledigaeth ymma ſydd ynghadw i waſanaethwyr Duw yn y fuchedd a ddaw, y mae i ni yr awr hon yſtyried, pa beth ydyw, a pha fath ar beth ydyw, a pha vn a wna a i bod yn talu yr llafur a'r boen y mae gwaſanaeth Duw yn ei ofyn, ai nad ydyw. Ac yn gynta' dim, os ni a gredwn yr Scrythur lân ſydd yn galw y taledigaeth hwnnw yn Deyrnas, ac yn Deyrnas nefol, ac yn Deyrnas dragywyddol, ac yn Deyrnas fendigedig: rhaid i ni gyfaddef yn ddiau fod y tâl a'r gwobr hwnnw yn rhyfeddol o faint, Mat. 25.34. 2 Pet. 1.11. Oblegid nid ydyw Tywyſogion bydol yn arfer o roi teyrnaſoedd i'w gwaſanaethwyr yn dâl am eu llafur a'i gwaſanaeth. A phettynt hwy yn eu rhoi, neu yn abl i'w rhoi; etto ni allai y rhai a roent hwy fod yn deyrnaſoedd nefol, nac yn rhai tragywyddol, nac yn rhai bendigedig: Yn ail os rhown goel ar yr hyn a ddyweid S. Paul am y taledigaeth hwnnw, Na welodd llygad, ac na chlywodd cluſt, ac na ddaeth i galon dyn, faint ydyw, I Cor. 2.9. Pſ. 31.19. ac y mae 'n rhaid i ni wrth hynny dybied yn fwy o hono, oblegid i ni weled llawer o bethau rhyfedd yn ein dyddiau; a chlywed pethau rhyfeddach, ac y gallwn feddwl am bethau rhyfeddol iawn ac anfeidrol. Pa fodd wrth hynny y gallwn ni ddyfod i ddeall faint a gwerthfawroceed yw 'r taledigaeth yma? diau na all vn tafod ar a grewyd, na thafodau dynion nac angylion, ei adrodd, nac vn meddwl er dderbyn, nac vn deall ei gyrhaeddyd a'i amgyffred. Fe a ddywedodd Chriſt ei hun, Na's gwyr neb beth ydyw, ond yr hwn ſydd yn ei dderbyn: ac am hynny y mae efe yn yr vn man yn ei alw'r Manna cuddiedig, edig, Datc. 2.17. Er hynny, fel y dywedir am ryw Geometrydd da, yr hwn pan gafodd hŷd troed Hercules ar fryn Olympus, a feſurodd ac a dynnodd bortreiad ei holl gorph ef, wrth feſur ei droed: felly y gallwn ninnau wrth ryw bethau ſy wedi ei goſod ar lawr yn yr Scrythur lân, ac wrth ryw bethau eraill ſydd yn cyttuno â hi, fwrw amcan beth yw y taledigaeth hwnnw, er na bo 'r amcan ddim tebyg i'r peth ei hun.

4. Mi a ddangoſais o'r blaen fel y mae 'r Scrythur lân yn galw 'r taledigaeth hwnnw yn deyrnas nefol, dragywyddol, fendigedig: wrth yr hyn yr arwyddocceir, y bydd rhaid i bawb a gynnhwyſer yno fod yn frenhinoedd. I'r vn defnydd y gelwir ef mewn lleoedd eraill yn goron gogoniant, yn orſedd mawrhydi, yn baradwys, yn lle o hyfrydwch, yn fywyd tragywyddol, Datc. 2.10. Darc. 3.21. Y mae S. Joan Efangylwr; pan oedd wedi ei ddeol, a'i yrru allan o'i wlad, wedi iddo drwy ryw ragorfraint gael peth gwybodeath a phrawf, o'r lle hwnnw; yn cymmeryd arno ei bortreiadu, trwy ei gyffelybu i ddinas; a dangos fod yr holl ddinas o aur pûr, a chaer fawr vehel iddi o'r maen gwerthfawr, a elwir Jaſpis; a bod i'r gaer hon ddeuddeg ſail,Nid felly y mae 'r lle. wedi eu gwneuthur o ddeuddeg amryw fain gwerthfawr, y rhai y mae efe yno yn eu henwi: a deuddeg porth, o ddeuddeg maen gwerthfawr a elwid Margarit; ac ym mhob porth yr oedd vn Margarit cyfan: a heol y ddinas oedd wedi ei phalmantu ag aur pùr, yn gymmyſgedig o berlau, ac o fain gwerthfawr: a goleuni 'r ddinas honno yw diſgleirdeb, a llewyrch Chriſt ei hun, yn eiſtedd yn ei chanol hi: ac o'i orſedd-faingc ef y doei afon o ddwfr y bywyd, diſglair fel y griſial, i lonnychu'r ddinas: ac ar ddeutu glau yr afon y tyfai bren y bywyd, yn dwyn ffrwyth yn waſtadol ddibaid: ac nid oedd dim nos yn y ddinas honno, a dim halogedig nid ai i mewn iddi: ond y rhai ſydd o'i mewn hi a deyrnaſant ynddi, medd efe, byth bythoedd, Dat. 21.11. &c. Dat. 22.

5. Wrth y portreiad hwn trwy gyffelybiaeth o'r pethau cyfoethoccaf a gwerthfawroccaf yn y byd hwn y mynnei S Ioan i ni ddeall, y pris a'r gwerth, a'r gogoniant, a'r mawrhydi ſydd yn y dedwyddwch a barottowyd i ni yn y nef. Ac er (fel y dangoſais o'r blaen) mai tywyſogawl dref-tadaeth ein lachawdr Chriſt ydyw, a theyrnas ei Dâd, a thragywyddol drigias y fendigedig drindod a barottowyd er cyn dechreuad y byd, i oſod allan ogoniant, ac i ddangos gallu yr hwn nid oes na meidr, na meſur, na diben ar ei allu a'i ogoniant: ni a allwn dybied yn dda gydâ S. Paul, na all na thafod ei draethu, na chalon ei feddwl.

6. Pan gymmero Duw arno wneuthur rhyw beth i ddangos mewn modd, ei allu, a'i ddoethineb, a'i fawredd hyd yr eithaf; meddyliwch ynoch eich hunain pa fath beth fydd hwnnw. Fe ryngodd bodd iddo ryw amſer wneuthur rhyw greaduriaid i'w waſanaethu ef yn ei wydd ei hun, ac i fod yn dyſtion o'i ogoniant ef: ac ar hynny ag vn gair efe a greodd yr Angylion, o herwydd eu rhifedi a'i perffeithrwydd mor ddieithr ac mor rhyfeddol, ac y pair i ddeall dyn ſynnu wrth feddwl am dano. Oblegid, tu ac at am eu rhifedi, yr oeddynt agos yn aneirif, yn rhagori ar rifedi holl greaduriaid y byd hwn, fel y mae amryw wyr dyſgedig, a rhai o'r hên dadau yn tybied: er bod y prophwyd Daniel, yn ôl arfer yr Scrythur lân, yn goſod rhifedi pennodol yn lle rhifedi ammhennodol, pan yw yn dywedyd am yr Angylion. Mil o filoedd a'i gwaſanaethent, a myrdd fyrddiwn a ſafent ger ei fron, Dan. 7.10. Ac am berffeithrwydd eu naturiaeth, cyfryw ydyw (gan eu bod, fel y dyweid yr Scrythur, yn yſprydion, ac yn dân fflamllyd) a'i bod yn rhagori ar holl greaduriaid y byd hwn, mewn gwybodaeth naturiol a gallu, a'r cyffelyb. Pa anfeidrol fawredd y mae hyn yn ei ddangos ei fod yn y ereawdr.

7. Yn ol hyn, wedi darfod i lawer o'r angylion hyn gwympo, fe ryngodd bodd i Dduw greu creadur arall oedd lawer is nâ hwnnw, i gyflawni lleoedd y rhai a gwympaſai; ac ar hynny efe a greodd ddyn o delpyn o bridd, fel y gwyddoch chwi, ac a appwyntiodd iddo fyw tros amſer mewn lle pell oddiwrth y nef, yr hwn a wnaethid i'r perwyl hynny, a hwnnw yw'r byd: yr hwn ſydd le i'w gynwys ef ac i'w brofi tros amſer, a chwedi hynny a ddiſtrywir. Ac etio, wrth greu'r byd darfodedig hwn (yr hwn nid yw ond llueſt yn perthyn i'w drigfa dragywyddol ef) pa allu, pa haelioni, pa fawrhydi a ddangoſodd ef? Pa fath nefoedd mor rhyfeddol a greodd ef? Pa rifedi anfeidrol o ſer, a goleuadau eraill a ddyfeiſiodd efe? Pa fath elfennau, a defnyddiau a luniodd efe? Ac mor rhyfeddol y cymmhwyſodd efe 'r cwbl ynghyd? Y mor o'r tu allan i'r llaill yn fawr ei fordwy, a'i ryferthwy a'i donnau yn ymdaflu ac yn ymdreiglo, ac ynteu yn llawn o aneirrif rywogaethau o byſgod: yr afonydd yn rhedeg trwy'r ddaiar, fel gwythenni yn y corph, ac heb fod vn amſer yn hŷſp, nac yn llifo tros y ddaiar: y ddaiar hitheu, cyn llawned o bob math ar greaduriald, ac nad yw dyn yn rhaid iddo wrth y ganfed ran o honynt, ond eu bod yn aros i ddangos llaw lawn, a braich cadarn y Creawdr. A hyn i gyd, fel y dywedais, a wnaethbwyd mewn moment, ag vn gair yn vnig: a hynny i'w mwynhau tros amſer bychan wrth y tragywyddoldeb ſydd i ddyfod. Pa beth wrth hynny, dybygwn ni, fydd y drigfa a barottowyd i'r tragywyddoldeb hwnnw? Os yw llueſt y gwâs diſtatlaf o'r eiddo ef, (yr hon nis gwnaed ond i barhau tros amſer, ac megis i fwrw cawod heibio) mor frenhinol, mor wychdeg, ac mor hardd, a chymmaint ei fawrhydi, ac y gwelwn ni fod y byd hwn; pa beth dybygwn ni ydyw llys y brenhin ei hun, a wnaed i barhau yn dragywyddol, iddo ef ac i'w garedigion i deyrnaſu ynghyd ynddo. Mae'n rhaid i ni dybied ei fod yn gymmaint, ac y gallai ddoethineb a gallu ei wneuthurwr gyrhaeddyd ei wneuthur ef; hynny ydyw yn anghyfartal, ac yn anfeidrol vwch law pob meſur. Y brenhin Ahaſuerus, yr hwn oedd yn teyrnaſu yn Aſia, ar gant a ſaith ar hugain o daleithiau; i ddangos ei allu a'i gyfoeth i'w ddeiliaid, a wnaeth wledd, fel y dyweid yr Scrythur lân, yn ei ddinas frenhinol Suſa; i holl dywyſogion, a rhaglawiaid, a gwyr mawr ei lywodraeth ef, dros gant a phedwar vgain o ddyddiau o'r vntu. Y mae 'r prophwyd Eſai yn dywedyd y gwna ein Duw ni Arglwydd y lluoedd, wledd i'w holl bobl ar fryn a mynydd y nef; gwledd o baſgedigion breiſion, ac o loywwin puredig, Eſ. 25.6. A'r wledd hon fydd mor reiol ac y bydd i fab Duw ei hun, Arglwydd pennaf y wledd, fod yn fodlon i ymwregyſu ac i waſanaethu ynddi, megis y mae efe yn addaw a'i air ei hun, Luc. 12.37. Pa fath wledd, wrth hynny, fydd hon? Mor reiol fydd? Mor llawn o fawrhydi? Yn enwedig gan ei bod yn parhau nid yn vnig tros gant a phedwar vgain o ddyddiau, fel gwledd Ahaſuerus; ond tros fwy na chant a phedwar vgain mil fyrddiwn o oeſoedd; ac nid dynion yn gwaſanaethu arni, ond Angylion, a mab Duw ei hun: ac nid i ddangos gallu a chyfoeth cant a ſaith ar hugain o daleithiau, ond i ddangos gallu a chyfoeth Duw ei hun, Brenhin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi, yr hwn y mae ei allu a'i gyfoeth heb ddiben arnynt, ac yn fwy nag a all ei holl greaduriaid ef na meddwl na deall? Mor ogoneddus gan hynny fydd y wledd hon? Mor orfoleddus fydd llawenydd yr wyl-wledd hon? Och mor anhappus, ac mor ynfyd ydyw meibion dynion, a hwythau wedi ei geni i'r fath fraint ammheuthyn ardderchog, acetto nas gellir eu dwyn nac i'w yſtyried, nac i'w garu, nac i wneuthur cyfrif o honaw.

8. Y mae pethau eraill i'w hyſtyried a all ddangos maint y dedwyddwch hwn: megis hyn, os rhoes Duw cymmaint o hyfrydwch, a doniau comfforddus yn y bywyd hwn ac a welwn ni eu bod yn y byd, yr hwn er hynny i gyd, nid yw ond y wlad yr ydym ni yn wyr deol ynddi, a bro ein alldudaeth ni, a mangre pechaduriaid, a glyn y gofid ar trueni, dyffryn wylofain ac amſer i edifeirwch a dagrau, a chwynfan: pa beth a wna efe yn y bywyd a ddaw, i'r rhai cyfiawn, i'w garedigion, yn amſer llawenydd, ar ddydd priodas ei fab, Datc. 19.7, Yr oedd yſtyried hyn yma yn beth crŷf gan S. Auſtin, yr hwn yn yr ymddiddan cyfrinachol rhwng ei enaid a Duw, a ddywedodd fel hyn, ô Arglwydd,In ſoliloquiis animae ad Deu. cap. 20. ſed iſtelib. non credit, eſſe Aug. os wytti yn rhoi cymmaint o ddoniau aneirif i'r corph gwael hwn eiddom ni, o'r ffurfafen, ac o'r awyr, ac o'r ddaiar, ac o'r môr, o'r goleuni a'r tywyllwch, o'r gwrês a'r cyſgod, o'r gwlith a'r cawodydd, o'r gwyntoedd a'r glawogydd, o'r adar a'r pyſgod, o'r anifeiliaid ac o'r coedydd, ac amlder y llyſiau, ac amryw blanhigion, a thrwy weinidogoeth dy holl greaduriaid: ô Arglwydd da, pa fath bethau a barottoaiſt ti i ni yn ein cartref nefol, lle y cawn dy weled di wyneb yn wyneb? Os wyti yn rhoi i ni bethau cymmaint yn ein carchardy ni, pa bethau a roi di i ni yn dy frenhinllys dy hun? Os wyti yn rhoi cymmaint o bethau yn y byd hwn i ddynion dà a drwg ynghyd, pa beth ſy gennyt ti wedi ei roi i gadw i'r rhai da yn vnig yn y byd a ddaw? Od oes cymmaint difyrrwch a llawenydd yn y dyddiau wylofain yma, pa fath lawenydd fydd ar ddydd y briodas? od oes cymmaint o bethau hyfryd yn ein carchardy ni, pa fath bethau, meddwch chwi, fydd i ni yn ein gwlad? Oh fy Arglwydd a'm Duw, Tydi ſydd Dduw mawr, a mawr yw amlder dy haeledd a'th ddaioni di. Ac fel nad oes diben ar dy fawredd, na rhifedi ar dy ddoethineb, na meſur ar dy haeledd: felly nid oes na diben na rhifedi, na meſur, ar dy daledigaethan ir rhai ſy'n dy garu di, ac yn ymladd troſot. Hynny a ddywaid S. Awſtin. Pſal. 31.19.

9. Ffordd arall i fwrw amcan ar y dedwyddwch yma, yw yſtyried yr addewidion mawr y mae Duw yn eu gwneuthur yn yr Scrythur lân, er anrhydeddu a gogoneddu dyn yn y bywyd a ddaw: Y Sawl a'm hanrhydeddo i medd Duw, mi a'i gogoneddaf ef, 1 Sam. 2. Ac y mae 'r prophwyd Dafydd megis yn cwyno fod Duw yn anrhydeddu ei garedigion yn gymmaint. Yr hyn y gallaſai efe gael achos mwy i'w ddywedyd pe buaſai efe byw yn amſer y Teſtament newydd, a chlywed addewid Chriſt, yr hwna grybwyllais am dano o'r blaen y cai ei weiſton ef eiſtedd i lawr i wledda, ac y byddai ynteu ei hun yn gweini, ac yn gwaſanaethu arnynt yn nheyrnas ei Dâd, Luc. 12. Pa ſynhwyr a all amgyffred a deall faint yw 'r anrhydedd yma? Ond etto fe ellir mewn rhan ei ddychymyg a bwrw amcan arno, wrth yr hyn a ddywaid ef, y cânthwy eiſtedd i farnu gyd ag ef, yn farnwyr, fel y dywaid S. Paul, nid yn vnig ar ddynion, ond hefyd ar yr Angylion, Mat. 19.28. 1 Cor. 6. Fe ellir bwrw amcan arno hefyd, wrth yr anrhydedd mawr iawn, y mae Duw ar amſeroedd yn ei rol i'w weiſion, ie yn y byd hwn: er eu bod hwy wedi eu goſod ynddo i'w diyſtyru, ac nid i'w hanrhydeddu. Beth am faint yr anrhydedd a'r parch a wnaeth efe i Abraham, ger bron cynnifer o frenhinoedd y ddaiar, Pharao, Abimelech, Melchizedec, a'r cyffelyb: Beth am yr anrhydedd a wnaeth efe i Foeſen ac i Aaron, yn wyneb Pharao, a'i holl lŷs, trwy'r arwyddion rhyfeddol a wnaethant hwy? Beth am yr anrhydedd rhagorol dros ben a wnaeth ef i'r gwr ſanctaidd Joſua pan fu iddo, 'wrth orchymmyn Joſua ac yngwydd ei holl lu beri i'r haul ac i'r lleuad ſefyll ynghanol y ffurfafen, y rhai yn hynny, fel y dywaid yr Scrythur an, a fuant vfydd i leferydd dŷn, Joſ. 10. Peth am yr anrhydedd a wnaeth efe i Eſai, yngwŷdd y brehhin Ezecias, pan wnaeth ef ir haul fyned yn ei ol ddeg o raddau yn y nef, Eſ. 38. Beth am yr annuydedd a wnaeth efe i Elias yngwydd Ahab annuwiol, pan roes efe yr nefoedd yn ei law ef, a goddef iddo ddywedyd na ſyrthiai na glaw na gwlith ar y ddainr tros ennyd o flynyddoedd, ond trwy air ei enau ef yn vnig? 1 Bren. 17. Beth am yr anrhydedd a wnaeth efe i Eliſaeus yngwydd Naaman y pendefig o Syria, yr hwn a iachàodd efe, a'i air yn vnig oddiwrth ei waban-glwyf: a'i eſgyrn ef, yn ôl ei farwolaeth, a gyfodaſant y marw i fyw, trwy gyffwrdd ahwy 'n vnig, 2 Bre. 5. ac 13.21. Yn ddiweddaf, i wneuthur pen ar ddwyn eſamplau yn hyn o beth, beth am yr anrhydedd godidog a wnaeth efe i holl Apoſtolion ei fab, fel y byddai i gynnifer ac y rhoent eu dwylo arnynt, gael eu hiachau oddiwith bob math ar wendid, fel y dywaid S. Luc. Ie, a mwy na hyn hefyd, fe wnai hyd yn oed gwregyſaù a napcynnau S. Paul yr vn peth: a mwy na hynny hefyd, cynnifer ac a ddaethant o fewn cyſgod Sainct Petr a iachêid o'i clefydau, Act. 5. Act. 19. Ond yw hwn yn anrhydedd mawr, ie yn y byd hwn! A fu erioed nac ymmerodr, na brenhin, na thwyſog, na gwr mawr, a allai ymffroſtio ddarfod iddo wneuthur y cyfryw barch i neb? Ac os gwnaeth Chriſt hynny, ie yn y byd hwn, i'w weiſion, ac ynteu yn dywedyd nad yw ei deyrnas ef o'r byd hwn: pa anrhydedd a dybygwn ni ei fod gantho ynghadw iddynt yn y byd a ddaw, lle bydd ei deyrnas ef, a lle y coronir ei holl weiſion ef megis brenhinoedd gydag ef? Jon. 18. 2 Tim. 4. Datc. 4.

10. Peth arall y mae 'r dyfeinwyr yn ei oſod ar lawr i ddangos ac i hyſpyſſu maint y dedwyddwch yma yn y nef: a hynny ydyw, bod yſtyried tri lle a appwyntiwyd i ddyn wrth ei greadigaeth. Y cyntaf yw croth ei fam, yr ail yw'r byd preſennol, a'r trydydd yw Caelum empyreum, y nef, yr hwn yw mangre dedwyddwch yn y fuchedd a ddaw. Weithian am y tri lle hyn, rhaid i ni gynnal y fath ragor gwahanredol rhyngddynt i gyd, (trwy bob rheſwm) ac a welwn ni yn eglur eu bod rhwng y ddau gyntaf. Felly, edrych beth yw y rhagor ſydd rhwng yr ail a'r cyntaf; yn yr vn meſur y bydd rhaid bod y rhagor rhwng y trydydd a'r ail, neu yn hytrach ychwaneg o lawer: gan nad yw'r holl ddaiar i gyd ond megis pwngc neu ditl bychan wrth y maint rhyfeddol ſydd yn y nefoedd. Wrth faint y rhagor yma gau hynny, y mae'n rhaid i ni ddywedyd, beth bynnag y mae 'r holl fyd yn ei ragori ar groth vn wraig, yr vn faint y mae mangre 'r dedwyddwch yn rhagori ar yr holl fyd yma, mewn tegwch, a hyfrydwch, a mawrhydi. A chymmaint ac y mae dyn ſy'n byw'n y byd, yn rhagori ar ddyn bach ynghroth ei fam, mewn nerth corphorol, a thegwch, a ſynhwyr, a deall, a dyſg, a gwybodaeth: hynny, a mwy o lawer y mae 'r Sainct yn y nef yn ei ragori ar ddynion y byd hwn, yn yr h ll bethau hyn, ac mewn llawer o bethau eraill hefyd. A chymmaint ac a fyddei o chwithdod gan ddyn ddychwelyd i groth ei fam; cymmaint a fyddei ar enaid wedi ei ogoneddu am ddychwelyd yn ei ol o'r nef i'r byd hwn. Hefyd nid yw'r naw mis bywyd ynghroth y fam cyn lleied wrth oes dyn yn y byd hwn, ac ydyw yr oes hwyaf ar y ddaiar wrth y bywyd tragywyddol yn y nef. Ac nid yw dallineb, ac anwybod, a thrueni arall dyn bach ynghroth ei fam, mewn vn modd i'w cyffelybu i ddallineb, ac anwybod, a thrueni arall dyn yn y bywyd hwn; wrth y goleuni, a'r wybodaeth eglur, a'r ddedwyddwch arall ſydd yn y fuchedd a ddaw. Fel y gellir wrth hyn hefyd wybod, peth amcan ar y defnydd yr ydym yn ſôn amdano.

11. Ond i yſtyried y peth yn neillduolach, mae 'n rhaid gwybod y bydd i'r gogoniant nefol hwn ddwy ran, y naill yn perthyn i'r enaid, a'r llall yn perthyn i'r corph. Yr hon ſydd yn perthyn i'r enaid, ſydd yn ſefyll ar weled Duw, fel y ddangoſir yn ol hyn. Yr hon a berthyn i'r corph, ſydd yn ſefyll ar y cyfnewidiad a'r gogoneddiad fydd ar ein cnawd ni, yn ôl yr adgyfodiad cyffredin, trwy'r hyn y gwiſg y corph llygredig yma eiddom ni, anllygredigaeth, fel y dywaid Sainct Paul, ac yr a o farwol yn anfarwol, 1 Cor. 15. Ein holl gnawd hwn eiddom ni, meddaf, yr hwn ſydd yr awrhon drallodus, a gorthrwm, a blin i'r enaid; yr hwn ſydd yr awrhon yn cael ei flino ag amryw aflwydd; yn hyrwym i lawer o gyfnewidiau, yn cael ei foleſtu a chynnifer o glefydau, wedi ei halogi a llawer o lygredigaethau, yn llawn o drueni ac adfyd aneirif; a wneir y pryd hynny yn ogoneddus, ac o'r fath berffeithiaf, i barhau byth, heb gyfnewid, ac i deyrnaſu gyda 'r enaid heb drangc heb orphen. Oblegid fe fydd wedi ei wared oddiwrth y trymder muſgrell yma ſydd yn bwys arno yn y byd hwn; ac oddiwrth bob math ar glefydau a gofidiau 'r bywyd hwn, ac oddiwrth bob trallod a thrafferth a berthyn i hynny, megis pechu, bwytta, yfed, cyſgu, a'r cyffelyb. Ac efe a oſodir mewn cyflwr hoyw odiaeth o iechyd nid adfeilia byth. Mor hoyw-wych fydd, ac y dyweid ein lachawdr Chriſt, Yn y dydd hwnnw y llewyrcha y rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tâd, Mat. 13.43. Dyma ymadrodd rhyfedd gan Griſt, ac yn neall dŷn, agos yn anghredadwy, y llewyrcha ein cyrph ni, wedi eu pydru, ac yr ant mor ddiſglair a'r haul, lle y bydd o'r gwrthwyneb, gyrph y rhai damnedig mor ddu, ac mor erchyll a'r budreddi. Felly hefyd, yr holl ſynhwyrau a gant wybod fod yn odidowgach ei grym hwy nag y gallai fod byth yn y byd hwn, fel y dangoſir yn ôl hyn, o herwydd fe fydd llawn pob rhan; a phob ſynhwyr a phob aelod, a phob cymmal, o gomffordd godidog, yr vn modd ac y poenir pob vn o honynt yn y rhai damnedig. Ac yma y dygaf eiriau Anſelmus, Cap. 27. am eu bod yn dangos y peth yma yn rhagorol, Yr holl gorph gogoneddus, medd efe, a lenwir a helaethrwydd o bob math ar ddyfyrrwch, y llygaid, y cluſtiau, y ffroenau, y genau, y dwylo, y gêg, yr yſgyfaint, y galon, y cylla, y cefn, yr eſgyrn, y mêr, a'r ymyſgaroedd eu hunain: a phob rhan o honynt a lenwir a'r fath annrhaethawl ddigrifwch a phereidd-dra, fel y gellir dywedyd yn ddigon gwir, Yr holl ddyn a lawn-ddigonir, a feddwir, a fwydir, a braſder tŷ Dduw; ac ag afon dy hyfrydwch y diodir ef: Canys gydâ'r Arglwydd y mae ffynnon y bywyd, ac yn ei oleuni ef y gwelwn oleuni, Pſal. 36.8, 9. Ac heb law hyn i gyd, y mae yn cael tragywyddoldeb, trwy'r hon y ſiccrheir ef, na bydd byth marw, ac na newid byth ei ddedwyddwch; yn ôl yr hyn a ddywaid yr Scrythur, Y cyfiawn a fydd byw byth. yr hyn yw vn o ragor-freiniau pennaf y corph gogoneddus; o herwydd trwy hyn y tynnir ymmaith bob gofal ac ofn, ac y ſymmudir oddiwrthym bob perygl ac enbydrwydd o gael na niweid na ſarhaed.

12. Ond bellach i ddyfod at y rhan honno o ddedwyddwch a berthyn i'r enaid, yr hon yw y rhan bennaf, mae'n rhaid i ni ddeall, er bod llawer o bethau yn dyfod ynghyd yn y dedwyddwch yma, i gyflawni ac i berffeithio 'r gwynfyd: etto nid yw ffynnon y cwbl ond vn peth yn vnig, a hynny a eilw 'r dyfeinwyr, viſio Dei beatifica, Cael gweled Duw, yr hyn ſydd yn ein gwneuthur ni yn ddedwydd. Haec ſola eſt ſummum bonum noſtrum, Li. de Trin. ca. 13. medd S. Awſtin, Cael gweled Duw yw 'n daioni pennaf ni a'n dedwyddwch. Yr hyn y mae Chriſt hefyd yn ei ddywedyd, pan yw efe yn dywedvd wrth ei. Dad. Hyn yw 'r bywyd tragywyddol, bod i ddyn dy adnabod di, yr vnig wir Dduw, a'r hwn a ddanfonaiſti, Jeſu Griſt. Joan. 17.3. Ac y mae S. Paul hefyd yn dangos mai Cael gweled Duw wyneb yn wyneb, yw ein dedwyddwch ni, a S. Ioan mai Cael gweled Duw megis y mae, 1 Cor. 13.12. 1 Io. 3.2. A'r rheſwm o hyn ydyw, am fod pob difyrrwch a bodlonrwydd yn y byd (y rhai nid ŷnt ond gwreichion a rhannau wedi eu danfon oddiwrth Dduw) yn gynnwyſedig oll yn Nuw ei hun, a hynny yn llawer perffeithi ••• a godidowgach nag y crewyd hwynt yn eu •• turiau eu hunain: megis hefyd y mae holl berffeithrwydd ei greaduriaid ef yn gyflawnach ynddo ef nag ynddynt hwy. Ac o hyn y canlyn bod ym mhwy bynnag ac a gynnhwyſer i gael gweled Duw, ac i ddyfod yn ei wydd ef, holl ddaioni a pherffeithrwydd creaduriaid y byd wedi eu cyſſylltu ynghyd, a'i preſentio iddo ef ar vnwaith. Megis pa beth bynnag ſydd hyfryd gan na'r corph na'r enaid, y mae efe y o yn ei fwynhau yn gwbl, wedi eu cylymmu ynghyd megis yn vn yſgub, ac y mae hynny â'i breſennoldeb yn ei orchfygu ef ym mhob rhan o'i enaid a'i gorph; megys nas gall efe na dychymmyg, na dymuno, na meddwl am lawenydd yn y byd, nad ydyw efe yn ei gael yn ei lawn berffeithrwydd: yno y mae yn cael pob gwybodaeth, pob doethineb, pob tegwch, pob cyfoeth, pob bonedd, pob daioni, pob dyfyrrwch, a phob peth heb law hynny ac ſydd yn haeddu na'i garu, na rhyfeddu wrtho, neu yn gweithio hyfrydwch a bodlonedd. Holl alluoedd y meddwl a lenwir a'r golygiad yma ar Dduw, a bod yn ei wydd ef, a'i fwynhau; holl ſynhwyrau 'r corph a ddigonir. Duw a fydd yn ddedwyddwch cyffredinol i w holl Sainct, yr hwn ſydd yn cynnwys ynddo bob math ar ddedwyddwch neillduol, heb drangc heb orphen, heb rifedi, heb na meidr, na meſur. Efe a fydd yn ddrych i'n llygaid ni, yn fuſig ac yn felyſ-gerdd i'n cluſtiau ni, yn fel i'n geneuau ni, yn balm hyfryd o'r pereiddiaf i'n haroglau ni: efe a fydd yn oleuni i'n deall ni, yn fodlonrwydd i'n hewyllys ni, yn bara tragywyddoldeb i'n cof ni. Ynddo ef y cawn ni fwynhau pob ymrafael fath ar amſeroedd ſydd yma yn hyfryd gennym ni, a holl degwch y creaduriaid ſydd yma yn ein llithio ac yn ein denu ni: a phob digrifwch a llawenydd ſydd yma yn ein bodloni ni. Wrth weled Duw, medd vn o'r Doctoriaid, y cawn ni wybod, y cawn ni garu, y cawn ni lawenychu, y cawn ni glodfori. Ni a gawn wybod hyd yn oed cyfrinachoedd a barnedigaethau Duw; y rhai ſydd eigion gorddyfnder diwaelod. Nia gawn wybod achoſion, a naturiau, a dechreuad, a gwreiddyn a chychwynfa a diwedd pob creadur. Ni a gawn garu yn anghyfartal,Hugo. lib. 4. de anima, cap. 15. ni a gawn garu Duw o herwydd yr aneirif o achoſion cariad a gawn eu gweled ynddo, a charu ein cyfeillon cymmaint a ni ein hunain, am y cawn ni weled fod Duw yn eu caru hwy yn gymmaint a ninau, a hynny am yr vn achos ac y mae efe yn ein caru ninnau. Ac o hyn y canlyn, y bydd ein llawenydd ni heb arno na meidr na meſur, Pſal. 36.8. am y cawn ni lawenydd neillduol am bob peth ac yr ydym ni yn ei garu yn Nuw, y rhai ſy aneirif; a hefyd am y cawn ni lawenychu o achos dedwyddwch pob vn o'n cyfeillion, yn gymmaint ac o achos yr eiddom ein hunain: ac wrth hynny ni a gawn cynnifer o fathau gwahanredol ar ddedwyddwch, ac a fyddo i ni o gyfeillion gwahanredol yn gyfrannogion o'r dedwyddwch hwnnw: a chan fod y rhai hynny yn aneirif, nid rhyfedd ddywedyd o Griſt, Dôs i mewn i lawenydd dy Arglwydd, ac nid Aed llawenydd dy Arglwyed i mewn i ti': oblegid nas gall vn galon ac a grewyd dderbyn cyflawnder a maint y llawenydd yma, Mat. 25.21, 23. O hyn y canlyn yn ddiweddaf, y cawn ni foliannu Duw heb na diben na diffygio, a hynny â'n holl galon â'n holl nerth, â'n holl alluoedd, â'n holl rannau, yn ôl yr hyn a ddyweid yr Scrythur lân, Gwyn fyd preſwylwyr dy dŷ di, O Arglwydd, yn waſtad i'th foliannant, byth bythoedd, Pſal. 84.4.

13. Am y gwynfydedig weled yma a'r Dduw, y mae 'r tâd duwiol S. Awſtin yn yſcrifennu fel hyn, Gwyn fŷd y rhai glan o galon, canys hwy a gant weled Duw, medd ein Iachawdr; wrth hynny,Tract. 4. in Ep. Ion. Mat. 5. y mae gweled Duw, frodyr anwyl, yn ein gwneuthur ni yn wynfydedig; y mae golwg, meddaf, yr hwn ni welodd llygad yn y byd yma, ac ni chlywodd cluſt, ac nid aeth i mewn i galon dŷn. Y mae golwg ſydd yn rhagori ar bob tegwch pethau bydol, megis aur, arian, coedydd, maeſydd, y môr, yr awyr, yr haul, y lleuad, y ſèr, yr Angylion: oblegid mai oddi wrth y golwg hwnnw y mae 'r holl bethau hyn yn cael eu tegwch, Ni a gawn ei weled ef wyneb yn wyneb, medd yr Apoſtol, ac a gawn ei adnabod ef, megis i'n hadwaenir ninnau, 1 Cor. 13.12. Ni a gawn adnabod gallu 'r Tâd,Aug. cap. 36. ſolilo que ni a gawn adnabod doethineb y Mâb, ni a gawn adnabod daioni yr Yſpryd glân, ni a gawn adnabod naturiaeth anghy frannol y fendigediccaf Drindod. A'r golwg yma ar wyneb Duw yw llawenydd yr Angylion, a'r holl Sainct yn y nef. Y golwg yma yw gwobr bywyd tragywyddol, hwn yw gôgoniant yr yſprydion bendigedig, a'i dyfyrrwch tragywyddol, a'i coron anrhydedd, a'i hynnill ar ddedwyddwch, a'i heſmwythyd cyfoethog, a'i lle tirion hyfryd, a'i llawenydd oddi fewn ac oddi allan, a'i duwiol baradwys, a'i Jeruſalem nefol, a'i dedwyddwch bywyd, a'i llawnder gwynfyd, a'i tragywyddol lawenydd, a'i tangnefedd Dduw yr hwn ſydd vwch law pob deall. Y golwg hwn ar Dduw yw llawn ddedwyddwch dyn, a'i hollawl ogoneddiad; ſef cael gweled yr hwn a wnaeth nef a daiar; cael gweled yr hwn a'th wnaeth, ac a'th brynodd, ac a'th ogoneddodd di. Oblegid wrth ei weled, ti a'i molienni, Oblegid efe yw tref-tadaeth ei bobl; efe yw perchennogaeth eu dedwyddyd hwy; efe yw'r gwobr y maent yn diſgwyl am dano, Myfi yw dy wobr mawr iawn, medd efe wrth Abraham, Gen. 15. O Arglwydd, yr wyti yn fawr, ac am hynny nid rhyfedd by fod di yn wobr mawr. Dy weled di gan hynny, a'th fwynhau, yw 'n holl gyflog ni, a'n holl wobr, a'n holl lawenydd a'n dedwyddwch, yr ydym yn diſgwyl am dano, gan dda fod i ti ddywedyd, dyd, Hyn yw 'r bywyd tragywyddol, dy weled a'th adnabod di yr vnig wir Dduw, a'r hwn a ddanfonaiſti Jeſu Griſt. Joan. 17.3.

14. Gan ddarfod bellach ddangos dwy ran gyffredinol y dedwyddwch nefol, y naill yn perthyn i'r enaid, a'r llall i'r corph; nid yw anhawdd bwrw amcan pa ragorol lawenydd a bair pob vn o'r ddwy ran, pan gyſſyllter hwy ynghyd, pan ddêl bendigedig ddiwrnod ein gogoneddiad ni. Oh y llawenydd ſydd vwch ben pob llawenydd, yn rhagori ar bob llawenydd, a heb yr hwn nid oes dim llawenydd; pa bryd y caf fi fyned i mewn i ti,Soli. ca. 36. medd S. Awſtin, Pa bryd y caf dy fwynhau di, i gael gweled Duw, yr hwn ſydd yn trigo ynot ti? Oh dragywyddol deyrnas! Oh deyrnas pob tragywyddoldeb: Oh oleuni heb ddiwedd! Oh dangnhefedd Dduw yr hwn ſydd vwch law pob deall! lle mae eneidiau 'r Sainct yn gorphywys gyda thi: a llawenydd tragywyddol ſydd ar eu pennau; y maent wedi goddiwes llawenyd a hyfrydwch, a phob gofid a griddfan a ffoawdd ymaith oddiwrthynt, Eſa. 35.10. & 51.11. Oh mor ogoneddus o deyrnas yw 'r eiddot ti, Arglwydd, yn yr hon y mae 'r holl Sainct yn teyrnaſu gyda thi, wedi eu gwiſgo â goleuni fel dilledyn, ac ar eu pennau goronau o aur coeth, Pſal. 104.2. Pſal. 21.3. Oh deyrnas tragywyddol wynfyd, lle 'r wyti, ô Arglwydd, gobaith yr holl Sainct, a choron a thalaith eu gogoniant tragywyddol, yn eu llawenychu hwy o amgylch, ath welediad bendigedig. Yn y deyrnas yma eiddot ti, y mae llawenydd anfeidrol, a digrifwch heb brudd-der, ac iechyd heb driſtwch, a bywyd heb lafur, a goleuni heb dywyllwch, a dedwyddwch heb dawl, a phob daioni heb ddim drwg: lle y mae ieuengtid yn ei odau, heb heneiddio byth, bywyd heb ddiben, tegwch heb ddiflannu byth, cariad heb oeri byth, iechyd heb ballu byth, llawenydd heb beidio byth. Ni chlywir byth oddiwrth driſtwch, lle ni chlywir cwyno byth, lle ni welir byth achos prudd-der, lle nid rhaid ofni afrwydd-deb byth; Am eu bod hwy yn dy feddiannu di, o Arglwydd, yr hwn wyt berffeithrwydd eu dedwyddwch hwy.

15. Ped yſtyriem ni 'r pethau hyn, fel y gwnai 'r gwr Duwiol yma, ac eraill o'i gyffelyb, diammau y cynneuai ac yr ennynnai ynom ni fwy o gariad i'r dedwyddwch hwn a barottowyd i ni, nag ſydd ynom; ac felly ni a ymdrechem yn well nag yr ydym i geiſio ei ynnill. Ac fel y bo i ti glywed mwy o fyw ynot, ddarllenydd hawddgar, ynghylch hyn o beth, yſtyria gyda myfi, Pa ddiwrnod llawen fydd hwnnw yn dy dŷ di, wedi darfod i i fyw mewn ofn Duw, a'i waſanaethu ef hyd ddiw •• d dy bererindod; a chael dyfod o'r diwedd, trwy gyfrwng angeu, i ymadael a'th drueni ac a'th lafur a meddiannu anfarwoldeb: ac yn y traidd ar ymadawiad hwnnw, pan fo eraill yn dechreu ofni, tydi a gai ddyrchafu dy ben mewn gobaith, fel y mae Chriſt yn addaw, am fod amſer dy ymwared a'th iechydwriaeth di yn neſau, Luc. 21.28. Dyweid i mi pa fath ddiwrnod, dybygidi, fydd hwnnw, pan fo dy enaid di yn myned allan o garchar, ac yn cael ei gyrchu a'i ddwyn i babell nef, ac yn cael ei dderbyn yno gyda minteioedd a byddinoedd anrhydeddus y lle hwnnw: gydâ 'r holl yſprydion gwynfydedig hynny y mae ſon am danynt yn yr Scrythur lan, ſef yw y rhai hynny, tywyſogaethau, a galluoedd, a nerthoedd, ac arglwyddiaethau, a thronau, ac Angylion, ac archangylion, a Cherubiaid a Seraphiaid, a hefyd gyda ſanctaidd Apoſtolion a diſgyblion Chriſt, a'r padrieirch a'r prophwydi, a'r merthyron, a'r gwirioniaid, a chonſſeſſoriaid, a holl Sainct Duw; y rhai a orfoleddant i gyd oll wrth dy goroni di a'th ogoneddu. Pa lawenydd a fydd i'th enaid di y dythwn hwnnw, pan breſentier ef yngwydd yr holl rai vchel-ſwydd hynny, ger bron gorſeddfaingc a mawrhydi y fendigedig Drindod, a dangos ac yſpyſſu dy holl weithredoedd da di, a'th lafur a ddioddefaiſt er cariad ar Dduw, ac er mwyn ei waſanaeth ef? Pan oſoder ar lawr yn y ſenedd a'r gymmanfa anrhydeddus honno, dy holl weithredoedd da di, a'th holl boen a gymmeraiſt yn dy alwedigaeth, a'th holl eluſeni, a'th holl weddiau, a'th holl ymprydiau, a'th holl ddiniweidrwydd bywyd, a'th holl ddioddefgarwch wrth gael cam, a'th holl ddianwadalwch yn dy adfyd, a'th holl gymmedrolder, a'th gymmeſurwydd mewn bwyd a diod, a holl rinweddau da dy holl fywyd? Pan gyfrifer hwy oll, meddaf, yno, a'i canmol oll, a'i gobrwyaw oll, oni chai di weled grym a llês buchedd dda rinweddol? Oni chyfaddefi di'r pryd hynny fod gwaſanaeth Duw yn ynnillfawr ac yn anrhydeddus? Oni byddi di lawen yr amſer hwnnw, a bendithio 'r awr y rhoiſt dy fryd gyntaf ar ymadael a gwaſanaeth y byd, a myned i waſanaethu Duw? Oni thybygi di dy fod yn rhwymedig iawn i'r neb a'th gynghorodd ac a'th annogodd di i wneuthur hynny? gwnei yn wir.

16. Ac etto mwy na hyn hefyd, pan fych di mor agos i'th ymadawiad oddi yma, ac yſtyried i ba fath borthladd diogelwch y daethoſt, ac edrych yn dy ôl ar y peryglon y daethoſt heibio iddynt, y rhai y mae eraill etto ynddynt; fe fydd i ti achos mwy o lawer i lawenychu. Oblegid ti a gai weled yn amlwg, mor aneirif o amſerau y gallaſai ddarfod am danati yn y daith honno, oni bai ddarfod i Dduw fod a'i law droſot ti yn ddiwyd iawn. Ti a gai weled y peryglon y mae eraill ynddynt, yr angeu a'r ddamnedigaeth y mae llawer o'th garedigion a'th gydnabod di wedi ſyrthio iddynt, y tragywyddol boenau vffernol a haeddodd llawer a fyddei arfer o chwerthin ac o fod yn llawen gyd â thi yn y byd. Yr hyn i gyd a chwanega ddedwyddwch dy fendigedig gyflwr di. Ac weithian o'th ran di dy hun, ti a elli fod yn ddiogel, yr wyt ti allan o bob math ar berygl yn oes oeſoedd. Nid rhaid mwy weithian wrth nac ofni, na gwilied, na llafurio, na gofalu. Di a elli fwrw heibio dy holl arfau bellach, yn well nag y gallai meibion Iſrael, wedi iddynt ynnill gwlâd yr addewid. Oblegid nid oes mwy vn gelyn i'th gyrchu di, ac i oſod arnat: nid oes mwy vn ſarph ddichellgar i'th dwyllo di: y mae pob peth yn heddychol, y mae pob peth yn eſmwythdra, pob peth yn llawenydd, pob peth yn ddiogelwch. Nid rhaid i S. Paul mwy lafurio yngweinidogaeth y gair, nac ymprydio, na gwilio, na choſpi ei gorph. Fe all yr hên Ierom dduwiol bellach beidio a'i boeni ei hun ddydd a nôs i geiſio gorchfygu ei elyn yſprydol.Hieron. Ep. 22. ad Euſt. Dy vnig waith di a'th orchwyl weithian fydd llawenychu, a gorfoleddu, a chanu Hallelujah i'r oen a'th ddug di i'r dedwyddwch hwnnw, ac a'th geidw di yntho, byth ac yn dragywydd. Pa gomffordd fydd cael gweled yr oen hwnnw yn eiſtedd ar orſeddfaingc ei fawrhydi? Os daeth y doethion o'r dwyrain cyn belled ffordd i'w weled ef yn y preſeb, a bod mor llawen ganthynt ei weled ef yno, pa beth fydd cael ei weled ef yn eiſtedd yn ei ogoniant? Os llammodd Ioan fedyddiwr wrth ei breſennoldeb ef ynghroth ei fam, pa beth a wna ei breſennoldeb ef yn ei frenhinol a'i dragywyddol deyrnas? Y mae yn rhagori ar bob gogoniant arall y mae 'r Sainct yn ei gael yn y nef, Medd S. Awſtin, De Sanct. Ser. 87. gael o honynt eu cynnwys i gael gweled wyneb gogoneddus Chriſt, a derbyn pelydr gogoniant oddiwith ddiſgleirdeb ei fawredd ef. A phe bai raid i ni ddioddef poenau bob dydd, ie poenau vffern tros amſer, er mwyn cael gweled Chriſt, a chael ein cyſſylltu mewn gogoniant at rifedi 'r Sainct, ni byddei hynny ddim wrth y tal a geid am dano. O na wnaem ni gyfrif cymmaint o hyn yma, ac a wnai 'r gwr ſanctaidd hwnnw; ni byddem ni byw fel yr ydym, ac ni chollem ni mor gwobr hwnnw er mwyn y fath goegoethau ac y mae y rhan fwyaf o ddynion yn ei golli o'i plegid.

17. Ond i fyned rhagom etto ymmhellch i yſtyried y peth hyn, meddwl heb law hyn i gyd, pa lawenydd ſydd gan dy enaid di y dwthwn hwnnw, gael cyfarfod a'i holl dduwiol garedigion yn y nef, a thad ac a mam, a brodyr ac a chwiorydd, a gwraig ac a gwr, ag athraw, ac a diſgyblion, a chymmydogion ac a chyfneſeifiaid, a chydtylwyth ac a chydnabod; a chael y croeſaw, a'r llawenydd, a'r mwyn ymgofleidio, a fydd yno, o'r hyn, fel y dy waid S. Cyprian, y bydd llawenydd annrhaethawl. Rhoer at hynny, y beunyddol wledda,Cyp. lib. de immortalit. a'r gorfoledd anghyfartal a fydd yno, pan ddelo brodyr a chwiorydd newydd i mewn, y rhai ſy 'n dyfod yno o amſer i amſer, a chanddynt anrhaith eu gelynion y cawſant y gorfod arnynt yn y byd hwn. Ond pa olwg comfforddus fydd gweled llenwi eiſteddleoedd yr angylion a gwympodd, a gwyr ac a gwragedd, o ddydd i ddydd! a gweled goſod coronau gogoniant ar eu pennau hwy, a hynny mewn amryw foddion, yn ôl eu hamryw orfodaeth hwynt: vn am ferthyrdod a chyffeſſu enw Chriſt, yn erbyn yr erlidiwr: vn arall am ei ddiweirdeb yn y cnawd: vn arall am dlodi a goſtyngeiddrwydd, yn erbyn y byd: vn arall am lawer goruchafia ••• , yn erbyn y cythraul, 2 Tim. 2.12. Datc. 2. & 3. & 4. Yno y caiff gogoneddus fintai yr Apoſtolion, (medd Cyprian ſanctaidd) yno y caiff nifeiri llawen y prophwydi, yno y caiff aneirif liaws y merthyron dderbyn coronau am eu marwoluethau a'i dioddefaint. Yno y caiff y gorfoleddus wyryfon, a orchfygaſant chwant y cnawd, drwy nerth eu hymgynnal; yno y caiff yr eluſenwyr da, a borthaſant y tlawd yn haelionus, ac a droſglwyddaſant eu golud bydol (yn ôl gorchymmyn Duw) i dryſordy 'r nef; dderbyn eu dyledus a'i priodol wobrau. Oh fel yr ymddengys rhinwedd dda yn y dydd hwnnw! Oh mor fodlon fydd gweithredoedd da gan y rhai a'i gwnaeth! Ac ym mhlith yr holl lawenydd a'r bodlonrwydd hwnnw, nid lleiaf fydd gweled yr eneidiau truain a ddêl yno yn ddiſymmwth, allan o drueni a gofidiau 'r bywyd hwn, yn ſefyll yn ſynn, ac megys heb wybod oddiwrthynt eu hunain, gan y gyfnewyd yma, a'r anrhydedd diſymmwth a wneir iddynt. Pe bai ddyn tlawd a fai allan o'i ffordd, yn crwydro ei hunan ar y mynyddoedd ynghanol noſwaith dywyll dymheſtlog, ym mhell oddiwrth gwmpeini, mewn eiſiau am arian, a'r glaw yn ei guro, a'i taranau yn ei ddychrynu, a'r oerfel yn ei fythu, a chwedi blino gan ei daith, ac agos yn dydd u gan newyn a ſyched, ac agos i anobeitheio gan liaws gofidiau; pe bai 'r cyfryw ddyn, meddaf, yn ddiſymmwth, ar darawiad llygad, yn cael ei oſod mewn palas teg, helaeth, cyfoethog, yn llawn o bob math ar oleuadau diſglair, a thân gwreſog, a aroglau peraidd, a bwydydd dainteiddiol, a gwelyau eſmwythglyd, a difyr felyſ gerdd, a gwiſgoedd dillynion a chwmpeini anrhydeddus, a'r cwbl wedi ei barottoi iddo ef, ac yn diſgwyl am ei ddyfodiad, i waſanaethu arno, i'w anrhydeddu, ac i'w enneinio ac i'w goroni yn frenhin tros byth; pa beth a wnai 'r dŷn tlawd hwn, meddwch chwi? pa fodd yr edrychai ef? pa beth a fedrai efe ei ddywedyd? yr wyf yn tybiaid yn ſiccr na fedrai efe ddywedyd dim, ond yn hyttrach wylo yn ddiſtaw o wir lawenydd, gan na allai ei galon ef amgyffred diſymmwth ac anfeidrol faint y llawenydd hwnnw.

18. A hynny i gyd, a llawer mwy a fydd i'r eneidiau llwyr dded-wydd a ddel i'r nef. Canys ni bu erioed na'r tawel-oer gyſgod mor hyfryd ar ddydd teſog, poeth, lloſgadwy; na'r ffynnon loyw-ddwfr i'r ymdeithydd tlawd ynghanol ei ddygn ſyched ganol dydd o haf; na gorphywys ar wely man-blu eſmwyth i'r gwâs lluddedig, y nôs ar ôl ei waith; nag a fydd yr eſmwythdra yma yn y nef, i'r enaid blinedig a ddêl yno. Oh na fedrem ni ddeall hyn, na fedrem brintio hyn yn ein calonnau, frawd anwyl; a ddilynem ni goeg-bethau'r byd fel yr ydym? a eſgeuluſem ni'r pethau hyn fel yr ydym? Yn ſiccr y dŷb wan wael ſydd gennym am y llawenydd yma, ſydd yn peri i ni fod mor oer yn ei geiſio. Oblegid pe gwnaem ni y fath bris a chyfrif ar y tlws hwn, ac a wnai marſiandwyr eraill o'n blaen ni, y rhai oedd gyfarwyddach a doethach nâ nyni; ni a gynnygiem am dano fel y cynnygiaſant hwythau, neu o'r hyn lleiaf ni byddem ni mor eſgeulus a gadael i fyned heibio y peth yr oeddynt hwy mor ofalus yn ymgais am dano. Y mae'r Apoſtol yn dywedyd am Griſt, efe a oſododd y llawenydd ger ei fron, ac a ddioddefodd y groes, Heb. 12.2. Dyna gyfrif mawr yr oedd efe yn ei wneuthur o'r peth, pan brynai ef mor brid. Ond pa gyngor y mae efe yn ei roi i eraill ynghylch yr vn peth? Dim ond hyn, Dôs a gwerth gymmaint oll ac a feddych, a phryn y tryſſor yma, Mat. 13.45. A pha beth y mae S. Paul yn ei ddywedyd am dano ei hun, ond ei fod efe yn cyfrif pob peth yn dom, wrth geiſio prynu 'r tlws yma, Phil. 3.8. Yſcolhaig S. Paul, Ignatius ynteu, beth y mae efe yn ei gynnyg am dano? Gwarandewch ei eiriau ef ei hun. Deued tân, a chrôg, a dannedd anifeiliaid, a dryllio fy eſgyrn, a chwartorio fy aelodau,Hieron in catalogo. ac yſſigo fy nghorph, a holl boenau vffern arnafi i gyd ar vnwaith, os câf fi fwynhau y tryſſor nefol yma.Ser. 31. de Sanctis. A S. Awſtin yr eſgob duwiol, beth y mae ynteu yn ei gynnyg am dano? Chwi a glywſoch o'r blaen y byddai efe bodlon i ddioddef poenau bob dydd, hyd yn oed poenau vffern, er mwyn ynnill y llawenydd hwn. O Arglwydd Dduw, pa ragor oedd rhwng y Sainct duwiol hyn a nyni? Mor wrthwyneb oedd eu tyb a'i barn hwy i nyni yn y pethau hyn! Pwy bellach a ryfedda fod Duw yn barnu doethineb y byd hwn yn ffolineb, a bod y byd yn cyfrif doethineb Duw yn ffolineb? O feibion dynion, medd y prophwyd, pa hŷd yr hoffwch wegi, ac yr argeiſiwch gelwydd? Pſal. 4.2. Pa ham yr ydych yn ymgofleido â gwelltach, ac yn diyſtyru aur? Ie gwelltach, meddaf ac vs gwael, a chyfryw ac a ennyn dân yn eich tai chwi o'r diwedd, ac a fydd yn gwymp ac yn golledigaeth tragywyddol i chwi.

19. Ond bellach i dynnu at y diben yn y peth hyn, er bod y peth ei hun yn anniben; yſtyried Chriſtion i ba beth y ganwyd ef, a pha beth y mae efe yn boſſibl i'w gael os efe a'i mynn. Efe a anwyd yn etifedd i deyrnas nef, teyrnas heb ddiwedd arni, teyrnas heb feſur arni, teyrnas dedwyddwch, teyrnas Duw ei hun: efe a aned i fod yn gydetifedd ag Jeſu Griſt Mab Duw, i deyrnaſu gyd ag ef, i orfoleddu gyd ag ef, i eiſtedd mewn barn a mawrhydi gyd ag ef, i farnu Angylion nef gyd ag ef. Pa ogoniant mwy a ellid meddwl am dano, oni bai gael bod yn Dduw ei hun? Fe a dywelltir am ei ben ef yr holl lawenydd, a'r holl gyfoeth a gynnhwyſir yn y nef. Ac i wneuthur yr anrhydedd hwn etto yn fwy, yr Oen gogoneddus ſydd yn eiſtedd ar orſeddfaingc y mawredd, a'i lygaid fel fflam dân, a'i draed fel pres coeth, a'i wyneb yn diſgleirio yn oleuach nâ'r maen gwerthfawr, yr hwn y daw taranau a mellt o'i orſeddfaingc byth bythoedd, yr hwn y rhydd y pedwar henuriad ar hugain eu coronau i lawr ger ei fron; yr oen hwn, meddaf, a gyfyd, ac a'i hanrhydedda ef a'i holl waſanaeth, Luc. 12.37. Pwy ni wna gyfrif o'r etifeddiaeth frenhinol hon? Yn enwedig gan fod i ni yr awrhon amſer mor gyfaddas i'w cheiſio ac i'w chael hi trwy ddawn ein prynedigaeth, a thrwy'r grâs a bwrcaſwyd i ni wrth ein prynu.

20. Dy aid i mi bellach ddarllennydd hawddgar, pa ham na dderbyni di y cynnyg yma y mae efe yn ei wneuthur i ti? Oni wnai di gyfrif o'r deyrnas yma eiddo ef? Pa ham na phryni di y gogoniant yma gantho ef er cyn lleied o boen ac y mae efe yn ei ofyn gennyti? Yr wyf yn dy gynghori di, medd Chriſt, i brynu gennyfi aur wedi ei buro trwy dân, fel i'th gyfoethoger, Datc. 3.18. Pa ham na chanlyni ei gyngor ef, frawd anwyl, ac ynteu yn gyngor marſiandwr nid oes yn ei fryd mo'th dwyllo di? Nid oes dim mwy gofidus gan ein Iachawdr Chriſt, na bod dynion yn ceiſio trwy gymmaint o boen brynnu gwêllt yn yr Aipht, lle y gwerthai efe iddynt aur pûr yn well newid; a'i bod yn prynu dwfr y pwll, â mwy o boen nag a ofynnai efe am ddeg cymmaint o loyw ddwfr allan o'r ffynnon ei hun. Nid oes gwr o'r annuwiolaf yn y byd, nad yw yn cymmeryd mwy o boen yn ynnill vffern, fel y dangoſir yn ôl hyn, nag y mae 'r mwyaf ei boen o waſanaethwyr Duw yn ei gymmeryd i geiſio ynnill nef.

21. Ond na chanlyn di mo'i ffolineb hwy fy mrawd anwyl, oblegid ti a gei eu gweled hwy yn dioddef yn dôſt am hynny ryw ddiwrnod, pan fo dy galon di yn ddigon llawen nad oes i ti gyfran yn y byd gydâ hwynt. Elont hwy 'n awr a threuliant eu hamſer mewn oferedd, a digrifwch, a difyrrwch y byd. Adailadant balaſſau, prynant ſwyddau a breiniau, a chwanegant y naill ddarn o dir at y llall: gwibiont ar ôl goruchafiaeth ac anrhydedd, ac adeiladant geſtyll yn yr awyr: fe ddaw 'r diwrnod, os coeli di Griſt ei hun, pan fo i ti ychydig achos i wynfydu ac i gynfigennu wrth eu dedwyddyd hwy. Luc. 6.25. Os hwy a chwedleuant yn wael am ogoniant a chyfoeth y Sainct yn y nef, heb wneuthur cyfrif yn y byd o'r rhai hynny wrth yr eiddynt eu hunain, ond eu diyſtyru am na chyfrifir difyrrwch cnawdol yn eu myſg; na wna di fawr gyfrif o'i geiriau hwy, am nad yw 'r dyn anianol yn derbyn nag yn deall y pethau ſy o yſpryd Duw, 1 Cor. 2.14. Pettai eu meiſtr yn addo i gephylau wledd fawr, ni fedrent hwy feddwl am well gwledd na chael eu gwala o ebran, o ŷd a dwfr; am nad ydynt hwy yn adnabod ſeigiau gwell na 'r rhai hynny: felly y gwyr hyn, am nad ydynt hwy gydnabyddus ond a budr-bwll eu cnawdol ddyfyrrwch eu hun, ni fedrant hwy ddyrchafu mo'i meddyliau at ddim a fo vwch na hynny. Ond mi a ddangoſais i ti o'r blaen, ddarllennydd tirion, ryw ffyrdd i yſtyried ac i feddwl am bethau a fo mwy, er bod yn ddir i ni, fel i'th rybuddiais yn fynych, gyfaddef gyda S. Paul, na all calon dŷn na deall na meddwl y rhan leiaf o honynt: ac nid yw anghyffelyb mai o'r achos hynny y gwaharddwyd i S. Paul adrodd y pethau a welſai ac a glywſai, pan gymmerwyd ef i fynu yn rhyfeddol i'r drydedd nef. 1 Cor. 2.9. 2 Cor. 12.

22. I ddibennu weithiau, y mae 'r gamp a'r gyngwyſtl yma wedi ei goſod i, fynu i'r rhai a redo, fel y dywaid S. Paul, ac ni choronir neb, ond yn vnig y rhai a ymdrecho, fel y mae 'r vn Apoſtol yn dyſgu. 1 Cor. 9.24. 2 Tim. 2.4. Nid pwy bynnag a ddywedo wrth Griſt, Arglwydd, Arglwydd a â i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn ſydd yn gwneuthur ewyllys ei Dâd ef yr hwn ſydd yn y nefoedd, Mat. 7.21. Er bod y deyrnas yma eiddo Chriſt wedi ei goſod o flaen pawb, etto ni chaiff pob dyn ddyfod i deyrnaſu gyd a Chriſt, ond yn vnig y rhai a fo bodlon i ddioddef gyda Chriſt. Dy ran di gan hynny yw eiſtedd i lawr, ac yſtyried yn ôl cyngor dy lachawdwr, pa beth a w ei, a oes gennyti cymmaint o arian yſprydol, ac a fo ddigon i adeiladu 'r twr hwn, ac i fyned i'r rhyfel hon, ai nad oes: hynny ydyw, a oes gennyti ynot cymmaint o ewyllys da, a gwroliaeth ſanctaidd, a chlywed arnat ddioddef poen gyda Chriſt (os poen y gelwir hynny, ac ynteu yn hyttrach yn hyfrydwch) fel y gallech di felly deyrnaſu gyd ag ef yn ei deyrnas, Luc. 14.27, 28. Hyn yw'r Queſtiwn, ac dyma holl derfyn y peth, ac at hyn y perthyn pob peth ac a ddywedpwyd yn y llyfr hwn o'r blaen, pa vn bynnac a'i am dy ddiwedd neillduol di, ai am fawrhydi, a haelioni, a chyfiawnder Duw; ac am y cyfrif a ofyn efe gennyt ti; a hefyd am y goſpedigaeth a'r taledigaeth ſy wedi eu rhoi i gadw i ti: Fy amcan; meddaf, yn hyn i gyd, yw ceiſio peri i ti feſuro y naill ran, ar llall hefyd, ac felly rhoi dy fryd ar edrych pa beth a wnait, ac na ollyngyt mo'th amſer heibio mewn diofal eſgeuluſdra, fel y gwna llawer heb ganfod byth mo'i hamryfuſedd a'i camſynnied, hyd oni byddo rhyhwyr ei wellhâu.

23. Er cariad ar Dduw gan hynny, frawd anwyl, ac er y cariad ſy gennyt i'th enaid dy hun, yſgwyd ymaith y diofalwch peryglus yma, yr hwn y mae cig a gwaed yn arfer o ſuo i ddynion i gyſgu ynddo: a dôd gwbl o'th fryd, o ddifrif dy galon, ar edrych am dy enaid, erbyn y fuchedd a ddaw. Cofia yn fynych y dywediad gwiw hwnnw, Hoc momentum, unde pendet aeternitas, Mynudyn a moment o amſer yw 'r byd hwn, etto arno ef y ſaif holl dragywyddoldeb bywyd ac angeu 'r byd a ddaw. Onid ydyw ond mynudyn, ac os ydyw fynudyn o gymmaint pwys, pa fodd y mae dynion y byd yn ei ollwng heibio mor ddiofal ac y maent.

24. Mi a allaſwn yma ddwyn aneirif o reſymmau ac yſtyriaethau i gynnhyrfu dynion i roi eu bryd yn gwbl ar waſanaethu Duw; ac yn ſiccr ni by ddei vn llyfr o'r mwyaf ddigon i gynnwys cymmaint ac a ellid ei ddywedyd am y peth hyn. Oblegid nid yw 'r holl greaduriaid ſy tan y nef, ie yn y nef ei hun, ac yn vffern hefyd; nid yw 'r cwbl, meddaf, o'r cyntaf hyd y diweddaf, ond megis rheſymmau i annog ac i berſwadio dyn i hynny; nid yw 'r cwbl ond megis llyfrau a phregethau, a'r cwbl yn pregethu ac yn llefain (rhai drwy eu coſpedigaeth, rhai drwy eu gogoniant, rhai drwy eu tegwch, a'r cwbl drwy eu creedigaeth a'i gwneuthuriad) y dylem ni, yn ddioed ac yn ddiohir, roi ein bryd ar waſanaethu Duw; ac nad yw pob peth arall amgen nâ gwaſanaethu ein gwneuthurwr a'n prynwr, ond oferedd oll, ac ynfydrwydd oll, ac anwiredd oll, a thrueni oll. Ond etto er hynny, fel y dywedais, mi a dybiais yn dda ddethol yr ychydig bethau hyn a oſodwyd i lawr, i yſtyried arnynt, megis y pethau pennaf ym mhlith y llaill, a allai weithio ynghalon gwir Griſtion. Ac onis gall y rhai hyn weithio ynot ti, ddarllennydd hynaws, nid oes fawr obaith y gwnai ddim arall i ti mor llês. Ac am hynny, yma y diweddaf y rhan hon, ac a adawaf ychydig bethau etto i'w dywedyd yn yr ail rhan, er mwyn tynnu ymmaith y cyfryw rwyſtrau, ac y mae ein gwrthwynebwr yſprydol yn arfer o'i goſod yn erbyn y gwaith da yma, megis yn erbyn y cam cyntaf o'n lechydwriaeth ni. Ein Harglwydd Dduw, a'n Iachawdr Ieſu Griſt, yr hwn a fu fodlon i dalu ei waed ei hun, i ni; a roddo i ni ei râs, i wneuthur y fath gyfrif o honi ac y mae pwys y peth ei hun yn ei ofyn, ac na bo i ni trwy eſgeuluſdra, golli ein cyfran o honi. Amen.

YR AIL RHAN O'R LLYFR HWN.
PENNOD. I. Am y rhwyſtrau ſydd yn lleſtair i ddynion roi eu bryd ar waſanaethu Duw, ac yn gyntaf, am yr anhawſder a'r caledi a dybygir eu bod mewn buchedd dduwiol.

ER maint o reſymmau ac o yſtyriaethau a oſodwyd i lawr o'r blaen, i geiſio dwyn, a denu dynion i rôi eu bryd ar beth mor anghenrheidiol ac ydyw gwaſanaethu Duw; etto y mae llawer o Griſtianogion yn y byd, y rhai y mae eu calonnau naill a'i wedi eu maglu gan ddyfyrrwch y bywyd hwn, ai gwedi eu rhoi o Dduw i fynu i feddwl anghymmeradwy, nad ymroant hwy vn gronyn i'r cais a'r cyrch a roddwyd arnynt; ond eu dangos eu hunain yn galettach na'r Adamant, ac nid yn vnig gwrthwynebu a diyſtyru 'r cwbl, ond gydâ hynny chwilio am eſcuſodion dros eu diogi a'i hannuwio deb, a dwyn rheſymau troſtynt, i'w colledigaeth eu hunain. Rheſymmau yr wyf yn eu galw hwy, fel y gelwir hwy yn gyffredin, er nad oes yn ſiccr vn peth mwy yn erbyn rheſwm na bod i ddyn fyned yn elyn i'w enaid ei hun, fel y mae 'r Scrythur lân yn dywedyd fod pechaduriaid anhydyn, Dihar. 8.36. Ond etto er hynny, mae ganddynt eu heſcuſodion: a'r cyntaf a'r pennaf o'r cwbl ydyw, bod buchedd dduwiol yn boenus ac yn galed, ac am hynny na allant hwy ddioddef ei chanlyn: yn enwedig y rhai a dducpwyd i fynu, yn dyner ac yn fwythus, ac ni buant erioed gynnefin a'r cyfryw arwder, ac y tybiant ein bod ni yn ei ofyn ar eu dwylo hwy. Ac y mae hyn yn rhwyſtr mawr, helaeth, cyffredinol, ac yn attal llawer iawn oddiwrth y moddion fydd iddynt i ymchwelyd at Dduw, ac am hynny y mae'n rhaid atteb hynny yn helaeth yn y fan hon.

2. Yn gyntaf gan hynny, pe rhôn a bod ffordd buchedd dduwiol mor galed mewn gwirionedd, ac y mae'r gelyn yn peri i lawer dybied ei bod hi; etto mi a allwn ddywedyd yn hydda, gydâ S. Ioan aur-eneu,Chryſ. lib. de compunct. cordis. gan fod y gwobr mor fawr, ac mor anfeidrol ac y dangoſaſom eiſus, na ddylid cyfrif yn fawr boen yn y byd a gymmerid i ddyfod o hyd iddo. Drachefn, mi a allwn ddywedyd gyda S. Awſtin dduwiol,Hom 16. ex So. gan ein bod ni beunydd yn y byd hwn yn cymmeryd poen fawr i ochel gwrthwyneb bychan, megis clefyd, carchar, colled am dda, a'r cyffelyb: pa boen a ddylem ni ei gwrthod i geiſio gochel tragywyddoldeb tân vffern, a grybwyllwyd am dano or blaen? Y cyntaf o'r pethau hyn y mae S. Paul yn ei yſtyried, pan yw 'n dywedyd, Nid yw dioddefiadau yr amſer preſennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddatguddir i ni yn y fuchedd a ddaw, Rhuf. 8.18. Yr ail peth y mae S. Petr yn ei yſtyried pan yw yn dywedyd, Gan fod yn rhaid i'r nefoedd a'r defnyddiau, a'r ddaiar, a'r gwaith a fyddo ynddi, ymollwng; a bod yn ddir y daw Chriſt i farnu, ac i dalu i bawb yn ôl ei gweithredoedd; pa ryw fâth ddynion a ddylem ni fod mewn ſanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, 2 Pet. 3.10. Megis pe dywedid, ni ddylem ni dybied fod na llafur, da phoen, na thrafael yn y byd, yn ormodd nac yn rhy galed i ni, i geiſio gochel dychryndod y dydd hwnnw. Y mae Sainct Awſtin yn gofyn y Queſtiwn yma, Pabeth dybygem ni a wnai'r glŵth goludog, pettai efe yr awrhon yn y bywyd yma drachefn: oni byddai efe fawr ei boen a'i ofal yn gynt nag yr ai efe yn ei ôl drachefn i'r lle poenus hwnnw? Mi a allwn chwanegu at hynny y poenau anfeidrol a gymmerodd Chriſt troſom ni; yr anfeidrol ddoniau a roddodd efe i ni? yr anneirif bechodau a wnaethom ni yn ei erbyn ef; aneirif eſamplau 'r Sainct a gerddaſant y llwybr yma o'n blaen ni: ac wrth hynny i gyd ni ddylem ni wneuthur cyfrif yn y byd o boen a llafur cyn lleied, pettai wir fod gwaſanaeth Duw mor flin ac y mae llawer yn ei gyfrif.

3. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r peth felly ddim, ac nid yw hynny ond hud a dichell y gelyn i geiſio ein digaloni ni. Y mae tyſtiolaeth Chriſt ei hun yn olau yn y pwngc yma, Fy iau i ſydd eſmwyth, a'm baich ſydd yſcafn, Mat 11.30. Ac y mae 'r anwyl garedig ddiſgybl Sainct Joan, yr hwn oedd fwyaf achos iddo i wybod cyfrinach ei feiſtr yn hyn o beth, yn dywedyd yn eglur, Ei orchymynion ef nid ydynt drymion, 1 Joan. 5.3. Beth yw'r achos wrth hynny, ſydd yn peri i lawer o ddynion dybied eu bod mor anhawdd? Yn ſiccr, heb law cyfrwyſder a dichell y cythraul yr hwn yw'r achos pennaf; vn achos yw, am fod dynion yn clywed clefyd trachwant yn eu cyrph, ac nad ydynt yn yſtyried gryfed yw'r feddyginieth a roed i ni yn ei erbyn. Y maent yn llefain gydâ S. Paul, eu bod yn gweled cyfraith yn eu haelodau, yn gwrthryfela yn erbyn cyfraith eu meddwl, Rhuf. 7.23. (yr hyn yw gwrthryfel trachwant, a adawyd yn ein cnawd ni trwy bechod dechreuol) ond nid ydynt nac yn cyfaddef, nac yn yſtyried gydâ 'r vn Sainct Paul, fod grâs Duw trwy Jeſu Griſt yn eu gwared hwy oddiwrth yr vnrhyw. Nid ydynt hwy yn cofio ymadrodd comfforddus Chriſt wrth Sainct Paul, yn ei brofedigaethau mwyaf, Digon i ti fy ngras i i'th gryfhau yn eu herbyn hwy i gyd, 2 Cor. 12.9. Mae'r gwyr hyn yn gwneuthur fel y gwnaeth diſgybl Eliſeus wrth fwrw ei olwg yn vnig ar ei elynion, hynny ydyw ar lu mawr y Syriaid oedd yn barod i oſod arno, a dybiodd ddarfod am dano, ac na bai boſſibl iddo ſefyll yn eu golwg hwy, hyd oni chafodd ef genhadiad gan Dduw, trwy weddi'r prophwyd, i weled yr Angylion oedd yn ſefyll yno yn breſennol, i ymladd troſto ef, ac yna efe a welodd yn amlwg mai cryfaf oedd ei blaid ef. 2 Reg. 6.

4. Felly y gwyr hyn, wrth edrych yn vnig ar ein trueni ni a gwendid ein naturiaeth, trwy'r rhai y mae profedigaethau beunyddol yn cyfodi yn ein herbyn ni; y maent hwy yn cyfrif y gâd yn boenus a'r gorfod yn ammhoſſibl ei gael, am na phrofaſant hwy erioed, gan eu heſgeuluſdra eu hunain, yr amryw gymmorth gras, a chynnorthwyau yſprydol eraill, y mae Duw yn waſtad yn eu danfon i'r ſawl ſy fodlon i fyned i'r gad hon er ei fwyn ef. Yr oedd Sainct Paul wedi profi yn helaeth o'r cymmorth hwnnw, yr hwn wedi iddo gyfrif yr holl bethau calettaf ac allai fod, ſy'n dywedyd yn ychwaneg, Ond yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na chwnowerwyr, trwy'r hwn a'n carodd ni, Rhuf. 8.37. &c. Ac yma y mae efe yn datgan ar gyhoedd, na all nac angeu, nac einioes, nac Angylion, na thywyſogaethau, na meddiannau, na phethau preſennol, na phethau i ddyfod, nac vchder, na dyfnder, nac vn creadur arall, ei wahanu ef oddiwrth gariad Duw ynghriſt Jeſu: a hyn oll y mae ef yn ei ddywedyd o hyder ar gymmorth yſprydol oddiwrth Griſt, trwy'r hwn y mae yn hyderu dywedyd y gallai efe wneuthur pob peth, Phil. 4.13. Fe a brofaſei Dafydd ynteu rym ei gymmorth ef, pan yw yn dywedyd, mi a redais ffordd dy orchymmynion, pais ehengaiſt fy nghalon, Pſal. 119. 32. Yr ehengi yma ar galon oedd yn dyfod trwy gyſſur yſprydol yr enneiniad oddi mewn, yr hwn ſydd yn egori ac yn ehengi'r galon a gaewyd ac a gyfyngwyd gan ing a chyſtudd, wrth dywallt gras ynddi: megis y meddalhaa ac yr ymehenga pwrs neu god a fo wedi crino a chaledu, wrth ei iro ag olew. A phan oedd y gras hwnnw yn breſennol, y dywedai Ddafydd, nid yn vnig ei fod efe yn rhodio ffyrdd gorchymmynion Duw yn hawdd ac yn eſinwyth, ond ei fod yn eu rhedeg: fel y bydd olwyn men yn llefain ac yn cwyno tan lwyth bychan tra fo hi ſŷch; ond pan fwrier ychydig olew ynddi, hi a rêd yn llawen ac yn ddiſtaw ddinad. Ac y mae hynny yn vnion iawn yn dangos ein yſtad a'n cyflwr ninnau, y rhai heb help a chymmorth Duw, nid ydym abl i wneuthur dim, ond trwy ei help ef ydym abl i wneuthur beth bynnag y mae efe yr awrhon yn ei ofyn gennym ni.

5. Ac yn ſiccr, mi a ofynnwn i'r gwyr hyn ſydd yn meddwl fod ffordd Cyfraith Dduw mor galed ac mor anhawdd, pa fodd y gallai'r prophwyd ddywedyd, Bu mor llawen gennyf ffordd dy dyſtiolaethau a'r holl olud, Pſal. 119.14. Ac mewn man arall, en bod hwy yn fwy dymunol nag aur, ie nag aur coeth lawer, ac yn felyſach nâ'r mêl, ac na diferiad diliau mêl, Pſal. 19.10 & 119.72. Wrth y geiriau hyn y mae efe yn rhoi i fuchedd dduwiol, nid yn vnig y bri a'r parch a haeddai vwch law holl dryſſorau'r byd; ond hefyd yn dangos ei bod yn hyfryd, yn ddifyr, ac yn beraidd; a hynny i oreſgyn ac i wradwyddo y rhai oll ſy yn ei gwrthod ac yn ei heſgeuluſo, yn rhith ei bod yn galed, ac yn anhawdd. Ac os gallai Dafydd ddywedyd cymmaint yn amſer yr hên gyfraith; oni allwn ni yn gyfiawnach o lawer ddywedyd hynny yn amſer y gyfraith newydd, pan roddwyd gras yn helaethach, fel y dyweid yr Scrythur, Joan. 1.17. A thitheu Griſtion truan, yr hwn wyt yn dy dwyllo dy hunan a'r tŷb ac a'r meddwl hwnnw, dywaid i ml pa ham y daeth Chriſt i'r byd? pa ham y cymmerodd efe cymmaint o boen a llafur yn y byd yma? pa ham y collodd efe ei waed? pa ham y gweddiodd efe at ei Dad cyn fynyched troſot ti? pa ham yr ordeiniodd efe y Sacramentau i fod megis yn bibellion i ddwyn gras i ti? pa ham y danfonodd efe yr yſpryd glân i'r byd? pa beth y mae 'r gair yma Efengyl, neu goelſain, neu Newyddion da, yn ei arwyddoccau? pa beth yw meddwly gair yma Grâs, a'r drugaredd a ddûg efe gydag ef? beth y mae 'r gair comfforddus yma Jeſu yn ei ddwyn ar ddallt i ni? Ond i'n gwared ni oddiwrth bechod y mae hyn i gyd? oddiwrth y pechod a aeth heibio meddaf, trwy ei vnig farwolaeth ef: oddiwrth y pechod a ddêl, trwy 'r vn farwolaeth, a thrwy gymmorth ei ſanctaidd ras ef, a roddwyd i ni trwy 'r moddion hynny yn helaethach nag o'r blaen? Ond hyn yn bennaf a weithiodd dyfodiad Chriſt, fel y dywed y prophwyd, y gwneid y ffyrdd gwyr-geimion yn vnion, a'r anwaſtad yn waſtadedd, Eſa. 40.4. Luc. 3.4. Ond hyn oedd yr achos y cynnyſgaeddodd efe ei eglwys a chynnifer o ddoniau bendigedig yr yſpryd glan, ac ag amryw radau arbennig, i wneuthur iau ei waſanaeth yn beraidd, a buchedd dda yn eſmwyth, a rhodio yn y gorchymynion yn hyfryd: fel y gall dynion bellach ganu mewn cyſtuddiau, a bod yn' hyderus mewn peryglon, ac yn ddiofal mewn gwrthwyneb, a bod yn ſiccr o gael y maes ym mhob math ar brofedigaethau? Ond hyn yw dechreu, a chanol, a diwedd yr Efengyl? Ond y rhai hyn oedd addewidion y prophwydi; a llawenchwedl yr Efengyl; a phregeth yr Apoſtolion; ac addyſg, a chrediniaeth, a gwaith a gorchwyl yr holl Sainct? Ac yn ddiweddaf, ond hyn yw verbum abbreuiatum Y gair a fyrhawyd, yn yr hwn y mae 'n ſefyll holl gyfoeth a thryſor Chriſtianogaeth? Rhuf. 9.28.

6. Ar grâs yma ſydd o'r fath nerth a grym yn yr enaid yr êl i mewn iddo, ac y newidia ei holl gyflwr ef: ac y gwna yn oleu ac yn eglur y pethau oedd o'r blaen yn dywyll, ac yn hawdd ac yn eſmwyth y pethau oedd o'r blaen yn galed ac yn anhawdd. Ac o'r achos hwnnw y dywedir am dano yn yr Scrythur lân, ei fod yn gwneuthur yſpryd newydd a chalon newydd. Megis lle y mae Ezeciel wrth grybwyll am y peth hyn, yn dywedyd megis allan o enau Duw, Mi a roddaf iddynt galon newydd, ac a roddaf yſpryd newydd o'i mewn hwynt; fel y rhodiont yn fy neddfau, ac y cadwont fy marnedigaethau, ac y gwnelont hwynt, Ezec. 36.26. A ellir dywedyd dim yn y byd yn eglurach? Ac am farwolaethu a gorchfygu ein gwynniau, y rhai trwy eu gwrthryfel ſydd yn gwneuthur ffordd gorchymmynion Duw yn anhyfryd; y mae S. Paul yn tyſtiolaethu yn oleu, fod Duw yn rhoi i ni râs yn helaeth, trwy ddioddefaint Chriſt, i wneuthur hynny; canys y mae 'n dywedyd, Ni a wyddom hyn, ddarfod croes-hoelio ein hên ddŷn ni gydâ Chriſt, er mwyn dirymmu corph pechod, fel rhag llaw na waſanaethom bechod, Rhuf. 6.6. Wrth grybwyll am yr Hen ddŷn, a chorph pechod, y mae S. Paul yn deall ein gwynniau gwrthryfelgar ni a'n trachwant,Felly y prawf S. Awſtin, lib. 2. de pec. mer. cap. 6. y rhai hefyd a groeſhoeliwyd ac a ddiniſtrywyd trwy ardderchoccaf aberth Chriſt, fel y gallwn ni trwy 'r grâs a bwrcaſwyd i ni yn yr aberth honno, mewn rhyw feſur da, wrthwynebu a gorchfygu y gwyniau hyn, a ninnau wedi ein rhyddhau mor helaeth oddiwrth waſanaeth a chaethiwed pechod. A hon yw'r oruchafiaeth ardderchog gyfan gwbl, a ddechreuir yn y byd hwn, ac a orphennir yn y byd a ddaw, yr hon a addawodd Duw er cyhyd o amſer, i bob enaid Chriſtianogaidd, trwy gyfrwng Chriſt, pan ddywedodd efe, Nac ofna canys yr wyfi gydâthi: na lwfrhâa, canys myfi yw dy Dduw; mi a'th gadarnhaf di ac a'th gynnorthwyaf di, ac a'th gynnhaliaf di a deheulaw fy ngwr cyfiawn i. Wele cywilyddir a gwradwyddir y rhai oll a ymladdant i'th erbyn: dy wrthwyneb-wyr fyddant megis diddim, ac a ddifethir. Ti a'i ceiſi, ac ni's cei hwynt, ſef y rhai a ymgynhennaſant â thi. Y gwyr a ryfelant â thi a fyddant megis diddim, ac megis peth heb ddim. Canys myfi 'r Arglwydd dy Dduw a ymaflaf yn dy ddeheulaw, ac a ddywed wrthyt, nac ofna, myfi a'th gynnorthwyaf di, &c. Eſa. 41.10.

7. Wele yma addaw i ni oruchafieth gyflawn yn erbyn ein gwrthryfelwyr, trwy gymmorth deheulaw cyfiawn wr Duw; hynny ydyw yn erbyn ein gwyniau anllywodraethus, trwy gymmorth grâs oddiwrth Jeſu Griſt. Ac er nad ydys yma yn addaw tynnu 'r gwrthryfelwyr hyn ymaith yn llwyr, ond yn vnig en gorchfygu a'i gwradwyddo; etto y mae yn dywedyd, y byddant hwy megis diddim, ac megis peth heb ddim. Ac wrth hynny yr arwyddocceir, na rwyſtrant hwy i ni fod yn gadwedig, ond yn hytrach ein dyrchafu, a'n rhwyddhâu tu a'n Iechydwriaeth. wriaeth. Oblegid fel y mae 'r anifeiliaid gwylltion, er eu bod o naturiaeth yn greulon, ac yn barottach i wneuthur niweid i ddyn yn hytrach nâ chymmwynas, etto pan feiſtroler hwy a'i dofi, y maent yn myned yn fuddiol iawn ac yn anghenrhaid i ni: felly 'r gwyniau gwrthryfelgar hyn eiddom ninnau, er eu bod o honynt eu hunain yn gyfryw ac a'n hanrheithient ni yn gwbl, etto wedi darfod i ni vnwaith eu daroſtwng a'i marwolaethu trwy râs Duw, hwy a wnant i ni lês mawr iawn, tu ac at weithredu pob math ar rinweddau da; megis y gwna chwerwder a digofaint lês i ni tu ac at gynneu ac ennyn zêl ynom, a chaſineb i beri i ni erlid pechod, a meddwl vchel i beri i ni ddiyſtyru 'r byd ac ymwrthod ag ef, a chariad i beri i ni ymgais ac ymgyrhaeddyd a phob gweithred fawrfrydig wrolwych, ynghyfer y doniau a'r cymmwynaſau a dderbyniaſam ni gan Dduw. Heb law hyn, fe a adawyd y gâd a'r ymdrech yma i ni i ddaroſtwng ein gwyniau, er mwyn mawr llês i ni; hynny yw, er mwyn ein dioddefgarwch, a'n goruchafiaeth, ac i gael o honom ni 'r gorfod yn y bywyd hwn; ac er mwyn cael o honom ein gogoneddu a'n coroni yn y fuchedd a ddaw: fel y mae S. Paul yn dywedyd am dano ei hun, ac yn ei ſiccrhau i eraill trwy ei eſampl ei hun.

8. Bellach gan hynny, aed y Chriſtion diowgſwrth, a rhoed ei law yn ei fonwes, neu dan ei wregys, fel y dyweid yr Scrythur lan, a dyweded, Mae llew ar y ffordd, a llewes yn yr heolydd, ac fe a'm lleddir i: fel na lyfaſo fyned allan o'r dryſau, Dih. 19.24. Dyweded, Nad ardd efe gan oerder y gayaf, Dih •• 26.13. Dyweded, anhawdd yw gweithio, ac am hynny ni chwynna efe na'r drain na'r yſgall allan o'i winllan, ac nid adeilada ei magwyr hi, Dih. 24.30, 31. Hynny ydyw, dyweded fod ei wyniau yn gryfion, ac am hynny na's gall mo'i gorchfygu hwy; a bod ei gorph yn dyner ac yn foethus, ac am hynny na faidd efe roi gormod poen arno, a bod ffordd buchedd dduwiol yn rhwyſtrus ac yn anhawdd, ac am hynny nas meidr efe ymroi i'w chychwyn hi. Dyweded hyn i gyd, a llawer ychwaneg, o'r pethau y mae Chriſtianogion diog ſegurllyd yn arfer o'i dwyn yn eſgus droſtynt: dyweded hynny droſto ei hun, meddaf, cymmaint ac a fynno, a chyn fynyched ac y mynno; nid yw 'r cwbl ond eſgus, a cham eſgus, ac eſgus yn gwneuthur mawr ammarch a dirmyg ar nerth a grym gras Chriſt, a brynodd efe a'i chwerw-doſt ddioddefaint, nid ydyw ond eſgus ddywedyd fod ei iau ef yr awrhon yn anhyfryd, ac ynteu ei hun wedi ei wneuthur ef yn eſmwyth, Mat. 11.30. fod ei faich ef yr awrhon yn drwm, ac ynteu wedi ei wneuthur ef yn yſgafn; fod ei orchymmynion ef yr awrhon yn dôſt, gan fod yr yſpryd glan yn taeeru 'r gwrthwyneb, 1 Jo. 5.3. ein bod ni yr awrhon tan gaethiwed ein gwyniau, a'n trachwantau, ac ynteu trwy ei ras wedi ein gwared ni, a'n gwneuthur yn wir ryddion, Rhuf. 7.25. Os yw Duw gydâ ni, pwy a all fod i'n herbyn, medd yr Apoſtol, Rhuf. 8.31. Yr Arglwydd yw fy, ngobaith, a m iechydwriaeth, a'm nerth, medd Dafydd ſanctaidd, rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf? Pe gwerſyllai llu i'm herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai câd i'm herbyn, er hynny mi a fyddwn hyderus. A pheth yw 'r achos o hynny? Canys yr wyt ti gyda mi, Pſal. 27.1, 3. & 28, 7. Pſal. 23.4. Oh Arglwydd, yr wyti yn ymladd yn fy mhlaid, yr wyti yn fy nghymmorth i a th râs, a thrwy nerth dy ras di y caf yr oruchafiaeth: pe codei holl dorfoedd fy ngelynion i'm herbyn ar unwaith, ſef y byd, y cnawd, a'r cythreul; mi a gaf nid yn vnig yr oruchafiaeth ar ynt, ond mi a'i caf yn hawdd ac yn eſmwyth, a thrwy hyfrydwch a llawenydd. Canys cymmaint a hynny y mae S. Ioan yn ei arwyddoccau, oblegid wedi iddo ddywedyd nad yw gorchymmynion Chriſt yn drymion, y mae efe yn dywedyd yn y man ar ôl hynny megis i ddangos yr achos paham nad ydynt hwy drymion, Oblegid beth bynnag a aned o Dduw y mae yn gorchfygu'r byd. Hynny yw, y mae 'r gras yma, a'r cymmorth nefol a ddanfonir i ni oddiwrth Dduw, yn gorchfygu 'r byd a'i holl wrthwyneb a'i brofedigaethau, a chyda hynny yn gwneuthur gorchymmynion Duw yn eſmwyth, a buchedd dduwiol yn dra-hyfryd ac yn beraidd, 1 Ioan. 5.3, 4.

9. Ond fe a allai y dywedwch hwi, Y mae Chriſt ei hun yn cyfaddef bod buchedd dduwiol yn iau ac yn faich, pa fodd wrth hynny y dichon fod yn hyfryd ac yn eſmwyth, fel y dywedwch ei bod? Fy atteb yw, fod Chriſt yn dywedyd ym mhellach, ei bod yn iau eſmwyth ac yn faich yſgafn. Ac y mae hynny yn tynnu ymaith eich gwrthwynebchwedl chwi, a chyda hynny yn arwyddoccau fod rhyw faich nid yw na thrwm na thoſt ar y neb a'i dycco, ond yn hytrach yn ei gymmorth ac yn ei lonnychu: fel mae 'r baich plu ar gefn yr aderyn yn cynnal yr aderyn i fynu, a heb fod yn flin iddo ddim. Felly hefyd er ei fod yn iau, y mae 'n iau eſmwyth, ac yn iau comfforddus, ac yn iau ſy fwy hyfryd na'r mêl, ac na'r dil mêl, fel y dywaid y prophwyd. Pſal. 19.10. A pha ham hynny? am ein bod ni yn tynnu ynddo gyda chymmar hynaws mwynaidd: yr ydym ni yn tynnu yr iau gyda Chriſt; Hynny ydyw, y mae ei ras ef yn y naill ben i'r iau, a ninnau yn gwneuthur ein goru yn y penarall. Ac o herwydd pan fo ŷch mawr ac ŷch bychan yn tynnu 〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉 ynghyd, bod y pwys i gyd ar wddf yr ych mawr, am ei fod ef yn codi yr iau yn lân oddiar wddf y llall; ac dyna 'r achos tra fom ninnau yn tynnu yn yr iau yma gyda Chriſt ſy fwy na nyni, ei fod ef yn yſgafnhau yr holl bwys oddiarnom ni, ac yn gofyn yn vnig fod ini fyned rhagom gydag ef yn gomfforddus, ac na wrthodom fyned tan yr iau gyd ag ef, am fod y boen i gyd yn eiddo ef, a'r hyfrydwch yn eiddom ninnau. Hyn y mae efe yn ei arwyddoccau yn eglur pan yw 'n dywedyd, Deuwch attafi bawb ac ſydd yn flinderog ac yn llwythog, ac mi a eſmwythaaf arnoch, Matth. 11.28. Yma y gwelwch ei fod yn ein hannog ni i gymmeryd yr iau hwn, yn vnig fel y gallai ef wrth hynny ein llonnychu ni, a thynnu'r baich oddiarnom: ie meddaf, tynnu 〈◊〉 baich oddiarnom a'n llonnychu, ac nid ein llwytho ni a'n blino mewn modd yn y byd: ein dadlwytho ni o feichiau trymion ac ieuau'r byd hwn: oddiwrth faich gofal, a baich trymder, a baich cynfigen, a châs, a malais; a baich balchder, a baich ymgyrhaedydd am ſwyddau, a baich cybydd-dod, a baich annuwioldeb, a baich tân vffern. Oddiwrth yr holl feichiau, a'r ieiau gofidus hyn, yr ewyllyſiai Griſt ein gwared ni, trwy roi ar ein gwarrau ni ei iau of yn vnig a'i faich, a'r rhei'ny wedi eu hyſgafnhau a'i pereiddio gan ei ſanctaidd râs ef, fel nad ydyw flin eu dwyn hwy, ond eſmwyth a hyfryd, a chomfforddus, fel y dangoſwyd vchod.

10. Achos arall pa'm y mae 'r iau yma mor eſmwyth, a'r baich mor yſgafn, a ffordd gorchymmynion Duw mor hyfryd gan wyr da, yw yr Cariad ſy ganddynt tu ac at Dduw, yr hwn biou 'r gorchymmynion. Oblegid nid oes vndynna's gŵyr, ac na's profodd ynddo ei hun, gryfed gwŷn yw gwŷn cariad, ac fel y mae yn gwneuthur yn hawdd ac yn eſmwyth y boen fwyaf yn y byd. Pa beth ſydd yn peri i'r fam gymmeryd cymmaint o boen yn magu ac yn meithrin ei phlentyn, ond cariad yn vnig? Pa beth ſy'n peri i'r wraig eiſtedd mor ddiwyd wrth erchwyn gwely ei gŵr pan fo'n glaf, ond cariad yn vnig? Pa beth ſydd yn peri 'r anifeiliaid, ac i adar yr awyr, hepcor peth o'i hymborth ei hun, a rhoi eu bywyd mewn perygl, i borthi eu rhai bach, ond nerth cariad yn vnig? Y mae S. Awſtin yn dilyn y pwngc yma ymmhell ac yn helaeth, trwy lawer o eſamplau eraill: megis eſampl y marſiandwr,Ser. 9. de verb. Dom. yr hwn ni wrthyd antur yn y byd ar for, o gariad ar elw; yr heliwr ni wrthyd ddrwg dywydd yn y bŷd, o gariad ar ei helwriaeth; y rhyfelwr, ni wrthyd berygl marwolaeth, o gariad ar yr anrhaith. Ac y mae ef yn dywedyd ym mhellach yn y diwedd, ac os gall cariad dŷn tu ac at greaduriaid yn y byd yma fod cymmaint ac y gallo beri iddo wneuthur poen a llafur yn eſmwyth, ac na thybier ei bod yn boen, ond yn hytrach yn ddifyrrwch ac yn hyfrydwch; pa faint mwy y bydd i gariad gwyr da tu ac at Dduw wneuthur eu holl boen hwy'n gomfforddus, a gymmeront yn ei waſanaeth ef?

11. Yr anfeidrol gariad yma oedd yr achos y tybiai Griſt am yr holl boenau a'r cyſtuddiau a ddioddefodd ef er ein mwyn ni nad oeddynt hwy ddim A'r cariad yma hefyd oedd yr achos y tybiai lawer Chriſtion am yr holl flinderau a'r poenau a ddioddefaſant hwy er mwyn Chriſt, nad oeddynt hwy ddim. Nid oedd carcharau, ac arteithiau, a cholled am anrhydedd, a da, a bywyd hefyd, ddim ond pethau gwael gan lawer o waſanaethwyr Duw, wrth y cariad gwreſog yma. Y cariad yma a yrrodd lawer o wyryfon, a phlant ieuaingc tyner, i'w hoffrymmu eu hunain yn amfer erlid er cariad ar yr hwn yr oeddid yn eu herlid o'i achos. Y cariad yma a barodd i Apolonia dduwiol o Alexandria, Euſeb. lih. 6. cap. 34. pan ddugpwyd hi at y tân i'w lloſgi er mwyn Chriſt, ddiangc allan o ddwylo y rhai oedd yn ei harwein, a rhedeg i'r tan yn llawen o honi ei hun. Y cariad yma a wnaeth i Jgnatius yr hen ferthyr gynt wedi darfod ei gondemnio i'w daflu i'r anifeiliaid gwylltion, (am ei fod yn ofni y gwrthodent hwy ei gorph ef, fel y gwrthodaſent lawer o ferthyron o'r blaen) ddywedyd na adawai ef iddynt wneuthur felly, ond yr annogai ac y cyffroai efe hwynt i ddyfod atto, ac i ddwyn ei fywyd oddiarno, trwy rwygo ei gorph ef yn ddrylliau.

12. Ac dyma 'r pethau a weithia cariad gwreſog, yr hwn ſydd yn peri i'r pethau ſydd o honynt eu hunain yn dra anhawdd ac yn dra ofnadwy, fod yn beraidd ac yn hyfryd: ac yn hytrach o lawer y gall beri i gyfreithiau a gorchymmynion Duw, y rhai o honynt eu hunain ſydd dra chyfiawn, a rheſymol, a ſanctaidd, a hawdd, fod yn hyfryd ac yn eſmwyth. Da amantem, medd S. Awſtin & ſentit quod dico, Tract. 27. in Joan. ſi autem frigido loquor, neſcit quid loquor: moes i mi wr a fo yn caru Duw, ac ef a wŷr ynddo ei hun fod yn wir y peth yr wyf yn ei ddywedyd; ond os a Chriſtion oerllyd y chwedleuaf, ni ddeall efe beth yr wyf yn ei ddywedyd. Ac dyma 'r achos pa ham y mae Chriſt, wrth ſon am gadw ei orchymmynion, mor fynych yn adrodd y gair yma Cariad, megis yr achos ſiccraf ſy 'n peri cadw gorchymmynion Duw, ac o eiſiau bod cariad yn y byd, nid ydyw 'r byd yn eu cadw hwy ddim, fel y mae efe yno yn dangos. O, cerwch fi, cedwch fy ngorchymmynion, medd efe, Ioan. 14.15, 21, 23. A thrachefn, Yr hwn ſydd a'm gorchymmynion i ganddo efe yw 'r hwn ſydd yn fy ngharu i. Drachefn, Yr hwn ſydd yn fy ngharu i, a geidw fy ngorchymmyn. Ac yn y geiriau diweddaf hyn, y gallwn ni yſtyried ei fod ef yn dywedyd wrth yr hwn ſydd yu ei garu, Fy ngorchymmyn, Ond, gwers 15 y mae efe yn arfer y llioſog. yn y rhif vnig, oblegid i'r cyfryw vn, nad yw ei holl orchymmynion ef ond megis vn gorchymmyn, yn ôl yr hyn a ddyweid S. Paul, mai Cariad yw cyflawnder y gyfraith: am ei fod yn cynnwys y cwbl, Rhuf. 13.10. Ond wrth yr hwn nid yw yn ei garu, y dywed Chriſt, Fy gorchymmynion, yn y rhif llioſog; gan arwyddoccau wrth hynny, eu bod hwy i'r cyfryw vn yn llawer, ac yn drymion hefyd, am nad oes ganddo gariad i'w gwneuthur hwy yn eſmwyth. Yr hyn y mae S. Ioan hefyd yn ei yſſpyſſu, pan yw yn dywedyd, Hyn yw cariad Duw, bod i ni gadw ei orchymmynion ef, a'i orchymmynion ef nid ydynt drymion, 1 Ioan. 5.3. Hynny yw, nid ydynt hwy drymion i'r hwn ſydd a chariad Duw ganddo, ac onid e nid rhyfedd eu bod yn dra thrymion. Oblegid trwm y tybiwn ni fod pob peth ac yr ydym ni yn ei wneuthur yn erbyn ein hewyllys. Ac felly wrth hyn hefyd, ddarllennydd mwynlan, y gelli di wybod amcan pa vn a wna cariad Daw ai bod ynot ti, ai nad ydyw.

13. Ac dyma ddau fodd bellach, ſy 'n gwneuthur buchedd dduwiol gwyr da yn eſmwyth iddynt yn y byd hwn. Y mae yn canlyn amryw foddion eraill, fel y gallo yr ymeſguſodwyr eſgeulus yma weled mor anghyfiawn ac mor anwir yw eu heſgus hwy, ſef yw hynny, cam dybied fod yn anhawdd byw yn dduwiol: er bod i fuchedd dduwiol mewn gwirionedd gymmaint o freiniau of gyffur, vwch law buchedd y rhai annuwiol, ie yn y byd hwn. A'r modd neſaf, ſydd yn canlyn ar ôl y rhai o'r blaen, ydyw rhyw yſpyſol a neillduol oleuni deall ſydd yn perthyn i'r rhai cyfiawn, ac a elwir yn yr Scrythur lan, Prudentia Sanctorum, Doethineb y Sainct; yr hyn nid yw ddim amgen na rhyw wreichion o ddoethineb nefol, ſydd trwy ryw neillduol fraint wedi eu rhoi i'r rhai duwiol yn y fuchedd hon: trwy 'r hyn y maent yn derbyn goleuni tra chomfforddus, a deall mewn pethau yſprydol, yn enwedig ynghylch eu hiechydwriaeth eu hun, a'r pethau a berthyn iddi. A hyn yr oedd y prophwyd Dafydd yn ei feddwl pan ddywedai, Ti a ddangoſaiſt i mi lwybr bywyd. A phan ddywedodd efe am dano ei hun, Deellais fwy na 'm holl athrawon; Deellais yn well nâ 'r henuriaid. A thrachefn mewn lle arall, Peraiſt i mi wybod doethineb yn ddirgel, Pſal. 16.11. Pſal. 119.19, 100. Pſal. 51.6. Hwn yw 'r goleuni hwnnw y mae Sainct Ioan yn dywedyd am dano, fod Chriſt yn goleuo ei weiſion ei hun ag ef: a hwn yw enneiniad yr Yſpryd glân yr hwn y mae'r vn Apoſtol yn dywedyd fod Duw yn ei roi i'r rhai duwiol, i'w dyſgu hwy ymmhob peth ac a fo anghen-rhaid i'w hiechydwriaeth, Io. 1.9. 1 Io. 2.27. Ac dyma hefyd waith Duw yn yſcrifennu ei Gyfraith ynghalonnau dynion, yr hyn y mae efe yn ei addaw trwy 'r prophwyd IEREMI, Ier. 31.33. ac dyma ddyſgu dynion gan Dduw ei hun, yr hyn a addawyd trwy 'r prophwyd Eſai, Eſa. 54.13. Ac yn ddiweddaf, dyma 'r deall ardderchog ynghyfraith yr Arglwydd, a'i orchymmynion, a'i gyfiawnderau, yr hwn yr oedd Dafydd dduwiol yn ei ddeiſyfu yn gymmaint, ac yn ei ofyn cyn fynyched yn y pſalm dra duwiol honno ſydd yn dechreu, Gwyn eu byd y rhai perffaith eu ffordd: hynny ydyw, yn y bywyd hwn, Pſal. 119.

14. Trwy 'r goleuni deall yma, a'r wybodaeth nefol, a'r ymglywed yma oddiwrth yr yſpryd glân, mewn pethau yſprydol; yr helpir y rhai duwiol yn fawr yn ffordd cyfiawnder; am eu bod yn cael eu gwneuthur yn abl iiawn farnu er eu cyfarwyddo eu hunain yn y pethau a gyfarfyddo a hwynt; yn ôl yr hyn a ddywaid S. Paul, Yr hwn ſydd yſprydol ſydd yn barnu pob peth. A'r dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau ſydd o yſpryd Duw, 1 Cor. 2.14, 15. Onid yw hyn yn datguddio braint buchedd dduwiol yn fawr? Y llawenydd, a'r cyſſur, a'r comffordd ſydd oddiwrthi; a'r gofid a'r trueni aneſgorol ſydd o'r gwrthwyneb? Oblegid pettei ddau yn rhodio ynghŷd, y naill yn ddall, a'r llall yn gweled yn eglur, pa vn o honynt a flinai ac a ddiffygiai yn gyntaf? Taith pa vn a fyddai debyg i fod yn boenuſaf? Ond digon ychydig i flino gwr dall? Yſtyriwch chwithau ym mha dywyllwch blinedig y mae 'r annuwiol yn rhodio. Yſtyriwch pa vn a wnantai bod yn ddall ai nad ydynt! Y mae S. Paul, yn y lle a ddangoſwyd o'r blaen, yn dywedyd na's gallant hwy dderbyn dim gwybodaeth yſprydol. Ond tywyllwch mawr ydyw hynny, 1 Cor. 2.14, 15. Drachefn, y mae 'r prophwyd Eſai yn darlunio eu cyflwr hwy ym mhellach, pan yw yn dywedyd megis o enau 'r annuwiol, ni a balfaſom a'r parod fel deillion, ie fel rhai heb lygaid y palfalaſom: ni a dramgwyddaſom ar hanner dydd fel yn y cyfnos, Eſa. 59.10. Ac mewn lle arall y mae 'r Scrythur yn ei oſod allan etto yn oleuach, ynghŷd a'i boen a'i lafur, a hynny allan o enau 'r annuwiol eu hunain, yn y geiriau hyn, Ni thywynnodd llewyrch cyfiawnder i ni, ac ni chododd haul cyfiawnder arnom: ni a ymflinaſom mewn anialwch anhyffordd &c. Dyma ymddiddanion pechaduriaid yn vffern, Doeth. 5.6. Wrth y geiriau hyn y gwelir, nid yn vnig bod yr annuwiol yn byw mewn tywyllwch mawr, ond hefyd bod y tywyllwch yma yn boenus iawn iddynt hwy: ac felly o'r gwrthwyneb, bod y goleuni ſydd i'r cyfiawn, yn eſmwythder mawr iddynt ar ffordd duwioldeb.

15. Vn peth arbennig arall, ſydd yn gwneuthur ffordd buchedd dduwiol yn eſmwyth ac yn hyfryd i'r rhai a rodiant ynddi, a hwnnw ydyw'r cyſſur cuddiedig, dirgel, y mae Duw yn ei dywallt ynghalonnau y rhai ſy'n ei waſanaethu ef. Dirgel yr wyf yn ei alw, am nad oes neb yn ei adnabod, nac yn gwybod oddiwrtho, ond yn vnig y rhai a'i profaſant: ac o'r achos hwnnw y mae Chriſt ei hun yn ei alw ef yn Manna cuddiedig, ac yn enw newydd, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn ſydd yn ei dderbyn, Datc. 2.17. Ac y mae 'r prophwyd yn dywedyd am dano, Mor fawr yw dy ddaioni a roddaiſt i gadw i'r ſawl a'th ofnant, Pſal. 31.19. A thrachefn mewn lle arall,Felly y mae 'r lladin. Neillduaiſt law graſlon i'th etifeddiaeth, Pſal. 68.10. Ac y mae prophwyd arall yn dywedyd, megis o enau Duw yn crybwyll am yr enaid defoſionol ſydd yn ei waſanaethu ef, Mi a'i denaf hi, ac a'i dygaf i'r anialwch, ac yno mi a ddywedaf wrth fodd ei chalon hi, Oſ. 2.14. Ac wrth yr holl eiriau hyn, anialwch, a neillduo, a chuddiedig, yr arwyddocceir mai braint dirgel cuddiedig yw hwn, a roir yn vnig i'r rhai duwiol, ac nad oes i galonnau cnawdol y rhai annuwiol, na rhan na chyfran ynddo. Ond ni all tafod dŷn yſpyſu faint a gwerthfawrocced hyfrydwch y cyſſur nefol yma: etto ni a allwn fwrw amcan arno wrth eiriau Dafydd, yr hwn wrth grybwyll am y gwin yſprydol, ſydd yn dywedyd fod ynddo'r fath nerth ai fod yn meddwi pob vn a'i profo: hynny ydyw y gwna efe iddynt na wypont ac na chlywont ddim oddiwrth bethau daiarol, Pſal. 36.8. megis am S. Petr, wedi iddo yfed ychydig o hono, efe a'i gollyngodd ei hun tros gôf yn y man, ac a chwedleuodd megis gwr wedi amhwyllo, am adeiladu pebyll yn y fan honno, a gorphywys yno byth, Mat. 17.4. Dyma Afon yr hyfrydwch, fel y mae 'r prophwyd yn ei galw, ſydd yn tarddu allan o fryn y nef, a thrwy ffyrdd dirgel yn dyfrhau calonnau ac yſpryd y rhai duwiol, ac yn eu meddwi hwy a'r llawenydd annrhaethadwy y mae yn ei ddwyn gyd â hi, Pſal. 36.8. Dyma dippyn o dammaid prawf yn y bywyd hwn o'r llawenydd nef, a roddir i'r rhai da, i'w comfforddi hwy ac i roi cyſſur ynddynt i fyned rhagddynt yn eu duwioldeb. Oblegid fel y mae marſiandwyr a fo 'n chwennych gwerthu eu marfiandiaeth, yn fodlon i chwi i gael gweled a theimlo, ac weithiau, i brofi'r pethau y bônt yn eu gwerthu, er mwyn eich annog chwi i brynu ganddynt, felly y mae 'r hollalluog Dduw, am ei fod megys yn chwennych gwerthu i ni lawenydd nef, yn fodlon i roi peth o hono, i'w brofi ym mlaenllaw i'r rhai y mae efe yn eu gweled yn chwennych prynu: er mwyn peri iddynt gynnyg yn rhwydd, ac na ruſont dalu cymaint neu fwy nag y mae ef yn ei ofyn, Datc. 3.18. Dyma'r anfeidrol lawenydd a'r gorfoledd ſydd ynghalonnau y rhai cyfiawn, yr hwn y mae 'r prophwyd yn ei feddwl pan yw yn dywedyd, Llef gorfoledd ac iechydwriaeth ſydd ym mhebyll y cyfiawn, Pſal. 118.15. A thrachefn, Gwyn ei fyd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: ſef yw hynny, y rhai ſy gydnabyddus ag anfeidrol lawenydd a hyſrydwch y cyſſur a'r diddanwch calon yma, Pſal. 89.15. Yr oedd S. Paul wedi profi o hono, pan yſcrifennodd efe'r geiriau hyn, ynghanol ei holl lafuriau er mwyn Chriſt, Yr wyf yn llawn o ddiddanwch, ac yn drachyflawn o lawenydd, yn ein holl orthrymder, 2 Cor. 7.4. Pa beth ddwyſach nâ hyn a ellir ei ddywedyd, i brofi fod gwaſanaeth Duw yn hyfryd? Yn ſiccr, ddarllenydd mwynaiddlan, pe bait ti vnwaith wedi profi ddim ond cymmaint ac vn defnyn o'r llawenydd nefol yma, ti a roit yr holl fyd er cael vn defnyn arall o hono, neu o'r hyn lleiaf rhag colli drachefn yr vn defnyn a gawſit.

16. Ond ti a ofynni i mi, pa ham a thitheu yn Griſtion yn gyſtal ac eraill, na phrofaiſt ti erioed etto o'r cyſſur yma? I hynny 'r attebaf, nad yw hwn, fel y dangoſwyd o'r blaen, fwyd i bob genau, ond Gwlith-law a neilltuwyd i etifeddiaeth Duw yn vnig, Pſal. 68.9. Gwin ydyw hwn o gell Duw ei hun, a roed i gadw i'w briodferch ef; fel y mae 'r Caniad yn dangos: hynny ydyw i'r enaid defoſionol ſy wedi ymroi i waſanaethu Duw, Can. 2.4, 5. Bron y diddanwch yw hon, i'r plentyn yn vnig i ſugno o honi ac i ymlenwi arni, tel y dywaid y prophwyd Eſai, Eſ. 66.11. Ac ni all yr enaid ſy wedi boddi mewn pechod, a difyrrwch y byd, fod yn gyfrannog o'r dawn yma, na'r galon a fo 'n llawn o ofalon bydol a meddyliau cnawdol. Oblegid fel nas gallai Arch Duw, ac eilun Dagon ſefyll ar vnwaith ar yr vn allor; felly nis gall Chriſt a'r byd ſefyll ar vnwaith yn yr vn galon, 1 Sam 5: Ni ddanfonodd Duw mo'r Manna hyfryd i bobl Iſrael, tra barhaodd y peillied a'r winwyn a ddygaſent o'r Aipht. Felly ni ddenfyn efe mo'r diddanwch nefol yma i titheu, hyd oni ymarloeſech o'th holl feddyliau gorwag. Marſiandwr doeth yw efe, er ei fod yn hael, ni rydd efe ddim o'i dryſor i'w brofi, lle y gwypo nad oes ewyllys i brynu. Dyro dy fryd yn ſiccr vnwaith ar waſanaethu Duw, ac yno ti a gai glywed oddiwrth y llawenydd yma yr wyfi'n ſon am dano, ſel y cafodd llawer mil o'th flaen di; ac ni thwyllwyd neb erioed etto yn hyn o beth. Fe ddiangodd Moeſen yn gyntaf allan o'r Aipht, i fynyddoedd Madian, cyn i Dduw ymddangos iddo; ac felly y bydd rhaid i'th enaid ditheu ymadael a gwagedd y byd, cyn y gallo edrych am y diddanwch yma, Exod. 2. Ond er cynted yr ymroddech di yn gwbl i waſanaethu Duw, yno ti a gai groeſaw mwy nag yr oeddit yn ei ddiſgwyl. Oblegid mewn gwirionedd tynerach yw ei gariad ef ar y rhai newydd ddyfod i'w waſanaeth, nag ar y rhai ſy'n ei waſanaethu ef er ys talm, fel y mae efe yn dangos yn eglur wrth ddammeg y mab afradlon: yr hwn a groeſawodd efe â mwy o lawenydd a daintethfwyd, na'r brawd hynaf oedd yn ei waſanaethu ef er ys hir o amſer, Luc. 15. Ac o hyn y mae dau achos; y naill, o lawenydd cael gwaſanaethwr newydd, fel y dengys S. Luc yn y text; a'r llall, rhag i hwnnw, oni chai ddim cyſſur yn y dechreuad ddychwelyd yn ei ôl drachefn i'r Aipht: fel y mae Duw, wrth eſampl meibion Iſrael, yn dangos yn oleu yn y geiriau hyn; Pan ollyngodd Pharao bobl Iſrael allan o'r Aipht, ni arweiniodd yr Arglwydd hwynt drwy ffordd gwlâd y Philiſtiaid, er ei bod yn nes, oblegid dywedodd Duw, rhag i'r bobl edifarhau pan welont ryfel, a dychwelyd yn eu hôl i'r Aipht, Exod. 13.17. Ac o'r ddau achos hynny ti a elli fod yn ſiccr y cait ti ddiddanwch arbennig, a chomflordd, yngwaſanaeth Duw, pe rhoit ti dy fryd arno, fel y cafodd gwŷr eraill o'th flaen di; ac a brofaſant wrth hynny, nad ydyw'r ffordd yn galed ac yn anhawdd, fel y mae y rhai bydol yn tybied am dani; ond yn eſmwyth, ac yn hyfryd, ac yn gomfforddus, fel yr addawodd Chriſt, Mat. 11.30.

17. Yn ôl y rhagor-fraint yma o ddiddanwch calon, y mae vn arall yn canlyn, yr hwn ſydd yn gwneuthur gwaſanaeth Duw yn hyfryd, a hwnnw yw tyſtiolaeth cydwybod dda, yr hon y gwnai S. Paul cymmaint cyfrif o honi a'i galw yn Orfoledd iddo, 2 Cor. 1.12. Ac y mae yr yſpryd glân yn dywedyd am dani ym mhellach trwy enau'r gwr doeth, Gwledd waſtadol yw calon lawen, neu gydwybod dda, Dih. 15.15. Ac o hynny y gallwn gaſglu, am y gwr duwiol, gan fod ei feddwl ef yn ddiogel, a'i galon yn llawen, a'i gydwybod yn heddychol, ei fod ef yn byw bob amſer mewn gwledd ddiddan lawenwych. A pha fodd wrth hynny y mae 'r bywyd yma yn galed ac yn anhyfryd, fel yr ydychwi yn tybied ei fod? yn y gwrthwyneb, yr annuwiol, gan fod ei gydwybod yn cael ei blino wrth ymwybod ac ymglywed a'i bechod, y mae efe bob amſer yn cael ei boeni o'r tu mewn iddo, fel yr ydym ni yn datllain fod Cain yn ôl iddo ladd ei frawd Abel; ac Antiochus am y drygioni a wnaethai efe i Ieruſalem; a Iudas am ei fradwriaeth yn erbyn ei feiſtr, Gen. 4. 1 Mach. 6. Mat. 27. ac y mae Chriſt yn arwyddoccau hynny am bob rhai drwg yn gyffredinol, pan yw yn dywedyd, fod ynddynt brŷf yn cnoi eu cydwybod o'r tu mewn. Y rheſwm o hynny y mae'r Scrythur yn ei agori mewn lle arall, pan yw yn dywedyd, Peth ofnus yw drygioni, ac yn rhoi barn i'w erbyn ei hun, a'r gydwybod yn gwaſgu arno fydd yn darogan pethau blin yn waſtad. Hynny ydyw, y mae 'n darogan ac yn tybieid fod pethau creulon aruthrol yn dyfod yn ei erbyn, fel y mae yn bwrw ddarfod iddo eu haeddu, Doeth. 17.11. Ond ym mhellach, y mae Job dduwiol vwch ben pawb eraill yn goſod allan gyflwr gofidus y rhai annuwiol, yn y geiriau hyn, Holl ddyddiau 'r annuwiol y bydd efe yn ymofidio, a rhifedi'r blynyddoedd a guddiwyd oddiwrthy traws. Trwſt ofnadwy ſydd yn ei gluſtiau ef: mewn heddwch y tybia y daw y diniſtruda arno. Ni chred efe y dychwel allan o dywyllwch, ac y mae'n diſgwyl bod y cleddyf yn gwilied arno. Y mae efe yn crwydro am fara pa le y byddo: efe a wyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law. Cyſtudd a chyfyngdra a'i brawycha ef. Hwy a'i gorchfygant fel brenhin parod i ryfel. Job 15.20.

18. Ond rhyfedd y darlunio yma y mae 'r yſpryd glân ei hun ar gydwybod ddrwg? Pa beth a ellir meddwl ei fod yn fwy ei ofid a'i drueni nâ 'r dŷn yma, ſy ar fath ymmladd, ac ymgigyddio o fewn ei galon ei hun? Pa ddychryniadau, pa gyfyngder,Chryſ. ho. 8. ad pop. Antioch. a grybwyllir yma amdanynt? Y mae S. Joan Aurenau yn gwneuthur traethawd godidog ar y pwngc yma. Dyma arfer pechaduriaid, medd efe, drwgdybio pob peth; ammeu eu cyſgod eu hunain; ofni pob ſŵn a thrwſt, er lleied fyddo; a thybied fod pob dŷn a fo'n dyfod tu ac attynt, yn dyfod yn eu herbyn hwy. O bydd rhai yn chwedleua a'i gilydd, hwy a dybiant mai ſôn y maent am eu pechodau hwy. Cyfryw beth yw pechod, ac y mae yn ei gyhuddo ei hun, er na bo neb yn achwyn arno; ac yn ei gondemnio ei hun, er na bo neb yn tyſtiolaethu yn ei erbyn: y mae efe bob amſer yn gwneuthur y pechadur yn ofnus, fel y mae duwioldeb a chyfiawnder yn gwneuthur y gwrthwyneb. Gwrandewch fel y mae 'r Scrythur lan yn datgan ofn y pechadur, a hyder y cyfiawn, Yr annuwiol a ffŷ heb neb yn ei erlid, medd yr Scrythur, Dih. 28.1. Pa ham y mae efe yn ffô onid oes neb yn ei erlid? Am fod ei gydwybod o'i fewn yn ei gyhuddo ac yn ei erlid, yr hon y mae efe bob amſer yn ei harwain gydag ef. Ac fel nas gall efe ffo oddiwrtho ei hun, felly nis gall efe ffo oddiwrth ei gyhuddwr oddi fewn ei gydwybod ei hun; ond i ba le bynnag yr êl efe, mae honno yn ei ymlid ac yn ei fflangellu, ac y mae ei archoll yn anaele. Ond nid yw 'r cyfiawn felly ddim, Y cyfiawn ſydd hŷ megis llew, medd Solomon, Dih. 28.1. Hyd hyn y mae geiriau S. Chryſoſtom.

19. Wrth y geiriau hynny, ac felly hefyd wrth yr Scrythurau a ddangoſwyd, y gallwn adnabod rhagor fraint arall ſydd i fuchedd dduwiol, yr hwn yw gobaith a hyder, y tryſor mwyaf, a'r tlŵs cyfoethoccaf, ſydd gan Griſtianogion wedi ei adael iddynt yn y fuchedd hon. Oblegid wrth hwn yr ydym ni yn myned trwy bob cyſtudd, a thrallod, a gwrthwyneb, yn dra llawen, fel y dengys S. Jaco, Jac. 1.2. Wrth hwn y dywedwn gyda S. Paul, Yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau, gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch, a dioddefgarwch brofiad, a phrofiad obaith; a gobaith ni'n cywilyddia, Rhuf. 5.3. Dyma ein cyſſur trachadarn-gryf ni, Dyma ein hangor ſiccr ni ym mhob math ar dymmheſtl, fel y dyweid Sainct Paul, Y mae gennym ni gyſſur crŷf, y rhai a ffoeſom i gymmeryd gafael yn y gobaith a oſodwyd on blaen; yr hwn obaith ſy gennym megis angor yr enaid, yn ddiogel ac yn ſiccr, Heb. 6.18. Dyma ardderchog Helm yr iechydwriaeth, fel y mae 'r Apoſtol yn ei alw, yr hon ſydd yn derbyn yr holl ddyrnodiau a allo 'r bŷd hwn eu rhoi arnom, 1 Theſſ. 1.8. Ac yn ddiweddaf, dyma 'r vnig ddiogelwch ſydd ynghalon gwr duwiol, yr hwn ſydd yn peri iddo, er na bywyd nac angeu, nac iechyd na chlefyd, na golud na thlodi; na hawddfyd nac adfyd, er maint fo yſtorm a thymmheſtl yr adfyd, eiſtedd i lawr mewn llonyddwch, a dywedyd yn dawel gyda 'r prophwyd, Yn Nuw y gobeithiaf, nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi, Pſal. 56.4. Ie efe a ddyweid ym mhellach gyda Job dduwiol ynghanol ei holl ofidiau, Pe lladdai efe fi, etto mi a obeithiaf ynddo ef, Job 13.15. A hyn yw bod, fel y dywedodd yr Scrythur o'r blaen, yn hyderus fel llew, yr hwn ſy gnawd iddo fod yn hyderuſaf ac yn ddewraf pan fo mwya 'r perygl arno, a pho neſſaf fyddo i'w angeu, Dih. 28.1.

20. Ond yn awr, fel y dywaid yr Yſpryd glân, Non ſic impij, non ſic, Pſalm 1. Ni all yr annuwiol ddywedyd felly; nid oes iddynt hwy na rhan yn yr hyder yma, na chyfran yn y diddanwch yma: oblegid gobaith y drygionus a dderfydd am dano, medd yr Scrythurlân. A thrachefn, Gobaith y drygionus ſydd ddigter, Dih. 10.28. Dih. 11.23. Ac etto ym mhellach, Gobaith yr annuwiol ſydd ffieidd-dra, ac nid cyſſur, i'r enaid, Job 11.20. A'r iheſwm o hyn ſy ddauddyblyg. Yn gyntaf, am nad yw 'r annuwiol mewn gwirionedd (er eu bod yn dywedyd y gwrthwyneb ar eiriau) yn rhoi eu gobaith, a'i goglud, a'i hyder yn Nuw; ond yn y byd, ac yn eu cyfoeth, ac yn eu cryfder, ac yn eu caredigion, ac yn eu ſwyddau, ac yn nhwyllodrus fraich dŷn, Ier. 17.5. yn y modd y dengys y prophwyd megis allan o'i geneuau hwy, pan yw yn dywedyd, Ni a oſodaſom ein gobaith ar gelwydd. Hynny ydyw, Ni a oſodaſom ein gobaith mewn pethau darfodedig, y rhai a'n twyllodd ni, Eſ. 28.15. A hyn y mae 'r Scrythur yn ei yſpyſu yn eglurach etto, gan ddywedyd, Fel llwch, yr hwn a arwain y gwynt; ac fel ewyn teneu, yr hwn a yrr y dymmheſtl, ac fel y mŵg a waſgerir gan wynt, neu fel côf am ymdeithydd tros vn diwrnod, yr a gobaith yr annuwiol ymaith, Doeth. 5.14. Wrth yr holl ddull-ymadrodd yma y mae 'r Yſpryd glan yn hyſpyſſu i ni ofered ydyw 'r pethau y mae 'r annuwiol yn rhoi eu hymddiried ynddynt, ac fel y mae 'r pethau hynny yn pallu ganddynt yn ôl ychydig amſer, ar bob achlyſur bach o wrthwyneb a ddigwyddo.

21. Hyn hefyd y mae Duw yn ei feddwl, p n yw yn gwneuthur trŵſt a tharanau yn erbyn y rhai oedd yn myned i'r Aipht i geiſio help, ac yn rhoi eu hyder ar nerth Pharao; ac yn eu melldigo hwy am hynny, ac yn addaw y trŷ hynny yn wradwydd iddynt, Eſ. 30.2. A hynny ſydd i'w ddeall yn briodol am bawb ac ſy 'n rhoi eu hymddiried pennaf mewn cynnorthwyau bydol; fel y mae pawb o'r rhai annuwiol, er maint a fo eu ffuant i'r gwrthwyneb mewn geiriau. Ac o achos y ffuant hwnnw y mae Iob yn eu galw hwy yn rhagrithwyr: oblegid lle y dywed y gŵr doeth, Gobaith y drygionus a dderfydd am dano; y mae Iob yn dywedyd, Derfydd am obaith y rhagrithiwr, Dih. 10.28. Iob 8.13. Lle y mae yn galw'r drygionus yn rhagrithwyr, am eu bod yn dywedyd eu bod yn rhoi eu hyder ar Dduw, a hwythau mewn gwirionedd yn ei roi ar y byd. Yr hyn beth, heb law'r Scrythur Iân, ſydd eglur hefyd wrth brawf beunyddol. Oblegid, a phwy y mae 'r annuwiol yn ymgynghori yn ei negeſeuau a'i betruſder? A'i â Duw yn bennaf, ynteu â'r byd? A phwy y mae efe yn ymgais yu ei gyſtadd? Ar bwy y mae efe yn galw yn ei glefyd? oddiwrth bwy y mae 'n gobeithioam ddiddanwch yn ei adfyd? I bwy y mae efe 'n rhoi diolch yn ei hawddfyd? Pan êl gŵr bydol ynghylch rhyw orchwyl o bwys, ydyw efe yn ymgynghori yn gyntaf â Duw, pa beth a ddigwydd o'r gorchwyl hwnnw? Ydyw efe 'n ſyrthio ar ei liniau, ac yn gofyn ei gymmorth ef? Ydyw efe yn tueddu 'r gorchwyl yn gwbl ac yn bennaf at anrhydedd Duw? Ac onid ydyw, pa fodd y gall efe obeithio help ar ei law ef? Pa fodd y gall efe gyrchu atto am ei gymmorth, yn y peryglon a'r rhwyſtrau a ddigwyddo yn y gorchwyl hwnnw? Pa fodd y gall efe roi hyder yn y byd yn yr hwn nid oes iddo gyfran yn y byd yn y gorchwyl hwnnw? Nid yw ond rhagrith gan hynny (fel y dyweid Iob yn ddigon gwir) i'r dŷn hwnnw ddywedyd fod ei hyder ar Dduw; ac ynteu mewn gwirionedd a'i hyder ar y byd: yn Pharao y mae; yn yr Aipht y mae; ym mraich dŷn y mae; mewn celwydd y mae. Nid yw efe yn adeiladu ei dŷ gydâ 'r gwr doeth, ar y graig; ond gyda 'r ynfyd, ar y tywod: ac am hynny, fel y mae Chriſt yn dywedyd iddo yn ſiccr, pan ddiſcynnodd y glaw, a dyfod o'r llifddyfroedd, a chwythu o'r gwyntoedd, a churo ar y tŷ hwnnw (yr hyn a fydd ar ddydd marwolaeth) yna y ſyrth y tŷ hwnw, a'i gwymp a fydd mawr, Mat. 7.27. Mawr fydd, o herwydd y gyfnewid a gaiff efe ei weled; mawr, o herwydd y mawr ddychryn a gaiff efe, mawr, o herwydd y mawr ofid a gaiff efe ei ddioddef, mawr, o herwydd colli anhydraeth lawenydd nef; mawr o herwydd ſyrthio mewn poenau tragywyddol yn vffern; mawr fydd ym mhob ffordd, bydd di ſiccr o hynny, frawd anwyl, ac oni bai hynny ni buaſai 'r gair yma mawr, byth yn dyfod allan o enau Duw. A digon yw hynny am y rheſwm cyntaf, paham y mae 'n ofer gobaith yr anghyfiawn, am nad ydynt yn ei roi ar Dduw ond ar y byd.

22. Yr ail rheſwm yw, o herwydd pe rhôn iddynt a bod yn rhoi eu gobaith yn Nuw, a hwythau yn byw yn annuwiol, nid yw hynny ond ofer: a gwell y dylai hynny gael ei alw yn rhyfyg nag yn obaith. Ac er mwyn deall hynny y mae 'n rhaid gwybod, megis y mae 'r Scrythur lân yn cyfrif dau fath ar ffydd, y naill yn ffydd farw, heb weithredoedd da, ſef yr hon ſydd yn credu pob peth yr ydych chwi yn ei ddywedyd am Griſt, ond nid ydyw yn cadw ei orchymmynion; a'r llall yn ffydd fywiol, yn ffŷdd yn cyfiawnhau, yr hon ſydd nid yn vnig yn credu, ond hefyd yn gweithredu trwy gariad, fel y mae geiriau Sainct Paul, Iac. 2.14. Mat. 7.21. Gal. 3.6. felly y mae dau fath ar obaith hefyd yn canlyn y ddwy ffŷdd hyn, y naill yw gobaith y rhai da, ſydd yn dyfod o gydwybod dda, am yr hon y dywedais o'r blaen: a'r llall yw 'r eiddo 'r drygionus, ac ſydd yn ſefyll mewn cydwybod euog, yr hyn mewn gwirionedd nid yw wir obaith, ond yn hytrach rhyfyg. Hyn y mae S. Ioan yn ei brofi yn oleu, pan yw yn dywedyd, Anwylyd, os ein calon ni'n condemna, y mae gennym hyder ar Dduw. Hynny ydyw, os ein calon nid yw euog o fuchedd annuwiol. Ac y mae 'r geiriau ſy neſa 'n canlyn, yn hyſpyſſu hynny yn well, y rhai yw, Pa beth bynnag a ofynnom yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef, oblegid ein bod yn cadw ei orchymmynion ef, ac yn gwneuthur y pethau ſydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef, 1 Jo. 3.21. Yr vn peth y mae Sainct Paul yn ei gadarnhau, pan yw yn dywedyd, Diwedd y gorchymmyn yw cariad o galon bûr, a chydwybod dda, a ffydd ddiragrith, 1 Tim. 1.5. Wrth eſponi 'r geiriau hyn, y mae S. Awſtin mewn amryw eirau, ac mewn amryw leoedd o'i waith,De doct Chriſt. ca . 17. yn profi yn helaeth, na ellir deall fod gwir obaith lle ni bô cydwybod dda. Y mae S. Paul, medd efe, yn rhoi 'r gair hyn (o gydwybod dda) yn angwhaneg o achos gobaith; oblegid pwy bynnag ſydd ynddo betruſder cydwybod ddrwg, y mae yn anobeithio cael mwynhau yr hyn y mae yn ei gredu,Ffydd pawh yn ei. galon. Praejatin Pſal. 31. A thrachefn, Ffydd pawb fydd yn ei galon a'i gydwybod ei hun, wrth y modd y mae yn ei glywed ei hun yn caru Duw. A thrachefn mewn llyfr arall, Y mae 'r Apoſtol yn rhoi cydwybod dda yn lle gobaith, oblegid hwnnw yn vnig ſydd a gobaith ganddo, yr hwn ſydd ganddo gydwybod dda: a'r neb y mae cydwybod euog ddrwg yn ei bigo, y mae 'n cilio yn ôl oddiwrth obaith, ac nid yw yn gobeithio dim ond ei ddammedigaeth ei hun. Mi a allwn yma adrodd llawer ychwaneg of freinlau buchedd dduwiol, y rhai fydd yn ei gwneuthur hi yn eſmwyth, ac yn hawdd, ac yn hyfryd, ac yn gomfforddus, oni bai fod y pennod yma yn myned yn hir: ac am hynny mi a gyffyrddaf yn vnig, megis wrth fyned heibio, a dau neu dri o'r pyngciau pennaf eraill: y rhai er hynny a ofynnent hir draethawd, pe datgenid hwy yn ôl eu teilyngdod a'i gwiwdeb. A'r cyntaf yw gwerthfawr fraint y rhydd-did y mae y duwiol yn ei fwynhau, vwch law yr annuwiol, fel y mae Chriſt, yn addaw yn y geiriau hyn, Os arhoſwch yn fy ngorchymmyn i, chwi a fyddwch ddiſcyblioni mi yn wir: a chwi a gewch wybod y gwirionedd, a'r gwirionedd a'ch rhydhaa chwi, Ioan 8.31. A'r geiriau hyn y mae Sainct Paul megis yn eu heſponi, ac yn dywedyd, lle y mae Yſpryd yr Arglwydd yno y mae rhydd-did, 2 Cor. 3.17. Ac wrth y rhydd-did yma y deellir ein bod ni yn rhyddion oddiwrth drais a thrawſder a thraha, a chreulondeb, a chaethiwed ein gwyniau llygredig a'n trachwantau ni, y rhai y mae yr annuwiol mor gaeth iddynt, ac na bu erioed gaethwas yn y cyfryw gaethiwed i wr o'r trawſaf, ac o'r creulonaf, ac o'r aunrhugaroccaf. A hyn a ellir ei ddeall o ran wrth yr vn eſampl yma. O byddai wr wedi priodi gwraig gyfoethog, bryd-weddol, foneddigeiddwych, a fai gynnyſgaeddol o bob math a'r gynueddfau da a rhinweddau ac a ellid meddwl eu bod mewn gwraig; a bod o'r gwr er hynny wedi ei hurtio, a'i faglu, a'i rwydo cyn belled, o gariad rhyw gardottes ddiffaith anhoneſt, a fai forwyn waith yn ei dŷ ef; ac y gwrthodai gwmpeini a chyfeillach ei wraig er ei mwyn hi, ac y treuliai ei amſer yn cellwair ac Yn cymhŵedd â'r fudrog honno, ac yn ei gwaſanaethu hi; a rhedeg, a cherdded, a ſefyll, wrth ei harchiad hi; a rhoi ei holl olud a'i feddiannau ar ei llaw hi, i'w treulio, ac i'w difa, ac i'w hanrheithio wrth ei hewyllys hi; ac na naccai mo honi o ddim, ond gweini iddi, a gwaſanaethu arni wrth ei hamnaid; ie a pheri i'w wraig wneuthur hynny hefyd; oni thybygech chwi fod bywyd y gwr hwnnw yn ofidus, ac yn flin, ac yn gaeth iawn? Ac etto yn ſiccr y mae 'r caethiwed yr ydym ni yn ſôn am dano, yn doſtach, yn flinach, ac yn gaethach o lawer. Oblegid nid oes ac ni all bod na gwraig, nac vn creadur arall yn y byd, mor dêg nac mor brydweddol nac mor fonheddig ac ydyw rhad yſpryd Duw, yr hwn y mae dŷn pan y gwnaed wedi ei ddyweddio ag ef, ac ynteu er hynny yn ei fwrw ymaith ac yn ei wrthod, er cariad ar wyniau 'r cnawd ſydd elyn iddo, ac ſydd greadur o'r fath wrthunaf wrth y rheſwm a roed mewn dyn: ac etto ynghariad hwnnw neu yn hytrach yn ei gaethiwed, y gwelwn fod y rhai annuwiol wedi eu boddi mor llwyr, ac y maent yn ei waſanaethu ddydd a nôs trwy fawr boen, a pherygl, a thraul, ac yn cymmell yr yſprydoliaethau da a.ddêl oddiwrth yſpryd Duw i roi lle, wrth bob amnaid a gorchymmyn o'r eiddo 'r feiſtres newydd yma, yr hon yw gwyniau a chwant y cnawd. Oblegid i ba beth y maent yn llafurio? I ba beth y maent yn gwilio? I ba beth y maent yn pentyrru cyfoeth ynghyd, ond yn vnig i waſanaethu eu gwyniau a'i trachwantau? I ba beth y maent yn curo eu hymmennyddiau, ond yn vnig i fodloni'r Teiran traws creulon yma a'i wyniau?

23. Os mynnwch chwi weled yn ſiccr mor greulon ac mor doſtur yw 'r gwaſanaeth a'r caethiwed yma; yſtyriwch ymbell eſampl neillduol o hono. Cymmerwch i mi ddyn y mae trachwant y cnawd yn cael ei lywodraethu mewn rhyw wyniau, megis mewn anlladrwydd neu'r cyffelyb; a pha boen a gymmer efe er ei mwyn hi? Pa lafurio a wna efe? Pa chwyſſu y mae yn y gwaſanaeth a'r caethiwed yma? Mor gadarn ac mor gryf y mae efe yn clywed y llywodraeth hwnnw arno? Cofiwch gryfder Sampſon, a doethineb Salomon, a duwioldeb Dafydd, fel y goreſgynnwyd hwy gan lywodraeth eu trachwantau. Iupiter, Mars, a Hercules, y rhai am eu mawr wrolaeth a gyfrifai 'r Paganiaid yn dduwiau, oni orchfygwyd hwy, ac oni wnaed hwy yn gaethion trwy hudoliaeth y llywodraethwr traws hwn? Ac o mynnwch wybod etto ym mhellach beth yw ei gryfder, ac mor greulon y mae'n ei arfer ar y rhai ni waredodd Chriſt allan o'i gaethiwed ef, yſtyriwch, yn lle eſampl, gyflwr toſtur rhyw wraig a fai anffyddolon i'w gwr priod, yr hon er ei bod yn gwybod ei bod hi wrth dorri ei phriodas, yn cwympo i fil o beryglon, ac anghymmheſurwydd, ſef colli ffafor Duw, a chael câs ei gŵr, ac anfodloni ei thylwyth, ac ammherchi ei chorph ei hun, os ceir gwybod arni, ac ynddiweddaf mawr gwymp a pherygl ei henaid a'i chorph; etto er mwyn rhyngu bodd y llywodraethwr traws yma chwant y cnawd, hi a anturia wneuthur y pechod, beth bynnac fo'r perygi a'r enbydrwydd a ddel o'i wneuthur.

24. Ac nid yn y pwngc yma, o anlladrwydd yn vnig, ond ym mhob peth arall, y mae dŷn mewn caethiwed ir llywodraethwr hwnnw ac i'w wyniau. Edrychwch ar wr a fo gwag-ogoneddus neu yn ymgyrhaeddyd am oruchafiaeth, a gwelwch fel y mae efe yn gwaſanaethu ar hynny; mor ofalus ac mor ddiwyd y mae efe yn gwneuthur ei orchymmyn, hynny ydyw, mor dyfal ydyw i ymgais ag ychydig wynt a ddel allan o enau dynion, ac i ymlid pluen fach ſydd yn hedeg o'i flaen ef yn y gwynt; chwi a gewch weled nad yw ef yn gadael heibio nac vn peth, nac vn amſer, na dim yn y byd, er ceiſio mwynhau hynny. Y mae efe yn codi yn foreu, ac yn mynd yn hwyri gyſgu; yn ymdrafferthu'r dydd, ac yn ymofalu'r nos; yma y truthia ac y gwenhieithia, ac accw y rhagrithia; yma yr ymoſtwng ac yr ymoblyga, ac accw yr edrych yn vchel; yma y gwna rai ar ei blaid, ac accw y cais ochel gwrthwynebwyr. Ac at hynny y cyfeiria ef ei holl weithredoedd, ac y tuedda ei holl fatterion eraill, megis dull ei fuchedd, ei gadw cyfeillach, a gwifgad ei ddillad, a dull ei feirch, a'i weiſion, a'i ymddiddanion, a'i ymarweddiad, a'i gellwair, a'i edrychiad, ie ai gerddediad yn yr heolydd.

25, Yr vn modd yr hwn ſydd yn gwaſanaethu ei arglwyddes mewn gwŷn cybydd-dod; pa dôſt ofidus gaethiwed y mae efe yn ei ddioddef? Y mae ei galon ef wedi ei murio yngharchar gan arian, fel y mae yn rhaid iddo feddwl yn vnig am y rhei 'ny, a ſôn am danynt, a breuddwydio am danynt, a dychymmygu ffyrdd newydd i geiſio ychwaneg o honynt, heb wneuthur dim yn y byd ond hynny. Pe gwelych chwi Griſtion ynghaethiwed y Twrc, wedi ei rwymo erbyn ei droed â chadwyni mewn rhwyflong, i waſanaethu yno byth ac i rwyfo; ni allech chwi amgen na thoſturio wrth ei gyflwr ef. A pha beth a wnawn ninnau wrth ofid a thrueni'r dŷn yma, yr hwn fydd mewn caethiwed i greadur gwaelach a diſtadlach nag vn Twrc, ac nag vn creadur rheſymol arall, hynny ydyw, i ddernyn o fettel, gan yr hon y mae efe yngharchar, yn rhwym, nid yn vnig enbyn ei draed, fel na allo gerdded i vnlle, yngwrthwyneb i'w budd ac i'w gorchymmyn hi; ond hefyd erbyn ei ddwylo, erbyn ei enau, erbyn ei lygaid, erbyn ei gluſtiau, erbyn ei galon, fel nas gallo na gwneuthur, na dywedyd, na gweled, na chlywed, na meddwl am ddim, ond am ei gwaſanaethu hi? A fu erioed gaethiwed cymmaint â hyn? Ond gwir ynteu a ddywedodd Chriſt, Pwy bynnac ſydd yn gwneuthur pechod, y mae ef yn was i bechod. Ac ond da y dywaid Sainct Petr, Gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, y mae efe wedi myned yn gaethwas i hwnnw. Ioan 8.34. 2 Petr. 2.19.

26. Ac oddiwrth y caethiwed hwn y gwaredir y rhai duwiol, trwy nerth Chriſt, a'i gymmorth, yn gymmaint a'i bod hwy yn llywodraethu ar eu gwyniau a'i trachwantau, ac nid y rhein'i yn llywodraethu arnynt hwy. Hyn a addawodd Duw trwy 'r Prophwyd Ezeciel, gan ddywedyd, A hwy a gant wybod mai myfi yw'r Arglwydd; pan dorrwyf rwymau eu hiau hwynt a'i gwared hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwaſanaeth ganddynt, Ezec. 34.27. A'r daioni yma yr oedd Dafydd dduwiol yn ei gydnabod ynddo ei hun, pan ddywedodd efe yr geiriau nerthol hyn wrth Dduw, O Arglwydd, yn ddian dy wâs di ydwyfi, dy was di ydwyfi, mab dy waſanaethwraig; dattodaiſt fy rhwymau, a minnau a aberthaf i ti aberth moliant, ac a alwaf ar enw'r Arglwydd, Pſal. 116. 16. Y daioni yma hefyd y mae Sainct Paul yn ei gydnabod pan yw yn dywedyd ddarfod croeſhoelio ein hen ddyn ni gydâ CHRIST, er mwyn dirymmu corph pechod, fel rhag llaw na waſanaethom bechod. Wrth yr hen ddyn yma, a chorph pechod y mae efe yn deall ein trachwant ni, yr hwn a farwolaethir trwy ras Chriſt ym mhlant Duw. Rhuf. 6.6.

27. Yn oly braint yma ar rydd-did y canlyn braint arall o gymmaint pwys ac ynteu, a hwnnw yw rhyw heddwch nefol a llonyddwch meddwl, yn ô yrhyn a ddywaid y prophwyd, Ei babell ef ſydd mewn heddwch. Ac mewn lle arall, Heddwch mawr ſydd i'r rhai a garant dy gyfraith di, Pſal. 119. 165. Ac yn y gwrthwyneb y mae'r Prophwyd Eſai yn datcan yr ymadrodd yma yn fynych oddiwrth Dduw Nid oes heddwch i'r annuwiol medd yr Arglwydd, Eſ. 59.21. Ac y mae hefyd yn dywedyd am yr vn dynion, Diſtryw ac aflwydd ſydd yn eu ffyrdd; a ffordd tangnefedd nid adnabuant, Eſa. 59.7.8. Y rheſwm o'r rhagor yma ſy rhwng y duwiol a'r annuwiol a ddangoſwyd o'r blaen yn yr hyn a ddywedais am yr amrafael wyniau ſydd ynddynt. Oblegid y duwiol, gan ddarfod iddynt, trwy nerth grâs Chriſt ddaroſtwng cryfder mwyaf eu gwyniau, ſydd yn myned rhagddynt yn eu buchedd yn dra eſmwyth ac yn dawel trwy fod ei yſpryd ef yn eu cyfarwyddo hwy, a hynny heb na gwyniau na thrallod yn y byd ac ſydd yn blino nemmor arnynt, yn y matterion mwyaf a ddigwyddo yn eu bywyd hwy. Ond yr annuwiol am na ddarfu iddynt farwolaethu y gwyniau hynny, hwynt hwy a deflir ac a drallodir gan y gwyniau hynny, megis gan wynt gwrthwyneb crŷf. Ac am hynny y mae Eſai yn cyffelybu eu cyflwr hwy i fôr tymmheſtlog aflonydd, Eſ. 57.20. a S. Iaco yn ei gyffelybu i ddinas neu wlad a fo mewn rhyfel a therfyſg o'i mewn ei hun, Iac. 3.14. Ac o hyn y mae dau achos, y naill am fod gwyniau trachwant, y rhai ſy lawer ac anfeidrol agos mewn rhifedi, yn trachwantu ar ôl aneirif o bethau, ac na ddigonir hwy byth, ond bod yn debyg i'r ſugneion hynny mae 'r gwr doeth yn crybwyll am danynt, y rhai ſy'n llefain yn waſtad Moes moes, heb gael eu gwala byth, Dih. 30.15. Megis, i ddwyn i chwi eſampl, pa brŷd y caiff y neb a fo chwannog i oruchafieth ddigon o anrhydedd, na'r anllad ddigon o drythyllwch? na'r cybydd ddigon o arian? Ni chânt hwy byth; ac am hynny, megis na's gall y fam honno, na bô tôſt iawn arni, yr hon a fyddei iddi lawer o blant yn llefain ar vnwaith a hitheu heb ddim bara ganthi i'w dorri rhyngddynt: felly y mae 'n ddir bod yn flin ac yn dôſt iawn ar yr annuwiol a fo aneirif o wyniau yn galw arno yn awyddus am ymroi i'w deiſyfiadau hwy, yn enwedig gan nas gall ddigoni vn o'i deiſyfiadau lleiaf hwynt.

28. Achos arall o'r blinder ſy arnynt hwy ydyw, bod y gwyniau trachwant anllywodraethus yma, yn fynych yn wrthwyneb i'w gilydd, ac yn gofyn pethau gwrthwyneb, fel cymmyſg Babel, lle'r oedd y naill dafod yn dywedyd yn wrthwyneb i'r lall, a hynny mewn amryw ieithoedd gwrthwyneb i'w gilydd. Felly y gwelwn ninnau yn fynych, fod chwant i anrhydedd yn dywedyd, Treulia yn hydda, ond medd gwŷn cybydd-dod Attal dy law. Medd anlladrwydd, Anturia yma: ond medd balchder, Na wna ddim, fe all hynny fod yn ammraint mawr i ti. Medd digofaint dial dy gam, ond medd Chwant i oruchafiaeth, Gwell i ti na chymmerych arnat. Ac yn ddiweddaf, yma y cyflawnir yr hyn a ddywaid y Prophwyd, Gwelais anwiredd a chynnen yn y ddinas. Anwiredd, am fod holl ddymuniadau 'r gwyniau hyn yn dra anghyfiawn, am eu bod yn erbyn gair Duw. Cynnen, am fod y naill o honynt yn llefain yn erbyn y llall yn eu dymuniadau, Pſalm 55.10. Oddiwrth yr holl ofidiau hyn y gwaredodd Duw 'r cyfiawn, trwy roddi iddynt ei heddwch ef yr hwn ſydd vwch law pob deall, fel y dywaid yr Apoſtol, a'r hwn ni ddichon y byd ei roddi, na phrofi o hono fel y dywaid Chriſt ei hun, Phil. 4.7. Io. 14.17, 27.

29. A chynnifer a hyn, o achoſion a ellir en dangos yr awrhon, (heb law llawer eraill yr wyf yn eu gadael heibio,) i wirio geiriau Chriſt, fod ei iau ef yn yſgafn ac yn eſmwyth: ſef, help a chymmo th grâs; cariad Duw; goleuni deall oddiwrtli yr yſpryd glàn, diddauwch calon oddifewn; llonyddwch cydwybod; yr hyder ſydd yn dyfod o hynny; rhydid enaid a chorph; a hyfryd orphywys ein hyſprydoedd ni, tu ac at Dduw, tu ac at ein cymmydog, a thu ac attom ein hunain. Trwy 'r moddion hynny, a'r help, a'r breiniau, a'r doniau ardderchog, y cynnorthwyir y duwiol yn amgen na'r annuwiol, fel y dangoſwyd, ac y gwneir eu ffordd hwy yn eſmwyth, ac yn oleu, ac yn hyfryd. Ac at hynny y gallwn chwanegu y diddanwch yma, yn ddiweddaf cyſſur, er nad yw leiaf, ſef edrych a diſgwyl am daledigaeth; hynny ydyw am ogoniant a dedwyddyd tragywyddol i'r rhai duwiol; a damnedigaeth tragywyddol i'r rhai annuwiol. Ac dyma beth mawri ddwyn cyſſur a chomffordd i'r naill, os bydd eu bywyd yn boenus mewn duwioldeb, ac i drallodi ac i flino 'r llaill ynghanol holl bleſſer a difyrrwch eu pechodau. Y mae 'r gweithiwr wrth feddwl am y cyflog a gaiff efe yn yr hwyr, yn cymmeryd calon i fyned rhagddo yn ei waith, er poenuſed fo iddo. O byddai ddau yn cyd ſiwrneio tu a'i gwlâd, y naill i dderbyn anrhydedd a pharch am y gwaſanaeth da a wnaethai tra fuaſai oddi cartref, a'r llall yn garcharor i dderbyn barn cyfraith am y fradwriaeth a wnaethai mewn gwledydd dieithr yn erbyn ei Arglwydd; ni fyddent hwy ill dau, i'm tŷbi, mor llawen hyfryd y naill, a'r llall, yn eu lletty ar y ffordd: ac er bod yr vn o honynt a fai mewn perygl, yn canu ac yn cymmeryd arno fod yn galonnog ac yn wirion, ac yn dangos wyneb têg llawen: etto da y gallai 'r llall dybieid, fod llawer oer-loes yn ei galou ef o'r tu mewn, fel y mae 'n ddiammau ynghalon pob rhai annuwiol, pan feddyliont ynddynt eu hunain am y byd a ddaw. Pe b aſai Ioſeph a phobydd Pharao yn gwybod yn y carchar, pa gwttws a gai bob vn o honynt (ſef y cai'r naill ar y dydd a'r dydd alw arno i'w wneuthur yn arglwydd ar yr Aipht, a'r llall i'w grogi ar bren) fe fuaſai anhawdd iddynt fod mor llawen y naill a'r llall, tra fuaſent fyw ynghyd yn y carchar. Y cyffelyb a ellir ei ddywedyd yn wiriach o lawer, am y duwiol a'r annuwiol yn y byd hwn. Oblegid pan feddylio 'r naill am ddydd ei marwolaeth yr hwn yw 'r diwrnod y gwaredir hwy allan o garchar, ni ddichon bod na lammo eu calonnau hwy gan lawenydd, wrth yſtyried pa beth a ddigwydd iddynt ar ôl hynny, Ond y llaill a fydd blin arnynt, ac a ſyrthiant mewn trymfryd a thriſtwch, bob gwaith ac y clywont ſôn am farwolaeth, neu y meddyliont am dani: am fod yn ſiccr ganthynt fod angeu yn dwyn gwenwyn gydag ef iddynt hwy, fel y dywaid yr Scrythur lân, Pan fo marw'r drygionus, fe ddarfu am ei obaith ef. Dih. 11.7.

30. Felly, frawd anwyl, os yw 'r holl bethau hyn felly, pa beth bellach a allai dy attal di rhag rhoi dy fryd ar y peth yr wyf yn dy annog i'w wneuthur? A ddywedi di etto, er hyn i gyd, fod y peth yn galed, a'r ffordd yn anhyfryd? Neu a goeli di rai eraill ſydd yn dywedyd i ti hynny, er na wyddant hwy ond llai nag a wyddoſt di, o'r peth hynny? Coelia yn hyttrach air ac addewid Chriſt, ſydd yn dy ſiccrhau di o'r gwrthwyneb: coelia y rheſymmau a ddangoſwyd o'r blaen, y rhai ſy 'n profi hynny yn eglur: Coelia dyſtiolaeth y rhai a brofaſant hynny ynddynt eu hunain, fel y gwnaeth y brenhin Dafydd, a S. Paul, a S. Ioan Efangylwr; y rhai y dangoſais i ti y tyſtiolaethan o'r blaen, allan o'i genau hwy eu hunain: Coelia lawer cant, a droir ynghred beunydd trwy râs Chriſt, o fyw yn annuwiol i waſanaethu Duw; y rhai ſydd i gyd yn tyſtiolaethu ac yn dangos, ddarfod iddynt gael yn wir mwy nag a ddywedais i, nag a allwyf ei ddywedyd yn y matter yma.

31. Ac o herwydd y gelli di atteb a dywedyd, nad oes dim o'r cyfryw wyr lle 'r wyti, i ddangos i ti ddarfod iddynt hwy eu hunain brofi hynny; mi a allaf ddywedyd, ac yr wyf yn dywedyd i ti yn lle gwir, ar fy nghydwybod ger bron Duw; ddarfod i mi ſiarad fy hun a llawer o'r cyfryw rai; a chymmeryd cyſſur mawr wrth weled cadarn law Dduw, ac anfeidrol haelioni ei fwyneidd-dra ef tu ac attynt yn y peth yma. Oh, frawd anwyl, ni all vn tafod ddatgan pa beth a welais i yn hyn o beth; ac etto ni welais i mo'r rhan leiaf o'r hyn yr oeddynt hwy yn clywed oddiwrtho. Ond hyn a allaf ei ddywedyd, am y rhai a wyddis eu bod yn gyfarwydd, ac yn chwarae mor deg ac mor vnion ac y gall eraill ddadlwytho eu cydwybodau iddynt, er mwyn cael cyſſur neu gyngor ganddynt; mai rhan ydynt o'r rhai y mae 'r prophwyd yn dywedyd am danynt eu bod yn gwneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion, ac yn gweled gweithredoedd yr Arglwydd a'i ryfeddodau yn y dyfnder: ſef yn nyfnder cydwybodau dynion y rhai y maent yn eu hadrodd gyd â lliaws o ddagrau, pan gyffyrddo Duw â hwynt â'i fendigedig râs. Coelia fi ddarllennydd rhywiogaidd, canys yr wyf yn dywedyd y gwir ger bron ein harglwydd Jeſu, mi a welais gyſſur cymmaint ac mor rhagorol mewn llawer o bechaduriaid mawr yn ôl eu troi, ac nas gall calon ond prin ei amgyffred, ac nad oedd y calonnau a'i derbyniaſent ond braidd yn gallu ei gynnwys: mor helaeth yr oedd y gwlith nefol yn diferu i lawr oddiwrth haelionus law Dduw. Ac fel na bo i ti dybied fod hyn yn ddieithr, rhaid i ti wybod fod etto goffa am vn gwr duwiol a elwid, Ephrem, ddarfod iddo gael diddanwch mor rhyfeddol o faint yn ôl iddo droi at ddaioni, ac y cymmhellid ef yn fynych i waeddi ar Dduw; Oh Arglwydd, tro heibio dy law oddiwrthyf, am nad yw fy nghalon i yn abl i dderbyn llawenydd mor anfeidrol.Gofr. in vit. Bern. Ac y mae 'r cyffelyb yn yſgrifennedig am Sainct Bernard, ei fod ef dros ennyd o amſer yn ôl iddo droi oddiwrth y byd, megys wedi ei ddifuddio o'i ſynhwyrau, gan faint y diddanwch a gawſai efe am Dduw.

32. Ond onis gall hyn oll dy annog di, ond mynnu o honot arhos yn dy anhyder, gwarando dyſtiolaeth vn, a wni y gwnai di goel arno, yn enwedig ac ynteu yn dywedyd y peth a brofodd ynddo ei hun: hwnnw yw'r merthyr a'r athraw ſanctaidd Sainct Cyprian, Lib. Epiſt. 1. yr hwn wrth yſgrifennu at wr a garai, ac oedd o'i gyfrinach ef ac a elwid Donatus, ſydd yn cyfaddef ei fod ef, cyn iddo droi, o'r vn meddwl ac yr wyt titheu; ſef meddylio fod yn ammhoſſibl iddo newidio ei fuchedd, a chael y fath gomffordd mewn buchedd dduwiol ac a gafodd efe wedi hynny: ac ynteu o'r blaen yn ymarfer â phob math ar ddrwg ymarweddiad. Ac am hynny y mae ef yn dechreu ei draethawd at ei gyfaill yn y modd hyn, Accipe quod ſentitur ante quam diſcitur, Cymmer y peth a glywir oddiwrtho, cyn y dyſger; ac felly y mae'n myned rhagddo mewn hir draethawd, ac yn dangos ddarfod iddo yr awrhon weled a phrofi 'r peth ni allai efe erioed ei gredu cyn iddo droi, er bod Duw wedi ei addaw iddo.Lib: 6. Confeſſ. c. 12. Y cyffelyb y mae S. Awſtin yn ei ſgrifennu am dano ei hun, yn llyfrau ei gyffes, lle y mae yn dangos y mynnai ei wyniau ef er dim ac a fai, beri iddo goelio cyn iddo droi, na byddai efe byth abl i ddioddef peth mor galed ac mor doſt ac yw buchedd dduwiol: yn enwedig am bechodau 'r cnawd, y uaſai efe fyw yn drythyll nwyfus ynddynt hyd yr amſer hwnnw, ni thybygid bod yn boſſibl iddo byth eu gadael, a byw yn ddiwair: ac er hynny efe a gâfodd wybod wedi, fod y peth yu eſmwyth, ac yu hyfryd, ac heb ddim caledi ynddo. Ac am hynny y mae efe yn torri allan i'r geiriau hyn, Fy Nuw, bid i mi gofio, a chyfaddef dy drugareddau di tu ac attaf; llawenyched fy eſgyrn, a dywedant wrthyt, Oh Arglwydd, pwy ſydd fel tydi? Dattodaiſt fy rhwymau; ac mi a aberthaf i ti aberth moliant. Y rhwymau hyn oedd rwymau trachwant, y rhai oedd yn ei rwymo ef mewn caethiwed cyn ei droi, fel y mae efe yn cyfaddef yno ond yn y man ar ôl hynny efe a waredwyd odd wrthynt, trwy gymmorth ſancteiddiaf râs Duw. Pſal. 35.10. Pſal. 116.16.

33. Fy nghyngor i gan hynny, ddarllennydd hawddgar, gan fod iti gynnifer o dyſtiolaethau, ac o eſamplau, ac o reſymmau, ac addewidion o'r peth; oedd fod i ti vnwaith o'r hyn lleiaf brofi ynot dy hun beth a wna hyn ai bod yn wir ai peidio: yn enwedig gan ei fod yn fatter o gymmaint o bwys, ac yn haeddu cyſtal gael gennyt ei brofi: hynny ydyw, am ei fod yn perthyn cyn neſſed i'th lechydwriaeth dragywyddol di. Pe deuai ddyn gwael attat, a chynnyg i ti er anturio vn goron aur; wneuthur i ti fil o goronau trwy gelfyddyd Alchymi: pe rhon a'th fod yn ammau nac yw efe ond coegwr a thwyllwr, etto gan fod gobaith o ynnill cymmaint, ac nid yw 'r antur ond colled cyn lleied, ti a fyddit debyg iawn i brofi 'r matter vnwaith, er a wnelai vn goron. Pa faint mwy y dylit ti brofi 'r matter yma, lle ni elli di golli dim wrth ei brofi; ond os ffynna gennyt, ti a elli ynnill cymmaint ac a dâl tragywyddol lawenydd nef.

34. Ond etto yma ar y ffordd, ni allafi nas rhybuddiwyf di am vn peth y mae'r hên dadau a Sainct Duw aeth o'th flaen di trwy'r afon yma ſy'n terfynu rhwng gwaſanaeth Duw a'r bŷd, yn ei ddywedyd ddarfod iddynt hwy ei brofi: hynny ydyw bod yn rhaid i ti cyn gynted ac yr amcenych roi dy fryd ar ymadael â'r bŷd a gwaſanaethu Duw, ddiſgwyl am gyrchfaau, ac ymladdau, a rhyfel cyhoedd o'th fewn dy hun,C pr. lib. 1. cap 1. Aug. lib. 1. doct. Chriſt. cap. 23. Greg. Mor. lib. 4. c. 24. li, 30. c. 18. Cyril lib. deorat. Orig. ho. 30 in ex & levit, & 11 Ioſ. Hilar in Pſal. 118. fel y mae Sainct Cyprian, Sainct Awſtin, S. Grigor, a S. Bernard, yn dywedyd ddarfod iddynt hwy ei gael ynddynt eu hunain. Hyn y mae Cyril ac Origen yn ei ddangos yn helaeth mewn amryw leoedd. Hyn y mae Sainct Hilar yn ei brofi drwy reſymmau ac eſamplau. Hyn y mae 'r gŵr doeth yn dy rubuddio di am dano, ac yn ewyllyſio i ti, P n ddelych i waſanaeth yr Arglwydd baratoi dy enaid i brofedigaeth. Ecc. 2.1. A'r rheſwn o hynny ydyw, am fod y cythraul, tra oedd mewn heddychol feddiant o'th enaid ti o'r blaen, yn aros yn llonydd ac yn ceiſio ym mhob modd dy foddloni di trwy oſod gar dy fron di bob dyfyrrwch cnawdol a phob math ar hyfrydwch newydd ar ôl ei gilydd. Ond pan welo efe dy fod yn amcanu ymadael ag ef, ef a ddechreu yn y man ymgynddeiriogi, a chodi terfyſg o'th fewn di, a therfyſgu nef a daiar, cyn y collo ef ei deyrnas yn dy enaid ti. A hyn ſydd amlwg wrth eſampl yr hwn a waredodd Chriſt, wrth ddyfod i wared o'r mynydd yn ol ei weddnewidiad, oddiwrth yſpryd byddar mud. Oblegid er na chymmerai'r cythraul arno na dywedyd na chlywed, •• a oedd efe yn cael meddiannu'r corph hwnnw yn llonydd; etto pan orchymmynnodd Chriſt iddo fyned allan, efe a glywodd ac a waeddodd hefyd, ac a rwygodd ac a ddrylliodd y dyn truan hwnnw, fel y tybiodd pawb ar a oedd yn ſefyll yno ei fod efe wedi marw yn ſiccr, Marc. 9. A hyn a ddangoſwyd trwy ffigur yn hiſtori Laban, yr hwn ni flinodd ronyn ar ei fab yn y gyfraith Jacob, hyd oni chychwynnodd ymadael ag ef, Gen. 31. Ac etto yn amlygcach yr hyſpyſwyd hyn yngwaith Pharao, yr hwn pan wybu efe vnwaith fod pobl Iſrael a'i brŷd ar ymadael allan o'i deyrnas ef, ni pheidiodd efe â'i blino hwy yn doſt, fel y tyſtiolaetha Moeſen, hyd oni waredodd Duw hwynt yn gwbl allan o'i ddwylo ef, a hynny trwy gwymp a diniſtr yr holl Aipht eu gelynion hwy: A'r ymwared hwnnw a ddyweid y tadau duwiol a Sainct yr Eglwys, ei fod yn ffigur amlwg o warediad ein heneidiau ni allan o gaethiwed y cythraul.

35. Acos mynni di gael eſampl eglur o'r hyn oll a ddywedais i o'r blaen, mi a allwn ddwyn i ti lawer o eſamplau; ond rhag bod yn rhyhir, digon fydd eſampl troad Sainct Awſtin yn vnig, fel y mae efe yn tyſtiolaethu ei hun yn llyfrau ei gyffes. Eſampl ryfeddol ydyw, ac y mae 'n cynnwys llawer o byngciau godidog comfforddus. Ac yn ſiccr pwy bynnag a'i darllenno i gyd trwyddi, yn enwedig yn y chweched, a'r ſeithfed, a'r wythfed llyfr o'i gyffes ef;Lib. 8. Confeſſ. c. 1. & 2. efe a gaiff ei gyffroi a'i addyſgu yn fawr wrth, hynny. Ac mi a attolygaf arnati ddarllennydd ſydd yn d all lladin, fwrw golwg o'r hyn lleiaf ar rai pennodau o'r wythfed llyfr, lle y datgennir troad y Sanct yma, yn ôl aneirif o ymladdau. Rhyhir a fyddai ei adrodd yma, er ei fod yn gyfryw mewn gwirionedd ac na bai raid i neb fod yn flin gantho ei glywed. Yno y mae efe yn dangos pa drallod a blinder a gafodd efe yn yr ymdrech yma rhwng y cnawd a'r yſpryd, rhwng Duw yn tynnu o'r naill du, a'r byd, a'r cnawd a'r cythraul yn dal or tu arall. Efe a aeth at Simplicianus hên wr dyſgedig, a Chriſtion dwyfol: efe aeth at Sa ct Ambros eſgob Milan: ac wedi iddo ymddiddan â hwynt, ef a gafodd mwy o flinder nag o'r blaen. Efe a ymgynghorodd a'i gyfeillion, Nebridius ac Alipius, ond nid oedd hynny i gyd yn eſmwythau dim arno; hyd oni ddaeth o'r diwedd ryw Griſtion oedd wr llys a chapten, a elwaid Pontition, a dywedyd iddo ef ac i Alipius, ar ryw achlyſur, am fuchedd dduwiol Sanct Anthoni, yr hwn ychydig o'r blaen a ymroeſai i fyw yn neillduol ac yn vnig yn yr Aipht; fel y clywodd efe hefyd fod eraill yn gwneuthur, ie yn Milan, lle 'r oedd efe yr amſer hwnnw. Pan glywodd efe hynny efe a dynnodd o'r neilldu, ac a gafodd ymdrech tra ofnadwy ag ef ei hun: am yr hwn y mae efe yn yſgrif •• nu fel hyn, Cap. 7. Pa beth na's dywedais i yn fy erbyn fy hun yn yr ymdrech yma? Pa fodd y curais i, ac y ffrewyllais fy enaid fy hun, i beri iddo dy ganlyn di, O Arglwydd? Ond yr oedd y enaid i yn tynnu yn ôl, ac yn gwrthod, ac yn ymeſguſodi: a phan orchfygwyd ei holl reſymmau ef, efe a grynodd ac a ofnodd, megis rhag angeu, rhag ei dynnu oddiwrth ei ddrwg after yn pechu. Ac wrth hynny ef a ymdreuliodd hyd angeu. Wedi hyn ef a aeth i'r ardd gyd ag Alipius e gyfaill, ac yuo efe a lefodd wrtho ef, Cap. 1. Quid hoc eſt? Quid patimu ? Surgunt indocti & Caelum capiunt, & nos cum doctrinis noſtris, ſine corde, ecce vbi volutamur in carne & ſanguine. Pa beth yw hyn? Alipius, pa beth yr ydym ni yn ei ddioddef tan gaethiwed pechod? y mae gwŷr annyſgedig (fei Anthoni ac eraill; oblegid annyſgedig oedd efe) yn cippio 'r nef trwy drais, a ninnau a'n holl ddyſg gennym, heb galonnau, wele fel yr ydym ni yn ymdreiglo mewn cnawd a gwaed. Ac yno y mae ef yn myned rhagddo, ac yn dangos y blinderau rhyfeddol anghredadwy a gafodd efe yn yr ymdrech yma'r dwthwn hwnnw: Wedi ŷn efe a aeth allan i berllan, ac yno y cafodd efe etto ymdrech mwy. Oblegid yno yr oedd ei holl bleſſer a'i ddigrifwch bydol yn ymddangos yngŵydd ei lygaid ac yn dywedyd, Dimitteſne nos, & a momento iſto non erimus tecum vltra in Aeternum, &c. Pa beth? a ymadewi di â nyni? Ac oni chawn ni fod gydâ thi byth mwy, o'r munyd yma allan? Oni bydd cyfraithlon i ti wneuthur hyn neu'r llall byth yn ol hyn? Ac yna medd Sainct Awſtin, tro oddi wrth feddwl dy was feddylio am y peth y maent yn ei roi yn erbyn fy enaid: pa frynti, pa ddifyrrwch cywilyddus a oſodent hwy ger bron fy llygaid i? O'r diwedd y mae yn dywedyd, yn ol ymdrech hir a ma th, ddyfod arno dymmeſtl ryfedd o wylo: a chan nas gallai ei wrthwynebu, efe a redodd ymaith oddiwrth Alipius, ac a'i bwriodd ei hun ar y ddaiar tan ffigyſ- •• en, ac a adawodd i'w lygaid wylo eu hamcan, a hwythau yn y man a ollyngaſant lifeiriaint o ddagreu. Ac ychydig wedi myned y rhai hynny heibio, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth Dduw yn y modd hyn, Et tu Domine, vſquequo? quam diu, quamdiu, cras & cras? quare non modo? quare non hac hora finis eſt turpitudinis meae? O Arglwydd, pa hyd y gadewi di i mi fod fel hyn? pa hyd, pa hyd y dywedaf, Yforu, yforu? pa ham na's gwnawn heddyw? pa ham na bydd diben ar fy muchedd aflan i yr awr hon? Ac yn ol hyn y canlyn ei ryfeddol ymchweliad ef, ac ymchweliad Alipius ei gyfaill ef, yr hon am ei fod ef ei hun vvedi ei goſod i lawr yn fyrr, mi a adroddaf ei eiriau ef ei hun; y rhai ſy fel y canlyn yn y man, ar ol y rhai o'r blaen.

36. Mi a ymddiddenais fel hyn a Duw, ac a wylais yn drachwerw, ynghyd a dwfn ofid calon; ac wele mi a glywn lef, fel pettai lais bachgen neu eneth yn canu o ryw dŷ ger llaw, ac yn adrodd yn fynych Cymmer a darllein, Cymmer a darllein. Ac yn ebrwydd mi a newidiais fy wynebpryd, ac a ddechreuais feddwl yn dra difrif ynof fy hun, a fyddai blant arfer o ganu dim o'r fath beth, mewn chwarae yn y byd ar y byddent yn ei wneuthur: ond nid yw 'n dyfod yn fy nghof glywed dim o'r fath beth erioed. Am hynny mi a attelais nerth fy nagrau, ac a godais i fynu, heb fedru dirnad dim amgen, nâ dyfod y llef honno o'r nef, i beri i mi egori 'r llyfr oedd gennyf gydâ mi, (yr hwn oedd Epiſtolau Sainct Paul) a darllein y bennod gyntaf a gyfarfyddai a mi. Oblegid mi a glywſwn o'r blaen am Sainct Anthoni, fel y rhybuddiaſid ef i droi, wrth glywed darllain gwers o'r Efengyl, yr oeddid yn ei darllain, pan oedd efe, ar ryw achlyſur yn dyfod i'r glwys; a'r wers honno oedd, Dôs, gwerth gwbl 〈◊〉 ſydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gai dryſor yn y nef, a thyred a chanlyn fi, Mat. 19.21. Yr ymadrodd yma a gymmerodd Sainct Anthoni, megis pe y dywedaſid wrtho ef ei hun yn neillduol; ac yn y man efe a droodd at ati, o Arglwydd. Am hynny mi a aethym finnau ar frys i'r man lle'r oedd Alipius yn eiſtedd, oblegid yno y gadawſwn fy llyfr pan ymadawſ n: mi a'i cippiais i fynu, ac a'i hegorais, ac a ddarllennais yn gyfrinachol ddiſtaw y bennod gyntaf a ddaeth i'm golwg, ac yno yr oedd y geiriau hyn, Nid mewn cyfaddech, a meddwdod; nid mewn cydorwedd, ac anlladrwydd; nid mewn cynnen, a chynfigen: Ond gwiſgwch am danoch yr Arglwydd Jeſu Ghriſt; ac na wnewch ragddarbod tros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef, Rhuf. 13.13. Pellach na'r ymadrodd yma nis darllennwn, ac nid oedd raid i mi Oblegid yn y man gyda diwedd yr ymadrodd hwnnw, fe ffoawdd holl dywyllwch petruſder ymaith o'm calon, megis pe buaſai lewyrch diogelwch wedi ei dywallt ynddi. Ar hynny mi a roais fy mŷs, neu ryw nôd arall nid wyf yr awrhon yn ei gofio, ar y lle a ddarllennaſwn, ac a geuais y llyfr, ac ag wynebpryd heddychol mi a ddangoſais y cwbl i Alipius. Ac ynteu wrth, hynny a fynegodd yr hyn a weithieſid ynddo ynteu, yr hyn nis gwyddwn i o'r blaen, ac a ddeiſyfiodd gael gweled y peth a ddarllennaſwn i; ac mi a'i dangoſais iddo. Efe a'i hyſtyriodd i gyd oll ac a aeth ym mhellach nag y darllennaſwn i. Oblegid y mae'n canlyn yn Sanct Paul, (yr hyn nis gwyddwn i) Derbynniwch attoch yr hwn ſydd wan yn y ffydd, Rhuf. 14.1. Yr hyn a fwriodd Alipius atto ei hun, ac a agorodd ei holl betruſder i mi. Ond trwy y rhybudd yma eiddo Sainct Paul, efe a ſiccrhawyd, ac a gyſſylltwyd attafi yn fy amcan da, ond er hynny yn dawel, ac heb ddim cyngyd trallodus, fel yr oedd ei naturiaeth a'i foddion, yn yr hyn yr oedd efe, yn rhagori arnafi, yn y rhan oreu.

37. Yn ôl hyn ni a aethom at fy mam i,Monica oedd ei henw: gwraig dduwiol iawn ydoedd fel y mae efe 'n dangos, lib. 9. cap. 9.11, 12, 13. ac a ddywedaſom y peth iddi hitheu, a hi fu lawen ganthi: ni a'i mynegaſom iddi mewn trefn, hithau a lawenychodd ac a orfoleddod, ac a'th fendithiodd di ô Arglwydd (yr hwn wyt gadarnach a haelach, nag y medrwn ni na gofyn na deall) am ei bod yn gweled ddarfod i ti ganiattau iddi o'm plegid i, fwy nag y byddei hi arfer o'i ofyn yn ei hocheneidiau trymion toſturus. Oblegid ti a'm troeſit i felly attat ti, fel na cheiſiais i byth wraig, na dim gobaith arall yn y byd hwn: ond byw ac arhos yn y rheol ffydd honno, yn yr hon y datguddiaiſt fi iddi, cynnifer o flynyddoedd o'r blaen. Ac felly ti a droiſt ei thriſtwch hi yr awrhon, yn llawenydd helaethach nag a fedrai hi ei ddymuno, ac yn llawenydd cuach a diweiriach, nag a fedrai hi ei ofyn oddiwrth fy mhlant i a'm hwyrion pe buaſwn i yn ceiſio gwraig. O Arglwydd, yr wyfi yn was i ti, yr wyn yr awrhon yn was i ti, ac yn fab i'th waſanaethwraig, ti a ddattodaiſt fy rhwymau; a minnau a aberthaf i ti am hynny aberth moliant. Molianned ſynghalon a'm tafod innau dydi, a dyweded fy eſgyrn wrthyt; O Arglwydd, pwy ſydd fel tydi? Dywedent hwy hynny, ô Arglwydd, ac atteb ditheu, mi a attolygaf i ti, a dywed wrth fy enaid, Myſi yw dy iechydwriaeth. Hyd hyn y mae geiriau S. Awſtin, Li. 9. ca. 1.

38. Yn yr eſampl ryfeddol hon am droad y gwr enwog yma, y mae amryw bethau i'w hyſtyried, i'n diddanu ni, ac i'n haddyſgu hefyd. Yn gyntaf, y mae i ni yſtyried yr ymdrech mawr a fu rhyngtho a'i elyn yſprydol, cyn gallu diangc allan o'i feddiant a'i lywodraeth ef. A diammau fod yn fwy yr ymdrech hwnnw, am fod yn rhaid iddo ef wedi hynny fod yn golofn cymmaint yn Eglwys Dduw. Ac ni a welwn na chafodd Alipius cymmaint o wrthwyneb, am fod y gelyn yn gweled nad oedd ynddo ef ond llai o ddeunydd o lawer nag oedd yn Awſtin, i niweidio ei deyrnas ef. Yr hyn a ddylai roi comffordd mawr i'r rhai ſy 'n clywed gwrthwyneb mawr, a phrofedigaethau cryfion yn erbyn eu galwedigaeth: a bod yn ſiccr ganddynt, fod hynny yn arwydd o ras a ffafor, os hwy a ant rhagddynt yn wrol. Felly y galwyd S. Paul, fel yr ydym yn darllain, trwy nerth a gwrthwyneb mawr, trwy ei daro i lawr i'r ddaiar, a'i wneuthur yn ddall cyn iddo droi; am ei fod ef yn lleſtr etholedig i ddwyn Enw Chriſt at y Cenhedloedd. Act. 9.

39, Yn ail y mae i'w yſtyried, er bod yn y gwr hwn wyniau cadarngryf o flaen ei ymchweliad, a hynny yn y clefydau mwyaf, ac anhawſaf eu hiachau, ac ſy fynychaf yn blino y rhai bydol; megis mewn chwant i oruchafiaeth, cybydd-dod, a phechodau 'r cnawd, fel y mae efe ei hun yn cyfaddef o'r blaen: a'r clefydau hynny oedd mewn gwirionedd mor grŷf yn ei berchennogi ef, ac y tybiai efe yn ammhoſſibl, cyn ei droi, allu eu daroſtwng a'i gorchfygu hwy byth: Li. 6. ca. 6. & 16. etto wedi hynny efe a gafodd brofi 'r gwrthwyneb trwy help hollalluog ras Duw. Yn drydydd hefyd y mae i ni yſtyried, nid yn vnig iddo gael goruchafiaeth orcheſtol ar y gwynian hyn, ond cael o hono hefyd fawr hyfrydwch yn ffordd buchedd dduwiol. Oblegid, ychydig yn ôl iddo droi, y mae efe yn ſcrifennu fel hyn: Ni chawn i byth ddigon, o Arglwydd, yn y dyddiau hynny, o'r rhyfeddol hyfrydwch a roddaiſt i mi; pa faint a wylais i yn dy hymnau a'th ganeuau di, ac mor grŷf i'm cyffroid gan leiſiau dy Eglwys di yn canu 'n beraidd hyfryd? Y lleiſiau hynny a redent i'm cluſtiau, a'th wirionedd a doddodd i mewn i'm calon, ac oddiyno y berwodd allan naws duwioldeb, ac a barodd i ddagrau redeg oddiwrthyf, ac yr oeddwn mewn cyflwr tra happus ganddynt. Li. 9. ca. 6.

40. Yn bedwerydd y mae i'w yſtyried er mwyn ein haddyſgu ni a pheri i ni ei ganlyn, beth oedd ymarweddiad y gwr hwn ynghylch ei alwedigaeth: yn gyntaf drwy ei chwilio a'i phrofi, wrth gyrchu at Sainct Ambros, a Simplicianus ac eraill; drwy ddarllein gair Duw, ac arfer o gwmpeini da, a'r cyffelyb: yr hyn a ddylyt titheu, ddarllennydd mwynlan, ei wneuthur, pan glywech dy gyffroi o'r tu mewn: ac nid gorwedd yn farw, fel y gwna llawer, drwy wrthwynebu yr yſpryd glan yn amlwg, a phob yſprydoliaethau da; ac heb roi clûſt cymmaint ac vnwaith i Griſt yn curo wrth ddrws eu cydwybodau. Heb law hyn, ni wrthododd S. Awſtin, fel y gwelwn ni, mo'r moddion i adnabod ei alwedigaeth, ond gweddio, ac wylo, a mynych ymnaillduo ac ymddidoli ar ei ben ei hun oddiwrth gwmpeini, i ymddiddan â Duw yn y matter hwnnw. Yr hyn nis gwna llawer o honom ni byth: ond yn hytrach ffieiddo a gochel pob moddion a allai yn dwyn ni i feddwl am droi at Dduw. Yn ddiweddaf, S. Awſtin, Li. 9. ca. 2. wedi iddo vnwaith weled beth oedd ewyllys Duw yn oleu, nid oedodd mo 'r peth ddim hwy; ond torri ymaith yn nerthol oddiwrth yr holl fyd a'i orwagedd; a rhoi i fynu ddarllain a dyſgu Areithyddiaeth ym Milan; ac ymadael â phob gobaith o gael goruchafiaeth yn y llŷs, ac ymroi i waſanaethu Duw yn gwbl: ac am hynny nid rhyfedd gael o hono ef cymmaint diddanwch a chodiad gan Dduw yn ôl hynny, a chael bod yn aelod mor wiw yn ei Eglwys ef. A'r eſampl yma a ddylai bawb ei chanlyn, ac y ſydd yn chwennych cadw cydwybod dda, cyn belled ac y goddefo cyflwr a buchedd pob dŷn.

41. Ac yma ar hyn o achlyſur, ni allafi beidio a'th rybuddio di, ddarllennydd hynaws, a'th ragrybuddio di trwy eſampl S. Awſtin, y bydd rhaid i bawb ac a fo yn meddwl rhoi ei fryd ar waſanaethu Duw yn gwbl, wneuthur hynny megis trwy gymmell yn y dechreuad. Oblegid fel y mae yn hawdd diffodd tân os rhuthrwch arno trwy nerth, ond os cymmerwch ef yn araf ac yn eſmwyth, a rhoi vnllaw arno ar ôl y llall, chwi a ellwch yn hytrach wneuthur niweid i chwi eich hun na diffodd y tan: felly am ein gwyniau ninnau, y rhai ſy 'n gofyn gwroldeb a chalondid yn y dechreuad, y rhai pwy bynnag a'i harfero, ynghyd a'r moddion eraill ſydd yn perthyn i hynny, yn dra diau efe a gaiff weled fod yn eſmwyth y peth y mae efe yr awrhon yn tybied ei fod yn drwm; a bod yn dra hyfryd y peth y mae efe yr awrhon yn ei gyfri 'n ddiflas. Er mwyn profi hynny,In verba Evangecce nos reli que omnia, &c. a diweddu 'r pennod yma hefyd, mi a adroddaf draethawd byrr allan o Bernard, yr hwn yn ôl ei arfer, ſydd yn profi 'r peth yn gymmwys allan o'r Scrythurau. Y mae Chriſt yn dywedyd wrthym, Cymmerwch fy iau i arnoch, a chwi a gewch orphywyſdra, Mat. 11.29. Dyma newyddion rhyfeddol, ond y mae 'n dyfod oddiwrth yr hwn ſydd yn gwneuthur pob peth yn newydd: Bod y neb ſy 'n cymmeryd yr iau arno, yn cael eſmwythdra; a'r neb ſydd yn gadael y cwbl, yn cael y can cymmaint. Efe a wyddai hynny (ſef y gwr oedd wrth fodd calon Duw) yr hwn a ddywedodd yn y Pſalm,Pſ. 94.20. Felly y mae yn y lladin. A lŷn gorſeddfaingc anwiredd wrthyt ti ô Arglwydd, yr hwn wyt yn cymmeryd arnat fod poen yn dy orchymmynion di. Ond poen yw hon a gymmerai vn arno ei bod mewn gorchymmyn, frawd anwyl? ſef baich yſgafn, ac iau eſmwyth, a chroes wedi ei henneinio. Felly yn yr hên amſer y dywedodd efe wrth Abraham, Cymmer dy fab Iſaac, yr hwn a hoffaiſt, ac offrymma ef i mi yn boeth offrwm, Gen. 22.2. Dyma boen a dybid ei bod mewn gorchymmyn: oblegid er darfod offrymmu Iſaac, nid ei ladd ef ond ei ſancteiddio a wnaed wrth hynny. Titheu gan hynny, os clywi lef Duw o fewn dy galon yn ewyllyſio i ti offrymmu Iſaac, yr hyn a arwyddoccau llawenydd, neu chwerthin; nac ofna vfyddhau iddi yn ffyddlon ac yn ddianwadal: a pha beth bynnag a dybio dy ewyllys llygredig di o'r peth, bydd di ddiogel: Nid Iſaac, ond yr hwrdd a fydd marw yn yr achos: nid dy lawenydd di a dderfydd am dano, ond dy gyndynrwydd yn vnig, yr hwn y mae ei gyrn ynglyn mewn drain, ac nis gall fod ynoti heb pigiadau cyfyng betruſder. Nid yw dy Arglwydd ond dy brofi di, fel y profodd efe Abraham, i edrych beth a wnei di. Iſaac, (hynny ydyw, dy lawenydd di yn y byd hwn) ni bydd marw ddim, fel yr wyti yn tybied, ond byw fydd: yn vnig mae 'n rhaid ei godi fo i fynu ar y coed, er mwyn cael o'th lawenydd di fod yn vchel, ac er mwyn cael o honot ti ogoneddu, nid yn dy gnawd dy hun, ond yn vnig ynghroes dy Arglwydd, trwy 'r hwn hefyd i'th groeſ-hoeliwyd titheu; i'th groeſ-hoeliwyd meddaf, ond i'r byd i'th groeſ-hoeliwyd; oblegid i Dduw yr wyti yn fyw etto, a hynny yn hytrach nag yr oeddit o'r blaen.

PEN II. Am yr ail rhwyſtr, yr hwn yw erlid, a blinder, a thrallod, gan y rhai y cedwir llawer oddiwrth waſanaeth Duw.

LLawer ſydd yn y byd, y rhai naill ai wrth yſtyried y pethau hyn a ddywetpwyd o'r blaen, ai am eu bod yn gweled rhai gwyr yn byw mor llawen a hwythau, ſydd foddlon i ganhiadu hyn, eu bod hwy mewn gwirionedd yn cyfrif bod buchedd dduwiol yn ddigon hyfryd, i'r rhai ſy vnwaith wedi myned i mewn iddi, ac y clywent hwythau arnynt fof yn fodlon mewn gwirionedd i'w chanlyn hi, pe gallent wneuthur hynny trwy lonyddwch a heddwch o bob parth. Ond os gofynnir hynny ganddynt ar y cyfryw amſer a'r cyfryw le, ac yn y cyfryw drefn a dull, a modd, ac y gorphai arnynt ddioddef trallod, a chyſtudd, ac erlid o'r achos; y maent hwy yn tybied fod hynny yn beth anrheſymmol ei ofyn ganddynt, a bod yn ddigon da eu heſgus hwy ger bron Duw a dyn, er iddynt ei wrthod. Ond nid yw ddim gwell yr eſgus yma nâ 'r hwn o'r blaen, am yr anhawſder a dybiant ei fod yn gwaſanaethu Duw: am fod yr eſgus yma yn ſefyll ar ſail anghywir, ac ar reſwm anghyfiawn a oſodir ar y ſail honno. Y ſail yw hyn, y gall dyn fyw yn dduwiol, a gwaſanaethu Duw yn gywir mewn pob math ar eſmwythder bydol, ac heb ddim cyſtudd, na thrallod, nac erlid: a hynny nid wy wir. Oblegid, er bod gwrthwyned oddi allan, ac erlid yn fwy ryw amſer na'i gilydd, ac yn fwy yn rhyw fan na'i gilydd; etto ni all bod na lle nac amſer, heb beth gwrthwyneb, oddifewn ac oddiallan hefyd. Y rhai er eu bod, fel y dywedais o'r blaen, heb fod yn drymion nac yn anhyfryd gan y duwiol, o achos bod Duw yn danfon amryw gymmorth, a diddanwch iddynt, ynghyfer y gwrthwyneb hwnnw: etto ynddynt eu hunain y maent yn fawr ac yn drymion hefyd, fel y caid gweled pe cwympai 'r cyffelyb ar yr annuwiol a'r annioddefgar. Yn ail, y mae y rheſwm a oſodir ar y ſail honno, yn anghyfiawn, am ei fod yn dywedyd fod trallod yn ddigon o reſwm iddynt i wrthod gwaſanaethu Duw, a Duw wedi ordeinio trallod megis modd i dynnu dynion i'w waſanaethu ef. Er mwyn hyſpyſſu hynny yn well, ac ynteu yn fatter o gymmaint pwys, mi a draethaf yn y bennod yma 'r pedwar pwngc hyn. Yn gyntaf, pa vn a wna ai bod yn gyffredin, gorfod ar bawb a fo cadwedig, ddioddef rhyw fath ar erlid, a thrallod, a chyſtudd ai nas gorffo. Yn ail, beth yw 'r achoſion pa ham y dewiſodd ac yr appwyntiodd Duw, ac ynteu yn ein caru ni fel y mae, wneuthur a ni felly yma yn y byd hwn. Yn drydydd, pa reſymmau pennaf o ddiddanwch ſydd i ddyn i'w cael mewn trallod. Yn bedwerydd, pa beth a ofynnir ganddo ef yn y cyflwr hwnnw. Ac wedi darfod yſpyſſu 'r pedwar pwngc yma, nid wyf yn ammau na cheir gweled goleuni mawr yn y matter yma, yr hwn yn nhŷb cig a gwaed ſydd mor llawn o dywyllwch ac anghyffelybrwydd.

2. Ac am y cyntaf nid rhaid fawr profedigaeth, am fod Chriſt ei hun yn dywedyd wrth ei ddiſgyblion, a thrwyddynt hwy wrth bawb eraill o'i weiſion, In mundo preſſuram habebitis, Yn y bŷd y cewch orthrymder, Jo. 16.33. Ac mewn lle arall, Yn eich ymmynedd y meddiennwch eich eneidiau, Luc. 21.19. Hynny ydyw, trwy ddioddef yn ymmyneddus mewn gwrthwyneb: yr hyn y mae Sainct Paul yn ei adrodd yn eglurach, pan yw yn dywedyd, Pawb ar ſy 'n ewyllyſi byw yn dduwiol ynghriſt Jeſu, a erlidir, 2 Tim. 3.12. Ac os erlidir pawb, ni ddiangc neb. Ac i ddangos etto ym mhellach mor angenrheidiol ydyw hynny, y mae Paul a Barnabas hefyd yn rhoi athrawiaeth, fel y mae S. Luc yn nynegi, Mai trwy lawer o orthrymderau y mae 'n rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw, Act. 14.22. gan arfer y gair Oportet, yr hwn ſydd yn arwyddoccau bod yn ddir ac yn angenrhaid i ni hynny. Ac y mae Chriſt ei hun etto ym mhellach yn datcuddio 'r dirgelwch yma, pan yw yn dywedyd wrth S. Joan yr Efangylwr, Ei fod efe yn ceryddu y ſawl y mae 'n eu caru, Datc. 3.19. A'r geiriau hynny y mae 'r Apoſtol megis yn eu heſponi at yr Hebraeaid, ac yn dywedyd, Y mae efe yn fflangellu pob mab a dderbynio. Ac y mae 'r Apoſtol yn canlyn y matter hwnnw cymmhelled yn y fan honno, ac y mae yn dywedyd yn eglur, Mai baſtardiaid ydynt hwy i gyd, ac nid meibion i Dduw, y rhai m yw efe yu eu cyſtuddio yn y byd hwn, Heb. 12.6, 8. Yr vn rheſwm y mae Sainct Paul yn ei ddal at Timotheus, Si ſuſtinemus, & conregnabimus, Os dioddefwn gydâ Chriſt, ni a deyrnaſwn gydag ef. Ac â hynny y cyttuna Dafydd dduwiol, pan yw yn dywedyd, Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn. 2 Tim. 2.12. Pſal. 34.19.

3. Yr vn peth a ellid ei brofi drwy lawer o foddion eraill, megis drwy 'r hyn a ddyweid Chriſt, Na ddaeth efe i ddanfon tangnefedd ar y ddaiar, ond cleddyf, Mat. 10.34. Ac wrth yr hyn a ddyweid Sainct Paul hefyd, Na choronir neb, onid ymdrech yn gyfreithlon, 2 Tim. 2.5, Ond pa fodd y gallwn ni ymladd, oni bydd i ni elyn i'n gwrthwynebu? Yr vn peth y mae Chriſt yn ei arwyddoccau yn llyfr y Datguddiad, pan yw yn adrodd mor fynych, mai 'r hwn a orchfyga yn vnig pieu cael y nef. Yr vn peth a arwyddocceir wrth y llong yr aeth Chriſt a'i ddiſgyblon i mewn iddi; yr hon a deflid ac a dreiglid fel pe buaſai ar ſoddi; y llong hon meddaf, fel yr oedd yr hên dadau yn ei dirnad, oedd ffigur ac arwydd o'r trallodau, a'r blinderau, a gai bawb eu dioddef, ar y ſydd yn rhwyfo yn yr vn llong gydâ Chriſt ein Iachawdr, Mat. 8.24. Yr vn peth hefyd a brofir, wrth fod yn galw bywyd dyn yn filwriaeth ar y ddaiar, 2 Tim. 2.3. ac wrth ei fod wedi ei appwyntio i lafurio ac i drafaelio, tra fyddo yma, Job 5.7. ac wrth fod ei fywyd yn llawn o bob gofid a thrueni: a hynny trwy ordinhaad Duw, yn ôl cwymp dŷn. Yr vn peth hefyd a ddangoſir wrth ddarfod i Dduw appwyntio bod i bob dŷn dreiddio trwy boenau angeu, cyn iddo ddyfod i'r llawenydd; a hefyd wrth yr aneirif o wrthwyneb a thrallod oddifewn ac oddiallan, a adawyd i ddyn yn y bywyd hwn: megis, o'r tu mewn y mae gwrthryfeloedd a gwrthrin trachwant, a gofidiau eraill ei feddwl ef, y rhai y mae 'n rhaid iddo beunydd ryfela â hwynt, os myn fod ei enaid yn gadwedig. O'r tu allan iddo y mae 'r byd, a'r cythraul, y rhai nid ydynt yn peidio vn amſer â goſod arno ef, weithiau trwy dêg, weithiau trwy hagr; weithiau trwy druthio, weithiau trwy fygwth; weithiau trwy ei ddenu â melyſchwant, ac à goruchafiaeth; weithiau trwy ei ddychrynu a blinder, ac ag erlid: a'r rhai 'ny i gyd ſy raid i'r Chriſtion da eu gwrthwynebu yn wrol, ac onid ê efe a gyll goron ei Iachawdwriaeth dragywyddol.

4. Yr vn peth hefyd a ellir ei ddangos trwy eſamplau yr holl Sainct enwog, er y dechreuad, y rhai nid yn vnig a oſodid arnynt oddifewn beunydd gan wrthryfeloedd eu cnawd eu hun, ond hefyd a erlidid ac a gyſtuddid oddiallan; a hynny i ſiccrhau yr arfaeth yma eiddo Duw, yn amlyccach. Fel y gwelwn ni Abel, a gafodd ei erlid a'i lâdd gan ei frawd ei hun, er cynted y dechreuodd efe waſanaethu Duw: ac Abraham, yr hwn a gafodd amryw flinderau wedi darfod i Dduw ei ddewis ef: ac yn fwyaf o gwbl trwy beri iddo ymroi i lâdd ei anwyl a'i vnig blentyn ei hun. O'r vn cwppan yr yfodd ei holl blant ef a'i hiliogaeth a ddaeth ar ei ôl ef yn ffafor Duw; megis Iſaac, Jacob, Joſeph, Moyſen, a'r holl brophwydi: am y rhai y mae Chriſt ei hun yn rhoi tyſtiolaeth, fel y tywalltwyd eu gwaed hwynt yn dra chreulon gan y byd, Luc. 13.34. Cyſtudd Iob hefyd ſy ryfeddol, gan fod yr Scrythur lân yn dywedyd ei ddyfod arno trwy yſpyſol ordinhâad Duw, ac ynteu yn wr o'r fath gyfiawnaf. Ond etto rhyfeddach oedd gyſtudd Tobias dduwiol, yr hwn ym myſg gofidiau eraill, a wnaed yn ddall trwy gwympo o dom gwenholiaid neu adar y to yn ei lygaid f: am yr hyn y dywedodd yr Augel Rhaphael wrtho yn ôl hynny, Am dy fod di yn wr cymmeradwy gan Dduw; anghenrhaid oedd, bod i'r tentaſiwn yma dy brofi di. Tab. 12, 11. Ond nid ydyw'r geiriau hyn yn y Groeg. Gwelwch mor angenrheidiol yw blinderau i wyr da. Mi a allwn roi at hyn eſampl Dafydd ac eraill; oni bai fod yr Apoſtol yn rhoi tyſtiolaeth gyffredinol am yr holl Sainct, gan ddywedyd, ddarfod dirdynnu rhai, enllibio rhai, a fflangellu rhai, a rhwymo rhai, a charcharu rhai, a llabyddio rhai, a thorri rhai â llifiau, a themptio rhai, a lladd rhai a'r cleddyf, a bod rhai yn crwydro mewn crwyn defaid a chrwyn geifr, yn ddiddim, yn gyſtuddiol, yn ddrwg eu cyflwr, yn crwydro ac yn ymguddio mewn anialwch, a mynyddoedd, a thyllau, ac ogfeydd y ddaiar, gan nad oedd y byd deilwng o honynt. Ac am y rhei'ni i gyd y mae yn datcan y wers gomfforddus hon, a ddylei bawb ei hyſtyried, ſef eu bod heb dderbyn ymwared, fel y gallent gael adgyfodiad gwell: Hynny yw, na fynnai Dduw eu gwared hwy oddiwrth y cyſtuddiau hynny yn y bywyd yma, fel y byddai eu hadgyfodiad hwy a'i gwobr yn y bywyd a ddaw yn ogonedduſach. A hynny am Sainct yr hên Deſtament. Heb. 11.35.

5. Ond weithian yn y Teſtament newydd, a ſeiliwyd yn eglur ar y groes, y mae 'r peth yn olenach o lawer, a hynny trwy reſwm da. Oblegid oni allai Griſt fyned i mewn i'w ogoniant, ond trwy ddioddef, fel y dywaid yr Scrythur, Luc. 24.26. gan hynny wrth reſymolaf reol Chriſt, yn dywedyd, nad yw braint y gwas vwch law ei feiſtr, Mat. 10.24. y mae 'n ddir y canlyn, bod yn rhaid i bawb yfed o gwppan Chriſt, a'r ſydd wedi eu hordeinio i fod yn gyfrannogion o'i ogoniant ef. Ac i brofi hyn edrychwch ar y caredigion anwylaf a fu gan Griſt erioed yn y bywyd hwn, a gwelwch pa vn a wnaethant a'i cael rhan o honaw, ai nad do. Am ei fam ef y prophwydodd Simeon ac y dywedodd iddi yn y dechreuad, yr ai cleddyf cyſtudd trwy el chalon hi: gan arwyddoccau wrth hynny y dygn gyſtuddiau a gafodd hi wedi hynny wrth fa w ei mab, a'r gofidiau eraill a ddaeth yn aml arni, Luc. 2.35. Am yr Apoſtolion y mae 'n amlwg, heb law eu holl lafuriau, a'i trafaelion, a'i hanghen on, a'i di ddefaint, a'i herlidiau, a'i haflwydd, y 〈…〉 •• eirif, ac yngolwg dyn yn anoddef (os co •• wn ni Sainct Paul ſydd yn eu cyfrif, 1 Cor. 4. 2 Cor. 4.) heb law hyn i gyd, meddaf, ni byddai ddigon gan Dduw oni ch i efe eu gwaed hwy hefyd: ac felly y gwelwn na adawodd efe i'r vn o honynt farw wrth naturiaeth, ond Sainct Ioan yn vnig: ac etto, os yſtyriwn ni beth a ddioddefodd Sainct Ioan ynteu yn ei hir fywyd, iddo gael ei ddeol allan o'i wlad gan Domitian i ynys Pathmos; ac amſer arall gael ei wiw mewn tunnell o olew poeth berwedig yn Rhufain, fel y mae Tertullian a Sainct Ierom yn mynegi; Tert. de praeſc. haeret. Hieron. con. Iouinian. ni a gawn weled nad oedd dim llai ei ran ef o gwppan ei feiſtr nag oedd ran eraill. Mi a allwn yma gyfrif aneirif o eſamplau eraill, ond nid rhaid. Oblegid digon yw ddarfod i Griſt rhoi y rheol gyffredin yma yn y Teſtament newydd. Yr hwn nid yw yn cymmeryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ol i, nid yw deilwng o honof fi Mat. 10.38. Wrth yr hyn y pennir yn oleu, nad oes i ned weithian gael iachawdwriaeth, ond i'r rhai a gymmeront eu croeſau eu hunain, (hynny ydyw, nis dygont eu croeſau yn ewyllyſgar) a chanlyn eu capten ſydd yn cerdded o'i blaen hwynt a'i groes ar ei yſgwyddau.

6. Ond yma y gall rhai ddywedyd, Os felly y mae 'r peth na ddichon neb fod yn gadwedig heb groes, hynny ydyw, heb flinder a thrallod; beth n y rhai ſy'n byw mewn amſeroedd a lleoedd heddychol, lle nid oes nac erlid, na thrallod, na chyſtudd, na blinder. I hynny yr attebaf, yn gyntaf pe rhôn a bod y cyfryw amſer a lle a hynny, y byddai 'r gwyr a fai 'n byw, yn y lle a'r amſer hwnnw, mewn perygl mawr, yn ôl yr hyn a ddy wedodd y Prophwyd, Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill, ac ni ddialeddir arnynt hwy gyd â dynion eraill. Am hynny y cadwynnodd balchder hwynt, Felly y mae 'r lladin Pſal. 73.5, 6. ac y gwiſg trawſder am danynt fel dilledyn. A'i hanwiredd ſydd yn dyfod oddiwrth eu braſder, neu eu hamlder. Yn ail yr attebaf, nad oes nac amſer na lle heb drallod ynddo, lle nid oes grôes i'w chael bob amſer i'r rhai a'i cymmero hi i fynu. Oblegid naill ai mae tlodi, a'i clefyd, ai enllib, ai gelyniaeth, ai cam, ai gwrthwyneb, neu ryw fath flinder yn ymgynnyg bob amſer, oblegid nâ bydd byth eiſiau 'r gwŷr hynny yn y byd, am y rhai y dyweid y prophwyd, Y rhai a dalant ddrwg dros dda a'm gwrthmynebant, am fy mod yn dilyn daioni, Pſal. 38.20. O'r hyn lleiaf, ni bydd byth eiſiau gelynion cartrefol, am y rhai y mae Chriſt yn ſon, Mat. 10.21. ſef naill ai ein ceraint ai ein caredigion cnawdol, y rhai, ſy fynychaf yn ein gwrthwynebu ni, os dechreuwn ni waſanaethu Duw o ddifrif; ai ein gwyniau anllywodraethus ein hunain, y rhai yw 'r gelynion perycclaf o gwbl, am eu bod yn peri i ni ryfela ar ein tir ein hun. Drachefn, ni bydd byth eiſiau tentaſiwnau 'r byd a'r cythraul, y rhai ſy lawer anhaws eu gwrthwynebu yn amſer heddwch a hawddfyd, nag yn amſer cyſtudd ac erlid oddiallan: am fod y gelynion hynny yn gadarnach o drûth a gweniaith, nag o nerth: yr hyn y mae Tâd duwiol yn ei hyſpyſſu wrth y ddammeg hon; Yr haul a'r gwynt ryw ddiwrnod, medd efe, a gyttunaſant ar brofi bob vn ei nerth, wrth ddwyn ei gochl oddiar vn oedd ar ei daith. Ac o flaen hanner dydd, y gwynt a ymegniodd gryfa' ac allodd i geiſio chwythu 'r gochl oddiam dano ef: ond po mwyaf y chwythai 'r gwynt, tynnaf y daliai 'r ſiwrneiwr ei gochl, ac y tynnai hi yn gynnhwyſach yn ei gylch. A phrydnawn yr haul a ddanfonodd allan ei belydr hyfryd, ac o feſur ychydig ac ychydig a aeth i mewn i'r dŷn yma, hyd oni wnaeth iddo ddioſg nid ei gochl yn vnig, ond ei bais hefyd. Wrth yr hyn y deellir, medd y tâd hwnnw, fod hudoliaeth difyrrwch a melyſchwant yn gryfach ac yn anhaws eu gwrthwynebu, nâ chryfder erlid. Y cyffelyb a ddangoſir wrth eſampl Dafydd, yr hwn a wrthwynebodd yn hawdd lawer o gyrchfaau adfyd, ac etto a ſyrthiodd yn enbyd iawn yn amſer hawdd-fyd, 2 Sam. 11. Wrth yr hyn y gellir gweled nad oes i'r duwiol ddim llai rhyfel yn amſer heddwch, nag yn amſer erlid: ac na phalla byth achlyſur i ddwyn y groes, ac i ddioddef blinder, i'r neb a'i cymmero. A hyn a waſanaetha am y pwngc yma, i brofi y bydd rhaid i bob dŷn fyned i mewn i'r nef trwy orthrymderau, fel y dywaid Sainct Paul.

7. Am yr ail, pa ham y mynnai Dduw fod y peth fel hyn, digon fyddai atteb, mai felly y rhyngodd bodd iddo, heb geiſio rheſwm pellach o'i feddwl ef yn hyn o beth: fel y rhyngodd bodd iddo, heb rheſwm yn y byd yn ein golwg ni, wneuthur mor wael o'i fab a'i ddanfon ef yma i'r byd hwn, i ddioddef ac i farw droſom ni. Neu os byddai raid i ni gael rheſwm am hynny, digon fyddai yr vn rheſwm yma tros y cwbl: gan ein bod ni yn diſgwyl am ogoniant cymmaint, y dylem gymmeryd peth poen yn gyntaf am dano, ac felly cael ein gwneuthur yn fyrn deilwng o ffafor Duw, ac o'n goruchafiaeth. Ond etto gan ryngu bodd i'w dduwiol fawredd ef, nid yn vnig agoryd i ni ei ewyllys a'i amcan, ar fod yn rhaid i ni ddioddef yn y byd hwn: ond dangos i ni hefyd amryw reſymmau o'i ſancteiddiaf ewyllys a'i fodd yn y peth, er mwyn ychwaneg o galondid a chyſſur i ni ſydd yn dioddef: mi a adroddaf yma rai o honynt, er mwyn dangos ei fawr anfeidrol gariad ef tu ac attom ni, a'i dadol ofal troſom ni.

8. Yr achos cyntaf gan hynny, a'r pennaf ydyw, er mwyn chwanegu ein gogoniant ni yn y byd a ddaw. Oblegid, gan ddarfod iddo drwy ei dragwyddol ddoethineb a'i gyfiawnder ordeinio, na chaiff neb ei goroni yno, ond y rhai a oddefo ymdrech (mewn rhyw feſur da) yn y byd hwn: a pho amlaf a mwyaf fyddo 'r ymdrech a roddo efe (ynghyd â digonol ras i'w orchfygu) mwyaf fydd y goron gogoniant y mae efe yn ei pharottoi i ni yn ein hadgyfodiad, 2 Tim. 2.5. Datc. 2.10. A'r achos yma y crybwyll yr Apoſtol am dano yn y geiriau a adroddwyd am Sainct yr hên Deſtament; ſef yw hynny, nad ydynt hwy yn derbyn ymwared oddiwrth eu gofidiau yn y byd yma, fel y gallont gael adgyfodiad gwell yn y byd a ddaw, Heb 11.35. A hyn hefyd yr oedd Chriſt yn ei feddwl yn eglur, pan ddywedodd efe, Gwyn eu byd y rhai a erlidir, canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. Gwyn eich byd pan ddywedo dynion ddrygair am danoch, a'ch erlid, &c. Byddwch lawen a hyfryd, canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd, Mat. 5.10- Ac at hyn y perthyn yr holl addewidion yma, am ynnill bywyd trwy golli bywyd, am gael derbyn cant am vn, a'r cyffelyb, Mat. 10.39. & 19.29. Ac o hynny y daw yr holl addewidion helaeth a wneir i farwhâad a newydd-deb buchedd. Yn y ddeubeth hynny y mae ymdrech mawr yn erbyn y cnawd, a'r byd, a'n gwyniau ein hunain, ac nis gellir eu dwyn i ben ond trwy ddioddefaint a chyſtudd. Yn ddiweddaf' y mae Sainct Paul yn datgan y peth yma yn gwbl gyflawn, pan yw yn dywedyd, fod ein byrr yſgafn gyſtudd ni yn odidog ragorol yn gweithredu tragywyddol bwys gogoniant i ni yn vchder nef, 2 Cor. 4.17.

9. Yr ail achos pa ham yr ordeiniodd Duw hyn oedd i 'n tynnu ni oddiwrth garu 'r byd, ei elyn ef; fel y dangoſir yn helaeth yn y bennod neſſaf. Yr achos yma y mae Sainct Paul yn ei adrodd yn y geiriau hyn; Pan i'n bernir, i'n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na 'n damner gydâ 'r byd, 1 Cor. 11.32. Wrth hynny, fel y bydd mammaeth, er mwyn diddyfnu ei phlentyn oddiwrth garu ei llaeth, yn iro ei bronnau ag Aloes, neu â rhyw bethau chwerwon eraill; felly y mae ein tad trugarog ninnau, am ei fod yn ewyllyſio ein diddyfnu ni oddiwrth ddifyrrwch y byd (trwy 'r hwn y mae aneirif o wyr yn mynd beunydd i golledigaeth) yn arfer o ddanfon cyſtudd: yr hwn yn anad dim arall ſydd fwyaf ei rym i wneuthur hynny: fel y gwelwn ni yn eſampl y mab afradlon, yr hwn nid oedd dim abl i'w ddiddyfnu oddiwrth ei ddifyrrwch, ond cyſtudd yn vnig. Luc. 15.

10. Yn drydydd, y mae Duw yn arfer cyſtudd megis meddyginiaeth o'r oreu ac o'r bennaf, i'n hiachau ni oddiwrth lawer o glefydau, y rhai oni bai hynny ſydd agos yn anaele. Megis yn gyntaf, oddiwrth ryw ddallineb, a diofal eſgeuluſdra yn ein cyflwr, yr hyn yr ydym yn ei fagu oddiwrth hawddfyd a llwyddiant. Ac yn y deall hwnnw y dyweid yr Scrythur lân, fod cyſtudd yn rhoi deall. Ac y mae 'r gwr doeth yn dywedyd fod y wialen yn dwyn doethineb, Dihar. 29.15. fel yr adferwyd golwg Tobit a chwerw fuſtl y pyſgodyn. Ac y mae i ni eſamplau eglur yn Nabuchodonoſor, Saul, Antiochus, a Manaſſes: y rhai oll a ddaethant i weled eu beiau trwy gyſtudd, yr hyn ni's gwnaethent byth yn amſer llwyddiant. Y cyffelyb yr ydym yn ei ddarllain am frodyr Joſeph, y rhai pan ddaeth peth cyſtudd arnynt yn yr Aipht, aethant yn y man i mewn i'w cydwybodau eu hunain ac a ddywedaſant; Am bechu o honom yn erbyn ein brawd, am hynny y daeth y cufyngdra hwn arnom ni, Gen. 42.21. Ac fel y mae cyſtudd vn dwyn y goleuni yma i ni i weled ein diffygion, felly y mae yn helpio o'i tynny hwy ymaith ac o'i hiachau: ac yn hynny y gellir ei gyffelybu yn dda i wialen Moyſen: oblegid fel yr oedd y wialen honno, wrth daro 'r creigiau caledion, yn dwyn allan ddwfr, fel y dywaid yr Scrythur; felly y mae gwialen cyſtudd, wrth ſyrthio ar bechaduriaid calon-galed yn eu meddalhau hwynt i ymofidio, ac yn fynych yn dwyn allan llifeiriant o ddagrau i edifeirwch, Exod. 17.6. Ac o'r achos hynny y dywaid Tobit dduwiol wrth Dduw; Yn amſer cyſtudd y maddeui bechod. Ac o herwydd hynny y cyffelybir ef i lifddur,Tob. 3.14. Nid yw 'r geiriau hyn yn y lladin. yn tynnu y rhŵd oddiar yr enaid, ac i phyſygwriaeth yn gyrru llygredigaeth allan o'r corph; ac yn ddiwethaf i dân yr eurych a'r gof aur, yr hwn ſydd yn treulio ymaith y ſothach, ac yn puro 'r aur i'w berffeithrwydd, Mi a lan buraf dy ſothach di, medd DVW wrth bechadur trwy 'r prophwyd Eſai, ac a dynnat ymaith dy holl alcam, Eſa. 1.25. A thrachefn trwy Ieremi, Wele fi yn eu toddi hwynt ac yn eu profi trwy dan, Ier. 9.7. Hyn y mae efe yn ei feddwl am dan cyſtudd, cynnheddfau yr hwn ydyw (fel y dywaid yr Scrythur) glanhau a phuro 'r enaid, fel y mae 'r tân yn glanhau ac yn puro 'r aur yn y ffwrneis. Oblegid, heb law ei fod yn puro ac yn tynnu ymaith bechodau mawr, trwy Yſtyried ac ymofidio (yr hyn y mae cyſtudd yn ei wneuthur, fel y dangoſwyd) y mae efe hefyd yn carthu rhŵd aneirif o wyniau drwg, a trachwantau, a dryganian mewn dyn: megis dryganian balchder, a gwag ogoniant, a diogi, a llid, a mwythus furſenneiddrwydd, a mil yn ychwaneg, y rhai y mae llwyddiant yn eu magu ynom ni. Hyn y mae Duw yn ei ddangos trwy 'r Prophwyd Ezechiel, gan ddywedyd am enaid rhydlyd; Dod ef ar ei farwor yn wâg, fei y twymno, ac y lloſgo ei brês, ac y toddo ai aflendid ynddo, ac y darfyddo ei ſcum ai rŵd, Ymflinwyd ac ymchwyſwyd gydag ef; ac etto nid aeth ei ſcum a'i rŵd mawr allan o hono, Ezec. 24.11. Hyn hefyd y mae Iob dduwiol yn ei arwyddoccau, yr hwn wedi iddo ddywedyd, fod Duw yn addyſgu drwy athrawiaeth a cherydd, i dynnu dŷn oddiwrth yr hyn a wnaeth, ac i'w wared oddiwrth falchder, yr hyn a ddeellir am weithredoedd pechadurus; y mae ychydig ar ol yn dywedyd yn ychwaneg, Ei gnawd a ddarfu gan geryddon, dychweled yn ei ôl at ddyddiau ei ieuengctid. Hynny ydyw, gan fod ei holl anwydau cnawdol a'i wyniau wedi darfod weithian gan goſpedigaeth a chyſtudd, dechreued fyw etto yn y cyfryw burdeb ennaid ac yr oedd yn nechreuad ei ieuengtid, cyn iddo fagu y dryganian yma a'r clefydau. Iob 33.25.

11. Ac y mae cyſtudd nid yn vnig yn feddyginiaeth grêf i iachau pechod, ac i garthu ymaith V ſothach fettel ſydd ynom ni o brês, acalcam, a haiarn, a phlwm, a ſorod, fel y mae Duw yn dywedyd trwy Ezeciel; ond hefyd yn feddyginiaeth orcheſtol odiaeth i gadw vn rhag pechu o hyn allan:Pſalm 18.39. Fel hyn y mae y groeg a'r lladin. fel y dywedodd y brenhin daionus Dafydd, Dy gerydd di, Oh Arglwydd, a'm gwellaodd i hyd y diwedd. Hynny ydyw, ef a wnaeth i mi fod yn ochelog ac yn wiliadwrus, rhac pechu mwy, fel y dywaid yr Scrythur mewn lle arall, Trwm glefyd n u gyſtudd, a wna 'r enaid yn ſobr. Ac o'r achos hynny y geilw Ieremi gyſtudd yn wialen wiliadwrus. Hynny ydyw, fel y mae S. Hierom yn ei eſponi, gwialen yn gwneuthur dŷn yn wiliadwrus. Yr vn peth y mae Duw yn ei arwyddoccau, pan ddywedodd efe trwy Oſee'r prophwyd, Mi a gaeaf dy fuchedd di o bob parth â chof am gyſtudd ac â'i ofn, fel na lefeſych di ſathru ar ŵyr, rhac i ti ſathru ar ddraenen, Hoſ. 2.6. A hyn i gyd y mae Dafydd dduwiol yn ei yſpyſſu am dano ei hun, yn y geiriau hyn, Cyn fy nghyſtuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni, ond yn awr mi a gedwais dy air di. Da i mi fynghyſtuddio, fel y dyſgwn dy ddeddfau. Pſal. 119.67, 71.

12. Ac o hyn y gwelir achos arall, pa ham y mae Duw yn cyſtuddio ei etholedigion yn y fuchedd hon, a hynny ydyw, er mwyn na ddelai ei gyfiawnder ef arnynt yn y byd a ddaw. Am yr hyn y mae S. Bernard yn dywedyd fel hyn,Ser. 55 in Cant. Oh Dduw na bai ryw vn, yr awrhon ym mlaenllaw, a barottoai i'm pen i helaethrwydd o ddwfr, ac i'm llygaid ffynnon o ddagreu; canys felly odid a gallei r tân poeth graffu lle y darfuaſei i ddagrau lanhau o'r blaen. A'r rheſwm o hynny ydyw (fel y dengys y gwr duwiol hwnnw ei hun) am ddywedyd o Dduw trwy Nahum brophwyd, Mi a'th flinais ac ni'th flinaf mwyach: ni ddaw oddiwrthyf gyſtudd dau ddyblyg, Nah. 1.12.

13. Yn chweched y mae Duw yn danfon cyſtudd ar ei weiſion, i'w profi hwy ag ef, pa vn a wnant ai bod yn ffyddlon ac yn ddianwadal, ai nad ydynt: hynny ydyw, i beri iddynt hwy eu hunain ac i eraill weled a chyfaddef, mor ffyddlon, neu mor anffyddlon ydynt. Hyn a ddangoſwyd o'r blaen megis trwy ffigur, pan fynnai Iſaac balfalu a theimlo ei fab Iaco, cyn y benedithiai ef. A hyn y mae'r Scrythur lân yn ei yſpyſſu yn amlwg, pan yw yn dywedyd, wrth grybwyll am y cyſtuddiau a roed ar Abraham; A Duw a brofodd Abraham, Gen. 22.1. A Moyſen ynteu a ddywedodd wrth bobl Iſrael, Cofia'r holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mblynedd hyn, trwy 'r anialwch, er mwyn dy gyſtuddio di a'th brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon di, a gedwit ti ei orchymmynion ef, ai nas cedwit, Deut. 8.2. A thrachefn, ychydig bennodau wedi, Yr Arglwydd eich Duw ſydd yn eich profi chwi, i wybod a ydych yn caru yr Arglwydd eich Duw a'ch holl galon ac a'ch holl enaid, Deut. 13.3. Ac yn y deall hwnnw y dywaid yr Scrythur am Ezecias, yn ôl rhoi iddo lawer o ganmoliaeth, i Dduw ei adael ef, i'w brofi ef, i wybod cwbl ac oedd yn ei galon ef, 2 Cron. 32.31. Ac mai hyn yw arfer Duw tu ac at yr holl rai da, y mae 'r brenhin DAFYDD yn dangos, megis o enau pawb, pan yw yn dywedyd, Ti a'n profaiſt ni o Dduw, ti a'n coethaiſt ni fel coethi arian. Dygaiſt ni i'r rhwyd, goſodaiſt waſgfa ar ein lwynau, ac a beraiſt i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom drwy'r tân a'r dwfr, Pſal. 66.10. A daied oedd gantho hynny, y mae efe yn arwyddoccau, pan yw yn galw am ychwaneg o hono mewn man arall, gan ddywedyd, Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi, lloſg fy arennau a'm calon o'm mewn, Pſal. 26.2. Hynny yw, prawf fi trwy gyſtudd ac erlid, chwilia ddirgelion fy nghalon i a'm harennau: gad i'r byd weled a lynaf fi wrthyt ti mewn adfyd, ai nas gwnaf, Pſal. 26.2. Fel hyn y dywedodd y prophwyd duwiol hwnnw, gan wybod yn dda'r peth y mae 'r Yſpryd glân yn ei adrodd mewn lle arall, mai fel y profir yr aur yn tân, felly y profir dyni n cymmeradwy yn ffwrn goſtyngiad. Oblegid fel y mae 'r lleſtri cyfan yn dal, pan ddelont i'r ffwrneis, ac y tyrr y rhai twnn bregus yn ddrylliau, felly yn amſer cyſtudd ac erlid, y duwiol yn vnig fydd yn dal allan, a'r rhai ffuantus yn dangos pa fath ydynt: yn ol yr hyn a ddywedodd Chriſt, yn amſer profedigaeth y maent yn cilio oddiwrthyf. Eccl. 2.5. Dih. 17.3. Luc. 8.13.

14. Y ſeithfed rheſwm pa ham y mae Duw yn rhoi cyſtudd ar y rhai duwiol, ydyw, i beri iddynt hwy redeg atto ef am help a chymmorth: megis y mae 'r fam, i beri iw phlentyn ei charu hi yn fwy, a rhedeg atti hi, yn peri i eraill ei ddychrynu a'i ofni ef. Hyn y mae Duw yn ei yſpyſu yn amlwg trwy'r prophwyd Oſee, gan ddywedyd am y rhai yr oedd efe yn ei garu, Mi a'i tynnais hwynt attaf â rheffynnau Addaf, â rhwymau cariad, ac yr oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu bochgernau, Oſee 11.4. Wrth reffynnau Addaf, y mae efe yn meddwl cyſtudd, a'r hyn y tynnodd efe Addaf i'w adnabod ei hun, fel y gwelir wrth yr hyn y mae yn ei ddywedyd yn ychwaneg am drwm iau cyſtudd, yr hwn a rydd efe ar bennau ac wynebau ei weiſion, megis rhwymau a chadwynau cariad i'w tynnu hwynt atto. Y gadwyn yma a dynnaſai Ddafydd atto ef pan ddywedodd efe, O Arglwydd, ti yw fy lloches rhag cyſtudd, Pſal. 32.7. A'r rhai hynny hefyd y rhai y mae Eſai yn dywedyd am danynt, Mewn adfyd, Arglwydd, i'th geiſiaſant, Eſ. 26.16. A'r rhai y mae Dafydd yn dywedyd am danynt, Gofidiau a amlhaſant arnynt, ac yno y bryſiaſant ddyfod. Ac y mae Duw yn dywedyd yn gyffredinol wrth bob dyn duwiol, Pan fyddo adfyd arnynt i'm bore geiſiant, Oſee 5.15. Am hynny y mae 'r duwiol frenhin Dafydd, wrth chwennych gwneuthur daioni i ryw ddynion, a'i hynnill hwy at Dduw, yn dywedyd yn vn oi pſalmau, llanw eu hwynebau a gwarth, fel y ceiſiont dy enw Arglwydd, Pſal. 83.16. A hyn ſy wir, fel y dywedais i, am etholedig ddewis weiſion Duw; ond yn y rhai gwrthodedig, nid yw y rheffynnau hyn yn tynnu, na'r iau hwn yn dal, na'r gadwyn gariad hon yn eu hynnill hwy at Dduw. Ac am hynny y mae Duw yn cwyno, gan ddywedyd, Yn ofer y tarcwais eich plant chwi, gan na dderbyniant gerydd, Jer. 2.30. A thrachefn y dyweid y prophwyd Jeremi am danynt hwy wrth Dduw, Ti a'i tarewaiſt hwynt, ac nid ymofidiaſant; difeaiſt hwynt, eithr gwrthodaſant dderbyn cerydd; hwy a wnaethant eu hwynebau yn galettach nâ chraig, ac a wrthodaſant ddychwelyd attat ti. Wele hwy a dorraſant yr iau ac a ddrylliaſant y rhwymau. Jer. 5.3, 5.

15. O hyn weithian y canlyn yr wythfed rheſwm, pa ham y mae Duw yn dwyn ei weiſion i gyſtudd; ſef, fel y gallai ddangos ei allu a'i gariad yn eu gwared hwy. O herwydd megis yn y byd hwn, nid yw meddwl gwrol yn chwennych dim yn fwy, nâ chael achlyſur i ddangos ei allu a'i ddaioni i'r neb a ſo anwyl gantho: felly am Dduw, yr hwn y mae pob achlyſſur yn ei law, ac ſydd yn rhagori ar ei holl greaduriaid mewn cariad a mawrfryd; y mae efe o'r gwaith goddeu yn gweithio amryw achlyſur a chyfamſer a chyfle, i gael dangos hynny. Felly y dûg efe 'r tri llange i'r ffwrn dan, fel y gallai ddangos ei allu a'i gariad yn eu gwared hwy. Felly y dûg efe Ddaniel i ffau'r llewod, a Suſanna ym mron angeu, a Iob i ddygn ofid a thrueni, a Ioſeph i garchar, a Thobit i ddallineb; fel y gallai ddangos ei alla a'i gariad yn eu gwared hwy. Ac o'r achos yma hefyd y ga awodd Chriſt i'r llong fod yn agos a boddi, cyn y deffroai efe: i Sainct Petr fynd agos tan y dwfr, cyn ei gymmeryd ef erbyn ei law.

16. Ac yn y rheſwm yma y gwelir llawer o reſymau eraill, ac o achoſion comfforddus am waith Duw yn y peth hyn. Megis yn gyntaf, fel y byddai i ni wedi ein gwared oddiwrth ein blinderau, gymmeryd mwy o lawennydd a hyfrydwch ynddynt, nâ phe buaſem ni erioed heb eu dioddef. Oblegid fel y mae 'r dwfr yn fwy croeſawus, i'r hwn a fo ar ei daith, yn ôl hir ſyched; ac fel y mae tawelwch yn fwy hyfryd gan y morwyr yn ôl tymmheſtl drafferthus: felly y mae ein hymwared ninnau yn bereiddiach yn ôl erlid a thrallod, fel y dyweid yr Scrythur, Hyfryd a thymmhoraidd yw trugaredd yn amſer adfyd, fel y cwmmylau glaw yn amſer ſychder, Ecc. 35.20. Hyn a arwyddoccaodd Chriſt hefyd pan ddywedodd efe, Eich triſtwch a droir yn llawenydd: hynny ydyw, chwi a lawenychwch am i chwi fod yn driſt, Io. 16.20. Hyn a brofaſai Dafydd, pan ddywedodd efe, Dy wialen di, Arglwydd, a'th ffon a'm cyſſuraſant, Pſal. 23.4. hynny ydyw, yr wyfi yn cymeryd cyſſur mawr ddarfod iddynt erioed fy ngheryddu. A thrachefn, Yn ol amlder fy ngofidiau o'm mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid: hynny ydyw, am bob triſtwch a gefais yn amſer cyſtudd, yr wyfi yr awrhon yn derbyn cyſſur wedi cael fy ngwared, Pſal. 93.19. A thrachefn mewn lle arall, Ymlawenhaf, ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd, Oh Arglwydd. A pha ham frenhin da, yr ymlawenychi di felly? Y mae yn canlyn yn y man, Canys gwelaiſt fy adfyd; adnabuoſt fy enaid mewn cyfyngderau; ac ni warcheaiſt fi yn llaw'r gelyn, ond goſodaiſt fy nhraed mewn ehengder, Pſal. 31.7, 8. Ac dyma feddwl graſuſol ein Tad cariadus trugar g yn ein cyſtuddio ni tros amſer, fel y gallo ein llawenydd ni fod yn fwy yn ôl ein ymwared, fel yr oedd yn diammau yn y rhai oll a henwais o'r blaen, a waredwyd trwy drugaredd Duw: ſef Abraham, Joſeph, Daniel, Sidrach, Miſach ac Abednego, Suſanna, Job, Tobias, Petr, a'r llaill, y rhai a fuant lawenach yn ôl eu hymwared, nâ phe buaſent erioed heb eu cyſtuddio. Wedi darfod i Judith wared Bethulia, a dychwelyd yno yn ei hôl, a phen Holoffernes ganthi; yr oedd mwy o wir lawenydd yn y ddinas honno, nag a fuaſai byth ynddi, pe buaſai hi heb fod mewn cyfyngder. Pan waredwyd S. Petr allan o garchar gan yr Angel, yr oedd mwy o lawenydd yn yr Eglwys am ei wared ef nag a allaſai fod, pe buaſai efe erioed heb fod yngharchar. Act. 12.

17. Allan o'r llawenydd mawr yma y tŷf peth arall a weithia ein cyſtudd ni, yr hwn ſydd hyfryd iawn gan Dduw, a chomfforddus i'n heneidiau ninnau: a hwnnw yw diolchgarwch calonnog difrif i Dduw am ein hymwared, cyfryw ac a arferodd y prophwyd, pan ddywedodd ef yn ôl ei ymwared, Minneu a ganaf am dy nerth, ie llafar-ganaf am dy di ugaredd yn foreu; canys buoſt yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfa, yn y dydd y bu cyfyngder arnaf? Pſal. 59.16. Y cyfryw galonnog ddiolch a moliant a roes plant yr Iſrael i Dduw am eu hymwared, pan ddaethant tros y môr coch, yn eu cân orcheſtol, yr hon ſydd yn dechreu, Cantemus Domino, ac a roes Moyſen mewn cof yn llyfr Exodus. Oddiwrth yr vn calonnog ewyllys y daeth caneuau Anna, Debora, a Iudith, y rhai a gynuhyrfwyd i hynny wrth gofio eu cyſtuddiau aethent heibio. Ac yn ddiweddaf, dyma vn o'r pethau permaf y mae Duw yn gwneuthur cyfrif o hono, ac yn ei ofyn ar ein dwylo ni, fel y mae yn tyſtiolaethau trwy 'r prophwyd, gan ddy wedyd, Galw arnafi yn nydd trallod: minnau a thwaredaf, waredaf, a thi a'm gogoneddi. Pſal. 50.15.

18. Heb law hyn i gyd, y mae gan Ddvw etto ychwaneg o reſymmau i ddanfon erlid arnom ni; Megis hyn, am ein bod ni wrth ddioddef, ac wrth weled cymmorth Duw a'i gomffordd yn ein dioddefiadau; yn myned mor wrolddewr, ac mor hŷ, ac mor ddianwadal yn ei waſanaeth ef, ac na's gall dim wedi hynny ein digalonni ni: megis Moyſen, er ei fod ef ar y cyntaf yn ofni'r ſarph a wnaethid o'i wialen ef, ac yn ffo rhagddi: etto wedi iddo, wrth orchymmyn Duw, ymaflyd yn ei lloſgwrn hi, nid ofnodd efe mo honi mwy. Hyn y mae 'r prophwyd Dafydd yn ei yſpyſu yn orcheſtol, pan yw yn dywedyd, Duw ſydd noddfa, a nerth i ni, cymmorth hawdd ei gael mewn cyfyngder. Am hynny nid ofnwn pe ſymmudai'r ddaiar, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y mor. Pa hyder mwy na hyn a ellir meddwl am dano. Pſal. 46.1.

19. Drachefn, ag erlid ac a chyſtudd y mae Duw yn dwyn ei blant i ymarfer ac i ymgynnefino a llawer o rinweddau da ac ſydd yn perthyn i Griſtion, ac i fynd mewn peth meddiant o honynt. Megis hyn; Ffydd a arferir mewn cyſtudd, wrth yſtyried yr achoſion y mae Duw yn ein cyſtuddio ni o'i plegid, ac wrth gredu yn dra ſiccr i'r addewidion a wnaeth efe ar ein gwared ni. Gobaith a ymarferir o honi mewn cyſtudd, wrth ddeall ac ymſiccrhau o'r gwobr a addawyd i'r rhai a ddioddefo yn ymmyneddgar. Cariad perffaith a ymarferir ag ef mewn cyſtudd wrth yſtyried cariad Chriſt yn dioddef troſom ni, ac ſydd wrth hynny yn annog y rhai cyſtuddiedig i ddioddef gyd ag ef Vfydd-dod a ymarferir ag ef mewn cyſtudd, wrth gydffurfio ein hewyllys ni ag ewyllys Chriſt. Dioddefgarwch a ymarferir ag ef, drwy ddioddef yn llonydd. Goſtyngeiddrwydd, wrth ein daroſtwng ein hunain yngolwg Daw. Ac felly yr vn ffunyd, pob rhinweddau da eraill ac a berthyn i Griſtion a gynhyrfir ac a ſiccrheir mewn dŷn wrth ei gyſtuddio, yn ôl yr hyn a ddyweid S. Petr: Duw a berffeithia, ac a gadarnhâa ac a gryfhaa, ac a ſefydla, y rhai a ddioddefodd ychydig er mwyn ei enw ef. 1 Pet. 5.10.

20. Yn ddiweddaf, meddwl Duw wrth ddanfon erlid a blinder arnom ni, ydyw ein gwneuthur ni yn griſtianogion perffaith: hynny ydyw, yn gyffelyb i Griſt ein capten, yr hwn y mae 'r prophwyd yn ei alw, Yn wr gofidus, a chynnefin â phob math ar ddolur: fel y gallai wrth hynny dderbyn mwy o ogoniant, pan ddelei yn ei ôl i'r nef, a gwneuthur yn fwy gogoneddus bob vn a gymmero ei blaid ef yn hynny, Eſ. 53. I ddywedyd y cwbl ar vn gair, ewyllys Duw wrth ein cyſtuddio ni oedd ein gwneuthur ni yn Griſtianogion croeſ-hoeliedig, yr hwn yw'r enw a'r titl anrhydedduſaf ac a ellir ei roi i greadur; wedi ein croeſ-hoelio meddaf, a'n marwolaethu i orwagedd y byd hwn, ac i'n trachwant ein hunain, a'n deiſyfiadau cnawdol: ond yn fyw ac yn llawn yſpryd bywyd i ddaioni, a duwioldeb, a defoſiwn da. Dyma feddwl nefol ein goruchaf Arglwydd a'n Duw, wrth ddanfon arnom ni erlid, a chyſtudd, a blinder: o achos yr hyn nid yw Iob dduwiol yn ammeu dywedyd, Gwyn ei fyd y dŷn a geryddo Duw. A Chriſt ei hun etto yn yſpyſſach, Gwyn eu byd y rhai a erlidir, Iob 5.17. Mat. 5. Os ydynt hwy yn wynfydedig ac yn ddedwydd gael eu herlid, mae y rhai bydol wrth hynny allan o'r ffordd ymmhell, y rhai fy cymaint yn ffleiddio dioddef erlid; ac nid yw Duw yn cael mor diolch a ddylai gan lawer o'i blant, y rhai fy yn grwgnach wrth y dedwyddwch yma a roir iddynt: lle y dylent hwy ei dderbyn ynghyd a llawenydd a diolchgarwch. Ac er mwyn profi hynny a'i yſpyſſu yn well, mi a dynnaf weithian at y trydydd pwngc o'r bennod yma, i chwilio, ac i holi pa reſymmau ac achoſion ſydd, i'n dwyn ni i ymlawenychu, ac i ymfodloni mewn cyſtudd.

21. Ac yn gyntaf, digon fyddai y rheſymmau a oſodwyd i lawr eiſus, am drugarog a thadol feddwl Duw yn danfon blinder arnom ni, i ddangos hyn o beth: hynny ydyw, i gomfforddio ac i fodloni pob math ar Griſtion, o wr neu wraig, ac ſydd yn ymhyfrydu yn ſanctaidd ragddarbodaeth Duw tu ac attynt. Oblegid os ydyw Duw yn danfon cyſtudd arnom ni, er mwyn chwanegu ar ein gogoniant ni yn y fuchedd a ddaw; er mwyn ein tynnu ni rhag ein llygru a'n llynu gan y byd; er mwyn egori ein llygaid ni, ac iachau ein clefydau, ac er mwyn cadw ein heneidiau ni rhac pechu yn ol hyn, fel y dangoſwyd vchod; pwy a all o gyfiawnder fod yn anfodlon iddo, ond cyfryw rai ac ſydd elynion i'w daioni eu hunain? Ni a welwn, er mwyn cael iechyd corphorol ein bod ni yn fodlon, nid yn vnig i ddioddef llawer meddiginiaeth chwerw anhyfryd, ond hefyd, os bydd rhaid, i ymroi i adael tynnu peth o'n gwaed oddiwrthym, a pha faint mwy y dylem ni wneuthur hynny, rhac peryglu tragywyddol iechyd a chadwedigaeth ein heneidiau? Ond ym mhellach; od oes yn y feddyginiaeth hon lawer mwy na hynny o leſ-had, fel y dangoſwyd; os ydyw hi yn gwaſanaethu yma i goſpi ein pechodau ni, yr hyn yr ydym ni yn haeddu ei gael wrth gyfiawnder mewn lle arall, yn llawer mwy, ac yn llawer toſtach; os ydyw hi yn profi ein cyflwr ni ac yn ein tynnu ni at Dduw; os ydyw hi yn annog cariad Duw tu ac attom ni; ac yn rhoi i ni achos i lawenychu wrth gael ymwared; ac yn ein hannog ni i fod yn ddiolchgar, ac yn ein gwneuthur ni yn hyderus ac yn gryfion; ac yn ddiweddaf, os ydyw hi yn ein cynnyſgaeddu ni a phob rhinweddau da, ac yn ein gwneuthur ni yn debyg i Griſt ei hun; yna y mae achos mawr rhagorol i ni i gymmeryd comffordd a chyſſur ynddi: o herwydd, dyfod yn agos at Griſt, a bod yn debyg iddo, yw'r braint a'r goruchafiaeth mwya n y byd. Yn ddiweddaf, os darfu i dragywyddol ddoethineb Duw ordeinio ac appwyntio, mai hyn fyddai nod, ac arwydd, a lifrai ei Fab ef; a'r ffordd fawr i'r nef, dan yſtondart ei groes ef; ni ddylem ninnau wrthod y lifrai yma, na gochel y ffordd yma, ond yn hytrach, gydâ 'r gwyr da Petr ac Ioan, cyfrif yn fraint mawr, gael bod mor ddedwydd a chael ein gwneuthur yn gyfrannogion o hono. Acts 5. Ni a welwn, fod gwiſgo lifrai 'r brenin a'i arwydd, yn cael ei gyfrif yn fraint mawr gan wyr llŷs y byd hwn: ond cael gwiſgo 'r frenhinwiſg neu'r goron, gormodd braint fyddai hynny i vn deiliad iſelradd. Etto y mae CHRIST ein Harglwydd ni a'n brenhin yn fodlon i gyfrannu â nyni bod vn o'r ddau. A pha fodd, meddwch chwi, y dylem ninnau eu derbyn?

22. Ac yn awr fel y dywedais, digon fyddei hyn o reſymmau i gomfforddio ac i lawenychu pawb ac a alwer i ddioddef blinder a chyſtudd Ond etto y mae pethau eraill heb law hyn, i'w hyſtyried yn neillduol. Ac o'r rhei'ni y cyntaf, a'r pennaf ydyw, nad yw erlid a chyſtudd beth yn dyfod wrth ddigwydd a damwain, na thrwy fod awdurdodau goruchel y byd hwn yn eu hordeinio; ond trwy yſpyſſol ragddarbodaeth a rhagweliad Duw a'r ordinhaad ef; fel y mae Chriſt yn dangos yn helaeth yn Efengyl S. Matthew, hynny ydyw, mai gwaith llaw Dduw ei hun yw'r feddyginiaeth a'r ddiod nefol yma. Yr hyn y mae Chriſt yn ei arwyddoccau, pan yw yn dywedyd, Y cwppan a roddes y Tâd i mi, onid yfaf o honaw? Hynny ydy v, gan ddarfod i'm Tâd gymmyſgu a thymmherudiod i mi, onid yfaf finneu hi? Megis pe dywedai, rhy anniolchgar fyddei i mi nas gwnawn. Ioan 18.11. Yn ail y mae i ni yſtyried, mai 'r vn llaw i Dduw ac a gymmyſgodd y cwypan i Griſt ei fab ei hun, a'i tymmherodd i ninnau, yn ôl yr hyn a ddywedodd CHRIST, Diau yr yfwch o'm cwppan i, Sef yw hynny, o'r vn cwppan ac a dymmherodd fy Nhad i minneu, Mat. 20.23. O hyn y canlyn, mai a'r vn fath galon ac a'r vn cariad ac y tymmherodd Duw y cwppan hwn i'w fab ei hun, y tymmherodd efe ef i ninnau hefyd; hynny yw, er llês i ni yn hollawl, ac er gogoniant iddo ynteu. Yn drydydd, y mae i ni yſtyried fod y cwppan hwn wedi ei dymmheru a chyfryw fawr ofal, fel y dywaid Chriſt, megis pa drallod a pherygl bynnag a dybier ei fod yn ei ddwyn, etto ni chyll vn o wallt ein pennau ni ganddo ef, Matth. 10.23. lle y mae i ni yſtyried ym mhellach yr hyn a ddyweid y prophwyd, Ti a'n porthaiſt ni a bara dagrau, ti a'n diodaiſt ni â dagrau wrth feſur, Pſal. 80.5. Hynny ydyw, cwppan dagrau a chyſtudd a dymmherir wrth feſur gan ein phyſygwr nefol ni, fel na chaffo neb o hono vwch law'r hyn a allo. Ye hyn a roer ynddo o Aloes a phethau chwerwon eraill, a dymmherir â manna ac a digon o bereidd-dra comffordd nefol. Ffyddlon yw Duw medd Sainct Paul, yr hwn ni âd eich temptio chwi vwch law yr hyn a alloch, 1 Cor. 10.13. Dyma bwngc o gomffordd godidog, ac a ddyly fod bod amſer yn ein cof ni.

23. Heb law hyn, mae yn rhaid i ni yſtyried, gan fod ordeinio a thymmheru 'r cwppan hwn yn nwylo Chriſt ein Iachawdr, trwy 'r gyflawn gennad a roed iddo gan ei Dad; a'i fod ynteu wedi dyſgu wrth ei waith ei hun yn dioddef, fel y dywaid yr Apoſtol, beth yw dioddef mewn cnawd a gwaed, ni a allwn fod yn ſiccr na rŷdd efe arnom ni ddim mwy nag a allom ei ddwyn, Heb. 2.18. Megis, pettai i wr dad neu frawd yn phyſygwr o'r celfyddaf, ac ynteu yn cymmeryd phyſygwriaeth ganthynt wedi ei dymmheru a'i dwylo hwy eu hunain; fe allei fod yn ſiccr na wnai'r phyſygwriaeth hynny ddim niweid iddo er maint o drwſt a wnai yn ei fol ef tros amſer: felly, a mwy o lawer, y gallwn ninnau fod yn ſiccr am y ddiod cyſtudd a roer i ni o law Chriſt ei hun; er ei fod, fel y dyweid yr Apoſtol megis yn anhyfryd gennym tros amſer. Ond o flaen pob meddyliau comfforddus eraill, dyma 'r mwyaf, a'r comffordduſaf, nid amgen nag yſtyried ei fod ef yn rhannu 'r cwppan yma o gariad yn vnig, fel y mae efe ei hunan yn tyſtiolaethu, a'r Apoſtol yn profi, Datc. 3.19. Heb. 12.6. Hynny yw, y mae efe yn rhoi rhannau o'i groes (y tryſor mwyaf y mae efe yn gwneuthur cyfrif o hono) fel y mae tywyſogion bydol am eu tryſorau, nid i bawb ond i'w etholedig a'i ddewis garedigion; ac yn eu plith hwythau, nid yr vn faint i bob vn, ond i bob vn ei feſur a'i ddogn, yn ôl meſur y cariad ſydd gantho tuac atto. A hyn ſydd amlwg wrth y ſamplau a oſodwyd i lawr o'r blaen am ei garedigion anwylaf ef, y rhai a gyſtuddir fwyaf yn y bywyd hwn: hynny ydyw, hwy a dderbyniaſant ran fwy o'r tryſor yma, am fod ei ewyllys da ef yn fwy tu ac attynt hwy. A hyn hefyd a ellir ei weled yn amlwg yn eſampl S. Paul, am yr hwn y dywedaſai Griſt wrth Ananias, Y mae efe yn lleſtr dewiſedig i mi. Ac yn y man y mae efe yn dangos y rheſwm o hynny, Canys, mi a ddangoſaf iddo pa bethau eu maint ſydd raid iddo eu dioddef er mwyn fy enw i, Acts 9.15, 16. Wele ynteu: am ei fod yn lleſtr etholedig, am hynny yr oedd yn rhaid iddo ddioddef pethau mawr. Ond ydyw meſur y cyſtudd wrth hynny, yn myned yn ôl meſur cariad Duw tu ac attom ni? Yn ſiccr fe wyddai Sainct Petr Yn dda pa fodd yr oedd y peth, ac am hynny y ma efe yn yſcrifennu fel hyn; Os byddwch yn gwneuthur Yn dda, ac etto yn dda eich ammynedd yn dioddef, hyn ſydd ras (neu fraint) ger bron Duw. A thrachefn ychydi yn ôl, Os difenwir chwi er mwyn Enw Chriſt, gwyn e ch byd: Oblegid y mae anrhydedd, a gogoniant, a gallu Duw a'i yſpryd yn gorphywys arnoch. 1 Pet. 2.20. 1 Pet. 4.14.

24. A ellir addaw gwobr mwy, na braint godidow ach, na chael bod yn gyfrannog o anrhydedd, a gogoniant, a gallu Chriſt? Ai rhyfedd weithian os dywedodd Chriſt. Gwyn eich byd pan i'ch difenwo dynion, a'ch erlid? Mat. 5.11. Ai rhyfedd dywedyd o hono, Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemmwch? Luc. 6.23 Ai rhyfedd dywedyd o S. Paul, Mi a fyddaf hyfryd, ac a ymffroſtiaf yn fy ngwendid, neu yn fy nghyſtudd, yn fy ngwradwydd, yn fy anghenion, yn fy erlidian, yn fy nghyfyng der au er mwyn Chriſt? 2 Cor. 12.9. Ai rhyf dd os bu i Betr ac i Joan, wedi cael eu difenwi a'i curo ger bron brawdle yr Iudd •• on, fyned ymaith dan ymlawenychu am gacl eu cyfrif yn deilwng i ddioddef gwaradwydd er mwyn enw'r Jeſu? Acts 5. Ai rhyfedd os eyfrifodd Sainct Paul yn vchelfaint mawr yr hyn a roed i'r Philippiaid, pan ddywedodd efe, I chwi y rhoddwyd nid yn vnig credu yn Ghriſt, ond hefyd dioddef er ei fwyn ef, gan fod i chwi yr vn ymdrin ac a welſoch ynofi, ac yr awrhon a glywch ei fod ynofi? Phil. 1.29. Nid yw hyn i gyd ddim rhyfedd, meddaf, g n fod dioddef gyda Chriſt, a dwyn y groes gyda Chriſt, yn gymmaint goruchafiaeth yn llŷs y nef, ac a fyddai mewn llys daiarol, i'r Tywyſog gymmeryd ei wiſg ei hun oddiamdano, a'i rhoi am gefn vn o'i weiſion.

25. O hyn weithian y canlyn peth arall fydd yn dwyn cyſſur mawr yn amſer cyſtudd: a hynny yw, bod cyſtudd (yn enwedig pan rodder gras hefyd i'w ddwyn yn ddioddefgar) yn amcan mawr ddarfod i Dduw ragordeinio 'r cyſtuddiol i fywyd tragywyddol, (oblegid, hynny y mae 'r holl reſymmau a dducpwyd o'r blaen yn ei ddangos) megis o'r gwrthwyneb, y mae byw yn waſtad mewn hawddfyd a llwyddiant yn arwydd ofnadwy o wrthodiad tragywyddol. Y pwngc yma 'y mae 'r Apoſtol at yr Hebraeaid yn ei brofi yn rhŷfeddol ac yn ei bennu yn daer, Heb. 12. Ac y mae Chriſt yn ei arwyddoccau yn oleu yn Sainct Luc, pan yw yn dywedyd. Luc. 6.24, 25. Gwyn eich byd chwi, y rhai ydych yn wylo yr a •• hon, canys chwi a chwerddwch, Ac o'r tu arall, Gwae chwi y rhai a chwerddwch yr awrhon, canys chwi a alerwch ac a wylwch. Gwae chwi 'r cyfoethogion, canys chwi a dderbyniaſoch eich diddanwch yma yn y bywyd hwn. A dwyſach na hyn o lawer y mae ymadrodd Abraham wrth y goludog yn Vffern, (neu yn hytrach geiriau Chriſt, y rhai ar ddammeg a fwrir ar Abraham) yn ſiccrhau 'r peth hyn: oblegid y mae ef yn dywedyd wrth y goludog oedd yn cwyno rhag eu boenau, Ha fab, cofia i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, Luc. 16.25. Nid yw efe yn dywedyd (fel y mae Sainct Bernard yn marcio yn dda) Rapuiſti, ti a'i cippiaiſt trwy drais, ond Recepiſti, ti a'i derbyniaiſt. Ac etto yr ydys yr awrhon yn rhoi hyn yn ei erbyn ef, fei y gwelwn ni. Y mae Dafydd yn teimlo 'r matter yma mewn amryw fannau, yn enwedig mewn dwy o'i pſalmau, a hynny yn helaeth: ac yn ôl hir chwilio, a mawr ryfeddu, ei ddiweddchwedl am yr annuwiol ſy mewn llwyddiant yn y byd hwn vwch law eraill, yw hyn, Veruntamen propter dolos poſuiſti eos, deicciſti eos dum alleuarentur, Pſal. 27. ac 37, ac 73.18. Ti a roiſt iddynt lwyddiant ô Arglwydd, i'w twyllo hwynt; ac mewn gwirionedd ti a'i teflaiſt i lawr with eu codi i fynu: hynny ydyw, ti a'i teflaiſt hwy i law: trwy farn damnedigaeth, yn dy ordinhaad a'th amcan dirgel anchwiliadwy. Ac yma y mae cyffelybiaeth Sainct Grigor ar Job yn cael ei lle; ſef, megis ac y gadewir i'r ychen a ordeiniwyd i'w lladd, redeg ac ymdewhau wrth eu hewyllys eu hun, ac y ced wir y llaill tan feunyddol lafur yr iau; felly y mae 'r dynion da a'r rhai drwg. Yr vn ffunyd, y pren nid yw yn dwyn dim ffrwyth ni churir dim arno, fel y gwelwn ni, ond yn vnig yr hwn a ddygo ffrwyth; ac etto y llall, fel y dywed Chriſt, yr ydys yn ei gadw i'r tan, Mat. 3. & 7. Iud. Y claf a fo heb ddim gobaith byw ynddo y gad y phyſygwr iddo gael beth bynnag a fynno; ond y neb ni bo anobaith byw ynddo, ni chaiff y cyfryw rydd-did. Yn ddiweddaf, y meini a fyddei raid iddynt waſanaethu i ogoneddus deml Solomon a neddid, ac a gurid, ac a gyweirid o'r tu allan i'r eglwys, yn ymyl y chwarel; am na cheid clywed dyrnod morthwyl o fewn y Deml. Y mae Sainct Petr yn dywedyd fod y rhai duwiol yn feini dewiſedig, i'w goſod yn adeilad yſprydol Duw yn y nêf, lle nid oes na churo, na thriſtwch, na chyſtudd, 1 Bren. 6.7. 1 Pet. 2. Datc. 21. Yma wrth hyn y mae'n rhaid ein cyweirio ni, a'n naddu, a'n gwneuthur yn gymmwys i waith y Deml: yma, meddaf, yn chwarel a maen-glawdd y byd hwn: yma y bydd rhaid ein puro; yma y bydd rhaid i ni gael clywed dyrnod y morthwyl, a bod yn dra llawen pan y clywom; oblegid arwydd ydyw o'n etholedigaeth ni i ogonedduſaf dy trigfa dragywyddol Duw.

26. Heb law'r pwngc yma am ragordinhaad ac etholedigaeth; y mae peth arall etto o gomffordd nid bychan i'r duwiol cyſtuddiedig, yr hwn ſy a'i ſail ar y geiriau hyn eiddo Duw: Mewn ing y byddaf gydag ef: Pſal. 91.15. yn y rhai yr addewir cwmpeini Duw ei hun mewn cyſtudd ac erlid. Dymma beth godidog, medd S. Bernard, i annog aci gynhyrfu dynion i greſawu cyſtudd, gan fod dynion yn barod i anturio pob peth er mwyn cwmpeini da. Joſeph a ddugpwyd yn gaeth i'r Aipht, a Duw aeth i wared gydag ef, fel y dywaid yr Scrythur lân, ie mwy nâ hynny, efe aeth i wared i'r carchar ac i'r pydew gyd ag ef, ac aeth mewn cadwyni gyd ag ef, Gen. 37. Sidrach, Miſach, ac Abednago a daflwyd i'r ffwrn boeth loſgadwy, ac yn y man yr oedd pedwerydd wedi dyfod i ddwyn cwmpeini iddynt, am yr hwn y mae Nabuchodonoſor yn dywedyd fel hyn, Onid trywyr a fwriaſam ni i ganol y tân, yn rhwym? a'i weiſon a attebaſant ie yn wir, o frenhin: ond wele, ebyr ynteu, yr wyfi yn gweled pedwargwyr yn rhyddion, yn rhodio ynghanol y tân; a dull y pedwerydd ſydd debyg i Fab DVW. Dan. 3.24, 25. Fe roes Chriſt wrth fyned heibio, i ryw gardottyn ei olwg drachefn, yr hwn a fuaſai ddall o'i enedigaeth. Ac am hynny y galwyd y dŷn i'w holi, ac a roes beth canmoliaeth i Griſt am y gymmwynas a gawſai gantho, ac a fwriwyd allan o'r Synagog gan y Phariſaeaid. A phan glybu Chriſt hynny, efe a chwiliodd am dano yn y man, ac a gyſſurodd ei galon ef, ac a roes iddo oleuni meddwl hefyd, yr hyn oedd fwy nâ'r goleuni corphorol a roeſai efe iddo o'r blaen, Joan 9. Wrth yr eſampl yma a'r cyffelyb y gellir gweled, er cynted y bo dyn mewn cyſtudd ac erlid er mwyn cyfiawnder, fod CHRIST gydag ef yn y man i ddwyn iddo gwmpeini; a phe gellid egoryd ei lygaid ef, fel yr agorwyd llygaid diſgybl Eliſaeus i weled ei gydymdeithion, ſef y byddinoedd Angylion ſydd yn gweini ar eu harglwydd yn ei ymweliad yma: diammau y cai ei galon ef gyſſur mawr oddiwrth hynny, 2 Brenh. 6.16, 17.

27. Ond yr hyn nis gall y llygad ei weled, y mae'r enaid yn ei glywed; hynny ydyw, y mae yn clywed oddiwrth gymmorth gras Duw ynghanol ei holl drallodau. Hyn a addawodd efe yn dra mynych; hyn a dyngodd efe; a hyn y mae efe yn ei gyflawni yn dra ffyddlon, i bawb ac a ddioddefo yn llariaidd er mwyn ei enw ef. Hyn oedd dra ſiccr gan Sainct Paul, pan ddywedodd efe ei fod yn ymffroſtio yn ei wendid a'i holl drallodau, fel y byddai i nerth Chriſt drigo ynddo ef: hynny yw, fel y byddai i Griſt ei gynnorthwyo ef â'i ras yn helaethach, Canys pan wyf wan, yna 'r wyf yn gadarn, medd efe; 2. Cor. 12. hynny yw, po mwyaf o drallodau ac o erlidiau a rodder arnaf, cryfaf ydyw gras Chriſt i mi. Ac am hynny y mae 'r vn Apoſtol yn yſgrifennu fel hyn am yr holl Apoſtolion ynghyd, Yr ydym yn gyſtuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng-gyngor, ond nid yn ddiobaith, yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr-adael; yn cael ein bwrw i lawr, ond heb ein difetha, 2 Cor. 4.9. A hyn a ddylei fod yn ffonn gadarn-gref ddiogel yn llaw pob Chriſtion a fo mewn blinder; ſef beth bynnag a ddigwyddo iddynt, na phalla gras Duw byth i'w cynnal hwynt i fynu, ad i'w dwyn allan o gyſtudd: oblegid yn y pwngc yma y mae 'n wir ac yn ſiccr iawn geiriau Sainct Awſtin, Str. 88. de temp. & nat. & gr. cap. 26. y rhai a adroddodd efe cyn fynyched yn ei waith; nad yw Duw byth yn gwrthod vn dyn, oni bydd wedi i ddynion ei wrthod f a'i fwrw ymmaith yn gyntaf.

28. Yn lle y rheſwm diweddaf o gyſſur mewn cyſtudd, mi a gyſſylltaf ynghyd ddau beth ſy o rym a nerth mawr i'r defnydd yma. A'r cyntaf o'r ddau yw diſgwyl am gyflog, a'r llall yw byrred yr amſer ſydd i ni i ddioddef cyſtudd: a'r ddau hyn y mae Sainct Paul yn crybwyll am danynt mewn vn ymadrodd, lle y mae 'n dywedyd, fod byrr yſgafn gyſtudd yn y byd hwn, yn odidog ragorol yn gweithredu tragywyddol bwys gogoniant yn vchder nef, 2 Cor. 4.17. Wrth ei alw yn fyrr y mae efe yn dangos fyrred yr amſer ſydd i ni i ddioddef; ac wrth dragwyddol bwys gogoniant y mae yn yſpyſſu faint yw 'r gwobr a'r cyflog ſy wedi ei barottoi yn y nef, yn lle tâl am ddioddef. Ac y mae Chriſt hefyd yn cyſſylltu faint yw 'r ddau gyſſur hyn ynghŷd, pan yw yn dywedyd, Wele fi yn dyfod ar frys, a'm gwobr ſydd gyda mi, Datc. 22. Wrth addaw dyfod ar frys y mae efe yn arwyddoccau na hir-bery ein cyſtudd ni: ac wrth addaw dwyn ei wobr gydag ef, y mae efe yn ein ſiccrhau ni na ddaw efe yn wag-law, ond â pharodrwydd i roi cwbl dâl i bawb am ei lafur. A pha fodd y gallai efe roi cyſſur mwy nâ hyn? Pettai ddyn yn dwyn baich gorthrwm tros ben, etto o byddai ſiccr gantho gael taledigaeth da am ei boen, ac na byddai iddo ond ychydig ffordd i ddwyn y baich hwnnw, efe a ymegniai yn doſt i fyned rhagddo hyd ym mhen ei ffordd, yn hytrach nag y collai wobr cymmaint, a'i gael yn y man, er mwyn arbed cyn lleied o boen. Mawr drugaredd ein Harglwydd a'n Duw, ydyw ei fod ef yn ein cyſſuro ni fel hyn yn ein cyſtudd, ac yn rhoi calon ynom ni i ddal allan tros amſer, er bod y pwys yn drwm ar ein hyſgwyddau ni. Y mae dyfodiad ein Harglwydd gar llaw, ac y mae 'r barnwr wrth y porth, ac efe a'n llonna ni, ac a ſych ymaith ein holl ddagra ni, ac a'n goſyd ni yn ei deyrnas, i gael llawenydd diball. Ac yno y cawn brofi fod yn wir yr hyn a ddywedodd y bendigedig S. Paul, Nad yw dioddefiadau'r byd hwn yn haeddu 'r gogoniant a ddatguddir i ni, Iac. 5 Mat. 11. Datc. 7. ac 21. Gal. 6. Rhuf. 8.18. A digon yw hynny o reſymmau am y comffordd a adawyd i ni yn ein trallod a'n cyſtudd.

29. Gan ddarfod i ni weithian ddatgan y tri phwngc cyntaf a addawyd yn y bennod yma; y mae 'n canlyn bod i ni ddywedyd gair neu ddau am y pedwerydd: hynny ydyw, pa beth ſydd i ni i'w wneuthur yn amſer erlid a chyſtudd. Ac i ddangos hynny, digon fyddai ddywedyd yn vnig fod arnom ni ymroi i ewyllys a meddwl Duw, beth bynnag fyddo; fel yr adroddwyd o'r blaen yn achoſion cyſtudd, ond etto er mwyn ychwaneg o eſmwythdra, ac fel y galler ei gofio yn well, mi a redaf yn fyrr tros ei brif byngciau ef. Yn gynta' peth gan hynny mae 'n rhaid i ni ymgais, os gallwn, a'r hyn y mae Chriſt yn ei gynghori, Byddwch lawen, a llemmwch, Luc. 6.23. Ac onis gallwn gyrhaeddyd y cyfryw berffeithrwydd, etto bod i ni wneuthur fel y mae 'r Apoſtol yn ewyllyſio, Cyfrifwch yn bob llawenydd, pan ſyrthioch mewn amryw brofedigaethau. Hynny ydyw, oni fedrwn ni lawenychu yn ein cyſtudd etto bod i ni ddeall fod cyſtudd yn beth ſydd o hono ei hun yn haeddu llawenychu o'i blegid, a beio arnom ein hunam am nas medrwn lawenychu. Ac onis gallwn gyrhaeddyd cyfuwch â hynny chwaith (fel y dylem ni mewn gwirionedd) etto er dim bod i ni gofio yr hyn y mae efe yn ei ddywedyd mewn lle arall, Bod yn rhaid i chwi wrth ymmynedd, os mynnwch dderbyn addewid Duw am fywyd tragywyddol. Jac. 1.2. Heb. 10.36.

30. Yn ail, ni a ddylem wneuthur fel y gwnaeth yr Apoſtolion, pan oeddynt yn y dymmheſtl dra erchyll ar y mor, (a Chriſt gyda hwynt, ond ei fod yn cyſgu) hynny yw, rhaid i ni fyned a'i ddeffro ef. Rhaid i ni weiddi arno gyda 'r Prophwyd, Deffro, pa ham y cyſgi, ô Arglwydd, a ninnau mewn ing? Mat. 8. Pſal. 44.23. Y mae deffro Chriſt fel hyn yn rhyngu bodd iddo yn rhyfeddol, os gwneir hynny a'r cyfryw hyder ſiccr, a chan wir galonnog blant, fel y mae Sainct Marc yn dangos ddarfod i'r Apoſtolion ddeffro Chriſt. Oblegid dyma eu geiriau hwy, Ai difatter gennyt ein colli ni yma? Marc. 4.38. Megis pe dywedent, Ond ydym ni yn ddiſgyblon ac yn weiſion i ti? Ond wyt titheu yn arglwydd ac yn feiſtr i ninnau? Ond yw cwbl o'n hymddiried ni a'n gobaith ynoti? Pa ham ynteu y cyſgi di, a gadael ein taflu ni a'n treiglo fel hyn, megis pettem ni heb perthyn dim i ti? A'r cyfryw ddwys awyddfryd y gweddiodd Eſai, pan ddywedodd efe, Edrych o'r nefoedd, Arglwydd, a gwel; o annedd dy ſancteiddrwydd, a'th ogoniant? Mae dy zêl di a'th gadernid, a llioſowgrwydd dy doſturiaethau, a'th drugareddau tuac attafi? a ymattaliaſant hwy oddiwrthyfi yr awrhon? Canys ti yw ein tâd, er nad edwyn Abraham ni, ac na 'n cydnebydd Iſrael, Ti Arglwydd yw ein Tâd ni, dychwel er mwyn dy weiſion er cariad ar lwythau dy etifeddiaeth Eſa. 63.15. Fel hyn, meddaf, y mae 'n rhaid i ni alw ar Dduw: fel hyn y mae 'n rhaid i ni ei ddeffro ef, pan fyddo megis yn cyſgu yn ein hadfyd ni, a gweddi ddifrifol, ddwywol, ddibaid; a chennym bob amſer yn ein meddyliau, y ddammeg gomfforddus eiddo Chriſt, lle y mae efe yn dywedyd, Luc. 11. pe doai vn o honom ni wrth ddrws ei gymmydog, a churo ganol nôs i geiſio bara yn echwyn, pan fyddai efe yn ei wely gyd a'i blant, ac yn anhawdd iawn gantho godi: etto os ni a barhawn yn gofyn, a churo yn waſtad wrth y drws, er na byddai efe o'n caredigion ni, etto efe a godai o'r diwedd, ac a roai i ni ein gofyn, o'r hyn lleiaf er mwyn cael gwared o'n taerni ac o'n llefain ni. A pha faint mwy y gwna Duw hyn, medd Chriſt, ac ynteu yn ein caru ni, ac yn darbod o'n cyflwr ni yn drugarog iawn.

31. Ond yma y mae vn peth i'w yſtyried yn y matter hyn; a hynny yw goddef o Griſt i'r llong gael ei chuddio agos gan donnau, fel y dywaid yr Efangylwr, cyn iddo ddeffro, Mat. 8. i arwyddoccau wrth hynny y bydd rhaid gadael arno ef pa faint o brofedigaeth a roddo efe arnom ni: digon i ni ymfodloni yngeiriau yr Apoſtol, ffyddlon yw Duw, yr hwn ni âd ein temptio ni vwch law yr hyn a allom, 1 Cor. 10.13. Nid iawn i ni na holi nac ammeu ei weithredoedd ef: ni allwn ni ymofyn pa ham y gwna efe hyn, neu pa ham y mae efe yn goddef hyn accw, neu pa hyd y gâd efe i r drygau hyn gael y llaw vehaf. Y mae Duw yn Dduw mawr yn ei holl weithredoedd, a phan fyddo yn danfon trallod, efe a ddenfyn lawer ar vnwaith, fel y gallo ddangos ei fawr allu yn ein gwared ni; ac y mae wedi hynny yn ei gydbwyſo â llawer o gyſſur. Y mae ei brofedigaethau ef yn fynych yn myned yn ddwfn iawn, er mwyn profi hyd yn oed calonnau ac arennau dynion. Ef aeth ym mhell ag Elias, pan wnaeth iddo ffo i'r mynydd, ac yno chwennych angeu yn fawr, a dywedyd, Hwy a ddiſtrywiaſant dy allorau di, ac a laddaſant dy holl brophwydi â'r cleddyf, a myfi a adawyd fy hunan, ac y maent yn ceiſio dwyn fy einioes inneu hefyd. 1 Bren. 19.10 Ef aeth ym mhell a DAFYDD, pan wnaeth iddo lefain, Pa ham y cuddi dy wyneb, O Arglwydd, ac yr anghofi fy nghyſtudd a'm gorthrymder? A thrachefn mewn lle arall, Mi a ddywedais yn fy ffrwſt fo 'm bwriwyd allan o'th olwg. Pſal. 44.24. Pſal. 31.22. Fe aethei Dduw ym mhell a'r Apoſtolion, pan wnaeth efe i vn o honynt hwy ſcrifennu, Ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein cyſtudd a ddaeth i ni yn Aſia, bwyſo arnom yn ddirfawr vwch ben ein gallu, hyd onid oeddym yn flin gennym fyw yn hwy, 2 Cor. 1.8. Onid etto vwch law pawb eraill efe aeth ym mhellaf o gwbl a'r anwyl fab ei hun, pan wnaeth iddo adrodd y geiriau toſturus galarus hyn ar y groes, mhellaf o gwbl a'i anwyl fab ei hun, pan wnaeth iddo adrodd y geiriau toſturus galarus hyn ar y groes, Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gadewaiſt? Pwy wrth hynny a all gwyno rhac vnfath ar brofedigaeth na themptaſiwn a rodder arno, gan i Dduw weled yn dda fyned cym-mhelled a'i anwyl a'i vnig fab ei hun? Mat. 27.46. Mar. 15.34. Pſal. 22.1.

32. Ac o hyn y canlyn y trydydd peth ſydd anghenrhaid i ni mewn cyſtudd, a hwnnw yw calondid a mawrfryd wedi ei ſeilio ar ffydd gadarn anorfod, y rhydd Duw gymmorth i ni, ac y cawn ni gwbl ymwared, er hyd yr oedo efe hynny, ac er erchylled fyddo gennym y dymmheſtl tros yr amſer. Hyn y mae Duw yn ei ofyn ar ein dwylo ni, fel y gellir gweled wrth eſampl y diſgyblion, y rhai a lefaſant, Darfu am danom, cyn i'r tonnau orchuddio 'r llong, fel y mae S. Matthew yn ſcrifennu: ac etto fe ddywedodd Chriſt wrthynt hwy, Ʋbi eſt fides veſtra, pa le y mae eich ffydd chwi! Mat. 8. Luc. 8. Sainct Petr hefyd, nid ofnodd hyd onid oedd efe agos tan y dwfr, fel y mae yr vn Efangylwr yn coffa; ac etto fo 'i ceryddodd Chriſt ef, gan ddywedyd, Tydi o ychydig ffydd, pa ham y petruſaiſt? Mat. 14. Pa beth wrth hynny a wnawn ni yn y cyflwr yma frawd anwyl? Yn ſiccr mae yn rhaid i ni ymwiſgo â ffydd gadarn y brenhin calonnog Dafydd, yr hwn ar yr hyder ſiccraf oedd gantho vnghymmorth Duw, a ddywedodd, Pſal. 18.29. Yn fy Nuw y llammaf dros fûr. A chyfryw ffydd anorfod oedd gan S. Paul ynteu, pan ddywedodd efe, Yr wyfi yn gallu pob peth trwy Griſt, yr hwn ſydd yn fy nerthu i, ac yn fy nghyſſuro, Phil. 4.13. Nid oes dim yn ammhoſſibl i mi; nid oes dim rhy galed i mi, trwy ei gymmorth ef. Rhaid i ni fod, fel y dyweid yr Scrythur lan, yn hŷ ac yn ddiarſwyd fel llew, Dihar. 28.1. Hynny yw, rhaid i ni na ſynno arnom er tymmheſtl yn y byd, er trallod yn y byd, er gwrthwyneb yn y byd. Rhaid i ni ddywedyd gyda 'r prophwyd Dafydd a brofaſai 'r pethau hyn, Nid of naf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymoſodant i'm herbyn. Pe rhodiwn ynglynn cyſgod angeu, nid ofnaf niweid. Pe gwerſyllai llu i'm herhyn nid ofnai fynghalon; pe cyfodai câd i'm herbyn, er hynny mi a fyddwn hyderus. Yn Nuw yr ymddiriedaf, nid ofnaf, beth a wnêl dyn i mi. Yn Nuw y gobeithiaf, nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi. Duw yw fy nghymmorth a'm noddfa, am hynny y diyſtyraf ac y dirmygaf fy ngelynion. Pſal. 3.6. Pſal. 23.4. Pſal. 27.3. Pſal. 56.11. Pſal. 56.4. & 118.6. A prophwyd arall yn yr vn deall, Wele, Duw yw fy iechydwriaeth, am hynny mi a fyddaf hyderus ac nid ofnaf. Eſa. 12.2. Y rhai hyn, oedd ymadroddion y prophwydi ſanctaidd, a gwŷr oedd yn gwybod yn dda beth yr oeddynt yn ei ddywedyd, ac a brofaſent gyſtudd yn fynych eu hunain: ac am hynny a fedrent ddywedyd o'i gwybodaeth eu hunam mor ſiccr ddiammau ydyw cymmorth Duw mewn cyſtudd.

33. I'r calondid arbennig yma, a'r dewrder, a'r gwroliaeth a'r cryfder Chriſtianogawl yma, y mae 'r Scrythur lan yn ein hannog ni, pan yw yn dywedyd, Pan gyfodo yſpryd pennadur yn dy erbyn, nac ymado â th le, Preg. 10.4. A thrachefn, Scrythur arall a ddywaid, Ymdrech am dy einioes tros gyfiawnder, ac ymegnia gydâ 'r gwirionedd hyd farwolaeth, a'r Arglwydd Dduw a ymladd gyda thitheu, ac a oreſgyn dy elynion troſoti. Ecc. 4.28. Ac y mae Chriſt ei hun yn ddwyſach etto yn gorchymmynnu y peth yma yn y geiriau hyn, Yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai ſy 'n llâdd y corph, ac wedi hynny heb ganddynt ddim i'w wneuthur yn eich erbyn chwi, Luc. 12.4. Ac y mae Petr yn dywedyd ym mhellach, Ne que conturbemini, Ac na chynnhyrfer chwi: 1 Pet. 3.14. hynny ydyw nid yn vnig, nag ofnwch hwynt, ond (yr hyn ſy lai) na wnewch cymmaint a chyffroi er dim a allo cnawd a gwaed ei wneuthur i chwi.

34 Ac y mae Chriſt yn myned ym mhellach yn llyfr y datguddiad, ac yn arfer o ymadroddion rhyfeddol i'n denu ni i'r cryfder a'r gwroliaeth yma. oblegid dyma ei eiriau ef, Datc. 2.7, 9, 10, 11, ac 3.5, 11, 12, 13.21. Yr hwn ſydd ganddo glûſt i wrando, gwrandawed beth y mae 'r Yſpryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwyſi. I'r hwn ſydd yn gorchfygu y rhoddaf iddo fwytta o bren y bywyd, yr hwn ſydd ynghanol Paradwys Dduw. Y pethau hyn y mae 'r cyntaf, a'r diweddaf; yr hwn a fu farw, ac ſydd fyw, yn ei ddywedyd, Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gyſtudd, a'th dlodi: eithr cyfoethog wyti mewn gwirionedd, a thi a geblir gan y rhai ſy 'n dywedyd eu bod yn wir Iuddewon, ac nid ydynt, ond yn hyttrach Synagog Satan. Nac ofna ddim o'r pethau yr wyt i'w dioddef: wele 'r cythraul a bair fwrw rhai o honoch chwi i garchar, fel i'ch profer chwi, a chwi a gewch gyſtudd ddeng nhiwrnod. Ond bydd di ffyddlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd. Yr hwn ſydd ganddo gluſtiau i wrando gwrandawed beth y mae 'r Yſpryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwyſi, Yr hwn ſydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim eniweid gan yr ail farwolaeth. A'r hwn a orchfygo, ac a gadwo fy ngweithredoedd hyd y diwedd, mi a roddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd fel y derbyniais inneu gan fy Nhâd: ac mi a roddaf iddo 'r ſeren foreu. Yr hwn ſydd yn gorchfygu, hwnnw a wiſgir â dillad gwynion, ac ni ddileaf fi ei enw ef allan o lyfr y bywyd, ond mi a gyffeſſaf ei enw ef ger bron fy Nhâd, a cher bron ei angylion ef. Wele, yr wyfi yn dyfod ar frys; dal yr hyn ſydd gennyt, fel na ddycco neb dy goron di. Yr hwn ſydd yn gorchfygu, mi a'i gwnaf ef yn golofn yn Nheml fy Nuw, ac nid a efe allan byth mwyach: ac mi a 'ſgrifennaf arno Enw dinas fy Nuw i, yr hon yw Jeruſalem newydd, yr hon ſydd yn diſgyn oddiwrth fy Nuw i; ac mi a ſgrifennaf arno fy Enw newydd i. Yr hwn ſydd yn gorchfygu, mi a roddaf iddo eiſtedd gyda mi ar fy ngorſeddfaingc, megis y gorchfygais inneu, ac yr wyf yn eiſtedd gyda 'm Tad ar ei orſeddfaingc ef.

35. Hyd hyn y mae geiriau Chriſt wrth S. Ioan. Ac yn niwedd yr vn llyfr, wedi darfod iddo bortreiadu llawenydd a gogoniant nef yn helaeth, y mae efe yn diweddu fel hyn, A'r hwn oedd yn eiſtedd ar yr orſeddfaingc a ddywedodd wrthyf, Yſgrifenna 'r geiriau hyn canys y maent yn gywir ac yn ffyddlon. Yr hwn ſydd yn gorchfygu a etifedda yr holl lawenydd yma y ſoniais am dano, ac mi a fyddaf yn Dduw iddo ef, ac ynteu fydd yn fab i minneu. Ond y rhai fy ofnog i ymdrech, a gwanffyddiol i gredu 'r pethau a ddywedais i; eu rhan hwy fydd yn y llynn ſydd yn lloſgi, gan dân a brwmſtan, yr hwn yw 'r ail farwolaeth, Datc. 21.5, 8.

36. Yma bellach y gwelwn oſod ger ein bronnan addewidion a bygythiau, da a drwg, einioes ac angeu; llawenydd nef, a'r ffwrn loſgadwy. Ni a allwn yſtyn ein dwylo at yr hyn a fynnom. Os ymladdwn ni, a gorchfygu (yr hyn a allwn ni trwy help Duw) ni a gawn fwynhau 'r addewidion a oſodwyd i lawr o'r blaen: os ni a'n dangoſwn ein hunain nac yn angrhededyn i'r addewidion hyn; nac yn ofnog i fyned i'r ymdrech a gynnygir i ni; yna y ſyrthiwn mewn perygl o'r bygythiau ſy wrthwyneb i hynny: yn y modd y dywaid S. Joan mewn lle arall, ei wneuthur o bendefigion ym myſg yr Iuddewon, y rhai a gredent ynghriſt, ond ni feiddient ei gyfaddef rhac ofn erlid. Joan. 12.42.

37. Yma wrth hynny y bydd rhaid i rinwedd arall ganlyn ynom ni, yr hon ſydd dra angenrheidiol i'r rhai a fo rhaid iddynt ddioddef cyſtudd a blinder: a honno ydyw, rhoi ein bryd yn grŷf ac yn gadarn ar ſefyll a myned rhagom, pa wrthwyneb a pha rwyſtr bynnag a gaffom yn y byd, gan druth yn gwenheithio i ni, neu gan greulondeb yn ein herlid. Hyn y mae 'r Scrythur yn ei ddyſgu gan lefain arnom, Bydd ddianwadal a ſiccr yn ffordd yr Arglwydd, Eccl. 5.10. A thrachefn, Sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch, 1 Cor. 16.13. Ac etto ym mhellach, Ymddiried yn yr rglwydd, ac aros yn dy le, Eccl. 11.2. Ac yn ddiweddaf, Ymgryfhewch, ac na laeſed eich dwylo oddiwrth y gwaith a ddechreuaſoch, 2 Cron. 15.7.

38. Y gwrolfryd yma oedd yn y tri llangc, Sidrach, Miſach, ac Abednego, y rhai wedi ddynt glywed truth eiriau Nahuchodonozor greulon, a'i aml fygythion; a attebaſant ag yſpryd eſmwyth llonydd, Oh frenhin, nid ydym ni yn gofalu am atteb i ti yn y peth hyn. Wele, y mae ein Duw ni, yr hwn yr ydym ni yn ei addoli, yn abl, os myn efe, i'n gwared ni allan o'r ffwrn danllyd boeth yr wyti yn ein bygwth ni â hi; ac efe a'n gwared ni allan o'th law di, o frenhin: ac onid ê, bydded hyſpys i ti frenhin, nad addolwn ni dy dduwiau di, ac nad ymgrymmun i'th ddelw aur a gyfodaiſt, Dan 3.16, 17, 18.

39. Y Gwrolfryd yma oedd yn Petr ac Joan, y rhai wedi eu dwyn yn fynych ger bron y Cyngor, a gorchymmyn iddynt, a'i bygwth a'i curo, na ſonient mwy am Griſt, a attebent yn waſtadol, Rhaid yw vfyddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion, Act. 4.19. & 5.29. Yr vn hefyd oedd yn S. Paul, yr hwn pan ddeiſyfai y Chriſtianogion yn Caeſarea arno trwy ddagrau, ar iddo beidio â mynedi fynn i Jeruſalem, o herwydd darfod i'r yſpryd glan ddatguddio i lawer y trallodau oedd yn ei ddiſgwyl ef yno; a attebodd fel hyn, Beth a wnewch chwi yn wylo, ac yn torri fy nghalon i? canys yr wyfi yn barod, nid i'm rhwymo yn vnig, ond i farw hefyd yn Ieruſalem, or mwyn Enw yr Arglwydd Ieſu, Acts. 21.12, 13. Ac yn ei Epiſtol at y Rhufeiniaid y mae efe yn dangos y gwrolfryd yma ym mhellach, pan yw yn dywedyd, Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw gydâ ni, pwy a all fod i'n herbyn? Pwy a'n gwahana ni oddiwrth gariad Chriſt? ai gorthrymder? neu ing? neu ymlid? neu newyn? neu noethni? neu enbydrwdd? neu gleddyf? Y mae 'n ddiogel gennyf, na all nac angeu, nac einioes, nac Angylion, na thwyſogaethau, na meddiannau; na phethau preſennol, na pethau i ddyfod, nac Vchder, na dyfnder, nac vn creadur arall ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hw ſydd yn Ghriſt Ieſu ein Harglwydd, Rhuf. 8.31, 35, 38, 39.

40. Yn ddiweddaf, hyn oedd wrolfryd yr holl ferthyron ſanctaidd a'r conffeſſoriaid, a gweiſion eraill Duw; yr hwn a wnai iddynt ſefyll yn erbyn profedigaethau 'r Cythraul, a hûd cnawd a gwaed, a holl erlidian y rhai creulon, a geiſient ganthynt hwy wneuthur pethau anghyfreithlawn. Mi a ddygaf i chwi vn eſampl allan o ail llyfr y maccabaeaid, a hynny o flaen dyfodiad Chriſt, ond er hynny yn agos at ei ddyfodiad ef, ac am hynny nid rhyfedd ei fod yn cael peth o dwymder gwrês a dianwadalwch Chriſtianogaidd tu ac at ferthyrdod. Y mae 'r eſampl yn rhyfeddol, o herwydd yngolwg dŷn nad oedd hi ond am fatter bychan a ofynnid ar eu dwylo hwy wrth orchymmyn y zeirian creulon: hynny yw, bwytta cig moch, yr hyn oedd waharddedig yr amſer hwnnw. Oblegid fel hyn y mae wedi ei roi mewn côf yn y llyfr hwnnw. 2 Maccab. 7.2, 7, 10, 24, 30.

41. Fe a ddigwyddodd ddarfod dal ſaith mrodyr ynghyd yn y dyddiau hynny, a'i dwyn, ynghyd â'i mam, at y brenhin Antiochus, ac yno eu cymmhell trwy boenau ffrewyll a phethau eraill, i fwytta cig moch, yn erbyn y gyfraith. Ac ar yr amſer hwnnw y dywedodd vn o honynt, yr hwn oedd hynaf, Pa beth yr wyti yn ei geiſio? a pha beth a fynni di ei wybod gennym ni, o frenhin? Yr ydym ni yn barod i farw, yn gynt nag y torrom hên gyfreithiau ein tadau. Yna y cythruddodd y brenhin ac y parodd dwymno pedyll a pheiriau; y rhai yn y man a wnaethbwyd yn boeth; ac efe a orchymmynnodd dorri tafod yr hwn a ddadleuaſai yn gyntaf, a'i flingo ef, a thorri pennau byſedd ei draed a'i ddwylo, a chroen ei ben, yngwydd ei fam a'i frodyr eraill; a chwedi hynny ei ffrio ef hyd oni bu farw. Ac wedi hynny, hwy a ddygaſant yr ail brawd i'w boeni, ac wedi iddynt dynnu croen ei ben ef a'i wallt, hwy a ofynnaſant iddo a fwyttaei efe gig moch, cyn merthyru pob aelod o'i gorph. Ond efe a attebodd yn iaith ei wlad, Na wnaf. Ac ar hynny, yn ôl llawer o boenau, efe a laddwyd gyd â'r llaill. Yn ôl marw hwnnw y dygwyd y trydydd hefyd, a phan ofynnaſant iddo am ei dafod, efe a'i heſtynnodd allan yn ebrwydd, a'i ddwylaw hefyd i'w torri, ac a ddywedodd yn wrol, y rhai hyn a gefais i gan Dduw o'r nef, a'r rhai hyn yr wyf yn eu dirmygu er mwyn ei gyfraith ef, am fy mod yn gobeithio eu derbyn hwy eilwaith ganddo ef. Ac wedi iddynt boeni chwech o'r brodyr fel hyn, a'i rhoi i'w marwolaeth, a phob vn o honynt yn dra hŷ ac yn ddianwadal yn cyfaddef ei ffydd, a'r llawenydd oedd ganddo i farw yn achos Duw; yr oedd yr ieuangaf yn vnig yn ôl, yr hwn y gwnaeth Antiochus (am fod yn gywilydd gantho na allai ŵyro yr vn o'r llaill) ei oreu ar dynnu hwnnw oddiwrth ei amcan, trwy addaw a thyngu y cai fod yn gâr iddo, ac y rhoddai iddo ſwyddau, ac y gwnai ef yn gyfoethog ac yn ddedwydd, os efe a ymroai. Ond gan nad oedd y gwr ieuangc yn cyffroi gronyn er hynny, Antiochus a barodd gyrchu ei fam ef, ac a eiriolodd arni hi gynghori 'r gwr ieuange i achub ei hoedl: hitheu a gymmerodd arni wneuthur hynny, ac a addawodd gynghori ei mab, fel y byddai rydd iddi gael ymddiddan ag ef, ac a'i hannogodd ef yn ddwys ac yn ddifrif, yn yr iaith Hebraeg, i ddal allan, ac i farw er mwyn ei gydwybod: a chwedi darfod iddi ymadrodd, y gwr ieuangc a lefodd a llef vchel, ac a draethodd yr ymadrodd yma ſy wiw ei gofio; Quem ſuſtinetis? Non obtempero praecepto regis, ſed praecepto legis: Beth yr ydych chwi yn ei ddiſgwyl? nid oes yn fy mryd i vfyddhau gorchynuhyn y brenhin, ond gorchymmynion y gyfraith a roddwyd i'n tadau ni trwy law Moſes. Ac am hynny, vn ôl llawer ac amryw o boenau, y rhoddwyd ef a'i fam i'w marwolaeth yn y man.

42. Dyma wrth hynny y gwrolfryd ſiccr dianwadal a ddyly fod gan Griſtion yn holl gyſtuddiau 'r bywyd hwn. Am yr hwn y mae S. Ambroſe Li. 8 off. 38 yn dywedyd fel hyn, Gratiâ praeparandus eſt animus, exercenda mens, & ſtabilienda ad conſtantiam; vt nullis perturbari animus poſſit terroribus, nullis frangi moleſtiis, nullis ſuppliciis cedere, Mae 'n rhaid i'n meddwl ni fod wedi ei barottoi a grâs, a'i gynnefino, i'w ſiccrhau mewn dianwadalwch, fel na thralloder ef gan ddychryn yn y byd, ac na laeſo gan wrthwyneb, ac na ymroddo er math yn y byd ar boenau nac arteithiau.

43. Os gofynnwch yma pa fodd y gall dyn gyrhaeddyd y cyfryw wrolfryd a hyn; mi a attebaf fod S. Ambroſ yn y fan honno yn goſod ar lawr ddwy ffordd; y naill yw, cofio 'r poenau anniben anaele ſydd yn vffern ini, oni wnawn hynny; a'r llall yw meddwl am y gogoniant anhydraeth a gawn ni yn y nef, os nyni a'i gwnawn. Ac at hynny y chwanegaf finnau 'r drydedd, yr hon mewn calon foneddigeiddwych a all wneuthur cymmaint o lês a hwythau; a hynny yw yſtyried beth a ddioddefodd eraill o'n blaen ni, yn enwedig Chriſt ei hun, a hynny yn vnig o wir gariad a ſerch arnom ni. Ni a welwn yn y byd hwn, nad yw deiliaid cariadus yn ymffroſtio mewn dim yn fwy, nag yn y peryglon a'r briwiau a gawſant yn y rhyfel, tros eu Tywyſog, er na ddioddefodd ef ddyrnod erioed er eu mwyn hwy. Pa beth wrth hynny a wnaent hwy, pe buaſei eu Tywyſog yn dioddef cyſtudd o'i wirfodd troſtynt hwy, fel y gwnaeth Chriſt troſom ni? Ond os wyti yn tybied fod eſampl Chriſt yn rhy vchel i ti i'w chanlyn; edrych ar rai ô 'th frodyr o'th flaen di, a wnaethbwyd o gnawd a gwaed fel ditheu: edrych beth a ddioddefaſant hwy cyn gallu myned i'r nef. Na thybia fod yn chwareu yn galed â thydi os gorfydd arnat titheu hefyd ddioddef ychydig.

44. Y mae S. Paul yn yſgrifennu am yr holl Apoſtolion ynghyd, Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a ſyched, ac yr ydym yn noethion, ac yn cael ein cernodio, ac yn grwydraidd, heb gennym le i aros; yr ydym yn llafurio ac yn gweithio â'n dwylo ein hunain: yn cael ein difenwi, ac yn bendithio; yn cael ein herlid, ac yn ei gymmeryd yn ddioddefgar, Yn cael ein cablu, ac yn gweddio tros y rhai a'n cablant: ni a wnaethbwyd fel yſgubion y byd, a ſorod pob dim hyd yn hyn: 1 Cor. 4.11, 12, 13. hynny ydyw, er ein bod ni yn Apoſtolion, er i ni wneuthur cymmaint o wyrthiau, a throi cynnifer myrddiwn o bobl, etto hyd y dydd hwn dyma 'r byd yr ydym ni yn ei gael. Ac ychydig wedi, y mae efe yn portreiadu eu bywyd hwy, ac yn dywedyd, 2 Cor. 6.4, 5, 6. Yr ydym yn ein dangos ein hunain fel gweinidogion Duw, mewn ymmynedd mawr, mewn cyſtuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyng derau, mewn gwialennodiau, mewn carcharau, mewn terfyſgau, mewn poenau, mewn gwiliadwriaethau, mewn ymprydiau, mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hirymaros, mewn tiriondeb ymarweddiad. Ac am dano ei hun o'r neilldu y dywaid, 2 Cor. 11.23, 24, 25, 26, 27, 28. Yr wyfi yn weinidog i Ghriſt, mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialennodiau tros feſur, mewn carcharau yn amlach nag eraill, mewn marwolaethau yn fynych. Pumwaith i'm maeddwyd gan yr Iuddewon, ac y derbyniais ddeug ain gwialennod onid vn; teirgwaith i'm curwyd â gwiail; vnwaith i'm llabyddiwyd; teirgwaith y torrodd llong arnaf; noſwaith a diwrnod y bum yn y dyfnfor: mewn teithiau yn fynch; ymmheryglon llifddyfroedd, ym mheryglon lladron; ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y Cenhedloedd, ymmheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon ar y môr; ym mheryglon ym mhlith brodyr gau; mewn llafur a lludded; mewn anhunedd yn fynych, mewn newyn a ſyched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn anwyd a noethni; ac heb law 'r pethau ſydd yn digwydd oddiallan, yr ymoſod beunyddol ſydd arnaf, fy ngofaltros yr holl Eglwyſi.

45. Wrth hyn y gwelwn bellach; na ddyfgodd yr Apoſtolion i ni ddim mwy ar eiriau, nag a ddangoſaſant hwy trwy eſampl, ynghylch mor anghenrhaid yw dioddef yn y bywyd hwn. Fe a allaſai Griſt pes mynnaſai barottoi iddynt eu hanghenrheidiau corphorol, ac na oddefaſai iddynt ddyfod i'r cyfryw gyfyngder a bod arnynt eiſiau dillad am eu cefnau, a bwyd yn eu boliau, a'r cyffelyb. Fe allaſai yr hwn a roddes iddynt awdurdod i wneuthur llawer o wyrthiau eraill, roi cennad iddynt, o'r hyn lleiaf, i wneuthur digon o gynheiliaeth i'w cyrph, yr hyn fyddai 'r gwyrthiaucyntaf a wnai y rhai bydol, pe bai ganddynt y fath awdurdod. Fe allaſai Chriſt pan ddanfonodd efe Bedr i gymmeryd arian ei deyrnged allan o ſafn y pyſgodyn, Mat. 17.27. ddywedyd wrtho, Cymmer yn ychwaneg cymmaint ac a fyddo rhaid i chwi wrtho tuac at eich craul yn ſiwrneio trwy 'r wlad; ond nis gwnai efe, ac nis lleihaai ddim ychwaith ar y cyſtuddiau mawr a ddangoſais o'r blaen, er ei fod yn eu caru hwy yn gymmaint â 'i enaid ei hun. A hyn i gyd a wnaed, fel y mae S. Petr yn ei ddeongl, 1 Pet. 2.21. i roi i ni eſampl, pa beth a ganlynem, pa beth a ddiſgwiliem, pa beth a ddeiſyfem, â pha beth yr ymgyſſurem, ynghanol y mw yaf on holl drallodau.

46. Y mae 'r Apoſtol yn ei yſtyried yn bendifaddef, pan yw efe ynſcrifennu fel hyn at yr Hebraeaid, wedi iddo adrodd y pethau a ddioddefaſai ſainct eraill o'i blaen hwy, Heb. 1.2.1, 2, 3, 5, 6, 7, 8, 11, 12, Oblegid hynny ninnau, frodyr, gan fod cymmaint owmmwl o dyſtion a ddioddefaſant gyſtudd o'n blaen ni, wedi ei oſod o'n hamgylch, bwriwn heibio bob pwys pechod ſydd i'n hamgylchu, a thrwy ymmynedd rhedwn yr yrfa a oſodwyd o'n blaen, gan edrych ar Jeſu, tywyſog a pherffeithydd ein ffydd ni, yr hwn gan oſod llawenydd nef o flaen ei lygaid, a ddioddefodd y groes trwy ymmynedd, gan ddiyſtyru ei gwaradwydd à 'i chwilydd hi, ac am hynny y mae yr awr hon yn eiſtedd ar ddeheulaw gorſeddfaingc Duw. Yſtyriwch gan hynny, meddaf, yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid, fel na flinoch ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau. Oblegid, ni wrthwynebaſoch etto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod: ac y mae yn debyg i chwi ollwng tros gof yr ymadrodd a'r cyngor comfforddus ſydd yn dywedyd writhych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd ac nac ymollwng pan i'th gerydder ganddo. Canys y neb y mae 'r Arglwydd yn ei garu y mae yn ei geryddu, ac y mae yn fflangellu pob mab a dderbynio. Parhewch chwithau yn y cerydd a oſodwyd arnoch; Y mae Duw yn ymddwyn ru ac attoch, megis tu ac at feibion. Canys pa fab ſydd ar nid yw ei dâd yn ei geryddu? Os heb gerydd yr ydych, o'r hon y mae ei holl blant ef yn gyfrannogion, ynabaſtardiaid ydych, ac nid meibion. Ni welir vn cerydd tros yr amſer preſennol y bydder yn ei ddioddef, yn hyfryd, ond yn anhyfryd; ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i'r rhai ſy wedi eu cynnefino ag ef. O herwydd pa ham, cyfodwch i fynn eich dwylo a laeſaſant, a'r gliniau a ymollyng aſant, a gwnewch lwybrau vnion i'ch traed, &c. Hynny ydyw, Cymmerwch galon, ac ewch rhagoch yn wrol tan y groes a oſodwyd arnoch. Hyn oedd gyngor y capten duwiol yma i wŷr ei wlâd, milwyr Jeſu Chriſt, yr luddewon.

47. Y mae S. Jaco brawd yr Arglwydd yn rhoi cyngor arall i bob gwir Griſtion, heb fawr ragor rhyngtho â hwn, yn ei Epiſtol, yr hon y mae efe yn ei yſgrifennu yn gyffredinol at bawb, Jac. 5.7, 8, 9, 10, 11. Byddwch gan hynny yn ymarhous, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae 'r llafurwr yn diſgwil tros amſer am werthfawr ffrwyth y ddaiar, yn dda ei amynedd am dano, nes iddo dderbyn y glaw cynnar a'r diweddar. Byddwch chwithau hefyd dda eich ymmynedd, a chadarnhewch eich calonnau, oblegid y mae dyfodiad yr Arglwydd yn agos. Na fyddwch driſtion, ac na rwgnechwch yn erbyn ei gilydd? wele, y mae'r barnwr yn ſefyll wrth y drws. Cymmerwch, fy mrodyr, y prophwydi, y rhai a lefaraſant yn enw Duw, yn ſiampl o ddioddef blinder, ac o hirymaros. Wele, dedwydd yr ydym yn cyfrif y rhai a ddioddef aſant. Chwi a glywſoch am amynedd Iob, ac a welſoch ddiwedd yr Arglwydd iddo ef: chwi a welſoch meddaf, fod yr Arglwydd yn drugarog, ac yn llawn toſturi.

48. Mi a allwn yma adrodd llawer o bethau eraill allan o'r Scrythur lân i'r perwyl yma, am fod yr Scrythur yn dra helaeth yn hyn o beth, ac mewn gwirionedd, pettid yn ei thoddi hi i gyd ac yn ei thywallt allan, ni chaem ni agos ddim arall ynddi ond ynghylch y groes, a dioddef cyſtudd trwy ymmynedd yn y fuchedd hon. Ond rhaid i mi ddibennu, am fod y pennod yma yn tyfu yn hir fel yr hon o'r blaen. Ac am hynny, i ddibennu, mi a oſodaf i lawr gyffes, a gorcheſtol gyngor yr hen Fattathias i'w blant, yn amſer creulon erlid Antiochus yn erbyn yr Iuddewon. 1 Mac. 2.49. Yr awrhon, medd efe, y mae balchder yn ei gryfder. Dyma amſer cerydd, a diſtryw, a dig llidiog arnom ni. Gan hynny, fy meibion, dygwch zêl yr awrhon i Gyfraith Dduw: a rhoddwch eich hoedl tros gyfammod eich tadau: cofiwch weithredoedd ein hynafiaid ni, y rhai a wnaethant hwy yn eu hamſeroedd, ac felly chwi a dderbyniwch barch mawr, ac enw tragywyddol. Oni chaed Abraham yn ffyddlon mewn profedigaeth, a hynny a gyfrifwyd iddo yn gyfiawnder? Gen. 22.10. Rhuf. 4.3. Joſeph yn amſer ei gyfyngder, a gadwodd orchymmyn Duw, ac a wnaethbwyd yn Arglwydd ar yr Aipht, Gen. 41.40. Phinehas ein tâd, wrth ddwyn zêl tuac at Gyfraith Dduw, a gafodd ammod am offeiriadaeth dragywyddol, Num. 25.13. Joſua, am gyflawni gair Duw a wnaethbwyd yn farnwr ar Iſrael, Joſ. 1.2. Caleb am dyſtiolaethu ger bron y gynnulleidfa, a gafodd etifeddiaeth o'r tir. Num. 14.6. Joſ. 14.13. Dafydd, am ei drugaredd, a etifeddodd orſeddfaingc y deyrnas dragywyddol. Elias, am ddwyn zel i'r Gyfraith, a gymmerwyd i fynn i'r nefoedd. 2 Bre. 2.11. Ananias, Azarias, a Miſael, am iddynt gredu, a achubwyd o'r tân. Dan. 3.16, &c. Daniel, am ei wiriondeb, a waredwyd oddiwrth ſafnau'r llewod. Dan. 6.22. Ac felly yſtyriwch ym mhob oes, a chwi a gewch weled am bwy bynnac ſydd yn ymddiried yn Nuw, na orchfygir ef. Am hynny nac ofnwch eiriau gwr pechadurus: Canys ei ogoniant ef a fydd yn dom a phryfed. Heddyw efe a ddyrchefir, ac yforu ni bydd efe iw gael: Canys efe a ddychwel i'w bridd, a'i holl amcanion a dderfydd. Pſal. 146.4. Gan hynny, fy meibion, cymmerwch galon nau; a byddwch wrol ym mhlaid cyfraith Dduw; canys hynny a fydd yn barch ac yn anrhydedd i chwi. Hyd hyn y mae geiriau Mattathias; y rhai ſy ddigon i ddiweddu 'r bennod hon.

PEN. III. Am y trydydd rhwyſtr ſydd yn lleſtair i ddynion roi eu bryd ar waſanaethu Duw; yr hwn yw cariad ar y byd hwn.

MEgis y mae y ddau rwyſtr a dynnwyd ymmaith o'r blaen, yn attal mawr i lawer o ddynion, i'w cadw hwy oddiwrth y gwrolfryd yma yr ydym ni yn ſôn am dano; felly y mae'r hwn yr ydym yr awrhon yn mynd yn ei gylch, nid yn vnig o hono ei hunan yn rhwyſtr crŷf, ond hefyd yn achos mawr, ac megis yn ſylfaen cyffredinol i bob rhwyſtrau eraill ac ſydd. Oblegid pe gallai ddyn wybod meddwl pawb ac ſydd yn gwrthod, neu y eſgeuluſo, neu yn oedi rhoi eu bryd ar waſanaethu Duw; fe gai weled mai ſerch ar y byd hwn yw'r achos o hynny, pa eſgus bynnag a gymmeront hwy arnynt heb law hynny. Yr oedd pendefigion yr luddewon yn cymmeryd arnynt mai ofn oedd yr achos pa ham nas gallent hwy gyfaddef Chriſt yn amlwg ac yn oleu; ond y mae S. Joan, yr hwn oedd yn gwybod y gwirionedd am danynt hwy, yn dywedyd mai'r achos oedd, Am en bod yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw, Ioan. 12.42, 43. Yr oedd Demas (yr hwn a ymwrthododd a Sainct Paul yn ei rwymau, ychydig o flaen ei farwolaeth) yn cymmeryd arno fod iddo achos arall i fyned ymaith i Theſſalonica, ond y mae Sainct Paul yn dywedyd mai'r achos oedd Am ei ſod yn caru'r byd preſennol, 2 Tim. 4.10. A hynny yw y rhwyſtr cyffredinol, ac ſydd amlach nag y gwelir oddiallan: am ei fod yn peri llawer o eſguſodion eraill, er mwyn ei guddio ei hunan mewn llawer o ddynion.

2. Hyn a ellir ei ſiccrhau a godidowgaf ddammeg ein lachawdwr Chriſt, yr hon y mae tri o'r Efangylwyr wedi ei chadw mewn côf, am y tri math ar ddynion a fydd colledig, a'r tri achos o'i colledigaeth hwy: a'r trydydd a'r diweddaf a'r eyffredinolaf o'r rhai hynny (megis yn amgyffred y ddau eraill) yw cariad ar y byd. Oblegid y fath gyntaf o ddynion a gyffelybir i briffordd, lle mae cwbl o hâd y bywyd ac a heuir arni, naill ai yn gwywo yn y man, ai yn cael ei yſſu gan adar y nefoedd: hynny yw, fel y mae Chriſt yn ei ddeongl, gan y cythreuliaid, yn y rhai diofal, ſy yn difrawu ac yn diyſtyru pob peth a ddywetter wrthynt: fel y mae'r anghrededyn, a phawb o'r rhai cyndyn diyſtyr. Yr ail fath a gyffelybir i greigleodd, lle nid yw'r hâd yn parhau, o eiſieu dwfn i wreiddio: wrth yr hyn yr arwyddocceir y rhai yſgafn anwadal y rhai ſy weithiau i mewn weithiau allan, weithiau yn wreſog yngwaſaneth Duw, ac yn y fan drachefn cyn oered a'r ia; ac felly yn amſer profedigaeth y maent yn cilio. Y trydydd math a gyffelybir i faes, lle y mae 'r hâd yn tyfu allan; ond etto y mae ynddo cymmaint o ddrain, (y rhai y mae Chriſt yn efponio mai gofalon, a thrallod, a thrafferthion, a goſidion, a gorwagedd twyllodrus y byd ydynt) ac y mae 'r ŷd da yn cael ei dagu ganddynt, ac heb gael dwyn dim ffrwyth. Wrth y geiriau diwethaf hynny y mae ein Iachawdr Chriſt yn ar wyddoccau, pa le bynnag y mae dyſgeidiaeth CHRIST yn tyfu allan ac etto heb ddwyn ffrwyth, hynny ydyw, pa le bynnag y derbynier ac y croeſawer hi, (fel y mae llawer Chriſtion yn gwneuthur) ac etto bod o honi heb ddwyn ffrwyth buchedd dduwiol; mai 'r achos o hynny ydyw am fod gorwagedd y byd hwn yn ei thagu hi. Math. 13. Marc. 4. Luc. 8.

3. Dammeg o bwys a defnydd mawr yw'r ddammeg hon, gan fod Chriſt yn ôl ei hadrodd hi, yn llefain â llef vchel, Y neb ſydd ganddo gluſtiau i wanando, gwrandawed: a chan ei fod ef ei hun yn ei deongl ac yn ei eſponi hi i'w ddiſgyblon yn vnig, a hynny yn ddirgel ac o'r neilldu: ac yn enwedig gan ei fod ef cyn ei deongl hi yn arfer y cyſryw ragymadrodd, ac yn dywedyd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgelion teyrnas nefoedd, ond ni roddwyd i eraill: oblegid hwy yn gweled ni welant, ac yn clywed ni chlywant, ac ni ddeallant. Mat. 13.11. Wrth yr hyn y mae Chriſt yn arwyddoccau bod deall a dirnad y ddammeg yma ym mŷſg eraill, o bwys mawr tros ben, i beri i ni wybod gwir ddirgelion teyrnas nef; a bod llawer yn ddeillion o'r rhai y tybir am danynt eu bod yn gweled; a llawer yn fyddar ac heb wybod dim, a dybir eu bod yn clywed ac yn gwybod: am nad ydynt hwy yn deall yn iawn ddirgelion y ddammeg hon. Ac o'r achos hynny hefyd y mae Chriſt, cyn dechreu deongl y ddammeg, yn dibennu ei ymadrodd fal hyn, Dedwydd yw'ch llygaid chwi, am eich bod yn gweled, a'ch cluſtian, am eich bod yn gwrandaw, Gwerſ 16. Ac ar ôl y geiriau hynny y mae efe yn dechreu deongl y ddammeg ynghŷd â'r rhybydd yma, Gwarandewch chwithau, a deelwch y ddammeg hon.

4. Ac am fod y ddammeg hon yn cynnwys cymmaint aga ellir ac ſy raid ei ddywedyd ynghylch tynnu ymaith y rhwyſtr mawr peryglus yma, ſef ſerch ar y byd: fy meddwl yw ſefyll yn vnig ar ei deongl a'i eſponi hi yn hyn o fan, a dangos grym a gwirionedd rhyw eiriau a draethodd Chriſt yma am y byd a'i ddifyrrwch: ac er mwyn goſod trefn well ar fy ymadrodd, mi a dynnaf y cwbl at y chwe phwngc hyn ſydd yn canlyn. Yn gyntaf, pa fodd, ac ym mha ddeall nad yw'r holl fyd a chwbl ac ſydd i'w gael ynddo, ond oferedd heb dalu dim (fel y mae Chriſt yma yn arwyddoccau) ac am hynny na ddylei 'r byd fod yn rhwyſtr i ni i'n cadw ni oddiwrth beth cymmaint ag yw teyrnas nefoedd a gwaſanaethu Duw. Yn ail nad yw 'r byd a chwbl ac ſydd yntho yn vnig yn oferedd ac yn bethau gwael diddim ynddynt eu hunain, ond hefyd yn hûd ac yn dwyll, fel y dyweid Chriſt: ſef yw hynny yn hudoliaeth heb gwplau â ni mo'r coeg-bethau diddim y maent yn eu haddo. Yn drydydd, y modd y maent hwy yn ddrain pigog llymion, fel y dyweid Chriſt, er bod y rhai bydol yn tybieid eu bod hwy yn dra melus ac yn hyfryd iawn. Yn bedwerydd, y modd y maent hwy yn ofidiau ac yn flinderau, fel y mae geiriau Chriſt yn dywedyd am danynt. Yn bamed, pa fodd y maent hwy yn ein tagu ac yn ein mygu ni, fel y dyweid geiriau Chriſt. Yn chweched, pa fodd y gallwn ni eu trin hwy a'i harfer, er hynny i gyd, heb gael na pherygl na niweid oddiwrthynt, a chael cyſſur a diddanwch, ac elw, a gor chafiaeth mawr oddiwrthynt.

5. Ac am y pwngc cyntaf, nid wyfi yn gweled pa fodd well y profir nad yw holl ddifyrrwch a hyfrydwch, a gwychder a thegwch y byd hwn ond oferedd, fel y mae Chriſt yn dywedyd yma; nâ thrwy ddwyn tyſtiolaeth o ben vn a'i profodd hwy i gyd oll; hynny ydyw, o ben vn ſydd yn dywedyd y peth nid wrth ei ddeall a'i ſynhwyr, ond wrth yr hyn a brofodd ef ei hun, ac a gafodd ef yn wir vnddo ei hun: a hwnnw yw'r brenhin SALOMON, am yr hwn y mae'r Scrythur lân yn adrodd pethau rhyfeddol ynghylch ei heddwch, a'i lwyddiant a'i gyfoeth a'i ogoniant yn y byd hwn: hyd onid oedd holl frenhinoedd y ddaiar yn chwennych cael gweled el wyneb ef, o achos ei ddoethed, a maint ei rwyſg a'i ddedwyddyd; ac nad oedd holl dywyſogion y byd gyffelyb iddo mewn cyfoeth: a bod yn dwyn iddo bob blwyddyn 666 o dalentau aur (dyna ſwm anfeidrol) heb law cwbl ac yr oedd efe yn ei gael oddiwrth frenhinoedd Arabia, a thywyſogion eraill: 2 Chron. 9.13, 14. a bod yr arian oedd gantho cyn amled a'r cerrig, ac heb bris arnynt ga faint yr yſtôr a'r amlder oedd gantho o honynt: ac nad oedd diben ar ei leſtri aur, a'i dlyſau; a bod ei orſeddfaingc ef a'i deyrngadair o Ifori, wedi ei gwiſgo ag aur, a chwech o riſiau i'r erſteddfa, a throedle o aur, a chanllawiau o bob tu i'r eiſteddfa, a dau lew yn ſefyll wrth y canllawiau, a deuddeg o lewod ar y chwe gris, a'r cwbl o aur pûr; fel nad oedd y fath orſeddfaingc gan vn brenhin yn y byd; a bod ei ddillad gwerthfawr ef a'i arfau, yn aneirif; a bod yr holl frenhinoedd o'r afon hyd wlâd y Philiſtiaid, a hyd terfynna 'r Aipht, tan ei lywodraeth ef, a bod gantho ddeugain mil o breſebau meirch, a deuddeng mil o gerbydau; 1 Bren. 4.21, 22, 26. a bod gantho ddeucant o wayw-ffyn aur, iw dwyn o'i flaen, a chwe chan coron o aur ym mhob gwaywffon; a thrychant o dariannau, a thrychan coron aur ym mhob tarian; a bod yn treulio beunydd yn ei dŷ ef, ddêg Corus ar hugain o beillieid a thri vgain Corus o flawd, a dêg ar hugain o ychen paſgedig, a chant o ddefaid, heb law ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ednod breiſion; a bod gantho ſaith gant o wragedd yn frenhineſau, a thrychant o ordderchwragedd, 1 Bre. 11.3. Hyn oll, a llawer yn angwhaneg y mae 'r Scrythur làn yn ei adrodd am gyweth Salomon a'i ddoethineb, a'i olud, a'i lwyddiant: ac y mae ynteu, wedi darfod iddo brofi'r cwbl, a chael ei wala o honynt, yn y diwedd yn datgan y farn yma am da nynt i gyd, Vanitas vanitatum & omnia vanitas, Gwagedd o wagedd, gwagedd yw'r cwbl, Preg. 1.1. Wrth eu galw yn Wagedd o wagedd y mae efe yn deall (medd Sainct JEROM) faint y mae eu gwagedd hwy yn rhagori ar bob math o wagedd. ac oferedd ac a ellir ei ddychymmyg.

6. Ac nid dywedyd hyn yn vnig y mae SALOMON ond ei brofi hefyd trwy lawer o eſamplau o'r eiddo ei hun. Mi a fum frenhin ar Iſrael yn Jeruſalem, medd efe, ac a roddais fy mryd ar geiſio, a chwilio drwy ddoethineb am bob peth a wnaed tan y nefoedd: ac mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed tan yr haul, ac wele, gwagedd a gorthrymder yſpryd yw'r cwbl oll. Gwerſ. 12.13, 14. Mi a ddywedais yn fy nghalon, mi a brofaf bob math ar lawenydd a difyrrwch; ac wele, gwagedd oedd hynny hefyd. Mi a wneuthum i mi waith mawr, ac a adeiledais i mi dai, ac a blennais i mi winllannoedd ac a wneuthum erddi a pherllannau, ac a blennais ynddynt bob math ar goed; mi a wneuthum i mi lynnan dwfr, i ddyfrhau y llwynau ſy'n dwyn coed: mi a ddarperais weiſion a morwynion, ac yr oedd i mi lawer o dylwyth tŷ, ac yr oeddwn yn berchen llawer o wartheg a defaid, in hwnt i bawb a fuaſai o'm blaen i yn Jeruſalem. Mi a bentyrrais i mi hefyd arian ac aur, a thryfor pennaf brenhinoedd a thaleithiau: mi a ddarper ais i mi gantorion a chantoreſau, a phob rhyw offer cerdd, yr hyn yw difyrrwch meibion dynion, a chwppanau gwychion i yfed gwin ynddynt; a pha beth bynnag a ddeiſyfai fy llygaid, ni ommeddwn hwynt; ac ni attalliwn fy nghalon oddiwrth ddim hyfryd, ond fy nghalon a lawenychai yn fy holl lafur. Yna mi a edrychais ar fy holl weithredoedd a wnaethai fy nwylaw, ac ar y llafur a laſuriais yn ei wneuthur; ac wele, nid oedd y cwbl oll ond gwagedd a g rthrymder yſpryd, Preg. 2.1, 4, 5, 6, 7, 8, 10, 11.

7. Ac dyma dyſtiolaeth SALOMON, fel y profaſai efe ei hun am y pethau hyn: a phe dywedaſai efe hyn heb ddim ond o'i ddoethineb a'i gyfarwyddyd, (a maint oedd) ni a ddylem ei gredu ef; ond gan ei fod yn ei dywedyd megis peth a brofaſai efe ei hun, ni a ddylem ei gredu ef yn haws o lawer. Ond onid yw hyn abl i gyffroi neb, ni a ddygwn etto dŷſt arall allan o'r teſtament newydd, a hwnnw yn gyfryw vn ac a wyddai gyfrinach a meddwl CHRIST ei hun yn hyn o beth; a hwnnw yw Sainct Ioan yr Efengylwr ſy yn dywedyd y geiriau hyn, Na cherwch y byd, na 'r pethau ſy yn y byd: o châr neb y byd, nid yw cariad y Tâd ynddo ef. Canys pob peth ac ſydd yn y byd, megis chwant y cnawd, a chwant y llygad, a balchder y bywyd, nid yw o'r Tad, eithr o'r byd y mae, 1 Joh. 2.15, 16. Lle y mae Sainct Joan, heb law ei fod yn bygwth y rhai a garant ac a ganlynant y byd, yn goſod holl wagedd y byd ar dri phwnge, ac yn ei dorri yn dair caingc gyffredinol; ſef yw hynny, Chwant y cnawd, (yn yr hwn y mae efe yn cynnwys holl ddifyrrwch a digrifwch y cnawd) chwant y llygaid, (ac yn hwnnw y mae yn cynnwys pob peth a berthyn i gyfoeth a golud y byd) a balchder y bywyd, wrth hynny y mae efe yn arwyddoccau chwant i ſwyddau a pharch, a goruchafiaeth. Wrth hynny dymma dri gwagedd pennaf y bywyd hwn, y rhai y mae y rhai bydol yn ymflino ynddynt; chwant i anrhydedd, cybydddod, a difyrrwch y cnawd, ac i'r tri hyn y perthyn pob math arall ar wagedd. Ac am hynny nid ammherthynol yſtyried y tri hyn yn y man yma.

8. Ac yn gyntaf, at chwant i anrhydedd y perthyn gorwag-clod a gwag-foſt; hynny ydyw, pan fo gan vn ormod chwant i gael gan bawb dybied yn dda am dano, a dywedyd yn dda am dano, a chael ei ganmol a'i foliannu gan bob dŷn: ac y mae hynny yn gymmaint gorwagedd ac oferedd (er bod y rhan fwyaf yn euog o'r bai yma) a phettai vn yn darymred i fynu ac i wared ar hŷd ac ar draws yr heol ar ol pluen a fai yn hedeg yn y gwynt, ac a deflid yma a thraw gan anadl genau aneirif o ddynion. Oblegid ſel y byddai haws i'r cyfryw vn ei flino ei hunan yn llwyr ac yn gwbl, yn gynt na chael gafael ar y peth y mae yn ei ymlid, ac etto wedi iddo gael gafael ynddo, nid oedd yn cael ond pluen; felly y gall efe wrth chwennych gorwag-clod a molach y byd, gymmeryd poen fawr tros hir amſer, cyn cael y glod a'r gair y mae 'n ei chwennych, a phan ei caffo, ni thâl hynny yſglodyn, gan nad yw ond anadl geneuau ychydig ddynion, yr hwn a gyfuewidia yn hawdd, ar bob achlyſur, ac a wna 'r neb a fynno weithiau yn wr mawr, weithiau yn wr bychan, ac yn y man yn beth heb dalu dim. Ac am hyn o beth nid rhaid i ni eſampl oleuach na Chriſt ei hun; yr hwn a deflid i fynu ac i wared ar dafodau dynion, fel y gwelent hwy yn dda, rhai a ddywedai mai Samariad ydoedd, a bod cythrael ganddo; eraill a fynnai mai prophwyd oedd; eraill a daerai na allai ei fod ef yn brophwyd, ac na hanoedd o Dduw, am nad oedd yn cadw 'r dydd Sabboth: eraill a ofynnai, oni hanoedd ef o Dduw, pa fodd y gallai efe wneuthur cymmaint o wyrthiau. Hyd onid aeth ymbleidio ac ymrafael yn eu plith hwy, medd S. Ioan, Io. 9.16. Yn ddiweddaf, hwy a'i croeſawaſant ef i Jeruſalem gyda gorfoledd a Hoſanna, ac a danaſant eu dillad tan ei draed ef. Ond die gwener wedi hynny, hwy a waeddaſant yn ei erbyn ef, Croeſ-hoelia, croeſ-hoelia ef, ac a ddewiſaſant Barabbas y lleiddiad annuwiol o'i flaen ef. Mat. 21.9. Mat. 27.

9. Bellach, fy anwylyd, os gwnaethant hwy fel hyn a Chriſt, yr hwn oedd wellgwr nag a fyddi di byth, ac a wnaeth mwy o wyrthiau gogoneddus nag a wnai di byth, i geiſio i ti enw ac anrhydedd a pharch gan ddynion; i ba beth yr wyt ti yn cymmeryd cymmaint o boen, ac yn ymguro cymmaint, am beth mor ofer ac yw gorwag-clod a gair y byd? Pa beth a wnai di yn bwrw dy holl lafur ar awel ac anadl genau dynion? Beth a wnai di yn goſod dy holl gyfoeth ar wefuſau a thafodau dynion anwadal cyfnewidiol; lle y gallo pob truthiwr a gwenhieithwr eu lledratta hwy oddiarnati? Onid oes gennyti vn giſt well iw rhoi hwynt tan glo ynddi? Yr ydoedd S. Paul o feddwl arall, pan ddywedodd efe, Bychan iawn gennyfi fy marnu gennych chwi, neu gan farn dyn, Ac yr oedd iddo achos da i ddywedyd hynny, 1 Cor. 4.3. Oblegid, pam neu beth waeth gan yr hwn a fo yn rhedeg mewn gyrfa, er i'r bobl ddiwybod roi barn yn ei erbyn ef, os rhydd y barnwyr farn gyd ag ef? Pe buaſai y dyn dall oedd ar y ffordd i lericho, yn gwneuthur cyfrif o'r hyn a ddywedai 'r bobl oedd yn myned heibio, ac yn yſtyried beth a welent hwy yn dda iddo ei wneuthur; ef a fuaſai etto heb gael ei olwg; oblegid eu cyngor hwy oedd iddo beidio a rhedeg, ac a gweiddi mor groch ar ol Chriſt, Luc. 18.39. Peth truan gofidus ydyw i ddyn fod yn felin wynt, heb wneuthur dim blawd ond tra barhao 'r chwa wynt. Os yr awel wynt a fydd cref, hia dry yn ſidyll ac yn hoyw; ond os yr awel a oſtwng, hitheu a lwfrhaa yn y man ac a ddioga. Felly, canmolwch y neb a fo 'n chwennych gair y byd, ac efe a red yn gyflym (os amgen, efe a ddigalonna yn y man) fel y Babyloniaid, y parai ychydig felyſgerdd iddynt addoli y peth a fynnid, Dan. 3.

10. Oblegid gwir a ddywaid yr yſcrythur, Fel y profir yr arian yn tan, a'r aur yn y ffwrnais, felly y profir gwr yngenau 'r neb a'i canmolo, Diha. 27.21. Oblegid fel am yr arian, os da fydd ni wna 'r tan niweid iddo, os amgen, efe a ddiflanna yn fwg, ac a dry 'n ſothach; ac felly y gwna gwr gorwag ofer wrth ei ganmol. Pa ſawl vn a welſom ni wedi chwyddo cymmaint gan glod a molach dynion, onid oeddynt ar fyned allan o'i pwyll gan llawenydd eu bod yn cael cymmaint clod; a'i gweled hwy yn ol hynny wedi digalonni gan wrthwynebwynt anglod a gogan, a myned cyn belled agos ac anobeithio gan ddirmyg a diyſtyrwch? Pa ſawl a welwn ni beunydd yn cael eu canmol yn eu pechodau, a'i bendithio yn eu hanwiredd? Pſ. 10.3. Pa faint o druth a gweniaith dygn digwilydd yr ydym ni yn clywed rhai yn ei ddywedyd, ac eraill yn ei gymmeryd, a neb heb lefain gydâ 'r brenhin duwiol Dd ymaith a'r olew pechaduriaid yma, ac na ddeled ar fy mhen i? Ond oferedd a gwagedd ac ynfydrwydd yw hyn oll? Nid yw 'r Angylion yn ceiſio dim anrhydedd iddynt eu hunain, ond y cwbl i Dduw: ac a fynni di ddaiarbrŷf gwael, gael dy foliannu? Y 24 henuriaid a ddioſgent eu coronau, ac a'i bwrient wrth draed yr Oen; a thithau a fynnit, pesgellit, eu dwyn hwy oddiar yr Oen i ti dy hun, Datc. 4.10. Oh greadur ffol diſynwyr! mor wir y dywaid y prophwyd, dyn ſydd debyg i wagedd hynny ydyw i'w wagedd ei hun; mor orwag ac mor yſgafn a'r oferedd a'r gwagedd y mae 'n ei ddilyn, Pſal. 144.4.

11. Yr ail gorwagedd a berthyn i chwant cael anrhydedd, yw chwennych cael parch, a goruchafieth bydol. A pheth mawr iawn ydyw yngolwg y rhai bydol, a thlws a thryſſor gwerthfawr dros ben, a haeddai ei brynu a chymmaint o boen, a llafur, a pherygl, ac a fai boſſibl byth i ddyn ei gy mmeryd. Dyma 'r peth a leſteiriodd i wyr mawr Iudaea gyffeſſu Chriſt ar gyhoedd, Ioa. 12.43. Dyma 'r peth a rwyſtrodd i Bilatus ollwng yr Jeſu yn rhydd, er ei fod yn gwybod yn dda y dylai wneuthur hynny, Io. 19. Dyma 'r peth a rwyſtrodd i Agrippa ac i Ffeſtus fyned yn Griſtianogion er eu bod yn coelio bod yn wir yr hyn a ddyſgai Paul, Act. 26. Ond yſy waeth nid yw dynion yn gweled ofered yw 'r peth y maent yn ei garu. Y mae S. Paul yn dywedyd, Na fyddwch fechgynmewn deall, 1 Cor. 14.20. Arfer plantos yw gwneuthur cyfrif mwy o ryw degan dibris, nag o'r tlws gwerthfawroccaf: a chyfryw ydyw paentiedig barch y byd, yr hwn y ceir mawr boen yn ei geiſio, a mawr goſt yn ei gadw, a mawr ofid o i golli. Ac fel y bo i ti ddeall hyn yn well, yſtyria ynot dy hun, ddarllennydd hy naws, a meddwl pa radd o anrhydedd a chwennychit ti ei chael; ac edrych pa fawl vn a fu yn y radd honno o'th flaen di. Coſia 'r modd y codaſant hwy, a'r modd y diſgynnaſant hwy drachefn; a meddwl ynot dy hun pa vn fwyaf ai 'r llawenydd a gawſant hwy wrth gael y radd honno, ai 'r triſtwch a gawſant o'i cholli hi. Pa le yn awr y mae 'r holl ymerodron hynny, a'r brenhinoedd, a'r Tywyſogion, a'r Preladiaid, a fu mor llawen ganthynt gynt gael eu goruchafiaeth a'i cyfodiad? Pa le yn awr y maent hwy, meddaf? pwy ſy nac yn ſon nac yn meddwl am danynt hwy? Oni ebargofwyd hwynt, ac oni fwriwyd hwynt i'w beddau er ys talm byd? onid ydyw dynion yn rhodio yn hy uwch eu pennau hwy yr awr hon, er na ellid heb ofn ac arſwyd edrych yn eu hwynebau hwy yn y byd hwn? Pa leſhaad a wnaeth eu goruchafiaeth iddynt hwy?

12. Peth rhyfedd yw yſtyried mor ofer ydyw anrhydedd y byd hwn. Tebyg ydyw i gyſgod dyn ei hun, yr hwn po mwyaf y rheder ar ei ol, cyntaf y diangc ynteu; a phan el ynteu i ffo rhag ei gyſgod, ef a'i canlyn ef drachefn; ac nid oes vn ffordd onid vn iw ddal ef, a honno ydyw ſyrthio i lawr ar ei wartha ef. Felly y gwelwn ni am y rhai a chwennychent anrhydedd yn y byd hwn, eu bod hwy yr awrhon wedi eu gillwng yn angof; a bod y rhai oedd fwyaf yn ffo rhagddo, ac yn eu bwrw eu hunain is law pob dyn, yn cael eu hanrhydeddu yn fwyaf o gwbl, a hynny gan y byd ei hun, er eu bod yn elynion iddo pan oeddynt fyw. Canys pwy ſy 'r awrhon fwy ei barch a'i anrhydedd; pwy a ganmolir yn fwy; ac a gofir yn fynychach na S. Paul a'i gyffelyb, y rhai a ddiyſtyrent anrhydedd bydol yn gymmaint yn y bywyd hwn, fel y dywedodd y Prophwyd, Dirfawr, O Arglwydd, yr anrhydeddwyd dy gyfeillion di? Oferaf dim yn y byd yw erlyn ar ol anrhydedd a goruchafiaeth bydol, gan nad yw nac yn bodloni 'r meddwl, nac yn arhos gyd a'i berchennog; ac nad ydyw heb peryglon mawr yn ei ganlyn, yn y byd hwn ac yn y byd a ddaw hefyd, fel y dywaid yr yſcrythur, Barn doſt fydd i'r llywodraethwyr: y lleiaf a ddichon gael maddeuant yn drugarog, ond y cedyrn a goſpir yn gadarn. Doeth.

13. Y trydydd oferedd a berthyn i chwant cael anrhydedd, ac i falchder y bywyd yma, ydyw bonedd cnawd a gwaed: yr hwn ſydd berl mawr vchelbris yngolwg y byd: ond mewn gwirionedd, o hono ei hun, ac yngolwg Duw, nid yw ond coegbeth ac oferedd a gwagedd, A hynny yr oedd Iob dduwiol yn ei wybod yn dda, pan yſgrifennodd efe y geiriau hyn, Mi a ddywedais wrth y pwll, ac wrth bydrni a llygredigaeth, Ti yw fy nhad; ac wrth y pryf, Ti yw fy mam am chwaer, Job 17.14. Y neb a chwennycho weled bonedd ei hynafiaid, edryched yn eu beddau hwy, ac fo a gaiff weled pa vn a wna Iob ai bod yn dywedyd y gwir ai peidio. Ni ddechreuodd gwir fonedd erioed ond trwy rinwedd; ac am hynny, fel y mae bonedd yr hynafiaid yn dyſtiolaeth o'i rhinweddau da hwynt; felly y mae efe hefyd iw heppil hwynt. A phwy bynnag ſydd yn dal enw bonedd oddiwrth ei hynafiaid, heb rinwedd yn ei ganlyn, nid yw efe ond anghenfil annaturiol wrth ei hynafiaid, am ei fod yn torri terfynau naturiaeth gwir fonedd, Ac am y cyfryw y dywaid Duw trwy vn o'i Brophwydi, Hwy a aethant yn ffiaidd, fel y pethau a garaſant: eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn, o'r enedigaeth, o'r groth, ac o'r beichiogi, Hoſ. 9.10, 11.

14. Oferedd dybryd yw ceiſio parch a choel oddiwrth y meirw, a ninneu ein hunain heb ei heuddu: a cheifio hen achau a rhagorbarch oddiwrth ein hynafiaid, a ninnau, gan ein drwg foeſau an coeg ymarweddiad, heb fod dim o'r cyffelyb yn gweddu arnom. Fe waradwyddodd Chriſt yr oferedd yma yn eglur, pan fu iddo, er ei fod ef ei hun yn dyfod o'r bonedd mwyaf ar a fu erioed yn y byd, ac heb law hynny, yn fab i Dduw; ei alw ei hun er hynny yn gyffredinol yn fab dyn; hynny yw, yn fab i'r Forwyn Fair (oblegid mewn modd amgen, nid oedd efe yn fab dyn) a chyda hynny hefyd ei alw ei hun yn fugail, yr hwn nid yw ond henw diyſtyr iawn yn y byd yma, Io. 10. Nid aeth efe i ymhel am ditlau anrhydedd ei hynafiaid i chwanegu ar ei barch a'i fowredd, fel y gwna ein gwŷr ni. A phan aeth efe i wneuthur brenhin gyntaf yn Iſrael, oi cheiſiodd efe chwilio am y gwaed hynaf, ond efe a gymmerodd Saul o'r llwyth gwaelaf yn holl Iſrael; ac ar ei ol ynteu Dafydd, y bugail diſtatlaf o'i holl frodyr. A phan ddaeth efe i'r byd, nid aeth efe i chwilio am y gwŷr boneddicaf i'w gwneuthur yn dywyſogion ar y ddaiar, hynny ydyw, i'w gwneuthur yn Apoſtolion; ond efe a gymmerodd y rhai truanaf a'r rhai gwaelaf, i wradwyddo (fel y dywaid vn) ffoledd ac oferedd y byd hwn, ſydd yn gwneuthur cymmaint cyfrif o ychydig ragorfraint cig a gwaed yn y byd hwn. 1 Cor. 1.27.

15. Y pedwerydd gwagedd ſydd yn perthyn i chwant anrhydedd ac i falchder buchedd, yw doethineb fydol, am yr hon y dywaid yr Apoſtol, Doethineb y byd ſydd ffolineb gyda Duw, 1 Cor. 3.19. Os ffolineb ydyw, wrth hynny y mae yn ſicer ddiammau mai oferedd a gwagedd yw ymhyfrydu o ddynion ynddi yn gymmaint ac y maent. Peth dieithr yw gweled mor wrthwyneb yw barn Duw i farn dyn. Fe fynnai bobl Iſrael er dim gael brenin, fel y dywedais vchod, ac yr oeddynt hwy yn tybieid y rhoeſai Dduw yn y man iddynt hwy ryw dywyſog mawr galluog i lywodraethu arnynt; ac ynteu a ddewiſodd ddyn truan tlawd oedd yn cerdded y wlad i geiſio aſſynnod a gollaſai, 1 Sam. 9. Ac yn ol hynny pan fynnai Dduw ddiſwyddo hwnnw drachefn am ei bechod, efe a ddanfonodd Samuel i enneinio vn o feibion Ieſſe yn frenhin; a phan ddaeth efe i mewn i'r ty, fe ddug Ieſſe ei fab hynaf Eliab ger bron, yr hwn oedd wr hirfraiſg heinyf, gandybieid mai hwnnw oedd gymmhwyſaf i lywodraethu: ond Duw a attebodd, Nac edrych ar ei wynebpryd ef, nac ar vchder ei gorpholaeth ef, canys mi a'i gwrthodais ef: o herwydd nid edrych Duw fel yr edrych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad, ond yr Arglwydd a edrych ar y galon, 1 Sam. 16.7. Wedi hynny y dug Ieſſe ei ail mab Abinadab ger bron, ac ar ei el ynteu Sammah, ac felly y llaill bob vn yn ol ei gilydd, nes darfod iddo ddangos iddo ſaith o'i feibion. Ac wedi i Samuel wrthod y rhai hynny i gyd, rhyfeddu a wnaethant a dywedyd nad oedd mwy ond hynny, ond vn bachgen pengoch bach yn vnig, yr hwn oedd yn cadw 'r defaid, ac a elwid Dafydd; a Samwel a archodd yrru i gyrchu hwnnw: ac er cynted y daeth efe mewn golwg, Duw a ddywedodd wrth Samwel, dyma 'r gwr a ddewiſais i.

16. Pan addawyd y Meſſias i'r Iuddewon i fod yn frenhin arnynt, hwynt hwy a dybiaſant yn y man, wrth eu bydol ddoethineb, mai rhyw dywyſog mawr fyddai efe: ac am hynny hwy a wrthodaſant Grid a ddaeth attynt mewn tlodi. Iaco hefyd ac Ioan tra oeddynt etto yn gnawdol, wrth weled y Samariaid trwy ddirmyg yn gwrthod diſgyblon Chriſt; gan eu bod yn gwybod beth ydoedd Chriſt, hwy a dybiaſant yn y man y byddai raid iddo ddial arnynt, a golw am dân o'r nef i'w difa hwynt. Ond efe a'i ceryddodd hwy gan ddywedyd, Ni wyddoch chwi oba yſpryd yr ydych, Luc. 9.55. Pan oedd yr Apoſtolion yn pregethu 'r groes i'r Cenhedloedd doethion, ac i'r Philoſophyddion, ac yn dywedyd y byddai raid dioddef er mwyn Chriſt; hwy a gawſant yn y man eu cyſrif yn ynfydion am eu poen, 1 Cor. 1.23. Ffeſtus hefyd rhaglaw yr ymerodr, wrth glywed yr Apoſtol Paul, yn dywedyd cymmaint am ymwrthod â'r byd, a chanlyn Chriſt, a ddywedodd ei fod ef wedi ynfydu, Act. 26.24. Yn ddiweddaf, dyma arfer pob doeth bydol, dirmygua diyſtyru doethineb Chriſt a'i Sainct. Canys felly y mae 'r Scrythur yn dangos eu bod hwy eu hunain yn cyfaddef pan font mewn poenau, Nyni ffyliaid a feddyliaſom fod en ffordd hwy yn ynfydrwydd, Doeth. 5.4. Am hynny, fel y dywedais, Oferedd mawr ydyw gwneuthur cymmaint cyfrif o ddoethineb y byd; a hitheu nid yn vnig yn ffolineb, oud hefyd yn ynfydrwydd ac yn wallgof, fel y mae 'r Yſpryd glan ei hun yn tyſtiolaethu am dani.

17. Pwy a dybygai nad doethion y byd hwn oedd gymmhwyſaf eu dewis i wneuthur i Griſt wafanaeth yn ei Eglwys? Etto medd S. Paul, Nid llawer o ddoethion yn ol y cnawd a ddewiſodd Duw, 1 Cor. 1. Pwy a dybygai na ellid gwneuthur o wr call bydol, Griſtion ſynhwyrol call. Etto y mae S. Paul yn dywedyd na's gellir, oddieithr iddo fyned yn ffol yn gyntaf, 1 Cor. 3.18. Na thwylled neb ei hunan, Od oes neb yn eich myſg yn tybieid ei fod ei hunan yn ddoeth yn y byd hwn; bydded ffol, fel y byddo doeth. Ofer gan hynny, a dibris yw doethineb y byd hwn, oddieithr iddi fod tan lywodraeth doethineb Duw.

18. Y pumed gwagedd ac oferedd a berthyn i falchder y bywyd, yw glendid corph, am yr hwn y dyweid y gwr doeth, Siommedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch pryd a gwedd, Dih. 31.30. Ac am hynny yr oedd Dafydd yn meddwl, pan ddywedodd efe, Tro heibio fy llygaid rhag edrych ar wagedd, Pſal. 119.37. Dyma oferedd a gwagedd mawr, peryglus twyllodrus; ac etto mawr yw 'r cyfrif o hono gan feibion dynion, y rhai ſy gnawd iddynt hoffi gwagedd, fel y dywaid y prophwyd, Pſal. 4. Tegwch pryd a gwedd y mae 'r gwyr duwiol yn ei gyffelybu i neidr baentiedig, yr hon ſydd deg oddiallan, ond yn llawn gwenwyn marwol oddifewn. Ped yſtyriai ddyn faint o ddialedd a diniſtr a ddaeth o roi gormodd coel arno, ef a'i gochelai. A phe meddyliai efe ſrynted y ſothach a'r ammhuredd ſydd dan groenen deg, ni roddai ond ychydig ſerch arno, medd gwr duwiol. Fe gyfrannodd Duw ryw wreichionen chionen o degwch i'w greaduriaid, er mwyn ein tynnu ni a'n denu wrth hynny i yſtyried ac i hoffi ei degwch ef ei hun, yr hwn nid yw tegwch y byd ond cyſgod o honaw: megis y gall dyn wrth weled ychydig ddwr yn tarddu allan, ddyfod o hyd i'r ffynnon wrth hynny, neu wrth gael gwythen bach o aur, ddyfod o hyd i'r holl fwyn. Ond yr ydym ni fel plant bychain yn ymhoffi yn y caead teg ſy ar y llyfr, heb yſtyried beth ſy wedi ei ſcrifennu o'r tu mewn iddo. Ym mhob creadur teg yr edrycho dyn arno, y dylai efe ddarllain hyn yma, medd vn o'r tadau, Os medrai Dduw wneuthur telpyn o bridd mor deg ac mor gariadus, wrth roi iddo fân wreichion o'i degwch ei hun; onid yw anfeidrol ei degwch ef ei hun: ac oni haeddai ei hoffi yn fawr, a rhyfeddu wrtho? Ac mor ddedwydd fyddwn ninnau, pan gaffom ddyfod i'w weled ef, yr hwn y mae 'r holl greaduriaid yn cael eu tegwch oddiwrtho.

16. Ped ymarferem ni a'r cyfryw feddyliau a hyn, ni a allem yn hawdd gadw ein calonnau yn lân ddihalog ger bron Duw, wrth edrych ar degwch ei greaduriaio ef. Ond o herwydd nad ydym ni yn arfer o feddwl am y creawdr wrth edrych ar y creadur, ond ymfodloni yn vnig ar edrych ar wedd a goſgedd wyneb twyllodrus, a gollwng y ffrwyn i bob meddyliau bryntion, ac o'n gwir fodd ennyn tân ein trachwantau ein hunain; hynny a bair bod cymmaint o ddynion yn golledig beunydd, o achos y gwagedd a'r oferedd ffol yma; ffol yr wyf yn ei alw, am fod pob bachgen yn abl i ddangos mor dwyllodrus ac mor ofer ydyw. Oblegid, cymerwch i mi yr wyneb teccaf a glanaf yn y byd, yr hwn y bu i aneirif o ddynion roi ei ſerch arno, wrth ei weled; a chripiwch ef troſto a chryffiniad bach yſgafn, ac fe gilia 'r cwbl oedd yn peri ei hoffi ynddo; os daw gronyn o gryd, ef a ddiſtrywia 〈◊〉 holl degwch a'r glendid yma, os yr enaid a ymad a'r corph tros vn hanner awr, fe fydd yr wyneb teg hwnnw yn erchyll edrych arno; er na bo ond dau ddiwrnod yn gorwedd yn y bedd, ni all vn o'r rhai oedd yn ei hoffi yn gymmaint o'r blaen, ond prin edrych arno, neu ddyfod yn agos atto. Ac er nas digwydd yr vn o'r pethau hynny iddo, etto, buan y daw henaint, i grychu 'r croen, i dynnu 'r llygaid i mewn, i gwympo 'r dannedd, ac i anffurfio yr holl wynepryd, fel y bo yn fwy ei wrthuni yr awrhon, nag oedd ei degwch o'r blaen, ac yn haws iddo beri ei ddirmygu, nag oedd o'r blaen iddo beri ei hoffi. A pha beth a all fod yn wagedd mwy na hyn? Pa ynfydrwydd mwy nag ymfalchio o ddyn ynddo wrth ei weled ynddo ei hun, neu beryglu ei enaid o'i achos wrth ei weled mewn arall?

20. Y chweched gwagedd a berthyn i falchder y bywyd, yw hoywedd dillad gwychion; ac yn erbyn y rhei'ni y dywaid y gwr doeth, Nac ymorfoledda o herwydd gwiſg o ddillad, Ecc. 11.4. O'r holl oferedd dyma 'r mwyaf, yr hwn a welwn ni mor gyffredin ym myſg dynion y byd. Pe buaſai Addaf erioed heb gwympo, ni buaſai raid i ni byth wrth ddillad: oblegid yr achos y dyfeiſiwyd dillad, oedd, i guddio ein noethni ni a'n cywilydd, a'n gwendidau eraill a ddaeth i ni oddiwrth gwymp Addaf. Ac am hynny pwy bynnag o honom ſy 'n ymfalchio ac yn ymogoneddu yn ei ddillad, nid yw efe yn gwneuthur ond fel pettai 'r cardottyn yn cymmeryd balchder o'r carpiau ſy 'n cuddio ei ddoluriau. Fe ddywedodd S. Paul wrth eſgob, O bydd gennym ddillad i'n cuddio ymfodlonwn ar hynny, 1 Tim. 6.8. Ac fe grybwyllodd Chriſt ynteu yn ddwys am ddillad hoywychion, wrth ganmawl S. Ioan fedyddiwr yn gymmaint am ei wiſg arwdoſt, a dywedyd ym mhellach am y gwrthwyneb, Y rhai ſy'n gwiſgo dillad eſmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent, Yn llyſoedd brenhinoedd y byd hwn, ond nid yn llys brennin ne , Mat. 3.4. Mat. 11.8. Ac o'r achos hynny, nid yw Chriſt wrth ddangos pa fath ydoedd y gwr goludog a aeth i vffern, yn gadel heibio ddywedyd i fod ef a'i ddillad o borphor ac o ſidan main. Luc. 16.19.

21. Peth rhyfedd yw yſtyried y rhagor ſy rhwng dull ac arfer Duw, a dull y byd yn hyn o beth. Duw oedd y cyntaf a wnaeth ddillad erioed yn y byd: ac i bwy y gwnaeth efe hwynt ond i'r boneddiccaf ar a fu erioed o'n holl hynafiaid ni, a hynny ym Mharadwys: ac etto ni wnaeth efe mo honynt hwy ond o grwyn anifeiliaid, Gen, 3.21. Ac y mae S. Paul yn tyſtiolaethu am y Sainct boneddiccaf yn yr hen Deſtament, nad oedd ganddynt iw cuddio ond crwyn geifr a blew camelod. Ond oferedd wrth hynny ydyw i ni fod mor hoywon yn ein dillad, a chymmeryd y fath falchder o honynt ac yr ydym? Yr ydym ni yn yſpeilio ac yn anrheithio holl greaduriaid y byd gan mwyaf, i'w roi am ein cefnau, ac i harddwychu ein cyrph. Oddiar vn y dygwn ei wlân, oddiar arall ei groen; oddiar arall ei bân, ac oddiar arall yr ammhuredd a ddel allan o'i cyrph; oblegid beth yw'r ſidan ond yr ammhuredd ſy 'n dyfod aſlan o gyrph pryfed? Ac nid ydym ni fodlon i hyn, ond yr ydym ni hefyd yn myned at y pyſgod, ac yn cael ganthynt hwythau berlau i'w erogi yn ein cylch. Yr ydym ni yn mynd i eigion y ddaiar i geiſio aur ac arian, ac yn chwalu tywod y mor am fain gwerthfawr: a chwedi darffo i ni fenthygio hyn i gyd gan greaduriaid eraill, ni a wag-rodiwn i fynu ac i wared gan annog dynion i edrych arnom; megis pettai gwbl o'r gwychder hwnnw yn eidom ni ein hunain. Pan fo 'r arian a'r ſidan yn diſgleirio yn ein cylch ni, ni a edrychwn cyn vched a phettai 'r holl degwch hwnnw yn dyfod oddiwrthym ni ein hunain. Ac felly, fel y dywaid y Prophwyd, Yr ydym ni yntreulio ein dyddiau mewn oferedd, ac heb ganfod ein dygn ffolineb ein humain.

22. Yr ail gainge gyffredinol y mae S. Ioan yn dywedyd ei bod yn perthyn i orwagedd ac oferedd y fuchedd hon, yw trachwant y llygaid; ac at hynny y mae 'r hen dadau yn bwrw holl wagedd ac oferedd cyfoeth a golud y byd hwn. Ynghylch hynny y mae S. Paul vn yſcrifennu at Timotheus, Gorchymmyn i'r rhai ſy oludog yn ybyd yma, na byddont vchel feddwl, ac na obeitthiont mewn golud anwadal. 1 Tim. 6.17. Yr achos o'r ymadrodd hwnnw y mae 'r Scrythur lan yn ei adrodd mewn man arall, pan yw yn dywedyd, Ni thyccia cyfoeth yn nydd digofaint, Diha. 11.4. Hynny yw yn nydd marwolaeth ac yn nydd y farn; yr hyn y mae cyfoethogion y byd hwn yn ei gyfaddef ei hunain, ond yn rhyhwyr, pan waeddont, Pa lês a wnaeth golud a ffrôſt i ni, Doeth. 5.8. A hyn i gyd ſydd yn dangos i ni yn oleu mor ofer yw cyfoeth bydol, yr hwn ni all ronyn llês i'w berchennog pan fo rheitia' iddo wrth ei help: Y cyfoethogion a hunaſant eu hun, medd y Prophwyd, ac ni chawſant ddim yn eu dwylo, Pſal. 76.5. hynny yw, y mae 'r cyfoethogion wedi treulio 'i bywyd, yr vn modd ac y mae dynion yn huno eu hun, ac yn tybieid fod ganthynt fynyddoedd o aur a thryſor; a phan ddeffroont (ar ddydd eu marwolaeth) y maent hwy yn gweled nad oes ganddynt ddim yn eu dwylo. Ac o herwydd hynny y mae 'r Prophwyd Baruch yn gofyn y Queſtion yma, Pa le yn awr y mae y rhai oedd yn pentyrru arian ac aur, ac ni wnaent ddiben ar geiſio? Ac yna y mae yn ei atteb ei hun yn y man, Hwy a ddiſlannaſant, ac a ddiſcynnaſant ir bedd, Bar. 3.17, 19. Ac i'r vn defnydd y dywaid S. Iaco, Iddo yn awr, chwi gyfoethogion, foethogion, wylwch ac vdwch am eich trueni ſydd yn dyfod arnoch. Eich cyfoeth a bydra, a'ch gwiſcoedd a yſſwyd gan bryfed; a'ch aur, a'ch arian a rydodd, a'i rhwd hwynt fydd yn dyſtiolaeth yn eich erbyn chwi, ac a fwytty eich cnawd chwi fel tan: chwi a gaſglaſoch dryſor digofaint i chwi eich hunain erbyn y dydd diweddaf, Jac. 5. Rhuf. 2, 5.

23. Os yw golud y byd hwn nid yn vnig mor ofer ac mor orwag, ond hefyd mor beryglus ac y dywetpwyd; ond oferedd wrth hynny i ddynion oſod eu meddyliau arno yn gymmaint ac y maent? y mae S. Paul yn dywedyd am dano ei hun, nad oedd, ef yn cyfri'r cwblond yn dom, Phil. 3.8. Ac nid heb achos mawr yn ſiccr y dywedai ef hynny, gan nad ydyw golud mewn gwirionedd ond tom; hynny ydyw, ammhuredd y ddaiar, a phethau yr ydys yn eu cael yn y lleoedd diffrwythaf o'r ddaiar, fel y gŵyr y rhai a welodd fwyn-gloddiau yr aur a'r arian. Ond pethau gwael wrth hynny ydynt hwy i ddyn i glymu ei gariad wrthynt? Fe a orchymmynnodd Duw yn yr hen gyfraith, fod o bob peth a gerddai a'i dorr ar y ddaiar, yn ffieidd-beth i ni; Lev. 11. ac ond ffieiddiach y dyn y rhoes Duw reſwmiddo, ac fydd wedi gludio a chyſſylltu ei galon a'i enaid wrth delpyn o bridd y ddaiar? Yn noeth y daethom i'r byd, ac yn noeth yr awn allan o hono, medd Job. Y mae olwyn y felin yn ymdroi llawer, ac yn ymguro o ddydd i ddydd; ac etto ym mhen y flwyddyn y mae hi yn yr vn lle ac yr oedd yn y dechreu: ac felly 'r cyfoethogion, ymboenant ac ymdrafferthant cymmaint ac a allont, etto rhaid iddynt hwy yn y dydd diweddaf fod cyn dlotted ac oeddynt hwy y dydd cyntaf y ganed hwynt. Pan fo marw y cyfoethog, medd Job, ni ddwg efe ddim gydag ef, ond efe a gae ei lygaid, ac nid yw yn cael dim. Tlodi a'i goddiwes ef fel dyfrosdd, a chorwynt a'i gorthrymma ef liw nôs. Poethwynt a'i cymmer ef i ffordd, ac efe a â ymaith; a'r corwynt a'i cippia ef allan o'i le: efe a ruthr arno, ac nid arbed ef: efe a rwym ei ddwylo arno ef, ac a'i hyſſia ef; am ei fod yn gweled ei le ef, lle y mae rhaid iddo fyned, Iob 27.19. Lat.

24. Y mae 'r prophwyd Dafydd ynteu yn yr vn modd yn rhoi i ni rybydd o'r vn peth, yn y geiriau hyn, Nac of na pan gyſoethogo vn, na phan chwanego gogoniant ei dy ef: canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddiſgyn ei ogoniant ar ei ol ef. Efe a â at genhedlaeth ei dadau (hynny yw, efe a â i r lle y mae y rhai a fu fyw fel y bu ynteu fyw) ac ni welant oleuni byth. Pſal. 49.16.

25. Hyn i gyd a llawer ychwaneg y mae 'r Yſpryd glan yn ei ddywedyd, i ddangos mor beryglus ac mor ofer yw golud bydol; ac mor ynfyd yw y rhai ſy yn cymmeryd cymmaint o boen yn ei geiſio, a hynny trwy berygl tragwyddol i'w heneidiau; fel y mae 'r Scrythur yn dywedyd i ni yn ſiccr. Pe bai cymmaint o phyſygwyr, ac a ddangoſais yma o Scrythurau, wedi cyttuno yn yr vn meddwl fod y bwydydd a'r bwydydd yn wenwynllyd ac yn enbyd; yr wyfi yn tybieid na byddai nemmor o ddynion a anturiai eu bwytta hwy, er bod eu blâs yn felus ac yn hyfryd. Pa fodd wrth hynny nas gall cynnifer o rybuddiau dwys difrif y mae Duw ei hun yn eu rhoi i ni, ein hattal ni rhag rhoi ein ſerch ar beth mor ofer ac mor beryglus ac yw golud bydol? Os cynnydda golud, medd Duw trwy 'r Prophwyd, na roddwch eich calon arno, Pſal. 62.10. Ni chyfiawnheir y neb a hoffo aur, Ecc. 31.5. Mi a ddigiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd goludog, medd Duw trwy Zechariah, Zech. 1.15. Lat. Ac medd Chriſt, Yn wir y dywedaf i chwi, mai anhawdd fydd i'r goludog fyned i mewn i deyrnas nefoedd, Mat. 19.23. A thr chefn, Gwae chwychwi 'r cyfoethogion, canys chwi a dderbyniaſoch eich diddanwch yn y bywyd hwn, Luc. 6.24. Ac yn ddiweddaf, y mae S Paul yn dywedyd yn gyffredinol am bawb, ac wrth bawb, Y rhai ſydd yn ewyllyſio ymgyfoethogi, ſydd yn ſyrthio i brofedigaeth a magl y cythraul, ac i lawer o chwantau ynfyd a niweidiol y rhai ſy yn boddi dynion i ddiniſtr a cholledigaeth, 1 Tim. 6 9.

26. A ellir dywedyd dim yn y byd ddwyſach a chryfach nâ hyn, i geiſio peri i ddynion beidio a rhoi eu ſerch ar olud bydol? Oni bydd rhaid ynteu i'r cybyddion naill ai gwadu Duw, ai eu condemno eu hunain yn eu cydwybodau eu hunain? Gedwch iddynt ymeſguſodi ynghyſgod bod iddynt wraig a phlant, yn ôl eu harfer, a dywedyd, nad yw eu meddwlhwy ddim ond gwneuthur eu goreu ar gael a ſo digon i'r rhai hynny. Ydyw na Chriſt na S. Paul yn cynnwys yr Eſgus hwnnw? A ddylem ni garu na gwraig, na phlant, na cheraint eraill, cymmaint â pheryglu ein heneidiau er eu mwyn hwy? Pa gyſſur a chomffordd fydd i'r tâd mewn poenau yn vffern, wrth gofio ddarfod iddo adael i'w wraig ac i'w blant fodd i fyw yn gyfoethogion yn y byd; nid yw hyn i gyd, frawd anwyl, ond oferedd, a hud a thwyll ein gelyn yſprydol ni. Oblegid o fewn vn munyd awr ar ol ein meirw, ni bydd arnom ni ddim gofal, nac am wraig, nac am blant, nac am dâd, nac am fam, nac am frawd, yn y matter hwnnw, mwy nag am eſtron tra môr: a mwy o gomffordd a gawn ni y dwthwn hwnnw oddiwrth vn geiniog fach a roeſom ni yn eluſeni er mwyn Duw pan oeddym yn y byd, nag oddiwrth filoedd o bunnau a roeſom ni i'n cenedl er mwyn y cariad oedd gennym ar ein cig a'n gwaed ein hunain: ac och Dduw deg nag yſtyriai y rhai bydol hyn yma: ac yna diammau na chymmerent hwy byth cymmaint o ofal tros eu tylwyth ac y maent hwy yn ei gymmeryd; yn enwedig ar eu gwely angeu, o'r lle y bydd rhaid iddynt hwy fyned ymaith i'r lle nid oes dim rhagorfraint i gig a gwaed, a lle nis gall golud ddim ymwared; ond yn vnig yr hyn a dreuliwyd ar waſanaeth Duw, a'r hyn a roed i dlodion er mwyn Duw. A hynny ſy ddigon am y pwngc yma ynghylch golud bydol.

27. Y drydedd gaingco orwagedd bydol y mae S. Ioan yn ei galw, Chwant y cnawd; a hynny ſy 'n cynnwys pob difyrrwch, a digrifwch, a mwythau 'r cnawd, megis gwledda a chwmpniaeth, a chwerthin, a chwarae, a'r cyffelyb, yn y rhai y mae ein cnawd ni yn ymhoffi yn fawr yn y byd hwn. Ac er bod yn rhydd i'r duwiol arfer y pethau hynny mewn cymmedrolder, er mwyn cadw eu hiechyd yn well (ac nid oes bai arnynt er gwneuthur yr vn modd am eu cyfoeth hefyd) etto y mae yn amlwg wrth eiriau Chriſt, fod yr holl bleſſer yma a'r difyrrwch, nid yn vnig yn orwagedd ac yn oferedd, ond hefyd yn beryglus ac yn enbyd, yn y cyfryw helaethrwydd, a gormodedd, a rhyſedd ac y mae y rhai bydol yn eu harfer hwy. Gwae chwi y rhai llawn, medd Chriſt, canys chwi a ddygwch newyn: Gwae chwi y rhai a chwerddwch yr awrhon, canys chwi a alerwch ac a wylwch, Luc. 6.25. A thrachefn yn Efengyl S. Ioan, wrth ei Apoſtolion, ac ynddynt hwy wrth bawb eraill, y mae 'n dywedyd, Chwi a wylwch, ac a alerwch, a'r byd a lawenycha: lle y mae efe yn gwneuthur hyn yn arwydd hynod o'r rhagor ſy rhwng y drwg a'r da, y bydd i'r naill alaru yn y bywyd yma, ac i'r llall lawenhau, ac ynddigrifo. Joan. 16.20.

28. A'r vn peth y mae Iob yn ei ſiccrhau am y naill ac am y llall hefyd; oblegid am y rhai bydol y mae yn dywedyd, eu bod yn difyrruiddynt eu hunain â'r tympan ac a'r delyn, ac a llais yr organ, ac yn treulio eu dyddiau mewn digrifwch; ac yn diſcyn mewn moment i'r bedd, Iob 21.12, 13. Ond am y duwiol y dywaid megis am dano ei hun, y byddant yn ocheneidio o flaen eu bwyd, Iob 3.24. Ac mewn lle arall eu bod yn ofni eu holl weithredoedd, Iob 9.28. A'r rheſwm o hynny y mae 'r gwr doeth yn ei egluro ym mhellach, gan ddywedyd, Fod gweithredoedd y rhai da yn llaw Dduw, ac na ŵyr neb (wrth y pethau oddiallan) pa vn ai cariad ai cas ſydd iddo ar law Duw: ond bod pob peth mewn ammau hyd yr amſer a ddel, Preg. 9.1. Ac y mae yr hên Tobias ynteu yn dangos etto achos arall, pan yw yn dywedyd, Pa lawenydd a allaf fi ei gael, gan fy mod yn eiſtedd yma mewn tywyllwch: ac er ei fod efe yn meddwl hyn wrth y llythyren am ei ddallineb corphorol, etto efe a adawodd i ni ddeall hynny hefyd am dywyllwch yſprydol oddifewn.

29. Ac dyma (heb law blinder a thrallod oddiallan yr hwn y mae Duw yn ei ddanfon yn fynych) dyma'r achoſion pa ham y mae y rhai duwiol yn byw mewn mwy o driſtwch ac ofn yn y bywyd yma, nâ'r rhai annuwiol, yn ôl cyngor S. Paul; a pha ham hefyd y maent hwy yn ochain ac yn wylo yn fynych, fel y mae Iob a Chriſt yn dywedyd, am eu bod hwy yn meddwl yn fynych am gyfiawnder Duw, ac am eu breuolder a i gwendid eu hunain yn pechu, ac am ddirgel farn Rhagluniaeth Duw, yr hon ſydd ddiwybod i ni; ac am y dyffryn trueni ac annrhefn yr ydym ni yma yn byw ynddo: yr hyn ſy'n peri i'r Apoſtolion ochain, medd S. Paul, er bod iddynt lai o achos i wneuthur hynny nag i ni. Ac o'r achos hynny yr ewyllyſir i ni dreiddio trwy'r bywyd hwn trwy ofalu, a gwilio, ac ofn a dychryn. Ac o'r achos hynny hefyd y dywaid y gwr doeth, Gwell yw myned i dŷ galar, nag i dy gwledd. Calon doethion fydd yn nhŷr galar, ond calon ffyliaid yn nhŷ llawenydd, Preg. 7.2: 4. Yn ddiweddaf, o'r achos hyn y dywaid yr Scrythur, Gwyn ei fyd y dŷn a ofno yn waſtadol, Dih. 28.14. Yr hyn nid yw ddim ond y peth y mae'r yſpryd glân yn ei orchymyn i bob dŷn trwy 'r Prophwyd Micheas, ſef, Rhodio yn ofalus ac yn ddiwyd gyda Duw; Mich. 6.8. Lat. gan feddwl am ei orchymmynion ef, a pha fodd yr ydym yn eu cadw ac yn eu gwneuthur hwynt, a pha fodd yr ydym yn gwrthwynebu ac yn marweiddio ein haelodau yma ar y ddaiar, a'r cyffelyb. A phe cai'r cyfryw feddyliau le ynom ni, hwy a dorrent ymmaith lawer o'r difyrrwch bydol ſy 'n dymchwelyd llawer o bechaduriaid diofal: ſef yw hynny, y gymdeithas dda o fwytta, ac yfed, a bod yn llawen a chanu, ac ymreſymmu, a'r cyfyryw oferedd, y rhai ſy fwyaf yn ein tynnu ni oddiwrth yr hyn a ddylem ei wneuthur.

30. Ac o hyn y rhoes Chriſt i ni gyngor godidog, wrth ei waith yn wylo cyn fynyched, ſef ar ei enedigaeth, ac wrth gyfodi Lazarus o farw i fyw, a thros Jeruſalem, ac ar y groes. Ond nid ydym ni yn darllain iddo chwerthin vnwaith yn ei holl fywyd. A hyn y mae ein genedigaeth a'n marwolaeth ni ein hunain yn ei arwyddoccau i ni, y rhai ſy ar law Dduw bob vn o'r ddau, ac a ordeiniwyd i ddyfod i ni trwy driſtwch a gofid, fel y gwelwn ni. Ond gan fod y canol rhwng y ddau, ſef ein bywyd ni yn y byd yma, trwy ordinhâad Duw wedi ei adael ar ein dwylo ni ein hunain, yr ydym ni yn treulio hynny mewn difyrrwch ac oferedd, heb feddwl vn amſer o ba le y daethom ni, nac i ba le yr awn ni.

31. Pan fo gwr ſynhwyrol ar ei ſiwrnai yn myned heibio i'w letty, er bod yn cynnyg iddo fwydydd o'r dainteiddiaf, etto efe a ymgeidw rhagddynt, pan yſtyrio faint yw pris y bwydydd, a maint ſy 'n ôl o'i daith ynteu: ac ni chymmer ef ddim ond cymmaint ac a wypo fe 'n dda fod gantho fodd i dalu am dano wrth fyned ymaith y boreu: ond yn anſynhwyrol a dery ei law ar bob ſaig ddaintethol a ddel i'w olwg, ac a â yn wr gwych tros noſwaith neu ddwy; ond pan ddeler i gyfrif ag ef, fe fyddai well ganddo pe buaſai bodlon i ymborth ar fara a diod, nâ'r drafferth a fydd arno wrth wneuthur ei gyfrif. Arfer rhyw eglwyſydd ydyw ymprydio ar bob noſwyl, a bod yn llawen dranoeth ar yr wyl; a hynny a all arwyddoccau i ni fawr ddirweſt y rhai duwiol yn y byd hwn, a'r llawenydd a gânt hwy yn y byd a ddaw. Ond y mae arfer y byd yn y gwrthwyneb, ſef yfed, a bwytta, a gwneuthur yn llawen yn gyntaf yn y dafarn, a chwedi hynny gadael i'r llettywr ddwyn i mewn ei gyfrif. Y maent hwy yn bwytta, ac yn yfed, ac yn chwerthin, a'r llettywr ynteu yn y cyfamſer yn rhoi 'r cwbl ar yr yſgôr. A phan ddêl yr amſer i dalu, yno y bydd llawer calon yn brudd, oedd o'r blaen yn llawen.

32. A hynny y mae 'r Scrythur lân hefyd yn ei ddywedyd am ddifyrrwch y byd, Chwerthin a fydd ynghymmyſg â gofid, a diwedd llawenydd yw triſtwch, Dih. 14.13. Y mae'r cythraul, megis llettywr yn y byd hwn, yn barod i'ch gwaſanaethu chwi â phob mwythau a difyrrwch ac a ddymunoch chwi, ond y mae efe yn yſgrifennu 'r cwbl yn ei lyfr, a phan foch chwi yn ymadael (hynny ydyw, wrth eich marw) ef a ddwg yr holl gyfrif gar eich bron chwi, ac a rydd y cwbl yn eich ſaig chwi: ac yno y canlyn yr hyn y mae Duw yn ei addo i'r rhai bydol trwy'r Prophwyd AMOS, Eich llawenydd chwi, a'ch ca. neuan a droir yn oernad ac yn gwynfan, Amos 8. Ie, a mwy nâ hynny hefyd, oni byddwch chwi abl i dalu'r cyfrif, nid hwyrach i chwi gael clywed y farn ofnadwy arall a ddyweid Chriſt yn llyfr y Datc. Cymmaint ac yr ymogoneddodd hi ac y bu mewn mwythau, rhoddwch iddi y cymmaint arall o ofid a galar. Datc. 18.7.

33. Ac am hynny, i ddibennu y pwngc yma, a'r rhan gyntaf yma hefyd ynghylch gorwagedd ac oferedd; ni a allwn ddywedyd yn ddigon gwir gydâ'r Prophwyd Dafydd am yr hwn a fo a meddwl bydol gantho, Diau mai cwbl wagedd yw pob dyn byw; gan nad yw ei holl fywyd ef yn cynwys dim ond gwagedd, Pſal. 39.5. Hynny yw, gwagedd ac oferedd yn y chwant ſydd gantho i anrhydedd a goruchafiaeth, gwagedd yn ei gyfoeth, gwagedd yn ei ddifyrwch a'i lawenydd, gwagedd ymhob peth ac y mae ef yn gwneuthur mwya cyfrif o hono. Ac am hynny da y gallaf ddibennu â geiriau Duw trwy Eſai, Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rheffynnau oferedd, Eſ. 5.18. Y rheffynnau yma ydyw oferedd gorwag-clod, goruchafiaeth, parch, bonedd, tegwch pryd a gwedd, cyfoeth a golud, difyrrwch a llawenydd, a'r pethau eraill a grybwyllwyd o'r blaen: y rhai ſy bob amſer yn tynnu gydâ hwynt ryw bechod ac anwiredd. Ac o'r achos hwnnw y mae DAFYDD yn dywedyd wrth Dduw, Cas gennyti y rhai ſy'n dal ar ofer wagedd, Pſal. 31.6. Ac yn ddiweddaf, o'r achos yma y mae'r ysbryd glân yn adrodd yn gyffredinol am bob dyn, Gwyn ei fyd y gwr ni thry at oferedd, ac ynfydrwydd twyllodrus y byd hwn, Pſal. 40. Lat.

34. Weithian gan hynny dyma fi yn dyfod at yr ail rhan o'r bennod yma, ac i ddangos nad yw'r byd hwn a chwbl ac ſydd iw gael ynddo, yn wagedd ac oferedd yn vnig, ond gydâ hynny yn hûd ac yn ſiommedigaeth, (fel y mae Chriſt yn dywedyd am dano) am nad ydyw (mewn gwirionedd) yn cwplau ac yn cy wiro a'r rhai ſy'n glynu wrtho, mo'r oferedd coeg diwres y mae'n ei addaw iddynt. Ac yn hynny y gellir cyffelybu'r byd i'r twyllwr cyrrith anniolchgar Laban, yr hwn a wnaeth i Iacob druan ei waſanaethu ef ſaith mlynedd am ei ferch lân Rachel, ac yn y diwedd ai twyllodd ef a'i ferch ddiffaith anhawddgar Leah. A pheth am yr addewidion gau y mae'r byd yn ei wneuthur beunydd? I vn y mae 'n addaw hiroes a hir iechyd, ac a'i tyrr ef ymaith ynghanol ei ddyddiau. I arall y mae'n addaw cyfoeth mawr a goruchafiaeth, ac yn ôl hir waſanaeth, nid yw yn cywirio vn gronyn ag ef. I arall y mae'n addo anrhydedd mawr wrth dreulio'n helaeth, ac yn rhith hynny y mae yn ei ddwyn ef i ddirmyg trwy dlodi. I arall y mae'n addo codiad mawr wrth briodas, ac etto ni wna fe mo hono byth yn abl i gael yr hyn y mae'n ei ddymuno. Ewch tros yr hollfyd, edrychwch ar y gwledydd, a'r taleithiau, a'r dinaſoedd; gwrandewch wrth ddryſau a ffeneſtri tai 'r deiliaid, a llyſoedd y brenhinoedd, a'i ſtaſelloedd dirgel cyfrinachol; ac ni chewch na gweled na chlywed dim ond achwynion toſtur gan bob dyn, y naill am ei golled, y llall am na bai yn ynnill, a'r trydydd am nad yw yn cael a'i bodlono, a deng mil am eu bod yn cael eu twyllo a'i ſiommi.

35. Pa dwyll fwy a all fod (i ddwyn i chwi eſampl) nag addo i vn barch, a chael coffa am dano yn ei ol, fel y mae 'r byd yn addo i'r rhai ſy'n ei waſanaethu ef; ac er hynny eu gillwng hwy yn angof er cynted y bônt feirw? Pwy ſy yr awrhon yn cofio vn ym myſg deugain mil o wyr gwychion a fu yn y byd, yn gapteiniaid, yn rhyfelwyr, yn gynghoriaid, yn ddugiaid, yn ieirll, yn dywyſogion, yn breladiaid, yn ymmerodron, yn frenhinoedd ac yn frenhineſau, yn arglwyddi ac yn arglwyddeſau? Pwy meddaf, ſy 'n eu cofio hwy? Pwy ſy vnwaith yn meddwl nac yn ſôn am danynt hwy yr awrhon? Oni ddarfu eu coff adwriaeth gyd a hwynt, a chydâ i trwſt a'i rhodres, fel y dy weid y Prophwyd, Pſal. 9.6. Ond cywir addewid JOB, y byddai eu coffadwria th hwy yn gyffelyb i'r lludw a ſethrir tan draed, Iob 13.11. A DAFYDD, y byddent hwy fel y man vs a chwal y gwynt ymaith? llawer o wŷr a fu ym mlaen hyn, a gyfrifid yn wael ac yn ddiſas iawn yn eu hamſer: ac etto am eu bod hwy yn gwneuthur eu goreu ar fod yn anenwog yn y byd, am hynny y mae'r byd yr awrhon yn hyttrach yn eu cofio hwynt, ac yn anrhydeddu eu coffadwriaeth hwy. Ond llawer brenhin ac ymmerodr a fu yn ymegnio, ac yn gwneuthur eu goreu tros eu holl fywyd, am gael bod yn honnaid ac yn enwog yn y byd, ac etto yr awrhon hwy a ebargofiwyd oll. Ac felly y mae 'r byd yn hynny yn debyg (fel y dywaid vn) i lettywr cybydd, drwg ei gof, yr hwn os gwŷl efe vn o'i hên lettywyr yn dyfod heibio mewn cyflwr cardottyn, wedi treulio ei holl arian; efe a gymmer arno nad edwyn ddim o hono. Ac os rhyfeddu a wna'r truan wrth hynny, a dywedyd, iddo ddyfod yn fynych y ffordd honno, a threulio llawer o arian yn ei dŷ ef; y llettywr a ettyb, fe allai hynny fod, oblegid y mae cymmaint o ddynion yn myned heibio ffordd yma ac nad ydym ni yn cadw cyfrif yn y byd o honynt. Y ffordd i chwi i gael gan eich llettywr eich adnabod, (medd yr vn awdur) ydyw bod yn ddrwg wrtho, curwch ef yn dda, neu wnewch ryw lwyrgam ag ef, ac efe a'ch edwyn chwi tra fo byw; a mynych y ſon efe am danoch, pan foch chwi ym mhell oddiwrtho.

36. Aneirif yw ſiommedigaethau a ffuant y byd. Y mae efe'n edrych yn wŷch, ac yn dêg, ac yn hyfryd, yn y golwg oddiallan: ond os ni a'i teimlwn ef, nid yw efe ddim ond pluen: os ni a ddaliwn ſulw arno, nid yw efe ond cyſgod: os ni a'i pwyſwn, nid yw efe ond mŵg: os ni a'i hegyr, nid yw efe ond delw wedi ei gwyngalchu, yn llawn hên garpiau a brattiau o'r tu mewn. Os mynnwchwi gael adnabod trueni a gofidiau 'r byd, rhaid i chwi fynd ychydig allan o honaw. Oblegid megis nas gall y rhai ſy yn rhodio mewn niwl, weled y niwl cyſtal a'r rhai ſy'n ſefyll ar frynn ennyd oddiwrtho: felly y mae am adnabod y byd, yr hwn ſy gnawd iddo ddallu y rhai a ddêl iddo, rhag iddynt weled eu cyflwr eu hun: fel y mae 'r gigfran yn gyntaf yn tynnu llygad y ddafad truan, ac felly yn peri iddi na allo weled diangc rhag ei chreulonder hi.

37. Pan ddarffo i'r byd vnwaith yſpeilio'r bydol am ei olwg yſprydol, fel nas medro mwy farnu rhwng drwg a da, rhwng gwagedd a gwirionedd, yna y mae yn ſuo iddo, ac yn peri iddo gyſgu mewn eſmwythyd a difyrwch, ac yn ei rwymo ef yn dra melus, ac yn ei dwyllo ef yn hyfryd tros ben; ac yn ei boeni ef mewn heddwch a llonyddwch mawr: ac yn y man y mae gantho ysbryd balch i'w oſod ef ar binacl chwant i anrhydedd, ac i ddangos iddo oddi yno ſwyddau, ac vchelfreiniau, a goruchafiaethau'r holl fyd. Y mae gantho vgain o farſiandwyr ffeilſion i ddangos iddo yn y tywyll, y pen blaen i frethynnau têg gwerthfawr, ond ni chaiff efe weled yr holl we frethyn, na'i dwyn i'r goleu i edrych arni: y mae gantho bedwar cant o brophwydi gau i wneuthur truth a gweniaith iddo, fel yr oedd gan Ahab, 1 Bren. 22. a rhei'ni ſy raid iddynt luddias iddo wrando cyngor Micheas; hynny ydyw, rhag edrych yn ei gydwybod ei hun, yr hon a ddywaid iddo'r gwir: y mae ganddo fil o byſgodwyr cyfarwydd, i oſod abwydydd hyfryd ger ei fron ef, ond bod bachau peryglus o'r tu mewn i bob vn o honynt. Y mae ganddo aneirif o buteiniaid Babilon, i gynnyg iddo ddiod mewn phiolau aur, ond bod y cwbl wedi ei gymmyſgu â gwenwyn marwol, Datc. 17. Y mae ganddo ym mhob drws ryw Iael i'w ddenu ac iw hudo ef at laeth digrifwch a mwythau, ond bod gan bawb o honynt forthwylion a hoelion yn ei dwylo i'w daro yn ei arlais ef, ac i'w ladd, pan gaffont ef yn cyſgu, Barn. 4. Y mae cantho ym mhob cornel ryw Ioab wenhieithus, i'w gofleidio ef â'r naill fraich, ac i'w lâdd â'r llall, a Suddas fradwr i'w fradychu ef â chuſan. Yn ddiweddaf, y mae gantho bob math ar dwyll, a phob math ar ffuant, a phob math ar weniaith, a phob math ar frâd ac a fai boſſibl ei ddychymmyg. Y mae'n caſau 'r neb a'i caro, yn twyllo 'r ſawl a ymddiriedo iddo, yn poeni'r rhai a'i gwaſanaetho, yn dirmygu'r ſawl a'i hanrhydeddo, yn dwyn i golledigaeth y ſawl a'i canlyno, ac yn gollwng yn fwy tros gof, y ſawl ſy fwyaf eu poen a'i llafur troſto. Ac i dalfyrru'r pwngc yma, gwnewch cymmaint oll ac a alloch tros y byd yma, a cherwch ef, ac addolwch yn gymmaint ac y mynnoch; etto yn y diwedd chwi a gewch weled mai Nabal yn vniawn ydyw efe, yr hwn wedi iddo gael llawer o gymmwynaſau gan Ddafydd, etto pan ddaeth ar Ddafydd ei eiſieu ynteu, efe a attebodd, Pwy yw Dafydd? A phwy yw mab Ieſſe, fel yr adwaenwn i ef, 1 Sam. 25. Nid heb achos mawr wrth hynny, y dywedodd y Prophwyd DAFYDD, Oh feibion dynion, pa hyd y byddwch mor ddiddeall eich calon? yr hoffwch wegi ac yr argeiſiwch gelwydd? Y mae efe yn galw 'r byd nid yn gelwyddog ond yn gelwydd, o herwydd maint ei hûd a'i dwyll, Pſal. 4.2.

38. Y trydydd henw y mae ein iachawdr Chriſt yn ei roi i ddifyrrwch a golud y byd, ydyw eu bod hwy yn ddrain: am yr hyn y mae S. Grigor yn yſcrifennu fel hyn,Hom. 5, in Euange. Pwy a'm credaſai i byth pe buaſwn i yn galw cyfoeth yn ddrain fel y gwnaeth Chriſt, gan fod drain yn pigo, a bod cyfoeth mor hyfryd? Ac etto yn ſiccr drain ydynt hwy, am eu bod hwy a phigau yr gofalus feddyliau ſydd yn eu canlyn, yn rhwygo meddyliau y rhai bydol, ac yn tynnu gwaed o honynt. Wrth y geiriau hynny y mae r gwr duwiol yn arwyddoccau, mai megis na ddichon corph noeth dyn a dreigler ac a dafler ym mhlith llawer o ddrain, na chaffo ei rwygo, a'i ddryllio, a'i wneuthur yn waedlyd gan eu pigau hwynt: felly nis gall enaid y gwr bydol a gurer gan ofalon a meddyliau'r fuchedd hon, nas caffo ei flino gan eu hanorphwys bigiadau hwynt, ac nas archoller ef gan lawer o demptaſiwnau pechod a fo yn cyfarfod ag ef. Hyn y mae Salomon yn ei arwyddoccau, yn y lleoedd a adroddwyd o'r blaen, lle y mae efe yn galw golud a difyrrwch y byd hwn, nid yn vnig yn wageddo wagedd, hynny ydyw, yn fwya' gwagedd ac ſydd, ond hefyd yn orthrymder yſpryd; gan ddwyn ar ddeallt i ni, pa le bynnag y mae'r gwagedd yma, a chariad arno wedi dyfod i mewn, nad oes yno ddim tangnefedd Dduw yr hwn ſydd vwch law pob deall; nad oes yno ddim mwy eſmwythdra a llonyddwch meddwl, ond rhyfel rhwng trachwantau, a blinder meddyliau, a thrallod gan ofn, a phigo gan ofalon, ac aflonyddwch enaid, yr hyn mewn gwirionedd nid yw ddim ond gofidus a thoſtur orthrymder yſpryd. Preg. 1.

39. A'r rheſwm o hyn ydyw, megis ac nas gall clocc byth ſefyll yn llonydd heb gerdded tra fo'r pwyſau ynghrog wrtho, felly nis gall gwr bydol a fo ac aneirif o ofalon, a meddyliau, a phetruſder ynghrog wrth ei feddwl, megis pwyſau wrth y clocc, byth gael na llonydd nac eſmwythdra, na dydd na nôs, ond bod yn ddir iddo guro ei ymmennydd, pan ſo eraill yn cyſgu, er mwyn ceiſio dyfod o hyd i'r coeg-bethau hynny, ſydd yn ei drallodi ef. Oh faint o wyr goludog yn y byd ſy 'n gwybod fod yn wir y peth yr wyfi yn ei ddywedyd yr awrhon! a maint o'r rhai chwannog i anrhydedd ſydd yn ei wirio beunydd, ac etto ni fedrant ymadael ag ef!

40. O'r holl blaau a ddanfonwyd ar yr Aipht, blinaf a dygnaf oedd y bla wybed. Oblegid nid oedd y rhai'ni vn amſer yn gadael i ddynion mor llonydd, ond pa mwyaf y curid hwy ymaith, mwyaf y cyrchent attynt hwy. Felly o'r holl ofidiau a'r blinderau y mae Duw yn eu dodi ar y rhai bydol, nid lleiaf hyn, eu bod yn cael eu poeni a gofalon am y pethau y maent yn eu cyfrif yn fwya dedwyddyd iddynt, ac heb allu mo'i gyrru ymaith er dim a fedront ei ddychymmyg. Mae'r gofalon hynny yn rhuthro arnynt hwy y boreu cyn gynted ac y deffroont o'i cwſg, ac yn aros gyd a hwynt ar hyd y dydd, ac nid ymadawant a hwynt y nos, ond y maent yn eu canlyn i'w gwelyau, ac yn lladdias iddynt gyſgu, ac yn flin wrthynt yn eu breuddwydion; ac yn ddiweddaf, y maent yn debyg i'r rhai creulon hynny y mae Duw yn bygwth eu danfon ar yr annuwiol trwy'r Prophwyd Jeremi, Y rhai ni chair llonydd ganddynt, na dydd, na nos: a'r achos y mae Duw yn ei ddangos am hynny yn yr vn man yw hyn, Canys mi a gymmerais ymmaith fy heddwch oddiwrth y bobl hyn, medd yr Arglwydd, ſef trugaredd a thoſturi. Dyna farn drom i'r rhai ſy dan iau a chaethiwed y gwagedd blin hynny. Jer. 16.13, 5.

41. Ond etto y mae 'r Prophwyd Eſay yn portreiadu cyflwr y cyfryw ddynion, yn erchyllach o lawer, Y maent yn ymddiried mewn peth heb ddim, ac yn chwedlena am wagedd, yn beichiogi ar ſtinder ac yn eſgor ar anwiredd; y maent yn deor wyau aspiaid, ac yn gwau gweoedd y pryf coppyn: yr hwn a fwyttao eu hwyau a fydd marw; a'r hwn a ſathrer a dyrr allan yn wiber; eu gweoedd ni byddant yn ddillad, ac nid ymwiſgant a'i gwaith; canys eu gwaith ſy anfuddiol, a gwaith anwiredd ſydd yn eu dwylaw, Eſ. 59.4. Lat. Dyma eiriau Eſay, y rhai ſy'n dangos i ni trwy gyffelybiaethau yn llawn o arwyddoccad, mor beryglus o ddrain ydyw cyfoeth a difyrrwch y byd hwn. Ac yn gyntaf y mae'n dywedyd eu bod hwy yn rhoi eu hyder ar bethau diddim, ac yn chwedlena am wagedd; i arwyddoccau ei fod efe yn meddwl am wagedd a gwag ddynion y byd hwn, y rhai a chwedleuant fynychaf am y peth y maent yn ei garu yn fwyaf, ac yn hyderu arno fwyaf. Yn ail y dyweid, eu bod yn beichiogi ar flinder, ac yn eſgor ar anwiredd: trwy gyffelybiaeth o waith gwragedd yn eſgor, y rhai yn gynta' ſy'n beichiogi yn y grôth, ac yn ôl llawer o flinder, yn eſgor ar eu plentyn: ac felly y mae y rhai bydol; yn ôl hir amſer o flinder a llafur mewn oferedd a gwagedd, nid eſgorant ffrwyth yn y byd, ond pechod ac anwiredd. Oblegid dyna ddiwedd yr oferedd a'r gwagedd hynny, fel y dywaid ef yn yr vn llyfr, gan weiddi ar y cyfryw ddynion, Gwae chwi y rhai a dynnwch anwiredd a rheffynnau oferedd, Eſa. 5.18.

42. Ac etto, i hyſpyſu 'r peth yn oleuach, y mae'n dwyn dau gyffelybiaeth arall, gan ddywedyd, eu bod hwy yn deor wyau aſpiaid, ac yn gwau gweodd y pryf coppyn; i arwyddoccau wrth y naill gyffelybiaeth mor ofer ac mor orwag ydyw gofalon bydol, ac wrth y llall mor beryglus, ac mor enbyd ydynt. Y mae'r prŷf coppyn, fel y gwelwn ni, yn cymmeryd poen fawr, ac yn llafurio tros lawer o ddyddiau ynghyd i wau ci we, ac yn y man, pan ddarflo iddo, fe ddaw chwa o wynt, neu ryw beth arall, ac a'i tyrr hi 'n gandryll. Fel y gwr yn yr Efengyl a gymmeraſai lawer o boen a gofal, yn pentyrru cyfoeth ynghyd, yn tynnu i lawr ei hen yſguboriau, ac yn adeiladu rhai newydd; a phan ddaeth efe i ddwedyd wrth ei enaid Bydd lawen weithian, y nos honno y ducpwyd ei enaid addiarno, ac yr aeth ei holl boen ef yn ofer, Luc. 12. Ac am hynny y dywaid Eſay yn y fan yma, nad a gweoedd y gwehyddion hyn yn ddillad, am fod eu gwaith hwy yn anfuddiol.

43. Y gyffelybiaeth arall ſydd yn dangos y perygl mawr a'r ofn. Oblegid, fel y mae'r aderyn a eiſteddo ar wiau neidr neu aſp, wrth eu deor a'i torri hwy, yn eſgor ar nythlwyth peryglus, i'w ddiniſtr ei hun: felly y mae y rhai ſy yn eiſtedd ar oferedd a gwagedd y byd, megys ar wyau, medd Eſay, yn deor o'r diwedd eu diniſtr eu hun. A'r rheſwm o hynny ydyw, fel y dywaid efe, Oblegid mai gwaith anwiredd ſydd yn eu dwylaw. Lle y mae efe yn taro yn waſtad ar yr vn tant, ac yn dangos nas gall dyn garu, a chanlyn yr oferedd yma, nac ymrwydo yn ei raffau (fel y mae'r ymadrodd) heb dynnu atto lawer o anwiredd â hwynt; hynny ydyw, heb fod ganddo ynghymmyſg a hwynt lawer o bechod, a llawer o bethau i ddigio Duw: ac am fod hynny yn dyfod o bechod, ac yn lladd yr enaid, am hynny y mae Eſay yn ei gyffelybu i nythaid o nadroedd yn lladd yr aderyn a'i dycco i'r byd. Ac yn ddiweddaf, y mae Moyſen yn dwyn yr vn fath gyffelybiaethau, lle y mae efe yn dywedyd am ddynion ofer annuwiol, O win-wydden Sodom y mae eu gwinwydden hwynt; eu grawnwin ſydd rawnwin buſtlaidd, a'i grawnſyppiau ſy chwerwon, Gwenwyn dreigiau yw eu gwin hwynt, a gwenwyn yr aſpiaid, yr hwn nid oes help rhagddo, Deut. 32.32. Wrth y cyffelybiaethau erchyll ffiaidd hyn y mynnai efe i ni ddeall, nad yw pleſer hyfryd y byd yma, ond ſiommedigaethau, ac y ceid gweled ryw ddydd chwerwed a pheryccled ydynt hwy.

44. Y pedwerydd peth y ſy i ni i'w yſtyried, yw dangos pa fodd y gellir gwirio nad yw'r byd hwn a'i ddedwyddwch ddim ond gofid, a blinder. Ac er bod hynny yn ddigon amlwg, wrth yr hyn a ddywetbwyd o'r blaen, etto (gan i mi addo) mi a'i hegluraf yma ychydig pellach wrth amryw ofidiau neillduol. Ac ym mhlith llawer o ofidiau a allwn ni eu cyfrif yma, y cyntaf ac vn o'r rhai mwyaf ydyw, fyrred ac anſiccred ydyw pob llwyddiant yn y byd hwn. Och Dduw, ond gofid mawr yw hynny i wr bydol a fynnai fod ei ddifyrrwch a'i lwyddiant yn ddianwadal, ac yn barhaus? Eccl. 41.1. Oh angeu, mor chwerw yw meddwl am danat ti (medd y gwr doeth) i'r dyn a fyddo yn byw mewn heddwch yn yr hyn ſydd ganddo; i'r gwr a fyddo dihelbul, a llwyddiannus ym mhob peth: Ni a welſom lawer o wŷr yn cael codiad, ac heb parhau ddeufis yn eu llwyddiant: Ni a glywſom ſôn am lawer a briodwyd mewn llawenydd mawr, ac heb gael byw wythnos yn eu dedwyddyd: Ni a ddarllennaſom bethau dieither i'r defnydd yma, ac yr ydym ni beunydd yn gweled â'n llygaid lawer o eſamplau o'r cyffelyb. Pa ddolur a gofid, dybygwch chwi, oedd i Alexander mawr, wedi iddo mewn deuddeng mhlynedd orchfygu y rhan fwyaf o'r holl fyd, orfod arno farw pan oedd chwannoccaf i gael byw; a phan oedd i gymmeryd y llawenydd a'r diddanwch mwyaf o'i orfodaethau? Pa driſtwch oedd i'r gwr goludog yn yr Efengyl, glywed dywedyd wrtho yn ddiſymwth, Hac nocte, Y nos hon y dygir dy enaid oddiarnat? Luc. 12. Pa drueni a gofid gan lawer rhai bydol a fydd hyn, pan ddel attynt; y rhai ſy yr awrhon yn adeiladu palaſau teg, yn prynu tiroedd, yn pentyrru golud, yn cyrhaeddyd vchelſwyddau, yn gwneuthur thur priodaſau, yn clymmu cyfathrachon, megis pe na byddai byth ddiwedd ar y pethau hyn? Pa ddiwrnod toſtur fydd hwnnw iddynt (meddaf) pan orffo arnynt adael y cwbl y maent hwy 'r awrhon yn eu hoffi 'n gymmaint? Pan droer hwy heibio, fel y gwneir â mulod Twyſogion, pan ddelont i ben eu ſiwrnai: ſef yw hynny, tynnu 'r tryſſor oddiarnynt, ac heb adael iddynt hwy ond y cefnau briwedig? Obledgid, fel y gwelwn ni 'r mulod hynny ar hyd y dydd yn cael eu llawnbwn o dryſor ar eu cefnau, a'i hulio â brethynnau gwychion teg; ond erbyn y nôs yn cael eu troi i ſtabl ddrwg, wedi briwo a blingo eu cefnau yn dwyn y tryſor hwnnw: felly y mae'r cyfoethogion ſy'n ymdaith yn y byd hwn yn llwythog o aur ac arian, ac yn briwo eu cydwybodau yn ddrwg wrth eu dwyn hwy; yn cael dwyn eu llwyth oddiarnynt pan font feirw, a'i troi heibio, a'i cydwybodau cefnrhwd canthynt, i yſtabl erchyll ffiaidd vffern a cholledigaeth.

45. Trueni a gofid arall ſydd gyſſylltedig a llwyddiant y byd, yw yr gwrthbwys trwm o anfodlonrwydd ſydd yn canlyn pob difyrrwch bydol. Yſtyriwch bob dyfyrrwch yn y byd, ac edrychwch pa ſaws a geir gyd ag ef. Gofynnwch i'r rhai a brofodd hynny fwyaf, ydynt hwy wedi cael eu bodloni, ai nad ydynt. Gydâ chyfoeth y daw llawer o ofn, a gofalon, fel y dangofwyd o'r blaen. Ynghyd a chodiad ac anrhydedd y mae pob math ar flin gaethiwed ac a ellir ei ddychymmyg: difyrrwch a phleſer y cnawd, er ei fod yn gyfreithlon ac yn honeſt, etto y mae S. Paul yn ei alw yn flinder yn y cnawd: ond os bydd yn gyſſylltedig a phechod, y mae pob math ar ofidiau yn ei ganlyn yn ddeng mil mwy. 1 Cor. 7.28.

46. Pwy a feidr gyfrif gofidiau, a blinderau ein corph ni? cynnifer o glefydon, cymmaint o wendid, cymmaint o aflwydd, cynnifer o beryglon, ac ſydd iddo? Pwy a feidr gyfrif gwyniau ein meddyliau ni, y rhai fy 'n ein blino ni, weithiau a digofaint, weithiau a thriſtwch, weithiau a chynfigen, weithiau a chynddaredd ac a gwylltineb? Pwy a ŵvr rifo pob gwrthwyneb, a phob echrys ſydd yn dyfod i 〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉 〈1 page duplicate〉 ni oddiwrth ein da? pwy a ŵyr rifedi y niweidion a'r anfodlonedd fy'n digwyddo i ni beunydd oddiwrth ein cymydogion? y naill yn ein dwyn ni i gyfraith am ein gwirdda cywir, a'r llall yn crlyn arnom am ein bywyd: y trydydd trwy enllib yn dwyn ein henw da ni: un yn ein blino ni a chaſineb, vn arall a chynſigen, vn arall a gweniaith, vn arall a thwyll, vn arall a dial, vn arall a cham dyſtiolaeth, ac vn arall a chyrch cyhoeddog ac a brwydr gyfaddef. Nid oes cymmaint o ddyddiau ac o oriau yn ein bywyd ni, ac fydd o ofidiau a gwrthwyneb. Ac ym mhellach na hyn, y mae i'r drwg y rhagorfraint yma yn hytrach nag i'r da, yn ein bywyd ni; ſef gallu o vn peth drwg ddadymchwel a boddi aneirif o bethau da ar vnwaith: fel megys pettai gan wr bod math ar ddedwyddwch ac a ellid i gael yn y byd, a bod vn daint iddo heb fod yn ei hwyl; ni allai yr holl ddifyrrwch arall mo'i wneuthur ef yn llawen. Ac o hynny y mae i chwi eſampl oleu yn Haman vn o bencyngor y brenhin Ahaſuerus: yr hwn, am nad oedd Mordecai yr Iuddew yn codi ar ei draed iddo, pan elai heibio, ac yn ei anrhydeddu ef, fel yr oedd eraill, efe a ddywedodd wrth ei wraig a i garedigion, nad oedd ei holl ddedwyddwch arall ddim iddo, wrth hynny o wrthwyneb. Er maint gogoniant ei gyfoeth, ac amled ei feibion, a maint ei fawrhaad, a'i barch, a'i anrhydedd, a'i ragor, gyd a'r Brenhin a'r Frenhines, gorwch yr holl dywyſogion, a gweiſion y Brenhin; ond (medd efe ei hun) nid yw hyn oll yn lleſſan i mi, tra fwyf fi yn g eled Mordecai yr Inddew yn eiſtedd ym mhorth y Brenhin. Heſt. 5.10.

47. Rhown at hyn hefyd y mawr echrys o dywyllwch dallineb y mae y rhai bydol yn byw yntho (am yr hyn y crybwyllais beth o'r blaen) yr hwn a gyffelybir yn gymmwys iawn i dywyllwch yr Aipht, yrhwn a ellid ei deimlo, gan yr hwn nis gallai neb weled ei gymydog, na neb weled ei waith, na neb weled ei ffordd. a'r fath hynny fy ar y tywyllwch y mae y rhai bydol yn rhodio ynddo; Y mae ganddynt lygaid, ond ni welant, medd Chriſt: ſef yw hynny, er bod ganddynt lygaid i weled matterion y byd hwn, etto y maent hwy yn ddeillion, am nad ydynt yn gweled y pethan a ddylent eu gweled yn ſicer, Mat. 13. Y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth nâ phlant y goleuni, Luc. 16.8. Ond y callder hwnaw fydd ym mhethau 'r byd hwn, ym matterion y tywyllwch, nid ym matterion y goleuni, yr hwn nid ydynt blant iddo: am nad yw'r dyn cnawdol yn deall nac yn gwybod y pethau ſydd o Dduw, 1 Cor. 2.14. Tramwywch tros yr holl fyd, ac chwi a gewch weled dynion cyn graffed eu golwg a'r eryr, mewn pethau daiarol; a'r vn rhai heb weled mwy na'r poſt, mewn pethau nefol. Ac o hynny y daw y peth toſtur ei yſtyried a welwn ni beunydd, ſef bod yn gwneuthur cymmaint cyfrif o gyfreithiau dynion, a chymmaint o ddirmyg a diyſtyrwch ar orchymmynion Duw; a bod cymmaint o ymgais am dda bydol, ac heb feddylieid am y da nefol; a bod yn cymmeryd cymmaint o boen tros y corph, a chyn lleied o ofal tros yr enaid. Yn ddiweddaf, os mynnwch chwi weled faint y dallineb y mae'r byd yn byw ynddo, coſiwch fel yr oedd S. Paul, wrth fyned o wr bydol yn Griſtion da, a chenn ar ei lygaid, y rhai a orfu i Ananias eu tynnu ymaith, a'r rhai oedd yn cuddio ei olwg ef o'r blaen, pan oedd efe yn ei falchder ac yn nenn y byd Act. 9.

48. Heb law'r goſidian hyn oll, y mae etto cchrys arall, yr hwn mewn rhyw beth, ſy fwy na'r llall: a hwnnw yw y rhifedi aneirif o demptaſiwnau, ac o ſaglau, ac o hudoliaeth ſydd yn y byd, yn tynnu dynion beunydd i golledigaeth. Y mae Athanaſius yn ſcrifennu am S. Anthon y meudwy, ddarfod i Dduw ryw ddiwrnod ddatguddio iddo gyflwr y byd, ac efe a welai'r holl fyd troſto yn llawn rhwydau, ym mhob cornel iddo, a chythreuliaid yn eiſtedd wrthynt, i'w gwilied hwy. Y mae 'r Prophwyd Dafydd hefyd, i arwyddoccau 'r vn peth, ſef bod cymmaint o faglau yn y byd hwn, yn dywedyd, Y glawia Duw ar yr annuwolion fag lau: hynny yw, efe a ddioddef i ddynion pechadurus ſyrthio mewn maglau: ac y mae y rhai hynny mor aml yn y byd, ac ydyw'r defnynnau glaw ſydd yn ſyrthio o'r nefoedd, Pſal. 11.6. Y mae pob peth gan mwyaf yn fagl angeu i'r dyn cnawdol calon-llaes: pob golwg a welo, pob gair a glywo, pob meddwl a feddylio, ei ieuengtid, ei oedran, ei garedigion, ei elynion, ei barch, ei ammharch, ei gyfoeth, ei dlodi, ei gwmpniaeth, ei hawddfyd, ei adfyd, ei fwyd y mae'n ei fwytta, ei ddillad am dano: y mae pob peth yn fagl i dynnu i ddiſtryw y neb ni bo gwiliadwrus.

48. Ac o hyn yma ac o'r dallineb a ddywetpwyd o'r blaen, y daw 'r echrys diweddaf, a mwyaf o gwbl ac a all fod yn y bywyd yma; a hynny ydyw, hawſed gan y rhai bydol redeg mewn pechod. Oblegid gwir a ddywaid yr Scrythur lân, Pechod yw'r peth ſy'n gwneuthur y bobl yn ofidus, Dihar. 14.34. lat. Ac etto mor hawdd gan bobl y byd bechu, a lleied matter ganthynt am bechu, y mae Job yn dangos, lle y mae efe yn dywedyd, wrth ſôn am y cyfryw ddyn, ei fod efe yn yfed anwiredd fel dwfr, Job 15.16. hynny ydyw, mor hawdd, ac mor gynnefin ac mor eſmwyth y mae efe yn gwneuthur pob pechod ac a ddêl arno ei wneuthur; ac y mae dyn yn yfed dwfr pan fo arno ſyched. Y neb ni chretto yr hyn y mae lob yn ei ddywedyd, edryched ychydig wrtho ei hun, pa vn a wna 'r peth ai bod felly ai peidio: rhodied allan i'r heolydd, ac edryched ar weithredoedd dynion, a gweled eu hymarweddiad hwy; ac yſtyried pa beth yr ydys yn ei wneuthur yn y ſioppau, yn y neuaddau, yn y ſeneddau, yn y brawdleoedd, yn y palaſau, ac ymmhob cyfarfod cyffredin; pa ddywedyd celwydd, pa enllibio, pa dwyllo ſydd yno: ac efe a gaiff weled nad oes vn peth o'r pethau y mae dynion yn gwneuthur dim cyfrif o honynt, cyn lleied matter am ei wneuthur ac ydyw pechod; fo a gaiff weled gwerthu cyfiawnder, a gŵyro gwirionedd, a chwilydd wedi ei roi heibio, ac vniondeb yn cael ei ddiyſtyru: fo a gaiff weled bwrw 'r gwirion yn euog, a rhyddhau'r hwn a fo euog, a chodi'r annuwiol, a daroſtwng y duwiol: fo a gaiff lawer o ladron yn ei blodau, a llawer occrwr yn dwyn rhwyfg, a llawer mwrdriwr a chribddeiliwr yn cael ei berchi a'i anrhydeddu, a llawer o ffyliaid mewn awdurdod, a llawer rhai heb ddim ynddynt, ond eu bod ar lun dynion, yn cael, er mwyn eu harian, eu goſod mewn ſwyddau mawr, i lywodraethu eraill: fo a gaiff glywed allan o enau pob dyn gan mwyaf, wagedd, ac oferedd, a balchder; ac enllib, a chynfigen, a thwyll, a ffuant, a gwagſawrwydd, a gwammalrhwydd, a chelwydd, a thyngu, ac anudon, a chabledd: yn ddiwedda, fo a gaiff weled y rhan fwyaf o ddynion yn eu llywodraethu eu hunain wrth dynn en gwyniau eu hunain yn yr vn modd ac y mae anifeiliaid, nid wrth gyfraith cyfiawnder, a rheſwm, a chrefydd, a rhinwedd dda.

50. Ac o hyn y canlyn y pummed pwngc y mae Chriſt yn ei ddangos yn y ddammeg hon, ac a addewais inneu ei draethu yma: a hwnnw yw, Bod ſerch ar y byd hwn yn tagu pob dyn y mae'r ſerch hynny yntho, o'i holl fywyd nefol ac yſprydol: am ei fod yn ei lenwi ef o yſpryd gwir wrthwyneb i yſpryd Duw. Y mae 'r Apoſtol yn dywedyd, Pwy bynnag ſy heb yſpryd Chriſt ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo Chriſt, Rhuf. 8.9. Ac mor wrthwyneb iw gilydd ydyw yſpryd Chriſt ac yſpryd y byd, fe ellir gweled wrth ffrwythau yſpryd Chriſt, y rhai y mae S. Paul yn eu rhifo at y Galatiaid, Gal. 5.22. ſef yw y rhai hynny, Cariad, yr hwn yw gwreiddyn a mam pob gweithred dda; Llawenydd wrth wafanaethu Duw; Tangnefedd, neu lonyddwch meddwl ym myſg tymheſtloedd y byd hwn; Dioddefgarwch mewn adfyd; Hirymaros, wrth ddiſgwyl am ein gwobr; Daioni a chymmwynaſ-garwch, heb wneuthur niweid i neb; Cyweithaſrwydd, mewn ymddygiad hawddgar; Mwyneidd-dra, pan roer achos i ddigio; Ffyddlondeb, yn cywiro ein haddewidion; Lledneiſrwydd heb ryfyg; Ymattal oddiwrth bob drygioni; Diweirdeb, trwy gadw'r meddwl yn bur mewn co ph glan difrycheu: Yn erbyn y rhai hyn, medd S. Paul, nid oes Cyfraith. Ac yn yr vn bennod y mae efe yn yſpyſu beth yw yſpryd y byd wrth ei wrthwyneb ffrwythau, gan ddywedyd, Amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai yw Torri priodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, delw-addoliaeth, ſwyngyfaredd, caſineb, cynnhennau, gwynfydau, llid, ymryſon, ymbleidio, haereſian, cynfigennau, llofruddiacth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i'r rhai hyn; am y rhai yr wyf yn rhagddywedyd wrthych, megis ac y rhagddywedais, na chaiff y rhai ſy'n gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Duw. Gal. 5.19.

51. Yma y gall pob dyn farnu am yſpryd y byd ac yſpryd Chriſt, ac wrth ei fwrw atto ei hun ef a all wybod amean pa vn o'r ddau ſydd yntho, ai 'r naill ar llall. Y mae S. Paul yn rhoi i ni ddwy reol dlyſion fyrrion, yn yr vn man i brofi hynny. Y gyntaf yw hon, Y rhai ſy'n eiddo Chriſt a groes-hoeliaſant y cnawd, a'i wyniau, a'i chwantau, Gwerſ. 24. Hynny ydyw, y maent hwy wedi marweiddio eu cyrph eu hunain yn gyſtal a'i bod yn ymdrech yn erbyn yr holl feiau a'r pechodau a ddywetbwyd o'r blaen, ac heb ymroi i waſanaethu eu trachwantau a'i temptaſiwnau hwy. Yr ail rheol yw hon, Os ydym yn byw yn yr yſpryd, rhodiwn hefyd yn yr yſpryd, Gwerſ. 25. Hynny ydyw, bod ein hymddygiad ni a'r modd y bom ni yn rhodio yn arwyddo pa vn ydym ni ai byw ai meirw. Oblegid os bydd ein hymarweddiad ni a'n gwaith yn rhodio, yn yſprydol, ſef yn gyfryw ac y dangoſais o'r blaen wrth ffrwythau 'r yſpryd, yna 'r ydym ni yn byw yn yr yſpryd, ac y mae ein bywyd ni yn yſprydol: ond os ein gweithredoedd ni a fydd cnawdol, ſef yn gyfryw ac y dangoſodd S. Paul fod gweithredoedd y cnawd, yna cnawdol ydym ni, a meirw yn yr yſpryd, ac nid oes i ni a wnelom â Chriſt, na chyfran yn nheyrnas nef. Ac am fod yr holl fyd yn llawn o'r gweithredoedd cnawdol hynny, ac heb ddwyn dim ffrwythau o yſpryd Chriſt, nac yn gadael iddynt na thyfu na ffynnu ynddo, am hynny y mae'r Scrythur lan bob amſer yn goſod Chriſt a'r byd megis yn elynion gwrthwyneb i'w gilydd.

52. Y mae Chriſt ei hun yn dywedyd, Na ddichon ybyd dderbyn yſpryd y gwiri nedd, Joan 14.17. A thrachefn yn yr vn Efengylwr y dywaid, Nad oes nac efe, nac yr vn o'r eiddo ef o'r byd hwn, er eu bod yn byw yn y byd, Jo. 15.19. Ac etto ym mhellach yn ei daerddrud weddi at ei dad y dywaid, Y Tâd cyfiawn, y byd nid adnabu mo honot ti, Jo. 17.16, 25. Ac o'r achos hynny y mae S. Joan yn ſcrifennu: O char neb y byd, nid yw cariad y Tad ynddo ef, 1 Ioh. 2.15. Ac etto ym mhellach y dywaid S. laco, fod pwy bynnag ni wnêl ddim ond ewyllyſio bod yn gyfaill i'r byd, ei fod ef yn elyn i Dduw, Iag. 4.4. Beth a ddywaid y rhai bydol wrth hyn? Y mae S. Paul yn dywedyd yn oleu y demnir y byd hwn, 1 Cor. 11.32. Ac y mae Chriſt ynteu yn bwrw at yr vn peth yn Efengyl Joan, ond yn fwyaf o gwbl, yn ei weithred ryfeddol, pan fu iddo wrth weddio at ei dad am bethau eraill, ddywedyd, Non pro mundo rogo, Nid wyfi yn gofyn na thrugaredd na maddeuant tros y byd, ond i'r rhai a roddaiſt ti i mi allan o'r byd, Io. 17.9. Och, mor ofnadwy yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, nad ocdd efe yn gweddio tros y byd, ac ynteu yn Iachawdr i'r byd, ac yn oen Duw yr hwn ſy'n dileu pechodau 'r byd, ac yn gweddio tros ei arteithwyr a'r rhai a'i croeſ-hoelient, ac etto 'r awrhon yn dieithro'r byd oddiwrth ei drugaredd! Oh nad yſtyriai y rhai bydol y pwngc yma yn vnig, ac ni fucheddent hwy, yn fy nhŷb i, mor ddiofn ac y maent!

53. A all neb, wrth hynny, ryfeddu pa ham y mae S. Paul yn gwaeddi mor ofalus arnom ni, Na fyddwch vn ddull â'r byd hwn, Rhuf. 12.2. A thrachefn, ar fod. i ni ymwadu ac ymwrthod a holl chwantau'r byd, Tit. 2.12. A all neb ryfeddu pa ham y mae S. Ioan, yr hwn a wyddai gyfrinach a meddwl ſanctaidd Chriſt yn y peth yma yn oreu o gwbl, yn dywedyd wrthym ni mor ddifrif, Na cherwch y byd, na'r pethau ſy yn y byd, 1 Ioh. 2.15. Ac oni allwn ni na charu 'r byd, na chymmaint â bod yn vn ddull ag ef, tan boen bod yn elynion i Dduw, ac yn euog o ddamnedigaeth dragywyddol, fel y dywetpwyd o'r blaen: pa beth a ddaw o'r dynion hynny ſydd nid yn vnig yn eu gwneuthur eu hunain yn vn ddull a'r byd, ac a'i orwagedd: ond hefyd yn ei ganlyn ef, ac yn ymgais ag ef, ac yn rhoi eu pwys arno, ac yn gwario eu holl boen a'i trafel arno.

54. Os gofynnwch chwi i mi yr achos pa ham y mae Chriſt yn caſau ac yn ffeiddio'r byd gymmaint, y mae S. Ioan yn dywedyd i chwi, mai am fod yr holl fyd yn gorwedd mewn drygioni; am fod yſpryd y byd yn wrthwyneb i yſpryd Chriſt, fel y dywetpwyd vchod; am ei fod yn dyſgu balchder, a gorwagclod, a chwant i anrhydedd, a chynfigen, a dial, a malais, a digrif-chwant y cnawd, a phob math ar orwagedd ac oferedd, 1 Ioan. 5.15. a Chriſt ynteu o'r gwrthwyneb yn dyſgu goſtyngeiddrwydd, a llariciddra, a maddeu i'n gelynion, a dirweſt, a diweirdeb, a hir-maros, a marweiddio'r corph a'i drachwantau, a dwyn y groes, a diyſtyru pob difyrrwch bydol; am fod y byd yn erlid y duwiol, ac yn mawrhau'r drygionus; am ei fod yn diwreiddio pob rhinwedd dda, ac yn plannu pob drwg; ac yn ddiweddaf, am ei fod yn cau'r dryſau yn erbyn Chriſt pan guro, ac yn tagu ac yn mygu'r galon y bo yn ei meddiannu, Datc. 3.20.

55. Ac am hynny, i ddibennu y rhan yma gan fod y byd hwn fel y mae, mor orwag ac mor ofer, mor dwyllodrus, ac mor beryglus; gan ei fod yn elyn cyfaddef i Griſt, a chwedi ei yſgymmuno a'i ddamno i bwll vffern; gan ei fod (fel y dyweid tad duwiol arall) yn arch trallod a thrafferth, yn yſgol gorwagedd, yn frawdle twyll, yn labyrinth pob amryfuſedd; gan nad yw ddim ond ynialwch diffrwyth, a maes carregog, a gwâl fawlyd, a garwfor tymmheſtlog; gan nad yw ond llwyn yn llawn drain, a gweirglodd yn llawn o nadroedd, a gardd dêg heb ddim ffrwyth ynddi, ac ogof yn llawn o ddreigiau gwenwynig angheuol; gan nad yw (fel y dangoſais) ond ffynnon pob gofid ac echrys, ac afon o ddagrau, a chwedl dychymmyg yn llawn ffug, a gwallgof ac ammwyll hyfryd; gan nad oes yn llawenydd y byd hwn, Ep. 39. (fel y dywaid S. Awſtin) ddim ond hyfrydwch a difyrrwch ffugiol gau, a gwir ârwder, a thriſtwch diammau, a phleſer petrus, a llafur blinedig, ac eſmwythdra ofnadwy, a gofid a thrueni tôſt, a gobaith ofer o ddedwyddyd; gan nad oes ganddo ddim ynddo,Ho. 22. ad Pop. Antioch: (fel y dywaid S. Ioan aurenau) ond wylofain, a chwilydd, ac edifeirwch, a gwradwydd, a phruddder, ac eſgeuluſdra, a llafur a lludded, a dychrynfaau, a chlefydau, a pechodau, ie, a marwolaeth ei hun; gan fod eſmwythder y byd yn llawn cyfyngder, a'i ddiogelwch heb ſail iddo, a'i ofn heb achos o hono, a'i lafur heb ffrwyth oddiwrtho, a'i driſtwch heb fudd oddiwrtho, a'i ddeiſyfiadau heb ffynniant, a'i obaith heb na thâl na gwobr am dano, a'i ofid a'i drueni heb help rhagddynt; gan fod y drygau hyn, a mil ychwaneg yntho, ac nas gellir cael yn dim twrn da oddiwrtho; pwy a adawai ei ſtommi â'r cyfryw hudoliaeth, a'i hudo â'r fath oferedd yn ôl hyn? Pwy a ad i gariad ar goegbeth mor ddiddim ac ydyw'r byd, ei rwyſtro oddiwrth ardderchog waſanaeth Duw? A hynny allai fod yn ddigon i wr rheſymol, i ddangos nad yw y rhwyſtr yma ond rhy wann i attal neb rhag gwaſanaethu Duw.

56. Ond etto, er mwyn cywiro fy addewid a wneuthum yn nechreuad y bennod hon, y mae gennyf air neu ddau etto, i ddangos pa fodd y mae i ni ochelyd perygl y byd hwn, a'i arfer a'i drin ef er llês a budd i ni ein hunain. Ac am y cyntaf, pa fodd y mae i ni ochelyd y peryglon, gan fod ynddo cymmaint o rwydau ac o faglau ac a ddywetpwyd o'r blaen; nid oes i ni vn ffordd i wneuthur hynny, ond gwneuthur fel y bydd yr adar yn gwneuthur i geiſio gochel maglau peryglus yr adarwr: hynny ydyw, ymddyrchafu i fynu i'r awyr, ac felly hedeg vwch law'r holl faglau. Gwaith ofer yw tanu rhwyd yngolwg perchen adain, a'r peth a all ehedeg, Dih. 1.17. Yr yſpiwyr aeth i Jericho, er maint o faglau a oſododd y gelynion iddynt, etto hwy a ddiangaſant rhag y cwbl am eu bod yn cerdded pennau 'r mynyddoedd medd yr Scrythur lan: ac ar hynny y mae Origen yn bwrw, pan yw yn dywedyd, nad oes vn ffordd i ochel peryglon y byd hwn, ond trwy rodio ar y mynyddoedd a chanlyn y prophwyd Dafydd, ſydd yn dywedyd, Derchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd o'r lle y daw fy nghymmorth; a'm handdiffyn; i geiſio gochel maglau'r byd hwn, Pſal. 121.1. ac yna y gallwn ddywedyd gyda'r vn Dafydd, Ein henaid a ddiangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr, Pſ. 124.7. Rhaid i ni ddywedyd gyda S. Paul, Ein hymarweddiad ni ſydd yn y nefoedd. Ac yna nid rhaid i ni ofni ond ychydig rhag dim twyll a pherygl ſydd ar y ddaiar, Phil. 3.20. Oblegid, fel nad oes dim gobaith gan yr adarwr y gall ddal yr aderyn, oni all ei hudo ef ryw fodd i ddiſgyn ar y ddaiar; felly nid oes modd yn y byd i'r cythraul i'n rhwydo ninnau, ond trwy ddwedyd wrthym ni fel y dywedodd wrth Ghriſt, Bwrw dy hun i lawr; ſef yw hynny, diſgyn ar yr abwyd a oſodais i ti: bwytta ac ŷf hwynt: bwrw dy ſerch arnynt: blyſia hwynt; a'r cyffelyb. Mat. 4.

57. Y ſawl a fynno ochel y tentaſiwn goleu yma, trwy ddiyſtyru hudoliaeth yr abwyd hwnnw: trwy chedeg troſtynt; trwy oſod cwbl o'i ſerch a'i feddwl ar fynyddoedd llawenydd nefol a thragywyddoldeb; fe fydd hawdd iddo ddiange oddiwrth bob perygl ac enbydrwydd. Yr oedd y brenhin Dafydd wedi myned trwyddynt hwy i gyd, pan ddywedodd efe wrth Dduw, Pa beth ſy gennifi yn y nefoedd onid tydi? a pha beth a ewyllyſiais ar y ddaiar gyda thydi? Pallodd fy nghnawd a'm calon o hiraeth am danat ti: Ti yw nerth fy nghalon a'm rhan (ô Dduw) yn dragywydd, Pſal. 73.25.

58. Yr oedd S. Paul ynteu wedi myned trwy'r holl beryglon hyn, pan ddywedodd efe ei fod ef wedi ei groeſ-hoelio i'r byd, a'r byd iddo ynteu, a'i fod yn cyfrif holl gyfoeth y byd hwn yn dom: ac er ei fod yn byw yn y cnawd, etto nad oedd efe yn byw yn ôl y cnawd. A phe dilynem ni yr eſampl ardderchog yma, trwy ddirmygu a diyſtyru gorwagedd ac oferedd y byd hwn, a goſod ein meddyliau ar ardderchog olud teyrnas Dduw, yr hon a ddaw; ni allai holl faglau'r cythraul ddim i'n herbyn ni yn y bywyd hwn, Gal. 6.14. Phil. 3.8. 2 Cor. 10.3.

59. Ynghylch yr ail pwngc, pa fodd y mae i ni arfer cyfoeth a golud y byd hwn er budd a mantais i ni ein hunain; y mae Chriſt wedi goſod y modd yn oleu gar ein bron ni, Gwnewch i chwi gyfeillion o'r golud anghyfion, Luc. 16.9. Fe allaſai'r glŵth goludog ddiange rhag ei boeni, a'i wneuthur ei hun yn wr dedwydd, trwy help ei olud bydol, pes mynnaſai; ac felly y gallai filoedd ac ſy yr awrhon yn fyw, ac a ant i vffern o achos eu golud. Och dduw na chymmerai ddynion rybudd, a bod yn gall, tra caffont amſer. Y mae S. Paul yn dywedyd, Na thwyllwch mo honoch eich hunain; y peth a hauo dyn, hynny a fed efe, Gal. 6.7. Pa gynhauaf cnydfawr wrth hynny, a allai wyr cyfoethogion ei ddarparu iddynt eu hunain, pes mynnent, a hwythau a chymmaint ô hâd ganddynt, a chymmaint o dir i'w hau ynddo yr ydys yn ei gynnyg iddynt bennydd? Pa ham na feddyliant hwy am yr byfrydgân gynhauaf yma? Deuwch chwi fendigedigion fy Nhâd, etifeddwch y deyrnas a barottowyd i chwi; canys mi a fum newynog, a chwi a roeſoch i mi fwyd, mi a fum ſychedig a chwi a roeſoch i mi ddiod: mi a fum yn noeth, a chwi a'm dilladaſoch i, Mat. 25.34. Ac onid oes ganthynt fatter am hynny, pa ham nad ydynt hwy yn ofni y farn ofnadwy a gyhoeddir yn eu herbyn am y gwrthwyneb; Iddo 'n awr, chwi gyfoethogion, wylwch ac vdwch am eich trueni ſydd yn dyfod arnoch? Jac. 5.1.

60. Y mae 'r Tad duwiol Ioan o Ddamaſcus yn adrodd dammeg o'r eiddo Barlaam, i'r perwyl yma. Yr oedd rhyw ddinas neu wlad, medd efe, lle'r arferai'r bobl o ddewis brenhin arnynt of fyſg y rhai tlottaf o'r bobl, a'i ddyrchafael i anrhydedd mawr, a golud, a hyfrydwch tros amfer; ond yn ôl ennyd o amſer, pan flinent arno, eu harfer oedd gyfodi yn ei erbyn a'i yſpeilio am ei holl ddedwyddwch hyd yn oed y dillad oddiam ei gefn, ac felly i yrru ef yn wr deol i ynys mewn gwlad bell; lle byddai raid iddo, gan na chai ddwyn dim gydag ef, fyw mewn trueni ac adfyd mawr, ac mewn caethiwed tôſt yn dragywydd. A rhyw vn o'r brenhinoedd hynny ryw amſer a yſtyriodd yr arfer honno, (oblegid y lleill i gyd, er eu bod yn gwybod yr arfer, er hynny o herwydd eu heſgeuluſdra a'i hyfrydwch preſennol, ni wnaethant ddeunydd yn y byd o honi) a thrwy gyngor da, a fu ofalus am ochel y trueni a'r adfyd hwnnw, ac a wnaeth yn y modd yma: Efe a arbedodd ſwmm mawr o arian beunydd allan o'i ormodedd a'i oferdraul, ac felly a yrrodd dryſor mawr yn ddirgel o'i flaen, i'r ynys yr oedd efe beunydd mewn perygl o gael ei yrru iddi. A phan ddaeth yr amſer y bwriaſant hwy ef allan o'i deyrnas, a'i droi ymmaith yn noeth, fel y gwnaethent â'r llaill o'r blaen; efe a aeth i'r ynys honno yn llawen iawn ac yn hyderus, lle yr oedd ei dryſſor ef wedi ei yrru o'r blaen, ac a gaſodd ei dderbyn yno mewn gorfoledd mawr, a'i oſod yn y man mewn mwy o ogoniant a pharch nag y bu ••• i ynddo erioed o'r blaen.

61. Y mae 'r ddammeg ymma yn tynnu yn agos at yr hon a adroddodd Chriſt am y goruchwiliwr drwg afradlon, ac y mae yn dyſgu i ni gymmaint ac fy raid ei ddywedyd ar hyn o amſer yn y pwngc yma. Oblegid, y ddinas neu'r wlad hono yw'r byd preſenol hwn, yr hwn ſydd yn codi rhai tlodion i awdurdod; ſef yw hynny, cyfryw rai ac a ddaethant yn noethion i'r bywyd yma, ac ſydd yn ddiſymwth, pan font yn meddwl leiaf am hynny, yn cael eu tynnu i lawr drachefn, a'i gyrru yn noethion iw beddau, ac felly eu danfon i fyd arall, lle ni chant ond ychydig ffafor, oni ddygant dryſſor gyda hwynt, call ſydd yn darparu ym mlaen llaw rhac y gofid hwnnw, yw'r hwn, yn ôl cyngor Chriſt, ſydd yn gwneuthur ei oreu ar ro tryſſor i gadw yn y nef erbyn dydd ei farwolaeth, pan fo dir iddo gael ei ddeol oddiyma yn noeth, fel y gwnaed â holl frenhinoedd y wlad honno: a'r amſer hynny, os eu gweithredoedd da fydd yn eu canlyn (fel y mae Duw yn addaw) yna y byddant hwy ddynion happus, ac y goſodir hwy mewn mwy o ogoniant o lawer, nag a allodd y byd erioed i roi iddynt. Ond os hwy a ddoant heb olew yn eu lampau, nid oes iddynt ddim iw ddiſgwyl ond, Nid adwaen i mo honoch: a phan adwaener hwynt, Ewch felldigedig i'r tân tragwyddol. Datc. 14.13. Mat. 25.

PEN. IV. Am y pedwerydd rhwyſtr, yr hwn yw gormodd hyderu ar drugaredd Duw.

Y Mae rhyw fath ar ddynion yn y byd, y rhai ni chymmerant ddim poen i feddwl am y rhwyſtrau o'r blaen, nac i'w hadrodd; ond ſydd ganddynt lwybr byrrach, ac eſmwythach yn en tŷb hwy; a hwnnw yw, rhoi ewbl o'r peth ar gefn Chriſt, ac atteb i ba beth bynnac a ddyweder wrthynt, a'r vn ymadrodd hwn, Y mae Duw yn drugarog. Rhag y gwŷr hyn y gall Chriſt achwyn gyd a'r Prophwyd a dywedyd, Y pechaduriaid a adeiladaſant ar fy nghefn i ac a yſtynnaſant en hanwiredd, Pſal. 129.3. Lat. Wrth y geiriau hynny y gallwn ni weled bwrw arnom ni mai adeiladu ar geſn Duw yr ydym, wrth yſtyn ein hanwireddau trwy obeithio cael trugaredd gan Dduw. Ond beth ſy'n canlyn? A ddioddef Duw hynny? Na wna ddim: Oblegid dyma 'r geiriau ſyn 'n canlyn neſſaf, Yr Arglwydd cyſiawn a dyrr yddfau pechaduriaid. Ac yn y geiriau hynny y mae dau ddrwg ddamwain gwrthwyneb i'r ddau eſmwythdyb o'r blaen. A oes yn dy fryd di oh ddyn, yſtyn dy anwiredd, a pharhau yn dy bechod o herwydd bod Duw yn drugarog? Cofia ei fod ef yn gyfiawn hefyd, medd y Prophwyd. Wyt ti wedi myned ar gefn Duw, i wneuthur yno dy nŷth i bechu? Ymogel; oblegid ef a'th dynn di i lawr drachefn, ac a dyrr dy wddf di, oni edifarhei di: oblegid mewn gwirionedd, ni ellir gwneuthur mwy cam â Duw na dywedyd mai efe yw ſail ein drwg fywyd ni a'n pechod, ac ynten wedi colli ei fywyd ei hun er mwyn diffodd pechod.

2. Ond chwi a ddywedwch; Onid ydyw Duw wrth hynny yn drugarog? Ydyw yn wir (frawd anwyl) y mae Duw yn dra thrugarog, or fath drugaroccaf, ac nid oes na diben na meſur ar ei drugaredd ef. Trugaredd ei human ydyw efe; ei naturiaeth ef ai hanfood yw trugaredd, ac ni all efe beidio a bod yn drugarog, mwy na pheidio a bod yn Dduw. Ond er hynny, fel y dywed y Prophwyd o'r blaen, y mae efe yn gyfiawn hefyd. Ni waſanaetha i ni feddwl cymmaint am ei drugaredd ef a gollwng ei gyfiawnder ef yn angof. Y mae ein Harglwydd ni yn ddaionus ac yn fwynaidd, ond er hynny y mae efe yn vnion ac yn gyfiawn hefyd, medd Dafydd: ac yn yr vn man, Holl lwybrau'r Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionded. Ac wrth eſponi y geiriau hyn,Ser. 52. parnorum. y mae Bernard dduwiol mewn rhyw bregeth, yn dywedyd fel hyn; Y mae dau droed i'r Arglwydd, ac â'r rhei'ny y mae efe yn cerdded ei ffyrdd; a'r ddeudroed hynny yw trugaredd a gwirionedd; ac y mae Duw yn goſod y ddeudroed hyn ar galonnau y rhai a ymchwelant atto ef, ac y mae yn rhaid i bob pechadur a dro yn ddiffuant at yr Arglwydd, ymaflyd yn dynn yn y ddeudroed yma. Oblegid pe mewn trugaredd yn vnig yr ymaflai efe, a gadael heibio wirionedd a chyfiawnder, ef a ai i golledigaeth trwy ormodd hyder: ac o'r tu arall, ped ymaflai ef mewn cyfiawnder yn vnig, heb drugaredd; efe a ai i golledigaeth trwy anobaith. Am hynny, i gael bod yn gadwedig, y mae yn rhaid iddo gwympo i lawr yn oſtyngedig, a chuſanu'r ddeudroed hyn; fel y gallo, o achos cyfiawnder Duw, ddal ofn gantho; ac o achos ei drugaredd ef, gymmeryd gobaith. Ac mewn mann arall y dywaid, Dedwydd yw'r enaid y goſododd yr Arglwydd Jeſu Griſt ei ddeudroed arno.Ser. 6. in Cant. Ni chanaf i ti farn yn vnig, na thrugaredd chwaith yn vnig, (oh fy Nuw) ond mi a ganaf i ti gydâ'r Prophwyd Dafydd, drugaredd a barn ynghyd: ac nid anghofiaf byth dy gyfiawnderau hynny, Pſal. 101.1.

3. Y mae Sainct Awſtin yn trin y pwngc yma yn dra godidog mewn amryw fannau o'i waith. Yſtyried y rhai ſy yn hoffi trugaredd a mwyneidd-dra'r Arglwydd yn gymmaint, yſtyriant, meddaf ac ofnant ei gyfiawn de •• ef hefyd. Oblegid fel y dywaid y Prophwyd, y mae Duw yn fwynaidd ac yn gyfiawn, Pſal. 25.10. Pſal. 145.17. Ai da gennyti ei fod ef yn fwynaidd? Ofna hefyd ei fod yn gyfiawn. Megis Arglwydd mwynaidd y dywedodd efe, Mi a dewais â ſôon wrth eich pechodau chwi; ond megis Arglwydd cyfiawn y dywaid ef, Y dych chwi yn tybiaid y tawafi byth, Pſa. 50.21. Y mae Duw yn drugarog ac yn llawn trugaredd, meddwch chwi; a ſiccr iawn yw hynny; ie, ac yn anghwaneg i hynny, y mae ef yn cyd-ddwyn yn hir, ac yn ymarhous: ond er hynny, ofnwch yr hyn ſy yn niwedd y wers honno, Et verax, ſef yw hynny, y mae efe yn vnion ac yn gyfion hefyd. Y mae dau beth y mae ar bechaduriaid berygl oddiwrthynt; y naill, rhag gobeithio gormodd, yr hyn yw gormodd hyder; a'r llall, rhag gobeithio rhy fychan, yr hyn yw anobaith. A phwy yw'r hwn a dwyllir trwy obeithio gormodd? yr hwn ſy'n dywedyd wrtho ei hun, Y mae Duw yn Ddaw daionus, ac yn Dduw trugarog; ac am hynny mi a wna'r peth a fynnwyf fy hun. A pha ham hynny? Amfod Duw yu Dduw trugarog, yn Dduw daionus ac yn Dduw addfwyn rhywiogaidd. Y rhai hyn ſydd mewn perygl wrth obeithio gormodd. A phwy yw y rhai ſy mewn perygl trwy anobaith, a gobeithio rhy fychan? Y rahi ſy'n gweled eu pechodau vn doſt ac yn orthrwm, ac yn tybieid fod yn ammhoſſibl iddynt bellach gael maddeuant, ac am hynny a ddywedant ynddynt eu hunain, wele, gan ein bod ni yn golledig, ac yn rhaid i ni fyned i vffern, pan waeth i ni er gwneuthur y peth a fynnom yn y bywyd yma? Y rhai hyn y mae anobaith ac anhyder yn eu llâdd, a'r llaill y mae gobaith a gormodd hyder yn eu diſtrywio. Pa beth gan hynny y mae Duw yn ei wneuthur i geiſio ynnill y ddeufath hyn? wrth yr hwn ſy mewn perygl trwy obeithio gormodd y dywaid, Na ddywed ynot dy hun, Mawr yw trugaredd Duw: ef a faddeu lioſowgrwydd fy mhechodau i, oblegid y mae trugaredd a digofaint yn dyfod oddiwrtho ef, a'i ddigofaint ef a orphywys ar bechaduriaid, Eccleſ. 5.6. Ac wrth yr hwn ſy mewn perygl o herwydd anobaith a gormodd hyder, y dywaid, Pa bryd bynnag y bo 'n edifar gan bechadur ei bechod, mi a ollyng af dros gôf ei holl anwiredd ef, medd yr Arglwydd, Ezec. 18.21, 22.Tract. 33. in Joan. A hyd yma y mae geiriau Sainct Awſtin, heb law llawer ychwaneg y mae ef yn ei ddywedyd yn y fan honno, ynghylch mawr berygl ac ynfydrwydd y rhai ſy o hyder ar drugaredd Duw yn parhau mewn buchedd annuwiol.

4. Rheſwm gwan ac anrheſymol iawn, yw dywedyd, O herwydd bod Duw yn drugarog, ac yn hirymarhous, am hynny mi a gamarferaf ei drugaredd ef, ac a barhâaf yn fy annuwioldeb. Nid felly y mae'r Scrythur lân yn dyſgu i ni ymreſymmu, ond yn y gwrthwyneb yn vnion: fef fal hyn Y mae Duw yn drugarog, ac yn diſgwyl i mi droi atto; a pho hwyaf y mae efe yn diſgwyl wrthyfi, toſtaf fydd ei ddial a'i goſpedigaeth ef pan ddelo, os myfi a eſgeuluſaf ei ddioddefgarwch ef: ac am hynny mi a ddylwn yn ddiattreg dderbyn a chroeſawu ei drugaredd ef. Felly mae Sainct Paul yn ymreſymmu, ac yn dywedyd. Wyt ti yn diyſtyru glud ei ddaioni ef, a'i ddioddefgarwch, a'i ymaros? Oni wyddoſt ti fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch? Ond yr wyt ti trwy dy galedrwydd a'th galon ddiedifeiriol, yn tryſori i ni dy hun ddigofaint, erbyn dydd y digofaint, a ddatguddiad cyfiawn farn Duw, Rhuf. 2.4, 5. Yn y geiriau hyn y mae Sainct Paul yn arwyddoccau mai po hwyaf y dioddefo Duw trwy ei hirymaros, i ni fyw yn ein hannuwioldeb, mwy yw'r pentwr dial y mae efe yn ei gaſglu ynghyd i'n herbyn ni, os ni a barhawn yn gyndynniog yn ein pechodau. A chydâ hyn y mae Sainct Awſtin yn yſtyried peth arall ofnadwy ac arſwydus iawn; a hynny yw, Os cynnyg ef i ti râs heddiw medd Sainct Awſtin ni wyddoſt ti pa vn a wna efe ai ei gynnyg i ti yforu, ai nas gwna.Fract. 33, in Joan. Os rhydd ef i ti dy hoedl a'th gôf yr wythnos yma, ni wyddoſt ti pa vn a wnai ai cael ei fwynhau yr wythnos neſaf, ai nas cai.

5. Y mae 'r Prophwyd ſanctaidd wrth ddechren 'r Drydydd Pſalm ar ddeg a thriugain, lle mae efe yn dangos mor beryglus yw llwyddiant y rhai annuwiol; megis yn rhyfedd gantho, yn y geirian, Ob, Mor ddaionus yw Duw i Iſracl, ſef i'r rhai glan o galon, Pſal. 73.1. ac etto yn yr holl Pſalm nid yw efe yn gwneuthur dim ond dangos mor doſt yw cyfiawnder Duw yn erbyn yr annuwiol, hyd yn oed yr amfer y bo efe yn rhoi iddynt fwyaf llwyddiant a golud bydol: ac fel hyn y mae efe yn diweddu, Wele, difethir y rhai a bellâant oddiwrthyt: torraiſt ymmaith bob vn a butteinin oddiwrthyt, Gwerſ. 27. Wrth yr hyn yr arwyddocceir, er daied fyddo Duw wrth y cyfiawn, etto nad yw hynny ddim ymwared i'r annuwiol, gan fod yn ddir iddynt dderbyn dial cyfiawn ar ei law ef, ynghanol y trugare ddau mwyaf a ddangoſer i r rhai Duwiol. Y. mar llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyſiawn (medd yr vn Prophwyd) a'i gluſtian yn agored i'w llefain hwynt: and y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa hwy oddiar y ddaiar, Pſal. 34.15.

6. Hen arfer prophwydi twyllodrus (yr hon a wrthwynebai Brophwydi Duw â'i holl egni) oedd lefain, Heddwch heddwch, wrth yr annuwiol: ie yr amſer nad oeddid yn amcanu dim iddynt, ond perygl, a chleddyf, a diſtryw, fel yr oedd y gwir Brophwydi yn dywedyd iddynt, ac fel y digwyddodd, Jer. 6.14. Am hynny y mae 'r Prophwyd Dafydd yn rhoi i ni reol odidog ſicer ddiammau, i lywodraethu ein gobaith a'n hyder â hi, Aberthwch ebyrth cyfiawnder, a gobeithiwch yn yr Arglwydd, Pſal. 4.5. Ac a hynny y cyttuna Sainct IO. AN, pan yw yn dywedyd, Os ein calon a'n cydwybod ni 'n condemna am ein drwg fuchedd, y mae gennym hyder ar Dduw: fel pe dywedai vn, Os ein calon a fydd euog o fuchedd ddrwg annuwiol, a niunau wedi rhoi ein bryd ar barhau ynddi; yna ofer fydd i ni hyderu ar drugaredd Duw, a ninnau yn rhwym i gyfiawn farn Duw am ein hannuwioldeb. 1 Ioan. 3.21.

7. Y mae yn dra rhyfedd ac yn ofnadwy iawn yſtyried, fel yr ymddug. Duw tu ac at ei garedigion euaf yn y byd, pan wnaent yn ei erbyn ef trwy bechu; mor hawdd y newidiai ef ei wynebpryd; mor fuan yr ymadawodd a'i cyfeillach; mor fanwl y cyfriſodd a hwynt; ac mor dôſt y coſpodd efe hwynt. Yr Angylion, y rhai a dangoſaſai efe cymmaint gofal a chariad yn eu creu, ac i'r rhai y rhoeſai gynnifer o freiniau arbennig, o bob math ar berffeithrwydd, hyd oni wnaeth efe hwynt agos yn Dduwiau; ni wnaethant hwy ond vn pechod, Balchder, yn erbyn ei fawredd ef, a hynny ar feddwl yn vnig, fel y tybia'r deſeinwyr; ae etto yn y man fe droed yr holl ewyllys da a'r cariad hwnnw yn gyſiawnder, a hynny cyn doſted, ac y taſlwyd hwy i lawr i boenau tragywyddol heb brynedigaeth, mewn cadwynau tragywydd, i ddioddef angerdd tân vffern, a thywyllwch annioddef. 2 Pet. 2.4.

8. Wedi hynny fe wnaeth Daw iddo ei hun gyfaill arall ogig a gwaed, yr hwn oedd ein tâd Addaf, ac a roes hwnnw ym mharadwys, lle'r oedd Duw megis yn cyttal ag ef, mor gariadus gyfeillgar, ac y mae'n dra rhyfedd ei yſtyried: efe a alwai arno, ac a chwedleuai ag ef, ac a wnaeth holl greaduriaid y byd yn ddaroſtyngedig iddo; ef a'i dug hwy i gyd ger ei fron ef, fel y byddei iddo ef ac nid i Dduw, roi henwau arnynt hwy: ef a wnaeth iddo gymmar a phriod, ac a'i bendithiodd hwy ill dau; ac a ddangoſodd bob arwydd o'i gariad tu ac atto, ac a allai fod. Ond beth a ddaeth ar ol hyn? Ni wnaeth Addaf ond vn pechod, a hwnnw trwy annog vn arall, ac heb fod o bwys mawr mo hono, fel y tybiai reſwm dyn; dim ond bwytta o ffrwyth y pren gwaharddedig, ac etto er cynted y gwnaeth efe hwnnw, fe dorrodd cwbl o'r gyfeillach rhwng Duw ag ef, ac ef a wthiwyd allan o Baradwys, ac a ddamniwyd i ofid ac echrys tragywyddol a'i holl hiliogaeth i golledigaeth tragywyddol, ac ynteu hefyd, oni buaſai iddo edifarhau. Ac mor doſt y cyflawnir y farn honno, y mae yn ddigon amlwg wrth fod aneirif riallu o bobl, ſef holl genedl dyn, yn cael am y pechod hwnnw eu taflu i lawr i anhydraeth boenau vffern: ond yn vnig yr ychydig hynny a brynwyd wedi hynny trwy ddyfodiad Mab Duw ei hun, yr ail berſon yn y drindod, i wared o'r nef, i gymmeryd ryd cnawd dyn arno; a thrwy ei ddioddefaint annrhaethadwy ef a'i farwolaeth yn y cnawd hwnnw.

9. Yr oedd Moyſen ac Aaron, dau ryfeddod y byd, mewn awdurdod oruchel a ffafor gyda Daw; yn gymmaint ac y gallent hwy gael pethau mawrion ar ei law ef iddynion eraill: ac etto pan ddigiaſant hwy Dduw vnwaith eu hunain wrth ddyfroedd y gynnen yn anialwch Sin, am iddynt ammeu ychydig am y gwrthiau a addawſai Duw iddynt, ac felly dianrhydeddu ei fawredd of gar bron y bobl, fel y mae efe yn dywedyd; hwy a geryddwyd yn y man yn llyoun am hynny; ac er iddynt edifarhau o'i calonnau am y pechod hwnnw, ac felly cael maddeuant am y bai ar euogrwydd, etto fe roed arnynt goſpedigaeth drom am dano: a hynny oedd, na chaent hwy eu hunain fyned i mewn i wlâd yr addewid, ond bod yn rhaid iddynt farw pan ddoent o few golwg iddi. Ac er iddynt ymbil â Duw yn daer ac yn ddifrif am gael maddeu 'r penyd hwnnw, etto ni fedrent mewn vn modd gael maddeuant ar ei law ef, ond efe ai hattebai hwy bob amſer, Gan i chwi fy nianrhydeddu i ger bron y bobl, chwi a fyddwch feirw o'r achos, ac ni chewch chwi fyned i mewn i wlad yr addewid. Deut. 32.50, 51.

10. Ond mawr oedd ſſaſor Saul gydâ Duw, pan ddewiſodd efe ef i fod yn frenhin cyntaf ar ei bobl; a pheri i Samwel y Prophwyd ei anrhydeddu ef yn gymmaint, a'i enneinio ef yn dywyſog ar etifeddiaeth Duw ei hun, fel y mae efe yn ei galw hi? pan ganmolodd ef yn gymmaint, a chymmeryd gofal mor ddichlyn troſto? Ac etto wedi hynny, am iddo dorri gorchymmyn Duw, trwy gadw peth o anrhaith y rhyfel yr hyn a ddylaſai efe ei ddiſtrywio; ie, er iddo eu cadw i wneuthur aberth i Dduw, fel y oedd efe yn cymmeryd arno: er hynny fe a'i rhoddes Duw of heibio yn y man, ac efe a ddifreiniwyd o'i anrhydedd, ac a roddwyd i fynu i yſpryd drwg, ac a dducpwyd i aneirif o ofidiau ac aflwydd, er iddo ymdaro tros amſer, ac o'r diwedd a wrthodwyd gan Dduw cyn belled, ac y bu iddo ei lâdd ei hun; ei feibion ef a groeſ-hoeliwyd neu a grogwyd wrth bren croes gan ei elynion; a'i holl deulu a' heppil a diffoddwyd yn dragywydd, 1 Sam. 15. & 16.1 Sam. 31. 2 Sam. 21.6.

11. Yr oedd Dafydd yn gyfaill etholedig i Dduw, ac yn hôff ganddo, ac yn cael yr enw parchedig yma, ſef ei fod yn gyfryw vn ac oedd wrth fodd calon Duw. Ond etto er cynted ac y pechodd ef, fe ddanfonwyd y Prophwyd Nathan i ddatgan ac i gyhoeddi trwm ddigofaint Duw, a choſpedigaeth arno ef, 2 Sam. 12. Ac felly y bu, er iddo ymofidio, a'i ddaroſtwng ei hun yn ddirfawr am y pechod a wnaethai, Pſal. 51. fel y gwelir wrth ei waith ef yn ymprydio, ac yn gweddio, ac yn wylofain, ac yn gwiſgo ſach-liain, ac yn bwytta lludw, a'r cyffelyb. Wrth yr hyn y mae'n amlwg, fod cyfiawnder Duw tu ac at y rhai ſy 'n gwneuthur yn ei erbyn, yn gymmaint ac yw ei drugaredd ef tu ac at y rhai ſy'n ei ofni.

12. Y mae 'r Scrythur lân yn llawn eſamplau i'r defnydd yma, megis gwrthod Cain a'i droi ymmaith yn y man ar ol llâdd ei frawd, Boddi 'r holl fyd yn doſturus yn amſer Noah; y difaedd ofnadwy a ddaeth ar Sodom a Gomorrah, a'r dinaſoedd o'i hamgylch trwy dan a brwmſtan; Bwrw Core, Dathan ac Abiram yn fyw i vffern, a llâdd deucant a deg a deugain o'r rhai a lynaſai wrthynt, a llawer mil o'r bobl heb law hynny, am fod yn wrthryfelgar yn erbyn Moyſen ac Aaron: Lladd Nadab ac Abihu meibion Aaron, ac offeiriaid etholedig mor ddiſymwth, am offrwm tân dieithr ar yr allor vnwaith: Taro Ananias a Sappheira mor ofnadwy am ddarnguddio peth o werth eu da eu hun trwy dwyll, oddiwrth yr Apoſtolion: a llawer eraill o'r cyfryw eſamplau, y rhai y mae 'r Scrythur lân yn eu hadrodd, Gen. 4. 8.18. & 19. Num. 16. Levit. 10. Act. 5.

13. Ac er bod yn ddigon amlwg wrth yr holl eſamplau o'r blaen (yn y rhai y gwelwch mor doſt yw pob vn o'r coſpedigaethau) mor ddirfing yw cyfiawnder Duw, a thrymmed yw ei law ef pan ddiſgyuno arnom ni; etto mi a addroddaf vn ychwaneg o weithredoedd Duw, allan o'r Scrythur lân, yr hon ſydd yn egluro hynny yn rhyfeddol iawn. Fe wyddys yn dda mai Benjamin oedd y cuaf gan ei dad, o holl blant Jacob, fel y mae 'n amlwg yn llyfr Geneſis, Gen. 42. & 43. ac am hynny yr oedd efe yn fawr gyda Duw, ac y goſodwyd ei lwyth ef yn y rhan orau o holl wlad yr addewid, pan rannwyd hi rhwng y deuddegllwyth, ac yr oedd yn y rhan honno Jeruſalem, a Jericho, a'r dinaſoedd goreu heb law hynny, Ioſ. 18. Etto er hynny i gyd, am vn pechod yn vnig, a wnaeth rhai o'r bobl gyffredin, ar wraig y leſiad; fe goſpodd Duw yr holl lwyth yn y modd a'r dreſn yma, fel y mae 'r Scrythur lan yn ei adrodd. Fe wnaeth i gwbl o'r vnllwyth ar ddeg eraill gyfodi yn eu herbyn hwy; a dyfod yn gyntaf i dŷ Dduw yn Silo, i ymgynghori ag ef, ac i wneuthur a archai ef yn y rhyfel honno yn erbyn eu brodyr: ac yna wedi iddynt hwy trwy archiad Duw ymladd dau faes a llwyth Benjamin, y trydydd dydd fe roes Duw iddynt orfodaeth cymmaint, ac y lladdaſant hwy bob peth byw o fewn y llwyth hwnnw, ond chwechant o wyr yn vnig, y rhai a ddiangodd ymaith i'r anialwch; a chwbl o'r llaill a ladded, yn wr, ac yn wraig, yn ddyn bach, ac yn blentyn ſugno, ynghyd a'r holl anifeiliaid a'r yſcrubliaid; a'r holl ddinaſoedd, a'r trefi, a'r tai, a loſgwyd a thân. A hyn i gyd am vn pechod a wnaed vnwaith yn vnig, a hynny gydag vn wraig, Barn 20.

14. A phwy wrth hynny ni chyfaddef gyda Moyſen, fod Duw yn Dduw cyfiawn, yn Dduw mawr, ac yn Dduw ofnadwy? Pwy ni chyfaddef gyda S. Paul, Mai peth of nadwy ydyw ſyrthio yn nwylo 'r Duw byw, Heb. 10.31. Pwy ni ddywaid gyda Dafydd ſanct Mi a ddychrynais rhag dy farnedigaethau, Pſal. 119.120. Onid arbedai Dduw ddiſtrywo 'r holl lwyth, am vn pechod yn vnig; oni faddeuai ef i Core, Dathan ac Abiram tros vnwaith; ac i feibion Aaron tros vnwaith; ac i Ananias a Sappheira tros vnwaith: oni faddeuai efe i Eſau, er iddo wedi hynny geiſio 'r fendith trwy ddagrau, fel y dywaid yr Apoſtol: Oni faddeuai efe goſpedigaeth vn pechod i Foeſen ac Aaron, er iddynt ei ofyn yn daer; oni faddeuai efe vn balch-feddwl i'r angylion; nac i Addaf fwytta vnwaith ô ffrwyth y pren gwaharddedig, heb goſpedigaeth fawr; na gillwng y ewppan digofaint heibio i'w fab ei hun, er iddo ei ddymuno deirgwaith ar ei liniau, trwy chwyſu 'r gwaed; pa reſwm ſy gennyt ti feddwl y gad ef dy bechodau di heb goſpi, a hwythau gyn amled? Oes i ti achos yn y byd i feddwl y bydd efe cyſtal wrthyt ti, ac y paid ef a'i gyfiawnder er dy fwyn di? wyt ti yn wellgwr na 'r rhai a henwais i? Oes gennytti ragorfraint yn y byd oddiwrth Dduw, amgen nac oedd ganddynt hwy.

15. Ped yſtyrit ti pa bethau eu maint a'i dieithred y mae cyfiawnder Duw yn eu dwyn i ben, fel y gwelwn ni beunydd yn y byd; ni byddai i ti ond ychydig achos i dybieid y cait ti cymmaint o ffafor gan Dduw, nac i wenhieithio i ti dy hun mor beryglus ac yr wyt ti. Yr ydym ni yn gweled er maint trugaredd Duw, ac er dioddef a marw o Griſt ein lachawdr er mwyncadw 'r holl fyd; er hynny fod cynnifer myrddiwn o'r byd yn golledig beunydd, wrth gyfiawnder Duw; a chynnifer o rai anghredadwy, a chenedl-ddynion, ac Iuddewon, a Thurciaid, yn aros yn nhywyllwch eu hanwybodaeth eu hun: ac ym mhlith Chriſtianogion cynnifer naill ai heb gadw eu proffeſſ yn vnion ac yn gywir, ai yn byw yn ddrwgfucheddol yn eu proffeſſ, fel mai gwir yw yr hyn a ddy wedodd Chriſt, mai ychydig fyddai y rhai a fydd cadwedig; er darfod talu ei farwolaeth ef tros bawb, oni byddai iddynt hwy eu gwneuthur eu hunain yn annheilwng o honi, Mat. 7.14. Ac ym mlaen dyfodiad ein Iachawdr, mwy o lawer y gwelwn ni fod yr noll fyd yn myned ar ŵyr i golledigaeth tros lawer mil o flynyddoedd ynghyd; oddieithr ychydig Iuddewon, y rhai oedd bobl Dduw. Ac etto yn eu plith hwythau hefyd, yr oedd y rhan fwyaf, (hyd y mae 'n gyffelyb) heb fod yn gadwedig, fel y gellir gwybod amcan wrth yr hyn a ddywaid y Prophwydi o amſer i amſer, Eſay 9.27. ac yn enwedig wrth yr hyn a ddywedodd Chriſt wrth y Phariſaeaid, ac eraill o lywodraethwyr y bobl hynny. Am hynny ynteu, os gallai Dduw, er mwyn cyflawni ei gyfiawnder, adael i gynnifer myrddiwn o bobl fyned i golledigaeth trwy eu pechodau eu hun, fel y mae efe yn gadael beunydd etto; a hynny heb dorr nac argywedd yn y byd ar ei drugaredd; pa ham nas gall efe hefyd dy ddamnio di am dy bechodau, er maint ei drugaredd, a thitheu nid yn vnig yn eu gwneuthur hwy yn ddiofn ddiarſwyd, ond hefyd yn parhau yn rhyfygus yn dy bechodau?

16. Ond yma y gall vn ddywedyd, Os felly y mae, fod Duw mor doſt wrth goſpi pob pechod, a'i fod yn damnio llawer mil am vn y mae yn ei gadw; pa fodd y mae yn wir, Fod ei drugaredd ef goruch ei holl weithredoedd, fel y dywaid yr Scrythur lân; a bod Trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn, ac yn rhagori arni, Pſal. 145.9. Iac. 2.13. Oblegid os yw rhifedi y rhai damnedig yn rhagori cymmaint ar rifedi y rhai cadwedig, y mae 'n gyffelyb fod gweithredoedd cyfiawnder yn rhagori ar weithredoedd Trugaredd. I hynny yr attebaf, na allwn ni ammeu dim ynghylch lleied rhifedi y rhai cadwedig, ac anfeidrol rifedi y rhai colledig: oblegid, heb law 'r holl Brophwydi eraill, y mae ein lachawdr Chriſt wedi gwneuthur hynny yn ddigon ſiccr ddiammau, Mat. 7.14. Am hynny mae 'n rhaid i ni edrych, pa fodd, er hynny i gyd y mae Trugaredd Duw yn rhagori ar ei holl weithred oedd eraill ef.

17. Ac yn gyntaf, fe ellir dywedyd bod ei drugaredd ef yn rhagori, oblegid bod ein holl gadwedigaeth ni yn dyfod i ni o'i drugaredd ef, a'n colledigaeth oddiwrthym ein hunain; oblegid dyna ddau brif achos pob vn o'r ddau; yn ol yr hyn a ddywed Duw trwy 'r Prophwyd, Dy golledigaeth di, o Iſrael, ſydd o honot dy hun, ond ynofi y mae dy gymmorth i wneuthur daioni, Hoſ. 13.9. Megis fel y mae 'n rhaid i ni gydnabod mai grâs Duw a'i drugaredd yw awdur pob meddwl da ynom ni, a phob gweithred dda a wnelom ni, ac wrth hynny bod yn rhaid i ni gyfaddef mai o hono ef y mae cwbl o'n lechydwriaeth ni: felly nid oes yr vn o'n drwg weithredoedd ni, o herwydd y rhai 'r ydym ni 'n golledig, yn dyfod o hono ef, ond yn vnig o honom ni ein hunain; ac felly nid ydyw efe achos yn y byd o'n colledigaeth ni. Ac yn hyn y mae ei drugaredd ef yn rhagori ar ei gyfiawnder.

18. Yn ail, y mae ei drugaredd ef yn rhagori, o herwydd ei fod ef yn ewyllyſio bod pob dyn yn gadwedig, fel y dywaid S. Paul, 1 Tim. 2.4. ac y mae ynteu ei hun yn tyſtiolaethu, gan ddywedyd, Nid wyfi yn ewyllyſio marwolaeth pechadur, ond yn hytrach troi o hono oddiwrth ei anwiredd, a byw. A thrachefn trwy 'r vn Prophwyd, y mae efe yn cwyno yn doſt, nad yw dynion yn derbyn ei drugaredd ef, pan y cynnygier iddynt, Dychwelwch, dychwelwch oddiwrth eich ffyrdd drygionus: canys, pa ham y byddwch feirw tŷ Iſrael, Ezec. 33.11. wrth yr hyn y mae 'n amlwg ei ſod ef yn cynnyg ei drugaredd yn dra ewyllyſgar ac yn rhad i bawb; ac nad yw yn arfer ei gyſiawnder ond pan fo gwir anghenrhaid, a phan fo ein hymarweddiad cildynnus ni megis yn ei gymmell ef. Hyn y mae Chriſt yn ei ddangos yn oleuach, pan yw yn dywedyd wrth Ieruſa em, O Ieruſalem, Ieruſalem, yr hon wyt yn lladd y Prophwydi, ac yn llabyddio y rhai a ddanfonir attat, pa ſawl gwaith y mynnaſwn gaſglu dy blant ynghyd, megis y caſgl yr iar ei chywion tan ei hadenydd, ond nis mynnech chwi? Wele, am hynny yr ydys yn gadael eich ty i chwi yn anghyfannedd; ac yn ddiblant, Mat. 23.37. Yma y gwelwch gynnyg trugaredd Duw yn fynych i'r Iuddewon, ond am iddynt wrthod ei drugaredd ef, efe a gymmhellwyd (mewn modd) i ddatgan y farn drom yma o ddiniſtr anghyfannedddra arnynt hwy: yr hon a gyflawnodd efe o fewn deugain mhlynedd neu ddêg a deugain wedi, trwy ddwylo Veſpaſian ymmerodr Rhufain, Joſephus de bello Judaico. Lib. 1. C . 1. a Thitus ei fab: y rhai a lwyr ddiniſtriodd ddinas Jeruſalem, a holl genedl yr Iuddewon, yr rhai a welwn ni heddyw wedi eu gwaſgaru trwy 'r holl fyd, mewn caethiwed enaid a chorph. Ac er bod y weithred honno o gyfiawnder Duw yn dra ofnadwy, etto yr oedd ei drugaredd ef yn fwy tu ac attynt, fel y mae 'n amlwg wrth eiriau Chriſt, oni bai iddynt wrthod ei Fab ef.

19. Yn drydydd, y mae ei drugaredd ef yn rhagori ar ei gyfiawnder, hyd yn oed tu ac at y rhai collegid; oblegid iddo trwy lawer of foddion yn y byd hwn geiſio eu gwneuthur hwy yn gadwedig, trwy alw arnynt, a'i cynnorthwyo hwy a'i râs i wneuthur daioni, a'i cynnhyrfu hwy oddifewn ag aneirif o yſprydoliaethau da, a cheiſio eu denu hwy oddi allan ag amryw gynghorion, ac addewidion, ac eſamplau rhai eraill: a chyda hynny trwy glefydon, a gwrthwyneb, a cheryddon eſmwyth eraill; trwy roddi iddynt amſer, ac achlyſur, a chyfle, achyfamſer, a llawer annog, i edifarhau; trwy fygwth marwolaeth dragywyddol iddynt, oni edifarhaant. Yr holl bethau hyn, gan eu bod yn weithredoedd trugaredd a daioni Duw tu ac at yr annuwiol, y mae 'n anghenrhaid iddynt gyſaddef, ynghanol eu cynddaredd a'i poenau, fod ci farnedigaethau ef yn vnion, a chwedi eu cyfiawnhau ynddynt eu humain, ac nas gellir mewn vnmodd eu cyffelybu hwy i fawredd ei drugaredd ef.

20. Wrth hyn y gwelwn fod yn wir yr hyn a ddywaid y Prophwyd, Yr Arglwydd a gar drugaredd a gwirionedd. A thrachefn, Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarſuant; cyſiawnder a heddwch a ymguſanaſant, Pſal. 85.10. Ni a welwn pa ham y mae 'r Prophwyd yn dywedyd am dano ei hun, Mi a ganaf am drugaredd a barn, o Arglwydd: nid trugaredd yn vnig, na barn yn vnig, ond trugaredd a barn ynghyd, Pſal. 101.1. Hynny yw, ni ryfygaf eymmaint ar dy drugaredd, ac nad ofnwyf dy farn; ac nid ofnaf cymmaint ar dy farn, ac yr anobeithiwyf o'th drugaredd. Mae 'n rhaid i ni bob amfer gyſſylltu ein hofn rhag barn Duw, ynghyd â'n hyder ar drugaredd Duw: ie, hyd yn oed yn y Sainct eu hunain, fel y dywaid Dafydd. Ond pa fath ofn? Yr ofn hwnnw, yr hwn y mae 'r Scrythur lan yn dangos pa fath ydyw, pan yw yn dywedyd fod ofn Duw yn gyrru ymmaith bechod; bod ofn Duw yn caſſau pob drygioni; nad yw 'r hwn ſy 'n ofni Duw yn eſgeuluſo dim; bod y ſawl ſy 'n ofni Duw yn troi ac yn edrych ar ei galon ei hun; bod y ſawl ſy 'n ófni Duw yn gwneuthur gweithredoedd da; bod y ſawl ſy 'n ofni Duw heb aughredu 'r hyn y mae efe yn ei ddywedyd, ond yn cadw ei ffyrdd, ac yn chwilio am y pethau a ryng bodd iddo; ac yn parottoi eu calonnau, ac yn ſancteiddio eu heneidiau yn ei olwg ef, Dihar. 8.13.

21. Ac dyma bortreiad gwir ofn Duw, fel y mae 'r. Scrythur lan yn ei ofod ar lawr. Dyma bortreiad yr ofn hwnnw yr ydys yn ei ganmawl ac yn ei orchymmyn ym mhob rhan a chyfran o air Duw. Dyma bortreiad yr ofn yr ydys yn ei alw, ffynnon y bywyd, gwreiddyn ſynwyr, coron a chyflawnder doethineb, Gogoniant ac ymffroſt Chriſtion o ddyn, Rhodd ddedwyddol. Am yr hwn ſy ar ofn yma gantho, y mae 'r Scrythur lan yn dywedyd, Gwyn ei fyd y gwr ſy 'n ofni yr Arglwydd, oblegid y mae yn hoffi ei orchymmynion of yn ddirfawr, Pſal. 1 12.1. A thrachefn, Yn y diwedd, da fydd i'r hwn a ofno yr Arglwydd, ac efe a fendithir yn ei ddydd diwedd, Eccl. 1.13. Yn ddiwethaf, am y rhai ſy ar ofn yma ganddynt, y mae 'r Scrythur lan yn dywedyd, Mai Duw yw eu ſail hwynt; a darfod i Dduw barottoi amlder o hyfrydwch iddynt; a darfod i Dduw brynu etifeddiaeth iddynt; a bod Duw 'n drugarog wrthynt, fel y mae tad yn drugarog wrth ei blant; ac i ddibennu, fod Duw yn gwneuthur ewyllys y rhai a'i hofnant ef a'r cyfryw ofn, Pſal. 31.19. & 103.13. & 145.19.

22. Yr ofn ſanctaidd yma oedd gan Job dduwiol, pan ddywedodd efe wrth Dduw, Mi a of nais fy holl ffyrdd. Ac y mae 'n dywedyd pa ham y gwnai efe hynny, Oblegid mi a wn nad arbedi di neb a wnelo i'th erbyn, Job 9.28. Lat. Yr ofn yma oedd yn eiſiau yn y rhai y mae 'r Prophwyd yn dywedyd am danynt, Y pechadur a gythruddodd Dduw, trwy ddywedyd na chymmer Duw gyfrif o'i weithredoedd of, yn amlder ei ddigofaint. Symmudwyd dy farnedigaethau allan o'i olwg ef. A thrachefn, Pa ham y cyffroodd yr annuwiol Dduw, trwy ddywedyd, Ni ofyn Duw gyfrif am fy ngweithredoedd i, Pſal. 10. Annuwioldeb mawr, yn ddiau, a chyſfroi Duw yn fawr i'n herbyn, ydyw dwyn hanncr naturiaeth Duw oddi arno; a'i wneuthur ef yn drugarog heb fod yn gyfiawn: a byw fel pettai Dduw heb amcanu ceiſio cyfrif am ein buchedd ni; ac ynteu mor dra difrif wedi dangos y gwrthwyneb, gan ddywedyd: ei fod ef yn wr dirfing toſt, ac na bydd efe bodlon i gymmeryd yr eiddo ei hun dracheſn, ond y mynn efe elw ac occr gyda 'r eiddo ei hun: y mynn efe gyfrif o'r holl dda a fenthygiodd ef i ni: y mynn efe ffrwyth o'i holl lafur a roes efe i ni; ac yn ddiweddaf, y mynn efe gyfrif o bob gair a ddywedaſom ni. Mat. 25.27.

23. Y mae Chriſt yn y nawfed Pſalm a thrugain, yr hon y mae efe mewn amryw fannau o'r Efengyl yn deongl mai am dano ef yr yſcrifennwyd hi; ym myfg llawer o felldithion ofnadwy y mae efe yn eu rhoi i lawr yn erbyn y rhai gwrthodedig, yn datgan y rhai hyn, Tywyller eu llygaid fel na welont: tywallt dy ddig of aint arnynt; cyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt: dod ti anwiredd at en hanwiredd hwynt, ac na ddelont ith gyſiawnder di: dileer hwynt allan o lyfr y bywyd, ac na 'ſgrifenner hwynt gyda'r rhai cyſiawn, Pſal. 69.23, 24, 27. Yma y gwelwn ni, mai mwyaf melldith a ddichon Duw ei rhoi arnom ni, yn neſſaf at ein tynnu ni allan o lyfr y bywyd, yw gadael i ni fod mor ddeillion a chyſſylltu anwiredd at anwiredd, a bod heb yſtyried ei gyfiawnder ef. Ac o'r achos hwnnw hefyd y mae 'r defeinwyr yn cyfrif pechu o hyder ar drugaredd Duw, Tho. 22.9.4.9.14. Ar. 1.2.3. yn gyntaf o'r chwe pechod trymion yn erbyn yr yſpryd glan; y rhai y mae ein Iachawdr Chriſt yn yr Efengyl yn dangos bod mor anhawdd gan ei Dad eu madden. A'r rheſwm pa ham y maent hwy yn cyfrif gormodd hyder ar drugaredd Duw, yn bechod yn erbyn yr Yſpryd glan, yw hyn, ſef am ei fod yn bwrw heibio ac yn gwrthod vn o'r moddion pennaf a adawodd yr Yſpryd glan i'n tynnu ni oddi wrth bechod, nid amgen nag ofni cyfiawnder Duw ar bechaduriaid.

24. Ac am hynny, i ddibennu 'r matter yma ynghylch gormodd hyder ar drugaredd Duw, yr wyf fi yn tybieid y gallwn ni arfer yr vn fath reſwm ynghylch ofni cyfiawnder Duw, ac y mae 'r Apoſtol Sainct Paul yn ei arfer at y Rhufeiniaid, am weinidogion Duw, y rhai yw 'r tywyſogion bydol: A fynni di nad ofnech allu y llywodraethwr bydol, medd efe? gwna ddaioni ynteu, a thi a gai nid yn vnig fod heb ei ofni ef, ond hefyd ti a gai glod a chanmoliaeth gantho. Ond os gwnai ddrwg, ofna; canys nid ydyw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer, Rhuf. 13. Yn yr vn modd y gallwn ninnau ddywedyd wrth y cymdeithion hynny ſy 'n gwneuthur Duw mor drugarog, ac na ddylai neb ofni ei gyfiawnder ef. A fynnech chwi, frodyr, na bai raid i chwi ofni cyfiawnder Duw yn coſpi? Byddwch fyw yn dduwiol, a chwi a fyddwch mor ddiofn a llewod, fel y dywaid y gwr doeth, oblegid y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn, 1 Jon. 4.18. Ond os byddwch fyw yn annuwiol, yna y mae i chwi achos i ofni: oblegid nid am ei ham y mae Duw yn ei alw ei hun yn farnwr cyfiawn.

25. Pettei 'r peth mor ddiogel ac y mae llawer, trwy druth a gweniaith, yn peri iddynt eu hunain goelio ei fod; ni ddywedaſai Sainct Petr byth wrth Griſtianogion wedi eu bedyddio euſys, Ymddygwch mewn ofn, tros amſer eich preſwylfod daiarol, 1 Pet. 1.17. na Sainct Paul chwaith wrth yr vn rhai, Gweithiwch allan eich Iechydwriaeth eich hunain, drwy ofn a dychryn, Phil. 2.12. Ond yma y gofyn rhyw ddynion, Pa fodd wrth hynny y mae 'r Apoſtol yn dywedyd mewn lle arall, Na roddes Duw i ni yſpryd ofn, ond yſpryd nerth, a chariad, a phwyll, 2 Tim. 1.7. Fy atteb i'r rhai hynny ydyw hyn, Nad yw ein hyſpryd ni yſpryd ofn tebyg i ofn gwâs rhag ei feiſtr; hynny ydyw, I fyw mewn ofn yn vnig rhag ofn coſpedigaeth, heb ddim cariad; ond yſpryd cariad yn gyſſylltedig ag ofn tebyg i ofn plant rhag eu tab, trwy yr hwn ofn y maent yn ofni digio eu tad, nid yn vnig rhag iddo eu coſpi, ond yn bendifaddeu o herwydd ei ddaioni tu ac attynt hwy, a'r cyminwynaſau a'r twrn da a wnaeth efe iddynt. Hyn y mae S. Paul yn ei ddangos yn oleu at y Rhufeiniaid, lle y mae efe yn gwneuthur rhagor rhwng ofn gweiſion, ac ofn plant, Ni dderbyniaſoch yſpryd caethiwed trachefn (medd efe) i beri ofn, ond yſpryd mabwyſiad, trwy 'r hwn yr ydym yn llefain Abba, Dad, Rhuf. 8.15. Y mae efe yn dywedyd yma wrth y Rhufeiniaid, Ni dderbyniaſoch chwi yſpryd caethiwed drachefn i beri ofn, am nad oedd eu hofn hwy o'r blaen, a hwy yn genhedloedd, ond ofn gweiſion yn vnig, nid ofn meibion; am eu bod yn anrhydeddu ac yn addoli eu heulynnod, nid o herwydd cariad yn y byo oedd ganddynt ar eu heulynnod, gan eu bod mor aneirif; a bod y gair iddynt o gymmaint o annuwioldeb (fel yr oedd i Jupiter, i Mars, i Venus, a'r cyffelyb) ond yn vnig rhag ofn cael niweid oddiwrthynt oni waſanaethent hwynt, ac oni addolent iddynt.

26. Y mae S. Petr ynteu, mewn vn ymadrodd, yn egluro yr holl fatter yma. Oblegid, wedi iddo ddywedyd, Nac ofnwch rhag eu hofn hwynt, (lle y mae efe yn meddwl am ofn gwaſaidd yr annuwicl) y mae efe yn dywedyd yn y man, Ond ſancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau; a chennych gydwybod dda gyd ag addfwynde ac ofn, 1 Pet. 3.14, 15. Ac felly y mae ofn gwaſaidd, yr hwn ſydd yn yſtyried coſpedigaeth yn vnig, wedi ei wahardd i ni; ond y mae ofn cariadus plant wedi ei orchymmyn i ni. Ac etto y mae deubeth i'w hyſtyried ynghylch y matter yma.

27. Y cyntaf yw, er bod yſpryd ofn gwaſaidd yn waharddedig i ni (yn enwedig gan ein bod ni yn awr wedi myned i waſanaethu Duw) etto fe wna 'r ofn hwnnw lês mawr i bechaduriaid, ac i'r rhai nid ydynt etto ond dechreu gwaſanaethu Duw, am ei fod yn eu cynnhyrfu hwy i edifarhau, ac i edrych yn eu cylch; ac o'r achos hynny y dywaid y gwr doeth am dano, Mai dechreuad doethineb ydyw, Dih. 1.7, Ac am hynny y mae Ionas yn ceiſio gyrru 'r ofn yma ar y Ninifeaid, ac Ioan fedyddiwr ar yr Iuddewon, a'r holl Brophwydi ar bechaduriaid; trwy fygwth y dialeddau a'r coſpedigaethau a ddoai arnynt oni edifarhaent, Ion. 1. & 3. Mat. 3. Ond etto yn ôl hynny, pan fo dynion wedi troi at Dduw, ac yn myned rhagddynt yn ei waſanaeth ef, y maent hwy yn newid yr ofn gwaſaidd yma yn gariad, hyd om ddelont o'r diwedd i'r cyfryw gyflwr ac y mae S. Ioan yn crybwyll am dano, ſef bod perffaith gariad yn bwrw allan ofn, 1 Ion. 4.18. Ac ar hynny y dywaid S. Awſtin, mai ofn yw 'r gwas yr ydys yn ei ddanfon o'r blaen i barottoi lle yn ein calonnan ni i'w feiſtres,Tract. 9. in 1 Joan. yr hon yw cariad perffaith: a phan ddêl cariad perffaith i mewn vnwaith, a chael cwbl feddiant ynom ni; y mae ofn yn myned allan ac yn rhoi lle i gariad perffaith. Ond lle ni ddelo 'r ofn yma i mewn ddim, nid yw boſſibl byth i gariad perffaith ddyfod i drigo, ac i gartrefu yno, medd S. Awſtin.

28. Yr ail peth i'w yſtyried yw hyn, er nad ydyw ofn coſpedigaeth yn y rhai perffaith, neu o'r hyn lleiaf nad ydyw ond llai ynddynt hwy nag mewn eraill fel y dy waid Sainct Ioan; etto, os efe a fydd, wedi ei gyſſylltu a chariad ac a pharch, felly dylai fod, y mae yn fuddiol ac yn angenrheidiol iawn i bob Chriſtion cyffredin, y rhai nid yw eu by wyd mor berffeith-gwbl, na'i cariad mor helaeth a bod mor berffeith-gwbl ar perffeithrwydd y mae Sainct Ioan yn crybwyll am dano. A hynny ſydd amlwg wrth fod yn Iachawor Chriſt yn annog ei Apoſtolion i fod a'r ofn yma ynddynt, ofnwch yr hwn weds darffo iddo lad ly corph, ſydd ac awdurdod ganddo i fwrw i vffern yr enaid a'r corph; ie, meddaf i chwi, ofnwch hwnnw, Luc. 12.5. Yr vn peth y mae Sainct Paul yn ei ddyſgu i'r Coninthiaid, y rhai oedd Griſtianogion da, gan oſod ar lawr yn gyntaf gyfiawnder Duw, ac yna eu hannog hwy i ofni, Y mas 'n rhaid i ni oll, medd efe, ymdaangos ger bron brawdle Chriſt, fel y derbynio pob vn y pethau a wnaethbwyd yn y corph, yn ol yr hyn a wnaeth, pa vn bynnag ai da ai drwg. Ac am ein bod ni yn gwybod byo, yr ydym yn annog dynion i ofni 'r Arglwydd, a Cor. 5.10, 11. le, a pheth ſydd fwy, y mae Sainct Paul yn tyſtiolaeth am dano ei hun; ei fod ef, er maint o ffafor ac ewyllys da a gawſai gan Dduw, yn dal gafael etto ar yr ofn yma rhag cyfiawn er Duw, fel y mae 'n amlwg wrth ei eirian ef, Yr wyf yn coſpi fy nghorph, ac yn ei ddwyn yn gaeth, rhag i mi mewn vn modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymmeradwy, 1 Cor. 9.27.

29. Weithian, f'anwylyd, od oedd ar S. Paul ofn cyfiawnder Duw, ac ynteu yn Apoſtol; ac er nas gwyddai efe ddim arno ei hun, na'i fod yn euog o vn bai, fel y mae efe (am vn peth) yn ei ddangos: pa fodd y dylit ti fod, yr hwn y mae dy gydwybod yn euog o gynnifer bai ac annuwioldeb, 1 Cor. 4.4. Gwybyddwch hyn, medd S. Paul, dm bob putteinwr, neu aflan, neu gybudd, a'r cyffelyb, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Chriſt a Duw. Ac yn y man ar ôl hynny, megis pe na bai hynny ddigon, y mae efe yn dywedyd yn angwhaneg, er mwyn attal ffolineb pechaduriaid ſy 'n gwenhieithio iddynt eu hunain, Na thwylled neb chwi a geiriau ofer; canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Dnw yn dyfod ar blant anufydd-dod neu anghrediniaeth. Am hynny na fyddwch chwi gyfrannogion a hwynt, Eph. 5.5. Megis pe dywedai, Pwy bynnag ſy 'n gwenieithio i chwi ac yn dywedyd, Twt, y mae Duw yn drugarog, ac yn hawdd ganddo faddeu y pechodau hyn a'r cyffelyb; nid ydyw y rhainy ond eich twyllo chwi, medd S. Paul, oblegid y mae digofaint a dialedd Duw yn diſgyn ar blant anghrediniaeth, oblegid y pethau hyn: ſef yw hynny, ar y rhai ni chredant ei gyfiawnder ef n'i fygythion yn erbyn pechod; ond, o hyder ar ei drugaredd ef, ſydd yn parhau yn eu pechod, hyd oni ruthro digofaint Duw arnynt yn ddiſymmwth; ac yna y mae yn rhyhwyr gwellhau. Am hynny, medd efe, os ydych chwi gall, na fyddwch gyfrannogion a'i ffolineb hwy, ond gwellhewch eich bucheddau allan o law, tra caffoch amſer. A digon fydd y rhybudd yma eiddo Sainct Paul, iddibennu 'r pennod yma; yn erbyn pawb ac ſydd yn gwrthod neu yn oedi edifeirwch a gwellhaad buchedd, trwy wag obaith ar gael gan Dduw faddeu iddynt, a chyd-ddwyn a hwynt.

PEN. V. Am y pummed rhwyſtr, yr hwn yw oedi rhoi ein bryd ar ediſarhau o amſer i amſer; tan obeithio y gallwn wneuthur hynny yn well, neu yn haws, ryw amſer arall.

MI a dybygwn mai digon i wr rheſymol, fyddai y rheſymmau a ddangoſwyd o'r blaen, i brofi bod mor anghenrheidiol i ni roi 'n bryd ar waſanaethu Duw, ac i dynnu ymaith y rhwyſtrau ſy'n lluddias i ni wneuthur hynny. Ond er hynny, oblegid (fel y dywaid y gwr doeth) bod yr hwn a fo a'i fryd ar dorri cymdeithas a'i gydymmaith, Dihar. 18.1. Lat. yn ceiſio pob achlyſur i wneuthur hynny tan ryw liw ac eſgus. Y mae llawer yn y byd, gan nad oes ganddynt na lliw nac eſgus arall yn y byd i dorri a Duw, ac i ddal allan oddiwrtho, hwy a geiſiant goluro 'r matter a hyn o liw, ſef bod yn eu bryd hwy trwy ei ras ef, wellhau 'r cwbl mewn amſer: ond y maent hwy yn oedi 'r amſer hwnnw o ddydd i ddydd, hyd oni bo i Dduw, yr hwn y mae pob munyd o'r amſer yn ei law, ddwyn yr amſer yn llwyr oddiarnynt hwy, a'i danfon hwy i'r poenau taagywyddol tros ben pob amſer, am iddynt gam arfer daioni 'r amſer yn y byd hwn.

2. Dyma vn o'r ſiomedigaethau mwyaf a pherycclaf, ac etto y mae yn gynnefinaf ac yn gyffredinaf o'r cwbl y mae gelyn dyn yn eu harfer yn erbyn plant Addaf: ac mi a allaf ddywedyd yn hŷ, fod mwy yn myned i golledigaeth trwy'r ſiommedigaeth yma, nâ thwy'r holl gyfrwyſdra a'r dichellion eraill heb law hynny. Fe a ŵyr yn dda faint yw grym a gallu 'r fagl yma rhagor cwbl o'r llaill, ac am hynny y mae efe yn ei gwthio mor daer ar bob dyn. Y mae efe yn yſtyried yn well nâ nyni, fod oedi yn beth inawr iawn, yn enwedig mewn matter o gymmaint pwys ac yw ein ymchweliad a'n cadwedigaeth ni. Y mae efe yn gwybod yn dda fod y naill bechod yn tynnur llall ganddo; ac y bydd yr hwn nid yw gymmwys heddyw i edifarhau yn anghymmhwyſach y foru; ac fel y mae y marfer yn myned yn naturiaeth; a bod yn anhawdd iachau hên ddoluriau; ac fel y mae Duw mewn amſer yn dwyn ymaith ei ras, ac fel y mae ei gyfiawnder ef yn barod i goſpi pob pechod; ac fel yr ydym ninnau trwy oedi yn cyffroi ei gyfiawnder ef, ac yn pentyrru dialedd ar ein pennau 'n hunain, fel y dywaid S. Paul, Rhuf. 2.4, 5. Y mae ef yn gydnabyddus iawn ag anwaſtadrwydd ac â pheryglon ein buchedd ni, ac â'r damweiniau peryglus yr ydym ni yn myned trwyddynt; ac â'r rhwyſtrau a ddaw beunydd fwyfwy, i luddias i ni ymchwelyd at Dduw. Hyn oll y mae efe yn ei wybod, ac yn ei yſtyried yn dda, ac am hynny y mae yn peri i gy mmaint ac y mae, oedi eu hedifeirwch. Oblegid pryd nas gall yn hwy ddallu deall llawer o Griſtianogion, fel na bo dir iddynt weled yn amlwg mor anghenrhaid ac mor fuddiol iddynt roi eu bryd ar edifarhau, ac nad yw holl rwyſtrau'r byd ond coegbethau a hudoliaeth i attal dynion rhag gwneuthur hynny; yna nid oes gantho ymddiffyn yn y byd ond hyn yn vnig, ſef perſwadio dynion i oedi ychydig, ac y cant ryw amſer yn ôl hyn achlyſur a chyfamſer gwell i wneuthur hynny, nag yr awrhon.

3. A hyn a brofodd Sainct Awſtin, yn ei ymchweliad at Dduw,Confeſſ. lib. 8. ca. 7.18. fel y mae efe ei hun yn yſgrifennu; Oblegid; wedi iddo wybod yn ſiccr, nad oedd fodd iddo i gael bod yn gadwedig, ond crwy newidio ei fuchedd a'i gwellhau; etto yr oedd y gelyn yn ei attal ef tros amſer, ac yn peri iddo oedi, ac yn dywedyd wrtho; Arhos ychydig etto; oeda ennyd etto; a hynny (fel y dywaid ef ei hun) er mwyn cael ei rwymo ef yn dynnach mewn ymarfer â phechod, hyd oni bu iddo trwy ollalluog nerth grâs Dduw, ac eithaf ei egni ei hun a'i oreu, dorri ymmaith oddiwrtho trwy gryfder, a gweiddi ar Dduw, Pa ham y dywedaf yn hwy, Yforu, yforu? Pa ham nas gwnâf ar y munyd awr hwn? Ac felly y gwnaeth efe, ie, yn ei ieuengtyd, ac a fu fyw wedi hynny mewn buchedd dra dirfing Griſtianogaidd dduwiol.

4. Ond os mynnwn ni weled yn eglurach faint a pheryccled y ddichell yma, yſtyriwn yr achoſion a allai rwyſtro i ni droi at Dduw yn y man, ac ni a gawn weled fod pob vn o honynt yn cynnyddu ac yn cryfhau trwy ein gwaith ni yn oedi, ac felly bod yn anhaws i ni wneuthur y peth yn ôl hyn, nag ydyw yr awrhon. Oblegid yn gyntaf, (fel y dywedais o'r blaen) y mae parhau mewn pechod yn gwneuthur dŷn yn gynnefin ag ef wrth ymarfer o hono; a phan ddarpho i ni vnwaith ymgynnefino, y mae yn anhawdd ſymmud y cynnefinder hwnnw, fel y gwelwn ni beunydd am bob cynneddfau a fo wedi greddfu a gwreiddio ynom ni. Ac os mynnwch chwi weled gwirionedd o hynny; pwy ond yn anhawdd tros ben, a all nac a feidr ſymmud hir ymarfer o feddwdod, neu dyngu, neu ryw gynneddfau drwg arall, a fo vnwaith wedi greddfu ynom ni? Yn ail, po hwyaf y parhaom ni yn ein buchedd annuwiol, mwyaf y tynn Duw ei râs a'i help oddiwrthym ni, yr hyn yw'r modd vnig a wna ffordd buchedd dduwiol yn hawdd ac yn eſmwyth gan ddynion. Yn drydydd, y mae gallu a llywodraeth y cythraul yn cael ymgryfhau ac ymſiccrhau ynom ni, trwy gael aros ynom; ac felly y mae yn anhaws ei ſymmud. Yn bedwerydd, y mae tueddiad ein meddwl ni at ddaioni, yn gwanhau fwyfwy, ac yn pylu, wrth fynych arfer o bechod, er nad ydyw yn diffodd yn llwyr. Yn bumed, y mae galluoedd a ſwyddau ein meddwl ni yn llygru yn fwy; y deall yn myned yn dywyllach, a'r ewyllys yn myned yn ŵyrach, a'r chwant yn anllywodraethuſach. Yn chweched ac yn ddiweddaf, Y mae oedi edifeirwch yn cyffroi ac yn cryfhau ein gwyniau ni, a rhannau iſſaf a gwaelaf ein meddwl ni, yn erbyn rheol rheſwm a deall, ac yn eu gwneuthur yn anhaws eu gorchfygu nag oeddynt o'r blaen.

5. Bellach, f' anwylyd, bwrw ynghyd gwbl o hyn, ac yſtyria yn ddiduedd ynot dy hun, pa vn debyccaf i ti allu edifarhau, ai yr awr hon, ai yn ôl hyn. Yn ôl hyn, meddaf, pan fo pechod wedi greddfu ynot ti trwy ymarfer ac ymgynnefino ag ef; a'r cythraul wedi cael meddiant hwy ynot ti; a chymmorth Duw ym mhellach oddiwrthyt ti; a'th feddwl dithau wedi ei lygru yn fwy; a'th ddeall a'th farn wedi myned yn wannach; a'th chwant i ddaioni wedi diffodd; a'th wyniau wedi cryfhau; a'th gorph wedi eu halogi: a'th nerth wedi pallu; a'th holl fuchedd wedi gwyrdroi.

6. Ni a welwn, ac a wyddom am y llong afo yn gillwng dwr, mai haws fydd ei diyſpyddu yn y dechreu, na chwedi hynny. Ni a welwn, am dŷ a fo wedi adfeilo ac ammharu, po hwyaf y gadawer iddo, mai mwya'r draul a'r boen yn ei gyweirio. Ni a welwn, os bydd vn yn pwyo hoel a morthwyl, po mwyaf a guro efe arni, mai anhawſaf fydd ei thynnu hi allan drachefn. A pha fodd y gelli di wneuthur pechod ar bechod, a thybieid wrth barhau mewn pechod y bydd haws i ti ymwrthod ac ymadael ag ef yn ôl hyn nag yr awrhon? Cyffelyb iawn fyddei hynny, i ddŷn a fyddai wedi gwneuthur baich mawr i'w ddwyn, ac a brofai ei godi ar ei gefn; ac am ei fod yn aneſmwyth, ac yn pwyſo yn drwm arno, a'i bwriai ef i lawr eilwaith, ac a roai lawer ychwaneg atto, ac a geiſiai ei godi wedi hynny: ond pan y clywai yn drymmach nag o'r blaen, a ddigiai yn gynddeiriog, ac a roai y dau cymmaint atto, i geiſio ei wneuthur yn yſgafnach. Oblegid felly y mae plant y byd hwn yn gwneuthur, y rhai wrth weled yn ſyrn anhyfryd iddynt wrthwynebu vn pechod neu ddau yn y dechreuad, ſydd yn oedi ymchwelyd at Dduw, ac yn chwanegu at hynny vgain neu ddeugain o bechodau, a thybieid y bydd haws iddynt edifarhau yn ôl hynny.

7. Y mae Sainct Awſtin wrth ddeongl y gwyrthiau a wnaeth ein lachawdr CHRIST wrth godi Lazarus o farw i fyw,Tract. 49. in Joan. 11. ac ynteu wedi marw er ys pedwar diwrnod weithian, fel y dywaid yr Efangylwr: yn chwilio yr achos pa ham yr wylodd, ac y dolefodd Chriſt, ac yr ymofidiodd yn yr yſpryd cyn gwneuthur y weithred honno, gan iddo godi eraill yn hawdd iawn: ac o hynny y mae efe yn rhoi'r wers hon i ni; ſef megis yr oedd Lazarus wedi marw er ys pedwar diwrnod, a chwedi ei gladdu; felly y mae pedair grâdd mewn pechadur: y gyntaf mewn ewyllyſgar ddifyrwch pechod; yr ail trwy gydſynio a phechod, y drydedd drwy wneuthur y weithred; a'r bedwaredd trwy barhau mewn pechod ac ymgynnefino ag ef: a phwy bynnag, medd y tad duwiol hwnnw, a fo wedi ei gladdu vnwaith mewn ymarfer a phechod; y mae'n anhawdd i godi ef o farw i fyw, ond trwy wyrthiau mawr o ran Duw, a llawer o ddagreu o'i ran ynteu.

8. Y rheſwm o hynny yw'r hyn a ddywaid y gwr doeth Hir glefyd a hen ddolur a flina'r phyſygwr, ond byrr glefyd newydd ni pharhaodd ond tros ychydig o amſer, y phyſygwr a'i tyrr ymaith yn y man. Eccl. 10.10. Lat. Eſgyrn yr hen annuwiel a fydd llawn o bechodau ei ieuengctyd, medd Job, a bwy a orweddant gydag ef yn y pridd pan êl efe i'r bedd, Job 20. Yr ydym ni yn darllain i Foeſen, yn rhan o goſpedigaeth ar y bobl a bechaſai yn addoli y llo aur, falurio 'r llo yn chwilfriw, a'i roi iddynt i'w yfed. Felly 'r pechodau oedd ddifyrr gennym yn ein ieuengtyd, y maent wedi ymwaſgaru, trwy ymarfer a chynnefindra, yn ein cyrph ni a'n heſgyrn, fel nas gallom ni, pan ddel henaint ar ein huchaf, mo'i gyrru hwynt ymaith pan fynnom, ond yn anhawdd ac yn flin iawn. Ond ffolineb gan hynny, ydyw i ni oedi gwellhau ein bucheddau hyd onid elom yn hên, a phan fo mwy o rwyſtrau i'n hattal ni, ac yn anhaws o lawer byd i ni wneuthur hynny nag yr awrhon?

9. Os anhawdd y gweli di i ti wellhau dy fuchedd yr awrhon, a llafurio yn boenus yn dy alwedigaeth, ac ymprydio, a gweddio, a phethau eraill, y rhai y mae'r Scrythur lân yn eu dyſgu i bechaduriaid, i'w helpio i droi at Dduw; pa fodd y gwnei di y pethau hynny yn dy henaint, pan fo rheitiach i th gorph di gael gwneuthur yn fawr am dano, a bod yn dda wrtho, nâ'i flino a'i boeni a'r cyfryw weithredoedd? Os gweli di yn anhyfryd gwrthwynebu dy bechodau yr awrhon, a'i diwreiddio hwynt, wedi i ti barhau ynddynt ddwy flynedd, neu dair, neu bedair; pa fodd y gweli di hynny, wedi darffo i ti fwrw vgain mhlynedd attynt? Ond ynfyd iawn y cyfrifit ti, yr hwn wrth ſiwrneio ar y ffordd, a chanddo ei ddewis o ddigon o geffylau cryfion heinyf, ac a adawai i'r rhei'ny i gyd fyned yn weilydd, ac a roi ei holl glûd a'i bynnau ar ryw vn anifail cûl, truan, ni allai ond prin ddwyn ei ddraed ei hun, chwaethach ſefyll tan gynnifer o bynnau a fwrid arno: Ac yn ſiccr nid gwell rheſwm y dyn a dreulio holl ddyddiau ei hoywder a'i ieuengctyd mewn diogi a muſgrelli, ac a adawo gwbl o'r boen a'r llafur i ddyfod ar yr henaint llêfg dirym.

10. Ond i adael heibio ynfydrwydd y ddichell hon, dywaid i mi (Griſtion da) pa anniolchgarwch ac anghyfiawnder tu ac at Dduw ydyw hyn; wedi darfod i ti dderbyn euſys cymmaint o gymmwynaſau ar ei law ef; a'th fod yn diſgwyl cymmaint gwobr a thâl ganddo ac ydyw teyrnas nef, yn ôl hyn, i ti, er hynny i gyd, appwyntio y rhan leiaf, ac olaf, a gwaethaf o'th holl fywyd, i'w waſanaethu ef; ie, y rhan nid wyt ti ſiccr o honi, ac ni wyddoſt di pa vn a wna ai dyfod byth, ai peidio; na pha vn a wna Duw ai ei chymeryd gennyt ti ai peidio, os daw? Y mae 'r Prophwyd yn melldigo'r neb a fo perchen anifeiliaid iach dianaf ac a offrymmo i'r Arglwydd yr vn a fo cloff ac anafus o honynt, Malac. 1. Pa faint mwy y byddi di felldigedig, a thithau a chymmaint gennyt o ddyddiau dy ieuengtyd, a'th nerth, a'th gryfder; ac nid wyt o'th holl fywyd yn appwyntio i waſanaethu Duw, ond dy henaint gogloff yn vnig? Yn y gyfraith yr oedd yn waharddedig, trwy fygwth tôſt, fod gan neb ddau feſur yn ei dŷ i'w gymmydog; vn mawr i'r hwn a fo da ganddo, ac vn llai i rai eraill. Ac etto nid oes arnat ti gywilydd fod gennyt ddau feſur o'th fywyd, o rai tra anghyfiawn, i dwyllo yr Arglwydd dy Dduw; ac wrth y meſurau hynny yr wyt ti yn rhannu arno ef ran fechan, ferr, anafus, amheus, o'th amſer: ac yn rhoi i'w elyn ef y rhan fwyaf, a'r deccaf a'r ſiccaraf o'th amſer.

11. Oh frawd anwyl, pa reſwm ſydd gennyt ti wneuthur fel hyn â Duw? Pa gyfraith, pa gyfiawnder, pa gydwybod ſydd gennyt ti, wedi darffo i ti waſanaethu'r byd, a'r cnawd, a'r cythraul, tros dy holl ieuengctyd, a'r rhan oreu o'th ddyddiau, ddyfod yn y diwedd a tharo dy hên eſgyrn, wedi llygru a darfod gan bechod, yn nyſgl Duw? A rhoi i'w elynion ef yr hyn goreu, ac iddo ynteu'r gweddill? A rhoi'r gwin i'w elynion ef, ac iddo ynteu'r gwaddod a'r ammhuredd: Onid wyt ti yn cofio y mynn efe offrwm iddo y rhan fraſaf a goreu? Onid wyti yn meddwl am y goſpedigaeth a roed ar y rhai a offrymmaſant y rhan waethaf o'i golud i Dduw? Levit. 3. Malac. 1. Canlyn gan hynny gyngor yr Yſpryd glân os wyt ti gall, yr hwn ſy'n dy rybuddio di yn y geiriau hyn, Cofia dy greawdr yn nyddiau dy ieuengctyd, cyn dyfod y dyddiau blin, a neſſau o'r blynyddoedd yn y rhai y dywedi, nid oes gennyf ddim hyfrydwch yddynt, Preg. 12.1.

12. Pa ſawl vn a welaiſt di eu torri y maith ynghanol eu dyddiau, tra fyddent yn amcanu newidio eu buchedd yn yr amſer a ddoai? Pa ſawl vn a gyrhaeddodd hyd henaint, ac a glywent ynddynt yna lai ewyllys i wellhau nag o'r blaen? Pa ſawl vn a oedodd hyd awr angeu, ac yno a feddylient lai am eu cyflwr, nag erioed o'r blaen? ond meirw fel anifeiliaid mudion direſwm, yn ôl yr hyn a ddywaid S. Grigor; Ser. 1.10. de Sanctis. Y mae 'r pechadur (medd efe) yn cael bwrw arno hyn o flinder hefyd, ſef bod iddo yn ei farwolaeth ei ollwng ei hun dros gôf, gan iddo ollwng Duw tros gôf yn ei fywyd? O faint o eſamplau o hyn yma a welir beunydd! pa faint o'r rhai bydol a fuant fyw yn gnawdol? Pa ſawl pechadur mawr, wedi treulio eu buchedd mewn annuwioldeb; ſydd yn diweddu ac yn marw, megis pettynt hwy yn myned i ryw le difywyd, lle ni ofynnir nac atteb na chyfrif am ddim ac a wneler? Y maent hwy mor ofalus yn eu llythyr cymmyn tros gig a gwaed, ac am olud y byd hwn, a phettynt hwy yn cael byw byth, neu yn cael rhan o'r oferbethau hynny wedi yr elont ymaith. Mewn gwirionedd, os mynnwch chwi ddywedyd y peth yn y modd y mae, y maent hwy yn meirw fel pe bai'r enaid heb fod yn anfarwol, ond yn marw gŷd a'r corph: a hynny yn ſiccr wir y maent hwy yn ei gredu yn eu calonnau.

13. Ond bwriwch na bai'r peth felly; ac y gallai ddyn mor hawdd, ac mor gymmwys, ac mor ſiccr droi at Dduw yn ei henaint, ac yn ci ieuengctid, a bod y naill yn rhyngu bodd i Dduw yn gyſtal a'r llall; etto dywedwch i mi pa faint o amſer yr ydych chwi yn ei golli wrth oedi fel hyn? Pa dryſor mawr o dduwioldeb yr ydys yn ei ollwng heibio, ar a alleſid ei gael wrth gymmeryd poen yn gwaſanaethu Duw? Pe bai ryw gapten a'i ſawdwyr yn myned i mewn i ryw dref gyfoethog, i gymmeryd ei hyſpail a'i hanrhaith hi, a dywedyd o vn o'r ſawdwyr, myfi a arhoſaf yu ôl, ac a ddeuaf i mewn dranoeth wedi myned o'r yſpail ymaith, oni thybygech chwi fod hwnnw yn llwrf ac yn anſynhwyrol iawn hefyd? Felly am Griſt ein Iachawdwr a'i holl ſawdwyr da, y maent hwy wedi cymryd anrhaith y bywyd hwn, a'i cyfoethogi eu hunain a'i llafur mewn amſer, a chwedi cludo'r cyfoeth hwnnw gydâ hwynt megys yſgrifennadau cyfnewyd i'r banc nefol, a chael yno daledigaeth o ogoniant tragywyddol. Ac ond ffoledd a chyndynrwydd mawr ynom ni, ydyw treulio'r fuchedd hon mewn pethau mor ddiles? Yr awrhon ydyw'r amſer i ymdrech ac i ynnill y goron: yr awrhon yw'r amſer i ni i geiſio ein rhan o'r anrhaith: yr awrhon ydyw'r amſer i redeg yr yrrfa, i gael ynnill y gamp: yr awrhon yw amſer hau, i gael o honom ŷd e byn y cynhauaf ſydd yn dyfod. Os gollyngwch chwi'r amſer yma heibio, nid oes i ni mwy na choron, nac anrhaith, na theyrnas, na chynhauaf i ddiſgwyl amdano. Oblegid, fel y mae'r yſgrythur yn ein ſiccrhau ni, Y diog, nid ardd o herwydd oerder y gauaf, a â i gard tta'r cynhauaf ac ni chaiff ddim, Diha. 20.4.

14. Ond oni all yſtyried yr elw dy annog di, ddarllennydd hynaws, fel y dylai wneuthur, ac yntau o gymmaint pwys ac ydyw, ac nas gellir ei alw yn ôl wedi yr êl heibio, etto meddwl ynot dy hun faint y ddlêd a'r rhwymedigaeth yr wyt ti yn ei dynnu arnat dy hun, am bob diwrnod ac yr wyt ti yn oedi ymchwelyd at Dduw, ac yn byw mewn pechod. Yr wyt ti bob dydd yn gofod clymmau, y rhai ſy raid i ti eu dattod ryw amſer; yr wyt ti yn caſglu ynghyd y pethau a fydd rhaid i ti eu gwaſgaru drachefn; Yr wyt ti bob yn awr yn bwytta ac yn yfed y pethau a fydd rhaid i ti ryw amſer eu chwydu: ie, os digwydd i ti yr hyn a fo goreu ardy les; hynny ydyw os ti a edifarhei mewn pryd, ac os Duw a dderbyn dy edifeirwch di, ac onid ê gwae dydi am dy fod di yn pentyrru digofaint a dialedd ar dy ben dy hun. Ond bwrw y gelli di yn ôl hyn gael grâs 1 edifarhau, er dy fod di yr awrhon yn ei wrthod; etto fe fydd i ti achos i wylo am y peth yr wyt ti yr awrhon yn chwerthin; fe fydd drwg iawn gennyt ddarfod i ti wneuthur y peth ſy wŷch gennyt ti yr awrhon ei wneuthur; fe fydd rhaid i ti felldigo'r dydd yr ymroiſt i bechu, ac onid ê ni wna ddim llês i ti edifarhau. Hyn yr wyt ti yn ei wybod yr awrhon, a hyn yr wyt ti yn ei gredu yr awrhon, ac onid è nid wyt ti Griſtion. Pa fodd wrth hynny yr wyt ti yr awrhon mor ynfyd, a gwneuthur yn erbyn Duw, o ewyllys dy galon, ac o'r gwaith goddeu; a thitheu yn gwybod yn dda y bydd rhaid i ti ryw amſer ofyn maddeuant iddo trwy ddagrau. Os wyt ti yn tybieid y maddeu efe i ti, pa anniolchgarwch i ti ddigio arglwydd mor ddaionus? Os, wyt ti yn tybieid na faddeu efe ddim i ti pa ynfydrwydd fwy na gwneuthur yn erbyn tywyſog lle nid oes gobaith maddeuant.

15. Gwna di dy gyfrif yr awrhon fel y mynnych, os ti nid edifarhei a newidio dy fuchedd, yno y bydd pob pechod yr wyt ti yn ei wneuthur, a phob dydd yr wyt ti yn byw mewn pechod, yn angwhanegu ar ddigofaint a dialedd arnat ti yn vffern, fel y mae S. Paul yn profi, Rhuf. 2.4, 5. Os bydd i ti yn ôl hyn trwy drugaredd Duw edifarhau a gwellhau dy fuchedd (oblegid nid oes mo hynny ar dy law di dy hun) yno y bydd rhaid i ti ryw amſer ymgwyno, ac ymofidio, a bod yn ddrwg gennyt ddarfod i ti oedi cyhyd. Felly po hwya 'r oedech di, a pho mwyaf y chwanegech di bechu, mwya' fydd dy ofid di a'th driſtwch wrth edifarhau. Fe fydd rhaid hir a dyfal feddy giniaeth i hên friw, medd S Cyprian.Li de La, & li; 5. epi. 5. ad Cor. Ep. 27. ad Euſtoch. Ad lapſ. vir. Fe fydd rhaid i'n cyrph ni a fu fyw mewn mwythau, gael eu blino medd S. Jerom, a rhaid yw gwneuthur iawn am ein hir chwerthin ni, â hir wylofain. Ac medd S. Ambros, i archoll fawr y bydd rhaid wrth hir feddygyniaeth.

16. Marcia hyn, fy anwyl frawd, y bydd mawr dy boen di yn gwellhau dy fuchedd, ac nad oes ffordd i ochel y boen honno. Pa ynfydrwydd i ti wrth hynny, yr awrhon helaethu dy archoll, a thithau yn gwybod y bydd mor dôſt y feddyginiaeth yn ol hyn? Pa greulondeb yn dy erbyn dy hun a all fod fwy, na bod i ti wthio drain yn dy gnawd dy hun, a gorfod arnat yn ol hyn eu tynnu allan trwy fawr ofid? A fyddit ti mor ynfyd ac yfed y cyfryw gwppanaid o ddiod wenwynllyd a barai i ti yn y man ſyrthio mewn crŷd poeth, ac a flinai dy ymyſgaroedd di, ac a ddygai dy fywyd oddiarnat ti, neu a'th yrrai mewn perygl bywyd; a hynny er mwyn ychydig flâs da a glywit arni wrth ei hyfed? Mi a wn beth a fydd dy atteb di i hynny, ſef dwyn ar dy blaid eſampl y lleidr da, yr hwn a fu gadwedig yn yr awr ddiwethaf ar y groes, ac a ddugpwyd i Baradwys y dwthwn hwnnw gydâ Chriſt, heb ddim ychwaneg o lafur yn gwellhâu ei fuchedd. Dyfal y deil y rhai ſy'n oedi edifarhau ar y ſampl yma, a mawr y gwnânt o honi; ac yn ſiccr mawr ydyw, a mawr y dylai fod y cyſſur oddiwrthi i bob dŷn ac ſy flin arno yn yr awr ddiwethaf, ac am hynny fynychaf a demptir gan y gelyn i anobeithio yn nrhugaredd Duw, yr hyn nis dylai mewn modd yn y byd ei wneuthur. Oblegid y mae yr vn Duw a achubodd y mawr bechadur yn yr awr ddiwethaf, yu abl i achub pawb ac a droo atto ef o wir ddifrif eu calonnau, yn yr awr ddiwethaf, ac efe a'i gwna hefyd. Ond yſywaeth y mae llawer o ddynion yn eu twyllo eu hunain eiſiau iawn ddeall, neu yn hytrach eiſiau iawn arfer y ſiampl yma.

17. Oblegid rhaid i ti ddeall, fel y dywaid S. Awſtin, nad oedd hynny ond vn weithred neilltuol a wnaeth Chriſt, yr hon nis gall wneuthur rheol gyffredin: fel y gwelwn ni fod Tywyſog daiarol weithiau yn pardynu drwgweithredwr wedi ei ddyfod at y pren dioddef, ond ni waſanaetha i bob drwgweithredwr ymddiried i hynny; oblegid nad yw hynny ond vn weithred neillduol o drugaredd y Tywyſog yr hon nis gwna efe, ac nid yw yn addaw ei gwneuthur i bob dyn. Heb law hyn, nid oedd y weithred honno ond gwyrthiau a wnaeth Chriſt i ddangos ei allu yn yr awr ddiwethaf ar y groes. A hefyd nid oedd y weithred honno ond vn a wnaed wrth ragorol gyffes y lleidr ar yr awr honno, pan oedd yr holl fyd wedi gwrthod Chriſt, a'r Apoſtolion eu hunain naill ai yn ammau, ai wedi colli eu ffydd am ei dduwdod ef. Heb law hyn oll, yr oedd cyffes y lleidr yma ar y fath amſer ac nas gallai ef na chael ei fedyddio, na chael amſer i wellhau ei fuchedd. Ac yr ydym ni yn bwrw, nad ydys yn gofyn dim ychwaneg ar law dyn, ar ei ymchweliad cyntaf, ond bod iddo gredu a chael ei fedyddio. Ond ni bydd anghymmwys adrodd geiriau S. Awſtin ei hun yn hyn o beth. Ac fel hyn y dywaid ef:

18. Y mae yn berygl dirwymedi, pan ymroddo dyn mor gwbl i annuwioldeb, a bod iddo ollwng yn anghof y bydd rhaid iddo roi cyfrif i Dduw am hynny: a'r achos ſy'n peri i ni dybiaid hynny ydyw hyn, fod yn goſpedigaeth fawr am bechod bod i ddyn golli'r ofn a'r coffa a ddylai fod ynddo am y farn a ddaw, &c. Ond, anwyl garedigion, rhag ofn i ddedwyddwch y lleidr a gredodd ar y groes, wneuthur neb o honoch chwi yn rhy ddiofal ac yn rhy eſgeulus: rhag ofn i neb o honoch ddywedyd yn ei galon; Ni chaiff fynghydwybod euog na'm blino i na'm poeni: am fy mod i yn gweled ddarfod mewn vn moment faddeu cwbl ò'i bechodau i'r lleidr hwnnw; Rhaid i ni yſtyried yn y lleidr hwnnw, nid yn vnig fyrred oedd ei greduniaeth a'i gyffes, ond gydâ hynny hefyd ei ddwyſoldeb ef, a'r achlyſur o'r amſer hwnnw, pan oedd y rhai perffeithaf, a'r rhai cyfiownaf yn ſiglo. Yn ail, dangos i mi ynot dy hun y fath ffydd ac oedd yn y lleidr hwnnw, ac yno dywed y gelli fod mor ddedwydd ac a fu yntau. Y mae'r cythraul yn rhoi 'r dioalwch hwnnw yn dy ben di er mwyn ceiſio dy ddwyn di i golledigaeth. Ac amhoſſibl fyddai dangos cyfrif o'r cwbl ac a aeth i golledigaeth tan rith y gobaith twyllodrus hwnnw. Y mae efe yn ei dwyllo ei hun pwy bynnag nid yw yn gwneuthur ond cellwair o'i ddamnedigaeth, ac a dybia y bydd i drugaredd Duw ei helpio ef yn yr awr ddiwethaf. Peth ffieiddgas gan Dduw ydyw bod i ddyn bechu yn hydda o hyder cael edifeirwch yn ei henaint. Y lleidr dedwydd yma, dedwydd ydoedd nid am iddo gael y ffordd, ond am iddo gymmeryd gafael yn y ffordd ei hun ynghriſt, pan oedd yntau yn cael gafael ar yſglyfaeth y bywyd, ac mewn modd rhyfeddol a wnaeth elw o'i farwolaeth ei hun; Ni bu i'r lleidr yma, meddaf, nac oedi amſer ei iachawdwriaeth trwy wybod, na goſod cwbl o'i ymddiried ar gael edifeirwch yn yr awr ddiwethaf, na chadw gobaith ei ymwared hyd yn amſer angau, ac nid oedd ganddo wybodaeth yn y byd am grefydd nac am Griſt o'r blaen. Canys pe buaſai ganddo hynny ni buaſai efe yn olaf o rifedi yr Apoſtolion, ac ynteu yn myned o'i blaen hwy i'r deyrnas.

19. Wrth y geiriau hyni S. Awſtin y rhybuddir ni (fel yr ydych chwi yn gweled) nad yw gwaith Chriſt yn maddeu i'r lleidr, yn rheol gyffredin i ddangos y caiff pob dyn faddeuant: nid am nad yw Chriſt bob amſer yn barod i dderbyn yr edifeiriol, fel y mae efe yn addaw, ond am nad yw pob dyn yn cael amſer a grâs i edifarhau fel y dylai yn yr awr honno, fel y dangoſwyd o'r blaen. Y ffordd gyffredinol y mae Duw yn ei goſod o flaen pawb, yw'r hyn a ddywaid S. Paul, Eu diwedd fydd yn ol eu gweithredoedd, 2 Cor. 11.15. Edrychwch fel y buant hwy fyw, felly y byddant feirw. Ac i'r deunydd yma y dywaid y prophwyd, Ʋnwaith y dywedodd Duw, clywais hynny ddwywaith, mai eiddo Duw yw cadernid. Trugaredd hefyd ſydd eiddot ti, ô Arglwydd, canys ti a deli i bob dyn yn ôl ei weithred, Pſal. 62.11, 12. Y mae'r gwr doeth yn gwneuthur hyn yn amlwg gan ddywedyd, Ffordd pechaduriaid a waſtattawyd a cherrig, ond yn ei chwrr eithaf hi y mae ffos vffern, Eccl. 21.10. Yn ddiweddaf, y mae S. Paul yn cloi ar y cwbl yn ddwys ac yn gyffredinol, Na thwyller chwi, ni watwerir Duw, canys beth bynnag a hauo dyn, hynny a fed efe. Oblegid yr hwn ſydd yn hau i'w gnawd ei hun, o'r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn ſydd yn hau i'r yſpryd, o'r yſpryd a fed fywyd tragywyddol. Lle y mae efe nid yn vnig yn goſod ar lawr i ni y rheol gyffredin fy raid i ni hyderu arni, ond y mae yn dywedyd ym mhellach hefyd, nad ydym ni wrth goelio'r gwrthwyneb ond gwatwor a dirmygu Duw, yr hwn a roes i ni yr gyfraith hon, Gal. 6.7.

20. Er hynny i gyd, fel y dywedais, nid ydyw hyn yn rhwyſtro i drugaredd Duw ymddangos i rai yn yr awr ddiwethaf. Etto anhappus yw'r dŷn a oſodo angor a hyder ei ddedwyddwch neu ei annedwyddwch tragywyddol ar beth mor anſicor. Anſiccr yr wyf yn ei alw am fod yr holl wŷr dyſgedig a ſgriſennaſant amdano, yn dywedyd yn amheus iawn am ymchweliad dyn yn yr awr ddiwethaf. Ac er nad ydynt yn ei wrthod yn hollawl ym mhob dyn, ond yn ei adael megis peth anſiccr ar farn ddirgel Duw, etto y maent yn tueddu at y blaid fy yn ei wadu, ac yn dangos pedwar o reſymmau wrth y rhai y gellir ammeu bod ymchwelaid dyn yn yr awr ddiwethaf, yn ddigon i wneuthur dyn yn gadwedig.

21. Y rheſwm cyntaf ydyw, am nad yw dygn ofn a gofid angeu yr hwn (fel y dywed y Philoſophydd) o'r holl bethau ofnadwy yw'r peth mwya' ofnadwy, yn gadael i ddyn ymwrando ac ymglywed ag ef ei hun yr amſer hwnnw yn gyſtal ac yn gymmaint ac y byddai raid iddo, i ymwneuthur a Duw ynghylch matter cymmaint ac yw ein ymchweliad ni a'n iachawdwriaeth. Ac os ydym ni yn gweled yn fynych nas dichon ac nas meidr gwr duwiol da oſod ei feddwl mor ddwys ac mor ddifrif ar bethau nefol, yr amſer y bo gwyniau'r colic neu ryw ddolur tôſt arall yn ei flino ef: pa fodd y gall gwr bydol yngloes angau wneuthur hynny, ac yntau heb fod erioed yn arfer o'i wneuthur, a chwedi ei lwytho ag euogrwydd llawer o bechodau trymmion, a chwedi ei orchfygu gan gariad ar ei gorph ei hun, a'r pethau a berthyn iddo.

22. Yr ail rheſwm yw, am nad yw'r ymchwelyd y mae dyn ar yr awr ddiwethaf, ond yn anfynych o wir ewyllys y galon, ond rhag y dir angen, a rhag ofn: cyfryw ac ydoedd edifeirwch Shimei a ddarfuaſai iddo ddigio'r Brenhin Dafydd yn dôſt yn ei adfyd, ac a ddaeth atto wedi hynny yn ei lwyddiant, rhag ofn cael ei goſpi, ac a ſyrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a y mbiliodd am faddeuant trwy ddagrau. Etto yr oedd Dafydd yn deall yn dda pa fodd yr oedd y matter, ac am hynny er iddo ei arbed ef y dwthwn hwnnw rhag lleihau ar y llawenydd a'r gorfoledd, efe a barodd wedi hynny wneuthur ag ef yn ôl ei haeddedigaeth, 1 Bren. 2.

23. Y trydydd rheſwm yw, am nas gellir peidio a'r arfer o bechu, mor ddiſymmwth, ac ynteu wedi tyfu megis yn naturiaeth. Ac am hynny y mae Duw yn dywedyd wrth y dynion drwg trwy'r prophwyd Jeremi, a newidia'r Ethiopiad ei groen: neu'r llewpârd ei frychni? felly y gellwch chwithau wneuthur da, y rhai a gynnefinwyd a gwneuthur drwg, Jer. 13.22.

24. Y Pedwerydd rheſwm ydyw, am nas gall y gweithredoedd a wneler yr amſer hwnnw, fod o gymmaint pris gydâ Duw, a phe gwneuthid hwy o'r blaen yn amſer iechyd. Oblegid ai mawr ydyw os ti a faddeui i'th elynion pan ddel yr amſer nas gelli di mwy wneuthur niweid iddynt? a rhoi dy dda oddiwrthyt, pan na ellych di mwy wneuthur dim â hwynt? ac ymadael â'th ordderch, pan na ellych di ei chadw hi yn hwy? ac ymadael â'th bechod, pan fo dy bechod yn ymadael â thydi? Pethau da duwiol yw y rhain' i gyd, a phethau a ddylai ddyn eu gwneuthur, ie yn yr awr ddiwethaf: ond ni bydd cymmaint pris arnynt a phe buaſid yn eu gwneuthud mewn pryd ac amſer, fel y dangoſais o'r blaen. Y pummed rheſwm a ellir ei gaſglu allan o'r hyn yr ydym ni yn ei weled yn fynych, ſef yw hynny, bod y rhai ſydd yn edifarhau yn y modd hwnnw, os hwy a gânt eu hiechyd drachefn, yn myned yn waeth ar ol hynny nag oeddynt o'r blaen, a hynny ſydd yn dangos nad oedd yr edifeirwch honno wir edifeirwch.

25. Ac dyma y rheſymmau ſy'n peri ammau yr edifeirwch yma a gammerer yn y dydd diweddaf; nid o achos bod diffyg yn y byd o ran Duw, ond o ran y rhai ſy'n gwneuthur hynny. Marcia yn dda, medd vn, yr hyn yr wyfi yn ei ddywedyd, ac fe allai y bydd rhaid i mi ddangos fy meddwl yn am lygach, rhag i neb fy ngham gymmeryd. Beth wrth hynny yr wyfi yn ei ddywedyd? y bydd colledig y neb nid edifarhao ond yn y diwedd? nag ê ddim. Beth ynteu? Ai y byddant hwy gadwedig, nag e ychwaith. Beth ynteu a ddywedafi? Nis gwn beth a ddywedaf; ni feiddiaf ddywedyd: nid addawaf ddywedyd: nis medraf ddywedyd. A fynni di na bo rhaid i ti fod mewn ammau fel hyn? A fynni di ochelyd y pwngc peryglus yma? Cymmer dithau edifeirwch tra fych yn iach lawen. Oblegid os ti a edifarhei yn dy iechyd, pa bryd bynnag y dêl yr awr ddiwaethaf ar dy vchaf di, yr wyt ti yn ddiogel ddigon. A pha ham? am ddarfod i ti edifarhau yn yr amſer y galleſit bechu. Ond os yr amſer hwnnw yr edifarhei di, pan na allech di bechu yn hwy, nid tydi ſydd yn ymadael a'th bechod, ond y pechod ſydd yn ymadael â thydi.

26 Ac yma y mynnwn i'r Chriſtion gofalus yſtyried gydâ myfi vn gyffelybiaeth a ddangoſaf iddo. Os ydyw y rhai ſydd yn dangos rhyw fath ar edifeirwch ar eu dydd diwedd, yn ymadael oddi yma ar hynny yn y fath beryglus ammau, beth a dybiwn ni am y rhai fy heb na bod ganthynt ewyllys, na chael nac amſer na grâs i edifarhau yn yr awr honno? Beth a ddywedwn ni am y rhai a dorrer ymaith o'r blaen? am y rhai a fo meirw yn ddiſymmwth? am y rhai a gollo eu ſynhwyr a'i pwyll, fel y mae llawer? Beth a ddywedwn ni am y rhai y mae Duw yn eu gwrthod, ac yn gadeal iddynt bechu tra fo'r ffûn yn eu genau? Mi a ddangoſais o'r blaen allan o Sainct Paul, fod pob pechadur gan mwyaf yn marw yn yr vn modd ac y bu fyw. Wrth hynny y mae yn rhagorfraint mawr i ddŷn annuwiol gael dechreu ei edifeirwch pan fo yn marw. Ac yno, os bydd ei edifeirwch ef mor amheus pan ddêl, pa ofidus gyflwr y mae rhai eraill ynddo? ſef y rhan fwyaf o ddynion, y rhai nid ydynt yn edifarhau ddim: ond marw fel y buant byw, a Duw yn eu gadael yn y cyfyngder hynny, fel y mae efe yn addo pan yw yn dywedyd; Yn gymmaint ac i mi eich gwahodd, ac i chwi hau wrthod; i mi yſtyn fy llaw a neb heb yſtyried: Minnau a chwarddaf yn eich dialedd chwi: ac a wawdiaf pan ddel arnoch waſgfa, a diſtryw a chaledi. Chwi a elwch arnaf, ac ni warandawaf, chwi a'm ceiſtwch yn fore, ac ni'm cewch, Dihar. 1.24.

27. Pan welo'r by dol fod hoywedd ei vchelfraint ef, a'i rodres, a'i rwyſg bydol wedi darfod am danynt: pan fo gwrà trachwant, a ſerch y cnawd, a phob mwythau a phleſer wedi diffoddi: pan fo tiriondeghaf-ddydd y fuchedd hon ar ddibennu, a thymheſtlog auaf-nos marwolaeth yn neſſau; yna y try efe at Dduw; yna yr edifarhaa efe; yna y rhydd efe gwbl o'i frŷd a'i feddwl ar ymadael a'i ddrygioni, a throi ar ddaioni. Pryd nas gallo fyw yn hwy, efe a eddy gymmeryd y boen a fynner, a gwrando ac aſtudio gair Duw yn y modd y mynner, a chymmeryd y boen a fynner yn ei alwedigaeth, a gweddio cymmaint ac a fynner, a rhoi o eluſeni cymmaint ac a fynner, a gwneuthur y maint a fynner o weithredoedd da, a byw cyn galetted ac y mynner; ef a eddy hyn i gyd, meddaf, tan ammod cael oes etto i fyw yn y byd; tan ammod cael oedi ei ddydd diwedd; ac etto pe caniattai Duw ei ddymuniad iddo, (fel y mae efe yn gwneuthur yn fynych) ni chywirai ef vn gair o'i addewid, ond bod mor ddiofal ac a fu erioed o'r blaen. Pan ddêl ar y cyfryw vn lefain ac ochain, a griddfan, ac vcheneidio toſtlym, ac heb gael ei wrando, pa gomffordd a ddiſgwyl efe ei gael yr amſer hwnnw? Oblegid i ba le y trŷ efe yn y cyfryw gyfyngder? ai at ei olud bydol, a'i allu, a'i gyfoeth? Och, och, y mae y rheiny wedi ei adaw ef; ac y mae'r Scrythur yn dywedyd, Ni thyccia cyfoeth yn nydd digofaint, Dih. 11.4. Ai at ei ddynion y trŷ efe? Ond pa gomffordd a fedrant nac a allant hwy ei roi, ond wylo yn vnig a galaru? Ai gofyn cymmorth a wnant hwy yr amſer hwnnw gan y Saint i weddio troſtynt? yno y bydd rhaid iddynt gofio yr hyn a yſgrifennwyd, Gorfoledded y Sainct mewn gogoniant, a chanant; a bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau, a chleddyf dauſiniog yn eu dwylo, i wneuthur dial ar genhedloedd, a choſp ar bobloedd; i rwymo brenhinoedd a chadwynau, a phendefigion a gefynnau heiyrn, i wneuthur arnynt farn yſgrifennedig Duw: yr ardderchawgrwydd hyn ſydd iw holl Sainct ef, Pſal. 149. At Dduw yn vnig wrth hynny y mae'n rhaid iddynt hwy gilio, yr hwn mewn gwirionedd yw vnig ymddiffynfa pawb: ond etto yn y peth yma, fel hyn y dywed y prophwyd, Ni wrendy efe arnynt, ond yn hytrach ei diyſtyru a chwerthin am ben eu gofidus gyflwr hwy, Dih. 1.26. Nid am ei fod yngwrthwyneb i'w addewid am dderbyn a chroſawu pechadur, Pa bryd bynnac yr edifarhao, ac y troo oddiwrth ei bechodau: ond am nad yw'r ymchweliad yma yn y dydd diwedd ond yn anaml yn wir edifeirwch, ac yn wir ymchweliad, oblegid yr achoſion a ddangoſwyd o'r blaen.

28. Ac i ddibennu'r matter yma ynghylch oedi edifeirwch, pa wr ſynhwyrol yn y byd, wrth ddarllain hyn, nid ofna oedi ymchwelyd at Dduw, pettai hynny heb ddimond tros vn diwrnod? oblegid pwy a wŷr nad hwn yw'r dydd diwethaf y geilw Duw ef i edifarhau? Y mae Daw yn dywedyd, Myfi a elwais, ond chwi a wrthodaſoch ddyfod; mi a eſtynnais fy llaw, ac nid edrychech tu ac attaf; ac am hynny y gwrthodaf ſinnau chwithau yn eich caledi, Dihar. 1. Nid yw efe yn dywedyd paſawl gwaith, a pha hŷd y bu yn galw ac yn eſtyn ei law. Y mae Duw yn dywedyd, Yr wyfi yn ſefyll wrth y drws ac yn curo: ond nid yw yn dywedyd pa hyd y bu yn ſefyll yno, na pha ſawl gwaith y mae'n curo, Date. 3.20. Hefyd, efe a ddywedodd am Jezabel ddrygionus, y gau brophwydes, Mi a roddais iddi amſer i edifarhau am oi godineb, ac nid edifarhaodd hi, am hynny y daw dialedd arni, ond nid yw efe yn dywedyd pa hŷd o amſer a roes efe iddi, Datc. 2.21. Yr ydym ni yn darllain eſamplau aruthrol am y peth yma. Ef a alwyd ar Herod y tâd, a hynny yn vchel, pan ddanfonwyd Joan Fedyddiwr atto ef, a phan gynnhy fwyd ei galon ef i wrando arno yn ewyllyſgar, ac i wneuthur ei gyngor ef mewn llawer o bethau, fel y dengys yr Efangylwr: ond etto am iddo oedi, ac na chymmerodd amſer pan gynnygiwyd iddo, ef a fwriwyd ymaith, fel yr aeth ei weithredoedd diwethaf ef, yn waeth na'i rai cyntaf, Mar. 6. Ef a alwyd hefyd ar Herod y Tetrarch y mâb, pan ddaeth arno chwant cael gweled Chriſt, a gweled gwneuthur rhyfeddodau ganddo ef: ond am nad attebodd efe i'r galwad hwnnw, ni wnaeth llês yn y byd iddo gael galw arno, ond yn hytrach afles a niweid mawr. Pa ddyrnod o guro a gafodd PILAT ar ei galon, pe buaſai iddo cymmaint ô râs ac egori 'r drws yn y man, pan barwyd iddo ddeall fod Chriſt yn ddieuog: fel y gellir gweled wrth ei waith ef yn golchi ei ddwylo yn dyſtiolaeth o hynny, a'i wraig hefyd yn danfon iddo rybodd o hynny? Nid llai curo a gafodd y brenhin Agrippa ar ddrws ei galon, pan lefodd efe wrth wrando ar S. Paul, O Paul, yr wyti o fewn ychydig i'm hynnill i fod yn Griſtion. Ond am iddo oedi'r peth, fe giliodd y cyffro hwnnw ymaith drachefn, Acts 26.28.

29. Tradedwydd fuaſai Pharao, pe buaſai efe yn ymroi ar y cyffro yr oedd yn ei glywed ynddo ei hun, pan ddywedodd efe wrth Foeſen, Mi a bechais: y mae'r Arglwydd yn gyfiawn, a minnau a'm pobl yn annuwiol. Ond wrth oedi, efe a aeth yn waeth nag a fuaſai erioed o'r blaen. Y mae S. Luc yn adrodd fel y bu i Felix rhaglaw y Rhufeinwyr yn Judaea, ymchwedleua yn fynych â S. Paul yn ddirgel pan oedd efe yn garcharor, a chlywed ganddo ffydd Griſt, a chyffroi yn fawr wrth ei glywed, yn enwedig vnwaith ym myſg eraill, pan oedd Paul yn ymreſymmu am gyfiawnder Duw, a'r farn ddiwethaf, hyd oni ddychrynodd Felix; ond etto efe a oedodd ymroi, ac a archodd i S. Paul fyned ymaith, a dyfod atto ef amſer arall: ac felly wrth oedi, ni weithiodd hynny ddim ynddo, Acts 24.25. Pa faint o ddynion ſy beunydd yn mynd yn golledig, rhai wrth fod angau yn eu torri ymaith, rhai trwy fod Duw yn eu gadael, ac yn eu rhoi i fynu i feddwl anghymmeradwy; y rhai a allaſai gael grâs, pe buaſent heb oedi eu hymchweliad o ddydd i ddydd, ac yn ymroi yn y man pan glywent Dduw yn galw yn eu calonnau?

30. Y mae Duw yn haelionus iawn i guro ac i alw, ond nid yw efe yn ymrwymo i amſer nac ennyd yn y byd, ond mynd a dywod pan fynno; a'r rhai ni chymmero 'r amſer a gynnygier iddynt, y maent hwy yn ddieſgus ger bron ei gyfiawnder ef, ac nis gwyddant pa vn a wneir ai ei gynnyg iddynt drachefn ai nas gwneir: am fod hynny yn ſefyll ar ewyllys a gwybodaeth Duw yn vnig, yr hwn ſydd yn dangos trugaredd i'r neb y gwelo efe yn dda, ac nid yw rwymedig i neb. A phan êl heibio vnwaith yr amſer a bennododd efe i alw dŷn, gwae fyth y dŷn hwnnw oblegid ni chair mor amſer hwnnw mwy er mil o'r holl fyd. Y mae Chriſt yn dangos faint o bwys yw'r matter hwnnw, pan oedd efe yn myned i Jeruſalem, ynghanol ei lawenydd a'i ogoniant ni fedrai efe nad wylai tros y ddinas honno, a llefain trwy ddagrau, O Jeruſalem, pe gwybaſit ithau, ie yn dy ddydd hwn y pethau a berthynent i'th heddwch, ond yn awr y maent yn guddiedig oddiwrthyt, Luc. 19. Megis pe y dy wedaſai, Pettit ti yn gwybod, o Jeruſalem, yn gyſtal ac y gwn i, pa drugaredd yr ydys yn ei gynnyg i ti heddyw, ni wnait ti fel yr ydwyt yn gwneuthur, ond ti a'i cymmerit yn y man, ond yn awr y mae dirgel farn fy nhâd yn guddiedig oddiwrthyt ti, a hynny ſy'n peri i ti wneuthur cyn lleied cyfrif o hono, hyd oni ddel dialedd diſymmwth arnat ti: ac felly y daeth cyn pen nemmor ar ôl hynny.

31. Wrth hyn y gellir gweled y rheſwm mawr ſy'n peri i'r gwr doeth roi 'r cyngor yma, Na fydd hwyrfrydig i droi at yr Arglwydd, ac nac oeda o ddydd i ddydd oblegid yn ddiſymwth y daw digofaint yr Arglwydd, a thra fych di yn ddifraw y daw dialedd arnat, Eccleſ. 5.7. Ac fe ellir gweled hefyd beth yw'r achos mawr ſy'n peri i'r Apoſtol gynghori yr Hebraeaid mor ddifrif, ar iddynt dderbyn grâs, Dum cognominatur hodie, tra y barhaai 'r dydd hwnnw, ac na ollyngynt heibio mor achlyſur oedd yn ymgynnyg iddynt, Heb. 3. A hyn a ddylai bawb ei fwrw atto ei hun, ac vfuddhau i'r meddyliau da y mae yſpryd Duw yn ei roddi ynddo. Fe ddylai bob dyn, meddaf, pan glywo feddwl da yn ei galon, ddywedyd yntho ei hun, yr awr hon y mae Duw yn curo wrth fy nrws i, os myfi a egoraf iddo yn y man, ef a ddaw i mewn ac a wna ei drigias ynofi. Ond os myfi a oedaf hyd y fory, ni wn i pa vn a wna efe ai curo drachefn ai nas gwna, Dat. 3.20. Fe ddylai bob dyn feddwl yn waſtad am yr hyn a ddywedodd y prophwyd am yſpryd Duw, Heddyw o gwrandewch ar ei leferydd ef yn galw arnoch, na chaledwch eich calonnau ond ymrowch iddo yn y man. Pſalm 95.

32. Och finnau, frawd anwyl, pa beth yr wyt ti yn ei obeithio ei ynnill wrth yr oedi peryglus yr wyt yn ei wneuthur? Y mae hynny yn chwanegu ar dy gyfrif di, fel y dangoſais o'r blaen: y mae dy ddyled di ar wellhau yn myned yn drymmach: mae dy elyn di yn myned yn gryfach, a thithau yn myned yn wannach; mae yn myned yn anhaws i ti edifarhau; pa beth wrth hynny a allai fod yn dy attal di rhac ymroi allan o law! fe allai mai cael ynnill ychydig amſer iw dreulio mewn gorwagedd. Ond mi a ddangoſais i ti o'r blaen nad y nill yr amſer yw hynny, ond i golli; gan dy fod yn ei dreulio heb ffrwyth yn y byd o dduwioldeb, yr hyn yw gwir y nill yr amſer. Os difyr gennyt ti bechu tros yr amſer preſennol, etto galw i'th gôf yr hyn y mae'r prophwyd yn ei ddywedyd, Agos yw dydd trychineb, a phryſuro y mae'r hyn a barottowyd iddynt. A phan ddêl y dydd, y mae'n rhyfedd gennyf pa obaith fydd gennyt ti bellach, Deut. 32.35. Ai meddwl crio Peccaui Mi a bechais, yr wyt ti? Da fydd hynny o gelli di wneuthur hynny: ond ti a wyddoſt i Pharao wneuthur felly, ac na thycciodd iddo ronyn, Exod. 9. Ai amcanu yr wyt ti wneuthur llythyr cymmon da, a bod yn hael o'th eluſeni yr amſer hwnnw? A da yw dy feddwl di yn hynny: ond etto rhaid i ti gofio hefyd, am y morwynion a lanwaſant eu lampau ar y munyd hwnnw ddarfod i Griſt eu cau hwynt allan, a'i gwrthod hwy yn gwbl. Ai amcanu wylo a chrio yr wyt ti, i geiſio ynnill trugaredd dy arglwydd a'th ddagrau yn yr amſer hwnnw? yn gyntaf, nid oes yn dy allu di wueuthur mo hynny wrth dy ewyllys dy hun: ac y mae'n rhaid i ti yſtyried hefyd fethu gan Eſau gael trugaredd, er iddo ei cheiſio trwy ddagrau, Heb. 12.17. Galw i'th gôf gyflwr Antiochus yn ei gyfyngder, pa addewidion o weithredoedd da, pa addunedau o fyw yn Dduwiol a wnaeth efe wrth Dduw tan ammod cael diange, ac na thycciodd iddo ddim, 2 Mac. 9. Nid wyf yn dywedyd mo hyn i beri i'r rheiny anobeithio ſydd yr awrhon yn y gofid hwnnw, ond i geiſio cynghori eraill rhag ſyrthio i'r vn gofid; a bydd di ſicer, ddarllennydd hynaws, nad heb achos y dywedodd y prophwyd, Ceiſiwch yr Arglwydd tra y galler ei gael: gelwch arno tra fyddo yn agos. Wele yn awr yr amſer cymmeradwy, wele yn awr ddydd yr iachawdwriaeth, medd S. Paul, Eſ. 55.6. 2 Cor. 6.2. Yr awrhon y mae Duw i'w gael, ac yn agos ger llaw, i groeſawu pawb a ymchwelo atto ef o wir ewyllys y galon; ac a roddo ei fryd yn gwbl ar fyw yn dduwiol o hyn allan. Os oedwn ni yr amſer yma, nid oes i ni ſiccrwydd yn y byd y geilw efe nyni mwy, nac y croeſawa ni yn ol hyn: ond y mae i ni yn hytrach lawer o fygythion i'r gwrthwyneb, fel y dywetpwyd o'r blaen. Am hynny mi a ddiweddaf ar yr vn wers yma allan o S. Awſtin, Mai diofal ac anraſlon o ddyn ydyw 'r neb ſy'n gwybod hyn oll, ac er hynny a anturia dragywyddoldeb ei Iachawdwriaeth a'i ddamnedigaeth ar beth mor amheus ac ydyw cael edifeirwch yn yr awr ddiwethaf, Tract. 3.3 Joan.

PEN. VI. Am dri rhwyſtr arall ſydd yn lluddias i ddynion roi eu bryd ar edifarhau; a'r rhai hynny yw Diogi, a Diofalwch, a Chalon-galedwch.

HEB law y rhwyſtrau a grybwyllwyd am danynt o'r blaen, y mae etto amryw rai i'w cael; pettai ddyn yn gallu holi cydwybod pob vn ac ſydd heb glywed arno roi cwbl o'i fryd a'i feddwl ar edifarhau. Ond y mae'r tri a grybwyllaf amdanynt yn y bennod yma, mor hynod ac mor gydnabyddus, ac nas gallaf eu gillwng heibio heb eu hyſpyſu: oblegid bod dynion lawer gwaith heb fod yn eu hwyl, ac etto heb wybod beth yw eu clefyd; a digon i'r rhai a fo'n chwennych cael iechyd gael dangos iddynt beth yw eu hafiechyd er mwyn eu cadw eu hunain rhag clefydau.

2. Yn gyntaf gan hynny, y mae diogi yn rhwyſtr mawr cyffredinol i luddias i ddynion roi cwbl o'i bryd ar edifarhau, ond yn enwedig i'r rhai ſegur mwythus, y rhai a fu fyw mewn llonyddwch ac eſmwythdra ac am hynny ſydd yn coelio am danynt eu hunain nas gallant hwy gymmeryd poen yn y byd, na dioddef caledi, pe gwneynt eu goreu ar hynny. Am y rhai hynny y mae S. Paul yn dywedyd na chaiff maſweddwyr meddfaeth etifeddu teyrnas Duw, 1 Cor. 6.9. Hyn i gyd, a llawer ychwaneg a gyfadde'r gwŷr hyn ei fod yn wir, ac y byddai dda iawn ganddynt eu gwneuthur, ond nas gallant: Ni all eu cyrph hwy ddioddef mo hynny, ni allant hwy gymmeryd dim poen yn eu galwedigaeth, nis gallant hwy mor ymprydio, ni allant hwy mor gwylieid, ni allant hwy mor gweddio. Ni fedranthwy mo'r ymadael a'i pleſſer ac a'i difyrrwch, ac a'i ewmpeini llawen: hwy a fyddent meirw yn y man gan drymfryd a melancholi, meddant hwy, pettent hwy yn gwneuthur hynny, ac er hynny y maent hwy yn ewyllyſio yn eu calonnau fedru gwneuthur hynny, os coelir hwy: ac am nas gallant, nid oes ganddynt ddim ammau na bydd Duw bodlon i'w hewyllys da hwy. Ond gwrandawant hwy ychydig beth y mae'r Scrythur lâ yn ei ddywedyd am hynny, Dihar 21.5. Deiſyfiad y diog a'i lladd, medd Salomon, canys ei ddwylo a wrthodant weithio: ar hyd y dydd y mae'n fawr ei awydd; ond y cyfiawn â rydd ac ni arbed. Cymmerwch y gwâs diog anfuddiol, medd Chriſt, a theflwch i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd, Mat. 25. A phan oedd yn ymdaith ar y ffordd, a chanfod ffigyſbren a dail arno heb ffrwyth, efe a roes iddo felldith dragywyddol yn y man, Mat. 21.

3. O'r ffynnon ddiogi yma, y mae'n tarddu lawer o bethau ſy'n rhwyſtro i'r diog roi ei fryd ar ediſarhau. A'r cyntaf yw rhyw drymder a ſyrthni a gogyſgu tu ac at bob daioni, fel y dywaid yr Scrythur, Syrthni a bair drymgwſg, Dih. 19.15. Ac am hynny y dywaid S. Paul, Deffro di yr hwn wyt yn cyſgu, Eph. 5. Ac y mae Chriſt yn llefain yn fynych, Edrychwch arnoch eich hunain, a gwiliwch. Chwi a gewch weled llawer o ddynion yn y byd, y rhai os chwi a chwedleuwch a hwynt am vchen, neu am wartheg, neu am ddefaid, neu am ddarn o dir, neu'r cyffelyb, hwy a fedrant wrando arnoch a ſiarad a chwi yn ewyllyſgar ac yn ddiſlin iawn; ond os chwi ewch i ymrefymmu a hwynt ynghylch eu hiachawdwriaeth, a'i treftadaeth yn nheyrnas nef, ni attebant hwy i chwi vn gair, ond gwrando megis pettent yn breuddwydio. Am y dynton yma, gan hynny, y dywaid y gwr doeth; Pa hyd ddiogyn y gorweddi? Pa bryd y cyfodi o'th gwſg? Ai etto Ychydig gyſgu, ychydig heppian, ychydig waſgu dwylo i gyſgu? Ac felly y daw dy dlodi arnat megis cennad yn rhedeg, a'th angen fel gwr arfog, Dihar. 6.9. Dihar. 24.33.

4. Yr ail peth y mae diogi yn ei beri ynom ni ydyw peri i ni ofni cymmeryd poen a thrafael, a bwrw peryglon lle ni bo achos, fel y dywaid yr Scrythur, Ofn ſydd yn digalonni 'r diog. Ac y mae'r prophwyd yn dywedyd am y cyfryw rai, Ofnaſant gan ofn lle nid oedd ofn, Pſal. 53.5. Y mae'r cyfryw ddynion yn dychymmyg llawer o feddyliau dieithr am waſanaeth Duw, ac yn bwrw fod yn berygl mawr iddynt ei ddilyn. Vn a ddywaid, pettawn i yn rhoi llawer ni allai nad awn i'yn gardottyn. Medd vn arall, ped ymrown i gymmeryd poen drafaelus yn waſtadol, lladdai hynny fi cyn nemmor o ennyd. Medd y trydydd, pettwn i yn fy naroſtwng fy hun fel yr ydys yn ceiſio gennyf wneuthur, mi a gawn gan bawb fy ſathru dan draed. Ac etto nid yw hyn i gyd ddim ond diogi, fel y tyſtia'r Scrythur lân yn y geiriau hyn, Medd y diog wrth eiſte'n ei dy, Y mae llew allan, ac od af ſi allan i lafurio, fo'm lleddir i ynghanol yr heolydd, Dih. 22.13.

5. Y trydydd peth y mae diogi yn ei beri ydyw llyrfder a gwan galon, a hynny ſydd yn dadymchwel y diog ac yn ei ddigalonni, ar bob tippyn o wrthwyneb ac anhawſder y mae efe yn ei weled neu yn tybied ei fod mewn duwioldeb. A hynny y mae'r gwr doeth yn ei dyſtiolaethu, pan yw yn dywedyd, In lapide luteo lapidatus eſt piger, y diog a labyddiwyd i angau â maen o dom. Hynny ydyw, efe a ymchwelwyd ac a orchfygwyd gan anhawſder heb ddim pwys ynddo. Hefyd De ſtercore boum lapidatus eſt piger, y diog a labyddiwyd â biſwail ychen, yr hwn fynychaf ſydd mor feddal ac nas gwna niweid ei ddyrnod.

6. Y pedwerydd peth y mae diogi yn ei beri ydyw mewvd a muſgrelli: y rhai a welwn eu bod mewn llawen o bobl a chwedleuant ac a ymgynghorant am hyn ac am y llall ynghylch eu gwellhaad, ac heb wellhau vn gronyn. A hynny a ddangoſir yn gymmwys iawn gan yr yſpryd glân yn y geiriau hyn, Fel y drws yn troi ar ei golyn, felly y try'r diog yn ei wely, Dih. 26.14. A thrachefn, Y diog a wna ac nis gwna, Hynny ydyw, ef a ymdrŷ yn ei wely, a rhwng cyngyd gwneuthur a bod heb wneuthur ni wna efe ddim. Ac ymmhellach mewn man arall, y mae'r Scrythur yn dangos ei fuſgrelli ef, fel hyn, Y dyn ſwrth a gudd ei law yn ei fonwes, ac nid yſtyn hi at ei enau, Dih. 19.24.

7. Y pethau hyn a llawer eraill y mae diogi yn eu peri, ond y pedwar peth hyn yn enwedig y tybiais yn dda gyffwrdd a hwynt, am eu bod yn rhwyſtro yn fawr i ddyn ymroi i wellhau ei fuchedd: oblegid pwy bynnag ſydd yn byw mewn ſwrth ddargwſg, ac ni warandawo ac ni roddo glûſt i ddim ac a ddywetter wrtho ynghylch y bywyd a ddaw; a chydâ hynny ſydd yn bwrw bod peryglon wrth wneuthur hynny; ac heb law hynny a dramgwyddo wrth bob peth a fo ar ei ffordd, ac a gwympo; ac yn ddiweddaf fydd mor ddiowgſwrth ac na chlywo arno gymmeryd poen yn y byd; y mae'r cyfryw vn allan o bob gobaith gallu ei ynnill i roi ei fryd ar waſanaethu Duw.

8. Gan hynny, i dynau ymaith y rhwyſtr yma rhaid i'r cyfryw ddynion oſod bob amſer ger bron eu llygaid boen a llafar CHRIST a'i Sainct, a'r cynghorion y maent hwy yn eu rhoi i rai eraill i gymmeryd yr vn fath boen: a'r bygwth a wneir yn yr Scrythur lân ar y rhai ni chymmeront boen: a chyflwr ein milwriaeth ni yma ar y ddaiar, yr hon ſydd yn gofyn ar ein dwylo ni lafurio: a'r goron ſy wedi ei pharottoi i ni am hynny: ar dialedd a'r gofid a ddaw ar y rhai muſgrell diowgſwrth. Ac yn ddiwethaf onis gallant hwy ddioddef poen a llafur buchedd dduwiol, a hithan yn gyffylltedig a chymmaint o gomffordd a hyfrydwch ac nas gellir gan iawn ei galw yn boen; pafodd y byddant abl i ddioddef poenau a gofidiau 'r fuchedd a ddaw, y rhai ſydd ddir eu bod yn anoddef ac yn dragywyddol.

9. Y mae S. Paul yn dywedyd am dano ei hun ac eraill, wrth y Theſſaloniaid, Ni fwyttaſam ni ein bara yn rhâd gyda chwychwi, ond trwy weithio mewn llafur a lludded nos a dydd: i roi i chwi eſampl ar hynny i'w ddilyn ef; ac y mae yn datgan ymmhellach, os byddai neb ni fynnai weithio, na chai fwytta ychwaith, 2 Theſ. 3.8, 10. Y mae Chriſt yn y ddamineg byth yn ceryddu yn dôſt y rhai o dd yn ſefyll yn ſegur; gan ddywedyd, beth a wnewch chwi yn ſefyll yma yn ſegur ar hyd y dydd, ac heb weithio dim, Mat. 20, Myfi yw'r winwydden, medd Chriſt, a'm Tâd yw'r llafurwr, Pob cangen ynof fi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynnu ymmaith, ac yn ei bwrw yn tân, a hi a loſgir, Joan. 15.1, 6. Ac mewn man arall, Torrwch i lawr y pren nid yw yn dwyn ffrwyth, pa ham y mae efe yn diffrwytho'r tir, Luc. 13.9. A thrachefn, Yr ydys yn treiſio teyrnas nefoedd, a'r treiſwyr •• dd yn ei chippio hi trwy boen a llafur, Mat. 11.12 Ac am hynny y mae'r gwr doeth yntau yn dywedyd, Preg. 9.10. Beth bynnag a ymaflo dy law ynddo i'w wneuthur yn y byd yma, gwna a'th holl egni; can nad oes na gwaith, na dychymmyg, na gwybodaeth, na doethineb, yn y bedd, lle'r wyt ti yn myned, ar a dyccia i ti. A thrachefn y dywed yr vn gwr doeth, Y neb a weithio a llaw ddiog a ddaw i dlodi, ond llaw y diwyd a'i cyfoethoga, Dih. 10.4. Ac etto ym mhellach i'r vn defnydd, Y diog nid ardd o herwydd oerder y gauaf, am hynny efe a gardotta'r cynhauaf ac ni chaiff ddim. Dih. 20.4.

10. Hyn i gyd a berthyn i ddangos, mai amſer cymmeryd poen a llafur yw'r fuchedd hon, ac nid amſer i ſegura, a'i bod wedi ei happwyntio i ni er mwyn ceiſio ynnill nef: y hi ydyw'r farchnad, lle mae yn rhaid i ni brynu; a'r gâd, lle mae'n rhaid i ni ymladd ac ynnill y goron; a'r gauaf yn yr hwn y mae'n rhaid i ni hau; a'r dydd gwaith, lle mae'n rhaid i ni lafurio a chwyſu, ac ynnill ein ceiniog gyflog. A'r neb a ollyngo'r dydd yma heibio mewn ſeguryd, fel y mae y rhan fwyaf yn gwneuthur, ſy raid iddo ddioddef tlodi ac eiſiau tragwyddol yn y fuchedd a ddaw, fel y dangoſwyd yn helaeth yn y rhan gyntaf o'r llyfr hwn. Ac am hynny mae'r gwr doeth, neu yn hytrach yr yſpryd glân drwy enau'r gwr doeth, yn rhoi i bob vn o honom ni rybudd a chyngor o'r difrifaf yn y geiriau hyn, Dih. 6.3. &c. Cerdda, bryſia, ac ymbil a'th gymmydog. Na ddyrò gwſg i'th lygaid na hun i'th amrantau: Gwared dy hun fel yr iwrch o law'r heliwr; ac fel aderyn o law'r adarwr. Cerdda at y morgrugyn, edrych ar ei ffyrdd ef, a dyſg fod yn ddoeth. Nid oes ganddo neb i'w arwain, nac i'w lywodraethu, nac iw feiſtroli; ac er hynny y mae efe yn parottoi ei fwyd yr haf ac yn caſglu ei luniaeth y cynhauaf. Wrth y geiriau hyn y rhybuddir ni, pa fodd y mae i ni ymddwyn yn y fuchedd hon, ac mor ddyfal ac mor ofalus y dylem ni fod ym mhob math ar weithred dda, fel y dywaid yr Apoſtol yntau; gan fod y morgrugyn yn gweithio mor ddyfal y cynhauaf, i gaſglu ymborth erbyn y gauaf; felly y dylem ninnau gaſglu erbyn y byd a ddaw, ac nad oes rhwyſtr pennach na pherygclach nâ diogi i leſtair i ni wneuthur hynny. Oblegid fel y byddai ddir i'r morgrugyn farw o newyn y gauaf, pettai efe yn treulio'r hâf mewn ſeguryd; felly yn ddiammau y bydd rhaid i bawb ni weithio gan ddiogi yn y byd yma, ddioddef dygn eiſiau ac angen a gofid yn y byd a ddaw.

11. Yr ail rhwyſtr yr wyfi yn ei alw Diofalwch ac eſgeuluſdra, ond yr wyf fi yn deall wrth hynny beth ſy fwy nag y mae'r gair yn ei arwyddoccau. Oblegid tan enw Eſgeuluſder yr wyf yn cynnwys pob math ar ddynion diofal difraw, y rhai ni chymmerant at eu calon ddim ac a berthyn i Dduw ac i dduwioldeb, ond rhoi eu meddwl mor gwbl ar fatterion bydol, heb fawr feddwl am lachawdwriaeth eu heneidiau. Tan y fath yma ar eſgeuluſdra y cynnhwyſir dau fath ar bobl, y naill yw'r Epicuraeaid, cyfryw ac y mae S. Paul yn dangos fod rhyw Griſtianogion yn ei amſer ef, y rhai oedd yn cymmeryd ennyd yn vnig i fwytta ac i yfed, ac i wneithur Duw o'i boliau, fol y mae llawer o Griſtianogion heddyw, Phel. 3.19. a'r llall yw math ar ddirgel annuwdeb a gwadu Duw: hynny ydyw, ei wadu ef yn eu buchedd a'i hymarweddiad, fel y mae S. Paul yn deall y geiriau, Tit. 1.16. Oblegid er bod y gwyr hyn ar eu geiriau yn cydnabod Duw, ac yn ymhonni o fod yn gyſtal Chriſtianogion ac eraill, etto mewn gwirionedd, yn y dirgel nid ydynt yn credu i Dduw, fel y mae eu buchedd hwy a'i gweithredoedd yn dangos. A hyn y mae Eccleſiaſticus yn ei ddatguddio yn eglur, lle y mae efe yn dywedyd, Gwae'r galon leſg, o herwydd nid yw yn credu i Dduw, Eccl. 2.13. Hynny ydyw, er eu bod yn ymhonni o fod yn credu iddo ac yn ymddiried ynddo, etto mae eu difraw a'i diofal weithredoedd hwy yn tyſtiolaethu nad ydynt yn credu iddo yn eu calonnau: am nad ydynt nac yn gofalu nac yn meddy lio am ddim ac a berthyn iddo ef.

12. Y fath yma ar bobl y mae 'r Scrythur lân yn eu marcio ac yn eu ffieiddio am aredig ag ŷch ac ag aſſen ynghyd, ac am hau eu tir â hâd cymmyſg, ac am wiſgo dillad o lin a gwlân ynghyd, Deut. 22. Y rhai hyn yw y rhai y mae Chriſt yn dywedyd am danynt yn llyfr y Datguddiad: Mi a fynnwn pe bait ti oer neu frwd. Felly am dy fod yn glaiar, ac nid yn oer nâc yn frwd mi a'th chwydaf di allan o'm genau, Datc. 3.15.16. Dymma y rhai a fedr wneuthur cyttundeb rhwng pob math ar grefydd, a dibenno pob ymrafael ynghylch y flydd, trwy ddywedyd, naill ai nad yw'r ymrafael ſy rhyngddynt ond o bwys bychan, neu na pherthyn y pethau hynny ond i wŷr dyſgedig i ſôn am danynt, ac nid iddynt hwy. Dyma 'r rhai a feidr gyttuno â phob math ar gwmpeini, ac â phob amſer, ac ag ewyllys pob tywyſog ynghylch y pethau a berthyn i'r bywyd a ddaw. Dyma y rhai ni fynnant ſôn am yr yſpryd, nac am ffydd, nac am ddwywoldeb, lle y bônt hwy; ond mynnu i ddynion fwytta, ac yfed, a bod yn llawen gyda hwynt; a dywedyd newyddion o'r llŷs âc o leoedd eraill; a chanu a dawnſio, a chwerthin, a chwarau; ac felly treulio eu bywyd yma mewn llai o feddwl am Dduw nac y gwnai'r cenhedloedd erioed: ac onid ydyw reſwm i'r Scrythur lân ddywedyd fod y rhai hyn yn eu calonnau ac yn eu gweithredoedd yn bobl ddidduw? ydyw yn wir. Ac fe ellir ei broſi wrth lawer o reolau CHRIST. Ac dyma vn rheol a oſododd efe ar lawr, Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt, oblegid fel y bo'r pren oddifewn, felly y bydd y ffrwyth a ddaw allan o hono Hefyd; O helaethrwydd y galon y llefara'r genau, Luc. 6, 44, 45. ac wrth hynny, gan nad ydyw eu ſiarad hwy ddim ond am orwagedd bydol, mae hynny yn arwydd nad oes dim amgen nâ hynny yn eu calonnau hwynt. Ac yma y canlyn wrth y drydedd reol, lle y byddo eich tryſor, yno y bydd eich calon hefyd Mat. 6.21. Ac felly gan fod eu calonnau hwy ar y byd yn vnig, y byd wrth hynny ydyw eu hunig dryſor hwy, ac nid Duw. Ac felly y maent hwy yn goſod y byd o flaen Duw, yn y modd y gwna y rhai didduw.

13. Felly y cyrraedd y rhwyſtr yma yn y dyddiau hyn, a llawer o ddynion a rwydir ac a feglir gantho; a'r achos pennaf o hynny ydyw gormodd ſerch ar y byd; yr hyn ſydd yn eu dwyn hwy i gaſau Duw, ac i fagu gelyniaeth yn ei erbyn ef, fel y dywaid yr Apoſtol, Jac. 4.4. ac am hynny nid dim rhyfedd na wnelont hwy na chredu ynddo nac ymhoffi ynddo. Ac o ddynion y byd dyma y rhai anhawſaf eu troi yn ol a pheri iddynt ddodi eu bryd ar wellhâu; am eu bod yn ddiymglywed, ac heb law hynny yn ffo rhag pob peth a allo eu hiachau hwy. Oblegid fel na bai fawr obaith o'r dyn a fai glaf iawn, ac ni chlywai ddim oddiwrth ei glefyd, ac ni choeliai fod arno anhwyl yn y byd, ac ni fynnai ſôn am na phyſygwriaeth na phyſygwr, ac ni chymmerai gyngor yn y byd a gynnygid iddo; na dioddef na fiarad nag ymgynghori ynghylch ei wneuthur yn iach: felly y mae'r dynion hyn mewn cyflwr perygclach na neb arall, am nad ydynt yn gwybod oddiwrth eu perygl eu hun; ond coelio eu bod ddoethach na 'i cymmydogion, a bwrw ym mhell allan o'i meddyliau pob peth ac a allai beri iddynt gael iechyd.

14. Nid oes vn ffordd ond vn, od oes ffordd yn y byd, a all wneuthur llês i'r dynion yma, a hynny ydyw peri iddynt goelio eu bod yn gleifion, a'i bod mewn perygl; a'r ffordd oreu i wneuthur hynny, yn fy nhyb i, ydyw peri iddynt ddeall belled ydynt oddiwrth fod yn Griſtianogion, ac felly oddiwrth bob gobaith o lechydwriaeth ar a ellir ei gael oddiwrth fod yn Griſtianogion. Y mae Duw yn gofyn ar ein dwylo ni, Fod i ni ei garu ef a'i waſanaethu a'n holl galon, ac a'n holl enaid, ac a'n holl nerth. Dyma wir eiriau Duw, a oſodwyd i lawr yn y gyfraith hên a'r newydd, Mat. 22.37. A pha gyn belled, meddi di, ydyw'r gwŷr hyn oddiwrth wneuthur felly, a hwy heb roi hanner eu calon, na hanner eu henaid, na hanner eu nerth i waſanaethu Duw, ie na'r dim lleiaf o honynt? Y mae Duw yn gofyn ar ein dwylo ni fod i ni roi ein holl aſtudrwydd a'n meddyliau ar ei orchymmynion ef, a bod i ni feddwl am danynt yn waſtadol, a myfyrio arnynt ddydd a nôs, yn ty ac allan, y boreu a'r hwyr, wrth fynd i gyſgu ac wrth godi'r boreu. Dyna ei orchymmyn ef, ac nid oes maddeu dim o hono. Ac onid ydynt hwy bell oddiwrth hynny y rhai nid ydynt yn gwario traian eu meddyliau ar hynny, ie na'r ganfed ran ychwaith, nac ond odid vnwaith mewn blwyddyn yn crybwyll am hynny? A all y rhai hyn ddywedyd eu bod yn Griſtianogion, neu eu bod yn adnabod Duw?

15. Y mae Chriſt, wrth fwrw pris pethau 'r bywyd hwn, yn adrodd y wers hon, Vnpeth ſy anghenrheidiol yn y byd hwn, hynny ydyw gwaſanaethu Duw yn ddyfal ac yn ofalus, Luc. 10.42. Y mae'r gwŷr hynny yn gweled llawer o bethau yn angenrheidiol heb law'r vnpeth hwn, ac nad yw'r vnpeth hwn yn anghenrheidiol ddim o hono. Pa ragor wrth hynny ſy rhwng eu tŷb hwy a thŷb Apoſtol Chriſt fydd yn dywedyd na ddylai Griſtion byth garu 'r byd na dim o'r pethau ſydd ynddo, 1 Jo. 2.15. Ac ni char y gwŷr hyn ddim arall ond y pethau ſy 'n y byd. Y mae efe yn dywedyd, Pwy bynnag ſydd yn caru 'r byd, y mae efe yn elyn i Griſt. Ac y mae 'r gwyr hyn yn elynion i bob dyn nid yw yn caru 'r byd. Pa fodd wrth hynny y gall y gwyr hyn ddal gyda Chriſt? Y mae Chriſt yn dywedyd y dylem ni weddio yn waſtadol, Luc. 18.1. A hwythau heb wêddio vn amſer. Y mae Apoſtol Chriſt yn dywedyd dyd am gybydd-dod, ac aflendid, a godineb, a ſerthedd, a choeg-ddigrifwch, na ddylid vnwaith cymmaint a'i henwi ym myſg Chriſtianogion, Eph. 5.1, 3, 4. A'r gwyr hynny ni fynnant ſôn am ddim ond am y pethau hynny. Yn ddiweddaf, y mae 'r holl Scrythur lan yn rhedeg ar hyn, y dylai Griſtianogion fod yn wrandawus, yn wiliadwrus, yn ofalus, yn daerion, yn frydion, yn parhau yn ddibaid yngwaſanaeth Duw. Ond nid oes yn y gwyr hyn yr vn o'r pethau hyn, na rhan yn y byd o'r vn o honynt; ond bawb y gwrthwyneb yn vnion. Oblegid nid ydynt hwy nac yn hygluſt i wrando, na yn wiliadwrus, nac yn ddiwyd. nac. yn ofalus, chwaethach bod yn daerion, yn frydion, ac yn parhau yn ddibaid. Ond yn y gwrthwyneb, y maent hwy yn ddiofal, yn eſgeulus, yn fuſgrell, yn llacc ac yn llaes; yn oerion, yn wrthnyſig, yn dirmygu, ac yn diyſtyru, ac yn w thwyneb ganddynt, ac yn ffieiddio pob peth a berthyn tu ac at eu marwolaethu eu hunain, a thu ac at wie waſanaeth Duw. Pa ran wrth hynny ſydd i'r gwy hyn gyda Chriſtianogion, ond yr enw yn vnig y hwn ni thyccia ddim iddynt.

16. A hyn ſy ddigon i ddangos mor fawr ac mor beryglus o rwyſtr ydyw 'r eſgeuluſdra, a'r diofalwch, a'r difrawch yma, i luddias i ddynion roi eu bryd ar waſanaethu Duw. Oblegid os ydyw Chriſt yn gofyn gan y neb a fynno roi ei fryd yn llwyr ac yn gwbl ar ei waſanaethu ef, fod i'r neb a ganfyddo vnwaith y tryſor cuddiedig yn y maes (hynny ydyw teyrnas nef, a'r vnion ffordd ſydd yn tywys iddi) fyned yn y man a gwerthu cwbl ac a fedd, a phrynu 'r maes hwnnw, Mat. 13.44. hynny ydyw, bod iddo wneuthur mwy cyfrif o erlyn am deyrnas nef, nac o holl ddaioni 'r bywyd hwn, ac anturio cwbl o honynt yn hytrach nag eſgeuluſo 'r tryſor yma. O yw Chriſt meddaf, yn gofyn hynny ar ein dwylo 〈◊〉 , pa bryd y daw 'r dynion yma i wneuthur hynny, y rhai ni fynnant roi y rhan leiaf o'i da tu ac at brynu 'r maes hwnnw, na myned vnwaith allan o ddryſau eu tai i ſôn am eu brynu, na meddwl na ſôn am dano, na thybiaid yn dda o'r neb a ddan oſo iddynt y modd y mae iddynt ddyfod o hŷd iddo.

17. Am hynny y neb a'i clywo ei hun, o'r meddwl hwnnw, mi a gynghorwn iddo ddarllain ymbell bennod yn nechreuad y llyfr hwn, yn enwedig y trydydd ar pedwerydd y rhai ſy 'n dangos yr achoſion y danfonwyd ni i't byd hwn o'i plegid; a'r pummed hefyd, yr hwn ſy 'n dangos pa gyfrif ſy raid i ni ei wneuthur i Dduw o'r amſer yr ydym ni yn ei dreulio yma; ac yno nid wyf yn ammau na chaiff weled yr amryfuſedd a'r perygl y mae efe yn ſefyll ynddo, wrth fod mor eſgeulus ddiofal ac edrych am bethau mor weigion ddiles ac y mae, y rhai ni ddaeth efe i'r byd o'i hachos; a gadael heibio, heb na gofalu na meddwl am danynt, y pethau ſydd o bwys, ac y dylai roi ei fryd a'i feddwl arnynt.

18. Y trydydd rhwyſtr a'r diwethaf y mae 'n fy mryd grybwyll am dano yn y llyfr hwn; yw 'r drwg dueddfryd ſy mewn rhai, yr hwn y mae 'r Scrythur lân yn ei alw Caledwch calon, a Chyndynrwydd meddwl, pan fo dyn wedi goſod cwbl o'i fryd a'i feddwl nad ymadawo byth a'r cyflwr pechadurus y mae 'n byw ynddo, beth bynnag a ddyweder neu a aller ei ddywedyd yn ei erbyn. Ac mi a adewais y rhwyſtr yma hyd yn olaf yn y llyfr hwn, o herwydd mai hwn yw 'r diweddaf, a'r gwaethaf o'r holl rwyſtrau a ddangoſwyd o'r blaen, ac yn cynnwys ynddo bob math ar ddrygioni ac ſydd yn yr vn o'r llaill, ac ſy gyda hynny yn ymroi 'n gwbl o wir ddihewyd calon i bechu; yn gwbl wrthwyneb i'r peth yr ydym yn llafurio ar i ddynion roi eu bryd arno.

19. Y Caledwch calon yma ſydd ynddo amryw raddau mewn amryw ddynion, a hynny yn helaethach mewn rhai nag yn y llaill. Oblegid y mae rhai wedi cyrrhaeddyd hyd at y Caledwch eithaf a ſoniais am dano o'r blaen; yn gymmaint ac er eu bod hwy yn gwybod yn dda eu bod ar gam, etto er mwyn rhyw achos bydol, nid ymroant hwy i newidio eu buchedd. Cyfryw oedd Galedwch Pilat, oblegid er ei fod yn gwybod yn dda ei fod yn rhoi barn yn erbyn Chriſt ar gam, etto rhag colli ewyllys da yr luddewon, neu anfoddhau eu dywyſog, efe a aeth rhagddo ac a roes farn yn ei erbyn ef. Hyn hefyd oedd galedwch Pharao, yr hwn er ei fod, yn gweled y gwyrthiau a wnai Foeſen ac Aaron, ac yn clywed llaw Dduw yn drom ar ei deyrnas, etto am na fynnai wybod arno gael ei orchfygu gan bobl mor wael ac oeddynt hwy, ac am na fynnai i ddynion feddwl y mynnai efe ei gymmell i laryeiddio, efe a barhaodd yn waſtad yn ei wrthnyſigrwydd a'i ddrygioni, hyd oni ddaeth arno o'r diwedd lwyr ddygn ddinyſtr a dialedd. Y Caledwch calon yma hefyd oedd ymrenhin Agrippa, ac yn Felix rhaglaw Judaea, y rhai er eu bod yn meddwl yn eu cydwybod fod S. Paul yn dywedyd y gwir wrthynt hwy, etto rhag ofn colli eu gair yn y byd, hwy a barhaſant, ac a gyfrgollwyd yn eu gwagedd eu hun. Ac y mae 'r caledwch yma fynychaf ym mhawb ac ſy 'n erlid rhinweddau da a dynion da, ac yn enwedig y rhai ſy yn dal ar y gwirionedd. Oblegid er eu bod hwy 'n gweled fod y rhai hynny yn wirion, a bod gair Duw a chyfiawnder ar eu tu hwynt: etto er mwyn cadw eu hyſtad, a'i gair, ac ewyllys da 'r byd, y maent hwy yn parhau yn eu drygioni heb na thrugaredd nac edifeirwch, hyd oni ddêl Duw o'r diwedd a'i torri hwy ymaith ynghanol eu drwg feddwl a'i cynddaredd.

20. Y mae eraill nid oes ynddynt cymmaint caledwch calon a pharhau yn eu drygioni yn erbyn eu gwybodaeth, etto y mae ynddynt mewn modd arall, am eu bod wedi rhoi eu bryd yn gwbl ar ganlyn y ffordd a gychwynnaſant, ac ni fynnant ddeallt y peryglon ſy ynddi, ond yn hytrach ceiſio ſiccrhau eu coel ar y fford honno, a llonyddu eu cydwybodau ynddi: ac nid oes dim a'i digia hwy yn gymmaint a chlywed dim a fo gwrthwyneb iddi. Am y rhai hyn y dywaid Job dduwiol, hwy a ddywedaſant wrth Dduw, Cilia oddiwrthym, canys nid ydym yn chwennych adnabod dy ffyrdd di, Job 21.14. A'r prophwyd Dafydd, yn oleuach etto, Eu gwenwyn ſydd fel gwenwyn aſp. Y maent fel y neidr fyddar, yr hon a gae ei chluſtiau, ac ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo 'r ſwynwr, Pſal. 58.4. Wrth y ſwynwr yma y mae efe yn deall yr yſpryd glan, yr hwn fy 'n ceiſio ym mhob modd eu denu hwy oddiwrth yr hudoliaethau ſydd yn eu rhwydo hwynt; a'r rheiny a eilw yr gwr doeth, Faſcinationes vanitatis, Hudoliaeth gwagedd. Ond fel y dywaid y prophwyd, Hwy a wrthodaſant wrando, ac a roeſant yſgwydd anhydyn, ac a drymhaſant eu cluſtiau rhag clywed: Gwnaethant eu calonnau yn Adamant rhag clywed Cyfraith yr Arglwydd, ac ymchwelyd atto ef, Zech. 7.11.

21. Yr ydys yn bwrw 'r pechod mawr yma yn enwedig ar yr Iuddewon, fel y mae S. Stephan yn tyſtiolaethu pan ddywedodd efe yn eu gŵydd hwy eu hunain, Acts 7.51. Chwychwi Iuddewon gwarrgaled, yr ydych chwi bob amſer yn gwrthwynebu 'r Yſpryd glan, gan feddwl wrth hynny, fel y dengys Chriſt yn helaethach, eu bod hwy yn gwrthwynebu prophwydi a Sainct Duw, yn y rhai yr oedd yr yſpryd glan yn llefaru wrthynt o amſer i amſer am wellhau eu buchedd. Ac am nas gallent hwy gan oleuni yr wybodaeth yr oeddynt yn ei gael wrth wrando cyfraith Dduw, nac mewn gwirionedd nac mewn lliw fwrw dim yn erbyn y pethau a ddywedid, nac yn erbyn y beio a'r ceryddu a wneid arnynt, ac etto a roent eu bryd yn gwbl nad vfuddhaent, ac na newidient eu hên arfer: am hynny y cwympaſant o'r diwedd i erlid y rhai a'i ceryddai, a'r achos o hynny oedd galedwch calon yn vnig: Hwy a wnaethant eu hwynebau yn galettach na 'r graig, ac a wrthodaſant ddychwelyd, medd Duw trwy enau Jeremi, Jer. 5.3. Ac mewn man arall yn yr vn prophwyd y mae efe 'n cwyno yn dôſt rhag eu cyndynrwydd hwy, Pa ham y ciliodd pobl Jeruſalem yma yn eu hôl, ag enciliad cynnhennus cyndyn, fel na wrandawant arnaf fi, Jer. 8.5. Sic latine; Ac etto drachefn, Pa ham y byddwch feirw, chwi ty Iſrael? Ezec. 33.11. Pa ham yr ydych yn eich gwneuthur eich hunain yn golledig? Pa ham yr ydych chwi mor gyndynniog ac nas gwrandewch; ac mor anhydyn ac nas dyſgwch; ac mor greulon wrthych eich hunain ac nas mynnwch wybod y perygl yr ydych ynddo, na deall y dialedd ſydd vwch eich pennau.

22. Ond wyt ti yn tybiaid, frawd anwyl, fod Duw yn arfer y fath ymadrodd, nid yn vnig wrth yr Iuddewon, ond hefyd wrth lawer mil o Griſtianogion, ac yſgatfydd wrthyt ti dy hun lawer gwaith yn y dydd, am dy fod di yn gwrthod y meddyliau da y mae efe yn eu rhoi ynot ti, a'r moddion da eraill y mae efe yn eu harfer, i geiſio dy dynnu di i'w waſanaethu ef; a thithau ath fryd yn gwbl nad ymroech iddynt; ond canlyn dy ffordd dy hun, er maint a annoger arnat i'r gwrthwyneb? Och och, pa ſawl Chriſtion ſydd yn dywedyd wrth Dduw bob dydd, fel y dywedai yr annuwiol, Cilia oddiwrthym, nid ydym ni yn chwennych adnabod dy ffyrdd di. Pa faint ſy o ddynion yn ffiaidd ac yn gâs ganddynt gyngor da; yn ofni ac yn crynu rhag darllain llyfrau da; yn gochel ac yn caſſau cwmpeini duwiol, rhag i hynny gyffroi dim ar eu cydwybod hwy, ac iddynt ddychwelyd, a bod yn gadwedig? Pa faint ſy o rai a ddywedant gydâ 'r rhai calon-galed anhappus hynny y mae 'r prophwyd yn crybwyll am danynt, Ni a wnaetham ammod ag angeu ac ag vffern y gwnaethom gyngrair. Megis pe y dywedent, Na flinwch ni, nac aflonyddwch arnom a'ch cynghorion, na threuliwch ddim o'ch geiriau a'ch trafael yn ofer: ſiaredwch a'r rhai ſy etto heb ſefydlu: cymmered y neb a fynno 'r nef: yr ydym ni a'n meddwl cennym: yr ydym ni wedi gwnenthur ammod, ac y mae 'n rhaid i ni ei gyfiawni, ag vffern ac ag angeu tragywyddol. Eſ. 28.15.

23. Cynddaredd ryfeddol ydyw calon-galedwch; ac nid heb achos y cyffelyba 'r prophwyd hynny i wenwyn a chynddaredd ſarph, Pſal. 58.4. Ac mewn lle arall y mae 'r Scrythur lan yn dangos pa fath ydyw, yn y modd hyn, Yr wyt ti yn galon galed, a'th warr ſy fal geuyn haiarn, a'th dalcen yn bres, Eſ. 48.4. Pa beth a ellir ei ddywedyd ddwyſuch,De Conſ. ad Eug. lib. 5. cap. 1. i ddangos galetted y fettel yma? Ac etto y mae S. Bernard yn ei ddangos yn helaethach yn y geiriau hyn, A pha beth wrth hynny yw calon-galed? Ac yn y man y mae 'n atteb, Calon-galed yw 'r hon ni ddryllir gan driſtwch, ac ni feddalheir gan dduwioldeb, ac ni chyffroir gan weddi, ac nid ymrydd er bygwth, ac ni wellhaa ddim ond yn hyttrach gwaethygu gan gerydd. Calon-galed yw 'r hon ſy anniolchgar i Dduw am ei ddoniau, ac anufudd i'w gynghorion ef: yr hon a greulonir gan ei farnedigaethau ef, ac a ymollwng pan geiſio efe ei denu, ac ſy ddigywilydd mewn brynti, a diofn rhag perygl; ac anhynaws wrth drin y byd, ac anhydyn yn y pethau a berthyn i Dduw, ac yn anghoſio 'r pethau a aeth heibio, ac yn eſgeulus ddifraw yn y pethau ſy breſennol, ac yn anfeddylgar ddiddarbod am y pethau a ddaw.

24. Wrth eiriau S. Bernard y gellir gweled, fod calon galedwch agos yn glefyd diobaith anaele heb feddyginiaeth iddo, lle y digwyddo. Oblegid beth a wnewch chwi, medd y tad duwiol hwnnw, i geiſio help iddo? os dangoſwch iddo doſted yw pechod, ni chyffry arno ronyn gan ofid: os dangoſwch iddo bob math ar reſwm, y dylem ni waſanaethu Duw, ac na ddylem na'i ddigio, na'i ammherchi, er hynny ni liniara ac ni feddalhaa efe vn gronyn. Pettych yn ymbil ag ef ac yn erfyn arno trwy ddagrau, ie ar eich gliniau, ni chyffroai arno ronyn. Os bygythiwch ef a digofaint Duw, nid ymddyry efe ddim er hynny. Os Duw a'i fflangella ef, efe a ſyrth mewn cynddaredd, ac a â yn galon-galettach nag oedd o'r blaen. Os gwna Duw gymmwynaſau iddo, efe a â yn anniolchgar. Os ei gynghori a wna ynghylch ei lachawdwriaeth, nid vfuddhaa efe. Os crybwyllwch wrtho mor ddirgel ac mor dôſt yw barnedigaethau Duw, efe a gwymp mewn anobaith, ac a fydd creulonach. Os ceiſiwch ei ddenu a'i ynnill a thrugareddau Duw, hynny a wna iddo ymroi i ddrygioni. Os dywedwch iddo ei frynti, ni wrida efe. Os rhowch iddo rybudd o'i beryglon, nid ofna efe. Os trin matterion y byd a wna, y mae 'n falch ac yn annhirion. Os trin pethau Duw a wna, y mae efe yn waedwyllt, ac yn anwadal, ac yn drahaus. Yn ddiwethaf, y mae 'n gollwng yn anghof bob peth aeth heibio am ddynion eraill, y modd y gobrwywyd hwy am eu duwioldeb, neu y coſpwyd hwy am eu pechodau. Am yr amſer preſennol, y mae efe yn ei eſgeuluſo, ac heb wneuthur cyfr 'n y byd o'i arfer tu ac at ei lês. Ac am y p thau a ddaw, pa vn bynnag a'i dedwyddyd a'i colledigaeth, y mae efe yn gwbl ddiddarbod o honynt, ac heb wneuthur cyfrif o honynt, er mynyched ac er difrifed y crybwylloch wrtho am danynt. A pha fodd y gellir help i'r cyfryw vn?

25. Nid heb achos mawr yn ſiccr y gweddiodd y gwr doeth mor ddifrif at Dduw, Na ddod fi i fynu i feddwl digywilydd anllyfodraethus, Eccl. 23.6. Ac y mae'n rhoi rheſwm am hynny mewn man arall o'r vn llyfr, Drwg fydd ar galon galed yn y diwedd, Eccl. 3, 26. O na ddaliai bob vn ſy galongaled ar y rheſwmyma. Ond y mae S. Bernard yn myned rhagddo, ac yn dangos mor ofnadwy yw hyn ymmhellach, pan yw yn dywedyd, Ni bu erioed etto un dyn calon-galed yn gadwedig, De conſ. l. 1. cap. 1. oddieithr i Dduw o'i drugaredd dynu oddiwrtho ei galon galed, a rhoi iddo galon gnawd, fel y dywaid y prophwyd, Ezek. 36.26. Wrth y geiriau hyn y mae S. Bernard yn dangos, ac yn profi allan o'r prophwyd, fod dau fath ar galon mewn dynion, y naill o gnawd, yr hon a waeda ond ei phigo; hynny ydyw, hi a ſyrth mewn cyſtudd a dolur, ac edifeirwch, a dagrau, er lleied a gerydder arni am bechod. A'r llall ſydd galon garreg, yr hon er maint a faeddoch ac a guroch arni a gyrdd ac a morthwylion, chwi a ellwch cyn hawſed ei thorri yn ddrylliau, a'i phlygu neu beri iddi waedu. Ac ar y ddau fath yma ar galon yn y byd yma, y mae 'n ſefyll ein holl ddedwyddwch a'n hannedwyddwch ni yn y byd a ddaw. Oblegid, megis pan oedd Duw a'i fryd ar ddwyn dialedd ar Pharao, nid oedd ganddo ffordd doſtach i wneuthur hynny na dywedyd; Mi a galedaf galon Pharao, Exod. 4. hynny ydyw (fel y mae S. Awſtin yn deall) mi a ddygaf fy ngrâs oddiarno, ac a adawaf iddo galedu ei galon ei hun: felly pan oedd yn chwennych dangos trugaredd i Iſrael, Super Exod. & S r. 88. de t •• p. nid oedd ganddo fodd i'w ddangos yn eglurach na dywedyd, Mi a dynnaf y galon garreg allan o'ch cnawd chwi, ac a roddaf i chwi galon gig, Ezek. 36.26. Hynny ydyw, Mi a dynnaf ymaith eich calon galed chwi, ac a roddaf i chwi galon feddal, yr hon a gyffry pan lefarer wrthi. Ac o'r holl fendithion a'r doniau y mae Duw yn eu rhoddi i ddynion yn y'byd hwn, y galon feddal dyner yma yw vn o'r rhai mwyaf; hynny ydyw y cyfryw galon ac a fo hawdd genthi edifarhau, a ddioddef yn hawdd ei cheryddu, a fo hawdd ei gwanu a'i phigo, a fo hawdd genthi waedu, a fo hawdd ei chymmell ar wellhaad. Ac o'r gwrthwyneb, ni all fod melldith a dialedd mwy ar Griſtion, na bod ganddo galon galed gyndyn, a fo yn pentyrru dialedd beunydd arni ei hun ac ar ei pherchen hefyd; fel y dywaid S. Paul; hi a gyffelybir gan yr Apoſtol i dir ni phair glaw yn y bydiddo fod yn ffrwythlon, er mynyched y ſyrthio arno, ac am hynny y mae yn datgan am dano ei fod yn anghymmeradwy, ac yn agos is felldith, ac mai ei ddiwedd fydd ei lo gi, Heb. 6.8.

26. A chan fod y peth felly, nid rhyfedd fod yr Scrythur lan yn ein hannog ni mor ofalus i ochel calon-galedwch, am nad oes clefyd perygclach, nac mor anaele, ac a all ddigwydd i Griſtion, gan mai hwnnw yw 'r drws neſaf fel y dywaid yr Apoſtol, i ddyn i gael ei wrthod gan Dduw. Ac am hynny y llefa S. Paul, Eph. 4.30. 1 Theſſ. 5.19. Na thriſtewch lân Yſpryd Duw; Na ddiffoddwch yr yſpryd, trwy galedwch calon, a thrwy wrthwynebu a gw thladd yr yſpryd. A thrachefn, Na chaleder calon neb o honoch trwy dwyll pechod, Heb. 3.13. Y mae 'r prophwyd Dafydd ynta yn llefain, Heddyw o gwrandewch ar leferydd Duw yn galw arnoch i edifarhau, na chaledwch eich calonnau yn ei erbyn ef, Pſ. 95. Ac y mae 'r holl eiriau difrif yma eiddo 'r yſpryd glán yn dwyn ar ddallt i ni mor ofalus y dylem ni fod i ochel yr haint gwenwynig yma, calon-galedwch: a'r holl-alluog Dduw o'i drugaredd a roddo i ni ras i wneuthur hynny, ac a'n cynnyſgaeddo ni a chalon dyner i vfuddhau yn gwbl i'w ddwyfawl fawredd ef; y cyfryw galon feddal, meddaf, ac a ddymunodd y gwr doeth ei chael pan ddywedodd efe wrth Dduw, Dyro i'th wâs galon ddeallus, vfudd i wrando, a hawdd ei dyſgu, 1 Bren. 3.9. y fath galon ac y mae Duw ei hun yn dangos ei bod ym mhawb a'i carant ef, gan ddywedyd, Ar bwy yr edrychaf, ond ar y truan, a'r cyſtuddiedig o yſpryd, ac ſydd yn crynu wrth fy ngair, Eſ. 66.2.

27. Dyma anwyl frawd, y fath galon y mae Duw yn ei diſgwyl ar dy law di: calon fechan, druan, vfudd, oſtyngedig, a chalon ddrylliedig am dy bechodau; a chalon a gryno wrth bob gair a ddèl attati oddiwrth Dduw trwy enau ei weinidogion. Pa fodd wrth hynny nad ofni wrth yr aml eiriau a'r hir draethawd a aeth o'r blaen, i geiſio dy ddeffro di, a dangos i ti dy berygl, a cheiſio dy wellhau di? Pa fodd nad ofni di fygythion a barnedigaethau yr Arglwydd mawr yma am dy bechod di? Pa fodd y llefeſi di fyned rhagot yn ei ddigio ef? Pa fodd yr oedi di yn hwy wellhau dy ſuchedd? diau y gallaſai y rhan leiaf o'r hyn a ddywetpwyd fod yn llawn ddigon i gyffroi calon dyner, ac yſpryd vfudd goſtyngedig, i wellhau ei buchedd yn y man. Ond onis gall y cwbl beri i ti wneuthur hynny; ni fedrafi ddywedyd dim amgen na bod gennyt ti galon galed iawn: Yr hon er mwyn dy Iachawdwriaeth di, yr attolygaf ar y Tad o'r nef ei meddalhau a gwerthfawr waed brŵd ei vnig fab ein Iachawdwr, yr hwn a fu fodlon i golli ei waed ar y groes er dy fwyn di.

28. Ac dyma i chwi gwbl ac a amcenais ei adrodd yn y llyfr hwn, i ddangos i chwi yr modd y mae i chwi wneuthur eich goreu ar droi at Dduw ac ymadael a'ch drwg fuchedd, ac y mae hyn yn llawn ddigon gydâ chymorth glân yſpryd Duw, yr hwn ſydd bod amſer yn barod i gymmorth pawb a wnêl ei oreu ar ochel yr hyn ſy ddrwg, a dilyn yr hyn ſy dda. Ac onid ydyw hyn ddigon i ti, ddarllennydd hynaws, ni wn i pa obaith a all fod o'th iachawdwriaeth di. Oblegid y mae yn ammhoſſibl i ti fyned i'r nef, o byddi fyw yn annuwiol heb edifarhau. Ie y mae cyn hawſed i i allu gyrru Duw ei hun allan o'r nef, a chael myned i'r nef dy hun os ti a barhei yn dy annuwioldeb. Beth wrth hynny a wnai di? A elli di fod heb fyned i'r nef, a gochel vffern hefyd? Na elli ddim. Beth ynteu a wnai di? ai oedi 'r matter, a meddwl yn ôl hyn beth ſy oreu i ti ei wneuthur? Ond bydd di ſiccr na chai di byth amſer cyſtal, na hanner cyſtal a'r amſer preſennol. Ac od yw anhawdd i ti yr awrhon wellhau dy fuchedd, gwybydd yn ddiau y bydd anhaws o lawer i ti yn ôl hyn. Os gwrthodi di gymmeryd edifeirwch pan y cynnygier yt, mae arnaf ofn nas cai di mwy ei gynnyg i ti. Wrth hynny, frawd anwyl, nid oes dim well i ti nâ'i gymmeryd allau o law. Gwna dithau hynny, a gwna i angylion nef lawenhau o'th achos. Na ſid gwellgennyti, fel y mab afradlon, Luc 15. fwytta 'r ciban gyd 'r môch yn y byd hwn, nâ chymmeryd gwahodd i'r wledd nefol gydâ Duw a'i angylion. I'r hon y dygco Duw nyni 1 gyd, trwy Jeſu Griſt ein Harglwydd. Amen.

DIWEDD.
Gweddi 'r Arglwydd yn iaith Lydaw.

HON Tad pehun ii ſou en efaou, Da hanou bezet ſanctifiet, Deuet aornomp da rouantelaez, Da eol bezet graet en douar, eual maz eou en euf, Rho dimp hyziou hon bara pemdeziec, Pardon dimp hon pechedou, eual ma pardonomp da nep pegant ezomp offanzet, Ha nas dilaeſ quet a hanomp en temptation, hoguen hon diliur diouz drouc. Rag dit ez aparchant an rouantelaez, an gloar, hac an galhout da biz auiquen. Amen.

Megis pe dywedyd fel hyn yn Gymraeg.

EIN Tad yr hwn y ſy yn y nef, Dy henw byddet ſancteiddiedig, Deuet arnom (h. e. attom) dy rwyvanolaeth, dy ewyllys byddet wneuthuredig yn y ddau r, yfal y mae ef yn y nef, Rho di i ni heddyw ein bara beunyddiol, Pardyna di i ni ein pechodau, yfal y pardynwn i'r neb a bechant i'n herbyn. A nas dyluſcer o honom yn temptaſiwn, hagen ein gwared oddiwrth ddrwg. Herwydd i ti ys perthyn y chwyvanolaeth, a'r glod, a'r gallu hyd byth anniben. Amen.

Yn iaith GERNYW. En henao Den Tad, han Mab, han Spiros Sans. Amen, en dellarebo.

AN Tad ni (alias Taz ni) es en nev, Beniged (alias Benigas) ew (alias rebo) tha henaw, Tha gwlasker ma tefa, Tha vonogath rebo grued (alias Gwreaz) pagar en noar hag yn nev, An bara ni pob deth (alias died) rho d' yn hythou, Gav da ny gyn cambwith (alias cambgrwyth) pacar tha ena ny neb a camb awreth (alias a camb grwyeg theny, Ha na or ny in temptation, bes guithe ny mes a throag (alias Liuera ny reb drog) Amen, en della rebo.

Ac fel hyn yn GYMRAEG.

EIN Tad ni y ſy yn y nef, Bendigaid yw (vel bo) dy henw Dy wledych boed dyffo (h. e. delo) Dy fynnogaeth (â Mynnu) bo gwneuthuredig megis yn nauar ac yn nef, Ein bara ni bob dydd, rho di i'n heddyw, A maddeu di ini ein camwaith (vel Camwedd) fel yr ym ni (yn maddeu) i'r neb a gamwedda i ni, A na yrr ni yn temptaſiwn, onid gwth ni ymaes o ddrwg, Amen, felly y bo.

Pyogciau 'r FFYDD yn iaith Lydaw.

ME a creet en doue an tad hollg alloudec, crouer an euf, hac an douar; hac e Jeſu Chriſt e map vnic hon aoutro, pehuny ſon conceuet dre an ſperet glan: ha ganet eux an guerches Mary an deueux; gonzauet dydan Poncz Pilat, crucifiet, marou, na ſebelyet: ſo bezet diſquennet dan yfernou: an trede deiz ezeou dazſorchet a marou: hac ezeou pignet en efaou: hac aſezet en tu dehou da done an tad hollgalloudec. A hane e deuhy da barn an beou, hac an marou. Me a creet en ſperet glan: an ylys vniverſal: communion an ſent: Remiſſion an pechedou; dazſorchen an quyc: hac an buhez aeternal. Amen.

Yr vn, yn Iaith Gernyw.

MEE a greas in dew taz oll dew goloſack, gwreear nev ha noar; hac idm e vab ev Ieſu Chreeſt an arleth ny aweth conceues der an ſperez ſanz, geanes an worthies Varia, peze indadu Poutins Peelat, goares en grows, mar au hac anclishiss, tha eeſarn ev deskidnyas, an tredg a death ev tetherias thurt mernaus, tha vownans tha nev ev aſcendias, hac ena ma o ſeatha an bargh dighow than Deu taz, hac alena ma tha thoaſ, rag jidga bew ha maraw. Mee a greas in ſperes ſanz, hac in ſanz egles lean a feth, Comminyan an ſenz, geevans an pehooſt, dereeuians an keeg, bownans heb duath. Amen, indelua rabo.

Emyn Ambroſ ac Awſtin, yr hwn a elwir y Te Deum, ac a gyfieithiwyd yn Gymraeg y gan Ddafydd ddu o Hiraddug fel yr ydys yn tybied. TI Dduw addolwn, Ti a weddiwn, ti a addefwn, dymuniad eiddundofwr ddofydd. Ti arglwydd nefawl, tad tragywyddawl, cenhedl to daiar a'th fawl, y ſawl y ſydd: Engylion gerddau, nef a'i meddiannau, oll a'th fawl dithau, Arglwyddi rhiauArglwydd rhiydd. Cherubin gynnwys, Scraphin frowys, a ganant ynhyfryd lwys can lawen leifwawd newydd. Sant, Sant, Sant Arglwydd Sabaothllywydd anwyl. culwydd, ſanctaidd wawr hylwydd, cyfarwyddwr hwyl haul loywddydd. Llawn yw nefawl chwant, o'th fawr ogoniant, yr hyll genedl arianog. a hylldo ariant, holl daierydd. Gogoneddus gor Apoſtolion ebyſtl, nefawlArglwydd bor, a'th fawl, falch gyngor, gangau dedwydd. Moliannus i'nllywodraeth rhi, rhif y prophwydi, a'th fawl, Griſtdirgel Celi, colofn bedydd. gwyn lu Canheidluyn gweiddi yn aml. creudwyſg, a gerddant i'thPlith wyſg, Yn llu aurtorf a rhwyſg. durfrwyſg, yn llwyr dorf-rydd. Santes eglwyſwawd, drwy'r hollCred. fedyſſawd, dyro hael ddefawd o lin Ddafydd. Ein tad trugaredd, anfeidrawl fawredd, a'i haddef pob gwedd, gwiw ddawngwlad elfydd. Dy anrhydeddus, vnmab moliannus, a mawl crefyddus, ffyrf gampus ffydd. Dy gyd ddiddanwch, Sant yſprydllawenydd elwch, a folir ynhelaeth fflwch, gloyw ffloyw leferydd. Chriſt bennadur cred, brenin gogoned, ti yw 'ndymuniad eidduned hyddiwedddydd. diwedydd. Tragywyddawl blant, tragywydd dad ſant, ti bian moliant, miloedd beunydd. Ti a gymmerth cnawd, o fru morwyndawd, a dynawlbenhedl. giwdawd, o nawd newydd: I ryddhau dyn, y gan ei elyn, o vſſern derfyn, trwſt. dwrftân. vfelydd. Ti a egoraiſt, i ddyn a greaiſt, nef pan i'n prynaiſt, ar bren palmwydd. Y mae d'eiſteddiad, ar ddeau dy Dad a'th breſwyl gwaſtad, da. madcynganedd. mydr ſillydd. Ti Arglwydd Jeſu a ddaw i farnu, a fo ac a fu, llu llawenydd. Nertha dy weiſion, gwerth dy waed gwirion, mawr wyrthiau. gwyrthfawr dy goron, galw. goralw grefydd. Par eu gobrwyaw, gyda'th Saintdedwyddiach. aelaw, a'r fuchedd rhag llaw, rheolwr. llyw llioſydd. Gwared dy bobloedd, gwerin dy wladoedd, gweryd ar nefoedd, arglwydd. nafgorfodawg. rhysfaydd. Llywia hwynt, nef ner, llywiawdr vehelder drycha vch no'r ſer, arglwydd. muner mynydd. Ti a fendigwn ti a addolwn, gwaſtad i'th garwn, i'th gerennydd. Molwn dy gampus enw anrhydeddus, byth yn barhaus y boreydd. Teilynga heddiw ein cadw yn gywiw, rhag pechod ymliw, ym mlaenbuddyn. lluydd. Trugarhaa, naf nef trugaroccaf, wrth bobl plant Addaf, anrhydedd. addurn gynnydd. Gobaith ein gorſedd, bid yn ddiommedd, i'n dy drugardd, heb dro' gerydd. Archwn ein gobaith, erbriwiau. erchyll dylladdfa. laith, na'n llygrer yn faith, fyth tragywydd. Amen.
Am orphywys ar Griſt yn vnic am fywyd ac Iechydwriaeth.

WEdi rhoddi i chwi yn ySef mewn llyfr arall aelwir Gair i Bechaduriaid &c. nid llyfr y Reſoluſion. Pennodau or blaen amryw Hyfforddiadau hwyluſwaith o ran eich Ymarweddiad Criſtianogawl yn y bŷd, gan ddangos i chwi pa fodd i rodio gyda Duw ar hŷd y dŷdd, yn eich amryw Alwedigaethau, Cyflwr, a Pherthynaſau; Mi a benderfynaf y Traethawd ymma âg un Gocheliad cyffredinol, ſef, Darfyddo i chwi mewn peth meſur oſod y Rheolau ar Hyfforddiadau rhagddywededic ar waith, ar i chwi ochelyd gorphywys ar hynny, ac edrych am fywyd ac am Iechydwriaeth ynddynt hwy, a thrwyddynt. Ac mewn gwirionedd, mae rheſwm da am y Gocheliad ymma, oblegid fod yn naturiol i ddynion allan o Griſt geiſio iechydwriaeth drwy eu gweithredoedd eu hunain, a gorphywys arnynt, yr hyn ſydd un or pethau perycclaf yn y bŷd; Canys cyhyd ac y mae dŷn yn gwneuthur hynny, y mae ef yn anghymmwys i dderbyn Chriſt, gan ei fod yn gweled nad rhaid iddo wrth lachawdwr. Am yr Iddewon y dywedir, golli o honynt Iechydwriaeth, am na cheiſiaſant hi drwy ffydd, Rhuf. 9.32. hynny yw, drwy ffydd yn Ghyfiawnder Griſt, yn yr hyn a wnaethai ac a ddioddefaſai ef, eithr drwy eu cyfiawnder eu hunain y ceiſiaſant; hynny yw, drwy orphywys yn eu gweithredoedd eu hunain, yr hon mewn gwirionedd yw 'r brif-ffordd i vffern a deſtryw, yn gyſtal ar ffordd o bechod, er ei bod hi yn ffordd ychydig glanwheithiach. Am fod dwy ffordd i vffern, ffordd y pechod, ar ffordd o ddyledſwydd. Y ffordd o Bechod yr hon ſydd fudr a bawlyd, yn gymmaint a bôd y ffordd o Ddyledſwydd yn ffordd deccach a glanach; Fy meddwl yw, Dyledſwyddau y gorphwyſer ynddynt ydynt lwybr hyffordd i vffern a deſtryw. Ar hyn Cyngor Luther ydoedd, Y mochelyd nid yn unic rhag ein pechodau, ond hefyd rhag ein dyledſwyddau, hynny yw, rhag gorphywys ynddynt, ac adeiladu gobaith ein hiechydwriaeth arnynt. O herwydd pa ham i'ch cymmeryd chwi oddiwrth hynny, mi a orchymynnaf i'ch difrifol yſtyriaeth ddau o Briſbyngciau ſail crefydd, angenrheidiol iw gwybod gan bawb ar a fynnont fod yn gadwedig.

1. Mai Jeſu Griſt yw'r unic ffordd a chyffrwng Iechydwriaeth.

2. Mai Credu yn Ghriſt yw'r unic ffodd i fod yn gyfrannog o hono ef, ac o iechydwriaeth drwyddo ef. Megis nad oes vn iechydwriaeth ond trwy Griſt, felly nid oes mor cael ar Griſt ac Iechydwriaeth ond trwy ffydd.

1. Y cyntaf ſydd eglur oddiwrth lawer o leoedd or ſcrythur; megis yn gyntaf oddiwrth y lle hynod hwnnw, Ac nid oes iechydwriaeth yn neb arall, Act. 4.12. &c. Ymma y dengys yr Apoſtol, nad oes dim iechydwriaeth ond trwy Griſt, am yr hyn y mae ef yn rhoddi rheſwm digonol yn y geiriau neſſaf; Canys nid oes enw arall tan y nef, wedi ei roddi ym mhlith dynion, drwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig; gan arwyddoccau drwy hynny, os trwy hyrad râs Duw y byddwn ni gadwedig, rhaid yw i hynny fôd yn Jeſu Griſt a thrwyddo ef. Canys nid yr enw o ddyledſwyddau neu gyfiawnder dŷn ei hun ydoedd, drwy yr hyn y dichon ef fod yn gadwedig; maent hwy yn llawn o wendid ac ammherffeithrwydd, ar yr hyn y mae 'r Eglwys yn llefain allan, Megis brattiau budron yw ein holl gyfiawnderau, hynny yw, gweithredoedd goreu y dynion goreu, a gyflowner yn y modd goreu ar a ddichon fod, ydynt megis cadach miſglwyf, yn llawn brychau ac amliw, yn llawn gwendid ac ammherffeithrwydd, Eſa. 64.6. Ac nid yr enw o radau dyn ydoedd, drwy yr hwn y gall ef fod yn gadwedig, canys hwythau hefyd ydynt weiniaid ac ammherffaith, gan fod cymmyſc o bechod, megis yn ein dyledſwyddau goreu, felly hefyd yn ein rhadau goreu; cymmyſc o falchder gyda'n goſtyngeiddrwydd, o ragrith gyd a'n purdeb, o anghrediniaeth gyd a'n ffydd, &c. Yn ſiccr yr wyfi yn cydnabod y geill Criſtianogion edrych ar eu rhadau megis eglurhadau o'u rhan a'i hawl yn Jeſu Griſt, ac o Iechydwriaeth drwyddo ef, ond nid megis achoſion o u hiechydwriaeth. Hwy a allant hefyd wneuthur defnydd o ddyledſwyddau megis moddion iw dwyn hwynt at Griſt, eithr nid i fod yn gadwedig drwyddynt. Criſt, a Chriſt ei hun yw'r unic achos ac awdwr eu hiechydwriaeth hwy, ac am hynny y mae ef yn ei alw ei hun y ffordd, y gwirionedd, a'r bywyd, gan ddywedyd, Myfi yw'r ffordd, a'r gwirionedd, a'r bywya, Joa. 14.6. hynny yw, y wir ffordd i fywyd tragwyddol, yr unic ffordd, drwy vr hon y gallwn ni yn ſiccr, ac allan o'r hon y mae yn ammhoſſibl i ni byth allu, eyrrhaeddyd bywyd ac iechydwriaeth dragywyddol. Ym mha yſtyriaeth y gelwir ef yn fynych Iachawdwr. Ie efe a elwir yn Awdur iechydwriaeth dragywyddol, Heb. 5.9. Y gair yn y Groec ſy yn briodol yn ar wyddocan achos, ſef yr achos effeithiawl o'n hiechydwriaeth; a hynny yw, efe yw ein iachawdwr drwy bwrcas oddiwrth ei Dad, a thrwy fuddugoliaeth ar Satan, caeth weiſion a charcharorion yr hwn oedd holl ddynol ryw. Yn yr yſtyriaeth hon hefyd y gelwir ef Tywyſog ein hiechydwriaeth, Heb. 2.10. Ie efe a henwir Iechydwriaeth ei hû, Luc. 2.30. Ac o herwydd hyn y rhoddwyd iddo ef yr enw Jeſu, oblegid efe a waredei ei bobl oddiwrth eu pechodau, Mat. 1.21. Ac am hynny megis ac y mae ef yn adeiladwr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig, Mat. 7.24. fe ly y mae ef yn Griſtion doeth, yr hwn ſydd yn adeiladu ei obaith o Iechydwriaeth yn unic ar y Graig hon, yr Arglwydd Jeſu Griſt. Ar gwirionedd yw, na bydd pob peth arall heb law Jeſu Griſt ond ſeiliau pydron a thwyllodrus i bawb or rhai a adeilabout eu gobaith o iechydwriaeth arnynt. Ac ctto pa nifer o Griſtianogion ynfyd y ſydd, y rhai ſy yn adeiladu gobaith eu hiechydwriaeth at bethau eraill heb law Jeſu Griſt, megis

1. Rhai ar eu rhydd-deb oddiwrth bechodau drygf wr, nid ydynt hwy cynddrwg â ddynion eraill, ac ar hynny hwy a wenhieithiant iddynt eu hunain â thyb o'u cyflwr da, ie ac o'u gobaith o iechydwriaeth, y hyn ydoedd dwyll y Phariſaead balch, yr hwn a dybiodd ei fod ei hun yn ŵr da, oblegid nad oedd ef cynddrwg a eraill, Luc. 18.11. Er mewn gwirionedd nid yr hwn ſydd heb fod cynddrwg ag eraill yw'r Dyn ſydd ganddo gywir ſail obaith o iechydwriaeth, ond yr hwn ſydd yn myned yn hollawl allan o hono ei hun at Griſt, yr hwn drwy ymwrthod a phob Cyfiawnder or eiddo ei hun, ſy yn goſod ei holl hyder ar Gyfiawnder Jeſu Griſt, a haeddedigaethau ei farwolaeth a'i ddioddefaint ef, am fywyd, ac am iechydwriaeth.

2. Eraill ſy yn adeiladu eu gobaith o iechydwriaeth ar ryw adymuniadau da yn eu calonnau yr awron, ac yn lleigys ar ryw hyntiau. Eithr yſywaeth! hwy agamgymmerant ac a dwyllir yn ddirfawr, y ſawl a dybiant yr agorant hwy byrth y Nefoedd ag ychydig ddymuniadau da y cyfryw ac oedd yn Balaam, yr hwn oedd yn dymuno cael diwedd y cyfiawn, er nad oedd yn byw eu bywyd hwynt, Num. 23.10. Yr wyfi yn wir yn caniadhau ſod dymuniadau da yn yr enaid (fy meddwl yw, dymuniadau am râs a ſancteiddrwydd) yn arwyddion da o beth cychwynfa o ras, canys grâs yw gwir chwennych gras. Eithr os gorghywys yr ydych yn fodlon i'ch dymuniadau ar ôl gras a daioni, ac heb fyned at Jeſu Griſt ffynnon pob gras a daioni, chwi a ellwch orwedd i lawr mewn triſtwch, a bôd yn fyrr o fywyd ac iechydwriaeth dragywyddol.

3. Eraill ſy yn adeiladu eu gobaith o iechydwriaeth ar eu proffeſs noeth o Grefydd oddiallan, ddarfod eu bedyddio, a phroffeſſu o honynt y wîr ffŷdd Griſtianogol, ac ar hynny a'u tybiant eu hunain yn gyſtal Criſtianogion ar goreu. Eithr megis ac y melltithiodd Criſt y ffigyſ-bren yr hwn yr oedd arno ddail yn unic, heb ddim ffrwyth; felly y melltithia efe y ſawl ydynt yn dwyn dail o broffeſs, ond ſy heb ffrwythau buchedd ac ymarweddiad Duwiol. Ac fe ddigwydd iddynt hwy megis ac y digwyddodd ir Morwynion ffôl, y rhai oedd ganddynt Lampau o Broffeſs, yn gyſtal a chan y Morwynion call, eithr o ddiffyg olew yn eu Lleſtri, hynny yw, gras yn eu calonnau, hwy a gaewyd allan o'r Stafell-priodas, hynny yw allan or Nefoedd, yr hon yw Stafell-priodas Jeſu Griſt. Mat. 21.19. Mat. 25.

4. Eraill ſy yn adeiladu ac yn ſeilio eu gobaith o iechydwriaeth ar eu Cyfiawnder moeſawl eu hunain, a'u harferol oneſtrwydd, eu gwaith yn ymdrîn â dynion yn gyfiawn ac yn uniawn, ar cyffelyb; Er bod llawer or Cenhedloedd, y rhai nid oedd ganddynt ddim gwybodaeth o Jeſu Griſt, ac felly a fuant yn fyrr or Nefoedd, wedi myned ym mhellach mewn Moeſgarwch a Chyfiawnder moeſawl na'r dynion ymma.

5. Eraill ſy yn adeiladu eu gobaith o iechydwriaeth ar eu Cyfiawnder Crefyddol, eu gwaith yn mynych gyflawni dyledſwyddau ſanctaidd a chr fyddol; maent hwy yn fynych yn gwrando, darllen, gweddio, a bôd yn gyfrannogion o Swpper yr Arglwydd, ar cyffelyb: ac ar hyn y gwenheithiant iddynt eu hunain a gobaith o iechydwriaeth: Eithr pe pwyſid eu gwaſanaeth goreu hwynt ynghlorian y Cyſſegr, fe a'u ceid hwy yn rhŷ yſgafn, ac annigonol i iechydwriaeth, gan eu bod yn llawn o wendid, lleſcrwydd, ac ammherffeithrwydd, am yr hyn y gallei yr Arglwydd yn gyfiawn eu condemnio hwynt, pe gwnai efe a hwynt yn ôl eithaf ei gyfiawnder, Eſa. 64.6.

6. Eraill ſy yn adeiladu eu gobaith o iechydwriaeth ar eu triſtwch a'u hymoſtyngiad; wrth glywed eu calonnau mewn rhyw feſur wedi eu cynnhyrfu a gofid a thrymder am eu pechodau, yn enwedig os gwnant hwy ond tywallt ychydig ddagrau; oh yno hwy a wenheithiant iddynt eu hunain a gobaith am bardwn a maddeuant o'i pechodau, a hefyd o fywyd ac iechydwriaeth dragwyddol, yr hyn y maent yn ei ſeilio ar yr addewid hwnnw or eiddo ein lachawdwr, Deuwch attafi bawb ac y ſydd yn flinderog ac yn llwythog: ac mi a eſmwythaf arnoch, Mat. 11.28. Gan dybied addo o Griſt i bawb ar a gawſant eu calonnau wedi eu cynnhyrfu gan ofid a thrymder am eu pechodau, heb wneuthur dim yn ychwaneg, eſmwythder a heddwch, ie bywyd ac iechydwriaeth: lle yr wyfi yn deall nad yw ef yn gymmaint yn addewid o eſmwythder ac iechydwriaeth i eneidiau goſtyngedig, ac yw ef yn wahoddiad ir cyfryw rai (oblegid eu bod yn fwyaf parod i ddigalonni) i ddyfod at Griſt, oddiwrth yr hwn yn unic y mae heddwch a chyſſur, eſmwythder ac iechydwriaeth iw cael. Y cyfryw rai gan hynny, ar a gowſant eu calonnau wedi gweithio arnynt ofid a thrymder am eu pechodau, ac fy yn gorphywys yn fodlon ar hynny, a heb geiſio Jeſu Griſt, maent yn debyg o eiſtedd i lawr heb Griſt, ac felly o fod yn ôl o wir heddwch ymma, a hefyd o iechydwriaeth ar ôl hyn.

7. Eraill a ſeiliant eu gobaith o iechydwriaeth ar eu hedifeirwch darniog, new mewn rhan. Eu gwaith (yr wyf yn ei feddwl) yn ymadel ac yn ymwrthod a rhyw bechodau, pan ydynt yn y cyfamſer yn byw trwy wybod yn yr ymarfer o bechodau e aill, yr hyn mewn gwirionedd nid yw ond edifeirwch ffuantus a rhagrithiol, tebyg i edifeirwch H •• od, yr hwn ar bregethiad Joan fedyddiwr y dyw d •• ddo ymado â llawer o bechodau, ond etto nid yn da ••• ef er dim â 'i Herodias, ei unic a'i anwyl becho Nagê, er i'ch edifeirwch fod yn gywir ac yn gyflawn, etto os arhoſwch chwi yno, ac heb edrych tu hwnt iddo at Jeſu Griſt, chwi a fyddwch yn ol o iechydwriaeth.

8. Eraill ſy yn ſeilio eu gobaith o iechydwriaeth ar eu gweithredoedd o Gariad, gan feddwl pwrcaſu y Nefoedd drwy eu Gweithredoedd da, ac felly hwy a gaeant allan haeddedigaethau Criſt yn hollawl, yr hyn a ſeiliant hwy ar y traethawd hwnnw o Ollyngdod ar a adroddwyd gan ein lachawdwr am ddydd y farn wrth eu Etholedigion, yn yr hwn y mae ef yn rhoddi'r Neſoedd ir ſawl a ddangoſaſant garedigrwydd iw aelodau tlodion ef, yn eu porthi, a'u dilladu hwy, ar cyffelyb; Er bod ein Iachawdwr yn crybwyll yno am y Gweithredoedd hyn o Gariad yn unic, megis ffrwythau eu ffydd hwynt, drwy y rhai yr eglurhaſant eu ••• dd, i fod yn wir ffydd a bywiol, yr hon a amlygodd ei bywyd drwy y gweithredoedd hynny o gariad. Sieer ydyw na ddichon gweithredoedd da ynddynt eu hunain mor bod yn ſail dda i ſeilio eich iechydwriaeth arno, ond ffydd yn unic yn Jeſu Griſt, yr hon y mae gweithredoedd o gariad yn waſtadol yn cydymganlyn a hi, os yw hi gywir ac iachus, Mat. 25.34. Gal. 5.6.

9. Eraill ſy yn ſeilio eu gobaith o iechydwriaeth ar Druga edd Dduw. Hwy a addefant eu hunain eu bod yn Greaduriaid tlodion, truein, pechadurus, eithr gobeithio y maent y pardyna trugaredd Duw eu pechodau hwynt, ac y derbyn ef eu gwaſanaeth tlawd hwynt yn gymmeradwy: fal hyn y mae llaweroedd yn gwneuthur Trugaredd Dduw i gyfartaln neu i fod yn gymmheſſur au cyfiawnder eu hunain, ac felly y ddau wedi eu rhoddi yn yr un lle megis mewn clorian neu dafl y maent hwy yn tybied y byddant yn foddion o iawn ac o gymmod gyda Duw, ie ac o gaffael bywyd ac iechydwrieth dragwyddol. Eithr y cyfryw rai ydynt yn aruthr yn camgymmeryd priodol waith Trugaredd Duw, yr hyn nid yw i gyfartalu an cyfiawnder ni, ond i ddangos i ni ein hanghyfiawnder a'n trueni, ac yno i ddangos i ni Jeſu Griſt, perffeithrwyth ei gyfiawnder ef, holl-ddigonolrwydd ei Aberth ef, ynghŷd a'i ewyllyſgarwch i dderbyn pob Pechaduriaid truein a ddelont atto ef, ac yno i gynnhyrfu ein calonnau i dderbyn Jeſu Griſt megis ein Offeiriad, ein Prophwyd, a'n Brenin, ac i orphywys arno ef am fywyd ac am iechydwriaeth. Ac fel hyn y gallwn i fyned rhagof, yn dangos i chwi y llaweroedd hynny o ſeiliau anghy wir a phydron ar y rhai y mae y rhan fwyaf o ddynion yn adeiladu eu gobaith o iechydwriaeth, er mai Jeſu Griſt mewn gwirionedd yw'r unic ſylfaen cywir cadarn, ar yr hwn y gallwn ni yn ddiogel adeiladu gobaith ein hiechydwriaeth. Ac ahi hynny medd yr Apoſtol, Sylfaen arall nis gall neb ei oſod, heb law yr un a oſodwyd yr hwn yw Jeſu Griſt, 1 Cor. 3.11. gan arwyddocau mai Criſt yw'r unie wir ſylfaen. Ac felly efe yw'r Criſtion call yr hwn ſy yn adeiladu ei obaith o iechydwriaeth yn unic ar y graig honno, yr Arglwydd Jeſu Griſt. Ac felly mi a af oddiwrth y Prifbwngc cyntaf o ſail crefydd at yr ail, ſef,

11. Mai credu yn Ghriſt yw'r vnic fodd, megis o gael bod yn gyfrannog o Griſt, felly hefyd o iechydwriaeth drwyddo ef. Hyn a gyſgodwyd drwy y modd yr iachawyd yr Iſraeliaid o golyn frathiad y Seirph tanllyd, a hynny ydoedd trwy edrych ar y Sarph brês; canys megis drwy edrych ar y Sarph brês yr oedd yr Iſraeliaid wedi eu cwbl iachau o frathiad y Seirph tanllyd; yn yr vn ffunyd y caiff Pechaduriaid truain oll, ar a fo yn deimladwy o golyn Pechod, drwy edrycha llygad ffydd ar Jeſu Griſt wedi ei dderchafu ar y Groes, eu cwbl iachau oddiwrth golyn eu pechodau. Y cymmhwyſiad hwn or Cyſgod hwnnw y mae ein Iachawdwr ei hun yn ei wneuthur, canys medd efe, Megis y derchafodd Moſes y Sarph yn y diffaethwch, felly y mae yn rhaid derchafu Mab y dŷn, fel na choller, pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o honynt fywyd tragwyddol, Joan. 3.14, 15. Yn gymmaint ac mai credu yn Jeſu Griſt yw'r unic fodd o fod yn gyfrannog o Griſt ac o iechydwriaeth drwyddo ef.

Pa ffydd yw hon ſy yn ein gwneuthur ni yn gyfrannogion o Griſt ac o iechydwriaeth drwyddo ef, mi a ddangoſais or blaen, yn yr Hyfforddiadau am dderbyn Swpper yr Arglwydd mewn modd teilwng.

Pa fodd y dylei yr yſtyriaeth o hyn eich cynnhyrfu chwi, i ymgais uwchlaw pob dim am gredu yn Jeſu Griſt? Hynny yw i fyned yn hollawl allan o honoch eich hunain at Jeſu Griſt, ac iw dderbyn ef megis ac y cynnhyggir yn yr Efengyl. Meddyliwch am hyn o waith yn fwyaf oll, canys efe yw'r Oll yn oll i'ch iechydwriaeth chwi; ac etto fel y mae y rhan fwyaf o honoch yn meddwl am eich difyrrwch, a'ch elw yn fwy nag am hyn: A allant hwy roddii chwi hawl yn Ghriſt, neu gyfiawnder i Iechydwriaeth? Pa ham gan hynny y byddei i ch difyrrwch a'ch elw gael gennych feddwl cymmaint am danynt ac ymgais ar eu hol? a hynny yn fwy nag am ffydd, yr hon yn unic a ddichon roddi i chwi hawl yn Ghriſt, a chyfiawnder i iechydwriaeth ynddo ef a thrwyddo. Yn ddiau mae'n beth yw alaru, fod dynion yn ſynnied cymmaint ar bethau bydol, ac yn y cyfamſer yn anghofio pethau yſprydol, a'u bod mor gall am eu cyrph, ac mor ffol am eu heneidiau: a'u bod gyda Martha, mor drafferthus ynghylch pethau daiarol, ac heb fod gyda Mair yn gofalu am yr un peth angenrheidiol; eithr ymrowch o hyn allan na roddoch eſmwythdra i'ch eneidiau hyd oni chaffoch y gras iachuſawl hwn o ffydd.

Y noddion a ſancteiddiodd Duw i hynny a ellir eu 〈◊〉 , tri hyn o Bennau.

1. Symmud ymmaith rai attalion a rhwyſtrau. 2. Coſleidio rhai gwirioneddau. 3. Y marfer â rhai Dyledſwyddau.

Yr attalion ar rhwyſtrau ydynt o ddau fath.

1. Y cyfryw rai ar a gadwant ddynion naturiol oddiwrth gredu yn Jeſu Griſt. 2. Y cyfryw rai ar a gadwant ymmaith ddiragrithiol Bechaduriaid calon ddrylliedig.

I. Yr attalion ar rhwyſtrau ſydd yn cadw dynion Naturiol rhag credu yn Jeſu Griſt, yw y rhai'n a'r cyffelyb.

1 Cariad iw trachwantau; Am hyn dynion yn gyffredinol a wyddant, mai megis y cwympodd Dagon i lawr ger bron yr Arch, felly fod yn rhaid iw trachwantau hwynt gwympo i lawr ger bron Jeſu Griſt; hwy a wyddant pan dderbynnier Criſt trwy ffydd ir galon, mai rhaid iw taflu eu trachwantau allan, canys Criſt nis derbynnir ir galon honno ar ſy yn llawn trachwantau ffieidd a phechadurus. Weithian mae 'n anwyl gan ddynion eu trachwantau, ac y maent yn anewyllyſgar iawn i ymadel a hwynt, hwy a ymadawant a Chriſt cyn hawſed ac yr ymadawont a'u trachwantau. Hyn y mae ein Iachawdwr yn ei arwyddocau, Ile mae ef yn dywedyd, Ddyfod goleuni ir bŷd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni, Joa. 3.19. Lle with Ol uni yr at wyddoceir Yn bennaf Jeſu Griſt a'i Efengyl, ac wrth dywyllwch yr arwyddoceir trach wantau dynion, y rhai a briſiant hwy yn fwy nag Jeſu Griſt, ac nid ym dawant a hwynt er mwyn ennill Criſt, ynghŷd a holl ddoniau ei farwolaeth ai ddioddefaint ef. Och fod neb mor angall a gwneuthur mwy cyfrif o drachwant ffieidd pechadurus, nag o Jeſu Griſt! Yn ddiammeu mae y dŷn hwnnw yn gwneuthur pris gwael ac iſel o Griſt, yr hwn ſy yn tybied nad all ef dalu cymmaint ar golled am drachwant budr.

2. Gormod cariad ir bŷd a phethau'r bŷd megis eu Tiroedd a'u Hanifeiliaid, Luc 14.18, 19. Y gwirionedd yw, na all yr enaid hwnnw ar ſydd heb ymyſgar oddiwrth y bŷd mewn rhyw feſur, mor cofleidio trwy ffydd yr Arglwydd Jeſu Griſt megis ei Phriodfab. O gan hyony bydded eich Gweddi feunyddol, a'ch ymgais difriſol, ar ddiddyfnu eich calonnau fwyfwy oddiwrth gariad y pechau daiarol hynny, fel na alloch chwi moi caru hwynt yn gymmaint, ac y cadwer chwi drwy hynny oddiwrth garu a chofleidio Jeſu Griſt.

3. Balchder Yſprydol, yr hwn a feiliwyd ar dŷb rhydda dyn o hono ei hun, ac o'i gyflwr ei hun. Pa nifer o roi y ſydd yn barod i feddwl gydâr Eglwys o Laodicea, eu bod hwy yn oludog ac yn llawn, acheb arnynt eiſiau dim; pan ydynt mewn gwirionedd yn dlodion a deillion, a noethion, a thruein a greſunol, gan fod yn weigion o bob grâs a daioni, Datc. 3.17. ie y maent hwy yn fwy truein a greſunol, oblegid nas gwyddont moi trueni, ac felly ni welant ddim or eiſau, na dim or anghenrhaid ſydd arnynt am Jeſu Griſt; yr hwn yw'r cyflwr mwyaf wylofus o fewn y bŷd; canys y cyfryw rai ydynt bellaf oddiwrth fyned at Griſt, a chredu ynddo. Y neb gan hynny a fynnei gofleidio Jeſu Griſt megis ei Iachawdwr, rhaid iddo ddyfod yn waglaw ac â chalon wâg, gan ei dderbyn ef â gwaglaw ffydd, i galon wag, wedi ei gwaghau o bob hunan, megis hunan-gyfiawnder, hunan-deilyngdod, hunan-ddaioni, ar cyffelyb.

II. Yr Attalion a'r Rhwyſtrau ſy yn dal llawer pechadur diragrithiol calon-ddrylliedig rhag ymwaſgu ag Jeſu Griſt, a chredu ynddo ef, yw y rhai hyn, a'r cyffelyb:

(1.) Dwfn Deimlad o riſedi a brynti eu pechodau; O ran ſymmud hwn ymmaith, bydded ir cyfryw yſtyried,

1. Mai po amlaf a mwyaf yw eu pechodan, mwyaf yw'r eiſiau ſydd arnynt i fyned at Jeſu Griſt, a'i bwrw eu hunain, a baich eu pechodau arno ef. Canys megis ac mai po clafaf yw neb yn ei gorph, mwyaf anghenrhaid yw iddo wrth Phyſygwr; felly po mwyaf pechadurus ydyw neb rhyw eneidiau, po clafaf o bechod, rheittiaf yw iddynt fyned at Jeſu Griſt, yr hwn yw unic Phyſygwr yr enaid, yr hwn a all iachau eu holl bechodau hwynt, ac a'u hiacheiff hwy, y rhai ydynt yſprydol glefydau eu heneidiau, cyn barottet ac yr iachaodd ef glefydau corphorol, pan oedd ar y ddaiar, os ant hwy atto ef. Mar. 2.17.

2. Gwybydded ac yſtyried y cyfryw, y dylei y teimlad o rife i a brynti eu pechodau, fod cyn belled oddiwrth eu cadw hwynt rhag myned at Griſt, a'i dderbyn ef, ac y dylei fod yn Rheſwm grymmus iw gyrru hwy at Griſt, gan fod Chriſt yn proffeſſu, ddyfod o hono ir byd i alw pechaduriaid i edifeirwch, Mat. 9.13. Lle wrth bechaduriaid y deallir y cyfryw rai ac ſydd wir deimladwy o'u pechodau. Ac ar hyn y gwahoddir pawb or cyfryw bechaduriaid i ddyfod atto ef; Deuwch attafi bawb ac y ſydd yn flinderog ac yn llwythog (ſef, gan bwys a baich eich pechodau) ac mi a eſmwythaf arnoch, Mat. 11.28. Ac am hynny yr Apoſtol Paul ſydd yn ſiccrhau y gwirionedd ymma a rhagymadrodd gogoneddus; Gwir yw'r gair, ac Yn haeddu pob derbyniad, neu groeſo, ſef, ddyfod Jeſu Griſt i'r bŷd i gadw pechaduriaid, a hynny heb lyſſiant o ran pechodau neu berſonau; ie ddyfod o hono ef i gadw y pennaf o bechaduriaid, 1 Tim. 1.15. Pa ham gan hynny y byddei i yndeimlad o'th bechodau dy ddal di rhag myned at Griſt, a gorphywys arno ef am iechydwriaeth? yn gymmaint a'i ddyfod ef i gadw y cyfryw bechaduriaid ac wyt ti, nagê rhai gwaeth, ſef y pennaf o bechaduriaid.

(2.) Yr ail attaliad a'r rhwyſtr yw, Ammheuad o ewyllyſgarwch Criſt iw derbyn hwynt, ped aent atto ef. O ran argyoeddi y cyfryw rai yn well o ewyllyſgarwch Criſt i dderbyn a chofleidio pob pechaduriaid rheidus, a wnelont ond dyfod atto ef, a'i gofleidio a breichiau eu ffŷdd, mi a oſodaf ar lawr dri o reſymmau am hynny.

1. Y cyntaf yw amryw wahoddion graſuſol Criſt i Bechaduriaid anghenus i ddyfod atto ef, megis Eſay 55.1. Mat. 11.28. Joa. 7.37.

2. Ewyllyſgarwch Criſt ſy yn ymddangos, yn gymmaint a darfod iddo ef ordeinio a goſod ei Weinidogion, efe a bryſurodd Gennadon yn ei enw i erfyn, addyſcu a deiſyf ar ddynion i ddyfod i mewn atto ef, ac i dderbyn y Cymmod hwnnw a bwrcafodd ef drwy ei waed, 2 Cor. 5.20.

3. Ewyllyſgarwch Criſt ſydd yn ymddangos, yn gymmaint a'i fod ef yn derbyn y râdd leiaf ac iſaf o ffydd, ac na ddigalonna ef mor enaid gwannaf a ddelo atto ef. Corſen yſſig nis tyrr, a llîn yn mygu nis diffydd, Mat. 12.20. Megis wrth y Gorſen yſſig yr arwyddoceir Criſtion gwan, felly wrth y llîn yn mygu, y cyfryw un ac fydd ganddo lygredigacth yn gymmyſg a grâs. Canys y llin y ſonnir am dano yno yw pabwyren y Ganwyll, yr hon os myga, ni ddyru ond ychydig oleuni, a ſawyr drewllyd a ddaw oddiwrthi. Er gallu or rhai ſy yn gwir gredu o herwydd y cnawd ynddynt fod yn gyfryw, etto ni ddiffydd ef mor goleuni bychan hwnnw o ffŷdd ſydd ynddynt hwy.

(3.) Trydydd attaliad a rhwyſtr yw, ofn ac eiddiguſrwydd nad ydynt hwy wedi ymoſtwng digon dan y teimlad o'u pechodau; a hynny yn hyttrach, oblegid nad ydynt yn clywed eu calonnau mor ddrylliedig, ac y bu galonnau eraill. O ran ſymmud hwn oddi ar y ffordd, yr wyſi yn attolwg ir cyfryw ddalſulw ar y pethau hyn.

1. Y dichon dyn fôd yn ddigon goſtyngedig a drylliedie am ei bechodau, er na byddo wedi ei ddryllio mor ddwys a chymmaint ac eraill, canys gwîr oſtyngeiddrwydd ſy yn cynnwys graddau, ac nid yw ef gan bob Criſtian yn yr unrhyw feſur. Ac am hynny pell fyddo oddiwrth neb farnu nad ydynt hwy wedi ymoſtwng digon, oblegid na chyrrhaeddaſant y cyfryw feſur a graddau o hono, ac a gyrrhaeddodd rhai eraill.

2. Er nad wyt ti mor ddwfn oſtyngedic ac y bu rai eraill, etto os wyt ti mor deimladwy o'th bechodau, ac o'th drueni drwyddynt, fal yr wyt ti yn wir deimladwy oth angen a'th eiſiau ſydd arnat am Jeſu Griſt, mae hynny yn ddigon, a thi a elli fyned mewn hyſder at Jeſu Griſt, a th dreiglo dy hun iw fynwes ef, a'th fwrw iw freichiau. Er na wybuoſt erioed beth a berthyn ir gwewyr chwerw, ar pigog gnofeydd y mae eraill yn clywed oddiwrthynt yn eu hadenedigaeth, er hynny ar gwaith wedi ei wneuthur, am yr hwn y gofynnir dwfn ymoſtyngiad (ſef, bod yn deimladwy or eiſiau am Griſt, ac ar hynny hiraethu ar ei ôl ef) ti a elli ymgyſſ ro i fyned at Jeſu Griſt, ac i orphywys arno ef, megis am faddeuant o'th bechodau ymma, felly hefyd am fywyd ag iechydwriaeth dragywyddol ar ôl hyn.

3. Gwybydd, er nad wyt ti yn breſennol mor ddwſn oſtyngedig a drylliedig am dy bechodau, ac y mynnit ti fôd, etto ti a elli fôd yn fwy goſtyngedig ar ôl i ti gredu yn Ghriſt. Canys nid yw trymder ac ymoſtyngiad Criſtion am bechod a thrueni ei gŷd ar y cyntaf, eithr yn fynych o amſerau y mae ef yn fwy ac yn helaethach ar ôl ymwaſgu ag Jeſu Ghriſt, a chael teimlad yſtyriol o gariad Duw, nag a fuaſei or blaen. Ie po lleiaf a fyddo 'r Ymoſtyngiad o flaen ffydd yn Jeſu Gri •• , mwy yn fynych o weithiau ſy yn dilyn ar ol. A hwnnw ſydd wir ymoſtyngiad, ac Edifeirwch Efangyſaidd, yr hwn ſydd yn dilyn ar ol ffŷdd.

4. Attaliad a rhwyſtr arall ar ſy yn cadw llawer Criſtion puraidd rhag dyfod at Griſt, ac ymwaſgu ag ef, yw ofn ac eidduguſrwydd fôd eu dydd grâs wedi darfod; a'i bod hi yn awr yn rhyhwyr, wedi ſefyll allan cyhyd yn erbyn y cynnhygion o Jeſu Griſt. O ran ſymmud hwn ymmaith myfi a oſodaf ar lawr bedwar peth i'ch yſtyriaeth ddifrifol chwi.

1. Nid yw i nêb ddywedyd fod ei ddydd o râs wedi myned heibio, canys hwnnw ſydd un o'r dirgelion hynny y rhai a berthynant i Dduw yn unig eu gwybod. Ac ni ddylaem ni flino ein hunain ynghylch dirgeledigaethau Duw, ond ein ceryddu ein hunain am hynny, Deut. 29.29.

2. Os ſefaiſt di allan yn erbyn Criſt hyd yn hyn, mae yn awr i ti gan hynny fwy o achos i ddyfod i mewn, ac i ymwaſcu ar cynnhygion o Jeſu Griſt.

3. Os oes gennit galon yn chwennych ymwaſgu ar cynnhygion o Jeſu Griſt, mae 'n ſiccr nad yw dy ddydd grâs etto wedi darfod, Mae Criſt yn curo wrth ddrŵs dy galon etto, am hynny dyro yn awr dy fryd ar agoryd iddo, Datc. 3.20.

4. Yſtyria, fod gan Griſt ei amryw dymmhorau o ddwyn dynion atto ei hun; rhai y mae ef yn eu dwyn adref atto ei hun yn niwedd y diwrnod, ar a'i gwrthodaſant ef yn ddiammeu y rhan gyntaf o hono; Mat 20.6. ac am hynny cyhyd ag y mae bywyd yn parhau, na ddywaid moi bod hi yn rhyhwyr, eithr ymgynnhyrfa i dderbyn Jeſu Griſt fel y cynnhygir ef yn yr Efengyl, ac i orphywys arno ef, a'i haeddedigaethau yn unic am fywyd ac iechydwriaeth.

Wedi dangos i chwi fel hyn yr attalion ar rhwyſtrau ſydd iw ſymmud oddi ar y ffordd.

II. Yn awr mi a âf rhagof at y gwirioneddau hynny ar ſydd iw cofleidio, y rhai yw y rhai'n.

1. Fod pob dyn allan o Griſt mewn cyflwr truenus greſynol, yn ddaroſtyngedig i ddigofaint Duw, i felltith y gyfraith, i bob barnedigaethau a phlaau ymma, ac i angeu a damnedigaeth dragwyddol ar ol hyn, gydar Cythreuliaid ar rhai damnedig yn fflammau Uffern. Ie mae pob Dyn heb Griſt ynghrog uwchben ſafn Uffern, wrth edef fraenllyd eu heinioes, yr hon ſydd barod i dorri ar bob munudyn, ac yno pa beth a ellir ei ddiſgwyl ond cwymp aneſgorol i Uffern.

2. Ac nad oes nêb yn abliw gymmorth ei hun allan o'r cyflwr truan greſynol ymma, canys megis ac y llefara yr Apo •• ol, Nid ydym ni yn ddigonol o honom ein hunain, i feddwl aim megis o honom ein hunain, llai o lawer i wneuthur dim o honom ein hunain i'n gwared ein hunain oddiwrth gymmaint caethiwed a chyni, ac y dygodd y pechod ni iddo, 2 Cor. 3.5.

3. Ddarfod i Dduw ei hun, o'i hyrâo râs, a'i oludog drugaredd, anfon ei fab ei hûn o'i fynwes i'r byd i gymmeryd ein naturiaeth ni arno, fal yn hwnnw y prynei ni allan o'n cyflwr truan greſynol, Gal. 4.4, 5.

4. Fod Chriſt yn Iachawdwr cwbl-ddigonol, yr hwn drwy ei Angeu a wnaeth gyflawn iawn i Gyfiawnder Duw dros ein pechodau ni oll, ac am hynny efe a ddichon yn gwbl iachau, ein pechodau yn gwbl, ie a'n hofn a'n ammheuon yn gwbl, Heb. 7.25.

5. Fod Jeſu Griſt yn ewyllyſgar i dderbyn ac i gofleidio. pob pechaduriaid truein a wnelont cymmaint a myned atto ef, a'u bwrw eu hunain a baich eu pechodau arno ef; megis ac yr ymddengys wrth ei aml raſuſawl wahoddiadau ef i Bechaduriaid truein, y rhai ydynt yn gymmaint ac yn deim adwy o'u pechodau, i ddyfod atto ef, Eſay 55.1. Mat. 11.28. Joa. 7.37. Dat. 22.17.

6. Nad oes un ffordd neu fodd o Iechydwriaeth, ond yn unic drwy gredu yn Jeſu Griſt; A chredu ſydd yn angenrheidiol i iechydwriaeth mewn dwy yſtyriaeth.

1. Megis ac y mae yn orchymmyn Duw, fod i ni gredu yn enw ei fâb ef Jeſu Griſt; A hwn yw ei orchymyn ef, gredu o honom yn enw ei fâb ef Jeſu Griſt, 1 Joan. 3.23.

2. Megis ac y mae yn ammod neu yn fodd a oſododd Duw o ran cyrraedd bywyd ac iechydwriaeth dragwyddol; megis Joan. 3.16. Canys felly y carodd Duw y bŷd, fel y rhoddodd efe ei unic-anedic fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o hono fywyd tragwyddol. O hyn y mae fod yn gwneuthur anghrediniaeth yn unic ſail ac achos o ddamnedigaeth dynion. Er y bydd i ddynion gael eu coſpi am bob pechodau, etto anghredu yw y ſail ar achos pa ham y derfydd am danynt drwy eu pechodau, oblegid credu yn Ghriſt yw yr unic fodd o gael Iechydwriaeth. Joan. 3.18.36.

Y rhai hyn yw 'r Gwirioneddau iw cofleidio.

III. Yn awr y deuwm at y dyledſwyddau ſydd iw harfer.

1. Ar ddwys ymdeimlad o'th gyflwr truenus heb Griſt, dyro gais ar gynnhyrfu yn dy enaid ryw hiraeth cynnhyrfddwys, a dymuniadau aflonydd ar ol yr Arglwydd Jeſu Griſt, fel y gallech di mewn gwirionedd o'th galon, ddywedyd, O na bai Griſt yn eiddofi! Oh nas gallei fy enaid ei fwynhau ef ar ammodau yn y bŷd! Hyn yw derchafu dorau a phyrth yr Enaid, fel y delo Brenin y gogoniant felly i mewn, ac yr arhoſo yno, Mat. 5.6. Pſal. 24.9.

2. Darfyddo dy argyoeddi nad oes un ffordd neu fôdd i gael iechydwriaeth, ond yn unic drwy fyned allan o honot dy hunan at yr Jeſu, ath fwrw dy hun arno ef; Anturia dy enaid ar Griſt, bwrw dy hun iw freichiau ef, a bydd ſiccr na roddech le i ymreſymiadau cnawdol, i ammheuon a themptaſiwnau oddiwrth rifedi a drygioni dy bechodau, neu oddiwrth dy anheilyngdod dy hun, eithr ymreſymma oddiwrth helaethrwydd a haelder y cynnyg y mae Duw yn ei wneuthur o Griſt, ac oddiwrth ewyllyſgarwch Criſt i dderbyn pob Pechaduriaid truein a wnelont cymmaint ag anturio neu fentro eu heneidiau arno ef, gan ddywedyd gyd â Job, Pe lladdei efe fi, etto mi a obeithiaf ynddo ef, Job 13.15. a chyd âg Eſther, Mi a âf, ac o derfydd am danaf, darfydded, Eſth. 4.16. Darfydded am danaf yn ymddiried yn Jeſu Griſt.

3. Cyrch yn fanwl at gyhoeddus Weinidogaeth y Gair, a hynny yn fodd cyffredinol a ſancteiddiodd Duw o ran gweithio ffydd yn ein calonnau ni, yn ôl yr hyn a ddywedodd yr Apoſtol, Ffydd ſydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw, Rhuf. 10.14, 17. A gwrando yr Efengyl, a elwir Gwrandawiad ffŷdd, oblegid mai trwy wrando Athrawiaeth ffydd, y mae 'r Yſpryd yn gweithio grâs o ffydd yn ein calonnau ni Gal. 3.2. Hwn yw'r llais diſtaw main y llefara ef ynddo wrth galonnau Pechaduriaid; a phan ydyw Duw drwy ei Yſpryd yn dechreu gweithio ar dy galon di yn gwrando y Gair, taro ditheu ymhlaid gwaith Yſpryd Duw, drwy fynych fyfyrio arno, a'i gymhwyſo ef fwyfwy attat dy hunan. A pha bryd bynnag y gyrrer adref un pechod gan y Gweinidog ar dy gydwybod a'th ddeffroi; gwna dy oreu ar yrru yr hoel hyd adref at y pen, ymegnia ar gynnal ei rym ef ar dy galon ar hyd yr wythnos yn ol hynny.

4. Bydd daer ar dduw mewn Gweddi, fel pa beth bynnag i'th naccao ef di o hono, na naccao ef mo honot o iachuſawl râs ffydd; Ffydd nid yw o honom ni ein hunain, Rhodd Duw ydyw, megis ac y mae 'r Apoſtol yn ein dyſgu, Epheſ. 2.8. Weithian y modd a ſancteiddiodd Duw o ran caffael pob rhodd ddaionus, yw Gweddi; megis gan hynny ac y chwennychit gael ffydd, erfyn yn daer am dani gan Dduw, gan orphywys yn ſiccr na neccu ef mo honot, os tydi a'i gofyn o'th galon yn enw ei fab ef Jeſu Griſt, Joan. 16.23. Oh gan hynny na bydd ddiffygiol yn hyn i ti dy hunan, ond gan weled fod ffydd iw chael onid ei gofyn, gofyn a gofyn hi drachefn; a diſgwyl wrth Dduw drwy ymynedd, ar ddo ef blygu dy galon di i ymwaſgu a'r cynnhygion a'r rhoddion o Jeſu Griſt. Na oſod iddo ef un amſer, canys megis ac y mae ef yn gweithio ar y neb y gwelo yn dda, felly y mae ef yn gweithio y pryd y gwelo yn dda; ac am hynny er iddo aros, diſgwyl; canys ni phallodd Duw i neb erioed ar a barhaodd yn diſgwil arno ef, eithr or diwedd efe a fodlonodd ddymuniad hiraethus eu heneidiau hwynt, Hab. 2.3.

DIWEDD.

GWaith Mr. Gouge yw y Rhan ddiwethaf o'r llyfr ymma, yr hwn a ddengys ffordd iechydwriaeth, Ac a brintiwy i lyfnu, trwy ddangos Trugaredd Duw ynghriſt ir gwir gredadyn edifeiriol (pan bo Llyfr y Reſoluſion gwedi dryllio 'r creigiau, a brynaru calonnau caled y pechaduriaid yſtyfnig ac anſtywallt) fel na yrrir neb i anobaith, ond fel y cynhyrfer hwy i geiſio Trugaredd, gan fod Trugaredd iw gael, ond dyfod at Dduw trwy ffydd yn Ghriſt iw dderbyn ef, gan edifarhau am bechod, a throi oddiwrtho, a dwyn ffrwythau addas i edifeirwch, Eſay. 55.7. Mat. 3.8.

Agoriad ar ryw Eiriau dieithr i rai yn Neheubarth. ACcen, llais. Achleſſu, cynnheſſu. Achlyſſur, Achos, amſer cyfaddas. Adfeilio, methu Adyn, Annedwydd. Aer, Etifedd. Agoriad, Allwedd. Alldudaeth, Pererindod. Amgyffred, Cynnwys. Amrafael, amryw. Amryfyſſedd, camſynniad. Anaele, anfeddiginiaethol. Andler, amledd. Aneſgorol, nis gellir ei ddioddef. Anfad, Drygionus. Anfeidrol, Difeſur. Anghyfartal, Digyffelib. Anhydyn, Cyndyn. Anhygoel, Anghredadwy. Anhydraeth, Annhraethadwy, Anllad, Wanton, aſlan. Anlladrwydd, Chwant aſlan. Antur, Menter, poen. Anturio, Beiddio, Mentro. Anrhaith, Yſglyfaeth. Archoll, Clwyf. Ardderchog, Godidog. Argywedd, Bai, Achwyn. Arſwyd, Oſn. Arteithiau, Dial-boenau. Aruthr, ac Aruthrol, rhyfeddol. Aſtudrwydd, Dyfalwch, gofal. Bân, Ffurr. Bendifaddeu, yn bennaf dim. Betruſder, ammheuaeth. Blyſio, Chwennychu. Borthladd, llong-borth, a Haven. Bortreiad, goſodiad allan. Breiniau, Ʋchel-freintiau. Brwydr, Rhyfel. Calleſtr, Eflint. Celfyddaf, Cyfarwyddaf. Cellwair, ieſto. Cenn, Pliſg, Scales. Cludo, Dwyn, cywain. Coppyn, Corryn. Cribddeiliwr, Cipiwr, Treiſiwr. Cripiwch, Crafwch. Crybwyll, Adrodd. Cryffmiad, Crafiad. Ched, Annwyled. Cychwynfa, goſodiad allan ar ſhwrne. Cyfartalu, Cydſtadlis. Cymhwedd, ieſto. Cyngrair, Cyttundeb. Cyngyd, Oedi. Cyni, Cyfyngder. Cynilwyn, Diſgwyl. Cynnwys, Rhoddi lle. Cynnyrch, Cynnydd. Cyrrith, Cynnill. Cyrch, Rhuthro 'n wyllt ar un, an Aſſault. Cyweithaſrwydd, Mwyneidd-dra, Sivilrwydd. Chwarel, Cwarr o gerrig. Cyfrwng, Modd. Darbod, Parattoi, golygu. Dargwſg, gogyſgu. Darogan, Rhagddywedyd. Darymred, Rhedeg yma a thraw. Datgan, Dangos, goſod allan. Dawl, Gorphwys. Denu, Hudo, tynnu trwy dêg. Deol, gyrru allan o'r wlâd. Deongl, Hyſpyſſu, cyſieithu, eſponio. Deor, To hatch, eiſtedd ar y nyth nes torro 'r wyan. Diaſbad, crochlef. Diattreg, Dioed, Didaring. Dichlyn, Cywraint, perffaith. Diddan, hyfryd. Diddarbod, heb edrych am dano. Diffuant, Diragrith. Difraw, Diofal. Difrif, prûdd, ſerious. Difrod, Deſtryw. Digarad, Digynnorthwy. Dihewyd, Ewyllys. Dihelbul, Didrwbwl. Dilynion, Têg. Dileu, crafu ymaith, blotto. Dir, Anghenrhaid. Dirfing, llymdoſt. Dirnad, Deall. Dirweſt, Ympryd. Diweirdeb, Oneſtrwydd, ymattal rhag aftendid enawdol. Diſas, Dibris. Diſtatlaf, Gwaelaf. Dlyſion, Têg. Dogn, Meſur. Doſparthu, Rhannu. Dreiddio, Myned troſſodd. Drigias, Trigfa. Druth a Druthio, Ffiatro. Dryganian, Dryg natur. Drythyllwch, Chwantau aſlan, p eſſer. Dybryd, Erwnt. Dyddfu, Lleſgau. Dyfeinwyr, Dyſcawdwyr dyſcedig. Dygn, Blin. Dyhuddo, llonyddu. Dwyfol, Duwiol. Dwys, Pwysfawr. Edire, Yn hytrach. Echrys, Trueni. Eddy, Addaw. Edwi, Dihoeni. Egni, Y mdrechiad, Nerth. Ehengaiſt, Helaethaiſt. Elwig, Offeryn. Erchyll, Oſnadwy. Erfyn, Deiſy. Erlyn, Dilya. Fathru, Danſang. Ffigur, Llun. Foleſtu, Blino. Fordwy, Rhuad. Freiniau, Rhagorfreintiau. Ffrewyll, Gwialenne. Ffuant, Adliw, Rhagrith. Ffuantus, Rhagrithol. Ffûg, lliw twyllodrus, Twyll. Ffûn, Anadl. Fudrog, Puttain. Fuſgrell, Diog. Fwydir, Glychyr. Gâd, Rhyfel. Gau, Ffalſt, anwir. Gawr, Cri. Gefynnau, llyffethyrian. Geometrydd, Meſurwr Tir. Germain, Ʋchel weiddi. Gerwin, garw. Gerwinder, garwder. Geuyn, gewyn, a ſinew. Glûd, llwyth, Baich. Gnawd, Arferol. Gofwy, ymweliad. Gogan, Anair. Gorcheſtol, rhagorol. Goruchafiaeth, Anrhydedd. Gofgedd, gwedd, tegwch. Greddfu, wedi eni a thyfu ynom. Gu, anwyl. Gwagſawrwydd, yſgafnder, wantanrwydd. Gwahanrhedol, a gwahaniaeth rhyngddynt. Gwaith goddeu, o bwrpas. Gwamal, Yſgafn, wanton. Gwario, Treulio. Gwarder, Tirionder. Gwarthruddwyd, gwradwyddwyd. Gwaſaidd, a berthyn i wâs. Gwawdio, gwatwor. Gwelian, Cwyfe. Gweilch, Hebogiaid. Gweini, Gwaſanaethu. Gwrthladd, Sefyll yn erbyn. Gwrthrin, Gwrthryfelgarwch.